Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

20/09/2017

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw’r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig. A’r cwestiwn cyntaf, Bethan Jenkins.

Sefydlu Cofrestr Cam-drin Anifeiliaid yng Nghymru

1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith i sefydlu cofrestr cam-drin anifeiliaid yng Nghymru? (OAQ51033)

Diolch. Cynhelir cyfarfod cyntaf grŵp gorchwyl a gorffen y Gymdeithas Frenhinol er Atal Creulondeb i Anifeiliaid Cymru i ystyried y broses o sefydlu cofrestr troseddwyr anifeiliaid ar 28 Medi. Bydd y casgliadau interim yn cael eu cyflwyno i swyddogion cyn toriad y Pasg, gyda’r casgliadau terfynol a’r argymhellion yn dilyn cyn toriad haf 2018.

Diolch am y diweddariad hynny. Gwnaethoch chi ddweud yn eich ateb mai grŵp gorchwyl yr RSPCA oedd hwn. Roeddwn i eisiau cadarnhau a ydych chi yn mynd i fod yn cynnwys mudiadau eraill ar y grŵp gorchwyl yma, ac yn cymryd tystiolaeth gan y rheini yn y maes sydd wedi bod yn gweithio—gyda dim bwriad i danseilio’r RSPCA, ond, cyn yr RSPCA, mae nifer o grwpiau wedi bod yn lobïo am y gofrestr cam-drin anifeiliaid yma. A fyddech chi’n eu cynnwys nhw yn rhan o’r drafodaeth yma?

Ac rwy’n gweld bod Llywodraeth Cymru yn edrych mewn i restr cam-drin domestig. A ydych chi’n mynd i drafod y ddau beth yma gyda’i gilydd? Oherwydd, fel rydych chi’n cofio o gwestiynau gen i yn flaenorol, mae’r pethau yma, mae’r themâu yma, yn cyd-fynd, ac felly byddwn i’n meddwl y byddai hi’n syniad i chi gydweithredu yn hynny o beth, yn hytrach na’u bod nhw’n gweithio ar wahân.

Na. Bydd yr Aelod yn ymwybodol—. Yn amlwg, credaf eich bod wedi dechrau’r broses o roi hyn yn ôl ar yr agenda gyda’r ddadl fer a gawsoch, ac roeddwn o’r farn fod sefydlu cofrestr o’r fath yn llawn haeddu sylw pellach. Yna, cynhyrchodd RSPCA Cymru ddogfen friffio, a gwnaethant achos drosto hefyd, a chynnig arwain y broses o sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen. Ond rydych chi’n iawn: nid yr RSPCA yn unig fydd hyn. Rwyf wedi cytuno ar gylch gorchwyl y grŵp, mewn perthynas â’r allbynnau a’r amserlen. Fodd bynnag, ni chytunwyd ar yr aelodaeth. Ond rydych yn hollol gywir: bydd yn cynnwys rhanddeiliaid a phartneriaid eraill. A hyd yn oed o ran aelodaeth y grŵp, rwy’n siŵr, y tu hwnt i’r aelodaeth honno, y bydd angen i ni gynnal trafodaethau gyda rhanddeiliaid a sefydliadau eraill hefyd.

Y pwynt a wnewch ynglŷn â cham-drin domestig—yn hollol. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant a minnau eisoes wedi cael cyfarfod ynglŷn â hyn, ac wrth i’r gwaith fynd rhagddo dros y misoedd nesaf, byddwn yn parhau i drafod.

Ysgrifennydd y Cabinet, fel y gwyddoch, rwyf fi’n cefnogi’r syniad o gyflwyno cofrestr cam-drin anifeiliaid hefyd, ac edrychaf ymlaen at glywed mwy am ei datblygiad wrth iddo ddigwydd. Wrth gwrs, un o’r rhwystrau mwyaf sy’n wynebu’r gofrestr fydd penderfynu a fydd troseddwyr ifanc yn cael eu cofrestru, ac efallai y gallwch ddweud wrthym beth yw barn gychwynnol Llywodraeth Cymru ynglŷn â’r mater hwn. Rwy’n siŵr y byddwch yn cytuno bod yn rhaid i’r gofrestr gael effaith adeiladol yn hytrach na dinistriol ar droseddwyr ifanc, gyda llawer ohonynt, o bosibl, yn bobl ifanc sy’n agored i niwed.

Yn hollol. Nid ydym wedi manylu ar hynny yn ein trafodaethau eto. Ond fel y dywedais, dros y misoedd nesaf, rwy’n siŵr y bydd y trafodaethau hynny gyda Carl Sargeant a minnau yn cynyddu.

Dulliau Rheoli Newydd ar gyfer Pysgota Eogiaid a Sewin

2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y cynigion gan Cyfoeth Naturiol Cymru i gyflwyno dulliau rheoli newydd ar gyfer pysgota eogiaid a sewin? (OAQ51045)

Diolch. Byddai’n anaddas imi wneud sylwadau ar y mater hwn tra bo Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymgynghori ar gynigion i gyflwyno mesurau rheoli newydd ar gyfer pysgota eogiaid a sewin. Daw eu hymgynghoriad i ben ar 14 Tachwedd, a byddaf yn ystyried eu hargymhellion wedi hynny.

Rwy’n deall y rheswm pam nad yw’r Ysgrifennydd Cabinet efallai eisiau cyhoeddi yn glir ei barn hi ar hyn o bryd. Ond mae’n bwysig, rwy’n credu, i nodi bod nifer o glybiau pysgota yn fy etholaeth i, ac, rwy’n credu, trwy Gymru, wedi mynegi eu pryder ynglŷn â’r cynigion yma, yn arbennig y cynnig, er enghraifft, i gael gwaharddiad llwyr ar bysgota abwyd, a’r polisi 100 y cant o ddal a rhyddhau, ac yn y blaen, a’r effaith y bydd hynny yn ei gael ar bysgota.

Wrth gwrs, mae’n bwysig cofio nad hobi yn unig yw hyn, ond ei fod yn rhan bwysig o’n diwydiant twristiaeth ni mewn rhannau helaeth o Gymru, ac mae pryder, wrth gwrs, gan bysgotwyr am y dirywiad sydd wedi bod yn niferoedd yr eogiaid, brithyll, ac yn y blaen.

Ond mae yna ffactorau llawer mwy cymhleth, mwy na physgota, y tu ôl i hyn. Felly, a gaf i ofyn o leiaf i’r Ysgrifennydd gwladol sicrhau bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn gwrando yn ddifrifol ar y pryderon y mae’r pysgotwyr a’u clybiau wedi mynegi?

Ie, mae’n hollbwysig eu bod yn gwneud hynny. Fel y dywedais, nid wyf am achub y blaen ar unrhyw beth, ond rwy’n sicr wedi cael trafodaethau ynglŷn â hyn yn fy nghyfarfodydd rheolaidd gyda chadeirydd a phrif weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru. Wrth gwrs, rydym yn cydnabod bod eogiaid a sewin yn rhywogaethau eiconig a phwysig iawn yn afonydd Cymru, ac wrth gwrs, maent o fudd i economi Cymru. Er enghraifft, credaf fod y ffigur oddeutu £100 miliwn y flwyddyn. Felly, mae’n hollbwysig fod pob safbwynt yn cael ei ystyried.

Ysgrifennydd y Cabinet, fel rydych newydd ddweud, mae pysgota’n werth oddeutu—fe aethoch â’r geiriau o fy ngheg—£100 miliwn y flwyddyn i economi Cymru. Fel y dywedodd Adam Price, yr Aelod dros Sir Gaerfyrddin, mae’n ddarn pwysig iawn o bob rhan o Gymru, yn enwedig yr economi wledig. Rwy’n cydnabod eich bod wedi’ch cyfyngu o ran yr hyn y gallwch ei ddweud ar hyn o bryd, ond a fyddech yn cytuno bod y mwyafrif helaeth o enweirwyr yn aelodau o glybiau? Maent yn talu oddeutu cwpl o gannoedd o bunnoedd y flwyddyn am hawliau pysgota, yn dibynnu ar hyd a lled yr hawliau hynny. Ac er fy mod yn deall cyfrifoldeb Cyfoeth Naturiol Cymru i reoli stociau pysgod yn gynaliadwy—rydych yn cydnabod hynny wrth gwrs—a fyddech yn cytuno â mi ei bod yn bwysig fod y sefydliad yn ymgynghori’n llawn â chlybiau pysgota, ac nid yn unig yn ymgynghori, ond hefyd yn gwrando ar y clybiau hynny, gan fod diddordeb allweddol gan y clybiau hynny eu hunain yng nghynaliadwyedd stociau pysgota hefyd, a chredaf fod hynny’n aml yn cael ei anwybyddu a’i anghofio? Felly, a wnewch chi roi sicrwydd i mi y bydd Cyfoeth Naturiol Cymru, wedi i’r ymgynghoriad hwn ddod i ben, yn gosod mesurau rheoli ar waith sy’n gywir, sy’n cynnal stociau, ond sydd hefyd yn deg i enweirwyr ac i economi Cymru?

Rydych yn llygad eich lle. Yn fy marn i, mae angen i unrhyw ymgynghoriad fod yn ystyrlon, felly mae’n bwysig iawn fod Cyfoeth Naturiol Cymru yn gwrando ar bob safbwynt. A gwn eu bod yn derbyn bod hwn yn fater difrifol iawn ac y bydd angen iddynt wneud yn siŵr eu bod yn gweithio’n galed iawn er mwyn sicrhau’r canlyniad gorau posibl wrth symud ymlaen.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd UKIP, Neil Hamilton.

Diolch, Llywydd. Mae’r cyfnod ymgynghori ar gyfer y ddogfen ‘Bwrw Ymlaen â Rheoli Adnoddau Naturiol Cymru yn Gynaliadwy’ i fod i ddod i ben ar y degfed ar hugain o’r mis hwn. Gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi derbyn sylwadau gan lawer o bobl yn dweud bod hwn yn ymarfer enfawr o ystyried ehangder yr ymgynghoriad sy’n mynd rhagddo a’r nifer o faterion sy’n aml yn wahanol iawn i’w gilydd. Mae wedi gwneud gwaith da iawn, yn fy marn i, fel Ysgrifennydd y Cabinet, yn ei chyfnod yn y swydd, o ran ymgynghori a bod yn agored i safbwyntiau pob un sydd â diddordeb ym mhob un o’r meysydd o dan ei rheolaeth. Ond o ystyried y pwysau a fu ar sefydliadau fel Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr, Undeb Amaethwyr Cymru ac eraill i ymateb i bob math o ymgynghoriadau eraill, a phopeth arall sy’n digwydd gyda Brexit ac yn y blaen, tybed a yw’n teimlo bod y cyfnod o amser a roddwyd yn yr achos hwn yn ddigonol i sicrhau y ceir yr ystod lawn o ymatebion er mwyn llywio unrhyw benderfyniadau y gellid eu gwneud fel arall. A yw’n bosibl ystyried ymestyn y cyfnod ymgynghori hwn am ychydig bach rhagor o amser efallai?

Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Fe’i hymestynnais, fel y dywedwch, hyd at 30 Medi, yn dilyn sylwadau gan yr undebau amaeth a sefydliadau amgylcheddol eraill. Ac yn sicr, yn ystod toriad yr haf, pan fûm yn mynychu’r sioeau amaethyddol, ac wrth ymweld â lleoliadau amaethyddol ac amgylcheddol, roedd yn glir iawn, yn enwedig dros yr haf hefyd, fod y ddogfen yn un fawr, a’u bod yn teimlo y byddai angen yr estyniad arnynt er mwyn sicrhau eu bod yn rhoi sylwadau a fyddai’n cael eu hystyried. Felly, fe’i hymestynnais hyd at 30 Medi. Ni chredaf fy mod mewn sefyllfa, mewn gwirionedd, i’w ymestyn ymhellach, ac un o’r rhesymau am hynny—ac fe sonioch am Brexit—yw Brexit, yn ôl pob tebyg. Credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn cael cymaint o safbwyntiau â phosibl mewn perthynas â newidiadau rheoleiddiol, mewn perthynas â pha ddeddfwriaeth y gallai fod ei hangen arnom, ac mae angen i mi fod yn barod i gychwyn ar fyr rybudd yn ôl pob tebyg. Nid oes gennym lawer o amser, felly, na, ni chredaf y gallaf ei ymestyn.

Mae’n flin gennyf glywed hynny, ond rwy’n deall y rhesymau a roddodd Ysgrifennydd y Cabinet. A gwn na ellir ei pherswadio i siarad ynglŷn â sylwedd y materion sy’n ddarostyngedig i’r ymgynghoriad hwn, ond credaf fod mater o egwyddor gyffredinol y byddai’n ddefnyddiol ei archwilio yma. Ysgrifennodd un o fy etholwyr ataf i ddweud mai’r hyn yr ydym yn ceisio’i wneud yma, i bob pwrpas, yw dod â buddiannau sy’n gwrthdaro at ei gilydd, pan fo’r ddwy ochr yn gyfiawn yn aml iawn. A gofynnodd y cwestiwn: sut y mae datrys sefyllfaoedd lleol lle na ellir osgoi’r ffaith fod un gweithgaredd awyr agored pwysig yn ymyrryd â’r amgylchedd, neu â gweithgaredd pwysig arall, hyd yn oed pan fo’r ddau’n cael eu cynnal mewn modd cyfrifol. Mae hyn wedi codi, yn yr achos penodol hwn, yng nghyd-destun mynediad at ddŵr agored ac afonydd, a’r gwrthdaro a allai fodoli rhwng canŵ-wyr a physgotwyr. Rwy’n credu bod yr hyn y mae’n ei nodi yn bwynt dilys iawn, ac yn hytrach na chael un hawl gyffredinol sy’n gymwys ym mhobman heb unrhyw eithriadau, mae angen inni gael rhyw fath o broses leol o wneud penderfyniadau sy’n parchu amgylchiadau penodol achosion unigol. Mae’n dweud, yn eithaf rhesymol, fod yna fannau i’w cael lle na fyddai 100 o ganŵ-wyr yn sblasio ac yn sgrechian ar ei gilydd drwy’r dydd yn effeithio ar enweirio, ond bod mannau eraill lle bydd un canŵ di-stŵr yn pasio heibio yn amharu ar enweirio am beth amser. Felly, mae angen i ni sicrhau bod penderfyniadau’n cael eu gwneud ar lefel leol fel bod modd ystyried yr amgylchiadau unigol hyn.

Yn hollol, ac mae hynny’n rhywbeth y credaf inni gynnal gweithdai yn ei gylch dros yr haf, ac mae’n sicr yn rhywbeth a fynegwyd wrthyf. Mae angen inni weithio gyda’n gilydd i nodi’r dull gorau o weithredu yn y dyfodol. Felly, gallwn ystyried hynny, yn sicr, pan fydd ymatebion yr ymgynghoriad wedi dod i law ac yn cael eu hasesu.

Nodwedd bwysig arall o hyn hefyd yw parchu hawliau tirfeddianwyr a ffermwyr. Yn amlwg, mae o fudd i’r rheini sy’n awyddus i weld cefn gwlad yn ffynnu ein bod yn sicrhau cymaint o fynediad â phosibl, a pho fwyaf o bobl sy’n deall cefn gwlad, gorau oll i bawb sy’n byw ac yn gweithio mewn cymunedau gwledig. Ond mae ymestyn yr hawl, er enghraifft, i feicio ar lwybrau troed, fel sy’n digwydd ar lwybrau ceffylau ar hyn o bryd, yn arwain at heriau newydd mewn perthynas â thir ar lannau afonydd, ac yn yr un modd, yr hawl i wersylla mewn mannau agored hefyd, a sut y mae rhywun yn cyrraedd yno yn y lle cyntaf. Felly, gobeithiaf y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ceisio cydbwyso’r buddiannau hyn yn ofalus iawn, gan fod ffermio o dan bwysau mewn sawl ffordd.

Credaf mai’r gair perthnasol yn hynny o beth yw ‘cydbwyso’. Rydych yn llygad eich lle. Fe sonioch chi am ganŵ-wyr a physgotwyr, ac fe sonioch chi am ganiatáu beicio ar lwybrau ceffylau. Mae’n rhaid i mi ddweud eu bod yn awyddus, yn rhai o’r trafodaethau a gefais dros yr haf, i weld aml-ddefnydd ar y llwybrau hyn: maent yn awyddus i weld llwybrau troed, beicwyr a marchogaeth ar yr un llwybr; nid yw eraill yn dymuno gweld hynny. Felly, credaf eich bod yn iawn: mae’n ymwneud â chydbwysedd.

Rwyf wedi derbyn sylwadau ynglŷn â gwersylla. Rydych yn llygad eich lle: mae rhai ffermwyr—ymwelais â fferm i fyny ym mharc cenedlaethol Eryri dros yr haf, lle dywedodd un ffermwr, ‘Mae 500,000 o bobl yn ymweld â’r parc hwn bob blwyddyn; rwy’n awyddus i weld cymaint o bobl ag y gallaf yma’. Nid yw ffermwyr eraill yn teimlo’r un fath. Mae’n ymwneud yn gyfan gwbl â sicrhau’r cydbwysedd hwnnw. Felly, yn sicr, pan ddaw’r ymgynghoriad i ben ar 30 Medi, gallwn adolygu’r miloedd, rwy’n credu, o ymatebion—gwn fod y ffigur wedi hen gyrraedd y miloedd bellach—a ddaw i law.

Diolch, Llywydd. Rwy’n gobeithio bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cael gwyliau bach dros yr haf, ac os gwnaeth, ei bod wedi cael peth amser ar draeth. Os gwnaeth, byddai wedi sylwi ar y plastig sydd gennym ar ein traethau y dyddiau hyn. Credaf ei bod wedi cael cyfle, fel y cefais innau, i gyfarfod â chriw hwylio benywaidd eXXpedition, a fu’n hwylio o amgylch y DU dros yr haf—neu o amgylch Prydain mewn gwirionedd, nid y DU, gan fod hwylio o amgylch y DU yn eithaf anodd—hwylio o amgylch Prydain dros yr haf. Daethant i Gaerdydd ac roeddent yn tynnu sylw at blastig yn ein moroedd hefyd. Os cyfarfu â hwy, fe fydd yn gwybod eu bod yn gryf o blaid cynllun dychwelyd blaendal. Fe fydd hi hefyd yn gwybod bod Llywodraeth yr Alban wedi cyhoeddi ym mis Awst fod diddordeb ganddynt mewn cynllun dychwelyd blaendal ar gyfer yr Alban, ac mae Zero Waste Scotland, er enghraifft, yn amcangyfrif, yn achos yr Alban, mewn perthynas â chlirio sbwriel yn unig, y gallai cynllun dychwelyd blaendal arbed rhwng £3 miliwn a £6 miliwn. Felly, a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi bellach ei bod yn bryd cyflwyno cynllun peilot, fan lleiaf, ar gyfer dychwelyd blaendal yma yng Nghymru?

Yn anffodus, ni chefais gyfle i gyfarfod â’r criw. Nid wyf yn cofio beth ddigwyddodd—credaf fy mod mewn rhan arall o Gymru ar y pryd, felly ni chefais gyfle i gyfarfod â hwy, ond roeddwn yn ymwybodol fod Simon wedi cyfarfod â hwy. Rwy’n siŵr fod Simon Thomas hefyd yn ymwybodol fy mod wedi treulio diwrnod gyda Roseanna Cunningham, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd, Newid Hinsawdd a Diwygio’r Tir o’r Alban. Daeth i lawr i Gaerdydd, yn bennaf i weld ynglŷn â’n hailgylchu, i weld beth y gallai ei ddysgu gennym. Cawsom drafodaeth ynglŷn â’r cynllun dychwelyd blaendal.

Rwyf wedi comisiynu astudiaeth o becyn neu gyfres o bethau y credaf y gallwn eu gwneud i leihau gwastraff pecynnu. Rwy’n awyddus iawn, fel y gwyddoch, i gynyddu ein cyfraddau ailgylchu. Rydym yn drydydd drwy’r byd bellach. Rwy’n awyddus i fod yn gyntaf drwy’r byd. Felly, roedd yn ddefnyddiol iawn clywed beth y mae’r Alban yn ei wneud, ac fel y dywedais, rwyf wedi comisiynu’r astudiaeth hon, ac wedi i mi dderbyn yr adroddiad, gallwn benderfynu pa agweddau arni y byddwn yn eu rhoi ar waith.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei hystyriaeth. Cefais innau gyfarfod â Roseanna Cunningham hefyd pan oedd yn ymweld â Chaerdydd. Mae’n rhaid i mi ddweud, serch hynny, fy mod yn cefnogi ein chwaer blaid, Plaid Genedlaethol yr Alban. Nid wyf am iddynt achub y blaen arnom yma yng Nghymru. Rwyf am i ni fod yn gyntaf o ran cyflawni pethau fel cynlluniau dychwelyd blaendal a dulliau eraill o fynd i’r afael â llygredd plastig. Mae’n llygad ei lle, wrth gwrs, i ddweud ein bod yn gwneud yn dda iawn mewn perthynas ag ailgylchu, ond mae gan yr unig wledydd sy’n gwneud yn well na ni gynllun dychwelyd blaendal, mae’n rhaid i mi ddweud. Felly, gadewch i ni archwilio un agwedd arall ar hyn, gan fod Swyddfa Wyddoniaeth Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi adolygiad tystiolaeth, ‘Future of the Sea: Plastic Pollution’, ym mis Gorffennaf. Canfu’r adolygiad fod 70 y cant o’r holl sbwriel yn ein cefnforoedd yn blastig o wahanol fathau. Cawsom adroddiad hefyd yr wythnos diwethaf a ganfu fod 83 y cant o’r dŵr tap a arolygwyd ledled y byd yn cynnwys ffibrau plastig. Felly, credaf fod ymyriadau polisi bach i’w cael, a gall cenhedloedd bychain wneud yr ymyriadau polisi hynny sy’n trawsnewid y modd y meddyliwn am y defnydd o blastig, ailgylchu plastig ac ailddefnyddio plastig.

Yn ogystal â chynllun dychwelyd blaendal, mae Llywodraeth Cymru wedi trafod y posibilrwydd o drethi newydd yma yng Nghymru, gyda’r pwerau newydd, ac yn sicr, cefais yr argraff gan Ysgrifennydd y Cabinet cyn yr haf—Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid, hynny yw—fod diddordeb ganddo wybod sut y gallai trethi bach o’r fath newid ymddygiad, a sut y gellid eu defnyddio, efallai, mewn ffordd amgylcheddol. A yw hyn yn rhywbeth y mae’n ei drafod gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid, ac yn arbennig gyda golwg ar drethu neu godi ardoll, mewn rhyw ffordd, ar y defnydd gwastraffus hwn o blastig?

‘Ydy’ yw’r ateb cryno. Credaf fy mod yn cyfarfod ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol yr wythnos nesaf, ond nid wyf yn siŵr a yw hynny ar yr agenda. Ond yn sicr, mae’n rhywbeth rydym wedi dechrau ei drafod. Rwy’n ymrwymedig iawn i leihau sbwriel morol, ac efallai eich bod yn ymwybodol fod rhanddeiliaid wedi ffurfio grŵp gorchwyl a gorffen ar sbwriel morol i fynd i’r afael â sbwriel morol yng Nghymru. Cyfarfûm â’r grŵp yn Saundersfoot yn ystod toriad yr haf. Mae gan Saundersfoot gynllun gwych lle mae ganddynt—ni allaf gofio beth rydych yn eu galw—rhyw fath o fyrddau ‘A’, lle y gall pobl fynd yno, gwisgo pâr o fenig, gafael mewn bag a mynd ati i gael gwared ar sbwriel oddi ar ein traethau ac yn y blaen, ac roeddwn yn meddwl fod hynny’n wych. Felly, credaf fod llawer o arferion da ar waith. Mae angen ei rannu, dyna i gyd. Bydd gennyf ddiddordeb mawr mewn gweld beth yw argymhellion y grŵp gorchwyl a gorffen.

Diolch i’r Gweinidog am hynny. Yn sicr, byddaf yn parhau i’w hannog hi a Llywodraeth Cymru i gyflwyno cynllun dychwelyd blaendal yma yng Nghymru. Ond i droi at eitem arall o fusnes anorffenedig dros yr haf, fe fydd yn cofio iddi fod gerbron y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig ar 20 Gorffennaf. Gofynnwyd iddi yno ynglŷn ag effaith ardrethi annomestig ac ynni cymunedol ar gynlluniau ynni dŵr yn arbennig. Yn ei hymateb i’r pwyllgor ar 7 Medi, dywed fod y cynlluniau ynni dŵr wedi cael eu heffeithio’n anghymesur o ganlyniad i ailbrisio’r ardrethi annomestig. Felly, rwy’n falch ei bod yn derbyn hynny. Dywed hefyd ei bod bellach yn gweithio ac wedi ymrwymo i ddod o hyd i ateb mewn perthynas ag effaith ailbrisio ardrethi annomestig. Yr awgrym, rywsut, yw mai’r ateb yw aros i ardrethi annomestig gael eu hailbrisio a’u hailweithio, a allai ddigwydd yn 2018, yn hytrach nag ymdrin yn awr â’r broblem a achoswyd gan bolisïau ei Llywodraeth ei hun. A all roi ymrwymiad y bydd yr anhawster gyda chynlluniau ynni dŵr, y mae bellach yn ei gydnabod, yn cael ei ddatrys yn gynt na hynny, ac y bydd yn gweithio’n gyflym ac ar fyrder gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid i sicrhau nad ydynt yn cael eu cosbi’n anghymesur o ganlyniad i newid yn yr ardrethi busnes?

Ni allaf gofio a gefais y cyfarfod â Chymdeithas Ynni Dŵr Prydain cyn neu ar ôl i mi fod gerbron y pwyllgor, ond roedd yn sicr o gwmpas yr amser hwnnw. Unwaith eto, rwyf wedi rhannu gohebiaeth gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, fel y mae’r gymdeithas ei hun wedi’i wneud. Felly, os caf, fe ysgrifennaf at yr Aelod gyda’r wybodaeth ddiweddaraf.

Diolch, Llywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, dros yr haf, cyhoeddwyd y trydydd cynllun gweithredu blynyddol o dan fframwaith iechyd a lles anifeiliaid Cymru, ac yn eich rhagair, fe ddywedwch y bydd y flwyddyn sydd i ddod yn un heriol, a chredaf fod hynny’n rhywbeth y gall pob un ohonom gytuno yn ei gylch, yn bendant. Nawr, tynnodd yr adroddiad hwnnw sylw at y ffaith fod lle bellach i ystyried yr opsiwn o wahardd defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau. A allwch ddweud wrthym pam nad yw Llywodraeth Cymru eisoes wedi cyflwyno gwaharddiad yma yng Nghymru?

Nid oes gennym syrcasau wedi’u trwyddedu yng Nghymru. Rwyf wedi cael o leiaf ddau gyfarfod gyda’r Arglwydd Gardiner, y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros hyn yn Llywodraeth y DU. Penderfynasom y byddem yn gweithio’n agos iawn gyda hwy ar y posibilrwydd o gael gwaharddiad ar y cyd. Cyfarfûm â’r Arglwydd Gardiner ddiwethaf allan ym Mrwsel mewn cyngor amaeth, a chredaf fy mod i gael y wybodaeth ddiweddaraf fis nesaf.

Wel, tra bo Cymru yn argymell dull ‘gadewch i ni aros am San Steffan’ o weithredu, credaf ei bod yn drueni o’r mwyaf fod Llywodraeth yr Alban, er enghraifft, wedi bwrw ymlaen â’r gwaith ac eisoes wedi cyflwyno Bil, sydd wrthi’n mynd drwy eu proses ddeddfwriaethol.

Nawr, mae blaenoriaeth arall a amlygwyd yn y cynllun gweithredu yn ymwneud â lles anifeiliaid ar adeg eu lladd. Yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth y DU ynglŷn â gosod teledu cylch cyfyng ym mhob lladd-dy yn Lloegr, a allwch ddweud wrthym beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau y cedwir safon uchel o les anifeiliaid yng Nghymru, gan gynnwys ar adeg eu lladd, ac a wnewch chi ymrwymo yn awr i weld teledu cylch cyfyng yn cael ei osod ym mhob lladd-dy yma yng Nghymru?

Mewn perthynas â’ch cwestiwn cyntaf, nid mater o ‘aros i weld ynglŷn â Llywodraeth y DU’ yw hyn. Fe fyddwch yn deall bod y rhaglen ddeddfwriaethol—[Torri ar draws.] Fe fyddwch yn deall bod y rhaglen ddeddfwriaethol yma yn brysur iawn, yn niffyg gair gwell. Rwy’n gorfod sicrhau bod gennyf ddeddfwriaeth yn cael ei hystyried yn barod ar gyfer y cyfnod ôl-Brexit. Roeddwn o’r farn mai dyna’r ffordd orau ymlaen, yn enwedig gan nad oes gennym syrcasau wedi’u trwyddedu yng Nghymru.

Mewn perthynas â’ch cwestiwn ynglŷn â theledu cylch cyfyng mewn lladd-dai, mae llawer iawn o waith yn mynd rhagddo ar hynny. Pan ddechreuais yn y swydd, fe fyddwch yn gwybod bod fy rhagflaenydd, Rebecca Evans, wedi gofyn i grŵp gorchwyl a gorffen wedi ei arwain gan y diwydiant gynhyrchu adroddiad ar weithredu teledu cylch cyfyng. Bythefnos yn ôl yn unig, roeddwn yn edrych ar faint o gamerâu teledu cylch cyfyng a osodwyd mewn lladd-dai yng Nghymru. Mae’n rhaid i mi ddweud bod gan y mwyafrif helaeth o’r lladd-dai mawr yng Nghymru gamerâu. Fe fyddwch yn gwybod bod milfeddygon yn bresennol ym mhob lladd-dy i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r rheoliadau. Mae ganddynt bŵer i atafaelu deunydd oddi ar deledu cylch cyfyng os ydynt yn tybio nad yw safonau lles yn cael eu cyrraedd. Felly, credaf fod hynny’n rheswm dros ystyried cael camerâu teledu cylch cyfyng yn ein lladd-dai. Bydd gennyf waith yn dod i law erbyn diwedd y mis hwn sy’n edrych i weld a fyddwn yn gwneud hynny’n orfodol wedyn ai peidio.

Wel, Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf wedi gofyn dau gwestiwn penodol i chi yn awr wrth gwrs, ac ymddengys i mi fod Llywodraeth Cymru yn petruso ar y ddau. Mae yna ganfyddiad, felly, fod Llywodraeth Cymru yn dweud pethau mawr am faterion lles anifeiliaid ond nad yw’n cyflawni fawr ddim. Er enghraifft, pryd y bwriadwch adolygu effeithiolrwydd Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014? Pryd y byddwch yn mynd i’r afael â mater bridio, masnachu a chadw anifeiliaid anwes egsotig yng Nghymru? Felly, pryd y byddwn yn dechrau gweld camau penodol i sicrhau gwelliant mewn lles anifeiliaid ledled Cymru, gan gynnwys amserlenni pendant ar gyfer y polisïau hyn?

Nid wyf yn credu ei fod yn fater o betruso; credaf ei fod yn fater o gael pethau’n iawn. Mae’n rhaid i chi gydnabod cost y pethau hyn hefyd. Efallai, pe baem wedi cael ychydig mwy o arian gan eich Llywodraeth Dorïaidd yn y DU, efallai y byddai modd inni wneud popeth. Ond nid yw’r gyllideb yn—[Torri ar draws.] Fe fyddwch yn deall y pethau hyn. Felly, er enghraifft, mae’r gost o osod teledu cylch cyfyng ym mhob lladd-dy yn gannoedd o filoedd o bunnoedd. Felly, mae angen i chi sicrhau—[Torri ar draws.] A’r holl bethau eraill rydych yn eu hawgrymu. Ni chredaf y gallwch ddweud ein bod yn petruso mewn perthynas â safonau iechyd a lles anifeiliaid yng Nghymru.

Asesiadau o Effaith Amgylcheddol

3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am yr angen am asesiadau o effaith amgylcheddol? (OAQ51026)

Cyfeiria ‘asesiad o effaith amgylcheddol’ at broses ffurfiol a nodir yn y rheoliadau ar gyfer asesu, ymgynghori a dod i benderfyniad ar brosiectau penodol sy’n ofynnol o dan y gyfarwyddeb asesu effeithiau Amgylcheddol. Lle nad oes angen asesiad o effaith amgylcheddol, ystyrir effeithiau amgylcheddol cynigion gan wahanol gyfundrefnau caniatâd cyn i’r datblygiad ddechrau.

Sut y gallwch alw eich hun yn Ysgrifennydd y Cabinet dros yr amgylchedd pan fo’ch Llywodraeth wedi rhoi trwydded i ganiatáu i ddeunydd gael ei garthu o’r tu allan i adweithydd niwclear Hinkley Point a’i ddympio yn nyfroedd Cymru y tu allan i Gaerdydd? Yn waeth na hynny, ni chynhyrchwyd asesiad o’r effaith amgylcheddol gan gorff gwarchod amgylcheddol Cymru. Nid oes unrhyw ddos o ymbelydredd yn dderbyniol i iechyd pobl. Felly, mae’n anodd credu y buasech yn caniatáu i ddeunydd o safle niwclear—niwclear—gael ei ddympio yn nyfroedd Cymru. Felly, pam rydych chi’n cymryd y risg enfawr hon? Ac a wnewch chi ddirymu’r drwydded hyd nes y bydd Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cynnal astudiaeth lawn a phriodol o’r deunydd a allai fod yn ymbelydrol?

Ni allaf wneud sylwadau ar broses penderfyniad penodol a wnaed flynyddoedd yn ôl, ond gallaf roi sicrwydd i chi fod pob cais am drwydded forol yn cael ei ystyried yn unol â’r gofynion cyfreithiol a nodir yn Rhan 4 o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 a’r Rheoliadau Gwaith Morol (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2007. Mae’r rheoliadau’n darparu gweithdrefnau i bennu’r angen am asesiad o effaith amgylcheddol ar gyfer y prosiect, ac rwy’n deall bod trwydded forol ddilys ar waith, a bod yna amodau y mae angen i ddeiliad y drwydded gydymffurfio â hwy cyn y gellir cyflawni unrhyw waith gwaredu.

Gan edrych ar asesiad o effaith amgylcheddol yr injan hylosgi, diesel a phetrol fel ei gilydd, tybed pa asesiad o effaith amgylcheddol a wnaed ar ansawdd yr aer ar feysydd chwarae ysgolion, oherwydd bu Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Teilo Sant, lle rwyf hefyd yn llywodraethwr, yn ymweld â mi heddiw, ac mae honno’n un o’r 1,000 o ysgolion ledled y DU y nododd ClientEarth eu bod yn dioddef o ganlyniad i lefelau niweidiol iawn o lygredd aer am eu bod yn agos at ffyrdd. Tybed sawl un o’r bron i 1,000 o ysgolion hyn sydd yng Nghymru.

Ni allaf roi ateb penodol i chi o ran y ffigur, ond gwyddom y gall plant ysgol Cymru fod yn agored i lefelau uchel o lygredd pan fyddant yn teithio i ac o ysgolion, lawn cymaint â phan fyddant ar dir yr ysgol. Bydd yr Aelod yn ymwybodol ein bod wedi dechrau ymgysylltu ag ystod eang o randdeiliaid i helpu i lunio’r gwaith ar fframwaith parthau aer glân i Gymru, ac mae hynny’n cael ei wneud hefyd drwy un o’r is-grwpiau ar fy mwrdd crwn gweinidogol ar Brexit.

Dywed cyngor Abertawe fod asedau naturiol yr ardal o harddwch naturiol eithriadol yn darparu cyfle ar gyfer twf economaidd a’u bod yn bwysig ar gyfer llesiant, ac na ddylai manteision o’r fath gael eu peryglu gan ddatblygiad newydd nad yw’n diogelu na’n gwella ased naturiol ac ecosystem yr AHNE. A allwch ddweud wrthyf pam nad yw’r AHNE yn ymgynghorai statudol â rhwymedigaeth i ddarparu tystiolaeth mewn ceisiadau cynllunio ar gyfer tir sy’n ffinio â thir AHNE? Mae hwn wedi dod yn gwestiwn perthnasol, bellach, i fy etholwyr yn y Gŵyr, lle mae’r cynllun datblygu lleol yn rhagweld y bydd 20,000 o dai yn cael eu hadeiladu. Diolch.

Mae’n hollbwysig fod unrhyw rai sy’n gwneud penderfyniadau mewn perthynas ag unrhyw sefydliad yn hollol ymwybodol o’r effeithiau amgylcheddol wrth wneud penderfyniadau, ond rwy’n fwy na pharod i edrych ar hyn ac i ysgrifennu at yr Aelod.

Inswleiddio Diffygiol ar Waliau Ceudod

4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau sy'n cael eu cymryd i fonitro'r cynnydd a wneir mewn achosion o waith inswleiddio diffygiol ar waliau ceudod yng Nghymru? (OAQ51019)

Diolch. Yn ychwanegol at fy natganiad ysgrifenedig ar 13 Mehefin, rwy’n disgwyl gwneud newidiadau i ofynion y cynllun personau cymwys er mwyn helpu i sicrhau nad yw deunydd inswleiddio yn cael ei osod mewn eiddo anaddas o 1 Hydref 2017. Ar gyfer deunydd inswleiddio sydd eisoes wedi’i osod, bydd swyddogion yn cyfarfod â’r prif ddarparwr gwarantau, yr Asiantaeth Gwarantau Inswleiddio Waliau Dwbl, i drafod cynnydd ar ddatrys hawliadau heb eu datrys.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae’n amlwg imi fod nifer sylweddol o bobl, gyda llawer ohonynt yn bobl hŷn ac agored i niwed fel y gwyddoch, yn parhau i wynebu costau ariannol o ganlyniad i gynlluniau waliau ceudod anaddas neu ddiffygiol. Yn wir, rwy’n ddiolchgar i nifer o gyd-Aelodau Cynulliad sydd wedi rhannu profiadau tebyg o’u hetholaethau gyda mi. Dros yr wythnosau diwethaf, rwyf wedi cyfarfod â rhagor o’m hetholwyr sy’n wynebu’r union broblemau hyn. Rwy’n croesawu’r diweddariad ers eich datganiad ysgrifenedig ym mis Mehefin, ond a gaf i ofyn: beth yw’r sefyllfa ddiweddaraf gyda’r broses beilot newydd o dan Arbed sy’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gaffael arolygon annibynnol tŷ cyfan o eiddo cyn gwerthuso a dyfarnu arian i gynlluniau posibl? Ac a ydych yn cytuno bod y broblem hon yn galw am ein sylw parhaus, fel y gallwn atal problemau tebyg yn y dyfodol, ond hefyd, ac yn bwysicach o bosibl, er mwyn sicrhau cyfiawnder ac iawndal i’r rhai sydd wedi dioddef hyd yma?

Yn sicr, mae’r broblem yn cael fy sylw parhaus. Credaf fy mod yn cael o leiaf un eitem o ohebiaeth yr wythnos ar y mater hwn. Fe fydd yr Aelod yn gwybod bod bron yr holl waith gosod waliau ceudod yn cael ei wneud gan osodwyr o dan gynlluniau hunanardystio personau cymwys y rheoliadau adeiladu. Fel y dywedais, byddaf mewn sefyllfa, gobeithio, i wneud y cyhoeddiad hwnnw ar ôl 1 Hydref. Gwn fod cynlluniau tebyg yn cael eu cyflwyno drwy gynllun Rhwymedigaeth Cwmni Ynni Llywodraeth y DU. O ran Arbed, rydym newydd anfon llythyrau canlyniad at awdurdodau lleol ar ôl ystyried yr arolygon eiddo annibynnol a oedd wedi eu cyflawni eisoes. Mae hynny wedyn yn galluogi awdurdodau lleol llwyddiannus i fwrw ymlaen â’r broses o brisio a llunio cynlluniau. Credaf y bydd hynny’n cryfhau ansawdd y cynlluniau hynny ymhellach ac yn cyfyngu ymhellach ar broblemau yn y dyfodol. Ond rydych yn llygad eich lle—rydym yn awyddus i atal problemau rhag digwydd yn y dyfodol, ond gwyddom fod gennym rai problemau y mae angen i ni barhau i sicrhau eu bod yn cael cyfiawnder.

Yn 2015, dywedodd y Sefydliad Ymchwil Adeiladu fod angen mwy o ddata arnom ynglŷn â hyn yng Nghymru. Mae angen astudiaeth genedlaethol i weld maint y broblem. Credaf mai’r broblem yn hyn o beth yw’r eiddo presennol sydd wedi mynd drwy’r broses hon, ac mae wedi bod yn ddiffygiol. Gan fod hyn yn ganolog i gymaint o’n strategaeth adnewyddu, lleihau ynni, Cartrefi Clyd—mae’n wirioneddol bwysig ein bod yn gyfarwydd â hyd a lled yr her hon ac yn ei datrys cyn gynted â phosibl, a sicrhau, wrth gwrs, fod y rhai sy’n gyfrifol yn cyflawni eu rhwymedigaethau.

Ie, rwy’n cytuno’n llwyr â’r Aelod, ac fe fyddwch wedi fy nghlywed yn dweud yn fy ateb cyntaf i Dawn Bowden fod fy swyddogion i fod i gyfarfod eto gyda’r Asiantaeth Gwarantau Inswleiddio Waliau Dwbl. Mae’r cyfarfodydd hynny’n parhau. Yn amlwg, maent wedi cyfarfod â hwy eisoes, a chredaf fod yr Asiantaeth Gwarantau Inswleiddio Waliau Dwbl yn amlwg yn cydnabod y problemau sy’n wynebu llawer o’r cwsmeriaid y maent wedi bod yn ymdrin â hwy. Maent eisoes wedi cymryd camau mewn nifer o feysydd, megis sefydlu hyrwyddwr defnyddwyr, er enghraifft. Maent wedi datblygu pecyn gofal eiddo ar gyfer deiliaid tai. Ond rwy’n awyddus i roi sicrwydd i’r Aelodau fod hyn yn rhywbeth yr ydym yn gweithio’n gyflym iawn i’w ddatrys.

Wrth gwrs, mi fydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn rhannu gwrthwynebiad i’r syniad bod y Llywodraeth yn Llundain, fel y mae eu Hysgrifennydd Gwladol nhw wedi dweud yn barod, yn mynd i gymryd yr holl bwerau dros daliadau amaethyddol. Ond a fyddai’r Ysgrifennydd Cabinet, er mwyn sicrhau ein bod ni’n cael y gefnogaeth fwyaf helaeth posibl yng Nghymru i amddiffyn datganoli dros bwerau, dros daliadau amaethyddol, ac yn gwneud addewid, pe bai’r pwerau yna yn dod i ni, na fyddai llai o arian yn mynd mewn i ‘subsidy’ amaethyddol?

Rydw i’n meddwl efallai fod yr Aelod wedi camgymryd y cwestiwn yr oedd i fod i’w ofyn. Mae’r cwestiwn yma am inswleiddio diffygiol yn hytrach na thaliadau amaethyddol.

Felly, nid oes dim rhaid i’r Gweinidog ateb ar daliadau amaethyddol, os na all hi wneud rhyw linc greadigol iawn, iawn rhwng y ddau gwestiwn. [Chwerthin.]

Cwestiwn 5, felly—Gareth Bennett.

Taliadau Polisi Amaethyddol Cyffredin ar ôl Brexit

Diolch, Llywydd. Mae’n ymwneud â thaliadau amaethyddol, mewn gwirionedd.

5. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer taliadau polisi amaethyddol cyffredin ar ôl Brexit? (OAQ51036)

Diolch. Rwy’n hynod o bryderus fod Llywodraeth y DU yn dal heb ymrwymo cyllid ar gyfer cymorth amaethyddol y tu hwnt i 2022, rhywbeth a addawyd gan George Eustice cyn y refferendwm. Yn y cyfamser, rydym yn gweithio gyda gweinyddiaethau eraill i sicrhau y bydd paratoadau ar waith er mwyn bod yn barod o’r diwrnod cyntaf, gan ei gwneud hi’n bosibl i’r taliadau barhau i gael eu gwneud.

Ie, diolch am eich ateb. Yn amlwg, rwy’n deall bod rhywfaint o ansicrwydd ynglŷn â’r dyfodol, ond rydych yn swnio’n weddol argyhoeddedig y gellir gwneud rhyw fath o daliadau cyflym ac effeithiol pe bai’r cyfrifoldeb yn cael ei ddatganoli yma yn y pen draw. A fyddech yn cytuno â hynny?

Credaf mai ansicrwydd ynglŷn â’r dyfodol yw un o’r tanosodiadau mwyaf i mi eu clywed eleni. Ar hyn o bryd, mae yna dwll du ar ôl 2022. Ni wyddom pa arian y byddwn yn ei gael gan Lywodraeth y DU. Nid ydynt wedi bod yn glir iawn ynglŷn â hynny. Cawsom addewid ganddynt cyn refferendwm yr UE y byddem yn cael pob ceiniog a gawn ar hyn o bryd, felly byddwn yn eu dal at hynny. Fe fyddwch yn ymwybodol iawn fy mod yn gweithio’n agos iawn gyda’r tri swyddog cyfatebol arall ledled y DU. Byddwn yn cynnal ein cyfarfod pedairochrog nesaf ddydd Llun, yn Llundain. Hwn fydd y cyfarfod cyntaf i Michael Gove ei fynychu ers iddo gael ei benodi yn ôl ym mis Mehefin. Felly, mae pob un o’r rhain, yn amlwg, yn faterion sydd ar y gweill, ond rwyf wedi dweud yn glir iawn na allaf weld amser pan na fyddwn mewn sefyllfa i gefnogi ein diwydiant ffermio, felly mae angen inni sicrhau bod y Llywodraeth Dorïaidd yn cadw at yr addewidion a wnaethant i ni.

Y tro diwethaf i mi holi Ysgrifennydd y Cabinet ynglŷn â hyn, roedd Llywodraeth y DU wedi gwarantu taliadau hyd at 2020. Maent bellach wedi eu gwarantu tan o leiaf 2022. Felly, rwy’n gobeithio y bydd hi’n croesawu hynny. Yn ogystal, pan fydd hi’n cael trafodaethau gyda Llywodraeth y DU ar faes cymhleth sut y bydd datganoli’n gweithio ar ôl Brexit a pha feysydd amaethyddol y dylid eu penderfynu yma a beth yw’r fframwaith DU y dylid ei gytuno a beth ddylai’r polisi masnach rhyngwladol fod ar gyfer Llywodraeth y DU, a wnaiff hi gofio, ar bob adeg yn ystod y trafodaethau hynny, mai’r flaenoriaeth bennaf i ffermwyr yng Nghymru, nad ydynt mor bryderus, o bosibl, ynglŷn â ble mae’r pwerau, yw bod yr arian hwnnw’n parhau i lifo?

Ni fuaswn yn dweud nad yw ffermwyr yn pryderu ble mae’r pwerau. Yn sicr, credaf fod y ffermwyr y bûm i mewn cysylltiad â hwy ac undebau’r ffermwyr yn bendant yn cydnabod bod y pwerau amaethyddol yn perthyn i bobl Cymru ac nid ydynt am weld Llywodraeth y DU yn cipio unrhyw bwerau. Rydych yn llygad eich lle—. Credaf, yn ôl pob tebyg—wel, cyn yr etholiad a alwyd ym mis Mehefin eleni, cawsom sicrwydd hyd at 2020 ac ar ôl yr etholiad, rhoddodd y Trysorlys sicrwydd y byddent yn ariannu’r taliadau uniongyrchol yn llawn hyd at 2022. Wrth gwrs, croesewir hynny, ond mae arnom angen llawer mwy o fanylion mewn perthynas â hynny.

Felly, rwyf bob amser wedi bod yn glir iawn y bydd gennym bolisi amaethyddol Cymru ar ôl Brexit. Fodd bynnag, rydym yn derbyn y bydd fframweithiau’r DU ar waith mewn rhai meysydd. Rwy’n awyddus iawn i ddechrau’r sgyrsiau hynny ynglŷn â fframweithiau’r DU. Yn anffodus, gan nad ydym wedi cael unrhyw ymgysylltiad â Llywodraeth y DU ers amser mor hir ar lefel weinidogol, nid ydym wedi gallu prosesu’r sgyrsiau hynny. Ond yn sicr, ddydd Llun, byddaf yn codi mater fframweithiau’r DU yn y cyfarfod pedairochrog hwnnw.

Cefnogi Ffermwyr Cymru

6. Pa fesurau y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn eu cymryd i gefnogi ffermwyr Cymru dros y 12 mis nesaf? (OAQ51001)

Diolch. Rwy’n awyddus i weld sector amaethyddol mwy effeithlon, proffidiol a chynaliadwy yng Nghymru. Rwy’n cynorthwyo ein ffermwyr i gyflawni hyn drwy ddefnydd arloesol o’r cyllid sydd ar gael, gan gynnwys y grant cynhyrchu cynaliadwy, y grant busnes i ffermydd, y fenter strategol ar gyfer amaethyddiaeth, yn ogystal â thrwy Cyswllt Ffermio.

Diolch am yr ateb hir, Gweinidog. Un mesur na fyddai’n cynorthwyo ffermwyr Cymru yn sicr fyddai cynnig Llywodraeth Cymru i ddynodi rhagor o ardaloedd o Gymru yn barthau perygl nitradau. Canfu arolwg diweddar gan NFU Cymru nad oedd gan bron i dri chwarter y ffermwyr a ymatebodd gyfleusterau storio slyri digonol ar eu ffermydd i fodloni gofynion arfaethedig y parthau perygl nitradau a byddai’n costio oddeutu £80,000 ar gyfartaledd iddynt wneud hynny. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi terfyn ar y cynigion hyn, a allai gael effaith anferthol a negyddol iawn yn ariannol ar ein diwydiant ffermio yng Nghymru?

Wel, ni allaf roi diwedd ar adolygiad y parthau perygl nitradau am ei fod yn ofyniad statudol o dan y gyfarwyddeb nitradau, felly credaf fod angen ei ystyried yn y cyswllt hwnnw. Fe fyddwch yn gwybod ein bod wedi cael ymgynghoriad ar barthau perygl nitradau. Daeth hwnnw i ben ddiwedd mis Rhagfyr. Cawsom nifer fawr o ymatebion—dros 250, rwy’n credu—llawer iawn mwy na’r tro cynt y bu’n rhaid inni ei adolygu. Rwy’n awyddus iawn i weithio gydag undebau ffermwyr, y ffermwyr a’r sector yn ei gyfanrwydd i ddatblygu atebion, ac wrth gwrs, rwy’n deall y byddai cost ynghlwm wrth hynny. Fodd bynnag, nid wyf am achub y blaen ar gynnwys yr ymgynghoriad, ond byddaf yn gwneud cyhoeddiad erbyn diwedd y flwyddyn.

Cyswllt Ffermio

7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y grant cyngor busnes Cyswllt Ffermio? (OAQ51024)

Nid oes unrhyw grant cyngor busnes Cyswllt Ffermio penodol. Fodd bynnag, mae ein gwasanaeth Cyswllt Ffermio yn darparu ystod eang o wasanaethau cymorth gwerthfawr sy’n canolbwyntio ar ysgogi moderneiddio, cynyddu ffyniant a chydnerthedd. Wrth i ni agosáu at Brexit a’r heriau sylweddol i ffermio a choedwigaeth a fydd yn deillio o hynny, fe ddaw Cyswllt Ffermio yn adnodd mwyfwy pwysig gan y Llywodraeth hon i’n ffermwyr a’n coedwigwyr.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae etholwr wedi cysylltu â mi i fynegi pryderon ynglŷn â’r ffioedd gweinyddu a godir gan ymgynghorwyr i gyflawni gwaith o dan grant cyngor busnes Cyswllt Ffermio—neu, os wyf yn anghywir, fel y dywedoch—. Ymddengys i mi fod ymgynghorwyr, mewn rhai achosion, yn derbyn hyd at 20 y cant o gyfanswm y grant mewn ffioedd gweinyddu. A ydych yn barod i edrych ar hyn ac i ymchwilio i hyn, ac o bosibl, i roi cap ar ffioedd gweinyddu fel y gall cymaint o’r arian â phosibl gyrraedd y rheng flaen a chyrraedd y ffermwyr, yn hytrach na llenwi pocedi’r ymgynghorwyr? Byddai diddordeb gennyf glywed a gafodd y mater ei ddwyn i’ch sylw o’r blaen, a byddwn yn hapus i roi rhai enghreifftiau i chi.

Credaf y byddai’n well pe bai’r Aelod yn ysgrifennu ataf, oherwydd, fel y dywedais, nid yw’r grant y gofynnoch i mi yn ei gylch yn eich cwestiwn gwreiddiol yn bodoli. Mae Cyswllt Ffermio yn tueddu i gyfeirio ffermwyr a choedwigwyr at wahanol gynlluniau a grantiau. Felly, mae’n aneglur iawn i mi pa grant y cyfeiriwch ato. Felly, ie, credaf y byddai’n ddefnyddiol iawn pe bai’r Aelod yn ysgrifennu ataf, ac yna, yn amlwg, fe allaf ymateb.

Llifogydd ar Dir Amaethyddol

8. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am lifogydd ar dir amaethyddol? (OAQ51031)[W]

Diolch. Mae fy mholisi adnoddau naturiol a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn amlinellu’r cyfleoedd i reoli llifogydd drwy ddefnyddio technegau naturiol i reoli risg llifogydd ar ein hucheldir ac ar dir isel. Ar yr ucheldiroedd, golyga hyn gymryd camau i gynyddu faint o ddŵr a gaiff ei storio drwy leihau dŵr ffo a selio pridd, ac ar y tir isel, arafu llif drwy fwy o orlifdiroedd naturiol.

Diolch am eich ymateb. Mi wnes i godi hyn gydag un o’ch rhagflaenwyr dair blynedd yn ôl: yr angen i wneud mwy i ymbweru tirfeddianwyr, ffermwyr, grwpiau amgylcheddol ac yn y blaen i fedru bod yn gyfrifol, o fewn ‘parameters’ penodol, wrth gwrs, am glirio glannau afonydd eu hunain, er enghraifft—bod ganddyn nhw’r pŵer i wneud hynny o fewn amgylchiadau penodol. Mi gyfeiriais i, bryd hynny, at gynllun peilot roedd Asiantaeth yr Amgylchedd yn Lloegr yn ei redeg ac mi gytunodd y Gweinidog, ar y pryd, y byddai’n hapus i gyflwyno cynllun peilot tebyg yng Nghymru. A allwch chi ddweud wrthyf a ydy’r cynllun peilot yna wedi digwydd, a hefyd a allwch chi esbonio pam ein bod ni’n dal i weld enghreifftiau cynyddol, a dweud y gwir, o gwyno ynglŷn â thiroedd amaethyddol yn ffeindio’u hunain o dan ddŵr am rannau helaeth o’r flwyddyn?

Nid wyf yn ymwybodol o’r cynllun peilot hwnnw, ond os oedd hynny dair blynedd yn ôl, nid yw hynny’n golygu ei fod wedi cael ei gyflwyno, os mynnwch. Ond yn sicr, rwy’n barod i edrych ar hynny ac i ysgrifennu at yr Aelod.

Mae etholwyr wedi cysylltu â minnau hefyd gyda phryderon ynglŷn â’r drefn leihau gwaith cynnal a chadw a roddir ar waith gan Cyfoeth Naturiol Cymru mewn rhannau o ogledd Cymru, ac o ganlyniad i’r cynllun lleihau gwaith cynnal a chadw, mae llifddwr o’r ffosydd, am nad ydynt yn cael eu clirio, yn dechrau gorlifo ar dir amaethyddol—tir sydd wedi bod yn dir amaethyddol cynhyrchiol iawn. Pa gamau rydych yn eu cymryd i sicrhau bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn targedu eu gwaith cynnal a chadw yn briodol fel nad yw ffermwyr yn dioddef o ganlyniad i ddiffyg gwaith cynnal a chadw yn eu hardaloedd?

Credaf eich bod yn nodi pwynt pwysig iawn. Nid yw’n fater y mynegwyd pryder wrthyf yn ei gylch, ond byddwn yn fwy na pharod i’w drafod yn fy nghyfarfod nesaf gyda chadeirydd a phrif weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru yr wythnos nesaf, rwy’n credu, neu’r wythnos ar ôl hynny.

Amddiffynfeydd Môr yn Hen Golwyn

9. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella'r amddiffynfeydd môr yn Hen Golwyn? (OAQ51007)

Diolch. Mae Llywodraeth Cymru’n gweithio’n agos gyda Chyngor Conwy ar ddiogelu’r arfordir. Rydym wedi cefnogi gwaith arfarnu sy’n cynnwys y glannau ym Mae Colwyn i gyd, a hyd yn hyn, rydym wedi ariannu gwerth £26 miliwn o welliannau yno. Rydym yn trafod gyda’r cyngor ynglŷn â’u cynlluniau ar gyfer gwaith pellach ym Mae Colwyn.

Rwy’n ddiolchgar iawn am y buddsoddiad sydd wedi mynd i Fae Colwyn dros y blynyddoedd o ran sicrhau lefelau uwch o ddiogelwch rhag llifogydd ar gyfer y rhan benodol honno o’r arfordir, ond rydym wedi gweld y difrod y gall llifogydd o’r môr ei wneud pan edrychwn dros Fôr yr Iwerydd, o ganlyniad i’r stormydd ofnadwy sydd wedi creu llanast yn y Caribî ac yn Unol Daleithiau America, ac nid wyf yn dymuno gweld sefyllfa debyg yn digwydd yma yng ngogledd Cymru, yn Hen Golwyn. Fe wyddoch fod amddiffynfeydd rhag llifogydd ar y glannau yno yn diogelu rhannau hanfodol o seilwaith trafnidiaeth gogledd Cymru. Maent wedi cael eu hesgeuluso ers llawer gormod o amser. Gwnaed clytwaith o waith atgyweirio dros y blynyddoedd ac mae angen gweithredu er mwyn sicrhau eu bod yn cyrraedd y safon. Pa hyder sydd gennych y byddwn yn gweld cynllun ac y byddwn yn gweld gwaith yn dechrau ar welliannau sylweddol i bromenâd Hen Golwyn o fewn y ddwy flynedd nesaf?

Wel, credaf fod yr Aelod wedi fy holi ynglŷn â hyn tuag at ddiwedd y llynedd, yn ôl pob tebyg, a chredaf fy mod wedi dweud wrthych bryd hynny yr hyn rwyf am ei ddweud wrthych yn awr: rydym yn dal i aros i gyngor Conwy gyflwyno cynnig sy’n nodi dull partneriaeth y maent yn dymuno’i weithredu mewn perthynas â Hen Golwyn, a Bae Colwyn yn wir. Gwn fod y cyngor yn cael cyfarfod, fis nesaf rwy’n credu, gyda phartneriaid fel Network Rail, oherwydd fe sonioch am y seilwaith trafnidiaeth gerllaw’r A55, yr asiantaeth cefnffyrdd, rwy’n credu, yn ogystal â swyddogion Llywodraeth Cymru, yn amlwg. Felly, rwy’n gwybod ein bod wedi gofyn iddynt baratoi adroddiad ar fy nghyfer yn dilyn y cyfarfod hwnnw.

Llygredd yn Afonydd Cymru

10. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am lygredd yn afonydd Cymru? (OAQ51035)

Diolch. Mae’r cynlluniau rheoli basnau afonydd, a gyhoeddwyd yn 2015, yn cynnwys asesiadau manwl o holl grynofeydd dŵr Cymru a mesurau i wella ansawdd dŵr. Cafwyd nifer o achosion sylweddol o lygredd amaethyddol dros y flwyddyn ddiwethaf a achosodd gryn ddifrod, ac rwyf wedi dweud yn glir nad yw’r digwyddiadau hyn yn dderbyniol.

Cytunaf eu bod yn annerbyniol, ac mae rhwng 70 a 118 o achosion o lygredd slyri yn mynd i mewn i afonydd Cymru yn flynyddol, sy’n fwy nag un yr wythnos. Ac rwy’n cydnabod bod y rhan fwyaf o ffermwyr yn cydymffurfio â’r gyfraith, ond awgryma’r ystadegau’n amlwg nad yw hynny’n wir am bob un ohonynt. Mae ymchwiliad diweddar gan y Biwro Newyddiaduraeth Ymchwiliol yn awgrymu bod rhai ffermydd yn ystyried y dirwyon a gânt o ganlyniad i lygru yn rhan o gostau rhedeg eu busnes. Os oes unrhyw wirionedd o gwbl yn hynny, mae’n amlwg nad yw’r dirwyon hynny’n gweithio fel rhwystr. A’r peth arall a ganfuwyd drwy’r astudiaeth honno oedd bod problem barhaus mewn rhai ffermydd yn Sir Gaerfyrddin. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, yr hyn rwyf am ei ofyn yw: pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod diffyg cydymffurfiaeth ffermydd sy’n aildroseddu yn cael ei archwilio’n drylwyr? Ac rwy’n deall yn eithaf clir mai Cyfoeth Naturiol Cymru fydd yn gwneud hynny. A’r peth arall a ganfuwyd drwy’r newyddiaduraeth ymchwiliol honno yw bod rhai o staff Cyfoeth Naturiol Cymru yn cael eu bygwth yn hytrach na’u croesawu—i’r gwrthwyneb yn llwyr, yn wir—wrth wneud eu gwaith ar y ffermydd hynny.

Diolch, ac fel y nodwyd gennych, Joyce Watson, er i mi ddweud bod nifer o achosion sylweddol o lygredd amaethyddol wedi bod, gellir eu priodoli i ganran fach iawn o ddaliadau amaethyddol. Nid yw aildroseddu parhaus yn dderbyniol ac wrth gwrs, dylai dirwyon weithredu fel rhwystr yn hytrach na chael eu gweld fel costau rhedeg. A chredaf, mewn rhai achosion, nad yw dirwyon yn briodol, ac mae ei gwneud yn ofynnol i ffermwyr unioni’r difrod a achoswyd ganddynt yn aml i’w gweld yn ffordd fwy derbyniol o gyfyngu ar aildroseddu yn fy marn i. Mae’r is-grŵp rheoli tir ar lygredd gwasgaredig yn bwrw ymlaen â’r gwaith ar faterion o’r fath. Fe fyddwch yn gwybod hefyd fy mod yn gofyn am safbwyntiau drwy’r ymgynghoriad ar reoli ein hadnoddau naturiol yn gynaliadwy. Nid wyf wedi cael gwybod am unrhyw achos o staff Cyfoeth Naturiol Cymru yn cael eu bygwth, ond unwaith eto, mae’n rhywbeth rwy’n fwy na pharod i’w godi gyda Cyfoeth Naturiol Cymru yn fy nghyfarfodydd misol rheolaidd.

Rwy’n falch iawn fod Joyce Watson wedi gofyn y cwestiwn hwnnw gan eich bod chi a minnau wedi trafod y mater hwn ar sawl achlysur. Gweinidog neu Ysgrifennydd y Cabinet, tybed a wnewch chi edrych ar sut y gallem wella’r broses o wneud ceisiadau cynllunio, yn enwedig ar gyfer uwchffermydd, er mwyn sicrhau bod draenio a chyfleusterau storio slyri digonol yn cael eu hystyried o ddifrif, oherwydd pan fo fferm yn tyfu o 600 neu 700 o wartheg i 2,000 neu 2,500, mae’r difrod i’r ffermydd cyfagos yn gwbl annioddefol. Y llygredd sy’n llifo i mewn i erddi, llygredd i afonydd, y llygredd nid yn unig o ganlyniad i halogi cyrsiau dŵr, wrth gwrs, ond llygredd o’r adar sy’n heidio at y grawn a phopeth arall. Ac mae uwchfferm, os yw’n cael ei rhedeg yn dda, yn beth gwych ryfeddol i’w weld. Mae uwchfferm sy’n cael ei rhedeg yn wael yn creu diflastod llwyr i’r bobl o’i chwmpas, a chredaf o ddifrif fod angen i Lywodraeth Cymru fod yn fwy llym o ran cynllunio. Mae’n bwnc rwyf wedi’i godi gyda chi a’ch cyd-Aelod wrth eich ymyl o’r blaen, oherwydd credaf mai dyma’r amser i weithredu gan fod mwy a mwy o hyn yn digwydd.

Ie, ac yn ein trafodaethau, yn sicr, rwyf wedi rhoi gwybod i chi fy mod yn fwy na pharod i edrych ar bolisi cynllunio er mwyn sicrhau, fel y dywedwch, eu bod yn cael eu rhedeg yn dda iawn, gan nad oes dim yn waeth na’r math o lygredd y cyfeiriwch ato.

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

Yr eitem nesaf yw’r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, a’r cwestiwn cyntaf gan Suzy Davies.

Cynnydd mewn Perthynas â Chefnogi Cymunedau yng Nghymru

1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd mewn perthynas â chefnogi cymunedau yng Nghymru pan fydd Cymunedau yn Gyntaf wedi dod i ben? (OAQ51003)

Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn. Mae fy swyddogion wedi bod yn cynorthwyo cyrff cyflawni arweiniol i gyflawni eu cynlluniau pontio ar gyfer eleni. Mae nifer o fesurau lliniaru wedi cael eu sefydlu i gefnogi trefniadau wrth symud ymlaen. Mae awdurdodau lleol yn ymgysylltu â phartneriaid er mwyn sicrhau bod y ddarpariaeth yn y dyfodol yn adlewyrchu anghenion lleol.

Diolch am eich ateb. Mae’n swnio fel pe bai’r gwaith yn parhau i fynd rhagddo. Mae’n rhaid i mi ddweud, fe ddywedoch chi wrthyf ychydig cyn y toriad, mewn cwestiwn ynglŷn â sylwadau a wnaed i mi ar ran Ffydd mewn Teuluoedd yng Ngorllewin Abertawe, fod gan fwrdd cyflawni lleol Cymunedau yn Gyntaf Abertawe, a dyfynnaf, ‘gynlluniau pontio manwl i sicrhau na fyddai prosiectau a gefnogir yn lleol ar eu colled.’ Bellach, clywais am ganolfan deuluoedd y Clâs yn Nwyrain Abertawe, lle mae Ffydd mewn Teuluoedd hefyd yn cynnal gwasanaethau, ond y tro hwn, yr etholwyr eu hunain a ddaeth i gysylltiad â mi, ac maent yn bryderus iawn am nad ydynt yn gwybod o hyd beth fydd y sefyllfa ariannol ar ôl mis Mawrth 2018. Nawr, nid yw chwe mis yn amser hir. A ydych wedi cael unrhyw syniad gan y cynghorau i gyd pa bryd y cyhoeddir y cynlluniau pontio manwl hynny?

Wel, mae cwestiwn yr Aelod ynglŷn â’r manylion o ran Ffydd mewn Teuluoedd yn peri cryn syndod i mi. Gwn fod Ffydd mewn Teuluoedd yn cynnal ymgyrch sylweddol yn y cyfryngau mewn perthynas â’r cyfnod pontio hwn. Yn gyffredinol, credaf fod y cyfnod pontio’n mynd rhagddo’n dda iawn ac nid oes gennym unrhyw feysydd sy’n peri pryder o ran bwrw ymlaen â’r broses bontio. Mae Ffydd mewn Teuluoedd wedi bod yn cynnal yr ymgyrch yn y cyfryngau, fel y dywedais. Fodd bynnag, fel y nodwyd yng nghynllun pontio manwl bwrdd cyflawni lleol Abertawe, mae Ffydd mewn Teuluoedd yn derbyn 100 y cant o’u cyllid Cymunedau yn Gyntaf hyd at 31 Mawrth 2018—oddeutu £260,000. Os oes gan yr Aelod gwestiynau penodol ynglŷn ag unrhyw sefydliad penodol, rwy’n fwy na pharod i sicrhau fy mod i neu aelod o fy nhîm yn cyfarfod â hi i egluro’r materion hynny.

Yn ôl yr hyn rydw i’n ei ddeall, bydd pwyslais y gwaith gwrthdlodi a oedd yn arfer cael ei wneud gan Cymunedau yn Gyntaf ar addysg blynyddoedd cynnar, helpu pobl i waith a grymuso cymunedau o hyn ymlaen, sef yn Saesneg yr hyn yr ydych chi’n cyfeirio ato fo fel y tair ‘E’: ‘early years’, ‘employability’ ac ‘empowerment’. Hoffwn i ddeall, ac rydw i’n meddwl bod pobl yn y sector hefyd eisiau deall, beth yn union yw ‘grymuso’, beth yw’ch dehongliad chi o hynny ac, yn bwysig, sut y byddwch chi’n mesur llwyddiant yr elfen ‘grymuso’ yma yn yr ymdrech i leihau tlodi yng Nghymru.

Wel, mae grymuso yn sicr yn ymwneud â sicrhau bod pobl leol yn rhan o’r broses o wneud penderfyniadau wrth i ni symud ymlaen, a dyna pam fod gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus a Deddf cenedlaethau’r dyfodol gysylltiad agos iawn â’r broses o ymgysylltu â phob cymuned ac unigolyn a gynrychiolir ganddynt wrth symud ymlaen. Credaf fod holl egwyddor cyflogadwyedd, y blynyddoedd cynnar a grymuso yn un gyffrous i gymunedau. Sylweddolwyd nad yw Cymunedau yn Gyntaf wedi gweithio cystal ag y’i cynlluniwyd i wneud o ran codi cymunedau allan o dlodi. Credaf fod y rhaglen wedi gwneud gwaith gwych yn atal cymunedau rhag mynd yn dlotach, ond mae angen newid sylfaenol yn hyn o beth, a chredaf mai’r rhaglenni newydd sydd gennym ar waith a’r mecanweithiau cymorth sydd ynghlwm wrthynt fydd y profiad y bydd cymunedau lleol yn awyddus i’w gael wrth symud ymlaen.

Ymddygiad Gwrthgymdeithasol

2. Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael gyda chymdeithasau tai mewn ymdrech i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol? (OAQ51023)

Ym mis Gorffennaf 2016, sefydlais grŵp Llywodraeth Cymru a Chomisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru, a gadeirir gan gomisiynydd heddlu a throseddu de Cymru. Mae’r grŵp hwn yn gweithio gyda chymdeithasau tai ledled Cymru i wella’r dull o fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Diolch yn fawr, Gweinidog. Rwy’n falch o glywed hynny. Yn sicr, mae un o fy etholwyr yn ddig iawn oherwydd yr ymddygiad sy’n gysylltiedig â chyffuriau a’r ymddygiad gwrthgymdeithasol y mae’n rhaid iddi hi a’i theulu ifanc ei weld yn rheolaidd. Mae’r datblygiad tai cymdeithasol y mae’n byw ynddo yn ystâd gymysg o dai gyda fflatiau un-person. Yn anffodus, mae hi mewn cysylltiad rheolaidd â’r heddlu a’r gymdeithas dai leol. Tynnwyd fy sylw at achosion eraill tebyg yn y cyswllt hwn hefyd. Clywais yr hyn a ddywedoch, ond buaswn yn ddiolchgar pe gallech roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y trafodaethau hynny a rhoi gwybod i mi beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i orfodi landlordiaid cymdeithasol i ysgwyddo cyfrifoldeb yn hyn o beth.

Wel, mae landlordiaid cymdeithasol yn ysgwyddo cyfrifoldeb yn y maes hwn. Rwy’n cydnabod yr effaith ddinistriol y gall ymddygiad gwrthgymdeithasol ei chael ar unigolion a chymunedau ledled Cymru. Yr hyn y buaswn yn ei ddweud yw bod hwn yn faes cymhleth sy’n galw am ddull amlasiantaethol o weithredu er mwyn ymdrin â chymorth ar gyfer y cymunedau, ond hefyd ar gyfer yr unigolion sy’n achosi’r ymddygiad gwrthgymdeithasol, ac mae gennym hanes blaenorol cryf o gyflawni polisïau cadarn. Ond hefyd, buaswn yn gofyn i’r Aelod ystyried ei rôl yn hyn o beth, o ran cynorthwyo Llywodraeth Cymru i ofyn i Lywodraeth y DU gynyddu lefel y cyllid a’r gefnogaeth i swyddogion yr heddlu ledled y DU, gan gynnwys yma yng Nghymru ac yn ei etholaeth ei hun.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Bethan Jenkins.

Diolch. Mae fy nghwestiwn cyntaf yn ymwneud â Grenfell ac rwyf wedi gofyn llawer o gwestiynau ynglŷn â hynny yma yn y Siambr, ac a bod yn deg, rydych wedi anfon y wybodaeth ddiweddaraf atom yn rheolaidd dros yr haf, fel y gofynnwyd ichi wneud, o ran yr hyn yr ydych yn ei wneud mewn perthynas â Grenfell ar lefel Cymru. Ar 25 Awst, daeth yn amlwg fod y cladin ar rai blociau o fflatiau preifat sy’n adeiladau uchel iawn yng Nghaerdydd, megis y rheini yn Prospect Place, wedi methu profion diogelwch. Fe anfonoch y wybodaeth honno atom, ond tybed a allwch roi’r newyddion diweddaraf i ni am y sector preifat yn benodol, gan eich bod wedi dweud wrth Aelodau’r Cynulliad cyn y toriad nad chi’n unig fel Ysgrifennydd y Cabinet oedd yn edrych ar hyn mewn perthynas â fflatiau preifat, ond y byddai Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi yn siarad â gwestai ac ati hefyd. Felly, rwy’n hyderus y gallwn gael syniad o’r sefyllfa mewn perthynas â thai o fewn paramedrau Llywodraeth Cymru, ond rwy’n awyddus i gael sicrwydd mewn perthynas â fflatiau newydd—gan eu bod yn cael eu hadeiladu drwy’r amser—a’r rhai sydd wedi eu nodi fel rhai a allai achosi problemau, ac y gallwch roi’r newyddion diweddaraf inni yma heddiw.

Rwy’n ddiolchgar am gwestiwn yr Aelod. Fel yr awgrymodd yr Aelod, cyhoeddais ddatganiadau drwy gydol yr haf pan fyddem yn cael y wybodaeth ddiweddaraf mewn trafodaethau gyda Llywodraeth y DU. Cefais alwad gynadledda amlasiantaethol gyda’r DU ddoe ynglŷn â’r mater, ar drywydd y camau gweithredu a gymerwyd ar ôl Grenfell. Yng Nghymru—ni allaf ddod o hyd i’r ffigur yn fy mriff, ond byddaf yn ysgrifennu at yr holl Aelodau mewn perthynas â nodi adeiladau preifat dros saith llawr gyda chynhyrchion o ddeunydd cyfansawdd alwminiwm. Credaf mai saith yw’r nifer gywir, ond fe wiriaf hynny ar gyfer yr Aelod. Mae pob awdurdod lleol wedi bod yn gweithio’n dda iawn gyda’u hasiantaethau lleol, sef landlordiaid preifat, gwestai ac ati, i weld lle y gall deunydd cyfansawdd alwminiwm fod yn bresennol. Mae’r un egwyddor yn berthnasol. Rydym yn gweithio gyda’r sector preifat i sicrhau bod trigolion yn cael yr holl wybodaeth, bod y trigolion yn teimlo mor ddiogel â phosibl, a bod y gwasanaeth tân yn rhoi cymorth gyda’r trefniadau hynny hefyd. Felly, mae hwn yn gyfnod anodd, ond credwn, fel y DU gyfan—cydweithwyr o’r Alban y bûm yn siarad â hwy ddoe hefyd. Mae gennym bwynt gweithredu tebyg, o ran bwrw ymlaen â hyn.

Ac ar yr un thema, mewn ymateb i ddadl fer gan Dawn Bowden ym mis Mai mewn perthynas â diogelwch trydanol—yn amlwg, mae hyn yn berthnasol yma gan fod peiriant golchi yn rhan o’r sefyllfa gyda’r tân yn Grenfell—fe ddywedoch y byddech yn comisiynu gwaith ymchwil yng Nghymru ar danau a achosir gan drydan. Hoffwn wybod beth sy’n digwydd gyda’r gwaith ymchwil hwnnw a phwy y byddwch yn cysylltu â hwy yn ei gylch. Pa bryd y bydd Aelodau’r Cynulliad yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am hynny? Oherwydd rwy’n gwybod, o lythyr a welais gennych at Electrical Safety First ar 27 Gorffennaf, eich bod wedi dweud y byddwch, a dyfynnaf, ‘yn cysylltu os bydd angen eu cyngor.’ Byddwn wedi meddwl y byddai’n hollbwysig, oni fyddai, i chi gael cyngor gan sefydliad o’r fath sy’n arbenigo mewn diogelwch trydanol. Rwy’n eich annog yn awr, yma heddiw, Ysgrifennydd y Cabinet, i gyfarfod â hwy i glywed eu pryderon, gan eu bod yn rhagweithiol iawn yn y maes hwn, ac i sicrhau’r gwaith ymchwil y mae Dawn Bowden ac eraill wedi galw amdano.

Dylwn rybuddio’r Aelod, yn gyntaf oll, ar ei—. Mae’n gywir wrth ddweud bod dyfais drydanol yn y fflat yn Grenfell, ond mae ymchwiliad llawn yn mynd rhagddo yno ac mae’n rhaid i ni sicrhau ein bod yn cael yr holl fanylion ynglŷn â hynny. Credaf fod yr adeilad wedi’i beryglu mewn ffyrdd eraill hefyd, ond fe ddaw hynny’n glir drwy’r ymchwiliad. O ran y llythyr a nododd yr Aelod, rwy’n cael llythyrau gan arbenigwyr mewn meysydd o bob math bob dydd. Yr hyn sy’n wirioneddol bwysig yw bod gennym ddull cydgysylltiedig o weithredu, a dyna pam, wrth weithio gyda’r DU, yr Alban a Chymru ar yr union faterion hyn, ein bod yn cael adborth ar ba mor ddigonol yw’r cyfleusterau sydd gennym ar gyfer cynnal profion trydanol i ateb y gofynion rydym eu hangen fel tystiolaeth i ddangos a yw hynny’n wir. Yr hyn a wnaf, fel y dywedais wrthych yn gynharach, yw parhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau, yn enwedig mewn perthynas â diogelwch trydanol, a byddaf yn anfon y llythyr at yr holl Aelodau yn y dyfodol agos.

Diolch. Wel, buaswn yn gobeithio, os ydych yn derbyn llythyrau gan arbenigwyr, eich bod yn defnyddio eu harbenigedd. Credaf mai’r hyn rwy’n ceisio ei ddweud yw bod yr arbenigedd hwnnw ganddynt i’w gynnig, yn amlwg, ac mae eu drws yn agored i chi siarad â hwy.

Roeddwn yn awyddus i symud ymlaen at dai. Rwyf wedi bod yn siarad cryn dipyn yn ddiweddar am dai cymdeithasol. Roeddwn am ofyn cwestiwn ynglŷn â moderneiddio cartrefi sydd mewn dwylo preifat ar hyn o bryd, ond sydd mewn cyflwr gwael. Mae’n rhywbeth y gallem wneud llawer mwy ohono er mwyn cynyddu ein stoc dai ar lefel leol. Gwn fod gennych y cynllun Troi Tai’n Gartrefi, benthyciadau i bobl foderneiddio eu heiddo, a gwn fod gan gynghorau lleol orchmynion rheoli anheddau gwag mewn perthynas â meddiannu eiddo o’r fath mewn modd cydlynus. Tybed a allwch roi’r wybodaeth ddiweddaraf inni am y cynlluniau hynny’n benodol, a dweud wrthym faint o gartrefi preifat, felly, sydd wedi cael eu meddiannu yn y modd hwn, neu wedi cael eu moderneiddio drwy’r strwythurau benthyg, fel y gallwn ychwanegu at y stoc sydd ei hangen yma yng Nghymru i adeiladu’r cartrefi hynny, a cheisio gwella rhai o’r adeiladau sy’n anharddu ein strydoedd, sy’n fwrn ar fywydau pob dydd pobl gan eu bod yn eu gweld mewn cyflwr gwael bob dydd ac mae taer angen troi’r tai hynny’n gartrefi priodol, fel y gall pobl yn ein cymunedau eu defnyddio yn y ffordd orau.

Wrth gwrs, mae’r Aelod yn gywir i nodi’r mater hwn. Rydym wedi cael cryn lwyddiant gyda’r cynllun Troi Tai’n Gartrefi, lle mae’r arian yn ailgylchdroi yn ôl i mewn i’r system ac yn prynu mwy o gartrefi. Buaswn yn annog awdurdodau lleol i ddefnyddio’r gorchmynion rheoli pan fo eiddo’n wag ac yn dod yn fwrn ar eu cymuned, er mwyn gorfodi hynny. Cyflwynasom gynllun treth gyngor ar gyfer ail gartrefi hefyd, lle y gellir defnyddio hynny hefyd fel ardoll ychwanegol er mwyn codi arian, i ysgogi pobl i feddwl beth y maent am ei wneud â’r eiddo hwnnw. Byddaf yn rhoi’r rhifau diweddaraf i’r Aelodau—nid ydynt gennyf wrth law, ond byddaf yn sicrhau bod yr Aelod yn cael gwybod amdanynt—a’n sefyllfa ar hyn o bryd.

Diolch, Llywydd. Clywsom yng nghyfarfod cyffredinol blynyddol Cyngor ar Bopeth Sir y Fflint dros yr haf fod Llywodraeth Cymru yn ystyried comisiynu gwasanaethau cynghori. Tybed a allwch ddweud ychydig mwy ynglŷn â hynny, a chadarnhau sut y byddwch yn sicrhau bod sefydliadau sy’n gweithredu yng Nghymru ac sy’n darparu gwaith hanfodol—nid yn unig y rhai mwy o faint, ond y rhai llai hefyd—o ran ymyrryd a darparu cefnogaeth mewn argyfwng, yn cael eu diogelu yn erbyn y sefydliadau mwy o faint sy’n gweithredu yn Lloegr ac mewn mannau eraill yn y DU, ac sydd, ar sail cost yn unig, yn debygol o godi prisiau is na sefydliadau yng Nghymru.

Rwy’n ymwybodol iawn o’r anawsterau sy’n wynebu rhai o’r sefydliadau llai o faint o ran comisiynu, ond byddwn yn edrych yn benodol iawn ar y meini prawf a ddisgwylir mewn perthynas â hynny, o ran cael cysylltiadau lleol, a sicrhau y gallant ddarparu gwasanaethau da o ansawdd uchel.

Hoffwn roi sicrwydd i’r Aelod, ac eraill, ynglŷn â’r mecanwaith ariannu sydd ar waith. Ond wrth gwrs, mae cyllidebau’n eithriadol o dynn ar hyn o bryd, ac mae proses y gyllideb ar y ffordd, wrth gwrs. Pan fo gwasanaethau’n fforddiadwy, byddwn yn eu darparu, a gobeithiaf y gallwn roi sicrwydd i rai o’r sefydliadau llai o faint na fydd y meini prawf ar gyfer hynny yn peri anfantais iddynt.

Diolch. Wel, yng nghyd-destun proses y gyllideb a briff ‘cyflwr Cymru’ diweddaraf Sefydliad Bevan, a gyhoeddwyd ddiwedd mis Gorffennaf, ac a ddywedai mai Cymru sydd â’r gyfradd uchaf o dlodi ond dwy yn y DU, ar ôl Llundain a gorllewin canolbarth Lloegr, gydag ‘ychydig iawn o newid yn y brif gyfradd’, sut rydych yn ymateb i’r adroddiad a gyhoeddwyd ym mis Awst gan y Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru, ‘Participatory Budgeting: An Evidence Review’? Roeddent yn dweud mai Porto Alegre ym Mrasil oedd man geni cyllidebu cyfranogol, gan ddweud bod y broses yno

wedi newid y berthynas sylfaenol rhwng y dinesydd a’r wladwriaeth, wedi gwella gweithrediad y llywodraeth ac wedi arwain at wasanaethau cyhoeddus a seilwaith gwell.

Ond yng Nghymru hyd yn hyn, mae’r defnydd o gyllidebu cyfranogol

wedi bod yn fwy cymedrol, ac mae’r effaith, o ganlyniad i hynny, wedi bod yn llai.

Ac maent yn argymell, yng Nghymru,

y gallai fod yn ddefnyddiol canolbwyntio yn y tymor byr ar osod sylfeini

cyllidebu cyfranogol mewn cyllidebau yn y dyfodol, ochr yn ochr â’r defnydd o fathau eraill o ymgysylltu neu ymgynghori sy’n dangos bwriad i hybu mwy o ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd o benderfyniadau gwariant Llywodraeth Cymru ac ymwneud y cyhoedd yn y penderfyniadau hynny. Pa ystyriaeth a rowch i’w canfyddiadau?

Wel, credaf fod eu sylwadau, yn ôl yr arfer, yn ddiddorol iawn. Buaswn yn awgrymu bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn rhagweithiol iawn yn y maes hwn. Drwy roi Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 ar waith, rydym wedi gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i ymgysylltu â chymunedau a phawb sydd â diddordeb. Felly, buaswn yn anghytuno â’r ffaith fod Cymru ar ei hôl hi yn hyn o beth; mewn gwirionedd, rydym wedi deddfu cyn i unrhyw wlad arall wneud hynny.

Credaf fod y mater yn ymwneud mwy â’r ffaith fod Porto Alegre, sydd wedi arwain y gwaith hwn, yn amlwg ar y blaen yn hyn o beth, ac mae ganddynt ganlyniadau mesuradwy y gellir edrych arnynt. A rhan o agenda ehangach yw hyn, agenda y gobeithiaf y gallwch ei hystyried a’i chroesawu.

Mae fy nghwestiwn olaf yn ymwneud â thai yng nghyd-destun cymunedau. Fel y gwyddoch, arwyddodd Cartrefi Cymunedol Cymru gompact gyda Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru fis Rhagfyr diwethaf, compact a oedd yn seiliedig ar ymrwymiad i gymdeithasau tai weithio mewn partneriaeth i sicrhau’r ddarpariaeth orau o dai ar gyfer yr ardal leol. Pa gyfrifoldeb cyfatebol sydd gan yr awdurdodau lleol i weithio gyda chymdeithasau tai i sicrhau bod eu hadnoddau hwythau’n sicrhau’r ddarpariaeth orau o ran tai cymdeithasol ar gyfer yr ardal leol?

Wel, newidiodd y compact y llynedd, felly mae bellach yn cynnwys Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Felly, mae awdurdodau lleol yn awyddus iawn i sicrhau eu bod yn gweithio gyda chymdeithasau tai, hyd yn oed lle mae cyfraddau cadw stoc wedi aros yr un peth mewn rhai awdurdodau lleol, megis lle mae’r Aelod yn byw. Felly, mae gwaith yn mynd rhagddo rhwng yr awdurdod, landlordiaid cymdeithasol cofrestredig sy’n gweithio yn y maes, a’r Llywodraeth. Dyna oedd diben y compact, ac mae bellach yn gytundeb tridarn.

Diolch, Llywydd. Prynhawn da, Gweinidog, a chroeso’n ôl i’r Siambr. Ddoe, soniodd un o Aelodau eich meinciau cefn, Hefin David, ynglŷn ag adfer safleoedd tir llwyd. Nawr, rwy’n sylweddoli y gall fod yn anodd datblygu safleoedd tir llwyd, ond mae rhai safleoedd tir llwyd y gellir eu paratoi ar gyfer codi tai am bris cymharol rad. Felly, tybed beth mae eich adran yn ei wneud ar hyn o bryd mewn perthynas â datblygu safleoedd tir llwyd ar gyfer codi tai.

Rwy’n gweithio’n agos iawn gyda fy nghyd-Aelodau yn y Cabinet, yn enwedig Ken Skates a Lesley Griffiths, ar gyflwyno cyfleoedd tai. Mae safleoedd tir llwyd yn un o’r meysydd a drafodir gennym, fel pob cyfle tir arall y gall fy nghyd-Aelodau o gwmpas bwrdd y Cabinet eu cyflwyno, gan gynnwys y sector iechyd.

Rydych wedi crybwyll hyn o’r blaen. Pan oeddwn yn gwneud cwestiynau i’r Gweinidog gyda chi am y tro cyntaf ym mis Ebrill, fe sonioch am eich trafodaethau parhaus gydag adran Ken Skates a’r defnydd posibl o dir Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu tai ar dir llwyd, ac fe awgrymoch ar y pryd—cymerais mai dyna oedd yr awgrym o leiaf—fod yna lawer o adeiladau GIG gwag y gellid eu defnyddio at y diben hwnnw. Felly, a oes gennych ragor o fanylion ynglŷn â sut y mae’r broses hon yn mynd rhagddi, a pha mor agos ydych chi at ddatblygu unrhyw un o’r safleoedd posibl hyn?

Rwyf wedi cael cynnig sawl darn o dir gan Ken Skates, y Gweinidog seilwaith, ac rydym bellach yn gweithio drwy’r rheini mewn perthynas â fforddiadwyedd y ddarpariaeth, ac edrych ar bartneriaid eraill. Byddaf yn cyhoeddi penderfyniad cyn bo hir ar y cynlluniau tai arloesol, a fydd yn cynnwys cyfleoedd newydd ar gyfer datblygiadau ledled Cymru, a chredaf eu bod yn eithaf cyffrous, ac mae’r sector yn edrych ymlaen at hynny.

Diolch. Yn rhyfedd, mae fy nghwestiwn nesaf yn ymwneud â’ch cynllun arloesi £20 miliwn, y cyfeirioch ato eich hun yn awr. Yn amlwg, fe ddaw eich cyhoeddiad cyn bo hir. A oes unrhyw beth y gallwch ei ddweud wrthym heddiw ynglŷn â’r cynllun hwnnw?

Wel, credaf fod cyfle enfawr yn hyn o beth. Gwelais rai o’r cynigion a gyflwynwyd; y dyddiad cau oedd dydd Gwener yr wythnos diwethaf. Mae rhai yn arloesol iawn, ar gyfer cartrefi sy’n cynhyrchu ynni—adeiladu cartref sy’n cynhyrchu trydan, fel nad oes biliau ynni i’r defnyddiwr, ond yn hytrach, gwerth ychwanegol i’r grid. Mae peth ohono’n ymwneud ag unedau modiwlar ar gyfer pobl o dan 35 oed. Felly, mae llu o gyfleoedd yno, ond byddaf yn gwneud datganiad i’r Siambr wedi i mi benderfynu ar y dyraniad.

Caethwasiaeth Fodern

3. Pa fesurau y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn eu cymryd i frwydro yn erbyn caethwasiaeth fodern dros y 12 mis nesaf? (OAQ51004)

Diolch. Rydym wedi ymrwymo i barhau i weithio gyda’r comisiynwyr heddlu a throseddu a phartneriaid eraill i barhau i fynd i’r afael â chaethwasiaeth yma yng Nghymru.

Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Gweinidog. Mae caethwasiaeth fodern yng Nghymru ar gynnydd. Yn 2015, cafwyd 134 o atgyfeiriadau’n ymwneud â dioddefwyr caethwasiaeth posibl. Dangosai hyn gynnydd o dros 91 y cant ers y flwyddyn flaenorol. Fodd bynnag, mae’r ffigur go iawn yn debygol o fod yn llawer uwch oherwydd cyfrinachedd a’r rheolaeth dynn sydd gan y troseddwyr ar eu dioddefwyr. Ysgrifennydd y Cabinet, pa fesurau pellach y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu cymryd i gynyddu ymwybyddiaeth o gaethwasiaeth fodern ac i sicrhau bod awdurdodau lleol, cyrff cyhoeddus, a sefydliadau gwirfoddol yn gallu adnabod yr arwyddion y gallai rhywun fod yn ddioddefwr caethwasiaeth fodern yng Nghymru?

Gadewch i ni edrych ar gwestiwn yr Aelod yn ofalus, ac mewn gwirionedd, gallem ystyried hyn yn dipyn o lwyddiant yma yng Nghymru, lle rydym yn nodi’r materion sy’n ymwneud â chaethwasiaeth ac yn dal y troseddwyr ac yn eu herlyn, a dyna’n hollol y dylem ei wneud. Dyna pam, yn fy marn i, fod cynnydd yn yr achosion sy’n cael eu canfod. Ni yw’r unig wlad yn y DU i benodi cydgysylltydd atal caethwasiaeth, a ni oedd y wlad gyntaf yn y DU i wneud hynny. Buaswn yn annog rhannau eraill o’r DU i fynd ati i geisio penodi cydgysylltydd atal caethwasiaeth oherwydd, fel gwlad, gallwn gyflawni hyn yn llawer gwell. Mae’r Aelod yn gywir ynglŷn â gwneud yn siŵr y gall asiantaethau allweddol, gweithwyr allweddol, nodi’n gynnar lle y credir bod pobl yn cael eu caethiwo a bod ein hasiantaethau cudd-wybodaeth a rhifau ffôn cymorth ar gael i unigolion adrodd ynglŷn â hyn, os dônt i sylw unigolion.

Tan yn ddiweddar iawn, prin iawn oedd yr achosion o gaethlafur yn y DU. A yw’n wir i ddweud felly, Ysgrifennydd y Cabinet, mai caethlafur yw canlyniad uniongyrchol mewnfudo torfol direolaeth? Mae nifer y menywod a phlant y camfanteisir arnynt yn rhywiol wedi cynyddu’n ddramatig dros y ddau ddegawd diwethaf—wedi’u rheoli gan gangiau o fewnfudwyr yn camfanteisio ar weithwyr mudol ym mhob achos bron. Onid yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno bod rheolaethau ffin nad ydynt yn bodoli i bob pwrpas, a ddaeth yn sgil hawl pobl i symud yn rhydd, wedi gwaethygu’r broblem wirioneddol ddieflig hon yn ein gwlad?

Wel, ni allaf feddwl am air y mae’r Aelod wedi ei ddweud yn y fan honno y cytunaf ag ef yn ei gylch. Y ffaith amdani yw nad yw hon wedi bod yn drosedd gudd—mae caethwasiaeth wedi bod o gwmpas ers cannoedd o flynyddoedd, a’r ymerodraeth Brydeinig a ddechreuodd lawer o hyn yn y lle cyntaf, a ni yw’r rhai a ddylai roi diwedd ar y cyfan yn awr. Dyna pam ein bod wedi penodi cydgysylltydd atal caethwasiaeth. Nid wyf yn credu bod gan fewnfudo torfol, fel y soniodd yr Aelod amdano, unrhyw beth i’w wneud â’r gaethwasiaeth a welwn heddiw. A dweud y gwir, nid wyf hyd yn oed yn cydnabod safbwynt yr Aelod fod gennym fewnfudo torfol direolaeth; mae’r Aelod yn anghywir i awgrymu hynny.

Cynllun Peilot Gofal Plant Llywodraeth Cymru

4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynllun peilot gofal plant Llywodraeth Cymru? (OAQ51034)

Diolch i chi am eich cwestiwn. Mae pob un o’r saith awdurdod lleol a fydd yn gweithredu’n gynnar ar agor ar gyfer ceisiadau ac mae plant yng Nghymru yn yr ardaloedd peilot hyn eisoes yn derbyn gofal plant am ddim. Mae ceisiadau eisoes yn cael eu prosesu ar gyfer ychwanegedd i’r cynlluniau peilot hyn.

Diolch i chi am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet, ac rwy’n falch o weld y bydd nifer o’r teuluoedd yn dod o ardal Gwynedd, wedi’u cynnwys o fewn y cynllun peilot. Rwy’n credu mai treialu’r cynnig gofal plant yw’r dull cywir. Mae pawb ohonom wedi gweld bod rhai awdurdodau lleol a darparwyr eraill yn Lloegr yn cael problemau mawr wrth gyflwyno eu prosiectau. Felly, a ydych yn cytuno â mi fod y problemau y mae rhieni a darparwyr yn Lloegr eisoes wedi eu cael yn tanlinellu pwysigrwydd treialu hwn yn y lle cyntaf?

Wrth gwrs, ac rydym wedi mabwysiadu’r dull graddol o weithredu, ond mae gennym gannoedd o blant ifanc yn ein lleoliadau gofal plant ledled Cymru heddiw a dylem gael ein calonogi gan y ffaith mai ychydig iawn o broblemau a nodwyd ar hyn o bryd. Mentraf ddweud y byddwn yn cael problemau, ond nid ar raddfa’r problemau ar ddechrau’r model yn Lloegr. Rwy’n deall bod y problemau yn Lloegr yn heriol oherwydd y dull o weithredu’r cyfan ar unwaith. Nid ydym wedi mabwysiadu’r dull hwnnw, ac rwy’n hyderus ein bod yn gwneud hyn yn y ffordd iawn.

Gweinidog, pan oeddech yn rhoi eich tystiolaeth i’r pwyllgor rai misoedd yn ôl, ac yna fe ddaeth yr Ysgrifennydd addysg i mewn yn syth ar eich ôl, roedd yn ymddangos bod ychydig o ddryswch ynglŷn â sut yn union y byddai’r arian yn llifo o amgylch y system i ddarparu’r ddarpariaeth hon pan gaiff ei chyflwyno’n gyffredinol yn sgil y cynllun peilot. Sut ydych chi’n mynd â hyn ar draws y Llywodraeth, oherwydd, o’r hyn a ddeallais o’r dystiolaeth a roesoch, roeddech yn disgwyl i’r ysgol wneud rhywfaint o’r ddarpariaeth? Yn amlwg, heb arian ychwanegol ar gael, mae darparu’r ddarpariaeth honno’n mynd i fod yn heriol iawn i lawer o ysgolion. Felly, a ydych wedi nodi o ba linellau yn y gyllideb y bydd yr arian hwn yn dod ac yn wir, a allwch gadarnhau heddiw lle bydd yr arian hwnnw yn y dyfodol?

Mae rhan o’r broses cynllun peilot yn ymwneud â dysgu sut y bydd yr arian hwn yn llifo. O’r chwe model, mae saith awdurdod lleol eisiau cynllun peilot ar y cyd. Ceir pob math o fodelau darparu gwahanol: mae rhai mewn ysgolion yn unig ac mae rhai mewn lleoliadau ysgol a lleoliadau preifat. Felly, rydym yn deall beth sy’n gweithio orau i rieni, ac yn y pen draw, dyna rydym yn ceisio ei egluro: beth sy’n gweithio i deuluoedd ledled Cymru?

Ni fuaswn yn poeni am sefyllfa ariannol y cynllun hwn. Bydd hwn yn cael ei gyflwyno. Rydym yn gweithio gyda Chyllid a Thollau EM. Mewn gwirionedd, gall yr Aelod fod yn ddefnyddiol i ni yn ogystal. Byddaf yn cysylltu â’r Aelod mewn perthynas ag ymdrin â Chyllid a Thollau EM. Mae gennym ddeddfwriaeth yr ydym yn debygol o’i chyflwyno er mwyn sicrhau ein bod yn gallu defnyddio’r pecyn data y mae Cyllid a Thollau EM yn ei ddefnyddio ar gyfer teuluoedd yng Nghymru, er mwyn cyflwyno’r pecyn wrth i ni symud ymlaen. Buasai o gymorth mawr pe bai’r Aelod yn gallu bod yn gefnogol yn y broses honno.

Fe fyddwch yn gwybod—ac rwy’n siwr y byddwch yn ochneidio pan fyddaf yn crybwyll hyn eto—am fy mhryderon ynglŷn â diffyg strategaeth ar gyfer y gweithlu i weithwyr gofal plant. Rydym yn gwybod ei bod ar ffurf ddrafft dair blynedd yn ôl, ac er gwaethaf addewidion i’r gwrthwyneb, nid oes gennym strategaeth ar waith o hyd, ac rwyf wedi nodi fy mhryderon gan fod honno bellach yn cael ei chynnwys yn y rhaglen gyflogadwyedd newydd, nad yw’n cael ei chyflwyno tan 2019. Ond yn y cyfamser, wrth gwrs, mae’r cynlluniau peilot yn weithredol ac mae pawb ohonom o blaid hynny, ac mae’r cloc yn tician o ran cyflwyno’r cynllun yn llawn ac yn genedlaethol. Felly, fy nghwestiwn yw hwn: sut y gallwch fod yn sicr, heb strategaeth gref ar waith ar gyfer y gweithlu, nid yn unig fod gennych nifer ddigonol o weithwyr gofal plant i allu darparu’r cynnig gofal plant wedi’i gyflwyno’n llawn, ond hefyd, fod y gweithwyr hynny’n ddigon cymwys ac mai hwy yw’r gweithwyr gofal plant gorau posibl y gallem eu cael?

Wel, rwy’n talu teyrnged i’r holl weithwyr gofal plant ledled Cymru. Maent yn gwneud gwaith gwych, a dylwn ddatgan buddiant gan fod fy ngwraig yn un ohonynt. Buaswn yn dweud mai hwy yw’r gorau ar gyfer darparu gwasanaethau. A gaf fi ddweud bod yr Aelod yn iawn i godi’r mater eto? Rydym yn cydnabod bod cyflwyno’r rhaglen hon ar sail raddol yn rhoi cyfle inni ddatblygu’r sector hefyd, ac rydym yn gweithio gyda’r sector er mwyn i’r bobl iawn, y datblygiad cywir o sgiliau, ddarparu’r addewid gofal plant. Mae’r sector gofal, nid yn unig ym maes gofal plant ond mewn gwasanaethau cymdeithasol i oedolion yn ogystal, yn rhywbeth y mae’r Gweinidog a minnau wedi cael nifer o drafodaethau yn ei gylch, ynglŷn â’r ffordd yr ydym yn datblygu hynny, a bydd gan Julie James, y Gweinidog sy’n gyfrifol am y rhaglen gyflogadwyedd, fwy o fanylion wrth i ni symud ymlaen.

Digartrefedd ar Ynys Môn

5. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddigartrefedd ar Ynys Môn? (OAQ51027) [W]

Mae ein ffocws ar atal yn cael effaith gadarnhaol yn Ynys Môn a gweddill Cymru. Rydym wedi atal cyfanswm o 10,300 o aelwydydd rhag mynd yn ddigartref. Rydym yn parhau i gefnogi gwasanaethau yn Ynys Môn i gynorthwyo’r rhai sy’n ddigartref, sy’n cysgu ar y stryd neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref.

Diolch. Rydw i wedi cyfarfod, y mis yma, efo staff a rheolwyr rhai o’r cyrff ac elusennau sy’n gwneud gwaith rhagorol yn Ynys Môn yn mynd i’r afael ac yn delio â digartrefedd, gan gynnwys y Wallich a Digartref Môn a Gorwel hefyd. Yn anffodus, mae gofyn iddyn nhw wneud mwy a mwy efo llai a llai o adnoddau yn cyrraedd at y pwynt rŵan lle mae’n gwbl amhosib i’w gyflawni, ac mae bygythiad o doriad i gyllid Cefnogi Pobl gan Lywodraeth Cymru yn berig o ddadwneud a thanseilio llawer o’r gwaith da sydd yn ac wedi bod yn cael ei wneud yn Ynys Môn a rhannau eraill o Gymru. A ydy’r Gweinidog yn cydnabod hynny ac yn derbyn os na wnaiff Llywodraeth Cymru gynnal y gefnogaeth ariannol i’r cyrff yma, y byddan nhw’n gwneud cam gwag ac yn gwasgu ar rai o’r bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas ni?

Wel, rwy’n cytuno â phryderon yr Aelod ynglŷn â sut y mae cyllideb Cefnogi Pobl yn helpu llawer o bobl ddigartref, nid yn unig yn ei etholaeth ei hun, ond ledled Cymru. Ond nid oes unrhyw sicrwydd ar y pwynt hwn yng nghamau’r gyllideb y gallaf ddiogelu Cefnogi Pobl neu elfennau eraill o gyllid yn fy nghyllideb. Rydym yn wynebu setliad ariannol anodd iawn, a bydd yn rhaid i mi wneud y penderfyniad hwnnw wrth i ni symud tuag at 3 Hydref, ond rwy’n siŵr fy mod wedi gwrando’n ofalus iawn ar bryderon y lobi sylweddol sydd o blaid Cefnogi Pobl.

Rwy’n ategu’r pwynt hwnnw. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud nad yw’n bosibl gwneud cymariaethau rhwng nifer yr aelwydydd cymwys rhwng 2015-16 a 2016-17 oherwydd problemau gydag ansawdd data ffigurau 2015-16, a newidiadau i ffurflenni ar gyfer 2016-17 gyda’r ddeddfwriaeth newydd wrth gwrs. Rydym yn gobeithio y bydd ffigurau o ansawdd data addas neu ddigonol ar gael yn fuan. Fodd bynnag, yn y bum mlynedd flaenorol, gostyngodd nifer yr aelwydydd digartref ar Ynys Môn o 125 i 45. Gostyngodd hefyd mewn lleoedd fel Gwynedd, Wrecsam a Thorfaen, ond cynyddu a wnaeth mewn llefydd fel Castell-nedd Port Talbot, o 140 i 195, a Sir y Fflint, o 55 i 95. Pa ystyriaeth a roesoch i sefydlu pam ein bod yn gweld y patrymau gwahanol hyn mewn gwahanol rannau o Gymru, beth bynnag fo lliw gwleidyddol y cynghorau ar y pryd?

Ie, ac mae’r Aelod yn iawn ynglŷn â’r hyn y mae’n ei nodi am gasglu data. Gofynnais i’r tîm edrych yn benodol, ar bob ardal i gael rhyw fath o gysondeb ynglŷn â’r dehongliad a’r dull o fesur a sut y mae hynny’n edrych. Efallai ei fod yn ymwneud â dehongli sut y mae hynny’n edrych o safbwynt adroddiadau unigol. Rwy’n ofni bod yn rhaid i ni gael mwy o gysondeb mewn perthynas â data fel y gallwn wneud buddsoddiadau yn y mannau priodol lle mae’r data wedi codi’n sydyn neu’n cynyddu.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae’r gaeaf yn prysur agosáu a bydd llawer o bobl yn Llandudno ac ar hyd arfordir gogledd Cymru ac mewn mannau eraill yn cael eu gorfodi i gysgu ar y stryd y gaeaf hwn am nad oes ganddynt, yn llythrennol, unman arall i fynd. Pa gamau a roesoch ar waith eisoes i sicrhau y bydd y bobl hyn yn cael cymorth i ddod o hyd i lety diogel a chynnes—a llety hirdymor—cyn y daw’r gaeaf eleni?

Rwyf wedi gofyn i bob awdurdod baratoi cynllun tywydd oer ar gyfer digartrefedd a chysgu ar y stryd er mwyn sicrhau bod cyfleusterau ar gael ar adegau penodol yn ystod cyfnod y gaeaf. Buaswn hefyd yn gofyn i’r Aelod ystyried safbwynt ei phlaid ar ble rydym yn awr: ar fin cyflwyno diwedd ar yr hawl i brynu, sy’n diogelu stoc tai cymdeithasol yng Nghymru. Felly, byddai’n dda iawn pe gallai’r Aelod ystyried cefnogi’r Bil hwnnw yn hytrach na gwrthwynebu gyda’i ffrindiau Ceidwadol.

Cymhellion i Adeiladu Mwy o Gartrefi

6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu sut y mae’n bwriadu cynyddu’r cymhellion yn y sector breifat i adeiladu mwy o gartrefi yng Nghymru? (OAQ51043) [W]

Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn. Drwy Cymorth i Brynu Cymru, y Rhaglen Ymgysylltu ag Adeiladwyr Tai a chronfa datblygu eiddo Cymru, rydym yn gweithio’n agos gyda’r sector i wneud Cymru yn lle deniadol i ddatblygwyr preifat adeiladu ynddo. Byddaf yn gwneud cyhoeddiad yfory ynglŷn â chymorth ychwanegol ar gyfer adeiladwyr cartrefi a busnesau bach a chanolig.

Wel, mae hwnnw’n newyddion da iawn, ac rwyf ond yn gobeithio, wrth ymateb yfory, y byddwch yn ystyried y pwyntiau a wnaed gan Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr, sydd wedi awgrymu bod yna ddiffyg safleoedd bach ar gael a phrinder cyllid, sy’n atal busnesau bach a chanolig rhag cynyddu nifer y cartrefi newydd a ddarparant. Roeddwn yn meddwl tybed, yn ogystal â’ch cyhoeddiad yfory, a ydych wedi bod yn gweithio gydag Ysgrifenyddion Cabinet eraill i wneud yn siŵr fod yna ddull cyd-adrannol o weithredu ar yr hyn sydd, rwy’n credu, yn broblem ddifrifol iawn.

Rwyf fi a Lesley Griffiths yn cyfarfod â’r Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi yn rheolaidd. Mae gennym gyfarfod yn fuan iawn. Bydd yn rhaid i’r Aelod aros am fanylion y cynllun, ond rwy’n gobeithio, pan fydd yn darllen y cyhoeddiad, y caiff ei chalonogi gan y cynnwys.

Cymeradwyaf bwynt Eluned Morgan ynglŷn â’r angen am fwy o fusnesau adeiladu bach a chanolig fel sector allweddol sydd, mewn degawdau blaenorol, wedi darparu ar gyfer llawer o dwf. Un peth y gallech ei wneud yw atgynhyrchu’r cynllun yn Lloegr, lle y caiff grant y Trysorlys i awdurdodau lleol ei gynyddu yn ôl gwerth y cynnydd yn y dreth gyngor a ddaw gydag adeiladu tai newydd. Buasai hwnnw’n gymhelliant gwych.

Rwy’n credu mai’r hyn a fyddai’n ddefnyddiol iawn i Lywodraeth Cymru fyddai codi’r cap benthyca ar awdurdodau lleol, a fyddai’n caniatáu i awdurdodau lleol ac eraill fuddsoddi gyda busnesau bach a chanolig i adeiladu mwy o dai ar gyfer ein cymunedau, ond mae’n fater o fynd i’r afael ag un rheol Trysorlys yn unig.

Gorchmynion Gwarchod Mannau Cyhoeddus

7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddefnyddio gorchmynion gwarchod mannau cyhoeddus er mwyn sicrhau diogelwch cymunedol? (OAQ51017)

Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn. Mae’r defnydd o orchmynion gwarchod mannau cyhoeddus yn fater i awdurdodau lleol, sy’n gorfod ymgynghori â’u heddlu a’u cynrychiolwyr cymunedol lleol.

Mae hynny braidd yn ddewr. Iawn. Gyda chyflwyno gorchmynion gwarchod mannau cyhoeddus yn y dyfodol, fe fyddwch yn gwybod am y brotest ar y cyfryngau, yng Nghonwy mewn gwirionedd, gyda’r cabinet blaenorol, gallwn ychwanegu, lle y profwyd bod swyddogion gorfodi—rhai allanol—wedi bod yn orfrwdfrydig iawn o ran targedu fy etholwyr ac ymwelwyr. Nawr, gyda’r gorchmynion gwarchod mannau cyhoeddus yn y dyfodol, dywedir wrthym fod hyn yn ateb. Sut y byddwch chi’n gweithio, Ysgrifennydd y Cabinet, gyda Llywodraeth y DU a’n prif gwnstabliaid ledled Cymru i ystyried sicrhau, o bosibl, fod swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu mewn lifrai yn chwarae mwy o ran yn y mathau hyn o droseddau amgylcheddol yn y dyfodol? Rwyf wedi dwyn hyn i’ch sylw chi a’ch rhagflaenydd o’r blaen—ynglŷn â sut y gallwn gael dull mwy unffurf o orfodi, o bosibl, ledled Cymru, ac yn sicr, nid wyf yn credu mai Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yw’r unig un lle y ceir materion yn ymwneud â gorfodi hysbysiadau cosb benodedig a’r mathau hynny o droseddau amgylcheddol.

Rwy’n credu bod yr Aelod yn iawn i godi’r mater. Cafodd gorchmynion gwarchod mannau cyhoeddus eu sefydlu o dan adrannau 59 i 65 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014. Mater i awdurdodau lleol a’r heddlu ydynt. Buaswn hefyd yn annog cefnogaeth gan yr Aelod mewn perthynas â datganoli plismona. Felly, gallem reoli pob un o’r materion hyn o Lywodraeth Cymru, yn hytrach na gofyn i’w chydweithwyr geisio ein helpu i newid ein cymunedau er gwell, gyda chefnogaeth yr heddlu a swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu.

Gwasanaeth Maethu Cynaliadwy

8. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynlluniau i gyflawni gwasanaeth maethu cynaliadwy yng Nghymru? (OAQ51010)

Diolch i chi am gwestiwn pwysig iawn. Rydym yn cydnabod y rôl hanfodol y mae gofalwyr maeth yng Nghymru yn ei chwarae wrth ofalu am blant mewn gofal. Fel rhan o’n rhaglen Gwella Canlyniadau i Blant, rydym yn gweithio gyda phartneriaid i ddarparu rhwydwaith maethu yng Nghymru.

Diolch i chi am yr ateb hwnnw. Ar ben hynny, fe fyddwch yn gwybod bod Gweithredu dros Blant wedi honni’n ddiweddar fod gofal maeth yng Nghymru mewn argyfwng. Mae’r ffigurau’n dangos bod 88 y cant o oedolion yn dweud eu bod yn annhebygol o ystyried maethu plentyn neu oedolyn ifanc ar unrhyw adeg. Felly, buaswn yn gofyn hyn: pa gamau pellach y mae Llywodraeth Cymru yn eu cynllunio er mwyn cynyddu nifer y gofalwyr maeth, ac a ydych yn cytuno bod angen i ni symud i safon Cymru gyfan, mewn perthynas â thaliadau i ofalwyr maeth, er enghraifft, gyda golwg ar leihau cystadleuaeth rhwng darparwyr a rhwng ardaloedd daearyddol yng Nghymru?

Mae gennyf weithgor yn edrych ar hyn. Yn ogystal â’r fframwaith maethu yng Nghymru, mae ein gwaith mewn perthynas â hyrwyddo lleoliadau sefydlog yn cynnwys adolygiad o orchmynion gwarcheidwaeth arbennig, buddsoddi mewn model newydd o gymorth mabwysiadu drwy’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol, a grŵp gorchwyl a gorffen ar ofal preswyl i blant. Rwy’n credu bod hwn yn un o’r meysydd na ddylai fod yn wleidyddol mewn unrhyw ffordd yn fy marn i, lle mae buddiannau pobl ifanc yn agos at ein calonnau. Os oes gan yr Aelod unrhyw gyfraniadau cadarnhaol i’w gwneud, buaswn yn hapus iawn i’w derbyn a’u bwydo i’r gweithgor wrth i ni symud ymlaen.

Nid y gwasanaeth yn unig sydd mewn argyfwng; mae rhai o’r gofalwyr maeth a’r plant y maent yn gofalu amdanynt mewn argyfwng. Ysgrifennydd y Cabinet, pa sicrwydd y gallwch ei roi i ni y bydd plant sy’n derbyn gofal yn gallu cael mynediad at wasanaethau cymorth brys, fel gwasanaethau iechyd meddwl plant a’r glasoed, os cânt eu gosod mewn lleoliadau maeth y tu hwnt i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am eu gorchymyn gofal? Mae gennyf nifer o achosion anffodus iawn sy’n tystio i’r ffaith nad yw hyn yn digwydd, ac rwy’n credu’n bendant fod yn rhaid i ni newid hynny.

Buaswn yn annog yr Aelod i ysgrifennu ataf yn benodol gyda’r achosion hynny. Fe af i’r afael â hwy’n bersonol i sicrhau ein bod yn eu dadansoddi’n fanwl. Edrychwch, mae’r bobl ifanc hyn sydd mewn lleoliad maethu neu leoliad gofal plant yn hynod o agored i niwed, a dylem fod yn gwneud mwy na’r hyn a wnawn ar hyn o bryd i sicrhau bod y bobl ifanc hyn yn ddiogel a’u bod yn wydn ar gyfer y dyfodol. Buaswn yn croesawu llythyr yr Aelod pan ddaw.

Plant sy'n Ffoaduriaid

9. Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o wasanaethau cymorth lleol sydd ar gael i blant sy'n ffoaduriaid ar eu pen eu hunain? (OAQ51046)

Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Eleni, rwyf wedi darparu £410,000 i helpu awdurdodau lleol i adeiladu capasiti ac arbenigedd i gefnogi dyfodiad plant ar eu pen eu hunain sy’n ceisio lloches yng Nghymru.

Rwy’n ddiolchgar am ateb yr Ysgrifennydd Cabinet. Rydw i wedi rhoi iddo fanylion am Adam Bakhtiari, sydd yn 17, yn wreiddiol o Iran ac yn byw yn fy etholaeth i ar hyn o bryd. Mae’n wynebu sefyllfa anodd iawn pe bai e’n cael ei orfodi i symud yn ôl i Iran am resymau nad oes amser i fynd i mewn iddyn nhw ar hyn o bryd. Yn ei achos ef, nid oedd e wedi cael y gefnogaeth y gallwn ni ei disgwyl. Nid oedd e’n gallu siarad Saesneg, er enghraifft, ac roedd e wedi cael ei roi mewn sefyllfa lle nad oedd modd iddo fe gyfathrebu. So, a fyddai’r Ysgrifennydd Cabinet yn edrych unwaith eto i weld a ydy’r gefnogaeth y mae e wedi cyfeirio ati nawr yn cyrraedd y mannau cywir a’r plant, fel Adam, sydd yn haeddu pob cefnogaeth?

Rwy’n credu bod yr Aelod yn iawn i godi hynny, a byddaf yn gofyn i fy nhîm sy’n ymdrin â’r rhan benodol hon o’r adran i roi sicrwydd i mi ynglŷn â’r cyllid a sut y caiff ei ddosbarthu a’i ddefnyddio, yn enwedig mewn perthynas â’r gŵr ifanc rydych yn sôn amdano. Os yw’r Aelod yn dymuno ysgrifennu ataf gyda mwy o fanylion, fe ystyriaf hynny’n benodol yn fy ymateb.

Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi ymuno â mi i longyfarch cymunedau ffydd ar draws Cymru ar y gwaith y maent wedi’i wneud yn helpu i groesawu ceiswyr lloches, gan gynnwys ffoaduriaid a phlant sy’n ffoaduriaid ar eu pen eu hunain, yma i Gymru, a’u cefnogi o ran eu hintegreiddio yn ein cymdeithas a lleihau tensiynau cymunedol?

Rwy’n credu bod cymunedau ffydd yn chwarae rhan bwysig yn sicrhau ein bod yn parhau i roi croeso yng Nghymru, ac rwy’n sicr yn hapus i ategu sylwadau’r Aelod a diolch iddynt yn bersonol am y gwaith y maent yn ei wneud yn ein cymunedau.

Cam-drin Domestig

10. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am strategaeth Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â cham-drin domestig? (OAQ51029)

Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn. Mae ein strategaeth genedlaethol yn nodi’r camau rydym yn eu cymryd i gefnogi dioddefwyr cam-drin domestig. Bydd fframwaith cyflawni i gefnogi’r strategaeth yn cael ei gyhoeddi cyn bo hir, ac rydym hefyd yn datblygu fframwaith cyfathrebu, fframwaith ymgysylltu â goroeswyr a model ar gyfer cyllido darpariaeth yn gynaliadwy.

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae’r ystadegau trais yn y cartref yn frawychus. Yng Nghymru a Lloegr, ar gyfartaledd, caiff dwy ddynes eu lladd gan eu partner neu gyn-bartner bob wythnos. Troseddau sy’n gysylltiedig â cham-drin domestig yw 10 y cant o gyfanswm y troseddau—ffigur sy’n cynyddu—ac eto honno yw’r drosedd dreisgar sydd leiaf tebygol o gael ei hadrodd i’r heddlu o hyd. Er bod cyfraddau erlyniadau’n codi o flwyddyn i flwyddyn, mae cyfraddau aildroseddu’n parhau i fod yn rhy uchel. Amcangyfrifir bod pedwar o bob 10 o bobl sy’n goroesi cam-drin domestig yn dioddef fwy nag unwaith. Byddai cyflwyno cofrestr o droseddwyr trais yn y cartref yn trosglwyddo’r cyfrifoldeb i’r troseddwyr. Byddai hyn yn caniatáu i’r heddlu gadw gwybodaeth am droseddwyr, yn blaenoriaethu adnoddau yn seiliedig ar risg ac yn bwysicaf oll, yn diogelu goroeswyr yn well. Gyda hyn mewn golwg, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ystyried sefydlu cofrestr trais yn y cartref yng Nghymru?

Yn bersonol, rwy’n cefnogi egwyddorion yr Aelod y sy’n sail i hyn. Rwyf wedi ysgrifennu at Sarah Newton AS, yr Is-Ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros Drosedd, Diogelu a Bregusrwydd, er mwyn cael ei barn ar ymgyrch dros gofrestr troseddwyr. Byddaf yn ystyried y mater yng ngoleuni ei hymateb i hynny. Rwyf hefyd wedi gofyn am gyngor cyfreithiol parthed cymhwysedd y Cynulliad i greu cofrestr neu fel arall, ond rwy’n edrych ar yr holl opsiynau a byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod gyda mwy o fanylion pan fyddaf yn eu cael.

Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n falch fod Jayne Bryant wedi crybwyll y mater pwysig hwn. Cefais y fraint dros nifer o flynyddoedd fel Aelod Cynulliad o ymweld â grwpiau Cymorth i Fenywod ledled Cymru ac yn fy etholaeth i, wrth gwrs, yn y Fenni, lle’r ymwelais hefyd â thŷ diogel, ac rwy’n sylweddoli’r gwaith pwysig y maent yn ei wneud, nid yn unig ar gyfer y dioddefwyr, ond ar gyfer y teuluoedd, ar gyfer plant sy’n gysylltiedig â hyn hefyd. Rwy’n siŵr y byddwch yn cytuno, fodd bynnag, Ysgrifennydd y Cabinet, nad yw’n ymwneud yn unig â strategaeth, er mor bwysig yw honno; mae’n ymwneud â gweithredu pendant ar lawr gwlad hefyd. Felly, sut rydych chi’n mynd ati i ymgynghori’n llawn ag elusennau trais yn y cartref i gael y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â’r materion sy’n effeithio arnynt o wythnos i wythnos, o fis i fis, o flwyddyn i flwyddyn, er mwyn sicrhau bod y strategaeth a’r nodau rydych chi a’ch Llywodraeth yn eu gweithredu yn sicrhau canlyniadau go iawn ar lawr gwlad a fydd yn cynorthwyo dioddefwyr trais yn y cartref a’u teuluoedd?

Mae’r Aelod yn iawn i godi’r mater hwn. Rwy’n awyddus iawn i sicrhau ein bod yn cael ymateb go iawn gan bobl go iawn pan fyddwn yn datblygu strategaeth. Dyna pam fod gennyf oroeswyr ar fy mhanel ymgynghorol, i ddweud wrthyf am eu profiadau bywyd go iawn, i wneud yn siŵr y gallwn ei gyflawni mewn perthynas â’r rheini. Ar hyn o bryd rwy’n gweithio gyda llawer o’r unigolion yn y sector ar fodelau cyllido cynaliadwy a chytundebau gwasanaeth, i edrych eto ar ba wasanaethau sydd eu hangen ar lawr gwlad, gwasanaethau nad ydynt ond yn cael eu hysgogi gan bolisi’r Llywodraeth yn unig, ond yr hyn y mae pobl yn ei ddweud sydd ei angen arnynt yn eu cymunedau, ac edrychaf ymlaen at wneud y cyhoeddiadau a’r newidiadau hynny yn y dyfodol agos.

3. 3. Cwestiynau Amserol

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

Gan ei bod hi’n ddechrau tymor newydd, rwyf wedi derbyn pedwar cwestiwn amserol yn yr agenda yma, ac felly ni fyddaf i mewn sefyllfa, siŵr o fod, i fedru galw pob un o’r rhai sydd wedi gwneud cais am gwestiwn atodol, os na fydd y cwestiynau yn anarferol o fyr yn y sesiwn yma. Felly, y cwestiwn cyntaf—David Rees.

Y Sector Dur yng Nghymru

Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael ynghylch â'r effaith y caiff y fenter ar y cyd rhwng Tata Steel a ThyssenKrupp AG ar y sector dur yng Nghymru? (TAQ0044)

Rwyf fi a’r Prif Weinidog wedi siarad gyda Bimlendra Jha, Prif Swyddog Gweithredol Tata Steel UK, am y cyhoeddiad ar y fenter ar y cyd.

Wel, diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet—cryno iawn a byr iawn.

Nawr, mae’r cyhoeddiad hwnnw ar fenter ar y cyd yn amlwg wedi bod yn rhywbeth yn y cefndir, ac mae llawer o bryderon wedi cael eu mynegi gan weithwyr dur yn fy etholaeth i a ledled Cymru ynglŷn â dyfodol cynhyrchu dur yma yng Nghymru. Gwta 18 mis yn ôl, gwelsom fygythiad i gau safle Port Talbot. Y tu hwnt i hynny, gwelsom fygythiad i werthu’r diwydiant dur yn ne Cymru, dim ond i ddarganfod eu bod, yn y pen draw, yn cydnabod bod y cynllun, neu’r ‘bont’, fel y’i gelwid, yn gweithio mewn gwirionedd, ac felly’n gwneud y diwydiant dur yn hyfyw, a chafodd pob un o’r rheini eu diddymu.

Ond unwaith eto, rydym yn wynebu peth ansicrwydd oherwydd y cyhoeddiad hwn. Rwy’n deall bod yr undebau wedi rhoi croeso gofalus, ond mae yna rai problemau, yn enwedig yn y manylion, ac mae angen i ni roi hyder i’r gweithwyr dur yng Nghymru sydd wedi ymrwymo ac ymroi i wella’r broses o gynhyrchu dur yma yng Nghymru. Felly, yn hynny o beth, a allwch ddweud wrthyf pa drafodaethau a gawsoch gyda Tata i sicrhau y bydd y cytundeb i fuddsoddi £1 biliwn mewn cynhyrchu dur yn cael ei anrhydeddu gan fenter newydd, oherwydd yn ôl y gyfraith mae endid gwahanol ar waith bellach, neu fe fydd endid gwahanol ar waith, yn enwedig gan fod hynny ar draul pensiynau i lawer o weithwyr?

Pa gamau rydych yn eu cymryd fel Llywodraeth Cymru i sicrhau y bydd yr uwch ganolfan ymchwil dur arfaethedig a oedd yn cael ei thrafod yn parhau ym Mhrifysgol Abertawe, ac nid, o bosibl, yn cael ei dosrannu ar gyfer ymchwil mewn rhannau eraill o’r UE? Pa sicrwydd a gawsoch ar gyfer sicrhau dyfodol cynaliadwy i gynhyrchu dur yma yng Nghymru, er mwyn sicrhau nad yw gwaith Port Talbot yn un tymor byr, ond ei fod mewn gwirionedd yn parhau yn y tymor hir, a bod y swyddi yn rhai hirdymor? A pha gamau rydych yn eu cymryd gyda Llywodraeth y DU sydd, a bod yn blwmp ac yn blaen, wedi bod yn aneffeithiol iawn hyd heddiw—’diwerth’ yw fy ngair i—oherwydd yn hanesyddol nid ydynt wedi gwneud dim? Ond mae angen i chi weithio gyda hwy yn awr i wneud yn siŵr eu bod yn cefnogi cynhyrchu dur yma yng Nghymru.

Hoffwn ddiolch i Dai Rees am ei gwestiwn ac am y diddordeb y mae nifer o’r Aelodau wedi’i ddangos yn y pwnc hwn, nid yn unig heddiw, ond dros fisoedd lawer, a blynyddoedd yn wir? Hoffwn ddechrau wrth ymateb i gwestiynau Dai Rees drwy gofnodi fy ngwerthfawrogiad i’r gweithwyr ffyddlon, ymroddedig a medrus a gyflogir gan Tata ledled Cymru. Maent wedi dangos amynedd a ffyddlondeb anhygoel. Maent wedi aberthu o ran eu pensiwn i gyrraedd y sefyllfa rydym ynddi heddiw, ac maent yn haeddu parch a chlod cyfatebol gan Tata fel cyflogwr wrth iddynt symud tuag at y fenter ar y cyd.

Fel y dywedais, rwyf eisoes wedi siarad â Phrif Swyddog Gweithredol Tata Steel UK, ac rwyf wedi gofyn am sicrwydd ac wedi’i gael. Buaswn yn cytuno gyda’r undebau llafur yn y datganiad a ryddhawyd ganddynt fod y cyhoeddiad heddiw i’w groesawu’n ofalus. Mae’n paratoi’r ffordd i ffurfio’r busnes dur mwyaf ond un yn Ewrop, a allai ddod â llawer o fanteision i’r DU—manteision a allai ac a ddylai gydweddu â’r dull bargen sector sy’n cael ei ddatblygu fel rhan o strategaeth ddiwydiannol y DU. Yr wythnos diwethaf, neu’r mis diwethaf, cyfarfûm â’r Ysgrifennydd Gwladol yn yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol i drafod, ymysg pethau eraill, y diwydiant dur a’r fargen sector a sut oedd angen inni sicrhau bod datblygiad ac arloesedd ymchwil yn ganolog i ddull bargen sector ar gyfer dur. Rwyf wedi cael sicrwydd ynghylch yr asedau sy’n bodoli ar draws Cymru a’r DU—na fydd unrhyw safleoedd yn cau; fod y cyhoeddiad yn paratoi’r ffordd ar gyfer dyfodol cynaliadwy a chystadleuol i’r diwydiant dur yng Nghymru. Ond byddaf yn gofyn am drafodaethau pellach, nid yn unig gyda Tata ond gyda ThyssenKrupp hefyd i sicrhau bod buddiannau gweithwyr Cymru yn ganolog i’r fenter ar y cyd.

Gallaf sicrhau’r Aelod y bydd ein buddsoddiad, a’n diddordeb yn yr uwch ganolfan arloesi dur yn parhau, a byddwn yn bwrw ymlaen â’r prosiect hwnnw. Rwy’n credu mai un o gryfderau’r sylfaen ymchwil a datblygu yng ngwaith Tata Steel Cymru yw ei fod wedi’i gysylltu mor gadarn â sefydliadau addysg uwch yng Nghymru, ei fod yn rhan annatod o ystâd y sefydliad addysg uwch, ac felly byddwn yn bwrw ymlaen â’r prosiect hwnnw.

Y peth pwysicaf o ran cynhyrchu dur yn y DU yw ei fod yn gystadleuol er mwyn iddo allu bod yn gynaliadwy. Wrth gwrs, mae’r Aelod yn iawn i nodi’r rôl y gall Llywodraeth y DU ei chwarae yn hyn o beth, yn benodol mewn perthynas ag ynni a’r gwahaniaeth rhwng prisiau ynni yma ac mewn mannau eraill. Mae’n dal i fod angen camau gweithredu yn hyn o beth. Mae’n rhywbeth sydd wedi cael ei godi ar lefel swyddogol ac ar lefel wleidyddol gyda Llywodraeth y DU, ac rydym yn dal i ddisgwyl ymateb boddhaol. Bydd y trafodaethau’n parhau ac nid oes gennyf amheuaeth y bydd y trafodaethau’n parhau yng nghyngor dur y DU, gan gynnwys Tata Steel yn ogystal â gweithgynhyrchwyr dur eraill yng Nghymru, i bwyso am fargen deg ar ynni.

Mae fy swyddogion wedi bod yn ymwneud hefyd â swyddogion yn yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol dros y dyddiau diwethaf mewn perthynas â’r mater hwn. Byddwn yn gweithio ar y cyd er budd gweithfeydd dur y DU i sicrhau bod yr ymrwymiadau a wnaed ar gyfer y gweithfeydd dur yn cael eu hanrhydeddu. Wrth gwrs, mae’r prif ymrwymiad yn ymwneud â’r ffwrneisi chwyth ym Mhort Talbot a’r addewid o £1 biliwn, y disgwyliwn iddo gael ei anrhydeddu. Ond mae amodau eraill a fydd yn cael eu hanrhydeddu ni waeth beth yw manylion y fenter ar y cyd, amodau sy’n ymwneud â’r £13 miliwn a ryddhawyd gennym i Tata Steel UK. Mae’r amodau hynny’n cynnwys amodau ar isafswm cyfnod cyflogaeth o bum mlynedd ar gyfer gweithwyr, a byddant yn cael eu hanrhydeddu gan y fenter ar y cyd.

Diolch yn fawr iawn. Diolch yn arbennig i chi am yr ateb olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, oherwydd mae’r amod pum mlynedd, wrth gwrs, yn rhywbeth y siaradoch lawer amdano pan oedd posibilrwydd y byddai’r safle’n cael ei werthu. O ran ymrwymiad pum mlynedd, fodd bynnag, a ydych wedi cael unrhyw synnwyr eto ynglŷn â pha fath o swyddi y bydd y fenter ar y cyd yn barod i ymrwymo iddynt, a pha bryd y byddwch yn cael gwybod pa fathau o swyddi sy’n debygol o gael eu heffeithio? Oherwydd y cynaliadwyedd hirdymor yw’r mater allweddol yma, yn hytrach nag amodoldeb pum mlynedd syml. Roedd un i fod i arwain at y llall. Y mathau o swyddi a fydd yn cael eu colli ym Mhort Talbot—mae angen i ni wybod pa fathau o swyddi ydynt er mwyn i ni allu craffu ymhellach ar unrhyw gynlluniau a allai fod ganddynt ar hynny.

Yn y gorffennol, mae Llywodraeth Cymru wedi addo ailhyfforddi pobl sydd eisoes wedi colli eu swyddi. Rwy’n dychmygu efallai y byddwch eisiau dweud rhywbeth am hynny yn y dyfodol yn ogystal. A oes unrhyw beth y gellir ei wneud yn dilyn hyn a fydd yn helpu i gyflymu diddordeb yn y parth menter ym Mhort Talbot? Ac a allwch ddylanwadu mewn rhyw fodd a allai—sut y gallaf ei roi—sicrhau cymaint â phosibl o swyddi perthnasol y gellir dod â hwy i’r carchar newydd y byddwn yn ei drafod y prynhawn yma, os bydd yn dod i’r ardal mewn gwirionedd?

Ac yna roeddwn eisiau rhywfaint o sicrwydd fy hun mewn perthynas â’r ganolfan wyddoniaeth dur, oherwydd yn amlwg mae’r prosiect angori hwn yn ganolbwynt i fargen ddinesig bae Abertawe. Roedd yn seiliedig ar Tata ei hun, mewn gwirionedd—sylwadau roeddent wedi eu gwneud am gynhyrchion carbon bositif a deunydd adeiladu newydd. Rwy’n credu bod angen i ni wybod a oes gan ThyssenKrupp hefyd ddiddordeb yn y ffordd newydd ymlaen cyn y gallwn fod yn gwbl fodlon fod y ganolfan wyddoniaeth yn gynaliadwy.

Diolch i Suzy Davies am ei chwestiynau ac rwy’n ei sicrhau mai swyddi cynhyrchu dur yw ein blaenoriaeth, nid yn unig ar gyfer Port Talbot, ond ar gyfer safleoedd eraill ledled Cymru. Byddaf yn ceisio cael sicrwydd penodol ynglŷn â swyddi o fewn yr adrannau caffael hefyd yn yr asedau yng Nghymru. O ran swyddi eraill y bu dyfalu yn eu cylch mewn mannau eraill, rwy’n credu bod yr undebau wedi dweud yn glir fod y mwyafrif helaeth o swyddi adnoddau dynol a swyddi TG yn bodoli y tu allan i’r DU ac felly ni fydd effaith unrhyw leihad yn hynny o beth yn creu goblygiadau mawr i safleoedd dur yng Nghymru, ond rwy’n ceisio cael sicrwydd, fel y dywedais, mewn perthynas â swyddi caffael yn benodol, a swyddi cynhyrchu dur yn yr un modd.

O ran ymchwil a datblygu, yn enwedig wrth i ni newid i economi carbon isel, rwy’n hyderus fod y safleoedd yng Nghymru mewn sefyllfa ddelfrydol i fanteisio ar gynlluniau a chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru a chan Lywodraeth y DU, pe baent yn dod o fewn y fargen sector. Nid oes unrhyw amheuaeth yn fy meddwl y bydd y ganolfan arloesi dur, sy’n ffurfio rhan hanfodol o fargen ddinesig bae Abertawe, yn bwrw ymlaen â’r uchelgais wreiddiol heb ei newid, gan gyflawni, drwy ddull partneriaeth, ffurf newydd ar arloesedd, ymchwil a datblygu a all gynnal economi yn y dyfodol. Mae gennyf bob ffydd y bydd hynny’n parhau i fod yn rhan bwysig o’r fargen ddinesig ac y bydd yn mynd rhagddo i fod yn llwyddiant mawr. Yn wir, bydd y buddsoddiad yn cael ei ystyried gan y bwrdd buddsoddi yr wythnos hon. Cefais fy sicrhau hefyd gan Brif Swyddog Gweithredol Tata Steel UK y bydd yn parhau i frwydro mor galed ag y gall dros fuddiannau Cymru o fewn y fenter ar y cyd. Mae hynny’n cynnwys buddiannau Cymru o ran swyddi ac o ran gwaith ymchwil a datblygu. Nododd y ffaith fod ymchwil a datblygu wedi ei ymgorffori’n gadarn mewn sefydliadau addysg uwch yng Nghymru fel un o’r prif resymau pam ei fod mewn sefyllfa mor gryf.

Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet. Yr ail gwestiwn—Bethan Jenkins.

Achos Kris Wade

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu'r gwersi a ddysgwyd yn sgil y sgandal Kris Wade ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg? (TAQ0043)

Mae gan y gwasanaeth iechyd gwladol yng Nghymru yn ei gyfanrwydd, gan gynnwys Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, wersi pwysig a phellgyrhaeddol i’w dysgu o’r achos hwn. Rwyf wedi gofyn i Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru gynnal adolygiad annibynnol i ddarparu sicrwydd pellach a sicrhau bod gwersi’n cael eu dysgu. Nodais hyn yn fy natganiad yn ddiweddar, a byddaf yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau’r Cynulliad.

Diolch am yr ymateb hwnnw. Mae’n eithaf anodd gwybod ble i ddechrau mewn perthynas â’r mater hwn—adroddiad mewnol sy’n sylfaenol ddiffygiol, a’r hyn a grëwyd gan reolwyr graddfa ganol fel atodiad i’w gwaith bob dydd yn ôl cyn-ymgynghorydd o Brifysgol Abertawe Bro Morgannwg. Mae hynny, ynddo’i hun, yn gyhuddiad damniol o’r adroddiad hwn. Rydych yn dweud heddiw mai adolygiad annibynnol ydyw. Yr hyn a ddarllenais yn y datganiad ysgrifenedig oedd mai asesiad o’r adolygiad oedd hwn i fod. Felly, hoffwn gadarnhad y bydd yn adolygiad gwirioneddol annibynnol. A ddoe, dywedodd y Prif Weinidog, ac rwy’n dyfynnu:

‘Mae’n hollbwysig bod yr ymchwiliad yn annibynnol. Nid fy lle i yw dweud wrth Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru beth y dylent ac na ddylent ei wneud’.

Eto i gyd, roedd amlinelliad o gylch gwaith cyfyngedig yn eich datganiad yr wythnos ddiwethaf. Felly, rwy’n awyddus i wybod, os mai hwn yw’r cylch gwaith, a wnewch chi ymrwymo i’w newid? Oherwydd mae angen i ni edrych ar yr achos yn ei gyfanrwydd, gan gynnwys y camgymeriadau a wnaed gan Brifysgol Abertawe Bro Morgannwg yn y modd y cafodd yr honiadau yn erbyn Kris Wade eu trin ar y cychwyn: ei gyflogaeth, y methiant i gael gwiriad y Swyddfa Cofnodion Troseddol, y methiant i’w ddiswyddo, nepotistiaeth bosibl, a’r posibilrwydd real iawn, pe bai Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg wedi gweithredu’n gynt, y gellid bod wedi atal llofruddiaeth Christine James. Mae’r rhain yn gwestiynau y mae gwir angen inni fynd i’r afael â hwy, yn ogystal â’r gwrthdaro buddiannau posibl sy’n bodoli yn awr gyda phrif weithredwr dros dro’r bwrdd iechyd.

Rwyf eisiau deall hefyd, heb fod yn amharchus, sut y cymerodd gymaint o amser i chi roi hwn i Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru? Rwy’n deall bod yr adroddiad hwn yn barod ym mis Ionawr, ac ni chawsom ddatganiad ysgrifenedig tan wythnos diwethaf. Pam y dewisoch Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn hytrach nag adolygiad annibynnol fel sydd wedi digwydd mewn achosion eraill, er mwyn i mi allu deall y broses honno, a sut y bydd yn digwydd fel y gall pobl roi tystiolaeth iddo, er mwyn i’r rhai y gofynnwyd iddynt, yn ôl yr honiad, i roi tystiolaeth yn yr ymchwiliad mewnol diwethaf allu rhoi tystiolaeth ac er mwyn i’r rhai yr effeithiwyd arnynt yn uniongyrchol gan y sgandal fod yn rhan o’r broses? Cyfarfûm â gŵr Christine James, y wraig a lofruddiwyd gan Kris Wade, ddoe—Stuart James—a bu’n rhaid iddo ef ddarganfod drwy gyfrwng y teledu fod yr adroddiad hwn yn bodoli hyd yn oed. Mae hynny, a bod yn onest, yn annerbyniol. Ni allwn gael sefyllfa lle mae pobl yn gorfod gwylio’r cyfryngau er mwyn iddynt gael gwybod beth sy’n digwydd mewn perthynas ag unigolyn sydd wedi gwneud rhywbeth gwirioneddol ofnadwy i aelod o’u teulu. Felly, rwyf am orffen gyda hyn, ac nid yw ef am wneud unrhyw gyfweliadau ar y cyfryngau, ond dyma’r hyn a ddywedodd wrthyf:

Dylid cofio bod y llofruddiaeth hon wedi cael effeithiau sylweddol sy’n newid bywydau, ar deulu Christine James a adawyd ar ôl, yn ogystal â’r unigolion sy’n cael eu cam-drin yn yr amgylchedd gofal lle y dylent fod fwyaf diogel. Nid yw’n ymwneud â niferoedd, costau, gwobrau gwleidyddol. Mae’n ymwneud â dod o hyd i’r gwirionedd a sicrhau bod y rhai sy’n gyfrifol am y methiannau yn cael eu dwyn i gyfrif a’u bod hwy eu hunain yn deall beth yw’r methiannau hynny.

Rwy’n erfyn arnoch, Ysgrifennydd y Cabinet: mae yna reolwyr a phobl sydd wedi gwneud penderfyniadau sy’n dal i fod yn eu swyddi neu sydd wedi cael taliadau gan y bwrdd iechyd hwnnw na ddylent fod wedi eu cael, yn syml iawn, yn seiliedig ar y ffordd y maent wedi gweithredu yn y bwrdd iechyd hwn, a thra bwyf yn Aelod Cynulliad, ni wnaf gam â’r bobl hyn. Mae dioddefwyr wedi cael cam. Rydym wedi gweld sgandalau yn y gorffennol yn ymwneud â chartrefi gofal, ag enwogion yn y system Brydeinig, ac ni allwn adael i hyn ddigwydd o dan ein goruchwyliaeth ni. Felly, os gwelwch yn dda, gwnewch yn siŵr fod yr ymchwiliad annibynnol hwn yn gweithio er mwyn pawb sy’n gysylltiedig ag ef.

Rwyf o’r farn fod cylch gwaith yr adolygiad annibynnol yn ddigon eang i AGIC wneud eu gwaith. Maent yn arolygiaeth annibynnol go iawn, a’r her yw sicrhau eu bod yn darparu adolygiad sy’n rhoi sicrwydd wrth edrych ar yr hyn a ddigwyddodd. Hefyd, mae yna her i bob un ohonom ddeall, nid yn unig yr hyn a ddigwyddodd ar y pryd, ond lle’r ydym yn awr yn ogystal. Ac mae rhywfaint o hyn yn ymwneud â’r sicrwydd a ddarparwn ar gyfer ein system wrth symud ymlaen. Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yw’r corff priodol i ymgymryd â’r ymchwiliad hwn. Rwy’n gwybod eich bod wedi gwneud nifer o sylwadau ynglŷn â chysylltu’r ymddygiad y cwynwyd amdano yn ystod y gyflogaeth a’r llofruddiaeth a ddilynodd. Mae’n werth atgoffa ein hunain fod y tri mater y cwynwyd amdanynt wedi’u cyfeirio at yr heddlu ac mai’r system cyfiawnder troseddol a fu’n ymchwilio a phenderfynu peidio â rhoi camau pellach ar waith. Rwy’n credu bod yna gwestiynau dilys i ni eu deall ynglŷn â’r hyn a ddigwyddodd ar y pryd ac ai dyna’r un dull a fydd yn cael ei ddefnyddio yn awr ai peidio.

O ran y pwynt ynglŷn â’r cysylltiad rhwng y tri mater difrifol y cwynwyd amdanynt yn ystod ei gyfnod mewn cyflogaeth a’r llofruddiaeth, rwy’n credu y dylai gwleidyddion o unrhyw liw oedi cyn ceisio gwneud cysylltiad uniongyrchol rhwng y gyflogaeth a’r llofruddiaeth. Rwy’n credu ei bod yn bwysig deall, yn dilyn yr adolygiad, pa un a oes unrhyw dystiolaeth go iawn fod yr ymddygiad y cwynwyd amdano wedi chwarae unrhyw ran yn y llofruddiaeth a ddilynodd. Rwy’n deall pam fod hyn mor emosiynol i bobl yr effeithiwyd arnynt yn uniongyrchol a theuluoedd y dioddefwyr honedig, y tri unigolyn a oedd wedi cwyno am ymddygiad Kris Wade yn ystod ei gyfnod fel gweithiwr, yn ogystal â theulu Christine James. Felly, rwyf o ddifrif ynglŷn â hyn, ac rwy’n aros am yr adroddiad gan AGIC a’r adolygiad y maent yn ei gyflawni ac nid wyf yn ceisio cyfyngu ar eu gallu i siarad â phobl wrth gyflawni adolygiad priodol a chadarn o’r hyn sydd wedi digwydd. Rwyf wedi dweud y byddaf yn rhoi’r newyddion diweddaraf i’r Aelodau. Os oes rhagor i mi neu i’r Llywodraeth ei wneud, wedi i’r adolygiad gael ei ddarparu, fe fyddaf yn hollol agored gyda’r Aelodau ynglŷn â phenderfyniadau y byddaf yn eu gwneud a chamau pellach os oes eu hangen.

Ysgrifennydd y Cabinet, roedd canfyddiadau adroddiad mewnol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg ar Kris Wade yn datgan nad aethant ar drywydd cwynion yn drylwyr a nodent, i bob pwrpas, fod yna ddiwylliant mewn rhai mannau o seilio camau gweithredu, rwy’n dyfynnu, ‘ar i ba raddau y gellid credu cleifion’ ac mae hynny’n hollol gywilyddus. Rwy’n nodi ac yn llwyr gefnogi galwadau Cymdeithas Feddygol Prydain a’r gwrthbleidiau eraill y dylid cael ymchwiliad annibynnol. Rwy’n falch fod y Prif Weinidog wedi datgan ei gefnogaeth i hyn ddoe. Rydym eisiau i’r bwrdd iechyd gynnal y safonau uchaf. Ni all y cyhoedd fod yn sicr y bydd yn gwneud hyn os ydym yn gadael iddo ymchwilio ei hun. O ganlyniad, Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni ynglŷn â pha drafodaethau a gawsoch gydag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru i hwyluso ymchwiliad annibynnol? Diolch.

Diolch am y sylwadau a’r cwestiynau. Gwn fod adolygiad y bwrdd iechyd, yr adolygiad mewnol, wedi cael ei ddisgrifio’n gyson fel un diffygiol. Nid yw’n gwyngalchu. Pan fyddwch yn edrych ar yr adroddiad ac yn ei ddarllen, maent yn cydnabod bod methiannau yn y ffordd yr aethant ati i gyflogi Kris Wade yn y lle cyntaf ac i ymdrin â’r cwynion a wnaed yn erbyn ei ymddygiad fel un o weithwyr y bwrdd iechyd. Ac rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn cydnabod ein bod yn disgwyl i fyrddau iechyd ymchwilio eu hunain, ac i ddeall, pan fydd rhywbeth wedi mynd o’i le, gan gynnwys pan fydd wedi mynd o’i le yn ddifrifol, fod cyfrifoldeb arnynt o hyd i ymchwilio i’r ymddygiad hwnnw a cheisio deall pa wersi sydd i’w dysgu drostynt eu hunain, yn ogystal â’r gallu i gael adolygiad annibynnol. Rwy’n credu bod y ffaith eu bod wedi bod yn barod i ddweud wrthynt eu hunain eu bod yn cydnabod methiannau, eu bod yn cydnabod na chafodd y cwynion cychwynnol eu hymchwilio’n drylwyr, fod y dull o weithredu’n canolbwyntio gormod ar ba mor gredadwy oedd y rhai a wnaeth y cwynion yn hytrach na cheisio dod o hyd i’r gwir—mae’r rheini’n bethau na ddylai neb ohonom geisio esgus nad ydynt yn yr adroddiad hwnnw ac nad ydynt yn faterion difrifol yma yn awr o ran sut rydym yn disgwyl i bryderon yn y dyfodol gael eu trin yn briodol ac yn drylwyr. Yn ychwanegol at yr angen i’r byrddau iechyd hynny ymchwilio eu hunain, fel y dywedais yn gynharach mewn ymateb i’r cwestiwn ac yn y datganiad ysgrifenedig, nodais yn yr achos hwn y bydd AGIC yn cynnal eu hadolygiad annibynnol eu hunain, byddant yn adrodd a byddaf yn sicrhau bod yr Aelodau’n cael y wybodaeth ddiweddaraf yn llawn, gan gynnwys rhyddhau’r adroddiad y byddant yn ei ddarparu.

Yr wythnos diwethaf, Ysgrifennydd y Cabinet, cyfarfûm â chadeirydd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg a’r uwch-swyddog a oedd yn un o’r bobl a ofynnodd am yr adroddiad hwnnw er mwyn cael sicrwydd, pe bai’r sefyllfa hon yn codi heddiw, y byddai’n cael ei chanfod yn gynt ac na fyddem yn gweld yr un methiannau ag a ddigwyddodd o’r blaen. Er bod yr Aelod dros Orllewin De Cymru yn dal i rygnu ymlaen am y gwersi a ddysgwyd, mae’n bwysig i fy etholwyr fod gwersi’n cael eu dysgu eto, oherwydd maent angen yr hyder fod y systemau ar waith. Nawr, maent wedi fy sicrhau eu bod ar waith, ond a wnewch chi sicrhau bod AGIC nid yn unig yn asesu eu hasesiad ond eu bod mewn gwirionedd yn gyfforddus ac yn hyderus fod y systemau a nodwyd ar waith fel na all hyn ddigwydd eto, ac y bydd hynny’n rhan o’r cylch gwaith?

Credaf fod hynny’n cael ei gynnwys yn y cylch gwaith. Rydym yn disgwyl y bydd AGIC yn darparu sicrwydd am arferion cyfredol, i edrych ar y methiannau a nodwyd ac a gydnabuwyd a sicrhau bod y rheini’n bethau rydym wedi’u cynllunio allan o’n system—fel enghraifft, yr her ynglŷn â methu gwirio gwiriad y swyddfa cofnodion troseddol yn briodol. Un peth yw dweud, ‘Wel, a fyddai’r unigolyn hwnnw wedi pasio gwiriad cofnodion hyd yn oed pe bai wedi’i wneud ar y pryd, pan gafodd y swydd yn y lle cyntaf?’, ac mewn gwirionedd, mae’n debygol y byddai wedi gwneud hynny, ond beth bynnag sy’n digwydd, yr her yw: sut ydych chi’n cael gwared ar y risg mewn gwirionedd? A bellach mae gennym broses ar draws y gwasanaeth iechyd gwladol lle mae cydwasanaethau’n cyflawni hynny, felly ni ddylai pobl allu dod i mewn i’n gwasanaeth iechyd gwladol yn yr un ffordd ac osgoi gwiriad y swyddfa cofnodion troseddol, er enghraifft. Felly, rwy’n cydnabod y pwynt rydych yn ei wneud, yn llwyr hefyd, fod angen cael sicrwydd priodol y gall yr Aelodau roi eu ffydd a’u hymddiriedaeth ynddo, oherwydd nid yn unig ei fod yn bwysig i Aelodau yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg; mae hwn yn fater y dylai’r gwasanaeth cyfan ddysgu gwersi ohono a thawelu meddyliau’r cyhoedd yn briodol ynglŷn â’r ffordd rwy’n disgwyl i’n gwasanaeth iechyd ymddwyn.

Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet. Y cwestiwn nesaf gan Angela Burns.

Avastin

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am benderfyniad y Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan i beidio â gwneud Avastin, cyffur canser a allai ymestyn bywydau, ar gael fel mater o drefn yn y GIG yng Nghymru? (TAQ0041)

Mae Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru, AWMSG, wedi arfarnu Avastin i drin canser ceg y groth rheolaidd neu ddatblygedig. Mae AWMSG wedi argymell yn erbyn ei ddefnydd rheolaidd gan fod y dystiolaeth dros ei gosteffeithiolrwydd clinigol yn annigonol.

Diolch i chi am ateb siomedig iawn, mae’n rhaid i mi ddweud. Mae Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru yn amcangyfrif y bydd tua 50 o gleifion canser ceg y groth bob blwyddyn yng Nghymru yn cael diagnosis terfynol a allai alw am driniaeth Avastin. Ond o ystyried y ffaith eich bod yn cymeradwyo eu hargymhelliad, rwy’n ei chael yn anodd iawn deall y broses ar gyfer y cleifion hyn yn y dyfodol. Bellach, bydd yn rhaid i gleifion canser ceg y groth geisio cael mynediad at hwn drwy lwybr y ceisiadau cyllido cleifion unigol, sy’n aml yn broses anamserol ac ansicr, ac rwy’n derbyn, Ysgrifennydd y Cabinet, eich bod wedi gwneud camau breision i geisio datrys rhai o’r problemau yn hynny o beth. Ond serch hynny, yn 2016 nododd adroddiad blynyddol y ceisiadau cyllido cleifion unigol mai cyfartaledd o 50 y cant yn unig o’r holl geisiadau am gyffuriau canser a gafodd eu derbyn, felly yn ôl yr amcangyfrif hwn, mae’n bosibl na fydd hanner y bobl sydd â chanser ceg y groth ar gam datblygedig yn cael mynediad at gyffur a allai ymestyn eu bywydau.

Pa sicrwydd y gallwch ei roi i bob claf canser ceg y groth sydd angen Avastin y byddant yn gallu cael mynediad ato mewn modd amserol drwy geisiadau cyllido cleifion unigol, yn enwedig pan gofiwch fod amser yn foethusrwydd na all y cleifion hyn ei fforddio? Ac a allech esbonio, os gwelwch yn dda, pam fod Consortiwm Meddyginiaethau yr Alban a chronfa chyffuriau canser Lloegr ill dau wedi cymeradwyo Avastin fel cyffur sydd ar gael yn rheolaidd yn eu dau wasanaeth iechyd, a Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru heb wneud hynny? Pam fod eich Llywodraeth yn rhoi cleifion canser benywaidd yng Nghymru o dan anfantais amlwg o gymharu â chleifion yn Lloegr a’r Alban sydd yn yr un sefyllfa? Ac yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, pa ymdrechion y mae eich Llywodraeth wedi eu gwneud i sicrhau mwy o gysondeb yn y ffordd y bydd clinigwyr ar draws saith bwrdd iechyd Cymru yn dehongli’r cymal eithriadoldeb clinigol wrth gyflwyno ceisiadau drwy’r drefn geisiadau cyllido cleifion unigol? Mae’r menywod hyn mewn angen dybryd, mae’n glefyd erchyll, mae’n prynu rhywfaint o amser iddynt, ac mae ganddynt gymaint o hawl iddo â’u chwiorydd dros y ffin i’r gogledd neu i’r dwyrain.

Mae hon yn enghraifft dda o ble y ceir cwestiynau llawn emosiwn, a hynny’n ddealladwy, i’n gwasanaeth iechyd gwladol fynd i’r afael â hwy, ac i fod yn briodol sensitif ac eto’n gadarn ynglŷn â’n sylfaen dystiolaeth ar gyfer gwneud penderfyniadau mewn gwirionedd. Ac mae’n enghraifft dda o i ba raddau rydym yn gwneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth am y ffordd y defnyddiwn ein hadnoddau gwerthfawr a chyfyngedig, neu a ydym yn gwneud penderfyniadau yn seiliedig ar ymgyrchoedd. Y gwir gonest yw bod gennym grŵp arbenigol sydd wedi adolygu’r dystiolaeth ar sail glinigol ac ar sail costeffeithiolrwydd, ac maent wedi rhoi eu hargymhelliad i ni. Os wyf yn dweud yn syml y byddaf yn gwrthdroi hwnnw yn absenoldeb tystiolaeth mai dyna’r peth iawn i’w wneud ar gyfer y gwasanaeth cyfan, yna nid wyf yn credu fy mod yn cyflawni’r cyfrifoldebau sydd gennyf ac rwyf o ddifrif yn eu cylch fel Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd i bobl Cymru.

A phan edrychwn ar yr Alban, maent wedi gwneud penderfyniad gwahanol yn seiliedig ar y dystiolaeth a gyflwynwyd iddynt. Nid fy lle i yw ceisio egluro eu system. Pan soniwch am Loegr, fodd bynnag, mae’r gronfa cyffuriau canser yn hysbysu y bydd Avastin yn dod oddi ar y rhestr. Felly, ni fydd hwn ar gael fel mater o drefn yn y system yn Lloegr o ddiwedd y mis hwn ymlaen, gan nad yw’r Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol yn arfarnu bod Avastin yn gosteffeithiol yn glinigol at ddefnydd rheolaidd. Felly, os yw’r dystiolaeth yn newid, ac os yw’r pris yn newid yn ogystal â hynny, yna, wrth gwrs, gallwn edrych arno eto.

Rydym newydd fod drwy adolygiad arwyddocaol ar broses y ceisiadau cyllido cleifion unigol, i edrych eto ar y cwestiynau hyn ynglŷn â sut yr edrychir ar unrhyw fath o ymyrraeth iechyd iddi fod yn effeithiol yn glinigol ac yn gosteffeithiol hefyd. Ac nid oes neb yn anghytuno bod angen dull deuol o’r fath o wneud penderfyniadau ar gyfer ein gwasanaeth. A dyna ble mae angen i ni fod. Fel arall, mae gennym system na fydd yn fforddiadwy ac na fydd yn werth da am yr arian cyhoeddus gwerthfawr a sylweddol a gaiff ei roi i mewn i’n gwasanaeth iechyd. Dywedasom y byddai adolygiad y grŵp ceisiadau cyllido cleifion unigol wedi ei gwblhau erbyn diwedd mis Medi, gyda’r holl glinigwyr wedi cael y wybodaeth ddiweddaraf yn llawn. Rwyf eisoes wedi ymrwymo i ddarparu gwybodaeth i’r Aelodau am y ffordd newydd y bydd y broses ddiwygio’n gweithio, ac rwy’n cadw at yr ymrwymiadau a wneuthum i fod yn dryloyw ynglŷn â gwybodaeth, ac i sicrhau bod yr Aelodau’n cael y newyddion diweddaraf ar ymarfer ar hyn o bryd ac yn y dyfodol.

Mae hon yn un o’r sefyllfaoedd hynny sy’n debygol o ddod yn fwyfwy cyffredin, mae’n debyg, wrth i driniaethau sy’n ymestyn bywyd, yn hytrach na gwella canser, gael eu datblygu, ond gyda photensial am oblygiadau sylweddol o ran cost. Nawr, cafwyd pryderon, fel y gwyddoch yn iawn, ynghylch ceisiadau cyllido cleifion unigol ac eithriadoldeb, ac rwy’n sicr yn edrych ymlaen at weld sut y bydd y newidiadau a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn gwella mynediad. Ond rydym hefyd yn poeni a yw’r prosesau arfarnu cyfredol yn adlewyrchu’r ffordd newidiol y caiff meddyginiaethau eu datblygu a’u defnyddio mewn ymarferion clinigol. A ydych yn credu bod y system gyfredol yn gynaliadwy, neu a fydd pryderon cyhoeddus—boed y pryderon hynny’n gyfiawn ai peidio—yn eich arwain i wneud newidiadau?

Nid wyf wedi rhoi unrhyw ystyriaeth ddifrifol neu arwyddocaol i ddadwneud proses arfarnu’r Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol i ni dynnu’n ôl o honno, nac yn wir, i newid y ffordd y mae AWMSG yn cyflawni eu proses arfarnu. Mae gennym ffyrdd gwahanol penodol o edrych ar feddyginiaethau amddifad a thra amddifad, gan gydnabod prinder y cyflyrau hynny. Ac mae’r rhain yn benderfyniadau anodd iawn. Rwy’n cydnabod bod y rhain yn emosiynol iawn i unigolion sydd â chyflyrau, ac sy’n troi at y gwasanaeth iechyd i’w helpu i ymestyn eu bywydau. Rwy’n deall hynny, a dyna pam rwy’n cydnabod bod y rhain yn benderfyniadau sensitif a llawn emosiwn i’w gwneud.

Rwy’n agored i bobl eraill gael barn ar sut y gallem edrych ar ffordd wahanol o gael proses a arweinir gan dystiolaeth yn gyffredinol. Yn sicr, ni fyddwn yn dweud, ‘Mor bell â hyn, a dim pellach, a dim newid o gwbl byth, byth, byth.’ Ond mewn gwirionedd, mae gennym broses sy’n gadarn, sy’n cael ei pharchu a’i derbyn gan glinigwyr ledled y wlad, a byddai angen i mi gael fy mherswadio bod yna ffordd well o wneud hynny. Os oes tystiolaeth ar gael i wneud hynny, rwy’n hapus i sicrhau ei fod yn cael ei ystyried, ond unwaith eto, fel gwleidyddion, mae angen i ni gydnabod ein rôl a’n cyfrifoldebau o fewn y system, ac nid wyf am roi fy hun yn lle’r arbenigwyr annibynnol hyn sy’n gwneud penderfyniadau’n seiliedig ar eu harbenigedd er lles ein system gyfan. Mae yna rywbeth yma am y pethau y gallem ac y dylem eu gwneud fel gwleidyddion, ac yn yr un modd, cydnabod bod yn rhaid i ni, weithiau, fod yn gyfrifol a pheidio â chymryd rhan mewn ymgyrch sy’n ymddangos fel y peth iawn i’w wneud o safbwynt emosiynol, ond mewn gwirionedd, byddwn yn tanseilio rhannau o weddill ein gwasanaeth i’r rhai sydd ei angen os ydym yn gwneud penderfyniadau y gwyddom nad ydynt yn gynaliadwy ac nad ydynt yn seiliedig ar effeithiolrwydd clinigol.

Ysgrifennydd y Cabinet, gwn eich bod yn ymwybodol o fy mhryderon ynglŷn â mynediad at feddyginiaethau yn gyffredinol, ac rwy’n ddiolchgar i chi am gyfarfod â mi yn flaenorol i drafod Avastin. Ac rwy’n deall yr anawsterau, ond rwy’n credu bod yn rhaid i ni hefyd gydnabod ei bod yn anodd iawn i bobl ddeall y gall rhywbeth fod ar gael yn yr Alban, ac yn Lloegr, ond nid yng Nghymru. Rwyf eisoes wedi sôn wrthych am fy mhryderon ynglŷn â Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru, a’r tryloywder yn gysylltiedig â hynny, a hefyd lefelau ymgysylltiad â gwneuthurwyr cyffuriau, sydd i’w gweld yn amrywio rhwng y gwahanol wledydd yn y DU.

Felly, hoffwn ofyn a yw hyn yn rhywbeth y byddwch yn edrych arno eto, i wirio bod AWMSG wedi gwneud popeth posibl i ymgysylltu â’r gwneuthurwr—yn yr achos hwn, Roche. Ond fe sonioch chi hefyd am bris. Buaswn yn ddiolchgar pe gallech roi gwybod a fu unrhyw drafodaethau rhwng AWMSG a Roche ynglŷn â chael cynllun mynediad addas i gleifion a fyddai’n lleihau’r gost, a’i gwneud hi’n bosibl i hwn fod ar gael i gleifion yng Nghymru.

Rwy’n hapus i ymateb i’r pwyntiau hynny yn awr, mewn gwirionedd, oherwydd o ran AWMSG a’u tryloywder, maent yn cynnal eu cyfarfodydd adolygu’n gyhoeddus. Mae pobl yn cael mynychu ac maent yn gwneud hynny. Er enghraifft, y penderfyniad diweddar lle nad oeddent yn argymell ein bod yn bwrw ymlaen â PrEP ar sail gyson drwy Gymru, ac fe gyhoeddasom dreial, cynhaliwyd y cyfarfod hwnnw’n gyhoeddus ac mae’r penderfyniadau wedi cael eu cyhoeddi. Sicrheir eu bod ar gael i’r cyhoedd. Felly, nid yw hwn yn bwyllgor sy’n cyfarfod yn gyfrinachol ac yn cadw ei benderfyniadau’n gyfrinachol. O ran y mater penodol hwn, mewn perthynas â’r pris, oedd, roedd yna ymgysylltu. Cynigiodd Roche gynllun mynediad i gleifion, gostyngiad i’r pris gwreiddiol, ac ar y sail honno y cafodd Avastin ei arfarnu wedyn. Felly, roedd ymgysylltiad drwy’r broses arfarnu, ac yn yr un modd, ar ôl i AWMSG nodi eu penderfyniad cychwynnol, eu penderfyniad tebygol, cawsant gyfle i ddod yn ôl a defnyddio’r mecanweithiau apelio sydd gennym, a hyd yn hyn, maent wedi dewis peidio â gwneud hynny. Dyna eu dewis hwy, ond dywedwyd wrthynt yn gynnar beth oedd y dewis yn debyg o fod. Cawsant gyfle i apelio cyn i’r penderfyniad ddod ataf fi, ar ôl hynny, ond maent wedi dewis peidio, a mater iddynt hwy yw hynny.

Mae’r sefyllfa yn Lloegr lle mae’r gronfa cyffuriau canser wedi argymell ei dynnu’n ôl, ceir hysbysiad i’r perwyl hwnnw, felly o fis Hydref ymlaen ni fydd hwn ar gael yn y system yn Lloegr. Mae hynny’n rhannol oherwydd bod y Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol wedi argymell i’r system yn Lloegr nad oedd tystiolaeth ei fod yn effeithiol yn glinigol ac yn gosteffeithiol ar yr un pryd. Felly, yn yr ystyr hwnnw, mae yna ddull cyson o weithredu bellach. Mae’r gronfa cyffuriau canser wedi ystumio’r darlun drwy ddarparu meddyginiaeth, darparu gobaith i bobl, ie, ond dywedodd pob adolygiad annibynnol a gwrthrychol nad oedd yn werth da am arian, ac rwy’n credu ei fod ar dir simsan yn foesegol, a bod yn onest, ac rwy’n credu ei bod yn warthus yn foesegol i ddarparu meddyginiaethau nad oedd yn effeithiol gan roi gobaith i bobl a’r argraff y byddent yn effeithiol. Mae angen inni gadw at system a arweinir gan dystiolaeth go iawn, lle rydym yn rhoi pwyntiau realistig i bobl ynglŷn ag effeithiolrwydd y triniaethau sydd ar gael, ac rydym yn sicrhau eu bod ar gael ar sail lawer mwy cyson, a dyna fydd ffocws y Llywodraeth hon. Dyna pam, er enghraifft, ein bod wedi cyflwyno’r gronfa triniaethau newydd.

Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet. A’r cwestiwn amserol olaf gan Adam Price.

Hawliau Llywodraethau Is-wladwriaethol

Yn sgil digwyddiadau yng Nghatalonia, pa drafodaethau y mae’r Prif Weinidog wedi’u cael gyda Llywodraeth y DU fel rhan o drafodaethau Brexit yr UE a’r DU, ynghylch hawliau llywodraethau is-wladwriaethol i weithredu’n annibynnol heb fod llywodraeth y wladwriaeth yn cyfyngu arnynt? (TAQ0042)

Llywydd, sefydlwyd y Cydbwyllgor Gweinidogion ar Negodiadau’r UE i fod yn fforwm i Lywodraethau datganoledig geisio dylanwadu ar drafodaethau Brexit yr UE a’r DU. Rwy’n cynrychioli Llywodraeth Cymru ar y Cydbwyllgor Gweinidogion hwnnw. Nid yw’r digwyddiadau yng Nghatalonia, y cyfeirir atynt yn y cwestiwn hwn, wedi cael eu trafod mewn cyfarfod o’r pwyllgor.

Yn ganolog i’r cwestiwn hwn, wrth gwrs, mae hawl sylfaenol cenhedloedd i hunanbenderfyniad, a ymgorfforir, yn wir, yn siarter y Cenhedloedd Unedig, ac wrth i’r platiau tectonig symud o’n cwmpas ar yr ynysoedd hyn, ar dir mawr Ewrop, ac ar draws y byd, mae’n wynebu bygythiad cynyddol yn sgil rhyw fath o gipio pŵer iredentaidd ar ran y wladwriaeth ganolog, wrth iddynt hwy eu hunain deimlo bod eu goruchafiaeth yn cael ei herio. Rwyf wedi clywed Ysgrifennydd y Cabinet yn cyfeirio at yr agweddau bron yn neo-drefedigaethol a glywch yn y cyd-bwyllgor gweinidogion pan fo Brexit yn cael ei drafod. Mae’r cwestiwn hwn, wrth gwrs, fel y mae’n sôn, wedi cael ei ysbrydoli gan y digwyddiadau ofnadwy a welwn yng Nghatalonia, a bydd yn ofid i’r Aelodau glywed fod y Guardia Civil, heddlu gwladwriaeth Sbaen, wedi ysbeilio’r Generalitat, pencadlys Llywodraeth Catalonia, yn ystod yr ychydig oriau diwethaf. Mae Arlywydd Catalonia wedi datgan bod y wladwriaeth Sbaeneg wedi atal ymreolaeth Gatalanaidd i bob pwrpas bellach.

A gaf fi annog Ysgrifennydd y Cabinet i wneud yr hyn y mae Llywodraeth yr Alban wedi ei wneud, sef anfon neges o gefnogaeth i bobl Catalonia a Llywodraeth Catalonia, wrth iddynt sefyll yno yn awr o flaen y Generalitat, yn datgan, ‘No tinc por’?

We are not afraid.

Nid oes arnom ofn. Gadewch inni ddweud gyda hwy nad ydym ni’n ofni chwaith. Rydym yn sefyll gyda hwy, a chyda phobl Kurdistan sydd hefyd yn cael eu bygwth gan refferendwm a gaiff ei atal gan Lywodraeth gwladwriaeth Irac ddydd Llun. Rydym yn sefyll yn unedig gyda holl bobloedd y byd sy’n gofyn am hyn yn unig: yr hawl i ddewis eu dyfodol eu hunain.

Llywydd, mae’r Aelod yn rhoi ei farn ar y sefyllfa yn angerddol iawn, fel y mae ganddo hawl i’w wneud yn sicr, ac mae wedi tynnu ein sylw at yr adroddiadau ar y sefyllfa sy’n datblygu yng Nghatalonia. Mae Llywodraeth Cymru yn gwbl glir: rydym yn credu mewn egwyddorion democrataidd ac yn credu y dylent gael eu parchu. Gwleidyddiaeth ddemocrataidd yw’r sail ar gyfer datrys materion cyfansoddiadol. Yr hyn nad wyf yn gallu ei wneud yw gweithredu fel pe bai gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldeb am y modd y cynhelir y berthynas â gwladwriaethau eraill yn Ewrop neu’n wir, â gwladwriaethau mewn mannau eraill yn y byd. Nid yw hwnnw’n gyfrifoldeb a ddatganolwyd i ni ac ni ddylem roi ein hunain mewn sefyllfa sy’n ymddangos fel pe baem yn credu mai felly y bo.

Mae gwefan gwasanaeth gweithredu allanol yr Undeb Ewropeaidd ei hun yn datgan bod yr UE yn credu mai democratiaeth yw’r unig system wleidyddol a all wireddu’r holl hawliau dynol yn llawn. Oni fyddai’n ymarfer defnyddiol i Lywodraeth Cymru annog Llywodraeth y Deyrnas Unedig i atgoffa Sbaen, fel aelod-wladwriaeth o’r Undeb Ewropeaidd, y dylai fyw yn ôl yr egwyddorion y dywedodd gwasanaeth gweithredu allanol yr Undeb Ewropeaidd sy’n cael eu hymgorffori yn y cytuniadau sefydlu, wedi eu hatgyfnerthu gan y siarter hawliau sylfaenol, ac sy’n cael eu datgan yn llawn o ganlyniad i’r ffaith fod cytuniad Lisbon yn ymgorffori’r siarter honno yng nghyfraith Ewrop? Mae Llywodraeth, fel Llywodraeth Sbaen, sy’n ofni pleidleisiau ei phobl ei hun yn y blwch pleidleisio yn sefydliad simsan yn wir, a dylai’r Cynulliad hwn, o bob sefydliad, sefyll dros hawliau pobloedd bychain neu genhedloedd bychain i hunanbenderfyniad, os mai dyna yw eu dymuniad. Fel Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n credu yn y Deyrnas Unedig, ond pe bai pobl Cymru yn pleidleisio am annibyniaeth wleidyddol, mae honno’n hawl y dylid ei disgwyl ac nid yw Catalonia yn haeddu dim llai na hynny.

Mae’r Aelod yn tynnu sylw’n ddefnyddiol at y datganiadau sy’n bodoli o fewn yr Undeb Ewropeaidd ac mewn mannau eraill, ac mae hynny’n cael ei adlewyrchu’n gyfan gwbl yn yr hyn a ddywedais sef ein bod, fel Llywodraeth Cymru, yn credu mewn parchu egwyddorion democrataidd a gwleidyddiaeth ddemocrataidd fel y ffordd i ddatrys anghydfodau cyfansoddiadol ac anghydfodau eraill. Ond mae’r Aelod hefyd yn iawn i ddweud mai cyfrifoldebau Llywodraeth y DU yw’r rhain. Bydd y Llywodraeth honno’n clywed beth fydd gan bleidiau eraill a gwleidyddion etholedig eraill i’w ddweud ac mae’n iawn fod pobl yn defnyddio’r fforwm hwn i wneud y safbwyntiau hynny’n hysbys. Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru barchu’r cyfrifoldebau sydd wedi cael eu datganoli i ni a dyna beth rwy’n bwriadu ei wneud.

Rwy’n siomedig iawn i glywed ymateb Ysgrifennydd y Cabinet. Gwn fod ganddo ymdeimlad o hanes ac rwy’n amau nad yw’n gwbl gyfforddus â’r hyn y mae’n ei ddweud wrthym, o ystyried y berthynas rhwng Cymru a Chatalonia a’r berthynas ehangach rhwng pobl flaengar Cymru a Chatalonia, sy’n mynd yn ôl dros 75 o flynyddoedd. Yr unig beth y gofynnwn amdano gan Lywodraeth Cymru yw’r hyn y mae Clwb Pêl-droed Barcelona wedi’i ddatgan eu hunain:

democratiaeth, rhyddid i lefaru, ac i hunanbenderfyniad,

ac i gondemnio

unrhyw weithred a allai rwystro’r rhyddid i arfer yr hawliau hyn.

Os gall clwb pêl-droed ym mhrifddinas Catalonia ddweud hynny, yna credaf y gall Llywodraeth Cymru ei ddweud—sefyll mewn undod, dyna i gyd, gyda Llywodraeth ddatganoledig debyg sydd ar hyn o bryd yn gweld ei swyddfeydd yn cael eu hysbeilio, ei haelodau’n cael eu poenydio a’i Senedd yn cael ei herio gan wladwriaeth Sbaenaidd ganolog. Gwn fy mod wedi cael cefnogaeth llawer o’r Aelodau yma i anfon llythyr agored at Lywydd Senedd Catalonia. Rwy’n bwriadu anfon hwnnw heno. Rwy’n gobeithio y bydd Aelodau eraill yn manteisio ar y cyfle, o’r diwedd, i gefnogi hwnnw gan fy mod yn credu y dylem, o leiaf, sefyll fel Senedd, ochr yn ochr â Seneddau eraill, i ddweud yn syml fod gennych hawl i ofyn i’ch pobl beth ddylai eu dyfodol fod.

Cytunaf yn llwyr â’r Aelod ynglŷn â’r hanes hir o berthynas agos rhwng Cymru a Chatalonia a rhwng sefydliadau sy’n gweithredu yma yng Nghymru ac sy’n gweithredu yng Nghatalonia. Mae’r Prif Weinidog ei hun wedi cyfarfod â chynrychiolwyr o Gatalonia yn ystod y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf. Ni ddylai unrhyw beth a ddywedais y prynhawn yma ymddangos fel pe bai’n tynnu oddi wrth ein pryder ynglŷn â’r adroddiadau a ddaw o Gatalonia na’n cefnogaeth i ddatrys anghydfodau drwy ddulliau democrataidd, gwleidyddol priodol. Ac mae’n anghyfforddus. Mae’r Aelod yn iawn i ddweud ei bod yn sefyllfa anghyfforddus weithiau, ond y safbwynt rwy’n teimlo bod yn rhaid i mi ei amddiffyn a gwyro oddi wrtho ryw fymryn—. Dywedodd y gallai’r Senedd hon ddatgan ei safbwynt. Mae hynny’n sicr yn bosibl, ond gofynnir i mi ddatgan safbwynt y Llywodraeth, ac rwy’n aelod o Lywodraeth lle rydym, gyda’n cymheiriaid yn yr Alban, yn rhan o anghydfod dwfn iawn gyda Llywodraeth y DU lle mae Llywodraeth y DU yn ceisio tresmasu ar gyfrifoldebau sydd wedi eu datganoli i’r sefydliad hwn. Ac os oes yna egwyddor ynglŷn â phobl yn parchu lle y gorwedd cyfrifoldebau, nid wyf am groesi’r llinell lle rwy’n rhoi fy hun mewn sefyllfa lle mae’n ymddangos fy mod yn dweud pethau fel pe bai gennyf gyfrifoldebau, neu fod gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldebau, dros y modd y cynhelir perthynas â gwladwriaethau eraill yn yr Undeb Ewropeaidd, pan fo’n amlwg nad oes gennym gyfrifoldebau o’r fath.

4. 4. Datganiadau 90 Eiliad

Yr eitem nesaf felly yw’r datganiadau 90 eiliad. Dawn Bowden.

Diolch, Llywydd. Aeth 30 mlynedd heibio ers i Gymru fod yn dyst i un o’r llwyddiannau chwaraeon mwyaf, pan gurodd Clwb Pêl-droed Merthyr Tudful y tîm cryf FC Atalanta o’r Eidal yng Nghwpan Pencampwyr UEFA. Roedd y noson honno ym mis Medi 1987 yn un gofiadwy i’r clwb wrth iddynt guro Atalanta 2-1 ar Barc Penydarren, a dylem gofio fod Atalanta hyd heddiw yn parhau i fod yn glwb yng nghyngrair Serie A. Felly, er y bydd cefnogwyr ifanc Cymru’n breuddwydio efallai am Gareth Bale a Hal Robson-Kanu, Kevin Rogers a Ceri Williams a sgoriodd y goliau i Ferthyr o flaen dros 8,000 o gefnogwyr ym Mharc Penydarren. A hyd heddiw, mae atsain y noson wych a’r fuddugoliaeth anhygoel honno mewn pêl-droed Ewropeaidd yn dal i’w glywed dros y degawdau. Mae yna ffilm i’w chael am yr achlysur bellach, sef ‘The Martyrs Of 87’, sy’n rhoi cyfle newydd i fwynhau’r noson wych honno.

Bydd y rhai ohonoch sy’n dilyn pêl-droed yn gwybod bod y clwb wedi wynebu amseroedd caled yn dilyn hynny, ond diolch byth, daethant yn ôl fel Clwb Pêl-droed Merthyr, ac os ewch i stadiwm LoadLok Penydarren heddiw, fe welwch faes chwarae gyda chyfleusterau gwych sy’n addas i gefnogi pêl-droedwyr ifanc am flynyddoedd lawer i ddod. Felly, a gaf fi gofnodi fy nymuniadau gorau i’r rheolwr presennol, Gavin Williams, a’r garfan o chwaraewyr am weddill y tymor hwn? Efallai bod deng mlynedd ar hugain wedi mynd heibio, ond nid yw’r noson honno o ogoniant yn erbyn Atalanta wedi mynd yn angof.

Dydd Sadwrn oedd yr ail ar hugain o Fedi 1934. Roedd rhai glowyr ym Mhwll Glo Gresffordd wedi cyfnewid shifftiau er mwyn iddynt allu mynd i wylio Wrecsam yn chwarae pêl-droed y prynhawn hwnnw. Ond wrth gwrs, ni lwyddasant i gyrraedd y gêm am fod ffrwydrad 2,000 troedfedd o dan y ddaear wedi rhwygo siafft Dennis ar agor yn oriau mân y bore hwnnw.

Collodd 266 o bobl eu bywydau yn y trychineb, glowyr lleol bob un, a rhuthrodd eu teuluoedd at ben y pwll glo. Chwech o ddynion yn unig, ar doriad, a ddihangodd o’r sifft. Aeth gwirfoddolwyr, wedi’u harfogi â chlipiau trwyn a chaneris yn unig yn erbyn nwy marwol carbon monocsid i lawr i geisio achub unrhyw oroeswyr. Bu farw tri o frigâd achub pwll glo Llai gerllaw hefyd. Arhosodd y teuluoedd yn ofer tan nos Sul, pan ddaeth yn amlwg nad oedd neb yn dod i fyny o siafft Dennis yn fyw. Roedd adwaith y cyhoedd yn aruthrol ac uniongyrchol: codwyd £566,000 i weddwon a phlant y rhai a gollwyd—sy’n gyfwerth â thua £30 miliwn heddiw. Trodd perchnogion y pwll eu cefnau i bob pwrpas ar y glowyr a oroesodd a bu’n rhaid iddynt fynd ar y dôl mewn cyfnod o ddiweithdra enfawr.

Mae Pwll Glo Gresffordd wedi cau erbyn hyn, a’r domen yw’r unig atgof gweladwy o bwll a gyflogai 2,200 o weithwyr. Ond mae cofeb barhaol i’r 266 o fywydau a gollwyd i’w gweld y tu allan i glwb y glowyr Gresffordd, ac mae’r datganiad hwn hefyd yn tystio i’w haberth a’r aberth a wnaed gan lowyr di-ri yng Nghymru dros y blynyddoedd. Mae cyrff y rhai a ddaliwyd yn y ffrwydrad yn parhau i fod wedi’u claddu’n ddwfn o dan y ddaear, ond ni fyddant byth yn angof.

5. 5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar Recriwtio Meddygol

Yr eitem nesaf yw’r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar recriwtio meddygol, ac rydw i’n galw ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig. Dai Lloyd.

Cynnig NDM6502 Dai Lloyd

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar yr ymchwiliad i recriwtio meddygol, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 29 Mehefin 2017.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Llywydd, ac rydw i’n falch iawn o gael agor y ddadl yma y prynhawn yma ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar recriwtio meddygol. Fel cefndir, yn gynharach eleni cynhaliwyd dadl ar adroddiad sylweddol cyntaf y pwyllgor yn y pumed Cynulliad yma a oedd yn canolbwyntio ar barodrwydd ar gyfer y gaeaf 2016-2017. Yn ystod yr ymchwiliad hwnnw, clywsom neges gref a chyson bod niferoedd digonol o staff a gallu’r gwasanaethau i ymdopi â’r galw yn elfennau hanfodol mewn unrhyw system gofal iechyd effeithiol. Cytunwyd felly y byddem, yn ystod y Cynulliad hwn, yn adolygu pa mor gynaliadwy yw’r gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol. Ein hymchwiliad i recriwtio meddygol yng Nghymru yw’r rhan gyntaf o’r adolygiad eang yma.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Dechreuodd y gwaith hwn yn ystod haf 2016 pan gynhaliwyd ymarfer cychwynnol, eang ei gwmpas, i gasglu tystiolaeth er mwyn ein cynorthwyo i ddod i ddeall y prif faterion o safbwynt y gweithlu ar draws y sector iechyd a gofal cymdeithasol. Cafodd hwn ei gynllunio i gynorthwyo i lywio ein dull o drafod materion y gweithlu trwy gydol y pumed Cynulliad. Clywsom gan amrywiaeth eang o sefydliadau ac unigolion ar draws y sbectrwm sy’n ymwneud â hyfforddiant, addysgu, a recriwtio.

Yr hydref diwethaf, gwnaethom lansio’r ymchwiliad i recriwtio meddygol a chynhaliwyd ymgynghoriad ysgrifenedig pellach. Roedd ein cylch gorchwyl yn cynnwys canolbwyntio ar gapasiti’r gweithlu meddygol i ddiwallu anghenion y boblogaeth yn y dyfodol, y goblygiadau ar y gweithlu meddygol wrth i’r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd, a’r ffactorau sy’n dylanwadu ar recriwtio a chadw meddygon. Ystyriwyd hefyd y graddau y mae prosesau recriwtio yn gydgysylltiedig, yn darparu gwerth am arian, ac yn sicrhau gweithlu meddygol cynaliadwy.

Cawsom ymateb gwych i’r ymgynghoriad, ac rydym yn ddiolchgar i bawb a gymerodd yr amser i ysgrifennu atom a chyflwyno tystiolaeth i ni yn ein cyfarfodydd ffurfiol. Yn ystod y sesiynau tystiolaeth ffurfiol, clywsom dystiolaeth gan banel o feddygon dan hyfforddiant a gynullwyd yn arbennig o bob cwr o Gymru, a hynny o faes meddygon teuluol a nifer o feysydd arbenigol mewn ysbytai. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch unwaith eto i bawb a gyfrannodd.

Gwnaeth y dystiolaeth a glywsom ein helpu i lunio casgliadau clir iawn a’n galluogi i lunio argymhellion i’r Ysgrifennydd Cabinet a’r Gweinidog sydd, yn ein barn ni, yn rhai cadarn iawn. Fel Cadeirydd y pwyllgor, roeddwn i’n hynod o falch bod cynifer o’r bobl a gyfrannodd at yr ymchwiliad wedi gallu dod i lansiad yr adroddiad ym mis Mehefin eleni, a chredaf mai teg yw dweud i’r adroddiad gael derbyniad da iawn.

Mae ein hadroddiad yn cynnwys ystod eang o faterion ac rydym wedi gwneud cyfanswm o 16 o argymhellion i Lywodraeth Cymru y gobeithiwn iddynt gyfrannu tuag at ddarparu’r atebion hirdymor sydd eu hangen. Dyma’r meysydd penodol sy’n destun pryder: yn gyntaf, nifer fach y myfyrwyr o Gymru sy’n sicrhau lleoedd mewn ysgolion meddygaeth yng Nghymru—argymhellion 2, 4 a 5; yr angen i gynyddu nifer y lleoliadau addysgu a hyfforddi meddygol yn israddedig yng Nghymru—argymhellion 4, 5 a 7; yr angen am well ymgysylltu ag ysgolion i gynyddu nifer y myfyrwyr o Gymru sy’n gwneud cais am le mewn ysgolion meddygaeth—argymhelliad 3 yn yr adroddiad; a’r goblygiadau ar gyfer recriwtio meddygol wrth i’r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd—argymhellion 15 ac 16.

Mae ein hargymhelliad cyntaf yn ymwneud â sefydlu Addysg a Gwella Iechyd Cymru, y bwrdd unigol newydd ar gyfer comisiynu, cynllunio, a datblygu addysg a hyfforddiant i weithlu’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru. Gofynnom am gynllun gweithredu clir a gwnaethom nodi â diddordeb ddatganiad ysgrifenedig Ysgrifennydd y Cabinet, a gyflwynwyd yn fuan wedi i’n hadroddiad gael ei lansio, a oedd yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y dull o sefydlu Addysg a Gwella Iechyd Cymru. Rwyf hefyd yn ymwybodol i’r Gorchymyn sefydlu a’r set gyntaf o reoliadau gael eu cyflwyno gerbron y Cynulliad yr wythnos diwethaf. Edrychaf ymlaen at glywed rhagor gan Ysgrifennydd y Cabinet ynghylch cynllun gweithredu clir ac amserlen y dyfodol.

Fel y dywedais yn gynharach, rydym yn pryderu bod nifer y ceisiadau am leoedd mewn ysgolion meddygaeth ledled y Deyrnas Unedig gan fyfyrwyr sy’n hanu o Gymru yn isel ac yn gostwng. Er i’r ffigurau wella rhywfaint yn ystod cylch ceisiadau 2017, mae nifer y ceisiadau gan fyfyrwyr sy’n hanu o Gymru yn dal i fod gryn dipyn yn is na rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig. Testun pryder penodol hefyd yw nifer fach y myfyrwyr o Gymru sy’n sicrhau lleoedd mewn ysgolion meddygaeth yng Nghymru. Mae hyn yn peri pryder arbennig o ystyried y dystiolaeth a glywsom fod tuedd i fyfyrwyr, ar ôl cymhwyso, aros yn yr ardal lle’r aethant i astudio yn wreiddiol. Nodaf i Ysgrifennydd y Cabinet dderbyn yn rhannol, fel mae o’n dweud, ein hargymhellion sy’n ymwneud â’r pryderon hyn, sef argymhellion 2, 4 a 5. Er i mi, a’m cyd-Aelodau ar y pwyllgor, werthfawrogi bod meini prawf ar gyfer derbyn yn fater i ysgolion meddygaeth unigol, rwy’n falch iddo gytuno i barhau i weithio gyda'r ysgolion hynny gyda'r nod o gynyddu nifer y myfyrwyr o Gymru sy'n gwneud cais.

Dywedom ein bod yn credu bod achos clir dros ehangu a chynyddu capasiti ysgolion meddygaeth yng Nghymru os ydym am fynd i'r afael â'r problemau ar hyn o bryd o ran recriwtio a chadw, a bod angen i hyn gynnwys cytuno ar gynllun clir i ddatblygu rhagor o gyfleoedd ar gyfer hyfforddiant meddygol israddedig mewn prif ardaloedd o dan bwysau, ac yng ngogledd Cymru yn arbennig, gan dderbyn tystiolaeth o blaid sefydlu ysgol feddygol ym Mangor gan lawer tyst—argymhellion 4, 5 a 7.

Unwaith eto, nodaf i Ysgrifennydd y Cabinet eto dderbyn yn rhannol argymhellion 4 a 5, a derbyn yn llawn argymhelliad 7, sy'n ymwneud â'n pryderon ynghylch y materion hyn. Roedd y datganiad ysgrifenedig gan Ysgrifennydd y Cabinet ar 18 Gorffennaf yn cydnabod bod achos dros gynyddu lefel yr addysg feddygol a gynigir yng ngogledd Cymru, gan nodi ei safbwynt nad yw hyn yn golygu y dylid sefydlu ysgol meddygaeth newydd, yn ei dyb ef. Gwn i Ysgrifennydd y Cabinet ymrwymo i nifer o agweddau ar waith a fydd yn symud y mater hwn yn ei flaen, a gobeithiaf i'w gyfraniad y prynhawn yma gynnwys diweddariad ynghylch y cynnydd a wnaed.

Clywsom hefyd ba mor bwysig yw ymgysylltu ag ysgolion lawer yn gynharach nag y gwneir ar hyn o bryd. Mae'n amlwg bod angen mynd â'r neges i ysgolion ledled Cymru bod meddygaeth yn yrfa y gall disgyblion anelu ati, a'i fod yn ddyhead realistig a chyraeddadwy i fyfyrwyr o bob cymuned. Gwnaethom argymell y dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda'r ddeoniaeth, a, chyn hir, Addysg a Gwella Iechyd Cymru, ac ysgolion meddygaeth yng Nghymru, i ddatblygu rhaglen o gymorth a chyngor ynghylch trefniadau derbyn a chyfweld ar gyfer disgyblion yng Nghymru, sef argymhelliad 3. Nodaf i ymateb Ysgrifennydd y Cabinet gyfeirio at y cynlluniau profiad gwaith a gynhaliwyd yn haf 2016 gan ysgolion meddygaeth Caerdydd ac Abertawe, ac rydw i'n croesawu'r ffaith y bydd hyn yn parhau.

Hoffwn hefyd grybwyll y pryderon a glywsom ynghylch y canlyniadau posibl ac ansicr iawn o ran staffio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys recriwtio meddygol, wrth i'r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd. Clywsom ddadleuon cryf gan amrywiaeth o randdeiliaid o blaid cael penderfyniad cynnar a chlir ar allu dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd i allu gweithio yn y DU. Gwnaethom argymell y dylai Llywodraeth Cymru barhau i gynnal deialog efo Llywodraeth y Deyrnas Unedig i bwysleisio pa mor bwysig yw gwneud y sefyllfa'n eglur yn gyflym ynglŷn â gallu dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd i barhau i weithio yn y Deyrnas Unedig, a'u gallu i ddechrau gweithio yn y Deyrnas Unedig yn y dyfodol. Dyna argymhellion 15 ac 16. Rwy'n falch bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi derbyn yr argymhellion hyn, ac rwy'n croesawu ei ddatganiad bod Llywodraeth Cymru yn glir ei bod am alluogi pobl o'r Undeb Ewropeaidd a gweddill y byd i hyfforddi a gweithio yn ein gwasanaeth iechyd ar ôl i'r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd. Dyna ddiwedd fy ngeiriau agoriadol, ac edrychaf ymlaen i’r drafodaeth. Diolch yn fawr.

Rwy’n falch iawn, fel aelod o’r pwyllgor hwn, i gael cyfle i siarad o blaid yr adroddiad hwn, a hoffwn gofnodi fy niolch i bawb a ddaeth i roi tystiolaeth ger ein bron, ac i’r timau clercio sy’n ein cefnogi mor fedrus.

Mae recriwtio meddygol a chynllunio’r gweithlu yn ddau o’r materion pwysicaf sy’n effeithio ar ein GIG wrth wynebu’r dyfodol, ac mae angen i ni sicrhau ein bod yn dod o hyd i’r cydbwysedd iawn er mwyn sicrhau nad yw’r dyfodol hwnnw—neu Aelodau’r Cynulliad yma yn y dyfodol, mewn gwirionedd, yn mynd i orfod ceisio datrys y broblem hon yn y dyfodol.

Mae’r adroddiad hwn yn cysylltu’n agos iawn â’r adolygiad seneddol trawsbleidiol i iechyd a gofal cymdeithasol a drafodwyd gennym ddoe ac sy’n dal i fod yn waith ar y gweill, ond pan oeddwn yn eistedd yn y pwyllgor hwnnw, roedd dwy elfen benodol a wnaeth fy nharo’n galed iawn, sef y ddau beth yr hoffwn ganolbwyntio fy nghyfraniad arnynt.

Y cyntaf yw mater cynllunio’r gweithlu. Credaf fod yn rhaid i ni gydnabod na allwn ddibynnu ar ein GIG i fod yn fodel meddygol sy’n cael ei redeg yn llwyr gan feddygon a nyrsys, oherwydd, gyda’r ewyllys gorau yn y byd, ni allwn lenwi’r bylchau sydd gennym. Mae angen inni fod yn llawer mwy effeithiol wrth gyflwyno, ymgorffori ac integreiddio gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd o bob math fel aelodau gwerthfawr gyda phresenoldeb cyfartal o fewn y GIG. Mae angen inni ddod â’r trydydd sector i mewn. Mae angen inni gynnwys gweithredwyr cartrefi gofal yn well o fewn y GIG, oherwydd fel arall ni fyddwn yn cael y bobl sydd eu hangen arnom, a’r bobl o fewn y GIG i aros o fewn y GIG. Mae’n rhaid i ni ehangu ein sylfaen ac nid canolbwyntio’n unig ar y bylchau amlwg iawn a welwn mewn rhai arbenigeddau llawfeddygol, rhai practisau meddygon teulu ac mewn rhai elfennau o nyrsio. Pan oeddem yn edrych ar y gwaith o gynllunio’r gweithlu, gwaith nad ydym ond wedi gwneud rhan fach iawn ohono gan ei fod mor gymhleth, sylweddolais nad ydym yn treulio agos digon o amser ar wneud hynny. Os ydym yn cynllunio heddiw ar gyfer yr hyn a allai ddigwydd mewn pum mlynedd, yna mae gennym rywfaint o obaith o allu rhoi’r bobl sydd eu hangen arnom ymhen pum mlynedd yn eu lle. Felly, rydym yn gwybod bod rhai byrddau iechyd, er enghraifft, yn mynd i weld gostyngiad dramatig mewn meysydd allweddol am fod staff yn heneiddio; maent yn mynd i ymddeol, ac mae bwlch yn mynd i fodoli. Os ydym yn dibynnu o hyd ar lenwi’r bwlch wrth i ni nesu at yr argyfwng hwnnw, ni fyddwn byth, byth yn llwyddo i achub y blaen arnom ein hunain.

Felly, hoffwn siarad am argymhelliad 10, a hoffwn annog Llywodraeth Cymru—. Oherwydd, er eich bod wedi ei dderbyn, rydych yn siarad am nodi meysydd blaenoriaeth ar gyfer buddsoddi, rydych yn siarad am gynigion comisiynu meddygol a deintyddol a chynigion comisiynu anfeddygol. Ond a ydych wedi siarad am sefydliadau eraill megis gweithwyr perthynol i iechyd, ac a ydych wedi siarad â chyrff cysylltiedig eraill megis awdurdodau lleol? Oherwydd, wrth gwrs, i ni allu cynllunio’r gweithlu yn y GIG, mae angen i ni wybod bod gennym y gweithwyr cymdeithasol, sy’n swyddogaeth awdurdod lleol, er enghraifft. Rwy’n teimlo mai’r argraff a gefais, fel aelod o’r pwyllgor, oedd bod hon yn dasg fawr iawn, nid oedd cydlyniant, nid oedd yna strategaeth gydlynol o gwbl, nid oedd yna syniad go iawn o feithrin gallu ar lefelau is ar gyfer y dyfodol, ac yn syml, nid oedd digon o flaengynllunio. Hoffwn gael sicrwydd fod rhywun yn rhywle yn mynd i’r afael â’r mater hwn o ddifrif.

Y pwynt arall yr hoffwn ei drafod a chanolbwyntio rhai o fy sylwadau arno yw sut y gallwn gael rhagor o fyfyrwyr Cymru i astudio yng Nghymru ac i aros yng Nghymru. Sylwaf fod y Llywodraeth wedi derbyn ein hargymhellion yn rhannol, a gwn fod Dai Lloyd eisoes wedi gwneud sylwadau ar hyn, ond roeddwn yn eithaf siomedig ynglŷn ag un o’ch ymatebion. Yr ymateb i argymhelliad 2 oedd hwnnw mewn gwirionedd, Ysgrifennydd y Cabinet—ond mae’n ymwneud â phob un o’r argymhellion hyn—pan ddywedoch mai mater i ysgolion meddygol yn y pen draw yw meini prawf derbyn, ac mewn mannau eraill ceir goblygiad ymylol nad oes llawer iawn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud oherwydd bod yr ysgolion meddygol hyn yn brifysgolion yn eu hawl eu hunain. Nid wyf yn cytuno â chi. Mae gennych ddylanwad yn hyn o beth. Er enghraifft, gellid defnyddio ehangu mynediad fel elfen o gyllid i ddenu mwy o fyfyrwyr sy’n hanu o Gymru. Gallai defnyddio rhan o fagloriaeth Cymru fel maen prawf i allu gwneud gradd feddygol fod yn ffordd arall o wneud hynny. Mae yna ddulliau ar gael at eich defnydd, ac rwy’n meddwl, a bod yn onest, fod camu’n ôl rywsut a dweud, ‘Wel, wyddoch chi, mater i Abertawe yw hynny; mater i Gaerdydd yw sut y maent yn ei wneud. Maent yn brifysgolion annibynnol; gallant ddweud beth yw’r meini prawf cymhwysedd’ yn eich gadael chi a ni a hwythau oddi ar y bachyn. Rwy’n credu bod yn rhaid inni fod yn llawer mwy cadarn. Mae gennych bŵer; mae angen i chi fod yn greadigol, ac arfer y pŵer hwnnw.

Mi oedd yr ymchwiliad yma yn un gwerth chweil, rydw i’n meddwl, ac mae fy niolch i i’r Cadeirydd a’m cyd-Aelodau a’r clercod a’r tîm ymchwil ac ati. Mi oeddem ni’n dechrau o bwynt, wrth gwrs, lle’r oeddem ni’n gwybod bod yna broblem, bod recriwtio meddygol yn rhwystr i’r NHS allu cyflawni ei swyddogaeth, ond beth sydd gennym ni rŵan, rydw i’n meddwl, ydy dogfen werthfawr, gynhwysfawr, yn gofyn pam ac yn gofyn beth y gallwn ni ei wneud i drio goresgyn rhai o’r rhwystrau. Mae’n werth nodi hyn hefyd, rydw i’n meddwl, ar adeg pan rydym ni’n gwybod bod yna fwy a mwy o wasgu ar gyllid yn yr NHS: nid ydym ni, yn angenrheidiol, yn gofyn am bethau sy’n mynd i gostio mwy yn yr hirdymor. Mi fyddwn i’n dadlau bod yna fodd i wneud arbedion yn yr hirdymor drwy sortio recriwtio o fewn y gwasanaeth iechyd. Yn sicr, mi fyddai sicrhau ein bod ni’n cyflenwi digon o staff ac yn dibynnu llai ar staff asiantaeth ac yn y blaen yn dod ag arbedion maes o law. Felly, nid gofyn am ragor o fuddsoddiad ydym ni yn yr hirdymor.

Mi edrychaf ar rai o’r argymhellion mwyaf allweddol, o bosib, fel rwyf i’n eu gweld nhw—yn gyntaf i gynyddu nifer y myfyrwyr o Gymru sy’n astudio meddygaeth yng Nghymru. Nid oes dim angen i mi egluro pam bod hyn yn bwysig, rwy’n siŵr, ond mae yna rhy ychydig o fyfyrwyr o Gymru bellach yn gwneud ceisiadau i astudio meddygaeth, ac mae yna ormod o’r rheini sydd wedyn yn methu â sicrhau lle i astudio yng Nghymru. Mae’n rhaid inni gynyddu’r gyfran o fyfyrwyr, o dan y drefn bresennol, sy’n hanu o Gymru achos, yn syml iawn, nhw ydy’r mwyaf tebygol i aros yma i weithio ar ôl cymhwyso. Mae’n rhaid inni gofio, siawns, mai prif ddiben dysgu meddygon yng Nghymru ydy darparu staff ar gyfer yr NHS yng Nghymru. Ond, mae’n rhaid hefyd cynyddu faint o lefydd hyfforddi rydym ni eu hangen. Mi allwn ni gynyddu yn Abertawe ac yng Nghaerdydd, ac rwy’n gobeithio’n arw y gwnawn ni gynyddu yng Nghaerdydd ac Abertawe.

Ond, mae yna gyfle i arloesi yma hefyd, ac mae argymhelliad 5 yn galw’n glir am ganolfan addysg feddygol ym Mangor. Mae yna gymaint o resymau dros yr angen: yn ieithyddol, yn ddaearyddol, yn economaidd, hyd yn oed, o ran cynyddu cyfleoedd i fyfyrwyr o’r gogledd astudio yn eu milltir sgwâr, a hefyd o ran datblygu arbenigedd mewn darparu gofal iechyd gwledig dwyieithog. Mi fyddai’n rhoi seiliau mwy cadarn i’r ddarpariaeth iechyd ar gyfer trigolion yr ardal ac yn ei gwneud yn haws i recriwtio meddygon sydd eisiau bod yn rhan o ddarlithio neu’n rhan o waith ymchwil. Felly, mi allwch chi ddychmygu fy siom i pan wnaeth yr Ysgrifennydd Cabinet ddweud ym mis Gorffennaf nad oedd yna achos dros gael ysgol feddygol ym Mangor, ac mai lleoli myfyrwyr o lefydd eraill yn y gogledd am gyfnodau oedd eisiau.

Yn gyntaf, nid yw’r pwyllgor ddim yn gofyn am ysgol feddygol. Nid wyf i, chwaith, drwy Blaid Cymru—a gaf i ei gwneud yn glir—ddim yn gofyn am ysgol feddygol lawn rŵan. Mae’n bosibl y daw o maes o law. Mae hynny’n rhywbeth a fyddai’n cymryd blynyddoedd. Ond, efo cydweithio rhwng y Llywodraeth, y ddeoniaeth a’i holynydd, prifysgolion Bangor, Caerdydd, Abertawe a rhai dros y ffin hefyd—pam lai—nid oes unrhyw rwystr i gymryd y camau cyntaf tuag at gynnig cwrs llawn i israddedigion wedi’i angori ym Mangor, ac i symud tuag at hynny, os nad cyflawni hynny yfory, yn syth. Fy mhryder i, ac rwy’n siŵr y bydd llawer yn rhannu’r pryder hwnnw, ydy: os yw’r Llywodraeth yn gallu bod yn ddi-hid o’r gwaith trylwyr a wnaed gan y pwyllgor, a’r angen clir a ddaeth yn amlwg inni am hyn, pa hyder sydd gennym ni ym mharodrwydd y Llywodraeth i fod yn arloesol ac yn uchelgeisiol mewn perthynas â gweddill yr argymhellion?

Here we have a well-evidenced call for the establishment of a new medical education centre in Bangor. Of course there’ll be barriers, but those barriers will never be overcome as long as this Government appears unwilling to push the boundaries of the possible. We have, in this report, a very worrying picture—let’s be honest—of where we are at with medical training and recruitment in Wales. But the committee doesn’t then conclude that those problems can’t be overcome. We put forward solutions—imperfect, no doubt—but see them as a challenge. When it comes to equipping our future NHS with enough doctors, when it comes to tackling the number of medical vacancies that we have all over Wales, and how to enthuse pupils, empower our young people to aspire to be doctors working in their communities right across Wales, and helping them to be able to study here if they wish to do so, patients in Wales need to know that the job is in hand. We need to see that from Welsh Government. We need to see it soon.

Rwy’n croesawu’r cyfle i siarad am yr adroddiad. Rwy’n aelod o’r pwyllgor, ac roeddwn yn teimlo bod hwn yn adroddiad pwysig ac ysgogol iawn. Yn ei gyflwyniad, mae’r Cadeirydd eisoes wedi crybwyll y panel o feddygon dan hyfforddiant a oedd gennym. Teimlwn ein bod o ddifrif wedi mynd i’r afael â rhai o’r materion allweddol y mae’n rhaid i feddygon, hyfforddeion a myfyrwyr fynd i’r afael â hwy. Yn benodol, mwynheais yr ymweliad ar ddechrau’r adroddiad, pan aethom i Brifysgol Caerdydd a gweld y ffordd y mae’r myfyrwyr yn dysgu drwy ymarfer eu meddygaeth ar fodelau fel cam cyntaf. Roeddwn yn meddwl bod hwnnw’n gyflwyniad da iawn i’r adroddiad.

Roeddwn am gyfeirio at rai o’r argymhellion yn yr adroddiad. Rwy’n credu ei bod braf fod y rhan fwyaf o’r argymhellion wedi cael eu derbyn a rhai wedi cael eu derbyn yn rhannol. Yn amlwg, roedd dau o’r argymhellion a dderbyniwyd yn rhannol yn ymwneud â’r angen am fwy o addysg feddygol yng ngogledd Cymru, ac mae Rhun newydd gyfeirio at hynny. Rwy’n credu ei bod yn amlwg yn dda fod y Llywodraeth wedi derbyn yr angen am lefel uwch o addysg feddygol yng ngogledd Cymru ac yn bwriadu gwneud hyn drwy gydweithio rhwng Caerdydd, Abertawe a Bangor, er ei bod yn dweud nad oes unrhyw achos dros sefydlu ysgol feddygol newydd yng ngogledd Cymru. Rwy’n credu ei bod yn arbennig o bwysig fod Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn cael ei sefydlu, ac rwy’n gobeithio hefyd y byddwn yn cael ychydig o’r newyddion diweddaraf gan Ysgrifennydd y Cabinet pan fydd yn ymateb i’r ddadl hon.

Rwy’n meddwl bod nifer yr ymgeiswyr o Gymru i ysgolion meddygol yng Nghymru yn un o’r materion allweddol a gafodd sylw gennym yn ein hadroddiad, ac rwy’n credu ein bod wedi clywed enghreifftiau diddiwedd o bobl sy’n feddygon bellach a geisiodd gael eu derbyn i ysgol feddygol Prifysgol Caerdydd er enghraifft, methu mynd i mewn, ac a aeth i hyfforddi yn Lloegr ac mewn rhai achosion, fe ddaethant yn ôl, y bobl a oedd yn rhoi tystiolaeth i ni, ond rydym i gyd yn gwybod, os ydych yn hyfforddi yn rhywle, rydych yn fwy tebygol o aros yno, ac rwy’n credu bod yna dystiolaeth ynglŷn â hynny.

Yn sicr, pan oeddem yn cyfweld staff yr ysgolion meddygol, roedd hi’n ymddangos bod parodrwydd mawr i edrych ar y mater hwn, ac mae’r ffigurau’n gwella. Dywedwyd wrthym, rwy’n credu, fod 61 y cant o fyfyrwyr o Gymru a wnaeth gais i Brifysgol Caerdydd ar gyfer y flwyddyn hon wedi cael cynnig lle, sy’n welliant pendant, ond mae’n dal i fod gennym y broblem a nodwyd bod nifer y myfyrwyr yng Nghymru sy’n gwneud cais i fynd i ysgol feddygol yn llawer is, o ran canran, na rhannau eraill o’r DU. Felly, mae angen inni wneud llawer i annog ac i wneud yr holl waith y cyfeiriwyd ato mewn ysgolion a gwneud i blant ysgol deimlo y gallant fod yn feddygon. Oherwydd rwy’n meddwl bod hynny wedi dod allan o’r dystiolaeth, yn ogystal, fod yna ychydig o ddiffyg uchelgais, efallai, mewn llawer o ysgolion, a chredaf fod hynny’n rhywbeth y teimlwn y dylai ysgolion meddygol a phrifysgolion weithio arno gyda’r ysgolion.

Cawsom dystiolaeth wych ynglŷn â sut y mae’r hyn sydd gennym i’w gynnig yma yng Nghymru yn atyniad i feddygon dan hyfforddiant, ac i weithio yng Nghymru, oherwydd y cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith a materion eraill yn ymwneud â ffordd o fyw, ond hefyd nodwyd yn gadarn iawn fod yna broblem yn ymwneud ag ardaloedd gwledig a sut i ddenu meddygon i weithio mewn ardaloedd gwledig iawn. A chawsom dystiolaeth ynglŷn â phrosiectau a chynlluniau peilot a wnaed i weithio mewn ardaloedd gwledig yn arbennig, ac rwy’n meddwl y byddai hynny’n rhywbeth rwy’n meddwl y gallai Ysgrifennydd y Cabinet siarad amdano pan fydd yn ymateb—sut y gallem wneud mwy o hynny.

Ac yna, hoffwn orffen yn gyflym ar fater Brexit. Rydym yn gwybod, ar hyn o bryd, fod 7 y cant o’r meddygon sy’n gweithio yng Nghymru yn dod o’r UE a bod yna 1,354 ddinasyddion yr UE yn cael eu cyflogi’n uniongyrchol yn y GIG yng Nghymru. Ond o ran y meddygon, rwy’n meddwl bod rhaid i ni gydnabod hefyd fod yna nifer fawr o feddygon yn dod yma sydd wedi cael eu hyfforddi mewn gwledydd y tu hwnt i’r UE; yn enwedig India, sef y grŵp mwyaf o feddygon. Hoffwn orffen, mewn gwirionedd, drwy dalu teyrnged i BAPIO, sef Cymdeithas Brydeinig y Meddygon o Darddiad Indiaidd, sydd wedi gweithio’n galed iawn i ddod â meddygon Indiaidd yma. Yn ddiweddar iawn, cyfarfûm â hwy pan oeddent newydd ddod yn ôl, ac roedd yn ymddangos bod ganddynt ysgogiad a phenderfyniad i sicrhau ein bod yn ceisio cadw’r meddygon o’r tu hwnt i’r UE hefyd i ddod yma i Gymru. Diolch.

Hoffwn ddiolch i Gadeirydd y pwyllgor iechyd, a diolch hefyd i bob un o’r aelodau eraill ar y pwyllgor a’r bobl a roddodd dystiolaeth i ni allu symud ymlaen. Mae problemau gyda recriwtio a chadw staff rheng flaen, clinigwyr yn arbennig, wedi cael eu cofnodi’n helaeth yn y blynyddoedd diwethaf, a rhaid inni sicrhau ein bod yn mynd i’r afael â’r mater hwn yn gadarn. Mae prinder staff wedi arwain at fwy o lwyth gwaith, ac mae llawer o staff rheng flaen yn ei chael hi’n amhosibl rheoli peth o’r llwyth gwaith hwn. Mae llwyth gwaith na ellir ei reoli wedi effeithio ar forâl staff, wedi arwain at gynnydd mewn salwch sy’n gysylltiedig â straen ac wedi gorfodi llawer o glinigwyr i adael y maes yn gyfan gwbl.

Y mae hyn i’w weld yn fwyaf amlwg mewn practisau cyffredinol. Mae rhai meddygon teulu wedi gweld eu llwyth achosion yn dyblu yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gyda phractisau’n methu recriwtio meddygon teulu. Nid yw meddyg teulu sy’n gweld dros 100 o gleifion yn ystod ymgynghoriad yn gwbl anarferol, felly mae’n rhaid mynd i’r afael â llwyth gwaith na ellir ei reoli o’r fath er mwyn atal pobl rhag gadael y proffesiwn.

Mae Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol yn datgan bod angen inni recriwtio 400 o feddygon teulu ychwanegol dros y pedair blynedd nesaf, a hoffwn drafod sut yr ydym yn mynd i wneud hyn. Yn anad dim, mae’n rhaid i ni gymell clinigwyr i aros yng Nghymru. Mae’n rhaid i ni hefyd sicrhau bod pobl ifanc o bob cefndir yn cael eu hannog i hyfforddi fel clinigwyr. Yn ôl Coleg Brenhinol y Meddygon, mae diffyg gwaith ymchwil amlwg wedi’i wneud i ddeall yr ysgogwyr i recriwtio a chadw meddygon, ac nid yw penderfyniadau ar strategaethau recriwtio meddygol yn y dyfodol yn seiliedig ar dystiolaeth gadarn, felly mae’n hanfodol ein bod yn casglu cymaint o dystiolaeth ag y bo modd i ymdrin ag ymgyrchoedd recriwtio yn y dyfodol.

Ond rhaid i ni beidio â chanolbwyntio’n unig ar staff rheng flaen, gan mai’r GIG yw cyflogwr mwyaf Cymru, gyda thua 72,000 o bobl yn gweithio ynddo. Mae’n rhaid cydweithredu a chyfathrebu rhwng yr holl adrannau er mwyn sicrhau ei fod yn weithredol yn y dyfodol. Mae ychydig o dan 6,000 o glinigwyr ysbyty a 2,000 o feddygon teulu yn gweithio yn y GIG yng Nghymru. Felly, heb y nifer helaeth o nyrsys, staff gwyddonol a therapiwtig a thechnegol, ni ellid trin cleifion. Heb staff gweinyddol a staff cymorth, ni fyddai ein hysbytai a’n meddygon teulu yn gallu gweithredu. Felly, ni allwn recriwtio mwy o glinigwyr heb sicrhau bod digon o staff i wneud y penodiadau, cynnal y profion diagnostig, cludo cleifion a nyrsio cleifion yn ôl i iechyd. Ni all Llywodraeth Cymru fynd ati’n syml i ddargyfeirio arian i recriwtio mwy o staff rheng flaen. Mae angen iddynt sicrhau bod digon o staff ar draws y GIG i gyd i ymdopi â gofynion cynyddol a newid yn y galwadau ar y gwasanaethau.

Bythefnos yn ôl roeddwn yn ymweld ag ysbyty yn fy rhanbarth—yr uned gardiaidd—ac roedd un o’r nyrsys yn gweithio’n hollol ddi-baid. Roedd hi’n dweud, heb gwyno mewn gwirionedd, fod aelod o staff yn absennol ar fyr rybudd, ac roedd nyrs arall yn dod yn ôl i wneud ail shifft, gan fod hyn, fel roeddent yn esbonio wrthyf, yn haws na llenwi ffurflen ar gyfer nyrs asiantaeth, ac ar uned y galon roedd yn rhaid i’r cyflenwad hwn o staff fod ar ei uchaf. Hefyd, yr hyn a ddaeth allan oedd bod ein staff nyrsio weithiau’n cael anhawster mawr i barcio eu car pan fyddant yn gwneud shifft nos neu shifft gynnar gyda’r nos, gan orffen yn hwyr yn y nos, a chan na allant barcio yn ymyl yr ysbyty, mae’n risg iddynt deithio tuag at eu ceir.

Hefyd, fel y soniwyd o’r blaen, mae’n rhaid i ni hyfforddi mwy o ddarpar feddygon teulu Cymraeg eu hiaith, a’u hannog i gymryd rhan a bod mewn mannau, mewn ardaloedd gwledig yng ngogledd Cymru, lle siaredir Cymraeg yn bennaf. Felly, mae’n rhaid i ni wneud mwy i recriwtio myfyrwyr o Gymru, hyd yn oed os yw hynny’n golygu gostwng y cymhwyster mynediad, oherwydd nid yw rhai pobl yn cael eu derbyn, dyweder, i Brifysgol Caerdydd, er enghraifft, ond maent yn mynd i Lundain, ac rydym wedi colli cyfle i recriwtio’r bobl hynny.

Felly, rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda phawb sy’n gysylltiedig â’r mater hwn. Diolch.

A gaf fi ddechrau gyda gair o ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei barodrwydd i sicrhau ei fod ar gael o bryd i’w gilydd er mwyn trafod materion yn ymwneud â gwasanaethau’r GIG? Yn bersonol, rwy’n gwerthfawrogi’r cyfle i gael y sgyrsiau hynny gyda chi. Nid wyf yn aelod o’r pwyllgor Iechyd, ond fel llawer o Aelodau eraill y Cynulliad, yn amlwg mae pwysau ar recriwtio meddygon teulu yn enwedig yn fy etholaeth i. Mae gennyf bractis sydd wedi cau ei restr yn ddiweddar ac wedi gofyn i gleifion ailgofrestru gyda meddygfeydd eraill, ac mae meddygfeydd eraill o dan bwysau go iawn o natur debyg. Mae llawer wedi mabwysiadu dulliau arloesol o ymarfer, dulliau amlddisgyblaethol o ymarfer, a dylem annog meddygfeydd i fabwysiadu’r rhain yn gyffredinol, er eu bod yn aml wedi cael eu mabwysiadu o ganlyniad i brinder. Ceir mentrau ymhlith practisau’n lleol ac ar lefel y bwrdd iechyd i recriwtio meddygon teulu ac mae rhai o’r rheini’n llwyddo, ond maent yn fentrau hirdymor, os mynnwch, o ran eu heffeithiau.

Mae’r sylwadau rwyf am eu gwneud, mewn gwirionedd, yn ymwneud â mentrau Llywodraeth Cymru yn hyn o beth, yn enwedig menter recriwtio Hyfforddi, Gweithio, Byw lle bydd rhai sy’n hyfforddi i fod yn feddygon teulu yn cael cymhelliant sylweddol i barhau i weithio yn eu hardal leol am flwyddyn wedi i’w hyfforddiant ddod i ben. Mae hynny’n amlwg o fudd sylweddol i’r ardaloedd hynny a dargedwyd ar gyfer y cymorth hwnnw, yn bennaf yng ngorllewin Cymru ac yng ngogledd Cymru, ac nid wyf am un eiliad yn gwarafun i drigolion y rhannau hynny o Gymru y gefnogaeth y byddant yn ei chael ar gyfer mentrau recriwtio yno.

Ond mewn gwirionedd, mae’n apêl ar y Llywodraeth i gadw effeithiau hynny ar rannau eraill o Gymru mewn cof, ardaloedd lle ceir pwysau mawr ar recriwtio hefyd, yn aml am resymau, fel y dywedodd Julie Morgan, yn ymwneud â gwledigrwydd mewn etholaethau fel fy un i, nad ydynt yn wledig yn bennaf ond sydd â phocedi o wledigrwydd sy’n dioddef o heriau tebyg i’r rhannau o Gymru sy’n wledig yn bennaf.

Y risg, wrth gwrs, yw y gall y cynllun weithredu nid yn unig fel atyniad i’r rhannau hynny o Gymru ond y gall greu math o anfantais gystadleuol, os caf ei roi felly, i’r rhannau eraill hynny o Gymru sy’n dal i ddioddef o bwysau recriwtio sylweddol. Felly, rwy’n gobeithio y bydd y Llywodraeth yn cadw’r cynllun cymhelliant dan arolwg ac yn edrych yn benodol ar ganlyniadau sydd efallai’n groes i’r graen a allai godi mewn rhannau eraill o Gymru sy’n dioddef pwysau tebyg ar eu recriwtio.

Rwy’n mynd i hoelio fy sylw ar yr argymhellion sy’n ymwneud â gogledd Cymru, fel y byddech yn disgwyl, mae’n debyg. Yn ystod wythnos olaf y tymor diwethaf, fe gafwyd datganiad byr gan Lywodraeth Cymru yn dweud nad yw’n cefnogi’r achos dros greu ysgol feddygol ym Mangor oherwydd ei bod yn broses hir ac oherwydd ei bod yn gostus. Rŵan, efallai ei bod hi’n mynd i fod yn broses hir, ond nid yw hynny’n rheswm dros beidio â gwneud rhywbeth—achos ei fod yn mynd i gymryd lot o amser. Nid yw hynny, hyd y gwelaf i, yn rheswm.

Rwy’n mynd i herio’r gosodiad ei bod yn gostus. Ar hyn o bryd, mae byrddau iechyd yn gwario yn sylweddol iawn ar staff asiantaeth, gan gynnwys doctoriaid dros dro, ‘locums’, i wneud gwaith pwysig oherwydd problemau recriwtio. Ym Mai 2017, roedd 141 o swyddi meddygol bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn wag. Mae hyn yn cynrychioli 37 y cant o’r holl swyddi sy’n wag yn NHS Cymru—ffigurau Conffederasiwn GIG Cymru ydy’r rheini. Mae diffyg staff yn creu costau sylweddol, costau sylweddol uwch na’r gost gymharol fechan a fyddai ynghlwm wrth sefydlu ysgol feddygol yn y gogledd. Mi fyddai’r buddsoddiad cychwynnol yn talu amdano fo’i hun yn fuan iawn, ac nid oes angen buddsoddiad cyfalaf hyd yn oed ym Mangor.

Rwyf wedi holi am gael gweld copi o’r achos busnes ynglŷn â sefydlu ysgol feddygol yn y gogledd. Nid wy’n siŵr a oes achos busnes neu a oes bwriad i’w gyhoeddi. Fe fyddai hynny’n beth da, er mwyn i bawb cael gweld y rhesymeg y tu ôl i’r penderfyniad, oherwydd rwy’n ‘struggle-o’ i ffeindio hwnnw ar hyn o bryd.

Mae datganiad y Llywodraeth yn dweud bod angen mwy o addysg feddygol yn y gogledd, yn sgil argymhelliad y pwyllgor. Mae hynny yn ardderchog ac yn rhywbeth i’w groesawu. Mae gofyn rŵan i brifysgolion Bangor, Caerdydd ac Abertawe weithio efo’i gilydd. Ond beth fyddwn i’n licio ei wybod ydy: beth ydy pwrpas y cydweithio yma? Beth ydy pen draw'r broses gydweithio? Beth ydy’r nod efo’r cydweithio yma? Rydym ni ym Mhlaid Cymru yn awgrymu nod o hyfforddi 40 o ddoctoriaid ym Mangor—hynny yw, hyfforddiant o’r diwrnod cyntaf un—ac yn gweld hynny fel cam pwysig ar y daith tuag at ysgol feddygol i’r gogledd.

Mae’r adroddiad hwn yn arbennig o amserol i fy etholwyr yng Nghaerffili: mae meddygfa Bargoed yn cau ei drysau yr wythnos nesaf yn sgil dod â phractis y meddyg teulu yno i ben. Rwyf wedi cyfathrebu llawer gydag etholwyr dros yr haf, ond mae cyfathrebu gyda’r bwrdd iechyd wedi bod yn arbennig o ddefnyddiol, ac mae’n rhaid i mi ganmol Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan am wella’u cyfathrebu gyda mi mewn perthynas â’r mater hwn, ac felly, rwyf wedi gallu rhoi cymaint o wybodaeth ag y gallaf ei roi i fy etholwyr wrth inni ei gael, ac mae’r wybodaeth honno wedi bod yn dod i’r amlwg wrth inni lwyddo i’w chael. Mae cleifion wedi cael eu symud i feddygfa ym Mryntirion gerllaw, ond nid yw wedi bod heb anawsterau, ac rydym yn dal i fod mewn sefyllfa sy’n datblygu. Hoffwn ddiolch hefyd felly i Ysgrifennydd y Cabinet am ymweld â Meddygfa Bryntirion gyda mi i drafod rhai o’r materion hyn, a diolch hefyd i’r pwyllgor am y dystiolaeth helaeth ac eang a gasglwyd ganddynt, a fydd yn mynd gryn dipyn o’r ffordd i helpu i ddatrys neu atal y materion hyn rhag digwydd yn fy etholaeth ac etholaethau eraill yng Nghymru yn y dyfodol.

Yn arbennig, hoffwn gyfeirio at dudalen 49 yr adroddiad. Mae tystiolaeth glir iawn yno ynghylch recriwtio meddygon teulu a’r teimladau a allai fod gan feddygon teulu newydd. Mae paragraff 164 yn dweud:

Dywedodd Dr Heidi Phillips, a oedd yn cynrychioli GP Survival, nad oedd ymarfer cyffredinol yn cael ei weld fel opsiwn deniadol, yn ôl arolwg o fyfyrwyr meddygol Abertawe oherwydd: "...maent yn gweld yr hyn a welwn ni, sef drws tro 10 munud, yn dechrau am 8.30 y bore hyd at 6.30 yr hwyr, heb unrhyw amser wedi’u neilltuo ar gyfer addysg, dim amser wedi’i neilltuo ar gyfer ehangu diddordebau eraill, a dim amser wedi’i ddiogelu ar gyfer gweinyddu hyd yn oed. Mae’n ddi-baid. Pan edrychwch ar yr ochr arall iddo, byddwch yn gweld y meddygon teulu—ein modelau rôl—sydd, o’r dystiolaeth a gyflwynais, wedi ymlâdd, wedi blino’n lân, heb gymhelliant ac wedi digalonni".

Wrth gwrs, nid yw hwnnw’n hysbyseb ar gyfer unrhyw un sy’n dymuno ymuno â phractis meddyg teulu. Ond mae’r adroddiad yn adeiladol, ac yn dweud, ym mharagraff 168:

‘Rhan allweddol o’r broses o fynd i’r afael â materion yn ymwneud â llwyth gwaith a chynaliadwyedd fydd datblygu modelau gwaith newydd: credwn fod angen cyflymu’r datblygiad hwn, gan roi pwyslais mwy pendant a sylw amlycach iddo.’

Mae ‘modelau gwaith newydd’ yn allweddol yn y paragraff hwnnw, gan mai’r hyn y mae’r bwrdd iechyd wedi’i awgrymu, er mwyn denu meddygon teulu i Feddygfa Bryntirion—sydd angen meddygon teulu newydd wrth i feddygfa Bargoed gau—yw eu bod yn mynd i orfod cyflwyno model newydd o ofal sylfaenol. Yr anhawster go iawn yw hwn: sut mae esbonio i’r cyhoedd ym Margoed beth y mae model newydd o ofal sylfaenol yn ei olygu? Yr hyn y mae’n ei olygu yw bod gan Fryntirion fferyllwyr, gweithwyr proffesiynol gofal iechyd meddwl a nyrsys sy’n gallu darparu safonau gofal tebyg i feddygon teulu a lleddfu’r pwysau ar feddygon teulu. Mae hynny’n bwysig, ond yr hyn a fydd yn wirioneddol allweddol fydd egluro hynny i gleifion sy’n disgwyl gweld meddyg teulu. Gall modelau newydd o ofal sylfaenol gymryd pwysau oddi ar feddygon teulu a lleddfu’r broblem, ond rwyf eto i weld hynny’n cael ei egluro mewn modd argyhoeddiadol iawn.

Mae’r adroddiad hefyd yn crybwyll meddygon locwm i lenwi swyddi gwag meddygon teulu, a phan ymwelodd Ysgrifennydd y Cabinet â Meddygfa Bryntirion, clywodd gan feddyg teulu amser llawn yno fod meddygon locwm yn iawn, ond maent yn gadael llwybr o waith gweinyddol sy’n rhaid i feddygon teulu parhaol fynd ar ei ôl wedyn, ac yn ychwanegol at hynny, mae meddygon locwm yn ddrud iawn. Felly, nid yw’n datrys y broblem mewn gwirionedd, dim ond rhoi plastr arni.

Daeth Dr Paul Edwards i gysylltiad â mi hefyd, drwy Allan Rogers—roedd Allan Rogers yn arfer bod yn Aelod Seneddol dros y Rhondda, mae yn ei wythdegau erbyn hyn ac yn dal i fod yn weithgar iawn mewn gwleidyddiaeth—ac mae eisiau helpu i ddatrys y broblem hon. Gwelodd fy fideo ar Facebook mewn perthynas â Meddygfa Bryntirion a rhoddodd fi mewn cysylltiad â Dr Paul Edwards sy’n gweithio gyda Guy Lacey, pennaeth Coleg Gwent. Maent yn edrych ar ffyrdd y gall y ffynhonnell gyfoethog heb ei chyffwrdd o dalent yn y Cymoedd gogleddol gael ei recriwtio i ddod yn feddygon teulu yn y dyfodol. Byddai llawer o bobl sy’n tyfu i fyny mewn ardaloedd o amddifadedd cymharol yn gwneud meddygon da, ond oherwydd problemau diwylliannol yn ymwneud ag uchelgais mewn addysg, nid ydynt yn cael eu hannog i wneud cais i ysgolion meddygol. Llofnododd Dr Paul Edwards ei e-bost ataf: Dr Paul Edwards BSc, BM (Anrhydedd), PhD, Aelod o Golegau Brenhinol Llawfeddygon Prydain ac Iwerddon, Cymrodor o Golegau Brenhinol y Llawfeddygon, llawfeddyg ymgynghorol, uwch ddarlithydd anrhydeddus, gradd C a dwy D Safon Uwch. Felly, mae hwn yn gyfle clir i recriwtio ein meddygon teulu yn y dyfodol o ardaloedd y Cymoedd gogleddol y soniaf amdanynt bob amser. Felly, rwy’n falch o weld bod yr adroddiad yn gwneud argymhellion ar y pwnc hwn, ac rwy’n mawr obeithio bod Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i weithio gyda’r holl randdeiliaid ac arbenigwyr perthnasol i sicrhau bod modd gwireddu’r newid hwn a allai fod yn drawsnewidiol.

Diolch. Galwaf yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, Vaughan Gething.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i’r Aelodau, nid aelodau’r pwyllgor yn unig am eu hadroddiad, ond i’r Aelodau am y ddadl heddiw, a’r ystod o argymhellion y cawsom gyfle i’w trafod, a’u cyfraniad i’n helpu i sicrhau gweithlu cynaliadwy ar gyfer GIG Cymru.

Rwy’n cydnabod, fel y mae’r pwyllgor yn ei wneud hefyd, fod heriau ar draws y DU gyda recriwtio a chadw meddygon mewn rhai meysydd arbenigol, ac yn arbennig y pwynt y soniodd Dai Lloyd amdano yn ei sylwadau agoriadol: y risg ychwanegol a grëwyd gan ansicrwydd Brexit a’n llwybr allan o’r Undeb Ewropeaidd yn y pen draw. Mae’n werth tynnu sylw eto at farn y Llywodraeth hon: rydym yn croesawu’r ffaith fod dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd yma yng Nghymru fel meddygon a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill, ond yn fwy na hynny, fel aelodau o’r cymunedau y mae pob un ohonom wedi cael y fraint o’u cynrychioli ar hyd a lled ein gwlad. Ac unwaith eto, i ddilyn pwynt Julie Morgan, mae llawer o feddygon y dibynnwn arnynt i helpu i ddarparu ein gwasanaethau yn dod o rannau eraill o’r byd. Ac yn ôl at eich enghraifft dda iawn o weithlu meddygol gwirioneddol ymroddgar sydd am barhau i fod yn falch o’r llefydd y maent hwy a’u teuluoedd yn hanu ohonynt, ond sydd hefyd yn hynod o frwdfrydig ac yn falch o’n gwasanaeth iechyd gwladol, ac sy’n mynd allan i werthu Cymru i rannau eraill o’r byd yn hynod o effeithiol.

Wrth gwrs, diben yr adroddiad pwyllgor hwn oedd ystyried materion recriwtio mewn perthynas â’r gweithlu meddygol. Yn anochel, ceir ffocws sylweddol ar addysg feddygol, ond gwnaed sylwadau heddiw hefyd, ac yn yr adroddiad, am weithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill yn ogystal. Rwyf am ddechrau drwy ddod yn ôl at y datganiad a wneuthum ar 18 Gorffennaf am addysg a hyfforddiant meddygol yng ngogledd Cymru. Rwy’n cydnabod na wnaeth y pwyllgor argymhelliad penodol i gael ysgol feddygol newydd ym Mangor, ond roeddent yn sicr yn glir eu bod am weld mwy o addysg feddygol a hyfforddiant yn digwydd yng ngogledd Cymru, a’r argymhelliad ynglŷn â chanolfan ym Mangor. Yn fy natganiad, gadewch i ni atgoffa ein hunain, roeddwn yn cydnabod yr angen i fwy o addysg feddygol ddigwydd yng ngogledd Cymru. Dyna yw fy marn o hyd. Nid deilen ffigys mohoni; nid ei ddweud er mwyn y ddadl yw hynny; dyna safbwynt y Llywodraeth. Rwy’n cadarnhau fy marn yn awr fod dull cydweithredol, gan edrych ar brifysgolion Caerdydd, Abertawe a Bangor yn gweithio’n agosach gyda’i gilydd, yn gallu cyflawni’r cynnydd y dymunwn ei weld gydag addysg a hyfforddiant meddygol yn digwydd yng ngogledd Cymru. Mae’n werth dweud hefyd fod yr holl bartïon hynny wedi cadarnhau eu parodrwydd i wneud cynnydd gwirioneddol gyda’r gwaith hwnnw. Mae’r trafodaethau hynny’n parhau, a’r trefniadau manwl y bydd angen eu rhoi ar waith, a’r heriau sy’n ein hwynebu, ac unwaith eto-

Rhun ap Iorwerth a Mark Isherwood a gododd—

Rwy’n ailddatgan fy ymrwymiad i ddarparu ymateb pellach yn ôl i’r Aelodau eleni ar y gwaith hwnnw—[Torri ar draws.]

Wel, fe welais i Rhun. Fe gymeraf un, ac yna efallai y cymeraf un arall.

A wnewch chi gadarnhau y byddwch yn ystyried mynd ar drywydd derbyn israddedigion o flwyddyn 1 yr holl ffordd drwodd, rhywbeth y dywedwyd wrthyf a fyddai heb unrhyw amheuaeth yn bosibl ym Mangor, drwy ddull cydweithredol rhwng Caerdydd, Abertawe, Bangor, pwy bynnag fyddai eisiau cymryd rhan?

Mae angen i ni edrych ar yr hyn sy’n bosibl. Nid wyf am dderbyn na gwrthod unrhyw beth ar y pwynt hwn. Mae angen i mi weld beth sy’n bosibl, ac yn yr un modd, nid yn unig yr hyn sy’n bosibl, ond yr hyn a fydd yn cynnig fwyaf yn ôl inni am y gwasanaeth. Fe gymeraf ymyriad byr ac yna byddaf yn bwrw ymlaen.

Sut ydych chi’n ymateb i’r datganiad a wnaed i’r ACau yng ngogledd Cymru a oedd yn gallu mynychu cyfarfod gyda phwyllgor meddygol gogledd Cymru yr wythnos diwethaf y byddent am i’r cydweithio hwnnw—pwyllgor meddygol y meddygon teulu yw hwn—gynnwys y prifysgolion cyfagos yng ngogledd-orllewin Lloegr, sydd hefyd wedi darparu myfyrwyr meddygol a meddygon i’r rhanbarth yn y gorffennol?

Wel, rwy’n credu bod angen i ni fod yn ofalus ynglŷn â’r hyn rydym yn ceisio ei wneud a’i gyflawni. Rydym yn awyddus i ddeall sut y gallwn ddarparu cyfle i fwy o bobl hyfforddi a chyflawni rhan neu’r cyfan o’u haddysg a’u hyfforddiant meddygol yng ngogledd Cymru. Mae yna bwynt gwahanol fodd bynnag, rwy’n credu, ynglŷn â’r ffordd y mae gennym set fwy aeddfed o gysylltiadau gyda chydweithwyr yng ngogledd-orllewin Lloegr, a chydnabod y ffaith fod llawer o fyfyrwyr sy’n hanu o Gymru yn mynd i ogledd-orllewin Lloegr i gael addysg a hyfforddiant meddygol, nid oherwydd nad ydynt yn cael cyfleoedd—efallai’n rhannol mai dyna pam y mae rhai pobl yn mynd—ond oherwydd bod llawer o bobl yn dewis gadael cartref a mynd ymhellach i ffwrdd. Mae hynny’n rhan o ddeall nid yn unig y llwybr y mae myfyrwyr yn ei gymryd, ond mae angen inni fod yn well am gadw pobl yng Nghymru a rhoi cyfleoedd iddynt aros yma, ond hefyd yn well o ran yr hyn rydym yn ei wneud ynglŷn ag adennill y bobl hynny a dod â hwy’n ôl i Gymru. Mae yna fater penodol yma ynglŷn â dychwelyd ac ailwladoli sgiliau iaith Gymraeg o fewn y proffesiynau gofal iechyd hefyd.

Dywedais o’r blaen mai’r canlyniad gwaethaf posibl fyddai buddsoddi mewn lleoedd ychwanegol mewn unrhyw ran o Gymru, ac na fyddai unrhyw gynnydd yn nifer y graddedigion a gadwn yng Nghymru yn sgil hynny. Felly, mae’n golygu edrych ar bob rhan ohono: faint o bobl sy’n cael addysg a hyfforddiant meddygol yng Nghymru, a hefyd beth a wnawn i gadw pobl pan fyddant yn gorffen yr addysg a’r hyfforddiant hwnnw yn ogystal? Felly, mae hynny, yn ei hanfod, yn ymwneud â llawer mwy na nifer y myfyrwyr meddygol a lle maent o fewn y system; mae’n ymwneud â sicrhau bod gennym weithlu meddygol gwirioneddol gynaliadwy yng Nghymru ac mae angen ystyried a gweithredu pob agwedd ar addysg a hyfforddiant sydd ar y gweill yn effeithiol.

Mae hyn yn mynd yn ôl at rai o’r sylwadau rwy’n falch fod pobl wedi’u nodi, gan gynnwys cyfeiriad rheolaidd Hefin David—ac a gaf fi eich canmol am hynny—wrth gyfeirio’n ôl at y Cymoedd gogleddol, ond mae yna bwynt ehangach ynglŷn â sut yr ydym yn sicrhau bod uchelgais gan blant i ddod yn feddygon: y drafodaeth a gawn am y gwasanaeth iechyd a dealltwriaeth pobl eich bod yn mynd i’w chael hi mewn sawl ffordd mewn gwirionedd os ewch i mewn i’r gwasanaeth iechyd, a’r ffordd y siaradwn am y gwasanaeth yn fwy cyffredinol. Mae yna bobl a fyddai fel arall wedi dewis gyrfa mewn meddygaeth sy’n dewis opsiynau gwahanol. Dyna her i bob un ohonom, beth bynnag yw ein gwleidyddiaeth, ynglŷn â gweld y bobl hyn yn cael y cyfleoedd hynny lle bynnag y maent yn byw.

Mae yna bwynt ynglŷn â mwy o ymwybyddiaeth o rolau, nid yn unig rolau meddygol, ond pob rôl o fewn y gwasanaeth iechyd gwladol. A chysondeb cyfleoedd ledled Cymru i bobl ifanc gael cyfleoedd profiad gwaith i’w cyflwyno i ofal iechyd, nid yn unig o safbwynt cyflogaeth, ond o safbwynt cyflogaeth a safbwynt claf hefyd. Oherwydd rydym yn cydnabod nad yw cyfleoedd profiad gwaith go iawn, fel y maent yn bodoli ar hyn o bryd, wedi cael eu dosbarthu mor gyfartal ag y byddem yn dymuno iddynt fod ac wrth gwrs, mae llawer o bobl sydd eisoes o fewn y gwasanaeth ac o’i amgylch yn fwy tebygol o gael y cyfleoedd hynny. Felly, mae angen inni wneud ymdrech ragweithiol i sicrhau bod y cyfleoedd hynny’n cael eu lledaenu’n ehangach.

Rwy’n hapus i gydnabod y newidiadau a wnaed i brosesau derbyn yn ysgolion meddygol Caerdydd ac Abertawe a’r gwelliannau yn nifer y myfyrwyr sy’n hanu o Gymru sy’n cael eu derbyn. Dengys data derbyniadau fod 80 y cant o fyfyrwyr sy’n byw yng Nghymru wedi cael cynnig lle i astudio yn Abertawe. Yn y nifer a dderbyniwyd y llynedd, cawsant y lleoedd hynny ac maent yn dweud bod yna 88 o fyfyrwyr sy’n hanu o Gymru yng Nghaerdydd, a dyna’r nifer uchaf ers chwe blynedd. Felly, mae cynnydd wedi’i wneud, ond rwy’n sicr yn cydnabod bod angen gwneud rhagor. Rhan o hyn yw sicrhau bod ein myfyrwyr ifanc a’n pobl ifanc ein hunain yn gyfarwydd â’r broses ddewis ac yn cael cyfle i ymarfer y sgiliau hynny, felly os ydynt yn cael cyfle i gael cyfweliad, maent yn y lle gorau i berfformio’n dda mewn gwirionedd a chael cynnig lle. Mae hynny’n ymwneud ag adborth cadarnhaol ac adeiladol, ond gwneud hyn i gyd ar sail ragweithiol i annog y ceisiadau yn y lle cyntaf.

Oherwydd mae angen i ni ddangos budd ehangach astudio yng Nghymru, a bod profiad myfyrwyr yma’n ddigon cadarnhaol i annog unigolion i aros a pharhau i weithio yng Nghymru. Mae hynny’n golygu sicrhau bod digon o gyfleoedd mewn hyfforddiant ôl-raddedig i bobl ddilyn eu gyrfaoedd, gan gynnwys, wrth gwrs, drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae hynny’n golygu bod yn rhaid i hyfforddiant yng Nghymru gynnig llawer o ddewisiadau a manteision. Ond o fod yn genedl fach, dylid cael profiad mewn meddygaeth drefol a gwledig, er mwyn darparu cyfleoedd i ddarganfod yr amrywiaeth sy’n perthyn i bob lleoliad. Mae hyn yn cysylltu â pheth o’r gwaith y mae Julie Morgan wedi cyfeirio ato, gan gynnwys, yn benodol, cyfleoedd gwledig fel mantais gadarnhaol i bobl sydd am ddod i mewn i’n system ac sydd am aros o’i mewn. Nawr, mae angen i bob rhan o’r jig-so weithio gyda’i gilydd os ydym yn mynd i fanteisio ar unrhyw leoedd ychwanegol y gellir eu sefydlu, ac rwyf eisoes yn gweithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar y materion hyn. Fel y dywedais, rwyf wedi rhoi fy ymrwymiad i ddychwelyd yn benodol at fater gogledd Cymru eleni.

Rwy’n croesawu cydnabyddiaeth y pwyllgor a’i gefnogaeth i’r ymgyrch Hyfforddi, Gweithio, Byw. Unwaith eto, cafodd 91 y cant o leoedd hyfforddi meddygon teulu eu llenwi y llynedd, sef cynnydd o 75 y cant y flwyddyn flaenorol, ac mae’r cynnydd yn y rhannau o Gymru lle y cyflwynwyd y cynllun cymhelliant ariannol newydd. Rwy’n hapus i gadarnhau wrth Jeremy Miles y byddwn yn adolygu effaith y cynllun cymhelliant i wneud yn siŵr ein bod o ddifrif yn helpu i ddod â mwy o bobl i mewn i’n system, yn hytrach na symud niferoedd o gwmpas drwy greu gwahanol broblemau mewn gwahanol rannau o’r wlad. Daw hynny â mi hefyd at bwynt Hefin ynghylch gofal iechyd lleol. Mae yna rywbeth am yr iaith a ddefnyddiwn ynglŷn â phwy sy’n siarad â phwy am yr hyn y gall pobl ei ddisgwyl. Yn aml yn y gwasanaeth iechyd rwy’n meddwl ein bod yn defnyddio iaith benodol nad yw mewn gwirionedd yn golygu llawer i’r cyhoedd ac rydym yn eu cau allan gyda’r iaith a ddefnyddiwn, ond hefyd y ddealltwriaeth o’r hyn y bydd yn ei olygu iddynt a hwythau’n dal i fod eisiau i wasanaeth gael ei ddarparu.

Rwy’n cydnabod bod angen i mi orffen, ond rwyf am nodi y bydd yr ymgyrch Hyfforddi, Gweithio, Byw yn parhau ac y bydd yna ffocws arbennig ar hyfforddiant seiciatreg i fynd i’r afael â’r cyfraddau isel a welsom yno hefyd. Felly, mae ein holl ymdrechion, gan gynnwys sefydlu Addysg a Gwella Iechyd Cymru, y byddaf yn dychwelyd ato eto yn y dyfodol, yn ymwneud â sut yr ydym yn gwella cyfraddau recriwtio a chadw ar draws ein gweithlu, ac rwy’n croesawu’n fawr yr adroddiad a’r ddadl adeiladol iawn gan yr Aelodau a’r pwyllgor heddiw.

Diolch, Dirprwy Lywydd. A allaf ddiolch i’r Ysgrifennydd Cabinet ac Aelodau eraill am gyfraniadau arbennig iawn y prynhawn yma i ddadl aeddfed tu hwnt ar adroddiad sydd yn drylwyr, mae’n rhaid cyfaddef?

Yn amlwg, hoffwn ailadrodd pwysigrwydd recriwtio a chadw fel materion allweddol i ddyfodol y gwasanaeth iechyd achos mae’n rhaid i ni addysgu digon o feddygon yn y lle cyntaf, ac hefyd mae’n rhaid i ni gadw nhw yn y system. Mae yna her, fel roedd Hefin David yn ei awgrymu. Fi ydy’r meddyg cyntaf yn fy nheulu i, ac roedd hi yn her sylweddol i rywun fel fi allan o’r wlad i fynd i ysgol feddygol yn y lle cyntaf. Mae’n rhaid i ni ei gwneud hi’n haws i bobl o le bynnag rydych chi’n dod i fynd i ysgol feddygol.

A allaf ddiolch i Angela ac i Rhun ac i Julie am eu cyfraniadau, yn ogystal ag, wrth gwrs, Caroline, Jeremy a Sian Gwenllian am ysgol feddygol Bangor, ac hefyd, yn naturiol, Hefin David hefyd? Ac un mater, gan fod yna lot o bwysleisio ar feddygon teulu a’r swyddi gwag a’r pwysau ar feddygaeth deuluol, un mater wnes i ddim sôn amdano yn fy nghyfraniad gwreiddiol oedd pwysigrwydd—. Hyd yn oed pe baem ni yn addysgu pob meddyg teulu sy’n graddio o’r ysgol feddygol sydd gyda ni rŵan, nid ydym yn hyfforddi digon o feddygon ar hyn o bryd hyd yn oed pe baem yn gallu cadw bob un ohonyn nhw o fewn y system. Nid ydym yn hyfforddi digon o feddygon rŵan. Mae’n rhaid cynyddu’r nifer; dyna’r holl sôn am ysgol feddygol ym Mangor.

Ond yr ail bwynt ar hynny ydy, wedi hyfforddi ac wedi i feddyg raddio, mae hefyd yn allweddol bwysig cadw nhw yn gweithio yn y gwasanaeth iechyd ym mha le bynnag y maen nhw. Hynny, yn sylfaenol, ydy mai ein meddygon ifanc ni nawr sydd wedi graddio rhyw ddwy, dair blynedd yn ôl sy’n gweithio yn ein hysbytai ni, rheini ydy’r meddygon iau, rheini ydy meddygon teulu y dyfodol, rheini ydy arbenigwyr y dyfodol, ac ar hyn o bryd maen nhw’n teimlo o dan straen anferthol. Ac mae hyn lawr i’r ffordd maen nhw’n cael eu trin yn aml gan reolwyr o fewn y gwasanaeth iechyd, achos mae’r meddygon ifanc yma wastad yn gorfod brwydro am amser bant o’u gwaith i astudio, i wneud gwaith ymchwil, brwydro i sefyll arholiadau, brwydro i gael gwyliau hyd yn oed, gyda phwysau parhaol i lenwi bylchau yn y rota ar alwad, ac mae’r swyddi yn hynod brysur yn barod. Rydym wedi clywed am y pwysau gwaith gan Caroline Jones ac eraill.

Ac ie, yn ogystal â’r pwysau gwaith yna, y ffordd maen nhw’n cael eu trin—gorfod brwydro am bob peth—mae yna hefyd ddyletswydd i ddweud y gwir pan mae pethau yn mynd o’i le, ond pan mae meddygon yn cwyno wrth reolwyr yn aml am ddiffygion yn y gwasanaeth, pan mae pethau yn digwydd na ddylai ddigwydd—dod yn ‘whistleblower’ felly—yn aml mae’r meddygon hynny hefyd mewn perygl o gael eu herlid eu hunain. Nawr, nid yw hynny yn dderbyniol. Mae’n tanseilio morâl meddygon hynod ymroddedig, ac o dan y fath bwysau gwaith a diffyg cefnogaeth gan reolwyr uwch eu pennau nhw, nid oes syndod bod ein meddygon ifanc ni yn gadael i weithio mewn llefydd eraill, ac nid ydynt yn cael y cyfle i ddod yn feddygon teulu yn lleol neu yn arbenigwyr yn lleol; maen nhw wedi gadael achos y ffordd maen nhw’n cael eu trin.

Felly, cynyddu a chadw y nifer o feddygon yn y gwasanaeth iechyd ydy yr her fawr. Mae diffyg meddygon a nyrsys yn dwyn pwysau enfawr ar y staff hynny sydd ar ôl, fel rydym wedi’i glywed eisoes. Ac ie, mae angen hyfforddi mwy o feddygon. Nid ydym yn hyfforddi digon yma yng Nghymru ar hyn o bryd i ddiwallu’r angen. Hyd yn oed, fel rwyf wedi dweud, pe baem ni’n gallu cadw pob un wan jac ohonyn nhw, nid ydym yn hyfforddi digon. Ac, ie, mae’n rhaid cael ysgol feddygol arall ym Mangor. Roeddem yn cael y dadleuon hyn bron i 20 mlynedd yn ôl rŵan pan roeddem ni’n rhan o’r broses o sefydlu ysgol feddygol newydd yn Abertawe. Un o’r camau cyntaf y gwnaeth y Cynulliad yma ei gymryd oedd cytuno efo’r syniad bod un ysgol feddygol i Gymru ddim hanner digon, ac rwy’n cofio y camau a’r dadleuon cynnar yna yn sefydlu ysgol feddygol yn Abertawe, ac rydym yn ailadrodd yr hanes rŵan—yr un un camau, yr un un dadleuon rydym yn eu cael. Ond rwy’n siŵr y bydd yna ysgol feddygol yn y pen draw ym Mangor. Hefyd mae gen i neges i rai o reolwyr y gwasanaeth iechyd i ymdrechu lawer yn galetach, gyda mwy o hyder, i gadw ac i edrych ar ôl ac, yn wir, i anwesu ein meddygon ifanc ni i’w cadw nhw yn y gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru, a chadw rhai o’n meddygon mwyaf disglair a mwyaf dawnus ni yma yn y wlad. Diolch yn fawr i chi.

Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw cytuno i nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

6. 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Cynghorau Iechyd Cymuned

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt, a gwelliant 2 yn enw Rhun ap Iorwerth.

Symudwn ymlaen yn awr at ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar gynghorau iechyd cymuned, a galwaf ar Mark Isherwood i gynnig y cynnig.

Cynnig NDM6505 Paul Davies

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi Papur Gwyn Llywodraeth Cymru, 'Gwasanaethau sy'n addas i’r dyfodol’, sy'n ceisio diddymu cynghorau iechyd cymuned yng Nghymru.

2. Yn cydnabod y rôl bwysig y mae cynghorau iechyd cymuned wedi'i chwarae o ran sicrhau atebolrwydd gwasanaethau cyhoeddus annibynnol a darparu llais cryf i gleifion yng Nghymru.

3. Yn credu y bydd cynigion y Papur Gwyn yn gwanhau lleisiau cleifion a chymunedau a lleihau lefel y gwaith craffu ar Lywodraeth Cymru a byrddau iechyd.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) ymestyn y cyfnod ymgynghori ar y Papur Gwyn, ar ôl methu ag ymgysylltu'n briodol â chynghorau iechyd cymuned, cleifion a'r cyhoedd yng Nghymru; a

b) gweithio mewn ffordd fwy adeiladol gyda'r cynghorau iechyd cymuned ar gynigion yn y dyfodol ar gyfer corff newydd i roi llais i'r bobl.

Cynigiwyd y cynnig.

Mae’r ddogfen ymgynghorol ar Bapur Gwyn Llywodraeth Cymru, ‘Gwasanaethau sy’n addas i’r dyfodol’, yn honni ei fod yn canolbwyntio ar egwyddorion galluogi a grymuso sefydliadau, staff, a dinasyddion. Fodd bynnag, mae hefyd yn argymell y dylid sefydlu’r hyn y mae’n ei ddisgrifio fel corff newydd cenedlaethol i roi llais i ddinasyddion yn lle ein cynghorau iechyd cymuned rhanbarthol, sy’n annibynnol ac felly’n gallu herio a chraffu ar y GIG ar ran cleifion, a byddai hyn yn creu bygythiad pellach o reolaeth ganoledig o’r brig i lawr.

Felly, rydym yn edrych gyda phryder gwirioneddol ar welliant Llywodraeth Cymru i’r cynnig hwn, sy’n ceisio dileu’r cyfeiriad at y pryderon eang a seiliedig ar dystiolaeth a ddaeth i’n sylw. O ganlyniad i hyn, mae ein cynnig yn cydnabod y rôl bwysig y mae cynghorau iechyd cymuned wedi’i chwarae yn sicrhau atebolrwydd gwasanaeth cyhoeddus annibynnol a rhoi llais cryf i gleifion yng Nghymru, ac yn credu y bydd cynigion y Papur Gwyn yn gwanhau llais cleifion a chymunedau ac yn lleihau craffu ar Lywodraeth Cymru a byrddau iechyd.

Mae’r Papur Gwyn yn nodi y bydd rhai agweddau ar y trefniadau newydd yn cael eu seilio ar Gyngor Iechyd yr Alban ac yn gweithio ar draws iechyd a gofal cymdeithasol. Fodd bynnag, fel y noda gwelliant Plaid Cymru heddiw, gwelliant y byddwn yn ei gefnogi, roedd:

‘Pwyllgor Iechyd a Chwaraeon Llywodraeth yr Alban yn ystyried nad oedd cyngor iechyd cymuned cenedlaethol sengl yn yr Alban yn ddigon annibynnol ar y llywodraeth.’

Yn wir, pan fynychodd cyfarwyddwr a chadeirydd Cyngor Iechyd yr Alban Bwyllgor Iechyd a Chwaraeon Senedd yr Alban ym mis Ionawr, dywedodd cynullydd y pwyllgor, ‘Rwy’n credu mai bochdew diddannedd ydych chi. Nid wyf yn gweld ble rydych yn ychwanegu gwerth’, a bod ymgyrchwyr yn teimlo’n bell oddi wrth y broses o wneud penderfyniadau. Canfu’r pwyllgor cyfan ei bod yn amlwg nad yw Cyngor Iechyd yr Alban, ar ei ffurf bresennol, i’w weld yn gorff annibynnol ar y Llywodraeth. Efallai y bydd rhai’n dweud mai dyma sy’n denu Llywodraeth Cymru at y model hwn. Wedi’r cyfan, diddymwyd yr hawl i adolygiad annibynnol ganddynt o weithdrefn gwynion y GIG yn 2011, gan adael cwynion i gael eu hymchwilio’n unig gan y corff y cwynir yn ei erbyn, wedi’i ddilyn gan hawl i ofyn am adolygiad gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, a oedd wedyn yn nodi cynnydd o 50 y cant yn nifer y cwynion am y GIG yng Nghymru dros y pum mlynedd ddilynol.

Mewn cam cadarnhaol ac arloesol, sefydlwyd cynghorau iechyd cymuned, neu CICau, yn 1974 dan Lywodraeth Geidwadol â dyletswydd statudol i gynrychioli buddiannau cadarnhaol y gymuned leol, a oedd yn cynnwys gweithredu fel eiriolwyr ar ran cleifion mewn cwynion yn ymwneud â’r GIG. Daethant yn fwrlwm o weithgaredd a chyflawniad. Ar ôl 26 mlynedd yn gweithredu fel unig gyrff gwarchod statudol y GIG dan arweiniad cleifion, diddymodd Llafur bob CIC yn Lloegr ar 1 Rhagfyr 2003. Fel y nododd Andy Burnham, Ysgrifennydd Iechyd Llafur wedi hynny yn Lloegr rai blynyddoedd yn ddiweddarach, ‘Nid diddymu cynghorau iechyd cymuned oedd awr wychaf y Llywodraeth. Mae’n ymddangos ein bod wedi methu dod o hyd i rywbeth i gymryd lle cynghorau iechyd cymuned a wnâi’r gwaith yn dda. ‘ Ac fel y dywedodd yr Arglwydd Ustus Francis yn adroddiad Francis ar fethiannau difrifol mewn gofal yn Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Canol Swydd Stafford cyn 2009, ac rwy’n dyfynnu:

Roedd cynghorau iechyd cymuned... bron yn ddieithriad yn cael eu cymharu’n ffafriol yn y dystiolaeth â’r strwythurau a’u dilynodd

yn Lloegr. Mae’n eithaf amlwg bellach bod yr hyn a ddaeth yn eu lle—dwy ymgais i ad-drefnu o fewn 10 mlynedd—wedi methu sicrhau llais gwell i gleifion a’r cyhoedd, ond yn hytrach ei fod wedi cyflawni’r gwrthwyneb.

Sefydlodd Llafur fforymau cyhoeddus i gleifion yn lle’r CICau yn Lloegr, a rhwydweithiau cyfranogiad wedyn a gafodd eu beirniadu ar y sail eu bod wedi’u cyfyngu gan ddiffyg pŵer go iawn a’u beirniadu’n aml am fethu cynrychioli eu poblogaethau lleol, a’u bod wedi’u llyffetheirio gan achosion o anghydfod mewnol a diffyg ymwybyddiaeth o’u gwaith. Sefydlwyd Healthwatch yn eu lle gan Lywodraeth dan arweiniad y Ceidwadwyr yn 2012, yn cynnwys mentrau cymdeithasol annibynnol sy’n gyfrifol am gynrychioli cleifion ledled Lloegr ac ymdrin â phryderon lleol. Wynebodd Llywodraeth y DU yr her ar ôl sgandal Canol Swydd Stafford a chomisiynwyd adroddiad annibynnol Keogh ganddi, gan arwain at 11 o ymddiriedolaethau yn Lloegr yn cael eu gwneud yn destunau mesurau arbennig. Ond cyngor iechyd cymuned gogledd Cymru a ysgrifennodd wedyn at Weinidog Iechyd blaenorol Llywodraeth Cymru ar ôl i’r cyngor gael ystadegau marwolaethau mewn ysbytai a ddangosai fod gan y tri phrif ysbyty yng ngogledd Cymru gyfraddau uwch na’r cyfraddau marwolaethau disgwyliedig. Ar ôl i’r Gweinidog ddatgan bod y penderfyniadau i gau ysbytai cymunedol yn y Fflint, Llangollen, Blaenau Ffestiniog a Phrestatyn wedi cael eu cefnogi gan y cyngor iechyd cymuned, ysgrifennodd y cyngor iechyd cymuned ato hefyd yn mynegi pryderon ynglŷn â chadernid y wybodaeth a ddarparwyd gan fwrdd iechyd prifysgol Betsi Cadwaladr, gwybodaeth a ddefnyddiwyd ganddynt i lywio eu proses wneud penderfyniadau. Mae cynghorau iechyd cymuned yn gweithredu’n annibynnol ac yn anghyfleus yn y modd hwn yn gosod y cyd-destun i fethiant Llywodraeth Cymru yn awr i’w cynnwys yn eu cynigion.

Deallwn fod Llywodraeth Cymru, ddwy flynedd yn ôl, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, wedi penodi prif weithredwr bwrdd y cynghorau iechyd cymuned yng Nghymru a wnaeth y cyflwyniad CIC i’r Papur Gwyrdd blaenorol, ‘Ein Hiechyd, Ein Gwasanaeth Iechyd’. Nid oes amheuaeth y bydd Llywodraeth Cymru yn gwadu hynny, ond serch hynny, dyna a roddwyd ar ddeall i ni. Rydym yn deall hefyd mai’r hyn a ddywedodd ef yw’r Papur Gwyn yn y bôn, na welodd y CICau eu hunain mo’r papur nes iddo gael ei gyflwyno, a bod y prif weithredwr wedi’i atal dros dro wedi hynny, ac yna’i ddiswyddo—ac mae hyn oll yn fater a gofnodwyd yn gyhoeddus bellach.

Hyd at y noson cyn cyhoeddi’r Papur Gwyn, roedd Llywodraeth Cymru yn dweud wrth y CICau eu hunain na fyddent yn cael eu heffeithio. Mae adroddiadau olynol wedi beirniadu CIC unigol, Abertawe Bro Morgannwg, a gâi ei gadeirio gan y cyn ddirprwy arweinydd Llafur ar gyngor Merthyr Tudful. Ond yn raddol, cafodd y feirniadaeth honno ei hestyn—yn anghywir—i pob CIC ar draws Cymru.

Er bod mwyfwy o adnoddau wedi cael eu symud i fwrdd canolog y CICau yng Nghymru, mae’r cynghorau iechyd cymuned eu hunain wedi ceisio bwrw ymlaen â’u darpariaeth o wasanaethau cwyno ac eiriolaeth, ymweld a monitro, craffu a herio, ac ymgysylltu. Yn 2015-16, cynhaliodd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru un archwiliad ysbyty yn unig o leoliadau bwrdd iechyd prifysgol Betsi Cadwaladr, o’i gymharu â 600 o ymweliadau â wardiau ysbyty gan gyngor iechyd cymuned gogledd Cymru. Er bod pob ward yn cael ei harolygu bob chwe mis gan gyngor iechyd cymuned gogledd Cymru, cynhelir arolygiadau gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, ar gyfartaledd, bob saith i 10 mlynedd yn unig. Mae hyn i gyd mewn perygl.

Wrth siarad ddiwedd mis Gorffennaf am ymgynghoriad Llywodraeth Cymru, dywedodd y Sefydliad Ymgynghori

mae’n destun pryder fod yna gwestiynau heb eu hateb ynglŷn â’r broses arfaethedig ar gyfer cynnwys y cyhoedd ar fater newid gwasanaethau,

fod yna

gwestiynau pwysig y mae angen eu hystyried yn briodol

a’u bod felly yn trefnu eu bwrdd crwn arbennig eu hunain yng Nghaerdydd.

Fodd bynnag, ar 1 Medi, roeddent yn datgan eu bod wedi dod ar draws problem ‘nad oeddent erioed wedi’i gweld o’r blaen’, gyda Llywodraeth Cymru yn nodi mewn modd unigryw

y byddai mynychu digwyddiad trydydd parti o’r fath yn peryglu cywirdeb yr ymgynghoriad

ac yn awgrymu

y byddai’n anghywir i Reolwyr y GIG a chyrff cyhoeddus eraill fynychu unrhyw beth y gellid codi tâl amdano.

Mewn gwirionedd, mae’r Sefydliad Ymgynghori yn gorff annibynnol, arfer gorau, dielw.

Yna dangosodd cynnwys Facebook nad oedd y sefydliad a logwyd gan Lywodraeth Cymru i arwain ar ymgysylltu â’r cyhoedd ond wedi dechrau chwilio am leoliadau dair wythnos cyn i’r ymgynghoriad ddod i ben. Mae un cyfraniad yn cynnwys yr ymadrodd ‘tight turnaround’. Mewn un arall, mae’r gweithiwr i’w weld yn awgrymu bod cael gwared â chynghorau iechyd cymuned yn anochel, er bod y cyfnod ymgynghori yn dal i fod ar y gweill. Ddoe’n unig, anfonodd y trefnydd e-bost yn gofyn am gymorth gan ei aelodau lle roedd niferoedd cyfranogwyr mewn digwyddiadau yn dal i fod yn isel—naw diwrnod yn unig cyn i’r ymgynghoriad ddod i ben. Ymhellach, caiff aelodau a staff CICau eu gwahardd yn benodol rhag mynychu.

Roedd e-bost arall ddoe yn nodi bod pobl hŷn yng ngogledd Cymru yn cael cymorth pan fyddant ei angen gan swyddfeydd CIC Bangor a Wrecsam, ond yn aml iawn, maent yn troi at yn un o’r 72 o aelodau CIC unigol sy’n byw yng ngogledd Cymru. Mae’r gwirfoddolwyr di-dâl ond medrus hyn, sy’n llygaid a chlustiau’r cyhoedd, wedi bod yn allweddol hefyd yn tynnu sylw rheolwyr y bwrdd iechyd ac Aelodau’r Cynulliad at faterion pwysig fel y methiannau iechyd meddwl a rheoli heintiau a wynebwyd gennym. Mae 700,000 o gleifion yn byw yn yr ardal a wasanaethir gan Betsi Cadwaladr, sy’n gyfystyr ag un cynrychiolydd CIC yn unig ar gyfer pob 10,000 o bobl.

Mae’r Papur Gwyn yn cyfeirio at adroddiad y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd a gyhoeddwyd y llynedd. Mae’r Papur Gwyn yn awgrymu y dylid cau CICau, ond nid oedd y Sefydliad yn dweud ar unrhyw adeg y dylai CICau gael eu cau. Cyngor y Sefydliad oedd y dylent esblygu. Nid oedd yr Athro Marcus Longley, y cyfeiriwyd ato hefyd, yn dweud yn ei adroddiad ef y dylid cau CICau, ond yn hytrach y dylent esblygu, a seiliodd ei gyngor ar y rhagdybiaeth y byddent yn parhau.

Mae CICau ledled Cymru yn cytuno bod angen corff newydd gyda chylch gwaith sy’n cynnwys iechyd a gofal cymdeithasol, ond maent wedi mynegi pryderon difrifol am y cynigion hyn gan Lywodraeth Cymru. Maent felly wedi cadarnhau eu bod yn cefnogi’r galwadau ar Lywodraeth Cymru yn ein cynnig i ymestyn y cyfnod ymgynghori ar y Papur Gwyn, yn dilyn ei fethiant i ymgysylltu’n briodol â chynghorau iechyd cymuned, cleifion a’r cyhoedd yng Nghymru, ac i weithio’n fwy adeiladol gyda chynghorau iechyd cymuned ar gynigion yn y dyfodol ar gyfer corff newydd i roi llais i’r bobl. Er mwyn popeth, gwrandewch arnynt.

Rwyf wedi dethol y ddau welliant i’r cynnig, a galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt, yn ffurfiol.

Gwelliant 1—Jane Hutt

Dileu popeth ar ôl 'Gwasanaethau sy'n addas i'r dyfodol' ac ychwanegu 'sy'n amlinellu cyfres o gynigion i gryfhau ansawdd a llywodraethiant mewn gwasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru'.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Yn ffurfiol.

Diolch. A galwaf ar Rhun ap Iorwerth i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn ei enw. Rhun.

Gwelliant 2—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi bod Pwyllgor Iechyd a Chwaraeon Llywodraeth yr Alban yn ystyried nad oedd cyngor iechyd cymuned cenedlaethol sengl yn yr Alban yn ddigon annibynnol ar y llywodraeth.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Diolch, Dirprwy Lywydd, ac mae Plaid Cymru yn falch o gefnogi’r cynnig hwn heddiw. Nid ydym yn hapus â’r cynigion y mae’r Llywodraeth yn wir yn ceisio’u rhuthro drwodd heb fawr o graffu, mae’n ymddangos, a’r hyn na ellid ond ei ddisgrifio fel ymgynghoriad ffug, ac rydym ninnau hefyd wedi sylwi ar y sgrialfa i drefnu grwpiau ffocws yn agos at ddyddiad cau’r ymgynghoriad—sy’n arwydd o’r modd y mae hyn yn cael ei drin, rwy’n credu, gyda’r ymgynghoriad yn cael ei ystyried bron fel amryfusedd.

Nawr, yr wythnos diwethaf, gwnaed yr apêl gyflym honno ar gyfrif Facebook personol gyda’r unigolyn a oedd â chyfrifoldeb dros gynnal nifer o grwpiau ffocws i drafod y mater, dywedir wrthym, yn cyfaddef ei bod, fel y clywsom, yn amserlen dynn, ac yn bendant, roedd hi’n dynn. Mae’r cyfnod ymgynghori bron ar ben. Awgrymodd rhywun y gellid gwahodd CICau i’r grwpiau ffocws hyn, ond nododd un ateb efallai na fyddent yn rhy awyddus i gymryd rhan, gan fod y Papur Gwyn yn argymell eu diddymu. Nawr, mae unigolion, yn sicr, sy’n aelodau o gynghorau iechyd cymuned wedi bod mewn cysylltiad â threfnwyr y grwpiau ffocws hyn ac wedi cael gwybod yn blwmp ac yn blaen nad ydynt i gynrychioli barn y cynghorau iechyd cymuned yng nghyfarfodydd y grwpiau ffocws, ac i fod yno fel dinasyddion cyffredin a dim byd arall. Nid dyma’r ffordd y dylai ymgynghoriadau gael eu cynnal, ac mae’r Llywodraeth wedi cael ei dal. Ond nid ymgynghori diffygiol yw’r unig reswm dros ein pryderon; yn syml iawn, nid ydym yn cytuno â’r cynigion.

Y gwrthwynebiad cyntaf: y cynigion i gael gwared ar annibyniaeth ein cynghorau iechyd cymuned. Nawr, nododd Pwyllgor Iechyd a Chwaraeon Senedd yr Alban mai dyma oedd effaith cynigion tebyg yn yr Alban. Nawr, rydym yn gefnogol i ddysgu o’r Alban lle mae’n gweddu, a heb amheuaeth, maent wedi cael llawer o bethau’n iawn, ond mae dysgu hefyd yn cynnwys dysgu o gamgymeriadau. Gallwn edrych ar lu o wledydd a’r ffordd y maent yn mynd i’r afael â materion tebyg i’r rhai y mae angen i ni fynd i’r afael â hwy yma yng Nghymru. Ond nid edrych yn unig ar yr hyn y maent wedi ei wneud yn yr Alban neu yn unrhyw le arall sy’n bwysig, ond edrych ar effeithiau camau a gymerwyd, ac rwy’n credu bod gwneud corff o’r fath fel cyngor iechyd cymuned yn rhy agos at y Llywodraeth yn mynd yn erbyn popeth a wyddom ynglŷn â sut i wneud cyrff o’r fath yn effeithiol, ac mae’r Alban wedi darganfod hynny yn sgil eu profiad gyda newidiadau i’r dull o lywodraethu a goruchwylio iechyd yn yr Alban. Dyna’r rheswm dros y gwelliannau yr ydym yn eich annog i’w cefnogi heddiw, ac rwy’n ddiolchgar i’r blaid gyferbyn am nodi y byddant yn cefnogi’r gwelliant hwnnw heddiw.

Gwrthwynebiad arall: y syniad nad oes arnom angen corff arall i fynd i mewn i ysbytai am fod Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn cynnal arolygiadau. A gaf fi atgoffa’r Gweinidog nad oes llawer iawn o amser ers i’r AGIC gael ei beirniadu’n hallt gan bwyllgor yn y Cynulliad hwn, ac yn wir fe fethodd â nodi’r gofal gwael a oedd yn digwydd yn Ysbyty Tywysoges Cymru? Mae dyblygu arolygu yn beth da, ac yn ychwanegu haen ychwanegol o ddiogelwch. Ac nid yw’r CICau yn arolygiaeth, ond maent yn gwybod, o lawer mwy o ymweliadau ag ysbytai nag a gynhelir gan AGIC, mae’n rhaid dweud, beth sy’n digwydd yn ein hysbytai, ac yn hollbwysig, ceir gwahanol fath o oruchwyliaeth. Mae CICau yn cynnig un elfen hynod o bwysig: maent yn mesur profiad y claf. Ac os ydym i ddarparu gwell profiadau ar gyfer ein cleifion, a sicrhau bod ysbytai yn darparu ar eu cyfer yr hyn y maent ei angen ac yn ei haeddu, yna ni fyddwn yn llwyddo i roi’r math o GIG sydd ei angen i Gymru.

Nawr, nid ydym yn dadlau dros gadw’r CICau fel y maent. Nid wyf wedi clywed unrhyw un o unrhyw gyngor iechyd cymuned yn dadlau y dylai cynghorau iechyd cymuned barhau am byth. Yr hyn yr ydym yn dadlau drosto yw’r angen i gynnal eu swyddogaeth o fod yn llais effeithiol i gleifion yng Nghymru. Yr hyn sydd gennym yn y Papur Gwyn yw cynigion sy’n cael gwared ar lais y claf. Nid yw’r cynigion hyn yn rhoi’r sicrwydd, y gefnogaeth a’r llais sydd eu hangen arnynt i gleifion yng Nghymru. Felly, yn anffodus, mae angen dychwelyd at y bwrdd darlunio.

Mae dogfen ymgynghori Llywodraeth Cymru, ‘Gwasanaethau sy’n addas i’r dyfodol’ yn nodi nifer o gynigion gyda’r bwriad datganedig o gryfhau llais dinasyddion mewn iechyd a gofal cymdeithasol. Fodd bynnag, ym marn llawer o bobl, ni fydd y cynnig sy’n ymwneud â chynghorau iechyd cymuned yn rhoi llais effeithiol ac annibynnol i gleifion yng Nghymru. Mae’r ymgynghoriad yn cynnig diddymu cynghorau iechyd cymuned ar eu ffurf bresennol a sefydlu corff newydd, yn seiliedig, mewn rhai ffyrdd, ar Gyngor Iechyd yr Alban. Byddai’r corff hwn i Gymru gyfan yn gweithio ar draws iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae cynghorau iechyd cymuned yn cynrychioli budd y cyhoedd yn y ffordd y caiff gwasanaethau eu cynllunio a’u darparu. Mae yna saith o gynghorau iechyd cymuned yng Nghymru—un ym mhob un o ardaloedd y byrddau iechyd lleol, ac yn atebol i’r un boblogaeth leol. Y rôl yw gwrando ar yr hyn sydd gan unigolion a’r gymuned i’w ddweud am wasanaethau iechyd mewn perthynas ag ansawdd, maint, mynediad at wasanaethau a phriodoldeb y gwasanaethau a ddarperir ar eu cyfer. Maent wedyn yn gweithredu fel llais y cyhoedd drwy adael i reolwyr y gwasanaethau iechyd wybod beth y mae pobl ei eisiau a sut y gellir gwella pethau. Yn fy marn i, bydd dileu cynghorau iechyd cymuned a sefydlu corff ar gyfer Cymru gyfan ar fodel yr Alban, yn gwanhau atebolrwydd a dylanwad y cyhoedd yn ddifrifol. Bydd yn torri’r cysylltiad hanfodol rhwng pobl leol yn dweud eu barn ynglŷn â’r gwasanaethau a ddarperir gan eu byrddau iechyd lleol. Mae cynghorau iechyd cymuned yn darparu man hygyrch i gleifion, defnyddwyr gwasanaethau a’r cyhoedd allu ymgysylltu â’u gwasanaethau iechyd. Mae hyn yn arbennig o bwysig i gleifion sy’n agored i niwed. Gall cynghorau iechyd cymuned gynrychioli buddiannau cleifion o’r fath pan nad ydynt yn gallu gwneud hynny eu hunain.

Mae perygl i bryderon cymunedau ynghylch y modd y darperir gwasanaethau lleol gael eu distewi drwy gael gwared ar y dull sefydledig ac annibynnol hwn o ymgysylltu a chraffu. Dyma elfen hanfodol ar gyfer gwella gwasanaethau yn y dyfodol o fewn y GIG yng Nghymru. Hefyd, mae diddymu’r cynghorau iechyd cymuned yn debygol o waethygu anallu byrddau iechyd i ddatrys cwynion o fewn y targed presennol o 30 diwrnod gwaith. Ar hyn o bryd, mae bron i hanner y cwynion i fwrdd iechyd Aneurin Bevan yn dal heb eu datrys ar ôl 30 diwrnod gwaith. Ni chaiff fy mhryderon eu lleddfu mewn unrhyw ffordd gan yr esiampl a osodwyd gan Gyngor Iechyd yr Alban, sef y model y mae Llywodraeth Cymru i’w gweld yn meddwl y dylem ei ddilyn. Lleisiodd Pwyllgor Iechyd a Chwaraeon Senedd yr Alban ei bryder yn gynharach eleni. Mae’r pwyllgor hwn yn cael ei gadeirio gan Neil Findlay, Aelod Llafur o Senedd yr Alban. Roeddent yn dweud eu bod yn glir nad oedd Cyngor Iechyd yr Alban, ar ei ffurf bresennol, yn cynrychioli ei hun fel corff annibynnol ar y Llywodraeth.

Mynegwyd pryderon hefyd nad yw swyddogaeth Cyngor Iechyd yr Alban yn amlwg i’r cyhoedd na’r byrddau iechyd. Ymddangosai fel pe na bai ganddo unrhyw rôl ffurfiol o ran ymgysylltu’n uniongyrchol â chleifion a’r cyhoedd a allai gael eu heffeithio gan y newidiadau arfaethedig i’r gwasanaeth. Yn wir, pan ofynnwyd i gynrychiolydd o Gyngor Iechyd yr Alban ynglŷn â phrotestiadau lleol yn erbyn newidiadau i wasanaethau, dywedodd wrth y pwyllgor nad eu rôl oedd ymgyrchu ar ran grwpiau lleol. Nid oes rhyfedd fod y pwyllgor wedi dod i’r casgliad mai ‘bochdew diddannedd’ oedd Cyngor Iechyd yr Alban. Credaf fod yn rhaid inni gadw cynghorau iechyd cymuned gyda rhagor o bwerau a chyfrifoldebau fel y ffordd orau o ddiwallu amcanion Llywodraeth Cymru a nodir yn yr ymgynghoriad hwn. Dirprwy Lywydd, nid yw’r Llywodraeth hon yng Nghymru yn hapus iawn i wneud newidiadau i’r GIG, ond maent yn ddigon hapus i wneud newidiadau i lygaid a chlustiau’r GIG ar ran y cyhoedd, ac eisiau ei newid, ac nid yw hynny’n dderbyniol. Diolch yn fawr iawn.

A gaf fi groesawu’r Papur Gwyn, sy’n mynd i’r afael â sut y dylem ymgysylltu’n well â dinasyddion mewn perthynas â’r modd y darparir gwasanaethau? Rwy’n credu ei bod yn amlwg, po fwyaf y byddwn yn gweithio gyda defnyddwyr gwasanaethau, y mwyaf tebygol yw hi ein bod yn mynd i gael model gwell a llwyddiannus o ddarparu gwasanaethau. Mae profiad diweddar Canolfan Adferiad Gellinudd, er enghraifft, lle mae gan gleifion lais ym mhob dim o bolisi i’r addurniadau, wedi arwain nid yn unig at wasanaeth gwell, ond hefyd at arbedion a ragwelir o £300,000 i’r GIG. Felly, un o’r meysydd yr awgrymir yn y Papur Gwyn hwn ei fod yn aeddfed ar gyfer ei ddiwygio yw’r corff o gynghorau iechyd cymuned a sefydlwyd mewn cymunedau lleol ledled Cymru. Mae’n amlwg mai dyna ble rydym i gyd wedi canolbwyntio ein sylw heddiw.

Rwy’n credu mai’r cynghorau iechyd cymuned eu hunain fyddai’r cyntaf i godi eu dwylo a chytuno bod angen diwygio. Un pwynt amlwg yw’r ffaith fod ganddynt, ar hyn o bryd, hawl i siarad ar ran y cyhoedd mewn perthynas ag iechyd, ond nid mewn perthynas â gofal cymdeithasol. Mae’n amlwg ein bod am weld gwell integreiddio, ac felly dyna enghraifft o ble mae angen i rywbeth newid. Os ydym yn onest, rwy’n credu y byddai’n rhaid i ni gyfaddef, yn gyffredinol, ac yn sicr mewn rhai ardaloedd, nad oes gan aelodau o’r cyhoedd unrhyw syniad fod cynghorau iechyd cymuned yn bodoli i siarad ar eu rhan. Nid oeddwn i wedi clywed amdanynt cyn i mi gael fy ethol i’r Siambr hon y llynedd. Felly, os ydym yn mynd i gael sefydliad sy’n rhoi llais i gleifion—

Nid wyf yn credu mai diffyg chwilfrydedd ydyw. Rwyf wedi bod yn wleidydd etholedig ers amser hir iawn, ac mae’n rhaid i mi ddweud wrthych nad oeddwn i erioed wedi clywed amdanynt. Felly, nid wyf yn meddwl fy mod yn annodweddiadol. Rwy’n credu mai chi yw’r bobl annodweddiadol. Rwy’n meddwl mai’r hyn sy’n bwysig—[Torri ar draws.] Wel, ewch i wneud arolwg brys o bobl ar y stryd, a gallaf ddweud wrthych y byddwn yn synnu’n fawr iawn—. Cynhaliais gyfarfod yn ddiweddar gydag oddeutu 150 o bobl a oedd yn ddig iawn ynglŷn â’r hyn oedd yn digwydd yn eu cymuned leol, ac nid oedd ganddynt hwy unrhyw syniad fod y cynghorau iechyd cymuned yn bodoli. Nid wyf yn dweud bod hyn yn ymwneud â—. Rwy’n dweud eu bod angen adnoddau, weithiau, i ganiatáu iddynt fynd allan i siarad â’r cyhoedd. Felly, mae angen help arnynt o ran cyfathrebu â’r cyhoedd. Nid wyf yn credu bod eu tryloywder a’u hatebolrwydd i’r cyhoedd, a’u gallu i sefyll ar ran y cyhoedd mewn perthynas â’r gwasanaeth iechyd, mor glir ag y gallai fod, o bosibl. Rwy’n credu y dylent gael yr adnoddau priodol, fel bod y cyhoedd yn ymwybodol ohonynt, a’i fod yn gyfrwng iddynt gael dweud eu barn.

Mewn egwyddor, credaf fod arnom angen fforwm ar gyfer rhoi llais i gleifion lleol a gwasanaeth eiriolaeth cwynion annibynnol. Os nad oes gennym system ar gyfer ffeilio cwynion, yn yr oes sydd ohoni ofnaf mai’r hyn yr ydym yn debygol o’i weld yw dadl agored ar gyfryngau cymdeithasol, lle y gallai cleifion gael eu cynhyrfu’n lân a lle y gallai gweithwyr iechyd unigol gael eu difrïo. Dyna’r sefyllfa y credaf fod yn rhaid i ni ei hosgoi ar bob cyfrif. Ond rwy’n credu bod yna elfennau o’r gwaith y mae cynghorau iechyd cymuned yn ei wneud ar hyn o bryd y dylid ei wneud mewn strwythur newydd—neu mewn rôl ehangach ar gyfer cynghorau iechyd cymuned—gyda chynlluniau ac anghenion cleifion Cymru mewn golwg. Rwy’n meddwl bod y berthynas ffurfiol gyda byrddau iechyd lleol yn rhywbeth sy’n rhaid adeiladu arno, ac mae’n anodd dychmygu sut y gallai dull cenedlaethol o weithredu gwasanaeth eiriolaeth i lais dinasyddion weithio’n lleol. Mae gennyf enghreifftiau lle mae CICau yn fy ardal yn cydgynllunio gwasanaethau gyda’r bwrdd iechyd, gan gefnogi newid gwasanaethau, a gweithio gyda phobl drwy gyfathrebu newidiadau i’r modd y darparir gwasanaethau.

Mae gallu CICau i ymyrryd wrth i bobl gael eu triniaeth yn werthfawr iawn hefyd, ac rwy’n credu ei bod yn gwneud synnwyr fod yn rhaid inni geisio newid gwasanaethau er gwell, hyd yn oed wrth i gleifion gael triniaeth, ac er bod ymagwedd ôl-weithredol yn werthfawr, mae’n debygol o danseilio hyder cleifion unigol. Nid yw’r ffaith fod Llywodraeth a byrddau iechyd yn meddwl yn ddaearyddol, mewn llinellau ar fapiau, yn golygu bod cleifion yn gwneud hynny, ac mae’n rhaid i ni gael gwared ar y straen i gleifion o ddeall cyfluniadau iechyd, ac mae hynny’n arbennig o bwysig pan fyddwn yn sôn am rannu gwasanaethau â Lloegr.

Rwy’n credu ei bod yn hynod o ddefnyddiol i gynghorau iechyd cymuned, os ydynt yn anfodlon ag ymateb y bwrdd iechyd, eu bod yn gallu cyfeirio’r penderfyniad hwnnw at Weinidogion Llywodraeth Cymru, ac rwy’n meddwl bod pawb ohonom wedi dysgu bellach nad yw’n bosibl nac yn gywir inni osgoi cyfrifoldeb gwleidyddol. Rwy’n credu mai rhan yn unig o broses ymgynghori go iawn yw hon—rwy’n sicr yn gobeithio hynny. Fy nealltwriaeth i yw nad yw cynghorau iechyd cymuned yn chwilio am ragor o amser i ymgynghori ar y mater hwn, ac er y dylem edrych ar rannau eraill o’r DU i weld arferion gorau ar waith, mae’n bwysig nodi bod model yr Alban, fel y nododd Rhun, wedi wynebu beirniadaeth hefyd. Felly, drwy weithio gyda’i gilydd, rwy’n gobeithio y gall Llywodraeth Cymru, y byrddau iechyd unigol a’r CICau presennol lunio sefydliad sy’n cefnogi cleifion ac yn darparu gwasanaethau iechyd a gofal ardderchog y gall pobl Cymru eu disgwyl ac y dylent eu cael.

Rhaid i mi ddweud, Eluned Morgan, rwy’n gwrando’n astud ar eich dadleuon, ac mae gennych lawer iawn o bethau synhwyrol i’w dweud, ond nid oedd hynny’n un ohonynt. Rwy’n poeni braidd ynglŷn â’ch dadl na ddylai cynghorau iechyd cymuned fodoli a hynny’n unig am nad yw pobl yn ymwybodol ohonynt. Os ydych yn defnyddio—

Wel, fe ddywedoch rywbeth y gellid credu ei fod yn dweud hynny.

Fe ddywedais mewn gwirionedd y dylent gael rhagor o adnoddau.

Fe ddywedoch chi mewn gwirionedd nad oeddech wedi clywed am gynghorau iechyd cymuned ac roedd honno’n ddadl dros iddynt beidio â bodoli. Wel, ar y sail honno, rwy’n meddwl bod yna lawer o fy etholwyr nad ydynt erioed wedi clywed am Gynulliad Cymru, ond nid wyf yn defnyddio hynny fel dadl dros ddiddymu fy hun—wel, ddim hyd yn hyn, beth bynnag, ond mae yna amser o hyd, mae’n debyg.

Edrychwch, nid oes neb—wel, ychydig iawn o bobl beth bynnag, sy’n dweud bod strwythur y cynghorau iechyd cymuned yn berffaith ar hyn o bryd neu na ddylid ei newid. Dim o gwbl; fe ddylid ei newid. Rwy’n credu ein bod i gyd yn derbyn hynny. Mae cynghorau iechyd cymuned, fel y dywedodd Eluned Morgan yn nes ymlaen, yn derbyn hynny hefyd, ond mae angen iddynt gael eu newid er gwell. Nid wyf yn meddwl bod y Llywodraeth wedi llawn werthfawrogi’r gwerth ychwanegol y mae cynghorau iechyd cymuned wedi ei roi i’r GIG yng Nghymru ers eu sefydlu. Ac ni fu proses ymgynghori ddigonol gydag aelodau o gynghorau iechyd cymuned ar fanteision ac anfanteision cymharol eu diddymu. Nawr, fel y dywedwyd, mae ganddynt hawliau statudol o dan y gyfraith i ddwyn byrddau iechyd i gyfrif. Yn allweddol, wrth gwrs, mae gwirfoddolwyr yn ymweld ag ysbytai ac yn monitro gwasanaethau ysbyty ac yn siarad â chleifion a staff mewn ysbytai. Ie, gwirfoddolwyr mewn llawer o achosion, nid arbenigwyr, yn sicr, ond gwirfoddolwyr sy’n cynnig brwdfrydedd, ymroddiad, safbwynt newydd, ac sy’n gallu diosg haenau’r nionyn biwrocrataidd a gweld i graidd materion y bydd biwrocratiaid yn aml yn eu methu.

Nawr, nid oes amheuaeth o gwbl na ddylai’r model newydd, ar ba ffurf bynnag, gadw popeth sy’n dda am y strwythur presennol. Dylai fod gan y sefydliad ddannedd—mae llawer o Aelodau’r Cynulliad yma heddiw wedi siarad am yr angen am hynny. Dylai fod yn annibynnol. Dylai allu dwyn bwrdd iechyd i gyfrif. Dylai fod mor anwleidyddol ag y bo modd, yn dryloyw, a sicrhau bod pobl yn gallu cael eu clywed.

Beth rydym mewn perygl o’i golli? Wel, yn fy marn i, dim llai na goruchwyliaeth y GIG o ddydd i ddydd o safbwynt claf, ac ni ddylid bychanu pwysigrwydd hynny. Sawl gwaith y safwn yn y Siambr hon a siarad gorchest, yn niffyg ymadrodd gwell, am bwysigrwydd gwneud y dinesydd yn ganolog i’r broses o wneud penderfyniadau, boed hynny mewn perthynas â’r gwasanaeth iechyd neu’r system ofal, fel sydd hefyd wedi cael ei grybwyll yn y ddadl heddiw, neu ysgolion, neu ba faes bynnag? Cydgynhyrchu, un o hoff eiriau Mark Isherwood a hoff air ar hyn o bryd ar draws y sbectrwm gwleidyddol—ydy, mae’n ymddangos i mi fod daliadau allweddol cydgynhyrchu yn cael eu bwrw o’r neilltu a’u chwalu pan soniwn am ddyfeisio’r system newydd hon ar gyfer monitro’r GIG a’i ddwyn i gyfrif yn lleol.

Cyfarfûm yn ddiweddar â chyngor iechyd cymuned Aneurin Bevan, fy nghyngor iechyd lleol, a eglurodd i mi rai o’r meysydd y maent yn ymwneud â hwy. Yn aml, buaswn yn cyfaddef fod y meysydd hyn yn eilaidd mewn sawl ffordd yn y cynllun ehangach—yn eilaidd o leiaf i bryderon y rheolwyr, sy’n brysur yn goruchwylio ar yr haen uchaf, ac yn rheoli cyllidebau mawr. Ond maent yn feysydd sydd, i gleifion, yn hynod o bwysig, ac mewn gwirionedd mae modd eu datrys yn eithaf hawdd gydag ychydig o drefn pan geir ffocws clir arnynt. Er enghraifft, amlygodd ymweliadau CIC Aneurin Bevan â wardiau lleol ei bod yn ymddangos bod yna broblem gyda chyflenwadau isel o obenyddion a dillad gwely, yn enwedig ar benwythnosau a gwyliau banc. Cafodd hyn ei ddatrys yn eithaf hawdd mewn gwirionedd, ond heb gynghorau iechyd cymuned yno, ni fyddai llais wedi bod gan gleifion, nac unrhyw ffocws clir ar y mater hwnnw. Gallai cleifion ddal i fod yn gorwedd mewn gwelyau ar benwythnosau neu wyliau banc heb y cynfasau roeddent eu heisiau, ac eto cafodd hyn ei ddatrys, diolch i ymyrraeth y cyngor iechyd cymuned.

Nawr, rwy’n derbyn bod rhai problemau difrifol wedi bod ynghlwm wrth ateb Senedd y DU yn Lloegr, ac mae’n debyg y dylid gadael llonydd i hynny. Ond mae’n rhyfedd a bod yn onest fod Llywodraeth Cymru yn ystyried newid i fodel yr Alban ar gyfer cynrychioli cleifion ar yr union adeg—yr union adeg—y mae’r model hwnnw’n dod yn destun y fath feirniadaeth i’r gogledd o’r ffin. Mae llawer o ACau wedi cyfeirio at y disgrifiad ohono fel bochdew diddannedd. Os nad yw Llywodraeth Cymru yn awyddus i wrando ar y Cynulliad hwn ar fater cynghorau iechyd cymuned, yna o leiaf gwrandewch ar brofiad Llywodraeth yr Alban, sydd bellach yn dysgu’r gwersi ar ôl rhuthro i newid nad oedd yn briodol ac nad yw’n addas at y diben.

Felly, i gloi, Dirprwy Lywydd, wrth i bawb ohonom nodi ugain mlynedd ers i ddatganoli ddod i Gymru, a chreu’r lle hwn, does bosibl nad budd mwyaf y broses hon—nid digwyddiad, fel y soniwyd yn wreiddiol, ond y broses hon—yw’r gallu i wneud ein penderfyniadau lleol ein hunain ynghylch rhannau allweddol o fywydau pobl, a dylai hynny ganiatáu i ni, hyd yn oed ar y cam hwyr hwn, ailystyried y newidiadau arfaethedig i gynghorau iechyd cymuned yng Nghymru a llunio dewis amgen sydd, ydy, yn cofleidio newid, ond ar yr un pryd yn cadw’r egwyddor greiddiol a oedd wrth wraidd sefydlu’r cynghorau iechyd cymuned hynny yn y lle cyntaf—gan roi’r claf yng nghanol y broses ac yng nghanol y GIG mewn gwirionedd. Nid biwrocratiaid, nid byrddau iechyd, nid ffyrdd dogmatig o feddwl—gadewch i ni roi’r claf yn y canol.

Mae’n dda gen i gyfrannu at y ddadl yma achos rydw i yn meddwl bod y cynghorau iechyd cymuned yn gwneud gwaith pwysig. Rydw i wedi siarad â’r ddau ohonyn nhw yn fy rhanbarth i, Hywel Dda a Phowys, ac mae peth o Betsi hefyd, mae’n rhaid dweud, yn dod mewn i’r rhanbarth rydw i yn ei chynrychioli. Rydw i’n gobeithio mynegi yn y ddadl yma ryw fath o ddatblygiad ar y cynghorau iechyd cymunedol sydd yn adeiladu ar y pethau da rydym ni wedi clywed yn y fan hyn: y gallu i arolygu, a’r ddibyniaeth ar wirfoddolwyr, sydd yn wendid ac yn gryfder ar yr un pryd, mae’n rhaid dweud, yn y cynlluniau presennol. Ond rydw i hefyd eisiau adlewyrchu’r ffaith bod y cynghorau iechyd cymunedol wedi bod yn eu lle ers 1974 a heb ddatblygu rhyw lawer ers hynny, mae’n rhaid dweud. Mae yna agweddau henffasiwn iawn am y ffordd y maen nhw’n gweithio. Mae’n rhaid gwella, ac mae’n rhaid dod â nhw i mewn i sefyllfa gyfredol.

Rydw i eisiau gwneud un peth yn benodol, sydd yn wendid yn y papur gan y Llywodraeth ar hyn o bryd, ac yn arbennig yn siarad â thrigolion ym Mhowys—. Nid oes digon—wel, nid oes sôn, a dweud y gwir, ac yn sicr nid oes ystyriaeth, o faterion trawsffiniol, gyda chleifion o Bowys yn cael eu gwasanaethu yn ysbytai yn Lloegr, ond sydd yn gallu cael eu harolygu gan y cyngor cymuned iechyd ym Mhowys. Felly, rydw i eisiau gwneud yn siŵr, ac rwy’n gobeithio y bydd y Gweinidog, wrth gloi y ddadl, yn gallu rhoi sicrwydd, fod y Llywodraeth yn dymuno cadw llais y cleifion yn y gwasanaethau iechyd sydd wedi’u lleoli yn Lloegr ond wrth gwrs sydd yn darparu gwasanaethau ar gyfer cleifion o Gymru.

Wrth imi drafod gyda chynghorau iechyd cymunedol, rydw i wedi gweld awydd ganddyn nhw i ddatblygu, ac maen nhw yn datblygu model amgen. Maen nhw wedi ymateb i’r ymgynghoriad yma gyda’u syniadau eu hunain, ac rydw i’n gobeithio y bydd y Llywodraeth yn gwrando ar hynny. Mae yna rywfaint o drafodaeth wedi bod heddiw ar y sail bod yr ymgynghoriad, a’r cynigion sydd yn yr ymgynghoriad, yn mynd i gael eu gweithredu fel y maen nhw. Rwy’n gobeithio y bydd hwn yn ymgynghoriad ac rwy’n gobeithio y bydd y Llywodraeth yn gwrando ar beth sydd gan y cynghorau iechyd eu hunain i ddweud, achos mae gyda nhw fodel amgen.

Mae’r pethau am roi iechyd a gofal cymunedol at ei gilydd yn rhywbeth i’w groesawu. Mae sicrhau llais y claf yn rhywbeth rwy’n credu y dylem ni ei groesawu. Y cwestiwn yw sut i sicrhau hynny.

Yn gyntaf oll, mae unrhyw batrwm newydd yn gorfod bod yn gwbl annibynnol o’r Llywodraeth—mae hynny’n rhywbeth rwy’n meddwl ei bod yn bwysig ein bod i gyd yn sefyll yn gadarn arno. Ac mae bod yn annibynnol yn golygu bod yn annibynnol o ran strwythur, o ran statws cyfreithiol, ac o ran penodiadau i gynghorau neu’r corff newydd sydd yn disodli’r cynghorau.

Nid wyf yn synhwyro bod y cynghorau eu hunain yn erbyn corff cenedlaethol. Nid ydyn nhw wedi dweud hynny wrthyf fi. Beth maen nhw wedi dweud ydy: beth sy’n bwysig yw bod y llais lleol a’r gynrychiolaeth ranbarthol yn cael eu cadw. Felly, mae yna bosibiliad fan hyn i gael corff cenedlaethol sydd yn gallu uno rhai agweddau sydd yn arbedion, os liciwch chi, o ran biwrocratiaeth ac ati, o ran cyflogaeth, o ran staffio, ond i sicrhau bod y strwythurau cyngor cymuned lleol yn eu lle i adlewyrchu anghenion lleol a llais lleol. Nid wy’n gwybod—nid dyna cweit beth mae’r Llywodraeth yn cynnig, wrth gwrs. Mae hynny’n rhyw fath o gyfaddawd a thrafodaeth sydd angen digwydd. Ond rwy’n agored i wrando ar hynny a gweld beth sy’n digwydd.

Rwy’n meddwl, beth bynnag sy’n digwydd, ei bod yn hynod bwysig bod y bobl leol â’r hawl i fynd ar wardiau, i ymweld â llefydd lle mae gofal ac iechyd yn cael ei wneud, a bod hynny yn cael ei gryfhau, fod digon o gefnogaeth i bobl leyg i allu deall y sefyllfa yna, achos rwy’n meddwl ei bod yn bwysig bod eu statws nhw’n cael eu codi, a phan maen nhw’n ymweld â wardiau ac yn ymweld â sefyllfaoedd eu bod yn cael eu trin â pharch gan y bobl broffesiynol hefyd, a bod felly’r gefnogaeth a’r hyfforddiant a phopeth yn eu lle ar eu cyfer nhw.

Y peth olaf i’w ddweud yw ein bod ni’n gorfod manteisio ar y cyfle yma i ledaenu aelodaeth y cynghorau iechyd cymunedol. Fe ddywedodd Eluned nad oedd hi’n ymwybodol ohonyn nhw. Rwy’n derbyn beth mae’n dweud, wrth gwrs, ond rwyf wedi bod yn ymwybodol ohonyn nhw ers rhai degawdau bellach, mae’n rhaid bod yn onest, ac mae rhai o’r bobl yr oeddwn i’n ymwybodol ohonyn nhw 20 mlynedd yn ôl yn dal ar y cyngor cymuned lleol. Nid wyf cweit yn siŵr ai dyma yw’r ffordd y dylai y rhain ddatblygu er mwyn bod yn gwbl gynrychioladol o’r gymuned y maen nhw’n byw ynddi, ac yn gwbl gynrychioladol o’r bobl sydd bellach yn defnyddio ein gwasanaethau iechyd a gofal ni.

Diolch i’r Ceidwadwyr am gyflwyno’r ddadl heddiw ar bwnc pwysig. Rydym wedi clywed llawer yn barod am y diffygion ym mhroses ymgynghori Llywodraeth Cymru, felly nid wyf am fynd ar ôl hynny, ond yn hytrach am y newidiadau y maent yn eu hargymell yn eu Papur Gwyn.

Nawr, mae ‘Gwasanaethau sy’n addas i’r dyfodol’, y Papur Gwyn, yn cydnabod yr angen am yr hyn y mae’n ei alw’n llais cryf y dinesydd yn y modd y mae iechyd a gofal cymdeithasol yn cael eu cynllunio a’u darparu. Maent hefyd yn awyddus i wella’r fframwaith cyfreithiol ar gyfer arolygu a rheoleiddio gwasanaethau iechyd ac maent yn awyddus i sefydlu corff annibynnol newydd ar gyfer rhoi llais i gleifion a rheoleiddio ac arolygu.

Yn anffodus, nid yw llais y dinesydd fel y’i gelwir yn cael ei ddisgrifio’n fanwl yn y Papur Gwyn. Nid oes unrhyw beth ynglŷn â sut y bydd yr aelodau’n cael eu recriwtio. Nid oes unrhyw beth am adnoddau i’r sefydliad newydd. Yr unig beth y gallwn ei weld yn glir yw bod llais y dinesydd wedi ei gynllunio i ddisodli’r system bresennol a adeiladwyd o gwmpas cynghorau iechyd cymuned, neu CICau.

Mae’r Papur Gwyn yn defnyddio’r ymadrodd ffasiynol ar hyn o bryd, sef cydgynhyrchu. Fodd bynnag, nid yw’n manylu llawer ynglŷn â beth fydd cynnwys yr hyn a elwir yn gydgynhyrchu mewn gwirionedd. Os awn yn ôl at Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol Llywodraeth Cymru ei hun yn 2014, mae’r codau ymarfer yn y Ddeddf hon yn rhoi canllawiau manwl i ni mewn gwirionedd ar sut i gyflawni llesiant wedi’i gydgynhyrchu. Mae hyn yn cynnwys hyrwyddo mudiadau a arweinir gan ddefnyddwyr sy’n ychwanegu gwerth cymdeithasol. Wel, mae’r CICau, sydd â’u haelodaeth yn cynnwys elfen gref o wirfoddolwyr yn sicr yn enghraifft dda o sefydliad a arweinir gan ddefnyddwyr. Dylai’r syniad o gydgynhyrchu gynnwys cyrff fel y cynghorau iechyd cymuned, yn hytrach na chael ei ddefnyddio fel ffurf amwys ar eiriau i helpu i gael gwared arnynt.

Felly, pam y mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i gael gwared ar y cynghorau iechyd cymuned? Wel, mae Cwmnïau Cydweithredol a Chydfuddiannol Cymru, sefydliad pwysig yn y trydydd sector, yn credu bod gan Lywodraeth Cymru broblem gydag i ba raddau y mae’r byrddau iechyd yn argymell newidiadau sylweddol weithiau, sydd wedyn yn cael eu herio gan y CICau. Er bod newidiadau arfaethedig y Llywodraeth braidd yn annelwig, credir yn gyffredinol y byddai’r corff newydd o dan y system newydd, yn allweddol, yn colli llawer o bwerau’r CICau. Nid yw’n glir a fyddai’r sefydliad newydd yn meddu ar unrhyw hawliau yng nghyfarfodydd y bwrdd iechyd, er enghraifft. Amheuir yn eang hefyd na fyddai ganddo’r pŵer sydd gan y cynghorau iechyd cymuned, y soniwyd wrthym amdanynt heddiw, i fynd ar safle a’i archwilio ar gyfer cynnal hapwiriadau. Mae’r pwerau hyn yn hollbwysig er mwyn deall sut y mae’r GIG yn gweithio mewn un ardal leol. Rhaid i unrhyw gorff newydd, os yw i gael rôl ystyrlon, gael ei ganiatáu i ymweld â safleoedd y GIG a’u harchwilio, i siarad â chleifion yno, ac yna i allu cysylltu â’r cleifion a’r cyn-gleifion unwaith eto, er mwyn helpu i sefydlu a wnaed gwelliannau o ganlyniad i ymyrraeth y corff hwnnw.

Mae angen inni gofio bod model cynghorau iechyd cymuned yn craffu ar waith y GIG wedi dod i fodolaeth ar ôl sgandal Ysbyty Trelái yng Nghaerdydd yn gynnar yn y 1970au. Daeth y system a fabwysiadwyd ar draws y DU ar y pryd i fodolaeth ar ôl sgandal, mewn geiriau eraill, a effeithiodd ar ein hardal leol ni ein hunain. Os ydym am osgoi sgandalau yn y dyfodol—a gadewch inni beidio ag anghofio ein bod yn dal yn y broses o wella wedi sgandal Tawel Fan—yna mae angen inni gadw at rai egwyddorion gweithredu a chraffu clir.

Dylid gwneud penderfyniadau mor agos ag y bo modd at y bobl sy’n defnyddio’r gwasanaethau. Dylid sefydlu blaenoriaethau lleol yn unol ag anghenion lleol. Dylid cael llinellau atebolrwydd clir, ac mae angen i wirfoddolwyr fod yn gwbl greiddiol i’r corff craffu. Bydd gan wirfoddolwyr wahanol sgiliau a byddant yn cyfrannu mewn gwahanol ffyrdd. Mae’n rhaid i unrhyw gorff newydd fod yn rhydd i benderfynu sut y mae’n recriwtio ei wirfoddolwyr ei hun. Cawn ein gadael yn gyfan gwbl yn y tywyllwch gan Bapur Gwyn Llywodraeth Cymru ynglŷn ag i ba raddau y mae’r egwyddorion hyn yn mynd i gael eu cynnal yn y model newydd. Rydym ni yn UKIP, felly, yn cefnogi cynnig y Ceidwadwyr heddiw ac yn annog Llywodraeth Cymru i ymgynghori ymhellach, ac yn fwy agored, cyn mabwysiadu unrhyw fodel newydd. Rydym hefyd yn cefnogi gwelliant Plaid Cymru.

Un agwedd sy’n peri pryder mewn perthynas â datganoli yw bod gennym bellach bedwar model gwahanol o graffu gan ddefnyddiwr ar y GIG ym mhedwar rhanbarth gwahanol y DU. Er y gallai’r rhai sy’n frwd dros ddatganoli ddadlau bod hyn yn fynegiant i’w groesawu o’r modd y mae gwahanol ranbarthau yn mynd eu ffordd eu hunain, buaswn yn dadlau i’r gwrthwyneb, fod gennym wasanaeth iechyd gwladol, nid un rhanbarthol, ac y dylai weithredu yn yr un ffordd yn fras ar draws y DU. Ni ddylai’r ffordd y caiff cleifion eu trin a’r ffordd y gall defnyddwyr graffu ar waith y GIG fod yn wahanol iawn ar draws y gwahanol ranbarthau, neu byddwn yn raddol yn colli unrhyw synnwyr ei fod yn wasanaeth cenedlaethol o gwbl. Diolch.

Rydw i’n hapus am y cyfle i gyfrannu heddiw.

I’m pleased to take part in this debate this afternoon. I’m going to focus my remarks on the important role that community health councils play, but I particularly want to talk about Powys CHC in particular. I have to say, as a constituency AM, I’m in regular contact with the chair of my local CHC, and it was good to meet as well with a lot of the CHC members in Berriew show last month, where we had a good discussion about the White Paper. Now, during First Minister’s questions yesterday, I noted the concern that the White Paper does not contain any recognition of the specific complexities of cross-border services, apart from, of course, the other issues of the important scrutiny role that CHCs play. Now, there is a real fear that unless these changes are reflected, the patient’s voice and the scrutiny of health services for the people of Powys—who largely, of course, access services, don’t forget, from across the border in England—will be severely diluted.

Yesterday, I was pleased that the First Minister confirmed that the Welsh Government would carefully look at the consultation responses from Powys community health council and ensure that a consensus would be reached. That was welcomed to hear. But it is essential, certainly in my view, that we maintain a situation where community health councils have statutory rights to act as effective, independent advocates for patients in a cross-border setting in particular. This is all the more important for constituents of mine because of the changes that are happening in Shropshire in regard to the NHS Future Fit programme. I hope the Cabinet Secretary’s listening to this next point that Powys community health council represents the eyes and ears of patients of over 60 boards and committees of service providers providing health services amounting to over £120 million, including £22 million alone from the Shrewsbury and Telford Hospital NHS Trust. At present, there is no clarity in the White Paper as to who would fulfil the important scrutiny role on behalf of patients in the absence of community health councils.

Others have mentioned the experience of Scotland’s model of patient representation there, so I won’t go into that and talk about toothless hamsters, et cetera, but there is a fear that unless CHCs are afforded a statutory role, they will have no teeth to be a powerful advocate for the patient, consigning patients to shouting from the sidelines, of course, rather than being an integral part of the decision-making process. Of course, I listened to Eluned Morgan. What I would say is that many of my constituents know about CHCs because they’re referred; my office receives referrals from CHCs for particular kinds of casework. And often, my office refers constituents to the CHC, so if they’re not aware of the CHC, they soon are by the time they leave my office.

The final point I would make is that very often—we all know this as AMs—very often when an organisation is faced with being scrapped, that organisation campaigns heavily to us. But what I would say is that in speaking to my own health CHC, what they’re saying is that they’re accepting change. That’s accepted and that’s understood, and there’s no sense of there should be no change happening at all. So, I would say today that I’m encouraged that Members from across a number of political parties are supporting the Conservative motion today. I hope all Members will do, because I think it’s important that the citizen’s voice is strengthened rather than weakened.

Diolch i chi, a galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, Vaughan Gething.

Hoffwn ddiolch i’r Aelodau am eu cyfraniadau a’r cyfle i ymateb i’r ddadl heddiw. Mae’n werth ystyried bod y Papur Gwyn sy’n cael ei grybwyll wrth basio yn nodi cyfres o argymhellion amrywiol ar gyfer datblygu gwasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru mewn gwirionedd, gan mai ein nod yw gosod pobl yn y canol ym mhob dim a wnawn, a galluogi sefydliadau i weithio’n well gyda’i gilydd ar draws ffiniau.

Cawsom beth o’r sgwrs hon ddoe, wrth gwrs, yn y ddadl ar yr adolygiad seneddol. Dyma ran gyson o ddull y Llywodraeth o weithredu: mae’r dinesydd, yr unigolyn yn ganolog i’r ffordd y mae gwasanaethau iechyd a gofal yn gweithio, yn cael eu cynllunio a’u darparu. Ceir cytundeb eang fod angen i systemau iechyd a gofal yma yng Nghymru weithio mewn ffordd wahanol i ddarparu’r gwasanaethau hynny a’r mathau o ganlyniadau y mae pobl ar draws Cymru i gyd am eu gweld. Dyna pam y mae’r Papur Gwyn yn edrych ar ddull system gyfan ac yn argymell pecyn o fesurau i gefnogi integreiddio agosach. Maent yn cynnwys argymhellion ar gyfansoddiad byrddau iechyd, sy’n ffactor allweddol yn y ffordd y gweithredir sefydliadau a sut y gwneir penderfyniadau; syniadau newydd pwysig ynghylch ansawdd a gonestrwydd i fod yn sail i ddiwylliant o gynllunio, cydweithio, a bod yn agored a thryloyw; meysydd lle gellid cydgysylltu iechyd a gofal cymdeithasol yn llawer mwy effeithiol, megis wrth osod safonau cyffredinol lefel uchel ar gyfer ymdrin â chwynion—rhywbeth y mae’r ombwdsmon wedi galw amdano yn y gorffennol; ymgysylltiad parhaus a gwneud penderfyniadau ar newid gwasanaeth, nid fel digwyddiad un tro ond fel proses barhaus i ymgysylltu â’r cyhoedd; ac wrth gwrs, rheoleiddio ac arolygu, gan gynnwys cydlyniad ac annibyniaeth yr arolygiaeth bresennol. Ac yn bwysig, wrth gwrs, mae mesurau i gryfhau llais y dinesydd yn elfen hanfodol o’r gwaith o gyflawni hyn. Dyna beth y mae’r Llywodraeth am ei wneud—cryfhau, nid gwanhau, llais y dinesydd.

Fel gyda phopeth, mae angen i ni edrych ar yr hyn y dylem adeiladu arno, yr hyn sydd wedi gweithio’n dda a deall beth sydd heb weithio’n dda, a dysgu o brofiadau mewn mannau eraill. Fel y gŵyr yr Aelodau, cafwyd hanes hir o alwadau am ddiwygio cynghorau iechyd cymuned. Cyfeiriwyd at adolygiad yr Athro Marcus Longley yn 2012, a gwnaeth hwnnw argymhellion i wella ein system bresennol, yn ogystal â thynnu sylw at yr angen i feddwl yn wahanol am y dyfodol. Nid yn unig ei fod wedi argymell hynny, ond rydym wedi gweithredu cyn belled ag y bo modd yr hyn y gallwn ei wneud o adolygiad Longley o fewn ein system bresennol.

Roedd adroddiad interim yr adolygiad seneddol, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf, ac a drafodwyd gennym ddoe, yn nodi y gellid cryfhau llais y cyhoedd yng Nghymru drwy ddiwygio’r trefniadau presennol. Ac eto, dyna y mae’r Llywodraeth yn argymell ei wneud, ac mae’n ddiddorol fod y ddadl yn nodi mai cael gwared ar gyrff a chael gwared ar lais y bobl y mae’r Llywodraeth eisiau ei wneud, sef yr union beth nad ydym yn argymell ei wneud; rydym yn argymell ffordd wahanol a diwygio’r broses. Mae aelodau ym mhob rhan wedi dweud eu bod yn cydnabod bod yna achos dros ddiwygio, gan fod llawer wedi newid ers cyflwyno’r CICau yn y 1970au ac ni ddylem esgus y gallwn barhau i weithredu’r un system gan ein bod yn cydnabod y newidiadau y mae pawb ohonom yn dymuno eu gweld yn cael eu gwneud ar draws iechyd a gofal.

Yn gynyddol, wrth gwrs, mae gwasanaethau iechyd a gofal yn cael eu hintegreiddio. Felly, dylai unrhyw gorff sydd ar waith i gynrychioli llais y dinesydd gael ei sefydlu i gydnabod ac ymateb i’r newid hwnnw. Ni allwn gael llais newydd i’r dinesydd sy’n mynd ar draws iechyd a gofal cymdeithasol heb gael deddfwriaeth sylfaenol i gyflawni hynny. Felly, mae angen diwygio’n sylfaenol y ffordd y mae’r corff sy’n rhoi llais i’r dinesydd yn gweithio. Dyna pam mai amcanion sylfaenol y Papur Gwyn yw datblygu argymhellion sy’n addas i’r dyfodol ac i ystyried o ddifrif yr integreiddio cynyddol a welwn yn awr ac y disgwyliwn ei weld yn y dyfodol.

Mae’r argymhellion i ddiwygio CIC yn rhan o becyn a ddisgrifiais, ac os caiff ei roi mewn grym, credaf y bydd yn gwella ansawdd ac yn gosod y dinesydd yng nghanol y gwaith o gynllunio a darparu iechyd a gofal cymdeithasol.

Hoffwn sôn am y papur ‘addas i’r dyfodol’ yn gyffredinol. Rydych yn siarad am y ffaith ei fod yn dwyn popeth at ei gilydd a’i fod yn mynd i gyflwyno dull newydd o lywodraethu ac yn y blaen. Felly, a allwch ddweud wrthyf, Ysgrifennydd y Cabinet, pam nad yw ond yn sôn un waith am y byrddau partneriaeth rhanbarthol a pham nad oes unrhyw sôn o gwbl ynglŷn â sut y dylid llywodraethu clystyrau meddygon teulu?

Am fod gennym, ar fyrddau partneriaeth rhanbarthol, bensaernïaeth rydym yn ei datblygu ac yn gweithio gyda hi. Maent yn rhan o’r cylch gwaith o ddwyn ynghyd ein gwasanaethau cyhoeddus mwy o faint gyda phartneriaid i gyflawni ar draws iechyd a gofal cymdeithasol—wel, y Ddeddf gofal cymdeithasol a llesiant. O ran llywodraethu clystyrau, mae yna gyfleoedd i ystyried hynny wrth inni fynd drwy hyn, gan nad oes gennym farn sefydlog ar sut i ddatrys rhai o’r heriau llywodraethu.

Mae hwn yn gyfle i fanteisio ar y ddadl a ddechreuwyd yn y Papur Gwyrdd yn 2015. Mae yna gysylltiadau clir rhwng diwygio’r CICau a diwygio gwasanaethau ar draws iechyd a gofal cymdeithasol, ac mae’r cynigion hyn yn anelu i ddibynnu ar gymorth rheoleiddio ac arolygu. Maent yn cael eu datblygu gyda’i gilydd er mwyn sicrhau cymaint o fanteision â phosibl i’r cyhoedd yn gyffredinol. Dyna pam y mae’r Papur Gwyn yn amlinellu cynigion ar gyfer corff cenedlaethol ac annibynnol newydd i gymryd lle CICau. Ac mewn gwirionedd mae yna bwynt i’w nodi yno, rwy’n meddwl: mewn sawl rhan o’r ddadl heddiw cafwyd awgrym na fydd y corff hwn yn annibynnol mwyach ac unwaith eto, nid dyna mae’r Llywodraeth yn ei argymell yn yr ymgynghoriad ar y Papur Gwyn. A bydd y corff newydd yn ymgysylltu ar lefel genedlaethol, ranbarthol a lleol ar draws iechyd a gofal cymdeithasol. Mae’r argymhellion yn rhai lefel uchel oherwydd bod yn rhaid i mi sicrhau cydbwysedd am mai ymgynghoriad ar gynigion Papur Gwyn yw hwn yn hytrach na deddfwriaeth fanwl.

Wrth gwrs, mae’r ymgynghoriad wedi cynhyrchu llawer o drafod—dros 700 o ymatebion i’r ymgynghoriad wedi’u derbyn yn barod cyn cau’r ymgynghoriad ar 29 Medi. Ac unwaith eto, rwy’n anghytuno â’r sylwadau a wnaed bod hwn rywsut yn ffug a’i fod yn cael ei wthio drwodd ar ruthr. Mae hwn yn ymgynghoriad go iawn. Nid oedd gennyf farn sefydlog ar sut y dylai corff cenedlaethol newydd edrych a swnio, neu sut y dylid ei drefnu, ond rwy’n credu bod angen inni barhau’r ddadl a ddechreuodd yn 2015. Fel gydag unrhyw ymgynghoriad, bydd y camau nesaf yn ystyried y syniadau adeiladol a gynhyrchwyd drwy’r ymgynghoriad ac yn bwysig, byddwn yn gweithio mewn partneriaeth â rhanddeiliaid i wneud hynny.

Nid wyf yn cydnabod y cyhuddiadau a wnaed ein bod wedi gwahardd CICau rywsut neu na chawsant wybod beth fyddai’n digwydd o fewn y Papur Gwyn, neu na fyddent yn cymryd unrhyw ran ynddo er eu bod wedi cael sicrwydd. Nid yw hynny’n wir o gwbl. Ond rwy’n falch o weld bod y CICau eu hunain wedi ystyried y Papur Gwyn a’u bod wedi nodi hynny yn eu papur eu hunain ar eu hargymhellion ar gyfer corff newydd i roi llais i bobl ar faterion iechyd a gofal cymdeithasol. Deallaf fod hwnnw wedi ei rannu gyda’r holl Aelodau. Ac yn bwysig, nid yw cynghorau iechyd cymuned yn gofyn am gyfnod ymgynghori estynedig. Maent hefyd yn cydnabod y dylai’r gwaith o arolygu safleoedd newid. Maent yn galw am sicrhau eu bod yn cael cyfle i ymweld â mannau lle mae gofalu’n digwydd, ond nid ydynt am gyflawni swyddogaeth arolygu. Maent hwy eu hunain yn cydnabod mai corff arbenigol annibynnol ddylai wneud hynny, ac yn sicr nid ydynt yn galw am ddyblygu bwriadol y clywsom un Aelod yn y Siambr yn sôn amdano heddiw. Rwy’n falch o ddweud fy mod yn credu bod eu cynigion yn adeiladol ar y cyfan. Nid ydynt i gyd yn cyd-fynd â’r hyn a nodwyd yn y Papur Gwyn; dyna yw pwynt cael ymgynghoriad. Felly, mae llawer o dir cyffredin rhyngom, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda hwy drwy’r cynigion hynny yn y dyfodol. Maent hwy eu hunain yn cydnabod y cyfle a roddir gan y Papur Gwyn i ddiwygio a sicrhau newid cadarnhaol.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Felly, mae corff i roi llais newydd i bobl ar faterion iechyd a gofal yn galw am ddeddfwriaeth sylfaenol. Fodd bynnag, rwy’n credu o ddifrif y bydd yn annibynnol, y bydd eiriolaeth cwynion yn rhan o’i swyddogaethau canolog fel y mae’r Papur Gwyn yn ei nodi, ac wrth gwrs, rwy’n disgwyl cyfranogiad lleol a rhanbarthol yn y corff newydd a bydd, fe fydd yn gallu ymdrin â materion trawsffiniol. A nodaf yr hyn y mae cadeirydd y—[Torri ar draws.] Ni fydd gennyf amser, mae angen i mi orffen. Mae’r llythyr agored a anfonwyd at arweinwyr y pleidiau gan gadeirydd bwrdd y CIC yn nodi’r hyn y maent yn ystyried y byddai’r cyhoedd yn hoffi ei weld mewn corff i roi llais i’r dinesydd, ac rwy’n cytuno â’i datganiad y dylai diwedd yr ymgynghoriad fod yn ddechrau ar y broses hon, ac nid yn ddiwedd. Gwn y gall pobl ofni newid, ac rwy’n sylweddoli bod rhai pryderon wedi cael eu mynegi, ond rwy’n glir fod mecanwaith effeithiol i sicrhau bod llais y dinesydd yn cael ei gynrychioli yn rhan allweddol, ac yn rhan o lwyddiant cyffredinol y trefniadau newydd rydym yn eu cynnig. Wrth gwrs, byddwn yn ceisio adeiladu ar brofiadau yn Lloegr, yr Alban a mannau eraill wrth benderfynu sut i symud ymlaen. Ond nid oes unrhyw awgrym, ac ni fu erioed unrhyw awgrym, y byddem yn mynd ati’n syml i ailadrodd model Cyngor Iechyd yr Alban. Rydym yn awyddus i feddwl am yr hyn sy’n gweithio a’r hyn nad yw’n gweithio mewn rhannau eraill o’r DU ac i ddysgu o hynny’n gyffredinol ac i adeiladu ar arferion da. Felly, dylid gweld y Papur Gwyn am yr hyn ydyw: cyfle i gryfhau llais dinasyddion ar draws gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol sy’n integreiddio’n gynyddol, ac i ddatblygu model sy’n gweithio i Gymru yn y presennol ac yn y dyfodol.

Diolch, Llywydd. Nid wyf yn ofni newid ac i fod yn deg, nid wyf yn credu bod yr holl bobl a gymerodd ran yn y ddadl hon, yn ddieithriad, yn arbennig o ofnus o newid. Rwy’n credu bod pawb wedi cydnabod y ffaith fod angen i’r CICau newid mewn rhyw ffordd neu’i gilydd. Fodd bynnag, Ysgrifennydd y Cabinet, nid yw eich ystrydebau sydd wedi’u modiwleiddio’n ofalus yn tawelu fy meddwl, oherwydd, gadewch i ni fod yn glir iawn, mae’r ddogfennaeth ‘addas i’r dyfodol’ wedi cael ei gwthio drwodd ar ruthr. Rwy’n credu bod Rhun ap Iorwerth wedi defnyddio ffordd wych o sôn amdani fel ‘sgrialfa’, rwy’n credu. Ac yn sicr, mae wedi cael ei sgrialu.

Gadewch i ni ddechrau yn y dechrau’n deg. Ddoe, cawsom gyfarfod yma i siarad am yr adroddiad interim ar yr adolygiad seneddol, a siaradodd pawb ohonom ynglŷn â’r modd y mae un o’r themâu allweddol y maent yn eu cyflwyno, sef ymgysylltiad y dinesydd, yn ymwneud â gwneud i bob un ohonom gamu ymlaen a chymryd perchnogaeth ar ein hiechyd, rhoi’r gorau i greu cymaint o alwadau ar y gwasanaeth iechyd, derbyn ein cyfrifoldebau a siapio a dylanwadu ar yr ateb i’r problemau sydd gennym ar hyn o bryd, a dod yn rhan o’r ateb hwnnw. Ac eto, y papur ‘addas i’r dyfodol’ hwn a gyflwynwyd gennych tra’n bod yn dal i wneud yr adroddiad interim a’r adroddiad llawn ar yr adolygiad seneddol—felly, i mi, dyna’r gwrthddywediad cyntaf. Pam gwneud hyn yn awr? Pam na allwn aros tan yr adroddiad terfynol, am ei fod mor annatod i’r ffordd y symudwn ymlaen gyda’n GIG? Felly, mae gennym yr adolygiad seneddol, mae gennym yr ymgynghoriad hwn yn dod allan, rydym yn sôn am y dinesydd yn ganolog iddo, ac eto mae’r papur ‘addas i’r dyfodol’ hwn yn camu’n ôl rywfaint.

Rwy’n derbyn bod angen i’r CICau newid. Rwy’n derbyn y dylai fod ganddynt gylch gwaith ehangach a gwell. Rwy’n derbyn y dylai fod ganddynt adnoddau gwell, ac nid adnoddau gwell yn unig, gan fod y rhan fwyaf o’r bobl ar y cynghorau iechyd cymuned yn wirfoddolwyr lleol angerddol, sy’n malio, ac rwy’n meddwl bod Mohammad Asghar wedi gwneud pwynt da iawn pan soniodd yn faith am yr ardal leol, oherwydd gyda’r ewyllys gorau yn y byd nid yw AGIC wedi eu lleoli, wyddoch chi, yn fy rhan fach i o Sir Benfro, fy rhan fach i o Sir Gaerfyrddin, eich rhan fach chi o Ynys Môn. Maent yn gorff canolog. Rydym yn awyddus i gael pobl leol sy’n gallu dwyn ein byrddau iechyd lleol i gyfrif, ac nid eu dwyn i gyfrif yn unig, ond dylanwadu arnynt, eu helpu i newid, gwneud awgrymiadau—cyflwynodd Nick Ramsay sylwadau ynglŷn â sut y cafodd problemau gyda chyflenwadau dillad gwely eu datrys yn sgil ymwneud y cyngor iechyd cymuned. Felly, dyma ni, yn dweud ein bod am gael y claf, y dinesydd, llais pobl wedi’i integreiddio go iawn, ac eto rydych yn cau’r drws hwnnw. Felly, dyna fy nghwyn gyntaf.

Fy ail gŵyn, fodd bynnag, yn fwy hyd yn oed, yw bod y Llywodraeth hon yn gwneud digon o ymgynghoriadau bob blwyddyn, felly dylech fod yn wirioneddol dda am eu gwneud bellach. Rwtsh llwyr yw’r ymgynghoriad hwn. Mae’n rhy gyflym, mae wedi cael ei adael tan y funud olaf, ni cheir yr holl leoedd, y cyfarfodydd na’r grwpiau ffocws a addawyd a’r cyfan arall. Rydych yn dweud yn falch iawn eich bod wedi cael 700 o ymatebion, ond mewn gwirionedd, y bobl gyffredin, y bobl y mae Eluned Morgan yn dweud nad ydynt yn gwybod unrhyw beth am gynghorau iechyd cymuned, ble mae eu llais hwy yn hyn? Pam na ofynnwyd iddynt hwy yn ei gylch? Mae hyn yn wirioneddol bwysig. Dywedodd Mark Isherwood yn glir iawn fod y cynghorau iechyd cymuned yn dweud y byddent yn hoffi ychydig mwy o amser.

Nid oes neb yma’n ofni newid. Gadewch i ni gael rhywfaint o newid, ond gadewch iddo fod yn newid cywir, ac yn anad dim, gadewch i ni wynebu’r gwir. Gweinidog—Ysgrifennydd y Cabinet, maddeuwch i mi. Rydych yn siarad digon, mae’n rhaid i chi weithredu. Ymgysylltwch â phobl Cymru a’u gwneud yn ganolog i hyn. Nid yw’r cyngor iechyd cymuned yn perthyn i chi. Nid yw’n perthyn i’r bwrdd iechyd. Mae’n perthyn i bobl yr ardal y mae’n ei chynrychioli. Dyna yw eu hunig lais da sy’n perthyn iddynt hwy go iawn. Ar hyn o bryd, mae cyfle iddo fod yn uchel, yn gryf ac yn rymus, ac os nad ydych yn ddigon dewr ac nad ydych yn ei gefnogi mewn gwirionedd, rydych yn mynd i’w wneud yn llais bach gwan a’r bobl fydd yn dioddef—y bobl y mae pawb ohonom i fod i’w cynrychioli.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais, felly, ar yr eitem tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

7. 7. Dadl Plaid Cymru: Uwch Garchardai

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Paul Davies.

Yr eitem nesaf yw dadl Plaid Cymru ar uwch garchardai. Galwaf ar Bethan Jenkins i wneud y cynnig.

Cynnig NDM6506 Rhun ap Iorwerth

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wrthwynebu adeiladu uwch garchar ym Mhort Talbot.

2. Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i:

a) beidio â gwerthu neu ryddhau tir Llywodraeth Cymru at ddibenion adeiladu'r uwch garchar arfaethedig;

b) datblygu'r economi leol drwy gefnogi busnesau yn y parc diwydiannol; ac

c) gwneud sylwadau i Lywodraeth y DU yn cefnogi'r dewisiadau amgen i garchardai mawr.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch. Ers y cyhoeddiad am y Titan mawr newydd neu’r uwch garchar yn ôl ym mis Mawrth eleni, mae wedi dychryn pobl ar draws y cymunedau rwy’n eu cynrychioli ym Mhort Talbot a’r ardal ehangach hefyd. Mae wedi grymuso croestoriad eang o’r gymuned ac wedi arwain at ymdrech drawsbleidiol go iawn ym Mhort Talbot i ddweud ‘na’ wrth y carchar hwn. Mae wedi arwain at bobl yn cymryd rhan mewn democratiaeth er na wnaethant hynny erioed o’r blaen, ac rwy’n falch o allu cael y ddadl hon heddiw er mwyn i ni amlinellu pam y credaf y dylai holl Aelodau’r Cynulliad hwn ymuno â’r rheini ohonom sy’n ymgyrchu yn erbyn y carchar hwn drwy ddweud ‘na’—nid yn unig yma, ond yn unrhyw le yng Nghymru.

Ceir llu o resymau pam y dylem wrthod y cynllun hwn. Maent yn amrywio o broblemau gyda’r safle ei hun i bryderon ehangach ynglŷn â sut yr hoffem i’n system droseddol fod. Beth rydym ei eisiau o wariant Llywodraeth yn ein cymunedau? Nid yw’r ffaith ein bod wedi cael cynnig ‘buddsoddiad’ gan y Llywodraeth yn golygu mai dyma’r math cywir o fuddsoddiad ar gyfer ein cymuned. Mae’r safle arfaethedig ei hun ar Rosydd Baglan ym Mhort Talbot, yn broblemus tu hwnt. Mae’n gorwedd mewn parth risg llifogydd, ac yn unol â pholisïau datblygu nodyn cyngor technegol 15 Llywodraeth Cymru ei hun, ni ddylai fod unrhyw adeilad o faint y carchar hwn ar y tir dan sylw. Ni fydd yn gwneud dim i helpu datblygu cynaliadwy a gwella’r ardal, ac felly dylid ei osgoi. Deallaf fod dynodiad y tir hwn wedi’i newid o ddynodiad risg llifogydd C2 i barth C1, felly efallai y gallai Ysgrifennydd y Cabinet egluro’r rhesymau dros y newidiadau hyn.

Mae’r safle yng nghanol parc diwydiannol Baglan, rhan o’r ardal fenter, wedi’i glustnodi’n glir ar gyfer datblygu menter. Ni fydd y carchar yn adeiladu ar botensial entrepreneuraidd yr ardal, ac mae un cyflogwr lleol mawr ym maes gweithgynhyrchu uwch wedi dweud y bydd yn ystyried yn ddwys a ddylai adael yr ardal os yw’r carchar yn mynd yn ei flaen.

Mae angen i ni gael atebion i gwestiynau ynglŷn â’r hyn rydym i fod i’w wneud ynglŷn â charcharorion sy’n cael eu rhyddhau ar brawf ac i mewn i’r gymuned. Cyn belled ag y gallwn weld o lythyr a anfonwyd at yr AS dros yr ardal, dyna’n benodol pam y dewiswyd Port Talbot fel safle, yn hytrach na safleoedd eraill yng Nghymru.

Mae hefyd yn werth nodi bod Llywodraeth Cymru wedi pasio’r Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) er mwyn sicrhau datblygu cynaliadwy, sydd, yn y bôn, i fod i bwysleisio datblygiadau sy’n fuddiol i lesiant hirdymor cymunedau lleol. Rwy’n methu gweld sut nad yw adeiladu’r carchar hwn yn mynd yn groes i’r ddeddfwriaeth honno. Rydym yn sôn, ymhlith pethau eraill, am adeiladu carchar yn y parth risg llifogydd mewn ward lle mae 42 y cant o gartrefi’n wynebu perygl yn barod.

Mae’r carchar hefyd, i fy mhlaid i o leiaf, wedi dod yn symptom o fethiant polisi cyfiawnder troseddol y DU: y methiant i newid llwybr a chanolbwyntio ar adsefydlu priodol gyda’r nod o gadw’r rhai nad oes angen iddynt fynd i’r carchar allan o garchar. Yn lle hynny, nod rhaglen yr uwch garchar yw ymdrin â chymaint o droseddwyr â phosibl yn y ffordd rataf sy’n bosibl: rhoi carchardai ar gontract allanol i gontractwyr preifat lle mae cymhelliant ariannol wedyn i’r cwmnïau hynny weithio yn erbyn lleihau poblogaeth y carchardai. Mae Llywodraeth y DU yn dechrau mynd ar hyd y ffordd y mae’r Unol Daleithiau yn ei theithio ac o bosib yn creu problem y bydd yn anodd iawn cael gwared arni yn y dyfodol: dechreuad cymhlyg carchar diwydiannol bach y DU ei hun.

Cefais fy nghalonogi gan natur drawsbleidiol y gwrthwynebiad i’r carchar ym Mhort Talbot, ond—ac mae yna ‘ond’—mae angen i Lywodraeth Cymru gyfaddef beth yw ei safbwynt ar y carchar, oherwydd yr hyn sy’n peri dryswch go iawn yw bod Llywodraeth Cymru Lafur, sydd i fod wedi ymrwymo i ddelfrydau cyfiawnder cymdeithasol, yn rhoi unrhyw gefnogaeth i hyn.

Mae angen inni ystyried hefyd pa fath o neges economaidd y mae hyn yn ei rhoi. Mae Llywodraeth Cymru yn fodlon i Gymru, ydy, i fewnforio carcharorion o rannau eraill o’r DU pan nad oes angen y lleoedd ychwanegol hynny yma yng Nghymru. Mae’r Gweinidog, Ysgrifennydd y Cabinet, yn ysgwyd ei ben, ac os yw’n dymuno ymyrryd, yna, wrth gwrs, byddaf yn falch o dderbyn yr ymyriad hwnnw.

Mae’r safle a awgrymwyd ar gyfer y carchar yn rhan o ardal fenter Port Talbot, sy’n eiddo i Lywodraeth Cymru a chafodd ei chreu yn anterth yr argyfwng dur fel ymgais i annog gweithgaredd busnes yn yr ardal. Dylai hybu busnes, annog allforion, a chryfhau diwydiant trwm Cymru fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru ar gyfer yr ardal, ond yn lle hynny mae wedi dewis cefnogi’r uwch garchar, ac os nad yw wedi gwneud, yna hoffwn weld hynny’n cael ei egluro heddiw. Mae carchar—

A wnaiff yr Aelod ildio?

A allai gyfeirio at sut yr ydym wedi dynodi ein bod yn gefnogol i’r carchar? Pa ddogfennau sydd gan yr Aelod i’w dangos?

Wel, hoffwn pe bai gennyf fwy o ddogfennau, ond yr hyn a ganfuwyd oedd eich bod wedi cael sgyrsiau gyda Llywodraeth y DU. Rydych wedi rhoi rhestr iddynt o safleoedd posibl yng Nghymru. Yn ôl yr hyn a ddeallaf—ac unwaith eto, rwy’n falch o gael fy nghywiro—nid oedd angen i chi roi’r rhestr honno i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder. Yn wir, byddai galw iddynt osod gorchymyn prynu gorfodol ar y tir hwnnw, pe bai’n dod i hynny. Felly, o gyngor cyfreithiol a gefais gan y Cynulliad Cenedlaethol, nid oes gorfodaeth arnoch, Ysgrifennydd y Cabinet, i roi’r rhestr iddynt. Ac os wyf yn anghywir, yna, unwaith eto, rwy’n fodlon i chi ymyrryd neu ddweud wrthyf yn eich ymateb i’r hyn a ddywedaf yma heddiw. Rwyf hefyd yn deall, o e-bost a welais gan ein cynghorydd lleol, Nigel Hunt, ym Mhort Talbot, eich bod wedi rhyddhau’r tir hwnnw i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder mewn gwirionedd. Felly, unwaith eto, os nad yw hynny’n gywir, yna os gwelwch yn dda—. Dyna neges e-bost y mae ef, rwy’n credu, wedi’i chael gyda’r cyngor lleol. Os nad yw hynny’n wir, yna, unwaith eto, hoffwn gael eglurhad. Wrth gwrs, rydym yn ceisio cael atebion lle bynnag y bo modd. Nid ymgais yw hon i danseilio unrhyw un. Rydym yn ceisio cael atebion ar hyd y ffordd.

Hoffwn orffen y sylwadau hyn drwy ddweud y buaswn yn hoffi canmol gwaith y gweithgor ym Mhort Talbot, sy’n cynnwys aelodau o wahanol bleidiau—ac mae pawb eisiau gweithio’n gadarnhaol i gadw’r tir ar gyfer datblygiadau diwydiannol a datblygiadau busnesau—ac sy’n gweithio gyda’i gilydd dros ddyfodol y dref a thros ddyfodol Cymru. Ac nid ydym am gael briwsion o San Steffan ar ffurf y carchar enfawr hwn, gan fy mod yn poeni, ac mae eraill yn poeni—am eu bod yn dweud wrthyf—y bydd y carchar hwn yn cael sgîl-effeithiau di-droi’n-ôl ar yr ardal. Nid ydym am gael y carchar hwn wedi’i orfodi arnom. Yn wir, nid oedd pobl yn Wrecsam am gael y carchar wedi’i orfodi arnynt hwy, ond dywedwyd wrthynt y byddai mwy o lefydd i garcharorion o Gymru, ac eto gwelsom erthyglau ym mhapurau Cymru ddoe ddiwethaf yn dweud wrthym nad oes carcharorion o Gymru yng Ngharchar ei Mawrhydi Berwyn. Felly, beth yw’r rhesymeg, felly, dros adeiladu’r uwch garchardai hyn yng Nghymru? Fe ddywedaf wrthych beth ydyw, ond nid yn fy ngeiriau fy hun, ond gan gyn-garcharor a gafodd ei gyfweld gan ‘The Guardian’—mae’n ddrwg gennyf, carcharor, nid cyn-garcharor—yng Ngharchar Oakwood yn Wolverhampton. Mae’n dweud:

Rydych yn dymchwel Wormwood Scrubs, gallwch ei wneud yn fflatiau gwerth miliynau. Gadewch inni roi’r gorau i falu—

bîp—

Dyna pam y maent yn ei wneud. Mae’n haws ac yn rhatach i osod pawb mewn warws yng Nghymru.

Dyna beth sy’n digwydd.

Rwyf wedi dethol y gwelliant i’r cynnig, a rydw i’n galw ar Suzy Davies i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies.

Gwelliant 1—Paul Davies

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

1. Yn croesawu’r buddsoddiad o £1.3 biliwn gan Lywodraeth y DU i foderneiddio a diweddaru’r ystâd carchardai ar draws Cymru a Lloegr, gan greu cannoedd o leoedd modern i garcharorion a disodli’r hen sefydliadau gorlawn gan adeiladau newydd, addas i’r diben.

2. Yn cydnabod rôl Llywodraeth Cymru yn y broses o hyrwyddo a chlustnodi’r safle arfaethedig ym Mhort Talbot ar gyfer uwch garchar newydd yn ne Cymru.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal ymgynghoriad llawn a thrylwyr gyda thrigolion a busnesau lleol ynghylch effaith debygol datblygu carchar newydd ym Mhort Talbot.

4. Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru gynnal archwiliad llawn o’r safleoedd amgen, gan gyhoeddi’r rhestr arfaethedig.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Wel, diolch yn fawr, Llywydd.

Can I just declare, for the record, that I was, until recently, a trustee of Families and Friends of Prisoners, based at HMP Swansea, which I suspect is likely to be affected by the arrival of this new category C prison? Members may know also that I’ve trained to mentor individuals at the risk of re-offending, and I was a member of Christine Chapman’s cross-party group on children affected by parental imprisonment, along with other Members here.

While I’m not claiming that this gives me any particular insight on this debate, I feel I do have to comment on the unpleasantness of some of the rhetoric surrounding this decision to bring a modern facility for low-risk offenders to my region. Because, wherever it is sited—and, actually, I’m quite open-minded on this—this is not a dumping ground. It is not an industrial-sized penal colony—

Na, ni wnaf. Dylech ymyrryd ar eich plaid eich hun, Leanne. Rydych wedi gweithio yn y gwasanaeth prawf, ac rydych yn caniatáu i aelodau o’ch plaid siarad am fewnforio carcharorion fel pe baent yn rhyw fath o nwydd Seisnig gwenwynig. Rwy’n credu ei fod yn warthus. Rydych wedi bod yn hollol iawn i feirniadu’r modd y mae tafodau diofal wedi dad-ddyneiddio ffoaduriaid a cheiswyr lloches, ac eto ni welaf unrhyw ymyriad gennych o ran y ffordd ddidaro rydych wedi caniatáu i garcharorion gael eu dad-ddyneiddio yn y ddadl hon ar y carchar newydd.

Mae ein carchardai Fictoraidd hefyd yn dad-ddyneiddio pobl. Yng ngharchar Abertawe, mae’r staff wedi ymdrechu’n galed iawn i liniaru cyflwr llwm iawn y lle, ond nid yw’r gofod yn addas ar gyfer adsefydlu. Mae’r cyfleusterau ar gyfer teuluoedd carcharorion yn well na’r hyn oeddent, nid yn lleiaf oherwydd gwaith Cymdeithas Teuluoedd a Ffrindiau Carcharorion, a grybwyllais yn gynharach, ond rwy’n amau y byddai’r rhan fwyaf ohonom yma yn cydnabod ei fod yn bell o fod yn ddelfrydol. Nid ateb amgen dieflig yn lle diwygio carchardai yw’r cyfleuster newydd hwn—ac mae tri arall i gael eu hadeiladu yn Lloegr—

Aelod o'r Senedd / Member of the Senedd 17:54:00

A wnewch chi dderbyn ymyriad?

Ar y diwedd efallai.

[Yn parhau.]—ac atal aildroseddu, fel yr awgrymodd Bethan Jenkins ym mis Mawrth a heddiw. Mae’n anghywir. Mae’n rhan o’r diwygio hwnnw.

A gawn ni ei adael tan y diwedd? Mae’n ddrwg gennyf. Fe’i cymeraf os bydd gennyf amser. Rwy’n dweud bod y carchar hwn yn rhan o atal aildroseddu. Ni fydd y carchardai hen ffasiwn hyn, gyda choridorau tywyll ac amgylchiadau cyfyng, yn helpu troseddwyr i droi eu cefnau ar droseddu, ac nid ydynt ychwaith yn rhoi i’n swyddogion carchar proffesiynol ac ymroddgar—[Torri ar draws.]—dof at hynny—yr offer a’r amgylchedd cywir i wneud eu gwaith yn effeithiol. [Torri ar draws.] Dof at hynny.

Yng ngharchar Parc, sy’n gartref i droseddwyr risg uwch, fe fyddwch wedi gweld bellach sut y mae’r amgylchedd modern hwnnw yn helpu carcharorion i ddod yn fwy gwydn yn bersonol ac yn llai tebygol o aildroseddu. Rydym wedi bod dros y ffeithiau droeon ynglŷn â’r lefelau uwch o salwch meddwl ac anllythrennedd, profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, ymhlith poblogaeth ein carchardai, ac mewn carchardai modern, adsefydlol y caiff llawer eu cyfle cyntaf go iawn i gael help. Mae’n anghywir inni ddisgrifio’r ‘uwch garchardai’ hyn fel y’u gelwir fel gofodau enfawr, digymeriad. Mae’n werth i’r Aelodau ailedrych ar sylwadau a wnaed gan Ysgrifennydd y Cabinet a Mark Isherwood yn ôl ym mis Gorffennaf, ar ôl i’r ddau ymweld â Charchar Berwyn. Maent hwy eu hunain wedi dweud bod y safle wedi’i lunio o unedau ar raddfa lai, a mwy dynol fel sy’n briodol i wasanaethau adsefydlu ac addysg wedi’u targedu, ac sy’n cael eu cynnig gan arbenigwyr trydydd sector a sefydliadau allanol eraill. Rwy’n rhyw gofio bod Coleg Cambria yng Ngharchar Berwyn, ac edrychaf ymlaen at weld manylion yr hyn a fydd yn cyfateb i hynny yn y carchar hwn.

Am y safle, rwy’n meddwl ei bod yn iawn i’r ddwy Lywodraeth ddangos eu prosesau meddwl ar hyn mewn gwirionedd. A yw Llywodraeth Cymru mor awyddus i wthio hyn yn ei flaen er mwyn cael gwared ar y darn hwn o dir o’r diwedd? Mae wedi bod ar y bachyn ers blynyddoedd. Rwy’n meddwl y byddai anwybyddu’r farn angerddol ynglŷn â hyn yn gamgymeriad. Gwnaed rhai pwyntiau defnyddiol iawn gan y grŵp ym Mhort Talbot, ac rwy’n siŵr y byddwn yn clywed rhagor heddiw, er gwaethaf y cywair diflas y soniais amdano’n gynharach. Ond rwy’n credu ei bod yn help i gael darlun llawnach, a dyna pam y cynigiais y gwelliant fel y’i cyflwynwyd.

Hoffwn i fy etholwyr gael y wybodaeth yn llawn a chywir, yn hytrach na gwneud penderfyniadau ar sail rhagdybiaethau mewn rhai achosion. I’r perwyl hwn, bydd y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn cynnal digwyddiad deuddydd o hyd yn fuan i glywed gan drigolion yn uniongyrchol—yn uniongyrchol—er mwyn trafod wyneb yn wyneb. Dyna gyfle i brofi pryderon ynglŷn ag agosrwydd at gartrefi, er enghraifft, er fy mod yn cofio i’r Prif Weinidog ein sicrhau ar yr un mater, fel yr effeithiai ar leoliad carchar Parc yn y gorffennol. Mae’n gyfle i brofi’r galwadau ychwanegol hynny ar wasanaethau lleol gan garcharorion a’u teuluoedd. Mae’n bwynt da, ond yn achos Berwyn, rwy’n credu bod arian newydd wedi dilyn i helpu i ateb y galw hwnnw. Mae’n gyfle hefyd i brofi’r honiadau y bydd rhwng 200 a 500 o swyddi yn hyn, yn ogystal â swyddi adeiladu. Oherwydd rwy’n credu ei fod yn bwynt teg mewn gwirionedd i ddweud y gallai rhai o’r swyddi hyn fod yn symud o ardaloedd eraill, ond nid wyf yn argyhoeddedig y bydd y pob un ohonynt yn symud, nac y byddai swyddi ategol a swyddi’r gadwyn gyflenwi—ac yn sicr, swyddi adeiladu—yn dod o’r tu allan i’r ardal. Nid wyf yn credu bod hynny’n wir yng Ngharchar Berwyn, ac mae Llywodraeth y DU wedi datgan bwriad clir i sicrhau y bydd cynifer o swyddi ag y bo modd yn lleol. Felly, rwy’n argymell y dylai etholwyr fanteisio’n llawn ar hyn cyn ymateb i’r ymgynghoriad statudol, ac rwy’n gobeithio hefyd y byddant yn ymateb o ddifrif.

[Torri ar draws.] O, mae’n ddrwg gennyf, mae fy amser wedi dod i ben.

Rydym i gyd wedi gweld y boen economaidd a chymdeithasol y mae Port Talbot wedi’i dioddef yn ddiweddar. Mae’n rhaid i mi ddweud nad troi cadarnleoedd diwydiannol Cymru yn wladfa gosbi ddiwydiannol ei maint yw’r ateb i’r blynyddoedd o esgeulustod y mae’r gymuned honno wedi’u dioddef. Hoffwn ganolbwyntio yn fy sylwadau ar y dimensiwn economaidd, ond buaswn yn dweud wrth yr Aelod Ceidwadol: edrychwch, mae’n annynol i orfodi pobl—carcharorion—i symud gannoedd o filltiroedd oddi wrth eu teuluoedd. Mae’r dystiolaeth yn dangos bod adsefydlu’n llawer llai llwyddiannus os yw pobl yn cael eu symud gannoedd o filltiroedd oddi wrth eu teuluoedd, a dyna yw’r cysyniad sy’n sail i’r uwch garchar yn ei hanfod. Gadewch i ni edrych ar y ffactor ysgogol go iawn sy’n sail i’r polisi hwn gan y Ceidwadwyr—[Torri ar draws.] Os hoffech ymyrryd, fe gymeraf eich ymyriad. Gadewch i ni edrych ar y cymhelliant go iawn. Cyni yw hyn—[Torri ar draws.] O’r gorau, iawn, fe gymeraf ymyriad. Ewch ymlaen.

Rwy’n edrych ymlaen at yr hyn yr ydych yn mynd i’w ddweud, ond rwy’n gobeithio y byddwch yn rhoi tystiolaeth dros yr hyn yr ydych ar fin ei honni.

Fe ddywedaf hyn wrthych: y ffactor sy’n ysgogi go iawn yw’r—. [Torri ar draws.] Fe anfonaf y dystiolaeth atoch. Y ffactor sy’n ysgogi go iawn yw hyn: cyni’n dod wyneb yn wyneb ag annynoldeb. Mae rhagolygon y Llywodraeth ei hun wedi dangos mai CEM Berwyn fydd y carchar rhataf i’w redeg yng Nghymru a Lloegr. Dyna ydyw i bob pwrpas. Bocs mawr, ond i bobl. Ble mae’r dynoldeb yn hynny? Yr hyn a wnawn i bob pwrpas yw mai ni fydd yr unig wlad yn y byd a fydd yn mewnforio carcharorion o wlad arall. Nid yw’n dda iddynt hwy, nid yw’n dda i neb, ac mae’r dystiolaeth yn dangos hynny. Rydym yn troi de Cymru yn awr i fod fel oedd De Cymru Newydd 200 mlynedd yn ôl. Ac mae’r honiad hwn a roddir ar led ei fod yn mynd i fod yn dda i’r economi leol ym Mhort Talbot, mae’n gwbl gyfeiliornus, yn hollol anonest, fel y mae Llywodraeth y DU wedi cyfaddef. Edrychwch, yr ysgogiad go iawn yma yw eich bod yn adeiladu’r uwch garchardai er mwyn cau’r carchardai Fictoraidd. Felly, 200 o swyddi yn yr uwch garchar hwn ym Mhort Talbot, a 600 o swyddi’n cael eu colli yng Nghaerdydd ac Abertawe. Nid oes angen gwobr Fields mewn mathemateg i ganfod fod honno’n golled net. I’w roi mewn ffordd arall, dyna eich ymateb difflach i’r argyfwng dur, ac rydych yn awr yn disgwyl i ni ddathlu’r ffaith fod yna golled net yn mynd i fod i economi de Cymru.

Nawr, rhaid i mi ddweud wrth Lywodraeth Cymru, fe wnawn ni wrando ar yr hyn sydd gan y Gweinidog i’w ddweud. Cafwyd cynnig gan gwmni alwminiwm Basque am y darn hwn o dir yn ardal fenter Baglan, cynnig a sefydlwyd yn rhan o’r ymateb i’r argyfwng economaidd. Cymerwch y cynnig hwnnw. Dyna gwmni sy’n gwmni llwyddiannus, sy’n awyddus i ehangu ac yn amlwg mae’n rhan o glwstwr o ran metelau a deunyddiau yn yr ardal honno. Felly, nid oes unrhyw reswm go iawn pam y dylid gwrthod y cynnig hwnnw. Cymerwch ef yn awr. Cyhoeddwch heddiw fod y cynnig hwnnw’n mynd i gael ei dderbyn.

Rhaid i mi ddweud, fodd bynnag, fy mod wedi clywed yn gynharach heddiw y sylwadau a wnaeth yr Aelod anrhydeddus—mae gennyf hawl i ddweud hynny am Aelod o Dŷ’r Cyffredin, onid oes?—dros Aberafan, Stephen Kinnock, neu fel y’i galwaf yn awr, ‘archddug y bobl sy’n dweud ‘na’ wrth bopeth yn eu milltir sgwâr eu hunain’, yn dweud, mewn gwirionedd, y byddai’n iawn, cyn belled â bod y carchar yn cael ei symud i lawr y ffordd o Bort Talbot i Abertawe. Mae’n ymddangos mai ei agwedd ef yw, nid ei fod yn erbyn uwch carchar yn ne Cymru; mae’n achos, yn hytrach, o ‘nid yn fy mharc busnes i’.

Gadewch i ni ailadrodd: nid oes angen uwch garchardai o’r fath ar Gymru yn rhan o’n strategaeth economaidd. Nid yw’n dda i garcharorion eu hunain, gan y dylent gael eu hadsefydlu yn eu cymunedau. Ac os ydynt yn garcharorion risg isel, dylent fod yn y gwasanaeth prawf. Ond wrth gwrs, fe wnaethoch breifateiddio hwnnw, oni wnaethoch? Y ffaith amdani yw nad yw’n dda i’n heconomi. Mae’r niferoedd a gynigiwyd i ni o ran swyddi, maent yn haeddu eu lle ar ochr bws mawr coch. A buaswn yn dweud wrth Lywodraeth Cymru: os gwelwch yn dda, pan fydd Llywodraeth San Steffan yn dweud ‘neidiwch’, peidiwch â gofyn ‘pa mor uchel?’ – dyna pam y mae gennym Lywodraeth Cymru. Pan fyddwn yn credu mewn gwirionedd nad dyma’r ffordd iawn i ni fel cenedl, yna dylem ddweud hynny’n bendant gydag un llais. Rydym yn well na hyn. Mae pobl Port Talbot yn haeddu gwell na hyn. Gadewch i ni ddweud ‘na’ wrth yr esgus pathetig hwn o bolisi economaidd a pholisi cymdeithasol a ddylai olygu mewn gwirionedd eich bod gwyro eich pennau mewn cywilydd.

Wrth agor y ddadl hon y prynhawn yma, sefydlodd yr Aelod dros Orllewin De Cymru nifer o elfennau yn y drafodaeth, gan gynnwys effeithiolrwydd uwch garchardai yn lleihau cyfraddau aildroseddu a chynnig amgylchedd diogel i garcharorion ar gyfer adsefydlu, pa un a oes angen mwy o garchardai ar Gymru, ac anaddasrwydd y safle hwn ym Maglan ar gyfer y carchar newydd, fel y cyhoeddodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder ar 22 Mawrth. Ar hyn o bryd, nid yw rhai o’r materion hyn wedi’u datganoli i Lywodraeth Cymru, ond mae perchnogaeth y tir arfaethedig, ac felly effaith y datblygiad, o fewn rheolaeth Llywodraeth Cymru, ac fel yr Aelod etholaeth dros y safle hwnnw, ni fydd yn syndod i’r Aelodau yn y Siambr hon y byddaf yn canolbwyntio ar anaddasrwydd y lleoliad a’r effaith y byddai’r datblygiad yn ei chael ar fy nghymuned leol.

Fodd bynnag, rwyf am leisio fy mhryderon ynglŷn ag effeithiolrwydd dull Llywodraeth y DU o adeiladu mwy o uwch garchardai yn lle carchardai Fictoraidd gorlawn fel ffordd o gyflawni ei nod o leihau cyfraddau aildroseddu. Rwy’n ei chael hi’n anodd dod o hyd i unrhyw dystiolaeth, tystiolaeth empirig, eu bod mewn gwirionedd yn lleihau cyfraddau aildroseddu o ganlyniad i unrhyw adsefydlu gwell sy’n digwydd ynddynt. Felly, yn sicr, byddai’n werth i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder dreulio amser yn dadansoddi effeithiolrwydd yr uwch garchardai y mae eisoes yn eu gweithredu—CEM Berwyn, a Charchar Oakwood yn Birmingham—cyn symud ymlaen â’i chynlluniau arbed arian i greu rhagor ohonynt. Yn wir, ceir mwy o dystiolaeth fod yna broblemau hysbys gyda charchardai mawr. Hyd yn oed mor bell yn ôl â 1991, dangosodd yr Arglwydd Woolf y problemau, a chawsant eu dangos ymhellach mewn astudiaeth gan y prif arolygydd yn 2009, ac yn fwy diweddar mewn adroddiad damniol ar CEM Oakwood. Dylai Llywodraeth Cymru ystyried y rhain, a’r effaith gymdeithasol ar gymunedau a charcharorion, cyn gwneud unrhyw benderfyniad ynglŷn â gwerthu neu brydlesu’r tir yn ei pherchnogaeth ar gyfer datblygu uwch garchar.

Llywydd, fe symudaf ymlaen yn awr at anaddasrwydd y safle hwn, a pham rwy’n galw ar Lywodraeth Cymru i beidio â rhyddhau’r tir hwn i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder ar gyfer y carchar newydd hwn. Yn ei sylwadau agoriadol, nododd Bethan Jenkins lawer o’r heriau i’r dadleuon a ddefnyddiwyd gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder dros y penderfyniad hwn, gan gynnwys sawl un a oedd yn galw am ystyriaeth yn ystod y broses gynllunio. Cytunaf â’r rheini ac fe ymhelaethaf ar rai ohonynt, ond ni fydd gennyf amser i wneud pob un ohonynt, yn anffodus.

Gadewch i ni ddechrau gyda’r ddadl dros yr economi, fel yr amlinellodd Adam Price eisoes ar un ystyr: un sy’n awgrymu bod y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn credu y bydd Port Talbot yn cymryd unrhyw swyddi, ni waeth beth. Wel, mae angen i ni arallgyfeirio’r economi leol, ac mae angen i ni wella dangosyddion y farchnad lafur—gwerth ychwanegol crynswth a diweithdra. Ond ni fydd y cynnig hwn yn gwneud hynny. Mae’r safle hwn o fewn parc menter glannau Port Talbot ac yn ardal sydd wedi’i chlustnodi i helpu’r economi i dyfu drwy annog busnesau sy’n bodoli eisoes, neu fusnesau newydd, i fuddsoddi mewn twf.

A wnewch chi dderbyn ymyriad? Roeddwn yn meddwl tybed a allwch egluro a yw’r tir hwn wedi ei ddynodi fel y man ble mae metro Abertawe i fod i basio drwyddo, ac felly pe baem yn rhoi carchar ar y safle hwn, byddai hynny’n amlwg â goblygiadau enfawr o ran rhediad esmwyth metro Abertawe.

Diolch i’r Aelod am hynny. Ni allaf roi’r ateb mewn gwirionedd, ond mae’n bwynt diddorol y gallwn ei ychwanegu at y rhestr o gwestiynau y byddwn yn eu gofyn.

Mae gennym fusnesau’n dweud eisoes y byddant yn symud allan. Nawr, mae symud allan yn golygu nad ydynt yn dod i mewn, ac felly rydym yn colli busnes i’r economi. Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn honni y bydd y carchar hwn yn dod â swyddi newydd i bobl leol—niferoedd, gyda llaw, na allant eu cadarnhau. Heb sôn am y 200, ni allant gadarnhau mewn gwirionedd, oherwydd maent wedi dweud wrthyf nad ydynt yn gwybod faint hyd nes eu bod yn gwybod pa weithredwr. Wel, gallai’r gweithredwr fod yn weithredwr preifat, felly nid oes ganddynt syniad. Gyda llaw, os yw’n weithredwr preifat, roedd maniffesto’r Blaid Lafur yn yr etholiad cyffredinol eleni yn datgan mewn gwirionedd na ddylem fod yn rhan o’r gwaith o adeiladu unrhyw garchardai preifat newydd mwyach.

Y realiti yw y bydd Abertawe a Chaerdydd, y ddau’n garchardai Fictoraidd, yn cau, a bydd y swyddi hynny’n cael eu trosglwyddo i’r safle hwn. Mae hynny’n golygu nad oes swyddi newydd, mewn gwirionedd, ond pobl yn dod i mewn, ond ni fyddant o reidrwydd yn symud i mewn i’r ardal. Bydd cadwyni cyflenwi yn mynd gyda hwy hefyd, felly ni fydd swyddi’r gadwyn gyflenwi yn dod i mewn. Pan fydd yn weithredol, ni fydd unrhyw dwf. Ni fydd hyn yn cyflawni amcanion yr ardal fenter o ddod â thwf i’n heconomi. Yr hyn a fydd yn dod â swyddi yw unedau diwydiannol newydd i ddenu busnesau eraill i mewn ac i fuddsoddi. Nid oes gennym unedau o 5,000 i 10,000 troedfedd sgwâr; gadewch i ni eu cael. Beth am wneud yr un peth yma ag ar gyfer ardaloedd eraill yng Nghymru a sefydlu cynnig cryf i fusnesau?

Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf fi wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am dystiolaeth wedi’i chyhoeddi i gefnogi honiadau o ffyniant economaidd yn deillio o adeiladu carchar, ac rwy’n gobeithio y byddwn yn cael peth, oherwydd nid wyf wedi cael unrhyw dystiolaeth hyd yn hyn. A gaf fi ofyn hefyd a yw Llywodraeth Cymru wedi cael trafodaethau gyda chadeirydd bwrdd yr ardal fenter ac a yw ef o blaid y cynnig hwn?

Ysgrifennydd y Cabinet, hefyd, mae hanes y safle hwn yn hysbys i bobl leol, gan fy nghynnwys i. Gallaf gofio pan oedd merlod yn cerdded ar ei draws fel corstir. Gall pob un ohonom ddweud wrthych fod y lleoliad hwn yn safle anghywir ar gyfer y datblygiad hwn. Fy ngalwad i chi yn awr, ac yn y dyfodol, fydd, ‘Peidiwch â gwerthu’r tir hwn, na gosod y tir ar brydles i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder’.

Nawr, cwestiwn arall yw’r honiad y bydd y carchar yn paratoi carcharorion ar gyfer ar ôl cael eu rhyddhau. Gwych, ond bydd y paratoad hwnnw’n cynnwys lleoliadau gwaith. Faint o fusnesau y cysylltir â hwy i ofyn a fyddant yn manteisio ar y cyfle hwn mewn gwirionedd? Gallaf ddweud wrthych: dim un. Sut y gall diwygio weithio os na wnaed dadansoddiad sylfaenol o ddarpariaeth adsefydlu? Mae holl gynsail economaidd ac adsefydlu’r datblygiad hwn yn ddiffygiol.

Llywydd, rwy’n gwybod nad oes llawer o amser, ac wrth orffen fy nghyfraniad, gofynnaf i Ysgrifennydd y Cabinet: pe bai carchardai wedi cael eu datganoli i Gymru, a fyddai Llywodraeth Cymru yn adeiladu uwch garchar yng nghanol cymuned ar dystiolaeth simsan o’r fath? Rwy’n mawr obeithio na fyddai. Mae’n amlwg nad oes unrhyw gyfiawnder yn dod i Bort Talbot gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Yn lle hynny, gofynnaf i Lywodraeth Cymru ei sicrhau a dweud ‘na’ pan ofynnir iddi werthu’r tir neu ei osod ar brydles i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder. Gosodwch ein heconomi yn flaenoriaeth, ac nid dymuniad y Weinyddiaeth Gyfiawnder i arbed arian.

Mae’n bleser cymryd rhan yn y ddadl hon. Rwy’n falch o ddilyn cyfraniad cryf David Rees yno, oherwydd yn amlwg roedd yn sioc i bawb ohonom pan gyhoeddodd Carl Sargeant, Ysgrifennydd y Cabinet, y bwriad i adeiladu uwch garchar a allai roi llety i 1,600 o garcharorion ym Maglan yn gynharach eleni. Ni welsom hynny’n dod. Yn amlwg, nid oedd Llywodraeth Cymru yn rhan o unrhyw drafodaethau cyn—

A wnaiff yr Aelod ildio? Nid wyf yn dymuno dibrisio unrhyw beth, ond er mwyn eglurder, daeth y cyhoeddiad gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder, nid gan Carl Sargeant. Nid wyf am ei amddiffyn, ond eu cyhoeddiad hwy ydoedd, yn anffodus.

Rwy’n ddiolchgar am yr eglurhad hwnnw, David, ond roeddwn yn mynegi fy syndod pan gawsom y datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet y diwrnod hwnnw yn ôl ym mis Mawrth. Rwy’n derbyn nad penderfyniad—mwy am hynny yn nes ymlaen—Ysgrifennydd y Cabinet ydoedd; negesydd yn unig ydoedd yn y lle hwn, ond nid oedd hynny’n lleihau’r syndod a deimlodd rhai ohonom. Ond diolch am eich ymyriad beth bynnag.

Hyd at y pwynt hwnnw, yn amlwg, nid oeddwn wedi canfod ymchwydd poblogaidd o farn gyhoeddus a oedd yn awyddus i gael carchar ym Mhort Talbot, rhaid i mi ddweud. Dim galwad gyhoeddus o gwbl. Roedd yna, ac mae yna, alwad gyhoeddus am forlyn llanw ym mae Abertawe, mae yna alwad gyhoeddus am drydaneiddio’r brif reilffordd o Lundain i Abertawe, ond uwch garchar ym Maglan—ni chafwyd galwad gyhoeddus o gwbl.

Nawr, wrth gwrs, digwyddodd y cyhoeddiad annisgwyl hwn—drwy gyfrwng Ysgrifennydd y Cabinet—oherwydd nad yw plismona, trosedd a chyfiawnder wedi eu datganoli i Gynulliad Cenedlaethol Cymru wrth gwrs. Gall San Steffan gyhoeddi pethau a dyna ni. Eto i gyd, mae plismona wedi’i ddatganoli ym mhob man arall, yn amlwg: yr Alban, Gogledd Iwerddon, Llundain, Manceinion hyd yn oed, ond nid i Gymru. Ac nid dadl yw hon am bwerau er eu mwyn eu hunain yn unig, ond o ran cyfiawnder troseddol, mae’r angen i fynd i’r afael â drws tro aildroseddu, fel y soniwyd mewn man arall, yn hollbwysig.

Mae’r diffyg yn torri ar draws hynny. Er mwyn ceisio atal troseddwyr rhag aildroseddu, mae angen ymateb gydgysylltiedig ac unedig ar draws yr holl wasanaethau cyhoeddus a sefydliadau gwirfoddol ac elusennol lleol. Oherwydd, ar gyfer troseddwyr sy’n gadael y carchar, mae angen tai, tai i bobl wedi iddynt gael eu rhyddhau; mae angen posibiliadau addysg a hyfforddiant; mae angen gwasanaethau iechyd cyffredinol; mae angen gwasanaethau iechyd meddwl; mae angen triniaethau cyffuriau ac alcohol; mae angen cymorth gwasanaethau cymdeithasol. Mae pob un o’r gwasanaethau hyn sydd eisoes dan ormod o bwysau wedi’u datganoli i Gymru. Rydym yn eu rheoli oddi yma. Mae cydlynu â phlismona, y gwasanaeth prawf, cyfiawnder troseddol a charchardai, materion nad ydynt wedi’u datganoli, yn anodd iawn felly, a dyna pam y cawn y cyhoeddiad sydyn hwn, pwy bynnag a’i cyhoeddodd, lle bynnag—ac rwy’n ddiolchgar i Ysgrifennydd y Cabinet am y cyhoeddiad hwnnw yn ôl ym mis Mawrth.

Ond gan nad yw cyfiawnder troseddol a charchardai wedi eu datganoli, sut y gallwn gael y math hwn o gyhoeddiad, a bod disgwyl i ni godi’r darnau gyda’n gwasanaethau datganoledig eisoes dan ormod o bwysau yma yng Nghymru? Oherwydd mae atal aildroseddu eisoes yn dasg anodd iawn. Mae cyfraddau aildroseddu parhaus yn dyst i hynny i gyd. Ond yn y pen draw, nid oes angen yr uwch garchar hwn. Nid oes unrhyw alw cyhoeddus poblogaidd amdano. Nid oes croeso iddo. Pleidleisiwch dros gynnig Plaid Cymru. Diolch yn fawr.

Fy marn o’r cychwyn ynglŷn â’r posibilrwydd o adeiladu carchar ym Maglan, Port Talbot—ac rwy’n byw ym Mhort Talbot—yw bod ymgynghoriad cyhoeddus yn eithriadol o bwysig, ynghyd ag asesiadau risg, ffactorau amgylcheddol—er enghraifft, tagfeydd traffig—ac fel y crybwyllwyd yn flaenorol, llifogydd yn yr ardal. Rhaid i ni hefyd ystyried safleoedd addas eraill. Ond pe bai’r meini prawf uchod yn cael eu goresgyn a bod golau gwyrdd yn cael ei roi, mae’n rhaid i ni dderbyn bod carchardai yn nodweddion parhaol yn ein cymdeithas. Pa ddewis arall sydd yna yn lle carchardai? Rydym yn agored i awgrymiadau.

Yn aml, dedfryd o garchar yw’r dewis olaf i farnwyr lle mae aildroseddu wedi digwydd neu lle roedd y drosedd yn rhy ddifrifol. A lle y ceir trosedd, ceir dioddefwr. Ceisiwch ddweud wrth fenyw sydd wedi dioddef cam-drin domestig a’i thrwyn wedi’i dorri a’i hasennau wedi torri ein bod yn chwilio am ddewis arall yn lle carchar i’r troseddwr. Byddai yna brotest gyhoeddus. Mae angen i ddioddefwyr trosedd deimlo’n ddiogel yn eu cymuned. Mae symud y sawl sy’n cyflawni trosedd allan o gymdeithas am gyfnod o amser yn rhoi tawelwch meddwl i ddioddefwyr a chyfle i’r troseddwr adsefydlu yn y carchar.

Os yw carcharorion yn cael eu cloi mewn celloedd am 23 awr y dydd, ychydig iawn o obaith o adsefydlu a geir neu obaith y bydd yn llwyddo. Roedd fy ngwaith yng ngharchar Parc yn canolbwyntio’n helaeth ar adsefydlu. Nid yw carcharorion dan glo am 23 awr y dydd, ond mewn gwirionedd roeddent allan am 14 awr y dydd, yn unol â’r contract. Diwrnod arferol fyddai: brecwast am 7 a.m., ymarfer corff a chawod; byddai’r carcharorion yn mynd i wahanol grwpiau wedyn: addysg, diwydiannau, gwaith, neu’n cael eu rhyddhau i fynd i’r llys, ymweliadau â theulu. Roedd y diwydiannau’n darparu gwaith garddwriaethol, gwaith coed, gwaith metel, argraffu, i enwi ond ychydig. O ran adsefydlu, ceir uned deuluol, sy’n canolbwyntio ar adeiladu bywyd teuluol yn dilyn trosedd ac sy’n darparu gwasanaeth cyfryngu gyda’r teulu. Ceir uned y lluoedd arfog, yn enwedig ar gyfer materion yn ymwneud ag anhwylder straen wedi trawma, problemau cyffuriau ac alcohol a chwalfa deuluol. Mae rhai hefyd yn hyfforddi—bydd rhai carcharorion yn hyfforddi fel gwrandawyr ac yn gweithio gyda’r Samariaid. Yna, maent yn gadael y carchar, ac mae llawer wedi mynd ymlaen i fod yn gwnselwyr. Mae’r uned iechyd a lles yn cynorthwyo gydag anableddau ac yn canolbwyntio ar sut i wella ffordd o fyw, gwneud newidiadau er lles iechyd, dysgu am faeth, delio â gordewdra, atal diabetes ac yn y blaen. Mae yna uned gofal iechyd ar gyfer rhai nad ydynt yn ymdopi’n dda â phroblemau iechyd meddwl; mae yna uned brofion gwirfoddol ar gyfer pobl sydd wedi cymryd cyffuriau, ond sydd wedi rhoi’r gorau iddi ac yn dymuno cael eu profi ar hap i drwsio pontydd gyda’u teuluoedd a chyfrannu’n gadarnhaol i gymdeithas. Bloc cyn rhyddhau carcharorion yw bloc D, ac mae’n cysylltu gyda’r gwasanaeth prawf. Cynhelir ffair swyddi bob chwe mis a bydd carcharorion yn cyfarfod â darpar gyflogwyr yn yr uned hon. Rhyddheir carcharorion i’r gymuned cyn eu rhyddhau o’r carchar am ddiwrnod yn awr ac yn y man; nid yw hwn yn gysyniad newydd. Pan ryddheir carcharorion yn barhaol, i ble maent yn mynd? Maent yn dychwelyd i’r gymuned gyda chymaint o baratoi ag sy’n bosibl ar gyfer eu rhyddhau, ac mae rhyddhau am y diwrnod yn bwysig. Mae rhai carcharorion wedi bod yn ffodus ac wedi cael eu dewis o garchar Parc ar gyfer y llynges fasnachol. Felly, mae yna bethau cadarnhaol yn perthyn i adsefydlu nad ydynt yn cael eu portreadu yma.

Un o fy eiliadau mwyaf balch oedd ar ôl estyn ei bost i garcharor a oedd yn dod o deulu o deithwyr. Rhwygodd ef yn ddarnau a’i daflu ataf fel conffeti mân. Dywedais wrtho fod rhywun wedi rhoi amser i’w ysgrifennu, ac efallai y dylai fod wedi ei ddarllen yn gyntaf, a dweud wrtho am glirio’r llanast. Fe gliriodd y llanast a mynd yn ôl i’w gell. Esboniodd yn ddiweddarach mewn sesiwn un i un na allai ddarllen o gwbl, a dyna pam yr oedd fel pe bai’n torri rheolau drwy’r amser; ni allai ddarllen y polisïau. I ddechrau, fe’i helpais ar sail un i un, ac yn ddiweddarach ymunodd â dosbarth. Ar ôl blwyddyn, cymerodd y llythyr oddi wrth ei fam a’i ddarllen i mi.

Mae’r carchardai yng Nghymru bob amser yn llawn, a gall hynny arwain at orlenwi. Mae rhai carcharorion o Gymru yn gorfod mynd i Loegr, gan wneud ymweliadau’n amhosibl. Felly, os ydym yn mynd i lwyddo i adsefydlu ac integreiddio troseddwyr, yna yn sicr mae ymweliadau teuluol yn hollbwysig. Mae angen ystyried y ffactor cyflogaeth hefyd: mae cyflogaeth yn ein gwaith dur wedi gostwng yn sylweddol ym Mhort Talbot a byddai llawer o bobl yn croesawu’r cyfle i ailhyfforddi. Nid swyddi swyddogion carchar yn unig; mae yna swyddi anweithredol: arlwyo, gofal iechyd, i enwi ond ychydig. Bydd arian a werir y tu allan yn hybu’r economi. Yn ystod y gwaith adeiladu, byddai’n wych pe bai dur Cymru yn cael ei ddefnyddio a llafur lleol hefyd yn cael ei ddarparu. Oherwydd cyfleoedd yng Ngharchar Parc, mae llawer wedi gadael a bellach yn byw bywydau cynhyrchiol ar ôl eu rhyddhau. Fodd bynnag, nid yw contractwyr preifat yn tendro ar gyfer carchardai, ac felly, rwy’n awgrymu bod yr honiad fod hwn yn fusnes proffidiol yn diflannu’n araf bach. Gallwn edrych ar agweddau cadarnhaol a negyddol tagio fel dewis arall, ond yn y pen draw, os ydym yn cael carchar, mae diogelwch y cyhoedd yn hollbwysig, fel y mae diogelwch staff a charcharorion, a rhaid sicrhau adnoddau priodol i unrhyw garchar er mwyn sicrhau bod adsefydlu’n digwydd yn llwyddiannus a chynnal diogelwch staff. Diolch.

Rwy’n anghyfforddus iawn gyda’r cynnig i adeiladu carchar mawr ym Mhort Talbot a’r gemau gwleidyddol sy’n mynd gyda hynny. Nid wyf yn derbyn y ddadl fod hwn yn fater sydd heb ei ddatganoli. Mae’n ymwneud â’r math o wlad yr ydym am i Gymru fod, ac mae cyhoeddiad dydd Llun ynglŷn â chomisiwn ar gyfiawnder yng Nghymru, dan arweiniad yr Arglwydd Thomas o Cwmgiedd, yr Arglwydd Brif Ustus presennol, yn cynnig cyfle inni ddatganoli mwy o’r system farnwrol yng Nghymru a hefyd i gael trafodaeth ynglŷn â sut beth yw cyfiawnder yng Nghymru. Hoffwn weld system garchardai nad yw’n gosod pobl mewn warysau, ond sy’n canolbwyntio, yn hytrach, ar adsefydlu. Dyna fy ngreddf, ond wrth fyfyrio ar beth i’w ddweud yn y ddadl heddiw edrychais ar beth o’r dystiolaeth, ac mae’r dystiolaeth yn gymysg. Rwy’n credu bod angen i ni bwyso a mesur pwysigrwydd cadw carcharorion yn agos at eu teuluoedd gyda’r dystiolaeth arall sy’n dangos y gall gwahanu troseddwyr oddi wrth eu grŵp cyfoedion helpu gyda’r cylch o aildroseddu. Mae tystiolaeth yn dangos bod carcharorion mewn carchardai mwy newydd yn cael canlyniadau gwell na’r rhai sydd wedi’u lleoli mewn carchardai hŷn, a bod hwn yn ffactor llawer mwy mewn perthynas ag aildroseddu na maint y sefydliad. Mae llawer yn dadlau bod carchardai mwy o faint yn rhy amhersonol i gefnogi adsefydlu effeithiol, tra bod eraill yn dadlau bod yr arbedion maint a ddarperir gan garchardai mwy o faint yn golygu y gellir darparu hyfforddiant a chyfleusterau cyflogaeth gwell ac ehangach. Felly, mae’r dystiolaeth yn gymysg.

Nid yw’r achos economaidd yn glir chwaith. Mae pobl yn dadlau—

Rwy’n derbyn eich pwynt fod y dystiolaeth yn gymysg, ond nid wyf wedi dod o hyd i unrhyw dystiolaeth i ddangos bod carchardai mwy o faint mewn gwirionedd yn lleihau cyfraddau aildroseddu eto. Rwy’n credu mai dyna’r elfen hanfodol yma. Maent yn dadlau ei fod yn gwneud hynny, ond eto nid wyf wedi dod o hyd i’r dystiolaeth ei fod. Gallai fod yn agos at wneud hynny, ond nid wyf wedi gweld y dystiolaeth eto.

Fel y dywedais, rwy’n meddwl bod y dystiolaeth yn gymysg. Mae yna dystiolaeth sy’n gwrthdaro ar y pwynt ac fel y dywedais, mae gennyf ragfarn bersonol yn erbyn uwch garchardai. Bûm yn cadeirio cyfarfod cyhoeddus yn Wrecsam ar adeg y ddadl yno, a gwneuthum ychydig o waith ar wrthwynebu’r carchar yn Wrecsam. Felly, dyna rwy’n tueddu’n gryf tuag ato. Fodd bynnag, i fod yn deg, rydym yn edrych ar y dystiolaeth, nid yw’n ddarlun clir, ac rwy’n credu bod angen inni dreulio mwy o amser yn sefydlu’r darlun cywir a’n safbwynt arno.

Fel yr oeddwn ar fin ei ddweud, nid yw’r achos economaidd yn ddiamwys chwaith. Mae pobl yn dadlau y bydd yr uwch garchar yn dod â swyddi newydd yn ei sgil o ran y gwaith adeiladu a’r staff fydd eu hangen. Ond fel y buom yn ei drafod o’r blaen yn y Siambr hon, heb ddiwygio rheolau caffael, mae prosiectau o’r maint hwn yn aml yn gweld swyddi’n cael eu mewnforio o’r tu allan i’r ardal, ac os yw carchardai Abertawe a Chaerdydd yn cau, yna bydd effaith y swyddi’n diflannu’n gyflym.

Rydym hefyd yn gwerthu’r tir hwn fel pe na bai iddo unrhyw werth neu botensial arall, ac fel y nododd Jenny Rathbone eisoes heddiw, ceir arwyddion o lasbrint Mark Barry—ei fersiwn o gysyniad rhwydwaith metro de Cymru, y credaf ei bod yn weledigaeth gyffrous—y gallai’r tir hwn yn hawdd fod yn rhan bwysig o leihau amseroedd teithio rhwng Abertawe a Chaerdydd a thu hwnt. Felly, dylai hwnnw fod yn ffactor allweddol hefyd. Nawr, mae hynny eto ar gam cynnar ac nid ydym yn glir sut y bydd yn datblygu. Felly, rwy’n credu bod angen ymdrin â’r materion hyn cyn i ni ddod i gytundeb. Nes inni gael y ddadl hon—yn hollbwysig, y ddadl am y math o wlad rydym am ei gweld a’r system gyfiawnder rydym am ei gweld—wrth basio—[Torri ar draws.] Rwy’n dod i ben; mae’n ddrwg gennyf, Leanne.

‘Na’ ydyw, mae arnaf ofn. Rwy’n ymddiheuro. [Torri ar draws.] Hyd nes y cawn y ddadl ynglŷn â’r math o system gyfiawnder rydym am ei gweld yng Nghymru, mae’n rhy gynnar i basio’r cynnig hwn ac felly ni fyddaf yn ei gefnogi ar hyn o bryd.

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant—Carl Sargeant.

Diolch i chi, Llywydd. Rwyf wedi gwrando’n ofalus ar y ddadl heddiw, ond bydd y Llywodraeth yn gwrthwynebu’r cynnig a’r gwelliant fel y’u cyflwynwyd.

Rhaid i mi ddechrau drwy gofnodi gweithredoedd a phwerau Llywodraeth Cymru’n gywir, a rhai o’r cyfraniadau a wnaed yn y Siambr heddiw. Cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw carchardai. Cysylltodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder â Llywodraeth Cymru fel rhan o ymarfer ledled Cymru a Lloegr i weld a oeddem yn gwybod am unrhyw dir y gellid ei ddatblygu ar gyfer carchar o’r maint hwn. Fe wnaethom ddarparu rhestr o 20 safle. Rydym yn darparu rhestr o’r math hwn yn rheolaidd—[Torri ar draws.] Mewn eiliad, fe wnaf, Dai. Rydym yn darparu’r math hwn o wasanaeth yn rheolaidd i bob busnes a phob datblygwyr.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am dderbyn yr ymyriad. Rwy’n derbyn bod Llywodraeth Cymru’n darparu’r gwasanaeth hwnnw ar gyfer pob busnes, ond yn eich ymateb i mi ym mis Mai fe wnaethoch dynnu sylw at y meini prawf a ddarparodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder i chi ar gyfer safleoedd. Un ohonynt oedd na ddylai fod yn orlifdir, ac eto fe wnaethoch gynnwys safle, sef y safle penodol hwn, sydd ar orlifdir. A allwch ddweud wrthyf pam y cafodd y safle hwnnw ei gynnwys?

Byddai’r manylion ar hynny’n dilyn egwyddor gyffredinol fod yna fesurau lliniaru y gall pob busnes ymateb iddynt o ran gorlifdiroedd a datblygiadau llifogydd, ac yn sicr nid yw’n anarferol i ni ddarparu cyfleoedd i ddefnyddio tir ar gyfer pob busnes, fel y dywedais. Dewis y datblygwr yw hynny wedyn, os ydynt yn dymuno bwrw ymlaen i ddatblygu neu fel arall.

Mynegodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder ei hawydd i fwrw ymlaen â chais caniatâd cynllunio ar gyfer cyfleuster carchar ym Maglan, Port Talbot. Nid oeddem yn rhan o’r broses benderfynu a ddewisodd Baglan fel safle a ffafrir.

Un eiliad. Nid yw’r Llywodraeth yn chwarae rôl yn y broses o ddatblygu’r carchar na rôl yn y gymuned. Efallai y byddwn yn gwneud sylwadau ar y cynigion pan fyddant ar gael.

Llywydd, rydym wedi rhoi dwy drwydded i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder wneud gwaith ar y tir hwnnw. Mae’r rhain yn cynnwys mesurau lliniaru ecolegol ac unwaith eto, mae hyn yn arfer cyffredin. Mae datblygwyr am wybod beth yw cyfansoddiad y tir cyn cyflwyno cais cynllunio. Hefyd, mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi gofyn inni drafod cytundeb opsiwn ar gyfer y tir. Nid ydym wedi gwerthu’r tir i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder na dod i gytundeb ynglŷn â gwerthu nac wedi trafod ei werth. Nid yw’n fait accompli fel y mae llawer wedi awgrymu yn y lle hwn ac yn allanol, fel y clywsom. Os cyflwynir cynigion eraill ar gyfer y tir, nid oes dim i’n hatal rhag asesu manteision economaidd hynny a derbyn cynnig da.

Gan eich bod wedi cyfeirio’n benodol ato, a ydych wedi ymrwymo i’r cytundeb opsiwn rydych newydd gyfeirio ato gyda’r Weinyddiaeth Gyfiawnder?

Yr hyn a ddywedais oedd bod y Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi gofyn inni drafod cytundeb opsiwn mewn perthynas â’r tir, ond nid ydym wedi gwerthu’r tir na thrafod cytundeb ar werthiant neu werth y tir.

Nid ydych wedi ymrwymo i’r cytundeb opsiwn, felly.

Roeddwn i eisiau eglurhad, oherwydd fe ddywedoch nad ydych wedi bod yn rhan o unrhyw brosesau gwneud penderfyniadau. Ond ar 28 Mehefin, yn y cwestiynau cymunedau mewn ymateb i fy nghwestiwn ar y carchar, fe ddywedoch fod eich adran wedi cymryd rhan, ac rwy’n dyfynnu

‘o ran penderfynu a chynnig safleoedd a oedd ar gael ar draws rhanbarth de Cymru.’

Felly, roeddech naill ai’n cymryd rhan yn y broses o benderfynu neu nid oeddech yn rhan o hynny, Ysgrifennydd y Cabinet.

Mae’n ddrwg gennyf, rwy’n meddwl bod y chwarae ar eiriau neu’r dehongliad o’r hyn a ddywedais—. Os caf egluro’r safbwynt hwnnw, fel rwyf newydd ei wneud heddiw, rydym wedi cynnig 20 o safleoedd ar draws rhanbarth de Cymru, fel y byddem yn ei wneud ar gyfer unrhyw fusnes neu unrhyw ddatblygwr arall. Nid yw hynny’n anarferol o ran y ffordd y mae llywodraethau’n cyflawni busnes. Rwy’n credu—. Dai, a oeddech eisiau ymyrryd?

Rwyf fi. [Chwerthin.] Roeddwn yn meddwl tybed a allech egluro pam, os yw’r ardal hon wedi ei dynodi’n addas ar gyfer gosod metro Abertawe—pam, felly, y mae’r Llywodraeth yn cynnig y lle fel safle posibl ar gyfer adeiladu, gan fod y ddau beth i’w gweld yn gwrth-ddweud ei gilydd.

Wel, gyda phob parch, mae’r rhain yn faterion ar gyfer y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Nid yw yn ein perchnogaeth—[Torri ar draws.] Nid ein prosiect ni ydyw. Y Weinyddiaeth Gyfiawnder sy’n gwneud hyn. Yr hyn yr ydym yn ei groesawu yw bwriad y Weinyddiaeth Gyfiawnder—[Torri ar draws.]

Gadewch i Ysgrifennydd y Cabinet barhau, os gwelwch yn dda. Mae wedi derbyn llawer iawn o ymyriadau. Gadewch i Ysgrifennydd y Cabinet barhau.

Rwy’n ddiolchgar iawn, Llywydd. Cymerais oddeutu pump o ymyriadau. Rydym yn croesawu bwriad y Weinyddiaeth Gyfiawnder i gynnal digwyddiad cymunedol deuddydd o hyd a fydd yn rhoi cyfle i ymwelwyr a thrigolion weld a gwneud sylwadau ar y cynigion cyn i gais cynllunio ffurfiol gael ei wneud. Ac rwyf wedi clywed llawer o gyfraniadau gan Aelodau yn y Siambr y prynhawn yma, sydd i gyd yn amodau dilys yn ymwneud â chynllunio, a dylent gael eu cyfuno a’u rhoi fel tystiolaeth yn y broses honno.

Llywydd, rydym yn galw ar y Weinyddiaeth Gyfiawnder i sicrhau bod yna ymgynghori llawn a dilys i’r cymunedau a gynrychiolir gan yr Aelodau yma heddiw. Os yw’r awdurdod lleol yn derbyn cais cynllunio, bydd cyfle i drigolion gymryd rhan yn y broses gynllunio honno a buaswn yn eu hannog i wneud hynny. Fel y dywedais, nid yw polisi carchardai yn fater datganoledig, ond hoffwn rannu rhai syniadau ar y cwestiynau ehangach a ofynnwyd yma heddiw.

Deallaf nad oes digon o leoedd yma ar gyfer nifer y carcharorion risg isel categori C yn ne Cymru. Awgrymwyd hefyd y byddai carchar newydd yn disbyddu’r cyllidebau iechyd ac addysg lleol. Gadewch i mi ei wneud yn gwbl glir: fel yng Ngharchar Berwyn, ni fydd y gwasanaethau hynny ond ar gael os oes digon o arian yn cael ei sicrhau gan Lywodraeth y DU ar eu cyfer.

Nid wyf yn credu y byddai neb yn anghytuno gydag awydd y Weinyddiaeth Gyfiawnder i adeiladu carchardai newydd gyda chyfleusterau modern, addas i’r diben, lle y gellir datblygu diwylliant adsefydlu yn llwyddiannus, yn lle rhai aneffeithiol sy’n heneiddio, fel y soniodd Caroline Jones. Materion ar gyfer y Weinyddiaeth Gyfiawnder a Gwasanaeth Prawf a Charchardai ei Mawrhydi yw’r ystâd garchardai a’i rheolaeth. Buaswn yn gwrthwynebu anfon unrhyw un i garchar yn ddiangen. Yn yr un modd, fodd bynnag, mae angen inni amddiffyn ein cymunedau rhag niwed, ac yn amlwg mae gan garchardai ran i’w chwarae yn hynny. Dai Rees.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ganiatáu i mi gael yr ymyriad. Rwy’n derbyn mai cyfrifoldeb y Weinyddiaeth Gyfiawnder yw’r ystâd garchardai, ond yn yr achos penodol hwn, mae’r tir yn eiddo i Lywodraeth Cymru ac felly, mae’n benderfyniad i Lywodraeth Cymru mewn perthynas â’r anghenion cymdeithasol yn ogystal ag unrhyw beth arall. Ac yn enwedig gan fod gennym y posibilrwydd o Abertawe a Chaerdydd yn cau oherwydd eu bod yn garchardai Fictoraidd yn ôl yr honiad, ac am mai polisi Llywodraeth y DU yn amlwg yw eu cau, gallem wynebu sefyllfa yn y pen draw lle ceir dau brif garchar o fewn 10 milltir i’w gilydd ac felly, nid yw’n gwasanaethu anghenion cymdeithasol y carcharorion a’u teuluoedd mewn rhannau eraill o dde Cymru mewn gwirionedd.

Gyda phob parch i’r Aelod, rwy’n meddwl mai’r hyn y dylem barhau i’w wneud yw cadw at y ffeithiau. Rydym yn gwneud llawer o ragdybiaethau am yr hyn sy’n digwydd yma. Mae’r digwyddiad dau ddiwrnod a gynhelir gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder gyda’ch cymuned yn broses bwysig lle y gallwch ofyn y cwestiynau hynny’n effeithiol, a gobeithio y cânt eu hateb yn unol â hynny gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder.

Llywydd, fel y soniais yn gynharach, mater i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yw’r cwestiynau’n ymwneud â’r ystâd garchardai. Nid yw’r rhain yn benderfyniadau i ni eu gwneud, ond cyn i ni wrthwynebu carchar modern ar ei ben dylem feddwl am gost hynny i garcharorion o Gymru, eu teuluoedd ac yn anad dim i’r cymunedau y byddant yn dychwelyd iddynt ar ôl cwblhau eu dedfryd. Ni ddylai hyd yn oed carcharorion a’u partneriaid, eu teuluoedd a’u plant orfod ymweld â hwy mewn sefydliadau nad ydynt yn gallu parchu urddas dynol carcharorion a’u teuluoedd yn llawn. Rwy’n credu y dylem sicrhau hynny i bawb.

Roedd y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn rhagweld, pan fyddai’n weithredol, y bydd y datblygiad hwn yn creu tua 500 o swyddi newydd ac yn chwistrellu tua £11 miliwn y flwyddyn i’r economi leol. Mae’r rhain yn sicr yn faterion y dylid eu dwyn i sylw’r Weinyddiaeth Gyfiawnder. Fel y mae Dai Rees wedi ei ddweud, mae am weld y dystiolaeth ar hynny, ac rwy’n credu ei fod yn gwestiwn teg i’w ofyn. Mae cryn dipyn o dir amgen wedi’i ddyrannu at ddefnydd cyflogaeth yn yr ardal. Cyfeiriaf yr Aelodau at y cynllun datblygu lleol. Mae Llywodraeth Cymru wedi, ac yn mynd i barhau i ddarparu pecyn cymorth cynhwysfawr a fydd ar gael i gwmnïau yng Nghastell-nedd Port Talbot sy’n dymuno ehangu a thyfu. Fel yr ydym yn gwrthwynebu, yn y gwelliannau, yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf rydym wedi cynnig bron i £1.5 miliwn i naw o gwmnïau yn yr ardal honno, yn ogystal â £13 miliwn ar draws ystâd Tata Steel.

Llywydd, rwy’n cydnabod yr angen i symud ymlaen, ond o ran llifogydd, fel y gofynnodd yr Aelodau yn gynharach, mater i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder—

Mae amser Ysgrifennydd y Cabinet wedi hen ddod i ben yn barod. Rwy’n deall eich bod wedi derbyn nifer o ymyriadau eisoes, ond os dowch â’ch cyfraniad i ben, yna ni fydd angen i chi dderbyn unrhyw ymyriadau eraill. [Chwerthin.]

Rwy’n ddiolchgar iawn am eich cyngor, Llywydd. O ran y materion yn ymwneud â llifogydd, mater i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder fyddai gwneud achos drwy asesiad o ganlyniadau llifogydd wrth i’r broses fynd rhagddi. Mae’r cynnig a’r gwelliannau, mewn gwahanol ffyrdd, yn eich gwahodd i gymeradwyo datganiadau camarweiniol ynglŷn â rôl a gweithredoedd Llywodraeth Cymru. Nid ydym wedi dewis y safle. Bydd y cynnig yn amodol ar broses gynllunio lawn. Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn penderfynu a ddylid bwrw ymlaen ai peidio, a bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio i hyrwyddo’r economi yn yr ardal. [Torri ar draws.] Rwy’n annog yr Aelodau i wrthod y cynnig a’r gwelliannau heddiw, Llywydd.

Wel, yn anad dim arall, rwy’n falch ein bod wedi cael dadl danllyd a diddorol i’r rhai ohonom sydd wedi bod eisiau cael y ddadl hon heddiw, ond mae’n rhaid i mi ddweud fy mod yn siomedig gydag ymateb Ysgrifennydd y Cabinet gan ein bod mewn wythnos lle rydym yn trafod datganoli a’r pwerau sydd gennym. Weithiau, hyd yn oed os nad oes gennych y pwerau yn eich gafael, mae gennych yr awdurdod moesol i newid pethau fel Ysgrifennydd Cabinet. Mae gennych hawl i beidio â rhyddhau’r tir hwnnw i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder. Efallai fod yna brosesau y mae busnesau’n eu dilyn, ond nid oes rhaid i chi ddilyn y broses honno bob amser. Nid oes rhaid i chi roi’r rhestr honno o wahanol ddarnau o dir iddynt eu datblygu i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder—[Torri ar draws.] Wel, nid oes raid iddynt wneud hynny, oes yna—? Hoffwn i chi ymyrryd, Ysgrifennydd y Cabinet, oherwydd roeddech yn ysgwyd eich pen pan oeddech yn dweud nad ydych wedi arddel safbwynt. A ydych yn cefnogi’r carchar hwn? Felly, gallwn eich cofnodi’n dweud mewn gwirionedd a ydych chi’n ei gefnogi ai peidio, oherwydd nid wyf yn siŵr o hyd. Mae Carwyn Jones fel Prif Weinidog i’w weld yn hapus i’r carchar ddod i dde Cymru. A ydych o blaid y carchar hwn?

Wel, mae’n amlwg na wrandawodd yr Aelod. Fe ddywedoch yn gynharach nad yw hyn yn ymwneud â gwleidydda, sef yr union beth rydych chi a’ch cydweithwyr wedi dechrau ei wneud. Mae hyn yn—[Torri ar draws.]

Gadewch i Ysgrifennydd y Cabinet i ymyrryd. Ewch yn eich blaen, Ysgrifennydd y Cabinet.

Rwy’n ddiolchgar iawn am eich cyngor, Llywydd. Y mater i ni yw, os daw cynnig ar gyfer y safle, fel y dywedais yn ystod fy nghyfraniad, mae’n dal i fod ar agor i gynigion gan fusnesau eraill. Nid ydym wedi ffurfio barn sefydlog ynglŷn ag a ddylai’r carchar fynd yn ei flaen neu a ddylai math arall o fusnes fynd yn ei flaen. Mae hynny’n gwbl arferol.

Felly, a wnewch chi—? Fel y dywedodd Adam Price, mae Envases, y cwmni wrth ymyl y safle hwnnw, wedi dweud y byddai ganddynt ddiddordeb yn ei brynu, ac mae wedi bod yn wag ers cymaint o amser. Pam nad ydych wedi buddsoddi yn y tir hwn cyn nawr? Oherwydd ei fod ar barc diwydiannol, mae’n ddyletswydd arnoch i wneud hynny. Dywedais—ni ddywedais na fyddem yn wleidyddol; dywedais ein bod yn gweithio’n drawsbleidiol, ac rydym yn gweithio gydag aelodau o’ch plaid eich hun ym Mhort Talbot sy’n gwrthwynebu’r datblygiad hwn, a buaswn yn falch o barhau i weithio gyda hwy cyhyd ag y gallwn yn hyn o beth. Ni fydd gennyf amser i fynd drwy sylwadau pawb, ond rwy’n gwrthwynebu rhai o’r sylwadau gan Suzy Davies, sydd fel arfer yn eithaf blaengar, yn hytrach na llefarydd ar ran y Blaid Geidwadol ar lefel y DU. Fe soniais, sawl gwaith, am adsefydlu carcharorion. Nid ydym eisiau—. Rwy’n siarad â charcharorion am hyn ac maent hwy eu hunain yn dweud nad ydynt am gael uwch garchar, nad yw hynny’n eu cynorthwyo. Maent yn eu galw’n ‘warysau’, maent yn dweud eu bod yn cael eu lluchio i mewn ac allan o’r system. Dyna pam ein bod yn gwrthwynebu hyn yn sylfaenol.

Nid wyf yn siŵr ei bod yn werth mynd drwy’r holl sylwadau, ond roeddwn yn meddwl ei bod yn bwysig clywed yr hyn a ddywedodd Lee Waters mewn perthynas â chomisiwn cyfiawnder i Gymru, ond rydym yn gwybod bod ASau Llafur ar lefel y DU yn erbyn gweld cyfiawnder troseddol yn cael ei ddatganoli i’r lle hwn, felly byddwn yn gobeithio, drwy’r comisiwn gyfiawnder i Gymru, y gallwn weld yr ASau hynny’n newid eu meddyliau. Gobeithiaf y bydd David Rees, fel yr Aelod lleol a siaradodd mor huawdl yma heddiw, yn cefnogi cynnig Plaid Cymru, fel y gobeithiaf y bydd Aelodau eraill o’ch plaid yn ei wneud, gan eich bod wedi siarad yn gryf ynglŷn â pham y dylid defnyddio’r ardal hon ar gyfer datblygu economaidd, a pham, o ymchwil a wnaethoch ac y mae eraill wedi’i wneud, na allwch ddod o hyd i resymau cryf pam y dylid adeiladu uwch garchar ym Mhort Talbot. Felly, edrychaf ymlaen at weithio gyda chi ymhellach ar hynny.

Fe ddof â fy sylwadau i ben, ond nid yw hyn yn ymwneud â cheisio dieithrio neu fychanu carcharorion. Rydym i gyd, yn yr ystafell hon, yn gwybod sut yr ydym eisiau eu cefnogi a’u hadsefydlu, ac mae gan bawb ohonom bobl sy’n dod atom yn ein cymunedau i ddweud sut y dylid gwneud hynny. Ond nid yw preifateiddio’r gwasanaeth prawf yn mynd i helpu i gynorthwyo’r broses honno chwaith, ac rwy’n meddwl bod yn rhaid i ni i gyd weithio gyda’n gilydd i sicrhau—[Torri ar draws.]

Ni allaf glywed Bethan Jenkins. A gaf fi glywed cyfraniad terfynol Bethan Jenkins?

Adam, a ydych am wneud ymyriad? [Torri ar draws.] Rwy’n mynd i ddod â’r ddadl hon i ben, ac rwy’n diolch i bawb am ddadl mor fywiog os nad dim byd arall.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais, felly, ar yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

8. 8. Cyfnod Pleidleisio

A dyma ni’n cyrraedd y cyfnod pleidleisio, ac felly'r bleidlais gyntaf ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar gynghorau iechyd cymuned. Rydw i’n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 16, neb yn ymatal, 37 yn erbyn. Ac felly, gwrthodwyd y cynnig.

Gwrthodwyd y cynnig: O blaid 16, Yn erbyn 37, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6505.

Galwaf nawr am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 28, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Derbyniwyd y gwelliant.

Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 28, Yn erbyn 25, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 1 i gynnig NDM6505.

Galwaf am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 53, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 2.

Derbyniwyd gwelliant 2: O blaid 53, Yn erbyn 0, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 2 i gynnig NDM6505.

Cynnig NDM6505 fel y’i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi Papur Gwyn Llywodraeth Cymru, 'Gwasanaethau sy'n addas i’r dyfodol’, sy'n amlinellu cyfres o gynigion i gryfhau ansawdd a llywodraethiant mewn gwasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru.

2. Yn nodi bod Pwyllgor Iechyd a Chwaraeon Llywodraeth yr Alban yn ystyried nad oedd cyngor iechyd cymuned cenedlaethol sengl yn yr Alban yn ddigon annibynnol ar y llywodraeth.

Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 28, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd: O blaid 28, Yn erbyn 25, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6505 fel y’i diwygiwyd.

Mae’r bleidlais nesaf ar ddadl Plaid Cymru ar uwch-garchariadau. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid naw, tri yn ymatal, 41 yn erbyn, ac felly gwrthodwyd y cynnig.

Gwrthodwyd y cynnig: O blaid 9, Yn erbyn 41, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6506.

Galwaf nawr am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 17, neb yn ymatal, 36 yn erbyn, ac felly gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwrthodwyd y gwelliant: O blaid 17, Yn erbyn 36, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 1 i gynnig NDM6506.

Felly, galwaf nawr am bleidlais ar y cynnig wedi’i—. Nid oes dim byd wedi’i dderbyn, naill ai gynnig neu welliant. Felly, dyna ddiwedd ar y cyfnod pleidleisio.

9. 9. Dadl Fer: Y Ddarpariaeth o Ofal Sylfaenol yn Ardal Llanharan

Rydym ni’n symud, felly, i’r ddadl fer, ac os gwnaiff Aelodau adael y Siambr yn dawel, yna fe fyddaf i’n galw y ddadl fer mewn munud.

Y ddadl fer, felly: Huw Irranca-Davies i gyflwyno’r ddadl fer. Huw Irranca-Davies

Diolch, Llywydd. Wrth agor y ddadl hon, a gaf fi nodi fy mod wedi cytuno i Suzy Davies siarad ynddi, a Dai Lloyd hefyd? Felly, wrth agor y ddadl rwy’n cyflwyno cais i Ysgrifennydd y Cabinet heno i ofyn am ei gymorth i ddatrys problem hirhoedlog sy’n effeithio ar ofal sylfaenol yn Llanharan, Brynna a’r ardal gyfagos. Nid yw’r cais yn cael ei wneud ar chwarae bach. Byddai’n well gennyf beidio â’i wneud. Mae wedi’i wneud yn sgil rhywfaint o rwystredigaeth ar ôl ymdrechion parhaus trigolion lleol a gweithredwyr cymunedol, cynghorwyr cymuned a sir, fy hun ac eraill sy’n pryderu am hyn, i ddod o hyd i ffordd ymlaen dros y 18 mis diwethaf, ac rwyf wedi buddsoddi cryn dipyn o fy amser yn bersonol ac amser fy nhîm swyddfa i sicrhau cynnydd, ac rwy’n gwybod bod cynghorwyr fel Geraint Hopkins a Roger Turner, cynghorwyr cymuned fel Chris Parker ac eraill wedi gweithio’n ddiwyd y tu ôl i’r llenni yn ogystal.

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Byddai hanes byr o’r mater hwn yn help. Oddeutu 18 mis yn ôl bu newid sydyn ac annisgwyl i’r gwasanaeth a ddarparir i drigolion Llanharan a Brynna gan Ganolfan Feddygol leol Pencoed. Ers cryn dipyn, roedd is-gangen fel y’i gelwir o feddygfa meddyg teulu yn cael ei darparu yn Llanharan a Brynna o dan gontract gan Ganolfan Feddygol Pencoed, y byddai’r trigolion yn dweud nad yw’n hafal i gael canolfan feddygol eu hunain i wasanaethu’r cymunedau sy’n ehangu’n gyson yn ardal Llanharan. Roedd o leiaf yn darparu gwasanaeth rhesymol a gâi ei werthfawrogi i’r cleifion oedrannus a’r cleifion eraill nad oedd ganddynt eu cludiant eu hunain neu a gâi anhawster i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus neu ei fod, fel tacsis, yn rhy ddrud, neu’r rhai heb lawer o amser oherwydd gwaith neu ymrwymiadau eraill. Dylwn hefyd nodi, gyda llaw, nad beirniadaeth yw hon o’r clinigwyr a’r aelodau eraill o staff yng Nghanolfan Feddygol Pencoed, a’r gofal y maent yn sicr, wrth gwrs, yn awyddus i’w ddarparu i’w holl gleifion ble bynnag y maent yn byw. Beirniadaeth yw hon o’r strwythurau a’r ffrydiau ariannu sydd i’w gweld yn rhwystro gofal di-dor i gleifion, yn enwedig, fel yn y sefyllfa hon, pan fo’r cleifion a’r practis yn perthyn i ddwy ardal awdurdod iechyd wahanol.

Ond arweiniodd y newidiadau hynny 18 mis yn ôl at ostyngiad amlwg a oedd i’w weld yn syth yn yr oriau o ddarpariaeth meddyg teulu yng ngwasanaeth yr is-gangen. Roedd y newid, fel y dywedais, yn sydyn ac yn annisgwyl. Cafodd llawer o gleifion eu synnu. Yn ddealladwy, roedd llawer o drigolion yn bryderus iawn ynglŷn â’r hyn a oedd yn ymddangos fel ymgais sydyn i ddileu gwasanaethau, neu leihad sylweddol fan lleiaf yn y gwasanaethau i’r rhai nad oedd yn ei chael yn hawdd teithio i Bencoed. Cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus a drefnwyd mewn ymateb i’r pryderon hyn. Mynychodd dros 100 o bobl y cyfarfod hwnnw ac—nid wyf yn defnyddio rhyw fath o orliwio tebyg i Trump adeg ei urddo’n arlywydd yma—roedd y coridorau’n llawn o bobl yn ceisio clywed beth oedd yn cael ei ddweud yn y cyfarfod. Yn ychwanegol at y trigolion lleol a oedd yn bresennol, roedd yna gynghorwyr a chynghorwyr cymuned, Aelodau Cynulliad rhanbarthol a lleol, yr Aelod Seneddol, Chris Elmore, cynrychiolwyr o Ganolfan Feddygol Pencoed, bwrdd iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, y cynghorau iechyd cymuned ac eraill. Ond nid torf anwaraidd oedd hon; roeddent yn ceisio dod o hyd i’r ffeithiau ynglŷn â beth oedd yn digwydd a’r hyn oedd yn amlwg bryd hynny ac sy’n glir yn awr yw bod y ffin weinyddol sy’n gwahanu PABM a Chwm Taf yn broblem real a phwysig. Efallai y gall y cynnig diweddar fod modd uno ochr ddwyreiniol PABM ac awdurdodau iechyd Cwm Taf helpu i ddatrys y mater hwn, ond ni allwn aros am byth.

Mae Canolfan Feddygol Pencoed yn rhan o ardal PABM a chaiff cleifion eu cyllido drwy PABM, ac eto, drwy batrymau gwasanaeth hanesyddol, tra bod y rhan fwyaf o’r cleifion ym Mhencoed yn mynd naill ai i bractis meddygol Pencoed neu i’r un arall cyfagos, mae cyfran sylweddol o’r cleifion—mwyafrif y cleifion yng Nghanolfan Feddygol Pencoed yn ôl yr hyn a ddeallaf—yn dod o ardaloedd Llanharan a Brynna, sydd yn nalgylch Cwm Taf. Gallwch weld y problemau trawsffiniol sy’n codi gyda llif arian.

Mae Canolfan Feddygol Pencoed, drwy leihau ei gwasanaeth, yn gweithio’n syml yn ôl manylion ei chontract—dim mwy, dim llai. Ni all bwrdd iechyd fynnu eu bod yn darparu gwasanaeth penodol. Mae angen cysoni’r cymhellion ariannol ochr yn ochr ag anghenion cleifion ac i fod yn deg â Chanolfan Feddygol Pencoed, mae yna resymeg i’w dadl fod buddsoddi i wella’r gwasanaeth a ddarperir ym Mhencoed yn well i bob claf sy’n gallu mynychu’r lle hwnnw—sy’n gallu mynychu’r lle hwnnw. Ond mae’r meddygfeydd cangen yn Llanharan a Brynna wedi bod yn diwallu gofynion unigolion hŷn sy’n cael mwy o drafferth symud ac sy’n ei chael yn anodd mynychu Canolfan Feddygol Pencoed oherwydd cyfyngiadau cost, iechyd, cludiant neu amser.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, siaradais â’r ganolfan feddygol ac awgrymais i’r PABM y dylent gynnig rhywfaint o arian ychwanegol i’r ganolfan feddygol a allai helpu yn y tymor byr i adfer, neu i adfer yn rhannol, y lefel wreiddiol o wasanaeth i feddygfeydd cangen Llanharan a Brynna. Byddai’n mynd yn bell, Weinidog, tuag at leddfu’r anfodlonrwydd parhaus. Felly, buaswn yn ddiolchgar iawn am gymorth Ysgrifennydd y Cabinet i geisio eglurhad am y rhesymau pam na ellir adfer y gwasanaeth gwreiddiol yn Llanharan a Brynna, neu rywbeth yn debyg iddo, er mwyn lleddfu’r pryderon presennol, yn enwedig os yw PABM wedi cynnig cymorth ychwanegol, fel sydd wedi digwydd o bosibl yn ôl yr hyn a ddeallaf. Rwy’n deall y gall y trafodaethau rhwng practis meddygol preifat a bwrdd iechyd fod yn anodd, a bod yn rhaid diogelu rhai cyfrinachau masnachol, ond rwy’n credu bod pobl leol, gan gynnwys y rhai a fynychodd y cyfarfod gwreiddiol, yn haeddu adroddiad gonest ynglŷn â pha ymdrechion a wnaed gan PABM a phractis meddygol Pencoed i ymateb i’w pryderon. Rwy’n credu y byddai pobl yn siomedig, a dweud y gwir, pe gwelid bod cymorth wedi cael ei gynnig a allai adfer y gwasanaeth a lleddfu’r pryderon hynny, a bod cymorth o’r fath wedi cael ei wrthod am ba reswm bynnag.

Cyn i mi droi at y mater strategol mwy, gadewch i mi gryfhau’r achos mewn dwy ffordd arwyddocaol, gan wybod bod polisi sy’n seiliedig ar dystiolaeth yn bolisi da yn wir ac y byddai Ysgrifennydd y Cabinet yn cefnogi hynny. Roeddwn wrth fy modd fod y cynghorau iechyd cymuned, yn ôl ein hanogaeth, wedi dod at ei gilydd i edrych ar y materion yn ymwneud â boddhad cleifion ymhlith y rhai a fynychai feddygfa Llanharan a meddygfa Brynna—ac roedd yr hyn a ganfuwyd ganddynt yn ddiddorol iawn. Mae’n rhaid i mi ddweud bod lefelau bodlonwydd cleifion, ar y cyfan, â meddygfa Pencoed yn 65 y cant—y rhai a ddywedodd eu bod yn fodlon i ryw raddau neu’i gilydd. Ond roedd 65 y cant o’r rhai a fynychai’r meddygfeydd yn Llanharan a Brynna yn anfodlon. Mae’n ddiddorol dros ben. Roedd y rhan fwyaf o’r cleifion—65 y cant—yn fodlon at ei gilydd â’u profiad o’r practis yn gyffredinol, ond roedd y 65 y cant a fynychai feddygfa gangen Llanharan yn anfodlon â’r amseroedd agor. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn ardal Llanharan, yn ôl yr adroddiad, yn anhapus â’r amseroedd agor; roeddent yn ei ystyried yn annheg. Achosai anawsterau penodol, yn ôl yr hyn a ddywedwyd wrth y cyngor iechyd cymuned, i bobl sy’n gweithio a’r rhai yr oedd angen iddynt gasglu presgripsiynau. Ychydig o gleifion a soniodd am deithio i’r feddygfa ymhellach i ffwrdd, ond pan fyddent yn gwneud hyn, roedd yn effeithio ar drefniadau teithio. Roedd rhagor o bobl angen sicrhau lifft gan ffrindiau neu deulu neu gludiant cymunedol, ac roedd yn rhaid i rai ddibynnu ar wasanaethau tacsi. Ac roedd pobl yn mynegi rhwystredigaeth ynghylch yr hyn y cyfeiriais ato’n flaenorol, am y llwybrau gofal sy’n gysylltiedig â bod wedi cofrestru gyda phractis PABM. Gwnaed y sylwadau hyn gan gleifion ar draws y practis, a deimlai y byddai’n fwy cyfleus symleiddio’r broses a oedd yn achosi problemau ar hyn o bryd.

Ac maent wedi gwneud argymhellion, Ysgrifennydd y Cabinet. Roeddent yn nodi angen i aildrefnu’r system apwyntiadau, ac mae hynny’n digwydd ar hyn o bryd. Mae’n achosi rhai problemau cychwynnol, ond mae newid ar y gweill ar hyn o bryd yn y feddygfa. Ond roeddent yn dweud efallai y byddai’r practis yn dymuno edrych eto ar y ddarpariaeth a gynigir ym meddygfa gangen Llanharan, er mwyn sicrhau bod gwasanaethau’n cael eu trefnu i ddiwallu anghenion y boblogaeth yn y ffordd orau, a gallai hyn gynnwys darparu rhai apwyntiadau diweddarach. Dyna oedd yn arfer digwydd. Dyna pam na all pobl gyrraedd yno mwyach. Efallai y bydd y practis yn dymuno archwilio ffyrdd amgen i gleifion Llanharan allu cael presgripsiynau, o bosibl drwy weithio gyda fferyllfeydd lleol, yn hytrach na mynd yr holl ffordd i Bencoed, ac yn y blaen. A dylai Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf ystyried a ellid ymestyn ffiniau practisau cyfagos i gynnig dewis i drigolion yn ardal Llanharan allu mynd i un o bractisau Cwm Taf. Gwnaethant argymhellion penodol. Byddai’n wych gweld a allem weithredu ar y rheini.

Ond gadewch i mi fynd ymhellach, oherwydd yr agwedd arall yw’r twf enfawr ym mhoblogaeth ardal Llanharan a Brynna. Yn y 10 mlynedd rhwng 2005 a 2015, tyfodd ward Llanharan 14 y cant o ran nifer y cartrefi—450 o gartrefi ychwanegol. Yn ward Brynna, tyfodd 17 y cant gyda 657 o dai ychwanegol dros y cyfnod o 10 mlynedd. Ar y cyfan, mae dros 1,100 o gartrefi newydd wedi ymddangos mewn cyfnod o 10 mlynedd yn Llanharan. Ond nid dyna’r cyfan. Os edrychwn ymlaen at yr hyn sy’n mynd i ddigwydd yn y dyfodol, gallwn weld bod y cynllun datblygu lleol a fabwysiadwyd ar gyfer Rhondda Cynon Taf yn argymell safle datblygu strategol yn Llanharan i oddeutu 2,000 yn fwy o dai. Nid wyf yn dibrisio hyn; mae’n gyrchfan boblogaidd. Mae hon yn ardal gymudo gyda gorsaf reilffordd a gwasanaeth da, a ffordd osgoi diolch i benderfyniadau da gan awdurdod lleol Llafur a Gweinidogion Llafur yn gweithio gyda’i gilydd i’w darparu. Mae’n ei gwneud yn ardal fwy deniadol—2,000 yn rhagor o dai. Mae’r un cynllun datblygu yn dyrannu safle ym Mrynna ar gyfer 200 yn rhagor o dai. Mae’n tyfu’n gyflym ac mae angen i ni gysoni’r ddarpariaeth yn unol â hynny.

Felly, yn ogystal â cheisio cymorth Ysgrifennydd y Cabinet i ofyn am eglurhad ynglŷn â pham na ellid adfer y gwasanaeth gwreiddiol mewn rhyw ffordd neu’i gilydd, gadewch i ni edrych ar y mater mwy. Mae’n amlwg nad gwahaniaeth canfyddedig yn unig ydyw ond un go iawn ym mywydau a phrofiad cleifion yn Llanharan a’r rhai ym Mhencoed, ac rwyf am gael gwasanaeth teg, gwasanaeth da i bawb. Nid wyf am fychanu’r hyn sy’n digwydd ym Mhencoed, rwyf am godi’r safonau yn Llanharan a Brynna. Rwyf am iddynt i gyd gael gwasanaeth gwych ac rwy’n siŵr y byddai’r practis meddygol sy’n gwasanaethu’r ardal eisiau hynny hefyd. Nid yw’n digwydd ar hyn o bryd.

Felly, mae’r ail ddarn o dystiolaeth sy’n ymwneud â’r cynnydd yn nifer y cartrefi yn fy arwain at fy ail bwynt. Mae Llanharan yn gymuned wych. Mae’n mynd drwy drawsnewid mawr unwaith eto. Roedd yn arfer bod yn gyn-ddiwydiannol, rhan wledig o Sir Forgannwg, yna fe ehangodd yn aruthrol drwy’r chwyldro diwydiannol, drwy reilffyrdd a thrwy byllau glo ac yna drwy lo brig, ac yn awr, gyda dyfodiad cysylltiadau rheilffordd newydd a chysylltiadau ffordd newydd, rydym yn ceisio mynd â’r lle i mewn i gyfnod newydd yn ogystal. Mae’n fan poblogaidd sy’n tyfu ar hyd arfordir de Cymru. Mae’n mynd i dyfu’n gyflym.

Felly, rwy’n falch, dros y 18 mis diwethaf, Ysgrifennydd y Cabinet, fod arweinwyr awdurdod iechyd Cwm Taf a chyngor Rhondda Cynon Taf wedi bod yn barod i gymryd rhan mewn trafodaethau archwiliol gyda’r nod o ddatrys anghenion gofal sylfaenol gwaelodol y gymuned hon. Mae cynghorwyr lleol fel Geraint Hopkins a Roger Turner wedi chwarae eu rhan hefyd, ochr yn ochr â chynghorwyr cymuned. Mae pawb ohonom wedi bod yn archwilio i weld a oes yna ewyllys i weithio mewn partneriaeth er mwyn creu cyfleuster gofal sylfaenol newydd sy’n addas ar gyfer y ganrif hon, ac a fyddai’n gwasanaethu anghenion y boblogaeth hon sy’n tyfu, yn ogystal â’r cymunedau cyfagos.

A gallwn gael ein temtio i ddychmygu’r model posibl ar gyfer darpariaeth gofal sylfaenol addas i’r dyfodol yn Llanharan a’r cylch. Mae elfennau ohono i’w gweld eisoes mewn enghreifftiau ardderchog fel canolfan feddygol Gilfach Goch yn etholaeth Ogwr, a’r nifer o rai eraill sydd wedi eu datganoli mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, awdurdodau iechyd, meddygon teulu a chlystyrau’n gweithio gyda’i gilydd. Gallai gynnwys, er enghraifft, ymarfer addysgu ar gyfer meddygon teulu a phroffesiynau perthynol. Gallai ddwyn ynghyd y gwasanaethau perthnasol mewn un lle ar gyfer y gymuned honno, gyda bydwragedd a nyrsys ardal, dietegwyr a cheiropractyddion—amrywiaeth o weithwyr proffesiynol y tu hwnt i’r practisau meddygon teulu, sy’n hen ffasiwn ac yn perthyn i’r ganrif ddiwethaf er mor annwyl ydynt—gyda fferyllydd gwybodus ar y safle a allai gynghori ar anhwylderau cyffredin a darparu presgripsiynau, gan ryddhau amser gwerthfawr y meddyg teulu. Ac mae hyn i gyd, Ysgrifennydd y Cabinet, fel rydych chi’n ei gefnogi, yn helpu i gadw pobl yn iach yn hirach yn eu bywydau ac yn nes at adref, heb orfod troi at ofal argyfwng neu ofal acìwt mewn gwely ysbyty. Pwy a ŵyr? Efallai hyd yn oed ar safle, gyda chymorth Rhondda Cynon Taf, sy’n cyfuno cyfleusterau gofal modern i’r henoed hefyd.

Ysgrifennydd y Cabinet, dyma yw eich cenhadaeth wedi bod fel Llywodraeth Cymru i drawsnewid y dull o ddarparu gofal sylfaenol a gofal cymdeithasol, gan gadw pobl yn iach yn nes at adref, gan leihau’r orddibyniaeth ar feddygon teulu, a defnyddio gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd yn fwy effeithiol, a chwalu’r rhwystrau rhwng iechyd a gofal cymdeithasol heb newidiadau strwythurol costus. Rydych wedi bod yn cyflawni’r trawsnewid hwn mewn mannau eraill. Rwyf wedi’i weld, rwyf wedi gweld y canlyniadau iechyd cadarnhaol. Mae’n drawsnewidiol; mae’n gweddnewid bywydau pobl. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, mae pobl yn Llanharan yn barod i gael y trawsnewid hwnnw.

Felly, a gaf fi ofyn: i ddatrys y materion uniongyrchol, a allai Ysgrifennydd y Cabinet helpu i hwyluso cyfarfod gyda PABM a Chanolfan Feddygol Pencoed i weld a ellir dod o hyd i ffordd o ddatrys y gwahaniaeth o ran bodlonrwydd â phrofiad y claf rhwng y rhai sy’n byw yn Llanharan a Brynna a’r rheini sy’n byw ym Mhencoed? Rwyf am iddynt i gyd gael gwasanaeth gwych. Yn ail, a allech helpu i chwarae rhan yn hwyluso cyfarfod gyda bwrdd iechyd PABM a bwrdd iechyd Cwm Taf, Rhondda Cynon Taf a phartneriaid posibl eraill, i archwilio’r opsiynau ar gyfer datblygu cyfleusterau newydd? Mae canolfan feddygol, gyda llaw, eisoes wedi’i chynnwys yn y safle datblygu strategol, felly gadewch inni osod y trafodaethau hyn ar lwybr carlam. Byddai hyn yn helpu i ddatrys, mewn ffordd ystyrlon, y materion sylfaenol sy’n gysylltiedig â’r twf enfawr yn nifer y tai a phoblogaeth yr ardal. Pe gallai gytuno i’n cynorthwyo i sicrhau cynnydd ar y materion hyn a chael gwared ar y dagfa, rwy’n gwybod y byddai pawb yn y gymuned leol yn gwerthfawrogi hynny, gan gynnwys y rhai sy’n gwylio o’r oriel heddiw, ac edrychaf ymlaen at gyfraniadau gan eraill.

Diolch yn fawr iawn. Fe ddywedoch fod dau o bobl. Mae ganddynt rywbeth fel 45 eiliad rhyngddynt i ymateb i’r ddadl, felly fe fydd yn her. Cawn weld sut yr aiff hi. Suzy Davies.

Yn gyntaf oll, diolch i chi am y gwaith caled rydych wedi ei wneud ar hyn yn ogystal, a hefyd am dynnu sylw at y rheswm pam y mae cynghorau iechyd cymuned mor bwysig i’n cymunedau lleol. Mae peth anhawster wedi bod i gael cyfarfod cyhoeddus newydd at ei gilydd i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r gymuned ar hyn, yn rhannol oherwydd amharodrwydd cynrychiolwyr y practis i fod yn bresennol, ond mae’r rhesymau a roddant am eu hamharodrwydd i fynychu yn eithaf diddorol. Y cyntaf yw nad ydynt wedi clywed gan y grŵp llywio y soniwyd amdano—mae’n rhaid bod hynny o leiaf flwyddyn yn ôl bellach—i helpu i lyfnhau’r ffordd ar hyn, ond yn ail ac yn bwysicach fyth, nid ydynt wedi clywed gan PABM. Dyma fwrdd iechyd sydd eisoes wedi cael anawsterau wrth ymdrin â materion yn ymwneud â meddygfeydd ym Mhorthcawl, ac os nad ydynt yn barod hyd yn oed i ymgysylltu â chi yn awr ar hyn, yna mae cwestiynau difrifol gennyf ynglŷn â pha mor barod y byddant i gymryd rhan mewn trafodaethau am glystyrau meddygon teulu, sy’n mynd i fod yn hanfodol i’r weledigaeth sydd gan bawb ohonom ar gyfer y dyfodol.

Diolch. Yn fyr, rwy’n gweithio mewn meddygfa gangen ym Mhenclawdd, sydd sawl milltir o’r cartref—y ganolfan reoli—ym meddygfa Tre-gŵyr, ond mae’n ddrud o ran y safle. Mae angen edrych ar y gyllideb safleoedd. Mae hefyd yn eithaf afrad o ran staffio a thechnoleg TG. Nid oes dim o hynny’n anorchfygol, yn enwedig o ystyried tai newydd; mae’n gofyn am drefn, dyna i gyd, ac ymagwedd fentrus, ond mae angen arian, trefn ac ysgogiad gwleidyddol.

Diolch yn fawr iawn, a galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, Vaughan Gething, i ymateb i’r ddadl.

Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i Huw Davies am gyfle arall i siarad heddiw yn y Siambr, ond yn arbennig am ddefnyddio’r ddadl fer heddiw i dynnu sylw at bwysigrwydd sicrhau mynediad at wasanaethau gofal sylfaenol o ansawdd uchel.

Yn ein gwasanaethau gofal iechyd lleol y bydd mwy na 90 y cant o gysylltiad pobl â’r system gofal iechyd yma yng Nghymru yn digwydd. O’r holl bwyntiau a wnaed heddiw, mae wedi bod yn ddiddorol iawn fod cymaint ohonynt wedi canolbwyntio ar y rhan ysbyty o’r system honno ac eto mae mwyafrif helaeth—dros 90 y cant, fel y dywedais—o gysylltiad pobl â’r system yn digwydd yn ein gwasanaeth gofal iechyd lleol. Ac rwy’n sicr yn awyddus i’n gwasanaeth gofal iechyd lleol yng Nghymru, nid yn unig i fod yn seiliedig ar egwyddorion gofal iechyd darbodus fel prif gynheiliad system iechyd a gofal gynaliadwy sy’n gallu ymateb yn gyffredinol i anghenion newidiol ein poblogaeth, ond hefyd rwy’n rhannu’r hyn a ddywedwch: rwyf am i bob cymuned unigol ar draws ein gwlad gael gofal iechyd, sydd nid yn unig o ansawdd uchel yn lleol, ond eu bod yn cael mynediad da ato mewn gwirionedd, yn cael gofal gwirioneddol wych ac yn deall sut beth yw hynny. Ac mewn sawl rhan o’r wlad, bydd hynny’n edrych yn wahanol i’r system sydd wedi ein gwasanaethu’n dda hyd yn hyn, oherwydd rwy’n cydnabod y straen a’r pwysau yr ydym yn aml yn eu trafod yn y lle hwn ynglŷn â dyfodol ein gwasanaeth gofal iechyd lleol, a meddygon teulu yn arbennig fel rhannau arwyddocaol, arweiniol, os mynnwch, o’n system gofal iechyd lleol, gan ein bod yn cydnabod bod gofal iechyd lleol yn newid, ac mae angen iddo newid.

Mae yna gymaint o ysgogwyr y soniwn amdanynt dro ar ôl tro yn y Siambr hon ac fel arall, ond rydym am i’r system ddarparu mwy o ofal yn nes at adref, gydag ymagwedd fwy ataliol: felly, y syniad o drin salwch, symud y tu hwnt i hynny at sut yr ydych yn atal salwch, a chael tîm ehangach o lawer o bobl. Dyna pam y mae ein cynllun gofal sylfaenol cenedlaethol yn nodi camau gweithredu allweddol ar gyfer gwella iechyd lleol, ac mae hynny’n cynnwys datblygu gweithlu mwy integredig, amlbroffesiynol sy’n cydweithio ar lefel leol iawn i ddiwallu anghenion pobl yn y cartref, neu’n agos at adref, ac sy’n cydnabod y gallai ac y dylai llawer mwy o ofal ddigwydd yng nghartrefi pobl eu hunain. Rwy’n falch iawn eich bod wedi sôn yn eich cyfraniad am y realiti ein bod am gadw pobl allan o’r ysbyty. Mae yna lawer mwy y gallem ac y dylem ei wneud.

Weithiau, credaf fod hyn yn swnio fel ystrydeb braidd, pan ddywedwn, ‘Dyma’r llwybr yr ydym am ei ddilyn’, ac yna awn yn ôl, fel gwleidyddion, i siarad am ysbytai eto. Os na allwn wneud hyn yn iawn, fel y trafodasom yn yr adolygiad seneddol, mae yna ddyfodol anodd iawn o’n blaenau i’r gwasanaeth cyfan. Ac yn gynyddol, er hynny, rydym yn gweld byrddau iechyd yn cydweithio gyda phractisau meddygon teulu a darparwyr gwasanaethau lleol eraill. Mae rhywfaint o hyn yn digwydd yn barod, gyda fferyllwyr, nyrsys yn y gymuned, therapyddion, deintyddion, optometryddion, timau iechyd meddwl, gweithwyr cymdeithasol, gweithwyr trydydd sector ac eraill, drwy 64 o glystyrau gofal sylfaenol a grëwyd gennym. Dyna wneud y defnydd gorau o’r adnoddau sydd ar gael inni ac amser ac arbenigedd pobl a’r arian yr ydym wedi ei ddarparu yn uniongyrchol i bob un o’r clystyrau hynny ei wario ar flaenoriaethau lleol. Oherwydd rwy’n cydnabod bod rhannau sylweddol o Gymru lle maent yn cael trafferth recriwtio a chadw meddygon teulu. Buom yn siarad am hynny’n gynharach, yn adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol—nid yn unig y camau rydym yn eu cymryd ar—[Anghlywadwy.]—ac eraill, ond mae gwaith clwstwr yn rhan bwysig iawn o’r hyn yr ydym am ei wneud i gynnal gofal iechyd lleol gwych. Dylai hynny arwain, ac mae eisoes yn arwain, at fwy o gydweithredu rhwng practisau meddygon teulu—nid oeddent bob amser yn siarad â’i gilydd, a dweud y gwir; felly, mae’n digwydd rhwng practisau, nid yn unig o’u mewn—wrth iddynt nodi ffyrdd newydd o drefnu eu hunain a gwneud defnydd effeithiol o’r adnoddau sydd ar gael iddynt.

Mae ein rhaglen genedlaethol ar gyfer pennu cyfeiriad wedi bod yn ddiddorol iawn yn helpu i nodi ffyrdd mwy cynaliadwy o weithio a darparu gwasanaethau, fel y ffederasiwn o bractisau meddyg teulu sy’n symud i’r un lle yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr, a’r fenter gymdeithasol yn ne Powys, menter gymdeithasol Red Kite. Ac mae hynny wedi bod mor ddiddorol, gan ei fod wedi dod â phractisau meddygon teulu nad oedd yn siarad â’i gilydd o’r blaen at ei gilydd, ac nid oeddent yn arfer bod yn ffrindiau, ac erbyn hyn, ni fyddent am ei weld yn digwydd men unrhyw ffordd arall. Mae ganddynt ffordd wahanol o weithio gyda’i gilydd, y ffordd y mae pobl yn cael mynediad at y gwasanaeth, ac maent newydd fabwysiadu gwasanaeth meddyg teulu yn Llanandras—lle roedd y practis meddyg teulu blaenorol yn rhoi ei gontract yn ôl, ac maent wedi mabwysiadu hwnnw. Felly, mae yna awydd yn y proffesiwn i weithio’n wahanol, gan fod mwy o feddygfeydd yn gweld manteision dod at ei gilydd i ddarparu amgylchedd gwell i weithio ynddo ar gyfer staff yn y gwasanaeth, ond llwyfan gwell hefyd i ddarparu gofal iechyd lleol gwych gyda’r cyhoedd, ac ar eu cyfer.

Rwy’n credu mai dyma ble y daw’n ôl at sut y gall y rhaglenni cenedlaethol edrych ar yr heriau y soniwch amdanynt, gan mai rhan sylweddol o’r pryder sy’n cael sylw yn y rhaglen genedlaethol ar gyfer pennu cyfeiriad yw mynediad. Mae’n bryder cyffredin ynglŷn â’r gallu naill ai i gael apwyntiad neu i gael apwyntiad cyfleus a lleol. Mae llawer o’r hyn a ddywedwch yn ymwneud â mynediad at ofal lleol. O’r model hwnnw, y ffordd newydd o weithio drwy bennu cyfeiriad, mae llawer ohono’n canolbwyntio ar sut y mae gennych system frysbennu, naill ai ar y ffôn neu ar-lein neu dan arweiniad nyrs neu feddyg teulu, ond mae’n ffordd o geisio cyfeirio pobl at y rhan gywir o ofal. Gallai hynny olygu mynd i weld meddyg teulu; a gallai olygu cael cyngor y gallwch ymdopi ag ef gartref; gallai olygu mynd i’r fferyllfa; gallai olygu dod i mewn i weld ffisiotherapydd neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol gwahanol. A’r hyn a welsom mewn rhannau sylweddol o hynny yw ei fod mewn gwirionedd yn cyflymu mynediad ar gyfer gweld gweithiwr gofal iechyd proffesiynol, ac mewn gwirionedd mae’n helpu pobl i gael eu cyfeirio at y rhan gywir o’r gwasanaeth, felly nid yw meddygon teulu’n cael eu gorlwytho â phobl nad oes angen iddynt eu gweld ac o bosibl, yn methu gweld y bobl y gallant ac y dylent eu gweld mewn gwirionedd, a gwn fod hwn yn fater y mae’r Aelod gyferbyn wedi ei weld yn ei ymarfer ei hun, ynglŷn â’r ffordd yr ydych yn gwneud y defnydd gorau o amser meddyg teulu. Nawr, mwy o ofal rhagflaenorol, i’w gynllunio i gadw pobl yn eu cartrefi yn hytrach na chael eu derbyn i’r ysbyty, a dyna ble rydym wedi gweld modelau ward rithwir yn cael eu datblygu o gwmpas y wlad hefyd—.

Nawr, y rhan arall yr oeddwn am ganolbwyntio arni cyn i mi fynd o’r cenedlaethol i’r lleol yw’r gwasanaeth elfen gyffredin mewn perthynas â fferylliaeth, oherwydd unwaith eto, fe sonioch am y pwynt ynglŷn â sut y gallai fferylliaeth fod yn opsiwn i bobl gael gwasanaeth mwy lleol. A dweud y gwir, mae Cwm Taf wedi bod yn wirioneddol flaengar ar hyn yn y ffordd y maent wedi mynd ar ôl y gwasanaeth Dewis Fferyllfa. Felly, mae gennym dros 350 o fferyllfeydd yn y wlad ar hyn o bryd sy’n cynnig y gwasanaeth; mae 75 ohonynt yng Nghwm Taf. Roedd un o’r cynlluniau peilot yn ardal Cwm Taf, yn Aberdâr, ac roedd yn wirioneddol ddiddorol gweld sut oedd y practis meddyg teulu lleol yn cydnabod ei fod wedi eu helpu i reoli nifer y bobl sy’n dod drwy’r drws, ac nid y niferoedd yn unig, ond pa mor briodol oedd hi i bobl ddod drwy’r drws yn ogystal. Ac roedd pobl yn ymddiried yn eu fferyllydd. Roedd ganddynt ystafell breifat i fynd i’w gweld, maent yn weithwyr gofal iechyd proffesiynol cofrestredig, a chafodd hyn ei alluogi a’i rymuso drwy fynediad at fersiwn o’r cofnodion meddyg teulu. Mae yna rywbeth ynglŷn â’r diogelwch. Ac yn ddiddorol, mae Cwm Taf wedi dweud wrthyf eu bod yn credu bod y gwasanaeth Dewis Fferyllfa wedi helpu i ddileu camgymeriadau llawysgrifen yn y presgripsiynau sydd i’w darparu hefyd, felly mae yna fudd sylweddol o safbwynt diogelwch hefyd. Nawr, ym mis Mawrth, bydd y gwasanaeth hwnnw ar gael i o leiaf 400—mwy na hanner yn sicr—y fferyllfeydd yng Nghymru, ac rydym am weld sylw cenedlaethol go iawn i’r gwasanaeth hwn.

Mae’n Wythnos Genedlaethol Gofal Llygaid, ond nid wyf am fynd ymlaen i siarad am optometreg gan fy mod am roi sylw uniongyrchol i’r pwyntiau a wnaethoch am y mater lleol. A daw hyn yn sgil mater y mae rhannau eraill o’r wlad yn ei gydnabod: twf poblogaeth—twf cyfredol yn y boblogaeth a thwf a gynlluniwyd—y gwyddom ei fod yn mynd i ddigwydd, ac fe gyfeirioch at Lanharan a Brynna fel ardaloedd sydd wedi eu cysylltu’n dda o safbwynt trafnidiaeth. Yr her yw sut i gynllunio fel bod gwasanaethau’n adlewyrchu’r hyn sydd gennym ar hyn o bryd a’r hyn a fydd gennym, yn hytrach nag aros i’r gwasanaethau hynny gael eu gorlwytho.

Ac mae rhywbeth ynglŷn â dyfodol y gwasanaethau hynny hefyd, a chydnabod ein bod am weithio gyda chontractwyr annibynnol. Felly, byddem yn hoffi gweithio gyda’r contractwyr annibynnol presennol i ddarparu gofal da iawn, o ansawdd uchel. Ac rwy’n cydnabod yr hyn a ddywedwch am y ffaith fod y practis hwn wedi buddsoddi ym Mhencoed. Felly, nid oedd arnynt ofn buddsoddi, ac maent wedi buddsoddi yn un o’r safleoedd hynny. Ac rwyf hefyd yn ystyried ac yn cydnabod y sylwadau a wnaeth y CIC ar y potensial, os na allant gael rhywle y credant fod trigolion lleol am iddynt fod, efallai y byddant eisiau gofyn i Gwm Taf weld a fyddai un o’u darparwyr eraill eisiau dod i agor rhestr yn ardal Llanharan a Brynna. Rwy’n credu bod hynny’n golygu bod yna fwy o reidrwydd i fod eisiau cael sgwrs leol lle—[Anghlywadwy.]—mae yna ddewis arall.

Dyna ble rwy’n dychwelyd at y pwynt ynglŷn â mynd i’r afael â’r pryder neu’r cwestiwn a ofynnwyd gennych am y cynnig i fuddsoddi, ac mae’n ymwneud yn rhannol â phryder Suzy Davies am ABM yn ogystal, gan mai fy nealltwriaeth i yw bod Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg wedi cynnig rhywfaint o fuddsoddiad i wasanaethau aros yn ardal Llanharan a Brynna. Nid wyf yn gwybod pam na chymerwyd hwnnw, ond rwy’n hapus i ofyn a oes modd i’r cynnig blaenorol o ardal bwrdd iechyd Abertawe Bro Morgannwg ddal i fod ar y bwrdd fel rhan o sgwrs agored.

Y pwynt olaf yw’r prif beth y gofynnwch amdano gennyf, rwy’n dyfalu, sef a wyf yn barod i ddefnyddio fy nylanwad, os caf ddefnyddio’r ymadrodd hwnnw, i geisio trefnu sgwrs gyda rhanddeiliaid perthnasol. Ac rwy’n meddwl ei bod yn bwysig iawn eich bod wedi sôn am yr awdurdod lleol, oherwydd, i fod yn deg ag awdurdod lleol Rhondda Cynon Taf, mewn rhannau eraill o’u gwaith maent wedi bod yn help mawr o ran gwneud defnydd nid yn unig o’u gallu i gael gafael ar gyfalaf mewn ffordd wahanol, ond hefyd i edrych ar yr ystâd sydd ganddynt yn ogystal, i weld a oes cyfle i geisio ailsaernïo gofal sylfaenol gyda hwy’n bartneriaid—ac nid cyflawni’r hyn sydd gennym ar hyn o bryd yn unig, ond dod o hyd i ffordd wahanol o’i wneud. Rwy’n hapus i dderbyn ymyriad os caf, ac yna fe fyddaf yn gorffen.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am gymryd yr ymyriad hwn, ac mae’n gwneud pwynt dilys iawn. Nid yw hyn—ac yn wir, buaswn yn hoffi sicrhau bod Canolfan Feddygol bresennol Pencoed yn rhan o’r sgwrs hon, ond mae yna enghreifftiau da gyda Rhondda Cynon Taf. Mae’r cynnig y maent yn edrych arno yn Aberpennar ar hyn o bryd yn sicr yn bartneriaeth rhwng yr awdurdod lleol, o ran edrych ar nodi safleoedd, ynghyd â’r bwrdd iechyd, o ran edrych ar nodi a allent wneud hwn yn bractis modern a blaengar o fath sy’n addysgu. Y model partneriaeth hwnnw rydym ei eisiau, ond yr anhawster sydd gennyf, a dyma pam rwy’n gofyn i chi heddiw, yw cael yr holl bobl hynny i ddod at ei gilydd mewn gwirionedd. Ac fe fuaswn yn dweud wrth Ysgrifennydd y Cabinet fy mod yn deall fod Canolfan Feddygol Pencoed wedi llosgi eu bysedd unwaith ar hyn o’r blaen. Maent wedi cael eu harwain ar hyd y peth hwn, ac rwy’n meddwl y gallent fod ychydig yn amharod. Felly, unrhyw help y gallwch ei roi i hwyluso eistedd o amgylch y bwrdd gyda phobl y gellir ymddiried ynddynt i ddweud, ‘Gadewch i ni drafod hyn. Sut y gallwn ei ddatrys?’—. Oherwydd gwn fod ewyllys gan bartneriaid, gan y bwrdd iechyd, a chan yr awdurdod ac eraill i wneud hyn; rydym angen i’r holl chwaraewyr ddod at y bwrdd, dyna i gyd.

A dyna’r pwynt olaf i orffen arno. Rwy’n hapus i ddweud fy mod yn barod i fuddsoddi peth amser i geisio cael pobl i eistedd o amgylch yr un bwrdd ar yr un pryd. Felly, y ddau fwrdd iechyd, chi eich hun, ac unrhyw gynrychiolwyr lleol eraill a allai ac a ddylai fod yn rhan o’r peth—. Ac wrth gwrs, gwneud yn siŵr fod Pencoed yn rhan o’r sgwrs. Felly, sgwrs gyda hwy a chyda’u cyhoedd, yn hytrach na sgwrs amdanynt, yw’r hyn yr hoffwn ei weld yn cael ei drefnu, ac rwy’n gobeithio bod yr holl bobl sy’n manteisio ar y cyfle i wneud hynny yn sicrhau rhywfaint o eglurder ar gyfer y cyhoedd yn lleol ynglŷn â’r hyn a ddaw yn y dyfodol, gan fod pawb yn cydnabod y bydd yna fwy o bobl yn y rhan hon o Gymru, nid llai, yn y dyfodol.