Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

04/07/2017

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

1. Datganiad gan y Llywydd

Mae’n bleser gen i gyhoeddi, yn unol â Rheol Sefydlog 26.75, y rhoddwyd Cydsyniad Brenhinol i Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) ddoe.

2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni, wedyn, yw’r cwestiynau i’r Prif Weinidog, a’r cwestiwn cyntaf, David Rees.

Carchar Newydd ym Maglan

1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y trafodaethau a gafwyd rhwng Llywodraeth Cymru a'r Weinyddiaeth Gyfiawnder mewn perthynas â lleoli carchar newydd ym Maglan? OAQ(5)0702(FM)

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant wedi cael trafodaethau gyda Gweinidog carchardai y DU ynghylch y safle arfaethedig ar gyfer datblygu carchar newydd ym Maglan, ac mae swyddogion Llywodraeth Cymru hefyd yn cael trafodaethau parhaus gyda swyddogion y Weinyddiaeth Gyfiawnder ynghylch y cynnig.

Diolch i chi am yr ateb yna, Prif Weinidog. Fel y gwyddoch, mae'r safle a nodwyd gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder ym mherchnogaeth Llywodraeth Cymru, ac wedi ei leoli y drws nesaf i ystad o dai, cartref gofal preswyl, canolfan adnoddau meddyg teulu, â phedwar o feddygfeydd ynddi, a busnesau eraill ar yr ystad ddiwydiannol honno. Mae hefyd wedi ei leoli yn yr ardal fenter, a sefydlwyd pan godwyd y bygythiad i Tata y llynedd, gyda'r bwriad o dyfu a buddsoddi mewn busnesau. Nawr, nid wyf yn credu y byddai carchar yn annog hynny mewn gwirionedd. I’r busnesau hyn dyfu, maen nhw eisiau mwy o le. Mae angen unedau mwy o 10,000 troedfedd sgwâr a mwy arnynt. Rwyf wedi cyfarfod â busnesau lleol ac maen nhw’n awyddus i dyfu, maen nhw’n awyddus i aros, ond os byddan nhw’n gweld carchar yn dod, gan niweidio eu cyfleoedd ar gyfer twf, maen nhw wedi dweud wrthyf i y byddan nhw’n gadael Port Talbot a hyd yn oed Cymru o bosibl. A wnaiff Llywodraeth Cymru wrthod unrhyw gais gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder am y tir hwnnw, a buddsoddi yn hytrach mewn adeiladu’r unedau hyn, a all eu galluogi i dyfu, ac ymrwymo ei hun i hynny fel y mae wedi ei wneud mewn mannau eraill yng Nghymru?

Wel, bydd y carchar ei hun yn creu 500 o swyddi lleol ac yn cynhyrchu £11 miliwn mewn refeniw i’r economi leol. A gaf i dawelu meddwl fy nghyd-Aelod, fel rhywun sydd â charchar yn ei etholaeth, ac a oedd yn gynghorydd ward pryd yr oedd y carchar yn cael ei adeiladu yn fy ward i ar y pryd, bod pryderon ar y pryd, heb os, ond na wireddwyd y pryderon hynny? Ni wnaethom ni golli buddsoddiad. Yn wir, mae ystad o dai newydd sbon yn cael ei hadeiladu bron hyd at derfyn y carchar ar hyn o bryd, ac mae'r tai hynny’n cael eu gwerthu. Felly, er ei bod yn anochel y bydd gan bobl bryderon am rywbeth newydd yn yr ardal, yr hyn yr ydym ni’n ei wybod nid yn unig o Ben-y-bont ar Ogwr, ond o fannau eraill yng Nghymru, yw bod carchardai yn creu swyddi ac, yn y pen draw, wrth gwrs, nid ydynt yn cael effaith negyddol ar yr economi leol na’r dref leol.

Yn dilyn ymlaen o’r thema honno, yr wythnos diwethaf, mewn cwestiwn a ofynnais i Ysgrifennydd y Cabinet, gofynnais, ‘Pam wnaethoch chi ganiatáu i’r tir gael ei ystyried ar gyfer ei ddefnyddio fel carchar?', Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet, a dyfynnaf

'mae’r Aelod yn anghywir yn honni bod gennyf ddewis o ran mater y tir parthed y carchar.'

A wnewch chi egluro hyn os gwelwch yn dda? A wnaethoch chi gynnig y darn hwnnw o dir i'r Weinyddiaeth Gyfiawnder ei ystyried? Os na wnaethoch chi, sut y daeth hi i’r sefyllfa fod darn o dir Llywodraeth Cymru yn cael ei ystyried yn y lle cyntaf? Os yw wedi ei glustnodi ar gyfer defnydd posibl arall, pam nad yw wedi cael ei glustnodi ar gyfer y defnydd hwnnw cyn hyn, ar gyfer busnesau lleol, fel y mae David Rees wedi ei ddweud, ac a allwch chi gadarnhau y byddech chi’n ystyried dewisiadau eraill o ran y lleoliad penodol hwn? Hoffwn i ofyn i chi hefyd: rwyf wedi cael e-bost gan aelod o staff yng ngharchar Caerdydd, a ddywedodd fod y staff eisoes yn cael gwybod bod carchar Caerdydd yn mynd i gael ei gau ar gyfer datblygiad siopa, a bod y carchar Abertawe yn mynd i gael ei gau hefyd. A allwch chi gadarnhau hyn, neu a ydych chi wedi cael unrhyw sgyrsiau â'r Weinyddiaeth Gyfiawnder am hyn?

Na, nid ydym wedi cael sgyrsiau o’r math yna. Os yw’r e-bost hwnnw ganddi a’i bod yn teimlo y gall ei rannu, byddwn yn falch iawn o’i weld. Nid wyf yn siŵr a yw hi’n gwrthwynebu’r carchar, neu a oes ganddi gwestiynau eraill, ond, o'n safbwynt ni, rydym ni’n gwybod y gall y carchar gynhyrchu, fel y dywedais, 500 o swyddi, ac rwy’n siarad fel rhywun sydd â charchar yn fy etholaeth. Ni chafodd unrhyw effaith niweidiol o gwbl ar yr ardal gyfagos, nac ar dref Pen-y-bont ar Ogwr yn wir, nac yn wir ar fuddsoddiad. Rydym ni’n gwybod bod angen carchar—bod angen carchar modern arall yn y de. Does dim dianc rhag hynny, ond, wrth gwrs, mae'n hynod bwysig gweithio gyda phobl a busnesau lleol er mwyn rhoi sicrwydd iddynt, yn seiliedig ar yr hyn yr wyf i wedi ei weld â'm llygaid fy hun ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Prif Weinidog, mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi nodi y bydd yn cynnal digwyddiad deuddydd ym Mhort Talbot er mwyn ennyn barn pobl ar y carchar newydd cyn cyflwyno cais cynllunio ffurfiol. Er bod hyn i’w groesawu, mae angen ymgynghoriad cyhoeddus mwy cyflawn ar y cynigion arnom. Pa drafodaethau mae eich Llywodraeth wedi eu cael gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder am ymgynghoriad cyhoeddus manylach, a pha ran fydd Llywodraeth Cymru yn ei chwarae wrth geisio barn trigolion ar y carchar newydd?

Wel, yn y pen draw, mater i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yw’r penderfyniad terfynol ar union leoliad unrhyw garchar, ac nid i Lywodraeth Cymru. Mae'n fater nawr, wrth gwrs, i Lywodraeth y DU wneud cais am ganiatâd cynllunio. Mae o fudd i Lywodraeth y DU sicrhau y ceir ymgynghoriad llawn yn lleol—ni allwch roi gormod o wybodaeth i bobl. Rwy’n cofio’r hyn a ddigwyddodd ym 1995-96, pan adeiladwyd carchar y Parc ym Mhen-y-bont ar Ogwr, roedd gan bobl lawer o gwestiynau, ac ymdriniwyd â’r cwestiynau hynny trwy ymgynghoriad cyhoeddus. Ac, wrth gwrs, rydym ni’n gweld ein hunain 20 mlynedd yn ddiweddarach—nid heb drafferthion cychwynnol, mae’n rhaid i mi ddweud, pan agorwyd y carchar agorwyd—ond, 20 mlynedd yn ddiweddarach, mae'r carchar yn cael ei dderbyn fel bod yn rhan o'r gymuned, ac mae wedi creu cannoedd o swyddi.

Dyrannu Cyllid Llywodraeth Leol

2. Pa gynlluniau sydd gan y Prif Weinidog i gydnabod yr heriau ychwanegol o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus mewn ardaloedd gwledig o ran dyrannu cyllid llywodraeth leol? OAQ(5)0697(FM)

Caiff yr arian craidd a roddir i awdurdodau lleol Cymru bob blwyddyn ei ddosbarthu yn ôl angen cymharol. Cytunir ar y fformiwla gyda llywodraeth leol trwy gyngor partneriaeth Cymru, ac mae'n cymryd amrywiaeth eang o ffactorau i ystyriaeth.

Diolch, Prif Weinidog, am yr ateb yna. Fel y gwyddoch, mae canran fawr o arwynebedd Cymru yn wledig. Rwy’n dal yn arbennig o bryderus nad yw Llywodraeth Cymru wedi mynd yn ddigon pell o ran cydnabod y natur wledig yn ei chyllid ar gyfer awdurdodau lleol dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Mae darparu gwasanaethau fel gofal cymdeithasol mewn lleoliad gwledig bob amser yn mynd i wynebu costau ychwanegol o'i gymharu ag awdurdod trefol, ac mae'r un peth yn wir am wasanaethau eraill a ddarperir gan gynghorau hefyd. A wnewch chi ymrwymo i ailystyried y fformiwla ariannu llywodraeth leol i weld a ellir neilltuo mwy o bwysoli ar gyfer natur wledig dros y blynyddoedd sydd i ddod?

Wel, os edrychwch chi ar y—os caf i ddefnyddio’r gair—'rancio', ar gyfer awdurdodau lleol, dyraniad Sir Ddinbych yw'r pedwerydd uchaf, Gwynedd yw’r nawfed, Sir Gaerfyrddin yw’r degfed, Ceredigion yw’r pedwerydd ar ddeg, Powys yw’r pymthegfed, a Sir Benfro yw’r ail ar bymtheg. Mewn cymhariaeth, Abertawe yw’r unfed ar bymtheg, Sir y Fflint yw’r pedwerydd ar bymtheg, a Caerdydd yw’r ugeinfed. Mae'n ymddangos i mi bod natur wledig yn cael ei chymryd i ystyriaeth. A’r gwir yw, wrth gwrs, ei fod yn fater i awdurdodau lleol gytuno ymhlith ei gilydd sut y maen nhw’n dymuno i'r fformiwla ariannu gael ei threfnu, yn hytrach nag un awdurdod yn dymuno ei newid heb gymorth eraill.

Rydym ni i gyd yn gwybod, Prif Weinidog, mai'r unig ffordd y gallwch chi ddarparu unrhyw wasanaeth cyhoeddus yw drwy’r staff. A chyhoeddwyd tystiolaeth yr wythnos hon bod torri a rhewi cyflogau sector cyhoeddus dros y degawd diwethaf yn golygu, erbyn hyn, bod cyflog athrawon wedi gostwng £3 yr awr, swyddogion yr heddlu £2 yr awr, ac nid yw cyflogau nyrsys wedi symud o gwbl. A chanlyniad hynny ar hyn o bryd, yn y proffesiwn nyrsio yn arbennig, yw ein bod ni bellach wedi gweld 51 y cant yn gadael y gwasanaeth sector cyhoeddus hwnnw yn ystod y pedair blynedd diwethaf. Felly, a ydych chi’n cytuno â mi, Prif Weinidog, fod cam y Torïaid o rewi cyflogau'r sector cyhoeddus yn peryglu darpariaeth ein gwasanaethau cyhoeddus erbyn hyn?

Ydw, yn sicr. Mae'r amser wedi dod i gael gwared ar gap cyflogau’r sector cyhoeddus. Mae angen i ni wneud yn siŵr bod gweithwyr sector cyhoeddus yn cael eu talu'n briodol am y gwaith y maen nhw’n ei wneud. Nid wyf yn derbyn bod rhyw fath o gyfyngiadau ariannol ar waith yma, o ystyried y ffaith y daethpwyd o hyd i £1 biliwn yn rhan o’r cil-dwrn i Ogledd Iwerddon. Os gellir dod o hyd iddo i Ogledd Iwerddon, gellir dod o hyd i’r arian i’n gweithwyr sector cyhoeddus.

Wel, un o’r heriau penodol mewn ardaloedd gwledig yw delio â phobl mewn oed, a henoed â dementia—wel, pobl sydd ddim yn henoed hefyd, â dementia, a dweud y gwir. Mae hon yn her a ddaeth yn amlwg iawn yn ystod yr etholiad cyffredinol diweddar, wrth gwrs. Nawr, mae hyn yn cael ei grisialu yn y drafodaeth sy’n digwydd ar hyn o bryd ynglŷn â dyfodol cartref Bodlondeb yn Aberystwyth, sy’n gwasanaethu gogledd Ceredigion, a’r canolbarth i raddau. Ac mae’n siŵr y bydd y Prif Weinidog yn ymuno â mi i ddweud bod yr ymgynghoriad wedi dechrau ond ddydd Llun, a dweud y gwir, felly mae’n rhaid i bawb leisio eu barn nawr fel rhan o’r ymgynghoriad yna. Ond a fydd y Llywodraeth hefyd, drwy’r Gweinidog efallai, yn trafod â Chyngor Sir Ceredigion, yn enwedig rai o’r posibiliadau newydd sydd gan y Llywodraeth ei hunan, megis gwelyau ‘extra care’, neu gartrefi ‘extra care’, i weld a oes posibiliad i ffitio beth sy’n digwydd yn nyfodol Bodlondeb yn rhan o’r patrwm ehangach sy’n gwasanaethu canolbarth Cymru?

Wel, wrth gwrs, mater i Geredigion yw hwn. Fe wnes i sôn am Bodlondeb yr wythnos diwethaf yn y Siambr hon. Ond, wrth gwrs, fel Llywodraeth, rydym ni’n hollol hapus i weithio gydag awdurdodau lleol, i weld pa fath o ffyrdd eraill sydd ar gael i weithredu gwasanaethau yn eu hardaloedd nhw. Ac mae hynny, wrth gwrs, yn iawn am Geredigion, ac yn iawn am bob awdurdod arall.

Bydd y Prif Weinidog yn ymwybodol fy mod wedi cyhoeddi, ddoe, cynllun datblygu economaidd ar gyfer Cymru wledig. [Aelodau'r Cynulliad: 'Clywch, clywch.'] Diolch yn fawr iawn. Pa sicrwydd all y Prif Weinidog ei roi i mi y bydd yr argymhellion a gymeradwywyd gan grŵp o arbenigwyr o gefn gwlad Cymru yn cael eu hystyried yng nghyd-destun y strategaeth economaidd newydd i Gymru?

A gaf i ddiolch i fy ffrind, Eluned Morgan, am y gwaith y mae hi wedi ei wneud, a'r diddordeb mawr y mae hi'n ei gymryd mewn cymunedau gwledig ledled Cymru? Rydym ni’n gwybod y bydd Cymru wledig yn wynebu heriau yn enwedig o ran Brexit. Rydym ni’n croesawu, fel Llywodraeth, cyhoeddi'r adroddiad, a bydd yn ffurfio rhan o'r strategaeth sydd gennym i gyflawni ymhellach ar ran Cymru wledig yn ystod y blynyddoedd nesaf, ar ôl Brexit.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y Pleidiau. Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, mae’r Llywodraethau yn Lloegr a'r Alban wedi cyhoeddi y byddan nhw’n gweithredu i ddarparu mynediad am ddim at wasanaethau erthylu i fenywod o ogledd Iwerddon. A fydd Cymru’n dilyn yr esiampl honno?

Yr ateb i'r cwestiwn yw 'bydd'. Dyna’r hyn yr ydym ni eisiau ei wneud. Rydym ni’n edrych ar fanylion sut y gellir gwneud hynny, ond rydym ni eisiau gwneud yn siŵr bod yr un gwasanaeth yn cael ei gynnig yng Nghymru ag a gynigir yn Lloegr a'r Alban. Ceir materion fel, er enghraifft, costau teithio, a materion fel sut yr ydych chi’n darparu gofal parhaus ar gyfer triniaeth, yn hytrach na phobl ddim ond yn mynd adref. Mae'r pethau hyn yn cael eu hystyried ar hyn o bryd, ond gallaf sicrhau arweinydd Plaid Cymru mai’r yr hyn yr ydym ni’n ceisio ei wneud yw sicrhau bod Cymru, Lloegr a'r Alban yn cynnig yr un gwasanaeth.

Rwy’n croesawu eich ateb, Prif Weinidog, felly diolch yn fawr iawn am hynny. Wrth wynebu’r Llywodraeth hon yn San Steffan sydd wedi ymrwymo i gyni ariannol, mae angen Llywodraeth ar Gymru nawr sy’n rhagweithiol o ran iechyd. Mae bron i 30,000 o nyrsys yng Nghymru wedi gweld toriad o 14 y cant i’w cyflogau ers 2010 oherwydd cap cyflog y GIG. Ar dudalen 56 eich maniffesto, rydych chi’n dweud y byddwch chi’n cael gwared ar gap cyflog y GIG. Mae Llywodraeth yr Alban wedi cyhoeddi y bydd yn cael gwared ar y cap cyflog yn ei chyllideb nesaf. Y cwbl yr wyf i wedi ei weld gan Lywodraeth Cymru yw llythyr at Jeremy Hunt. Mae Llywodraeth y DU wedi gwrthod y llythyr hwnnw i bob pwrpas ac mae bellach wedi ymrwymo i’r cap cyflog hwnnw. Mae'n bryd nawr, Prif Weinidog, i chi weithredu. Pam nad ydych wedi cyhoeddi unrhyw gynlluniau eto i gael gwared ar y cap cyflog ac a fyddwch chi’n gwneud hynny yn flaenoriaeth yn eich cyllideb nesaf?

Rydym ni eisiau cael gwared ar y cap cyflog. Mae goblygiadau ariannol y credwn y dylent gael eu bodloni gan Lywodraeth San Steffan. Nid wyf yn gwybod beth yw eu barn nhw, i fod yn onest ag arweinydd Plaid Cymru, ar y cap cyflog. Rwyf wedi clywed gwahanol safbwyntiau gan wahanol Weinidogion ar wahanol adegau. Mae'n dangos y diffyg arweinyddiaeth sy'n bodoli yn San Steffan. Mae hi a minnau yn yr un sefyllfa'n union o ran bod eisiau gweld diwedd ar y cap cyflog. Byddwn yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU am fwy o adnoddau a byddwn yn ystyried yr hyn y gallwn ei wneud yn ariannol er mwyn bwrw ymlaen â hynny.

Os yw'n gymaint â hynny o flaenoriaeth, Prif Weinidog, dylech chi allu ymrwymo i hyn heddiw. Mae gennym ni Lywodraeth Lafur yng Nghymru, mae gennym ni 28 o ASau Llafur Cymru, ac mae cap cyflog y GIG yn dal i fodoli. Efallai eich bod chi’n hapus i feio eraill o ran cyfyngiadau cyllidebol San Steffan, ond gallech chi fod yn cymryd camau heddiw i ddiogelu gweithwyr, nyrsys y GIG a staff y GIG yng Nghymru. Holl bwynt datganoli yw dilyn gwahanol drywydd, trywydd gwell, a gallech chi fod wedi gwneud ymrwymiad eglur heddiw i ystyried o ble y gallai’r arian hwnnw ddod yn y gyllideb nesaf. Felly, mae eich diffyg gweithredu yn codi'r cwestiwn: beth yw diben y Blaid Lafur os nad ydych chi'n gallu amddiffyn gweithwyr Cymru? Prif Weinidog—[Torri ar draws.]

A gaf i glywed arweinydd Plaid Cymru os gwelwch yn dda, ac a gaf i glywed llai ar Weinidogion yn y Llywodraeth? Gadewch i'r Prif Weinidog glywed y cwestiynau.

Diolch i chi, Llywydd. Byddaf yn rhoi un cyfle arall i chi gyfaddef popeth nawr: a ydych chi’n edifarhau o gwbl am weithredu cynni ariannol y Torïaid, a phryd wnewch chi ymrwymo i gael gwared ar gap cyflog y GIG?

Gofynnodd arweinydd Plaid Cymru beth yw pwynt y Blaid Lafur. A gaf i ei hatgoffa bod gennym ni 28 o ASau a bod gan ei phlaid hi bedwar. Dyna yw pwynt y Blaid Lafur. Mae gan bobl ffydd yn Llafur Cymru. Gwelsom hynny yn ymgyrch yr etholiad cyffredinol. Maen nhw’n dweud dro ar ôl tro, 'Gwnewch hyn, gwnewch hynna'. Wel, nid yw pobl yn gwrando arnyn nhw. Mae hi a minnau o’r un safbwynt o ran cap cyflog y sector cyhoeddus. Yn sicr, mae dau beth y mae'n rhaid ei bod hi’n cytuno â nhw. Yn gyntaf, mai’r peth cyntaf y mae’n rhaid ei wneud yw sicrhau’r arian gan San Steffan. Nid ydym yn troi ein cefnau ar hynny, does bosib. Mae hynny'n rhywbeth y mae angen i ni ei wneud. Yn ail, does bosib ei bod hi’n disgwyl i ni wneud penderfyniad difeddwl, heb archwilio'r holl gostau posibl, ac mae hynny'n rhywbeth—

Roedd y Llywydd yn iawn i atal pobl rhag heclo arweinydd Plaid Cymru, felly gall hi wneud yr un peth i mi. Fel y dywedais, mae hyn yn rhywbeth yr ydym ni’n awyddus i fwrw ymlaen ag ef, ond y peth cyntaf i’w wneud yw dweud wrth Lywodraeth y DU, 'Fe ddaethoch chi o hyd i'r arian i Ogledd Iwerddon; nawr dewch o hyd i’r arian i Gymru'.

Diolch i chi, Llywydd. Prif Weinidog, yr wythnos diwethaf, yn amlwg, gwnaeth y Llywodraeth y penderfyniad i beidio â chefnogi datblygiad Cylchffordd Cymru ym Mlaenau'r Cymoedd ym Mlaenau Gwent. Un o'r cynigion a wnaed oedd, yn amlwg, datblygu parc technoleg modurol a allai o bosibl greu 1,500 o swyddi yn ystod ei oes. Mae'r ardal fenter wedi bodoli ym Mlaenau Gwent ers dros bum mlynedd erbyn hyn. Yn ystod ei phedair blynedd gyntaf, creodd 172 o swyddi, ac yn y flwyddyn ddiwethaf y mae'r ffigurau ar gael ar ei chyfer, llwyddodd i greu wyth o swyddi yn unig. Pa sicrwydd allwch chi ei roi y bydd y parc technoleg hwn yr ydych chi’n ei gynnig wir yn creu’r swyddi yr ydych chi’n dweud y bydd yn eu creu—1,500—pan nad yw eich ardal fenter, sydd wedi bod yn gweithredu ers pum mlynedd, wedi creu 200 o swyddi hyd yn oed?

A gaf i, cyn i mi ateb y cwestiwn, estyn fy nghydymdeimlad hefyd i arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, ac, yn wir, ei grŵp, a theulu, dyweddi, ffrindiau a chydweithwyr Ben Davies? Roedd yn ddigwyddiad trasig a welsom yng Ngwlad Groeg. Felly, yn gyntaf oll, a gaf i fynegi fy nghydymdeimlad o ran yr hyn a ddigwyddodd i Ben? Rydym ni i gyd yn dibynnu ar ein staff ac roedd yn ddigwyddiad trasig iawn i ŵr mor ifanc.

Yr ateb syml i'r cwestiwn hwn yw '£100 miliwn'. Rydym ni’n mynd i roi £100 miliwn i mewn i'r parc technoleg. Rydym ni wedi siarad â busnesau i asesu lefel y galw, gan gofio, wrth gwrs, bod hyn yn rhan o gynllun y gylchffordd, y parc technoleg. Roedd yn rhywbeth a gafodd ei grybwyll yn rhan o'r cynllun hwnnw. Teimlwn y gellir bwrw ymlaen ag ef, ac, ar ôl gwneud ymholiadau ymhlith busnesau am yr angen i fuddsoddi, wrth gwrs, mewn sgiliau, mae hyn yn rhywbeth y gallwn ni ei gefnogi. Un o'r problemau yr ydym ni wedi eu hwynebu ym Mlaenau'r Cymoedd ers rhai blynyddoedd yw buddsoddwyr yn dweud nad oes unrhyw adeiladau iddyn nhw fynd i mewn iddynt. Nawr, nid yw adeiladu hapfasnachol yn rhywbeth yr ydym ni eisiau ei annog, ond mae hyn yn seiliedig ar yr hyn y mae busnesau eu hunain wedi bod yn ei ddweud wrthym ni. Ar y sail honno, rydym ni’n hyderus y gall y swyddi gael eu creu.

Diolch yn fawr, Prif Weinidog, am eich sylwadau am farwolaeth drasig ein dirprwy bennaeth staff, Ben Davies. Yn wleidyddol, rydym ni wedi ein rhannu yn y Siambr hon, a dyna ddiben y Siambr hon: dadl a thrafodaeth. Ond, mewn gwirionedd, mae’r ysbryd dynol yn ein huno ni oll, ac o safbwynt plaid, o safbwynt grŵp, ac o safbwynt teulu Ben, hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau sydd wedi mynegi eu cydymdeimlad a’u dymuniadau da i gael eu rhannu â'r teulu yn y cymorth y bydd ei angen arnynt yn y diwrnodau, yr wythnosau a'r misoedd i ddod. Maen nhw wedi mynd o fod mewn sefyllfa o gynllunio priodas i drefnu angladd. Mae hynny wir yn rhoi popeth mewn persbectif pan fyddwn ni’n canolbwyntio ar yr hyn yr ydym ni ei ddadlau a’i drafod yn y Siambr hon.

Ond os caf i ddychwelyd at thema fy nghwestiynu, os caf, Prif Weinidog, rwy’n derbyn y pwynt bod y cynnig amgen y mae Llywodraeth Cymru wedi ei roi ar y bwrdd o’r £100 miliwn hwn dros 10 mlynedd a’r cyfle i agor y drws i 1,500 o swyddi yn y cynnig amgen hwn yn cael ei wneud yn ddiffuant gan Lywodraeth Cymru yn ôl pob tebyg, ond y dystiolaeth y cyfeiriodd Cylchffordd Cymru ati, mewn gwirionedd, yn eu trafodaethau helaeth—a chyfeiriasoch at hyn yn eich ateb i mi—yn ymwneud â datblygu parc technoleg yn seiliedig ar y diwydiant modurol, byddai angen trac arnoch chi ar gyfer profi, a’r cyfle hwnnw ar gyfer cyfleusterau profi i gyd-ffinio â’r parc technoleg, i fod yn llwyddiannus. Dro ar ôl tro, rydym ni wedi gweld adroddiadau ac adroddiadau craffu’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn dweud bod meddylfryd 'adeiladwch ef, a byddant yn dod' llywodraethau blaenorol wedi methu, a symiau sylweddol o arian cyhoeddus yn cael ei roi ar y bwrdd gan feddwl y bydd yr arian yn datrys y broblem. Sut gallwch chi fod â’r hyder hwn y tro yma, pan fo’r dystiolaeth yn dangos, mewn gwirionedd, bod yn rhaid i chi gael y ddau yn gweithio gyda'i gilydd i wneud y parc technoleg yn llwyddiant mewn ardal sydd ag angen taer am y llwyddiant hwnnw i greu cyfleoedd cyflogaeth o ansawdd?

Rydym ni wedi cael trafodaeth gyda busnesau, yn enwedig y rhai yn y sector modurol, ac maen nhw wedi dweud wrthym nad oes angen cylchffordd i fwrw ymlaen â'r parc technoleg. Mae'n rhywbeth y byddai wedi bod yn braf ei gael ond nid yn hanfodol ei gael. Rwy’n credu os gwnaf ei roi yn y termau hynny, bod hynny’n deg. Ond, yn sicr, nid yw datblygiad y parc technoleg yn eu barn nhw yn ddibynnol ar ddatblygu cylchffordd. Yr hyn sy'n gwbl hanfodol yw ein bod ni’n sicrhau'r swyddi yn y parc technoleg ac yn diogelu pwrs y wlad. Mae hynny'n hynod bwysig, a dyna'n union yr ydym ni wedi ei wneud wrth wneud y penderfyniad hwn.

A wnewch chi, felly, felly, Prif Weinidog, gyhoeddi’r holl dystiolaeth yr ydych chi wedi seilio eich penderfyniad arni—y buddsoddiad o £100 miliwn a'r diwydrwydd dyladwy yr ydych chi fel Llywodraeth, rwy’n gobeithio, wedi ei wneud, a'r gallu i fod â hyder y bydd y ffigur swyddi 1,500 yna’n cael ei gyrraedd—fel na fyddwn ni, ymhen dwy, tair neu bedair blynedd, yn edrych yn ôl ar sied fawr sy'n wag a’r cyfleoedd hyn am swyddi wedi eu colli i'r ardal benodol honno o Gymru? Fel yr wyf i wedi ei ddweud—ac rwy’n ei feddwl yn ddiffuant—rwy’n gobeithio y bydd y swyddi’n dod, ond os edrychwch chi ar hanes pum mlynedd yr ardal fenter, a oedd yn ardal fenter fodurol, dylwn ychwanegu, nid ydych chi wedi llwyddo i greu 200 o swyddi yn yr ardal honno, ac yn y flwyddyn ddiwethaf y mae ffigurau ar gael ar ei chyfer, dim ond wyth o swyddi sydd wedi eu creu, er gwaethaf holl gymhellion yr ardal fenter. A wnewch chi, felly, gyhoeddi'r dystiolaeth yr ydych chi wedi seilio eich penderfyniad arni i ganiatáu gwerth £100 miliwn o fuddsoddiad, a dichonoldeb y ffigur yr ydych chi wedi ei fynegi o 1,500 o swyddi'n cael eu creu?

Byddwn yn rhoi ar gael popeth y gellir ei roi ar gael, yn amodol ar drafodaethau cyfrinachedd masnachol, wrth gwrs, gyda busnesau eraill. Ond rwy'n credu ei bod yn iawn o ran y penderfyniad hwn ac o ran y prosiect hwn bod cymaint o wybodaeth ar gael i'r cyhoedd â phosibl. Nid ydym yn ofni hynny ac, yn sicr, mae'n rhywbeth yr ydym ni’n ei ystyried: sut y gallwn ni gael cymaint o wybodaeth â phosibl i mewn i'r parth cyhoeddus. Gwelsom rywfaint yn dod i'r amlwg heddiw mewn modd anffodus, ond rydym ni eisiau gwneud yn siŵr bod y wybodaeth yno i’r Aelodau ac i aelodau o'r cyhoedd.

Diolch, Llywydd. Hoffwn barhau â’r thema holi hon gyda'r Prif Weinidog, os caf. Onid yw'n drasiedi ei bod yn ymddangos bod prosiect Cylchffordd Cymru wedi cael ei dagu nid oherwydd unrhyw amheuon credadwy am ddichonoldeb y prosiect trac rasio—oherwydd nid oedd unrhyw beth yn natganiad Ysgrifennydd y Cabinet i’r perwyl hwnnw—ond oherwydd dyfais cyfrifyddu mewnol technegol gan Drysorlys ei Mawrhydi a'r Swyddfa Ystadegau Gwladol? Oni ddylem ni edrych drwy ffurf y cyfrifon i sylwedd y prosiect? Mae'n brosiect a ariennir gan y sector preifat yn gyfan gwbl ymlaen llaw. Y cwbl y gofynnwyd i Lywodraeth Cymru amdano oedd gwarant, y byddent yn cael eu talu £3 miliwn y flwyddyn amdano. Fe’i sicrhawyd ar yr asedau sydd i'w hadeiladu, gan nad yw'r warant hyd yn oed yn dechrau tan ar ôl i’r cam adeiladu gael ei gwblhau, ac roedd 100 y cant o'r asedau ar gael i sicrhau’r hyn a oedd yn fenthyciad o lai na 50 y cant o'r cyllid. Felly, ar yr olwg gyntaf, mae’n ymddangos bod hynny’n sicrwydd eithaf da. Ac onid oes ffordd drwy hyn, hyd yn oed ar y cam hwyr hwn, y gallem ni barhau i edrych ar y posibilrwydd o ddatod y cwlwm annatod gyda'r Trysorlys a gweld a oes ateb llawn dychymyg i hyn o safbwynt cyfrifyddu, a fyddai'n galluogi'r arian sector preifat i gael ei gyfrannu, a fyddai, ar y cyfan, rwy'n credu, yn well nag i Lywodraeth Cymru orfod ymrwymo ei harian ei hun ymlaen llaw, sef yr hyn a gynigir ar hyn o bryd?

Y broblem yw hyn, ynte: y broblem erioed fu pe byddai gan y prosiect hwn gefnogaeth gref gan fuddsoddwyr preifat, ni fyddai angen gwarant gan y Llywodraeth, a byddai'n gallu sefyll ar ei draed ei hun heb y warant. Fel y dywedasom yn y Siambr yr wythnos diwethaf, yr anhawster yr ydym ni wedi ei wynebu yw na fydd unrhyw benderfyniad terfynol yn cael ei wneud gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol nac Eurostat o ran ba un a fydd y cytundeb ariannol hwn ar neu oddi ar y fantolen tan fod y contractau wedi eu llofnodi, ac mae’n rhy hwyr erbyn hynny. Ac, wrth gwrs, ar yr adeg honno, rydym ni mewn sefyllfa lle, ymhen dwy neu dair blynedd, pe na byddai’r gylchffordd yn llwyddo, y gelwir am y warant. Dyna'r broblem gyda hyn. Nawr, ni allwn gymryd y risg honno. Rydym ni’n gwybod na fyddem ni’n cael penderfyniad terfynol ganddyn nhw. Y ffaith yw, fel y mae’r cytundeb wedi ei strwythuro ar hyn o bryd, nid yw'n ymddangos ei fod wedi bodloni ein hamodau. Os bydd cynnig newydd yn cael ei wneud, yna, wrth gwrs, byddem ni’n ei archwilio. Ond ni allwn gymryd y risg gydag arian cyhoeddus a chymryd y risg y bydd yr arian hwn yn ymddangos ar ein mantolen. Pe byddai hynny'n digwydd, byddem ni’n cael ein trin fel pe byddem ni eisoes wedi talu’r arian hwnnw a byddai'r arian yn cael ei dorri o’n cyllideb gyfalaf, a fyddai'n golygu, er enghraifft, gorfod gwneud toriadau yn y flwyddyn ariannol hon o bosib. Nid yw hynny’n rhywbeth y gallwn ni fel Llywodraeth gyfrifol gymryd risg ynglŷn ag ef.

Rwy’n deall y pwynt hwnnw’n llwyr ac roedd hynny, wrth gwrs, wedi ei gynnwys yn y datganiad gwreiddiol. Ond mae'r syniad, ar gyfer prosiect a fyddai'n cael ei ariannu'n breifat am gost o £375 miliwn, gwarant ar ran Llywodraeth Cymru a fyddai'n cwmpasu llai na hanner hynny y gellid ei roi ar lyfrau Llywodraeth Cymru fel prosiect sector cyhoeddus yn gyfan gwbl yn amlwg yn hurt. Ac felly, mae’n rhaid bod ffordd drwy hyn. Ni fyddai gwarant Llywodraeth Cymru byth yn cael ei alw amdano ymlaen llaw beth bynnag o dan delerau'r cytundeb, gan ei fod yn swm blynyddol y byddai'r Llywodraeth yn gorfod ei dalu. Y sefyllfa waethaf fyddai bod yr asedau yn cael eu hadeiladu ac na fyddai’r trac rasio ei hun yn gwneud ceiniog o elw er mwyn talu'r llog i'r buddsoddwyr—Aviva yn yr achos penodol hwn. Yna, byddai galw blynyddol ar y Llywodraeth i dalu’r elfen honno o'r warant iddyn nhw. Ni fydd byth alwad arnoch i ddarparu £210 miliwn mewn un cyfandaliad, ac mae'r warant £8 miliwn yn y sefyllfa waethaf wedi ei amorteiddio dros gyfnod o 35 mlynedd. Mae'n gwbl afresymol y dylid defnyddio’r confensiynau cyfrifyddu Llywodraeth hyn i rwystro prosiect a fyddai'n llwyr weddnewid de-ddwyrain Cymru gyfan. Does bosib na ddylai Llywodraeth Cymru ymestyn ei hun a gwneud pob ymdrech posibl i geisio dod o hyd i ffordd drwy hyn.

Ni allwn anwybyddu realiti’r ffaith fod risg uchel, yn ein barn ni, y byddem ni’n gweld £373 miliwn yn cael ei golli o gyllideb cyfalaf Cymru. Mae hynny'n rhywbeth na allai unrhyw Lywodraeth gyfrifol ei anwybyddu. Rwy’n dod yn ôl at y pwynt pe byddai’r prosiect yn gallu sefyll ar ei—. Nid prosiect Llywodraeth yw hwn; prosiect sydd wedi dod ymlaen o gonsortiwm preifat yw hwn. Y cwestiwn nad yw erioed wedi cael ei ateb yw pam na all y prosiect sefyll ar ei draed ei hun. Os yw’r buddsoddwyr preifat yn meddwl ei fod mor llwyddiannus â hynny, yna bydd pobl yn gofyn y cwestiwn pam mae hynny. Rydym ni wedi gweithio, wrth gwrs, gyda'r busnes, maen nhw wedi cyflwyno sawl cynllun yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac rydym ni wedi ceisio eu helpu nhw mewn unrhyw ffordd, ond ni wnaethant fodloni’r amodau a osodwyd gennym. Rydym ni wedi archwilio'r holl risgiau, ac mae'n eithaf amlwg bod y risgiau’n rhy uchel i fwrw ymlaen â'r cynllun hwn.

Ond nid yn rhy uchel, yn ôl pob tebyg, i gonsurio £100 miliwn allan o'r boced gefn mewn ymateb i'r methiant hwn. Ac, os yw'n bosibl dod o hyd i £100 miliwn ymlaen llaw, i bob pwrpas, nawr, pam mae’n amhosibl dod o hyd i £8 miliwn y flwyddyn, ymhen tair blynedd, am y 30 mlynedd ganlynol? Does bosib—ailadroddaf y cwestiwn—gydag owns o ddychymyg, mae’n rhaid bod ffordd drwy hyn. A byddai gan Lywodraeth Cymru gefnogaeth unedig, rwy’n credu, yr holl bleidiau yn y Cynulliad hwn y tu ôl iddi i wneud i’r prosiect hwn lwyddo. Does bosib nad yw’r wobr yn rhy fawr i roi'r gorau iddi ar y cam hwn.

Cyfrifoldeb y gylchffordd yw cyflwyno unrhyw gynnig newydd, nid Llywodraeth Cymru. Nid cynllun Llywodraeth Cymru yw hwn. Rhoddwyd amodau i’r gylchffordd yr oedd yn rhaid iddynt eu bodloni ac ni wnaethant fodloni'r amodau hynny pan edrychwyd ar y diwydrwydd dyladwy. Mae'n dweud ei fod yn £100 miliwn allan o'r boced gefn; mae'n £100 miliwn dros 10 mlynedd. Felly, nid £100 miliwn yn sydyn yn ystod un flwyddyn. Dyna'r ymrwymiad a wnawn i Lynebwy i ddod â'r swyddi i'r parc technoleg, ac rydym ni’n ffyddiog, ar ôl siarad â busnesau, y bydd y parc technoleg hwnnw yn llwyddiant.

Diwygio Llywodraeth Leol yng Nghymru

3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cynnydd o ran diwygio llywodraeth leol yng Nghymru? OAQ(5)0698(FM)

Gwnaf. Fel y dywedais yn fy natganiad ar y rhaglen ddeddfwriaethol ar 27 Mehefin, byddwn yn cyflwyno Bil llywodraeth leol yn ystod ail flwyddyn ein rhaglen i ddiwygio llywodraeth leol.

Prif Weinidog, mae awdurdodau lleol yn darparu gwasanaethau allweddol i'n cymunedau, felly mae'n hanfodol bwysig bod gennym ni ddemocratiaeth leol ffyniannus. Un o ofynion sylfaenol hynny yw awdurdodau lleol sy'n adlewyrchu eu poblogaethau lleol, ond darparodd yr etholiadau lleol diweddaraf rywbeth fel 28 y cant o'n cynghorwyr ledled Cymru o ran cynghorwyr sy’n fenywod, gydag awdurdodau lleol unigol yn amrywio o rywbeth fel 10 y cant i 40 y cant. Felly, mae angen i ni wneud cynnydd. A fyddech chi’n cytuno â mi mai un agwedd bwysig ar wneud y cynnydd angenrheidiol yw cael esiamplau cryf ymhlith ein cynghorwyr benywaidd yng Nghymru? A wnewch chi hefyd ymuno â mi i groesawu ail-ethol Debbie Wilcox i arwain Cyngor Dinas Casnewydd, ac, mewn etholiad dilynol, i arwain Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ac felly i arwain llywodraeth leol yng Nghymru?

Ydw, rwy’n sicr yn croesawu ethol Debbie. Hi yw’r cyntaf o lawer, rwy’n gobeithio, oherwydd ni allwn ddweud bod cynrychiolwyr llywodraeth leol yn wirioneddol gynrychioliadol o'r gymuned gyfan yng Nghymru. Rydym ni’n bell o allu dweud hynny. Gallaf ddweud, cyn yr etholiadau lleol, y cynhaliwyd nifer o brosiectau gennym yn rhan o'r rhaglen amrywiaeth mewn democratiaeth; cymerodd 51 o unigolion o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol ran yn y rhaglen, ac fe wnaeth 16 ohonynt sefyll fel ymgeiswyr yn yr etholiadau llywodraeth leol ym mis Mai. Felly, rhywfaint o gynnydd, ond mae’n wir i ddweud bod angen llawer mwy o gynnydd eto.

Prif Weinidog, cyfeirir yn eang at Ddeddf cenedlaethau'r dyfodol yn y Papur Gwyn diwygio llywodraeth leol, ac mae'n gwbl eglur fod y Ddeddf benodol hon yn rhoi cyfle gwych i ni gyfrannu at ddiwygio llywodraeth leol yn llwyddiannus. Mae trechu tlodi hefyd yn thema allweddol yn y Ddeddf honno. O ystyried amseriad dod â Cymunedau yn Gyntaf i ben, ac yn unol â diwygio awdurdodau lleol, pa ystyriaeth ydych chi wedi ei rhoi i gynnwys ffrwd lleihau tlodi yn y newidiadau hynny wrth symud ymlaen?

Wel, yn rhan o'r Bil llywodraeth leol y byddwn ni’n ei gyflwyno, byddwn wrth gwrs—nid yw hyn yn gyfrinach—yn ceisio sicrhau bod awdurdodau lleol yn gweithio gyda'i gilydd ar sail ranbarthol er mwyn darparu gwasanaethau i’r bobl y maen nhw’n eu cynrychioli. Rwy'n siŵr y bydd awdurdodau lleol yn derbyn bod lleihau tlodi, wrth gwrs, yn swyddogaeth hynod bwysig y gallant ei chyflawni, ac wrth gwrs byddan nhw’n gallu gwneud hynny gan gydweithio ar draws ardal ehangach.

Mae llawer o bwyslais ar gydweithio rhwng cynghorau ar lefel ranbarthol ym Mhapur Gwyn y Llywodraeth, ‘Cadernid ac adnewyddiad’. Mae Plaid Cymru yn awyddus i weld pedair sir y gorllewin yn cydweithio yn strategol ar faterion sy’n unigryw i’r gorllewin ac sy’n codi o’r plethiad hanfodol hwnnw sydd yna rhwng yr economi wledig, tai, cynllunio a’r iaith Gymraeg. Fe ellir ehangu ar hynny i greu rhanbarth neu gynulliad y gorllewin a fydd yn gweithio ochr yn ochr â’r dinas-ranbarthau. Fel y mae Eluned Morgan yn nodi, mae angen i’r Llywodraeth yma gefnogi cefn gwlad Cymru, ond nid creu comisiynydd newydd ydy’r ffordd fwyaf effeithiol o gyflawni hynny, yn fy marn i. A ydych chi’n cytuno bod annog cydweithio rhwng siroedd y gorllewin yn cynnig ateb cychwynnol cost-effeithiol, ymarferol a synhwyrol?

Ydw, ac mae’n hollbwysig, wrth gwrs, fod hynny yn digwydd, a nod y Mesur yw sicrhau—a Mesur yw’r gair yr ydym ni’n dal i’w ddefnyddio, wrth gwrs, Llywydd—a nod y Mesur yw sicrhau bod hynny’n digwydd. Rydym ni’n gwybod, wrth edrych ar y model sydd wedi bod yna yn addysg, sef y consortia yn addysg, fod pethau wedi gwella flwyddyn ar ôl blwyddyn lle mae awdurdodau lleol wedi gweithio gyda’i gilydd. Dyna, wrth gwrs, rydym ni’n moyn adeiladu arno wrth edrych ar y ddeddfwriaeth.

Mynediad at Gynnyrch Tybaco

4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fynediad at gynnyrch tybaco yng Nghymru? OAQ(5)0695(FM)

Mae gallu pobl ifanc i gael gafael ar gynhyrchion tybaco wedi cael ei leihau yn llwyddiannus o ganlyniad i ddeddfwriaeth. Mae Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017, y gwnes i gymhwyso ei sêl ddoe, yn darparu mesurau diogelu pellach trwy gyflwyno cofrestr manwerthu a throsedd o drosglwyddo cynhyrchion tybaco i’r rheini sy’n iau na 18 oed.

Diolch i chi am hynna. Wel, canfu arolwg masnach gwrth-anghyfreithlon 2016 Cymdeithas y Gweithgynhyrchwyr Tybaco fod 62 y cant o ysmygwyr yng Nghymru wedi prynu cynhyrchion tybaco heb dollau. Mae gwobrau ariannol y fasnach anghyfreithlon hon yn fawr; mae’r cosbau yn fach. Mae hyn yn bygwth un o bob wyth o siopau cornel yng Nghymru a ledled y DU, ac yn fwyaf pryderus, nid yw pobl yn deall risgiau iechyd ychwanegol y math hwn o dybaco. Pa ystyriaeth y mae eich Llywodraeth wedi ei rhoi ar ei phen ei hun neu’n gweithio gyda Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi efallai, i fynd i'r afael â hyn?

Mae'n fater y pen draw i CThEM orfodi unrhyw achosion o dorri cyfraith ecséis. Nid yw hynny'n rheswm i ostwng trethi, yn amlwg, ar dybaco—nid yw’r Aelod yn awgrymu hynny, er tegwch iddo. Ond mae'n hynod bwysig bod pobl yn gallu darparu gwybodaeth i'r asiantaethau gorfodi ac, wrth gwrs, gwn fod archwiliadau’n cael eu cynnal yn y meysydd awyr, yn enwedig o ardaloedd yr ystyrir eu bod yn ardaloedd o risg pan ddaw i fewnforio tybaco a sigaréts , yn enwedig o awdurdodaethau lle mae'r prisiau yn isel dros ben. Ond, yn amlwg, rydym ni’n ceisio gweithio gyda CThEM i leihau a rhoi terfyn ar smyglo.

Prif Weinidog, yn 2015 dechreuodd siopau a manwerthwyr bach weithredu ar yr un sail â busnesau mawr wrth iddi ddod yn anghyfreithlon iddyn nhw arddangos sigaréts a thybaco yn gyhoeddus. Ar y pryd, dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Mark Drakeford, bod ysmygu yn dal i achosi tua 5,450 o farwolaethau yng Nghymru bob blwyddyn. Bydd tua hanner yr holl ysmygwyr rheolaidd yn marw cyn eu hamser o afiechydon sy'n gysylltiedig ag ysmygu, a dyna pam y byddwn yn parhau i weithio'n ddiflino i ostwng lefelau ysmygu i 16 y cant erbyn 2020. Prif Weinidog, pa gynnydd sy'n cael ei wneud i gyrraedd y targed hwnnw yn 2020, a pha heriau ydym ni'n eu hwynebu i’w fodloni, a pha gamau pellach all Llywodraeth Cymru eu cymryd i gyflawni ein nod?

Wel, bydd y cynllun cyflawni ar reoli tybaco yn cael ei gyhoeddi yn ddiweddarach eleni. Bydd hwnnw'n sicrhau bod camau gweithredu yn parhau i fod wedi'u targedu i gyflawni ein nod o leihau nifer yr ysmygwyr ymhlith oedolion i 16 y cant erbyn 2020, a bydd yn amlinellu nifer o fesurau i leihau ysmygu ymhellach, er mwyn atal pobl ifanc rhag dechrau yn y lle cyntaf, i wella’r cymorth i roi'r gorau iddi, hefyd, ac, wrth gwrs, i ddadnormaleiddio’r defnydd o dybaco ymhellach.

Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr

5. Pa gamau sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael ag allyriadau nwyon tŷ gwydr? OAQ(5)0710(FM)[W]

Rydym ni’n cefnogi camau gweithredu penodol wrth inni drosglwyddo i economi carbon isel, er enghraifft defnyddio ynni adnewyddadwy a chynyddu ailgylchu. Rydym ni hefyd yn sefydlu’r fframwaith tymor hirach ar gyfer cwrdd â’n targed cyfreithiol yn Neddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, sef lleihad o 80 y cant mewn allyriadau erbyn y flwyddyn 2050.

Diolch, Brif Weinidog. Byddwch chi’n gwybod bod y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig newydd gyhoeddi adroddiad yr wythnos diwethaf yn cloriannu perfformiad y Deyrnas Unedig a’r cenhedloedd datganoledig yn erbyn eu targedau amgylcheddol ac yn nodi gwelliannau yng Nghymru yn y sectorau gwastraff a diwydiannol, ond yn nodi cynnydd mewn allyriadau o adeiladau busnes, anheddau ac yn y sector drafnidiaeth. Ar sail y perfformiad hwn, maen nhw’n dweud y bydd yn debygol na fydd Cymru yn cyrraedd y targed o 40 y cant llai o allyriadau erbyn 2020 a bod angen gweithredu ar fyrder. A ydy’r Llywodraeth yn derbyn yr asesiad hwnnw a pha gamau penodol fydd y Llywodraeth yn eu cymryd ar sail adroddiad y pwyllgor?

Ydym. Wrth gwrs, ffynhonnell fwyaf allyriadau yw’r sector ynni ei hunan. So, felly, beth sydd eisiau ei sicrhau yw bod mwy o ynni adnewyddadwy ar gael, er enghraifft y lagŵn—y lagŵn ym mae Abertawe. Byddai hwnnw yn gwneud gwahaniaeth mawr, nid dim ond i’r amgylchedd ond hefyd, wrth gwrs, drwy greu swyddi yng Nghymru. Felly, rydym ni’n dal i aros i weld beth fydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ei benderfynu ynglŷn â’r lagŵn hwnnw.

Prif Weinidog, canfu adroddiad Cyfoeth Naturiol Cymru 'Gorchudd Coed yn Nhrefi a Dinasoedd Cymru’ bod 1 y cant o'r holl orchudd coed i’w ganfod mewn ardaloedd dwysedd uchel o dai, a nododd adroddiad Llywodraeth Cymru ei hun ar reoli ansawdd aer lleol yng Nghymru bod cynyddu gorchudd coed yn allweddol i wella llesiant cyffredinol, i leihau nwyon tŷ gwydr ac i wella ansawdd yr aer. A ydych chi yn ymrwymedig i weld cynnydd sylweddol i faint o goetir trefol sydd gennym ni?

Ydw. Mae pobl yn croesawu coetir. Maen nhw’n croesawu coetir llydanddail yn arbennig. Rwy’n cofio, yn fy nyddiau fel y Gweinidog materion gwledig, mai un o'r materion a oedd yn arfer ysgogi pobl oedd llwyrgwympo a'r hyn yr oeddent yn ei weld fel y creithiau a oedd yn cael eu gadael ar lethrau mynyddoedd o ganlyniad. Rydym ni’n gwybod bod mwy o waith i'w wneud o ran cynyddu faint o orchudd coed sydd yng Nghymru, ac rydym ni’n gweithio gyda Chyfoeth Naturiol Cymru i hwyluso hynny.

Er ei fod e’n wir beth mae’r Prif Weinidog yn ei ddweud ynglŷn â’r diwydiannau trwm ac ynni yng Nghymru, mae hefyd yn wir i ddweud bod cyflwr gwael ein tai ni yn ychwanegu at allyriadau carbon a hefyd y drafnidiaeth gythryblus sydd gyda ni yng Nghymru. A’r ffaith drist amdani yw, beth bynnag sydd gyda ni fel targedau, mae mwy o allyriadau carbon fesul y pen yng Nghymru nawr nag oedd 10 mlynedd yn ôl, ac maent wedi gostwng yn Lloegr a’r Alban. Mae’r arfau yn eich dwylo chi: yn y Ddeddf amgylchedd, rydych chi’n gosod allan y byddwch chi’n sicrhau cyllido carbon—y gyllideb garbon, felly. Yn ystod y flwyddyn nesaf, bydd yn rhaid ichi baratoi honno. A fyddwch chi’n rhoi ymrwymiad, felly, y bydd y gyllideb garbon gyntaf gan y Llywodraeth yn gosod allan sut y byddwch chi’n lleihau allyriadau carbon?

Wel, un peth y gallaf i ddweud wrth yr Aelod yw nad ydym ni’n mynd i ailystyried y targed hwnnw. Y ffocws nawr yw sicrhau bod yna weithredu ar y targed hwnnw ac, wrth gwrs, i ystyried pa reoliadau sydd eu heisiau er mwyn sicrhau hynny. Ynglŷn â fel yr ydym ni’n symud hwn ymlaen, wrth gwrs rydym ni’n moyn sicrhau ein bod ni’n symud ymlaen gyda rheoliadau ynglŷn â chyllidebau carbon. Mae’n rhaid inni, wrth gwrs, ystyried beth yw’r lefelau iawn ar gyfer gwneud hynny, ac, wrth gwrs, bydd y lefelau hynny yn cael eu sefydlu ar dystiolaeth sydd yn dod o’r corff ymgynghori.

Hyrwyddo Cymru i'r Byd

6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bwysigrwydd llwyddiant ym myd chwaraeon o ran hyrwyddo Cymru i'r byd? OAQ(5)0694(FM)

Mae'n chwarae rhan gyfoethog yn ein diwylliant a’n traddodiad. Rydym ni bron i flwyddyn ymlaen o Bencampwriaeth Ewrop, a wnaeth fwy, mae'n debyg, nag y gallai unrhyw wleidydd ei wneud i godi proffil Cymru ledled Ewrop a'r byd. Ie, un o'r pethau yr ydym ni’n ei anghofio weithiau yw, ar y pryd, yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg pan nad oedd gennym fawr ddim arall i’w ddangos fel cenedl, bod chwaraeon wedi chwarae rhan enfawr o ran datblygu Cymru fodern a rhoi ymdeimlad o genedligrwydd i bobl. Yn 1905 y canwyd yr anthem genedlaethol gyntaf mewn unrhyw ddigwyddiad chwaraeon mewn unrhyw le yn y byd, yn y gêm rhwng Cymru a Seland Newydd. Felly, mae'n hynod bwysig, nid yn unig o ran ychwanegu at ein diwylliant, ond, wrth gwrs, fel ysgogwr economaidd, yn enwedig yn Abertawe.

A gaf i ddiolch i’r Prif Weinidog am yr ymateb yna? Rwy'n credu ein bod i gyd—neu'r rhan fwyaf ohonom ni wedi mwynhau llwyddiant Cymru ym Mhencampwriaeth Ewrop y llynedd yn arw, ac fe wnaethom ni wir weld Cymru'n cael ei hyrwyddo fel chwaraewr o bwys yn Ewrop o'i herwydd. Rwy'n credu ei bod, wrth gwrs, yn hanfodol bod Chwaraeon Cymru hefyd yn sylweddoli pwysigrwydd chwaraeon proffesiynol yng Nghymru. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi, o ran Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe a phwysigrwydd pêl-droed Uwch-gynghrair Lloegr i hyrwyddo Abertawe a Chymru? Dangosir tri deg wyth gêm Uwch-gynghrair Lloegr y flwyddyn ar y teledu ledled y byd gyda'r gair 'Swansea' yn cael ei grybwyll. Dyna’r cyhoeddusrwydd gorau y mae Abertawe neu Gymru yn ei gael o unrhyw le. A yw'r Prif Weinidog hefyd yn falch iawn y bydd Abertawe yn treulio tymor arall yn Uwch-gynghrair Lloegr?

Yr ateb syml yw 'ydw'. Nid wyf yn credu y gallaf i fynd lawer ymhellach na hynny, ond mae Mike Hedges yn hollol gywir i ddweud pa mor bwysig yw clwb Abertawe fel brand i ddinas Abertawe hefyd. Rydym ni wedi gweithio, drwy Croeso Cymru, gyda'r clwb ers 2011 i gynyddu proffil y clwb, ac, wrth gwrs, proffil Cymru.

Wel, ar ôl Mike Hedges, yn union yr un fath: effeithiau aruthrol llwyddiant ein tîm cenedlaethol—y tîm pêl-droed—wrth gyrraedd rownd gynderfynol Ewro 2016 a hyrwyddo Cymru yn y byd. Nawr, rwy’n credu bod criced hefyd yn gamp sy'n cael ei chwarae yn gyffredin ymhlith gwledydd y Gymanwlad, ac mae rhai o'r gwledydd sydd yn llawer llai na Chymru yn cynrychioli ar lwyfan y byd ac yn hedfan eu baner ar y meysydd criced ym mhedwar ban byd. Pam na allwn ni, Prif Weinidog, gytuno ar hyn, nawr, bod yr amser wedi dod i ni, Cymru, gael ein tîm criced ein hunain i gynrychioli Cymru ar lwyfan y byd?

Mae hwn yn fater yr wyf i’n sicr wedi ei gefnogi yn y gorffennol—tîm undydd yn sicr. Nid tîm prawf; nid wyf yn credu ein bod ni’n chwarae’n agos at y lefel honno. Ond mae'n rhyfedd ein bod ni’n gweld Iwerddon a'r Alban yn chwarae mewn cystadlaethau rhyngwladol ac nid Cymru. Roedd gennym ni dîm undydd ar un adeg am ychydig flynyddoedd. Gwn fod pryderon ym Morgannwg oherwydd y fantais ariannol y maen nhw’n ei chael, o fod yn rhan o Fwrdd Criced Cymru a Lloegr, gan fod hynny’n cael ei anghofio weithiau, ond o’m safbwynt i, hoffwn yn fawr iawn ein gweld ni’n cael ein cynrychioli’n rhyngwladol ar y maes criced, cyn belled, wrth gwrs, nad oes ergyd ariannol i Forgannwg a'u gallu i chwarae ar y lefel uchaf.

Yn gyntaf oll, yn anffodus rwy'n credu fod Mike Hedges yn iawn, a dweud y gwir, am Abertawe.

Aelod o'r Senedd / Member of the Senedd 14:11:00

Nid yw’n anffodus.

Ydi mae – i gefnogwr Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd. I fod o ddifrif, fodd bynnag, rwyf i wedi cael llawer o gwynion gan etholwyr nad ydyn nhw’n teimlo ein bod ni’n rhoi digon o gefnogaeth i seiclo yng Nghymru. Mae Geraint Thomas newydd fod y Cymro cyntaf erioed i wisgo'r crys melyn, a byddwn yn gobeithio y byddech chi’n ei longyfarch ar hynny yn ffurfiol. Hoffwn wybod: beth mae eich Llywodraeth yn ei wneud i hyrwyddo mwy ar seiclo?

Rydym ni wedi cael digwyddiadau, wrth gwrs, yn cael eu cynnal yng Nghymru. Cafwyd y Tour of Britain, os wyf i’n cofio’n iawn. Rwy'n cofio bod yng Nghaerffili, yn ei wylio wrth iddo groesi mynydd Caerffili. Mae gennym ni, wrth gwrs, y felodrom yng Nghasnewydd, sy'n gyfleuster da iawn i bobl allu ei ddefnyddio, ac mae'r ffaith ein bod ni wedi cael llwyddiant ym myd seiclo rhyngwladol—Geraint Thomas, wrth gwrs, ar hyn o bryd; Nicole Cook ac eraill yn y gorffennol—yn dangos bod y cyfleusterau gennym ni i hyrwyddo seiclo. Rydym ni’n gwybod, wrth gwrs, bod seiclo, unwaith eto, yn un o'r campau hynny sy’n gamp elitaidd ar lefel ryngwladol, ond yn weithgaredd hynod o bwysig o ran gwella iechyd pobl pan eu bod yn seiclo ar gyfer hamdden.

Adroddiad y Tasglu Model Cyflenwi Gweinidogol

7. Pa waith y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud i weithredu argymhellion Adroddiad y Tasglu Model Cyflenwi Gweinidogol a gyhoeddwyd ar 2 Chwefror 2017? OAQ(5)0703(FM)

Mae gweithgor wedi ei sefydlu i fwrw ymlaen â'r argymhellion a geir yn adroddiad y tasglu. Mae hynny'n cynnwys cefnogaeth i gyfleoedd dysgu proffesiynol athrawon cyflenwi a newydd gymhwyso, a datblygu rhaglen i gefnogi ac adeiladu capasiti yn y system trwy drefniadau clwstwr ysgolion.

Un o'r materion a godwyd gan yr adroddiad oedd y darlun amrywiol, anghyson a chymhleth o addysgu cyflenwi. Roeddwn yn falch o weld bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi derbyn pob un o'r 10 argymhelliad, er iddi gydnabod bod yn rhaid bod yn ofalus wrth reoleiddio safonau asiantaethau cyflenwi masnachol. Mae gennyf i etholwr sy'n athrawes gyflenwi sydd wedi ysgrifennu ataf, ac mae hi'n dweud wrthyf ei bod hi’n cael ei chyflogi drwy asiantaeth sy'n didynnu traean o'i chyflog cyn iddi fynd ag ef adref. Mae hi hefyd yn teimlo y dylai athrawon cyflenwi gael eu recriwtio a'u cyflogi gan awdurdodau lleol a/neu gan gonsortia. Dyna ei barn hi. A all y Prif Weinidog gadarnhau bod y Llywodraeth, fel y mae ef wedi ei nodi, yn bwrw ymlaen â'r argymhellion hyn ac y bydd yn bwrw ymlaen â nhw’n fuan? Ond hefyd, beth ellir ei wneud o ran rheoleiddio asiantaethau a sicrhau parch cydradd rhwng athrawon cyflenwi a'u cymheiriaid llawn amser?

Bydd hyn yn dod yn haws pan fydd tâl ac amodau athrawon wedi eu datganoli, ond mae'n iawn i ddweud bod—. Rwyf wedi ei glywed fy hun yn fy etholaeth fy hun am bobl yn cwyno am y ffioedd asiantaeth sy'n cael eu talu. Nid oes unrhyw ofyniad, cyn belled ag y gallaf i weld, sy’n golygu bod yn rhaid i awdurdodau lleol fynd drwy asiantaeth; dim ond eu bod nhw’n dewis mynd drwy asiantaeth. Ac nid yw’n ofynnol ychwaith iddyn nhw fynd drwy asiantaeth benodol, ac nid oes rhaid i benaethiaid ysgolion wneud hynny ychwaith, o reidrwydd. Rwy'n credu ei bod hi’n bwysig bod awdurdodau lleol yn edrych ar y ffordd y mae athrawon cyflenwi yn cael eu darparu yn eu hardaloedd, er bod hwn yn fater, yn fy marn i, i benaethiaid ysgol, yn hytrach nag awdurdodau lleol, i wneud yn siŵr bod penaethiaid ysgol eu hunain yn deall bod dewisiadau ar gael iddyn nhw wrth recriwtio staff cyflenwi.

A all y Prif Weinidog roi sicrwydd na fydd unrhyw ysgol sydd â model llwyddiannus o athrawon cyflenwi ar eu cyfer nhw yn gweld disodli hwnnw gan fodel o'r brig i lawr a roddir ar waith ar draws pob ysgol, boed hynny yng Nghymru neu gan awdurdod lleol?

Mae'n rhaid iddo fod yn deg, wrth gwrs, i'r athrawon cyflenwi. Bydd model llwyddiannus yn un lle mae staff addysgu ar gael i ysgol, ond lle mae staff addysgu yn cael eu trin yn deg hefyd. Dyna, i mi, yw model llwyddiannus. Lle mae’r modelau hynny'n bodoli, ymddengys nad oes unrhyw reswm i’w newid.

Un o’r siomedigaethau, rwy’n credu, pan wnaeth ymateb ysgrifenedig y Gweinidog i’r adroddiad gael ei gyhoeddi, oedd nad oedd y Llywodraeth ar y pryd yn gallu rhoi arweiniad ynglŷn â’r ddau argymhelliad a oedd yn mynd yn fwyaf pellgyrhaeddol o ran rhoi ateb i’r sefyllfa—hynny yw, rheoleiddio’r sector breifat, fel yr oedd Hefin David yn cyfeirio ato fe, o ran gwella safonau, ond hefyd creu system ranbarthol ar gyfer cyflogi yn uniongyrchol. Mi oedd y Llywodraeth wedi addo dod nôl ag ymateb ar ôl i ragor o waith gael ei wneud ar y ddau bwynt yna. A ydy’r Llywodraeth mewn pryd i gyhoeddi yr ymateb hwnnw nawr?

Ynglŷn â’r ‘footprint’ rhanbarthol, rŷm ni’n symud ymlaen gyda hynny—gallaf i gadarnhau hynny—er mwyn sicrhau bod hynny’n digwydd. Ynglŷn â delio â busnesau yn y sector breifat, wrth gwrs, mae yna faterion sydd yn croesi i mewn i ardal sydd heb ei datganoli. Felly, ar hyn o bryd rŷm ni’n ystyried pa mor bell gallwn ni fynd.

3. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf ar yr agenda yw’r datganiad a chyhoeddiad busnes. Rydw i’n galw ar arweinydd y tŷ i wneud ei datganiad.

Diolch, Llywydd. Mae gennyf dri newid i’w hadrodd i fusnes yr wythnos hon. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant yn gwneud datganiad gyda hyn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr am y datblygiadau yng Nghymru yn dilyn y tân yn Nhŵr Grenfell. Rwyf hefyd wedi ail-drefnu dau ddatganiad llafar heddiw, ac mae'r Pwyllgor Busnes wedi cytuno i leihau'r amser a neilltuwyd ar gyfer cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad yfory. Mae'r busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi’i nodi ar y datganiad a’r cyhoeddiad busnes y gellir eu gweld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau'n electronig.

Arweinydd y tŷ, a yw'n bosibl cael datganiad, os gwelwch yn dda, ac rwy’n credu fy mod i wedi gofyn am hyn o'r blaen, ac roedd awgrym y byddai hynny’n digwydd, ond ni chafodd ei roi ar gael, ar y ffordd fynediad ogleddol—byddwch chi’n gyfarwydd â hi—o gwmpas ardal fenter Sain Tathan? Byddwch hefyd yn gyfarwydd iawn â sylwadau a gwrthwynebiadau cryf iawn Cyngor Tref Llanilltud Fawr a Chyngor Cymuned Llan-faes i’r ffordd newydd a gynigir ar gyfer ardal Sain Tathan. Mae'r cais cynllunio wedi’i wneud gan Lywodraeth Cymru ac, i mi, yn sicr, nid yw'n ymddangos bod achos cydlynol wedi’i gyflwyno o ran pam mae Llywodraeth Cymru yn awyddus iawn i wario £15 miliwn ar y darn hwn o ffordd pan allai’r seilwaith presennol, gyda buddsoddiad cymharol fach, ddarparu’n rhwydd ar gyfer y lefelau traffig diwygiedig a allai ddigwydd oherwydd y buddsoddiad yn yr ardal fenter. Rwy’n credu y byddai'n rhoi llawer o wybodaeth i bobl leol pe gellid cyflwyno’r datganiad hwn ac, yn arbennig, byddai cyngor cymuned Llan-faes a chyngor tref Llanilltud yn elwa ar gael gwybodaeth glir a gwrthrychol ynghylch pam y mae Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo £15 miliwn o wariant ar ddarn o ffordd, nad wyf wedi dod o hyd i neb sy’n ei gefnogi yn lleol.

Wel, fel y mae’r Aelod yn ei ddweud, mae hyn—Andrew R.T. Davies, fel yr ydych chi’n ei ddweud yn eithaf clir, mae erbyn hyn ar gam cais cynllunio manwl i Gyngor Bro Morgannwg i adeiladu’r hyn a adnabyddir fel y ffordd fynediad ogleddol. Rwy’n cofio—ac rwy’n credu mai’r llynedd oedd hi—pryd y cafwyd arddangosfa am y cynigion ar gyfer y ffordd hon yn Sain Tathan, a dywedais i y dylai hi fod yn Llan-faes ac yn Llanilltud Fawr hefyd, fel bod y bobl leol—. Yn amlwg, rwy'n siarad fel Aelod Cynulliad yn y fan yma ynglŷn â'r datblygiad arfaethedig. Yr hyn sy'n bwysig iawn yw bod yn rhaid ymgysylltu â’r gymuned leol, fel, yn wir, y mae’r cynghorau tref a chymuned yn ei wneud. Yn amlwg, rydym ni wedyn yn aros am ystyriaeth lawn o ran y cais cynllunio sydd gerbron Cyngor Bro Morgannwg.

Arweinydd y tŷ, yn dilyn y llanast diweddaraf o ran y £9.3 miliwn ar gyfer Cylchffordd Cymru, a etifeddwyd gan gyn-Weinidog, hoffwn gael datganiad gennych chi ar y canlynol: Kancoat, gwastraffu £3.4 miliwn ar gwmni â chynllun busnes gwan; Oysterworld, £1.4 miliwn wedi’i golli; Kukd, £1 filiwn ar gwmni sy’n destun ymchwiliad erbyn hyn. Cawsom y cytundeb gwerthu tir yn Llys-faen yng Ngogledd Caerdydd, lle y cafodd tir ei werthu am £2 filiwn pan oedd yn werth £41 miliwn, colled o £39 miliwn; y cytundeb gwerthu tir yn y Rhŵs, £7 miliwn; dwy siop ym Mhontypridd, colli £1 filiwn heb gael prisiad. Pwy sy'n gwerthu unrhyw beth heb gael prisiad? Llywodraeth Cymru. Prif weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymddeol yn annisgwyl ar ôl i gontract gwerth £39 miliwn cael ei arwyddo heb achos busnes. Arweinydd y tŷ, nid oes gennyf unrhyw safbwynt personol ar unrhyw un o'r pethau hynny a grybwyllwyd, ond a ydych chi’n credu bod rhyw awgrym o lygredd o amgylch y weinyddiaeth Lafur hon, neu ai dim ond drewdod aflerwch yw hyn?

Unwaith eto, mae’r Aelod yn defnyddio, byddwn i’n dweud, ei swyddogaeth fel aelod o'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn y fath fodd i restru nifer o faterion y creffir arnynt yn briodol, ac y bu craffu priodol arnynt gan y pwyllgor hwnnw.

Rwy'n croesawu ymateb y Prif Weinidog yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog i arweinydd Plaid Cymru am y mater o fenywod o Ogledd Iwerddon yn gallu cael erthyliadau yn rhad ac am ddim yng Nghymru. Roeddwn i eisiau canmol ymdrechion un o feincwyr cefn y Blaid Lafur, sef Stella Creasy, y gwnaeth ei hymgyrchu a’i gweithrediadau olygu bod Llywodraeth San Steffan wedi gwneud y penderfyniad hwn yn Lloegr. Rwy’n galw am ddatganiad manwl gan Lywodraeth Cymru, gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd a’r gwasanaethau cymdeithasol, am sut y bydd hyn yn cael ei roi ar waith yng Nghymru. Rwyf ar ddeall bod 724 o fenywod o Ogledd Iwerddon, y llynedd, wedi defnyddio gwasanaeth erthylu yng Nghymru a Lloegr. Felly, a gawn ni ddatganiad i egluro'r rhifau yng Nghymru? Y cyllid—rwy’n nodi y bydd y cyllid o San Steffan yn dod o swyddfa cydraddoldeb Llywodraeth y DU. Ac, yn amlwg, beth am fater y costau teithio a’r mân dreuliau? Oherwydd y cyflwynwyd achos yn y Goruchaf Lys yn gynharach eleni gan ferch feichiog 15 mlwydd oed a'i mam, a deithiodd o Ogledd Iwerddon i Fanceinion, a'r gost oedd £900. Yn amlwg, mae’r math hwn o daliad yn ychwanegu at y straen a'r stigma sydd ynghlwm wrth ddigwyddiad mor ofidus.

Wel, rwy'n falch bod Julie Morgan, yr Aelod dros Ogledd Caerdydd, hefyd wedi dewis codi’r mater hwn eto y prynhawn yma, yn amlwg yn dilyn cwestiwn i'r Prif Weinidog. Rwy’n dymuno ailadrodd yr hyn a ddywedwyd gan y Prif Weinidog unwaith eto, ein bod yn cefnogi'n gryf hawl menywod i ddewis cael erthyliad. Rydym ni’n ystyried y ddarpariaeth o erthyliadau i ferched o Ogledd Iwerddon yng Nghymru. Rydym ni’n credu y dylai menyw o Ogledd Iwerddon yng Nghymru allu cael erthyliad am ddim, ar yr un sail â menywod yng Nghymru, ac rydym ni’n archwilio sut y gellir cyflawni hynny. Wrth gwrs, mae hynny'n cynnwys hefyd, fel y dywedodd y Prif Weinidog, yn ogystal â’r costau teithio a’r mân dreuliau, cymorth ar gyfer y person hwnnw, ar gyfer y fenyw honno, a allai ddod i Gymru a manteisio ar y cyfle hwnnw. Yn amlwg, mae hyn yn rhywbeth pan fo—. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd a llesiant yn edrych ar hyn yn ofalus iawn a bydd yn gallu rhoi diweddariad manylach maes o law.

Ond hoffwn i hefyd ymuno â'r Aelod i longyfarch Stella Creasy AS o’r Blaid Lafur. Rwy’n credu mai’r hyn a oedd yn bwysig iawn am yr agwedd a gymerodd oedd ei bod wedi ymgysylltu â nifer o Aelodau Seneddol yn drawsbleidiol yn San Steffan. Y Blaid Lafur oedd yr arweinydd craidd, ond cafodd hyn ei gydgysylltu—. Ac, wrth gwrs, gallech weld, ar draws y Siambr yn y Tŷ, y gefnogaeth honno yn dod o’r holl feinciau, ac, yn wir, wrth gwrs, fe wnaeth hynny arwain at yr ymateb gan Lywodraeth y DU. Nawr, ddoe, cyflwynodd Justine Greening, sef y Gweinidog dros Fenywod a Chydraddoldebau, lythyr at yr holl Aelodau Seneddol ynglŷn ag erthyliadau a berfformir yn Lloegr ar gyfer menywod o Ogledd Iwerddon. Dywedodd yn y llythyr hwnnw y byddai'r taliadau yn cael eu hariannu drwy swyddfa cydraddoldeb y Llywodraeth, gan ganiatáu i'r Adran Iechyd gomisiynu gwasanaethau erthylu yn Lloegr ar gyfer y rhai hynny sydd o Ogledd Iwerddon. Felly, mae'n eithaf amlwg bod angen i ni bellach sicrhau y gall hyn hefyd fod yn berthnasol i Gymru, ac y bydd yn berthnasol i Gymru.

Arweinydd y tŷ, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi ar y buddiannau a ddarperir gan ardaloedd menter yng Nghymru? Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet y byddai parc modurol newydd yn cael ei greu yng Nglynebwy ac addawodd y byddai’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad hwn ar y cynnydd yn hyn o beth. Ym mis Tachwedd 2015, datgelodd ffigurau gan Lywodraeth Cymru ddarlun cymysg o ran swyddi a grëwyd yn ein hardaloedd menter. Yn y flwyddyn flaenorol, crëwyd mwy na 1,000 o swyddi yn ardaloedd menter Caerdydd a Glannau Dyfrdwy. Roedd hynny o’i gymharu â dim ond saith swydd wedi’u creu yng Nglynebwy a Sain Tathan gyda’i gilydd. A gawn ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet â diweddariad ar y sefyllfa bresennol ardaloedd menter a'u datblygiad yn sgil Brexit, os gwelwch yn dda? Diolch.

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. Mewn gwirionedd, cyfarfu Ysgrifennydd y Cabinet â chadeirydd ardal fenter Glynebwy y bore yma a gallodd felly bwysleisio pwysigrwydd y cyfleoedd hynny sydd bellach yn cael eu cyflwyno yn sgil ei gyhoeddiad a dyraniad y cyllid yr wythnos diwethaf. Ac mae'n hollbwysig ein bod yn ystyried hyn o ran y swyddi a grëwyd, ac rwy'n gwybod yr hoffai Ysgrifennydd y Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau mewn datganiad, nid yn unig o ran yr ardal fenter yng Nglynebwy, ond ar draws Cymru gyfan o ran yr holl ardaloedd menter.

Arweinydd y tŷ, byddwch heb os yn ymwybodol bod prosiect ARCH a bargen ddinesig Bae Abertawe â’r bwriad o ddatblygu Abertawe a’r de-orllewin fel canolfan ranbarthol ar gyfer rhagoriaeth mewn iechyd, gan adeiladu ar lwyddiant yr ysgol feddygol ôl-raddedig. Nawr, bydd trafodaethau cyfredol yn ymwneud â chanolfan trawma mawr i dde Cymru yn tanseilio hynny i gyd o bosibl. Awgrymodd adroddiadau yr wythnos diwethaf fod Caerdydd ar fin cael ei argymell fel y ganolfan trawma mawr ar gyfer de Cymru, a bod Ysbyty Treforys yn Abertawe am gael ei ddynodi yn uned trawma mawr yn rhan o rwydwaith ehangach. Nawr, mae hanes yn y fan yma, wrth gwrs, o ganoli gwasanaethau yng Nghaerdydd. Roedd arweinydd y tŷ a minnau yn sylweddol iau, pryd y gwnaethom ni gymryd rhan mewn brwydrau i geisio amddiffyn niwrolawdriniaeth bediatrig, a gollwyd o Dreforys i Gaerdydd, ac, yn nes ymlaen, pan wnaethom geisio amddiffyn niwrolawdriniaeth i oedolion, a gollwyd o Dreforys i Gaerdydd. Felly, mae pobl yn Abertawe a’r de-orllewin yn poeni am yr hyn sy'n ymddangos i fod o bosibl yn broses o ganoli hyd yn oed mwy o wasanaethau iechyd allweddol yng Nghaerdydd. Cyflwynwyd dadleuon cryf bod Treforys mewn gwell lleoliad i fod yn ganolfan trawma mawr, gyda chyfran uwch o boblogaeth de Cymru yn byw o fewn awr mewn amser teithio, ac mae’r canolbarth a’r gorllewin yn gefnwlad naturiol i Abertawe. Hefyd, mae gan Dreforys uned losgiadau a llawdriniaeth blastig wedi eu hen sefydlu, sy'n gwasanaethu Cymru a de-orllewin Lloegr ac sy’n uned flaenllaw ar gyfer pob rhan o’r wlad. O ystyried y pryderon yn Abertawe, a’r safbwyntiau sy'n cystadlu, byddwn i’n ddiolchgar pe byddai Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd yn cyflwyno datganiad ar y pwnc hwn. Diolch yn fawr.

Ydw, rwyf yn cofio, wrth gwrs, y trafodaethau hynny o amser maith yn ôl, ac mae'r gwaith ar y cyd a gyflawnwyd, sut y symudwyd hynny ymlaen. Mae gennyf ddiddordeb mawr hefyd yn eich sylwadau am bwysigrwydd cynnig ARCH, yr wyf yn credu ac yn deall—oherwydd yr oedd cefnogaeth fawr draws-lywodraethol, a chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru ar gyfer hynny—ei fod hefyd yn cyfrannu at fargen ddinesig rhanbarth bae Abertawe o ran y cyfleoedd, y nodau a’r amcanion arloesol, blaengar a thrawsbynciol, o ran iechyd a llesiant a bod hynny yn rhan o ddatblygiad economaidd bae Abertawe a'r fargen ddinesig.

Rwy'n credu ei bod yn bwysig dim ond i gydnabod, o ran y cynigion ar gyfer y ganolfan trawma, bod cynnydd yn cael ei wneud o ran datblygu cynlluniau ar gyfer rhwydwaith trawma mawr yn ne Cymru, ond nid oes penderfyniad ar leoliad y ganolfan trawma mawr wedi ei wneud hyd yn hyn.

Arweinydd y tŷ, a gaf i ofyn am ddatganiad i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am lwyddiant strategaeth dwristiaeth Blwyddyn Chwedlau hyd yn hyn? Rwy'n gwybod bod llawer o Aelodau yn y fan yma wedi bod yn weithgar yn yr ymgyrch Blwyddyn Chwedlau, gan gynnwys yn fy etholaeth fy hun, lle yr wyf wedi bod yn ymgyrchu i ddod â'r fantell aur yn ôl i'r dref lle y cafodd ei darganfod gyntaf ym 1833. Ac rwy'n ddiolchgar i'r Prif Weinidog am ei eiriau o gefnogaeth yn y Siambr hon, ac i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi am bopeth y mae'n ei wneud ynglŷn â hynny.

Wrth i ni nesáu at y prif dymor twristiaeth a gwyliau ysgol yr haf, byddai'n amserol i asesu ein sefyllfa o ran y Flwyddyn Chwedlau a'r cynnig twristiaeth ehangach sydd gennym, o ystyried ei fod mor allweddol i economi’r gogledd, ac yn wir, i economi Cymru yn ei chyfanrwydd.

Diolch i Hannah Blythyn am y cwestiwn yna. Mae'n amserol iawn, rwy’n credu, ar yr adeg hon o'r flwyddyn, i ofyn am yr wybodaeth ddiweddaraf gan Ysgrifennydd y Cabinet, sydd yma wrth fy ochr, ar yr ymgyrch Blwyddyn Chwedlau, a hefyd am y cyfle i glymu hyn i'r fantell aur. Nawr, dim ond er mwyn gwella'r cyfleoedd hyn, rwy’n deall bod Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith wedi gofyn i'w swyddogion fwrw ymlaen â hyn. Mae swyddogion twristiaeth wedi cael cais gan Gyngor Bwrdeistref Sir y Fflint am arian i gadw’r fantell aur wreiddiol yn Theatr Clwyd. Mae llawer o gystadleuaeth o ran y gronfa, a cheir llawer gormod o geisiadau am yr arian sydd ar gael, fel y bydd yr Aelod yn gwybod, ond bydd swyddogion yn ysgrifennu’n fuan at y sefydliadau hynny a fydd yn llwyddiannus ar y cam cyntaf, gan eu gwahodd i gyflwyno cais llawn. Rwy’n deall bod hyn yn rhan bwysig o raglen ymchwil barhaus, ac rwy’n croesawu’r cwestiwn.

A gaf i ofyn am yr wybodaeth ddiweddaraf ar ddau fater? Yn gyntaf oll, cafwyd briffiad heddiw gan Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol i aelodau yn eu swyddfeydd ynghylch rhaglen ystadau'r Adran Gwaith a Phensiynau yng Nghymru. Ers ethol y Llywodraeth newydd, rwyf wedi ysgrifennu at Lywodraeth San Steffan, yn gofyn iddi ailystyried yr achos dros gau swyddfeydd Yr Adran Gwaith a Phensiynau yn Llanelli, a hefyd yr achos yn Ystradgynlais, yn ogystal â hynny, am resymau gwahanol. Fodd bynnag, rwy’n deall o'r hyn a ddywedwyd wrthyf heddiw ei bod yn debygol y bydd cyhoeddiadau yn cael eu gwneud yn fuan iawn am y swyddfeydd hyn yng Nghymru, ac am y penderfyniad sy’n cael ei wneud gan yr Adran Gwaith a Phensiynau. Felly, os yw hynny'n wir, a gaf i ymrwymiad gan y rheolwr busnes y bydd y Llywodraeth yn gwneud datganiad ar unwaith mewn ymateb i hynny, gan nodi sut y bydd yn ymateb i’r cyhoeddiad hwnnw mewn lleoedd fel Llanelli, yn enwedig o ran cynorthwyo pobl y gallent mewn gwirionedd fod mewn sefyllfa lle nad oes modd iddynt symud a derbyn swyddi oherwydd ymrwymiadau cartref, ymrwymiadau gwaith, ymrwymiadau gofal a phellter a chost y teithio? Rwy'n credu y gallai Llywodraeth Cymru orfod ysgwyddo rhan o'r baich yn dilyn penderfyniad yr Adran Gwaith a Phensiynau, felly byddwn i'n croesawu'r ymrwymiad i ymateb i hynny.

Yr ail fater yr hoffwn ei godi yw hwnnw yn ymwneud â'r penderfyniad a gyhoeddwyd dros y penwythnos—ni chafodd ei gyhoeddi yn y Senedd tan ddydd Llun mewn gwirionedd—gan Michael Gove, i dynnu'r Deyrnas Unedig allan o Gonfensiwn Pysgodfeydd Llundain, a lofnodwyd yn 1964, ac sydd, yn ôl pob tebyg, wedi ei gadarnhau sawl gwaith gan y polisi pysgodfeydd cyffredin. Felly, mae'n rhyw fath o arwydd rhethregol o Brexiteer, yn hytrach na realiti mewn termau gwleidyddol a chyfreithiol. Fodd bynnag, mae yn codi dau gwestiwn. Un o’r rhain yw: pa drafodaethau a gynhaliwyd â Llywodraeth Cymru ynghylch hyn, gan fod pysgodfeydd yn fater sydd wedi'i ddatganoli? Gallai pysgotwyr a physgotwragedd Cymru fod yn teimlo’n eithaf didaro am hyn, o gofio mai fflyd y glannau a diwydiant pysgod cregyn sydd gennym yn bennaf, ond rwy'n credu bod rhai llongau pysgota yn mynd allan o Aberdaugleddau, a allai fod yn teithio i ddyfroedd yr effeithir arnynt, o leiaf gan yr egwyddor y tynnu'n ôl hwn, ac wrth gwrs, mae'n codi’r cwestiwn o fynediad i derfynau morol y naill a’r llall ar ôl i ni dynnu'n ôl o’r polisi pysgodfeydd cyffredin. Felly, a gawn ni ddatganiad gan y Llywodraeth, gan nodi pa drafodaethau a gafwyd ynglŷn â Chonfensiwn Pysgodfeydd Llundain, neu yn wir, y polisi pysgodfeydd cyffredin; sut y trafodwyd hynny â Llywodraeth Cymru; pa drafodaethau a gynhaliwyd â diwydiant pysgota Cymru ynglŷn â’r rhain; ac a oes unrhyw fwriad gan Lywodraeth Cymru i wneud unrhyw gyhoeddiad cyhoeddus ar hyn, gan fy mod yn nodi bod Llywodraeth yr Alban wedi ei groesawu mewn gwirionedd?

Diolch yn fawr, Simon Thomas, am y ddau gwestiwn yna. Yn wir, rwy’n cofio eich bod wedi codi’r mater o gau arfaethedig y swyddfeydd Adran Gwaith a Phensiynau, ac wrth gwrs, mae’r pryderon hynny yn cael eu rhannu gan nid yn unig Lywodraeth Cymru, ond gan Aelodau eraill y Cynulliad a'u hetholwyr hefyd. Ac, unwaith eto, mae'n bwysig ac yn amserol eich bod yn codi'r mater hwn, er mwyn i ni ailystyried ein sefyllfa ynglŷn â hyn o ran ein sylwadau, a hefyd gan feddwl am y cyhoeddiad sydd ar fin dod.

O ran eich ail bwynt, sy’n ymwneud â Michael Gove, gall rhywun gwestiynu, o'r ffordd y mae pethau'n mynd ar hyn o bryd, o dan awdurdod pwy, ac â pha awdurdod, y gwnaeth y datganiad hwnnw am y confensiwn pysgodfeydd. Ond, rwy'n credu, fel yr wyf yn ei ddeall—. Dim ond yn yr wythnos ddiwethaf, rwy’n credu, y gallech chi fod wedi gofyn y cwestiwn i Ysgrifennydd y Cabinet am y ffaith fod Michael Gove yn ymddangos i fod yn anwybyddu’r gweinyddiaethau datganoledig. Beth bynnag, rwy’n deall y gallai cyfarfod ag Ysgrifennydd y Cabinet fod ar y gweill, ond mae cyfarfodydd pedrochr â’r Gweinidog dros yr Alban ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymru wedi eu gohirio. Ac, yn amlwg, cyn belled ag yr wyf yn deall, nid ymghynghorwyd ag Ysgrifennydd y Cabinet, Llywodraeth Cymru yn sicr, cyn cyhoeddi hyn ar y penwythnos. Ac mae'n bwysig iawn eich bod chi, unwaith eto, yn tynnu hyn i sylw’r cyhoedd ehangach, o ran y ffordd yr ydym yn cael ein trin a’n diystyru.

A gaf i gefnogi'r galwadau am yr wybodaeth ddiweddaraf ar y strategaeth Blwyddyn Chwedlau? Rwyf wir yn gwerthfawrogi'r ffaith bod cyd-Aelod yn y gogledd sy'n ceisio dod â rhai o'n trysorau yn ôl i'r rhanbarth. Un o’r trysorau eraill sy'n gysylltiedig ag etholaethau Delyn a Gorllewin Clwyd yw asgwrn bys Santes Gwenffrewi, o ffynnon sanctaidd enwog Gwenffrewi, a gafodd ei chladdu yn wreiddiol, wrth gwrs, yng Ngwytherin, yn fy etholaeth i fy hun, a chafodd ei hesgyrn, a dweud y gwir, eu dwyn gan fynachod abaty Amwythig er mwyn annog pobl i ymweld â'r dref honno. Ac roeddwn i’n meddwl tybed a gawn ni neges gan Lywodraeth Cymru ar bwysigrwydd y crair hwnnw i’r gogledd, a pha un a fyddai’n bosibl cael trefniant a chyfle i groesawu’r crair hwnnw i Wytherin, ac i Dreffynnon yn wir, mewn cydweithrediad â’r Eglwys Gatholig, ar ryw adeg yn y dyfodol?

A gaf i hefyd alw am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar yr adolygiad o ystad y Weinyddiaeth Amddiffyn? Mae hyn yn rhywbeth y gwn fod llawer o gydweithwyr ar draws y Siambr wedi mynegi pryderon ynglŷn ag ef yn y gorffennol. Rwy’n sylweddoli nad yw materion amddiffyn wedi’u datganoli i’r Cynulliad Cenedlaethol hwn, ond bydd yr adolygiad o’r ystad yn cael effaith sylweddol ledled Cymru—yn y gogledd, ym Mhrestatyn a Wrecsam, ac mewn lleoedd fel Cas-gwent, Aberhonddu, a mannau eraill. Ac rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn fod gan Lywodraeth Cymru safbwynt clir ar hyn, a bod y Cynulliad—ar sail drawsbleidiol—yn gallu dod at ei gilydd o amgylch neges gyffredin, o ran pwysigrwydd ôl troed yr ystad amddiffyn yma yng Nghymru, o ystyried y cyfraniad yr ydym yn ei wneud at bersonél y lluoedd arfog yn fwy cyffredinol. Felly, byddwn i’n gwerthfawrogi datganiad ar safbwynt Llywodraeth Cymru ynglŷn â hynny, ac unrhyw drafodaethau y gallech chi fod yn eu cael â Llywodraeth y DU, a'r Weinyddiaeth Amddiffyn.

Diolch i chi, Darren Millar. O ran eich cwestiwn cyntaf, mae Ysgrifennydd y Cabinet, fel yr wyf wedi dweud yn barod, yn mynd i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y Flwyddyn Chwedlau. Ac, yn amlwg, rydych chi wedi nodi un chwedl sydd ar goll o bosibl, y dylid ei hystyried—y creiriau hynny, mwy nag un, rwy’n credu—ond fe wnaethoch chi gyfeirio yn benodol at Santes Gwenffrewi a’r ffynnon sanctaidd yn Nhreffynnon. Ac rwy’n credu ei bod hi’n bwysig iawn bod y rhain yn cael eu cofnodi ac y dilynnir eu hynt, a’u bod yn cael eu cydnabod. Felly, rwy’n gwybod y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn awyddus i ymateb ar y mater lleol penodol hwnnw i chi, yn eich rhanbarth—etholaeth, mae'n ddrwg gennyf.

Eich ail bwynt: Rwy’n credu bod llawer o Aelodau yn bryderus iawn am yr adolygiad o ystad y Weinyddiaeth Amddiffyn. Rwyf i yn sicr yn bryderus yn fy swyddogaeth o fod yr Aelod Cynulliad dros Fro Morgannwg, o ran Sain Tathan. Mae hyn yn effeithio ar lawer o etholaethau, a byddaf i’n gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet fynd ar drywydd hyn, er mwyn cael y newyddion diweddaraf gan y Weinyddiaeth Amddiffyn.

4. 3. Datganiad: Y Wybodaeth Ddiweddaraf yn Dilyn y Tân yn Nhŵr Grenfell

Yr eitem nesaf yw’r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ar y wybodaeth ddiweddaraf yn dilyn y tân yn Nhŵr Grenfell. Ac rwy’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i wneud ei ddatganiad. Carl Sargeant.

Diolch i chi, Llywydd. Llywydd, diolch am y cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y camau sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru, landlordiaid, a gwasanaethau tân ac achub yng Nghymru, yng ngoleuni trychineb Tŵr Grenfell. Rwyf wedi ymrwymo i roi’r diweddaraf i’r Aelodau am ein gweithredoedd, ac rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau yn cytuno nad yw hwn yn fater plaid wleidyddol, ond yn un sy’n destun pryder i bob un ohonom ni, ac wrth gwrs, mewn llawer o achosion, i’n hetholwyr. Yn unol â hynny, rhoddais grynodeb i lefarwyr y gwrthbleidiau y bore yma, a byddaf yn diweddaru’r Aelodau yn rheolaidd wrth i'r sefyllfa ddatblygu.

Llywydd, ein blaenoriaeth ar unwaith, ar gyfer Llywodraeth Cymru a landlordiaid cymdeithasol ill dau, oedd sicrhau nad oedd y cladin Reynobond penodol a oedd yn gysylltiedig â Thŵr Grenfell wedi ei osod ar flociau tŵr uchel yng Nghymru. Nodais yr wythnos diwethaf na ddaethpwyd o hyd i unrhyw gladin o'r math hwn. Symudodd ein ffocws at y deunydd cyfansawdd alwminiwm, ACM, yn gyffredinol, a nodwyd hwn mewn saith bloc. Mae'r cladin wedi cael ei brofi. Yn amlwg, mae'r sefyllfa yn gofyn am gydweithredu agos gan ystod o asiantaethau a gwasanaethau. Diogelwch preswylwyr a thawelwch meddwl yw'r flaenoriaeth uchaf ar gyfer yr holl sefydliadau sy'n ymwneud â'r mater hwn, ac rwyf yn falch o ddweud ein bod yn gweithio gyda'n gilydd yn effeithiol. Ynghyd ag eraill, mae Llywodraeth Cymru yn gwbl ymrwymedig i ymateb mewn ffordd bwyllog a chytbwys sy'n cydnabod pwysigrwydd diogelwch a thawelwch meddwl tenantiaid.

Daeth Joyce Watson i’r Gadair.

Er mwyn deall profiadau'r rhai sy'n byw yn yr eiddo sydd wedi eu heffeithio, fe ymwelais i ddoe â thenantiaid yn Abertawe, lle cefais rai trafodaethau cadarnhaol a diddorol iawn, a fydd yn ddefnyddiol wrth ddylanwadu ar y ffordd rydym ni’n gweithio wrth inni symud ymlaen. Roeddwn i’n gallu esbonio'r hyn sy’n cael ei wneud i sicrhau bod y blociau tŵr uchel yn ddiogel. Roeddwn i’n gallu clywed gan denantiaid, o lygad y ffynnon, beth yw eu pryderon o ran diogelwch y deunydd cladin, ac roedden nhw’n glir iawn eu bod yn gwerthfawrogi'r cyngor a ddarparwyd gan y landlordiaid.

Rwyf, yn naturiol, yn awyddus i fynd i’r afael â phryderon dealladwy y tenantiaid cyn gynted ag y bo modd. Mae'n hanfodol bod y Llywodraeth yn gweithredu ar sail y cyngor proffesiynol gorau posibl. Mae ein gwasanaethau tân ac achub rhagorol yn parhau i weithio’n agos iawn ac yn cefnogi landlordiaid ac yn sicrhau y caiff popeth priodol a rhesymol ei wneud i ddiogelu tenantiaid. Mae eu ffordd broffesiynol a phwyllog o reoli risg a diogelwch tân yn hanfodol. Yn wir, rwy’n credu bod yr unig achos o orfod gwagio adeiladau ers hynny yn Lloegr, yn ystad Chalcots, yn ganlyniad archwiliad ar y cyd o’r ystad gan Frigâd Tân Llundain a phenderfyniad bod angen gwagio rhai o’r blociau am gyfnod dros dro.

Rwy'n falch o ddweud bod Abertawe wedi gweithredu cyfres gynhwysfawr o fesurau yn dilyn canlyniadau eu profion. Mae'r cam hwn yn cyfateb yn llwyr i ganllawiau yr Adran Gymunedau a Llywodraeth Leol, a ddiweddarwyd ar 22 Mehefin. Mae hyn yn nodi mesurau lliniaru i’w gweithredu, fel y bo'n briodol, yn ddi-oed, lle penderfynir bod deunyddiau inswleiddio o fewn cladin ACM yn annhebygol o fod yn cydymffurfio â'r rheoliadau adeiladu presennol. Mae'r mesurau yn amrywio o wirio statws risg tân—ac yn achos Abertawe, cynhaliwyd asesiad yn ddiweddar iawn—a sicrhau bod preswylwyr yn llwyr ddeall gweithdrefnau tân mewn argyfwng, yn enwedig ystyr 'aros yn eu hunfan', i weithredu mesurau ataliol yn effeithiol, sy’n cynnwys gwirio cydymffurfiaeth inswleiddio neu ddeunyddiau eraill sy'n ffurfio wyneb yr adeilad.

Mae'r awdurdod lleol mewn cysylltiad rheolaidd â'r trigolion ac mae ganddo wardeniaid tân ar y safle i roi sicrwydd i denantiaid. Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi cadarnhau iddo gynnal archwiliadau diogelwch tân yn Clyne Court yn Sgeti a Jeffreys Court ym Mhenlan ar 21 Mehefin eleni. Cafwyd bod y trefniadau diogelwch tân yn foddhaol yn unol â gofynion Gorchymyn 2005 Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân), lle bo’n berthnasol. Yn yr un modd, mae ystod lawn o fesurau rheoli risg a lliniaru yn eu lle yng Nghasnewydd—unwaith eto, yn unol â chanllawiau yr Adran Gymunedau a Llywodraeth Leol. Yn fwy cyffredinol, rydym ni’n parhau i fod mewn cysylltiad agos, unwaith eto, â Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru.

Bydd Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, yn parhau i gadw mewn cysylltiad agos ac yn gweithio gydag Abertawe a Chasnewydd, a’r holl awdurdodau lleol eraill yr effeithiwyd arnynt, wrth i grŵp arbenigwyr y DU ryddhau arweiniad a chyngor pellach. Rwyf hefyd wedi sefydlu grŵp cynghori diogelwch tân yng Nghymru, dan gadeiryddiaeth Des Tidbury, fy Mhrif Ymgynghorydd Tân ac Achub ac Arolygydd Cymru. Bydd y grŵp yn cyfarfod am y tro cyntaf yr wythnos hon. Er mwyn sicrhau cysondeb a chyfathrebu effeithiol, mae angen perthynas gref ac effeithiol rhwng y ddau grŵp, felly rwyf wedi gofyn i'r Ysgrifennydd Gwladol dros Gymunedau a Llywodraeth Leol fod Des Tidbury yn eistedd fel aelod o grŵp arbenigwyr y DU hefyd. Rwy’n disgwyl clywed ei ymateb yn fuan.

Fel yr esboniais, mae ein prif ffocws wedi bod, a bydd yn parhau i fod am y tro, ar flociau tŵr uchel yn y sector tai cymdeithasol. Rydym ni, fodd bynnag, bellach yn gweithio gydag awdurdodau lleol a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i nodi pob bloc aml-lawr preswyl yn y sector preifat. Rydym yn gweithio i sicrhau y gallwn adnabod rhydd-ddeiliaid ac asiantau rheoli y blociau hyn a rhoi cyngor ac arweiniad priodol iddyn nhw, yn unol â'r hyn yr ydym wedi ei ddarparu i'r sector tai cymdeithasol. Rwy’n disgwyl, pan fydd perchennog yn nodi bod cladin ACM ar adeilad aml-lawr preswyl, neu yn wir y tybir felly, y byddant yn anfon samplau i'w profi ac yn cymryd yr un camau gofal ychwanegol ag y mae landlordiaid tai cymdeithasol wedi eu cymryd.

Mae’r holl weithgarwch hwn, sy’n anelu at sicrhau y gallwn ni wella mesurau diogelwch a rhoi sicrwydd, ond yn digwydd gyda chefnogaeth a chydweithrediad lawn ein partneriaid ym mhob man. Hoffwn i ddiolch iddyn nhw am eu hymdrech barhaus. Fel y dywedais i ar y dechrau, mae hwn yn fater sy'n datblygu’n gyflym, a byddaf yn sicrhau y caiff Aelodau eu hysbysu a’u diweddaru’n llawn. Diolch.

A gaf i groesawu’r datganiad hwn gan Ysgrifennydd y Cabinet a diolch iddo am y crynodeb a roddodd i lefarwyr y gwrthbleidiau y bore yma a'r addewid o grynodebau pellach ganddo ef a'i swyddogion? Rwy’n credu ei bod hi’n bwysig ein bod yn cael gwybod y diweddaraf, fel y dywedodd, am sefyllfa sy'n newid yn gyflym. A alla i ofyn iddo, o ran yr asesiadau uniongyrchol sydd wedi eu gwneud, pa gasgliadau y daethpwyd iddyn nhw am swyddogaeth lleoedd ceudod, a oedd, yn ôl a ddeallaf, yn allweddol yn y drychineb ofnadwy yn Nhŵr Grenfell? Dyma lle mae bwlch, yn amlwg, rhwng y cladin a phrif strwythur y bloc tŵr, ac mae hyn yn gyfystyr â risg allweddol. Oes yna leoedd ceudod tebyg yn y blociau tŵr yng Nghymru sydd wedi eu harchwilio? O dan ba amgylchiadau y byddai'r Gweinidog yn cynghori landlordiaid cymdeithasol i gael gwared ar y cladin? Rwy’n deall y gallai fod perygl, os caiff cladin ei symud yn unig, y gellid datgelu deunydd mwy peryglus a fflamadwy fyth oddi tano. A oes amgylchiadau, felly, lle mae'r Gweinidog yn rhagweld adleoli fel dewis os nad oes modd rhoi sicrwydd uniongyrchol o ddiogelwch? Dywedwyd wrthyf hefyd bod y deunydd cladin ar Dŵr Grenfell ac—nid wyf yn gwybod, ond rwyf yn tybio— y deunyddiau cladin eraill sy'n bresennol yng Nghymru, mai un o'r anawsterau gyda nhw yw eu bod wedi'u cynllunio i weithredu fel sgriniau glaw. Yn anffodus golyga hyn, pan fydd y gwasanaeth tân yn ceisio rheoli a diffodd tanau, eu bod nhw’n llawer llai effeithiol yn y camau y maent yn eu cymryd gan eu bod yn gwrthsefyll dŵr. Yn amlwg, mae cyfyngu a diffodd tanau yn allweddol i allu cyffredinol yr adeiladau hyn i wrthsefyll tân. A oes unrhyw wahaniaeth yn y deunydd cladin sy’n gweithredu fel sgrin yng Nghymru, fel sy’n ymddangos yn wir yn Llundain?

Ysgrifennydd y Cabinet, mae llawer o flociau tŵr yn y sector preifat neu yn adeiladau cyhoeddus fel ysgolion ac ysbytai. Sut caiff yr adeiladau hyn eu hasesu? Oes ganddo unrhyw wybodaeth bellach i'r Cynulliad y prynhawn yma ynglŷn â’r agwedd hon o’r her? Yn olaf, sut mae'r canfyddiadau diweddaraf a'r cyngor sy'n seiliedig ar y canfyddiadau hyn yn cael eu lledaenu i denantiaid mewn ffordd y gellir eu defnyddio, gan dawelu meddyliau ac mewn modd eglur, i landlordiaid preifat a chwmnïau rheoli sy'n rhedeg nifer o flociau preifat o fflatiau, a hefyd i'r rhai sy'n rhedeg ysgolion ac ysbytai? Diolch, Cadeirydd.

Diolch i chi am eich cwestiynau, David Melding. Llywydd, os caf i—mae nifer o gwestiynau yma. Yn gyntaf oll, ynghylch mannau ceudod, mae’r Aelod yn codi materion sy'n ymwneud â hynny. Byddwn yn amharod i gynnig barn ar hynny cyn yr ymchwiliad cyhoeddus ynglŷn â hynny. Rwy’n credu bod sawl agwedd ar Dŵr Grenfell yr ymddengys iddynt fod yn ffactorau arwyddocaol a gyfranodd at fethiant y system dân, boed hynny'n fethiannau yn rhaniadau’r adeilad neu ar y tu allan , ond ni fyddwn yn hoffi rhagdybio hynny. Wrth gwrs, os oedd manau ceudod yn rhan o'r broses honno, yna mae angen inni edrych ar hynny’n ofalus iawn yn y cyngor a gawn ni.

O ran y cladin a'r cyngor o ran adleoli, a rhoi cyngor i gael gwared ar gladin, rwy'n cymryd y cyngor gan y grŵp cynghori annibynnol o'r DU—yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol. Mae'r rhain yn bobl broffesiynol, ac nid wyf yn credu bod hwn yn benderfyniad gwleidyddol. Dylai hyn fod yn seiliedig ar dystiolaeth a'u cyngor. Os ydyn nhw’n awgrymu mai cael gwared ar y cladin yw'r dewis gorau, yna byddwn yn mynd ati i gael gwared ar y cladin a byddwn yn siarad am y goblygiadau ariannol ar ôl hynny. Ond mae'r Aelod yn iawn i ddweud hefyd y gall dim ond cael gwared ar gladin alwminiwm adeilad beri risg pellach drwy ddatgelu'r broses inswleiddio. Felly, mae'n rhaid i ni fod yn bwyllog yn y prosesau yr ydym ni am eu gweithredu os ydym am wneud hynny. Hefyd, mae a wnelo â’r ffaith fod y profion wedi eu cynnal ar ran o gyfansoddyn yr uned. Felly, dim ond sampl i weld a oedd y sylwedd yn y sampl yn fflamadwy neu hylosg, er fy mod yn meddwl bod a wnelo’r camau nesaf y dylem ni o bosib fod yn edrych arnyn nhw â’r system yn ei chyfanrwydd o ran a allwn ni brofi system gyfan er mwyn gweld a yw'r panel yn ddiogel ac yn cydymffurfio â safonau Prydeinig ac â'r rheoliadau, fel y tybiwyd pan gafodd ei osod. Rwy'n credu mai dyna’r camau nesaf y gallwn ni fod yn symud tuag atyn nhw—gan roi hyder i'r bobl sy'n byw yn yr adeiladau hynny bod y gwasanaethau tân wedi gwirio ac yn parhau i weithio gyda thenantiaid yr ardaloedd yr effeithiwyd arnyn nhw i roi sicrwydd iddyn nhw ynghylch goblygiadau diogelwch y systemau tân sydd ar waith.

O ran Tŵr Grenfell, unwaith eto, fe gododd yr Aelod faterion ynghylch rheoliadau adeiladu. Hoffwn i hefyd nodi bod angen pwyll o ran, unwaith eto, deall gwir effeithiau profion. Ar hyn o bryd, rydym ni’n ymwybodol bod cladin wedi ei osod ar ein hadeiladau a bod hwnnw’n cydymffurfio â'r rheoliadau adeiladu. Felly os yw'r rheoliadau adeiladu yn anghywir, yna mae'n rhaid i ni gael adolygiad o hynny. Mae gen i gyfarfod eto gyda Lesley Griffiths i gael y manylion, ond rwyf hefyd yn gwrando ar y panel cynghori i gael eu barn nhw am hyn.

Ynglŷn ag adeiladau eraill—adeiladau addysg iechyd a chyhoeddus eraill, rhai hamdden a stadiymau— rydym wedi dechrau ar y gwaith o ofyn am adborth gan bob un o'r asiantaethau perthnasol. Rwyf wedi ysgrifennu at fy holl gydweithwyr yn y Cabinet. Gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi ysgrifennu at awdurdodau lleol i holi ynglŷn ag adeiladau ysgol ac adeiladau eraill y Brifysgol. Fy mhrif bryder o ran asesiad sail risg, yn gyntaf oll, yw’r blociau fflatiau aml-lawr, ac yna rwy’n credu bod angen canolbwyntio ar y lle mae pobl yn treulio’r nosweithiau, yn coginio, ac felly mae angen rhoi blaenoriaeth uchel i lety myfyrwyr i wneud yn siŵr ein bod yn gwbl sicr ynghylch y mecanweithiau diogelwch ar gyfer y rheini.

Yr elfen arall o ddiddordeb yw o ran y sector preifat, sydd ychydig yn fwy anodd eu nodi. Ac rwy’n gweithio gydag adran Ken Skates yn edrych ar y cysylltiadau sydd gennym ni gyda landlordiaid y sector preifat a chwmnïau mwy o faint, ond hefyd ar gyfer tîm Rhentu Doeth Cymru, gyda chofrestru landlordiaid, i ddefnyddio'r data mewn cysylltiad â hynny i gysylltu â phobl ynglŷn â rheoli eiddo eto. Mae gennym ni rymoedd ymyrryd, ond mae gan awdurdodau eraill lawer o rymoedd o ran diffyg cydymffurfio. Felly, pe na bai landlord preifat yn cydymffurfio â phrofion sampl ac ati, yna gallai’r awdurdod lleol, neu'r gwasanaeth tân, yn wir, ofyn am hynny a’i gwneud yn ofynnol gyda hysbysiadau gwahardd. Felly, mae gennym ni bethau yn eu lle yn amodol ar yr angen i wneud hynny.

Fel y dywedwch chi, Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n credu ei bod hi’n bwysig cael eglurder o ran yr union beth sy'n cael ei brofi. Os mai dim ond oddeutu’r 4mm o’r cladin allanol sy’n cael ei anfon i'w brofi, yna nid yw hynny’n amlwg yn cynnwys system wal allanol yr adeilad ehangach. Felly, rwy’n cydnabod yr hyn a ddywedwch chi o ran efallai symud ymlaen i gynnal profion ehangach a mwy cynhwysfawr a sylweddol. Felly, tybed allwch chi egluro beth yw'r broses o wneud hynny. Mae gennych chi eich panel allanol, ond, ar hyn o bryd, yn amlwg, Llywodraeth y DU a'r BRE sy'n cynnal y profion. Felly, a fyddech chi o bosib yn awgrymu hynny, ar sail cynghor eich panel allanol, a mater i Lywodraeth y DU fyddai hi wedyn i ddod i benderfyniad?

Ac a fydd hi’n bosibl ystyried y technegau adeiladu a’r mesurau diogelwch unigryw sydd ym mhob adeilad, oherwydd rwy’n gwybod fod rhai landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yng Nghymru yn teimlo bod hynny yn gwbl hanfodol? Felly, er enghraifft, lle mae systemau ar waith sy'n cynnwys rhwystrau tân, fel y byddai deunyddiau ar bob llawr yn y siafft awyru rhwng yr inswleiddio a'r cladin allanol, petai’r rhwystrau tân hynny yn eu lle a fyddai’n ehangu yn achos tân i selio, fel petai, yr effaith simnai fel y’i gelwir, yna gallai hynny yn wir fod yn rhywbeth i’w ystyried o ran diogelwch cyffredinol y systemau waliau allanol hynny. Felly, rwy’n teimlo bod diffyg eglurder ym meddyliau llawr o bobl, Ysgrifennydd y Cabinet, o ran yr union beth sy'n cael ei brofi, ynghylch ai dyna’r prawf gorau sy’n gallu mewn gwirionedd roi darlun o'r mesurau diogelwch sydd ar waith, a rhoi sicrwydd angenrheidiol i breswylwyr.

Y cwestiwn arall yr hoffwn i ei ofyn yw hyn: a fyddwch chi’n parhau i weithio gyda landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yng Nghymru, ac eraill, i wneud yn siŵr y caiff tenantiaid eu cynnwys fel bo’n briodol, ac y byddwch yn cyfathrebu’n iawn â nhw i sicrhau diogelwch, ond hefyd i roi sicrwydd angenrheidiol? Achos rwy’n credu, beth bynnag yw ein barn am ddigwyddiadau diweddar, bydd hi wastad yn wir y bydd angen cynnwys trigolion a chyfathrebu â thrigolion os ydym mewn gwirionedd yn mynd i gael y systemau diogelwch gorau ac, yn wir, sicrwydd priodol.

Ac yn olaf, rwy'n siŵr y byddech yn ymuno â mi, Ysgrifennydd y Cabinet, i annog y cyfryngau i ymdrin yn gyfrifol â'r materion hyn, gan fy mod yn gwybod, unwaith eto, fod pryder ymhlith landlordiaid cofrestredig cymdeithasol yng Nghymru ac, yn wir, ymhlith tenantiaid nad yw adroddiadau rhai o’r cyfryngau yn gwneud unrhyw les i’n helpu i sicrhau’r diogelwch a’r sicrwydd angenrheidiol hwnnw.

Diolchaf i John Griffiths am ei gwestiynau. Byddaf yn cymryd ei bwynt olaf yn gyntaf ac, rwy’n credu, ei bwynt mwyaf perthnasol, mewn gwirionedd. Y bobl y mae angen i ni feddwl amdanyn nhw yn fwy na neb arall yma yw trigolion y blociau hyn, ac mae’n rhaid i i ni roi sylw i hynny uwchlaw popeth arall. Rhaid gwneud yn siŵr bod yna ddiogelwch gwirioneddol ond hefyd bod y canfyddiad o ddiogelwch yn cael sylw o ran eu barn nhw. Ni fyddaf yn gwneud datganiad i'r Siambr hon cyn hysbysu trigolion o’r materion. Nid wyf yn credu ei bod hi’n deg i’r cyfryngau godi pryderon di-angen ymysg trigolion, a’r landlordiaid ddylai wastad gysylltu â nhw’n gyntaf, ac yna byddaf i, wrth gwrs, yn rhoi gwybod i'r Cynulliad beth mae’r landlordiaid wedi ei wneud.

Gofynnodd yr Aelod gwestiynau ynglŷn â dau faes. Yn gyntaf oll, y sefyllfa o ran y sampl. Roedd y sampl yn seiliedig ar ofynion cyngor yr Adran Gymunedau a Llywodraeth Leol a chyfleusterau profi’r BRE, ac maen nhw wedi bod yn gyson. Fodd bynnag, yr hyn sy’n gyson am y samplau yw eu bod nhw i gyd wedi methu. Mae hyn yn dangos i mi bod y cwestiwn yn codi ynglŷn â beth yn union yr ydym yn ei brofi yma, a chredaf mai hynny a’m harweiniodd i ddeall yr hyn y mae'r panel bellach yn ei ystyried ynglŷn ag a yw hi’n bwysig profi’r system i gyd. Mae’r Aelod yn codi mater pwysig iawn, sef bod y rhan fwyaf o'r adeiladau yn unigryw iawn yn eu harddull adeiladu a’r nodweddion diogelwch tân sydd ganddyn nhw. Felly, mae'n rhaid ystyried hynny hefyd. Dyna pam y dywedais yn gynharach wrth David Melding, o ran Tŵr Grenfell, fy mod yn credu bod nifer o faterion wedi effeithio ar ddifrifoldeb y tân yno, nid dim ond yr elfen gladin o hyn, ac mae'r posibilrwydd fod rheoliadau tân eraill wedi eu torri wrth edrych ar y system yn ei chyfanrwydd yn rhywbeth y mae angen i ni fod yn ymwybodol ohono. Y gyfatebiaeth syml iawn yw—. Yn yr un modd ag y mae profion yn cael eu cynnal, rydym ni’n gwybod bod elfennau fflamadwy a hylosg yn y sampl bychan a gafodd ei brofi, ond, o edrych ar y system yn ei chyfanrwydd, efallai na fyddai hynny’n broblem. Yn yr un modd ag yr ydym ni’n gyrru car gydag wyth galwyn o betrol ynddo, ac, ar ei ben ei hun, mae petrol yn fflamadwy ac yn beryglus iawn, ond, o edrych ar y system yn ei chyfanrwydd, mae'n ddiogel gyrru cerbyd. Gallai hyn fod yn union yr un fath gyda’r deunydd cyfansawdd o fewn strwythur wrth ystyried y system yn ei chyfanrwydd. Felly, rydym ni’n aros am gyngor gan yr Adran Gymunedau a Llywodraeth Leol ar hynny, ac os ceir cyngor i brofi’r system ymhellach, dyna beth wnawn ni. Os na chawn ni gyngor o’r fath, ac mai’r cyngor yw 'Mae hyn yn beryglus, mae angen cael gwared arno’, byddwn yn dilyn y cyngor hwnnw hefyd.

Nid wyf yn gwneud, fel y dywedais, unrhyw benderfyniadau gwleidyddol ar hyn; mae hyn yn seiliedig ar dystiolaeth yr arbenigwyr, a byddaf yn dibynnu arnyn nhw i roi i mi, ynghyd â hyder i drigolion, y prosesau sydd eu hangen. Ond byddaf yn diweddaru’r Aelod ynglŷn â’r materion sy'n cael eu codi gyda mi yn feunyddiol.

Hoffwn i godi mater gwestai, yn arbennig, gyda chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Byddwn yn ddiolchgar pe gallech roi gwybod i mi a ydych chi wedi, neu a ydych chi’n barod i ystyried newid rheoliadau i wahardd ysmygu mewn ystafelloedd gwesty dynodedig. Mae etholwr wedi codi'r mater hwn gyda mi dros gyfnod helaeth o amser. Yn un peth, mae 'na broblem diogelwch, ond, yn ail, y tu hwnt i’r datganiad hwn heddiw, wrth gwrs, mae’r mater o aros yn yr ystafell honno ar ôl rhywun sydd wedi bod yn ysmygu yno. Rwy’n gwerthfawrogi bod hynny y tu hwnt i ddatganiad heddiw. Mae etholwyr eraill hefyd wedi tynnu sylw at nifer o enghreifftiau o dorri rheoliadau tân yn ystod y chwe mis diwethaf, felly ymddengys yn amser priodol i godi hyn gyda chi heddiw. Felly, y ddau fater yw: un, gwahardd ysmygu mewn ystafelloedd gwesty dynodedig; a’ch barn am drefn arolygu well, yn enwedig mewn gwestai.

Mae'r Aelod yn codi dau bwynt diddorol. Rwy'n credu ei fod yn rhywbeth i’w ystyried yn y dyfodol o ran, yn y lle cyntaf, ysmygu mewn ystafelloedd gwesty yn gyffredinol. Y mater arall am reoleiddio gwestai yw hyn: credaf mai’r hyn sy'n bwysig yma yw nad ydym yn cael ein gwthio i mewn i ymdeimlad ffug o ansicrwydd a gwneud rhywbeth am y rheswm anghywir. Mae'n rhaid iddo fod yn seiliedig ar y dystiolaeth a ddarparwyd. A allaf roi sicrwydd i chi? Siaradais â'r prif swyddog tân ddoe a dywedodd wrthyf mai’r peth olaf mae arnom ni eisiau ei wneud yma yw dweud wrth bobl nad yw hi’n ddiogel byw mewn blociau tŵr, oherwydd nid yw hynny’n wir. Cyn belled â bod yr holl weithdrefnau yn eu lle, gyda rhwystrau tân ac arolygiadau diogelwch tân—nad ydyn nhw’n cael eu torri; eu bod nhw i gyd yn gyfan—mae blociau tŵr yn fannau diogel i fyw ynddynt. Mae’n dweud bod Grenfell wedi amlygu rhai materion dilys y mae angen mynd i'r afael â nhw mewn cysylltiad â chyfundrefnau arolygu ac ati.

Mae gosodiadau yn fater arall a grybwyllwyd i mi heddiw gan Dawn Bowden, mewn gwirionedd—ynglŷn â sut y gall gosodiadau rhai darparwyr gwasanaeth effeithio ar allu rhai o’r unedau panel hyn i atal tân rhag lledaenu drwy ddrilio ac ati, a gosod erialau neu ddysglau. Mae hynny'n rhywbeth yr wyf i'n mynd i’w ddwyn i sylw tîm rheoleiddio Lesley Griffiths, er mwyn gwneud yn siŵr nad yw hynny’n broblem. Ac os yw’n broblem, mae angen rheoleiddio ynghylch hynny. Felly, mae hyn wedi codi materion eto, ond yr egwyddor gyffredinol yw hyn: yn gyffredinol, mae blociau tŵr yn ddiogel, ond mae'n rhaid i ni sicrhau bod y cladin sydd wedi ei osod ar yr adeiladau hyn—naill ai ei fod yn addas at y diben, neu nad ydyw, ac rydym ni’n dysgu am hynny bob dydd.

Diolch i chi am y cyfarfod ochr yn ochr â David Melding y bore ‘ma. Fel llefarydd Plaid Cymru ar gyfer tai—er na fyddech chi’n sylweddoli hynny heddiw—roedd arna i eisiau dweud, mewn cysylltiad â'ch pwynt ynghylch nad yw hyn yn wleidyddol, rwy’n llwyr gytuno. Ond credaf y dylai'r Llywodraeth ddisgwyl i Aelodau Cynulliad o bob plaid allu craffu’n effeithiol, a bod hynny'n rhan o'n swyddogaeth ni wrth wneud hynny. Ac felly hefyd gyda’r cyfryngau: nid wyf yn credu ei bod yn briodol i ni fynegi safbwynt ynglŷn â’r hyn y mae’r cyfryngau yn ei wneud. Byddwn yn dawelach fy meddwl pe gallech ddweud wrth y tenantiaid a'r landlordiaid cyn iddo fynd at y cyfryngau, yna ni fyddai unrhyw broblem gyda nhw’n dod i wybod yn y ffordd honno. Yn wir, byddwn yn cymryd yn ganiataol y byddech chi’n gallu siarad â phawb sy'n gysylltiedig cyn i unrhyw un o'r cyfryngau allu siarad â thenantiaid.

Roedd arna i i eisiau gofyn, o ran y berthynas sydd gennych chi â'r gwasanaeth tân— fe wnaethoch chi sôn eu bod wedi rhoi mesurau lliniaru ar waith, fel marsialiaid tân ac yn y blaen. Hoffwn i gael sicrwydd gennych chi, yn ysgrifenedig, o bosibl, a ydyn nhw wedi dweud eu bod yn gyfforddus â'r trefniant presennol, ac felly’n gyfforddus â'r ffaith nad yw'r cladin yn cael ei symud, ond y bydd y mesurau lliniaru y byddant yn eu gweithredu yn lle hynny yn mynd i fod yn ddigon cadarn i sicrhau bod tenantiaid yn ddiogel os oes perygl yn y fflatiau hynny. Rwy'n credu bod angen i ni i gyd i fod yn sicr o hynny yma heddiw.

O ran diogelwch tân hefyd, mae angen sicrwydd arnaf bod capasiti yn y system i’r gwasanaeth tân ac achub allu ymdrin â hyn. Felly, er enghraifft, os yw panel y DU yn cynghori bod angen mesurau interim ar y cladin, a oes gennym ni ddigon o gymhwysedd yn y system yma i’r awdurdodau hynny roi camau gweithredu ar waith? Fe gyfeirioch chi at y ffaith y byddai panel ymgynghorol y DU o bosib yn argymell profion system gyfan, yn hytrach na phrofi sampl o gladin. A allwch chi egluro beth mae hynny'n ei olygu yn ymarferol, ac a fyddwch chi’n mabwysiadu profion fel hyn yma yng Nghymru, neu efallai nad chi fydd yn penderfynu, ond byddant yn rhan o broses samplo ar draws y DU?

Diolch i chi am roi’r wybodaeth i ni o ran cael y diweddaraf gan gyrff eraill. Rydw i'n awyddus i ddeall sut y byddwch chi'n casglu’r holl wybodaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi, fel y gall Aelodau Cynulliad fod yn sicr y bydd yr holl wybodaeth mewn un lleoliad canolog. Rwyf wedi cael gwybod gan rai ACau Plaid Cymru eu bod yn ei chael hi’n anodd dod o hyd i wybodaeth gan fwrdd iechyd Hywel Dda ynghylch yr hyn sy'n digwydd gyda'r profion y maen nhw wedi eu gwneud ar eu systemau. Pe gallem ni gael rhywfaint o eglurhad, byddai hynny'n dda.

Fe ddywedasoch y byddech chi’n cyhoeddi canllawiau i awdurdodau lleol mewn cysylltiad â landlordiaid preifat. Ydych chi’n fodlon fod hyn yn ddigon, a pha rymoedd sydd gennych chi i ymyrryd os na fyddant yn croesawu’r rhain?

O ran—fy nghwestiwn olaf—rheoliadau adeiladu, os yw panel ymgynghorol y DU yn cadarnhau y caiff profion cladin eu cynnal i ofyniad diogelwch uwch na'r hyn sy’n ofynnol o dan reoliadau adeiladu a diogelwch tân yng Nghymru ar hyn o bryd, a ydych chi’n cytuno y gallai hyn olygu edrych yn ehangach ar reoliadau adeiladu a diogelwch tân? Sut fyddwch chi’n penderfynu a ddylid craffu’n fanylach ar yr agwedd honno ar y sefyllfa? Deallaf o dan Ddeddf newydd Llywodraeth Cymru y bydd gennych chi rymoedd dros reoliadau adeiladu fel Llywodraeth yn y dyfodol, ar wahân i Ystad y Goron, yn anffodus, a fydd yn cynnwys meysydd awyr, porthladdoedd llongau a gorsafoedd ynni niwclear—a fydd yn faterion heb eu datganoli. Felly, sut y byddwch chi’n gallu rheoleiddio neu ddeddfu yn y maes hwn os nad oes gennych chi’r holl offer y gall fod ei angen arnoch chi yn y dyfodol?

Diolch i chi am eich cwestiynau. Yn gyntaf oll, rwy’n gyfforddus iawn gyda'r gwaith craffu yr ydych chi neu unrhyw Aelod arall yn ei wneud yn y Siambr ar y mater hwn. Rwy’n glir iawn fy mod yn credu na ddylai hyn fod yn bleidiol; mae'n ymwneud ag etholwyr y mae gennym ni i gyd gysylltiad â nhw ac â sicrhau bod diogelwch hyn yn hollbwysig. Felly, does dim ots gennyf am y craffu mewn unrhyw fodd.

A gaf i ddweud, mewn ateb i fanylion penodol ynglŷn â’r gwasanaeth tân, fy mod i wedi siarad ar sawl achlysur ag uwch swyddogion yn fy nhîm? Rydw i’n cyfathrebu gyda nhw’n rheolaidd, ochr yn ochr â'r landlordiaid hefyd. Mae cyngor Abertawe, o'u gwirfodd, wedi cyflwyno marsialiaid tân 24/7 yn y blociau hynny o fflatiau, ac mae hyn yn seiliedig ar gyngor gan yr Adran Gymunedau a Llywodraeth Leol. Mae Abertawe a Chasnewydd yn gweithredu popeth a argymhellwyd gan yr Adran Gymunedau a Llywodraeth Leol—naill ai wedi eu gweithredu neu yn eu gweithredu yn y broses honno, ac maen nhw’n gweithio ochr yn ochr â'r gwasanaeth tân i gyflawni hynny.

Byddaf yn edrych i weld a allaf grynhoi’r trafodaethau a gawsom ni drwy ysgrifennu at yr Aelod. Rwy'n ymwybodol o hynny. Byddwn yn gobeithio bod fy ngair yn ddigon da heddiw i’r Siambr, ond rwyf hefyd yn parchu o bosib fod yr Aelod yn dymuno gweld hynny yn ysgrifenedig, a byddaf yn edrych i weld a alla i ymateb iddi ar y ffurf honno.

Rwy’n ymwybodol fod y gwasanaeth tân yn iawn o ran capasiti. Maen nhw wedi dweud wrthyf unwaith eto—dyma un o'r cwestiynau oedd gen i yn y drafodaeth gyda nhw am y gallu i ddarparu adnoddau mewn cysylltiad â’r mater hwn—nad oes yna unrhyw broblem. Yn wir, roedden nhw’n rhagweithiol iawn yn sicrhau eu bod yn mynd i ddefnyddio staff, ochr yn ochr â staff yr awdurdod lleol neu staff landlordiaid, i weithio gyda thenantiaid, i roi hyder iddyn nhw. Rwy'n credu bod pobl yn ymddiried llawer mwy ynddyn nhw na mewn gwleidyddion sy’n dweud wrth bawb y bydd popeth yn iawn. Pan fo’r gwasanaeth tân yn dweud hynny, rwy'n credu bod pobl yn ymddiried llawer mwy yn hynny.

Dim ond eglurhad i'r Aelod, pan soniais i am y sefyllfa ynglŷn â phrofi ac yna am brofi system yn ei chyfanrwydd—nid fy mhenderfyniad i yw hyn. Bydd hyn yn seiliedig ar gyngor gan grŵp yr Adran Gymunedau a Llywodraeth Leol. Os ydyn nhw’n dewis cynnal profion panel llawn yn hytrach na phrofion sampl, yna, wrth gwrs, dyna’r sefyllfa ddelfrydol, hefyd. Rwy'n credu bod hynny’n rhoi, mewn gwirionedd, ganlyniad mwy cywir o effeithiau diogelwch tân ar adeilad pan fyddwch chi’n profi system gyfan. Ond os nad ydyn nhw’n argymell hynny ac yn argymell rhywbeth arall, yna byddaf hefyd yn dewis y llwybr hwnnw. Ni fyddaf yn gwneud penderfyniad ar wahân i argymhellion grŵp cynghori’r Adran Gymunedau a Llywodraeth Leol. Mae'r rhain yn arbenigwyr diogelwch tân, a byddaf yn gwrando ar eu cyngor yn ofalus.

O ran gweithgarwch ar draws y Llywodraeth, fi yw'r Gweinidog sy'n arwain ar hyn, heb ystyried rheoliadau adeiladu neu ddiogelwch tân neu iechyd neu fel arall. Fi yw'r Gweinidog sy'n arwain ar y mater penodol hwn. Byddaf yn cael sgwrs gyda fy nhîm o ran y materion a godwyd gennych chi gydag un o'r byrddau iechyd. Pe gallech roi mwy o fanylion i mi am hynny, byddai hynny'n ddefnyddiol iawn.

Mae hyn yn datblygu’n gyflym iawn. Mae gwneud asesiad llawn ar gyfer sefydliadau o adeiladau sydd mewn perygl—gyda’r deunydd hwn arnynt—yn rhywbeth nad oeddem ni yn ei ddisgwyl. Felly mae'n cymryd peth amser, ond rwy'n gobeithio bod y cydlynnu’n dechrau gwella yn hynny o beth, a byddaf yn siŵr o roi gwybod i'r Aelod sut yn union mae hynny’n datblygu.

Ynglŷn â’r camau eraill sydd gennym ar waith, soniais yn gynharach am David Melding, a’r hyn y gallwn ni ei wneud os nad yw pethau'n digwydd ar lawr gwlad, bod gennym ni Orchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005, y gellir ei ddefnyddio mewn cysylltiad â mannau cyffredin mewn blociau fflatiau ac ati. Mae gennym ni hefyd swyddogaeth archwiliadau diogelwch y gwasanaeth tân, unwaith eto, lle mae modd iddyn nhw roi hysbysiadau gwahardd ar y mannau hyn, sy'n gallu atal naill ai'r masnachu neu eu gallu i rentu eiddo. Gallwn roi'r gorau i hynny trwy Rhentu Doeth Cymru hefyd. Felly, fe allwn ni wneud sawl peth, ac rwy’n ystyried pa rymoedd sydd gen i hefyd o ran y maes hwn, ond byddaf yn rhoi mwy o fanylion i’r Aelodau am hynny.

Un pwynt olaf, os caf, Llywydd, ynglŷn â rheoliadau adeiladu. Mae gennym ni rymoedd i ddiwygio rheoliadau adeiladu yn barod ac mae gennym ni grŵp cynghori rheoliadau adeiladu. Ond, unwaith eto, ni fyddaf yn ceisio diwygio'r rheoliadau adeiladu, neu ni fydd y Gweinidog yn gwneud hynny, oni bai fod gennym dystiolaeth i awgrymu y dylen ni. Y sefyllfa sydd ohoni ar hyn o bryd yw bod yr unedau sydd wedi eu gosod yn cydymffurfio â safonau rheoleiddio adeiladu. Nawr, os ydyn nhw’n anghywir neu os oes angen eu newid, yna byddwn yn cael asesiad llawn, unwaith eto, yn unol â Llywodraeth y DU. Nid yw'r paneli hyn yn lledaenu o Gymru a Lloegr yn unig. Cânt eu defnyddio ar adeiladau ar draws y byd, felly mae'n rhaid i ni fod yn ofalus iawn sut rydym ni’n mynd i’r afael â hyn: nid adwaith mympwyol i newid rheoliadau adeiladu am ei fod yn teimlo'n iawn. Mae'n rhaid i ni seilio hyn ar dystiolaeth gan y panel arbenigol ynglŷn â’r hyn sy'n iawn

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad a diolch am yr holl waith yr ydych chi’n ei wneud gyda gwasanaethau cyhoeddus eraill er mwyn darganfod a oes gennym ni broblem yng Nghymru ac, os oes gennym broblem, unioni hynny. Rwy’n cytuno ei bod hi’n hollol bwysig nad ydym ni’n gorymateb i hyn, ac rwy'n hyderus bod fy awdurdod lleol i yn gwneud yr hyn sy'n angenrheidiol i ddarganfod a oes gennym broblem, ac os felly, unioni'r sefyllfa.

Rwy'n falch o weld eich bod chi hefyd wedi gofyn i awdurdodau lleol nodi perchnogion ac asiantau rheoli blociau tŵr yn y sector preifat, gan fod gennyf lawer ohonyn nhw yng nghanol dinas Caerdydd. Hoffwn i graffu hyn ychydig yn fanylach. Rydych chi’n dweud yn eich datganiad eich bod yn disgwyl i berchennog wneud y peth iawn os yw’n darganfod bod gan adeilad preswyl aml-lawr gladin ACM, neu os oes amheuaeth o hynny, ac anfon samplau i’w profi. Ond beth os na wnawn nhw hynny? Pa rymoedd sydd gennych chi yn hynny o beth? Ac o ran dyletswyddau landlordiaid ac asiantau rheoli blociau preifat mewn cysylltiad ag arolygiadau rheolaidd o ardaloedd cyffredin fflatiau yn y sector preifat, pa fath o gofnod sydd yna o bwy sydd wedi cyflawni’r dyletswyddau hyn, ac ymhle? Sut mae trigolion yn cael gwybod pryd mewn gwirionedd y gwnaed archwiliad diogelwch tân yn y mannau cymunedol hyn? Sut gall y gwasanaeth tân—ein gwasanaeth tân ardderchog ni—obeithio targedu'r rhai nad ydyn nhw’n cydymffurfio os nad oes gennym ni gofnod cyflawn?

Cwestiynau defnyddiol iawn gan yr Aelod heddiw, ac rwy’n diolch iddi am ei sylwadau, yn enwedig ynghylch y gwasanaethau tân ac achub a'u gallu i weithredu ar y materion y mae hi wedi eu codi.

A gaf i yn gyntaf oll roi sylw i’r mater ynglŷn â phrofi a phrofi yn y sector preifat? Rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol i nodi’r unigolion yn y lle cyntaf, ac yna rhoddir canllawiau iddyn nhw am yr hyn yr ydym ni’n disgwyl y bydd yn digwydd. Rwyf eto i ddod o hyd i asiant nad yw'n dymuno cydymffurfio â'r broses honno, ond mae'n ddyddiau cynnar, ac rwy’n disgwyl y gall fod un neu ddau a all fod eisiau gwthio’r ffiniau—os mai dyna maen nhw’n ceisio ei wneud. Ond mae yna rymoedd yn Neddf Adeiladu 1984. Felly, o dan Ddeddf Tai 2004, mewn ymateb i nodi perygl, mae gan yr awdurdod lleol amryw o ddewisiadau gorfodi. Mae cymryd camau adfer argyfwng dan adran 40 a gwneud gorchymyn gwahardd brys o dan adran 43 i wahardd y defnydd o'r eiddo i gyd yn gamau y mae modd i awdurdodau lleol eu gweithredu os ydyn nhw’n dymuno, yn ychwanegol at y gwasanaeth tân gyda’u hasesiadau risg ynglŷn â diogelwch tân a hysbysiadau gwahardd hefyd. Felly, rydym ni’n credu bod digon o rymoedd i fynd i’r afael â'r mater unwaith y byddwn wedi nodi diffyg cydymffurfio yn y system, os mai dyna fydd yn digwydd. Ond ni allaf weld unrhyw reswm pam na fyddai person yn dymuno ceisio sicrhau bod eu hadeilad yn ddiogel.

Mae cyfnodau rheolaidd ar gyfer profion archwilio diogelwch tân, a'r gwasanaeth tân sy’n cadw’r data ar hynny. Byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod a rhoi copi yn llyfrgell o’r broses fanwl o ran y gwiriadau a’r rheoliadau diogelwch tân ar gyfer adeiladau o'r math hwn fel bod yr Aelod yn hyderus gyda’r ymateb, a hefyd gall Aelodau eraill weld hynny.

Diolch, Cadeirydd, a diolch, Gweinidog, am eich datganiadau ar y pwnc hwn hyd yn hyn er mwyn ein diweddaru ynglŷn â’r camau sy'n cael eu cymryd. Rwy'n credu y bu angen gweithredu ar fyrder er mwyn ymchwilio i beryglon tân posibl a hefyd i leddfu ofnau pobl sy'n byw mewn blociau uchel. Fel y dywedasoch chi, mae tawelwch meddwl yn ffactor pwysig yma. Mae llawer yn cael ei wneud, mae’n amlwg. Rwy'n credu bod cysylltu yr hyn yr ydym ni’n ei wneud yma yng Nghymru â'r hyn y maen nhw’n ei wneud mewn mannau eraill yn y DU yn bwysig. Felly, byddai penodi Des Tidbury i'r grŵp arbenigol yn y DU yn gam da.

Rwyf hefyd wedi fy nghalonogi bod eich ymchwiliadau yn symud y tu hwnt i dai cymdeithasol, lle y dechreuon nhw, yn ddealladwy, i gwmpasu blociau preifat, a hefyd eich bod yn ymestyn eich cwmpas i adeiladau dibreswyl. Fe soniasoch chi am agweddau yn ymwneud â rheoliadau adeiladu. Gwn fod y mater wedi ei grybwyll. Rydw i wedi sylwi, yn y wasg genedlaethol, fod rhywfaint o gwestiynu wedi bod ar y rheoliadau adeiladu fel y maen nhw’n bodoli yn Lloegr. O bosib, gall yr un peth fod yn berthnasol yng Nghymru. Mae awgrymiadau y gallai newidiadau a wnaed yn y blynyddoedd diwethaf wneud y prosesau hynny yn llai cadarn o ran asesu risgiau tân posib. Rwy'n gwybod bod hwn yn ymchwiliad parhaus gennych chi, felly nid wyf yn disgwyl ateb pendant yn awr, ond petai chi ond yn gallu cadw mewn cof yr agwedd honno ac ystyried hynny wrth i chi symud ymlaen. Diolch.

Diolch i chi am eich sylwadau. Nid wyf yn ymwybodol bod cwestiwn ffurfiol yno, Llywydd, ond rwy’n cydnabod y sylwadau a wnaeth yr Aelod, a byddwn yn ystyried hynny.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, buom yn siarad y bore yma am y materion a godais gyda chi, ond a gaf i ddweud fy mod yn falch iawn, pan ymwelais â’r unig dŵr aml-lawr yn fy etholaeth i, sydd ym Merthyr Tudful, nad cladin o fath ACM sydd ar yr adeilad, ond math Rockwell, sy'n golygu ei fod yn wrthdan gyda gorffeniad o rendr drosto? Mae yno system chwistrellu ym mhob un o’r fflatiau hefyd.

Mae'r materion, y rhai a godais gyda chi—rwy’n hapus iawn gyda'ch ymateb iddyn nhw oherwydd roedd yn peri pryder arbennig, pan ddaethpwyd â hyn i fy sylw i, y gall cwmnïau fel BT a Sky ddod i floc o fflatiau heb i'r landlord wybod, heb eu caniatâd, ac y gallan nhw ddrilio drwy rwystrau tân i osod ffonau a dysglau lloeren, gan wneud y rhwystrau tân hynny yn llai effeithiol yn y broses, ac yna ychydig iawn o obaith, os o gwbl, sydd gan y landlord o gael y cwmnïau hynny i ddod yn ôl i’w hadfer. Felly, rwy'n falch iawn eich bod yn mynd i edrych ar hynny. O leiaf, mae'n debyg, dylai fod gorfodaeth ar y cwmnïau hynny i geisio caniatâd y landlord i fynd i mewn i'r adeilad, a chytuno â nhw ynglŷn â’r disgwyliadau o ran y gwaith ac o adfer y gwaith.

Ond y mater arall a ddaeth i’m sylw oedd bod y lesddeiliaid hynny, hynny yw, y bobl sydd, o dan y cynllun hawl i brynu, wedi prynu unedau mewn blociau tŵr ond nad ydyn nhw’n gaeth i’r un amodau â thenantiaid o ran rhoi gwybod i berchennog yr adeilad faint o bobl sy'n byw yn y llety hwnnw ac a ydyn nhw’n cadw offer fflamadwy yno, neu offer a allai fod yn beryglus fel tanciau ocsigen ac yn y blaen. Mae'n ofynnol i denantiaid wneud hynny, ond nid i lesddeiliaid, ac eto maen nhw yn y bloc ac felly’n creu yr un fath o berygl posib. Felly, yn ogystal ag edrych ar sut y gall y cwmnïau allanol hyn ddod i mewn a drilio i'r rhwystrau tân ac yn y blaen, a gaf i ofyn i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, pe gallech chi hefyd ystyried a oes ffyrdd o orfodi lesddeiliaid i ddatgelu i berchnogion adeiladau unrhyw wybodaeth y gellid fod ei hangen arnyn nhw iddyn nhw allu asesu risg tân yn yr adeilad hwnnw?

Diolch i'r Aelod am y drafodaeth a gefais gyda hi y bore yma, a hefyd am y mater a gododd gyda mi y prynhawn yma. Mae'r mater ynghylch yr elfen trydydd parti o hyn yn rhywbeth y byddaf yn ei drafod gyda Lesley Griffiths o ran rheoliadau adeiladu a'r dulliau cydymffurfio a ddefnyddir ar gyfer cael mynediad i adeiladau lle mae risg, ac mae'n rhywbeth y byddaf yn gofyn iddyn nhw edrych arno. Credaf i mi sôn yn gynharach fy mod yn credu y gall yr ymchwiliad cyhoeddus ddangos bod achosion o dân yn torri trwy’r rhwystrau yn fflatiau Tŵr Grenfell oherwydd cyfarpar wedi eu gosod gan drydydd parti neu ddatblygiadau diweddarach. Felly, mae'n rhywbeth sy’n peri pryder difrifol. Byddaf yn codi hynny gyda Lesley Griffiths.

O ran lesddeiliaid, mae rhai elfennau o reolaeth mewn cysylltiad â lesddeiliaid. Mae’n ddyletswydd ar denantiaid i roi gwybod i'r corff ynghylch yr hyn y bwriedir ei gadw yno, o ran deunyddiau peryglus. Ond mae’r mater hefyd o newid drysau ffrynt. Mae hyn yn rhywbeth mae lesddeiliaid newydd yn aml yn hoffi ei wneud yn yr adeilad—ond yn aml dydyn nhw ddim yn gosod drysau tân. Felly, mae problem lle mae modd i’r awdurdod lleol neu'r gwasanaeth tân hyrwyddo hysbysiadau gwahardd yno ar gyfer newid defnydd a mynd yn ôl i broses drws tân. Rwy’n credu bod rhai rhybuddion gwahardd yn weithredol nawr, ar hyn o bryd, o ran ceisio datrys y materion hynny. Ond byddaf yn cadw mewn cof y pwyntiau y mae'r Aelod wedi eu codi gyda mi y prynhawn yma ac yn siarad â Gweinidogion eraill i weld a allwn ni ddatrys rhai o'r pryderon sydd ganddi.

5. 4. Datganiad: Polisi a Deddfwriaeth yr Amgylchedd Hanesyddol

Symudwn ymlaen yn awr at y datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith: polisi a deddfwriaeth yr amgylchedd hanesyddol. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith i wneud y datganiad—Ken Skates.

Member
Ken Skates 15:21:00
The Cabinet Secretary for Economy and Infrastructure

Diolch, Dirprwy Lywydd dros dro. Ychydig dros flwyddyn yn ôl, cafodd y ddeddfwriaeth gyntaf i Gymru yn unig ar yr amgylchedd hanesyddol Gydsyniad Brenhinol a daeth yn gyfraith. Ers hynny, mae’r rhan fwyaf o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 wedi dod i rym, ac mae corff trawiadol o bolisïau, cyngor a chanllawiau arfer gorau ategol wedi cael eu cyhoeddi. Mae’n adeg briodol yn awr i bwyso a mesur yr hyn yr ydym wedi’i gyflawni ac edrych ymlaen at y dyfodol.

Mae Deddf 2016 wedi rhoi Cymru ar flaen y gad yn DU o ran diogelu a rheoli’r amgylchedd hanesyddol. Er enghraifft, yn dilyn cychwyn y darpariaethau perthnasol ar ddiwedd mis Mai, Cymru yn unig all hawlio cofnodion amgylchedd hanesyddol statudol ar gyfer pob ardal awdurdod leol. Maent yn darparu gwybodaeth hanfodol y mae ei hangen ar awdurdodau lleol, datblygwyr ac eraill i wneud penderfyniadau cytbwys ar reoli’r amgylchedd hanesyddol. Maent hefyd yn chwarae rhan bwysig wrth helpu pobl i ddysgu mwy am yr amgylchedd hanesyddol lleol ac ymgysylltu ag ef. Mae’r ddeddfwriaeth wedi rhoi dyfodol sefydlog i’r cofnodion hanfodol hyn ac mae eu pwysigrwydd wedi cael ei danlinellu gan ganllawiau statudol ar gyfer cyrff cyhoeddus.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Mae Cymru hefyd bellach yn ymfalchïo yn yr unig restr statudol o enwau lleoedd hanesyddol yn y DU, ac efallai hyd yn oed y byd. Roedd y rhestr yn cynnwys bron 350,000 o gofnodion pan gafodd ei lansio ddechrau mis Mai. Bydd yn codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o bwysigrwydd yr elfennau hyn o’n treftadaeth genedlaethol ac yn annog eu defnydd parhaus gan unigolion a chyrff cyhoeddus. Mae cyfarwyddiadau penodol ar y defnydd o’r rhestr wrth enwi ac ailenwi strydoedd ac eiddo wedi cael eu cynnwys mewn canllawiau statudol. Rydym hefyd yn arwain y ffordd drwy wneud y prosesau ar gyfer cofrestru cofeb neu restru adeilad yn fwy agored, yn fwy tryloyw ac atebol. Rhaid ymgynghori â pherchnogion a deiliaid yn ffurfiol yn awr cyn gwneud dynodiad, ac, yn bwysig iawn, mae safleoedd hanesyddol dan warchodaeth yn ystod y cyfnod hwn o ymgynghori. Mae perchnogion hefyd wedi cael yr hawl i ofyn am adolygiad o’r penderfyniad hwnnw, a fyddai’n cael ei wneud gan yr Arolygiaeth Gynllunio. Mae Deddf 2016 hefyd wedi darparu amrywiaeth o offer newydd neu wedi’i fireinio i roi mwy o warchodaeth i’n hasedau hanesyddol gwerthfawr. Er enghraifft, rydym wedi ei gwneud yn haws i awdurdodau cynllunio lleol wneud gwaith brys ar adeiladau rhestredig sydd wedi dirywio ac, yn hollbwysig, rydym wedi gostwng y risg ariannol trwy wneud unrhyw gostau yn bridiant tir lleol. Rydym wedi cau bylchau mewn deddfwriaeth bresennol a oedd yn llesteirio ymdrechion i erlyn unigolion oedd yn niweidio henebion cofrestredig yn ddifrifol trwy waith heb awdurdod neu ddinistrio maleisus.

Wrth gwrs, mae’n llawer gwell atal difrod yn y lle cyntaf. Felly rydym wedi datblygu adnodd newydd ar y we ochr yn ochr â’r ddeddfwriaeth, Cof Cymru—Asedau Hanesyddol Cenedlaethol Cymru, i roi gwybodaeth awdurdodol am ddim i berchnogion, deiliaid ac aelodau’r cyhoedd am ddisgrifiad, lleoliad a maint asedau hanesyddol dynodedig a chofrestredig ledled Cymru.

O gychwyn y broses ddeddfwriaethol, roeddem yn cydnabod y byddai angen i Ddeddf 2016 gael ei hategu gan bolisi a chyngor cynllunio cyfredol ar gyfer yr amgylchedd hanesyddol. Roedd hyn yn adlewyrchu nid yn unig ddarpariaethau’r Ddeddf ond hefyd athroniaeth ac ymarfer cadwraeth presennol. Rwyf wedi gweithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig i gynhyrchu pennod amgylchedd hanesyddol ddiwygiedig ar gyfer Polisi Cynllunio Cymru, a’r nodyn cyngor technegol cyntaf, neu TAN, ar gyfer amgylchedd hanesyddol Cymru. Mae TAN 24 yn ymdrin â phob agwedd ar y gwaith o reoli’r amgylchedd hanesyddol o fewn y system gynllunio ac mae wedi disodli nifer o gylchlythyrau’r Swyddfa Gymreig sydd wedi dyddio. Mae’r mesurau hyn yn cael eu hategu gan ganllawiau arfer gorau a fydd yn helpu awdurdodau lleol, y trydydd sector, datblygwyr a pherchnogion a deiliaid i reoli’r amgylchedd hanesyddol yn ofalus ac yn gynaliadwy er budd cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol. Ymddangosodd y naw teitl cyntaf ym mis Mai ac maent ar gael ar wefan Cadw. Maent yn cynnwys rheoli safleoedd treftadaeth y byd a pharciau a gerddi hanesyddol, a hefyd maent yn rhoi cyngor ar baratoi rhestrau o asedau hanesyddol o ddiddordeb lleol arbennig, ac, wrth gwrs, ar fynd i’r afael ag adeiladau rhestredig mewn perygl.

Er y gallwn fod yn falch o’n llwyddiannau yn y flwyddyn ers i Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) ddod i rym, mae gwaith i’w wneud o hyd. Yn ystod hynt y ddeddfwriaeth, mynegwyd pryder ar draws y Siambr am adeiladau rhestredig a adawyd i ddadfeilio. Arweiniodd hyn at welliant a fydd yn rhoi pwerau i awdurdodau lleol gymryd camau ychwanegol i sicrhau bod adeiladau o’r fath yn cael eu diogelu’n briodol. Fodd bynnag, rhaid i unrhyw reoliadau yr ydym yn eu cyflwyno fod yn wirioneddol ddefnyddiol i awdurdodau lleol a chyfrannu’n gadarnhaol at ddatrys yr heriau cymhleth a gyflwynir gan adeiladau rhestredig yn dadfeilio. Felly, rydym wedi comisiynu ymchwil a fydd yn darparu sylfaen dystiolaeth gadarn ar gyfer ein cynigion ar gyfer rheoliadau. Mae hwn yn gyfle i ddod o hyd i’r ffordd ymlaen ar gyfer nifer o adeiladau sy’n difetha ein cymunedau. Ond bydd angen mewnbwn rhanddeiliaid ar draws y sector amgylchedd hanesyddol i lunio deddfwriaeth effeithiol.

Mae darpariaethau’r Ddeddf ar gyfer cytundebau partneriaeth treftadaeth hefyd yn aros i’w cychwyn. Bydd y cytundebau, sydd wedi cael eu croesawu â brwdfrydedd yn y sector, yn cefnogi rheolaeth tymor hir cyson ar henebion cofrestredig ac adeiladau rhestredig. Byddant o fudd i berchnogion ac awdurdodau cydsynio drwy ymgorffori’r caniatâd angenrheidiol ar gyfer gwaith arferol y cytunwyd arno. Gan y bydd y cytundebau hyn yn para am nifer o flynyddoedd, mae’n bwysig bod y rheoliadau a’r canllawiau wedi cael eu sefydlu yn dda ac yn ymarferol. Felly, rydym yn chwilio am bartneriaid ar gyfer cynlluniau peilot i lywio cynnydd pellach.

Mae gwaith ar y gweill i ddod â’r gofrestr statudol o barciau a gerddi hanesyddol i rym. Gwnaed adolygiad o ffiniau’r bron i 400 o barciau a gerddi ar y gofrestr anstatudol bresennol. Bydd holl berchnogion a deiliaid parciau a gerddi hanesyddol cofrestredig hysbys yn cael gwybod am ffiniau ardaloedd a gofrestrwyd yn ystod gweddill 2017, ac yn gynnar yn 2018. Unwaith y mae’r broses hysbysu wedi ei chwblhau, bydd y gofrestr statudol yn dod i rym.

Yn olaf, rydym yn dod i ddarpariaethau’r Ddeddf ar gyfer y panel ymgynghorol ar gyfer amgylchedd hanesyddol Cymru. Bydd Aelodau’r Cynulliad yn cofio, ar ddiwedd y flwyddyn ddiwethaf, fe wnes i gynnull grŵp llywio Cymru Hanesyddol i gynnal adolygiad o wasanaethau treftadaeth yng Nghymru. Yn dilyn eu hargymhellion, gofynnais am achos busnes yn archwilio’r dewisiadau ar gyfer trefniadau llywodraethu yn y dyfodol ar gyfer Cadw, gan gynnwys goblygiadau deddfwriaethol posibl. Hyd nes y byddaf wedi cael yr achos busnes ac wedi cymryd penderfyniad ar ddyfodol Cadw, byddai’n rhy fuan ystyried y trefniadau manwl ar gyfer y panel cynghori.

Yn ystod y craffu ar yr hyn a oedd yn Fil amgylchedd hanesyddol ar y pryd, mynegodd llawer yma eu dymuniad i atgyfnerthu’r ddeddfwriaeth ar gyfer yr amgylchedd hanesyddol er mwyn sicrhau un corff dwyieithog o gyfreithiau i Gymru a fyddai ar gael ac yn ddealladwy i ymarferwyr a’r cyhoedd fel ei gilydd. Felly, rwyf wrth fy modd, mewn tystiolaeth ddiweddar i’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, bod y Cwnsler Cyffredinol wedi nodi’r ddeddfwriaeth amgylchedd hanesyddol fel peilot addas ar gyfer rhaglen uchelgeisiol Llywodraeth Cymru i atgyfnerthu a chodeiddio’r gyfraith i Gymru. Gan adeiladu ar y gwaith a wnaed gennym eisoes, mae hwn yn gyfle cyffrous i wneud Cymru yn destun eiddigedd gwledydd y DU.

Bydd y gweithgaredd a amlinellais yma heddiw yn darparu sylfaen gydlynol ar gyfer gwell diogelwch a rheolaeth yr amgylchedd hanesyddol ar gyfer y cenedlaethau i ddod. Mae’n cydnabod y cyfraniad sylweddol y mae’r amgylchedd hanesyddol yn ei wneud i’r economi, ffyniant ein cenedl a lles ei dinasyddion, a’i bwysigrwydd wrth feithrin ansawdd lle a balchder a chydnerthedd cymunedau.

A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad y prynhawn yma? Fel yr eglura datganiad heddiw, mae’r rhan fwyaf o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 bellach mewn grym, ac, yn dilyn cychwyn y ddarpariaeth berthnasol ar ddiwedd mis Mai, mae gan Gymru gofnodion amgylchedd hanesyddol statudol i bob ardal awdurdod leol. Wrth gwrs, dylai’r cofnodion hyn helpu i gyflwyno mwy o dryloywder ac atebolrwydd mewn penderfyniadau a wneir ar yr amgylchedd hanesyddol, a byddant yn arfau pwysig ar gyfer awdurdodau lleol a rhanddeiliaid eraill i ddatblygu rheolaeth gynaliadwy ar yr amgylchedd hanesyddol.

Yn awr, mae creu’r rhestri hyn wedi arwain at gynyddu baich gwaith yr awdurdodau lleol yn y maes hwn, ac mae cost i dalu am hyn yn naturiol. Felly, a all Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym a fu unrhyw wthio yn ôl gan awdurdodau lleol ynghylch paratoi rhestrau o asedau hanesyddol o ddiddordeb lleol arbennig, yn enwedig y gost o wneud hyn? Efallai y gallai ddweud wrthym hefyd pa drafodaethau a fu rhyngddo â Chymdeithas y Gyfraith, a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, am yr adolygiad o ffurflenni chwilio awdurdodau lleol, a ddefnyddir yn gyffredin mewn trawsgludo, er mwyn sicrhau bod ceisiadau am chwiliadau o’r cofrestri amrywiol yn weithdrefn safonol ac nad ydynt yn gost ychwanegol?

Yn awr, mae cynghorau wedi gwneud darpariaethau yn eu cyllidebau i ddefnyddio rhai o’u pwerau newydd i wneud gwaith ar adeilad pan nad yw’r perchennog wedi gwneud hynny, dan amgylchiadau brys ac amgylchiadau nad ydynt yn rhai brys. Er fy mod yn sylweddoli y gall fod braidd yn gynnar i ofyn am asesiad o’r pwerau hynny, o ystyried mai dim ond ym mis Mai y daeth i rym, byddwn yn ddiolchgar, fodd bynnag, pe gallai Ysgrifennydd y Cabinet nodi sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu monitro’r defnydd o’r pwerau hyn. Os na fydd y pwerau hyn yn cael eu defnyddio, yna mae angen inni fod yn glir a yw hynny oherwydd y sefyllfa ariannol y gallai rhai awdurdodau lleol eu cael eu hunain ynddi. Nodaf fod datganiad heddiw yn tynnu sylw at y ffaith y gall awdurdodau cynllunio wneud gwaith brys drwy wneud unrhyw gostau yn bridiant tir lleol. Mae hwn yn gam sylweddol ymlaen wrth fynd i’r afael ag adeiladau rhestredig sy’n dirywio, ac efallai y gallai Ysgrifennydd y Cabinet sôn ychydig mwy wrthym am y pridiannau tir hyn a sut y gellir eu defnyddio i helpu i adennill costau sy’n gysylltiedig â gwaith brys. Yn wir, a allai Ysgrifennydd y Cabinet ddarparu asesiad cychwynnol o’r pridiannau tir lleol, ac a ydynt wedi bod yn effeithiol wrth fynd i’r afael â gwaith brys ar unrhyw adeiladau rhestredig a esgeuluswyd hyd yn hyn?

Wrth gwrs, mae’n hanfodol bod Deddf yr amgylchedd hanesyddol yn cael ei chefnogi gan y cyngor polisi cynllunio mwyaf perthnasol a diweddar, ac rwy’n falch o weld y gwaith sydd wedi ei wneud gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig wrth ddatblygu pennod amgylchedd hanesyddol ddiwygiedig ar gyfer ‘Polisi Cynllunio Cymru’. Mae’r nodyn cyngor technegol cyntaf ar gyfer amgylchedd hanesyddol Cymru, TAN 24, yn rhoi arweiniad ar sut y mae’r system gynllunio yn ystyried yr amgylchedd hanesyddol yn ystod paratoi’r cynllun datblygu a gwneud penderfyniadau ar geisiadau cynllunio ac adeiladau rhestredig. Fodd bynnag, mae’n bwysig bod y nodyn cyngor technegol yn cael ei adolygu’n gyson er mwyn sicrhau ei effeithiolrwydd. Felly, gan hynny, a all Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym pa mor aml y bydd y canllawiau cynllunio yn cael eu diweddaru, a pha effaith fydd hyn yn ei chael ar awdurdodau cynllunio, yn enwedig mewn cysylltiad â cheisiadau cynllunio dadleuol?

Yn awr, rwy’n deall y bydd Llywodraeth Cymru yn llunio cofrestr statudol ar gyfer parciau a gerddi hanesyddol, a fydd yn sicr o helpu perchnogion, awdurdodau cynllunio lleol, a rhanddeiliaid eraill, i ofalu am y safleoedd mewn ffordd llawer mwy gwybodus. Felly, efallai y gall Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym ychydig mwy am yr adolygiad o ffiniau’r parciau a’r gerddi hynny yng Nghymru, a rhoi rhai amserlenni o ran pryd y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gweld y gofrestr statudol hon yn dod i rym.

Mae datganiad heddiw yn cyfeirio hefyd at drefniadau llywodraethu gwasanaethau treftadaeth, ac rwy’n deall bod Ysgrifennydd y Cabinet yn dal i ystyried gweithredu yn y maes penodol hwn. Deallaf fod cryn dipyn o waith yn dal i fod yn digwydd ar hyn. Ond efallai y gallai Ysgrifennydd y Cabinet roi syniad o’r amserlenni y mae’n eu hystyried wrth fynd i’r afael â threfniadau llywodraethu, fel y gall Aelodau ddeall yn well pan fydd y panel ymgynghorol statudol ar gyfer amgylchedd hanesyddol Cymru yn cael ei sefydlu’n llawn.

Llywydd, a gaf i unwaith eto ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad y prynhawn yma, yn diweddaru’r Aelodau o ran y llwybr a ddilynir gan Lywodraeth Cymru yn y maes hwn? Efallai y gallai Ysgrifennydd y Cabinet nodi pa rannau o Ddeddf yr amgylchedd hanesyddol sydd eto i ddod i rym, a dweud wrthym pa fath o amserlen sydd ynghlwm â sicrhau bod pob agwedd ar y Ddeddf yn cael ei gweithredu’n llawn? Ac, yn olaf, mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol o’m diddordeb i mewn cofebion rhyfel, ac felly efallai y gallaf gael rhywfaint o wybodaeth ganddo am sut y mae’r Ddeddf hon, a pholisi cyffredinol Llywodraeth Cymru yn y maes hwn, yn gwarchod cofebion rhyfel yn well ar draws Cymru. Mae mor bwysig bod canllawiau’n cael eu datblygu i helpu awdurdodau lleol a’r holl randdeiliaid i reoli amgylchedd hanesyddol Cymru yn ofalus ac yn gynaliadwy er budd cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol. Edrychaf ymlaen at graffu ar Lywodraeth Cymru yn y maes hwn i ddiogelu a chefnogi ein safleoedd hanesyddol yn well ar gyfer y dyfodol. Diolch.

Hoffwn ddiolch i Paul Davies am ei gyfraniad ac am ei gwestiynau, ac, yn wir, yr holl Aelodau yn y Siambr, am y diddordeb brwd sydd wedi cael ei ddangos yn natblygiad y ddeddfwriaeth hon dros gyfnod eithaf hir o amser ac am eu diddordeb parhaus yn y pwnc dan sylw.

Mae’r amgylchedd hanesyddol yn hanfodol bwysig, nid yn unig i falchder cenedlaethol a chymunedol, ond hefyd i’r economi. Fel y dywedais yn fy natganiad, mae’n cyflogi mwy na 40,000 o bobl, mae’n hynod bwysig i’r sector twristiaeth, gan gyfrannu oddeutu £900 miliwn i’r economi bob blwyddyn, ac, felly, mae’n iawn ac yn briodol ein bod yn sicrhau bod diogelu a hyrwyddo’r amgylchedd hanesyddol yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru.

Rydw i’n mynd i fynd i’r afael yn gyntaf oll â’r cwestiwn sy’n ymwneud â gallu llywodraeth leol, oherwydd, wrth gwrs, mae hyn yn hanfodol bwysig wrth gyflwyno'r darpariaethau o fewn deddfwriaeth yn llwyddiannus. Rwy’n cydnabod bod pwysau difrifol ar lywodraeth leol, ac, yn benodol, ar feysydd anstatudol o ddarpariaethau gwasanaethau, megis cadwraeth, nid yn unig yma yng Nghymru, ond ar draws y DU. Ac mae’r pwysau hynny yn debygol o barhau; ni fyddant yn gwella, o ystyried y lefel debygol o ostyngiadau gwariant ar draws y sector cyhoeddus. A dyna pam y sefydlais y grŵp gorchwyl a gorffen, a arweinir gan Cadw a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, i ystyried cydnerthedd a hefyd allu gwasanaethau cadwraeth ledled Cymru, ac i nodi opsiynau ar gyfer cydweithredu mewn ymateb i faterion megis cysondeb y cyngor y gellir ei gynnig, amseroldeb wrth wneud penderfyniadau, mynd i’r afael ag adeiladau sydd mewn perygl, a hefyd y gallu i ddefnyddio pwerau newydd.

Dydw i ddim yn ymwybodol o unrhyw wthio’n ôl gan lywodraeth leol i Ddeddf yr amgylchedd hanesyddol. Fodd bynnag, rwy’n benderfynol o sicrhau bod gan lywodraeth leol yr offer, yr arbenigedd, a’r gallu i ddiogelu’r amgylchedd hanesyddol yn gywir ac yn gyflawn. Mae’n un o’r rhesymau pam yr wyf yn credu ei bod yn bwysig bod darpariaeth ranbarthol yn cael ei hystyried o ran cadwraeth, ac mae hynny’n rhywbeth yr wyf yn gwybod bod fy ffrind a’m cydweithiwr Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol yn awyddus i fynd ar ei drywydd ac i’w hyrwyddo.

Rwy’n cadw mewn cysylltiad ynghylch y cwestiwn o gofnodion amgylchedd hanesyddol, sydd weithiau’n cael eu cyfuno’n â rhestrau o ddiddordeb lleol. Mae’r cofnodion amgylchedd hanesyddol yn gofnod amgylchedd hanesyddol statudol sy’n bodoli yn y DU, yr unig gofnodion hanesyddol sy’n bodoli yn y Deyrnas Unedig. Mae pedair ymddiriedolaeth archeolegol ranbarthol yng Nghymru yn cyflawni’r ddyletswydd o lunio a chadw’r rhain yn gyfredol, yn hytrach na’r awdurdodau lleol. Ac mae’r ymddiriedolaethau archeolegol hynny, sy’n cael eu cefnogi gan Lywodraeth Cymru, rhaid i mi ddweud, yn gwneud gwaith eithriadol o ran sicrhau bod y cofnodion yn cael eu cynnal a’u cadw’n briodol a’u cadw’n briodol gyfredol. Maent ar gael drwy wefan Archwilio, a sefydlwyd yn benodol ar gyfer cofnodion amgylchedd hanesyddol. Ac mae’r holl gofnodion newydd a grëwyd ar ôl 1 Ebrill 2016 ar gael yn ddwyieithog.

I gefnogi hyn, cyhoeddwyd canllawiau statudol ar gofnodion yr amgylchedd hanesyddol ar gyfer awdurdodau lleol a pharciau cenedlaethol, a hefyd ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru, a bydd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru yn monitro’r safonau a hefyd lefelau gwasanaeth y cofnodion amgylchedd hanesyddol. Mae hynny er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu cynnal a’u monitro gan yr ymddiriedolaethau hynny sy’n gyfrifol amdanynt yn gyson. Bydd hefyd yn cynnwys cydlynu a dilysu archwiliadau, ar gylch pum mlynedd.

Gofynnodd yr Aelod hefyd am adeiladau ac, yn benodol, adeiladau sydd mewn perygl, ac a yw awdurdodau lleol ar hyn o bryd yn defnyddio’r pwerau newydd sydd ar gael iddynt ar gyfer gwaith brys. Nid oes ateb syml ar gyfer ymdrin ag adeiladau mewn perygl. Ond rydym wedi cefnogi awdurdodau lleol wrth baratoi cofrestri adeiladau sydd mewn perygl. A chyhoeddwyd canllawiau newydd ar fynd i’r afael â threftadaeth sydd mewn perygl, a rheoli newid i adeiladau rhestredig, ar 31 Mai, ar yr un diwrnod ag y daeth y darpariaethau sy’n ymwneud â gwaith brys ar adeiladau rhestredig i rym, gan roi pwerau ychwanegol i awdurdodau lleol. Ond rwy’n cydnabod bod llawer mwy i’w wneud. Felly, mae’r ddarpariaeth ar gyfer cyflwyno hysbysiadau cadwraeth yn Neddf yr amgylchedd hanesyddol rwy’n credu hefyd yn gyfle i ddatblygu mesurau newydd i fynd i’r afael â’r heriau anhydrin yn aml a achosir gan adeiladau rhestredig yn dadfeilio.

Ond, yn benodol o ran gwaith brys, mae awdurdodau cynllunio lleol yn aml yn cael eu rhwystro rhag defnyddio’r pwerau sydd ganddynt gan y posibilrwydd o gymhlethdodau cyfreithiol a, hyd yn oed yn fwy felly, y posibilrwydd o golled ariannol. Mae Deddf 2016 wedi gwneud y defnydd o waith brys yn haws drwy ei ymestyn i unrhyw adeilad rhestredig, ar yr amod nad yw’n ymyrryd yn afresymol â defnydd preswyl, ac mae hefyd yn lleihau’r risg ariannol trwy wneud unrhyw gostau a geir yn bridiannau tir lleol y mae modd, fel y nododd yr aelod, godi llog arnynt nes y byddant wedi’u hadfer yn llwyr.

Rwy’n credu ei bod yn rhy gynnar asesu a yw hyn wedi bod yn llwyddiannus. Mae cynlluniau ar waith, Llywydd, i gasglu data o bob rhan o’r darpariaethau yn y Ddeddf ac i lywio gwerthusiad ffurfiol o’r Ddeddf. Rhagwelir y bydd yn bum mlynedd cyn y bydd digon o ddata ar gael i fesur a yw’r Ddeddf a’r mesurau cysylltiedig wedi gwneud gwahaniaeth i warchod a rheoli’r amgylchedd hanesyddol. Mae hynny'r un mor berthnasol i effeithiolrwydd TAN 24, a gododd yr Aelod hefyd.

Yna, o ran Cymru Hanesyddol a gwaith y grŵp llywio, mae fy swyddogion wrthi’n datblygu achos busnes ar gyfer newid o fewn Cadw. Bydd hynny’n ystyried yr opsiynau ar gyfer dyfodol Cadw, gan gynnwys ystyried unrhyw welliannau y gellir eu gwneud i’r status quo. Ond, beth bynnag yw’r canlyniad, bydd hefyd yn tynnu sylw at yr arferion gorau, a fydd yn helpu i lunio dyfodol y sefydliad. Rwy’n credu ei bod yn rhy gynnar i ddweud ymlaen llaw a fydd angen unrhyw newid deddfwriaethol, ond, os oes ei angen, yna bydd hyn, wrth gwrs, yn ei dro yn effeithio ar yr amserlen ar gyfer cyflwyno a’r corff cynghori y siaradais amdano.

Cododd yr Aelod gwestiynau ynghylch parciau a gerddi hanesyddol—yn benodol, pryd y byddaf yn rhagweld y gofrestr statudol yn dod i rym. O ystyried bod Cadw wrthi’n ymgysylltu â pherchnogion a deiliaid, yn eu hysbysu, ac y bydd y gwaith hwn yn parhau tan ddechrau 2018, rwy’n rhagweld y bydd y gofrestr yn dod i rym yn ystod yr haf y flwyddyn nesaf. O ran unrhyw newidiadau i’r ffiniau, mae perchnogion a deiliaid parciau cofrestredig a gerddi hanesyddol yn cael eu hysbysu yn y flwyddyn gyfredol.

Rydw i’n mynd i symud ymlaen i sôn am ddarpariaethau eraill y gofynnodd yr Aelod amdanynt—darpariaethau neu fesurau sydd heb eu cyflwyno eto. Mae angen gwaith o hyd ar gytundebau partneriaeth treftadaeth. Mae hynny oherwydd ein bod eisiau gwneud yn siŵr eu bod yn cael eu datblygu ar sail tystiolaeth gadarn. Felly, rydym yn chwilio am bartneriaid a all gymryd rhan mewn cynlluniau peilot i sicrhau bod cytundebau partneriaeth treftadaeth yn effeithiol. Cawsant groeso eang o fewn y sector, ond, er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn gweithredu’n llwyddiannus iawn, rwy’n credu ei bod yn bwysig ein bod yn cael y partneriaid cywir i ddatblygu cynlluniau peilot y gallwn seilio cytundebau yn y dyfodol arnynt.

Hefyd, roedd meysydd eraill o waith a amlinellais lle mae ymdrech bellach i gael ei gwneud i sicrhau y gellir cyflwyno’r Ddeddf yn llawn. Mae’r gwaith hwn yn cynnwys rhai o’r pwyntiau a godais yn fy natganiad ynghylch y pwerau sydd ar gael i awdurdodau lleol o ran dadfeilio adeiladau rhestredig lle mae perchnogion wedi caniatáu o bosibl yn fwriadol i adeiladau rhestredig ddadfeilio. Amlinellais sut y byddai’n rhaid i reoliadau fod yn wirioneddol ddefnyddiol i awdurdodau lleol a gwneud cyfraniad cadarnhaol i ddatrys yr heriau a gyflwynir i awdurdodau lleol, ac felly mae angen sail dystiolaeth gadarn o hyd ar gyfer y darn penodol hwnnw o waith.

Fel y dywedais, rydym hefyd yn credu y bydd angen mewnbwn rhanddeiliaid ar draws y sector amgylchedd hanesyddol i lunio deddfwriaeth effeithiol os yw am gael ei chyflwyno.

A allaf i ddiolch i’r Ysgrifennydd Cabinet am ei ddatganiad ar bolisi a deddfwriaeth yr amgylchedd hanesyddol. Mae nifer o’r pwyntiau eisoes wedi cael eu crybwyll gan Paul Davies, felly ni wnaf ailadrodd, ond mi fuaswn i yn pwyso ychydig bach yn rhagor. Rydych chi’n dweud yn fan hyn, ar yr ail dudalen, mater rydych chi wedi’i grybwyll eisoes: rydych chi wedi’i gwneud hi’n haws i awdurdodau cynllunio lleol i ymgymryd â gwaith mewn argyfwng lle mae yna adeiladau wedi’u rhestri sydd yn gwaethygu yn eu cyflwr, felly. Mae hynny’n iawn am waith argyfyngus. Beth am y gwaith yna sydd yn llai nag argyfyngus, ond yn angenrheidiol, serch hynny, i godi adeilad unwaith eto yn ôl i safon gweladwy digonol, fel y Palace Theatre yn Abertawe, er enghraifft? Mae gwaith angenrheidiol angen ei wneud. Buaswn i ddim yn ei alw fe’n ‘mewn argyfwng’, ond mae angen ei wneud. Mae angen pwerau cryfach ar gynghorau lleol nag sydd ar gael ar hyn o bryd i weithredu yn hyn o beth. Nid wyf yn gwybod os ydy Ysgrifennydd y Cabinet eisiau ymhelaethu ar hynny: lle mae’r angen yn llai nag argyfyngus, ond mae e’n angen, serch hynny. Achos mae rhai o’r adeiladau yma’n gallu bod yn embaras yn lleol.

Troi at beth sydd yn fy niddori i’n naturiol ydy enwau lleol hanesyddol yn y datganiad yma, gan gofio bod cadw enwau lleol hanesyddol yn hanfodol bwysig. Fel rydych chi wedi crybwyll, mae Rhan 4 o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 yn crybwyll

‘llunio rhestr o enwau lleoedd hanesyddol yng Nghymru’,

sydd wedi digwydd. Mae’r wefan, fel rydych chi wedi dweud, yn rhestru dros 350,000 o enwau lleoedd hanesyddol Cymru, gan ymgyfuno’r gwahanol ffurfiau a sillafiad o’r lleoedd dros amser. Tra dylid croesawu’r fath adnodd, rhaid pwysleisio nad yw’r rhestr yn sicrhau unrhyw amddiffyniad cyfreithiol o enwau lleoedd hanesyddol ein gwlad. Ar ddiwedd y dydd, dim ond rhestr ydy hi. Rydym ni’n parhau i wynebu sefyllfa lle nad oes unrhyw ddiogelwch i enwau lleoedd hanesyddol Cymru. Mae’r diffyg diogelwch statudol hyn yn warthus wrth ystyried pwysigrwydd yr enwau hyn yng nghyd-destun treftadaeth ac hanes ein gwlad. Heb reoleiddio statudol, bydd peryg go iawn i nifer o’r enwau hyn a gofnodir ar y rhestr o enwau lleoedd hanesyddol wirioneddol fod yn ddim mwy na hanesyddol eu hunain, wrth i’r enwau byw hyn gael eu newid a’u hanghofio.

Efallai i’r Ysgrifennydd Cabinet gofio fy ymgais i i ddod â Bil gerbron ar ddiogelu enwau lleoedd hanesyddol Cymru yn ôl ym mis Mawrth. Bydd yn cofio o’r memorandwm esboniadol i’r Bil hwnnw—ac rydw i’n dyfynnu—pwysigrwydd cadw enwau fel mater amgylcheddol hanesyddol:

‘Mae enwau lleoedd hanesyddol yn dystiolaeth werthfawr o ran hanes cymdeithasol, diwylliannol ac ieithyddol. Mae enwau aneddiadau, tai a ffermydd, caeau a nodweddion naturiol yn darparu gwybodaeth am arferion amaethyddol y presennol a’r gorffennol, diwydiannau lleol, sut mae’r dirwedd wedi newid a chymunedau’r presennol a’r gorffennol. Maent yn dystiolaeth o ddatblygiad treftadaeth ieithyddol gyfoethog—yn Gymraeg, yn Saesneg ac mewn ieithoedd eraill.’

Llawer o ieithoedd eraill: enwau Lladin; Eingl-Sacsonaidd; Llychlynnaidd; Ffrengig; Normanaidd; Saesneg—llawer mwy. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cofio’r ddadl o fis Mawrth. Mae yna enghreifftiau pellach o golli enwau, wrth gwrs: ‘Maes-llwch’ ym Mhowys yn troi yn ‘Foyles’; ‘Cwm Cneifion’ yn Eryri yn troi yn ‘Nameless Cwm’. Dan amodau Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016, nid oes dim byd pendant yn atal y newid enwau lleoedd hyn; gallai dal ddigwydd. Gellid dadlau bod gwendid y Ddeddf i amddiffyn yr enwau hyn yn bygwth elfen hollbwysig o’n hamgylchfyd hanesyddol. Cafodd Bil mis Mawrth eleni ei wrthod, fel rydych chi’n gwybod, oherwydd gwnaethoch chi bleidleisio yn ei erbyn o, er bod cefnogaeth selog yn y gymdeithas sifig i ddiogelu enwau lleoedd o du Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru, Mynyddoedd Pawb, Comisiynydd y Gymraeg, ac ymlaen. Nodoch chi, yn hytrach, Ysgrifennydd y Cabinet, eich bwriad, fel rydych chi’n cyhoeddi heddiw, i ehangu defnydd o restr enwau lleoedd a chyflwyno canllawiau yn unig, nid Deddf, ac rydw i’n dyfynnu o’ch datganiad y diwrnod yna yn ôl ym mis Mawrth:

‘bydd defnydd o’r rhestr o enwau lleoedd hanesyddol yn cael ei ystyried yn benodol. Yn gyffredinol, bydd y canllawiau hynny’n cyfarwyddo’r cyrff cyhoeddus hyn i ystyried y rhestr o enwau lleoedd hanesyddol wrth ystyried enwi ac ailenwi strydoedd, adeiladau a lleoedd eraill’.

Ystyried cyn eu diystyru. Sylwer o’i sylwadau mai’r angen i ystyried yn unig fyddai’r fath ganllawiau arfaethedig yn—

O bosibl mod i’n gorfod atgoffa’r Aelod taw cyfle i gwestiynu yr Ysgrifennydd Cabinet yw hyn. Diolch.

Ac mae’r cwestiwn yn dod ac mae yna un cwestiwn eisoes wedi dod, yn fy amddiffyniad, Llywydd.

Mae’n werth gwneud y pwyslais, o gofio taw ystyried yn unig mae’n rhaid i bobl wneud o’r rhestr faith o enwau hanesyddol, er mewn gwledydd eraill, megis Seland Newydd, mae yna ddiogelwch statudol—mae yna gyfraith yn diogelu enwau y Maori, er enghraifft—nid yn fan hyn. Felly’r cwestiwn: a ydych chi, Ysgrifennydd Cabinet, yn gallu rhoi eich llaw ar eich calon a dweud bod y gwelliannau rydych chi wedi eu cyflwyno i’r mesur yma yn ddigonol i sicrhau ein bod ni’n genedl sy’n cael ei chysylltu â ‘Cwm Cneifion’, yn hytrach na ‘Nameless Cwm’, neu a ydych chi’n credu eich bod chi wedi gwneud digon i ddiogelu ein hanes a’n treftadaeth ni ai peidio?

A gaf i ddiolch i Dai Lloyd am ei gyfraniad a’i gwestiynau? Rwy’n credu ei fod yn hollol gywir i godi’r mater o adeiladau sydd mewn perygl, ond nid o reidrwydd ag angen gwaith brys. Rwyf eisoes wedi amlinellu pam yr wyf yn credu nad oes unrhyw ateb syml ar gyfer ymdrin ag adeiladau sydd mewn perygl, boed hynny yn y tymor hir, y tymor canolig neu ar unwaith. Ond mae gan awdurdodau cynllunio lleol ar gyfer yr adeiladau hynny nad oes angen gwaith brys arnynt nifer o bwerau eisoes i helpu i fynd i’r afael ag adeiladau a esgeuluswyd, a hoffwn eu gweld yn defnyddio’r pwerau hyn yn fwy aml. Er enghraifft, gall adran 215 hysbysiadau o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 ei gwneud yn ofynnol i berchennog ymgymryd ag amrywiaeth o waith i fynd i’r afael â chyflwr tir neu adeilad sy’n effeithio’n andwyol ar amwynder. Nid oes unrhyw reswm, yn fy marn i, pam na ellir defnyddio’r rhain yn fwy eang ar adeiladau rhestredig.

Ond mae’n bwysig cydnabod bod y mwyafrif helaeth, rwy’n credu—ac rwy’n siŵr y byddai’r Aelod yn cytuno â mi—o berchnogion adeiladau rhestredig yn cynnal ac yn rheoli newid i’w hadeiladau gyda gofal mawr, gyda balchder ac mewn modd sensitif iawn. Rwy’n credu mai’r hyn sy’n hanfodol yw ein bod yn meithrin, yn cefnogi ac yn annog pob un o berchnogion adeiladau rhestredig, sy’n aml yn rhai o’n cynghreiriaid mwyaf o ran gofalu am ein hadeiladau hanesyddol a drysorir, i fod yn meddu ar yr wybodaeth, y deallusrwydd a’r gefnogaeth sydd eu hangen i fod yn gyfrifol am yr adeiladau y maent yn geidwaid arnynt. Am y rheswm hwnnw, rydym wedi cynhyrchu naw dogfen sy’n ymwneud ag arfer gorau. Mae’r canllawiau yn cynnwys, ‘Rheoli Newid i Adeiladau Rhestredig yng Nghymru’. Mae teitlau pellach ar y gweill, ond rwy’n credu drwy becyn o fesurau o fewn y Ddeddf, byddwn yn annog mwy o gyfrifoldeb yn y gymdeithas sifil ar gyfer cynnal a chadw asedau hanesyddol.

Gwn fod gan yr Aelod ddiddordeb brwd iawn, ac rwy’n edmygu ei ddiddordeb, mewn rhestrau o enwau lleoedd hanesyddol. Gwn fod hwn wedi bod yn fater dadleuol. Mae wedi bod yn fater y mae llawer o’r Aelodau wedi siarad yn angerddol amdano droeon yn y Siambr, ac rwy’n parchu pob barn ar y mater pwysig iawn hwn. Mae’r Comisiwn Brenhinol ar Henebion Hynafol a Hanesyddol Cymru eisoes wedi ymrwymo i lunio a chynnal y rhestr, ac mae’r gwaith hwnnw yn cael ei wneud ar hyn o bryd. Rhaid i mi dalu teyrnged i’r comisiwn brenhinol am yr ymroddiad y mae wedi ei ddangos i’r ymdrech hon. Yn wir, mae aelod llawn amser o staff newydd ddechrau yn ei swydd yr wythnos hon, yn y comisiwn brenhinol, rwy’n credu, i guradu’r rhestr, er mwyn cynorthwyo gydag ymholiadau ac i hyrwyddo’r rhestr a phwysigrwydd enwau lleoedd hanesyddol. Mae’r rhestr yn sylweddol eisoes, yn cynnwys mwy na 350,000 o enwau lleoedd hanesyddol, a bydd yn ddiau yn tyfu yn gyflym iawn gan fod ymchwil yn ildio gwybodaeth newydd. Mae defnyddwyr y rhestr hefyd yn cael eu hannog i gyfrannu eu gwybodaeth eu hunain am enwau lleoedd. Nod y gwaith hwn, unwaith eto, yw datblygu diwylliant ac ymddygiad mwy cyfrifol ar draws Cymru, a mwy o barch, nid yn unig ar gyfer yr amgylchedd hanesyddol, ond yr enwau lleoedd sy’n cael eu priodoli i’n hasedau hanesyddol.

Nododd yr Aelod y canllawiau statudol, ‘Cofnodion yr Amgylchedd Hanesyddol yng Nghymru: Llunio a Defnyddio’. Mae’r rhain yn cyfarwyddo awdurdodau parciau lleol a chenedlaethol, a Chyfoeth Naturiol Cymru, i ystyried y rhestr wrth enwi neu ailenwi wrth ystyried enwi ac ailenwi strydoedd, eiddo a lleoedd eraill. Heb y rhestr a’r cofnodion amgylchedd hanesyddol hynny, sy’n aml yn sail i’r rhestr o enwau lleoedd hanesyddol, nid wyf yn credu y byddai awdurdodau lleol, awdurdodau parciau cenedlaethol neu Gyfoeth Naturiol Cymru mewn sefyllfa i allu gwneud sylwadau cytbwys. Yn awr, diolch byth, byddant mewn sefyllfa i wneud penderfyniadau cytbwys. Ar y canllawiau arfer gorau ar enwau lleoedd hanesyddol, wel, rwyf wedi gofyn i fy swyddogion yn Cadw ddechrau paratoi cyhoeddiad newydd ar enwau lleoedd hanesyddol yn rhan o’r canllawiau arfer gorau sy’n ategu’r Ddeddf. Bydd yn cael ei anelu at gynulleidfa eang i gyfleu pwysigrwydd enwau lleoedd hanesyddol i dreftadaeth Cymru, a hefyd i egluro beth mae’r rhestr yn ei gynnig i’r rhai sy’n cymryd rhan yn y gwaith o reoli’r dreftadaeth honno.

O ran y cwestiwn o ddiogelwch cyfreithiol enwau lleoedd hanesyddol, unwaith eto, mae hwn yn fater sydd wedi’i godi a’i drafod yn y Siambr droeon, ac rwy’n parchu barn yr Aelod a gwaith yr Aelod yn y maes penodol hwn. Cafodd opsiynau ar gyfer diogelwch cyfreithiol enwau lleoedd hanesyddol Cymru, rwy’n credu, eu hystyried yn drylwyr yn ystod hynt Deddf 2016. Byddai gwarchodaeth gyfreithiol ffurfiol yn gofyn am drefn ganiatâd fyddai’n gymhleth, byddai’n gostus ac yn anodd ei rhedeg, os nad yn amhosibl i’w gorfodi. Mae’r dull yr ydym wedi ystyried yn un—. Rwy’n parchu barn yr Aelodau ar y mater hwn, ond yn yr un modd rwy’n credu bod y dull yr ydym wedi’i gymryd yn gymesur ac, yn hollbwysig, yn un y gellir ei gyflawni. Mae’r rhestr yn cofnodi ein hetifeddiaeth gyfoethog o enwau lleoedd hanesyddol ar gyfer y dyfodol. Bydd hefyd yn codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o’u pwysigrwydd fel elfennau annatod o hanes ein cenedl, gyda’r bwriad, fel yr amlinellwyd, o wella’r parch tuag at enwau lleoedd hanesyddol yng Nghymru. Bydd hyn, ynghyd â’r canllawiau statudol a gyhoeddwyd i gyrff cyhoeddus, yn fy marn i, yn annog y defnydd parhaus o enwau lleoedd hanesyddol mewn bywyd bob dydd.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad, ac a gaf i ddweud bod UKIP Cymru yn croesawu llawer o agweddau ar y ddeddfwriaeth hon? Yn benodol, bod y Llywodraeth yn gwneud y broses gofrestru ar gyfer henebion ac adeiladau yn fwy agored ac atebol. Rydym hefyd yn croesawu’r cynnig i roi perchnogion a deiliaid wrth wraidd y broses ymgynghori, gyda hawl i ofyn am adolygiad o benderfyniad gan yr Arolygiaeth Gynllunio. A all Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau y bydd y broses apelio hon yn cael ei hasesu yn annibynnol?

Unwaith eto, rydym yn nodi ac yn cefnogi ymchwil a gomisiynwyd ar yr heriau cymhleth a gyflwynir gan adeiladau rhestredig sy’n dadfeilio. Yn hyn o beth, a all Ysgrifennydd Cabinet os gwelwch yn dda gadarnhau y bydd yr ymchwil hon yn ystyried barn y rhai nad ydynt yn arbenigwyr a’r farn leol, yn ogystal â rhanddeiliaid ac awdurdodau lleol? Rydych hefyd wedi sôn yn eich datganiad am eich bwriad i sefydlu cofrestr statudol o barciau hanesyddol, ac rydych wedi rhoi yn gynharach ryw fath o amserlen o ran hynny i ni. Ond a allwch chi hefyd ddweud wrthym pa warchodaeth fydd y parciau hanesyddol hyn yn ei chael nes bydd y gofrestr ar waith?

Gallaf. A gaf i ddiolch i’r Aelod am ei gyfraniad a’i gwestiynau? Rwy’n cytuno mai fy mai i yw bod y gyfundrefn ganiatâd i restru henebion a rhestru adeiladau yn dryloyw, ei bod yn agored i graffu a’i bod yn dryloyw, ac am y rheswm hwnnw, rydym wedi ymdrechu i sicrhau bod gan y rhai a allai gael eu heffeithio gan gofrestru heneb neu restru adeilad y gallu i ofyn am adolygiad. Yn awr, mae’n gwbl hanfodol yn ei thro, fel yr amlinellwyd gan yr Aelod, bod y broses adolygu yn annibynnol. Felly, am y rheswm hwnnw, byddem yn disgwyl i’r Arolygiaeth Gynllunio wneud penderfyniad yn achos adolygiad i sicrhau bod annibyniaeth, a bod y cyfrifoldebau yn cael eu cadw’n ddiogel ar wahân i rai Cadw.

Cyn belled ag y mae’r ymgynghoriad ar y gwaith pellach sy’n mynd i gael ei wneud yn y cwestiwn, rwy’n meddwl fy mod i wedi amlinellu yn fy natganiad fy mod yn credu bod angen i ni ymgynghori mor eang ag y bo modd ar draws y sector, ac mae hynny’n cynnwys nid yn unig arbenigwyr, ond hefyd bobl y gellid effeithio arnynt. Rwy’n credu ei fod yn hollol hanfodol bod perchnogion a deiliaid adeiladau hanesyddol yn cael cyfle i gyfrannu at y ddadl, y drafodaeth ac, yn y pen draw, at ddeddfwriaeth pe digwydd iddi gael ei chyflwyno.

O ran gerddi a pharciau a’r rhestr o barciau a gerddi hanesyddol, rydym yn credu bod bron 400 o’r rhain yng Nghymru. Mae’r gwaith sydd wedi digwydd hyd yn hyn wedi cynnwys nifer fawr o berchnogion a deiliaid. Nod y rhestr yw sicrhau bod gennym gofnod hanesyddol sylweddol a chynhwysfawr o’r holl barciau a gerddi yng Nghymru. Mae gorfodaeth yn fater mwy anodd i ymdrin â hi oherwydd yn aml ni ellir cyflwyno gorfodaeth mewn modd cyflawn a theg i berchenogion. Rhaid cofio bod parciau a gerddi hanesyddol yn agored i newid yn yr hinsawdd ac na allant fod yn gyfrifol am ddigwyddiadau neu am ddirywiad parc neu ardd. Roedd hyn yn rhywbeth a ystyriwyd—trefn orfodi ac amddiffyn—ond ystyriwyd ei bod yn rhy anodd ei reoli mewn ffordd debyg i’r cynigion ar gyfer amddiffyniad cyfreithiol i enwau lleoedd hanesyddol. Mae gwneud yn siŵr bod rhywbeth yn gymesur ac yn ymarferol yn hanfodol, ond mewn cysylltiad â pharciau a gerddi hanesyddol, ystyriwyd efallai na fyddai modd cyflawni camau o’r fath.

Ar ddiwedd yr wythnos hon, Ysgrifennydd y Cabinet, byddaf yn teithio i ogledd fy etholaeth i. Yn wir, byddaf yn teithio i Harlech. Pan ddaw’n fater o drefnu cyfarfodydd neu unrhyw ddigwyddiadau eraill yn Harlech, mae lle naturiol y byddwn yn setlo arno sy’n gyfleus i’r ddwy ochr ac yn eithriadol o bwysig i’r ardal, ac wrth gwrs rwy’n siarad am gastell Harlech. Gwn fod y gymuned, fel fi, yn hynod ddiolchgar am fuddsoddiad £6 miliwn yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru yn y castell. O ganlyniad i hynny cafodd ei adfer i gyflwr da, ac mae bellach wedi denu dros 100,000 o ymwelwyr y llynedd, cynnydd o 35 y cant. Felly, mae’r diogelwch ychwanegol a roddir i leoedd o’r fath—henebion hanesyddol—yn hynod bwysig. Nid yn unig mae’n bwysig i warchod y strwythur corfforol, ond i les yr ardal leol. Fel y gwyddoch yn dda, mae’n safle treftadaeth y byd ac mae o fewn ardal gadwraeth gyfagos, mae’n safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig, ac yn ardal o gadwraeth arbennig.

Felly, y cwestiwn sydd gennyf yw hyn: er ein bod yn gofalu am yr adeiladau a’r ardaloedd hynny ac yn cadw ac yn cyflwyno Deddfau sy’n eu diogelu, byddwch yn gwybod fwy neu lai o fewn yr un ôl troed â’r safle hwnnw mae gennym westy Dewi Sant, sydd bron â mynd â’i ben iddo. Byddai rhai yn hoffi ei weld yn syrthio i lawr yn fuan iawn. Mae’n debyg mai fy nghwestiwn i yw hwn: er ein bod yn rhoi’r holl fuddsoddiad i’r ardal, ac er ein bod yn rhoi llawer o warchodaeth i’r castell, mae’r cyfan yn cael ei ddifetha gan ei fod yn edrych dros yr hyn sydd bellach yn adeilad adfeiliedig. Ar ben hynny, wrth gwrs, mae ansicrwydd ynghylch safle’r coleg a hefyd y theatr. Ond rwy’n gwybod, Ysgrifennydd y Cabinet, eich bod wedi rhoi rhywfaint o arian i mewn i gyd-gyllido rhywfaint o waith adfywio, ac rwy’n meddwl tybed a fyddwch yn gallu dweud wrthyf faint oedd y buddsoddiad hwnnw. Rwy’n deall ac yn gwerthfawrogi eich bod yn siarad â Chyngor Gwynedd yn ceisio datrys rhai o’r problemau hyn, yn ogystal â Pharc Cenedlaethol Eryri. Ond rwyf hefyd yn meddwl tybed a ydych yn gallu cadarnhau, Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych yn siarad â’ch cydweithiwr, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, ynglŷn â dyfodol y coleg, y theatr a’r safle, ac felly pan fyddwn yn rhoi gwarchodaeth ac yn rhoi rhywfaint o fuddsoddiad sydd mewn gwirionedd yn sicrhau newid cadarnhaol, nad yw’n cael ei ddifetha gan y pethau y mae’n edrych drostynt.

A gaf i ddiolch i’r Aelod am ei chyfraniad ac am ei chwestiynau? Mae Joyce Watson yn hyrwyddwr gwych o gastell Harlech, yn hyrwyddwr mawr y rhanbarth, y dref ei hun, a hefyd yn bencampwr gwych o’r amgylchedd naturiol a thwristiaeth bywyd gwyllt, yr ydym hefyd yn gwybod sy’n cyfrannu’n enfawr at economi Cymru. Hoffwn hefyd dalu teyrnged i’r diddordeb brwd y mae Joyce Watson wedi’i ddangos i adfywio Harlech, sydd wedi cael ei sbarduno gan ein buddsoddiad sylweddol yn y castell.

Nododd yr Aelod yn iawn ein bod wedi cymeradwyo swm nid ansylweddol o arian yn ddiweddar i gefnogi adfywio pellach yn Harlech. Fy ngobaith yw y bydd yr awdurdod lleol yn gallu gweithio gyda rhanddeiliaid lleol, siopwyr ac arweinwyr cymunedol a grwpiau gweithredu i sicrhau bod y prosiectau iawn yn cael eu nodi ar gyfer gwaith â blaenoriaeth. A hoffwn weld sylw’n cael ei roi i rai o’r heriau mawr sy’n ymwneud ag asedau eraill yn yr ardal—gallai rhai eu disgrifio’n ‘ddolur llygad’—oherwydd rwy’n rhannu rhwystredigaeth yr Aelod ar rywfaint o’r dadfeilio sy’n amlwg heb fod ymhell oddi wrth y castell yr ydym wedi pwmpio miliynau o bunnoedd iddo.

O ganlyniad i’r buddsoddiad a wnaed yng nghastell Harlech, rydym wedi gweld cynnydd aruthrol yn nifer yr ymwelwyr. Tyfodd nifer yr ymwelwyr y llynedd 11.2 y cant, ac mae’r Aelod yn iawn; erbyn hyn cafwyd mwy na 100,000 o ymwelwyr i gyd. Dyna 8,000 o ymwelwyr ychwanegol sy’n talu, ac mae hynny, yn ei dro, yn golygu buddsoddiad yn ôl i mewn i safle Cadw. Ac mae’n werth nodi hefyd fod y bont newydd a gafodd ei gosod yn y castell wedi cael ei chydnabod—mae’n bont arobryn, ac mae wedi dod yn rhyw fath o nodwedd eiconig yn lleol. Mae prosiect gwella castell Harlech wedi bod yn llwyddiannus ac wedi derbyn gwobr diwylliant a threftadaeth RICS.

Fy marn i yw bod angen i ni sicrhau ein bod yn ystyried y ffaith bod y castell yn rhan o amgylchedd naturiol anhygoel. Nododd yr Aelod safle treftadaeth y byd a’r parc cenedlaethol fel cydrannau cyflenwol. Rydym wedi datblygu canllawiau ar gynnal a rheoli safleoedd treftadaeth y byd, er mwyn cyfrannu at waith grwpiau eraill sy’n cadw a hyrwyddo’r amgylchedd hanesyddol. Ond credaf, o ran Harlech yn benodol, ei bod yn hanfodol bod yr holl bartïon ar lefel leol iawn ac ar lefel gwaith awdurdod lleol at ei gilydd, yn goresgyn rhwystredigaethau domestig a allai fodoli, ac yn canolbwyntio ar yr un pwrpas o nodi’r heriau, eu goresgyn, a sicrhau y gellir cyflwyno adfywiad. Ac mae Llywodraeth Cymru yn hapus iawn i roi help llaw lle bo hynny’n bosibl.

Diolch, Llywydd. Hoffwn innau hefyd groesawu’n fawr y datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ganmol y dull angerddol ac ymrwymedig o ymdrin â’r maes cyfrifoldeb pwysig hwn y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi’i gymryd bob tro?

Mae Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 yn ddarn pwysig o ddeddfwriaeth, a nodaf yn y datganiad fod Deddf 2016 yn cael ei chanmol yn briodol am ddarparu ystod o offer newydd neu offer sydd wedi’i fireinio i roi mwy o warchodaeth i’n hasedau hanesyddol gwerthfawr. Mae’r rhain yn asedau hanesyddol hollgynhwysol o fywyd Cymru ac, yn fy etholaeth i yn Islwyn, mae’r Navigation yng Nghrymlyn yn safle pwll glo Cymreig hanesyddol, eiconig a phwysig. Mae ymhlith y 10 adeilad Fictoraidd ac Edwardaidd sydd fwyaf mewn perygl yng Nghymru ac yn Lloegr, ac mae’r Navigation yn cynnwys nifer o adeiladau rhestredig.

Cefais fy nghalonogi o glywed yn eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet, yr adnodd newydd ar y we Cof Cymru—Asedau Hanesyddol Cenedlaethol Cymru. Mae hwn yn rhoi gwybodaeth awdurdodol am ddim i berchnogion, deiliaid ac aelodau’r cyhoedd am ddisgrifiad, lleoliad a maint asedau hanesyddol dynodedig a chofrestredig ar draws Cymru. Rwyf wedi gwneud rhywfaint o waith cartref ac wedi ymweld â’r wefan ddefnyddiol hon, ac rwyf wrth fy modd o fod wedi gallu gweld yn glir yr adeiladau rhestredig amrywiol yn y Navigation, sy’n cynnwys y tŷ peiriant weindio, y tŷ ffan, gweithdai, storfeydd, baddondai pen pwll ac adeiladau allanol. Dyna 11 i gyd—pob un ohonynt yn rhestredig gradd II ac yn gofnod pwysig a hanesyddol i Gymru. A fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi ei bod yn hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth o fewn ei gallu i sicrhau bod yr asedau hanesyddol pwysig hyn yn adrodd hanes ein cenedl a’u bod yn cael eu cadw ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, fel yr amlygwyd gan y Memo hanesyddol yn Nhrecelyn, sydd bellach yn cael ei ddefnyddio’n llawn ac yn hyfyw yn y gymuned? Rydym yn gwybod bod gofynion ariannu yn rhoi pwysau mawr arnom i gyd— £1.2 biliwn wedi ei ysgubo oddi ar gyllideb Cymru yn y toriadau diweddar gan y DU—ac rwy’n falch o glywed am y grant £250,000 gan Lywodraeth Cymru yn 2015 ar gyfer y pwll glo.

Rwyf am gofnodi fy ngwerthfawrogiad i Gyfeillion Navigation, sydd yn grŵp o wirfoddolwyr lleol angerddol, ymroddedig iawn sy’n cynnal ac yn rheoli’r safle hwn gyda’r nod o adfer y safle a’r adeiladau, er mwyn gallu eu defnyddio eto. Rwy’n rhannu’r nod hwn yn llwyr, ynghyd â gweld, yn y dyfodol agos, yr orsaf reilffordd yn cael ei hailgyflwyno yng Nghrymlyn, er mwyn agor ein cymunedau yn y Cymoedd.

Ysgrifennydd y Cabinet, sut mae egwyddorion a dibenion Deddf 2016—Deddf arloesol, yn fy marn i—a’r egwyddorion gorau dilynol, yn arwain, yn diogelu ac yn adfywio ein henebion hanesyddol pwysig megis y Navigation? Mae’n safle pwll glo lle bu fy nhad-cu a fy hynafiaid yn gweithio ynddo, ac sydd heddiw yn etifeddiaeth gadarn, ond yn araf ymddatod, o dreftadaeth ryngwladol, hanesyddol, diwylliannol a diwydiannol. Yn yr un modd, rhaid iddo chwarae rhan yn y weledigaeth Gymreig newydd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol i ddod.

A gaf i ddiolch i Rhianon Passmore am ei chyfraniad a thalu teyrnged i’w diddordeb brwd yn y pwnc hwn ers cael ei hethol i’r Cynulliad Cenedlaethol y llynedd? Mae hi’n angerddol, yn amlwg, am yr amgylchedd hanesyddol, ac yn arbennig yr asedau hanesyddol yn ei hetholaeth hi. Hoffwn hefyd dalu teyrnged i wirfoddolwyr y pwll glo. Rwy’n credu eu bod yn gwneud gwaith gwych. Nid yn unig maent yn arddangos un o’n hasedau hanesyddol pwysicaf yng Nghymru, ond maent hefyd yn gwneud yn siŵr ei fod yn cael ei gynnal mewn modd a fyddai, heb eu hymdrechion nhw, heb eu gwaith caled nhw, o bosibl yn adfeilio. Felly hoffwn ddiolch i iddynt am eu hymroddiad a’u hymrwymiad. Rwy’n edmygu’n fawr hefyd bod yr Aelod wedi cymryd amser i bori drwy ein hadnodd ar-lein. Rwy’n falch iawn ei bod hi’n ei ystyried yn adnodd effeithiol, ac rwy’n gobeithio y bydd hi’n rhannu ei phrofiad ag eraill. Os yw’n mynd i roi sgôr TripAdvisor iddo, gobeithio y bydd yn bum seren.

Rwy’n cytuno bod yn rhaid inni sicrhau ein bod yn adrodd hanes treftadaeth Cymru. Mae’n gwbl hanfodol ein bod yn parhau i ddehongli’r gorffennol gwych sydd gennym: hanes Cymru dros y milenia. Am y rheswm hwnnw, mae’n hanfodol ein bod yn cefnogi’r cynllun dehongli arloesol ledled Cymru. Credaf iddo fod yn gynllun hynod bwysig wrth ddwyn ynghyd agweddau niferus ein hamgylchedd hanesyddol a chreu naratif cymhellol ohonynt.

6. 5. Datganiad: Y Gronfa Triniaethau Newydd—Adroddiad Cynnydd

Yr eitem nesaf yw’r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon ar y gronfa driniaeth newydd—adroddiad cynnydd. Rydw i’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i wneud ei ddatganiad. Vaughan Gething.

Member
Vaughan Gething 16:13:00
The Cabinet Secretary for Health, Well-being and Sport

Diolch i chi, Llywydd. Roedd y gronfa triniaethau newydd yn weithredol yn syth ar ôl iddi gael ei sefydlu ym mis Ionawr eleni. Diben ein cronfa triniaethau newydd yw sicrhau bod y meddyginiaethau hynny sydd wedi dangos eu heffeithiolrwydd clinigol a’u gwerth am arian ar gael yn gyflym, gan felly gynrychioli gwerth da am arian o ran adnoddau'r GIG a phwrs y wlad. Rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd i Aelodau a wna’r datganiad hwn.

Mae'r Llywodraeth yn darparu £80 miliwn dros y pum mlynedd nesaf i sicrhau bod y meddyginiaethau hyn ar gael i bobl yn gyflym. Maent wedi eu hargymell gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd—NICE—a Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan, yr AWMSG. Yn ymarferol, mae hynny'n golygu ein bod yn dyrannu swm ychwanegol o £16 miliwn y flwyddyn i fyrddau iechyd. Yn gyfnewid am hyn, mae'n rhaid i fyrddau iechyd sicrhau bod y meddyginiaethau hyn a argymhellir ar gael ar bresgripsiwn, pan yw hynny'n glinigol briodol, o fewn dau fis. Mae hyn yn lleihad o draean yn yr amserlen weithredu sy'n ofynnol. Mae hefyd yn ofynnol i fyrddau iechyd gynllunio ar gyfer gweithredu argymhellion NICE o’r dyddiad cynharach, sef dyddiad cyhoeddi'r ddogfen arfarnu derfynol, yn hytrach nag aros am gyhoeddi'r canllawiau arfarnu technoleg terfynol. Mae hynny'n gwneud gwahaniaeth oherwydd gall leihau'r amser y mae modd cael gafael arnynt hyd at wyth wythnos. Mae'n rhaid i bob meddyginiaeth ganser newydd sydd ag argymhelliad interim gan NICE fod ar gael hefyd o fewn yr un amserlenni.

Rwyf wedi cyhoeddi cyfarwyddiadau i fyrddau iechyd yn gorchymyn yr amserlenni gweithredu newydd. Sefydlwyd system oruchwylio i fonitro cydymffurfiaaeth gan y bwrdd iechyd yn rheolaidd, a bydd Canolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan yn cyhoeddi adroddiad o'r data yn ddiweddarach eleni wedi toriad yr haf.

Rydym wedi llunio ein cronfa newydd i drin pob cyflwr yn gyfartal. Mae hyn yn sicrhau pobl Cymru ein bod yn dymuno gweld dull newydd seiliedig ar dystiolaeth bod meddyginiaethau ar gael yn gyflym ac yn gyson ni waeth beth fo’r cyflwr. Cafodd y dyraniad blynyddol o £16 miliwn ar gyfer 2016-17 ei ryddhau mewn dwy ran rhwng mis Ionawr a mis Mawrth. Mae hynny wedi helpu i gefnogi’r gwaith o gyflwyno triniaethau newydd ac effeithiol ar gyfer ystod eang o glefydau sy'n cyfyngu bywyd ac/neu glefydau sy’n fygythiol i fywyd, gan gynnwys methiant y galon, canser, arthritis a diabetes—i enwi dim ond ychydig. Bydd rhestr o feddyginiaethau a argymhellir, hyd yn hyn, yn cael ei chyhoeddi ochr yn ochr â’r datganiad hwn.

Diben penodol y gronfa £80 miliwn hon yw caniatáu i’r meddyginiaethau a argymhellir fod ar gael yn gyflymach a lleihau’r amrywiadau sy’n digwydd o ran cyflymder ledled Cymru. Roedd hwnnw’n ymrwymiad a roddwyd i bobl Cymru ym mis Mai y llynedd. Rydym yn cyflawni yn ôl yr ymrwymiad hwnnw i sicrhau bod y cyllid ar gael a’r paramedrau newydd yn cael eu gosod i sicrhau bod y meddyginiaethau ar gael yn fwy cyflym ac yn fwy cyson. Byddaf, wrth gwrs, yn dal byrddau iechyd i gyfrif o ran rhoi hynny ar waith a gwireddu hyn i gleifion ledled Cymru.

Yn ystod dau fis cyntaf y gronfa, roedd cydymffurfiaeth y byrddau iechyd yn dangos rhywfaint o amrywiad o ran y meddyginiaethau a argymhellir sydd ar gael ar gyffurlyfrau’r byrddau iechyd. Cafodd hynny ei adleisio gan y Prif Weinidog yn ystod y cwestiynau ar 20 Mehefin. Er bod rhywfaint o gynnydd da wedi bod, nododd fod rhagor eto i'w wneud i sicrhau cydymffurfiaeth lawn â'r amserlenni newydd ledled Cymru. Yn dilyn hynny, cynhaliwyd trafodaethau ar lefel cadeirydd a phrif weithredwr ers sefydlu'r gronfa. Mae byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd yn gwbl glir ynglŷn â diben penodol y gronfa hon a’n hymrwymiad i sicrhau bod meddygyniaethau a argymhellir ar gael yn fwy cyflym ac yn fwy cyson.

Felly, rwy'n falch o adrodd bod y data diweddaraf yn dangos gwelliant pellach. Ar 9 Mehefin, roedd 17 o feddyginiaethau perthnasol. Mae un bwrdd iechyd, Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a'r Fro, wedi sicrhau bod 15 o'r 17 o feddyginiaethau a argymhellir ar gael erbyn y dyddiad hwn. Mae pob un o’r 17 meddyginiaeth bellach ar gael yng Nghaerdydd a'r Fro, ac mae'r bwrdd wedi cadarnhau bod systemau wedi cael eu hadolygu i sicrhau cydymffurfiaeth lawn wrth symud ymlaen. Roedd y chwe bwrdd arall, fodd bynnag, wedi sicrhau bod pob un o'r 17 meddyginiaeth ar gael o fewn yr amserlen. Ac mae Ymddiriedolaeth GIG Felindre wedi sicrhau bod pob un ond un o'r meddyginiaethau perthnasol ar gael o fewn y cyfnod o ddau fis, ond bellach mae pob un ar gael erbyn hyn hefyd.

Mae'r arian ar gyfer y gronfa yn cael ei ddarparu er mwyn sicrhau bod meddyginiaethau newydd ar gael o fewn y cyfnod o ddau fis. Nodais o'r blaen, mewn amgylchiadau neilltuol, y gellir cysylltu â'r prif swyddog meddygol i gytuno ar fis ychwanegol er mwyn cydymffurfio. Os nad yw sefydliadau yn cwrdd â'r amserlenni gofynnol, wrth symud ymlaen, yna ni fyddaf yn oedi cyn adfachu arian a ddyrannwyd, naill ai'n rhannol neu'n gyfannol.

Mae'r dull yr ydym yn ei gymryd i sicrhau bod y meddyginiaethau hyn ar gael, sydd â’u gwerth am arian wedi ei brofi drwy’r holl glefydau, yn cael ei gefnogi gan Gymdeithas Diwydiant Fferyllol Prydain. Maen nhw’n parhau i weithio gyda ni ar wella cynlluniau, drwy ein blaengynllunio ni, i gyflwyno meddyginiaethau newydd—yn benodol, cryfhau'r data ar gyfer rhagolygon ariannol a nodi meddyginiaethau newydd ynghynt. Gall fod angen datblygiad seilwaith sylweddol ar gyfer hyn.

Ym mis Ionawr, pan lansiais y gronfa triniaethau newydd, dywedais fod ymdrech ar y cyd yn angenrheidiol rhwng y diwydiant fferyllol, GIG Cymru a Llywodraeth Cymru i sicrhau dull cynaliadwy ac ymatebol o gyflwyno meddyginiaethau newydd. Dangoswyd hynny yn effeithiol y mis diwethaf pan sicrhawyd bod triniaeth canser y fron newydd, Kadcyla, ar gael yn gyflym oherwydd bod y gwneuthurwr wedi ymgysylltu â GIG Cymru i sicrhau cytundeb cynnar. Mae'r gronfa triniaethau newydd wedi cael effaith gadarnhaol ar yr amser a gymerir gan fyrddau iechyd i gyflymu’r broses o sicrhau bod meddyginiaethau newydd a argymhellwyd ar gael ynghynt, a gwnaed cynnydd da o ran hyn. Mae angen i hynny nawr fod yn gyson ledled Cymru, gyda phob bwrdd iechyd yn cydymffurfio'n llawn o fewn yr amserlen o ddau fis ar gyfer pob meddyginiaeth. Rwy'n disgwyl i’r gydymffurfiaeth lawn honno barhau dros gyfnod pum mlynedd y gronfa, gan wneud gwahaniaeth gwirioneddol i gleifion. Byddaf, wrth gwrs, yn dal ati i adrodd ar gynnydd i'r Cynulliad Cenedlaethol.

Prynhawn da, Ysgrifennydd y Cabinet, a diolch yn fawr iawn ichi am eich datganiad heddiw. Rydym wrth ein bodd i ddarllen am y cynnydd sydd wedi ei wneud, oherwydd ein bod yn croesawu'r ymrwymiad o £80 miliwn gan Lywodraeth Cymru dros y pum mlynedd nesaf, ac rydym yn croesawu'r cynllun—neu eich bwriad i roi’r cynllun priodol yn ei le—ar gyfer rhoi argymhellion NICE ar waith. Credwn y bydd yn gwneud gwahaniaeth enfawr.

Mae ychydig o gwestiynau yr hoffwn eu gofyn ynglŷn â hyn. Roeddech chi’n sôn yn gynharach am sylwadau'r Prif Weinidog, gan ddweud bod peth amrywiaeth o ran y meddyginiaethau a argymhellir sydd ar gael ar gyffurlyfrau’r byrddau iechyd a'ch bod yn cymryd camau i geisio mynd i'r afael â'r mater hwn. Efallai eich bod yn cofio, ychydig wythnosau yn ôl, y gwnês i sôn am ddefnydd radiwm-223 fel triniaeth i ganser y brostad sydd ar gael yma yng Nghymru. Mae gwir ddryswch ynghylch hyn. Ni allaf gael unrhyw atebion gan unrhyw un, a byddwn yn ddiolchgar iawn pe byddech yn edrych ar hyn. Mae'r bwrdd iechyd yn y gogledd yn defnyddio'r gronfa triniaethau newydd i sicrhau ei bod ar gael. Mae'r bwrdd iechyd yn y de yn dweud, 'Na, mae’n rhaid i chi hawlio triniaeth fel hon drwy'r llwybr cais am gyllid gan gleifion unigol.' A phan rwy’n gofyn i wasanaethau ymchwil yr Aelodau a Llywodraeth Cymru, rwy’n ei chael hi’n anodd cael yr atebion oddi yno. Nid yw fy mhryder gwirioneddol yn ymwneud â’r un cyffur penodol hwn, er fy mod yn credu ei fod yn tynnu sylw at y mater, ond a oes llawer o feysydd eraill lle mae anghyfartalwch yn y modd y mae triniaeth yn cael ei darparu i bobl yng Nghymru? Gwn y byddwch yn cytuno â mi mai un peth y mae'n rhaid i ni gael gwared arno yw’r loteri cod post. Felly byddwn yn ddiolchgar iawn am eich sylwadau ar yr elfen benodol honno o'ch datganiad.

Roeddech yn sôn hefyd am y ffaith, mewn amgylchiadau eithriadol, y gellid cysylltu â’r prif swyddog meddygol i ganiatáu mwy o amser i fyrddau iechyd gydymffurfio. Tybed beth yr ydych chi’n ei ystyried yn amgylchiad eithriadol. Mae’r byrddau iechyd yn sefydliadau grymus. Mae swm sylweddol o adnoddau ar gael iddynt. Rwy’n holi tybed beth allai fod yn esgus rhagorol a fyddai'n golygu na allent weithredu’r hyn y dylent fod yn ei weithredu ar amser.

Roeddwn yn falch o weld eich sylwadau am Gymdeithas Diwydiant Fferyllol Prydain. Rwyf o’r farn ei bod yn gwneud gwaith canmoladwy wrth geisio gweithio ar y cyd. Rwy'n falch o weld ei bod yn mynd i fod yn gyfrifol am rannu data a chynllunio. A fyddwn ni’n gallu dod ag unrhyw dryloywder i hyn? Wrth gwrs, rwy'n siŵr ein bod i gyd wedi gweld llawer o grwpiau pwyso yn cysylltu â ni yn sgil cyffuriau penodol, ac rwy'n siŵr bod rhywun yno bob amser yn curo ar eich drws chi naill ai drwy gyfrwng grwpiau neu gynrychiolwyr o gwmnïau cyffuriau. Byddai’n wych, serch hynny, pe gallem ddod ag unrhyw dryloywder o ran hyn, heb dorri cyfrinachedd masnachol, mae’n amlwg, er mwyn i gleifion ac ymgyrchwyr yng Nghymru ddeall mewn gwirionedd beth sydd dan ystyriaeth. Yna gallant gael syniad o ba mor agos neu bell y mae’r broses o wneud penderfyniadau ar gyffur penodol y maen nhw’n credu y dylid ei gynnwys.

Yn olaf, ys gwn i, ar yr ochr ariannol, a fydd yr arian a ddyrannwyd a gaiff ei hawlio’n ôl gennych chi yn y pen draw oherwydd diffyg perfformiad gan fyrddau iechyd arbennig yn cael ei gadw o fewn y gronfa triniaethau newydd? Os na, ble fyddech yn bwriadu rhoi’r arian hwnnw? Os yw'n cael ei gadw o fewn y gronfa triniaethau newydd, sut fyddech chi'n dosbarthu’r arian hwnnw wedyn? A fyddech yn ei roi iddyn nhw yn nes ymlaen, neu a fyddech yn ei rannu ymysg rhai o'r byrddau iechyd mwy rhagweithiol? Rwy'n credu bod hynny'n eithaf anodd gan ein bod yn awyddus i gael gwared ar y loteri cod post, ond ni allwn ni dindroi a symud yn unig ar yr un cyflymder â’n byrddau iechyd arafaf a mwyaf pwyllog. Diolch.

Diolch am y sylwadau a’r cwestiynau. Rwy'n credu ein bod ni wedi cael trafodaeth fer am radiwm-223, a grybwyllwyd gennych yr wythnos diwethaf, ac rwy'n hapus i ailadrodd fy ymrwymiad i edrych ar y mater ac adrodd yn ôl—nid yn unig i chi, ond, gan ei fod wedi cael ei grybwyll yn y Siambr, byddaf yn sicrhau bod copi yn cael ei anfon at yr Aelodau eraill hefyd. Rwy’n sicr y bydd nifer ohonynt yn cymryd—[Torri ar draws.] Ydw, rwy’n ymwybodol o’r mater penodol hwnnw, ond gyda'r egwyddor o sicrhau bod y gronfa triniaethau newydd yn gwneud yr hyn a ddylai: ei bod yn datrys y gwahaniaethu o ran yr amser y mae’r triniaethau a argymhellir ar gael a hefyd ar sail daearyddiaeth. A dyna yw ei holl ddiben. Yr hyn y gallwn ei fynegi heddiw yw bod yna gynnydd gwirioneddol wedi bod. Felly, fe welwch mai dim ond arwyddion sydd i ddangos ar draws y saith bwrdd iechyd perthnasol a Felindre nad yw’r triniaethau wedi digwydd o fewn y terfynau amser a bennwyd. Felly, mae hynny'n well o lawer na chyn cyflwyno’r gronfa driniaethau newydd. Ond rwy’n awyddus i weld bod yr amcanion yr ydym yn eu gosod yn cael eu cyflawni gan bobl. Mae hynny'n dod â mi at eich pwynt chi am yr atebolrwydd am—[Anhyglyw.]—oherwydd gall amgylchiadau eithriadol fodoli lle mae rhesymau da pam na all pobl wireddu’r amserlen o ddau fis. Mae’n bosib bod heriau seilwaith ehangach o ran cyflwyno'r driniaeth yn ddiogel ac effeithiol yn y fan honno. Ond fe ddylai’r rheini fod yn faterion sy'n cael eu deall yn iawn o flaen llaw. Os nad ydyn nhw’n deall y rheini, ac mae hynny'n rhywbeth sydd yn codi yn ystod y gweithredu, mae angen iddyn nhw roi gwybod i'r prif swyddog meddygol, i wneud yn siŵr bod hynny wedi ei ddeall yn iawn, yn hytrach na bod yn fodd i ostwng y pwysau neu’n ddihangfa os yw’n ymddangos yn unig ei bod yn anodd. I fod yn deg, mae'r prif weithredwr newydd yng Nghaerdydd a'r Fro a'r cadeirydd yn deall bod angen defnyddio'r arian at ddiben.

Ac mae hynny'n fy arwain i at eich pwynt am adfachu arian. Nid wyf wedi gwneud penderfyniad terfynol ar yr hyn a fyddai'n digwydd pe byddem yn crafangu unrhyw arian yn ei ôl. Fy nod yw na fydd angen gwneud hynny, a siarad yn blaen. Ond pe byddem yn gwneud hynny, byddem yn ystyried wedyn y ffordd orau o’i ddefnyddio o fewn gwariant iechyd. Rwyf wedi canfod tipyn o'r rhwystredigaeth y byddai unrhyw Weinidog mewn unrhyw Lywodraeth yn ei ganfod wrth geisio cyflawni amcanion Llywodraeth a sut mae cyflawni newid yn llwyddiannus ac yn gynaliadwy. Yn aml mae ein mecanweithiau atebolrwydd yn drafferthus, yn yr ystyr y gallwch wneud rhywbeth gyda'r sefydliad cyfan—dyna beth yw diben fframwaith uwchgyfeirio, os nad yw'r sefydliad yn ei gyfanrwydd yn llwyddo, nac yn cyflawni fel y dylai ei wneud ar ystod o feysydd pwysig iawn. Ar fesurau mwy penodol, fel hwn, nid wyf yn credu y byddem ni’n awgrymu y dylid cael gwared ar unigolion sy’n arwain sefydliad. Ond mae’n rhaid bod rhyw lun o atebolrwydd, ac rwyf wedi gweld, mewn gwirionedd, y gall y defnydd posibl o arian mewn ffordd sy'n weladwy gael effaith galonogol iawn ar annog cydymffurfiaeth gan sefydliad. Felly, fel y dywedais, rwy’n obeithiol na fydd yn rhaid i mi adfachu arian, ond os byddaf, wel, yn amlwg, byddaf yn adrodd yn ôl am ffaith honno a sut y bydd yr arian hwnnw’n cael ei ddefnyddio.

Ar eich pwynt olaf ac ehangach yn y canol am Gymdeithas Diwydiant Fferyllol Prydain, ac yn croesawu’r ymgysylltu ynglŷn â'r broses gwneud penderfyniadau, unwaith eto, i ailadrodd: mae hyn yn ymwneud â meddyginiaethau a argymhellir. Felly, proses gwerthuso NICE—unwaith eto, arbenigedd annibynnol. Yr un peth o ran yr AWMSG, gan nad ydynt yn wleidyddion sy’n penderfynu beth sy'n llesol iddynt yn y tymor byr. Nid yw'n ymwneud â chael ymgyrch ddigon mawr neu angerddol yno i berswadio pobl i newid eu barn am wleidyddion; fel arall, buasai pob un ohonom ni yn agored i ymgyrchoedd ein perswadio ni, nid yn unig i newid ein meddyliau, ond i newid y dystiolaeth mewn gwirionedd, ac mae'n rhaid i hon fod yn broses wedi ei harwain gan dystiolaeth wirioneddol. Fel arall, gallwn ni i gyd ragweld y bydd arian yn cael ei ddefnyddio at ddibenion na allwn eu cyfiawnhau yn wrthrychol—rydym yn sôn am adnodd cyhoeddus gwerthfawr ond arwyddocaol sy'n mynd i'r maes hwn er budd gwirioneddol i driniaeth cleifion ledled y wlad.

A gaf innau groesawu’r diweddariad gan yr Ysgrifennydd Cabinet ynglŷn â’r gronfa bwysig yma? Jest ychydig o gwestiynau gen i. O ran y ‘reference’, mewn ffordd, faint ydym ni’n tybio y mae cyflwyno’r 17 cyffur newydd yma wedi ei gostio mewn termau go iawn i’r byrddau iechyd yng Nghymru? Rwy’n cymryd nad yw’r cyfan yn cael ei dalu allan o’r £16 miliwn yn flynyddol, oherwydd cyflymu mynediad at y cyffuriau yma ydy pwrpas y gronfa, nid talu amdanyn nhw i gyd. Ynteu ai cyllido canolog ydy’r ‘default’ erbyn hyn ar gyfer pob cyffur newydd?

Un cwestiwn sydd yn fy nharo i hefyd: beth sy’n digwydd—er fy mod i’n croesawu bod cydymffurfiaeth yn digwydd o fewn y ddau fis, beth sy’n digwydd efo cyffuriau hŷn? Nid cyffuriau sydd ddim yn newydd o bosibl, ond cyffuriau hŷn a rhai sydd ddim ar gael pan ddylen nhw fod. Mae’r rheini hefyd, wrth gwrs, yn bwysig iawn ar gyfer cleifion. A beth ydy’r broses a ddylai gael ei dilyn o ran eiriolaeth cleifion ac ati i sicrhau bod ateb yn cael ei ganfod?

Ac, yn olaf, sôn am gyffuriau ydym ni yn fan hyn. Cronfa triniaethau newydd ydy hon. Beth sy’n digwydd pan nad cyffur ydy’r driniaeth newydd ac o bosibl, ffurf newydd o ffisiotherapi neu beiriant drud, newydd o bosibl, a sut y gall y gronfa newydd hon fwydo i mewn pan mae angen triniaeth amgen?

Diolch i chi am dri maes o gwestiynau. Os gallaf ymdrin â'r pwynt ariannol yn gyntaf, yna—rydych chi’n iawn nad ydyw’r gronfa triniaethau newydd yno i dalu am holl gostau meddyginiaethau. Yn syml, ni fyddai’n gwneud hynny. Os gallaf nodi mewn rhyw fodd, yn ystod y tair blynedd diwethaf, mae gwariant ar feddyginiaethau newydd a argymhellir wedi cynyddu traean, o £186 miliwn i £247 miliwn y flwyddyn. Felly, ni fyddai modd i'r gronfa triniaethau newydd lenwi'r bwlch hwnnw. Mae hyn yn ymwneud â sicrhau bod meddyginiaethau ar gael, fel y dywedais, yn fwy cyson, o ran daearyddiaeth ac amserlenni. Rydym wedi llwyddo mewn gwirionedd i gyfyngu’r amserlenni ar gyfer y meddyginiaethau newydd a argymhellir drwy gyflwyno’r gronfa. Dyna yw holl ddiben ac ystyr y peth. Rydym yn cydnabod bod rhai amrywiadau posib na allech ac na ddylech, ar sail cyfiawnder, geisio byw gyda nhw. Felly, mae'r gronfa’n cyflawni yn ôl y diben a’r pwrpas ar hyn o bryd, ond, unwaith eto, fel y byddwch chi a phobl eraill yn yr ystafell yn ei wneud, byddaf yn chwilio am welliant pellach i sicrhau bod gennym gydymffurfiaeth lawn.

Ar eich pwynt chi am gyffuriau sy’n hŷn, mae dau bwynt yma— cyffuriau hŷn sy'n parhau’n ddewisiadau triniaeth dilys, a chyffuriau hŷn lle mae dibenion newydd wedi eu canfod. Ar y naill law, mae 'na bwynt ynglŷn â’r trwyddedu a’r argaeledd a sail y dystiolaeth ar gyfer defnyddio’r rheini mewn ffordd wahanol. Ond, tra bydd yn driniaeth glinigol ddilys o hyd, yna, unwaith eto, mae hynny’n ymwneud â chlinigwyr a’u dyletswydd i ddefnyddio eu crebwyll i ddarparu’r driniaeth glinigol fwyaf addas.

Mae dadl yr ydym wedi ei chael o’r blaen ar hepatitis C wedi bod yn enghraifft dda. A dweud y gwir, mae clinigwyr gyda’i gilydd, drwy lunio rhwydwaith effeithiol, gyda chefnogaeth a her cymheiriaid, wedi cytuno nid yn unig ar wahanol ffyrdd o wneud defnydd o feddyginiaethau newydd, ond am y brandio arbennig yn y rheini ynghylch y cyffuriau y maen nhw’n eu defnyddio i gyd. Mewn gwirionedd, maen nhw wedi lleihau’r bil cyffuriau ac, ar yr un pryd, wedi gwella effeithiolrwydd y driniaeth y maen nhw yn ei rhoi. Felly, nid yw'n golygu bod pob un arwydd sydd gennym yn golygu bod y cyffuriau sy’n hŷn yn cael eu hepgor. Mae’r cyffuriau hynny sy'n briodol yn aros ar y cyffurlyfr a mater i'r clinigwyr wedyn yw rhagnodi presgripsiynau cymwys a phriodol ar eu cyfer.

O ran eich pwynt ehangach ar y gronfa triniaethau newydd ar gyfer y materion hynny nad ydynt yn gysylltiedig â meddyginaethau, wel, rydym wedi ystyried y gronfa triniaethau newydd, ac eglurais mai darparu meddyginiaethau yw ystyr hyn mewn gwirionedd. Felly, mae dulliau eraill o driniaeth yn ymwneud â gweddill y cyllid o fewn y gwasanaeth iechyd gwladol, beth bynnag fyddo hynny, er enghraifft, mathau eraill newydd o radiotherapi neu gemotherapi, neu, er enghraifft, dechnegau llawfeddygol eraill newydd, neu’n fath o ffisiotherapi neu rywbeth arall, fel yr ydych wedi ei nodi. Ond, mewn llawer o'r meysydd hyn, mae’n ymwneud â sut rydym yn defnyddio’n gyson yr hyn yr ydym eisoes yn gwybod. A dyna yw cryn dipyn o'n her ni wrth inni wella ansawdd o ran profiad, ond hefyd o ran canlyniadau.

Os edrychwch, er enghraifft, ar y cynnydd sylweddol a wnaethom ym maes adsefydlu cardiaidd, nid yn sgil dysgu rhywbeth newydd y gwelwyd y gwelliant sylweddol hwnnw a groesawyd gan Sefydliad Prydeinig y Galon, ac arweiniodd atom yn cael ein henwi’n arweinwyr y byd yn y maes hwn, ond mewn gwirionedd roedd yn ymwneud â’r ffaith ein bod yn gweithredu’n fwy cyson, gan ddefnyddio tîm amlddisgyblaethol, er mwyn diwalllu’n well anghenion cleifion a oedd eisoes yn ddealladwy.

Felly, mae’r gronfa triniaethau newydd hon yn ymwneud â meddyginiaethau—cael gafael ar feddyginiaethau effeithiol yn gyflymach, yn fwy cyson. Mae'r materion eraill hynny’n heriau gwella ansawdd gwahanol i’n gwasanaeth, ac rwy'n siŵr y byddwch chi a minnau ac eraill yn dychwelyd atyn nhw ar lawer achlysur yn y dyfodol.

Diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'r gronfa triniaethau newydd wedi bod yn destun gobaith i lawer o ddioddefwyr canser, gan sicrhau bod cyffuriau fel Kadcyla ar gael fel mater o drefn i gleifion y GIG yng Nghymru. Wrth gwrs, nid dim ond cleifion canser fydd yn elwa ar y gronfa triniaethau newydd, a bydd yn ariannu rhagor na chyffuriau.

Ysgrifennydd y Cabinet, er fy mod yn croesawu cyflwyno’r gronfa, mae gennyf i rai cwestiynau am ddull gweithredu’r cynllun o ddydd i ddydd. Roedd clinigwyr a oedd yn goruchwylio’r gwaith o gyflwyno cyffuriau addasu clefydau ar gyfer cleifion MS yn datgan ei bod yn cymryd mwy na dwy flynedd ar ôl cymeradwyo Sativex cyn y gall cleifion ei gael, oherwydd nad oedd y seilwaith angenrheidiol yn ei le i weinyddu a monitro’r cyffur. Mae llawer o'r mathau newydd o feddyginiaeth sydd ar gael nawr yn gofyn am fonitro gofalus ac mae'n rhaid eu gweinyddu mewn gwely dydd. Ysgrifennydd y Cabinet, a fydd y gronfa driniaethau newydd yn sicrhau nad cost y feddyginiaeth yn unig fydd yn cael ei hystyried ond yn sicrhau hefyd bod y seilwaith yn ei le i ddarparu'r feddyginiaeth?

Wrth gwrs, bydd y cynllun yn ariannu’r 12 mis cyntaf yn unig o gostau’r driniaeth, gyda byrddau iechyd lleol yn gorfod talu cost barhaus y driniaeth. Ysgrifennydd y Cabinet, sut y bydd byrddau iechyd lleol yn dod yn ymwybodol o driniaethau newydd sydd yn yr arfaeth fel y gallant gynllunio ar gyfer anghenion ariannu i’r dyfodol? Mae’n profi’n anodd cael gwybod pa driniaethau sydd ar gael dan y cynllun. Ysgrifennydd y Cabinet, a oes gennych unrhyw gynlluniau i gyhoeddi rhestr o driniaethau sydd ar gael a gaiff ei diweddaru yn barhaus fel y gall cleifion fod yn glir ynghylch yr hyn sydd ar gael ac a yw eu bwrdd iechyd lleol yn cydymffurfio â'r gronfa?

A oes gennych unrhyw gynlluniau i gyhoeddi data yn rheolaidd ar weithredu’r cynllun, megis nifer y cleifion sydd wedi elwa, pa gyllid a ddyrennir i bob triniaeth, a faint o amser a gymerir rhwng cymeradwyo'r driniaeth a’r claf yn cael y driniaeth? Bydd y gronfa'n darparu byrddau iechyd gyda £16 miliwn y flwyddyn. Ysgrifennydd y Cabinet, sut fyddwch chi’n sicrhau y gwneir y mwyaf o’r gyllideb, a pha systemau sydd gennych ar waith i sicrhau nad yw unrhyw orwariant yn effeithio ar feysydd eraill o ofal cleifion?

Yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, mae prif swyddog meddygol Lloegr wedi dweud y dylid sgrinio genom cyfan cleifion canser er mwyn helpu i ddewis y driniaeth orau i’r claf. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a yw hynny’n rhywbeth y byddwch yn ei ystyried ac a allai'r gronfa driniaethau newydd gael ei defnyddio i ariannu’r gwaith o gyflwyno’r math hwn o sgrinio yn y lle cyntaf? Diolch. Diolch yn fawr.

Diolch am y sylwadau a’r cwestiynau. Y pwynt olaf yr wyf yn credu inni geisio ymdrin ag ef yn y datganiad a wneuthum yr wythnos diwethaf oedd ein dull ni o ymdrin â meddygaeth fanwl. Mae hwn yn fater gwahanol i'r gronfa triniaethau newydd, ac rwy'n credu bod hynny'n un y byddwn yn hapus i’w drafod yn fwy manwl gyda'r Aelodau yn y dyfodol. Byddwn yn lansio ein strategaeth meddyginiaeth fanwl dros yr haf, ac rwy'n siwr y bydd yn fater y bydd aelodau'r pwyllgor iechyd ac eraill yn cymryd diddordeb parhaol ynddo. Mae’n faes datblygu pwysig a chyffrous, ond, fel y dywedais i, nid dyna yw gwir ystyr a diben y gronfa triniaethau newydd.

Nawr, ar y pwynt a godwyd gennych chi ynglŷn â bod hyn nid yn ymwneud â chanser yn unig, dyna yw ein safbwynt ni yn union a dyna pam yr ydym yn dweud nad ydym yn gweithredu dull ar sail cyflyrau penodol. Nid ydym yn credu y dylem bennu gwerth uwch ar fywydau rhai cleifion yn y GIG yn fwy nag eraill yn ôl yr afiechyd sydd arnynt. Unwaith eto, dylem atgoffa pobl fod cronfa cyffuriau canser Lloegr wedi gwario dros £1.27 biliwn ac eto i gyd credant mai dim ond mewn tua un o bob pum achos y maen nhw’n gallu cyfiawnhau'r defnydd ohono. Felly, dyna yn fras £1 biliwn sydd wedi ei wastraffu neu wedi ei ddefnyddio’n wael. Rydym yn awyddus i osgoi’r math hwnnw o ddefnydd gwael o arian cyhoeddus yr wyf o’r farn y gallem gael ein barnu amdano ac y dylid ein barnu’n briodol am hynny pe byddem ni’n dewis y dull hwnnw o weithredu yng Nghymru.

Mae'r pwynt a wnewch am Sativex yn addysgiadol o ran ein bod wedi gwneud dewis, gyda'n priod broses werthuso, i gymeradwyo Sativex ar gyfer grŵp penodol o gleifion. Nid yw’r system yn Lloegr wedi cyrraedd y fan honno eto. Felly, yn yr ystyr hwnnw, mae budd gwirioneddol i gleifion yng Nghymru. Yr her felly yw gwneud yn siŵr fod yr holl seilwaith o amgylch y presgripsiynau a’r gefnogaeth yn bresennol ac yn ei le er mwyn y bobl y mae’n ddichonol briodol yn glinigol i roi Sativex ar brescriptiwn iddynt. Gwn fod heriau sy’n parhau o ran hyn: heriau, os mynnwch, oddi mewn i'r gwasanaeth sydd yn gyfan gwbl o fewn Cymru, ond hefyd y cleifion hynny sy'n mynd i weld ymgynghorwyr yn rhan reolaidd o'u triniaeth lle mae’r ymgynghorwyr hynny wedi eu lleoli yn Lloegr. A’r her i’r ymgynghorwyr hynny yw gwneud dewisiadau presgripsiwn ar gyfer pobl lle mae Sativex yn ddewis, ac mae heriau o ran yr ymgynghorwyr hynny sy’n dyheu neu’n barod i ragnodi presgripsiwn clinigol priodol. Ond ni ellir dweud yn syml ei fod yn gyffur ysgubol i bawb ag MS. Bydd yn rhaid iddo fod yn glinigol briodol a rhaid iddo fod yn brawf gwirioneddol o'r driniaeth i'w darparu, oherwydd ni fydd yn gweithio i bawb. Mae'n fater yn sicr yr wyf yn ei ystyried, ond, eto i gyd, mae'n addysgiadol o ran yr hyn yr ydym am geisio ei osgoi lle bynnag y bo modd gwneud hynny gyda'r gronfa triniaethau newydd i wneud yn siŵr bod yr heriau seilwaith hynny wedi cael eu deall yn iawn ac ymhell o flaen llaw.

Mae hefyd yn cyffwrdd a’ch pwynt am gynllunio gwasanaethau. Rhan o'r ffordd yr ydym wedi cyflwyno’r gronfa triniaethau newydd hon yw deall mai, yn y 12 mis cyntaf o gyflwyno triniaethau newydd, cyffuriau newydd, y 12 mis cyntaf yw'r rhai anoddaf i gynllunio ar eu cyfer, a deall bod hynny oherwydd y gost ychwanegol a ddaw a sut mae hynny wedyn yn cael ei gyllido yn briodol gydol oes y byrddau iechyd a’r ymddiriedolaethau perthnasol. Ond mae hefyd yn ymwneud â datblygu'r berthynas fwy aeddfed a ddisgrifiais â Chymdeithas Diwydiant Fferyllol Prydain. Cefais gyfarfod buddiol gyda nhw rai misoedd yn ôl pan wnaethom ni gytuno ar ddeall a rhannu mwy o wybodaeth gyda’r gwasanaeth ar driniaethau sydd yn yr arfaeth, a deall sut y gall y gwasanaeth gynllunio'n fwy effeithiol ar gyfer y rheini. Felly, dylai cleifion elwa, dylem wneud gwell defnydd o adnoddau cyhoeddus, ond hefyd dylai barhau i fod yn llesol i'r busnesau hynny hefyd, ar gyfer y cynhyrchion y maen nhw’n dymuno eu gwerthu i'r gwasanaeth.

Ar y pwynt olaf nad ydwyf wedi ymdrin ag ef hyd yn hyn, sef cyhoeddi gwybodaeth: nodais yn fy natganiad y byddaf yn cyhoeddi gwybodaeth ar ddiwedd toriad yr haf. Rhyddheir cyllid yn chwarterol, ac rwy’n disgwyl y byddaf yn cyhoeddi gwybodaeth o leiaf ddwywaith y flwyddyn. Ond byddaf yn rhoi ystyriaeth i a allem ni neu a ddylem ni gyhoeddi gwybodaeth yn fwy rheolaidd na hynny, ac mae hynny’n ymwneud mewn gwirionedd â deall y data sydd gennym a gwneud yn siŵr eu bod yn gadarn iawn. Ond rwy’n awyddus i sicrhau bod gwybodaeth yn parhau i gael ei rhoi i’r cyhoedd am y defnydd a wneir o'r gronfa driniaethau newydd a'r budd tebygol y gallai ac y dylai cleifion ledled Cymru fod yn ei gael.

Diolch. Yn gyntaf oll, hoffwn roi croeso twymgalon i’r datganiad hwn heddiw, ac i'r gronfa, a oedd yn addewid maniffesto, mae’n amlwg, ac yr ydym wedi ei gwireddu. Diolch byth na chawsom ein dargyfeirio i’r gronfa cyffuriau canser, fel y sefydlwyd yn Lloegr. Felly, rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn, fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi ei ddweud, fod y gronfa yn berthnasol i feddyginiaethau at bob cyflwr, fel bod pawb yn cael cyfle cyfartal; rwyf o’r farn fod hynny’n bwysig iawn. Cafodd y mater ynglŷn â chyffuriau MS ei grybwyll yn barod, ac mewn cyfarfod o gylch y bwrdd o Gymdeithas MS Cymru yr wythnos diwethaf. Hoffwn bwysleisio hefyd yr anhawster wrth gyflwyno'r cyffuriau oherwydd y diffyg seilwaith, efallai, ar gyfer eu cyflwyno nhw, gan fod hynny wedi ei fynegi’n gryf iawn gan gleifion a oedd yn bresennol yn y cyfarfod, am y gwir anhawster wrth gael gafael ar y cyffuriau a monitro'r cyffuriau. Ac ar gyfer rhai cyffuriau, mae angen sganiau MRI rheolaidd a phob mathau o faterion fel hynny. Rwy’n dymuno atgyfnerthu'r pwyntiau hynny.

Rwy’n croesawu’r ffaith bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi dweud y bydd yn cyhoeddi adroddiad ym mis Awst a fydd yn dangos i ble rydym yn mynd. Roeddwn hefyd â diddordeb yn ei ymateb i Rhun ap Iorwerth ynglŷn â chyffuriau, oherwydd roeddwn yn edrych ar y rhestr o gyffuriau ac yn sylwi bod sofosbuvir arni—triniaeth ar gyfer hepatitis C, fel y gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet ei grybwyll. Ac, mae’n amlwg, roedd y cyffur hwn ar gael yn 2015 ac mae bellach ar y rhestr o’r cyffuriau hyn. Felly, roeddwn yn meddwl tybed a allech chi egluro eto sut mae'r cyffuriau hyn yn cael eu trin fel y cyffuriau newydd yn y cynllun hwn.

[Anhyglyw.]—am sofosbuvir yn gyntaf a'r driniaeth ar gyfer hepatitis C, roedd dewis blaenorol unigol wedi ei wneud o ran y genhedlaeth benodol hon o gyllid, a’r arian a ryddhawyd yn benodol ar ei gyfer. Rydym yn siarad yn awr am sicrhau bod y cyffuriau hyn ar gael yn gyffredin ar draws y cynllun. Mae 'na her ynglŷn ag a ydym i ymdrin â chyffuriau ar sail unigol, fel yr ydym wedi ei wneud yn y gorffennol, neu a ydym yn ymdrin mewn gwirionedd â thystiolaeth eu proses ac yna’n gweld eu darparu nhw ledled y gwasanaeth. Byddwn i’n dal i ddweud mai cyffur cymharol newydd yw sofosbuvir o hyd, ac mae gennym rai sydd nawr yn gweld gwelliant sylweddol yn ansawdd eu bywydau o ganlyniad uniongyrchol i’r ddarpariaeth ohono. Eto, mae'n dychwelyd at yr enghraifft a roddais ynglŷn â sut mae clinigwyr hepatitis C wedi dod at ei gilydd i gytuno ar sut i ddefnyddio hynny, ac rydym mewn gwirionedd yn awr mewn sefyllfa well o ran sut yr ydym yn trin dinasyddion Cymru o ganlyniad uniongyrchol i hynny.

Ar eich pwynt ehangach am MS, eto, rwy’n cydnabod y broblem wirioneddol sydd yn bodoli yma o ran sut yr ydym yn paratoi ac yn ei darparu yn gyson ledled Cymru mewn modd sy'n dal i fod yn glinigol briodol, fel bod y meddyginiaethau yn cael yr effaith a ddymunir, a bod clinigwyr yn monitro eu cleifion yn briodol drwy hynny hefyd. Ond gwn fod problem barhaol y mae'r Gymdeithas MS wedi ei chodi gyda mi hefyd mewn cyfarfod diweddar o glinigwyr Cynghrair Niwrolegol.

Rwy'n hapus i ailadrodd eto ein bod wedi gwneud dewis y cawsom ein beirniadu amdano ar y pryd wrth beidio â dilyn y trywydd cronfa cyffuriau canser, nid yn unig o ran yr heriau moesegol, ond, mewn gwirionedd, oherwydd na allem fod yn siŵr o gwbl bryd hynny y byddai'n ddefnydd da o arian. Rydym bellach yn gwybod ei fod yn ddefnydd gwael iawn o arian, ac rwyf o’r farn y byddai wedi bod yn nid yn unig yn foesegol warthus, ond, wyddoch chi, gan ystyried y cyllid yr ydym yn ei wynebu’r tymor hwn, y realiti y byddwn yn gweld arian ar gyfer Llywodraeth Cymru a gwasanaethau cyhoeddus ehangach yng Nghymru yn lleihau flwyddyn ar ôl blwyddyn—pe byddem wedi dewis gwastraffu arian gwerthfawr ar wneud rhywbeth a oedd yn wleidyddol gyfleus ar y pryd, gallem fod a dylasem fod wedi wynebu pris uchel am wneud hynny. A chredaf ein bod wedi gwneud y peth iawn trwy wrthod gweithredu cronfa ar gyfer cyflyrau penodol. Yn sicr nid oedd unrhyw sail dystiolaeth i gefnogi defnydd y mwyafrif mawr o’r feddyginiaeth ac, unwaith eto, rwy'n falch iawn ein bod, yn gynnar y tymor hwn, yn cyflawni ar y maniffesto yr ydym wedi ei roi gerbron pobl Cymru ym mis Mai y llynedd.

7. 6. Datganiad: Diweddariad ar Wasanaeth Braenaru 111 y GIG yng Nghymru

Yr eitem nesaf yw datganiad gan yr un Ysgrifennydd Cabinet—Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd—ar ddiweddariad ar wasanaeth braenaru 111 y gwasanaeth iechyd, ac rydw i’n galw ar Vaughan Gething i wneud ei ddatganiad—Vaughan Gething.

Member
Vaughan Gething 16:43:00
The Cabinet Secretary for Health, Well-being and Sport

Diolch i chi, Llywydd. Rwy’n falch o gael y cyfle hwn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am wasanaeth braenaru 111 y GIG yng Nghymru. Mae hwn yn profi ymarferoldeb gweithredu gwasanaeth newydd ac integredig i helpu i ddiwallu anghenion gofal brys pobl.

Mae gwasanaeth 111 Cymru yn dod â gwasanaethau ymdrin â galwadau a brysbennu Galw Iechyd Cymru a gwasanaethau meddygon teulu y tu allan i oriau at ei gilydd mewn un gwasanaeth. Mae'n darparu nifer o gyfleoedd i symleiddio mynediad at wasanaethau i gleifion, ac yn cefnogi cyflawniad cynlluniau gofal sylfaenol i Gymru. Mae'r gwasanaeth yn cynorthwyo cleifion i wneud y dewisiadau cywir am ofal, yn y lle iawn, ar yr adeg iawn.

Mae'r gwasanaeth 111 newydd yn darparu cyngor iechyd a chymorth gofal brys drwy wasanaeth ffôn rhad ac am ddim. Mae hwn yn cyfeirio cleifion i’r gwasanaeth mwyaf priodol yn glinigol ar gyfer eu hanghenion. Dylai hyn ganiatáu i gleifion gael eu trin yn nes at adref, pan fyddai hyn, yn rhy aml yn y gorffennol, wedi bod mewn adran achosion brys, ac nid yw hwnnw bob amser y lle iawn ar gyfer eu gofal.

Lansiwyd model 111 Cymru ym Mwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg fis Hydref y llynedd, a chafodd ei ehangu i Sir Gaerfyrddin ym mis Mai 2017, eleni. Rydym eisoes wedi cael adborth cadarnhaol gan glinigwyr lleol, staff gweithredol ac, yn bwysicach, y cyhoedd sydd wedi defnyddio'r gwasanaeth.

Mae'r gwasanaeth 111 yng Nghymru yn wahanol i fodelau eraill y DU. Mae gennym gyfran lawer mwy o staff clinigol yn ein gwasanaeth nag mewn ardaloedd sylweddol o Loegr, er enghraifft. Mae’r gwasanaeth braenaru 111 yn ABM a Sir Gaerfyrddin yn dangos y gall y gwasanaeth gefnogi prosesau asesu, cyfeirio a rheoli cleifion yn fwy effeithiol, gan ddefnyddio amrywiaeth o weithwyr gofal iechyd proffesiynol mewn canolfan cymorth clinigol. Mae’r ganolfan honno yn defnyddio sgiliau meddygon teulu, nyrsys a fferyllwyr profiadol, sy’n gweithio mewn canolfan gyswllt glinigol, ac mae'r ganolfan yn weithredol yn ystod y cyfnodau prysuraf y tu allan i oriau. Mae gan y meddyg teulu yn y ganolfan swydd glinigol uniongyrchol wrth ymdrin â galwadau cymhleth, ac, yn hollbwysig, mae hefyd yn gweithredu fel goruchwyliwr, gan oruchwylio a rheoli ciwiau. Mae hefyd yn gweithredu fel adnodd ar gyfer y system gofal heb ei drefnu ehangach, er enghraifft, mae gan barafeddygon a chartrefi nyrsio linell uniongyrchol i 111 a gwelwyd manteision pendant i hyn.

Rhwng 4 Hydref y llynedd, pan lansiwyd y gwasanaeth gennym, a 30 Ebrill eleni, mae’r gwasanaeth yn ABM wedi ymdrin â mwy na 73,000 o alwadau. Mae mynediad at y gwasanaeth ers ei lansio wedi bod yn dda ac mae’r adborth gan gleifion, yn arbennig drwy’r cyfryngau cymdeithasol, wedi bod yn gadarnhaol. Rwyf hefyd yn falch o ddweud, yn lleol yn ABM a Sir Gaerfyrddin, bod y gwasanaethau meddygon teulu y tu mewn i oriau a staff yr adran achosion brys yn gadarnhaol am y gwasanaeth, ac yn bwysig nid oes unrhyw faterion o bwys o ran diogelwch cleifion.

Rydym wedi comisiynu gwerthusiad ffurfiol gan yr uned Ymgynghorwyr Economaidd Cyhoeddus a Chorfforaethol ar y cyd â Phrifysgol Sheffield, a disgwylir yr adroddiad hwnnw tua diwedd mis Gorffennaf. Bydd yr adroddiad hwnnw, ynghyd â'r wybodaeth werthfawr a gasglwyd gan y rhai sy'n cyflwyno’r gwasanaeth braenaru 111, yn ein helpu i nodi problemau y mae angen eu datrys cyn i unrhyw benderfyniad terfynol gael ei wneud am gyflymder ac amseriad cyflwyno hyn i Gymru gyfan. Pan lansiwyd y cynllun braenaru yng Nghymru, roeddem yn awyddus i ddatblygu ymhellach yr arferion da a’r mentrau sydd eisoes ar waith, a dysgu gwersi gan wasanaethau tebyg yn Lloegr ac yn yr Alban. Rydym yn awyddus i sicrhau bod gennym wasanaeth sy'n glinigol ddiogel a chadarn yng Nghymru. Bydd mabwysiadu'r dull braenaru yn ofalus yn sicrhau y gellir ymgorffori’r gwersi o'r gwerthusiad, ac y gellir rhoi ystyriaeth i gyngor gan glinigwyr a chleifion. Gall y rhain wedyn gael eu cynnwys wrth gynllunio ein model parhaol.

Rwy'n cydnabod bod rhagor eto i'w wneud os ydym am weithredu gwasanaeth cenedlaethol i gefnogi pobl Cymru gan ddefnyddio egwyddorion gofal iechyd doeth. Rwyf felly wedi gofyn i fwrdd y rhaglen 111 ddarparu cynllun cadarn i mi erbyn hydref eleni i symud y gwasanaeth yn ei flaen. Rwy'n disgwyl i’r cynllun hwnnw amlinellu dewisiadau ar gyfer sut y gallai'r gwasanaeth 111 weithredu ar ôl braenaru fel gwasanaeth cenedlaethol i gefnogi cleifion a'r GIG i drin cleifion ag anghenion gofal brys yn fwy effeithiol.

Rwy’n awyddus i’r cynllun hwn amlinellu swyddogaeth strategol y gwasanaeth 111 a'i swyddogaeth wrth wraidd ein system gofal heb ei drefnu yma yng Nghymru yn y dyfodol. Byddaf felly yn ystyried nifer o faterion, gan gynnwys: swyddogaeth bosibl y gwasanaeth 111 fel un pwynt mynediad ar gyfer gwasanaethau iechyd nad ydynt yn rhai brys, a'r potensial i integreiddio ymholiadau gofal iechyd eraill i 111 yn y tymor hwy; cytuno ar sut y gallai ehangu'r amrywiaeth o arbenigwyr a gyflogir yn y ganolfan cymorth glinigol gefnogi cleifion â chyflyrau cymhleth a phenodol yn well, er enghraifft, diabetes pediatrig ac iechyd meddwl; mesur yr adnoddau sydd eu hangen i ddarparu'r gwasanaeth dros dro ac yn y tymor hir; y cyfleoedd a'r arbedion maint a buddion eraill y gellir eu cyflawni drwy gydleoli canolfannau cymorth clinigol 111 â chanolfannau cyswllt clinigol Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru; y potensial i ehangu oriau agor y ganolfan er mwyn darparu mwy o gadernid a chefnogaeth i feysydd eraill y GIG; a datblygu cyfeiriadur o wasanaethau y cytunwyd arnynt ac a reolir yn genedlaethol, ynghyd â phlatfform digidol TG sy’n caniatáu ar gyfer galwadau Skype i weddnewid y ffordd y mae cleifion a gweithwyr proffesiynol yn rhyngweithio.

I gloi, fodd bynnag, rwy’n falch iawn o’r cynnydd sydd wedi ei wneud hyd yn hyn, ac yr wyf wedi ei weld drosof fy hunan ar ymweliad yn gynharach eleni, ac rwyf eisiau cydnabod gwaith caled y tîm 111 yn ganolog, ond yn arbennig y clinigwyr a’r staff gweithredol sy'n gwneud y gwaith hwn ac yn ei wneud yn gynllun treialu llwyddiannus hyd yn hyn. Mae'r gwasanaeth braenaru 111 wedi bod yn llwyddiant hyd yn hyn. Mae gwersi eisoes yn cael eu dysgu a'u hystyried wrth i gynlluniau gael eu datblygu ar gyfer eu cyflwyno yn y dyfodol. Fodd bynnag, mae angen gwneud nifer o benderfyniadau mawr o hyd, ond yr wyf wedi ei gwneud yn glir bod hyn yn ymwneud â gwneud pethau'n iawn, nid o reidrwydd eu gwneud yn gyflym. Credaf y bydd 111 yn rhoi cyfleoedd sylweddol i alluogi cleifion i gael y gwasanaeth mwyaf priodol ar gyfer eu hanghenion gofal, ar yr adeg iawn ac yn y lle iawn.

Ysgrifennydd y Cabinet, diolch yn fawr iawn am eich datganiad heddiw. Mae’r gwasanaeth hwn yn dal i fod yn ei ddyddiau cynnar, ac mae gennyf gwestiynau mewn tri maes penodol. Mae'r cyntaf yn ymwneud ag adnoddau, rhai dynol ac ariannol. Tybed a allwch chi roi ychydig mwy o drosolwg i ni ynghylch sut yr ydych yn bwriadu tynnu Galw Iechyd Cymru a gwasanaethau meddygon teulu y tu allan i oriau at ei gilydd, ar sail y profiadau yr ydych wedi eu cael yn ABM ac wrth gwrs yr ychydig iawn o fisoedd ers ei gyflwyno yn Sir Gaerfyrddin. Rwyf wedi cael nifer o gyfarfodydd â staff yn y meysydd hyn, a hefyd â staff ledled Cymru, ac yn un o'r meysydd sy'n cael ei nodi yn eithaf aml yw pa mor anodd yw hi i gael adnoddau dynol, i gael pobl, i gymryd rhan ar hyn o bryd yn Galw Iechyd Cymru. Mae teimlad ei fod yn brin o staff. Mae'n anodd recriwtio ac felly roeddwn i’n meddwl tybed beth fydd yn digwydd pan fydd y gwasanaeth hwn yn tynnu’r holl bobl hynny ynghyd. Sut ydych chi'n bwriadu gallu eu recriwtio? O ran yr elfen adnoddau ariannol, a allwch chi o bosibl roi trosolwg i ni o'r math o gost yr ydych yn ei rhagweld, oherwydd nid wyf yn glir pa un a ydych chi’n credu y bydd tynnu’r ddau wasanaeth hyn ynghyd yn rhoi cronfa o arian i chi a dyna’r hyn y byddwch yn ei wario? Byddwn i’n amau y gallai fod angen ymarferion ysgogi drwy fuddsoddiant arnoch i symud ymlaen â hyn.

Mae’r ail faes yr hoffwn i gael rhywfaint o eglurder yn ei gylch yn ymwneud â’r cyfeiriadur clinigol. Nodais yma fod posibilrwydd o ddatblygu cyfeiriadur o wasanaethau y cytunwyd arno ac a reolir yn genedlaethol, ynghyd â phlatfform TG digidol. Un o'r pethau yr wyf wir wedi eu nodi o’r prosiectau braenaru yw bod y cyfeiriadur o wasanaethau yn dra gwahanol ar gyfer y gwahanol feysydd, ac rwy’n rhagweld y bydd hynny'n parhau wrth ei gyflwyno ledled Cymru. Rwy’n pryderu os bydd hwn yn dod yn gyfeiriadur cenedlaethol o wasanaethau, pa hyblygrwydd y byddwch chi’n ei sefydlu yn y system i sicrhau ei bod yn adlewyrchu'r ardal leol, fel eich bod yn cael gafael ar gyfeiriaduron tra gwahanol o wasanaethau wrth ffonio yn Angle neu o ganol Caerdydd? Byddwch yn cael gafael ar, neu ddim yn cael gafael ar, nid yn unig yr hyn y byddwn i’n eu galw’n wasanaethau clinigol meddygol, ond cymorth arall hefyd y gallech fod yn cyfeirio pobl iddo, gan fod hyn yn ymwneud â lles cyffredinol hefyd. Felly, rwy'n awyddus iawn i archwilio gyda chi i weld sut yr ydych yn rhagweld y bydd y cyfeiriadur o wasanaethau clinigol hwnnw yn datblygu. Rwy'n hynod bryderus na fydd un cyfeiriadur sydd â’r bwriad o weddu i bawb yng Nghymru mewn gwirionedd yn gwneud yr hyn y gallem ei wneud yn llwyddiannus iawn gyda hyn, sef galluogi pobl i’w ddeall. Rwy’n credu yr hoffwn i ddangos hynny drwy ddweud fy mod i wedi cwrdd â nifer o glinigwyr sydd wedi dweud, ‘Waw, nid oeddem ni’n sylweddoli tan i’r gwasanaethau braenaru hynny ddod at ei gilydd nad oedd rhai ohonom yn sylweddoli ein bod yn gallu cynnig hyn neu’n gwneud y llall.’ Felly, os nad yw’r clinigwyr yn gwybod hyn, sut y mae'r person yn y stryd i wybod?

Yn olaf, rydych chi’n sôn eich bod yn gofyn i ryw sefydliad, yr uned Ymgynghorwyr Economaidd Cyhoeddus a Chorfforaethol, i gael golwg arno a’i werthuso. Roeddwn i’n meddwl tybed a oes gennych chi unrhyw sylwadau yn y cyfamser y gallech eu rhannu ar sut yr ydych chi’n credu y mae pethau wedi mynd a pha adborth yr ydych chi’n ei gael ar hyn o bryd naill ai o ABM neu yn wir o Sir Gaerfyrddin. Mae peth o'r adborth yr wyf i wedi’i gael wedi bod yn gadarnhaol iawn, ond mae rhai tyllau amlwg, a byddai gennyf ddiddordeb mewn cael gwybod beth yw eich adborth chi. Diolch.

Diolch am y sylwadau a'r cwestiynau yna. Mi ddof i’n ôl, os mynnwch chi, i’r rhan olaf a’r rhan gyntaf a cheisio eu hateb gyda’i gilydd. Ynglŷn â’r pwynt am adnoddau ariannol, bu angen rhaglenni ysgogi drwy fuddsoddiant i gael y gwasanaeth i weithio, oherwydd mai gwasanaeth ychwanegol yw hwn mewn rhai ffyrdd, ond rydym hefyd yn ceisio dwyn ynghyd y pethau sy'n bodoli eisoes. Felly, mae’n ymwneud â sut y defnyddir cyllidebau cyfredol, ond hefyd â sut yr ydym yn cael pobl i'r lle iawn.

Mae'r pwynt am y cyfeirlyfr o wasanaethau wedi’i wneud yn dda, ac mi wnes i geisio cyfleu yn fy natganiad yr heriau a'r cwestiynau a nodir am ddewisiadau i mi yn ogystal â'r gwasanaeth o ran sut yr ydym yn bwrw ymlaen â hyn. Gallwch ddeall yr atyniad o gael cyfeiriadur cenedlaethol o wasanaethau er mwyn eich galluogi i gyflawni cysondeb, wedi ei gydbwyso â’r pwynt a wnewch ar y llaw arall am beth yw hyblygrwydd a’r ddealltwriaeth o hynny. Un o'r pethau yr ydym yn eu gweld yn rheolaidd yw nad yw’r clinigwyr, wrth gwrs, yn gwybod popeth. Sut y gallen nhw wybod am bob rhan unigol o'r gwasanaeth a gaiff ei ddarparu mewn ardal bwrdd iechyd, heb sôn am ledled y wlad? Rwy'n credu weithiau nad yw’n ymwneud â pha un a yw clinigwyr yn gwybod hynny i gyd; mae'n ymwneud â sut yr ydych yn cael gwybodaeth i'r person sy’n cynghori'r aelod o'r cyhoedd. Yn yr un modd, nid ydym yn disgwyl i'r aelod o'r cyhoedd wybod pob un peth am sut mae'r system gwasanaeth iechyd a gofal yn gweithio. Mae'n ymwneud â sut yr ydym yn helpu'r person hwnnw i ddod o hyd i’w ffordd drwy’r system honno ac i wneud y dewisiadau cywir, oherwydd bod yr aelod hwnnw o'r cyhoedd yn dal i wneud dewis ynglŷn â beth i'w wneud.

Ond rwy'n credu mai’r peth mwyaf calonogol—mae hyn yn dod yn ôl at eich pwynt cyntaf a'ch pwynt olaf—y peth sydd fwyaf calonogol yw bod gennym wasanaeth a gynlluniwyd mewn modd gofalus, a oedd yn deall bod rhywbeth mewn rhannau o Loegr lle yr oedd wedi cael y cyhoeddusrwydd mwyaf negyddol, yn ymwneud â deall y model, bod â digon o glinigwyr i dderbyn yr alwad a chynghori ar y pwynt cyntaf, i sicrhau bod cyngor o ansawdd uchel yn cael ei roi—nid oedd yn ymwneud â dim ond ailgyfeirio pobl i adran achosion brys. Byddwch chi wedi gweld, rwy'n siŵr, adroddiadau diweddar yn ystod yr wythnosau diwethaf, fod pryder o hyd, mewn rhai rhannau o Loegr, mai dyna beth sy'n digwydd. Ond rydym wedi dysgu yn uniongyrchol gan gydweithwyr yn Lloegr, ond o'r Alban hefyd, lle maen nhw’n defnyddio dull ychydig yn fwy gofalus.

Ond, yng Nghymru, rydym ni wedi dwyn ynghyd pobl sy'n rhedeg gwasanaethau y tu allan i oriau. Mae Steve Bassett, yn arbennig, wedi bod yn bwysig iawn, ac oherwydd bod clinigwyr yn gweld arweinwyr clinigol eraill yn dwyn pethau at ei gilydd ac yn cael y sgyrsiau hynny, mae wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i lefel y gefnogaeth a gawsom ar y cychwyn. Yn sgil amheuaeth, nid mor bell yn ôl a hynny, am ba un a fyddai hyn yn gweithio mewn gwirionedd, nid ymhlith y cyhoedd yn unig, ond o fewn y gymuned glinigol hefyd. Felly, cynhaliwyd gwiriad synnwyr gan Steve Bassett, a gan Linda Dykes, sy’n feddyg ymgynghorol yn yr adran achosion brys yn y gogledd, ond sydd hefyd yn gweithio fel meddyg teulu—mae hi’n gallu gweld dwy ochr, os mynnwch chi, y rhaniad rhwng gofal sylfaenol ac eilaidd. Mae hi’n dal i weithio ar sut i ddod ag elfennau o'r gofal hwnnw at ei gilydd yn y gogledd hefyd. Felly, roedd hynny yn bwysig, unwaith eto, gyda'r gefnogaeth a'r hygrededd sydd ganddi.

Ond yr hyn sydd fwyaf calonogol yn hyn i gyd yw, oes, mae angen i chi ddod â’r bobl hynny at ei gilydd i sicrhau bod y ganolfan cymorth glinigol ac ansawdd y gofal sy'n cael ei ddarparu o bell yn cael eu cyflawni mewn gwirionedd, ond hefyd, rydym wedi cael sylwadau cadarnhaol iawn gan adrannau achosion brys am y ffaith bod hyn wedi bod yn rhywbeth da. Mae Andy MacNab, ymgynghorydd arweiniol ar gyfer meddygaeth frys yn Abertawe, wedi dweud ei fod yn credu ei fod yn rhywbeth da ac nad ydyn nhw wedi gweld adwaith amhriodol mewn niferoedd o ran y bobl sy'n cael eu hanfon yn amhriodol atyn nhw, neu ddim yn cael eu hanfon atyn nhw hefyd.

Felly, wrth i ni fynd drwy'r gwerthusiad, dyna’r hyn yr wyf yn disgwyl ei ddeall—i weld beth sydd wedi dod ohono—gan fod fy adborth anecdotaidd wedi bod yn gadarnhaol hyd yn hyn gan staff unigol, gan dîm y prosiect a’r niferoedd maen nhw’n eu gweld. Mae'n gadarnhaol iawn. Y grŵp Ymgynghorwyr Economaidd Cyhoeddus a Chorfforaethol yw’r un bobl a werthusodd y model ambiwlans newydd, hefyd. Rwy'n gobeithio y bydd hynny yn rhoi rhywfaint o ffydd i’r Aelodau. Mae hyn yn rhywbeth pan eich bod yn gweld gwerthusiad gwahanol sydd wedi edrych yn feirniadol ar yr hyn sydd wedi ei wneud, wedi siarad am y pethau hynny sydd wedi eu gwneud yn dda, ond, ar yr un pryd, wedi rhoi sylw i’r meysydd i'w gwella. Dyna'n union yr hyn yr ydym yn dymuno ei gael o’r gwerthusiad, ac fe helpodd hynny i fy arwain i a'r gwasanaeth ehangach wrth wneud dewisiadau a darparu cyngor, a byddaf, wrth gwrs, yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am hynny i'r Aelodau maes o law.

Rydych wedi disgrifio sut y mae'r gwasanaeth 111 yn gweithio, ac, ar gyfer y cofnod, rwy'n credu ei fod yn syniad da, ac edrychaf ymlaen at fesur ei lwyddiant yn y dyfodol. Rydych yn dweud y bu’r gwasanaeth braenaru yn llwyddiant hyd yn hyn, ond bydd ei lwyddiant, wrth gwrs, yn cael ei fesur yn ôl ei ganlyniadau. Rydych yn dweud wrthym y gwnaed 73,000 o alwadau i'r gwasanaeth yn ABM rhwng mis Hydref 2016 a mis Ebrill 2017, ond, unwaith eto, y canlyniadau sy'n bwysig. Pa effaith y mae hynny wedi ei chael, er enghraifft, ar nifer y cleifion sy'n mynd i adrannau achosion brys? Fe wnaethom ddamcaniaethu, wrth lansio hyn, a dymuno pob llwyddiant iddo, pe byddai wedi bod yn fethiant llwyr, y byddai mwy na thebyg yn arwain at gynnydd yn nifer y cleifion sy'n mynd i adrannau achosion brys. Rwy'n cymryd yn ganiataol o'r hyn yr ydym yn ei glywed yn y diweddariad hwn, nad yw hynny yn bendant wedi digwydd, ond mae angen i ni wybod beth yw'r dystiolaeth. Mae angen i ni allu mesur effaith 111, nid dim ond mesur yr adborth cadarnhaol, er mor bwysig yw hynny, ar gleifion yn y rhan honno o Gymru.

Rydych chi’n dweud wrthym fod gwersi wedi eu dysgu. Efallai y gallech chi roi blas o ba wersi a ddysgwyd, ac, er cymaint yw’r pleser o’ch cael chi yn gwneud datganiad arall i ni y prynhawn yma—yr ail mewn byr amser—rydych yn dweud wrthym fod gwerthusiad ffurfiol wedi ei gomisiynu gan yr uned Ymgynghorwyr Economaidd Cyhoeddus a Chorfforaethol ar y cyd â Phrifysgol Sheffield ac y disgwylir hyn tua diwedd mis Gorffennaf. Pam gwneud datganiad nawr?

O ran gwneud datganiad nawr, ymrwymais i wneud datganiad cyn diwedd toriad yr haf, felly rwy'n cyflawni'r ymrwymiadau yr oeddwn wedi’u gwneud yn flaenorol. Byddwn i wedi meddwl bod hynny yn beth da i Weinidog ei wneud.

Nawr, edrychwch, o ran y gwerthusiad—y pwynt ehangach—rydym eisoes wedi cael adborth cadarnhaol iawn. O ran yr arolygon cychwynnol sydd wedi eu cynnal, mae dros 90 y cant o gleifion yn dweud eu bod yn hapus gyda'r gwasanaeth maen nhw wedi'i gael. Felly, mae hwnnw'n fan cychwyn da, ond mae’r gwerthusiad ffurfiol yn bwysig iawn i fynd yn ddyfnach i’r mater, a byddwn i’n disgwyl y bydd gan yr Aelodau ddiddordeb mewn gweld y gwerthusiad pan gaiff ei gyhoeddi. Bydd rhagor o gwestiynau i ni edrych arnynt, boed hynny yn y fforwm hwn neu mewn pwyllgor, oherwydd bod angen i mi ddeall, cyn i mi wneud dewisiadau yn yr hydref ynghylch dyfodol y gwasanaeth, yr effeithiau gwahanol o ran y broses o gyflwyno a sut y gallai rhaglen weithio, ond hefyd y dewisiadau a wnawn, i gyfeirio yn ôl at sylwadau Angela Burns ynghylch cyfeirlyfr o wasanaethau, ond hefyd i fod â dealltwriaeth fanylach o’r effaith ar draws y system gyfan. Fel y dywedais, mae'n dda iawn cael adborth uniongyrchol gan rywun fel Andy MacNab, sy’n gweithio mewn adran achosion brys brysur iawn, a deall nad yw hyn wedi arwain at gynnydd sylweddol yn y niferoedd sy'n dod i mewn—yn sicr y nifer sy'n dod i mewn yn amhriodol. Bydd rhagor o’r manylion hynny yn y gwerthusiad.

Er fy mod i'n siŵr eich bod yn falch iawn o gael datganiad arall gennyf, rwy’n gobeithio, yn y dyfodol, pan fyddaf yn gwneud rhagor o ddewisiadau yn yr hydref, y byddaf yn sôn am y rhesymau dros wneud y dewisiadau ar yr adeg benodol honno i gael yr hyn rwy’n credu y bydd yn cael effaith barhaus ar draws ein system gofal heb ei drefnu. Gan ein bod ni yn gwybod y bydd gadael pethau yn union fel y maen nhw—eu gadael gyda Galw Iechyd Cymru, a’u gadael gyda’r gofal sylfaenol y tu allan i oriau ac adrannau achosion brys—nid yw hynny’n diwallu anghenion y bobl sydd ag anghenion gofal gwirioneddol. Mae'n ymwneud â sut yr ydym yn rheoli’r anghenion hynny, sut yr ydym yn ymdrin â nhw yn gywir ac yn briodol, yn y ffordd orau, i wneud defnydd o'r adnoddau sydd gennym eisoes. Rwy'n credu mai un o'r gwersi allweddol yw bod ein dull cyffredinol o gael rhagor o glinigwyr yn y tîm hwnnw yn y ganolfan wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, a’i fod, mewn gwirionedd, wedi gwneud gwahaniaeth mawr iawn i bobl mewn gofal sylfaenol hefyd, sy'n teimlo eu bod wedi’u cefnogi yn llawer gwell, a bod ein gallu i staffio’r grŵp penodol hwnnw wedi gwella. Felly, ceir manteision gwirioneddol. Nid oes angen i chi dderbyn fy ngair i am hynny; bydd clinigwyr yn dweud hynny hefyd, a chawn weld beth y bydd y gwerthusiad yn ei ddweud maes o law.

Diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'r gwasanaeth 111 wedi cael derbyniad da gan lawer o fy etholwyr i sydd wedi elwa ar y gwasanaeth braenaru. Fodd bynnag, mae cryn dipyn o etholwyr yn dal heb fod yn ymwybodol o'r gwasanaeth, ac er fy mod i’n sylweddoli mai megis dechrau y mae’r cynllun, mae’n rhaid i ni sicrhau bod etholwyr anodd eu cyrraedd yn ymwybodol o'r gwasanaeth. Rwy’n falch o weld eich bod yn ystyried cyflwyno’r gwasanaeth yn ehangach, ac edrychaf ymlaen at weld canlyniadau'r gwerthusiad ffurfiol.

Fel y mae Arolwg Cenedlaethol diweddar Cymru yn dangos i ni, mae un o bob pedwar o'r cyhoedd yng Nghymru yn ei chael hi’n anodd trefnu apwyntiad gyda meddyg teulu, sy'n rhoi pwysau ar wasanaethau y tu allan i oriau. Mae'r gwasanaeth 111 yn mynd i'r afael â’r broblem hon, a gorau po gyntaf y gallwn ei gyflwyno i weddill Cymru. Ysgrifennydd y Cabinet, beth yw'r prif rwystrau sy'n atal cyflwyniad ehangach y gwasanaeth ar hyn o bryd?

Rydych chi’n sôn am y gwaith o ddatblygu platfform digidol i ganiatáu sgyrsiau ar ddull Skype. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych chi’n gweld fideo-gynadledda yn chwarae mwy o ran mewn gofal sylfaenol, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig? A sut y gallwn ni wella ein seilwaith i wneud mwy o ddefnydd o’r gwasanaethau protocol llais dros y rhyngrwyd yn y dyfodol?

Yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, rydych chi wedi gofyn i fwrdd y rhaglen am gynllun cadarn ar gyfer ei gyflwyno’n ehangach erbyn yr hydref. Beth ydych chi'n rhagweld fydd yr amserlen ar gyfer cyflwyniad cyflawn o’r gwasanaeth ym mhob ardal bwrdd iechyd lleol? Edrychaf ymlaen at weithio gyda chi i sicrhau bod y gwasanaeth hwn, sy’n ategu yn fawr iawn ein gwasanaethau gofal sylfaenol a gofal brys, ar gael i bob unigolyn yng Nghymru. Diolch yn fawr.

Diolch am y sylwadau a’r cwestiynau. Rwy'n falch bod cydnabyddiaeth o wasanaeth arloesol y mae’r Aelod yn cydnabod bod ei hetholwyr wedi gwneud sylwadau cadarnhaol amdano. Mae, wrth gwrs, yn wasanaeth arloesol sydd wedi’i leoli yn ardal ABM, a Sir Gaerfyrddin yn dechrau’n ddiweddarach, felly arloesi gwirioneddol sy’n dechrau yn y de-orllewin a chanol gorllewin Cymru. Yr her bob tro yw deall yr hyn y mae angen ei wneud cyn dechrau’r broses o gyflwyno mewn gwirionedd, ac roedd yn rhaid i ni wneud newidiadau. Os byddem yn syml wedi ceisio gweithredu'r system gyda'r hen system gofal sylfaenol y tu allan i oriau, Galw Iechyd Cymru, ni fyddai wedi gweithio. Mae angen i ni gael cefnogaeth clinigwyr, felly mewn gwirionedd mae’n rhaid i ryw ymdrech fynd i mewn i hynny. Dylai fod yn hawdd, os ydym am gyflwyno'r gwasanaeth yn ehangach, cael y math yna o gefnogaeth yn sgil gwasanaeth braenaru llwyddiannus, ond mae heriau eithaf sylweddol cyn hynny. Mae angen i ni ddeall, o safbwynt ariannu a recriwtio, sut i roi rhagor o bobl yn y canolfannau cyswllt clinigol, i sicrhau ein bod yn dysgu gwersi o'r sgriptiau a roddir i bobl eu defnyddio ac arwain pobl wrth ddefnyddio'r gwasanaeth, a sicrhau ein bod yn deall bod gennym gefnogaeth wirioneddol gan bobl o bob rhan o’r system iechyd a gofal, os ydym am gyflwyno hyn yn genedlaethol.

Ni fyddai'r cyflwyno yn digwydd ar un adeg benodol drwy wthio swîts, rwy’n credu, i fynd ledled y wlad wedyn ar un pwynt mewn amser. Rwy'n credu y byddai hynny’n ffôl, a byddem mewn perygl o geisio cyflawni'r hyn sy’n edrych fel arloesedd a gwelliant i’r gwasanaeth a’i danseilio trwy fynd ar y trywydd hwnnw. Felly, mae’n rhaid cael cyflwyniad priodol a threfnus. Dyna pam y nodais yn fy natganiad fy mod i wedi gofyn i fwrdd y rhaglen ddod yn ôl ataf gyda chynllun cadarn ar sail gwerthusiad i ddeall y dewisiadau sydd ar gael i ni. Bydd angen i mi roi gwybod i'r Aelodau yn yr hydref ar ôl i mi gael y cyngor hwnnw pan fyddaf yn gallu dangos y llwybr a fydd yn cael ei gymryd i gyflwyno'r gwasanaeth hwn yn ehangach.

Y pwynt arall nad wyf wedi ei ateb yw eich pwynt ynglŷn â thelefeddygaeth. Credaf fod gan bob rhan o delefeddygaeth botensial enfawr ledled Cymru, nid fideo-gynadledda yn unig, ac nid dim ond i Gymru wledig, mewn gwirionedd, i wella ansawdd y gofal, ac yn enwedig ansawdd y profiad i gleifion unigol. Rydym yn gweld hyn mewn rhai rhannau o'n system eisoes—yng ngofal y llygad, er enghraifft, gan drosglwyddo delweddau mewn ffordd sy’n wirioneddol gadarnhaol i gleifion ac yn dda i’r gwasanaeth, ond gan hefyd gyflawni gwell effeithlonrwydd i ddinasyddion sy’n defnyddio’r gwasanaeth, yn ogystal â'r staff oddi mewn iddo. Felly, mae potensial gwirioneddol, nid yn y maes hwn yn unig, ond ar draws ein system iechyd a gofal gyfan ac mae angen gwneud hynny ar sail fwy cyson a thaer.

8. 7. Dadl: Ystyried yr Achos dros Drethi Newydd yng Nghymru

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1 a 2 yn enw Paul Davies.

Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r ddadl ar ystyried yr achos dros drethi newydd, ac rydw i’n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid i wneud y cynnig—Mark Drakeford.

Cynnig NDM6352 Jane Hutt

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod Deddf Cymru 2014 yn caniatáu ar gyfer creu trethi Cymreig newydd.

2. Yn cydnabod y bydd gofyn profi’r agwedd newydd hon ar y peirianwaith datganoli.

3. Yn croesawu ystod eang o syniadau ynglŷn â sut y gellid defnyddio’r posibiliadau cyllidol newydd hyn yng Nghymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Member
Mark Drakeford 17:05:00
The Cabinet Secretary for Finance and Local Government

Diolch yn fawr, Llywydd. Mae wedi ymddangos i mi erioed bod gan bob tymor Cynulliad ei gymeriad ei hun a’i gyfraniad arbennig i'w wneud at daith datganoli. Ymhlith nodweddion diffiniol y pumed Cynulliad, rwy’n credu, bydd ymgymryd â’n cyfrifoldebau cyllidol newydd. Mae llawer iawn o amser wedi’i dreulio yn y flwyddyn gyntaf hon—ac, yn fy marn i, wedi’i dreulio yn fuddiol—ar lawr y Cynulliad ac yn y pwyllgor, i sicrhau fframwaith cyllidol i Gymru, craffu ar ddau Fil treth newydd a chytuno arnynt, sefydlu Awdurdod Cyllid Cymru, a rhoi ar waith y gyfres gyntaf o drefniadau ar gyfer goruchwyliaeth annibynnol y cyfrifoldebau newydd hyn. Mae dadl y prynhawn yma’n tynnu sylw at linyn pellach yn y posibiliadau newydd hyn ar gyfer Cymru, oherwydd pan gyhoeddwyd ein fframwaith a’n cynllun gwaith ar gyfer polisi treth ym mis Mehefin, roedd y cynllun yn cynnwys ymrwymiad i brofi pŵer Deddf Cymru 2014, sy'n galluogi Cymru i wneud yr achos o blaid trethi datganoledig newydd a chynnig y trethi hynny.

Nawr, Llywydd, yn sicr nid yw’r broses ar gyfer cyflwyno treth newydd yng Nghymru yn un syml. Mae Rhan 4A newydd wedi’i chyflwyno i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Cymru 2014. Mae'r Rhan hon yn caniatáu pennu trethi datganoledig ychwanegol, ond mae angen Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor i wneud hynny. Ac er mwyn gwneud Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor, mae'n rhaid i’r Cynulliad Cenedlaethol a dau Dŷ'r Senedd ei gymeradwyo. Mae'r ffordd yr ydym yn dechrau arni heddiw, felly, yn anochel yn un hir, ond unwaith y bydd treth ddatganoledig newydd wedi'i phennu, bydd gan y Cynulliad Cenedlaethol gymhwyster i ddeddfu wedyn yn y maes hwnnw yn y ffordd arferol.

Mae'r papur gorchymyn a gyhoeddwyd ochr yn ochr â Deddf Cymru 2014 yn nodi'r meini prawf y byddai Llywodraeth y DU yn eu defnyddio i asesu unrhyw dreth newydd a'r wybodaeth y byddai angen ei chyflenwi i ategu unrhyw gynnig. Cyn belled ag y mae’r profion dan sylw, maent yn cynnwys i ba raddau y mae unrhyw dreth newydd yn effeithio ar bolisi macro-economaidd neu ariannol y DU, i ba raddau y mae'n cynyddu'r risg o osgoi talu treth, ac i ba raddau y mae'n creu baich cydymffurfio ychwanegol i fusnesau ac unigolion. O ran y wybodaeth y byddai'n rhaid ei darparu, byddai angen i Lywodraeth Cymru gynnwys manylion llawn y gweithgaredd trethadwy; amcangyfrif o’r effaith ar refeniw a'r economi; yr incwm amcangyfrifedig ar refeniw yn y DU neu ryngweithio â threthi’r DU gyfan; yr effeithiau disgwyliedig ar fusnesau ac unigolion; asesiad yn erbyn pob deddfwriaeth a chyfarwyddeb berthnasol; a chynlluniau cydymffurfio a chasglu.

Nawr, er gwaethaf y rhestr eithaf brawychus honno, rwy'n dal i gredu ei bod yn bwysig ein bod ni, fel rhan o waith y tymor Cynulliad hwn, yn profi’r posibilrwydd newydd hwn ac yn gweld sut y byddai'r systemau y mae Deddf Cymru 2014 yn eu rhoi ar waith yn gweithio yn ymarferol.

Tybed, wrth i’r Gweinidog amlinellu’r ystod honno o feini prawf sy’n gorfod mynd heibio i Dŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi—ac mae’n hollol iawn y byddent am graffu ar hyn, neu yn ei eiriau ef, y byddem yn dymuno profi'r system—y pryder yw ei bod yn swnio'n debyg i hen broses y Gorchymyn cymhwysedd deddfwriaethol mewn rhai ffyrdd, gan ei bod yn hynod simsan, ac y gallai fod gan y naill Dŷ Seneddol neu’r llall ddehongliad gwahanol iawn i ni o'r hyn a allai fod yn dreth addas a chymesur sydd o fewn y cymwyseddau datganoledig, ac nad yw’n creu risg o beidio â chydymffurfio, nac yn rhoi beichiau gormodol ar fusnesau.

Wel, Llywydd, rwy’n tueddu i gytuno â'r hyn y mae'r Aelod wedi’i ddweud. Mae’n bosibl iawn y byddai’n well gennyf pe bai ein dwylo’n fwy rhydd a bod y Cynulliad hwn yn gallu gwneud penderfyniadau am ddyfodol polisi treth yng Nghymru heb rhai o'r cyfyngiadau hyn. Ond, yn union fel yn y broses LCO, weithiau mae'n rhaid ichi ddechrau â’r system sydd gennych ac, yn eithaf buan, wrth ei defnyddio, efallai y bydd rhai o'i diffygion yn dod i'r amlwg, ac y daw system lai beichus i'r amlwg. Ni fyddwn yn gwybod hynny oni bai ein bod yn profi’r system, a dyna beth yr wyf i’n cynnig ein bod yn dechrau gweithio arno y prynhawn yma.

Mae syniadau ar gyfer trethi newydd yng Nghymru wedi cael eu cyflwyno gan nifer o unigolion a sefydliadau ers i Ddeddf Cymru 2014 gael Cydsyniad Brenhinol. Roedd adroddiad 2016 y Sefydliad Bevan ‘Treth er Budd’ yn amlinellu wyth treth bosibl i Gymru—o drethi iechyd y cyhoedd, fel treth gwelyau haul a threth pecynnu cludfwyd i dreth gwerth tir a threth dŵr. Rwy’n ddiolchgar iawn i Sefydliad Bevan am wneud y cyfraniad cyntaf i’r ddadl newydd hon. Nid wyf yn meddwl y byddent yn disgwyl y byddai cwmpas ein hystyriaeth wedi’i gyfyngu i'r syniadau a amlinellwyd ganddynt, a hoffwn chwilio y tu hwnt i'r ymchwil hwnnw am syniadau eraill sy'n cefnogi ein hymrwymiad i degwch, lles a thwf. Felly, cafwyd awgrymiadau eisoes am drethi newydd i gefnogi gwasanaethau Cymru, fel treth i ariannu gofal cymdeithasol—syniadau a gyflwynwyd gan Gerry Holtham ac Eluned Morgan, yr wyf yn awyddus i’w hystyried fel rhan o'r ddadl hon. Mae cynigion treth eraill yn dechrau o uchelgais i ddefnyddio dulliau cyllidol i leihau arferion niweidiol fel targedu bancio tir drwy osod ardoll ar dir heb ei ddefnyddio, ac rwy’n bwriadu cymryd diddordeb penodol yn yr ardoll tir gwag a gyflwynwyd yn ddiweddar yng Ngweriniaeth Iwerddon.

Mae trethi newydd hefyd yn rhoi cyfle inni, Llywydd, adeiladu ar gryfderau Cymru. Gallem ystyried trethi sy'n anelu at gynyddu ein lefelau ailgylchu, neu edrych ar y dreth twristiaeth sydd wedi ei chynnig yn yr Alban. Fel rhan o'r broses hon, rwy'n awyddus iawn i glywed syniadau gan bob Aelod yn y Siambr hon, heddiw a dros fisoedd yr haf, a byddaf yn gofyn i randdeiliaid eraill am eu syniadau hefyd. Hoffwn ddechrau sgwrs ynglŷn â’r trethi newydd hyn â phleidiau gwleidyddol, â’r cyhoedd, busnesau a sefydliadau ledled Cymru. Hoffwn glywed sut y gallai trethi newydd weithredu ochr yn ochr â dulliau polisi eraill i sicrhau gwelliannau ar gyfer ein cymunedau. Yn anarferol, efallai, Llywydd, wrth eistedd yma yn y Siambr y prynhawn yma, rwyf wedi derbyn e-bost gan aelodau o'r cyhoedd yn amlinellu syniadau newydd eraill y gallem feddwl amdanynt yn y maes hwn. Mae hynny'n bwysig iawn imi oherwydd hoffwn i wneud edrych ar drethi drwy lygaid y trethdalwr yn ganolog i'r ffordd yr ydym yn datblygu polisïau treth yng Nghymru.

Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog. Hoffwn ddeall—oherwydd dywedodd ar y dechrau ei fod yn dymuno profi’r system hon yn y Cynulliad hwn. O gofio bod yna broses eithaf cymhleth, fel y clywsom, yn y Senedd, ac o ystyried nad oes, ar hyn o bryd, gyda'r holl wahanol syniadau treth hyn, un dreth amlwg, glir sy'n ennyn llawer iawn o drafodaeth na chefnogaeth ymysg y cyhoedd—er fy mod yn mynd i sôn am un yr wyf yn meddwl y gallai gael rhywbeth i'w wneud â hynny—sut y mae'n meddwl ei bod yn ymarferol profi hyn yn drylwyr yn ystod y Cynulliad hwn?

Wel, Llywydd, y llwybr yr wyf yn ei gynnig y prynhawn yma yw ein bod yn dechrau ar y ddadl yma heddiw; ein bod yn casglu syniadau ymhellach yn ystod yr haf; y byddaf, yn yr hydref, yn profi’r syniadau hynny yn erbyn y meini prawf a nodir yn ein datganiad polisi treth a gyhoeddwyd y mis diwethaf; ac yna ein bod yn cynnig rhestr fer o'r rhestr hirach honno o syniadau, i wneud gwaith mwy manwl arnynt yna dros y misoedd sy'n dilyn. Ar yr un pryd, fy mwriad fyddai tynnu sylw Prif Ysgrifennydd y Trysorlys at y gwaith hwnnw a rhoi gwybod iddi y byddaf yn bwriadu, rai misoedd yn ddiweddarach, bod wedi nodi ymgeisydd penodol y byddwn yn ei ddefnyddio i’w anfon o gwmpas y gylched y byddwn wedi ei chreu. Felly, mae'n uchelgeisiol. Nid yw hon yn gyfres o gamau y gallwn ddechrau eu cymryd ar unwaith. Ond, rwy’n meddwl ei bod yn bosibl o fewn tymor y Cynulliad hwn i fod wedi nodi syniad, i fod wedi anfon o gwmpas y trac hwnnw a, gobeithio, iddo gyrraedd yn llwyddiannus gyda syniad newydd y gallwn ei roi ar waith yng Nghymru. Ond hyd yn oed os na wnawn lwyddo i'r graddau hynny, byddwn wedi dysgu llawer drwy brofi'r system ei hun.

Felly, Lywydd, gadewch imi gloi drwy ddweud bod cynnig trethi newydd yn dod â chyfres newydd o gyfrifoldebau. Bydd y Llywodraeth yn cefnogi'r ddau welliant gan y Blaid Geidwadol y prynhawn yma, ac rwy'n hapus i ailddatgan nad wyf yn bwriadu defnyddio pwerau dim ond oherwydd bod gennym y pwerau hynny, ond nid yw dweud nad wyf o blaid newid er mwyn newid yn gyfystyr â dweud na ellir bod achos o blaid newid, a dyna’r cynnig yr ydym yn ei brofi yn y ddadl hon. Byddwn yn defnyddio'r meini prawf a nodir yn y fframwaith polisi treth. Byddwn yn dewis treth i brofi'r system newydd â hi, ac wrth wneud hynny, rwy’n meddwl y byddwn yn ychwanegu at y repertoire o bolisïau sydd ar gael i Gymru yn y maes cyfrifoldeb newydd hwn.

Rwyf wedi dethol y ddau welliant i’r cynnig ac rwy’n galw ar Nick Ramsay i gynnig gwelliannau 1 a 2 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Nick Ramsay.

Gwelliant 1—Paul Davies

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu y dylai unrhyw drethi newydd gadw at y farn a fynegwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, yn ei ddatganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd ar 5 Gorffennaf 2016, ‘ni fydd unrhyw newid dim ond er mwyn newid’.

Gwelliant 2—Paul Davies

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud trefniadau i adolygiad annibynnol o unrhyw drethi newydd gael ei gwblhau o fewn chwe blynedd i gyflwyno'r trethi hynny.

Cynigiwyd gwelliannau 1 a 2.

Diolch yn fawr. Rwy'n falch o gyfrannu at ddadl ddiddorol heddiw, Ysgrifennydd y Cabinet, ac o gynnig y gwelliannau yn enw Paul Davies. Fel y dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet ei hun, mae hwn yn gyfnod o newid i’r sefydliad hwn ac i Gymru. Rydym ar fin gweld cyflwyno’r trethi Cymreig newydd cyntaf ers 800 o flynyddoedd—sawl gwaith yr ydym wedi clywed hynny yn y Siambr hon dros y misoedd diwethaf—pan gaiff treth stamp a threth tirlenwi’r DU eu diffodd a phan ddaw fersiynau newydd i Gymru i rym ym mis Ebrill y flwyddyn nesaf. A bydd Awdurdod Cyllid Cymru, gobeithio, yn gwbl weithredol erbyn hynny ac yn ei le i gasglu’r trethi hynny.

Fel y gwyddom, bydd tirlun treth yn newid eto y mis Ebrill canlynol gyda chyflwyniad WRIT, cyfradd treth incwm Cymru, a'r refeniw sylweddol y bydd honno’n ei roi’n uniongyrchol i Lywodraeth Cymru, er y bydd, wrth gwrs, yn dal i gael ei gasglu, yn yr achos hwnnw, gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi.

Wrth gwrs, bydd y trethi hyn yn disodli trethi presennol y DU ac yn eu hadlewyrchu i ryw raddau. Felly, mae croeso i ddadl heddiw, oherwydd, fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi’i nodi, mae’n ein symud ymlaen o'r dadleuon hyd yn hyn ac yn rhoi cychwyn ar y drafodaeth am drethi newydd posibl yn ychwanegol a thu hwnt i ddisodli trethi, sut y gallai’r trethi hynny edrych a sut y gellid eu datblygu.

Nawr, yn hollbwysig, mae’n rhaid cynnwys y cyhoedd yn y broses hon, ac rwy'n falch bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cydnabod hyn. Mae'n rhaid i'r cyhoedd fod yn hyderus ynddi ac, yn fwy na hyn, mae'n rhaid iddynt deimlo perchnogaeth. Wedi'r cyfan, fel y gwyddom, ar ddiwedd y dydd, arian y trethdalwyr yw arian y Llywodraeth, a dylem bob amser gofio’r ffaith bwysig honno.

Nawr, Ysgrifennydd y Cabinet, rydych wedi amlinellu cymhlethdod enfawr sefydlu treth newydd. Roeddwn yn mynd i ofyn ichi beth yn union yr oeddech yn ei olygu wrth ‘profi'r system’, ond rwy’n meddwl eich bod wedi rhoi arwydd clir iawn inni o ba mor gymhleth yw’r broses hon, nid yn unig o ran cyflawni ein swyddogaeth ni ar y pen hwn i'r M4, ond hefyd wedyn wrth edrych ar ben arall yr M4 yn Nhŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi—a chyfeiriodd Huw Irranca-Davies at y system LCO flaenorol; roedd yn gwybod pa mor anodd oedd honno. Rwy'n meddwl, yn y cyfnod cynnar hwn, ei bod yn debyg bod y cymhlethdod yn ddealladwy, ond rwy’n llwyr werthfawrogi'r ffaith eich bod yn teimlo bod angen profi hyn i gyd i weld sut y gallwn symud ymlaen.

I droi at y gwelliannau, a gwelliant 1, y wireb na ddylid newid er mwyn newid, y gwnaethoch chi eich hun ei ddweud ac sydd wedi’i gymryd o’ch datganiad ysgrifenedig chi a gyhoeddwyd ar 5 Gorffennaf, ac y rhoddwyd dolen ato ar wefan y Cynulliad, mae hefyd yn ymddangos mewn llawer o ddogfennau eraill ac wedi cael sylw lawer gwaith, gennych chi a gan eich rhagflaenydd, Jane Hutt, wrth iddi roi tystiolaeth i’r Pwyllgor Cyllid dros y blynyddoedd diwethaf. Rwy’n meddwl, wrth wrando ar—. Nid oeddwn yn hollol siŵr a ydych chi o blaid ein gwelliant ai peidio. Rwy’n meddwl eich bod, ond rwy’n meddwl eich bod yn ei ddehongli mewn ffordd benodol, sy'n ddigon teg. Rwy’n cytuno ei bod yn wireb dda. Cytunais â chi pan wnaethoch ddweud hynny wrth y pwyllgor. Rwy’n meddwl ei bod yn bwysig, lle bo modd, ac ar gyfer sicrhau cyfnod pontio didrafferth a hwylus, na ddylai’r strwythur trethi newydd wyro oddi wrth strwythur eu cymheiriaid dros y ffin os yw’n fuddiol iddynt fod yn debyg.

Fel y gwnaethoch ei gydnabod, mae hyn wedi symud ymlaen ychydig; rwy’n awgrymu y dylai hefyd fod yn berthnasol i drethi newydd—trethi y gellid eu galw’n drethi annibynnol, am wn i; ffurfio creu’r trethi annibynnol hynny. Ac rwy’n meddwl ei bod yn bwysig, fel yr awgrymoch chi eich hun, na ddylem geisio dim ond creu trethi er mwyn trethi a dim ond i brofi'r system, ond dylem fod yn ceisio creu trethi sydd â’r potensial i wella bywydau pobl yng Nghymru yn wirioneddol ac i ychwanegu at y system dreth, ac rwy’n meddwl mai dyna yw eich bwriad. Yn amlwg, mae gennych awydd i brofi’r agwedd newydd hon ar y system datganoli. Wrth gwrs, mae angen gwneud hynny’n ofalus ac, fel y dywedais, dylid cyflwyno unrhyw drethi newydd am y rhesymau cywir.

Os ydym yn chwilio am enghreifftiau o drethi, mae'n debyg y byddai’r ardoll bagiau plastig, fel y'i galwyd—er nad oedd yn dreth, yn amlwg, ardoll ydoedd, am resymau’r dydd a'r ffordd yr oedd y Cynulliad yn gweithio yn y dyddiau hynny—rwy’n meddwl y byddai wedi bodloni’r meini prawf hynny yr ydych yn eu hamlinellu nawr. Rwy'n meddwl, a dweud y gwir, mai trethi amgylcheddol yn ôl pob tebyg yw'r ymgeiswyr mwyaf amlwg ar gyfer profi’r system hon ac yn sicr byddai Llywodraeth Cymru yn iawn i ganolbwyntio ar y rhain ac yn sicr yn eu hystyried o ran profi'r system treth.

Mae'n amlwg bod gan Lywodraeth Cymru brofiad o ddeddfu yn y maes hwn yn y gorffennol ac, ar y cyfan, mae'n ymddangos bod hynny wedi gweithio—wel, nid yw wedi chwalu, beth bynnag, felly byddai hynny’n sicr yn cyfrif fel gweithio.

I droi at yr ail welliant, Llywydd, rwy’n gwybod fy mod yn brin o amser, ond, yn fyr—mae hwn yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud trefniadau i gwblhau adolygiad annibynnol o unrhyw drethi newydd o fewn chwe blynedd ar ôl eu cyflwyno. Trafodwyd pwysigrwydd adolygu trethi newydd Cymru, y dreth trafodiadau tir a’r dreth gwarediadau tirlenwi, yn ystod Cyfnodau 2 a 3 y broses ddeddfu. Rwy'n meddwl, er na chawsom welliant, am wahanol resymau, ar y llyfrau ar y pryd, rwy’n gwybod eich bod wedi cytuno ag egwyddor adolygiad eang, ar ôl cyfnod o tua chwe blynedd, o’r ffordd y mae trethi newydd yn gweithio. Rwy'n meddwl bod hon yn egwyddor dda ac rwy'n meddwl y byddai hefyd yn ddoeth iawn inni gyflwyno hyn yn y trethi annibynnol newydd—ni allaf feddwl am beth gwell i’w galw. Felly, dyna pam mae’r gwelliant hwnnw yno. Rwy’n gobeithio y byddwch yn cefnogi'r gwelliannau ac, fel y dywedais, rydym yn fwy na pharod i gefnogi byrdwn cyffredinol y cynnig hwn.

Rwy’n croesawu’r ddadl hon ac rwy’n croesawu, yn gyffredinol, awydd y Llywodraeth i brofi’r ddarpariaeth hon. I gyfeirio at un o'r gwelliannau, nid wyf erioed wedi deall yr ymadrodd hwn, ‘Nid ydym o blaid newid er mwyn newid.’ Hynny yw, yn yr ystyr sylfaenol iawn, nid wyf yn credu y byddai neb o blaid hynny, ond, mewn gwirionedd, newid er mwyn newid cymdeithasol, newid y gyfundrefn drethu at ddiben, byddwn yn gobeithio y byddai pob un ohonom yn tanysgrifio i hynny hefyd. Mae rhyw awgrym o ryw fath o synnwyr o syrthni, weithiau—ceidwadaeth gynhenid ​​yn y ddadl yn erbyn newid er mwyn newid. [Torri ar draws.] Edrychwch, hyd yn oed ym maes trethiant, mae newidiadau’n gyson. Pan gyflwynwyd TAW am y tro cyntaf—8 y cant ydoedd? Mae bellach wedi codi, wrth gwrs, i 20 y cant. Roedd treth gorfforaeth yn 52 y cant ychydig ddegawdau yn ôl ac, wrth gwrs, mae’n mynd i ddisgyn hyd yn oed ymhellach i 17 y cant. Felly, edrychwch, mae newid yn gyson, hyd yn oed ym maes trethi. Rwy'n arbrofwr. Mewn byd sy'n newid, ym mhob ystyr, mae’n rhaid inni chwilio am ysgogwyr newydd bob amser, ar gyfer ymatebion polisi newydd, ac mae’n rhaid i drethi fod yn rhan o hynny. Felly, rwy’n croesawu’r ymagwedd gadarnhaol hon at archwilio cyfleoedd newydd.

O ran yr ymgeiswyr posibl ar gyfer y prawf cyntaf hwnnw, bydd gan bob un ohonom ein dewisiadau. Rwy'n meddwl bod Gerry Holtham a Tegid Roberts ac eraill wedi gwneud achos da iawn, iawn—hyd yn oed yn seiliedig ar y meini prawf manwl a nododd Ysgrifennydd y Cabinet, yn wir. Mae gennym dwll enfawr yn ein cyllid cyhoeddus, ac rydym yn sylweddoli hynny, oherwydd y newid demograffig ac ati, a'r cynnydd mewn costau gofal dibreswyl sydd ar y ffordd. Mae angen inni ddod o hyd i ffordd o ymdrin â hynny, ac ni fyddwn yn gallu gwneud hynny o fewn cyfyngiadau’r bloc Barnett presennol. Felly, rwy’n meddwl bod Gerry Holtham wedi—[Torri ar draws.] Rwy'n sicr yn hapus i ildio.

Diolch am ildio. Mae'n debyg na ddylech synnu y byddai Ceidwadwr yn ymddangos ychydig yn geidwadol. Fyddwn i ddim wedi dweud fy mod yn sôn am ddadl o syrthni; byddwn wedi hoffi’r gair ‘pwyll’. Dydw i ddim yn mynd i roi geiriau yng ngheg Ysgrifennydd y Cabinet, ond o ran y wireb, ‘Peidio â newid er mwyn newid’, rwy’n meddwl bod hynny’n arbennig o berthnasol mewn cyfnod pontio. Rwy'n meddwl y byddai pob un ohonom yn cytuno, pan fyddwch yn profi system ac yn cyflwyno system newydd fel hon, y dylem fod yn ymwybodol iawn bod yna sail resymegol gadarn iawn a chlir a thryloyw y tu ôl, yn sicr, i gyflwyno’r trethi newydd cychwynnol hynny. Dyna oedd fy mhwynt.

Ond i droi’r ddadl ar ei phen, os yw’r ffigurau y mae Gerry Holtham wedi eu cynhyrchu i ategu ei achos—wyddoch chi, y cynnydd 67 y cant sydd ar y ffordd yn y tymor byr mewn costau gofal dibreswyl—byddai’n ddiofal, wrth gwrs, i beidio â dod o hyd i ffordd o gyllido gofal o’r safon yr hoffem, mewn cymdeithas weddus, ei ddarparu. Rwy'n meddwl ei fod yn gynnig diddorol iawn, iawn. Wrth gwrs, mae’n seiliedig ar draddodiad Ewropeaidd o yswiriant cymdeithasol; mae'n addasu hynny i’r achos penodol hwn, a rhai enghreifftiau arloesol o ecwiti rhyng-genhedlaeth o ran graddfa symudol, o ran lefel yr arian, a hyd yn oed awgrym o wobr loteri unwaith y flwyddyn, efallai, i felysu’r bilsen. Yn sicr, dyna’r math o enghraifft, rwy’n meddwl, o—ie, cynnig creadigol ac arloesol, ond mae wir yn mynd at wraidd un o'r problemau allweddol yr ydym yn eu hwynebu—ymysg eraill—rwy’n meddwl, ym maes datblygu economaidd. Rwy'n meddwl mai Sefydliad Bevan a awgrymodd edrych ar gredydau treth arloesi. Mae'r Gwyddelod wedi ymateb i gynigion yr OECD o ran gwahaniaethu trethiant busnes i annog buddsoddiad mewn asedau diriaethol fel ymchwil a datblygu—creu cyfradd treth gorfforaeth wahanol, a elwir yn flwch datblygu gwybodaeth, o 6.25 y cant, rwy’n meddwl, ar gyfer gweithgareddau ymchwil a datblygu, yn unig, gan gwmnïau. Felly, mae cynigion diddorol i’w cael. Mae’r Ysgrifennydd Cabinet eisoes wedi cyfeirio at adolygiad eang o drethi sy'n gysylltiedig ag eiddo, a hynny yn y maes personol o ran y dreth gyngor, a hefyd o ran trethi busnes—mae hynny’n agor dadl arall am drethu gwerth tir sydd wedi bod o gwmpas ers dros 120 mlynedd, ac rwy'n siŵr y bydd Aelodau eraill yn edrych ymlaen at ymuno â’r ddadl honno maes o law.

Wel, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid bob amser yn ddengar a rhesymol yn yr hyn y mae’n ei ddweud. Rwyf i, efallai, yn mynd i ddilyn trywydd ychydig yn wahanol yn fy araith i, i eraill sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl hon, oherwydd, yn gyffredinol, dydw i ddim o blaid cyflwyno trethi newydd, er fy mod yn gryf o blaid datganoli cynifer o drethi ag sy’n synhwyrol. Mae gennym broblem yng Nghymru, wrth gwrs, gan fod ein hincwm cyfartalog gymaint yn is na chyfartaledd gweddill y Deyrnas Unedig, felly mae'r sylfaen dreth yn fwy anodd i fanteisio arni, os caf ddefnyddio'r gair hwnnw mewn ystyr niwtral. Ond, yn fras, rwyf o blaid cadw’r cysylltiad rhwng penderfyniadau’r Llywodraeth ac atebolrwydd drostynt drwy'r system o godi trethi. Rwy’n meddwl bod datganoli trethi’n rhoi cyfleoedd inni, fel y mae Adam Smith—Adam Price newydd ei nodi. [Chwerthin.] Llithriad Freudaidd yno, rwy’n meddwl.

Cyn belled â’ch bod chi ddim yn fy ngalw’n Arthur Laffer. [Chwerthin.]

Rwy'n siŵr ei fod ar ei ffordd. [Chwerthin.] Ond fel y nodwyd ynglŷn â threth gorfforaeth, yn sicr, mae enghraifft Iwerddon yn un ddiddorol iawn. Mae'n ddrwg gen i bod fy ymdrechion i symud Ysgrifennydd y Cabinet i’r cyfeiriad hwnnw yn y gorffennol wedi cael eu gwrthod. Pan gawsom y datganiad fframwaith polisi treth rai wythnosau’n unig yn ôl, mae arnaf ofn nad oedd yn agored iawn i’r weniaith honno, ond rwy’n meddwl bod Iwerddon wedi defnyddio gwahanol gyfraddau trethi corfforaethol yn effeithiol iawn, ac o fewn y dreth gorfforaeth ei hun, fel y dywedodd Adam Price, bod â gwahanol gyfraddau, sydd wedi galluogi Llywodraeth Iwerddon i flaenoriaethu rhai meysydd pwysig o weithgarwch sy’n ychwanegu llawer o werth, a dyna'r hyn sydd ei angen arnom yn bennaf oll, rwy’n meddwl, yng Nghymru: cynyddu'r sylfaen dreth. Ac rwy’n meddwl y gellir defnyddio’r system dreth honno fel hyn—[Torri ar draws.] Gwnaf ildio i Mike Hedges.

Ond, does bosib, gyda threth gorfforaeth, ei bod bron fel rhodd wirfoddol gan gwmnïau mawr pan fyddant yn gallu penderfynu i ble maen nhw'n mynd i ddychwelyd eu helw, lle y byddan nhw’n penderfynu talu am hawliau eiddo deallusol ac ati. Felly, mae'n gyfraniad gwirfoddol—nid yw’r gyfradd yn bwysig, mae’n fater o faint y maent mewn gwirionedd yn awyddus i’w dalu.

Wel, mae’n bosibl bod hynny’n wir, o fewn yr Undeb Ewropeaidd, ac mae Lwcsembwrg yn y sefyllfa hon, wrth gwrs, dan lywyddiaeth mor llwyddiannus Mr Juncker am gynifer o flynyddoedd. Mae'n eithaf paradocsaidd, efallai, bod y Comisiwn yr UE am ddileu’r math hwnnw o gyfleoedd i weddill Ewrop. Ond y tu allan i'r UE, mae gennym y cyfle i fod yn gystadleuol yn rhyngwladol o ran trethi corfforaethol, ac rwy’n gobeithio y daw’r cyfle inni i’n galluogi i wneud hynny maes o law. Dywedodd Edmund Burke yn enwog:

Nid yw trethu a phlesio, yn ddim mwy na charu a bod yn ddoeth, yn rhan o natur dynion.

Ac, os ydych yn cynnig trethu Pedr i dalu Paul, bydd hynny bob amser yn boblogaidd iawn gyda Paul ac nid yn boblogaidd gyda Pedr. Felly, nid yw'r rhain yn hafaliadau hawdd i’w datrys, ond dydw i ddim yn gyffredinol o blaid defnyddio trethi am resymau peirianneg gymdeithasol, ac rwyf wedi gwneud y pwynt hwn ynglŷn â'r dreth siwgr arfaethedig yn ddiweddar, ac mae’n siŵr y gwnawn ddychwelyd i roi llawer o sylw i hynny yn y man. Ond yr hyn yr wyf yn meddwl y dylem ei wneud yw defnyddio'r system dreth i annog creu cyfoeth. Er nad yw trethi ynddynt eu hunain yn annog creu cyfoeth—drwy ddiffiniad, bron—er hynny, gall y gwahaniaeth rhwng trethi mewn un awdurdodaeth ac un arall yn sicr wneud hynny.

Cafodd ein problem yng Nghymru mewn sawl ffordd ei nodi gan Sefydliad Bevan yn eu cyhoeddiad ar drethi datganoledig yng Nghymru ddim ond dwy flynedd yn ôl, sef bod 48 y cant o boblogaeth Cymru’n byw o fewn 25 milltir i'r ffin â Lloegr, a 2.7 miliwn o bobl—90 y cant o gyfanswm poblogaeth Cymru—yn byw o fewn 50 milltir i'r ffin. Gan gymryd Cymru a Lloegr gyda’i gilydd, mae 16 miliwn o bobl yng Nghymru a Lloegr yn byw o fewn 50 milltir i'r ffin rhwng y ddwy wlad, o'i gymharu â dim ond 3 miliwn sy’n byw o fewn 50 milltir i'r ffin rhwng Lloegr a’r Alban. Felly, mae, mewn sawl ffordd, yn anoddach inni wneud penderfyniadau sy'n ein gwneud yn llai cystadleuol drwy'r system dreth, ond mewn gwirionedd yn fwy buddiol inni ddefnyddio'r system dreth yn y ffordd y dechreuais drwy ei disgrifio. Felly, mae gennym fwy o gyfle i fanteisio ar drefn trethi wahaniaethol o'i chymharu â Lloegr, ac rwy’n credu y gall hynny wneud cyfraniad sylweddol tuag at godi lefel incwm, ac felly safon byw, pobl gyffredin yng Nghymru. Yn y Deyrnas Unedig yn gyffredinol, mae'n ddiddorol, dros y genhedlaeth ddiwethaf, bod cyfran y refeniw sy'n dod gan enillwyr uwch wedi cynyddu wrth i gyfraddau treth yn gyffredinol ostwng. Ac rwy’n meddwl bod gwers inni i gyd yn hynny.

Rwy'n gweld fy mod wedi cyrraedd diwedd fy araith, Llywydd, ond gadawaf hyn fel gwaith ar y gweill ar gyfer y dyfodol. Ond rwy’n croesawu'r ddadl heddiw a byddaf yn sicr yn cefnogi cynnig y Llywodraeth, yn ogystal â gwelliannau'r Ceidwadwyr.

Rwy'n croesawu'r cyfle i ddechrau cymryd rhan yn y ddadl hon heddiw, ac rwy’n croesawu cyfle Ysgrifennydd y Cabinet i ddechrau meddwl. Nid yw'n gymaint o gyfle i feddwl, ond meddwl yn uchel; dyna yr wyf yn bwriadu ei wneud.

Asesir unrhyw gynnig i gyflwyno treth newydd yng Nghymru yn erbyn ystod o feini prawf, gan gynnwys i ba raddau y mae treth yn effeithio ar bolisïau macroeconomaidd neu ariannol y DU neu'r farchnad sengl—wel, efallai mai dim ond am y ddwy flynedd nesaf y bydd hynny’n para, gan ddibynnu a ydym yn y farchnad sengl ai peidio—efallai na cheir cydymffurfiad â'r Undeb Ewropeaidd am y ddwy nesaf—mae hynny, unwaith eto, dim ond yn para am y ddwy flynedd nesaf, ac ni fydd llawer iawn o'r rheolau hyn, fel y dyfarniad Azores, ac ati, eu hunain yn berthnasol inni mwyach. Mwy o risgiau osgoi treth—rwy’n meddwl bod y ffin yn rhywbeth y mae angen inni feddwl o ddifrif amdano bob amser. Creu baich cydymffurfio ychwanegol i fusnesau neu unigolion—mae bron unrhyw dreth yn sicr o ddod â beichiau ychwanegol, gan y bydd yn rhaid i rywun wneud rhywbeth—ac mae’n cyd-fynd â chyfrifoldebau datganoledig. Rwyf hefyd yn meddwl mai’r pwynt allweddol, efallai’n fwy na hynny, yw: a yw treth yn deg neu a yw’r cyhoedd yn teimlo ei bod yn deg? Y farn gyffredinol am dreth, yn sicr gan y rhai ohonom ar y chwith gwleidyddol, yw mai’r cyfoethocaf ydych chi, y mwyaf y dylech ei dalu. Mae trethi sy'n diogelu iechyd a'r amgylchedd yn cael ymateb ffafriol, ond mae angen i'r cyhoedd gymryd rhan. Dyma ni’n dechrau’r ddadl, ond mae'n ddadl lle mae’n ddigon posibl y bydd gan 3 miliwn o bobl eraill farn, a dylent fynegi’r farn honno.

Mae’r trethi yr wyf yn awgrymu eu hystyried yn cynnwys rhai a awgrymwyd gan bobl eraill a rhai y mae deddfwrfeydd eraill wedi edrych arnynt. Nid yw’n rhestr ddiffiniol nac yn rhestr siopa. Yr hyn ydyw yw rhai syniadau am yr hyn y gellid ei ystyried yn y dyfodol. Does dim ohonynt wedi’u hystyried yn drwyadl, ac, unwaith eto, mae llawer wedi cael eu hawgrymu gan bobl eraill, yma ac mewn mannau eraill. Y trethi na chânt eu hystyried yw'r rhai a fyddai'n cynhyrchu symudiadau trawsffiniol yn y pen eithafol, e.e. treth ychwanegol ar alcohol a fyddai'n arwain at deithiau prynu alcohol i Gaer, Amwythig a Bryste.

Rwyf wedi rhannu’r trethi i’w hystyried yn bedwar gwahanol fath o drethi: amgylcheddol, iechyd, treth ychwanegol ar eitemau a drethir ar hyn o bryd, a threthi newydd i godi arian i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus. Trethi sy’n talu am wasanaethau cyhoeddus. Rwy'n meddwl efallai fod pobl weithiau’n sôn am dorri trethi a gwneud yr holl bethau hyn â threthi—os na chawn ni’r trethi i mewn, allwn ni ddim cael y gwasanaethau cyhoeddus yr hoffem i gyd eu cael. Yn rhy aml, mae’n ymddangos bod pobl yn meddwl y gallwn gael trethi fel Gogledd America, a gwasanaethau cyhoeddus fel Sgandinafia. Dyw hynny ddim yn ddichonadwy.

Yn y bôn, mae dau fath o drethi: newydd, ac atodiadau ar drethi cyfredol. Rwyf am enwi rhai trethi amgylcheddol i'w hystyried, mae llawer wedi eu nodi eisoes—. Poteli plastig—tâl am bob potel i dalu am eu casglu a’u gwaredu. Hefyd, gallai hyn arwain at ddychwelyd poteli gwydr yn hytrach na phlastig, y gellir eu hailddefnyddio yn amlwg ac mae rhai ohonom yn ddigon hen i gofio poteli Corona a chael 5c a 10c yn ôl amdanynt. Treth polystyren, i leihau'r defnydd o’r blychau hyn, a hefyd treth gwm cnoi i dalu am ei dynnu oddi ar amrywiaeth eang o leoedd, gan gynnwys dillad pobl, pan mae wedi cael ei lynu wrth waelod desgiau.

Trethi iechyd: diodydd a bwyd llawn siwgr—. Rwy’n gwybod bod hyn wedi cael ei godi o'r blaen gan eraill yma ac mewn mannau eraill, ond mae'n dal yn werth ei ystyried. A ddylai fod yn dreth ar bob siwgr, ynteu a ddylai fod yn dreth ar siwgr ychwanegol? Halen—treth ar halen mewn bwyd, naill ai yn cael ei chodi dros swm penodol, neu’n cael ei chodi fesul canran o'r cynnyrch sy'n halen. Braster—tâl am ganran y cynnyrch sy'n cynnwys braster, neu gynyddiad braster dros ganran penodol o fraster mewn cynnyrch.

Beth am drethi atodol? Diesel—cynhyrchu tâl atodol ar ddiesel. Rydym yn gwybod am y difrod y mae diesel yn ei wneud i'r amgylchedd. Archfarchnadoedd a siopau mawr dros faint penodol—atodiad cyfraddau. Ychwanegu bandiau treth gyngor uwch, fel bod mwy’n cael ei godi ar eiddo mawr a drud iawn—a byddwn yn annog Ysgrifennydd y Cabinet i ystyried hynny o ddifrif, oherwydd gall wneud hynny heb unrhyw angen i fynd drwy'r broses hir a ddisgrifiodd yn gynharach.

Mannau parcio ceir—codi tâl am ardal y maes parcio a nifer y mannau parcio sy'n gysylltiedig â safle manwerthu. Treth tir datblygu—treth ar y tir lle rhoddwyd caniatâd ar gyfer datblygu neu sydd mewn cynllun datblygu lleol ar gyfer datblygu. Mae'n cael ei drethu nifer penodol o flynyddoedd ar ôl i ganiatâd gael ei roi, hyd yn oed os nad yw datblygwyr wedi dechrau, ac wedi hynny am gyfnod pellach os nad yw datblygiad wedi'i orffen. Byddai hyn yn gwneud tâl ar fancio tir—[Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf, Nick.

Diolch ichi am ildio. Rydych newydd sôn am dreth diesel. A yw’r dreth diesel honno’n enghraifft nodweddiadol o fath o dreth a fyddai'n annog twristiaeth ger y ffin? Felly, byddech yn creu llwyth o lif ar draws y ffin o bobl yn eu ceir diesel i fynd i’w gael yn rhatach yn rhywle arall, felly byddai honno'n un anodd iawn i'w rhoi ar waith.

Fyddwn i ddim yn meddwl hynny, oherwydd ni allwch roi cymaint â hynny o ddiesel yn y rhan fwyaf o geir, ac felly bydd cost teithio i gael y diesel—[Torri ar draws.] Bydd cost teithio i gael y diesel mewn gwirionedd yn fwy na'r arbedion posibl.

Mae angen ystyried pob treth yn erbyn canlyniadau anfwriadol fel y byddent yn effeithio ar ymddygiad mewn modd cadarnhaol. Beth yw'r peryglon y caiff ei chamliwio fel treth gwerth tir Llafur, a ddisgrifiwyd fel treth ar erddi—yr unig ergyd lwyddiannus gan y Torïaid yn ein herbyn yn yr etholiad diwethaf?

Yn olaf, canfyddiad, a yw treth yn deg neu a yw pobl yn teimlo ei bod yn deg: gadewch inni edrych ar y trethi hyn, gadewch inni weld beth ellir ei wneud, a gadewch inni greu treth deg yn y pen draw a gadewch inni godi rhywfaint o arian ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus.

Wel wir, roedd hynna’n llawer o drethi newydd gan Mike Hedges. Nid wyf yn siŵr a fyddai'r dreth diesel yn gweithio yr un fath yn Abertawe ag y byddai yng Nghasnewydd neu Drefynwy. Ond edrychais gyntaf ar gynnig heddiw a darllen

‘bydd angen profi’r agwedd newydd hon ar y system datganoli.’

Fy ymateb cyntaf oedd: ‘Pam?’ Siawns bod yr awydd i osod treth newydd yn rhagofyniad, ac mae llawer o bobl yng Nghymru’n teimlo eu bod yn talu hen ddigon o dreth eisoes.

Pan ddywedodd Ysgrifennydd y Cabinet wrth y Pwyllgor Cyllid yng Nghasnewydd ar 23 Mawrth ei fod am brofi’r system yn ystod y tymor hwn, gofynnais iddo, ‘Beth mae hynny’n ei olygu?’ Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet wrthym:

‘Mae'n rhaid inni gynnig pethau a bydd rhaid profi’r cynigion hynny o flaen dau Dŷ'r Senedd.’

Ond pam mae’n rhaid inni? Mae Deddf Cymru’n rhoi pŵer inni, nid dyletswydd. Eto dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet wrth y Pwyllgor Cyllid

‘gwaith y Cynulliad hwn...yw rhoi cnawd ar esgyrn y system sydd yno ar hyn o bryd inni i brofi’r posibilrwydd hwn .... Byddem yn dysgu sut y câi’r cynnig hwnnw ei brofi wedyn ym mhen arall yr M4, a byddem yn dysgu llawer drwy wneud hynny.’

Felly, a yw Llywodraeth Cymru yn awyddus i osod treth newydd am ei bod o bosibl yn gallu, ynteu a yw'n awyddus i ymarfer, i dynnu rhai liferi, a phwyso rhai botymau a gweld beth sy'n digwydd—yn debyg i fy mhlentyn tair oed pan fyddaf yn gadael iddo eistedd yn sedd flaen ein car? A sut y mae Ysgrifennydd y Cabinet—? [Torri ar draws.] Pan mae'n llonydd, brysiaf i ychwanegu. A sut y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn disgwyl i San Steffan ymateb i'r ymagwedd hon at brofi o flaen dau Dŷ'r Senedd? Oni fydd San Steffan yn disgwyl inni fod yn ceisio, mewn gwirionedd, gosod treth newydd, nid dim ond arbrofi i brofi’r agwedd newydd hon ar y system datganoli, fel y mae ein cynnig yn ei ddweud?

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet yr hoffai i

‘Gynulliad dilynol gael etifeddiaeth y dysg’,

felly, a all egluro: ai ymarfer dysgu academaidd fydd hyn ynteu a yw’n disgwyl i bobl Cymru dalu treth newydd o ganlyniad iddo?

Yng Nghasnewydd, cyfeiriodd yr Ysgrifennydd Cabinet yn gymeradwyol at adroddiad comisiwn Bevan, sy’n sôn am dreth twristiaeth, treth gwelyau haul a'r dreth pecynnu bwyd parod. Nawr, ni wnaeth sôn am gynifer â Mike Hedges, ond dywedodd hefyd treth dir neu ardd a threth dŵr. Ond onid ydym yn ceisio annog twristiaeth ac onid ydym mewn perygl o anghofio pwrpas treth? Does bosib mai pwrpas treth yw codi arian pan fo ei angen, nid arbrofi neu gosbi pobl am ddefnyddio gwelyau haul neu fwyta cludfwyd.

Fel mae Mark Reckless newydd ein hatgoffa ni, fe ddechreuwyd y drafodaeth yma mewn cyfarfod o’r Pwyllgor Cyllid yng Nghasnewydd, pan soniodd y Gweinidog am y tro cyntaf am awydd y Llywodraeth i edrych i mewn i’r posibiliad o drethi newydd ac i fynd â threth newydd o gwmpas y maes carlamu, fel petai. Roeddwn i’n dehongli hynny fel dau beth: (1), ie, defnyddio’r grymoedd sydd wedi eu trosglwyddo i’r lle hwn, ond hefyd bod yr Ysgrifennydd Cabinet yn awyddus i weld pa faes oedd mwyaf dyledus i gael priod le a defnyddio treth er mwyn newid yn y maes hwnnw.

Rydw i’n anghytuno i raddau â Mark Reckless sydd newydd gau drwy ddweud mai pwrpas trethi yw codi arian tuag at wasanaethau cyhoeddus. Mae yna bwrpas arall i drethi, a newid ymddygiad yw hwnnw, newid y ffordd rydym ni’n ymddwyn, naill ai’n gymdeithasol neu, beth rydw i’n mynd i sôn amdano yn benodol, yn amgylcheddol. Oherwydd nid codi arian bob tro yw pwrpas naill ai y lefi ar fagiau plastig neu, yn wir, y dreth tirlenwi rydym ni newydd fynd â hi drwy’r lle hwn. Pwrpas y trethi yna—maen nhw’n codi rhywfaint o arian, ond eu prif bwrpas yw newid y ffordd rydym ni’n bihafio, a newid ein hagwedd ni tuag at adnoddau prin naturiol.

Felly, rydw i jest eisiau ategu ychydig o bethau sydd eisoes wedi cael eu dweud, yn benodol gan Mike Hedges, i fod yn onest.

If we turn to some of the wasteful ways that we are using our natural resources, I think we should consider our new powers on taxation as a way of reining those in and making better use of those natural resources. So, if we look at plastic bottles, 400 plastic bottles are sold every second in the United Kingdom at the moment, 1 million plastic bottles are bought around the world every minute, and that number’s going up by 20 per cent by 2021. So, 4 million plastic bottles a week could be prevented from littering our streets and the marine environment if we adopted some form of tax-based system. That could be a deposit-return scheme, it could be an actual tax, which Finland has, for example, and, if we extend that principle from bottles also to other petroleum-based plastic, such as polystyrene, then we have the potential, I think, for a tax in Wales that could make a real difference.

Now, in Scotland, the Scottish National Party Government has launched a detailed study on a deposit-return scheme there. We know that we have more work to do. We, quite rightly, praise ourselves for our recycling rates in Wales, but, when you look at specific things around plastics, recycling of plastic bottles in Britain, for example, is at 59 per cent. In those schemes with deposit-return schemes—countries, I should say, with deposit-return schemes—or taxation, Germany, Norway and Sweden, we’re looking at over 90 per cent recycling for plastic bottles.

We also have a real international role to play here. We’ve talked about domestic taxes, but this is a particular field where we can use our taxes to play a little international role. So, between 5 million and 13 million tonnes of plastic end up in the world’s oceans each year, and, incredibly, by 2050, it’s been estimated that the oceans will contain more plastic by weight than fish. I think anything we can do here with our domestic taxes that helps us address this international crisis of plastic polluting our environment is something we could surely consider.

I would add that I think a plastic tax or a takeaway tax, or whichever combination you want to put together, would have a lot of public support. I’d be very surprised if the Cabinet Secretary hasn’t had e-mails from members of the public about this. I certainly have, and I think people are ready and prepared to look at this, because we have pioneered—as Nick Ramsay said—we pioneered with the plastic bag tax, the rest of the UK adopted it after us, and it’s been successful reducing plastic bags by 70 per cent in Wales. I would like—. That’s my pitch, I think, from my perspective, of a tax that would have wide public support, that addresses a real need of natural resource. It wouldn’t raise a huge amount of money, it has to be said, but perhaps would be, as a first innovative tax, more acceptable for many people because of that, because they would see it had a public good and wasn’t an attempt, like car parking charges or other things that are looked at as a way of raising money for some nefarious Government purpose; they would see that this is for the good of the environment.

I think this is a very good debate that we’ve initiated here, and I look forward to the work progressing. I would add one thing to the enormous complexity that the Cabinet Minister has set out, and that’s the Finance Committee, because we have a role in this as well, whatever happens, I think. I’m not speaking out of turn when I say that the Finance Committee, whichever view individual Members will take on the tax that’s proposed, we will scrutinise that tax thoroughly, and we will do so on behalf of all the people of Wales, and we will ensure that any tax proposed by the Welsh Government is fit for purpose and has the right purpose behind it.

Fel llawer o bobl eraill, rwy’n croesawu’r ddadl hon yn gynnes. Rwy’n croesawu’r ddadl, oherwydd mae wedi rhoi rhyddid inni, fel Cynulliad, i grwydro ychydig a dweud, ‘Wel, dydyn ni ddim yn ofni taflu rhai o'r pethau hyn allan i'r agored,’ mewn ffordd, rhaid imi ddweud, sydd wedi darogan hyn gyda'r dreth ar gyfer da. Dyna’r ateb, Mark, yr oeddech yn chwilio amdano. Nid dim ond treth i brofi i weld a yw'r cylchedau’n rhedeg yn iawn a’r goleuadau’n cynnau yw hon; mae'n dreth go iawn ar gyfer da, ac rwy’n meddwl mai rhan o'r ddadl hon yw cyflwyno rhai o'r syniadau hynny ynglŷn â’r hyn y gallai fod, ac mae’n bosibl iawn y bydd y model y mae Simon newydd ei ddweud yn y fan honno nawr.

Rydym yn gwybod bod y dreth ar fagiau plastig yng Nghymru wedi gwneud lles, ac wedi cael effaith aruthrol ar gyfraddau ailgylchu a lleihau nifer y bagiau plastig a oedd yn mynd i mewn i'r gwastraff yn yr amgylchedd naturiol ac yn y blaen. Felly, mae’n ddigon posibl ei fod yn estyniad rhesymegol o hynny, ond gallai fod rhai eraill sy'n ymwneud â gofal cymdeithasol. Y pwynt yw ei bod yn dreth er da, ond mae'n iawn ein bod yn profi'r system. Rwy'n meddwl bod y Gweinidog yn llygad ei le, ac rydym yn gwneud hyn wrth gamu i fyny at y marc yma, i annog y Gweinidog, mewn rhai ffyrdd, i ddweud, ‘Gwnewch hyn, ond dewiswch yr un iawn.’ Rwy'n meddwl ei fod yn iawn i wneud hynny gyda gofal, i ymgynghori wrth fwrw ymlaen â hyn, er mwyn inni brofi rhai o'r syniadau ynglŷn â’r hyn a fyddai orau i fudd y cyhoedd.

Byddwn yn dweud wrth wneud hynny, fodd bynnag, bod angen inni warchod rhag rhai pethau. Un yw canlyniadau anfwriadol, ac o fewn hynny, gyda llaw, er fy mod o blaid trethi ac ardollau amgylcheddol, mae'n rhaid inni eu cynllunio mewn ffordd ofalus, er mwyn sicrhau nad oes canlyniadau anfwriadol. Felly, pe bai, er enghraifft, syniad Simon yno, ac un sydd wedi cael ei argymell gan lawer o grwpiau amgylcheddol, yn un a fyddai’n berthnasol ymhen ychydig fisoedd ac mai hwnnw oedd yr un y byddem yn ei ddefnyddio i brofi'r system, gadewch inni hefyd wneud yn siŵr nad yw'n creu goblygiadau anfwriadol.

Yn ail, byddwn yn dweud, gadewch inni wneud yn siŵr—yn enwedig mewn cyfnod pan fyddwn yn gwybod, fel bob amser, bod pobl yn ei chael hi'n anodd—nad oes dim byd atchweliadol am unrhyw un o'r cynigion yr ydym yn eu cyflwyno, ac yn ddelfrydol, byddent yn flaengar yn hytrach nag atchweliadol. Ac nid dim ond i unigolion ond hefyd i fusnesau, nad yw cost cydymffurfio ag unrhyw drethi newydd yn rhy feichus. Bydd yn cael effaith; ni allwch osgoi hynny gyda threth, os yw’n effeithio ar fusnes, ond nad yw'n rhy feichus—ei bod o fewn yr hyn y byddem yn ei ystyried yn gymesur.

Yn olaf, wrth gwrs, fel y nodwyd nid yn unig heddiw, ond hefyd ym mhapur y Sefydliad Bevan, yr holl agweddau hynny ar: a yw o fewn ein cymhwysedd datganoledig; a yw’n ymdrin â materion trawsffiniol; a yw’n ymdrin â materion o osgoi talu treth, ac yn y blaen? A byddwn yn dweud, yn ychwanegol at y cynigion sydd o fewn hwn, gadewch inni ychwanegu rhai at y cymysgedd fel awgrymiadau. O fewn hwn mae'n sôn am ardoll twristiaeth. Mae gen i yn bersonol rai pryderon ynghylch hynny a’r canlyniadau anfwriadol o ran enw da’r wlad ac yn y blaen. Bu de-orllewin Lloegr yn edrych arno am gyfnod. Tomen enfawr, enfawr o dwristiaid yn mynd i’r rhan honno o’r wlad dros fisoedd yr haf ac yn y blaen, wrth gwrs fe allech chi godi ardoll twristiaeth, ond os mai dyna’r unig le yn y wlad ag ardoll twristiaeth o fewn y Deyrnas Unedig, wel mae’r effaith yno ar enw da a phroffil yr ardal fel sector twristiaeth yn eithaf diddorol, ond mae rhai manteision iddo. Arloesi—[Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf.

Aelod o'r Senedd / Member of the Senedd 17:49:00

A wnewch chi dderbyn ymyriad?

Na, na. Credydau treth arloesi’n cymryd drosodd o ble yr ydym â'r credydau treth ymchwil a datblygu, i wneud iawn am y diffyg sydd gennym yng Nghymru o ran arloesi ac ymchwil a datblygu; ardoll datblygu'r gweithlu, a fyddai, i bob pwrpas, yn cymryd lle’r ardoll prentisiaethau—a gwyddom am rai o'r anawsterau gyda hynny, a byddem yn cymryd rheolaeth; a'r rhai eraill a nodwyd, ond gadewch inni ychwanegu ychydig o rai eraill yma.

Mae'r un gofal cymdeithasol eisoes wedi ei grybwyll. Rwy’n credu ei fod yn werth edrych arno, ond mae'n un trwm i’w ddefnyddio i brofi’r system. Mae'r ardoll tir gwag, rwy’n meddwl, yn hynod ddiddorol oherwydd rydym i gyd yn gwybod nid yn unig faint o dir sydd wedi’i gefnogi gan gymunedau buddsoddwyr, ond faint o eiddo adfeiliedig ar y tir hwnnw sy'n cael eu gadael fel dolur llygad. Beth am ryddhad treth am ymgysylltiad democrataidd? Y pwynt a wnaethpwyd o ran sicrhau bod mwy o bobl yn cymryd rhan yn y broses ddemocrataidd: efallai y dylem fod yn eu cymell i wneud hynny drwy ryw fath o ryddhad treth am ymgysylltiad democrataidd os ydynt yn cymryd rhan mewn etholiadau. Beth am arian annisgwyl i ffermydd gwynt? Oherwydd nid yw rhai o'r ffermydd gwynt a sefydlwyd 20 neu 25 mlynedd yn ôl yn rhoi, a dweud y gwir, affliw o ddim i'r cymunedau y maent ynddynt. Efallai y dylech fod yn edrych ar y rheini ar gyfer y ffermydd gwynt hanesyddol hŷn hynny sy'n dwyn ffrwyth erbyn hyn. Beth am ardoll datblygu y tu allan i'r dref i hyrwyddo adfywio strydoedd mawr a rhoi cymhorthdal ar gyfer ​​parcio am ddim? Beth am ardoll mwynau a glo brig i ariannu adfer safleoedd glo brig a chwareli? Beth am ardoll lliniaru llifogydd neu addasu i newid yn yr hinsawdd ar dirfeddianwyr mwy i hyrwyddo buddsoddiad mewn cynlluniau rheoli dalgylchoedd dŵr ac atal llifogydd? Nawr, rhaid imi ddweud, nid dyna’r holl—. Soniais am ganlyniadau anfwriadol, soniais am osgoi trethi atchweliadol, ac osgoi materion sydd heb eu datganoli; rwy’n dweud nad yw dim un o’r rheini—. Mark, rhag ofn eich bod yn mynd i’w rhyddhau mewn datganiad i'r wasg, nid yw dim un o'r rheini’n gynnig cadarn. Byddwn eisiau iddynt i gyd gael eu gwirio, yn gyntaf oll. Ond dylem fod yn chwilio am yr un iawn i brofi hyn, fel y cawn yn y diwedd dreth sydd er lles pawb. Mae yna reswm i wneud trethi, ac os ydynt yn newid ymddygiad neu wir yn gwella’r amgylchedd yr ydym yn byw ynddo—neu’r safon byw sydd gennym—mae hynny'n rheswm da dros dreth.

Hoffwn innau ychwanegu fy nghefnogaeth i'r dreth ar wahanol fathau o blastig, ac efallai y gellid defnyddio rhywfaint ohoni i fuddsoddi mewn ffynhonnau dŵr fel y gallai pobl lenwi eu poteli â dŵr yn hytrach na gorfod prynu potel ddŵr arall eto fyth. Hefyd, rwy’n meddwl ei bod yn berffaith iawn, i ateb Neil Hamilton, ein bod yn gosod treth ar y bobl hynny sy'n dewis llygru ein bwyd â siwgr, halen a braster i dalu am y goblygiadau iechyd a chostau gofalu amdanynt. Pam y dylem dderbyn deunydd pacio bwyd cyflym yn sbwriel ar ein tirwedd a disgwyl i rywun arall ei godi? Gallai awdurdodau lleol ddefnyddio treth pecynnu cludfwyd i dalu am y gwaith sgubo ffyrdd ychwanegol sydd ei angen.

Ond hoffwn ddefnyddio’r rhan fwyaf o fy amser i drafod y syniad o dreth carbon gymedrol. Yn syml, nid ydym yn gwasgu danhadlen y newid sydd ei angen i osgoi’r drychineb amgylcheddol y mae arbenigwyr yn rhybuddio y bydd gyda ni o fewn 15 mlynedd, heb sôn am ein plant a'n hwyrion, oni bai ein bod yn newid yn sylweddol. Mae'r pwyllgor newid yn yr hinsawdd yr wythnos ddiwethaf wedi datgelu bod Cymru’n eithriad o ran ymdrechion i leihau allyriadau carbon. Felly, mae hwn yn gynnig yr wyf yn meddwl ei fod yn annog creu cyfoeth, yn ogystal ag ymdrin â sgandal llygredd aer, y mae DEFRA yn cyfaddef ei fod yn lladd poblogaeth o faint Maesteg bob blwyddyn yn y DU. Mae lefelau nitrogen deuocsid a allyrrir yn bennaf gan gerbydau diesel yn uwch na'r terfynau cyfreithiol yn bron i 90 y cant o ardaloedd trefol.

Mae'n rhyfeddol imi fy mod yn eistedd yma ac yn gwrando arnoch yn trafod llygredd aer pan fo eich plaid yn gyfrifol am y ffrwydrad o lygredd aer a ddaw o ganlyniad i gynllun datblygu lleol Caerdydd. A fyddech nawr yn condemnio'r cynllun hwnnw a'r llygredd aer y bydd yn ei achosi?

Os daliwch i wrando, byddaf yn dweud wrthych pam y bydd fy nghynnig yn helpu i ddatrys rhywfaint o’r llygredd aer hwn.

Ni allwn ddibynnu ar Lywodraeth y DU i ddatrys hyn. Maent eisoes wedi dioddef dwy golled gywilyddus yn yr Uchel Lys, ac mae'r cynllun diweddaraf hyd yn oed yn wannach ac yn fwy simsan na'u rhai cynharach. Mae'n mynnu bod awdurdodau lleol yn ystyried pob opsiwn arall cyn cyflwyno parthau aer glân, gan eu galluogi i godi tâl am gerbydau sy’n llygru sy’n mynd i mewn i barth llygru pan mai dyna, mewn gwirionedd, yw'r unig opsiwn effeithiol i newid pethau. Yn lle hynny, mae'r Torïaid yn dweud y dylem anadlu aer gwenwynig tan 2050, pan fydd bron bob car a fan yn allyriadau sero; erbyn hynny, bydd llawer ohonom wedi marw. Felly, rwy’n meddwl y gallem dreialu treth carbon mewn ardaloedd sydd eisoes â lefelau anghyfreithlon o lygredd aer, fel canol Caerdydd o amgylch Heol y Porth a Heol Casnewydd. Mae angen parth aer glân ar frys. Mae Caerdydd yn un o'r prifddinasoedd lle defnyddir y mwyaf o geir yn Ewrop, ac yn bendant mae angen inni ail-beiriannu’r buddsoddiad y mae angen inni ei wneud mewn system drafnidiaeth gyhoeddus i alluogi pobl i newid i ddulliau eraill o deithio llai niweidiol. Ar hyn o bryd, nid yw map tanddaearol Caerdydd yn fawr mwy na darn o waith celf, yn hytrach na bod yn gynllun sydd wedi nodi digon o gyfalaf i wneud iddo ddigwydd mewn gwirionedd. Felly, y ffordd gyflymaf, decaf o wneud technoleg lân yn gystadleuol â thanwydd ffosil, yn syml, yw i garbon ddechrau talu ei wir gostau. Gallai ffi yn dechrau ar £10 y dunnell fetrig o garbon deuocsid a allyrrir, gan gynyddu £7 y dunnell bob blwyddyn, olygu’n gyflym mai ynni glân yw’r dewis rhataf amlwg. Byddai llif refeniw wedi’i ad-dalu’n gyfartal i bob cartref yn creu galw am dechnolegau carbon niwtral newydd ac yn clustogi cartrefi incwm isel yn ystod y cyfnod pontio. Byddai’r rheini sydd eisoes yn troedio'n ysgafn ar adnoddau'r byd, yn enwedig y rhai nad oes ganddynt gar, mewn gwirionedd yn cael difidend o’r dreth carbon hon. Byddai'n gymdeithasol gyfiawn ein bod yn gwobrwyo’r rhai heb gar yn hytrach na’u cosbi fel sy’n digwydd ar hyn o bryd. Wrth i’r ffi a'r difidend i aelwydydd gynyddu’n gyson bob blwyddyn, anfonir signal pris clir ar draws yr economi at yr holl fuddsoddwyr, gan gynhyrchu hyd yn oed mwy o gyfalaf i ariannu dewisiadau eraill newydd, carbon isel. Mae’r dechnoleg lân sydd ei hangen i bweru ein heconomi yn bodoli eisoes. Bydd ardoll ar garbon yn darparu'r cymhelliant economaidd i fuddsoddwyr i gyflwyno’r technolegau hynny ar raddfa fawr. Felly, gadewch inni gyflawni ar Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol a’i gwneud yn realiti gyda threth carbon.

Rydym wedi treulio llawer o amser yn ystyried sut y gall ein pwerau deddfu ail-lunio ein cymdeithas ac yn awr gallwn ystyried sut y gall ein pwerau cyllidol gyfrannu hefyd. Dyma'r union fath o ddadl uchelgeisiol ac agored y cafodd y lle hwn ei greu ar ei chyfer—cyfle inni i herio'r sefyllfa sydd ohoni a gosod Cymru yn wirioneddol ar wahân. Ond, yn ogystal ag ystyried beth y gallem ei wneud gyda threthi newydd, dylem hefyd fod yn meddwl am sut y gallwn harneisio’r pwerau amrywio trethi presennol hefyd. Dylem wneud hyn o fewn cyfres gytûn, gydlynol o egwyddorion, y gallwn brofi ein dulliau gwneud refeniw yn eu herbyn. Felly, heddiw hoffwn awgrymu tair egwyddor o'r fath inni eu hystyried—tryloywder, tegwch a gwytnwch—gyda rhai enghreifftiau penodol o gamau y gallem eu cymryd i sicrhau bod ein system dreth yn eu bodloni.

Yn gyntaf, tryloywder. Rwy’n gefnogol o lawer o'r syniadau sydd wedi cael sylw heddiw, gan gynnwys y dreth siwgr, y dreth gwelyau haul a'r dreth pecynnu prydau parod, a awgrymwyd gan y Comisiwn Bevan: trethi sy'n ceisio rhoi hwb i ymddygiad. Ond, rwyf hefyd yn credu'n gryf y dylid defnyddio refeniw o drethi sy'n anelu at gyflawni newid ymddygiad i gymell yr ymddygiad cadarnhaol yr ydym yn ceisio ei annog. Felly, dylid buddsoddi ardoll petrol, er enghraifft, mewn mathau cynaliadwy o drafnidiaeth, i roi dewis arall ymarferol i bobl yn lle gyrru. Yn yr un modd, gellid defnyddio’r dreth siwgr i gymorthdalu cost bwyd da wedi’i dyfu’n lleol, a gallai’r refeniw a godir drwy'r dreth pecynnu prydau parod fynd tuag at gynlluniau adfywio cymunedol. Yn y modd hwn, gallwn sicrhau bod y grwpiau sy’n dioddef fwyaf oherwydd y trethi hefyd yn elwa fwyaf. Cyn inni gytuno ag unrhyw un o'r trethi hyn, mae angen syniad clir arnom o'r newid ymddygiad yr ydym yn ceisio ei gymell. Mae angen inni weithio gyda chymunedau ledled Cymru i benderfynu ar y ffordd orau o wneud hyn—democrateiddio ein system dreth a gwneud ein hamcanion yn dryloyw yn y broses. Ond, cyn inni ymgolli’n ormodol yn y trethi newydd sgleiniog y gallem eu cyflwyno, rwy’n meddwl y dylem archwilio'r trethi sydd eisoes dan ein rheolaeth a’r dyletswyddau ymarfer sy'n dod inni.

Mae hyn yn fy arwain at yr ail egwyddor yr hoffwn sôn amdani, sef tegwch. Mewn ychydig fisoedd, byddwn yn mabwysiadu cyfrifoldeb am dreth trafodiadau tir a threth gwarediadau tirlenwi. Yn 2019, bydd gennym y pwerau treth incwm ychwanegol. Yn amlwg, mae'r rhain yn gamau pwysig yn ein hesblygiad i fod yn Senedd go iawn i Gymru. Ond, ni ddylem golli’r pwyslais ar y pwerau sydd eisoes o dan ein rheolaeth, sef trethi busnes a’r dreth gyngor. Nid ydym wedi gwneud llawer i’n gwahaniaethu ein hunain o’r ffordd y mae’r trethi hyn yn gweithredu yn Lloegr. Gallai trethi busnes fod yn arf pwerus wrth ymdrin â phryderon am adfywio canol trefi. Eto i gyd, yng nghanol tref Llanelli, er enghraifft, mae rhai siopau wedi gweld eu trethi busnes yn cynyddu’n aruthrol. Mae siopau o gwmpas Heol yr Orsaf, rhan ddifreintiedig o’r dref, wedi gweld gwerth cyfartalog fesul metr sgwâr yn cynyddu o £80 i £200, ac mae rhai cyfraddau siopau ym mharc manwerthu y tu allan i'r dref sef Parc Trostre wedi gostwng, ac er bod rhaid i feysydd parcio a adeiladwyd yn bwrpasol yng nghanol y dref dalu trethi busnes, does dim taliadau o'r fath i faes parcio helaeth Trostre, ac mae hyn yn gweithio'n uniongyrchol yn erbyn dau bolisi yr ydym am eu hannog: hyrwyddo trafnidiaeth gynaliadwy ac adfywio canol trefi. Dychmygwch yr hyn y gallem ei gyflawni drwy ailstrwythuro trethi i roi adlewyrchiad mwy cywir o'r heriau sy’n wynebu canol ein trefi, a drwy ail-archwilio'r achos dros godi trethi am barcio ceir y tu allan i'r dref, yn union fel y maent yn cael eu trethu yng nghanol trefi, gan glustnodi unrhyw refeniw a godir ar gyfer prosiectau adfywio lleol.

Nawr, ceir materion tebyg â’r dreth gyngor, sy'n parhau i fod yn un o'r trethi mwyaf atchweliadol, a hefyd yn un o'r trethi anoddaf i'w hosgoi. Yn ei bapur Senedd a ysgrifennwyd ar gyfer y Sefydliad Materion Cymreig ar y mater, nododd Gerry Holtham fod y dreth gyngor, ar gyfer cartrefi sy'n werth llai na £44,000, cyfwerth â bron i 2 y cant o werth yr eiddo, a bod y swm hwnnw ar gyfer cartrefi sydd werth dros £424,000 yn gostwng i 0.5 y cant. Nawr, mae cyfleoedd clir i wneud y dreth gyngor yn decach. Byddai ychwanegu bandiau treth gyngor ychwanegol, rhywbeth yr wyf yn sylwi bod Plaid Cymru wedi'i gynnwys yn eu maniffesto, yn symud—[Torri ar draws.]

I fod yn deg, roeddwn yn ymwneud â drafftio'r papur gryn amser cyn i’ch maniffesto gael ei ysgrifennu, felly rhowch rywfaint o glod imi.

Byddent yn symud mwy o faich o gyfraniad i bobl sydd â thai mawr, drud—arian y gellid ei ddefnyddio i roi hwb i gyllidebau gofal cymdeithasol neu i eithrio pobl yn gyfan gwbl â llai o arian neu gartrefi llai rhag y dreth gyngor. Ond, fel y mae Gerry Holtham wedi’i nodi yn y comisiwn enwog sy'n dwyn ei enw, nid oes llawer o bobl gyfoethog yng Nghymru, ac mae’r ychydig rai sydd yn symudol iawn. Felly, os ydym yn rhoi—[Torri ar draws.]

Mae'n ddrwg gennyf, Nick; hoffwn i, ond mae amser yn fy erbyn.

Os ydym ni’n rhoi beichiau ychwanegol ar y bobl gyfoethocaf, byddai’n hawdd iddynt neidio dros y ffin hir, fandyllog â Lloegr. Felly, os ydym yn mynd i gynyddu eu trethi eiddo, dylem geisio cydbwyso hynny drwy leihau eu treth incwm â phwerau newydd—dyna’r darn na wnaeth Plaid Cymru sôn amdano. Byddai'n esmwytho’r newid i system dreth fwy blaengar sy'n canolbwyntio ar dir ac eiddo a gallai gael yr effaith o ddenu mwy o bobl yn y grŵp incwm uchel i Gymru i gryfhau ein sylfaen dreth wan.

Ac mae hynny'n dod â mi at fy egwyddor olaf, Llywydd, os caf: yr angen i’n system dreth fod yn wydn. Dros yr 20 mlynedd nesaf, rydym yn amcangyfrif bod 700,000 o swyddi yng Nghymru mewn perygl oherwydd awtomeiddio, ac mae goblygiadau hyn o safbwynt refeniw treth a nawdd cymdeithasol yn glir: bydd derbyniadau treth yn gostwng ar adeg pan fydd angen y mwyaf o help ar rai pobl. Mae'n rhaid inni sicrhau bod y rhwyd ​​ddiogelwch yn addas i'r pwrpas, ac mae angen trafodaeth genedlaethol am sut y byddai cynigion fel incwm sylfaenol cyffredinol yng Nghymru yn gweithio. Yn amlwg, mae llawer o hyn gryn bellter i ffwrdd. Mae gennym rwystrau i'w goresgyn. Efallai y bydd angen inni ailfeddwl ein system drethi’n ofalus. Ond mae'n bwysig ein bod yn dechrau’r ddadl nawr, fel ein bod yn barod am yr her sydd i ddod. Diolch.

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid i ymateb i’r ddadl.

Member
Mark Drakeford 18:03:00
The Cabinet Secretary for Finance and Local Government

Diolch yn fawr, Llywydd. Wel, agorodd Nick Ramsay y ddadl drwy obeithio y byddai'n ddiddorol, ac nid wyf yn meddwl y bydd wedi cael ei siomi. Hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau hynny sydd wedi cymryd rhan.

Gadewch imi ddweud wrth Nick hefyd pe na bawn yn meddwl bod gennym syniad a oedd yn deilwng o ystyriaeth ar ei delerau ei hun, na fyddwn yn ei anfon allan i brofi'r system newydd, ond nid wyf yn meddwl y byddwn yn y sefyllfa honno o gwbl. Cyfeiriodd Nick Ramsay ei hun at drethi amgylcheddol, a phe bai unrhyw un wedi meddwl nad oeddem yn gallu meddwl am syniad a oedd yn ddigon cadarn ar ei delerau ei hun, dylent fod wedi gwrando ar Simon Thomas a'i esboniad o drethi amgylcheddol o ran defnyddio poteli plastig yma yng Nghymru. Rwy'n siŵr y bydd gennym, ar ddiwedd y broses hon, syniad a ddeil ei archwilio ac sy’n werth ei brofi, hefyd.

Llywydd, mae’r ddadl, fel sy'n digwydd yn aml yma, yn datgelu ffawtlin drwy'r Cynulliad. Ar un ochr i'r ddadl, mae gennych yr Aelodau hynny sy’n reddfol yn elyniaethus i drethiant. Felly, roedd Neil Hamilton, roeddwn i’n meddwl, yn agored iawn wrth ddweud mai dyna’n wir oedd ei safbwynt, a dangosodd Mark Reckless, â’i ddisgrifiad o drethiant fel cosb a baich, ei safbwynt ar y ffawtlin honno, hefyd. Ar yr ochr arall i’r ffawtlin, mae gennych Adam Price, pan ddisgrifiodd yr angen am newid gyda phwrpas, a Huw Irranca-Davies pan siaradodd am y lles cyffredin. I mi, nid baich ar bobl yw trethiant. Trethiant yw’r ffordd yr ydym yn dod at ein gilydd ar y cyd i wneud ein cyfraniadau unigol fel y gallwn wneud gyda'n gilydd beth na fyddai neb un ohonom yn gallu ei gyflawni ar ein pennau ein hunain. Dyna pam, oherwydd bod gennym y gred sylfaenol honno mai trethiant yw'r ffordd yr ydym yn gweithredu gyda'i gilydd i hybu ein hamcanion cyffredin, mae gennym ddiddordeb mewn profi’r system newydd hon a allai fod yn feichus ac yn anodd.

Ac rwy’n awyddus i ddiolch i'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu syniadau posibl at y rhestr gynyddol honno o bosibiliadau. Aeth Mike Hedges drwy restr hir o bosibiliadau. Fe’n hatgoffodd am ddychwelyd poteli Corona. Roeddwn i'n arfer mynd â photeli Tovali Special yn ôl yng Nghaerfyrddin i wneud yn siŵr bod fy mam-gu yn rhoi’r newid imi a ddaeth o ddychwelyd poteli ar flaendal. Pwy fyddai wedi meddwl y byddai'r dreth glanhau gwm cnoi wedi gwneud ei ffordd yn ôl i lawr y Cynulliad? [Torri ar draws.] Diolch yn fawr iawn. Neu, yn wir, y gallai treth diesel fod wedi troi’n ddadl am dwristiaeth diesel? Ond, dyna ni—dyna fu natur y ddadl, ac, wrth wneud hynny, mae wedi ychwanegu at y cyfoeth o bosibiliadau sydd gennym yma i’w profi. Ac mae Jenny a Simon Thomas ac eraill i gyd wedi ychwanegu syniadau eraill at y gyfres newydd o bosibiliadau.

Gadewch imi ddiweddu drwy ddweud bod Huw Irranca-Davies, rwy’n meddwl, wedi ein hatgoffa o'r rheswm pam mae’n bwysig weithiau bod y weithdrefn yn heriol, hefyd. Bydd angen inni brofi unrhyw syniadau yr ydym yn eu datblygu yn erbyn eu canlyniadau anfwriadol i wneud yn siŵr eu bod yn flaengar o ran pwrpas ac effaith. Dyna pam yr wyf yn bwriadu defnyddio'r haf ac i mewn i'r hydref, fel yr eglurais yn gynharach wrth agor y ddadl, i gael ystod mor eang o syniadau ag y gallwn i ddechrau, i ddod â nhw i lawr i restr fer o’r syniadau mwyaf addawol, ac yna i orfod dewis un ymgeisydd i brofi’r system. Wrth wneud hynny, rwy’n gobeithio y bydd gennym, yn y diwedd, dreth sy'n addas at y diben y byddem yn ei fwriadu, sy'n gwneud pethau da inni yma yng Nghymru, a, hyd yn oed os na fydd, rwy’n dychwelyd at y pwynt a wneuthum, sef, wrth brofi’r system, y byddwn yn dysgu llawer iawn, efallai am ddiffygion y system ei hun, ac, yn y ffordd honno, gallwn barhau i ddatblygu'r ffordd y mae ein cyfrifoldebau cyllidol, sy’n newydd yn y tymor Cynulliad hwn, yn gallu dal i fod yn rhan werthfawr o'r ffordd yr ydym yn cynnal busnes yma yng Nghymru yn y dyfodol.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais ar yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

9. 8. Cyfnod Pleidleisio

A dyma ni’n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Oni bai bod tri Aelod yn dymuno i mi ganu’r gloch, rwy’n symud yn syth i’r bleidlais. Ac mae’r bleidlais, felly, ar y ddadl ar drethi newydd, ac ar welliant 1. Galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 44, naw yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 1.

Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 44, Yn erbyn 0, Ymatal 9.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig welliant 1 i gynnig NDM6352.

Yr ail bleidlais, ar welliant 2, ac rwy’n galw am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. [Torri ar draws.] Mae’r bleidlais ar agor.

The vote is open, finally.

Cau’r bleidlais. O blaid 53, neb yn ymatal, neb yn erbyn, ac felly derbyniwyd gwelliant 2.

Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 53, Yn erbyn 0, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 2 i gynnig NDM6352.

Rydw i’n galw, felly, am bleidlais ar y cynnig wedi ei ddiwygio, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt.

Cynnig NDM6352 fel y’i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod Deddf Cymru 2014 yn caniatáu ar gyfer creu trethi Cymreig newydd.

2. Yn cydnabod y bydd gofyn profi'r agwedd newydd hon ar y peirianwaith datganoli.

3. Yn croesawu ystod eang o syniadau ynglŷn â sut y gellid defnyddio'r posibiliadau cyllidol newydd hyn yng Nghymru.

4. Yn credu y dylai unrhyw drethi newydd gadw at y farn a fynegwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, yn ei ddatganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd ar 5 Gorffennaf 2016, ‘ni fydd unrhyw newid dim ond er mwyn newid’.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud trefniadau i adolygiad annibynnol o unrhyw drethi newydd gael ei gwblhau o fewn chwe blynedd i gyflwyno'r trethi hynny.

Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 53, neb yn ymatal, neb yn erbyn, ac felly derbyniwyd y cynnig wedi ei ddiwygio.

Derbyniwyd cynnig NDM6352 fel y’i diwygiwyd: O blaid 53, Yn erbyn 0, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6352 fel y’i diwygiwyd.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:11.