Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

28/06/2017

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni’r prynhawn yma yw’r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig. A’r cwestiwn cyntaf, Vikki Howells.

Gwastraff Bwyd

1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i annog ailgylchu gwastraff bwyd yng Nghymru? OAQ(5)0157(ERA)

Member
Lesley Griffiths 13:30:00
The Cabinet Secretary for Environment and Rural Affairs

Diolch. Mae ailgylchu ac atal gwastraff bwyd yn cael eu hyrwyddo drwy ymgyrch newid ymddygiad Ailgylchu dros Gymru, dan arweiniad WRAP Cymru, gan gynnwys yr ap Hoffi Bwyd Casáu Gwastraff. Rwy’n trafod y posibilrwydd o ariannu ymgyrch newid ymddygiad estynedig gydag awdurdodau lleol, er mwyn atgyfnerthu’r negeseuon hyn ymhellach.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae’n sicr yn bwysig iawn ein bod yn annog teuluoedd i ailgylchu cymaint o wastraff bwyd â phosibl yng Nghymru. Rwy’n falch iawn o’r ffaith fod y cyfleuster treulio anerobig ym Mryn Pica yn fy etholaeth wedi trawsnewid gwastraff bwyd yn ddigon o drydan i bweru dros 2,500 o gartrefi ar gyfer y flwyddyn galendr y llynedd. Beth yw’r ffordd orau y gall Llywodraeth Cymru hyrwyddo’r neges, os yw cartrefi yn cynhyrchu gwastraff bwyd—a gwasanaethau cyhoeddus a busnesau preifat hefyd—ei fod yn cael ei ailgylchu’n briodol, fel y gellir ei ddefnyddio i bweru cartrefi ac adeiladau?

Mae’n wirioneddol bwysig fod deiliaid tai yn deall beth sy’n digwydd, ac mae 99 y cant o gartrefi bellach yn gallu darparu eu gwastraff bwyd er mwyn iddo gael ei ddefnyddio yn y ffordd hon. Mae WRAP Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol ledled Cymru i gynyddu’r cyfraniad o wastraff bwyd ar gyfer y canolfannau treulio anaerobig. A’r llynedd, dyblodd lefelau gwastraff bwyd un awdurdod lleol o ganlyniad i’r ymgyrch, ac mae’r ymgyrch gyffredinol wedi hybu gostyngiad yn lefelau gwastraff bwyd y cartref yng Nghymru, i lefelau is nag unrhyw le arall yn y DU. Unwaith eto, rydym yn arwain yn hyn o beth. Mae hwnnw’n ostyngiad o 12 y cant.

Ysgrifennydd y Cabinet, wrth gwrs, rwy’n derbyn mai gwaith awdurdodau lleol yw annog trigolion i ailgylchu eu gwastraff bwyd. Ond a gaf fi ofyn i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, pa ystyriaeth rydych wedi’i rhoi i ymgyrch genedlaethol, ledled Cymru, i annog pobl i feddwl am y ffordd y maent yn siopa ac yn cynllunio eu prydau mewn perthynas â lleihau gwastraff bwyd?

Wel, soniais yn fy ateb i Vikki Howells am ap Hoffi Bwyd Casáu Gwastraff. Nid wyf yn gwybod a ydych wedi’i weld ai peidio, ond mae’n ap newydd sydd newydd ei gyhoeddi. Rwyf rhwng dau feddwl yn ei gylch. Mae’n seiliedig ar Tinder, felly mae’n ymwneud, mewn ffordd, â pharu dau beth â’i gilydd, os hoffwch. Felly, os oes tatws gennych dros ben un diwrnod, ac ŵy dros ben ar ddiwrnod arall, sut rydych yn eu paru? Ond mae’n ddyddiau cynnar iawn, felly rydym yn edrych i weld sut y mae’n datblygu. Ond mae’n debyg fod hyn yn ymwneud â ffyrdd arloesol—gallai apelio at bobl iau hefyd. Felly, cawn weld sut y mae’r ymgyrch honno’n datblygu. Ond rwy’n credu y gallai wneud i bobl feddwl mwy, rywsut, ynglŷn â’u harferion siopa.

Gan ddychwelyd at dreulio anaerobig, mae cyngor Caerdydd a Chyngor Bro Morgannwg wedi gweithredu ar y cyd i wneud hyn. Tybed beth yw eich barn ynglŷn â faint o gynghorau lleol sydd wedi defnyddio cynllun o’r fath. Sut mae hynny wedi bod hyd yma, yng Nghymru?

Wel, mae cyfleusterau treulio anaerobig yn dod yn fwy poblogaidd, ac rydym yn gweld mwy ohonynt. Mae gennyf un yn fy etholaeth—credaf mai hwnnw oedd un o’r rhai cyntaf yng Nghymru—ac rydym yn sicr yn gweld ychydig mwy ohonynt. Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n gyfrifol am eu rheoleiddio. Fe fyddwch yn gwybod am rai o’r materion sy’n codi. Tynnodd Hefin David sylw at rai materion sy’n codi o hyn yn y datganiad busnes ddoe, rwy’n credu. Felly, mae angen inni weld mwy o hyn, ond mae angen ei reoleiddio mewn ffordd briodol.

Nodyn Cyngor Technegol 20

2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf o ran cynnydd y Nodyn Cyngor Technegol 20? OAQ(5)0158(ERA)

Diolch. Rwy’n bwriadu ailgyhoeddi nodyn cyngor technegol 20 wedi’i ddiwygio ar gynllunio a’r iaith Gymraeg cyn toriad yr haf. Bydd y nodyn cyngor technegol diwygiedig yn cefnogi amcanion strategaeth iaith Gymraeg newydd y Llywodraeth, Cymraeg 2050, ac yn cynnwys negeseuon allweddol o fframwaith asesu risg newydd i’r Gymraeg ar gyfer datblygiadau mawr.

Diolch am hynny, ond daeth yr ymgynghoriad blaenorol i ben ym Mawrth y llynedd, sydd 15 mis yn ôl nawr, ac mae pobl yn dangos consýrn bod yna ddiffyg arweiniad yn hynny o beth. Sut ydych chi’n disgwyl i gynghorwyr, a’r Arolygiaeth Gynllunio, weithredu’n iawn ar y statws cryfach a ddaeth i’r Gymraeg drwy Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015, os nad oes yna symud yn y mater yma? Ac, onid yw’n glir o’r penderfyniad i beidio sôn yr un waith am y Gymraeg yn y llythyr am gais cynllunio Pen y Ffridd ym Mangor—cais a wrthodwyd gan y cyngor, yn rhannol oherwydd ei effaith iaith—nad oes yna flaenoriaeth i’r Gymraeg yn hynny o beth? Sut, felly, ydych chi, fel Gweinidog, yn bwriadu y bydd y cyngor technegol newydd yma, pan gaiff ei gyhoeddi, yn cymryd mewn i ystyriaeth y materion yma ac yn gwneud hyn mewn ffordd amserol nawr?

Wel, ni allaf roi sylwadau ar apêl Pen y Ffridd. Yn amlwg, mae gerbron Gweinidogion Cymru iddynt benderfynu arni ar hyn o bryd. Mae’n rhaid i mi ddweud na fydd y nodyn cyngor technegol diwygiedig yn cynnwys newidiadau ar raddfa fawr. Credaf fod y fersiwn gyfredol yn parhau i ddarparu cyngor cadarn i ddatblygwyr ac i awdurdodau lleol yn y cyfamser.

Ysgrifennydd y Cabinet, yn amlwg, mae’r gallu i bennu’r canllawiau ar gyfer y nodiadau cyngor technegol a roddir gan Lywodraeth Cymru yn fesur hanfodol bwysig mewn unrhyw system gynllunio. Mae’r rhan y mae cynghorau cymuned a chynghorau plwyf yn ei chwarae wrth benderfynu ar geisiadau yn aml iawn yn cael ei hesgeuluso i raddau helaeth, a cheir diffyg dealltwriaeth ynglŷn â sut yn union y gall y nodiadau cyngor technegol fod o gymorth i gynghorau tref a chymuned i sicrhau bod eu trafodaethau’n fwy buddiol i’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Pa waith y mae eich adran yn ei wneud i gynorthwyo’r broses o ddatblygu dealltwriaeth o’r nodiadau cyngor technegol a ddarperir gan yr adran gynllunio, fel y gallant hidlo drwy’r system gynllunio, ac er mwyn i gymunedau fod yn hyderus fod eu buddiannau’n cael eu gwarchod?

Rydym yn monitro polisi cynllunio a nodiadau cyngor technegol yn gyson, ac yn diweddaru’r canllawiau i awdurdodau lleol, wrth gwrs. Mae’r ffordd y caiff ei ledaenu wedyn i gynghorau cymuned a chynghorau plwyf yn bwysig iawn, oherwydd, fel y dywedwch, mae ganddynt rôl bwysig i’w chwarae mewn ceisiadau cynllunio. Felly, mae hwnnw’n waith y mae swyddogion yn ei wneud gydag awdurdodau lleol, ac mae’r wybodaeth honno wedyn yn cael ei lledaenu i lawr.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, David Melding.

Diolch yn fawr, Llywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, roedd adran 17 o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 yn ei gwneud yn ofynnol i ymgeiswyr gynnal ymgynghoriadau cyn ymgeisio gyda’r gymuned ac ymgyngoreion technegol. A ydych wedi gwneud unrhyw asesiad o sut y mae’r broses hon yn gweithredu bellach a hithau wedi bod ar waith ers 15 mis?

Rwy’n falch ei fod yn mynd rhagddo, gan fod hwn yn ddiwygiad pwysig i sicrhau bod y broses gynllunio’n fwy effeithiol ac effeithlon. Bydd yr Aelodau’n gwybod bod hyn yn ofynnol ar gyfer datblygiadau mawr, megis datblygiadau tai o 10 neu fwy o dai, neu ddatblygiadau ar safleoedd un hectar neu fwy o faint. Nawr, un o’r prif amcanion yw cynnwys y gymuned leol a’u galluogi i leisio eu barn mewn perthynas â cheisiadau mawr. Tybed a fyddwch yn cyfarwyddo eich adran i wneud asesiad gofalus o sut y mae’r ymatebion cymunedol hyn yn cael eu defnyddio i wella’r broses gynllunio.

Bydd hynny’n rhan o’r asesiad a’r gwaith monitro, gan y credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn gweld gwelliant yn y maes hwnnw.

Rwy’n cytuno â chi, gan y credaf mai mantais proses rag-gynllunio yw y gellir mynd i’r afael wedyn â phryderon real iawn y gymuned, a gall hynny wedyn roi ffurf i’r cais, ond gall y cais barhau yn ei hanfod ar ffurf wedi’i chymedroli a’i haddasu. Rhywbeth arall y credaf fod angen i chi edrych arno, oherwydd, yn y trafodaethau a gefais, er enghraifft gyda chymdeithasau tai, penseiri ac adeiladwyr, mae’r Ddeddf yn ei hun yn ei gwneud yn ofynnol i ddatblygwyr ymgynghori â phersonau penodedig neu ymgyngoreion statudol yn ystod y camau ymgynghori cyn ymgeisio, ond wrth gwrs, nid oes unrhyw ofyniad i’r ymgyngoreion hyn ymateb. Ond rydym yn gweld, weithiau, nad oes unrhyw ymateb yn dod yn ystod yr ymgynghoriadau cyn ymgeisio, ac yna, bydd cwmni seilwaith, cwmni cyfleustodau—pob un yn ymgyngoreion statudol—yn nodi gwrthwynebiadau mawr yn ystod rhan ffurfiol y broses geisiadau cynllunio, sy’n amlwg yn andwyo, neu byddai’n andwyo pe bai’n dod yn arfer cyffredin, holl sail y diwygiadau hyn. Ac mae’n bwysig o ran ein hamcanion cymdeithasol ac economaidd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol ein bod yn gwella’r broses gynllunio ac yn sicrhau bod gennym broses gynllunio briodol ac effeithiol wedi’i rheoleiddio fel y gall ein cymunedau ffynnu.

Nid wyf yn anghytuno â chi, ac yn amlwg, wrth roi’r Ddeddf gynllunio ar waith, mae’n bwysig iawn ein bod yn gweld y gwelliannau y cyfeiriwch atynt.

Diolch yn fawr, Llywydd. Ysgrifennydd Cabinet, mae’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig wedi cyhoeddi adroddiad heddiw ar ddefnyddio maglau yng Nghymru. Mae nifer o’r argymhellion i chi ymateb iddyn nhw maes o law, wrth gwrs, ond rwy’n credu bod un argymhelliad fedrwch chi rhoi ateb heddiw yn ei gylch. Mae argymhelliad saith yn dweud y dylid gwahardd defnydd o faglau nad ydynt yn cydymffurfio â chod eich Llywodraeth eich hunain ar dir sy’n eiddo i Lywodraeth Cymru. Rwy’n credu bod hwn yn gam syml a chadarnhaol y medrwch chi ei gymryd yn awr, i ddangos arweinyddiaeth ac i hyrwyddo’r defnydd o faglau sydd ond yn cydymffurfio â’ch cod eich hun ar gyfer effeithlonrwydd a lles anifeiliaid gwyllt. A wnewch chi gadarnhau heddiw eich bod chi’n fodlon gwneud hynny?

Rwyf wedi cael yr adroddiad ac nid wyf wedi cael cyfle i’w ddarllen eto. Fel y dywedwch, byddaf yn ymateb yn y ffordd arferol. Mewn perthynas â hynny, byddwn yn sicr yn gobeithio gallu gwneud hynny. Yn fy marn i, os na allwn gydymffurfio â’n cod ein hunain, yna nid yw’n werth ei gael. Felly, byddwn yn cadarnhau hynny.

Diolch yn fawr am yr ateb cadarnhaol hynny ac rwy’n edrych ymlaen, wrth gwrs, at ddarllen eich ymateb ffurfiol. Ond rwy’n credu bod hyn yn dangos yr arweinyddiaeth sydd ei angen ac, fel rŷch chi’n gwybod, mae angen defnyddio’r maglau sy’n cydymffurfio â’r cod. Mae’n mynd yn anodd cael gafael ynddyn nhw, felly rŷch chi’n rhoi arweinyddiaeth yn fanna.

A gaf fi jest droi at ynni yn awr? Rydym yn aros o hyd, wrth gwrs, am benderfyniad ar forlyn llanw bae Abertawe. Rwyf i, ers yr etholiad, wedi ysgrifennu at Liz Truss, sydd bellach yn dal rhywfaint o’r ‘purse strings’ yn y Trysorlys ac am iddi fwrw ymlaen y nawr gyda chaniatâd cyllidol a fydd yn agor y drws i’r dechnoleg gyffrous hon a rhoi Cymru wrth gwrs ar flaen diwydiant a fydd yn siŵr o ddatblygu’n gyflym cyn bo hir. Mae £1 biliwn i Ogledd Iwerddon, yn rhannol i glirio lan eu llanast nhw o ran y cynllun ynni o bren, wrth gwrs, yn dangos inni i gyd bod y Trysorlys yn gallu rhoi arian pan fod ewyllys yno. Beth ydych chi a Llywodraeth Cymru wedi ei wneud, ers yr etholiad cyffredinol felly, i sicrhau bod y morlyn llanw ym mae Abertawe yn mynd yn ei flaen?

Credaf fod yn rhaid i chi dderbyn bod Llywodraeth y DU wedi bod yn araf iawn gyda’u hymateb i adolygiad Hendry, ac yn amlwg, gyda’u cyhoeddiadau ynglŷn â morlyn llanw bae Abertawe. Ysgrifennais, bythefnos yn ôl unwaith eto, at Greg Clark, yn gofyn pryd y byddai’r ymateb yn dod i law. Yn y cyfryngau heddiw, gwelais fod y cwestiynau hynny wedi’u hosgoi ddoe yn nau Dŷ’r Senedd. Credaf fod angen i ni wybod beth yw eu safbwynt. Credaf fod yr ymateb cyntaf a gefais gan Greg Clark yn dweud y byddai Llywodraeth y DU yn ymateb maes o law. Wel, nid yw ‘maes o law’ yn golygu unrhyw beth i mi. Pa mor hir yw darn o linyn? Felly, credaf fod angen i ni wybod. Felly, fel y dywedais, fe ysgrifennais at Greg Clark oddeutu pythefnos yn ôl.

Diolch am gadarnhau hynny, Ysgrifennydd y Cabinet, ac rwy’n siŵr, os bydd angen, y byddwch yn atgoffa Llywodraeth San Steffan fod y Cynulliad hwn wedi pleidleisio’n unfrydol o blaid y cynllun, ar ôl gweld ac astudio adolygiad annibynnol Charles Hendry, a gomisiynwyd gan Lywodraeth flaenorol San Steffan, ac a ddywedai’n glir iawn y dylai hyn barhau fel mater ar gyfer prosiect braenaru, a heb unrhyw gost, bron, neu boendod os mynnwch, i San Steffan fuddsoddi yn hynny.

Mae un agwedd ar ynni yn eich dwylo chi yn llwyr, sef cynlluniau cymunedol ac ynni dŵr. Cododd fy nghyd-Aelod, Sian Gwenllian, hyn gyda’r Prif Weinidog ddoe ac rwyf am ei godi gyda chi heddiw. Credaf y bydd y ddau ohonom yn ei godi hyd nes y cawn ateb boddhaol, a dweud y gwir, sef effaith ailbrisio ar drydan dŵr a chynlluniau ynni dŵr yn arbennig. Rwyf wedi cael llythyr gan Gymdeithas Ynni Dŵr Prydain, sy’n nodi y byddai gan y rhan fwyaf o gynlluniau ynni dŵr annibynnol, sy’n cynnwys y rhai cymunedol, wrth gwrs, werthoedd ardrethol blaenorol o oddeutu 10 y cant o’u refeniw, sy’n debyg i fusnesau eraill, a’u bod bellach yn gweld y gwerthoedd hynny, o ganlyniad i’r ailbrisio, yn codi ddwy, dair neu bedair gwaith, ac mewn rhai achosion, gwelwyd cynnydd o 900 y cant. Mae hyn yn amlwg yn bygwth cau ffynhonnell o fuddsoddiad ar gyfer diwydiant pwysig ac arbenigol, i raddau efallai, ond diwydiant ynni adnewyddadwy pwysig sydd gennym yma yng Nghymru a’r potensial ar gyfer ehangu ymhellach yng Nghymru. Felly, a wnewch chi drafod gyda gweddill y Cabinet yn awr, ond yn enwedig gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid, i weld a ellir sicrhau rhyw fath o ostyngiad ar gyfer cynlluniau ynni adnewyddadwy fel y rhain, yn debyg i’r hyn sydd wedi digwydd yn yr Alban, fel nad ydym yn atal y diwydiant hwn rhag tyfu?

Gwnaf, rwy’n fwy na pharod i gael y drafodaeth honno gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Chyllid, ac yna byddaf yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelod.

Diolch, Llywydd. Y tro diwethaf i mi holi Ysgrifennydd y Cabinet ynglŷn ag amaethyddiaeth ychydig wythnosau yn ôl, roeddem yn trafod rheoliadau’n ymwneud ag amaethyddiaeth ar ôl Brexit. Byrdwn fy nghwestiwn oedd y dylem ailasesu’r holl reoliadau i weld a allem eu lleihau lle na fyddai hynny’n amharu’n sylweddol ar fudd y cyhoedd. Ymddengys bod rhan o ateb Ysgrifennydd y Cabinet wedi achosi rhywfaint o bryder ymhlith rhai ffermwyr, gan iddi ddweud, ‘Wel, wrth gwrs, gallai hyn olygu mwy o reoliadau.’ Rwy’n gobeithio, heddiw, y gall roi hynny mewn persbectif. Rhoddaf un enghraifft o sut y mae ffermwyr yn Lloegr ar hyn o bryd yn ymgyrchu i lacio’r cyfyngiadau ar dorri perthi ym mis Awst. Wrth gwrs, nid oes cyfyngiadau gennym yng Nghymru. Cyfnod byr o gyfle sydd i’w gael rhwng cynaeafu cnydau’r haf a phlannu cnydau’r gaeaf, ac mae’n peri problemau i ffermwyr os nad ydynt yn gallu gwneud pethau fel torri perthi a materion rheoli eraill ym mis Awst. Felly, dyna enghraifft o sut y gall rheoliadau mwy cymesur fod o fudd i ffermwyr heb achosi unrhyw broblemau i fudd y cyhoedd.

Wel, credaf fod y pryder ymhlith ffermwyr wedi’i gynyddu o ganlyniad i ychydig o greu helynt gan y Ceidwadwyr Cymreig a’r datganiad i’r wasg a ryddhawyd ganddynt. Credaf mai’r hyn a ddywedais oedd bod gennyf oddeutu 7,000 o ddarnau o ddeddfwriaeth a rheoliadau yn fy mhortffolio, a chredaf mai ‘ystyried pob achos yn unigol’ a ddywedais mewn gwirionedd, ond yr hyn roeddwn yn ei ddweud oedd na fyddem, er enghraifft, yn caniatáu i safonau amgylcheddol lithro, ac y gallem gryfhau rhai ohonynt mewn mannau pe tybid bod angen gwneud hynny. Felly, rydych yn gywir. Mae angen inni edrych ar hyn yn bragmatig iawn i sicrhau ei fod yn gymesur.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich ateb. Mae arnaf ofn nad yw fy rhestr ddarllen mor gynhwysfawr â’i hun hi; nid yw’n cynnwys datganiadau i’r wasg gan y Ceidwadwyr. Ond—[Torri ar draws.] Ond a gaf fi godi mater cysylltiedig? Ar hyn o bryd, mae’r Undeb Ewropeaidd yn ystyried gostwng y lefelau a ganiateir o sinc ocsid, sy’n gemegyn pwysig ar gyfer lleihau problemau dolur rhydd mewn moch ar ôl eu diddyfnu. Nid ymddengys bod unrhyw broblem gyda lefelau sinc yn y ddaear ym Mhrydain neu yng Nghymru, ond pe bai ocsidau sinc yn cael eu gwahardd, neu pe bai cyfyngiadau sylweddol yn cael eu cyflwyno ar y defnydd ohonynt, gallai olygu mwy o ddefnydd o wrthfiotigau a gallai hynny, yn amlwg, arwain at ymwrthedd microbaidd. Pe baech yn gohirio’r broses o ddiddyfnu’r perchyll o 28 diwrnod i 42 diwrnod fel un ffordd o wneud iawn am fethu defnyddio’r cemegyn hwn, gwnaed cyfrifiadau sy’n dangos y byddai hynny’n costio hanner torllwyth y flwyddyn am bob hwch, sef £156 yr hwch, a fyddai’n ostyngiad sylweddol yn incwm ffermwyr sy’n arbenigo ar foch. Felly, a all Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthyf a yw’n cyflwyno sylwadau ar ran ffermwyr Cymru yn erbyn y cynnig sydd ar y bwrdd ar hyn o bryd yn yr UE?

Wel, nid yw hynny wedi cael ei ddwyn i fy sylw, y mater hwnnw, ond byddwn yn fwy na pharod i’w ystyried, ac unwaith eto, gallaf ysgrifennu at yr Aelod. Ond yn sicr nid oes neb yn y diwydiant moch wedi dwyn hynny i fy sylw’n uniongyrchol.

Byddaf yn hapus i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet, os byddai’n gwerthfawrogi hynny. Ar hyn o bryd, mae llawer o ansicrwydd, yn amlwg, ymhlith cymunedau gwledig ynglŷn ag effaith Brexit, ac mae’r ansicrwydd hwn yn debygol o barhau am beth amser. Credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn cadw pethau mewn persbectif. Mae pob un ohonom yn gobeithio, wrth gwrs, y ceir cytundeb yn y pen draw a fydd, at ei gilydd, yn diogelu mynediad at farchnadoedd Ewrop fel y maent ar hyn o bryd, a’r ffordd arall. Ond onid yw’n bwysig inni gydnabod bod amaethyddiaeth, er ei bod yn rhan bwysig iawn o ddiwydiant a chymuned, yn elfen fach iawn yng nghyd-destun y cynnyrch domestig gros cenedlaethol? Mae’n cyfateb i oddeutu 2 y cant yn unig yn y DU, ac mae’r adroddiad y byddwn yn ei drafod yn nes ymlaen y prynhawn yma gan y pwyllgor newid hinsawdd yn darparu rhai ffigurau defnyddiol ar hyn, mai £385 miliwn yn unig yw’r gwerth ychwanegol gros o amaethyddiaeth yng Nghymru—0.69 y cant o’n hincwm cenedlaethol yng Nghymru. Felly, ni waeth pa broblemau a allai ddeillio o broses Brexit, dylai fod yn gwbl bosibl eu hariannu o’r cyllidebau presennol pan gaiff Llywodraethau Prydain a Chymru y gallu i wneud hynny o ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd, gan ein bod, wrth gwrs, mewn diffyg sylweddol â hwy ar hyn o bryd. Felly, ychydig iawn sydd gan ffermwyr i’w ofni o ganlyniad i Brexit, gan y byddwn yn gallu ariannu unrhyw anawsterau trosiannol a allai ddeillio o hynny.

Wel, yn anffodus, nid wyf yn rhannu eich barn ramantaidd ar hynny. Mae’r sector amaethyddol mor bwysig i Gymru, ac mae’r ffermwyr yn bryderus iawn. Byddant wedi eich clywed a gallant ddewis eich credu neu beidio. Ond tan 2020 yn unig y cawsom sicrwydd y bydd y cyllid hwnnw gennym ar eu cyfer. Ar ôl hynny, mae yna dwll du. Mae’r trafodaethau hynny’n parhau. Rydym yn rhoi pwysau anhygoel ar Lywodraeth y DU, a ddywedodd na fyddai Cymru’n colli ceiniog pe baem yn gadael yr UE. Felly, mae’r rheiny’n drafodaethau a gefais. Rwyf eisoes wedi cael sgwrs gychwynnol gyda Michael Gove. Rwyf wedi cyfleu’r farn honno’n glir iawn wrtho yntau hefyd. Felly, wyddoch chi—fel y dywedaf, nid wyf yn rhannu eich barn ramantaidd. Gobeithiaf y bydd y cyllid hwnnw’n parhau ar eu cyfer, a byddwn yn ymladd drostynt.

Morlyn Llanw Bae Abertawe

3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr asesiadau a wnaeth Cyfoeth Naturiol Cymru mewn perthynas â'r cynnig ar gyfer morlyn llanw Bae Abertawe? OAQ(5)0161(ERA)

Diolch. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio’n agos gyda’r datblygwr ar y cais arfaethedig ac mae’r sefydliad wedi gwneud cynnydd sylweddol ar y cais am drwydded forol. Rwy’n deall mai’r prif fater dan sylw yw’r effeithiau posibl ar bysgod mudol a sut i fodelu’r effeithiau hyn, ac ni allaf wneud sylwadau pellach ar hynny oherwydd fy rôl bosibl yn y broses drwyddedu.

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn eich ateb i Simon Thomas yn gynharach, fe dynnoch sylw at yr oedi sydd wedi bod yn effeithio ar Lywodraeth y DU, ond gyda’r etholiad cyffredinol bellach wedi bod, efallai y gallwn weld yr oedi a’r esgusodion hynny am yr oedi’n diflannu. Ond mae trwyddedu morol yn fater pwysig, oherwydd gallai’r oedi hwnnw ddiflannu a gallem gael penderfyniad gan Lywodraeth y DU, ond byddai problem drwyddedu morol gennym o hyd. Siaradais gyda Cyfoeth Naturiol Cymru yr wythnos diwethaf, ac fel y dywedwch, mae’r anghysondebau rhwng y ddau begwn yn lleihau, ond credaf fod arnom angen amserlen ar gyfer yr ateb hwn. A ydych yn barod bellach i gyfarfod â Cyfoeth Naturiol Cymru a rhoi amserlen iddynt weithio iddi er mwyn i ni gael trwydded forol ar waith, naill ai ‘ie’ neu ‘na’, fel y gallwn gael penderfyniad yn gyflym?

Rwy’n cyfarfod â Cyfoeth Naturiol Cymru o leiaf unwaith y mis ac yn cael y trafodaethau hynny. Nid oes terfynau amser statudol wedi cael eu gosod ar gyfer trwyddedu morol. Credaf mai’r peth pwysicaf yw bod y cwmni a Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio’n agos iawn gyda’i gilydd, ac maent yn gwneud hynny. Rwyf wedi cael sicrwydd ar y pwynt hwnnw. Ond fel y dywedais, mae gennyf rôl fel apelydd, felly byddaf yn gyfrifol am hynny os ceir apêl.

Mae môr-lynnoedd llanw, wrth gwrs, hefyd yn nodwedd bwysig a allai fod o fudd i arfordir gogledd Cymru, o ran datblygu economaidd ac o ran gwarchod yr arfordir. Ond un o’r pethau y mae datblygwyr posibl yn ei ddweud wrthyf yw y gallent wneud â rhywfaint o gyllid sbarduno er mwyn ariannu’r ymchwil a allai fod yn angenrheidiol ar sail ffynhonnell agored, ac ar gael i unrhyw un gael gafael arno, er mwyn iddynt allu bwrw ymlaen â’u prosiectau. Tybed pa drafodaethau a gawsoch gyda’ch cyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi, ynglŷn â’r posibilrwydd y gallai Llywodraeth Cymru fuddsoddi yn y gwaith ymchwil hwnnw er mwyn gwneud rhywfaint o gynnydd mewn perthynas â’r posibilrwydd o ddatblygiad o’r fath oddi ar arfordir gogledd Cymru.

Yn amlwg, rwy’n ymwybodol o’r cynlluniau ar gyfer morlyn llanw arall yn ardal bae Colwyn. Nid wyf wedi cael unrhyw drafodaethau penodol gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith ynglŷn â hyn. Yr hyn sydd ei wir angen arnom, yn fy marn i, yw ymateb gan Lywodraeth y DU. Mae arnom ei angen er mwyn i ni—wyddoch chi, rydym yn hynod o gefnogol o egwyddorion morlyn llanw. Credaf ei bod yn bwysig iawn fod Llywodraeth y DU hefyd yn cydnabod bod gennym ran fawr i’w chwarae yn hyn. Felly, ar ôl i ni gael ymateb gan Lywodraeth y DU, os ydym yn credu bod angen yr ymchwil pellach hwnnw, gallwn edrych ar hynny, yn sicr.

Yn dilyn y cytundeb rhwng y Ceidwadwyr a’r DUP yr wythnos hon—nid wyf yn gwybod a ydych wedi clywed am hynny, Ysgrifennydd y Cabinet; a nodaf eich sylwadau cynharach i Simon Thomas, ond mae’r morlyn llanw yn hanfodol bwysig i Abertawe ac i Gymru—a fyddwch yn gwneud sylwadau penodol i Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar y mater hwn hefyd fel un o wyth Aelod Seneddol y Ceidwadwyr Cymreig y bydd yn rhaid iddynt sefyll cornel Cymru o hyn ymlaen? Rydym wedi gweld yr hyn y gall 10 o ASau’r DUP ei wneud—pa bris a fyddai i’w dalu am ASau’r Ceidwadwyr Cymreig yn sefyll cornel Cymru?

Wel, mae’r Aelod yn codi pwynt pwysig iawn, ac yn sicr, pan fyddaf yn cyfarfod nesaf ag Alun Cairns, credaf fod honno’n drafodaeth y byddem yn ei chael. Ond byddwch wedi clywed y Prif Weinidog yn dweud ddoe ei fod wedi siarad ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru ddydd Llun, rwy’n meddwl, pan godwyd hynny gennym.

Glastir

4. Pa gynlluniau sydd gan Ysgrifennydd y Cabinet i werthuso'r gwaith o weinyddu'r cynllun Glastir yng Nghymru? OAQ(5)0152(ERA)

Diolch. Mae’r gwaith o weinyddu Glastir yn cael ei adolygu’n flynyddol, yn anad dim er mwyn paratoi ar gyfer gwaith craffu’r Comisiwn Ewropeaidd ar y cyfrifon blynyddol. Mae effeithiolrwydd y gyfres o gynlluniau Glastir yn cael ei werthuso drwy raglen fonitro a gwerthuso Glastir, sydd i fod i gyhoeddi eu hadroddiad terfynol cyn bo hir.

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Gall oedi mewn perthynas â thaliadau’r cynllun Glastir effeithio’n niweidiol iawn ar gyllid ffermydd. Yn ôl Undeb Amaethwyr Cymru, erbyn 9 Mai eleni, roedd 22 y cant o’r hawliadau am waith a wnaed o dan y cynllun Glastir y llynedd yn dal i fod heb eu talu, a bwriad Llywodraeth Cymru oedd talu 90 y cant o’r hawliadau yn unig erbyn diwedd mis Mai. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn derbyn ei bod yn hanfodol fod taliadau i ddigolledu ffermwyr am y gwaith y maent wedi’i wneud a’r costau yr eir iddynt yn cael eu gwneud o fewn cyfnod amser rhesymol, a pha gamau y bydd yn eu cymryd i gyflymu’r broses dalu, os gwelwch yn dda?

Credaf fod angen yr arian hwnnw ar ffermwyr cyn gynted â phosibl. Fodd bynnag, fe fyddwch yn gwybod, yn gyntaf, ein bod wedi canolbwyntio ar gynllun y taliad sylfaenol, a derbyniodd 90 y cant o bobl y cyllid hwnnw ar ddiwrnod cyntaf y cyfnod talu. Mewn perthynas â Glastir, fe ddywedasom, o’r cychwyn, y byddem yn dechrau talu taliadau Glastir ym mis Chwefror. Mewn gwirionedd, dechreuwyd gwneud hynny ym mis Ionawr gan ein bod wedi gwneud mor dda ar gynllun y taliad sylfaenol. Dechreuwyd fis yn gynnar, ac mae fy swyddogion wedi bod yn gweithio’n galed iawn i fwrw ymlaen â holl achosion Glastir heblaw am y rhai mwyaf cymhleth erbyn diwedd y mis hwn—felly, erbyn diwedd yr wythnos hon. Bydd nifer fach o ffermwyr na fyddant yn cael eu talu yr wythnos hon, a byddant yn derbyn eglurhad ysgrifenedig ynglŷn â hynny, ond gobeithiaf yn fawr y bydd hynny wedi’i gwblhau erbyn diwedd mis Gorffennaf.

Diwydiant Cocos Gŵyr

5. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddiwydiant cocos Gŵyr? OAQ(5)0154(ERA)

Diolch. Mae diwydiant cocos Gŵyr yn bysgodfa bwysig, a dyna pam fod Llywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ariannu’r astudiaeth o’r problemau sy’n ymwneud â marwolaethau. Bydd y cyhoeddiad diweddar ar y rhaglen ymchwil ar gocos yng ngwledydd yr Iwerydd yn gymorth inni ddeall a datblygu ymhellach y wyddoniaeth a’r materion sy’n ymwneud â marwolaethau cocos.

Diolch yn fawr am yr ateb yna, ond, er fy mod i’n croesawu unrhyw ymgais i geisio sefydlu achos marwolaethau’r cocos yn yr ardal, byddwch yn ymwybodol bod y casglwyr cocos lleol a phroseswyr ar benrhyn Gŵyr, fel ei gilydd, wedi datgan eu bod wedi colli hyder yng Nghyfoeth Naturiol Cymru i ddod i wraidd y broblem. Mae’r saga, fel rydych chi’n ymwybodol—ac yn bendant rydym ni’n ymwybodol ar benrhyn Gŵyr—wedi llusgo ymlaen am flynyddoedd lawer nawr, ac mae angen atebion ar y diwydiant hynafol, traddodiadol yma. Wnaethon nhw ddim dderbyn yr atebion angenrheidiol mewn astudiaeth a gynhaliwyd yn 2012. Pam y dylent fod yn fwy hyderus y tro hwn?

Diolch. Wel, mae hwn yn fater sy’n sicr wedi bod ar fy nesg dros y flwyddyn ddiwethaf. Rwyf wedi cael cyfarfodydd am hyn gyda Lee Waters a Rebecca Evans a Bethan Jenkins. Rydych yn iawn: ni allai’r adroddiad, pan y’i cyhoeddwyd yn 2012, nodi un rheswm clir am y cynnydd yn y marwolaethau, ond nododd nifer fach o ffactorau posibl. Roedd y rheiny’n cynnwys gorlenwi, parasitiaid, a dirywiad yng nghyflwr cocos ar ôl silio. Credaf ei bod yn bwysig tu hwnt ein bod yn edrych ar y gwaith ymchwil newydd hwn sy’n mynd rhagddo ar hyn o bryd, ac mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhan o hynny. Os oes gennych unrhyw beth penodol yr hoffech ysgrifennu ataf yn ei gylch, byddwn yn awyddus iawn i’w weld.

Prynhawn da, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru, wrth gwrs, wedi dweud bod yr astudiaeth newydd hon yn ceisio ymdrin â chwestiynau nas atebwyd yn yr astudiaeth yn 2012. Pan ofynnais i’r Prif Weinidog am farwolaethau cocos yn ôl ym mis Chwefror, dywedodd fod yr ymchwiliadau i farwolaethau cocos yng Nghilfach Tywyn yn parhau ac y byddai adolygiad cynnydd o ymchwiliad Llywodraeth Cymru yn cael ei ryddhau gan Cyfoeth Naturiol Cymru ar ôl ei gwblhau. A wnewch chi esbonio i mi ble y mae’r adolygiad cynnydd hwnnw’n ffitio o fewn yr hyn sy’n ymddangos fel pe bai’n astudiaeth newydd? Sut y mae un yn llywio’r llall? Mae’n fater, yn y bôn, o sicrhau nad ydym yn dyblygu unrhyw wariant yma, yn enwedig gan ein bod yn edrych ar gwestiynau heb eu hateb yn hytrach nag ailadrodd astudiaethau i gwestiynau a atebwyd.

Wel, nid wyf wedi derbyn adroddiad diweddar gan Cyfoeth Naturiol Cymru, ond rwy’n sicr yn barod i ofyn iddynt pa waith sydd ganddynt a pha un a oes adroddiad ganddynt y gellir ei rannu gyda’r Aelodau mewn perthynas â hynny. Mae’r ymchwil newydd hwn, yr ymchwil i gocos yn ardal yr Iwerydd, yn rhaglen gyllido sylweddol. Mae’n werth €3.5 miliwn, os cofiaf yn iawn. Felly, fel chithau, buaswn yn siomedig iawn pe bai arian yn cael ei wario mewn dwy ffordd, ond yn sicr fe egluraf hynny i Suzy Davies.

Diolch, Llywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, mae cocos wedi cael eu cynaeafu oddi ar arfordir Gŵyr ers oes y Rhufeiniaid. Fodd bynnag, dros y degawd diwethaf, mae’r gwelyau cocos wedi bod yn marw ar raddfa sylweddol bob blwyddyn. Croesawaf yr astudiaeth newydd, a fydd, gobeithio, yn mynd i’r afael â diffygion astudiaeth 2012. Ysgrifennydd y Cabinet, beth arall y gall eich Llywodraeth ei wneud i sicrhau bod cocos Penclawdd yn parhau i fod y gorau yn y byd ac ar gael ar gyfer y cenedlaethau sydd i ddod?

Wel, bydd yr Aelod wedi clywed fy ateb i gwestiwn gwreiddiol Dai Lloyd. Credaf mai dyna pam ei bod yn bwysig ein bod yn parhau i fwrw ymlaen ag ymchwil er mwyn i ni gael y dystiolaeth wyddonol honno. Byddwch wedi fy nghlywed yn dweud bod angen i ni edrych ar y rhesymau dros y cynnydd mewn marwolaethau cocos. Un o’r pethau eraill a ddysgais gan Cyfoeth Naturiol Cymru oedd nad yw ansawdd dŵr yn ffactor, felly mae angen i ni ddarganfod beth sy’n achosi hyn. Fel y soniais, ni nodwyd un rheswm clir yn ôl yn astudiaeth 2012.

Cynllun y Taliad Sylfaenol

6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am daliadau Cynllun y Taliad Sylfaenol? OAQ(5)0164(ERA)

Mae Llywodraeth Cymru, unwaith eto, wedi arwain ledled y DU ar ddarparu taliadau sylfaenol 2016. Talwyd bron i 90 y cant o fusnesau fferm cymwys ar ddiwrnod cyntaf y cyfnod talu ac mae 15,435—sef 99.93 y cant—o fusnesau fferm wedi derbyn cyfanswm o £224.1 miliwn o daliadau. Erbyn hyn, mae 11 o fusnesau fferm cymwys yn aros am eu taliadau. Mae’r hawliadau hynny naill ai’n gymhleth, neu mae’r swyddogion yn aros am wybodaeth gan y busnes fferm.

Ysgrifennydd y Cabinet, mewn ymateb diweddar i gwestiwn ysgrifenedig, cadarnhawyd gennych fod 56 o ffermwyr yn dal i aros am eu harian drwy gynllun y taliad sylfaenol, ac nid dyma’r tro cyntaf i mi orfod codi’r mater hwn gyda Llywodraeth Cymru ynglŷn â’r oedi maith. Gall y sgil-effeithiau ar ein ffermwyr a’u teuluoedd, sydd â hawl i’r arian hwn, fod yn ddinistriol iawn, ac mae’n fethiant ar ran eich Llywodraeth mewn perthynas â’r drefn briodol. Ysgrifennydd y Cabinet, pa gamau rydych yn eu cymryd i ryddhau’r arian hwn ac i sicrhau nad yw’r sefyllfa hon yn codi eto y flwyddyn nesaf?

Where is the money? Our farmers have waited long enough.

Ni chredaf fod yr Aelod wedi fy nghlywed gyda fy ateb cyntaf, oherwydd, fel y dywedais, 11 ydyw bellach—nid wyf yn siŵr ynglŷn â dyddiad eich cwestiwn ysgrifenedig blaenorol, ond 11 ydyw bellach. Y ffaith yw bod 90 y cant—90 y cant—o fusnesau fferm wedi derbyn eu taliad ar y diwrnod cyntaf un, ar 1 Rhagfyr 2016. Ar gyfer y rhan fwyaf o ffermydd na dderbyniodd eu taliad sylfaenol, roedd hynny oherwydd y ffiniau rhwng Cymru a Lloegr. Roedd hynny oherwydd—. Gallwch ysgwyd eich pen, ond gallaf roi’r dystiolaeth fod hynny oherwydd y taliadau gwledig yn Lloegr, nid ein taliadau gwledig ni. Dywedais ein bod wedi arwain yn hyn o beth, ac 11 o ffermydd cymwys yn unig sydd gennym bellach.

Ddydd Llun, wrth gwrs, mi gawsom ni fanylion y cytundeb yma rhwng y Ceidwadwyr a’r DUP. Ymhlith pethau eraill, mi roedd y cytundeb yn estyn y sicrwydd ynglŷn â lefel y taliadau fferm ac ariannu ar gyfer y taliadau fferm i ffermwyr yng Ngogledd Iwerddon tan 2022, y tu hwnt i’r sicrwydd y mae Cymru wedi’i gael yn flaenorol. A gaf i ofyn, felly: a ydych chi wedi cael, erbyn hyn, yr un sicrwydd i Gymru? Os ddim, beth ydych chi’n ei wneud i sicrhau bod ffermwyr Cymru yn cael eu trin yn deg ac yn gyfartal?

Mae’n ddrwg gennyf, credaf fy mod wedi dweud 2020 yn fy ateb i Neil Hamilton, ond rydym wedi cael yr un sicrwydd mai 2022 ydyw—credaf fod hynny o fewn cylch y Senedd newydd.

Y Diwydiant Pysgota

7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddiogelwch diwydiant pysgota Cymru ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd? OAQ(5)0160(ERA)

Mae gadael yr UE yn creu llawer o gwestiynau ac ansicrwydd ar gyfer dyfodol diwydiant pysgota Cymru. Mae’r broses o reoli pysgodfeydd wedi’i datganoli, a bydd yn rhaid i unrhyw drefniadau ar ôl inni adael barchu datganoli. Rydym yn gweithio’n agos gyda’r diwydiant, cymunedau a phartneriaid eraill ledled Cymru i greu polisïau pysgodfeydd blaengar a dynamig i Gymru.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei hateb. Credaf fod y rhan fwyaf o bobl o’r farn fod y polisi pysgodfeydd cyffredin wedi bod yn drychineb economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol, ac wedi achosi difrod trychinebus i’n hecoleg forol. [Torri ar draws.] Dim ond rhywun heb arfordir yn eu hetholaeth a allai fod mor anwybodus â’r Aelod dros Flaenau Gwent yn hyn o beth. Rydym hefyd wedi gweld fflydoedd diwydiannol yn ysbeilio dyfroedd y DU a’r dinistr i ddiwydiant pysgota Prydain, gan gynnwys Cymru. Onid yw’n hanfodol bwysig ein bod yn adfer yr hawl i reoli pysgota o fewn y terfyn 6 i 12 milltir, sy’n amodol ar gonfensiwn Llundain 1964 ar bysgota? Bydd angen gadael y confensiwn er mwyn gwneud hynny. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi sicrwydd i bysgotwyr Cymru y bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r mesur hwnnw?

Rwy’n siŵr eich bod yn gwybod am ein Papur Gwyn a gyhoeddwyd yn ddiweddar, ‘Diogelu Dyfodol Cymru’. Mae hwnnw’n ei gwneud yn glir iawn ein bod angen i gwotâu pysgota’r DU gael eu hail-gydbwyso yn decach. Oddeutu 1 y cant o’r cwotâu yn unig yn yr ardaloedd o ddiddordeb i Gymru a reolir gan longau o Gymru, ac nid yw hynny’n ddigon da. Rydym yn disgwyl gweld cynnydd yn faint o bysgod sydd ar gael i longau Cymru.

Roedd yr Ysgrifennydd Gwladol yn glir iawn ei fod yn disgwyl i bysgotwyr y DU gael cyfran fwy o’r cyfleoedd pysgota yn nyfroedd y DU, a byddaf yn sicrhau bod pysgotwyr Cymru yn cael eu cyfran deg. Rwy’n gweithio’n agos iawn gyda’r diwydiant pysgota ac rydym wedi dweud yn glir iawn y byddwn yn parhau i’w cefnogi, gan y credaf y byddwn yn wynebu llawer o heriau dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, a byddwn yn gweld newid sylweddol. Fel y byddwch hefyd yn gwybod, yn Araith y Frenhines, cyhoeddwyd yn sydyn fod Bil amaethyddol a Bil pysgodfeydd yn mynd i fod. Ni chawsom unrhyw wybodaeth ynglŷn â hynny. Ond unwaith eto, pan siaradais â Michael Gove yn dilyn Araith y Frenhines ddydd Mercher diwethaf, dywedais yn glir iawn fod yn rhaid parchu datganoli, a’i bod yn gwbl hanfodol fod penderfyniadau ar faterion ar lefel y DU yn cael eu gwneud ar y cyd.

Ysgrifennydd y Cabinet, yn eich datganiad ysgrifenedig ynglŷn â’ch cyfarfod yng nghyngor pysgodfeydd yr UE yn ddiweddar i drafod cyfleoedd pysgota Ewropeaidd ar gyfer 2017, fe gyfeirioch at sicrhau cynnydd bychan i ganiatáu i rwydwyr ddal hyd at 250 kg y mis mewn perthynas â physgota draenogod môr masnachol. A allwch roi asesiad o’r effaith a gafodd y camau hyn yn rhan gyntaf y flwyddyn hon, ac a allwch ddweud wrthym beth yw eich bwriad mewn perthynas â’r mater hwn wrth symud ymlaen, o ystyried bod cyflwr y stoc yn parhau i fod yn y broses o wella?

Roeddwn am ddweud nad wyf yn credu ei fod mor ddiweddar â hynny, yn ôl pob tebyg roedd hynny tua mis Rhagfyr. Bydd yn rhaid imi ysgrifennu at yr Aelod ynglŷn â’r cynnydd rydym wedi’i wneud dros ran gyntaf y flwyddyn hon.

Rwyf wedi gweld y gwaethaf o drafodaethau pysgodfeydd Ewropeaidd, fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet, ond mae’n rhaid i mi ddweud mai nonsens llwyr yw dweud nad yw wedi bod yn llwyddiant. Oherwydd, yn ôl yng nghanol y 1970au, roedd cyfanswm y penfras a ddaliwyd ym môr y Gogledd yn 270,000 tunnell. Erbyn 2006, roedd wedi gostwng i 44,000 tunnell o ganlyniad i orgynhyrchu a gorbysgota am stoc a oedd yn mynd yn llai ac yn llai. Mae bellach, gyda llaw, yn ôl yn 165,000 tunell ac mae’r Gymdeithas Cadwraeth Forol bellach yn bwriadu ei frandio’n addas i gael ei werthu ar silffoedd y DU. Felly, pan fyddant yn ei gael yn iawn, maent yn ei gael yn iawn.

Ond a gaf fi ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet, yn gyntaf, na fydd unrhyw dynnu’n ôl o sicrhau pysgodfeydd sy’n gynaliadwy mewn gwirionedd, boed hynny mewn dyfroedd Cymreig neu mewn partneriaeth â’r DU, ond yn ail, pa mor ddichonadwy yw hi, yn y trafodaethau gydag Ysgrifennydd Gwladol DEFRA, y bydd cyfran o’r cwota yn dychwelyd i bysgotwyr a chapteiniaid y DU? Oherwydd yn sicr, mae rhai o bysgotwyr y DU yn pysgota yn nyfroedd eraill yr UE—cyfran o un o bob pedwar, yn fras. A ydym am ddweud ein bod yn diddymu eu cwotâu er mwyn cael gwared â phobl o’n dyfroedd? Beth sy’n digwydd i bysgotwyr o’r Alban sydd â chwotâu a thrwyddedau yn nyfroedd Lloegr? A ydym yn mynd i wthio pysgotwyr de-orllewin Lloegr allan o ddyfroedd Cymru? Mae’r rhain yn gwestiynau anodd, ac mae’n jôc i unrhyw un honni bod hyn mor syml â ‘Rhowch ein pysgod yn ôl i ni’.

Gallaf sicrhau’r Aelod, mewn perthynas â physgota cynaliadwy, fod hynny ar frig yr agenda. Nid wyf wedi cael y trafodaethau hynny eto gyda’r Ysgrifennydd Gwladol. Byddwch yn gwybod mai ers ychydig wythnosau’n unig y mae wedi bod yn y swydd, a sgwrs fer iawn a gefais. Gwnaeth yn glir y bydd yn dod i Sioe Frenhinol Cymru. Felly, rwy’n siŵr y gellir cynnal y trafodaethau hynny ar y diwrnod hwnnw hefyd. Mae’n rhaid i mi ddweud mai pysgodfeydd yw un o’r meysydd mwyaf cymhleth—bydd yr Aelod yn gwybod—yn fy mhortffolio. Ond mae’n rhaid i mi ddweud, o ran y trafodaethau a gawn fel Llywodraeth y DU a’r tair gweinyddiaeth ddatganoledig, ei bod yn braf iawn gweld y gwaith ac mae wedi fy arwain i gredu bod y fframweithiau hynny rydym o bosibl yn ceisio eu sicrhau ar gyfer y DU, wrth inni drafod gadael yr UE—y gall y trafodaethau hynny weithio. Credaf fod gennym fframwaith sy’n gweithio’n llwyddiannus iawn ac y gallwn ei ddilyn.

TB Buchol

8. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi amcangyfrif o nifer y ffermydd sy'n dioddef TB buchol a all symud moch daear sydd wedi'u heintio a'u lladd heb greulondeb? OAQ(5)0159(ERA)

Byddwn yn ystyried prawf i gael gwared ar ymyrraeth ar y 50 i 60 o ffermydd sydd ag achosion parhaus o TB ar ôl i ymchwiliad epidemiolegol milfeddygol llawn ddangos bod mesurau rheoli gwartheg wedi’u rhoi ar waith yn llawn, ac mai moch daear yw ffynhonnell debygol yr haint.

Gwn y bydd y 50 i 60 o ffermwyr hyn yn gwerthfawrogi’r cyfle hwnnw. A all Ysgrifennydd y Cabinet ddweud ar ba amserlen y gallai fod modd iddynt wneud hynny, ac a yw’n disgwyl y bydd y niferoedd hynny’n codi wedyn? Ac a all gadarnhau hefyd mai moch daear wedi’u heintio’n unig a gaiff eu lladd heb greulondeb? A yw’n cytuno â mi mai hynny, o bosibl, yw’r peth trugarog i’w wneud i’r mochyn daear, yn hytrach na’i adael yn rhydd i farw a dioddef o TB?

O ran eich pwynt olaf, ie, dim ond y moch daear sydd wedi’u heintio a chredaf y bydd yn dda ar gyfer y boblogaeth o foch daear. Credaf fy mod wedi gwneud hynny’n glir iawn yn fy natganiad ar TB buchol yr wythnos diwethaf. O ran y 50 i 60 o ffermydd, hwy yw’r ffermydd â TB cronig—rai ohonynt ers 16 neu 17 mlynedd—a fydd yn cael y cynlluniau pwrpasol hyn. Felly, ar hyn o bryd, mae gennym oddeutu 10 o’r cynlluniau pwrpasol hynny fwy neu lai wedi’u cwblhau, felly byddant wedyn yn gallu dechrau’r broses honno a chael yr asesiad milfeddygol hwnnw y cyfeiriais ato yn fy ateb cychwynnol. Felly, mae hyn yn mynd rhagddo bellach; rydym yn ei roi ar waith ar hyn o bryd. O 1 Hydref, byddwn yn rhoi’r rhan fwyaf o’r rhaglen ddileu wedi’i diweddaru a drafodwyd gennym yn y Siambr yr wythnos diwethaf ar waith.

Canllawiau Rheoli Ansawdd Aer Lleol

9. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu'r disgwyliadau ar awdurdodau lleol o ganlyniad i'r canllawiau rheoli ansawdd aer lleol yng Nghymru? OAQ(5)0155(ERA)

Cyhoeddais ganllawiau newydd y mis hwn a byddaf yn eu dilyn gyda llythyr at holl weinyddiaethau newydd yr awdurdodau lleol yr wythnos nesaf, yn tynnu sylw at eu dyletswyddau rheoli ansawdd aer a phwysigrwydd dilyn egwyddorion ein deddfwriaeth ar genedlaethau’r dyfodol, a chadw at derfynau amser wrth osod canllawiau ar gyfer adrodd a chynllunio camau gweithredu.

Diolch am eich ateb defnyddiol iawn. Credaf mai ar 15 Mehefin, mewn gwirionedd, y cyhoeddoch y canllawiau, ac mae’r canllawiau hynny’n cynnwys dyletswydd ar awdurdodau lleol i gynllunio ar gyfer y tymor hir ac atal problemau rhag gwaethygu neu godi yn y lle cyntaf. Mae hyn cyn eich llythyr, ond bedwar diwrnod yn ddiweddarach ar 19 Mehefin, dywedodd aelod cabinet Cyngor Abertawe dros yr amgylchedd fod yr awdurdod lleol yn cydymffurfio’n llwyr â’r holl ddeddfwriaeth ansawdd aer. Nawr, yn amlwg, mae dilyn canllawiau yn gymorth i bobl gydymffurfio â deddfwriaeth, felly o ystyried nad yw system fonitro Abertawe, sydd i fod i leihau llygredd aer lleol, yn weithredol o hyd, er iddi gael ei sefydlu yn 2012, a allwch ddweud bod cyngor Abertawe yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth? A yw’n bosibl fod angen i’ch canllawiau fynd ychydig ymhellach o ran eu pendantrwydd? Diolch.

Rydych yn iawn; cyhoeddais ganllawiau polisi ar 15 Mehefin gan fod hynny’n cyd-daro â Diwrnod Aer Glân. Felly, dyna oedd y rheswm dros wneud hynny, ac roeddwn yn awyddus, fel y dywedais, i sicrhau bod eu cyfundrefnau rheoli yn cydymffurfio. Byddaf yn ysgrifennu atynt eto yr wythnos nesaf, felly yn benodol yn achos Abertawe, gallaf ofyn y pwyntiau penodol hynny.

Yn anffodus, mae arnaf ofn nad yw Caerdydd yn cydymffurfio â deddfwriaeth ansawdd aer, a bu’r chwyddwydr ar Gaerdydd mewn rhaglen deledu ddoe am nifer y tai sy’n cael eu datblygu yng Nghaerdydd heb y cysylltiadau trafnidiaeth i gyd-fynd â hwy. A ydych o’r farn y dylai awdurdodau lleol, wrth gyflawni eu dyletswyddau cynllunio, ystyried yr angen am gysylltedd wrth ddatblygu cymunedau newydd, fel nad ydynt yn cynyddu eu problemau llygredd yn sylweddol? Ac yn amlwg, mae gan y metro ran bwysig i’w chwarae wrth sicrhau nad yw pob un ohonom yn boddi mewn aer gwenwynig.

Diolch. Gwelais heddiw yn y cyfryngau fod arweinydd cyngor dinas Caerdydd yn siarad am yr angen am ragor o ddefnydd o drafnidiaeth gyhoeddus a beicio mewn perthynas â’r mater rydych yn ei godi. Gwyddom nad yw trafnidiaeth, mewn gwirionedd, yn helpu gydag ansawdd aer, yn enwedig mewn ardaloedd trefol. Cawsom ddadl ddoe ynglŷn â datgarboneiddio’r sector cyhoeddus. Wel, mae hyn yn sicr yn rhan o’r agenda ddatgarboneiddio. Soniais ein bod wedi sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen gweinidogol, ac mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith yn rhan ohono, ac un o’r pethau y byddwn yn eu trafod yn ein cyfarfod nesaf yw cerbydau carbon isel, er enghraifft, am ei bod mor bwysig, wrth i ni bontio i economi carbon isel, ac mewn perthynas â thrafnidiaeth, eu bod yn cael eu hystyried mewn perthynas ag ansawdd ein haer.

Mae ansawdd yr aer ar Heol Castell-nedd yn yr Hafod yn Abertawe ymysg y gwaethaf yng Nghymru, o ganlyniad i’w phwysigrwydd fel y brif ffordd o’r gogledd-ddwyrain i mewn i ganol Abertawe, a’i thopograffi. Croesawaf ffordd ddosbarthu’r Morfa, a fydd yn lleihau llygredd aer ar Heol Castell-nedd. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno nad ffordd osgoi yw’r ateb i’r holl broblemau a achosir gan ansawdd aer gwael, ond y gallai fod yn ateb mewn rhai achosion a rhai amgylchiadau lle mae’r ffordd yn brif ffordd a’r topograffi’n golygu na ellir gwneud unrhyw beth arall?

Rwy’n cytuno â chi, ond mae’n rhaid i mi ddweud bod angen i ni wneud mwy i fynd i’r afael ag allyriadau cerbydau mewn ardaloedd trefol, felly rwy’n croesawu mesurau sy’n helpu i leihau cysylltiad y cyhoedd â llygredd aer, gan gynnwys prosiectau seilwaith o’r math y cyfeiriwch atynt. Gwn fod ffordd ddosbarthu’r Morfa yn Abertawe i fod i gael ei chwblhau yn y dyfodol agos iawn. Cefnogwyd hynny gan Lywodraeth Cymru drwy ein cronfa trafnidiaeth leol dros y blynyddoedd diwethaf.

Llygredd Afonydd

10. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am fesurau i fynd i'r afael â llygredd afonydd yng Nghymru? OAQ(5)0153(ERA)

Diolch. Mae’r cynlluniau rheoli basnau afonydd, a gyhoeddwyd yn 2015, yn cynnwys asesiadau manwl o holl afonydd Cymru a’r mesurau rydym yn eu rhoi ar waith i wella eu hansawdd. Ar hyn o bryd, mae 37 y cant o’n hafonydd yn cyflawni statws da o dan y gyfarwyddeb fframwaith dŵr ac rydym yn anelu at ei gynyddu hyn 42 y cant erbyn 2021.

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Un o ddyletswyddau Cyfoeth Naturiol Cymru yw monitro iechyd afonydd Cymru a rhoi camau gweithredu ar waith yn erbyn y rhai sy’n eu llygru. Mae ffigurau’n dangos bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cael bron i 6,900 o adroddiadau ynglŷn â llygredd afonydd rhwng 2013 ac 2016. Ymchwiliwyd i oddeutu 60 y cant o’r adroddiadau hyn, ond arweiniodd hynny at 41 o erlyniadau a 10 o sancsiynau sifil yn unig. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn credu bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn addas at y diben, a pha gamau y bydd yn eu cymryd i wella’r gwaith o ddiogelu dyfroedd Cymru ac afonydd Cymru rhag llygredd? Diolch.

Yn sicr, yn y flwyddyn ers i mi gael y portffolio hwn, rydym wedi gweld cynnydd yn nifer y digwyddiadau o lygredd sylweddol, yn arbennig, yn ein cyrsiau dŵr, yn fwyaf nodedig yn afon Teifi yng ngorllewin Cymru a hefyd yn afon Honddu yn Sir Fynwy. Credaf fod Cyfoeth Naturiol Cymru yn addas at y diben. Rwy’n disgwyl iddynt ddefnyddio eu pwerau cyfreithiol yn llawn i ymdrin â’r achosion hyn. Gwn eu bod weithiau’n teimlo’n rhwystredig fod cyn lleied yn arwain at erlyniad. Credaf fod gwaith mawr i’w wneud ar lygredd ar ffermydd. Fe fyddwch yn gwybod fod llygredd amaethyddol yn aml yn achos a dyna’r drafodaeth rwy’n ei chael gyda ffermwyr. Rwyf newydd ddechrau proses ymgynghori mewn perthynas â pharthau perygl nitradau a byddaf yn cyflwyno datganiad yn yr hydref. Fel rwy’n dweud, credaf fod gwaith mawr i’w wneud ac rydym yn ymgymryd â’r gwaith hwnnw.

Bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn cofio’r digwyddiad a fu yn fy etholaeth i gyda Valero yn gollwng olew i Nant Pibwr. Ar y pryd, roedd Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gwneud nifer o brofion o ran y pridd ac yn y dŵr, ac roedden nhw’n dweud eu bod nhw’n methu â chyhoeddi’r canlyniadau rhag ofn y bydden nhw eisiau defnyddio’r rheini mewn unrhyw gamau cyfreithiol y bydden nhw’n ymgymryd â nhw. A ydy’r Ysgrifennydd Cabinet felly yn gallu ein diweddaru ni a ydy’r data yna nawr ar gael i’w cyhoeddi, ac a ydy Cyfoeth Naturiol Cymru wedi penderfynu pa gamau cyfreithiol y maen nhw am eu cymryd yn yr achos yma?

Y tro diwethaf i mi drafod hyn gyda Cyfoeth Naturiol Cymru—sef oddeutu pum wythnos yn ôl, byddwn yn dweud—yn sicr, nid oeddent mewn sefyllfa i’w gyhoeddi o hyd. Byddwn yn fwy na pharod i roi hynny ar yr agenda ar gyfer fy nghyfarfod nesaf gyda Cyfoeth Naturiol Cymru, ac i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i Adam Price drwy lythyr.

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

Yr eitem nesaf yw’r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, a’r cwestiwn cyntaf—Hefin David.

Cefnogaeth i Gyn-filwyr

1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y gefnogaeth sydd ar gael i gyn-filwyr yng Nghaerffili? OAQ(5)0164(CC)

Mae ein rhaglen lywodraethu, ‘Symud Cymru Ymlaen’, yn nodi ein hymrwymiad i gefnogi cyn-filwyr y lluoedd arfog yng Nghymru, gan gynnwys y rhai sy’n byw yng Nghaerffili.

Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n gwybod o lygad y ffynnon, o fy ngwaith achos yn fy etholaeth, fod y problemau sy’n wynebu cyn-filwyr yn amrywio o dai, digartrefedd i ofal iechyd. Mae ymchwil a wnaed gan Brifysgol Abertawe ac Ymddiriedolaeth Forces in Mind wedi awgrymu y gallai cyn-filwyr fod mewn mwy o berygl o ddatblygu problemau gamblo na rhai nad ydynt yn gyn-filwyr, ac y gallai’r gwendid hwn fod yn gysylltiedig â phrofiad o ddigwyddiadau trawmatig blaenorol. Mae gamblo’n ddibyniaeth gymhleth ag iddi nifer o ffactorau cyfrannol, ac efallai y dylid ei thrin yn yr un ffordd â dibyniaeth ar alcohol a chyffuriau. Fel Ysgrifennydd y Cabinet sy’n gyfrifol am bolisi mewn perthynas â’r lluoedd arfog a chyn-filwyr yng Nghymru, a wnewch chi weithio gyda’ch cyd-Aelod, Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, i edrych ar iechyd ac effaith ehangach gamblo cymhellol ymhlith cyn-filwyr, er mwyn rhoi sylw i’w hanghenion penodol ac er mwyn iddynt allu cael mynediad at unrhyw gymorth priodol sydd ar gael?

Credaf fod yr Aelod yn codi pwynt pwysig iawn. Roeddwn yn falch yr wythnos diwethaf o fynychu lansiad gwasanaeth Veterans’ Gateway, siop un stop i gyn-filwyr ac aelodau o’u teuluoedd gael mynediad at wasanaethau a chefnogaeth. Wrth gwrs, mae llawer o asiantaethau y gellir cyfeirio cyn-filwyr atynt. Mae gennym thema drawsbynciol ar draws y Llywodraeth o ran cefnogi cyn-filwyr, ac rwy’n falch fy mod hefyd yn cadeirio grŵp cynghori sy’n cynnwys cyn-filwyr, o ran sicrhau eu bod yn rhoi cyngor priodol i mi, cyngor o ansawdd, mewn perthynas â’u hanghenion, a byddaf yn gofyn iddynt ystyried hynny yn y dyfodol agos.

Ysgrifennydd y Cabinet, yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd y Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan y byddai llinell gymorth 24 awr newydd ar gyfer cyn-filwyr gwasanaethau’r lluoedd arfog o bob rhan o’r Deyrnas Unedig sy’n dychwelyd i fywyd sifil yn cael ei lleoli yn Nantgarw. Bydd y llinell gymorth hon yn darparu siop un stop gan gynnig canllawiau ar dai, cyflogaeth, cyllid ac iechyd meddwl a chorfforol, 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ymuno â mi i groesawu’r cyhoeddiad hwn, a fydd yn gwella’n fawr y gefnogaeth sydd ar gael i gyn-filwyr yng Nghaerffili, Cymru, a’r Deyrnas Unedig gyfan? Diolch.

Rwy’n falch fod yr Aelod wedi codi’r union fater hwnnw heddiw. Mynychais lansiad y digwyddiad yn Nantgarw yr wythnos diwethaf, lle’r oedd nifer yn bresennol, ac wrth gwrs, gwn fod eich cyd-Aelod Darren Millar yn gwneud llawer iawn gyda’r lluoedd arfog hefyd yn y grŵp trawsbleidiol. Byddwn yn dweud bod y llinell gymorth 24 awr hon yn un bwysig, ac roeddwn yn falch iawn o allu dangos fy nghefnogaeth yn y lansiad yr wythnos diwethaf.

Diwrnod y Lluoedd Arfog

2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i Ddiwrnod y Lluoedd Arfog? OAQ(5)0161(CC)

Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Rydym yn falch o gyfrannu cymorth ariannol blynyddol i gynnal Diwrnodau’r Lluoedd Arfog yng ngogledd a de Cymru.

Mae Huw Irranca-Davies yn dweud bod thema’n datblygu, ond mae’r ffocws ychydig yn wahanol. Roeddwn wrth fy modd yn mynychu dathliadau Diwrnod y Lluoedd Arfog yng nghaeau Owain Glyndŵr yng Nghaerffili ddydd Sadwrn, a mynychodd y Prif Weinidog, ynghyd ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Roedd yn bleser gweld llawer o sioeau, fel Spitfire yn hedfan heibio a gorymdaith band catrodol y Cymry Brenhinol, ac roedd aelodau o Gorfflu Arfog Brenhinol y Menywod yn bresennol yn dathlu eu canmlwyddiant eleni.

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ymuno â mi i groesawu’r gefnogaeth a roddwyd i Ddiwrnod y Lluoedd Arfog yn 2017 gan Lywodraeth Cymru, gan Lywodraeth y DU, awdurdodau lleol a nifer o grwpiau cymunedol a gwirfoddol, ac yn wir gan sawl aelod o’r cyhoedd? A yw hefyd yn cytuno bod yn rhaid inni barhau i gefnogi nid yn unig Diwrnod y Lluoedd Arfog ond hefyd y gwasanaethau y mae cyn-filwyr yn ein cymunedau yn dibynnu arnynt ar ôl gadael y lluoedd fel y gallant gael mynediad at y gwasanaethau gorau y maent yn eu haeddu?

Wrth gwrs, ac rwy’n talu teyrnged i’r nifer o filwyr wrth gefn a theuluoedd y lluoedd arfog a’r personél sy’n gwasanaethu ar hyn o bryd, ledled y DU a ledled byd. Dylem fod yn falch iawn o’n hanes a’n cefnogaeth iddynt. Gwn fod y Prif Weinidog hefyd wedi mynychu’r digwyddiad yng Nghaerffili gyda’r Aelod, ac rydym yn falch iawn unwaith eto o sicrhau cymorth ar gyfer hynny. Rwyf wedi cael gwybod yn ddiweddar fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi bod yn llwyddiannus gyda’u cais i gynnal Diwrnod Lluoedd Arfog cenedlaethol y DU y flwyddyn nesaf, a bydd Llywodraeth Cymru yn darparu cyfraniad o £135,000 iddynt allu cynnal y digwyddiad mawreddog hwn.

Diolch i Hefin David am gadw’r ffocws ar y mater hwn y prynhawn yma. Ysgrifennydd y Cabinet, yr wythnos diwethaf, mynychais ddigwyddiad ‘chwifio’r faner dros ein lluoedd arfog’ ym mhencadlys Cyngor Sir Fynwy y tu allan i Frynbuga, ac roedd llawer o bobl yn bresennol. Mae’n dangos faint o Aelodau’r Cynulliad, yn ogystal â phobl ledled Cymru, sydd eisiau anrhydeddu ein lluoedd arfog a chydnabod y gwaith anodd iawn y maent yn ei wneud. Rwy’n deall bod Stagecoach wedi cynnig trafnidiaeth am ddim ar Ddiwrnod y Lluoedd Arfog i bersonél y lluoedd arfog a gariai gerdyn adnabod ac i gyn-filwyr a wisgai fathodyn cyn-filwr. Credaf fod Stagecoach wedi llofnodi cyfamod i gefnogi cymuned y lluoedd arfog. Rwy’n credu bod y math hwnnw o raglen yn werth chweil. A yw’n rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ei gefnogi ac yn bwriadu ei gefnogi eto yn y dyfodol?

Wrth gwrs, ac mae cyfamod y lluoedd arfog ar waith ar hyd a lled Cymru, a’r DU mewn gwirionedd, ac mae pob awdurdod lleol yn cymryd rhan yn hynny. Mae wedi’i leoli’n lleol. Mae gennym gynllun nofio am ddim ar gyfer rhai cyn-filwyr mewn ardaloedd sy’n cael eu cefnogi gan Lywodraeth Cymru. Rwy’n cael cyngor gan grŵp cynghori’r Gweinidog ar y lluoedd arfog, ac maent yn sicr yn dweud wrthyf faint o groeso a gânt yng Nghymru a beth arall y gallwn ei wneud i gyfrannu a chydnabod y gwasanaeth y maent wedi bod yn rhan ohono ledled y byd.

Ysgrifennydd y Cabinet, rydym yn dathlu Diwrnod y Lluoedd Arfog bob blwyddyn er mwyn ailddatgan ein gwerthfawrogiad diffuant i’r rhai sy’n gwasanaethu yn y lluoedd arfog ac i ddangos ein cefnogaeth i’r dynion a’r menywod sy’n rhoi eu bywydau mewn perygl i ddiogelu ein gwlad a’n ffordd o fyw. Roeddwn wrth fy modd pan glywais fod Llywodraeth y DU a’r DUP wedi ailddatgan ymrwymiad y Llywodraeth i gyfamod y lluoedd arfog. Yn yr ysbryd hwn, Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi ailddatgan ymrwymiad eich Llywodraeth i’r cyfamod a sicrhau bod teuluoedd y lluoedd arfog a chyn-filwyr yn cael unrhyw gymorth sydd ei angen arnynt, sydd, wedi’r cyfan, yn bris bach i’w dalu am eu haberth?

Wrth gwrs, a’r hyn y gallaf ei ddweud yw ein bod yn sicr, yng Nghymru, ar flaen y gad o ran darparu ar gyfer ein cyn-filwyr a theuluoedd y lluoedd arfog, ac mae gennym lawer o gynlluniau ar waith. Rydym yn buddsoddi £585,000 y flwyddyn yng nghynllun cyn-filwyr y GIG, gan weithio gyda chyn-filwyr yn unig i gael mynediad at wasanaethau—2,900 o atgyfeiriadau wedi’u derbyn drwy’r cynllun. Hefyd, hoffwn ofyn i’r Aelod ddefnyddio ei dylanwad yn Llywodraeth y DU efallai, oherwydd mae gennym yng Nghymru, ers mis Ebrill 2016, swm uwch o £25 yr wythnos yn cael ei ddiystyru ar gyfer cyn-filwyr sy’n derbyn pensiynau anabledd rhyfel wrth iddynt gael mynediad at bob math o ofal cymdeithasol, ac o fis Ebrill 2017 ymlaen, bydd y swm cyfan yn cael ei ddiystyru mewn perthynas â hyn. Mae hynny’n digwydd yng Nghymru, ond nid yw’n digwydd yn Lloegr eto.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd UKIP, Gareth Bennett.

Diolch, Llywydd. Yn rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru, nodaf eich bod yn awr yn bwriadu deddfu ym maes ffioedd asiantaethau gosod tai, a chredaf fod hwnnw’n ddatblygiad i’w groesawu. Cafwyd cefnogaeth i hyn gan amryw o wrthbleidiau a rhai Aelodau o’ch plaid eich hun, felly rwy’n falch eich bod yn awr yn symud tuag at ddeddfu yn y maes hwn. Nawr, gwn eich bod wedi bod angen ystyried tystiolaeth o fannau eraill cyn rhoi unrhyw gamau ar waith. Roeddwn yn meddwl tybed i ble y mae eich ystyriaethau wedi eich arwain. Rwy’n gwybod bod yna broblemau posibl ynglŷn â’r ffaith, pe bai ffioedd asiantaethau gosod tai yn cael eu gwahardd, y byddai’n arwain at godi rhent yn lle hynny. Gwn fod gwaith ymchwil wedi’i wneud ar effeithiau gwneud hyn yn yr Alban, felly roeddwn yn meddwl tybed beth oedd eich barn ar y mater hwn neu unrhyw fater arall cysylltiedig.

Rwy’n falch iawn fy mod yn gallu dibynnu ar gefnogaeth Aelodau UKIP i fwrw ymlaen â’n deddfwriaeth ar ffioedd asiantaethau gosod tai, sef yr hyn y bwriadwn ei gyflwyno, fel y gwnaeth y Prif Weinidog yn glir ddoe. Yr unig faen tramgwydd oedd symudiad y gost, a byddai’n rhaid i ni fod yn argyhoeddedig na fyddai asiantau gosod tai’n symud y gost i’r rhenti. Rwy’n gwybod fod llawer o Aelodau, gan gynnwys Jenny Rathbone ar ein meinciau, wedi bod yn awyddus i fynd ar drywydd y mater hwn.

Diolch am hynny, ac rwy’n gobeithio y bydd y ddeddfwriaeth yn cael ei chyflwyno ac y bydd, yn y pen draw, yn effeithiol. Ond gan symud ymlaen at fater arall a gafodd ei gynnwys yn ‘Symud Cymru Ymlaen’: lleoedd meithrin. Roedd ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i ddarparu 30 awr yr wythnos o ofal plant am ddim i rieni plant tair a phedair oed sy’n gweithio. Y bwriad oedd cychwyn treialu cynlluniau newydd ym mis Medi i ddarparu ar gyfer tua 10 y cant o deuluoedd cymwys. Felly, roeddwn yn meddwl tybed pa wybodaeth sydd ar gael ynglŷn â ble fydd y cynlluniau peilot yn digwydd ac ar ba sail y gwnaethoch eich penderfyniad i gychwyn yn yr ardaloedd penodol hynny.

Rwyf wedi cyhoeddi nifer o ddatganiadau ar yr addewid gofal plant, ac rwy’n edrych ymlaen at ddechrau datblygu’r rhaglen honno o fis Medi eleni ymlaen. Yn wir, ym Mlaenau Gwent, yn etholaeth fy nghyd-Aelod Alun Davies, bydd Blaenau Gwent yn ei chyfanrwydd yn cael ei hystyried fel cynllun peilot, ac felly, bydd ein plant ifanc sydd â rhieni sy’n gweithio yn cael lleoedd gofal plant am ddim. Hwn yw’r addewid gofal plant mwyaf dynamig yn y DU gyfan, ac rydym yn dechrau ei dreialu yma yng Nghymru. Byddwn yn cyfeirio’r Aelod at fy natganiad o ran yr ardaloedd lle bydd hyn yn digwydd. Fe’u dewiswyd o blith cynigion a wnaed gan awdurdodau lleol o ran pa rai a fyddai’n gallu cyflwyno’r cynllun ar hyn o bryd. Ond gadewch i mi sicrhau’r Aelod y bydd pob awdurdod ledled Cymru erbyn diwedd tymor y Llywodraeth hon yn darparu ein haddewid gofal plant yng Nghymru yn llawn.

Diolch am hynny, ac edrychaf ymlaen at weld hynny’n digwydd. Gan symud ymlaen at fater y soniasom amdano yr wythnos diwethaf, yn dilyn trychineb Tower Grenfell, nawr rwy’n gwybod eich bod wedi gwneud datganiad ar hyn i’r Siambr, felly rydym wedi trafod y materion hyn—. Un peth sydd wedi codi fel problem bosibl wrth fynd i’r afael â rheoleiddio yng Nghymru yw’r rhaniad yn y cyfrifoldebau rhyngoch chi a’ch cyd-Aelod, Lesley Griffiths, yn yr ystyr bod cyfrifoldebau Lesley Griffiths, rwy’n credu, yn cynnwys yr ochr sy’n ymwneud â rheoliadau adeiladu, ac rydych chi’n gyfrifol am wasanaethau tân ac achub a diogelwch tân cymunedol. Felly, roeddwn yn meddwl tybed beth oedd eich barn ar hynny a sut y byddech yn mynd i’r afael ag anhawster y rhaniad hwnnw.

Gadewch i mi roi sicrwydd i’r Aelod unwaith eto: nid oes unrhyw anhawster o ran cyfrifoldeb o fewn Llywodraeth Cymru ar hyn. Fi yw’r Gweinidog arweiniol ar hyn, gan gynnwys yr ochr sy’n ymwneud â rheoliadau adeiladu, a’r perygl tân i unrhyw adeiladau yng Nghymru. Rwyf wedi cael sawl cyfarfod gyda Llywodraeth y DU, yn ogystal â fy swyddogion cyfatebol yn yr Alban ac yn Lloegr, ar hyn. Mae hwn yn fater byw iawn ac rydym o ddifrif yn ei gylch. Rwy’n gweithio’n agos iawn gydag adran Lesley Griffiths, ond fi yw’r Gweinidog arweiniol.

Diolch. Mae tri mis wedi bod ers y cyhoeddiad ynglŷn â’r carchar dynion gyda chapasiti o 1,600 ym Mhort Talbot. Ac roeddwn eisiau holi mwy ynglŷn â’r ymateb a roesoch i mi y tro diwethaf y crybwyllais hyn. Nid oeddwn yn credu eich bod yn ddigon clir a phendant pan wnaethoch ddatganiad i’r Cynulliad ar 22 Mawrth ynglŷn â lefel yr ymgysylltiad roeddech wedi’i gael gyda’r Weinyddiaeth Gyfiawnder. Mae’r Gweinidog carchardai wedi cadarnhau, mewn llythyr ataf ar 31 Mai, fod eich adran wedi chwarae rhan ragweithiol yn helpu’r Weinyddiaeth Gyfiawnder i nodi safleoedd, ac mae hynny ychydig yn fwy na ‘chael trafodaethau’, sef y cyfan a ddywedoch ar y pryd. Ar 22 Mawrth, fe ddywedoch hefyd, a dyfynnaf,

mae llawer o gwestiynau sy’n parhau heb eu hateb gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder.

Gan fod y Gweinidog carchardai wedi cadarnhau eich bod wedi cymryd rhan yn y broses cyn i’r newyddion ddod yn gyhoeddus, pam nad oes gennych fwy o atebion mewn perthynas â bwriadau’r Weinyddiaeth Gyfiawnder?

Rwy’n credu bod yr Aelod braidd yn orfrwdfrydig yn ei chwestiynau i mi. Roeddwn yn glir iawn wrthi: cefais un drafodaeth gyda’r Gweinidog carchardai cyn ei gyhoeddiad ar y diwrnod hwnnw. Yn wir, roedd fy nhîm, a thîm o swyddogion eraill o adran arall, yn ymgysylltu ag adran y Gweinidog carchardai o ran penderfynu a chynnig safleoedd a oedd ar gael ar draws rhanbarth de Cymru, a gwn fod yr Aelod yn glir ynglŷn â hynny hefyd.

A gaf fi ofyn felly, pam mai un sgwrs yn unig a gawsoch? Os oeddech wedi cynnig y safleoedd hynny, yn sicr byddai wedi bod yn dda i chi, fel Ysgrifennydd y Cabinet, fod wedi mynd ati’n rhagweithiol i fynd i’r afael â rhai o’r pryderon a fyddai gennych cyn y cyhoeddiad cyhoeddus hwnnw. Rwyf wedi gweld rhestr o nifer o safleoedd, a roddwyd gan eich adran, yn amlwg. A gafodd unrhyw gwestiynau eu gofyn, megis a oedd angen y carchar categori C hwn er enghraifft? Mae Canolfan Llywodraethiant Cymru wedi profi mewn ymchwil nad oes angen carchar o’r maint hwn ar gyfer Cymru. Nid oes carchar ar gyfer menywod, felly beth am gael sgwrs gyda’r Weinyddiaeth Gyfiawnder mewn perthynas ag ehangu yn hynny o beth?

A gaf fi syniad pa sgyrsiau rydych yn eu cael, er mwyn sicrhau pobl Port Talbot eich bod yn gwneud pob ymdrech i’w gwneud yn ymwybodol o ryddhau’r tir, lle bydd y lleoliad hwnnw—gobeithio na fydd yn digwydd, ond lle byddai’r lleoliad a nodwyd gennych—a sut y cânt wybod am y broses barhaus, drwoch chi, nid Llywodraeth y DU yn unig?

Rwy’n credu mai’r hyn y mae’r Aelod yn ceisio cyfeirio ato yw’r ffaith eich bod yn ceisio datblygu dadl mai ein prosiect ni yw hwn. Nid ein prosiect ni ydyw. Ac mae’r un peth yn wir gydag unrhyw fuddsoddiad busnes arall sy’n dod i Gymru, boed yn y sector preifat neu’r sector cyhoeddus. Mae proses ymgysylltu’n digwydd mewn perthynas â thir sydd ar gael, ac mae hwnnw’n waith sy’n digwydd yn ddyddiol, yn wythnosol yma.

Rwy’n cydnabod y pwynt y mae’r Aelod yn ei wneud, yn yr ystyr y bydd yn rhaid i’n proses ymgysylltu, pan fydd y penderfyniad wedi’i wneud gan Lywodraeth y DU, ddechrau ar y pwynt hwnnw, mewn perthynas â’r gallu i wneud yr hyn y credwn sy’n briodol i Gymru. Rwyf wedi cychwyn y drafodaeth honno eisoes, ond ni fyddai’n deg dweud bod y penderfyniad i greu safle carchar yma yng Nghymru yn un a wnaed gan Lywodraeth Cymru. Cais sydd wedi dod gan Lywodraeth y DU yw hwn.

Ond byddai wedi bod o fewn eich gallu i ddyrannu’r tir hwnnw ar gyfer rhywbeth arall, cyn cael carchar fel sydd gennym yn awr. Felly, mae hwnnw’n rhywbeth y byddwn yn dadlau yn ei gylch eto yn y dyfodol.

Rwyf eisiau un cwestiwn am ddiogelwch tân. Er eich bod wedi dweud yr wythnos diwethaf nad oedd unrhyw adeiladau â’r math penodol o gladin a gafodd ei ddefnyddio yn nhŵr Grenfell, adroddodd y BBC ddoe fod profion yn cael eu cynnal ar dyrau o fflatiau am ddeunydd cyfansawdd alwminiwm tebyg, cladin, fel ym Mwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, er enghraifft. Hoffwn i chi egluro nifer o bethau, os gallech, oherwydd nid yw datganiadau Llywodraeth Cymru wedi bod mor glir ag y dylent fod yn ystod y dyddiau diwethaf.

Er enghraifft, fe awgrymoch i ddechrau fod y profion yn wirfoddol. Fe ddywedoch yr wythnos diwethaf y byddech yn annog awdurdodau lleol sydd am gynnal profion ar gladin i wneud hynny. A ydych yn credu y byddai datganiad cryfach o’r cychwyn cyntaf wedi bod yn well? Nid oes llawer o eglurhad wedi bod ers hynny. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod yn dweud wrth yr awdurdodau lleol sy’n amau bod deunydd cyfansawdd alwminiwm wedi cael ei ddefnyddio mewn tyrau o fflatiau fod angen iddynt gynnal profion ar eu hadeiladau. Ond ychwanegodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru hefyd nad oes gan Lywodraeth Cymru bwerau i orfodi unrhyw awdurdod lleol i gynnal profion ar eu hadeiladau, ond ychwanegodd ei bod yn eu hannog i wneud hynny. Rwy’n gweld amryw o eiriau—’angen’, ‘annog’, ‘gorfodi’. A gaf fi rywfaint o eglurder ar yr hyn sy’n cael ei wneud mewn gwirionedd, a’r hyn y mae gennych bŵer i’w wneud, fel y gallwn dawelu ein meddyliau ein bod yn gwneud ein gorau glas mewn perthynas ag adeiladau Cymru?

Iawn. Gadewch i ni gymryd y ddau bwynt y mae’r Aelod yn eu codi. Yn gyntaf oll, mae’r Aelod yn anghywir yn honni bod gennyf opsiwn o ran y mater tir parthed y carchar. Dywedodd yr Aelod y byddem yn trafod hyn yn y dyfodol, ac rwy’n fwy na pharod i wneud hynny.

Yr ail bwynt, sy’n un pwysig iawn o ran diogelwch tân, yw nad oes gennyf bwerau, yn ôl yr hyn rwy’n ei ddeall ac ar ôl derbyn cyngor, i orfodi awdurdodau neu landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i gynnal profion, oherwydd eu bod yn endid ynddynt eu hunain. Ond yr hyn rwyf wedi’i wneud yw cysylltu â phob un o’r rhain. Nid wyf yn credu ei fod o unrhyw fudd i’r landlordiaid cymdeithasol cofrestredig neu’r awdurdodau lleol i beidio â chynnal profion lle maent yn gweld neu’n canfod risg. Ac nid wyf wedi cael gwybod am unrhyw fan lle na fyddent yn gwneud hynny. Ac mae’r drafodaeth honno’n parhau.

Y cyngor a gefais yr wythnos diwethaf—ac mae’n parhau i fod yn wir heddiw—yw nad yw’r cynnyrch deunydd cyfansawdd alwminiwm a ddefnyddiwyd yn nhrychineb tân Grenfell wedi ei osod yn unrhyw un o’n hadeiladau yma yng Nghymru, ond mae yna baneli deunydd cyfansawdd alwminiwm, ac rwyf wedi cyfarwyddo awdurdodau i gynnal profion ar y rheiny hefyd ar sail diogelwch tân. Rwy’n chwilio am gyngor gan fy uwch ymgynghorydd tân a phanel o unigolion a all roi cyngor proffesiynol i ni ar ddiogelwch adeiladau. Ond rwy’n credu ein bod yn dysgu mwy bob dydd, a chefais sgwrs hir gyda gweinyddiaeth y DU ddoe am gynhyrchion deunydd cyfansawdd alwminiwm, am inswleiddio, ac am ddiogelwch unedau cyfan. A dyna beth sy’n rhaid i ni ei ystyried yma: gwneud yn siŵr mai fy safbwynt cyntaf a phennaf, fel y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb, yw diogelwch y trigolion yn yr adeiladau hyn. 

Diolch, Llywydd. Yn rhifyn yr haf o gylchlythyr Sefydliad Bevan ‘Exchange’, mewn erthygl o’r enw ‘Learning to Love Local’, mae cyfarwyddwr Sefydliad Bevan yn dweud bod Papur Gwyn mis Ionawr 2017, ‘Diwygio Llywodraeth Leol: Cadernid ac Adnewyddiad’, yn canolbwyntio ar gydweithio unwaith eto, ac yna mae hi’n dweud bod gofyn i’r cyhoedd, yn y bôn, gytuno i newidiadau mawr yn y modd y darperir gwasanaethau lleol heb wybod sut y gallant leisio eu barn, sy’n amlwg yn ymwneud mwy â’ch portffolio chi.

Mae’r Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau yn gweithio gyda rhwydwaith Talwrn o sefydliadau trydydd sector yng Nghymru a changen gymunedol undeb Unite, i nodi’r ffactorau allweddol wrth ddatblygu’r cadernid cymunedol ar lefel leol a fyddai’n mynd i’r afael â’r mater a godwyd gan Sefydliad Bevan, ac maent yn datgan eu bod eisoes wedi ymgysylltu â Gweinidogion a gweision sifil yn Llywodraeth Cymru ar y materion hyn, sy’n cynnwys edrych ar fodel gwasanaethau cyhoeddus Rhondda Cynon Taf, gan weithio gyda’r trydydd sector i ddatblygu dull llesiant cymunedol lleol, gan ddefnyddio datblygiad cymunedol sy’n seiliedig ar asedau—dyna yw cryfderau pobl. Ac maent yn mynd ymlaen i ddweud bod sefydliadau cymunedol annibynnol mewn sefyllfa dda i ddarparu gwasanaethau lleol yn effeithiol, o ofal cymdeithasol i gymorth i deuluoedd a chyflogadwyedd, a chynnal y darpariaethau hyn gan eraill. Tybed a allech ddweud wrthym pa drafodaethau a gawsoch gyda’r sefydliad hwn a’u partneriaid, a pha gamau, os o gwbl, a allai ddeillio o hynny.

Nid wyf wedi cael sgwrs gyda’r sefydliadau penodol hynny, ond fe edrychaf i weld a yw fy nhîm wedi gwneud hynny. O ran y pwynt cyntaf ar ad-drefnu llywodraeth leol, rwy’n credu mai’r hyn sy’n bwysig yw y bydd proses ymgynghori’n digwydd, dan arweiniad Mark Drakeford, nid fi, ond rwy’n cael sgyrsiau gyda Mark am gryfder cymunedol a sut beth yw hwnnw. Rwy’n credu bod yr Aelod yn iawn ynglŷn â’r ffaith fod yn rhaid i angen lleol a dylanwad lleol fod â phwrpas wrth ddatblygu polisi a darparu gwasanaethau. Rydym yn gweithio mewn amgylchedd ariannol gwahanol iawn fel y mae pethau, ac felly, byddwn yn annog sefydliadau trydydd sector, neu sefydliadau lleol, i ymgysylltu â’r byrddau gwasanaethau cyhoeddus, ac un enghraifft dda a nododd yr Aelod oedd un Rhondda Cynon Taf, bwrdd gwasanaethau cyhoeddus Rhondda Cynon Taf. Mae’n rhywbeth rwy’n ymwneud yn agos iawn ag ef, mewn perthynas â darparu parth plant yn yr ardal benodol honno. Ac maent yn cael hynny fel rhan o’u hasesiad llesiant.

Diolch. Rwy’n credu mai’r neges allweddol o’r prosiect hwnnw oedd yr angen i sefydliadau trydydd sector annibynnol fod yn rhan o’r gwaith o gynllunio a darparu gyda’r sector statudol—mabwysiadu modelau na chafodd eu cyflwyno’n wreiddiol mewn sefyllfa o gyfyngu ar y gyllideb neu galedi neu beth bynnag y dymunwch ei alw; cawsant eu cyflwyno oherwydd eu bod yn gwneud bywyd yn well.

Un o’r sefydliadau, er enghraifft, sy’n gweithio mewn cymunedau gyda phobl ifanc i ddatgloi’r asedau hynny a’r cryfderau hynny yw ScoutsCymru. Cynaliasent nifer o werthusiadau annibynnol ac asesiadau annibynnol yn 2011, a gwelwyd bod 89 y cant wedi nodi bod cymryd rhan gyda’r Sgowtiaid wedi’u helpu i feithrin sgiliau allweddol, gan gynnwys sgiliau cymdeithasol, sgiliau gweithio mewn tîm a sgiliau arweinyddiaeth. Mae adroddiad mwy diweddar ar gyflogadwyedd pobl ifanc yn y Sgowtiaid wedi canfod bod hyn wedi’u helpu i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnynt yn y gwaith ac wedi helpu eu cyflogadwyedd yn y dyfodol. Eleni, cyhoeddodd Prifysgol Caeredin ganlyniadau astudiaeth o lesiant meddyliol, gan ddod o hyd i effaith gadarnhaol ar y rhai a gymerodd ran yn y Sgowtiaid neu’r Geidiaid drwy gydol eu bywydau.

Mynegwyd pryderon gan ScoutsCymru mewn perthynas â Sir y Fflint—ac nid wyf yn pigo ar Sir y Fflint, ond maent yn dweud wrthyf mai hon yw’r unig sir hyd yma sydd wedi gwneud hyn—o ran cael gwared ar ryddhad ardrethi yn ôl disgresiwn ar gyfer grwpiau Sgowtiaid a’r effaith y bydd hynny’n ei chael, yn enwedig ar bobl ifanc o gefndiroedd tlotach. Maent hefyd wedi cael eu rhwystro rhag cael mynediad at y gronfa galedi, lle maent yn dweud bod y gwaith y maent yn ei wneud yn darparu asedau i’r gymuned mewn gwirionedd ac yn helpu’r awdurdod lleol i wneud mwy gyda’r adnoddau sydd ar gael. Er nad ydych eisiau sôn yn benodol am Sir y Fflint o bosibl, pa gamau y gallwch eu cymryd i ymgysylltu ag awdurdodau lleol i gydnabod bod prosiectau fel hyn yn rhan o wneud pethau’n well mewn gwirionedd, yn hytrach na chost y gellid ei diystyru’n hawdd?

Wrth gwrs, ac rwy’n credu bod cwpl o bwyntiau yno o ran annibyniaeth sefydliadau. Rwyf fi a’r Aelod yn cyfarfod â llawer o sefydliadau annibynnol sy’n gwneud gwaith gwych o ddydd i ddydd ym mhob un o’n cymunedau, ond ni allwn ariannu pob un ohonynt. Ond mae mynediad at brosiectau a mynediad at ddylanwad yn rhywbeth y byddwn yn ei rannu gyda’r Aelod o ran datblygu strategaethau llesiant ar gyfer awdurdodau lleol. Mae’n syniad da ac mae’r Aelod yn cyfeirio at ScoutsCymru a’r Geidiaid, sydd ill dau’n cael effaith gadarnhaol yn gyffredinol ar lesiant meddyliol pobl ifanc a’u hiechyd. Rwy’n cefnogi hynny.

Gyda golwg ar y cwestiwn penodol iawn, a chan roi Sir y Fflint o’r neilltu, rwy’n gyfarwydd â’r mater y mae’r Aelod yn ei godi ac rwy’n credu, i un o’r grwpiau Sgowtiaid sydd ynghlwm wrth hynny, mai’r gost go iawn—ac er fy mod yn cydnabod bod yr Aelod yn sôn am egwyddor gyffredinol yn ymwneud â buddsoddi—y gost go iawn i’r grŵp Sgowtiaid mewn gwirionedd yw £1 yr wythnos o ran y cynnydd yn eu gwerth ardrethol neu gost ardrethi. Rwy’n credu ei fod oddeutu’r ffigur hwnnw. Er gwaethaf hynny, rwy’n cydnabod bod yn rhaid ystyried gwerth y Sgowtiaid a sefydliadau eraill o safbwynt setliad ariannol sy’n creu heriau mawr i awdurdodau lleol. Ond rwy’n gwerthfawrogi, ac rwy’n credu eu bod hwythau hefyd, y cyfraniad y maent yn ei wneud i’n cymunedau.

Yn olaf, felly, yng nghyd-destun helpu awdurdodau lleol a chyrff eraill yn y sector cyhoeddus i ddeall sut y gall hyn wella bywydau, mae’n ymwneud ag ymyrraeth gynnar ac atal ac arbed arian i’r gwasanaethau statudol a ddarperir ganddynt, fel ei fod yn rhan o’r agenda honno mewn gwirionedd. Efallai eich bod yn ymwybodol, ac os nad ydych, gobeithio y byddwch yn awr, y bydd cynhadledd trydydd sector yn cael ei chynnal ar 7 Medi yn Sir y Fflint, fel sydd wedi digwydd mewn mannau eraill yng Nghymru, o’r enw ‘Cydgynhyrchu ar Waith’ i edrych ar egwyddorion cydgynhyrchu, ymyrraeth gynnar, profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, cryfhau grym y trydydd sector ac adeiladu cymunedau cryf. Efallai eich bod eisoes yn ymwybodol ohono—gofynnais am wahoddiad i chi—ond os nad ydych, a’ch bod yn rhydd, a wnewch chi ystyried mynychu?

Wrth gwrs, rwy’n gwybod am y digwyddiad hwnnw, a byddaf yn ystyried hynny ymhellach. Fel y bydd yr Aelod yn deall, mae fy nyddiadur yn gallu bod braidd yn brysur ar adegau, ond os gallaf ddod draw, fe wnaf hynny.

Rwy’n sicr o’r un farn â’r Aelod o ran ymyrraeth gynnar ac atal, ond mae’n rhaid i ni weithio gyda’n gilydd ar hyn, oherwydd os ydych yn dod atom a dweud, ‘Edrychwch, mae’r amseroedd aros yn rhai o’n hysbytai yn cynyddu ac mae pwysau yno’, yna bydd yn rhaid i fy nghyd-Aelodau ymateb i hynny oherwydd yr ewyllys gwleidyddol sy’n gysylltiedig â hynny. Ond mewn gwirionedd, os ydym yn buddsoddi’n glyfar yn ein pobl ifanc ymlaen llaw, a dyna beth rwy’n ceisio ei wneud yn ddyddiol fel Gweinidog plant, gallwn atal rhywfaint o’r pwysau ar adrannau damweiniau ac achosion brys a’r afiechydon mwy hirdymor mewn gwirionedd, ond mae’n rhaid i ni weithio gyda’n gilydd; ni allwn fod yn gritigol ar y ddau ben. Mae hyn yn trawsnewid cymorth i deuluoedd ac unigolion, ac rwy’n gobeithio y gall yr Aelod gytuno a’n cefnogi gyda hynny.

Cydlyniant Cymunedol

3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella cydlyniant cymunedol yng Nghymru yn sgil digwyddiadau brawychiaeth diweddar? OAQ(5)0162(CC)

Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn. Mae ein cydgysylltwyr cydlyniant cymunedol rhanbarthol a fy swyddogion diogelwch cymunedol yn gweithio’n galed gyda’n partneriaid i ddarparu sicrwydd. Mae hyn yn cynnwys monitro ac ymateb yn gyflym i densiynau cymunedol. Yn y tymor hwy, rydym yn gweithio i feithrin cydlyniant, goddefgarwch a pharch, ac i gefnogi cymunedau er mwyn atal gelyniaeth ac eithafiaeth.

Diolch. Gofynnais gwestiynau am hyn i chi ychydig wythnosau yn ôl ac roedd hynny cyn yr ymosodiad terfysgol ar Fwslimiaid ym mosg Finsbury Park gan ddyn Prydeinig a oedd yn byw yng Nghaerdydd. Mae’n dangos bod angen i ni fabwysiadu agwedd wahanol tuag at geisio mynd i’r afael â’r materion hyn. Nid yw’n ymwneud yn unig â disgwyl i gymunedau lleiafrifoedd ethnig edrych ar eu harferion eu hunain a sut y maent yn gweithredu; mae’n ymwneud â sut y gall pawb ohonom chwarae rhan yn ysgogi cydlyniant cymunedol. Felly, rwy’n ceisio deall, ers yr ymosodiad hwnnw, beth rydych wedi bod yn ei wneud i geisio sicrhau ein bod yn gweithio’n flaengar gyda’n gilydd yma yng Nghymru, nad oes gennym bobl o Gymru yn cyflawni’r ymosodiadau hyn, a nodi, lle maent yn cymryd rhan mewn trafodaethau ar-lein o’r natur hon, ein bod yn gallu mynd i’r afael â’r mater penodol hwn?

Wrth gwrs, ac rwy’n gresynu’n fawr fod y person hwn yn dod o Gaerdydd ac wedi cyflawni ymosodiad mor erchyll. A gaf fi ddweud nad yw hwn yn sylweddoliad newydd i ni yng Nghymru? Rydym wedi bod yn gwneud llawer o waith gyda’n cymunedau, ac roedd yr un person hwnnw’n un o 3 miliwn o bobl sy’n byw yng Nghymru. Rwyf wedi cyfarfod ag uwch dîm yr heddlu, ac rwyf wedi cyfarfod â’r fforwm ffydd yr wythnos hon yn ogystal, i geisio deall sut y mae angen i ni ddefnyddio adnoddau er mwyn creu cymdeithas fwy goddefgar a chydlynol. Efallai ein bod wedi canolbwyntio i raddau helaeth ar grwpiau penodol iawn o bobl pan fo angen i ni ehangu ar hynny mewn gwirionedd, ynglŷn â derbynioldeb, ac mae hwnnw’n rhywbeth rwy’n chwilio am gyngor pellach arno gan y tîm hwnnw o bobl.

Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n gwybod bod llawer iawn o ymgysylltu’n digwydd gyda chymunedau ffydd yng Nghymru a Llywodraeth Cymru, a gwn fod hwnnw’n waith a gaiff ei werthfawrogi’n fawr gan gymunedau ffydd, ond rwy’n credu ei bod yn bwysig fod cyrff cynrychioliadol, pa un a ydynt yn gyrff Cristnogol neu Fwslimaidd, yn y fforwm cymunedau ffydd hwnnw yn cynrychioli’r llu o leisiau ar ran eu cymunedau, oherwydd mae pawb ohonom yn gwybod bod yna farnau gwahanol, gwahanol enwadau ac yn y blaen, ac nid wyf yn hyderus, mewn gwirionedd, bod y rheiny’n cael eu cynrychioli o amgylch y bwrdd bob amser. Rwy’n meddwl tybed pa waith rydych yn ei wneud i sicrhau eu bod yn cynnwys y crefyddau y maent yn eu cynrychioli.

Rydym yn cael sgyrsiau rheolaidd, mewn gwirionedd. Mae’r fforwm ffydd, a gaiff ei gadeirio gan y Prif Weinidog, yn cael trafodaethau’n aml gyda chynrychiolwyr y sector a’r rhai y maent yn eu cynrychioli. Yn wir, rwy’n cofio trafodaeth yn y cyfarfod diwethaf am grŵp a deimlai nad oedd eu lleisiau mor gryf ag y gallent fod, a sut roeddem yn bwriadu mynd i’r afael â hynny, a’r hyn yr hoffwn ei wneud yw sicrhau bod y bobl a gynrychiolir o amgylch y bwrdd yn gallu ymgorffori lleisiau’r mwyafrif yno. Os oes grŵp penodol iawn o bobl rydych yn poeni amdano, rhowch wybod i mi os gwelwch yn dda.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae’r ateb i Bethan Jenkins, rwy’n credu, wedi tynnu sylw at y problemau ynglŷn â sut y gall y radicaliaeth hon godi mewn unrhyw sector; nid yw’n ymwneud â sectorau penodol yn unig. Felly, a ydych yn cytuno â mi fod angen i ni gyflwyno mesur mewn gwirionedd i atal pobl ifanc rhag cael eu radicaleiddio gan yr adain dde eithafol, sy’n creu safbwyntiau eithafol o’r fath, a beth rydych yn ei wneud ynglŷn â hynny?

Wrth gwrs, ac fel y dywedais wrth Bethan Jenkins, nid yw hyn yn ymwneud ag un grŵp penodol o bobl. A dweud y gwir, mae llawer o’r atgyfeiriadau a ddaw drwy’r rhaglen Prevent yng Nghymru yn ymwneud ag eithafiaeth asgell dde yn ogystal, a gwn fod hwnnw’n rhywbeth y mae’r heddlu’n awyddus iawn i sicrhau eu bod yn mynd i’r afael ag ef, ac mae staff rheng flaen yn cael hyfforddiant i edrych ar hyn yn y sector cyhoeddus.

Mae’r fagloriaeth Gymreig newydd ar gyfer ysgolion a cholegau’n cynnwys opsiwn sy’n helpu i gynorthwyo athrawon a thiwtoriaid, hefyd, i hwyluso trafodaethau diogel ac adeiladol ymhlith dysgwyr ar bynciau sy’n ymwneud ag eithafiaeth a chydlyniant cymunedol, ac rwy’n credu bod hwn yn waith sy’n ymwneud â dechrau’n gynnar iawn, er mwyn sicrhau bod ein pobl ifanc yn oddefgar wrth iddynt dyfu i fyny. Hwy yw’r dyfodol, ac os gallwn ymgorffori hynny fel greddf naturiol—bod yn oddefgar—yna rwy’n credu mai dyna’r ffordd i wneud pethau: buddsoddi yn ein pobl ifanc. 

Cymunedau yn Gyntaf

4. Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cynnal ynghylch ariannu grwpiau cymunedol, yn dilyn dod â Cymunedau yn Gyntaf i ben? OAQ(5)0171(CC)[W]

Diolch am y cwestiwn. Cynhaliwyd ymarfer ymgysylltu eang gydag unigolion, sefydliadau a grwpiau cymunedol ledled Cymru ar ymagwedd newydd y Llywodraeth tuag at gymunedau cryf. Mater i’r cyrff arweiniol yn awr yw ymgysylltu â phartneriaid cyflenwi yn y trydydd sector a chymunedau lleol mewn perthynas â’u trefniadau pontio yn unol â’n canllawiau.

Diolch i’r Gweinidog am yr ateb hwnnw. Gan symud o’r cyffredinol i’r penodol, gwn fod y fforwm ym Mhenparcau yn edrych ymlaen at groesawu’r Gweinidog, a fydd yn ymweld ym mis Medi rwy’n credu, ac os bydd yn edrych o amgylch yr adeilad newydd y tu allan, bydd yn gweld—. Yn gyntaf oll, bydd yn gweld lle rwy’n byw, ond wedyn, yn bwysicach, bydd yn gweld lle y mae pobl wedi byw ym Mhenparcau ers o leiaf 3,000 o flynyddoedd, sef caer Pen Dinas, sy’n un o’r caerau mwyaf arwyddocaol yng nghanolbarth Cymru, ac atyniad i dwristiaid ar gyfer Aberystwyth a’r ardal gyfan nad yw’n cael ei ddefnyddio ddigon, mae’n rhaid dweud.

Mae diddordeb mawr gan y fforwm yno mewn datblygu syniadau lle dônt yn rhai o geidwaid y gaer honno, yn yr ystyr fod hynny’n dod â’r gymuned at ei gilydd, mae’n cynyddu balchder cymunedol, mae’n adrodd hanes y gymuned sydd yno, mae’n cynnwys pobl ifanc, mae’n cynnwys potensial o fanteision awyr agored, ac wrth gwrs, gallai ddatblygu i fod yn ffordd o ddenu twristiaid ac ymwelwyr i’r ardal. Felly, o ran treftadaeth a’r elfen benodol hon o gydlyniant cymunedol nad yw’n cael ei gwerthfawrogi a’i defnyddio’n ddigonol efallai, pa drafodaethau y gall eu cael gyda Ken Skates cyn ei ymweliad ym mis Medi ynglŷn â sut y gallwn ddod â’r gymuned ynghyd ym Mhenparcau a chydweithio gyda’r cyrff statudol a’r gymuned leol er mwyn gwneud y gorau o un o’r asedau naturiol gorau sydd gennym?

Yn wir, ac rwy’n gyfarwydd iawn â’r ardal honno. Nid hwn fyddai fy ymweliad cyntaf â Phenparcau, yn wir. Byddwn yn gofyn i’r Aelod gael sgwrs gyda Hannah Blythyn sydd hefyd yn awyddus iawn i ddatblygu strwythurau. Mae castell y Fflint mewn ardal Cymunedau yn Gyntaf yng ngogledd Cymru—unwaith eto, pobl yn cymryd rhan yn y sector hwnnw o’r gymuned, ac yn ymgorffori parch a chyfleoedd yn y meysydd hynny. Byddaf yn siarad â Ken Skates, wrth gwrs, cyn fy ymweliad, ar y sail eich bod wedi dweud wrthyf mai dyna y gallai’r trafodaethau arwain ato. [Chwerthin.] Rwyf wedi fy nghalonogi gan agwedd gadarnhaol yr Aelod, ond, yn bwysicach, rwyf wedi fy nghalonogi gan drigolion ac aelodau Penparcau, oherwydd eu bod wedi gweld cyfle, ar ôl Cymunedau yn Gyntaf, i ddatblygu cyfle ar gyfer y dyfodol.

Wel, chwe blynedd ar ôl i chi ddewis peidio â derbyn cyngor adroddiad Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, ‘Cymunedau yn Gyntaf—Ffordd Ymlaen’, a oedd yn dweud mai’r cynhwysyn coll oedd perchnogaeth gymunedol, ac ar ôl i £0.5 biliwn fynd i mewn i’r rhaglen, fe ddywedoch wrth y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yr wythnos diwethaf na fyddai rhaglen arall yn dod yn ei lle, fod ei llwyddiant yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru wedi bod yn gymysg, ac nad yw’r ffigurau’n symud. Rydych wedi dweud yn awr y byddai Llywodraeth gydgysylltiedig yn sicrhau bod yr holl benderfyniadau gwario yn cadw trechu tlodi mewn cof, sef, wrth gwrs, yr hyn rydych chi a’ch rhagflaenwyr wedi’i ddweud yn gyson. Ond sut rydych chi’n ymgysylltu â Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a’i bartneriaid ar yr agenda hon er mwyn sicrhau nad yw’r cynhwysyn coll yn parhau ar goll wrth i ni symud ymlaen?

Wel, rwy’n hynod falch o raglen Cymunedau yn Gyntaf a roddwyd ar waith ar draws ein cymunedau. Dylid llongyfarch staff a gwirfoddolwyr ar draws y rhaglenni am yr hyn a wnaethant. Credaf eu bod wedi atal ein cymunedau rhag mynd yn dlotach, a gwneud yn siŵr fod yna gyfle i symud ymlaen gyda’r cyllido etifeddol a gyhoeddais yn gynharach eleni. Mater i’r partneriaethau yn lleol bellach yw penderfynu beth yw eu hasesiadau llesiant ar gyfer y cymunedau hynny, ac rydym yn gweithio’n agos iawn gyda hwy i sicrhau bod gennym y cyfleoedd gorau ar gael. Rwyf fi a Ken Skates—Ken yw’r Gweinidog sy’n arwain ar drechu tlodi—yn credu’n sylfaenol mai’r ffordd allan o dlodi yw swyddi a sgiliau o safon, a byddwn yn mynd ar drywydd hynny’n frwd ar draws ein holl gymunedau ledled Cymru.

Mynd i’r Afael ag Anghydraddoldeb

5. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio asedau yn ein hardaloedd lleol i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb? OAQ(5)0165(CC)

Mae ein prosiectau adfywio a seilwaith yn canolbwyntio ar fynd i’r afael ag anghydraddoldeb. Mae’r rhaglen cyfleusterau cymunedol, er enghraifft, yn darparu grantiau cyfalaf ar gyfer prosiectau a arweinir gan y gymuned.

Diolch. Wel, gan adeiladu ar thema’r ychydig gwestiynau olaf, rwy’n cytuno’n llwyr â’r llwybrau a nodwch allan o dlodi, ond oni bai eich bod yn dod o hyd i achosion sylfaenol y problemau y mae pobl yn eu hwynebu, yn aml ni fydd yn bosibl dod o hyd i’r llwybrau allan o dlodi. Yr wythnos diwethaf, dywedodd eich cyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, wrth Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau mai gwaith awdurdodau lleol yw nodi a defnyddio cryfderau ac asedau pobl yn y maes. Rydym wedi clywed am egwyddorion cydgynhyrchu, ond maent yn ymwneud â phethau rydych yn dweud eich bod yn eu cefnogi—cydraddoldeb, cydfuddiannu, gweithio ochr yn ochr â’r bobl, gwneud pethau gyda hwy yn hytrach nag iddynt ac ar eu cyfer fel eu bod yn symud o fod yn dderbynwyr goddefol i fod yn gyfranogwyr gweithredol. Pa gyfarfodydd neu drafodaethau rydych wedi’u cael felly—13 mis ar ôl ei lansio bellach—gyda rhwydwaith cydgynhyrchu Cymru fel y gallwch ymgysylltu, rhannu a dysgu gyda’ch gilydd yn ôl y methodolegau sy’n gweithio mewn cymunedau yng Nghymru, y DU ac ar draws y byd, ac sydd wedi bod yn gwneud hynny ers degawdau, ac a allai fod o gymorth sylweddol i ddarparu’r atebion y mae pawb ohonom yn chwilio amdanynt?

Wel, rwy’n credu bod gan yr Aelod nifer o grwpiau o unigolion y mae’n eu cynrychioli’n dda, ar y sail fod yn rhaid iddynt ddod i’w weld yn wythnosol. Ond yr hyn y gallaf ei ddweud yw ein bod wedi cyflwyno deddfwriaeth yma, sef Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, sy’n ymgorffori egwyddorion cydweithio ar yr union faterion y mae’r Aelod yn eu crybwyll heddiw am gydgynhyrchu a chyfleoedd. Mae pob un o’r asesiadau llesiant yn cael eu creu ar draws y cyrff cyhoeddus, a byddwn yn disgwyl i bob un o’r rheiny barchu sefydliadau sy’n gweithio ar hyd a lled Cymru er mwyn sicrhau canlyniadau gwell i’r cymunedau hynny.

Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid

6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf am waith y strategaeth Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid? OAQ(5)0160(CC)

Diolch am y cwestiwn. Mae rhaglen adfywio cyfalaf Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid wedi llwyddo i ddarparu cymorth a buddsoddiad ar draws llawer o gymunedau ledled Cymru. Byddaf yn cyhoeddi manylion pellach ynglŷn â rhaglen adfywio cyfalaf newydd cyn bo hir.

Yn fy etholaeth, cafodd elfen cronfa partneriaeth canol trefi y rhaglen Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid ei defnyddio i gefnogi mentrau pwysig yng nghanol y dref fel y mentrau â’r enwau lliwgar, Yabba Dabba Dare a Faberdare, sydd wedi chwarae rhan bwysig yn denu pobl i ganol tref Aberdâr. Gan gydnabod bod y rhaglen bob amser wedi’i llunio i fod yn gynllun â phen draw iddo, pa gymorth y gall Llywodraeth Cymru ei gynnig i ddigwyddiadau tebyg wedi’u hysgogi gan y gymuned yn y dyfodol er mwyn eu galluogi i ddenu pobl i mewn i’n trefi a’n pentrefi?

Wrth gwrs, mae’r cyfleoedd y mae’r rhaglen Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid wedi’u cynnig wedi trawsnewid ardaloedd ledled Cymru, a byddaf yn rhoi ystyriaeth bellach i hynny. Nid oedd fy nhîm yn credu y byddwn yn meiddio dweud ‘Yabba Dabba Dare’ heddiw yn y Siambr, ond rwyf wedi gwneud hynny, ac rwy’n eu llongyfarch unwaith eto ar y gwaith y maent wedi’i wneud yn eich cymuned, yn gwneud gwahaniaeth go iawn. Bydd y rhaglen rwy’n bwriadu ei lansio yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf yn rhoi rhagor o fanylion ynglŷn â sut y gellir datblygu cyfleoedd fel hyn, nid yn unig yn eich etholaeth yng Nghwm Cynon, ond hefyd mewn ardaloedd ledled Cymru.

Rwy’n falch hefyd o allu cymeradwyo’r gwaith ar adfywio canol tref Aberdâr. [Torri ar draws.] Rwy’n hoffi bod yn hael. Mae’n sicr yn un o’r enghreifftiau gorau i mi eu gweld erioed o ddefnyddio’r math hwn o arian, ac mae’n atgoffa pobl o ‘Frenhines y Cymoedd’, fel roedd Aberdâr yn arfer cael ei galw, rwy’n credu.

Rwyf eisiau siarad am adnewyddu tai. A wnewch chi ein sicrhau y bydd hyn yn parhau i fod yn ffocws canolog? Mae’r defnydd o raglenni adfywio sy’n canolbwyntio ar dai ac yn seiliedig ar ardal yn bwysig iawn, yn enwedig pan fo’n defnyddio cymaint ag y bo modd o fusnesau lleol a gweithwyr sy’n byw yn lleol hefyd.

Rwy’n credu bod David Melding ar fin dweud ‘yabba dabba doo’ yn y fan honno, os wyf yn iawn. Mae hwn yn mynd i fod yn wych wedi’i gyfieithu, byddwn yn awgrymu. [Chwerthin.] Ond a gaf fi rannu gyda’r Aelod fy mod yn credu ei bod yn bwysig fod y cynllun Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid yn canolbwyntio ar adfywio tai ochr yn ochr ag adfywio ardal benodol yn gyffredinol. Mae’n parhau i fod yn flaenoriaeth i’r Llywodraeth hon. Mae gennym 20,000 o gartrefi i’w hadeiladu, a buaswn yn sicrhau bod y cynllun Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid yn chwarae rhan yn hynny hefyd.

Mae wedi bod yn gyffrous gweld y gwahaniaeth y mae arian Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid wedi gallu gwneud i dref Caergybi, lle mae yna nifer o brosiectau wedi digwydd neu ar y gweill. Ond, wrth gwrs, nid ydy’r problemau economaidd yn cael eu cyfyngu i’r ardaloedd sydd wedi cael eu neilltuo ar gyfer yr arian yma hyd yma. Pa sicrwydd y gall y Gweinidog ei roi y bydd ardaloedd eraill yn gallu manteisio ar gyfleon fel hyn yn y dyfodol agos? Rydw i’n cynnwys ardaloedd gwledig, sydd yn dioddef o’r un problemau cymdeithasol ac economaidd, ac yn benodol, yn fy etholaeth i, Amlwch, sydd wedi dioddef gwasgfa economaidd a chymdeithasol ers cenedlaethau erbyn hyn. Pa bryd gawn ni yr un cyfleon â’r rheini sydd wedi cael eu mwynhau yng Nghaergybi?

Wrth gwrs, mae’r Aelod yn iawn i godi’r mater fod yna lawer o ardaloedd ledled Cymru sydd angen mewnbwn adfywio o ran cyllid. Ond yr hyn rwy’n ofalus i beidio â’i wneud yw taenu’r jam yn rhy denau fel bod pawb yn cael ychydig bach, ond mewn gwirionedd nid yw’n cael cymaint o effaith ag y dylai. Rwyf eisiau i hynny gael ei benderfynu’n lleol, felly awdurdodau lleol sydd â’r penderfyniadau hynny. Wrth gwrs, o ran y ceisiadau, pan gânt eu cyflwyno, os mai cynllun gwledig fydd yr awdurdod lleol yn dymuno ei wneud yn flaenoriaeth, boed hynny fel y bo, ond rwy’n gwneud yn siŵr fod y buddsoddiad ariannol rydym yn ei wneud yn cael yr effaith fwyaf.

Cymunedau yn Gyntaf

Ysgrifennydd y Cabinet, nid wyf yn gwybod a ydych wedi clywed am sefydliad o’r enw Ffydd mewn Teuluoedd. Sefydliad ydyw sydd wedi’i leoli yn Abertawe—

7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi manylion y trefniadau pontio ar gyfer Cymunedau yn Gyntaf? OAQ(5)0156(CC)

Mae cyrff cyflawni arweiniol wedi datblygu cynlluniau pontio manwl.

Diolch yn fawr iawn. Rwyf am droi’n ôl at Ffydd mewn Teuluoedd. Sefydliad ydyw sydd wedi’i leoli yn Abertawe ac sy’n canolbwyntio ar ymyrraeth gynnar gyda theuluoedd sy’n agored i niwed. Diolch i Cymunedau yn Gyntaf, mewn gwirionedd, maent wedi llwyddo i ailddatblygu tair o’u canolfannau teulu. Ers y cyhoeddiad y bydd Cymunedau yn Gyntaf yn dod i ben, maent mewn amgylchiadau ansicr iawn, os caf ddweud, oherwydd nid ydynt yn ymwybodol o’r cyhoeddiad a wnaethoch yn ddiweddar ynglŷn â’r cyfnod pontio rhwng Cymunedau yn Gyntaf a beth bynnag a ddaw wedyn. Gan fod hon yn un enghraifft, rwy’n meddwl tybed a ydych yn gallu dweud pa mor bell y mae’r neges wedi cyrraedd gyda’r rhai sydd eisoes wedi derbyn arian Cymunedau yn Gyntaf yn y gorffennol ynglŷn â’ch cynigion presennol. Os yw’n digwydd i Ffydd mewn Teuluoedd, rwy’n credu y gallai fod yn digwydd i sefydliadau eraill.

Wel, mae cwestiwn manwl yr Aelod yn fy synnu, oherwydd mae Ffydd mewn Teuluoedd wedi bod yn cynnal ymgyrch yn y cyfryngau ers mis Hydref yn cyhoeddi—yn rhybuddio—y bydd yn rhaid iddynt ddiswyddo staff a chau’r ganolfan gymunedol newydd yn Eglwys Teilo Sant pan ddaw eu cyllid Cymunedau yn Gyntaf i ben. Felly, rwy’n synnu eu bod yn dweud wrthych nad ydynt yn gwybod am y cyllid pontio, oherwydd maent yn sicr yn gwneud yn siŵr fy mod i’n ymwybodol, a bod eraill ar y cyfryngau cymdeithasol yn ymwybodol hefyd. Rwy’n ymwybodol o gynlluniau pontio manwl bwrdd cyflawni lleol Abertawe, a bydd Ffydd mewn Teuluoedd, rwy’n deall, yn cael cyllid—cyllid llawn—hyd nes fis Mawrth 2018.

Cefnogi Tadau

8. Pa mor llwyddiannus yw’r £122 miliwn a fuddsoddwyd mewn cynlluniau Dechrau'n Deg a Teuluoedd yn Gyntaf o ran cefnogi tadau, yn arbennig tadau sydd wedi gwahanu, i gyflawni eu rolau rhianta? OAQ(5)0167(CC)

Mae Dechrau’n Deg a Teuluoedd yn Gyntaf yn gweithio gyda’r teulu cyfan, gan ddefnyddio dull unigoledig, hyblyg wedi’i deilwra i gefnogi ac ymgysylltu â thadau a mamau. Mae llawer o wasanaethau hefyd yn darparu cymorth pwrpasol wedi’i addasu’n benodol i anghenion arbennig tadau, gan gynnwys tadau nad ydynt yn byw yn y cartref.

Iawn, diolch. Rwy’n credu mai’r ateb gonest, mewn gwirionedd, yw nad ydych yn gwybod am nad oes data’n cael ei gasglu. Felly, i brofi pwynt yn awr, o flaen pawb yn y Senedd, a allwch roi ffigur—ffigur—i ddynodi faint o dadau sy’n cymryd rhan?

Rwy’n credu ei bod anffodus, Llywydd, fod yr Aelod yn awgrymu bod fy ateb yn anonest mewn perthynas â hynny. Byddwn yn awgrymu bod yr Aelod—. Cyfeiriaf yr Aelod at fy ateb cyntaf. Mae cynorthwyo tadau a mamau fel ei gilydd i fabwysiadu ymddygiad rhianta cadarnhaol yn rhan annatod o Dechrau’n Deg a Teuluoedd yn Gyntaf, ac rwy’n hynod o falch o’r gwaith a wnânt ar draws yr holl deuluoedd ledled Cymru.

Diolch. Canfu arolwg tadolaeth blynyddol 2016 y DU fod 25 y cant o dadau’n dweud nad oedd digon o gymorth i’w helpu i chwarae rhan gadarnhaol ym mywyd y teulu. Yng Nghymru, canfu arolwg tadau Cymru, sydd newydd gael ei gyhoeddi, er nad yw’r rhan fwyaf o dadau a ffigurau tadol yn cael problemau gyda rhoi gofal, roedd dwy ran o dair yn dal i deimlo nad oedd eu rôl yn cael ei gwerthfawrogi i’r un graddau â’r rhiant arall gan yr awdurdodau a’r gymdeithas, ac mae bron i 80 y cant yn meddwl y dylai’r Llywodraeth, sef Llywodraeth Cymru, wneud rhagor i helpu tadau. Sut yr ymatebwch i hynny, lle mae’r pryderon yn ymwneud yn bennaf â’r ffordd y mae systemau i’w gweld yn gweithio mewn cyrff sector cyhoeddus, yn hytrach na bwriad y bobl sy’n darparu’r systemau hynny?

Wrth gwrs, a diolch am gwestiwn yr Aelod o ran sut y gallwn fwrw ymlaen â hyn. Fel y dywedais yn gynharach, mae’r ddau sefydliad, a sefydliadau eraill, yn cefnogi’r ddau riant, teuluoedd, a mamau a thadau uned deuluol. Nid yw’r manylion y mae’r Aelod yn dymuno eu trafod gyda mi wrth law gennyf, yn enwedig manylion ynglŷn â ble mae i’w weld yn teimlo bod cymorth yn brin. Byddwn yn hapus i gael sgwrs gyda’r Aelod, naill ai drwy lythyr neu fel arall gyda fy swyddogion.

Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych wedi ystyried sut y gall staff Dechrau’n Deg a Teuluoedd yn Gyntaf nodi’r posibilrwydd fod plentyn wedi’i ddieithrio oddi wrth riant, ac a ydych wedi archwilio ffyrdd y gallant helpu i feithrin perthynas deuluol iach mewn achosion o ddieithrio plant oddi wrth eu rhieni?

Do, wrth gwrs, ac rwy’n credu bod yr Aelod yn iawn i godi’r mater hwn. Edrychwch, rydym yn gwbl glir fod dieithrio plant oddi wrth eu rhieni yn ffactor sy’n pennu llwyddiant person ifanc neu uned deuluol, ac rydym yn cydnabod bod hynny’n digwydd ar y ddwy ochr, mamau a thadau hefyd. Rwy’n hyderus fod gan sefydliadau Teuluoedd yn Gyntaf a Dechrau’n Deg allu i gydnabod hyn ac ymdrin ag ef yn briodol. Yr hyn y byddwn yn ei ddweud yw bod hon yn ddarpariaeth gymhleth iawn o ran cyflwyno ymyrraeth gymdeithasol gydag unigolion sy’n wynebu argyfwng. Ond rwy’n hyderus fod gallu gan fy nhimau, gan gynnwys Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd Cymru, i ymdrin â hyn yn llwyddiannus.

3. 3. Cwestiynau Amserol

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

Canolfan Gyswllt Cwsmeriaid Tesco yng Nghaerdydd

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd o ran ymateb i’r cynlluniau arfaethedig i gau Canolfan Gyswllt Cwsmeriaid Tesco yng Nghaerdydd? TAQ(5)0191(EI)

Member
Ken Skates 15:04:00
The Cabinet Secretary for Economy and Infrastructure

Yn dilyn trafodaethau a chyfarfodydd gyda Tesco ac USDAW, rwy’n cyfarfod â Fforwm Canolfannau Cyswllt Cymru heddiw i archwilio cyfleoedd cyflogaeth mewn canolfannau gwasanaethau cwsmeriaid rheoledig eraill yn y rhanbarth. Rydym hefyd yn sefydlu tasglu i sicrhau’r canlyniad gorau posibl i staff.

Wrth siarad yn gynharach heddiw yn nigwyddiad Consortiwm Manwerthu Cymru yn y Senedd, Ysgrifennydd y Cabinet, bu i chi drafod pwysigrwydd deialog effeithiol rhwng Llywodraeth Cymru a’r sector manwerthu. Yn y cyd-destun hwnnw, pa mor syfrdan—yn wir, pa mor ddig—oeddech chi fod Tesco, cyflogwr sector preifat mwyaf Cymru, heb roi unrhyw rybudd ymlaen llaw o gwbl i chi, yn ôl yr hyn a ddeallaf, am yr holl swyddi hyn a fydd yn cael eu colli? Beth yw safbwynt Llywodraeth Cymru ar sut y cafodd eu gweithlu teyrngar eu trin? Mae gennyf e-bost yn fy meddiant a anfonwyd gan aelod o staff uwch reoli Tesco fis Medi y llynedd, yn awgrymu’n glir i’w weithlu nad oedd unrhyw berygl i’w swyddi, er gwaethaf pryderon a oedd yn cylchredeg ar y pryd tra oedd prydles yr adeilad yn weithredol tan 2020. Nawr, mae’n amlwg, ar sail hynny, fod Tesco wedi camarwain y gweithwyr hyn. Bydd llawer ohonynt wedi gwneud penderfyniadau pwysig am eu dyfodol yn seiliedig ar y wybodaeth hon. Nawr, a yw’r ymddygiad hwnnw’n dderbyniol, ym marn Llywodraeth Cymru, gan gyflogwr cyfrifol? Os nad yw, oni ddylai ef enwi a chywilyddio Tesco? Yn olaf, fe gyfeiriodd, yn rhai o’r sylwadau a wnaeth yn union ar ôl y cyhoeddiad, ei fod yn mynd i geisio gofyn am gyfarfod brys gyda Tesco i’w perswadio i feddwl eto. A all ddweud ychydig mwy ynglŷn â sut y mae’r trafodaethau hynny’n mynd rhagddynt? A yw Llywodraeth Cymru wedi rhoi gwrth-gynnig i Tesco ar y bwrdd mewn partneriaeth ag undebau ac awdurdodau lleol?

Hoffwn ddiolch i’r Aelod am y pwyntiau y mae’n eu codi a’r cwestiynau hefyd. Cefais fy siomi’n fawr iawn, nid yn unig gan y penderfyniad, ond gan y ffordd y daeth Llywodraeth Cymru, a llawer iawn o weithwyr yn wir, i wybod am y bwriad i gau’r cyfleuster. Mae’n eithaf amlwg yn awr fod llawer o weithwyr wedi clywed am y penderfyniad ar y cyfryngau cymdeithasol, sy’n weithred hollol annerbyniol ac anghyfrifol gan unrhyw gyflogwr. Mae’n ymddangos, o ystyried y newyddion heddiw, fod Tesco yn cychwyn ar ymarfer torri costau enfawr gydag ymgais mewn golwg i dorri oddeutu £1.5 biliwn o gostau oddi ar eu llinell sylfaen. Cafwyd cyhoeddiad pellach heddiw fod 1,200 o swyddi’n mynd yn eu pencadlys. Rwy’n credu bod hyn yn dangos bod Tesco yn mynd ar drywydd agenda o dorri costau sy’n gosod elw, yn anffodus, o flaen y gweithlu.

Rydym wedi cael trafodaethau gyda’r cwmni. Cynhaliwyd cyfarfod ddydd Llun. Siaradais â’r Prif Swyddog Gweithredol yr wythnos diwethaf yn mynegi fy siom, fy siom dwfn, ynglŷn â’r ffordd y gwnaed y penderfyniad. Dywedwyd wrthyf unwaith eto nad oedd unrhyw beth y gallai Llywodraeth Cymru fod wedi’i gynnig neu ei wneud i atal yr hyn sy’n benderfyniad masnachol pur, ond fe bwysleisiais wrth y cwmni yr angen i weithio gyda phob partner i nodi cymaint o gyfleoedd â phosibl ar gyfer y rheiny yr effeithir arnynt gan y penderfyniad i symud ymlaen i waith diogel ar gyflogau da yn y sector.

Erbyn hyn, mae nifer o gamau gweithredu’n cael eu datblygu o ganlyniad i’r trafodaethau a gynhaliwyd gyda Tesco yr wythnos hon. Rydym yn galw ar Tesco i sicrhau bod Cymru’n cael ei hystyried fel opsiwn ar gyfer cyflogaeth a gweithrediadau a ddarperir gan gyflenwyr allanol. Rydym yn gweithio gyda nifer o bartïon â diddordeb sy’n edrych ar y posibilrwydd o ddefnyddio’r adeilad fel cyfle i fuddsoddi a chyfle cyflogaeth. Rydym yn gweithio gyda Fforwm Canolfannau Cyswllt Cymru, gan nodi cwmnïau a allai recriwtio, ac yn wir yn gweithio gyda’r rhai sydd wedi mynegi diddordeb mewn recriwtio. Rydym yn gwybod bod o leiaf bum cwmni sylweddol sy’n ystyried cyflogi’r gweithwyr yr effeithiwyd arnynt gan y penderfyniad.

Rwyf hefyd yn benderfynol o sicrhau bod y tasglu yn dwyn ynghyd nifer o asiantaethau, gan gynnwys y fforwm canolfannau cyswllt wrth gwrs, ond Gyrfa Cymru a Busnes Cymru a chyrff eraill hefyd sy’n gallu cynorthwyo pobl i ddod o hyd i waith arall. Er gwaethaf yr hyn y mae Tesco wedi penderfynu ei wneud—ac maent wedi nodi’r rhesymau pam y bu iddynt wneud y penderfyniadau—er gwaethaf y penderfyniad hwnnw, mae’n werth dweud bod y sector yn parhau i fod mewn sefyllfa fywiog yma yng Nghymru. Mae gennym lawer iawn o bobl fedrus tu hwnt yn gweithio yn y sector. Mae cyfran enfawr, wrth gwrs, yn cael eu cyflogi gan Tesco ac effeithir arnynt gan y penderfyniad anffodus hwn, ond rydym yn parhau i fod o’r farn y bydd nifer sylweddol yn gallu manteisio ar gyfleoedd gwaith ar unwaith, nid yn unig o fewn Tesco, lle y gellid eu hadleoli, ond yn y cwmnïau eraill hynny sy’n awyddus i recriwtio’n fuan iawn. Byddwn yn gweithio gydag unigolion drwy’r rhaglen ReAct, gyda busnesau, unwaith eto drwy’r rhaglen ReAct, drwy Fforwm Canolfannau Cyswllt Cymru, a chyda nifer o gwmnïau angori a chwmnïau sy’n bwysig yn rhanbarthol, i nodi cymaint o gyfleoedd gwaith ag y bo modd yn y sector bywiog hwn.

Rwy’n cytuno’n llwyr â rhai o’r teimladau a fynegwyd gennych heddiw, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae hwn yn gyfnod hynod o ofidus i’r 1,100 o weithwyr yn y cyfleuster hwn yng Nghaerdydd, sydd â hanes da iawn dros y 27 mlynedd ers ei sefydlu ym mhrifddinas Cymru. Mae ymroddiad a phroffesiynoldeb y gweithwyr yn haeddu cael eu trin yn well nag a gawsant yr wythnos diwethaf, rhaid i mi ddweud. Mae’n drueni mai drwy gyfryngau cymdeithasol a thrydydd partïon, gawn ni ddweud, y clywodd llawer o’r gweithwyr hyn y newyddion.

Ond mae’n ffaith, Ysgrifennydd y Cabinet, mai colledion swyddi arfaethedig yw’r rhain ar hyn o bryd. Er hynny, yn anffodus, yn aml iawn bydd cynlluniau arfaethedig o’r fath yn cael eu gwireddu ar ddiwedd y broses. Rydych wedi cael wythnos gyda’ch swyddogion i dreulio’r cyhoeddiad, i gysylltu â’r prif weithredwr a chysylltiadau eraill yn y cwmni. Yn eich asesiad, a oes unrhyw obaith y gellid achub rhai o’r swyddi hyn o fewn y teulu Tesco? Os yw hynny’n bosibilrwydd, a oes unrhyw amcangyfrif o’r nifer debygol o swyddi a allai fod ar gael i rai o’r gweithwyr ar y safle?

Yn ail, yn amlwg ni ellir bychanu pwysigrwydd y pecyn y bydd y Llywodraeth yn ei roi ar waith wedi cyhoeddiad swyddi ynglŷn â mwy o golledion swyddi nag ers 10 mlynedd yng Nghymru, ac a fydd yn creu heriau logistaidd enfawr i’r pecyn cymorth y gallech ei roi ar waith. A ydych yn ffyddiog, yn ôl yr asesiad a wnaethoch, y bydd y pecyn yn diwallu anghenion y gweithwyr i’w galluogi i ddod o hyd i waith arall ac yn y pen draw, i sicrhau cyflogaeth sy’n talu’r morgais, yn rhoi’r bwyd ar y bwrdd, ac yn dilladu’r plant gartref? Oherwydd dyna’r cwestiynau y bydd y gweithwyr am wybod yr atebion iddynt.

Os caf hefyd bwyso arnoch: o ystyried bod Tesco yn bartner strategol mor allweddol yn yr economi—19,000 o weithwyr ar draws Cymru, y cyflogwr preifat unigol mwyaf yng Nghymru—ni all fod yn dderbyniol fod y cyhoeddiad hwn wedi peri syndod i chi. Ni allaf gredu nad ydych chi, neu nad yw eich swyddogion yn aelodau o fforymau neu gyfarfodydd lle y caiff cyfleoedd eu trafod, lle y caiff rhwystrau eu trafod, a beth y gallwch ei wneud i’w gwneud yn haws goresgyn y rhwystrau hynny. Pa fath o berthynas sydd gennych mewn gwirionedd gyda’r cyflogwyr mawr hyn i wneud yn siŵr fod yna ymddiriedaeth go iawn ar y ddwy ochr i’r bwrdd wrth i chi drafod rhoi cyfleusterau ar waith sy’n helpu cyflogwyr i gryfhau eu sefyllfa yma yng Nghymru, i ddiogelu eu sefyllfa yng Nghymru, ac yn y pen draw, i gael ychydig o onestrwydd? 

A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei gwestiynau a hefyd am gytuno gyda fy nheimladau ynglŷn â phenderfyniad Tesco? Rwyf am ymdrin â’r pwynt olaf yn gyntaf, os caf. Nid Llywodraeth Cymru yn unig na chafodd wybod mewn da bryd am y penderfyniad. Llywodraeth y DU—rwy’n meddwl bod yr Ysgrifennydd Gwladol wedi’i gofnodi’n dweud na chawsant rybudd ymlaen llaw chwaith. Rwy’n credu bod pawb wedi bod yn feirniadol o’r ffordd y caniataodd Tesco i weithwyr medrus a ffyddlon gael gwybod gyntaf am eu tynged ar gyfryngau cymdeithasol. Ni chafodd Llywodraeth yr Alban wybod ymlaen llaw. Ni chafwyd unrhyw drafodaethau gyda Llywodraeth yr Alban, ac nid wyf yn ymwybodol fod unrhyw drafodaethau wedi’u cynnal gyda’r awdurdodau rhanbarthol yn Lloegr mewn perthynas â chyhoeddiad heddiw chwaith.

Mae Tesco wedi penderfynu gwneud y cyhoeddiadau hyn heb ymgynghori ag unrhyw lefel o lywodraeth o gwbl. Yn wir, daw ein hymgysylltiad yn bennaf drwy Fforwm Canolfannau Cyswllt Cymru, sy’n gweithredu, fel y mae’n ei ddweud, fel fforwm ar gyfer busnesau canolfannau cyswllt. Yn anffodus, mae’n ymddangos bod ymgysylltiad Tesco â’r fforwm ei hun heb arwain at rybudd ymlaen llaw fod y penderfyniad hwn yn cael ei wneud. Unwaith eto, mae hynny’n anffodus iawn, ac rwyf wedi mynegi hyn wrth y cwmni—rwyf wedi’i ddweud ar goedd.

Mae’n bwysig fod sefydliadau’r sector, megis y fforwm canolfannau cyswllt, yn cael ymddiriedaeth y cyflogwyr sy’n dibynnu ar y cyrff hyn am gyngor, am gyfleoedd, ac i rannu arferion gorau a gwybodaeth sector. Hoffwn wahodd Tesco, fel cyflogwr mawr yn economi Cymru, i ymgysylltu’n fwy trylwyr gyda Fforwm Canolfannau Cyswllt Cymru, a chyda chyrff y sector manwerthu yn ogystal, i sicrhau, wrth inni symud ymlaen, y gellir achub cymaint â phosibl o gyfleoedd gwaith ac yn wir, fod cymaint â phosibl o’r rhai a allai gael eu heffeithio gan y penderfyniad, os yw’r colledion yn dod i rym yn wir, yn gallu dod o hyd i waith arall—.

Mae’r Aelod yn gofyn cwestiwn pwysig iawn ynglŷn â faint o swyddi y gellid eu hachub o fewn y grŵp Tesco. Gofynnais hyn i’r cwmni mewn gwahanol drafodaethau a chyfarfodydd. Dywedir wrthym ei bod yn debygol y gellir achub nifer o swyddi o fewn y grŵp Tesco ehangach yn y rhanbarth hwn. Nid yw’n bosibl cael rhif pendant gan y cwmni ar hyn o bryd gan nad yw’r cwmni ei hun yn gallu pwyso a mesur faint o gyfleoedd sydd i’w cael ar draws y rhanbarth. Fodd bynnag, mae’n amlwg na fydd yn agos at y 1,000 a mwy o swyddi y maent yn argymell eu colli, ac am y rheswm hwnnw mae’n bwysig ein bod yn ystyried cyflwyno nifer o brosiectau—prosiectau mewnfuddsoddi—y gellid eu defnyddio i amsugno nifer sylweddol o’r swyddi a allai gael eu colli yn sgil yr ymgynghoriad 45 diwrnod.

Rwyf hefyd yn gweithio’n agos gyda’r undebau llafur a chydag Aelodau lleol hefyd i wneud yn siŵr fod yna ymateb cydlynol i hyn ar draws y sbectrwm gwleidyddol a chyda’n partneriaid cymdeithasol. Rwyf wedi siarad ag USDAW ar sawl achlysur, rwyf wedi siarad â’r Aelodau Seneddol lleol sydd wedi codi’r mater hwn yn Nhŷ’r Cyffredin ac rwyf hefyd wedi siarad ag Aelodau’r Cynulliad. Rwy’n credu ei bod yn hollol hanfodol yn awr fod Tesco yn parhau i weithio gyda Fforwm Canolfannau Cyswllt Cymru a chyda Llywodraeth Cymru wrth gwrs, ac yn wir, gyda’r cyngor yma yng Nghaerdydd, i nodi cymaint o gyfleoedd â phosibl i’r bobl sydd wedi bod yn ffyddlon iddynt ers blynyddoedd lawer. Mae hwn yn gyfleuster sydd wedi ennill gwobrau ac mae’r gweithwyr ffyddlon sydd wedi cael eu cyflogi yno yn haeddu pob cyfle i gael gwaith arall os ydynt yn colli eu gwaith ar ôl y cyfnod ymgynghori 45 diwrnod.

Mae’n ymddangos braidd yn rhyfedd, gyda cholledion swyddi ar y raddfa hon, na roddodd Tesco unrhyw rybudd ymlaen llaw i unrhyw sefydliadau perthnasol, fel chi eich hun neu Fforwm Canolfannau Cyswllt Cymru. Hefyd, mae’r mater—wel, fe sonioch amdano eich hun, mewn gwirionedd—ynglŷn â’r wybodaeth a roddir i’r gweithwyr eu hunain, oherwydd cefais innau wybod hefyd na chysylltodd Tesco â’r staff nad oedd ar ddyletswydd ar yr adeg y cyhoeddwyd y colledion swyddi, ond eu bod wedi cael gwybod naill ai drwy gydweithwyr neu, yn anffodus, drwy gyfryngau cymdeithasol, fel y nodwyd gennych. Felly, nid oedd yn arfer da iawn gan Tesco ac mae’n ymddangos eu bod wedi gweithredu mewn modd trahaus braidd gyda’r colledion swyddi hyn. Felly, mae hynny’n anffodus, a beth y gellir ei achub o hyn, nid ydym yn gwybod. Ond rwy’n croesawu eich ymdrechion i geisio lliniaru cymaint ag sy’n bosibl ar y colledion swyddi. Y gobaith yw y gellir adleoli pobl cymaint ag y bo modd, er eich bod yn awr yn dweud na fydd yn agos at gyfanswm y swyddi a gollir.

Mae yna strwythur yng Nghaerdydd yn enwedig mewn perthynas â chanolfannau galwadau. Mae hwn wedi bod yn faes twf yn y blynyddoedd diwethaf, fel y nodwyd gennych. Felly, gobeithio y gellir integreiddio pobl yn y rhwydwaith o ganolfannau galwadau sy’n bodoli’n barod. Wrth gwrs, mae’r amodau’n amrywio ar draws y sector. Rwy’n credu mai Tesco, mewn gwirionedd, oedd un o’r gweithrediadau gwell o ran y gweithwyr. Felly, mae’n fwy anffodus byth yn awr eu bod wedi trin y gweithwyr yn wael braidd yn y mater hwn.

Wrth gwrs, os nad yw pobl yn mynd i aros gyda Tesco, byddant yn meddwl am becynnau diswyddo. Ond mae’n debyg mai ychydig iawn y gallwch ei ddweud am hynny. Cyn belled ag y gwn, mae’r undebau’n trafod ar hyn o bryd. Nid wyf yn gwybod a oes unrhyw beth arall y gallwch ei ychwanegu at yr hyn rydych wedi’i ddweud. Ond diolch am eich cyfraniad.

A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei gwestiynau a hefyd rwy’n cytuno â’i bryderon ynglŷn â’r ffordd y cafodd y cyhoeddiad hwn ei wneud? Mae’n ymddangos bod newyddion wedi’i ddatgelu’n answyddogol, ac y byddai’r newyddion hwnnw fel arall wedi bod yn rhan o’r cyhoeddiad heddiw gan Tesco ynglŷn ag ymdrech ailstrwythuro fawr mewn ymgais i dorri £1.5 biliwn oddi ar y llinell sylfaen wrth i’r cwmni geisio dod yn fwy cystadleuol a chyrraedd lefelau uwch o elw. Nid wyf yn meddwl bod unrhyw amheuaeth fod galw mawr o hyd am bobl â sgiliau yn y sector hwn yn y rhanbarth, ac am y rheswm hwnnw, rwy’n hyderus y bydd nifer sylweddol iawn o bobl yn gallu sicrhau gwaith arall, os collir y swyddi hynny ar ôl y cyfnod ymgynghori 45 diwrnod. Rwy’n gwybod bod yr undeb llafur USDAW eisoes yn weithgar iawn yn ymgysylltu â gweithwyr a chyda’r cwmni ac mae USDAW yn gwneud gwaith gwirioneddol ragorol yn ymgynghori ac ymgysylltu â’r Llywodraeth a chydag Aelodau Seneddol hefyd.

Rwyf wedi amcangyfrif, Ysgrifennydd y Cabinet, y bydd hyn yn effeithio ar oddeutu 100 o swyddi yng Nghaerffili. Neithiwr, bûm mewn cyfarfod ymgynghorol a drefnwyd ers amser hir gyda manwerthwyr mawr, a oedd yn cynnwys Morrisons, Asda, Boots a Specsavers, ac roedd Tesco i fod yn bresennol ac nid oeddent yno. Roedd eu habsenoldeb yn amlwg ac roeddent yn absennol heddiw hefyd, cyn belled ag y gallwn ei weld, o gyfarfod Consortiwm Manwerthu Cymru y cyfeiriodd Adam Price ato. Nid yw hyn yn ddigon da, oherwydd mae’n edrych fel pe baent wedi dychryn a’u bod yn ofni siarad ag Aelodau’r Cynulliad. Byddwn wedi ceisio siarad â hwy am hyn. Clywais hyn gan USDAW hefyd. Mae’n dangos pwysigrwydd cael undeb llafur cryf, ac rwy’n cymeradwyo’r gwaith y mae USDAW wedi’i wneud. Ymddengys hefyd fod Julie Morgan AC a Anna McMorrin AS wedi gorfod pwyso’n drwm i gael Tesco i siarad â gweithwyr ac i siarad â swyddogion yn Tesco hefyd. Nid yw’n ddigon da o gwbl. Felly, pan fyddwch yn siarad â rheolwyr Tesco, a wnewch chi sicrhau eich bod yn mynegi’n glir iddynt pa mor bwysig yw siarad â chynrychiolwyr etholedig? Oherwydd clywsom yn uniongyrchol gan eu gweithlu. Mae gennyf straeon gan eu gweithlu sy’n dangos nad yw hyn yn ddigon da. Ac yn wir, byddwn yn ychwanegu bod cynrychiolwyr manwerthwyr eraill y siaradais â hwy wedi dweud bod hon yn enghraifft berffaith o sut i beidio â chyflawni cysylltiadau cyflogaeth; mae’n hollol warthus.

Hoffwn ddiolch i Hefin am y pwyntiau y mae’n eu nodi. Cytunaf yn llwyr ag ef; rwy’n pryderu bod angen gwella ymgysylltiad Tesco â gweision cyhoeddus, ac felly hefyd mae angen gwella’r modd y mae Tesco yn ymgysylltu a chyfathrebu gyda’i weithwyr ei hun—y bobl sy’n cynhyrchu’r elw hwnnw yr oeddent yn ceisio’i gynyddu. Mae Anna McMorrin a Jo Stevens wedi brwydro’n galed iawn dros y bobl sy’n wynebu colli eu swyddi, ac rwy’n gwybod y byddant yn parhau i wneud hynny. Mae’n werth i mi hysbysu’r Aelodau heddiw hefyd fy mod wedi gofyn i waith gael ei wneud mewn perthynas â sgiliau a thueddiadau sy’n dod i’r amlwg yn y sector hwn, fel y gallwn sicrhau bod y sector canolfannau cyswllt yng Nghymru ar flaen y gad ym maes technolegau digidol sy’n datblygu, ac yn manteisio ar bob cyfle i uwchsgilio’r gweithlu cyn belled ag y bo modd.

Fel pawb yn y Siambr rwy’n credu, rwy’n teimlo’n fawr iawn dros y gweithwyr sydd ar fin colli eu swyddi. Rwy’n adnabod rhai ohonynt, mewn gwirionedd, sy’n gweithio i fyny yno. Nid yw colli swyddi yn y ffordd hon am fod corfforaethau mawr yn methu llawn werthfawrogi eu gweithlu yn newydd i ni. Yr ateb mewn gwirionedd yw creu swyddi newydd, felly a fyddech yn ystyried sefydlu cronfa entrepreneuraidd er mwyn i bobl a fydd yn colli eu swyddi yn Tesco gael cyfle i sefydlu busnes newydd o bosibl? 

Rwy’n credu bod yr Aelod yn nodi pwynt pwysig iawn ynglŷn â’r angen i sicrhau bod pobl sy’n wynebu colli swyddi yn cael y cymorth cywir i fynd yn ôl i weithio neu’n wir i ddechrau eu cwmni eu hunain. Bydd ReAct 3 yn darparu cymorth ariannol i bobl yr effeithir arnynt, a chymorth ariannol hefyd i ddarpar gyflogwyr y bobl a allai gael eu heffeithio. Ond ceir cynlluniau a gefnogir gan Lywodraeth Cymru hefyd mewn perthynas â mannau a rennir, canolfannau deori ac yn y blaen, sydd hefyd yn cynnig bwrsariaethau i bobl sydd am fod yn arloesol ac entrepreneuraidd, nid yn unig pan fyddant yn dechrau ar eu gyrfa—pobl ifanc yn aml—ond hefyd pobl sydd wedi colli eu swyddi ond sydd â syniad am fusnes ac angen nifer o bethau: un, cymorth ariannol; dau, cefnogaeth gan gymheiriaid; a thri, cyfleoedd i gychwyn mewn maes penodol. Felly, dyna’n rhannol pam y mae Llywodraeth Cymru drwy ei rhaglen llywodraethu yn awyddus i gyflwyno rhagor o fannau a rennir a chanolfannau deori ar gyfer entrepreneuriaid. 

Nid wyf yn meddwl y dylai fod unrhyw amheuaeth fod y sector archfarchnadoedd yn un gwirioneddol ddidrugaredd a didostur, ac mae gennyf ofn, fel unrhyw farchnad ddilyffethair, mae’n arwain yn y pen draw at fonopoli. Mae’n debyg nad wyf am fyw mewn rhyw fath o ddyfodol dystopaidd lle mae’n rhaid i bawb ohonom brynu ein bwyd mewn un archfarchnad. Felly, mae yna bryderon yma ynglŷn â’r ffordd y mae’r diwydiant archfarchnadoedd yn dominyddu’r farchnad fwyd yn y DU a’r hyn y gallwn ei wneud i’w reoleiddio fel eu bod yn ymddwyn ychydig yn well na’r modd y mae Tesco wedi ymddwyn yn yr achos hwn.

Yr hyn y mae Julie Morgan a Hefin David a minnau ei eisiau—ac eraill sydd ag etholwyr yr effeithir arnynt gan hyn—yw cael rhyw fath o strategaeth glir ar gyfer y dyfodol er mwyn sicrhau nad ydynt yn cael eu gwthio i swyddi eraill sy’n mynd i gael eu diddymu wedyn yn eu tro. Mae’n ymddangos i mi mai awtomeiddio yw un o’r materion sy’n ei gwneud yn anodd iawn i bobl yn y sector gwasanaeth, lle mae pobl yn mynd i orfod bod yn barod i ailhyfforddi a newid yn unol â thechnolegau newydd. Felly, roeddwn yn meddwl tybed a allech ddweud ychydig mwy ynglŷn â sut y gallai eich syniadau ynghylch datblygu eich strategaeth economaidd newydd gael eu dylanwadu gan yr hyn a ddigwyddodd yn achos Tesco.

Hoffwn ddiolch i Jenny Rathbone am y pwyntiau y mae’n eu codi ac am ei chwestiwn? Ni waeth pa mor gystadleuol yw marchnad, nid wyf yn credu y dylai gweithwyr gael eu trin gydag unrhyw beth heblaw’r parch a’r teyrngarwch mwyaf gan eu cyflogwyr. Wrth gwrs, mae siopwyr yn chwarae rhan bwysig yn dylanwadu ar ymddygiad corfforaethol ac rwy’n siŵr y bydd llawer o siopwyr wedi’u siomi braidd gan y ffordd y cafodd y gweithwyr hyn eu trin gan gwmni y maent wedi bod yn deyrngar iddo o bosibl fel cwsmeriaid.

Rwy’n meddwl bod mater awtomeiddio yn un gwirioneddol arwyddocaol o ystyried ein bod yn gwybod bod datblygiadau mewn technoleg yn cyflymu a bod angen i ni fod mewn sefyllfa i addasu i’r hyn a ddaw’n realiti newydd yn fuan ac i fanteisio hefyd ar dechnolegau newydd. Dyna pam y crybwyllais yn awr fy mod wedi comisiynu gwaith a fydd yn edrych ar astudiaethau a wnaed eisoes, gan Fforwm Canolfannau Cyswllt Cymru yn enwedig, ond sy’n mynd y tu hwnt i hynny i edrych ar sut y gallai technoleg ac awtomeiddio newid y sector a beth sydd angen ei wneud i sicrhau bod y sgiliau cywir yn cael eu datblygu yn y sector i addasu i’r newid.

Gweinidog, rwy’n meddwl ei bod yn arwyddocaol fod y 1,100 o swyddi a gymerwyd o Gaerdydd wedi arwain at 250 o swyddi’n unig, yn ôl adroddiadau, erbyn iddynt gyrraedd Dundee. Felly, heb os, roedd nifer o ffactorau ar waith, ond yn amlwg mae awtomeiddio’n digwydd yn awr; yn hytrach na bod yn rhywbeth ar gyfer y dyfodol, mae’n fyw ac mae’n effeithio ar ein cymunedau.

Roeddwn yn falch o’ch gwahodd draw i gyfarfod o amgylch y bwrdd ddydd Llun gydag amrywiaeth o arbenigwyr ym maes awtomeiddio, deallusrwydd artiffisial a roboteg i ddechrau ystyried maint yr effaith y gallai hyn ei chael ar ein heconomi. Rwy’n falch iawn o glywed eich bod wedi comisiynu gwaith ymchwil ar yr effaith benodol ar fanwerthu a byddwn yn eich annog i wneud yn siŵr fod eich strategaeth economaidd, pan gaiff ei chynhyrchu, yn cynnwys ffocws penodol ar awtomeiddio—nid yn unig y bygythiadau ond y cyfleoedd hefyd. Dyna oedd un o’r negeseuon o’r cyfarfod o amgylch y bwrdd ddydd Llun: ceir manteision gwirioneddol i wasanaethau cyhoeddus, ac i bob un ohonom fel defnyddwyr, o awtomeiddio, ond ni ellir gwadu’r ffaith ei fod yn mynd i newid siâp ein gweithlu a’r ffordd y gweithiwn ac mae angen inni fod yn barod am hynny.

Diolch i Lee Waters am y pwyntiau y mae’n eu codi. Mewn gwirionedd, roedd y drafodaeth a gynhaliwyd ddydd Llun—a gynulliwyd ganddo ef, rwy’n meddwl—yn hynod addysgiadol. O ganlyniad i’r cyfarfod hwnnw yr ystyriais ei bod yn hanfodol inni symud ymlaen gyda’r gwaith yn ymwneud â chanolfannau cyswllt yn benodol, ond o ystyried y strategaeth sy’n datblygu, bydd yn berthnasol i bob sector ar draws yr economi.

Mae Lee Waters yn hollol gywir i nodi’r gwahaniaeth ymddangosiadol rhwng y 250 o swyddi a fyddai’n cael eu creu yn Dundee a’r mwy na 1,000 rydym yn wynebu eu colli yma yng Nghaerdydd. Gofynnais yr union gwestiwn hwnnw am awtomeiddio i Tesco. Dywedwyd wrthyf nad yw awtomeiddio yn chwarae rhan yn y penderfyniad hwn, ond nid wyf yn meddwl bod unrhyw amheuaeth o gwbl y bydd awtomeiddio yn newid y sector ac mae angen inni fod yn barod ar ei gyfer. Mae’r Aelod yn llygad ei le yn dweud nid yn unig y bydd yna heriau, ond y bydd yna gyfleoedd enfawr hefyd. Gwyddom fod pen draw i awtomeiddio, y bydd pobl yn dal i fod angen cysylltiad â phobl, a lle bynnag y ceir awtomeiddio, rhaid iddo gael ei gyflawni mewn ffordd fwy datblygedig nag ar hyn o bryd. Am y rheswm hwnnw, mae angen i ni fynd ati i ddatblygu’r dechnoleg newydd, mae angen i ni fod yn rhaglenwyr, mae angen i ni fod yn bobl sy’n defnyddio’r dechnoleg honno.

4. 4. Datganiadau 90 Eiliad

Diolch, Llywydd. Heddiw, rwyf am drafod bywyd a llwyddiannau Dr Shah Imtiaz. Daeth Dr Imtiaz i amlygrwydd yn 1988 pan gafodd ei ethol yn faer cyngor bwrdeistref Cwm Cynon, gan ddod yn faer Asiaidd cyntaf Cymru, a ddisgrifiodd fel moment falchaf ei fywyd.

Ond roedd Dr Imtiaz wedi bod yn ganolog i’r gymuned ers iddo gyrraedd Aberdâr yn 1970 i fod yn feddyg teulu. Fel y dywedodd y Cynghorydd Mike Forey, ei gydweithiwr ward am 19 mlynedd,, gwnaeth Dr Imtiaz gyfraniad sylweddol i fywyd gwleidyddol Cwm Cynon, ac i Aberdâr yn arbennig. Cynrychiolodd y dref ar gynghorau cwm Cynon a Rhondda Cynon Taf am 35 mlynedd, ond roedd ei actifiaeth angerddol yn ymestyn y tu hwnt i swyddi bwrdeistrefol.

Roedd Dr Imtiaz, fel y byddai disgwyl gan feddyg teulu lleol efallai, yn cymryd rhan weithredol yng ngrŵp gweithredu Ysbyty Aberdâr, ac ymgyrchodd yn erbyn y llygredd a achoswyd gan y gwaith Phurnacite yn Abercwmboi. Gan ddangos ei empathi gyda’r gymuned a wnaethai’n gartref, cefnogodd y glowyr yn ystod y 1980au a’r 1990au. Roedd Dr Imtiaz yn cefnogi datganoli’n frwd, roedd yn gadeirydd CND Cwm Cynon, a helpodd i osod y polyn heddwch o flaen llyfrgell Aberdâr. Ni fyddai byth yn cilio rhag ei gredoau, gan ddatgan ei fod yn ‘sosialydd drwy gydwybod’.

Yn anffodus, bu farw Dr Imtiaz ar 19 Mehefin. Rydym yn meddwl am ei blant, ond bydd y cof amdano a’i etifeddiaeth yn sicr o barhau.

Diolch, Llywydd. Yr wythnos diwethaf, cefais y fraint o fynychu gwobrau Womenspire Chwarae Teg, lle y cafodd gwaith menywod ar draws Cymru ei ddathlu a’i gydnabod, gyda gwobrau mewn categorïau yn amrywio o weithredu cymunedol i fusnes, diwydiant, a’r celfyddydau. Ac rwy’n falch iawn fod Sarah Draper, rheolwr gyfarwyddwr ffitrwydd Inspire Fitness ym Merthyr, wedi ennill gwobr llwyddiant ym myd y campau ar gyfer y flwyddyn.

Gyda chymorth arian grant, lansiodd Sarah grŵp o’r enw Merthyr Girls Can yn 2016, gan ddod â menywod anodd eu cyrraedd fel arall, mewn perthynas ag iechyd a lles, at ei gilydd a’u dysgu ynglŷn â ffitrwydd. Mae Sarah yn dysgu’r menywod hyn a’u teuluoedd ei bod yn bwysig mynd allan a chymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol, boed yn gerdded, rhedeg, neu ddim ond cicio pêl. Trwy Merthyr Girls Can, maent yn cael hyfforddiant hunan-barch, cyngor maeth, hyfforddiant personol un i un, cymorth hyfforddi, rhaglen hyfforddi 20 wythnos, a nifer ddigyfyngiad o sesiynau ymarfer corff. Oherwydd ei lwyddiant ysgubol, ffurfiwyd tri grŵp Merthyr Girls Can arall, gyda chanlyniadau aruthrol. A dechreuodd Merthyr Girls Can 4 ar 1 Ebrill eleni.

Trwy waith caled, cefnogaeth ac anogaeth Sarah, mae llawer o fenywod Merthyr wedi cyflawni pethau rhyfeddol, gan gymryd rhan mewn cystadlaethau triathlon, marathon, ennill cymwysterau a chyflogaeth mewn chwaraeon, ac ysbrydoli eraill i ddod yn ffit. Mae cymeradwyaeth ddiddiwedd i waith Sarah, ond hoffwn ddiolch i Sarah, a’r rhai fel hi, sy’n rhoi o’u hamser yn ddiflino i helpu eraill. Hebddynt, byddai ein nod o wneud Cymru yn genedl iachach gymaint yn anos i’w chyflawni.

Mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn dathlu ei phen-blwydd yn 70 oed eleni, ac fel pob blwyddyn, fe welwn ni gystadleuwyr o ar draws y byd yn dod i ganu, i ddawnsio, a mwynhau gogoniant Llangollen a dyffryn Dyfrdwy. Fe gynhaliwyd yr eisteddfod ryngwladol gyntaf ym Mehefin 1947, ac ar ôl erchyllterau’r ail ryfel byd, roedd yna weledigaeth y gallai cerddoriaeth leddfu rhywfaint ar boen rhyfel, ac y gellid defnyddio cerddoriaeth i hyrwyddo heddwch.

Roedd yr eisteddfod gyntaf honno yn llwyddiant ysgubol, a hynny yn sgil y ffaith i’r trigolion lleol gyfrannu dros £1,000 o’u harian eu hunain—yn gyfwerth â rhyw £35,000 heddiw. Ac mae’n parhau i fod yn ddibynnol ar waith caled nifer fawr o wirfoddolwyr, a diolch i’r rheini i gyd, wrth gwrs, am eu holl waith. Mae dros 300,000 o gystadleuwyr, o dros 100 o wledydd gwahanol, wedi dod i gystadlu ar lwyfan yr ŵyl dros y blynyddoedd, gyda degau o filoedd yn ymweld bob blwyddyn. Ac mae’r ŵyl yn parhau i hyrwyddo heddwch byd-eang, gyda phlant lleol yn cyflwyno’r neges heddwch yn flynyddol.

Mae wedi croesawu rhai o enwau cerddorol mwyaf y byd. Rydym ni’n gwybod am berthynas Luciano Pavarotti â’r ŵyl, wrth gwrs, a’r ymweliad efo’i gôr o Modena ym 1955 a’i ysbrydolodd e i droi yn broffesiynol. Eleni, mae’r ŵyl yn croesawu Bryn Terfel, yn ogystal â’r canwr jazz, ‘soul’ a ‘gospel’, Gregory Porter.

Yn y dyddiau yma o anghydfod, a gwrthdaro rhyngwladol cynyddol, mewn oes lle mae waliau yn cael eu codi, a ffiniau yn cael eu creu rhwng cenhedloedd, gadewch inni ddathlu’r modd y mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen wedi estyn ein breichiau ni fel Cymry allan i weddill y byd. Mae ei neges oesol o heddwch, goddefgarwch a brawdgarwch rhyngwladol yr un mor bwysig heddiw ag yr oedd e 70 mlynedd yn ôl.

5. 5. Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Effeithlonrwydd Ynni

Yr eitem nesaf yw’r ddadl gan Aelodau unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) ar effeithlonrwydd ynni, ac rwy’n galw ar Huw Irranca-Davies i wneud y cynnig.

Cynnig NDM6283 Huw Irranca-Davies, Jeremy Miles

Cefnogwyd gan Lee Waters, Simon Thomas

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi'r £217 miliwn o fuddsoddiad Llywodraeth Cymru dros y pum mlynedd diwethaf ac ymrwymiad pellach o £104 miliwn dros y pedair blynedd nesaf i wella effeithlonrwydd ynni yn y cartref a mynd i'r afael â thlodi tanwydd.

2. Yn nodi ymhellach bod angen i effeithlonrwydd ynni yn y cartref gael ei wella'n sylweddol os yw Cymru am gyrraedd ei nod o ran datgarboneiddio a lleihau tlodi tanwydd.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried amrywiaeth ehangach o ddulliau buddsoddi ar gyfer effeithlonrwydd ynni, gan gynnwys cyllid arloesol, gwneud defnydd da o bensiynau'r sector cyhoeddus, a defnyddio cyllid y sector preifat.

4. Yn nodi'r cynnig i sefydlu Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol i Gymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod anghenion seilwaith ynni hirdymor Cymru a chyfleoedd ar gyfer effeithlonrwydd ynni yn cael eu cynnwys o fewn ei gylch gwaith.

5. Yn credu y byddai buddsoddiad o'r fath yn rhoi hwb enfawr i ymdrechion i fynd i'r afael â thlodi tanwydd mewn rhai o'n cartrefi hynaf, gan ddarparu cartrefi cynnes a chlyd, gwella iechyd a llesiant pawb ac yn arbennig y mwyaf agored i niwed.

6. Yn credu ymhellach y byddai hyn yn helpu i fynd i'r afael â newid hinsawdd, lleihau'r allyriadau carbon drwy effeithlonrwydd ynni, lleihau'r defnydd o ynni a lleihau nifer y gorsafoedd pŵer newydd sydd angen inni eu hadeiladu.

7. Yn cydnabod y potensial ar gyfer twf economaidd, gan greu miloedd o swyddi ym mhob cymuned ym mhob rhan o Gymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Llywydd. Rwy’n falch iawn o gyflwyno’r ddadl hon, ac a gaf fi ddiolch i gyd-Aelodau—Jeremy Miles, Simon Thomas, Lee Waters—sydd wedi rhoi eu cefnogaeth i’r ddadl hon heddiw hefyd, ac i eraill a allai fod yn siarad? Ond a gaf fi ddiolch hefyd i weision cudd y tŷ yn yr uned ymchwil yn ogystal, oherwydd, wrth baratoi ar gyfer y ddadl hon, bydd unrhyw beth y byddaf yn ei ddweud sy’n swnio’n dda yn deillio o’u gwaith hwy? Bydd unrhyw beth sy’n wael yn dod gennyf fi.

Felly, yn gyntaf oll rwyf am esbonio pam ein bod yn siarad am y cynnig hwn heddiw, sy’n ceisio cael cydnabyddiaeth ffurfiol ymarferol go iawn i effeithlonrwydd ynni, yn enwedig effeithlonrwydd ynni yn y cartref, fel seilwaith cenedlaethol. Ond hefyd, rydym yn dweud yn y cynnig fod angen cynyddu’r raddfa’n ddramatig. Nid yw hynny’n dibynnu ar y Llywodraeth yn unig. Rydym yn edrych ar ffyrdd arloesol o wneud hynny. Felly, er enghraifft, yn y cynnig, rydym yn sôn am y defnydd o gynlluniau pensiwn a modelau ariannol arloesol eraill i gynyddu maint y buddsoddiad rydym am ei weld yn ddramatig. Ond yn bwysicaf oll, ei gynnwys fel seilwaith cenedlaethol, ac yn achos Cymru’n arbennig, o fewn cylch gorchwyl y comisiwn seilwaith cenedlaethol—. Mae hwnnw’n datblygu. Mae yno yn y cefndir ac yn mynd rhagddo. Rydym am weld hyn yn digwydd ac yn cael ei ysgrifennu mewn du a gwyn—fod effeithlonrwydd ynni yn y cartref yn rhan o’u cylch gwaith. Pam? Wel, rwy’n mynd i ddechrau drwy siarad am adroddiad 2015 gan Frontier Economics, Energy Efficiency: An infrastructure priority’. Roedd yn cyflwyno achos dros gategoreiddio effeithlonrwydd ynni yn y cartref fel seilwaith. Roeddent yn nodi bod y term ‘seilwaith’ yn draddodiadol yn dod â phrosiectau fel mentrau ffyrdd a rheilffyrdd a’r cyflenwad ynni i’r meddwl, ond roedd yr adroddiad yn archwilio ystod eang o ddiffiniadau o seilwaith, yn cwmpasu dwy elfen.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Y gyntaf yw’r nodweddion, fod seilwaith yn cael ei ddisgrifio’n gyffredinol fel ‘cyfalaf’ neu ‘yn ymwneud â strwythurau ffisegol’. Ond yn ail, y swyddogaethau, ac roeddent yn cyfeirio at y ddau ddiffiniad diweddaraf gan Drysorlys y DU a Chomisiwn Twf Ysgol Economeg Llundain, a ddisgrifiodd seilwaith fel mewnbwn i gynhyrchu nwyddau a gwasanaethau a’r gofyniad ar gyfer gweithredu’r economi. Ac mae’r adroddiad yn mynd rhagddo i awgrymu bod effeithlonrwydd ynni yn y cartref yn golygu buddsoddi yn y seilwaith oherwydd ei fod yn rhyddhau capasiti ynni ar gyfer defnydd arall, yn union fel y byddai buddsoddi mewn capasiti cynhyrchiant newydd, a hefyd bod buddsoddiadau o’r fath yn darparu gwasanaethau cyhoeddus drwy leihau allyriadau carbon a gwella iechyd a lles. Mae hefyd yn mynd rhagddo i ddweud ei fod yn cyd-fynd â’r ffordd y mae effeithlonrwydd ynni yn cael ei ystyried gan ystod eang o sefydliadau rhyngwladol, megis Banc Buddsoddi Ewrop a’r Asiantaeth Ynni Ryngwladol. Ac mae hefyd yn gyson â’r broses gyfredol a pharhaus o gyflwyno’r rhaglen mesuryddion deallus, sy’n un o brif flaenoriaethau seilwaith Llywodraeth y DU. Mae’n gweithio ym mhob man. Dylai fod yn seilwaith cenedlaethol.

Gadewch i ni droi at fanteision effeithlonrwydd ynni. Yn yr adroddiad penodol hwnnw—fe ddechreuaf yn y fan honno—maent yn cyfeirio at y ddau beth allweddol y mae buddsoddi mewn effeithlonrwydd ynni yn y cartref yn ei wneud. Un: mae’n lleihau’r defnydd o ynni. Drwy wneud hynny, mae’n lleihau biliau, mae’n rhyddhau capasiti’r sector ynni i gael ei ddefnyddio mewn mannau eraill yn yr economi, ac mae’n lleihau’r angen i fuddsoddi mewn capasiti newydd i’r system ynni. Mae hyn yn lleihau allyriadau carbon ac yn gwneud defnyddwyr yn llai agored i brisiau tanwydd cyfnewidiol. Ymhell o’r ddadl fod buddsoddi arian yn hyn yn faich ar ddefnyddwyr mewn gwirionedd, i lawer o’r aelwydydd tlotaf a thlawd o ran tanwydd, mewn gwirionedd mae’n eu hamddiffyn rhag cyfnewidioldeb prisiau nwy a phrisiau olew a phopeth arall. Ac yn ogystal, mae’r buddsoddiadau hyn yn rhoi gwerth opsiwn. Oherwydd eu bod yn golygu buddsoddiadau bach cynyddol lluosog, gellir addasu graddfa a ffocws y rhaglen i fyny ac i lawr dros amser. Ac maent yn nodi hefyd ei fod yn arwain at gartrefi cynhesach, mwy cyfforddus. Mae’n cynyddu iechyd a lles, a gall hefyd gynyddu cynhyrchiant llafur drwy wneud hynny—os ydym am edrych ar yr agweddau teilwra cymdeithasol yn ogystal. Felly, mae yna nifer o fanteision, ond maent hefyd yn cyfeirio at dwf economaidd a chreu swyddi.

Mae Cyngor Adeiladu Gwyrdd y DU yn dadlau y gall y farchnad effeithlonrwydd ynni yn y cartref ysgogi’r diwydiannau adeiladu a gweithgynhyrchu. Mae’n nodi bod dros 135,000 o bobl yn cael eu cyflogi yn y diwydiant effeithlonrwydd ynni ar hyn o bryd, ond mae’n dyfynnu ffigurau gan Llais Defnyddwyr sy’n awgrymu y gallai buddsoddiad mawr—buddsoddi mwy—mewn effeithlonrwydd ynni ddyblu’r nifer bron iawn i 260,000 o bobl erbyn 2027, ac mae’n mynd rhagddo i ddweud bod gosod mesurau effeithlonrwydd ynni fel arfer yn galw am lafur lleol, yn aml gan fusnesau bach a chanolig eu maint a microfusnesau. Ac oherwydd hyn, mae gan fuddsoddiad botensial i hybu cyflogaeth yn lleol. Rydym wedi sôn o’r blaen am yr angen i wneud hyn ac am ffyrdd arloesol o feddwl sut i wneud hyn. Dyma’n union yw dull yr economi sylfaenol. Ac mae hyn wedi’i gefnogi gan y ffigurau a gynhwysir yng nghynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer buddsoddi yn y seilwaith, a dof at hwnnw yn y man, sy’n datgan bod dros 80 y cant o’r busnesau a gyflawnodd gam 1 y rhaglen Arbed, o dan y rhaglen Warm Front, yn gweithredu’n bennaf neu’n unig yng Nghymru. Mae’n sefyllfa lle mae pawb ar ei ennill.

Gadewch i ni siarad am ddiogelwch ynni. Dywed adroddiad Cyngor Adeiladu Gwyrdd y DU fod lleihau gofynion ynni yn y cartref drwy effeithlonrwydd ynni yn hanfodol er mwyn sicrhau bod yna gyflenwad digonol i ddiwallu anghenion ynni’r DU. Mae’n mynd ymhellach: mae’n dweud bod buddsoddi mewn effeithlonrwydd ynni nid yn unig yn fwy costeffeithiol o ran ateb galw cynyddol y DU am ynni nag adeiladu seilwaith cynhyrchu ynni ychwanegol—rhoi’r gorau i adeiladu cymaint o orsafoedd pŵer a mynd ati i fuddsoddi yn hyn fel y dewis arall gwell.

Mae data gan y Gymdeithas Ynni Cynaliadwy yn dangos bod mesurau arbed ynni yn costio llai ar gyfartaledd am bob uned o bŵer na chynhyrchiant ynni ar raddfa fawr. Ac mae ffigurau 2012 gan yr Adran Ynni a Newid yn yr Hinsawdd yn dangos y gallai’r DU, drwy fuddsoddi costeffeithiol ym mhob math o effeithlonrwydd ynni, arbed 196 TWh yn 2020, sy’n cyfateb i ynni 22 o orsafoedd pŵer. Felly bydd diwallu anghenion ynni yn ôl y gostyngiad yn y galw hefyd yn lleihau dibyniaeth y DU ar danwydd ffosil a nwy.

Gadewch i mi droi at y gostyngiad mewn allyriadau carbon. Rydym wedi gwneud ein hymrwymiad yng Nghymru, fel y mae’r DU, i leihau allyriadau carbon. Yn 2014 y sector preswyl yng Nghymru a oedd yn gyfrifol am 8 y cant o allyriadau. Mae’r sector wedi’i ddominyddu gan allyriadau o losgi tanwydd preswyl sefydlog a symudol o weithgareddau megis gwresogi a choginio, a oedd yn gyfrifol am 97 y cant o allyriadau yn y sector hwn. Rwy’n credu fy mod wedi gwneud y pwynt, os ydych yn buddsoddi mewn effeithlonrwydd ynni yma yn y sector hwn, byddwch yn mynd i’r afael ag allyriadau carbon i raddau helaeth yn ogystal.

O ran gwerth am arian, roedd adroddiad Frontier Economics yn cymharu, yn ddiddorol, y buddion net a chymarebau cost a budd cynllun effeithlonrwydd ynni mawr gyda phedwar cynllun mawr arall, gan ddangos bod rhaglen effeithlonrwydd ynni’n cymharu’n dda iawn â’r buddsoddiadau eraill, gan gynnwys Crossrail, HS2 a’r broses o gyflwyno mesuryddion deallus. Maent yn credu y byddai manteision rhaglen effeithlonrwydd ynni wedi’i huwchraddio yn y sector preswyl yn gyfwerth â gwerth £8.7 biliwn o fanteision cymdeithasol. Ac wrth gwrs, fel rydym wedi sôn, mae’n lleihau biliau ynni ac yn helpu i fynd i’r afael â thlodi tanwydd.

Yn ôl ymchwil YouGov, biliau ynni cynyddol yw’r pryder ariannol mwyaf i ddeiliaid tai. Byddai rhai yn y Siambr hon—rhai—yn dweud mai dyna’r union reswm dros beidio â buddsoddi yn y pethau hyn oherwydd eich bod yn ei ychwanegu at filiau pobl. Rwyf eisoes wedi ymdrin â materion yn ymwneud â chyfnewidioldeb prisiau olew a nwy; mae hyn yn gwarchod defnyddwyr mewn gwirionedd. Ond roedd papur gan yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd ar dlodi tanwydd yn 2012 yn datgan bod polisïau sy’n gwella effeithlonrwydd y stoc dai yn fwy costeffeithiol ac yn arwain at effeithiau mwy hirdymor ar fynd i’r afael â thlodi tanwydd na pholisïau ar brisiau ynni neu gapio neu bolisïau ar gymhorthdal incwm. Efallai bod y rheiny’n ddefnyddiol—dyma’r ffordd fwyaf defnyddiol o’i wneud.

Ar wella iechyd a lles, gadewch i mi droi at adolygiad Hills o dlodi tanwydd, a ganfu y gall tymheredd isel mewn cartrefi greu amodau sy’n cynyddu’r tebygolrwydd o ddigwyddiadau cardiofasgwlaidd—y gallai rhai ohonynt arwain at farwolaeth—gwaethygu’r perygl o glefyd anadlol ac achosi anghysur corfforol, a all gyfrannu at broblemau iechyd meddwl yn ogystal. Rydym yn gwybod hyn; rydym wedi’i weld o’r blaen drwy aeafau caled. Mae’r Adran Ynni a Newid Hinsawdd wedi gwneud gwaith modelu i bwyso a mesur y manteision iechyd sy’n gysylltiedig â buddsoddiadau effeithlonrwydd ynni a daeth i’r casgliad y gallai’r rhain fod yn sylweddol ym mhob ffordd.

Felly, gadewch i mi droi yn fy sylwadau terfynol at ble rydym yng Nghymru. Mae’r Llywodraeth wedi gwneud cymaint a gadawaf i Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu hynny. Nid wyf yn mynd i wneud hynny yn fy adroddiad, ac rwy’n gwybod y bydd hi’n ei wneud yn dda a gallwn fod wedi’i wneud fel rhan o fy rhagymadrodd: y buddsoddiad rydym wedi’i wneud yn Arbed a Nyth a’r rhaglen Warm Front a llawer o ffyrdd eraill. Rydym yn gwneud cymaint o bethau da ac mewn gwirionedd, mae’r cynnig yn nodi hynny. Ond os edrychwn ar y cynllun buddsoddi yn seilwaith Cymru, sef y cynllun sy’n llywio ac yn cydgysylltu penderfyniadau buddsoddi, ei fwriad yw sicrhau cymaint o effaith ag y bo modd o raglenni seilwaith mawr Llywodraeth Cymru. Yn ôl yn 2012, y fersiwn ddiweddaraf o’r cynllun, mae’n nodi yno:

‘mae buddsoddi i gefnogi effeithlonrwydd ynni a datblygu ffynonellau newydd o ynni yn rhan bwysig o’r strategaeth.’

Ac mae’n mynd rhagddo i ddweud:

‘Mae effeithlonrwydd ynni drwy adnewyddu tai a mathau eraill o ystadau a chyflwyno safonau ynni ar gyfer adeiladau newydd yn cael effaith uniongyrchol ar gyflogaeth gan fod y gweithgareddau hyn yn gofyn am lawer o oriau gwaith. Felly bydd buddsoddi yn y meysydd hyn yn cael effeithiau anarferol o fawr o ran cyflogi llafur cyflenwol.’

Mae galwadau parhaus wedi bod bellach gan randdeiliaid—WWF, National Energy Action, Cartrefi Cymunedol Cymru, yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni, a llawer iawn mwy—am wneud effeithlonrwydd ynni yn flaenoriaeth seilwaith benodol ar gyfer Cymru yn awr. Rydym yn gwneud cymaint, ond gadewch i ni ei weld yno yng nghylch gorchwyl y comisiwn seilwaith cenedlaethol ar gyfer Cymru. Mae’r dystiolaeth yno. Rwy’n gwybod bod Ysgrifennydd y Cabinet yn gwybod ei fod yno. Bydd yn sôn am yr holl waith da y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud—ac mae hynny’n wir—ond gadewch i ni fynd ag ef i’r cam nesaf. Gadewch inni ei wneud yn fwy a gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl, i’w cymunedau, i’w cartrefi, ac ymdrin hefyd â’r myrdd o faterion eraill yr ydym am eu gweld yn cael sylw.

Yr wythnos diwethaf, cynhaliais a siaradais yn lansiad y grŵp trawsbleidiol ar dlodi tanwydd ac effeithlonrwydd ynni. Roeddwn yn aelod o’r grŵp trawsbleidiol golwg ar ynni yn ystod yr ail Gynulliad a chadeiriais y grŵp trawsbleidiol ar dlodi tanwydd yn ystod trydydd a phedwerydd tymor y Cynulliad. Bu inni weithio gyda’n gilydd i sefydlu’r Gynghrair Tlodi Tanwydd ac i lansio’r siarter tlodi tanwydd yn 2009, ac i sicrhau strategaeth tlodi tanwydd ddiwygiedig Llywodraeth Cymru yn 2010. Gan weithio gydag aelodau’r Gynghrair Tlodi Tanwydd, bydd y grŵp trawsbleidiol newydd yn ymgyrchu i roi tlodi tanwydd wrth wraidd camau i drechu tlodi, gyda phwyslais cryf ar sicrhau bod pob sector yn ysgwyddo cyfrifoldeb gyda’i gilydd. Mae National Energy Action Cymru yn awyddus i ymgysylltu ag Aelodau’r Cynulliad yn eu gwaith ar dlodi tanwydd a thrwy’r grŵp trawsbleidiol newydd ar dlodi tanwydd ac effeithlonrwydd ynni, ac rwy’n annog unrhyw Aelodau nad ydynt wedi cwblhau eu harolwg byr a anfonwyd atoch drwy e-bost, i wneud hynny.

Yn 2012, amcangyfrifwyd bod bron i 30 y cant o gartrefi Cymru mewn tlodi tanwydd, ac yn gwario 10 y cant neu fwy o incwm y cartref ar danwydd er mwyn cynnal digon o wres i ddiogelu cysur ac iechyd. Yn sgil buddsoddi mewn gwelliannau effeithlonrwydd ynni yn y cartref drwy gynlluniau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ynghyd â newidiadau yn incwm aelwydydd a phrisiau tanwydd, disgynnodd i 23 y cant yn 2016. Mae hynny’n dal i fod yn 291,000 o aelwydydd yng Nghymru, gan gynnwys 43,000 mewn tlodi tanwydd difrifol. Fel y dywedodd Sefydliad Bevan a Sefydliad Joseph Rowntree wrth Bwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol y Cynulliad ddwy flynedd yn ôl, dylai tlodi tanwydd gael proffil uwch yng nghynllun gweithredu ar gyfer trechu tlodi Llywodraeth Cymru am fod cartref cynnes yn angen dynol sylfaenol. Nid oes gobaith realistig o gyrraedd y targed o ddileu tlodi tanwydd yng Nghymru erbyn 2018, ac fel y nododd Age Cymru:

mae llawer o’r mecanweithiau a’r mesurau sydd wedi’u cynnwys yn Strategaeth Tlodi Tanwydd 2010 wedi dyddio neu’n amherthnasol bellach.

Maent yn nodi ei bod yn bryd i Lywodraeth Cymru adnewyddu ei strategaeth tlodi tanwydd, gyda rhaglen ac amserlenni clir, sylfaen dystiolaeth gredadwy, a thargedau tlodi tanwydd newydd, wedi’u seilio ar gyflawni yn hytrach na bod yn gaeth i newidiadau ym mhrisiau ynni.

Fel y nododd NEA Cymru yng nghynhadledd flynyddol Cymru ar dlodi tanwydd ym mis Mawrth, mae gwir angen strategaeth tlodi tanwydd newydd arnom, gan ychwanegu, er bod buddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn cynlluniau effeithlonrwydd ynni drwy ei rhaglen Cartrefi Cynnes yn glodwiw, mae angen newid ein huchelgais yn sylweddol.

Maent wedi gofyn i Aelodau’r Cynulliad alw ar Lywodraeth Cymru: i ddynodi bod effeithlonrwydd ynni yn y cartref yn flaenoriaeth seilwaith cenedlaethol allweddol sy’n ganolog i flaenoriaethau buddsoddi’r comisiwn seilwaith cenedlaethol ar gyfer Cymru; datblygu strategaeth hirdymor newydd ar gyfer trechu tlodi tanwydd fel mater o frys; gosod targed tlodi tanwydd newydd; gwella cartrefi i safon ofynnol o effeithlonrwydd ynni, yn seiliedig ar y data sydd ei angen; buddsoddi mewn rhaglen effeithlonrwydd ynni wedi’i thargedu a’i hariannu’n dda ar gyfer cartrefi sy’n wynebu tlodi tanwydd yng Nghymru; arbed bywydau drwy weithredu canllawiau NICE ar fynd i’r afael â marwolaethau ychwanegol y gaeaf; ariannu gwasanaethau cyngor annibynnol i gynorthwyo pobl sydd mewn tlodi tanwydd; a diogelu cartrefi sy’n agored i niwed â chronfa argyfwng ar gyfer gwresogi brys pan fo’u hiechyd mewn perygl.

Yn lansiad canolfan gymunedol wledig gogledd Sir y Fflint y mis diwethaf gan Ganolfan Cyngor Effeithlonrwydd Ynni Gogledd Cymru, clywsom y dylai’r prosiect trechu tlodi tanwydd hwn, gan gynnwys cronfa argyfwng cynhesrwydd fforddiadwy Sir y Fflint, fod yn fodel i’w ledaenu ar draws y cymunedau yng nghefn gwlad Cymru. Mae Gweithredu Ynni Cenedlaethol (NEA) yn cyflwyno prosiectau i helpu aelwydydd sy’n wynebu tlodi tanwydd yng Nghymru, gan gynnwys rhaglen iechyd ac arloesi. Ym mis Mawrth, gydag NEA Cymru, cynhaliais lansiad rhaglen gynghoriaeth ynni Cymru wledig Calor ar gyfer 2016-17 i helpu cartrefi sy’n wynebu tlodi tanwydd. Mae Ymddiriedolaeth Ynni elusennol ac annibynnol Nwy Prydain yn helpu tua 25,000 o gartrefi sy’n agored i niwed bob blwyddyn, ac mae gan Centrica, eu rhiant gwmni, bartneriaethau elusennol gydag elusen ddyledion StepChange—rwy’n datgan bod un o fy merched yn gweithio iddynt—CLIC Sargent a Macmillan, ac yn gweithio’n agos gydag Action on Hearing Loss, RNIB a Mind. Mae E.ON yn ychwanegu gwerth at eu rhwymedigaethau cwmni ynni i ddarparu cymorth ar gyfer cymunedau yng Nghymru drwy brosiectau a ariennir yn lleol, ymgysylltu â’r gymuned a chynlluniau creu swyddi.

Wel, gyda bron i un o bob pedwar cartref yng Nghymru yn dal i fethu fforddio cynhesu eu cartrefi, mae’n amlwg fod angen inni gynnal y ffocws gwleidyddol ar dlodi tanwydd ac effeithlonrwydd ynni yn y Cynulliad Cenedlaethol. Mae’n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag aelodau’r Gynghrair Tlodi Tanwydd i osod tlodi tanwydd wrth wraidd camau i drechu tlodi, gan ymgysylltu â phob sector a gwneud y mwyaf o’r cyfle a geir drwy gydweithio.

Rwyf am ddechrau drwy ddiolch i’r ACau dros Ogwr a Chastell-nedd am gyflwyno’r cynnig hwn heddiw. Fel y mae’r cynnig yn nodi’n gryno, mae sicrhau bod cartrefi Cymru yn defnyddio ynni’n effeithlon yn hollbwysig yn amgylcheddol. Mae hyn yn wir mewn perthynas â mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd a lleihau defnydd, ond mae hefyd yn hanfodol yn economaidd hefyd. Os ydym eisiau elfen gyffredin sy’n uno cymunedau ledled Cymru, y potensial i greu swyddi a thyfu’r economi sy’n seiliedig ar sicrhau bod y cartrefi yn y cymunedau hyn yn gallu defnyddio ynni’n effeithlon yw hwnnw. Mae Cambridge Econometrics wedi awgrymu y byddai pob £1 a fuddsoddir mewn mesurau effeithlonrwydd ynni yn cyflawni £3.20 o dwf.

Ar ben hynny, mae trechu tlodi tanwydd sy’n gallu bod yn achos ac effaith aneffeithlonrwydd ynni yn parhau i fod yn her allweddol i ni o ran mynd i’r afael â chyfiawnder cymdeithasol. Rwyf am ganolbwyntio fy sylwadau heddiw ar yr agwedd hon ar y cynnig, gan ehangu ar syniadau a chysyniadau a gynhwyswyd yn fy nadl fer yr wythnos diwethaf ar dlodi yng Nghymru.

Mae’r cynnig yn nodi ymrwymiad gwerth £321 miliwn gan Lywodraeth Cymru dros naw mlynedd i wella effeithlonrwydd ynni a threchu tlodi tanwydd. Mae hyn i’w groesawu, wrth i Ysgrifennydd presennol y Cabinet a Gweinidogion blaenorol sicrhau bod y rhain yn parhau i fod yn flaenoriaethau gwleidyddol. Yn wir, er bod yr uchelgais i ddileu tlodi tanwydd erbyn 2018 yn annhebygol o gael ei gyflawni, rwy’n falch o gefnogi Llywodraeth yma yng Nghymru nad yw wedi cilio rhag yr her.

Mae’r rhaglen Cartrefi Cynnes wedi gweld cyllid Llywodraeth Cymru yn mynd tuag at wella effeithlonrwydd ynni dros 27,000 o gartrefi. Mae aelwydydd wedi gallu gwresogi eu cartrefi ar lefel fwy fforddiadwy a lleihau eu biliau ynni. Yn yr un modd bydd 25,000 o gartrefi yn cael eu gwella dros y pedair blynedd nesaf. Yr un mor bwysig yw’r cynllun peilot Cartrefi Cynnes ar Bresgripsiwn, y cafodd Gofal a Thrwsio grant o £0.25 miliwn drwyddo gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant. Ei nod yw atal pobl hŷn y mae eu hiechyd gwael wedi’i achosi gan oerfel eithafol rhag cael eu derbyn a’u haildderbyn i’r ysbyty. Dylai ein buddsoddiad mewn tai fod yn gysylltiedig hefyd ag ymdrechion i leihau neu ddileu biliau tanwydd. Gyda’i gilydd, mae’r mesurau hyn wedi cael effaith.

Mae lefelau tlodi tanwydd yng Nghymru wedi gostwng o oddeutu 29 y cant o gartrefi yn 2012 i 23 y cant yn 2016. Fodd bynnag, mae’r ffigur hwn yn dal i fod bron yn un o bob pedwar cartref yng Nghymru. Mae’n dangos yn glir beth yw maint yr her i gael gwared ar y broblem, ac mae’n hollol annerbyniol fod 291,000 o aelwydydd yng Nghymru yn methu fforddio cynhesu eu cartrefi’n ddigonol. Ar ben hynny, fel y nododd National Energy Action Cymru, amcangyfrifir bod 3 y cant o gartrefi Cymru mewn tlodi tanwydd difrifol. Mae hyn yn golygu bod angen iddynt wario o leiaf 20 y cant o incwm y cartref ar ynni i sicrhau lefel ddigonol o gynhesrwydd.

Mae Ymddiriedolaeth Trussell wedi cydnabod y cysylltiad rhwng defnydd o’i rhwydweithiau o fanciau bwyd a thlodi tanwydd. I fynd i’r afael â’r broblem, mae wedi datblygu system o fanciau tanwydd, sy’n caniatáu i ddefnyddwyr banciau bwyd ar fesuryddion talu ymlaen llaw gael talebau er mwyn iddynt allu cadw eu gwres ymlaen am bythefnos. Mae Banc Bwyd Merthyr Cynon yn fy etholaeth yn rhan o’r prosiect hwn.

Gall tlodi tanwydd gael effaith ar draws pob adran o’r Llywodraeth, nid yn unig o ran tai neu ynni, ond hefyd o ran iechyd, perfformiad economaidd ac addysg yn wir. Mae lefelau cyrhaeddiad plant sy’n tyfu i fyny mewn cartrefi oer yn is na lefelau eu cyfoedion. Felly, mae’n rhaid i ni fabwysiadu ymagwedd Llywodraeth gyfan tuag at hyn. Rhaid inni gydnabod y cyd-destun hefyd nad oes gennym fynediad at bob un o’r dulliau sydd eu hangen i gael gwared ar y broblem hon. Er enghraifft, cost tanwydd ei hun, ond hefyd mentrau fel y taliad tanwydd gaeaf. Efallai mai cadw hwnnw yw’r ymyl arian i gynghrair May gyda’r DUP. Ond rhaid i ni sicrhau ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu.

Mae NEA Cymru wedi awgrymu ystod o atebion ymarferol i helpu i ateb yr her: sicrhau bod gwasanaeth atgyfeirio at un man cyswllt iechyd a thai ar gyfer pobl sy’n byw mewn cartrefi oer; gofyn i’r byrddau gwasanaethau cyhoeddus newydd amlinellu sut y bwriadant fynd i’r afael â chartrefi oer a thlodi tanwydd yn eu cynlluniau llesiant lleol; a datblygu strategaeth hirdymor newydd ar gyfer trechu tlodi tanwydd, gan ddod â’r holl elfennau at ei gilydd. Rwyf hefyd yn cefnogi’r mesurau a amlinellwyd yn y cynnig mewn perthynas â’r comisiwn seilwaith cenedlaethol, ac archwilio modelau cyllid arloesol. Rwy’n cymeradwyo’r cynnig hwn heddiw.

A gaf fi ddechrau drwy ddweud y bydd UKIP yn cefnogi’r cynnig hwn? Yn wir, rwyf fi fy hun wedi dadlau dros roi’r pwyslais ar leihau allyriadau carbon drwy ddefnyddio’r math o strategaethau a amlinellir yn argymhellion y cynnig, yn hytrach na chanolbwyntio ar yr hyn a elwir yn gynhyrchiant ynni di-garbon. Oherwydd nid oes y fath beth â chynhyrchu ynni di-garbon, wrth gwrs, am fod cynhyrchu, dyweder, paneli solar neu dyrbinau gwynt eu hunain yn creu llawer iawn o allbwn carbon, yn enwedig pan fyddwch yn ystyried cludiant y cynhyrchion hyn dros bellter hir. Fel y nododd fy nghyd-Aelod mewn dadl flaenorol, mae llongau môr ymhlith y pethau sy’n llygru fwyaf ar y ddaear, a gwyddom fod mwyafrif llethol y paneli solar ac ati yn cael eu cynhyrchu yn Tsieina.

Diolch yn fawr iawn. Dechreuodd mor dda, ac rwyf am ei achub rhagddo’i hun, oherwydd, wrth gwrs, nid yw’n fater o ‘naill ai / neu, nac ydy? Nid oes angen bwrw iddi ar eich pregeth arferol yn erbyn ynni adnewyddadwy; mae angen y ddau arnom.

Wel, rwy’n croesawu’r ymyriad hwnnw. Wrth gwrs. Mae angen i’r ddau beth weithio mewn cytgord. Er hynny, yr hyn y soniwn amdano yma, wrth gwrs, yw ble y dylai’r pwyslais fod, ac rwy’n cytuno â’r cynnig hwn, o ran ble y dylai’r pwyslais fod.

Er fy mod yn cytuno â phwynt 2 y cynigion, rhaid i mi nodi yma fod mwy nag ychydig o eironi yn y cynnig i leihau tlodi tanwydd, pan fyddwn yn ystyried bod llawer o’r tlodi tanwydd hwn yn deillio o brisiau tanwydd uchel a achosir gan ardollau datgarboneiddio. Yn ôl y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, roedd y costau tanwydd ychwanegol yn £327 y cartref yn 2014, gan godi i £875 yn 2030—gyda’r costau hyn yn cael eu teimlo’n anghymesur gan y bobl dlotaf mewn cymdeithas. Felly, os ydym am gael yr ardollau hyn, gadewch i ni wneud yn siŵr eu bod yn cael eu defnyddio yn y ffordd orau sy’n bosibl.

Nodaf hefyd yn y cynigion fod effeithlonrwydd ynni yn cael ei grybwyll sawl gwaith, a hynny’n ddealladwy, ond mae’n rhaid i mi nodi ei bod yn ymddangos bod peth dryswch yma am mai’r dulliau cynhyrchu trydan sy’n defnyddio ynni’n fwyaf effeithlon yn aml yw cynhyrchwyr sy’n defnyddio llawer o garbon. Mae gorsafoedd pŵer sy’n defnyddio glo yn llawer mwy effeithlon, gydag unrhyw beth hyd at 45 y cant ac yn rhedeg ar 85 y cant o’r capasiti, o’i gymharu â phaneli solar, sydd mor isel â 12 y cant ar 20 y cant o’r capasiti. Nawr, nid wyf yn galw am orsafoedd pŵer sy’n defnyddio glo—deallwch hynny. Felly, gallai galw am roi effeithlonrwydd ynni ar gylch gwaith y comisiwn seilwaith cenedlaethol gael yr effaith gwbl groes i’r hyn a ddymunir yn y cynnig hwn.

Fodd bynnag, ie, gadewch i ni ymrwymo i bob un o’r cynigion a amlinellir yn y cynnig hwn, ond efallai y dylem fynd hyd yn oed ymhellach a galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi’r diwydiannau sydd yn flaen y gad ym maes technoleg sy’n defnyddio ynni’n effeithlon, ac mae llawer i’w cael yma yng Nghymru. Fel y mae’r cynnig yn nodi, dyma gyfle enfawr i greu diwydiannau a swyddi cynaliadwy yn y tymor hir. Fe all Cymru, ac fe ddylai Cymru fod ar flaen y gad yn y datblygiadau technolegol cyffrous hyn.

Rwyf finnau hefyd yn croesawu’r ddadl hon gan fy nghyd-Aelodau Llafur, Huw Irranca-Davies a Jeremy Miles. Mae’n tynnu sylw at y gwaith da y mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi’i wneud eisoes yn ymarferol, ac yn ein herio i barhau a datblygu’r gwaith hwn fel blaenoriaeth genedlaethol ar gyfer Cymru.

Ers 2011, mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi buddsoddi mwy na £270 miliwn yng nghynllun Cartrefi Cynnes Llywodraeth Cymru ac wedi gwella effeithlonrwydd ynni dros 39,000 o gartrefi. Ym mis Ionawr, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, £40 miliwn ychwanegol tuag at roi camau uniongyrchol ar waith i leihau biliau ynni pobl a gwella effeithlonrwydd ynni hyd at 25,000 yn rhagor o gartrefi. Felly, pam y mae’r fenter hon, a’r ddadl hon, mor bwysig? Wel, canfyddiadau swyddogol, a gyhoeddwyd ym mis Ebrill yn adroddiad cysylltu data iechyd a thlodi tanwydd, tystiolaeth fod gwir ddefnydd o’r gwasanaeth iechyd yn is ymhlith pobl a oedd wedi elwa ar Gynllun Cartrefi Cynnes Nyth Llywodraeth Cymru. Defnyddiodd yr astudiaeth hon ddata GIG i gymharu defnydd o’r gwasanaeth iechyd ymhlith pobl a oedd wedi elwa o welliannau ynni yn y cartref Nyth, a grŵp rheoli a oedd yn gymwys ar gyfer gwelliannau ond a oedd yn dal i aros i’r rhain gael eu cwblhau. Canfu’r ymchwil fod lefelau digwyddiadau meddyg teulu ar gyfer salwch anadlol wedi gostwng bron i 4 y cant ymhlith y rhai a oedd wedi elwa o welliannau Nyth, a’u bod wedi codi bron i 10 y cant yn y grŵp rheoli dros yr un cyfnod. Gwelwyd patrwm tebyg mewn perthynas â lefelau digwyddiadau asthma, gyda lleihad o 6.5 y cant yn y grŵp derbyn a chynnydd o 12.5 y cant yn y grŵp rheoli ar gyfer yr un cyfnod. Felly, dyma dystiolaeth glir, na ellir ei gwadu o werth buddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn gwelliannau ynni yn y cartref ym maes iechyd.

Ar ben hynny, mae gennym ddyletswydd foesol a moesegol yn sylfaenol i sicrhau bod cartrefi a chymunedau incwm isel yn cael cymorth i sicrhau bod eu cartrefi’n defnyddio ynni’n effeithlon a’r manteision yn sgil y canlyniadau a gyflawnir. Byddwn yn cytuno, felly, â’r alwad ar Lywodraeth Cymru i ystyried sut y gall ehangu’r rhaglenni hyn ymhellach ac ar lwyfan seilwaith cenedlaethol.

Does bosibl nad oes consensws ar draws y Siambr hon fod darparu cyllid ar gyfer gwelliannau effeithlonrwydd ynni i’r rhai sy’n byw mewn cymunedau difreintiedig ledled Cymru yn beth amlwg i’w wneud, am ei fod yn helpu i atal afiechyd, i leihau newid yn yr hinsawdd—er bod rhai’n dadlau nad yw newid yn yr hinsawdd yn bodoli—yn helpu i ddileu tlodi tanwydd a’r premiwm tlodi, ac mae’n hybu datblygu economaidd ac adfywio yng Nghymru, fel y nodwyd, o safbwynt yr economi sylfaenol a chynhyrchiant.

Dirprwy Lywydd, fel y mae’r ddadl yn nodi, mae’n rhaid i’r cynnig i sefydlu comisiwn seilwaith cenedlaethol ar gyfer Cymru gael effeithlonrwydd ynni yn rhan o’i gylch gorchwyl er budd llesiant cyfannol holl bobl Cymru y cafwyd tystiolaeth ohono, ac yn benodol, ein pobl fwyaf agored i niwed. Diolch.

A gaf i ddiolch i Huw Irranca-Davies am ddod â’r ddadl hon gerbron, a’r cyfle i gyfrannu i’r ddadl? A diolch i Huw am ei ymroddiad i’r maes yma, sy’n hysbys i ni i gyd. Erbyn hyn—y pwynt yma yn y ddadl—bydd fy nghyfraniad i ar sail y ffaith os na allwch chi wneud dadl newydd, o leiaf gallwch chi ailadrodd dadl dda gan rywun arall.

Mewn iaith arall. Ond mae digon o bwyntiau dilys wedi eu gwneud.

I’ll echo the points that Huw Irranca-Davies was making, in particular, about making energy efficiency a matter of national infrastructure priority. What goes along with that, in a sense, is that sense of a national mission around the scale of the challenge, which he and others have identified.

We’ve outlined and talked already about the environmental benefits and, crucially, the impact on our objective of reducing fuel poverty. I want to just touch briefly on the other economic benefit, which some have mentioned, which is that of strengthening our local economies, which is one of the objectives that many of us in this Chamber share. Several speakers have touched on the issue of the foundational economy, which plays a part in our national economy, and retrofitting properties for energy efficiency seems to me to be an absolute exemplar of the kinds of sectors and activities that we’re looking at when we talk about that sort of economic activity, localised, with ongoing demand, able to support, as others have said, local employment in the Arbed scheme, which was a significant benefit of that programme. Indeed, of the 51 installation companies involved in the first phase, 41 of them operate exclusively in Wales. Of the 17 products that were used, only five of them were produced in Wales, which shows the scope of the opportunity there for increasing localised production of some of these products as well.

I want to talk briefly about the fact that, although this is a national imperative, we mustn’t lose sight of the community benefit that comes from energy efficiency. Some of the work that’s been done around community based retrofitting, which moves beyond residential accommodation and looks at business premises, transport infrastructure, green spaces and takes a much more holistic approach for energy efficiency—I think there’s a lot of value in that sort of approach. It has been trialled in some communities. The benefit of that is that you have the opportunity to engage both commercial and residential properties and interest and capacity, which, when we’re looking at different funding models for delivering this, is an important consideration. Also, it enables people to engage on a much larger scale, which carries a number of other benefits. So, I would urge the Welsh Government to reflect on that model. There have been good examples. There is a very famous example of it in Oxfordshire, where a co-operative-based model has delivered both community-based renewable generation and also used the funding from that to fund energy efficiency. It seems to me the linkage between creating a revenue stream through community-based renewables and then a means of paying for some of the measures that we’re discussing—that link seems to be an absolutely fundamental part of providing a range of sustainable models for achieving the objectives that this motion sets out.

I just want to touch briefly on that range of sources of funding. We need to look at—the scale of the challenge is significant. There’s public expenditure. There are share issues that have paid for some of these developments elsewhere. There are utility company obligations, and those aren’t within the control of the Welsh Government, but I would hope that we would see much more ambition on a UK-wide level for some of these funding sources to become a reality.

In a short debate that I brought forward last week, I called for us to look much more internationally at some of the examples of success elsewhere. I’d encourage the Welsh Government to look at the Dutch Energiesprong—I’m not sure if I’ve pronounced that correctly, but it’s an example that succeeded in the Netherlands, initially on the basis of social housing retrofitting, which offers residents a guarantee of energy performance, a 10-day delivery timetable, investment being financed by energy cost savings, working together with social housing providers that then provide to their tenants a sort of energy contract, like a mobile phone contract. That is a model that has worked there, and I think we should explore that sort of model in the UK, and specifically in Wales, as we look for all kinds of capital funding for this important policy objective.

Rwy’n falch iawn o ymuno â Simon Thomas i gefnogi’r cynnig a gyflwynwyd yn enw Jeremy Miles a Huw Irranca-Davies. Dylwn gymeradwyo Huw Irranca-Davies am araith ardderchog yr oeddwn yn cytuno â phob gair ohoni.

Mae angen i ni fynd i wraidd y mater yma. Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud llawer, ond mae angen gwneud llawer iawn mwy, ac mae’n rhaid i ni ei wneud yn gyflym. Fel y noda’r cynnig, mae angen cynyddu buddsoddiad mewn effeithlonrwydd ynni yn y cartref yn ddramatig os yw Cymru i gyflawni ei nodau ar ddatgarboneiddio a lleihau tlodi tanwydd. Dylem ddilyn yr Almaen a Denmarc a chael targedau ar gyfer lleihau cyfanswm y defnydd o ynni ac fel cam cyntaf, mae angen i ni archwilio’n drylwyr sut y defnyddiwn ynni a sut y gallwn sicrhau arbedion dramatig o wresogi gofod, trafnidiaeth, yn hanfodol—sy’n aml yn faes sy’n cael ei esgeuluso—diwydiant a defnydd o drydan.

Nid ydym yn trin ynni fel adnodd prin er mai dyna ydyw. Rydym yn wastraffus. Rydym yn llosgi llawer iawn ohono yn ein ceir. Caiff y rhan fwyaf o’n teithiau car eu gwneud dros bellteroedd lleol byr iawn y gallem eu gwneud mewn ffyrdd mwy cynaliadwy, ac rydym yn defnyddio llawer o ynni yn ein cartrefi. Mae ein stoc dai wedi’i hinswleiddio’n wael. Mae angen insiwleiddio gofod mewn tai a busnesau yn llawer gwell. Mae angen pympiau gwres o’r ddaear ac o’r aer yn ogystal â datblygiadau technolegol fel goleuadau LED a nwyddau gwyn mwy effeithlon i leihau ein defnydd o ynni. Rhaid i’r pwyslais, fel y dywedodd Huw, fod ar leihau yn hytrach na chynyddu capasiti’n gyson. Yn hytrach nag adeiladu gorsafoedd pŵer, dylem edrych yn gyntaf i weld sut y gallwn arbed—ffordd lawer mwy effeithlon o wario ein hadnoddau prin.

Gwyddom mai ynni o adeiladau sy’n gyfrifol am oddeutu 37 y cant o allyriadau carbon, felly mae’r achos amgylcheddol dros fynd i’r afael â hyn yn amlwg, ond mae yna achos economaidd hefyd. Ddwy flynedd yn ôl, cefais y fraint o weithio gyda’r Athro Gareth Wyn Jones, sydd wedi gwneud gwaith anhygoel yn y maes hwn dros ddegawdau, a chyda’r Athro Gerry Holtham, ar adroddiad y Sefydliad Materion Cymreig ar strategaeth economaidd i Gymru. Daeth yr adroddiad hwnnw i’r casgliad fod yr achos economaidd dros wneud effeithlonrwydd ynni stoc dai Cymru yn flaenoriaeth seilwaith cenedlaethol yn gryf.

Fel y noda’r cynnig, dylai’r comisiwn seilwaith arfaethedig ar gyfer Cymru gynnwys effeithlonrwydd ynni yn rhan o’i gylch gwaith. Fel y nododd Vikki Howells, byddai uwchraddio’r holl gartrefi band C yng Nghymru yn costio rhywle oddeutu £2.5 biliwn i £3 biliwn erbyn 2035. Ac os cymhwyswch ganfyddiadau Verco a Cambridge Econometrics i hynny, byddech yn gweld enillion ar fuddsoddiad o oddeutu £3.20 am bob £1 a fuddsoddir. Aeth Huw Irranca-Davies drwy gyfres o brosiectau—Crossrail yn fwyaf nodedig—sy’n darparu llawer llai o werth am arian. Byddwn yn ychwanegu’r elw o £1.62 ar y buddsoddiad yn yr M4 yr ydym yn rhoi £1 biliwn tuag ato. Pe baem yn rhoi’r math hwnnw o arian tuag at effeithlonrwydd ynni, gallem weld llawer mwy o adenillion economaidd ar gyfer creu swyddi a manteision hirdymor.

Ni allaf feddwl am unrhyw enghraifft well, Dirprwy Lywydd, o roi nodau ac amcanion Deddf cenedlaethau’r dyfodol ar waith na phrosiect dewr a beiddgar go iawn ar effeithlonrwydd ynni. Mae’r Llywodraeth hon wedi bod yn buddsoddi, ar gyfartaledd, rywle oddeutu £50 miliwn y flwyddyn mewn cynlluniau Cartrefi Cynnes, ac mae hynny wedi amrywio ychydig bach, ac mae hynny wedi cael croeso, ond rhan fach ohono’n unig ddylai hynny fod. Mae wedi dangos beth y gellir ei wneud. Gan ein bod wedi’i brofi bellach, mae’n rhaid inni roi troed ar y sbardun go iawn—mewn modd sy’n defnyddio ynni’n effeithlon, yn amlwg—gyda’r polisi hwnnw.

Mae gwaith gan Cyngor ar Bopeth yn awgrymu bod angen i’r Llywodraeth roi arweiniad cryf i gyfleu manteision effeithlonrwydd ynni. Mae eu gwaith ymchwil yn awgrymu nad yw llywodraethau ar bob lefel wedi gwneud hyn yn ddigon da. Gwelsant fod pobl yn fwyaf tebygol o ymateb yn gadarnhaol i gymhellion cadarnhaol ymlaen llaw megis grantiau a benthyciadau ar gyfraddau deniadol, wedi’u dilyn, yn rhyfedd, gan y syniad o gymhellion negyddol yn y dyfodol. Felly, er enghraifft, gallem ddweud y byddwn, ymhen pum mlynedd, yn codi bandiau’r dreth gyngor ar eiddo aneffeithlon a chynnig grantiau a benthyciadau deniadol yn awr i helpu deiliaid tai i gyrraedd graddau’r dystysgrif perfformiad ynni ac osgoi’r gosb honno yn y dyfodol. Dyna’r math o beth y dylem ei wneud. 

Maent hefyd yn nodi na ddylem gosbi’r bobl dlotaf, ac maent yn siarad am symud y galw fel cynllun y dylid ei wneud ochr yn ochr â hyn. Maent yn cyfeirio at brosiect Ynni Lleol Bethesda, a gefnogir gan Lywodraeth Cymru, sy’n annog trigolion i ddefnyddio ynni ar wahanol adegau o’r dydd er mwyn manteisio ar gynhyrchiant rhad o fewn yr hyn sydd i bob pwrpas, felly, yn farchnad ynni fewnol leol. Gallai’r math hwn o fodel, o’i wneud ar raddfa fwy, fod o fudd amlwg i’r holl ddefnyddwyr pe bai’n lleihau llwyth brig ar draws y grid cyfan. Fel y dywedais, Dirprwy Lywydd, mae’n bryd inni roi’r gorau i brofi; mae’n bryd dechrau gwneud, ar raddfa fawr.

Diolch i chi, a galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths.

Member
Lesley Griffiths 16:13:00
The Cabinet Secretary for Environment and Rural Affairs

Diolch, Dirprwy Lywydd, ac a gaf fi ddechrau drwy ddiolch i’r Aelodau am gyflwyno’r ddadl hon y prynhawn yma ac i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl? Mae llawer o’r hyn rydym wedi’i drafod heddiw yn cydweddu’n gyda fy natganiad ynni ym mis Rhagfyr y llynedd ynglŷn â defnyddio ynni’n fwy effeithlon, symud i gynhyrchiant carbon isel, denu mwy o adnoddau, a chael budd economaidd o’r technolegau a’r modelau busnes newydd sydd bellach yn datblygu o’r newid. Mae hyn yn cynnwys y rhaglen flaenllaw hynod lwyddiannus gan Lywodraeth Cymru, Cartrefi Cynnes, a gynlluniwyd i sicrhau manteision economaidd i Gymru o ran cyfleoedd cyflogaeth a busnes. Mae pob un o’r mesurau gwella effeithlonrwydd ynni a osodwyd drwy ein cynlluniau wedi cael eu darparu gan fusnesau bach a chanolig yng Nghymru.

Rhwng 2011 a 2016, rydym wedi buddsoddi dros £217 miliwn yng nghynllun Cartrefi Cynnes Llywodraeth Cymru i wella effeithlonrwydd ynni dros 39,000 o gartrefi pobl ar incwm isel neu bobl sy’n byw yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru, ac rwy’n disgwyl gallu cyhoeddi ffigurau 2016-17 y mis nesaf. Felly, mae’n gyllid sylweddol, ond fel y dywedodd Lee Waters, mae gwir angen inni weld faint yn fwy y gallwn ei roi i mewn. Byddwn wrth fy modd yn rhoi £1 biliwn tuag at ein rhaglenni effeithlonrwydd ynni, ond rwy’n meddwl bod yn rhaid i ni fod yn bragmatig. Y llynedd, sicrhaodd y cynllun Nyth arbedion cyfartalog amcangyfrifedig o dros £400 ar filiau ynni’r cartref. Pe bai’r arbedion amcangyfrifedig hyn yn cael eu gwireddu ar gyfer pob cartref sy’n cael ei wella drwy’r cynllun Nyth, byddai’n cyfateb i arbedion o fwy na £9.5 miliwn ar filiau ynni blynyddol.

Yn ddiweddar hefyd, bu inni gyhoeddi canfyddiadau gwaith ymchwil ar effeithiau iechyd Nyth. Mae’r ymchwil yn dangos bod y cynllun yn cael effaith glir a chadarnhaol ar iechyd y rhai sy’n ei dderbyn, gyda gostyngiad yn y defnydd o’r GIG gan y rhai sy’n derbyn mesurau effeithlonrwydd ynni drwy’r cynllun. Mae’r canfyddiadau hynny wedi cefnogi ein penderfyniad i ymestyn y meini prawf cymhwyster ar gyfer ein cynllun Nyth newydd i gynnwys deiliaid tai ar incwm isel sydd â chyflwr anadlol neu gyflwr cylchrediad y gwaed. Felly, rydym yn gwneud cynnydd ar drechu tlodi tanwydd, er nad yw rhai o’r dulliau trechu tlodi tanwydd wedi’u datganoli, fel y dywedodd Vikki Howells. Llywodraeth y DU sydd â phwerau dros ddiwygio lles, er enghraifft, a rheoleiddio’r farchnad ynni fanwerthol. Rhaid i mi ddweud na fyddai cynlluniau a gafodd eu nodi ym maniffesto’r Torïaid i gael gwared ar y taliad tanwydd gaeaf yn helpu chwaith. Yn gyffredinol, mae tlodi tanwydd wedi gostwng o 29 y cant yn 2012 i 23 y cant yn 2016, sy’n ostyngiad o 6 pwynt canran mewn pedair blynedd yn unig.

Dros y pedair blynedd nesaf, byddwn yn buddsoddi £104 miliwn pellach yng nghynllun Cartrefi Cynnes Llywodraeth Cymru, a bydd hynny’n ein galluogi i wella hyd at 25,000 o gartrefi pobl ar incwm isel, neu bobl, unwaith eto, sy’n byw yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru. Bydd ein buddsoddiad yn denu hyd at £24 miliwn o arian yr UE yn ychwanegol at gyllid y rhwymedigaeth cwmnïau ynni yn y DU. Mae ein buddsoddiad yn helpu i ddarparu sefydlogrwydd a sicrwydd i’r gadwyn gyflenwi effeithlonrwydd ynni yng Nghymru dyfu eu busnesau ar adeg pan fo Llywodraeth y DU wedi tanseilio hyder yn y diwydiant gyda’i hymagwedd oriog tuag at rwymedigaethau cyflenwyr ynni. Rwy’n ystyried cryfhau rheoliadau adeiladu hefyd drwy ein hadolygiad arfaethedig o Ran L eleni. Bydd hwn yn edrych ar sut y gallwn reoli gwerthoedd inswleiddio a lleihau defnydd o ynni mewn cartrefi. Yn ogystal, rydym wedi bod yn edrych ar gyfleoedd i ddenu mwy o adnoddau a chymorth gan gyflenwyr ynni, awdurdodau lleol, cronfeydd pensiwn ac eraill, i gyflymu buddsoddi ledled Cymru ar gyfer trechu tlodi tanwydd a chefnogi ein huchelgais o ran datgarboneiddio.

Rwy’n edrych ar bob cyfle i arloesi, mewn perthynas â chynhyrchion effeithlonrwydd ynni a modelau ariannol, a all helpu wedyn i gefnogi’r nifer sy’n manteisio ar welliannau effeithlonrwydd ynni o blith teuluoedd sydd â gallu i dalu yn ogystal â rhai sydd ar incwm isel. Byddaf yn gwneud cyhoeddiad yn yr hydref ar fy nghynigion.

Bydd effeithlonrwydd ynni yn gyffredinol yn cael ei gynnwys yn y gwaith cwmpasu ar gylch gorchwyl Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru, er mai seilwaith economaidd yn unig y bydd y comisiwn yn ei ystyried. Rydym yn credu bod seilwaith ynni modern, effeithlon a dibynadwy yn bwysig i’n busnesau a’n cymunedau, ac rydym yn ymrwymedig i gefnogi’r gwaith o ddatblygu cynhyrchiant ynni newydd adnewyddadwy.

Mae ynni adnewyddadwy a thrydan a gwres carbon isel yn elfen bwysig o ddull Llywodraeth Cymru o ddatgarboneiddio. Er mwyn darparu ynni carbon isel sicr a fforddiadwy, mae angen y gymysgedd honno o wahanol dechnolegau a meintiau, o’r raddfa gymunedol i brosiectau mawr. Mae’r newid i economi carbon isel, nid yn unig yn lleihau allyriadau, ond yn creu cyfleoedd ar gyfer twf glân, swyddi o ansawdd, a manteision yn y farchnad fyd-eang. Rwy’n ymrwymedig i sicrhau economi fwy cylchol yng Nghymru a defnyddio adnoddau naturiol y ddaear yn llawer mwy effeithlon.

Mae ynni yn rheidrwydd economaidd allweddol sy’n sail i’n hamcanion ar gyfer Cymru ddiogel a ffyniannus. O ran cyfleoedd, mae hyn yn golygu cefnogi buddsoddiadau ynni mawr mewn ynni adnewyddadwy ar y tir, ynni morol, ynni niwclear, ac yn y blaen, yn cynnwys ein dau brosiect buddsoddiad ynni mwyaf: Wylfa Newydd a morlyn llanw arfaethedig bae Abertawe. Amcangyfrifir y bydd Wylfa Newydd, er enghraifft, yn creu 850 o swyddi parhaol, a miloedd yn fwy am gyfnod dros dro. Mae Arbed, hefyd, wedi creu mwy na 470 o swyddi ac wedi darparu mwy na 60,000 o oriau o hyfforddiant mewn technolegau gwyrdd i weithwyr presennol a newydd.

Mae’r economi ddi-garbon yn un o’r sectorau sy’n tyfu gyflymaf yn y DU, gan greu swyddi a darparu buddsoddiad ar draws pob rhanbarth. Rwyf wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU ar sawl achlysur yn nodi manteision datblygiadau ynni adnewyddadwy. Rydym hefyd wedi ymrwymo i gefnogi prosiectau ynni a arweinir gan y gymuned. O ganlyniad i gefnogaeth Llywodraeth Cymru, mae 15 o gynlluniau cymunedol ar waith, yn darparu budd i’r ardal leol. Rwy’n cytuno â Jeremy Miles: mae’n ddiddorol iawn gweld rhai o’r modelau cydweithredol sy’n cael eu cyflwyno, ac rwyf wedi bod yn ffodus iawn nid yn unig i ymweld, ond i agor, cynlluniau o’r fath ers i mi gael y portffolio hwn.

Rwyf hefyd yn ystyried gosod targedau uchelgeisiol ond realistig ar gyfer ynni adnewyddadwy yng Nghymru. Bydd y dystiolaeth o’r llwybr datgarboneiddio yn llywio’r modd y gosodir unrhyw dargedau ac yn ein galluogi i asesu pa lwybrau sy’n darparu’r cyfleoedd a’r canlyniadau gorau ar gyfer Cymru. Rwyf wedi ymrwymo i ddefnyddio fy holl bwerau i ddarparu mecanweithiau cymorth parhaus sy’n sicrhau ein bod yn cadw’r gallu i gyflawni datblygiadau cynhyrchiant newydd ac effeithlonrwydd ynni gan reoli’r gost i’r bobl sy’n talu’r biliau.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn i ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu i’r ddadl, gan nodi, efallai, nad yw dadleuon fel hyn mor gyffrous â’r ddadl neithiwr ynglŷn â’r DUP a’r Ceidwadwyr, ond rydw i’n credu ein bod ni wedi cael cyfraniadau meddylgar sydd nid yn unig yn dehongli’r broblem sydd gyda ni ond sydd hefyd wedi cynnig rhai syniadau newydd yn y cyd-destun hwn. Rwy’n edrych ymlaen at fwy o drafod â’r Ysgrifennydd Cabinet, i ddweud y gwir, achos er bod hithau wedi cyfrannu i’r ddadl, rydw i’n meddwl ei bod hi wedi cael ei hannog i wneud hyd yn oed yn fwy, mae’n deg dweud, ac rwy’n credu bod yna waith o hyd i bwyso ar y Llywodraeth i symud yn bellach ac yn gyflymach ar y llwybr y maen nhw eisoes arno fe.

Rydw i, yn sicr, yn dod at hwn gyda chymaint o sylw tuag at effaith tlodi tanwydd ag o ran yr economi ac o ran yr amgylchedd, hyd yn oed. Rydw i’n croesawu’r ffaith bod y grŵp trawsbleidiol wedi’i sefydlu gyda Mark Isherwood, ac yn edrych ymlaen at gefnogi hynny. Mae’n wir dweud, fel yr oedd Rhianon Passmore wedi cyfeirio ato, fod yna effaith iechyd bendant yn hyn. Mae babis sydd wedi cael eu geni heddiw ac sy’n byw mewn cartrefi oer dair gwaith yn fwy tebygol o ddioddef o asthma neu ryw fath o glefyd yr ysgyfaint. Mae byw mewn tai oer yn lladd cymaint o bobl yn gynnar ag ysmygu, diffyg ymarfer corff, a chamddefnyddio alcohol—dyna maint y broblem sydd gyda ni. Mae hefyd yn bwysig dweud bod yna effaith ar gyrhaeddiad plant—cyrhaeddiad addysgiadol plant—drwy beidio â chael lle cynnes i astudio ac i fod yn glud. Felly, mae’n dasg i ni fynd i’r afael â hwn, nid yn unig o ran yr economi ond o ran iechyd a llesiant ein pobl ni.

Rydw i’n credu mai un o themâu Huw Irranca-Davies wrth osod y ddadl yn drwyadl iawn, wedi’i gefnogi gan Jeremy Miles a hefyd Lee Waters, oedd y syniad yma ein bod ni’n edrych ar effeithlonrwydd ynni fel rhywbeth sy’n seilwaith cenedlaethol a ddylai fod yn rhan o waith y comisiwn. Rwy’n falch bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi cadarnhau y bydd effeithlonrwydd ynni yn rhan o’r gwaith hwnnw, ond rwy’n dweud wrthi hi, os taw economeg yn bennaf y mae’r comisiwn yn ei wneud, mae’r ddadl gan Vikki Howells a Lee Waters yn dangos yn glir bod hwn yn gyfraniad economaidd sylweddol y dylai’r comisiwn efallai nid jest yn cydnabod ond mynd yn llwyr yn ei flaen ag ef.

Mae’r effaith ar gymunedau lleol yn arbennig o ddiddordeb, fel yr oedd Jeremy Miles yn ei amlinellu. Rŷm ni yn gallu dysgu o enghreifftiau rhyngwladol drwy osod targedau mwy llym, drwy osod targedau sydd yn fwy penodol i ni ac sy’n ymateb i’r galw sydd gyda ni fan hyn, a hefyd drwy edrych ar syniadau newydd sydd y tu fewn i’n gallu ni nawr o annog datblygiad yn y maes. Roedd Lee Waters wedi awgrymu ein bod ni’n defnyddio’r dreth gyngor. Buasai’n well gyda fi wobrwyo pobl yn hytrach na’u cosbi nhw, ond rwy’n derbyn y pwynt. Efallai bod gyda fe ddiddordeb mewn gwybod bod Plaid Cymru, wrth i ni edrych ar y Bil sydd yn awr yn Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017, wedi awgrymu bod modd rhoi rhyddhad treth stamp wrth werthu eiddo os oedd yr eiddo wedi cyrraedd rhyw lefel o effeithlonrwydd ynni. Er bod y gwelliant ddim wedi’i dderbyn gan Mark Drakeford, mae yna egwyddor wedi’i derbyn o ran trafod sut y gallwn ni ddefnyddio’r deddfau a’r trethi yr ŷm ni’n eu pasio fan hyn i effeithio ar ymddygiad pobl er mwyn annog y buddsoddiad yna mewn effeithlonrwydd ynni. Rydw i’n edrych ymlaen at hynny.

Rydw i’n falch bod y cynnig wedi cael croeso ym mhob rhan o’r Siambr, gan gynnwys gan David Rowlands. Roeddwn i’n cytuno â dechrau a diwedd araith David Rowlands. Nid oeddwn yn cytuno â’r rhesymeg, ond o leiaf mae ei gefnogaeth ef yno i’r syniadau sydd yn y cynnig.

Felly, diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y drafodaeth. Mae hi wedi bod yn drafodaeth werth chweil i’w chynnal. Rwy’n siŵr bod pobl y tu allan i’r Siambr hefyd wedi dilyn y drafodaeth yma, rydw i’n meddwl, gyda chryn ddiddordeb. Y cyfan a ddywedaf i wrth gloi wrth yr Ysgrifennydd Cabinet yw: rŷch chi wedi clywed erbyn hyn gymaint o gefnogaeth sydd i beth rŷch chi’n ei wneud ym mhob rhan o’r Siambr, ond rŷch chi hefyd wedi clywed ein bod ni angen i chi wneud dipyn yn fwy.

Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

6. 6. Dadl gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ar ei Adroddiad ar Ddyfodol Polisïau Amaethyddol a Datblygu Gwledig yng Nghymru

Symudwn ymlaen yn awr at ddadl gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ar ei adroddiad ar ddyfodol polisïau amaethyddol a datblygu gwledig yng Nghymru a galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor i gynnig y cynnig—Mike Hedges.

Cynnig NDM6347 Mike Hedges

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ar ddyfodol rheoli tir yng Nghymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 26 Mawrth 2017.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy’n enghraifft o ddatganiad Harold Wilson, ‘mae wythnos yn amser hir mewn gwleidyddiaeth’. [Chwerthin.] Mae’n bleser mawr gennyf agor y ddadl heddiw ar yr adroddiad gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ynglŷn â dyfodol rheoli tir yng Nghymru, er fy mod yn teimlo fel rhywun sy’n mynd i fyny i gael y cwpan heb fod wedi chwarae yn y bencampwriaeth. Rwy’n ddiolchgar i bawb a roddodd o’u hamser i gyfrannu at yr ymchwiliad. Hoffwn ddiolch hefyd i Gadeirydd blaenorol y pwyllgor, Mark Reckless, holl aelodau’r pwyllgor, a’r tîm clercio, am eu hymdrechion wrth gyflwyno’r adroddiad hwn.

Ers dros 40 mlynedd, mae’r ffordd y cafodd cynnyrch amaethyddol ei ffermio, ei werthu a’i gefnogi’n ariannol wedi cael ei benderfynu’n bennaf ar lefel Ewropeaidd. Mae’r bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd yn golygu y bydd Cymru, yn y dyfodol, yn wynebu’r cyfle—neu’r bygythiad—i lunio polisïau yn nes at adref. Felly, sut beth fydd y sector amaethyddol yng Nghymru ymhen pump, 10 neu 20 mlynedd? Mae’r adroddiad hwn yn nodi map ar gyfer goresgyn y rhwystrau uniongyrchol a gweledigaeth uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol. 

Mae’r rhan gyntaf o adroddiad y pwyllgor yn ymdrin â’r heriau uniongyrchol sy’n codi o Brexit. Beth fyddai’n gwneud Brexit llwyddiannus ar gyfer y sector amaethyddol a rheolwyr tir yng Nghymru? Nododd y pwyllgor bum elfen allweddol. Yn gyntaf, mynediad at y farchnad sengl: mae’r risgiau o fethu â sicrhau cytundeb masnach gyda’r UE yn ddifrifol. Yn 2015, allforiodd Cymru werth dros £12 biliwn o nwyddau y tu allan i’r DU. Cafodd dros ddwy ran o dair ohono ei werthu i’r UE. Y llynedd, roedd dros 90 y cant o allforion cig Cymru i’r UE—heb gynnwys symud cynnyrch o fewn y Deyrnas Unedig. Mae’r gwerth i economi a swyddi cynhyrchu bwyd yng Nghymru yn rhy fawr i ystyried methu cael mynediad at y farchnad sengl mwyach.

Mae arnom angen sicrwydd gan Lywodraeth y DU y bydd gennym fynediad di-dariff ac yn bwysig, heb gwotâu ar allforion i’n cynhyrchwyr amaethyddol. Nid ydym eisiau’r hyn sydd gan rai gwledydd eraill—ychydig bach ar ddim tariff ac yna, uwchlaw nifer fach iawn, byddwch yn dechrau talu tariff sylweddol, a fydd ond yn gwneud niwed i’r sector amaethyddol yng Nghymru. Ni ellir cyflawni hyn heb i Gymru gael llais cyfartal wrth y bwrdd negodi mewn trafodaethau’n ymwneud â mynediad at y farchnad sengl. Rhaid i’r telerau fod wedi’u cytuno gan y DU, nid cael eu harwain gan San Steffan.

Ysgrifennydd y Cabinet, rydych wedi derbyn mewn egwyddor ein hargymhelliad yn ymwneud â chryfhau marchnadoedd presennol a datblygu marchnadoedd newydd ar y sail eich bod eisoes yn cyflawni ymdrechion masnachol sylweddol i ddatblygu marchnadoedd allforio. Rydym yn wynebu heriau newydd a sylweddol. A allwch egluro beth rydych yn mynd i’w wneud yn wahanol i fynd i’r afael â’r heriau hyn?

Yr ail elfen allweddol yw lefel briodol o gyllid. Rhaid i Lywodraeth y DU ymrwymo i gynnal cyllid i amaethyddiaeth ar lefel y polisi amaethyddol cyffredin ar hyn o bryd ar gyfer y cylch presennol. Ni ddylai cyllid ar gyfer amaethyddiaeth fod yn ddarostyngedig i fformiwla Barnett, oherwydd os ydyw, byddai Cymru, sy’n fwy dibynnol ar amaethyddiaeth, ar ei cholled yn sylweddol yn ariannol. Rydym wedi dadlau y dylai Llywodraeth Cymru yn ei thro ddyrannu’r lefel hon o gyllid ar gyfer amaethyddiaeth, heb unrhyw ostyngiad, tan o leiaf Ebrill 2021, ac rwy’n falch fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn hyn mewn egwyddor. Byddwn yn ddiolchgar am fwy o fanylion gan Ysgrifennydd y Cabinet ynglŷn â’i hymateb y bydd

yn parhau i bwyso am y cytundeb gorau i Gymru

o ran cyllid.

Y drydedd elfen fydd fframwaith rheoleiddio sy’n cefnogi’r sector amaethyddol. Bydd gadael yr UE yn golygu bod angen cysylltiadau rhynglywodraethol newydd ar lefel y DU. Yn ganolog i hyn fydd datblygu fframweithiau rheoleiddio cyffredin wedi’u cytuno gan bob un o wledydd cyfansoddol y DU, ac nid wedi’u pennu o’r canol. O fewn fframweithiau o’r fath, mae angen hyblygrwydd inni ddatblygu polisïau sy’n briodol i Gymru. Rhaid i’r fframweithiau rheoleiddio hyn atal cystadleuaeth annheg rhwng cynhyrchwyr mewn gwahanol rannau o’r DU, a rhoi sicrwydd i ddefnyddwyr y bydd safonau uchel yn cael eu cynnal o ran iechyd a lles anifeiliaid. Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni ynglŷn â’r trafodaethau diweddaraf ar lefel weinidogol ar y cynigion ar gyfer cyngor Gweinidogion y DU ac a oes cefnogaeth ai peidio i fecanwaith dyfarnu mewn achosion o anghydfod? A phan ddywedaf ‘mecanwaith dyfarnu’, rwy’n golygu rhywbeth sy’n wahanol i gael eu penderfynu gan yr adran amaethyddiaeth yn San Steffan. Mae angen iddo fod yn annibynnol ac yn deg.

Y bedwaredd elfen yw mynediad at lafur a sgiliau. Bydd ein sectorau amaethyddol a chynhyrchu a phrosesu bwyd yn parhau i fod angen mynediad at ystod lawn o sgiliau pan fydd y DU wedi gadael yr UE. Mae risg ddifrifol i fusnesau Cymru os nad yw anghenion llafur Cymru yn cael eu hadlewyrchu mewn trafodaethau ar adael yr UE. Mae’n gyfle hefyd i feddwl am gynllunio’r gweithlu ar gyfer y sectorau hyn. Mae angen i Lywodraeth Cymru asesu lle bydd prinder sgiliau yn y dyfodol, ac ystyried sut y gellir cysoni polisïau sgiliau ac addysg gydag anghenion y sector. Rydym yn argymell datblygu strategaeth sgiliau ar gyfer y sector, argymhelliad a dderbyniwyd mewn egwyddor yn unig gan Ysgrifennydd y Cabinet. Byddwn yn ddiolchgar pe gallai egluro pam na allai dderbyn yr argymhelliad yn llawn.

Yn olaf, rhaid cael cyfnod pontio. Mae’r newidiadau sy’n deillio o Brexit yn heriol a chymhleth. Ers deugain mlynedd, rydym wedi gweithredu o fewn systemau a strwythurau sy’n deillio o’n haelodaeth o’r UE. Yn ei adroddiad, mae’r pwyllgor wedi pwysleisio pwysigrwydd cyfnod pontio i symud at unrhyw system gymorth newydd.

Mae rhan dau o adroddiad y pwyllgor yn nodi gweledigaeth ar gyfer yr hyn a allai ddod nesaf. Ar ôl i’r PAC fynd, sut y dylem gefnogi’r sector amaethyddol yng Nghymru? Sut olwg fydd ar gymunedau gwledig? Sut y bydd cymunedau’n ffynnu? Mae’r pwyllgor yn credu bod angen i ni fod yn uchelgeisiol ac yn arloesol, ac mae wedi cyflwyno cynigion ar fodel taliadau a chymorth ar gyfer rheoli tir sy’n seiliedig ar ganlyniadau cynaliadwy. Mae ffermwyr yn ganolog i gyflawni’r ymrwymiadau hyn, gan eu bod yn rheoli dros 80 y cant o arwynebedd tir Cymru. Gallant helpu i gyflawni blaenoriaethau megis mynd i’r afael â newid hinsawdd, atal llifogydd a gwella ansawdd ein dŵr.

Beth yw’r canlyniadau y dylai system newydd eu cefnogi? Mae’n rhaid i ni fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd. Dylai mesurau i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd fod yn ganolog i fecanwaith cymorth yn seiliedig ar ganlyniadau yn y dyfodol. Rydym am weld polisïau sy’n ceisio lleihau ôl troed carbon cynhyrchu bwyd a chreu cymhellion i ddal a storio carbon. Rhaid inni gefnogi sector cynhyrchu bwyd cadarn. Mae cyfle i Gymru ddod yn genedl cynhyrchu bwyd sy’n gryfach a mwy hunanddibynnol. Rydym eisiau polisïau Llywodraeth Cymru sy’n gweld gwerth cynhyrchu lleol, yn lleihau ôl troed carbon ac yn diogelu safonau uchel o ran iechyd a lles anifeiliaid. Rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda chynhyrchwyr a manwerthwyr i gynyddu gwerthiant cynnyrch o Gymru, gan gynnwys drwy gaffael cyhoeddus, ac mae hynny’n cynnwys iechyd a llywodraeth leol yn ogystal â’r Llywodraeth ganolog ei hun.

Mae’n rhaid inni gynnal coedwigoedd a choetiroedd cynaliadwy. Dylai rheolwyr tir gael eu cymell i gynyddu’r lefel o goedwigaeth yng Nghymru, a dylai’r polisi yn y dyfodol ystyried y rhan y gall coedwigaeth fasnachol ei chwarae hefyd. Mae’n rhaid inni warchod a gwella bioamrywiaeth. Dylai cyllid ar gyfer rheolwyr tir gefnogi ymyriadau penodol ar gyfer rhywogaethau dan fygythiad, cynefinoedd a safleoedd a warchodir, yn ogystal â hyrwyddo dull gofodol o reoli tir.

Mae’n rhaid i ni reoli’r dirwedd er budd twristiaeth, hamdden ac yn bwysicaf oll efallai, er mwyn cymunedau lleol. Rhaid i system o gymorth yn seiliedig ar ganlyniadau annog a gwella mynediad y cyhoedd i gefn gwlad. Yn ychwanegol at y manteision sylweddol i iechyd y cyhoedd, bydd hyn yn arwain at fanteision i dwristiaeth ac economi cefn gwlad. Mae’n rhaid i ni feithrin y Gymraeg a chymunedau gwledig bywiog. Mae cymunedau gwledig yn allweddol i ffyniant diwylliant, iaith a hunaniaeth Cymru. Mae diogelu’r sector amaethyddol yn hanfodol os ydym am i’r cymunedau gwledig hynny ffynnu. Mae llawer o’r ardaloedd gyda’r dwysedd uchaf o siaradwyr Cymraeg i’w gweld yng nghefn gwlad gogledd-orllewin a gorllewin Cymru. Rhaid i unrhyw system gymorth yn y dyfodol hybu amgylchedd diwylliannol ac economaidd unigryw Cymru a thraddodiad ffermio’r ucheldir. Rhaid i Lywodraeth Cymru bwysleisio’r agweddau hyn ar fywyd Cymru yn ei thrafodaethau gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â chyfeiriad polisïau yn y DU yn y dyfodol.

I gloi, mae gadael yr Undeb Ewropeaidd yn rhoi cyfle i aildrefnu taliadau i gymunedau gwledig er mwyn darparu nwyddau cyhoeddus megis mesurau lliniaru newid yn yr hinsawdd a gwella bioamrywiaeth. Bydd cymorth ariannol i gynhyrchwyr amaethyddol ar ffurf wahanol yn y dyfodol. Mae adroddiad y pwyllgor yn ei gwneud yn glir y bydd ein tirweddau a’n heconomïau gwledig yn parhau i gael eu rheoli’n bennaf gan ffermwyr, a dylai hyn gael ei gefnogi gan gyllid cyhoeddus. Fodd bynnag, ni allwn fanteisio ar y cyfleoedd hyn heb sicrwydd o’r un lefel o gyllid ag y mae Cymru’n ei chael gan yr UE, rhywbeth a addawyd yn ystod ymgyrch y refferendwm. Rhaid i Lywodraeth Cymru achub ar y cyfle i lunio polisïau a wnaed yng Nghymru sy’n cefnogi’r sector ac yn gwobrwyo ffermwyr am gyflawni canlyniadau cynaliadwy, megis diogelu bioamrywiaeth a lliniaru newid yn yr hinsawdd. Heb gefnogaeth barhaus, ni fydd gennym dirwedd wedi’i rheoli i ddenu twristiaid ac economi wledig ffyniannus i gynnal iaith a diwylliant Cymru. Mae hwn yn gyfle unwaith mewn oes. Mae ar Gymru angen polisïau rheoli tir uchelgeisiol ac arloesol i sicrhau manteision amgylcheddol ehangach ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Rwy’n gobeithio y gellir cyflawni hynny.

Rwy’n falch o gymryd rhan yn y ddadl hon ac i adlewyrchu ar rai o’r themâu a amlygwyd yn adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig. Mae nifer sylweddol o’r argymhellion yn yr adroddiad yn cyfeirio at y berthynas â'r fasnach amaethyddol yn dilyn penderfyniad Prydain i adael yr Undeb Ewropeaidd, ac rwy’n falch o nodi ymateb cadarnhaol yr Ysgrifennydd Cabinet i’r argymhellion hynny. Mae’n hanfodol bod yna fframwaith teg a pharhaol yn cael ei sefydlu i ddiogelu cynaliadwyedd y diwydiant amaethyddol pan fydd Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Pwysleisiodd nifer o randdeiliaid bwysigrwydd marchnadoedd allforio’r Undeb Ewropeaidd ar gyfer cynnyrch amaethyddol Cymru, yn ogystal â thynnu sylw at yr angen i wledydd datganoledig gael llais cryf wrth y bwrdd trafod. Mae CLA Cymru, er enghraifft, yn iawn drwy ddweud bod angen i ffermwyr gael polisi masnach sy’n creu marchnadoedd ar gyfer ffermwyr yma yn y Deyrnas Unedig a thramor. Felly, mae’n gwbl hanfodol bod Llywodraethau ar draws y Deyrnas Unedig nawr yn gweithio gyda’i gilydd i sicrhau cytundeb sy’n galluogi ffermwyr Cymru i barhau i ddibynnu ar y marchnadoedd allforio presennol, bod y rhain yn bodoli yn y dyfodol, ac i ddiogelu ein ffermwyr yn erbyn mewnforion rhatach.

Mae’r dystiolaeth i’r ymchwiliad yma hefyd yn ei gwneud hi’n glir y bydd blaenoriaethau unigol gan bob un o wledydd y Deyrnas Unedig i’w trafod â'r Undeb Ewropeaidd, a taw un o flaenoriaethau Cymru fydd diogelu y sector cig coch. Rydw i’n nodi bod Hybu Cig Cymru wedi dweud wrth y pwyllgor, ac rwy’n dyfynnu:

Ni allaf orbwysleisio pwysigrwydd y farchnad Ewropeaidd i ni pan mae’r sector cig coch yn y cwestiwn, a chig oen Cymreig yn arbennig. Fel y bydd y rhan fwyaf ohonoch yn ei wybod, mae un rhan o dair o’r cynhyrchiad cig oen Cymreig, sef tua 1.3 miliwn o ŵyn, mewn gwirionedd yn cael ei fwyta yn Ewrop, heb unrhyw gyfyngiadau a thollau.

Wrth gwrs, rhaid i Lywodraeth Cymru nawr weithio gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig i sicrhau bod sectorau fel y sector cig coch yng Nghymru yn cael eu blaenoriaethu yn strategol ymhlith unrhyw drafodaethau Brexit, ac rydw i’n croesawu ymateb Llywodraeth Cymru i argymhellion yr adroddiad ar y mater penodol yma.

Mae adroddiad y pwyllgor yn un eang ac nid yw’n sôn yn unig am rôl masnach amaethyddol yn y trafodaethau Brexit. Yn wir, mae rhai themâu diddorol iawn sy’n ymwneud â chynhyrchu bwyd a diwylliant bwyd, ac rydw i’n falch o weld y pwnc arbennig yma yn cael y sylw y mae’n ei haeddu. Rwy’n siŵr ein bod ni i gyd yn cytuno bod Cymru heb ei hail mewn cynhyrchu cynnyrch o ansawdd uchel. Mae’r polisi hwn yn un sy'n cwmpasu nifer o adrannau Llywodraeth Cymru—yn wir, popeth o iechyd ac addysg i’r economi—ac felly mae'n hanfodol bod unrhyw strategaeth yn y maes hwn yn cael ei gydlynu’n effeithiol.

Rydw i’n cytuno yn llwyr â barn y pwyllgor bod yna angen am lefel uwch o gefnogaeth oddi wrth y Llywodraeth i ddatblygu diwylliant sy’n creu bwyd o ansawdd uchel, o ffynonellau lleol, ac sy’n creu cynnyrch cynaliadwy. Mae, er enghraifft, llawer mwy y gellid ei wneud ynglŷn â chaffael cyhoeddus, yn enwedig mewn perthynas â chefnogi cynhyrchwyr llai. Yn wir, er fy mod yn derbyn bod y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol wedi gwneud peth cynnydd yn y maes hwn, gallai Llywodraeth Cymru wneud mwy i arwain y ffordd o ran cefnogi ffynonellau lleol o fwyd a diod am gontractau, yn ogystal â magu cysylltiadau cryfach gyda chwmnïau bach a chanolig, a ddylai gael eu cefnogi i gael mynediad i gadwyni cyflenwi caffael cyhoeddus. Mae ymateb Llywodraeth Cymru i’r adroddiad yn cyfeirio at agwedd newydd sy’n cael ei chymryd yn yr ardal hon, a gynlluniwyd i agor cyfleoedd newydd i gynhyrchwyr sydd ddim wedi cael blaenoriaeth yn y gorffennol ac sydd ddim wedi cael y gallu i dendro’n llwyddiannus. Gobeithiaf y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn ehangu ychydig mwy am hyn yn ei hymateb i'r ddadl hon.

Mae'r adroddiad pwyllgor hefyd yn iawn i bwysleisio pwysigrwydd y sector llaeth yng Nghymru, a nodaf argymhelliad 17, sy’n galw ar Lywodraeth Cymru i baratoi cynllun ar gyfer y diwydiant llaeth mewn ymgynghoriad â chynhyrchwyr, dosbarthwyr a manwerthwyr. Bydd Aelodau yn gwybod bod yna gostau mewnbwn uchel i ffermwyr llaeth ac rydw i’n credu bod lle yma i Lywodraeth Cymru sicrhau mwy o arian ar gyfer gwelliannau cyfalaf. Pan holais i’r Ysgrifennydd Cabinet am y pwynt penodol hwn ym mis Mawrth, dywedodd hi fod y cynllun grantiau bach newydd yn faes lle y gallai’r Llywodraeth helpu yn benodol, ac rydw i'n gobeithio y bydd hi’n rhoi rhagor o fanylion am siẁt y mae’r Llywodraeth yn gwneud hynny. Rydw i’n gwerthfawrogi bod adolygiad annibynnol o’r sector llaeth yng Nghymru wedi adrodd ym mis Mawrth 2015, ond o ystyried bod problemau ariannu sylweddol i rai ffermwyr o fewn y sector llaeth, efallai bod hwn yn faes sydd yn haeddu sylw pellach.

Felly wrth gloi, Dirprwy Lywydd, a gaf i unwaith eto ddiolch i’r pwyllgor am ei waith ar yr adroddiad yma? Mae’r adroddiad yma wedi ystyried nifer fawr o bynciau, gan gynnwys popeth o newid yn yr hinsawdd ac ymarferion tir cynaliadwy i amaethyddiaeth a bwyd a diod. Gobeithio, yn sgil gwaith y pwyllgor, y bydd Llywodraeth Cymru yn symud ymlaen gyda hyd yn oed mwy o ffocws ar gefnogi’r diwydiant amaethyddol ac yn gwneud popeth o fewn ei gallu i weithio gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig er mwyn diogelu diwydiant amaethyddol Cymru yn y dyfodol.

Yn gyntaf oll, a gaf fi ddweud bod Plaid Cymru yn cefnogi argymhellion y pwyllgor yn llawn? Rydym yn falch iawn ein bod wedi gallu cytuno ar adroddiad trawsbleidiol sy’n nodi’r materion a’r pryderon yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd mor glir a’r hyn roedd angen i’r Llywodraeth hon fynd i’r afael ag ef, a Llywodraeth San Steffan hefyd. Gan fy mod yn cytuno â’r adroddiad, nid wyf eisiau siarad llawer am yr adroddiad ei hun, ond canolbwyntio yn hytrach ar ddau faes, rwy’n meddwl. Un yw’r maes lle byddai Plaid Cymru wedi mynd ymhellach na’r adroddiad—felly, i nodi sut y byddem yn ymateb i rai o’r heriau sydd i’w gweld yma—ac yn ail, yr hyn sydd wedi digwydd ers i ni gyhoeddi’r adroddiad. Oherwydd mae’n werth cofio: rydym yn cael y ddadl hon heddiw, ond cyhoeddwyd yr adroddiad ddiwedd mis Mawrth. Beth sydd wedi digwydd mewn gwirionedd? Rydym wedi cael sawl wythnos, bron i dri mis, ers hynny—mwy na thri mis, mewn gwirionedd; pedwar mis—pan fyddem wedi gallu gweld mwy o gynnydd ar rai o’r argymhellion hyn. Wel, gadewch i ni edrych ar ychydig o hynny.

Yn gyntaf oll, i ddweud sut y byddem yn ymateb i’r adroddiad hwn. O’n safbwynt ni, rydym yn credu bod aelodaeth o’r farchnad sengl a’r undeb tollau yn parhau i fod y dull mwyaf hyfyw a chynaliadwy i gynnal ein sector amaethyddiaeth yma yng Nghymru. Mae gennym y farchnad honno sydd wedi bod mor llwyddiannus i ni hyd yn hyn. Mae ffermwyr yn awyddus i barhau i fasnachu gyda’r farchnad honno. Ydynt, maent eisiau archwilio marchnadoedd newydd a ddaw ar gael, ond maent yn awyddus i barhau i fasnachu yn y farchnad honno, ac rwy’n meddwl mai aelodaeth o’r undeb tollau a’r farchnad sengl yw’r ffordd fwyaf llwyddiannus ymlaen ar hynny. 

Mae Plaid Cymru hefyd am edrych ar sut y gallwn atgyfnerthu rhywbeth sydd wedi cael ei ddweud yn ystod yr ychydig wythnosau diwethaf ynglŷn â thaliadau a chymorth parhaus i’r sector ffermio. Oherwydd yn amlwg, yr hyn a ddigwyddodd rhwng mis Mawrth a heddiw oedd etholiad cyffredinol, na newidiodd ddim yn wleidyddol. Ni roddodd fandad ar gyfer unrhyw fath o Brexit, mae wedi arwain at lanast yn San Steffan, a diffyg cynnydd ar yr heriau a amlinellwyd yn yr adroddiad hwn. Ond mae wedi arwain at rywbeth a ddaeth yn amlwg dros yr wythnos diwethaf, sef ymrwymiad gan Lywodraeth San Steffan fod y taliadau amaethyddol yn cael eu cynnal bellach dros gyfnod y Senedd hon, sef hyd at 2022. Felly, rydym wedi ennill ychydig o amser, os hoffwch, yn hynny o beth. Hoffwn i Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau, pan gaiff gyfle i wneud hynny, y bydd yn cynnal y cymorth ac mai bwriad y Llywodraeth hon yw parhau hynny, oherwydd fel y mae’n dweud wrth ymateb i’r adroddiad,

‘Mae cymorth PAC parhaus y tu hwnt i 2020 yn dibynnu ar benderfyniadau a wneir gan Drysorlys Ei Mawrhydi.’

Gwir, ond mae Trysorlys Ei Mawrhydi, neu Lywodraeth Ei Mawrhydi, wedi dweud y bydd cymorth tan 2022, felly gadewch i ni glywed yr un math o gefnogaeth mewn egwyddor gan y Llywodraeth hon yng Nghymru.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Hoffwn hefyd inni wneud llawer mwy ynghylch caffael, a soniodd Paul Davies am hyn. Ond yn amlwg, os ydym yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, a bod gennym rywfaint o hyblygrwydd o ran sut rydym yn defnyddio caffael yn awr, gallwn flaenoriaethu, gadewch i ni fod yn onest, yr hyn y mae gwledydd eraill yn ei flaenoriaethu beth bynnag yn yr Undeb Ewropeaidd—ond dyna ni, gadewch i ni ailedrych ar y ddadl honno—lefelau uchel o les, safonau uchel yn amgylcheddol, bwyd iach, bwyd lleol, bwyd ffres. Dyma’r pethau y mae’r Eidalwyr a’r Ffrancwyr yn eu defnyddio hyd yn oed heddiw o dan y rheolau presennol. Ond heb gyfyngiadau o’r fath, gallwn edrych ar sut y gallwn atgyfnerthu ein dull o gynhyrchu. Mewn ysbytai, yn yr ysgol, yn y fyddin a’n lluoedd arfog, mae angen i ni brynu cig y DU a chig o Gymru gymaint â phosibl. Mae yna lawer iawn o gynnydd y gallwn ei wneud ar hynny gyda manteision posibl i’r sector amaethyddol.

Mae’n rhaid i mi ddweud hefyd nad ydym wedi gweld y cynnydd y byddwn am ei weld yn dilyn adroddiad y pwyllgor ym mis Mawrth ar faterion y gweithlu. O leiaf rydym newydd gael cyhoeddiad gan y Prif Weinidog ynglŷn â’i bargen, os mynnwch, neu ei chynnig i ddinasyddion yr UE yn y DU. Nid wyf yn credu ei fod yn ddigon hael. Nid wyf yn credu ei fod yn ddigonol i ateb pryderon y pwyllgor, a hoffwn weld mwy o ymdrech yn cael ei wneud o ran hynny. Barn Plaid Cymru yn sicr yw y dylai’r dinasyddion UE sydd yma ar hyn o bryd gael aros a dylent gael yr un hawliau ag sydd ganddynt ar hyn o bryd. Byddai hynny’n rhoi rhywfaint o sicrwydd ym maes cynhyrchu bwyd yn arbennig, a’r ochr arlwyo, os hoffech, gyda’r fasnach fwytai yn ogystal. Mae hynny i gyd yn rhan o’r economi gylchol benodol honno.

Rwyf hefyd yn meddwl y byddai Plaid Cymru yn mynd ymhellach na’r adroddiad o ran ble y gwelwn gytundeb masnach yn cael ei gytuno. Os ydym i adael y farchnad sengl ac os ydym wedyn yn cytuno ar wahanol fathau o gytundebau masnach, yna yn sicr rydym o’r farn y dylai’r Cynulliad Cenedlaethol hwn gael feto fel rhan o gytundeb ar draws y DU ar sut y dylai’r cytundebau masnach hynny gael eu cytuno. Rwy’n credu bod rhywbeth i’w ddweud ynglŷn â’r ffaith fod David Davis wedi dweud yn ddiweddar y bydd ymgynghori ffurfiol yn digwydd gyda’r Cynulliad Cenedlaethol ar y Bil diddymu—maent wedi rhoi’r gorau i’w alw’n fawr—ond mae angen i ni fynd ymhellach. Mae angen yr ymgynghoriad hwnnw arnom a chytundeb ar y cytundeb masnach y gellid ei gael yn ogystal.

Rwy’n credu bod yr adroddiad yn gynhwysfawr iawn ac yn esboniad trylwyr o’r heriau sy’n ein hwynebu wrth adael yr Undeb Ewropeaidd, ond rwy’n meddwl nad yw’r dychymyg sydd angen i ni ei ddangos yn awr wrth ymateb i’r heriau hynny wedi bod yn gwbl amlwg hyd yma gan Lywodraeth Cymru. Mae’n sicr wedi bod yn gwbl absennol gan Lywodraeth San Steffan hyd yma, ac mae Plaid Cymru eisiau gweld llawer o weithredu pellach a gweithredu cyflymach o lawer.

Rwy’n falch iawn o gymryd rhan yn y ddadl hon ac i longyfarch Mike Hedges ar ei ymddangosiad—fel yr arferai arweinwyr Torïaidd ei wneud cyn etholiadau—fel Cadeirydd y pwyllgor. Rwy’n gwybod na chawsom ni etholiad, ond gallaf ddweud pe bai un wedi bod a’i fod yn ymgeisydd, byddai wedi cael fy nghefnogaeth frwd, gan fy mod wedi gweld y ffordd y mae wedi gweithio yn y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, sy’n drawiadol iawn yn wir, ac rwy’n siŵr y bydd yn cadeirio’r pwyllgor newid hinsawdd yn ardderchog.

Rwy’n credu bod hwn yn adroddiad da iawn. Nid wyf yn cytuno gyda phob un o’r argymhellion, ond rwy’n cytuno â bron bob un ohonynt, ac rwy’n meddwl ei fod yn helpu i roi’r materion mewn persbectif. Os trown at baragraffau 8 ac 11 yn yr adroddiad, maent yn rhoi’r ffigurau fod Cymru’n allforio gwerth £12.3 biliwn o nwyddau, ond 2 y cant yn unig o’r rheiny sy’n allforion bwyd ac anifeiliaid byw. Felly, mae amaethyddiaeth yn rhan hanfodol o economi Cymru, ond fel y dywedais yn gynharach, beth bynnag y bo’r problemau a allai ddeillio o broses ansicr y newid o ble rydym yn awr i ble y byddwn ar ôl Brexit, dylai fod yn gymharol hawdd i Lywodraeth Prydain a Llywodraeth Cymru ddarparu ar gyfer y goblygiadau ariannol beth bynnag a benderfynir. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth o gwbl na fydd amaethyddiaeth yng Nghymru yn waeth ei byd ar ôl Brexit nag y mae yn awr. Yn wir, mae’r cyfle i sicrhau gwelliannau yn llawer iawn mwy.

Mae gennym ddiffyg masnach enfawr mewn cynhyrchion bwyd. Roeddem yn allforio gwerth £20 biliwn o fwyd a diod o’r DU; rydym yn mewnforio gwerth £43 biliwn mewn gwirionedd. Yn 2016, y flwyddyn ddiweddaraf y mae ffigurau ar gael ar ei chyfer, ehangodd y bwlch masnach hwnnw dros 4 y cant mewn gwirionedd. Felly, os yw’r Undeb Ewropeaidd mor ffôl â pheidio ag ymrwymo i gytundeb olynol gyda ni, yna mae cyfle helaeth i sicrhau mewnforion yn eu lle, oherwydd unwaith eto, mae’r adroddiad yn ddefnyddiol iawn yn rhoi ffigyrau’r tariffau sydd mewn grym inni ar gynhyrchion bwyd, ac maent yn enfawr wrth gwrs. 84 y cant ar garcasau gwartheg, 87 y cant ar gig eidion wedi’i rewi, 46 y cant ar garcasau cig oen, ac yn y blaen ac yn y blaen.

Mae hynny’n dangos i ni pa mor anflaengar yw effaith y polisi amaethyddol cyffredin ar bobl gyffredin mewn gwirionedd, gan fod mathau o amddiffyniad drwy dariffau yn ffordd aneffeithlon iawn o gefnogi amaethyddiaeth ac incwm ffermydd, gan mai’r bobl sy’n ysgwyddo’r baich mwyaf yw’r rhai ar yr incwm isaf, gan fod pawb yn gorfod prynu bwyd a chynhyrchion bwyd. Felly, maent yn tueddu i fod yn anflaengar iawn o ran eu heffaith, ac un o’r manteision mawr o allu cynllunio ein polisi amaethyddol ein hunain ar gyfer y DU ac ar gyfer Cymru yw y byddwn, efallai, yn gallu ystumio’r system fwy o blaid pobl ar ben isaf y raddfa incwm. Ac rwy’n gobeithio’n fawr mai dyna beth y gallwn ei wneud.

Rwy’n credu bod argymhelliad 2 yn afrealistig, wrth alw am lais cyfartal wrth y bwrdd negodi yn y trafodaethau, a mynediad at y farchnad sengl i’r gwledydd datganoledig, gan mai Llywodraeth y Deyrnas Unedig sydd â’r cyfrifoldeb o drafod ar ran y Deyrnas Unedig gyfan, ac rwy’n credu ei bod yn afrealistig dychmygu y gallai unrhyw un o’r gwledydd cyfansoddol gael feto ar ei phenderfyniadau. O ystyried bod gan Loegr 85 y cant o boblogaeth y DU, nid yw’r ddadl hon yn wleidyddiaeth ymarferol, beth bynnag y gallai’r rhinweddau fod o safbwynt Plaid Cymru, ac rwy’n deall yn iawn pam eu bod yn awyddus i gyflwyno’r achos o blaid hynny. Ond er hynny, byddai bod yn rhan o system ffederal yn sefyllfa wahanol iawn i’r un sydd gennym ar hyn o bryd, a byddai iddo oblygiadau o ran trosglwyddiadau cyllidol rhwng Lloegr a gweddill y Deyrnas Unedig yn ogystal, a gallai canlyniadau hynny fod yn hynod o niweidiol i Gymru. Felly, mae’n fater o enillion a cholledion.

Ond wedi dweud hynny, rwy’n credu y dylai’r gwledydd datganoledig gael parch cydradd o fewn y Deyrnas Unedig yn y trafodaethau hyn, ac y dylai Llywodraeth y Deyrnas Unedig gadw buddiannau Cymru, ac amaethyddiaeth Cymru yn benodol, yn flaenllaw yn ei meddwl yn y trafodaethau. Er bod trafodaethau masnach rydd yn anochel yn gyfaddawd rhwng un diddordeb a’r llall, fel y dywedodd Simon Thomas, rhaid inni ddod o hyd i ffordd o ddigolledu’r collwyr, os oes collwyr, yn y broses honno. O ystyried yr ystadegau a ddyfynnais ar ddechrau fy araith, nid wyf yn meddwl bod honno’n sefyllfa amhosibl inni fod ynddi yn y pen draw.

O ran ymfudo, a gweithwyr amaethyddol yn benodol, cyn i ni fynd yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd roedd gennym gynllun gweithwyr amaethyddol tymhorol a oedd yn cael ei gynnal hyd nes yn gymharol ddiweddar, ac ni ddylai fod yn amhosibl ei adfer ac ystyried unrhyw fylchau sgiliau a geir yn economi Cymru, yn ogystal â rhannau eraill o’r DU. Unwaith eto, mae hynny’n galw am sensitifrwydd ar ran Llywodraeth y DU.

Felly, ychydig iawn o amser a geir yn y ddadl hon i fanylu ar holl gymhlethdodau’r broses hon, ond rwy’n credu bod yr adroddiad yn rhoi sylfaen dda iawn inni symud y ddadl yn ei blaen, ac rwy’n llongyfarch aelodau’r pwyllgor am gyrraedd consensws ar hynny.

A gaf fi ddechrau drwy longyfarch Mike Hedges ar gymryd cadeiryddiaeth y pwyllgor hwn, a hefyd am araith gyntaf dda iawn yma yn y Senedd yn cyflwyno’r adroddiad hwn? A gaf fi ddiolch i’n cyn-Gadeirydd hefyd? Yn groes i unrhyw sibrydion, ni chafodd ei hel ymaith—roeddem yn gwneud gwaith da yno, a llywyddodd dros waith da yn yr adroddiad hwn, a thros waith blaenorol a wnaethom hefyd, felly mae’n werth cydnabod hynny a’r ffaith ein bod wedi sicrhau dull cydsyniol o fynd i’r afael ag ambell faes anodd iawn. Rwy’n credu bod hynny’n deyrnged i’r gwaith ar y cyd a wnaed yn y pwyllgor, a hefyd i’r stiwardiaeth ddiduedd a gafwyd yn y cyfnod hwn hefyd. Ond Mike, llongyfarchiadau, a gwn y byddwch yn gwneud gwaith gwych yn y dyfodol hefyd, fel rydych eisoes wedi dangos.

Nid wyf eisiau mynd drwy’r holl adroddiad yn awr. A dweud y gwir, rwy’n mynd i gadw draw oddi wrth y materion penodol sy’n ymwneud â ffermio, y sector llaeth, sector cig oen Cymru ac yn y blaen. Maent wedi’u cynnwys. Rwy’n cytuno â phob un ohonynt; mae hynny’n hollol amlwg, ac rydym yn gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn eu hystyried ac yn ymateb yn dda iddynt. Ond rwyf am ymdrin â materion mwy sylfaenol y credaf eu bod yn bwysig.

Mae’r cyntaf, mewn gwirionedd, yn ymateb i’r hyn y mae Neil newydd sôn amdano ynghylch argymhelliad rhif 2 ar safbwynt cytûn yn y DU. Yr hyn y byddwn yn ei ddweud yma yw: rwy’n meddwl mai meddylfryd y pwyllgor ar yr argymhelliad hwn, wrth inni ymgymryd â’r trafodaethau ar adael yr UE, a sut y down ohoni ar yr amgylchedd, ar amaethyddiaeth ac amryw o bethau eraill, oedd y dylem fod yn gwneud yn awr yr hyn y golygwn ei wneud o nawr ymlaen. Ni ddylem fod yn aros am y ddwy neu dair blynedd nesaf. Rydym bellach wedi cyrraedd y pwynt, a dweud y gwir, lle mae’r hen ddyddiau o fod ar Gyd-bwyllgor Gweinidogion, lle mae’r agenda’n cael ei gosod gan un o Weinidogion y DU—nid yw’n agenda ystyrlon, lle mae’r trafodaethau’n weddol arwynebol, lle nad oes unrhyw ganlyniadau ystyrlon, ac os oes unrhyw ganlyniadau, a bod yn onest, cânt eu cytuno gan Weinidog y DU yn hytrach na’r rhai sy’n eistedd o gwmpas—mae’r dyddiau hynny wedi hen ddiflannu. Os mai’r model ar gyfer y dyfodol—ac rwy’n credu mai dyna ydyw; yn bersonol, rwy’n teimlo’n gryf mai dyna ydyw, ac rydym yn cyffwrdd ar hynny mewn argymhellion diweddarach, mewn gwirionedd—yw bod angen i ni gael, os mynnwch, mwy o ddull cyngor Gweinidogion o weithredu lle nid yn unig fod yna gydraddoldeb, yn yr ystyr o ‘Rydym i gyd yn gyrru ymlaen yn dda iawn ac rwy’n mynd i ddangos parch tuag atoch,’ ond bod yna gydraddoldeb gwirioneddol, yn yr ystyr o, ‘Byddwn yn cytuno ar y cyd beth yw’r agenda; nid ydym yn poeni a oes gennych boblogaeth o 3.5 miliwn neu boblogaeth o 58 miliwn, mae gennych lais cyfartal o gwmpas y bwrdd hwn’—. Yn rhyfedd, byddwn yn dweud wrth Neil: meddyliwch am hyn o ran yr hyn sy’n digwydd ar hyn o bryd ym Mrwsel pan fydd Cyngor y Gweinidogion yn cyfarfod. Nid oes ots beth yw maint y wlad honno; nid oes ots o gwbl—mae gan bob un bŵer i ddweud ‘na’ mewn gwirionedd ar rai adegau yno, pa un ai Malta ydych chi neu’r Deyrnas Unedig. [Torri ar draws.] Ac roeddwn yn arfer eistedd wrth ymyl Gweinidog Malta ac roedd ganddo’r un pŵer â ninnau.

Gadewch i mi droi at—. Felly, rwyf am grybwyll y materion hynny: argymhellion 6, 7 ac 8 yno—y rhai sy’n sôn am fecanweithiau cydweithio fel datblygu cyngor o Weinidogion y DU. Credaf fod hynny’n bwysig iawn. Nid ydym wedi gweld cynnydd ar hynny, er bod Llywodraeth Cymru yn gwneud ei safbwynt yn glir ynglŷn â’i hymagwedd at hyn, ac rydym ychydig fisoedd yn nes ymlaen ar hyn, ond yn enwedig mewn perthynas ag amaethyddiaeth a datblygu gwledig a rheoli tir, fel sydd gennym yn yr adroddiad hwn. Bydd y parch cydradd hwnnw y bydd amaethyddiaeth a datblygu gwledig yn cael eu datblygu mewn partneriaeth, a bydd parch cydradd rhwng Llywodraeth y DU a gweinyddiaethau datganoledig—gallai’r rhain ymddangos fel rhethreg syml, ond nid addurniadau rhethregol mohonynt. Dyma fydd hanfod yr hyn y credwn y dylai fod, bellach, yn berthynas newydd rhwng rhannau cyfansoddol y DU. Ac nid yw’n lleihau rôl Senedd y DU, Gweinidogion y DU—mewn gwirionedd mae’n dweud bod angen llawer mwy o gydraddoldeb yn gyffredinol ac ar draws y gwledydd a’r rhanbarthau.

Nodwn yn argymhelliad 6,

‘Dylai Llywodraeth Cymru ofyn am drafodaethau dwyochrog gyda Llywodraeth y DU ar fyrder i ddatblygu dealltwriaeth gyffredin o’r sefyllfa gyfreithiol a chyfansoddiadol mewn perthynas â phwerau a gedwir yn ôl ar ôl i’r DU adael yr Undeb Ewropeaidd.’

Rwy’n dal i feddwl, wrth inni siarad yn awr, nad ydym wedi cael unrhyw eglurhad. Rydym yn aros, nid am y Ddeddf ddiddymu fawr bellach, ond y Ddeddf ddiddymu, ond nid ydym wedi cael unrhyw eglurhad o hyd. Rwy’n gweld hyn yn eithaf anhygoel, wrth i ni sefyll yma, fisoedd yn ddiweddarach bellach, ar y cam hwn, a bod gennym Weinidogion ar gyfer Brexit, Gweinidogion ar gyfer hyn, llall ac arall allan ym Mrwsel ar hyn o bryd yn trafod, a’n bod yn dal i fod heb gael dealltwriaeth gyffredin glir o’r sefyllfa gyfreithiol a chyfansoddiadol mewn perthynas â phwerau datganoledig a phwerau a gadwyd yn ôl ar hyn o bryd.

Yn yr ychydig eiliadau byr sy’n weddill hoffwn annog pawb i edrych nid yn unig ar ran 1, sy’n dangos y bragmatiaeth, mater ymdrin â’r yma a’r nawr, heriau uniongyrchol rheoli tir a Brexit, ond hefyd i edrych ar ran 2 oherwydd rhan 2 yw’r ddelfrydiaeth bragmatig ynglŷn â ble rydym yn mynd yn y dyfodol. Rwy’n dweud hyn yng nghyd-destun y ffaith fod Gweinidog y DU wedi siarad yn agored am y posibilrwydd o gael cynllun ar sail yswiriant ar gyfer ffermydd yn y dyfodol. Nid yw wedi siarad amdano yn yr ychydig wythnosau diwethaf, ond fe siaradodd am y peth cyn hynny. Mae honno’n sefyllfa marchnad agored lle rydych yn masnachu eich nwyddau yn erbyn y dyfodol ac yn y blaen ac yn y blaen. Wel, duw a helpo ein ffermwyr mynydd sy’n unig fasnachwyr os byddant yn gorfod wynebu hynny, a bod yn onest. Ond mae rhai syniadau gwych yma am wobrwyo’n agored, i bob pwrpas, defnyddio arian cyhoeddus i wobrwyo nwyddau cyhoeddus rheoli tir, canlyniadau cynaliadwy, bioamrywiaeth ac yn y blaen—a mynediad hyd yn oed. Mae hynny, rwy’n meddwl, yn beth cyffrous y dylem fanteisio arno yn y dyfodol, o’r adroddiad hwn.

Hyd yn oed os na allaf longyfarch Cadeirydd y pwyllgor ar sicrhau’r ddadl, rwyf eisiau ei longyfarch yn fawr iawn ar ei araith ac am gasglu’r cwpan a’r hyn y mae’n ei wneud gyda’r pwyllgor. Rwy’n awyddus iawn i wahaniaethu rhwng yr hyn a ddywedais yr wythnos diwethaf am ddyraniad Cadeiryddion a Rheolau Sefydlog a’i groesawu’n bersonol i’r swydd, ac rwy’n gobeithio y bydd yn ei mwynhau cymaint ag y gwnes i. Diolch hefyd iddo ef a Huw Irranca-Davies am eu sylwadau.

Roeddwn wrth fy modd yn llywio neu’n bugeilio’r adroddiad hwn drwy’r pwyllgor, ac rwy’n credu ei fod yn bwyllgor cryf iawn ac yn adroddiad da gyda chefnogaeth drawsbleidiol ac rwy’n meddwl ei fod yn siarad dros Gymru. Hoffwn ganolbwyntio fy sylwadau ar nifer o’r argymhellion.

Argymhelliad 6 oedd y dylid cael trafodaethau dwyochrog rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Rhoesom rai meysydd penodol lle y dylai hynny ddigwydd, ond yn gyffredinol rwy’n meddwl ei bod yn ffordd dda o fynd ati. Rwy’n deall yn iawn fod yna fathau ffurfiol o ddatganoli ar draws y DU, boed hynny’n Gyd-bwyllgor y Gweinidogion neu bwyllgor arall yn ei le, ond rwy’n meddwl y byddwn angen ein perthynas ddwyochrog ein hunain hefyd i ddatblygu materion penodol i Gymru. Crybwyllodd Paul Davies allforion cig coch ac allforion cig oen yn arbennig, ond hefyd rwy’n credu’n syml fod yna gyd-destun gwleidyddol gwahanol iawn. Mae gan yr Alban Lywodraeth sydd wedi ymrwymo i annibyniaeth a chwalu’r DU. Bydd gan y DUP, os daw’r Weithrediaeth yn ei hôl, Brif Weinidog mewn clymblaid neu gytundeb yn San Steffan gyda’r Llywodraeth Geidwadol, ac mae ganddi ei ffyrdd arbennig ei hun o ddylanwadu ar yr agenda drwy hynny. Rwy’n credu ein bod yn ôl pob tebyg mewn sefyllfa yn y canol rhwng y ddwy wlad, ond mae angen inni wneud ein pwyntiau’n rymus, yn ddwyochrog yn ogystal ag yn amlochrog, drwy’r trefniadau datganoledig, ac rwy’n credu bod angen inni gydweithio fel Cynulliad. Rydym wedi gwneud hynny ar yr adroddiad hwn, ond rwy’n gobeithio y gallem wneud hynny’n fwy cyffredinol hefyd. Roeddem yn siarad ddoe am bob un o’r 60 Aelod Cynulliad yn gweithio gyda’i gilydd i gael mwy o adnoddau ar gyfer Cymru, ond ie, yn enwedig mewn amaethyddiaeth. Mae Andrew R.T. Davies yn ffermwr. Mae’n arweinydd yr wrthblaid. Mae wedi cynnig ei gymorth mewn unrhyw ffordd gyda’r trafodaethau ôl-Brexit i geisio cael y cytundeb gorau i Gymru, ac rwy’n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn manteisio ar ei gynnig.

Rwyf am edrych ar argymhellion 9, 10 a 15, sy’n ymwneud yn fras â chyllid. Rwy’n credu y bu rhywfaint o symud ymlaen ar hyn. I mi, o leiaf, roedd y maniffesto Ceidwadol yn dweud yn glir y byddai cyllid yn parhau hyd at 2022. Ni châi hynny ei adlewyrchu yn ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y pwyllgor. Rwy’n tybio mai’r rheswm am hynny oedd oherwydd nad oedd wedi cael ei gyfleu, ar yr adeg honno, ar lefel Llywodraeth i Lywodraeth. Rwy’n falch o glywed gan Ysgrifennydd y Cabinet rwy’n meddwl, fod hynny wedi digwydd erbyn hyn, ac yn wir os yw’r DUP wedi helpu i gyflymu hyn, mae hwnnw’n un pwynt cadarnhaol o leiaf.

Rwy’n credu, fel pwyllgor, ein bod wedi meddwl yn ofalus iawn am yr argymhelliad hwn. Rydym am barhau i gael arian i Gymru. Rydym yn credu bod ffermwyr yn parhau i fod angen cefnogaeth. Ar y llaw arall, rwy’n meddwl, i rai ohonom, fod cwestiwn yn codi ynglŷn â pha mor realistig yw hi i ddweud bod yn rhaid i hynny ddigwydd am byth a diwrnod, beth bynnag fydd y gefnogaeth yn digwydd bod ar yr adeg benodol honno, gan y bydd y datblygiad ffermio a thir amaethyddol Cymru yn datblygu, bydd y PAC yn datblygu, ac nid ydym yn gwybod beth yw’r arian PAC yn mynd i fod rhwng 2021 ac 2027. Credwn mai dyna’r meincnod mwyaf priodol, ond rydym hefyd o’r farn fod hwnnw’n gyfnod synhwyrol ar gyfer newid i system newydd. Gan fod Llywodraeth y DU bellach yn cynnig cymorth ariannol ar delerau eithaf cyfatebol hyd at 2022, rwy’n credu bod hynny’n mynd â ni ymhell i mewn i’r cyfnod pontio hwnnw. Rwy’n credu y byddai’n ddefnyddiol pe gallai Llywodraeth Cymru egluro a chadarnhau y bydd yr arian hwnnw, i’r graddau ei fod yn llifo o’r DU, yn parhau i gael ei wario ar ddibenion amaethyddol, ffermio a rheoli tir yn fwy cyffredinol dros y cyfnod hwnnw. Yna, mae angen i ni edrych ar newid i system newydd. A beth bynnag yw barn pobl am rinweddau’r Undeb Ewropeaidd, rwy’n meddwl mai ychydig o bobl a fyddai’n dweud y byddem wedi cynllunio’r PAC yn benodol ar gyfer Cymru. Pan gawn gyfle i bennu ein polisi amaethyddol ein hunain a pholisi ar gyfer rheoli tir, bydd hynny’n wahanol iawn.

I lawer o ffermwyr, rwy’n meddwl ei bod yn mynd i fod yn dipyn o her i wneud y newid hwnnw. Mae’n bwysig iawn ein bod yn rhoi amser iddynt gynllunio ar gyfer hynny, ond rwy’n meddwl hefyd os oes newid yn y berthynas ariannu ac fel yn argymhelliad 16, ein bod yn defnyddio hynny i gydymffurfio’n well â chanlyniadau cynaliadwy wrth gynhyrchu bwyd o safon uchel, ond budd cyhoeddus am arian cyhoeddus, bydd honno’n system wahanol iawn. I’r graddau bod ffermwyr yn cynllunio ac yn datblygu ar gyfer hynny, os ydym yn symud oddi wrth gymorthdaliadau neu daliadau colofn 1 yn syml ar sail perchnogaeth tir, rwy’n meddwl mai un o oblygiadau posibl hynny fydd bod gwerth tir amaethyddol yn gostwng dros y cyfnod hwnnw. Gallai coedwigaeth fod yn un o’r goblygiadau fel rhywbeth cynaliadwy. Nid oeddem yn ei weld fel mater deuaidd o ran coedwigaeth neu ffermio; rydym yn credu mewn gwirionedd y byddai llawer o ffermwyr yn hoffi plannu rhagor o goetir ar eu ffermydd nag y maent yn ei wneud yn awr, a gwneud hynny’n haws, ac y gall ffermio a choedwigaeth weithio gyda’i gilydd, yn union fel rydym yn gobeithio y bydd Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’i gilydd i sicrhau dyfodol gwell ar gyfer ffermio a rheoli tir yng Nghymru.

Rwy’n anghytuno braidd â Simon na wnaeth yr etholiad cyffredinol newid unrhyw beth yn wleidyddol o ran y ddadl a gawsom ddoe, ond rwy’n credu ei bod yn siomedig iawn, ar ôl galw’r etholiad cyffredinol, na ddywedodd Theresa May ddim byd o gwbl wedyn am y telerau a’r amodau Brexit, sef y rheswm, yn ôl yr honiad, dros gynnal yr etholiad cyffredinol. Rydym yn dal i fod yn y tywyllwch ynglŷn â’r hyn y gallai’r dyfodol ei gynnig, er ein bod yn dechrau cael dadl resymol ynglŷn â rhinweddau newid ein polisi mewnfudo.

Credaf fod hynny’n un o’r bygythiadau sylweddol sydd ar garreg y drws yn awr, yn yr ystyr fod llawer o’n diwydiannau’n dibynnu ar lafur mewnfudwyr o rannau eraill o Ewrop mewn gwirionedd. Felly, er enghraifft, mae ein diwydiant twristiaeth yn dibynnu llawer ar lafur mudol a llafur Ewropeaidd, fel y mae ein lladd-dai a’n diwydiant prosesu bwyd. Felly, mae gennym her eisoes yn sgil llai o Ewropeaid yn dod i’r DU i weithio oherwydd y gostyngiad yng ngwerth y bunt, sy’n gwneud y cyflogau a gynigir yn llai deniadol. Un o’r heriau rydym yn eu hwynebu yn awr yw hyn: pwy sy’n mynd i wneud y swyddi hyn os nad chânt eu gwneud gan Ewropeaid eraill? A ydym yn mynd i gynyddu cyflogau yn y sectorau hyn, a fydd yn denu mwy o bobl leol, neu’n wir yn cadw’r bobl sy’n dod o wledydd Ewropeaidd eraill, neu a ydym yn mynd i fod yn hapus i weld y gweithgareddau hyn yn cael eu hallforio i rywle arall, boed yn lladd-dai i Loegr neu brosesu bwyd i rannau eraill o Ewrop? Ond rwy’n credu bod hynny yn ei dro yn gwaethygu’r heriau a wynebwn o ran newid yn yr hinsawdd, a pho fwyaf y byddwn yn ei ychwanegu at filltiroedd bwyd, y mwyaf heriol y bydd hynny.

Mae Neil Hamilton yn iawn i nodi bod gennym ddiffyg masnach enfawr mewn bwyd ar hyn o bryd, felly ceir llawer o gyfleoedd i arallgyfeirio. Fodd bynnag, gallai fod angen datgymalu’r patrymau amaethyddol presennol yn helaeth os ydym yn sydyn yn mynd i gael tariffau wedi’u gorfodi arnom ar gyfer sicrhau mynediad at y farchnad sengl, a fydd yn cael effaith enfawr a chwyldroadol ar ein diwydiant cig oen, er enghraifft, lle mae 30 y cant o’r cynnyrch yn cael ei allforio i Ewrop. Byddai tariffau’n lladd y busnes hwnnw dros nos.

Felly, er bod y PAC wedi gwarantu cynhyrchiant bwyd ar ôl yr ail ryfel byd, mae’n wir nad yw wedi darparu yn union y math o ddiwydiant bwyd iach, lleol y byddwn i, yn sicr, yn rhagweld y byddem yn ei ddymuno, er mwyn sicrhau bod gennym sector amaethyddol ffyniannus sydd o fudd i’n cymunedau gwledig, ond sydd hefyd o fudd i’r boblogaeth yn gyffredinol. Oes, mae’n rhaid i bawb brynu bwyd, ond byddai’r hyn y mae llawer o bobl yn ei brynu ar hyn o bryd yn cael anhawster i basio’r Ddeddf disgrifiadau masnachol fel bwyd. Sut yn union rydym wedi caniatáu i’r proseswyr a’r dosbarthwyr bwyd ailwisgo eu cynnyrch yn yr ymgyrch i wneud elw ar unrhyw gost, tra bod y rhai sydd mewn gwirionedd yn cynhyrchu bwyd heb fod wrth y llyw go iawn, ac rydym wedi colli golwg ar yr angen i faethu ein cenedl?

Mae gan Lywodraeth Cymru rôl allweddol i’w chwarae drwy ei strategaeth caffael bwyd. Mae iechyd y genedl yn dibynnu ar newid radical yn ein deiet. Mae yna ormod o bobl nad ydynt byth yn bwyta ffrwythau a llysiau ffres, ac os nad ydym yn eu gweini mewn ysgolion ac ysbytai, prin y gallwn synnu. Mae gennym lawer i’w ddysgu gan ein partneriaid Ewropeaidd, sy’n ymfalchïo yn eu diwylliant bwyd lleol mewn ffordd y mae llawer ohonom yn methu gwneud. Ceir cyfleoedd enfawr i ni yma i sicrhau bod gennym amaethyddiaeth yng Nghymru sydd o arwyddocâd diwylliannol a chymdeithasol, y tu hwnt i’r niferoedd a gyflogir neu’r cyfalaf a fuddsoddir.

Mae gennym fusnesau bwyd a ffermio arloesol yma yng Nghymru ac mae angen i ni barhau i’w datblygu. Er enghraifft, mae Puffin Produce, sydd bellach yn cynhyrchu bron yr holl datws a werthir yn ein holl archfarchnadoedd ledled Cymru, yn ogystal â nifer cynyddol o lysiau eraill a rhai mathau o ffrwythau, yn fodel cwbl ragorol ar gyfer y dyfodol. Ond mae’n rhaid i arallgyfeirio fod ar agendâu ffermwyr pan fo marc cwestiwn mor fawr dros rai o’r pethau y maent yn dibynnu ar eu hallforio ar hyn o bryd. Mae llawer o ffermwyr yn dweud nad yw hyn yn bosibl oherwydd ein tywydd, ond rwy’n herio’r ymagwedd ‘busnes fel arfer’, gan mai dŵr yw’r aur newydd ac mae gennym ddigon ohono, tra bod y rhan ddwyreiniol o Brydain yn wynebu sychder difrifol. Ni allwn barhau i dynnu dŵr o gronfeydd tanddaearol mewn ffordd anghynaliadwy. Felly, rwy’n meddwl bod llawer o ffyrdd eraill y gallem weld ein diwydiant bwyd yn arallgyfeirio, yn ogystal â gwelliant yn iechyd ein cenedl, wrth inni symud ymlaen yn y dirwedd go anghyfarwydd hon yn y byd ôl-Brexit.

Hoffwn ddiolch i’r pwyllgor am eu gwaith ar yr adroddiad hwn. Rwy’n credu bod yna ddadansoddi ac ystadegau rhagorol ynddo, ac mae’n wych gweld tröedigaeth Ddamascaidd cyn-Gadeirydd y pwyllgor, Mark Reckless, a oedd yn Aelod o UKIP yn flaenorol, ar yr angen i barhau i gael mynediad llawn at y farchnad sengl Ewropeaidd. Rwy’n siŵr ei fod yn ymwybodol o oblygiadau’r hyn y mae hynny’n ei awgrymu, sy’n mynd yn erbyn ystod eang o addewidion a wnaed i bobl Cymru yn ystod y refferendwm Brexit.

Rwy’n sylwi bod Ysgrifennydd y Cabinet, yn ei hymateb, wedi dweud ei bod yn gwbl hanfodol ein bod yn cadw’r farchnad sengl a rhyddid i nwyddau, gwasanaethau, a chyfalaf symud yn rhydd—heb unrhyw gyfeiriad at lafur, gweithwyr na phobl yn ymateb y Llywodraeth. Rwy’n credu y byddai’r Siambr gyfan yn cefnogi mynediad rhydd a dirwystr mor esmwyth ag y bo modd at y farchnad sengl, a dim tariffau yn enwedig. Rwy’n credu mai dyna yw amcan pawb ohonom, a rhywbeth rwy’n credu y gellir ei gyflawni.

Gwych. Wel, pob lwc gyda hynny. Rwy’n gobeithio bod yr Undeb Ewropeaidd yn gwrando. Byddem i gyd wrth ein boddau’n gweld sefyllfa o’r fath yn cael ei gwireddu. Fe welwn beth sy’n bosibl.

Rwy’n credu bod yna lwyth o faterion y mae angen eu hystyried yng ngoleuni Brexit, ond rwy’n meddwl bod un peth yn glir, sef y byddwn yn rhoi’r gorau i fod yn rhan o’r polisi amaethyddol cyffredin o dan unrhyw fodel newydd y byddwn yn rhan ohono. Felly, oni bai ein bod yn rhoi trefn ar ein pethau’n weddol gyflym, mae hynny’n debygol o arwain at ansefydlogrwydd ac ansicrwydd enfawr i niferoedd helaeth o bobl sy’n byw yn ein cymunedau gwledig. Ac mae’r cloc yn tician.

Rwy’n gobeithio y bydd aelodau’r pwyllgor yn maddau i mi gan nad wyf yn mynd i ganolbwyntio ar yr hyn sy’n dda yn yr adroddiad, a oedd yn ardderchog mae’n rhaid i mi bwysleisio, ond ar agweddau ar bolisi nad ydynt efallai wedi cael y sylw y credaf eu bod yn ei haeddu yn yr adroddiad. Fel y Llywodraeth yn Iwerddon, credaf y dylem fod yn paratoi ar gyfer senario waethaf: un lle rydym yn disgyn oddi ar glogwyn ac yn gorfod troi at reolau Sefydliad Masnach y Byd. Nid yw’n sefyllfa ddymunol, mae’n amlwg, ond mae’n un y credaf y dylem fod yn barod amdani. Os yw hyn yn digwydd, credaf y byddai’n rhaid i’r gymuned ffermio symud o ddiwydiant sy’n canolbwyntio ar gyflenwi i un sy’n canolbwyntio ar y galw. Prin fod yr adroddiad yn sôn am yr angen neu’r posibilrwydd o ychwanegu gwerth at gynnyrch crai. Er bod prosesu bwyd yn cael ei wneud i raddau yng Nghymru, mae’r lle i ehangu yn gwbl enfawr. Gadewch i mi roi enghraifft i chi—

Dim ond i roi gwybod i’r Aelod fod y pwyllgor yn bwriadu llunio adroddiad arall, i’w lansio yn Sioe Frenhinol Cymru, ar fwyd yng Nghymru.

Hyfryd. Wel, rwy’n edrych ymlaen at hynny. Felly, rwy’n falch fod hynny’n rhywbeth a fydd yn cael sylw. Un o’r pethau y gallech ganolbwyntio arnynt, efallai, yn yr adroddiad hwnnw, yw’r ffaith fod dros 79 miliwn o brydau parod yn cael eu bwyta yn y Deyrnas Unedig bob wythnos. Felly, ble mae ein huchelgais i dyfu yn y maes hwn? Beth yw’r seilwaith, yr hyfforddiant a’r cymorth sydd angen inni eu rhoi ar waith i wneud i hynny ddigwydd?

Rwy’n cymeradwyo’n fawr y pwyslais a roddir yn yr adroddiad hwn ar ddefnyddio caffael cyhoeddus i ysgogi galw am gynnyrch o Gymru. Yn arbennig, cynnyrch o ansawdd a broseswyd yng Nghymru, ond mae’n rhaid i hwn fod yn llwyfan i yrru’r sgwrs gyda’r bechgyn mawr, gyda’r archfarchnadoedd, sef y chwaraewyr o bwys go iawn sy’n prynu ein nwyddau. Hefyd, nid yw’r adroddiad yn crybwyll unrhyw gyfeiriad at iawndal i bobl sy’n gweithio ar y tir yn fframwaith y PAC. Mae hyn yn arbennig o bwysig mewn perthynas â TB mewn gwartheg, neu os ceir achosion o glwy’r traed a’r genau yn y dyfodol. Rwy’n gobeithio bod hynny’n rhywbeth y bydd y pwyllgor yn gallu edrych arno yn y dyfodol hefyd. Bydd rhai o’r materion hyn yn cael eu harchwilio yn y cynllun datblygu economaidd ar gyfer y Gymru wledig, y byddaf yn ei gyhoeddi yr wythnos nesaf.

O ran y gweithlu a’r bygythiad posibl pe baem yn cyfyngu ar fynediad i weithwyr amaethyddol tymhorol yr UE, awgrymodd adroddiad diweddar y gallai cost ffrwythau godi 50 y cant yn y Deyrnas Unedig os nad yw gweithwyr tymhorol yn cael eu gadael i mewn. Ond mae’n ymwneud â mwy na chasglwyr ffrwythau: mae 60 y cant o staff lladd-dai’n wladolion yr UE a 98 y cant o filfeddygon mewn lladd-dai’n wladolion yr UE. Felly, byddai’r swm y byddai’n rhaid i ni ei dalu i staff o Brydain yn llawer mwy. Felly, byddai pris ein cig yn anochel yn codi a pheidiwch ag anghofio y gallai hyn fod ar adeg pan fyddem yn boddi mewn cig rhad o’r Ariannin, Seland Newydd a mannau eraill. [Torri ar draws.] A oedd yna ychydig o fwmian?

Mwmian, iawn. Ochneidio, iawn, rydym wedi arfer â hynny. Mae costau gadael yr UE wedi cael eu pwysleisio’n glir yn yr adroddiad, ac mae’r rheoliadau rydym yn glynu atynt ar hyn o bryd yn cefnogi cynhyrchiant bwyd o ansawdd da, ac yn sicrhau’r mynediad ehangaf posibl at y farchnad. Ond nid tariffau cynyddol yn unig sydd angen i ni eu hofni. Os byddwn yn gadael yr UE, a gadewch i ni beidio ag anghofio y gallai’r tariffau hynny fod yn anferthol os ydym yn defnyddio rheolau Sefydliad Masnach y Byd—tariff gwartheg o 84 y cant, tariff tir o 46 y cant, mae’r rhain yn gostau enfawr—ond mae yna gostau enfawr ychwanegol a allai ddod o weinyddiaeth, yn enwedig pe baem y tu allan i’r undeb tollau. Byddai costau uwch mewn perthynas â rheolau tarddiad, cydymffurfio â gweithdrefnau asesu, yr angen i ail-lunio cynnyrch, newidiadau i labelu a deunydd pacio—[Torri ar draws.] Mwy o fwmian. Ac mae’r cyfan yn—[Torri ar draws.]

Mae’r adroddiad yn awgrymu y gallai’r cyfan arwain at 5 i 8 y cant o gynnydd yn y costau. Felly, o ran yr hyn y gallwn ei wneud yng Nghymru yn y dyfodol i gefnogi amaethyddiaeth, diddorol eithriadol oedd darllen yn yr adroddiad am y cyfyngiadau y gallai Sefydliad Masnach y Byd eu gosod mewn perthynas â sut, ac i ba raddau, y gellid gwneud taliadau i ffermwyr yn y dyfodol, a chyfyngiadau, yn benodol, cynlluniau amgylcheddol a gyfyngir i incwm a gollwyd ar gyfer y cynllun cydymffurfio dan sylw. Gallai hyn gyfyngu’n aruthrol ar y lle a fydd gennym i symud o ran cymorth. Rwy’n credu bod hyn yn bryder go iawn. Byddwn yn gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet a yw hwn yn faes y mae Llywodraeth Cymru yn ei archwilio. Yn olaf, hoffwn ddiolch i’r pwyllgor am ei waith. Yn arbennig, hoffwn ddiolch i’r cyn-Gadeirydd am ei waith; rwy’n clywed ei fod wedi gwneud gwaith da iawn fel Cadeirydd y pwyllgor. A hoffwn ddymuno’n dda i’r Cadeirydd newydd, Mike Hedges, gyda’r hyn y credaf ei fod yn faes hanfodol i gymunedau gwledig.

Galwaf ar yr Ysgrifennydd Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths.

Member
Lesley Griffiths 17:15:00
The Cabinet Secretary for Environment and Rural Affairs

Diolch, Llywydd. Croesawaf adroddiad y pwyllgor yn fawr iawn, a hoffwn ddiolch i’r Aelodau am—. Mae’n adroddiad rhagorol yn wir a chredaf fod hynny wedi’i adlewyrchu yn y ffaith fy mod wedi gallu derbyn, neu dderbyn mewn egwyddor, yr holl argymhellion. Felly, credaf ein bod eisoes yn gwneud cynnydd ar rai o’r argymhellion. Hoffwn innau hefyd ddiolch i Mark Reckless am ei waith fel Cadeirydd a chroesawu Mike Hedges i’w rôl newydd.

Fel y mae’r adroddiad yn cydnabod, ffermio sy’n gyfrifol am reoli dros 80 y cant o’n tir yng Nghymru ac felly, mae dyfodol ein hamgylchedd a dyfodol amaethyddiaeth yn cydblethu’n llawn. Rwy’n credu bod yr Aelodau wedi codi rhai pwyntiau pwysig iawn y prynhawn yma, a byddaf yn ceisio ymateb i gynifer â phosibl yn yr amser a ganiateir. Mae ein Papur Gwyn, ‘Diogelu Dyfodol Cymru’, yn amlinellu ein barn ar ddyfodol amaethyddiaeth a’r amgylchedd yn dilyn Brexit. Rydym yn gwbl glir fod y rhain wedi’u datganoli a rhaid iddynt barhau i fod wedi’u datganoli. Ni fyddwn yn goddef unrhyw ymdrechion gan Lywodraeth y DU i amddifadu’r Cynulliad hwn o’i bwerau presennol neu amddifadu Cymru o unrhyw arian. Bydd gennym ein polisi amaethyddiaeth Cymru ein hunain ac rwyf wedi gwneud hynny’n glir iawn ers inni gael y refferendwm yn ôl ym mis Mehefin. Mae’n hanfodol—mae’r Aelodau wedi cyfeirio at hyn—fod Llywodraeth Cymru yn chwarae rhan lawn mewn trafodaethau i sicrhau bod sefyllfa negodi’r DU yn adlewyrchu’r cyd-destun Cymreig penodol iawn sydd gennym. Bydd cyd-Aelodau’n ymwybodol fy mod wedi bod wrthi’n ymgysylltu â Llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig drwy gyfarfodydd gweinidogol rheolaidd. Rydym wedi cael bwlch. Cyfeiriodd Simon Thomas at y ffaith ei bod yn dri mis ers y cyhoeddwyd yr adroddiad, a beth sydd wedi digwydd? Wel, rydym wedi cael saib mawr o ddau fis. Rydym wedi colli llawer iawn o amser dros ymgyrch yr etholiad cyffredinol.

Rwyf wedi cael cyfle bellach i siarad â’r Ysgrifennydd Gwladol newydd yn DEFRA. Bydd cyd-Aelodau’n ymwybodol fy mod wedi sôn bod y cyfarfod misol ar gyfer mis Mehefin wedi’i ganslo. Mae un mis Gorffennaf wedi’i adfer bellach, yn dilyn trafodaethau gennyf fi a fy aelod cyfatebol yn yr Alban, gan ei bod yn bwysig iawn yn awr ein bod yn bwrw ymlaen â hyn. Mae dros flwyddyn ers y refferendwm, cafodd erthygl 50 ei sbarduno yn ôl ym mis Mawrth, ac mae gwir angen inni wneud rhywfaint o gynnydd. Fel Llywodraeth Cymru, mae wedi bod yn ffocws enfawr i mi. Mae’n ffocws enfawr i fy swyddogion. Rydym yn edrych ar senarios. Rydym wedi edrych ar ymyl y clogwyn y cyfeiriodd rhywun ato. Rydym yn edrych ar yr holl senarios fel ein bod yn gwbl barod pan fydd trafodaethau’n dechrau eto.

Rwyf wedi cydnabod y gallai fod angen fframweithiau ar draws y DU, ac rwy’n dal i gredu bod hynny’n wir. Ond ni fyddaf yn goddef i San Steffan a Whitehall orfodi fframweithiau o’r fath. Mae’n rhaid i bob un o’r pedair gwlad gytuno ar y cyd ar unrhyw drefniadau ar draws y DU gyfan a rhaid parchu datganoli, a rhaid i unrhyw safbwynt y doir ato ar gyfer y DU adlewyrchu buddiannau’r DU yn ei chyfanrwydd. Dywedais yn glir iawn, pan siaradais â Michael Gove, fod angen iddo fod yn glir iawn pryd y bydd yn siarad ar ran y DU a phryd y bydd yn siarad ar ran Lloegr.

Rwy’n credu mai un o’r cyfleoedd, gan fod rhaid i ni edrych am gyfleoedd yn hyn, yw bod y—. Soniodd rhywun ei fod yn gyfle unwaith mewn oes—credaf mai Mike Hedges a ddywedodd hynny. Rwy’n credu bod cyfle unigryw i’n rhanddeiliaid ein helpu i lunio polisïau yn y dyfodol, yn enwedig mewn amaethyddiaeth a physgodfeydd a’r amgylchedd. Felly, dyna oedd un o’r rhesymau yr euthum ati’n syth i sefydlu grŵp gweinidogol o amgylch y bwrdd—byddwn yn cyfarfod eto ddydd Llun—er mwyn inni allu cael y mewnbwn hwnnw gan ein rhanddeiliaid. Rwy’n meddwl bod gwaith y cyfarfodydd o amgylch y bwrdd wedi ychwanegu gwerth arwyddocaol ac mae wedi hwyluso ymagwedd draws-sectoraidd go iawn fel nad ydym wedi cael pobl yn gweithio mewn seilos. Rwy’n credu, unwaith eto, ein bod wedi arwain y ffordd ar draws y DU yn ymgysylltu â rhanddeiliaid yn y ffordd honno. Rydym wedi ystyried materion o ddifrif ac wedi edrych ar faterion a’u trafod mewn modd llawer mwy integredig. Rydym wedi cael nifer o is-grwpiau a ddaeth i fodolaeth yn ddiweddar o’r grŵp rhanddeiliaid ac mae un ohonynt ar reoli tir. Bydd hwnnw’n rhoi rhagor o ffocws i’r maes gwaith hwn.

Soniodd Jenny Rathbone fod pethau wedi dod ychydig yn gliriach. Rwy’n meddwl mai ychydig yn gliriach yw’r ffordd ymlaen. Er enghraifft, siarad am y Bil diddymu mawr yn unig a wnâi Llywodraeth y DU cyn yr etholiad. Yna, yn sydyn, yr wythnos diwethaf yn Araith y Frenhines, clywsom fod Bil amaethyddiaeth a physgodfeydd yn mynd i fod, ac nid oeddem wedi clywed hynny o’r blaen. Caem ein sicrhau y byddai’r Bil diddymu mawr yn gallu cynnwys popeth ac y byddem yn mynd o’r fan honno. Nid oeddem yn meddwl y byddai, ac yn amlwg mae Llywodraeth y DU wedi dod i weld hynny hefyd.

Gan droi at gyllido—a soniodd nifer o’r Aelodau am gyllido—yn gynharach yn yr ymgyrch etholiadol, ymwelodd Prif Weinidog y DU â fferm yng ngogledd-ddwyrain Cymru a gwrthododd ymrwymo i ddiogelu cymorth i ffermwyr ar ôl 2020. Mae hynny bellach wedi symud ymlaen i 2022, felly, mewn ateb i gwestiwn Simon Thomas, er fy mod wedi cadarnhau cymorth amaethyddol hyd at 2020, rydym yn awr yn gallu ei gadarnhau hyd at 2021—dros oes y Llywodraeth hon yng Nghymru, yn amlwg. Ond mae angen i ddal i bwyso ar hyn, oherwydd dywedwyd wrthym na fyddai’r sector amaethyddol yn colli ceiniog pe baem yn gadael yr UE, felly mae hwnnw’n bwynt rwy’n dal ati i’w wneud.

Rwy’n meddwl bod y diffyg ymrwymiad ar ôl 2022 yn creu llawer o bryderon ynglŷn â buddsoddiad hirdymor, oherwydd pan fyddwch yn siarad â ffermwyr, rhaid iddynt ystyried cyfnod hir iawn o amser—blynyddoedd a blynyddoedd—a gwn ei fod yn bryder nid yn unig i ffermwyr ond i reolwyr tir, busnesau gwledig a chymunedau gwledig, gan fod yn rhaid iddynt gynllunio’n effeithiol. Felly, tra byddwn yn aros am fanylion pellach, rwy’n credu mai lle Llywodraeth Cymru yw gwneud popeth yn ein gallu i warchod ein cymunedau gwledig.

Crybwyllodd Paul Davies fy mod wedi siarad am y grant bach pan euthum i’r pwyllgor. Wel, y grant busnes i ffermydd o £40 miliwn yw hwnnw; nid oeddwn yn hoffi’r gair grant ‘bach’, felly rydym wedi’i ailenwi’n grant busnes i ffermydd, a lansiais hwnnw ym mis Ebrill, sef £40 miliwn—£10 miliwn y flwyddyn am bedair blynedd. Bydd hynny’n galluogi ffermwyr i fuddsoddi mewn offer a thechnoleg hanfodol i helpu eu busnesau i ddod yn fwy gwydn, oherwydd dyna beth y mae pawb ohonom am ei weld—sector amaethyddol sy’n gynaliadwy, yn fywiog, ac yn wydn.

Soniodd Jenny Rathbone am arallgyfeirio. Ddydd Iau diwethaf, ymwelais â fferm ychydig y tu allan i Lanrwst lle mae’r ffermwr wedi arallgyfeirio bellach i blannu coed, ac roedd wedi plannu 85,000 o goed ers mis Mawrth. Roedd yn wych gweld hyn, a dyna’r math o arallgyfeirio rydym am ei weld a’i gefnogi.

Rwyf hefyd wedi ymrwymo’n llawn i’r £223 miliwn sy’n weddill o’n rhaglen datblygu gwledig, a fydd yn darparu sicrwydd ariannol mawr ei angen.

Unwaith eto, rwyf wedi parhau i ddatgan pa mor hanfodol yw mynediad llawn a dirwystr at farchnad sengl Ewrop i lwyddiant economaidd Cymru. Mae masnach yn amlwg yn fater a gadwyd yn ôl, a dyna pam ei bod mor bwysig ein bod wedi ymgysylltu ar hyn. Felly, nid fi’n unig sy’n ymgysylltu, ond hefyd, yn amlwg, y Prif Weinidog drwy Gyfarfod Llawn y Cyd-bwyllgor Gweinidogion a Mark Drakeford drwy Gyd-bwyllgor Gweinidogion yr UE. Mae tua dwy ran o dair o allforion adnabyddadwy Cymru yn mynd i wledydd yr UE, a gwyddom y bydd unrhyw leihad sylweddol yn y mynediad at y farchnad sengl yn niweidiol. Felly, unwaith eto, rydym wedi annog Llywodraeth y DU i fabwysiadu hyn fel prif flaenoriaeth ar gyfer negodi â’r UE.

Soniodd rhai Aelodau am y sector bwyd a diod. Mae’n hynod o werthfawr i Gymru ac mae’n cyflogi, os ystyriwch bawb—pobl o fwytai a ffatrïoedd prosesu bwyd, lladd-dai, amaethyddiaeth—0.25 miliwn o bobl yng Nghymru. Mae’n ymddangos bod Llywodraeth y DU yn rhoi blaenoriaeth i gytundebau â gwledydd eraill dros gynnal ein mynediad at y farchnad sengl, sy’n peri pryder, ac mae’n ymddangos eu bod yn barod i aberthu sectorau fel cig coch er lles enillion cyflym gyda gwledydd fel UDA a Seland Newydd, sy’n awyddus iawn i gael mynediad at ein marchnadoedd. Ar y llaw arall, ystyriaeth allweddol i ni yw na ddylai mewnforion gael eu gwerthu am brisiau is na phrisiau cynhyrchwyr y DU pan fo safonau cynhyrchu’n wael, a lle y ceir perygl i ddefnyddwyr. Mae’r farchnad yn y DU hefyd yn bwysig iawn i ni, ac rwy’n credu’n llwyr fod yn rhaid i Lywodraeth y DU chwarae ei rhan yn gwarchod ein diwydiannau bwyd ac amaethyddiaeth ar draws pob sector a rhanbarth yng Nghymru.

Rydym hefyd wedi ceisio dylanwadu ar adrannau Llywodraeth y DU i hyrwyddo ein cynnyrch drwy waith masnach ryngwladol, ac rydym hefyd yn cyflawni ymdrechion masnach sylweddol i ddatblygu’r farchnad allforio ar gyfer bwyd a diod ein hunain, a byddaf yn parhau i ganolbwyntio ar hynny. Mae Hybu Cig Cymru yn amlwg yn hyrwyddo ein cig coch, ac rydym newydd roi bwrdd newydd ar waith. Hefyd, byddaf yn cyhoeddi cadeirydd newydd, yn y dyfodol agos iawn gobeithio, am fod angen cynnal y ffocws ar hynny.

Felly, hoffwn roi sicrwydd i’r Aelodau y byddaf yn parhau i wynebu’r her i bawb ohonom, ac rwy’n awyddus tu hwnt i sicrhau ein rhanddeiliaid y byddaf yn bachu ar bob cyfle i siarad yn rymus dros Gymru. Diolch.

Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i ymateb i’r ddadl—Mike Hedges.

Diolch, Llywydd. Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran yn y ddadl. Rydym wedi gweld llawer iawn o gonsensws dros y rhan fwyaf ohoni. A gaf fi ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei hymateb, ac a gaf fi ddiolch i bawb sydd naill ai yn ystod y ddadl, neu drwy negeseuon cyn y ddadl, wedi fy nghroesawu, ac a gaf fi ddweud diolch yn fawr iawn am hynny?

Gan ddechrau gyda Paul Davies—mae’n braf mynd yn gyntaf, Paul, onid yw, gan fod yn rhaid i bawb arall ddweud yr un peth â chi, ond mewn ffordd ychydig yn wahanol? Rwy’n credu bod Paul wedi amlygu’r angen i wledydd datganoledig gael llais cryf, i Lywodraethau ar draws y DU weithio gyda’i gilydd, a thynnodd sylw at ansawdd uchel cynnyrch bwyd o Gymru. Credaf fod hynny wedi’i adleisio gan lawer iawn o siaradwyr eraill. A gaf fi ddweud am fy mhrofiad i o ansawdd uchel cynnyrch bwyd o Gymru—cig oen, cig eidion, caws a menyn o Gymru yn arbennig—fod gennyf y stumog i brofi hynny? [Chwerthin.]

Simon Thomas—roeddwn yn meddwl ei fod yn mynd i roi’r gorau iddi ar ôl 30 eiliad pan ddywedodd y byddai’n rhoi cefnogaeth lawn—. Yn anffodus, teimlai’r angen i fwrw ymlaen am y pedair munud a hanner nesaf. Ond rwy’n credu ei fod yn iawn, mae angen i ni gadw mynediad at y farchnad sengl. Mae pwysigrwydd hynny—rwy’n synnu nad yw rhai pobl yn gweld mewn gwirionedd pa mor bwysig yw hi eich bod eisoes yn masnachu gyda phobl—. Mae dod o hyd i gwsmeriaid newydd yn wych, ond mae rhoi’r gorau i’r cwsmeriaid sydd gennych i’w weld yn benderfyniad dewr iawn—efallai y byddai eraill yn defnyddio’r geiriau ‘gwirion’ neu ‘dwp’.

Soniodd Simon am rywbeth rwy’n siarad amdano o hyd—un o fanteision dod allan o’r Undeb Ewropeaidd yw na fydd rheolau caffael yr Undeb Ewropeaidd yn berthnasol mwyach. Gallwn gefnogi ein diwydiannau bwyd lleol ein hunain. Yn llawer rhy aml, mae nifer ohonom mewn mannau gwahanol, wrth wneud swyddi cyn hyn, wedi cael gwybod, ‘Ni allwch fynnu ei fod yn gig oen o Gymru. Ni allwch fynnu ei fod yn gig eidion o Gymru. Ni allwch fynnu ei fod yn gaws a menyn o Gymru, gan fod yn rhaid i chi ufuddhau i reol yr Undeb Ewropeaidd ac mae’n rhaid i chi gaffael yn allanol.’

Mae’n ddrwg gennyf. Diolch i chi am ildio ar yr eitem honno. Yn wir, mae’n rhoi cyfle efallai inni wneud rhagor, ond i fynd ar ôl pwynt Simon, pan grybwyllodd hyn, rwy’n meddwl, yn ei gyfraniad, mewn gwirionedd, rydym eisoes wedi dangos bod yna wledydd eraill yn fframwaith cyfredol yr UE sy’n gallu gwneud hynny. Yn wir, arweiniodd Llywodraeth Cymru ar y gwaith ar hynny, gyda’r Athro Dermot Cahill o Brifysgol Bangor, a ddangosodd fod llawer o’r rheolau hyn fel y’u gelwir sy’n ein gwahardd rhag gwneud rhagor gyda chaffael yn llwyth o nonsens mewn gwirionedd.

A gaf fi ddweud fy mod yn cytuno’n llwyr â chi? Yr hyn roeddwn yn mynd i ddweud oedd y gallem fod wedi cael hyd i ffordd o’i amgylch o’r cychwyn cyntaf drwy ddweud bod yn rhaid i’r holl gyfarwyddiadau fod yn Gymraeg, a gwneud i bawb yn Sbaen, Portiwgal, a phobl eraill a oedd eisiau allforio i ni, gynhyrchu deunydd pacio Cymraeg gyda’r cyfarwyddiadau yn Gymraeg, a byddai hynny wedi rhoi diwedd arno.

Neil Hamilton—gyda Brexit, ceir llawer o wahanol safbwyntiau; mae eich un chi yn ôl pob tebyg yn y lleiafrif yn fan hon ar hyn o bryd. Ond cawn wybod, oni chawn, dros y ddwy flynedd nesaf. Arbrawf yw hwn—nid un y byddai llawer ohonom yn hoffi ei wynebu, ond arbrawf ydyw ac mae rhywun yn mynd i fod yn iawn a rhywun yn mynd i fod yn anghywir mewn llai na dwy flynedd. Mewnforio bwyd o’r tu allan i’r UE, iawn—ond a gaf fi ofyn pa mor ddibynadwy y bydd, sut beth fydd ei safon, a pha safonau lles anifeiliaid a welwn yn ei sgil? Credaf fod rhai ohonom yn barod i dalu ychydig bach mwy fel nad yw anifeiliaid yn dioddef.

Huw Irranca Davies—diolchodd i Mark Reckless am gadeirio’r pwyllgor. Rwy’n credu bod hynny’n bwysig iawn oherwydd, er fy mod i’n ateb yn awr, gwnaed yr holl waith o dan gadeiryddiaeth Mark Reckless—felly, a gaf fi ddweud diolch yn fawr iawn eto, Mark, am ansawdd yr adroddiad roeddech yn gyfrifol amdano? A gaf fi newid tamaid ar yr hyn a ddywedodd Huw Irranca-Davies? Mae gan Lwcsembwrg yr un pŵer â’r Almaen yn yr UE—rwy’n credu bod hwnnw’n un llawer gwell na Malta a’r DU, gan na fyddwn yno lawer yn hwy. Rwy’n credu ei fod wedi crybwyll rhywbeth a oedd yn bwysig iawn, sef pwysigrwydd rhan 2. I ble rydym yn mynd o’r fan hon? Oherwydd credaf mai dyna’r sefyllfa. Beth bynnag fydd yn digwydd, rydym yn dod allan o’r Undeb Ewropeaidd—sut y gallwn ei ddiogelu?

Mark Reckless, diolch i chi—eich adroddiad chi ydyw, felly gwyddwn na fyddech yn ymosod arno. [Chwerthin.] Mae pwysigrwydd trafodaethau dwyochrog, ariannu—credaf fod hynny’n bwysig—. Rwy’n credu bod—. Os cewch wared ar y cymorth, a gredwch y byddai ffermio mynydd yng Nghymru’n goroesi heb unrhyw gymhorthdal? Yn gynharach, cawsom aelodau o’r grŵp Ceidwadol yn dweud pa mor bwysig oedd hi ei fod yn cael ei gymorth amaethyddol o gefnogaeth amaethyddol Ewropeaidd. Yn wir, caem gwynion fod rhywfaint ohono’n dod yn hwyr. Wel, mewn gwirionedd, pan ddown allan o Ewrop, ni fydd dim ohono’n dod byth.

A gaf fi ddweud, nid fy adroddiad i ydoedd, adroddiad y pwyllgor yn ei gyfanrwydd ydoedd? Rwy’n cytuno, heb gymhorthdal, bydd yn anodd iawn gweld y math hwnnw o dirwedd ffermio defaid—ffermwyr mynydd—yn goroesi unrhyw beth tebyg i’r modd y maent yn ei wneud yn awr. Un peth a welsom yn yr adroddiad yw gwerth y dirwedd honno i dwristiaid a phobl sy’n dod i Gymru ac rwy’n credu y dylai fod yn flaenoriaeth, gyda’r arian a fydd gennym, i gadw hynny.

Diolch yn fawr iawn. Jenny Rathbone—ar ôl Brexit—. Wel, mae’r pistol cychwyn wedi cael ei danio. Fe wyddom am ein dibyniaeth ar lafur mewnfudwyr. Effaith tariffau ar allforion cig oen, ni fydd gennym—wel, ychydig iawn fydd gennym. Ac mae ansawdd bwyd yn bwysig. Rwy’n meddwl mai un peth y mae angen i bawb ohonom feddwl amdano yw beth rydym yn ei roi yn ein stumogau. Dywedodd Eluned Morgan ei fod yn ddadansoddiad gwych a llongyfarchodd y pwyllgor—person arall y byddai wedi bod yn wych ei stopio ar ôl 30 eiliad, ond aeth ymlaen i ddweud rhai pethau pwysig iawn. Mae rheolau Sefydliad Masnach y Byd yno i ganiatáu i bawb fasnachu, ond nid yw’n ei gwneud yn hawdd i bobl fasnachu y tu allan i’r bloc masnachu. Mae prosesu bwyd yn bwysig. Os oes unrhyw un wedi darllen fy mhamffled bach ar ddinas-ranbarth Abertawe, un o’r pethau rwy’n ei ddweud yw pam na chawn y budd o brosesu bwyd. Rydym yn ei gynhyrchu ac yna mae’r prosesu—y gwerth uchel—yn mynd i rywle arall.

A gaf fi ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei hymateb yn croesawu’r adroddiad—adroddiad rhagorol? Dyna’r Papur Gwyn, y credaf fod y rhan fwyaf ohonom yn cytuno’n llwyr ag ef, a bod yn rhaid i bob un o’r pedair gwlad gytuno. Ni allwn gael ‘Yr hyn sy’n dda i Loegr yw’r cyfan sy’n bwysig’. Mae cynnwys rhanddeiliaid, rwy’n credu, yn bwysig iawn, a’r cymorth ariannol tan 2022, yn ôl pob tebyg, yw’r un peth o’r hyn a ddywedwyd heddiw sy’n mynd i blesio llawer o ffermwyr. Diolch.

The proposal is to note the committee’s report. Does any Member object? The motion is therefore agreed in accordance with Standing Order 12.36.

7. 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Addysg Oedolion ac Addysg yn y Gymuned

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt, a gwelliant 2 yn enw Rhun ap Iorwerth.

Yr eitem nesaf yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar addysg oedolion ac addysg yn y gymuned, ac rydw i’n galw ar Darren Millar i wneud y cynnig.

Cynnig NDM6340 Paul Davies

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod y cyfraniad hanfodol y mae addysg uwch ran amser yn ei wneud i economi Cymru, yn arbennig yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig.

2. Yn cefnogi mentrau fel Wythnos Addysg Oedolion ac yn cydnabod pwysigrwydd cyfleoedd addysg oedolion ac addysg yn y gymuned i Gymru.

3. Yn croesawu'r pecyn cymorth arfaethedig ar gyfer addysg uwch ran amser a myfyrwyr rhan amser a gyflwynwyd yn ymateb Llywodraeth Cymru i Adolygiad Diamond.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) darparu gwasanaeth cynghori ac addysg ym maes gyrfaoedd i bob oedran sy'n rhoi parch cydradd i opsiynau astudio llawn amser a rhan amser, yn cefnogi cynnydd i bobl sydd mewn cyflogaeth cyflog isel, ac yn cydnabod manteision ehangach addysg oedolion ac addysg yn y gymuned tuag at wella iechyd a llesiant; a

b) buddsoddi mewn addysg oedolion ac addysg yn y gymuned er mwyn hwyluso llwybrau i addysg bellach ac addysg uwch, a thrwy'r opsiynau hynny.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Llywydd. Rwy’n falch iawn o arwain y ddadl y prynhawn yma ar ran grŵp y Ceidwadwyr Cymreig. Cyn i mi ddechrau fy sylwadau y prynhawn yma, a gaf fi ddatgan buddiant fel myfyriwr addysg uwch rhan-amser yma yng Nghymru? Mae addysg bellach ac addysg uwch yn cael effaith eang a buddiol ar ein heconomi a chymdeithas Cymru, ond nid rhai o dan 24 oed yn unig a all gyfrannu at yr effaith gadarnhaol hon. Dyna pam rwy’n falch, yn syth ar ôl Wythnos Addysg Oedolion yr wythnos diwethaf, ein bod yn cael cyfle i drafod y rôl sydd i addysg ran-amser a dysgu gydol oes ar hyn o bryd ac yn y dyfodol yn natur ddatblygol ein gwlad a’i phobl.

Cyn i mi ddatblygu fy nghyfraniad, rwyf eisiau mynd i’r afael â’r gwelliannau a gyflwynwyd. Byddwn yn cefnogi gwelliant 2. Mae Plaid Cymru yn llygad eu lle yn tynnu sylw at y lefel o ansicrwydd y mae ein sefydliadau addysg bellach ac addysg uwch yn ei hwynebu oherwydd methiant Llywodraeth Cymru i gadarnhau ei chynigion ar gymorth i fyfyrwyr a chyllid addysg uwch ar gyfer 2018-19. Credwn yn gryf fod angen cael pecyn a chynllun ariannol priodol tair blynedd ar waith. Ond o ran gwelliant 1, er fy mod yn clywed yr hyn y mae’r Llywodraeth yn ceisio ei ddweud am ei chynlluniau ar gyfer y dyfodol, nid wyf yn credu bod Gyrfa Cymru fel y mae yn addas i’r pwrpas. Mae’n hynod o brin o adnoddau ac nid yw’n darparu’r math o gyngor annibynnol a phwrpasol sydd ei angen ar ein dysgwyr ar y funud, felly byddwn yn gwrthwynebu’r gwelliant hwnnw.

Felly, er bod ffocws, yn ddigon teg, ar addysg bellach ac addysg uwch amser llawn, y pris a dalwyd am hynny yw ei fod wedi dod yn ddull diofyn o ddarparu. Pan fydd cymdeithas yn meddwl am fyfyrwyr, rwy’n meddwl ei bod yn deg dweud bod y rhan fwyaf ohonom yn aml yn cysylltu hyn gyda llun o’r rhai sy’n mynd yn syth o’r ysgol i brifysgol neu goleg. Ond mae nifer sylweddol a chynyddol o oedolion yn dymuno dechrau neu barhau ag addysg bellach neu uwch ar gam gwahanol yn eu bywydau, ac mae gennym lawer o bobl sy’n gorfod goresgyn heriau i’w galluogi i astudio. Gall trafod eu trefniadau ariannol, dod o hyd i gwrs hyblyg i weddu i ymrwymiadau gwaith a theulu sydd eisoes yn bodoli, neu orfod cael gafael ar wybodaeth ar gyfer y cwrs lesteirio eu gallu i ymgymryd ag addysg ran-amser yn sylweddol. Erbyn 2022, bydd un rhan o dair o’n gweithlu dros 50 oed, ac eto mae’r rhan fwyaf o wariant Cymru ar addysg wedi’i gyfeirio’n bennaf tuag at blant a phobl ifanc. Ar hyn o bryd, bydd y rhai rhwng 18 a 24 oed yn cael bron i 100 gwaith yn fwy wedi’i fuddsoddi ar eu haddysg gan Lywodraeth Cymru na rhywun sydd rhwng 50 a 74 oed. At hynny, pan edrychwn ar nifer y bobl ifanc nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg neu hyfforddiant yng Nghymru o’i gymharu â phobl rhwng 50 oed a’u hoedran pensiwn nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant, mae’r ffigurau’n drawiadol—mwy na thair gwaith y gwahaniaeth: 60,000 o’i gymharu â thua 200,000. Wrth gwrs, mae’r anfantais i’w theimlo fwyaf yn y rhannau difreintiedig o’n gwlad.

Felly, os ydym yn dilyn ein tuedd bresennol, y gwir amdani yw ein bod mewn perygl o osod trap ar gyfer ein datblygiad economaidd a’n llesiant personol yn y dyfodol, gan y byddwn yn methu defnyddio gallu llawn a photensial pawb yn ein gweithlu, a byddwn yn methu datblygu’r potensial hwnnw a’r dalent honno mewn rhannau o Gymru sydd eisoes yn cael eu gadael ar ôl. Felly, yn wyneb y newid demograffig hwn, mae datblygu fframwaith ac adnoddau dysgu oedolion yn y dyfodol yn bwysicach nag erioed i sicrhau bod gan economi Cymru y sgiliau sydd eu hangen arni.

Mae Wythnos Addysg Oedolion newydd ddod i ben. Dyma’r 26ain mlynedd iddi fod yn dathlu a hyrwyddo’r rhai sydd eisoes wedi mynd ar y daith drwy addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith—menter wych, rwy’n siŵr y byddem i gyd yn cytuno. Ar ben hynny, wrth gwrs, rydym wedi cael y Gwobrau Ysbrydoli! sy’n pwysleisio’r modd y mae addysg yn un o’r arfau mwyaf defnyddiol a phwerus sydd gennym fel cyfrwng galluogi i bawb o unrhyw oedran neu gefndir allu ffurfio a newid eu bywydau mewn modd cadarnhaol.

Felly, ein bwriad, wrth drafod y mater hwn y prynhawn yma, yw gallu symud oddi wrth y pwyslais ar addysg amser llawn i gydnabod yn lle hynny y gwir botensial enfawr y gall dysgu rhan-amser ei gynnig. Fel y mae’r adroddiad a gomisiynwyd ar y cyd yn 2014 gan y Brifysgol Agored ac Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr, ‘Mae’n Hen Bryd’ yn dadlau, mae addysg uwch ran-amser yn ymwneud â llawer o bethau, ond yn y pen draw mae’n dibynnu ar un ffactor allweddol, sef amser. Mae’r rhai sy’n dychwelyd at addysg ran-amser yn aml yn jyglo ymrwymiadau eraill. Maent yn gofalu am eu teuluoedd, maent eisoes yn dilyn gyrfa, neu maent yn ceisio goresgyn brwydrau personol i ailddechrau neu ailgyfeirio eu bywydau. Weithiau, maent yn gwneud yr holl bethau hyn gyda’i gilydd, ar yr un pryd.

Ar hyn o bryd ychydig dros 40,000 o bobl yma yng Nghymru sydd wedi’u cofrestru mewn addysg uwch ran-amser. Maent wedi penderfynu neilltuo dyddiau’r wythnos, gyda’r nos, ar ôl gwaith. Maent wedi gwneud ymrwymiadau personol, ac maent yn dyfalbarhau, yn aml iawn, drwy bwysau ariannol a theuluol i ennill cymhwyster, i ailhyfforddi eu hunain, i wella sgiliau neu ymgymryd â her ddeallusol. Ac rwy’n meddwl bod eu hymrwymiad a’u parodrwydd i fuddsoddi eu hamser, eu hadnoddau a’u hegni’n golygu y dylem ni yma yn y lle hwn hefyd wneud ymrwymiad iddynt hwy a dylem geisio gwneud popeth yn ein gallu i wneud y dewis y maent wedi’i wneud yn haws.

Ond mae’n amlwg o’r tueddiadau cyfredol, yn anffodus, fod oedolion yn ei chael hi’n fwyfwy anodd cofrestru mewn addysg ran-amser, gan fod y niferoedd, yn y blynyddoedd diwethaf, wedi bod yn dirywio. Gostyngodd y niferoedd sy’n dysgu’n rhan-amser 21 y cant mewn un flwyddyn rhwng 2015 a 2016 mewn sefydliadau addysg bellach ac roedd gostyngiad o 11 y cant yn y niferoedd sy’n astudio’n rhan-amser mewn addysg uwch yn yr un flwyddyn. Yn ogystal â hynny, cafwyd gostyngiad o chwarter yn nifer y dysgwyr mewn addysg awdurdod lleol i oedolion yn y gymuned yn yr un flwyddyn hefyd. Felly, ers 2011-12, mae 21,000 yn llai o ddysgwyr bob blwyddyn yn narpariaeth addysg awdurdodau lleol i oedolion yn y gymuned, i lawr o 35,000 i ychydig dros 14,000.

Nawr, rwy’n deall bod y Llywodraeth wedi ceisio mynd i’r afael â mynediad at addysg uwch ran-amser yn benodol, a dyna pam y cofnodwyd ein bod wedi croesawu darpariaethau adolygiad Diamond, argymhellion adolygiad Diamond a’r llwybr y mae’r Llywodraeth wedi cychwyn ar hyd-ddo. Rwy’n credu ei bod yn hollol gywir fod hwnnw’n rhoi parch cydradd i fyfyrwyr rhan-amser o ran y cymorth ariannol y gallant ei gael ar gyfer dilyn cyrsiau addysg uwch. Ond wrth gwrs, mae angen hwb ar addysg bellach hefyd o ran cymorth a mynediad ato, ac nid yw Diamond yn mynd i’r afael â hynny yn y ffordd roedd llawer ohonom wedi gobeithio y byddai’n ei wneud mewn gwirionedd.

Gan ddychwelyd at addysg uwch, ar hyn o bryd y ddwy flaenoriaeth i fynd i’r afael â hwy, wrth gwrs, yw cyllid a hyblygrwydd. Fe wyddom fod gwaith ymchwil diweddar gan y Brifysgol Agored yn dangos bod bron i chwarter y rhai mewn addysg uwch ran-amser yn defnyddio’u cynilion i dalu eu ffioedd dysgu, ac roedd chwarter arall yn ariannu eu haddysg drwy waith am dâl tra’u bod yn astudio. Ond mae’n destun pryder fod 17 y cant o ddysgwyr, yn ôl y Brifysgol Agored, wedi defnyddio dyled, gan gynnwys dyledion cardiau credyd, gorddrafftiau a benthyciadau diwrnod cyflog, i gyllido eu ffioedd dysgu. Mae’r ffigurau hyn yn dangos nad yw’r system bresennol yn gweithio i fyfyrwyr rhan-amser.

Nid yw’n hygyrch, yn enwedig i rai sydd mewn gwaith ar gyflogau isel yn y rhannau mwyaf difreintiedig o Gymru. Rwy’n credu bod ganddynt heriau penodol y mae angen i ni eu helpu i’w goresgyn. Felly, mae gennym amharodrwydd i fynd i ddyled ymhlith myfyrwyr aeddfed, a chredaf fod hynny hefyd o bosibl yn cyfrannu at y gostyngiad yn nifer y bobl sydd wedi bod yn ymgymryd ag addysg uwch ran-amser, ac addysg bellach yn wir, yn y blynyddoedd diwethaf.

Nawr, fe wyddom fod benthyciadau ôl-raddedig yn mynd i fod ar gael o fis Medi eleni. Credaf fod hynny’n beth i’w groesawu’n fawr, ond wrth gwrs, mae angen i ni wneud yn siŵr fod rhywfaint o sicrwydd y tu hwnt i’r flwyddyn academaidd nesaf ar gyfer y darpariaethau ôl-radd hynny, ac yn wir ar gyfer yr holl fyfyrwyr eraill ar ôl adolygiad Diamond. Yn y system bresennol, mae ceisiadau am fenthyciadau ar gyfer astudio rhan-amser ar agor i’w cyflwyno yn hwyrach na’r rhai ar gyfer astudio amser llawn, a rhaid gwneud y ceisiadau hyn drwy gyfrwng copïau caled yn hytrach nag ar-lein fel y gall myfyrwyr amser llawn ei wneud. Pam? Nid yw hynny’n hygyrch, nid yw’n dderbyniol, ac mae’n creu rhwystrau—rhwystrau ychwanegol—i bobl eu goresgyn.

Ac ar gyfer myfyrwyr dysgu o bell ar hyn o bryd, mae’n arbennig o siomedig am eu bod yn wynebu oedi hir rhwng cofrestru ar gyfer cwrs a gallu gwneud cais am fenthyciad wedyn, a dyna pam ein bod yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu gwasanaeth cynghori ar yrfaoedd ac addysg i bob oedran, oherwydd ar hyn o bryd, nid yw darpar ddysgwyr sy’n oedolion yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt. Nid ydynt yn cael mynediad at y wybodaeth, cyngor ac arweiniad diduedd yn yr un modd â myfyrwyr amser llawn. Mae angen sicrhau hefyd fod yr opsiynau cyllid rhan-amser yn cael eu mynegi’n glir wrth y myfyrwyr hynny, fel y gall pobl fynd ati i ystyried y rheiny pan fyddant yn gwneud eu ceisiadau, er mwyn iddynt allu bod yn hyderus fod ganddynt adnoddau yn eu lle, nid yn unig ar gyfer y flwyddyn gyntaf y maent yn cychwyn ar eu cwrs, ond hyd at ddiwedd eu cyrsiau hefyd.

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Yn ogystal â hynny, mae rhywfaint o ragfarn ar sail oed yn y system. Ar hyn o bryd, mae Cyllid Myfyrwyr Cymru yn gwrthod rhoi arian i rai sy’n 60 oed a throsodd yn y flwyddyn y bydd eu cwrs yn dechrau. Ac eto, gwyddom fod y comisiynydd pobl hŷn ac adolygiad Arad wedi tynnu sylw at fanteision enfawr dysgu gydol oes wrth helpu pobl hŷn i fyw bywydau mwy annibynnol, a bywydau llawnach. Ac felly rwy’n meddwl ei bod yn bwysig iawn fod rhagfarn ar sail oed o’r fath yn y system yn cael sylw hefyd, oherwydd os ydym yn helpu i hyrwyddo annibyniaeth, os ydym yn helpu i gefnogi pobl hŷn, gwyddom y gallai oedi pecyn o ofal cymdeithasol, hyd yn oed am fis yn unig, arbed £1.8 miliwn y flwyddyn ar gyfartaledd i’n cyllidebau blynyddol.

O ran hyblygrwydd, yn amlwg mae’n rhaid i ni sicrhau bod y rhai sy’n dewis astudio’n rhan-amser yn gallu cael mynediad ato mewn ffordd mor hyblyg â phosibl. Mae angen inni sicrhau bod pobl yn gallu ailhyfforddi, mewn gwaith a heb waith, er mwyn eu harfogi i ddychwelyd i’r gweithlu, ac rydym ni’n awyddus i sicrhau y gellir cael mynediad at gymwysterau lefel gradd ar ddull modiwlaidd, ac wrth gwrs mae llawer o brifysgolion yn sicrhau bod y pethau hyn ar gael.

Felly, yn fyr, rwy’n gobeithio y bydd cefnogaeth drawsbleidiol i’r cynnig a gyflwynwyd gennym. Rydym i gyd yn cytuno, rwy’n siŵr, fod addysg yn weithgaredd gydol oes. Rydym am sicrhau bod yna barch cydradd rhwng darpariaeth ran-amser a darpariaeth amser llawn, ac rydym am sicrhau bod yna gyngor gyrfaoedd annibynnol digonol i helpu pobl i ddychwelyd i’r gweithle. Felly, rwy’n gobeithio’n fawr y bydd yr Aelodau’n cefnogi’r cynnig.

Rwyf wedi dethol y ddau welliant i’r cynnig, a galwaf ar y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt, yn ffurfiol.

Gwelliant 1—Jane Hutt

Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:

Yn nodi bod Llywodraeth Cymru eisoes yn darparu gwasanaeth sy'n rhoi cyngor a chyfarwyddyd ynghylch gwybodaeth am yrfaoedd sy'n annibynnol ac yn ddwyieithog ar gyfer pobl o bob oedran a hynny drwy Yrfa Cymru.

Yn cydnabod uchelgais Llywodraeth Cymru wrth iddi ddatblygu cynllun cyflogadwyedd newydd ar gyfer pob oedran y mae a wnelo rhan allweddol ohoni â'r angen am gyngor effeithiol a chydgysylltiedig am yrfaoedd er mwyn cynorthwyo unigolion i fanteisio ar y cyfleoedd mwyaf priodol o ran addysg, cyflogaeth a hyfforddiant.

Yn cydnabod pwysigrwydd hanfodol dysgu gan oedolion ynghyd â datblygu sgiliau ategol ar gyfer pobl o bob oedran.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Galwaf ar Llyr Gruffydd i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth.

Gwelliant 2—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn annog Llywodraeth Cymru i gadarnhau ei chynigion ar gyfer cymorth i fyfyrwyr a chyllid addysg uwch cyn gynted ag y mae hynny'n rhesymol ymarferol er mwyn galluogi'r sector Addysg Uwch i gynllunio ar gyfer blwyddyn academaidd 2018/19.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Mae’n bleser gen i gyfrannu at y ddadl yma. Rydw i’n ddiolchgar iawn am y cyfle, hefyd, i ni gael trafod materion yn ymwneud ag addysg oedolion ac addysg yn y gymuned. Rydym ni wastad yn trafod ysgolion, prifysgolion, colegau, ac rydw i’n meddwl bod yna ddyletswydd arnom ni, efallai, i gywiro'r anghydbwysedd yna ychydig, ac mae’r ddadl yma heddiw yn gyfle i wneud hynny.

Wrth baratoi ar gyfer y ddadl yma, yr un peth a oedd yn fy nharo i oedd y ffaith bod oedolion yng Nghymru yn llai tebygol o gymryd rhan mewn addysg o’u cymharu â rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig. Mae yna nifer o resymau pam y dylem ni fod yn poeni am hynny, ond wrth gwrs rydym ni’n gwybod bod pobl yn byw yn hirach, bod demograffeg yn newid, bod patrymau gwaith yn newid. Rydym ni wedi clywed yn barod: treian o’r gweithlu am fod dros 50 oed ymhen ychydig o flynyddoedd. Mae gyrfa waith yn mynd yn hirach, a hefyd mae yna dueddiad i fwy a mwy o bobl i newid eu swyddi yn ystod eu gyrfa, ac i wneud hynny yn amlach. Ond yn rhy aml o lawer, wrth gwrs, mae dysgu gydol oes yn cael ei weld fel rhywbeth sy’n eilradd ei ystyriaeth, o’i gymharu, efallai, â strwythurau eraill o fewn y gyfundrefn addysg,

Yn yr oes sydd ohoni gydag ansicrwydd economaidd, wrth gwrs, a newidiadau strwythurol ym myd gwaith—ac mi glywom ni yn gynharach heddiw ynglŷn â’r impact mae awtomatiaeth yn mynd i’w gael ar y byd gwaith hefyd—mae’n gynyddol bwysig bod gan Gymru weithlu hyblyg sy’n gyson yn dysgu sgiliau newydd ar gyfer cyflogaeth, wrth gwrs, ac ar gyfer moderneiddio arferion gweithio. Mae’r Llywodraeth, wrth gwrs, yn gweithredu ar bolisi o greu miloedd o brentisiaethau ar gyfer pobl o bob oed, ac mae hynny’n bolisi y mae Plaid Cymru, wrth gwrs, wedi ei gefnogi ac yn ei gefnogi. Ond mae’n rhaid inni, efallai, roi yr un pwyslais hefyd, rydw i’n meddwl, ar sicrhau chwarae teg ar gyfer addysg gydol oes yn ogystal.

Nawr, mae yna lu o fuddiannau. Rydym ni wedi clywed am rai ohonyn nhw, wrth gwrs, yn deillio o addysg gydol oes: buddiannau economaidd, yn amlwg, a rhai cymdeithasol, buddiannau o safbwynt iechyd a lles i unigolion. Ond yr hyn rydw i’n meddwl sydd yn gorwedd o dan hynny i gyd yw’r angen i greu diwylliant o ddysgu parhaus yng Nghymru, cryfhau y diwylliant hwnnw, ac wrth feddwl am addysg, nid jest meddwl am ysgolion, prifysgolion, colegau, ond llawer mwy o bwyslais ar addysg anffurfiol, ac fel yr ydym ni’n ei wneud yn y ddadl yma, ar ddysgu gydol oes, addysg gymunedol ac yn y blaen.

Mae’n drafodaeth, wrth gwrs, rydym ni’n ei chael ar hyn o bryd yng nghyd-destun y sector addysg yng Nghymru, a’r drafodaeth ynglŷn â datblygiad proffesiynol parhaus y gweithlu addysg. Mae’r dyddiau pan oeddech yn cael eich cymhwyster dysgu ac wedyn rhyw bedwar neu bum diwrnod y flwyddyn o hyfforddiant i finiogi rhai o’ch sgiliau chi—mae’r dyddiau yna wedi mynd. Ac mae e’r un mor wir, wrth gwrs, ym mhob sector arall. Gyda’r oes yr ydym ni ynddi o newidiadau technolegol, mae’n bwysig bod y gweithlu yn hyblyg ac yn cadw i fyny gyda’r newidiadau hynny.

Felly, os ydym ni am drawsnewid yr economi yng Nghymru, os ydym ni eisiau manteisio yn llawn ar y cyfleoedd hynny, ac os ydym ni am arddangos yr arloesedd a’r hyblygrwydd sy’n nodweddu economïau ffyniannus ar draws y byd yma, yna mae angen gweithlu a phoblogaeth ehangach hefyd sydd yn uwch-sgilio yn barhaus. I wneud hynny, wrth gwrs, mae’n rhaid edrych y tu hwnt, efallai, i’r meysydd yna lle’r ydym ni wedi edrych arnyn nhw yn draddodiadol. Ond mae angen newid y diwylliant, fel yr oeddwn i’n ei ddweud, er mwyn sicrhau ein bod ni yn cyrraedd y nod hwnnw.

I bobl hŷn, wrth gwrs, yn enwedig efallai pobl sydd wedi ymddeol, mae cael gafael ar gyfleoedd cyson i ddatblygu a dysgu sgiliau newydd yn elfen hanfodol ar gyfer sicrhau bod eu hiechyd nhw, eu hannibyniaeth nhw a’u llesiant nhw yn parhau. Mae llawer o bobl hŷn yn cymryd rhan mewn addysg i oedolion er mwyn cael cyswllt cymdeithasol, er mwyn gwella gweithgarwch corfforol, ac er mwyn cadw meddyliau yn siarp, ac mae hynny yr un mor bwysig a’r un mor ddilys, wrth gwrs, ag unrhyw reswm arall. Felly, mae buddsoddi mewn addysg i oedolion yn fuddsoddiad sydd nid yn unig yn dwyn buddiannau economaidd, ond hefyd, yn bwysicach, i gymdeithas yn ehangach.

O safbwynt gwelliant Plaid Cymru, wrth gwrs rydym ni yn annog y Llywodraeth i gadarnhau ei chynigion ar gyfer cymorth i fyfyrwyr a chyllido addysg uwch yn benodol cyn gynted ag y mae hynny yn rhesymol ymarferol, oherwydd mae is-gangellorion yn dweud wrthyf i y bydd yna bobl ifanc a bydd yna bobl angen penderfynu y mis Medi yma beth y byddan nhw’n ei wneud y mis Medi dilynol, ac maen nhw angen gwybod beth fydd natur y gefnogaeth ariannol a fydd ar gael. Mae’r sefydliadau hynny eu hunain hefyd, wrth gwrs, angen gwybod, oherwydd mae yn hinsawdd anodd iddyn nhw weithredu ynddi, yn ariannol, ac mae angen y sicrwydd hirdymor yna. Diolch.

Mae gan Gymru weithlu a chymdeithas sy’n heneiddio. Bydd traean o’r gweithlu dros 55 neu 50 oed yn ystod y pum mlynedd nesaf. Mae’n ffigur trawiadol. Fodd bynnag, mae buddsoddi mewn sgiliau ac addysg i oedolion yn canolbwyntio’n drwm ar oedolion ifanc. Mae hyn wedi bod er anfantais i bobl 25 oed a throsodd. Yn y dyfodol, bydd angen i fusnesau gael gweithlu â sgiliau uwch byth, a bydd technolegau newydd yn cynyddu’r galw hwnnw. Eto i gyd, mae lefelau cyfranogiad mewn dysgu gydol oes yn dirywio. Mae arnom angen system addysg i oedolion sydd o fudd i’n heconomi ac yn hybu ymchwil. Mae arnom angen system sy’n cydnabod anghenion oedolion i astudio’n hyblyg ac sy’n rhoi cyfle i wneud hynny.

Mae’r galw am weithwyr medrus iawn yn economi’r DU yn ei chyfanrwydd yn cynyddu. Yn ôl Cydffederasiwn Diwydiant Prydain, mae mwy na thri chwarter y busnesau’n disgwyl y bydd ganddynt fwy o swyddi i bobl â lefelau sgiliau uwch dros y blynyddoedd nesaf. Ond unwaith eto, yn ôl y CBI, mae 53 y cant o gwmnïau Cymru yn teimlo na fyddant yn gallu dod o hyd i’r gweithwyr medrus sydd eu hangen arnynt i ateb y galw yn y dyfodol. Dengys y dystiolaeth yn glir fod tri chwarter y bobl sydd mewn gwaith ar gyflog isel yn dal i fod mewn gwaith ar gyflog isel 10 mlynedd yn ddiweddarach. Felly, mae’r duedd yn glir: mae busnesau angen gweithlu mwy medrus, ac fe fyddant angen gweithlu mwy medrus yn y dyfodol.

Mae ymddangosiad technolegau newydd eisoes yn cael effaith fawr yn y farchnad swyddi ar y sgiliau sydd eu hangen ar weithlu yfory. Mae angen dull newydd o uwchsgilio er mwyn sicrhau bod y galw yn y dyfodol yn cael ei ddiwallu a bod busnesau ledled Cymru yn gallu manteisio ar y technolegau newydd hyn. Yn anffodus, y duedd ar draws Cymru yw bod llawer llai o bobl yn cymryd rhan mewn rhaglenni a fydd yn eu helpu i ychwanegu at eu sgiliau. Rhwng 2015 a 2016 cafwyd gostyngiad o fwy na 23,000 yn nifer y dysgwyr sy’n oedolion. Mae’r dirywiad hirdymor yn peri mwy o bryder hyd yn oed. Gwelodd Cymru ostyngiad o 25 y cant yn nifer yr oedolion a gymerodd ran mewn rhaglenni dysgu rhwng 2012 a 2016. Ar y llaw arall, mae Llywodraeth y DU wedi gwneud cynnydd sylweddol yn cynorthwyo’r sector preifat i roi hwb i uwchraddio sgiliau.

Mae’r strategaeth ddiwydiannol ddiweddar wedi helpu i greu’r fframwaith cywir i gymell busnesau i fuddsoddi yn sylfaen sgiliau eu gweithlu. Mae strategaeth Llywodraeth y DU yn rhoi blaenoriaeth i waith y Llywodraeth gyda darparwyr cymwysterau a sefydliadau dysgu. Mae’r dull hwn o gydweithio yn sicrhau bod cyrsiau newydd yn cael eu datblygu er mwyn galluogi dysgwyr rhan-amser a dysgwyr o bell i gymryd rhan, ac mae’n apelio mwy at y rhai sydd eisoes yn y gweithlu ac yn dymuno dysgu sgiliau newydd neu wella’u sgiliau. Mae’r strategaeth yn cydnabod bod sefydliadau gwahanol hyd yma wedi nodi anghenion sgiliau yn eu meysydd eu hunain. Fodd bynnag, nid oes un sefydliad wedi cael cyfrifoldeb dros nodi tueddiadau sgiliau a fydd yn datblygu yn y dyfodol. Felly, mae Llywodraeth y DU yn gweithio tuag at un olwg gydgysylltiedig awdurdodol ar y bwlch sgiliau a wynebir gan y DU yn awr ac yn y dyfodol. Maent yn asesu newidiadau i’r costau y bydd pobl yn eu hwynebu wrth gael mynediad at ddysgu i’w gwneud yn llai brawychus. Ond yn gyntaf ac yn bennaf, mae’r strategaeth yn cydnabod bod sectorau twf uchel yn yr economi yn galw am setiau sgiliau uchel cyfatebol. Mae’n amlinellu camau i sicrhau bod cwmnïau’n gallu cyfrannu mwy tuag at gynyddu lefel sgiliau’r gweithlu drwyddo draw.

Llywydd, mae angen gweledigaeth ddiwydiannol o’r fath ar Gymru er mwyn sicrhau y gallwn fanteisio i’r eithaf ar y technolegau newydd a ffyrdd o weithio a fydd yn trawsnewid y gweithle yng Nghymru. Dylem ddysgu’r byd, nid dysgu gan y byd. Ceir rhai meysydd, cysyniadau megis dysgu oedolion, parodrwydd ar gyfer dysgu, cyfeiriadedd a chymhelliant i ddysgu—mae’r rhain oll yn gymhelliant ar gyfer ein pobl ifanc a’r henoed a dynion a menywod gyda’i gilydd. Rydym yn ddwbl y grym a gallwn yn sicr drawsnewid ein heconomi, ein hiechyd a’n lles, a grybwyllwyd yn gynharach. Yn bendant, gall helpu i sicrhau bod ein pobl hŷn wedi’u haddysgu’n dda a hyrwyddo ailddysgu yn y gweithle yn y wlad hon. Diolch.

Rwy’n datgan buddiant fel darlithydd cysylltiol ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Rwyf am ganolbwyntio fy nghyfraniad ar bwysigrwydd addysg ran-amser. Rwy’n siarad ar ôl cael 15 mlynedd o brofiad o addysgu myfyrwyr rhan-amser, ac rwy’n dyfalu bod hynny’n cynnwys oddeutu 1,000 o fyfyrwyr rhan-amser mae’n debyg yn y cyfnod hwnnw, ac un ohonynt—i ddangos pa mor dda y gall myfyrwyr rhan-amser ei wneud—oedd Alun Cairns AC. Aeth ymlaen at bethau mawr, y bachgen hwnnw—rwy’n falch iawn ohono. Efallai y bydd y ffyrdd y mae Cymru wedi elwa yn agored i drafodaeth, ond yn sicr roedd addysg ran-amser o fudd iddo ef, a gallaf weld Andrew R.T. Davies yn edrych braidd yn nerfus yn y fan acw wrth iddo sylweddoli bod Darren Millar yn astudio’n rhan-amser hefyd, ar yr un pryd. Ond rwy’n cydnabod rhai o fy myfyrwyr eraill yn ogystal—Grant Santos, a sefydlodd Educ8, sy’n ddarparwr hyfforddiant ei hun, ac roedd Humie Webbe, sef hyrwyddwr cydraddoldeb ac amrywiaeth dysgu yn y gwaith ar gyfer Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru, hefyd yn un o fy myfyrwyr MBA, a myfyriwr MBA gwych. Felly, roeddwn yn dysgu cwrs Meistr mewn Gweinyddiaeth Fusnes, Sefydliad Siartredig y Cyfrifwyr Rheoli, Cymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig, y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu, a Sefydliad Siartredig Prynu a Chyflenwi—yr holl gyrsiau rhan-amser hyn sydd o fudd enfawr i’r myfyrwyr sy’n eu hastudio. Un o’r manteision yw y gallwch fwydo’r dysgu rhan-amser yn uniongyrchol yn ôl i mewn i’r gwaith rydych yn ei wneud neu’r gwaith rydych yn bwriadu ei wneud yn y dyfodol. Roedd lleiafrif arwyddocaol yn fyfyrwyr israddedig hefyd, a daw hynny â’i heriau ei hun, gan nad oedd gwaith gan y myfyrwyr israddedig hynny’n aml ond roeddent yn astudio’n rhan-amser tra’u bod yn gweithio’n rhan-amser mewn swyddi nad oeddent eisiau eu gwneud ac yn dyheu am fynd i swyddi eraill.

Mae’n alwedigaeth hynod o werthfawr a bydd y lefel y byddwch yn dysgu’n dylanwadu ar eich gyrfa yn y dyfodol. Ond yr hyn yr hoffwn ei ddweud wrth Darren Millar hefyd, mewn ymateb i rai o’i sylwadau, er mwyn i addysg uwch fod yn drawsffurfiol, mae’n rhaid iddo gael cefnogaeth go iawn gan gyflogwyr. Un o’r manteision a welais dros y 15 mlynedd oedd y ffaith fod cyflogwyr yn barod i dalu rhywfaint o’r ffioedd i’w myfyrwyr allu dysgu. Mae hynny wedi lleihau yn y cyfnod diweddar, yn enwedig o’r sector cyhoeddus. Gwelais niferoedd myfyrwyr cwrs y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu yn disgyn, a’r rheswm pam y disgynnodd niferoedd myfyrwyr y cwrs hwnnw oedd oherwydd nad oedd cyrff y sector cyhoeddus yn gallu fforddio addysgu eu myfyrwyr, ac roedd yn ganlyniad uniongyrchol i bolisïau caledi. Felly, mae hynny, efallai, wedi arwain at ganlyniad anfwriadol i niferoedd myfyrwyr rhan-amser gan Lywodraeth y DU. David Rees.

Diolch i’r Aelod am ildio. Nid y gostyngiad yn unig ydyw, mae’n ymwneud hefyd â chael yr amser o’r gwaith—ni allent eu rhyddhau am yr amser hwnnw, felly ni allent gael pobl i fynd i mewn.

Ie, roedd yn bendant yn fater a oedd yn ymwneud ag adnoddau—eu bod angen prynhawniau Mercher a boreau Iau i ffwrdd i astudio, ac ni allai sefydliadau fforddio hynny. Ond yr hyn y byddwn yn ei ddweud yw bod gan gyflogwyr sector preifat a chyflogwyr sector cyhoeddus ddyletswydd i addysgu eu pobl. Mae cyflogwyr yn dweud, ‘Beth sy’n digwydd os byddaf yn addysgu fy mhobl a’u bod yn gadael?’ Wel, beth sy’n digwydd os nad ydych yn addysgu eich pobl a’u bod yn aros? Mae’n bwysig iawn eich bod yn addysgu eich gweithlu.

Un o’r pethau sydd wedi bod yn y newyddion yn ddiweddar, yw llên-ladrad. Mae llên-ladrad yn broblem, ac yn broblem fawr gyda myfyrwyr amser llawn sy’n ymdrin ag astudiaethau achos. Gwelais y gallwn lunio fy nghyrsiau’n arbennig o hawdd er mwyn i fyfyrwyr rhan-amser ganolbwyntio ar y gwaith roeddent yn ei wneud—felly mae dadansoddiad diwylliannol o’ch amgylchedd sefydliadol, er enghraifft, yn anodd tu hwnt i’w lên-ladrata ac yn datrys y broblem honno i ryw raddau. Yn wir, un o’r cyrsiau y cefais fy myfyrwyr MSc rheoli newid i’w wneud y llynedd—cyn i mi gael fy ethol i’r fan hon—oedd dadansoddiad o adroddiad Williams. Felly, deuthum yma wedi fy arfogi â gwybodaeth dda iawn a gynhyrchwyd—ac rwy’n dweud wrthych, roedd peth o’r dadansoddiad yn stwff lefel uchaf go iawn a byddai’n creu argraff, rwy’n credu ar Weinidog y Llywodraeth.

Felly mae’n bwysig iawn ein bod yn parhau i gefnogi ein myfyrwyr rhan-amser. Fel y mae Darren Millar wedi cydnabod, bydd cymorth pro rata ar gyfer costau byw myfyrwyr rhan-amser o gymorth arbennig i fyfyrwyr o ardaloedd mwy difreintiedig yn ein cymunedau, ac yn enwedig y Cymoedd gogleddol. Rwyf wedi cynnal cyfarfodydd gyda Phrifysgol Caerdydd, â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd, ac wedi cael trafodaethau gyda Phrifysgol De Cymru ynglŷn â sut y gallant fynd â’u gwaith allan o’r brifysgol ac i mewn i’r cymunedau hynny. Mae’n rhywbeth y maent yn barod i’w wneud.

Yn ddiweddar, mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi cyflawni’r siarter busnesau bach, a rhoddais dystiolaeth i’r corff dyfarnu am y gwaith a wnaeth Prifysgol Metropolitan Caerdydd. Un o’r rhesymau pam y cawsant y siarter busnesau bach oedd oherwydd eu bod wedi ymrwymo i ddatblygu, nid eu cyrsiau o fewn y brifysgol, ond allan yn y cymunedau. Ni fydd ond yn ystyrlon os caiff y cyrsiau hynny eu datblygu yn yr ardaloedd y soniais amdanynt fel y Cymoedd gogleddol.

Felly, i mi, mae addysg ran-amser yn allweddol gyda chefnogaeth y cyflogwyr. Rwy’n meddwl, mewn gwirionedd, gydag adolygiad Diamond, fod y Llywodraeth ar y trywydd cywir. Felly, rwy’n berffaith barod i gefnogi cynnig y Llywodraeth heddiw, ac rwy’n meddwl bod y ddadl hon yn fanteisiol er mwyn dangos pwysigrwydd astudio rhan-amser a’r budd enfawr i fyfyrwyr sy’n gwneud hynny. Mae gwerth enfawr i astudio’n rhan-amser a bydd yn parhau i fod o werth mawr i’n cymdeithas.

Rwy’n cefnogi’r cynnig hwn, ynghyd â gwelliant Plaid Cymru. Gall astudio rhan-amser fod yn hanfodol i’r rhai nad ydynt yn gallu fforddio rhoi’r gorau i weithio ond sydd angen astudio er mwyn gwella’u dyfodol ar eu cyfer hwy a’u teuluoedd. Gall sector addysg ran-amser iach fod yn atyniad mawr i fusnesau sy’n chwilio am gartref newydd ac sydd am yr opsiwn o allu gwella sgiliau eu gweithlu. Mae’n rhoi rhagor o opsiynau i rai sydd am ddychwelyd i’r gwaith ar ôl cyfnod sylweddol i ffwrdd, yn gofalu am blant o bosibl.

Er hynny, y rhai sydd fwyaf tebygol o gael budd o astudio rhan-amser yw’r rhai sydd fwyaf tebygol o fod angen cymorth ariannol. Yr ochr gadarnhaol yw mai hwy hefyd yw’r bobl sydd fwyaf tebygol o gael eu hysgogi i gwblhau eu cwrs yn llwyddiannus. Mae oedolion yn astudio am resymau a chymhellion gwahanol i rai sy’n gadael yr ysgol, ac yn cynnig adenillion gwych ar fuddsoddiad sy’n cyfiawnhau buddsoddi arian trethdalwyr, ar wahân i’r fantais o wella dewisiadau bywyd pobl. Ond mae’n dal i fod angen i bobl ifanc allu cael mynediad at addysg ran-amser. Bydd rhywun sy’n gadael yr ysgol ac wedi cael cam gan y system addysg, neu wedi gwneud yn wael yn yr ysgol oherwydd profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, ond sydd ag awydd angerddol i fod yn nyrs wych, er enghraifft, yn nyrs ragorol, yn ei chael yn anodd iawn dal i fyny yn sgil diffygion eu haddysg yn gynnar yn eu bywydau heb gyngor a chymorth priodol.

Efallai ei bod yn anochel y bydd angen i rai pobl weithio’n llawnamser ac astudio’n rhan-amser. Ond yn ystod y cyfnod hwnnw, maent yn haeddu’r cymorth sydd ei angen arnynt a’r cyllid sydd ei angen i wella sgiliau, fel y gallant helpu Cymru i lenwi’r swyddi sydd ar hyn o bryd yn wag neu swyddi y recriwtir ar eu cyfer o’r tu allan i Gymru. Os na all person gymryd rhan mewn addysg ran-amser, neu os caiff ei wneud yn aneconomaidd neu’n anymarferol, neu os nad ydynt—oherwydd cyngor gyrfaoedd gwael neu ddiffyg cyngor gyrfaoedd—yn gwybod beth yw eu hopsiynau, bydd pobl yn ei chael yn anodd, os nad yn amhosibl, i oresgyn damwain eu geni a olygodd eu bod wedi cael eu geni i deulu incwm isel neu wedi wynebu profiadau niweidiol yn ystod plentyndod neu gael eu hanfon i ysgol sy’n methu pryd bynnag neu ble bynnag oedd hynny.

Mae cyngor gyrfaoedd hygyrch a da yn hanfodol i bobl os ydynt yn mynd i fanteisio ar y cyfleoedd astudio rhan-amser sydd ar gael. I unigolyn sydd wedi bod allan o addysg ers nifer o flynyddoedd o bosibl, gallai ymchwilio i gyrsiau a gwneud cais ar eu cyfer fod yn syniad brawychus heb wasanaeth gyrfaoedd da i ddarparu cymorth. Ni fyddaf yn cefnogi’r gwelliant Llafur heddiw, sy’n dangos hunanfodlonrwydd nodweddiadol plaid mewn Llywodraeth sy’n gwrthod cyfaddef hyd yn oed y gallai fod lle i wella o ran darparu cyngor gyrfaoedd yng Nghymru. Os yw Llafur Cymru yn cefnogi’r teimlad sydd wrth wraidd pwynt 4, pam y maent yn ei ddileu a’i ddisodli gyda gwelliant sydd i bob pwrpas yn dweud dim?

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud yn ei gwelliant bod ganddi’r uchelgais i ddatblygu cynllun cyflogadwyedd newydd ar gyfer pob oedran y mae a wnelo rhan ohono â darparu cyngor gyrfaoedd cydgysylltiedig. Ond nid yw uchelgais yn agos at fod yn gyflawniad neu hyd yn oed yn ddechrau gweithredu. Felly, fy nghwestiwn, ar ôl bron i 20 mlynedd yn y lle hwn, yw pam mai yn awr yn unig y mynegwch yr uchelgais i ddarparu cyngor gyrfaoedd cydgysylltiedig yng Nghymru ar gynllun cyflogadwyedd ar gyfer pob oedran? Diolch.

Hoffwn gyfrannu heddiw at y ddadl hon gan ganolbwyntio’n fawr iawn ar addysg uwch a dysgu gydol oes a sut y mae hynny’n cysylltu ag economi Cymru. Ond mae dau beth y byddwn yn awyddus iawn i wybod heddiw, a dyma un: pa gwrs y mae Darren Millar yn ei wneud? Dywedodd wrthym ei fod yn dilyn cwrs addysg bellach rhan-amser; ni ddywedodd wrthym beth oedd yn ei wneud. Ac yn ail, hoffwn wybod gan Hefin David pa farciau a roddodd i Alun Cairns. [Chwerthin.] Rwy’n ddiolchgar am gyfraniad Hefin; roeddwn yn meddwl ei fod yn gyfraniad da iawn.

Er mwyn i’r economi dyfu, wrth gwrs, mae angen i ni sicrhau bod gennym y bobl sydd â’r sgiliau cywir a’r hyfforddiant cywir ar gael iddynt. Ac am ddau reswm: un, i’w helpu i gyflawni eu potensial a dau, wrth gwrs, i’n helpu i dyfu economi Cymru. Nawr, yn anffodus, ceir nifer fwy o bobl heb gymwysterau nag o bobl sydd â’r cymwysterau hynny mewn rhai ardaloedd yng Nghymru. Rwy’n credu y dylai hynny fod yn ofid i ni i gyd. Ond sylwais fod comisiynydd cenedlaethau’r dyfodol wedi rhybuddio bod 70,000 o bobl yn gadael yr ysgol heb bump TGAU da. Mae hyn, wrth gwrs, ar adeg pan fo busnesau’n wynebu prinder sgiliau ac yn profi anawsterau i recriwtio’r staff cywir i ateb eu gofynion. Mae digon o enghreifftiau yn fy etholaeth i lle mae busnesau wedi symud dros y ffin i Swydd Amwythig—neu’n bygwth gwneud hynny—am ddau reswm, weithiau: fel arfer, y rheswm yw diffyg band eang, ond y rheswm arall yw na allant ddenu’r sgiliau cywir. Weithiau, maent yn aros yn yr etholaeth, ond maent yn symud at ymyl yr etholaeth, ar y ffin â Swydd Amwythig, i ddenu’r bobl sydd â’r sgiliau cywir o Swydd Amwythig. Rwy’n credu bod angen inni dorri’r cylch hwn o amddifadedd ac anweithgarwch economaidd gydol oes a achosir gan yr hyn y credaf sy’n gyrhaeddiad addysgol gwael.

Wrth gwrs, mae yna sefyllfa iâr ac ŵy yma hefyd. Daw diwydiannau ataf yn fy etholaeth a dweud, ‘Edrychwch, nid yw’r coleg addysg bellach lleol yn darparu’r sgiliau cywir ar gyfer ein busnes.’ Felly, rwy’n mynd i weld y coleg ac maent yn dweud, ‘Wel, mae’n rhaid i ni ddarparu’r cyrsiau y mae galw amdanynt gan bobl iau. Rydym yn darparu’r cyrsiau trin gwallt, y cyrsiau cyfryngau ac yn y blaen.’ Felly, rwy’n mynd yn ôl at y diwydiant ac rwy’n dweud wrthynt, ‘Mae’n rhaid i chi fynd i ysgolion a gwerthu eich diwydiant. Gwerthwch eich diwydiant fel dewis bywyd cadarnhaol a dweud wrthynt am y cyflog uwch y gallwch ei gynnig os yw’r bobl iau hynny’n mynd i’r meysydd hyn.’ Dônt yn ôl ataf a dweud weithiau, ‘Dyna gyngor da, rydym wedi gwneud hynny’, ac weithiau dônt yn ôl ataf a dweud, ‘Wel, nid oedd yr ysgol yn ein gadael i mewn.’ Felly, rwy’n credu bod hwnnw’n un mater penodol i fynd i’r afael ag ef hefyd. Rwy’n credu bod Darren Millar wedi crybwyll hyn yn ei gyfraniad ar gyngor gyrfaol annibynnol. Nid wyf yn credu bod hynny’n digwydd ar hyn o bryd, ac rwy’n credu ei bod yn hollol hanfodol ei fod. Rwy’n gobeithio y gellir rhoi sylw i hynny ac rwy’n gobeithio y gall Ysgrifennydd y Cabinet wneud rhai sylwadau ar hynny.

Hefyd, cyfeiriodd Darren Millar, yn ei sylwadau agoriadol, at y bobl dros 60 oed hefyd. Mae’n hollol gywir: dim ond 17 mlynedd sydd gennyf i fynd cyn y byddaf yn 60 fy hun; nid yw 60 yn hen bellach. Peidiwch ag anghofio, yn gynharach y mis hwn, roedd gennym Aelodau Seneddol yn eu 70au a’u 80au yn cael eu hethol. Felly, mae digon—[Torri ar draws.] Yn hollol, rwy’n dweud wrth Dafydd Elis Thomas. [Chwerthin.] Mae gan bobl yn eu 60au 20 mlynedd o fywyd gwaith ar ôl ynddynt os ydynt yn dymuno hynny, ac mae enghraifft yn fy etholaeth i: Dave Fields o Lanfyllin. Mae wedi cael ei dderbyn ar gwrs ôl-radd ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae’n wych ac mae’n llawn cyffro ynglŷn â hynny, ond gwrthododd Cyllid Myfyrwyr Cymru roi arian iddo. Mae wedi colli ei swydd, mae’n awyddus i weithio—mae’n awyddus i weithio am 20 mlynedd arall—ac mae am gael y sgiliau cywir i wneud hynny, ond ni all wneud hynny. Felly, rwy’n gobeithio’n fawr iawn—. Edrychais ar ychydig o waith ymchwil ar hyn a gallwn weld bod y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol wedi edrych ar hyn, ond rwy’n gobeithio y gall Ysgrifennydd y Cabinet ymateb i’r pwynt penodol hwnnw.

Mae’r pwynt olaf yn fy nghyfraniad—rwy’n mynd yn brin o amser—yn ymwneud â thorri’r cylch amddifadedd a dysgu gydol oes ac anweithgarwch economaidd a achosir gan gyrhaeddiad addysgol gwael. Un ffordd o wneud hynny yw drwy fesurau a gynhwysir yn strategaeth ddiwydiannol Llywodraeth y DU, sy’n sicrhau bod mentrau sy’n tyfu yn meddu ar y sgiliau a’r gefnogaeth sydd eu hangen i greu swyddi newydd a ffyniant. Byddai’n dda iawn gennyf weld ymateb Llywodraeth Cymru i strategaeth ddiwydiannol Llywodraeth y DU. Rwy’n edrych ar Ysgrifennydd y Cabinet draw acw, a gofynnais iddo yn y Siambr—nid yw’n gwrando ar hyn o bryd. Dyna chi, mae’n effro nawr. Gofynnais iddo a allwn gael copi o’r strategaeth ddiwydiannol. Fe ddywedoch chi ‘cewch’ yn y Siambr. Gofynnais i’r rheolwr busnes hefyd am gopi. ‘Cewch’. Ond y cyfan y mae’r Aelodau wedi’i gael yw llythyr eglurhaol at yr Ysgrifennydd Gwladol dros fusnes, heb y manylion, ac yn gwrthod rhoi cynnwys hwnnw i ni, gan ddweud mai atodiad yw hwnnw. Os gwelwch yn dda a gawn ni ei weld? Ni allaf weld pam na chawn weld copi o ymateb Llywodraeth Cymru i ymgynghoriad gan Lywodraeth y DU. Felly, rwy’n meddwl bod fy amser yn dod i ben.

Mae eich amser wedi dod i ben. [Chwerthin.] Ie, nid ‘yn dod’. Diolch yn fawr iawn. Rhianon Passmore.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Fel cyn-ddarlithydd gwadd fy hun a chyn-gyfarwyddwr mewn addysg bellach, ond yn bwysicaf oll fel mam, rwyf finnau hefyd yn croesawu’r ddadl hon. Gall pobl Cymru fod yn sicr y bydd Plaid Lafur Cymru—plaid y lliaws ac nid yr ychydig—yn diogelu, yn hyrwyddo ac yn cynyddu cyfleoedd addysgol ar gyfer ein cenedl.

Efallai y gallai fod yn werth bwrw golwg ar y cyd dros y ffin ar Loegr i weld sut y mae’r Torïaid yn gwerthfawrogi addysg a hyfforddiant ôl-orfodol ble maent mewn grym mewn gwirionedd. Gadewch i ni beidio ag anghofio, ers 2010, collwyd 1.3 miliwn o oedolion sy’n dysgu yn Lloegr ers i’r Torïaid ddod i rym. Yn Lloegr, cafodd dros £1 biliwn ei dorri o’r gyllideb sgiliau ers 2010 pan ddaeth y Torïaid i rym, sef toriad o 14 y cant mewn termau real. Canfu’r Sefydliad Astudiaethau Cyllid annibynnol y bydd gwariant y pen ar addysg bellach yn Lloegr wedi gostwng 13 y cant rhwng 2010-11 a 2019-20. Felly, er fy mod yn croesawu’r ddadl hon yn fawr, nid yw’n syndod, fel gweithiwr addysg proffesiynol, na fyddaf yn cymryd unrhyw bregeth o’r meinciau gyferbyn. Yn wir, byddai’n werth i arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig ddweud wrth Brif Weinidog y DU, pan fydd hi’n ei ffonio nesaf, am yr arferion da sy’n digwydd yng Nghymru o dan Lafur, mewn gwrthgyferbyniad llwyr i Loegr. Er, rwy’n ofni na fydd Andrew R.T. Davies ar ddeial cyflym Theresa May a chaf fy atgoffa o eiriau’r gân boblogaidd gan The Feeling,

Rwyf wrth fy modd pan fyddi’n ffonio / Ond dwyt ti byth yn ffonio.

Yng Nghymru, mae adolygiad Diamond yn ddiweddar yn dystiolaeth o ymrwymiad dwfn Llywodraeth Lafur Cymru i’r maes hwn. Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi ar waith y pecyn cymorth i fyfyrwyr mwyaf hael yn unrhyw le yn y DU, gyda phwyslais newydd ar gymorth gwell i fyfyrwyr rhan-amser. Rydym yn cydnabod yr angen a’r buddsoddiad. Mae Cymru’n arwain ar symud cyllid addysg uwch yn sylfaenol tuag at system flaengar, sefydlog a chynaliadwy a fydd yn cefnogi myfyrwyr pan fyddant ei angen fwyaf, ac yn galluogi ein prifysgolion i gystadlu’n rhyngwladol.

Un o’r pethau mwyaf pwysig y mae Llafur Cymru wedi’i wneud yn y Llywodraeth, yn fy marn i, yw gwneud yn siŵr nad yw’r toriadau dwfn sy’n cael eu trosglwyddo i lawr gan Lywodraeth Dorïaidd y DU yn cyfyngu ar gyfleoedd bywyd ein pobl ifanc. Cafodd myfyrwyr Cymru mewn addysg uwch eu diogelu rhag y dyledion andwyol a brofir gan fyfyrwyr prifysgol ar draws y DU. Mae lefel bresennol dyledion myfyrwyr o Gymru oddeutu £20,000 yn is na’u cymheiriaid yn Lloegr. Yn eu cynnig, mae’r Torïaid Cymreig yn galw am wasanaeth cynghori ar addysg a gyrfaoedd i bob oedran, ac maent i’w gweld wedi anghofio, yn hytrach, am Gyrfa Cymru. Mae Gyrfa Cymru yn is-gwmni sy’n eiddo llwyr i Lywodraeth Cymru, ac yn darparu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad annibynnol a dwyieithog ar gyfer pobl o bob oedran ar draws Cymru.

Mae’n iawn fod astudio rhan-amser ôl-raddedig bellach, yn wahanol i Loegr, yn cael ei ariannu yma yng Nghymru, ac rwy’n ddiolchgar—

Fe sonioch am Gyrfa Cymru. Wrth gwrs, yr hyn a welsom—ac rwyf wedi cael llawer o ohebiaeth ynglŷn â hyn yng ngogledd Cymru—yw haneru’r lefelau staffio yno. Rydym wedi gweld niferoedd yn disgyn. Yn ôl yn 2010, roedd gwasanaethau gyrfaoedd yn arfer gweld pob disgybl ym mlynyddoedd 10 ac 11; nawr, tua chwarter y disgyblion ym mlwyddyn 11 yn unig a welant. A yw hynny’n dderbyniol?

Mae’n iawn ein bod yn buddsoddi yn y cyngor gyrfaoedd cywir ar draws Cymru, ac rwy’n falch ein bod yn symud i’r cyfeiriad cywir hwnnw.

Felly, rwy’n ddiolchgar am welliant Llywodraeth Cymru sy’n cydnabod yn llawn pa mor hanfodol bwysig yw dysgu oedolion a chefnogi datblygu sgiliau i bobl o bob oed. Yn yr un modd, fel oedolyn sy’n dysgu fy hun, i gloi, ni fyddwn yn sefyll yma heddiw yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru pe na bai am y cyfleoedd a’r cymorth cynhwysfawr a roddwyd i mi ymhell ar ôl i fy addysg orfodol ddod i ben. Rwy’n gwybod bod y Llywodraeth hon yn gwerthfawrogi, nid yn unig y rhethreg, ond cyflawniad polisïau, y canlyniadau i bobl o bob oed ar draws Cymru. Diolch.

Rwy’n meddwl mai dynwarediad tila a fyddaf o’r cyfrannwr olaf a roddodd ei hangerdd arferol i’w chyfraniad.

Rwy’n falch iawn o gymryd rhan yn y ddadl hon, oherwydd rwy’n credu mai un o’r camgymeriadau rydym yn ei wneud weithiau yw ein bod yn meddwl bod addysg yn llinol: caiff plant eu geni, ânt i’r ysgol gynradd, ânt draw wedyn i’r ysgol uwchradd, ac i addysg bellach, addysg uwch a dod allan yn y pen arall a chael rhyw fath o swydd, ac yna drwy eu swydd gallant wneud faint bynnag o sgiliau. Ond mae’n rhaid i ni wynebu ffeithiau fod llawer iawn o blant yn casáu ysgol. Mae llawer iawn o blant yn cael amser gwirioneddol ddiflas yn yr ysgol. Maent yn cael eu bwlio, nid ydynt yn teimlo bod lle iddynt, ac mae llawer iawn o bwysau arall arnynt, yn enwedig mewn ysgolion uwchradd pan fo’r hormonau’n chwarae hafoc. Efallai bod ganddynt deuluoedd nad ydynt yn darparu cymorth. Efallai eu bod yn clywed yn gyson eu bod yn dwp neu’n ddiwerth neu dan draed, ac yn syml iawn, nid ydynt yn perfformio’n dda. Hefyd, rhaid i ni wynebu ffeithiau fod gan oddeutu chwarter ein plant ysgol yng Nghymru ryw fath o angen dysgu ychwanegol, a all amrywio o ychydig o ddyslecsia o bosibl, yr holl ffordd i angen cymdeithasol, rheoli dicter neu alluedd meddyliol sylweddol a dwys.

Felly, daw ein plant ar bob ffurf, ac mae angen iddynt i gyd ddod o hyd i’w ffordd yn y byd ar hyd llwybrau gwahanol. Ni all pob un ohonynt ddilyn yr un llwybr. Ac rwyf wedi cyfarfod ag un neu ddau o fy etholwyr sydd wedi fy ysbrydoli’n fawr gyda hanes eu bywydau. Roedd un yn ferch ifanc a oedd wedi cael ei phlentyn cyntaf yn 14, yr ail un yn 16. Yn ei 20au cynnar iawn, sylweddolodd nad oedd am i’w bechgyn gael y math o fywyd roedd hi’n ei fyw, ac felly aeth yn ôl i’r ysgol. Nid oedd ganddi ddim, ac aeth yn ôl i addysg ran-amser a chafodd ei graddau TGAU, ac yna daliodd ati i ymdrechu ac ar ôl ychydig, fe wnaeth lefel A, yna fe wnaeth—ni allaf gofio union enw’r cwrs, ond rhyw fath o gwrs sylfaen gyda’r Brifysgol Agored—ac mae hi bellach yn hyfforddi i fod yn nyrs. Ac mae gennyf barch llwyr tuag at lwybr bywyd y ddynes honno.

Daeth dyn ifanc ataf, yn onest, roedd oddeutu 18 neu 19 oed, a phrin y gallai osod dau air at ei gilydd, roedd wedi gadael ysgol yn 14 oed a’r hyn yr oedd wedi bod eisiau ei wneud erioed oedd gyrru peiriant cloddio. Ac roedd wedi ennill digon o arian mewn gwirionedd i fynd allan i brynu peiriant cloddio pan oedd oddeutu 19 oed, ac roedd ganddo’r holl drwyddedau angenrheidiol neu beth bynnag sydd eu hangen arnoch. Ond ei rwystredigaeth oedd ei fod am geisio tyfu’r peth a’i droi’n fusnes, a rhoesom ychydig o gymorth iddo, ei gyfeirio at un neu ddau o grantiau a phethau felly, a chael nifer o gyrsiau i’w enw. Mae’n rhaid bod hyn tua 2009-10, ac mae bellach wedi cael hyfforddiant busnes, mae ganddo ail beiriant cloddio ac mae’n dechrau cyflogi pobl. Unwaith eto, ni fyddai wedi gwneud hynny, ni allai wneud hynny drwy’r llwybr safonol y mae cymaint o bobl eraill yn ei ddilyn. Y rheswm pam y gallodd ei wneud oedd am ei fod wedi gallu cael mynediad at addysg ran-amser. Gallai fynd allan a pharhau i wneud ei swydd, ennill rhywfaint o arian a mynd i ysgol nos, aeth i Goleg Sir Benfro, ac yna aeth ymlaen o’r fan honno.

Pan fyddwn yn edrych ar addysg i oedolion, rwy’n credu bod gwir angen inni edrych arno mewn ffordd gyfannol iawn a derbyn bod yna lawer iawn o bobl na fyddant yn dilyn y llwybrau safonol. Felly, dyna oedd y darn cyntaf o’r cynnig roeddwn yn awyddus iawn i siarad amdano: cynorthwyo pobl ar draws y sbectrwm i gamu ymlaen.

Roedd ail elfen y cynnig yr hoffwn ei grybwyll yn ymwneud â gwneud i bobl hŷn deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac yn rhan o’n cymunedau a sicrhau ein bod yn dechrau ymladd unigrwydd ac arwahanrwydd, y siaradwn amdanynt dro ar ôl tro ar ôl tro yn y Siambr hon fel un o’r gofidiau iechyd cyhoeddus mawr sy’n dechrau taro mwy a mwy o bobl, a sut rydym yn cadw pobl rhag ymddieithrio?

Rwyf wedi crybwyll pobl hŷn, ond wrth gwrs, gall unigrwydd ac arwahanrwydd daro pobl ar unrhyw oed, ar unrhyw un o’r pwyntiau pontio yn eich bywyd. Byddwch yn colli swydd, byddwch yn cael ysgariad, byddwch yn cael profedigaeth, mae rhywbeth argyfyngus yn digwydd ac rydych yn ei chael hi’n anodd. Y peth gwych, unwaith eto, ynglŷn â gallu dilyn cwrs rhan-amser—hyd yn oed os yw ar rywbeth sydd ond yn mynd â’ch bryd yn hytrach na dysgu sgìl er mwyn ennill arian—yw eich bod yn adeiladu gwydnwch emosiynol, rydych yn magu hyder a hunan-gred ac rydych yn gwneud ffrindiau. Mae hynny’n bwysig iawn gan fod angen i’r rhan fwyaf o bobl allu gwneud ffrindiau.

Rydym yn byw bywydau ynysig iawn y dyddiau hyn. Mae rhai pobl yn hynod o unig. Ni fu erioed mor wir yn ein cymdeithas fod gennym gymaint o bobl sy’n hollol unig ym mhoblogaeth enfawr ein planed. Rwy’n credu bod addysg i oedolion ac addysg gymunedol, caniatáu i bobl neu alluogi pobl i allu dilyn rhywbeth a theimlo’n rhan o jig-so mawr y bywyd mawr, yn wirioneddol hanfodol. Ni fydd pawb yn awyddus i wneud hynny, ni fydd pawb eisiau dilyn y llwybr hwn, ond bydd rhai sy’n awchu am gael y lefel honno o ymgysylltiad. Os caewn y drysau hyn a’n bod yn mynd ag arian oddi wrth y math hwn o addysg fwy meddal, os hoffwch, a’i ganolbwyntio ar y pethau caled, rydym yn rhoi o leiaf chwarter ein plant dan anfantais, a nifer enfawr o oedolion nad ydynt yn gallu ymuno yn y ffordd y mae llawer iawn o bobl sy’n eistedd yn y Siambr hon wedi mynd drwy eu haddysg.

Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf fi ddechrau fy nghyfraniad heddiw drwy ddiolch i’r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno’r ddadl bwysig hon a’r holl bobl sydd wedi siarad? Rwy’n credu ei bod yn eglur o’r ddadl ein bod, mewn gwirionedd, yn cytuno’n fras ar yr egwyddorion, sef bod dysgu gydol oes yn eithriadol o bwysig i bobl o bob cefndir ac o bob oed, a bod mynediad at addysg ran-amser ar bob lefel—. Siaradodd Angela yn deimladwy iawn, er enghraifft, am rai o’r enghreifftiau yn ei hetholaeth. Cyfeiriodd Darren at wobrau Ysbrydoli!—mae’n rhoi cyfle i mi ddweud fy mod i yno i gyflwyno’r wobr dysgwr y flwyddyn, ac rwy’n credu y byddai’n esgeulus ohonof—. Dyna’r trydydd tro i mi gyflwyno’r gwobrau hynny, ac o ddifrif, cefais fy nghyffwrdd hyd at ddagrau ar y tri achlysur, ond y peth gorau oll am y gwobrau hynny oedd gwylio beth y mae’r enillwyr wedi’i wneud wedi hynny. Felly, y tro hwn, roedd y prif enillydd o’r tro cyntaf i mi gyflwyno’r gwobrau yno ac mae hi wedi mynd o fod yn fenyw nerfus iawn i fod yn hunanhyderus, ac yn berffaith hapus i siarad ar y llwyfan a chyflwyno’r wobr i’r enillydd eleni. Roedd enillydd eleni yn nerfus iawn ond gallai weld, ymhen blwyddyn neu ddwy, mai hi fydd yr unigolyn hunanhyderus fel yr enillydd o’r flwyddyn gyntaf i mi fynychu’r gwobrau.

Felly, rwy’n credu nad oes unrhyw amheuaeth—. Siaradodd Hefin a Rhianon yn angerddol am yr effaith drawsnewidiol y gall addysg o’r fath ei chael, er bod yn rhaid i mi ddweud fy mod am gael gair bach gyda Hefin ynglŷn â’r bobl y mae’n dewis eu trawsnewid, ond mater arall yw hwnnw.

Felly, rwy’n meddwl ein bod yn cytuno i raddau helaeth ei bod yn hanfodol inni roi’r cyfleoedd hyblyg sydd eu hangen arnynt i bobl o bob cefndir ac o bob cymuned yng Nghymru i wella eu sgiliau a chryfhau eu rhagolygon cyflogaeth. Wrth gwrs, dyna’n union pam rydym yn annog astudio rhan-amser drwy’r cyllid a ddarparwn i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru i roi cymhorthdal tuag at gostau ffioedd.

Tystiolaeth o effaith yr arian hwn yw’r ffi gryn dipyn yn is am gyrsiau rhan-amser yng Nghymru o gymharu â Lloegr, er enghraifft. Roeddem yn falch iawn fel Llywodraeth, yn yr hinsawdd ariannol heriol sydd ohoni, fod CCAUC wedi gallu cynnal lefel eu cefnogaeth ar gyfer darpariaeth ran-amser.

Rydym hefyd wedi bod yn glir iawn, fodd bynnag, fod angen i ni baratoi ar gyfer dyfodol mwy cynaliadwy yn hyn o beth, ac mae pawb ohonoch wedi bod yn ddigon caredig i ddangos bod cefnogaeth gyffredinol i adolygiad Diamond ar draws y Siambr hon. Credaf fod hynny’n siarad cyfrolau am y gefnogaeth yng Nghymru i addysg fel gweithgaredd gydol oes. Felly, rydym yn bwriadu adeiladu model ariannu cynaliadwy a blaengar ar gyfer cymorth i fyfyrwyr, ac wrth wneud hynny, rydym am wneud yn siŵr ein bod yn rhoi help i’r rhai sydd ei angen fwyaf. Ac rydym hefyd yn awyddus i sicrhau ein bod yn galluogi ein prifysgolion i barhau i gystadlu’n rhyngwladol, gan ganiatáu mynediad i’n myfyrwyr at hynny. Dyna pam ein bod wedi comisiynu adolygiad Diamond yn y lle cyntaf, a pham y rhoesom lawer iawn o ystyriaeth i oblygiadau ymarferol gweithredu’r argymhellion.

Rwy’n siŵr eich bod i gyd yn gwybod bod yr ymgynghoriad wedi dod i ben ym mis Chwefror. Rhoddodd gyfle i bawb a oedd â diddordeb mewn cymorth i fyfyriwr wneud sylwadau ar y cynigion, a gafodd eu dylanwadu gan ganlyniadau’r panel adolygu. Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi adroddiad ar yr ymgynghoriad, ynghyd â chadarnhad o’r pecyn cymorth i fyfyrwyr addysg uwch ar gyfer 2018-19, yn ddiweddarach eleni, ym mis Gorffennaf. Fel y cadarnhaodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ym mis Tachwedd, at ei gilydd roeddem wedi derbyn argymhellion panel adolygu Diamond ar gyfer pecyn gwell o gymorth i fyfyrwyr, ac rwyf am bwysleisio y bydd hyn yn cynnwys cymorth cydradd i fyfyrwyr rhan-amser a myfyrwyr ôl-raddedig, y mynegodd pawb a gyfrannodd at y ddadl hon, rwy’n credu, y farn ei fod yn hanfodol yn y gofod hwn. Pan gaiff ei gyflwyno, rwyf am bwysleisio, fel y dywedodd Rhianon Passmore yn fwy angerddol na minnau ar hyn o bryd, y bydd hwn yn becyn unigryw yn y DU, ac rydym yn hynod o falch ohono. Credaf y bydd y system arfaethedig yn caniatáu mwy o hyblygrwydd yn ein system a fydd yn annog myfyrwyr o bob cefndir i fwrw ati a chael addysg o’r fath.

Soniodd pobl am gyflogadwyedd hefyd. Rwyf wedi siarad yn eithaf aml yn y Siambr hon am yr angen i fabwysiadu ymagwedd drawslywodraethol tuag at fynd i’r afael â rhwystrau niferus sy’n atal pobl rhag cael gwaith ac aros mewn gwaith. Mae sgiliau’n amlwg yn rhan fawr iawn o hynny, ond nid dyna’r unig rwystr, ac rwy’n meddwl bod angen i ni gydnabod hynny. Felly, rydym yn datblygu cynllun cyflawni cyflogadwyedd ar gyfer Cymru, a byddaf yn dweud rhagor am hyn yn ystod yr wythnosau nesaf. Rwy’n mynd i wrthsefyll y demtasiwn i achub y blaen ar fy nghyhoeddiad. Ond byddwn yn dwyn ynghyd y wybodaeth sydd gennym am raglenni cyflogadwyedd presennol a ariennir gan Lywodraeth Cymru i ystyried beth sydd angen ei newid er mwyn diwallu anghenion pobl sy’n ddi-waith, yn economaidd anweithgar, am gyflogaeth, sgiliau a chymorth—mae llawer o bobl yn y Siambr yn ystod y ddadl hon wedi crybwyll problem anweithgarwch economaidd—neu rai mewn swyddi o ansawdd is sydd angen eu huwchsgilio.

Hoffwn gydnabod cyfraniad Hefin David yma ynglŷn â’r ymgysylltiad â chyflogwyr ar gyfer hyn. Un o’r pethau mawr rwy’n ei ofyn gan bobl yn y Siambr hon yw iddynt fod yn llysgenhadon bob amser er mwyn annog cwmnïau i hyfforddi. Felly, er ein bod yn deall bod llawer o gwmnïau yn ei chael hi’n anodd dod o hyd i’r adnodd—ac adnodd ydyw, fel y nododd David Rees mewn ymyriad—i ryddhau eu pobl, oherwydd gallwn ddarparu’r hyfforddiant, ond mae angen iddynt ryddhau’r bobl. Mewn gwirionedd mae perswadio pobl ynglŷn â’r angen busnes i wneud hynny o ran eu cadernid eu hunain, eu gallu i dyfu a’u gallu i barhau i ymateb i’r heriau yn eu hamgylchedd busnes yn bwysig iawn.

Byddwch yn cydnabod, fodd bynnag, fod rhai pobl eisiau hyfforddi am eu bod eisiau gadael cyflogwr er mwyn mynd i rywle arall, a bydd rhai pobl, yn syml o ran awydd i wella’n bersonol, am ddilyn cwrs nad oes ganddo ddim oll i’w wneud â’r swydd y maent ynddi ar hyn o bryd. Felly, hoffwn ofyn beth rydych yn mynd i’w wneud i’r bobl hynny i’w helpu gyda’r trawsnewidiadau hynny ac yn arbennig y rhai sydd am astudio cyrsiau addysg bellach rhan-amser, nid addysg uwch yn unig. Rydych wedi canolbwyntio llawer ar addysg uwch hyd yn hyn.

Rwy’n cydnabod y pwynt hwnnw’n llwyr. Mae yna nifer o garfannau o bobl y mae angen i ni allu rhoi sylw iddynt yma. Felly, roeddwn yn gwneud y pwynt, dyna i gyd, fod hynny’n bwysig iawn i’r bobl mewn gwaith, ac efallai mewn cwmni lle mae ganddynt rywfaint o ymrwymiad ond eu bod yn dymuno symud ymlaen ynddo, ac yn enwedig mewn cwmnïau sy’n awyddus i dyfu eu hunain. Rwy’n meddwl mai’r dyfyniad a roddwyd oedd, ‘Beth sy’n digwydd os byddaf yn eu hyfforddi a’u bod yn gadael?’ Wel, yn bwysicach, beth sy’n digwydd os nad ydych yn eu hyfforddi a’u bod yn aros? Dyna neges y mae angen i ni ei chyfleu i lawer o gwmnïau Cymru. Mae gennym oddeutu 40 y cant o gwmnïau nad ydynt yn hyfforddi ar hyn o bryd. Ond rwy’n derbyn y pwynt y mae Darren Millar yn ei wneud ynglŷn â beth sy’n digwydd i bobl sydd ond eisiau gwella’u huchelgais personol penodol eu hunain, os mynnwch, a dyna pam y mae’r gwobrau Ysbrydoli! hynny mor bwysig yn aml. Felly, bydd y cynllun cyflogadwyedd hwn yn ystyried anghenion pobl sy’n dymuno camu ymlaen yn eu gyrfa, mewn man arall o bosibl, yn hytrach na gyda’u cyflogwr presennol.

Ac un o’r materion y bydd yn rhaid inni ymdrin ag ef yw gwneud yn siŵr fod y gwasanaeth gyrfaoedd a’r holl bartneriaid eraill sydd gennym—oherwydd bydd hon yn bartneriaeth ar draws y gymdeithas i wneud i hyn weithio—yn cyfeirio pobl at y pethau cywir mewn gwirionedd, felly os ydych yn glanio yn y lle anghywir, bydd y bobl hynny’n gallu eich cyfeirio yn ôl i’r lle iawn. Bydd pob un ohonom, fel Aelodau’r Cynulliad, wedi cael y profiad o bobl yn ceisio dod o hyd i’r ffordd honno, ac rwy’n gobeithio y gwelwch, pan fyddwn yn cyhoeddi’r cynllun cyflogadwyedd, mai’r hyn rydym yn chwilio amdano yw llwybr syml a mwy amlwg at y cymorth cywir i bobl, yn dibynnu ar yr hyn y maent ei eisiau neu beth yw eu huchelgais personol penodol. Ac yn fuan, byddaf yn gwneud datganiad llafar yn amlinellu’r ymagwedd honno at gyflogadwyedd.

Mae llawer o bobl wedi sôn am Gyrfa Cymru, ac aeth Gyrfa Cymru ati i ymgysylltu’n helaeth â rhanddeiliaid y llynedd i nodi gweledigaeth ar gyfer darparu gwasanaethau a datblygu yn y dyfodol, ac maent wedi galw’r weledigaeth yn ‘Newid Bywydau’. Rydym wedi gwrando’n ofalus iawn ar ganlyniadau’r ymarfer ymgysylltu, a bydd ein cylch gwaith i’r cwmni’n datblygu’r weledigaeth honno yn awr. Mae ein gwasanaeth gyrfaoedd cenedlaethol yn helpu cleientiaid i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen i reoli eu gyrfaoedd a gwneud penderfyniadau mewn byd cymhleth a newidiol, ond rydym yn cydnabod ein bod yn dymuno gweld yr holl bobl ifanc yn symud yn esmwyth ac yn llwyddiannus drwyddo i mewn i waith, ac i oedolion gael eu hysbrydoli i reoli eu gyrfaoedd. Felly, mae ffocws gwahanol i’r cynllun hwnnw gan Gyrfa Cymru ar sut y byddant yn cyflawni hynny, gan ddefnyddio’r adnoddau sydd ar gael iddynt, ac rwy’n meddwl eu bod wedi croesawu hynny’n dda, mewn gwirionedd. Rwy’n meddwl, Llyr, eich bod wedi gwneud pwynt da am rai o’r pethau sydd wedi digwydd gyda Gyrfa Cymru, ond maent wedi ymateb i’r her o ailffocysu ar yr hyn sydd angen iddynt ei wneud, a bydd yn rhaid inni fanteisio ar ddulliau digidol a ffyrdd eraill o gyflawni hynny, yn hytrach na chyfarfodydd wyneb yn wyneb bob amser—Skype ac yn y blaen. Mae yna lawer o bethau digidol. Nid oes gennyf amser, Dirprwy Lywydd, i fanylu ar hynny.

Felly, yn olaf, hoffwn ddweud wrth y rhai sydd wedi sôn am bwysigrwydd dysgu oedolion yn gyffredinol nad oes unrhyw amheuaeth ein bod, fel Llywodraeth Cymru, yn cydnabod y cyfraniad pwysig y mae dysgu oedolion yn ei wneud i sgiliau, cyflogadwyedd, iechyd a lles ein dinasyddion, a dyna pam ein bod yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i ddysgu oedolion. Cyn bo hir, byddwn yn cyhoeddi polisi dysgu oedolion diwygiedig ar gyfer Cymru, sy’n nodi ein blaenoriaethau ar gyfer y ddarpariaeth hon yn ystod y blynyddoedd nesaf, ac yn cadarnhau ein hymrwymiad i ddarparu cyfleoedd i bob dysgwr drwy gydol eu hoes. Felly, a gaf fi orffen drwy ddiolch i’r Aelodau am adael i mi glywed eu cyfraniadau gwerthfawr, am adael i mi gyfrannu at y ddadl bwysig hon heddiw, ac i ddweud fy mod yn meddwl, mewn gwirionedd, ein bod yn cytuno i raddau helaeth, gyda rhai gwahaniaethau bach y gellir eu trafod dros y misoedd i ddod? Diolch yn fawr.

Diolch, Dirprwy Lywydd, ac a gaf fi ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl heddiw, a diolch i’r Gweinidog am ei sylwadau? Mae hon yn ddadl sydd, fel y dywedodd Russ George, yn ymwneud â thorri’r cylch, ac fel y dywedodd Darren Millar—ein myfyriwr preswyl—wrth agor y ddadl, mae hyn yn ymwneud â symudedd cymdeithasol. Mae llawer o bobl yn awyddus i gael addysg yn ddiweddarach yn eu bywydau, a gall fod heriau iddynt wneud hynny, felly mae angen i ni wneud y newid o waith i addysg mor ddidrafferth â phosibl, yn enwedig ar gyfer oedolion sy’n ei chael hi’n anodd cofrestru mewn addysg ran-amser, ac mae angen i ni weld chwarae teg.

Gan droi at rai o’r cyfraniadau, fel y dywedodd Llyr Gruffydd, mae angen i ni newid y diwylliant. Nid mater o arian yn unig ydyw; mae’n ymwneud â ffordd wahanol o wneud pethau. Ac yn wir, dywedodd Oscar, Mohammad Asghar, ei fod yn ymwneud â ffyrdd newydd o weithio hefyd, ac addysgu’r byd, nid cael ein haddysgu gan y byd yn unig.

Hefin, gwnaethoch bwynt da iawn, gan fynd yn ôl at eich profiad eich hun o addysgu. Fe siaradoch ynglŷn â sut y byddech yn mynd i’r afael â llên-ladrad pan oeddech yn addysgu myfyrwyr. Aeth â mi’n ôl i flynyddoedd lawer yn ôl, pan gefais fy ethol gyntaf i’r lle hwn. Roedd Gweinidog y Gymraeg, bellach, a minnau mewn cyfarfod pwyllgor. Mae’n debyg na fydd eisiau cofio hyn. Cododd adroddiad pwyllgor—roedd Angela yno—a’i daflu at Aelod Cynulliad, ac nid wyf am ei enwi, a’i gyhuddo o lên-ladrad enfawr, am mai’r rhan fwyaf o’r hyn roeddech chi wedi’i ysgrifennu ydoedd, Alun, ond roedd yr enw wedi newid ar y diwedd, onid oedd? Oedd. Dyddiau da, onid e?

Fe ddysgasom heddiw fod Russ George o fewn 17 mlynedd i fod yn 60—nid yw’n ben blwydd arno; ond mae o fewn 17 mlynedd i fod yn 60, nad yw, yn ôl yr hyn a ddywedodd wrthym, yn hen y dyddiau hyn. Gallwn glywed Dafydd Elis-Thomas yn rhoi ochenaid enfawr o ryddhad pan wnaeth y sylw hwnnw. Rwy’n credu ei fod ar yr ochr hon—ein hochr ni—i 60, Darren, ac nid ar yr ochr llall, ond fe wnaeth sylw am dorri’r cylch, ac ymwneud â hynny y mae hyn. Ymwneud â hynny y mae’r cynnig hwn. Dyna pam ein bod wedi’i gyflwyno heddiw. Fe ddywedoch ei bod yn sefyllfa iâr ac ŵy. Mae’n bwysig i ddiwydiant fynd i ysgolion a chael eu croesawu i ysgolion er mwyn i bobl ifanc ddysgu o oedran cynnar beth yw eu diddordebau, fel y gallant ganolbwyntio ar y rheiny wedyn.

Rhianon Passmore, ni wnaethoch siomi. Ni wnaethoch siomi, wnaethoch chi? Yn anffodus, roedd yn ymddangos bod gennych fwy o ddiddordeb yn llyfr cyfeiriadau Andrew R.T. Davies nag mewn addysg uwch. Rwy’n siŵr y gallwch gyfnewid rhifau yn nes ymlaen, os ydych yn dymuno gwneud hynny. [Torri ar draws.] Na, jôc oedd honno, gyda llaw; nid oes unrhyw beth yno. [Chwerthin.]

Wyddoch chi, mae’n ddoniol: fe siaradoch lawer am Theresa May a Llywodraeth y DU—nid oes gymaint â hynny o amser ers pan fyddai’r Aelodau gyferbyn yn gwneud popeth yn eu gallu i osgoi siarad am arweinwyr y pleidiau, nac oes? A ydych yn cofio hynny, yn union cyn yr etholiad?

Ar wahân i Mike Hedges. Rwyf hyd yn oed yn cofio un ddadl pan gafodd yr hen Ken Skates druan ei lusgo i mewn i ddadl i amddiffyn Jeremy Corbyn. Roedd yr edrychiad ar ei wyneb yn dweud y cyfan ar y pwynt hwnnw. Hynny yw, mawredd annwyl, mae’n siŵr fy mod i’n nes at Jeremy Corbyn na Ken Skates. [Chwerthin.] Dyddiau da, ond mae pethau wedi symud ymlaen cymaint. Erbyn hyn, maent yn awyddus i siarad am arweinyddiaeth, onid ydynt? Felly, mae hwnnw’n newid i’w groesawu.

A gaf fi ddiolch i’r Gweinidog am ei sylwadau? Fe ddywedoch fwy neu lai—fe wnaethoch grynhoi safbwyntiau’r Siambr yn dda iawn yn fy marn i. Mae pawb ohonom yn awyddus i gyrraedd yr un lle. Rydym am sicrhau bod trosglwyddiad llyfn o waith i addysg, yn ôl eto, ar wahanol gyfnodau ym mywydau pobl pan fyddant angen hynny. Efallai y byddwn yn anghytuno weithiau, ond rwy’n meddwl bod hynny’n greiddiol i’n holl ffordd o feddwl fel ACau. Dyna y mae’r cynnig hwn yn gobeithio ei gyflawni, ac rwy’n annog yr Aelodau i’w gefnogi.

Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly gohiriwn y bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Oni bai bod tri Aelod yn dymuno i’r gloch gael ei chanu, symudaf ymlaen yn syth at y bleidlais.

8. 8. Cyfnod Pleidleisio

Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Os na dderbynnir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i’r cynnig hwnnw. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 18, neb yn ymatal, 34 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig.

Gwrthodwyd y cynnig: O blaid 18, Yn erbyn 34, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6340.

Galwaf yn awr am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant 28, neb yn ymatal, 24 yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 1.

Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 28, Yn erbyn 24, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 1 i gynnig NDM6340.

Galwaf yn awr am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant 51, neb yn ymatal, 1 yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 2.

Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 51, Yn erbyn 1, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 2 i gynnig NDM6340.

Cynnig NDM6340 fel y’i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod y cyfraniad hanfodol y mae addysg uwch ran amser yn ei wneud i economi Cymru, yn arbennig yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig.

2. Yn cefnogi mentrau fel Wythnos Addysg Oedolion ac yn cydnabod pwysigrwydd cyfleoedd addysg oedolion ac addysg yn y gymuned i Gymru.

3. Yn croesawu’r pecyn cymorth arfaethedig ar gyfer addysg uwch ran amser a myfyrwyr rhan amser a gyflwynwyd yn ymateb Llywodraeth Cymru i Adolygiad Diamond.

4. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru eisoes yn darparu gwasanaeth sy’n rhoi cyngor a chyfarwyddyd ynghylch gwybodaeth am yrfaoedd sy’n annibynnol ac yn ddwyieithog ar gyfer pobl o bob oedran a hynny drwy Yrfa Cymru.

5. Yn cydnabod uchelgais Llywodraeth Cymru wrth iddi ddatblygu cynllun cyflogadwyedd newydd ar gyfer pob oedran y mae a wnelo rhan allweddol ohoni â’r angen am gyngor effeithiol a chydgysylltiedig am yrfaoedd er mwyn cynorthwyo unigolion i fanteisio ar y cyfleoedd mwyaf priodol o ran addysg, cyflogaeth a hyfforddiant.

6. Yn cydnabod pwysigrwydd hanfodol dysgu gan oedolion ynghyd â datblygu sgiliau ategol ar gyfer pobl o bob oedran.

7. Yn annog Llywodraeth Cymru i gadarnhau ei chynigion ar gyfer cymorth i fyfyrwyr a chyllid addysg uwch cyn gynted ag y mae hynny’n rhesymol ymarferol er mwyn galluogi’r sector Addysg Uwch i gynllunio ar gyfer blwyddyn academaidd 2018/19.

Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 52, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd: O blaid 52, Yn erbyn 0, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6340 fel y’i diwygiwyd.

9. 9. Dadl Fer: Technoleg a'r Gymraeg: Perygl neu Gyfle?

Symudwn ymlaen yn awr at y ddadl fer. Os oes Aelodau’n mynd i adael y Siambr, gwnewch hynny’n gyflym ac yn dawel. Felly, symudwn yn awr at y ddadl fer a galwaf ar Llyr Gruffydd i siarad ar y pwnc y mae wedi’i ddewis.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch am y cyfle i gyflwyno’r ddadl fer yma y prynhawn yma? Rydw i am gychwyn fy nghyfraniad drwy drïo rhywbeth a fydd, gobeithio, yn tanlinellu’r pwynt rydw i am ei gyfleu, ac efallai yn gwneud hynny’n llawer mwy effeithiol hefyd, efallai, nag y gallaf i mewn araith. Nid ydw i’n amau hefyd mai dyma a fydd, efallai, y tro cyntaf mewn unrhyw senedd yn y byd y bydd Siri yn cyfrannu i’r drafodaeth, ac yn cael ei dyfynnu, efallai, yng nghofnod y drafodaeth honno wedyn. Felly, mi drïwn ni hyn nawr.

Hei, Siri, beth yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru?

Siri: ‘I couldn’t find silk appreciate can your telephone company and your music.’

Wel, mae’n amlwg bod Siri ddim cweit wedi deall beth oeddwn i’n ei ofyn. Mi drïaf i gwestiwn arall.

Hei, Siri, pwy yw Prif Weinidog Cymru?

Siri: ‘Sorry, I can’t search that.’

Na. Wel, dyna fe. Ocê, wel, mi drïwn ni unwaith eto.

Hei, Siri, a wyt ti’n deall Cymraeg?

Siri: ‘ I rather enjoy what I’m doing right now.’

Wel, mae’n amlwg, o’r ateb, mai ‘na’ yw’r ateb, mewn gwirionedd, ac mae hynny yn resyn, wrth gwrs, ac yn siom oherwydd mae’r dyfodol yn ddigidol, ac mae teclynnau fel Apple Siri, sy’n adnabod lleferydd ac yn ateb cwestiynau, yn dod yn fwy poblogaidd yn ein bywydau dydd i ddydd. Ond, fel chi’n gweld, mae yna berig fod y dyfodol digidol hwnnw yn ddyfodol di-Gymraeg os na wnawn ni, wrth gwrs, ymateb i’r her honno.

Dyma yw hanfod fy nadl i—fod yn rhaid i’r Gymraeg fod ar flaen y gad dechnolegol ac mae hynny, wrth gwrs, yn mynd i fynnu gweledigaeth ac mae’n mynd i alw am weithredu. Nid yw hi’n ormodaeth, yn fy marn i, i gymharu’r sefyllfa yna heddiw—ac rwy’n gweld sefyllfa, gyda llaw, lle mae yna gyfleon yn ogystal â pheryglon—â digwyddiad hanesyddol dros 400 mlynedd yn ôl.

Ym 1588, mi benderfynwyd cyfieithu’r beibl am resymau gwleidyddol cymaint â dim rheswm arall, er mwyn ceisio cymhathu Cymru, a oedd yn eithaf uniaith Gymraeg ar y pryd, â’r wladwriaeth newydd a oedd yn datblygu. Ond, beth bynnag oedd y cymhellion, wrth sicrhau bod y beibl ar gael yn Gymraeg, fe roddwyd hwb enfawr i’r Gymraeg fel iaith fodern mewn byd oedd yn newid yn gyflym. Nid oes angen pwysleisio faint yn gyflymach mae’n byd bach ni’n troi erbyn hyn, gyda cyfryngau newydd yn datblygu a byd yr apiau a’r datblygiadau cyfrifiadurol yn syfrdanu ac yn swyno bron yn ddyddiol.

Felly, mae’r cyfnod o’n blaenau ni yn cynnig yr un heriau o ran newidiadau, ond y tro hyn ym myd technoleg, y we, a’r cyfryngau digidol. Mae’r cyfryngau digidol yn dod yn rhan fwyfwy canolog o’n bywydau ni, ac rŷm ni’n dechrau gweld cenhedlaeth newydd o offer yn cael eu rheoli gan ein lleisiau ni. Mae hyn yn her wahanol iawn, wrth gwrs, fe fuaswn i’n dadlau, i ddatblygiad diweddar e-lyfrau, er enghraifft, a’r we—rhywbeth ysgrifenedig a oedd yn caniatáu i’r Gymraeg ddatblygu’n naturiol oedd hyn, ac mae’r Gymraeg, fel y mae hi dros yr oesoedd, wedi profi i fod yn hynod o hyblyg fel iaith.

Mae technoleg sy’n dibynnu ar y llais, fodd bynnag, yn dra, dra gwahanol. Mae rhai pobl yn darogan mai dyma ddechrau’r diwedd i ieithoedd bychain fel y Gymraeg, ac y byddan nhw’n wynebu difodiant digidol—’digital extinction’—wrth i’r Saesneg eu gwthio nhw o’r neilltu. Dim ond Saesneg ac ambell i iaith fawr arall y mae Apple Siri, Amazon Alexa, Microsoft Cortana a Google Home a’u tebyg yn eu deall. Felly, os oes un o’r dyfeisiau hyn gennych chi, fe fyddwch chi’n siarad mwy a mwy o Saesneg yn eich cartref wrth ichi eu defnyddio nhw.

Rydw i’n ymwybodol o deuluoedd Cymraeg lle mae’r plant bellach yn siarad Saesneg o hyd â’r teclynnau yma yn y tŷ. Mae perig yn hynny, wrth gwrs, oherwydd mae’n newid rhywfaint o iaith y cartref, ac mae hynny’n destun loes i nifer o rieni, rwy’n gwybod. Ond pa fath o neges y mae hynny’n rhoi i’r bobl ifanc hynny o ran beth yw iaith technegau modern, beth yw iaith y dyfodol, a’r canfyddiad maen nhw’n ei gael wedyn o amherthnasedd y Gymraeg yn y dyfodol hwnnw?

Ond mae yna gyfle newydd hefyd yn agor i’r Gymraeg. Nid oes rhaid i’r dechnoleg yma fod yn elyn i’r Gymraeg. Fe all technoleg, fel y gair ysgrifenedig a’r gair print nôl ym 1588, helpu i gryfhau’r iaith, rhoi cyfryngau newydd iddi flodeuo ynddyn nhw, ac offer defnyddiol i gynorthwyo pobl i ddefnyddio’r iaith honno. Mae llwyddiant Say Something in Welsh fel cwrs dysgu Cymraeg ar y we yn rhywbeth y dylem ni gyd fod yn ei ddathlu.

Mae’r her yma hefyd yn gyfle i roi hwb i’r sectorau technoleg gwybodaeth a’r diwydiannau creadigol yng Nghymru, a defnyddio ein harbenigedd mewn dwyieithrwydd i ennill marchnadoedd newydd a chreu cynnyrch a gwasanaethau newydd gyda meddalwedd arloesol. Rwy’n gwybod am gwmnïau yng Nghymru sydd wedi datblygu meddalwedd sydd yn gallu gweithredu yn ddwyieithog sydd wedi ennill cytundebau ar draws y byd, oherwydd bod y gwledydd hynny yn chwilio am feddalwedd sy’n gallu gweithredu mewn mwy nag un iaith.

Rŷm ni i gyd bellach yn gyfarwydd â defnyddio geiriaduron electronig ar y we a’n ffonau symudol. Mae Geiriadur yr Academi a Geiriadur Prifysgol Cymru wedi’u digido, wrth gwrs. Mae’r Ap Geiriaduron gan Brifysgol Bangor wedi’i lawrlwytho dros 90,000 o weithiau ac yn cael ei ddefnyddio gan Gymry Cymraeg a dysgwyr fel ei gilydd. Rwy’n ymfalchïo yn y gwaith arloesol mae Prifysgol Bangor yn ei wneud yn y maes yma. Mae uned technolegau iaith Canolfan Bedwyr ym Mangor wedi gafael yn y syniad ac yn herio monopoli’r ieithoedd mawr ar dechnoleg y dyfodol.

Mae’n her hefyd i’r syniad fod cwmnïau enfawr y byd technolegol yn medru anwybyddu’r ieithoedd bychain a cheisio’n corlannu ni i ddefnyddio’r ychydig o ieithoedd mawr ymerodrol yma y maen nhw’n eu dewis. Mewn gwirionedd, mae’r ieithoedd bach gyda’i gilydd yn llawer mwy, wrth gwrs, nag ambell i un o’r ieithoedd mawr yma, ac mi allai cydweithio technolegol dyfeisgar a hyblyg ein rhoi ni ar y blaen, yn lle ein bod ni’n ceisio dal i fyny o hyd.

Mae technoleg testun i leferydd eisoes wedi cael ei defnyddio yn Gymraeg, a gwaith wedi cael ei wneud gan yr RNIB ac eraill ar gyfer pobl sydd â nam ar eu golwg nhw, er enghraifft. Ond, yn ogystal, wrth gwrs, mae ochr arall y dechnoleg, sef y gallu i siarad Cymraeg gyda’r cyfrifiadur, eisoes yn cael ei ddatblygu, fel y gwelwn ni â phrototeip Macsen, cynorthwyydd digidol personol, tebyg i Alexa a Siri, yn y Gymraeg. Prifysgol Bangor sydd wrth gefn i hyn hefyd, wrth gwrs. Os oes gen i ble penodol i’r Llywodraeth yn hyn oll, wrth gwrs, mi hoffwn i annog y Llywodraeth i barhau ac i ymestyn y buddsoddiad gwerthfawr sy’n cael ei wneud yn y gwaith allweddol mewn technolegau iaith yn y fan honno.

Nawr, yn y gorffennol, mi fanteisiwyd ar arian datblygu economi i ddatblygu technoleg Cymraeg, mi ddefnyddiwyd arian Ewrop, wrth gwrs, i ddatblygu technoleg lleferydd a thechnoleg cyfieithu, ac, ar hyn o bryd, mae yna ddau brosiect arwyddocaol i drosglwyddo gwybodaeth i ddiwydiant yn digwydd ym Mhrifysgol Bangor, lle cafodd y rhan fwyaf o’r ymchwil a’r gwaith datblygu yn y maes yma ei wneud hyd yn hyn. Mae grantiau bach technoleg a’r Gymraeg Llywodraeth Cymru hefyd wedi cynorthwyo’r maes, gan gynnwys y grant presennol i greu Macsen, y cynorthwyydd digidol Cymraeg cyntaf roeddwn i’n sôn amdano fe funud yn ôl. Mae cyfleoedd newydd yn agor nawr hefyd i ddefnyddio data mawr, ‘big data’, ar gyfer ieithoedd bychain fel y Gymraeg. Dyna pam mae’n bwysig bod Llywodraeth Cymru a sefydliadau cyhoeddus eraill yn ein gwlad ni yn gwneud eu holl data yn agored er mwyn cynorthwyo ymchwil a datblygu yn ein prifysgolion ac yn y sector breifat.

Mae’n amser i ni bellach edrych ar strategaeth dymor hir yn y maes yma, a buddsoddi o ddifri yn y technolegau hynny sy’n mynd i alluogi’r Gymraeg i gael chwarae teg yn y cyfryngau digidol. Ac o’i wneud yn iawn, mi all ymchwil a datblygu technolegau iaith, ie, hyrwyddo’r Gymraeg, ond hefyd, wrth gwrs, adfywio’r economi. Ar hyn o bryd, mae yna 1.5 miliwn o swyddi yn y sector digidol ym Mhrydain, ac mae’r sector yn mynd i dyfu’n aruthrol dros y blynyddoedd nesaf. Erbyn 2020, amcangyfrifir y bydd 100,000 o swyddi codio newydd ym Mhrydain—dwy flynedd a hanner i ffwrdd. Mae’r farchnad fyd-eang yn un amlieithog, wrth gwrs, ac mae galw mawr am feddalwedd a theclynnau digidol sy’n deall ieithoedd ar wahân i’r Saesneg, ac mae hynny’n rhywbeth sy’n tyfu fel marchnad yn gyson. Mi all Cymru fanteisio ar y ffaith ein bod ni yn wlad ddwyieithog er mwyn creu ei sector digidol, llewyrchus, ei hun, yn arbenigo mewn technolegau iaith. Byddai hynny’n sefyllfa o ennill dwbl i ni: ennill i’r Gymraeg ac ennill i’r economi Cymreig.

Wrth i ni wynebu colli arian Ewrop, mae’n bwysicach fyth fod buddsoddiad o du San Steffan ac o Lywodraeth Cymru yn dod i lanw’r bwlch yna. Rydw i’n croesawu, wrth gwrs, buddsoddiad o £1.3 miliwn mewn clybiau codio yng Nghymru, a gyhoeddwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet ar Addysg yn ddiweddar, yn enwedig gan, wrth gwrs, fod un o’r blaenoriaethau a grybwyllwyd bryd hynny yn sôn am gynyddu’r ddarpariaeth Gymraeg. Mae’n bwysig—yn allweddol—i ni hyfforddi’r genhedlaeth nesaf i fod yn barod i fanteisio ar gyfleoedd technolegau ddwyieithog ac amlieithog. Ond mae angen buddsoddiad cynaliadwy, sylweddol, o du Cynghorau Ymchwil Prydain, Llywodraeth Cymru, ac eraill, yn lle’r grantiau bychain, tameidiog, presennol yma. Dyma gyfle i ni gryfhau’r seilwaith ar gyfer technoleg a’r Gymraeg gyda gweledigaeth dymor hir ar gyfer y Gymraeg a’r economi yng Nghymru.

Mae nod y Llywodraeth, wrth gwrs, o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn her y gallwn ni ei chyflawni, ond mae angen i ni sylweddoli bod angen mwy na dim ond defnyddio y gyfundrefn addysg Gymraeg i gyflawni’r nod honno. Mae technoleg, a thechnoleg iaith yn benodol, yn hanfodol i helpu i wireddu’r uchelgais honno. Nawr, bydd y byd technolegol erbyn 2050, wrth gwrs, bron yn amhosib i ni ei amgyffred, wedyn, heddiw. Mi fydd fy mhlant i yn oedolion erbyn hynny, ac wedi’u trwytho a'u trochi, rydw i’n siŵr, yn y byd cyfrifiadurol a thechnolegol newydd yma. Mae'r cenedlaethau sydd i ddod angen gwybod bod holl fanteision y byd mawr newydd yma yn mynd i fod ar gael iddyn nhw yn y Gymraeg. Dyna yw'r her. Ac, o adnabod yr her ac ymateb iddi gyda menter a dyfeisgarwch, fe allwn ni fod yn genedl fwy hyderus wrth wynebu'r dyfodol digidol sydd o’n blaenau. Efallai, mewn 400 mlynedd, mi fydd haneswyr yn edrych yn ôl ar ein llwyddiant ni heddiw i ymateb i'r her yma yn yr un ffordd ac a wnaethpwyd bryd hynny—ac ein bod ni’n cydnabod ac yn gwerthfawrogi’r weledigaeth a’r fenter wleidyddol a ddangoswyd heddiw, ac nid dim ond yn ôl ym 1588.

Galwaf ar Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes i ymateb i’r ddadl. Alun Davies.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rydw i’n falch iawn o gael y cyfle i ymateb i’r ddadl yma. Rydw i’n falch iawn bod yr Aelod dros y gogledd wedi dewis y pwnc yma ar gyfer y drafodaeth. Rydw i’n meddwl, pan rydym ni’n trafod hybu a hyrwyddo’r iaith Gymraeg, nad oes digon o drafod amboutu’r pwnc yma, ac rydw i’n falch eich bod chi wedi dewis y drafodaeth yma y prynhawn yma. Rydw i’n edrych ymlaen at swyddogion y Senedd yn cyfieithu beth mae Siri wedi ei ddweud, hefyd. So, fe wnaf i wneud pwynt o edrych ar y Cofnod yn y bore.

Mae Llyr a finnau wedi trafod dros y Siambr yma sawl gwaith, ac rydw i’n gwybod bod Llyr yn hoff iawn o eiriau fel ‘her’ a ‘risg’. Mae’n well gen i’r ail air mae’n ei ddefnyddio, sef ‘cyfle’, achos rydw i’n meddwl bod rhaid inni ystyried y newidiadau rydych chi wedi eu trafod ac wedi eu disgrifio’n arbennig o dda y prynhawn yma fel cyfle ar gyfer yr iaith Gymraeg. Gormod o weithiau, pan rydym ni’n trafod yr iaith, rydym ni yn trafod mewn ffyrdd gwahanol a negyddol ac yn defnyddio geiriau a gosodiadau negyddol. Rydw i eisiau defnyddio geiriau positif, ac rydw i eisiau bod yn hynod o bositif amboutu sut rydym ni’n gallu sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn rhan o’r byd newydd yma ac hefyd yn gweithredu fel ffordd o arloesi ar gyfer y dyfodol, hefyd. Rydw i’n meddwl bod gan bob un ohonom ni gyfle i gyfrannu at hynny ond, yn amlwg, rydw i hefyd yn cydnabod bod gan y Llywodraeth gyfrifoldeb a rôl i arwain hefyd, ac rydw i’n mawr obeithio y bydd pobl yn gweld bod y Llywodraeth yma wedi bod yn arwain y ffordd rydym ni’n meddwl, a hefyd y ffordd rydym ni’n gweithredu. Rydw i’n credu bod y ddau ohonyn nhw yn bwysig.

Un o’r rhesymau, Dirprwy Lywydd, pam roeddem ni wedi dewis ac wedi cytuno ar y nod a’r amcan o greu miliwn o siaradwyr oedd oherwydd y penderfyniad bod rhaid i bethau newid. Gallwn ni barhau i reoli’r sefyllfa polisi iaith fel rydym ni wedi bod yn ei wneud dros y bron ugain mlynedd diwethaf, a rheoli’r ffordd rydym ni’n datblygu polisïau’r Gymraeg, polisïau dwyieithrwydd, safonau a phob dim arall. Ond, rydw i’n meddwl bod yna osodiad fan hyn, ar draws y Siambr, fod rhaid i bethau newid, ac mae hynny’n meddwl bod rhaid gwneud pethau’n wahanol. Os ydych chi’n edrych ar y pwnc yma a’r ffordd rydym ni’n ystyried y Gymraeg, mae technoleg a’r byd digidol yn ffocws clir ar gyfer y math o newid y mae’n rhaid inni ei weld, ac y mae’n rhaid i bob un ohonom ni ei arwain.

Rydw i’n gwybod y math o fyd y bydd ein plant ni’n rhan ohono fe: byd gwahanol iawn i’r byd y gwnes i dyfu lan ynddo—nid jest yn Nhredegar, ond ym mhob man. Pan ddechreuais i’r gwaith, roedd yna ‘typewriters’ yn y swyddfa, ac rydw i’n dal i gofio perswadio cydweithwyr i ddefnyddio nid jest ‘typewriters’ electronig—ac wedyn pan ddaeth y cyfrifiadur cyntaf i’r swyddfa roedd yna swyddfa arbennig ar gyfer y peth, gyda chyfleoedd bob dydd inni fynd i ymweld ag e. Pan rydw i’n dweud hyn wrth fy mhlant i, maen nhw’n edrych arnaf fi fel yr oeddwn i’n edrych ar fy nhad-cu flynyddoedd yn ôl. So, mae’r byd yn newid ac mi fydd newid yn batrwm parhaol o’r byd, ac rydw i’n falch iawn ein bod ni’n gallu—ac ein bod ni’n cydnabod hyn—ein bod ni’n gallu gwneud ymdrech nawr i hybu’r iaith yn y byd yma.

Rydw i’n gwybod bod yna gymaint o gynnwys, gwasanaethau, meddalwedd, apiau ac ati ar y we ac mae’n rhy rhwydd ambell waith i’r Gymraeg fod yn anweledig wrth gystadlu am sylw gyda ieithoedd eraill, ac yn enwedig Saesneg. Mae’n rhaid inni gydnabod hynny. Pan rydw i’n gweld fy mhlant yn gwneud gwaith cartref, maen nhw’n edrych ar y we ac mae byd y we yn fyd Saesneg ei iaith, wrth gwrs. Mae’n rhaid inni sicrhau bod yna Gymraeg yno. Mae’r farchnad dechnolegol yn un fyd-eang. Wrth lunio achosion busnes, mae cwmnïau mawr yn ffafrio ieithoedd gyda nifer fawr o siaradwyr wrth flaenoriaethu a dewis pa ieithoedd i’w cefnogi. Rydym i gyd yn gwybod hynny. Mae hyn yn meddwl ei bod yn anodd i’r Gymraeg allu cystadlu am sylw ambell waith.

Nid wyf yn meddwl bod yna unrhyw anghytundeb: ni fyddai neb wedi dychmygu Siri Apple, Amazon Echo neu Google Home. Mae’n rhaid i mi ddweud fy mod yn darllen yr enwau yma ac nid wyf cweit yn deall bob tro beth ydyn nhw. Pan ges i fy ethol i’r lle yma 10 mlynedd yn ôl, pe bai rhywun wedi dweud bod Siri yn mynd i wneud cyflwyniad fan hyn heddiw, ni fuaswn i ddim wedi deall beth oedden nhw’n sôn amdano. Ar hyn o bryd, dim ond dwy iaith—Saesneg ac Almaeneg—mae Amazon Echo yn eu deall. Mae Siri yn gallu deall, ‘apparently’, rhyw 20 o ieithoedd gwahanol, ond nid yw’r Gymraeg yn un ohonyn nhw eto, fel rydym wedi gweld y prynhawn yma. Maen nhw ar werth heddiw ac mae yna deuluoedd Cymraeg yn byw gydag Amazon Echo yn eu cartrefi. Mae’n rhaid i ni sicrhau, pan rydym yn gweld y teganau newydd yma, eu bod nhw yn gallu siarad Cymraeg a deall y Gymraeg, achos dyna sut rydym ni yn mynd i sicrhau y bydd y Gymraeg yn parhau i fod yn iaith y cartref lle mae teuluoedd yn siarad ac yn defnyddio y Gymraeg.

Ond rydym yn gwybod hefyd bod 65 y cant o bobl yn y byd yn siarad mwy nag un iaith, a rhai yn amlieithog. Fel gwlad ddwyieithog, mae gennym ni gyfle ac mae’n rhaid i ni sicrhau ein bod ni’n gallu gweithredu hyn fel mantais economaidd i ni yng Nghymru, nid jest yn fantais ddiwylliannol, ieithyddol i Gymru, ond mantais economaidd i ni hefyd. Sut ydym ni yn gallu sicrhau bod diwydiannau technolegol y dyfodol yn elwa o’n profiad ni o fod yn wlad ddwyieithog fan hyn yng Nghymru? Mae’n rhaid i ni sicrhau ein bod ni yn datblygu adnoddau digidol dwyieithog yn y Gymraeg ac yn Saesneg, ac yn gallu gwneud yr un peth gydag ieithoedd eraill. Unwaith rydym wedi dysgu sut rydym yn gallu defnyddio y ddwy iaith—yr iaith Saesneg a’r iaith Gymraeg—rwy’n siŵr y byddwn ni yn gallu defnyddio ieithoedd gwahanol hefyd i ddangos bod yna ffyrdd gwahanol o wneud elw economaidd o ble rydym ni.

Rwy’n gobeithio ac yn tybio ein bod ni’n gallu datblygu achos economaidd dros fuddsoddi mewn seilwaith technolegol iaith ar raddfa fawr: technoleg llais-i-destun Cymraeg a’r gallu i gyfieithu gyda pheiriannau. Tra ein bod ni yn teipio mewn i ffurflenni heddiw, byddwn yn siarad gyda theclynnau fwyfwy yn y dyfodol. Mae llais-i-destun, dysgu peirianyddol a deallusrwydd artiffisial Cymraeg—mae hynny’n dest i mi—yn mynd i fod yn hanfodol ar gyfer y dyfodol, ac mae’r Llywodraeth yma yn deall hynny. Ond rydym hefyd yn deall nad oes gan y Llywodraeth yr atebion i gyd, ac mae’n rhaid i’r Llywodraeth gydweithio gyda’r sefydliadau rydych chi wedi sôn amdanynt, fel Canolfan Bedwyr ym Mangor. Fe siaradais i mewn cynhadledd ym Mangor rai misoedd yn ôl. Rwy’n gwerthfawrogi’r math o allu sydd gennym ni, nid jest ym Mangor, ond yng Nghymru. Pan ges i’r cyfle yng Nghaeredin i siarad gydag arbenigwyr yn fanna hefyd, roeddwn i’n dysgu bod angen y math hwnnw o arbenigrwydd arnyn nhw hefyd. Felly, mae’n bosibl creu rhwydwaith wahanol a sicrhau bod y gallu a’r arbenigrwydd sydd gyda ni yn rhywbeth rydym yn gallu cydweithio gyda phobl arno, nid jest fan hyn, ond ar draws Prydain a mannau eraill hefyd.

Mae profiad y Cynulliad Cenedlaethol o ddefnyddio Microsoft Translator i gyfieithu’r Cofnod o’r naill iaith i’r llall yn dangos potensial cyfieithu peirianyddol ar gyfer y dyfodol. Sut ydym ni’n gallu adeiladu ar yr arfer da hwn? Mae yna gyfle i ieithoedd y byd gydweithio—y Gymraeg, Basgeg, Catalaneg, Gwyddeleg ac yn y blaen—i rannu adnoddau. Byddaf yn ymweld â Gwlad y Basg mewn cwpwl o wythnosau i ddysgu sut maen nhw yn gweithredu yn y ddwy iaith sydd ganddyn nhw, a beth sydd gennym ni i’w ddysgu gan Lywodraeth Gwlad y Basg i sicrhau ein bod ni yn cydweithio gyda’n gilydd ac i sicrhau bod y ddau ohonom ni yn ychwanegu at yr adnoddau sydd gennym ni i greu rhyw ‘critical mass’ o allu a phrofiad. Mae angen edrych ar y ffordd mae technoleg yn dod â chymunedau at ei gilydd a mynd â’r Gymraeg i leoedd newydd a chreu cymunedau o ddiddordeb—o Microsoft Cymraeg i gymunedau o ddysgwyr byd-eang. Mae gennym ni gyfle i wneud hyn, cyfle nad ydym erioed wedi ei gael o’r blaen.

Mae technoleg yn galluogi pobl i ddysgu Cymraeg mewn ffyrdd newydd. Er enghraifft, mae’r ganolfan dysgu Cymraeg wedi bod yn gweithio’n agos iawn yn ddiweddar gyda Duolingo, sef ap y mae llawer sy’n dysgu’r iaith yn ei ddefnyddio. I ddweud y gwir, mae dros hanner miliwn o bobl wedi cofrestru i ddefnyddio Duolingo Cymraeg, ac fe ges i’r cyfle i brofi hynny yn ystod Eisteddfod yr Urdd rai wythnosau yn ôl. Ond nid hwn yw’r unig wasanaeth ar-lein o’r fath chwaith. Mae Say Something in Welsh hefyd yn cynnig gwasanaeth tebyg i ddysgwyr ers rhai blynyddoedd. Felly, mae yna gyfle i ehangu’r Gymraeg, i ddyfnhau’r profiad o ddefnyddio’r Gymraeg, a sicrhau lle i’r Gymraeg ar gyfer y dyfodol. Rwy’n ddiolchgar iawn, Dirprwy Lywydd, i bawb sydd wedi bod yn gwneud y gwaith yma gyda’r arian rydym ni wedi gallu ei roi yn y blynyddoedd diwethaf. Mae rhai datblygiadau wedi cychwyn, ond hefyd, ni allwn ddim cystadlu gyda rhai o gwmnïau mawr y byd o ran maint y buddsoddiad. Felly, maen rhaid i ni ffeindio ffyrdd gwahanol o fuddsoddi yn y dyfodol.

Wrth ddatblygu technoleg newydd, sut ydym ni’n blaenoriaethu? Rwy’n meddwl bod gennym ni rôl fel Llywodraeth i fuddsoddi, ac rwy’n benderfynol o wario’r arian, yr amser a’r egni sydd gyda ni yn y ffordd orau posib. Dyna pam rwyf wedi creu grŵp o arbenigwyr, y bwrdd technoleg Cymraeg—pobl gyda phrofiad o dechnoleg Cymraeg—er mwyn cael cyngor i symud y maes yn ei flaen. Mi gawson ni gyfarfod arbennig o dda yn y llyfrgell genedlaethol yn Aberystwyth yr wythnos diwethaf, ac roeddwn yn falch iawn i weld y math o allu sydd gyda ni yn y byd Cymraeg i sicrhau bod gyda ni gyfle i fuddsoddi ein meddyliau ni a’n creadigedd ni yn y prosiect yma ar gyfer y dyfodol. Rwy’n gwybod hefyd bod nifer o bobl yn gwneud gwaith pwysig. Maen bwysig ein bod ni’n parhau i fuddsoddi, a’r sialens yw i sicrhau bod yr holl ymdrechion yma yn dod at ei gilydd.

Rwyf hefyd fel Gweinidog yn hapus iawn i ddefnyddio dylanwad y Llywodraeth i sicrhau ein bod ni’n dwyn perswâd ar gwmnïau technoleg mawr i ddefnyddio’r Gymraeg, a byddwn yn gwneud hynny hefyd. Mae’r maes digidol yn gyfle i feddwl yn wahanol ac i arloesi. Mae’n rhaid creu seilwaith gadarn digidol, ac mae’n rhan ganolog a phwysig o greu cadarnle i’r iaith ar gyfer y dyfodol. Dirprwy Lywydd, rwy’n hollol sicr, os ydyn ni’n cydweithio gyda’n gilydd, yn cydweithio gyda’r Llywodraeth, ac Aelodau o bob un rhan o’r Senedd yma, a gweithio gyda sefydliadau cenedlaethol, bod gennym ni gyfle i sicrhau lle i’r Gymraeg yn y dyfodol, a lle i arwain ar gyfer y Gymraeg ar gyfer y dyfodol. Diolch yn fawr.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:57.