Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

06/12/2016

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw cwestiynau i’r Prif Weinidog, a’r cwestiwn cyntaf, Llyr Gruffydd.

Effaith Cau Banciau ar Fusnesau

1. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effaith cau banciau ar fusnesau Cymru? OAQ(5)0322(FM)[W]

Er mai mater masnachol i’r banciau yw penderfyniadau am gau canghennau, rŷm ni’n cydnabod yr effaith negyddol mae hyn yn gallu ei chael ar fusnesau lleol. Rydym ni’n croesawu’r adolygiad diweddar gan yr Athro Griggs, sydd wedi gwneud argymhellion ynghylch gwella’r ffordd y mae banciau’n ymgysylltu â chymunedau.

Diolch i chi am eich ateb. Rydym yn gwybod, wrth gwrs, fod adroddiad Ffederasiwn y Busnesau Bach ym mis Hydref yn dangos yn glir yr effaith mae hyn yn ei chael ar fusnesau bach—er enghraifft, busnesau’n gorfod cau yn gynt a cholli busnes oherwydd bod yn rhaid teithio’n bellach i fancio’r arian. Ac mae’r British Bankers Association hefyd wedi dangos yn glir fod benthyca i fusnesau mewn ardaloedd lle mae canghennau wedi cau yn disgyn yn sylweddol. Felly, rydych chi wedi cyfeirio at yr adroddiad roeddech yn sôn amdano fe yn eich ateb. A allwch chi ymhelaethu ar beth yn union rydych chi’n mynd i’w wneud fel Llywodraeth, a pha drafodaethau rydych chi wedi’u cael gyda’r banciau, efallai, er mwyn edrych ar fodelau amgen o gadw gwasanaethau yn rhai o’r trefi yma sydd wedi colli canghennau?

Un o’r pethau rŷm ni wedi’i wneud yw sicrhau bod arian ar gael i swyddfeydd post, yn enwedig y rheini yn yr ardaloedd gwledig, er mwyn iddyn nhw allu sicrhau bod y gwasanaethau sydd ar gael ar hyn o bryd gan fanciau yn cael ei barhau ganddyn nhw, sef, er enghraifft, talu sieciau i mewn, tynnu arian allan. Ond byddwn i’n dweud wrth y banciau ei bod hi’n bwysig dros ben i sicrhau, lle mae busnesau yn defnyddio banciau ar hyn o bryd i ddodi arian gleision mewn i’r banc, fod yna adnoddau ar gael yn y dyfodol er mwyn gadael iddyn nhw wneud hynny, efallai mewn swyddfa bost neu mewn rhyw ffordd arall sydd yn gyfleus i’r busnesau hynny.

Yn y misoedd diwethaf, mae dau fanc mawr wedi cau canghennau yn Nelyn—HSBC yn y Fflint a Barclays yn Nhreffynnon, a NatWest yw'r diweddaraf i gyhoeddi ei fod yn cau ​​cangen yn Nhreffynnon hefyd. Er fy mod yn cydnabod y camau y mae’r banciau hyn wedi eu cymryd i sicrhau y gall cwsmeriaid bancio personol gael mynediad at eu cyfrifon yn y swyddfa bost, mewn llawer o ardaloedd, mae dyfodol y swyddfeydd post hyn yn bell o fod yn sicr hefyd. Ddydd Gwener yr wythnos diwethaf, roeddwn i’n trafod hyn yn siop torri gwallt Sweeney Ted yn Nhreffynnon—a gallaf gadarnhau bod pobl wedi cerdded allan â dim ond eu gwalltiau wedi eu torri—o ran y problemau a grëwyd yn sgil cau’r banc arall hwn a'r effaith benodol efallai ar gymunedau gwledig a’r busnesau hynny sy'n gorfod teithio ymhellach gyda symiau sylweddol o arian. Felly, rwy'n siŵr, eich bod, Brif Weinidog, yn rhannu fy mhryder i, a’r Aelodau eraill, am effaith cau’r canghennau hyn, a hoffwn ofyn pa gyngor a chymorth sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru i fusnesau bach yng nghanol trefi sy'n cael eu heffeithio gan achosion o gau o'r fath.

Wel, mae'n fater yn y pen draw o sicrhau bod swyddfa’r post yn gallu darparu'r math o wasanaethau bancio y byddai busnesau yn eu disgwyl. Mae natur bancio wedi newid dros y blynyddoedd. Mae llai a llai o bobl yn mynd i fanciau. Yr hyn sy'n gwbl hanfodol yw bod gan bobl y cyfleuster i godi arian, bod gan bobl y cyfleuster i adneuo sieciau ac arian parod mewn sefydliad ariannol a hefyd, wrth gwrs, bod busnesau bach yn gallu adneuo arian parod ar ddiwedd y dydd pan fydd eu busnesau’n cau. Mae'n hynod bwysig, lle mae banciau yn gadael cymunedau, bod y swyddfa bost yn gallu gwneud hynny, gan gynnig dilyniant gwasanaeth. A dyna pam, wrth gwrs, yr ydym ni wedi rhoi cymorth ariannol i swyddfeydd post dros y blynyddoedd, i sicrhau bod gan gymunedau eu swyddfeydd post sy'n gallu cynnig amrywiaeth eang o wasanaethau.

Brif Weinidog, efallai eich bod chi’n ymwybodol bod banc Lloyds yn cynnig cau tair cangen yn fy etholaeth i, a, Llywydd, dylwn i ddatgan diddordeb yn y cwestiwn hwn fel cyn-weithiwr ym manc Lloyds. Nawr, nid yn unig mae cau’r canghennau yma yn fy etholaeth i yn gwbl anghymesur â’r nifer sy’n cau ar lefel Brydeinig, ond maent yn hanfodol i lawer o bobl sy’n byw yn, ac o gwmpas, y cymunedau hynny, ac felly, bydd eu cau yn cael effaith ddinistriol. Rwy’n derbyn mai mater masnachol gan y banc yw hyn, ond, yn dilyn ymlaen ar y cwestiynau blaenorol, pa gefnogaeth benodol y gall Llywodraeth Cymru ei chynnig i’r cymunedau hyn, a beth all Llywodraeth Cymru ei wneud i helpu i liniaru’r effeithiau negyddol y bydd cau’r canghennau hyn yn eu cael ar gymunedau?

Rwy’n deall bod Trefdraeth, Abergwaun ac Aberdaugleddau â chynlluniau i’w cau nhw. Beth sy’n hollbwysig yw bod y gwasanaethau sydd ar gael ar hyn o bryd trwy’r banciau ar gael mewn ffordd arall os yw’r canghennau’n cau. Mae hynny’n meddwl gweithio drwy’r swyddfa bost er mwyn sicrhau bod y gwasanaethau ar gael drwy’r swyddfa bost. Mae hynny, wrth gwrs, yn sicrhau bod y gwasanaeth ar gael i bobl leol, ac yn sicrhau bod mwy o fasnach a gwaith i’r swyddfa bost, i helpu’r swyddfa bost i gadw i fynd hefyd. Ond beth na fyddwn i eisiau gweld—ac mae hyn yn rywbeth rŷm ni wedi sicrhau sydd ddim wedi digwydd yn yr ardaloedd gwledig yn enwedig—yw swyddfa bost yn cau hefyd ac felly’r gwasanaethau yn cael eu colli yn gyfan gwbl mewn cymuned. Byddai hynny’n rhywbeth y byddwn i ddim eisiau ei weld, a dyna pam, wrth gwrs, rŷm ni wedi bod yn eu cefnogi nhw’n ariannol.

Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004

2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am Adran 68 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004? OAQ(5)0318(FM)

Gwnaf. Mae'n galluogi Gweinidogion Cymru i ddirymu cynllun datblygu, os bydd awdurdod lleol yn gofyn iddyn nhw wneud hynny.

Iawn. Diolch, Brif Weinidog. Wel, yr wythnos diwethaf, fe wnaethoch chi ddisgrifio hyn fel lol; mae'n amlwg nad ydyw. Felly, yn gyntaf oll, a wnewch chi dderbyn eich bod chi’n anghywir yr wythnos diwethaf? Ac ail-ofynnaf y cwestiwn a ofynnais yr wythnos diwethaf: a wnewch chi gefnogi, yn y Siambr hon, achub safleoedd tir glas Caerdydd trwy bleidleisio i ddirymu'r CDLl?

Wel, materion i gyngor Caerdydd yw’r rheini. Yn anffodus, ni wrandawodd ar fy ateb. Yr wythnos diwethaf, dywedodd fod gan y Cynulliad y grym i ddirymu cynlluniau datblygu lleol. Nid yw hynny'n wir; Gweinidogion Cymru sydd â’r grym hwnnw. Yn y ddeddfwriaeth wreiddiol, yn 2004, cafodd y Cynulliad ei grybwyll, ond, wrth gwrs, trosglwyddwyd y pwerau hynny i'r Weithrediaeth yn dilyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Felly, unwaith eto, fel y dywedais, nid oes unrhyw bleidlais ar lawr y Cynulliad hwn. Mater i awdurdod lleol yw gwneud cais i ddirymu ei gynllun datblygu lleol, a chyfrifoldeb Gweinidogion Cymru wedyn yw ei ystyried, ac nid y Cynulliad Cenedlaethol ei hun.

Brif Weinidog, un o'r problemau gyda chynlluniau datblygu lleol yw bod awdurdodau lleol wedi eu cyfyngu gan y canllawiau a gyhoeddwyd gennych chi a'ch cydweithwyr yn y Cabinet. A’r broblem fawr sydd gennym ni yng Nghonwy a Sir Ddinbych—ardaloedd yr wyf i’n eu cynrychioli—yw bod y gofynion i adeiladu llawer o dai newydd yn gwbl anghynaladwy o ran y seilwaith lleol sydd yno. Beth ydych chi’n ei wneud i wella eich canllawiau ar y seilwaith y bydd ei angen, i sicrhau bod gwasanaethau meddygon teulu, ysgolion a ffyrdd, a gwasanaethau cymunedol eraill, ar gael i'r ardaloedd hynny o ddatblygiad newydd sy'n mynd i gael eu creu?

Wel, awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am hynny, ac mae offerynnau ar gael iddyn nhw, wrth gwrs. Mae adran 106 yn eu galluogi i chwilio am fudd cymunedol. Maen nhw’n gallu gweld seilwaith yn datblygu, pa un a yw hynny’n adeiladau fel ysgolion neu ffyrdd, trwy adran 106. Mae'r ardoll seilwaith cymunedol, wrth gwrs—a fydd yn cael ei datganoli yn fuan—yn ffordd arall y gellir sicrhau budd i gymuned leol. Mae'n dibynnu ar ba mor glyfar y mae awdurdod lleol yn barod i fod. Ond ni ddylai fyth fod yn wir bod datblygiad mawr yn digwydd heb unrhyw gyfraniad gan y datblygwyr at seilwaith, ac mae hynny'n rhywbeth y byddem ni’n annog awdurdodau lleol i’w wneud.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.

Diolch, Lywydd. Brif Weinidog, mae Llafur wedi arwain Llywodraeth Cymru ers 17 mlynedd. A ydych chi’n cymryd cyfrifoldeb am ganlyniadau’r Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr heddiw?

Wel, bu rhai gwelliannau mewn rhai meysydd yn y canlyniadau PISA, ond siom mewn eraill. Ac, o'n safbwynt ni, rydym ni eisiau gweld y daith yn parhau, oherwydd, os ydych chi’n credu bod profion PISA yn bwysig—ac rwyf i’n credu eu bod nhw’n bwysig—yna mae’n rhaid i chi gydnabod bod y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd ei hun wedi dweud ein bod ni’n gwneud y pethau iawn, a’n bod ni ar y trywydd iawn. Felly, mae'n fater o sicrhau ein bod ni’n parhau â'r hyn yr ydym ni wedi bod yn ei wneud. Nawr, nid fy ngeiriau i yw’r rheini—geiriau’r OECD yw’r rheini. Ni all neb fod yn hunanfodlon ac ni all neb dderbyn y sefyllfa fel ag y mae hi. Rydym ni wedi gweld rhai gwelliannau ond dim digon. Mae'n fater nawr o gadw ati, fel y mae’r OECD wedi ein cynghori i’w wneud.

Wel, mae hynny'n swnio'n eithaf hunanfodlon i mi, Brif Weinidog. Ac rwy’n credu ei fod yn dweud cryn dipyn na wnewch chi gymryd cyfrifoldeb am y canlyniadau yr ydym ni wedi eu gweld heddiw. Nawr, mae’r Llywodraeth Lafur wedi darogan gwelliant. Rydym ni wedi clywed hyn i gyd o'r blaen. Y llynedd, dywedodd eich Gweinidog addysg fod llawer iawn wedi digwydd ers canlyniadau siomedig profion 2012. Dywedodd hefyd,

rwyf yn rhagweld, ac rwyf yn gobeithio am welliant amlwg.

Felly, mae Llafur wedi addo gwelliant, ac nid ydych chi wedi cyflawni eto. Brif Weinidog, rydych chi eich hun wedi cyfaddef eich bod chi wedi cymryd eich llygad oddi ar y bêl pan ddaw i addysg. A'r canlyniad, heddiw, yw bod sgorau Cymru ar gyfer darllen yn waeth nag oedden nhw ddegawd yn ôl, mae sgorau Cymru ar gyfer mathemateg yn waeth nag oedden nhw ddegawd yn ôl, ac mae sgorau Cymru ar gyfer gwyddoniaeth yn waeth nag oedden nhw ddegawd yn ôl. Mae disgyblion, rhieni, athrawon yn haeddu'r gwelliant y dywedasoch fyddai'n digwydd. Brif Weinidog, pryd fyddwn ni’n gweld gwelliant? Ac, os gallwch chi ateb y cwestiwn hwnnw, a allwch chi hefyd ddweud wrthym, sut y gallwn ni eich credu chi?

Edrychwch ar y canlyniadau TGAU a byddwch yn gweld bod y canlyniadau hynny wedi gwella'n helaeth ers 2010, gwelliant o bron i 10 y cant o ran y rhai sy'n cael y graddau iawn ar lefel TGAU. Maen nhw’n galonogol. Rydym ni wedi gweld gwelliant mewn perfformiad mathemateg, ond siom o ran darllen a gwyddoniaeth. Felly, rydym ni yn gweld y bwlch yn cau. Rydym ni’n ffyddiog y bydd y bwlch yn parhau i gau yn y dyfodol, gan ein bod ni’n gweld y canlyniadau fel TGAU a Safon A, sy'n rhoi’r dystiolaeth i ni fod y system addysg yn symud i'r cyfeiriad iawn. Ond, fel y dywedais, nid oes rhaid i arweinydd yr wrthblaid gredu yr hyn yr wyf i’n ei ddweud, ond os yw’n derbyn, fel y dywedais, bod y profion PISA yn bwysig—ac mae hi, wrth gwrs—yna mae'n rhaid iddi dderbyn yr hyn y mae'r OECD, sy’n llunio’r profion hynny, yn ei ddweud wrthym ein bod ni’n symud i'r cyfeiriad cywir ac y dylem ni aros ar y trywydd iawn. Yr hyn y maen nhw'n gwbl glir ynglŷn ag ef yw na ddylem ni gael diwygio gwyllt neu ddiwygio eang yn sydyn nawr, ond yn hytrach bod y cyfeiriad yn gywir. Os oes ganddi ddewisiadau eraill yr hoffai eu cynnig, mater iddi hi yw hynny, ond rydym ni’n gwrando ar yr OECD. Rydym ni’n gweld bod llawer o le i wella, rydym ni’n derbyn hynny, ond rydym ni yn gwrando ar yr hyn y mae'r OECD yn ei ddweud o ran eu bod nhw’n dweud wrthym ein bod ni ar y trywydd iawn.

Brif Weinidog, chi yw’r Llywodraeth. Chi yw'r rhai sydd wedi addo gwelliant. Y rheswm yr wyf i’n gofyn i chi am y gwelliannau hynny yw bod gennych chi hanes o newid y meini prawf yn hyn o beth. Chi yw'r rhai sydd wedi dewis cymryd rhan lawn yn PISA a’i ddefnyddio fel meincnod credadwy. Ym mis Hydref 2014, gwaredwyd y targed o gyrraedd yr 20 uchaf yn y byd erbyn 2016. Cyflwynodd Llafur darged newydd ar yr adeg honno, i gyrraedd y cyfartaledd o 500 o bwyntiau ar gyfer darllen, mathemateg a gwyddoniaeth erbyn 2021. A allwch chi ddweud wrthym nawr: a ydych chi’n dal wedi ymrwymo i hynny, neu a ydych chi’n mynd i newid y meini prawf eto?

Rwy'n hyderus, pan fydd y canlyniadau PISA nesaf yn dod, y byddwn yn gweld mwy o welliant. Y rheswm pam rwy’n dweud hynny yw oherwydd fy mod i’n sôn am y canlyniadau TGAU a Safon Uwch. Rydym ni’n gweld dechrau’r gwelliant hwnnw mewn mathemateg. Rydym ni’n gweld y bwlch yn cau mewn meysydd fel darllen a gwyddoniaeth. Ond nid yw'n ddigon da—nid yw’n ddigon da. Mae gwaith i'w wneud o hyd.

Rydym ni’n gwybod, mewn gwledydd eraill lle gwnaed gwelliannau, bod y gwelliannau hynny’n cymryd blynyddoedd. Ni ellir gwneud gwelliannau mewn tair blynedd. Ydym, wrth gwrs rydym ni’n cymryd cyfrifoldeb. Ni yw’r Llywodraeth a ymunodd â PISA yn y lle cyntaf. Mae'n rhaid i ni dderbyn bod PISA yn ffordd y bydd system addysg Cymru yn cael ei mesur. Mae mwy o waith i'w wneud. Bydd yr Ysgrifennydd addysg yn amlinellu hynny’n fanylach pan fydd hi’n gwneud ei datganiad. Rydym ni’n gweld gwelliannau mewn rhai meysydd, ond, na, nid yw pethau fel y dylent fod, ac ni fyddwn byth yn fodlon. Byddwn bob amser eisiau gweld gwelliant yn system addysg Cymru, a dyna'n union yr hyn yr ydym ni’n dymuno ei weld a byddwn yn gweld hynny.

Diolch i chi, Lywydd. Brif Weinidog, os gallaf fwrw ymlaen â'r pwyntiau ar PISA eto, roedd yn nodedig yn eich ymatebion i arweinydd Plaid Cymru nad oedd gan yr un aelod o'r meinciau cefn y tu ôl i chi awydd gwrando arnoch chi. Roedd pob un ohonynt yn edrych ar eu cyfrifiaduron, a hynny'n briodol. Mae angen i’r Blaid Lafur fod â chywilydd yn sgil canlyniadau heddiw, ar ôl 17 mlynedd o arwain addysg yma yng Nghymru. Mae’n ddyfarniad damniol—dyfarniad damniol—ar eich methiannau, Brif Weinidog, ac ar allu'r Blaid Lafur i arwain addysg yma yng Nghymru.

Pan ddechreuasoch yn eich swydd fel Prif Weinidog bron i saith mlynedd yn ôl—rwy’n credu mai’r dydd Sadwrn hwn fydd yr union ddyddiad—nodwyd gennych yn briodol mai addysg oedd un o gonglfeini eich safbwynt polisi fel Prif Weinidog, ac rydych chi’n cyfeirio’n briodol at y dreftadaeth falch sydd gennych chi o fod yn fab i ddau o athrawon. Nawr, nodwyd gennych hefyd mai addysg oedd yr allwedd i ddatgloi llwyddiant i economi Cymru. Pam ar y ddaear nad yw’r allwedd hwnnw wedi cael ei droi er budd disgyblion yng Nghymru pan edrychwch chi ar y canlyniadau PISA heddiw?

Wel, rwyf eisoes wedi rhoi atebion manwl i arweinydd Plaid Cymru ac wedi derbyn nad oes lle i fod yn hunanfodlon a bod llawer o le i wella. Ond mae’n rhaid i mi ddweud, pan oeddwn i yn yr ysgol yn y 1980au, roedd yr ysgolion yn ofnadwy. Roedd yr adeiladau yn ofnadwy. Nid oedd gennym ni lyfrgell—roedd yn cwympo’n ddarnau. Roedd yr adeiladau—os oedd y ffenestri wedi torri, roedden nhw’n aros wedi torri. Roedd safon yr addysgu yn dda, ac roeddem ni’n ffodus o gael athrawon da. Ond dyna’r gwir amdani i’r rhai ohonom a aeth i ysgol gyfun a’r rhai ohonom ni sy'n cofio fel yr oedd pethau o dan y Torïaid.

Nawr, gadewch i ni archwilio polisi addysg ei blaid ef, os yn wir— [Torri ar draws.]

Iawn, gadewch i ni dawelu a gadael i'r Prif Weinidog barhau.

Gadewch i ni edrych ar bolisi addysg ei blaid ef, os oes un, mewn gwirionedd. Dwylo i fyny unrhyw un sy'n gwybod beth yw polisi addysg y Torïaid, y tu hwnt i dorri cyllid ar gyfer ysgolion. Fe wnaethant sefyll ar sail torri 20 y cant ar gyllid addysg. Maen nhw'n dal i ddweud y dylai cyllid ysgolion gael ei dorri. Nawr, rydym ni’n derbyn bod gwaith i'w wneud pan ddaw i wella addysg. Yr hyn na fyddwn ni byth yn ei dderbyn yw y dylai ysgolion gael llai o arian, sef yr union beth y mae e’n ei argymell.

Er mwyn popeth, Brif Weinidog, dangoswch rywfaint o ostyngeiddrwydd—er mwyn popeth. Cyfeirio yn ôl at y 1980au, cyfeirio at bolisïau—rydych chi mewn Llywodraeth. Chi yw’r Prif Weinidog. Mae'r Blaid Lafur wedi bod mewn Llywodraeth ers 1999. Rydych chi wedi anwybyddu cenhedlaeth. A ydych yn barod i anwybyddu cenhedlaeth arall? Eich Ysgrifenyddion addysg eich hun sydd wedi dod i'r Siambr hon dro ar ôl tro—. Dywedodd Huw Lewis, yn ôl yn 2013,

Rwy'n disgwyl gweld effaith ein diwygiadau yn cael eu hadlewyrchu yn y gyfres nesaf o ganlyniadau.

Dyma’r gyfres o ganlyniadau yr ydym ni’n edrych arni heddiw. Beth sydd wedi digwydd o ran darllen? Beth sydd wedi digwydd o ran gwyddoniaeth? Ac rydym ni’n dal i fod y tu ôl i'r ffigurau mewn mathemateg o 2006. Felly, pam na allwn ni ddisgwyl yn afresymol i chi ddangos rhywfaint o arweiniad? Mae gennych chi fandad newydd. Rwy’n eich llongyfarch chi ar y mandad hwnnw. Ond yr hyn na allwn ddygymod â mwy ohono yw mwy o'r un peth fel ein bod ni’n anwybyddu cenhedlaeth arall. Rhowch rywfaint o weledigaeth i ni, Brif Weinidog. Mae’r allweddi gennych chi, agorwch y drws.

Atseinio llestr gwag, mae’n rhaid i mi ddweud. Ond mae'n gofyn y cwestiwn am weledigaeth. Gadewch i mi ddweud wrtho, gadewch i mi ailadrodd wrtho yr hyn a ddywedais wrth arweinydd Plaid Cymru, sef hyn: mae’r OECD wedi dweud mai’r peth olaf y dylem ni fod yn ei wneud yw newid polisi addysg yn gyfan gwbl. Dyna’n union y maen nhw wedi ei ddweud. Maen nhw wedi dweud ein bod ni ar y trywydd iawn. Yr hyn y mae e'n ei argymell yw taflu popeth i fyny i'r awyr a chael amhariad llwyr, y gellid ei gyfiawnhau pe byddai’r OECD wedi dweud wrthym ein bod ni ar y trywydd anghywir—efallai y byddai ef yn iawn—ond nid dyna beth maen nhw’n ei ddweud. Yr hyn y mae’r OECD wedi ei ddweud yw, 'Rydych chi’n symud i'r cyfeiriad iawn, cadwch ati.' A dyna’n union yr ydym ni’n bwriadu ei wneud. Rydym ni’n gweld y gwelliannau hynny. Rydym ni wedi eu gweld mewn mathemateg, rydym ni’n eu gweld mewn TGAU a Safon Uwch, a byddwn yn parhau i’w weld yn y blynyddoedd i ddod.

Wel, gyda pharch, does dim ond rhaid i chi edrych ar yr hyn sydd wedi digwydd yn yr Alban o ran y canlyniadau heddiw pan fyddwch chi’n edrych ar rai o'r newidiadau sydd wedi digwydd mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Ond rwy’n eich dwyn i gyfrif am y weledigaeth y mae’n amlwg nad oes gennych ar gyfer addysg yn y dyfodol. Rwyf wedi dyfynnu Huw Lewis, sef Ysgrifennydd blaenorol y Cabinet. Rhywun y mae colled ar ei ôl o'r Siambr hon yw’r annwyl Leighton Andrews o'r Rhondda—ac rwy’n llongyfarch yr Aelod dros y Rhondda y collodd ei sedd iddi—ond, yn y pen draw, rhoddodd gynnig arni o leiaf. A dywedodd wrthym yn 2010 mai gonestrwydd, arweinyddiaeth a dull newydd o atebolrwydd oedd eu hangen. Roedd ef eisiau, erbyn y cam hwn yn y cylch—nid dwy flynedd yn ôl, ond yn 2010—i Lywodraeth Cymru fod wedi rhoi Cymru yn yr 20 uchaf. Nawr, cafwyd gwared ar hynny, fel y clywsom o’r holi cynharach, ac roeddech chi eisiau cyrraedd y marc 500. Nawr, dywedasoch eich bod yn hyderus eich bod chi’n mynd i gyrraedd y marc 500 marc y tro nesaf, ond nid ydym wedi clywed dim gennych chi heddiw i roi ffydd i ni na fyddwn yn yr un sefyllfa ymhen tair blynedd.

Pam ar y ddaear na allwch chi roi ymrwymiadau pendant a sicr yma heddiw o ran ein sefyllfa mewn tair blynedd pan fydd PISA yn cynnal ei gyfres nesaf o brofion, fel y gallwn ni farcio’r cerdyn sgorio bryd hynny o leiaf, Brif Weinidog, a pheidio â chael yr un hen esgusodion gan Ysgrifenyddion y Cabinet a'r Prif Weinidog yn sefyll yma yn beio pawb arall ac nid yn edrych yn ofalus yn y drych a meddwl pam mae popeth wedi mynd o chwith?

Fel y dywedais wrth arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, ni all ddweud ar y naill law bod y profion PISA yn gadarn—ac rwy’n cytuno ag ef am hynny—ond ar y llaw arall dweud y dylid anwybyddu’r cyngor yr ydym ni wedi ei gael gan yr OECD, sef yr hyn y mae'n ei ddweud. [Torri ar draws.] Mae'n dweud yn union hynny. Mae'r OECD wedi dweud ein bod ni ar y trywydd iawn ac y dylem ni barhau ar y trywydd yr ydym ni arno. Ni all anwybyddu hynny ac esgus nad yw hynny wedi cael ei ddweud, oherwydd mae hynny wedi ei ddweud.

Rwyf wedi gwrando'n ofalus arno fe a'i blaid dros y blynyddoedd o ran eu polisïau. Nid wyf yn gwybod dim o ran beth yw eu polisi addysg, y tu hwnt i dorri cyllid ysgolion a lled-glosio at ysgolion gramadeg, sef yr union beth y mae’r OECD wedi dweud na ddylai ddigwydd. Felly, ydy, mae’n ddarllen anghyfforddus. Nid wyf yn ei wadu. Mae'n arwydd na allwn ni fyth fod yn hunanfodlon. Rwy’n cytuno ei fod yn arwydd bod gwaith i'w wneud o hyd. Er bod rhai arwyddion o welliant, nid yw'n ddigon da. Mae mwy i'w wneud o hyd. Yr hyn na fyddwn ni’n ei wneud, fodd bynnag, yw cynhyrfu a thaflu popeth i fyny yn yr awyr pan ein bod yn gwybod bod y cyngor yr ydym ni wedi ei gael yn dweud y dylem ni gadw ar y trywydd yr ydym ni’n di ddilyn. Dyna’r hyn y mae’r OECD wedi ei ddweud.

Nawr, os yw’n barod i anghytuno â'r OECD a thaflu eu cyngor yn y bin, pan mai nhw yw’r union bobl sy'n trefnu’r profion hyn, yna mater iddo ef yw hynny. Ond nid yw'n rhywbeth y byddwn ni’n ei wneud fel Llywodraeth. Byddwn yn parhau i weld gwelliannau o ran TGAU, gwelliannau o ran Safon Uwch a symudiad tuag at well ffigurau ar gyfer PISA y tro nesaf.

Diolch yn fawr Iawn, Lywydd. Ers dydd Mawrth diwethaf, rwyf wedi cael y fantais o ddarllen achos argraffedig y Llywodraeth yn yr achos Goruchaf Lys, sy'n cael ei glywed heddiw. Ac ar wahân i'r hyn y mae'n ei ddweud ar y cychwyn y dylai canlyniad y refferendwm i adael yr UE gael ei barchu, mae’n llwyr anwybyddu'r ffaith fod pobl Prydain, trwy fwyafrif, wedi rhoi mandad i’r Llywodraeth ddechrau erthygl 50. Mae’r mandad hwnnw gan bobl Prydain yn cynnwys 26 o'r 29 sedd a enillodd y Blaid Lafur yn yr etholiad ym mis Mai ar gyfer y Cynulliad hwn. Er bod y geiriau coeth ar ddechrau'r achos hwn yn dweud y dylid parchu canlyniad y refferendwm, mae gweddill achos y Llywodraeth yn rhwystr yn ffordd parchu’r canlyniad hwnnw.

Wel, nid fi yw ustus y Goruchaf Lys ac nid yw ef, diolch i'r nef, yn gyfreithiwr. Felly, bydd yn rhaid i ni aros i weld a yw ei gyflwyniadau’n gywir ynteu rhai Llywodraeth Cymru sy’n gywir.

Wel, mae’r Prif Weinidog wedi cael y wybodaeth anghywir, oherwydd rwyf i yn aelod o'r Bar, fel y mae yntau. Ond nid dyna'r tro cyntaf y mae'r Prif Weinidog wedi dangos ei anwybodaeth yn y Siambr hon. [Torri ar draws.] Ond yn y 10 mlynedd diwethaf, mae'r Senedd yn San Steffan—[Torri ar draws.] Mae'r Senedd yn San Steffan—

Gadewch i'r Aelod gael ei glywed, os gwelwch yn dda. Hoffwn glywed y cwestiwn.

Yn y 10 mlynedd diwethaf, mae'r Senedd yn San Steffan wedi pasio dwy Ddeddf bwysig iawn i gyfyngu pwerau’r Llywodraeth o ran yr uchelfraint yn ymwneud â deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd—Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008, a Deddf yr Undeb Ewropeaidd 2011, sy'n darparu, o dan amgylchiadau penodol, na ddylai Llywodraeth wneud unrhyw benderfyniadau heb benderfyniad neu Ddeddf Tŷ'r Cyffredin, neu Ddeddf Seneddol, neu refferendwm. Nid yw’n cyfeirio at erthygl 50 yn yr un o'r Deddfau hynny. Felly, ni fwriadwyd i bwerau uchelfraint y Goron gael eu cyfyngu gan y Senedd yn y cyswllt hwn, ac mae ymgais Llywodraeth Cymru i rwystro’r dymuniad a fynegwyd gan bobl Prydain mewn refferendwm, pan bleidleisiodd 17.5 miliwn i adael yr UE, yn gwbl warthus.

Cyn i'r Prif Weinidog ateb, a gaf i ddweud wrth holl Ysgrifenyddion y Cabinet, yn enwedig yr un yr wyf yn edrych arno, nad oes angen unrhyw gefnogaeth ar y Prif Weinidog gan fainc y Cabinet—neu nid wyf yn credu bod angen unrhyw gefnogaeth arno. Brif Weinidog.

Wel, oni bai bod yr Aelod wedi ei gofrestru fel bargyfreithiwr sy'n ymarfer, nid yw’n gyfreithiwr. Nid wyf i, ac nid yw yntau ychwaith. Nid wyf wedi bod yn y llys ers 2000—Ionawr 2000. Ond dyna ni. Ond mae'n gwneud achos y dylai ei wneud i'r Goruchaf Lys, nid i mi—a dylem ni aros i weld beth fydd y Goruchaf Lys yn ei wneud. Ond sylwais fod cyn-arweinydd ei blaid—yr hwn a gamsillafodd enw etholaeth ddoe, wrth gwrs, yn enwog, ar y teledu—wedi bygwth arwain gorymdaith o 100,000 o bobl i'r Goruchaf Lys ddoe. Ni ddigwyddodd hynny, yn gwbl briodol, gan nad yw ond yn gywir y dylai barnwyr gael gwneud eu penderfyniadau eu hunain heb i bwysau gwirion gael ei roi arnyn nhw gan y cyfryngau a chan wleidyddion.

Hwn yw’r achos cyfansoddiadol pwysicaf, fel y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi ei ddweud wrthyf, ers Siarl I, ond heb yr un canlyniad i neb dan sylw, gobeithio. Ceir materion pwysig yma—nid yn unig o uchelfraint, ond o ran yr hyn y mae'n ei olygu i ddeddfwrfeydd Cymru a'r Alban, ac i Ogledd Iwerddon, yn enwedig o ran y materion yn ymwneud â’r ffin yno. Ac mae'r rhain yn faterion y mae'n rhaid eu datrys fel mater o gyfraith. Nid yw hyn yn rhywbeth sy’n mynd i atal canlyniad y refferendwm rhag digwydd—mae’n amlwg y bydd hynny’n digwydd, ond mae'n rhaid iddo gael ei wneud, does bosib, mewn ffordd gyfreithlon.

Oes, rwy’n cytuno’n llwyr. Ond mae Llywodraeth Cymru wedi ymyrryd yn yr achos Goruchaf Lys hwn er mwyn ceisio rhwystro dymuniadau pobl Prydain fel y’u mynegwyd yn rhydd mewn refferendwm. Fel arall, ni fyddai unrhyw bwynt ymyrryd yn yr achos yn y lle cyntaf. Mae'r Prif Weinidog wedi dweud sawl gwaith y bydd Llafur yn parchu canlyniad y refferendwm, ac felly ni fydd, neu di ddylai ASau Llafur, gael eu chwipio i bleidleisio yn erbyn dechrau erthygl 50. Wel, os na fydd ASau Llafur yn pleidleisio yn erbyn erthygl 50, beth ar y ddaear yw pwynt yr achos yn y lle cyntaf?

Wel, nid fi yw arweinydd yr wrthblaid yn San Steffan. Dyma’r egwyddor—rydym ni wedi cymryd y farn bod materion yn ymwneud ag erthygl 50 a fyddai'n effeithio ar bwerau’r lle hwn. Ac o ganlyniad, mae'n hynod bwysig, felly, bod sefyllfa pobl Cymru a'r Alban a Gogledd Iwerddon yn cael ei harchwilio fel ein bod yn gwybod, yn gyfansoddiadol, beth ddylai’r broses fod. Ni fyddem yn derbyn sefyllfa lle byddai'r uchelfraint yn cael ei defnyddio i leihau pwerau'r Cynulliad hwn, a dyna pam mae’n bwysig bod y Goruchaf Lys yn archwilio’r materion hyn er mwyn sicrhau bod yr hyn a wneir yn cael ei wneud, ond yn cael ei wneud yn gyfreithlon, does bosib. Nid oedd Brexit yn bleidlais yn ymwneud ag anwybyddu llysoedd na’r gyfraith. Dywedwyd wrthym ei fod yn ymwneud â grymuso Senedd y DU, ac eithrio pan ei fod yn anghyfleus. Nawr, gadewch i’r Goruchaf Lys wneud ei waith, gadewch iddo archwilio'r materion hyn yn fanwl, ac yna byddwn yn cael yr ateb sydd ei angen arnom cyn i’r broses symud ymlaen, fel, yn anochel, y bydd.

Newid yn yr Hinsawdd

3. Pa fentrau y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio arnynt i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd? OAQ(5)0316(FM)

Fe’u disgrifir yn ein strategaeth ar y newid yn yr hinsawdd. Rydym ni’n datblygu ymyraethau pellach nawr sy'n gweithio tuag at ein targed hirdymor o ostyngiad o 80 y cant i allyriadau erbyn 2050, gan sicrhau’r manteision economaidd, cymdeithasol a diwylliannol mwyaf posibl i Gymru.

Saith mlynedd yn ôl, Brif Weinidog, cyflwynodd Llywodraeth Cymru'n Un gynlluniau i sicrhau hunangynhaliaeth o ran cynhyrchu ynni o fewn 20 mlynedd. Nawr, mae traean o’r cyfnod hwnnw wedi mynd heibio eisoes, ac rydych chi’n dal i fod yn ymhell i ffwrdd o’r targed, ac ymhell y tu ôl i'r Alban pan ddaw i gynhyrchu ynni o ffynonellau adnewyddadwy. Yn ôl adroddiad tueddiadau ynni o fis Medi eleni, mae’r Alban yn cynhyrchu pedair gwaith yn fwy o ynni adnewyddadwy nag yr ydym ni’n ei wneud yma yng Nghymru. Brif Weinidog, beth sydd wedi digwydd i'ch uchelgais o ran ynni adnewyddadwy a mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd? A ydych chi’n dal o fod â’r nod hwnnw o hunangynhaliaeth?

Oes, mae gan yr Albanwyr fantais drosom ni, na fydd yno mwyach yn 2018, lle maen nhw’n rheoli'r broses gydsynio ar gyfer prosiectau ynni mawr, nad oeddem ni, ac roedd hynny'n anhawster mawr i ni. Dim byd dros 50 MW ar y tir, a dim byd dros 1 MW yn y môr. Ym môr y Gogledd, wrth gwrs, mae’r Albanwyr wedi bod yn llwyddiannus o ran datblygu gwynt ar y môr mewn ffordd nad oedd gennym ni unrhyw reolaeth drosto. Felly, nid oeddem ni’n gallu datblygu—er bod gennym ni leoedd fel Gwynt y Môr—ynni adnewyddadwy yn y ffordd y byddem ni’n dymuno. Ond o gofio 2018, a'r pwerau newydd a fydd yn dod i'r lle hwn, bydd hynny’n rhoi’r cyfle i ni ddal i fyny â’r Alban wedyn. Roedd yr Alban, mewn gwirionedd, ymhellach ymlaen na ni oherwydd y pwerau y gwnaethon nhw eu hetifeddu yn ôl ym 1999, gan gynnwys y pwerau yr oedd ganddyn nhw dros y grid, nad yw’n rhywbeth oedd gennym ni, ond y bydd gennym ni yn y dyfodol.

Sylwaf o ymateb y Prif Weinidog y bydd yn ystyried ein gallu i gynhyrchu ynni gwyrdd o'r môr fel ased sylweddol wrth fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd i Gymru fel cenedl llanw. Wrth i ni aros am benderfyniad Llywodraeth San Steffan am forlyn llanw bae Abertawe, a chroesawu’r fferm ynni'r llanw graddfa fawr gyntaf erioed oddi ar arfordir ynysoedd Orkney, a yw’n ymuno â mi i obeithio y gellir cymryd y camau rheoleiddiol sydd eto i'w cymryd yng Nghymru i fwrw ymlaen â'r morlyn yn gyflym fel ein bod yn cadw ein mantais cynigydd cyntaf? Ac a wnaiff ef gytuno i barhau i adolygu fframwaith ynni adnewyddadwy morol 2011 i wneud yn siŵr ei fod yn cadw’n gyfredol â newidiadau technolegol a newidiadau eraill yn y sector?

Yn sicr, rydym ni mewn sefyllfa dda i fanteisio ar ynni'r llanw yn arbennig. Rydym ni’n gwybod y gallai morlyn llanw bae Abertawe greu 1,900 o swyddi tybiedig yn ystod y gwaith adeiladu a thu hwnt. Mae'n hynod bwysig nawr bod Llywodraeth y DU yn cymryd y cam hwnnw o sicrhau bod yr hyn a fydd yn ffynhonnell ynni a fydd yn para am 100 mlynedd neu hwy yn dod i fodolaeth mewn gwirionedd, ac y gallwn gynhyrchu mwy o ynni yn rhatach dros 100 mlynedd, o ran ei ystyried felly, ond hefyd, wrth gwrs, mewn ffordd llawer glanach a gwyrddach.

Cyhoeddwyd yr wythnos diwethaf mai Abertawe yw’r 13eg mewn rhestr o drefi a dinasoedd â’r mwyaf o dagfeydd yn y DU, ac mae’n debyg bod hynny’n arwain at ostyngiad i gynhyrchiant y ddinas, yn ogystal â llygru'r aer. Dair blynedd yn ôl, gosododd cyngor Abertawe ei system nowcaster i fonitro lefelau llygredd aer, i nodi ansawdd aer gwael ac i ailgyfeirio traffig. Nid yw’n barod o hyd, er i Lywodraeth Cymru ymrwymo £100,000 o'i harian i'r system. Gyda’r nod o fynd i'r afael â’r newid yn yr hinsawdd, sut gwnewch chi gasglu data ar allyriadau carbon, sut gwnewch chi ddefnyddio'r data hynny a sut gwnewch chi ymdrin wedyn ag unrhyw bartneriaid yr ydych chi’n dibynnu arnynt i’ch helpu chi i gael y data hynny os na fyddant yn cyflawni?

Casglwyd y data drwy nifer o sefydliadau, ac mae Cyfoeth Naturiol Cymru, wrth gwrs, yn un ohonynt, fel y gallwn ddeall beth yw lefelau’r gronynnau yn rhai rhannau o Gymru—nid y PM10au yn unig ond y PM2.5au. Rydym ni’n gwybod os bydd traffig yn segur, yna mae hynny'n creu ansawdd aer gwaeth—mae twneli Bryn-glas yn enghraifft o hynny. Gwyddom fod gan Abertawe heriau yn yr ystyr bod ei rhwydwaith rheilffyrdd wedi diflannu fwy neu lai yn y 1960au ac nad oedd erioed mor integredig ag un Caerdydd. Serch hynny, ceir cynlluniau ar gyfer y dyfodol nawr ar gyfer metro bae Abertawe, a fydd yn gwneud llawer o ran galluogi pobl i ddod allan o'u ceir ac felly gwella ansawdd yr aer.

A yw'r Prif Weinidog yn cytuno, yn hytrach na gwario degau o filiynau o bunnoedd ar dyrbinau gwynt—y dywedir eu bod yn arbed tua 35 y cant o ynni yn unig, yn niweidiol i'r amgylchedd ac yn arwain at gostau ynni uwch i’r bobl dlotaf yn y wlad, gan, gyda llaw, roi symiau mawr o arian ym mhocedi tirfeddianwyr cyfoethog—y byddai'n well gwario'r arian ar welliannau i gartrefi, fel inswleiddio, ffenestri dwbl a gosod boeler newydd, a fyddai’n fwy effeithlon o ran lleihau llygredd amgylcheddol, ond a fyddai hefyd o fudd cadarnhaol i'r tlawd mewn cymdeithas?

Roedd honna’n ergyd rad at arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn fy marn i. [Chwerthin.] Nid yw'r Aelod yn ymwybodol, rwy’n gwybod, ond mae'n Nadolig wedi'r cwbl. Y gwir yw nad oes dim pwynt dim ond rhoi’r modd i bobl wneud eu cartrefi'n fwy effeithlon o ran ynni. Ydy, mae hynny'n bwysig, ond nid yw'n ddigon ynddo’i hun. Mae'n hynod bwysig ein bod ni’n parhau i gael mynediad at gronfeydd ynni wrth gefn sydd â chymysgedd o ynni. Mae’r Aelod yn iawn i ddweud na all popeth gael ei wneud gydag ynni gwynt, ond mae’n sicr bod ganddo ran i'w chwarae, ac mae hynny’n wir yn llawer iawn o economïau ledled y byd. Mae'n sôn ei fod yn niweidio’r amgylchedd—mewn gorsafoedd ynni glo, a'r glo sy’n cael ei ennill i’w bwydo, gwneir hynny mewn ffordd niweidiol iawn i'r amgylchedd. Mae gan gymunedau sy'n byw drws nesaf i safleoedd glo brig rywbeth cryf iawn i'w ddweud am hynny. Y gwir yw bod pawb eisiau i’r goleuadau ddod ymlaen. Mae hynny'n golygu bod yn rhaid i ni gael modd o gynhyrchu pŵer. Mae gwynt am ddim. Mae'n rhaid adeiladu’r seilwaith, mae hynny'n wir. Bydd y llanw bob amser yno cyn belled ag y bo’r lleuad yno. Mae'n gwneud synnwyr llwyr i mi i harneisio’r ffynonellau hyn o bwerau sydd nid yn unig yn lân ac yn wyrdd, ond, yn y tymor hwy, yn llawer rhatach a dweud y gwir.

Cydlyniant Cymunedol

4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gydlyniant cymunedol? OAQ(5)0309(FM)

Gwnaf. Lansiwyd ein strategaeth cydlyniant cymunedol yn 2009 ac fe'i diweddarwyd yn ddiweddar. Cefnogir ei darpariaeth ledled Cymru gan wyth cydgysylltydd cydlyniant cymunedol rhanbarthol, wedi’u lleoli mewn awdurdodau lleol a chymeradwywyd cyllid i barhau'r gwaith hwn yn 2017-18 gan yr Ysgrifennydd Cabinet fis diwethaf.

Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ymateb yna. Yr wythnos diwethaf, dywedodd yr Aelod Seneddol dros Aberafan bod yn rhaid i ni symud oddi wrth amlddiwylliannedd a thuag at gymathu, a bod yn rhaid i ni sefyll dros un grŵp: pobl Prydain. A wnaiff y Prif Weinidog gondemnio’r sylwadau hyn yn blwmp ac yn blaen, ac a wnaiff ef roi sicrwydd i’r Cynulliad hwn nad yw safbwyntiau o'r fath yn gynrychioliadol o bolisi Llywodraeth Cymru, ac a wnaiff ef ymuno â mi i ddathlu amrywiaeth gyfoethog y wlad hon?

Ni chlywais i’r sylwadau, a dweud y gwir, ond yr hyn y gallaf ei ddweud yw na fu achlysur erioed yn hanes yr ynys hon pan fu un diwylliant, erioed. Mae wedi bod yn ynys amlddiwylliannol erioed, boed o ran crefydd, boed o ran amrywiaeth ieithyddol, boed o ran lliw croen pobl. Y gwir yw bod pobl gyda chroen du wedi bod ar yr ynysoedd hyn ers y drydedd ganrif; mae'n gamargraff i feddwl bod hyn yn rhywbeth newydd. Mae wedi bod yn wir erioed bod Prydain wedi bod yn amlddiwylliannol, ac mae hynny'n rhywbeth y dylem ni ei ddathlu, nid ei ofni.

Yng nghynllun cyflawni cenedlaethol Llywodraeth Cymru ar gydlyniant cymunedol ar gyfer 2016-17, dywedodd y Gweinidog cymunedau a threchu tlodi ar y pryd, Lesley Griffiths:

Rydym yn symud tuag at hinsawdd newydd lle mae Cymru o gymunedau cydlynol yn rhan o’r amcanion cenedlaethol drwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Bydd hyn yn sicrhau bod cydlyniant yn parhau i fod wrth wraidd sut mae Cyrff Cyhoeddus yn cyflawni polisïau a gwasanaethau yn y dyfodol.'

A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu barn Llywodraeth Cymru ar y sefyllfa o ran cydlyniant cymunedol yng Nghymru ar hyn o bryd, a pha gamau y gellir eu cymryd yn y dyfodol i’w wella ymhellach?

Cyfeiriaf yr Aelod eto at yr ateb a roddais yn gynharach o ran y cynllun cydlyniant cymunedol ac, wrth gwrs, gwaith y cydlgysylltwyr rhanbarthol o ran sicrhau bod y cynllun hwnnw’n cael ei ddatblygu. Rydym ni’n gwybod y bu heriau yn dilyn Brexit ble, mewn rhai cymunedau, y bu cynnydd mewn troseddau casineb. Mae hynny'n rhywbeth yr wyf yn gobeithio sydd dros dro ac nid yn rhywbeth, yn amlwg, sy’n duedd sy'n peri gofid i ni ar gyfer y dyfodol. Rydym ni’n gwybod bod cymunedau cydlynol yn gymunedau hapusach. Pan nad yw pobl yn gwrthdaro â'i gilydd, yna mae eu bywydau yn well o ganlyniad i hynny, a byddwn yn parhau i wneud yn siŵr bod yr hyn yr ydym ni’n ei wneud o ran hybu cydlyniant cymunedol yn helpu i gynyddu ymdeimlad pobl o les, gan gyd-fynd hefyd, wrth gwrs, â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Er bod comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol wedi dweud mai'r nod yw gwneud cyrff cyhoeddus i feddwl mwy am yr hirdymor, gan weithio'n well gyda phobl, gyda chymunedau a gyda’i gilydd, a cheisio atal problemau rhag codi a rhoi sylw i faterion cyffredin trwy fabwysiadu dull mwy cydgysylltiedig, rhywbeth sydd hefyd yn cael ei adlewyrchu mewn dyletswyddau sy'n ofynnol o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, mae gormod o awdurdodau lleol yn dal i ddehongli hyn ar sail hierarchaidd, 'rydym ni’n penderfynu yn gyntaf ac yna’n ymgynghori'. Sut gwnewch chi, felly, o’r diwedd, weithio gyda rhwydwaith gyd-gynhyrchu ardderchog Cymru gyfan, sy’n darparu prosiectau ar y sail hon ar lawr gwlad, gan alluogi pobl broffesiynol a dinasyddion i rannu grym a gweithio gyda'i gilydd mewn partneriaeth gyfartal? A hefyd, mae un o'r sefydliadau, Oxfam Cymru, yn benodol wedi galw ar eich Llywodraeth i ymgorffori'r dull bywoliaethau cynaliadwy ym mhob polisi a darpariaeth o wasanaethau yng Nghymru, gan helpu pobl i nodi eu cryfderau eu hunain er mwyn mynd i'r afael â phroblemau craidd sy’n eu hatal nhw a'u cymunedau rhag gwireddu eu potensial.

Ni ellir gorfodi cydlyniant cymunedol. Mae’n rhaid iddo dyfu yn organig o lawr gwlad er mwyn iddo fod yn gynaliadwy ac yn gadarn, ac felly byddwn yn disgwyl i awdurdodau lleol weithio mewn gwir bartneriaeth gyda sefydliadau sydd â phrofiad o ddarparu ar lawr gwlad er mwyn gwneud yn siŵr bod cydlyniant yn gadarn yn y cymunedau y mae awdurdodau lleol yn eu gwasanaethu.

Polisi Amaeth

5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisi amaeth Llywodraeth Cymru yn sgil y penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd? OAQ(5)0320(FM)[W]

Mae amaeth yn ddiwydiant a hefyd yn ddiwylliant, byddwn i’n dweud, allweddol i Gymru, o ran y bwyd mae’n ei gynhyrchu, y cyfraniad economaidd mae’n ei wneud a’r budd cyhoeddus ehangach sy’n deillio ohono. Yn dilyn y refferendwm, rydym ni wedi bod wrthi’n cynnal trafodaethau â rhanddeiliaid ynglŷn â’r weledigaeth i’r dyfodol ar gyfer y maes hwn.

Diolch, Brif Weinidog, ac rwy’n cytuno bod amaeth yn aml iawn yn ddiwylliant gymaint ag yn ddiwydiant, ac yn cynnal ein diwylliant ni. Ond mae’n amlwg erbyn hyn fod yna rai sy’n elyniaethus i ddatganoli yn defnyddio y cyfle yn dilyn y penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd fel ffordd o ddatgloi, drwy’r drws cefn, y broses ddatganoli sydd wedi rhoi’r pwerau dros amaeth a’r amgylchedd i ni fan hyn yn y Cynulliad. Wrth gwrs, mae arweinydd y Ceidwadwyr yma yn y Siambr, yn anffodus, yn un o’r rheini. A wnewch chi, felly, Brif Weinidog, ymuno â Phlaid Cymru a gydag unrhyw un arall yn y Siambr sydd am wneud hyn, mewn ymgyrch ar draws y pleidiau, gyda mudiadau cefn gwlad a’r undebau ffermwyr, i sicrhau, beth bynnag a ddaw yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd, na fyddwn ni’n colli yr un pŵer dros amaeth a chefn gwlad Cymru?

Rwyf wedi dweud hyn o’r dechrau, wrth gwrs, fod amaeth wedi cael ei ddatganoli. Nid cyfle yw hwn i dynnu pwerau oddi wrth bobl Cymru; dim o gwbl. Efallai bod yna achos i ystyried rhai pethau fel, fel rwyf wedi dweud o’r blaen, iechyd anifeiliaid i gael rhyw fath o bolisi sydd ar draws Prydain Fawr, ond dim ond drwy gytuno, ac nid bod San Steffan sy’n dweud, ‘Hyn sy’n mynd i ddigwydd ar yr ynys hon, ac nid oes dewis gyda chi yng Nghymru na’r Alban.’ Felly, cytundeb sy’n bwysig fan hyn, ac nid dim byd arall. Efallai y byddai’n werth siarad am ryw fath o fframwaith eithaf llac a chyffredinol, ond siarad a chytuno sy’n hollbwysig i hyn. Na, nid yw hwn yn gyfle i dynnu pwerau oddi wrth ffermwyr Cymru, Llywodraeth Cymru na phobl Cymru.

Rwy’n siŵr y byddwch chi’n ymwybodol, Brif Weinidog, bod problemau gweinyddu i ffermwyr sydd â thir sy'n gorwedd ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr o ran y cynllun taliadau sylfaenol sydd, bob blwyddyn, yn arwain at oedi mewn gwneud taliadau. Mae rheolau Ewropeaidd ynghylch hawlwyr trawsffiniol yn ei gwneud yn ofynnol i bob asiantaeth taliad sengl yng Nghymru a Lloegr fod ag asiantaeth ar wahân. A ydych chi’n teimlo, o ganlyniad i’r DU yn gadael yr UE, bod cyfle yma i gael system sy'n gallu datrys y broblem oherwydd, yn amlwg, mae hwn yn fater arwyddocaol i lawer o ffermwyr yn Sir Drefaldwyn?

Byddai hyn yn golygu, wrth gwrs, bod Llywodraeth Cymru yn cymryd drosodd taliadau i ffermwyr yn Lloegr, gan ein bod ni’n llawer gwell fel asiantaeth taliadau ac wedi bod ers blynyddoedd lawer o ran talu ac o ran cyflymder taliadau, a'r peth olaf y byddai ffermwyr Cymru ei eisiau, rwy’n amau, fyddai gweld y Rural Payments Agency yn dosbarthu cymorthdaliadau ffermio yng Nghymru. Bu problemau ynghylch ffermydd trawsffiniol; mae e’n iawn am hynny. Y rheswm am hynny yw oherwydd bod yr RPA wedi bod yn araf o ran darparu data i ni. Ceir gwell ffyrdd o wneud pethau, mae cymaint â hynny’n wir, ond rwy’n credu y byddai'n anfon ias i lawr esgyrn cefn y rhan fwyaf o ffermwyr Cymru pe byddent yn canfod y byddai’n rhaid iddyn nhw wynebu'r un oediadau ag y mae eu cydweithwyr wedi eu hwynebu yn Lloegr.

A wnaiff y Prif Weinidog gytuno â mi bod gadael yr Undeb Ewropeaidd yn rhoi cyfle gwych i ni yng Nghymru lunio polisi amaethyddol yn unol â’n hanghenion ein hunain? Bydd UKIP yn chwarae ei rhan lawn i helpu Llywodraeth Cymru ddatblygu polisi o'r fath, sy'n ei gwneud hyd yn oed yn fwy annealladwy y dylai'r Llywodraeth fod yn dilyn y trywydd y mae’n ei ddilyn yn y Goruchaf Lys heddiw fod pwerau'r Cynulliad hwn yn mynd i gael eu lleihau rywsut. O ganlyniad i adael yr UE, byddwn yn cael mwy o rym yn y Cynulliad, nid llai. Mae hyn yn rhywbeth y dylem ni fod yn edrych ymlaen ato ac yn ei groesawu, nid yn ceisio ei rwystro a’i atal.

Nid dyna farn arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, wrth gwrs. Pa un a yw’n torri tir ei hun yn hynny o beth, i ddefnyddio term y bydd yn gyfarwydd ag ef, neu pa un a yw’n siarad fel rhyw fath o ddirprwy ar ran Llywodraeth y DU, dim ond fe sy’n gwybod, ond mae wedi dweud ei fod yn credu bod hwn yn gyfle i gymryd pwerau oddi ar bobl Cymru ac, yn wir, oddi ar Lywodraeth Cymru—barn nad yw'n cael ei rhannu gan yr undebau ffermio. Mae wedi ei ddal yn ei fagl ei hun yn hynny o beth.

Yr un mater, a nododd undebau'r ffermwyr hyn yn gywir y bore yma, y mae angen i ni ei gael yn gwbl gywir, yw mynediad at y farchnad sengl. Maen nhw’n gwybod yn iawn faint o drychineb y byddai os na chânt werthu yn y farchnad honno ar yr un telerau. Yr anhawster, bod pan ddaw i gytundebau masnach rydd, yw bod amaethyddiaeth yn cael ei hepgor bron bob tro. Mae gwledydd yn amddiffynnol iawn o'u hamaethyddiaeth. Rydym ni’n gwybod y byddai rheolau Sefydliad Masnach y Byd, pe byddent yn cael eu gorfodi ar amaethyddiaeth, yn golygu tariff o 70 y cant ar gig oen o Gymru sy'n mynd i mewn i Ewrop. Ni all ffermio yng Nghymru wrthsefyll y math hwnnw o dariff. Ac felly, rwy’n ei gymryd ar ei air, ond mae’n rhaid i mi ddweud wrtho mai’r hyn sy’n gwbl hanfodol i—. Wel, ceir dau beth sy'n hanfodol i ddyfodol ffermio yng Nghymru: sicrwydd ynghylch cymorthdaliadau ar ôl 2020 a dosbarthiad teg o'r arian—nid cyfran Barnett, fel arall byddem ni 75 y cant i lawr o ble’r ydym ni nawr; ac, yn ail, y gallu i werthu ym mhrif farchnad ffermio Cymru, sef yr Undeb Ewropeaidd. Felly, byddai unrhyw fath o rwystr, os bydd ffermwyr Cymru yn wynebu’r rhwystr hwnnw o ran gwerthu i Ewrop, yn—ac rwy’n dewis fy ngeiriau yn gwbl fwriadol yma—drychinebus i ffermio yng Nghymru, a dyna pam mae’n rhaid i fynediad llawn a dilyffethair at y farchnad sengl fod yn egwyddor ddiffiniol i unrhyw Lywodraeth y DU yn ei thrafodaethau â'r UE.

Metro De Cymru

6. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyllid ar gyfer Metro De Cymru? OAQ(5)0317(FM)

Gwnaf. Amcangyfrifwyd mai £734 miliwn fydd cost prosiect cam 2 y metro a bydd y gost derfynol yn cael ei phennu yn ystod trafodaethau caffael. Nid yw’r cyllid hwnnw’n cynnwys arian cyfatebol o gronfa datblygu rhanbarthol Ewrop, yr ydym ni’n disgwyl i Lywodraeth y DU ei anrhydeddu o ran darparu’r cyllid hwn.

Ie. Diolch, Brif Weinidog. Rwy'n falch eich bod chi wedi cyfeirio at yr addewid gan Lywodraeth y DU i ddarparu arian cyfatebol. Dywedodd Paul Maynard, Gweinidog trafnidiaeth y DU, yn benodol wrth Lywodraeth Cymru i wneud cais am gyllid cronfa datblygu rhanbarthol Ewrop, felly a ydych chi’n cytuno nad yw'r bleidlais Brexit o reidrwydd yn unrhyw rwystr i fwrw ymlaen â phrosiect metro de Cymru?

Nid o ran bwrw ymlaen ag ef, ond o ran ei faint, bydd, bydd o bosibl yn lleihau ei faint. Os nad yw'r elfen cyllid Ewropeaidd o £125 miliwn yn cael ei roi ar gael gan Lywodraeth y DU, yna mae'n amlwg na all y metro fynd yn ei flaen ar yr un cyflymder ac o ran yr un uchelgais ag y byddai wedi ei wneud fel arall. Felly, oes, mae bwlch o £125 miliwn y mae’n rhaid i Lywodraeth y DU ei lenwi, fel arall ni all prosiect y metro fod mor uchelgeisiol ag y byddem ni’n dymuno iddo fod, er, yn amlwg, gall symud ymlaen, ond nid yn union yn y ffordd y byddem ni wedi ei ddymuno.

Perfformiad y Gwasanaeth Ambiwlans yn Ne Cymru

7. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am berfformiad y gwasanaeth ambiwlans yn ne Cymru? OAQ(5)0311(FM)

Mae perfformiad ambiwlansys ledled Cymru wedi bod yn hynod gadarnhaol ers cyflwyno'r cynllun arbrofol model ymateb clinigol, gan ragori ar y targed ym mhob mis yn y flwyddyn gyntaf—y targed cenedlaethol, hynny yw—ym mhob mis yn ystod blwyddyn gyntaf y cynllun arbrofol.

Rwy’n croesawu’r newyddion hynny, ac mae'n hynod gadarnhaol. Mae'n hanfodol bwysig i’m hetholwyr i gan fod yr amser ymateb i’r problemau hynny sy’n bygwth bywyd yn gwneud gwahaniaeth mawr, yn amlwg, i'w bywydau, ond hefyd i'w teuluoedd, o wybod bod y sicrwydd ganddyn nhw y bydd ambiwlans, ar alwad goch, yno mewn da bryd.

Mae'n amlwg, fodd bynnag, fod gennym ni’r broblem barhaus hon yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon o ran gwastraffu amser ambiwlansys mewn unedau damweiniau ac achosion brys. Nid yw’n unigryw i Gymru ac mae wedi bod yn hir a pharhaus. Rwy'n credu bod yr un cais rhyddid gwybodaeth wedi awgrymu bod dros 500,000 o oriau wedi eu gwastraffu yn y DU. Wrth gwrs, mae'r rhain yn ambiwlansys a allai fod allan yn gwneud y gwaith da y mae angen iddyn nhw ei wneud yn hynod effeithlon. Tybed beth allwch chi ei ddweud o ran sut yr ydym ni’n rhoi sylw i'r mater hwn, nid yn unig nawr wrth i ni wynebu pwysau’r gaeaf hefyd, ond yn y blynyddoedd i ddod hefyd. Gwnaed cynnydd aruthrol o ran yr amser ymateb galwad coch, ond sut ydym ni’n ymdrin â’r oriau gwastraff hynny sy’n eistedd yno y tu allan i adrannau damweiniau ac achosion brys? Nid mater i Gymru’n unig yw hwn. Sut ydym ni am wneud hyn yn iawn ar draws yr holl wahanol wledydd hefyd?

Mae sawl ffordd o’i wneud. Un yw gwneud yn siŵr bod pobl yn cael eu hasesu'n briodol pan fyddant yn cyrraedd o ran ble maen nhw’n mynd i gael triniaeth, gan sicrhau y gall ambiwlansys adael cyn gynted â phosibl. Mae hynny'n golygu canolbwyntio adrannau damweiniau ac achosion brys mewn canolfannau penodol ledled Cymru. Rydym ni’n gallu cynnig rhywfaint o arbenigedd—mae hynny wedi bod yn anodd—ond er hynny rydym ni’n gwybod ei fod yn rhoi canlyniad gwell i bobl. Byddwn yn dweud ein bod ni’n gweld gwelliant o ran amseroedd aros ambiwlansys mewn adrannau damweiniau ac achosion brys drwy'r amserau ymateb i'r galwadau lle y ceir y bygythiad mwyaf uniongyrchol i fywyd. Mae'r ffaith bod mwy a mwy o'r galwadau hyn yn cael eu cyrraedd o fewn yr amser a neilltuwyd yn arwydd bod ambiwlansys yn gadael adrannau damweiniau ac achosion brys yn gyflymach fel arfer. Bydd, mi fydd rhai pwysau o bryd i’w gilydd ar rai dyddiadau, pan fo nifer fawr o bobl yn cyrraedd yn annisgwyl. Ond mae e'n iawn, os edrychwch chi ar y galwadau lle y ceir y bygythiad mwyaf uniongyrchol i fywyd, mae’r amser ymateb yng Ngogledd Iwerddon yn 51.2 y cant; oddeutu 65 y cant yn Lloegr; 66.4 y cant yn yr Alban; a 79.5 y cant yng Nghymru. Mae hynny’n glod i’r parafeddygon sydd gennym ni yng Nghymru ac yn wir Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru,.

Cefnogi Ffermwyr yn Sir Benfro

8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi ffermwyr yn Sir Benfro? OAQ(5)0308(FM)

Rŷm ni’n gweithio i gynorthwyo’r diwydiant ffermio yn sir Benfro, fel ym mhob rhan o Gymru, i sicrhau bod y diwydiant yn gallu gwneud mwy o elw, yn fwy cynaliadwy ac yn gallu bod yn fwy cadarn.

Brif Weinidog, mae ffermwyr yn sir Benfro yn poeni’n enfawr ynghylch cynigion eich Llywodraeth chi i gyflwyno parthau perygl nitradau yng Nghymru oherwydd bydd yn heriol yn ariannol i ffermwyr gydymffurfio ag unrhyw reoliadau newydd sydd yn cael eu cynnig yn yr ymgynghoriad. Felly, o ystyried eich sylwadau ym mis Gorffennaf ei fod e’n lan i Lywodraeth Cymru nawr i benderfynu pa gyfreithiau y dylid cael eu cadw neu na ddylid cael eu cadw yn dilyn penderfyniad Prydain i adael yr Undeb Ewropeaidd, a allech chi egluro pam mae Llywodraeth Cymru wedi bwrw ymlaen â’r ymgynghoriad yma i gyflwyno parthau perygl nitradau, sydd o ganlyniad i gyfarwyddeb Ewropeaidd, oherwydd bydd cyflwyno rheoliadau fel hyn yn sicr yn gadael ffermwyr yn fy etholaeth i o dan anfantais enfawr?

Mae carthffosiaeth ‘nitrates’ yn broblem mewn rhai rhannau o Gymru. Nid oes osgoi hynny; mae’n rhaid inni ddelio gyda hwn achos yr effaith negyddol mae’n ei gael ar yr amgylchedd. Mae’n bwysig dros ben i wrando; rŷm ni’n deall hynny. Mae’r ymgynghoriad ar agor tan Nadolig, ond fe oedd yna gyfarfod rhwng swyddogion a hefyd cynrychiolwyr o’r undebau a ffermwyr ym mis Hydref i ddelio gyda’r materion hyn, ac roedd y cyfarfod hwnnw’n un positif. Roedd y ffermwyr ei hunain yn moyn sicrhau eu bod nhw’n ystyried ffyrdd i sicrhau bod llai o’r ‘nitrates’ yn mynd i mewn i’r dŵr ac eisiau gweithio, felly, gyda'i gilydd a gyda’r Llywodraeth er mwyn sicrhau nad yw hynny’n digwydd yn y pen draw.

Datganiad yr Hydref Llywodraeth y DU

9. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr arian cyfalaf ychwanegol a bydd Llywodraeth Cymru yn ei gael yn dilyn y cyhoeddiad yn Natganiad yr Hydref Llywodraeth y DU? OAQ(5)0323(FM)

Gwnaf. Er gwaethaf y cyfalaf ychwanegol o £442 miliwn, bydd y gyllideb gyfalaf yn dal yn 21 y cant yn is yn 2019-20 nag yr oedd yn 2009-10.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud ei gorau glas i amddiffyn gwasanaethau cyhoeddus yn wyneb toriadau'r Torïaid o San Steffan, ond mae cyni cyllidol parhaus wedi golygu’n anochel y bu’n rhaid gwneud dewisiadau anodd, a bu gostyngiad sylweddol i’r gyllideb ar gyfer y rhaglen cyfleusterau a gweithgareddau cymunedol. Gwn fod hon yn ffynhonnell werthfawr o gyllid i lawer o grwpiau cymunedol yng Nghymru a gwnaeth Canolfan Pobl Ifanc Cwmbrân yn fy etholaeth i, sy'n gwneud gwaith ardderchog, gais yn ddiweddar dim ond i ddarganfod bod dyfodol y rhaglen mewn perygl. Yng ngoleuni'r arian cyfalaf ychwanegol, a wnewch chi drafod hyn gyda chydweithwyr yn y Cabinet, gyda’r nod o sicrhau y gallwn ni geisio parhau’r cymorth hynod werthfawr hwn i grwpiau cymunedol yng Nghymru?

A gaf i ddiolch i'r Aelod, fy nghyd-Aelod, am y cwestiwn yna? Un pwnc yw hwn ymhlith llawer yr ydym ni’n eu hystyried fel Llywodraeth o ran sut yr ydym ni’n dyrannu arian newydd. O ran y rhaglen cyfleusterau cymunedol, ni fu gwerthusiad hyd yn hyn—mae'n dal i fod yn eithaf cynnar yn oes y rhaglen—ond mae ymweliadau monitro a gynhaliwyd â phrosiectau a gwblhawyd yn dangos bod y cyfleusterau’n cael eu defnyddio'n rheolaidd ac yn gynaliadwy i'r dyfodol. Ceir dewisiadau anodd o ran yr hyn y byddwn ni’n ei wneud gyda chyllid yn y dyfodol, ac rwy'n credu ei bod yn deg i ddweud mai dim ond y ceisiadau gorau un a all ddisgwyl denu cyllid CFP yn y dyfodol a byddwn yn gweld beth y gellir ei roi ar gael yn ystod trafodaethau sydd gennym ni o ran ymdrin ag unrhyw adnoddau ychwanegol y byddwn ni’n eu cael gan Lywodraeth y DU.

2. Cwestiwn Brys: RJ's o Wem

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

Rwyf wedi derbyn dau gwestiwn brys o dan Reol Sefydlog 12.66, ac rydw i’n galw ar Llyr Gruffydd i ofyn y cwestiwn brys cyntaf.

Yn dilyn penderfyniad y Comisiynydd Traffig i ddirymu trwydded gweithredwr cerbydau gwasanaeth cyhoeddus RJ's o Wem, a wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol gwasanaethau bysiau yng ngogledd-ddwyrain Cymru? EAQ(5)0096(EI)[W]

Member
Ken Skates 14:18:00
The Cabinet Secretary for Economy and Infrastructure

Gwnaf. Rydym ni wedi bod yn gweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ac awdurdodau lleol eraill yn y gogledd-ddwyrain ers peth amser i helpu i nodi a chefnogi rhwydwaith bysiau lleol cynaliadwy. Byddwn yn parhau i weithio gyda nhw a gydag eraill, gan gynnwys Bus Users Cymru a Busnes Cymru, er mwyn helpu i greu amgylchiadau lle gellir cyflawni rhwydwaith bysiau cynaliadwy.

Wel, diolch i chi am eich ateb. Nid wyf yn siŵr a yw’n dweud llawer mwy wrthym, yn arbennig am y gwasanaethau a fydd yn cael eu colli mewn wythnos neu ddwy. Yn dilyn y traed moch a waned o sefyllfa GHA Coaches dros yr haf, wrth gwrs, y peth olaf y mae ei angen arnom yw rhagor o ansicrwydd ynghylch y gwasanaethau dros y Nadolig a chyfnod y flwyddyn newydd. Nawr, rwy’n deall bod proses dendro newydd ar y gweill, ond, mae'n debyg, gyda dyddiad cychwyn newydd ar y contract, sef 1 Ebrill 2017. Felly, a wnewch chi ddweud wrthym ba un a yw hynny'n golygu na fydd unrhyw wasanaethau yn y cyfamser, a goblygiadau hyn ar deithwyr sydd angen y gwasanaethau i fynd i'r gwaith, i addysg, ac i gael mynediad at wasanaethau hanfodol?

Siawns, na fyddai dirymu’r trwyddedau hyn yn syndod o ystyried hanes GHA Coaches, felly beth ddigwyddodd i wiriadau diwydrwydd dyladwy a’r sefyllfa ariannol pan roddodd yr awdurdod lleol y contract i RJ o Wem? Siawns, y gellid bod wedi rhagweld hyn, ac onid yw hynny'n codi'r cwestiwn ynghylch sut y cawsant y contract yn y lle cyntaf?

Bydd, bydd yr Aelod yn ymwybodol o ddadlau lleol yn sgil cyhoeddi contract RJ o Wem â’r cyngor. Lluniodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam gontract ag RJ gan wybod bod y cyfarwyddwyr gynt yn goruchwylio GHA Coaches. Nawr, mae colli'r drwydded weithredu yn golygu y bydd Cyngor Wrecsam yn gyfrifol am asesu amgylchiadau a blaenoriaethau lleol, gan gynnwys unrhyw wasanaeth y gellir ei ddarparu i'r trigolion hynny nad oes gwasanaeth ar gael iddynt, o bosibl, am gyfnod ar ôl 19 Rhagfyr, pan fydd y drwydded yn cael ei dirymu. Gallaf ddweud wrth yr Aelod heddiw fy mod i ar hyn o bryd yn ystyried cynnig cymorth ariannol i awdurdodau lleol yn y gogledd, a byddaf yn penderfynu yn ystod y dyddiau nesaf i helpu gyda'r pwysau sydd nid yn unig yn wynebu Wrecsam, ond hefyd Sir y Fflint a Sir Ddinbych. Rwyf hefyd wedi penderfynu darparu arian ar gyfer adnodd bws pwrpasol yn yr awdurdodau lleol i sicrhau y gellir gwarantu cynaliadwyedd y rhwydwaith bysus.

Mewn datganiad ym mis Hydref, dywedasoch wrth y Cynulliad

‘rwyf wedi cael fy synnu a fy nhristáu gan dranc diweddar a sydyn dri chwmni bysus lleol’,

gan gynnwys GHA Coaches, sy'n darparu gwasanaethau ar lwybrau bysiau ysgol ar draws y gogledd-ddwyrain yn ogystal â Swydd Gaer a Swydd Amwythig. Fodd bynnag, ysgrifennwyd atoch adeg eich penodi ym mis Mai—saith wythnos cyn cau GHA Coaches—gan amryw gwmnïau a sefydliadau yn datgan na fyddent yn gallu cynnal eu gwasanaethau pe bai grantiau yn parhau i gael eu derbyn yn hwyr, a’u bod mewn perygl o gau oherwydd y problemau llif arian yr oedd hyn yn eu hachosi—wrth gwrs, gan gyfeirio at y grant cynnal gwasanaethau bws, sydd hefyd yn ariannu cynlluniau trafnidiaeth gymunedol. Mae’r broblem yn Sir y Fflint wedi ei chymhlethu gan gynnig unigryw y cyngor i drosglwyddo gwasanaethau bws i'r gymuned, er gwaethaf y darparwyr cludiant cymunedol rhagorol sydd ar gael yno, gan ddatgan nad ydynt yn gwmnïau bysiau ac nid oes diddordeb ganddynt mewn darparu gwaith bws cymunedol. Sut, felly, byddwch chi’n mynd i'r afael â'r materion hyn, nid yn unig oherwydd y problemau presennol neu sydd ar fin digwydd, ond hefyd y problemau mwy yn y dyfodol a fydd yn effeithio ar ddefnyddwyr llwybr bysiau y gymuned a’r gymuned ehangach o ran parhad a thalu ymlaen llaw y grant cymorth gwasanaethau bysiau, gan nodi na allwn aros am adolygiad arall yn y flwyddyn newydd, mae angen yr arian hwn yn eu cyfrifon banc cyn dechrau’r flwyddyn ariannol nesaf?

Rwy'n credu bod y feirniadaeth o Gyngor Sir y Fflint yn benodol yn sgil cymhelliant gwleidyddol, os caf ddweud hynny, oherwydd bod awdurdodau lleol eraill yn defnyddio gwasanaethau GHA. Y ffaith amdani yw bod Cyngor Sir y Fflint—mewn gwirionedd, yn wahanol i awdurdodau lleol eraill—wedi cadw grant cynnal gwasanaeth o fwy nag £1 miliwn. O ganlyniad i hyn, maent wedi gallu adfer gwasanaethau mewn sawl rhan o Sir y Fflint. A dweud hynny, ar hyn o bryd rwy'n ystyried adnoddau ychwanegol i awdurdodau lleol y gogledd-ddwyrain allu goresgyn yr hyn yr wyf yn gobeithio eu bod yn anawsterau tymor byr, a gallu casglu’r pwerau sydd eu hangen arnom dros wasanaethau bws, ac i newid ddigwydd mewn gwirionedd. Rwy’n cydnabod bod yr Aelod wedi adlewyrchu pryderon gweithredwyr bysiau a fynegwyd yn gynharach yn yr haf, ond, mewn gwirionedd, bu’r pryderon hynny yn bodoli ers dadreoleiddio, a fu, a dweud yn blaen, yn drychinebus.

O ran y cymorth yr ydym yn ei gynnig i awdurdodau lleol, er gwaethaf y toriadau ariannol enfawr i'n cyllideb, rydym ni wedi cynnal, ar £25 miliwn, lefel y gefnogaeth i awdurdodau lleol am sawl blwyddyn bellach. Fel yr wyf wedi’i ddweud ar sawl achlysur, byddem yn gobeithio y byddai awdurdodau lleol yn dangos lefel debyg o ymrwymiad i wasanaethau bysiau drwy gynnal y math o gymorth y mae Cyngor Sir y Fflint wedi ei wneud. Byddwn yn parhau i weithio gyda Bus Users Cymru, a gyda sefydliadau eraill, wrth i ni ddechrau’r flwyddyn newydd a’r uwchgynhadledd fysiau yr wyf wedi penderfynu ei chynnal ar 23 Ionawr yn Wrecsam.

3. Cwestiwn Brys: Canolfan Feddygol Rhiwabon

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Rydw i’n galw nawr ar Mark Isherwood i ofyn yr ail gwestiwn brys.

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am Ganolfan Feddygol Rhiwabon yn Wrecsam, sydd wedi dod â’i chontract gyda’r GIG i ben ar ôl methu â llenwi dwy swydd wag am feddygon? EAQ(5)0095(HWS)

Nid yw’r geiriad gennyf mewn gwirionedd, ond a fydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gwneud datganiad ar y cyhoeddiad y bydd meddygfa deulu yn cau yn Wrecsam?

Member
Vaughan Gething 14:25:00
The Cabinet Secretary for Health, Well-being and Sport

Mae meddygfa Rhiwabon wedi rhoi rhybudd i'r bwrdd iechyd y bydd yn terfynu ei chontract ar 31 Mawrth 2017. Mae'r bwrdd iechyd sy'n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau gofal iechyd wedi ysgrifennu at gleifion i’w sicrhau na fydd y feddygfa yn cau, ac y bydd gwasanaethau yn parhau.

Caiff yr Aelod ofyn cwestiwn atodol mewn munud. Os yw cwestiwn yn un brys, dylid ei ofyn mewn modd brys, ac rwy’n disgwyl i Aelodau fod yn barod i ofyn cwestiynau brys y tro nesaf. Ond gofynnwch eich cwestiwn atodol.

Diolch am hynny, ac rwy’n ymddiheuro. Mae'r feddygfa, Canolfan Feddygol Rhiwabon, y diweddaraf i gyhoeddi y bydd yn terfynu ei chontract GIG â'r bwrdd iechyd oherwydd ei bod yn methu â llenwi dwy swydd meddyg wag. Fis diwethaf, practis Rashmi ym Mae Colwyn oedd yn gwneud y cyhoeddiad hwn. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydym ni wedi gweld yr un peth yn digwydd ym Mhrestatyn, Rhuddlan, Wrecsam, Conwy, a dywedodd Dr Charlotte Jones, cadeirydd y pwyllgor arfer cyffredinol o Gymdeithas Feddygol Prydain:

Mae’r ffaith bod meddygfeydd yn rhoi eu contractau yn ôl i'r bwrdd iechyd yn arwydd amser real o sut y mae rhai practisau cyffredinol mewn cyflwr enbyd ac yn ystyried mai hyn yw’r unig ateb sydd ar gael iddynt.

Rhybuddiodd pwyllgor meddygol lleol gogledd Cymru mewn cyfarfod yn y Cynulliad ym mis Mehefin 2014 fod arfer cyffredinol yn y gogledd yn wynebu argyfwng, wrth i sawl practis fethu â llenwi swyddi gwag, ac wrth i lawer o feddygon teulu ystyried ymddeol. Yn gynnar eleni, ysgrifennodd meddygon teulu y gogledd at Brif Weinidog Cymru, yn ei gyhuddo o beidio â bod yn ymwybodol o realiti’r heriau sy'n eu hwynebu. Sut, felly, ydych chi’n ymateb i'r pryder a fynegwyd gan Goleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol yn y Cynulliad ym mis Mehefin eleni, fod angen y model tîm amlddisgyblaethol sy’n cael ei gyflwyno yn lle hynny gan y bwrdd iechyd yn y gogledd, ond y mae'n seiliedig ar fodel tramor lle mae cymhareb uwch o feddygon teulu i ddisgyblaethau eraill, ac y bydd yn colli'r golwg cyfannol a’r dilyniant y mae meddygon teulu yn eu darparu, gan niweidio lles cleifion, a bod angen i'r bwrdd iechyd weithredu ar adegau—dylai weithredu—ni ddylai aros am argyfwng i weithredu? Dylai fod wedi gweithredu ymhell ymlaen llaw, fel y dylai Llywodraeth Cymru, o ystyried y blynyddoedd o rybuddion y mae wedi’u cael.

Diolch am y cwestiwn. Mae nifer o bractisau dan reolaeth uniongyrchol byrddau iechyd. Mae'n cynrychioli llai na 5 y cant o gyfanswm y practisau meddygon teulu, sy'n cymharu â'r sefyllfa yn yr Alban. Bu cynnydd bach dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf. Rydym yn cydnabod bod heriau gwirioneddol ar gyfer dyfodol gofal sylfaenol, ac rydym yn cydnabod, ynghyd â Chyngor Meddygol Prydain a choleg brenhinol yr ymarferwyr cyffredinol, y bydd angen newid y ffordd y caiff gofal sylfaenol ei ddarparu yn y dyfodol. Dyna pam mae gennym fodel o glystyrau, sy’n dwyn practisau ynghyd i gefnogi ei gilydd, i weithio gydag aelodau eraill o'r tîm gofal sylfaenol ehangach—fferyllwyr therapyddion, a gofal cymdeithasol a phartneriaid eraill hefyd. Rydym yn cydnabod bod heriau sylweddol y tu hwnt i’n rheolaeth. Mae'r newidiadau i’r pensiwn, er enghraifft, wedi arwain at nifer o feddygon teulu yn ystyried gadael y practis yn gynharach. Dyna pam yr ydym yn hapus i weithio gyda’n cydweithwyr ym maes gofal sylfaenol. Dyna pam mae gennym dasglu gweinidogol ei nod uniongyrchol yw gwella'r cynnig i Feddygon Teulu yng Nghymru yn rhan o dîm ehangach. Dyna pam yr wyf i wedi cael trafodaeth lwyddiannus iawn â’r partneriaid hynny a'r grŵp ehangach o weithwyr proffesiynol gofal sylfaenol.

Nid oes unrhyw beth hunanfodlon am y Llywodraeth hon. Rydym yn cydnabod bod angen newid gofal sylfaenol ac rydym yn dymuno gweithio gyda phartneriaid i gyflawni hynny i sicrhau bod pobl yn derbyn gofal sylfaenol o ansawdd uchel. Bydd yn cael ei drefnu a'i ddarparu mewn ffordd wahanol, ond y prif bwynt yw, bydd yn ofal sylfaenol o safon uchel i helpu pobl i ddiwallu eu hanghenion gofal iechyd, a, gobeithio, i helpu mwy o bobl i osgoi cyflyrau iechyd hirdymor yn y dyfodol hefyd.

Nodaf y cysylltwyd â chleifion i roi tawelwch meddwl iddynt nad yw'r practis hwn mewn perygl o gau. Ond mae pobl yn anesmwyth iawn, ar hyd a lled Cymru, wrth i un feddygfa ar ôl y llall gau ei drysau neu ddirwyn ei chontract i ben. Fel yn Rhiwabon, yr hyn a welwn mewn llawer o fannau eraill yw methiant i allu recriwtio'r nifer digonol o feddygon teulu i gadw’r practis ar agor, a dyna pam mae angen i ni weithredu ar yr argyfwng o ran hyfforddi a recriwtio a chadw meddygon mewn gofal sylfaenol â llawer mwy o frys nag sydd i’w weld yn sicr ar hyn o bryd. Nid wyf yn awgrymu nad yw Llywodraeth yn gwneud dim am y peth, ond y brys hwn y mae angen i ni weld llawer mwy o dystiolaeth ohono.

Mae’r hyn yr ydym yn ei weld yn Rhiwabon yn digwydd lawer yn rhy aml bellach yn Betsi Cadwaladr. Yn flaenorol, mae eich Llywodraeth wedi awgrymu nad yw dod â gwasanaethau meddygon teulu yn fewnol yn broblem. Rydych yn hapus â hynny. Nid yw hyn wedi ei ystyried yn rhywbeth a ddylai fod o bryder mawr. Gallai rhai ystyried hyn yn arwydd y byddech yn fwy na bodlon gael gwared ar y model contractwyr annibynnol beth bynnag. Felly, efallai nad ydych yn gwneud digon i helpu meddygfeydd recriwtio nes iddynt allu mynd yn fewnol. Fe’ch gadawaf i roi sylwadau ar hynny. Ond, a wnewch chi gomisiynu ymchwil annibynnol sy’n edrych ar yr effaith ar gleifion pan fydd hyn yn digwydd? Oherwydd nhw yw’r rhai pwysicaf yn hyn i gyd.

Diolch i chi am y gyfres o gwestiynau. Nid wyf yn derbyn eich sylwadau agoriadol bod un feddygfa ar ôl y llall yn cau ei drysau fel petai symud eang. Mae dros 95 y cant o bractisau yn dal i reoli eu hunain. Mae awgrymu fel arall yn or-ddweud nad yw'n cael ei gadarnhau gan y ffeithiau. Darperir y mwyafrif llethol o wasanaethau gofal sylfaenol a meddygon teulu trwy’r model contractwyr annibynnol. Ar gyfer y dyfodol, bydd y model contractwyr annibynnol yn parhau i ddarparu mwyafrif helaeth y gwasanaethau meddyg teulu. Yr hyn yr ydym ni’n ei ddweud, ynghyd â phartneriaid mewn arfer cyffredinol, a rhannau eraill o'r byd gofal iechyd, yw ein bod ni’n credu y bydd gwahanol fodelau ochr yn ochr â'r model contractwyr annibynnol yn y dyfodol. Er enghraifft, yn Aberhonddu, rydym wedi gweld cwmni buddiant cymunedol a grëwyd wrth i feddygfeydd meddygon teulu gydweithio i helpu i ddarparu gofal mewn ffordd wahanol. Gwelwn y model ffederasiwn ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Byddwn yn ôl pob tebyg yn gweld, fel y dywedais o'r blaen, mae nifer llai o bractisau ar eu pennau eu hunain yn y dyfodol, a mwy o ffederasiwn rhwng gwahanol rannau o arfer cyffredinol, ond gyda’r tîm gofal sylfaenol ehangach hefyd. Ac nid lle Llywodraeth yw ceisio gosod un model ar draws y sector gofal sylfaenol cyfan. Ein swydd ni yw eu cefnogi a gweithio ochr yn ochr â nhw. Mewn gwirionedd, mae'r ffordd y mae clystyrau yn tynnu pobl at ei gilydd wedi bod yn gyffrous iawn ac yn wirioneddol lwyddiannus, ac mae’n annog pobl i rannu eu problemau, ond i rannu atebion hefyd.

Rwy’n credu ei bod yn bryd i ni gydnabod yr heriau sy'n bodoli, ac mae'r Llywodraeth hon yn sicr yn gwneud hynny. Rydym yn cael y sgyrsiau hynny am yr hyn y gallem ac y dylem ei wneud, ynghyd â'n partneriaid ar draws gofal sylfaenol, i sicrhau bod dyfodol ffit ac iach i ofal sylfaenol i barhau i wasanaethu pobl Cymru—trwy ffordd wahanol o weithio, ie, yn y dyfodol, ond gan barhau â gwasanaeth gofal iechyd o ansawdd uchel.

4. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf ar yr agenda yw’r datganiad a chyhoeddiad busnes, ac rwy’n galw ar Jane Hutt.

Nid oes gennyf unrhyw newidiadau i'w hadrodd i fusnes yr wythnos hon ac mae’r busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf fel y dangosir ar y datganiad a chyhoeddiad busnes y gellir dod o hyd iddynt ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.

Helo—diolch i chi, Lywydd, mae'n ddrwg gennyf. Roeddwn i yn fy myd bach fy hun, yn y fan yna, oeddwn wir. [Chwerthin.] Dyna beth sy'n digwydd pan fyddwch chi’n chwarae o gwmpas â’ch cyfrifiadur.

Arweinydd y tŷ, a gawn ni dri datganiad os gwelwch yn dda? Mae’r un cyntaf yn ymwneud â thrafodaethau’r Llywodraeth â Chwmni Moduron Ford mewn cysylltiad â'r ffatri beiriannau ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Pan ymatebodd y Gweinidog i'r cwestiwn brys, fe gyfeiriodd at y ffaith y byddai'n mynd i Detroit i siarad â phencadlys rheoli Ford yn America a wnaeth y penderfyniad i leihau cynhyrchiant yn y ffatri beiriannau ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Mewn ymateb ysgrifenedig a gefais ganddo yr wythnos diwethaf, mae wedi nodi nad oes ganddo unrhyw gynlluniau yn y dyfodol, hyd y gellir rhagweld, i fynychu unrhyw gyfarfodydd yn ymwneud â thîm rheoli rhyngwladol Ford. Rwy'n credu bod hyn yn bryder sy'n peri gofid, o ystyried yr honiad a nodwyd mewn ymateb i'r cwestiwn brys, ac erbyn hyn nid oes unrhyw gyfarfodydd wedi’u cynllunio. Felly, a gawn ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet yn amlinellu sut yn union y mae'n symud ymlaen â’i drafodaethau i roi sicrwydd ynglŷn â hyfywedd tymor hir y ffatri beiriannau ym Mhen-y-bont ar Ogwr?

Hefyd, a gaf i ofyn am ddatganiad ynghylch ardrethi busnes? Y tymor hwn, mae hynny wedi bod yn destun cyfraniadau yn y Siambr hon ac yn rhywbeth sydd wedi llenwi sachau post llawer o Aelodau. Mae gennym un wythnos ar ôl cyn toriad y Nadolig. Mae’r Prif Weinidog, i fod yn deg, wedi crybwyll mewn ymatebion i'r Siambr hon y gallai fod rhywfaint o hyblygrwydd o ran yr arian trosiannol sydd bellach ar gael gan Lywodraeth Cymru a, phan rwy’n sôn am hyblygrwydd, rwy’n golygu cynyddu’r swm o ryddhad trosiannol a allai fod ar gael i fusnesau. Croesewir yn fawr iawn, iawn, pe byddai’r Llywodraeth, cyn i’r sefydliad hwn fynd ar doriad dros y Nadolig, yn cyflwyno datganiad naill ai’n cadarnhau ei bod am wneud cynnydd o ran y mater hwn, neu’n dweud, na, bydd yn rhaid i chi dderbyn yr hyn sydd gennych chi a’r hyn sydd i ddod ym mis Ebrill. Rwy’n credu bod busnesau mewn sefyllfa nawr ble maen nhw eisiau sicrwydd, ni waeth ba mor ddrwg y gallai’r sicrwydd hwnnw fod, neu, gobeithio, ba mor dda y gallai’r sicrwydd hwnnw fod, pe byddai'r Llywodraeth yn gwneud cynnydd ynghylch y rhyddhad trosiannol.

Gofynnir am y trydydd datganiad, os yw’n bosibl, gan y Gweinidog dros iechyd ynglŷn ag amseroedd ymateb ambiwlansys. Mae fy nghydweithiwr, Darren Millar, wedi amlygu ar sawl achlysur na chaiff galwadau 999 mewn cysylltiad â thrawiad ar y galon a strôc eu cynnwys yng nghategorïau brys y gwasanaeth ambiwlans. Mae honno'n sefyllfa sy’n peri llawer iawn iawn o ofid, os ydych chi’n meddwl, am bob munud a wastreffir wrth ymateb i alwadau ynghylch trawiadau ar y galon, y ceir gostyngiad o 10 y cant yng ngallu’r claf hwnnw i oroesi. Felly, byddwn yn ddiolchgar—ac rwy’n gallu gweld Ysgrifennydd y Cabinet yn parablu yn y fan yna— byddwn yn ddiolchgar pe gallai fynd ati i gyflwyno datganiad ysgrifenedig i ni er mwyn cadarnhau a yw'n wir nad ystyrir galwadau yn ymwneud â thrawiadau ar y galon a strôc mewn gwirionedd yn faterion brys. A gawn ni’r sicrwydd hwnnw gan Ysgrifennydd y Cabinet drwy gyfrwng datganiad ysgrifenedig cyn i ni fynd ar doriad dros y Nadolig?

Diolch yn fawr, Andrew R.T. Davies, am eich cwestiynau. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith wedi cyfarfod ag uwch-reolwr Ford yn Ewrop, ac mae’n chwarae rhan lawn wrth sicrhau’r ffatrïoedd peiriannau ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Ynglŷn â’ch ail bwynt, fel y gwyddoch chi’n iawn, bu ymgynghoriad o ran yr ardrethi busnes a’r rhyddhad trosiannol. Wrth gwrs, rydym yn nodi eich sylwadau. Mae'r Prif Weinidog wedi ymateb, fel, yn wir, y mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, a bydd yn cymryd sylw o'r ymatebion i'r ymgynghoriad.

Mewn cysylltiad â’ch trydydd pwynt, mae hyn yn fater o bryder, yr hyn yr ydych chi wedi'i godi heddiw. Rwyf ond eisiau, eto, nodi’r pwynt, mewn ymateb i gwestiynau ar gyfer y Prif Weinidog, mai’r model ymateb clinigol newydd hwn sydd wedi golygu bod gwasanaeth ambiwlans Cymru yn arwain y ffordd, fel y cydnabuwyd yn genedlaethol, y tu allan i Gymru, o ran y cyfryngau, y wasg ac o ran diddordeb, wrth gwrs, yn y ffordd yr ydym ni’n dangos pa mor gyflym yr ydym ni’n ymateb i gleifion sy'n ddifrifol wael, a fyddai, wrth gwrs, yn cynnwys cleifion yr honnir eu bod wedi dioddef strôc a thrawiad ar y galon—gan gyrraedd y targed cenedlaethol bob mis ym mlwyddyn gyntaf y cynllun peilot, felly. Mae’n ymwneud â newidiadau a lywir yn glinigol, gan alluogi cleifion i dderbyn yr ymateb cywir, yn seiliedig ar eu hangen clinigol, ac mae'n galonogol. Rwy’n gobeithio y byddech chi’n ymuno â mi i groesawu'r ffaith bod rhannau eraill o'r DU yn cymryd sylw o'n cynnydd, a bod Gwasanaeth Ambiwlans yr Alban wedi cyhoeddi y byddant yn gweithredu system debyg iawn cyn bo hir.

Yn gynharach y prynhawn yma, mewn ymateb i gwestiwn gan fy ffrind a’m cydweithiwr, yr Aelod Seneddol dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, dywedodd Ysgrifennydd Gwladol y DU dros drafnidiaeth wrth Dŷ'r Cyffredin nad oedd Llywodraeth y DU wedi cytuno i ddatganoli masnachfraint Cymru a'r gororau i'r lle hwn. Mae hyn yn groes, wrth gwrs, i’m dealltwriaeth i o ganlyniad proses Dydd Gŵyl Dewi. A gawn ni ddatganiad—naill ai'n ysgrifenedig neu ar lafar—cyn gynted ag y bo modd, i egluro'r sefyllfa ynglŷn â datganoli masnachfraint Cymru a'r gororau yn y dyfodol?

Oes, mae angen inni fod yn glir iawn ynghylch y pwynt hwn. Wrth gwrs, mae gan Ysgrifennydd y Cabinet ei gwestiynau llafar yfory, ond bydd hefyd yn sicrhau y bydd yn egluro hynny, mewn ateb i'r cwestiwn hwnnw, Steffan Lewis, yn ysgrifenedig, yn dilyn y datganiad busnes heddiw.

A gaf i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda? Mae’r cyntaf yn ymwneud â pholisi awdurdodau lleol o ran gosod swyddfeydd i gynrychiolwyr etholedig. Rwyf wedi penderfynu ceisio dod o hyd i safle swyddfa newydd oherwydd cafwyd bod yr un sydd gennyf eisoes yn anaddas, o ganlyniad i bryderon ynghylch diogelwch. Ar ôl llawer o amser ac ymdrech, daeth fy aelodau staff o hyd i safle yn Beechwood House, a oedd yn wag. Roedd y trafodaethau cychwynnol ynghylch rhentu'r eiddo yn ffafriol. Rwyf felly’n flin iawn ac yn siomedig bod Cyngor Dinas Casnewydd wedi rhwystro’r symud, gan iddyn nhw ddweud nad yw'n bolisi ganddyn nhw i rentu eiddo'r cyngor at ddibenion gwleidyddol. Ysgrifennydd y Cabinet, mae fy swyddfa—ar hyn o bryd, os wyf yn ei defnyddio yn ystod adeg etholiad, rwy’n ad-dalu’r rhent, yr ardrethi, y costau trydan, nwy a ffôn i'r Cynulliad. Am ran o’r lle yn yr eiddo a ddefnyddir, aiff yr arian yn ôl i'r Cynulliad. Rwy'n credu ei fod yn gwbl hurt. Nid wyf—

Nid wyf yn credu bod hwn yn gwestiwn ar gyfer y Llywodraeth, a dylech chi aros nes y cewch chi’r cyfle i ofyn cwestiynau i'r Comisiwn er mwyn gofyn cwestiwn o'r math hwnnw. Naill ai gofynnwch gwestiwn i’r Llywodraeth sy'n briodol ar ei chyfer, neu ymatalwch rhag gofyn y cwestiwn a'i ofyn yn ei fan priodol.

Diolch i chi, Lywydd. Nid wyf yn deall pam y byddai’n well gan y cyngor, ar adeg pan fo cyfyngiadau a phwysau cyllidebol, adael adeilad yn wag, yn hytrach na chael incwm o ased heb ei ddefnyddio. Diolch.

Yr ail ddatganiad: mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn dweud eu bod wedi cael blwyddyn lwyddiannus iawn y llynedd, gan fod mwy na 660,000 o dunelli o bren wedi gadael yr ystâd coedwigoedd cyhoeddus. Bydd llai o goedwigaeth. Mynegwyd pryder i mi ynghylch a yw’r ffigwr hwn yn gynaliadwy yng Nghymru a beth a ddigwyddodd i'r incwm a gynhyrchwyd yn ei sgil. Os gwelwch yn dda a gawn ni ddatganiad ynglŷn â hyn? Diolch.

Mae'r cwestiwn hwnnw yn ymwneud â Chyfoeth Naturiol Cymru a'i gyfrifoldebau. Rwy'n siŵr y byddech chi’n dymuno codi hyn ag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig.

Arweinydd y tŷ, a gaf i ofyn am ddau ddatganiad? Yn gyntaf oll, yn gynharach, wrth ofyn cwestiynau i'r Prif Weinidog, gofynnodd Gareth Bennet i'r Prif Weinidog am y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch metro de Cymru. A allwn i ailadrodd y galwadau hynny am ddiweddariad ar hynny, yn enwedig o ran y cam nesaf? Fel y gwyddoch chi o’m pryderon yn ystod y Cynulliad diwethaf, mae tref Trefynwy wedi’i chynnwys ar rai mapiau metro a heb ei chynnwys ar eraill. Bellach ceir pryderon ynglŷn ag effaith gadael yr Undeb Ewropeaidd ar gyllid ar gyfer y rhwydwaith llawn fel y cynigiwyd o'r blaen. Felly, a gawn ni ddiweddariad ar y sefyllfa ynglŷn â chynnwys ardaloedd pellennig ar y map metro, yn enwedig o ystyried y cynigion i gael canolfan drafnidiaeth yn Celtic Manor, rwy’n credu? Yn fy marn i, byddai hynny’n rhoi posibilrwydd i ardaloedd pellennig yn fy etholaeth i a’r de-ddwyrain gael eu cysylltu â gwasanaeth rheolaidd i'r map metro.

Yn ail, crybwyllwyd ardrethi busnes gan Andrew R.T. Davies yn gynharach. Mae hyn yn bryder parhaus yn fy ardal i. Roeddwn i’n bresennol mewn cyfarfod llawn neithiwr ym Mrynbuga lle y mynegwyd pryderon i mi am y sefyllfa yn ymwneud ag ardrethi busnes. Roedd cynrychiolydd o wasanaeth sifil Llywodraeth Cymru yno a rhoddodd rywfaint o wybodaeth, ond rwyf o’r farn y byddai'n ddefnyddiol iawn pe byddem ni’n cael diweddariad gan y Gweinidog ar ardrethi busnes a datganiad sy'n mynd i'r afael â phryderon ynghylch rhyddhad ardrethi busnes. Mae llawer o fusnesau yn ofni, pan ddaw hi’n fis Ebrill nesaf, heb ryddhad ychwanegol—rhyddhad cyfartal â’r hyn a geir ar draws y ffin—y cânt eu gorfodi allan o fusnes. Felly, rwy’n credu y byddai cael diweddariad neu ddatganiad ar gynllun rhyddhad ardrethi busnes cyfartal cyn ein bod yn cael toriad dros y Nadolig, yn ddefnyddiol iawn, iawn i’m hetholwyr ac Aelodau Cynulliad eraill.

Wel, wrth gwrs, mae Nick Ramsay yn wyliadwrus iawn wrth godi materion ar ran ei etholaeth a hefyd, ar nifer o achlysuron, ynglŷn ag anghenion eich etholaeth mewn cysylltiad â datblygiadau seilwaith megis metro de Cymru. Wrth gwrs, gwn fod y Prif Weinidog wedi ymateb yn rhannol y prynhawn yma i gwestiynau a’i fod, wrth gwrs, yn ystyried y materion yn ymwneud â pharhau i allu cael gafael ar gyllid Ewropeaidd, sy’n bwysig iawn ar gyfer y metro. Mae hefyd yn cydnabod, fel y gwnaeth yn sicr wrth ateb cwestiynau blaenorol yn fy marn i, pa mor bwysig ydyw fod hyn yn rhan o’r cytundeb dinesig ar gyfer prifddinas-ranbarth Caerdydd a bod arweinydd Sir Fynwy yn cymryd rhan weithredol yn y prifddinas-ranbarth a sicrhau bod pob awdurdod lleol yn elwa ar hynny. Felly, wyddoch chi, o ran y wybodaeth ddiweddaraf, gwn y bydd Ysgrifennydd y Cabinet eisiau rhoi diweddariad ar adeg briodol ynglŷn â chynnydd o ran metro de Cymru.

O ran eich ail bwynt, rwyf eisoes wedi ymateb i Andrew R.T. Davies o ran canlyniadau'r ymgynghoriad a gynhelir ar ardrethi busnes ac, wrth gwrs, y gydnabyddiaeth fod hwn yn fater allweddol mewn rhannau o etholaethau ar draws Cymru.

5. 3. Datganiad: Canlyniadau PISA

Yr eitem nesaf yw’r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar ganlyniadau PISA. Rwy’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet, Kirsty Williams.

Diolch, Lywydd. Heddiw yw dyddiad cyhoeddi canlyniadau PISA 2015. Gadewch imi fynd yn syth at y pwynt: byddai pob un ohonom wedi hoffi gweld mwy o gynnydd. Rwy'n credu y byddwn i gyd yn cytuno yn y Siambr hon nad ydym lle yr hoffem fod. Roedd y profion hyn, a gynhaliwyd y llynedd, yn cynnwys hanner miliwn o blant 15 oed mewn 72 o wledydd. Yma yng Nghymru, mae ein hadroddiad cenedlaethol yn dweud bod ein canlyniadau darllen wedi sefydlogi. Roedd ein sgôr mathemateg yn dangos y cynnydd mwyaf yn y DU. O'r gwledydd hynny a wnaeth yn well ac a sgoriodd dros 450 o bwyntiau, dim ond pedair gwlad o'r 71 a gymerodd ran yn PISA a welodd gynnydd mwy mewn mathemateg. Ond, o ran gwyddoniaeth, pwyslais y cylch asesu hwn, mae'r canlyniadau, a dweud y gwir, yn siomedig iawn, iawn. Ac er bod y sgôr gwyddoniaeth cyfartalog wedi gostwng ar draws yr OECD, ni ddylai hyn fod yn unrhyw gysur i ni. Byddaf yn dweud mwy am wyddoniaeth yn y man. Rwyf wedi ei gwneud yn glir mai tystiolaeth ryngwladol, a dysgu gan y gorau, fydd yn llywio ein diwygiadau. Byddwn yn dal at hynny. Byddwn yn defnyddio'r canlyniadau hyn a'r data cyfoethog y maen nhw’n eu rhoi inni, ynghyd â'r adroddiad OECD sydd ar ddod, i gefnogi a herio fy mlaenoriaethau a fy rhaglen. Pan wahoddais yr OECD y mis diwethaf i edrych ar sut yr oeddem yn gwneud yng Nghymru, roedd eu cyngor imi’n ddiamwys: daliwch ati; byddwch yn ddewr; rydych yn gwneud y pethau iawn.

Ac rwy’n gweld yr ymrwymiad i ddal at ein diwygiadau ar hyd a lled Cymru. Rwyf wedi ymweld â llawer o ysgolion ledled y wlad yn fy nghyfnod byr ers dechrau yn y swydd hon. Mae awydd i fod yn rhan o'n taith addysg. Nid ydym wedi blino ar ddiwygio mwyach, sef asesiad yr OECD o Gymru yn ôl yn 2014. Mae gan Gymru bellach gyfeiriad teithio clir. Mae gennym gynlluniau ar waith i ddatblygu gweithlu proffesiynol rhagorol. Rydym yn gwybod beth yr hoffem i'n cwricwlwm newydd ei gyflawni. Rydym yn cyflwyno cymwysterau cadarn a fydd yn cael eu parchu’n genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae’r gwaith wedi’i ddechrau, ond mae llawer, llawer mwy i'w wneud.

Dywedodd adroddiad 2014 yr OECD ar system addysg Cymru wrthym hefyd y dylem, ac rwyf yn dyfynnu,

'Trin datblygu arweinyddiaeth systemau fel un o brif sbardunau diwygio addysg'.

Rwy’n argyhoeddedig bod yn rhaid i hyrwyddo a chefnogi arweinyddiaeth fod yn ganolog i'n diwygiadau. Fodd bynnag, os wyf yn onest, nid oes digon o gynnydd wedi'i wneud yn y maes hwn. Dyna pam, y mis diwethaf, y cyhoeddais gynlluniau ar gyfer academi genedlaethol newydd o arweinyddiaeth addysgol. Bydd yn datblygu talent arweinyddiaeth presennol Cymru a thalent y dyfodol ac yn sicrhau bod pob ysgol—pob ysgol—yn gallu cyflawni ein cwricwlwm newydd. Nawr yn fwy nag erioed, mae ar Gymru angen arweinyddion cryf sy'n barod am yr her.

Mae'r canlyniadau a gyhoeddwyd heddiw wedi tynnu sylw at faterion yn ymwneud â gwyddoniaeth sy'n cyd-daro â’n dealltwriaeth ni o'r hyn sydd wedi bod yn digwydd. Y mis Medi hwn ddiwethaf, cyflwynwyd y cymwysterau TGAU gwyddoniaeth newydd i’w haddysgu am y tro cyntaf. Rwy’n falch bod ysgolion eisoes yn symud oddi wrth addysgu cymysgedd o BTEC a TGAU, a oedd yn methu ag arfogi ein pobl ifanc yn briodol. Lywydd, mae'n ofid imi ddweud bod cyfuniad o sinigiaeth, gorsymleiddio ac uchelgeisiau is wedi golygu bod nifer sylweddol o ysgolion yn yr arfer o gofrestru nifer uchel o ddisgyblion ar gyfer BTEC gwyddoniaeth yn unig yn hytrach nag ar gyfer TGAU. Rwy'n falch o ddweud, dros yr haf, ein bod wedi gweld cynnydd o dros 5,500 yn fwy o gofrestriadau TGAU ar draws yr holl wyddorau. Er bod hynny'n addawol, dim ond y dechrau yw hynny. Dros y misoedd nesaf byddaf yn cyhoeddi cynlluniau uchelgeisiol newydd i fynd i'r afael â’r mater hwn yn uniongyrchol fel bod ein pobl ifanc yn cael y cyfle y maent yn ei haeddu i astudio gwyddoniaeth ar lefel uchel.

Rwy’n gwybod bod PISA yn hollti barn. Rwy'n clywed hynny gan rai pobl yn y proffesiwn. Mae’n rhaid i hynny newid, oherwydd, peidied neb â chamgymryd, dyna’r meincnod rhyngwladol cydnabyddedig ar gyfer sgiliau o hyd. Mae gwledydd ledled y byd yn ei ddefnyddio fel arwydd i entrepreneuriaid, cyflogwyr a buddsoddwyr. Yr un mor bwysig, mae'n cael ei ddefnyddio i helpu i wella hyder y cyhoedd yn y system ysgolion. Nid yw erioed wedi bod yn bwysicach dangos i ni ein hunain ac i'r byd y gall ein pobl ifanc gystadlu gyda'r gorau. Mae hen warantau ar eu ffordd allan. Mae cenhedloedd bychain eraill wedi achub y blaen arnom ar eu teithiau diwygio. Ond os gall Iwerddon ac Estonia lwyddo i wneud hyn, gallwn ninnau hefyd.

Mae’n rhaid i'n hymdeimlad o genhadaeth genedlaethol gydnabod y gwirionedd hwn. PISA yw, a PISA fydd, ffenestr y siop ar gyfer llwyddiant ein diwygiadau. Rwy'n ffyddiog y bydd fy mhwyslais i, a’n pwyslais ni, ar arweinyddiaeth, rhagoriaeth dysgu, tegwch a lles i ddysgwyr, a chyfrifoldeb ar y cyd, yn ein galluogi i gyrraedd y safonau uchaf. Mae PISA yn ein galluogi i farnu ein hunain yn erbyn y byd, ac mae'n rhaid i bawb yn ein system ddeall hyn. Mae'n archwiliad ac yn adolygiad yn erbyn ein datblygiad a bydd yn parhau felly.

Os ydych chi o’r farn bod profion PISA yr OECD o bwysigrwydd mawr, rwy’n gobeithio y gwnewch hefyd wrando ar eu prognosis a ragnodwyd ar gyfer Cymru, y mae ein diwygiadau’n seiliedig arno. Mae'r diwygiadau hyn wedi’u gwreiddio yn yr hyn sy'n gweithio. Y peth hawdd ei wneud nawr fyddai rhwygo’r cynllun yn ddarnau a dechrau o'r dechrau eto, ac rwy'n siŵr y bydd rhai yn dadlau’r achos hwnnw, ond mae gennym ddyletswydd i'n disgyblion, i’n rhieni ac i'r proffesiwn i wneud yr hyn sy'n iawn. Mae'r OECD wedi nodi Portiwgal fel gwlad sydd wedi gwella’n helaeth. Mae wedi cymryd 14 mlynedd iddynt, drwy ddilyn diwygiadau sy'n gweithio a dal at y llwybr. Gwnaethant y penderfyniadau anodd, mawr eu hangen, ac maent yn elwa ar hynny erbyn hyn. Mae’n rhaid i Gymru nawr fod yn ddigon dewr i wneud yr un peth i gyflawni ein cenhadaeth genedlaethol o ddiwygio addysg.

Wel, wel, wel, Ysgrifennydd y Cabinet, dyma lanast mawr arall y mae Carwyn wedi eich rhoi chi ynddo. Mae’n rhaid imi ddweud, rwy’n gwerthfawrogi eich datganiad a'r briff a ddarparwyd gan eich swyddogion y bore yma, ac, wrth gwrs, rydych wedi treulio’r wythnosau diwethaf yn bychanu yn daer y disgwyliadau ynglŷn â chanlyniadau heddiw, a gallwn, wrth gwrs, i gyd weld nawr pam yr oeddech yn gwneud hynny.

Mae plant Cymru yn haeddu system addysg sydd o’r radd flaenaf yn fyd-eang, ond y gwir yw bod Llywodraethau olynol dan arweiniad Llafur Cymru wedi methu â chyflawni hynny. Er gwaethaf yr holl siarad llym, yr holl addewidion i wneud yn well gan y Prif Weinidog a’r Ysgrifenyddion Cabinet blaenorol, mae ffigurau heddiw’n ein gadael unwaith eto yn ymlusgo yn hanner isaf tabl y gynghrair addysg fyd-eang, ac maen nhw’n cadarnhau ein statws gwarthus fel y system ysgolion sy'n perfformio waethaf yn y Deyrnas Unedig. Mae’r ffaith bod ein canlyniadau yn 2015 mewn gwirionedd yn waeth nag yn ôl yn 2006 yn dynodi degawd o dangyflawni a sgandal aruthrol. Ac nid dyna ei hanner hi: bu dirywiad parhaus mewn sgiliau gwyddoniaeth ers 2006, yn enwedig ymhlith y disgyblion sy'n cyflawni orau.

Ystyriwyd bod traean o ddisgyblion Cymru yn gyflawnwyr isel mewn un neu fwy o bynciau—y perfformiad gwaethaf yn y DU. Roedd sgorau darllen Cymru yn gyfartal â Hwngari a Lithwania. Mae disgyblion yn Lloegr deirgwaith yn fwy tebygol o fod yn gyflawnwyr uwch mewn gwyddoniaeth, darllen a mathemateg nag yma yng Nghymru. Ac er bod y bwlch cyrhaeddiad yn llai rhwng pobl o'r cefndiroedd cyfoethocaf a'r tlotaf yma yng Nghymru, mae PISA yn awgrymu bod hyn yn bennaf oherwydd nad yw’r disgyblion mwyaf breintiedig yng Nghymru yn perfformio cystal ag y dylent fod yn ei wneud. Mae disgyblion Cymru yn gwneud mwy o ddysgu y tu allan i'r ysgol na'u cymheiriaid yn Lloegr, ac eto maent yn perfformio’n waeth. Mae'r canlyniadau hyn yn rhestr o fethiant—methiant gan Lywodraethau Cymru olynol i wneud yn well.

Nawr, Ysgrifennydd y Cabinet, mae eich datganiad yn awgrymu bod angen i ni roi mwy o amser i’r diwygiadau sy’n digwydd a mwy o amser iddynt ymsefydlu, ond mae Llywodraeth Cymru—ac rwy’n gwerthfawrogi mai dim ond newydd ymuno â Llywodraeth Cymru yr ydych chi—. Mae Llywodraethau Cymru olynol wedi cael degawd, ers 2006, ac eto maent yn dal i fod wedi methu â chyflawni gwelliannau. Nawr, dywedwch wrthym: sut mae gwledydd fel Gwlad Pwyl wedi gallu gwrthdroi eu systemau addysg mewn llai na degawd, ond nad yw Llywodraeth Cymru wedi gallu gwneud hynny? Mae Gwlad Pwyl yn llwyddo i gynnal y gwelliant hwnnw, hefyd.

Nawr, nid wyf yn dadlau na ddylid parhau i ail-lunio'r cwricwlwm nac y dylid cefnu ar y fframweithiau llythrennedd a rhifedd, a ddatblygwyd gan rai o'ch rhagflaenwyr. Nid ydym yn dymuno eich bod, ac rwy’n eich dyfynnu, 'rwygo’r cynllun yn ddarnau', fel y dywedasoch yn eich datganiad, ond nid yw’r pethau hyn ar eu pennau eu hunain yn mynd i gyflawni'r newid enfawr yn y safleoedd PISA y mae angen i chi ei gyflawni. Ac mae’n rhaid inni gydnabod bod diwygiadau tebyg i gwricwlwm yn yr Alban, sydd wedi eu rhoi ar waith ac sydd ymhellach i lawr y lein ac wedi ymsefydlu, wedi methu â chyflawni gwelliant yno. Mewn gwirionedd, mae eu perfformiad nhw yng nghanlyniadau PISA heddiw mewn darllen a gwyddoniaeth wedi dirywio hefyd. Yn hytrach, yr hyn sydd ei angen arnom gennych chi, Ysgrifennydd y Cabinet, yw strategaeth glir sy’n cynnwys targedau mesuradwy a fydd yn eistedd ochr yn ochr â darnau eraill o waith i wrthdroi’r perfformiad hwn. Ac nid dim ond mewn gwyddoniaeth, ond mewn mathemateg a darllen, hefyd. Nid yw ein plant a'n pobl ifanc yn haeddu dim llai. Felly, dywedwch wrthym: a wnewch chi ddatblygu strategaeth o'r fath, ac, os felly, pryd y caiff ei chyhoeddi? A wnewch chi osod targedau ac amserlenni a glynu atynt, yn wahanol i'ch rhagflaenwyr a osododd dargedau cyn cefnu arnynt wrth weld amser yn llithro drwy eu bysedd, neu eu cicio i lawr y lein?

A wnewch chi ryddhau ysgolion da a llwyddiannus yng Nghymru o’r hualau sydd ar hyn o bryd yn eu hatal rhag ehangu? A wnewch chi wneud mwy i gefnogi dysgwyr abl a thalentog i ganiatáu iddynt hedfan a gwireddu eu potensial? A wnewch chi ymddiried mwy mewn addysgwyr proffesiynol fel y gallant arloesi, datblygu eu sgiliau a dysgu oddi wrth arfer da ei gilydd, ac a wnewch chi roi'r gorau i gau ysgolion da mewn cymunedau ar hyd a lled Cymru a buddsoddi ynddyn nhw yn hytrach? A wnewch chi hefyd gyflwyno profion tebyg i PISA yn ein hystafelloedd dosbarth yn rheolaidd fel y gall ein plant ifanc ymgyfarwyddo â'r math o her a allai ddod ar ffurf prawf PISA yn y dyfodol? Oherwydd dyma’r mathau o newidiadau y byddem ni’n eu cyflwyno pe byddem ni yn y Llywodraeth.

A wnewch chi hefyd ddysgu, oherwydd rydych chi wedi methu â gwneud hynny hyd yn hyn fel Llywodraeth—ac fel y dywedais, rwy’n cydnabod mai dim ond yn ddiweddar yr ydych chi wedi ymuno â'r tylwyth—o enghreifftiau rhyngwladol fel Gwlad Pwyl a rhai o'r lleill, a gwnaethoch sôn am rai o'r lleill, sydd wedi llwyddo i wella eu perfformiad a’i gynnal? Gadewch inni beidio ag anghofio, roedd gan Wlad Pwyl sgorau tebyg iawn i'r rhai a gyhoeddwyd heddiw yn ôl yn 2000, ac roedden nhw wedi llwyddo i wrthdroi pethau erbyn 2009 ac maen nhw erbyn hyn yn uchel yn yr 20 uchaf.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae'r safleoedd PISA hyn yn bwysig. Maen nhw’n darparu meincnod rhyngwladol ar gyfer perfformiad ein system addysg, a all effeithio ar fuddsoddiad a chyflogaeth yng nghenedlaethau'r dyfodol. Os na chaiff y pethau hyn eu hunioni, os bydd y perfformiad gwael hwn yn parhau heb gael sylw, bydd hynny’n drychinebus i Gymru. Nid dal at ein llwybr yn unig yw'r ateb i'n problemau; mae'n rhaid inni fod yn fwy uchelgeisiol, mae'n rhaid inni fod yn fwy beiddgar. Mae cenedlaethau'r dyfodol yn dibynnu arnoch, ac rydym eisiau gwybod pa gamau yr ydych am eu cymryd.

Diolch yn fawr iawn, Darren. Nid wyf yn gweld hyn fel cael fy rhoi mewn llanast. Rwy’n gweld hyn fel cyfle gwych i wneud yr hyn yr wyf wedi’i ddweud yn gyson ers 2011, ac wedi’i ddadlau'n gyson yn y Siambr hon, o'r safle hwnnw draw yn y fan yna, sef bod angen inni ganolbwyntio’n ddiflino ar safonau ysgolion, arweinyddiaeth, datblygiad proffesiynol parhaus a diwygio HAGA, a dyna’r hyn yr wyf yn bwriadu ei wneud.

Nawr, Darren, all dim byd a ddywedwch yma yn y Siambr hon heddiw wneud imi deimlo’n ddim gwaeth yn bersonol am y canlyniadau hyn. Rwyf eisiau gwell i fy nghenedl, rwyf eisiau gwell i’n plant, ac rwy'n benderfynol o wneud y penderfyniadau a chymryd y camau a fydd yn cyflawni hynny. Dywedasoch, 'A fydd strategaeth newydd?' Bydd, a chaiff ei chyhoeddi ym mis Ionawr. Rydych chi eisiau i ni addysgu ar gyfer y prawf, ond nid dyna’r ffordd at lwyddiant. Diwygio’r system gyfan yw’r ffordd at lwyddiant. Ond gadewch inni fod yn gwbl glir, bydd ein cymwysterau newydd ar lefel TGAU mewn mathemateg, Saesneg a gwyddoniaeth yn mynnu gwell cyfochri â dyfnder gwybodaeth a dealltwriaeth a sgiliau meddwl beirniadol a fydd yn galluogi ein plant i ffynnu mewn profion PISA. Nawr, mae angen inni gefnogi'r proffesiwn i wneud yn union hynny. Dyna pam y byddwch yn gwybod fy mod, dim ond mis yn ôl, wedi cyhoeddi y byddem yn datblygu rhwydwaith rhagoriaeth mathemateg cenedlaethol, a gefnogir gan £800,000 o gyllid i ddatblygu ac ymestyn cefnogaeth cyfoedion i gyfoedion, adnoddau newydd a gwell datblygiad i’n hathrawon mathemateg. Rwy’n bwriadu gwneud yn union yr un peth ar gyfer gwyddoniaeth, gan weithio ar y cyd â’n sefydliadau addysg uwch fel y gallwn wella safonau ym mhob maes.

Byddwn yn glynu at yr amserlen. Dim ond yr wythnos diwethaf yn ystod y cwestiynau, roedd Aelodau yn y Siambr hon yn fy annog i arafu ein diwygiadau o'r cwricwlwm. Mae angen inni wthio ymlaen. Bydd y cwricwlwm hwnnw’n barod i’w addysgu erbyn 2021. Caiff ein cyrsiau HAGA newydd eu marchnata yn ystod haf 2018. Bydd safonau addysgu proffesiynol newydd ar gael gennym yn ystod gwanwyn y flwyddyn nesaf. Byddaf yn diwygio trefniadau llywodraethu ein hysgolion pan fydd yr ymgynghoriad sydd ar agor ar hyn o bryd wedi’i gau. A byddaf yn troi pob carreg yn fy ngwaith gyda'r gweithwyr proffesiynol, gydag AALlau a gyda'r consortia i sicrhau ein bod yn gwneud yn well fel cenedl. Byddaf yn wir yn edrych ar arfer da. Mae'n bwysig nodi bod gan y wlad hon ddulliau diwygio gwahanol iawn i’r Alban. Rwyf yn edrych ar draws gweddill y byd i sicrhau ein bod yn gwneud y peth iawn. Profais hynny drwy ofyn i'r OECD ddod yn ôl y mis diwethaf. Byddant yn ôl ymhen dwy flynedd gan fy mod wedi gofyn iddynt ddod yn ôl ymhen dwy flynedd, oherwydd byddaf yn fy herio fy hun a'r Llywodraeth hon yn rheolaidd i sicrhau ein bod yn gwneud y peth iawn.

Yn amlwg, mae'r canlyniadau hyn yn dweud stori erchyll iawn wrthym. Cymru yw’r wlad sy'n perfformio waethaf yn y DU eto, mae sgorau Cymru’n waeth nawr nag yr oeddent ddegawd yn ôl ac rydym bellach y tu ôl, wrth gwrs, i gyfartaledd y DU nag yr oeddem yn 2006. Felly, oni fyddech yn cytuno â mi, Ysgrifennydd y Cabinet, bod hwn yn amlygiad damniol o berfformiad Llafur a bod y system addysg sydd gennym wedi siomi Cymru dro ar ôl tro?

Yn 2009, dywedodd y Gweinidog ar y pryd na fyddai unrhyw alibïau nac unrhyw esgusodion. Yn 2012, dywedodd y Gweinidog ar y pryd wrthym y byddai angen i bob un ohonom edrych yn fanwl iawn yn y drych. Heddiw, nid wyf yn hollol siŵr beth ddywedodd y Prif Weinidog wrthym, i fod yn onest, neu o leiaf beth yr ydym wedi’i ddysgu. Yn sicr ni wnaeth gymryd cyfrifoldeb. Rydych chi yn eich datganiad yn dweud wrthym nad ydym yn y lle yr hoffem fod ynddo, felly efallai y gallech ddweud wrthym ble yr hoffech inni fod. Rydym yn gwybod ein bod wedi gollwng, neu bod y Llywodraeth wedi gollwng, y targed o gyflawni safle yn yr 20 uchaf erbyn 2016, ac wedi cyflwyno targed neu uchelgais o gyflawni 500 o bwyntiau ar draws y gwahanol feysydd erbyn 2021. A ydych chi’n cadw at hynny? Nid oedd y Prif Weinidog yn fodlon i ymrwymo’n benodol i hynny yn ei ateb i arweinydd Plaid Cymru yn gynharach, er ei fod wedi dweud rhywbeth am fod yn ffyddiog y byddwn yn gweld gwelliant. Felly, a ydych chi’n ymrwymo i’r un targed hwnnw ac os nad ydych, beth yw eich uchelgais a'ch targed?

Rydych yn dweud wrthym eich bod yn dal at y llwybr, ac rwy’n dweud mai dyna’r peth cywir i’w wneud. Mae'r diwygiadau’n mynd â ni i'r cyfeiriad cywir, ond nid yw hynny'n golygu nad oes gennyf bryderon o hyd yr wyf eisoes wedi'u codi gyda chi, ac y gwnaethoch ryw fath o gyfeirio atynt yn gynharach. Ac rwyf wedi dweud o'r blaen bod angen saib yn y broses hon i fyfyrio. Ac a wnewch chi—rwy’n gofyn ichi eto—ystyried cymryd toriad yn y broses hon fel y gallwn ystyried pethau, fel y gallwn ymdrin â'r nifer o faterion sy'n dod i'r amlwg yn ymwneud â’r system dwy haen rhwng ysgolion arloesol, ysgolion nad ydynt yn arloesol a'r pryderon eraill sydd wedi eu mynegi gan y sector, a chael cyfle hefyd i fyfyrio ar y canlyniadau PISA hyn a ble maent yn ein gadael yng nghyd-destun y diwygiadau arfaethedig, fel y gallwn atgyfnerthu'r diwygiadau hynny a symud ymlaen yn fwy hyderus ac yn fwy cydlynol fel sector? Y peth pwysig yw ein bod yn gwneud yr hyn sy'n iawn ac nad ydym yn gwthio newid yn ei flaen yn rhy gyflym. Gwneud hyn yn iawn yw’r peth pwysig.

Rydym wedi clywed bod y diwygiadau yng Nghymru wedi'u seilio ar brofiadau y maent wedi eu cael yn yr Alban. Mewn gwirionedd, gofynnwyd i’r Athro Donaldson gymryd rhan oherwydd ei brofiad o ran y newid yn yr Alban. Rydym wedi clywed, wrth gwrs, bod canlyniadau’r Alban wedi gostwng y tro hwn, felly efallai y gallech ddweud wrthym beth mae hynny efallai’n ei ddweud wrthym am y diwygiadau yma yng Nghymru, os unrhyw beth, ac a ydych chi’n credu bod unrhyw wersi y gallwn eu dysgu o hynny yng Nghymru.

Rydych yn haeru yn eich datganiad nad yw Cymru wedi blino ar ddiwygio erbyn hyn. Wel, efallai y byddai rhai yn y proffesiwn yn anghytuno â hynny. Yna rydych yn mynd ymlaen i ddweud y byddwch yn cyhoeddi cynlluniau newydd ac uchelgeisiol, a gallwn glywed ebychiad sydyn o’r sector hefyd. Ond mae capasiti, wrth gwrs, yn fater sydd wedi cael sylw o dan y diwygiadau presennol, a gwnaethoch gydnabod hynny yn eich atebion imi yr wythnos diwethaf. Felly, dyma’r hyn yr hoffwn ei wybod: sut y byddwch yn taro cydbwysedd rhwng cyflwyno eich cynlluniau newydd heb ychwanegu at faich athrawon, a gwneud hynny mewn ffordd, wrth gwrs, sy’n ategu’r diwygiadau sy’n cael eu gwneud ar hyn o bryd heb dorri ar eu traws? Ac a ydych chi’n ffyddiog, Ysgrifennydd y Cabinet, bod athrawon yn credu o ddifrif yn PISA? Rydych chi’n credu ynddo, yn amlwg, ac mae'r Llywodraeth, ond a ydych chi a'r sector yn gytûn, oherwydd nid wyf yn teimlo bod y sector yn ei gyfanrwydd yn credu yn PISA? Ceir cwestiynau am nifer yr ysgolion uwchradd a gafodd gyfle i edrych ar brofion arddull PISA, a fanteisiodd ar y cyfle hwnnw; rwy'n credu mai 89 allan o 213 ydoedd. Nid dyna, efallai, yw’r math o gymeradwyaeth i PISA y byddai’r Llywodraeth, rwy'n siŵr, yn chwilio amdani.

Yn 2012, pan gyhoeddwyd y canlyniadau diwethaf, dywedasoch eich bod yn drist ac yn ddig bod polisi Llafur wedi ein harwain at 14 mlynedd o ganlyniadau PISA gwael. Wel, mae bellach yn 17 mlynedd o ganlyniadau PISA gwael. Rwy’n cymryd, felly, eich bod hyd yn oed yn dristach a hyd yn oed yn ddicach. Ac fe wnaethoch ofyn i'r Prif Weinidog yn ôl yn 2012 onid oedd ganddo gywilydd o’r canlyniadau. Nawr, mae'r canlyniadau hyn yn waeth, felly rwy’n cymryd y byddwch chi hefyd yn gofyn i'r Prif Weinidog a oes ganddo fwy o gywilydd fyth o’i hanes.

Diolch, Lywydd, a diolch i Llyr. Llyr, rwyf wedi eistedd yn eich lle chi ac wedi gofyn y cwestiynau hynny, ond gallaf eich sicrhau nad gwasgu dwylo na chwyno am yr hyn sydd wedi digwydd yn y gorffennol yw’r ffordd i symud ymlaen. Fy ngwaith i yw sicrhau ein bod yn symud ymlaen oherwydd dyna'r unig ffordd y gwelwn y gwelliannau sydd eu hangen arnom. Nawr, rydych chi’n gywir, mae pryderon wedi eu mynegi ynglŷn â’r gwahaniaeth rhwng y rhwydweithiau arloesol a’r rhai nad ydynt yn arloesol ac rydym yn rhoi sylw i’r pryderon hynny, fel yr amlinellais ichi yn ystod cwestiynau’r wythnos diwethaf. Ond yn bendant, fy mwriad yw sicrhau bod y cwricwlwm yn cael ei ddarparu ar amser. Gofynasoch a fyddwn yn oedi i ddysgu gwersi'r gyfres hon o ganlyniadau PISA—mae llawer iawn o bethau yn y gyfres hon o ganlyniadau PISA y mae angen inni fyfyrio arnynt a sicrhau bod ein hagenda ddiwygio yn rhoi sylw iddynt.

Felly, yn benodol ar fater gwyddoniaeth, rydym yn gwybod, ledled Lloegr—mae'n ddrwg gennyf, Cymru, Gogledd Iwerddon a’r Alban, mai’r rhesymau pam yr ydym wedi gwneud yn wael mewn gwyddoniaeth yw oherwydd y cwymp ym mherfformiad ein perfformwyr uchaf. Rwy’n credu bod cysylltiad uniongyrchol rhwng hynny a phenderfyniadau i beidio â bod yn uchelgeisiol ar gyfer ein plant mewn gwyddorau yn ein hysgolion, ac y bu gennym rai ysgolion sydd bron yn llwyr wedi cofrestru eu plant ar gyfer gwyddoniaeth BTEC yn unig; rydym yn cydnabod erbyn hyn nad yw hynny wedi rhoi iddynt y sgiliau rhesymu gwyddonol sydd eu hangen arnynt i lwyddo ar lefel uwch. Rydym wedi ei gwneud yn ddigon clir—o’n disgwyliadau a drwy ddiwygio ein papurau TGAU gwyddoniaeth sydd yn cael eu haddysgu o fis Medi eleni ymlaen—bod yn rhaid i hynny newid.

Ond nid mewn gwyddoniaeth yn unig y mae ein plant mwy abl a thalentog wedi perfformio’n waeth nag y byddem wedi disgwyl iddynt wneud. Dros flynyddoedd lawer—yn ddigon teg—bu pwyslais mawr ar ddangosyddion lefel 2 plws fel mesurau perfformiad ar gyfer ysgolion, oherwydd roedd angen inni gynyddu nifer y plant yng Nghymru a oedd yn gadael yr ysgol â phum pwnc TGAU da gan gynnwys eu Saesneg, mathemateg neu Gymraeg iaith gyntaf. Ond rwy’n cydnabod, wrth wneud hynny, efallai nad ydym wedi manteisio ar y cyfle, ar yr un pryd, i wthio ein dysgwyr mwyaf abl. Dyna pam y byddwn bellach yn cynnwys sgorau pwyntiau wedi'u capio yn rhan o'r mesurau atebolrwydd ar gyfer ein hysgolion uwchradd. Ni all fod y tu hwnt i’n gallu i sicrhau ein bod yn troi graddau D yn C ond hefyd i allu troi graddau B yn A a graddau A yn A*. Dylai ein system allu gwneud y gorau o dalentau a chyfleoedd pob plentyn, ac adlewyrchir hynny yn ein mesurau atebolrwydd i sicrhau bod ein plant mwy abl yn cael eu hymestyn. Dyna pam mae ein disgwyliadau ar gyfer plant sy'n gadael yr ysgol gynradd—roedd yn arfer bod yn lefel 4, ond rydym nawr yn disgwyl i blant fod yn gadael yr ysgol gynradd ar lefel 5. Felly, mae ein disgwyliadau cyffredinol yn ymwneud â chodi safonau a gofyn llawer mwy gan ein system addysg, fel na chaiff ein plant mwyaf disglair eu gadael ar lefel 4—oherwydd mai dyna’r oll y mae Llywodraeth Cymru yn gofyn inni ei wneud—ond bod ein plant mwyaf disglair yn cael eu gwthio i'r lefel nesaf, i lefel 5.

O ran targedau, unwaith eto rwyf wedi ystyried hynny. Nid wyf erioed mewn gwirionedd wedi gofyn am gael gosod targedau PISA yn yr holl gwestiynau yr wyf wedi’u gofyn i'r Prif Weinidog oherwydd gallwch daro’r targed a methu’r holl bwynt. Rydym wedi gweld—rydym wedi gweld bod rhai o'r targedau hynny yn y gorffennol, o bosibl, wedi bod yn wallus. Rwy'n gwbl glir bod angen inni wella ein sgorau, nid o fewn y lwfans gwallau, ond mae angen gwelliannau ystadegol gadarn yn ein hysgolion, a dyna fy nisgwyliad.

A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad heddiw? Rwy’n gwerthfawrogi ei harfarniad gonest o'r sefyllfa ac, fel hithau, rwyf innau’n credu nad ydym yn ble yr hoffem fod yno eto ac mae'n bwysig cydnabod hynny. Ond rwyf hefyd yn cydnabod bod yr holl wledydd sydd wedi gwella eu safle PISA wedi cymryd rhai blynyddoedd i wneud hynny, ac nid wyf yn credu y byddem yn gwneud unrhyw ffafr â’n plant drwy newid trywydd yn awr, o ystyried y cyngor y mae’r OECD wedi’i roi, sef bod angen inni gadw ein hyder a dilyn y diwygiadau sydd ar y gweill.

Roedd eich datganiad yn cyfeirio at bwysigrwydd arweinyddiaeth ysgolion. A gaf i ofyn beth yr ydych chi’n bwriadu ei wneud, wrth symud ymlaen, i roi cymorth ychwanegol i benaethiaid presennol a darpar benaethiaid yng Nghymru?

Diolch, Lynne, am hynna. Hoffwn fyfyrio ar rywbeth, a rhoi gwybod i’r Siambr, oherwydd efallai na fydd y Siambr yn gwybod, beth ddywedodd Andreas Schleicher—ni allaf hyd yn oed ddweud ei enw’n iawn—sy’n gyfrifol am adran addysg yr OECD, y cyfarwyddwr addysg, am ein canlyniadau heddiw. Mae'n dweud:

Mae'n wir bod yna fwlch perfformiad mawr ond mae arwyddion o welliant, os edrychwch chi ar y canlyniadau mathemateg diweddaraf—maen nhw’n mynd i'r cyfeiriad cywir'.

Mae hefyd yn mynd ymlaen i ddweud

nid oes unrhyw reswm pam mae Cymru mor bell ar ei hôl hi, ond rwy’n gweld llawer o bethau sydd wedi’u sefydlu erbyn hyn sy’n ei rhoi ar drywydd mwy addawol.

Dywedodd ein bod yn adeiladu cwricwlwm newydd, a’n bod yn symud o fod wedi blino ar ddiwygio i sefyllfa lle mae pobl yn cymryd perchnogaeth o newid, a oedd yn gynhwysyn pwysig ar gyfer llwyddiant mwy hirdymor. Ac mae'n rhaid inni ddal i brofi ein hunain yn erbyn y cyngor hwnnw. Felly, rwy’n hyderus ein bod yn gwneud y penderfyniadau cywir.

O ran arweinyddiaeth, fodd bynnag, yn adroddiad 2014 gan yr OECD, nodwyd bod arweinyddiaeth yn elfen hanfodol, ac os ydym yn bod yn onest—ac mae angen inni fod yn onest heddiw—nid oes llawer wedi newid rhwng 2014 a nawr o ran arweinyddiaeth. Efallai fod hynny oherwydd bod agweddau eraill ar yr agenda ddiwygio yn cael eu datblygu ac yn cael eu hystyried fel bod yn fwy sensitif i amser ac yn bwysicach. Ond cyhoeddais, y mis diwethaf, fy mwriad i sefydlu’r academi newydd ar gyfer arweinyddiaeth. Bydd yn canolbwyntio i ddechrau ar benaethiaid a darpar benaethiaid. Mae angen i ni fod yn llawer mwy rhagweithiol o ran y ffordd yr ydym yn rheoli gyrfaoedd pobl sy'n dymuno bod yn arweinyddion ysgol ac o ran cefnogi eu datblygiad. Mae angen inni sicrhau eu bod yn cael y cyfleoedd drwy gydol eu gyrfaoedd i ddatblygu'r sgiliau hanfodol a fydd yn gwneud arweinyddiaeth ysgolion yn llwyddiant iddynt. Rydym wedi ailwampio ein cymhwyster pennaeth i wneud yn siŵr ei fod yn addas i'w ddiben a sicrhau bod y bobl hynny sy'n cael y cymhwyster yn mynd ymlaen i ddatblygu gyrfa fel pennaeth.

Ni all yr academi arweinyddiaeth ddod i ben yn y fan yna. Ar ôl i ni ymgorffori materion yn ymwneud ag arwain ysgolion ar lefel y pennaeth a'r uwch dîm rheoli, mae angen inni edrych i weld beth y gallwn ei wneud i gefnogi llywodraethwyr—rhan hanfodol o'r gyfundrefn atebolrwydd. Mae gormod o'n llywodraethwyr, os ydych yn darllen adroddiadau Estyn, nad oes ganddynt y sgiliau sydd eu hangen i ddwyn penaethiaid i gyfrif, ac mae angen inni edrych ar arweinyddiaeth ar draws y system addysg, mewn awdurdodau addysg lleol, mewn consortia, yn wir, byddwn yn dweud, ar lefel Llywodraeth Cymru hefyd, fel bod gennym y bobl orau un yn arwain ein system addysg ar bob lefel.

Rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi bod canlyniadau PISA heddiw yn siomedig—i'r Llywodraeth, i rieni, ac, yn bwysicaf oll, i blant Cymru. Dangosodd canlyniadau 2006 fod Cymru’n is na'r cyfartaledd mewn mathemateg a darllen; datgelodd 2009 ein bod wedi perfformio'n waeth ym mhob maes o’i gymharu â 2006; dangosodd canlyniadau 2012 ein bod wedi disgyn ymhellach mewn mathemateg a gwyddoniaeth, ac er bod y sgôr darllen wedi cynyddu, roedd yn dal i fod yn is na'r ffigurau ar gyfer 2006. Nawr, mae canlyniadau 2015 gennym, ac er gwaethaf rhywfaint o welliant mewn mathemateg, mae Cymru y tu ôl i Ogledd Iwerddon, yr Alban a Lloegr yn y tri maes. Mae'n arbennig o siomedig bod Cymru wedi disgyn ymhellach fyth mewn darllen a gwyddoniaeth. Ac, unwaith eto, mae'n ddrwg gennyf ychwanegu, mae Cymru y tu ôl i’w hanes ei hun yn 2006. Hefyd, mae Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn uwch na chyfartaledd yr OECD yn y tri maes, ond mae Cymru'n is na'r cyfartaledd ym mhob un categori. Efallai y daw rhai i'r casgliad bod Llywodraethau Cymru olynol wedi methu ac, yn fwy o bryder, bod y Llywodraeth hon yn parhau i wneud hynny.

Mae gwledydd eraill yn gwella, felly pam na all Cymru? Mae'n fy nharo i, nid yn unig y dylai Llywodraeth Cymru ailfeddwl pethau, neu o leiaf feddwl am y peth ac ystyried y dyfodol ar gyfer plant yng Nghymru, ond wrth wneud hyn, y dylent agor eu meddyliau i syniadau newydd ac agwedd newydd. Mae'r Blaid Lafur gyferbyn mor ddisymud o’u dogma addysgol o’r 1970au fel na allant weld pa mor ddinistriol yw eu polisïau i blant y genedl hon, ac nad oes ganddynt unrhyw syniadau newydd. Mae’n rhaid i'r Llywodraeth wyro oddi ar ei llwybr presennol o gyffredinedd ac ofni cystadleuaeth. Dim ond yr wythnos diwethaf, ymatebodd Ysgrifennydd y Cabinet i fy nghydweithiwr Mark Reckless, gan ddweud ei fod wedi—ac rwy’n dyfynnu—

'dod ar draws o system a oedd yn credu mewn cystadleuaeth. Mae'r system addysg yng Nghymru yn seiliedig ar system o gydweithio a chydweithredu.'

Ond cystadleuaeth yw’r union beth sydd ei angen ar Gymru. Dylai'r system addysg fod yn seiliedig ar ethos—[Torri ar draws.]

[Yn parhau.]—pob cenhedlaeth ar ei gwella ei hun, boed hynny mewn ystafell ddosbarth neu ar y maes chwarae. [Torri ar draws.]

Rydym yn bodoli mewn cyfnod lle ceir cystadleuaeth am leoedd mewn addysg uwch, yn y gweithle ac yn gyffredinol ym mhob elfen ar fywyd. Felly, beth am addysgu ein plant i fod cystal ag y gallant? Mae'r canlyniadau hyn hefyd yn dangos bod yn rhaid i’r Llywodraeth hon flaenoriaethu pynciau craidd yn y dosbarth. Dylai fyfyrio ar y meysydd eraill yn y cwricwlwm lle byddai’n well treulio amser ar fathemateg, Saesneg a gwyddoniaeth. Gadewch inni symud at system sydd wir yn addysgu ein plant.

Dylem ganiatáu i ysgolion presennol wneud cais i fod yn ysgolion gramadeg, a dewis yn ôl gallu ac agwedd. [Torri ar draws.]

Edrychwch, efallai nad ydych yn cytuno â'r hyn y mae'r Aelod yn ei ddweud, ond mae gan yr Aelod hawl i’w ddweud. Gadewch i'r Aelod gael ei chlywed, unwaith yn rhagor.

Bydd hyn yn caniatáu i bob ysgol, yn ddetholiadol ac annetholiadol, lunio addysg sy'n addas i’w disgyblion, gan annog pob un plentyn i ragori yn ei alluoedd. Yn amlwg, nid ymagwedd sy’n honni bod yr un peth yn addas i bawb yw'r ateb. Rydym yn gofyn i'n plant gael gweledigaeth a dyheu. Rwyf nawr yn annog Ysgrifennydd y Cabinet i wneud yn union hynny. Peidiwch â bychanu cenedlaethau'r dyfodol; sefydlwch system sy'n rhoi targedau iddynt, sy’n caniatáu tablau cynghrair, sy’n caniatáu iddynt gystadlu, ac yn y bôn yn rhoi cyfle iddynt i fynd i mewn i fyd sy'n gynyddol gystadleuol gyda’r dechrau gorau posibl mewn bywyd. Diolch.

Edrychwch; gadewch i'r Aelod gael ei chlywed. Mae'r Aelod nawr wedi gorffen. Diolch yn fawr iawn am eich cyfraniad. Rwy’n gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet ymateb. Rwy'n siŵr y byddwch i gyd yn dawel iawn nawr. [Chwerthin.]

Michelle, roeddwn i wedi gobeithio fy mod wedi ei gwneud yn glir iawn yn fy natganiad agoriadol ac yn fy atebion dilynol i gydweithwyr ar draws y Siambr nad yw'r canlyniadau hyn yn ddigon da. Does dim amheuaeth am hynny. Dylid nodi hefyd bod yr OECD, heddiw, wedi cyhoeddi rhybudd llym i wledydd beidio â throi at fathau o systemau addysg mwy detholiadol. Gyda phob parch i’ch cyfraniad, byddaf yn dilyn cyngor yr OECD.

Gadewch inni fod yn gwbl glir: mae awgrymu nad ydym yn gwahaniaethu ein haddysgu yn yr ysgol i addasu i wahanol anghenion plant yn dangos nad ydych yn deall yr hyn sy'n digwydd yn ein hystafelloedd dosbarth gorau. Mae athrawon da yn gwybod bod angen iddynt wahaniaethu eu gwersi. Maen nhw’n cynllunio yn y ffordd honno, maen nhw’n darparu eu gwersi yn y ffordd honno, ac maen nhw’n gwneud yn siŵr bod pob plentyn yn perfformio hyd eithaf ei allu absoliwt. Nawr, mae hynny’n digwydd yn ein hysgolion gorau; ond os ydym yn onest, nid yw'n digwydd yn gyson ym mhob un o'n hysgolion, a dyna beth mae angen inni ei wneud i sicrhau ein bod yn gwneud cynnydd. Dyna pam y byddwn yn cyflwyno safonau addysgu newydd ar gyfer y proffesiwn yn ystod gwanwyn y flwyddyn nesaf.

Rydych yn dweud nad ydym ni eisiau cyffredinedd, ac rwyf yn cytuno’n llwyr â chi. Nid wyf yn fodlon â chyffredinedd yn ein system. Nid wyf yn credu, fel y mae rhai’n ei ddweud, bod digonol yn ddigon da. Nid yw. Ac nid oes gennyf amser i bobl sy'n meddwl eu bod wedi meistroli eu gwaith. Mae pob athro—pob athro da—yn gwybod y bydd yn well athro yfory nag yr oedd heddiw, oherwydd dylai mai’r disgybl mwyaf yn yr ystafell ddosbarth yw’r athro ei hun, yn myfyrio’n barhaus ar ei arferion, yn edrych ar yr arfer gorau rhyngwladol, yn dysgu technegau newydd a sgiliau newydd, ac yn ymgorffori hynny yn ei waith. Dyna’r addysgu gorau, a dyna beth fydd ein safonau addysgu yn ei ddisgwyl gan y proffesiwn.

Rydych yn dweud bod angen cystadleuaeth arnom. Rwy'n awgrymu bod angen cystadleuaeth arnom fel y mae arnaf i angen twll yn fy mhen. Er, ar ôl heddiw—. [Chwerthin.] Gadewch imi fod yn gwbl glir: rydym yn gwybod bod systemau addysg gorau’r byd yn dibynnu ar system o hunan wella a chydweithio a chydweithredu ar draws y proffesiwn. Nid yw ein hysgolion gorau a’n hathrawon gorau yn cadw’r arfer hwnnw iddynt hwy eu hunain oherwydd eu bod yn ofni y bydd rhywun yn gwella ac yn eu goddiweddyd mewn tabl cynghrair; maent yn rhannu'r arfer gorau hwnw. Maen nhw’n rhannu’r syniadau da hynny, ac maent yn gwneud hynny gan wybod y gallant fod yn hael â’u sgiliau ac yn hael â’u hamser, ac nad oes rhaid iddynt boeni am gael eu goddiweddyd gan neb. Mae angen i'n hysgolion gydweithredu, nid cystadlu, oherwydd bydd gwneud hynny’n gwella’r safonau i bawb.

Ysgrifennydd y Cabinet, yng nghanol y siom, gallwn o leiaf gael ein calonogi gan y perfformiad mewn mathemateg, lle gwelodd Cymru y cynnydd mwyaf yn y DU ac, fel y soniasoch, o'r 71 o wledydd a gymerodd ran yn PISA, dim ond pedwar a berfformiodd yn well na ni o ran gwella perfformiad mathemateg. Felly, pa wersi y gallwn ni eu dysgu o'r gwelliannau mewn mathemateg y gellir eu cymhwyso i’r pynciau eraill?

Fel y mae’r OECD eu hun wedi’i ddweud, mae'r cynnydd yr ydym wedi'i wneud mewn mathemateg yn galonogol. Yr hyn y gallwn ei ddysgu o hynny yw bod y fframwaith rhifedd wedi’i roi ar waith yn llwyddiannus; wrth gwrs, dim ond ers blwyddyn neu ddwy y mae hwnnw wedi ei asesu’n ffurfiol. Rydym wedi diwygio'r cymwysterau TGAU ac rydym wedi darparu adnoddau sylweddol i sicrhau bod ysgolion yn barod ar gyfer y niferoedd a fydd yn astudio’r TGAU newydd hynny. Felly, mae swm sylweddol o arian eisoes wedi mynd i gefnogi datblygiad mathemateg. Rydym hefyd yn gweithio gyda rhwydweithiau allanol i geisio ehangu sgiliau mathemateg o fewn y proffesiwn. Rwy'n credu y gallwn ddysgu o hynny ar gyfer meysydd eraill. Rydym yn adeiladu ar y cynnydd hwnnw mewn mathemateg, fel y dywedais yn gynharach, drwy’r rhwydwaith arbenigol newydd a gyhoeddais ym mis Tachwedd. Bydd £800,000 yn mynd i mewn i hynny.

Rwy’n bwriadu gwneud yn union yr un peth mewn gwyddoniaeth, ac rydym yn edrych, fel y cyhoeddais ar ôl y canlyniadau TGAU yn yr haf, ar raglen gydweithredol newydd ar gyfer addysgu Saesneg hefyd, oherwydd mae angen inni wneud gwelliannau yn Saesneg—nid dim ond ar gyfer y prawf darllen, ond mae angen gwelliannau i ganlyniadau TGAU Saesneg a safon A Saesneg. Felly, rwy’n credu bod y rhwydwaith hwnnw o ddod â gweithwyr proffesiynol ynghyd ag ymarferwyr arweiniol dynodedig sy'n gallu datblygu arferion pobl eraill yn rhywbeth y gallwn ddysgu gwersi ohono, ond mae angen inni ddod o hyd i'r adnoddau i wneud hynny. Mewn trafodaethau gyda'r Gweinidog sy'n gyfrifol am y gyllideb, rwy'n hyderus y bydd gennym yr adnoddau i ddatblygu ein rhwydwaith gwyddoniaeth newydd ac i gefnogi’r gwaith mewn Saesneg, hefyd.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'r diwygiadau addysgol eang a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru mewn meysydd sy’n cynnwys y cwricwlwm, cymwysterau a datblygiad proffesiynol athrawon wedi eu croesawu gan athrawon a’u cefnogi'n llawn gan yr OECD. Rwy’n croesawu eich sicrwydd pendant y byddwn yn dal at yr agenda hon yn gadarn, yn hytrach na gwyro oddi wrth y llwybr yr ydym wedi’i osod i ni ein hunain ac yn rhoi’r cyfle sydd ei angen ar y diwygiadau i ymsefydlu. Efallai mai PISA yw’r meincnod rhyngwladol, ond mae'n cael ei ystyried yn eang fel mesur addysgol bras, nad oes ganddo, mewn sawl ffordd, fawr o gysylltiad â’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer TGAU. Yn ddigon teg, TGAU yw pwyslais athrawon a disgyblion 15 oed, a’r rhain yw’r mesurau sydd, mewn gwirionedd, yn arwain at y cymwysterau sy'n cael effaith uniongyrchol ar ddyfodol ein myfyrwyr. Felly, er bod PISA yn cipio’r penawdau heddiw, canlyniadau TGAU sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol a mesuradwy. Fy nghwestiwn yw: sut y gallwn uno'r ddau farciwr cynnydd hyn, sy’n aml yn cystadlu â’i gilydd, i barhau i wella ein myfyrwyr a darparu'r gorau iddynt?

Diolch am hynna, Vikki. Dylwn fod wedi—. Ymddiheuriadau i Llŷr am beidio ag ateb y cwestiwn am fy ymrwymiad parhaus i PISA a pha mor bwysig ydyw. Rwyf yn credu bod PISA yn bwysig. Rwy’n gwbl benderfynol o barhau i gymryd rhan yn yr astudiaeth PISA. Mae angen inni ei weld fel prawf pwysig, nid prawf o ysgolion unigol a disgyblion unigol, fel TGAU, ond adlewyrchiad o iechyd ein system yn ei chyfanrwydd. Maent yn mesur gwahanol bethau, rwy’n credu. Ond rydych yn iawn, bu diffyg cysylltiad yn y gorffennol rhwng y mathau o sgiliau sy'n cael eu profi orau yn PISA, ac sy’n caniatáu i ddisgyblion wneud yn dda yn PISA, a natur ein TGAU.

Nid yw ein TGAU yn newid i'n galluogi i wneud yn well yn PISA. Mae ein TGAU yn newid i sicrhau eu bod yn addas i'w diben, yn fodern, yn heriol, yn ymestynnol, ond hefyd yn sicrhau bod gan y plant y sgiliau sydd eu hangen arnynt i fynd ymlaen i astudio ymhellach neu i fyd gwaith; ond byddan nhw’n cael eu haddysgu a'u harholi mewn ffordd sy’n cyd-fynd yn well â'r math o wybodaeth a sgiliau sydd hefyd eu hangen ar blant i gymryd rhan yn PISA a gwneud yn dda. Mae ein cymwysterau mathemateg newydd yn enghraifft dda iawn o hynny, gan gynnwys yr hyn y byddwn i'n ei ystyried yn fathemateg bur a chyfrifiadau a mathemateg gymhwysol o ran rhifedd—y gallu i ddefnyddio techneg fathemategol i ddatrys problem bywyd go iawn—a dyna pam yr ydym wedi mynd i lawr y llwybr hwnnw.

O ran ein Saesneg, er enghraifft, rydym yn dal i ystyried bod y gallu i gyflwyno ar lafar yn rhan bwysig o sut yr ydym yn graddio Saesneg TGAU—rhywbeth sydd wedi mynd allan drwy'r ffenestr yn Lloegr. Ond mae eu gallu i ddarllen yn gymwys a siarad yn gymwys, sydd yn dal i fod yn rhan o'n TGAU Saesneg, yn rhywbeth sy'n cael ei brofi yn PISA. Felly, rwy’n credu bod mwy o gyfochri ar gyfer y dyfodol, ond nid ydym yn gwneud hynny dim ond er mwyn gwneud yn well yn PISA, rydym yn gwneud hynny oherwydd y bydd ein TGAU yn paratoi ein plant yn well ar gyfer yr heriau y byddan nhw’n eu hwynebu pan fyddan nhw’n gadael yr ysgol neu’n mynd ymlaen i astudio ar lefel uwch.

Ysgrifennydd y Cabinet, cafodd llawer ohonom ein synnu pan wnaethoch chi ymuno â Llywodraeth Cymru a derbyn y portffolio addysg. Mae canlyniadau PISA heddiw yn siom fawr i bob un ohonom yma yng Nghymru, yn enwedig i rieni sydd â phlant yn y system addysg ar hyn o bryd. Yr unig newyddion da i chi, am wn i, yw ei bod hi’n deg ichi feio eich rhagflaenwyr am ganlyniadau heddiw. Ond ymhen tair blynedd, bydd y cyfan yn gorwedd yn gadarn ar eich ysgwyddau chi.

Sylwais eich bod wedi dweud wrth ein cydweithiwr Michelle Brown y byddai'n well gennych wrando ar yr OECD a gwrando ar eu cyngor nhw yn hytrach na chyngor y bobl yma yn y Siambr hon. Wel, a gaf i dynnu eich sylw at—? Wel, rwy’n credu y gwnaf un datganiad am yr OECD: maent yn cael pethau'n iawn bob amser, onid ydyn nhw? Hoffwn eich atgoffa am eu rhagolygon Brexit a’r gofid a’r gwae a roddon nhw inni, a'r ffaith y bydd Prydain, wrth inni ddod at ddiwedd y flwyddyn, mewn gwirionedd yn un o'r rhai sy'n perfformio orau o'r G7.

Mae gen i gwestiwn i chi. [Torri ar draws.]

Os ydych yn gwrando ar y bobl fwyaf llwyddiannus yn ein cenedl, byddant i gyd yn dweud un peth wrthych am osod nodau, sef os caiff nod ei osod arnom gan rywun arall, nid oes gennym berchnogaeth dros y nod hwnnw ac mae'n fwy anodd i ni ei gyflawni. A gaf i ofyn i chi, a ydych chi wedi ymgysylltu â phenaethiaid ein hysgolion i ofyn iddynt pa dargedau a nodau sydd ganddynt o ran PISA? Os mai nhw eu hunain sy’n gosod y nodau, nhw fydd yn berchen ar y nodau hynny a byddan nhw’n fwy tebygol o’u cyflawni.

Hefyd, sut yr ydych chi’n bwriadu i’n plant gael budd o Gymru sy’n edrych tuag allan ar ôl Brexit? Mae Brexit yn mynd i roi cyfleoedd gwych i'n pobl ifanc, ond oni bai eu bod yn cael yr offer cywir, ni fyddant yn gallu manteisio ar y cyfleoedd hynny. Mae'r Llywodraeth Lafur Cymru hon yn euog o lawer o bethau, ond mae'n rhaid mai ei methiant i baratoi ein plant ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, sy’n fwyfwy cystadleuol, yw eu hanallu mwyaf.

Diolch, Nathan. Mae'n braf eich gweld chi. [Chwerthin.] A gaf i ddweud na fydd bai yn gwella unrhyw sgôr PISA? Mae'n hawdd ei wneud, gallai ddarparu adloniant i’r rhai ohonom sydd yma yn y Siambr, gallai olygu y byddwch chi ar y teledu heno, gallai ddarparu deunydd ar gyfer ffrwd Twitter, ond ni wnaiff, mewn unrhyw ffordd, siâp na ffurf, wella addysg ein plant. Felly, yn hytrach na threulio a gwastraffu fy amser yn beio pobl, rwyf yma i fwrw ymlaen â'r hyn sydd angen iddo ddigwydd i ddiwygio ein system addysg.

Nawr, rydych yn gofyn beth yr ydym ni’n ei wneud i greu gwlad sy'n edrych tuag allan. Rwy'n cymryd yn ganiataol—ond, yn y byd hwn, ni ddylech byth gymryd dim byd yn ganiataol—eich bod wedi darllen adroddiad Donaldson, ac y byddwch yn gwybod mai un o ganlyniadau disgwyliedig ein cwricwlwm newydd yw sicrhau bod ein dinasyddion yn foesegol ac yn wybodus. Dyna un o amcanion datganedig diwygio'r cwricwlwm, a byddwn yn datblygu meysydd dysgu a phrofiad i sicrhau bod ein holl blant sy'n gadael ein hysgolion yn ddinasyddion moesegol a gwybodus.

Gwnaethoch ofyn a wyf i wedi bod yn ymgysylltu â'r sector. Wel, gallaf ddweud wrthych, yn yr wythnosau diwethaf, fy mod wedi cyfarfod ag undebau’r penaethiaid, undebau’r arweinwyr ysgolion a cholegau, a’u hannerch. Rydym wedi cael dwy gynhadledd addysg genedlaethol—un yn y de ac un yn y gogledd—pryd y gwnes i annerch dros 50 y cant o'r penaethiaid ysgol. Bydd gennym gynhadledd arall i benaethiaid ysgolion uwchradd yn nhymor y gwanwyn. Felly, rwy’n treulio llawer iawn o fy amser yn siarad â'r sector ynghylch sut y gallwn fwrw ymlaen â hyn. Ac, fel y dywedais yn fy natganiad agoriadol, rwy’n canfod parodrwydd pendant, yn wir, angerdd, i gael hyn yn iawn yn ein hysgolion. Ac mae'r ysgolion hynny yn arwain o'r tu blaen, ac rwy’n croesawu’r ymgysylltiad â'r sector yn y modd hwnnw.

Diolch, Lywydd. Heddiw, yn arbennig, hoffwn dalu teyrnged i ymdrechion yr athrawon a'r llywodraethwyr, a’r bobl ifanc yn fy ysgol leol; cyflawnodd rai ohonynt y canlyniadau TGAU gorau erioed yn gynharach eleni. Ac rwy’n dweud hynny oherwydd bod PISA yn bwysig, ond mae cymryd arnom mai dyma'r unig ddangosydd o lwyddiant yn gwbl anghywir. Nawr, rwy’n cymeradwyo Ysgrifennydd y Cabinet am gydnabod yn onest yr heriau parhaus i addysg yng Nghymru a nodir yn yr adroddiad PISA, ond hefyd am dderbyn barn y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd bod yn rhaid i ni barhau’n ddiysgog â'r diwygiadau yr ydym eisoes wedi’u rhoi ar waith i gael y canlyniadau sydd eu hangen arnom, ac mae angen inni fod yn uchelgeisiol ar gyfer ein pobl ifanc.

Mae canologrwydd rhagoriaeth mewn addysgu wedi ei nodi gan awduron yr adroddiad PISA o’r OECD, ynghyd â'r gydberthynas rhwng y canlyniadau gorau a chyrhaeddiad gwyddoniaeth i mewn i wersi. A gaf i, felly, gymeradwyo i’r Ysgrifennydd Cabinet waith gan bobl fel Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol, sy’n ymgysylltu rhwng ysgolion a cholegau a phartneriaid diwydiannol, gan ddarparu profiad gwaith cymhwysol i ddisgyblion ysgol, a, thrwy eu rhaglen mewnwelediad, yn darparu cyfleoedd i athrawon ddysgu mwy am fyd go iawn peirianneg mewn gwahanol sectorau, a ddangoswyd mewn digwyddiad heddiw a gynhaliwyd gan Hefin David, fy nghydweithiwr, a chynnal digwyddiadau i ysbrydoli disgyblion mewn peirianneg fel yr un yr oeddwn yn falch o gael siarad ynddo dim ond yn ddiweddar yn Techniquest, ar yr ochr arall i’r bae? Dim ond un o'r sefydliadau sy'n gwneud gwaith gwych mewn pynciau gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg yw hwn, gan agor llygaid pobl ifanc i’r byd o yrfaoedd sydd ar gael iddyn nhw a rhoi hwb i'w cyrhaeddiad academaidd ar yr un pryd.

Felly, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet annog ysgolion yng Nghymru i ymgysylltu â phartneriaid fel y rhain, fel Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol ac eraill, fel y gallwn roi hwb i gyrhaeddiad addysgol ein pobl ifanc, eu helpu i gael mynediad at yrfaoedd cyffrous posibl, a chyfrannu tuag at godi perfformiad ysgolion hefyd?

Diolch, Huw. Byddwch yn ymwybodol o fy nghytundeb â'r Prif Weinidog sy’n tynnu sylw at y flaenoriaeth yr ydym yn ei rhannu i ddatblygu gwell cysylltiadau rhwng y byd addysg a byd gwaith a diwydiant. Ac, i adeiladu ar y cysylltiadau hynny, mae Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol, fel yr ydych wedi’i nodi, yn un o lawer o sefydliadau sy'n gwneud gwaith gwych yn y maes hwn. Roeddwn yn Sony yn eich etholaeth chi yn eithaf diweddar i weld y gwaith rhagorol y mae Sony yn ei wneud gydag ysgolion cynradd ac uwchradd yn yr ardal ym maes cymhwysedd digidol.

Mae angen inni ddangos i blant pam mae astudio gwyddoniaeth yn bwysig, a'r cyfleoedd a fydd yn agor iddynt. Ac mae hynny’n anodd ei wneud os nad oes gennych brofiad o hynny yn eich teulu neu yn eich ardal benodol. Felly, mae angen i ni greu’r cyfleoedd hynny i blant. Oherwydd, os nad ydynt yn ei weld, ni fyddant fyth yn dyheu am ei gyrraedd. Ac mae angen gwneud hynny, yn enwedig, yn achos merched, pan ddaw i astudio pynciau gwyddonol. Ond mae angen inni allu gwneud yn siŵr bod ein plant wedi’u paratoi i ddilyn y gyrfaoedd gwyddonol hynny, a dyna pam yr ydym wedi diwygio ein pynciau TGAU gwyddoniaeth, a addysgwyd am y tro cyntaf y mis Medi hwn, a fydd yn rhoi iddynt y lefel a’r dyfnder o ddealltwriaeth a gwybodaeth a fydd yn caniatáu iddynt fynd ymlaen i astudio Safon Uwch neu gymwysterau eraill mewn gwyddoniaeth ar lefel uwch.

6. 4. Datganiad: Ynni

Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ar ynni. Ac rydw i’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i wneud ei datganiad—Lesley Griffiths.

Member
Lesley Griffiths 15:36:00
The Cabinet Secretary for Environment and Rural Affairs

Diolch, Lywydd. Mae ein system ynni yn mynd drwy newid sylweddol. Mae'r datganiad hwn yn adlewyrchu’r cyd-destun newidiol hwn, ac yn amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru mewn cysylltiad ag ynni.

Cytundeb Paris sy’n llywio’r agenda ddatgarboneiddio rhyngwladol. Rydym yn gweld datblygiadau cyflym mewn ynni adnewyddadwy, storio a lleihau'r galw. Yn COP22 yn Marrakesh, cyfarfum ag arweinwyr sydd wedi gwneud cynnydd o ran datblygu cymdeithasau carbon isel a fydd yn fwy cydnerth wrth ymdopi â heriau yn y dyfodol. Mewn cyferbyniad, mae Llywodraeth y DU wedi creu ansicrwydd polisi ac wedi tanseilio hyder buddsoddwyr mewn ynni. Rwyf am fod yn eglur ynghylch y blaenoriaethau ar gyfer Cymru a sut y byddwn yn eu cyflawni.

Mae'r Llywodraeth hon yn parhau i fod wedi ymrwymo i'r uchelgeisiau a nodir yn ‘Ynni Cymru’. Mae gen i dair blaenoriaeth glir ar gyfer y Cynulliad hwn. Yn gyntaf, byddwn yn lleihau faint o ynni a ddefnyddiwn yng Nghymru. Yn ail, byddwn yn lleihau ein dibyniaeth ar ynni a gynhyrchir o danwydd ffosil. Yn drydydd, byddwn yn mynd ati’n rhagweithiol i reoli'r broses o newid i economi carbon isel. Byddwn yn llywio’r newid hwn i sicrhau’r manteision mwyaf posibl i Gymru, gan ddarparu arweinyddiaeth strategol, a lleihau ansicrwydd. Mae'n rhaid i ni barhau i dyfu’r economi ar yr un pryd â lleihau allyriadau a rheoli fforddiadwyedd. Byddaf yn sicrhau bod ein polisïau a'n cymorth wedi’u cysoni a’u bod yn gweithio tuag at gyflwyno system ynni carbon isel ar gyfer Cymru.

Yn gyntaf, lleihau'r ynni a ddefnyddiwn yng Nghymru: byddwn yn parhau â'n rhaglenni effeithlonrwydd ynni blaenllaw, gan ganolbwyntio ar bobl agored i niwed sydd mewn perygl o dlodi tanwydd. Mae hyn yn diogelu cartrefi yn erbyn prisiau ynni sy’n cynyddu, yn lleihau allyriadau, ac yn helpu pobl i gadw'n gynnes ac yn iach. Rydym wedi gwario £217 miliwn yn gwella mwy na 39,000 o gartrefi yn y pum mlynedd diwethaf. Y llynedd, sicrhaodd y cynllun Nyth arbedion cyfartalog ar filiau ynni o fwy na £400 fesul cartref. Rwy'n gwybod bod fy nghydweithiwr, y Gweinidog dros Gyllid a Llywodraeth Leol yn edrych ar fanylion datganiad yr hydref ac yn trafod blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwariant ychwanegol. Pan fydd yr adolygiad cynaliadwyedd rheoliadau adeiladu cyfredol wedi’i gwblhau, byddwn yn troi ein sylw at wella perfformiad ynni adeiladau newydd.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Byddwn yn adeiladu ar y newidiadau a gyflwynwyd gennym yn 2014 i leihau ymhellach effaith datblygiadau newydd yng Nghymru ar yr hinsawdd. Rwy'n rhagweld y bydd y gwaith hwn yn dechrau tua chanol 2017. Rydym ni hefyd yn cynyddu buddsoddiadau mewn prosiectau arbed ynni yn y sector cyhoeddus. Erbyn diwedd y flwyddyn ariannol hon, rydym yn disgwyl y byddwn wedi buddsoddi tua £35 miliwn mewn prosiectau lleihau costau. Byddaf yn parhau i weithio gyda'r Ysgrifennydd Parhaol i ystyried sut y gallwn gyflawni ein nodau arbed ynni ar ystâd Llywodraeth Cymru. Byddwn yn parhau i gefnogi diwydiannau ynni-ddwys, gan gynnwys dur, i fod yn fwy effeithlon o ran ynni drwy ein cynllun gwarchod yr amgylchedd. Mae ein cynllun yn lleddfu rhai o'r materion o ran costau ynni cyffredinol uchel. Fodd bynnag, rydym yn parhau i alw ar Lywodraeth y DU i fynd i’r afael â phroblemau systemig o ran prisio ynni i’r diwydiannau hyn.

Yn ail, lleihau'r ddibyniaeth ar ynni o danwydd ffosil: nodir ymrwymiad y Llywodraeth hon i gefnogi prosiectau ynni adnewyddadwy yn ‘Symud Cymru Ymlaen’. Bydd yn elfen allweddol o'r pedair strategaeth drawsbynciol sy’n llywio ein blaenoriaethau. Bydd newid i garbon isel yn effeithio ar sut yr ydym yn cynhyrchu ac yn defnyddio trydan a gwres, ac yn newid y ffordd yr ydym yn bodloni ein hanghenion cludiant. Gan fod y sector hwn yn dibynnu’n helaeth ar danwydd ffosil, byddaf yn gweithio gyda fy nghydweithiwr Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith, ar y goblygiadau ar y cyd i’n portffolios ni. Rydym wedi ymrwymo i gefnogi cerbydau carbon isel a newid moddol i deithwyr a nwyddau er mwyn lleihau allyriadau o drafnidiaeth. Er mwyn darparu ynni carbon isel sicr a fforddiadwy, mae angen cymysgedd o wahanol dechnolegau o wahanol feintiau, o raddfa gymunedol i brosiectau mawr. Yn y tymor canolig, mae hyn yn golygu newid i gynhyrchu carbon isel, sy'n cynnwys niwclear. Byddwn yn gwneud y manteisio i’r eithaf ar swyddogaeth cynhyrchu adnewyddadwy. Bydd gan storio a thechnoleg glyfar swyddogaeth alluogi allweddol, a gallai dal carbon a datblygiadau arloesol eraill chwarae rhan hefyd. Byddwn yn datblygu ein sylfaen dystiolaeth i nodi'r llwybrau ynni sy’n sicrhau'r canlyniadau gorau i Gymru. Bydd hyn yn ein galluogi i bennu targedau uchelgeisiol ond realistig ar gyfer ynni adnewyddadwy, gan gynnwys ynni cymunedol.

Rydym wedi sefydlu fframweithiau deddfwriaethol sy'n torri tir newydd yn gysylltiedig â chynllunio, rheoli adnoddau naturiol a datgarboneiddio, a ategir gan ein Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Byddwn yn gweithredu’r fframweithiau strategol hyn i arwain y datblygiadau ynni cywir i'r mannau cywir i Gymru. Fy nod i yn awr yw rhoi dulliau ar waith i gyflawni system gliriach a symlach. Bydd hyn yn cynnwys sefydlu ein fframwaith datblygu cenedlaethol, gan ymgynghori ar ein cynllun morol drafft, ymgynghori ar ein dull arloesol o gynllunio adnoddau naturiol, cynhyrchu datganiadau ardal i helpu i nodi cyfleoedd ar gyfer ynni adnewyddadwy, ac adlewyrchu’r potensial hwn mewn cynlluniau datblygu lleol, sefydlu’r cyllidebau carbon cyntaf a’r cynllun newid i garbon isel, a datblygu trefn ganiatâd effeithiol i Gymru wrth i ni dderbyn pwerau i roi caniatâd i ddatblygiadau hyd at 350 MW.

Rwy'n ddiolchgar i bawb a gyfrannodd at adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd yn ddiweddar a'r grwpiau gorchwyl a gorffen ar ynni morol ac ynni gwledig. Byddwn yn awr yn canolbwyntio ar weithredu'r argymhellion ymarferol. Pan fo'n bosibl, byddwn yn symleiddio’r broses y mae’n rhaid i brosiectau ei dilyn er mwyn cael caniatâd, gan leihau nifer y ceisiadau y mae’n rhaid eu cyflwyno. Mae Bil Cymru yn datganoli rheolaeth dros weithgareddau olew a nwy ar y tir yng Nghymru. Mae gan nwy swyddogaeth yn y cyfnod o newid. Fodd bynnag, mae'n rhaid i ni reoli ei ddefnydd yn synhwyrol. Byddaf yn parhau â’n hymagwedd ragofalus at weithgarwch nwy anghonfensiynol, gan gynnwys gwrthwynebu ffracio. Mae glo wedi chwarae rhan ganolog yn natblygiad economaidd Cymru. Fodd bynnag, mae’n rhaid inni symud at ffynonellau ynni mwy cynaliadwy.

Rwy’n cytuno â chynigion Llywodraeth y DU i roi’r gorau yn raddol i ddefnyddio pŵer glo erbyn 2025. Byddaf yn ymgynghori cyn hir ar newidiadau i bolisi cynllunio i gyfyngu ar gynigion newydd i echdynnu glo. Byddaf yn rhoi llais cryf i Gymru yn y system ynni ehangach, gan rannu ein blaenoriaethau â Llywodraeth y DU, Ofgem, y Grid Cenedlaethol ac eraill. Mae hyn yn cynnwys cefnogi cynhyrchu adnewyddadwy, gan gynnwys technolegau cost leiaf megis ynni haul a gwynt, gan barhau i gefnogi technolegau newydd megis ynni morol, a sicrhau bod rheoleiddio yn cefnogi datgarboneiddio a datganoli ynni, ac yn gwneud ein seilwaith grid yn addas at ei ddiben.

Fy nhrydedd blaenoriaeth yw llywio’r newid ynni i sicrhau’r manteision mwyaf posibl i Gymru. Byddwn yn datblygu ein sylfaen sgiliau ac yn rhoi cymorth ymarferol ac ariannol i gyfleoedd ynni sy'n cyflymu'r newid i garbon isel. Mae gan Gymru gyfleoedd i gynnal prosiectau ynni mawr, a all gynnig manteision sylweddol i Gymru. Mae'r rhain yn cynnwys niwclear a morol yn Ynys Môn, a morlynnoedd llanw ac elfennau ynni arloesol yng nghais dinas-ranbarth Abertawe. Byddwn yn parhau i gefnogi cynhyrchu ar wahanol raddfeydd, o raddfa fferm i'r Wylfa Newydd, sef y prosiect seilwaith mwyaf y bydd Cymru yn ei weld mewn cenhedlaeth. Rydym yn aros yn eiddgar am ganlyniad adolygiad Hendry o’r morlynnoedd llanw.

Mae ein rhaglen Byw yn Glyfar yn dwyn ynghyd sefydliadau cyhoeddus, preifat ac academaidd mewn prosiectau arddangos ymarferol. Bydd yn creu modelau busnes newydd ar gyfer cerbydau carbon isel, storio a rheoli grid lleol. Byddwn hefyd yn parhau i weithio gyda datblygwyr i ganfod a oes modd i adweithyddion modiwlaidd bach newydd ychwanegu gwerth at ein sylfaen sgiliau yng Nghymru. Byddwn yn parhau i wrando, gan sicrhau bod ein cefnogaeth yn esblygu yn unol ag anghenion newidiol y sector cyhoeddus, busnesau a chymunedau. Rwy’n credu y bydd yr ymagwedd gydgysylltiedig a chydlynol hwn i ynni yn cyflawni Cymru carbon isel ffyniannus a diogel.

A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am y datganiad, a hefyd am y copi ymlaen llaw o’r datganiad y mae hi newydd ei wneud. Mae’n eithaf eang—rwy’n credu, os gallwn i fod yn feirniadol, ei fod braidd yn wanllyd: mae angen ychydig mwy o wmff yn hyn, y maes mwyaf allweddol o bolisi'r Llywodraeth, yn ôl pob tebyg.

A gaf i ddechrau gyntaf holl—? Ac mae llawer o feysydd lle'r ydym ni’n cytuno â dull y Llywodraeth; mae'n sicr yn fater o ofalu ei fod yn cael ei weithredu'n effeithiol. Gadewch i ni ddechrau gydag effeithlonrwydd ynni. Nid wyf yn anghytuno â'r hyn a ddywedodd Ysgrifennydd y Cabinet, ond rwy’n meddwl bod rhai pethau allweddol, yn awr, lle y mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru ddwyn eraill i gyfrif i sicrhau eu bod yn cyflawni eu haddewidion. Er enghraifft, mae angen cyflymu’r broses o gyflwyno mesuryddion clyfar yn sydyn iawn. Mae'n ymddangos i mi fod Cymru wedi cael ei gadael ar ôl gan y rhan fwyaf o'r cwmnïau, a’u bod wrthi’n gwneud Lloegr gyfan, ychydig fel y dull a oedd gennym o drydaneiddio'r rheilffyrdd, sy’n fater sydd wedi ei godi yn y Siambr hon o'r blaen, rwy’n meddwl. Rwy’n bryderus iawn bod gennym ffordd bell iawn i fynd ar hynny mewn gwirionedd. Rwy'n gwybod bod y cwmnïau ynni bellach yn gwneud pob math o addewidion ynghylch pa mor gyflym y maent yn mynd i wneud hynny, ond diar, mae angen iddynt ddal i fyny. Mae mesuryddion clyfar yn cynnig cyfle gwych, o ran effeithlonrwydd ynni a chael llawer o bobl allan o dlodi tanwydd, fel y gallant gadw eu cartrefi'n gynnes am y gost isaf bosibl.

Rydych chi'n iawn i ystyried y cyfleoedd sydd gennym i greu adeiladau sy'n cynhyrchu ynni, yn hytrach na dim ond ei ddefnyddio. Credaf fod angen i’r uchelgais fod mor fawr â phosibl. Felly gadewch i ni gynhyrchu'r rheoliadau adeiladu, gadewch i ni arwain y DU yn y maes hwn, gadewch i ni hyfforddi ein gweithlu i allu gwneud y gwaith hwn, ac yna efallai y byddwn yn denu busnes o bob cwr o'r DU drwy gynnig gweithlu hynod soffistigedig. Felly, rwy'n credu bod hwnnw'n faes pwysig iawn. Mae hefyd yn faes gwych o ran ysgogi’r economi leol. Mae'n gynhyrchiol iawn, iawn.

Rwy'n meddwl bod angen i’r sector preifat, o ran effeithlonrwydd ynni, chwarae ei ran hefyd. Deallaf o arolwg gan Barclays fod 50 y cant o gynhyrchwyr Cymru yn bryderus am eu cydnerthedd o ran ynni—ac maent yn iawn i wneud hynny, yn ôl pob tebyg—ac am y posibilrwydd y byddant yn dioddef prinder a achosir gan gost neu ddiffyg cyflenwad yn y dyfodol. Wel, un o'r pethau y gallant ei wneud mewn gwirionedd yw defnyddio ynni yn fwy effeithlon. Ac rwy’n meddwl mai’r syniad o ddefnyddio ynni yn effeithlon wedyn yw lleihau cyfanswm y swm sydd ei angen arnoch, yn hytrach na bod yn afradlon mewn ardaloedd eraill. Mae’n rhaid, mewn gwirionedd, i hyn arwain at ddefnydd mwy effeithiol a llai o ddefnydd yn gyffredinol.

A gaf i droi at danwydd ffosil? Gadewch i ni ddatgan yr amlwg: bydd cyllidebau carbon yn helpu, ond pam y mae'n rhaid i ni aros tan ddiwedd 2018 cyn inni weld yr un cyntaf gan Lywodraeth Cymru? Bydd hynny hanner ffordd drwy'r Cynulliad hwn. Mae'r cyllidebau carbon hynny i fod i helpu i wneud penderfyniadau a'r ddeddfwriaeth i graffu arnynt. Rwyf wir yn meddwl bod arafwch yn y maes hwn yn fethiant o ran arweinyddiaeth a dweud y gwir. Rwy’n croesawu yn arbennig ddatganiad yr hydref y Canghellor o ran yr hyn a ddywedodd am gerbydau trydan a chludiant glanach yn gyffredinol, gan gynnwys cludiant cyhoeddus, a hefyd y buddsoddiad seilwaith a fydd ar gael ar gyfer creu pwyntiau ailwefru a seilwaith arall, rhai ohonynt y gwnaethoch chi sôn amdanynt. Rwy'n credu bod angen rhywfaint o fanylion gennych chi, Ysgrifennydd y Cabinet, yn y bôn. A ydych chi’n mynd i ddefnyddio peth o'r arian sydd yn mynd i ddod i Gymru i sicrhau ein bod yn dal i fyny? Oherwydd rydym ni’n sylweddol y tu ôl ar bwyntiau ailwefru trydanol, er enghraifft. Hoffwn hefyd i chi gymryd yr awenau gyda'r awdurdodau lleol a darparwyr trafnidiaeth gyhoeddus eraill—gallwn ni wneud llawer i'w symud i ffwrdd o’r defnydd dwys o ddiesel, yn aml, ac ystyried dewisiadau eraill, oherwydd mae’n bwysig ein bod yn cymryd mantais o’r symudiad mawr yr ydym wedi ei gael i ddefnyddio cludiant cyhoeddus yn y 10 neu 20 mlynedd diwethaf; mae hynny'n bwysig iawn, ond gallem fod yn gwneud yn llawer gwell i ddarparu cludiant cyhoeddus glanach. Bydd hynny’n ennill dwbl, os byddwn yn gwneud hynny. Gallai hefyd ymestyn i'r fflydoedd tacsi, gyda llaw, pe bydden nhw’n defnyddio hybrid a symud i ffwrdd o ddiesel, neu hyd yn oed yn symud yn llwyr i drydan. Felly, rwy’n gobeithio y byddwch yn teimlo'n ddigon hyderus i roi mwy o arweiniad i ni yn y maes hwnnw hefyd.

A gaf i, wrth fynd heibio, sôn am yr angen, rwy’n meddwl, i ailddychmygu ein mannau trefol? Cefais fy annog yn fawr gan yr hyn y mae rhai o'r dinasoedd mwyaf blaenllaw yn Ewrop newydd ei ddweud, â Pharis ar y blaen, rwy’n meddwl, sef bod gwir angen inni ystyried y gofod trefol a meddwl beth sydd yno y gellir ei ddefnyddio’n wahanol. Rwy'n gwybod eu bod yn gosod targedau uchelgeisiol iawn i'w gwneud yn ardaloedd di-ddiesel. Ond, wyddoch chi, mae gennym ni ddinasoedd sy’n llawn ffyrdd a phalmentydd, ac rydym yn aml yn sôn bod angen mwy o seilwaith ar gyfer lonydd beicio a lonydd i gerddwyr. Wel, gallem ni ail-ddynodi cryn dipyn o'r hyn sydd gennym yn barod, diolch yn fawr iawn, a byddai hynny'n newid agweddau pobl yn eithaf cyflym ac yn ein galluogi ni i fyw bywydau llai dwys o ran carbon. Rwy'n credu bod hynny’n wirioneddol bwysig yn nhermau’r cyfeiriad teithio.

O ran ynni adnewyddadwy, o ganlyniad i Fil Cymru, byddwn mewn sefyllfa well i symud ymlaen yn gyflymach. Rwy’n cydnabod nad yw Llywodraeth Cymru wedi cael cymaint o ysgogiadau yma ag y byddai wedi dymuno, ac rwy'n falch y bydd gennym fwy. Bydd hynny yn ein galluogi i bennu targedau llawer mwy uchelgeisiol. Os edrychwn ar yr Alban—ac nid yw hyn yn gymhariaeth er mwyn condemnio Llywodraeth Cymru, oherwydd mae rhesymau ehangach pam mae hyn wedi digwydd, ond, beth bynnag—mae’r Alban yn bwriadu cynhyrchu'r hyn sy'n cyfateb i’w holl anghenion ynni trwy ddulliau adnewyddadwy erbyn y 2020au cynnar. Felly, rwy’n credu bod angen targed arnom. Ni all fod erbyn y 2020au cynnar, ond ni ddylem ohirio’r targed hwnnw am yn hir iawn, ac mae angen i ni fod mor uchelgeisiol â phosibl o ran pryd y gallwn gyrraedd yno.

Gan droi at yr economi carbon isel, eich gweledigaeth chi yw bod hwn yn gyfle gwych, a dyna fy ngobaith i hefyd. Mae gan yr hyn a oedd unwaith yn un o'r economïau carbon mwyaf dwys yn y byd gyfle erbyn hyn i fod yn rhan o ffordd newydd o wneud pethau, a ffordd newydd o gynnal ein bywydau economaidd. Mae llawer o hyn yn aflonyddgar; mae llawer o'r hyn sy'n digwydd yn economi’r byd yn aflonyddgar, ond mewn gwirionedd, mae yn dod â'r rhwystrau i fasnachu i lawr llawer hefyd, ac mae gan economïau rhanbarthol cymharol dlotach fel Cymru gyfle yma. Ond i wneud hynny—ac nid yw hyn yn y sector ynni yn unig, mae hyn yn mynd ar draws y sectorau—mae angen inni fuddsoddi yn sgiliau ein gweithlu a chanolbwyntio ar sgiliau o safbwynt ynni. Cyfeiriais at hynny ychydig yn gynharach.

Rwyf hefyd yn credu bod y manteision—

A ydych chi’n dod i gasgliad? Rydych chi wedi cymryd bron cymaint o amser â’r Gweinidog.

Mae’n ddrwg gen i. Mae cyfleoedd cynhyrchu ar raddfa fach ar gael, ac rwy’n meddwl y gall hynny hefyd greu mwy o berchnogaeth gymunedol a hefyd mwy o gyfleoedd buddsoddi. Mewn oes o gyfraddau llog isel, mae cyfleoedd yma i bobl i wneud elw teg ar eu cynilion—a defnydd cyffredinol o dechnolegau newydd fel y llanw. Diolch.

Diolch i David Melding am ei sylwadau a’i gwestiynau. Fel y dywedais ar y dechrau, mae ein blaenoriaethau yn parhau i fod yn unol â’r hyn a nodir yn ‘Ynni Cymru: Newid carbon isel’, ‘Twf Gwyrdd Cymru’ a pholisïau eraill sydd wedi eu cyflwyno. Os dysgais un peth o fynd i COP22 yn Marrakesh, yr agenda datgarboneiddio gyfan oedd hwnnw a sut y mae angen i ni ganolbwyntio ar y gwahanol sectorau i wneud yn siŵr ein bod yn cyflawni’r targedau hynny. Yn amlwg, mae ynni wedi ei gasglu at ei gilydd mewn un portffolio erbyn hyn, felly roeddwn i’n meddwl ei bod yn bwysig cyflwyno’r datganiad hwn.

O ran effeithlonrwydd ynni, rwy’n meddwl bod Arbed a Nyth yn gynlluniau da iawn ac yn sicr, wrth edrych ar y canlyniadau, rwy'n credu mai dyna’n bendant yw’r ffordd gywir ymlaen os ydym ni’n mynd i gyflawni ein targed tlodi tanwydd. Rwy'n derbyn yn llwyr yr hyn yr ydych yn ei ddweud am fesuryddion clyfar, ac mae honno’n sgwrs yr wyf wedi ei chael gyda'r cwmnïau ynni ac Ofgem.

Gwnaethoch gyfeirio cwpl o weithiau at y ffaith bod sgiliau yn bwysig iawn yn y sector ynni, ac ni allwn yn fy myw ddadlau â hynny. Rwy’n cofio pan oeddwn yn Weinidog Sgiliau sawl blwyddyn yn ôl, roi pwyslais ar sicrhau bod gennym ddigon o bobl i osod paneli solar, er enghraifft. Ond nawr, oherwydd bod cefnogaeth Llywodraeth y DU yn cael ei dynnu oddi ar ynni’r haul—rwy’n gefnogol iawn o ynni’r haul—rwy'n credu ein bod yn gweld y nifer o baneli solar sy’n cael eu gosod yn lleihau, a chredaf fod hynny’n drueni mawr. Felly, mae'n ymwneud â sicrhau bod y sgiliau hynny yn iawn. Er enghraifft, ar Ynys Môn yn Wylfa Newydd, mae pwyslais mawr ar sicrhau bod y sgiliau hynny ar gael yn y dyfodol. Ond rydych chi yn llygad eich lle; ar draws pob sector ynni, mae angen i ni sicrhau bod y sgiliau priodol yno.

Gwnaethoch sôn bod gan y sector preifat swyddogaeth mewn dwy ffordd: mae gan fusnesau ran i’w chwarae, ac rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn, os ydym ni’n mynd i gael y gymysgedd ynni y mae ei eisiau arnom a’r diogelwch hwnnw, bod angen i ni sicrhau ein bod yn denu cyllid sector preifat hefyd. Ond rwy'n credu eich bod yn iawn; mae angen inni sicrhau bod cwmnïau yn effeithlon o ran ynni a’n bod ni yn eu hannog i—fel y dywedais, y flaenoriaeth gyntaf yw lleihau'r defnydd yng Nghymru.

Mae gan brisiau swyddogaeth hynod bwysig hefyd. Nid oes gennym y pwerau dros y rheiny, Llywodraeth y DU sydd â’r pwerau hynny, ac rwy'n gwybod bod y Prif Weinidog wedi ysgrifennu, rwy’n credu, at y Prif Weinidog, a hefyd at yr Ysgrifennydd Gwladol priodol ynglŷn â lleihau costau hefyd.

Soniasoch am y cyllidebau carbon. A dweud y gwir, trafodwyd a chytunwyd ar amseriad y rheoliadau o’r blaen, yn y Siambr hon, rwy’n meddwl i ni ei drafod yn ystod hynt Bil yr amgylchedd. Pleidleisiwyd ar hynny a dyna sut y pennwyd y dyddiadau hynny. Ond yr wyf yn awr yn y broses o bennu’r gyllideb garbon honno. Rwy’n meddwl eich bod yn iawn; byddant yn hynod o fuddiol.

O ran cerbydau trydan ac, fel y soniasoch, fflydoedd tacsi, roeddwn i’n siarad â dirprwy faer Oslo yn Marrakesh a dyna un o'u huchelgeisiau nhw—y bydd yr holl fflydoedd tacsi yn gerbydau trydan yn y dyfodol. Mae'n rhaid i ni gael y seilwaith yn ei le. Mae pobl yn dweud wrthyf, chi'n gwybod, y byddent yn prynu cerbyd trydan ond ni allant ei wefru, ac mae awdurdodau lleol yn dweud nad ydynt yn gosod pwyntiau gwefru oherwydd nad oes gan ddigon o bobl gerbydau trydan. Felly, rwy’n meddwl bod angen i mi ystyried lle y gallwn dargedu cefnogaeth i sicrhau bod y cylch hwnnw’n cael ei ddatrys, er mwyn gwneud yn siŵr nad yw hynny'n rhwystro pobl rhag cael cerbydau trydan yn y dyfodol.

O ran targedau adnewyddadwy, rwy'n awyddus iawn i gael rhywfaint o dargedau, ond unwaith eto, oherwydd y prinder cefnogaeth gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, nid wyf yn dymuno pennu targed na allwn ei gyflawni. Mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod ni'n realistig ac yn ymarferol am hyn, ond rwy’n meddwl, wrth symud ymlaen, bod angen inni gael y targedau hynny ar waith.

O ran y ddeddfwriaeth, mae’r ddeddfwriaeth ar waith gennym yn awr ac mae'n ymwneud â—wyddoch chi, mae angen i ni gyflawni ar y ddeddfwriaeth hon sydd ar waith. Bydd yn helpu, rwy’n meddwl, i ni gael y gymysgedd ynni briodol, diogel yr ydym ei heisiau wrth symud ymlaen.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad, a chyn mynd ymlaen at yr hyn sydd gennyf i’w ddweud, hoffwn nodi nad wyf yn amau ​​am eiliad ei hymrwymiad personol ei hun a’i diddordeb yn y pwnc hwn, ond rwy'n ofni bod y datganiad hwn fel llawer o’r datganiadau yr ydym wedi eu cael gan y Llywodraeth yn ddiweddar—yn cynnwys llawer o brosesau, ychydig iawn o fanylion a bron dim o ran targedau. Rwy'n credu bod hyn yn siomedig iawn, mewn gwirionedd, ein bod wedi cyrraedd y cam hwn heb fwy o fanylion a mwy o wybodaeth am yr hyn y bydd ‘Ynni Cymru’ yn ei olygu mewn gwirionedd yn nhermau targedau ar gyfer y Llywodraeth.

Nid oes dim byd y gallaf anghytuno ag ef o ran amcanion lefel uchel y datganiad. Mae'n dweud,

‘Yn gyntaf, byddwn yn lleihau faint o ynni a ddefnyddiwn yng Nghymru.’

Gwych. Faint? Erbyn pryd? Sut? Yn ail,

‘Byddwn yn lleihau ein dibyniaeth ar ynni a gynhyrchir o danwyddau ffosil.’

Unwaith eto, gwych. Faint, pryd, a sut? Yr unig darged yn y datganiad yw targed Llywodraeth y DU i roi’r gorau i losgi glo erbyn 2025. Ac yn drydydd,

‘Byddwn yn mynd ati’n rhagweithiol i reoli'r newid i economi carbon isel.’

Wel, mae’r un cwestiynau yn codi, ond dewch i ni ofyn cwestiynau ar unwaith am hynny. Mae gennym ddinasoedd sydd eisoes yn gwahardd ceir diesel ymhen 10 mlynedd—Copenhagen yn dweud, ’Ni fydd gennym unrhyw geir tanwydd ffosil erbyn 2025.’ Beth y mae ein dinasoedd yn ei wneud? Beth y mae’r ddinas-ranbarth yn ei wneud? Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gyflawni'r amcanion hynny o fewn cyd-destun Cymru?

Cerbydau trydan—mae eisiau seilwaith cerbyd trydanol arnoch. Syml: ni all unrhyw ddatblygiad yng Nghymru sydd â darpariaeth parcio gael ei ddatblygu heb bwyntiau gwefru cerbydau trydan. Dim ond adeiledd y gellir ei ddatblygu dros bum i 10 mlynedd fel ‘na.

Hydrogen—beth yw swyddogaeth hydrogen mewn cludiant torfol, cludiant masnachol, ac yn enwedig ar gyfer metro de Cymru? Gallwn hepgor trydaneiddio ein rheilffyrdd drwy fynd yn syth at gludiant hydrogen. Dyma’r pethau yr wyf i am eu gweld mewn gweledigaeth gan Lywodraeth Cymru.

Rwy'n credu ei bod yn rhwystredig, oherwydd rydym ni’n gwybod mai newid yn yr hinsawdd yw'r bygythiad mwyaf sy'n wynebu'r ddynoliaeth, rydym ni’n gwybod bod gan Lywodraeth Cymru dargedau i ostwng 80 y cant ar allyriadau nwyon tŷ gwydr erbyn 2050 ac rydym yn gwybod bod gennym yr offer yma yng Nghymru i ymdrin ag ef. Mae gennym gyfoeth o adnoddau naturiol a gallwn yn rhwydd fod yn hunan-gynhaliol gan ddiwallu ein hanghenion trydan drwy ynni adnewyddadwy.

Felly, i ddod i un neu ddau gwestiwn penodol am ble y gallwn ni, gobeithio, mewn gwirionedd, gytuno a chyflawni rhywbeth ar hyn. Yn gyntaf oll, o ran effeithlonrwydd ynni, oes, mae gennym raglenni effeithlonrwydd ynni, ond beth yn awr yw rhaglen effeithlonrwydd ynni newydd Llywodraeth Cymru? Beth yw ei tharged? Mae'n gwbl realistig i feddwl am sicrhau bod 150,000 o gartrefi incwm isel yn ynni effeithlon erbyn 2020 trwy ddefnyddio, er enghraifft, pwerau benthyca yn ogystal â ffynonellau fel y Banc Buddsoddi Gwyrdd. Felly, a oes ymrwymiad yn awr i raglenni ôl-ffitio cartrefi ar raddfa fawr? A oes ymrwymiad i ddirwyn cloddio glo brig i ben fesul dipyn yng Nghymru? Ie, gwaharddiad ar ffracio, ond dewch i ni roi'r gorau'n raddol i gloddio glo brig hefyd, oherwydd rydym yn gwybod na fydd gennym y gweithfeydd hylosgi, mewn gwirionedd, i gymryd y glo hwnnw, felly pam ydym ni’n parhau i ganiatáu cloddio glo brig yn y dyfodol hirdymor? A oes ymrwymiad a ffordd o weithio i wella'r berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a'r Grid Cenedlaethol o ran rhwydweithiau dosbarthu a grid lleol?

Yn ddiddorol, ddoe, cyhoeddodd Cernyw ei bod, gyda chymorth cyllid Ewropeaidd, yn sefydlu’r farchnad ynni leol gyntaf yma yn y Deyrnas Unedig. Mae Centrica Nwy Prydain yn arwain ar hynny gyda phartneriaid lleol yng Nghernyw. Pam nad yw Cymru yn gwneud hynny? Pam mai Cernyw ac nid Cymru sy'n arwain y ffordd yn hynny o beth? A pham, er ein bod yn sôn am y morlyn llanw, nad oes mwy yn y datganiad am ynni morol? Mae'r morlyn llanw yn benderfyniad ar hyn o bryd i Lywodraeth San Steffan, ond mae gennym lawer y gallwn ei wneud i gefnogi ynni'r môr yma yng Nghymru.

Ac yn olaf, fy mhwynt olaf yw hwn: rydych chi wedi cytuno yn y gorffennol eich bod yn barod i ystyried cefnogi sefydlu cwmni ynni cenedlaethol, y mae Plaid Cymru yn ei alw’n ‘Ynni Cymru’—sef cwmni di-ddifidend hyd braich oddi wrth Lywodraeth Cymru, fel y gallwn fuddsoddi unrhyw elw mewn gwella gwasanaethau a lleihau ynni a hefyd darparu ynni rhatach yn fwy uniongyrchol i'r defnyddiwr. Gallai’r cwmni ynni hwnnw ei gwneud yn bosibl i ddatblygu rhaglenni ynni lleol; marchnadoedd ynni lleol; ynni cymunedol; gosod paneli solar ar raddfa fawr; galluogi busnesau a chyrff cyhoeddus i ddod yn fwy effeithlon o ran ynni; a helpu gyda’r dasg o leihau'r defnydd o ynni mewn cartrefi a busnesau. Mae’n amlwg bod gennych yr uchelgais, ond mae’n amlwg hefyd nad oes gan y Llywodraeth y modd na, mae'n ymddangos i mi, yr awydd i gyflawni hyn mewn gwirionedd, felly beth am sefydlu cwmni i wneud hyn ar eich rhan?

Diolch yn fawr, Simon Thomas. Fel y dywedais yn fy atebion i David Melding, rwy’n meddwl y bydd angen targedau arnom ac rwy'n hapus iawn i’w cyflwyno, efallai yn y datganiad nesaf neu drwy ddatganiad ysgrifenedig. Ond rwyf am wneud yn siŵr bod y targedau hynny yn realistig ac yn ymarferol, a gwelais rai targedau uchelgeisiol iawn gan rai gwledydd, neu gan rai gwladwriaethau a rhanbarthau yn arbennig, yn y cyfarfodydd a gefais. Rwyf wedi trafod â nhw sut y bu iddynt gyrraedd yno; rwy'n meddwl bod yna lawer o waith i'w wneud i sicrhau ein bod ni’n gallu gwneud hynny hefyd. Ond mae Cymru yn bendant wedi bod ar y blaen yn yr agenda hon, ac mae'n bwysig iawn ein bod yn aros yno. Felly, mae angen i ni wneud yn siŵr bod y targedau hynny yn realistig ac yn ymarferol, ond fe fyddaf yn cyflwyno targedau, yn arbennig ar gyfer ynni adnewyddadwy.

Rwy’n meddwl eich bod chi’n hollol iawn am feysydd parcio a chynllunio ac mae'n ffodus iawn bod ynni a chynllunio yn fy mhortffolio i, oherwydd gallaf wneud yn siŵr bod y ddau yn gyson â’i gilydd. Yn sicr, o ran rheoliadau adeiladu, mae gwaith mawr y gallwn ei wneud i gynorthwyo ein proses o newid i garbon isel.

O ran trenau hydrogen, rwy’n meddwl yn bendant bod Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith yn amlwg yn ystyried y defnydd o'r rheini, wrth symud ymlaen, ar gyfer metro de Cymru. O ran gweithfeydd glo brig a glo, yn sicr, rwy’n hapus i ddiystyru eu hehangu. Rwy’n cydnabod, yn amlwg, bod glo yn parhau i fod â swyddogaeth bwysig yn y cymysgedd ynni presennol, ond rydym yn gwybod bod gwledydd yn cael gwared arno’n gyflym iawn ac nid ydym yn dymuno cael ein gadael ar ei hôl hi yn hynny o beth. Felly, mae'n bwysig iawn ein bod ni’n cefnogi’r newid hwnnw. Ac, ydy, fel y dywedais, mae Llywodraeth y DU yn ymgynghori ar roi terfyn ar y defnydd o lo erbyn 2025. Rwy’n cytuno’n llwyr â hynny. Rwy’n mynd i gynnal ymgynghoriad a gallai fod, unwaith eto, y byddwn yn dod â hynny i ben yn gynharach na 2025, ond fe fyddaf yn paratoi’r ymgynghoriad hwnnw.

O ran ynni morol, rwyf yn credu bod yna gyfle enfawr, ac roeddwn yn siomedig iawn nad ydym wedi cael adroddiad adolygiad Hendry eto. Cyfarfûm â Charles Hendry, ynghyd â Ken Skates, sawl mis yn ôl nawr, ac roeddwn wedi gobeithio y byddem mewn sefyllfa i wybod canlyniad hwnnw erbyn hyn. Byddwch yn ymwybodol fy mod i'n cyflwyno'r cynllun morol haf nesaf, ac rwy'n credu y bydd hynny’n helpu cwmnïau sy'n awyddus i gyflwyno ynni'r môr pan fyddant yn gwybod beth yw'r cynigion.

O ran cwmni ynni, rydym ni’n edrych ar y potensial ar gyfer cwmnïau ynni di-elw yng Nghymru, ond rwy’n credu bod angen i ni fod yn glir iawn ynghylch pwrpas cwmni o'r fath. Gallai fynd i'r afael â phrisiau ynni, gallai roi sylw i faterion yn ymwneud â ffydd mewn darparwyr, gallai helpu gyda'r farchnad generaduron yng Nghymru, er enghraifft, neu hyd yn oed yr holl bethau hynny. Ond rwy'n credu ei bod yn annhebygol y gallai un model unigol fynd i'r afael â’r holl faterion hynny. Rwy’n gwybod bod gennym nifer o awdurdodau lleol yn edrych ar weithredu yn y maes hwn ac rwy'n mynd i gael trafodaethau gyda nhw. Rwy'n hapus iawn i weithio gydag unrhyw un sydd â diddordeb yn y syniad hwnnw, pe byddech eisiau ei drafod gyda mi ymhellach. Rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn cael eglurhad ar sut y gallai Llywodraeth Cymru ychwanegu gwerth yn y maes hwnnw. Nid wyf yn credu bod yr achos cadarn ar gyfer un cwmni di-elw mor glir â hynny i mi ar hyn o bryd, , ond mae gennyf ddiddordeb mawr mewn mynd ar drywydd y syniad.

Cytunaf yn llwyr â'r hyn a ddywedodd Simon Thomas, ond o lwyfan hollol wahanol, wrth gwrs, pan ofynaf i chi: beth oedd pwynt y datganiad hwn heddiw? A oedd unrhyw beth newydd ynddo o gwbl? A oedd unrhyw beth nad oedd wedi'i gyhoeddi o’r blaen? Mae'n ymddangos i mi yn enghraifft berffaith o'r hyn yr oedd Rhun ap Iorwerth yn cwyno amdano dim ond yr wythnos hon: amser yn cael ei dreulio yn y Cynulliad hwn ar gyfer datganiadau Llywodraeth diddiwedd, pan allem fod yn cael trafodaethau defnyddiol ar lawer o faterion eraill a chael pleidleisiau ar bethau sy'n wirioneddol bwysig. Felly, a oedd unrhyw beth newydd yn y datganiad hwn o gwbl?

Onid yw Ysgrifennydd y Cabinet yn gyson yma yn ceisio llenwi rhidyll? Oherwydd pa bynnag enillion y byddwn yn eu gwneud—os mai enillion fyddant—o ran lleihau allyriadau carbon deuocsid, mae’r rheini’n mynd i gael eu boddi a’u llethu’n gyfan gwbl gan y cynnydd mewn allyriadau carbon gan wledydd eraill mewn mannau eraill yn y byd. Gadewch i ni edrych ar y ffeithiau yn y fan yma: mae Tsieina yn cynhyrchu 30 y cant o allyriadau carbon y byd; mae’r UE gyfan yn cynhyrchu 10 y cant; mae India yn cynhyrchu 7 y cant ac mae’n debygol y bydd yn cynhyrchu mwy na’r UE o fewn tair blynedd; ac mae'r Deyrnas Unedig yn cynhyrchu 1.16 y cant o allyriadau carbon deuocsid y byd. Felly, byddai unrhyw enillion y gallem eu sicrhau trwy gau economi gyfan Prydain dros nos yn cael eu boddi yn gyfan gwbl gan gynnydd mewn allyriadau carbon o leoedd fel Tsieina ac India mewn mater o wythnosau. Yn y broses, rydym yn gosod baich anghymesur ar bobl Prydain, a phobl Cymru yn arbennig, boed nhw’n ddefnyddwyr trydan neu’n weithwyr mewn diwydiannau sy'n defnyddio ynni mewn modd dwys iawn.

Mae wyth deg pedwar y cant o'r ynni a ddefnyddiwn yn y DU yn dod o danwyddau ffosil; caiff 70 y cant o drydan, ar gyfartaledd, ei gynhyrchu gan danwydd ffosil; a chaiff 100 y cant o'n trafnidiaeth, fwy neu lai, ei ddarparu gan danwydd ffosil.

Rwy'n edrych nawr, wrth i ni siarad, ar y grid cenedlaethol, ac rydym ni’n cynhyrchu 5.25 y cant o'n hynni o wynt ar hyn o bryd. Caiff pum deg un y cant o'n hynni ei gynhyrchu gan orsafoedd pŵer tyrbin nwy cylch cyfunol, sydd yno wrth gefn ar gyfer yr ynni adnewyddadwy pan nad yw'r gwynt yn chwythu neu’n chwythu’n rhy gryf. Felly, rydym yn ychwanegu’n fawr at gostau cyfalaf cynhyrchu ynni yn y wlad hon trwy’r gofyniad hwn am ddyblygu.

Mae Tsieina wedi cytuno yn ddiweddar i geisio cyflawni rhai targedau ar allyriadau, ond nid torri eu hallyriadau yw’r hyn y maent wedi cytuno i’w wneud, mewn gwirionedd, ond torri eu hallyriadau am bob uned o allbwn economaidd. Ond gan y rhagwelir y bydd economi Tseina yn tyfu’n sylweddol iawn yn y degawdau i ddod, mewn gwirionedd, rhagwelir y bydd cynnydd o 50 y cant yn eu hallyriadau carbon erbyn 2030. Yn y cyfamser, rydym ni’n treulio amser mewn cynulliad fel hwn, yn parablu am bethau nad ydynt yn bwysig yng nghyd-destun yr economi fyd-eang, hyd yn oed os ydych chi’n derbyn y damcaniaethau o ran bod dynol ryw yn achosi cynhesu byd-eang, a gwn fod hwn yn bwynt y mae Ysgrifennydd y Cabinet a minnau’n anghytuno arno. Hyd yn oed os ydych chi’n derbyn ei dadansoddiad o'r wyddoniaeth a'i heffaith ar y byd, nid yw’r mathau o gostau yr ydym yn eu gorfodi ar economi Prydain, am fudd sydd bron yn ddim, werth chweil o gwbl.

Rydym ni wedi bod yn siarad am gerbydau trydan ac mai dyna yw'r ffordd ymlaen, ond does dim pwynt cael cerbydau trydan os yw'r trydan sy’n eu pweru yn cael ei gynhyrchu gan drydan a gynhyrchir gan danwydd ffosil i raddau helaeth. Rwy'n bendant iawn o blaid cynlluniau effeithlonrwydd ynni, ac rwy’n credu, fel y dywedodd Simon Thomas, y gallem fod yn gwella ein heffeithlonrwydd ynni yng Nghymru trwy system lawer well o roi grantiau inswleiddio a mathau eraill o ddefnyddio ynni yn fwy effeithlon. Mae’r effaith a gaiff hynny ar fywydau pobl ar incwm isel yn bwysig iawn hefyd, oherwydd gadewch i ni gadw mewn cof mai’r bobl sy'n talu'r pris mwyaf am y polisïau hyn yw'r rhai ar waelod y raddfa incwm—y bobl yr oedd y Blaid Lafur i fod wedi ei chreu ar eu cyfer, ac sy’n honni ei bod yn amddiffyn eu buddiannau.

Mae’r pwynt olaf byddaf yn ei wneud yn y cyd-destun hwn yn ymwneud â chyfrifoldebau eraill Ysgrifennydd y Cabinet—a chodais y pwynt hwn yn y cwestiynau y diwrnod o’r blaen—fel yr Ysgrifennydd dros faterion gwledig. Rwy'n bryderus iawn am y gwrthdaro buddiannau yn ei phortffolio rhwng y gofyniad iddi hyrwyddo buddiannau ynni adnewyddadwy drwy ffermydd gwynt ac, mewn lleoedd fel y canolbarth yn arbennig, rydym yn plannu toreth newydd o felinau gwynt ar hyd a lled ein bryniau a’n tirlun—. Mae hyn yn mynd yn groes i ofynion twristiaeth, yn ogystal â buddiannau esthetig, yr ardaloedd hyn, a hoffwn weld—os ydym ni’n mynd i gael y prosiectau adnewyddadwy hyn, yn anochel—ein bod yn llawer mwy sensitif o ran ble yr ydym yn mynd i'w lleoli nhw. Nid oes rhaid i ni gael fferm wynt ar bob bryn unigol yng Nghymru. Felly, hoffwn glywed gan Ysgrifennydd y Cabinet sut y mae hi'n mynd i geisio cysoni’r gwrthdaro hwn mewn ffordd sydd, efallai, yn rhoi mwy o bwyslais ar anghenion cymunedau gwledig, yn hytrach na'r math o ddamcaniaethau sydd i fod o fudd i’r byd yn gyffredinol. Mae gennyf i fwy o ddiddordeb yn fy myd bach i yng nghanolbarth a gorllewin Cymru.

Mae Neil Hamilton mor negyddol. Mae gwir angen i chi gydnabod yr hyn yr ydym yn ceisio ei gyflawni gyda datgarboneiddio. Mae'n ymwneud â diogelwch y cymysgedd ynni, ac rwy’n ymwybodol bod Llywodraeth y DU yn gyfrifol am hynny hefyd. Mae'n ymwneud â chost a fforddiadwyedd ac mae'n ymwneud â datgarboneiddio. Rydych chi’n son yn ddibaid am Tsieina ac India ac ati; rwyf i’n canolbwyntio ar Gymru, ac nid yw hyn yn ymwneud â thorri allyriadau carbon yn unig, mae'n ymwneud â’r manteision economaidd i Gymru, ac mae'n ymwneud â’r hyn y gall y technolegau newydd hyn yn ei wneud i bobl Cymru. Rydych chi’n sôn am effeithlonrwydd ynni; dyna'n union beth y mae Arbed a Nyth wedi ei wneud. Soniais yn fy natganiad am 39,000 o gartrefi. Rydych chi'n hollol gywir am inswleiddio. Mae'n bwysig iawn bod cartrefi pobl yn cael eu hinswleiddio’n gywir, ac rydym wedi cynorthwyo â hynny. Soniasoch am y Grid Cenedlaethol, ac rwy'n gwybod bod y Prif Weinidog wedi cyfarfod yn ddiweddar gyda'r Grid Cenedlaethol. Rydym ni’n cydnabod bod yn rhaid i ni ehangu. Soniasoch am yr adegau pan nad yw tyrbinau gwynt yn troi, ac mae'n bwysig iawn ein bod gennym y gallu i storio pan fydd hynny'n digwydd, ac mae hynny’n rhan bwysig o hyn.

Fel yr ydych yn dweud, codwyd ffermydd gwynt a thwristiaeth gennych, er enghraifft, yn ystod y cwestiynau i mi, ac rwyf wedi edrych ar yr effaith weledol a'r ymchwil sydd wedi ei wneud ynglŷn â hynny, nid yn unig yma yng Nghymru ond hefyd yn yr Alban. Mae'n dangos yn gyson bod y rhan fwyaf o bobl yn cefnogi datblygiad gwynt, neu nid oes ganddynt unrhyw wrthwynebiad o gwbl, ac nid oes unrhyw effaith cyson, er enghraifft, ar brisiau tai. Mae Llywodraeth yr Alban wedi gwneud rhywfaint o ymchwil ar hyn sy’n dangos nad oes unrhyw effaith o gwbl o ddatblygiadau gwynt.

Fel y dywedais, rwy'n frwdfrydig o blaid ffermydd gwynt yn y man cywir. Nid ydych chi eisiau iddynt fod i gyd gyda'i gilydd—wel, dyna pam y mae gennym yr ardaloedd chwilio strategol. Rydym yn rhoi y rhai mawr gyda’i gilydd i'w harbed rhag bod ar ben bob mynydd, fel y dywedasoch. Nid wyf yn ei ystyried yn wrthdaro buddiannau. Rwy’n gwybod bod materion gyda Chyngor Sir Powys. Rwy’n gwybod eu bod wedi ymgynghori'n ddiweddar ar gynigion i nodi meysydd ar gyfer datblygiadau gwynt a haul yn eu cynllun datblygu lleol. Rwy'n awyddus iawn na chanfyddir bod eu cynllun datblygu lleol yn gadarn, felly rwyf wedi gwneud yn siwr eu bod wedi cael cefnogaeth gan swyddogion y Llywodraeth drwy gyfarfodydd rheolaidd, a bydd mathau eraill o gymorth wrth symud ymlaen. Yr hyn y mae angen iddynt ei wneud, pob awdurdod cynllunio lleol, pan fyddant yn edrych ar dyrbinau gwynt neu ffermydd gwynt, er enghraifft, mae’n rhaid iddyn nhw ystyried eu gweledigaeth a’u strategaeth gyffredinol ar gyfer datblygu ynni adnewyddadwy yn eu hardal i wneud yn siŵr eu bod yn cadw at eu rhwymedigaethau statudol rhyngwladol a chenedlaethol i ddiogelu ardaloedd neu rywogaethau neu gynefinoedd dynodedig.

Diolch. Mae dau siaradwr arall, ac rwy'n mynd i ofyn i’r ddau ohonynt fod yn gryno iawn. Gwn y bydd pobl yn cadw at hynny. Lee Waters.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Weinidog, croesawaf eich sylwadau bod y Gweinidog Cyllid yn fodlon edrych ar y symiau canlyniadol o ddatganiad yr hydref i weld a oes posibilrwydd o ddatblygiad pellach o ran inswleiddio cartrefi. Mae'r cynlluniau Arbed a Nyth wedi bod yn gynlluniau ardderchog i fynd i'r afael â gollyngiadau carbon a thlodi. Fodd bynnag, nid ydyn nhw’n ddigon mawr i ddiwallu her newid yn yr hinsawdd, ac o ystyried y gwariant cyhoeddus sy’n debygol o fod ar gael yn y dyfodol, a fyddech chi’n ystyried mathau eraill o gyllid er mwyn gallu ariannu cynllun llawer mwy uchelgeisiol, gan adeiladu ar y gwaith rhagorol hwn?

Rydych chi'n hollol iawn, ac mae'r Gweinidog dros lywodraeth leol a chyllid yn clywed yr hyn yr wyf yn ei ddweud hefyd. Rwy'n falch eich bod yn cydnabod y gwaith da sydd wedi ei wneud gan Arbed a Nest. Ond rydych chi'n iawn: mae’n rhaid i ni gyflymu rhaglenni fel hyn yn sicr os ydym ni’n mynd i gyrraedd ein targedau. Fel y dywedais, yr un peth y mae COP22 wedi’i ddysgu i mi, trwy siarad â gwladwriaethau a rhanbarthau eraill, yw bod angen i ni fod ar flaenau ein traed bob amser os ydym ni’n mynd i gyrraedd y targedau hynny. Felly, rwy'n hapus iawn i ystyried unrhyw beth a fydd yn ein helpu, yn enwedig o ran tlodi tanwydd a'r bobl sy'n agored i niwed y mae angen i ni eu cynorthwyo yn hynny o beth. Rwy'n cynnal trafodaethau gyda swyddogion, oherwydd byddwch yn ymwybodol bod fy nghyllideb gyfalaf wedi cael ergyd fawr oherwydd y gyllideb yr ydym wedi ei chael gan Lywodraeth y DU, ond dywedais yn y Siambr yr wythnos diwethaf fy mod eisoes wedi ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid ac, fel y dywedais, mae’r trafodaethau hynny yn mynd yn eu blaenau. Ond os na fyddaf yn cael yr arian i allu cyflymu'r rhaglenni neu i ystyried gwahanol raglenni, yna bydd yn rhaid i ni chwilio am gyllid arall.

Ysgrifennydd y Cabinet, rydych chi wedi dweud mai eich nod bellach yw rhoi dull ar waith o ran fframwaith i lywio’r datblygiadau ynni cywir i'r mannau cywir. Rydych chi’n mynd ymlaen i ddweud y bydd hyn yn cynnwys cynhyrchu datganiadau ardal i helpu i nodi cyfleoedd ar gyfer ynni adnewyddadwy ac adlewyrchu potensial o fewn cynlluniau datblygu lleol. Ond a gaf i ofyn sut yr ydych chi fel Llywodraeth Cymru yn gallu adlewyrchu'r potensial mewn cynlluniau datblygu lleol pan fo'r rhain, wrth gwrs, yn cael eu cynhyrchu gan awdurdodau lleol? A yw hyn yn golygu y byddwch yn cyfarwyddo awdurdodau lleol i ddiwygio eu Cynlluniau Datblygu Lleol neu eich bod wedi gwneud hynny?

Ar hyn o bryd, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wrthi’n cyflwyno datganiadau ardal. Byddaf wedyn yn gallu gweithio gydag awdurdodau lleol ar hynny. Nid wyf wedi penderfynu os bydd rhagor o ganllawiau, ond rwy’n credu ei fod yn rhywbeth y gallwn weithio'n agos iawn arno—neu gall Cyfoeth Naturiol Cymru yn sicr wneud hynny—gweithio mewn partneriaeth, Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a Chyfoeth Naturiol Cymru, wrth symud ymlaen â'r cynlluniau datblygu lleol hynny.

7. 5. Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Cofrestru Gweithwyr Ieuenctid, Gweithwyr Cymorth Ieuenctid ac Ymarfer Dysgu Seiliedig ar Waith) 2016

Eitem 5 yw Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Cofrestru Gweithwyr Ieuenctid, Gweithwyr Cymorth Ieuenctid ac Ymarferwyr Dysgu Seiliedig ar Waith) 2016. Galwaf ar y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth i gynnig y cynnig. Julie James.

Cynnig NDM6180 Jane Hutt

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Cofrestru Gweithwyr Ieuenctid, Gweithwyr Cymorth Ieuenctid ac Ymarferwyr Dysgu Seiliedig ar Waith) 2016 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Tachwedd 2016.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Cynigiaf y cynnig.

Mae Cymru ar flaen y gad o ran sicrhau gwell cydgysylltedd a chydnabod y cyfraniad y mae’r holl weithlu addysg yn ei wneud i ddysgwyr yng Nghymru. Rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau'n cytuno bod cofrestru'r gweithlu addysg ehangach yn newyddion da gan ei fod yn rhoi'r sicrwydd bod y gweithlu yn cael ei ystyried yn addas i’w gofrestru. Cam 3 yn y broses o gofrestru’r sector addysg yw cofrestru gweithwyr ieuenctid, gweithwyr cymorth ieuenctid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith, ac o 1 Ebrill 2017 bydd hi’n ofynnol i’r ymarferwyr newydd hyn gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.

Yn sgil ymgynghoriad yn gynharach eleni, ceisiwyd barn pobl ar gynigion i gofrestru’r categorïau newydd hyn o ymarferwyr, a dangoswyd cefnogaeth aruthrol gan y rhai a neilltuodd yr amser a'r ymdrech i ymateb, a diolchaf i bawb a wnaeth. Mynegwyd pryderon y gallai cofrestru effeithio o bosibl ar wirfoddolwyr y sector ieuenctid sy'n aberthu eu hamser rhydd i weithio o fewn y sector. Ni fydd hyn yn digwydd. Fodd bynnag, mae'r Gorchymyn yn caniatáu i unigolyn gofrestru ar sail wirfoddol, ar yr amod eu bod yn bodloni'r meini prawf angenrheidiol a nodir yn y Gorchymyn a’u bod yn fodlon talu'r ffi gofrestru sy’n gysylltiedig.

Bydd cofrestu’r grwpiau newydd hyn gyda Chyngor y Gweithlu Addysg yn cryfhau eu proffil mewn ffyrdd sy'n gefnogol, a fydd yn cydnabod gwerth eu gwaith a'r cyfraniadau a wnânt ym mywydau pobl ifanc.

Mi fyddwn ni yn cefnogi’r Gorchymyn yma, ond mae gen i jest un neu ddau o bwyntiau y byddwn i’n hoffi eu gwneud, ac efallai y byddai’r Gweinidog yn gallu ymateb iddyn nhw.

Mi ddylwn i hefyd ddatgan diddordeb fel un o lywyddion anrhydeddus Cyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol.

Nid yw dim ond cofrestru unigolyn sydd yn weithiwr ieuenctid, wrth gwrs, yn mynd i sicrhau gwella ansawdd y gwasanaeth y maen nhw’n ei ddarparu o reidrwydd. Mae ffactorau eraill, fel sicrhau bod adnoddau digonol ar gael a mynediad at ddatblygiad proffesiynol parhaus, hefyd yn bwysig. Mae angen sicrwydd, rwy’n meddwl, y bydd yna lwybrau clir a hygyrch o ran cymwysterau o lefel 2 i lefel gradd i’r gweithwyr ieuenctid yma. Felly, rwyf eisiau ymrwymiad gan y Gweinidog mewn gwirionedd y bydd y gefnogaeth honno ar gael ac y bydd yna adnoddau ar gael i sicrhau bod y llwybr hwnnw yn un y mae’r gweithwyr yma yn gallu cael mynediad iddo fe.

Hefyd, wrth gwrs, ni all y Cyngor Gweithlu Addysg orfodi cofrestru ar unigolion nad ydyn nhw’n gwybod amdanyn nhw. Mae’n bosibl iawn fod yna nifer o unigolion, ac efallai mudiadau, allan yn fanna yn darparu gwasanaethau, ac unigolion sydd wedi cael cymwysterau hefyd i wneud hynny, ond nid ydyn nhw, fel rwy’n dweud, yn ymwybodol eu bod nhw allan yna’n darparu’r gwasanaeth. Felly, sut ŷch chi’n rhagweld y bydd y Cyngor Gweithlu Addysg yn delio â hynny, ac yn sicrhau bod pawb a ddylai fod wedi’u cofrestru wedi cael eu cofrestru?

Wel, ynglŷn â’r pwynt cyntaf, caiff hyn ei groesawu oherwydd, fel y gŵyr yr Aelod, rydym wedi gweithio'n galed iawn i sicrhau bod gweithwyr ieuenctid yn arbennig—mae hyn yn amlwg yn cynnwys ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith hefyd—ond gweithwyr ieuenctid yn arbennig, yn cael y gydnabyddiaeth y maen nhw’n bendant yn ei haeddu, ac mae cofrestru yn eu galluogi i gael gafael ar y trefniadau o ran datblygiad proffesiynol parhaus a llwybrau dysgu. Rydym wedi ei seilio ar gymhwyster yn dilyn ymgynghori helaeth ynglŷn â sut i wneud hynny a phwy i’w cynnwys. Yr hyn y byddem ni'n ei ddisgwyl yw y bydd awdurdodau lleol sy'n cyflogi rhywun nad oes ganddyn nhw’r cymhwyster perthnasol, yn eu cynorthwyo i’w gyflawni. A dyna’r pwynt i ryw raddau mewn gwirionedd: sicrhau bod y proffesiynoldeb hwnnw yn rhan o’r gweithlu y mae arnom ni ei eisiau cymaint. Felly, byddwn i’n disgwyl i hynny ddigwydd. Y mae yn ei ddyddiau cynnar, ond rydym ni’n disgwyl i hynny ddigwydd, yn sicr. Nid fi yw’r Gweinidog dros waith ieuenctid mwyach mewn gwirionedd; fy nghydweithiwr, Alun Davies, ydyw, a bydd ef yn sicrhau y caiff y cynigion eu gweithredu ar y sail honno.

Ar sail arall, o ran sut y byddwn ni’n cael gafael ar unrhyw un sydd—. Rwy'n credu mai’r hyn yr ydych chi’n gofyn amdano yw: sut y byddwn ni’n gwybod ein bod ni wedi cael gafael ar bawb a ddylai gael eu cofrestru? A'r ateb i hynny yw, os nad ydyn nhw wedi cofrestru, ni fyddan nhw’n gallu gweithio yn y sectorau hynny sydd wedi’u gwahardd, felly bydd y mater yn datrys ei hun. Os oes rhagor o fanylion ynghlwm wrth hynny, yna rwy'n ofni, gan nad fi yw’r Gweinidog dros waith ieuenctid mwyach, nad wyf yn ymwybodol ohonyn nhw. Felly, os oes unrhyw beth sy’n ychwanegol at hynny, yna caf ateb ysgrifenedig i chi. Nid wyf yn ymwybodol ohono ar hyn o bryd, ond os oes rhagor o fanylion, byddaf yn ysgrifennu atoch chi.

Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, cytunir ar y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

8. 6. Dadl ar y Gyllideb Ddrafft ar gyfer 2017-18

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Paul Davies.

Trown yn awr at y ddadl ar gyllideb ddrafft 2017-18, a galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol i symud y cynnig. Mark Drakeford.

Cynnig NDM6179 Jane Hutt

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.12:

Yn nodi'r Gyllideb Ddrafft ar gyfer blwyddyn ariannol 2017-2018 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ar 18 Hydref 2016.

Cynigiwyd y cynnig.

Member
Mark Drakeford 16:22:00
The Cabinet Secretary for Finance and Local Government

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Cynigiaf gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.

Rydym ni’n byw dan yr amodau economaidd anffafriol mwyaf estynedig a wynebwyd ers cenedlaethau lawer, ond hyd yn oed yn yr oes hon o galedi, mae hon yn gyllideb a grëwyd o dan amgylchiadau arbennig o heriol. Rwy'n ddiolchgar i'r Pwyllgor Cyllid am gydnabod yn ei adroddiad ar y gyllideb ddrafft, a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, y bu hwn yn orchwyl a gwblhawyd mewn ansicrwydd dybryd. Yn sicr, bu’n orchwyl lle bo’r gwaith o gynllunio ar gyfer y dyfodol wedi ei gyfyngu gan ddigwyddiadau, yn rhannol yng Nghymru, ond yn fwy arwyddocaol fyth, y tu hwnt i'n ffiniau. Mae cylch cyllideb arferol Llywodraeth Cymru yn dechrau ym mis Mawrth bob blwyddyn, ond yn 2016, mae ethol Cynulliad Cenedlaethol newydd ym mis Mai, ffurfio gweinyddiaeth leiafrifol, y cytundeb dilynol â Phlaid Cymru i drafod agweddau allweddol ar ein rhaglen dros fisoedd yr haf, i gyd wedi cael effaith anochel ar y paratoadau ar gyfer ein cyllideb. Y tu hwnt i Gymru, roedd canlyniad y refferendwm Ewropeaidd, ffurfio'r weinyddiaeth newydd yn San Steffan, penderfyniad y Canghellor newydd i lunio ailosodiad cyllidol ac i oedi’r cyhoeddiad hwnnw tan ddatganiad yr hydref ar 23 Tachwedd, wedi cyfuno i foddi ein cynlluniau ni mewn ansicrwydd.

Serch hynny, Ddirprwy Lywydd, fy uchelgais i drwy gydol yr haf oedd gosod cyllideb sy’n para mwy na blwyddyn. Roeddwn i bryd hynny, ac rwy’n parhau i fod yn awr, yn ymwybodol o ddadl ein sefydliadau partner, bod cynllunio wedi’i gynorthwyo gan gyfnodau cyllidebu hirach. Erbyn mis Medi, fodd bynnag, yr oedd yn amlwg bod y diffyg eglurder am yr adnoddau refeniw sydd ar gael i'r Cynulliad Cenedlaethol y tu hwnt i 2017-18 yn golygu na fyddai’r uchelgais hon efallai’n bosibl. Mae'r gyllideb gerbron yr Aelodau heddiw felly yn nodi cynlluniau gwario refeniw am un flwyddyn, ond ceir cyllidebau cyfalaf am bedair blynedd i ddod.

Ddirprwy Lywydd, o ganlyniad i waith fy rhagflaenydd, Jane Hutt, bu pwyslais mwyfwy soffistigedig ar effeithiau cydraddoldeb ar gylch cynllunio’r gyllideb, ac ar gysoni blaenoriaethau polisi a dyraniadau gwariant. Mae'r gyllideb ddrafft hon yn tynnu i raddau helaeth ar waddol y gwaith hwnnw, mewn adrannau unigol ac yn ganolog. Ond er bod y gyllideb eleni wedi ei datblygu yn ôl amserlen gwta, mae arnaf eisiau ei gwneud yn glir bod mwy y gallwn ni ei wneud ac y byddwn ni yn ei wneud i gymhwyso’r egwyddorion cydraddoldeb hyn dros amserlen hirach, a fydd ar gael ar gyfer cynllunio’r gyllideb y flwyddyn nesaf.

Mae'r gyllideb ddrafft hon, Ddirprwy Lywydd, y cyntaf a’r olaf o'i math, ac rwy’n dymuno dweud rhywbeth am y ddau bwynt. Hon yw’r gyllideb gyntaf i’w ffurfio yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, a roddwyd ar y llyfr statud gan y Pedwerydd Cynulliad. Rwyf yn derbyn y farn a fynegwyd yn ystod y broses graffu, ond ar hyn o bryd mae effaith y Ddeddf yn esblygol na hytrach nag yn gyflawn. Serch hynny, mae'r Ddeddf yno i'w gweld wrth gysoni penderfyniadau gwariant unigol â’r pum ffordd o weithio a'r saith nod y mae’n eu nodi. Rwy’n bwriadu cyflwyno newidiadau y flwyddyn nesaf i'r paratoadau mewnol ar gyfer y gyllideb yr wyf i’n eu cynnal â chydweithwyr yn y Cabinet ac eraill, er mwyn sicrhau bod y Ddeddf yn parhau i gael effaith gynyddol ar brosesau a chanlyniadau ein cyllideb. Fodd bynnag, mewn byd lle mae adnoddau yn crebachu, gofynion yn cynyddu a blaenoriaethau yn cystadlu’n llym, ni ddylai unrhyw un gredu bod y Ddeddf yn darparu cynllun syml a all ddatrys pob tensiwn. Rydym ar ddechrau'r daith y mae'r Ddeddf yn ei darparu, a bydd modd gwneud rhagor a bydd rhagor yn cael ei wneud i'w defnyddio wrth lunio cyllideb y flwyddyn nesaf.

Os hon yw blwyddyn gyntaf Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, hon yw’r gyllideb ddrafft olaf gerbron y Cynulliad Cenedlaethol cyn i ni ddod yn gyfrifol am godi trethi yng Nghymru. Ar yr amod y caiff y ddeddfwriaeth angenrheidiol ei chymeradwyo gan Aelodau'r Cynulliad, yng nghylch cynllunio’r gyllideb y flwyddyn nesaf, bydd y Gweinidog Cyllid yn gyfrifol am gynnig y cyfraddau a’r bandiau ar gyfer y dreth trafodiadau tir, ac am fanylion gweithredu’r dreth gwarediadau tir. Credaf y bydd hyn yn newid natur y craffu ar gyllidebau yn y dyfodol. Pan wnaeth Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid ei ddatganiad rhagarweiniol i'r Cynulliad, dywedodd yn y dyfodol y byddai angen gwneud newidiadau i broses y gyllideb er mwyn ymdrin â'r datblygiadau cyllidol newydd hyn, gyda phwyslais newydd gan y Pwyllgor Cyllid ar gynlluniau gwario, trethiant a benthyca Llywodraeth Cymru. Cytunaf â'r casgliadau a gyrhaeddodd.

Gan droi yn ôl at y gyllideb hon, nid wyf yn bwriadu ailadrodd yr hyn a ddywedais pan wnes i fy natganiad yma ar lawr y Cynulliad ar 18 Hydref. Mae'r gyllideb hon yn fwriadol iawn yn gyllideb ar gyfer sefydlogrwydd ac uchelgais: sefydlogrwydd yn ei hymdrechion i ochel rhag effeithiau gwaethaf toriadau refeniw i gyllideb Llywodraeth Cymru yn ystod y tymor hwn, ac wrth ddarparu sicrwydd tymor hirach ar gyfer cynllunio cyfalaf; uchelgeisiol oherwydd y ffordd yr ydym yn buddsoddi yn ein holl brif ymrwymiadau fel y nodir yn y rhaglen lywodraethu. Bydd hyn yn ein helpu i lywio drwy'r cyfnod peryglus o anodd sydd ohoni, gan ein helpu i fuddsoddi mewn twf a ffyniant i bawb.

Felly, rwyf yn ailadrodd, Ddirprwy Lywydd, yr hyn yr wyf wedi’i ddweud droeon yn y Siambr hon a thu hwnt ers gosod y gyllideb am y tro cyntaf: mae'r gyllideb hon yn darparu rhyddhad dros dro rhag effeithiau caledi gwaethaf Llywodraeth y DU. Mae’n rhaid i ni, felly, ddefnyddio’r cyfnod hwn i gynllunio ar gyfer y cyfnod anoddach a'r dewisiadau anoddach sydd o'n blaenau.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Dywed y Pwyllgor Cyllid yn ei adroddiad, nad oedd wedi dod o hyd i ddigon o dystiolaeth bod y cynllunio hwn yn digwydd. Efallai bod hyn yn ddealladwy yn yr wythnosau cyntaf ar ôl gosod y gyllideb, ond rwyf yn glir bod angen mynd i’r afael o ddifrif â’r her hon yn y misoedd nesaf. O ran yr argymhellion penodol a wnaed yn adroddiad y pwyllgor, edrychaf ymlaen at ymateb iddynt yn ffurfiol ac yn llawn cyn y ddadl ar y gyllideb derfynol yn y flwyddyn newydd. Heddiw, rwy'n falch o groesawu’r ysbryd adeiladol yr argymhellion hynny, a chydnabod pwysigrwydd y materion a amlygwyd ynddynt; gan gynnwys canlyniadau refeniw o fenthyca cyfalaf, ac effaith y penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd ar adnoddau a fydd ar gael i Gymru yn y dyfodol.

Nawr, mae cyd-destun hyn i gyd wedi dod yn fater o fwy o frys, Lywydd, yn sgil datganiad yr hydref ar 23 o Dachwedd. O ran buddsoddiad cyfalaf, rwy’n cydnabod y camau y mae'r Canghellor wedi’u cymryd a'r symiau canlyniadol a fydd yn llifo ar gyfer buddsoddiad cyfalaf yng Nghymru. Rwy'n benderfynol y byddwn yn gwneud y defnydd gorau posibl o'r cyfleoedd cyllido hyn, ac rwy’n trafod â fy nghydweithwyr yn y Cabinet ac eraill ynghylch sut y gall y buddsoddiad newydd hwn weithio i Gymru. Fodd bynnag, nodi gwirionedd yn hytrach na bod yn anfoesgar, yw tynnu sylw, fel y gwnaeth y Prif Weinidog yn gynharach y prynhawn yma, at y ffaith mai effaith datganiad yr hydref yw gwneud ein cyllideb cyfalaf dim ond 21 y cant yn is yn 2019 nag yr oedd yn 2009. Dim ond rhywfaint o'r ffordd y mae’n mynd, felly, i lenwi'r twll a gloddiwyd i Gymru gan ragflaenydd y Canghellor. Nawr, bydd yr holl benderfyniadau am ddyrannu’r cyfalaf ychwanegol hwn yn cael eu gwneud mewn pryd iddynt gael eu hadlewyrchu yn y gyllideb derfynol pan gaiff ei gosod ar 20 Rhagfyr, ac felly mewn digon o amser cyn iddi gael ei thrafod ym mis Ionawr.

Ar yr ochr refeniw, roedd datganiad yr hydref yn siom enbyd. Cyn y datganiad, ymunais â Gweinidogion cyllid yr Alban a Gogledd Iwerddon i alw ar y Canghellor i roi terfyn ar y polisïau hunandrechol o gyni sydd wedi gwneud cymaint i niwed i ragolygon economaidd a gwead cymdeithasol ein cenedl. Ond, ar ôl cael cynnig y cyfle i wneud hynny, methu’n amlwg fu hanes y Canghellor. Er mawr syndod i weithwyr y GIG yn Lloegr, a beirniadaeth hallt llawer o arweinwyr Ceidwadol awdurdodau lleol yn Lloegr, nid yw datganiad yr hydref yn darparu’r un geiniog i’r gwasanaethau hanfodol hynny ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Ar gyfer popeth a wnawn yng Nghymru, gydag anghenion poblogaeth sy'n heneiddio, a gyda chwyddiant yn codi, mae gennym ni £35.8 miliwn yn ychwanegol i’w fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus dros y cyfan o’r pedair blynedd nesaf, ac mae £20 miliwn o hynny eisoes wedi ei gyhoeddi. Ar ben hynny, roedd yn frawychus i glywed datganiad yr hydref yn cadarnhau bod y Canghellor yn bwriadu bwrw ymlaen â thoriadau refeniw gwerth £3.5 biliwn yn 2019-20, a allai ddileu, ag un ergyd, yr holl refeniw ychwanegol a ddarperir i Gymru am bedair blynedd gyfan yn natganiad yr hydref, a hynny dair i chwe gwaith drosodd.

Nawr, Lywydd, dyma weinyddiaeth heb fwyafrif. Fel y cyfryw, gwnaethom ymrwymo i gyfres o drefniadau â Phlaid Cymru i gydweithio er budd cenedlaethol Cymru ar gyfres o faterion, gan gynnwys sicrhau cyllideb i Gymru. Mae'r gyllideb ddrafft a osodwyd ar 18 Hydref yn adlewyrchu canlyniadau'r trafodaethau sylweddol a gafwyd yn ystod misoedd yr haf. Mae'r trafodaethau hyn wedi parhau ers cyhoeddi’r gyllideb ddrafft a byddant yn ailddechrau eto yr wythnos nesaf. Mae'r trafodaethau'n anochel yn heriol, ond maen nhw wedi bod yn adeiladol yn fy marn i. Rwyf wedi bod yn ddiolchgar i Adam Price a'i dîm am lefel a natur eu cyfranogiad yn y trafodaethau hynny ac am y tir cyffredin yr ydym wedi gallu ei nodi o ganlyniad i hyn. Lywydd, clywsom yn gynharach y prynhawn yma am frwdfrydedd y blaid Geidwadol dros ailgylchu, a chymaint yw ei hymroddiad nes eu bod wedi cyflwyno'r union welliant i’r gyllideb hon y gwnaethant ei gynnig y llynedd, cyn colli’r etholiad ym mis Mai. Byddwn yn dangos yr un gyfradd o gysondeb drwy bleidleisio yn erbyn y cynnig hwnnw heddiw. Rydym yn gwneud hynny, Lywydd, oherwydd bod hon yn gyllideb sy'n cyfateb â phob un o'n hymrwymiadau, mae'n gyllideb sy'n gwarchod ein gwasanaethau cyhoeddus, yn buddsoddi mewn swyddi a thwf, ac yn darparu cyfnod i baratoi ar gyfer y dyfodol. Fe'i cymeradwyaf i'r Cynulliad.

Diolch, Lywydd, a diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet am osod allan y cyd-destun ar gyfer y gyllideb ddrafft sydd ger bron y Cynulliad heddiw. Yn gyntaf, ar ran y Pwyllgor Cyllid, hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cynnig eu sylwadau i’n helpu ni i ymgymryd â’r dasg o graffu ar y gyllideb ddrafft. Ychydig iawn o amser a gawsom ar gyfer y gwaith pwysig hwn. Rydym yn arbennig o falch felly y tro hwn ein bod wedi cael y cyfle i ddefnyddio dulliau anffurfiol megis cynnal sgwrs ar-lein a digwyddiad i randdeiliaid y tu fas i’r Cynulliad, a hyd yn oed y tu hwnt i Gaerdydd, yn ogystal â chasglu tystiolaeth yn ffurfiol yn y ffordd arferol. Dyma ganiatáu i bobl drafod y gyllideb ddrafft yn agored ac yn onest. Gobeithio y gallwn adeiladu ar y cysylltiadau hyn yn y dyfodol i sicrhau bod modd bwydo amrywiaeth eang o sylwadau i waith y pwyllgor, gan gynnwys y gwaith o graffu ar y gyllideb. Mae’r pwyllgor yn ddiolchgar i bawb a gyfrannodd at ein gwaith. Byddem am weithio gyda’r Ysgrifennydd Cabinet, yn wir, i ehangu ar yr egwyddor o gyllidebu cyfranogol wrth i’r broses ddatblygu.

Mae adroddiad y pwyllgor yn cynnwys nifer o gasgliadau ac argymhellion eang iawn. Rydym yn argymell yn gryf y dylai Llywodraeth Cymru ystyried a derbyn pob un o’r casgliadau a’r argymhellion hyn, ac rwy’n falch bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi nodi ei fod o leiaf yn ystyried yn ddwys bob un o’r argymhellion. Ac mae llawer hefyd yr hoffwn i’w ddweud ar gyfer y Cynulliad cyfan, wrth i ni baratoi at feithrin pwerau trethiannol a’r newidiadau y gwnaeth yr Ysgrifennydd Cabinet eu gosod allan wrth agor y ddadl. Mae’r gyllideb ddrafft hon yn setliad gwell na’r disgwyl i lawer, ac mae’r sylwadau a gawsom yn adlewyrchu hynny. Fodd bynnag, mae’n amlwg o’r hyn a ddywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet wrth y pwyllgor, a’r hyn mae newydd ailadrodd heddiw, y dylai sefydliadau fod yn defnyddio’r setliad hwn i baratoi ar gyfer cyfnodau llawer fwy anodd yn y dyfodol. Er hyn, rydym yn pryderu nad oes fawr o dystiolaeth fod y gwaith paratoi hwn yn mynd rhagddo, a byddem yn annog sefydliadau, yn enwedig y gwasanaeth iechyd a llywodraeth leol, i feddwl am y dyfodol a chymryd camau i’w galluogi i ymdopi â llai o gyllid yn y dyfodol. Mae hyn yn bryder penodol o gofio bod y Sefydliad Astudiaethau Cyllid—yr IFS—yn rhagweld y bydd gostyngiad o 3.2 y cant mewn termau real yng nghyllideb Llywodraeth Cymru dros y dair blynedd nesaf. Byddai hyn, ynghyd â’r tebygolrwydd y byddwn nhw’n colli grantiau gan yr Undeb Ewropeaidd, yn arwain at doriadau ychwanegol yng nghyllid llywodraeth leol, felly mae’n hanfodol paratoi’n gynnar i liniaru effeithiau’r gostyngiadau mewn cyllid.

O ran y gwasanaeth iechyd cenedlaethol, roedd y pwyllgor yn siomedig nad oes gan rai byrddau iechyd gynlluniau integredig tair blynedd wedi’u cymeradwyo hyd yma, er ei bod yn ddyletswydd statudol arnynt i baratoi’r rhain ers i Ddeddf Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) ddod i rym ym mis Ebrill 2014. Mae’r ffaith nad oes cynlluniau wedi’u cymeradwyo ar gyfer pob un o’r byrddau iechyd yn peri pryder inni. Roedd yn bryder hefyd i’r Pwyllgor Cyllid blaenorol yn y pedwerydd Cynulliad, ac mae hynny yn peri siom inni. Byddwn yn rhoi rhagor o sylw i hyn yn ystod y flwyddyn nesaf. At hyn, er mwyn ymateb i’r pwysau ar y gwasanaeth iechyd yn awr ac yn y dyfodol, rydym wedi nodi bod angen trawsnewid pethau’n gyflymach a bod angen bod yn fwy uchelgeisiol o lawer. Rydym wedi argymell y dylai cyllidebau drafft yn y dyfodol fedru dangos sut y mae dyraniadau yn gymorth i fuddsoddi mewn gwaith ataliol a thrawsnewid gwasanaethau.

Gan droi at Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, mae darpariaethau’r Ddeddf hon yn awr wedi dod i rym, felly roedd y pwyllgor yn disgwyl gweld sut roedd gofynion y Ddeddf hon wedi dylanwadu ar y dyraniadau a wnaed yn y gyllideb ddrafft. Fodd bynnag, clywsom gan randdeiliaid yn uniongyrchol, a chan bwyllgorau eraill hefyd, mai prin iawn yw’r wybodaeth yn y dogfennau sy’n cyd-fynd â’r gyllideb i ddangos sut mae’r Ddeddf hon wedi dylanwadu ar y dyraniadau. Gan hynny, rydym wedi mynegi siom ynghylch y diffyg cynnydd a wnaed gan Lywodraeth Cymru o ran dangos sut y mae’r Ddeddf wedi dylanwadu ar y gyllideb. Yn benodol, roeddem yn hynod siomedig o glywed bod rhai rhanddeiliaid o’r farn ei bod yn haws cysylltu’r gyllideb ddrafft flaenorol â’r Ddeddf na hon. Nid dyna oedd y bwriad, does bosib. Rydym yn credu bod Llywodraeth Cymru wedi methu cyfle i ddangos yr arweiniad sydd ei angen i sicrhau’r newidiadau trawsnewidiol sydd eu hangen i sicrhau bod gofynion y Ddeddf yn rhan annatod o benderfyniadau polisi. Roeddwn i’n falch o glywed sylwadau’r Ysgrifennydd Cabinet wrth agor y ddadl, a oedd yn awgrymu i mi ei fod o leiaf, os nad yn cydnabod yn ddadl yma, yn cydnabod bod angen trafodaeth a sylwadau tu fewn i’r Llywodraeth ar y maes yma. Rydym yn gobeithio gweld y bydd y sefyllfa wedi gwella mewn ffordd fesuradwy yn y gyllideb ddrafft y flwyddyn nesaf, ac rydym wedi argymell bod Llywodraeth Cymru yn defnyddio system asesiad effaith integredig strategol i ddangos sut y mae’r Ddeddf yn dylanwadu ar y gyllideb ddrafft yn y dyfodol. Fel y dywedais i, mae’n amlwg bod yr Ysgrifennydd Cabinet am edrych ar hyn a gobeithio gwella’r broses.

Gwyddom y bydd gan Lywodraeth Cymru bwerau ychwanegol o fis Ebrill 2018 ymlaen mewn perthynas â threthu a benthyca ac, felly, bydd rôl y pwyllgor yn newid, a rôl y Cynulliad hefyd. Er ein bod yn croesawu’r ffaith bod Ysgrifennydd y Cabinet mor agored am ymrwymiadau’r Llywodraeth mewn perthynas â benthyca, rydym yn nodi nad oes fawr o fanylion yn nogfennau’r gyllideb ddrafft am faterion megis benthyca, dyledion, ad-daliadau nac ardrethi annomestig. Byddem yn disgwyl gweld gwelliant sylweddol yn y cyswllt hwn yn y gyllideb ddrafft y flwyddyn nesaf wrth i’r Cynulliad ei hun, wrth gwrs, fagu dulliau newydd o graffu ar y gyllideb.

Bydd y Cynulliad a chyhoedd Cymru, yn fy marn i, yn haeddu gweld darlun llawn o berfformiad a disgwyliadau cyllidol y Llywodraeth erbyn hynny, ar ffurf o fath y llyfr coch adnabyddus a gawn yn San Steffan. Mae hefyd yn wir i gofio bod datganiad yr hydref wedi newid amseriad y gyllideb yn San Steffan o’r gwanwyn i’r hydref a bydd angen ymateb yn briodol yn y Cynulliad hwn i’r broses yna hefyd.

Ysgrifennodd pwyllgorau eraill atom i dynnu sylw at y prif faterion a gododd yn eu sesiynau craffu nhw gyda’r Ysgrifenyddion perthnasol yn y Cabinet. Rydym wedi amlinellu’r rhain yn ein hadroddiad, yn enwedig y wybodaeth am werth am arian y dyraniadau yng nghyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru. Maent yn lliaws—gormod i adrodd yma—ond hoffwn dynnu sylw’r Cynulliad at un yn benodol. Roedd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Ynni a Materion Gwledig yn poeni am sgil-effeithiau posib y toriadau mewn cyfalaf ar gyfer cynlluniau newid hinsawdd ac atal llifogydd. Bu datganiad yr hydref ers i ni graffu ar y gyllideb ddrafft, wrth gwrs, a diau y bydd y Llywodraeth am ail-bwyso’r angen am ddyraniadau cyfalaf yn y maes hwn yn sgil y datganiad hwnnw. Byddwn yn cadw llygad ar ymatebion Llywodraeth Cymru i’r pwyllgorau unigol ac yn gofyn i’r pwyllgorau hyn barhau i archwilio gwerth am arian y dyraniadau yn ystod y broses graffu ariannol yn ystod yr adolygiad canol blwyddyn.

Hoffwn ddiolch eto i bawb sydd wedi cyfrannu at y broses graffu hon. Fel pwyllgor, rydym yn hynod ymwybodol fod yr amser sydd ar gael i graffu ar y gyllideb ddrafft yn fyr ac rydym yn ddiolchgar i bawb am eu cyfraniadau gwerthfawr. Rwyf nawr yn edrych ymlaen at glywed y sylwadau mwy gwleidyddol ynglŷn â’r gyllideb ddrafft.

Rwyf wedi dethol y gwelliant i’r cynnig ac rydw i’n galw ar Nick Ramsay i gynnig gwelliant 1 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Nick Ramsay.

Gwelliant 1—Paul Davies

Dileu pob dim a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn credu nad yw Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2017-18 yn diwallu anghenion pobl Cymru.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch. Diolch i chi, Lywydd. Rwy'n falch o gyfrannu at y ddadl hon heddiw ac i gynnig y gwelliant yn enw Paul Davies. Nid yw’n welliant sydd union yr un fath â’r gwelliant i gyllideb ddrafft y llynedd, Ysgrifennydd y Cabinet— fe wnes i newid y flwyddyn. [Chwerthin.] Mae rhai o'r problemau yr aeth y gwelliant hwnnw i’r afael â nhw yn dal i fodoli, ond mae'n welliant diweddar.

A gaf i gytuno â llawer o'r sylwadau a wnaed gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid? Rydym ni’n gwerthfawrogi’r anhawster y mae amseriad datganiad yr hydref wedi’i achosi i Ysgrifennydd y Cabinet a'i dîm. Mae hefyd wedi achosi anawsterau i’r Pwyllgor Cyllid, fel y mae’r Cadeirydd wedi crybwyll, ond mae'r rhain yn anawsterau yr ydym wedi dod i arfer â nhw dros y blynyddoedd diwethaf. Ond ar y llaw arall, bydd datganiad yr hydref yn cyflwyno oddeutu £436 miliwn yn ychwanegol, o gyllid cyfalaf rhwng 2016 a 2021 ar gyfer prosiectau cyfalaf o ganlyniad i wariant ychwanegol ar drafnidiaeth yn Lloegr—seilwaith yn Lloegr. Rydym i gyd yn gwybod bod angen i ni fuddsoddi yn ein seilwaith i dyfu ein heconomi, felly croesewir yr arian ychwanegol hwn.

Mae argymhelliad 1 yn adroddiad y Pwyllgor Cyllid yn argymell:

Yn y dyfodol, dylai’r gyllideb ddrafft ... ddangos yn glir sut y mae'r rhaglen lywodraethu wedi llywio a sbarduno’r broses o osod y gyllideb.

Fel y mae hi, mae'n rhaid i chi ddweud yn syml nad yw’r cysylltiadau hynny’n bodoli. O ran integreiddio â deddfwriaeth cenedlaethau'r dyfodol, wel, peidiwch â sôn. Ceir pryderon gwirioneddol am y ffordd y bydd y darn hwnnw o ddeddfwriaeth yn tynnu’i bwysau a lleiswyd y rhain gan y pwyllgor. Yn y pen draw, nid yw’n ymwneud â deddfwriaeth a chyllidebu yn unig. Mae angen inni weld canlyniadau cynaliadwy gwirioneddol ar lawr gwlad, a dylem ni ganolbwyntio ein holl ymdrechion ar gyflawni hynny.

Fel gyda chyllidebau drafft blaenorol sydd wedi’u cyflwyno i’r Siambr hon, mae llawer o Aelodau yn dueddol o lambastio toriadau Llywodraeth y DU—a maen nhw’n galed; nid oes dim dianc rhag hynny. Ond, rwy'n credu, yn rhy aml, y caiff y toriadau hynny eu beirniadu yn y Siambr hon heb fod digon o bwyslais yn cael ei roi ar pam yr ystyrir y toriadau hynny yn angenrheidiol yn y lle cyntaf ac, yn wir, y lefel enfawr o fenthyca a adawyd i’r Llywodraeth flaenorol—ac, yn wir, yr un presennol—fynd i’r afael â hi. Mae’r Ysgrifennydd cyllid blaenorol wedi cyfaddef ei hun fod yn rhaid ymdrin â’r benthyca hynny.

Nawr, mae Llywodraethu yn ymwneud â blaenoriaethau a gwneud y gorau o bethau o fewn y cyfyngiadau a osodwyd, ond fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi crybwyll, mae disgwyl i’r cyfyngiadau hynny gael eu llacio; y gyllideb hon fydd yr olaf i gwmpasu cyfnod lle nad oes gan Lywodraeth Cymru bwerau codi trethi na phwerau benthyca sylweddol. O ystyried nad yw datganoli treth ond ychydig dros flwyddyn i ffwrdd erbyn hyn, mae’n bosibl y byddem ni wedi disgwyl rhywfaint o gydnabyddiaeth o hyn ac arwydd o sut y bydd y dreth yn cael ei defnyddio fel arf i gefnogi'r rhaglen lywodraethu. Mae'r ffaith na chawsom hynny, nac arwydd o hynny, rwy’n credu, yn nodweddiadol o fater dyfnach yn ymwneud â blaengynllunio a'r problemau sy'n gysylltiedig â datblygu cyllidebau dros sawl blwyddyn.

Rwy’n gwerthfawrogi nad dim ond cwestiwn o Lywodraeth Cymru’n cynllunio’n well ar gyfer y dyfodol sydd gennym yma. Mae angen i'r DU gyfan wneud hynny hefyd. Mae angen fframwaith cyllidol arnom. Gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet yn rhannu'r safbwyntiau hyn; mae pleidiau eraill yn eu rhannu, hefyd. Byddai'n haws i Lywodraeth Cymru gynllunio pe byddai setliadau gan y Trysorlys wedi’u diogelu'n well yn erbyn sefyllfaoedd ariannol annisgwyl, yn enwedig â phwerau treth yn cael eu datganoli. Mae’n rhaid i ostyngiadau yn y grant bloc yn y dyfodol gael eu mynegeio’n gywir ac yn briodol. Ni allwn ni fforddio i gael hyn yn anghywir.

Gan droi at ran fwyaf y gyllideb ddrafft, mae'r gyllideb iechyd yn wir yn cael rhagor o adnoddau, ac er ein bod ni’n croesawu unrhyw adnoddau ychwanegol ar gyfer y GIG, ni ddylem anghofio ein bod ni ar ei hôl hi o ganlyniad i’r penderfyniadau i beidio ag amddiffyn y gyllideb iechyd mewn termau real rhwng 2011 a 2016, ar adeg pan oedd symiau canlyniadol Barnett yn dod i Gymru o ganlyniad i Lywodraeth y DU yn amddiffyn cyllideb Lloegr.

Gwn nad yw llawer o ACau yma ddim yn hoffi ein bod ni’n siarad am doriadau termau real y Cynulliad blaenorol i’r gyllideb iechyd, ond rwy’n credu bod angen i ni ystyried hyn mewn ffordd gytbwys. Rwy'n barod i ystyried y gyllideb hon mewn ffordd gytbwys, os yw Aelodau eraill yn barod i wneud hynny hefyd. Er ein bod ni’n croesawu’r symud i gyfeiriad defnyddio cronfa driniaethau newydd—croesewir hynny—rwy’n credu ei bod hi’n drueni na wrandawodd y Llywodraeth ar alwadau’r Ceidwadwyr Cymreig am gronfa triniaethau canser yr holl flynyddoedd hynny’n ôl pan oedd ein hetholwyr yn galw am degwch â Lloegr a degau o filoedd o bobl ledled Cymru yn arwyddo deisebau yn nodi eu pryderon—

Mewn eiliad, gwnaf.

Roedd gennyf i etholwyr a oedd ar ben eu tennyn yn ystyried symud dros y ffin o’m hetholaeth i er mwyn cael gafael ar feddyginiaeth a fyddai’n ymestyn bywyd.

Diolch i chi am ildio. A fyddai'r Aelod yn cydnabod mai’r broblem â chronfa triniaethau canser yw ei bod hi’n anwybyddu'r ffaith bod llawer o bobl eraill yn dioddef o salwch sydd hefyd angen buddsoddiad ac arloesi ac ati, a bod hynny’n rhwystr i un o'r pethau yr ydym ni wedi ceisio’i gyflawni drwy’r trafodaethau hyn? [Torri ar draws.]

Rwyf eisoes wedi dweud fy mod yn croesawu cronfa driniaethau; rwy’n credu ei bod hi’n drueni ein bod ni ar ei hôl hi ers llawer o flynyddoedd, pan oedd ein etholwyr—ac nid dim ond fy etholwyr i; rwy'n siŵr yr oedd etholwyr yn eich ardal chi, Rhun, yn Ynys Môn hefyd yn galw am gronfa triniaethau canser. Mae'n un o’r prif bethau sy’n achosi marwolaeth yng Nghymru ac rwy’n credu ei bod hi’n drueni na wnaethom ni gymryd y camau hynny ar y pryd, ond rwy'n fodlon derbyn fod gennym ni gronfa driniaethau yn awr. Yn fy marn i, gallem ni fod wedi cychwyn arni ychydig yn gynharach, ac rwy’n credu, yn ôl pob tebyg, yn eich calon, eich bod chi’n cytuno â hynny hefyd, Rhun.

Mae angen mwy o wybodaeth arnom o ran ble y dyrennir cyllid iechyd. Mae cael data gan y GIG bob amser wedi bod yn anodd a dweud y lleiaf. A yw'r cyllid ychwanegol wir am gael ei neilltuo er mwyn gwella'r gwasanaeth iechyd ac adeiladu ar gyfer y dyfodol, yn hytrach na dim ond llenwi a dileu bylchau yn y gyllideb? Fel y dywedais yn gynharach, Ysgrifennydd y Cabinet, rydym ni ar ei hôl hi yn y fan yma ac ni ddylem ni anghofio hynny.

Gan droi at addysg, yn gynharach y prynhawn yma, cawsom ddatganiad ar y canlyniadau PISA gwael. Iawn, rwy’n gwerthfawrogi y cafodd y canlyniadau hyn eu cyhoeddi’n ddiweddar iawn, ond rwy’n credu ei bod hi’n rhesymol gofyn sut y bydd y gyllideb hon yn mynd i'r afael â'r pryderon a godwyd yn y datganiad hwnnw. Nid yw bod ar y trywydd iawn yn ddigon da. Ni all fod unrhyw arwydd cliriach o ba mor ddifrifol y mae’r Cynulliad hwn yn cymryd ei rwymedigaethau i genedlaethau'r dyfodol na'r hyn yr ydym ni’n ei wneud i godi safonau addysg yn y wlad hon, ac i gyrraedd y safonau gofynnol. Fel y mae paragraff 4.35 o gynigion y gyllideb ddrafft yn ein hatgoffa,

Mae addysg yn chwarae rhan sylfaenol yn ein datblygiad fel unigolion ac mae’n sylfaen i economi gref a bywiog.

Os caf i droi at y cefnu ar y cynlluniau diffygiol i ddiwygio llywodraeth leol yng Nghymru, ac yn wir, croesawu hynny’n fawr, rydym ni y Ceidwadwyr Cymreig yn credu y bydd hyn yn osgoi gwastraffu swm enfawr o arian—arian y gellir ei fuddsoddi lle y dylai gael ei fuddsoddi: yn y rheng flaen, mewn gwasanaethau cyhoeddus, lle y byddai pobl yn disgwyl iddo gael ei fuddsoddi. Mae gennyf i broblem, wrth gwrs, â dyrannu arian o’r gyllideb llywodraeth leol ei hun. Rwyf wedi mynegi’r pryderon hynny yn y Siambr hon yn ystod nifer o ddatganiadau a dadleuon. Dibynnir ar yr hen fformiwla o hyd. Fel y gwyddom, mae'n cosbi awdurdodau lleol gwledig, fel fy un i yn Sir Fynwy—sydd bob amser ar waelod y pentwr o ran derbyn cyllid. Ceir un rhan fechan yn y gyllideb ddrafft ynglŷn â materion gwledig. Rwy'n credu ei bod ar dudalen 55, sy'n ymwneud â bwyd a diod a chadwyni cyflenwi. Mae’r hyn a geir yn dda: efallai y cyhoeddir cynnydd mewn cyllid i lywodraeth leol, ond dim ond hanner y frwydr yw hynny. Mae angen ei ddosbarthu'n deg, gan gydnabod y costau uwch o ddarparu gwasanaethau ar draws ardal wledig sydd â phoblogaeth wasgaredig.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae cynaliadwyedd wrth wraidd cyfansoddiad y Cynulliad, ond mae rhai pobl dan yr argraff ein bod ni’n aml yn siarad heb weithredu. Os yw Llywodraeth Cymru am ei gwneud hi’n ofynnol i sefydliadau eraill ddangos eu bod yn cynllunio ariannol dros gyfnod o dair blynedd, yna mae'n rhaid iddi wneud mwy o ymdrech i wneud hyn ei hun yn rhan o foderneiddio proses Llywodraeth Cymru o gynllunio’r gyllideb. Buom yn siarad yn gynharach am yr angen i foderneiddio proses y Cynulliad o gynllunio’r gyllideb. Mae angen i Lywodraeth Cymru wneud hynny hefyd.

I gloi, Lywydd, mae angen meddwl mewn ffordd fwy cydgysylltiedig. Sut y mae’r gyllideb hon yn cyflawni amcanion Llywodraeth Cymru yn ystod y tymor canolig? Sut y mae'n paratoi ar gyfer y newidiadau a'r heriau sydd o'n blaenau? Sut mae'n cyflawni ein nod o gynaliadwyedd yn y tymor hir?

Er ei bod yn dda mewn rhannau, ac yn darparu—fel y cyfeiriodd Ysgrifennydd y Cabinet ei hun— ryddhad sydd ei angen yn fawr, ond sy’n rhyddhad byrdymor yn y pen draw, ateb dros dro yw hwn. I aralleirio geiriau’r diweddar Syr Robin Day, dyma gyllideb sydd yma heddiw, ond wedi mynd yfory. Dyma pam nad ydym ni’n teimlo bod y gyllideb hon yn diwallu anghenion pobl Cymru.

Dof at sylwadau Ysgrifennydd y Cabinet mewn eiliad, ond o wrando ar lefarydd y Blaid Geidwadol, daeth un o ddyfyniadau dethol John Maynard Keynes i’m meddwl a ddywedodd, mewn cyfnod cynharach o drafferthion economaidd:

‘Practical men, who believe themselves to be quite exempt from any intellectual influence, are usually the slaves of some defunct economist.’

Roedd yn cyfeirio at yr angen i gael toriadau fel rheidrwydd ymarferol yn yr amser sydd ohoni. Mae'r byd wedi datblygu ers hynny. Ni wn a oedd gennych chi boster o Patrick Minford ar eich wal yn eich arddegau. Efallai bod gennych. Efallai yr oeddech chi’n addoli’r arianyddwr. Ond, rydym ni’n byw mewn oes pan fo Llywodraethwr Banc Lloegr—sefydliad nad ydyw, yn ystod ei hanes, wedi poeni llawer am faterion fel anghydraddoldeb a sefyllfa’r dosbarth gweithiol—newydd gyfeirio at y ddegawd a gollwyd, gan ein cymharu ni â'r 1860au. Mae Mario Draghi, o bawb, cadeirydd Banc Canolog Ewrop, newydd alw am ysgogiad cyllidol ledled yr UE. Cyflwynodd y Comisiwn Ewropeaidd gynnig ar draws yr UE, gan ddweud oni bai ein bod ni’n cael ehangiad cyllidol, yna bydd hi’n draed moch arnom ni gyd. Mae darpar Arlywydd Unol Daleithiau America—nad yw’n ffrind gwleidyddol i mi o gwbl; nid rhyddfrydwr trugarog mohono—wedi galw am ehangiad cyllidol enfawr yn Unol Daleithiau America. Byddaf yn fwy na bodlon ildio i'r Aelod.

Diolch. Nid wyf am ddweud wrthych chi pa bosteri oedd gennyf i ar wal fy ystafell wely yn fy arddegau, ond yn sicr nid oedden nhw’n economegwyr. Rwy'n cydnabod yr hyn yr ydych chi’n ei ddweud, Adam, ond a ydych chi wirioneddol yn dweud nad ydych chi’n credu bod unrhyw doriadau yn angenrheidiol o gwbl? Oherwydd os ydych chi’n dweud hynny, yna mae hynny'n hollol hurt. Mae'n rhaid i chi gredu mewn rhedeg economi mewn modd rhesymol gyllidol a chynaliadwy. Drwy ddweud nad oedd unrhyw doriadau yn angenrheidiol—wel, dewch o’ ‘na, mae hynny'n gelwydd.

Mae gennyf newyddion syml a drwg iawn iddo: oes, mae gennym ni ddyled enfawr yn y sector cyhoeddus, ond a ydyw wedi ystyried cyflwr dyledion corfforaethol yn y sector preifat? Mae economi gyfan y byd gorllewinol mewn dyled. Felly, beth mae'n ei awgrymu? Ein bod ni i gyd yn rhoi terfyn ar bob gweithgarwch economaidd, a'n bod ni’n cychwyn o’r cychwyn? Ailddarllenwch Keynes ar bob cyfrif. Rydym ni’n ôl yn yr un sefyllfa lle y mae diffyg ymddiriedaeth a hyder economaidd wedi ein gadael ni mewn sefyllfa lle nad oes ond un ysgogiad ar ôl, ac ysgogiad ydyw sydd yn nwylo pobl fel ni sydd wedi ein hethol i gynrychioli’r cyhoedd. Oni bai bod llywodraethau’n gweithredu ar draws y byd gorllewinol, yna rydym ni i gyd wedi ein condemnio, yn wleidyddol ac yn economaidd, i ddyfodol na fyddai unrhyw un—neb ohonom ni, rwy’n tybio­—yn dymuno ei weld.

Gadewch i ni droi at y gyllideb. Rwy’n cydymdeimlo ag Ysgrifennydd y Cabinet, oherwydd mae’n rhaid iddo weithredu o fewn y cyfyngiadau a osodir arno yn y sefyllfa hon lle nad oes gennym ni sofraniaeth gyllidol ac economaidd i'r graddau yr hoffai’r blaid hon ei gweld. Felly, dyna yw cefndir ein trafodaethau ni yma, yn anffodus, ac wrth i ni gael rhagor o ymreolaeth wleidyddol ac ariannol, yna byddwn ni’n gallu gwneud mwy yn y dyfodol.

Roedd hi’n bleser cydweithio ag ef yn y dull chwilfrydig hwn o gyd-fyw gwleidyddol yr ydym ni wedi’i ddyfeisio rhwng ein dwy blaid, fel plaid lywodraethol a gwrthblaid, i wneud yr hyn sy'n iawn er budd pobl Cymru. Rydym ni’n anghytuno ar rai pethau, ac rydym ni’n sicr yn parhau i drafod y meysydd hynny yr ydym ni’n anghytuno yn eu cylch. Ond roedd hi’n dda gallu cytuno i roi cymorth, yn enwedig i sectorau, yn y flwyddyn hon, sydd, fel y mae wedi dweud, yn ymwneud â chreu, o bosibl, mwy o le er mwyn i ni ddarparu llwyfan ar gyfer y newid mwy sylweddol a fydd yn angenrheidiol dros y blynyddoedd i ddod. Rydym ni’n ystyried yn arbennig y cytundeb â Phlaid Cymru ar y sectorau hynny lle bu toriadau cyfresol dros lawer o flynyddoedd: addysg uwch; addysg bellach, nad yw’n cael digon o arian; y sector celfyddydau; llywodraeth leol, a dderbyniodd y cynnydd cyntaf mewn arian parod ers 2013-14; a gwariant ar iechyd meddwl, lle’r wyf i’n gwybod bod consensws ar draws y Cynulliad ei fod yn sector nad ydyw wedi bod yn cael digon o arian yn gymesur â'i bwysigrwydd dros nifer o flynyddoedd. Felly, roedd hi’n dda gallu rhoi'r rheiny ar waith o ganlyniad i’r cytundeb rhyngom.

Wrth gyfuno ein syniadau, credaf ein bod ni wedi gallu creu cyllideb well. Rwy’n dymuno gweld y Cynulliad cyfan hwn, mewn gwirionedd, yn gallu cyflawni’r swyddogaeth honno yn fwy effeithiol nag y mae wedi gwneud hyd yn hyn, a dyna pam yr wyf yn croesawu argymhellion y Pwyllgor Cyllid. Gwnaethom goladu, gyda chymorth y Llywodraeth, yr holl wahanol eitemau—y prif grwpiau gwariant, y meysydd rhaglenni gwariant, y camau gweithredu, y gyllideb, y BELs, llinellau gwariant y gyllideb—yn wir, oddeutu 7,000 ohonyn nhw, neu rywbeth tebyg. Dylai fod wedi bod yn ffeil goch—ffeil las oedd hi. Gallai fod yn llyfr coch, efallai. Ond ni fyddwch yn dod o hyd i hyn yn unrhyw le ar hyn o bryd. Dylai hyn gael ei roi i bob Aelod Cynulliad, y gwrthbleidiau a’r pleidiau sy'n llywodraethu, er mwyn i chi allu edrych drwy bob un o'r llinellau gwariant cyllideb unigol. Fel arall, ni allwn wneud ein gwaith hyd eithaf ein gallu.

Edrychaf ymlaen yn arbennig, fel y dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet—ac, yn wir, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid—rydym yn byw mewn cyfnod heriol tu hwnt, lle mae galw cynyddol, cyfyngiadau cyllidol enfawr, a chyfleoedd o ran technoleg newydd megis data mawr, er enghraifft. Mae angen i ni edrych ar greu fframwaith cyllidebol tymor hirach i gyrff y sector cyhoeddus sy'n dibynnu ar y gyllideb. Felly, rwy’n credu bod cyllideb tair blynedd yn rhywbeth sy'n werth ei chroesawu. Ond yn sicr, mae angen i’r wybodaeth fod ar gael i ni ar ffurf fwy tryloyw nag sydd ar gael ar hyn o bryd, a dylem ni edrych ar arloesedd ehangach o ran sut yr ydym ni’n gosod y gyllideb.

Dywedir mai newyddiaduraeth yw drafft cyntaf hanes. Mae prinder newyddiaduraeth yng Nghymru. Efallai cyllideb Cymru, mewn gwirionedd, yw'r drafft cyntaf, oherwydd pwysigrwydd canolog Llywodraeth Cymru wrth lunio ein dyfodol fel cenedl. Hanner can mlynedd yn ôl yn yr Unol Daleithiau, roedden nhw’n arloesol wrth lunio’r gyllideb drwy system cyllidebu rhaglenni, ac mae hyn mewn gwirionedd yn ymwneud ag argymhelliad cyntaf y Pwyllgor Cyllid. Ynghyd â ffigurau gwariant, dylai fod gennym ffigurau ar yr hyn yr ydym yn ceisio’i gyflawni, ar ganlyniadau. Maen nhw’n asio’r ddau. Gwnaeth Robert McNamara, yr Ysgrifennydd Amddiffyn, rai pethau na fyddwn i’n cytuno â nhw, ond gwnaeth rai pethau da hefyd, ac mewn gwirionedd cafodd dipyn o dröedigaeth Ddamascaidd erbyn y diwedd. Ond un o'r pethau gwych a wnaeth oedd dweud, 'Yr unig ffordd y gall y Gyngres farnu cyllideb mewn gwirionedd yw cael y data ar fewnbynnau ac allbynnau wedi’u nodi ar yr un pryd'. Mae cyfeiriad, rwy’n credu, yn un o adroddiadau'r pwyllgor, at y grant amddifadedd disgyblion—hollol ganmoladwy o ran ei amcanion, ond a yw’n cyflawni’r amcanion hynny a sut yr ydym ni’n gwerthuso gwerth am arian mewn gwirionedd? Unwaith eto, efallai bod ffordd wahanol y gallwn ei hystyried i lunio’r gyllideb yn ei chyfanrwydd. Rydym ni’n trafod symud i ffwrdd oddi wrth Lywodraeth seilo, onid ydym? Rydym ni wedi siarad am Lywodraeth gydgysylltiedig ac ati am ddegawd a mwy. Eto i gyd, onid yw hyn yn gofeb i feddylfryd seilo? Gwneir y cyfan ar sail adrannol.

A fyddai'n bosibl llunio cyllideb drawsadrannol lle mae gennym mewn gwirionedd brif grwpiau gwariant sy’n ymwneud ag arloesi, sy'n edrych ar greu cronfa arloesi sy'n symud ar draws yr holl adrannau? A oes modd i ni edrych ar feysydd eraill megis atal, sydd hefyd yn cael ei grybwyll yn adroddiad y Pwyllgor Cyllid? Rydym ni i gyd yn gwybod hyn, onid ydym, bod buddsoddi mewn gwirionedd mewn ymyrraeth blynyddoedd cynnar i blant a phobl ifanc yn arbed arian i ni yn yr hirdymor, yn sicr yn y gwasanaeth iechyd, fel y cyfeirir ato yn adroddiad y Pwyllgor Cyllid? Pam nad oes gennym ni ddulliau atal yn un o'n prif grwpiau gwariant, yn hytrach na’r pwyslais adrannol sydd gennym?

Croesawaf y ffaith ein bod ni, trwy ein trafodaethau, yn edrych ar gyllideb gyfranogol, sy’n cynnwys dinasyddion, yn ymgysylltu â defnyddwyr, yn cyd-gynhyrchu—gair rwy’n credu y ceisiodd Leighton Andrews ei wahardd. Ond yn y pen draw, os ydym yn mynd i gyflawni mwy gyda phunt y trethdalwyr, ni allwn wneud hynny heblaw trwy ddenu pobl eraill mewn gwirionedd, dinasyddion, cwmnïau a sectorau i gyd-gyflwyno rhai o'n hamcanion ni hefyd.

Felly, byddwn i’n ein hannog ni i edrych o’r newydd ar y ffordd yr ydym yn mynd ati i osod y gyllideb ar hyn o bryd, ac i gynnwys nid dim ond Aelodau eraill yn y lle hwn ond y dinasyddion hefyd. Byddem ni’n hoffi gweld yn y gyllideb derfynol, yn enwedig fel y cyfeirir ato yn un o adroddiadau'r pwyllgor, ac fel y mae Simon Thomas eisoes wedi codi, y mater o gyllid cyfalaf ar gyfer llifogydd ac ardrethi busnes yn sicr. Rydym ni wedi cyflwyno dadl lawer gwaith, rwy’n credu, am ryddhad ychwanegol, yn enwedig yn sgil yr ailbrisio. O ran tai, a allem ni edrych, fel y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud, ar dai modiwlaidd fel modd o gyflymu datblygiad tai? Yn olaf, o ran trafnidiaeth leol—o weld pobl ar gyfryngau cymdeithasol ledled Cymru yn cwyno am y gorlenwi ar ein trenau a’r problemau gyda gwasanaethau bysiau lleol mewn rhai rhannau o Gymru—a oes modd i ni wneud hynny’n flaenoriaeth wrth i ni symud oddi wrth y gyllideb ddrafft hon i’r datganiad ar y gyllideb derfynol?

Mae saith mlynedd wedi bod ers dechrau’r cyfnod o adfer economaidd, er bod yr adferiad hwnnw o ddirwasgiad hollol ofnadwy. Bu twf sylweddol yn economïau cyffredinol Cymru a’r DU. Mae diweithdra yn wirioneddol isel iawn yn ôl cymariaethau hanesyddol, o leiaf yn ystod y 30 mlynedd diwethaf, a hynny yng Nghymru a’r DU. Mae'r diffyg yn y gyllideb ar lefel y DU yn dal i fod yn agos at £70 biliwn, sef tua 4 y cant o’r GDP. Eto i gyd, ymddengys bod y rhan fwyaf o bobl yn y Cynulliad hwn yn siarad fel pe gallai fod cyfnod mawr newydd o fenthyca, fel petai cyni yn ddewis yn hytrach na rheidrwydd. Os ydych chi, ar y cam hwn o'r cylch economaidd, yn dal i fenthyca 4 y cant o’r GDP, yna mae’r syniad y gallwch chi fynd ar sbri benthyca o’r man hwn, yn fy marn i, yn gwbl hurt. A dweud y gwir, yr unig reswm, gan ymateb i Adam Price, yr ydym wedi gallu cynnal y sefyllfa yw oherwydd bod £425 biliwn o’r benthyca hynny wedi ei ddileu, i bob pwrpas, gan Fanc Lloegr. Eto i gyd, ni allwn dybio y bydd y polisi ariannol rhydd hwnnw o gyfradd banc o 0.25 y cant a £425 biliwn o leddfu meintiol yn parhau. A phan fydd yn gwrthdroi, a chredaf y bydd hynny’n digwydd yn gynt nag y mae pobl yn ei ddisgwyl ar y cyfan, bydd yn anodd iawn i ni barhau i fenthyca ar y lefel hon. Rydym wedi gweld, yn y mis neu ddau diwethaf, y bu cynnydd o oddeutu traean yn y cyfraddau llog hirdymor o gymharu â lle'r oedden nhw. A bydd hynny, dros amser, yn llifo i mewn i brosesau cyllidebu y DU ac, yn sgil hynny, i'r Cynulliad hwn.

Rwy’n siarad yn gymharol wylaidd ac nid wyf yn bwriadu rhoi truth pleidiol mawr heddiw. Dyma fy mlwyddyn gyntaf ym mhroses gyllidebu’r Cynulliad hwn ac, fel y dywedodd y Gweinidog Cyllid, mae'r system yn newid. Mae gennyf rywfaint o brofiad o gyllidebu ar lefel cyngor ac awdurdod yr heddlu, ac, yn wir, i'r graddau ei fod yn digwydd yno o gwbl, yn San Steffan. Ond nid wyf eisiau tybio, o nodweddion tebyg, bod pethau yr un fath, oherwydd mae gwahaniaethau allweddol a phwysig yn bodoli.

Rwy'n arbennig o siomedig o gael gwybod ein bod heddiw yn pleidleisio ar gynnig ar y gyllideb ddrafft i dynnu sylw, ac yna pan ddaw'r gyllideb derfynol i ni ym mis Ionawr, dywedir wrthyf y bydd pleidlais i fyny neu i lawr ar y cynnig, ac mae'r gyllideb ei hun yn un na ellir ei diwygio. Rwy'n credu bod hynny'n siomedig—mae'n adlewyrchu'r sefyllfa yn San Steffan, ond dim ond ers y 1930au. Cyn hynny, gallai Aelodau Seneddol ddiwygio cynlluniau gwariant y Llywodraeth, ac roeddent yn gwneud hynny. Rwy’n credu y byddai'n system iachach pe bai grwpiau plaid neu Weinidogion neu Aelodau yn gallu cyflwyno gwelliannau i gyllideb y Llywodraeth, a chael pleidleisio yn y lle hwn ar a ddylid cytuno arnynt neu beidio. Rhywbeth arall yr wyf yn ei weld—

Mae’r Aelod yn gwneud pwynt diddorol, sef bod llawer o wledydd eraill y Gymanwlad, er enghraifft, a gwledydd ffederal yn defnyddio'r broses honno. Ond mae ganddynt fesurau diogelwch yn eu lle, yn enwedig lle mae gwariant ychwanegol dan sylw, ac nid ydych yn mantoli'r gyllideb gydag incwm ychwanegol. Ond bydd e’n cael y cyfle i gyflwyno’r farn honno gan ein bod yn trafod drwy'r Pwyllgor Busnes a thrwy'r Cynulliad ei hun sut yr ydym yn gweithredu golwg newydd ar broses y gyllideb.

Ie, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda Chadeirydd y Pwyllgor Cyllid ac eraill ar hynny. Rwy'n credu y dylai’r cynnig bod unrhyw newid i linell wariant a fyddai’n cael ei gyflwyno fel cynnig, ar yr un pryd gael gwelliant o ran naill ai cynnydd mewn trethi neu leihad mewn gwariant, a fyddai'n atal hynny. Ond, yn amodol ar hynny, rwy’n meddwl y byddem yn elwa o gael y broses ddemocrataidd honno.

Rwyf hefyd yn ddiolchgar i Simon Thomas a hefyd i Nick Ramsey, y ddau ohonynt wedi bod yn hael gyda'u hamser yn egluro i mi hynodion y broses pennu cyllideb yma, a hefyd i Ysgrifennydd y Cabinet sydd wedi bod yn barod iawn i siarad â’r Pwyllgor Cyllid, ar y ddau Fil yr ydym yn eu hystyried, ac ymlaen i graffu ar y gyllideb hon yr ydym wedi ei gosod o fewn hynny.

Un her arall, rwy’n meddwl, i fy nealltwriaeth i o sut mae'r broses yn gweithio yma, ac efallai i eraill, yw beth yn union yw’r berthynas hon rhwng Plaid Cymru a'r Blaid Lafur. Roeddwn wedi deall mai’r hyn oedd wedi ei gytuno oedd y byddai Plaid Cymru yn caniatáu i'r gyllideb fynd drwodd—rwy'n dal heb fod yn glir o ba un ai ymatal neu gefnogaeth yw hynny—yn gyfnewid am gyfres o newidiadau penodol i'r gyllideb honno a fyddai'n cael eu cytuno gan y Blaid, er enghraifft y £300,000 ar gyfer edrych ar y rheilffordd rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth ac a allwn ddod â’r rheilffordd honno yn ôl. Hyderaf y bydd y Blaid yr un mor awyddus i fonitro sut mae'r arian hwnnw'n cael ei wario, ac yn sicrhau gwerth am arian, ag yr oeddent pan gytunwyd arno yn y lle cyntaf. Ond mae'n ymddangos drwy wneud hynny, eu bod yn caniatáu i gryn dipyn o bethau eraill fynd drwodd yn y gyllideb hon na chawsant unrhyw olwg arnynt ymlaen llaw, ac eto i gyd bellach rywsut maent yn gysylltiedig â nhw. Ac rwy’n teimlo bod araith Adam Price wedi mynd yn eithaf pell tuag at amddiffyn y gyllideb yn ei chyfanrwydd, yn hytrach na dim ond yr elfennau sy’n benodol i Blaid Cymru o fewn y gyllideb. Rwy'n credu y byddem i gyd yn elwa o fwy o eglurder am sut mae’r berthynas honno yn gweithio.

Rwyf hefyd yn credu bod y Pwyllgor Cyllid—rwy'n falch o'r ddogfen yr ydym wedi’i chynhyrchu mewn amser byr iawn. Dydw i ddim yn hollol siŵr o statws y ddogfen honno yn y ddadl hon—cyfeirir ati fel dogfen ategol. Tybed, mewn gwirionedd, pe byddai’r Cynulliad hwn a'r Cyfarfod Llawn yn pleidleisio ar yr argymhellion hynny a fyddent yn cael eu cefnogi gan y Cynulliad cyfan. Rydym wedi cael cytundeb trawsbleidiol yn y pwyllgor, ac rwy’n meddwl y byddai hynny'n cryfhau sefyllfa'r Cynulliad ymhellach yn y broses graffu ar y gyllideb, ac edrychaf ymlaen at glywed Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud wrthym pa rannau, os o gwbl, o'r gyllideb y mae'n mynd i’w diwygio mewn ymateb i'r rheini.

Mae gennym Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, ac yn fy marn i, nid oes sicrwydd o hyd a yw hwn yn ddarn effeithiol o ddeddfwriaeth neu a yw’n rhoi arwydd o rinwedd ar nifer o nodau teilwng iawn nad ydynt wedyn yn cael eu gweithredu drwy broses ddyddiol llywodraeth a deddfwriaeth. Felly, edrychaf ymlaen at weld newidiadau a all ddigwydd neu na allant ddigwydd yn y maes hwnnw.

Yn gyffredinol, byddwn yn disgrifio’r gyllideb fel cyllideb ‘ymlaen gan bwyll’—mae llawer o linellau cyllideb lle nad oes newid i'r gwariant. Daeth Ysgrifennydd y Cabinet o hyd i arian ychwanegol ar gyfer iechyd, ac rydym yn cefnogi hynny. Fe’m trawyd fwyaf gan y setliad llywodraeth leol, sy’n ymwneud o leiaf â’r gwariant a welwn wedi’i bennu gan Lywodraeth y DU yn bennaf ar gyfer Lloegr, oherwydd, i mi, ymddengys mai’r maes llywodraeth leol hwnnw sy'n cael y gostyngiadau lleiaf yng Nghymru, o'u cymharu â'r toriadau llym iawn, iawn y mae cynghorau lleol yn Lloegr wedi’u profi. Ac yn sgil hynny iechyd sy’n gweld y toriadau yng Nghymru, ac nid yw’r toriadau hynny i’w gweld yn Lloegr. Rwy'n gwybod bod rhywfaint o hynny yn adlewyrchu’r hyn sy'n digwydd gyda gofal cymdeithasol a'r GIG, ac rwy’n meddwl ei bod yn synhwyrol i'r Llywodraeth ystyried hynny yn y ffordd y mae'n gwneud. Ond, yn gyffredinol, mae’r setliad llywodraeth leol yn edrych yn fregus ar gyfer y dyfodol. Ac yn adroddiad y Pwyllgor Cyllid, rydym yn dweud bod

‘y gyllideb ddrafft eleni yn setliad gwell o lawer na’r disgwyl... dylai sefydliadau fod yn defnyddio'r setliad hwn i baratoi ar gyfer cyfnodau mwy anodd i ddod, roedd y Pwyllgor yn poeni nad yw wedi gweld tystiolaeth fod y gwaith paratoi hwn yn digwydd’.

Ac mae'n dyfynnu yn enwedig y gwasanaeth iechyd a llywodraeth leol. Ond mewn llywodraeth leol, mae gennym etholiadau ym mis Mai, a’r amheuaeth yn anorfod yw y bydd toriadau llym mewn llywodraeth leol a allai gael eu gohirio tan y flwyddyn nesaf. Ac, yn hytrach na chynllunio ar gyfer y gostyngiadau hynny yn awr, mae llywodraeth leol yn canolbwyntio ar arian sefydlu ar gyfer yr etholiadau cyngor ym mis Mai, a byddwn yn gweld gostyngiadau difrifol yn y flwyddyn neu ddwy wedyn a allai yn wir fod wedi'u cynllunio'n well. Ar gyfer y gwasanaeth iechyd, rwy'n siomedig o weld bod y gofyniad statudol hwn gennym ar gyfer cyllidebu tair blynedd, mae’r holl grwpiau buddiant a sefydliadau partner hyn yn dod atom ac yn dweud eu bod yn awyddus i gynllunio ar gyfer y tymor hir ac, eto i gyd, mae nifer o'r sefydliadau iechyd hyn heb osod y cyllidebau tair blynedd hynny mewn gwirionedd, fel sy'n ofynnol yn ôl statud.

Rydym wedi gweld y toriadau sylweddol hyn—rhwng 35 a 40 y cant, yn dibynnu ar ba flwyddyn yr ydych yn edrych arni—i'r gyllideb gyfalaf ar gyfer prosiectau newid hinsawdd. Rwy’n cofio cael fy herio yn eithaf ymosodol gan Carl Sargeant cyn yr etholiad ar sut oedd UKIP eisiau torri’r gyllideb hon, ac eto i gyd mae'r Llywodraeth yn dod yn ôl ac yn y gyllideb gyntaf yn torri dros draean ohoni. Rhaid cyfaddef fod hyn yn achosi penbleth braidd. Holir Ysgrifennydd y Cabinet a dywedir wrtho, 'A dweud y gwir, nid yw hyn yn mynd i effeithio ar nodau neu amcanion newid hinsawdd neu’r hyn y mae'r Llywodraeth yn mynd i’w gyflawni yn y maes hwn.' Os felly, pam oedd yr arian hwn yn cael ei wario ym maes newid hinsawdd, os nad oedd yn ofynnol mewn gwirionedd i fodloni'r nodau hynny? Tybed a fydd y prosiectau cyfalaf newid hinsawdd hyn, fel y gyllideb addysg uwch y llynedd, o bosibl, ac y byddwn yn gweld rhannau sylweddol yn cael eu rhoi yn ôl, yn dilyn yr hyn yr ydym wedi ei ddysgu yn natganiad yr hydref.

Hoffwn gael sicrwydd bod cysylltiad da o ran yr hyn sy'n digwydd o safbwynt effeithlonrwydd ynni a thlodi tanwydd rhwng cynlluniau’r cwmnïau ynni, Nest, a’r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud, ac yn yr un modd â llywodraeth leol a'i chyfrifoldebau amddiffyn rhag llifogydd. Ac rwy’n meddwl y byddai'n beth da pe baem yn edrych ar y cynlluniau penodol hyn ar sail eu rhinweddau a'u gwneud yn agored i graffu fforensig da, yn hytrach na dim ond oherwydd eu bod yn cael eu disgrifio fel prosiectau newid hinsawdd sy’n cael eu clodfori gan y Llywodraeth fel rhywbeth da yn hollol amlwg neu, yn wir, yn cael eu beirniadu gan eraill fel rhywbeth nad ydynt yn dda. Dylem edrych ar eu rhinweddau, ac rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn, iawn ein bod yn cael y BELs, y llinellau gwariant yn y gyllideb, allan yno yn gynnar. Yn wir, mae’n anfoddhaol cael cyllidebau eang iawn, iawn yn cael eu cyhoeddi ac yna gael gwybod llawer iawn yn ddiweddarach, mewn gwirionedd, fod y darlun yn wahanol iawn, iawn i’r hyn yr oedd yn ymddangos oherwydd yr hyn sy'n digwydd ar y lefel honno.  Rwyf o ddifrif yn meddwl y byddai o fudd i'r broses gyllideb gyffredinol, i graffu cyhoeddus ac i ymgysylltiad democrataidd yng Nghymru pe bai’r BELs hynny yn cael eu cyhoeddi ar yr un pryd â'r gyllideb ddrafft, er mwyn i bobl weithio ar gyfer craffu ar y gyllideb yn briodol ac yn effeithiol. Rwy'n ddiolchgar i Ysgrifennydd Cabinet ac am yr amser, Lywydd.

Dyma’r chweched gyllideb yr wyf wedi siarad amdani yn y Senedd. Yn anffodus, maent i gyd wedi cael eu gwneud yn erbyn agenda gyni Llywodraeth San Steffan y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn gyntaf ac yn awr Lywodraeth Geidwadol. Pa mor hir fydd angen dilyn y llwybr cyni nes ei fod yn gwawrio’n sydyn ar y Llywodraeth nad yw'n gweithio? Fel y dywedodd Adam Price yn gynharach, dyma'r degawd coll cyntaf o dwf economaidd ers y 1860au. Dyna oedd amser Disraeli a Gladstone, a Disraeli a Gladstone fel dynion ifanc. [Torri ar draws.] Na, fe wnâi helpu Neil Hamilton: roedd Palmerston yno ar y dechrau, roedd Disraeli a Gladstone yno ar y diwedd. Neu a yw’r agenda gyni hon yn ddim ond deilen ffigys i guddio awydd y Ceidwadwyr i grebachu’r sector cyhoeddus? Pan na ellir cael gwared ar y wladwriaeth yn gyfan gwbl, maent yn dod o hyd i ffordd, fel ysgolion academi yn Lloegr, lle gall y sector preifat wneud arian allan ohoni.

Gan droi at y gyllideb ger ein bron, mae iechyd yn parhau ar ei daith tuag at 50 y cant o gyllideb refeniw Cymru; yr adeg hon y flwyddyn nesaf, rwy’n rhagweld y bydd mewn gwirionedd yn fwy na 50 y cant o gyllideb refeniw Cymru. Rwy'n credu ei fod yn 49 y cant eleni. Iechyd o bell ffordd yw’r gwasanaeth pwysicaf y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu, ond rhaid defnyddio’r arian ar iechyd yn y modd mwyaf effeithiol. Rwy’n dal yn amheus iawn o strwythur y byrddau iechyd presennol, nad yw'n ymddangos i mi i fod yn seiliedig ar ffiniau iechyd naturiol. Mae angen mynd i'r afael â rhai cwestiynau ar iechyd: beth yw’r gost am staff asiantaeth ? Pam nad oes gwasanaeth meddyginiaethau ar gyfer Cymru gyfan fel bod modd anfon meddyginiaethau sydd â’u dyddiad ar fin rhedeg allan i ysbytai eraill, hyd yn oed os ydynt mewn bwrdd iechyd gwahanol, er mwyn osgoi gwastraff?

Diolch, rwy’n ddiolchgar iawn ichi am dderbyn yr ymyriad. Mae’n ymwneud, yn benodol, â chostau staff asiantaeth. Fel y gwyddoch, cymerwyd camau gan Lywodraeth y DU gamau i roi cap ar gostau staff asiantaeth fesul awr. Penderfynodd Llywodraeth Cymru beidio â dilyn eu hesiampl. Mae hynny’n costio miliynau o bunnoedd i'n GIG bob blwyddyn. A ydych yn rhannu fy marn i y dylai Llywodraeth Cymru ailystyried ei safbwynt?

Nid wyf yn rhannu eich barn. Yr hyn y byddwn i'n ei ddweud yw, os byddech yn pennu'r cap hwnnw, y byddai’n arwain at brinder nyrsys ar wardiau a phrinder meddygon mewn ysbytai. Y broblem yw bod angen staff asiantaeth arnom. Yr her i Lywodraeth Cymru a'r gwasanaeth iechyd yw cyrraedd sefyllfa lle nad oes angen staff asiantaeth oherwydd bod y gwasanaeth wedi’i staffio’n llawn.

Pam ydych chi, fel y nodwyd gan gyn-Weinidog iechyd, ddwywaith yn fwy tebygol o gael tynnu eich tonsiliau yn Ynys Môn nag yr ydych yn Wrecsam, sydd ill dwy'n rhan o'r un bwrdd iechyd? Pam mae cost llawdriniaeth megis cataractau yn amrywio cymaint rhwng gwahanol ysbytai? Clywsom yn ddiweddar fod cost meddygon locwm yng Nghymru yn fwy na £137 miliwn—cynnydd o £64 miliwn o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Talwyd y cyflog uchaf o £183,000 i locwm y llynedd, yn ôl y papurau newydd. Mae angen system arnom lle’r ydym yn cael mwy o feddygon i mewn, ac rwy’n rhoi fy nghardiau ar y bwrdd fy mod yn credu mewn meddygon teulu cyflogedig.

Pam mae ymyriadau meddygol sy'n gwneud dim daioni i'r claf yn dal i ddigwydd?  Mae’r archwilydd cyffredinol wedi sôn am yr arfer hwn, fel y mae NICE. Faint o gleifion dros nos y mae angen i uned mân anafiadau eu gweld iddi gael ei chadw ar agor dros nos? Ar hyn o bryd, yr ateb i hynny yw tri.

Fe wnaethom ni fel pwyllgor yn y Cynulliad graffu ar Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd ac Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid i weld pwy sy’n gwneud y gwaith craffu manwl ar wariant bwrdd iechyd, nid o ran cywirdeb a chyfreithlondeb, ond o ran effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd.

Yn gyffredinol, bydd pobl yn cael eu hanghenion iechyd mawr yn ystod 12 i 24 mis olaf eu bywydau, ond gall fod angen gofal cymdeithasol arnynt am hyd at 40 mlynedd, gyda lefel a chymhlethdod y gofal yn cynyddu wrth i bobl heneiddio, ac yn aml yn diweddu gyda phecyn gofal preswyl sy’n gorfod cael ei dalu gan y cyngor lleol. Nid yw’n syndod chwaith bod mwy o anghenion iechyd yn dueddol o fod gan y rhai sy'n byw mewn tai annigonol. Mae iechyd hefyd yn ffordd o fyw. Mae cyfleusterau ymarfer corff sy’n cael eu rhedeg gan awdurdodau lleol, a chynlluniau ffitrwydd, diet a rhoi'r gorau i ysmygu sy’n cael eu rhedeg gan Gymunedau yn Gyntaf i gyd yn helpu i wella iechyd pobl yng Nghymru.

Er bod datganiad yr hydref wedi ychwanegu gwariant cyfalaf ychwanegol at gyllideb Llywodraeth Cymru, yn ôl fy nghyfrifiad i, mewn termau real, mae’n dal heb ein cymryd yn ôl at wariant 2008 hyd yn oed. Byddai gwariant cyfalaf ychwanegol o fudd i economi Cymru. Cofiwch fod y gwariant cyfalaf y galwodd Ed Balls amdano, ac y gwnaeth George Osborne ei ddisgrifio fel dryllio’r adferiad, bellach wedi’i gyflwyno gan Philip Hammond. Mae'n beth braf iawn eu bod bron wedi dysgu.

A gaf i ddweud rhywbeth sy'n ymwneud â'r syniad hwn bod yn rhaid i chi ddal i dorri i wneud cyni ar gyfer i bethau weithio? Na, rydych yn tyfu eich economi. Rydych yn cynyddu eich derbyniadau treth drwy dyfu’r economi. Rydych yn cael mwy o bobl yn gweithio; nid fel sydd gennym ni ar hyn o bryd, pobl yn gweithio oriau cyfyngedig a chontractau dim oriau ac oriau contract tymor byr, ond rydych mewn gwirionedd yn cael pobl yn gweithio'n llawnamser ac rydych yn codi eu cyflogau. Pan fydd hynny'n digwydd, mae’r dreth yn cynyddu ac mae pobl yn y pen draw yn well eu byd. A gaf i ddweud, yn olaf, mae angen gwariant cyfalaf yn daer ar gyfer pethau mor amrywiol ag ysgolion newydd ac amddiffynfeydd rhag llifogydd, er bod y rhai sy’n gwadu bod cynhesu byd-eang yn digwydd yn credu nad oes angen amddiffynfeydd rhag llifogydd ychwanegol arnom.

Chwe blynedd yn ôl, etifeddodd Llywodraeth y DU a arweiniwyd gan y Ceidwadwyr, economi a oedd ar fin dymchwel, a'r diffyg uchaf yn y gyllideb mewn cyfnod o heddwch yn hanes y DU. Er mwyn adennill hygrededd ariannol a oedd wedi chwalu, roedd yn rhaid gwneud penderfyniadau anodd. Nid yw cyni, a ddiffinnir fel bod heb ddigon o arian, yn ddewis felly. Fel y gŵyr unrhyw ddyledwr, ni allwch ddechrau lleihau dyled nes i wariant ddisgyn islaw incwm. Pe bai’r Trysorlys wedi mynd ar drywydd lleihau diffyg yn gyflymach, byddai toriadau wedi bod yn uwch. Yn y byd ariannol go iawn, mae benthycwyr yn benthyca ond mae’r rhai sy’n rhoi benthyg yn gosod y telerau. Pe bai’r Trysorlys wedi mynd ar drywydd lleihau diffyg is, gellid bod wedi gosod toriadau uwch. Mae'r rhai sy’n datgan fel arall ar y gorau yn twyllo eu hunain, ar y gwaethaf maent yn twyllo’r bobl.

Mae Llywodraeth Cymru yn briodol wedi blaenoriaethu atal ac ymyrraeth gynnar, ond fel y dengys y gyllideb ddrafft hon, mae'n dweud un peth ac yn gwneud peth arall. Er bod ei chyllidebau ar gyfer atal ac ymyrryd yn gynnar ac ar gyfer cymorth y sector gwirfoddol yn allweddol i gyflawni ei pholisïau, ac er eu bod yn cynrychioli dim ond 1.5 y cant o gyllidebau iechyd a llywodraeth leol cyfun, mae’r Llywodraeth Cymru hon wedi eu torri eto i dros £7 miliwn yn is na lefel 2015-16. Yn hytrach na gweithio mewn modd mwy deallus, bydd yr economi ffug hon yn ychwanegu costau ychwanegol at wasanaethau iechyd a llywodraeth leol sawl gwaith yn uwch na'r toriadau cibddall a osodwyd. Naw wfft i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn hyrwyddo cyfranogiad pobl wrth gynllunio a darparu gwasanaethau gofal a chymorth. Naw wfft i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gwneud i gyrff cyhoeddus weithio'n well gyda phobl, gyda chymunedau a gyda'i gilydd, gan gymryd agwedd gydgysylltiedig. A naw wfft i adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru, 'Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus 2015', a oedd yn dweud,

‘mae cydnabyddiaeth gliriach o lawer bellach nad yw dulliau blaenorol wedi gweithio yn ôl y bwriad a bod angen newid radical’,

‘mae'n rhaid i wasanaethau cyhoeddus gael eu darparu fwyfwy nid i bobl, ond gyda phobl... cynnwys pobl wrth gynllunio a darparu gwasanaethau, gan gydnabod cryfderau y bobl eu hunain a theilwra gwasanaethau yn unol â hynny’.

Fel y dywedodd sylfaenydd Byddin yr Iachawdwriaeth, William Booth,

‘Er ei bod yn gwbl briodol achub y dyn neu’r fenyw sydd wedi disgyn i'r môr, mae'n llawer gwell mynd i'r afael â gwraidd problem yr unigolyn ar ben y clogwyn y disgynnodd ohoni.

Eto i gyd, mae’r elusennau Cynhalwyr Cymru, Cyswllt Teulu Cymru ac Anabledd Dysgu Cymru yn gorfod galw ar Lywodraeth Cymru i ailystyried ei phenderfyniad i dorri £5.5 miliwn oddi ar gronfa’r teulu, gan ddweud

‘Ymddengys ei bod wedi gwneud ei phenderfyniad heb ystyried yr effaith y byddai hynny’n ei chael ar y teuluoedd mwyaf agored i niwed sydd â phlant anabl’.

Gan ychwanegu, ymddengys bod y gostyngiad hefyd yn mynd yn groes i bolisi ehangach Llywodraeth Cymru. Mewn cyferbyniad, mae’r cyllid yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi’i gynnal.

Wrth gwrs, mae gan Lywodraeth Lafur Cymru hanes am hyn. Ym mis Medi 2014, pan gyhoeddodd gyllid i gefnogi gwasanaethau cynghori rheng flaen, Cyngor ar Bopeth Cymru a Shelter Cymru, anwybyddodd AdviceUK—sef rhwydwaith cymorth mwyaf y DU ar gyfer canolfannau cyngor annibynnol am ddim, gyda 24 o gyrff sy’n aelodau yng Nghymru—gan wadu ymyrraeth frys a chyflym i bobl mewn argyfwng, a’u cadw ar restrau aros. Dros y flwyddyn ddiwethaf, tro mudiadau fel Anabledd Cymru a chanolfannau cyswllt plant yng Nghymru oedd hi, gan arwain at ganlyniadau gwaeth a mwy costus i bobl a theuluoedd.

Er gwaethaf galwadau gan grŵp cyfeirio anabledd Cymru ar gyfer y gronfa byw'n annibynnol a ddatganolwyd i gael ei gweinyddu yn y sector gwirfoddol gyda’r Alban a Gogledd Iwerddon, mae Llafur wedi rhoi’r gronfa hon i lywodraeth leol. Pan godais bryderon am brinder nyrsys cymwysedig sy'n darparu gofal lliniarol yn y sector gwirfoddol, a nodwyd gan yr elusen Together for Short Lives, cafodd hyn ei wfftio. Digwyddodd hynny hefyd pan dynnais sylw at bryderon a godwyd gan fwrdd cymunedau mwy diogel y gogledd bod gormod yn cael ei wario ar ddatrys problemau camddefnyddio sylweddau a dim digon ar ymyrraeth ac atal, a phan feirniadais y toriad o 10 y cant i gyllideb cefnogi cymunedau a phobl y trydydd sector, gan bwysleisio’r rhan hanfodol y mae’r trydydd sector yn ei chwarae wrth ddarparu gwasanaethau o safon am lai o arian. Mae toriadau o'r fath i gefnogaeth ar lefel llawr gwlad yn peryglu’r gwasanaethau ataliol a chost-effeithiol, a arweinir yn fwy gan ddefnyddwyr, y mae’r trydydd sector yn eu darparu, pan ddylem fod yn trawsnewid gwasanaethau cyhoeddus Cymru drwy wneud cyd-gynhyrchu yn rhan annatod ohonynt.

Yn amlach na pheidio, mae arian yn disgyn dros bobl a chymdogaethau yn hytrach nag yn dyfrio eu gwreiddiau. Mae darparu gwasanaethau gwell yn fwy effeithlon yn golygu cymryd pwerau oddi ar lywodraeth ar lefel leol a chenedlaethol, a'u rhannu gyda'r bobl sy'n byw ac yn gweithio ar y rheng flaen. Os ydych yn ymddiried ynddynt, bydd yn gwella eu bywydau ac yn arbed arian yn y broses.

Byddaf yn cyfeirio at elfennau penodol o'r gyllideb hon mewn cysylltiad ag iechyd. Mae'r cytundeb, wrth gwrs, yn cynrychioli dim ond rhan o'r gyllideb ehangach. Yn y gyllideb ehangach mae rhai penderfyniadau sy'n ymwneud ag iechyd a gofal cymdeithasol y byddem yn gobeithio y byddai Llywodraeth Cymru yn eu hailystyried. Byddem hefyd yn hoffi gweld mwy o arian yn cael ei roi i iechyd, ond rydym yn ymwybodol iawn nad yw’n ymwneud yn unig â faint o arian sy'n cael ei wario ond sut y caiff yr arian ei wario a'i reoli o ddydd i ddydd.

I lefarydd y Ceidwadwyr, a adlewyrchir gan UKIP a’u galwad i ddiogelu cyllidebau iechyd, gadewch i ni edrych ar yr hyn y mae'r Ceidwadwyr wedi ei wneud yn Lloegr. Mae angen i unrhyw un sy'n meddwl bod modd gwella’r gwasanaethau iechyd drwy dorri gofal cymdeithasol, fel sydd wedi’i wneud yno yn ôl pob tebyg, dreulio ychydig mwy o amser yn ystyried y problemau gwirioneddol yr ydym yn eu hwynebu mewn termau real yn y GIG yng Nghymru. Ildiaf.

A ydych yn derbyn nad oes gan y mantra cyson hwn gan Lywodraeth Cymru o ran gwarchod gofal cymdeithasol ddim byd i'w wneud â nhw yma yng Nghymru, oherwydd, wrth gwrs, mae penderfyniadau ar gyllidebau gofal cymdeithasol yn gyfan gwbl yn fater i awdurdodau lleol ac nid i Lywodraeth Cymru?

Gyda phob parch, mae'r broses o ryddhau, yn ôl pob golwg, y berthynas rhwng gofal cymdeithasol ac iechyd yn Lloegr wedi arwain at ganlyniadau trychinebus. Ni allwn anwybyddu'r ffaith os byddwch yn rhoi'r gorau i fuddsoddi mewn gofal cymdeithasol, mai’r gwasanaeth iechyd fydd yn dioddef ar ddiwedd y dydd. Dyna pam mae angen i ni weithio tuag at integreiddio. Nid trwy danseilio un rhan o'r hyn yr ydym yn dymuno ei integreiddio yr ydych yn adeiladu gwasanaeth sy'n gyfannol ac yn gwasanaethu pobl Cymru yn dda.

Fodd bynnag, mae'r cytundeb cyllideb yr ydym wedi bod yn gweithio arno gyda’r Llywodraeth hon, yn fy marn i, yn gam tuag at wireddu uchelgais Plaid Cymru o greu Cymru iachach. Boed hynny mewn arian ychwanegol ar gyfer addysg feddygol, cyfarpar diagnostig, gwariant ar iechyd meddwl, anhwylderau bwyta, gwasanaethau hunaniaeth rhywedd yng Nghymru, neu ofal diwedd oes, rwy’n credu mai’r hyn sydd gennym yma yw gwelliannau a fydd yn sicrhau gwelliannau diriaethol ac yn diogelu rhai gwasanaethau yng Nghymru am y tro cyntaf erioed. Byddaf yn edrych ar rai o'r meysydd gwariant ychydig yn fanylach.

Medical education is something that I hope that there’s a growing consensus on in this place. We do have to ensure that our medical schools, and medical education more widely, do provide for the health service in Wales. That’s going to mean a need for investment and to expand provision. The £7 million that was ensured for next year, 2017-18, hopefully, is going to be a step towards that, not just in strengthening our medical schools as they currently stand, but it also will allow us to move towards creating a new layer of medical education in the community that’s going to bring medical education to the heart of those areas of Wales that are most in need of an increase in terms of recruitment and training.

Now, £15 million is available in capital funding for diagnostic equipment, and we know—I’ve spoken about this many times—Plaid Cymru is committed to improving diagnosis times in Wales, because early diagnosis of illness, including particularly cancer, perhaps, can improve survival rates significantly. Wales has fallen behind the performance of other nations in the United Kingdom, and I hope that that investment will be a positive step in the right direction.

On mental health care: £20 million for the next financial year. Mental health services have been underfunded for far too long, even though the services have seen demand increasing across Wales. To establish eating disorder and gender identity clinics: £1 million over the next year. Plaid Cymru want to see us here leading the way in several areas, and eating disorders is one of those areas where we want to be a world-leading force in supporting and treating those people who do suffer from eating disorders, and this is another step forwards.

Finally, additional funding for end-of-life care: £1 million there. It’s not enough, of course, but it is a start, and I’m very pleased that that has been included in the agreement. I will conclude, because the clock is against me. Plaid Cymru has chosen in this place to push for those things that we know are right. It would have been easier, in several ways, to push for a shiny new building somewhere, but there are issues here where we are confident that we are gaining ground, but in a budgetary context, of course, we will be continuing to put pressure on the Government.

Rydym yn byw mewn amseroedd ansicr iawn. Agorodd fy nghydweithiwr, Mark Drakeford, ei ddatganiad ar y gyllideb yn ôl ym mis Hydref gyda’r geiriau hynny. Ac mae’n iawn. Ni allai'r amser fod yn fwy ansicr ar gyfer y DU a Chymru a’r blaid Dorïaidd sydd wedi dod â ni yma.

Ers 2010, mae'r Llywodraeth Geidwadol wedi dwyn tua £1.5 biliwn oddi ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Mae'r ymosodiad parhaus hwn, yn enwedig ar ein hetholwyr mwyaf agored i niwed, yn ddigynsail yn y cyfnod ar ôl y rhyfel. Heb fod yn fodlon â hynny, mae’r blaid Dorïaidd, mewn ymgais aflwyddiannus drawiadol i wella rhaniadau o fewn eu plaid eu hunain, wedi mynd â ni i refferendwm sydd wedi achosi ansicrwydd, rhaniadau ac ofn mewn cymdeithas sifil. Ni welwyd anghrediniaeth ar ddwy ochr y diwydiant ac ansefydlogrwydd o'r fath yn Ewrop ers cwymp yr hen Iwgoslafia. Mae pob unigolyn rhesymol yn edrych yn anghrediniol wrth i Johnson, Davis a Gove faglu o amgylch Ewrop, yn chwilota am atebion i'r sefyllfa amhosibl y maen nhw wedi ein rhoi ni ynddi. Mae fel gwylio act gan y brodyr Marx, heb yr hiwmor a heb y gwaith tîm.

Mae'r Aelod dros Dorfaen yn cymharu Brexit â chwymp Iwgoslafia. Ydy hi'n wir yn gwneud cymhariaeth â’r tywallt gwaed hwnnw a’r cannoedd o filoedd o farwolaethau? Pan mae hi'n siarad am gymdeithas sifil, onid yw hi'n ymwybodol fod y rhan fwyaf o'r gymdeithas wedi pleidleisio dros hyn?

Rwy’n ymwybodol iawn o ganlyniad y refferendwm, ond rwyf hefyd yn ymwybodol o'r anhrefn yr ydym yn symud tuag ato, yn enwedig gyda Brexit caled.

Gyda dyfyniad enwog Groucho a'n dyfodol yn Ewrop mewn golwg, pwy mewn difri fyddai eisiau bod yn rhan o glwb a fyddai'n cael y tri hynny yn aelodau?

Yng nghanol anhrefn y Torïaid mae'n rhaid i ni barhau i wneud cyllideb. Yng nghanol y llanastr, rhaid i Lywodraeth Cymru hyrwyddo llywodraethu da. Yng nghanol ymosodiad cyson o Whitehall, mae'n rhaid inni ddangos i bobl Cymru ein penderfyniad i sefyll yn deilwng dros y cyhoedd er mwyn amddiffyn y rhai mwyaf bregus ac, er gwaethaf popeth y mae Llywodraeth y DU yn ei daflu atom, i osod y seiliau ar gyfer Cymru well. Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud hyn.

Drwy'r gyllideb hon, rydym wedi dangos bod ein gwerthoedd yn cyd-daro â gwerthoedd pobl Cymru. Edrychwch ar y cyferbyniadau. Er bod y GIG yn Lloegr yn cael trafferth ymdopi â chanlyniadau newynu gofal cymdeithasol, rydym ni yng Nghymru yn buddsoddi mewn gofal cymdeithasol ac yn ymrwymo £0.25 biliwn ychwanegol i'r GIG. Er bod y system ysgolion yn Lloegr yn ymrannu’n academïau, ysgolion rhydd a bellach ysgolion gramadeg, gyda'r holl wastraff y mae hynny'n ei olygu, rydym ni’n dal yn gadarn a byddwn yn parhau i fuddsoddi mewn safonau ysgolion ac mewn adeiladau ysgolion. Rhaid inni beidio â chael ein taflu oddi ar y trywydd wrth ymrafael am bennawd cyflym. Mae codi safonau mewn ysgolion yn cymryd amser. Mae'r OECD yn cytuno bod gennym y strategaethau cywir ar waith. Rwy’n gobeithio y gallwn, hyd yn oed ar y cam hwn, ddal i weld ailymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i Her Ysgolion Cymru wrth i fanylion y gyllideb hon ddatblygu.

Er bod llywodraeth leol yn Lloegr yn cael ei thagu flwyddyn ar ôl blwyddyn, yng Nghymru, rydym yn cydnabod y pwysau sydd arnynt, yn gwerthfawrogi’r gwaith y maent wedi'i wneud mewn cyfnod hynod anodd, ac yn gwneud ein gorau i ddiogelu gwasanaethau lleol. Rydym, yn wir, yn byw mewn cyfnod ansicr, mewn cyfnod peryglus hyd yn oed, o bosibl, Mark Reckless. Os yw’r criw hwn o gomediwyr yn Whitehall yn ein gadael gyda Brexit caled, yna fe fydd yn gyfnod peryglus. Bydd diwydiant yn aros neu’n symud dramor yn seiliedig ar ffigurau caled, nid rhethreg gan y brodyr Marx. Bydd adfywio yn chwalu wrth i gronfeydd strwythurol ddiflannu, a bydd ffermio yng Nghymru yn wynebu bygythiad dirfodol.

Ar drothwy cyfnod peryglus yn ei wlad ei hun, ysgrifennodd WB Yeats,

‘Things fall apart; the centre cannot hold; / Mere anarchy is loosed upon the world /… The best lack all conviction, while the worst / Are full of passionate intensity.'

Nawr, yn y presennol, rydym yn gweld ac yn clywed y dwyster angerddol hwnnw ar ei waethaf—y senoffobia rhemp, y casineb ar-lein—ond o leiaf yma, yng Nghymru, nid yw’r gorau heb argyhoeddiad, ac mae'r gyllideb hon yn profi hynny. Er bod ffars Whitehall yn parhau, mae Llywodraeth Cymru yn cyllidebu ar gyfer buddsoddi a gofalu am ein pobl. Mewn cyfnod ansicr, dyna ddylai'r gorau ei wneud.

Diolch, Lywydd. [Torri ar draws.] Dim jôcs gen i heddiw, mae arna i ofn. Rwy’n sylweddoli nad cyllideb ddrafft yw'r lle ar gyfer cynlluniau gwario manwl. Mae’r math o ffigurau lefel uchel, llinell dop yn fwy o gyfle, mewn gwirionedd, i Lywodraeth Cymru daflu ychydig o oleuadau lliw o gwmpas y meysydd hynny o haelioni y byddai'n hoffi i ni sylwi arnynt. Fel llefarydd fy mhlaid ar ddiwylliant Cymru a'r iaith Gymraeg, rwy’n hapus i groesawu'r £5 miliwn ychwanegol i’r meysydd portffolio cymedrol iawn hyn, ond rwyf hefyd yn edrych ymlaen at fynd ar drywydd rhywfaint o'r dystiolaeth a roddwyd i'r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu. Oherwydd mae anhawster, onid oes, o archwilio cyllideb ddrafft ar wahân i’r canlyniadau y bwriedir i'r gwariant neu’r arbedion a ragwelir eu cyflawni? Dyma’n union yr hyn a ddywedodd Adam Price, ac mewn gwirionedd yr hyn yr oedd Mark Reckless yn cyfeirio ato hefyd. Pa effaith fydd gwariant neu arbediad eleni yn ei chael ar y cynlluniau tymor hir a chanolig ar gyfer gwella bywydau pobl yng Nghymru? Rwy'n hapus iawn o weld yr arian ychwanegol ar gyfer diwylliant a threftadaeth, ond rwyf hefyd yn awyddus i weld a wneir iawn am golli 25 y cant o gyllideb gyfalaf Cadw gan yr incwm cyfalaf a enillwyd ar safleoedd Cadw. Byddaf hefyd yn awyddus i weld beth y mae’r arian hwnnw yn ei gael i ni mewn gwirionedd, oherwydd rwy’n eithaf sicr y gallai Mynachlog Nedd, yn fy rhanbarth i, yn hawdd lyncu pob ceiniog o'r gyllideb gyfalaf honno, hyd yn oed os ychwanegir ati, nad yw’ gadael llawer iawn mewn gwirionedd ar gyfer gweddill ystad Cadw, o edrych ymlaen.

Mae £25 miliwn ychwanegol ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol yn swnio fel swm teilwng o arian i’w fuddsoddi. Ond beth fydd y £25 miliwn hwnnw yn ei gael mewn gwirionedd? Ac rwy’n siŵr, Lynne Neagle, y bydd gennych chi ddiddordeb mewn gwybod hyn hefyd, gan eich bod wedi sôn amdano yn eich cyfraniad. Cadarnhaodd y Gweinidog, ar 9 Tachwedd, bod y £25 miliwn ychwanegol ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol, dyfynnaf,

‘ o ran, ac o ddeall y pwysau difrifol sydd ar y sector gwasanaethau cymdeithasol ar hyn o bryd. Mae’r pwysau yn cynnwys, er enghraifft, y cyflog byw cenedlaethol .

Ac rwy’n cytuno'n llwyr â hi, diolch i Lywodraeth y DU, mae'n wych o beth, i ddyfynnu’r Gweinidog ymhellach, y bydd gweithwyr ar gyflog isel yn cael y codiad hwnnw mewn cyflog. Fodd bynnag, yn gynharach eleni, honnodd Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol, heb gynnydd mewn cyllid wedi’i gyfuno ag atebion arloesol, mai’r unig ffordd y bydd cynghorau yng Nghymru yn gallu ymdopi â'r costau uwch o'r cyflog byw cenedlaethol yw drwy gomisiynu llai o wasanaethau.

Nawr, fi fyddai'r cyntaf i argymell bod pob gwasanaeth cyhoeddus yn chwilio am atebion arloesol. Ond yr hyn nad wyf yn siŵr amdano yw faint o'r £25 miliwn ychwanegol sy’n cael ei wario ar y gwahaniaeth rhwng yr hen isafswm cyflog a chyflog byw'r flwyddyn nesaf. A fydd y £25 miliwn yn cael gwared ar y bygythiad o ostyngiad mewn gwasanaethau a gomisiynir? Ac mae angen inni wybod hefyd, os oes unrhyw arian yn weddill ar ôl y bil cyflogau, a yw'r Llywodraeth yn disgwyl i rywfaint o'r £25 miliwn ychwanegu at y £4.5 miliwn sy’n cael ei ddyrannu tuag ata 'tuag at' yw’r gair-dalu’r costau i awdurdodau lleol o’r trothwy cynilo newydd ar gyfer y rhai mewn cartrefi gofal. Mae'r geiriau yn awgrymu na fydd y £4.5 miliwn yn talu cyfanswm y gost. Yn fyr, mae angen inni wybod faint o'r £25 miliwn sydd dros ben i fynd i'r afael â'r pwysau difrifol eraill.

Y rheswm y mae angen inni wybod hynny yw nad yw’r £25 miliwn hwn wedi’i glustnodi; mae'n gwbl agored i alwadau am arian sy'n cystadlu o fewn pob cyngor unigol yng Nghymru, ac eto i gyd rhoddodd y Gweinidog dystiolaeth i'r Pwyllgor Cyllid nad oedd hi’n awyddus i gyfeirio gwariant cynghorau ar wahân i sicrhau bod gennym wasanaethau cymdeithasol cryf a chynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Wel, rydym i gyd yn dymuno gweld hynny, ond os oes gennych unrhyw syniad beth y gallai ac y dylai’r £25 miliwn dalu amdano ar ben talu cyflogau gwell, o ble daeth y ffigur hwn o £25 miliwn Pam nad yw'n cael ei ddefnyddio i leddfu'r pwysau ar wasanaethau cymdeithasol i blant a gweithio ar bartneriaeth ac integreiddio—egwyddor graidd Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf Llesiant a Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru) 2014 hefyd, fel y crybwyllwyd gan Mark Isherwood, ac yn wir yr adolygiad seneddol o iechyd a gofal cymdeithasol—yn hytrach na chael ei symud i mewn i ryw ran arall o'r prif grŵp gwariant?

Pam nad ydych yn ysgafnhau'r pwysau ar wasanaethau cymdeithasol drwy o leiaf gadw eich lefel o gefnogaeth i Gronfa’r Teulu? Onid ydych yn credu y bydd yr effaith a gaiff hyn ar ofalwyr plant ag anabledd difrifol ac sy'n ddifrifol wael—menywod yn bennaf, wrth gwrs, â siarad am effeithiau rhyw—heb sôn am y plant eu hunain, yn debygol o gynyddu eu hanghenion asesedig? Mwy o waith ar gyfer y gwasanaethau cymdeithasol. A beth yw eich rhesymau dros gyfyngu taliadau o gynllun grant y trydydd sector? Ydych chi wedi gwneud asesiad effaith ar yr hyn sy'n debygol o ddigwydd i'r gwasanaethau cymdeithasol, y bydd angen iddynt ymgymryd â mwy o waith yn uniongyrchol o ganlyniad i benderfyniad o'r fath? Y trosglwyddiadau o fewn y MEG ar gyfer cymunedau a phlant—sut ydym i ddilyn yr arian yno i sicrhau na fydd y gwasanaethau cymdeithasol yn gorfod wynebu hyd yn oed mwy o bwysau? Os ydym i fod—ac mae hyn yn golygu pob un ohonom—yn gyfranwyr cadarnhaol ac yn gyfeillion beirniadol ar agenda integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol y Llywodraeth, yna peidiwch â’n dallu ni â'r goleuadau lliw, ond gwnewch hi’n haws inni weld beth sydd heb gael ei oleuo mewn gwirionedd.

Wel, fel Aelod sydd yn dal i fod yn gymharol newydd i'r lle hwn, rwy’n gobeithio y byddaf yn cael maddeuant os nad wyf wedi deall confensiynau’r ddadl ar y gyllideb yn llwyr, er fy mod yn meddwl fy mod i wedi deall y patrwm dros y blynyddoedd diwethaf. Nid wyf wedi bod yma fy hun i weld drosof fy hun y toriadau, toriadau, toriadau i gyllideb Llywodraeth Cymru flwyddyn ar ôl blwyddyn; nid wyf wedi gweld drosof fy hun y tynhau gafael gan Lywodraeth y DU ar bibell wynt gyllidebol y Cynulliad hwn. Ac rydym yn cyrraedd sefyllfa lle, erbyn diwedd y degawd hwn, bydd gennym nid mwy, ond £1.5 biliwn yn llai ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus hanfodol. Bydd hyn yn arwain at ostyngiad o 8 y cant mewn termau real yng nghyllideb Cymru ers 2010. A oes gennym 8 y cant yn llai o gleifion yn y GIG, 8 y cant yn llai o fyfyrwyr yn yr ystafell ddosbarth, 8 y cant yn llai o bobl ifanc sy’n awyddus i gael prentisiaeth, 8 y cant yn llai o bobl sydd angen tai cymdeithasol neu ofal cymdeithasol? Nac oes. Yn erbyn cyllideb sy'n dirywio, nid ydym hyd yn oed yn sefyll yn llonydd. Y gwrthwyneb sy’n wir. Mae'r galw yn mynd i fyny. Mae angen cymdeithasol yn mynd i fyny. Mae angen cymdeithasol yn mynd i fyny yn union oherwydd yr agenda o gyni sydd wrth wraidd hyn. Y gwir amdani yw bod Llywodraeth y DU yn torri’r gyllideb, ac mae Llywodraeth Cymru yn cynnal y gost.

Mae'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid wedi disgrifio Cymru fel gwlad sy’n wynebu 11 mlynedd-11 mlynedd rhyfeddol-neu fwy o doriadau mewn gwariant gwasanaethau cyhoeddus. Rhyfeddol. Wel, mae yna bobl yn y Siambr hon sydd â geiriau eraill am hynny. Rydym yn siarad, onid ydym, am ddewisiadau anodd a phenderfyniadau anodd? Ac mae'r Llywodraeth yn gwneud hynny yma yng Nghymru. Ac er fy mod yn deall hynny, rydym i gyd yn gwybod bod y penderfyniadau gwirioneddol anodd yn cael eu gwneud o ddydd i ddydd gan y bobl hynny sy’n dwyn baich yr agenda hon o gynigan wneud y dewis anodd rhwng bwyta neu wresogi, gan wneud miloedd o ddewisiadau anodd na ddylai pobl orfod eu gwneud mewn gwlad fel ein gwlad ni.

Ac yn awr rydym yn wynebu £59 o biliwn ymhellach yn cael ei gymryd allan o'r economi—swm sy'n cyfateb i bedair gwaith yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wario bob blwyddyn. Os ydych yn ystyried cost Brexit, yn awr mae gennych rif. Ac mae llawer o'r gost honno, credwch chi fi, yn mynd i gael ei thalu gan gymunedau yma yng Nghymru. Felly, rydym yn cael gwybod gan y Ceidwadwyr fod yn rhaid inni fod yn gynnil, yn cael gwybod bod angen i ni wneud mwy gyda llai. Felly, gadewch i ni droi at welliant y Ceidwadwyr.

'Dileu popeth, a’u disodli â', o, does dim byd yno. Dim dewis arall, dim syniadau, dim; dim ond twll lle dylai gweledigaeth gystadleuol fod. Felly, rwy’n cymeradwyo Llywodraeth Cymru ar y gyllideb hon. Mwy o arian i iechyd a gofal, mwy o arian i addysg, y setliad llywodraeth leol gorau mewn blynyddoedd, arian i ofal plant, arian i brentisiaethau. Cyflawni ar ein hymrwymiadau. A fyddwn i wedi hoffi gweld mwy i rai meysydd a llai i eraill? Wrth gwrs y byddwn i. Mentraf ddweud y gall pob un ohonom ddweud hynny. Mae gennym i gyd ein set ein hun o flaenoriaethau. Ond, a yw'n gyllideb sydd, er gwaethaf ymdrechion parhaus y Ceidwadwyr, yn adlewyrchu ymrwymiad Llafur Cymru i gyfiawnder cymdeithasol, ac i godi a bodloni dyheadau ein cymunedau? Ydy.

Mae’n bwysig i ni sôn am ddau faes lle mae Plaid Cymru wedi cael dylanwad ar y gyllideb yma: y Gymraeg i ddechrau, a chyllid ychwanegol i Gymraeg i oedolion, ac arian i sefydlu asiantaeth iaith genedlaethol. Fe sicrhawyd £5 miliwn ychwanegol ar gyfer 2017-18. Mae Plaid Cymru yn credu bod yr iaith Gymraeg yn perthyn i bawb yng Nghymru, ac rydym wedi ymrwymo felly i sicrhau bod gan bawb y cyfle i ddysgu’r iaith petai nhw’n dymuno gwneud hynny. Mi fydd yr arian ychwanegol ar gyfer Cymraeg i oedolion yn helpu i alluogi’r rhaglen yma i ddarparu mwy o hyfforddiant iaith i athrawon a gweithwyr cyhoeddus, ac yn rhoi mwy o gefnogaeth i rieni sydd eisiau defnyddio mwy o’r iaith yn y cartref. Fe neilltuwyd arian hefyd ar gyfer sefydlu asiantaeth iaith, hyd braich, i’r Gymraeg, a fydd yn gyfle rŵan i osod sylfaen newydd a chadarn i bolisi Llywodraeth Cymru o adfywio’r iaith a chreu Cymru wirioneddol ddwyieithog, gan gynnwys y nod o greu 1 miliwn o siaradwyr erbyn 2050.

A’n gweledigaeth ni ydy asiantaeth a fydd yn arwain polisi, yn gyfrifol am arolwg strategol yn y maes, ac yn meddu ar statws uchel ymhlith adrannau Llywodraeth Cymru ac asiantaethau eraill, fel Cyfoeth Naturiol Cymru a chyngor y celfyddydau, ac rwy’n edrych ymlaen at gydweithio efo’r Gweinidog i gyrraedd y nod hwnnw. Yn y cyfamser, mi fyddaf i’n dal i gadw golwg ar y cynlluniau strategol addysg Gymraeg gan yr awdurdodau lleol. Mae’n rhaid i’r rhain fod yn rhai cadarn, effeithiol ac uchelgeisiol, gyda cherrig milltir a thargedau clir. Felly, mi fyddwn yn eich dal chi at eich gair efo hynny.

Jest gair am gyllid sydd wedi ei neilltuo yn y gyllideb i gynllun peilot i leihau taliadau parcio yng nghanol trefi. Rŵan, swm bychan o arian, cyfanswm o £3 miliwn ar gyfer cynllun peilot yn 2017-18, ond cynllun sydd wedi ennyn dipyn o drafodaeth yn y Siambr yma a thu draw. Wrth gwrs, mae’n rhaid cofio beth yw pwrpas y pot yma o bres. Ei bwrpas yw helpu busnesau bach ar y stryd fawr.

Mae’r blaid wedi ymrwymo i helpu busnesau bach ledled Cymru sydd wedi wynebu amodau heriol dros y blynyddoedd diwethaf. Mi fydd yr arian ar gyfer cynllun peilot yn helpu i ddenu mwy o bobl i ganol ein trefi. Mae manylion terfynol ymarferol y cynllun peilot eto i’w penderfynu, ond rydw i wedi bod yn glir bod angen pot o arian penodol wedi’i glustnodi, fel y gall cynghorau wneud cais am gyllid i gefnogi gostwng taliadau parcio yng nghanol trefi. Yn fy marn i, nid yw ei rannu fo drwy’r RSG ddim yn mynd i weithio ac nid yw’n dderbyniol. Mae angen pot o arian neilltuol. Mi fyddai’r cynlluniau wedyn yn rhoi hwb hanfodol i fusnesau bach yng Nghymru ac yn rhoi maes chwarae gwastad i ganol trefi sydd wedi gorfod cystadlu gyda datblygiadau mwy ar gyrion trefi. Mae sut yn union fydd y cynllun yma yn gweithio yn bwnc trafod brwd ymhlith cynghorwyr hefyd, a gorau po gyntaf y caiff y manylion eu cytuno a’u cyhoeddi. Mae Plaid Cymru yn hapus iawn i gyfrannu i’r drafodaeth honno.

Wrth symud ymlaen i’r cyfnod nesaf, mi fydd cael cyllideb tair blynedd yn sicr yn rhywbeth bendithiol ar gyfer y cynghorau sir, ar gyfer cynllunio ymlaen, ac mi fyddan nhw’n sicr o fod yn croesawu hynny. Ynglŷn â’r gyllideb a’r diffyg tryloywder, rwy’n cytuno’n llwyr bod yn rhaid inni symud tuag at sefyllfa lle mae gennym gyllideb gwbl dryloyw lle mae modd craffu llinell wrth linell. Dyna y mae rhywun sydd o gefndir llywodraeth leol wedi arfer ei wneud, ac a bod yn hollol onest, ni fedraf gredu bod y ffasiwn sefyllfa yn bodoli yn y lle yma—bod yna ddim modd inni fedru gweld y manylder rydym angen ei weld er mwyn creu gwell gyllideb yn y pen draw, cyllideb fydd yn delifro gwelliannau i bobl Cymru. Diolch.

Cyn trafod mân fanylion y gyllideb hon, neu, yn wir, unrhyw gyllideb, mae'n bwysig edrych ar y cyd-destun. Cyd-destun y gyllideb hon yw’r blynyddoedd—y blynyddoedd diddiwedd, mae'n ymddangos—o doriadau a thoriadau, a thoriadau eto, gan Lywodraeth San Steffan i Gymru, ac mae’n cael ei sbarduno gan ddau ormodedd afresymol sef dileu diffyg—nid lleihau, ond dileu; dyna fu polisi diffiniol y Llywodraeth Geidwadol ddiwethaf, ac mae wedi bod yn fethiant trawiadol—ac ideoleg o Lywodraeth lai a llai a gwasanaethau cyhoeddus wedi’u crebachu. Mae hyn wedi arwain at economi dagedig yn y DU o 2010 ymlaen. Nid oedd yn rhaid iddi fod felly.

Yn ogystal â thagu twf economaidd, mae'r polisi hwn wedi ymosod fesul tipyn, o ddydd i ddydd, fis ar ôl mis ar wasanaethau cyhoeddus, ac mae wedi bod yn ymosodiad parhaus. Mae'n dyst rhyfeddol i'n cymunedau, ac i'n hamddiffyn polisi yng Nghymru, ein bod yn dal i sefyll, ond gadewch i ni beidio ag esgus na chafwyd methiannau. Mae hyn wedi bod yn drawmatig; mae wedi bod yn ddinistriol ac yn ddiangen.

Nid yw’r banc bwyd yr oeddwn yn casglu ar ei gyfer ar y penwythnos yn eithriad. Nid yw wedi ei ddatgysylltu o hyn. Mae'n ganlyniad uniongyrchol gofyn i’r rhai gyda'r ysgwyddau culaf i ddwyn y beichiau ehangaf o gyni, a dyma’r cyd-destun y mae Gweinidogion olynol yng Nghymru wedi gorfod pennu cyllidebau anodd yn ei erbyn a rhannu rhai o'r anawsterau hynny gydag awdurdodau lleol ac asiantaethau eraill y sector cyhoeddus, a chyda'r trydydd sector hefyd. Mae mynd dros y realiti anodd, parhaus hwn yn golygu anwybyddu'r ffaith bod llawer o'r anawsterau sydd gennym erbyn hyn wedi eu gosod gennym ni ein hunain, neu, yn fwy cywir, wedi’u gosod arnom gan ddogma o beidio â buddsoddi gan Lywodraeth y DU. Roedd hynny, ac mae’n dal i fod, yn ddewis polisi'r DU.

Felly, pryd bynnag y byddwn yn trafod iechyd, addysg, trafnidiaeth, unrhyw wasanaethau cyhoeddus neu'r sector gwirfoddol, dyma’r cyd-destun y mae'n cael ei drafod ynddo.  Gwnaed dewis yn 2010, yn Rhif 10, i wasgu’r wlad. Ni chafodd y pwysau hwn ei gynnal gan yr ysgwyddau ehangaf; cafodd ei ysgwyddo gan bobl gyffredin sydd wedi bod, a bod yn onest, yn hynod yn eu gallu i wrthsefyll yr annhegwch dwfn a pharhaol hwn. Ond mae llawer wedi cael eu brifo ac mae llawer yn dal i frifo yn ddrwg iawn yn wir. Ond er gwaethaf hyn, mae Gweinidogion olynol yng Nghymru wedi ceisio eu gorau—eu gorau glas—i ddiogelu, hyd eithaf eu gallu, yr economi a'r gwasanaethau cyhoeddus yr ydym yn eu gwerthfawrogi yng Nghymru, er mwyn cynnal gonestrwydd awdurdodau lleol a'r sefydliadau sector gwirfoddol ac, ar yr un pryd, gyflwyno taliadau bonws datganoli arloesol o’r gwahaniaethau polisi y gallwn eu gwneud yng Nghymru—y dewisiadau y gallwn eu gwneud yng Nghymru. Mae'r gyllideb hon, wedi’i hystyried yn ofalus gan Weinidog meddylgar iawn, sy'n talu sylw gofalus i fanylion ac arlliwiau, hefyd yn gwneud y gorau posibl dros y bobl yr ydym yn eu cynrychioli drwy wneud dewisiadau anodd, o hyd, ond deallus ar yr hyn y dylem ei flaenoriaethu wrth wynebu cyni parhaus. Bellach, mae ansicrwydd Brexit wedi ychwanegu ato, a cholli cyllid Ewropeaidd posibl yn y dyfodol.

Rydym wedi cael toriadau 8 y cant mewn termau real ers 2010. Mae'r diffyg eglurder ar ffrydiau refeniw yn golygu na all Ysgrifennydd y Cabinet ond osod cyllideb refeniw un flwyddyn yn unig, yn ôl pob tebyg, gan ragweld gwaeth i ddod o San Steffan, gan obeithio am well. Mae’r gwariant cyfalaf ychwanegol a gyhoeddwyd gan y Canghellor yn natganiad yr hydref i’w groesawu—wrth gwrs ei fod—ond yn y pen draw, nid yw ond yn mynd ychydig o ffordd i wneud iawn am y tagu yr ydym wedi’i gael dros y blynyddoedd diwethaf. Nid yw tynnu eich troed oddi ar wddf y dioddefwr am eiliad yn gwneud i’r dioddefwr adfer yn syth, ac yn sicr nid yw'n gwneud y dioddefwr yn ddiolchgar. Ond mae Ysgrifennydd y Cabinet a'i gydweithwyr, unwaith eto, wedi darparu’r amddiffyniad gorau yn erbyn cyni parhaus.

Felly, gadewch i ni edrych ar rai o'r manylion yn y mesurau ger ein bron yn y gyllideb ddrafft. Mae £240 miliwn o fuddsoddiad ychwanegol i dalu'r costau a’r gofynion cynyddol yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru. Mae £16 miliwn y bydd Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu yn 2017-18 ar gyfer y gronfa triniaethau newydd a chyllid gwerth £1 miliwn ar gyfer gwasanaethau gofal diwedd oes. Mae'r rhain yn ddewisiadau polisi a dewisiadau cyllideb sylweddol. O ran cyflawni'r ymrwymiad maniffesto o 30 awr o ofal plant am ddim yr wythnos i rieni plant tair a phedair oed sy’n gweithio, am 48 wythnos y flwyddyn, mae £10 miliwn yn cael ei ddyrannu o fewn y gyllideb hon ar gyfer 2017-18 i wthio hynny ymlaen.

Os ydych yn edrych ar y setliad llywodraeth leol, mae'n dal yn mynd i fod yn anodd, ond am y tro cyntaf ers blynyddoedd lawer, bydd cynnydd o £3.8 miliwn yn ei gyllid ar gyfer 2017-18, o’i gymharu â 2016-17. Dyma'r cynnydd cyntaf yn y setliad ar gyfer llywodraeth leol ers 2013-14. Mae’r cyfan yn mynd yn ôl at yr agenda honno o gyni a beth y gallwn ei wneud i'w gwrthsefyll.

Os edrychwn ar dai fforddiadwy, mae angen dybryd am—gallaf weld, Lywydd, fy mod i wedi mynd dros amser—y buddsoddiad mewn tai cymdeithasol.

Gadewch i mi ddweud, wrth gloi, cyn ymdrin â'r buddsoddiad seilwaith y gallwn ddal i’w wneud, dyma rai o flaenoriaethau diffiniol y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru, ar ôl cymorth, rhaid i mi ddweud, mewn deialog gyda phobl eraill sy'n rhannu agenda flaengar ar gyfer Cymru. Cymeradwyaf Ysgrifennydd y Cabinet am ei symudiadau traed deheuig. Byddai'n deilwng o 'Strictly'.

Gyda dim diddordeb ynglŷn â ‘Strictly’, ond gyda diddordeb mawr yn y ddadl yma ar y gyllideb ddrafft, gallaf ddiolch am bob cyflwyniad a dweud y gwir, bron, yn bendant ar yr ochr yma o’r Siambr. Yn benodol, felly, gwnaf ganolbwyntio ar y cytundeb yma rhwng y Blaid Lafur a Phlaid Cymru sydd wedi delifro beth sydd gyda ni i’w archwilio o’n blaenau ni.

Buaswn i’n cytuno efo’r sylwadau yna bod angen rhagor o dryloywder yn y broses gyllidol yma fel ein bod ni’n gallu mynd i’r afael efo lle yn union—. Os ydym yn penderfynu addo ein bod ni’n mynd i wario ar rywbeth, mae eisiau gwneud yn siŵr ein bod ni’n gallu gweld i sicrwydd—pob un ohonom ni, o bob plaid—i allu profi inni ein hunain, cyn inni allu pleidleisio, bod yr addewidion wedi cael eu gwireddu, a’n bod ni’n gweld datblygiad yn y broses gyllidol llawer mwy tryloyw hon, i adlewyrchu’r geiriau rydym wedi’u clywed gan Adam Price a hefyd gan Sian Gwenllian ac eraill yn y Siambr yma y prynhawn yma.

Wrth gwrs, rhan o’r gyllideb yn unig ydy’r cytundeb yma rhwng Llafur a Phlaid Cymru. Rydym yn gefnogol, yn naturiol, o’n gwaith ni a gwaith caled Adam Price, a’r tîm, i’r perwyl yna, ac mae hynny’n ddigon i wneud yn siŵr y byddwn ni, fel plaid, yn ymatal pan mae’n dod i bleidlais ar y gyllideb ddrafft yma.

Roeddwn yn mynd i ganolbwyntio’n fyr ar fy rhan i, felly, fel portffolio, sef diwylliant a threftadaeth. Wrth gwrs, mae’r cytundeb yma rhwng Plaid Cymru a Llafur wedi sicrhau rhyw £3 miliwn yn ychwanegol i’r celfyddydau. Mae hynny’n golygu cynnydd yng nghyllidebau Cyngor Celfyddydau Cymru, cynnydd yng nghyllideb amgueddfa genedlaethol Cymru, y llyfrgell genedlaethol a Chyngor Llyfrau Cymru—cynnydd yn eu cyllideb ar ben beth y buasent wedi cael eu dosrannu yn barod.

Wrth gwrs, mae’r cytundeb ariannol yma o £3 miliwn hefyd yn golygu arian i gael astudiaethau ddichonoldeb i amgueddfa bêl-droed genedlaethol yn Wrecsam, ac wrth gwrs astudiaethau dichonoldeb oriel gelf gyfoes hefyd. Mae hynny yn gadael rhywfaint o arian i ni gynnal diwydiant cerddoriaeth Cymreig a hefyd y celfyddydau perfformio.

Mae yna gryn dipyn i ni allu ei groesawu fel plaid yn y cytundeb yma rhwng Plaid Cymru a’r Blaid Lafur. Wrth gwrs, fel yr ydw i wedi’i ddweud eisoes, dim ond un rhan o’r gyllideb gyfan ydy hwn—un rhan o’r gyllideb ehangach. Nid ydw i’n mynd i ailadrodd rhai o’r gosodiadau, ond buaswn i’n cytuno efo nifer fawr o eiriau sydd wedi cael eu dweud y prynhawn yma ynglŷn â nid jest tryloywder y broses ond wrth gwrs efo’n blaenoriaethau ni fel cenedl pan rydym ni’n wynebu argyfwng cyllidol fel hyn.

Ond rydym ni, ar y meinciau hyn, yn falch o beth yr ydym ni wedi’i gael, sy’n dilyn gwaith caled rhwng Adam a’r Ysgrifennydd Cabinet. Rydym ni’n falch o allu bod wedi diwygio beth oedd o’n blaenau ni. Byddai wedi bod yn llai o waith hebom ni. Rydym ni’n falch o hynny, ac mae hynny yn ddigon i’n gwneud ni ymatal pan mae’n dod i’r bleidlais. Diolch yn fawr iawn i chi.

Mwynheais y ddadl lefel uchel a gynhaliwyd rhwng Nick Ramsay ac Adam Price ar y dechrau. Byddwn yn dweud, fel myfyriwr israddedig, cefais fy nysgu gan Patrick Minford ac rwy’n cofio’r amser iddo roi ar y bwrdd nifer o hafaliadau mathemategol a dywedodd, ‘Dyma, fy ffrindiau, theori Rolls-Royce am y cyflenwad arian a dyna’r cyfan sydd angen i chi wybod am facro-economeg'. Wel, doeddwn i ddim yn ei deall bryd hynny ac nid wyf yn cytuno â hi yn awr.

Fel cynghorydd, rwyf wedi gweld yr effeithiau uniongyrchol y mae toriadau yn eu cael. Beth sydd wedi digwydd yn fy mhrofiad i yw, rydych yn cael seminar trawsbleidiol, rydych yn eistedd i lawr, rydych yn edrych ar y gyllideb ac mae'n rhaid i chi benderfynu ble mae’r toriadau hynny yn mynd i ddigwydd.  Mae'n un o'r pethau mwyaf anodd y gallwch ei wneud. Ar ôl 10 mlynedd fel cynghorydd—eleni yw fy mlwyddyn olaf—byddwn yn dweud nad dyma’r rheswm dros fynd i faes gwleidyddiaeth. Mae’r datganiad hydref gan y DU yn ddiweddar yn dangos nad oes llawer yn dod i gyfeiriad Cymru yn y ffordd honno chwaith.

Felly, mae fy uchelgais ar gyfer cyllideb Cymru yn un sy'n dod â ffyniant a swyddi a thwf i Gymru ac i fy etholwyr yng Nghaerffili, ond mae hynny'n golygu dewisiadau anodd. Mae'n golygu bod yr hyn a ddysgwyd gennym fel cyfle yn costio, a oedd yn fwy o gysyniad micro-economaidd, ac yn rhywbeth y mae'n rhaid inni ymdrin ag ef. Mae'n rhoi llawer o gyfleoedd ar gyfer rhaniadau ymysg pleidiau gwleidyddol, ac rwy’n amau ​​y byddwn yn gweld mwy o hynny. Ond mae’n rhaid i rai o'r dewisiadau hynny fod yn annymunol. Mae angen inni benderfynu beth sydd yn y bocs o ddewisiadau yr ydym yn mynd i'w gwneud.

Felly, rwy'n falch o weld bod y gyllideb ddrafft yn nodi cynlluniau ar gyfer gwerth £6.9 biliwn o gyllid cyfalaf o setliad cyfalaf Llywodraeth Cymru, gan wneud defnydd llawn o bwerau benthyca cyfalaf. O bwysigrwydd mawr i fy etholwyr i yw'r £1.2 biliwn o fargen y ddinas a rennir ar gyfer rhanbarth cyfalaf Caerdydd a gytunwyd mewn egwyddor rhwng Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a'r 10 awdurdod lleol—ac maent yn gweithio mor dda gyda'i gilydd i geisio gwireddu hynny. Ond y mater allweddol ym margen y ddinas fydd y fantais i'r Cymoedd gogleddol, ardaloedd sydd â photensial enfawr. Nid yw bargen y ddinas nad yw'n dod â ffyniant y tu hwnt i fasn Caerffili yn fargen o gwbl. Dyma pam mae’r £734 miliwn o’r fargen a ddyrannwyd i fetro de Cymru mor bwysig a dylid nodi y dylai'r gyfran a ddyrennir o arian Ewrop fwrw ymlaen heb fygythiad, er gwaethaf Brexit. Mae Brexit yn fygythiad mawr i ni.

O ganlyniad i’n cyllideb ni, mae angen system ddibynadwy o gludiant cyhoeddus ar draws y cymoedd, gan gysylltu rhwng cymunedau sydd â chysylltiadau cyfyngedig, ac sy’n galluogi pobl i gael mynediad at waith mewn amrywiaeth o leoliadau ar wahân i Gaerdydd. Felly, rwy’n falch bod Llywodraeth Cymru wedi dyrannu mwyafrif y cyllid cyfalaf sydd ar gael iddi drwy bennu cynllun cyfalaf pedair blynedd i roi hyder a sicrwydd i'r sector adeiladu, busnesau a buddsoddwyr, oherwydd pan rydym wedi gwneud toriadau mewn llywodraeth leol yn y gorffennol, rydym wedi gweld y sector preifat yn dioddef. Mae'r gyllideb hon yn ymrwymo £369 miliwn i’r metro, a bydd hyn, fe dybiaf, o leiaf yn rhannol dalu cost trydaneiddio rheilffyrdd y Cymoedd. Felly, hoffwn pe bai Ysgrifennydd y Cabinet yn egluro a yw'n gwybod a yw Llywodraeth y DU yn dal i ymrwymo i'w haddewid o £125 miliwn o gyllid ar gyfer trydaneiddio rheilffyrdd y Cymoedd i sicrhau bod hyn yn mynd yn ei flaen. Pan ddaeth ei gydweithiwr, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith, gerbron y Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau y mis diwethaf, dywedodd fod y metro yn cael ei adeiladu ar sylfeini hyblyg ac y byddai'n ddarn parhaus o waith tebyg i'r hyn a ddigwyddodd ym Manceinion. Felly, byddwn hefyd yn gofyn a fydd hyn yn darparu hyblygrwydd yn nyraniad y gyllideb fel y gallwn fodloni gofynion newydd pan fyddant yn codi. Hoffwn i, er enghraifft, weld arhosfan metro yn y ganolfan gofal critigol arbenigol newydd arfaethedig yng Nghwmbrân, ac mae Nick Ramsay eisoes wedi sôn am ei ddewis ef o ran arosfannau mewn mannau eraill. Hoffwn i weld y gyllideb yn ddigon hyblyg i gynnwys hynny.

Mae'n dda gweld bod Llywodraeth Cymru yn cadw at ei rhan o fargen dinas Caerdydd ac yn benderfynol o weld y prosiect uchelgeisiol hwn drwy gyfnod economaidd ansicr. Byddwn i'n dweud fy hun, yn fy mlwyddyn ddiwethaf mewn llywodraeth leol fel cynghorydd, y byddaf yn ei chael ychydig yn haws y tro hwn nag yn y gorffennol. Mae'n hanfodol nawr ein bod yn gweithio gyda'n gilydd i gyflawni hyn gan na allwn ddibynnu mwyach ar arian yr Undeb Ewropeaidd yn y tymor hwy.

Rwy'n credu mai’r hyn yr ydym wedi ei wneud yma yw gwneud y gorau o'r gwaethaf, mewn gwirionedd. Gwyddom i gyd am y sefyllfa o San Steffan gyda'r toriadau yn dod o Lundain, ond rwy'n credu bod yn rhaid i bobl yma sylweddoli eich bod chi draw acw yn cael eich ethol i fod y Llywodraeth, ac mae angen i chi gymryd cyfrifoldeb. Yr hyn yr wyf i’n ei gael yn eironig, mewn gwirionedd, yw nad yw’r bobl yn y weinyddiaeth arweiniol hyd yn oed eisiau’r awdurdod i newid Cymru yr ydym ni ei eisiau ar yr ochr hon i'r Siambr. Mae croeso i’r gronfa driniaethau. Ffyrdd mwy diogel i’r ysgol-croeso iddynt. Mwy o arian ar gyfer iechyd meddwl -croeso mawr iawn iddo. Mae croeso i’r astudiaeth ddichonoldeb o’r amgueddfa bêl-droed, yn yr un modd â’r astudiaeth ddichonoldeb o Lôn Rhiannon, y ffordd feicio a band eang a cherdded a gynnigir i gysylltu Cymru—syniad da.

Rwy'n meddwl mai’r broblem fwyaf, fodd bynnag, gyda'r gyllideb hon yw’r wladwriaeth un-blaid sydd wedi cael ei chreu yn ystod y 17 mlynedd diwethaf, oherwydd mae gennym gwangocratiaeth newydd, cwangos newydd, miliynau o bunnoedd wedi’u gwario ar gomisiynwyr, er enghraifft. Byddaf yn canolbwyntio ar un yn unig. Mae gennym y Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol ar gyfer Cymru, sy'n costio £1.5 miliwn. Cyfarfûm â'r comisiynydd bythefnos yn ôl. Nid yw hyd yn oed wedi edrych ar gynlluniau datblygu lleol mewn unrhyw fanylder, ac ymddengys bod diffyg diddordeb mewn gwneud unrhyw beth ynghylch rhywogaethau a warchodir, a fydd yn cael eu dinistrio gan y cynllun datblygu lleol hwnnw. Os awn yn ôl at y gyllideb ac edrych ar y cynlluniau cyflenwi lleol eu hunain, rydym yn sôn am ddegau o filiynau o bunnoedd wedi’u gwastraffu-wedi’u gwastraffu-ar system nad yw'n addas at y diben. Felly, pan fyddwch yn dod yma ac yn siarad am y dewisiadau anodd ac nad oes digon o arian, yr hyn yr wyf i'n ei wneud yma yn awr yw tynnu eich sylw at sut rydych wedi gwastraffu arian. Llysfaen: £39 miliwn; y Rhŵs: £7 miliwn; bargen Pontypridd ar y siopau: £1 filiwn; Kancoat: £3.4 miliwn. Dyma’r arian y mae’r Llywodraeth Lafur hon yn ei daflu o gwmpas fel conffeti. Nawr, rydym i gyd yn gwybod mai’r sefyllfa yw—

Mae'n gwestiwn syml. Rwyf wedi ei ofyn o'r blaen a byddaf yn ei ofyn eto. Gallwch arbed £13,000 ar unwaith drwy roi eich lwfans cynghorydd yn ôl am y flwyddyn ddiwethaf. Rwyf i wedi gwneud hynny; pam na wnewch chi? Byddai'n enghraifft wych.

Wel, gallech yn hawdd fod wedi gofyn yr un peth i’ch cydweithiwr y Gweinidog cyllid, pan wnaeth dair swydd ar yr un pryd—Gweinidog, AC a hefyd darlithydd addysg bellach. Mae fy safbwynt i ar fy lwfans yn eithaf clir: y flwyddyn nesaf, bydd yn mynd i’m cymuned. Ond, i ddychwelyd at daflu i ffwrdd miliynau o bunnoedd—miliynau o bunnoedd—rwyf newydd dynnu eich sylw at ble rydych wedi gwastraffu degau o filiynau o bunnoedd ar y gweithdrefnau grant, eich bargeinion tir a chynlluniau datblygu lleol. Gadewch i ni edrych ar y micro. Byddaf yn rhoi un enghraifft o sut rydych chithau yn gwneud busnes mewn llywodraeth leol. Un penderfyniad a wnaed ar draws y ffordd oedd cau fy nghanolfan ieuenctid leol trwy ddewisiadau gwleidyddol. Mae'r cyngor wedi gwneud dau beth draw yno: yn hytrach na gwarchod gwasanaethau, fel yr ydym eisiau ei wneud yma, gwariwyd £30,000 ar bapurau newydd ac—[Torri ar draws.] Rwyf wedi ildio unwaith ac nid wyf am ildio eto. Maent yn gwario £30,000 ar bapurau newydd. [Torri ar draws.]

Mae i fyny i'r Aelod pa un a yw’n ildio ai peidio ac nid yw am wneud, ac mae am orffen ei gyfraniad.

Diolch. Rwyf wedi ildio unwaith.

[Yn parhau.] —£30,000 ar bapurau newydd ac maent wedi gwario £60,000 ar gynhadledd o'r enw Dinasoedd Craidd. Mae'r penderfyniadau gwleidyddol hyn a gymerwyd gan eich cydweithwyr, gyda distawrwydd oddi wrthych chi, wedi cau fy nghanolfan ieuenctid i. Felly, rwyf wedi rhoi £90,000 i chi, y byddem wedi’i wario’n wahanol. Mae’r un egwyddor â'r hyn sy'n digwydd yma. Rydych wedi penderfynu gwario degau o filiynau o bunnoedd ar system gynllunio nad yw'n addas at y diben. Yn wir, bydd yn dinistrio ein hamgylchedd. Felly, fy neges i—. Ydych chi'n gwrando? Rwy'n meddwl bod rhai ohonoch yn gwrando yn ogystal â heclo. Yn sicr, fy neges i i'r cyhoedd yw mai’r hyn yr ydym ei angen yng Nghymru yw Llywodraeth a fydd yn cymryd cyfrifoldeb a Llywodraeth sy'n ceisio newid Cymru, ac mae honno i’w gweld ar yr ochr hon o'r Siambr. Diolch yn fawr.

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol i ymateb i’r ddadl.

Member
Mark Drakeford 18:06:00
The Cabinet Secretary for Finance and Local Government

Diolch yn fawr, Lywydd. Mae wedi bod yn ddadl eang a, hyd nes y pum munud olaf, yn ddadl a oedd yn werth gwrando arni. Rwy'n gobeithio y gwnewch faddau i imi, Lywydd, na allaf ymateb i bob Aelod yn bersonol, ond yr hyn yr wyf yn mynd i geisio ei wneud yw ymateb i'r hyn sydd wedi bod, yn fy marn i, yn themâu hanfodol y ddadl.

Gadewch i mi ddechrau gyda'r hyn sy’n ymddangos i mi, o leiaf yn bennaf, yn llinell derfyn sylfaenol sy'n rhedeg i lawr y Siambr hon. Ar y naill law, mae gennych Mark Reckless a Mark Isherwood sydd eisiau esbonio wrthym pam fod cyni yn angenrheidiol. Mae Mark Reckless wedi nodi, mewn ffordd rwy'n siŵr y mae’n gyfarwydd iawn â hi, yr achos neoryddfrydol dros y ffurf honno o economeg. Ar ochr arall y Siambr, mae gennych Mike Hedges, Huw Irranca-Davies ac Adam Price a oedd yn nodi siawns bod hwn yn bwynt sylfaenol o wleidyddiaeth-hyd yn oed os ydych yn credu yn yr achos neoryddfrydol ac y gallwch wneud achos dros hynny, mae yna ddewis bob amser mewn gwleidyddiaeth. Mae'r ddadl bod yn rhaid i ni dderbyn y dogmâu o gyni am nad oes dim byd arall ar gael i ni yn un y mae’n gwbl iawn i ni ei gwrthod, oherwydd bod y rhai ohonom nad ydynt yn derbyn y dogmâu hynny yn credu yn syml, fel y dywedodd Adam, na allwch dorri eich ffordd i adferiad. Nid oes llwybr economaidd i'r dyfodol os byddwch yn credu-

Tybio yr wyf, rydym wedi clywed llawer am y cyd-destun yr ydym ynddo ar gyfer y cyllidebau penodol hyn yn awr, ond gadewch i’r Tori drwg hwn nodi nad oedd yr hyn a ddigwyddodd rhwng 2010 a 2015 gyda'r Llywodraeth glymblaid mor wahanol â hynny i gynllun Darling.

Wel, gallaf sicrhau'r Aelod bod yr hyn yr ydym yn ymadfer ohono heddiw yn rhywbeth gwahanol iawn i'r hyn a fyddai wedi bod ar waith mewn amgylchiadau eraill. Yr unig rysáit oedd gan George Osborne oedd cael bod yn ymarferydd meddygaeth ganoloesol. Wrth i’r claf wanhau o’i flaen, ei unig ymateb oedd parhau i gael mwy a mwy a mwy o waed wrtho. A dyna pam rydym yn y sefyllfa hon yr ydym ynddi heddiw. Dyna pam, ar yr ochr hon o'r Siambr, yr ydym yn dweud, unwaith eto, fel y gwnaethom ar hyd yr amser, mae cyni yn ddewis gwleidyddol.  Mae yna ddewis arall, a phe byddai’r dewis arall wedi cael ei ddilyn, yna, ni fyddai’r effeithiau ar fywydau unigol pobl, yn y modd a nododd Hefin David, wedi bod fel y maent.

Yr ail thema fawr yn y ddadl fu ansicrwydd. Yr ansicrwydd a grëwyd gan Brexit, fel y nododd Lynne Neagle; yr ansicrwydd a grëwyd drwy beidio â chael fframwaith cyllidol ar waith eto, fel yr atgoffodd Nick Ramsay ni; a'r ansicrwydd a grëwyd gan y gostyngiadau termau real yn ein cyllidebau. Nid yw'r rhain yn ffug; nid yw'r rhain yn bethau y gallwch yn syml gael gwared arnynt drwy fynnu mwy o arian ar gyfer y peth hwn a mwy o arian ar gyfer y peth arall. Bydd ein cyllidebau 9 y cant yn is mewn termau refeniw, a 21 y cant yn is mewn termau cyfalaf ar ddiwedd y tymor Cynulliad hwn. Mae hynny'n cael effaith wirioneddol ar yr hyn y gallwn ei wneud ac yn creu'r degawd rhyfeddol hwnnw o gyni.

Ar nodyn mwy cadarnhaol, Lywydd, bu llawer o gyfranwyr y prynhawn yma yn siarad am gyfranogiad. Rwyf yn arbennig o awyddus i gyfeirio at y gwaith a wnaeth y Pwyllgor Cyllid yn ystod ei graffu ar y gyllideb, wrth fynd allan a chasglu barn ein cyd-ddinasyddion am yr hyn y maen nhw’n credu y dylai ein blaenoriaethau fod. Rwy'n falch iawn bod ein cytundeb â Phlaid Cymru wedi ymrwymo i ymarfer cyfranogol peilot ar gyllideb Llywodraeth Cymru y flwyddyn nesaf, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda'r Pwyllgor Cyllid i ddysgu o'u profiad.

Bu amrywiaeth o gwestiynau'r prynhawn yma, yn ddealladwy, rwy’n gwybod, am effaith datganiad yr hydref ar fuddsoddiad cyfalaf a lle y gallwn weithredu. Fel yr esboniais yn fy sylwadau agoriadol, dydw i ddim mewn sefyllfa i wneud y cyhoeddiadau hynny eto, ond byddaf yn gwneud hynny cyn gynted ag y bo modd. Oherwydd bod Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid ac eraill wedi cyfeirio’n benodol at faterion llifogydd, byddaf yn mynd mor bell â dweud eto yr hyn a ddywedais gerbron y pwyllgor, sef mai fy mlaenoriaeth gyntaf wrth edrych ar unrhyw gyfalaf ychwanegol fyddai’n dod atom ni fyddai ymateb i’r mannau hynny yn y gyllideb lle bu’n rhaid gwneud toriadau.

Rydym wedi clywed rhai pethau diddorol iawn y prynhawn yma, rwy’n credu, Lywydd, am broses y gyllideb—llawer o syniadau am yr hyn y gallwn ei wneud i ddiwygio'r broses honno, gan y gwyddom fod yn rhaid iddi gael ei diwygio. Cyfaddefais yn fy sylwadau agoriadol nad yw hyn wedi bod yn set ddelfrydol o amodau ar gyfer creu ein cyllideb. Byddaf yn atgoffa’r Aelodau fod Senedd yr Alban eto i weld cyllideb ddrafft o gwbl gan Lywodraeth yr Alban; nid ydynt yn mynd i osod eu drafft, hyd yn oed, tan 15 Ragfyr.

If I could briefly turn to the agreement between the Government and Plaid Cymru, Mark Reckless asked whether there were specifics in the agreement between ourselves and Plaid Cymru and, of course, there’s a long list of specific issues, as we’ve heard this afternoon. Rhun ap Iorwerth referred to the issues related to health: the additional £1 million to assist with end-of-life care, and £20 million to be spent on mental health. And we’re going to actually provide that into the ring fence to assist people who have mental health issues. Sian Gwenllian made reference to other issues, related to the Welsh language and the pilot that we’re going to establish on town-centre car parking. And Dai Lloyd, of course, made reference to the arts, and not just the things that we can do this year, but also the issues included in the agreement, where we will discuss things further as to what we can do in future. And, of course, I acknowledge, once this work is completed, that Plaid Cymru will abstain on the vote this afternoon.

Y peth olaf, Lywydd, i mi gyfeirio ato—a dyma'r unig beth yr wyf yn mynd i allu cyfeirio ato yn yr amser sydd ar gael, o ran materion polisi penodol—ac rwy’n gwneud hynny oherwydd, unwaith eto, mae, yn fy meddwl i, yn datgelu ymraniad yn y Cynulliad: mae rhai ohonom sy'n credu bod iechyd a gofal cymdeithasol yn mynd law yn llaw, na allwch ganiatáu i un gystadlu â'r llall am adnoddau, ei bod, o safbwynt y defnyddiwr a'r claf, yn un system y mae angen iddynt allu dibynnu arni; ac mae eraill sydd yn barhaus yn rhagdybio bod yn rhaid i chi wneud dewisiadau rhwng y ddwy agwedd hynny ar fywyd rhywun. Yn y gyllideb yr ydym yn ei chyflwyno, mae gennym y gronfa gofal canolraddol £60 miliwn wedi’i chadw, sy'n eistedd ar flaen y ddau wasanaeth, gan sbarduno ffurfiau integredig newydd o gynllunio a darparu rhyngddynt. Nid oes diben o gwbl, fel yr ydym wedi dweud erioed, i berson sy’n gaeth mewn gwely ysbyty, i gredu bod arian yn cael ei ddarparu’n artiffisial i'r gwasanaeth iechyd pan na allant ddod o hyd i unrhyw ffordd o dderbyn gofal yn eu cartrefi neu yn eu cymuned.

Felly y mae, Lywydd, fod gennych gyllideb o'ch blaen—cyllideb o sefydlogrwydd, ond cyllideb o uchelgais hefyd, a fydd yn helpu i greu Cymru sy'n fwy ffyniannus a diogel, iach a gweithgar, uchelgeisiol ac yn dysgu, unedig a chysylltiedig. Mae'n gyllideb yr wyf yn gobeithio y bydd y Cynulliad yn ei chymeradwyo y prynhawn yma.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais ar yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

9. 7. Cyfnod Pleidleisio

Rydym ni’n cyrraedd y cyfnod pleidleisio, felly, a’r bleidlais ar y gyllideb ddrafft ar gyfer 2017-18, ac rydw i’n galw am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 14, yn ymatal 9, ac yn erbyn 29. Felly, mae’r gwelliant wedi’i wrthod.

Gwrthodwyd y gwelliant: O blaid 14, Yn erbyn 29, Ymatal 9.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 1 i gynnig NDM6179.

Rydw i’n galw nawr am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 27, 10 yn ymatal, 15 yn erbyn, felly mae’r cynnig wedi’i dderbyn.

Derbyniwyd y cynnig: O blaid 27, Yn erbyn 15, Ymatal 10.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6179.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:17.