Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

11/10/2016

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

1. Datganiad gan y Llywydd

Cyn i ni ddechrau, dylai Aelodau fod wedi cael gwybod gan eu rheolwyr busnes o’m bwriad i fod yn fwy llym o hyn ymlaen wrth sicrhau bod Aelodau’n gofyn cwestiynau byr a chryno. Roedd y Pwyllgor Busnes yn cytuno mai dyma’r ffordd orau o sicrhau craffu effeithiol gan y Cynulliad, a byddaf yn galw i drefn unrhyw Aelod sy’n amddifadu eraill o’r cyfle i graffu drwy beidio dod ar eu hunion i gwestiwn.

2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Yr eitem gyntaf ar yr agenda y prynhawn yma yw cwestiynau i’r Prif Weinidog, a’r cwestiwn cyntaf gan Nick Ramsay.

Canolfan Gofal Critigol Arbenigol Llanfrechfa

1. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr amserlen ar gyfer datblygu'r Ganolfan Gofal Critigol Arbenigol yn Llanfrechfa? OAQ(5)0190(FM)

Gwnaf. Yn dilyn adolygiad annibynnol a gynhaliwyd dros yr haf, gallaf gadarnhau y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn derbyn y wybodaeth sydd ei hangen arno yr wythnos nesaf ac yna’n gallu symud tuag at wneud penderfyniad.

Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Awgrymwyd gennych efallai mai dyna fyddai’r achos yr wythnos diwethaf. Ceir pryder cynyddol yn y de-ddwyrain gyda chyfradd y cynnydd gyda'r ganolfan gofal critigol arbenigol, a gynlluniwyd gyntaf dros 10 mlynedd yn ôl. Rydych chi wedi dweud bod y wybodaeth honno yn mynd i fod ar gael i’r Ysgrifennydd iechyd yn y dyfodol agos. A wnewch chi yr hyn a allwch i gymryd cyfrifoldeb am y mater hwn nawr, fel Prif Weinidog, ac fel Llywodraeth Cymru, i wneud yn siŵr y gall pobl yn y de fod yn sicr eu bod yn mynd i gael y darn hanfodol hwnnw o seilwaith gwasanaeth iechyd gwladol y maen nhw wedi bod yn aros amdano ers amser maith ac y mae wir ei angen arnynt cyn gynted â phosibl?

Mae'r wybodaeth yno. Mae'n rhaid i mi hefyd dalu teyrnged i Lynne Neagle, fy nghydweithiwr, yr Aelod dros Dorfaen, sydd wedi bod yn ddiflino yn ei heiriolaeth o’r Ganolfan Gofal Critigol Arbenigol. Ac mae'n iawn i ddweud, gyda phrosiect o'r maint hwn, y rhoddwyd ystyriaeth lawn i'r prosiect o safbwynt ariannol, ond gall y broses o wneud penderfyniad ddechrau nawr, gan y bydd yn nwylo'r Ysgrifennydd yr wythnos nesaf.

Cynllun Peilot Rhagnodi Cymdeithasol

2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cynllun peilot Rhagnodi Cymdeithasol? OAQ(5)202(FM)

Rydym ni wedi ymrwymo i dreialu cynllun rhagnodi cymdeithasol yn rhan o'n rhaglen lywodraethu, ac rydym ni wrthi’n gweithio gyda rhanddeiliaid i gwmpasu sut y gallai'r cynllun weithredu orau.

Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Mae rhagnodi cymdeithasol yn cynnig cyfle i edrych y tu hwnt i feddyginiaeth. Mae unigrwydd cronig yr un mor ddrwg i'n hiechyd ag ysmygu 15 sigarét y dydd, ac mor niweidiol â gordewdra ac anweithgarwch corfforol. Mae ymchwil yn dangos ei fod yn effeithio ar bobl trwy gydol eu hoes. Gall grwpiau cyfeillio gynnig achubiaeth hollbwysig yn y frwydr yn erbyn unigrwydd ac maen nhw’n un enghraifft a all helpu i leihau meddyginiaeth. Ceir prosiect newydd cyffrous ym mwrdd iechyd Aneurin Bevan, o'r enw 'Ffrind i Mi' sydd â’r nod o weithredu fel presgripsiwn ar gyfer unigrwydd. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi bod yn rhaid i gyfathrebu rhwng gwasanaethau iechyd a chymunedol fod cystal â phosibl i hyn weithio, a pha gymorth y gellir ei roi i annog gwirfoddolwyr, a fydd yn hanfodol i lwyddiant rhagnodi cymdeithasol?

Mae'n gwbl gywir i ddweud bod angen i ni edrych ar ddulliau cyfannol i helpu pobl pan fyddan nhw’n teimlo'n isel a phan fyddan nhw’n teimlo’n ynysig, ac mae’r Aelod yn iawn i dynnu sylw at hynny. Gallaf ddweud bod Llywodraeth Cymru yn darparu £180,000 dros y tair blynedd nesaf i helpu i ddatblygu rhwydweithiau a arweinir gan wirfoddolwyr sy'n cynorthwyo pobl unig ac ynysig mewn cymunedau, yn debyg i'r cynllun y mae hi wedi ei grybwyll eisoes.

Brif Weinidog, fel y gwyddoch, mae rhagnodi cymdeithasol yn dibynnu'n helaeth ar y trydydd sector, y mudiadau cymunedol a grwpiau gwirfoddol. Fodd bynnag, mae llawer o gymunedau gwledig wedi wynebu israddio cyson o asedau cymunedol a'r rhwydweithiau cymorth. Sut gwnaiff Llywodraeth Cymru, y byrddau iechyd, a llywodraeth leol weithio’n effeithiol gyda'i gilydd i sicrhau bod asedau cymunedol ar gael? Enghraifft gryno yw’r bygythiad i gau Canolfan Avenue yn Ninbych-y-pysgod, yr oedd bygythiad i'w chau o dan delerau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Dyna beth geisiodd llywodraeth leol ei wneud. Os cymerwch chi'r math hwnnw o ased oddi wrth pobl, yna mae rhagnodi cymdeithasol, yr ydym ni’n ei gefnogi’n llwyr ac yn credu sy’n ffordd ragorol ymlaen, wir yn mynd i gael trafferth i gael ei ddarparu ar lawr gwlad, yn enwedig mewn cymunedau gwledig. Felly, sut ydych chi'n mynd i dynnu hyn i gyd at ei gilydd i wneud yn siŵr—

Mae'n gwbl gywir y bydd cyfathrebu da rhwng gwasanaethau iechyd a chymunedol yn hanfodol i’r rhwydweithiau gael eu datblygu a'u sefydlu er mwyn gwario'r arian y cyfeiriais ato’n gynharach yn ddoeth. Fe wnaethom ni lansio ein cynllun cyflawni tair blynedd newydd ar gyfer ein strategaeth iechyd meddwl, 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl', ddoe, a bydd y cynllun rhagbrofol rhagnodi cymdeithasol a gafodd ei gynnwys yn y cynllun cyflawni hefyd yn ategu’r camau hynny. Byddwn yn gobeithio wedyn y gall llywodraeth leol ddysgu o’r cynllun cyflawni a chyflwyno arfer gorau yn eu hardaloedd.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau yn awr gan arweinwyr y pleidiau. Rwy’n galw yn gyntaf yr wythnos yma arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies.

Diolch i chi, Lywydd. Brif Weinidog, rwy’n gofyn y gyfres hon o gwestiynau fel cefnogwr o leddfu’r tagfeydd traffig o amgylch Casnewydd. Ond, roedd cyhoeddiad yr wythnos diwethaf yn hynod siomedig, o ran yr oedi posibl cyn dod o hyd i ateb i’r problemau traffig yn y rhan honno o Gymru. Cyflwynwyd llythyr eglur i Aelod yn y Cynulliad yma yr wythnos diwethaf, a oedd yn amlygu sut yr oedd Llywodraeth Cymru wedi rhyngweithio mewn gwahanol weithdai, ymgynghoriadau, ac, yn wir, amlygwyd y newid methodoleg mor gynnar â 2014, ac fe’i cadarnhawyd mewn gweithdai ym mis Mawrth 2015, cyn ei gyflawni ym mis Gorffennaf 2016. Pam roedd o’n gymaint o syndod i Lywodraeth Cymru bod y fethodoleg hon yn newid ac y gallai, yn y pen draw, oedi datblygiad y prosiect?

Mae hon yn stori ryfedd, Lywydd, yr hoffwn, rwy’n credu, gyda'ch caniatâd, ymhelaethu arni. Yn gyntaf oll, roedd y llythyr a dderbyniwyd gan Mohammad Asghar yn ddyddiedig 6 Hydref. Roedd yn ymddiheuro am yr oedi cyn ymateb—rhyfeddol, o ystyried y ffaith i’r cyhoeddiad gael ei wneud ar 3 Hydref. Rwy’n meddwl tybed pryd yr anfonwyd y llythyr hwnnw’n wreiddiol, felly, oherwydd, fel rheol, nid ydym yn cael ymateb o fewn tri diwrnod gan yr Adran Drafnidiaeth yn ymddiheuro am yr oedi. Mae hynny'n rhyfedd, onid yw?

Yn ail, wrth gwrs, nid yw'n iawn i ddweud bod y wybodaeth, y data cynllunio, gerbron Llywodraeth Cymru ar unrhyw adeg cyn mis Gorffennaf eleni. Ni roddwyd unrhyw arwydd gan yr Adran Drafnidiaeth o sut y byddai’r data cynllunio hynny yn edrych. A dweud y gwir, dywedasant, ar ôl y refferendwm, eu bod yn credu y byddai oedi cyn cyhoeddi'r data hynny—dyna ddywedwyd wrth ein swyddogion. Nid yw'n wir ychwaith bod y wybodaeth gan swyddogion cyn diwedd mis Gorffennaf. Yr hyn a ddigwyddodd mewn gwirionedd oedd bod ein swyddogion wedi darganfod bod Highways England wedi derbyn y wybodaeth bythefnos ymlaen llaw. Nid oedd wedi ei rhannu gyda ni fel Llywodraeth. Gofynnwyd am y wybodaeth; ni chafodd ei darparu tan 28 Gorffennaf.

Hyd yn oed yn fwy rhyfedd yw bod y data a ddarparwyd fel rheol, rwy’n deall—fel rheol—yn cael eu darparu ar ffurf ddrafft, lle caniateir cyfnod ymgynghori o naw i 12 mis er mwyn i'r data gael eu harchwilio a'u cwestiynu. Y tro hwn, nid ydynt wedi eu cyhoeddi ar ffurf ddrafft; maen nhw wedi eu cyhoeddi ar ffurf derfynol, sy'n peri pryder i ni gan fod y data mor hynod o wallus. Er enghraifft, mae'n defnyddio data cynllunio ar gyfer Cymru nad ydynt wedi eu cynnwys yn y cynllun cyflawni lleol ac nad ydynt wedi’u gwreiddio mewn ffaith. Ni ddarparwyd unrhyw wybodaeth i ni o ran o ble y cafodd yr Adran Drafnidiaeth afael ar y wybodaeth hon.

Unwaith y caiff y data eu darparu, mae'n cymryd amser maith i weld beth yw effaith y data hynny ar unrhyw gynllun ffordd penodol, a dyna pam, fel rheol, y ceir y cyfnod naw i 12 mis i hynny ddigwydd. Y tro hwn, dim byd. Fe'i gwnaed yn derfynol yn syth. Rhyfedd, felly, bod Highways England wedi ei hysbysu o’n blaenau ni, ac, wrth gwrs, rydym ni’n gwybod, ar ôl dadansoddi'r data, mai’r hyn y mae’r gyfres hon o ddata yn ei wneud, mewn gwirionedd, yw bod o fudd i gynlluniau yn Llundain, de-ddwyrain Lloegr a dwyrain Lloegr ar draul pobman arall. Hyd yn oed yn fwy rhyfedd, onid yw?

Felly, rydym ni’n galw ar yr Adran Drafnidiaeth i ailystyried y ffigurau hyn, i weithio gyda ni i ailystyried y ffigurau hyn, i ddweud wrthym ble y daethant o hyd i'r data cynllunio, ac i weithio gyda ni er mwyn darparu ffigurau sy'n llawer mwy cywir i gyd-destun Cymru. Felly, ceir llawer o faterion rhyfedd a godwyd yn y fan yna, nad ydym wedi derbyn ateb iddynt eto.

Diolch i chi am yr ateb manwl iawn yna, Brif Weinidog. Nid wyf yn credu bod llawer sy’n rhyfedd am unrhyw ran o hyn. Rydym ni wedi bod yn dweud dros y flwyddyn ddiwethaf bod angen ailystyried y fethodoleg fel y gellid gwerthuso’r llwybr glas a du ar sail yr un fethodoleg, fel y gellid, yn y pen draw, cymharu’r ddau lwybr yn ffafriol, ac y gallech fwrw ymlaen â’r llwybr glas neu’r llwybr du. Ateb Llywodraeth Cymru i'r argyfwng traffig o gwmpas y de-ddwyrain—oherwydd mae yn argyfwng; gall y dagfa ar yr M4 ar adegau penodol o'r dydd ymestyn yn ôl dros 12 milltir—yw ffafrio’r llwybr du. Felly, a allwch chi ymrwymo i gael ateb traffig ar waith erbyn 2021 fel y gall pobl fod yn hyderus y bydd yr ymrwymiad yn eich maniffesto i ddarparu’r ateb hwnnw yn cael ei fodloni erbyn 2021?

Gallaf, dyna'r nod, ond nid yw o gymorth pan fo gennym ni adrannau Llywodraeth yn Whitehall sy’n ymddwyn fel hyn. Roedden nhw'n gwybod bod ymchwiliad cyhoeddus a fyddai'n dechrau yn ystod hydref eleni, ac eto ni chafodd y data hyn—bu’n rhaid i ni ofyn amdanynt, bu’n rhaid i ni ofyn amdanynt; ni chawsant eu darparu hyd yn oed, ac ni chawsom ein hysbysu eu bod yn bodoli hyd yn oed. Ac yna, wrth gwrs, gweithiodd swyddogion yn galed iawn trwy fis Awst i edrych ar y data, i weld beth y byddent yn ei olygu i gynlluniau ffyrdd Cymru. Nid dim ond Cymru yr effeithir arni; mae pob man y tu allan i dde-ddwyrain Lloegr yn cael ei effeithio'n andwyol gan y data hyn. Felly, cyn belled ag y mae’r Adran Drafnidiaeth yn y cwestiwn, byddwn yn ei hannog i ailystyried y data hyn, i gael proses briodol, lle cyhoeddir data ar ffurf drafft ac y rhoddir cyfle wedyn i archwilio’r data hynny, i archwilio eu cadernid, yn hytrach na mabwysiadu'r dull rhyfedd ac anarferol y mae wedi ei fabwysiadu hyd yn hyn.

Wel, rwy’n anghytuno â chi am y broses ryfedd ac anarferol. Hynny yw, fel yr wyf i wedi dweud, mae’r broses hon wedi bod ar waith ers dwy flynedd, a nodwyd yn eglur, yn 2016, y byddai'r newid hwn yn dod yn ddiweddarach i chi ac, yn amlwg, ni wnaeth eich Llywodraeth ymateb. Roedd Traffic Scotland yn rhan o’r trafodaethau ac roedd Adran Seilwaith Gogledd Iwerddon mewn trafodaethau gyda'r Adran Drafnidiaeth. Maen nhw i gyd ar y llythyr hwn ac yn cael eu nodi fel cyfranogwyr yn y gweithdai a'r ymgynghoriad. Ond yr hyn sy'n bwysig yw ein bod yn dod o hyd i ateb i'r tagfeydd traffig sy'n bodoli yn ne-ddwyrain Cymru. Mae eich Llywodraeth wedi mynegi ei dewis o’r llwybr du yn eglur, ac rydych chithau wedi dweud ar goedd pe byddech chi’n cefnogi'r llwybr glas y gallech chi

anghofio am ennill etholiadau yng Nghasnewydd am genhedlaeth.

Felly, ai ennill etholiadau yw sail y penderfyniadau ynghylch y tagfeydd traffig a'r atebion i ddatrys y tagfeydd hynny neu a ydych chi wir yn ystyried beth yw’r ateb gorau yn ariannol ac o ran ymdrin ag amcanestyniadau traffig yn y dyfodol, Brif Weinidog?

Mae'n ffaith fod y llwybr glas yn mynd heibio llawer iawn o gartrefi a fyddai'n effeithio, rydym ni’n meddwl, ar hyd at 4,000 o bobl. Dyna’r gwirionedd. Byddai'n mynd heibio yn agos iawn, iawn at eu tai ac, a dweud y gwir, byddai’n rhaid dymchwel rhai adeiladau, masnachol a phreswyl. Ni ellir osgoi hynny, ac rwy’n amau’n fawr iawn a fyddai unrhyw Lywodraeth yn cael ei hystyried yn ffafriol pe byddai'n bwrw ymlaen â'r llwybr glas heb ymgynghoriad priodol. Rydym ni wedi dweud yn yr ymchwiliad cyhoeddus y bydd yr ymchwiliad cyhoeddus yn ystyried y llwybrau du a glas. Rydym ni eisiau i'r ymchwiliad fod mor eang â phosibl ac i fod mor agored â phosibl, fel y gall pobl weld bod y broses yn un y gallant fod â ffydd ynddi. Ond mae’n rhaid i mi ddweud unwaith eto: mae unrhyw awgrym bod Llywodraeth Cymru wedi ei chynnwys neu’n gwybod am y data a ddarparwyd ar 25 Gorffennaf yn anghywir—yn gwbl anghywir ac yn gwbl anwir. Nid wyf yn ei gyhuddo ef o ddweud hynny, ond rwy’n dweud bod y wybodaeth y mae wedi ei derbyn, yn syml, yn anghywir. Yr hyn sy’n digwydd yw eu bod yn gweithio ar hyn, ac yna’n hysbysu pobl am yr hyn y maen nhw'n ei wneud. Y tro hwn, ni wnaethant hyd yn oed dweud wrthym pryd yr oedd y ffigurau’n mynd i gael eu cyhoeddi. Fe wnaethant eu rhannu gyda Highways England yn gyntaf. Ni ddywedasant wrthym eu bod wedi gwneud hynny hyd yn oed. Bu’n rhaid i ni ofyn amdanynt a, phan gawsant eu rhannu gyda ni, fe’u rhannwyd gyda ni ar y sail fod hynny’n anarferol. Fel rheol, caiff y data eu rhannu ac mae naw i 12 mis ar gael i archwilio’r data’n ofalus. Ni wnaethpwyd hyn y tro hwn, ac mae gennym ni yn y fan yma gyfres o ddata ar hyn o bryd a fyddai o fudd i Lundain a de-ddwyrain Lloegr ar draul pawb, ac ni allwn dderbyn hynny.

Diolch, Lywydd. Brif Weinidog, cyhoeddodd Ysgrifennydd Cartref y DU gynlluniau yr wythnos diwethaf i orfodi cwmnïau i gyhoeddi rhestrau o'u gweithwyr tramor—cam at yn ôl, rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno â mi. Nid yw'n eglur sut yn union y bwriedir defnyddio’r wybodaeth hon, ond rwy'n pryderu y gallai fod wedi ein tywys i lawr llwybr tywyll iawn yn wir. Ers hynny, mae Llywodraeth y DU wedi camu yn ôl o’r safbwynt hwnnw, yn dilyn protestiadau’r cyhoedd, ond bydd y data yn dal i gael eu casglu mae cwestiynau i'w gofyn o hyd am yr hyn a fydd yn digwydd i'r data hynny. A allwch chi atal unrhyw un o'r mesurau hyn rhag digwydd yng Nghymru?

Wel, rwy'n credu mai ‘hwb’ yw’r gair sy'n cael ei ddefnyddio nawr. Maen nhw’n awyddus i roi hwb i gwmnïau i’r cyfeiriad hwnnw. Yr hyn y gallaf ei ddweud cyn belled ag yr ydym ni yn y cwestiwn fel Llywodraeth, yw nad ydym ni’n mynd i wneud hynny, ac ni fydd unrhyw un o'r cyrff yr ydym ni’n eu noddi yn gwneud hynny ychwaith. Yn y pen draw, mater i gwmnïau yw pwy maen nhw’n eu cyflogi. Nid wyf yn credu ei bod yn ddefnyddiol cael rhestrau o bobl a fyddai'n cael eu defnyddio yn erbyn y busnesau hynny am lawer iawn o resymau: yn gyntaf, oherwydd yr hyn yr wyf yn credu yw ochr sinistr y mater, sef awgrymu os nad oes gan bobl basbort y DU, yna eu bod nhw rywsut yn dwyllwyr yn y swyddi sydd ganddynt, sef y neges y byddai’n ei chyfleu mewn gwirionedd; ac yn ail, ni allaf feddwl am unrhyw wrthanogaeth mwy pwerus i fuddsoddwr na dweud wrtho, 'Os byddwch chi’n dod i Gymru, neu’n dod i'r DU, bydd yn rhaid i chi ddweud wrthym faint o weithwyr o'r tu allan i'r DU y byddwch yn eu cyflogi '. Nid oes rhaid iddynt wneud hynny mewn gwledydd eraill, ac mae hynny'n rhwystr arall i fuddsoddiad cyn belled ag y mae Cymru yn y cwestiwn. Fel finnau, gwn iddi rannu'r un farn yn gyflym iawn ac yn gyhoeddus iawn pan wnaed y cyhoeddiad. Nid wyf yn credu mai creu rhestrau o bobl o'r tu allan i'r DU gyda’r nod o ddefnyddio’r bobl hynny yn erbyn y cwmnïau sy'n eu cyflogi yw'r ffordd iawn ymlaen i Gymru nac i Brydain.

Diolch i chi am yr ateb, Brif Weinidog. Rwy’n croesawu'n fawr y farn yr ydych chi wedi ei mynegi yn y fan yna. Mae llawer o'n problemau yng Nghymru nad ydynt yn deillio o bobl benodol yn symud i mewn i'r wlad, ond maen nhw’n deillio o'r ffaith bod llawer o'n pobl ifanc yn symud allan a ddim yn dychwelyd, ac mae hyn yn arbennig o wir am raddedigion, lle mae gennym ni gyfradd gadw is nag unrhyw wlad arall yn y DU. Bu llawer o bwyslais ar fewnfudo, yn enwedig o ran y ddadl ar Brexit, ac eto ychydig iawn o sylw a roddwyd i allfudo. Mae Plaid Cymru o’r farn y dylai graddedigion gael byw a gweithio yn lle maen nhw’n dewis, ond dylem ni hefyd allu cymell rhai ohonyn nhw i ddod yn ôl fel y gallwn ni weld adenillion ar ein buddsoddiad cyhoeddus, os mynnwch, yn eu haddysg. Ni yw'r unig blaid sydd wedi cynnig mecanwaith, trwy addysg uwch, i gymell myfyrwyr i ddychwelyd i weithio, a byddwch yn ymwybodol ein bod wedi cyflwyno’r cynigion hyn cyn etholiad mis Mai. Yn yr etholiad hwnnw, nid oedd gennych chi unrhyw bolisi ar hyn a honnwyd gennych y byddai Plaid Cymru yn codi ffioedd ar fyfyrwyr. Os byddwch yn gweithredu adolygiad Diamond, mae ffioedd yn debygol o gael eu codi gan eich Llywodraeth chi. A wnewch chi dderbyn nawr bod angen i ni gymell graddedigion i ddychwelyd i Gymru ar ôl astudio? Os ydych chi’n cytuno â mi, beth ydych chi’n bwriadu ei wneud am y peth?

Wel—[Torri ar draws.]—realiti'r sefyllfa, os wyf yn cofio—rwy’n credu fod y Gweinidog wedi ymyrryd yn y fan yna, ond rwyf yn mynd i ateb y cwestiwn. Os wyf yn cofio, byddai'r polisïau yr oedd hi’n eu dilyn ym mis Mai yn golygu y byddai myfyrwyr wedi cael eu cymell i aros yng Nghymru, yn yr ystyr y byddai eu ffioedd wedi cael eu talu pe byddent wedi astudio yng Nghymru, ond nid yn rhywle arall. Nid yw hwnnw'n safbwynt y byddwn yn ei rannu. [Torri ar draws.] O’m safbwynt i, yr hyn yr wyf i eisiau ei wneud yw gwneud yn siŵr ein bod ni’n denu myfyrwyr i mewn i Gymru, nid yn unig y rhai sydd o Gymru, ond o’r tu allan i Gymru hefyd, a gwneud yn siŵr bod swyddi medrus yno ar eu cyfer.

I mi, nid yw'n gwestiwn o ba un a ydyn nhw’n gadael, mae'n gwestiwn o’u galluogi i ddychwelyd. Oherwydd nid wyf yn gweld unrhyw reswm pam na fyddai pobl ifanc eisiau gadael, ennill profiad yn rhywle arall, a dod yn ôl a dod â’r profiad hwnnw yn ôl gyda nhw, yn yr un modd ag y gwn y bydd pobl a fydd yn dod i Gaerdydd yn eu hugeiniau ac yna’n dychwelyd i gefn gwlad Cymru pan fyddant yn hŷn. Rwy'n credu eu bod yn mynd â’u profiad yn ôl gyda nhw. I ni, mae'r cwbl yn ymwneud â sicrhau bod y swyddi ar gael yno. Dyna pam mae diweithdra yn 4.1 y cant—is na'r Alban, is na Lloegr, is na Gogledd Iwerddon—a dyna pam rydym ni’n gweld Cymru fel lle da i fuddsoddi ynddo, i ddod â swyddi medrus, ar ran cynifer o gwmnïau rhyngwladol.

Brif Weinidog, rydych chi wedi camddeall yn llwyr yr hyn yr oeddem ni’n ei gynnig cyn yr etholiad hwnnw. Yr hyn yr ydych chi newydd ei ddweud y dylem ni fod yn ei wneud yw’r union beth yr ydym ni’n ei ddweud y dylid ei wneud, a'r hyn yr oeddech chi’n ymosod arnom ni amdano yn yr etholiad hwnnw. Rwy’n awgrymu bod angen i chi gael eich briffio’n well y tro nesaf.

Hoffwn droi nawr at fater difrifol a godwyd gyda mi gan wirfoddolwr o Gymru yng ngwersyll ffoaduriaid Calais. Ddoe ddiwethaf, cytunodd Llywodraeth y DU i roi llety i 378 o blant o'r gwersyll yn Calais sydd â chysylltiadau yma yn y DU. Dywedodd y fenyw sydd wedi cysylltu â mi wrthyf ei bod wedi dod ar draws plentyn ar ei ben ei hun yn Calais sy'n cael ei gam-drin yn ddychrynllyd, gan fasnachwyr mewn pobl. Adroddodd stori i mi o sut y rhoddwyd heroin i’r bachgen ifanc 12 oed hwn gan fasnachwyr, gan addo iddo y bydd yn helpu iddo gyrraedd y DU yn haws ac yn gwneud ei daith yn haws. Ac ar ôl iddo ddod yn gaeth i heroin, cafodd ei roi gan y masnachwyr i ddynion rheibus y tu allan i'r gwersyll, nid ffoaduriaid eraill, a dalodd i’r masnachwyr hynny, a thrais oedd y pris o wrthod, ynghyd â thynnu heroin yn ôl, y mae, wrth gwrs, yn gwbl gaeth iddo erbyn hyn.

Nawr, rwy'n siŵr y byddwch chi’n cytuno â mi, Brif Weinidog, fod hon yn sefyllfa hollol wrthun, ac rwy'n siŵr y byddwch chi, fel minnau, eisiau gwneud yr hyn a allwch i helpu plant mewn sefyllfaoedd agored i niwed fel hyn. Yn ystod yr ail ryfel byd, gwnaethom yr hyn a allem, wrth gwrs, i helpu'r plant Kindertransport. I helpu’r plant hyn heddiw, mae angen i ni sicrhau bod ein systemau amddiffyn plant yn barod ac yn fodlon rhoi llety i blant a fydd yn arbennig o agored i niwed a allai gael eu hanfon i Gymru. Os ydym ni am gael y plant hynny allan o sefyllfa lle maen nhw’n agored iawn i niwed, ni allwn gymryd y risg o’u rhoi mewn sefyllfa arall lle maen nhw’n agored i niwed. Felly, sut gallwch chi sicrhau bod adrannau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol yng Nghymru yn barod i gamu ymlaen a helpu'r plant hyn nawr?

Pwy all anghytuno â'r dystiolaeth rymus y mae arweinydd yr wrthblaid wedi ei rhoi i ni? Nid oes gennyf unrhyw reswm i beidio â chredu’r hyn a ddywedwyd. Mewn amgylchedd o anobaith, bydd rheibwyr yn ffynnu, ac mae'n ymddangos bod hynny'n wir yn Calais.

Yr wythnos diwethaf, cefais gyfarfod ag aelod etholedig cyfrifol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru dros ffoaduriaid, Dyfed Edwards, arweinydd Gwynedd, a thrafodwyd rhai o’r materion hyn gennym, gan gynnwys plant heb gwmni. Mae'n wir dweud mai prin yw’r ffoaduriaid sydd wedi dod i Gymru hyd yn hyn, ond siaradodd y ddau ohonom am sut y gallwn helpu awdurdodau lleol i ailsefydlu ffoaduriaid sy'n oedolion yn ogystal â phlant heb gwmni. Wrth gwrs, cytunodd y ddau ohonom i gydweithio hefyd er mwyn gwneud yn siŵr, pan fyddwn yn teimlo y dylai cyllid ddod o ffynhonnell nas datganolwyd, bod y cyllid hwnnw’n dod o Whitehall. Ond, yn sicr, roedd yn gyfarfod da ac yn pwysleisio, unwaith eto, ein bod ni ein hunain a CLlLC yn sicr eisiau sicrhau bod plant yn cael hafan ddiogel yng Nghymru a’u bod yn gallu symud i ffwrdd yn barhaol oddi wrth y math o gamfanteisio y mae hi wedi ei rannu gyda ni.

Brif Weinidog, yn y flwyddyn 2000, roedd Cymru yn ail o'r gwaelod yn y tablau cynghrair ymhlith y gwledydd a rhanbarthau Lloegr yn y DU o ran enillion wythnosol gros. Yn y cyfamser, mae enillion wedi cynyddu 55 y cant yn yr Alban, 51 y cant yng Ngogledd Iwerddon, ond dim ond 46 y cant yng Nghymru. Felly, mae gennym ni’r fraint ddigysur erbyn hyn o fod ar waelod y tablau cynghrair hynny. Bu gennym Lywodraethau Llafur un ai yng Nghaerdydd neu yn San Steffan am naill ai’r holl gyfnod hwnnw neu’r rhan fwyaf ohono. A ydych chi a'ch plaid yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am yr hanes hwn o fethiant?

Wel, roedd ef yn aelod o'r Blaid Geidwadol unwaith, yn y 1980au, ac os edrychwch chi ar yr ystadegau—a gallaf roi’r graffiau iddo ar hyn—cynyddodd anghydraddoldeb yn sylweddol—yn sylweddol—yn y 1980au o’i gymharu ag unrhyw ddegawd arall. Dyna pryd y dechreuodd pobl golli hyder mewn gwleidyddiaeth, pan welsant anghydraddoldeb yn cynyddu. Gallaf ddweud wrtho, os edrychwn ni ar y lefel o gyflogaeth yng Nghymru, ei bod yn uwch nag erioed, yn llawer uwch nag yr oedd pan yr oedd ef yn y Llywodraeth. Mae diweithdra yn 4.1 y cant, yn llawer is nag yr oedd pan yr oedd ef yn y Llywodraeth. 13.7 y cant yw diweithdra ymhlith pobl ifanc yng Nghymru; 14.1 yw cyfradd y DU. Roedd y gostyngiad yng Nghymru bron i 5 y cant dros flwyddyn. Dyna Twf Swyddi Cymru i chi, a'r ffordd y mae'n gweithredu mewn gwirionedd. Felly, cyn belled ag y mae niferoedd yn y cwestiwn, rydym ni’n gwybod bod yr economi yn symud i'r cyfeiriad cywir.

Mae'n iawn i ddweud mai’r her yw sicrhau ein bod yn codi incwm pobl. Y ffordd i wneud hynny yw gwneud yn siŵr eu bod yn meddu ar y sgiliau sydd eu hangen arnynt er mwyn dod â swyddi sy'n talu'n dda i mewn gan fuddsoddwyr sy'n dod o dramor, ond hefyd bod y gallu a’r hyder ganddynt i sefydlu eu hunain mewn busnes a llwyddo yn y dyfodol. Nid oedd yr un o'r pethau hyn ar waith pan yr oedd ef yn aelod o'r Blaid Geidwadol. Ni wnaeth unrhyw blaid fwy i ddryllio ein heconomi, i godi diweithdra a chreu mwy o anghydraddoldeb na'r blaid yr oedd ef yn aelod ohoni ar un adeg.

Nid wyf yn bwriadu, Lywydd, ailadrodd y dadleuon ynghylch gaeaf o anfodlonrwydd 1979, a arweiniodd at yr holl doriadau a ddigwyddodd yn y 1980au; rydym ni yma i siarad am yr unfed ganrif ar hugain, nid yr ugeinfed. Ond, gan edrych ymlaen at y dyfodol, er na wnaiff y Prif Weinidog dderbyn ei gyfrifoldeb am yr hanes hwn o fethiant, onid yw’n amlwg bod angen i ni greu economi fenter yng Nghymru nawr, awdurdodaeth treth isel, o siarad yn gymharol, ac economi lle mae gennym ni reoleiddio cymesur? Mae'r cyfle y mae Brexit yn ei gynnig i ni yn rhoi’r dulliau i ni ar gyfer cyflawni’r hyn y mae ef a minnau ei eisiau, sef mwy o ffyniant i bobl Cymru.

Nid wyf yn synnu nad yw eisiau trafod ei hanes yn y 1980au, ond roedd un ymadrodd yn y fan yna a dynnodd fy sylw—creu economi treth isel. Nawr, roeddwn i’n meddwl mai neges ei blaid ef oedd nad oedden nhw eisiau gweld unrhyw ddatganoli treth i'r lle hwn. Felly, mae’n rhaid iddo wneud ei feddwl i fyny ynghylch yr hyn y mae'n ei olygu trwy hynny. Rwy'n credu bod rhinwedd o edrych, er enghraifft, ar y ffordd y mae treth gorfforaeth yn gweithredu, yn enwedig o ran gostyngiadau treth, ac rwy’n credu bod angen i'r Trysorlys fod yn llawer mwy hyblyg o ran y pwerau y mae'n eu rhoi yn hynny o beth. Beth am, er enghraifft, gael system o ostyngiadau treth ar gyfer ymchwil a datblygu yng Nghymru? Dyma’r mathau o bwerau y credaf fydd yn ymarferol, heb fod â gormod o berygl o ran unrhyw golled incwm posibl trwy fformiwla Barnett. Felly, rwy’n credu ei bod yn hollol gywir i ddweud ein bod ni eisiau gwneud yn siŵr bod Cymru yn lle da i fuddsoddi ynddo. Rydym ni’n ei weld—rydym ni wedi gweld nifer o fuddsoddwyr mawr yn dod i mewn i Gymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf a thu hwnt. Ceir her Brexit, o sicrhau buddsoddwyr yn y dyfodol y bydd ganddynt fynediad at y farchnad Ewropeaidd, mwy nag America a Rwsia gyda’i gilydd, ac rydym ni’n bwriadu gwneud yn siŵr eu bod yn gweld Cymru fel lle naturiol i fuddsoddi er mwyn cael mynediad at y farchnad honno yn y dyfodol.

Nid yw fy mhlaid yn erbyn datganoli trethi incwm fel y cyfryw, yr hyn yr ydym ni yn ei erbyn yw datganoli treth incwm heb refferendwm, fel yr addawyd i ni cyn 2011. Ond, gan symud i’r dyfodol a'r cyfleoedd y mae Brexit yn eu cynnig, onid yw braidd yn siomedig bod y grŵp cynghori ar Ewrop y mae'r Prif Weinidog wedi ei benodi, o 20 aelod, yn cynnwys llawer o wleidyddion ac academyddion, ond ychydig iawn o bobl â phrofiad busnes ymarferol? Cyn belled ag y gallaf ei ddeall o edrych ar yr enwau, ychydig iawn o’r bobl deilwng hyn oedd o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd mewn gwirionedd. Yn wir, yr unig un y gallaf ei nodi yn bendant yw fy ffrind anrhydeddus dros Ogledd Cymru, Nathan Gill. Oni fyddai'n synhwyrol, felly, i gael mwy o bobl sy’n gweld Brexit fel cyfle yn hytrach na rhywbeth i'w ofni yn y grŵp hwn?

Nid ailymladd y refferendwm yw diben y grŵp; mae’r canlyniad yn eglur. Diben y grŵp yw cynghori’r Llywodraeth—nid gwneud penderfyniadau, ond cynghori’r Llywodraeth—ar ffyrdd posibl ymlaen. Er enghraifft, edrych ar fodelau fel Norwy—a ellir addasu hwnnw? A oes modelau eraill? Dyma'r pethau y mae angen i ni eu hystyried. Mae Nathan Gill yn aelod o'r grŵp hwnnw. Mae'n ASE, dyna pam mae yn y grŵp, ac mae’n rhywun sydd wedi cyfrannu'n helaeth at waith y grŵp hyd yn hyn, ac mae'n rhywun a all ddod â’i brofiad yn Ewrop a’i ddefnyddio i effaith dda yn ein grŵp.

Lefelau Cyllido Ysgolion yng Ngorllewin De Cymru

3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am lefelau cyllido ysgolion yng Ngorllewin De Cymru? OAQ(5)203(FM)

Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei chyllideb ddrafft nesaf a’r setliad llywodraeth leol ar gyfer 2017-18 cyn bo hir.

Diolch yn fawr am yr ateb yna, Brif Weinidog. Yn naturiol, rydym i gyd yn deall cymhlethdodau’r fformwla gyllido, ond a allaf ofyn beth ydych chi’n ei wneud i sicrhau ariannu digonol i ysgolion llai eu maint?

Wel, mae’n rhywbeth, wrth gwrs, i awdurdodau lleol, ynglŷn â sicrhau bod yna ddigon o arian ar gael i’w hysgolion nhw. Rydym, wrth gwrs, yn rhoi arian iddyn nhw ac rŷm ni’n erfyn arnyn nhw i hala swm digonol ar ysgolion er mwyn iddyn nhw allu creu addysg dda yn eu hardaloedd nhw. Ond nhw, wrth gwrs, sydd yn gyfrifol am gyllido ysgolion unigol yn eu hardaloedd nhw.

A yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi mai’r hyn sy'n bwysig yw canlyniadau nid mewnbynnau? Ac a wnaiff y Prif Weinidog ymuno â mi i longyfarch cyngor Abertawe ar ganlyniadau TGAU gorau erioed, ac Ysgol Pentrehafod ac Ysgol Gyfun Treforys—dwy ysgol Her Ysgolion Cymru—ar eu canlyniadau TGAU rhagorol?

Gwnaf, rwy’n croesawu’n fawr pan fo ysgolion Llwybrau Llwyddiant wedi gwella gyda chymorth Her Ysgolion Cymru. Hoffwn innau hefyd longyfarch Pentrehafod a Threforys, yr wyf yn deall sydd wedi ennill eu cyfres o ganlyniadau gorau erioed wrth gymryd rhan yn yr her, ac mae’r Aelod yn haeddiannol falch o'r ysgolion cyfun yn ei ardal.

Brif Weinidog, roedd hi yn ôl ym mis Rhagfyr 2011 pan wnaeth y Gweinidog addysg ar y pryd, Leighton Andrews, gyhoeddiad am wariant gwerth £1.4 biliwn ar gyfer rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain. Roedd hynny, wrth gwrs, yn cynnwys Gorllewin De Cymru ac, yn wir, rhannau eraill o Gymru. A allwch chi ddweud wrthym ni faint o’r arian hwnnw sydd wedi ei ryddhau, o gofio ein bod ni bum mlynedd i mewn i'r rhaglen nawr, a bod £700 miliwn i fod i gael ei wario yn ystod y saith mlynedd gyntaf?

Rwy’n credu bod hanner ohono, yn fras, wedi ei ddyrannu. Mae'n fater, wrth gwrs, i awdurdodau lleol gyflwyno cynlluniau i ddisodli neu, yn wir, i atgyweirio adeiladau ysgol, ac rwyf wedi eu gweld nhw ar hyd a lled Cymru—o'r Rhyl i Ysgol Teilo Sant yng Nghaerdydd. Roeddwn i yn y chweched yng Nglannau Dyfrdwy ychydig wythnosau yn ôl, ac rydym ni’n gweld bod adeiladau newydd yn cael eu codi ym mhob cwr o Gymru i gynnig cyfleusterau sydd eu hangen ar bobl ifanc ac y maen nhw’n eu disgwyl, tra, ar yr un pryd nad oes dim yn digwydd o dan ei blaid ef yn Lloegr.

Brif Weinidog, mae toriadau i gyllidebau awdurdodau lleol wedi rhoi pwysau ar gyllidebau ysgolion ar draws fy rhanbarth i. Yn ogystal â chyllidebau ysgolion, mae cyngor Abertawe hefyd wedi cynyddu'r swm y mae’n ei godi am gytundebau lefel gwasanaeth, sy'n effeithio ar allu ysgolion i ddarparu pethau fel gwersi cerddoriaeth, gwersi nofio a'r cyflenwad o lyfrau llyfrgell.  Mae gan Abertawe un o'r lefelau isaf o gyllid fesul disgybl yng Nghymru erbyn hyn. A wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried yr effaith y mae toriadau i gyllidebau yn ei chael ar ysgolion yn fy rhanbarth i pan fydd yn gosod lefel cyllid y Llywodraeth yn y gyllideb nesaf?

Wel, wrth gwrs, rydym ni’n disgwyl i awdurdodau lleol ddyrannu arian ar gyfer gwasanaethau lleol fel addysg. Eu cyfrifoldeb nhw yw cyfiawnhau’r swm o arian y maen nhw’n ei wario ar addysg. Mae'n wir i ddweud bod rhai cynlluniau yr ydym ni’n eu rhedeg yn ganolog fel Llywodraeth, ond byddem ni’n disgwyl i bob awdurdod lleol ariannu ysgolion yn y fath fodd sy’n golygu ein bod yn parhau i weld y gwelliant yr ydym ni wedi ei weld dros y blynyddoedd diwethaf i addysg plant.

Diogelwch ar y Ffyrdd yn Sir Benfro

4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddiogelwch ar y ffyrdd yn Sir Benfro? OAQ(5)0188(FM)

Mae’r fframwaith diogelwch ar y ffyrdd i Gymru yn amlinellu’r camau gweithredu y byddwn ni a’n partneriaid yn eu cymryd i gyrraedd ein targedau ar gyfer lleihau nifer y bobl sy’n cael eu lladd neu eu hanafu ar y ffordd. Bydd y fframwaith yn cael ei adolygu unwaith eto unwaith y bydd y ffigurau ar gyfer y rheini a gafodd eu lladd neu eu hanafu yn 2016 gael eu cyhoeddi.

Rwy’n ddiolchgar i’r Prif Weinidog am yr ymateb yna. Mae diogelwch ar y ffyrdd yn broblem i gerddwyr yng nghwm Abergwaun, ac er gwaethaf ymrwymiadau cadarnhaol gan Weinidogion blaenorol, ac er bod astudiaeth dichonoldeb wedi cymryd lle yn 2012-13, mae’r Gweinidog presennol wedi gofyn am astudiaeth arall i adeiladu pont droed. Rwy’n siŵr eich bod chi’n gyfarwydd â’r rhan yna o’r dref a’i bod hi’n bwysig i wella diogelwch yn y rhan yna. Felly, pa sicrwydd y gall eich Llywodraeth chi ei roi i bobl yn yr ardal yna y bydd pont droed mewn gwirionedd yn cael ei hadeiladu i’r gymuned leol yn ystod y Cynulliad hwn, yn hytrach na chael ymrwymiadau i astudiaethau dichonoldeb diddiwedd, a pha gyllid a fydd ar gael i brojectau fel hyn?

Mae’r Aelod yn sôn am Gwm Gwaun—nid wyf yn gwybod am unrhyw lwybr yng Nghwm Gwaun. Rwy’n gwybod fod yna broblem ynglŷn â Threfdraeth i Lwyngwair, os mai dyna beth mae’n sôn amdano. Ynglŷn â Threfdraeth i Lwyngwair, mae’r gwaith yn symud ymlaen ar hynny. Ynglŷn a’r mater mae wedi ei godi, a gaf i felly ysgrifennu ato fe gyda mwy o fanylion er mwyn ei fod yn gallu sicrhau bod y manylion ar gael i’w etholwyr?

Diolchaf i'r Prif Weinidog am ei ateb ar hynny. Roeddwn i eisiau ehangu hyn rhyw fymryn i faterion diogelwch ar y ffyrdd sy’n sicr wedi cael eu codi gyda mi, a chyda llawer o Aelodau eraill rwy’n siŵr, yn enwedig o ran diogelwch o amgylch ysgolion. Mae'n aml yn wir, hyd yn oed gyda’r ddarpariaeth o groesfannau sebra a phelican, bod diogelwch plant sy'n teithio i ysgolion ac yn ôl adref yn peri pryder. Yn ddelfrydol, byddai'r cyngor yn cyflogi staff patrôl croesfannau ysgol mewn ysgolion, ond, gan fod cost hynny’n amlwg yn grocbris, mae angen i gynghorau barhau i flaenoriaethu eu gwariant heb y ddarpariaeth hon. Ond a yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi, yn rhan o'u rhwymedigaethau o dan Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013, bod cyfle i awdurdodau lleol, wrth baratoi eu mapiau, feddwl yn rhagweithiol am fynd i'r afael â phryderon diogelwch ar y ffyrdd yn yr ysgolion sydd yn eu hardaloedd hwy?

Yn sicr. Pwynt y Ddeddf teithio llesol, wrth gwrs, yw annog mwy o ddiogelwch, mae cymaint â hynny yn amlwg, ond hefyd, wrth gwrs, sicrhau nad yw awdurdodau lleol yn ystyried cerdded a beicio fel ffurfiau o hamdden yn unig, ond fel math o drafnidiaeth, felly y gellir temtio mwy o bobl allan o'u ceir. Wrth gwrs, mae hynny o fudd nid yn unig i draffig ond iddyn nhw eu hunain, fel unigolion, o ran eu hiechyd. Roedd wrth wraidd y Ddeddf teithio llesol—mae John Griffiths, wrth gwrs, yno; mae’n rhywun sy’n frwdfrydig iawn am y Ddeddf, ac rydym ni eisiau gweld awdurdodau lleol yn sicrhau, yn y dyfodol, yr ystyrir beicio a cherdded yn 'normal', fel y byddent yn ei roi—yn fathau arferol o drafnidiaeth ochr yn ochr â dulliau eraill mwy traddodiadol.

Mae’n anodd cyrraedd y normalrwydd rŷch chi’n sôn amdano, Brif Weinidog, pan fo seiclo yn golygu 1 y cant o’r holl deithiau sy’n cael eu gwneud yng Nghymru a sir Benfro, ac mae cael eich lladd neu’ch anafu’n ddifrifol ar feisicl yn 33 y cant. Felly, mae yna ‘mismatch’ eithriadol fanna rhwng yr hyn sy’n cael eu cymryd ar gefn beic a’r hyn sy’n cael eu lladd a’u hanafu’n ddifrifol. Mae hynny’n arbennig o wir am bobl ifanc, lle mae gennych chi darged o ostyngiad o 40 y cant, ac rydych chi ond wedi gostwng y nifer o bobl ifanc sy’n cael eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol o 28 y cant. Mae’n ostyngiad, ond nid yw wedi cyrraedd y targed. Pa gamau pellach ydych chi’n mynd i’w cymryd i ddiogelu ffyrdd yn sir Benfro a thu hwnt, yn arbennig ar gyfer seiclwyr a phobl ifanc sy’n gorfod defnyddio’r ffordd?

Wrth gwrs, un o’r pethau bydd Deddf Cymru yn ei roi i ni yw’r pŵer dros gyflymdra. Mewn rhai heolydd, byddai’n werth, yn fy marn i, ystyried a ddylai’r cyflymdra ddod lawr er mwyn diogelu seiclwyr. Mae yna risg i seiclo, achos y ffaith nad yw seicl mor fawr â char, ond nid yw hynny’n meddwl y dylai pobl gael risg gormodol. I fi—ac rwy’n gwybod nad yw rhai o’r farn hon—mae’n bwysig hefyd sicrhau bod yna lwybrau sydd ddim ond i seiclwyr. Mae rhai yn dweud—ac rwy’n deall y ddadl hon—y dylai seiclwyr gael yr un hawliau ar yr heol â cheir, rwy’n deall hynny. Ond, i lot o bobl, nid oes ganddyn nhw’r hyder i fynd ar yr heol a chymysgu gyda cheir. I fi, y datblygiad rŷm ni wedi’i weld yn ddiweddar—er enghraifft, ffordd osgoi Pentre’r Eglwys yn Rhondda Cynon Taf, lle y mae yna lwybr seiclo wedi cael ei ddodi i mewn fel rhywbeth hollol arferol—mae honno’n un ffordd ymlaen er mwyn sicrhau bod pobl yn gallu defnyddio beiciau, yn y pen draw, mewn ffordd maen nhw’n credu sy’n saff.

Darlledwyr sy’n Derbyn Arian Cyhoeddus

5. Faint o bwys y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi ar ddarlledwyr sy'n derbyn arian cyhoeddus, o ran darparu lefelau uchel o raglenni gwreiddiol? OAQ(5)0201(FM)

Rydym ni’n credu y dylen nhw bortreadu cymunedau a diwylliant amrywiol Cymru yn briodol. Gwnaethom sicrhau bod siarter newydd y BBC yn cynnwys diben cyhoeddus llawer cryfach i ddarparu’r cynnwys hwnnw.

Diolch i chi am yr ateb yna, Brif Weinidog. Dywedodd prif weithredwr S4C, wrth roi tystiolaeth i'r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu yr wythnos diwethaf, bod 57 y cant o'u rhaglenni wedi cael eu dangos o'r blaen o'i gymharu â tharged o 20 y cant pan lansiwyd S4C ym 1982. Bydd cyllid o ffi trwydded y BBC ar gyfer S4C yn parhau i fod yn £74.5 miliwn y flwyddyn tan 2022, ac mae S4C hefyd wedi derbyn £7 miliwn gan Lywodraeth y DU. Felly, pa gamau all Llywodraeth Cymru eu cymryd i danlinellu pwysigrwydd rhaglenni gwreiddiol, cyffredinol, pan fo rhaglenni fel rhaglen ddwyieithog lwyddiannus ‘Y Gwyll’ yn cael eu canmol gan bawb a phan fo fy etholwyr yn pryderu am ddiffyg cynrychiolaeth bywydau Cymreig Saesneg eu hiaith neu ddwyieithog ar draws y rhwydwaith sector cyhoeddus?

Gan ein bod ni’n adolygu'r siarter, bydd ymrwymiad ar y BBC i adlewyrchu cymunedau amrywiol Cymru a gwledydd a rhanbarthau eraill y DU. Bydd yn rhaid iddo bellach nodi sut y bydd yn datblygu yn sgil y dyletswyddau newydd hynny, gan gynnwys gwella gwasanaethau i Gymru. Bydd yn ofynnol iddo adrodd yn fanwl ar sut y mae'n gwneud hynny. Mae hwnnw'n ddatblygiad newydd ac yn un yr ydym ni’n credu y bydd yn helpu i atal ac, yn wir, gwrthdroi'r dirywiad araf o ran rhaglenni Saesneg eu hiaith a wneir yng Nghymru.

O gofio’r bleidlais Brexit, ac, yn deillio o hynny, yr angen efallai i wella gwybodaeth pobl Cymru o beth sy’n digwydd yn y lle yma, beth sy’n digwydd yng Nghymru, gwella portread Cymru, a beth yn union y gallwn ni ei wneud yn y lle yma a beth nad ydym ni’n gallu ei wneud, pa drafodaethau, felly, ydych chi wedi eu cael gyda phwysigion y BBC ac eraill ynglŷn â’r angen dybryd i wella portread Cymru y tu mewn i Gymru a’r tu allan i Gymru?

Mae yna broblem mewn rhai rhannau o’r BBC lle nad oes yna lot o ddealltwriaeth o Gymru. Un o’r pethau rwyf i wedi trafod gyda’r BBC yw a ddylem ni gael Newyddion 6 ein hunain ac efallai Newyddion 10 hefyd. Mae hynny’n rhywbeth bydd yn rhaid inni ystyried yn y pen draw ynglŷn ag a fyddai hynny’n rhywbeth y byddwn eisiau ei weld ac ym mha ffordd y byddai hynny’n cael ei wneud. Mae’n wir i ddweud, wrth gwrs, bod yna brinder gwybodaeth gan bobl Cymru ynglŷn â beth sy’n digwydd fan hyn, beth rŷm ni’n ei wneud, ac, wrth gwrs, beth sy’n digwydd yng Nghymru ei hunain. Felly, mae yna ddyletswydd i sicrhau bod yna fwy o fanylion a mwy o newyddion ar gael i bobl Cymru sydd yn briodol i bobl Cymru hefyd.

Brif Weinidog, mae'r siarter drafft hwn yn cynnig cyfle i graffu ar y BBC ymhellach, gan gynnwys penodiad cyfarwyddwr anweithredol i'w gytuno gan Lywodraethau’r DU a Chymru. Ymhlith pryderon na fydd yr un pwysigrwydd, fodd bynnag, yn cael ei neilltuo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru â Thŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi, pa sylwadau ydych chi’n eu gwneud ar ran y Cynulliad hwn er mwyn sicrhau ein bod yn rhan o’r broses honno o wneud penderfyniadau o ran penodi cyfarwyddwr anweithredol yn ogystal â gweithrediadau pellach y BBC?

Mae'n bwynt pwysig y mae’r Aelod yn ei godi. Mae'n rhywbeth yr ydym ni’n ei ystyried ar hyn o bryd. Yr hyn y gallaf ei ddweud yw y bydd gan y Cynulliad bwerau bellach i graffu ar y BBC—nid yw wedi digwydd o'r blaen, wrth gwrs—i alw arno i ymddangos gerbron y Cynulliad a’i ddwyn i gyfrif yn uniongyrchol, sy'n ei wneud yn gyfartal â Senedd y DU.

O ran y mater y mae'r Aelod yn ei godi, mae'n rhywbeth sy’n dal, fel y dywedais, yn destun trafodaeth o ran gallu a swyddogaeth y Cynulliad Cenedlaethol yn rhan o'r broses honno.

Sgiliau Priodol yn y Gweithlu

6. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod gweithlu sydd â'r sgiliau priodol yng Nghymru? OAQ(5)0206(FM)

Un o'r pethau yr ydym ni’n ei wneud, wrth gwrs, yw creu o leiaf 100,000 o brentisiaethau ar gyfer pob oed yn ystod y tymor Cynulliad hwn, a bydd hynny’n parhau ein pwyslais ar wella sgiliau cyffredinol.

A fyddai'r Prif Weinidog yn gallu dweud wrthym ni pa gynnydd sydd wedi ei wneud o ran y paratoadau ar gyfer cyflwyno'r ardoll brentisiaeth, a gynigiwyd gan y cyn-Ganghellor, George Osborne? A beth yw canlyniadau hynny i Gymru?

Mae'n fater sy'n torri ar draws llawer o'r gwaith yr ydym ni’n ei wneud. Gwn fod y Gweinidog wedi cymryd rhan mewn nifer o drafodaethau gyda Llywodraeth y DU ar hyn. Mae'n faes lle—. Nid wyf yn credu bod llawer o fusnesau yn gwybod amdano, a dweud y gwir, oherwydd, pan fy mod wedi codi'r mater gyda llawer o fusnesau, nid ydyn nhw’n ymwybodol bod yr ardoll yn dod a beth fyddai'n ei olygu iddyn nhw o ran cost ac yn sicr nid yr hyn y gallen nhw ei gael ohono. Felly, rwy’n credu bod gan Lywodraeth y DU lawer iawn o waith i'w wneud o hyd i hysbysu busnesau am sut y byddai'n gweithio, ac yn enwedig yr hyn y mae'n ei olygu o ran cyfuno â'r rhaglenni yr ydym ni’n eu rhedeg eisoes fel Llywodraeth ddatganoledig.

Mae yna dystiolaeth, wrth gwrs, fod plant sy’n cwympo ar ei hôl hi yn y blynyddoedd cynnar, yn enwedig o safbwynt datblygiad ‘cognitive’, yn fwy tebygol o fod yn stryglo yn nes ymlaen yn eu bywyd o safbwynt cyfleon bywyd. Nawr, mae yna dystiolaeth hefyd yn dangos bod cael ymarferwyr lefel gradd o fewn y cyd-destun blynyddoedd cynnar yna yn help mawr i sicrhau nad yw hynny’n digwydd. Mae’ch Llywodraeth chi, wrth gwrs, yn mynd i gyhoeddi yn y gwanwyn cynllun gweithlu'r blynyddoedd cynnar a fydd, gobeithio, yn arfogi gweithwyr yn y sector yna â’r sgiliau angenrheidiol. A fydd y cynllun yna’n cynnwys ymrwymiad clir i sicrhau bod yr ymarferwyr yn y sector yn rhai sydd â gradd, yn enwedig, wrth gwrs, y rhai sy’n gweithio gyda phlant sy’n byw mewn tlodi?

Bydd hyn yn rhywbeth sy’n cael ei ystyried yn ystod y paratoadau cyn bod y cynllun yn cael ei gyhoeddi, ond rŷm ni’n moyn sicrhau bod y rheini sy’n gweithio gyda phlant pan fônt yn ifanc, y bobl hynny, â’r sgiliau sydd eu heisiau er mwyn sicrhau bod y llwybr gorau’n cael ei ddilyn gan y plant hynny.

Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi pwysleisio'r angen i gadw ein pobl hŷn yn y gweithlu ac i ddod â nhw yn ôl i'r gwaith hefyd. Sut wnaiff Llywodraeth Cymru sicrhau bod y 100,000 o brentisiaethau a addawyd yn ei rhaglen lywodraethu yn cael eu darparu ar sail anghenion yn hytrach nag oedran yr unigolyn yng Nghymru?

Wel, y bwriad, wrth gwrs, yw iddo fod ar gyfer pob oed. Rwy'n meddwl mai’r cwestiwn yn y fan yma yw gwneud yn siŵr ein bod ni’n gweithio gyda'r bobl hynny sydd eisiau dod yn ôl i'r gwaith. Efallai fod rhai wedi ymddeol. Efallai y byddant yn teimlo eu bod yn gyfforddus yn ariannol. Ac, wrth gwrs, i lawer o bobl sydd wedi ymddeol, nhw yw sail y gwirfoddolwyr sydd gennym ni ledled Cymru. Un o'r materion sy'n ein hwynebu fel cymdeithas, rwy’n credu, wrth i bobl weithio’n hwy, yw'r posibilrwydd y bydd llai o wirfoddolwyr yn y dyfodol oherwydd bod gan bobl lai o amser ar eu dwylo. Ond, serch hynny, holl bwynt y cynllun pob oed yw gwneud yn siŵr ei fod yn union hynny: pob oed.

Brif Weinidog, cefais gyfarfod yn ddiweddar, gyda staff Gyrfa Cymru yn Aberdâr, a dywedasant wrthyf sut y maen nhw’n defnyddio rhaglen ReAct i sicrhau bod pobl yn fy etholaeth i sydd wedi cael eu heffeithio gan ddiswyddiad yn meddu ar y sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw i chwilio am swydd arall. A ydych chi’n cytuno â mi, Brif Weinidog, bod gan Gyrfa Cymru a rhaglen ReAct ran hollbwysig i'w chwarae o ran helpu pobl i ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen i ailymuno â’r gweithlu neu aros ynddo?

Mae ReAct wedi bod yn llwyddiannus iawn, iawn ac mae’n sicr—. Mae’r enghraifft y mae’r Aelod wedi ei rhoi yn dangos hynny. O'n safbwynt ni, byddwn yn parhau i sicrhau bod cynlluniau fel ReAct ac eraill sydd wedi bod mor llwyddiannus dros y blynyddoedd yn parhau i weithio er budd pobl o ran eu galluogi i gaffael y sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw i ymuno â'r gweithlu.

Gwella’r Broses Gynllunio

7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fesurau i wella’r broses gynllunio ar gyfer darparu tai? OAQ(5)0197(FM)

Gwnaf. Mae gwelliannau i'r system gynllunio yn cael eu cyflawni trwy Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 a'r rhaglen gwella cynllunio cadarnhaol ehangach.

Brif Weinidog, mae angen i bolisi defnydd tir rhesymegol ddynodi tir, darparu cyngor o ansawdd da cyn cyflwyno cais cynllunio, ac yna annog defnydd cyflym fel nad oes gennym ni fanciau tir tybiannol yn cael eu hadeiladu. Sut gwnaiff y ddeddfwriaeth fodloni’r nodau craidd hyn?

Wel, bydd yn ceisio sicrhau—os edrychwn ni, er enghraifft, ar broses y cynllun datblygu lleol—bod hynny’n cael ei wneud mewn amser priodol. Bydd yn edrych ar ddatblygiadau penodol ac yn eu cymryd oddi wrth awdurdodau lleol fel y gellir eu hystyried yn gyflymach, nid o ran llai o fanylder ond o’r safbwynt eu bod yn cael eu hystyried yn unol ag amserlen briodol. Hefyd, wrth gwrs, bydd yn sicrhau, cyn belled ag y mae datblygwyr a'r cyhoedd yn y cwestiwn, y bydd gwell dealltwriaeth o sut y mae'r broses gynllunio yn gweithio ac ar ba adeg y mae’n rhaid nodi’r broses gynllunio. Ond, yn y pen draw, mae'n fater o sicrhau nid yn unig bod tir ar gael, ond hefyd bod amryw o wahanol fodelau ar gael o ran y math o ddaliadaeth y mae pobl yn dymuno ei gael pan eu bod yn prynu neu’n rhentu tai.

Mae cynlluniau datblygu lleol, wrth gwrs, yn ganolog i’r broses o ddarparu tai ac mae’r cynlluniau yma wedi cael eu sefydlu ar sail ystadegau hanesyddol ynglŷn â lefel y twf mewn poblogaeth. A ydych chi felly yn cytuno ei bod hi’n bryd dyfeisio dull mwy dibynadwy o fesur y galw am dai i’r dyfodol, a hefyd bod angen mwy o gydweithio strategol rhwng awdurdodau lleol pan fydd hi’n dod i ddarparu tai?

Mae yna gyfle, wrth gwrs, i awdurdodau lleol greu ffigurau eu hunain, os mae yna dystiolaeth i wneud hynny. So, lle maen nhw’n dweud nad yw’r ffigurau yn iawn, mae fe’n bosib i awdurdodau lleol ddweud, ‘Wel, mae yna ffigurau gyda ni; maen nhw’n ffigurau sydd yn cael eu cefnogi gan dystiolaeth, ac felly rheini yw’r ffigurau rydym ni’n moyn eu defnyddio.’ Mae’n fater wedyn i’r arolygydd ynglŷn â faint o bwysau fydd yn cael ei roi i’r ffigurau hynny. So, mae fe’n bosib yn barod i awdurdodau lleol ddefnyddio ffigurau gwahanol os mae yna dystiolaeth tu ôl i’r ffigurau hynny.

Ers y 1960au, adeiladwyd degau lawer o filoedd o gartrefi newydd yng Nghymru nad oeddent i fod ar gyfer prynwyr lleol erioed. Mae hyn wedi digwydd ar raddfa fawr ledled Cymru ac, yn benodol, yn fy ardal gartref i yn y gogledd-ddwyrain. Y sefyllfa a welwn yng nghefn gwlad gogledd Cymru, ac yn enwedig mewn rhannau o Sir y Fflint, yw bod cymudwyr o dros y ffin yn prynu’r tai cyn gynted ag y byddant ar gael, gan ystumio'r marchnadoedd tai lleol. Ydy, mae’r cymudwyr hyn yn ennill eu harian yn Lloegr ac yn ei wario yng Nghymru, ond ar yr un pryd maen nhw’n creu sefyllfa lle na all pobl leol fforddio prynu tai. Mae'r sefyllfa yn cael ei rheoli’n gelfydd gan gynllunwyr, datblygwyr, gwerthwyr tai ac eraill yn y sector tai fel dadl i adeiladu mwy o dai newydd fyth, y mae’r rhan fwyaf o bobl leol yn cael eu heithrio ohonynt unwaith eto. Bydd cysylltiadau trafnidiaeth gwell rhwng gogledd Cymru—

A allwch chi ddod â’ch hun at gwestiwn, os gwelwch yn dda?

Iawn. Rwy’n dod ato nawr, Lywydd.

[Yn parhau.]—ac ar hyd coridor yr A55 yn gwneud dim ond gwaethygu'r broblem. A ydych chi’n fodlon cyflwyno deddfwriaeth i gadw canran o'r stoc tai ar gyfer prynwyr lleol, ac, os felly, pryd ydych chi’n cynnig gwneud hynny?

Rydym eisoes, wrth gwrs, trwy'r system gynllunio, yn ei gwneud yn ofynnol i ddatblygwyr gadw canran benodol o ddatblygiadau tai ar gyfer tai fforddiadwy. Un o'r materion y mae'n rhaid i ni ei ystyried, rwy’n credu, yw a oes lle i ymyrryd yn y farchnad leol yn y dyfodol er mwyn sicrhau bod digon o dai ar gael, yn enwedig mewn pentrefi lle, ar hyn o bryd, nad oes unrhyw gynlluniau i adeiladu unrhyw dai. Y gwir amdani yw bod y llif trawsffiniol yno. Mae o fudd economaidd i ogledd-ddwyrain Cymru a gogledd-orllewin Lloegr gydweithio ar gyfer ffyniant y ddau ranbarth hynny. Mae'n dangos, wrth gwrs, pa mor boblogaidd yw Cymru fel gwlad i fyw ynddi pan fo pobl eisiau byw yn Sir y Fflint yn hytrach nag yn Swydd Gaer.

Adolygu TAN 8

8. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i adolygu TAN8? OAQ(5)0196(FM)[W]

Wel, mae hynny yn fy siomi, Brif Weinidog, gan fod TAN 8 wedi bod mewn lle heb adolygiad sylweddol ers 2005. Mewn ffordd, mae wedi methu o ran ei brif amcan, sef cynllunio ar gyfer ynni adnewyddol, tuag at y targed yr oedd y Llywodraeth wedi’i osod. Rydym yn bell i ffwrdd o’r targed hwnnw. Wrth gwrs, rydym yn gwybod bod grymoedd newydd dros ynni yn dod i’r Llywodraeth, hyd at 350 MW, sy’n cynnwys yr holl ddatblygiadau ynni ar y tir a hefyd pethau diddorol fel morlynnoedd hefyd. Onid yw’n briodol, erbyn hyn, i adolygu TAN 8 a chael rhyw fath o drefn gynllunio gorfodol sy’n fwy cywir yn ei lle ar gyfer yr amcanion newid hinsawdd, a hefyd i roi pwysau ar y Grid Cenedlaethol i gryfhau’r grid yn y llefydd lle mae angen gwneud hynny?

Wel, nid wyf yn credu taw’r broblem yw’r TAN. Y broblem oedd y ffiniau a oedd yn eu lle, sef y ffaith nad oeddem yn gallu delio â dim byd yn fwy na 50 MW—ac ar y môr, wrth gwrs, dim byd yn fwy nag 1 MW. Felly, wrth gwrs, nid oedd TAN 8 yn rhywbeth a oedd yn cael ei ystyried gan Weinidogion yn Llundain. Felly, nid y TAN yw’r broblem, ond y ffiniau a oedd yno i ddechrau. Rwy’n croesawu, wrth gwrs, y ffaith mai 350 MW fydd y ffin yn y pen draw. Nid oes unrhyw reswm synhwyrol am y ffigur hwnnw. Wrth gwrs, rydym i gyd yn gwybod fy marn i—a bydd ei farn e yr un peth—sef y dylem ni gael yr un pwerau ynglŷn â’r grid â’r hynny sydd gan yr Alban. Felly, y pwerau yw’r broblem, ac nid y TAN, yn fy marn i.

Masnach Rhwng Cymru ac Iwerddon

9. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fasnach rhwng Cymru ac Iwerddon? OAQ(5)0204(FM)[W]

Iwerddon yw ein pedwaredd farchnad allforio fwyaf, ac roedd allforion o Gymru i Iwerddon yn werth ychydig dros £1 biliwn yn 2015.

Yn fy etholaeth i, Ynys Môn, mae’r cwestiwn o ffiniau efo Iwerddon yn un o’r cwestiynau mwyaf allweddol o ran y drafodaeth am adael yr Undeb Ewropeaidd. Os oes ffin i gael ei gosod o gwmpas ynys Iwerddon, fel sy’n cael ei hawgrymu—ac mae Ysgrifennydd Gwladol Gogledd Iwerddon wedi dweud ei fod am gryfhau rheolaeth ffiniau ym mhorthladdoedd a meysydd awyr Iwerddon—beth yw asesiad y Prif Weinidog o effaith debygol hynny ar y man croesi pwysicaf o ran masnach rhwng Prydain ac Iwerddon, sef, yn fy etholaeth i, porthladd Caergybi?

Mae yna sawl problem. Fe wnes i sôn am y problemau hyn cyn y bleidlais. Yn gyntaf, nid oes neb am weld ffin galed yn dod yn ôl rhwng Gogledd Iwerddon a’r weriniaeth, ond nid oes neb ar hyn o bryd yn gwybod sut na allai hynny ddigwydd. Pe bai rhyw fath o system yn cael ei dodi mewn lle lle byddai’n rhaid dangos pasbort i hedfan o Belfast i Glasgow, neu o Belfast i Gaerdydd, byddai’r undebwyr, sef y DUP a’r UUP, yn hollol yn erbyn y peth. Maent wedi dweud yn barod na fyddent am weld system lle byddai rhywun yn gorfod dangos pasbort i drafaelio, fel y maen nhw’n ei gweld hi, o un rhan o’r Deyrnas Unedig i’r llall. Os taw dyna fydd y sefyllfa, nid wyf yn gweld ar hyn o bryd beth fydd yn digwydd yng Nghaergybi, nac yn Noc Penfro, nac yn Abergwaun. Am y tro cyntaf, byddai yna bolisïau mewnfudo gwahanol yn y gweriniaeth a’r Deyrnas Unedig. I mi, nid yw’n amlwg ar hyn o bryd pa fath o system fyddai yn ei lle ond am system lle byddai’n rhaid dangos pasbort. Nid oes neb am weld hynny, ond nid oes neb eto wedi dod lan ag unrhyw ffordd o ddatrys hyn. Nid yw hynny o les i drigolion Ynys Môn na Chaergybi.

3. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf ar yr agenda yw’r datganiad a chyhoeddiad busnes, ac rwy’n galw ar Jane Hutt.

Lywydd, mae gennyf ddau newid i'w gwneud i'r agenda heddiw. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant yn gwneud datganiad ar gymunedau cydnerth ac, ar ôl y ddadl heddiw, bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig yn gwneud datganiad ar ollyngiad olew yr wythnos diwethaf yn Nantycaws yn Sir Gaerfyrddin. Mae'r busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf fel y’i dangosir ar y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd ar gael i’r Aelodau ymhlith y papurau cyfarfod ar gael yn electronig.

Cyhoeddwyd heddiw y bydd Newcastle-Gateshead yn cynnal Arddangosfa Fawr gyntaf Gogledd Lloegr, ac rydym ni hefyd yn gwybod bod Manceinion yn paratoi cais am y World Expo yn 2025. A allwn ni gael datganiad gan y Llywodraeth ar ei chynlluniau i gefnogi cais gan ddinas yng Nghymru i gynnal digwyddiad mawr er mwyn arddangos arloesedd yng Nghymru? A fyddai arweinydd y tŷ yn cytuno â mi na allai fod dinas well fel ymgeisydd na dinas fawreddog Casnewydd?

Wel, rwy’n meddwl, Steffan Lewis, eich bod chi wedi codi pwynt pwysig iawn am gyfleoedd ar gyfer gwneud cais yn briodol, fel yr wyf yn siŵr y byddem ni’n ei wneud, o ran chwilio am ddigwyddiad—ac rwyf yn nodi eich ffafriaeth i Gasnewydd.

Arweinydd y tŷ, a yw'n bosibl cael datganiad gan y Gweinidog trafnidiaeth, os gwelwch yn dda, ar oleuadau ar gefnffyrdd? Yn amlwg, cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw cefnffyrdd, ond mae'n trosglwyddo’r gwaith o’u rheoli o ddydd i ddydd i awdurdodau lleol mewn llawer o achosion. Rwyf wedi sylwi, yn enwedig ar yr A48 trwy Fro Morgannwg, ond hefyd mewn ardaloedd eraill lle mae’r rhwydwaith cefnffyrdd yn rhedeg, bod nifer sylweddol o oleuadau wedi’u diffodd yn fwriadol erbyn hyn. Rwy'n tybio bod amrywiaeth o resymau pam mae hynny'n digwydd, ond byddai'n dda deall yn union pa feini prawf y mae Llywodraeth Cymru yn eu gosod o ran derbynioldeb diffodd y goleuadau hyn, sydd, mewn rhai achosion, ar gyffyrdd eithaf prysur a pheryglus. Hyd yn hyn, nid wyf wedi darganfod beth yw'r meini prawf, felly, a allwn ni gael y datganiad hwnnw gan yr Ysgrifennydd trafnidiaeth i ddeall yn eglur pa feini prawf y mae awdurdodau lleol yn gweithio’n unol â hwy yn unol â’u cytundeb rheoli gyda Llywodraeth Cymru?

Wel, mater i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith yw hwn o ran cyfrifoldebau am gefnffyrdd a chanllawiau i awdurdodau lleol o ran cynnal a chadw a rheolaeth. Wrth gwrs, ceir asesiadau risg, fel y gwyddoch, o ran diogelwch i gerddwyr ac, yn wir, i bawb sy'n teithio ar gefnffyrdd ac, yn wir, ar rwydweithiau ffyrdd lleol hefyd. Felly, byddaf yn ceisio egluro'r sefyllfa o ran goleuadau ar gefnffyrdd.

Mae aelodau Haemoffilia Cymru wedi croesawu'r cyfnod o ymgynghori penodol i Gymru a gyhoeddwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Lles a Chwaraeon yr wythnos diwethaf yn ei ddatganiad ysgrifenedig ar daliadau i bobl sy’n cael eu heffeithio gan waed halogedig a gyflenwyd gan y GIG, gan y bydd hyn yn rhoi cyfle i’w safbwyntiau penodol nhw gael eu bwydo i mewn i'r system. Felly, a wnaiff arweinydd y tŷ sicrhau bod amser, yn dilyn yr ymgynghoriad, i Ysgrifennydd y Cabinet ddod i'r Siambr i wneud datganiad ac i’n hysbysu pa ymatebion ymgynghori a dderbyniwyd, ac ar y penderfyniadau dilynol wedyn hefyd?

Diolchaf i Julie Morgan am y cwestiwn yna ac rwy’n cydnabod fy mod i’n gwybod y byddai Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd hefyd yn cydnabod eich cyfraniad a’ch cefnogaeth agos, yn enwedig i’r rhai sydd wedi eu heffeithio—ac mae grŵp Hemoffilia Cymru wedi croesawu'r datganiad a wnaed yr wythnos diwethaf. Ac, wrth gwrs, mae’n rhoi terfyn ar ansicrwydd, fel y dywed yr Aelod, am lefel y cymorth ariannol y bydd pobl yr effeithiwyd arnynt gan waed halogedig yn ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru yn y dyfodol. Ond, rwy'n credu, fel y dywedwch, bod y pwysigrwydd o ran edrych ymlaen nawr at ymatebion o ran gwaith a fydd yn cael ei wneud a'i ddatblygu yn bwysig—y trefniadau hynny ar gyfer y dyfodol; ceisio rhagor o safbwyntiau—ac rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet eisiau dychwelyd i wneud yn siŵr bod hyn yn cael ei adrodd yn ôl i'r Cynulliad a’r Senedd yn briodol.

A gaf i alw am ddau ddatganiad? Yn gyntaf ar X frau. Ddoe, a dweud y gwir, oedd diwrnod ymwybyddiaeth o X frau, ac, yr wythnos diwethaf, ymunais â theuluoedd sy'n byw gyda X frau, ymchwilydd i X frau a phrif swyddog Cymdeithas X Frau i gerdded milltir o amgylch Bae Caerdydd yn rhan o’r 'fragileXpedition' o 8,026 o filltiroedd o gwmpas y DU gyfan i godi ymwybyddiaeth o un o'r cyflyrau genetig mwyaf cyffredin, ac eto mwyaf anhysbys, yn y Deyrnas Unedig. Hwn, a dweud y gwir, yw un o’r achosion o anawsterau dysgu a etifeddir yn fwyaf cyffredin a deallir ei fod yn achos sylfaenol hyd at un o bob 20 o achosion o awtistiaeth. Mae'n effeithio ar tua 600 o bobl yng Nghymru, yn ogystal ag 8,000 arall sy'n gludwyr, ac eto mae llawer o bobl nad ydynt wedi clywed amdano. Mae hyn yn cael effaith hynod andwyol ar ddiagnosis, cymorth a thriniaeth i bobl sydd â'r cyflwr a'u teuluoedd. O ystyried mai ddoe oedd y diwrnod ymwybyddiaeth cenedlaethol, rwy’n gobeithio y bydd fy nghais am ddatganiad yn derbyn ymateb calonogol.

Yn ail ac yn olaf, a gaf i alw am eglurhad ynghylch y cyfrifoldeb am faterion sy'n effeithio ar dlodi o fewn Llywodraeth Cymru? Roeddwn i wedi cyflwyno cwestiwn—'Sut y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â thlodi yng Nghymru?'—ar y papur trefn yfory, a dderbyniwyd gan y Swyddfa Gyflwyno, ond derbyniwyd ymateb gennym gan Lywodraeth Cymru bod hyn yn rhan o bortffolio Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith, ac felly byddaf, yn hytrach, yn derbyn ateb ysgrifenedig oddi wrtho fe. Yn amlwg, mae Llywodraeth Cymru wedi ystyried tlodi fel mater cyfiawnder cymdeithasol yn draddodiadol, sy’n rhan o’r portffolio cymunedau, gyda ffactorau cyfrannol yn cynnwys teuluoedd yn chwalu, camddefnyddio sylweddau, gofal plant, diweithdra fel mater economaidd, a llawer mwy. Mae llawer o'r agweddau yn ymwneud â thlodi, fel y rhaglenni trechu tlodi a Chymunedau yn Gyntaf yn dal i fod ym mhortffolio’r Gweinidog, ac a dweud y gwir, roedd y cwestiwn yr oeddwn i’n mynd i’w ofyn yn ymwneud â thlodi plant yn benodol, ar ran Cymdeithas y Plant. Gofynnaf am eglurder ar hyn felly. Er enghraifft, ble ddylem ni gyfeirio cwestiynau am dlodi plant yn y dyfodol? Ai at yr Ysgrifennydd dros yr Economi a Seilwaith, yr Ysgrifennydd dros Gymunedau, neu fel arall? Diolch.

Diolch i'r Aelod am y cwestiynau yna, a diolchaf hefyd i Mark Isherwood am dynnu sylw at y diwrnod ymwybyddiaeth cenedlaethol ddoe o gyflwr yr wyf yn siŵr nad oedd llawer ohonom ni yn y Siambr hon yn ymwybodol ohono—ac i weld bod hwn yn gyflwr, o ran eiddilwch, sy'n effeithio ar gyfleoedd bywyd unigolyn, ac mae'n effeithio ar lawer mwy o bobl nag y byddem ni wedi bod yn ymwybodol efallai. Felly, diolchaf i’r Aelod am dynnu ein sylw ato heddiw yn y datganiad busnes.

O ran eich ail bwynt, rydych chi yn llygad eich lle, wrth gwrs, o ran mynd i'r afael â thlodi, bod hwn yn gyfrifoldeb ar draws Llywodraeth Cymru o ran cyfrifoldeb gweinidogol, ond roedd y Swyddfa Gyflwyno yn gwbl gywir, a byddwch yn gweld hyn o gyfrifoldebau portffolio, mai’r Gweinidog arweiniol yw'r Gweinidog dros yr economi a seilwaith. Ond yn amlwg, os ydych chi’n paratoi eich cwestiwn ar faterion sy'n effeithio ar blant neu dlodi plant, byddai'n mynd at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant. Mae'n gwbl eglur bod hyn yn rhywbeth lle ceir cyfrifoldeb a rennir, ond Ken Skates yw’r arweinydd ar gyfer hynny o ran y Cabinet yn ei gyfanrwydd.

Roeddwn yn gwrthwynebu'r ddeddfwriaeth a oedd yn ei gwneud yn ofynnol i asiantau gosod a landlordiaid rheoli gyflawni hyfforddiant i gael trwydded gan Rhentu Doeth Cymru, ond cafwyd y ddadl honno eisoes. Rwyf wedi cysylltu â nifer o etholwyr yn ystod y saith diwrnod diwethaf sydd wedi fy hysbysu nad yw’n ymddangos bod gan Rhentu Doeth Cymru ddigon o staff i allu derbyn galwadau ac ymholiadau gan y cyhoedd. Nawr, o ystyried y ffaith fod y dyddiad cau ar gyfer cwblhau'r hyfforddiant a chael trwydded yn prysur agosáu, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet sy'n gyfrifol am dai ar Rhentu Doeth Cymru a'i allu i gyfathrebu a derbyn galwadau ac ymholiadau gan y cyhoedd yn effeithiol?

Wel, rydym ni’n gwbl ymwybodol o'r ffaith eich bod chi’n gwrthwynebu’r hyn a oedd yn ddarn blaengar iawn o ddeddfwriaeth tai a gefnogwyd ar draws y Siambr hon. Ond mae'n bwysig, wrth gwrs, ei fod yn cael ei roi ar waith yn briodol ac yn effeithiol nawr ac felly, wrth gwrs, byddwn yn ystyried y materion hyn. Ond yn amlwg, ceir amserlen ar gyfer hyn o ran cyfrifoldebau Rhentu Doeth Cymru, a byddaf yn gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet edrych ar y mater a godwyd gennych.

4. 3. Datganiad: Cymunedau Cryf

Yr eitem nesaf ar yr agenda yw’r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ar gymunedau cryf, ac rwy’n galw ar Carl Sargeant i wneud y datganiad.

Diolch i chi, Lywydd. Mae'r Llywodraeth hon yn benderfynol o ddarparu mwy o swyddi a swyddi gwell drwy economi gryfach a thecach. Rydym ni’n ymrwymedig i wella a diwygio ein gwasanaethau cyhoeddus ac rydym yn benderfynol o adeiladu Cymru unedig, gysylltiedig a chynaliadwy. O fewn fy mhortffolio, fy mlaenoriaethau yw lles a ffyniant economaidd. Rwy'n hollol benderfynol o’u bodloni. I wneud hynny, rwy’n credu'n gryf ei bod yn amser am ddull newydd i adeiladu cymunedau cryf.

Am 15 mlynedd, mae Cymunedau yn Gyntaf wedi cefnogi pobl mewn rhai o'n hardaloedd mwy difreintiedig. Yn ystod y cyfnod hwnnw, mae'r rhaglen wedi datblygu a newid, ac yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae wedi canolbwyntio’n fwy ar gyflogadwyedd, gan weithio ochr yn ochr ag Esgyn, a nawr ein rhaglen Cymunedau am Waith a’n rhaglen Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth. Mae hyn yn hanfodol oherwydd, yn ystod y 15 mlynedd hynny, mae ein heconomi a'n cymdeithas wedi wynebu newid a her ddigyffelyb. Yn y blynyddoedd diwethaf, mae diwygiadau lles a newidiadau mewn cyflogaeth wedi cael effaith sylweddol ar deuluoedd a chymunedau. Nid oedd neb wedi dychmygu’r dreth ystafell wely neu’r contractau dim oriau pan lansiwyd Cymunedau yn Gyntaf. Yn y blynyddoedd i ddod, bydd yn rhaid i ni hefyd ymdopi â goblygiadau Brexit. Mae'n amlwg na all unrhyw un rhaglen ddiogelu cymunedau rhag newidiadau ar y raddfa hon. Roedd gan Cymunedau yn Gyntaf weithlu ymroddedig ac estynnaf fy niolch iddynt am wneud gwir wahaniaeth i filoedd o bobl. Wedi dweud hynny, nid wyf yn argyhoeddedig mai parhau i ganolbwyntio ar 52 o ardaloedd bach yw'r ffordd fwyaf effeithiol o ddarparu hyn ar gyfer Cymru.

Rwy'n ystyried cael gwared ar y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf yn raddol a sefydlu dull newydd i fynd i’r afael â heriau'r dyfodol. Mae gan bob rhan o Lywodraeth Cymru swyddogaeth wrth greu cenedl fwy ffyniannus o gymunedau cadarn. Dyna pam, drwy weithio gyda'n gilydd ar draws portffolios, rydym yn buddsoddi yn ffyniant ein cenedl: creu 100,000 o brentisiaethau i bobl o bob oed; treialu prosiect Swyddi Gwell yn Nes at Adref, sydd wedi’i gynllunio i greu canolfannau cyflogaeth a hyfforddiant mewn ardaloedd o amddifadedd economaidd uchel; darparu’r cynnig gofal plant mwyaf hael yn unrhyw le yn y DU i rieni sy'n gweithio, a sefydlu tasglu gweinidogol i ddatblygu dull newydd o wella ffyniant yng Nghymoedd y de; creu metros y gogledd a’r de; sicrhau bod pob plentyn yn cael y cychwyn gorau mewn bywyd o ganlyniad i grant amddifadedd disgyblion estynedig; a chyflawni’r gwaith o ran cynhwysiant ariannol, gan gynnwys cymorth ar gyfer gwasanaethau cynghori, undebau credyd a hyrwyddo llythrennedd ariannol.

Yn y cyd-destun hwn y byddwn ni’n ystyried o'r newydd yn ystod y misoedd nesaf sut y gall Llywodraeth Cymru gynorthwyo cymunedau cryf. Ac mae hyn yn golygu cymunedau sy'n cael eu grymuso a’u hymgysylltu, cymunedau sy'n barod ac yn gallu gweithio a chymunedau sy'n gallu cynnig y dechrau gorau mewn bywyd i blant—cymunedau diogel a chryf yr ydym ni oll ymroddedig i’w sicrhau. Bydd angen i'n dull newydd adlewyrchu yr effeithiau parhaus yn sgil y cyni economiadd. Yn amlwg, mae yna benderfyniadau anodd i’w gwneud. Rwyf eisiau canolbwyntio, felly, ar dri maes allweddol wrth symud ymlaen: cyflogaeth, y blynyddoedd cynnar, a grymuso.

Ynglŷn â chyflogaeth, rwy’n dymuno gweld cymunedau cryf lle mae modd cael gafael ar swyddi a phobl sydd â'r sgiliau cywir i'w llenwi. Mae cyflogaeth yn cynnig y ffordd orau, fwyaf cynaliadwy o ddianc rhag tlodi, ac mae'n hanfodol ar gyfer yr ymagwedd newydd at gymunedau. Rydym wedi gwneud ymrwymiad sylweddol i Esgyn a Chymunedau am Waith, a gallaf gadarnhau heddiw y bydd yr elfennau pwysig hyn o'r rhaglenni yn parhau fel y cynlluniwyd. Ar draws y Llywodraeth, rydym ni’n sicrhau ffyniant i bawb. Bydd creu cynnig gofal plant hael ar gyfer rhieni sy'n gweithio yn helpu i gael gwared ar un o'r prif rwystrau sy’n atal cyflogaeth, yn ogystal â darparu manteision hirdymor ar gyfer ein plant. Ar gyfer y blynyddoedd cynnar, mae cymunedau mwy cydnerth yn atal ac yn amddiffyn plant rhag effeithiau profiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Mae profiadau niwediol yn ystod plentyndod yn fygythiad mawr i les a ffyniant economaidd. Mae mynd i'r afael â phrofiadau niwediol yn ystod plentyndod yn gofyn i ni fod yn ddoethach o ran ymyrryd yn gynt ym mywydau aelodau ieuengaf ein cymdeithas.

Lywydd, nid wyf yn diystyru'r heriau o ran gwneud hyn, ond os ydym ni am dorri'r cylch dieflig, mae'n rhaid i ni symud ein hadnoddau i ganolbwyntio ar atal a diogelu. Gallwn wneud mwy yn ein cymunedau i amddiffyn yn erbyn y difrod sy’n cael ei achosi gan brofiadau niwediol yn ystod plentyndod, a heddiw, rwy’n gwahodd sefydliadau i ymuno â ni i ddatblygu parthau plant yng Nghymru, gan gydweithio’n ddidrafferth i wella canlyniadau ar gyfer plant a phobl ifanc. Bydd hyn, ynghyd â pharhad Dechrau'n Deg a Theuluoedd yn Gyntaf, yn cefnogi plant dan anfantais i gael y dechrau gorau posibl mewn bywyd.

O ran grymuso, rwy’n dymuno i gymunedau cryf gael seilwaith lleol cryf ac arweinyddiaeth gref a chynhwysol. Mae byrddau gwasanaethau cyhoeddus, a sefydlwyd gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, yn cynnig dull hanfodol er mwyn cyflawni hyn.  Mae gan awdurdodau lleol hefyd swyddogaeth allweddol o ran dod o hyd i ffyrdd o wella lles cymunedau lleol, drwy ymgorffori dulliau integredig, cydweithredol, hirdymor ac ataliol, wrth adlewyrchu amrywiaeth lawn y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Mae’n rhaid i awdurdodau lleol a darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus gymryd yr awenau yn awr. Byddaf yn ymgysylltu â nhw, yn eu herio a'u cefnogi i sicrhau llwyddiant. Byddaf yn cynnig y cyfle i’r awdurdodau lleol hynny sy'n arwain y ffordd, sy’n cael eu cefnogi gan eu darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus i ddatblygu dull mwy integredig a grymusol, i dreialu mwy o ryddid a hyblygrwydd ariannol ar draws rhaglenni. Bydd y dull hwn yn adeiladu ar waith Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol i ddiwygio llywodraeth leol, gan sicrhau mwy o gyfranogiad mewn cymdeithas sifil a democratiaeth.

Rwyf hefyd yn disgwyl i gymunedau sy’n cael eu grymuso fod â gwasanaethau cyhoeddus integredig ac ymatebol. Dyna pam yr ydym yn ymrwymedig i gryfhau'r ddarpariaeth o ran iechyd a gofal cymdeithasol yn y gymuned, gan symud y rhain, lle bo modd, i ffwrdd o ysbytai ac i gymunedau. Mae ysgolion a cholegau hefyd yn chwarae rhan hanfodol, felly byddwn ni’n treialu model newydd o ganolfannau dysgu cymunedol, a fydd yn ehangu gallu’r gymuned i gael gafael ar wasanaethau, gan gynnwys gofal plant, cymorth rhianta a dysgu teuluol. Byddwn ni’n hyrwyddo’r broses o gydleoli ac integreiddio gwasanaethau, gan adeiladu ar fodelau llwyddiannus a ddatblygwyd ar draws Cymru a thu hwnt.

Caiff cymunedau cryf eu grymuso â llais cryf yn y penderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywydau bob dydd. Byddwn ni’n datblygu ymagwedd ‘wedi’u creu yng Nghymru’ tuag at asedau cymunedol. Byddwn ni’n cyflwyno mesurau i’w hatal rhag cau heb fod angen, ac yn helpu cymunedau i gymryd perchnogaeth o asedau cymunedol, pan fo hynny'n briodol. Yn rhan o hyn, ac, yn wir, drwy gydol ein dull newydd o weithio gyda chymunedau, y mae swyddogaeth bwysig ar gyfer y trydydd sector.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Nid yw newid byth yn hawdd, ac ni allwn osgoi’r heriau newydd a difrifol sy'n ein hwynebu. Yn hytrach, mae'n rhaid i ni ddod o hyd i ffordd newydd i ymateb. Gan ddechrau yn awr, byddwn yn ymgysylltu â rhanddeiliaid mewnol ac allanol ar ein hymagwedd yn y dyfodol, gan gynnwys y cynnig i gael gwared ar y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf, a sut y byddwn yn parhau i ddarparu Cymunedau am Waith ac Esgyn. Byddwn ni’n gofyn am safbwyntiau am sut yr ydym yn ymgysylltu â chymunedau, eu cefnogi a’u cryfhau gan ddilyn ein dull newydd, sy'n canolbwyntio ar gryfhau cymunedau ymhellach, er mwyn hyrwyddo cyfleoedd i bawb. Rwy’n disgwyl gwneud datganiad pellach yn y flwyddyn newydd.

Nodaf ddatganiad Ysgrifennydd y Cabinet, ac rwy’n credu ei bod yn bwysig i ni i ddweud, fel plaid, fod y rhaglen flaenllaw yr ydych chi’n cyhoeddi eich bod am gynnal adolygiad ohoni a chael gwared ohoni heddiw wedi bod yn destun cryn graffu dros y blynyddoedd yma yn y Cynulliad Cenedlaethol. Yn wir, rydym yn ôl pob tebyg wedi cael adolygiad ar ôl yr adolygiad, gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, y pwyllgor cymunedau, ac yn y blaen, yn pwyso a mesur sut y gallwn ni gynnal a chefnogi ein cymunedau.

Eto i gyd, hoffwn ofyn cwestiwn i Ysgrifennydd y Cabinet. Rwyf wedi darllen rhan olaf y datganiad ychydig o weithiau, ac rydych chi’n dweud y byddwch chi’n datblygu dull ‘wedi’i greu yng Nghymru’ tuag at asedau cymunedol, ac y bydd y trydydd sector yn chwarae rhan bwysig. Ond roeddwn i wirioneddol o’r farn mai dyna beth oedd bwriad Cymunedau yn Gyntaf, ac roeddwn i’n meddwl ein bod am drawsnewid cymunedau, fel y byddent, erbyn hyn, ar ôl blynyddoedd lawer o ddatganoli, wedi’u grymuso yn y modd yr ydych chi wedi ei nodi yn y datganiad. Felly, hoffwn ddeall, os ydych chi am gael gwared ar Gymunedau yn Gyntaf, beth fydd eich gweledigaeth ar gyfer gwneud gwahaniaeth yn y dyfodol? Ai cynllun mawr arall fydd y weledigaeth honno, megis Cymunedau yn Gyntaf, neu ai cynlluniau llai, mwy tameidiog o bosibl, oherwydd dyna pam, yntê, y gwnaethom ni symleiddio Cymunedau yn Gyntaf, er mwyn inni allu deall, o bosibl, pam nad oedd rhai o'r cynlluniau yn gweithio yn ein cymunedau mewn gwirionedd, ac eraill yn gweithio? Felly, hoffwn glywed ychydig mwy am hynny.

Nid wyf yn anghytuno â’r tlodi sydd wedi’i etifeddu yn bennaf o ganlyniad i ddad-ddiwydiannaeth—problemau sylweddol sy'n ein hwynebu o hyd. Ond, mae’n rhaid i mi ddeall sut yr ydych chi am fynd i’r afael â’r heriau penodol hynny yn awr. Fy marn bersonol i, ar ôl bod yma ers blynyddoedd lawer erbyn hyn, yw ein bod ni’n dda iawn am drin symptomau tlodi, ond nid yr hyn sy’n ei achosi. Ac felly mae angen i ni fynd i'r afael â hynny. Os na chafodd Cymunedau yn Gyntaf ei sefydlu mewn ffordd a oedd yn dileu tlodi yn ein cymunedau, mae angen i ni gael syniadau ffres, ond cydnabod wedyn, o bosibl, mewn llawer o feysydd, nad fu mor llwyddiannus ag yr ydych chi ac aelodau eraill o’ch plaid wedi honni yn ystod yr holl flynyddoedd y mae’r sefydliad hwn wedi bod mewn bodolaeth.

Ynglŷn â chyflogaeth, mae’r rhaglenni wedi’u hamlinellu yn y datganiad, ond a fydd hyn mewn gwirionedd yn mynd law yn llaw â datblygiad economaidd? Sut y byddwch chi’n gweithio gyda'ch cydweithiwr yn y maes hwnnw? A fyddwch chi’n gweithio'n agosach â'ch cyd-Weinidogion i sicrhau bod mwy o swyddi ar gael i bobl? Rwyf hefyd yn gofyn sut y bydd gofal plant yn cael ei ddiogelu pan fo Teuluoedd yn Gyntaf, sy'n darparu llawer o'r cynlluniau hyn ar draws fy rhanbarth i, ac mewn mannau eraill, wrthi’n yn cael ei adolygu ar hyn o bryd.

Hefyd—fel rhai pobl eraill yma heddiw mae’n debyg—nid wyf yn gwybod mewn gwirionedd beth yw parthau plant, felly byddai dda ceisio dysgu beth ydynt. Oherwydd mae gennym gryn dipyn o gynlluniau yn y maes hwnnw. Felly, pam y gwnaethoch chi ddewis gwneud hynny yng nghyd-destun cymunedau, ac nid drwy'r system addysg?

Yn amlwg, fy angerdd i yw cynhwysiant ariannol, felly hoffwn gael deall gennych chi, Ysgrifennydd y Cabinet, sut y byddwch chi’n mynd ati i gyflwyno'r cynllun gweithredu er mwyn diweddaru’r strategaeth sy’n ymwneud â chynhwysiant ariannol, y neilltuais i ac eraill lawer o amser iddi yn y Cynulliad blaenorol. Eto, rwy’n credu bod hwn yn sgil bywyd allweddol ac os gallwn ni gael pobl allan o dlodi drwy sicrhau bod ganddynt y sgiliau i adael yr ysgol, i adael gyda’r arfau hynny yn barod, o fewn y system, yna byddwn, yn fy marn i, yn gallu mynd i'r afael â rhai o’r agweddau sylfaenol ar dlodi.

Mae’r pwynt olaf yr hoffwn ei wneud yn ymwneud â'r rhan ynglŷn â grymuso a'r byrddau gwasanaethau cyhoeddus. A ydych chi’n gweld hynny fel y prif faes y bydd y grymuso hwn yn deillio ohono? A ydych chi’n astudio gwledydd eraill a ffyrdd eraill o weithio, fel y gall cymunedau wir gymryd rhan mewn trafodaethau yng Nghymru? Oherwydd rwy’n credu fy mod wedi sefyll i fyny, fel y mae llawer o Aelodau o’ch ochr chi eich hun, pan fuom yn siarad am drosglwyddo asedau cymunedol a phan fuom yn siarad am wirfoddolwyr yn cymryd cyfrifoldeb dros wasanaethau yn eu cymunedau. Mae angen i ni ddeall sut y byddant yn gallu gwneud hynny heb fod ganddynt yr adnoddau ar gael mewn gwirionedd, ac efallai y rhagwelir hynny yn eich datganiad heddiw neu efallai ddim.

Felly, byddwn ni’n cadw llygad barcud ar yr hyn sy'n digwydd yma. Nid ydym yn gwrthod yr adolygiad, ond mae angen i ni ddeall pam yr ydych chi wedi dod i'r penderfyniad penodol hwnnw, yn enwedig o ystyried eich bod wedi lansio'r tasglu newydd—mae’n ddrwg gennyf, nid chi, ond eich cydweithiwr, Alun Davies—ar gyfer y Cymoedd, a sut y bydd hynny i gyd yn integreiddio gyda'i gilydd, oherwydd yr hyn nad ydym am ei weld yma heddiw yw mwy o seilos a mwy o Weinidogion yn gweithio yn erbyn ei gilydd, nid mewn ystyr negyddol ond yn eu hadrannau eu hunain, ac nid yn gweithio gyda'i gilydd fel cenedl i ddarparu ar gyfer pobl Cymru.

Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i Bethan Jenkins am ei chwestiynau ystyriol yn y fan yna. Rwy’n credu, er bod yr Aelod wedi crybwyll y mater ynglŷn â Chymunedau yn Gyntaf, mewn gwirionedd ceir llawer yn y datganiad, rwy’n credu, sy’n eithaf cyffrous ac yn gyfle i yrru Cymru yn ei blaen. Rhof rai enghreifftiau i’r Aelod o'r dewisiadau yr ydym wedi eu gwneud a'r rhesymeg y tu ôl i rai ohonynt.

Rydym yn gwybod bod rhaglen Cymunedau yn Gyntaf, am 15 mlynedd, wedi’i hymwreiddio yn ein cymunedau ac rydym wedi bod yn awyddus i sicrhau ein bod yn helpu cymunedau i dyfu. Ffyniant yw'r sbardun allweddol yma—swyddi a thwf a sgiliau. Mae ymrwymiad y Llywodraeth hon yn ddeublyg: cryfder economaidd wrth gynnig swyddi a sgiliau i bobl ar draws ein cymunedau a lles yn nhermau lles unigolion a'r gymuned.

Mae'r Aelod yn hollol gywir i godi'r mater ynghylch pam yr ydym ni wedi creu parthau plant neu ganolbwyntio ar ACEs yn yr adran hon, ac mae hyn oherwydd bod y trosoledd sydd gennyf yn yr adran hon yn ymwneud â phlant ac mae'n cyffwrdd â phob un o adrannau fy nghydweithwyr mewn rhyw ffordd neu’i gilydd. Rwyf eisoes wedi cael sgyrsiau gyda thri Aelod a chanddynt farn ar addysg, ac mae’n farn a rennir gan Ysgrifennydd y Cabinet. Oni bai ein bod yn gallu gwneud yn siŵr bod lles yn cael ei ymgorffori yng nghryfder y plentyn fel unigolyn, mewn gwirionedd mae cyrhaeddiad yn amhosibl iddynt. Nid oes modd i chi gael pobl sy'n dioddef o drais yn y cartref neu gamddefnyddio alcohol neu gamddefnyddio cyffuriau i ddysgu, felly mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr yr hyrwyddir lles yr unigolyn yn gyntaf. Dyna pam fod y dull atal ac ymyrryd o ran hyn a'r parthau plant—. Yr hyn y byddwn ni’n ei wneud yw gweithredu dull cofleidiol sy’n ystyried plant a'u teuluoedd mewn ardaloedd. Rydym ni’n mynd i ymgymryd â rhywfaint o waith ymyrraeth arbrofol ledled Cymru a gobeithio cyflwyno hynny yn ehangach wedyn.

Felly, beth arall ydym ni'n mynd i'w wneud wedyn? Os nad Cymunedau yn Gyntaf, beth fydd y rhaglen honno? Mae rhan o hynny yn ymwneud â'r drafodaeth y byddwn yn ei chael yn ystod y misoedd nesaf i ddeall y broses ymadael, ond hefyd yr hyn y mae angen i ni ei wneud i ddatblygu’r rhaglenni sydd gennym ar waith eisoes, a sut y gallwn eu gwella. Soniais yn fy natganiad am raglenni Teuluoedd yn Gyntaf a Dechrau'n Deg, sy'n ddwy raglen allweddol wrth fynd i’r afael â’r camau y cawsant eu sefydlu i'w cymryd. Ond, lle mae gennym rai awdurdodau lleol sy’n dweud wrthym, 'Os gallwn ni gael rhywfaint mwy o hyblygrwydd rhwng y ddwy raglen hynny'—. Rwyf wedi cael sgyrsiau gyda llawer yn y Siambr hon ynglŷn â lle’r oedd Cymunedau yn Gyntaf yn llym iawn o ran dull yn seiliedig ar le ar gyfer cefnogaeth. Bydd yr hyblygrwydd rhwng y ddwy raglen hynny, rydym yn gobeithio, yn gallu targedu’r ymyriaethau fel nad ydynt yn seiliedig ar le yn unig, ond ei bod yn bosibl i bobl sy’n byw y tu allan i'r ardaloedd hynny sydd wirioneddol angen y gefnogaeth allu cael gafael ar gefnogaeth o’r ardaloedd hyn. Mae'r darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yn elfen allweddol yn y ddeddfwriaeth a basiwyd gennym yn rhan o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae'n ymwneud â chreu cynllun lles, adnabod eu cymuned a deall bod cynhwysiant ac ymgysylltedd yn rhan o egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Rwy’n disgwyl i'r Gweinidog, a hefyd y comisiynydd fod i fod yn gadarn wrth sicrhau bod hynny’n digwydd ar draws Cymru.

O ran y mater lle mae'r Aelod yn sôn am gynhwysiant ariannol, gwn fod gan yr Aelod hanes hirsefydlog o gynhwysiant ariannol, a byddaf yn cynnig y cyfle i gyfarfod â’m staff i siarad am y rhaglen cynhwysiant ariannol a beth arall y gallwn ni ei wneud ar gyfer cymunedau, a defnyddio ei harbenigedd yn y maes er mwyn helpu i ysgogi gwelliant mewn cymunedau ac ar eu traws yng Nghymru.

Rwyf yn croesawu eich datganiad. Rydych chi’n dweud eich bod am dorri'r cylch dieflig a symud adnoddau i ganolbwyntio mwy ar atal ac amddiffyn, ac rydych chi’n nodi swyddi, a rhoi'r sgiliau a'r gefnogaeth gywir i bobl ar gyfer y swyddi hynny, profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a grymuso—grymuso mewn cymunedau a grymuso cymunedau. Mae hyn i gyd yn rhywbeth yr wyf wedi bod yn dadlau drosto am flynyddoedd lawer ac yn ystod yr wythnosau diwethaf. Rwy'n gobeithio bod hyn yn golygu efallai y byddwch chi, yn y dyfodol, yn cefnogi rhai o'r cynigion hynny.

Wrth gynnig cael gwared ar raglen Cymunedau yn Gyntaf, rydych yn datgan:

‘Caiff cymunedau cryf eu grymuso â llais cryf yn y penderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywydau bob dydd.... helpu cymunedau i gymryd perchnogaeth o asedau cymunedol, pan fo hynny'n briodol. Yn rhan o hyn, ac, yn wir, drwy gydol ein dull newydd o weithio gyda chymunedau, y mae swyddogaeth bwysig ar gyfer y trydydd sector.’

Pam, gyda'r fantais o allu edrych yn ôl, na wnaethoch chi dderbyn argymhellion adroddiad y comisiwn CGGC, 'Cymunedau yn Gyntaf—Ffordd Ymlaen', bum mlynedd yn ôl, a oedd yn dweud yr union beth hynny? Yn anffodus, er gwaetha’r dadleuon a gyflwynwyd gennyf i ac eraill ar y pryd, gwnaethoch chi’n bersonol wrthod hynny.

Am 15 mlynedd ar ôl i Gymunedau yn Gyntaf gychwyn, roedd lefelau tlodi plant yng Nghymru yn uwch na’r lefelau yn Lloegr, yr Alban a'r DU, ac felly hefyd yr oedd y ffigurau ar gyfer diweithdra ymhlith pobl o oedran gweithio. Hyd yn oed oedolion o oedran gweithio yng Nghymru sy’n byw mewn tlodi, a fesurir gan y lefel incwm canolrifol 60 y cant—. Mae’r lefel wedi aros yr un fath, yn ôl Bevan, ag yr oedd ym 1997, 1998, 1999 ac yn 2000—dechrau’r cyfnod o ddatganoli, dechrau’r rhaglenni Cymunedau yn Gyntaf.

Y llynedd, dywedodd y comisiwn ar symudedd cymdeithasol a thlodi plant yn ei adroddiad ar gyflwr y genedl fod:

Tueddiadau mewn cyflogaeth yn symud i'r cyfeiriad iawn, ond mae gan Gymru gyfraddau uwch o gyflogau isel na gwledydd eraill y DU, gan gadw llawer o blant mewn teuluoedd tlawd sy’n gweithio

a bod:

Cyrhaeddiad addysgol yng Nghymru ar bob lefel... yn parhau i fod yn annerbyniol o isel.

Sut ydych chi’n ymateb i'r datganiad bod angen i Lywodraeth Cymru sicrhau y bydd gwasanaethau a chymorth ar gael i bob teulu, gan gynnwys y rhai hynny nad ydynt wedi'u lleoli yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig? Mae’n amlwg fod angen i ni ailystyried yn llwyr y ffordd yr ydym yn cefnogi ein cymunedau, rhywbeth y mae'r sector wedi bod yn ei ddweud ers hydoedd. A ydych chi’n cytuno, felly, fod angen i Lywodraeth Cymru ystyried ffyrdd o feithrin gallu mewn cymunedau lleol er mwyn iddynt allu cymryd yr awenau ar brosiectau adfywio yn hytrach na bod Llywodraeth Cymru yn penderfynu beth y dylai’r prosiectau a'r rhaglenni hynny fod yn uniongyrchol, neu drwy gomisiynu darparwyr rhaglenni?

Bythefnos yn ôl, cynhaliais ddigwyddiad gyda Rhwydwaith Cydgynhyrchu Cymru, Lives Through Friends, a thîm o sefydliadau dan arweiniad defnyddwyr a dinasyddion yn y Cynulliad, i hwyluso sgwrs ynglŷn â sut y mae llawer mwy i fywyd na gwasanaethau, gan gydnabod bod llunwyr polisi, am yn rhy hir, wedi methu â meithrin cymdeithas ofalgar, ac yn gynyddol wedi ailddiffinio gofal yn drafodiad ariannol, ac yn sgil hynny wedi gwastraffu arian cyhoeddus, lleihau dinasyddiaeth a gwanhau cymunedau.

Mae Cyngor Gofal Cymru am gyflwyno dosbarthiadau arbenigol yn ymwneud â chydgynhyrchu a bydd gweithdai yn cael eu cynnal gan Ganolfan Cydweithredol Cymru. Sut y byddwch chi a'ch swyddogion yn ymgysylltu â'r rhaglenni hyfforddi hynny fel bod Llywodraeth Cymru yn gwbl ymwybodol o’r rhaglenni cymunedau cryf hyn sydd eisoes yn cael eu darparu yng Nghymru ac a allai arwain y ffordd ymlaen? Yn wir, nododd Rhwydwaith Cydgynhyrchu Cymru fod y tîm 1000 o Fywydau yn Iechyd Cyhoeddus Cymru yn un o’r hoelion wyth sy’n cefnogi hwn a mentrau cydgynhyrchu eraill. Mae Swyddfa Archwilio Cymru ar flaen y gad wrth werthuso cydgynhyrchiol a mentrau newid ymddygiad. Mae Gweithio Gyda Nid I yn adeiladu rhwydwaith mawr yn y gogledd, ac mae cysylltiadau â'r Ysgol Ymchwil Gofal Cymdeithasol a llu o sefydliadau yn y sector statudol a'r trydydd sector eisoes yn gwneud i bethau ddigwydd ar lawr gwlad. Sut y byddwch chi’n ymgysylltu â hwy, eto, yn y gobaith o rannu syniadau cynllunio, dylunio a chyflwyno er mwyn datblygu hyn?

Yn olaf, o ran y thema honno, sut y byddech chi’n ymateb i bryderon a fynegwyd gan Oxfam Cymru, a ddywedodd fod dyfodol y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf, rhaglen fwyaf Llywodraeth Cymru ar gyfer mynd i’r afael â thlodi, yn dal i fod yn ansicr yn rhaglen lywodraethu Llywodraeth Cymru, 'Symud Cymru Ymlaen', ac maent yn awgrymu diwygiadau i Gymunedau yn Gyntaf yn seiliedig ar y dull bywoliaethau cynaliadwy. Fel y maen nhw'n dweud, mae’r prosiect tair-blynedd hwn, sef Adeiladu Bywoliaeth a Chryfhau Cymunedau yng Nghymru wedi helpu dros 1,100 o bobl i gael trefn ar eu bywydau, gan helpu pobl i nodi eu cryfderau a'u hasedau er mwyn nodi’r problemau sylfaenol sy’n eu rhwystro rhag cyrraedd eu potensial. Maent yn dweud hefyd ei fod yn gwneud synnwyr ariannol, gan ei fod yn sicrhau adenillion cyfartalog o £4.39 am bob £1 sy’n cael ei gwario ar draws Cymru—rhywbeth, rwy’n credu, yr ydym wedi ei bwysleisio mewn dwy ddadl ddiweddar yn y Cynulliad. Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru, yn ôl yr hyn y maen nhw’n ei ddweud, sicrhau newid parhaol. A ydych chi felly yn cytuno â nhw y byddai ymgorffori'r dull bywoliaethau cynaliadwy neu’r dull datblygu yn seiliedig ar asedau ym mhob darpariaeth polisi a gwasanaeth yng Nghymru yn helpu pobl i ddianc rhag tlodi ac yn helpu i adeiladu cymunedau cryf? Diolch.

Diolch i chi, Lywydd, ac rwy'n ddiolchgar am gyfraniad Mark Isherwood. Rwy’n credu, yn sail i hynny i gyd, roedd Mark mewn gwirionedd yn dweud yn gynnil, 'Da iawn' wrth y Gweinidog, gan fy mod o’r farn ei fod mewn gwirionedd yn cytuno â ni, ar y sail ei fod yn ceisio cymryd clod am rywfaint o hynny. Ond, o ddifrif, cododd yr Aelod ambell fater y gallaf ymhelaethu arnynt. Pam na chymerwyd y penderfyniad bum mlynedd yn ôl, a pham y gwnaethom ni wrthod cytuno â'r argymhellion yn yr adroddiad? Wel, gwnaethom ni ddim; gwnaethom newidiadau i'r rhaglen ar y pryd a chynyddu'r cyfleoedd yn ymwneud â chyflogadwyedd, ac roedd yr adroddiad annibynnol diwethaf yn cefnogi'r model rhesymeg pan newidwyd pwyslais rhaglen 2012. Felly, fe wnaethom ni rai newidiadau. Ond, dyma ble yr ydym ni ar hyn o bryd. Fel y dywedais yn y datganiad, pan gafodd rhaglen Cymunedau yn Gyntaf ei datblygu, ni ragwelodd neb o gwbl gontractau dim oriau neu’r newidiadau yn ymwneud â Brexit neu’r materion cyflogaeth. Mae'r rhain yn bethau y mae'n rhaid inni fynd i'r afael â nhw yn awr ac yn y fan hon, ac rwyf wedi fy nghyffroi gan y cyfle newydd sbon yn gysylltiedig â’r rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf a'r rhaglen Dechrau'n Deg, sy’n ymyraethau llwyddiannus iawn—100,000 o brentisiaethau newydd ar gyfer bob oed a'r rhaglen gofal plant, sef y setliad gorau ar gyfer rhieni sy'n gweithio o ran gofal plant yn unrhyw le yn y DU, a fydd yn cael ei gyflwyno yn ein cymunedau i helpu a chefnogi'r bobl yr wyf i ac yntau yn eu cynrychioli.

O ran ymgysylltu, rwy'n awyddus iawn i weithio gyda'r holl sefydliadau i weld sut y gallwn ni sicrhau darpariaeth well ar gyfer ein cymunedau. Cododd yr Aelod rai rhaglenni penodol iawn, ac nid oes gennyf farn ar y rheiny, ond bydd gweithio gydag asiantaethau megis CGGC yn sicrhau y gallwn gyrraedd cymunedau y mae’r Llywodraeth weithiau’n ei chael hi’n anodd eu cyrraedd drwy’r rhaglen ymgysylltu.

Nid wyf yn cytuno â'r Aelod ynghylch barn Oxfam fod y Llywodraeth hon wedi colli ei ffordd wrth hyrwyddo a mynd i'r afael â thlodi. Dywedodd Jane Hutt yn gynharach am Ken Skates yn goruchwylio gwaith y Llywodraeth ar fynd i'r afael â thlodi, ac rwyf i’n gyfrifol am rai o'r rhaglenni, yn enwedig tlodi ymysg plant a phobl ifanc, ond cyfrifoldeb y Llywodraeth gyfan yw mynd i'r afael â'r mater o dlodi. Mae'r Prif Weinidog wedi bod yn glir iawn: nid yw’r ffaith nad yw’n cael ei grybwyll yn y rhaglen lywodraethu yn golygu nad oes gennym ddiddordeb. Os yw'r Aelod yn dymuno cynnwys popeth, yna byddai’n cwyno bod y rhaglen lywodraethu yn dair dogfen swmpus iawn sy’n rhestru popeth yr ydym yn ei wneud. A allaf sicrhau'r Aelod fod gan dlodi le amlwg ar yr agenda er mwyn sicrhau ein bod yn mynd i'r afael â hyn ar draws y Llywodraeth, ac nid dim ond fi neu Ken Skates, ond holl Weinidogion y Llywodraeth hon?

Diolch yn fawr iawn. Rydym wedi cael rhai cyfraniadau helaeth gan y llefarwyr. Mae gennyf i nifer o bobl sy'n dymuno siarad, ac mae mwy yn ychwanegu eu henwau at y rhestr hefyd, felly a allaf ofyn i Aelodau yn awr os gallent gyflwyno eu cwestiynau yn gryno iawn? Nid yw hynny'n wahoddiad i chi roi araith tri munud o hyd—dim ond cyflwyniad byr i'ch cwestiwn ac yna gall eich cydweithwyr eraill i gyd siarad yn y ddadl hon. Mike Hedges.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yn gyntaf oll, hoffwn fynegi fy siom ynghylch y datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy’n credu bod Cymunedau yn Gyntaf yn gwneud gwaith rhagorol yn fy etholaeth i. Ond rwyf wedi dweud ers blynyddoedd y dylai Cymunedau yn Gyntaf a Dechrau'n Deg fod yn seiliedig ar gymunedau, nid yn cael eu llywio gan y ffordd y mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn penderfynu casglu data. Mae hynny yn gyffredinol wedi’i wrthod gan wahanol Weinidogion, gan gynnwys yr un presennol. A allaf ddechrau â phwynt cadarnhaol? Rwy’n croesawu parhad y cynllun Esgyn. Y cwestiwn sydd gennyf yw: ar ôl Cymunedau yn Gyntaf, beth sy'n mynd i ddigwydd i'r canlynol: gwaith sy’n cael ei wneud i leihau biliau cyfleustodau; cynlluniau rhoi’r gorau i ysmygu a hyrwyddo cartrefi di-fwg; hybu ymarfer corff a gweithgarwch corfforol; rhaglenni colli pwysau; ailgylchu dillad; y cynlluniau tyfu bwyd a bwyta'n iach; y rhaglen cynllunio ariannol personol; y cynllun dysgu fel teulu; cefnogi dysgu plant; clybiau gwaith cartref a’r holl waith rhagorol arall sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd gan Gymunedau yn Gyntaf yn fy etholaeth i?

Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am godi'r materion ynglŷn â’r pethau y mae Cymunedau yn Gyntaf yn eu gwneud yn dda iawn, ac rwyf hefyd yn clodfori’r gwaith sy'n cael ei wneud mewn llawer o gymunedau, a wnaed gan staff a gwirfoddolwyr ar draws y 52 o ardaloedd yng Nghymru. Ond, fel yr wyf wedi’i ddweud, mae'n rhaid i ni ystyried y sefyllfa bresennol sydd ohoni, ac rwy’n credu bod ymyraethau llawer cryfach y gallwn ni eu gweithredu drwy raglenni eraill. Ac mae’r holl bethau y mae'r Aelod yn eu codi yn bwysig; maen nhw’n bwysig iddo ef ac i'r gymuned y mae ef yn ei chynrychioli. Nid wyf yn dweud y dylem ni gael gwared arnyn nhw ychwaith; rwy’n dweud bod yn rhaid inni gael dull newydd er mwyn mynd i'r afael ag atal ac ymyrryd yn gynnar, fel yr wyf wedi’u rhestru yn fy natganiad. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda'r Aelod a chymunedau i benderfynu ar y ffordd orau o wneud hyn. Rwy'n credu bod llawer o hyn eisoes yn cael ei lywio gan bobl leol sy'n adnabod eu cymunedau yn dda iawn, sy’n gweithio ochr yn ochr â sefydliadau eraill fel Iechyd Cyhoeddus Cymru, sydd â hanes da a chadarn o ymdrin â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod a mynd i’r afael â rhai o'r materion y mae'r Aelod yn eu codi heddiw. Ceir ffyrdd eraill o ddarparu'r gwasanaethau hyn, ac edrychaf ymlaen at y drafodaeth a fydd yn digwydd ar ôl y datganiad hwn.

Weinidog, rwy’n edrych ar yr adran sy'n cyfeirio at wasanaethau cyhoeddus integredig ac ymatebol yn eich datganiad, a'r model newydd o ganolfannau dysgu cymunedol. Tybed a allech chi ddweud ychydig mwy wrth y Siambr am sut y byddai hynny’n gweithio mewn cysylltiad â, er enghraifft, syniadau presennol ynghylch ysgolion bro. Mae'n ymddangos i mi fod gan ysgolion bro lawer i'w gynnig wrth fynd i'r afael â thlodi. Gallant gefnogi addysg drwy sicrhau bod rhieni a'r gymuned yn cymryd mwy o ran yn yr ymdrech addysgol. Gallant wneud llawer o ran gofal plant a'r diwrnod ysgol estynedig. Gall ysgolion bro wneud llawer o ran chwaraeon, gweithgarwch corfforol, y celfyddydau a diwylliant, ac yn aml nid yw’r plant sydd dan yr amgylchiadau mwyaf difreintiedig yn gallu dibynnu ar eu mamau i’w cludo o gwmpas y lle—dim ond yn yr ysgol, efallai, y byddant yn cael y profiad ehangach hwnnw. Gwn ei fod yn anghyson ledled Cymru, Weinidog, o ran ysgolion bro, ac rwy’n credu y byddai'n wych pe byddem yn gallu datblygu mecanwaith a fyddai'n ei gwneud yn ofynnol i bob ysgol, nid dim ond ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, ond y stoc o ysgolion presennol, ganolbwyntio o ddifrif ar y gymuned yn y ffordd yr wyf wedi’i disgrifio ac mewn ffyrdd eraill. A tybed a allech chi sôn ychydig am ganolfannau dysgu cymunedol, sut y maent yn berthnasol i ysgolion bro a pha un a allwn ni weithredu’r mecanwaith er mwyn cyflwyno'r ddarpariaeth hon yn ehangach.

Rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfraniad cadarnhaol y mae’r Aelod yn ei wneud ac yn ei godi o ran y gwaith pwysig ysgolion bro wrth newid eu cymunedau lleol. Mae’n galonogol clywed y byddai Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn falch o gyfarfod â'r Aelod, mewn gwirionedd, i drafod yr union faterion y mae'r Aelod yn eu codi.

Ynglŷn â’r mater yn ymwneud â gofal plant, fel y rhestrir yn y datganiad ynglyn â pharthau plant, mae hyn yn rhywbeth yr ydym am ei ddatblygu, a’r un egwyddor ydyw, John, o ran sut yr ydym yn gwneud yn siŵr fod gennym ni yn y tymor hir unigolyn ifanc sy’n tyfu i fyny yn iach. Nid yn unig y mae'n foesol gywir, ond yn gywir yn gyllidol ar gyfer y Llywodraeth hefyd, wrth edrych a chynllunio ar gyfer y tymor hir. Felly, yn sicr dyma’r pethau yr ydym ni am ganolbwyntio arnynt wrth ymyrryd yn gynnar. Rwyf eisoes yn falch o glywed bod fy nghydweithwyr yn y Cabinet, er bod ganddynt waith bob dydd i’w wneud o ran eu portffolio, yn dechrau meddwl yn wahanol ynglŷn â ble y dylem ni wneud ymyraethau clyfar yn awr—felly, nid dim ond mynd i’r afael â’r heriau sydd ynghlwm wrth waith bob dydd ond, mewn gwirionedd, cynllunio ar gyfer y dyfodol. Dyma’r union sefyllfa, o ran pobl ifanc, y mae angen i ni fod ynddi, oherwydd pan fyddwn ni’n gwneud y buddsoddiad hwn, byddwn ni’n gweld canlyniadau gwell, yn y tymor hir, i bobl ifanc wrth iddynt dyfu i fyny.

A gaf i ddiolch i chi am eich datganiad, Weinidog? A allaf ddweud o’r dechrau fy mod am dalu teyrnged i'r aelodau staff sy'n gweithredu Cymunedau yn Gyntaf yn fy etholaeth a thalu teyrnged hefyd i gyngor Torfaen am y ffordd y maent wedi arwain y prosiect, a dweud yn bendant ei fod, yn Nhorfaen, yn cyflawni canlyniadau gwirioneddol ym meysydd cyflogadwyedd, cynhwysiant ariannol, cynhwysiant digidol a lles? Rwy’n nodi eich ymrwymiad i gael gwared ar y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf fesul dipyn, ond, i mi, y rhan allweddol o'ch datganiad yw’r hyn yr ydych yn ei ddweud am sefydlu dull newydd er mwyn bodloni heriau'r dyfodol. Gyda hynny mewn golwg, roedd arnaf eisiau gofyn ychydig o gwestiynau i chi.

Wrth gwrs mae rhoi pwyslais ar gyflogadwyedd yn cael ei groesawu’n fawr, ond a ydych chi hefyd yn cydnabod mewn rhai cymunedau, yn enwedig ein cymunedau mwyaf difreintiedig, bod y cymunedau hynny yn aml yn wynebu cymaint o rwystrau sylweddol tuag at gyflogadwyedd fel bod gwir angen yn aml iddynt ddilyn y dulliau meddalach y mae Cymunedau yn Gyntaf wedi bod mor dda yn eu meithrin. A gaf i ofyn sut sefyllfa y byddech chi’n ei gweld yn y dyfodol yn nhermau’r cydgysylltiad, sy’n bodoli yn Nhorfaen heb os, rhwng Cymunedau yn Gyntaf, Teuluoedd yn Gyntaf a Dechrau'n Deg? Nid ydym yn dymuno gweld unrhyw un o'r cyfraniadau sylweddol iawn y mae Cymunedau yn Gyntaf yn ei wneud at y rhaglenni hynny, yn cael eu colli. Yn Nhorfaen, rydym ni’n gweithredu dull un cynllun ar gyfer y grantiau hyn fel eu bod i gyd yn cael eu cynllunio fel cyfanwaith unedig. Sut y byddwch chi’n sicrhau nad yw hynny'n peryglu'r gwaith hollbwysig yn y maes hwn?

Ynglŷn â diwygio lles, yn fy marn i mae Cymunedau yn Gyntaf wedi chwarae rhan bwysig iawn wrth sicrhau ein bod mewn gwirionedd yn gryf yn ystod y blynyddoedd anodd iawn hyn o ddiwygio lles. Sut y byddwch chi’n sicrhau—mae hyn hefyd yn gysylltiedig â’r hyn a ddywedodd Bethan Jenkins—nad yw’r gwaith hwnnw yn cael ei golli?

Yn olaf, mae eich datganiad yn cyfeirio at ymgysylltu â rhanddeiliaid mewnol ac allanol ar ein dull ar gyfer y dyfodol. A allwch chi ddweud ychydig mwy, os gwelwch yn dda, ynglŷn â sut yn union y bydd yr ymgynghori hynny’n digwydd a beth fydd y dyddiad cau yn debygol o fod? Diolch.

Diolch i'r Aelod. A gaf i hefyd dalu teyrnged i lawer o aelodau staff mewn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf ledled Cymru sy'n gwneud gwaith gwych wrth newid a chreu cymuned gref? Nid wyf yn amau gwaith a bwriad y rhai hynny, ond rydym ni mewn sefyllfa i drafod. Rydym yn awyddus i siarad ag unedau Cymunedau yn Gyntaf am y cynlluniau ar gyfer dyfodol y clystyrau hyn a sut y maent yn cael eu siapio. Mae'r Aelod wedi hyrwyddo ei hardal Cymunedau yn Gyntaf ers amser maith, ac rwyf eto’n ddiolchgar am ei hawgrymiadau yn ymwneud â’r aelodau staff sy'n gweithio yno ac am eu cydnabod nhw hefyd.

O ran y dyfodol, rwy’n gweld Teuluoedd yn Gyntaf a Dechrau'n Deg a'r dull hyblyg—ac mae’r Aelod yn gywir, yn enwedig yn ei hawdurdod hi, ynglŷn â’r hyblygrwydd rhwng y rhaglenni yno. Rwy'n credu bod llawer mwy o gyfleoedd ac mae’r Aelod yn iawn i ddweud am yr ymyraethau meddalach—rwy’n credu y bydd angen i’r rhan honno o waith Dechrau'n Deg neu Teuluoedd yn Gyntaf gyflawni hynny. Ochr yn ochr â'r rhaglen Esgyn a Chymunedau am Waith, sut y gallwn ni gefnogi pobl i gamu i’r farchnad ac felly sicrhau eu gallu i gael gafael ar yr adduned gofal plant y byddwn yn ei darparu ar gyfer rhieni sy'n gweithio? Mae hyn yn jig-so o ymyraethau y mae’n rhaid i ni eu trefnu i greu darlun clir iawn ac rwy'n ymwybodol o'r broses ymgynghori, y byddwn yn ei chychwyn heddiw, o ran ymgysylltu. Bydd cyfarfod cyntaf y clwstwr yn cael ei gynnal yn ystod y pythefnos nesaf, rwy’n credu, ac mae fy nhîm i eisoes yn dechrau siarad â phobl ar y ffôn y prynhawn yma ynglŷn â’r hyn sy'n dod nesaf.

O ran aelodau staff Cymunedau yn Gyntaf a'r gweithlu sy’n gysylltiedig â hynny, rwyf hefyd yn dymuno siarad â chymunedau. Rwy’n dymuno ymgysylltu â phobl yn eu cymunedau eu hunain er mwyn deall yr hyn sydd ei angen arnyn nhw hefyd. Felly, yn hytrach na gweithredu dull o'r brig i lawr, lle mae’r Llywodraeth yn dweud wrth gymunedau yr hyn yr ydym ni’n credu y dylent ei gael, beth y mae'r cymunedau o’r farn y dylen nhw ei gael? Mae hynny'n rhywbeth y mae fy nhîm yn gweithio arno. Byddwn yn gwneud rhywfaint o waith digidol—beth yw'r gair? [Torri ar draws.] Ymgynghori yw’r gair—a bydd hynny’n dechrau’n fuan iawn. Y cyfan sydd angen i ni ei wneud yw gweithredu hynny ar y rhyngrwyd er mwyn i bobl allu ymgysylltu â ni.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwyf wedi cael fy meirniadu’n sylweddol yn y Siambr hon yn y gorffennol, yn enwedig gan Aelodau gyferbyn, am awgrymu nad oedd Cymunedau yn Gyntaf yn effeithiol, nac yn gweithio fel y dylai. Deilliodd yr awgrym hynny o’m mhrofiad i fy hun o fyw mewn cymuned Cymunedau yn Gyntaf. Nid wyf am groesawu'r datganiad fel y cyfryw, fodd bynnag, gan nad wyf yn glir eto beth yw’r strategaeth genedlaethol yn erbyn tlodi yn awr. Ond a allaf ddweud wrth y Gweinidog fod £300 miliwn wedi’i wario ar ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf? Ac mae £100 miliwn wedi’i wario ers Adroddiad 2011 Swyddfa Archwilio Cymru a oedd yn dweud nad oedd y rhaglen yn gweithio ac nad oedd yn effeithiol wrth fynd i'r afael â'r prif nod, sef amddifadedd economaidd yn y cymunedau hynny. Mae tystiolaeth o hynny yn y ffaith bod y cymunedau gwreiddiol a oedd yn rhan o Gymunedau yn Gyntaf yn 2001, yn dal i fod y 100 o gymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Felly, o gofio hynny, nid yw wedi bod yn effeithiol. Wedi dweud hynny, cafwyd llawer o fesurau meddal yr wyf wedi’u gweld yn gweithio'n effeithiol wrth ddod â chymunedau at ei gilydd ac wrth weithio i wella hyder pobl. Felly, nid ydym am golli hynny ychwaith.

Ond fy mhrif gwestiwn i'r Gweinidog yn awr yw: sut y mae ef am sicrhau nad yw’r rhaglen newydd hon, neu’r gyfres o raglenni, am wastraffu amser yn gwneud yr un peth, ond yn hytrach yn mynd ati mewn gwirionedd i adeiladu ar yr hyn sydd gennym a’r hyn sydd eisoes yn effeithiol? A allaf awgrymu iddo wrando ar eiriau doeth John Griffiths, oherwydd yr hyn sydd gennym a’r hyn sydd eisoes yn effeithiol yw pan fo ysgolion cymunedol yn cymryd rhan wirioneddol yn eu cymunedau? Yr enghraifft orau yr wyf wedi’i gweld o hynny yw Ysgol Gymunedol Doc Penfro yn fy rhanbarth i, mewn ardal Cymunedau yn Gyntaf, sydd wirioneddol yn integreiddio popeth â’i gilydd. Hwn yw’r model ar gyfer y dyfodol. Rwy'n argymell ei fod yn mynd i’w gweld gyda Kirsty Williams os nad yw hi wedi— [Torri ar draws.]. Mae hi eisoes wedi bod. Yn sicr, rwyf i wedi bod sawl gwaith. Mae'n enghraifft wych o sut y gellir mynd ar drywydd y dull hwn. Ac yn hytrach na gwastraffu amser yn gwneud yr un peth, yn hytrach na siarad am barthau plant neu beth bynnag y bo, meddyliwch eto: mae gennym yr ysgolion, mae gennym y gallu, drwy ysgolion, i weithio ar draws ffiniau wardiau ac i weithio'n uniongyrchol gyda theuluoedd. Dyna'r ffordd orau ymlaen. Rhowch yr arian i Kirsty Williams. Rwy'n siŵr ei bod hi’n gwybod sut i'w wario [Chwerthin.]

Diolch i'r Aelod am ei gyfraniad. Ni fydd yn syndod nad wyf yn cytuno ag ef ar bob dim a ddywedodd; rwyf yn credu bod ymyraethau Cymunedau yn Gyntaf wedi gweithio mewn rhai meysydd ac wedi gweithio'n dda iawn mewn rhai meysydd, ac mae Lynne Neagle a'i chydweithwyr wedi cyfeirio at hynny. Rwy’n cytuno ag ef fod y mater ynglŷn ag ysgolion a lle yn rhywbeth y mae angen i ni ganolbwyntio mwy arno. Felly, mae Kirsty a minnau yn gweithio'n agos iawn ar yr adduned gofal plant a chamau gweithredu eraill lle’r ydym ni’n gwybod, os gallwn weithredu’r ymyraethau cywir ar gyfer pobl ifanc, y bydd hynny’n arbed i ni, yn y tymor hir, wrth fynd i'r afael â'r materion yn ymwneud â theuluoedd anhrefnus, a bydd y rhaglen profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a'r parthau plant yn cefnogi hynny hefyd. Felly, rydym yn mynd i gael rhai meysydd gwaith dwys iawn yn hynny o beth.

Rwy’n mynegi diddordeb: mae fy ngwraig yn gweithio mewn ysgol yn y gogledd ac mae’r ysgol newydd dderbyn adroddiad ysgol ragoriaeth gan yr arolygwyr. Es i yno ychydig wythnosau yn ôl er mwyn rhoi ambell lun yr oeddwn wedi’u paentio i’r ysgol dros y penwythnos, ond hefyd i weld sut yr oedd yr ysgol yn gweithredu. Rwy’n llwyr gytuno â'r Aelod: os gall yr ysgol newid y ffordd y mae pobl ifanc yn teimlo amdanynt eu hunain—hyder ac anogaeth—mae hynny’n rhywbeth y gallant ei gymryd o hynny. Rwy’n credu, er nad oes angen unrhyw help ar Kirsty Williams wrth chwilio am fy nghyllid yn y gyllideb, rwy'n falch iawn o allu gweithio gyda hi i wneud yn siŵr ein bod yn cael y gwerth gorau am arian ar gyfer ein hymyraethau ill dau. Mae hynny hefyd yn berthnasol nid yn unig i Kirsty, ond i bob cydweithiwr yn y Cabinet, hefyd.

Yn gyntaf, hoffwn groesawu eich pwyslais ar bwysigrwydd metro’r gogledd a'r de wrth sicrhau bod cymunedau anghysbell yn gallu manteisio ar gyfleoedd am swyddi a hyfforddiant ac os nad ydynt yn gysylltiedig, yn syml nid yw’r un cyfleoedd ar gael iddynt. Felly, rwy’n edrych ymlaen hefyd at eich prosiect Swyddi Gwell yn Nes at Adref, gan fy mod yn gwybod mewn llawer o gymunedau anghysbell, fod yna wrthwynebiad annatod i fynd yn rhy bell i ffwrdd.

Rwy’n gwerthfawrogi yn fawr iawn eich ymroddiad i fynd i'r afael â'r negeseuon yr ydym yn eu cael wrth ddadansoddi profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a'r niwed hirsefydlog y maen nhw’n eu cael ar blant. Mae'n rhaid i ni gofio mai’r ddau brofiad niweidiol mwyaf cyffredin yn ystod plentyndod yw cam-drin geiriol a rhieni’n gwahanu. Yn amlwg, gwraidd hyn yn aml yw bod pobl yn cael plant cyn iddynt ddod yn oedolion eu hunain. Felly, mae'n amlwg bod rhywfaint o waith i'w wneud yn hynny o beth i sicrhau bod pobl yn deall pa mor anodd, a heriol yw hi i gael babi a bod yr effaith yn para am oes.

Ond rwy’n awyddus i ymhelaethu ar rywbeth—. Er fy mod yn cytuno â John Griffiths a Simon Thomas ynglŷn â phwysigrwydd sicrhau bod ein holl ysgolion yn ysgolion bro, fel Ysgol Gynradd Llanedeyrn yn fy etholaeth i, yn ogystal ag Ysgol Doc Penfro, mae hyn yn methu'r pwynt, sef, os edrychwn ar dystiolaeth EPPI-Centre, sef yr astudiaeth hydredol fwyaf sydd erioed wedi'i chynnal ar ganlyniadau plentyndod, rydym yn gwybod bod y niwed wedi’i wneud erbyn bod y plentyn yn ddwy. Felly, ni allwn ddibynnu ar ysgolion i ddiwallu’r angen hwn. Felly, hoffwn wybod ychydig mwy am yr hyn y gellir ei wneud. Rydym yn gwybod mai'r ffordd fwyaf effeithiol o dorri'r cysylltiad hwnnw yw cael gofal plant wedi’i integreiddio, o ansawdd uchel.

Gwn fod eich pwyslais yn eich adran chi ar ddarparu'r gofal plant am ddim i rieni sy'n gweithio sydd â phlant tair a phedair blwydd oed. Mae gennym swydd benodol yma, sy'n cael ei chyflawni’n rhannol gan Dechrau'n Deg ond dim ond mewn rhai codau post, ac mae hynny i sicrhau bod ein bod yn diwallu anghenion y plant hynny ac yn darparu’r cymorth i rieni a’r addysg teulu hwnnw. Felly, hoffwn wybod ychydig mwy am y canolfannau dysgu cymunedol, a’r parthau plant hyn ar gyfer Cymru, a sut y gallwn ni ddechrau sicrhau bod y plant tlotaf sydd fwyaf mewn perygl o gael profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn derbyn gofal plant o ansawdd uchel i'w helpu i gael y cychwyn gorau mewn bywyd yr ydym yn disgwyl i bob plentyn ei gael.

Diolch i'r Aelod am ei chefnogaeth a'r cwestiwn cynhwysfawr y mae hi’n ei godi. Fel y dywedais yn fy natganiad, mae'r rhaglen Cymunedau yn Gyntaf yn un rhaglen ac mae’n rhaid i ni ddibynnu ar agweddau eraill ar yr hyn y mae ymyraethau’r Llywodraeth yn eu gwneud—yr hyn y mae’r Llywodraeth, llywodraeth leol, mudiadau'r trydydd sector yn ei gyfrannu at ein cymunedau—a sicrhau cryfder o gwmpas hynny. Rydym wedi ein herio yn ariannol—ym mhob agwedd ar y Llywodraeth a haenau’r Llywodraeth—ac mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr pan fyddwn yn gwneud yr ymyraethau hyn, ein bod yn gwneud ymyraethau clyfar yn seiliedig ar y dystiolaeth a gyflwynwyd o lawer o feysydd. Un darn penodol o waith yr wyf yn gwybod bod yr Aelod yn gyfarwydd ag ef yw gwaith gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn ymwneud â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod. I bobl nad ydynt wedi gweld y rhaglen, byddwn i’n annog iddynt wneud hynny a sylweddoli mai dyna pam yr ydym yn cymryd y cam hwn i sicrhau bod ymyrraeth gynnar ac atal yn greiriau allweddol yn yr ymyrraeth ar gyfer ein pobl ifanc. Rydym wedi gweld y dinistr a all ddigwydd yn y tymor hir pan fo mwy a mwy o blant yn cael profiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Rydym wedi gwneud rhywfaint o waith gyda'r bwrdd cyfiawnder ieuenctid ac roeddwn wedi synnu’n fawr—. A dweud y gwir, mae’r Aelod yn gywir: mae'n anodd iawn mynd i'r afael â rhan olaf hynny—y mater o aildroseddu. Pan wnaethom ni rywfaint o waith modelu ar y bobl ifanc, fe wnaethom ni mewn gwirionedd edrych yn ôl ar eu ffordd o fyw, ac fe gawsant bedwar neu bum profiad niweidiol yn ystod eu plentyndod, yr ydym ni’n gwybod, pe baem yn dechrau mynd i'r afael â'r materion hynny yn ymwneud â chamddefnyddio alcohol neu sylweddau neu garcharu, yna, mewn gwirionedd, y byddai pethau’n datrys eu hunain yn y pen draw. Felly, dyna beth yr ydym yn mynd i’w wneud gyda phobl a theuluoedd, a dyna’n rhannol y mater ynglŷn â pharthau plant, o ran sut yr ydym yn sicrhau bod plant o bob oed—mae'n ymwneud â chanolbwyntio ar y plentyn a'r teulu, i weld a allwn ni gyflwyno’r ymyraethau clyfar hyn. Mae cynllun peilot da iawn yn cael ei gynnal o’r rhaglen 1000-diwrnod, sy'n cael ei gweithredu yng Nghymru eisoes. Gallwn ddysgu llawer oddi wrth y rhaglen honno. Mae'n ymwneud â gwybod bod y ddwy flynedd gyntaf yn bwysig, cyn i'r plentyn gael ei eni, a’r hyn y mae angen i ni ei wneud yn ystod y cyfnod hwnnw.

Mae'r mater gofal plant yn rhywbeth yr ydym yn gweithio tuag ato. Rwy’n gobeithio, tua hydref y flwyddyn nesaf, y byddwn ni’n dechrau cyflwyno cynllun cymhleth iawn o ofal plant a gweithio, a sut y bydd hynny'n cyd-fynd ag amgylchedd yr ysgol hefyd, fel bod gennym 30 awr o ofal ar gyfer pobl ifanc, sy'n briodol ac o ansawdd. Fe gynaliasom y cyfarfod hwnnw y bore yma i ddweud y gwir, a oedd yn cynnwys trafodaeth ymhlith Gweinidogion ynglŷn â sut yr ydym yn cychwyn y rhaglen honno. Ond mae hyn yn ymwneud ag adeiladu cymuned gref gan ddefnyddio pob un o'n hoffer, yn hytrach na dim ond un. Dyna pam rwy'n ddiolchgar i allu rhannu â'r Siambr heddiw yr weledigaeth a'r dewisiadau i bob un ohonom ddod at ein gilydd gyda phob un o’r darnau hyn o'r jig-so, i wneud yn siŵr bod gennym ddyfodol da ar gyfer ein pobl ifanc, wrth symud ymlaen.

Rwy'n credu fy mod yn cytuno â llawer o'r hyn sy'n cael ei ddweud gan lawer o’m cydweithwyr, felly nid wyf am ailadrodd hynny a’i barhau—

Rwy’n mynd i wneud hynny. Yr hyn yr wyf eisiau ei ddweud, fodd bynnag, yw fy mod o’r farn bod angen inni gydnabod bod strategaethau yn erbyn tlodi wedi bod amlycaf o ran polisi Llywodraeth Cymru ers blynyddoedd lawer. Yn fy etholaeth fy hun, yn gyffredin â llawer o etholaethau eraill y mae eu cynrychiolwyr wedi siarad heddiw, rydym wedi gweld gwaith anhygoel yn cael ei wneud bob dydd—bob dydd—yn ymwneud â’r gymuned gymdeithasol, cynhwysiant digidol, ymdrin â chyn-droseddwyr, mynd i'r afael ag unigedd, datblygu sgiliau rhianta, cynorthwyo gyda diweithdra hirdymor. Gallem yn ôl pob tebyg fynd ymlaen ac ymlaen. Felly, mae llawer iawn o waith yn cael ei wneud. Felly, rwyf yn croesawu, Ysgrifennydd y Cabinet, y datganiad yr ydych chi wedi'i wneud heddiw, oherwydd rwy’n credu bod y mentrau yr ydych chi wedi'u cyhoeddi heddiw, yn enwedig y rhai sy’n canolbwyntio ar sicrhau canlyniadau cadarnhaol, yn ein llywio i'r cyfeiriad hwnnw sy’n parhau â'r gwaith sydd eisoes wedi’i gyflawni, ac yn sicrhau bod y mesurau sydd gennym i fynd i'r afael â thlodi yn sail i’r holl waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud wrth symud ymlaen.

Fodd bynnag, mae fy nghwestiwn yn ymwneud â pha un a all y Gweinidog ddweud wrthym a fydd y blaenoriaethau a’r rhaglenni yn erbyn tlodi mewn llawer o'n hardaloedd mwyaf difreintiedig, y mae'r rhan fwyaf ohonynt, neu lawer ohonynt, yn cael eu darparu gan Gymunedau yn Gyntaf, yn cael eu gweithredu ymhellach o dan y strategaeth newydd, ac, os felly, sut y bydd y trefniadau trosiannol hynny yn berthnasol, a pha un a ydyw wedi rhoi rhywfaint o ystyriaeth i sut y gallwn gadw sgiliau'r bobl sydd wedi cyflawni Cymunedau yn Gyntaf mor llwyddiannus yn rhai o'n hardaloedd mwyaf difreintiedig—ased rwy'n siŵr na fyddai ef yn dymuno’i golli ddim mwy nag y byddwn i.

Diolch i'r Aelod am ei chwestiynau. A gaf i ddweud bod y strategaeth trechu tlodi a’r strategaeth trechu tlodi ymhlith plant yn dal i fod yn fyw ac yn iach? Mae'r ddogfen honno yn dal i fod yno, ac rydym yn dal i weithio tuag at hynny. Cyfarfûm â Ken Skates i drafod sut y byddwn yn adnewyddu hynny a dechrau meddwl am yr ymyraethau newydd sydd gennym. Fel y dywedais yn gynharach, dim ond un o blith cyfres o offer a rhaglenni ymyrraeth y gallwn ni eu cyflawni yw Cymunedau yn Gyntaf. Yr wyf yn dal i fod wedi ymrwymo i weithio gyda'r gweithlu rhagorol yn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf. Dyna lle y byddwn yn dechrau’r drafodaeth am sut y byddwn yn dechrau fframio'r dyfodol o ran cyflwyno'r amryw raglenni y soniodd yr Aelod amdanynt. Yr hyn na allwn ni ei wneud yw troi ein cefnau ar gymunedau, ond yn hytrach, mae’n rhaid i ni eu helpu i dyfu allan o dlodi, ac nid sicrhau ein bod yn dedfrydu cymunedau i dlodi am oes. Mae'n rhaid i ni wneud rhywbeth gwahanol, ac mae'r technegau ymyrryd yr ydym yn sôn amdanynt yn y fan yma yn ymwneud â rhoi cydnerthedd personol i bobl ifanc i’w galluogi i dyfu. Mae hyn, rwy’n credu, yn ddewr iawn yn wleidyddol, gan fod llawer o’r pethau hyn yn bethau a fydd yn cymryd cenedlaethau. Mae'n debyg na fyddwn yn gweld effeithiau rhai o’n hymyraethau cynnar yn dod i’r amlwg am oddeutu 10 mlynedd. Ond mae'n rhaid i ni ddechrau yn awr, ac mae'n rhaid i ni wneud y newid hwnnw a bod yn ddewr, oherwydd, os na wnawn ni, buddugoliaeth wleidyddol tymor byr fydd hon. Y gwir yw, mae’n newid ein cymunedau er gwell ar gyfer y dyfodol, a dyna beth fydd y rhaglen newydd hon yn ei wneud yn fy marn i.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Y cyfan yr wyf ei eisiau, Ysgrifennydd y Cabinet, yw ychydig mwy o eglurder o gwmpas eich parthau plant arfaethedig i Gymru. A yw’r parthau yn barthau daearyddol? A fyddant yn dilyn ôl troed ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf neu Dechrau'n Deg? Oherwydd rydych yn dweud hefyd yn eich datganiad nad ydych yn argyhoeddedig mai parhau i ganolbwyntio ar 52 o ardaloedd bach yw'r ffordd fwyaf effeithiol o gyflawni dros Gymru. Nawr, rydych chi yr un mor ymwybodol â minnau fod yna blant y tu allan i'r ardaloedd hynny sy'n wynebu tlodi a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod hefyd, felly efallai y byddai ychydig o eglurder yn cael ei werthfawrogi.

Ydw, rwy’n hapus iawn i wneud hynny. Mae'n gwestiwn defnyddiol iawn. O ran y parthau plant, rydym yn cynnig bod awdurdodau lleol yn gwneud datganiadau o fwriad yn awr i gyflwyno eu syniadau am sut y byddent yn hoffi eu gweithredu. Yn wir, rwy’n credu fy mod yn iawn wrth ddweud bod Ynys Môn eisoes wedi nodi eu bod yn dymuno bod yn ynys lle na cheir profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, sydd yn her eithaf trawiadol iddynt ymgymryd â hi. Rwy'n credu ei fod yn gynllun uchelgeisiol, ond does dim byd o'i le ar uchelgais. Dylem ni eu helpu i gymryd camau tuag at gyflawni hynny. Rwy'n credu y dylem fod yn dechrau meddwl am y dull y siaradodd Simon Thomas a John Griffiths amdano, felly, parthau plant o gwmpas ysgolion ac ardaloedd ysgol, i geisio gweld os allwn ni fynd o dan groen hynny. Mae 'na enghraifft wych o ysgol yn Washington a wnaeth hyn. Llwyddodd i weddnewid yr ysgol yn llwyr—ysgol heriol iawn—drwy ganolbwyntio ar ymagwedd Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod at ymyrraeth, a llwyddo i’w gweddnewid yn ysgol sy'n perfformio'n dda. Felly, mae yn gweithio. Ond, ar hyn o bryd, cynlluniau arbrofol—llawer o hyblygrwydd i weld beth sy'n gweithio a beth nad yw’n gweithio. Rwy'n credu bod yn rhaid i mi fod yn ddigon dewr i ddweud, 'Wel, mi rown ni gynnig arni, ac os nad yw’n gweithio, nid yw'n gweithio.' Ond fe dderbyniaf y feirniadaeth wleidyddol am hynny, am wneud rhywbeth am y rheswm cywir, yn hytrach nag am beidio â rhoi cynnig ar rai o'r pethau hyn. Mae'n rhaid i ni roi cynnig arnynt mewn lleoliadau gwledig a threfol a gweld beth y gallwn ni ei wneud yn nhermau graddfa hefyd. Felly, mae llawer i weithio arno, ond rydym yn cynnig hyblygrwydd i awdurdodau lleol i ddeall eu cymunedau yn well ac i wybod beth sydd ei angen arnynt.

5. 4. Datganiad: Cyllid yr UE

Mae'r eitem nesaf ar ein hagenda, felly, yn ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ar gyllid yr UE. Galwaf ar Mark Drakeford i gyflwyno'r datganiad.

Member
Mark Drakeford 15:19:00
The Cabinet Secretary for Finance and Local Government

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd, a diolch am y cyfle hwn i roi diweddariad i’r Aelodau am raglenni’r cronfeydd strwythurol Ewropeaidd. Mae goblygiadau i Gymru o adael yr Undeb Ewropeaidd wedi cael eu trafod yn rheolaidd yn y Siambr hon ers 23 Mehefin. Heddiw, byddaf yn canolbwyntio yn hytrach ar y cynnydd sydd wedi’i wneud o ran dyrannu’r cyllid sydd eisoes wedi’i sicrhau. Byddaf yn edrych yn benodol ar y cyfnod 2014-2020, lle mai rhaglenni Cymru oedd y cyntaf i gael eu cymeradwyo yn y Deyrnas Unedig ac ymysg y rhai cyntaf yn Ewrop. Mae cynnydd cyson wedi cael ei wneud ers i’r rhaglenni gael eu lansio ym mis Rhagfyr 2014. Rydym ni wedi buddsoddi arian o gronfeydd yr Undeb Ewropeaidd mewn cynlluniau ar hyd a lled y wlad. Mae gan y cynlluniau hynny gysylltiad amlwg ag anghenion rhanbarthol a chyfleoedd i dyfu, ac maen nhw’n dangos potensial i greu budd economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol sylweddol ar hyd a lled Cymru.

Mae ein busnesau a’n cymunedau a’n bobl wedi elwa’n sylweddol ar gronfeydd yr Undeb Ewropeaidd ers degawd a mwy, ac maen nhw wedi helpu i lywio’r gwaith o ddatblygu rhagolygon economaidd Cymru. Maen nhw hefyd wedi gosod ein sylfeini ar gyfer llewyrch economaidd mwy cynaliadwy.

So it is, Dirprwy Lywydd, that, since the year 2000, and notwithstanding recent difficult economic times, European Union funding has contributed to marked increases in employment rates, with the largest improvements seen in the west Wales and the Valleys region, up from 64.6 per cent in the year 2000 to 70.7 per cent in June of this year. Over that period, east Wales saw an increase from 71.7 per cent to 72.4 per cent. Levels of economic inactivity in west Wales and the Valleys fell over that time from 30.8 per cent to 25.2 per cent. Since 2004, skill levels across Wales have improved, with the proportion of working-age adults with no qualifications falling from 17 per cent to 9.5 per cent. At the same time, investment in research and innovation has more than doubled and the gap between the GVA of west Wales and the Valleys and the UK average has narrowed.

Since the year 2007, EU structural fund projects alone have helped nearly 73,000 people into work, have helped over 234,000 people to gain qualifications, supported the creation of nearly 12,000 businesses, and helped to create some 37,000 jobs. These achievements, Dirprwy Lywydd, clearly demonstrate the positive impact that EU funds have already made on communities, people and businesses across Wales.

Last week, the First Minister welcomed the UK Government’s further commitment to guarantee expenditure for all European structural and investment fund schemes approved prior to the UK leaving the European Union. This guarantee itself recognises just how important EU funds are to Wales in addressing economic and social disparities. It remains the case, however, that our ability fully to deliver the 2014-20 programmes as originally planned and in line with our agreements with the European Commission is still hugely dependent on the UK Government’s timescale for leaving the European Union. Within the programmes to date, we have already invested £830 million of structural funds—that’s around 43 per cent of the total allocation for the 2014-2020 period—and that puts us favourably ahead when compared to the performance of other UK regions.

Our priority is to continue to make funding decisions as soon as we are able so as to maximise our funding allocation and ensure activities get under way at the earliest opportunities, and I will be making this message clear and discussing this way of doing business with stakeholders and delivery partners at the annual EU fund information event, which will be held in Cardiff next week.

Dirprwy Lywydd, I want to make it clear that this is a pan-Welsh Government effort in which all Ministers and Cabinet Secretaries are involved. Just two weeks ago I was able to announce £4.7 million for the OPUS project working with young people and £11.9 million to build on the very successful SEACAMS project, both of which will take place in north Wales. Today, I’ve been pleased to announce an extra £850,000 of European Union funds to Swansea University to support more research Master’s and engineering doctorates for students who will work alongside companies, including Tata Steel. Last week my colleague Jane Hutt was in Cross Hands in Carmarthenshire announcing EU funds of £2.3 million for the £4 million social business growth programme, offering financial support of up to £150,000 to social businesses across Wales. More funding announcements will be made by other Ministers in the days, weeks, and months ahead.

Through these combined efforts and the tremendous commitment of our partners we hope to have agreements in place covering some 60 per cent of all our funding by the time of the UK Government’s autumn statement in November. We will do so, Dirprwy Lywydd, against the background of the UK Treasury confirmation that, in keeping with the devolution settlement, it will be for the Welsh Government to continue to determine how EU funds are spent in Wales, and we will do so in line with our programme objectives and targets as planned.

These programmes were developed and are being implemented and monitored in partnership between the Welsh Government and organisations across the private, third and public sectors. This partnership approach has been fundamental to the success of our programmes and will continue to be a strong feature of the way we do business here in Wales. The programme monitoring committee for the structural and investment funds in particular will continue to have an important role to play in ensuring we maximise the impact of the EU funds. The PMC will also help to shape the Welsh Government’s strategy for securing the best possible results for Wales as we prepare for our EU transition. I have therefore been particularly pleased to see that Julie Morgan has been appointed by the First Minister as the new PMC chair and will be chairing her first meeting later this year. I wish Julie every success in that very important new role and look forward to working closely with her.

In conclusion, Dirprwy Lywydd, Wales has a strong track record in relation to European funding and the delivery of regional programmes through committed and effective partnerships. Our priority now is to build on those achievements still further to ensure that EU investments continue to make a positive impact in the lives of our fellow citizens, to do that to the fullest possible extent, and over the whole of the period for which funding is available. Thank you very much.

Yn amlwg rwy’n croesawu datganiad Ysgrifennydd y Cabinet, ond mae’n rhaid i mi anghytuno ag ef y bu’r cyfnod rhwng 2000 a 2014 rywsut yn llwyddiant economaidd pur i’r rhai hynny ohonom sy'n byw yn y gorllewin a'r Cymoedd. Dewisodd y ffigurau a ddyfynnodd yn ofalus iawn. Gan ein bod yn sôn am raglen Ewropeaidd, os edrychwn ar sefyllfa’r gorllewin a'r Cymoedd o’i chymharu â’r Undeb Ewropeaidd gyfan, maen nhw wedi disgyn o ran gwerth ychwanegol gros y pen: 73 y cant o incwm y pen 27 gwlad yr UE yn 2000, 69 y cant yn 2014, sef y flwyddyn ddiwethaf y mae ystadegau ar gael ar ei chyfer. Wrth gymharu hynny â Gwlad Pwyl, a oedd yn 47 y cant ar ddechrau'r cyfnod hwn, ac erbyn hyn wedi cyrraedd 68 y cant; Sacsoni, 79 y cant ac erbyn hyn wedi codi i 94 y cant—ardaloedd eraill sydd wedi elwa ar, ac wedi defnyddio cronfeydd strwythurol Ewropeaidd, mae’n rhaid i mi ddweud, mewn ffordd fwy strategol a llwyddiannus o lawer na'r Llywodraeth hon yn ystod y cyfnod hwn.

Mae gen i nifer o gwestiynau penodol iddo. Yn amlwg, rydym yn byw mewn cyfnod o gynnwrf economaidd. Pa effaith y mae anwadalrwydd y gyfradd gyfnewid yn ei chael ar faint o ddyraniad sydd ar gael? Nodaf yn y cynllun datblygu gwledig fod y gyfradd gyfnewid cynllunio wedi ei diwygio, ond ymddengys ei bod wedi ei diwygio yn anghywir o ran sut y cyfeiriad y mae’r gyfradd gyfnewid yn mynd iddo. Mae'r gyfradd gydgyllido yn y cynllun datblygu gwledig hefyd wedi ei diwygio tuag i lawr—cyfraniad lleol Cymru y DU—o 57 y cant i 47 y cant. Nodaf fod Prif Weinidogion wedi drysu’n lân yn y Siambr hon o'r blaen o ganlyniad i gwestiynau ynglŷn ag ychwanegedd, felly hoffwn iddo ddweud a yw'r newid hwnnw i’r gyfradd gydgyllido hefyd yn berthnasol i'r cronfeydd strwythurol yn ehangach.

Ynglŷn â WEFO, onid y peth pwysig yn awr yw ymrwymo’r arian a sefydlu’r rhaglenni, achos y gwir berygl—y perygl mwyaf difrifol oll—yw ein bod yn colli’r cyllid a dad-ymrwymo’r cyllid oherwydd nad ydym yn newid cyflymder gwneud penderfyniad, sydd yn dal, yn anffodus, yn hynod o araf, hyd y gwelaf i, yn WEFO.

Yn olaf, ynglŷn â’r pwyllgor monitro rhaglenni, a yw'n wir y bydd y pwyllgor monitro rhaglenni yn cwrdd yn llai aml o hyn ymlaen? Clywais am ‘gyfarfodydd hirach’, ond ’does bosibl mai cyfarfodydd byrrach ac amlach fyddai mewn gwirionedd yn ateb heriau’r cyfnod sydd o’n blaenau yn ystod y ddwy flynedd a hanner nesaf wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd. Er fy mod i’n edmygu Julie Morgan, onid ymagwedd Cymru gyfan at gronfeydd strwythurol Ewropeaidd sydd ei hangen arnom, nid ymagwedd Llywodraeth Cymru gyfan. Pam na achubwyd ar y cyfle mewn gwirionedd i benodi aelod o wrthblaid i gadeirio'r pwyllgor pwysig hwnnw, oherwydd ’does bosib na ddylem ni i gyd fod yn gweithio gyda'n gilydd ar y mater hwn, ledled Cymru—[Torri ar draws.] Pam nad eu rhyddhau? Yn hollol. Mae bob amser wedi bod yn Aelod Llafur. Pam oedd Cadeirydd y pwyllgor monitro rhaglenni yn ddarostyngedig i gydgyfrifoldeb y Cabinet, pan, y tro diwethaf i mi edrych, nid yw yn y Cabinet hyd yn oed?

Diolch i'r Aelod am y cwestiynau hynny. Ni honnais yn fy natganiad o gwbl fod cronfeydd Ewropeaidd wedi bod, i ddyfynnu'r Aelod, yn llwyddiant pur. Fy mhwynt i oedd, bod cyllid Ewropeaidd, yn y cyfnodau anodd yr ydym wedi'u hwynebu, yn elfen hollbwysig o gyflawni rhai gwelliannau sylweddol iawn. Os oedd yr Aelod o’r farn fy mod innau wedi dethol fy enghreifftiau yn ofalus, mae arna i ofn y dylai yntau fod wedi ystyried ei restr ei hun o enghreifftiau penodol y dewisodd dynnu sylw atynt y prynhawn yma.

Aeth ymlaen i godi cyfres o bwyntiau pwysig. Wrth gwrs, y gyfradd gyfnewid—mae ceisio cadw i fyny â’r newidiadau yn y gyfradd gyfnewid yn her arbennig ar hyn o bryd ar gyfer ein holl raglenni cyllid Ewropeaidd. Mae rhan o WEFO, a chysylltiadau uniongyrchol eraill â’r Comisiwn, yn ymwneud â sicrhau ein bod yn ceisio cael cyfraddau cynllunio, cyfraddau cydgyllido a chyfraddau ymyrryd sy'n synhwyrol ac yn gwneud y gorau y gallant o safbwynt Cymru. Ond mae'r darlun yn symud yn gyflym ac nid yw'r penderfyniadau yn gyfan gwbl yn nwylo Cymru. Cânt eu cytuno â'r Comisiwn wrth i’r cyfraddau cynllunio hynny newid. O ran WEFO, rwy’n cytuno yn llwyr mai’r brif dasg i bob un ohonom sy’n rhan o hyn yng Nghymru, yw sicrhau bod cyllid wedi’i ymrwymo, ond yn fwy na hynny—bod rhaglenni yn cyflawni ar lawr gwlad, er mwyn gallu cael gafael ar gyllid yn gyflym at ddibenion pwysig yma yng Nghymru.

Nid wyf yn credu ei bod yn deg i ddweud bod cyflymder gwneud penderfyniadau yn araf tu hwnt. Mae pedwar deg tri y cant o'r holl gronfeydd strwythurol eisoes wedi’i ymrwymo. Bydd hynny yn codi i 60 y cant erbyn 23 Tachwedd, ac mae hynny'n dangos y ffordd yr ydym ni, gyda'n partneriaid, wedi gwneud ein gorau i gyflymu'r broses o gymeradwyo rhaglenni pwysig. Fe ddywedaf hyn, ac rwyf wedi dweud hyn wrth WEFO: rwyf eisiau i’r broses o gymeradwyo rhaglenni gyflymu fel ei bod yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Ni fyddaf yn fodlon ystyried cymeradwyo rhaglenni dim ond er mwyn cael gafael ar y cyllid. Mae’n rhaid i'r rhaglenni fod yn rhai yr ydym yn cytuno y byddant yn gwneud y gwahaniaeth y mae arnom angen iddynt ei wneud yng Nghymru.

Rwy’n deall bod y pwyllgor monitro rhaglenni yn ei gyfarfod diwethaf, wedi trafod y ffordd orau o drefnu ei amser, a'r ffordd orau o weithio. Eu penderfyniad nhw yn llwyr yw gwneud hynny. Rwy’n deall bod yna bosibilrwydd o gynnal llai o gyfarfodydd ond y byddent yn hirach. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, un o sawl awgrym oedd hwnnw, ac nid oedd yn un o reidrwydd a ddenodd fwy o gefnogaeth nag eraill.

A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad heddiw? Ysgrifennydd y Cabinet, rydych yn dweud yn eich datganiad bod gwelliannau i gyfraddau cyflogaeth ers 2000 yn un o lwyddiannau mawr y cronfeydd strwythurol. Byddwn i’n cytuno eu bod wedi chwarae eu rhan, ynghyd ag elfennau eraill. Byddwn i’n awgrymu bod polisi economaidd Llywodraeth y DU, yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf, wedi chwarae rhan hefyd, ynghyd â'r cronfeydd strwythurol hynny. Fodd bynnag, a ydych yn cydnabod, fel y dywedodd Adam Price yn ei sylwadau yn gynharach, er bod cyfraddau diweithdra y gorllewin a'r Cymoedd wedi gwella, diolch byth, bod gan y rhanbarth hwnnw lefel annerbyniol o isel o hyd o werth ychwanegol crynswth, o'i chymharu â gweddill y DU? Mae'n sefyllfa nad yw wedi gwella cymaint ag y dylai yn dilyn cylchoedd olynol o gyllid strwythurol, ac yn sicr, nid yw’n cyflawni proffwydoliaeth Rhodri Morgan, y cyn-Brif Weinidog, a ragfynegodd y byddai un cylch o’r gronfa strwythurol yn ddigon, ac y byddai gennym economi fwy cynaliadwy ledled Cymru yn y dyfodol.

A gaf i ofyn sut yr ydych yn bwriadu defnyddio cronfeydd yr UE sy'n weddill i ddatblygu economi leol fwy cynaliadwy a all gefnogi ei hun yn well yn y Gorllewin a'r Cymoedd, ac, yn wir, yng ngweddill yr ardaloedd a gefnogir? Rwyf innau, fel yr ydych chi, yn croesawu ymrwymiad cadarn Llywodraeth y DU i warantu cyllid ar gyfer yr holl gronfeydd buddsoddi a strwythurol Ewropeaidd a gymeradwywyd cyn i'r DU adael yr UE. Pa drafodaethau yr ydych wedi'u cael â Llywodraeth y DU ynglŷn â natur y warant honno, ac yn bwysicaf oll, ynglŷn â’i hyd? Nawr, rwyf yn gwerthfawrogi, wrth gwrs, nad ydych chi, mewn sawl ffordd, yn rheoli hyn—mater i Lywodraeth y DU ydyw. Ond rwy'n credu ein bod ni i gyd yn cytuno y byddai'n ddefnyddiol iawn pe gallem gael ryw syniad, cyn gynted â phosibl, o'r math o gymorth a fydd, yn y pen draw, yn disodli cronfeydd yr UE pan fyddwn yn gadael, o ran ateb y DU.

Croesawaf y ffaith bod Trysorlys y DU wedi cadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i bennu sut y caiff cyllid yr UE ei wario yng Nghymru. Byddai’n rhyfedd iawn pe na byddai hynny’n wir. Cawsom ddadl yn ddiweddar ar y rhaglen lywodraethu yma, a buom yn siarad am bwysigrwydd cyflawni, felly mae cyflawni, a manteisio i'r eithaf ar yr hyn sy’n weddill o’r cronfeydd Ewropeaidd, hyd at 2020, yn dod yn bwysig iawn.

Gwnaethoch chi sôn am fonitro. A gaf i longyfarch Julie Morgan ar ei phenodiad i’w swydd newydd ar bwyllgor monitro Cymru? Rwy'n gobeithio y cewch chi fwy o lwc nag y cafodd Jenny Rathbone yn ystod ei chyfnod hi mewn swydd debyg. Nid yw'n waith hawdd, Julie, ond yr ydym yn sicr yn cydnabod ei bod yn swydd y mae’n rhaid ei gwneud.

A gaf i adleisio sylwadau cynharach Adam Price gan ddweud y byddai'n dda pe gallai’r Cynulliad hwn yn ei gyfanrwydd gael gwell gafael ar graffu ar wariant y cronfeydd strwythurol? Clywais y sylwadau a wnaed ynghylch lleihau nifer y cyfarfodydd. Pa un a yw’r cyfarfodydd yn fyrrach, yn hirach neu’n amlach, rwy’n credu y byddai’n ddefnyddiol pe bai’r Cynulliad hwn ei hun yn craffu’n fwy ar yr hyn sy'n digwydd yn y cyfarfodydd hynny, oherwydd yn amlwg, mae swydd bwysig iawn yn cael ei gwneud, a bydd ei phwysigrwydd yn cynyddu wrth i ni nesáu at ddiwedd y cyfnod 2020 hwn. Felly, byddai’n ddefnyddiol iawn pe gallech ddweud wrthym sut yr ydych yn bwriadu, neu sut yr ydych yn credu y gallem wella prosesau craffu, a pha un a fyddech yn fodlon i ni wneud hynny yma, er fy mod yn gwerthfawrogi ei fod yn un o bwyllgorau Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, ac nid yn un o bwyllgorau’r Cynulliad.

Dau gwestiwn cyflym iawn i gloi. Nid yw Horizon 2020, Ysgrifennydd y Cabinet, yn cael ei drafod yn uniongyrchol yn y datganiad heddiw, ond serch hynny mae’n agwedd bwysig iawn. Pan oeddwn ar y Pwyllgor Cyllid yn y pedwerydd Cynulliad, gwnaethom edrych ar y gwariant a oedd ynghlwm wrth raglen Horizon 2020. Byddai'n dda pe gallem gael rhywfaint o eglurder o ran sut yr ydych yn rhagweld y bydd hynny’n parhau yn ystod y ddwy flynedd nesaf.

Ac, yn olaf, pan edrychodd y Pwyllgor Cyllid ar y cyfleoedd cyllido, roeddem yn credu bod lle i hyrwyddo’r sector creadigol yng Nghymru, ac nid wyf yn credu bod hyn wedi ei grybwyll heddiw. A wnewch chi ddweud wrthym sut yr ydych yn bwriadu defnyddio gweddill y cyfnod hwn o gronfeydd strwythurol i gefnogi’r sector creadigol yn well yng Nghymru, gan ei fod yn sector sy’n chwarae rhan bwysig iawn wrth hybu a darparu ar gyfer economi Cymru?

Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd. Symudaf yn syth at y cwestiynau a godwyd gan yr Aelod. Ein cynlluniau ar gyfer defnyddio gweddill y cronfeydd Ewropeaidd sydd ar gael i ni yn ystod y rhaglen 2014-20 yw cyflawni'r rhaglen a gytunwyd ar lefel y DU â'r Undeb Ewropeaidd. Roedd hyn yn cynnwys dysgu’r gwersi o gylch 2007-13. Roedd yn cynnwys sicrhau bod gennym gymysgedd briodol o bartneriaid y sector preifat, sector cyhoeddus a'r trydydd sector a chynlluniau ar y bwrdd. Roedd yn cynnwys sicrhau ein bod yn canolbwyntio ar y bobl hynny sydd bellaf i ffwrdd o'r farchnad lafur, oherwydd dyna lle y dangosodd y rhaglen gynharach fod ymyraethau yn arwain at greu’r gwerth mwyaf. Rwy'n hapus i ddweud unwaith eto i mi groesawu cyhoeddiad Llywodraeth y DU y byddai'n gwarantu’r cronfeydd strwythurol hyn ar gyfer y cyfnod 2014-20 cyfan. Dyna fesur pwysig i roi hwb i hyder ymhlith ein partneriaid. Trafodais y mater â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys yn ystod fy nghyfarfod ag ef ar 28 Medi. Gwnaethom grybwyll bryd hynny mewn ffordd ragarweiniol iawn sut y bydd y mathau hyn o arian yn cael eu defnyddio ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd.

A gaf i ddweud o fy safbwynt i y bydd yn bwysig iawn sicrhau ein bod, yn ein trafodaethau â Llywodraeth y DU, yn sefydlu nifer o reolau sylfaenol pwysig? Yn gyntaf, bod cymwyseddau sydd wedi eu lleoli gyda’r Cynulliad Cenedlaethol, ond sydd wedi eu harfer drwy'r Undeb Ewropeaidd, yn dychwelyd i'r Cynulliad hwn pan nad ydym bellach yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd. Nid ydynt yn mynd i Lundain ac wedyn yn cael eu trosglwyddo. Maen nhw eisoes wedi eu datganoli yma a phan na fyddwn yn eu harfer mwyach drwy'r Undeb Ewropeaidd byddan nhw’n dychwelyd yma i ni eu harfer. Efallai bydd yn synhwyrol mewn rhai achosion i ail-gronni rhai o'r cyfrifoldebau hynny er mwyn i ni eu harfer ar y cyd yn y Deyrnas Unedig. Ond mae hynny'n benderfyniad i ni ei wneud yn hytrach na’i fod yn cael ei ragdybio ar ein rhan. Cyllid yr Undeb Ewropeaidd yw'r unig gyllid sydd gennym yng Nghymru a gawn ar sail yr anghenion sydd gennym yng Nghymru, a chaiff yr anghenion hynny eu cydnabod drwy lyfr rheolau, a hwnnw’n llyfr yr ydym weithiau yn ystyried ei fod braidd yn anhyblyg ac yn anodd ei ddefnyddio, ond serch hynny, mae yna lyfr rheolau a gallwn ddadlau neu gael gafael ar gyllid yn unol â’r rheolau hynny. A bydd angen system reolau arnom o ran sut yr ydym yn cyflawni'r cyfrifoldebau hyn pan fyddant yn dychwelyd o’r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol. Felly, mae’r Aelod yn llygad ei le i dynnu sylw at yr angen i gael y mathau hyn o drafodaethau ac i drefnu’r materion hynny, oherwydd byddant yn bwysig iawn yn y dyfodol.

O ran cyfarfodydd y Pwyllgor Monitro Rhaglenni, gadewch i mi ddweud unwaith eto: nid yw'n fater i Lywodraeth Cymru o gwbl o ran sut y mae'r Pwyllgor yn cyflawni ei gyfrifoldebau. Nid yw’r rhaglen fonitro wedi'i sefydlu ar gais Llywodraeth Cymru. Mae'n ofyniad y cyllid strwythurol yn rhan o'n cytundeb â'r Undeb Ewropeaidd. Mae'n gweithredu, unwaith eto, yn unol â’r llyfr rheolau hwnnw. Rwy'n falch iawn o allu gwneud datganiad heddiw er mwyn i Aelodau allu gofyn cwestiynau a chraffu ar sut y caiff y cyfrifoldebau hyn eu cyflawni.

Mae'r pwyntiau terfynol y gofynnodd Nick Ramsay yn eu cylch yn ymwneud â Horizon 2020. Maen nhw’n cael eu cynnwys o dan yr un gwarantu a gyhoeddwyd gan y Canghellor wythnos neu ddwy yn ôl. Mae Cymru yn elwa’n dda iawn ar Horizon 2020. Erbyn mis Mehefin eleni, bu 93 o geisiadau o Gymru i Horizon 2020, a sicrhaodd gwerth £36 miliwn o gyllid ar gyfer ymchwil yng Nghymru. Felly, mae croeso mawr i’r warant honno. Mae'r sector creadigol yn chwarae ei ran mewn ystod o wahanol raglenni Ewropeaidd ac rwy'n siŵr y bydd Aelodau wedi clywed yr hyn a ddywedwyd am ei bwysigrwydd yn y cyfnod sy'n weddill gennym i wneud defnydd o'r cronfeydd hynny.

Fel pawb arall, croesawaf y datganiad cyn belled ag y mae'n mynd, ac nid yw hynny’n bell iawn. Credaf fod cytundeb eang ymhlith y bobl yma a bod y cwestiynau pwysig eisoes wedi eu gofyn. Rwy’n cefnogi’r hyn a ddywedodd Adam Price a Nick Ramsay. Mae'r datganiad yn hunan-longyfarchol iawn, wrth gwrs, ac yn mynegi i ba raddau y mae’r cronfeydd hyn wedi helpu i lywio’r gwaith o ddatblygu llewyrch economaidd Cymru, yng ngeiriau'r datganiad. Ond, fel y nodais yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog heddiw, mae’r cynnydd hwn mewn cyflogaeth wedi mynd law yn llaw â gostyngiad cymharol i gyflogau o gymharu â rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Roedd gen i ddiddordeb mawr i glywed yr hyn a ddywedodd Adam Price am werth ychwanegol gros o’i gymharu â rhannau eraill o Ewrop sydd mewn cyflwr tebyg i’r gorllewin a'r Cymoedd. Ymddengys i mi nad yw'r rhaglen hon mewn gwirionedd wedi perfformio cystal ag y gallai fod wedi’i wneud.

Rwyf yn croesawu, wrth gwrs, y ffaith bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gwarantu’r penderfyniadau gwariant sydd wedi eu gwneud ac a fydd yn cael eu gwneud gan Lywodraeth Cymru yn ystod y cyfnod ariannu hwn, ac yn sicr rwy’n cefnogi'r hyn y mae Mr Ysgrifennydd y Cabinet newydd ei ddweud am ddychwelyd cymhwysedd i'r Siambr hon ac i Lywodraeth Cymru, ar ôl i ni adael yr UE, o ran materion amrywiol na allwn eu rheoli ar hyn o bryd. Yn amlwg, am y tro, mae'r penderfyniadau gwariant sydd wedi eu gwneud yn parhau i fod yn ddarostyngedig i reolau'r UE, ond mae'n rhaid i ni gofio mai arian trethdalwyr Prydain yw’r cyfan, yn y bôn, er ei fod yn dod trwy brism yr UE. Pan fyddwn yn gadael yr UE, gennym ni a ni yn unig fydd y cyfle i benderfynu ar ein blaenoriaethau ac i wneud ein rheolau ein hunain ynghylch sut i wario’r arian hwn, yn amodol, wrth gwrs, ar yr hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei roi i ni drwy fformiwla Barnett, rhywbeth arall y credaf y bydd yn rhaid i ni ei drafod eto, o ystyried perthynoledd yr incwm a nodais yn gynharach heddiw, ac a nodwyd gan Adam Price.

Felly, nid oes gennyf lawer iawn i’w ychwanegu at yr hyn a ddywedwyd eisoes. O ran y pwyllgor monitro rhaglenni, wrth gwrs, rwyf wrth fy modd yn croesawu Julie Morgan i’w gadeirio. Wrth i ni weld dyrchafiad anhygoel cyn-Brif Foneddiges arall yr ochr draw i’r Iwerydd, pwy a ŵyr lle y gallai ei gyrfa wleidyddol ei harwain o fan hyn? Gallai Cymru, maes o law, gael menyw yn Brif Weinidog a gorau po gyntaf, ddywedwn i, yn hynny o beth.

Credaf fod y datganiad braidd yn angharedig trwy beidio â thalu teyrnged i Jenny Rathbone am ei hymrwymiad cydwybodol i'r swydd pan oedd hithau’n gadeirydd ar y pwyllgor hwn, a thybed a yw hynny oherwydd ei datganiad ei bod wedi ei diswyddo o ganlyniad i ddiwylliant ar frig Llywodraeth Cymru nad yw'n caniatáu am ddadl neu fyfyrio trwyadl ar y defnydd gorau o arian cyhoeddus.

A gawn ni gadw at y datganiad? Mae'n ddrwg gennyf. A gawn ni gadw at y datganiad, os gwelwch yn dda? A wnewch chi holi'r Gweinidog ynglŷn â’r datganiad?

Na, rwy’n credu ein bod wedi cael ychydig o rethreg yn flaenorol, felly os gallwn ddod i'r cwestiynau ar y datganiad, os gwelwch yn dda, byddwn i’n ddiolchgar.

Felly, hoffwn i danlinellu pwysigrwydd yr hyn a ddywedodd Adam Price am gynnwys mwy o Aelodau o wrthbleidiau mewn swyddogaethau o'r fath. Fel y dywedais yn gynharach yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog ynglŷn â’r grŵp ymgynghorol allanol mewn cysylltiad â’r UE, mae'n anffodus nad oes casgliad ehangach o bobl sy'n ymwneud â rhoi’r cyngor hwnnw, ac yn yr un modd o ran y pwyllgor hwn. ‘Cadwch eich gelynion yn agos’, dyna ddywedwn i, oherwydd cewch chi fwy ganddyn nhw drwy wneud hynny.

Rwy'n credu y clywais i ddau gwestiwn yng nghanol hynny, Ddirprwy Lywydd. Gadewch i mi gadarnhau i’r Aelod: gofynnodd pa un a fyddai penderfyniadau gwariant a wneir tra byddwn yn parhau yn yr Undeb Ewropeaidd yn cael eu gwneud mewn ffordd sy'n gyson â'r ymrwymiadau cyfreithiol sydd ynghlwm wrth yr aelodaeth; yr ateb i hynny yw ‘byddant’. Gofynnodd wedyn pa un a fyddai polisi rhanbarthol yn y dyfodol y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd yn rhoi mwy o ryddid i ni wneud penderfyniadau i ddylunio’r polisi hwnnw yma yng Nghymru; yr ateb i hynny hefyd yw ‘byddai’.

A gaf i groesawu'r datganiad a chroesawu penodiad fy nghydaelod Julie Morgan i'r swydd bwysig hon? A gaf i nodi yn syml, er efallai y byddwn yn anghytuno ar gyfradd y cynnydd, ni allwn anwybyddu'r ffaith bod y cymunedau y mae Adam a minnau yn eu cynrychioli, wedi bod trwy bob lefel o uffern yn ystod y genhedlaeth hon, ac wedi cyrraedd y gwaelod o ran gofid cymdeithasol ac economaidd, a’n bod ni wedi gorfod tynnu ein hunain allan o’r sefyllfa honno, ond ein bod yn teithio i’r cyfeiriad cywir? Rwy'n falch o weld yr ymrwymiad cyllid, gyda hyd at 43 y cant o'r cronfeydd strwythurol wedi’i ddyrannu erbyn hyn, a’r cynnydd pellach a fydd yn cael ei wneud yn fuan iawn. Rwyf wedi gweld fy etholaeth fy hun yn elwa ar Twf Swyddi Cymru, cynlluniau prentisiaeth gyda’r coleg lleol, Choleg Penybont lleol a chyflogwyr lleol, a buddsoddiad uniongyrchol mewn diogelu a chynyddu cyflogaeth yn fy nghymuned. Ond, nodaf fod Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud, yng nghanol ei ddatganiad,

‘Mae’n parhau i fod yn wir, fodd bynnag, bod ein gallu i gyflawni rhaglenni 2014-20 yn llawn fel y bwriadwyd yn wreiddiol, ac yn unol â'n cytundebau â'r Comisiwn Ewropeaidd, yn dal i fod yn ddibynnol iawn ar amserlen Llywodraeth y DU ar gyfer gadael yr Undeb Ewropeaidd.’

Ac fel y gwyddom, Ddirprwy Lywydd, mae hynny yn dal i fod yn ddryswch. Felly, a gaf i ddweud wrth Ysgrifennydd y Cabinet: onid yw hyn yn gwbl hanfodol, bod angen i Lywodraeth y DU wrando yn awr ar gyflogwyr, colegau, Llywodraeth Cymru a phobl Cymru i lunio cyflymder a ffurf yr ymadawiad o’r Undeb Ewropeaidd? Mae hynny'n hanfodol, neu fel arall ni, y bobl sy'n fwyaf dibynnol ar hyn i gyfrannu at ein hadfywiad economaidd a chymdeithasol, fydd y rhai a fydd yn teimlo’r effaith waethaf yn sgil y penderfyniadau a wneir ar ben arall yr M4.

Ddirprwy Lywydd, a gaf i ddweud cymaint yr wyf yn cytuno â'r ddau bwynt y mae’r Aelod wedi’u gwneud? Rwy’n pwysleisio yn fy natganiad yr amserlen ar gyfer gadael a phwysigrwydd hynny o ran y cylch cyfredol o gronfeydd strwythurol, ond mae'r Aelod yn pwysleisio nid yn unig y cyflymder ond ffurf yr ymadael—ei natur. Ac er ein bod yn parhau â thrafodaethau agos â Llywodraeth y Deyrnas Unedig i sicrhau bod buddiannau Cymru yn cael eu cyfleu iddynt a bod dealltwriaeth lawn ohonynt, mae hefyd yn parhau i fod yn wir nad oes unrhyw gynllun cyfrinachol ganddynt sy'n cael ei ddatgelu i ni yn raddol. Rydym yn parhau i drafod â San Steffan a Whitehall lle mae'r ymladd mewnol, y diffyg eglurder, a’r amhosibilrwydd, yn ôl pob tebyg, o geisio cyrraedd safbwynt unigol, a fyddai'n rheoli cyflymder, maint a natur yr ymadawiad, yn parhau i fod yn broblem enfawr.

Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi, o’r diwedd, gydnabod nad oes y fath beth ag arian yr UE? Mae’r arian yn arian trethdalwyr y DU, a dyna beth a fu erioed. Pe bai trethdalwr Prydeinig yn rhoi papur £10 i’r UE, byddai’n cael papur £5 yn ôl. Nid arian yr UE mohoni, ac ni fu erioed yn arian yr UE. A wnewch chi gydnabod hynny os gwelwch yn dda?

Hefyd, dywedasoch yn eich datganiad bod Llywodraeth y DU yn cydnabod pwysigrwydd arian yr UE i Gymru wrth fynd i'r afael ag anghyfartaledd economaidd a chymdeithasol. Mewn gwirionedd, rwy’n credu ein bod ni i gyd yn cydnabod cymaint y mae angen adolygiad ar unwaith o fformiwla Barnett i sefydlu model cyllid tecach a mwy cadarn i Gymru, i sicrhau nad yw'n cael ei gadael ar ei hôl hi o ran y budd a dddaw yn sgil Brexit. Felly, beth am i ni beidio â chael Brexit i frecwast yn unig, gadewch i ni ei gael i ginio a swper, hefyd. Felly, a wnewch chi gytuno â mi bod angen adolygiad o fformiwla Barnett er mwyn sicrhau mwy parhaus i anghenion cyllid Cymru?

Gadewch i mi ddechrau drwy anghytuno â Nathan Gill. Pan fyddaf i’n talu fy nhanysgrifiad i Glwb Criced Morgannwg bob blwyddyn, nid wyf i wedyn yn troi a dweud bob tro yr af i ‘Gyda llaw, fy arian yw hynny, nid eich arian chi’. Mae'n dod yn arian Clwb Criced Morgannwg, ac maen nhw yn ei ddefnyddio er adloniant imi. [Torri ar draws.] Neu ddim, yn ôl y digwydd. [Chwerthin.]

O ran ei ail bwynt, pa un a fydd gadael yr Undeb Ewropeaidd, a’r newidiadau cyllido a ddaw yn sgil hynny, yn arwain at adolygiad ehangach o sut y mae cyllid yn llifo i Gymru, gan gynnwys fformiwla Barnett, wel, yn hynny o beth, rwyf yn cytuno ag ef.

6. 5. Datganiad: ‘Law yn Llaw at Iechyd Meddwl’

Symudwn ymlaen at eitem 5, sef datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Lles a Chwaraeon, o'r enw 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl'. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Lles a Chwaraeon, Vaughan Gething.

Member
Vaughan Gething 15:54:00
The Cabinet Secretary for Health, Well-being and Sport

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ym mis Gorffennaf, bydd yr Aelodau'n cofio i mi gyflwyno drafft Llywodraeth Cymru ar yr ail gynllun cyflawni i gefnogi ein strategaeth traws lywodraethol 10 mlynedd, 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl'. Lansiais y cynllun cyflawni terfynol ddoe i gyd-fynd â Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd.

Mae cynllun cyflawni 2016-19 yn nodi 10 maes blaenoriaeth ar gyfer gwella gwasanaeth, gan gynnwys enghreifftiau o draws-weithio gyda meysydd fel tai ac addysg, sy'n dangos sut y dylem fod yn gydgysylltiedig yn ein darpariaeth. Mae hefyd yn dangos sut y byddwn yn parhau i sbarduno rhoi’r strategaeth ar waith. Mae'n nodi camau gweithredu a mesurau perfformiad clir i sicrhau cyflawni, ac mae'r manylion wedi eu llywio gan ddadl y Cyfarfod Llawn a gynhaliwyd gennym ym mis Gorffennaf a’r ymgynghori helaeth â defnyddwyr gwasanaeth ac asiantaethau yn y sector gwirfoddol, yn ogystal ag amrywiaeth eang o bartneriaid, asiantaethau a rhanddeiliaid.

Ers lansio 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' yn 2012, bu cynnydd sylweddol ar draws ystod o feysydd allweddol, gan gynnwys rhoi Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 ar waith. Fodd bynnag, gellir gwneud mwy ac mae angen gwneud mwy, fel y gallwn wneud gwahaniaeth parhaus i bobl y mae eu bywydau yn cael eu heffeithio gan broblemau iechyd meddwl.

Roedd ein dadl ym mis Gorffennaf yn pwysleisio meysydd sy'n bwysig i bob un ohonom: adeiladu cydnerthedd mewn unigolion a chymunedau i fynd i'r afael ag iechyd meddwl gwael pan ei fod yn digwydd; gwell cefnogaeth ar gyfer ein pobl ifanc, yn enwedig y rhai sydd mewn perygl o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod; a sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu darparu mewn modd diogel, amserol ac effeithiol, gydag urddas a pharch ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth.

Bydd y cynllun newydd hwn hefyd yn cyfrannu at gyflawni rhai amcanion allweddol a nodir yn adran iach ac egnïol y rhaglen lywodraethu, gan gynnwys gwaith parhaus ar fynd i'r afael â stigma a gwahaniaethu, gan gyflwyno bond lles newydd yng Nghymru, gyda'r nod o wella iechyd corfforol a meddyliol, a threialu cynllun presgripsiwn cymdeithasol i wella’r gallu i gael gafael ar ffynonellau cefnogaeth yn y gymuned.

Rydym wedi parhau i wario mwy ar wasanaethau iechyd meddwl nag ar unrhyw ran arall o GIG Cymru a chynyddodd cyllid i dros £600 miliwn yn y flwyddyn hon. Dros y ddwy flynedd ariannol ddiwethaf, rydym wedi cyhoeddi dros £22 miliwn o arian newydd ar gyfer ystod o ddarpariaethau newydd ar draws pob oedran. Rydym yn disgwyl i hynny wella hygyrchedd gwasanaethau a chanlyniadau i ddefnyddwyr gwasanaeth ymhellach.

Ers rhoi’r ddeddfwriaeth arloesol, y Mesur iechyd meddwl, ar waith, bu gwelliannau gwirioneddol i'r gofal a'r cymorth y mae pobl yn eu derbyn. Yn ganolog i gyflwyno’r Mesur hwn yr oedd ymagwedd gydgynhyrchiol, gan ein bod yn gosod anghenion a llais defnyddwyr gwasanaeth wrth wraidd dylunio gwasanaethau a chynllunio gofal a thriniaeth.

Ers mis Ebrill 2013, mae dros 100,000 o bobl wedi cael eu hasesu gan y gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol a sefydlwyd o dan y Mesur. Mae dros hanner y rheini wedi mynd ymlaen i gael triniaeth yn y gwasanaethau hynny. Mae amseroedd aros am asesiad a thriniaeth mewn gofal sylfaenol wedi parhau i wella ac mae’n rhaid cynnal hynny, wrth gwrs.

Mae camau sylweddol wedi'u cymryd i wella darpariaeth therapïau seicolegol yng Nghymru, gyda buddsoddiad ychwanegol o £3 miliwn yn y gwasanaethau i oedolion a phlant y llynedd a £1.15 miliwn arall eleni yn canolbwyntio ar wasanaethau cleifion mewnol. Rydym yn disgwyl gwelliant pellach mewn therapïau siarad drwy gyfnod y cynllun cyflawni hwn, ac unwaith eto caiff yr ymrwymiad hwnnw ei atgyfnerthu yn ‘Symud Cymru Ymlaen'.

O ran y gweithle, fel Llywodraeth rydym yn cefnogi busnesau a sefydliadau i gydnabod nad yw salwch meddwl o reidrwydd yn rhwystr i weithio’n effeithiol. Mae darparu cyflogaeth a chynnal pobl mewn swyddi da yn ffordd gadarnhaol o gynorthwyo unigolion sy'n gwella ar ôl problemau iechyd meddwl. Mae gwella iechyd meddwl a lles staff yn elfen allweddol o wobrau Cymru Iach ar Waith Llywodraeth Cymru. Nod ein safon iechyd corfforaethol a’n gwobrau iechyd gweithleoedd bach yw gwella iechyd a lles y boblogaeth o oedran gweithio a lleihau'r beichiau meddyliol, corfforol ac ariannol sy'n gysylltiedig ag absenoldeb oherwydd salwch.

Mae'r cynllun cyflawni hwn hefyd yn nodi maes blaenoriaeth sydd â'r nod o sicrhau bod plant a phobl ifanc â phroblemau iechyd meddwl yn gwella yn gynt. Rydym yn gweithio ac yn cefnogi rhaglen ‘Gyda’n Gilydd ar gyfer Plant a Phobl Ifanc' y GIG, sydd yn gweithio gyda phartneriaid ar draws asiantaethau, nid dim ond iechyd, er mwyn ystyried y ffordd orau o fodloni anghenion emosiynol ac iechyd meddwl ein pobl ifanc. Pan fydd pobl ifanc angen gwasanaethau iechyd meddwl mwy arbenigol, rydym yn buddsoddi bron i £8 miliwn y flwyddyn mewn gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed arbenigol i helpu i wella mynediad amserol.

Mae'r cynllun cyflawni hefyd yn cynnwys nodau er mwyn helpu i sicrhau bod grwpiau sydd mewn mwy o risg o gael problemau iechyd meddwl yn derbyn y gofal sydd ei angen arnynt. Rydym yn cydnabod bod beichiogrwydd a chyfnod cynnar bod yn rhiant yn gyfnodau arbennig o heriol, ac rydym yn cynnig cymorth ychwanegol i deuluoedd. Felly, byddwn yn sicrhau bod rhieni yn gallu cael gafael ar y wybodaeth a'r cymorth sydd eu hangen arnynt, ochr yn ochr â'r £1.5 miliwn yr ydym yn ei fuddsoddi mewn gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol cymunedol ledled Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i ddarparu cymorth i bobl yng Nghymru sydd â dementia ac i’w teuluoedd. Y llynedd, cyhoeddwyd nifer o feysydd gwaith blaenoriaeth a'r camau y byddem yn eu cymryd i gefnogi pob un o'r rhain. Mae hyn yn cynnwys gwaith ar leihau'r risg o ddementia, cynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd, gwella cyfraddau diagnosis a sicrhau bod cymorth ar gael i'r rhai sy'n cael eu heffeithio gan y salwch. Mae buddsoddiad a wnaed dros y ddwy flynedd ddiwethaf eisoes yn dangos rhywfaint o gynnydd yn y maes pwysig hwn. Yn y cynllun cyflawni, rydym yn ail ymrwymo i ddatblygu cynllun strategol dementia er mwyn sicrhau'r sbardun a'r pwyslais angenrheidiol sydd eu hangen ar yr agenda hon. Mae ymgysylltu gydag arbenigwyr yn y maes, gyda gofalwyr, gyda phobl sy'n byw gyda dementia eu hunain, wedi cychwyn. Rwy'n disgwyl i’r gwaith hwnnw gael ei gwblhau fel y gallwn ymgynghori'n ffurfiol ar y cynllun dementia ym mis Rhagfyr eleni.

Mae'r cynllun cyflawni yn nodi'r hyn y gall Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus ehangach, mudiadau gwirfoddol a busnes ei wneud i gyflawni ein nodau cyffredin dros y tair blynedd nesaf. Rydym wedi gweld y trydydd sector yn cymryd rhan hyd yn oed mwy gweithgar yn y ffordd y mae gwasanaethau iechyd meddwl yn cael eu llunio a'u darparu yn y blynyddoedd diwethaf, ac yn helpu i sicrhau’r ethos o gydgynhyrchu wrth gynllunio a chyflwyno gwasanaethau.

Mae’r tair blynedd diwethaf wedi dangos, er bod 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' yn agenda heriol, bod cynnydd gwirioneddol yn bosibl. Hyderaf y bydd Aelodau o bob plaid yn cydnabod yr hyn a gyflawnwyd hyd yn hyn. Mae'r cynllun cyflawni newydd yn uchelgeisiol, ond drwy weithio mewn partneriaeth, rwy’n credu y gallwn ni barhau i wneud cynnydd yn ystod y cam nesaf o ddarparu.

Diolch yn fawr iawn. Mae nifer o siaradwyr sy’n dymuno siarad. Dadl hanner awr yw hon, felly a gaf i ofyn am gyfraniadau byr ac atebion byr hefyd? Rhun ap Iorwerth.

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch am y datganiad ac am y cynllun strategol a gafodd ei gyhoeddi ddoe? Rwy’n cydnabod, yn sicr, y camau ymlaen sydd wedi bod ers lansio cynllun 2012, ond mae’r Ysgrifennydd Cabinet ei hun wedi cydnabod gymaint sydd ar ôl i’w wneud, ac rwy’n edrych ymlaen at y ddadl brynhawn fory yn y Siambr hefyd, lle y cawn ni drafod rhai o’r gwendidau—gwendidau sylfaenol o hyd mewn rhai meysydd—sydd yna yn y ddarpariaeth.

Tri chwestiwn sydd gen i, yn gyntaf ynglŷn â gofalwyr. Nid ydy’r datganiad ddim yn crybwyll gofalwyr y rheini sydd â phroblemau iechyd meddwl ar wahân i ddweud y byddan nhw’n cael eu cynnwys yn y strategaeth ddementia. Mae edrych ar ôl aelod o’r teulu sydd â phroblem iechyd meddwl hefyd yn gallu effeithio ar iechyd meddwl y gofalwr. Felly, pa fath o strwythurau cefnogaeth sydd yn mynd i gael eu rhoi mewn lle, yn enwedig gan ystyried bod gofalu am rywun sydd â phroblemau iechyd meddwl yn cynnig set wahanol iawn o heriau i ofalu am rywun sydd â phroblem gorfforol?

Yn ail, nid ydy’r datganiad ddim yn sôn am y staff sydd eu hangen er mwyn delifro gwelliannau i’r gwasanaeth, sef yr angen am gynnydd yn nifer therapyddion a hefyd sicrhau bod yna ddigon o amser ar gael ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaol. Rydym ni’n gwybod, er enghraifft, fod yna lawer o therapyddion yn gweithio yn y sector breifat. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i dynnu’r rheini i mewn i’r NHS, hyd yn oed os dim ond yn rhan amser, er mwyn cynyddu capasiti?

Ac yn drydydd, un o’r problemau gwirioneddol yn aml iawn o ran y rheini sydd angen gofal brys er mwyn atal hunananafu neu hunanladdiad ydy un ai eu bod nhw ddim yn hysbys i’r gwasanaeth neu eu bod nhw rhywsut wedi llithro drwy y rhwyd—bod yna ddim galwadau ‘follow-up’, os liciwch chi, wedi bod i ofyn pam na wnaethon nhw droi i fyny ar gyfer apwyntiadau ac ati. Mi wnaeth awdit o achosion rhai yn eu harddegau yn ddiweddar ddangos bod llawer o’r rheini a oedd wedi cymryd eu bywydau eu hunain ddim yn hysbys i CAMHS neu ddim wedi cael eu monitro, felly yr union broblem rwy’n sôn amdani. A ydy’r Ysgrifennydd Cabinet yn derbyn bod natur y problemau y mae rhai o’r unigolion yma yn eu hwynebu yn golygu nad oes ganddyn nhw’r cymhelliad yn aml—yr un ‘motivation’—i droi i fyny ar gyfer apwyntiad, yn enwedig, o bosib, apwyntiadau yn gynnar yn y bore os mai un o sgileffeithiau y cyflwr sydd arnyn nhw ydy methiant i godi yn y bore ac ati? A ydy’r Ysgrifennydd Cabinet, yn y cyd-destun hwnnw, yn derbyn bod angen, yn aml iawn, bod yn llawer mwy rhagweithiol wrth helpu yr unigolion yma sydd angen ein cymorth ni?

Diolch am y tri chwestiwn. Rwyf yn hapus i ymateb. Rwyf am ateb yn gyntaf eich cwestiwn am ofalwyr. Mewn gwirionedd, wrth gwrs, rydym yn sôn am ofalwyr ym mhob rhan o’n gwahanol strategaethau ac nid dim ond yn yr un yma ychwaith. Maen nhw’n cael eu crybwyll yn benodol yn rhan o faes blaenoriaeth 4, ond nid dyna'r unig un o'r 10 maes blaenoriaeth lle mae gofalwyr yn berthnasol. Byddwn yn cyfeirio yn ôl at y ffaith fod gan ofalwyr hawl statudol i gael asesu a diwallu eu hanghenion gofal a chymorth o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Felly, nid yw’n ymwneud yn unig â gweld y strategaeth ar ei phen ei hun a dweud nad oes digon o sôn am ofalwyr, oherwydd ein bod yn cydnabod, ym mhob rhan o hyn, er mwyn trin y defnyddiwr gwasanaeth unigol gydag urddas a pharch, mae angen i chi hefyd ddeall y cyd-destun y mae’r gofal hwnnw yn cael ei ddarparu ynddo. Mae'r teulu a’r ffrindiau sy'n darparu’r gofal anffurfiol neu ffurfiol o'u hamgylch yn rhan o hynny. Felly, mae eu hanghenion gofal a chefnogaeth hefyd yn rhan o'r hyn y mae angen i ni eu hystyried. Felly, rwy'n credu bod hynny'n rhan o ble yr ydym yn gweld hyn. Nid yw'n fater bod gofalwyr wedi eu hanghofio—dim o gwbl.

Rwyf am ymdrin â'r pwynt a wnewch am hunanladdiad, oherwydd, wrth gwrs, lansiwyd ail gam 'Beth am Siarad â Fi 2: Strategaeth Atal Hunanladdiad a Hunan-niwed yng Nghymru 2015-2020' ym mis Gorffennaf 2015, ac mae'n cymryd ymagwedd wedi'i thargedu’n fwy na'r strategaeth flaenorol. Felly, yn arbennig, rydym yn ceisio nodi grwpiau penodol o bobl agored i niwed. Felly, ar gyfer rhywun nad yw'n mynychu apwyntiadau, mae pwyntiau risg yn hynny o beth sy’n cael eu codi mewn gwirionedd. Yr her yw rhywun sydd ddim wir yn hysbys i'r gwasanaethau—mae'n wirioneddol anodd. Mae hynny wir yn anodd ei atal. Yr her yn y fan yma yw deall y bobl hynny sydd wir o bosibl yn agored i niwed, a ddylai fod yn flaenoriaeth uwch a sut i helpu i gefnogi'r rheini. Mae hynny'n benodol yn rhan o'r strategaeth 'Beth am Siarad â Fi 2'. Roeddwn yn falch iawn, ddoe, o gael cyfle i drafod hynny gyda Samariaid Cymru, pan siaradais yn lansiad eu hadroddiad effaith yng Nghymru. Ceir llif cadarnhaol iawn o waith ac rydym mewn gwirionedd yn gweld hunanladdiadau yn lleihau yng Nghymru, nad yw'n duedd yr ydym yn ei gweld ym mhob rhan arall o'r DU. Ond does dim hunanfodlonrwydd ynglŷn â ble yr ydym ni a dyna pam mae gennym strategaeth benodol yn y maes hwn i fod yn fwy rhagweithiol o ran deall pwy sydd mewn perygl.

Yn olaf, ar eich pwynt ynglŷn â staff, mae pwynt teg yn y fan yma ynghylch cydnabod pwy yr ydym eu hangen ar gyfer gweithlu’r dyfodol i gyflawni'r amcanion sydd gennym mewn gwirionedd, a gweledigaeth yr wyf yn meddwl y byddai pobl o amgylch y Siambr hon yn credu ynddi. Mae'n ymwneud wedyn â sut yr ydym yn ei chyflawni. Ond er fy mod wedi trafod a nodi’r ystod o arian parod yr ydym yn ei wario a’r buddsoddiad ychwanegol yr ydym wedi ei wneud, y galw mwyaf ar yr adnodd hwnnw mewn gwirionedd yw cyflogau. Arian ydyw—a’r aelodau staff y mae’r arian hwnnw yn eu caffael. Felly, pan fyddwch yn gweld y cam ymlaen a wnaed yn y gwasanaeth cyn-filwyr GIG Cymru, mae hynny oherwydd bod gennym mewn gwirionedd fwy o staff i ddarparu'r gwasanaeth a dyna pam y mae amseroedd aros yn sylweddol well na rhannau eraill o'r DU sydd â gwasanaeth tebyg. Pan fyddwn yn sôn am CAMHS, mae bron y cyfan o hynny yn mynd ar gyfer staff, a dyna ble yr ydym yn gweld o'r diwedd amseroedd aros yn lleihau, oherwydd ein bod wedi cael yr adnodd o staff ar waith sydd mewn gwirionedd yn mynd i'r afael â'r heriau o fewn y gwasanaeth.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Felly, mae llawer yn ymwneud â chael y staff cywir wedi’u sefydlu. Rydym yn cydnabod bod bylchau yn dal i fod o ran ble yr ydym eisiau bod. Mae'n un o'r ychydig feysydd a gaiff ei herio, er enghraifft, mewn gwasanaethau cyhoeddus, fel y meant gennym erbyn hyn, lle mae arian yn dynnach, ond mae galw yn dal i fod am fwy o staff yn y GIG mewn gwahanol arbenigeddau. Ein her ni bob amser fydd sut yr ydym yn cyfateb yr hyn yr ydym ei angen a'r hyn yr ydym ei eisiau gyda’r staff sydd ar gael a gwneud yn siŵr eu bod yn gweithio yn y model cywir o ofal ac yn gweld y bobl iawn ar yr adeg iawn.

Weinidog, diolch ichi am y datganiad heddiw ac am gyhoeddi'r cynllun cyflawni ddoe ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd. Mae gennyf nifer o gwestiynau yr wyf eisiau eu gofyn i chi am hyn. Gan fynd yn ôl at gwestiwn a ofynnais i'r Prif Weinidog, yn eich datganiad, yn y man lle mae gennych chi eich tri phwynt bwled, rydych yn sôn am bwysleisio'r meysydd sy'n bwysig i ni ac roeddech yn siarad yn arbennig am adeiladu cydnerthedd mewn unigolion a chymunedau i fynd i'r afael ag iechyd meddwl a lles gwael pan fydd yn digwydd. Rydych hefyd yn mynd ymlaen i sôn am dreialu cynllun presgripsiwn cymdeithasol. Codais bryderon y bore yma gyda'r Prif Weinidog, felly hoffwn ofyn i chi yn uniongyrchol: a allwch chi ddweud wrthym faint o gydberthynas oedd rhwng y cynllun cyflawni iechyd meddwl hwn a Deddfau eraill Llywodraeth Cymru, yn enwedig Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru)? Rwy'n credu bod rhai tensiynau rhwng y cynllun cyflawni hwn a’r Ddeddf honno, o ran cael rhywun yn cyfnerthu ac yn annog unigolion i wneud pethau a bod yn gyfrifol amdanynt hwy eu hunain, ac eto mae'r rhagnodi cymdeithasol a'r sylwadau am unigolion a chymunedau yn siarad i raddau helaeth iawn am ddibynnu ar eich cymuned a chymryd rhan yn eich cymuned. Cyfeiriais at un maes penodol, ond mae'n ymwneud â phan fod gennych sefydliadau neu grwpiau cymunedol sy'n cael eu cau o dan y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol, oherwydd bod pobl yn cael eu gorchymyn i fod wedi eu grymuso ac i gymryd cyfrifoldeb eu hunain, ac eto mae’r cynllun cyflawni iechyd meddwl hwn yn ymwneud i raddau helaeth â sut yr ydym yn integreiddio pobl ag iechyd meddwl, sut yr ydym yn eu cynnwys mewn cymunedau a sut yr ydym yn eu cynnal ac yn eu cefnogi. Felly, hoffwn ddeall y gydberthynas rhwng gwahanol amcanion y Llywodraeth.

Gan symud ymlaen yn gyflym, cwestiwn byr iawn: rwy’n meddwl bod gwobrau Cymru Iach ar Waith Llywodraeth Cymru yn syniad cwbl ardderchog. Roeddwn eisiau deall os oeddech chi’n gallu cynnig cyllid ar gyfer arweiniad a mentora i'r gweithleoedd bach i sicrhau bod y stigma iechyd meddwl yn cael ei waredu mewn gwirionedd, gan fod hwn yn swnio’n syniad gwych, ond mae angen i ni fynd â mudiadau bach yn ogystal â chorfforaethau mawr gyda ni yn hyn o beth.

Rwyf yn olaf am droi at faes gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed. Rwyf wir yn croesawu'r ffaith eich bod yn dweud yn y fan yma,

Pan fydd pobl ifanc angen gwasanaethau iechyd meddwl mwy arbenigol, rydym yn buddsoddi bron i £8 miliwn yn flynyddol mewn CAMHS arbenigol.

Rydych hefyd yn siarad am y ffaith eich bod yn llunio cynllun sy'n gweithio gyda phartneriaid ar draws asiantaethau i ystyried orau sut i fodloni gofynion emosiynol ac iechyd meddwl pobl ifanc. Mae CAMHS yn wasanaeth gwych. Rwy'n falch eich bod yn rhoi mwy o arian i mewn iddo, ond y broblem yw bod cymaint o fwlch rhwng y gwasanaethau y gellir eu cynnig gan lywodraeth leol, gan sefydliadau partner a gan fyrddau iechyd a'r mathau o wasanaethau neu gyflyrau y mae angen i berson ifanc eu cael er mwyn cael mynediad at CAMHS. Brif Weinidog—. Rwy'n mynnu eich galw yn 'Brif Weinidog'. Mae’n rhaid fy mod i’n cael rhagwelediad ynglŷn â hyn. [Torri ar draws.] Dyna ydyw. [Chwerthin.] Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch chi gadarnhau neu roi barn ynghylch pa un a ydych yn credu bod hyn yn ddigon i geisio cau'r bwlch hwnnw, gan fod angen i bobl ifanc gael amrywiaeth anhygoel o eang o gyflyrau er mwyn gallu cael mynediad at CAMHS? Yr hyn sy'n digwydd yw bod nifer fawr o bobl ifanc gyda thueddiadau hunanladdol, sy'n hunan-niweidio neu sydd â chyflyrau lluosog neu anableddau lluosog gyda chyflyrau yn cael eu gwrthod rhag cael mynediad at CAMHS am nad ydynt yn cyd-fynd â’r meini prawf caeth hynny. Ni allaf weld yn y cynllun gweithredu iechyd meddwl y byddwch yn gallu mewn gwirionedd gau'r bwlch hwnnw mewn modd mor dda â hynny.

Yn olaf, Lywydd, oherwydd gwn fy mod i newydd ddweud 'yn olaf'. [Torri ar draws.] Mi wnes i. Dyma fy ‘olaf ' terfynol. Yn y cynllun yr ydych yn siarad llawer iawn am fesur canlyniadau, sef rhywbeth sy'n agos iawn at galon Ceidwadwr. Yr hyn sy'n llai clir yw sut yr ydych yn mynd i fesur y canlyniadau hynny. Rydych yn sôn am ofyn am farn pobl. Does dim llawer o eglurder ynghylch a yw'n ymchwil meintiol neu ymchwil ansoddol. Ar lawer iawn o'r canlyniadau, lle yr ydych yn mynd i wneud y mesuriadau, nid ydych yn nodi beth mae pobl yn mynd i gael eu mesur yn ei erbyn a beth yw eu llinellau sylfaen. Felly, hoffwn eich barn ar ba mor dda yr ydym yn credu y gallwn ni wir fonitro'r cynllun hwn i sicrhau ei fod yn cyflawni dros bobl Cymru.

Diolch i chi am y gyfres o gwestiynau. Rwyf am geisio mynd drwyddynt yn fyr ac yn gyflym, gan gadw mewn cof y gyfarwyddeb a gawsom yn gynharach. O ran y pwynt am adeiladu cydnerthedd a rhagnodi cymdeithasol, nid wyf yn credu bod unrhyw wrthdaro rhwng y cynllun cyflawni hwn a thelerau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru). Rwy’n credu y gallai fod her o ran y ffordd y mae pobl yn dewis gweithredu hynny a'r blaenoriaethau y maent mewn gwirionedd yn eu llunio, ond nid oes unrhyw beth yn y cynllun cyflawni hwn a thelerau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) sy’n torri ar draws ac a ddylai atal gweithio effeithiol rhwng asiantaethau i geisio gwella llais y defnyddiwr gwasanaeth. Byddai gennyf wir ddiddordeb, efallai, pe byddech yn ysgrifennu ataf neu’n siarad â mi ynglŷn â'r enghraifft benodol yr ydych wedi ei chodi, gyda'r Prif Weinidog a minnau, am y cyfleusterau cymunedol yr ydych yn dweud sydd wedi cael eu cau oherwydd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), oherwydd byddwn i'n synnu'n fawr iawn os oedd rheidrwydd statudol gwirioneddol i gau'r gwasanaeth y cyfeiriasoch ato.

Ceir bob amser yr her ynglŷn ag arian, ac rydych yn gwybod ein bod yn byw mewn cyfnod o gyni. Mae llai o arian ar gael i rai gwasanaethau, y byddem i gyd yn eu gwerthfawrogi ym mhob plaid, ond maent yn annhebygol o gael yr arian hwnnw i barhau i symud ymlaen. Mae bob amser ddewis o ran y bobl sy'n gallu darparu'r gwasanaethau hynny, pa un a ydynt yn wirfoddolwyr neu’n weithwyr cyflogedig. Yn yr un modd, ceir y safbwynt a gymerwyd genym o ran y bobl sy’n comisiynu’r gwasanaethau hynny, boed hynny y GIG neu lywodraeth leol, am ddiben y gwasanaeth hwnnw, am ddiben y bobl sy'n ei ddarparu yn y trydydd sector neu fel arall, a’r ansawdd y mae’n ei ddarparu wedyn hefyd.  Byddai gennyf ddiddordeb clywed mwy gennych fel y gallaf roi, efallai, ymateb mwy defnyddiol neu benodol i’r mater penodol a godwyd gennych.

O ran y gwobrau Cymru Iach ar Waith, cyflwynais nifer o’r gwobrau hyn yn y gorffennol, ac mae wedi bod yn ddiddorol iawn gweld y ffordd y mae busnesau—busnesau bach, canolig a mawr—wedi ymateb mewn gwirionedd. Mae iechyd meddwl a lles wedi bod yn rhan bwysig iawn o'r meini prawf sy'n cael eu defnyddio. Ym mhob un o'r byrddau stori yr ydym yn deall y daith y mae busnes wedi mynd arni. Maen nhw wedi dysgu llawer iawn eu hunain am ofalu am les eu gweithwyr a chefnogi pobl i ddod yn ôl i'r gweithle. Felly, rwy'n fodlon, yn y broses sydd gennym yn edrych ar sut y mae gweithleoedd bach yn cymryd rhan ac yn ymgysylltu, fod unrhyw weithle bach sy'n awyddus i gymryd rhan yn y wobr hon yn canfod cefnogaeth ragweithiol gan y Llywodraeth a'n hasiantaethau a'n partneriaid yn Iechyd Cyhoeddus Cymru i geisio ymgysylltu ac i ddeall gwir werth cefnogi eu gweithwyr cyn bod ganddynt broblemau iechyd meddwl, yn ystod y cyfnod hwnnw, a, gobeithio, eu helpu yn ôl i mewn i'r gweithle hefyd.

O ran CAMHS, yr £8 miliwn yr ydym yn ei fuddsoddi yn ein rhaglen 'Gyda'n Gilydd dros Blant a Phobl Ifanc', mae gennym y GIG; mae'n cael ei arwain gan y GIG. Mae gennym y trydydd sector. Mae gennym ystod o blant a phobl ifanc eu hunain yn cymryd rhan fel rhanddeiliaid. Rwy'n credu ei fod mewn gwirionedd yn fodd cadarnhaol iawn o bobl yn gweithio gyda'i gilydd a chydnabod eu bod, o rannu gyda'i gilydd, mewn gwirionedd yn gallu deall yr heriau a'r ystod o broblemau a'r atebion hefyd. Felly, rwy’n cydnabod y pwynt a wnewch am y gwahaniaeth rhwng y gwasanaeth arbenigol, lle mae wir gan bobl anghenion lefel uchel iawn, iawn, a phobl sydd yn ddealladwy ag angen nad yw'n cael ei ddatrys ar hyn o bryd mewn ffordd sy'n cyd-fynd ag anghenion y person ifanc unigol a'u cyd-destun teuluol lle mae'n cael ei weld. Dyna ran o her y gwaith y mae angen inni ei wneud gyda phartneriaid—dyna hefyd pam y mae’r Mesur iechyd meddwl wedi bod yn bwysig—ynghylch sicrhau bod gwasanaethau lleol ar gael. Felly, mae'n gweld y sbectrwm cyfan o iechyd a lles—dyweder, ar gyfer plentyn o oedran ifanc, yr hyn sy'n digwydd o fewn eu lleoliad addysg a rhannau eraill o'u bywydau, ac yna beth fydd yn digwydd os oes angen cymorth ychwanegol yn ogystal. Felly, rwy’n cydnabod nad yw’n ddarlun cyflawn fel yr ydym ar hyn o bryd, ac ni fyddwn yn ceisio dweud ei fod. Ond mae'n rhan bwysig iawn o’r blaenoriaethau sydd gennym yn y cynllun cyflawni hwn.

Yn olaf, o ran canlyniadau, rydym wedi gweithio i edrych ar ganlyniadau iechyd y cyhoedd ac wedi benthyca yn helaeth oddi wrthynt i gael ymagwedd am sut yr ydym yn deall pa un a yw canlyniadau yn gwella. Yn yr un modd, mae wedi bod yn rhan o'r hyn yr oedd y gynghrair trydydd sector â diddordeb mawr iawn ynddo, am y modd y mae’r gwaith hwn wedi gwella. Mae rhywfaint o'r gwaith hwnnw ar waith, ac mae mwy sy'n cael ei ddatblygu gyda'r trydydd sector i ddeall canlyniadau o werth gwirioneddol, fel y gallant mewn gwirionedd gredu ynddynt ac y gallant ddeall eu hunain sut y mae hynny’n edrych. Byddaf yn fwy na hapus i gael sgwrs gyda chi a llefarwyr a chydweithwyr eraill yn y Siambr am sut yr ydym yn datblygu’r gwaith hwnnw a sut y byddwn wedyn yn gallu asesu bob blwyddyn, yr ail a'r drydedd flwyddyn, y canlyniadau yr ydym yn eu cyflawni i bobl ledled Cymru.

Diolch i chi am roi’r wybodaeth ddiweddaraf hon i ni heddiw, Ysgrifennydd y Cabinet, ac am ddarparu'r cynllun cyflawni terfynol ddoe. Pan y gwnaethom drafod y cynllun drafft ym mis Gorffennaf, codais fater mynediad at therapïau seicolegol. Profwyd bod mynediad cynnar at therapïau siarad, megis therapi gwybyddol ymddygiadol, yn gwella adferiad a lleihau'r angen am wasanaethau mwy acíwt. Felly, rwy’n croesawu'r ymrwymiad i wella mynediad at therapïau seicolegol a manylion y cyllid. Byddwn yn ddiolchgar pe gallai Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu sut y bydd Llywodraeth Cymru yn lleihau amseroedd aros ar gyfer therapi gwybyddol ymddygiadol yng Nghymru. Diolch hefyd i Ysgrifennydd y Cabinet am yr ymrwymiad i wella'r gwasanaeth CAMHS. Bydd yn newyddion i'w croesawu na fydd pobl ifanc yn aros mwy na 48 awr am atgyfeiriad brys neu fwy na 28 diwrnod am apwyntiad arferol. Fodd bynnag, rwy’n dal yn bryderus am leoli plant a phobl ifanc y tu allan i'r ardal. Croesawaf yr ymrwymiad i leihau nifer y lleoliadau y tu allan i'r ardal a hyd lleoliadau o'r fath. A all Ysgrifennydd y Cabinet egluro pam na fydd y gostyngiad ond yn 10 y cant o linell sylfaen 2013-14? Siawns y gallwn fod yn fwy uchelgeisiol na hynny. Oni ddylem ni fod â’r nod o gael gwared ar y rhan fwyaf o leoliadau y tu allan i'r ardal, o ystyried yr effaith amlwg mae hyn yn ei chael ar iechyd meddwl y bobl ifanc hynny a'u teuluoedd?

Rwy'n edrych ymlaen at ddysgu mwy am sut y bydd y bond lles newydd yn gweithio'n ymarferol ac am fanylion y cynllun rhagnodi cymdeithasol arbrofol. Mae'n bwysig ein bod yn sicrhau bod gan bawb yng Nghymru fynediad at gynlluniau cymorth cymunedol megis y ganolfan Sandfields ragorol neu wasanaeth cynghori Tŷ Elis o fewn fy rhanbarth i. A fydd y cynllun rhagnodi cymdeithasol yn ariannu atgyfeiriadau at gynlluniau cymorth cymunedol fel y rhain? Ar hyn o bryd nid ydynt yn cael unrhyw gyllid gan y GIG, er gwaethaf y ffaith eu bod yn cynnig gwasanaethau gwerthfawr iddynt. Rydym yn croesawu'r ymrwymiad i ddatblygu cynllun strategol dementia. Mae gofal dementia a gofal iechyd meddwl yr henoed yn anffodus yn llusgo y tu ôl i lefel y gofal yr ydym yn ei ddisgwyl. Hefyd, i ddatgan rhywbeth tebyg i Rhun, mewn gwirionedd, mae lles ein gofalwyr, pa un a ydynt yn cael eu talu neu nad ydynt yn cael eu talu, yn hollbwysig, wrth sicrhau eu bod yn cymryd eu seibiannau pan y dylent, a hefyd eu gwyliau, gan fod angen iddynt fod yn gwbl ffit ar gyfer darparu'r gwasanaethau hyn. Yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, rydym yn croesawu'r gydnabyddiaeth o’r rhan sydd gan y trydydd sector i'w chwarae wrth gyflwyno'r cynllun hwn. Mae gan y sector gwirfoddol a phob un ohonom ran bwysig iawn i'w chwarae, nid yn unig o ran gwella gofal iechyd meddwl, ond hefyd wrth fynd i'r afael â stigma iechyd meddwl, a sut y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn bwriadu cefnogi’r gwaith pwysig iawn a wnaed gan Amser i Newid Cymru? Diolch i chi unwaith eto am eich datganiad; rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda chi i sicrhau gwelliannau i iechyd meddwl pobl yng Nghymru. Diolch yn fawr.

Diolch i chi am y gyfres o sylwadau a chwestiynau. Byddaf yn cadw at ymdrin â'r cwestiynau. Mae eich cwestiwn am therapïau seicolegol—nodais yn fy natganiad ac yn rhannol wrth ateb Rhun ap Iorwerth a'i gyfres o gwestiynau, wrth gwrs, fod yr arian yr ydym yn sôn amdano yn mynd i gael ei fuddsoddi yn bennaf mewn staff i ddarparu'r therapïau, a dyna'r pwynt ynglŷn â sut yr ydym yn dymuno gweld gwelliant yn ansawdd y gofal ac yn yr amseroedd aros eu hunain hefyd. Rydym yn gwybod bod angen mwy o gapasiti. Ac ar yr un pryd, fodd bynnag, nid yn unig drwy ehangu'r capasiti sydd gennym, mae angen i ni edrych—ac mae hyn yn rhan o'r cwestiwn yn CAMHS yn ogystal—a hefyd gwneud yn siŵr bod y llwybr cywir yn bodoli fel bod gan y bobl nad ydynt angen y gofal arbenigol hwnnw ffurf briodol o ofal mewn rhan arall o'r system, fel bod hynny’n golygu y gall ac y bydd pobl sydd wir angen mynediad at gymorth therapiwtig arbenigol yn ei dderbyn. Dyma pam hefyd yr ydym wedi newid safonau ein hamseroedd aros. Mae ein safonau amseroedd aros bellach yn llymach nag mewn rhannau eraill o'r DU. Rydym wedi haneru'r amser y mae'n ei gymryd mewn gwirionedd i gael gweld rhywun i gael asesiad, ac yna'r amser y mae'n ei gymryd i ddechrau ymyrraeth therapiwtig hefyd. Felly, rydym mewn gwirionedd yn symud i gael system fwy heriol, gan gydnabod bod cael gafael ar therapi pan fo rhywun angen hynny, yn aml yn fwy pwysig ac, mewn gwirionedd, rydych yn aml yn cael gwell canlyniad y cynharaf y bydd y mynediad hwnnw yn cael ei ddarparu, a dyna pam yr ydym yn gwneud y buddsoddiad sylweddol yr wyf wedi’i amlinellu eisoes.

O ran lleoliadau y tu allan i'r ardal ar gyfer plant, rydym yn glir iawn bod gennym uchelgais i weld nifer y lleoliadau—nid yn unig ar gyfer plant ond hefyd ar gyfer oedolion, yn ogystal, ond roeddech yn gofyn yn benodol am blant—yn gwella, felly mae angen i ni wneud llai o ddefnydd o’r lleoliadau preswyl hyn i blant. Rydym eisiau gweld mwy a mwy o’r gofal hwnnw’n cael ei ddarparu mewn lleoliad lleol, mewn lleoliad cymunedol, ac, yn aml, bydd y canlyniadau yn well. Mae mewn gwirionedd yn fater o pan fo gan rywun anghenion lefel uchel penodol iawn yn golygu y byddent angen lleoliad y tu allan i'r ardal, a bydd hynny’n rhan o'r gwaith y mae angen i ni ei wneud, er mwyn deall pwy sydd angen cael y lleoliad hwnnw mewn gwirionedd ac wedyn gwneud yn siŵr bod lle addas ar gael ar eu cyfer. Ac weithiau efallai na fydd hwnnw yng Nghymru—gall hynny fod y peth iawn i’r person hwnnw ei wneud, ond nid dyna'r dewis a ffefrir gennym ni nac yr un y mae gwasanaethau yn ei gydnabod y byddent yn dymuno ei gael.

O ran eich pwyntiau am y bond lles a rhagnodi cymdeithasol, bydd y Gweinidog iechyd y cyhoedd a minnau yn rhoi mwy o fanylion i Aelodau pan fydd gennym fwy o ddata i’w rhoi i chi, ac yn arbennig, ar y bond lles, sut y gallai hwnnw edrych, yr hyn y bydd yn ei olygu i gymunedau, ac, o ran rhagnodi cymdeithasol, hefyd, mae'n mynd ar draws cyfrifoldebau’r ddau ohonom, oherwydd mae llawer o hyn sy’n ymwneud ag iechyd y cyhoedd a sut yr ydym yn cael pobl i fod yn egniol ac i ymgysylltu, a chydnabod bod llawer o hyn yn ymwneud ag ymdeimlad cyffredinol unigolyn o les, a gall rhagnodi cymdeithasol helpu hynny a helpu canlyniadau iechyd corfforol hefyd, mewn gwirionedd.

Mae gan y gymuned meddygon teulu ledled Cymru diddordeb gwirioneddol yn hyn, ac mae Dr Richard Lewis, gynt o’r BMA, sydd bellach yn arweinydd clinigol cenedlaethol ar gyfer gofal sylfaenol, yn arwain darn o waith ar hyn, ac rwy'n wirioneddol ffyddiog y bydd pobl nid yn unig yn cytuno â’r syniad, ond wedyn yn cytuno, gobeithio, â ffordd symlach o ddeall beth yw rhagnodi cymdeithasol a sut i wireddu hynny i ddinasyddion unigol a’r meddygon teulu eu hunain.

Ac, yn olaf, ynghylch Amser i Newid Cymru, mae'n mwynhau cefnogaeth drawsbleidiol. Rydym wedi parhau i'w ariannu. Byddwn yn adolygu cyflwyno Amser i Newid Cymru, yr hyn yr ydym wedi'i gyflawni, a byddwn wedyn yn edrych ar yr hyn y byddwn yn ei wneud nesaf, gan fod yr ymgyrch i roi terfyn ar stigma a gwahaniaethu yn erbyn pobl ag iechyd meddwl—rydym wedi gwneud camau gwirioneddol ar sail drawsbleidiol yng Nghymru y gallwn fod yn falch ohonynt, ond ni ddylai neb gymryd arno bod hyn wedi ei gwblhau. Mae mwy i ni ei wneud o hyd, felly byddwn yn parhau i fod angen ymgysylltu â’r trydydd sector a'r cyhoedd yn gyffredinol am yr hyn y mae angen i ni ei wneud i newid y naratif ar iechyd meddwl sydd yn rhan arferol o fywyd bob dydd.

A gaf i ddiolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad? Os caf ddechrau gyda CAMHS, rwy’n croesawu'n fawr iawn y buddsoddiad ychwanegol y mae Llywodraeth Cymru wedi’i roi i CAMHS, ac rwy'n falch iawn ein bod yn dechrau gweld rhywfaint o gynnydd, ond, fel y gwyddoch eich hun, mae rhestrau aros yn parhau i fod yn annerbyniol o uchel. Roedd yn rhywbeth y tynnodd y comisiynydd plant sylw ato gerbron pwyllgor y plant yr wythnos diwethaf, ac rydym hefyd yn gwybod bod meysydd o amrywiad rhanbarthol sydd yn broblemus. A gaf i ofyn—rydym ran o'r ffordd drwy'r rhaglen erbyn hyn—sut yn union mae Llywodraeth Cymru yn monitro hyn a hefyd yn monitro unrhyw amrywiadau rhanbarthol?

Yn ystod lansiad effaith y Samariaid ddoe, dysgwyd am eu rhaglen ysgolion arbrofol, DEAL, darparu ymwybyddiaeth emosiynol a gwrando mewn ysgolion, sy'n ffordd o geisio gwella'r gefnogaeth sydd ar gael i bobl ifanc mewn lleoliad ysgol, ac rwy’n croesawu'r ymrwymiad yn y cynllun i edrych ar fentrau o’r fath. Ai dyna’r math o fenter y byddech yn gobeithio ei chyflwyno ledled Cymru, ac a fyddwch yn gallu trafod hyn gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i weld a allai hynny fod yn bosibl?

Os caf symud ymlaen at ddementia, fel y gwyddoch, rwyf wedi bod yn hyrwyddwr o'r angen am strategaeth dementia gydag adnoddau llawn ar gyfer Cymru. Dementia, rwy’n credu, yw’r her fwyaf y mae iechyd a gofal cymdeithasol yn ei hwynebu ar hyn o bryd yng Nghymru, ac rwy’n credu y dylai fod ar yr un lefel â chyflyrau fel canser. Rwy'n falch iawn bod yr ymrwymiad i gynllun strategol dementia yn parhau i fod yn y cynllun a gyhoeddwyd gennych ddoe.

Mae gennyf un neu ddau o gwestiynau, fodd bynnag. Un o'r meysydd o bryder yr wyf wedi’i nodi o'r blaen yw y bydd y mater gweithwyr cymorth, er mor dderbyniol yr ydynt, yn cael ei wneud ar sail y clystyrau meddyg teulu—lleiafrif o un gweithiwr cymorth dementia fesul dau glwstwr meddygon teulu yng Nghymru. Byddai hynny'n caniatáu cyfanswm o ddim ond 32 ledled Cymru. Hyd yn oed ar sail ein cyfraddau diagnosis presennol, er mwyn i bawb gael gweithiwr cymorth dementia byddai angen tua 370 ohonynt. Felly, hoffwn ofyn a yw hynny'n rhywbeth yr ydych yn fodlon parhau i’w adolygu, ac a yw hynny'n rhywbeth y byddwch yn edrych arno ymhellach pan fydd y cynllun hwn yn mynd allan i ymgynghoriad.

Yn yr un modd â chyfraddau diagnosis, maen nhw ar hyn o bryd yn 43 y cant yng Nghymru, sef y gyfradd isaf yn y DU ar hyn o bryd. Y targed ar gyfer 2016 yw 50 y cant. Mae'r Gymdeithas Alzheimer yn credu y dylai'r ffigur fod yn nes at 75 y cant. Byddai y tu hwnt i amgyffred pe byddai 50 y cant o bobl gyda chanser yng Nghymru ddim yn cael diagnosis. Felly, a yw hynny hefyd yn rhywbeth y byddwch yn parhau i’w adolygu'n gyson, ac yn ceisio cyflwyno targedau mwy uchelgeisiol ar ei gyfer wrth i amser fynd yn ei flaen?

Yn olaf, nid yw unrhyw gynllun ond cystal â’r modd y’i gweithredir mewn gwirionedd ar lawr gwlad. Mae'r cynllun cyflawni canser wedi cael ei sbarduno gan Lywodraeth Cymru gyda llwyddiant sylweddol. A wnewch chi edrych ar ba fecanweithiau y gallwn eu rhoi ar waith i sicrhau bod y cynllun dementia yn cael ei sbarduno ar lefel uwch gan Lywodraeth Cymru? Diolch.

Diolch i chi am y gyfres o gwestiynau. Dechreuaf gyda CAMHS. Rwy’n cydnabod ein bod wedi cael gwelliant o tua 21 y cant mewn amseroedd aros ar gyfer pobl ledled Cymru. Fodd bynnag, mae'r nifer yn dal yn rhy uchel, ac mae llawer gormod o bobl yn aros yn rhy hir. Mae hyn yn mynd yn ôl o hyd at wneud yn siŵr bod gan bobl nad ydynt angen y gwasanaeth arbenigol lwybr gwahanol ar gyfer cymorth gwahanol, gan fod bron yn sicr angen cymorth, ond efallai nad CAMHS yw’r lle priodol ar ei gyfer. Dylai'r buddsoddiad yr ydym yn ei wneud mewn staff helpu gyda hynny, hefyd. Felly, mae angen gwneud y ddau beth.

Felly, rwy’n cydnabod bod mwy i'w wneud, ac, yn wir, o ran CAMHS mae'n rhan o'r mater y byddaf yn ei godi gydag is-gadeiryddion. Yn fy nghyfarfodydd rheolaidd gydag is-gadeiryddion rwyf wedi ei gwneud yn glir y bydd hyn yn rhywbeth y byddaf yn dychwelyd ato bob tro y byddwn yn eistedd i lawr. Maen nhw’n gwybod y bydd yn rhaid iddyn nhw ddweud wrthyf ble y maen nhw a pha un a ydynt wedi gwella o ble yr oeddent o'r blaen. Felly, bydd hyn yn rhan o'r atebolrwydd uniongyrchol y byddant yn ei gael gennyf i fel Ysgrifennydd y Cabinet, felly nid yw'n mynd i ddisgyn oddi ar yr agenda. Hyd yn oed pan fyddwn yn cyrraedd sefyllfa lle gallwn ddweud ein bod yn gyfforddus, bydd angen i hynny gael ei gynnal hefyd. Felly, nid wyf yn credu y bydd hyn yn disgyn oddi ar fy agenda benodol, na’u hagenda hwythau, am beth amser i ddod.

O ran y pwyntiau a wnaethoch, byddaf yn hapus i gael trafodaethau pellach gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg am swyddogaeth cymorth mewn ac o amgylch ysgolion, cynradd ac uwchradd. Rwy'n siŵr eich bod chi a llawer o bobl eraill wedi ymweld ag ysgolion yn ein hetholaethau a gweld y gwasanaeth cwnsela mewn ysgolion sy'n bodoli, a’ch bod yn cydnabod y gwerth y mae athrawon a phenaethiaid yn benodol yn ei roi ar y gwasanaeth hwnnw, a'r gwahaniaeth y maent yn credu ei fod wedi ei wneud o ran ymddygiad a chanlyniadau ar gyfer y gymuned ysgol gyfan. Felly, mae'n rhywbeth yr ydym eisiau ei weld yn cael ei gynnal, ac mae cyfeiriad strategol clir i gefnogi gwasanaethau cwnsela mewn ysgolion. Felly, rwy'n fwy na pharod i feddwl am yr hyn y gallwn ei wneud i ddeall beth sy'n gweithio orau, a sut mae pobl yn rhannu arfer, a beth sy’n wasanaeth cwnsela mewn ysgolion effeithiol ar gyfer cymuned ysgol arbennig neu ar draws ardal fwy.

O ran eich cyfres olaf o gwestiynau ar y strategaeth dementia, y gwaith sy’n arwain at ymgynghoriad—mae’r rhanddeiliaid wedi cymryd rhan, maent yn cynrychioli gwahanol rannau o'r gymuned, felly nid yw’n golygu bod Llywodraeth Cymru yn eistedd ar ei phen ei hun, ac mae hynny’n bwysig. Mae hefyd yn bwysig bod y prif swyddog meddygol yn rhan o'r grŵp hwnnw, hefyd, felly mae rhywfaint o arweinyddiaeth uwch gan Lywodraeth Cymru yn ailadrodd pwysigrwydd y strategaeth benodol hon i’r Llywodraeth. Rwy’n gobeithio, pan fyddwch yn gweld yr ymgynghoriad yn dod i mewn y byddwch yn gweld ei fod o ddifrif ac yn ystyrlon.

Wrth gwrs, mi wnaf adolygu'r pwyntiau a wnaethoch am nifer y gweithwyr cymorth, eu rhan a'u swyddogaeth. Mi wnaf adolygu'r pwyntiau am gyfraddau diagnosis. Rwyf eisiau i ni gyrraedd ein targed presennol o 50 y cant, ac yna dylai fod yn ymwneud â, 'A beth felly ydym ni’n mynd i’w wneud nesaf?' Rwy’n disgwyl, yn yr ymgynghoriad, y byddwn yn clywed digon gan bobl am y ddau bwynt hynny, a byddwn yn disgwyl i hynny ddigwydd, ac rwyf yn annog pobl i gael barn ar yr hyn sydd yn yr ymgynghoriad a beth mae pobl yn ei ystyried sy’n bwysig, gan gynnwys os nad yw yno.

Mae hynny'n mynd at eich pwynt olaf ynglŷn â chyflawni. Byddwn, mi fyddwn yn meddwl o ddifrif am gyflawni a sut yr ydym yn gwneud yn siŵr bod goruchwylio uwch a rhesymeg glir ynghylch sut y bydd yr adrodd hwnnw wedyn yn cael ei wneud ar y cynnydd yr ydym yn ei wneud, a pha un a ydym yn gwneud y math o gynnydd yr ydym wirioneddol eisiau ei wneud ac yr oeddem yn bwriadu ei wneud o’r dechrau.

Rydym ymhell dros amser yn y datganiad hwn, ond mae gennyf sawl Aelod nad ydynt wedi eu galw hyd yma. Os gallaf gael cwestiynau byr iawn gan bob Aelod ac atebion byr gan y Gweinidog, yna byddaf yn galw ychydig mwy o siaradwyr ac yn ymestyn yr amser. Felly, un cwestiwn yr un, os gwelwch yn dda. Joyce Watson.

Roeddwn i'n meddwl eich bod yn edrych arnaf i. Iawn, byddaf yn gryno iawn ac rwy’n diolch i chi am ymestyn. Brif Weinidog—mae'n ddrwg gennyf, rwyf innau wedi ei wneud nawr. Rwyf wedi rhoi dyrchafiad i chi nawr. [Chwerthin.] Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf i ofyn i chi—fe fydd yn gwestiwn cryno—pa un a ydych chi'n cytuno bod y pwysigrwydd o fynd i'r afael yn uniongyrchol ag iechyd meddwl wir yn dechrau yn y gweithle? Ydych chi’n croesawu'r ffaith bod y Cynulliad ddoe—y Comisiwn—wedi llofnodi dealltwriaeth o'r enw yr addewid Amser i Newid, sy'n nodi'n glir ein gweledigaeth y byddwn yn cefnogi unrhyw un, pwy bynnag ydyn nhw, os ydyn nhw angen cael gafael ar gymorth yn y gweithle oherwydd lles eu hiechyd meddwl eu hunain, ac y byddwn bob amser yno i’w helpu?

Ydw, rwy’n cytuno’n llwyr. Rwy'n credu ei bod yn bwysig bod y Cynulliad a'r Comisiwn yn dangos arweiniad yn y maes hwn hefyd, nid yn unig drwy ymrwymo i'r addewid Amser i Newid Cymru, ond drwy gydnabod bod gallu mynd yn ôl i'r gwaith, a gallu aros mewn gwaith, yn wirioneddol bwysig ar gyfer cynnal ymdeimlad pobl o hunanwerth a lles. Rwy’n credu bod y rhan fwyaf ohonom ni yma yn cael rhywfaint o fwynhad o fod yn y gweithle mewn gwirionedd. I lawer o bobl, gall fod yn rhan bwysig iawn o gadw'n iach ac yna gwella hefyd. Felly, rwy’n falch iawn o glywed bod y Comisiwn yn dangos arweiniad yn y maes hwn.

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad heddiw. Un o'r pethau a nodais yn yr adroddiad ac yr wyf yn ei groesawu’n fawr iawn yw pwyslais cynyddol ar atal ac iechyd cyffredinol, iechyd meddwl a lles. Tybed i ba raddau yr ydych wedi ystyried y cyfleoedd i gyflwyno ymwybyddiaeth ofalgar i’n hysgolion ledled Cymru. Byddwch yn ymwybodol y bu brosiect gwych, sy'n cael ei arwain gan ysgol Pen y Bryn yn fy etholaeth fy hun yn nhref Bae Colwyn, lle y maent wedi bod yn defnyddio ymwybyddiaeth fyfyriol yn yr ysgol honno. Mae'n meithrin cydnerthedd aruthrol ymhlith y disgyblion yno i allu ymdopi â phwysau bywyd yr ysgol o ddydd i ddydd ac, yn wir, yn rhoi’r cydnerthedd, y gallant wedyn ei ddefnyddio yn eu haddysg ysgol uwchradd a hyd yn oed ar ôl hynny. Nodaf fod cyfeiriad at ymwybyddiaeth fyfyriol yn y cynllun. Rwy'n falch iawn o weld hynny. Dyma'r tro cyntaf iddo ymddangos. Ond, tybed i ba raddau y mae hynny'n mynd i gael ei ddarparu a sut mae'n mynd i gael ei ddarparu i bobl o bob oed. Rydym wedi clywed am y pwysau ar CAMHS yn arbennig. Mae hyn, yn fy marn i, yn gyfle i ni achub ar y cyfle a gwneud rhywbeth yn ymwneud ag ymwybyddiaeth fyfyriol, yn arbennig, yn ein hysgolion.

Diolch am y sylwadau. Cyfarfûm â Chris Ruane beth amser yn ôl ynghylch y gwaith yr oedd wedi'i wneud yn y grŵp trawsbleidiol yn San Steffan. Roedd consensws yno am ymagwedd ehangach, ac mae'r gwleidyddion eu hunain wedi canfod defnyddioldeb ymagwedd ymwybyddiaeth fyfyriol. Rwy'n falch eich bod yn cydnabod ei fod yn cael ei grybwyll yn ffurfiol yn y cynllun cyflawni hefyd. Yr her bob amser fydd: beth yw'r llwybr mwyaf effeithiol i gefnogi pobl i gael yr atal hwnnw a’r cydnerthedd hwnnw? Byddwn yn hapus iawn i chi ysgrifennu ataf gyda manylion y prosiect a grybwyllwyd gennych yn eich etholaeth chi a sut mae'r ysgol yn credu eu bod wedi gweld gwelliant. Gallai hynny wedyn helpu i lywio ein hymagwedd ninnau hefyd. Mae'n rhywbeth y mae gennym feddwl agored ynglŷn ag ef, os mynnwch.

Diolch i chi am y datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet, ac am lansiad y strategaeth ddoe. Roedd yn ddiwrnod prysur i chi ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd 2016 gyda digwyddiadau yn Hafal, y Samariaid ac eraill. Byddwch wedi clywed, hefyd, yr araith ysbrydoledig gan Nigel Owens, yn siarad am gael gwared ar y stigma a siarad yn agored am faterion iechyd meddwl, y mae angen i ni i gyd ei wneud. A gaf fi ofyn iddo, o ran cydnerthedd cymunedol, pa ran a chwaraeir gan fentrau megis Maesteg yn dod yn dref sy’n ystyriol o ddementia, plwyf Mynydd Cynffig a rhai o'r eglwysi yn ymuno â'i gilydd i ddod yn blwyfi sy’n ystyriol o ddementia, y mudiad siediau dynion— roedd yr un gyntaf yn y DU yn Nhondu yn fy etholaeth i, ond mae nawr ym Maesteg ac yn lledaenu ledled y wlad—a gwaith hyrwyddwyr ym maes iechyd meddwl, fel Mark Williams ym Mro Ogwr, sy’n hyrwyddo iechyd meddwl amenedigol, a grybwyllir yn y strategaeth hon, a hefyd iechyd meddwl dynion yn ogystal? Onid yw’n iawn y bydd y bobl hyn a'r sefydliadau hyn yn tanategu llwyddiant y strategaeth hon?

Ie. Rwy'n hapus iawn i gydnabod y gyfres o gyfeiriadau a wnaethoch at eich etholaeth, lle mae gwaith gwirioneddol yn cael ei wneud. Byddwch yn cydnabod bod gennym uchelgais i Gymru fod yn genedl sy’n gyffredinol ystyriol o ddementia, ac mae hynny'n golygu mwy o gymunedau ystyriol o ddementia ac ymagwedd ehangach y mae angen inni ei chymryd fel cymdeithas. Mae rhywfaint o hynny'n ymwneud â chydnabod bod nifer o'r problemau sy'n wynebu dynion yn ymwneud â'u hanallu neu eu hamharodrwydd i siarad neu i fod yn agored am heriau, sy'n cael eu mewnoli ac yna yn y pen draw yn mynd yn broblem fwy nag y dylai fod fel arall. Rwy'n hynod o falch o gydnabod y mudiadau gwirfoddol sy'n digwydd, gan annog dynion yn arbennig i ddod o hyd i'r lle i gael y sgwrs honno, i fod yn fwy agored ac mewn gwirionedd i gael ffordd well o ymdrin â'r heriau y bydd llawer ohonom yn eu hwynebu ar wahanol adegau yn ein bywyd.

Rwy'n falch iawn o ymdrin â'r pwynt a godwyd gennych ynglŷn â stigma, ac nid dim ond Nigel Owens—mae pwynt ehangach yma am y byd chwaraeon, lle mae cyfle mewn gwirionedd i estyn allan, nid yn unig at ddynion, ac i gydnabod pobl sy'n cyflawni ar lefel uchel a'r heriau y maen nhw’n eu hwynebu, ac iddynt fod yn agored i siarad am eu profiadau eu hunain, ac am sut y gall hynny fwydo i mewn i chwaraeon yn y gymuned ar gyfer dynion a menywod, hefyd. Felly, mae llawer i ni fod yn gyffrous amdano, ac i harneisio’r manteision y gallwn eu cael ar gyfer yr holl wahanol rannau hynny o'n cymuned a'r cyrhaeddiad gwahanol sydd gan wahanol bobl, oherwydd weithiau nid yw'r neges yn cael ei chyflwyno'n fwyaf effeithiol gan wleidydd.

Diolch i chi, Lywydd.  Ysgrifennydd y Cabinet—am nawr—siaradodd Nigel Owens OBE ddoe am yr angen i siarad am faterion iechyd meddwl, ac roedd hefyd yn siarad am hunanladdiad fel y lladdwr mwyaf ar gyfer dynion dan 45 oed. Hoffwn weld gwasanaethau cwnsela ym mhob ysgol yng Nghymru, ac rwy’n meddwl y byddai yn mynd yn bell tuag at feddygaeth ataliol, sy'n rhywbeth yr ydych wedi sôn amdano gryn dipyn yn yr adroddiad hwn. Byddai hefyd yn annog pobl, yn enwedig dynion, i siarad am eu teimladau o oedran iau. A ydych chi’n cytuno â hynny, ac a ydych chi’n credu ei bod yn bosibl i ni fel cenedl allu cael cwnselwyr ym mhob ysgol yng Nghymru?

Ydw. Rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol ar gwnsela mewn ysgolion, mewn gwirionedd, ac rwy'n falch o weld bod rhywfaint o gydnabyddiaeth o’i bwysigrwydd a chefnogaeth ar gyfer y dewisiadau anodd y bydd yn rhaid i awdurdodau lleol a phenaethiaid eu gwneud am eu llinellau cyllideb, wrth i ni wynebu her sylweddol o ran gwariant cyhoeddus yn gyffredinol. Ond, rydych yn gwneud pwynt pwysig am ddynion canol oed yn arbennig a risg hunanladdiad, a cheir y pwynt hwn eto am wahanol actorion yn barod i sefyll a dweud eu bod yn wynebu heriau eu hunain ac i ddisgrifio sut y maent wedi dod drwyddynt. Beth sydd wedi bod yn ddiddorol iawn, mewn gwirionedd, yw nid yn unig cyn-filwyr yn siarad am y peth, ond yn aml personél gwasanaethau brys sy’n gwasanaethu hefyd, sydd wedi siarad am yr heriau y maent wedi eu hwynebu a sut y maent wedi dod drwyddynt. Felly, mae amrywiaeth eang o wahanol bobl sy'n cydnabod bod ganddynt ran mewn gwelliant ar draws y wlad. Mae gennym gyfrifoldeb fel y Llywodraeth, ac mae gan y GIG hefyd, ond mewn gwirionedd bydd mwy o actorion yn cymryd rhan mewn herio stigma a gwahaniaethu hefyd yn helpu, rwy’n credu, i wella canlyniadau pobl sydd wir yn estyn allan am gymorth pan fyddant fwyaf ei angen.

7. 6. Datganiad: Band Eang Cyflym Iawn yng Nghymru

Yr eitem nesaf yw datganiad gan y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth ar fand eang cyflym iawn. Rwy’n galw ar y Gweinidog i wneud y datganiad—Julie James.

Diolch, Lywydd. Heddiw, rwyf eisiau rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi ar gynnydd Cyflymu Cymru, ynghyd â'n gwaith sy'n dod i'r amlwg i fynd i'r afael â'r ganran fechan olaf o safleoedd nad ydynt yn rhan o'r prosiect na chyflwyno masnachol ac ymagwedd newydd tuag at gyfathrebu a marchnata.

Rwy'n siŵr nad oes angen i mi bwysleisio i’r Aelodau bwysigrwydd cynyddol cysylltedd i gartrefi a busnesau. Mae'r cyfleoedd y mae'n eu cynnig yn ddiderfyn, ac mae arnom angen cynifer o bobl â phosibl i allu cael mynediad ato, ond hefyd i fanteisio i'r eithaf ar y mynediad hwnnw. Ein nod, fel yr amlinellwyd yn ‘Symud Cymru Ymlaen', yw dod â phobl at ei gilydd yn ddigidol drwy gynnig band eang cyflym, dibynadwy i bob eiddo yng Nghymru.

Rydym yn parhau i wneud cynnydd cadarn ar Cyflymu Cymru. Hyd at ddiwedd mis Mehefin eleni, rydym wedi darparu mynediad at fand eang cyflym iawn i dros 610,000 o safleoedd na fyddai wedi gallu cael cyflymderau band eang cyflym iawn heb ein hymyrraeth ni. Heddiw, rwyf hefyd wedi darparu gwybodaeth i'r Aelodau am gynnydd fesul awdurdod lleol. Gadewch imi fod yn glir: mae hynny’n 610,000 o safleoedd ar draws Cymru sydd erbyn hyn yn gallu mwynhau cyflymdra lawrlwytho band eang o tua 66 Mbps ar gyfartaledd o ganlyniad i'r buddsoddiad hwn. Mae hyn yn cymharu â chyflymder cyfartalog o lai na 10 ledled Cymru pan ddechreuasom ar y gwaith hwn yn 2013. Fodd bynnag, mae hwn yn dal i fod yn brosiect cymhleth ac mae gweithredu yn parhau i fod yn heriol. Mae angen i BT Openreach gynnal y momentwm os yw am gyrraedd ei dargedau cytundebol. Mae fy swyddogion a minnau yn monitro cynnydd yn ofalus iawn wrth i'r prosiect symud tuag at gael ei gwblhau.

Fodd bynnag, nid yw hyn yn ymwneud â nifer y safleoedd a chyflymder yn unig. Budd gwirioneddol Cyflymu Cymru fydd sut mae'n gwella bywydau a chefnogi busnesau. Hoffwn rannu dwy enghraifft gyda chi. Mae mam bachgen awtistig wedi dweud wrthym bod ei mab yn defnyddio cysylltedd cyflym iawn i ddefnyddio aps a gwefannau arbenigol ar ei iPad. Mae'n darllen ar ei Kindle ac yn gwneud ac yn cyflwyno ei waith cartref drwy borth ar-lein. Er ei fod yn byw ar aelwyd o bump, mae band eang cyflym iawn yn golygu y gall ddal i fynd ar-lein hyd yn oed os yw pawb arall ar-lein hefyd. Mae entrepreneur yn Sir Conwy, yn y gogledd, sy'n rhedeg busnes pobi cacennau yn defnyddio band eang yn ddyddiol i gyfathrebu â chwsmeriaid, llwytho ei holl ddelweddau yn gyflym i system storio cwmwl, cadw’n gyfredol ar gyfryngau cymdeithasol a dysgu sgiliau newydd o weminarau a thiwtorialau. Mae band eang cyflym iawn wedi ei galluogi i fod yn llawer mwy effeithlon, neilltuo mwy o amser i bobi ac addurno, yn hytrach nag aros i ddogfennau lawrlwytho neu geisio cysylltu â chwsmeriaid.

Fodd bynnag, mae'r broses o gyflwyno wedi cael ei chyfran deg o heriau ac mae Aelodau yn ysgrifennu'n rheolaidd ataf yn gofyn am atebion a diweddariadau ar amrywiaeth o faterion yn ymwneud â'r broses gyflwyno. Roeddwn i'n meddwl y byddai'n ddefnyddiol pe byddwn yn mynd i'r afael â rhai o'r themâu cyffredin hyn. Yn gyntaf, mae cam adeiladu prosiect Cyflymu Cymru i fod i gael ei gwblhau ym mis Mehefin 2017. Fel gyda chontractau mawr eraill o'r maint hwn, bydd wedyn ffenestr chwe mis i Openreach gwblhau unrhyw fewn-adeiladu elfennau cyn dyddiad terfynol eithaf y contract, sef 31 Rhagfyr 2017. Byddwch i gyd yn cofio bod y prosiect yn ymestyn i fis Mehefin 2017 er mwyn caniatáu ar gyfer cynnwys 40,000 o safleoedd ychwanegol. Mae'r estyniad yn dilyn adolygiad y farchnad agored a oedd yn dangos bod nifer y safleoedd yr oedd angen mynd i'r afael â nhw o dan y prosiect wedi cynyddu, er enghraifft, oherwydd safleoedd a adeiladwyd o’r newydd neu pan oedd safle lle’r oedd y rhaglen i fod i gael ei chyflwyno dan gynlluniau cwmnïau telathrebu eu hunain wedi eu hystyried fel bod yn annichonadwy yn economaidd ganddynt.

Yn ail, mae BT yn darparu band llydan ffibr cyflym iawn gan ddefnyddio dau dechnoleg—ffibr i'r cwpwrdd a ffibr i'r safle. Mae ffibr i'r cwpwrdd yn golygu gosod cwpwrdd ffibr ar ochr y ffordd yn agos at gwpwrdd copr presennol a chysylltu'r ddau fel bod y signal band eang yn teithio i'r cartref neu fusnes dros y cebl ffôn copr sy'n bodoli eisoes. Dyma'r dewis symlaf, mwyaf cost-effeithiol a chyffredin, gan ei fod yn galluogi i BT wella band eang ar gyfer safleoedd lluosog ar yr un pryd. Mae ffibr i'r safle yn fwy cymhleth. Mae'n golygu ymestyn cebl ffibr i'r safle ei hun. Mewn llawer o achosion, mae’r ateb ar gyfer pob safle yn benodol ar gyfer y safle hwnnw. Mae hyn yn ychwanegu at y gost, y cymhlethdod a'r amser a gymerir i ddarparu’r gwasanaeth.

Ni all ffibr fod yr ateb ar gyfer pob safle. Bydd y cynllun Allwedd Band Eang Cymru yn parhau i chwarae rhan mewn helpu pobl i gyflawni newid sylweddol yn eu cyflymder band eang, a bydd y daleb gwibgyswllt yn parhau i helpu busnesau i gael y cyflymder y maent ei angen i sicrhau eu bod yn parhau i fod yn gystadleuol. Hefyd, rydym wedi comisiynu Airband Community Internet Ltd i gyflenwi i oddeutu 2,000 o safleoedd busnes gan ddefnyddio datrysiad di-wifr. Mae'r gwaith hwn yn mynd rhagddo ar gyflymder a bydd wedi ei gwblhau erbyn mis Rhagfyr eleni.

Wrth i’r prosiectau Cyflymu Cymru ac Airband agosáu at y terfyn, ni allwn orffwys ar ein rhwyfau. Bydd angen i ni ganolbwyntio ar yr hyn sy'n dod nesaf a sut yr ydym yn mynd i gyrraedd y ganran fechan olaf o safleoedd. Rydym eisoes wedi dechrau gweithio i ddiffinio lle bydd y safleoedd hynny. Ar 9 Medi, cyhoeddwyd ymgynghoriad cyhoeddus i ymgysylltu’n bennaf â'r diwydiant telathrebu i ddeall eu cynlluniau gweithredu. Bydd hyn yn ein galluogi i dargedu safleoedd nad ydynt ar hyn o bryd yn rhan o unrhyw gyflwyno i ymestyn y prosiect Cyflymu Cymru ymhellach gan ddefnyddio £12.9 miliwn o gyllid a gynhyrchir drwy'r lefelau manteisio a ragwelir. Rydym yn gobeithio y gellir defnyddio’r cyllid hwn i ddarparu mynediad band eang cyflym iawn cyn diwedd y contract presennol ym mis Rhagfyr 2017. Bydd yr arian ychwanegol, fodd bynnag, ddim ond yn mynd ran o'r ffordd i fynd i'r afael â'r safleoedd sy'n weddill. Dyna pam yr wyf wedi gofyn i swyddogion edrych ar sut y gall gweithredu barhau i 2018 a thu hwnt.

Mae gwaith eisoes wedi dechrau, gyda chynlluniau i lansio proses bellach o adolygu ffurfiol, manwl y farchnad agored, yn ddiweddarach yn yr hydref. Mae hyn yn ofynnol i fod yn sail i'r asesiad sy'n seiliedig ar dystiolaeth o ble y gall ymyrraeth gyhoeddus ddigwydd dan ganllawiau cymorth gwladwriaethol yr UE. Dim ond ar ôl i ganlyniad yr adolygiad gael ei ddadansoddi y byddwn mewn sefyllfa i gadarnhau pa un a ellir datblygu proses gaffael newydd i ddarparu mynediad ar gyfer safleoedd eraill, a sut y gellir gwneud hynny. Gallai'r gweithgaredd caffael ddigwydd yn ystod 2017 gyda chontract newydd i ddechrau yn gynnar yn 2018. Fodd bynnag, mae angen imi fod yn glir na allwn ddarparu cysylltedd ffibr ar unrhyw gost, gan fod darparu gwerth am arian i bwrs y wlad hefyd yn hanfodol.

Mae gwaith ar y gweill hefyd i ymchwilio i ddewisiadau ariannu yn y dyfodol, gan gynnwys cyllid yr UE. Byddwn yn pwyso ar BT i ryddhau cyllid ychwanegol y mae'n ei gynhyrchu drwy fod pobl yn manteisio ar y cyflwyno presennol o Cyflymu Cymru fel y gallwn ailfuddsoddi’r arian hwn mewn gweithredu yn y dyfodol. Byddwn hefyd yn ceisio cymorth pellach gan Lywodraeth y DU yn ogystal ag edrych ar ein cyllideb ein hunain.

Fel y ddwy enghraifft y soniais amdanynt yn gynharach, rydym eisiau gwneud yn siŵr bod pawb yn gallu gwneud y gorau o'r mynediad sydd ganddynt at fand eang cyflym iawn. Y mis hwn, rydym wedi dechrau rhaglen gyfathrebu ac ymgysylltu rhanbarthol aml-haenog ledled Cymru i godi ymwybyddiaeth o fanteision band eang cyflym iawn i ddefnyddwyr ac i annog y defnydd o'r dechnoleg sydd ar gael iddynt.

Byddwn yn cyflwyno gweithgarwch ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru rhwng nawr a Rhagfyr 2017 drwy ddull cyfunol o ddigwyddiadau, cysylltiadau cyhoeddus, ymgysylltu â'r gymuned a hysbysebu. Rydym yn gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol i roi pecyn cymorth iddynt i hybu'r defnydd o fand eang cyflym iawn, yn ychwanegol at ein gweithgarwch ein hunain ym mhob ardal.

Yn olaf, rydym yn datblygu ein gwefan ymhellach i gynnwys cyngor personol i gwsmeriaid a defnyddwyr i helpu pobl i wneud dewisiadau mwy gwybodus am eu band eang. Gall aelodau fod yn sicr fy mod yn parhau i fod yn ymrwymedig i gynnig band eang dibynadwy, cyflym i bob eiddo yng Nghymru, bod cynlluniau i fynd i'r afael â'r ychydig y cant olaf eisoes ar y gweill a’n bod yn rhoi rhaglen ar waith i annog defnyddwyr i wneud y mwyaf o’r cyfleoedd y mae’r band eang cyflym iawn hwn yn eu darparu.

A gaf i ddiolch i’r Gweinidog am ei datganiad? Yn naturiol, mater pwysig iawn—band eang cyflym iawn. Mae wedi bod yn destun nifer o sylwadau gan bobl yn fy ardal i. Yn naturiol, rydym ni’n croesawu bod yna gynnydd yn y gwaith gerbron, ac wrth gwrs rydym ni wedi cael darpariaeth gwybodaeth ychwanegol ynglŷn â’r sefyllfa fesul sir yn ogystal. Wrth gwrs, fel y mae’r Gweinidog wedi dweud eisoes, mae’r prosiect yma wedi bod yn hir ac yn gymhleth ac erys sawl her i’w datrys.

Rhai o’r rheini—o edrych ar y tabl o’r ddarpariaeth mynediad i fand eang yn ein gwahanol siroedd ni, rŷm ni’n gweld, yn llefydd fel Ceredigion, mai dim ond 60 y cant o’r tai sydd â mynediad i fand eang yng Ngheredigion. Ym Mhowys, nid yw’r sefyllfa fawr gwell: 65 y cant, yn y fan honno, o dai sy’n cael mynediad i fand eang cyflym iawn. Buaswn i’n gobeithio, pan fydd yr adolygiad yma’n dod i weld faint o waith sydd yn dal i’w wneud—fel rydych chi’n ei ddweud yn fan hyn, yn 2018 ac ymlaen o hynny—y bydd yna adolygiad o’r niferoedd o’r cartrefi yn ein hardaloedd mwyaf gwledig ni sydd yn cael problemau ar hyn o bryd o ran cael mynediad i fand eang, achos mae o’n fater i’w resynu braidd bod y ffigurau yna mor isel yn y siroedd yna, o gysidro bod yna gynnydd da iawn mewn llefydd eraill.

Yn troi at yr ochr fusnes i bethau, yn naturiol, mae’n dda i ddweud, dros y blynyddoedd, fod BT wedi cael arian sylweddol o gronfeydd Ewropeaidd, felly, o ERDF—rhywbeth fel £250 miliwn dros y blynyddoedd. Mae busnes yn deall bod angen buddsoddiad fel yna, ond hefyd beth na all busnes ei weld—y rheini sydd wedi bod yn siarad efo fi, ta beth—ydy bod eu costau nhw fel busnes hefyd wedi dyblu ac yn gallu bod yn uchel iawn, jest er mwyn iddyn nhw gael mynediad i fand eang cyflym iawn. Nawr, rwy’n deall bod hynny, wrth gwrs, y tu allan i unrhyw fuddsoddiad y mae’r Llywodraeth yma’n ei wneud i gynllun Superfast Cymru, ond dyna beth sy’n pryderu busnesau allan yn y fan yna. Rwyf wedi cael sawl cyfarfod dros y misoedd diwethaf ynglŷn ag argaeledd band eang cyflym iawn, a phan mae o’n dod gerllaw, y gost gynyddol i’r busnes—maen nhw’n gorfod talu lot amdano fo. I’r perwyl yna, buaswn i’n gofyn i’r Gweinidog, yn ogystal â’r diweddariad ar y pwyntiau ar sut rydym ni’n mynd i wella’r sefyllfa yng Ngheredigion a Phowys i bobl yn yr ardaloedd hynny, a fyddai’r Gweinidog yn fodlon cyfarfod â rhai arweinyddion busnes sydd wedi bod yn dwyn eu cwynion lleol i mi yn ardal Abertawe, un o’r dyddiau yma, er mwyn i ni allu rhoi sicrwydd i’n busnesau ni sydd yn dibynnu yn gynyddol ar y dechnoleg yma, fod yna sicrwydd am y ffordd ymlaen ynglŷn â’r ddarpariaeth ac ynglŷn â’r costau. Diolch yn fawr.

Diolch yn fawr iawn i chi am y pwyntiau yna. O ran y cyflwyno a’r mater natur wledig, y pwynt am y rhaglen hon yw ei bod yn seiliedig bron yn gyfan gwbl mewn ardaloedd gwledig, neu ardaloedd anfetropolitan, oherwydd mai ymyrraeth y farchnad ydyw. Felly, y pwynt amdano yw, ni chawn ond mynd i le nad yw'r farchnad yn mynd i fynd iddo. Felly, mae'n wireb, rwy'n ofni, nad yw’r farchnad ond yn mynd i ardaloedd poblogaeth uchel ac felly mae'r rhaglen hon yn mynd i ardaloedd poblogaeth is. Felly, gallwch weld o'r cyflwyno mai dyna sut y mae'n gweithio. Mae'r ffigurau hyn ar gyfer yr holl gysylltedd ar draws, a chofiwch fod gennym tua blwyddyn arall i fynd.

Felly, nid dyma’r sefyllfa derfynol; dyma'r sefyllfa o safleoedd wedi’u pasio—dyma’r safleoedd sydd yn bendant â chyflymder lawrlwytho o 30 Mbps neu fwy, ac mae gan y rhan fwyaf ohonynt 66 a throsodd, ond 30 Mbps yw’r torbwynt. Nid yw BT yn cael eu talu am unrhyw safleoedd nad ydynt yn cyrraedd y marc 30 Mbps. Dyna'r targed iddyn nhw. Felly, mae'r broses o gyflwyno band eang yn gyflymach na nifer y safleoedd a basiwyd—mae hyn o ddiwedd mis Mehefin—ac mae hyn oherwydd bod gennym broses drylwyr i brofi bod y safleoedd y maent yn hawlio yn cael y cyflymder yr ydym yn credu y dylent fod yn ei gael mewn gwirionedd. Felly, mae cryn dipyn o oedi yn hynny a siaradais am yr oedi ar ddiwedd y contract tra byddwn yn cael y safleoedd hynny drwodd ac yn y blaen. Mae hon wedi bod yn broses gadarn iawn i wneud yn siŵr bod pobl yn cael yr hyn yr ydym yn talu amdano, ac rydym yn awyddus iawn iddynt gael hynny.

Ar yr un pryd, roeddem yn gwybod erioed nad oedd hyn yn mynd i gyrraedd 100 y cant o safleoedd ar draws Cymru. Rydym i gyd yn ymwybodol o'r tir hardd yng Nghymru ac mae'n ogoneddus ac yn rhan bwysig o’r hyn yr ydym ni, ond y mae, wrth gwrs, yn broblemus o ran telathrebu. Mae'n anodd gosod cebl, nid oes llinell weld ar gyfer polion telegraff a phopeth arall; bydd aelodau yn fwy na chyfarwydd â hynny, nid oes angen i mi ddweud hynny wrthynt. Dyna pam mae gennym brosiect sydd â’r nod o gyrraedd y 4 y cant neu 5 y cant olaf o safleoedd a bydd hynny drwy fethodolegau eraill. Felly, bydd pobl yn ymwybodol—. Rwy'n siŵr bod pob Aelod wedi cael etholwyr yn siarad â nhw am y cynllun Allwedd Band Eang Cymru, er enghraifft. Ceir rhai enghreifftiau da iawn ar draws cefn gwlad Cymru. Ymwelais ag un gyda Kirsty Williams dim ond y diwrnod o'r blaen, lle mae technoleg lloeren ragorol mewn gwirionedd yn cael ei defnyddio i gael cyflymder o hyd at 100Mbps i lawrlwytho a lanlwytho, mewn gwirionedd. Felly, nid yw'n wasanaeth ail ddosbarth mewn unrhyw ffordd; ond nid dyma’r gwasanaeth cebl hwnnw yr ydym yn talu amdano.

Felly, byddwn yn cyrraedd pawb. Y broblem sydd gennym yw nad oes neb eisiau bod yn y flwyddyn olaf. Felly, rydym lle yr ydym. Mae BT yn mynd i gyrraedd y targedau hynny, neu dalu cosb ariannol ddifrifol iawn am beidio â gwneud hynny. Byddant yn eu cyrraedd. Rydym yn eu monitro yn ofalus iawn yn hynny o beth ac, ar yr adeg honno, bydd gennym ddarlun ledled Cymru lle y gallwn dargedu'r adnoddau pellach yr ydym yn eu cael o’r gyfran o enillion o'r contract i’r ychydig safleoedd olaf hynny.

O ran y busnesau, nid ydym yn rheoli'r gost y mae'r bobl ISP yn ei chodi, ond rwy’n annog pob busnes i chwilio o gwmpas, fel yr wyf yn annog pob unigolyn i chwilio o gwmpas. Rwy'n fwy na pharod, os ydych yn dymuno ysgrifennu ataf, i ddod i gyfarfod unrhyw fusnesau sydd â phryderon yn hynny o beth. Mae gennym restr o ISPs sydd ar gael, ac fel y maent yn ei ddweud ar y BBC, mae brandiau eraill ar gael. Ond mae chwilio o gwmpas wir yn fanteisiol i bobl o ran cost y gwasanaeth wedyn.

Hoffwn ddiolch yn gyntaf i'r Gweinidog am y datganiad derbyniol heddiw a'r ffaith bod y prosiect Cyflymu Cymru wedi gwella faint o fand eang ffibr sydd ar gael ar draws Cymru, gan roi budd i drigolion a busnesau fel ei gilydd yn y maes ymyrraeth. Felly, dylai fod croeso i hynny.

Er bod llawer o ddatblygiadau yng nghysylltedd Cymru o ganlyniad i'r prosiect Cyflymu Cymru, mae'r gwerthusiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar y rhaglen yn amlygu rhai methiannau allweddol y prosiect i dargedu'r ardaloedd yng Nghymru sydd fwyaf angen gwell cysylltedd. Mae Dai Lloyd wedi crybwyll Ceredigion a Phowys ac, wrth gwrs, rwy'n byw ym Mhowys fy hun ac rwy’n gwerthfawrogi’r Gweinidog yn darparu’r enghreifftiau hynny yn ei datganiad heddiw, ond mae gennyf ddigon o enghreifftiau o etholwyr sydd wedi cael profiadau gwahanol. Ond, rwy’n gwerthfawrogi y bydd y Gweinidog yn derbyn hynny ac y bydd hi’n ymwybodol ohono. Mae'n rhaid i mi ddweud fy mod yn falch eich bod wedi ymrwymo i'r ffrwd ariannu newydd i dargedu safleoedd nad ydynt yn rhan o'r broses o gyflwyno. Mae hynny i'w groesawu hefyd.

Mae gennyf ychydig o gwestiynau. Yn gyntaf, a ydych chi’n dal yn ffyddiog y bydd BT yn cyflawni ei rwymedigaethau cytundebol, neu a ydych chi’n disgwyl ailfuddsoddi arian adfachu yn sgil y methiant i fodloni’r rhwymedigaethau cytundebol neu'r targedau? Yn eich datganiad, pan glywais y dyddiad 31 Rhagfyr, 2017, roeddwn wedi fy nychryn braidd gan hynny, ond hoffwn gael rhywfaint o gadarnhad ei fod yn ymwneud â'r elfennau a adeiladwyd i mewn yr ydych yn parhau i weithio drwyddynt, ac nad yw hynny'n unrhyw esgus dros unrhyw lithriad o'r dyddiad Mehefin 2017. Rwy'n siŵr mai dyma yw'r sefyllfa, ond byddai'n ddefnyddiol cael y cadarnhad hwnnw.

Roedd yr adolygiad marchnad agored gwreiddiol a gynhaliwyd gan Mott MacDonald yn nodi 45,000 o safleoedd yng Nghymru na fyddai'n elwa ar y prosiect. Rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno bod nifer o fusnesau yn gwneud penderfyniadau busnes hollbwysig wedi'u seilio ar ragdybiaethau y byddant yn cael cysylltiad band eang cyflym, dibynadwy erbyn dyddiad penodol. Felly, a gaf i ofyn, a ydych chi mewn sefyllfa i ddarparu'r nifer amcanol diwygiedig a chanran yr aelwydydd a busnesau, yn ôl ardal awdurdod lleol, a fydd y tu allan i gwmpas y prosiect? Ac a ydych yn rhagweithiol yn gallu rhoi manylion am yr aelwydydd a’r busnesau hynny a fydd yn bendant ar eu colled, er mwyn iddynt allu gwneud y cynlluniau wrth gefn hynny ac y gallant wneud trefniadau eraill trwy, wrth gwrs, Allwedd Band Eang Cymru a'r cynllun talebau cysylltedd gwibgyswllt?

Rydych hefyd wedi siarad am brosiect ymgysylltu yn ogystal, ynglŷn â manteisio, ond a gaf i eich holi am eich bodlonrwydd, os mynnwch chi, i gael prosiect o ymgysylltu â’r cymunedau hynny sy'n cael eu siomi, ac i egluro'r cynlluniau yr wyf wedi sôn amdanynt, ac yr ydych chithau wedi sôn amdanynt yn eich datganiad hefyd?  Byddwn hefyd yn ddiolchgar pe gallech nodi yn fanwl faes yr oeddwn yn siomedig nad oedd yn y rhaglen lywodraethu, ynghylch sut y gallech fod yn gweithio i ddiwygio'r system gynllunio ar gyfer telathrebu a gwella mynediad y diwydiant telathrebu at asedau sector cyhoeddus i gefnogi buddsoddiad seilwaith pellach a defnyddio rhwydwaith. Rwy’n gwerthfawrogi bod elfennau nad ydynt wedi'u datganoli, ond mae elfennau sydd wedi'u datganoli y mae’r sbardun iddynt gennych chi.

Byddwn hefyd yn ddiolchgar pe gallech esbonio ychydig am sut y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i wella'r sefyllfa o ran marchnata a chyfathrebu a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i bobl. Mae miloedd o bobl eisiau atebion. Rwy'n cael cannoedd o bobl yn cysylltu â mi dros gyfnod o fisoedd. Roeddwn ychydig yn bryderus pan wnaethoch chi’r elfen farchnata yn fewnol. Rwy’n gwybod, Weinidog, eich bod wedi ysgrifennu ataf yn fanwl ar y pwynt hwn, ac rwy’n gwerthfawrogi hynny, ond efallai y gallech egluro, pan gawsoch yr estyniad i'r contract, pam nad oedd elfen i mewn yno i sicrhau bod disgwyl i Cyflymu Cymru ymdrin â’r gweithredu marchnata hwnnw, neu’r elfen farchnata, os mynnwch chi. Rwyf yn gwerthfawrogi atebion i fy llythyrau, Weinidog, a phan fyddaf yn ysgrifennu atoch, mae ymateb gweddol gyflym o ran gohebiaeth gweinidogol—wythnos neu ddwy—ond roeddwn yn cael ymateb cyflymach o'r blaen, pan oeddwn yn siarad yn uniongyrchol â BT. Felly, dyna'r elfen yr hoffwn ichi roi sylw iddi.

Yn olaf, mae eich cyhoeddiad bod Llywodraeth Cymru bellach yn rhoi mwy o bwyslais ar ysgogi galw ac y bydd yn lansio rhaglen ymgysylltu gyfathrebu o amgylch hynny i'w groesawu’n fawr iawn. Credaf ei bod yn siomedig nad oedd y gyllideb ysgogi galw ond yn cyfateb i tua 0.5 y cant o gyllideb y rhaglen yn gyffredinol. Felly, nawr bod y gwaith o gyflwyno'r prosiect Cyflymu Cymru yn cyrraedd y camau olaf, rwy’n credu ei bod yn hanfodol, wrth gwrs, bod Llywodraeth Cymru yn sicrhau nad yw'r seilwaith yn cael ei adael yn segur—rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno â hynny— ond yn cyrraedd ei botensial llawn ar gyfer cwsmeriaid domestig a busnes. Rydych chi, Weinidog, wedi siarad o'r blaen am yr angen i'r diwydiant wella cyfraddau manteisio, ac rwy’n cytuno â chi ar hynny, ond hefyd, wrth gwrs, mae’n iawn bod Llywodraeth Cymru yn elwa ar y nifer sy'n manteisio, yn ogystal, ac rwy’n meddwl y dylech fod yn hyrwyddo manteisio yn frwdfrydig oherwydd mae’n rhaid i ni weld y budd hwnnw yn cael ei ryddhau ar fuddsoddiad y trethdalwyr a sicrhau bod cyfraddau manteisio yn rhagori ar y targed braidd yn gymedrol—byddwn i’n ddweud—o 50 y cant erbyn 2024.

Yn olaf, hoffwn gael diffiniad—

Dyna eich ail 'yn olaf'. [Chwerthin.] Nid ydych yn mynd i osgoi fy nyfarniad llymach drwy geisio mabwysiadu ail bolisi 'yn olaf'.

Diffiniad o 'cyflym a dibynadwy', os gwelwch yn dda, hefyd, Weinidog

Diolch ichi am y gyfres o gwestiynau a sylwadau, Russell George. Nid yw diwrnod yn gyflawn yn fy swyddfa weinidogol i heb lythyr oddi wrthych chi ar Cyflymu Cymru; felly, rwy’n gwerthfawrogi yn fawr iawn eich diddordeb ar ran eich etholwyr yn y mater hwn. Byddaf yn ceisio rhoi sylw i bob un ohonynt. Y pwynt rhwymedigaethau cytundebol: nid ydym yn dibynnu ar adfachu o ganlyniad i fethiant BT i gael yr arian yr ydym yn sôn amdano. Mae cyfran o’r enillion wedi’i ysgrifennu yn y contract. Felly, os yw cyfraddau manteisio mewn unrhyw ardal lle mae Cyflymu Cymru wedi cyrraedd yn fwy na 21 y cant, rydym yn cael cyfran o’r elw yn ôl o hynny. Felly, dyna’r arian yr ydym yn dibynnu arno. Rwy’n disgwyl i BT fodloni ei rwymedigaethau cytundebol oherwydd bod y contract yn cario cosbau ariannol trwm iddyn nhw os na fyddant yn gwneud hynny. Felly, ni fyddai’n fanteisiol o gwbl iddyn nhw fod yn y sefyllfa honno. Nid yw'r arian yr wyf wedi'i grybwyll yn dod o adfachu, fel yr ydych yn ei alw; mae'n dod o gyfran o enillion sydd wedi’i ysgrifennu yn y contract. Felly, rydym eisoes yn siarad â BT ynghylch y defnydd o’r gyfran o enillion honno a sut y gallwn gyrraedd y safleoedd nad ydynt wedi eu cynnwys ynddi o ganlyniad.

Yn fy natganiad, fe wnes i sôn am adolygiad marchnad agored arall, y byddwn yn ei wneud yn yr hydref, oherwydd, unwaith eto, mae'n ymyrraeth yn y farchnad, felly mae'n rhaid i mi wneud yn siwr nad wyf yn mynd i unrhyw le lle bydd cyflwyno masnachol. Felly, y ffordd orau o wneud hynny yw gofyn i'r cwmnïau masnachol am eu dadansoddiad terfynol o ble y maent yn mynd i fynd iddo, fel y gallwn fynd i'r mannau na all gweithredwyr masnachol eraill eu cyrraedd. Mae'n ddrwg gennyf, roedd yn rhaid i mi ddweud hynna. Rwy’n hyderus y byddwn yn llwyddo i gyrraedd yno.

O safbwynt nodi’r safleoedd hynny yn gynnar, bydd yn gwybod fy mod wedi bod yn gwthio BT am gyfnod sylweddol iawn o amser i ddweud wrthym pa safleoedd y maen nhw’n gwybod yn bendant na fyddant yn eu cyrraedd. Rydym bellach wedi cael tua 1 y cant o'r rheini, ac mae'r wefan yn newid yn araf dros yr wythnos hon a'r wythnos nesaf i adlewyrchu hynny. Bydd rhai o'ch etholwyr, wrth fewngofnodi ar y wefan, yn awr yn cael y neges 'allan o gwmpas'. Byddant hefyd wedyn yn cael rhywbeth i ddweud beth yr ydym yn mynd i'w wneud drostynt. Mewn rhai ffyrdd, nhw yw’r rhai lwcus oherwydd mae'n golygu y gallwn gael atyn nhw yn gyflym, tra bydd y bobl sy'n dal i fod 'o fewn y cwmpas', ond heb unrhyw ddyddiad adeiladu yn gorfod aros tan fis Mehefin 2017 er mwyn i ni weld a fydd BT yn cyrraedd yno. Y rheswm am hynny yw hyn: rydym yn cynnal y prosiect hwn fel prosiect Cymru gyfan. Gall BT fynd i unrhyw safle yng Nghymru y maent yn dymuno a’i gael i 30 Mbps neu fwy, a byddwn yn eu talu am hynny. Felly, nid ydym yn rheoli ble maen nhw’n mynd. Maen nhw’n mynd i ble y gallant gael ato. Mae'n amlwg er eu budd i gyrraedd cynifer o safleoedd ag sy'n bosibl mor gyflym â phosibl oherwydd dyna beth sy’n rhoi eu hincwm iddyn nhw. Felly, fel y mae’r dechnoleg yn newid—ac, yn wir, mae wedi newid dros ddilyniant y contract hwn—. Er enghraifft, mae ailgapasiteiddio—os yw hwnnw’n air—y cypyrddau sydd eisoes yn llawn yn un ffordd iddyn nhw gael mwy o safleoedd yn ymgysylltu hyd at 30 Mbps. Fel yr wyf yn dweud, mae'n bwysig i'r Aelodau sylweddoli pa mor llym yr ydym ynghylch hynny. Nid ydyn nhw’n ei hawlio ac rydym ni’n eu talu. Rydym yn edrych ar y cyflymder ar sail safleoedd sydd wedi’u pasio, a dyna sut y maent yn cael eu talu. Felly, mae'n llym iawn, ac rydym yn ei fonitro'n ofalus iawn, iawn.

O ran y materion cynllunio a symudol, nid yw symudol, fel y gwyddoch, wedi ei ddatganoli i Gymru. [Torri ar draws.] Ydym. Mae aelod y Cabinet dros gynllunio a minnau eisoes wedi cyfarfod a thrafod y materion hyn. Mae gennym swyddogion yn gwneud darn o waith i ni ar yr hyn y gellir ei gyflawni o ran y datblygu a ganiateir, yr hyn y gellir ei gyflawni mewn ymgynghoriad â phethau fel awdurdodau'r parciau cenedlaethol, er enghraifft, ac yn y blaen. Mae cyfyngiadau y bydd pobl eisiau eu gweld. Ond fel bob tro gyda’r pethau hyn, mae'n gyfaddawd: ydych chi eisiau cysylltedd symudol uchel iawn yn eich parc cenedlaethol, neu ydych chi eisiau dim mastiau? Rwy'n ofni na allwch chi gael y ddau beth hynny, felly mater i bobl leol fydd gwneud y dewisiadau hynny. Mater iddyn nhw yw pa un o'r dewisiadau hynny y maent yn dymuno ei wneud, a gallwn ni hwyluso’r dewis hwnnw ar eu cyfer.

O ran cael i bob man â pha gyflymder, bydd yr Aelod yn gwybod bod gan Lywodraeth y DU Fil digidol yn mynd drwy'r Senedd ar hyn o bryd a bod rhwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol ynddo. Mae’r rhwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol hwnnw ar hyn o bryd yn 10 Mbps, sy'n sylweddol iawn yn is na ble yr ydym ni eisiau bod. Rydym yn pwyso arnyn nhw i godi hynny ac i roi sbardun i mewn iddo. Nid yw’n glir ychwaith pa mor gyffredinol fydd y rhwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol. Bydd yr Aelodau'n gyfarwydd â sut mae hynny'n gweithio, er enghraifft, gyda ffonau. Mae swm o arian y bydd y gweithredwr ffôn yn ei dalu i’ch cysylltu chi i linell dir, ac ar ôl hynny disgwylir i chi dalu’r gweddill eich hun. Yn amlwg, nid ydym yn hapus â hynny oherwydd ei fod yn creu anfantais i bobl mewn cymunedau gwledig sydd ymhell oddi wrth unrhyw beth. Felly, rydym yn gwneud llawer o waith i ddeall ganddyn nhw beth yn union y maen nhw’n ei olygu, sut bydd y marciau torri i ffwrdd yn edrych, a’r hyn y gallwn ni fel Llywodraeth Cymru ei wneud i lenwi'r bylchau i bobl. Bydd y bobl sy’n cael eu gadael allan o’r rhwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol hwnnw yn amlwg o dan anfantais oni bai ein bod yn gallu llenwi'r bylchau hynny, a dyna i raddau helaeth yr hyn y mae'r arian cyfran o enillion ar ei gyfer.

Yn olaf, o ran eu hymateb, dim ond newydd ddod â hynny yn fewnol yr ydym ni, ac rwy'n ofni bod y tîm yn cymryd ychydig o amser i gael trefn arno. Ond rwy’n eich sicrhau y bydd y cyflymder ymateb yn ôl i fyny i normal—yr wythnos hon rwy’n gobeithio, ond yn fuan iawn. O ran marchnata, fe’i gwnaethom yn fewnol oherwydd ein bod yn awyddus i’w dargedu yn benodol at ardaloedd sydd â chyfraddau manteisio uchel ac at fusnesau sy'n hanfodol i'n heconomi. Roeddem eisiau i'r Aelodau Cynulliad lleol a rhanbarthol fod yn rhan o’r ymgyrch farchnata honno. Oherwydd fel y dywedais, po fwyaf fydd y niferoedd sy'n manteisio, y mwyaf fydd y gyfran o enillion a mwyaf fydd yr arian sydd gennym i ailfuddsoddi yn y rhaglen.

Byddaf yn ceisio gwneud fy sylwadau ychydig yn fwy cryno, rwy’n addo. Yn gyntaf oll, Weinidog y Cabinet, hoffwn ddiolch i chi am eich datganiad cynhwysfawr y prynhawn yma. Yn gyntaf, a gaf i yn ddiffuant longyfarch Llywodraeth Cymru, ar ran fy mhlaid, am eu cyflawniadau eithriadol yn ystod y tair blynedd diwethaf wrth wneud Cymru y wlad sy'n perfformio orau yn y DU, ar ôl Lloegr, o ran darparu band eang cyflym iawn? Rwyf wir yn golygu hynny, ond a gaf i dynnu eich sylw at adroddiad Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth ym mis Medi eleni, a nododd y diffyg gwelededd ar fusnesau sy'n manteisio ar fand eang cyflym iawn oherwydd absenoldeb data perthnasol? Fodd bynnag, amcangyfrifwyd bod hyn mor isel â 28 y cant ar ôl iddo fod ar gael am chwe mis. Rwy’n credu bod Dai Lloyd mewn gwirionedd wedi crybwyll hyn pan siaradodd â chi yn gynharach. Ac o gofio mai manteisio gan fusnes yw prif sbardun y twf economaidd a ragwelir drwy fand eang cyflym iawn, a all yr Ysgrifennydd nodi pa un a yw’r ddau ddiffyg hyn naill ai wedi cael sylw, neu eu bod yn cael sylw? A allwch chi hefyd roi sylwadau ar y gwahaniaeth mewn gwahanol ardaloedd yng Nghymru? Gall rhywun, i ryw raddau, ddeall fod Powys yn llusgo rhyw ffordd y tu ôl i ardaloedd eraill, er, wrth gwrs, nid yw hyn yn gwbl dderbyniol, ond mae'n anodd iawn deall pam mae Torfaen, un o fy etholaethau, hefyd yn llusgo y tu ôl i ranbarthau adeiledig tebyg .

Iawn, wel, diolch ichi am hynna, a diolch yn fawr iawn i chi am eich sylwadau caredig. Rydym yn falch iawn o'r ffaith ein bod wedi sicrhau bod Cymru yn un o'r arweinwyr mewn cysylltedd digidol ar draws Ewrop, ac mae'n fater o gryn bryder i ni ein bod yn cael pobl i fanteisio ar y buddion gan ein bod erbyn hyn wedi gwario'r arian i’w gyflwyno.

Yn nhermau busnes yn manteisio, un o'r rhesymau pam yr ydym wedi dod â’n marchnata yn ôl yn fewnol yw ein bod eisiau ei dargedu.  BT oedd yn gwneud hynny o'r blaen, ond, yn amlwg, mae wedi ei ddal yn eu cyflwyno masnachol yn ogystal, ac rydym yn awyddus iawn i bwysleisio'r pwynt yr oeddwn yn ei wneud yn gynharach i Dai Lloyd, fod llawer o ISPs ar gael; gallwch chwilio o gwmpas, gallwch gael gwell gwasanaeth ar gyfer eich busnes ac yn y blaen. Ond hefyd, mae ein hymgynghorwyr busnes yn cynnal sesiynau ledled Cymru ochr yn ochr â hyn i ddangos manteision band eang i fusnesau nad yw hyd yn hyn wedi ei gael.

Ac os caf fi adrodd yr hanesyn bach hwn i chi, oherwydd byddwch yn ei werthfawrogi, rwyf yn aml yn cwrdd â phobl sy'n dweud nad oes ganddynt unrhyw beth, ‘Dim ond 1 Mb yr wyf i ei eisiau —os gwelwch yn dda, unrhyw beth', ac rwyf i’n dweud, 'Wel , na, nid ydym eisiau gwneud hynny. Rydym yn awyddus i fynd â chi i’r pwynt lle y gallwch wneud pethau sydd eu hangen ar eich busnes.' 'Na, na, hoffem gael dim ond y gallu i lawrlwytho pethau.' Rwyf bob amser yn defnyddio'r gyfatebiaeth o bobl nad oes ganddynt drydan eisiau digon o drydan i gael bwlb golau yng nghanol eu tŷ, ond, mewn gwirionedd, cyn gynted ag y maen nhw wedi cael y bwlb golau, maen nhw’n sylweddoli faint o bethau eraill y dylent fod wedi gofyn amdanynt a, gan na chafodd y tŷ ei weirio yn y lle cyntaf, mae wedyn yn llawer mwy costus. Felly, mae'n gyfatebiaeth debyg —ni fydd 1 Mb yn rhoi fawr iawn o gwbl i chi; ni allwch gael gwasanaethu cwmwl, er enghraifft, oddi ar 1 Mb.

Felly, beth mae ein cyngor busnes yn awr yn ei wneud yw rhoi rhyw fath o ddewislen i chi o ran pa wasanaeth sydd ei angen arnoch i wneud beth. Felly, wyddoch chi, os ydych yn lleoliad gwesty yng Nghymru, a’ch bod ond eisiau cynnig y gwasanaethau rhyngrwyd hynny sy'n rhoi talebau 2 am 1 i chi ac yn y blaen—mae llawer o gwmnïau sy'n gwneud hynny—oherwydd eich bod eisiau llenwi eich lleoliad ar beth fu hyd yma yn ddyddiau anodd eu llenwi—dydd Mawrth a dydd Mercher, er mwyn dadl—yna, gwych, gallwch wneud hynny. Gallwch fynd ar-lein a gallwch gael pobl i archebu yn y ffordd honno ac yn y blaen, ac mae llawer o bobl yn manteisio ar hynny. Ond, ar ôl i chi lenwi eich gwesty, byddwch yn sylweddoli y bydd y bobl sydd yno eisiau cael teledu ar eu dyfeisiau, byddant eisiau lanlwytho eu lluniau, byddant yn awyddus i ddweud wrth eu ffrindiau pa mor wych ydyw, ac os na allant wneud hynny yn eich ystafelloedd, oherwydd nad oes gennych unrhyw Wi-Fi, oherwydd nad oes gennych ddigon o fand eang i alluogi pobl i fewngofnodi i gyd ar unwaith, yna byddant yn rhoi sylw cas iawn ar TripAdvisor am eich gwasanaeth a byddwch yn dioddef oherwydd hynny. Ac felly yr hyn yr ydym yn ceisio gwneud i bobl ei weld yw’r hyn sydd ar gael iddyn nhw cyn iddyn nhw gael y band eang yn y lle cyntaf, yn hytrach na’u bod yn aros i’w gael ac yna ceisio ei uwchraddio, oherwydd mae hynny’n ddrutach. Felly, dyna ddiben yr ymyrraeth busnes. Dim ond un enghraifft fach yw honna; mae llawer iawn o rai eraill y gallem fynd i mewn iddynt. Felly, dyna beth yw pwrpas y sbardun manteisio. Dyna beth y mae'r marchnata ar ei gyfer, ac mae wedi’i dargedu'n fanwl, a gobeithio y bydd yr Aelodau'n ei weld yn digwydd yn eu hardaloedd nhw, ar eu gorsafoedd radio lleol. Bydd gennym hysbysfyrddau wedi’u gosod ac yn y blaen. Bydd llawer o sefydliadau busnes yn yr ardal yn cael eu gwahodd. Felly, rwy’n gobeithio’n fawr iawn y byddwch yn gweld hynny'n digwydd.

Ac yna, yn olaf, o ran y gwahaniaeth daearyddol, yn eich geiriau chi, byddaf yn ateb hyn eto, er fy mod wedi ei ateb ar gyfer pob Aelod hyd yn hyn. Nid ydym yn rheoli’r contractau ar gyfer ardal awdurdod lleol; rydym yn rheoli'r contract ar gyfer Cymru. Felly, mae’n rhaid i BT gyrraedd y nifer o safleoedd yng Nghymru y mae arnynt eu hangen. Nid oes gennyf unrhyw reolaeth dros ble mae hynny. Nid wyf yn gwybod pam mae hi’n anoddach ei gael yn Nhorfaen, ond gallai fod yn rhywbeth tebyg i fod y pibellau wedi eu blocio, gallai’r cypyrddau fod yn llawn, nid oedd y llinell rhwydwaith ffôn blaenorol wedi bod yn gweithredu ar y cyflymder llawn. Does gen i ddim math o syniad; mae bob math o faterion sy'n codi yn y contract hwn. Nid natur wledig yw'r unig broblem yma; weithiau mae'r strydoedd yn broblem, weithiau mae problemau gyda, wyddoch chi, pob math o rwystrau ac yn y blaen. Ond mae’n rhaid iddynt gyrraedd y nifer o safleoedd ar gyfer Cymru yr ydym wedi'u gosod, ac yna byddwn yn defnyddio’r arian cyfran o enillion i gyrraedd y gweddill. Felly, nid oes gwahaniaeth a yw'r ganran yn Nhorfaen yn is ar hyn o bryd. Ar ddiwedd y weinyddiaeth hon, bydd yn 100 y cant.

Fy nealltwriaeth i, Weinidog, yw nad oedd hwn yn gontract i gysylltu cymunedau gwledig yn unig, oherwydd rwy’n cofio fod man gwan Penylan yn fy etholaeth i yn un o fuddugoliaethau cynnar y contract hwn. Gan nad ydynt bellach yn fy nhrafferthu i ynglŷn â’r mater hwn, gallaf gymryd yn ganiataol eu bod yn awr yn bobl hapus iawn.

Ond yn ddiweddar, ymwelais, gyda'r Pwyllgor Newid yn yr Hinsawdd a Materion Gwledig, â Cheredigion—yn ystod y bythefnos diwethaf—ac roedd ffermwyr yno yn bryderus iawn nad oedd ganddynt fawr o gysylltedd o gwbl, sydd, ar gyfer cymunedau gwledig, yn broblem enfawr. Mae sut mae disgwyl iddynt redeg eu busnes a chyflwyno eu cynigion taliad sylfaenol ar-lein pan nad oes ganddynt mewn gwirionedd unrhyw gysylltiad yn eu cartrefi yn amlwg yn broblem fawr ar gyfer eu busnesau, yn enwedig pan fydd technoleg newydd yn cael ei defnyddio fwyfwy i alluogi ffermwyr i fod yn fwy effeithlon. Er enghraifft, yn Seland Newydd rwy’n deall eu bod yn defnyddio technoleg synhwyrydd mesurydd porfa i archwilio pob blewyn o laswellt ar dir pobl i sicrhau eu bod yn cyfeirio eu hanifeiliaid i’r darn iawn o laswellt. Felly, rydym yn amlwg yn mynd i fod angen y math hwnnw o dechnoleg yn y dyfodol yma yng Nghymru, gyda'r holl heriau a ddaw yn sgil Brexit.

Felly, rwyf braidd yn aneglur pam mae’r ffaith nad yw technoleg ddi-wifr wedi'i datganoli mewn rhyw ffordd yn ein hatal rhag mynnu gyda BT eu bod, yn yr ail gytundeb hwn, yn defnyddio'r cysylltiadau di-wifr sydd ganddynt erbyn hyn, ers iddynt gymryd EE drosodd, oherwydd mae'n hollol glir ei bod yn mynd i fod bron yn amhosibl cysylltu pob fferm anghysbell unigol ym mhob rhan o Gymru, neu mae'n mynd i fod yn hynod ddrud. Does bosib nad yw technoleg ddi-wifr yn mynd i fod yn ffordd llawer mwy effeithlon o wneud hynny. Ond mae technoleg wedi symud ymlaen cymaint yn y pum mlynedd diwethaf, ers i chi lofnodi contract gyda BT, fel ei bod yn ymddangos ein bod mewn perygl o golli cyfle. Nid wnaethoch sôn yn eich datganiad bod rhyngrwyd cymunedol Airband yn darparu atebion di-wifr ar gyfer tua 2,000 o safleoedd busnes. Pam, felly, nad yw'n bosibl i fynnu gyda BT eu bod yn defnyddio atebion di-wifr i gysylltu'r cymunedau mwy anghysbell? Byddai hynny'n eu galluogi i gael eu cysylltu yn llawer cyflymach, ac yn amlwg nid ydynt yn mynd i fod yn gallu rhedeg y busnesau gwledig hyn yn y dyfodol oni bai eu bod wedi eu cysylltu. Felly, byddwn yn ddiolchgar am rywfaint o arweiniad ar hynny.

Felly, ar eich pwynt cyntaf, wrth gwrs nid gwledig yn unig yw hyn, dim ond bod y rhan fwyaf o ardaloedd lle nad oes cyflwyno masnachol yn wledig. Ond rydych yn gywir i nodi lle yn eich etholaeth eich hun lle na fu cyflwyniad masnachol, er, yn rhyfedd, mae triongl yng nghanol Abertawe nad oedd ganddo hynny ychwaith. Ond mae’n rhyw fath o gyffredinolrwydd ei fod, ar y cyfan, lle nad oes crynhoad o boblogaeth.

O ran y ffermwyr, mewn gwirionedd mae Ysgrifennydd y Cabinet a minnau eisoes wedi siarad am gael data am faint o ffermwyr sydd heb eu cysylltu yng Nghymru. Nid yw’r data hynny gennym mewn gwirionedd, oherwydd nid dyna sut yr ydym yn eu casglu, ond rydym yn gwneud darn o waith ar hyn o bryd i gael y data ar union faint o ffermwyr nad ydynt wedi eu cysylltu. Nid oes gennym y data i wybod hynny. Ond byddwn yn dweud hyn: yn gyntaf oll, mae pawb wedi ei gynnwys yn y broses o gyflwyno, ac mae blwyddyn arall i fynd, fel yr wyf wedi ei ddweud, ar gyfer pawb arall. Hefyd, mae gennym y ddau gynllun, y cynllun Allwedd Band Eang Cymru a'r cynllun cysylltedd gwibgyswllt, felly os yw pobl eisiau buddsoddi ynddo yn awr, gallant wneud hynny, ac fe wnawn ni eu helpu. Ceir graddfa symudol o ran faint o arian y bydd Llywodraeth Cymru yn ei roi i’w helpu â hynny, yn dibynnu ar ba welliannau yn eu cyflymder cysylltu y maent yn eu cael.

Rwy’n cydnabod y problemau yr ydych yn sôn amdanynt, ac maen nhw gan bawb, a dyna pam yr ydym am i bobl fanteisio arno. Felly, dyna pam mae gennym y cynlluniau hynny. Rydym hefyd yn gweithio gyda chymunedau i ddod at ei gilydd fel y gallant eu cael fel cynllun cymunedol yn ogystal.

O ran pam nad ydym yn mynnu bod BT yn gwneud hynny, yr ateb syml i hynny yw oherwydd nad yw yn y contract. Roedd yn gontract a gafodd ei dendro a wnaed drwy gaffael Ewropeaidd. Mae'r contract fel ag y mae. Dyna’r hyn y gwnaeth BT dendro amdano. Enillon nhw'r contract. Tendrodd Airband ar gyfer y 2,000 o safleoedd busnes, ac enillon nhw'r contract hwnnw, felly maen nhw’n rhoi eu technoleg i mewn iddo.

Mae ein cynlluniau gwibgyswllt ac ABC, fodd bynnag, yn defnyddio unrhyw dechnoleg sydd ar gael i gyrraedd y safle. Felly, ni fydd y 4 y cant olaf yr wyf bob amser yn siarad amdano yn ôl pob tebyg yn ffibr cebl. Gallai fod, ond mwy na thebyg na fydd—bydd yn fwy na thebyg yn lloeren neu’n dechnolegau digidol eraill. Ni ddylid drysu rhwng hynny â'r broses o gyflwyno 4G a 5G a'r seilwaith symudol, nad ydynt wedi'u datganoli i Gymru. Er fy mod yn cael cyfarfodydd cyson gyda gweithredwyr rhwydwaith ffonau symudol, nid oes gennyf unrhyw bŵer drostynt, felly rydym yn syml ond yn eu hannog i wneud eu gorau ac yn rhoi llawer o bwysau ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod gennym signal daearyddol yng Nghymru yn ogystal â signal o ran poblogaeth.

Cwestiynau cyflym ac atebion cyflym a byddaf yn ceisio rhoi cyfle i gymaint â phosibl o'r bobl sydd wedi gwneud cais i siarad. Paul Davies.

Diolch, Lywydd. Fel eraill, rwyf innau hefyd yn croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo £12.9 miliwn i gyrraedd y ganran fechan olaf o safleoedd. Ond a all y Gweinidog efallai ddarparu rhagor o fanylion ar hyn o bryd ar sut y bydd cyllid mewn gwirionedd yn cael ei ddyrannu ar draws Cymru, o gofio’r pryderon a godwyd gan lawer o fy etholwyr ynghylch y diffyg gweithredu mewn rhai ardaloedd? Gwn fod y Gweinidog wedi dweud heddiw fod y Llywodraeth yn monitro darparu gwasanaethau band eang yn ofalus iawn, ond a all hi ddweud wrthym yn benodol sut y bydd y Llywodraeth yn monitro i wneud yn siŵr bod y gwasanaethau hyn yn cael eu darparu mewn gwirionedd ar amser neu o fewn amserlenni derbyniol? Os nad ydynt yn cael eu cyflawni, rwy’n meddwl bod y Gweinidog wedi cadarnhau yn gynharach y gall y Llywodraeth osod cosbau os nad yw'r gwaith yn cael ei wneud mewn modd amserol a phriodol. Felly, a all hi gadarnhau os yw hi'n credu bod y cosbau sydd ganddi yn ddigonol i sicrhau bod y gwaith yn cael ei wneud mewn modd amserol a phriodol?

Diolch i'r Aelod am y cwestiynau pwysig yna. Cawsom gyfarfod hir yn ddiweddar iawn i drafod rhai o'r materion hyn. Credaf ei bod yn bwysig peidio â chyfuno dau fater gwahanol. Un yw'r 'addewid', os mynnwch chi, oedd yn arfer bod gan BT ar eu gwefan y gallech fod o fewn cwmpas yn y tri mis nesaf. Roedd pobl yn iawn i fod yn anfodlon ar ôl i’r tri mis fynd heibio a hwythau heb eu cysylltu a hynny’n mynd ymlaen am dri mis arall ac yn y blaen. Un o'r rhesymau pam yr ydym wedi dod â’r swyddogaethau hynny yn fewnol yw oherwydd ein bod ninnau hefyd yn anfodlon iawn â hynny. Nid yw hynny'n fater ar gyfer trefniadau cytundebol y contract, fodd bynnag. Fel y dywedais, mae trefniadau cytundebol y contract ar gyfer Cymru yn unig yn yr amser sydd ar gael. Felly, roeddem yn rhoi llawer o bwysau ar BT i roi gwybodaeth briodol i bobl, ac i beidio â rhoi gwybodaeth rhy obeithiol iddynt, er mwyn galluogi, er enghraifft, pobl i wneud trefniadau synhwyrol ynghylch pa un a ddylent fuddsoddi yn y cynllun ABC. Mae'n eich gwylltio i ganfod, ar ôl blwyddyn, eich bod wedi cael gwybod bob tri mis, y byddwch yn cael y cysylltedd, pryd y gallech fod wedi buddsoddi ynddo flwyddyn yn ôl a’i gael, er enghraifft.

Felly, rwyf wedi gwneud y pwyntiau hynny yn rymus i BT ac, er tegwch iddynt, maent wedi newid y wybodaeth. Mae'r wefan yn wahanol iawn erbyn hyn ac yn rhoi gwybodaeth llawer mwy penodol i chi ac nid yw'n rhoi amserlenni rhy obeithiol i chi. Rydym wedi gweithio'n galed gyda nhw i wneud hynny. Ni ddylid drysu o gwbl rhwng hynny â dyddiad terfyn y contract a nifer y safleoedd a basiwyd. Felly, nid oes gennyf unrhyw reolaeth dros ba un a aethant i 32 Gerddi Gwynion ai peidio, yr hyn y mae gennyf reolaeth drosto yw faint o safleoedd yng Nghymru y byddant yn eu cyrraedd. Rwy'n ffyddiog y byddant yn bodloni hynny oherwydd bod cosbau llym am iddynt beidio â gwneud hynny, ond nid oes cosbau treigl yn y contract.

Mae gennym dargedau adolygu chwarterol yr ydym yn edrych arnynt gyda BT ac, oherwydd bod y dechnoleg wedi newid yn ddiweddar, er enghraifft, yn y modd y byddwch yn gwneud i gwpwrdd gael mwy o gysylltedd iddo, rydym yn ystwytho’r targedau hynny o bryd i'w gilydd. Ond, hyd yn hyn, maen nhw ar y targed. Felly, nid oes gennyf amheuaeth. Nid oes gennyf unrhyw reswm i gredu na fyddant yn cyrraedd y targed ddiwedd y flwyddyn nesaf. Mae gennyf bob cydymdeimlad â phobl a oedd yn disgwyl ei gael yn y cyfnod tri mis nesaf ac yna ddim yn ei gael. Doeddwn i ddim eisiau newid y wefan i ddweud, 'Byddwch yn ei gael erbyn diwedd mis Mehefin 2017', oherwydd fy mod yn teimlo nad oedd hynny’n ddefnyddiol iawn ychwaith. Felly, yr hyn yr ydym wedi ei wneud yw gofyn iddynt fod yn besimistaidd iawn am ble y mae pobl arni a rhoi'r wybodaeth honno iddynt. Felly, os bydd yn dweud 'yn y tri mis nesaf', byddent 90 y cant yn sicr o’i gael yn y tri mis nesaf. Rwy'n rhannu rhwystredigaeth yr Aelod am y targedau treigl. Mae gennyf broblemau tebyg yn fy etholaeth fy hun.

Felly, rydym wedi gweithio gyda nhw yn galed iawn i oresgyn rhai o'r problemau hynny, ond nid yw'r rhwymedigaethau cytundebol i gael eu cyfuno â'r materion amseru parhaus hyn, os yw hynny'n gwneud synnwyr.

Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am ei diweddariad heddiw? Heb os bydd hi'n gwybod o’i bag post bod cael mynediad at fand eang cyflym iawn yn bwnc llosg ar gyfer llawer o fy etholwyr yn Nelyn. Nid yn unig y mae hynny'n tynnu sylw at y problemau y mae pobl yn eu cael o ran cael mynediad at y ddarpariaeth a'r darparwr, ond rwy’n meddwl, i mi, mae'n dangos pa mor bell yr ydym wedi symud yn y blynyddoedd diwethaf o ran symud o ystyried band eang cyflym iawn yn rhywbeth moethus i fod yn gyfleustod hanfodol yr ydym yn disgwyl ei gael erbyn hyn, gyda galw yn cynyddu yn unol â hynny. Croesawaf yr ymrwymiad a'r ymyrraeth gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod cymunedau yn gallu neu y byddant yn gallu cael mynediad at fand eang cyflym iawn, ond, gan adleisio’r hyn y mae llawer wedi ei ddweud heddiw, rhan o'r broses yw sicrhau bod darparwyr fel BT yn bodloni eu rhwymedigaeth i gartrefi a busnesau a chymunedau ledled Cymru.

Yn wir, ac mae'r Aelod yn wir yn ohebydd toreithiog ar y pwnc, fel y mae llawer o Aelodau yn y Siambr. Ond, ydi, rwy’n credu ei bod yn bwysig cydnabod y newid diwylliannol sydd wedi digwydd yn ystod y rhaglen hon. Yn 2013, pan ddechreuasom ni'r rhaglen hon, ymhlith y sylwadau mwyaf cyffredin gan bobl oedd, 'O, ni fyddwch fyth yn ei gael atom ni, ac nid ydym ei eisiau beth bynnag. Mae pobl eisiau dod i’—enw lle—‘i ddianc rhag popeth, ac i ddod oddi ar-lein' ac yn y blaen. Roedd hynny’n rhywbeth cyffredin a ddywedwyd wrthym ni, ac erbyn hyn y peth mwyaf cyffredin a ddywedir wrthym yw, ‘Pryd ydw i'n cael y band eang yma?' Felly, mae’r tair blynedd yna wedi gweld newid diwylliannol mawr yn y ffordd y mae pobl yn ei ystyried. Nid ydych yn dod i Gymru i ddianc rhag popeth, rydych yn dod i gael antur, ac rydych eisiau trydar am yr antur wrth i chi ei chael. Ac mae hynny'n wych, ond rydym eisiau cadw i fyny â hynny. Unwaith eto, rwyf eisiau sicrhau Aelodau y byddwn yn cyrraedd pawb. Mae'n anodd i'r bobl sydd ar ddiwedd y rhaglen, ond, fel gyda phob rhaglen, mae rhai pobl ar y dechrau ac mae rhai pobl ar y diwedd. Mae'n rhwystredig os ydych chi ar y diwedd, ond byddwn yn eich cyrraedd chi.

Weinidog, rwy'n ofni bod llawer o bobl ledled Cymru wedi cael llond bol ar aros am hyn. Rydych chi mewn Llywodraeth sydd wedi goraddo am fand eang cyflym iawn ac wedi methu yn llwyr â chyflawni. Roedd hyn yn eich rhaglen lywodraethu [Torri ar draws.] Yr oedd yn eich rhaglen lywodraethu yn ôl yn 2011 y byddech yn cyflwyno band eang cyflym iawn i bob cartref a busnes preswyl yng Nghymru. Rydych chi wedi methu ar hynny, a gallwch feio BT Openreach gymaint ag y dymunwch, ond chi yw'r rhai a roddodd y contract iddynt, chi yw'r rhai sydd wedi newid yr amserlen ddwywaith erbyn hyn o ran cyflawni yn erbyn y contract hwnnw, a chi yw’r bobl sy'n siomi pobl a busnesau Cymru.

A dweud y gwir, Weinidog, nid wyf yn argyhoeddedig, hyd yn oed erbyn diwedd y cyfnod hwn o Llywodraeth glymblaid, eich bod chi'n mynd i gyflawni eich nod, ychwaith. Rydych eisoes wedi dweud yn glir iawn yn eich datganiad heddiw nad ydych yn gallu darparu cysylltedd ffibr ar unrhyw gost, gan fod angen i chi ddarparu gwerth am arian. Rwy’n derbyn bod angen i chi ddarparu gwerth am arian, ond mae hefyd angen i chi roi'r gorau i addo pethau yr ydych chi’n methu â’u cyflawni. Rydych wedi methu cyflawni yn y tymor diwethaf, ac rwy’n amau ​​eich bod yn mynd i fethu eto.

Gadewch i ni atgoffa ein hunain o'r pethau hynny a addawyd. Yn eich rhaglen lywodraethu yn ôl yn 2011, sydd, rwy’n sylwi, Lywydd, wedi ei dileu o wefan Llywodraeth Cymru, dywedasoch y byddai pob cartref a busnes yn derbyn band eang cyflym iawn erbyn diwedd 2015. Yna newidiwyd yr amserlen i 2016, yna fe’i symudwyd i ddiwedd 2017. Erbyn hyn, dylai fod o leiaf 655,000 o gartrefi ac adeiladau busnes ynghlwm i fand eang cyflym iawn, ond nid yw hynny wedi digwydd. Rydych chi wedi dweud yn eich datganiad heddiw nad oes ond 610,000 ohonynt. Felly, yr hyn yr ydych wedi ei wneud yw eich bod wedi newid yr amserlen ymhellach ac ymhellach i’r dyfodol; rwy’n amau ​​y byddwch yn eu symud y tu hwnt i’r etholiad nesaf hefyd, oherwydd nad ydych eisiau i’r etholwyr eich dwyn i gyfrif am y methiannau hyn, ychwaith.

Yr hyn y mae fy etholwyr eisiau ei wybod yw, os nad ydynt yn mynd i gael band eang ffibr, sut ar y ddaear ydych chi’n mynd i fynd i'r afael â'u hanghenion? Pam y dylai fy etholwyr yn rhan uchaf Bae Colwyn ac yn rhannau gwledig Sir Ddinbych ac mewn rhannau eraill o Gonwy, pam y dylent ddioddef methu â chael mynediad at y pethau hyn, sy'n hanfodol ar gyfer yr aelwydydd hynny heddiw os ydynt eisiau cael y fargen orau ar eu biliau cyfleustodau, os ydynt eisiau eu pobl ifanc i wneud eu gwaith cartref a gwneud yr ymchwil sydd ei hangen arnynt i gefnogi eu haddysg? Nid yw’n dderbyniol; mae angen i chi roi eich meddwl ar waith a datrys hyn.

A gaf i ddweud wrth Darren Millar cymaint yr wyf wedi colli ei ddicter cyfiawn; mae wedi bod yn absennol o'r Siambr am beth amser erbyn hyn, felly mae'n braf ei weld yn ôl yn ei anterth. Yn anffodus, mae ychydig yn or-eiddgar yn yr achos hwn, oherwydd credaf ei fod wedi methu, mewn gwirionedd, â gwrando'n ofalus iawn ar fy atebion blaenorol i'r Aelodau. Felly, rwyf am eu hailadrodd. Nid ydym wedi newid yr amserlen, nid ydym wedi newid canlyniad hyn, yr hyn yr ydym wedi ei wneud yw ychwanegu safleoedd yn ystod adolygiadau marchnad agored dilynol er mwyn cyrraedd cynifer o safleoedd yng Nghymru ag y bo modd. Roedd y targedau gwreiddiol ar gyfer 96 y cant o'r safleoedd a oedd wedi eu hadeiladu yng Nghymru yn 2011.Yn amlwg, nid oes rhaid i chi fod yn athrylith i wybod bod safleoedd arall wedi eu hadeiladu rhwng yr adeg honno a nawr. Hefyd, mae'n ymyrraeth yn y farchnad—nid yw’n brosiect seilwaith, ymyrraeth yn y farchnad ydyw. Mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr nad ydym ond yn mynd i lle nad yw'r farchnad yn mynd, ac felly mae'n rhaid i ni fynd trwy brosesau adolygu marchnad agored er mwyn ychwanegu safleoedd eraill at hynny.

Yn yr adolygiad marchnad agored cyntaf, nododd nifer o gwmnïau telathrebu, er enghraifft, y byddent yn fasnachol yn cyflwyno i nifer o safleoedd diwydiannol ledled Cymru, a daeth yn amlwg nad oeddent mewn gwirionedd yn mynd i gadw’r addewidion hynny, a dyna pam y gwnaethom gynnal yr ail adolygiad o’r farchnad agored, er mwyn gallu cynnwys y safleoedd hynny. Dyna beth yr oedd yr ail gyfran yn ymwneud ag ef. Rwyf wedi esbonio hynny i Aelodau lawer gwaith; rwy'n hapus i’w esbonio eto.

Nid oes angen i chi egluro eto, hyd yn oed os yw Darren Millar wedi gofyn i chi.

Iawn, Lywydd, mi wnaf ymatal rhag egluro eto, ond rwyf wedi ei esbonio sawl gwaith yn barod.

Felly, nid wyf yn derbyn yr hyn y mae’n ei ddweud. Y peth olaf a ddywedodd, fodd bynnag, yr wyf yn ei dderbyn yn llawn: mae wedi mynd o fod yn rhywbeth moethus i fod yn hanfodol, a dyna pam mae'r Llywodraeth hon yn addo ei gael i bawb. Yr hyn a ddywedais am fand eang ffibr oedd na fyddai pawb yn cael cebl. Dywedais y byddai pawb yn cael band eang cyflym a dibynadwy, ond na fyddai o reidrwydd trwy gebl ffibr, ac mae hynny oherwydd bod technolegau eraill wedi datblygu’n gyflym iawn dros y tair blynedd diwethaf. Soniais am un mewn etholaeth Aelod arall, ac, os byddai Darren Millar yn dymuno fy ngwahodd i'w etholaeth i siarad â’i etholwyr am yr hyn sydd ar gael, byddwn yn hapus iawn i dderbyn y gwahoddiad hwnnw.

Diolch, Lywydd. Byddaf yn gryno. Weinidog, rydych chi wedi nodi band eang yn yr ardaloedd diwydiannol drwy gontract Airband. A allwch chi gadarnhau nad oes mwy o ardaloedd diwydiannol lle bydd contractau ychwanegol yn ofynnol, sy'n hollbwysig? A allwch chi ddweud wrthym hefyd pa farchnad fydd yn yr ardaloedd diwydiannol hynny ar ôl iddynt gael eu cysylltu, fel y gallwn gyflwyno’r neges i bobl cyn gynted ag y bo modd?

Rydych hefyd wedi siarad am ailalluogi heddiw. Fel y gwyddoch, mae gen i broblem gydag un o'r blychau. A wnewch chi sicrhau bod BT yn darparu digon o allu yn eu cypyrddau fel nad oes angen ailalluogi o fewn y cyfnod byr hwnnw o amser? Mewn gwirionedd, dylent fod yn edrych ar darged capasiti o 50 y cant o leiaf ar gyfer y tai yn y blwch er mwyn sicrhau y gall ddarparu ar gyfer y cymunedau, ac nid gadael i bobl aros a byddant yn dod yn ôl mewn blynyddoedd i ddod pan fydd amser ganddynt, nid pan fydd pobl ei angen.

Diolch. Ar y pwynt olaf, fel yr wyf wedi dweud dro ar ôl tro, mae angen i BT gyrraedd cynifer o safleoedd ag sy'n bosibl mor gyflym â phosibl i gyflawni ei ofynion cytundebol, ac rwy’n gwybod ei fod wedi cynnal adolygiad o'r cypyrddau yr oedd yn eu cynnig yn flaenorol i weld a ellir cynyddu’r capasiti ar hynny. Ac os ydych chi eisiau ysgrifennu ataf eto am gwpwrdd 16, sef yr un yr wyf yn cymryd yn ganiataol yr ydych yn siarad amdano—mae’r Aelod hefyd yn ohebydd toreithiog —rwy’n hapus i gael golwg ar hynny gydag ef eto yn ein cyfarfodydd chwarterol .

O ran contract Airband, ie, yn hollol, byddwn yn ymestyn y marchnata i sicrhau bod busnesau yn ymwybodol ac ar gael a'r holl bethau a grybwyllais wrth David Rowlands yn gynharach, er mwyn iddynt ddeall yr hyn y gall y manteisio ei gael atynt ; byddwn yn gwneud hynny.

Ni allaf warantu mewn gwirionedd yr union funud hon na fydd unrhyw safleoedd diwydiannol yn cael eu hepgor, ond rydym, fel y dywedais, yn edrych ar adolygiad marchnad agored arall yn yr hydref, a dyna fydd y gyfran olaf. Felly, os oes unrhyw rai wedi eu hepgor allan yna, ac rwy’n gobeithio nad oes, byddan nhw'n cael eu cynnwys yn yr adolygiad marchnad agored olaf hwnnw.

Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet—diolch i’r Gweinidog.

8. 7. Dadl: Mynd i’r Afael â Throseddau Casineb—Cynnydd a Heriau

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Paul Davies.

Rydym ni’n symud ymlaen i eitem 7, y ddadl ar fynd i’r afael â throseddau casineb, ac i wneud y cynnig, yr Ysgrifennydd Cabinet—Carl Sargeant.

Cynnig NDM6113 Jane Hutt

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn:

1. Nodi'r cynnydd sydd wedi'i wneud drwy Fframwaith Llywodraeth Cymru ar gyfer Mynd i'r Afael â Throseddau Casineb.

2. Cydnabod, yn sgil digwyddiadau diweddar, yr heriau parhaus sy'n bodoli o ran troseddau casineb.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch i chi, Lywydd. Croesawaf y cyfle hwn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ar y cynnydd a wnaed hyd yn hyn yng Nghymru ar drechu troseddau casineb a'r heriau presennol.

Atgoffaf yr Aelodau fy mod wedi cyhoeddi diweddariad blynyddol yn 2016-17 a chynllun cyflawni ym mis Gorffennaf sy'n amlygu'r camau ar draws y Llywodraeth.

Hoffwn droi at y gwelliant ar yr adeg hon. Rwy’n hapus i Aelodau nodi’r prosiect ymchwil troseddau casineb Cymru gyfan. Bydd y ddadl hon heddiw yn dangos sut yr ydym ni wedi defnyddio'r argymhellion allweddol o’r adroddiad hwn a gwaith ymchwil cysylltiedig arall i godi ymwybyddiaeth o droseddau casineb, a chynyddu hyder dioddefwyr a thystion i roi gwybod am droseddau casineb. Mae hyn yn wir, er enghraifft, mewn cysylltiad â dulliau adferol ar gyfer y rhai sy’n cyflawni troseddau casineb. Er bod cyfiawnder troseddol yn parhau i fod yn fater sydd heb ei ddatganoli, mae Cymorth i Ddioddefwyr Cymru, sy'n rheoli ein canolfan cenedlaethol ar gyfer rhoi cymorth ac adrodd am droseddau casineb, wrthi'n gweithio gyda'r Cwmni Adsefydlu Cymunedol i greu rhaglen cyfiawnder adferol ac addysg troseddau casineb ar gyfer y rhai sy’n cyflawni troseddau casineb. Felly, rwy’n cefnogi'r gwelliant a osodir heddiw.

Mae'r wythnos hon yn Wythnos Ymwybyddiaeth o Drosedd Casineb. Mae'n gyfnod allweddol i'n partneriaid yn y trydydd sector a'r pedwar heddlu. Rwyf unwaith eto wedi darparu cyllid i'r pedwar comisiynydd heddlu a throseddu i gefnogi gweithgareddau yn ystod yr wythnos, gyda phwyslais ar godi ymwybyddiaeth ac ymgysylltu cymunedol ledled Cymru.

Yn 2014, lansiwyd ‘Mynd i'r afael â Throseddau a Digwyddiadau Casineb: Fframwaith Gweithredu’, sy'n nodi ymrwymiad y Llywodraeth hon i newid gelyniaeth a rhagfarn ar draws yr holl nodweddion gwarchodedig. Mae ein fframwaith yn cynnwys amcanion ar atal, cefnogi a gwella’r ymateb amlasiantaeth. Cyhoeddais gynllun cyflenwi wedi’i ddiweddaru, fel y dywedais, ym mis Gorffennaf. Ers 2014, rydym wedi darparu cyllid i Cymorth i Ddioddefwyr Cymru i weithredu’r ganolfan genedlaethol ar gyfer rhoi cymorth ac adrodd am droseddau casineb, ac rydw i wedi cytuno'n ddiweddar i ariannu canolfan adrodd cenedlaethol am dair blynedd arall. Mae'r gwasanaeth hwn, sydd allan i dendr ar hyn o bryd, yn hanfodol er mwyn darparu eiriolaeth a chefnogaeth annibynnol i ddioddefwyr.

Rydym hefyd yn parhau i weithio'n agos gydag ystod o asiantaethau cyfiawnder troseddol drwy'r bwrdd cyfiawnder troseddol ar gyfer troseddau casineb, a’n grŵp cynghori annibynnol, sy'n helpu i fonitro cynnydd o lawr gwlad i fyny.

Felly, pa gynnydd yr ydym ni wedi'i wneud? Rydym ni wedi gweld cynnydd o 20 y cant mewn adroddiadau am droseddau casineb yn 2015-16 a gellir priodoli hyn i raddau helaeth i fwy o ymwybyddiaeth, hyder ymysg dioddefwyr a chofnodi mwy cywir. Fodd bynnag, rydym yn gwybod bod hyd at 50 y cant o ddioddefwyr yn dal i beidio ag adrodd, felly mae llawer mwy i'w wneud i sicrhau dioddefwyr ei bod yn bwysig ac yn werth chweil i adrodd am yr hyn y maent wedi ei ddioddef.

Rydym wedi cymryd camau anferth a gallwn fod yn falch iawn bod Cymru yn arwain y ffordd, ond nid oes lle i fod yn hunanfodlon. Ni allwn anwybyddu'r ffaith bod rhan o'r cynnydd yn yr achosion a adroddwyd yn adlewyrchu twf sydyn iawn iawn mewn troseddau casineb yn dilyn refferendwm yr UE, na'r realiti bod rhai grwpiau yn ein cymunedau yn fwy ofnus yn dilyn y bleidlais honno. Mae heriau sylweddol o'n blaenau i dawelu meddwl y mwyafrif a herio’r ychydig sydd am annog casineb. Rydym yn barod ar gyfer yr heriau hynny. Mae'r ganolfan adrodd genedlaethol wedi darparu hyfforddiant troseddau casineb i staff rheng flaen a phartneriaid cymunedol allweddol. Mae cyfanswm o 2,390 o bobl wedi elwa ar yr hyfforddiant hwn.

Mae'n rhaid i ni wrando ar y pryderon y mae cymunedau wedi eu lleisio yn dilyn y refferendwm ac mae’n rhaid i ni hefyd fod yn glir iawn iawn nad yw’r bleidlais—ac ni fydd hi—yn rhoi unrhyw sail dderbyniol i gasineb neu gam-drin tuag at bobl o leiafrifoedd ethnig a gwladolion nad ydynt yn Brydeinig. Mae llawer o bobl wedi dweud eu bod wedi byw yng Nghymru ers cenhedlaeth, ond wedi profi casineb am y tro cyntaf yn ystod y misoedd diwethaf; ni fydd hyn yn cael ei oddef. Rwyf wedi siarad â'r comisiynwyr heddlu a throseddu i sicrhau bod popeth posibl yn cael ei wneud i fonitro a chefnogi’r sefyllfa a'r dioddefwyr.

Fel Aelodau o'r Cynulliad, rydym yn gweithio gydag amrywiaeth eang o bobl ledled ein cymunedau ac etholaethau ac yn gwrando arnynt. Mae'n bwysig ein bod ni i gyd yn atgyfnerthu pa mor bwysig yw hi i bobl adrodd am droseddau. Mae hyn, wrth gwrs, yn berthnasol i droseddau casineb sy’n seiliedig ar amrywiaeth o nodweddion, gan gynnwys anabledd. Er gwaethaf yr holl gynnydd sydd wedi'i wneud, er enghraifft ynghylch y Gemau Paralympaidd, mae pobl anabl yn dal i gael eu gwaradwyddo ac yn dioddef cam-driniaeth a chasineb. Er ein bod wedi gweld bod pethau’n gwella, gan gynnwys cynnydd yn y niferoedd sy’n adrodd, mae'n rhaid i ni barhau i gryfhau’r sefydliadau a’r cymunedau anabledd ledled Cymru, a chreu cysylltiadau â nhw.

Yn yr un modd, mae angen i ni fod yn ymwybodol o droseddau casineb yn erbyn pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol, a chadw pwyslais clir ar hynny. Yn wir, ledled Cymru, troseddau casineb ar sail cyfeiriadedd rhywiol oedd y troseddau casineb a gofnodwyd amlaf ond un. Byddwn yn parhau i fynd i'r afael â phob math o homoffobia yn ein hysgolion, yn y gweithle ac yn ein cymunedau. Yng Nghymru, roedd y lefelau adrodd ar eu hisaf ar gyfer troseddau casineb trawsrywiol yn ystod 2015 a 2016, ac rydym wedi ymrwymo i fynd i’r afael â hyn drwy ein cynllun gweithredu trawsrywiol a byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid ledled Cymru.

Mae'n amlwg bod addysg yn chwarae rhan hanfodol wrth fynd i'r afael â chasineb. Mae angen amgylchedd dysgu cynhwysol i blant a phobl ifanc sy'n gwerthfawrogi amrywiaeth, ac yn datblygu goddefgarwch a dealltwriaeth. Pan fydd achosion yn digwydd, mae angen i ysgolion fod yn glir ynghylch eu trefniadau i herio geiriau ac ymddygiad annerbyniol, gan gynnwys hiliaeth, a chefnogi'r plant dan sylw. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth ers 2013 i ddatblygu adnoddau i gefnogi ysgolion ac ymarferwyr i fynd i'r afael â hiliaeth yn y sector addysg. Rydym wedi cymeradwyo gwaith pellach a fydd yn helpu arfogi a grymuso ein hathrawon â’r hyder i fynd i'r afael â hiliaeth a gwahaniaethu yn ein hystafelloedd dosbarth.

Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn chwarae rhan sylweddol ym mywydau’r rhan fwyaf ohonom, ac yn y maes hwn ceir heriau sylweddol y mae cyfrifoldeb ar bob un ohonom i’w hwynebu. Gallwn weld bob dydd sut mae'r cyfryngau a rhwydweithiau cymdeithasol yn effeithio ar ein barn ar y byd. Mae’r ymatebion i'r digwyddiadau diweddar yn y byd wedi arwain at gynnydd yn nifer y bobl sy’n mynegi anoddefgarwch hiliol a chrefyddol ar-lein. Mae hyn yn gwbl annerbyniol a byddwn yn parhau i ystyried ffyrdd newydd ac arloesol o fynd i'r afael ag ef. Yr wythnos hon, rydym yn cyhoeddi canllawiau ar droseddau casineb ar-lein ar gyfer ymarferwyr, y cyhoedd a phobl ifanc.

Edrychaf ymlaen at y sylwadau y bydd yr Aelodau yn eu nodi heddiw ar y diwrnod pwysig iawn hwn, sy’n nodi wythnos troseddau casineb.

Rwyf wedi dethol y gwelliant i’r cynnig ac rwy’n galw ar Mark Isherwood i gynnig y gwelliant a gyflwynwyd yn enw Paul Davies.

Gwelliant 1—Paul Davies

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi argymhellion allweddol y 'Prosiect Ymchwil Trosedd Casineb Cymru Gyfan', sy'n cynnwys:

a) bod angen gwneud mwy i ennyn hyder dioddefwyr a thystion i roi gwybod am ddigwyddiadau casineb a hyrwyddo'r farn mai rhoi gwybod am gasineb yw'r peth iawn i'w wneud; a

b) dylid gwneud mwy i sicrhau y caiff y rhai sy'n cyflawni troseddau casineb eu trin yn effeithiol ac y dylid sicrhau bod dulliau adferol ar gael yn fwy eang yng Nghymru.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Fel y mae Heddlu Gogledd Cymru yn nodi, achos o drosedd casineb yw unrhyw ddigwyddiad y mae’r dioddefwr o’r farn ei fod wedi'i ysgogi gan ragfarn neu gasineb. Er bod Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu wedi dweud bod nifer y troseddau casineb a gofnodwyd wedi cynyddu yn dilyn canlyniad refferendwm yr UE, nid yw’r broblem hon yn unigryw i'r cyfnod ar ôl refferendwm yr UE. Bu ychydig o ostyngiad yn nifer y troseddau casineb a gofnodwyd gan Heddlu De Cymru ar gyfer y pythefnos hyd at ddiwedd mis Mehefin, ond cynyddodd ychydig yn ystod wythnos gyntaf mis Gorffennaf, o’i chymharu â'r un wythnosau yn 2015. Cynyddodd nifer y troseddau casineb a gofnodwyd yng Nghymru fwy nag 20 y cant yn ystod 2014-15, a chafodd bron i 75 y cant ohonynt eu dosbarthu yn droseddau casineb hiliol—cynnydd o 19 y cant ar y flwyddyn flaenorol. Ar yr adeg honno, dywedodd ymgyrchwyr bod llawer o'r cynnydd wedi digwydd o ganlyniad i welliannau yn y cyfraddau adrodd a chymunedau yn teimlo'n fwy cadarnhaol am ddod ymlaen i adrodd am ddigwyddiadau, fel y dywedodd y Gweinidog.

Dylid annog pobl i roi gwybod am droseddau casineb, a dyna pam y mae ein gwelliant 1 yn nodi argymhellion allweddol y prosiect ymchwil troseddau casineb Cymru gyfan y mae fframwaith Llywodraeth Cymru ar gyfer mynd i'r afael â throseddau casineb yn seiliedig arnynt. Mae'r rhain yn cynnwys:

angen gwneud mwy i gynyddu hyder dioddefwyr a thystion i adrodd am ddigwyddiadau casineb ac i hybu’r farn mai adrodd am gasineb yw'r "peth cywir i'w wneud".

Mae angen gwneud mwy. Mae'n mynd ymlaen i ddweud bod dioddefwyr yn teimlo bod achosion yn rhy ddibwys i roi gwybod amdanynt neu nad oedd yr heddlu yn gallu gwneud unrhyw beth, ac mae'n argymell y dylai Llywodraeth Cymru gymryd yr awenau wrth sicrhau bod dulliau adrodd trydydd parti hygyrch ar waith ar gyfer dioddefwyr nad ydynt yn dymuno adrodd yn uniongyrchol i'r heddlu.

Fel y dywedodd y Gweinidog, mae Cymorth i Ddioddefwyr wedi ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru yn ganolfan genedlaethol ar gyfer rhoi cymorth ac adrodd am droseddau casineb swyddogol i Gymru. Roeddwn i’n bresennol hefyd yn lansiad canolfan gymorth dioddefwyr gogledd Cymru y llynedd—partneriaeth rhwng Cymorth i Ddioddefwyr, comisiynydd heddlu a throseddu gogledd Cymru, Heddlu Gogledd Cymru, Gwasanaeth Erlyn y Goron a gwasanaethau lleol y trydydd sector, sy’n darparu cymorth emosiynol ac ymarferol sy'n canolbwyntio ar y dioddefwr ar gyfer pobl sydd wedi dioddef troseddau o bob math. Mae ganddynt weithiwr achos iechyd meddwl a llesiant a gweithiwr achos troseddau casineb penodedig. Mae eu harwyddair yn datgan y byddant yn sicrhau y bydd anghenion dioddefwyr wrth wraidd popeth a wnânt.

Gwnes i hefyd noddi digwyddiad lansio Rainbow Bridge yma yn adeilad y Pierhead y llynedd, pan gafodd Cymorth i Ddioddefwyr ei ariannu gan y Gronfa Loteri Fawr i redeg gwasanaeth cam-drin domestig arbenigol i bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a/neu drawsrywiol. Gan ddyfynnu’r prosiect ymchwil troseddau casineb Cymru gyfan, mae ein gwelliant hefyd yn datgan y

'dylid gwneud mwy i sicrhau bod pobl sy’n cyflawni troseddau casineb yn cael eu trin yn effeithiol a dylai fod dulliau adferol ar gael yn fwy eang yng Nghymru.'

Mae'n parhau: mae’r ymchwil yn dangos

'mai awydd pennaf dioddefwyr yw i'r digwyddiadau casineb beidio â digwydd iddynt.’

Maen nhw hefyd yn dymuno i’r cosbau fod yn berthnasol i'r drosedd a gyflawnwyd ac i’r sawl sy’n cyflawni’r drosedd gydnabod effaith ei weithredoedd. Pwysleisiodd llawer o'r ymatebwyr bwysigrwydd addysg, gan nodi y dylai dulliau adferol gael eu defnyddio yn fwy eang a chyson. Mae'n bryder, felly, mae'n dweud, i ganfod mai ychydig iawn o arfer adferol a weithredir yng Nghymru ar hyn o bryd.

Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi rhybuddio bod problem gynyddol o bobl hŷn yn cael eu targedu'n benodol gan droseddwyr oherwydd y tybir eu bod yn agored i niwed. Er gwaethaf hyn, maent yn dweud, mae bwlch yn parhau i fod yn y gyfraith nad yw'n cydnabod bod y troseddau hyn, a gyflawnir yn erbyn pobl hŷn oherwydd eu hoedran, yn droseddau casineb, ond mae troseddau a gyflawnir yn erbyn rhywun oherwydd ei anabledd, hunaniaeth o ran rhywedd, hil, crefydd, cred neu gyfeiriadedd rhywiol yn cael eu cydnabod mewn deddfwriaeth yn droseddau casineb oherwydd eu ffactorau ysgogol ac, o ganlyniad i hynny ystyrir cosbau ychwanegol ar eu cyfer.

Mae troseddau casineb yn drosedd ddifrifol a all gael effeithiau dinistriol sy’n para am amser hir ar unigolion a chymunedau ledled Cymru. Yn ystod yr Wythnos Ymwybyddiaeth o Drosedd Casineb Cenedlaethol, mae'n rhaid i ni fynd i'r afael â materion sy’n ymwneud â throseddau casineb drwy godi ymwybyddiaeth o’r hyn yw troseddau casineb a sut i ymateb iddynt, gan annog pobl i roi gwybod i’r heddlu amdanynt a hybu gwasanaethau ac adnoddau cymorth lleol. Fel y mae Cymdeithas Integreiddio Amlddiwylliannol Gogledd Cymru yn nodi, mae'n credu mewn creu

‘cymdeithas barchus, heddychlon ac iach drwy ddeall y diwylliannau amrywiol sy'n bodoli yng Nghymru heddiw’.

Ac, fel y dywedodd y Elie Wiesel, a oroesodd yr holocost,

‘fe wnes i dyngu i beidio byth â bod yn dawel pryd bynnag... y mae bodau dynol yn wynebu dioddefaint ac yn cael eu cywilyddu. Mae'n rhaid i ni gymryd ochrau bob amser. Mae niwtraliaeth yn helpu'r gormeswr, byth y dioddefwr. Mae distawrwydd yn annog y poenydiwr, byth y sawl sy’n cael ei boenydio.’

Diolch i chi am y ddadl hon heddiw. Mae Plaid Cymru yn amlwg yn llwyr wrthwynebu troseddau casineb, a’r hyn yr hoffwn i ei ddweud ar y dechrau yw fy mod yn credu bod targed troseddau casineb yn newid o genhedlaeth i genhedlaeth ac o gymuned i gymuned. Rwy'n dweud hyn am fod fy mam yn dod o Belfast, o ogledd Iwerddon, ac rwy’n cofio’n bendant, pan oeddem yn cerdded i lawr y stryd—yn anffodus, mewn cymuned yn y Cymoedd, ond dydw i ddim yn brandio pawb y ffordd honno—a daeth gwraig ati a’i chlywed yn siarad a dweud, ‘Pam nad ewch chi adref?’ Dywedodd fy mam, ‘Wel, hwn yw fy nghartref, a does gen i unman arall i fynd’. Felly, rwy’n credu weithiau—rwy’n cofio hynny a dim ond tua saith mlwydd oed oeddwn i—mae’r pethau yr ydych yn eu cofio â modd amlwg o siapio eich bywyd. Dyna pam rwy’n credu ei bod mor bwysig, hyd yn oed os oes pobl sy'n dod i'n gwlad am wahanol resymau, y dylem bob amser ddechrau o safbwynt o oddefgarwch. Mae gan bawb eu straeon eu hunain i'w hadrodd. Mae gan bawb eu cefndiroedd eu hunain i’w sefyllfaoedd eu hunain, waeth beth fo'u hethnigrwydd, eu rhywioldeb neu eu rhyw. Felly, rwy’n credu weithiau, yn yr holl ddadl hon, ie, efallai bod yna bobl sy'n dod yma am y rhesymau anghywir, ond nid ydym yn gwybod hynny hyd nes y byddwn yn siarad â nhw mewn difrif calon. Rwy’n credu bod llawer o bobl—y cyfryngau a phleidiau gwleidyddol—yn brandio ethnigau neu grwpiau o bobl penodol—heb hyd yn oed ystyried y boenedigaeth y maent wedi’i dioddef i gyrraedd y wlad hon yn y lle cyntaf.

Rydym ni i gyd yn gwybod bod troseddau casineb wedi cynyddu o ganlyniad i Brexit. Nid wyf yn gwybod a yw'n uniongyrchol gysylltiedig neu a oedd yn rhywbeth a wnaeth i bobl wedyn feddwl ei bod yn dderbyniol i arddangos rhai mathau o ymddygiad ymfflamychol. Pan gawsom y briff cymunedau a diwylliant gydag amryw sefydliadau yn ddiweddar, clywsom pobl yn dweud ei bod yn mynd yn waeth yn ein hysgolion, lle mae plant eraill yn dweud, oherwydd lliw eu croen, na ddylent fod yn bresennol yn amgylchedd yr ysgol bellach. Rwy'n credu bod hynny'n peri pryder mawr iawn, os ystyrir bod y math hwn o agwedd yn dderbyniol.

Y penwythnos diwethaf, cawsom yr ymgyrch #NiYwCymru yn y cyfryngau cymdeithasol, a oedd yn dangos awydd i frwydro yn erbyn y math hwn o elyniaeth. Mae pobl eisiau byw mewn cymunedau cryf, hapus a chynhwysol. Mae'r egwyddor o drin pawb â pharch, waeth pwy ydynt neu beth yw eu cefndir, o dan fygythiad, ac mae angen inni amddiffyn hynny.

Gwyddom fod adroddiad Llywodraeth Cymru yn awgrymu y gallai'r cynnydd mewn troseddau casineb a gofnodir gael ei weld fel arwydd cadarnhaol, yn debyg iawn, o bosibl, i bobl yn adrodd am drais yn y cartref, sef bod pobl yn dod ymlaen i roi gwybod i’r heddlu am hynny mwy oherwydd eu bod yn teimlo eu bod wedi'n grymuso mwy i allu gwneud hynny. Felly, gallai hynny fod yn ddangosydd da, ac eto gallai ddangos hefyd bod mwy o broblemau yn ein cymunedau y mae angen gwirioneddol i ni fynd i'r afael â nhw. Felly, byddwn yn galw am ymagwedd fwy synhwyrol a rhesymegol i'r ddadl gyhoeddus ar fewnfudo, yn hytrach na chodi bwganod, sy'n achosi rhaniadau yn ein cymunedau.

Mae angen i ni gael trafodaeth wybodus. Efallai y bydd pobl o wahanol bleidiau gwleidyddol sydd mor euog â’i gilydd yn hyn i gyd. Honnodd Rachel Reeves yng nghynhadledd flynyddol ei phlaid ym mis Medi y gallai tensiynau ynglŷn â mewnfudo ffrwydro yn derfysgoedd os nad yw'r mater yn cael ei reoli. Mae defnyddio'r gair ‘terfysgoedd’—mae'n air eithaf cryf pan feddyliwch chi am y modd y gallai hyn effeithio ar ein cymunedau.

Mae angen i ni fynd i'r afael ag ofnau pobl yn ein cymunedau â chamau ymarferol, fel deddfwriaeth i atal cyflogwyr rhag talu cyflogau sy’n rhy isel i’r gweithlu domestig, ac nid â rhethreg ddi-hid. Mae llawer o bryderon pobl yn deillio o broblemau a achoswyd gan agenda cyni dinistriol Llywodraeth Dorïaidd y DU. Yn hytrach na chydnabod hyn a dwyn y Torïaid i gyfrif, rydym yn gweld, unwaith eto, cymunedau yn troi yn erbyn cymunedau eraill ac yna'n cynyddu’r ofn hwnnw yr wyf wedi ei grybwyll eisoes. Nid yw wedi bod o fudd—. Gwyliais 'Question Time' neithiwr. Doeddwn i ddim yma i'w weld yn wreiddiol, ddydd Iau. Rwyf o’r farn bod Ysgrifennydd Gwladol Cymru, nid yn unig yn ymosod ar ein plaid ein hun ond yn gwyrdroi hanes drwy bardduo ac ensynio, hefyd yn dangos gwleidyddion mewn modd negyddol iawn. Credaf fod angen iddo gyfiawnhau yr hyn a ddywedodd, ac os yw'n cysylltu plaid wleidyddol â'r hyn a ddywedodd ar y rhaglen honno, yna mae angen iddo gyfiawnhau pam a sut, a rhoi tystiolaeth i ni o ran sut y daeth i'r casgliad hwnnw.

Rydym ni i gyd yn awyddus i gael ein trin â pharch ymysg ei gilydd yn y lle hwn. Rydym i gyd am i hynny ddigwydd. Ie, byddwn ni’n dadlau a thrafod, ond gallwn fynd y tu allan i'r Siambr hon a gallwn siarad â'n gilydd mewn modd sifil. Rwy’n credu weithiau, os ydym yn ystyried sut y byddem yn hoffi cael eu trin fel bodau dynol, yna efallai y gallwn fframio ein dadl wleidyddol mewn ffordd fwy cadarnhaol ac adeiladol.

A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am gyflwyno'r cynnig penodol hwn, sy’n amserol iawn yn fy marn i, o ystyried y sefyllfa sydd ohoni yr wythnos hon? Mae'n siŵr y bydd cyfran dda o'r hyn yr ydym yn mynd i’w glywed heddiw yn gysylltiedig â throseddau casineb ar ôl Brexit. Rydym wedi clywed rhywfaint o hynny yn barod. Ond ni ddylem anghofio bod troseddau casineb yn cynnwys ymosodiadau—fel yr ydym eisoes wedi’i glywed—yn seiliedig ar ryw, homoffobia, anabledd a rhywedd. Fel y mae ffigurau a thystiolaeth anecdotaidd yn dangos, nid yn unig y mae cynnydd mewn troseddau casineb hiliol, ond yn yr holl feysydd eraill hyn hefyd. Er yr awgrymwyd y gallai Brexit fod yn gyfrifol am hyn, rwy’n credu ei bod yn ormod o gyd-ddigwyddiad ein bod ni, ar ôl Brexit, wedi gweld cynnydd o'r fath mewn meysydd eraill. Mae bron fel pe bai Brexit ei hun wedi rhoi’r hawl i bobl—wel, rhai pobl—fynegi eu rhagfarnau ffiaidd, a chyfeirio eu casineb at unrhyw un y maent yn ei ystyried yn wahanol iddyn nhw eu hunain.

Lywydd, heddiw, roeddwn i eisiau ymdrin yn benodol ag ymosodiadau ar bobl anabl. Fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet eisoes wedi dweud, roedd y ffigurau yn dangos y bu cynnydd o 20 y cant yn yr holl droseddau casineb, a bod 9 y cant yn ymwneud ag anabledd, yn ystod 2014-15. Ond yr hyn sy’n peri mwy o bryder i mi yw'r awgrym na chaiff o leiaf 50 y cant o'r holl droseddau casineb eu hadrodd o gwbl. Byddaf yn synnu os na fydd ffigurau 2015-16 yr ydym ar fin eu gweld—byddant yn cael eu cyhoeddi yr wythnos hon—yn dangos bod y ffigur hwnnw wedi cynyddu'n sylweddol o ganlyniad i'r sefyllfa ar ôl Brexit.

Ond wrth gyfeirio at y cynnydd mewn achosion o droseddau casineb a adroddwyd sy'n gysylltiedig ag anabledd, dylem gofio edrych y tu ôl i'r ffigurau bob amser. Fel y dywedwyd, gallai’r cynnydd mewn achosion a adroddwyd, wrth gwrs, olygu bod gan fwy o bobl yr hyder i roi gwybod am droseddau o'r fath, gan wybod y byddant yn cael eu credu a'u cefnogi, ac y bydd awdurdodau’n cymryd camau, â’r egni priodol, yn erbyn y tramgwyddwr. Felly, efallai ei bod yn fwy arwyddocaol i gael dadansoddiad o nifer yr erlyniadau dros yr un cyfnod, ac nid oes gennym yr wybodaeth honno ar hyn o bryd.

Fodd bynnag, mae perygl bob amser wrth ganolbwyntio ar ystadegau yn unig. Ni ddylem byth golli golwg ar y ffaith bod dioddefwyr, ar gyfer pob achos o droseddau casineb sy'n gysylltiedig ag anabledd, pa un a yw’n cael ei adrodd i’r heddlu ai peidio, a pha un a oes erlyniad o ganlyniad i hynny ai peidio,—dioddefwyr sydd eisoes o bosibl ymhlith y bobl mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Felly, mae'n rhaid i ni bob amser fod yn ymwybodol o'u hanghenion a’r modd gorau i ni, fel cymdeithas, allu eu cefnogi. Er mwyn dechrau mynd i'r afael â hyn, mae'n rhaid i ni gael strategaeth atal sydd wedi’i datblygu'n llawn. Mae’n rhaid i addysg fod yn rhan o hynny, fel y mae Ysgrifennydd Cabinet wedi cyfeirio ato, ac addygu nid dim ond plant, ond y gymdeithas gyfan. Yr hyn sy’n arbennig o bwysig yw bod pawb yn gwerthfawrogi na ddylid dim ond derbyn amrywiaeth, dylid ei groesawu a'i feithrin. Am y rheswm hwn, Lywydd, rwy’n croesawu cynllun cyflawni fframwaith gweithredu Llywodraeth Cymru. Rwy'n arbennig o falch o weld mentrau penodol wedi’u nodi yn y cynllun cyflawni ym meysydd anabledd: y grant cydraddoldeb a chynhwysiant sy’n cefnogi gwaith theatr Taking Flight gyda phobl ifanc; y gwaith gyda Chwaraeon Anabledd Cymru i recriwtio a hyfforddi mwy o hyfforddwyr ac arweinwyr sy'n anabl; cefnogaeth i’r grŵp troseddau casineb anabledd er mwyn iddynt weithio gyda chymunedau i godi ymwybyddiaeth o droseddau casineb; a sicrhau bod dulliau adrodd hyblyg a hygyrch ar gyfer rhoi gwybod am droseddau casineb.

I gloi, gydweithwyr, a gaf i eich annog chi nid yn unig i gefnogi'r cynnig hwn, ond a gaf i ofyn i bob un ohonoch, fel Aelodau etholedig y Cynulliad hwn, sicrhau bod darparu’r cynllun cyflawni arloesol a blaengar hwn yn realiti yng Nghymru benbaladr?

Rwy’n croesawu mesurau effeithiol o fynd i'r afael â throseddau casineb a rhagfarn o bob math. Mae troseddau casineb yn droseddau sy’n seiliedig ar ragfarn a chulni. Rwyf bob amser wedi dilyn yr egwyddor y dylech fyw yn y modd yr ydych yn dewis, a chredu’r hyn a fynnwch ar yr amod nad ydych yn niweidio unrhyw un. Yn anffodus, mae llawer o bobl nad ydynt yn dilyn yr egwyddor honno. Mae yna bobl sydd eisiau cael gwared ar ymddygiadau y maent yn eu hystyried yn anarferol, sydd am gael gwared ar bobl y maent yn eu hystyried yn wahanol, sy'n awyddus i dawelu’r rhai hynny sydd â gwahanol gredoau neu safbwyntiau gwleidyddol, a byddant yn defnyddio trais a brawychu i wneud hynny. Ceir continwwm o ragfarn, gydag anwybodaeth ar un pen a throseddau casineb ar y pen arall. Mae pobl ragfarnllyd a chiaidd yn eistedd ar y dde a’r chwith o wleidyddiaeth. Rhagfarn a ddywedodd bod pleidleisio ‘gadael’ yn ymwneud ag anwybodaeth, diffyg addysg ac ofn, pan oedd mewn gwirionedd yn ymwneud â phobl yn deall nad oedd yr UE yn gweithio ar eu cyfer nhw. Rydym ni yn y gogledd-ddwyrain wedi gweld sut y mae’r Blaid Lafur leol yn cynnal ei hun ac yn rheoli pobl giaidd mewn cyfrif etholiadol. Mae rhagfarn yn erbyn y Saeson neu bobl sy'n byw yn Lloegr yr un mor gas â rhagfarn yn erbyn unrhyw fewnfudwr sy'n dod i Gymru.

Fel gydag ystadegau troseddau eraill, nid yw cynnydd yn nifer y troseddau casineb yr adroddir amdanynt o reidrwydd yn arwydd bod mwy o'r troseddau hynny yn cael eu cyflawni mewn gwirionedd. Mae cynnydd mewn troseddau a gofnodwyd felly yn fwy o brawf o effeithiolrwydd y peiriant cyhoeddusrwydd ynghylch troseddau casineb na thystiolaeth bod ein cymdeithas yn fwy anoddefgar. Mae'r ystadegau a wnaeth esgor ar y ddadl hon ymhell o fod yn arwydd o'r hyn sy'n digwydd ar y strydoedd ac mewn mannau eraill. Mae angen ymchwiliad go iawn arnom i nifer yr achosion gwirioneddol o droseddau casineb yn ein cymdeithas, a pheidio â defnyddio ryw ddata annibynadwy oherwydd ei fod yn gweddu agendâu gwleidyddol rhai pobl.

Rwy'n falch iawn o gymryd rhan yn y ddadl hon, yn enwedig yn ystod yr wythnos ymwybyddiaeth hon, a hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni ar y cynnydd sydd wedi'i wneud ac am gydnabod bod ffordd bell i fynd o hyd. Er bod cynnydd wedi'i wneud, mae troseddau casineb yn dal i fod yn realiti dyddiol i lawer o bobl yng Nghymru, yn difetha bywydau pobl, ac mae pobl yn byw mewn ofn o ddioddef troseddau casineb. Mae'n adlewyrchiad ofnadwy o’r gymdeithas yr ydym yn byw ynddi, ac mae’n cwmpasu cymaint o feysydd. Heddiw, roeddwn i’n awyddus i ganolbwyntio yn arbennig ar driniaeth aelodau o'r gymuned Sipsiwn, Roma a Theithwyr, sydd yn aml iawn yn darged troseddau casineb a gwahaniaethu yma yng Nghymru. Nid yw targedu’r gymuned hon yn ddim byd newydd; mae wedi bod yn digwydd ers blynyddoedd lawer.

Yn ystod yr Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb, gwn y bydd grŵp o bobl ifanc o'r gymuned yn y de-ddwyrain yn cyfarfod â Chomisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent i siarad am fynd i'r afael â bwlio a throseddau casineb yn erbyn y gymuned Sipsiwn, Roma a Theithwyr. Rwy’n meddwl bod croeso mawr i hynny, er mwyn i’r materion gael eu hystyried gan y comisiynydd, oherwydd, yn anffodus, mae'r gymuned yn dioddef o wahaniaethu ac mae angen mynd i'r afael ag agweddau negyddol tuag at y gymuned hon. Mae pobl ifanc o'r gymuned Sipsiwn a Theithwyr a oedd yn ymwneud â'r prosiect Teithio Ymlaen yn teimlo'n gryf iawn bod angen o hyd i hyfforddi athrawon, swyddogion yr heddlu a gweithwyr proffesiynol eraill, oherwydd eu bod yn parhau yn dargedau ar gyfer gwahaniaethu a throseddau casineb, ac maent wedi cydgasglu a chreu nifer o adnoddau i fynd i'r afael â hyn. Er enghraifft, maen nhw wedi gwneud rhai ffilmiau byrion, wedi ysgrifennu cerddi ac wedi gwneud cyflwyniadau, a fydd ar gael er mwyn hyfforddi athrawon, yr heddlu, cynghorwyr a phobl ifanc eraill.

Ac mae hynny'n fy arwain ymlaen at bwynt arall, sef pan fo troseddau casineb yn cael eu hadrodd, mae'n ymddangos bod problem yn parhau gyda'r modd yr ymdrinnir â’r troseddau hynny a sut y maent yn cael eu cofnodi. Gwnaeth prosiect ymchwil troseddau casineb Cymru gyfan gydgasglu nifer y troseddau casineb a gofnodwyd yng Nghymru a Lloegr yn 2011-12, ac roedd y mwyafrif helaeth o'r rhain, 82 y cant, yn droseddau casineb hiliol, ond dim ond 45 y cant o'r rheini a oedd wedi dioddef trosedd casineb a oedd o’r farn bod yr heddlu wedi rhoi ystyriaeth mor ddifrifol ag y dylent fod wedi ei rhoi i’r mater, ac mae hyn yn cyd-fynd â phrofiadau Sipsiwn a Theithwyr a oedd yn rhan o'r prosiect Teithio Ymlaen. Maen nhw o’r farn nad yw’r heddlu yn gwrando arnynt o hyd. Gwn fod hyfforddi ar waith yn yr heddlu, ond canfyddiad y bobl ifanc yw nad ydynt yn gwrando arnynt.

Rwy'n credu bod problem hefyd ynglŷn â'r modd y mae heddluoedd yn casglu ystadegau am droseddau casineb a bod y data statws ethnig yn eithaf anodd ei ddadansoddi. Felly, mae'n eithaf anodd, mewn gwirionedd, i gael dadansoddiad o nifer y troseddau casineb a gyfeirir yn benodol yn erbyn Sipsiwn a Theithwyr, oherwydd eu bod wedi eu cynnwys yn y ffigurau troseddu ethnig cyffredinol. Rwy'n credu y byddai’n welliant mawr pe bai modd i ni rannu’r ffigurau hynny, oherwydd, yn enwedig gyda Sipsiwn a Theithwyr, mae angen inni wybod beth yw’r ffigurau hynny a pha mor fawr yw’r dioddefaint hyn.

Yn olaf hoffwn i, mewn gwirionedd, gloi gyda syniadau un o'r bobl ifanc o'r grŵp Teithio Ymlaen, Tyrone Price. Gofynnodd gwestiwn sy’n peri i rywun feddwl, yn fy marn i, ac rwy'n credu ei fod yn gwestiwn dilys iawn: a ydym ni wedi gwella’r modd o fynd i'r afael â hiliaeth mewn gwirionedd, neu a yw pobl yn gwneud dim ond esgus eu bod yn derbyn y cysyniad hwn o gydraddoldeb? Rwy'n credu bod hyn yn amlwg yn rhywbeth y mae’r person ifanc hwn ei deimlo i’r byw, sef bod llawer o'r cynnydd a wnaed gennym tuag at gydraddoldeb, yn arwynebol neu’n symbolaidd efallai, a bod yn rhaid i ni fynd ati o ddifrif i wneud cydraddoldeb hiliol yn realiti llwyr, yn enwedig ar gyfer y bobl ifanc sy'n dioddef o ragfarn a throseddau casineb. Fel y dywedais, mae fy sylwadau heddiw yn ymwneud mewn gwirionedd â’r gymuned Sipsiwn a Theithwyr.

Rwyf yn dymuno’n siarad yn gryno yn y ddadl hon heddiw, ac rwy'n falch ein bod ni'n cael y ddadl hon, oherwydd rwy’n credu ei bod yn bwysig ein bod yn cymryd yr amser i fyfyrio ar yr anoddefgarwch sydd weithiau'n bodoli yn y gymdeithas yma yng Nghymru. Gwyddom fod y mwyafrif llethol o bobl yng Nghymru, ar y cyfan, yn bobl oddefgar iawn, ac mae ein cymunedau, ar y cyfan, yn tynnu ymlaen yn dda iawn â’i gilydd. Ond, fel mab fewnfudwr o Iwerddon, rwyf hefyd yn gwybod am y casineb sydd wedi bodoli tuag at boblogaethau llai yng Nghymru, ac yn wir yn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig yn y gorffennol. Yn sicr, nid wyf am weld hynny'n amlygu ei hun yma ar garreg ein drws yn ein cymunedau ni.

Rwy'n falch iawn bod y Gweinidog, ac yn wir Llywodraeth Cymru, yn rhoi ystyriaeth ddifrifol i’r mater hwn, a'u bod wedi bod yn gweithio gyda'r heddlu ac asiantaethau eraill er mwyn ceisio gwneud yr hyn a allant i ymdrin â throseddau casineb a mynd i'r afael â'r achosion sy’n bodoli yma yng Nghymru.

Roeddwn yn falch iawn yr wythnos diwethaf i gadeirio'r grŵp trawsbleidiol ar ffydd yn y Cynulliad Cenedlaethol, a bu modd i nifer o Aelodau'r Cynulliad fod yn bresennol hefyd. Yn y cyfarfod hwnnw clywsom rai ystadegau diddorol iawn, yn siarad am y cynnydd sydyn yn nifer y troseddau casineb a ddigwyddodd ar ôl Brexit, ac roeddem yn falch iawn o glywed bod y cynnydd sydyn yn nifer y troseddau a adroddwyd wedi gostegi mewn gwirionedd. Rwy’n gobeithio y bydd yn rhywbeth sy'n parhau i ostwng, wrth gwrs, yn y dyfodol. Ond tybed, Weinidog, yn eich ymateb i'r ddadl heddiw, p'un allwch chi efallai roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am waith y fforwm cymunedau ffydd y mae’r Prif Weinidog yn eu cynnal yn rheolaidd? Oherwydd rwy’n gwybod pa mor bwysig y mae’r fforwm hwnnw wedi bod er mwyn gwella'r berthynas rhwng gwahanol gymunedau ffydd yma yng Nghymru, ac yn wir i helpu arweinwyr y cymunedau ffydd yng Nghymru i rannu gwybodaeth â’u cymunedau ffydd am yr angen i fod yn oddefgar ac, yn wir, i wella cydberthnasau yn fwy cyffredinol. A wnewch chi hefyd ymuno â mi, Weinidog, pan fyddwch yn cloi'r ddadl, i longyfarch aelodau'r fforwm cymunedau ffydd, Cytûn, Cyngor Mwslimiaid Cymru, y Cynghrair Efengylaidd a llawer o rai eraill, sydd wedi cyfrannu at y ddealltwriaeth ragorol a’r gwaith ar y cyd ar draws y gwahanol gymunedau ffydd, sydd wedi cyflawni cymaint, mewn gwirionedd, yma yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf?

Sylwaf yn ogystal bod yr adroddiad yn sôn yn gryno am bwysigrwydd addysg grefyddol wrth helpu i gyfleu’r negeseuon hyn am oddefgarwch a dealltwriaeth o gredoau ac agweddau gwahanol bobl yn y gymdeithas i'r genhedlaeth nesaf. Rwy’n credu o ddifrif calon bod y gwaith o ailwampio'r cwricwlwm sy'n digwydd yng Nghymru yn rhoi cyfle i wella addysg grefyddol er mwyn ymdrin, os mynnwch chi, ag unrhyw faterion sy'n dod i'r amlwg y gallai fodoli ymhlith ein pobl ifanc, yn enwedig pan fyddant wedi gweld rhai o adroddiadau yn y cyfryngau yn ystod y ddadl Brexit, a sut y gallai hynny fod wedi dylanwadu ar eu hagweddau tuag at ei gilydd. Rwyf yn credu bod gan addysg grefyddol swyddogaeth allweddol iawn wrth helpu i fynd i'r afael â throseddau casineb yn y dyfodol ar gyfer ein cenedl. Felly, tybed, Weinidog, a wnewch chi ddweud wrthym pa drafodaethau yr ydych chi wedi bod yn eu cael ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ynglŷn â sicrhau bod y gwaith o ddatblygu ein cwricwlwm yn cynnwys pwyslais ar droseddau casineb yn y cwricwlwm addysg grefyddol. Diolch.

Weinidog, rwy’n meddwl ei bod yn amlwg iawn—yn wir rwy’n credu y byddai pob Aelod yma, gobeithio, yn cytuno â hyn—fod camddealltwriaeth yn aml yn digwydd ac yn achosi problemau pan nad oes gennym y lefel o integreiddio y gallai fod gennym yn ein cymunedau, ac nid ydym yn ddigon effeithiol wrth ddod â gwahanol rannau o'r gymuned at ei gilydd. Yn sicr, yn fy mhrofiad i, o gael fy ngeni a'm magu yn y Pil yng Nghasnewydd, cymuned amlethnig iawn, mae'n ychwanegu llawer iawn i brofiad bywyd, tyfu i fyny mewn cymuned o'r fath, oherwydd mae amrywiaeth mor fawr o ddiwylliant, cerddoriaeth, dawns, bwyd, ac mae'n wirioneddol addysgiadol a diddorol i siarad â phobl eraill am eu cefndiroedd, eu cefndiroedd teuluol a rhannau o'r byd y maent yn gwybod llawer amdanynt. Felly, rwy’n credu bod dwyn pobl at ei gilydd o wahanol rannau o'r gymuned yn cyfoethogi bywyd yn fawr, dyna yw eu barn nhw, yn gyffredinol, ond efallai na wneir digon i geisio cyflawni’r integreiddio hynny a dod â gwahanol rannau o'n cymdeithas at ei gilydd.

Pan fo gennym ddulliau effeithiol o wneud hynny, rwy’n credu y dylem eu dathlu a’u datblygu. Yn hynny o beth, hoffwn sôn am ŵyl Maendy yng Nghasnewydd, sydd ers nifer o flynyddoedd, wedi gwneud gwaith da iawn wrth ddod â gwahanol rannau o gymuned amlethnig Maendy at ei gilydd. Mae cymunedau Asiaidd sylweddol ym Maendy, llawer o newydd-ddyfodiaid o'r Undeb Ewropeaidd, dwyrain Ewrop a thu hwnt, cymunedau o India’r Gorllewin, a llawer o rai eraill. Ac, wrth gwrs, mae hynny'n ychwanegol at bobl o Iwerddon—a fy mam fy hun, fel y perthynas a grybwyllwyd gan Darren Millar, a ddaeth draw i Gasnewydd o Iwerddon. Felly, mae llawer iawn o bobl o wahanol gefndiroedd yn dod at ei gilydd, ac mae Gŵyl Maendy wir yn caniatáu i bobl ddod at ei gilydd ac i’r integreiddio hwnnw ddigwydd.

Felly, hoffwn dalu teyrnged i drefnwyr Gŵyl Maendy. Ers nifer o flynyddoedd erbyn hyn, maen nhw wedi datblygu ar y digwyddiad cychwynnol. Mae gorymdaith bob blwyddyn, bob haf, ac mae gŵyl yn dilyn. Mae'n gyfuniad o gerddoriaeth, dawns, bwyd a diod, celf a diwylliant yn gyffredinol, ac mae'n llwyddiannus iawn, iawn. Wrth gwrs, nid yw'n digwydd heb lawer o waith, ac mae'r gwaith o drefnu digwyddiad y flwyddyn nesaf yn dechrau yn syth ar ôl i’r ŵyl ddod i ben, yn ystod yr haf. Felly, tybed a allai Llywodraeth Cymru edrych ar sut y mae’n gweithio, nid yn unig gyda Gŵyl Maendy, ond gyda sefydliadau tebyg ar hyd a lled Cymru sy'n trefnu digwyddiadau o’r fath, fel y gellir eu datblygu ymhellach a'u gwneud yn fwy effeithiol fyth. A hoffwn wahodd y Gweinidog i Ŵyl Maendy yr haf nesaf yng Nghasnewydd. Byddwn yn falch iawn pe byddai’n derbyn y gwahoddiad hwnnw wrth iddo gyfrannu ar y ddadl hon yn nes ymlaen.

Mae UKIP yn cefnogi’r cynnig a'r gwelliannau, ond ar ddechrau fy nghyfraniad byr, hoffwn ymdrin â’r myth yr ydym wedi ei glywed sawl gwaith yn y ddadl heddiw ynghylch dylanwad Brexit ar nifer yr achosion o droseddau casineb. Wel, does dim pwynt mynd yn ôl dros y dadleuon ar y niferoedd yn syth ar ôl y refferendwm, oherwydd bod Cyngor Prif Swyddogion yr Heddlu wedi rhyddhau data ar gyfer y cyfnod ers y refferendwm, hyd at ddiwedd mis Awst. Mae Mark Hamilton—dim perthynas—prif gwnstabl cynorthwyol yn dweud,

‘Rydym wedi gweld gostyngiadau parhaus yn yr adroddiadau am droseddau casineb i heddluoedd ac mae’r adroddiadau hyn bellach wedi dychwelyd i lefelau a welwyd yn flaenorol yn 2016. Am y rheswm hwn, byddwn yn dychwelyd at ein gweithdrefnau adrodd blaenorol ac ni fyddwn bellach yn ei gwneud yn ofynnol i’r heddluoedd ddarparu diweddariadau wythnosol.’

Felly, os oedd cynnydd sydyn yn syth ar ôl y refferendwm, mae wedi diflannu.

Diolch. Roeddwn i'n mynd i ddweud nad ydych chi’n cyfeirio at ffigurau sy'n benodol i Gymru, rwy’n tybio. Un peth yr ydym yn ei wybod yw y bu cynnydd sydyn ar ôl Brexit yng Nghymru. Mae pethau wedi arafu rhywfaint, fel y dywedais yn fy araith yn gynharach. Dyna’r wybodaeth a adroddwyd sy'n dod yn ôl atom ni. Ond, mae'n rhaid i chi dderbyn bod rhai pobl, nid llawer, wedi defnyddio sefyllfa Brexit i danio casineb rhwng cymunedau yng Nghymru, ac nid oedd hynny'n dderbyniol.

Wel, wrth gwrs nad yw'n dderbyniol, os digwyddodd, ond mae'r graddau y digwyddodd— [Torri ar draws.] Nid oes gennym unrhyw wybodaeth uniongyrchol; rydym yn tybio ei fod wedi digwydd. Rydych chi’n gwneud rhagdybiaethau ei fod wedi digwydd. Nid oes gennym unrhyw wybodaeth uniongyrchol ynghylch yr hyn—. Yn wir, dyma'r pwynt yr oeddwn eisiau ei—[Torri ar draws.] Rwy'n ofni na allaf ildio, oherwydd nad oes llawer o amser.

Eich penderfyniad chi yw hynny, os nad ydych yn derbyn ymyriad.

Rwyf i am wneud pwynt yr wyf i o’r farn ei fod yn un pwysig, sef bod troseddau casineb, ar ba ffurf bynnag y maent yn bodoli, i’w ffieiddio ac na ddylid eu goddef ac, yn wir, y dylid eu cosbi, a’u cosbi’n ddifrifol. Ond, mae'n rhaid i ni gadw hyn mewn persbectif. Mae Prydain, a Chymru yn arbennig, yn wledydd goddefgar. Nid ydym yn rhagfarnllyd. Mae nifer y troseddau casineb a gofnodir mewn gwirionedd yn fach iawn, iawn. Mae'r ffigurau y cyfeiriodd Ysgrifennydd y Cabinet atynt yn adroddiad 2014-15 yn dangos cyfanswm o 2,259. Mae hynny’n 2,259 yn ormod, ond hyd yn oed os oes yna dangofnodi’n digwydd, fel yr ydym ni i gyd yn tybio sy’n digwydd, nid yw'n nifer uchel dros flwyddyn gyfan. Gwnaeth Dawn Bowden y pwynt y gallai’r cynnydd fod yn ganlyniad rhannol i fwy o ymwybyddiaeth o'r dulliau adrodd ac o'r angen i adrodd. Felly, nid wyf yn credu bod hwn yn epidemig, o bell ffordd.

Rydym wedi gweld, yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf, diflaniad Plaid Genedlaethol Prydain, nid yw Cynghrair Amddiffyn Lloegr ond cysgod o’r hyn oedd, ac mae fy mhlaid i, ers blynyddoedd, wedi bod â pholisi o wahardd pleidiau gwleidyddol a pheidio â chaniatáu ffoaduriaid oddi wrthynt i’n rhengoedd ni. Felly, os yw unrhyw un yn ceisio ein henllibio ni drwy ddweud ein bod yn croesawu pobl hiliol, maent i’w ffieiddio eu hunain. Yn wir, cefais fy nghyhuddo gan Joyce Watson y diwrnod o'r blaen yn y Siambr hon o sefyll ar lwyfan o gasineb. Mae hynny ynddo'i hun yn fath o drosedd casineb, am wn i, ac anoddefgarwch. Felly, rwy’n credu y dylai Aelodau ar bob ochr i'r tŷ drin ei gilydd â pharch, fel y dywedodd Bethan Jenkins yn ei sylwadau agoriadol. Yr hyn yr wyf am i’r Siambr hon ei dderbyn yw bod troseddau casineb, ie, wrth gwrs, i’w ffieiddio, ond nid yw'n epidemig ac nid yw'n edrych fel pe bai’n mynd i fod felly.

Mae'r ffigurau sy'n cael eu cofnodi yn yr adroddiad y cyfeiriodd Ysgrifennydd y Cabinet atynt yn dod o wefan True Vision. Nid yw pob un o'r adroddiadau yn cael eu hymchwilio gan yr heddlu, oherwydd mae modd gwneud adroddiadau yn ddienw ac, felly, byddai'n amhosibl i fynd â nhw ddim pellach. Felly, mae hynny'n atgyfnerthu'r pwynt yr oeddwn i wedi dechrau ei wneud ar ddechrau fy araith. Mae hefyd yn hunanddewisol, a dyfynnaf—oherwydd dyma sy’n cyfiawnhau troseddau casineb o ran y ffigurau sy'n cael eu cofnodi:

Nid oes angen tystiolaeth o elyniaeth i ddigwyddiad neu drosedd gael ei gofnodi yn drosedd casineb neu ddigwyddiad casineb... canfyddiad y dioddefwr, neu unrhyw berson arall... yw'r ffactor diffiniol... Nid oes yn rhaid i'r dioddefwr gyfiawnhau na darparu tystiolaeth o'u cred, ac ni ddylai swyddogion yr heddlu na’r staff herio’r canfyddiad hwn yn uniongyrchol.

Felly, mae'n rhaid ystyried y ffigurau sydd gennym yng ngoleuni’r rheolau hunanddewisol hynny. Mewn difrif calon, mae 1 y cant o'r ffigyrau yn cynnwys achosion o ddwyn beic, er enghraifft. Nid wyf yn gwybod beth yw lladrad beic â chymhelliad hiliol, ond rwy’n credu y dylai hynny ein hysbrydoli i fod yn ofalus wrth drin y ffigurau fel pe baent yn Ysgrythur Lân.

Mae'n wir sarhad ar y miliynau a miliynau o bobl a bleidleisiodd o blaid Brexit oherwydd eu hofnau am effeithiau mewnfudo torfol rhy gyflym ar y gymdeithas i ddweud bod eu cymhellion yn rhai hiliol. Yn wir, mae’r Blaid Lafur, wrth honni hynny, yn ymosod ar eu cefnogwyr eu hunain a’u cyn-gefnogwyr, oherwydd roedd y nifer uchaf o bleidleisiau o blaid Brexit yng Nghymru, wrth gwrs, fel y gwyddom, wedi digwydd mewn mannau fel Torfaen, Merthyr, Glynebwy, ac yn y blaen, ac yn y blaen. Felly, rwy’n meddwl ei bod yn gamgymeriad i ni i ganiatáu i'r ddadl ar droseddau casineb grwydro i gilffyrdd gwleidyddiaeth oherwydd, ydyn’, mae troseddau casineb yn rhywbeth i'w ffieiddio ac, i'r graddau y gallwn wneud hynny, i gael gwared arnynt, ond ni fyddwn yn gwneud hynny drwy sarhau pobl nad ydynt yn casáu ac nad ydynt yn bobl hiliol. Felly, mae angen i ni gadw hynny mewn persbectif.

Ydym, rydym yn cefnogi'r cynnig ac rydym yn cefnogi amcanion y Llywodraeth, ac mae'r modd pwyllog y cyflwynodd Ysgrifennydd y Cabinet y ddadl hon heddiw i'w ganmol. O fy rhan i a rhan fy mhlaid, byddwn yn cefnogi'r mentrau y mae'r Llywodraeth wedi eu cychwyn. Ond, os gwelwch yn dda, peidiwch â’n sarhau ni â chyhuddiadau o hiliaeth ac anoddefgarwch.

Rwy’n croesawu safbwynt Llywodraeth Cymru o roi blaenoriaeth i fynd i'r afael â throseddau casineb, a pharhau i arddel ymagwedd dim goddefgarwch, fel y dylai pob un ohonom, tuag at droseddau casineb. Mae'n briodol bod y fframwaith mynd i’r afael â throseddau a digwyddiadau casineb yn cwmpasu troseddau casineb o bob math, gan gynnwys hil, crefydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth o ran rhywedd ac oedran. Ni all fod unrhyw hierarchaeth o gasineb ac mae’n rhaid i ni fod yn gwbl benderfynol wrth fynd i'r afael â’r holl droseddau o'r math hwn. Yr her i ni yw sicrhau bod y bwriadau a'r canllawiau yn y fframwaith yn trosi’n gamau gweithredu cadarnhaol a newid mewn bywyd go iawn i bobl yn ein cymunedau ledled Cymru. Mae gan bob un ohonom mewn bywyd etholedig a chyhoeddus gyfrifoldeb a dyletswydd gofal o ran sut yr ydym yn cynnal ein hunain a'r ffordd yr ydym yn dewis cyfathrebu. Mae gan yr hyn sy’n eiriau’n unig i un person y potensial i achosi poen ac, mewn rhai achosion, ysgogi casineb mewn un arall.

Cefais fy nychryn, ond yn anffodus nid fy synnu, i gael gwybod dros y penwythnos am gynnydd mewn ymosodiadau homoffobaidd ers pleidlais refferendwm yr UE ym mis Mai. Mae ffigurau a ryddhawyd gan yr elusen Galop yn dangos bod ymosodiadau homoffobaidd wedi cynyddu 147 y ymhlith y bobl a holwyd yn yr un cyfnod o dri mis yn dilyn pleidlais Brexit eleni o'i gymharu â'r un adeg y llynedd. A dim ond y bobl a holwyd yw hyn, y bobl a oedd yn teimlo eu bod yn gallu rhannu eu profiadau. Gallai'r gwir ffigurau fod hyd yn uwch fyth—

Mae hi'n codi'r cwestiwn o bobl yn teimlo eu bod yn gallu rhannu eu profiadau. A fyddai hi'n cydnabod bod nifer yr achosion o droseddau casineb trawsffobaidd a adroddir yn sylweddol is na’r rhai sy’n digwydd mewn gwirionedd, sef tua 1 y cant o'r holl droseddau casineb? Ac, a fyddai hi'n cytuno bod pwyslais ar waith cymunedol rhwng sefydliadau trawsrywiol a'r heddlu, er enghraifft, partneriaeth digwyddiad Sparkle Abertawe â Heddlu De Cymru, yn gallu helpu i gefnogi pobl i adrodd am droseddau y maent wedi’u dioddef?

Yn hollol, ydw. Mae'n bwysig bod pobl drawsrywiol a’u lleisiau'n cael eu clywed wrth lunio strategaethau a gwasanaethau sydd yno i'w cefnogi, a’u bod yn rhan allweddol ohonynt. Mae angen gweithredu, partneriaeth a gwyliadwriaeth barhaus gan bawb, ac mae mynd i'r afael â throseddau casineb ac ymddygiad a thosturi cynrychiolwyr gwleidyddol yn rhan annatod o hyn.

Efallai ei bod hi’n Wythnos Ymwybyddiaeth Troseddau Casineb, ond heddiw yw Diwrnod Cenedlaethol Dod Allan, ac i ddefnyddio cyfatebiaeth y mae Aelodau efallai yn fwy cyfarwydd â hi, gall dod allan, fel datganoli, fod yn broses, nid yn ddigwyddiad. I lawer ohonom, nid yw dod allan yn brofiad unigol, yn hytrach mae’n rhywbeth yr ydych yn ei wneud dro ar ôl tro, gan fod rhagdybiaeth heterorywiol yn y gymdeithas o hyd sy’n cael ei hatgyfnerthu gan ystrydebau anhyblyg a rolau rhywedd. Rydym wedi dod yn bell, ond mae dod allan yn dal i fod yn foment hynod bersonol i’r rhan fwyaf o bobl LGBT. Mae ein dewis i ddatgelu’r rhan hon o'n hunaniaeth yn cynnwys ofn am sut y bydd pobl eraill yn ymateb, ofn cael eich gwrthod, ofn rhagfarn a hyd yn oed ofn casineb. Roeddwn i’n teimlo rhywfaint o’r petruster hwn ac ychydig o ofn pan sefais am y tro cyntaf mewn etholiad, fel menyw sydd wedi dod allan. Ond roeddwn i’n ffodus; roeddwn i’n gwybod bod gen i gefnogaeth fy nheulu, ffrindiau, cydweithwyr ac ymgyrchwyr Llafur Cymru anhygoel, a gobeithiaf y gall pob person lesbiaidd, hoyw, ddeurywiol a thrawsrywiol ddod o hyd i rwydwaith o gyfeillgarwch a chefnogaeth sy'n eu caniatáu i fod yn hwy eu hunain ac, yn ei dro, i herio arwahanrwydd a chasineb.

Mae cynllun cyflawni Llywodraeth Cymru ar droseddau casineb yn nodi'r camau i atal troseddau casineb ac i roi cymorth i ddioddefwyr ar draws y Llywodraeth. Yn awr, mae’n rhaid i ni i gyd weithio i sicrhau bod hyn gyfystyr â chamau gweithredu cadarnhaol mewn bywyd, ar ein strydoedd, yn ein gweithleoedd ac yn ein cymunedau.

Rydw i’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i ymateb i’r ddadl—Carl Sargeant.

Diolch i chi, Lywydd. Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i ymateb i’r ddadl hon a groesawyd yn eang gan lawer. Mae’r llwyddiannau o ran mynd i’r afael â throseddau casineb wedi canolbwyntio ar ddull partneriaeth annatod gydag ystod o bartneriaid statudol a phartneriaid trydydd sector ledled Cymru. Mae'r dull hwn wedi talu ar ei ganfed wrth i ni fwrw ymlaen â chyflawni canlyniadau gwell i ddioddefwyr.

Rhannwyd llawer o sylwadau ar draws y Siambr yr wyf yn eu cefnogi yn gyson, ac rwy’n ddiolchgar am y cyfraniadau gan lawer o Aelodau, gan gynnwys y sylwadau agoriadol gan Bethan Jenkins yn ei barn hi ar faterion lleol yr oedd hi’n ymwybodol ohonynt hefyd, sy'n digwydd yn ddyddiol, ac fel plentyn.

Mae'r pwyntiau a godwyd gan Darren Millar am y fforwm ffydd yn bwysig. Mae'r fforwm ffydd wedi ei ddefnyddio fel arf defnyddiol ac effeithiol i rannu gwahanol grefyddau a dealltwriaethau mewn ffordd resymegol â phobl a all helpu ei gilydd i ddeall anawsterau esbonio ffydd a dileu tensiynau. Mae'n rhywbeth y mae'r Prif Weinidog a minnau erbyn hyn, fel cadeirydd, yn gweithio'n agos iawn â sefydliadau ledled Cymru arno. Rwyf eisoes wedi cael neges gan Ysgrifennydd y Cabinet dros addysg yn dweud wrthym am y cwricwlwm newydd a sut y bydd ffydd yn ymddangos ynddo. Efallai y bydd yr Aelod am barhau â’r drafodaeth hon.

A gaf i ddweud, heblaw am y cyfraniadau gan Aelodau UKIP, rwy’n croesawu’n fawr iawn yr ystyriaeth gan yr Aelodau? Ond does gennyf ddim geiriau—dim geiriau—am gyfraniadau Michelle Brown a Neil Hamilton heddiw. Defnyddiodd Bethan Jenkins y dyfyniad am drin pobl eraill fel yr hoffem ni gael ein trin—yn gyfartal—a chredaf fod hynny’n bwynt pwysig y gofynnaf i’r Aelodau hynny fyfyrio arno. Wrth gwrs, mae awgrym UKIP o ‘ffigyrau amheus’, ‘Dim ond rhai ffigurau oeddent... dim ond ychydig bach o droseddau casineb... 1 y cant ... nid oes llawer o ots wedyn, nac oes?’ Wel, gadewch i mi ddweud wrthych chi, mae gan y bobl hynny—

Neil Hamilton a gododd—

Na. Mi ildiaf mewn eiliad.

[Yn parhau.] —mae gan y bobl hynny sy'n dioddef o droseddau casineb yr hawl i gydraddoldeb yma yng Nghymru. A pha un a yw'r Aelod yn byw yn Wiltshire neu le bynnag, y ffaith yw, ein bod ni yma, yn wlad groesawgar yng Nghymru— [Torri ar draws.] Cymeraf ymyriad gan yr Aelod os yw am geisio gwaethygu’r sefyllfa i’w hun.

Nid wyf i’n siŵr pa un a fydd gwerth gwneud, Lywydd, ond, serch hynny, dywedais yn fy araith nad yw troseddau casineb i gael eu cymeradwyo na’u goddef o gwbl ac y dylid cosbi’r rhai sy’n gyfrifol yn ddifrifol. Y cyfan y gwnes i oedd cyfeirio at y ffigyrau yn yr adroddiad, y cyfeiriodd y Gweinidog ei hun ato yn ei araith, a’u gwneud yn destun craffu ystadegol. Beth sydd o'i le ar hynny?

Ie, wel rwy’n ddiolchgar am yr ymyriad gan yr Aelod. Gadewch i mi atgoffa'r Aelod o'r ystadegau hyn: roedd 1,574 yn ymwneud â hil; 319 yn ymwneud â rhywioldeb; 240 ag anabledd; 90 â chrefydd; a 25 â thrawsrywedd. Dyma’r niferoedd ‘bach’ y mae’r Aelod yn cyfeirio atynt o ran u gyfran fach o droseddau casineb. Gadewch i mi atgoffa'r Aelod hefyd am y refferendwm, gan ei fod hefyd yn diystyru’r posibilrwydd bod y refferendwm wedi cael unrhyw effaith o gwbl ar droseddau casineb. Yn wyneb y cynnydd diweddar mewn hiliaeth yn dilyn canlyniadau refferendwm yr UE, mae'n bwysig ein bod yn parhau i gydweithio i fynd i'r afael â’r anoddefgarwch hwn. Yn y mis yn dilyn refferendwm yr UE—ni all yr Aelod wadu’r rhain; maen nhw’n ffigurau a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Gartref—bu cynnydd o 72 y cant yn nifer yr atgyfeiriadau i’r ganolfan genedlaethol ar gyfer adrodd a rhoi cymorth ar droseddau casineb a ariennir gan Lywodraeth Cymru, o gymharu â'r atgyfeiriadau yn 2015. Yr unig beth cyffredin a ddigwyddodd oedd refferendwm yr UE. Ni allwch ddadlau â’r rhaglen honno.

Gan fod yr Aelod bellach yn arweinydd ar raglen UKIP, efallai yr hoffai, pan soniodd am bobl sy'n awgrymu bod UKIP yn denu pobl hiliol i’w rengoedd ac ati—efallai yr hoffai’r arweinydd yn awr gyfeirio yn ôl at adroddiad yn y cyfryngau lle mae un o'i Aelodau ef, aelod presennol, yn beio lleiafrifoedd ethnig am y problemau sbwriel a hylendid yma yng Nghaerdydd. Nawr, beth y mae’r Aelod am ei wneud ynglŷn â hynny yn ei ddatganiad ar droseddau casineb?

Gadewch i mi atgoffa Aelodau—mae hon yn ddadl bwysig i’w chael yn ystod wythnos troseddau casineb cenedlaethol, a dylem ni i gyd ddod at ein gilydd i sicrhau gwlad groesawgar i bawb. Rwy'n gobeithio y bydd Neil Hamilton a Michelle Brown yn myfyrio ar eu sylwadau heddiw ac yn ystyried eu goblygiadau ar gyfer y cymunedau ehangach y maen nhw’n eu cynrychioli yma yn awr. Rwy'n falch o gael y cyfle i siarad ynglŷn â’r materion hyn yn ystod wythnos troseddau casineb ac edrychaf ymlaen at weithio gydag Aelodau o bob plaid i fynd i'r afael â chasineb o bob math, ni waeth ble y mae’n digwydd.

Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw wrthwynebiad? Os na, fe dderbynnir gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Y cwestiwn felly yw: a ddylid derbyn y cynnig fel y’i diwygiwyd?

Cynnig NDM6113 fel y’i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn:

1. Nodi'r cynnydd sydd wedi'i wneud drwy Fframwaith Llywodraeth Cymru ar gyfer Mynd i'r Afael â Throseddau Casineb.

2. Cydnabod, yn sgil digwyddiadau diweddar, yr heriau parhaus sy'n bodoli o ran troseddau casineb.

3. Yn nodi argymhellion allweddol y 'Prosiect Ymchwil Trosedd Casineb Cymru Gyfan', sy'n cynnwys:

a) bod angen gwneud mwy i ennyn hyder dioddefwyr a thystion i roi gwybod am ddigwyddiadau casineb a hyrwyddo'r farn mai rhoi gwybod am gasineb yw'r ‘peth iawn i'w wneud’; a

b) dylid gwneud mwy i sicrhau y caiff y rhai sy'n cyflawni troseddau casineb eu trin yn effeithiol ac y dylid sicrhau bod dulliau adferol ar gael yn fwy eang yng Nghymru.

A oes unrhyw wrthwynebiad? Os na, fe dderbynnir y cynnig fel y’i diwygiwyd.

Derbyniwyd cynnig NDM6113 fel y’i diwygiwyd yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

9. 8. Datganiad: Arllwysiad Olew yn Nantycaws, Sir Gaerfyrddin

Yr eitem olaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw’r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ar arllwysiad olew yn Nantycaws, Caerfyrddin. Rydw i’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet, Lesley Griffiths.

Member
Lesley Griffiths 18:17:00
The Cabinet Secretary for Environment and Rural Affairs

Diolch, Lywydd. Fel y bydd yr Aelodau yn gwybod, ar 4 Hydref, rhoddwyd gwybod i Cyfoeth Naturiol Cymru am arllwysiad cerosin o'r biblinell wrth ochr yr A48 ger Nantycaws.

Yn syth ar ôl y digwyddiad, defnyddiodd y gwasanaeth tân ac achub freichiau cyfyngu arllwysiad olew mewn argyfwng ar Nant Pibwr a sefydlodd Cyfoeth Naturiol Cymru ganolfan gydgysylltu aml-asiantaethol. Roedd contractwyr glanhau arbenigol a gyflogir gan y gweithredwr, Valero, ar y safle erbyn prynhawn dydd Mawrth i ddechrau ar y gwaith o gael gwared ar yr olew o’r nant. Yn ôl Valero, amcangyfrifwyd bod 140,000 litr wedi dianc o biblinell y brif linell. Fodd bynnag, mae dros ddwy ran o dair o hyn wedi ei glirio erbyn hyn gan gontractwyr arbenigol Valero. Mae cyfres o freichiau cyfyngu arllwysiad olew yn parhau i fod ar waith wrth gael gwared ar yr olew. Mae Valero a'i gontractwyr yn cynnal yr ymateb glanhau gyda chyngor gan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymgymryd â monitro’r effeithiau amgylcheddol posibl, ynghyd â Dŵr Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chyngor Sir Gaerfyrddin. Mae pobl wrth gwrs yn pryderu am eu dŵr yfed. Mewn erthygl ddoe yn y ‘Western Mail’ am yr arllwysiad cerosin yn Nantycaws, dywedwyd yn anghywir bod Dŵr Cymru wedi cadarnhau ddydd Gwener bod effaith ar gyflenwadau dŵr, pryd y dylai fod wedi dweud eu bod wedi cadarnhau nad oedd unrhyw effaith ar gyflenwadau dŵr cyhoeddus. Camgymeriad oedd hwn, a chysylltodd Dŵr Cymru â’r golygydd ddoe i gywiro hyn cyn gynted ag y bo modd, ac argraffwyd y cywiriad yn rhifyn heddiw o’r papur newydd. Rwyf ar ddeall bod yr holl gyfryngau perthnasol eraill wedi cael gwybod mai camgymeriad ar ran y papur newydd oedd hwn a rhoddodd Dŵr Cymru neges hefyd ar y cyfryngau cymdeithasol er mwyn lliniaru unrhyw lefelau pryder diangen.

Nid yw pedwar o'r 12 eiddo lleol sy'n tynnu dŵr o gyflenwadau preifat yn yr ardal gyfagos yn defnyddio eu cyflenwadau am y tro fel rhagofal. Mae Dŵr Cymru wedi darparu dŵr potel a bydd yn parhau i wneud hynny ar gais. Mae Dŵr Cymru hefyd wedi cynnig cysylltu’r eiddo hynny dros dro i'r rhwydwaith cyflenwad dŵr cyhoeddus. Mae un eiddo wedi derbyn y cynnig hwn. Cynghorwyd lleill i gysylltu â swyddog cyswllt Valero a fydd wedyn yn cydgysylltu â Dŵr Cymru ar eu rhan os byddant yn dymuno cae eu cysylltu â’r cyflenwad dŵr.

Cynhaliwyd arolygon ecolegol cychwynnol ar yr afon i asesu arwyddocâd niwed lleol i ecoleg yr afon a chynhaliwyd asesiad o farwolaeth pysgod hefyd. Ymddengys bod yr effeithiau ecolegol wedi eu cyfyngu i adran fach o Nant Pibwr ac nid oes unrhyw arwydd o effaith arwyddocaol i lawr yr afon ar Afon Tywi.

Bydd gwaith ar y safle i fonitro ac adfer yr effaith tymor hwy bosibl yn parhau, a bydd nifer o dyllau turio yn cael eu drilio o amgylch y pwynt rhyddhau er mwyn gallu monitro'r effeithiau ar ddŵr daear. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhoi cyngor ar y tywydd a hydroleg ac yn goruchwylio'r cynigion ar gyfer adfer a gyflwynwyd gan y gweithredwr.

Ddydd Sadwrn ymwelais â Nantycaws i weld y gwaith sy'n cael ei wneud i leihau effeithiau'r arllwysiad olew fy hun. Cyfarfûm ag Emyr Roberts, prif weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru, a'i dîm lleol, a diolchais i staff Cyfoeth Naturiol Cymru yn y ganolfan digwyddiadau yn Cross Hands am eu gwaith o gydgysylltu'r ymateb. Cyfarfûm hefyd ag uwch gynrychiolwyr a chontractwyr y gweithredwr, Valero, i weld y gwaith adfer yr oedden nhw wedi ei roi ar waith.

Er y dylai digwyddiad o'r fath gael ei atal yn y lle cyntaf, wrth gwrs, rwyf yn fodlon ar yr ymateb a’r ymdriniaeth o’r digwyddiad. Mae cyflymder yr ymateb wedi cyfyngu lledaeniad y cerosin ac wedi osgoi effeithiau ehangach. Rwyf yn cael diweddariadau rheolaidd ar y sefyllfa a byddaf yn parhau i fonitro cynnydd.

Er mwyn i Valero osod piblinell newydd, bydd yn anffodus yn angenrheidiol cau’r A48 i'r ddau gyfeiriad o fin nos 14 Hydref tan yn gynnar dydd Llun 17 Hydref. Bydd yr holl draffig yn cael ei ddargyfeirio ar hyd y ffordd dargyfeirio traffig swyddogol trwy Langynnwr. Er fy mod yn cydnabod y bydd hyn yn peri anghyfleustra i bobl a busnesau yn y gorllewin, dylai cau’r ffordd ar y penwythnos leihau'r effaith ar y cyhoedd sy'n teithio a chaniatáu i’r gwaith angenrheidiol gael ei gwblhau yn gyflym i adfer y biblinell a selio’r rhan dan sylw.

Ar ôl i’r digwyddiad ddod i ben, bydd yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a Cyfoeth Naturiol Cymru, fel y rheoleiddwyr perthnasol, yn ymchwilio i achos y toriad i’r biblinell a'r digwyddiad o lygredd yn y drefn honno, ac yn cymryd camau priodol o dan eu pwerau.

Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet am ei datganiad heddiw, a hefyd am y sgwrs ffôn a gawsom ni yn gynnar bore ddydd Gwener a’i pharodrwydd hi i ymweld â’r ardal brynhawn ddydd Sadwrn. Fe soniodd hi ei bod yn fodlon gyda pha mor gyflym oedd yr ymateb, ond a gaf i ofyn am ychydig mwy o wybodaeth ynglŷn â’r amserlen? Yn union pryd hysbyswyd Cyfoeth Naturiol Cymru gan y cwmni am y lleihad yn y pwysedd o fewn y biben? Pryd ymwelodd staff NRW â’r safle yn gyntaf? Pryd y gwnaethant ddyfarnu bod yr arllwysiad yn un mwy difrifol? Pryd y caewyd y biben? A phryd gorffennodd y gwaddod o olew a oedd yn yr adran yma o’r biben rhag gollwng ymhellach?

Fe gaewyd falfiau ynysu—‘isolation valves’—yn ôl y wybodaeth sydd gen i, yn ardal Llandeilo a Llangain. A all yr Ysgrifennydd esbonio pam na chaewyd y falf sydd, mae’n debyg, yn nes at yr ardal yn Nantgaredig, a fyddai o bosib wedi arbed degau o filoedd o litrau o olew rhag cael ei ollwng?

A ydy’r Ysgrifennydd yn cytuno bod angen ymchwiliad llawn i’r hyn a achosodd yr anffawd yma? A all hi gadarnhau hefyd fod pwerau NRW yn cynnwys yr hawl i ddod ag erlyniadau gerbron os oes tystiolaeth o esgeulustra? Pryd oedd y tro olaf, er enghraifft, i’r biben yma gael ei harchwilio? Ac, wrth gwrs, mae’r cwmni yma yn gwmni proffidiol, gyda £4 biliwn o incwm y flwyddyn, felly a allwn ni gael sicrhad y byddan nhw yn talu iawndal i’r trigolion a’r ffermwyr lleol sydd wedi cael eu heffeithio?

A ydy’r biben wedi cael ei chofrestru o dan Reoliadau Diogelwch Piblinellau 1996, ac os nad ydy, pam?

And finally, on the matter of the A48, she will appreciate and has already referred to, of course, the effect that this will have locally on residents who are already having to cope, on Friday night, for example, with the closure in one direction—a severe impact. Have all the alternatives not been looked at here in terms of the remedial work that needs to happen on the pipeline? We've heard, for instance, that work is not ongoing round the clock. Surely, we should be looking at that before closing what is, after all, the main arterial route for the whole of west Wales in both directions. So, is she satisfied that all other alternatives were looked at, and can she confirm that at least one of the relevant agencies actually opposed the proposal to close the route in both directions when it was first put to them?

Diolch, Adam Price, am y cwestiynau yna. O ran y llinell amser, gallaf ddweud wrth yr Aelodau, ddydd Mawrth diwethaf—felly, 4 Hydref—cafodd Cyfoeth Naturiol Cymru yr alwad ffôn gyntaf gan Valero am 10:46 pan ddywedodd Valero eu bod yn rhoi gwybod eu hunain am ddifrod i biblinell cerosin a’i lleoliad. Roedd maint yr arllwysiad yn anhysbys ar y pryd, ac roedden nhw wedi cymeradwyo contractwyr yn—. Roedden nhw’n defnyddio contractwyr cymeradwy i ymchwilio a phrosesu gwaith atgyweirio a glanhau. Am 11am, felly yn gyflym iawn ar ôl hynny, ffoniodd Valero Cyfoeth Naturiol Cymru unwaith eto a chadarnhau y bu gollyngiad, ond eu bod yn ansicr pa un a oedd unrhyw olew—. Nid oeddent yn credu bod unrhyw olew wedi cyrraedd dyfrffordd, ond eu bod wedi cysylltu â’r contractwyr rhag ofn. Aeth swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru i ymweld â'r safle eu hunain wedyn—. Wyddoch chi, roedden nhw’n awyddus i weld y sefyllfa drostynt eu hunain, felly aethant i ymweld â'r safle. Felly, fel y dywedais, roeddwn i’n fodlon iawn â'r ymateb a chredaf fod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cydgysylltu’r ymateb mewn modd proffesiynol iawn.

O ran y cwestiynau ynglŷn â'r falfiau, rwyf wedi cael gwybod bod y falfiau wedi eu cau, fel y dywedwch, i gyfyngu’r olew a oedd yn y biblinell. Gwnaethoch ofyn am iawndal i drigolion lleol, ac nid wyf yn credu bod hwn yn fater y gallaf roi sylwadau arno hyn o bryd. Soniais y bydd Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn gallu ymchwilio i achos y toriad, pan fydd y digwyddiad wedi dod i ben. Byddant yn cymryd y camau priodol o dan eu pwerau, ac nid wyf, mewn gwirionedd, yn credu y byddai'n iawn i mi roi sylwadau eraill cyn i’r gwaith gael ei wneud. A chredaf fod angen i ni aros nes bod yr holl ymchwiliadau wedi eu gwneud.

Ynghylch effaith cau’r A48 fel y bwriedir ei wneud, bydd yr Aelodau yn gwerthfawrogi, Lywydd, mai mater i fy nghyd-Aelod Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith yw hwn, ond, yn amlwg, nid yw yma heddiw. Felly, gallaf ymateb i rai pryderon a, wyddoch chi, rwyf eisiau i Aelodau sylweddoli nad ar chwarae bach y gwnaed y penderfyniad hwn a bydd cau’r ffordd i’r ddau gyfeiriad dros y penwythnos, mi wn, yn peri anghyfleustra, ond, rwy’n credu, oherwydd ei bod yn benwythnos, y dylai hyn leihau'r effaith ar y cyhoedd sy'n teithio a chaniatáu ar gyfer cwblhau’r gwaith angenrheidiol yn gyflym i adfer y biblinell a selio’r rhan dan sylw.

Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf wedi siarad ag uwch lefarydd o Valero ynghylch y gollyngiad cerosin yn Nantycaws, a chefais fy sicrhau, oherwydd gofynnais lawer iawn o’r cwestiynau a ofynnwyd i chithau eisoes, eu bod, yn syth ar ôl sylweddoli bod gostyngiad i’r gwasgedd yn y biblinell—oherwydd dyna sut yr oedden nhw’n gwybod—wedi rhoi gwybod i Cyfoeth Naturiol Cymru ac asiantaethau eraill oddi mewn. Ac rwy’n credu nad yw ond yn iawn ac yn deg ar y pwynt hwn, cyn i mi symud ymlaen, i gydnabod y gwaith caled a wnaed gan y staff hynny —a wneir gan y staff yn barhaus—y tu allan i'w horiau gwaith arferol er mwyn gwneud eu gorau i ddiogelu’r cyhoedd rhag yr holl faterion eraill y credaf iddynt gael eu datgan yn deg gan Adam Price. Ac rwy’n credu ei bod hefyd yn deg i sôn am y gwasanaethau brys, oherwydd bod yr awdurdod tân hefyd wedi dod yno ac ymateb mor gyflym ac effeithlon â phosibl. Felly, rwyf am nodi’r pethau hynny ar y cofnod.

Fe wnes i yrru drwy’r ardal hon ddydd Sul, mewn gwirionedd, ac mae'n rhaid i mi ddweud wrthych ei bod yn daith tri chwarter awr o un pen o Gaerfyrddin i’r llall, a hynny am 4 o'r gloch ar brynhawn dydd Sul. Felly, wyddoch chi, mae'n debyg ei bod yn ddoeth dweud, er efallai mai ar benwythnos oedd hyn, serch hynny, bydd yn achosi anghyfleustra sylweddol. Roeddwn i, mae'n debyg yn annoeth yn dewis teithio am 4 o'r gloch, heb feddwl, gan nad oeddwn yn siopa, bod y siopau efallai yn cau bryd hynny, felly mae'n debyg ei bod yn deg ychwanegu hynny. Ond, serch hynny, dyna pa mor hir a gymerodd i mi i fynd o un pen o Gaerfyrddin i fynd yn ôl ar yr A48.

Felly, beth bynnag, wrth symud ymlaen, rwyf ar ddeall bod pedwar safle o lygredd a bod cyfanswm o dri o'r rhain wedi eu clirio erbyn hyn, ond bod un yn dal i gael ei adfer. Fe wnes i ofyn y cwestiwn, wrth gwrs, am unrhyw effaith i lawr yr afon ac ar afon Tywi a rhoddwyd sicrwydd i mi, ar y pwynt hwn, fod honno yn sefyllfa annhebygol. Serch hynny, tra bod hynny’n wir, ac rwy’n cydnabod y gallai pobl gael eu heffeithio am rai dyddiau drwy orfod mynd o amgylch y ffordd, yr hyn sy’n fy mhoeni i’n fawr yw’r effaith honno ar y ddyfrffordd honno a sut yr ydym yn bwriadu monitro unrhyw effeithiau a gafwyd ar y ddyfrffordd honno—y mae wedi ei dinistrio, gadewch i ni fod yn glir: os ydych yn gwenwyno afon, rydych wedi ei ddinistrio—a sut y bydd yn cael ei monitro a’i hadfywio.

Cefais fy ethol yn fuan ar ôl achos y Sea Empress; rwy’n gwybod pa mor ddinistriol yw’r pethau hyn, ac nid wyf yn awgrymu bod hyn ar yr un raddfa o gwbl. Rwyf yn diolch, fodd bynnag, i Valero am fod yn onest pan ofynnais gwestiynau ac maen nhw hefyd, hyd y gwn i, wedi bod ar y safle ac maen nhw wedi ymddiheuro’n llaes am y llygredd, a oedd yn ddigamsyniol, oherwydd fe wnes i ei arogli fy hun ddydd Sul, yn yr aer. Ar hyn o bryd, rwyf i ar ddeall ac mae eraill ar ddeall, nad oedd y mygdarth yn wenwynig. Ond fe wnaeth rhai teuluoedd ddewis symud oddi yno.

Felly, rwy’n credu, am y tro, y gwnaed yr hyn y gellid ei wneud, ond, wrth symud ymlaen, credaf mai’r hyn sy'n bwysig i mi wybod, fel rhywun sy'n cynrychioli'r ardal honno, yw y bydd y gwaith o fonitro’r safle yn ddiwyd, yn hirdymor, ac yn cael ei adrodd yn ôl i ni.

Diolch i chi, Joyce Watson, am y cwestiynau yna. Rwy'n falch iawn eich bod wedi cwrdd â Valero a dylwn i fod wedi dweud bod Valero a Cyfoeth Naturiol Cymru yn hapus iawn i gwrdd ag unrhyw Aelod o'r Cynulliad i drafod y mater hwn. Rydych chi'n hollol iawn, dylem hefyd fanteisio ar y cyfle i ddiolch i'r gwasanaethau brys am eu presenoldeb.

O ran yr A48, fe wnes i ddweud fy mod i’n derbyn y bydd anghyfleustra, ond mae adran fy nghyd-Aelod Ken Skates yn dymuno osgoi wythnos hanner tymor. Mae'n ymwneud â lleihau'r effaith, ond wrth gwrs nid oes unrhyw amser da. Fel yr wyf wedi’i ddweud, ni wnaethom y penderfyniad yn ddifeddwl ac mae’n flin iawn gennym bod yn rhaid i ni ei wneud ac rydym yn siomedig iawn ein bod wedi gorfod cymryd y camau hyn, ond credaf y bydd yr Aelodau yn cytuno mai dyma’r unig ffordd ymlaen.

Roeddwn i’n falch iawn hefyd bod Valero wedi sefydlu llinell gymorth, ac yn amlwg mae un gan Cyfoeth Naturiol Cymru, a gwn y cafwyd rhai galwadau. Dywedwyd wrthyf y cafwyd dwy alwad, hyd yn oed ar y dydd Gwener, gan dai lleol ac ymwelwyd â’r preswylwyr hyn ar unwaith, gan fy mod i’n credu ei bod yn hynod bwysig ac mae'n flaenoriaeth lwyr i mi bod pryderon pobl yn cael sylw, yn enwedig o ran iechyd cyhoeddus.

Soniais mai 140,000 litr yw'r ffigur yr ydym wedi ei gael gan Valero o ran yr arllwysiad. A heddiw, dywedwyd wrthyf—diweddariad heddiw yw bod 100,000 litr wedi eu hadennill, sy’n swm sylweddol yn fy marn i. O ran monitro, mae swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod allan yn monitro'r afon yn ddyddiol. Maen nhw wedi cynnal asesiad ecolegol ac wedi cyfrif carcasau pysgod, a deallaf fod hyn wedi aros ar 100. Mae gan y cwmni cysylltiedig gontractwyr arbenigol yn asesu'r effaith ar y tir. Maent yn cysylltu â thîm geowyddoniaeth Cyfoeth Naturiol Cymru a gwn fod Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadeirio'r grŵp technegol tactegol, lle mae'r holl asiantaethau partner perthnasol a Valero yn canolbwyntio ar liniaru effaith yr arllwysiad olew. Ond, rydych chi'n iawn, camau hirdymor yw’r rhain, ac rwyf yn dymuno rhoi sicrwydd i'r Aelodau fy mod i’n monitro hyn yn ofalus iawn. Rwyf yn cael diweddariadau niferus bob dydd ac rwyf, wrth gwrs, yn hapus iawn i adrodd yn ôl i'r Aelodau.

Weinidog, diolch yn fawr iawn am eich datganiad heddiw. Credaf fod eich ymateb a'r ymateb gan Valero wedi bod yn gwbl resymol, o dan yr amgylchiadau—nid oedd unrhyw un yn dymuno i hyn ddigwydd, nid oedd unrhyw un yn disgwyl iddo ddigwydd, ac mae'n hynod, hynod anffodus, a dweud y lleiaf.

Credaf fod Adam Price wedi codi pwyntiau ardderchog yn ei sylwadau a hoffwn innau, mewn gwirionedd, gysylltu fy hun â nhw. Er yr hoffwn i ychwanegu fy mod i’n credu y dylai unrhyw ymchwiliad gael ei gynnal gan y cyrff statudol ac y dylai unrhyw gosbau ddod o ganlyniad i'r ymchwiliadau hynny gan y cyrff statudol. Nid wyf yn credu ei fod yn ddyletswydd ar unrhyw un ohonom i ragfynegi yr hyn a ddigwyddodd nac i osod yr hyn yr ydym yn credu y dylai unrhyw gosb fod.

Mae gennyf un pryder, fodd bynnag: yn eich llythyr ar 7 Hydref cyfeiriasoch at y ffaith bod y biblinell hon 12m o dan y ddaear ac na allwch chi fod yn sicr o gyflwr y biblinell nac o achos y gollyngiad. Rwyf hefyd wedi bod yn trafod hyn â Valero, sydd—a chytunaf â Joyce Watson—wedi bod yn eglur iawn ac wedi siarad yn blaen iawn am y cyfan, ac nid ydynt hwythau’n gwybod ychwaith. Felly, a oes gennych chi unrhyw gynllun wrth gefn ar waith rhag ofn y bydd yr A48 ar gau am fwy na’r penwythnos? Oherwydd, pan fyddant o’r diwedd yn cloddio i lawr at y bibell, rwyf ar ddeall eu bod yn bwriadu mynd i mewn o'r ochr a chnocio drwy’r tarmac, ond os bydd, mewn gwirionedd, yn waeth yn y pen draw ac y bydd yn rhaid iddyn nhw godi rhan o’r ffordd er mwyn gwneud y gwaith angenrheidiol—felly, mewn gwirionedd, a oes gennym ni gynllun wrth gefn ar waith rhag ofn y bydd y ffordd ar gau am gyfnod llawer hirach na’r disgwyl?

Hoffwn ofyn i chi hefyd gysylltu â'ch cydweithiwr, Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros fusnes, i siarad ag ef ynghylch pa un a allwn gyflymu holl fater yr A48. Fy mhryder yw bod hanner tymor yn dechrau y penwythnos ar ôl y nesaf. Fel y dywedodd Joyce Watson, mae’r ffordd honno yn orlawn o draffig. Mae gennym y twristiaid yn cyrraedd; mae’n hanfodol bwysig bod yr wythïen honno ar agor ar gyfer Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro. Nid wyf yn credu bod unrhyw ardaloedd yn bellach i'r gorllewin o’r fan honno, ond mae angen i ni wneud yn siŵr y gall twristiaid ddod yma–mae'n rhan hanfodol o'n diwydiant. Felly, a fyddech cystal â dweud wrthyf pa yn a ydych chi’n meddwl y gallem geisio eu perswadio i weithio ddydd a nos i drin y ffordd honno cyn gynted â phosibl?

Yn olaf, hoffwn ddweud cymaint o argraff a wnaed arnaf gan ymateb y tîm trefn rheoli arian wrth iddynt fwrw iddi, ac wrth i’r holl sefydliadau ddod at ei gilydd, ac, ar ran y Ceidwadwyr Cymreig, hoffwn fynegi ein diolch iddyn nhw, oherwydd maen nhw wedi profi o ddifrif mai dyma beth yw hanfod y gwasanaethau brys, ac maent wedi gwneud yn arbennig o dda o dan yr amgylchiadau.

Er gwybodaeth, mae Ceredigion i’r gorllewin o Gaerfyrddin.

Mae'n ddrwg gennyf, Lywydd, ond nid i'r gorllewin o Sir Benfro. [Chwerthin.]

Diolch i chi, Lywydd, ac rwy’n diolch i Angela Burns am y sylwadau yna ac yn sicr am y sylwadau am y tîm trefn rheoli arian. Rydych chi yn llygad eich lle: roedd yn dda iawn gweld pa mor dda y llwyddodd Cyfoeth Naturiol Cymru i gydgysylltu’r ymateb amlasiantaethol hwnnw, ac mae’r tîm trefn rheoli arian wedi cyfarfod yn ddyddiol ac maent wedi rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i mi.

Rwy'n hapus iawn i siarad â swyddogion Ken Skates yn ei absenoldeb. Fel y soniais—yn fy ymateb i Joyce Watson rwy’n credu—rydym yn ymwybodol iawn bod hanner tymor yn dechrau y penwythnos ar ôl y nesaf a dyna pam yr ydym wedi dewis y penwythnos hwn. Rwy'n siŵr y bydd yr Aelod yn ymwybodol y trefnwyd bod un ochr o’r A48 yn cael ei chau wrth i Valero weithio ar y bibell honno.

O ran y ffaith ei fod yn 12 metr i lawr, fel y dywedasoch, mae’r brif bibell y mae’r gollyngiad yn deillio oddi wrthi wedi ei throi i ffwrdd ac erbyn hyn ychydig iawn o olew sy’n casglu yn y nant, ac rydym yn gobeithio bod hyn yn golygu nad yw’n gollwng. Yn anffodus, ni all Valero gyrraedd y bibell sydd wedi’i difrodi gan fod yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch wedi cau’r mynediad ati. Felly, mae Valero yn mynd i adeiladu pibell newydd ochr yn ochr â'r bibell a’i hailgysylltu, pan fydd yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn dweud bod hynny’n bosibl, ac yna byddant yn gallu edrych ar yr hen bibell. Felly, rwy’n meddwl ei bod yn bwysig ein bod ni’n cael y sgyrsiau hynny gyda swyddogion i wneud yn siŵr ein bod ni’n ymdrin â phob posibilrwydd ar hyd y ffordd. Ond, fel y dywedais, bydd yr Aelodau'n gwerthfawrogi bod yn rhaid i’r gwaith hwn gael ei wneud ac rwy'n gobeithio y bydd modd ei wneud dros y pedwar diwrnod hynny.

O ran y gwaith dydd a nos, fel y dywedais, byddaf yn siarad â swyddogion Ysgrifennydd y Cabinet.

A gaf i ddiolch i’r Gweinidog am ei datganiad a jest gofyn cwpwl o bethau iddi yn sgil yr hyn sydd wedi cael ei drafod y prynhawn yma? Yn gyntaf oll, rwy’n deall nad oes eto eglurhad neu reswm am y digwyddiad hwn, ond mae’n dal i fod yn ddigwyddiad llygredd o bwys ar y tir mawr, un o’r rhai mwyaf rydym ni wedi ei gael mewn blynyddoedd diweddar. Bydd pobl leol yn sicr yn gofyn a oes cysylltiad rhwng y digwyddiad yma o ollyngiad olew, neu cerosin, a'r ffaith bod y biben yn cael gwaith wedi’i wneud arno yn gyffredinol. Felly, pa fath o eiriau y mae’r Gweinidog yn gallu eu cael ynglŷn ag ymchwiliad o unrhyw fath ar yr adeg hon i sicrhau nad yw’r gwaith sy’n digwydd ar y biben mewn llefydd eraill yn mynd i arwain at unrhyw ddigwyddiad tebyg, a pha waith sy’n digwydd yn y cyd-destun hwnnw?

Mae’r ail gwestiwn sydd gennyf ynglŷn â’r effaith ar yr amgylchfyd. Rwy’n deall nad yw’r tanwydd wedi cyrraedd Afon Tywi, a gobeithio na fydd hynny’n digwydd. Serch hynny, mae yna effaith ddifrifol ar Nant Pibwr ei hunan, a bydd pawb, efallai, wedi gweld y lluniau o bysgod meirw, sy’n awgrymu eu bod nhw wedi marw yn y nant oherwydd llygredd. A fydd yna gamau nawr gan Gyfoeth Naturiol Cymru—wedi eu talu amdano gan y cwmni, gobeithio—i adfer y nant ac i wneud yn siŵr bod rhyw fath o ailstocio yn digwydd o bysgod er mwyn dod â bywyd yn ôl i’r nant, fel petai, fel ei fod yn un byw unwaith eto? A’r pwynt olaf yw y bydd y Gweinidog yn ymwybodol bod y biben yma yn mynd trwy’r rhan fwyaf o’r rhanbarth rwy’n ei chynrychioli, a dweud y gwir. Ar ei ffordd i orllewin y midlands, mae’n rhedeg drwy de canolbarth Cymru, a thrwy nifer o lefydd diarffordd iawn, iawn. Pa drafodaethau y mae hi yn eu cael, neu y mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn eu cael, gyda Valero ar hyn o bryd i wneud yn siŵr bod yna ryw archwiliad a sicrwydd diogelwch yn digwydd am weddill y biben i wneud yn siŵr nad oes—gallwn ni ddim gwneud yn siŵr, ond i geisio gwneud yn siŵr, nad oes unrhyw wendid mewn llefydd eraill ar hyd y biben hirfaith yma?

Diolch i Simon Thomas am ei gwestiynau. Rwyf wedi dweud eisoes fy mod o’r farn na allwn ddyfalu ynghylch beth achosodd hyn. Ar ôl i’r digwyddiad ddod i ben, ac rwy’n gobeithio y bydd hynny’n digwydd yn fuan iawn, dyna fydd yr amser, wedyn, i Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch gynnal ymchwiliad llawn. Hoffwn sicrhau yr Aelodau fy mod wedi gofyn i Cyfoeth Naturiol Cymru os ydynt yn teimlo, ar hyn o bryd, bod ganddynt yr adnoddau ychwanegol i reoli'r digwyddiad hwn, ac fe wnaethant fy sicrhau bod ganddynt yr adnoddau hynny.

O ran y bibell, rydych chi'n iawn, mae hi'n cario tanwydd, olew, i ganolbarth Lloegr, i Fanceinion ac i Heathrow hefyd. Felly, rwyf wedi cael y trafodaethau hynny ac rwyf wedi cael sicrwydd o ran y materion a godwyd gan yr Aelod.

Unwaith eto, yr effaith ar yr amgylchedd: rydym yn gobeithio’n fawr iawn na fydd yn cyrraedd Afon Tywi ac, fel y dywedais, mae’r olew sy'n cael ei gasglu yn lleihau erbyn hyn, ac rwy’n credu y gall hynny fod—mae’n rhywbeth cadarnhaol iawn, wrth i ni symud ymlaen. Ac, unwaith eto, yn y tymor hir, mae'n rhy gynnar i sôn am hynny, ond, yn amlwg, mae’r rheiny yn drafodaethau y byddaf yn eu cael gyda Cyfoeth Naturiol Cymru.

Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet. Fe ddaw hynny â’n trafodion ni am heddiw i ben.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:43.