Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

18/11/2020

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:29 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn, a chyn i ni ddechrau, dwi eisiau nodi ychydig o bwyntiau. Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. Bydd yr holl Aelodau sy'n cymryd rhan yn nhrafodion y Senedd, lle bynnag y bônt, yn cael eu trin yn gyfartal. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y Cyfarfod Llawn heddiw, ac mae'r rheini wedi'u nodi ar eich agenda chi. A dwi eisiau atgoffa Aelodau fod y Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â threfn yn y Cyfarfod Llawn yn berthnasol, wrth gwrs, ac yr un mor berthnasol i Aelodau yn y Siambr ag i'r rhai sy'n ymuno drwy gyswllt fideo. 

13:30
1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

Felly, yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni'r prynhawn yma yw'r cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Hefin David.

Tân Gwyllt

1. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith tân gwyllt a werthir mewn siopau ar les anifeiliaid yng Nghymru? OQ55887

Diolch. Nid oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw bwerau penodol i reoli gwerthiant a’r defnydd o dân gwyllt yng Nghymru. Rwyf am i ddeddfwriaeth tân gwyllt y DU gael ei thynhau a hoffwn weld mwy o ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd o'r trallod y gall defnydd anghyfrifol o dân gwyllt ei achosi i anifeiliaid. Rwyf wedi galw am gamau gweithredu ledled Prydain ar hyn cyn gynted â phosibl ac rwyf wedi gofyn am gyfarfodydd gyda fy swyddogion cyfatebol yn Llywodraethau’r Alban a’r DU er mwyn bwrw ymlaen â hyn.

Diolch, Weinidog. Mae croeso mawr i’r datganiad hwnnw, yn yr ystyr eich bod yn mynd ar drywydd hyn gyda'r cyfrifoldeb Llywodraethol perthnasol. Mae'r Cynghorydd Jill Winslade, sy'n gynghorydd ar Gyngor Cymuned Bedwas, Tretomos a Machen, wedi cysylltu â mi. Trafodwyd hyn gan y cyngor yr wythnos diwethaf, pan gytunwyd yn unfrydol eu bod yn poeni am y sŵn y mae tân gwyllt yn ei wneud. Roeddent yn poeni'n benodol am yr effaith ar y rheini sy'n ddigartref, ar y rheini sydd â phroblemau iechyd meddwl, yn enwedig anhwylder straen wedi trawma, a'r rheini sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. Fel cyngor, maent yn teimlo bod dyletswydd gofal arnynt i breswylwyr, a byddent yn hoffi pe bai tân gwyllt distaw ar gael i'r cyhoedd—neu o leiaf fod tân gwyllt dros 120 desibel yn cael eu gwahardd. A hoffent gael cefnogaeth Llywodraeth Cymru i'w hymgyrch i gyfyngu ar y defnydd o dân gwyllt, mewn perthynas â’r materion rwyf wedi sôn amdanynt eisoes. Felly, a fyddech chi, Weinidog, yn cefnogi'r Cynghorydd Jill Winslade o Gyngor Cymuned Bedwas, Tretomos a Machen, gyda'r mater ehangach hwn, ac yn cydnabod y gefnogaeth honno heddiw?

Diolch am eich cwestiwn, Hefin David. A chredaf ei bod yn iawn cydnabod—. Yn amlwg, nid anifeiliaid yn unig sy'n profi trallod, ond fe gyfeirioch chi at unigolion digartref a phobl sy'n dioddef o anhwylder straen wedi trawma hefyd. Credaf fod hyn yn rhywbeth sy'n cael cryn dipyn o gefnogaeth wleidyddol a chyhoeddus, ac rwy’n fwy na pharod i edrych ar yr ymgyrch y cyfeiriwch ati. Credaf ei bod yn bwysig iawn fod Llywodraeth y DU yn deall ein pryderon mewn perthynas â'u deddfwriaeth, ac fel y soniais yn fy ateb i chi, rwyf wedi gofyn am gyfarfod tairochrog. Ysgrifennais yn ôl ar ddechrau'r flwyddyn mewn gwirionedd—ym mis Ionawr, rwy’n credu—i drefnu cyfarfod, ond gyda phandemig COVID, mae arnaf ofn i'r gwaith hwnnw ddod i stop. Ond mae wedi ailddechrau bellach, felly rwy'n obeithiol y bydd modd inni fwrw ymlaen â phethau’n gyflym iawn.

Hoffwn ddiolch i Hefin David am godi hyn, ac i chithau, Weinidog, am eich ymateb cadarnhaol—mae'n fater mor bwysig ledled Cymru. Nawr, mae oddeutu 54 y cant o gathod, 55 y cant o geffylau, a 62 y cant o gŵn yn dangos arwyddion o drallod o ganlyniad i’r fath sŵn a chleciau swnllyd. Er bod 72 y cant o bobl yng Nghymru yn cydnabod y gall tân gwyllt gael effaith negyddol ar les anifeiliaid, mae'r Gymdeithas Frenhinol er Atal Creulondeb i Anifeiliaid eu hunain yn derbyn 400 o alwadau bob blwyddyn ar gyfartaledd oherwydd tân gwyllt. Mae arolygon barn wedi canfod bod 67 y cant o drigolion Cymru yn cytuno y dylid diwygio'r gyfraith i amddiffyn lles anifeiliaid yn well. Ac fel y mae pob un ohonom yn sylwi, mae'r tymor ar gyfer tân gwyllt wedi ymestyn bellach o'r adeg cyn Noson Tân Gwyllt, ac i mewn i'r flwyddyn newydd weithiau, felly mae gennym dymor estynedig. Mae awydd i weld newid yn cael ei arwain gan y Senedd hon, ac i'r defnydd o dân gwyllt gael ei gyfyngu i arddangosiadau cyhoeddus mawr. Wrth weithio ar hyn, a wnewch chi ystyried tân gwyllt distaw—gwahardd tân gwyllt uwchlaw lefel benodol o ddesibelau, fel y dywedodd Hefin? Ond a wnewch chi edrych hefyd ar leihau’r nifer o weithiau y gall pobl gael eu dychryn yn eu cartrefi eu hunain, ac wrth gwrs, ar ein hanifeiliaid anwes a da byw? Diolch.

Ie, rwy’n sicr yn cydnabod y ffigurau hynny a nododd Janet Finch-Saunders. Yn sicr, profodd fy nghi drallod eleni. Mae hi'n ddwy oed, ac yn sicr, fe’i profodd am y tro cyntaf eleni. Felly, rwy’n llwyr gydnabod y ffigurau hynny. Ac fel y dywedais yn fy ateb i Hefin David, mae'n waith rydym yn bwrw ymlaen ag ef, ond yn anffodus, mae'r ddeddfwriaeth a'r pwerau yn nwylo Llywodraeth y DU. Ond credaf yn sicr na chynhaliwyd arddangosiadau cyhoeddus eleni oherwydd pandemig COVID-19, felly yn sicr, credaf inni weld mwy o bobl yn prynu tân gwyllt fel unigolion, ac roedd fel pe bai’n gyfnod estynedig iawn. Clywais dân gwyllt neithiwr yma yng Nghaerdydd. Felly, yn sicr, credaf fod pobl wedi bod yn eu prynu, ac efallai'n eu defnyddio ar ôl Noson Tân Gwyllt. Felly, fel yr amlinellais yn fy ateb, rwy'n awyddus iawn i fwrw ymlaen â hyn.

13:35

Fel y mae Hefin a Janet newydd sôn, ymddengys bod Noson Tân Gwyllt yn mynd yn waeth bob blwyddyn—mae’n para’n hirach, mae'n fwy swnllyd, mae’n hwyrach, gyda sŵn bellach yn para tan oriau mân y bore ac am ddyddiau wedyn. Rwy'n bryderus iawn am les ein hanifeiliaid, fel y nododd y ddau siaradwr blaenorol hefyd, yn y cartref a hefyd yn y caeau, yn ogystal ag effaith ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n gysylltiedig â thân gwyllt, a chreulondeb i anifeiliaid yn sicr. Gwn na all Llywodraeth Cymru wahardd tân gwyllt rhag cael eu gwerthu i'r cyhoedd, ond a yw o fewn cymhwysedd Llywodraeth Cymru i’w cadw ar gyfer arddangosiadau cyhoeddus diogel a thrwyddedig yn unig? Diolch.

Felly, na, nid ni sy’n gyfrifol am y ddeddfwriaeth hon. Fel y dywedais yn fy ateb i Janet Finch-Saunders, gan na chawsom yr arddangosiadau cyhoeddus rydym fel arfer yn eu gweld eleni, yn anffodus, credaf inni weld mwy o bobl yn prynu tân gwyllt. Yn amlwg, mae siopau papurau newydd, er enghraifft, wedi'u trwyddedu i werthu tân gwyllt. Felly, gallai archfarchnadoedd eu gwerthu, gan eu bod ar werth yn rhywle arall. Dewisodd rhai archfarchnadoedd beidio â gwneud hynny eleni, ac roeddwn o’r farn fod hynny'n beth da iawn i'w wneud. Ond yn amlwg, nid oedd yn anghyfreithlon i ddefnyddio tân gwyllt o fewn y rheoliadau COVID rydym wedi'u cael, ond unwaith eto, mae a wnelo â gofyn i bobl fod yn gall. Ond rwy'n awyddus i sicrhau bod y ddeddfwriaeth yn addas i’r diben, gan fy mod yn siŵr fod pob un ohonom yn cytuno nad yw hynny’n wir ar hyn o bryd.

Llifogydd yn y Rhondda

2. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i leihau'r perygl o lifogydd yn y Rhondda? OQ55863

Diolch. Mae cyllid wedi’i gymeradwyo ar gyfer 25 o brosiectau lliniaru llifogydd ar draws Rhondda Cynon Taf eleni, sef cyfanswm o £1.9 miliwn. Mae hyn yn cynnwys £303,450 rwyf wedi'i gymeradwyo'n ddiweddar i osod mesurau gwrthsefyll llifogydd ar lefel eiddo mewn 357 o gartrefi yn y Rhondda. Rwyf hefyd wedi darparu £1.6 miliwn o gyllid brys i RhCT ar gyfer gwaith atgyweirio yn dilyn stormydd eleni.

Yn ystod y mis diwethaf, mae Cyfoeth Naturiol Cymru eich Llywodraeth chi wedi cyhoeddi adroddiadau ar lifogydd eleni, ac yn amlwg, mae fy niddordeb i yn ymwneud â’r Rhondda. Ychydig o bobl oedd yn synnu na chanfu CNC fod unrhyw fai arnynt hwy eu hunain yn yr adroddiadau hynny. Yr agosaf a ddaethant at gyfaddef unrhyw gyfrifoldeb oedd pan ddywedasant nad oedd ganddynt ddigon o arian i ymateb i raddfa’r digwyddiadau mis Chwefror, rhywbeth y gobeithiaf i chi ei glywed a'i ystyried yn ofalus iawn, Weinidog. Nawr, mae'n amlwg i mi ac i lawer o bobl eraill a lofnododd ddeiseb mai dim ond ymchwiliad annibynnol fydd yn mynd at wraidd yr hyn a ddigwyddodd ac yn cynnig atebion parhaol a fydd yn ystyried yr argyfwng hinsawdd, a dyna fydd ein gobaith gorau o atal y math hwn o beth rhag digwydd i gymunedau yma yn y Rhondda eto. Safbwynt y blaid Lafur yn San Steffan yn gynharach eleni oedd cefnogi ymchwiliad i lifogydd mewn cymunedau yn Lloegr. Pam nad yw ymchwiliad o’r fath yn ddigon da i bobl yma yng Nghymru? A wnewch chi gefnogi ymchwiliad annibynnol nawr? Neu a wnewch chi egluro i bobl yn y Rhondda beth ydych chi'n ofni y gallai ymchwiliad o'r fath ei ddatgelu?

Nid oes ofn arnaf o gwbl, a na, nid wyf am ymrwymo i adolygiad annibynnol ar hyn o bryd am y rhesymau rwyf wedi’u nodi wrthych yn y Siambr hon ac am y rhesymau rwyf wedi’u nodi wrthych mewn gohebiaeth. Rydym yn aros am adroddiadau ymchwiliad adran 19. Maent yn ddyletswydd ar yr awdurdod lleol, fel y gwyddoch, a byddant yn darparu eglurder ynghylch y rhesymau am y llifogydd, yn ogystal â sut y bydd yr awdurdodau rheoli perygl yn gweithredu. Nid wyf yn cydnabod eich sylwadau ar adroddiad CNC. Roeddwn o’r farn ei fod yn asesiad gonest iawn o'u perfformiad eu hunain, sut roeddent yn credu y gallent wneud gwelliannau, ac nid oedd yn ymwneud â chyllid yn unig. Roeddwn yn credu bod yr adroddiad—. Nid fi gomisiynodd yr adroddiad hwnnw, ond credaf y bydd y canfyddiadau'n ategu ymchwiliadau'r awdurdod lleol ac yn helpu i gefnogi’r gwaith o reoli perygl llifogydd yn y dyfodol. Mae'n rhaid i bob un ohonom dderbyn ein bod, gyda'r argyfwng hinsawdd, yn mynd i weld y mathau hyn o ddigwyddiadau a welsom ym mis Chwefror, ac rydym yn ceisio ein gorau glas i sicrhau bod RhCT wedi derbyn yr arian y gofynnwyd amdano. Soniais am yr arian ychwanegol rwyf wedi’i ddarparu’r wythnos hon ar gyfer gwrthsefyll llifogydd ar lefel eiddo, fel y gall pobl sy'n teimlo bod ei angen arnynt yn eu cartrefi fynd at eu hawdurdod rheoli risg a gofyn am y cyllid, a chael beth bynnag sy'n ofynnol wedi'i osod yn iawn. Ni chredaf—. Cyfrifoldeb unigolion fyddai cyflwyno'r cais hwnnw, a dyna'n union rydym wedi'i wneud.

13:40

Weinidog, nododd yr adolygiad o’r llifogydd a gynhaliwyd gan CNC yn gynharach eleni fod 12 rhybudd rhag llifogydd wedi cael eu cyhoeddi’n hwyr, ac na chafodd rhai ardaloedd rybudd rhag llifogydd o gwbl. Weithiau, gallwn ganolbwyntio ar y prosiectau seilwaith mawr a rhai o'r materion mwy sy'n ymwneud â llifogydd, ond os na allwch wneud y pethau syml yn iawn, fel rhybuddio'r cyhoedd i fod yn barod a gwneud paratoadau, bydd hynny'n tanseilio’r holl broses o baratoi ar gyfer llifogydd. Pa gamau y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i ryngweithio â Cyfoeth Naturiol Cymru i sicrhau bod yr agwedd benodol hon ar y system atal llifogydd, rhybuddio cynnar a synhwyro yn ddibynadwy, yn wydn, ac yn rhybuddio cymunedau am berygl llifogydd sydd mor ddinistriol i leoedd fel y Rhondda a Nantgarw ym Mhontypridd?

Soniais fy mod yn credu bod yr adroddiad y mae CNC wedi'i gyflwyno yn asesiad gonest iawn o’u perfformiad, ac rwyf wedi cyfarfod â hwy i gychwyn ei drafod. A ddydd Llun nesaf—rwy’n credu mai dydd Llun nesaf ydyw; wythnos nesaf, yn sicr—byddaf yn cyfarfod â'r cadeirydd a'r prif weithredwr i gael trafodaeth o sylwedd ynghylch yr adroddiad a pha gamau sydd angen eu cymryd.

Credaf fod yn rhaid inni gydnabod mai stormydd mis Chwefror, sef yr hyn roedd yr adroddiad hwn yn seiliedig arno yn bennaf, oedd y rhai gwaethaf inni eu gweld mewn rhannau o Gymru ers 40 mlynedd. Ac nid esgus yw hynny; rwyf ond yn dweud bod yn rhaid inni gofio mai dyna roeddem yn ymdrin ag ef. Cawsom lifogydd mewn dros 3,000 yn anffodus, a gwelais y dinistr, ac rwy'n siŵr i chi ei weld hefyd, ac rydym am wneud popeth y gallwn ei wneud i osgoi hynny. Felly, mae'n bwysig iawn ein bod yn edrych ar yr adroddiad hwnnw'n fanwl iawn, a dyna mae swyddogion wedi bod yn ei wneud ers inni ei gael oddeutu mis yn ôl. Byddaf yn cael y drafodaeth honno gyda CNC, ac rwy’n fwy na pharod i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau.

Weinidog, yn ardal Pontypridd a Thaf Elái, rydym yn amlwg yn edrych ymlaen at yr wyth adroddiad adran 19 a fydd yn cael eu paratoi nawr gan Rondda Cynon Taf, a fydd yn bwysig iawn wrth bennu camau atal a chamau gweithredu yn y dyfodol ac ati. Mae un o'r materion sydd wedi codi yn yr oddeutu 30 o gyfarfodydd rwyf i a'r AS lleol wedi'u cael gyda chymunedau, busnesau ac yn y blaen yn ardal Pontypridd a Thaf Elái yn ymwneud â'r pethau y gellir eu gwneud nawr i roi mwy o wytnwch i’r cymunedau yr effeithiwyd arnynt. Un o'r materion, wrth gwrs, yw pethau fel gatiau llifogydd ac ati, ac oherwydd mai llifogydd o afonydd, yn bennaf, a gafwyd ym Mhontypridd a Thaf Elái, credaf mai cyfrifoldeb CNC yw hynny. Nawr, rwyf wedi dwyn y mater i'w sylw, a deallaf eu bod wedi bod yn cyfarfod â chi i drafod mater cyllido a darparu adnoddau gwrthsefyll llifogydd ychwanegol i'r cymunedau yr effeithir arnynt ym Mhontypridd a Thaf Elái. Tybed a allech amlinellu canlyniad y trafodaethau rydych wedi'u cael?

Mae'r trafodaethau hynny'n parhau. Byddwch wedi fy nghlywed yn dweud fy mod yn cyfarfod â hwy eto yr wythnos nesaf. Fodd bynnag, mae'r cyllid y cyfeiriwch ato yno iddynt wneud cais amdano. Felly, soniais fy mod newydd ddyrannu £305,000 yn ychwanegol ddechrau'r wythnos yn uniongyrchol i RhCT ar gyfer mesurau gwrthsefyll llifogydd ar lefel eiddo, ac mae’r cyllid hwnnw’n sicr ar gael i CNC wneud cais amdano hefyd. Felly, unwaith eto, mae'r trafodaethau hynny'n parhau. Byddaf yn cael cyfarfod arall yr wythnos nesaf, ond mae'r cyllid ar gael nawr.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Weinidog, ym mis Mehefin 2018, rhybuddiodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig fod pob tebygolrwydd y bydd bwlch llywodraethu ar ôl Brexit. Nid oes gan CNC, fel y rheoleiddiwr amgylcheddol, ddigon o annibyniaeth, a cheir teimlad nad oes gan swyddfa comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol ddigon o ffocws ac arbenigedd amgylcheddol. Felly, ceir teimlad fod angen corff newydd ar Gymru i fonitro gweithredoedd y Llywodraeth wrth gyflawni deddfwriaeth amgylcheddol, system gwynion hygyrch a deddfwriaeth briodol a chadarn sy’n cael ei gorfodi.

Dyma ni bellach, bron i 30 mis yn ddiweddarach. Nawr, mae Llywodraeth y DU yn y broses o benodi cadeirydd cyntaf swyddfa diogelu'r amgylchedd. Mewn cymhariaeth, mae'r llinell amser ar gyfer sefydlu corff llywodraethu amgylcheddol olynol i Gymru yn parhau i fod yn aneglur. Mae wedi bod yn amlwg ers mis Mehefin 2018 fod angen y corff newydd hwn ar Gymru, a hyd yn oed cyn hynny, ym mis Mawrth y flwyddyn honno, gwnaeth Llywodraeth Cymru ymrwymiad i achub ar y cyfle deddfwriaethol addas cyntaf i ymgorffori egwyddorion amgylcheddol yn y gyfraith ac i gau'r bwlch llywodraethu hwn. Pryd fyddwn ni'n gweld manylion cadarn am y llinell amser hon a chorff newydd yn cael ei sefydlu, a pham nad yw hyn wedi ei ddatblygu'n barod?

13:45

Wel, un o'r rhesymau, fel y gwyddoch, yw mai dim ond un rhan fach iawn o adael yr Undeb Ewropeaidd yw hyn, a hoffwn weithiau pe baech wedi mynychu rhai o'r cyfarfodydd y bûm ynddynt, lle rydych yn cydnabod y mynydd o waith sydd angen ei wneud yn ystod y 42 diwrnod nesaf bellach, rwy’n credu, cyn i ni adael yr Undeb Ewropeaidd.

Ond mae hwn yn bwynt pwysig iawn ac rwy'n fwy na pharod i ateb cwestiynau fel y gall pobl ddeall lle rydym arni ar hyn o bryd. Felly, credaf fod yn rhaid i chi gyfaddef bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn graff iawn yn cyflwyno Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Felly, mae'r bylchau mewn llywodraethu amgylcheddol yn wahanol iawn yng Nghymru i'r hyn a geir yn Lloegr. Yn amlwg, mae Llywodraeth y DU wedi rhoi stop ar Fil Amgylchedd y DU ar hyn o bryd—mae hwnnw wedi'i oedi, er fy mod yn credu ei fod ar fin ailgychwyn—ond mae gennym ein Deddf amgylchedd yma. Felly, o ran egwyddorion, er enghraifft, mae gennym set o egwyddorion amgylcheddol yn ein Deddf amgylchedd nad oes gan wledydd eraill.

Fodd bynnag, fel y gwyddoch o fy ngrŵp rhanddeiliaid bord gron ar Brexit, sefydlais grŵp gorchwyl ohono i ofyn iddynt gyflwyno adroddiad, ac maent wedi gwneud hynny. A chredaf imi grybwyll mewn ateb i Llyr yr wythnos diwethaf yn y pwyllgor y byddaf yn cyflwyno rhagor o wybodaeth am hynny. Nid wyf yn siŵr a ofynasoch i mi mewn cwestiwn ysgrifenedig neu a ysgrifennais atoch i ddweud ein bod wedi hysbysebu am unigolyn i arwain y rhan hon o Lywodraeth Cymru ar ôl inni adael yr Undeb Ewropeaidd, a'r llinell amser ar gyfer hynny oedd cyn y Nadolig, rwy'n credu.

Diolch, a diolch am gadarnhau eich bod, ym mis Gorffennaf 2019, wedi cynnull grŵp gorchwyl o randdeiliaid allweddol i weithio gyda chi i ddatblygu manylion am strwythur llywodraethu amgylcheddol Cymru ymhellach. Nawr, ar 5 Tachwedd, fe nodoch eich bod yn bwriadu cyhoeddi'r cynigion hyn ar gyfer trefniadau llywodraethu amgylcheddol mwy hirdymor erbyn diwedd y flwyddyn, ochr yn ochr ag adroddiad y grŵp gorchwyl ar lywodraethu amgylcheddol. Er bod hynny ynddo’i hun eisoes yn dynodi oedi i'r addewid gwreiddiol i gyhoeddi argymhellion y grŵp gorchwyl yr hydref hwn, ymddengys bod y grŵp wedi adrodd ym mis Ebrill 2020. Dywedasoch wrthym ddydd Iau diwethaf yn y pwyllgor na ellid sicrhau bod yr adroddiad ar gael oherwydd diffyg capasiti ac adnoddau. A wnewch chi roi mwy o fanylion heddiw ynglŷn â beth yw'r heriau penodol o ran capasiti ac adnoddau sydd wedi golygu na allwch rannu'r adroddiad am saith mis, ac egluro pam eich bod yn gwarafun cyfle i Senedd Cymru graffu ar yr adroddiad a'r argymhellion cyn eich cynigion ar gyfer llywodraethu amgylcheddol?

Gwnaf. Credaf imi egluro yr wythnos diwethaf mai'r un grŵp o swyddogion sy'n gweithio ar drefniadau pontio’r UE ag sy'n gweithio ar yr ymateb i COVID-19. Nid ydym wedi dyblu nifer ein swyddogion dros nos. Felly, dyna roeddwn yn ei feddwl wrth ddiffyg capasiti ac adnoddau. Ac nid wyf am warafun cyfle i'r Senedd hon. Byddaf yn cyhoeddi ymateb Llywodraeth Cymru i’r argymhellion a ddaw gan y grŵp gorchwyl, a hefyd yr adroddiad.

Diolch, Weinidog. Credaf mai’r hyn sydd wedi digwydd yma mewn gwirionedd yw bod trefniadau hirdymor ar gyfer llywodraethu amgylcheddol wedi'u gohirio. Nawr, gyda chynnydd mor rhwystredig o araf ar gynlluniau ar gyfer y dyfodol, mae'n rhesymol disgwyl i drefniadau dros dro gael eu rhoi ar waith. Nawr, rwy’n ymwybodol i chi roi blaenoriaeth i sicrhau bod mecanwaith cwynion ar gael, ac y dylid asesu pob cwyn yn annibynnol, ac mae’n rhaid croesawu hynny yn gyffredinol. Fodd bynnag, er bod diwedd y cyfnod pontio mewn llai na deufis, ni chynhaliwyd y cyfweliadau ar gyfer asesydd diogelu'r amgylchedd dros dro tan ddydd Llun. Erbyn pryd y bydd yr asesydd yn ei swydd? A yw'r panel arbenigol a fydd yn cefnogi'r asesydd wedi'i benodi, ac os nad ydyw, pryd y bydd hynny’n digwydd? Ac a allwch gadarnhau y bydd gan y system gwynion dros dro, a ddylai ddod yn weithredol o 1 Ionawr 2021, gapasiti digonol i ymdrin â nifer o bryderon ar yr un pryd? Diolch.

13:50

Ni fyddwn yn cytuno bod hyn wedi cael ei ohirio, ond yn amlwg, mae'n rhaid inni flaenoriaethu, ac mae'n rhaid i bandemig iechyd y cyhoedd, fel rydym wedi'i weld ac yn ei ganol ar hyn o bryd, gael blaenoriaeth. Felly, yn fy mhortffolio—os edrychwch ar draws fy mhortffolio, fe welwch fod popeth wedi'i liwio gan gyllid a deddfwriaeth Ewropeaidd ac ati, felly mae'n rhaid inni wneud llawer iawn o waith, yn anffodus, wrth inni agosáu at 31 Rhagfyr. Felly, nid yw wedi cael ei ohirio o gwbl, ond yn amlwg, ni allwch wneud popeth—hoffwn pe gallem. Felly, i gadarnhau, mae'r mesurau dros dro wedi'u cynllunio i lenwi bwlch rhwng diwedd y cyfnod pontio a chyflwyno mesurau statudol. Fel y nodoch, rydym wedi hysbysebu, rydym yn y broses o hysbysebu, a bydd yr unigolyn yn ei swydd. Yr hyn rwyf wedi dweud yw fy mod yn dymuno cael system well. Dyma rywle lle credaf y gallwn fod yn well na'r system bresennol sydd gennym gyda'r Undeb Ewropeaidd ar hyn o bryd. Rydych yn cyfeirio at y 'nifer o gwynion'; wel, rwyf wedi edrych yn ôl i weld faint o gwynion rydym wedi'u hanfon o Gymru i Frwsel mewn gwirionedd, ac ni fyddwn yn eu galw'n niferus. Mae hefyd yn amlwg iawn fod hyn yn araf, felly credaf ei bod yn bwysig iawn, pan gewch gŵyn, y gallwch ymdrin â hi cyn gynted â phosibl, a chraffu arni a’i hymchwilio mewn ffordd lawer cyflymach. Felly, credaf ei bod yn bwysig iawn inni sicrhau bod y system yn iawn. Hoffwn fod wedi ei chyflwyno yn nhymor y Senedd hon, ond yn anffodus, ni allaf wneud hynny. Ond rydym wedi sicrhau bod y mesurau dros dro yn gadarn ac yn addas i’r diben.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Dwi'n meddwl bod yna eironi eithriadol yn y ffaith bod gennym ni Geidwadwyr fan hyn yn cwyno ynglŷn â'r trafferthion dybryd y mae Brexit yn eu hachosi i ni nawr yng Nghymru ac yn cwyno am arafwch Llywodraeth Cymru. Mae gen i gydymdeimlad â'r farn yna ond, wrth gwrs, mae angen iddyn nhw atgoffa eu Llywodraeth eu hunain ar lefel y Deyrnas Unedig o'r arafwch mewn rhoi eglurder i ni yng Nghymru am yn union beth sydd yn ein hwynebu ni ymhen, beth, 42, 43 neu 44 o ddyddiau o nawr.

Mi gyfeiriaf i, fyddwch chi ddim yn synnu, at broblem arall, Weinidog, oherwydd mi fyddwch chi'n cofio ichi roi tystiolaeth i ni, ynghyd â'ch prif swyddog milfeddygol, yn y pwyllgor amgylchedd ynglŷn â goblygiadau diwedd y cyfnod trosglwyddo ar gapasiti milfeddygol yma yng Nghymru gyda'r holl ofynion ychwanegol, yr ardystio iechyd allforion—yr export health certification—mewn porthladdoedd sydd ei angen ac yn y blaen, a fydd yn golygu y bydd angen mwy o gapasiti milfeddygol; capasti, wrth gwrs, sydd ddim gennym ni yng Nghymru, fel yr atgoffodd y prif swyddog milfeddygol ni. Nawr, rydych chi, yn sgil hynny, wedi awgrymu, wrth gwrs, efallai y bydd yn rhaid edrych i symud milfeddygon o, er enghraifft, waith profi TB, neu o ddelio gyda'r ffliw adar, er mwyn cwrdd â'r galw ychwanegol yma yn sgil Brexit. Felly, gydag ychydig dros 40 o ddyddiau i fynd tan 1 Ionawr, allwch chi esbonio beth yn union yw cynlluniau Llywodraeth Cymru i gwrdd â'r galw yma?

Rydych yn cyfeirio at y sesiwn a gawsom yr wythnos diwethaf ynghylch tystysgrifau iechyd allforio, a chodais hynny mewn is-bwyllgor Cabinet y bore yma, oherwydd yn amlwg, ymddengys bod Llywodraeth y DU yn credu y gallwn daflu arian at hyn, a gallwn recriwtio swyddogion iechyd yr amgylchedd y mae’n cymryd pedair blynedd i’w hyfforddi, rwy’n credu—heb fod yn llawer llai na milfeddygon, mae’n debyg. Pan godais hyn yng ngrŵp rhyngweinidogol Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ddydd Llun, dywedwyd wrthyf, 'Wel, gallwch roi milfeddygon wneud y gwaith hwn'. Unwaith eto, eglurais, fel y dywedasoch, pe bawn yn tynnu milfeddygon oddi ar brofion TB—ac erbyn hyn mae gennym ffliw adar yn y DU; nid yng Nghymru, diolch byth, ond yn y DU, felly mae hynny'n galw am gryn dipyn o wyliadwriaeth—unwaith eto, byddech yn tynnu milfeddygon oddi ar y gwaith hwnnw. Felly, mae'n hynod siomedig mai dyna yw ateb Llywodraeth y DU i'r broblem allweddol hon.

Fel Llywodraeth, rydym wedi recriwtio mwy o filfeddygon dros y tair blynedd diwethaf bellach, mae'n debyg—rydym wedi canolbwyntio ar hynny. Rwy'n cyfarfod ag APHA yfory—yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion—oherwydd yn amlwg, maent yn edrych ar Gymru a Lloegr; mae ganddynt gyfrifoldeb dros y ddwy wlad. Rwyf am ailadrodd i'r prif weithredwr yfory—ac mae'n rhaid imi ddweud, mae bob amser wedi cydnabod hyn—fod angen iddynt sicrhau bod penderfyniadau ynghylch recriwtio, er enghraifft—. Credaf, efallai, eu bod yn aros am yr adolygiad cynhwysfawr o wariant, fel pob un ohonom, cyn iddynt edrych ar beth arall y gallant ei wneud i'n cynorthwyo, ond byddaf yn sicr yn trafod hynny gydag ef yfory.

13:55

Fe awgrymoch chi yn y pwyllgor wrth gwrs, fel rydych newydd ei ailadrodd, y gallai fod rhaid i chi dynnu milfeddygon oddi ar brofion TB. Mae’n anochel y byddai hynny'n golygu llai o brofi, ac yn golygu hefyd wrth gwrs ei bod yn fwy tebygol na fyddai profion yn cael eu cwblhau mewn modd amserol, sydd wedyn yn arwain at y posibilrwydd y gallai rhai o’n ffermwyr wynebu mwy o gyfyngiadau ar symud. Felly, mae effeithiau canlyniadol enfawr yma, ac rwy'n meddwl tybed beth yw eich asesiad, efallai, o’r effaith y byddai symud y capasiti hwnnw'n ei chael ar eich rhaglen brofi TB? A fyddai ailgyfeirio capasiti milfeddygon oddi wrth TB, er enghraifft, yn golygu y byddai angen mwy o hyblygrwydd i ganiatáu i ffermwyr beidio â phrofi mor aml, gadewch inni ddweud? Efallai y gallech ddweud wrthym beth yn union rydych yn ei feddwl o hynny, oherwydd yn amlwg, rwy'n siŵr y byddech yn cytuno na ddylid cosbi ffermwyr am rywbeth sy'n amlwg y tu hwnt i'w rheolaeth.

Yn hollol, a chan fynd yn ôl at yr eironi y cyfeirioch chi ato, ar adeg pan ydym yn dymuno cynnal ein safonau iechyd a lles anifeiliaid, wrth inni edrych ar drafodaethau masnach, yn amlwg nid ydym am fod yn gwneud hynny. Felly, mae hwn yn waith y mae swyddfa'r prif swyddog milfeddygol yn edrych arno ar fy rhan. Rydym wedi dweud yn glir iawn yn ystod pandemig COVID-19 ein bod yn awyddus i brofion TB barhau yn y ffordd y byddem wedi’i wneud fel arfer, a chredaf ein bod wedi cynnal hynny gymaint ag y gallwn. Ond yn amlwg, mae problemau wedi bod lle nad yw profion TB wedi gallu digwydd weithiau gan fod rhywun yn hunanynysu, er enghraifft, mewn perthynas â'r pandemig. Felly, mae hwn yn waith—. Oherwydd nid ydym am dynnu milfeddygon oddi ar y cyfundrefnau profi pwysig hyn er mwyn ymgymryd â’r tystysgrifau iechyd allforio. Felly, credaf fod hwn yn ddull dau drac. Rwy'n gweithio'n agos iawn gyda fy nghyd-Aelod Julie James ac awdurdodau lleol ar barodrwydd awdurdodau lleol mewn perthynas â cheisio recriwtio mwy o swyddogion iechyd yr amgylchedd. Cyfeiriais at Gaergybi yn un o gyfarfodydd XO Llywodraeth y DU a’r anawsterau gyda recriwtio. Ni allaf ddychmygu mai Cymru'n unig sy'n ei chael hi’n anodd recriwtio swyddogion iechyd yr amgylchedd, ac rwy'n siŵr y bydd yr un peth yn wir am filfeddygon hefyd. Felly, unwaith eto, mae'n rhywbeth y mae'r prif swyddog milfeddygol hefyd yn ei drafod gyda'i thri swyddog cyfatebol arall.

Ie, gydag oddeutu 40 diwrnod i fynd. O ystyried yr ansicrwydd parhaus, yn amlwg, cyn diwedd y cyfnod pontio, hoffwn ofyn hefyd beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i roi cyngor i geidwaid anifeiliaid a pherchnogion anifeiliaid anwes ynghylch argaeledd bwyd anifeiliaid, o ystyried y pryderon tra hysbys ynghylch oedi mewn cadwyni cyflenwi. Mae cynllun Brexit 'dim cytundeb' y Llywodraeth ei hun yn cydnabod bod problemau gyda chadwyni cyflenwi yn her fawr bosibl. Felly, a allech ddweud wrthym p’un a oes gan eich Llywodraeth gynlluniau i gynghori ceidwaid anifeiliaid ynghylch sicrhau bod ganddynt gyflenwadau digonol, o ystyried yr ansicrwydd posibl? A beth rydych chi'n ei wneud i sicrhau bod digon o gyflenwadau wrth gefn o fwyd anifeiliaid fferm ar gael hefyd? Nid oes angen i mi sôn wrthych am y canlyniadau erchyll i les anifeiliaid os nad yw'r Llywodraeth yn gwneud hyn yn iawn.

Mae hyn yn rhan o'n cynlluniau wrth gefn, a byddwch wedi gweld bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ein cynllun ar gyfer diwedd y cyfnod pontio yr wythnos diwethaf. Fel y dywedwch, mae'n union fel ein bwyd ni, onid ydyw? Mae angen bwyd anifeiliaid arnom hefyd. Felly, unwaith eto, mae hyn yn rhan o'n cynlluniau wrth gefn, a byddwn yn trafod, yn amlwg, gyda'n rhanddeiliaid yng nghyfarfod bord gron nesaf y rhanddeiliaid—mae hon yn eitem y byddwn yn parhau i'w thrafod, oherwydd, fel y dywedwch, ychydig dros 40 diwrnod sydd i fynd bellach hyd nes y byddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Arbed

3. A wnaiff y Gweindiog roi diweddariad am y cynllun Arbed yn Arfon? OQ55852

Mewn ymateb i ymchwiliad gan Lywodraeth Cymru, mae gwasanaethau ynni Fortum, a roddodd gynllun etifeddiaeth Arbed 2 ar waith yng ngogledd Cymru, wedi cwblhau arolwg o gartrefi yng Ngharmel, Y Fron, Deiniolen a Dinorwig yn ddiweddar. Byddaf yn darparu diweddariad pellach pan fyddaf wedi ystyried eu hadroddiad.

Diolch yn fawr. Mae etholwyr yn y pedair ardal yna—yn Carmel, y Fron, Deiniolen a Dinorwig—wedi bod yn hynod amyneddgar, ond erbyn hyn, mae angen symud ymlaen i wneud y gwaith sydd wedi'i addo. Dwi wedi bod yn codi'r mater hwn efo chi ers haf 2017. Ar y cychwyn, roedd y cwmni'n gwadu bod yna broblemau, ond fe wnaethoch chi—a dwi'n ddiolchgar iawn am hynny—gynnal nid un, ond dau adolygiad annibynnol, gyda'r ail yn dod i'r casgliad mai safon wael y crefftwaith oedd yn gyfrifol am achosi lleithder difrifol a difrod i'r toeau a'r waliau. Mae yna 40 a mwy o etholwyr yn dal i aros i'r gwaith ddigwydd, felly ar ôl i chi edrych yn fanwl ar yr adroddiad yma eto, beth fydd y camau nesaf?

14:00

Diolch, ac rwy'n cytuno'n llwyr â chi fod angen inni fwrw ymlaen â hyn, felly rwyf wedi gofyn i swyddogion roi cyngor i mi erbyn diwedd y mis hwn er mwyn i mi allu dod atoch o fewn mis a dweud wrthych beth fydd y camau nesaf hynny.

Bu’n rhaid cynnal ymchwiliad i raglen Arbed Llywodraeth Cymru, neu’r cynllun tlodi tanwydd ar sail ardal, ar ôl iddo fynd o chwith i drigolion Arfon, wrth i’w cartrefi gael eu difrodi gan eu gadael yn ddiolwg ac angen eu hatgyweirio. Y mis diwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi comisiynu Miller Research i werthuso rhaglen Arbed er mwyn deall sut y câi ei rheoli a’i chyflenwi. Mae cynllun grant cartrefi gwyrddach Llywodraeth y DU yn Lloegr yn mynd ymhellach na chynlluniau cartrefi cynnes ac effeithlonrwydd ynni Llywodraeth Cymru, Nyth, sy'n dibynnu ar brawf modd, ac Arbed, sy’n seiliedig ar ardaloedd, gan wneud cartrefi'n fwy effeithlon o ran ynni ac yn rhatach i berchnogion tai a thenantiaid eu cadw'n gynnes, ond hefyd drwy gael effaith ganlyniadol o fewn economïau lleol drwy gefnogi busnesau lleol, cynhyrchu swyddi lleol, a chynhyrchu’r angen am hyfforddiant pellach a galwedigaethol yn lleol. Pa ystyriaeth y bydd y Gweinidog yn ei rhoi, felly, i fynd i'r afael â'r problemau a nodwyd yn Arfon drwy sicrhau mai busnesau lleol cyfrifol sy'n cyflawni eu cynlluniau tlodi tanwydd?

Wel, byddwch wedi clywed fy ateb i Siân Gwenllian, fy mod wedi gofyn i swyddogion roi cyngor imi yn seiliedig ar yr adroddiad a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru cyn penderfynu ar unrhyw gamau pellach, felly byddaf yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau pan fyddaf wedi cael y cyngor hwnnw.

Bioamrywiaeth

4. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella bioamrywiaeth? OQ55881

Diolch. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i adferiad gwyrdd a glas ar ôl COVID-19, a gwella bioamrywiaeth, sy'n sail i'n hiechyd, ein heconomi a'n lles. Mae'r cynllun gweithredu adfer natur ar ei newydd wedd, y fforest genedlaethol ac adfer safleoedd a mawndiroedd Natura 2000 yn rhai o'r mentrau rydym yn eu rhoi ar waith i gyflawni hyn.

Diolch am eich ateb, Weinidog, ac rwy'n falch iawn o weld bod Llywodraeth Cymru bellach wedi dewis y safleoedd cyntaf ar gyfer y goedwig genedlaethol, ac mae nifer o'r rheini yn fy etholaeth i, Canolbarth a Gorllewin Cymru. Roedd yn galonogol gweld bod nifer uchel o bobl yn awyddus i ymgymryd â’r gwaith o blannu coetiroedd newydd, gyda mwy na 350 yn datgan diddordeb yn y prosiectau hynny. Bydd gwella a chreu coetir, ynghyd â'i gysylltu ledled Cymru, rwy'n siŵr, o fudd mawr i natur ac i bobl. Weinidog, pa asesiad a wnaethoch o'r modd y gallai'r goedwig genedlaethol newydd helpu i wella bioamrywiaeth a helpu i wyrdroi'r lleihad yn niferoedd llawer o rywogaethau yn ddiweddar?

Diolch. Roeddwn yn falch iawn ein bod wedi gallu gwneud y cyhoeddiad ynglŷn â’r goedwig genedlaethol yn ystod Wythnos Hinsawdd Cymru, a fu’n llwyddiannus iawn, ac sydd ar-lein bellach ar gyfer yr Aelodau a’i methodd, ac rwy'n gobeithio y bydd pobl yn gallu gwrando ar y sgyrsiau a'r trafodaethau a gawsom.

Yr hyn y bydd y goedwig genedlaethol yn ei wneud, ac fe fyddwch yn ymwybodol fod hyn yn rhan o ymrwymiad maniffesto’r Prif Weinidog, yw cefnogi bioamrywiaeth drwy greu coetiroedd mwy cymysg, gwella coetiroedd presennol, a sicrhau eu bod yn cael eu rheoli’n weithredol, yn ogystal â chwilio am gyfleoedd i gysylltu'r coetiroedd hynny gyda'i gilydd dros amser. Credaf ei bod yn hollol iawn inni gydnabod bod partneriaid ac unigolion yn frwd iawn i chwarae eu rhan a chreu eu coetiroedd eu hunain fel rhan o'r goedwig genedlaethol. Mae'n bwysig iawn fod y coed iawn yn cael eu plannu yn y mannau iawn, fel y gallwn gynnal a gwella ecosystemau bioamrywiol a gwydn. Felly, rydym am i'r gweithdrefnau fod yn syml, yn rhagweladwy ac mor amserol â phosibl. Felly, rydym wedi dechrau ar y gwaith o nodi'r newidiadau y bydd eu hangen, ond rwy'n awyddus iawn i'r goedwig genedlaethol fod yn hygyrch i bawb, ac mae wedi bod yn wych gweld y croeso brwd a roddwyd iddi.

Credaf fod hwnnw'n gwestiwn gwych gan Joyce Watson, a chredaf fod y syniad o goedwig genedlaethol yn un da iawn y mae’n hen bryd ei wireddu, ac mae'n dda ein bod yn datblygu dalfeydd carbon fel coedwig. A gaf fi eich holi ynghylch agwedd ychydig yn wahanol ar fioamrywiaeth sy’n ymwneud ag ansawdd dŵr a'n dyfrffyrdd? Fel hyrwyddwr y Senedd ar ran misglen berlog yr afon, rwyf bob amser yn awyddus i gefnogi bioamrywiaeth, a gwn fod Aelodau eraill, fel hyrwyddwyr eu rhywogaethau eu hunain, yn teimlo'r un fath.

Mae misglen berlog yr afon dan fygythiad gan fod ei chylch oes yn dibynnu ar ddŵr afon pur iawn. Mae llygredd yn ein hafonydd yn effeithio ar lawer o rywogaethau, ac yn ddiweddar, cafwyd problem gyda llygredd yn rhannau uchaf Afon Gwy, yn deillio o ffermydd dofednod, rwy’n credu, yn yr achos hwnnw. Felly, sut y mae Llywodraeth Cymru yn diogelu ansawdd dŵr yn ein dyfrffyrdd i warchod bioamrywiaeth, er ei lles ei hun ac er lles cenedlaethau'r dyfodol?

14:05

Mae'r Aelod yn codi pwynt pwysig iawn ynglŷn â llygredd, a bydd cwestiwn yn nes ymlaen gan eich cyd-Aelod a fy nghyd-Aelod innau, Angela Burns, ynghylch llygredd. Fe fyddwch yn ymwybodol fy mod wedi gosod y rheoliadau llygredd amaethyddol drafft yn gynharach eleni, ac rwyf wedi gofyn i fy swyddogion roi cyngor i mi ynglŷn â'u cyflwyno. Rydym yn gweld lefelau annerbyniol o lygredd ledled Cymru gyfan ac rwy'n cytuno'n llwyr fod y rhain yn annerbyniol ac mae’r rhan fwyaf o bobl, rwy'n siŵr, yn cytuno â ni. Ac yn sicr, y cyngor a gefais gan gomisiwn y DU ar y newid yn yr hinsawdd yw bod angen i ni gyflwyno rheoliadau ar frys.

Weinidog, mae colli bioamrywiaeth yn un o'r bygythiadau mwyaf sy'n wynebu ein rhywogaethau. Rydym wedi colli cymaint o rywogaethau, ac mae poblogaethau bywyd gwyllt pwysicaf y DU wedi gostwng 60 y cant ers 1970, sy’n syfrdanol.

Bydd y difrod ecolegol yn cael effaith aruthrol ar ddynoliaeth a'n gallu i fwydo ein hunain. Rydym eisoes wedi gweld effaith ein tresmasu ar gynefinoedd eraill—pandemig byd-eang y coronafeirws. Weinidog, sut y bydd eich Llywodraeth yn sicrhau bod ei holl bolisïau'n ystyried yr effaith bosibl y byddant yn ei chael ar fioamrywiaeth fyd-eang?

Diolch. Byddwch wedi fy nghlywed yn dweud ein bod yn wynebu argyfwng bioamrywiaeth yn ogystal ag argyfwng hinsawdd. Un o'r polisïau yw Natura 2000, y soniais amdano yn fy ateb cynharach i Joyce Watson, ac rwy'n falch iawn ein bod, fel rhan o'n hadferiad ar ôl COVID, wedi cymryd camau i gefnogi’r gwaith o gofrestru’r safleoedd Natura 2000 hynny. Maent yn hafan i rai o'n rhywogaethau a'n cynefinoedd mwyaf gwerthfawr sy'n wynebu'r bygythiad mwyaf. Mae hwn yn gyfle, ac mae'n rhaid inni chwilio am gyfleoedd ymhlith yr holl heriau hynny. Yn sicr, wrth ddod allan o bandemig COVID i mewn i'r cyfnod adfer, mae angen inni ddiogelu'r amgylchedd naturiol; mae'n hollol hanfodol. Ac fel Llywodraeth, rydym wedi ymrwymo i wneud hynny.

Pysgod Cregyn

5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y terfyn maint dal ar gyfer pysgod cregyn yng Nghymru? OQ55883

Mae meintiau glanio lleiaf yn offeryn pwysig er mwyn rheoli pysgodfeydd. Maent yn sicrhau bod pysgod cregyn yn tyfu i faint digonol i atgenhedlu o leiaf unwaith cyn cael eu dal a'u glanio. Mae’n rhaid rhoi pysgod cregyn o dan y maint glanio lleiaf yn ôl yn y dŵr yn fyw.

Diolch i'r Gweinidog am ei hateb. Wrth gwrs, mae pob un ohonom yn derbyn bod angen mesurau cadwraeth i ddiogelu'r diwydiant pysgota yn y dyfodol.

Cefais gyfarfod yr wythnos diwethaf gyda physgotwyr ym mae Abertawe, ac maent yn bryderus iawn ynghylch y cynnydd diweddar yn y maint lleiaf a ganiateir mewn perthynas â physgota cregyn moch. Mae wedi codi o 45mm i 65mm. Dywedant wrthyf fod cryn dipyn o amrywio ym maint cregyn moch o amgylch arfordiroedd Cymru, ac yn wir, ym mae Abertawe a'r moroedd cyfagos, anaml iawn y byddant yn tyfu i 65mm a gellir eu cywain yn ddiogel heb beryglu cadwraeth stociau pysgod.

Felly, tybed a allai’r Gweinidog ystyried peidio â chael un polisi sy’n berthnasol i bawb mewn perthynas â rhywogaethau yn y moroedd o amgylch Cymru, ond yn hytrach, ystyried amrywiadau ac amodau lleol, a phan gawn Fil pysgodfeydd maes o law, a fyddai'n gallu seilio mesurau cadwraeth ar yr hyn y gallem ei alw'n rheolaeth wedi'i haddasu, sy'n ystyried amgylchiadau lleol ac yn dysgu drwy brofiad fel y gallwn sicrhau bod diwydiant pysgota Cymru yn y dyfodol yn gallu tyfu yn hytrach na dirywio, fel y mae wedi’i wneud o dan y polisi pysgodfeydd cyffredin, i lefelau trychinebus o fach.

Wel, nid yw pysgod cregyn wedi'u rhwymo gan gwotâu, yn amlwg, felly nid yw hynny'n berthnasol i'r sylw terfynol. A chododd fy nghyd-Aelod Julie James y mater hwn gyda mi dri neu bedwar mis yn ôl, ac mae'r cynnydd yn y maint glanio lleiaf yn caniatáu i fwy o gregyn moch gyrraedd oedran bridio ac yn gwella cynaliadwyedd stociau cregyn moch. Nid yw cregyn moch ym mae Abertawe yn rhywogaeth wahanol, ond maent yn llai o ran maint, gan yr ymddengys bod eu twf yn cael ei atal, sydd, dywedir wrthyf, yn ganlyniad posibl i dymheredd uwch y dŵr yn ne Cymru o gymharu â gogledd Cymru, ac yn sicr, gallaf dystio i’r gwahaniaeth hwnnw mewn tymheredd. Ond yn sicr, mae'r ardal yr effeithir arni'n gymharol fach, ond credaf y byddwn yn cadw'r maint glanio lleiaf dan arolwg ar gyfer yr ardal hon.

14:10

Weinidog, er mwyn inni allu cefnogi ein diwydiant pysgod cregyn, mae angen diwydiant pysgod cregyn arnom i’w gefnogi, ac mae mis Rhagfyr nid yn unig yn ddyddiad terfynol ar gyfer cytundeb gyda’r UE ond hefyd ar gyfer cydymffurfiaeth â dyfarniad y Comisiwn Ewropeaidd yn 2017 yn achos C-502/15, a ddygwyd yn erbyn Llywodraeth y DU, a de facto yn erbyn Llywodraeth Cymru, am fethu â chyflawni rhwymedigaethau'n ymwneud â thrin dŵr yng Nghilfach Tywyn. Fel y gwyddoch, mae'r cocos yn dal i fethu aeddfedu'n llawn yn y dyfroedd hynny, gan leihau'r cyflenwad. Mae'n rhaid i werthwyr o Gymru fewnforio cocos o bryd i’w gilydd i ateb y galw lleol. Felly, a allwch roi sicrwydd pendant y byddwn yn cydymffurfio'n llawn o fewn y saith wythnos nesaf, a thrwy hynny, osgoi bod yn agored i ddirwy sylweddol, ond yn bwysicach fyth, i gynnig sicrwydd go iawn i'n proseswyr cocos?

Credaf eich bod yn gwneud pwynt pwysig iawn am y diwydiant pysgod cregyn, a'r ffordd orau o’i ddiogelu yw aros yn yr Undeb Ewropeaidd. Rwy'n bryderus iawn am y diwydiant pysgod cregyn, yn enwedig os byddwn yn gadael heb gytundeb. Ni allaf roi'r sicrwydd hwnnw i chi o fewn y cyfnod o saith wythnos honno yma, ond fe wnaf ysgrifennu atoch, gan y gwn y byddaf yn cael cyfarfod yn ystod y pythefnos nesaf ynglŷn â’r mater hwn, yn enwedig ynglŷn â Chilfach Tywyn, felly byddaf yn ysgrifennu atoch wedi i mi gael y cyfarfod hwnnw.

Mae perygl gwirioneddol y bydd terfynau ar faint pysgod sy’n cael eu dal yn dod yn eithaf amherthnasol yn rhan ddwyreiniol afon Menai ymhen ychydig dros flwyddyn, gan yr ymddengys na all Llywodraeth Cymru wneud unrhyw gynnydd gyda'r mesurau rheoli newydd ar gyfer ffermio cregyn gleision yn yr ardal hynod bwysig hon i ddiwydiant pysgod cregyn Cymru. Gwnaed ceisiadau i adnewyddu mesurau ar gyfer rhan orllewinol afon Menai bron i 10 mlynedd yn ôl; dros ddwy flynedd yn ôl yn y rhan ddwyreiniol. Rydym wedi wynebu oedi ar ôl oedi byth ers hynny yn y ddwy ardal. Cyfarfûm â physgotwyr yn y dwyrain ychydig ddyddiau'n ôl, a gadewch inni fod yn onest, os na chaiff hyn ei ddatrys, bydd y diwydiant sydd wedi'i adeiladu dros 60 mlynedd yn dod i ben. Ac mewn gwirionedd, os na all Llywodraeth Cymru flaenoriaethu a chyflawni'r Gorchymyn rheoli penodol hwn, mae'n bwrw amheuaeth ar eu hymrwymiad i ddatblygu'r sector yn ei gyfanrwydd er mwyn ei fuddion economaidd a'r rhan y mae'n ei chwarae mewn ymchwil ac ati. Felly, a wnaiff y Gweinidog ymrwymo yma nawr i ddatrys hyn ar frys? Fel arall, gallwn ffarwelio â thyfu cregyn gleision yn fasnachol yn afon Menai.

Mae'n ddrwg gennyf nad ydym wedi gallu gwneud unrhyw gynnydd ar hyn. Cyfarfûm â’r pysgotwyr fy hun mewn perthynas â hyn, felly byddaf yn sicr o fynd yn ôl i ofyn i swyddogion edrych ar hyn fel mater o frys, fel y dywedwch. Ceir cydnabyddiaeth lwyr, fel y dywedwch, i'r ffaith bod dros 10 mlynedd wedi bod ers i un o'r grwpiau ofyn am hynny. Felly, byddaf yn sicr yn mynd yn ôl, ac unwaith eto, byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod yn dilyn y drafodaeth honno.

Atal Llifogydd

6. Pa gymorth ariannol sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru i ddinasyddion Cymru y mae llifogydd a difrod dŵr yn effeithio'n rheolaidd ar eu heiddo ar gyfer atal a lliniaru effeithiau llifogydd? OQ55878

Diolch. Mewn ymateb i stormydd mis Chwefror, darparodd Llywodraeth Cymru becyn cymorth cynhwysfawr gwerth cyfanswm o £9.2 miliwn. Rwy'n annog mesurau gwrthsefyll llifogydd ar lefel eiddo lle gall hynny leihau risg ymhellach, a'r wythnos hon, dyfarnais £303,450 i Rondda Cynon Taf ar gyfer gatiau llifogydd. Eleni, darparais dros £1 filiwn ar gyfer mesurau o'r fath i fod o fudd i 594 o gartrefi.

Dwi'n ddiolchgar am yr ymateb, ac, wrth gwrs, mae unrhyw arian sydd wedi cael ei ddarparu i'w groesawu. Dwi wedi ymweld â chymuned yn fy etholaeth i, Pontargothi, yn ddiweddar, fel mae'r Gweinidog yn ymwybodol, a dwi'n edrych ymlaen i gwrdd i drafod buddsoddiadau gall atal llifogydd yn y dyfodol. Ond un thema sydd yn codi'n gyson, pan dwi yn ymweld â phobl sydd wedi cael eu heffeithio, ydi buddsoddiad arian ar gael ar gyfer mesurau ataliol unigol ar gyfer tai—felly, amddiffynfeydd, lle bod hynny'n briodol, hefyd addasu tai, lle bod hynny yn fwy addas. Mae yna gynllun gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol sy'n dyrannu £5,000 i gartrefi neu fusnesau er mwyn iddynt wella eu hamddiffynfeydd. Fydd yna gynllun cenedlaethol ar gael i drigolion Cymru i'r un graddau hefyd?

14:15

Yr arian y soniais amdano yn fy ateb gwreiddiol i chi, y £304,000, roedd hwnnw—credaf ei fod ar gyfer 357 o gartrefi os cofiaf yn iawn. Credaf inni ariannu oddeutu 85 y cant. Felly, mae'r cyllid hwnnw ar gael i'r holl awdurdodau rheoli risg a CNC, felly, pe bai awdurdod lleol Sir Gaerfyrddin yn dymuno gwneud cais am y cyllid hwnnw, byddent yn gallu gwneud hynny. Nid wyf yn siŵr a glywsoch chi fi'n dweud mewn ateb cynharach fy mod yn credu ei bod yn bwysig iawn nad yw unigolion yn gofyn am yr arian ac yna'n gosod beth bynnag y maent yn penderfynu ei gael eu hunain. Credaf ei bod yn bwysig iawn fod yr offer y maent yn ei gael yn hollol iawn ar gyfer eu cartref, ac yn rheoli'r perygl mewn ffordd sy'n gywir. Felly, y rheswm pam nad ydym wedi rhoi cyllid i unigolion ond i'r awdurdodau eu hunain yw er mwyn sicrhau bod hynny'n digwydd.

COVID-19 a Gwelliannau Amgylcheddol

7. Beth yw dadansoddiad diweddaraf Llywodraeth Cymru o effeithiau COVID-19 ar ei pholisïau ar gyfer gwelliannau amgylcheddol yng Nghymru? OQ55876

Diolch. Mae'r pandemig wedi tarfu ar bethau. Fodd bynnag, mae hefyd wedi ein gorfodi i fyfyrio ar y math o ddyfodol rydym yn dymuno’i gael i Gymru. Cyhoeddwyd 'Ail-greu ar ôl COVID-19: yr heriau a’r blaenoriaethau' gennym y mis diwethaf, i nodi ein hagenda ar gyfer adferiad gwyrdd a chyflymu'r newid i economi carbon isel.

Weinidog, yn ystod COVID-19, rydym wedi gweld llawer o bobl leol yn cysylltu'n well â'u hamgylcheddau lleol, yn mynd allan am dro, efallai, am eu hymarfer corff bob dydd ac yn gwerthfawrogi natur i raddau mwy. Credaf fod cyfle nawr i fanteisio ar y gydnabyddiaeth newydd hon o werth natur i iechyd a lles ac ansawdd bywyd gwell, a tybed beth y gallech ei ddweud am fwy o gefnogaeth i sefydliadau fel Maindee Unlimited yn fy etholaeth, lle maent wedi cyflawni gwaith ar wyrddu amgylcheddau trefol ac wedi gwella ansawdd bywyd pobl yn fawr? Bellach, mae ganddynt brosiect newydd, gydag oddeutu £0.25 miliwn o gyllid Llywodraeth Cymru a chyllid loteri, o'r enw triongl Maendy, a fydd, unwaith eto, yn gwyrddu ardal drefol, yn plannu llysiau, yn gwneud rhywfaint o dirlunio, yn darparu lle ar gyfer cyfarfodydd a pherfformiadau, a chaffi cymunedol o bosibl. Daw hyn ar ben y gwaith a wnânt yn llyfrgell Maendy. Maent yn sefydliad da iawn sy’n gwneud llawer o waith da, a tybed, nawr, yng nghanol y pandemig ac wrth fynd ati i ailadeiladu’n well y flwyddyn nesaf, pa gefnogaeth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i sefydliadau fel Maindee Unlimited?

Diolch yn fawr, John. Yn sicr, yn ystod y cyfyngiadau symud, rydym wedi gweld ymwybyddiaeth a diddordeb cynyddol mewn natur a mannau gwyrdd, ac mae'n bwysig iawn fod yr ymddygiad hwnnw’n parhau. Rwyf wedi bod yn falch iawn, er gwaethaf heriau COVID-19, fod un o'n polisïau’n ymwneud â chreu natur ar garreg eich drws, felly mae ein cynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, lle rydym yn annog pobl—nid oes angen llawer iawn o arian, ond i wneud rhywbeth y gallant gael mynediad ato o garreg eu drws. Felly, mae gennym gannoedd o brosiectau yn llythrennol yn dechrau cael eu gwireddu bellach. Mae gennym gydgysylltwyr partneriaethau natur lleol sy'n bwrw ymlaen â'r prosiectau hyn, dros £109 miliwn. Hyd yn oed yn ystod y pandemig, rydym wedi llwyddo i ddarparu cyllid sylweddol, ac rydym hefyd wedi cydweithio â chronfa dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, felly nawr, gall cymunedau gael mynediad—[Anghlywadwy.] Nid wyf yn siŵr a yw Maindee Unlimited wedi cael mynediad at y naill neu'r llall o'r potiau arian hynny, ond yn sicr, mae’r rheini'n ddau faes lle rydym wedi darparu cyllid sylweddol dros yr ychydig fisoedd diwethaf.

Mae Cadwch Gymru'n Daclus hefyd yn cynorthwyo cymunedau i greu eu lleoedd eu hunain ar gyfer natur. Felly, unwaith eto, mae hwnnw'n sefydliad arall y gallai Maindee Unlimited gael cyllid ganddo hefyd.

Parthau Perygl Nitradau

8. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddull Llywodraeth Cymru o ymdrin â pharthau perygl nitradau ledled Cymru? OQ55869

Diolch. Rwyf wedi gofyn i swyddogion roi cyngor ar gyflwyno deddfwriaeth mewn ymateb i lefelau annerbyniol o lygredd amaethyddol yn sgil arferion amaethyddol gwael yng Nghymru. Bydd yn ystyried pryderon parhaus Aelodau o'r Senedd a'r cyhoedd, ac effeithiau COVID-19.

14:20

Fe fyddwch yn ymwybodol mai ein safbwynt ni yw ein bod yn cydnabod bod angen i lygredd a achosir gan amaethyddiaeth ddod i ben. Mae gennym farn wahanol ynglŷn â’r fethodoleg ar gyfer gwneud hynny. Ond yr hyn roeddwn am ei drafod oedd cynllun gorchudd iardiau’r grant busnes fferm, a lansiwyd yn gynharach y mis hwn, Weinidog, i ddarparu grantiau i ffermwyr i'w helpu i gydymffurfio â rheoliadau’r parthau perygl nitradau pan gânt eu cyflwyno yn nes ymlaen eleni. Fodd bynnag, mae nifer o ffermwyr wedi mynegi pryderon nad ydynt yn gymwys i gael y cyllid hwn, a chyda chyllideb gyffredinol o £1.5 miliwn, gydag uchafswm dyfarniad o £40,000, pe bai pob grant yn cael yr uchafswm, mae'n fy nharo mai 37 neu 38 o ymgeiswyr yn unig y byddem yn gallu eu helpu. Weinidog, i ddangos bod Llywodraeth Cymru yn deall angen y diwydiant amaethyddol, a'u hymdrechion i geisio dileu llygredd ar ffermydd, a wnewch chi gynorthwyo'r holl ffermwyr sydd angen y gefnogaeth i baratoi ar gyfer y parthau perygl nitradau? Gwyddom y bydd hyn yn gostus. Ac a wnewch chi ymrwymo i adolygu'r cynllun, ac yn yr un modd ag y gwnaethoch wrth sefydlu cyllid adnoddau naturiol a lles, a wnewch chi ystyried sicrhau bod cyllid ychwanegol ar gael o’ch portffolio?

Diolch. Wel, nid wyf yn siŵr fod gennym wahaniaeth barn. Byddai dull Cymru gyfan o fynd i'r afael â llygredd amaethyddol yn gyson â'r cyngor a gawsom gan Bwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd. Dywedasant fod yn rhaid ymestyn y parthau perygl nitradau i gwmpasu’r Deyrnas Unedig gyfan, a phe na baem yn gwneud hynny, gwn y byddai hynny'n tanseilio uchelgais y DU gyfan mewn perthynas â'r argyfwng hinsawdd.

Mewn perthynas â'r cynllun gorchuddio iardiau a gyhoeddais y mis diwethaf, fe’i datblygwyd yn dilyn trafodaethau gydag undebau’r ffermwyr. Yn sicr, nid ydynt wedi dweud wrthyf fod ffermwyr yn cael trafferth gyda'r cynllun, ond rwy’n fwy na pharod i ofyn iddynt pan fyddaf yn cyfarfod â hwy, gan fy mod yn gwneud hynny'n rheolaidd, fel y gwyddoch, ac rwy'n siŵr y byddaf yn cyfarfod â hwy yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf. Ond mae'n gwbl hanfodol ein bod yn gwneud popeth y gallwn ei wneud mewn perthynas â llygredd amaethyddol, a byddai'r rhan fwyaf o ffermwyr yn cytuno'n llwyr â hynny, ac yn gwneud popeth y gallant ei wneud i osgoi llygredd amaethyddol. Ond yn anffodus, rydym yn dal i weld nifer uchel o ddigwyddiadau wedi'u cadarnhau. Erbyn diwedd y mis diwethaf, roeddem wedi gweld 123 eleni yn unig, ac wrth inni fynd i mewn i fisoedd y gaeaf, rydym yn disgwyl i nifer y digwyddiadau godi, fel y gwnânt bob blwyddyn, oherwydd cynnydd yn y glawiad. Felly, yn anffodus, credaf nad oes tuedd weladwy ar i lawr.

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Yr eitem nesaf yw cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Joyce Watson.

Y Rhaglen Ôl-Osod er mwyn Optimeiddio

1. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio? OQ55882

Diolch yn fawr iawn, Joyce. Gwnaf. I ddechrau, roedd £9.5 miliwn ar gael yn y flwyddyn ariannol hon, ond ers hynny, rydym wedi penderfynu cynyddu'r gyllideb i £19.5 miliwn. Rwy'n ddiolchgar iawn i'm cyd-Aelod, Rebecca Evans, am y gallu i wneud hynny. Mae pum cynllun wedi sicrhau cefnogaeth, gan gynnwys un consortiwm mawr, sy'n cynnwys 26 o landlordiaid cymdeithasol. Mae’r cynlluniau ym mhob rhan o Gymru, a byddant yn treialu gwahanol atebion, gan gynnwys ar gyfer eiddo nad yw ar y grid nwy.

Diolch am eich ateb, Weinidog, ac rwy'n sylweddoli ei bod yn ddyddiau cynnar ar y rhaglen ar hyn o bryd. Rwy'n croesawu dull Llywodraeth Cymru o dreialu uwchraddiadau fel y gallwn ddatblygu dealltwriaeth dda o'r hyn sydd fwyaf effeithiol. Os bydd y rhaglen, fel y gobeithir, yn cael ei chyflwyno dros y blynyddoedd i ddod, mae'r potensial ar gyfer swyddi medrus ym maes adeiladu yn addawol dros ben. Wrth gwrs, bydd angen gweithwyr adeiladu arnom a chanddynt y sgiliau i gyflawni'r gwaith hwn. Rwy'n ymwybodol y bydd Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu yn lansio adroddiad sy'n edrych ar y mater penodol hwnnw cyn bo hir, ac edrychaf ymlaen at ei weld.

Weinidog, a allwch ddweud wrthyf pa gamau sy'n cael eu cymryd ar hyn o bryd i sicrhau bod cyfleusterau hyfforddi a chyrsiau ar gael, fel nad oes unrhyw oedi rhwng lansio rhaglen a chael y bobl â'r sgiliau angenrheidiol i gyflawni'r gwaith hwnnw?

Ie, diolch, Joyce. Yn amlwg, rwy'n ymwybodol iawn o'ch diddordeb hirsefydlog a pharhaus mewn sgiliau yn y sector hwn, yn enwedig i fenywod, ac un o'r pethau gwirioneddol hyfryd am allu gwneud hyn yn y ffordd hon yw’r amrywiaeth y byddwn yn gallu ei hannog yn y gweithlu. Felly, treial yw hwn sy'n cynnwys dros hanner landlordiaid cymdeithasol Cymru, ac sy’n ein helpu i nodi bylchau sgiliau yn gyflym yn eu sefydliadau, yn eu cadwyni cyflenwi ac yn eu partneriaid cyflenwi fel y gallwn sefydlu beth yw’r galw a rhoi'r hyfforddiant priodol ar waith cyn ei gyflwyno i bob cartref. Dyna ran o bwynt cael hwn fel cynllun, fel y gallwn brofi beth sy'n digwydd ym mhob un o'r gwahanol fathau o eiddo. Mae'n egwyddor allweddol, a chaiff ei noddi ar y cyd gennyf fi, y Gweinidog Addysg a Gweinidog yr economi am y rheswm hwn. Mae'n egwyddor allweddol nid yn unig ein bod yn ôl-osod y cartrefi yn y cynllun, ond ein bod yn ei dreialu er mwyn ei gyflwyno ledled Cymru ar draws pob math o ddeiliadaeth. Felly, yn sicr, mae a wnelo hyn â darganfod beth sy'n gweithio, sut olwg sydd ar y cadwyni cyflenwi, beth yw'r bwlch sgiliau a sut y gallwn gynyddu hynny ar ei gyfer.

Yn sicr, byddwn yn cael ein llywio gan y dadansoddiad o sgiliau sero-net pwrpasol y cyfeirioch chi ato gan fwrdd hyfforddi'r diwydiant adeiladu, a byddwn hefyd yn ystyried unrhyw argymhellion perthnasol gan y tasglu adferiad gwyrdd, sy'n cael ei arwain gan Syr David Henshaw. Ac rydym wedi bod yn gweithio hefyd gyda'r partneriaethau sgiliau rhanbarthol, sydd wedi datblygu'r agenda hon ar draws tri rhanbarth Cymru, gan nodi'r sgiliau lleol sydd ganddynt a pha gymorth sydd ei angen arnynt i gefnogi’r gwaith o fabwysiadu arferion a thechnolegau carbon isel. Felly, yn sicr, dyma’r dull integredig y gwn y byddech yn falch o’n gweld yn ei ddefnyddio, ac mae'n sicr yn ymwneud â sicrhau ein bod yn gwella sgiliau'r gweithlu er mwyn gallu ei gyflwyno'n fwy cyffredinol, ond rydym hefyd yn datblygu'r cadwyni cyflenwi a'r partneriaid cyflenwi a'u gweithluoedd, yn hytrach na gweithlu'r sector cyhoeddus yn unig.

14:25

Weinidog, tybed a allech ddweud wrthym sut rydych yn mynd i nodi’r eiddo hŷn sy'n rhan sylweddol o stoc dai Cymru, ac yn sicr cyn 1930 ac yn enwedig cyn y rhyfel byd cyntaf, ychydig iawn o'r eiddo hynny sydd yn nwylo landlordiaid cymdeithasol, ac eto mae'n debyg fod y crynhoad mwyaf o deuluoedd incwm isel yn byw yn y math hwnnw o dai. Maent hefyd yn anodd eu hôl-osod. Felly, mae angen inni ganolbwyntio ar yr eiddo sy'n anoddach eu cael os ydynt yn mynd i elwa o'r hyn rwy’n ei chroesawu fel menter dda.

Oes, yn sicr, ac rydych yn llygad eich lle, nid oes llawer ohonynt yn y sector cymdeithasol, ond rydym yn chwilio am y rheini sydd i’w cael. Y syniad yw nodi grŵp digon o faint o bob math o dŷ yng Nghymru a threialu beth fydd yn gweithio i'r tai hynny, heb bennu targedau amhosibl. Felly, nid ydym yn dweud y byddwn yn sicrhau y bydd pob cartref yn cael gradd A ar eu Tystysgrif Perfformiad Ynni, yr hyn rydym yn ei ddweud yw: a allwn sicrhau bod pob cartref cystal ag y gall fod? Ac os yw hynny’n sero-net o ran carbon, mae hynny'n wych, ond os yw’n radd B ar eu Tystysgrif Perfformiad Ynni ac mai dyna'r gorau rydych yn mynd i'w gael, yna mae angen inni wybod hynny wrth ddod allan o'r rhaglen, ac mae angen inni gael polisi sy'n mynd i'r afael â’r mater hwnnw wrth symud ymlaen, gan fy mod yn amau'n fawr ein bod am ddymchwel ein holl dai treftadaeth ar y sail na allant gyflawni sero-net o ran carbon.

Un o'r pethau mawr yr edrychodd y grŵp datgarboneiddio arno oedd y cylch oes cyfan. Felly, nid ymwneud yn unig â sicrhau bod cartrefi’n cyrraedd sero-net o ran carbon y mae hyn, ond hefyd beth sy'n digwydd os byddwch yn eu dymchwel. Mae gennych bentwr enfawr wedyn o wastraff drud-ar-garbon y bydd rhaid i chi ymdrin ag ef. Felly, nid dyna'r ateb chwaith, heb sôn am y cysylltiadau hanesyddol a theuluol ac ati. Felly, nid yw'n gweithio o ran carbon beth bynnag. Felly, holl bwynt y rhaglen hon yw gwneud y gorau y gallwn gyda'n stoc dai a gallu datblygu polisïau sy'n caniatáu inni fynd i'r afael â'r problemau sydd ar ôl. Ac yn sicr, mae angen inni sicrhau bod gennym ateb ar gyfer pob math o dŷ yng Nghymru, gan gynnwys y nifer fawr iawn o dai teras cerrig Fictoraidd ac ati y cyfeiriwch atynt.

Tlodi Plant

2. Pa fesurau y bydd y Gweinidog yn eu hyrwyddo ar draws Llywodraeth Cymru i liniaru tlodi plant yn Ogwr? OQ55854

Mae ein cynllun gweithredu pwyslais ar incwm yn amlinellu mesurau trawslywodraethol newydd i liniaru tlodi plant yn Ogwr a ledled gweddill Cymru. Bydd y rhain yn sicrhau y cymerir camau ymarferol i helpu teuluoedd i gynyddu eu hincwm i'r eithaf, lleihau costau byw hanfodol a chefnogi gwytnwch ariannol. Bydd yn cael ei roi ar waith ochr yn ochr â rhaglenni tlodi plant sy'n bodoli eisoes.

Diolch i'r Gweinidog am ei hymateb. Ac ar frig cynllun gweithredu pwyslais ar incwm Llywodraeth Cymru ar gyfer tlodi plant, nod amcan 1 yw sicrhau bod teuluoedd yng Nghymru yn cael eu cynorthwyo i hawlio'r holl gymorth ariannol y mae ganddynt hawl iddo. Nawr, mae hyn yn hanfodol, gan fod pob punt na chaiff ei hawlio'n golygu bod y teulu hwnnw bunt yn dlotach, a phunt yn llai yn dod yn ôl i'r teulu hwnnw a'r gymuned honno yng Nghymru. A dweud y gwir, mae'n bunt y mae Trysorlys y DU yn ei chadw'n ôl. Felly, a gaf fi ofyn i'r Gweinidog beth y gall ei wneud i hybu hawliadau budd-daliadau cyn y Nadolig ymhlith teuluoedd a phlant yng Nghymru ac Ogwr sydd angen y gefnogaeth honno? A sut y bydd yn datblygu hyn ymhellach yn y flwyddyn newydd? Ac a oes unrhyw obaith y gallai Llywodraeth y DU helpu gydag ymgyrch ledled y DU i hybu hawliadau budd-daliadau?

A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn? Mae sicrhau bod teuluoedd yng Nghymru yn ymwybodol, ac yn bwysig iawn, yn gallu cael mynediad at y gefnogaeth y mae ganddynt hawl i'w chael yn rhan flaenllaw o’n cynllun gweithredu pwyslais ar incwm, a gyhoeddwyd y mis hwn. Rhoesom ystod o gamau ar waith yn y tymor byr. Rydym wedi rhoi strategaeth gyfathrebu ac ymwybyddiaeth ar waith i sicrhau bod pobl a chymunedau yn cael y gefnogaeth a’r wybodaeth ddiweddaraf, ac yn bwysig, y cyfleoedd sydd ar gael iddynt. Rydym yn gwneud hynny drwy'r cyfryngau cymdeithasol, rhaglenni a rhwydweithiau presennol, ac wrth gwrs, byddwn yn sicrhau ein bod yn rhannu'r wybodaeth honno gyda'r Aelod, ac Aelodau ar draws y Siambr, fel y gallwch ehangu a rhannu'r neges honno yn eich etholaethau a’ch cymunedau hefyd.FootnoteLink

Rydym hefyd yn gweithio gyda phartneriaid i symleiddio'r broses o ymgeisio am fudd-daliadau gan Lywodraeth Cymru a budd-daliadau a weinyddir gan awdurdodau lleol, gan eu gwneud yn llawer mwy hygyrch i aelwydydd cymwys, ac ar yr un pryd, yn datblygu dull sy'n sicrhau nad oes unrhyw ddrws anghywir, fel petai, er mwyn cael system gymorth fwy integredig, sy'n cyfyngu ar nifer y cysylltiadau y mae'n rhaid i deuluoedd ac unigolion eu gwneud a'r nifer o weithiau y mae'n rhaid iddynt barhau i ailadrodd eu stori er mwyn cael y gefnogaeth y mae ganddynt hawl i’w chael.

Mewn ymateb i bwynt olaf yr Aelod, y cwestiwn y mae'r Aelod yn ei wneud, mewn perthynas â Llywodraeth y DU yn datblygu strategaeth i hybu ceisiadau am nawdd cymdeithasol a budd-daliadau ac yn ei rhoi ar waith, rwy'n cytuno ag ef. A ddylai Llywodraeth y DU wneud mwy? Dylai. Ai dyna fyddai'r peth iawn i'w wneud? Yn sicr; byddai'n cefnogi cymunedau a phobl ledled y DU. A fyddant yn gwneud hynny? Wel, gallaf ddweud fy mod, yr wythnos hon, wedi ymuno â fy swyddogion cyfatebol yng ngweinyddiaethau datganoledig yr Alban a Gogledd Iwerddon i alw ar Lywodraeth y DU i wneud yn union hynny, er mwyn—. Oherwydd gwyddom fod yr effaith y mae'r pandemig hwn yn ei chael yn gwaethygu'r effaith y mae pobl yn ei gweld ar eu cyllid. A nawr, yn fwy nag erioed, mae angen ymgyrch ledled y DU i sicrhau bod pobl yn ymwybodol o'r hyn y mae ganddynt hawl iddo, ac yn bwysicach fyth, i’w galluogi i'w gael.

14:30

A gaf fi ddweud wrth yr Aelodau fod disgyblion blwyddyn 6 Ysgol Gynradd Santes Helen yn Abertawe yn ein gwylio? Felly rwy'n gobeithio ein bod i gyd yn ymddwyn yn dda. Ddirprwy Weinidog, mae sicrhau bod rhieni mewn cyflogaeth ddiogel a chynaliadwy yn elfen hynod bwysig o liniaru tlodi plant. Tybed a allwch ddweud wrthym sut rydych yn gweithio gyda chyd-Aelodau yn y Cabinet i helpu i baru dysgwyr sy'n oedolion â chyfleoedd dysgu sy'n seiliedig ar waith, er mwyn gwella eu rhagolygon cyflogaeth a chefnogi eu teuluoedd. Diolch.

A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei chwestiwn, a dymuno'n dda i'r myfyrwyr blwyddyn 6, a gobeithio y byddant yn mwynhau eu profiad yn gwylio'r Senedd ar waith heddiw? A gobeithio, yn y dyfodol heb fod yn rhy bell, y byddant yn gallu dod i eistedd yn yr oriel i wylio hefyd.

Gadewch imi ddweud wrth yr Aelod, wrth ateb ei chwestiwn, ein bod yn amlwg yn gweithio ar draws y Llywodraeth nid yn unig i sicrhau bod teuluoedd a chymunedau'n ymwybodol o'r cymorth sydd ar gael ar ffurf lles a nawdd cymdeithasol, ond o ran cael mynediad at y cyfleoedd hynny drwy bethau fel y rhaglen Cymunedau am Waith a Cymunedau am Waith a Mwy, ond hefyd mewn gwirionedd gyda'r gwaith rydym yn ei wneud ar draws y Llywodraeth yn ymgorffori gwaith teg mewn cymunedau ledled Cymru. Ac yn y dyfodol heb fod yn rhy bell, byddwn yn ceisio sicrhau bod pobl yn ymwybodol o'r hawliau a'r cyfrifoldebau hynny, o ran mynediad at waith a sut y gallant fanteisio ar gyfleoedd hyfforddi pellach, nid yn unig i unigolion ond i gyflogwyr hefyd.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Delyth Jewell.

Diolch, Lywydd. Weinidog, adroddwyd bod chwarter y rhai sy'n cysgu ar y stryd a gafodd le i aros yn ystod y cyfyngiadau symud cyntaf nôl yn cysgu ar y stryd. Pam fod hynny wedi digwydd?

Diolch, Delyth. Mae arnaf ofn fod yr adroddiad hwnnw ar y BBC wedi tangyfrif maint yr ymdrech sydd wedi digwydd ledled Cymru. Nid wyf yn gwybod a wnaethoch chi glywed rhaglen radio ychydig yn ddiweddarach ar y BBC, lle cefais gyfle i egluro'r sefyllfa. Cafodd ffigur—hapwiriad o nifer y bobl a oedd yn cysgu ar y stryd ym mis Mawrth, sef 407—ei gymryd fel nifer y bobl a oedd wedi cael cymorth drwy'r pandemig. Mewn hapwiriad arall ym mis Awst roedd 101 o bobl wedi mynd yn ôl ar y stryd, ac mae un person yn ormod, felly dof yn ôl at hynny mewn munud. Ond mewn gwirionedd, yn ôl y cyfrif diwethaf, mae 3,533 o bobl wedi cael cymorth, felly mae'r raddfa ychydig yn wahanol i adroddiad y BBC. Felly nid yw'n agos i fod yn chwarter, er y byddwn yn dweud bod unrhyw nifer yn broblem wirioneddol.

Hoffwn allu egluro i bobl Cymru beth yw maint gwirioneddol yr hyn sydd wedi'i gyflawni yng Nghymru yn ystod y pandemig, gan bawb sydd wedi bod yn gweithio yn y sector hwn. Roedd gennym lawer mwy o bobl yn cysgu ar y stryd nag yr oeddem wedi meddwl yn wreiddiol. Roeddem bob amser yn gwybod bod yr hapwiriad yn debygol o fod yn rhy isel. Roeddem bob amser yn gwybod na fyddai'n cynnwys pobl ifanc na menywod yn arbennig o dda, er enghraifft, ac fel y gwyddoch, roedd bob amser yn ffordd fras o'i wneud dros ddwy noson benodol ar draws y DU. Felly roeddem bob amser yn gwybod y byddai'n amcangyfrif rhy isel. Credaf ein bod wedi synnu braidd pa mor isel ydoedd mewn gwirionedd. A hefyd wrth gwrs, rydym wedi cynnwys yr holl bobl sydd, er nad ydynt ar y strydoedd mewn gwirionedd, yn eithaf agos at hynny—felly yr holl bobl oedd yn cysgu ar soffas, neu'n cysgu mewn ceir neu mewn mannau anaddas iawn eraill. Felly, nid yw'n ymwneud yn unig â'r pen eithafol o gysgu ar y stryd, mae'n ymwneud â'r holl bobl sydd mewn llety anniogel, anaddas lle na ellid eu cadw'n ddiogel drwy'r pandemig. Felly, rwy'n talu teyrnged wirioneddol i'r holl sefydliadau trydydd sector ac awdurdodau lleol, swyddogion y Llywodraeth—pawb—sydd wedi gweithio'n galed i helpu cynifer o bobl ag sy'n bosibl.

Pan gafodd y cyfyngiadau symud gwreiddiol eu llacio yn yr haf, gwyddom fod pobl a oedd wedi profi digartrefedd yn flaenorol yn teimlo'r rhyddid a deimlai cryn dipyn ohonom o gael mynd allan i'r awyr iach ac yn y blaen, ac mae'r rhain yn bobl sydd ag anghenion cymorth cymhleth. Ac felly, roeddem yn gwybod fod rhai pobl nad oeddent wedi bod mewn gwasanaethau cymorth yn ddigon hir eto, ac nad oeddent mewn llety a oedd yn ddelfrydol ar eu cyfer efallai, yn cael eu denu'n ôl at y strydoedd. O reidrwydd, bu'n rhaid inni gartrefu pobl â phroblemau tebyg mewn ardaloedd penodol, a gall hynny fod yn wrthgynhyrchiol. Felly, gwyddom fod y problemau hynny'n bodoli. Maent yn parhau i fodoli. Nid wyf erioed wedi celu'r ffaith nad yw hwn yn ateb i'r broblem hirdymor.

Fodd bynnag, rydym wedi llwyddo i gael allgymorth pendant i bob person yng Nghymru sy'n cysgu ar y stryd, gan gynnwys y rhai a oedd wedi syrthio allan o'r gwasanaethau dros dro dros yr haf. Bydd yn ddiddorol iawn gweld beth fydd y cyfrif nesaf, o ran pwy sy'n derbyn gwasanaethau a'r rhai nad ydynt. Yn y mis hwnnw, er enghraifft, ym mis Awst, pan gafwyd y cyfrif o 101, cawsom hefyd bron i 1,000 o bobl ddigartref o'r newydd, y canfuwyd llety i bob un ohonynt, a rhoddwyd cymorth hefyd—ni allaf gofio nawr—i symud cannoedd lawer o bobl i lety parhaol allan o'r llety dros dro. Gallaf ddarparu'r ffigur hwnnw. Rwyf wedi'i anghofio am nawr ond mae'n 500/600 o bobl.

Felly, mae'r nifer sy'n mynd drwy'r system yn bwysig iawn, a Delyth, fe fyddwch yn gwybod ein bod wedi trafod droeon nad yw hwn yn rhyw fath o ddilyniant llinellol. Mae cam 1 i bobl sy'n ddigartref ac mae angen inni ddatrys hynny iddynt—sicrwydd dros dro a sicrhau eu bod yn ddiogel ac yn y blaen. Ac yna cam 2, sef rhoi cartref diogel parhaol i'r bobl hynny—ailgartrefu'n gyflym—gyda'r holl fecanweithiau cymorth o'u cwmpas. Felly, nid yw hyn yn ymwneud â waliau'n unig. Mae hyn yn ymwneud â chymorth iechyd meddwl, cymorth camddefnyddio sylweddau, cymorth pan fo perthynas yn chwalu, dianc rhag trais domestig—y llu o broblemau sy'n cael eu gwaethygu gan unrhyw gyfnod o amser y mae pobl yn ei dreulio allan o lety parhaol, wrth gwrs.

Felly, rwy'n falch iawn o gael y cyfle i egluro'r sefyllfa. Rydym wedi cwyno wrth y BBC eu bod yn tangyfrif y broblem drwy wneud hynny ac mewn gwirionedd yn amharchu'r bobl sydd yn y system a'r bobl ddigartref eu hunain. 

14:35

Wel, diolch am hynny, Weinidog. Hoffwn ategu eich teyrnged i'r gweithwyr yn y trydydd sector ac awdurdodau lleol am yr holl waith y maent wedi'i wneud ar hyn. Ac rwy'n falch eich bod wedi egluro'r sefyllfa. Yn amlwg, gallwch weld o ble y cawsom y ffigurau hynny. Ond rwy'n cytuno â'r pwynt a wnaethoch hefyd ei bod yn amlwg fod un person sy'n dychwelyd i fyw ar y stryd yn un person yn ormod.

Gyda'r hyn rydych newydd ei ddweud, Weinidog, o ran yr anghenion hynod gymhleth a fydd gan nifer o'r bobl rydym yn sôn amdanynt, a'r cymorth sylweddol sydd ei angen arnynt, yn amlwg byddwn yn cytuno â hynny hefyd, ond mae hynny'n gwneud i mi gwestiynu pam na chawsant y cymorth hwnnw pan oeddent yn cael eu cartrefu. Nawr, rwy'n derbyn, wrth gwrs, yr hyn rydych wedi bod yn ei ddweud am y sefyllfa hynod gymhleth rydym wedi bod yn ei hwynebu, ac ni fyddai'r un ohonom yn bychanu hynny. Ond mae eich Llywodraeth i fod wedi ymrwymo i fodel tai yn gyntaf, felly dylai'r cymorth hwnnw fod wedi cael ei ystyried.

Nawr, wrth edrych ar rai o'r achosion, mae'n amlwg nad oes lefel o ddealltwriaeth wedi bod o fewn rhai awdurdodau lleol nad yw pobl ddigartref yn grŵp unffurf, fel rydych newydd fod yn ei ddweud, ac na fydd ateb i un person o reidrwydd yn gweithio i un arall. Weinidog, rydych wedi cyfeirio at rywfaint o hyn yn eich ateb cychwynnol. Rydym wedi cael straeon am bobl sydd wedi cael eu cartrefu gyda'i gilydd, gan gynnwys dioddefwyr camdriniaeth sydd wedi cael eu cartrefu gyda phobl sydd â hanesion treisgar—dulliau un ateb i bawb yn aml nad ydynt yn ystyried anghenion unigolion. Felly, a ydych yn derbyn bod angen llawer mwy o waith i sicrhau bod staff awdurdodau lleol yn cael gwell dealltwriaeth o ddigartrefedd, a'u bod yn cael hyfforddiant ar sut i ymdrin â phobl sydd wedi profi trawma, a chydnabyddiaeth bod darparu amrywiaeth o fathau o lety, yn hytrach nag un ateb i bawb, yn hanfodol i ddatrys y broblem? 

[Anghlywadwy.]—Delyth. Rwy'n cytuno'n llwyr â chi ar bopeth rydych newydd ei ddweud. Mae hwn yn newid diwylliant enfawr i lawer o'r awdurdodau lleol, ac rydym i gyd yn gwybod, o'n hymateb ein hunain i'r pandemig, ei fod, ar y dechrau, yn frawychus ac yn peri pryder gwirioneddol, ond roedd hefyd ychydig yn gyffrous, roedd yn newydd ac yn wahanol, nid ydym wedi'i wneud o'r blaen, ac roeddem i gyd yn meddwl y gallai fod yn beth byr i'r pwynt y gallem ei wneud i reoli'r feirws ac yn y blaen. A'r hyn sydd wedi digwydd gyda'r holl wasanaethau, wrth gwrs, yw ei bod yn amlwg iawn nad sbrint yw hwn ond marathon. Ac felly, mae pobl wedi blino. Maent wedi gweithio'n galed iawn drwy hyn i gyd. Prin yw'r adnoddau sydd ganddynt o hyd. Er ein bod wedi neilltuo £50 miliwn yn fwy ar ei gyfer, mae'n dal i fod yn adnodd cyfyngedig i'r bobl a welwn. Mae gennym hefyd ffrwd ddiddiwedd o bobl sy'n profi'r un broblem. A gwyddom fod un o'r problemau mawr mewn perthynas â chyfnodau atal pellach a'n pryder parhaus am y feirws, a'r holl bethau tebyg i ddirwasgiad sy'n digwydd yn yr economi, yn peri i berthnasoedd chwalu, a bod hynny'n arwain at ddigartrefedd. Felly, mae'n rhaid i ni gael rheolaeth ar y pandemig, a'i ganlyniadau economaidd, er mwyn gallu dechrau meddwl am gau'r tap, fel petai. Ac mae'n ddrwg gennyf siarad am bobl fel pe baent yn llifogydd oherwydd mae pob un ohonynt yn drasiedi, ond mae gennym nifer fawr o bobl sy'n dal i fod yn y mathau hynny o amgylchiadau.

Rydym hefyd wedi cryfhau'r math mwyaf o fecanwaith cymorth ar draws gwasanaethau iechyd meddwl, gwasanaethau camddefnyddio sylweddau a gwasanaethau cymorth ar gyfer perthnasoedd sy'n chwalu. Rydym wedi rhoi symiau enfawr o arian i'r gwasanaethau cynghori hefyd, i geisio cael pobl i wneud y mwyaf o'u hincwm, oherwydd pan fyddant yn cael lle yn y tai hyn, mae angen iddynt allu cael y credyd cynhwysol sydd ar gael—ac nid yw hynny bob amser mor syml â hynny—ond hefyd ffrwd incwm er mwyn gallu cynnal eu tai a hynny i gyd. Mae'n gymhleth iawn. Wedyn, wrth gwrs, o reidrwydd, oherwydd bod gennym niferoedd mor fawr, rydym yn rhoi pobl mewn llety anaddas dros dro. Rwy'n derbyn hynny'n llwyr. Mae'r awdurdodau lleol yn gwneud eu gorau glas i sicrhau nad yw hynny'n digwydd. Nid yw pawb yn adrodd eu stori'n llawn pan fyddant yn dod i gysylltiad â gwasanaethau am y tro cyntaf. Mae llawer o bobl yn amheus, am resymau dealladwy iawn, o bobl swyddogol sy'n ceisio helpu ac yn y blaen. Ac mae pob un o'r methiannau hynny'n broblem fawr iawn.

Fodd bynnag, ceir straeon calonogol am lwyddiant hefyd. Felly, mae llawer o awdurdodau sydd â'r problemau hynny hefyd wedi cael pobl yn dod i gysylltiad â gwasanaethau am y tro cyntaf ac wedi gweld llwyddiant ysgubol. Maent yn digwydd bod wedi cael y cwnselydd iawn, y cymorth cywir, ac maent wedi symud ymlaen i lety parhaol. Felly, nid wyf eisiau i'r cyfan fod—. Nid wyf yn tynnu oddi ar y rhai nad ydynt wedi cael beth y maent ei eisiau'n iawn, ac mae angen i ni gryfhau ein hymdrechion i wneud hynny, ond credaf hefyd ei bod yn bwysig annog yr awdurdodau, oherwydd maent hwy hefyd wedi cael llwyddiannau. Felly, mae angen inni annog y gwaith llwyddiannus a'u hannog i beidio â pharhau i wneud y gwaith aflwyddiannus. Rydym wedi bod yn cynnal llawer o weminarau ar gyfer awdurdodau. Mae hwn, fel y dywedais, yn newid diwylliant enfawr o ble roedd gan bobl ryw fath o rôl porthgadw o'r blaen. Felly, rydym wedi'i gwneud yn glir iawn na fyddwn yn mynd yn ôl, a bod angen gwreiddio'r newid diwylliant hwnnw. Ond o ddifrif, nid oedd unrhyw ffordd y byddai wedi gwreiddio mewn pedwar mis yn unig yn wyneb pandemig. Felly, rwyf wedi dweud yn glir nad ydym wedi datrys y broblem; rydym wedi cymryd y cam cyntaf tuag at ddatrys y broblem. Bydd angen i bob un ohonom gydweithio i sicrhau ein bod yn gallu parhau ar hyd y llwybr hwnnw.

14:40

Iawn. Diolch ichi am hynny, Weinidog. O ran y newid diwylliant sydd ei angen, yn amlwg, nid staff awdurdodau lleol, sy'n cynllunio ac yn comisiynu gwasanaethau, yn unig sydd angen y ddealltwriaeth honno a'r tosturi rydych newydd gyfeirio ato. Yn ddiweddar, mae—. Rydym wedi gweld sylwadau anffodus gan gynghorydd awdurdod lleol yng ngogledd Cymru sydd fel pe baent yn awgrymu nad oedd pobl sydd â 'ffyrdd caotig o fyw', fel y dywedodd y cynghorydd hwnnw, yn haeddu gwasanaethau 'drud', a defnyddio geiriau'r cynghorydd hwnnw unwaith eto. Mae hyn, wrth gwrs, er gwaethaf y ffaith bod atal a datrys digartrefedd bob amser yn rhatach na gadael iddo ddigwydd, ac mae'n dal i fod yn anffodus nad yw pobl sy'n gwneud y penderfyniadau hyn yn deall hynny.

Felly, hoffwn ofyn i chi yn olaf, Weinidog: pa gamau y gwnewch chi eu cymryd i fynd i'r afael â'r rhagfarn ymhlith cynghorwyr awdurdodau lleol? Tosturi sydd ei angen, onid e, nid creu dihirod o'r bobl hyn.

Rwy'n cytuno'n llwyr, ac mae'r naratif rydym wedi cael trafodaethau yn ei gylch droeon yn y Siambr hon fod rhai pobl rywsut yn haeddu bod yn dlawd, a rhai pobl nad ydynt yn haeddu bod yn dlawd, yn falltod maleisus ar ein cymdeithas, ac mae angen inni weithio gyda'n gilydd i sicrhau ein bod yn cael gwared arno, oherwydd nid oes neb sydd yn y sefyllfa honno wedi bod yno o'r cychwyn. Ni chawsant eu geni i'r sefyllfa honno. Maent yno oherwydd methiant yn y system yn rhywle ar hyd y ffordd. Felly, mae'n rhaid inni gyfleu'r neges honno, ac yn anffodus, rydym yn byw mewn cymdeithas lle mae gennym gryn dipyn o gyfryngau yn porthi'r syniad o bobl nad ydynt yn haeddu bod yn dlawd. Felly, hoffwn fanteisio ar y cyfle i gofnodi unwaith eto fod hynny'n falltod ar unrhyw gymdeithas wâr ac mae angen inni fod yn siŵr nad ydym, mewn unrhyw ffordd, yn hyrwyddo'r naratif hwnnw.

Rydym wedi dweud yn glir iawn fod pob bod dynol sy'n dod i sylw awdurdod lleol sydd angen tŷ, yn cael rhywbeth: cymorth ar unwaith. Maent yn cael cymorth ar unwaith; maent yn cael cymorth parhaol os yw hynny'n bosibl o gwbl, ac os nad yw'n bosibl, cânt gymorth dros dro wrth i ni ddod o hyd i ateb parhaol ar eu cyfer. Ac fel y dywedais, mae honno'n ffordd hir. Mae'n hawdd i mi ei ddweud wrth sefyll yma; ond mae'n llawer anos ei wneud ar lawr gwlad. Ond rydym wedi rhoi llawer o adnoddau tuag at ei wneud hyd yma. Mae angen inni barhau i wneud hynny.

A hoffwn gofnodi, mewn gwirionedd, gan ein bod i gyd yn eistedd yma, fy mod wedi bod yn dweud wrth yr elusennau digartrefedd sy'n gweithio yn y gofod hwn, wrth inni nesáu at etholiadau'r Senedd, mai'r gobaith gorau i bobl yn yr amgylchiadau hyn yw sicrhau bod yr holl bleidiau gwleidyddol—y pleidiau gwleidyddol mawr, beth bynnag, yng Nghymru—yn sicrhau bod hyn yn eu maniffestos, oherwydd gallwn fod yn siŵr wedyn fod modd inni fwrw ymlaen â hyn gyda'n gilydd. Nid wyf yn credu bod unrhyw ddadl wirioneddol na ddylai hyn ddigwydd ymhlith y pleidiau gwleidyddol mawr yng Nghymru. Ac felly, mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod yn bwrw ymlaen â hyn gyda'n gilydd.

14:45

Diolch, Lywydd. Rwy'n cytuno—nid oes dadl wleidyddol ymysg y pleidiau mawr ynglŷn â'r mater hwn.

Mae adroddiad diweddar yr Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau, 'Building Stronger Welsh Communities: opportunities and barriers to community action in Wales' yn ymwneud â harneisio cryfderau a sgiliau pobl leol fel y gallant adeiladu'r seilwaith cymdeithasol a llunio'r gwasanaethau y maent eu heisiau ac y maent eu hangen yn eu hardal. Ar ôl hwyluso sgwrs genedlaethol gyda thros 250 o bobl a fynychodd 20 o ddigwyddiadau a gynhaliwyd ar hyd a lled Cymru i ddylanwadu ar benderfyniadau sy'n effeithio ar eu hardal leol—[Anghlywadwy.]—nad yw geiriau teilwng yn cael eu hategu gan gamau gweithredu, fod cyrff cyhoeddus yn gwneud i bobl yn hytrach na chyda phobl[Anghlywadwy.]—cymunedau, ac mae diffyg ymddiriedaeth sylfaenol y cyhoedd, ynghyd ag osgoi mentro, gweithio mewn seilos, rhagfarn broffesiynol a diffyg cymhelliad i staff yn rhwystrau sylweddol i fwy o weithredu cymunedol. Ac yn sicr mae fy ngwaith achos yn cefnogi hynny'n gryf. Sut felly y byddwch yn ymgysylltu â hwy i gynllunio, darparu a monitro ffordd well o gyflawni gwaith llywodraeth leol ledled Cymru?

Diolch, Mark. Nid wyf yn credu fy mod wedi clywed y cwestiwn hwnnw i gyd, ond rwy'n meddwl fy mod wedi cael byrdwn yr hyn a ddywedoch chi, felly fe wnaf fy ngorau i'w ateb. Felly, yr hyn rydych yn sôn amdano yw newid diwylliant i'r hyn rydym yn ei alw'n 'creu lleoedd'. Felly, mae gennym nifer o sefydliadau, gan gynnwys yr un rydych newydd ei grybwyll, sydd wedi bod yn gweithio gyda ni i sicrhau ein bod yn cynnwys cymunedau lleol yn y broses o ystyried sut y dylai eu lleoedd edrych—sut y dylai eu cymunedau edrych a sut y dylai'r cyfleusterau o'u cwmpas edrych. Ac rydym wedi bod yn gweithio'n galed iawn ar sail sybsidiaredd, i ddefnyddio'r jargon, i leihau'r gwaith o wneud penderfyniadau i'r man isaf posibl lle gall pobl wneud y penderfyniadau hynny. Unwaith eto, rydym wedi cael y drafodaeth hon droeon yn y Siambr hon, lle mae angen i rai gwasanaethau fod yn gyffredinol—felly, mae angen i chi gael yr un profiad o rai gwasanaethau ni waeth ble rydych yn byw. Ond nid yw hynny'n wir gyda'ch lle chi neu eich tref neu eich pentref lleol chi nac unrhyw beth arall, oherwydd rydym eisiau i'r rheini fod mor unigryw a lleol ag y gallwn eu gwneud. Felly, mae arnom angen i leisiau pobl leol fod yn uchel ac yn glir yn y cymunedau hynny.

Felly, mae holl fyrdwn 'Polisi Cynllunio Cymru', y fframwaith datblygu cenedlaethol a'r papurau adfer y mae fy nghyd-Aelodau, y Cwnsler Cyffredinol a Ken Skates, Gweinidog yr economi, wedi bod yn gweithio arnynt ar draws holl ranbarthau Cymru, wedi'i gynllunio i sicrhau bod y llais uchel hwnnw gan bobl leol. Felly, unwaith eto, Mark, os oes gennych enghreifftiau lle nad yw hynny'n gweithio mor dda ag y gallai, ac mae'n newid diwylliant mawr, ac os hoffech dynnu fy sylw atynt ar wahân, rwy'n hapus iawn i edrych i weld beth y gallwn ei wneud mewn achosion penodol i annog y math hwnnw o gydweithrediad ar lawr gwlad.

Cyn i chi ofyn eich cwestiwn atodol, Mark Isherwood, dylech wybod bod eich cysylltiad band eang yn eithaf ansefydlog. Rydych wedi bod yn torri allan gryn dipyn. Felly, rhown gynnig ar eich cwestiwn nesaf, ond os nad yw'n ddealladwy yn y Siambr, efallai y bydd rhaid inni adael eich cwestiynau ar gyfer yr wythnos hon. Ond rhowch gynnig arall arni ac fe gawn weld ble y cyrhaeddwn ni y tro hwn.

Iawn, wel, rwy'n gobeithio y gallwch glywed yn well ac rwy'n gobeithio bod yr ateb hwnnw'n golygu y byddwch yn eu cynnwys hwy a chymunedau nid yn unig yn y broses gynllunio, ond yn y gwaith o gyflawni a monitro, ac fel y gwyddoch, rwyf wedi cyfeirio nifer o achosion atoch yn ddiweddar, ond roeddech yn teimlo na allai Llywodraeth Cymru ymyrryd yn briodol.

Fel y clywsom, adroddodd BBC Wales yr wythnos diwethaf fod bron i chwarter y rhai a oedd yn cysgu ar y stryd ac a gafodd dai dros dro yn ystod y cyfyngiadau symud COVID cyntaf yng Nghymru bellach yn cysgu ar y stryd eto. Do, dywedodd fod dros 3,566 o bobl mewn llety dros dro, ond roedd 101 yn cysgu ar y stryd ar y dyddiadau hynny ym mis Awst, o'i gymharu â mis Ebrill pan gafwyd hyd i leoliadau dros dro ar gyfer pob un o'r 407 o bobl y gwyddem eu bod yn cysgu ar y stryd yng Nghymru. Dywedodd yr elusen Shelter Cymru, sy'n gweithio gydag unigolion go iawn yr effeithiwyd arnynt, ei bod yn sefyllfa siomedig dros ben, gan ychwanegu mai'r pwysau ar lety dros dro sy'n arwain rhai cynghorau i fabwysiadu polisïau llym iawn. Dywedodd elusen The Wallich fod llawer o gynghorau unwaith eto'n troi pobl ddigartref i ffwrdd oddi wrth gymorth oherwydd diffyg lle, gan ychwanegu,

Ni wnaethom ddatrys tlodi, ni wnaethom roi diwedd ar ddigartrefedd, nid ydym wedi datrys camddefnyddio sylweddau nac argyfyngau iechyd meddwl.

Ac mae'r elusen Crisis yn galw am gynllun cenedlaethol trawslywodraethol i roi diwedd ar ddigartrefedd mewn degawd. Sut y byddwch chi, felly, yn ymgysylltu â'r sector i gynllunio, cyflawni a monitro ffordd well a mwy cynaliadwy o fynd i'r afael â hyn?

14:50

Rwy'n credu fy mod wedi ymdrin â rhywfaint o hyn yn eithaf cynhwysfawr yn fy ateb i Delyth Jewell, ond fe ychwanegaf, er mwyn bod yn drylwyr, ein bod, wrth gwrs, yn dilyn y cynllun a nodwyd ar ein rhan gan y grŵp gweithredu ar gyfer tai, sy'n cynnwys Shelter, The Wallich a Crisis fel cynghorwyr i Lywodraeth Cymru ynglŷn â sut rydym yn strwythuro ein polisïau wrth symud ymlaen. A'r hyn a wnaeth y pandemig, yn amlwg, oedd cyflymu ein hymateb i'r argymhellion hynny. Felly, rydym wedi dilyn argymhellion y grŵp gweithredu ar gyfer tai yn llwyr, gan gynnwys yr holl sefydliadau a nodwyd gennych yno, Mark, ac rydym wedi bod yn gweithio gyda hwy, ochr yn ochr â hwy, drwy'r pandemig.

Credaf fod y ddogfen Crisis y sonioch chi amdani mewn gwirionedd yn sôn am Lywodraethau'r DU yn gyffredinol, nid Cymru'n unig, ac rydym wedi bod yn gweithio'n agos iawn gyda'r rheini o ran sut rydym yn strwythuro'r ymateb i'r pandemig a'n hymateb i ddigartrefedd wrth symud ymlaen.

Diolch. Wel, gobeithio bod hynny'n golygu y byddwch hefyd yn ymgysylltu â hwy ar gyflawni a monitro. Crisis wnaeth gyhoeddi'r adroddiad y cyfeirioch chi ato, ond maent hefyd wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol i Gymru. Maent yn amcangyfrif, ar unrhyw noson benodol, fod tua 5,200 o aelwydydd yng Nghymru yn profi rhyw fath o ddigartrefedd yn 2017, a bod yr angen am dai ar gyfer pobl â phrofiad o ddigartrefedd a phobl ar incwm isel yn 4,000 o gartrefi cymdeithasol newydd bob blwyddyn. Dywedant fod pobl sydd â phrofiad o ddigartrefedd yn gallu ei chael yn anodd cael gafael ar gartref parhaol a'i gynnal, yn y sector tai preifat a'r sector rhentu cymdeithasol fel ei gilydd. Maent yn dweud bod ymateb cam 2 Llywodraeth Cymru wedi canolbwyntio ar arloesi, adeiladu ac ailfodelu i drawsnewid gwasanaethau digartrefedd yn fodel ailgartrefu cyflym gyda chymorth ariannol o £15 miliwn. Ond dywedasant y bydd trawsnewid yn galw am gynllunio a newid hirdymor. Felly, roeddent yn gofyn pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i sicrhau bod pobl sydd â phrofiad o ddigartrefedd yn gallu cael mynediad at gartref diogel yn ogystal â'r cymorth sydd ei angen arnynt i gynnal cartref, ac i sicrhau cyllid ychwanegol a hirdymor ar gyfer gwasanaethau digartrefedd er mwyn trosglwyddo i ailgartrefu cyflym a bodloni'r galw. Gofynasant i mi ofyn y cwestiynau hynny i chi ddoe.

Diolch, Mark. Yn amlwg, rwy'n ymwybodol iawn o'r adroddiad gan Crisis oherwydd cadeirydd y grŵp gweithredu ar gyfer tai, mewn gwirionedd, oedd Jon Sparkes, cadeirydd Crisis. Felly, mae wedi bod yn gweithio gyda ni drwy hyn i gyd, i gynllunio ein hymateb i ddigartrefedd yng Nghymru yn y lle cyntaf—oherwydd rhoddwyd hyn ar waith ymhell cyn y pandemig—ac yna, wrth gwrs, ein hymateb i'r pandemig ac yn wir, ein hymateb wrth symud ymlaen o ran newid ein polisi'n llwyr fel bod gennym y dull ailgartrefu cyflym hwnnw ar waith yng Nghymru. Dyna'n union a nodwyd yn adroddiad y grŵp gweithredu ar gyfer tai, ac mae hynny bellach yn cael ei adlewyrchu yn nogfennau Crisis ledled y DU, ac mewn gwirionedd, os ydych yn ei ddarllen o glawr i glawr, mae'n nodi Cymru fel enghraifft o'r hyn y gellir ei wneud pan fydd pawb ohonom yn rhoi ein meddyliau ar rywbeth ac yn gweithio gyda'n gilydd. Felly, yn sicr rydym yn gweithio gyda hwy wrth symud ymlaen, ac fel y dywedais wrth Delyth, yn bendant nid ydym wedi datrys y broblem hon. Yr hyn rydym wedi'i wneud yw cymryd y cam mawr cyntaf ar y llwybr tuag at ei ddatrys ac fel y dywedais hefyd, mae consensws ar draws y Siambr y dylem barhau i wneud hynny.

Ail Gartrefi

3. A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar gynlluniau Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael ag ail gartrefi ar draws Cymru? OQ55860

Diolch, Siân. Rydym yn mabwysiadu dull cyfannol sy'n seiliedig ar dystiolaeth, gan roi ystyriaeth briodol i'r ystod eang o fuddiannau dan sylw. Ar draws y Llywodraeth, rydym yn parhau i adolygu'r holl dystiolaeth sydd ar gael. Mae cyd-Weinidogion, fy swyddogion a minnau wedi cyfarfod â nifer o Aelodau o'r Senedd, awdurdodau lleol ac academyddion i ddatblygu ein hymateb system gyfan i'r materion ymhellach.

Dydw i ddim am ymddiheuro am godi'r pwnc yma eto. Dwi'n ddiolchgar ichi am y trafod diweddar sydd wedi bod rhwng ein plaid ni a'ch Llywodraeth chi, a dwi'n edrych ymlaen at ymuno mewn cyfarfod rhithiol rhwng y Prif Weinidog a chynrychiolwyr yr ymgyrch Hawl i Fyw Adra o Ben Llŷn yr wythnos nesaf. Ond un peth yw cynnal cyfarfodydd ac asesiadau, a gwneud synau o gydymdeimlad a dweud eich bod yn deall y broblem; peth arall ydy gweithredu er mwyn atal y cynnydd mewn ail gartrefi mewn cynifer o'n broydd ni yn y gorllewin. Mae Plaid Cymru wedi amlinellu rhai camau y gellid eu cymryd yn syth. Ydy'ch Llywodraeth chi yn bwriadu cymryd unrhyw gamau penodol i newid y gyfraith cynllunio neu gyllidol rhwng rŵan ac ethol Senedd newydd ym mis Mai?

14:55

Diolch, Siân. Fel y gwyddoch, mae'n broblem gymhleth iawn ac rydym yn cydymdeimlo'n fawr, ond nid oes ateb syml. Ni allwn gymryd pwerau deddfu sylfaenol rhwng nawr a'r etholiad am nad oes gennym ddigon o amser Senedd ar ôl i wneud hynny. Felly, nid yw'n ffisegol bosibl inni wneud hynny mewn gwirionedd. Mae gennym nifer o bethau roeddem yn awyddus iawn i'w cyflawni yn ystod tymor y Senedd hon ac rydym wedi gorfod gadael y pethau hynny i gyd, ac rydym i gyd yn gresynu at hynny. Felly, nid oes unrhyw bwynt i mi geisio esgus fel arall. Nid oes gobaith cael deddfwriaeth sylfaenol newydd drwodd ar y pwynt hwn, nac ar unrhyw bwynt arall, mewn gwirionedd, ar wahân i'r rhai sydd eisoes wedi dechrau ar eu taith drwy'r Senedd.

Fel y gwyddoch, rydym eisoes wedi gwneud nifer fawr o bethau yng Nghymru, gan gynnwys taliadau trafodion tir gwahaniaethol a chyfundrefnau gwahaniaethol ar gyfer y dreth gyngor, ac yn y blaen. Yn y grŵp trawsbleidiol a gyfarfu â ni, fe fyddwch yn gwybod ein bod yn edrych eto ar y materion data i weld a allwn nodi mathau penodol o dai y gallem weithredu arnynt. Mae'n llawer mwy cymhleth nag y mae'n ymddangos gyntaf pan fyddwch yn ceisio nodi pa set benodol o dai rydych yn sôn amdanynt mewn gwirionedd, fel y gwyddoch. Ac felly, rwy'n edrych ymlaen at y cyfarfod gyda'r Prif Weinidog a'r grŵp ymgyrchu, ond mae'n llawer mwy cymhleth na newid y gyfraith gynllunio yn unig, er enghraifft. Felly, byddai angen ystyried nifer o faterion, fel y trafodasom yn helaeth yn y grŵp y tro diwethaf.

A gaf fi ddweud fy mod yn rhannu pryder Siân Gwenllian am ail gartrefi, yn enwedig pan fo gennym broblem ddigartrefedd, fel y trafodasom yn gynharach? Unwaith eto, rwy'n dadlau y dylid rhoi diwedd ar eithrio rhag talu'r dreth gyngor ar unrhyw dai sydd wedi'u cofrestru i gael eu gosod yn breifat ar gyfer gwyliau ac sydd wedyn yn cael eu heithrio rhag ardrethi busnes gan olygu nad yw pobl yn talu unrhyw beth o gwbl. Nid oes angen deddfwriaeth sylfaenol ar gyfer hynny, dim ond gweithredu. Ond mae llety myfyrwyr a thai a osodir yn fyrdymor ar gyfer gwaith wedi'u cyfrif yn y ffigurau ar gyfer ail gartrefi ar rai rhestrau. Nid yw hynny'n arbennig o ddefnyddiol. Ac rydych yn gwybod yn eich etholaeth eich hun fod rhywun wedi ystyried nodi bod traean o'r tai yn ail gartrefi er mai llety myfyrwyr yw bron y cyfan ohonynt. A yw'r Llywodraeth yn gwybod faint o eiddo sy'n ail gartrefi, h.y. cartrefi sydd ond yn cael eu defnyddio am gyfran o'r flwyddyn neu wedi'u cofrestru i'w gosod ar gyfer gwyliau?

Diolch, Mike, a'r ateb syml i'r cwestiwn yw 'na', oherwydd nid oes gennym ffordd o wahaniaethu data ar gyfer tai yn y ffordd honno. Mae'n anodd iawn gwybod a yw tŷ'n cael ei osod i rywun yn barhaol, ar sail llety gwyliau, yn rhannol ar sail llety gwyliau, neu'n cael ei ddefnyddio gan deulu a ffrindiau. Er enghraifft, mae plant perchennog cofrestredig yn meddiannu rhai ail gartrefi'n barhaol. Mae hynny'n eithaf cyffredin mewn dinasoedd ar draws Cymru, er enghraifft. Ceir lefelau uchel iawn o ail gartrefi yn Abertawe a Chaerdydd nad oes gennym y data ar eu cyfer, ond mae'n ymddangos yn eithaf tebygol mai pobl sy'n gweithio yn y dinasoedd yn ystod yr wythnos ac sy'n mynd adref i rywle arall dros y penwythnos sy'n byw ynddynt. Gwyddom hefyd fod gan weithwyr allweddol ledled gorllewin Cymru dai y maent yn gweithio ohonynt yn ystod yr wythnos a'u bod yn mynd adref i rywle arall yng Nghymru dros y penwythnos. Felly, mae'n anodd iawn gwahanu'r data yn y ffordd syml a nodwyd gennych.

Fodd bynnag, mae gennyf lawer o gydymdeimlad â'r cynnig nad yw'r rhyddhad ardrethi i fusnesau bach yn berthnasol i rai safleoedd sydd wedi symud o'r dreth gyngor i ardrethi busnes o ganlyniad i osod yr eiddo, a hefyd beth yw'r trothwyon ar gyfer hynny, ac rydym yn edrych ar y dystiolaeth empirig sydd ar gael inni i ddeall yn union sut y byddai hynny'n edrych pe baem yn ei wrthdroi. Mae hwnnw'n waith sy'n parhau. Nid wyf eto mewn sefyllfa i ddweud a fyddwn yn gallu gwneud hynny neu beidio.

Rydym wedi gofyn i'r holl awdurdodau y mae hyn yn effeithio'n benodol arnynt rannu'r sylfaen dystiolaeth sydd ganddynt â ni, ac mae manylion diddorol yma. Rydym wedi caniatáu i awdurdodau godi hyd at 100 y cant o dreth gyngor ar ail gartrefi ac adeiladau sy'n wag yn hirdymor er enghraifft, ond nid oes unrhyw un wedi defnyddio'r 100 y cant. Mae saith awdurdod lleol yn codi rhwng 25 y cant a 50 y cant, ac mae Powys wedi argymell premiwm o 75 y cant yn ddiweddar. Felly, mae angen i ni ddeall pam nad ydynt yn defnyddio'u pŵer llawn, ac mae sawl enghraifft arall o dystiolaeth empirig y mae angen inni weithio drwyddynt cyn y gallwn lunio polisi y gwyddom y bydd yn gwneud bob dim rydym eisiau iddo ei wneud. Rydym i gyd eisiau iddo gael yr effaith a nodwyd gennych, ond rwyf eisiau bod yn siŵr y bydd y polisi'n cael yr effaith honno, ac na fydd yn cael rhyw effaith annymunol, er enghraifft, o ran tai gweithwyr allweddol sy'n agos at ysbytai ac yn y blaen.

15:00
Marchnadoedd Tai Gwledig

4. Pa ymdrechion y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud i sicrhau nad yw pobl ifanc mewn ardaloedd gwledig yn cael eu prisio allan o'u marchnadoedd tai lleol? OQ55877

Diolch, Adam. Rydym wedi gwneud y buddsoddiad mwyaf erioed o £2 biliwn mewn tai fforddiadwy yn ystod y tymor Senedd hwn. Mae'r buddsoddiad yn cael effaith sylweddol ar ddarpariaeth tai sy'n diwallu anghenion gwirioneddol cymunedau Cymru, ac rydym ar y trywydd cywir i gyflawni ein targed uchelgeisiol o 20,000 o dai fforddiadwy y tymor hwn.

Yn ddi-os, i adeiladu, wrth gwrs, ar yr atebion i'r cwestiwn blaenorol, mae'r cynnydd anferthol mewn ail gartrefi yn tanseilio unrhyw waith arall mae'r Llywodraeth yn ei wneud o ran sicrhau bod pobl ifanc mewn ardaloedd gwledig yn gallu cael mynediad at dai. Mae'r hyn oedd yn broblem eisoes, ers degawdau, wedi troi nawr yn grisis anferth. Rwy'n deall beth mae'r Gweinidog yn ei ddweud o ran yr anawsterau niferus technegol, cyfreithiol, gweinyddol ac yn y blaen, sy'n gwneud y sefyllfa yma'n anodd a chymhleth, ac rwy'n croesawu'r trafod a'r dadansoddi, ond mae angen symud yn gyflym nawr at weithredu. Dyna beth yw hanfod gwleidyddiaeth, wrth gwrs—cynnig arweiniad, atebion, gweithredu. Dyna glywsom ni gennych chi gynnau ynglŷn â digartrefedd yn gyffredinol. Ydyn ni'n gallu gweld yr un math o weithredu nawr o ran y crisis yma yn y Gymru wledig? Un galwad penodol ydy rhoi'r grym i awdurdodau lleol osod cap ar uchafswm y stoc dai mewn cymuned y gellir eu defnyddio fel ail gartrefi. Allwch chi gadarnhau o leiaf eich bod chi'n cefnogi'r egwyddor hynny, ac y dylai hynny fod yn rhan o'r consensws roeddech chi wedi cyfeirio ato gynnau?

Diolch, Adam. Rwy'n rhannu'r pryder yn llwyr; rydym yn sicr yn awyddus i'n pobl ifanc allu aros yn y cymunedau y cawsant eu magu ynddynt ac maent yn dymuno cyfrannu atynt. Byddwch wedi fy nghlywed yn dweud droeon yn y Siambr hon fy mod hefyd yn byw mewn pentref lle na fydd fy mhlant byth yn byw yn y pentref oni wneir rhywbeth yn ei gylch. Nid fy mod yn credu y dylem fod yn llunio polisi Llywodraeth yn seiliedig ar amgylchiadau personol Gweinidogion, ond hoffwn ddangos bod gennyf lawer o gydymdeimlad â'r hyn rydych yn ei ddweud.

Fodd bynnag, mae'n rhaid i ni fod yn siŵr nad oes canlyniadau anfwriadol i rywfaint o hynny. Felly, rydym wedi bod yn edrych gyda diddordeb ar yr enghraifft o gapio niferoedd, er enghraifft, mewn ardaloedd eraill, ac mae rhai anfanteision difrifol iawn wedi codi o ganlyniad iddynt, yn enwedig os bydd dirwasgiad. Felly, rydym wedi gweld pobl leol wedi'u dal mewn ecwiti negyddol a phethau eraill o ganlyniad i gapiau o'r fath. Rwy'n edrych arno'n frwd iawn, i fod yn glir, ond rydym eisiau bod yn siŵr nad oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol. Mae Mike Hedges newydd gyfeirio at y ffaith bod tai amlfeddiannaeth yn gyffredin iawn mewn dinasoedd prifysgol; rydym yn gwybod hynny. Er enghraifft, rydym wedi ceisio rhoi polisïau dwysedd ar waith yn y dinasoedd hynny, ac yna atal tai eraill rhag newid. Yr hyn sy'n digwydd wedyn yw bod y tai hynny'n cael eu hysbysebu i'w gwerthu ar y farchnad am ddwywaith eu pris arferol, nid oes modd eu gwerthu ac yna daw cais arall i'r awdurdod i'w newid yn dŷ amlfeddiannaeth. Felly, mae angen inni wneud yn siŵr nad oes gennym unrhyw fylchau yn y gyfraith nac unrhyw ffordd arall o'i gwmpas—neu os ydych yn ei brynu drwy gwmni neu os yw eich tad yn ei brynu i chi—unrhyw beth y byddai angen inni weithio arnynt i sicrhau y byddai'r polisi'n gweithio mewn gwirionedd. Ond mae gennyf lawer o gydymdeimlad â'r ymdrech i ddod o hyd i ffyrdd o wneud hyn. 

Un o'r pethau eraill rwyf wrthi'n edrych arno mewn gwirionedd yw'r posibilrwydd o ymestyn ein trefniadau ymddiriedolaeth tir cymunedol, lle gall pobl leol ddod at ei gilydd a bod yn berchen ar dai yn y gymuned honno mewn ffordd gydweithredol. A'r hyn y mae hynny'n ei wneud yw atal y tai rhag cael eu gwerthu ymlaen i berson arall y tu allan i'r cap ac yn y blaen. I bob pwrpas, mae'n rhoi cyfran euraidd i chi fel y gallwch atal hynny rhag digwydd, ac mae'n atal sefyllfa lle mae rhywun yn prynu'r tŷ ac yna'n cyfarfod ac yn priodi rhywun o rywle arall ac yn gadael a beth a wnewch am y ffaith bod y tŷ'n sydyn yn dod yn wag.

Felly, mae cyfres gyfan o ganlyniadau anfwriadol y mae angen i ni weithio arnynt, ond rydym yn gwneud hynny, ac rydym wedi gofyn i'r uned ddata feddwl am lawer mwy o ddata ar raddfa fanylach, fel y gallwn edrych yn iawn ar yr hyn rydym yn sôn amdano mewn gwirionedd. Ac yn y cyfarfod a fynychodd Siân Gwenllian, a nifer o rai eraill hefyd, er enghraifft, dechreuasom edrych ar ddata'r dreth trafodiadau tir sydd gennyf yma. Yr hyn nad yw hwnnw'n ei ddweud wrthych yw p'un a yw'r tŷ hwnnw eisoes yn ail gartref, neu p'un a gafodd ei adeiladu fel llety gwyliau. Nid yw'n dweud unrhyw beth wrthych. Nid yw ond yn dweud wrthych beth oedd y trafodiad. Felly, mae'n ymwneud â'n gallu i gael y data hwnnw, a gwneud rhai penderfyniadau gwybodus yn dilyn hynny heb achosi rhai o'r canlyniadau anfwriadol y mae rhai o'r polisïau wedi'u gweld mewn mannau eraill o'r byd.

15:05

Weinidog, un o'r gwelliannau cynllunio a gyflwynwyd i'r system mewn Cynulliad blaenorol oedd gweithredu TAN 6 ar gyfer anheddau gwledig. Yn anffodus, fy mhrofiad i o TAN 6 yw ei fod bellach wedi newid i fod yn fodel eithaf soffistigedig. Yn hytrach na'i fod yn fodel hawdd ar gyfer datblygu eiddo gwledig ar gyfer gweithwyr gwledig, mae yna glytwaith o gyflawniad gan awdurdodau cynllunio, ac mae'n dibynnu ar eich cod post. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effeithiolrwydd TAN 6 i ddatblygu anheddau gwledig, fel y gall pobl ifanc aros mewn cymunedau gwledig, lle gallent fod yn gweithio fod mewn menter wledig?

Diolch, Andrew. Mae hwnnw'n un o'r pethau rydym yn edrych arnynt o ran y data sydd gennym. Unwaith eto, mae'n un o'r pethau lle mae gofyniad amaethyddol ar annedd, er enghraifft, neu ofyniad cysylltiad lleol—yr hyn sy'n digwydd ar yr ail a'r trydydd gwerthiant. Felly, yr ateb byr i'ch cwestiwn yw 'ydym'; rydym yn edrych eto i weld a yw hwnnw mewn gwirionedd yn cael yr effaith y bwriadwyd iddo ei chael, a pha ddata sydd ar gael i weld a yw'n effeithiol, neu a oes angen i ni wneud rhywbeth yn ei gylch fel rhan o waith ehangach mewn perthynas â'r broblem hon, sydd, yn amlwg, yn broblem ddifrifol iawn, ac sy'n tyfu'n fwy difrifol byth wrth i'r pandemig frathu ac wrth i bobl sylweddoli y gallant symud o'r dinasoedd i leoedd gwahanol a mwy prydferth.

Gwasanaethau Cyhoeddus yn Sir Benfro

5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu gwasanaethau cyhoeddus lleol yn sir Benfro? OQ55858

Diolch, Paul. Rwy'n parhau i weithio'n agos iawn gyda llywodraeth leol, gan gynnwys sir Benfro, ac arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus eraill ar y gwersi allweddol a ddysgwyd o'r ymateb i COVID-19 a fydd yn helpu ein hadferiad strategol yn y tymor hwy ac yn helpu i ddiffinio normal newydd y dyfodol.

Diolch i chi am yr ymateb hwnnw, Weinidog. Mae ffigurau gan Gyngor Sir Penfro wedi dangos, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rhwng mis Ebrill 2019 a mis Ebrill 2020, fod cyfanswm o 72 y cant o holl wastraff cartrefi wedi'i ailgylchu, sydd 10 y cant yn fwy na'r flwyddyn flaenorol. I ychwanegu at hynny, mae un o weithwyr y cyngor, Amanda Absalom-Lowe o Hwlffordd, wedi'i henwi gan BBC Radio 4 fel un o 30 o fenywod ysbrydoledig y mae eu gwaith yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i'r amgylchedd. Weinidog, a wnewch chi ymuno â mi i longyfarch Amanda Absalom-Lowe a Chyngor Sir Penfro am y cyflawniad hwn, yn enwedig a hithau wedi bod yn flwyddyn anodd i gynghorau ledled Cymru? Yng ngoleuni'r llwyddiant hwn, a allwch chi ddweud wrthym beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i helpu i sicrhau bod y cynnydd da hwn yn cael ei gynnal a'i ddatblygu ar gyfer y dyfodol?

Rwy'n falch iawn o wneud hynny, Paul. Rwy'n falch iawn o ble mae sir Benfro wedi'i gyrraedd mewn perthynas â'r agenda wastraff. Maent wedi mynd o drefniant bag cymysg, fel y gwyddoch, i drefniant didoli ar garreg y drws. O ganlyniad, mae eu cyfraddau ailgylchu wedi saethu i fyny. Rwy'n hapus iawn i'w llongyfarch hwy a'r swyddogion sy'n gyfrifol am wneud hynny. Byddwn yn gweithio ar draws awdurdodau lleol i sicrhau ein bod yn lledaenu arferion da o'r math hwnnw'n llawer mwy cyffredinol ym maes gwastraff, yn ogystal ag ym mhob maes arall. Rwy'n gobeithio'n fawr, Lywydd, y bydd Cyfnod 4 fy Mil yn mynd drwodd y prynhawn yma. O ganlyniad i hynny, wrth gwrs, byddwn yn newid—gan dybio y bydd yn mynd drwodd—i system adolygu gan gymheiriaid ar gyfer awdurdodau lleol, lle gellir lledaenu'r union fath o arferion rhagorol rydych newydd eu hamlinellu, Paul. Gallwn ofyn i'r awdurdodau lleol eraill, 'Pam nad ydych yn ei wneud fel hyn?' fel rhan o'r broses adolygu gan gymheiriaid. Dyna un o'r rhesymau roeddem eisiau newid y system mewn awdurdodau lleol, fel y gallem ddysgu o ragoriaeth yn yr union ffordd rydych newydd ei hamlinellu.

Pobl sy'n Cysgu ar y Stryd

6. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am nifer y bobl sy'n cysgu ar y stryd yng Ngogledd Cymru? OQ55857

Diolch, Mandy. Nid yw'r data diweddaraf a gyhoeddwyd wedi'i rannu yn ôl rhanbarth, mae arnaf ofn, ond mae'n dangos bod tua 101 o bobl, ddiwedd mis Awst, yn cysgu ar strydoedd ledled Cymru. Er bod hyn yn annerbyniol o uchel, mae'n dal yn wir fod miloedd, dros yr wyth mis diwethaf, wedi cael llety dros dro a llety parhaol.

Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Weinidog. Unwaith eto, hoffwn eich llongyfarch am eich gwaith yn cadw pobl oddi ar y strydoedd yn ystod y pandemig, gyda chefnogaeth yr holl asiantaethau a'r trydydd sector ac yn y blaen. Gwrandewais yn gynharach ar yr hyn a ddywedoch chi wrth siaradwyr eraill, ond rwy'n bryderus iawn o glywed y gallai hosteli gael eu gorfodi i leihau nifer y rhai sy'n cysgu ar y stryd y gallant roi llety iddynt oherwydd yr angen i gadw pellter cymdeithasol. A allwch chi wneud sylwadau ar hyn, ac a allwch chi ailddatgan eich ymrwymiad i sicrhau bod pobl sy'n cysgu ar y stryd yn cael eu cynnal mewn rhyw fath o lety?

15:10

Ie, rwy'n hynod o hapus i ailddatgan yr ymrwymiad hwnnw fel rwyf wedi'i wneud sawl gwaith eisoes y prynhawn yma—rwy'n hapus iawn i gael cyfle arall i wneud hynny. I fod yn glir, dywedwyd wrth awdurdodau lleol ledled Cymru y dylent gartrefu pawb sy'n dod atynt am eu bod angen cartref, felly nid oes porthgadw'n digwydd. Nid oes system ar waith a fyddai'n caniatáu i chi ddweud na ddylid cartrefu'r person hwnnw.

Wedi dweud hynny wrth gwrs, mae'n fwyfwy anodd dod o hyd i'r math iawn o lety i bobl. Roeddem yn ffodus iawn ein bod wedi gallu sicrhau nifer o westai, darpariaethau gwely a brecwast ac yn y blaen, a llety prifysgol, ond wrth i bobl fynd yn ôl i fusnes arferol, mae hynny'n fwyfwy anodd. Fel rhan o'n dull gweithredu cam 2, rydym yn adeiladu'n agos at 1,000 o dai newydd, a fydd, gobeithio, wedi'u cwblhau'n fuan iawn. Maent yn defnyddio dulliau modern o adeiladu, felly maent yn dai y gellir eu hadeiladu'n gyflym iawn. Maent yn dai hardd; nid rhyw fath o ateb dros dro yw'r rhain. Maent yn hyfryd, ond nid yw 1,000 yn ddigon o bell ffordd i fynd i'r afael â hyn.

Mae gennym reolwyr cysylltiadau o Lywodraeth Cymru o hyd sy'n gweithio ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru, i gynorthwyo swyddogion ar lawr gwlad i ddod o hyd i'r mathau cywir o lety ac i roi'r pecynnau cymorth ar waith ochr yn ochr â'r trydydd sector a phartneriaid eraill. Rydym yn dal yn ddiolchgar iawn am hynny. Er mwyn rhoi syniad i chi o'i faint, ar gyfartaledd mae'n costio £1.6 miliwn y mis i dalu costau ein dull 'pawb i mewn' cynhwysol—felly tua £20 miliwn o gyllid ychwanegol ar gyfer yr ymateb brys am y flwyddyn gyfan, a hynny eleni yn unig. Felly, rydym wedi ymrwymo i hyn mewn gwirionedd. Nid yw'n beth hawdd i'w wneud, ond rydym yn bendant yn ei ariannu ac yn gweithio mewn partneriaeth â'n hawdurdodau lleol a phartneriaid eraill i sicrhau y gallwn wneud iddo ddigwydd.

Weinidog, dros y flwyddyn ddiwethaf, fe wyddoch fy mod wedi bod yn gweithio gyda nifer o sefydliadau ar bolisi sy'n ystyriol o anifeiliaid anwes—neu 'pawlicy', fel rwy'n hoffi ei alw. Fe wyddoch mai nod hwn yw sicrhau nad oes yn rhaid i neb ddewis rhwng eu cyfaill gorau—eu hanifail anwes—a chael mynediad at lety. Nawr, rwy'n deall o'ch ymateb i fy nogfen bolisi fod awdurdodau lleol ledled Cymru wrthi'n llunio cynlluniau digartrefedd ar hyn o bryd. Weinidog, a allwch chi fy sicrhau y bydd y cynlluniau hyn yn cynnwys gallu cadw eich anifail anwes a chael llety?

Yn hollol, Jack, ac rydym yn ddiolchgar iawn i chi am rannu'r ddogfen bolisi gyda ni. Rydym yn parhau i weithio'n agos gydag awdurdodau lleol i gynorthwyo pobl i ddod oddi ar y strydoedd, ac mae hynny'n cynnwys eu hanifeiliaid anwes. Yn aml iawn, mewn gwirionedd, bydd rhywun yn gwrthod dod i mewn os yw'n golygu bod eu hanifail anwes yn cael ei adael allan, ac rwy'n deall hynny'n llwyr, a phwy sydd ddim? Felly, rydym yn gwneud yn siŵr fod llety ar gael i bobl ag anifeiliaid anwes ac y gallant gadw'r anifail anwes gyda hwy wrth symud ymlaen. Rwy'n ddiolchgar iawn i chi am rannu'r polisi gyda ni, a byddwn yn rhannu hwnnw ar draws yr awdurdodau lleol wrth i ni weithio drwy hyn.

Datgarboneiddio Tai Cymdeithasol

7. A wnaiff y Gweinidog amlinellu strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer cyflawni'r agenda ddatgarboneiddio yn y sector tai cymdeithasol? OQ55865

Diolch, Nick. Gan adeiladu ar lwyddiant safon ansawdd tai Cymru, mae cartrefi cymdeithasol yn flaenoriaeth gynnar ar gyfer gweithredu. Bydd hyn yn sicrhau bod tenantiaid yn byw mewn cartrefi carbon isel o ansawdd da sy'n defnyddio ynni'n effeithlon, ac rydym yn defnyddio'r cyfle i sbarduno datblygiad diwydiant ôl-osod newydd ac arloesedd ar gyfer ein busnesau bach a chanolig eu maint a'n cymunedau.

Diolch, Weinidog. Rwy'n credu ein bod i gyd yn cefnogi'r nodau rydych newydd eu nodi, fel y mae ein cymdeithasau tai, wrth gwrs. Maent eisiau helpu i gyflawni'r agenda ddatgarboneiddio, ond yn amlwg bydd hyn yn galw am gyllid, a gobeithio y gellir gwneud hynny heb i gost codiadau rhent gael eu trosglwyddo i'r tenantiaid. Er mwyn osgoi sefyllfa lle bydd yn rhaid i rai o'r tenantiaid mwyaf agored i niwed dalu am y polisi hwn, a ydych chi'n edrych ar gynllun a fyddai'n cynorthwyo cymdeithasau tai i gyflawni ar y mater pwysig hwn a rhoi mecanweithiau iddynt godi'r arian hwn heb drosglwyddo'r cyfan i'r tenantiaid?

Ydw, yn bendant. Mae amrywiaeth o bethau gwahanol yn cael eu gwneud. Yn gyntaf oll, mae gennym y rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio roeddwn yn sôn amdani'n gynharach, lle mae angen inni brofi pa dechnoleg, pa sgiliau, pa ôl-osod sy'n gweithio ar gyfer pob math penodol o dŷ. Felly, mae hynny'n datblygu'n gyflym ledled Cymru ar hyn o bryd. Rydym yn dod at ddiwedd safon ansawdd tai Cymru. Rydym wedi gorfod ei ymestyn ar gyfer un neu ddau o gynghorau oherwydd y pandemig, felly yn hytrach na diwedd y flwyddyn hon bydd yn ddiwedd y flwyddyn nesaf pan allwn ddweud o'r diwedd fod pob cyngor a phob landlord cymdeithasol cofrestredig yng Nghymru wedi cyrraedd safon ansawdd tai Cymru. Rydym wedi arfer â safon ansawdd tai Cymru, ond pan wnaethom ei dechrau, câi ei hystyried yn hurt ac yn gwbl amhosibl, ac eto dyma ni; rydym wedi gwneud hynny ledled Cymru i raddau helaeth. Ac wrth gwrs, bydd yr holl arian a fuddsoddwyd gennym ynddi yn cael ei ailfuddsoddi i sicrhau ein bod yn gwneud hyn eto, ond bellach yng ngoleuni'r dechnoleg fodern sydd wedi deillio o'r rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio. Fel y dywedais yn gynharach mewn ymateb i Joyce Watson, nid rhaglen dai ar draws y Llywodraeth yn unig yw hon; caiff ei noddi ar y cyd â'r Gweinidog Addysg a Gweinidog yr economi a minnau, am yr union resymau a nodais. Felly, mae hyn yn ymwneud ag adeiladu'r diwydiant, adeiladu'r sgiliau ac adeiladu'r dechnoleg yma yng Nghymru er mwyn gallu datrys y broblem, wrth symud ymlaen, nid yn unig ar gyfer tai, ond ar gyfer cyflogaeth a'r gallu technolegol a'r sgiliau sy'n dod ochr yn ochr â hynny.

15:15
Gwella Ansawdd Tai

8. Pa gynnydd sydd wedi'i wneud ers 2016 i wella ansawdd stoc tai Cymru? OQ55867

Diolch, David. Rhwng mis Mawrth 2016 a mis Mawrth 2019, cynyddodd cydymffurfiaeth â safon ansawdd tai Cymru mewn tai cymdeithasol o 79 y cant i 93 y cant. Mae hyn wedi gwella'r ddarpariaeth o gartrefi diogel, addas o ansawdd da i rai o'r tenantiaid tlotaf a mwyaf agored i niwed sy'n byw mewn cartrefi cymdeithasol yng Nghymru.

Rwy'n falch iawn ein bod wedi gweld gwelliannau mawr yn ansawdd tai cymdeithasol, ond mae rheoleiddio gwael wedi bod, o ran y rheoliadau eu hunain—y rheoliadau adeiladu—a'r broses o'u harchwilio mewn llawer o'r stoc tai preifat, yn enwedig mewn crynoadau o dai mwy dwys. Ac rwy'n meddwl tybed pa mor hyderus ydych chi na fyddwn yn gweld, yn y 2020au, pan fyddwn yn wynebu galwadau mawr i adeiladu mwy o dai, y math o broblemau rydym wedi'u cael ers troad y ganrif yn ansawdd yr hyn roedd llawer o bobl yn ei feddwl oedd y tai o'r ansawdd gorau a oedd ar gael iddynt.

Yn sicr. Roeddwn yn dweud yn gynharach, onid oeddwn, mewn ymateb i Siân Gwenllian, ein bod wedi colli llawer o'r ddeddfwriaeth roeddem yn gobeithio ei chyflwyno o ganlyniad i'r pandemig. Un o'r rhai rwy'n gresynu fwyaf ynghylch ei cholli yw'r rheoliadau adeiladu a'r diwygiad i Ran L a'r hyn a fydd yn awr yn Bapur Gwyn yn y dyfodol ar safonau adeiladu a diogelwch adeiladau.

Credaf fod consensws ar draws y Siambr yn hynny o beth. Unwaith eto, byddwn yn ein hannog i gyd i edrych ar hynny mewn maniffestos wrth symud ymlaen, oherwydd gorau po gyntaf y gallwn wneud hynny ar ôl yr etholiad yn fy marn i. Amlinellais—credaf mai blwyddyn a hanner yn ôl yn unig oedd hynny—yr hyn roeddem yn ei wneud i weithio ar hynny gyda'r gwahanol grwpiau, am yr union reswm rydych newydd ei nodi, ein bod eisiau sicrhau ein bod yn dysgu gwersi'r gorffennol, gwersi erchyll y gorffennol hefyd, a bod gennym, wrth symud ymlaen, y stoc dai orau yn Ewrop. Felly, rwy'n hyderus y bydd modd rhoi hwnnw ar waith ac rwy'n eithaf sicr fod pob plaid fawr yn y lle hwn o'i blaid. Felly, ar ôl yr etholiad, rwy'n siŵr y bydd yn flaenoriaeth uchel.

3. Dadl: Cyfnod 4 y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru)

Yr eitem nesaf yw'r ddadl ar Gyfnod 4 y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru). Felly, peidiwch ag eistedd i lawr, Weinidog, chi sydd yn cyflwyno'r eitem yma. Felly, Julie James.

Cynnig NDM7486 Julie James

Cynnig bod y Senedd yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:

Yn cymeradwyo Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru).

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd. Rwy'n gwneud y cynnig.

Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Gadeiryddion ac aelodau'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad a'r Pwyllgor Cyllid, yn ogystal ag Aelodau eraill sydd wedi cyfrannu at y gwaith o graffu ar Fil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru). Rwyf hefyd yn ddiolchgar iawn i'r holl randdeiliaid a ymatebodd i'r ymgynghoriadau ar y Papur Gwyn a'r Papur Gwyrdd, a fu'n gyfrifol am lywio'r Bil, a'r rhai a gyfrannodd dystiolaeth i'r broses graffu. Rwy'n arbennig o ddiolchgar i bawb mewn llywodraeth leol sydd wedi gweithio gyda mi a fy swyddogion i gytuno ar weledigaeth gyffredin ar gyfer y dyfodol ac i ddatblygu atebion ar y cyd i'r heriau y maent yn eu hwynebu, heriau sydd wedi rhoi siâp i'r Bil terfynol. Yn olaf, Lywydd, hoffwn dalu teyrnged i dîm y Bil a'r swyddogion yn Llywodraeth Cymru sydd wedi gweithio'n galed iawn i gefnogi'r Bil drwy ei nifer fawr iawn o iteriadau. Mae'n flwyddyn i'r diwrnod ers inni gyflwyno'r Bil i'r Senedd, sy'n dwt iawn.

Felly, rwy'n cydnabod bod darpariaethau'r Bil hwn wedi bod ar y gweill am amser hir. Mae'r cynigion ar gyfer diwygio llywodraeth leol wedi bod yn destun trafodaeth ac ymgynghoriad manwl iawn. Efallai ei bod wedi cymryd sawl blwyddyn i gyrraedd y pwynt hwn, ond credaf fod gennym Fil yn awr a fydd yn sicrhau diwygio effeithiol a gynlluniwyd gyda llywodraeth leol.

Mae Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru), a gyflwynwyd i'r Senedd union flwyddyn yn ôl i'r diwrnod, yn darparu pecyn eang o ddiwygiadau. Mae'r rhain yn cynnwys pŵer cymhwysedd cyffredinol ar gyfer prif awdurdodau lleol a chynghorau cymuned cymwys a chyfundrefn lywodraethu a pherfformiad newydd ar gyfer prif gynghorau. Mae'r Bil yn rhoi mwy o gyfleoedd i'r cyhoedd gymryd rhan a thryloywder mewn llywodraeth leol er mwyn rhoi mwy o bŵer i bobl leol. Mae'n cynnwys mesurau i annog mwy o amrywiaeth ymhlith deiliaid swyddi ac aelodau o brif gynghorau, megis y rhai sy'n ymwneud â rhannu swyddi, gweithio o bell ac absenoldeb teuluol.

Bydd y Bil yn galluogi cyd-bwyllgorau corfforaethol i gael eu sefydlu drwy reoliadau. Bydd y rhain yn dod â mwy o gydlyniad i drefniadau llywodraethu rhanbarthol; byddant yn cryfhau atebolrwydd democrataidd lleol drwy sicrhau mai aelodau etholedig lleol sy'n gwneud penderfyniadau gyda'i gilydd ynglŷn â gwasanaethau llywodraeth leol, gan ddarparu ar gyfer pobl a chymunedau ledled Cymru.

Mae ymgynghoriad ar y rheoliadau sefydlu ar y gweill ar hyn o bryd tan 4 Ionawr, ac rwy'n croesawu barn yr Aelodau ar y rheoliadau hynny.

Bydd y Bil hefyd yn gwella'r trefniadau etholiadol ar gyfer llywodraeth leol. Mae hyn yn cynnwys ymestyn yr etholfraint i gynnwys pobl ifanc 16 a 17 oed ac i ddinasyddion tramor sy'n preswylio'n gyfreithlon yng Nghymru, gan ganiatáu iddynt gael llais yn y ffordd y caiff eu cymunedau eu rhedeg. Mae hyn yn adlewyrchu hawliau pobl ifanc 16 a 17 oed a dinasyddion tramor cymwys i gofrestru a phleidleisio yn etholiadau'r Senedd.

Bydd y Bil yn diwygio'r ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â chyllid llywodraeth leol, gan gynnwys ardrethi annomestig cenedlaethol a'r dreth gyngor ac yn cryfhau ac yn moderneiddio gweithrediad llywodraeth leol mewn ystod o faterion amrywiol.

I grynhoi, bydd y Bil hwn yn ein galluogi i weithredu ein cynigion ar gyfer cryfhau a grymuso llywodraeth leol yng Nghymru. Bydd yn adeiladu prif gynghorau a chynghorau cymuned gwydn ac adnewyddedig, gan ddarparu gwell arfau iddynt weithio gyda'i gilydd a chyda ni, eu cymunedau, ac ar draws pob sector i ailadeiladu Cymru yng ngoleuni'r pandemig coronafeirws. Rwy'n annog yr holl Aelodau i gefnogi'r Bil hwn. Diolch.

15:20

Corfforaetholdeb yw'r ddamcaniaeth a'r ymarfer o drefnu cymdeithas yn gorfforaethau sy'n ddarostyngedig i'r wladwriaeth. Y dull hwn sydd wedi bod yn dal Cymru yn ôl ers 1999, gan dagu lleoliaeth a thrwy hynny lyffetheirio entrepreneuriaeth gymdeithasol ac arloesi cymunedol. Mae'r Bil hwn a allai fod wedi sbarduno'r newidiadau angenrheidiol wedi dod, yn lle hynny, yn gyfle a gollwyd. Mewn unrhyw gorff neu sefydliad, mae arweinyddiaeth o'r brig i lawr yn rhwystro'r newid sydd ei angen yn y ffordd y mae pobl, sefydliadau a systemau yn ymwneud â'i gilydd, pan ddylai pawb fod yn cynyddu lleisiau a doethineb pobl a chymunedau yn lle hynny, gan gydnabod bod creadigrwydd, dyfeisgarwch a dychymyg wedi'u dosbarthu'n eang ymhlith y boblogaeth. Dylai llywodraeth genedlaethol a llywodraeth leol fod yn datblygu ac yn rhyddhau'r potensial hwnnw tuag at amcanion cyffredin.

Mewn datganiad heddiw, ar fframwaith ar gyfer buddsoddi rhanbarthol yng Nghymru, dywed Llywodraeth Cymru fod y Cabinet wedi cytuno i drosglwyddo 'cymaint â phosibl' o'r gwaith penderfynu a blaenoriaethu i ardaloedd a rhanbarthau lleol, ond wedyn mae'n ychwanegu mai'r mecanwaith a fwriedir yw'r cyd-bwyllgorau corfforaethol a gynigir o dan y Bil hwn. Fodd bynnag, datgelodd y Gweinidog y gyfrinach yn ystod y ddadl ar Gyfnod 3 y Bil yn y lle hwn yr wythnos diwethaf. Fel y dywedais bryd hynny, o ystyried eu rôl o ran seilwaith rhanbarthol a datblygu economaidd, mae'r gallu i ganiatáu i Weinidogion Cymru fandadu creu cyd-bwyllgorau corfforaethol hefyd yn tanseilio'r datganoli mewnol a'r gwaith partneriaeth lleol a sefydlwyd mewn ardaloedd gan gyrff fel Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, cynghrair sy'n cynnwys y ddwy Lywodraeth, pob un o chwe chyngor gogledd Cymru, busnes a'r byd academaidd.

Fodd bynnag, er ei bod yn cydnabod bod gan brif gynghorau gyfoeth o brofiad yn cyflawni swyddogaethau economaidd, gan gynnwys ar lefel ranbarthol, drwy'r bargeinion dinesig a thwf er enghraifft, dywedodd y Gweinidog wedyn ei bod yn gobeithio y bydd rhanbarthau'n trosglwyddo eu trefniadau rhanbarthol presennol i'r cyd-bwyllgorau corfforaethol ar ôl eu sefydlu. Ond mae'n ofynnol i'r cyd-bwyllgorau corfforaethol, o dan y Bil, roi sylw i unrhyw ganllawiau rydym ni Weinidogion Cymru yn eu cyhoeddi mewn perthynas â'u gweithrediadau, gan gynnwys eu swyddogaethau, a bydd Gweinidogion Cymru hefyd yn gallu gosod cyfyngiadau ar arfer y swyddogaeth llesiant economaidd drwy reoliadau. Felly, mae hyn naill ai'n camddeall neu'n tanseilio'r materion allweddol a amlinellais yn gynharach, lle mae llwyddiant y bargeinion dinesig a thwf, neu unrhyw fentrau lleol neu ranbarthol eraill, yn dibynnu ar blannu a meithrin yr hadau'n lleol.

Mae arweinyddiaeth effeithiol yn ymwneud â pharchu eraill, datgloi eu cryfderau cynhenid a gallu dirprwyo. Fodd bynnag, drwy gydol ei hymatebion yn ystod Cyfnodau blaenorol i'r Bil hwn, mae'r Gweinidog wedi datgan ei chred bersonol yn y cynigion o fewn y Bil hwn, sy'n cael eu gwrth-ddweud yn uniongyrchol gan y dystiolaeth a ddarparwyd gan y cyrff arbenigol yn gweithio yn y meysydd perthnasol, ac yna wedi arwain ei phlaid i drechu ein holl welliannau cysylltiedig.

Wrth ddiystyru arferion da rhyngwladol, gwrthododd y gofynion preswylio gofynnol cyn y gall dinasyddion tramor bleidleisio yma. Wrth ddiystyru'r Gymdeithas Diwygio Etholiadol, gwrthododd ofyniad i wleidyddiaeth a democratiaeth yng Nghymru gael eu haddysgu ym mhob ysgol yng Nghymru. Wrth ddiystyru academyddion, gwrthododd ddarpariaeth i sicrhau nad yw unigolion yn cael eu cofrestru'n awtomatig ar y gofrestr etholiadol agored, gan effeithio ar yr unigolion sydd yn bwrpasol wedi dewis peidio â chofrestru rhag cael eu hadnabod gan gyn-bartneriaid treisgar neu bobl eraill a allai fod eisiau eu niweidio.

Wrth ddiystyru Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Cymdeithas Prif Weithredwyr yr Awdurdodau Lleol a'r Comisiwn Etholiadol, gwrthododd gynigion i gadw un system bleidleisio llywodraeth leol ar gyfer Cymru gyfan. Wrth ddiystyru Archwilydd Cyffredinol Cymru, gwrthododd ei ddadl y dylai'r cynghorau tref a chymuned sy'n dymuno arfer y pŵer cymhwysedd cyffredinol baratoi strategaeth ar gyfer arfer y pŵer yn briodol.

Wrth ddiystyru Cymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru, yr Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau a Rhwydwaith Cydgynhyrchu Cymru, gwrthododd nifer o gynigion i gynnwys pobl leol a sefydliadau cymunedol lleol wrth wneud penderfyniadau ar bob lefel o lywodraeth leol er mwyn sicrhau adfywio economaidd, cymunedol a chymdeithasol cynaliadwy. Yn hytrach, fel y canfu ymchwilwyr yr Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau, mae pobl yng Nghymru'n teimlo'n llai a llai abl i ddylanwadu ar benderfyniadau sy'n effeithio ar eu hardal leol. Diystyrodd dystiolaeth unfrydol hyd yn oed gan awdurdodau tân ac achub Cymru y byddai'r newidiadau i'r trefniadau llywodraethu y mae'r Bil hwn yn eu cynnig i'w gweld, ac rwy'n dyfynnu, 'yn gam yn ôl, gyda rhywfaint o risg i ddiogelwch y cyhoedd a diffoddwyr tân.' A gwrthododd ddyletswydd ar Lywodraeth Cymru i ddigolledu awdurdodau lleol am unrhyw gostau yr eid iddynt o ganlyniad i ddarpariaethau yn y Bil hwn. Felly, dylai pob Aelod cyfrifol wrthwynebu'r Bil hwn, a byddwn yn pleidleisio yn ei erbyn yn unol â hynny.

15:25

Rŷn ni fel plaid yn gefnogol o nifer o agweddau'r ddeddfwriaeth hon, yn enwedig y mesurau i estyn yr hawl i bleidleisio ar gyfer pobl ifanc 16 ac 17 mlwydd oed a hefyd pobl sydd wedi dewis gwneud eu cartref yma yng Nghymru. Mae hynny i'w glodfori ac yn bwysig, a byddwn ni'n falch o bleidleisio o blaid y ddeddfwriaeth heno.

Ond rhaid dweud bod cyfle hefyd wedi ei golli yma. Roedd cyfle i newid diwylliant llywodraeth leol mewn cymaint o ffyrdd, i gyflwyno mwy o gyfartaledd ac i newid y system bleidleisio yn genedlaethol. Yn ystod trafodaethau ar y ddeddfwriaeth, mae'r Gweinidog wedi ymrwymo i gymryd sawl cam i wella cydraddoldebau ac amrywiaeth, ac rŷn ni'n disgwyl ac yn mawr obeithio y bydd yr ymrwymiadau hynny yn cael eu gweithredu arnynt. Rŷn ni'n cysylltu ein hunain gyda rhai o'r pethau roedd Mark Isherwood wedi dweud am y corporate joint committees hefyd, yn amlwg.

Diolch eto i'r clercod, i staff cymorth y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau am eu gwaith caled. Gwnawn ni obeithio bod mwy o ddatblygiadau pwysig eto i ddod yn sgil y ddeddfwriaeth hon. Diolch.

Diolch, Lywydd. Hoffwn ddiolch eto i bawb sydd wedi gweithio mor galed ar y Bil, gan gynnwys y pwyllgorau a phawb yma yn y Senedd. Diolch.

Yn unol â Rheol Sefydlog 26.50C, rhaid cynnal pleidlais wedi ei chofnodi ar gynigion Cyfnod 4, felly mae'r bleidlais ar y Cyfnod yma yn cael ei gohirio tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

4. Cwestiynau Amserol

Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau amserol, ond does dim wedi cael eu dewis ar gyfer heddiw.

5. Datganiadau 90 eiliad

A'r datganiadau 90 eiliad, felly, sydd nesaf. Mae'r datganiad cyntaf gan Jenny Rathbone.

Diolch, Lywydd. Y dydd Gwener hwn yw Diwrnod Cyflog Cyfartal. Am weddill y flwyddyn hon, mae menywod i bob pwrpas yn gweithio am ddim oherwydd y diffyg o ran yr hyn y dylent fod yn ei ennill o'i gymharu â dynion. Ysbrydolwyd Deddf Cyflog Cyfartal Barbara Castle ym 1970 gan streic peirianwyr gwnïo Ford Dagenham. Roeddent wedi cael llond bol ar weld eu gwaith medrus iawn yn ennill llai iddynt na'r hyn roedd dynion yn ei ennill am ysgubo llawr y ffatri o'u cwmpas. Wedi'u hysbrydoli gan fenywod Dagenham—nid oedd Ford Pen-y-bont ar Ogwr yn bodoli ar y pryd—penderfynodd menywod yn ffatri Hoover ym Merthyr Tudful roi prawf ar y Ddeddf Cyflog Cyfartal newydd hon ym 1970. Roedd rheolwyr Hoover yn fodlon, ond mae'r ffordd yr adweithiodd y gweithlu gwrywaidd, gyda chefnogaeth eu harweinwyr gwrywaidd yn yr undebau llafur, fel yn Ford, yn dangos pam ei bod wedi cymryd cyhyd i sicrhau cyflog cyfartal.

Mae dwywaith cymaint o fenywod wedi colli eu swyddi yn ystod y pandemig, gan fod dynion a chyflogwyr yn tybio y byddai menywod yn ysgwyddo'r rhan fwyaf o'r gwaith addysgu ychwanegol gartref, y gwaith tŷ a'r gofal plant yn ystod y cyfyngiadau symud, a dyna'n union sydd wedi digwydd. Mae'r frwydr gyflogau ddiweddaraf ar y cae pêl-droed. Mae sgwad pêl-droed menywod Cymru yn mynnu cyflog cyfartal â thîm y dynion. Mae menywod sy'n cynrychioli Lloegr yn rhyngwladol eisoes yn cael yr un cyflog â'u cymheiriaid gwrywaidd, ond nid yw Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi gwneud datganiad hyd yn hyn ar rinweddau cyflog cyfartal i dîm menywod Cymru.

15:30

Eleni, rydym yn dathlu canmlwyddiant Cymdeithas y Wrens a Gwasanaethau Menywod y Llynges Frenhinol (WRNS), sy'n cadw ffrindiau a chyn-gymheiriaid mewn cysylltiad. Mae Barbara McGregor, swyddog gwarant dosbarth 1 RNCS, sy'n byw yn Abercynfig, yn un o ymddiriedolwyr y gymdeithas. Mae'n ymddeol eleni, ar ôl 44 mlynedd o wasanaeth rhagorol yng Ngwasanaeth Menywod y Llynges Frenhinol. Ymunodd yn gyntaf fel gweithiwr radio Wren yn 1977 ac wrth drosglwyddo i'r gangen reoleiddio, daeth yn orau yn ei dosbarth o 12 dyn. Ar y cychwyn, y drefn yn HMS Raleigh Cornwall, y sefydliad hyfforddi newydd-ddyfodiaid, oedd hyfforddi graddfeydd newydd i fenywod ar gyfer WRNS, ac yn ddiweddarach, ar ôl cael ei dyrchafu'n feistr arfau, bu'n hyfforddi recriwtiaid benywaidd a gwrywaidd gyda'i gilydd am y tro cyntaf, a lle dechreuodd menywod fynd i'r môr am y tro cyntaf.

Gan ddychwelyd yn 1994, ar ôl arloesi gydag absenoldeb mamolaeth, fel rheolwr swyddfa canolfan cyswllt gyrfaoedd swyddogion y Llynges Frenhinol ym Mryste, cododd drwy'r rhengoedd i ddod yn rheolwr datblygu rhanbarthol ar gyfer Rheolaeth Ranbarthol y Llynges ar gyfer Cymru a Gorllewin Lloegr, gan gynnwys swyddfeydd gyrfaoedd y lluoedd arfog o Wrecsam i Redruth. Roedd ganddi rôl bwysig yn uwchgynhadledd NATO yng Nghaerdydd yn 2014, ac fe'i hetholwyd i fod yn swyddog gwarant uchaf gwasanaeth gyrfaoedd y Llynges Frenhinol rhwng 2018 a heddiw.

Roedd hi i fod i arwain cynrychiolaeth Cymdeithas y Wrens wrth y senotaff yn Whitehall am y tro olaf fel swyddog gwarant sy'n gwasanaethu, ond nid oedd hyn i fod oherwydd COVID. Yn hytrach, gwisgodd ei lifrai am y tro olaf i osod torch wrth senotaff Bryn, ger Maesteg, lle hanai ohono'n wreiddiol. Rydym yn talu teyrnged i Barbara McGregor, swyddog gwarant dosbarth 1 RNCS, a'r holl fenywod sydd wedi gwasanaethu'n ddewr ac yn anrhydeddus yn ein llynges, ac i Gymdeithas y Wrens a Gwasanaethau Menywod y Llynges Frenhinol ar adeg eu canmlwyddiant. Diolch, bawb.

Nid bob dydd y mae Wrecsam yn dod i'r brig fel stori newyddion ledled y DU—ond nid bob dydd chwaith y daw dau o sêr Hollywood yn berchnogion newydd clwb pêl-droed Wrecsam. Ac ers y cyhoeddiad ddydd Llun fod cefnogwyr wedi pleidleisio i dderbyn y cynnig gan Ryan Reynolds a Rob McElhenney, cafwyd tonnau o sylw yn y cyfryngau, ac mae'r dref wedi'i chyffroi drwyddi. Mae'r trydydd clwb proffesiynol hynaf yn y byd wedi gweld adegau gwych a gwael yn y gorffennol—ar y cae ac oddi arno, gyda'r fuddugoliaeth enwog yn erbyn Arsenal yn uchafbwynt arbennig i mi, ac i sawl un arall rwy'n siŵr.

Mae'r ddau ddarpar berchennog newydd wedi pwysleisio eu bod yn deall ac yn parchu gwreiddiau cymunedol dwfn y clwb, ei waddol, a'i berthynas â thrychineb Gresford. Maent yn gefnogwyr. Ac yn wahanol i rai perchnogion blaenorol, nid ydynt yn ei wneud er mwyn ennill arian yn hawdd. Ac wrth i'r bennod hon ddechrau, ni ddylem anghofio, wrth gwrs, y gwaith y mae Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam wedi'i wneud i ddiogelu'r clwb ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol—mae miloedd o wirfoddolwyr di-dâl wedi buddsoddi arian, amser ac ymdrech yn eu clwb cymunedol, a dylent fod yn falch o'u cyfraniad.

Gwelais y Prif Weinidog yn llongyfarch y perchnogion newydd ddoe, a bydd mwy o sylw yn y cyfryngau rhyngwladol i brifddinas gogledd Cymru dros y misoedd nesaf. Rydym wedi gweld hefyd sut y mae noddwr y crysau—un Ifor Williams, neu 'E-for Williams', fel y maent yn cael eu galw erbyn hyn mae'n debyg—maent eisoes wedi elwa ar sgiliau marchnata'r ddau ddarpar berchennog. Llwyddodd fideo a oedd yn hyrwyddo'r cwmni trelars yng Nghorwen i ddenu mwy na 4 miliwn o wylwyr mewn ychydig oriau'n unig.

Mae hyn yn hwb mawr i'r dref, ac i ogledd Cymru i gyd, ar ôl yr hyn a fu, wrth gwrs, yn flwyddyn eithaf llwm a digalon. Ac edrychaf ymlaen, fel yr holl Aelodau o'r Senedd hon, rwy'n siŵr, at y bennod nesaf yn hanes disglair y clwb.

Da iawn. Byddwn ni'n atal y cyfarfod nawr am gyfnod byr er mwyn gwneud newidiadau yn y Siambr. Felly, diolch, a byddwn ni nôl mewn ychydig funudau.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 15:34.

15:35

Ailymgynullodd y Senedd am 15:39, gyda'r Dirprwy Lywydd (Ann Jones) yn y Gadair.

6. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Cartrefu ceiswyr lloches yng ngwersyll milwrol Penalun

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Neil Hamilton. 

O'r gorau. Felly, eitem 6 ar yr agenda y prynhawn yma yw'r ddadl aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21 ar gartrefu ceiswyr lloches yng ngwersyll milwrol Penalun, a galwaf ar Joyce Watson i wneud y cynnig—Joyce.

Cynnig NDM7455 Helen Mary Jones, Joyce Watson, Leanne Wood

Cefnogwyd gan John Griffiths, Llyr Gruffydd, Mick Antoniw

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn credu y dylai Llywodraeth y DU fod wedi cynnal trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru a chynrychiolwyr lleol cyn rhoi llety i geiswyr lloches yng nghanolfan filwrol Penalun, ger Dinbych-y-pysgod.

2. Yn credu y dylid ailystyried y penderfyniad am ei fod yn lle anaddas i geiswyr lloches, gan ei fod wedi'i ynysu oddi wrth rwydweithiau cymorth priodol.

3. Yn condemnio'r protestiadau treisgar a drefnwyd gan grwpiau'r asgell dde eithafol o'r tu allan i Sir Benfro.

4. Yn canmol trigolion a gwirfoddolwyr lleol o bob rhan o Gymru sydd wedi croesawu a chefnogi'r ceiswyr lloches.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n gwneud y cynnig ar fy rhan i, Leanne Wood a Helen Mary, a fydd yn cloi'r ddadl. Fe'i cefnogir hefyd gan John Griffiths, Mick Antoniw a Llyr Gruffydd, a diolch iddynt am hynny. Rwy'n siŵr y byddai'r rhan fwyaf o'n cyd-Aelodau'n cefnogi ein cynnig, fel y byddai'r mwyafrif helaeth o'r bobl rydym yn eu gwasanaethu. Nid yw pob Aelod o'r Siambr hon yn rhannu ein barn, ac mae gwelliant cywilyddus Neil Hamilton yn tystio i hynny. Mae'n disgrifio grwpiau gwirfoddol sy'n gwrthwynebu hiliaeth, casineb a ffasgaeth fel y chwith eithafol. Ond dyna ni, rydym yn sôn am ddyn a oedd unwaith yn westai anrhydeddus mewn clwb preifat a alwai am adfer rheolaeth wâr i Dde Affrica, a'r hyn a olygai, wrth gwrs, oedd goruchafiaeth y dyn gwyn. Felly, ni fyddwn yn disgwyl dim llai ganddo, ac fe symudaf ymlaen.

Fel y gwyddoch, Lywydd, ym mis Medi, cyhoeddodd Llywodraeth y DU, heb ymgynghori â Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, byrddau iechyd na thrigolion, a heb ddarparu cyllid ychwanegol ar gyfer Cyngor Sir Penfro na Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, y byddai tua 200 o geiswyr lloches yn cael eu cartrefu yng nghyn-wersyll milwrol Penalun ger Dinbych-y-pysgod. Mae bellach yn gartref i oddeutu 250 o ddynion.

Afraid dweud nad yw gwersyll milwrol byth yn lle addas i gartrefu pobl sydd wedi ffoi rhag gormes a rhyfel, pobl sydd wedi dioddef caledi a thrawma na ellir ei ddychmygu ac wedi'u gwahanu oddi wrth eu teuluoedd, yn enwedig hen wersyll wedi dirywio fel Penalun. Rwy'n gwybod ei fod yn hen, oherwydd arferai fy nhad hyfforddi recriwtiaid yno pan oedd yn sarjant staff. Roedd yn eithaf llwm bryd hynny, ac yn ôl pob sôn, mae'r amodau'n warthus yno erbyn hyn. Mae'n peryglu iechyd corfforol a meddyliol y dynion a'u hurddas fel bodau dynol. Ac eto, dro ar ôl tro mae'r Swyddfa Gartref wedi methu mynd i'r afael â'r amodau byw gwael ym Mhenalun. Mae arnaf ofn ei fod yn fater o allan o olwg, allan o feddwl, ac mae'n rhan o bolisi amgylchedd gelyniaethus ehangach yr Ysgrifennydd Cartref sy'n cael ei ddefnyddio i erlid newydd-ddyfodiaid agored i niwed i Brydain. Yn ôl adroddiadau a ddatgelwyd yn answyddogol y penwythnos diwethaf, mae hyd yn oed swyddogion y Swyddfa Gartref yn pryderu bod lles plant yn cael ei beryglu gan y bwriad i erlyn ffoaduriaid am droseddau mewnfudo.

Yn y cyfamser, pobl dda sir Benfro sy'n gofalu am y dynion hyn, heb ddim arian a dim arbenigedd. Mae prosesu a gofalu am nifer mor fawr o bobl sy'n ceisio lloches yn y ffordd hon yn sefyllfa ddigynsail yng Nghymru, heb sôn am sir Benfro, heb sôn am bentref bach. Rydym yn siarad am le gydag un siop, er mwyn popeth. Nid oes gennym gapasiti na gallu i ddarparu ar gyfer y math hwn o gyfleuster yng ngorllewin Cymru.

Ceir pedair canolfan wasgaru yng Nghymru—Caerdydd, Abertawe, Casnewydd a Wrecsam. A gwn o fy ngwaith gyda'r grŵp trawsbleidiol ar fasnachu mewn pobl fod ganddynt lwybrau a seilwaith sefydledig i ofalu am geiswyr lloches, i roi sylw i'w hanghenion llety, gofal iechyd, cymorth bugeiliol a diwylliannol, yn ogystal â chyngor cyfreithiol, a'r holl anghenion eraill. Nid oes unrhyw beth tebyg i hynny, na chyllid ar ei gyfer, yn sir Benfro. Wedi dweud hynny, er yr holl anawsterau, mae pobl leol a darparwyr gwasanaethau cyhoeddus yn gwneud eu gorau glas i ofalu am y dynion hyn. Mae bwrdd iechyd Hywel Dda wedi gweithio'n ddiflino i drefnu a darparu gwasanaethau gofal iechyd craidd ac estynedig. Ar yr un pryd, maent yn wynebu her ddigynsail pandemig byd-eang. Mae Cyngor Sir Penfro wedi sefydlu gwefan i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i bobl leol am yr hyn sy'n digwydd yn y gwersyll, ac mae presenoldeb yr heddlu ym Mhenalun a Dinbych-y-pysgod wedi'i gynyddu i dawelu meddwl trigolion. Ac mae hynny ynddo'i hun, wrth gwrs, yn rhoi straen enfawr ar eu cyllidebau lleol, na chânt  eu digolledu amdano gan Lywodraeth y DU.

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio'n agos gyda phartneriaid lleol i leihau risgiau a sicrhau lles gorau pawb yr effeithir arnynt. Ac mae mudiadau gwirfoddol wedi cyflawni ein haddewid fel cenedl noddfa. Fel y gŵyr unrhyw un sydd wedi ymweld â sir Benfro erioed—ac ar ôl yr haf hwn, credaf fod hynny'n cynnwys o leiaf hanner poblogaeth Prydain—rydym yn bobl gynnes a chroesawgar. Mae'r mwyafrif helaeth o bobl leol wedi ymateb i orfodaeth y Swyddfa Gartref gyda thosturi a gofal. Mae rhai grwpiau lleol bellach yn cydlynu cymorth ar y safle i'r dynion, ac mae cynllun ar waith i brynu ffonau symudol. Mae'r Swyddfa Gartref yn mynd â ffonau ffoaduriaid wrth iddynt gyrraedd, ond maent yn hanfodol; maent yn galluogi'r ffoaduriaid i gysylltu â'u hanwyliaid, i siarad â chyfreithwyr os oes angen, a llawer o bethau eraill hefyd. Ond gyda'r ewyllys gorau yn y byd, nid yw'n sefyllfa gynaliadwy. Nid yw Penalun yn lleoliad addas ac ni all gorllewin Cymru, ar hyn o bryd, ddarparu'r cymorth a'r gofal cymhleth sydd ei angen ar y dynion hyn, a'r hyn y maent yn ei haeddu mewn gwirionedd. Nid yw'n deg i neb. Rhaid i'r Swyddfa Gartref ymyrryd nawr. Diolch.

15:45

Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig, a galwaf ar Neil Hamilton i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn ei enw ef. Neil.

Gwelliant 1—Neil Hamilton

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn condemnio'r anrhefn sydd wedi digwydd o fewn canolfan filwrol Penalun, ger Dinbych-y-pysgod, yn ystod y cyfnod pan y rhoddwyd llety i geiswyr lloches yno dros yr wythnosau diwethaf, sydd wedi arwain at bresenoldeb rheolaidd gan yr heddlu.

2. Yn nodi adroddiadau yr arestiwyd pump ceisiwr lloches sy'n byw yng nghanolfan filwrol Penalun ar 10 Tachwedd 2020 ac adroddiadau am ddau arestiad y tu mewn i'r ganolfan ym mis Hydref 2020.

3. Yn nodi ymhellach adroddiadau am geiswyr lloches sy'n byw yng nghanolfan filwrol Penalun yn torri rheoliadau a chanllawiau coronafeirws ac yn ymddwyn yn afreolus wrth deithio y tu allan i'r ganolfan; a'r gofid a achoswyd i drigolion Penalun o ganlyniad i hyn.

4. Yn credu mai un o achosion rhannol y sefyllfa yn Penalun yw methiant Llywodraeth y DU i weithredu rheolaethau mewnfudo a ffiniau dyngar, cadarn a theg sy'n sicrhau nad yw trigolion tramor nad ydynt yn drigolion y DU, ac yn enwedig y rhai y gwrthodwyd ceisiadau am loches iddynt neu sydd wedi gwrthod yr hawl i breswylio mewn gwledydd diogel eraill, yn dod i mewn neu'n aros yn y DU yn anghyfreithlon.

5. Yn credu ymhellach mai un o achosion rhannol arall y sefyllfa yn Penalun yw cynllun cenedl noddfa Llywodraeth Cymru, sy'n annog pobl tramor nad ydynt yn drigolion y DU i ddod i mewn i'r DU yn anghyfreithlon ac yna gwneud hawliadau am loches tra byddant wedi'u lleoli yng Nghymru.

6. Yn condemnio'n gryf ymddygiad treisgar, brawychus, tanseiliol a chuddiedig pleidiau a sefydliadau gwleidyddol y chwith eithafol weithiau, gan gynnwys Stand Up To Racism, Hope not Hate a Far Right Watch Wales, sydd wedi'i gyfeirio at bobl sy'n mynegi barn wleidyddol ddilys a rhesymol mewn perthynas â'r sefyllfa yn Penalun.

7. Yn credu bod barn trigolion Penalun o leiaf yr un mor bwysig â'r bobl hynny y cyfeirir atynt fel gwirfoddolwyr, grwpiau rhanddeiliaid, a chynrychiolwyr; ac yn canmol y rhan fwyaf o drigolion Penalun sydd o blaid rheolaethau mewnfudo a ffiniau dyngar, cadarn a theg yn y DU, ac yn berthnasol i Penalun yn benodol.

8. Yn credu y dylid rhoi'r gorau i roi llety i geiswyr lloches yng nghanolfan filwrol Penalun.

Cynigiwyd gwelliant 1

Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n cytuno â'r rhan fwyaf o'r hyn y mae'r sawl sy'n cyflwyno'r cynnig newydd ei ddweud, ond rwyf am ganolbwyntio ar yr hyn na ddywedodd yn y ddadl hon.

Yn gyntaf oll, rwyf am ganolbwyntio ar ein hetholwyr ym Mhenalun, nad ydynt yn rhannu'r brwdfrydedd yn y Blaid Lafur a Phlaid Cymru dros fewnfudo anghyfyngedig i'r wlad hon. A chredaf fod eu barn yn sicr yn haeddu mynegiant yn y Siambr hon. Mae'r syniad y dylid ystyried fy ngwelliant yn gywilyddus mewn unrhyw ffordd yn sarhad mewn gwirionedd ar y nifer enfawr o bobl, yn sir Benfro ac yn fwy eang yng Nghymru, sy'n rhannu fy marn i ar y broblem hon.

Yr ail bwynt rwyf am ei wneud yw bod dwy Lywodraeth yn gyfrifol am y llanast hwn ym Mhenalun. Yn gyntaf oll, wrth gwrs, ac yn bennaf, y Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan sy'n gyfrifol am ddympio'r bobl hyn mewn lleoliad cwbl anaddas. Rwy'n cytuno'n llwyr â Joyce ar hynny. Ond wrth gwrs, dim ond un enghraifft yw hon o fethiant llwyr polisi mewnfudo'r Llywodraeth a ffiasgo ein system reoli ffiniau.

Ond mae'r ail Lywodraeth—yr un yng Nghaerdydd: Llywodraeth Cymru—hefyd yn rhannol gyfrifol am eu bod wedi bod ymffrostio mewn rhinweddau am Gymru fel cenedl noddfa—ein bod yn agored i bawb sydd am ddod—tra bo cannoedd o filiynau o bobl ledled y byd a hoffai ddod i Brydain, mae'n siŵr, er mwyn gwella eu bywydau a phwy all eu beio? Ond ni allwn yn gyfrifol gael system fewnfudo sy'n caniatáu i bawb ac unrhyw un ddod i mewn i'r wlad hon.

Nawr, mae'n bwysig fod y Deyrnas Unedig yn gallu darparu lloches i'r rhai sydd mewn gwir angen gan atal ceiswyr lloches ffug a chael gwared ar y rhai y gwrthodwyd eu ceisiadau. Mae gan Brydain hanes anrhydeddus o gyflawni ei rhwymedigaethau o dan y confensiynau amrywiol ar ffoaduriaid a cheiswyr lloches sydd wedi bodoli ers 100 mlynedd. Dywed confensiwn y Cenhedloedd Unedig 1951, sy'n weithredol ar hyn o bryd, fod yn rhaid inni amddiffyn unrhyw un sy'n cyrraedd y wlad hon a fyddai, pe byddent yn cael eu hanfon yn ôl i'r wlad yr hanent ohoni, yn ofni erledigaeth ar sail hil, crefydd, cenedligrwydd, cred wleidyddol neu aelodaeth o grŵp cymdeithasol penodol, a bod sail i'w hofnau. Nid oes anghytundeb o gwbl rhyngom ar y pwynt hwn—rhwymedigaeth ddyngarol sylfaenol ydyw.

Ond wrth gwrs, nid ymdrin â cheiswyr lloches yn yr ystyr arferol a wnawn yma. Nid ydynt wedi cyrraedd yn syth o wlad wedi'i darnio gan ryfel. Mae'r rhan fwyaf ohonynt, yn ôl yr hyn a ddeallaf, os nad pob un ohonynt, wedi cyrraedd o Ffrainc, ar draws y sianel mewn cychod bach. Nid yn Ffrainc y cawsant eu herlyn. Mae Ffrainc yn wlad ddiogel. Felly, nid ydynt yn ceisio lloches ym Mhrydain am y rhesymau a ganiateir o dan gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig 1951. 

Nawr, mae'r system geisio lloches yn y wlad hon bellach dan straen enfawr, oherwydd y byddinoedd hyn o bobl sy'n ceisio dod i mewn i'r wlad hon yn anghyfreithlon. Mae ychydig dros hanner yr holl geiswyr lloches yn llwyddiannus yn y pen draw ac mae ceisiadau 38 y cant yn cael eu caniatáu yn ystod y cam cychwynnol, ac 17 y cant yn cael eu caniatáu ar ôl apêl. Ond gwrthodir lloches i ymhell dros 40 y cant, neu dyna a ddigwyddodd yn y blynyddoedd rhwng 2004 a 2018. Ac o'r rheini, mae 40 y cant, hyd yn oed ar ôl i'w hapêlau gael eu gwrthod, yn dal i aros yn y wlad hon; ni chânt eu halltudio a'u hanfon yn ôl i'r wlad y daethant ohoni. Dyna oddeutu 120,000 o bobl dros y cyfnod hwnnw o 14 mlynedd sydd wedi cyrraedd y wlad hon yn anghyfreithlon ac sy'n dal yma'n anghyfreithlon. Mae llety sy'n gysylltiedig â lloches bellach yn costio £400 miliwn y flwyddyn i ni, ac mae cyfanswm costau ein system lloches bellach yn agosáu at £1 biliwn y flwyddyn. Mae hwnnw'n arian y gellid ei ddefnyddio'n llawer mwy proffidiol ar bethau fel y gwasanaeth iechyd yn hytrach na'r dibenion y caiff ei ddefnyddio ar eu cyfer. Ymdrin ag ymfudwyr economaidd a wnawn yn achos trigolion y gwersyll ym Mhenalun. Wyddoch chi, maent yn camddefnyddio'r system fewnfudo er mwyn ceisio gwella eu bywydau. Nid oes gennyf wrthwynebiad iddynt geisio gwella eu bywydau, ond dylent wneud hynny o fewn y gyfraith.

Dywed rheoliad Dulyn yr UE y dylid ymdrin â cheiswyr lloches yn yr aelod-wladwriaeth gyntaf lle caiff eu holion bysedd eu storio neu pan fydd eu cais am loches yn cael ei gyflwyno, fel mai'r wlad honno fyddai'n gyfrifol am eu cais am loches. Oherwydd cytundeb Schengen, wrth gwrs, gall y rhai sy'n cyrraedd glannau Gwlad Groeg gychwyn ar daith ar unwaith i arfordir y sianel ar ochr Ffrainc, ac mae arnaf ofn mai problem yr UE yw honno, oherwydd maent wedi methu'n llwyr ag ymdrin â'r anawsterau lloches yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Caiff hyn ei gydnabod yn wir: dywedodd Frans Timmermans, Is-lywydd cyntaf y Comisiwn Ewropeaidd yn 2015, fod 60 y cant o 120,000 o ymfudwyr a oedd wedi cyrraedd yr UE erbyn mis Rhagfyr 2015 yn dod o wledydd lle gallwch dybio nad oes ganddynt reswm o gwbl dros ofyn am statws ffoadur. Gwelwn yr un broblem ar garreg ein drws yn ffigurau'r rheini sy'n croesi'r sianel mewn cychod bach, ond i raddau llawer llai. Yn 2018, roedd 299 o ymfudwyr anghyfreithlon wedi croesi'r sianel mewn cychod bach. Yn 2019, flwyddyn yn ddiweddarach, roedd y ffigur wedi cynyddu wyth gwaith, i 1,835, ac yn 2020, mae 8,220 wedi cyrraedd drwy'r dulliau hynny hyd yma.

15:50

A gaf fi ofyn i chi ddirwyn i ben, os gwelwch yn dda? Dewch â'ch casgliadau i ben, os gwelwch yn dda.

Rwy'n gwneud hynny mewn gwirionedd. Felly, credaf fod yr hyn sy'n digwydd ym Mhenalun ac yn Folkestone ac mewn mannau eraill yn annheg i ddinasyddion sy'n cadw at y gyfraith yn y wlad hon ac i'r rheini sy'n ceisio dod i mewn iddi drwy'r dulliau mewnfudo arferol. Credaf fod hyn wedi dwyn anfri ar y system geisio lloches a chredaf ei bod yn annheg i bobl Prydain, yn sir Benfro ac yn fwy eang.

Hoffwn ofyn i'r Aelodau ddychmygu hyn: mae bom yn mynd i ffwrdd ac mewn eiliad mae eich bywyd wedi'i droi ben-i-waered. Mae rhyfel wedi torri allan ac mae ymladd yn eich stryd. Nid yw'r cymunedau yr arferech eu galw'n gartref yn ddiogel mwyach, ac mae eich bywyd chi, a bywydau eich teulu, mewn perygl. Mae gennych ddau ddewis: aros yn eich gwlad, peryglu eich bywyd a bywydau aelodau o'ch teulu, neu ffoi—gadael, mynd dramor i fyw os gallwch. Beth fyddech chi'n ei wneud? Gwn beth y byddwn i'n ei wneud pe bawn yn cael yr opsiwn hwnnw.

A dyna'r dewis a wynebir gan lawer o'r bobl sydd bellach ymhell o'u cartref yn sir Benfro. Wrth iddynt aros i'r Swyddfa Gartref wneud penderfyniadau, cânt eu cartrefu mewn amodau cyfyng a llaith mewn hen wersyll milwrol, tra bod rhai pobl yn honni eu bod yn gwybod eu bod yn twyllo neu'n anghyfreithlon, er gwaethaf y ffaith nad yw eu hachosion wedi'u clywed eto. Creulondeb yw gorfodi pobl sydd wedi dianc rhag rhyfel i fyw mewn canolfan filwrol. Mae'n arbennig o broblemus i'r rhai sydd wedi gweld creulondeb na ellir ei ddychmygu dan law milwyr yn eu gwledydd cartref.

Mae'r gwleidyddion ar yr asgell dde eithafol sy'n hoff iawn o gyfle i ymosod ar fewnfudwyr, ac sydd wedi godro'r digwyddiad hwn yn sych, yn aml yn cyfeirio at y ffaith bod ceiswyr lloches a mewnfudwyr yn cael cynnig llety tra bod miloedd o bobl yn byw ar y strydoedd. Ddwy flynedd yn ôl, canfu tîm Plaid Cymru yn San Steffan fod hyd at 66,000 o gyn-filwyr yn y DU naill ai'n ddigartref, yn dioddef problemau iechyd meddwl, neu yn y carchar. Dyna gondemniad damniol o'r modd y caiff personél milwrol eu trin yn y DU, ac mae ffigurau digartrefedd yng Nghymru hefyd yn warthus a dylid mynd i'r afael â hwy gyda llawer mwy o frys nag a welsom, nid yn unig am fod hyn yn rhoi arfau i'r asgell dde eithafol ymosod ar geiswyr lloches, ond oherwydd mai dyma'r peth iawn i'w wneud. Y peth iawn i'w wneud hefyd yw rhoi mynediad i bersonél y lluoedd arfog at y cymorth sydd ei angen arnynt, nid yn unig pan fyddant mewn gwasanaeth gweithredol, ond ar ôl gadael y fyddin fel y gallant addasu'n well i fywyd sifil.

Cyn belled â bod pobl ar y strydoedd a chyn belled â bod pobl sy'n gorfod mynd heb hanfodion fel bwyd yn ogystal â chysgod, bydd pobl yn teimlo'n ddig a byddant yn teimlo bod y system yn annheg. A byddwn yn cytuno, mae'r system yn annheg. Fel Llywodraeth, mae Llywodraeth Cymru'n rhannol gyfrifol am y system honno hefyd. Gall Llywodraeth Cymru wneud llawer mwy i ddylanwadu ar San Steffan i gael llety mwy addas i geiswyr lloches mewn lleoliadau mwy addas.

Fel y dywedais eisoes, mae'r bennod druenus hon wedi'i hysgogi gan bobl ag agendâu gwleidyddol clir. Mae un ohonynt wedi cyflwyno cyfres o welliannau di-glem i'r cynnig rydym yn ei drafod heddiw. Nawr nid wyf yn gwadu bod rhai o'r gwleidyddion hyn yn bobl hiliol ffiaidd cyn iddynt ddod i'r Senedd, ond mae rhai hefyd yn mentro'u lwc, yn straffaglu am fodd o barhau'n berthnasol a pharhau â'u gyrfaoedd. Mae pobl yn rhannu eu propaganda gwenwynig am geiswyr lloches ar-lein, i bobl sy'n ei chael hi'n anodd ac yn credu'r esboniadau hawdd hyn fod pobl o dramor yn dod yma i fanteisio ar y system fudd-daliadau wych hon y mae pawb ohonom yn gwybod amdani. Mae gan lawer o'r bobl hyn bob hawl i fod yn ddig gyda chymdeithas sydd wedi'u siomi hwy a'u teuluoedd. Yr hyn nad yw'n iawn yw'r ffordd y maent, gydag anogaeth, yn taro allan, ond maent yn taro allan yn erbyn y targed anghywir.

Rhaid inni fynd i'r afael â'r amodau sy'n caniatáu i wleidyddiaeth casineb dyfu, a'r Llywodraeth hon yn ogystal â San Steffan sy'n gyfrifol am hynny. Rwyf wedi fy nghalonogi gan y gwrthdystiadau a'r gefnogaeth ddi-ben-draw gan bobl leol, sydd wedi dangos y gall Cymru fod yn wlad dosturiol sy'n deall. Dyna'r Gymru rwyf am weld mwy ohoni, a dyna'r Gymru y byddaf yn parhau i weithio drosti.

15:55

Mae'n drueni nad yw'r cynnig sydd ger ein bron, er nad yw dweud 'nid yn y fan hon' yn cynnig i ble y dylai'r ceiswyr lloches fynd, o ystyried maint yr argyfwng dyngarol ar hyn o bryd. Mae'r diffyg cydnabyddiaeth yn y cynnig i gyrhaeddiad y broblem a thôn anoddefgar gwbl ddisgwyliadwy y gwelliant gan Neil Hamilton wedi troi'r sefyllfa anodd ym Mhenalun yn bêl-droed wleidyddol. 

Cyn i mi roi sylw i dri maes allweddol, hoffwn atgoffa'r Aelodau fod gan y DU rwymedigaeth statudol i ddarparu cymorth a llety i geiswyr lloches a fyddai fel arall yn anghenus. Y problemau go iawn sy'n galw am sylw yw'r gwirioneddau geowleidyddol sy'n gyrru'r rhan fwyaf o bobl i'n glannau—ofn a thlodi—a rhaid i'r gwledydd cyfoethocach fynd i'r afael â'r gwirioneddau hyn mewn ffordd ystyrlon, neu bydd ymfudo ymhlith pobl a ormeswyd ac a wnaed yn amddifad yn parhau.

O ran y sefyllfa ym Mhenalun, rydym i gyd yn derbyn y dylai'r Swyddfa Gartref fod wedi trafod eu bwriad i ddefnyddio'r barics ym Mhenalun gyda Llywodraeth Cymru ac y dylai hefyd fod wedi cyflawni ei phrosesau ymgynghori arferol gyda'r gymuned a gwasanaethau lleol. Fodd bynnag, rhaid inni gydnabod hefyd fod y Swyddfa Gartref dan bwysau aruthrol, a waethygir gan y pandemig COVID-19. Maent yn parhau i gefnogi ceiswyr lloches lle byddai eu cymorth fel arfer wedi dod i ben. Nid oeddent yn gallu ailwladoli'r rhai roedd eu ceisiadau wedi methu, a rhaid inni gofio bod niferoedd y bobl sy'n cael eu cefnogi neu eu hasesu wedi codi o 45,000 i bron i 60,000 o unigolion mewn ychydig fisoedd. Ac wrth gwrs, mae angen i bob lleoliad gydymffurfio â mesurau COVID.

Cynigiodd y Weinyddiaeth Amddiffyn farics Penalun a barics Napier yng Nghaint yn wir fel atebion dros dro ac o ystyried y pwysau sydd ar y system loches, rhoddwyd y prosesau ymgynghori arferol naill ochr, a symudodd y Swyddfa Gartref yn gyflym am nad oedd ganddynt unman, yn llythrennol, i roi pobl. Rwyf wedi mynegi fy mhryderon yn helaeth wrth y Swyddfa Gartref, ac rwy'n falch fod y Swyddfa Gartref bellach yn cysylltu â Llywodraeth Cymru, a'i bod, drwy fforwm ymgysylltu strategol, yn gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru, Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Hywel Dda a Heddlu Dyfed-Powys. Rwyf hefyd yn falch fod swyddogion o'r Swyddfa Gartref wedi cymryd rhan mewn digwyddiad lleol i ateb cwestiynau gan y gymuned. Rwy'n cydnabod, fel y dylai eraill, mai ychydig iawn o leoedd eraill sydd ar gael i geiswyr lloches yn yr argyfwng presennol hwn. Ond tra'u bod ym Mhenalun, rwyf wedi gofyn i'r Swyddfa Gartref ariannu unrhyw gostau a ysgwyddir gan Hywel Dda a chan Ddyfed-Powys yn ystod eu cefnogaeth i'r ceiswyr lloches.

Trof at y gwersyll ei hun. Er ein bod yn cydnabod nad yw gwersyll milwrol yn lleoliad priodol ar gyfer ceiswyr lloches sydd wedi dioddef eu carcharu neu sydd wedi bod mewn rhyfel, dylem hefyd gydnabod nad unigolion sydd newydd gyrraedd yw'r rhain, a'u bod wedi bod yn y DU ers peth amser, fod eu hachosion yn cael eu hasesu, ac maent eisoes wedi cael rhywfaint o ymyrraeth feddygol. Dyna pam nad ydynt mewn canolfan wasgaru—oherwydd maent yn dal i fynd drwy'r broses. Gofynnais am sicrwydd gan y Swyddfa Gartref ynglŷn â'r contractwr a'u rhwymedigaethau i ddarparu llety cynnes a diogel, bwyd gweddus, cymorth ar gyfer eu hanghenion meddyliol a chorfforol, gweithgareddau i'r dynion, gwasanaethau cyfieithu, a chymorth gyda gwaith papur, a chefais sicrwydd fod y llety, a ddefnyddiwyd gan ein milwyr tan yn ddiweddar, yn addas ac yn bodloni'r safonau presennol ar gyfer darpariaethau llety i geiswyr lloches ac yn cydymffurfio â deddfwriaeth gartrefu berthnasol. Rwyf hefyd wedi cael sicrwydd fod y contractwr yn gweithredu, lle bo'n briodol, i wella'r hyn a oedd ar waith, gan ystyried adborth gan ddefnyddwyr y gwasanaeth, a bod gan bob ceisiwr lloches fynediad at gyngor 24/7, gwasanaeth adrodd ar faterion a chymhwysedd a ddarperir ar gyfer y Swyddfa Gartref gan Migrant Help, lle gallant godi unrhyw bryderon ynghylch llety.

Yn olaf, hoffwn gydnabod a diolch i gymuned ehangach sir Benfro. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r unigolion a'r sefydliadau niferus sydd wedi cynnig cymorth, o gymunedau cyfagos Penalun a Dinbych-y-pysgod i arweinwyr ffydd lleol a llawer o elusennau. Cefais negeseuon e-bost yn mynegi pryderon gan etholwyr, ac nid oes ryfedd, oherwydd ceir digonedd o straeon ynghylch ceiswyr lloches yn camymddwyn. Ac eto, y realiti yw bod ymddygiad llond llaw o bobl annifyr neu ymosodol, fel unrhyw gymuned, yn maeddu enw da'r gweddill, sy'n cydymffurfio â'r broses briodol, yn ddiolchgar am gael bod yn y system, ac sy'n gobeithio am ddyfodol cadarnhaol. Cefais lawer mwy o negeseuon e-bost gan bobl yn gofyn sut y gallent helpu neu'n mynegi pryderon am yr aflonyddwyr annifyr ac ymosodol sy'n tagu'r lonydd, yn gwneud pi-pi yn eu gerddi ac yn dychryn pobl sy'n pasio—pob un yn bryder gwirioneddol. Ac eto, rwy'n ailadrodd fy sylwadau blaenorol yn y Senedd fod pobl sir Benfro yn samariaid da, eu bod yn groesawgar ac yn oddefgar, ac rwy'n talu teyrnged iddynt. Hoffwn ddiolch hefyd i'r Dirprwy Weinidog a'r Ysgrifennydd Gwladol am y trafodaethau amrywiol. Rwy'n gwerthfawrogi eu safiad pwyllog ar yr anawsterau o ddod o hyd i lety diogel i geiswyr lloches ar yr adeg hon, amhriodoldeb y gwersyll a'r angen i gyflawni ein rhwymedigaethau rhyngwladol. Rwy'n ddiolchgar am eu parodrwydd i ymgysylltu. Yn olaf, hoffwn ddiolch i'r rhanddeiliaid sy'n gweithio mor galed i gefnogi'r holl gymunedau dan sylw, a byddaf yn parhau i bwyso am adnoddau ac am weld diwedd ar ddefnyddio'r gwersyll ar gyfer ceiswyr lloches.

Rwy'n credu fy mod eisoes wedi dweud digon am y gwelliant, Ddirprwy Lywydd. Yn gyffredinol, teimlaf mai testun gofid yw bod rhai'n ceisio gwneud elw gwleidyddol o sefyllfa anodd iawn, ac ni fydd gennyf fi a fy nghyd-Aelodau unrhyw ran yn hynny.

16:00

O'r gorau. Diolch, Ddirprwy Lywydd; roeddwn yn aros i glywed gennych.

Byddaf yn canolbwyntio ar y ffoaduriaid eu hunain fel bodau dynol sydd bellach yn destun ymosodiad, bygythiadau ac erledigaeth gan yr asgell dde eithafol, a hynny'n anffodus wedi'i annog gan Aelod o'r Senedd hon, Neil Hamilton, sydd, yn fy marn i, yn dwyn sen ar y Senedd hon. Nid yw'n syndod i ni fod yr Aelod wedi bod yn frwd ei gefnogaeth i'r asgell dde eithafol, fel y mae wedi bod drwy gydol ei yrfa wleidyddol annymunol fel diffynnydd yn y gorffennol dros Dde Affrica hiliol, dros y gyfundrefn ffasgaidd yn Chile, a thros wahanol fudiadau asgell dde eithafol a llwgr ym mhob cwr o'r byd. Fel y dywedodd un preswylydd ym Mhenalun, mae'r brotest bellach wedi'i meddiannu gan bobl hiliol yr asgell dde eithafol o'r tu allan, a gwyddom pwy yw eu cefnogwr mwyaf brwd.

Cytunaf yn llwyr â datganiadau Angela Burns a Leanne Wood. Gofynnodd Leanne i ni ddychmygu'r dewisiadau a wynebir gan y ffoaduriaid hyn, a gallaf eu dychmygu am mai dyma'r cefndir y cefais fy magu ynddo. Roedd fy nhad yn ffoadur o Ukrain ar ôl y rhyfel. Dywedai ei fod wedi dod yma oherwydd Hitler, ond na allai fynd yn ôl oherwydd Stalin. Cefais fy magu mewn cymuned o bobl a oedd wedi bod drwy ormes, artaith a charchariadau. Cofiaf un dyn a gafodd ei gymryd, yn fachgen 15 oed, yn weithiwr llafur caeth gan yr Almaenwyr. Ni allai siarad am ei brofiad heb grio. Roedd un arall wedi bod yn gwlag Stalin. Cafodd fy nhad ei hun pan ddaeth i'r wlad hon ei roi mewn gwersyll ailsefydlu yn Dundee. Roedd rhieni dau o fy ffrindiau agos pan oeddwn yn tyfu fyny wedi dod o wersyll crynhoi Sachsenhausen. A'r cyfan rwyf am ei ofyn mewn gwirionedd yw hyn: sut y mae'r bobl y cefais fy magu gyda hwy'n wahanol mewn unrhyw fodd i'r bobl sydd ym Mhenalun nawr? Nid ydynt yn wahanol o gwbl.

Roedd fy nhad a'r gymuned y cefais fy magu ynddi bob un ohonynt yn siarad mor gynnes am y croeso a gawsant gan bobl Prydain pan ddaethant yma, a dysgodd un wers i mi mewn gwirionedd, un wers sy'n treiddio o fy mhrofiad i'r hyn sy'n digwydd nawr, sef mai ein brodyr a'n chwiorydd yw'r ffoaduriaid hyn, maent yn union yr un fath â ni, mae ganddynt yr un hawliau. Rwy'n gwrthod yn llwyr y sylwadau a wnaeth Neil Hamilton. Un neges sydd gennyf: rydym i gyd yn frodyr a chwiorydd gyda'n gilydd ac mae croeso i chi i gyd yma yng Nghymru, yn union fel y cafodd llawer o ffoaduriaid groeso drwy gydol hanes Cymru. Rydym yn eich croesawu yma a byddwn yn gwneud popeth yn ein gallu i'ch cefnogi ac i ofalu amdanoch ac i sefyll gyda chi. Diolch, Ddirprwy Lywydd.

16:05

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i Helen Mary Jones, Joyce Watson a Leanne Wood, gyda chefnogaeth Mick Antoniw, John Griffiths a Llyr Gruffydd, am gyflwyno'r ddadl bwysig hon. A gaf fi ddiolch hefyd i'r Aelodau—heblaw un—sydd wedi cyfrannu'n adeiladol at y ddadl? Mae safbwynt Llywodraeth Cymru yn amlwg yn cyd-fynd â chynnig yr Aelodau. Ysgrifennodd y Prif Weinidog at y Gweinidog mewnfudo, Chris Philp, ar 9 Hydref, yn annog cau gwersyll hyfforddi Penalun. Codais y mater gyda'r Gweinidog mewnfudo ar 3 Tachwedd, a byddaf yn ei drafod eto gydag ef ar 25 Tachwedd, pan fyddwn yn cyfarfod i siarad yn benodol am wersyll Penalun. Yr wythnos diwethaf, cefais gyfarfod â rhanddeiliaid allweddol sy'n gweithio i fynd i'r afael â phroblemau sy'n codi yn sgil Penalun, ac roedd cytundeb unfrydol nad yw'r cyfleuster hwn yn addas at y diben. Yn y bôn, mae lleoli ceiswyr lloches yng nghanolfan filwrol Penalun yn anaddas, yn anghynaliadwy ac yn anniogel. Roedd y penderfyniad a wnaed gan y Swyddfa Gartref, heb ymgynghori na strategaeth glir i sicrhau bod anghenion y rhai a gâi eu cartrefu yn y ganolfan wedi'u diwallu, yn anghywir. Roedd y penderfyniad i beidio ag ymgysylltu'n ystyrlon â'r gymuned neu gyrff cyhoeddus yn anghywir, ac roedd y methiant i weithredu mesurau diogelu digonol i sicrhau bod y safle'n ddiogel ac yn addas hefyd yn anghywir.

Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am benderfyniadau sy'n ymwneud â'r system lloches a mewnfudo. Fodd bynnag, mae effaith y system honno ar gymunedau a gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn ei gwneud yn gwbl briodol ei bod yn ymgynghori ac yn ymgysylltu'n llawn â ni ar y mater hwn, a cheisio trefniant sy'n adeiladu cydlyniant ac integreiddio cymunedol. Ni roddwyd gwybod i Lywodraeth Cymru am y cynigion hyn tan 11 Medi, a bryd hynny hyd yn oed, dywedwyd wrthym nad oedd penderfyniad wedi'i wneud ynglŷn ag a ddylid defnyddio'r gwersyll ai peidio. Ond 10 diwrnod yn ddiweddarach, roedd y gwersyll eisoes ar agor. Dylai Llywodraeth y DU fod wedi cynnal trafodaethau ystyrlon gyda thrigolion lleol, yr awdurdod lleol, y bwrdd iechyd lleol a Llywodraeth Cymru cyn penderfynu cartrefu ceiswyr lloches yng nghanolfan filwrol Penalun.

Mae ein pryderon ynghylch priodoldeb y llety a'r lleoliad sy'n cael eu defnyddio at y diben hwn wedi dwysáu dros yr wyth wythnos diwethaf ers i'r gwersyll agor. Mae perygl amlwg o ail-greu trawma i'r rhai sydd wedi dianc rhag gwrthdaro a rhyfel drwy eu cartrefu mewn canolfan filwrol. Mae'r gwasanaethau arbenigol sydd eu hangen i gefnogi ceiswyr lloches hefyd yn gyfyngedig yn y lleoliad hwn, fel y dywedwyd yn y ddadl hon. Mae'r safle ei hun yn creu risgiau diogelu cynhenid a risg o haint COVID-19, ac rydym yn anghytuno'n sylfaenol â'r Swyddfa Gartref; rydym yn dweud nad yw'r safle hwn yn cydymffurfio â mesurau COVID.

Rydym yn gweithio gyda'r holl bartneriaid perthnasol i sicrhau bod y pryderon hyn a materion iechyd cyhoeddus hanfodol yn cael eu cydnabod a'u hateb. Rydym wedi gwneud ceisiadau rhesymegol dro ar ôl tro i'r Swyddfa Gartref wneud newidiadau i ddiogelu iechyd a lles ceiswyr lloches a symudir i Benalun. Mae'r newidiadau'n warthus o araf yn cael eu gweithredu, os cytunir arnynt o gwbl. Nid yw cyrff cyhoeddus wedi cael unrhyw gymorth ariannol hyd yma gan y Swyddfa Gartref i ddarparu gwasanaethau ar adeg pan fo pwysau na welwyd ei debyg o'r blaen arnynt yn sgil problemau eraill fel COVID-19, fel y dywedodd Joyce Watson. Mae Llywodraeth Cymru ei hun wedi ymrwymo i'r weledigaeth y bydd Cymru'n dod yn genedl noddfa, a hoffwn atgoffa Mr Hamilton mai'r Cynulliad hwn, o ganlyniad i adroddiad a gyflawnwyd gan John Griffiths fel cadeirydd y pwyllgor—y pwyllgor trawsbleidiol hwnnw, y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau—ein bod mewn gwirionedd wedi cymeradwyo cynlluniau i wneud Cymru'n genedl noddfa. Roeddwn yn falch o gyfarfod â ffoaduriaid yn ystod yr Wythnos Ffoaduriaid yn gynharach eleni ym mis Mehefin i ystyried ein cynnydd gyda'r cynllun, i glywed eu barn ynglŷn â sut y gallwn symud ymlaen i sicrhau bod ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn cael eu cefnogi'n llawn pan ddônt i Gymru.

A gaf fi fanteisio ar y cyfle i ddiolch i'n hawdurdodau lleol yng Nghymru sy'n croesawu eu cyfrifoldebau yn yr ardaloedd gwasgaru, a'r dinasoedd, y trefi, y prifysgolion a'r pentrefi hynny sy'n ymrwymo i egwyddorion y genedl noddfa yng Nghymru? A diolch i'r awdurdodau sydd hefyd yn ymateb i anghenion plant ar eu pen eu hunain sy'n ceisio lloches gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru. Mae ein gweledigaeth yn ymwneud â chefnogi pobl i ailadeiladu eu bywydau a gwneud cyfraniad llawn i gymdeithas Cymru. Mae'n allweddol fod pobl yn gallu cael gafael ar wasanaethau, eu bod yn cael eu diogelu rhag niwed a'u bod yn gallu dechrau eu taith integreiddio o'r diwrnod cyntaf y byddant yn cyrraedd Cymru, ond nid yw gwersyll Penalun yn caniatáu i hyn ddigwydd. Mae'r rhai sy'n cael eu cartrefu'n cael eu gorfodi i rannu cyfleusterau gydag unigolion nad ydynt yn eu hadnabod, pobl sy'n dod o gefndiroedd gwahanol iawn. Maent yn profi amgylchiadau sy'n peri straen, ac nid oes digon o adnoddau ar gyfer rheoli'r gwersyll i'w cefnogi yn y ffordd hon.

Mae lefel y gefnogaeth a gynigiwyd i'r rheini yn y gwersyll—pobl gynnes a chroesawgar sir Benfro—wedi creu argraff fawr arnaf, fel y mynegwyd y prynhawn yma. Gwnaeth Angela Burns y pwynt hwnnw ychydig wythnosau'n ôl yn y Senedd, yn ogystal â'r cyfarfod a gafodd Eluned Morgan â phobl leol, a gwnaeth Leanne y pwynt hefyd. Mae'r cymorth hwn wedi cynnwys angenrheidiau sylfaenol a rhoddion o Gymru, yn ogystal â sgyrsiau anffurfiol, clybiau, mentora, ac mae TUC Cymru wedi cymryd rhan yn hyn. Rydym yn llwyr gefnogi hawl y gymuned leol i godi pryderon am y ffordd y gweithredwyd y safle hwn. A hoffwn ddiolch mewn gwirionedd i'r trigolion lleol sydd wedi cyflwyno gohebiaeth i ni, i gynrychiolwyr lleol, a chwestiynau hefyd i'r Swyddfa Gartref a sefydliadau eraill. Rhaid i fynegi barn am y safle fod yn heddychlon mewn ffordd nad yw'n ail-achosi trawma i unrhyw un sy'n ceisio'r drefn briodol yn y DU. Mae gan bawb hawl i wneud cais am loches, a dylem amddiffyn a pharchu'r unigolion hynny tra bo'u cais yn cael ei glywed. Honnodd y Swyddfa Gartref fod angen agor Penalun oherwydd pwysau ar y system lloches, ond mae'r ateb cywir i'r broblem hon yn glir: mae angen cyflymu'r broses o geisio lloches, ac mae hyn yn arbennig o wir i'r rhai sy'n byw mewn llety anaddas fel hwn.

Ond yn olaf, Lywydd, i gefnogi cynnig yr Aelodau heddiw, wrth inni alw am gau gwersyll Penalun—ac mae hyn yn ymateb i'r pwynt a wnaeth Angela Burns—mae angen inni alw ar Lywodraeth y DU i gyflwyno cynllun i atal pob trosglwyddiad pellach i'r gwersyll a chartrefu defnyddwyr y gwasanaeth mewn lleoliadau priodol i ddiwallu eu hanghenion, parchu eu hurddas ac ymrwymo i ddatblygu eu ceisiadau am loches fel mater o frys. Diolch i'r heddlu, yr awdurdodau lleol, y GIG, y trydydd sector, y cymunedau ffydd—ein holl bartneriaid—am eu hyblygrwydd a'u dyfeisgarwch dros y misoedd diwethaf. Mae'r ymatal a'r gefnogaeth a ddangoswyd gan Heddlu Dyfed-Powys, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Cyngor Sir Penfro—maent oll yn camu ymlaen i geisio mynd i'r afael â'r angen hwn. Ond byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth y DU a phawb sy'n gyfrifol am ffoaduriaid a cheiswyr lloches i ddatblygu hyn—y cynllun hwn y mae arnom ei angen nawr—o fewn ein pwerau, i gau'r gwersyll hwn, ac i gartrefu holl ddefnyddwyr y gwasanaeth mewn lleoliadau priodol. Credaf y bydd hyn yn adlewyrchu ewyllys y Llywodraeth hon a'r Senedd hon heddiw. 

16:10

Diolch. Nid oes yr un Aelod wedi dweud ei fod am ymyrryd, felly galwaf ar Helen Mary Jones i ymateb i'r ddadl.

Rwy'n ddiolchgar iawn i chi, Ddirprwy Lywydd. Fel eraill, rwy'n ddiolchgar i bawb ac eithrio un o'r rhai sydd wedi cyfrannu at y ddadl hon. Rhaid i mi egluro pam y dewisasom ei chyflwyno. Y rheswm am hynny yw mai dadl wleidyddol yw hon; penderfyniadau gwleidyddol yw'r rhain, penderfyniadau a wnaed am resymau gwleidyddol, ac yn waeth, mae yna rai ar yr asgell dde eithafol sy'n ceisio gwneud elw gwleidyddol o hyn, fel y dywedodd Leanne Wood ac eraill. Weithiau, Ddirprwy Lywydd, gallwch ymdrin â'r materion hyn drwy aros yn dawel a'u hanwybyddu. Weithiau rhaid i chi siarad, a dyna pam y dewisodd yr Aelodau gyflwyno'r cynnig hwn heddiw.

Ni allaf ymateb i'r holl bwyntiau y mae'r Aelodau wedi'u gwneud, ond cyn i mi ddechrau ceisio gwneud hynny, hoffwn ategu diolchiadau eraill i bawb, ac i'r gymuned leol yn bennaf oll. Gwn yn sicr, fel cynrychiolydd lleol—fel y mae Joyce Watson, ac Angela Burns yn gwybod—fod y mwyafrif helaeth o bobl yn y cymunedau hynny, er nad ydynt yn credu ei bod yn iawn i'r ceiswyr lloches fod yno, yn eu trin â charedigrwydd a pharch, ac yn gwneud yr hyn a allant i helpu.

Gallaf ddweud hyn wrthych oherwydd fy mod mewn cysylltiad rheolaidd iawn â'r cynghorydd lleol yno, Jon Preston, sydd wedi gwneud popeth yn ei allu i godi pontydd mewn cymunedau ac i dawelu ofnau pobl. Felly, hoffwn ddiolch i'r holl gynrychiolwyr lleol sydd wedi gwneud yr un peth. Hoffwn ddiolch yn arbennig i'r gwasanaeth heddlu. Mae comisiynydd yr heddlu a throseddu wedi bod ar y safle ei hun ddwywaith, ac mae'n falch iawn o'r gwaith rhagorol y mae'r heddlu wedi'i wneud i geisio cadw pethau'n dawel er mwyn amddiffyn y gymuned leol.

Mae'r cynnig yn cyfeirio at broblemau yn y gwersyll, o ran ymddygiad. Wel, mae'r Gweinidog wedi mynd i'r afael â hynny. Pan fydd gennych nifer fawr o ddynion ifanc ymhell o'u cartref, dynion nad ydynt yn deall ei gilydd, pobl nad ydynt yn siarad eu hiaith, bydd yna broblemau, a bydd gwrthdaro. Mae comisiynydd yr heddlu a throseddu—rwyf wedi cyfathrebu ag ef am hyn heddiw—yn dweud nad yw'r ymddygiad hwnnw'n wahanol i'r hyn y byddai'n ei ddisgwyl gan unrhyw grŵp mawr o ddynion ifanc nad oeddent yn cael eu cefnogi'n briodol yn eu hiaith a'u diwylliant eu hunain. Felly, gadewch i ni ddeall hynny unwaith ac am byth.

Credaf fod Joyce Watson wedi dadlau'n bwerus iawn ynglŷn â pha mor anaddas yw'r safle. Nid wyf yn deall yn iawn sut y gall Angela Burns fynnu ei fod yn addas. Nid yw wedi'i wresogi'n iawn. Cyfeiriodd y Dirprwy Weinidog at y ffaith ei bod yn anodd iawn cadw pellter cymdeithasol. Nid dyma'r lle iawn i bobl fod. Nid yw'r gwaith rhagorol y mae'r gwasanaeth iechyd lleol a'r cyngor lleol yn ceisio'i wneud i ymateb i'w hanghenion yn lliniaru'r ffaith nad dyma'r lle iawn iddynt fod.

Nawr, fel arfer yn y sefyllfaoedd hyn, Ddirprwy Lywydd, rwy'n anwybyddu'r Aelod o Wiltshire. Ond y tro hwn, mae arnaf ofn fod yn rhaid i mi ymateb i rai o'r pwyntiau a wnaeth a'r pwyntiau y methodd eu gwneud. A yw'r bobl o'r un farn â Neil Hamilton? Wel, nid dyna mae eu cynghorydd sir, y siaradaf ag ef yn rheolaidd, yn ei ddweud wrthyf. Maent wedi'u brawychu gan y ffordd y mae ef a'i debyg yn chwarae gyda phobl sy'n agored i niwed, ac yn chwarae—fel y soniodd Leanne Wood—â phryderon dilys pobl.

A yw'r ffaith ein bod yn genedl noddfa yn broblem? A yw'n credu mewn gwirionedd fod pobl yn Syria—. Byddwn yn eithaf balch pe bawn yn meddwl bod pobl yn Syria yn gwybod bod Cymru'n genedl noddfa ac y byddem yn eu croesawu. Maent yn dod—a soniodd Angela Burns am hyn, ac roeddwn yn meddwl bod hwnnw'n bwynt pwerus iawn—yn sgil amrywiaeth eang o sefyllfaoedd geowleidyddol sy'n golygu nad yw pobl yn ddiogel.

Nid yw'n wir y gall unrhyw un a phawb ddod i aros yn y DU, ac nid oes neb yn cynnig y dylai hynny ddigwydd. Sut y mae'n credu ei fod yn gwybod sut y mae'r bobl sydd yn y gwersyll wedi cyrraedd yno? Nid yw'n gwybod. Nid oes ganddo'r syniad lleiaf. Mae llawer ohonynt, fel y dywedodd Angela Burns, wedi bod yn y DU ers amser maith. Nid pobl sy'n arllwys dros ein ffiniau yw'r rhain, fel y byddai'n dweud wrthym. Nid oes ganddo unrhyw ffordd o wybod a yw eu ceisiadau'n debygol o gael eu derbyn. Ond yn sicr, mae mudiadau gwirfoddol lleol sy'n gweithio gyda hwy yn dweud wrthyf fod llawer o'r bobl hyn wedi dod o leoedd fel Syria, lle mae'n debygol iawn y bydd eu ceisiadau'n cael eu derbyn.

Credaf fod Leanne Wood yn iawn i dynnu ein sylw at ddynoldeb ein ceiswyr lloches, fel y gwnaeth Mick Antoniw yn drawiadol iawn. Ac roedd hi'n iawn i dynnu sylw at sut y mae'r dde eithafol yn ceisio bwydo ar ymdeimlad cyfiawn pobl o annhegwch a gofid.

Cyfraniad Angela Burns: llawer i gytuno ag ef yno. Mae hwn yn fater gwleidyddol, serch hynny. Byddwn yn dweud wrth Angela Burns fod hwn yn fater gwleidyddol, ac mae'n iawn iddo gael ei drafod gan wleidyddion. Felly, nid yw'n ymwneud â sgorio pwyntiau. Mae'n ymwneud â cheisio agor dadl onest a chlir yn seiliedig ar y ffeithiau. Mae hi'n iawn, fel rwyf eisoes wedi dweud, am y sefyllfaoedd geowleidyddol sy'n gwneud i bobl ffoi, ond mae hi'n anghywir i ddweud bod y llety'n addas. A phan ofynnodd y cwestiwn ynglŷn â ble y dylent fynd, wel, beth y dylent ei wneud, yr hyn y mae angen i'r Swyddfa Gartref ei wneud yw ehangu'r llety sydd ar gael yn y canolfannau gwasgaru presennol yng Nghymru a ledled y DU—nid wyf yn hoffi'r term 'gwasgaru' ond dyna a ddefnyddiwn—fel y gellir cefnogi'r dynion ifanc hyn yn briodol ac yn addas a phrosesu eu ceisiadau'n gyflym, fel y dywedodd y Dirprwy Weinidog yn gywir, er mwyn gallu gwneud penderfyniadau y naill ffordd neu'r llall.

Mae Mick Antoniw yn gofyn: beth yw'r gwahaniaeth rhwng y ffoaduriaid hyn a'i deulu? Mae'n iawn i ddweud nad oes unrhyw wahaniaeth. Mae arnaf ofn, serch hynny, Ddirprwy Lywydd, mai lliw eu croen fydd y gwahaniaeth i rai pobl. Os felly, mae angen i bobl fod â chywilydd dwfn.

Rwy'n ddiolchgar am gefnogaeth y Dirprwy Weinidog i'n cynnig, ac rydym wedi'i eirio mewn ffordd a oedd mor gydsyniol ag y gallem ei wneud. Mae'n iawn i ailymrwymo i'r syniad o'n cenedl fel cenedl noddfa, i dynnu sylw eto at yr ymateb cymunedol. Nid yw hon yn sefyllfa y dylem fod ynddi, ac fe ddof i ben—Ddirprwy Lywydd, gwn eich bod wedi bod yn hael iawn gyda'r amser—drwy ddweud hyn, a siaradaf yma drosof fy hun a thros rai o gynigwyr y cynnig ond nid pob un ohonynt. Mae'n fater o anhapusrwydd mawr i mi nad oes hawl gan ein Llywodraeth i reoli'r materion hyn, y gall Llywodraeth y DU na phleidleisiodd pobl Cymru drosti—ni wnaethom ethol mwyafrif o ASau Ceidwadol—orfodi hyn ar y cymunedau, ar y gwasanaethau cyhoeddus ac ar y ceiswyr lloches, yn bwysicaf oll. Rwy'n edrych ymlaen at y diwrnod, un diwrnod, Ddirprwy Lywydd, pan allwn wneud y penderfyniadau hyn yma, pan na fydd y Swyddfa Gartref yn gwneud cais am ganiatâd cynllunio i'r Weinyddiaeth Amddiffyn.

Boed hynny fel y bo, hyd nes y gallwn wneud y penderfyniadau hynny drosom ein hunain, mae'n iawn fod Llywodraeth Cymru ac eraill yn parhau i negodi gyda'r Swyddfa Gartref i gael y dynion ifanc hyn wedi'u gwasgaru i gymunedau a all eu cefnogi'n briodol a lle gellir ymdrin â'u ceisiadau'n briodol. Ddirprwy Lywydd, mae'n amlwg mai dyna yw'r consensws yn y lle hwn ac rydym yn adnabod y cymunedau a gynrychiolwn. Rwy'n cynnig mai dyna yw consensws pobl Cymru.

16:20

Diolch. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Iawn. Cafwyd gwrthwynebiad a gohiriwn y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

7. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar Effaith COVID-19 ar dreftadaeth, amgueddfeydd ac archifau

Eitem 7 ar yr agenda yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, effaith COVID ar dreftadaeth, amgueddfeydd ac archifau. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig, Helen Mary Jones.

Cynnig NDM7477 Helen Mary Jones

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, 'Effaith COVID-19 ar dreftadaeth, amgueddfeydd ac archifau', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Awst 2020.

Cynigiwyd y cynnig.

Rwy'n ddiolchgar i chi, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n hyderu na fydd y Siambr yn cael ei gorlethu gan ormod o Helen Mary Jones y prynhawn yma, ond mae'r amserlen, wrth gwrs, y tu hwnt i fy rheolaeth.

Rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfle i gyflwyno adroddiad y pwyllgor diwylliant i'r Senedd ar effaith COVID-19 ar dreftadaeth ac amgueddfeydd. Cynhyrchwyd yr adroddiad hwn gennym yn yr haf, wrth gwrs, ac rwy'n ddiolchgar iawn i'r holl dystion, i staff y pwyllgor a'n cyd-Aelodau—rwy'n rhagfarnllyd, wrth gwrs, ond credaf ein bod yn un o'r pwyllgorau gorau yn y Senedd—ac rwy'n ddiolchgar iawn hefyd i'r Dirprwy Weinidog am ei ymgysylltiad ar y materion hyn ac am dderbyn ein hargymhellion. Dadl fer yw hon wrth gwrs, Ddirprwy Lywydd, ac ni allaf ond cyffwrdd ag ychydig o uchafbwyntiau.

Fel ar draws ein bywyd cenedlaethol, mae effaith pandemig COVID ar y sector treftadaeth wedi bod yn ddwys ac o bosibl yn drychinebus. Caewyd drysau ein hamgueddfeydd, ein llyfrgell genedlaethol, a sychodd yr incwm. Ond mae rhai materion wedi symud ymlaen ers i ni gyflwyno ein hadroddiad, ac mae'r sefydliadau wedi gallu defnyddio'r cynlluniau cymorth sydd wedi bod ar gael. Croesawn gronfa adferiad diwylliannol Llywodraeth Cymru yn fawr iawn, ac yn wir yr adnoddau ychwanegol ar gyfer y gronfa honno a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf. Ac rydym yn croesawu ymestyn y cynllun ffyrlo, er y byddai wedi bod yn braf pe bai wedi bod yn bosibl i hynny ddigwydd pan oedd ei angen yng ngogledd Lloegr a Chymru, yn hytrach nag aros nes bod ei angen yn Surrey, ond nid dyma'r amser i fod yn chwerw, ac mae'r prif sefydliadau diwylliannol yn ein sicrhau y byddant yn gallu defnyddio'r estyniad a fydd, wrth gwrs, yn eu helpu i gadw eu staff. Mae sefydliadau wedi gallu agor, ac eithrio yn y cyfnod dan gyfyngiadau, er ei bod yn amlwg fod y niferoedd yn gyfyngedig ac felly yr effeithir ar incwm.

Tynnodd tystion ein sylw at bwysigrwydd gallu digideiddio eu casgliadau. Dyna'r ffordd, wrth gwrs, y gall y cyhoedd ledled Cymru, a thu hwnt yn wir, gael mynediad at rai o'r eitemau pwysig iawn sydd gennym yn ein sefydliadau cenedlaethol. Ond yn ôl ein tystiolaeth ni, mae'r gallu i wneud hyn drwy'r pandemig wedi bod yn amrywiol. Rydym yn falch iawn fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn ein hargymhelliad 4 ynglŷn â'r angen am strategaeth i gynyddu mynediad digidol at gasgliadau, ac edrychwn ymlaen at weld y strategaeth genedlaethol honno'n cael ei chynhyrchu. Fodd bynnag, er bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn ein hargymhelliad 3 ynghylch darparu adnoddau ar gyfer digideiddio, mae gennym rai pryderon o hyd. Roedd yr adolygiad pwrpasol o'r llyfrgell genedlaethol yn ddiweddar yn dweud yn glir fod angen gwneud mwy o waith yn y maes hwn, ac mae'r llyfrgell yn glir fod angen adnoddau arnynt i wneud hynny'n bosibl. Bydd y pwyllgor yn parhau i gadw llygad ar hyn, ac edrychwn ymlaen at drafodaethau pellach gyda'r sector a chyda'r Dirprwy Weinidog.

Dywedodd tystion wrthym fod yr argyfwng wedi gwneud iddynt ystyried ymhellach yr angen i ehangu a dyfnhau mynediad at ein treftadaeth a'n diwylliant. Mae hynny, wrth gwrs, yn ymwneud â'r agenda ddigideiddio, ond mae hefyd yn ymwneud â sefydliadau cenedlaethol yn gweithio'n agosach gyda sefydliadau lleol, llyfrgelloedd lleol, amgueddfeydd lleol a sicrhau bod ein casgliadau'n fwy hygyrch.

Gwnaethom argymell y dylai Llywodraeth Cymru adolygu'r dangosyddion perfformiad ar gyfer ein sefydliadau cenedlaethol, hyrwyddo mwy o gydweithredu ac annog cyflawni canlyniadau ym maes iechyd, addysg, trechu tlodi a chynhwysiant cymdeithasol. Cawsom ein hargyhoeddi'n fawr, Ddirprwy Lywydd, gan yr hyn a ddywedodd y sefydliadau wrthym am eu gallu i gyfrannu at yr holl agendâu pwysig hyn.

Nawr, unwaith eto, rydym yn falch iawn fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr argymhellion hyn, ac mae'r contract diwylliannol newydd, sy'n ofynnol ar gyfer sefydliadau sy'n derbyn arian o'r gronfa adferiad diwylliannol, yn gam pwysig i'r cyfeiriad iawn, ond unwaith eto, credwn fod mwy i'w wneud. Yn fwyaf arbennig, mae'n hanfodol fod gan sefydliadau adnoddau i wneud y math hwn o waith maes.

Mae llawer o bwyntiau pwysig eraill yn yr adroddiad na allaf eu crybwyll nawr, Ddirprwy Lywydd, oherwydd rwyf am sicrhau bod gan yr Aelodau amser i gyfrannu a bod gennyf innau amser i ymateb i'r pwyntiau a wnaiff yr Aelodau. A gaf fi ddiolch unwaith eto i'n holl dystion, i'n staff ac i fy nghyd-aelodau o'r pwyllgor, ac edrychaf ymlaen at y ddadl.  

16:25

Mae bob amser yn bleser ac yn rhwystredig, weithiau, cael dilyn Helen Mary, oherwydd mae hi mor ysbrydoledig ac weithiau'n bryfoclyd yn ei sylwadau, a byddwn yn dweud ei fod yn gyfuniad hyfryd i'w gael gan un o'ch gwrthwynebwyr.

O ran y cynllun ffyrlo, sy'n sylweddol iawn yn fy marn i, rydym wedi galw am rywbeth y mae Llywodraeth y DU wedi gwrando arno—ein llais ni, ymhlith llawer o leisiau eraill, mae'n siŵr. Ond mae'n bwysig iawn i'r sector. Darllenais yn y 'Financial Times' heddiw mai'r sector treftadaeth, ar 30 y cant, yw'r sector sy'n gwneud y defnydd mwyaf o'r cynllun ffyrlo, a dywedodd yr amgueddfa genedlaethol wrthym pa mor bwysig oedd y cynllun iddynt hwy. Felly, rwy'n falch y bydd yma tan ddiwedd mis Mawrth ac mae Llywodraeth y DU wedi gwneud y peth iawn.

Roeddwn yn credu bod Helen Mary ar fin canmol Llywodraeth y DU, ond tynnodd yn ôl ar y funud olaf, gan gadw ei hygrededd o fewn ei phlaid ei hun beth bynnag, rwy'n credu, hyd yn oed os—. Roeddwn yn aros i weld rhyfeddod y naid honno i ganmol Llywodraeth y DU. Ond o ddifrif, mae'r cynllun ffyrlo wedi bod yn gynllun pwysig iawn, a nawr ein bod ar fin gweld ein ffordd allan o'r argyfwng gyda brechlyn rownd y gornel, rwy'n credu y gwelir bod y cynllun ffyrlo, wrth edrych yn ôl, wedi bod yn rhan allweddol o reoli canlyniadau economaidd yr argyfwng iechyd cyhoeddus erchyll hwn.

Credaf fod Helen yn llygad ei lle wrth ddweud am bwysigrwydd digideiddio'r casgliadau, gwaith sydd wedi datblygu'n sylweddol iawn. Cawsom dystiolaeth yr wythnos diwethaf ynglŷn â pha mor arloesol oedd y llyfrgell genedlaethol 20 mlynedd yn ôl pan ddechreuodd ar y math hwn o weithgaredd, a'r amgueddfa hefyd, fe wyddom. A chredaf y byddai llawer ohonom wedi defnyddio'r adnoddau hyn: mae llawer o ysgolion, llawer o fyfyrwyr, a llawer o ddinasyddion na fyddent o bosibl wedi ymweld â chyfleusterau'r sefydliadau treftadaeth gwych hyn eu hunain wedi gallu gweld rhai o'r adnoddau bendigedig ar-lein. Ac rwy'n credu ei bod yn bwysig i hynny barhau oherwydd bod iddo botensial i ddod â'r casgliadau cyfan yn fyw, nid yn unig y rhai y gellir eu dehongli ar unrhyw un adeg, neu eu harddangos yn ffisegol ar unrhyw un adeg.

Y trydydd pwynt yr hoffwn ei wneud yw pwysigrwydd mynd i'r afael ag allgáu cymdeithasol a hyrwyddo cydraddoldeb a gwell canlyniadau iechyd. Oherwydd rydym wedi gweld cyfleusterau'n agor ychydig wythnosau'n ôl erbyn hyn. Gwnaeth yr amgueddfa genedlaethol gynlluniau ar gyfer ailagor Sain Ffagan yn rhannol, er enghraifft; wrth gwrs, mae trefniadau rhagarchebu a chyfyngiadau ar waith yno. Ond mae'n bwysig iawn fod ein cyfleusterau'n agored i bobl pan fydd ganddynt fwy o amser a phan fyddant am fynd i weld yr atyniadau hyn a hefyd i wneud ymarfer corff ar y safleoedd niferus yn y sector treftadaeth—eiddo'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a phethau tebyg. Felly, mae gwneud hyn mewn ffordd sy'n rhoi'r mynediad mwyaf posibl i'r rheini nad oes ganddynt y cyfleusterau hyn o bosibl a'r gallu, yn lleol, i fwynhau gerddi neu beth bynnag yn eithaf hanfodol yn fy marn i, fel y mae agor y cyfleusterau hyn i ysgolion fel mater o flaenoriaeth, ac yn enwedig y rheini sydd mewn ardaloedd o dlodi cymharol.

Ar gyfer y dyfodol hefyd, credaf y bydd casglu deunydd o'r cymunedau hyn ar sut y llwyddasant i ymdopi â COVID yn bwysig iawn. Oherwydd pe bai unrhyw un ohonom wedi astudio epidemig 1920, rwy'n siŵr y byddai'n canolbwyntio ar salwch Lloyd George, gwaith yr elusennau mawr, Ambiwlans Sant Ioan efallai—rwy'n gwisgo eu tei, Urdd Sant Ioan, heddiw—sefydliadau gweithgar a phwerus iawn o ran cadw cofnodion, ac mae'n bwysig iawn ein bod yn cadw hynny i gyd. Ond rwy'n credu y byddai llawer o'r pethau cymdeithasol wedi'u colli 100 mlynedd yn ôl, ond nawr gallwn gyfleu hynny. Bydd gennym ddyddiaduron, bydd gennym gynlluniau gwaith ac adroddiadau dosbarth gan bob math o ysgolion a sefydliadau cymunedol sy'n helpu pobl i brosesu'r digwyddiad anhygoel hwn yn ein bywyd cenedlaethol. A chredaf y bydd yn bwysig iawn dysgu o hynny yn y dyfodol, felly cadw'r adnoddau hynny, ond hefyd cyfleu'r profiad hwnnw, a chredaf y byddai o werth hanesyddol mawr. Oherwydd bu'n rhaid inni astudio'r hyn a ddigwyddodd 100 mlynedd yn ôl ac atgoffa ein hunain bod masgiau'n cael eu gwisgo 100 mlynedd yn ôl ar strydoedd Caerdydd ac nid yn unig yn Tokyo neu lle bynnag, lle credwn mai peth Asiaidd yn unig yw gwisgo masgiau, a chredaf fod hynny'n ddadlennol iawn. Felly, gobeithio y daw hynny'n rhan annatod o gasgliadau cenedlaethol.

Ac a gaf fi ganmol y sefydliadau sy'n gweithio mor galed? Rwyf newydd ddarllen yr wythnos hon am y £55,000 y mae'r amgueddfa wedi'i gael i roi hwb i'w chynnig dysgu yn ystod COVID, a daeth yr adnodd hwnnw o gronfa'r Fonesig Vivien Duffield, ac mae'n dangos i chi nad yw ein sefydliadau treftadaeth yn dibynnu ar grantiau'r Llywodraeth yn unig ond eu bod allan yno'n ceisio cael y gwerth mwyaf posibl i ni a bod ystod eang o arian ar gael iddynt pan fyddant yn codi arian yn effeithiol iawn. Diolch, Ddirprwy Lywydd.

16:30

Diolch yn fawr i'r pwyllgor am adroddiad arall ac am y cyfle i'w drafod o heddiw yma. Mae'r gyfres yma o adroddiadau wedi bod yn ddefnyddiol iawn i daflu goleuni ar effaith COVID ar wahanol rannau o’r sector celfyddydau a chreadigol, ac, yn bwysicach, yn cynnig argymhellion pendant am beth sydd angen ei wneud.

Mae'r adroddiad yma, wrth gwrs, yn edrych yn benodol ar effaith COVID ar dreftadaeth, amgueddfeydd ac archifau. Mi ydym ni ym Mhlaid Cymru yn hollol grediniol bod yn rhaid i Lywodraeth gefnogi ein sefydliadau diwylliannol cenedlaethol allweddol er mwyn sicrhau eu cadernid a'u datblygiad i'r dyfodol. Mae gennym ni nifer dda o sefydliadau cenedlaethol sy'n cyfrannu'n helaeth at ein bywyd diwylliannol, cymdeithasol ac economaidd. Maen nhw'n rhan greiddiol o fywyd ein gwlad, yn cwmpasu theatr, opera a dawns, llenyddiaeth a llyfrau, archifau ac amgueddfeydd, heb anghofio’r Eisteddfod Genedlaethol, wrth gwrs. Ond mae'r sefydliadau yma yn wynebu heriau sylweddol yn sgil yr argyfwng iechyd presennol, ond mae'n rhaid pwysleisio, fodd bynnag, fod y sefyllfa sy’n wynebu’r sector ar hyn o bryd wedi cael ei gwneud yn waeth oherwydd tanwariant, tanfuddsoddiad a llymder dros y ddegawd diwethaf. Mae'n rhaid i'r Llywodraeth nesaf fynd i'r afael â hyn mewn ffordd gadarn a diamwys a rhoi'r cymorth a'r gefnogaeth briodol a haeddiannol i'n sefydliadau pwysig ni.

Fe gyhoeddwyd adroddiad blynyddol Llyfrgell Genedlaethol Cymru yr wythnos diwethaf, oedd yn crynhoi hanes blwyddyn brysur iawn i’r sefydliad, efo bron i 2 filiwn o ymweliadau i’w gwefannau ac mae yna dros 300,000 o eitemau wedi cael eu digideiddio. Yn ddiweddar, fe gynhaliodd y llyfrgell genedlaethol yr adolygiad teilwredig, ac mae'n rhaid dweud bod y sefyllfa ariannol bresennol yn un difrifol. Mae'r llyfrgell wedi profi gostyngiad o 40 y cant yn ei grant cynnal—dydy hynny ddim yn wir am sefydliadau cenedlaethol eraill. Mae sefyllfa'r amgueddfa genedlaethol yn fregus hefyd, ac mae tanfuddsoddiad wedi bod o ran isadeiledd a chynnal a chadw’r safleoedd. Mae yna ôl-groniad cynnal a chadw cyfalaf o fwy na £60 miliwn ar gyfer ei wyth safle. Maen nhw wedi bod yn llwyddiannus o ran cynyddu'r incwm a denu nawdd dros y blynyddoedd diwethaf, ond yn amlwg mae COVID wedi ychwanegu at yr ansicrwydd a'r ansefydlogrwydd, ac mi fyddai cael diweddariad gan y Dirprwy Weinidog am y trafodaethau ariannol efo'r amgueddfa genedlaethol a'r llyfrgell genedlaethol yn fuddiol iawn, dwi'n credu.

Fel mae Helen Mary wedi sôn, mae COVID wedi tynnu sylw at bwysigrwydd y maes digidol, ac mae'r adroddiad gan y pwyllgor yn rhoi sylw haeddiannol i hyn. Mae angen i sefydliadau gydweithio a pheidio â dyblygu gwaith, yn enwedig o ran paratoi defnyddiau dysgu digidol ar gyfer y cwricwlwm cenedlaethol a byrddau iechyd. Ac mae angen i'r cynnydd mewn gweithgareddau ar-lein gael adnoddau priodol i lwyddo. Felly, byddwn i'n hoffi gofyn i'r Dirprwy Weinidog sut mae o'n meddwl y dylai setliadau cyllid ar gyfer y sector yn y dyfodol ddarparu ar gyfer digideiddio casgliadau lleol a chenedlaethol a darparu ar gyfer gweithgareddau addysgol ac allgymorth ar y we.

Gaf i droi at ddau fater i gloi? Mae Eluned Morgan wedi nodi bod Llywodraeth Cymru am ryddhau astudiaeth dichonoldeb ar sefydlu archif genedlaethol i Gymru. Dwi'n credu bod hyn yn rhan o'r ddealltwriaeth oedd rhwng y Llywodraeth yma a Phlaid Cymru ar gychwyn y Senedd yma. Mae COVID-19 wedi amharu ar waith yr ymchwiliad, dwi'n deall, ond dwi yn edrych ymlaen at weld y casgliadau a beth fydd y camau nesaf yn sgil yr astudiaeth yma. Felly, mi fyddai'n ddefnyddiol os medr y Dirprwy Weinidog roi ryw fath o amserlen inni ar gyfer cyflwyno'r gwaith yma.

Mae COVID-19 wedi amlygu'r argyfwng ail gartrefi sy'n wynebu ein cymunedau ni, ac, efo hynny, mae yna beryg i'n treftadaeth ni hefyd wrth i enwau gwreiddiol rhai o'r tai yma gael eu colli am byth. Mae'r ffordd mae'r Llywodraeth yma wedi llusgo ei thraed pan fo'n dod i amddiffyn enwau lleoedd Cymraeg yn hynod siomedig. Rydym ni'n parhau i wynebu sefyllfa lle does yna ddim ffordd o ddiogelu enwau lleoedd hanesyddol Cymru—enwau sy'n rhan mor bwysig o dreftadaeth a hanes ein gwlad. Mae angen rheoleiddio statudol. Dydy'r Llywodraeth hon ddim yn mynd i gyflwyno hynny, ond mae angen deddfu yn y chweched Senedd doed a ddelo. Diolch yn fawr.

16:35

Gan mai fi yw'r pedwerydd neu'r pumed siaradwr, rwy'n credu, mae'r rhan fwyaf o'r hyn roeddwn am ei ddweud bellach wedi'i ddweud, felly dim ond ychydig o sylwadau penodol rwyf am eu gwneud. Yr un cyntaf yw croesawu'r adroddiad, a chroesawu'n benodol y model hwn o adroddiadau byr ac i'r pwynt sy'n amserol ac yn gyfredol iawn, oherwydd mae'r ffordd honno'n gwarantu y gallant gael effaith uniongyrchol ar yr hyn sy'n digwydd ar y pryd.

Un o'r pethau a'm trawodd fwyaf yn ystod y sesiynau tystiolaeth a gawsom oedd pwysigrwydd faint o ganolfannau treftadaeth, amgueddfeydd o wahanol fathau, sydd bellach yn cael eu rhedeg bron yn gyfan gwbl gan gymunedau lleol, gan wirfoddolwyr, sy'n gyfrifol am godi eu harian eu hunain, ond sy'n chwarae rhan hanfodol yn cadw hanes y gymuned, y wybodaeth gymunedol sy'n bodoli. Roedd yn amlwg i mi fod llawer o waith y dylid ei wneud ac y mae angen ei wneud i gyfuno'r rhain a'u hasio gyda'i gilydd ar ryw ffurf gydlynol.

Gwnaeth peth o'r dystiolaeth a gawsom argraff fawr arnaf, o ran—nid yn gymaint yr anawsterau, ond y cyfleoedd sy'n codi o waith Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn enwedig mewn perthynas â digideiddio. Roedd yn ymddangos i mi, gyda phob un o'r rhain, o ran y rôl y gallant ei chwarae nawr gyda chwricwlwm cenedlaethol Cymru yn ein hysgolion—. Dim ond dwy enghraifft yn fy etholaeth i. Mae crochenwaith Nantgarw yn rhywbeth sydd wedi mynd drwy ddadeni'n ddiweddar o ran pa mor gyfarwydd yw pobl ag ef a'r gwerth y mae pobl yn ei roi arno, oherwydd ei fod mor brin, ac oherwydd ei ansawdd. Wrth gwrs, yn ystod pandemig COVID, edrychasant ar ffyrdd dychmygus iawn o godi arian. Maent wedi troi teilchion hynafol o grochenwaith yn emwaith, ac wedi bod yn ei werthu, yn ogystal â darparu llawer o wybodaeth leol am y gwaith a'r ffordd roedd y crochendy'n gweithio. Yr un peth gyda Neuadd y Dref Llantrisant—gwn fod y Gweinidog diwylliant wedi bod yno droeon. Ac wrth gwrs, mae'r rhain i gyd yn sefydliadau sydd bellach yn wynebu anawsterau, yn ddibynnol iawn ar grantiau i oroesi, ac mae eu goroesiad yn gwbl hanfodol.

Y pwynt y byddwn yn ei wneud, ac efallai y gallwn ofyn i'r Gweinidog wneud sylw arno, yw hwn: mae'r rôl y mae'r rhain yn ei chwarae nawr o fewn ein system addysg i'w gweld yn bwysig iawn i mi, yn ogystal â'r angen i'r cwricwlwm cenedlaethol gynnwys, ymgysylltu a chwmpasu, rywsut, yr holl ganolfannau treftadaeth, amgueddfeydd a sefydliadau hyn. Felly, os ydym am addysgu am hanes Cymru mewn gwirionedd, am hanes y cymunedau rydym yn byw ynddynt, wel, mae'r sefydliadau gennym yno. Yr hyn nad oes ganddynt yw'r integreiddio, yr adnoddau, y digideiddio i sicrhau bod y deunyddiau hynny ar gael ac yn hygyrch mewn ffordd sy'n cyflwyno'r cwricwlwm mewn gwirionedd. Felly, credaf mai'r un neges a ddaeth allan ohono'n gryf iawn i mi yw'r cyfle gwych sydd gennym gan ein bod yn edrych yn awr ar yr adnoddau sydd gennym, a sut y gallwn sicrhau gymaint yn well yn y dyfodol eu bod ar gael i holl bobl ein cymunedau, ond hefyd fel rhan ganolog o'n system addysg. Diolch, Ddirprwy Lywydd.

16:40

Diolch. A gaf fi alw yn awr ar y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Dafydd Elis-Thomas?

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae'n bleser unwaith eto gen i fel Gweinidog diwylliant i ymateb i'r drafodaeth yn y Siambr ynglŷn â'n sefydliadau cenedlaethol nodedig. Wrth wneud hynny, gaf i ddiolch i'r pwyllgor am ei adroddiad, a hefyd pwysleisio, wrth gwrs, ein bod ni wedi ymateb yn ysgrifenedig ym mis Medi, ac wedi nodi ein bod ni fel Llywodraeth yn falch iawn o allu derbyn pob un o argymhellion yr adroddiad, ac ein bod ni'n mynd ymlaen i'w gweithredu nhw? Fe wnaf i bwysleisio ar hynny yn fy ymateb cryno, gobeithio, i'r ddadl hon. Gaf i bwysleisio eto y gwnaf i ysgrifennu yn uniongyrchol at yr Aelodau am unrhyw bwyntiau na fyddaf i ddim wedi gallu eu hateb yn uniongyrchol?

Y neges bwysig sydd gen i, wrth gwrs, yw ein bod ni wedi gwrando ar y cais sydd wedi cael ei wneud yn gyson am gynyddu'r cyllid ar gyfer y sectorau rydym ni wedi eu trafod heddiw, er gwaethaf y cyd-destun cyllidol difrifol anodd rydym ni'n gweithio o'i fewn, ac, wrth gwrs, yr wythnos diwethaf, yn dilyn y galw am gyllid ar draws y sectorau celfyddydol a diwylliannol, fe gyhoeddais i y byddai yna £10.7 miliwn ychwanegol ar gael i gefnogi sefydliadau ac unigolion. Yng ngoleuni'r ffaith bod yna geisiadau wedi cael eu gwneud i ni fel Llywodraeth nad oeddem ni'n gallu darparu cyllid iddyn nhw oherwydd bod nifer y ceisiadau yn llawer mwy enfawr na maint y cyllid, fe fydd yn rhaid inni geisio ffyrdd ar draws y Llywodraeth o weld os oes modd inni ddarparu rhyw gymaint yn rhagor o gyllid cyn diwedd y flwyddyn ariannol yma, os oes peth ar gael, neu gynllunio ar gyfer hynny yn y blynyddoedd ariannol nesaf. Ond mae cronfa adferiad diwylliannol wedi cyrraedd £63.7 miliwn, ac, fel dywedais i, mae'r diddordeb yn y grantiau o bob math, gan gynnwys y grantiau treftadaeth 15 munud, wedi bod yn rhyfeddol, ac roeddwn i'n falch iawn o weld hynny.

Gaf i ddiolch i'r Aelodau sydd wedi siarad am dderbyn mor bwysig ydy'r datblygiad digidol i'r hyn rydym ni'n ceisio ei wneud i ymateb i sefyllfa COVID ac i ddatblygu ffordd o gyfathrebu ac o fod ar gael i'r cyhoedd drwy Gymru? Dwi'n gwerthfawrogi'n fawr y modd y mae llyfrgelloedd cyhoeddus wedi parhau i gynnig adnoddau drwy gydol yr argyfwng yma, megis e-lyfrau ac e-gylchgronau drwy'r llyfrgell ddigidol. Mae llwyfannau digidol yn sicr yn mynd i gael mwy o rôl i'w chwarae yn y dyfodol agos, ac mi fyddwn ni'n ceisio ffyrdd o sicrhau ein bod ni'n gallu cyllido o fewn y ffiniau cyllidol ac ariannol sydd gyda ni y datblygiad digidol, a bod hyn yn flaenoriaeth i ni fel Llywodraeth. Ac mae gwella sgiliau digidol y boblogaeth yn gyffredinol yn rhan bwysig iawn o'r prosiect yma, fel bod pobl yn gallu manteisio ar yr arlwy sydd ar gael.

Ond does yna ddim byd tebyg, wrth gwrs, i ymweld â safleoedd hanesyddol mewn gwirionedd—nid yn rhithiol ond yn bersonol. Ac mae hyn wedi bod yn anodd iawn yn y cyfnod yma. Ond mae'n rhaid imi ddweud fy mod i wedi cael y profiad, oherwydd lle rydw i'n byw yn Llandaf, a dwi'n gwybod am lawer o bobl eraill hefyd, gan ein bod ni'n cerdded mwy ac yn teithio llawer llai, ein bod ni yn gweld pethau newydd yn ein cymunedau lleol yn ystod y cyfnod yma ac yn ailddarganfod safleoedd hanesyddol lleol. Ac mae hynny wedi cyfrannu at ein dealltwriaeth ni o'n cymunedau.

Diolch yn fawr i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y drafodaeth yma, a dwi'n sicr nid hwn yw'r tro cyntaf ac nid hwn fydd y tro olaf y byddwn ni'n dod ynghyd fel Aelodau i ddangos cefnogaeth i'r sector ddiwylliannol. Ac mae'r feirniadaeth a'r anogaeth greadigol rydw i'n eu cael bob amser gan yr Aelodau sy'n cymryd rhan yn y dadleuon yma yn rhywbeth sydd yn helpu i'm cadw innau ar y llwybr cul, fel petai. Diolch yn fawr.

16:45

Diolch. Unwaith eto, nid oes ymyriadau, felly galwaf ar Helen Mary Jones i ymateb i'r ddadl. Helen.

Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf fi ddiolch yn fawr i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl? Unwaith eto gyda dadleuon yn deillio o waith ein pwyllgor gwelwn ehangder y gefnogaeth, ehangder y syniadau a'r gydnabyddiaeth drawsbleidiol o ba mor bwysig, yn yr achos hwn, yw ein sector treftadaeth a diwylliannol i bob un ohonom.

Mewn ymateb i David Melding, roeddwn yn credu fy mod yn eithaf caredig tuag at Lywodraeth y DU. Roeddwn i'n gwneud fy ngorau. Dywedais fy mod yn falch eu bod wedi ei wneud, ond rwy'n credu y byddem i gyd y  cydnabod, mae'n debyg, y byddai wedi bod yn well pe byddent wedi'i wneud ychydig yn gynt. Ond y pwynt y mae David yn ei wneud yn bwysig iawn am yr angen am fynediad at gyfiawnder cymdeithasol: a oes angen i ni roi blaenoriaeth i gael ein hysgolion o'n cymunedau tlotaf i mewn, ac oherwydd na all pawb fynd i mewn i'n hamgueddfeydd, a ddylem fod yn flaenoriaethau felly? Ac fe'm trawyd yn fawr gan yr hyn a ddywedodd am y ffordd y mae'r amgueddfa genedlaethol yn casglu straeon COVID. Bydd hon yn archif wych—yr holl leisiau na allem eu clywed 100 mlynedd yn ôl y byddwn yn gallu eu clywed drwy'r prosiect hwn. Ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weld eu gwaith wrth iddo gael ei gynhyrchu. Dylwn ddatgan rhyw fath o fuddiant fel hanesydd dihangol fy hun. Bydd hwn yn adnodd gwych i haneswyr y dyfodol, a bydd yn sicrhau yr adroddir straeon pawb, nid dim ond y lleisiau mawr, fel y dywedodd David Melding. 

Rwy'n ddiolchgar iawn i Siân Gwenllian am ei sylwadau cadarnhaol iawn am waith ein pwyllgor. Mae'n iawn, wrth gwrs, i bwysleisio y bydd angen cefnogaeth barhaus gan y Llywodraeth ar ein sefydliadau ac i dynnu sylw at y ffaith eu bod yn fregus wrth wynebu'r argyfwng oherwydd y blynyddoedd o gyni. A bydd gennyf innau hefyd ddiddordeb mewn gweld y cynnydd o ran datblygu'r archif genedlaethol. Bydd angen i'r Llywodraeth barhau i gefnogi ein sefydliadau mawr ac yn wir, ein sefydliadau lleol llai. Bydd yn amser hir cyn y bydd y rhai a oedd yn bwrw iddi go iawn i allu gweithio'n fwy masnachol, bydd yn amser hir cyn y gallant ddychwelyd i'r lle hwnnw. 

Mick Antoniw, wrth gwrs, oedd yr un a awgrymodd yr adroddiad byr ac i'r pwynt, felly mae'n iawn i'w gymeradwyo. Ac rwy'n credu ei fod wedi galluogi ein pwyllgor i ymateb i sefyllfaoedd sy'n newid mewn ffordd eithaf hyblyg ac ymatebol. Ac mae'r hyn a ddywed Mick am y cyfleoedd  digideiddio, wrth gwrs, yn gwbl gywir. Mae'n iawn i wneud y pwyntiau am y posibilrwydd o gofnodion wedi'u digideiddio, yn ogystal â chofnodion go iawn, yn ein sefydliadau i gyfrannu at y cwricwlwm cenedlaethol ledled Cymru, a dof yn ôl at hynny mewn munud. Ond rwy'n credu ei fod yn iawn hefyd i dynnu sylw at yr arloesi sy'n digwydd mewn sefydliadau diwylliannol lleol, ac mae'n rhaid i mi ddweud wrtho fod gemwaith crochendy Nantgarw ar fy rhestr cardiau Nadolig, rhag ofn bod unrhyw un yn gwrando. Mae'n hardd tu hwnt, ac am syniad clyfar, i ddefnyddio'r hyn sydd yn ei hanfod yn gynnyrch gwastraff nid yn unig i gynhyrchu incwm ar gyfer y crochendy, ond hefyd i godi ymwybyddiaeth ohono. Nid wyf wedi bod yno, mae'n rhaid i mi gyfaddef, ac rwy'n sicr yn mynd i fynd pan fydd hynny'n bosibl.

Rwy'n falch iawn, fel rwyf eisoes wedi dweud, fod y Dirprwy Weinidog wedi derbyn ein hargymhellion. Ac rydym yn ddiolchgar fel pwyllgor, ac mae'r sector yn ddiolchgar, am yr adnoddau ychwanegol sydd wedi'u darparu a'r cyllid ychwanegol yr wythnos hon. Gwn y bydd yn cydnabod y bydd angen cymorth pellach yn y tymor canolig, ac roeddwn yn falch o glywed yr hyn a ddywedodd am chwilio am gymorth trawslywodraethol.

Yma, hoffwn gyfeirio'n ôl at yr hyn a ddywedodd Mick Antoniw am y cyfraniad addysgol posibl wrth i ni symud at y cwricwlwm newydd, lle bydd llawer mwy o amrywiaeth yn yr hyn a addysgir i'n pobl ifanc pan fyddant yn cael eu haddysgu am eu treftadaeth a'u diwylliant. Tybed a allai'r Dirprwy Weinidog, yn dilyn y ddadl heddiw, siarad â'r Gweinidog addysg a gweld a ellid symud rhai adnoddau i gefnogi'r llyfrgell genedlaethol efallai, a hefyd yr amgueddfa genedlaethol, mewn perthynas â'u hagenda ddigideiddio, oherwydd mae angen inni sicrhau bod yr adnoddau gwych hynny ar gael i blant a phobl ifanc ledled Cymru ac yn wir, i bob un ohonom.

Wrth gwrs, mae'r Dirprwy Weinidog yn iawn i sôn am bwysigrwydd mynediad go iawn, ac rydym i gyd yn edrych ymlaen at y dyddiau pan allwn ymweld â'n sefydliadau yn y ffordd yr arferem allu gwneud hynny. Yn y cyfamser, credaf y gallwn fod yn falch iawn o'r ffyrdd arloesol y maent wedi ymateb i gyfnod heriol iawn, ac rwy'n gobeithio bod y Dirprwy Weinidog yn deall bod ganddo gonsensws trawsbleidiol mewn perthynas ag amddiffyn ein sefydliadau—lleol a chenedlaethol—a sicrhau y byddant yno i ni pan ddown allan o hyn, ac i'n plant a'n hwyrion mewn cenedlaethau i ddod.

16:50

Diolch. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nid wyf yn gweld unrhyw wrthwynebiad. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Rydym yn atal y trafodion yn awr i ganiatáu inni newid staff yn y Siambr, a bydd y gloch yn cael ei chanu ddwy funud cyn i'r trafodion ailgychwyn. Diolch.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 16:51.

17:00

Ailymgynullodd y Senedd am 17:00, gyda'r Llywydd yn y Gadair.

8. Dadl Plaid Cymru: Ardaloedd cymorth arbennig COVID-19

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enwau Gareth Bennett a Mark Reckless, gwelliannau 2 a 4 yn enw Rebecca Evans, a gwelliant 3 yn enw Darren Millar. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2, 3 a 4 yn cael eu dad-ddethol. Os derbynnir gwelliant 3, bydd gwelliant 4 yn cael ei ddad-ddethol.

Dadl Plaid Cymru sydd nesaf, ar ardaloedd cymorth arbennig COVID-19. Dwi'n galw ar Leanne Wood i wneud y cynnig.

Cynnig NDM7480 Siân Gwenllian

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi'r lefelau uchel parhaus cyfraddau heintio COVID-19 yng nghymoedd y de, gydag ardaloedd o fyrddau iechyd Cwm Taf Morgannwg ac Aneurin Bevan yn profi rhai o'r cyfraddau uchaf yn y DU.

2. Yn nodi'r ymchwil a gynhaliwyd yn Lloegr sy'n dangos bod effeithiau'r pandemig wedi cael effaith anghymesur ar gymunedau ôl-ddiwydiannol yng ngogledd Lloegr ac wedi gwaethygu gwahaniaethau rhanbarthol hirsefydlog y wladwriaeth Brydeinig.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddynodi ardaloedd lle mae cyfraddau heintio COVID-19 yn uwch yn ardaloedd cymorth arbennig COVID i fod yn gymwys i gael mesurau cymorth ychwanegol a fyddai'n cynnwys:

a) cymorth ychwanegol i'r rhai sy'n agored i niwed o safbwynt clinigol ac na allant weithio gartref;

b) cynyddu'r grant hunanynysu i £800;

c) adnoddau ychwanegol ar gyfer timau profi ac olrhain ac awdurdodau lleol;

d) llety gwirfoddol ychwanegol i'r rhai nad ydynt yn gallu hunanynysu'n ddiogel gartref;

e) mwy o brofion i ganfod achosion asymptomatig;

f) blaenoriaeth ar gyfer rhaglenni profi torfol a chyflwyno unrhyw frechlyn yn gynnar;

g) cryfhau ymgyrchoedd cyfathrebu cyhoeddus lleol i'w gwneud yn haws i gadw at ganllawiau iechyd y cyhoedd:

h) adnoddau ychwanegol ar gyfer wardeiniaid COVID lleol ar gyfer awdurdodau lleol a hyrwyddwyr cymunedol COVID i ailadrodd negeseuon atal COVID cenedlaethol;

i) mesurau amddiffynnol ychwanegol mewn ysgolion ac ar gludiant i'r ysgol, gan gynnwys gwisgo masgiau mewn ystafelloedd dosbarth;

j) adnoddau ychwanegol ar gyfer gofal plant diogel a fforddiadwy;

k) mesurau ychwanegol i liniaru'r rhaniad digidol a tharfu ar addysg;

l) mwy o gefnogaeth i fusnesau a phobl hunangyflogedig sy'n dewis rhoi'r gorau i fasnachu'n wirfoddol dros dro;

m) gorchmynion gwasgaru yng nghanol trefi ar ôl cau tafarndai.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd. Mae Plaid Cymru am gael cymorth ychwanegol i gymunedau sydd wedi cael eu taro'n anghymesur gan COVID. Yr ardaloedd sydd â'r cyfraddau uchaf o achosion COVID yw Merthyr, Castell-nedd Port Talbot, Rhondda Cynon Taf a Blaenau Gwent. Mae'r ffigurau ar gyfer Blaenau Gwent, Rhondda Cynon Taf a Merthyr wedi bod yn uwch na ffigurau Lerpwl, sydd wedi elwa ar gymorth a blaenoriaeth ychwanegol ar gyfer technolegau newydd. Nid oes a wnelo hyn ddim â diwylliant y Cymoedd, fel y mae rhai wedi honni, a phopeth i'w wneud â thlodi a chyflogau isel, tai gwael, gorlawn, patrymau cyflogaeth sy'n golygu y gall llai o bobl weithio gartref, y system nawdd cymdeithasol gamweithredol nad yw'n cynorthwyo pobl ym mhob achos i hunanynysu, a dibyniaeth ar aelodau o'r teulu a ffrindiau ar gyfer gofal plant. Felly, cyn stereoteipio, byddai'n ddefnyddiol pe gallai pobl ddeall y ffeithiau perthnasol hyn.

Mae'n sicr yn newyddion da ei bod yn ymddangos bod y cyfnod atal byr wedi cael effaith gadarnhaol ar achosion. Dylai'r Llywodraeth fod yn ei gwneud mor hawdd â phosibl i bobl ynysu. Rhaid inni wneud popeth yn ein gallu i ddiogelu'r bobl fwyaf agored i niwed, a rhaid inni hefyd, fel trethdalwyr, fod yn barod i gefnogi'r rheini sy'n peryglu popeth i'n helpu ni i gyd, sef y gweithwyr rheng flaen. Ac ar y nodyn hwnnw, un arwydd bach o gefnogaeth a fyddai i'w groesawu'n fawr fyddai pe bai'r Llywodraeth yn cytuno i dalu am angladdau pob gweithiwr rheng flaen sy'n marw o COVID. Nid yw'n iawn fod eu teuluoedd yn gorfod poeni am gyllid ar adeg o alar. Rhaid inni gydnabod hyn a'u cefnogi.

Mae'n bryd inni dderbyn nawr fod ysgolion yn chwarae rhan fwy yn y broses o drosglwyddo'r haint nag y credwyd i ddechrau. Mae modelu a data'r swyddfa ystadegau gwladol yn awgrymu bod plant yn fwy tebygol o fod yn achos cyntaf mewn cartref. Mae plant a phobl ifanc yn debygol o fod yn lledaenwyr asymptomatig. Mae angen rhoi llawer mwy o ystyriaeth i sut i reoli trosglwyddiad mewn ysgolion. Rhaid cael profion torfol rheolaidd i nodi achosion asymptomatig, a rhaid cael cymorth ychwanegol i gydnabod yr anawsterau gyda dysgu digidol sy'n wynebu teuluoedd sy'n ceisio cyfuno gofal plant ac addysgu eu plant â chyflogaeth amser llawn. I ddod yn ôl at brofi, ym mis Medi, addawodd Llywodraeth Cymru

'Mae pob ysgol yng Nghymru wedi derbyn pecynnau profi. Hefyd o gymorth i ysgolion unigol lle bo’r angen fydd profi cyflym gan Wasanaeth Iechyd Cymru.'

Beth sydd wedi digwydd i hynny? Nid oes profion torfol o hyd i gadw ysgolion yn ddiogel ac ar agor. Mae athrawon yn cwyno wrthyf am y pwysau meddyliol sy'n deillio o gael ond ychydig o gyfathrebiadau gan y Llywodraeth ynglŷn â'r cynllun, neu'r diffyg cynllun, i ganslo'r arholiadau. Oni fyddai'n syniad gwych cael cynllun cyn i ni gael y cyhoeddiad? Ond mae athrawon hefyd yn teimlo'n anniogel. Dywedodd un yn ddiweddar, 'Rwy'n arswydo rhag mynd i'r gwaith, heb wybod a yw pobl yn asymptomatig. Mae'r straen yn fy ngwneud i'n gorfforol sâl'. Mae athrawon yn haeddu gwell na hyn.

At hynny, o gofio mai aelwydydd yw un o'r prif lwybrau trosglwyddo, yn enwedig mewn ardaloedd lle mae tai gorlawn yn broblem, cred Plaid Cymru fod yr amser wedi dod i'r Llywodraeth sefydlu cyfleusterau ynysu ar wahân i oedolion. Defnyddiwyd cyfleusterau o'r fath yn Ne Korea, Singapôr, Taiwan, yr Eidal, y Ffindir a llawer o wledydd eraill sydd â hanes gwell o lawer o atal y feirws. Byddai lleoedd o'r fath nid yn unig yn cynnig lle diogel i bobl ddod dros salwch ysgafn heb ei ledaenu i berthnasau hŷn neu fwy agored i niwed sy'n byw gyda hwy, byddai hefyd yn cynnig cyfle i fonitro pobl ac ymyrryd yn gynharach pan fyddant yn dirywio. Mae'r ymyrraeth gynnar hon mor bwysig, a bodolaeth y cyfleusterau hyn sy'n esbonio'n rhannol pam mai Singapôr sydd â'r gyfradd farwolaethau isaf yn y byd, ar 0.05 y cant.

Rydym angen llawer o ymyriadau eraill yn yr ardaloedd sydd â chyfradd uchel o achosion o COVID. Mae angen inni wneud llawer mwy i ddiogelu'r rheini sy'n agored iawn i niwed yn glinigol, ac mae angen inni wneud llawer mwy ar ochr ariannol hyn i gyd, i unigolion ac i fusnesau. Rhaid inni gael newid yn y dull o weithredu i gydnabod bod y pandemig a'r ymatebion i'r pandemig yn cael eu profi'n wahanol ac mewn ffordd wahanol sy'n adlewyrchu anghydraddoldebau presennol. Nid damwain yw bod cyfraddau uchel o COVID yn adlewyrchu cyfraddau amddifadedd uchel, a rhaid i ymateb y Llywodraeth roi gwell ystyriaeth i hynny.

17:05

Rwyf wedi dethol y pump gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2, 3 a 4 yn cael eu dad-ddethol. Os derbynnir gwelliant 3, bydd gwelliant 4 yn cael ei ddad-ddethol. Mae'r gwelliant cyntaf yn enw Gareth Bennett, a dwi'n galw arno fe i gyflwyno ei welliant—Gareth Bennett.

Gwelliant 1—Gareth Bennett, Mark Reckless

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod ardaloedd sy'n parhau i fod â nifer fawr o achosion o COVID-19 wedi elwa o'r cymorth ariannol o £5 biliwn a roddwyd i Gymru yn ystod pandemig COVID-19 gan Lywodraeth y DU.

2. Yn gresynu at y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi ymgymryd â strategaeth COVID-19 sy'n wahanol i'r strategaeth gan Lywodraeth y DU yn gyson ac nad yw hyn wedi helpu'r cyfraddau heintio uchel parhaus sy'n gyffredin yng nghymoedd y de.

3. Yn credu mai'r ymateb gorau i gynorthwyo'r ardaloedd yr effeithiwyd arnynt fwyaf gan COVID-19 yng Nghymru yw drwy gael ymateb unedig yn y DU, dan arweiniad Llywodraeth y DU.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch, Lywydd. Diolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl heddiw a diolch hefyd, Lywydd, am dderbyn gwelliant 1, rwyf drwy hyn yn ei gynnig. Bydd Plaid Diddymu Cynulliad Cymru yn pleidleisio yn erbyn cynnig Plaid Cymru heddiw, nid am nad ydym yn cytuno â rhai o'r mesurau y maent yn eu cynnig, ond yn hytrach am ein bod yn anghytuno â ffocws eu cynnig. Mae Plaid Cymru yn cynnig llu o gamau gweithredu y maent am i Lywodraeth Cymru eu cymryd. Ein safbwynt ni yw bod llawer o broblemau ymdrin â'r pandemig wedi'u gwaethygu gan bedair Llywodraeth wahanol ledled y DU yn gwneud pethau gwahanol. Mae hyn wedi arwain at ddryswch enfawr. Mae gwir angen ymateb unedig yn y DU, dan arweiniad Llywodraeth y DU.

Ar hyn o bryd, mae gwahanol setiau o reolau ar draws ffiniau honedig, megis rhwng Cymru a Lloegr—ffiniau nad ydynt wedi bodoli mewn unrhyw ffordd ystyrlon ers cannoedd o flynyddoedd. Wedyn, mae'r rheolau'n newid, ac maent yn wahanol eto mewn gwahanol rannau o'r DU. Nid rheolau go iawn yw rhai o'r rheolau, canllawiau'n unig ydynt mewn gwirionedd, sydd fel pe baent yn golygu bod Llywodraeth Cymru yn esgus y gellir erlyn pobl am wneud rhywbeth pan na allant wneud hynny mewn gwirionedd. Y perygl gwirioneddol yw y bydd yr holl ddryswch yn arwain at ddirmyg tuag at y rheolau ymhlith cyfran fawr o'r cyhoedd. Mae arnaf ofn y gallai hyn fod yn anochel.

Gan droi at y gwelliannau, cytunwn â rhywfaint o'r hyn y mae'r Ceidwadwyr yn ei ddweud, a rhywfaint o'r hyn y mae Llafur yn ei ddweud. Yn y bôn mae Llafur yn dweud wrthym eu bod wedi gwneud popeth yn iawn, tra bod y Ceidwadwyr yn galw am fwy o weithredu gan Fae Caerdydd. A gaf fi wneud y pwynt yn gyntaf fod y Ceidwadwyr yn sicr yn iawn ynglŷn ag un peth, sef bod y £5 biliwn y mae Cymru wedi'i gael gan Drysorlys y DU wedi sicrhau ein bod yn cadw ein pennau uwchben y dŵr, ac na fyddai gennym obaith o ddod drwy'r argyfwng hwn hebddo? Felly, y ffaith ei bod yn rhan o'r DU sydd wedi helpu Cymru yma.

A gaf fi hefyd nodi bod COVID-19 yn argyfwng nad yw'n effeithio ar Gymru'n unig? Mae'n effeithio ar y DU gyfan. Felly, does bosibl na fyddai'n llawer haws lliniaru problemau'r argyfwng hwn drwy gael un strategaeth ar waith ledled y DU. Mae'n hurt meddwl bod cael gwahanol setiau o wleidyddion mewn pedwar lle gwahanol yn helpu pethau, gyda phawb yn meddwl am eu hatebion a'u mesurau lliniaru eu hunain yn erbyn yr argyfwng erchyll hwn. Mae'n teimlo'n fwyaf hurt yn ardaloedd y ffin, lle gall trigolion lleol weld cymaint o nonsens yw bod siopau a thafarnau a bwytai'n cael agor mewn un lle, ond yn gorfod aros ar gau ychydig gannoedd o fetrau i ffwrdd. Yna, yr wythnos ganlynol, mae'r sefyllfa'n newid fel bod y gwrthwyneb yn wir. Nid dyma'r ffordd o ymdrin yn gynhwysfawr ag argyfwng rhyngwladol.

Efallai y bydd cefnogwyr datganoli'n dadlau mai gwahaniaethau o'r fath yw hanfod datganoli. Rwy'n meddwl weithiau tybed a yw Llywodraeth Cymru yn credu bod yn rhaid iddi wneud rhywbeth gwahanol i Lywodraeth y DU er mwyn cyfiawnhau ei bodolaeth a dim mwy na hynny. Y broblem yw mai'r bobl fydd yn drysu yn sgil yr holl reolau gwahanol hyn, a hwy yw'r rhai a fydd yn dioddef yn ddiangen. Mae'r bobl wedi dod yn wystlon mewn gêm beryglus sy'n cael ei chwarae gan y datganolwyr ymroddedig ym Mae Caerdydd a Holyrood. Nid ydym wedi wynebu argyfwng ledled y DU tebyg i hwn ers dechrau datganoli 21 mlynedd yn ôl, felly mae'n ddiddorol iawn gweld sut y mae wedi datblygu.

Mae problemau datganoli wedi cynnwys Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth Cymru, ond maent hefyd wedi cynnwys haenau eraill o Lywodraeth megis meiri a etholwyd yn uniongyrchol. Cawsom y llanast braidd yn annymunol pan wnaeth Andy Burnham, maer Llafur Manceinion fwyaf, ddatgan yn agored y byddai'n cytuno i gyfyngiadau Llywodraeth y DU cyn belled â bod ei faenoriaeth fach yn cael swm cyfatebol o iawndal ar ffurf mwy o arian gan y Llywodraeth. Daw'n amlwg o ymddygiad Burnham ein bod yn anelu tuag at fath o Lywodraeth sy'n gyfarwydd yn UDA, a elwir yn wleidyddiaeth 'casgen borc': 'Fe gewch ein pleidlais cyn belled â'n bod yn cael eich arian'. Yn anffodus, fodd bynnag, bydd mwy o arian ar gyfer Manceinion fwyaf yn golygu llai o arian ar gyfer lleoedd eraill, felly nid yw'r math hwn o ryfelgarwch gan unben pot jam lleol fel Andy Burnham yn gwneud llawer dros y DU gyfan. Cawsom enghraifft fwy hurt byth o anfanteision datganoli gyda'r gwrthdaro rhwng y Prif Weinidog a maer Middlesbrough, Andy Preston. Ym mis Hydref, anghytunodd y Maer Preston â'r Prif Weinidog ynghylch y cyfyngiadau a dywedodd:

Fel y mae pethau, rydym yn herio'r Llywodraeth.

Sut y gall maer tref fod mewn unrhyw sefyllfa i herio Llywodraeth y DU? Etholwyd Andy Preston yn faer Middlesbrough wedi iddo gael 17,000 o bleidleisiau. Enillodd y Prif Weinidog etholiad cyffredinol lle cafodd y Ceidwadwyr bron i 14 miliwn o bleidleisiau. Nid oes cyfatebiaeth ddemocrataidd rhwng Prif Weinidog y DU a maer Middlesbrough. Yn yr un modd, nid oes cyfatebiaeth ddemocrataidd rhwng Prif Weinidog Cymru a etholwyd ar gyfradd bleidleisio o 45 y cant o'r boblogaeth o 3 miliwn a phrif Weinidog y DU a etholwyd ar gyfradd bleidleisio o 67 y cant o'r boblogaeth o 65 miliwn.

Mae COVID-19 yn argyfwng cenedlaethol. Mae'n dod yn fwyfwy amlwg nad yw'r DU, dan ddatganoli, yn gallu ymdopi ag argyfwng cenedlaethol mewn ffordd unedig. Weithiau, rwy'n meddwl tybed beth fyddai wedi digwydd yn ystod yr ail ryfel byd pe bai gennym ddatganoli. Dychmygwch: 'Mae Prif Weinidog Cymru yn arwain protest yn erbyn dod â charcharorion rhyfel Almaenig ac Eidalaidd i Gymru.'

17:10

Mae eich amser ar ben bellach, Gareth Bennett. A gaf fi ofyn i chi ddod â'ch sylwadau i ben?

Fe ddatblygaf y pwynt hwn eto. I gloi, dyma'r nonsens sydd gennym yn awr gyda datganoli. A gawn ni gael gwared ar yr anhrefn gyfansoddiadol hon os gwelwch yn dda—

Diolch yn fawr iawn.

Dwi'n galw nawr ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gynnig yn ffurfiol welliannau 2 a 4 yn enw Rebecca Evans.

Yn ffurfiol, Weinidog?

Gwelliant 2—Rebecca Evans

Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn nodi bod Llywodraeth Cymru’n cadw llygad yn barhaus ar lefelau cyfraddau heintio COVID-19 ar draws Cymru, o ystyried bod y cyfraddau heintio yn uchel mewn rhai ardaloedd.

Gwelliant 4—Rebecca Evans

Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:

Yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi ystod eang o fesurau cymorth cenedlaethol ar waith i ymateb i’r pandemig COVID-19, gyda’r nod o gynorthwyo’r ardaloedd hynny lle mae cyfraddau heintio COVID-19 yn uchel yn ogystal ag ardaloedd eraill yng Nghymru, gan gynnwys:

a) cynyddu’r gallu i brofi ac olrhain cysylltiadau a chyflwyno dewisiadau profi newydd;

b) cyllid a chymorth ychwanegol i awdurdodau lleol;

c) ymgyrchoedd helaeth i roi gwybodaeth i’r cyhoedd ar draws sianelau’r cyfryngau a’r cyfryngau cymdeithasol;

d) cymorth i ailagor ysgolion a sefydliadau addysg eraill yn ddiogel;

e) cyllid ar gyfer adferiad economaidd ac ar gyfer busnesau yng Nghymru;

f) taliad hunanynysu o £500.

Cynigiwyd gwelliannau 2 a 4.

Yn ffurfiol, Lywydd.

Diolch. Galwaf ar Andrew R.T. Davies nawr i gynnig gwelliant 3 yn enw Darren Millar. Andrew R.T. Davies.

Gwelliant 3—Darren Millar

Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn croesawu'r lefelau hanesyddol o gyllid gan Lywodraeth Ei Mawrhydi i holl ranbarthau a chenhedloedd y DU, gan gynnwys yr ardaloedd hynny sydd â chyfraddau heintio uchel, i fynd i'r afael â pandemig COVID-19, yn enwedig y £5 biliwn o arian ychwanegol a roddwyd i Lywodraeth Cymru.

Yn credu y dylid rhoi mesurau cymorth ychwanegol ar waith yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf yn sgil adroddiadau yn y cyfryngau bod o leiaf 9,000 o gleifion wedi bod yn aros am fwy na blwyddyn am driniaeth gan y GIG ym mis Medi yn yr ardal honno, gydag amseroedd aros i fod i gynyddu ymhellach yn dilyn effaith COVID-19.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu'r canlynol mewn perthynas ag ardaloedd lle mae cyfraddau heintio COVID-19 yn uwch, yn ogystal ag ardaloedd eraill ledled Cymru:

a) targedu ardaloedd lle mae cyfraddau heintio COVID-19 yn uwch yng Nghymru, gan gynnwys cyfyngiadau call wedi'u targedu lle y bo'n briodol;

b) cynyddu'r nifer o ysbytai sy'n rhydd o COVID a chyfleusterau ysbyty dros dro a gaiff eu cyflwyno er mwyn lleddfu'r pwysau ar y system gofal iechyd a mynd i'r afael â rhestrau aros;

c) targedu profion mewn ardaloedd lle ceir problemau a chyflwyno sgrinio asymptomatig ddwywaith yr wythnos ar gyfer yr holl staff sy'n wynebu cleifion yn y GIG yng Nghymru a'r sector gofal cymdeithasol;

d) comisiynu ymchwiliad brys i farwolaethau a heintiau sy'n gysylltiedig ag achosion a gaiff eu trosglwyddo mewn ysbytai;

e) cyflwyno pecyn cymorth tosturiol i'r rhai sydd fwyaf agored i niwed gan y coronafeirws yng Nghymru;

f) ôl-ddyddio taliadau hunanynysu yng Nghymru hyd at 28 Medi er mwyn sicrhau chwarae teg gyda rhannau eraill o'r DU;

g) dyrannu gweddill yr arian nas gwariwyd a ddarparwyd gan Lywodraeth Ei Mawrhydi i fynd i'r afael â'r coronafeirws.

Cynigiwyd gwelliant 3.

Diolch, Lywydd. Hoffwn ddiolch i Blaid Cymru am roi'r cynnig ger ein bron y prynhawn yma i'w drafod. Siaradaf am y gwelliant yn enw Darren Millar, gwelliant 3, sy'n tynnu sylw at yr adnoddau ychwanegol sy'n cael eu darparu i Lywodraeth Cymru drwy ei rhan yn yr undeb. Gallwn ychwanegu fod £5 biliwn o adnoddau hyd yma yn gyfraniad ariannol sylweddol i'r ymdrech i drechu COVID a chefnogi'r economi ar hyd a lled Cymru, a byddwn yn awgrymu bod bod yn rhan o'r undeb hwnnw wedi ein galluogi i adeiladu'r fantolen hon sydd wedi edrych ar y pandemig ac wedi gwneud i'r cyhoedd yng Nghymru sylweddoli pa mor gryf yw mantolen yr undeb pan elwir arni i gefnogi pob rhan o'r undeb yn wyneb y pandemig sy'n dal i ddatblygu o flaen ein llygaid.

Byddwn hefyd yn uniaethu â sylwadau'r siaradwr agoriadol a oedd yn galw am adnoddau ychwanegol ar gyfer ardal bwrdd iechyd Cwm Taf, fel sydd yn ein gwelliant. Fel Aelod rhanbarthol dros Ganol De Cymru, bob bore dydd Iau byddaf yn mynychu sesiwn friffio, drwy sesiwn Zoom, ynglŷn â'r hyn sy'n datblygu yn ardal bwrdd iechyd Cwm Taf, sydd, i'r rhai nad ydynt yn gwybod, yn ymestyn o Ferthyr Tudful drwy ardal Rhondda Cynon Taf ac i lawr i fwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn awr. Rhaid i mi ddweud, pan glywch ystadegau difrifol, yn anffodus, yr heintiau a ddaliwyd mewn ysbytai a'r marwolaethau mewn ysbytai—ac mae'n werth eu hailadrodd yn y fforwm hwn: mae Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr, yn anffodus, wedi colli 57 o bobl, mae Ysbyty Brenhinol Morgannwg wedi colli 61, ac Ysbyty'r Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful wedi colli 34. Mae hynny, ar yr ochr iechyd yn unig, yn dangos yr effaith y mae COVID wedi'i chael mewn ysbytai, heb sôn yr hyn sy'n digwydd yn y gymuned, lle mae bron i 9,000 o bobl wedi'u heintio â COVID yn ardal bwrdd iechyd Cwm Taf.

Beth bynnag fyddai barn pobl am y system haenog a fabwysiadwyd yn Lloegr, mae'n iawn dweud bod adnoddau ychwanegol ynghlwm wrth y system haenog honno a ganolbwyntiai ar y cyfyngiadau penodol a roddwyd ar waith yn yr ardaloedd hynny, yn wahanol i'r fan hon yng Nghymru, lle cafodd siroedd eu rhoi dan gyfyngiadau heb unrhyw gymorth ariannol ychwanegol i leddfu'r ergydion, yn economaidd, a ddeilliai o'r cyfyngiadau hynny. A chredaf fod angen i Lywodraeth Cymru, gyda £1.6 biliwn yn ei chyllideb heb ei wario o'r swm canlyniadol o £5 biliwn, edrych ar y nifer uwch o achosion mewn cymunedau sydd eisoes â lefelau uchel o dlodi a heriau gwirioneddol yn y cymunedau hynny, a cheisio mynd i'r afael â hynny drwy ddefnyddio rhywfaint o'r £1.6 biliwn hwnnw i helpu'r adfywiad economaidd a'r adeiladu nôl ar ôl COVID y mae ein gwelliant yn siarad amdano. Oherwydd rwy'n credu bod y pŵer yno, ac mae angen i Lywodraeth Cymru ymateb, yn enwedig pan edrychwch ar y niferoedd, fel rwyf wedi'u darllen, gyda'r nifer drasig o farwolaethau mewn ysbytai yn yr ardal benodol honno, ond hefyd y gyfradd heintio yn ardal bwrdd iechyd Cwm Taf, sy'n siarad drosti'i hun. Mae'n mynd i fod yn daith hir, ond gallwn ddechrau ailadeiladu, a gallwn, heb unrhyw amheuaeth—nid wyf yn ceisio bachu'r ymadrodd—ailadeiladu'n llawer gwell na phan aethom i mewn i'r argyfwng hwn o bosibl, gyda'r dychymyg cywir a'r ewyllys wleidyddol gywir yma.

Credaf hefyd, gyda'r taliadau hunanynysu y soniwyd eu bod yn dod gan Lywodraeth Cymru, ei bod yn bwysig eu bod yn cyd-fynd ag ardaloedd eraill o'r Deyrnas Unedig ac wedi'u hôl-ddyddio i 28 Medi, yn hytrach na dim ond 22 Hydref, fel y mae'r Llywodraeth wedi nodi yma. Clywais yr hyn a ddywedodd y Prif Weinidog ddoe yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog, pan soniodd pam ei bod yn bwysig i'r systemau adlewyrchu mesurau a roddwyd ar waith i ddiogelu rhag twyll, ac rydym i gyd yn cytuno â hynny; rydym am gael y gwerth gorau am y bunt gyhoeddus. Ond mae'n hanfodol, pan fydd y mesurau hyn ar waith, fod £500 ar gael o'r adeg y daethpwyd â'r mesurau hynny i rym. Ac os gall rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig ddatblygu'r systemau—datblygu'r systemau hynny'n hyderus—a all ddarparu'r gefnogaeth honno'n ôl tan ddiwedd mis Medi, yn hytrach na diwedd mis Hydref, credaf y dylem fod yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud hynny, a dyna mae ein cynnig yn galw amdano—ein gwelliant i'r cynnig, mae'n ddrwg gennyf—heddiw.

Mae'r gwelliant hefyd yn cyffwrdd ag amseroedd aros ysbytai. Ac mae'r ffigurau'n cael eu cyhoeddi yfory, rwy'n credu, a fydd yn rhoi darlun go iawn inni o sut olwg sydd ar yr amseroedd aros hynny yng Nghymru. Ond rydym yn gwybod, o geisiadau rhyddid gwybodaeth gan y BBC ac astudiaethau a wnaed gan elusen canser Macmillan, er enghraifft, o ran amseroedd aros, amseroedd aros cyffredinol, fod tua 49,000 o bobl ar restr aros yma yng Nghymru, ac mewn perthynas â chanser, nododd Macmillan y perygl o hyd at 2,000 o farwolaethau cynamserol am nad yw pobl wedi gallu cael yr apwyntiadau canser a'r triniaethau canser sydd mor hanfodol naill ai i sicrhau gwellhad o ganser neu sicrhau bod amser gwerthfawr yn cael ei brynu ar gyfer y claf canser hwnnw. Ac mae hwn yn faes hanfodol y mae angen inni fod yn ei ddatblygu ar y cyd â'r colegau brenhinol, a datblygu'r cysyniad o fannau rhydd o COVID yn ein hysbytai a'n lleoliadau ysbyty, fel y gallwn daro'r cydbwysedd rhwng y gwasanaeth iechyd fel gwasanaeth iechyd COVID, ond fel gwasanaeth iechyd sy'n gwneud yr hyn y mae wedi'i gynllunio i'w wneud, sef diwallu anghenion iechyd cyffredinol y boblogaeth.

Ac felly rwy'n gobeithio y bydd y gwelliant yn cael cefnogaeth yma heno yn y Senedd, oherwydd rwy'n credu ei fod yn ychwanegu at y cynnig sydd ger ein bron i'w drafod a hoffwn annog y Senedd i gefnogi'r gwelliant pan gynhelir y bleidlais.

17:15

Mae cymaint o realiti economaidd y Cymoedd yn ystod y 40 mlynedd diwethaf wedi deillio o ddinistrio'r diwydiannau glo a'r diwydiannau cysylltiedig yn fwriadol gan Lywodraeth Thatcher. Roedd y brad hwnnw fel daeargryn ac mae wedi arwain at sawl ôl-gryniad. Nid yw ein hysbryd cymunedol erioed wedi pylu, ond mae ein lefelau diweithdra'n dal yn ystyfnig o uchel ac mae ein canlyniadau iechyd yn cario creithiau degawdau o danfuddsoddi. Mae cenhedlaeth ar ôl cenhedlaeth wedi talu'r pris am yr hyn a gymerodd Thatcher oddi wrthynt.

Yr ergyd ddiweddaraf yw'r effaith anghymesur o galed y mae COVID-19 yn ei chreu. Mae'r feirws wedi bod yn greulon ac yn ddi-baid mewn cymunedau ledled Cymru, ond mewn ardaloedd ôl-ddiwydiannol lle mae tai'n agos at ei gilydd a chyflogaeth mor ansicr fel na all rhai fforddio hunanynysu, mae'r feirws wedi gallu lledaenu'n frawychus o gyflym. Merthyr Tudful sydd â'r nifer uchaf o achosion y pen o'r boblogaeth yng Nghymru. Rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru, heddiw, wedi cadarnhau y bydd profion torfol ar gael i drigolion yr ardal, p'un a oes ganddynt symptomau ai peidio. Mae'n hen bryd. Ond mae angen inni adeiladu ar hynny a darparu'r cymorth ychwanegol y mae ein cynnig yn galw amdano, fel bod pobl sy'n byw yn ein cymunedau yn cael gofal, nid diagnosis yn unig.

Pan osodwyd cyfyngiadau lleol ar ardaloedd yng Nghymru, Caerffili oedd y gyntaf, ac yna'r Rhondda, Merthyr Tudful, Blaenau Gwent a Chasnewydd, a Thorfaen yn ddiweddarach. Beth sydd gan yr ardaloedd hyn yn gyffredin? Wel, Lywydd, maent yn ardaloedd sydd â phoblogaethau hŷn, gyda strydoedd teras, a lle mae cysylltiadau teuluol yn dal yn gryf. Mae ein cysylltedd wedi cael effaith greulon, ac unwaith eto, rydym wedi dioddef oherwydd cynllunio gwael a degawdau o danfuddsoddi. Gwn fod cymunedau ledled Cymru wedi dioddef, ac yn amlwg, dylai'r cymorth ychwanegol sydd ei angen ar gyfer ardaloedd lle ceir llawer o achosion fod ar gael ym mhobman y mae ei angen. Ond ceir rhesymau sylfaenol pam y mae'r ardaloedd y cyfeiriais atynt wedi cael eu taro'n arbennig o galed, ac mae'n rhaid i ni unioni hynny.

Canfu adroddiad gan gell cyngor technegol Llywodraeth Cymru ar anghydraddoldebau iechyd fod y pandemig wedi dwysáu anghydraddoldebau iechyd a oedd eisoes yn bodoli, a bod y materion sylfaenol hyn yn deillio o incwm isel, tai gwael a chyflogaeth ansicr. Sawl gwaith y mae'n rhaid inni wrando ar yr un canfyddiadau o adroddiad arall eto fyth cyn i rywun wrando a rhoi'r hyn y maent ei angen i'n cymunedau? Dyna pam y galwn am y gefnogaeth ehangach hon. Rydym am weld llety i bobl nad ydynt yn gallu hunanynysu gartref, cymorth ar gyfer gofal plant diogel a fforddiadwy, a mesurau diogelwch i ysgolion, fel cyflwyno gwisgo masgiau mewn ystafelloedd dosbarth. Mae angen buddsoddiad arnom i oresgyn y gagendor digidol i'w gwneud yn haws i bobl gadw mewn cysylltiad pan na allant weld ei gilydd wyneb yn wyneb. A byddwn yn ychwanegu at hynny yr angen am gymorth iechyd meddwl i helpu cymunedau gyda'r trawma cyfunol y maent yn ei ddioddef. Gellid gweithredu llawer o'n cynigion ledled Cymru, megis cynyddu'r grant hunanynysu i bobl ar incwm isel i £800 er mwyn darparu mwy o ofal plant a chymorth i bobl na allant weithio gartref. Byddai'r camau hyn yn helpu unigolion a theuluoedd ledled Cymru, ond mae eu hangen yn arbennig lle gwelwyd y lefel uchaf o achosion o'r feirws.

Mae ennyn hyder y cyhoedd yn hollbwysig, a dyna pam ein bod am gael ymgyrchoedd cyfathrebu cryfach. Pan osodwyd cyfyngiadau lleol yng Nghaerffili, ni roddwyd unrhyw ganllawiau swyddogol i breswylwyr ar yr hyn y dylent ei ddisgwyl am fwy na 24 awr, gan adael pobl yn teimlo'n ansicr ac yn bryderus. Rhaid inni ddysgu gwersi o'r cyfyngiadau hynny. Ond mae angen i ni ddeall mwy hefyd am y patrymau ymddygiad sy'n hwyluso lledaeniad y feirws. Byddai'n sicr yn fuddiol i'r Llywodraeth gomisiynu ymchwil yn y maes hwn, oherwydd pe tynnid sylw at rai o'r patrymau ymddygiad hyn, byddai cymunedau'n gwybod pa gamau i'w cymryd i ddiogelu eu hunain.

Lywydd, mae gobaith ar y gorwel, gyda chanlyniadau cychwynnol addawol yn achos dau frechlyn. Ond rydym yn wynebu misoedd tywyll ac anodd yn y gaeaf i ddod, ac mae angen i Lywodraeth Cymru gynllunio mewn ffordd strategol sy'n targedu cymorth lle mae ei angen fwyaf. Mae angen cymorth ar y cymunedau hynod hyn. Maent wedi bod yn galw am y cymorth hwnnw ers degawdau. O'r diwedd, efallai y gall y Llywodraeth hon fynd ati nawr i unioni'r anghydraddoldebau sydd wedi plagio ein strydoedd a mynd i'r afael â'r holl ôl-gryniadau sydd wedi adleisio dros y degawdau ers cau'r pyllau glo. Os nad nawr, pryd?

17:20

A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl hon ac am eu cynnig hefyd? Ar frig y cynnig, yn y tri phwynt sydd ganddynt, mae'r un cyntaf yn nodi'r nifer uchel barhaus o achosion o COVID-19 ar draws Cymoedd y de. Mae rhannau eraill o Gymru hefyd—yng ngogledd Cymru hefyd yn wir—yn dioddef cyfraddau uchel, ond mae'n arbennig o gyffredin ar draws Cymoedd de Cymru. Ac wrth groesawu rhai o'r sylwadau yng nghyflwyniad Leanne, rhoddodd ffocws ar Gymoedd de Cymru. Os caf nodi hefyd y ffaith bod Cwm Taf yn cynnwys Pen-y-bont ar Ogwr ac Ogwr yn ogystal â chymoedd y Rhondda, cwm Nedd, Merthyr Tudful ac yn y blaen. Ac rwy'n gwybod nad oedd yn bwriadu hepgor hynny, ond ym mhen uchaf cymoedd Ogwr, rydym hefyd wedi gweld nifer uchel iawn o achosion o COVID-19, ac wrth gwrs, rydym yn rhan o ardal Cwm Taf.

Ac ar y pwynt cyntaf hwnnw, a gaf fi hefyd groesawu cyfraniad Andrew R.T. Davies, gan nodi'r dystiolaeth a gasglwyd ac a roddwyd i'r holl Aelodau o'r Senedd yn sesiynau briffio Cwm Taf? Ond hoffwn ddweud wrtho, yn ofalus iawn, mai'r union dystiolaeth honno o'r effaith ar y gwasanaeth iechyd yng Nghwm Taf, yn ogystal â lledaeniad yn y gymuned a lledaeniad yn y gweithle, dyna'n union pam roeddem angen y cyfnod atal byr a phopeth a ddaeth gydag ef er mwyn lleihau rhywfaint, er dros dro, ar y lledaeniad a'r cynnydd enfawr a welsom yn yr ardal. Roedd taer angen y cyfnod atal byr hwnnw arnom. Nawr, rhaid inni ysgwyddo'r cyfrifoldeb hwnnw, bob un ohonom sy'n byw yn ardal Cwm Taf i wneud iddo weithio wrth inni nesáu at fisoedd y gaeaf.

Nododd hefyd, yn eitem Rhif 2, yr ymchwil a wnaed yn Lloegr, y credaf ei fod yn berthnasol iawn yng Nghymru mewn cymunedau ôl-ddiwydiannol, fel y dywedodd Delyth yn gywir. Yr hyn sydd gennym yw anghydraddoldebau strwythurol yng Nghymoedd de Cymru, a rhannau eraill o Gymru, rhaid imi ddweud, oherwydd mae yna ardaloedd ôl-ddiwydiannol eraill, gan gynnwys yng nghymunedau gogledd Cymru hefyd. Maent yn anghydraddoldebau hir a dwfn, ac mae'n sicr yn wir, fel y mae'r pwyllgor y mae Delyth a minnau'n aelodau ohono wedi dangos, fod effeithiau COVID wedi mynd yn ddyfnach i'r ardaloedd hynny lle roedd anghydraddoldebau strwythurol eisoes. Felly, rwy'n cytuno'n llwyr â hynny.

A gaf fi ddweud, o ran pwynt 3 yng nghynnig Plaid Cymru, ond rhai o'r pwyntiau eraill hefyd, gan gynnwys pwyntiau'r Ceidwadwyr—mae pwyntiau o werth o'u mewn. Fy mhryder i, fodd bynnag, yw ei fod yn sawl peth, a gallai fod gwerth gwirioneddol i rai ohonynt a'u bod yn haeddu cael eu hystyried ac yn iawn i'w trafod heddiw, ond efallai nad yw rhai ohonynt yn gwbl effeithiol neu'n targedu cymorth ychwanegol yn effeithlon. Felly, rwy'n hapus i gefnogi'r ddau bwynt cyntaf ac i gefnogi cynnig Llywodraeth Cymru i dynnu trydedd ran y cynnig a rhoi'r un sy'n cydnabod y gwaith sy'n digwydd yno yn ei le. Ond hoffwn ychwanegu ato, ac yng ngwelliant 4 Llywodraeth Cymru o dan enw Rebecca Evans, mae'n sôn am yr ystod eang o fesurau cymorth cenedlaethol sydd ar waith, gan gynnwys y rheini i gynorthwyo ardaloedd lle ceir nifer fawr o achosion o COVID-19. Mae'n sôn am y profion ac olrhain cysylltiadau, ac rydym wedi clywed heddiw am Ferthyr Tudful, gyda phrofion torfol, gydag adnoddau enfawr yn cael eu rhoi tuag at hynny ac o bosibl yn cael eu trafod fel prototeip ar gyfer ardaloedd eraill sydd â chyfradd uchel o haint. Mae hynny i'w groesawu. Mae arian ychwanegol yn cael ei roi i awdurdodau lleol. Mae angen inni gadw llygad ar hynny a gweld beth arall sydd ei angen.

Rwy'n gobeithio y gall y Gweinidog ddweud wrthym y byddai mwy ar yr ymgyrchoedd gwybodaeth i'r cyhoedd, oherwydd mae'n rhywbeth rwyf fi ac eraill wedi bod yn galw amdano: rhywbeth sy'n canolbwyntio'n wirioneddol ar bethau a fydd yn gweithio i bobl y Cymoedd rwy'n byw gyda hwy, sy'n mynd at wraidd y rhain mewn gwirionedd ac yn ennill calonnau ac eneidiau o ran sut i addasu eich ymddygiad eich hun a gofalu am eich ffrindiau a'ch teuluoedd yn ddiogel yn ystod y cyfnod anodd hwn, ac yn y blaen—eu hadferiad economaidd. Mae gennyf ddiddordeb mewn clywed gan y Gweinidog a fyddai'r taliad hunanynysu o £500, sydd i'w groesawu'n fawr—a fyddai hwnnw, er enghraifft, yn cael ei adolygu'n barhaus.

Ond gadewch i mi ddweud, Lywydd, byddwn wedi ychwanegu at hynny 'galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i adolygu unrhyw gymorth ychwanegol sydd ei angen ar gyfer ardaloedd lle ceir cyfraddau uchel o COVID-19 i reoli'r cyfraddau heintio, a'—ledled Cymru, gyda llaw—'ymrwymo i archwilio effaith ychwanegol COVID-19 ar ardaloedd yng Nghymru gyda'r anghydraddoldeb economaidd ac iechyd strwythurol sy'n bodoli eisoes sydd hefyd yn profi cyfraddau uchel o COVID-19, gan nodi hefyd unrhyw fesurau angenrheidiol ychwanegol yn dilyn hynny'—ac edrych ar yr hyn a awgrymwyd heddiw, ond edrych ar bethau eraill i unioni'r anghydraddoldebau hynny y gwyddom eu bod yn cael eu gwaethygu gan COVID-19, gan gynnwys swyddi a'r economi, ond hefyd effeithiau COVID hir ar iechyd. Byddwn yn byw gyda hynny hefyd. Felly, byddwn wedi ychwanegu'r rheini.

Credaf fod rhai syniadau da'n cael eu cyflwyno heddiw. Mae arnaf ofn fod rhai ohonynt heb fod mor effeithiol ac effeithlon ag y gallent fod, ond byddwn yn annog Llywodraeth Cymru, gan wneud popeth y mae'n ei wneud ar hyn o bryd, i gadw meddwl agored ynglŷn â beth arall y gallai fod angen ei wneud yn ogystal, ac i barhau i ymgysylltu â holl aelodau'r meinciau cefn wrth i ni gyflwyno'r syniadau hyn. Diolch yn fawr iawn.

17:25

Dim ond ymyriad byr sydd gennyf i yn fan hyn, a diolch am y cyfle i gyfrannu i'r ddadl ac i'w hehangu hi ychydig. Mae'n bwysig nodi o'r tystiolaethau a gawson ni'r bore yma yn y pwyllgor iechyd ei bod hi'n hanfodol bwysig cefnogi pobl i allu ynysu, eu cefnogi nhw'n ariannol ac yn gymdeithasol. Ond y pwynt dwi eisiau gofyn i'r Gweinidog ydy: ydy e'n cefnogi'r alwad synhwyrol gan y Blaid Lafur yn Lloegr yn ddiweddar i gyflwyno cyfraith i'w gwneud yn anghyfreithlon lledaenu gwybodaeth ffug a chodi bwganod ar y cyfryngau cymdeithasol ynghylch y brechlyn COVID newydd? Ac os felly, ydy e'n rhywbeth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud er mwyn diogelu a hyrwyddo iechyd pobl Cymru? Diolch yn fawr, Llywydd.

17:30

Pan godais fater y feirws newydd a oedd yn dod i'r amlwg yn Tsieina am y tro cyntaf, ynghyd â'i botensial i fygwth y tiroedd hyn, nid oeddwn yn credu na fyddem wedi cael rheolaeth arno bron i 10 mis yn ddiweddarach. Mae hyn yn ymwneud yn rhannol â'r rheolau, sy'n gallu bod yn ddryslyd iawn. Cysylltodd un etholwr â mi'n ddiweddar i ofyn pam na allai gyfarfod â ffrindiau yn gymdeithasol yn ei gardd mwyach, ond ei bod hi'n iawn iddi fynd i'r dafarn gyda hwy. Nid yw am fynd i dafarn a rhoi ei hun mewn mwy o berygl o ddal y clefyd, felly mae'n colli un o'r pethau sy'n cadw ei lles meddyliol yn iach.

Nid oes angen rheolau cymhleth arnom, dim ond glynu at gadw 2m o bellter rhyngom a phobl nad ydynt yn rhan o'n teulu agos, golchi ein dwylo'n rheolaidd a gwisgo masg mewn mannau cyhoeddus. Os ydych yn dal y clefyd, neu wedi bod mewn cysylltiad agos ag unrhyw un sydd wedi ei ddal, bydd angen i chi hunanynysu am bythefnos. Dim byd cymhleth. Mae'r clefyd hwn yn cael ei ledaenu gan bobl sydd mewn cysylltiad agos â'i gilydd, a phe bai pawb ohonom yn cadw pellter cymdeithasol ni fyddai'r clefyd hwn yn lledaenu fel y mae'n gwneud. Cadw pellter o 2m rhwng pobl fydd yn torri'r gadwyn drosglwyddo, nid rheolau cymhleth ar gyfer gwahanol rannau o'r wlad neu res ddiddiwedd o gyfyngiadau symud neu gyfnodau atal byr, neu beth bynnag rydych am eu galw.

Yr wythnos hon, cawsom newyddion addawol am yr ail frechlyn sy'n cael ei ddatblygu. Fodd bynnag, hyd yn oed os bydd hynny'n datblygu fel y cynlluniwyd, gallai fod o leiaf flwyddyn arall cyn i bawb yn y wlad gael eu brechu, felly ni fydd brechlyn yn ateb i bob gobaith eto. Fel rwyf wedi dweud droeon, mae'n rhaid inni ddysgu byw gyda'r clefyd hwn, a datblygu normal newydd fel y gall pobl barhau i fyw eu bywydau cystal ag y gallant o dan yr amgylchiadau.

Mae'n mynd i gymryd cenedlaethau inni wella o'r niwed economaidd y mae COVID-19 wedi'i greu. Ni allwn barhau i gau ein heconomi. Ar y cam hwn, dylem fod yn cynnal profion ar y rhai sydd â'r feirws ac yn eu holrhain ar raddfa eang, ac yn sicrhau y gallant hunanynysu'n ddiogel. A dylem fod yn sicrhau cydymffurfiaeth lem â rheolau cadw pellter cymdeithasol. Ar ddechrau'r pandemig, gwelsom derfynau llym i nifer y bobl a ganiateid i fynd i mewn i'n siopau a'n harchfarchnadoedd, ond yn yr wythnosau diwethaf ymddengys nad oes unrhyw gyfyngiadau ar waith mewn rhai mannau, ac mae angen i siopau ac archfarchnadoedd gyfyngu ar nifer y bobl y caniateir iddynt ddod i mewn i'r siop ar unrhyw adeg.

Yn olaf, drwy gydol y pandemig hwn, mae un grŵp wedi cael ei esgeuluso'n ddifrifol: y rhai sydd wedi cael COVID-19, ac mae llawer gormod o bobl yn dioddef o gyflyrau sy'n cyfyngu ar fywyd o ganlyniad i'r haint. Nid yw'r bobl hyn wedi cael fawr ddim cefnogaeth, a dywedodd un o fy etholwyr sy'n ddeintydd wrthyf nad yw'n siŵr a fydd yn gallu dychwelyd i'r gwaith oherwydd bod y feirws wedi dinistrio ei ysgyfaint. Mae'n ei chael hi'n anodd anadlu ac yn dioddef o flinder ofnadwy. Mae'n dioddef o anymataliaeth ac wedi colli mwy na 15kg o bwysau, er bod ei bwysau'n ddelfrydol cyn hyn. Dim ond 28 oed ydyw, ac eto mae ei feddyg, pan fydd yn gweld ei feddyg i gael cyngor, wedi dweud wrtho fwy neu lai mai dim ond gorbryder yw hyn a bod rhaid iddo ddod i delerau â'r peth. Mae'r achos hwn ymhell o fod yn unigryw, felly rhaid inni sicrhau bod y rhai sy'n dioddef o COVID hir yn cael eu cymryd o ddifrif, a'u bod yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i symud ymlaen a dychwelyd at ryw fath o fywyd normal gystal ag y gallant.

Felly, mae COVID-19 yn her aruthrol, ond gallwn ddysgu byw gyda'r clefyd os rhoddwn y mecanweithiau cymorth cywir ar waith. Diolch yn fawr.

17:35

Diolch, Lywydd, a hoffwn ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau i'r ddadl heddiw. Mae ychydig dros wythnos ers diwedd y cyfnod atal byr. Mae'r arwyddion cynnar yn galonogol, gyda nifer yr achosion o'r coronafeirws yn parhau i ostwng. Ar gyfer yr wythnos a ddaeth i ben ar 1 Tachwedd, cafwyd 8,660 o achosion wedi'u cadarnhau yng Nghymru, ac ar gyfer yr wythnos a ddaeth i ben ar 15 Tachwedd, cafwyd 4,212 o achosion wedi'u cadarnhau. Felly, llai na hanner y niferoedd wythnosol o achosion a welwyd yn ystod wythnos gyntaf y cyfnod atal byr. Ac rwy'n awyddus i ddiolch eto i bobl Cymru am eu gwaith caled a'u haberth dros y cyfnod atal byr, ac rwy'n cydnabod bod hyn wedi bod yn anodd i bobl, felly rwy'n ddiolchgar iawn am ymdrechion pawb i wneud y peth iawn. 

Wrth adael y cyfnod atal byr rydym yn cydnabod yr angen i fod yn ofalus fel na fyddwn yn colli ei effaith. Bydd y mesurau cenedlaethol a gyflwynwyd yr wythnos diwethaf yn cael eu hadolygu'n rheolaidd i sicrhau mai hwy yw'r mesurau cywir o hyd yn seiliedig ar y dystiolaeth ddiweddaraf. Rydym yn parhau i fonitro nifer yr achosion a lledaeniad y feirws yn ofalus wrth gwrs. Gwyddom fod rheolau cenedlaethol yn symlach ac yn haws eu cyfathrebu ac i bobl eu dilyn. Ond rydym yn cydnabod y gall pethau newid a phe bai clwstwr o achosion mewn pentref, tref neu ardal leol, mae gennym amrywiaeth o gamau y gellid eu cymryd.

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau y gall unigolion a busnesau ledled Cymru gael yr un lefel o gymorth ledled y wlad fel nad ydym yn rhoi unrhyw ranbarth penodol o dan anfantais. Rydym yn falch ein bod wedi gwneud y penderfyniad anodd ond angenrheidiol i weithredu'n gynharach yma, yn seiliedig ar gyngor gwyddonol a meddygol clir. Rydym wedi ystyried y wyddoniaeth yn gyson ers dechrau'r pandemig. Rydym yn dal i fod yn awyddus i weithio gyda Llywodraethau eraill yn y DU i ystyried a gweithredu dull gweithredu ledled y DU lle bynnag y bo modd, ond bydd ein dull gweithredu, wrth gwrs, yn rhoi'r flaenoriaeth i wneud y peth iawn i gadw Cymru'n ddiogel. Byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraethau eraill yn y DU wrth gwrs, wrth inni ystyried ein cynlluniau ar gyfer cyfnod y Nadolig.

Pan gyhoeddodd Llywodraeth y DU swm canlyniadol Barnett blaenorol o £1.2 biliwn i Gymru, mae'n bwysig cofio bod mwy na hanner yr arian hwnnw, £675 miliwn, wedi mynd ar ein GIG. Ac mae'r holl gyfran Barnett a'r cyfan o'r £5 biliwn y cyfeiriodd y Ceidwadwyr ato yn deillio o wariant a gyhoeddwyd neu wariant arfaethedig yn Lloegr. Nid yw'n fater o haelioni na charedigrwydd; dyna sut y mae undeb y DU yn gweithio. Fodd bynnag, mae ymhell o'r hyn y bydd ei angen ar Gymru i wrthdroi'r difrod hirdymor a achosir gan y pandemig. Rydym yn dal yn siomedig nad yw Llywodraeth y DU wedi ymateb i'n cais parhaus i ddarparu'r hyblygrwydd sydd ei angen arnom ni i ymateb ac i fuddsoddi yn adferiad Cymru, yn enwedig newid cyfalaf yn refeniw, cynyddu cronfeydd wrth gefn Cymru a'n pŵer benthyca.

Fodd bynnag, gwnaethom ddefnyddio'r cyfnod atal byr i gryfhau ein gwasanaeth profi, olrhain, diogelu fel ei fod yn addas ar gyfer yr her gynyddol y gwyddom y bydd yn ei hwynebu y gaeaf hwn. Yr wythnos diwethaf, cyhoeddais fuddsoddiad ychwanegol o £15.7 miliwn ar gyfer profi, olrhain, diogelu, i fynd â chyfanswm y buddsoddiad yn ein gweithlu olrhain cysylltiadau ers mis Mehefin i dros £60 miliwn. Bydd yr arian ychwanegol rwyf wedi'i gyhoeddi yn caniatáu i awdurdodau lleol recriwtio 1,300 o swyddogion olrhain cysylltiadau a chynghorwyr ychwanegol, gan godi cyfanswm y gweithlu o 1,800 i 3,100. Rydym hefyd wedi sefydlu tîm rheoli ymchwydd newydd ar gyfer olrhain cysylltiadau i Gymru gyfan i helpu ar ddiwrnodau pan geir niferoedd arbennig o uchel o achosion. Mae olrhain cysylltiadau'n rhan allweddol o'n hymateb i'r pandemig. Ers ei lansio ym mis Mehefin, mae ein gwasanaeth profi, olrhain, diogelu wedi llwyddo i olrhain mwy na naw o bob 10 cyswllt a nodwyd gan achosion positif newydd.

O ran ein cefnogaeth ehangach, rydym wedi darparu dros £0.5 biliwn drwy'r gronfa galedi frys i lywodraeth leol. Mae'r cyllid yn ymateb i anghenion awdurdodau lleol. Po fwyaf yw'r angen, y mwyaf yw'r cyllid. Mae'n cwmpasu'r holl wasanaethau a ddarperir gan awdurdodau lleol, gyda chyllid penodol wedi'i neilltuo ar gyfer rhai meysydd, megis prydau ysgol am ddim a gofal cymdeithasol i oedolion. Ac rydym wedi cydnabod y bu effaith ar allu awdurdodau i godi incwm. Dyna pam y buom yn gweithio gyda llywodraeth leol i asesu'r effaith honno wrth i'r flwyddyn fynd yn ei blaen. Yn ogystal â'r gronfa galedi, rydym wedi darparu £2.85 miliwn i gefnogi pobl ar gynllun gostyngiadau'r dreth gyngor.

Bydd ein hymgyrch gyfathrebu'n parhau i ganolbwyntio ar ofyn i bobl feddwl yn ofalus am eu dewisiadau—nid yr hyn y gallwn ei wneud, ond beth y dylem ei wneud—oherwydd ni fydd rheolau'r Llywodraeth ar eu pen eu hunain yn cadw pobl Cymru'n ddiogel. Mae angen i bob un ohonom feddwl am yr hyn y gallwn ei wneud i helpu i atal lledaeniad y feirws a sut y gweithredwn i ddiogelu eraill. Bydd sut rydym yn dewis gweithredu dros y dyddiau a'r wythnosau nesaf yn diffinio cwrs y feirws. Gallwch ddisgwyl gweld y neges honno'n cael ei hatgyfnerthu dros y dyddiau a'r wythnosau nesaf ar y teledu, y radio a'r cyfryngau cymdeithasol, ac amrywiaeth o ddewisiadau amrywiol. Gobeithio y bydd hynny'n helpu pobl eto i ailystyried a gwneud dewisiadau o ran yr hyn y dylem i gyd ei wneud.

Mae cadw ein hysgolion a'n sefydliadau addysg ar agor wedi bod yn flaenoriaeth allweddol. Er mwyn cefnogi addysg dal i fyny, rydym wedi buddsoddi bron i £29 miliwn. Mae hynny'n ddigon i ychwanegu tua 600 o athrawon a 300 o gynorthwywyr addysgu at gapasiti'r system. Rydym wedi darparu £25 miliwn ar gyfer gwaith glanhau ychwanegol mewn ysgolion er mwyn helpu i gadw ein hysgolion mor lân a diogel â phosibl i bobl ifanc a staff ysgolion. Rydym hefyd wedi darparu £2.3 miliwn i ddarparu gorchuddion wyneb am ddim i bob dysgwr ysgol uwchradd ac addysg bellach.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithredu'n gyflym ac yn bendant i helpu i ddiogelu busnesau Cymru rhag effaith y coronafeirws. Mae ein pecyn cymorth busnes gwerth £1.7 biliwn a mwy yn ategu cynlluniau eraill y DU, ac mae'n golygu bod cwmnïau yng Nghymru'n gallu cael y cynnig mwyaf hael o gymorth yn unrhyw ran o'r DU. Pan aethom ati i ddatblygu ein cronfa cadernid economaidd ein hunain, gwnaethom hynny i lenwi bylchau a adawyd gan becyn cymorth Llywodraeth y DU. Hyd yma, mae'r gronfa cadernid economaidd wedi helpu mwy na 13,000 o fusnesau gyda mwy na £300 miliwn o gymorth, a chan ddiogelu dros 100,000 o swyddi.

Ac mae'r taliadau hunanynysu newydd wedi dechrau o ddydd Llun yr wythnos hon. Bydd pobl ar incwm isel yn gallu gwneud cais am daliad o £500 os bydd yn rhaid iddynt hunanynysu oherwydd bod ganddynt COVID neu am eu bod wedi cael cyngor i ynysu gan y rhaglen profi, olrhain, diogelu, a chaiff ei ôl-ddyddio i 23 Tachwedd.

Wrth i'r pandemig barhau, byddwn yn parhau i adolygu ac adnewyddu ein dull o weithredu, yn union fel y galwodd Huw Irranca-Davies amdano. Byddwn yn parhau i ystyried y cyngor gwyddonol a meddygol diweddaraf. Dyna'r ffordd gywir o ymateb i feirws na ellir ei ragweld. Dyna sut rydym wedi gweithredu'n gyson i gadw Cymru'n ddiogel. Fel y dywedais, bydd sut y gweithredwn a'r dewisiadau a wnawn dros y dyddiau nesaf yn dylanwadu ar yr hyn fydd yn digwydd nesaf. Gofynnaf i bawb leihau nifer y bobl y maent mewn cysylltiad â hwy, i weithio gartref os gallwch, i fynd allan yn llai aml a pheidio â theithio heb fod angen gwneud hynny, a pharhewch i gadw eich pellter, golchi eich dwylo'n rheolaidd, a gwisgo gorchudd wyneb lle bo angen. Mae angen i bob un ohonom chwarae ein rhan er mwyn gofalu amdanom ein hunain a'n gilydd, a dyna sut, gyda'n gilydd, y byddwn yn cadw Cymru'n ddiogel. Fel y dywedais, gofynnaf i'r Aelodau gefnogi gwelliannau 2 a 4, ac unwaith eto diolch i'r Aelodau am y ddadl heddiw.

17:40

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan heddiw, ac am y cyfle i gloi y drafodaeth rydym ni wedi ei chael. Dwi'n apelio arnoch chi heddiw i gefnogi cynnig Plaid Cymru—cynnig sydd, yn syml iawn, yn ymwneud â chefnogi ardaloedd sy'n gweld niferoedd arbennig o uchel o COVID-19. Mae yna nifer o'r rheini yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae'r cynnig yma'n adlewyrchu'r ffaith mai yng Nghymoedd y de a'r de-ddwyrain y mae rhai o'r ardaloedd efo'r achosion mwyaf erbyn hyn, a dyma'r ardaloedd sydd fwyaf angen ein help ni—mwyaf o angen ein cefnogaeth bellach ni.

Ychydig eiriau am y gwelliannau. Gwrthodwn welliant dileu popeth braidd yn annysgedig ond rhagweladwy Gareth Bennett a Mark Reckless. Os gallant ddweud wrthym sut nad ydynt hwy, fel trethdalwyr yng Nghymru, wedi cyfrannu at gyllid y Trysorlys sydd wedi dod i Gymru yn ystod yr argyfwng hwn, efallai y gallant ddweud wrth eraill a allai fod eisiau osgoi talu trethi. Nid gwleidyddiaeth 'casgen borc' yn gymaint â gwleidyddiaeth crafu-gwaelod-y-gasgen gyda'u pwyslais cenedlaetholgar Prydeinig na ddylech byth wneud dim ar lefel Cymru'n unig. Yn sicr, os oes rhaid i'r ymateb i COVID fod yn union yr un fath ym mhob rhan o Brydain, byddech yn dadlau dros gael dull unffurf ar draws Ewrop hefyd. Rwyf fel pe bawn i'n cofio bod gennym undeb ar gyfer hynny.

Nid yw Darren Millar ar ran y Ceidwadwyr yn dileu popeth yn hollol, mae'n garedig yn gadael y pwynt fod gan rai ardaloedd fwy o achosion o COVID nag eraill, ond mater iddynt hwy yw rhesymu pam eu bod am ddileu rhai o'n hawgrymiadau. Ond ar ôl hynny, maent yn gwrthod mwy o gymorth ariannol i'r rhai sydd ei angen i hunanynysu, a hyd yn oed yn gwrthod y profion torfol rydym yn gofyn amdanynt, profion torfol y mae'r Llywodraeth heddiw wedi cytuno arnynt, rwy'n falch o weld.

Os bu adeg erioed i ymgysylltu'n adeiladol, efallai y gallem weld pawb, ar draws pob plaid, yn rhoi syniadau at ei gilydd i geisio sicrhau gwell canlyniadau i bobl Cymru. Huw Irranca-Davies, i ymateb i'ch sylwadau, mae gennyf ddiddordeb mewn gwybod pa rai o'r elfennau yn ein cynnig y credwch nad ydynt yn werth chweil, oherwydd, a dweud y gwir, yr hyn rwy'n ei weld yw eich bod yn gwrthod ein rhestr ni o bethau a allai fod yn syniadau da ac yn pleidleisio yn lle hynny dros y syniadau Llafur. Rwy'n deall pam eich bod yn gwneud hynny, ond nid yw'n ddefnyddiol iawn.

Felly, at welliannau Llywodraeth Cymru. Maent hwythau hefyd yn gwrthod, ymhlith pethau eraill, lefel uwch o gymorth ariannol i bobl y gofynnir iddynt hunanynysu. Wyddoch chi, nid dim ond y bobl sydd ag amser i wneud hynny y byddwn yn eu cynghori i wylio cyfarfod Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Senedd y bore yma, byddwn yn cynghori hyd yn oed y bobl nad oes ganddynt amser i wneud hynny hefyd. Roedd y tystion a ddaeth ger ein bron heddiw yn arbenigwyr byd-enwog mewn gwyddoniaeth ymddygiadol a seicoleg mewn perthynas â phandemigau a'r epidemioleg ac iechyd y cyhoedd—yr Athrawon Robert West, Susan Michie, David Heymann a Devi Sridhar—a rhoddasant gipolwg diddorol inni ar ymateb COVID yn fyd-eang, beth sydd wedi'i wneud yn dda gan bwy, beth sydd wedi'i wneud yn wael gan bwy, yr hyn y gallwn ei ddysgu o arferion gorau mewn mannau eraill, a'r hyn y gallwn ei ddysgu o egwyddorion hirsefydlog hefyd ynghylch sut i ymateb i bandemig. Yr un peth roeddent yn ei bwysleisio'n gadarn oedd pwysigrwydd cefnogi pobl er mwyn rhoi'r cyfle gorau i ni ein hunain ddod o hyd i strategaeth ddileu lwyddiannus, ac yn enwedig cynorthwyo pobl i hunanynysu, ac efallai mai'r rhan bwysicaf o'r cymorth hwnnw yw cael lefel y cymorth ariannol yn iawn. Dywedodd Devi Sridhar fel hyn, 'Ni allwch gosbi pobl am weithred o ewyllys da.' Yr hyn a olygai wrth hynny oedd, i'r rhai sydd â'r feirws eisoes, gofynnir iddynt hunanynysu er mwyn helpu eraill. Mae'n rhy hwyr iddynt hwy; maent wedi dal y feirws. Gofynnir iddynt geisio gwneud yn siŵr fod pobl eraill yn ddiogel, nad yw pobl eraill yn ei gael. Efallai eich bod mewn swydd fel finnau lle gallwch weithio'n eithaf hawdd gartref. Efallai eich bod yn ddiogel yn ariannol—gallech fforddio cymryd ychydig wythnosau o wyliau hyd yn oed heb unrhyw incwm o gwbl, efallai—ond mae llawer ohonom, yn ddealladwy, wedi dod i'r casgliad y bydd hunanynysu yn golygu caledi iddynt hwy neu hyd yn oed yn bwysicach, i'w teuluoedd. Mae cymhelliad iddynt beidio â hunanynysu ac fel y dywedodd Leanne Wood yn gynharach, nid yw'n gyd-ddigwyddiad mai ardaloedd lle ceir lefel uwch o amddifadedd i raddau helaeth yw'r ardaloedd lle ceir nifer fawr o achosion, ac nid yw'r ffigur o £800 rydym yn ei gynnwys yn y cynnig hwn yn ffigur rydym wedi'i greu o ddim byd, mae'n ffigur a awgrymwyd gan SAGE annibynnol.

Nawr, pe bawn yn dweud wrthych fod papur gan Lywodraeth y DU ar gymorth i hunanynysu a gyhoeddwyd ym mis Medi wedi dod i'r casgliad mai dim ond tua 20 y cant o'r bobl y dywedwyd wrthynt am hunanynysu oedd yn gwneud hynny'n effeithiol, credaf eich bod yn cael darlun o'r hyn sy'n digwydd. Pa obaith sydd gennym? Credir efallai fod hynny'n nes at 30 y cant nawr, ond rywsut mae'n rhaid i ni newid ymddygiad. Mae'n rhaid inni ddigolledu pobl yn iawn yn ariannol, mae'n rhaid inni gynnig cymorth emosiynol ac ymarferol i bobl. Mae'n rhaid i ni gael y cyfathrebu'n iawn ynglŷn â pham y gofynnir i bobl gymryd y camau rydym yn gofyn iddynt eu cymryd. Mae cyfraddau hunanynysu Efrog Newydd tua 98 y cant. Pam? Yn ôl Devi Sridhar, y rheswm am hynny yw eu bod yn cael y gefnogaeth honno'n iawn. Clywsom am fannau lle mae pobl yn cael galwad ffôn bob dydd i ofyn, 'A ydych chi'n dal yn iawn?', lle mae pobl yn cael cymorth emosiynol ac ymarferol wedi ei drefnu fel rhan o'r pecyn. Dyna'r math o beth sydd ei angen arnom. Fe fuom yn edrych yn y pwyllgor y bore yma hefyd ar y syniad o sefydlu hosteli neu westai hunanynysu ac yn y blaen—elfen arall yn ein cynnig. Mae cymaint mwy y gellir ei wneud, i gyd o dan ymbarél, unwaith eto, y cymorth rydym ni ym Mhlaid Cymru yn gofyn am fwy ohono yn y ddadl hon.

Heddiw, edrychwyd ar brofi yn y pwyllgor a hefyd ar y ffordd y mae cael profi yn iawn wedi bod yn ganolog i ymateb COVID llwyddiannus yn fyd-eang. Edrychasom ar Slofacia yn arbennig a phenderfyniad eu Llywodraeth i roi prawf i bawb yn y wlad, nid unwaith yn unig, maent yn bwriadu gwneud hynny yr eildro hefyd. Dywedir wrth bawb, i bob pwrpas, eu bod dan gyfyngiadau personol, yna cânt y prawf ac os yw'n negyddol, gallant barhau i weithio ac yn y blaen, a dechrau cymysgu ag eraill eto. Dyma beth a wnânt ar raddfa lai yn Lerpwl, a beth rydym ni ym Mhlaid Cymru wedi galw am ei weithredu. Rydym yn galw amdano yn y cynnig hwn heddiw, gan flaenoriaethu ardaloedd lle ceir llawer o achosion.

Nawr, weithiau mae pobl yn cwestiynu, onid ydynt, beth yw diben dadleuon y gwrthbleidiau fel hyn, ond, os ydynt yn helpu i ddylanwadu ar bolisi'r Llywodraeth, maent yn cyflawni diben defnyddiol iawn. Felly, roeddwn yn falch iawn fod Llywodraeth Cymru, ychydig oriau cyn i'r ddadl hon ddechrau, wedi dweud y byddent yn bwrw ymlaen â'r rhaglen brofi torfol ym Merthyr Tudful—mae hynny'n dda, a gadewch inni ddweud yn syml ein bod yn falch o'r cyd-ddigwyddiad hwnnw. Ond os gallwn ei wneud ym Merthyr Tudful fel hyn—a nodaf fod Llywodraeth Cymru wedi dweud y caiff ei drin fel cynllun peilot, i bob pwrpas—wel, gadewch inni fynd ati gyda brys gwirioneddol i droi'r cynllun peilot hwnnw'n ymateb safonol mewn ardaloedd lle ceir llawer o achosion o COVID.

Felly, i gloi, gofynnaf i chi gefnogi'r cynnig hwn heddiw. Mae angen inni helpu unigolion, teuluoedd a chymunedau i helpu eu hunain. Felly, gadewch inni gael cynllun cadarn ar waith i godi'r lefel o gymorth y gallwn ei chynnig, fel y gallwn roi'r cyfle gorau posibl i ni'n hunain reoli'r feirws peryglus hwn. 

17:50

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, fe wnawn ni ohirio'r bleidlais ar yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Rŷn ni nawr yn cyrraedd y cyfnod pleidleisio, ond cyn gwneud hynny, ac yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, mi fyddwn yn atal y cyfarfod am bum munud er mwyn paratoi ar gyfer y bleidlais electronig. Diolch.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 17:51.

Ailymgynullodd y Senedd am 17:58, gyda'r Llywydd yn y Gadair.

17:55
9. Cyfnod Pleidleisio

Mae'r bleidlais gyntaf, felly, ar Fil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru), ar Gyfnod 4 y Bil hynny. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 39, neb yn ymatal, 16 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i gymeradwyo.

Dadl: Cyfnod 4 y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru): O blaid: 39, Yn erbyn: 16, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Mae'r bleidlais nesaf ar y ddadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21 ar gartrefu cesiwyr lloches yn y ganolfan filwrol ym Mhenalun. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enwau Helen Mary Jones, Jocye Watson a Leanne Wood. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 39, 15 yn ymatal ac un yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i gymeradwyo.

18:00

Dadl Aelod o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Cartrefu ceiswyr lloches yn y ganolfan filwrol ym Mhenalun - Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 39, Yn erbyn: 1, Ymatal: 15

Derbyniwyd y cynnig

Mae'r bleidlais nesaf ar ddadl Plaid Cymru ar ardaloedd cymorth arbennig COVID-19. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 12, pedwar yn ymatal a 39 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i wrthod.

Dadl Plaid Cymru - Ardaloedd Cymorth Arbennig Covid-19 - Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 12, Yn erbyn: 39, Ymatal: 4

Gwrthodwyd y cynnig

Gwelliant 1 yw'r gwelliant nesaf, ac os ydy'r gwelliant yma'n cael ei dderbyn, yna mae gwelliannau 2, 3 a 4 yn cael eu dad-ddethol. Gwelliant 1, yn enw Gareth Bennett. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid chwech, 10 yn ymatal a 39 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 1 wedi'i wrthod.

Dadl Plaid Cymru - Gwelliant 1 (cyflwynwyd yn enw Gareth Bennett): O blaid: 6, Yn erbyn: 39, Ymatal: 10

Gwrthodwyd y gwelliant

Gwelliant 2 yw'r gwelliant nesaf, a'r gwelliant hynny yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 32, neb yn ymatal, 23 yn erbyn. Felly, mae'r gwelliant wedi'i dderbyn. 

Dadl Plaid Cymru - Gwelliant 2 (cyflwynwyd yn enw Rebecca Evans): O blaid: 32, Yn erbyn: 23, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Gwelliant 3 yw'r nesaf, ac os derbynnir gwelliant 3, bydd gwelliant 4 yn cael ei ddad-ddethol. Gwelliant 3, felly, yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, dau yn ymatal, 40 yn erbyn. Felly, mae'r gwelliant wedi'i wrthod.

Dadl Plaid Cymru - Gwelliant 3 (cyflwynwyd yn enw Darren Millar): O blaid: 13, Yn erbyn: 40, Ymatal: 2

Gwrthodwyd y gwelliant

Gwelliant 4, felly, yw'r gwelliant nesaf. Gwelliant 4, yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 29, neb yn ymatal, 26 yn erbyn. Felly, mae'r gwelliant hwnnw wedi'i gymeradwyo.

Dadl Plaid Cymru - Gwelliant 4 (cyflwynwyd yn enw Rebecca Evans): O blaid: 29, Yn erbyn: 26, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cynnig NDM7480 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru’n cadw llygad yn barhaus ar lefelau cyfraddau heintio COVID-19 ar draws Cymru, o ystyried bod y cyfraddau heintio yn uchel mewn rhai ardaloedd.

2. Yn nodi'r ymchwil a gynhaliwyd yn Lloegr sy'n dangos bod effeithiau'r pandemig wedi cael effaith anghymesur ar gymunedau ôl-ddiwydiannol yng ngogledd Lloegr ac wedi gwaethygu gwahaniaethau rhanbarthol hirsefydlog y wladwriaeth Brydeinig.

3. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi ystod eang o fesurau cymorth cenedlaethol ar waith i ymateb i’r pandemig COVID-19, gyda’r nod o gynorthwyo’r ardaloedd hynny lle mae cyfraddau heintio COVID-19 yn uchel yn ogystal ag ardaloedd eraill yng Nghymru, gan gynnwys:

a) cynyddu’r gallu i brofi ac olrhain cysylltiadau a chyflwyno dewisiadau profi newydd;

b) cyllid a chymorth ychwanegol i awdurdodau lleol;

c) ymgyrchoedd helaeth i roi gwybodaeth i’r cyhoedd ar draws sianelau’r cyfryngau a’r cyfryngau cymdeithasol;

d) cymorth i ailagor ysgolion a sefydliadau addysg eraill yn ddiogel;

e) cyllid ar gyfer adferiad economaidd ac ar gyfer busnesau yng Nghymru;

f) taliad hunanynysu o £500.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 29, dau yn ymatal, 24 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i ddiwygio wedi'i dderbyn.

Dadl Plaid Cymru - Cynnig fel y'i diwygiwyd: O blaid: 29, Yn erbyn: 24, Ymatal: 2

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

10. Dadl Fer: Manteision llesiant y celfyddydau mewn pandemig

Rydyn ni'n symud nawr tuag at y ddadl fer. Mae'r ddadl fer y prynhawn yma i'w chyflwyno gan Jayne Bryant. 

Diolch, Lywydd. Wrth i ni symud drwy un o'r pandemigau byd-eang mwyaf heriol ers cenedlaethau, mae'n hawdd gweld pam y gallai rhai pobl esgeuluso'r celfyddydau. Efallai na fyddant yn chwarae rhan amlwg wrth inni fynd i'r afael â'r problemau rydym yn eu hwynebu, ond mae mor bwysig cydnabod sut y mae'r celfyddydau wedi bod yn rhan annatod o les meddyliol a chorfforol pobl o bob oed a gallu, yn ogystal â dod â phobl at ei gilydd. Nid oes dim yn tynnu sylw at hyn yn fwy na'r llifeiriant o fynegiant cymunedol a welwyd ar ddechrau'r pandemig. Wrth i COVID leihau ein gallu i gymdeithasu, daeth pobl o hyd i ffyrdd newydd o ddangos eu diolchgarwch—cerrig mân wedi'u paentio a'u gadael ar y stryd, gwaith celf wedi'i arddangos mewn ffenestri dirifedi, canu yn y stryd, ymhlith pethau eraill, i ddiolch i'n GIG, ein staff gofal cymdeithasol a gweithwyr allweddol. Roedd y cyfan yn fynegiant sy'n defnyddio ein sgiliau creadigol, ac rydym wedi gweld celf a cherddoriaeth yn parhau i ysbrydoli pobl yn hyn—pobl yn dylunio ac yn gwneud mygydau wyneb, er enghraifft, a'r grŵp gwau a chrosio gwych, Prosecco and Purls, sydd wedi bod yn brysur drwy'r pandemig yn creu gardd hud yng Nghaerllion i gefnogi sefydliad hosbis Dewi Sant ac yn dod â fflach o obaith a hwyl i'r pentref.

18:05

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Er bod y mynegiant hwn wedi bod yn gadarnhaol, ni ellir gwadu y gall y newid sydyn hwn yn ein ffordd arferol o fyw fod yn destun pryder mawr ac mae wedi cael effaith fawr ar ein hiechyd meddwl. Defnyddiwyd y celfyddydau i ddangos hyn hefyd. Rydym wedi gweld grwpiau fel Cyngor Ieuenctid Casnewydd yn mynd i'r afael â'r problemau hyn drwy gelfyddyd, gyda fideo pwerus ynglŷn â sut roedd cyfyngiadau'n effeithio arnynt hwy. Mae llawer o astudiaethau wedi dangos y gall cymryd rhan mewn gweithgareddau artistig, naill ai fel sylwedydd neu gyfranogwr, wella hwyliau person, yn ogystal â chynnig manteision seicolegol eraill drwy ryddhau endorffinau naturiol o amgylch y corff. Olrheiniwyd carfan o 72,000 o oedolion ledled y DU bob wythnos mewn astudiaeth gan Goleg Prifysgol Llundain. Canfu fod pobl a dreuliai 30 munud neu fwy bob dydd yn ystod y pandemig ar weithgareddau celfyddydol fel darllen er pleser, gwrando ar gerddoriaeth neu gymryd rhan mewn hobi creadigol yn profi cyfraddau is o iselder a phryder a mwy o foddhad mewn bywyd. Yn syml, os bu blwyddyn erioed i bawb ohonom fod yn greadigol, 2020 yw'r flwyddyn honno yn sicr.

Mae'n arbennig o greulon, felly, fod ein sector celfyddydau wedi cael ei daro'n ddrwg gan effaith COVID. Mae mesurau iechyd fel cadw pellter cymdeithasol a chyfyngiadau ar gynulliadau grŵp wedi gweld ein canolfannau celf traddodiadol yn cael eu cyfyngu neu eu cau. Mae cyfleusterau cyhoeddus a gwasanaethau hanfodol, lle mae llawer yn dianc rhag teimladau o unigedd neu wedi cael cysur o fod yn greadigol, wedi wynebu anawsterau. Mae ein theatrau, lleoliadau cerddoriaeth, ysgolion dawns, amgueddfeydd, orielau celf a chanolfannau cymunedol, hyd yn oed corau, bandiau a dosbarthiadau celf, i gyd wedi gorfod cyfyngu'n ddifrifol ar eu gweithgareddau. Maent wedi bod yn gweithio'n galed i gadw pobl mewn cysylltiad, a bydd rhai digwyddiadau, fel gŵyl gaeaf y Gelli a Chelf ar y Bryn Casnewydd yn mynd rhagddynt, ond mewn ffordd wahanol iawn. Maent yn dibynnu ar bobl yn dod at ei gilydd, felly mae'r celfyddydau wedi wynebu rhai o'r heriau strwythurol mwyaf enbyd mewn unrhyw ddiwydiant. Mae Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu'r Senedd wedi canfod bod perygl i Gymru golli cenhedlaeth gyfan o artistiaid a dadwneud blynyddoedd o waith cadarnhaol a buddsoddiad. Rwy'n ddiolchgar fod Llywodraeth Cymru yn helpu'r rhai yn y sector drwy'r gronfa adferiad diwylliannol, ond mae'n rhaid inni barhau i yrru'r cymorth hwn, gan ei bod yn hanfodol ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i sicrhau eu bod yn dal yno mewn byd ôl-COVID.

Fel llawer o ddiwydiannau, mae wedi bod yn galonogol gweld sut y mae sefydliadau wedi mynd ati'n gyflym i greu ffyrdd newydd o weithio a faint sydd wedi ymdrechu i estyn allan at gymunedau na allant ymweld â hwy'n bersonol mwyach. Gellir gwneud hyn mewn ffyrdd mwy traddodiadol, ond hefyd, drwy addasu a defnyddio technolegau newydd, gallwn ddefnyddio'r celfyddydau i helpu i gynnal iechyd meddwl da a llesiant. Mae cynifer o enghreifftiau o arferion da ledled Cymru, ac roeddwn am ddefnyddio fy amser heddiw i dynnu sylw at rywfaint o'r gwaith gwych sy'n cael ei wneud yma.

Mae'r rhaglen Celf ar y Blaen, Iechyd ar y Blaen, wedi bod yn gweithio gyda sefydliadau cymunedol gwirfoddol sy'n cynnig profiadau creadigol o bell i'r rhai sydd â'r angen mwyaf, fel y rhai nad oes ganddynt fynediad at y rhyngrwyd. Mae hyn yn cynnwys cynnig pecynnau crefft, wedi'u cynnwys gyda nwyddau ar garreg y drws, a chyfathrebu â phobl hŷn drwy'r post a thros y ffôn. Mae Impelo@HOME ym Mhowys yn cynnig DVDs i gartrefi gofal a chanolfannau dydd sy'n cefnogi oedolion ag anableddau i fynd i'r afael â phroblemau gyda dod o hyd i wasanaethau ar-lein. Lansiwyd y rhaglen yn uniongyrchol yn sgil adborth cymunedol a ddywedai eu bod am ddawnsio, gyda'r ymarferwyr yn gwneud dosbarthiadau tebyg i'r rhai yr arferent eu mynychu. Mae Ymgolli mewn Celf, prosiect i bobl sy'n byw gyda dementia a grëwyd gan Hamdden Sir Ddinbych, yn cynnig deunydd dementia i'r rhai sy'n byw yn y gymuned, pecynnau a ddosberthir ar garreg eu drws, ffilm diwtorial wythnosol a anfonir atynt drwy e-bost, ac mae'n cynnig dwy alwad ffôn yr wythnos—un alwad llinell dir, un alwad FaceTime neu WhatsApp—i gefnogi aelodau yn eu hymarfer creadigol. Mae llawer o sefydliadau celfyddydol ac ymarferwyr hefyd wedi newid i ddarparu gwasanaethau ar-lein, ac wedi gallu cynnal dosbarthiadau gan ddefnyddio llwyfannau ar-lein fel Zoom, YouTube a'r cyfryngau cymdeithasol.

Mae ymgysylltu ar-lein yn ffordd effeithiol o sicrhau bod pobl yn parhau i fod mewn cysylltiad â'i gilydd ac yn parhau i gymryd rhan mewn gweithgarwch creadigol. Mae enghreifftiau'n cynnwys Bale Cymru, sydd wedi'i leoli yng Nghasnewydd. Mae llawer o waith cyffrous ar eu sianelau cyfryngau cymdeithasol, sesiynau tiwtorial drwy fideo i fyfyrwyr, cyfweliadau, dosbarthiadau pwyntio, ymestyn ac ymlacio, ymarferion cryfder a dangos cynyrchiadau blaenorol yn wythnosol. Mewn cydweithrediad â Jukebox Collective, NEW Dance, Dawns i Bawb, Arts Care Gofal Celf ac Impelo, maent i gyd wedi bod yn parhau ac yn cefnogi eu rhaglen Duets genedlaethol. Maent hefyd wedi bod yn cyflwyno gwaith i blant sy'n agored i niwed ar raglen drwy gyfrwng Zoom.

Mae Rubicon Dance, sydd wedi'i leoli yng Nghaerdydd, yn annog pobl i gymryd rhan mewn dawns, gan gynnwys teuluoedd, plant a phobl ifanc, pobl anabl, yr henoed, cleifion yn yr ysbyty, goroeswyr strôc a phobl sy'n byw gyda dementia. Ers mis Mawrth, ac mewn ymateb i argyfwng COVID, mae Rubicon wedi cynnal cyswllt cymdeithasol wythnosol gyda'u 2,000 o gyfranogwyr rheolaidd. Wedi'u harwain gan y galw i barhau i ddawnsio, maent wedi gorfod ailystyried yn gyflym sut i gyflawni'r hyn a wnânt, yn enwedig i bobl sy'n wynebu amrywiaeth o rwystrau o ran cyfathrebu a TG. Maent yn defnyddio nifer o ffyrdd o wneud hynny, fel sy'n briodol i anghenion y cyfranogwyr, gan gynnwys sgyrsiau ffôn, testun, Zoom, Facebook. Ar hyn o bryd maent yn darparu 63 o sesiynau dawns ar-lein wythnosol, ac o'r adborth a gawsant, mae cymryd rhan yn y sesiynau wythnosol hyn yn cadw pobl yn symudol, yn gwella ffitrwydd a lles cyffredinol. Disgrifiodd un cyfranogwr sut roedd COVID wedi gwneud iddi deimlo ei bod wedi'i gadael ar ynys ac mai ei sesiynau Rubicon wythnosol yw'r hyn a'i cadwodd i fynd.

Mae'r côr Forget-me-not yn enghraifft wych o elusen yn gweithio gyda phobl sy'n byw gyda dementia a'u teuluoedd, gan ddod â hwy at ei gilydd i ganu. Mae gweld yr effaith ar y bobl yng nghôr Forget-me-not yn rhywbeth arbennig iawn. Mae'r cysylltiad rhwng pobl, symud i'r gerddoriaeth a chanu yn wych, ynghyd â'r pleser pur sy'n amlwg yn rhywbeth na ellir ei brynu. Drwy gydol y pandemig, mae côr Forget-me-not wedi symud eu rhaglenni ar-lein, ac maent wedi gallu cyrraedd hyd yn oed mwy o bobl sy'n byw gyda dementia drwy eu ffilmiau rhithwir, yn ogystal â'u sesiynau i gartrefi gofal a sesiynau Zoom cymunedol. Mae dros 70 o gartrefi ledled Cymru wedi cael mynediad at eu hymarferion rhithwir, ac maent bellach yn cysylltu â chartrefi gofal yn Lloegr i gynnig eu hadnoddau am ddim. Ar ben hyn i gyd, maent newydd orffen ffilmio pedwar ymarfer rhithwir newydd, gan gynnwys ffefrynnau fel yr Hokey Cokey, a fydd, yn eu geiriau hwy, yn annog staff a thrigolion i ganu a 'shake it all about'. Diolch i bŵer Zoom, maent bellach yn croesawu pobl o mor bell â Dyfnaint a Cumbria i gymryd rhan.

Rwy'n arbennig o falch o glywed am ymdrechion sefydliadau celfyddydol i gefnogi'r bobl sy'n byw mewn cartrefi gofal. Maent wedi cael eu taro'n galed gan y pandemig. Mae ymweliadau cyfyngedig wedi bod yn anodd ar breswylwyr a theuluoedd fel ei gilydd, ac o ran gweithgareddau, dibynnai llawer ar sefydliadau allanol yn dod i mewn i ddarparu dosbarthiadau wythnosol, ac ni ellir gwadu eu budd yn fy marn i. Efallai fod yr Aelodau wedi gweld fideo a aeth yn firol yn ddiweddar ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol. Mae'n dangos cyn-ddawnswraig bale gyda chlefyd Alzheimer yn cofio'r gerddoriaeth yr arferai ddawnsio iddi. Gellir gweld Marta González yn adnabod Swan Lake Tchaikovsky ar unwaith. Wrth wrando arno o'i chadair olwyn, mae'n dechrau dawnsio gyda'i breichiau. Mae'n anhygoel o ingol, gan ddangos grym cerddoriaeth a dawns.

Rwy'n gwybod bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd cysylltedd ar-lein i bobl hŷn, a chyflwynwyd cannoedd o ddyfeisiau digidol i gartrefi gofal ledled Cymru yn gynharach eleni. Mae hyn yn mynd i chwarae rhan bwysig iawn yn cadw preswylwyr mewn cysylltiad â'u teuluoedd a'u cymunedau. Fodd bynnag, er bod llawer o wasanaethau wedi gallu symud ar-lein, mae perygl o gynyddu'r gagendor digidol i'r bobl nad oes ganddynt y seilwaith, y sgiliau na'r hyblygrwydd ariannol i gael y rhyngrwyd gartref.

Mae mor bwysig, felly, ein bod yn parhau i ddarparu gwell seilwaith digidol ledled Cymru i gefnogi cynwysoldeb ac i ddarparu hyfforddiant a'r sgiliau i'r rhai sydd eu hangen. Dros y blynyddoedd diwethaf, cafwyd dealltwriaeth gynyddol o'r effaith y gall cymryd rhan yn y celfyddydau ei chael ar iechyd a lles. Drwy gynnig rhywbeth ychwanegol at feddyginiaeth a gofal, gall y celfyddydau wella iechyd pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl neu gorfforol. Mae Growing Space, sydd wedi'i leoli ar dir Tŷ Tredegar Casnewydd, yn cynnwys therapi garddwriaethol a hyfforddiant i gefnogi pobl gyda'u hiechyd meddwl. Yn ystod y pandemig, mae'r gweithwyr wedi mynd y tu hwnt i gefnogi cyfranogwyr Growing Space. Creodd Mark Richardson, swyddog datblygu cymunedol 'Mannau Agored, Meddwl Agored', grŵp WhatsApp i ganiatáu i gyfranogwyr gadw mewn cysylltiad â'i gilydd yn ogystal â staff. Roedd defnyddio'r cyfrwng hwn, a dulliau digidol eraill fel posau, cwisiau, ysgrifennu creadigol a llawer mwy o weithgareddau bob dydd yn sicrhau eu bod yn cael yr holl gymorth sydd ei angen arnynt. Gwnaeth Lee Davies, y goruchwyliwr gwaith coed, gannoedd o eitemau ar gyfer y GIG. Gwnaeth eitemau hefyd i'r timau iechyd meddwl eu hychwanegu at eu pecynnau llesiant, megis blychau adar i'w gosod at ei gilydd, yn ogystal ag eitemau eraill i roi gweithgareddau creadigol i gleifion ar lawer o'r wardiau seiciatrig ledled Gwent.

Mae'r enghreifftiau hyn yn dangos y gall y celfyddydau fod yn bwysig iawn i ddatblygu iechyd meddwl a chorfforol pob dinesydd. Fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar y celfyddydau ac iechyd, roeddwn yn falch fod Cydffederasiwn GIG Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru wedi adnewyddu eu memorandwm cyd-ddealltwriaeth yn ddiweddar, gan ddangos eu hymrwymiad i ymgorffori mentrau celfyddydol ac iechyd ar draws y GIG yng Nghymru. Dyma'r math o waith yr hoffwn ei weld yn cael ei ymgorffori yn ymateb 'adeiladu nôl yn well' Llywodraeth Cymru i COVID. Bydd yn bwysig parhau i adeiladu ar y gwaith gwirioneddol gadarnhaol sy'n amlwg yn digwydd, ac edrych y tu hwnt i'r pandemig i sicrhau bod y mentrau hyn yn rhan greiddiol o ddull ataliol Cymru o ymdrin ag iechyd a gofal ar gyfer y dyfodol.

Mae angen inni ddod drwy'r argyfwng hwn drwy gynnal ein lles gystal ag y gallwn. Mae'r celfyddydau'n hanfodol ar gyfer hynny nawr, a byddant yn hanfodol ar gyfer hynny yn y dyfodol. Ni ellir gorddatgan gwerth a phwysigrwydd y sector hwn. Mae'r manteision yn aruthrol. Os byddwn yn colli neu'n methu defnyddio'r sgiliau hyn, byddwn yn dlotach o lawer ein byd. Rwyf wedi tynnu sylw at rai o'r prosiectau sy'n digwydd heddiw yng Nghymru, ac mae cymaint mwy, cymaint fel y gallech orchuddio map o Gymru â hwy. Mae'r celfyddydau'n chwarae rhan hollbwysig yn ein lles meddyliol a chorfforol. Gallant helpu i leihau anghydraddoldebau ac os gallwn harneisio eu pŵer, gallant helpu Cymru i wella o'r pandemig.

Yma yng Nghymru, mae cerddoriaeth, celf a diwylliant yn rhan o'n cyfansoddiad. Yn ein hanthem genedlaethol ein hunain, cawn ein hadnabod fel gwlad beirdd a chantorion. Hir y parhaed hynny. Diolch yn fawr.

18:15

Diolch. A gaf fi alw ar y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth i ymateb i'r ddadl? Dafydd Elis-Thomas.

Diolch yn fawr, Jayne. Roedd hwnnw'n anerchiad ysbrydoledig a grynhodd gymaint o'r gweithgarwch diwylliannol sy'n digwydd yng Nghymru nawr, ac rwy'n falch iawn eich bod wedi'i roi yn y Cofnod ar gyfer y dyfodol.

Felly, gaf i ddiolch i Jayne am ei haraith? Gaf i ddiolch hefyd am ei chefnogaeth i gelf ac i bwysigrwydd y celfyddydau ym mywyd gwleidyddol Cymru ar hyd ei chyfnod fel Aelod Cynulliad? Diolch iddi hefyd am gyfeirio at yr holl weithgaredd sydd yn digwydd yng Nghasnewydd. Dwi wedi bod yn falch o'r cyfle i fod yn ei chwmni hi yn ymweld â rhai o'r canolfannau yma a oedd hi'n cyfeirio atyn nhw. Dwi'n cydnabod mor bwysig mae swyddogaeth Casnewydd a'r gweithgaredd sydd yn digwydd yno.

Ond beth garwn i ddweud fel ymrwymiad iddi wrth ymateb i'r ddadl fer ydy fy mod i'n cytuno'n llwyr â hi ein bod ni wedi darganfod ffordd newydd o weithio, a ffordd newydd o ddeall beth yw diben celfyddyd yn y gymdeithas—ffordd na allwn ni ddim fforddio ei anghofio. Dyna pam bod hi wedi bod mor bwysig i mi weld gymaint o ymateb sydd wedi bod i'r gronfa adferiad diwylliannol, fel dywedais i'n gynharach heddiw yma, ac i'r pecyn ychwanegol drwy gronfa gwytnwch y celfyddydau, sydd ar hyn o bryd yn parhau—wel, sydd ar hyn o bryd wedi rhedeg mas, a dweud y gwir, ac rydym ni’n chwilio am gyllid ychwanegol i sicrhau ein bod ni'n dal i allu cefnogi’r ceisiadau rydym ni’n eu derbyn.

Mae Llywodraeth Cymru'n mynd i barhau i gefnogi’r sector i ailagor drwy ddefnyddio celf fel allwedd i ddod mas o’r cyfnod clo, oherwydd mae’r ymwybyddiaeth sy’n dod drwy gelfyddyd wedi ei brofi i fod yn hanfodol i bobl yn yr argyfwng hwn. Ac er bod ein theatrau a’n neuaddau cyngerdd ni wedi bod ar gau, mae pobl wedi darganfod o’r newydd ddulliau eraill o gyfathrebu celf. A phan fydd y sefyllfa iechyd cyhoeddus yn caniatáu, rwy’n sicr y bydd y dulliau yma'n parhau i gael eu defnyddio, yn ogystal â’r dulliau traddodiadol sydd ddim wedi bod yn bosib yn y cyfwng yma. Mi gafodd ein rhaglen ni fel Llywodraeth o ddigwyddiadau profi ei ohirio ym mis Medi, ond mae’r cynllun yna o hyd, cynllun clir o ail-agor, ac mi fyddwn ni’n datblygu’r cynllun yna gan ddysgu oddi wrth yr ymdrechion amlwg sydd yn digwydd yn y gymuned yn wirfoddol yn barod.

Dwi’n ddiolchgar am y cydweithio sydd wedi bod rhwng adran iechyd Llywodraeth Cymru a chyngor y celfyddydau ynglŷn â phresgripsiynau cymdeithasol. Dwi’n ddiolchgar hefyd am yr holl waith arloesol y cyfeiriodd Jayne ato sydd yn cynnwys yr holl gwmnïau y gwnaeth hi eu henwi—Theatr y Sherman, y gyfres sain Heart of Cardiff; Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru ar y cyd gyda English National Ballet; sesiynau Dance for Parkinson's ar-lein ac ar Zoom; a chysylltiad Cwmni Theatr Arad Goch gydag ysgolion yn dal i ddefnyddio adnoddau digidol yn ystod y cyfnod clo. Ac mae prosiect Celf ar y Cyd wedi bod yn un trawiadol iawn i mi, rhwng cyngor y celfyddydau a’r amgueddfa genedlaethol, gyda’n cefnogaeth ni fel Llywodraeth i sicrhau bod pobl yn gweld celf yn yr ysbytai, a bod gweld celf yn yr ysbytai o’r newydd yn dod yn rhan o’r arwydd o rôl celf mewn iechyd. 

Un llwyddiant mawr arall y gwnaf i ei enwi cyn darfod yr ymateb yma ydy adrodd storïau digidol Bae Abertawe, sydd yn cael ei gyflwyno bellach ar draws byrddau eraill y gwasanaeth iechyd gwladol yng Nghymru. Mae’r prosiect yma'n caniatáu i’r rhai hynny sydd yn wael greu stori glaf ddigidol, fel rhan o ymrwymiad y bwrdd iechyd i wrando ar a dysgu o’u profiadau nhw. Mae’r dulliau newydd yma o weithio'n mynd i barhau gyda ni ar gyfer y dyfodol.

Felly, diolch am yr holl waith da y mae cyngor y celfyddydau wedi ei wneud, yn cydweithio, fel y dywedodd Jayne, efo adnoddau celfyddydol ar-lein, y gofal iechyd ar draws y gwasanaeth iechyd gwladol yn cydweithio gyda chelf. Mae Llywodraeth Cymru'n ymrwymo i barhau gyda’r gwaith yma, nid cyhyd ag y bod angen i ddod allan o’r argyfwng yma, ond fel ffordd ymarferol o weithredu o hyn ymlaen. Oherwydd fy nghefndir yn y gorffennol, dwi wedi bod yn ceisio dadlau dros y blynyddoedd bod yna rôl arbennig i gelfyddyd, ac roedd hi’n dalcen caled weithiau. Roedd pobl yn dweud, ‘Wel, beth gall y celfyddydau ei gyflawni?’ Does neb yn dweud hynny heddiw. Felly diolch i Jayne am roi'r cyfan yma ar y Record. Diolch i’r Aelodau am y drafodaeth arall y cawson ni'n gynharach y prynhawn yma, a heb dynnu, wrth gwrs, oddi wrth beth rydw i wedi ei ddweud yn barod, mae’n rhaid i mi ddweud un peth: nid yn unig ydw i’n Weinidog celfyddyd, ond dwi’n Weinidog chwaraeon, ac felly gaf i ddymuno pob hwyl i Gareth Bale a gweddill y tîm heno? Diolch yn fawr.

18:20

Daeth y cyfarfod i ben am 18:25.