Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Plenary - Fifth Senedd
17/11/2020Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, dwi eisiau nodi ychydig o bwyntiau. Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. Bydd yr holl Aelodau sy'n cymryd rhan yn nhrafodion y Senedd, lle bynnag y bônt, yn cael eu trin yn gyfartal. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y Cyfarfod Llawn heddiw, ac mae'r rhain wedi'u nodi ar eich agenda chi. Dwi eisiau atgoffa Aelodau fod y Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â threfn yn y Cyfarfod Llawn yn berthnasol, ac yr un mor berthnasol i'r Aelodau yn y Siambr ag ydyn nhw i'r Aelodau hynny sy'n ymuno drwy gyswllt fideo.
Yr eitem gyntaf, felly, yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf heddiw gan Andrew R.T. Davies.
1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ragolygon economaidd Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021 yng Nghanol De Cymru? OQ55859
Llywydd, bydd adroddiad y prif economegydd, sydd i'w gyhoeddi ochr yn ochr â'r gyllideb, yn darparu asesiad o ragolygon economaidd ym mhob rhan o Gymru.
Diolch, Prif Weinidog, am yr ateb yna. Bythefnos yn ôl, cyflwynodd Llywodraeth Cymru y grant datblygu busnes y bu'n rhaid ei atal ar ôl 24 awr. Rwy'n sylweddoli bod hynny yn dangos arwydd o'r galw sydd allan yn yr economi, ac yn enwedig yng Nghanol De Cymru. Fel Aelod rhanbarthol, mae busnesau ledled y rhanbarth wedi cysylltu â mi ac mae'n amlwg bod hyn wedi bod yn rhwystredig iawn iddyn nhw, ar ôl rhoi llawer iawn o amser ac ymdrech i'w cynlluniau, bod y cynllun naill ai wedi ei atal neu ei ordanysgrifio, yn dibynnu ar ba neges a gawsoch chi. A allwch chi roi unrhyw hyder y bydd y busnesau hynny a oedd yn anffodus i beidio â gwneud cais cyn i'r terfyn 24 awr hwnnw gau yn gallu ailgyflwyno eu ceisiadau yn ystod yr wythnosau a'r misoedd nesaf a chael gafael ar y cymorth hwnnw gan Lywodraeth Cymru i fynd â nhw i mewn i 2021 ?
Llywydd, diolchaf i Andrew R.T. Davies am y cwestiwn atodol yna, ac, wrth gwrs, mae'n iawn bod llawer iawn o fusnesau yng Nghanol De Cymru, ac mewn rhannau eraill o Gymru, sydd wedi troi at drydydd cam y gronfa cadernid economaidd am gymorth. O ran y grantiau busnes gwerth £200 miliwn yn ystod cyfyngiadau symud, mae 22,000 o grantiau, gwerth dros £61 miliwn, eisoes wedi eu talu. Ac o ran yr agwedd grant datblygu busnes gwerth £100 miliwn, pryd yr oedd 6,000 o ymgeiswyr ar y diwrnod cyntaf hwnnw, mae cannoedd o daliadau eisoes wedi eu gwneud, ac mae miliynau o bunnoedd eisoes wedi eu talu. Rydym ni, wrth gwrs, yn edrych i weld a yw'n bosibl, trwy dynnu arian o rannau eraill o'r gronfa lle efallai na fu cymaint o alw, neu'n edrych i weld pa bosibiliadau a allai fodoli yn ddiweddarach yn y flwyddyn i ategu ffrwd grant datblygu busnes cam 3 er mwyn caniatáu i fusnesau eraill na wnaethon nhw lwyddo i gael eu cais i mewn yn y 6,000 cyntaf hynny elwa ymhellach ar y gronfa.
Prif Weinidog, nid oes gennym ni unrhyw eglurder na sicrwydd hyd yn hyn a fydd Llywodraeth y DU yn gallu sicrhau cytundeb masnach gyda'r UE, ac nid ydym ni'n gwybod a fydd unrhyw gymorth pellach i fusnesau. Rydym ni'n gweld bod Llywodraeth y DU wedi cefnu ar sectorau fel y sector hedfanaeth yn fy etholaeth i. Rydym ni wedi colli swyddi mewn afioneg, yn BAMC, GE a llawer o gwmnïau eraill, ac, ar yr un pryd, mae Llywodraeth y DU yn cyflwyno cyfres o gytundebau masnach yn rhyngwladol heb fawr ddim craffu, os o gwbl, yn San Steffan, ac mae hyn yn achosi dadlau. Rwy'n meddwl tybed pa gamau sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod buddiannau Cymru yn cael eu diogelu yn y cytundebau masnach hynny, oherwydd maen nhw yn effeithio ar weithgynhyrchu yng Nghymru, ar amaethyddiaeth yng Nghymru ac, yn y pen draw, ar swyddi yng Nghymru.
Llywydd, diolchaf i Mick Antoniw am hynna. Mae e'n iawn i dynnu sylw at absenoldeb cymorth penodol i sectorau mewn rhai rhannau pwysig iawn o economi Cymru. Mae dur yn flaenaf yn ein meddyliau ar hyn o bryd, o gofio'r cyhoeddiad ddydd Gwener, ac mae'n wirioneddol hanfodol bod Llywodraeth y DU yn dod at y bwrdd gyda chytundeb sector ar gyfer dur a fydd yn diogelu swyddi yma yng Nghymru, ond sydd hefyd yn diogelu economi y DU. Os yw Prydain am fod yn genedl sy'n masnachu yn fyd-eang, yna ni allwn ddisgwyl gwneud hynny heb sector mor sylfaenol â dur sydd ar gael yn gynhenid o fewn y Deyrnas Unedig.
Wrth gwrs, mae Mick Antoniw yn iawn, Llywydd, bod Llywodraeth y DU yn defnyddio pwerau uchelfreiniol yn Senedd y DU fel ffordd o osgoi craffu ar gytundebau masnach, ac nid oes ryfedd eu bod nhw mewn trafferthion yn hynny o beth. Yn gyfansoddiadol, rwy'n tybio, maen nhw eisiau cynnwys Llywodraethau datganoledig yn y trafodaethau hynny, ac nid dibynnu ar rym bôn braich cyfansoddiadol i orfodi cytundebau ar rannau eraill o'r DU, y gallem ni fod wedi eu helpu mewn ffordd adeiladol, drwy ddarparu'r wybodaeth sydd gennym ni ac nad yw ganddyn nhw, i wneud y cytundebau masnach hynny yn addas ar gyfer pob rhan o'r wlad. Rwy'n cytuno â Mick Antoniw bod cyfres o agweddau sylfaenol tuag at ddatganoli yn y Deyrnas Unedig, wrth wraidd hyn, fel y gwelsom mewn ffordd mor drawiadol o sylwadau anffodus Prif Weinidog y DU dros nos.
2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau cyllid ar gyfer rhaglenni a ariennir ar hyn o bryd gan yr UE drwy gronfeydd strwythurol? OQ55895
Diolchaf i Dai Rees am y cwestiwn yna, Llywydd. Nid yw'r addewid na fyddai Cymru yr un geiniog yn waeth ei byd drwy adael yr Undeb Ewropeaidd wedi cael fawr o lwyddiant. Mae Llywodraeth y DU wedi gwrthod negodi cyfranogiad parhaus mewn rhaglenni cydweithredu rhyng-diriogaethol, er enghraifft, gwerth dros €100 miliwn i Gymru. Mae'r Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig yn disgrifio'r cynnydd ar y gronfa ffyniant gyffredin fel 'dibwys'.
Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Mae llawer o gymunedau ar draws fy etholaeth i wedi elwa ar brosiectau a ariannwyd gan yr Undeb Ewropeaidd drwy gronfeydd strwythurol—boed hynny yn seiliedig ar sgiliau—ni fydden nhw byth wedi gallu eu cael fel arall, ac mae'r cymunedau hyn bellach yn datblygu o ganlyniad i hynny. Nawr, fel y dywedwch, cawsom addewid ar y pryd na fyddai yr un geiniog yn cael ei cholli, ond mae'n ymddangos bod diffyg manylion pendant am y gronfa ffyniant gyffredin o hyd, ac rwy'n clywed mewn gwirionedd ei bod hi'n ddigon posibl y byddan nhw'n dymuno osgoi Llywodraeth Cymru yn y cyllid hwnnw. Nawr, o ystyried y sylwadau a wnaed gan Brif Weinidog y DU neithiwr, a yw'n destun pryder efallai na fydd y gronfa ffyniant gyffredin hon felly yn darparu yr un mathau o raglenni a fyddai'n helpu ein cymunedau, ond a fydd mewn gwirionedd yn cadw'r prosiectau y mae'r Llywodraeth Dorïaidd yn San Steffan eu heisiau a dim byd arall?
Wel, Llywydd, mae hynny'n bryder mawr nid yn unig i Lywodraeth Cymru ond i'r holl bartneriaid sydd gennym ni ledled Cymru ac sydd wedi gweithio gyda ni mor ofalus, dan arweiniad ein cyd-Aelod Huw Irranca-Davies yn aml iawn, i lunio strategaeth economaidd ranbarthol i Gymru a fydd yn defnyddio'r arian newydd y dywedwyd wrthym oedd yn sicr o fod ar gael i ni. Nawr, dyfynnais y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig, Llywydd. Rwy'n gwneud hynny oherwydd bod ganddo fwyafrif Ceidwadol a Chadeirydd Ceidwadol, o Gymru, a dyma a ddywedasant am hyn:
Cyhoeddodd Llywodraeth y DU,
dywedasant,
cyn belled yn ôl â 2017 ei bod yn bwriadu disodli cyllid yr UE gyda Chronfa Ffyniant Gyffredin... ond mae'r manylion yn dal i fod yn brin am agweddau allweddol, gan gynnwys faint y bydd Cymru yn ei gael o dan y trefniadau newydd, sut y bydd yn cael ei gweinyddu ac at bwy y bydd yn cael ei thargedu.
Mae ei haddewidion mynych o ymgynghoriad wedi methu â dod i'r amlwg, mae'r cynnydd wedi bod yn ddibwys, ac mae'n dangos diffyg blaenoriaeth. Wel, nid yw hynny'n ddigon da o gwbl. Mae'r rhain yn faterion pwysig sydd o bwys i bob rhan o Gymru, gan gynnwys, fel y dywedodd Dai Rees, ei etholaeth ef. Mae gan bobl yng Nghymru hawl i wybod bod yr addewid a wnaed iddyn nhw yn mynd i gael ei gadw—dim un geiniog yn llai a dim un grym wedi ei ddwyn. A dyna fyddwn ni'n dwyn Llywodraeth y DU i gyfrif yn ei gylch.
Prif Weinidog, tybed a gaf i eich holi am yr hyn y gellir ei ddysgu o enghraifft yr Alban. Mae cronfeydd yr UE wedi cael eu defnyddio yn y gorffennol i fuddsoddi mewn seilwaith, fel y gwyddom, ac fel y mae Dave Rees newydd gyfeirio ato. A ydych chi'n rhannu fy marn i y gallai ein Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru nid yn unig ddysgu gwersi gwerthfawr o'r profiadau yn yr Alban, lle mae eu comisiwn wedi ymrwymo i edrych tuag allan, i fod yn flaengar ac yn arloesol, ond gallem ninnau ailystyried ein strategaeth yn sylfaenol i ddenu buddsoddiad yng Nghymru, wrth i ni symud allan o'r pandemig a thyfu yn ôl yn wyrddach—sut bynnag yr hoffech chi ei ddisgrifio—gan fod ffyrdd o weithio yn wahanol yn y dyfodol a gwneud y mwyaf o'r arian sydd gennym ni?
Llywydd, rwy'n hapus iawn bob amser i ddysgu o wersi mewn mannau eraill. Rhan o'r fantais enfawr o fod yn aelodau o'r Undeb Ewropeaidd yw ei fod wedi caniatáu i ni ddysgu o brofiad aelod-wladwriaethau eraill yn y ffordd y maen nhw wedi defnyddio cyllid Ewropeaidd, fel y mae hwythau, yn eu tro, wedi dysgu gan Gymru am rai o'r ffyrdd yr ydym ni wedi gwneud pethau yma. A lle ceir enghreifftiau da mewn mannau eraill y tu mewn i'r Deyrnas Unedig, yna mae Llywodraeth Cymru bob amser yn agored i ddysgu o brofiadau a all ein helpu i wneud y mwyaf o'r cyllid sydd gennym ni. Y broblem yw nad ydym ni'n gwybod faint fydd y cyllid ac nad ydym ni'n gwybod sut y mae am gael ei ddefnyddio.
Prif Weinidog, roedd llawer o fusnesau yng Nghymru yn teimlo bod rhaglenni cronfeydd strwythurol yr UE yn y gorffennol yn cael ei dal yn ôl gan lawer gormod o reolau a phrosesau rhy fiwrocrataidd ac, o ganlyniad, bod rhai rhaglenni wedi methu â chyflawni eu nodau datganedig, sef cynyddu ffyniant economaidd Cymru a'n pobl. Felly, Prif Weinidog, pa drafodaethau ydych chi wedi eu cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch sicrhau bod rhaglenni cronfeydd strwythurol newydd yn hyblyg ac yn ymatebol i anghenion busnesau Cymru a phoblogaeth Cymru?
Wel, Llywydd, un o'r agweddau trist yw nad ydym ni wedi cael bron unrhyw gyfleoedd o gwbl i gael y sgyrsiau hynny. Ysgrifennodd fy nghyd-Weinidog Jeremy Miles, sy'n arwain ar ran Llywodraeth Cymru ar y materion hyn, at y Gweinidog y dywedir ei fod yn gyfrifol am y gronfa ffyniant gyffredin, yn ôl ym mis Hydref, yn gofyn am gyfarfodydd gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU er mwyn gallu cyfrannu rhai o'n syniadau ni a manteisio ar rai o'r agweddau hyblyg a allai fod yno yn y dyfodol. Ni threfnwyd unrhyw gyfarfod.
Rydym ni wedi cael un cyfarfod gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru, sy'n addo cyfarfodydd pellach i ni ar ôl i'r Canghellor wneud ei ddatganiad ar 25 Tachwedd. Ond nid yw hynny'n ddigon da. Rydym ni eisiau cael trafodaethau cyn i'r cyhoeddiad gael ei wneud, nid ar ôl hynny. Os felly, efallai y gallem ni wneud rhai o'r pethau yr oedd Caroline Jones yn cyfeirio atyn nhw, oherwydd rwy'n credu ein bod ni wedi dweud erioed y gallai fod mwy o hyblygrwydd ar ochr arall yr Undeb Ewropeaidd—efallai y gallwn ni ddefnyddio'r arian yn wahanol yn ddaearyddol, efallai y gallwn ni ddefnyddio cyllid arall mewn ffordd na allwch chi yn yr Undeb Ewropeaidd, efallai y gallwn ni ddefnyddio arian at ddibenion nad oedd rheolau'r UE yn caniatáu i ni ddefnyddio'r arian ar eu cyfer yma yng Nghymru. Mae rhai cyfleoedd yn y fan yma. Rydym ni wedi eu nodi gyda'n partneriaid. Hoffem fod wedi cael cyfle i rannu hynny gyda Llywodraeth y DU ac, er i ni ofyn am y cyfleoedd hynny, nid ydyn nhw erioed wedi cael eu cynnig i ni.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Paul Davies.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, o ddechrau'r wythnos hon, bydd pobl ar incwm isel yng Nghymru yn gallu hawlio £500 os bydd yn rhaid iddyn nhw aros i ffwrdd o'u gwaith a hunanynysu oherwydd COVID-19. Rwy'n falch o weld y bydd y taliadau hynny bellach yn cael eu hôl-ddyddio i 23 Hydref. Fodd bynnag, mae'n dal yn wir bod awdurdodau lleol yn yr Alban ac yn Lloegr wedi bod yn darparu'r grantiau ers rhai wythnosau ac yn eu hôl-ddyddio i 28 Medi. Nawr, mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi ei gwneud yn eglur bod taliadau Cymru wedi eu hoedi gan fod Llywodraeth Cymru wedi cael
her ymarferol wrth roi ein holl systemau ar waith i wneud i hyn weithio.
A allwch chi ddweud wrthym ni beth yw'r heriau ymarferol hynny? Ac a allwch chi ddweud wrthym ni hefyd pam nad yw Llywodraeth Cymru yn ôl-ddyddio'r taliadau i fis Medi, fel mewn rhannau eraill o'r DU, gan fod hyn yn sicr yn golygu y bydd pobl ar incwm isel yng Nghymru o dan anfantais ariannol o'u cymharu â phobl yn Lloegr ac yn yr Alban?
Wel, Llywydd, rydym ni'n ôl-ddyddio i 23 Hydref, oherwydd dyna pryd y cyflwynwyd y cyfnod atal byr yng Nghymru, ac mae hynny yn rhoi rheswm i ni dros wneud hynny. Diben y £500 yw cynorthwyo pobl i hunanynysu. Nid yw o ddim cymorth i bobl wneud hynny os yw'r cyfnod hunanynysu eisoes wedi ei gwblhau wythnosau lawer yn ôl. Mae'r heriau ymarferol mewn llunio system nad yw'n agored i dwyll, oherwydd ni allwn ni fod â system lle mae pobl yn hunan-ddatgan y gofynnwyd iddyn nhw hunanynysu ac yna'n hawlio £500 o arian cyhoeddus. Mae angen i ni fod yn sicr, os bydd pobl yn cael y £500, fel yr ydym ni eisiau iddyn nhw ei gael, oherwydd bod ni eisiau i bobl allu hunanynysu, yna mae angen i ni wybod y gofynnwyd i'r bobl hynny wneud hynny drwy ein system profi, olrhain, diogelu ac, felly, eu bod nhw'n hawlwyr dilys o'r arian cyhoeddus hwn.
Wel, Prif Weinidog, mae'n gwbl hanfodol bod y rhai sydd angen cymorth ychwanegol drwy'r pandemig yn gallu cael gafael arno, boed hynny yn gymorth ariannol i rywun sy'n byw ar incwm isel y mae'n rhaid iddo hunanynysu, yn ganllawiau a chymorth ychwanegol i'r rhai a oedd ar y rhestr amddiffyn yn flaenorol neu'n gymorth iechyd meddwl i'r rhai nad ydyn nhw'n teimlo bod ganddyn nhw hawl iddo. Nawr, Prif Weinidog, rwy'n siŵr y byddwch chi'n rhannu fy mhryderon am y newyddion bod arolwg diweddar gan Mind Cymru wedi canfod bod traean o oedolion a chwarter pobl ifanc wedi methu â chael cymorth gan nad oedden nhw'n credu eu bod nhw'n ei haeddu. Fel y gwyddoch, mae hi mor bwysig bod ymyrraeth yn cael ei darparu cyn gynted â phosibl i atal rhai cyflyrau rhag gwaethygu, a gwella canlyniadau yn sylweddol i gleifion. Rydych chi wedi ad-drefnu eich Cabinet yn ddiweddar, sydd bellach yn cydnabod iechyd meddwl fel maes polisi o bwys, felly, a allwch chi ddweud wrthym ni sut y mae Llywodraeth Cymru yn ymateb i bryderon gan sefydliadau fel Mind Cymru ynghylch sicrhau bod pobl yn cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw, a pha gamau pellach y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i gyfathrebu yn well i bobl pwysigrwydd estyn allan a chael gafael ar gymorth a gwasanaethau iechyd meddwl os ydyn nhw'n ei chael hi'n anodd ymdopi yn ystod y pandemig?
Llywydd, gadewch i mi ddechrau drwy gytuno â Paul Davies bod cael y cymorth sydd ei angen arnoch chi ar gyfer pobl sy'n teimlo pwysau'r misoedd eithriadol hyn yn eu synnwyr o iechyd a llesiant meddwl yn bwysig iawn yn wir. Ac mae rhywbeth i ni i gyd feddwl amdano yn y canlyniad hwnnw nad oedd pobl wedi methu â chael cymorth yn yr ystyr eu bod nhw wedi gofyn amdano ac nad oedd cymorth ar gael; doedden nhw ddim wedi chwilio am gymorth, gan nad oedden nhw rywsut yn teimlo eu bod nhw yn y lle iawn i wneud hynny. Mae hynny'n golygu, rwy'n credu, bod yn rhaid i ni wneud yn siŵr bod gennym ni repertoire o gymorth mor amrywiol ag y gallwn ni ei lunio, oherwydd bydd pobl sydd angen cymorth ar gyfer iechyd meddwl a llesiant meddwl eisiau cael gafael ar y cymorth hwnnw mewn amrywiaeth eang o ffyrdd.
Un o'r ffyrdd yr ydym ni wedi gallu gwneud mwy yw drwy ariannu Mind Cymru ei hun—rwy'n credu mai dyna'r cyhoeddiad diweddaraf ein bod ni wedi gwneud gwerth £10 miliwn o fuddsoddiad ychwanegol mewn gwasanaethau iechyd meddwl yn ystod y pandemig—oherwydd mai ar lefel gymunedol y mae Mind yn gweithredu, nid yw felly yn darparu gwasanaethau i bobl sydd â chyflyrau seicotig acíwt, ond mae'n darparu cymorth i bobl sy'n chwilio am yr ychydig bach o'r cymorth a'r cyngor a'r cyfarwyddyd ychwanegol hynny, pryd y gall gwasanaethau cymunedol fod y rhai mwyaf arwyddocaol. Yn y modd hwnnw, rydym ni'n gwneud ein gorau i geisio sicrhau bod y gwasanaethau hynny ar gael cymaint â phosibl i chwalu rhwystrau y gallai pobl eu teimlo, i wneud yn siŵr eu bod nhw'n cael y cymorth hollbwysig hwnnw.
Gadewch i mi roi dim ond un pwynt i'r Aelod, fodd bynnag, oherwydd mae ef wedi cyfeirio ddwywaith hyd yn hyn at yr angen hollbwysig i bobl gael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw: mae'r Llywodraeth hon, gydag eraill, wedi bod yn lobïo Llywodraeth y DU i wneud yn siŵr nad yw 35 y cant o'r holl deuluoedd yng Nghymru o dan oedran pensiwn yn colli dros £1,000 pan fydd y Canghellor yn diddymu'r £20 yr wythnos a ychwanegwyd at gredyd cynhwysol yn ystod y pandemig hwn. Tybed a hoffai ef ychwanegu ei enw i'r penderfyniad hwnnw heddiw, oherwydd mae hwnnw'n gymorth gwirioneddol hanfodol nad yw teuluoedd yng Nghymru bellach yn gwybod a ydyn nhw'n gallu dibynnu arno.
Wel, rwy'n gwybod, Prif Weinidog, eich bod chi eisiau tynnu sylw oddi wrth siarad am eich cyfrifoldebau fel Llywodraeth er mwyn osgoi amlygu eich methiannau—
Rhowch gynnig arni, rhowch gynnig arni.
—eich methiannau o ran y gwasanaeth iechyd, eich methiannau o ran y system addysg—
Gallech chi fod wedi dweud 'hoffwn'; gallech fod wedi dweud 'hoffwn'.
—a'ch methiannau o ran yr economi.
Prif Weinidog, mae ffigurau heddiw yn dangos y cofrestrwyd 23 o farwolaethau mewn cartrefi gofal—bron i dair gwaith y nifer a gofrestrwyd yr wythnos diwethaf, sy'n destun pryder sylweddol—ac eto, nid oes ffigurau ar gael o hyd i gadarnhau faint yn union o gartrefi gofal yng Nghymru y mae COVID-19 yn effeithio arnyn nhw yn uniongyrchol, a faint o drigolion yng Nghymru, fel y gall Llywodraeth Cymru gefnogi lleoliadau gofal yn fwy effeithiol. Nawr, byddwch yn ymwybodol o'r oedi y mae rhai preswylwyr a staff cartrefi gofal wedi ei wynebu o ran cael canlyniadau profion yn ôl yn gyflym a bu pryder hefyd ynghylch y gyfradd uchel o ganlyniadau profion positif ffug sydd hefyd wedi ychwanegu pwysau sylweddol ar y sector, ac rydym ni'n gwybod erbyn hyn bod pobl yn cael eu rhyddhau o ysbytai i gartrefi gofal o fewn diwrnodau o gael prawf COVID positif, y gwn y byddwch chi'n cytuno sy'n annerbyniol. Felly, Prif Weinidog, wrth i'r heriau sy'n wynebu cartrefi gofal ledled Cymru barhau, a allwch chi ddweud wrthym ni faint o breswylwyr a staff cartrefi gofal y mae COVID-19 wedi effeithio arnyn nhw yng Nghymru? A allwch chi ddweud wrthym ni hefyd beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i weddnewid yr amser y mae'n ei gymryd i staff a phreswylwyr cartrefi gofal gael canlyniadau eu profion COVID, a sut mae'n mynd i'r afael â phrofion positif ffug? O gofio bod Llywodraeth Cymru wedi comisiynu dadansoddiad pellach o'r ffigurau rhyddhau, a allwch chi ddweud wrthym ni pa ymyraethau pellach sy'n cael eu hystyried i gefnogi preswylwyr a staff cartrefi gofal drwy gydol y pandemig hwn?
Wel, Llywydd, mae'r ail don hon o coronafeirws wedi cael effaith ar gartrefi gofal yma yng Nghymru, er gwaethaf y paratoadau gofalus iawn a wnaed gan y sector yn ystod yr haf a'r buddsoddiad ychwanegol y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud yn hynny hefyd. Mae hwn yn glefyd marwol a heintus iawn, ac wrth i lefelau coronafeirws yn y gymuned godi, felly hefyd y mae'r bygythiadau i gymunedau caeëdig, fel ysbytai a chartrefi gofal, yn codi hefyd, ac mae'n nifer drist iawn y cyfeiriodd yr Aelod ato ar ddechrau ei gwestiwn.
O ran canlyniadau profion, mae'r oedi cyn cael canlyniadau profion bron yn gyfan gwbl o'r system labordai goleudy, ac nid yw'r rheini yn ein dwylo ni, er bod perfformiad yno wedi gwella yn ystod y tair wythnos diwethaf a disgwyliwn i'r system honno barhau i wella. Pan fydd achos positif yna rydym ni'n defnyddio system Cymru, oherwydd mae honno yn cael canlyniadau pobl yn ôl o fewn 24 neu 48 awr, a byddwn yn parhau i wneud hynny. Nid yw'r broblem canlyniadau positif ffug, mae arnaf i ofn, yn broblem mor sylweddol â hynny ar hyn o bryd. Mae canlyniadau positif ffug yn digwydd pan fydd lefelau isel iawn o coronafeirws. Wrth i lefelau coronafeirws godi, yna nid yw canlyniadau positif ffug yn digwydd yn yr un ffordd. Felly, ar hyn o bryd, nid yw'n broblem sy'n un o'r rhai mwyaf sylweddol sy'n ein hwynebu yn y sector cartrefi gofal. Roedd yn broblem benodol pan roedd lefelau coronafeirws ar eu hisaf ymhlith staff cartrefi gofal, pan nad oedd canlyniadau positif yn rhai dilys yn aml, ond mae arnaf i ofn nad yw honno yr un broblem ag yr oedd hi wrth i'r niferoedd godi.
O ran y pwynt a gododd yr Aelod am bobl yn cael eu rhyddhau o'r ysbyty i gartrefi gofal, mae angen dadansoddi llawer mwy ar y ffigurau hynny i wneud synnwyr priodol ohonyn nhw. Dydyn ni ddim yn gwybod ymhle y cynhaliwyd y profion hynny. Mae'n bosibl eu bod nhw wedi eu cynnal yn y cartref gofal yr oedd y sawl sy'n byw yn y cartref gofal hwnnw yn cael ei ddychwelyd iddo. Mae'n bosibl na ddigwyddodd yn yr ymweliad â'r ysbyty cyn i rywun gael ei ryddhau yn ôl i'r cartref gofal, ond mewn cyfnod blaenorol yn yr ysbyty. Felly, mae pethau pwysig y mae angen i ni eu dysgu ynghylch ble y cynhaliwyd y profion, pryd y cawsant eu cynnal a pha effaith y gallen nhw fod wedi ei chael. Dyna pam yr ydym ni wedi dweud y byddwn ni'n dadansoddi'r ffigurau a gyhoeddwyd ddoe ymhellach, ac rwy'n credu y byddai'n synhwyrol i unrhyw un aros. Mae'r Aelod wedi bod yn frwd iawn am ddata mewn wythnosau blaenorol yn y Siambr hon a chredaf y byddai e'n ddoeth i aros tan y bydd y data ychwanegol hynny gennym ni cyn i ni ddod i unrhyw gasgliadau.
I gloi, Llywydd, drwy fynd yn ôl at y pwynt a wnes i i'r Aelod: gallai fod wedi cynnig 'hoffwn' syml i ni, oni allai? Gallai fod wedi dweud yn syml, yn y gefnogaeth hollbwysig yr oedd yn awyddus i'm holi yn ei gylch yn gynharach, y £1,000 a mwy y mae 35 y cant o deuluoedd yng Nghymru ar fin ei golli, efallai y byddai wedi gallu ychwanegu ei lais at y rhai hynny ohonom ni a hoffai berswadio'r Canghellor i beidio â chaniatáu i hynny ddigwydd.
Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, yn ôl adroddiadau yn y cyfryngau, mae Tata Steel UK yn gofyn ar hyn o bryd am £500 miliwn o gyllid gan Lywodraeth y DU yn rhan o fenter Project Birch er mwyn cynnal ei ddyfodol. Bydd derbyn y cymorth hwn, dywedir, yn ei gwneud yn ofynnol i Tata gau ei ddwy ffwrnais chwyth ym Mhort Talbot a gosod ffwrneisi arc trydan yn hytrach a fydd yn cynhyrchu dur o sgrap yn hytrach na mwyn haearn. Er y bydd hyn yn lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr yng Nghymru, bydd hefyd yn arwain at ddiswyddiadau sylweddol iawn ymhlith gweithwyr y gwaith dur. Os bydd hyn yn digwydd, mae hanes yn dweud wrthym ni mai bach yw'r tebygolrwydd o ailsefydlu pan fydd technoleg lân ar gael, a bydd Cymru wedi colli rhan hanfodol o'i sylfaen ddiwydiannol. A fyddech chi'n cytuno y byddai polisi o leihau nwyon tŷ gwydr y DU, gan eu cynyddu mewn gwledydd eraill drwy fewnforion, ar draul swyddi gweithwyr Cymru, yn ateb byrdymor yn hytrach na strategaeth ddiwydiannol wirioneddol gynaliadwy, ac mai dyma'r gwrthwyneb llwyr i newid cyfiawn i ddyfodol wedi'i ddatgarboneiddio?
Wel, Llywydd, er fy mod i'n hapus i gytuno â'r pwynt olaf a gododd yr Aelod, nid wyf i'n barod i ddilyn y llwybr a ddilynodd i gyflwyno ei ddadl. Mae'n bwysig iawn nad ydym ni'n sôn am gynhyrchu dur ym Mhort Talbot fel y'i gwneir heddiw fel pe byddai eisoes wedi ei golli. Ac mae'r cwmni, rwy'n gwybod, yn awyddus dros ben nad ydym ni'n siarad amdano yn y ffordd honno oherwydd bod ganddo gwsmeriaid y mae'n eu cyflenwi, mae ganddo lyfrau archeb y mae angen iddo eu cyflawni. Felly, rwyf i wedi ymrwymo i wneud popeth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i helpu i greu dyfodol cynaliadwy ar gyfer cynhyrchu dur yn y Deyrnas Unedig ac yma yng Nghymru.
Dim ond trwy drafodaethau priodol rhwng Llywodraeth y DU a'r cwmni y gellir sicrhau hynny. Mae'n destun siom enfawr nad yw hynny wedi digwydd yn briodol eisoes, ac efallai ei fod wedi cyfrannu at y penderfyniadau y mae'r cwmni wedi eu gwneud—y ffaith nad ydyn nhw wedi gallu sicrhau cytundeb drwy Project Birch, er gwaethaf misoedd lawer o geisio perswadio Llywodraeth y DU i wneud hynny. Nid wyf i'n credu bod yr un ohonom ni mewn sefyllfa i wybod beth fydd canlyniad hynny, ac nid wyf i'n credu y dylem ni siarad amdano mewn ffordd sy'n tanseilio gallu presennol y cwmni i barhau i fasnachu, i barhau i ddarparu swyddi ym Mhort Talbot ac i sicrhau dyfodol i'r gymuned honno.
Mae hanes wedi ein haddysgu hefyd, onid ydyw, Prif Weinidog, na allwn ni ddibynnu ar San Steffan i ddatrys problemau economaidd Cymru. Yn wir, i wrthdroi rhesymeg Prif Weinidog y DU, oherwydd bod San Steffan wedi bod mor drychinebus i Gymru y mae'r Senedd hon yn bodoli. Felly, dyma'r amser i ddangos y gwahaniaeth y gall bod â'n Llywodraeth ein hunain ei wneud, trwy gyflwyno gwrthgynnig i ddiogelu swyddi a bywoliaethau ym Mhort Talbot a'r cyffiniau, gan gynnwys diogelu cynhyrchu dur sylfaenol.
Mae'n debyg bod cais yn cael ei wneud i Lywodraeth y DU wladoli'r cwmni yn rhannol. Onid yw'n bwysicach fyth bod Llywodraeth Cymru yn cymryd rhanddaliad mewn cwmni sydd wedi'i leoli yng Nghymru i raddau helaeth iawn o ran ei weithlu, fel bod gan y gweithwyr hynny a'u cymunedau sedd wrth y bwrdd? A allwch chi gadarnhau y byddech chi'n barod i wneud hynny? Ac, a allwch chi gadarnhau eich bod chi hefyd yn datblygu strategaeth amgen lawn ar gyfer Port Talbot, yn seiliedig ar gynnal y gwaith yn ei gyfluniad presennol yn y byrdymor i'r tymor canolig, gan fuddsoddi yn natblygiad cynhyrchu dur sy'n seiliedig ar hydrogen yng Nghymru, a sicrhau bod gwaith Port Talbot yn cael ei drosi i ddefnyddio'r dechnoleg newydd i gynhyrchu dur carbon niwtral erbyn 2035?
Wel, Llywydd, nid oherwydd methiant Llywodraeth Boris Johnson y mae'r Senedd yn bodoli, ond oherwydd llwyddiant Llywodraeth Lafur o ran sicrhau bod datganoli yn digwydd yn y lle cyntaf. Mae datganoli yn ffynnu pan fydd Llywodraeth Lafur i'w gefnogi, ac mae datganoli yn dod o dan y mathau o bwysau y mae'n eu dioddef nawr pan fydd gennym ni Lywodraeth Geidwadol, a lle'r ydych chi'n crafu o dan wyneb y Blaid Geidwadol ac mae ei holl hen elyniaeth i ddatganoli yn codi yn ôl i'r wyneb.
Dyna a ddigwyddodd ddoe, pan oedd Prif Weinidog y DU yn credu y gallai ddangos ei hun o flaen ychydig o ASau Ceidwadol o ogledd Lloegr. Ond, mae'r Senedd gennym ni oherwydd y Blaid Lafur, a bydd y Blaid Lafur hon yn parhau i wneud yn siŵr ein bod ni'n defnyddio'r holl bwerau sydd gennym ni yn y fan yma—yr holl bwerau sydd gennym ni o berswâd a'r pwerau sydd gennym ni i ymyrryd—nid ar hyn o bryd i wneud gwrthgynnig, ond i weithio gyda'r cwmni ar y cynigion y bydd yn dymuno eu cyflwyno.
Mae gennym ni ran i'w chwarae yn hynny, a rhan o'r hyn yr ydym ni'n dod ag ef at y bwrdd oedd y pwyntiau a wnaeth Adam Price tuag at ddiwedd ei ail gwestiwn. Rydym ni eisiau gweld diwydiant dur carbon niwtral yma yng Nghymru. Rydym ni eisiau gweld hynny cyn gynted â phosibl. Dyna pam mae'r sefydliad dur yr ydym ni'n ei greu yn rhan o fargen ddinesig Abertawe mor bwysig i ddyfodol y diwydiant dur yma yng Nghymru. Bydd yn dod â holl rym ymchwil o'r brifysgol yn Abertawe, a holl rym yr awdurdodau lleol, gyda'r budd sydd ganddyn nhw mewn gwneud y gwaith dur yn llwyddiant, i helpu i greu'r math o ddyfodol i'r diwydiant dur yr ydym ni eisiau ei weld.
Byddwn ni'n chwarae ein rhan yn hynny, nid ar hyn o bryd trwy ddatblygu gwrthgynigion, ond trwy geisio gwneud yn siŵr bod y cwmni a Llywodraeth y DU yn gallu dod at ei gilydd, gyda'r cymorth y gallwn ni ei ddarparu, i ddod o hyd i ffordd ymlaen i'r diwydiant hwnnw.
A ydych chi'n cytuno, Prif Weinidog, mai'r unig ddyfodol diogel a chynaliadwy i Bort Talbot a'r gweithfeydd eraill yng Nghymru yn yr hirdymor yw dychwelyd perchnogaeth diwydiant dur Cymru i ddwylo Cymru—i wladoli fel cam cyntaf, ac yna ailgyfalafu gyda'r math o fond gwyrdd a argymhellwyd yn ddiweddar gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn ei adroddiad i chi, ac yna yn olaf i gydfuddiannoli a chreu cwmni dur cydweithredol yng Nghymru? Mae Dŵr Cymru wedi bod yn llwyddiant er gwaethaf yr amheuon ar y cychwyn, felly pam nid Dur Cymru?
Mae'r cwmni cydweithredol yng Ngwlad y Basg, Mondragon, y mae Llywodraeth Cymru eisoes yn gweithio gydag ef, fel y cadarnhawyd gennych chi yr wythnos diwethaf, wedi nodi ei barodrwydd yn y gorffennol i ddarparu cyngor a chymorth i sefydlu busnes sy'n eiddo i'r gweithwyr ym Mhort Talbot. Beth am dderbyn y cynnig hwnnw? Nid yw gwaith dur integredig sy'n eiddo i'r gweithwyr yn ddigynsail o bell ffordd yn rhyngwladol.
Ar anterth yr argyfwng diwethaf, a oedd bedair blynedd yn unig yn ôl, ariannodd Llywodraeth Cymru y pryniant gan y rheolwyr o Excalibur ym Mhort Talbot gyda £0.75 miliwn. A yw Llywodraeth Cymru yn barod i gyfrannu adnoddau ac egni tebyg, nawr, at y syniad o gwmni dur cydweithredol sy'n eiddo i Gymru?
Yr hyn y byddwn ni'n ei wneud, Llywydd, fel yr wyf i wedi ei ddweud, yw rhoi ein hegni a'n hymrwymiad i'r diwydiant dur yng Nghymru ar gael i'r cwmni a Llywodraeth y DU yn y trafodaethau y mae angen iddyn nhw eu cael. Dyna'r ffordd ymlaen i'r diwydiant hwn ar hyn o bryd. Nawr, ceir llawer o bethau y dywedodd Adam Price yr wyf i fy hun yn cael fy nenu atyn nhw. Cefais y fraint o dreulio wythnos yn Mondragon, tra'n Aelod o'r Senedd hon, a gwelais y gwaith ardderchog sydd wedi cael ei wneud yno. Rwy'n credu i mi ddweud yr wythnos diwethaf, Llywydd, fy mod i wedi derbyn llythyr gan Lywydd Gwlad y Basg y diwrnod hwnnw, yn gwahodd Gweinidogion Cymru i drafodaethau pellach gyda Llywodraeth Gwlad y Basg am ffyrdd cydfuddiannol y gallwn ni ddysgu oddi wrth ein gilydd a helpu ein gilydd. Ond ar bwynt cul yr hyn sydd angen digwydd nesaf o ran y diwydiant dur pwysig iawn a'i effaith ar gymunedau yma yng Nghymru, ni fydd ymdrechion Llywodraeth Cymru yn cael eu gwyro tuag at ddewisiadau amgen ar hyn o bryd. Mae ein hymdrechion yn canolbwyntio ar drafodaethau gyda'r cwmni, perswadio Llywodraeth y DU, eu cael o amgylch y bwrdd yn iawn, gan ddod o hyd i ffordd ymlaen sy'n diogelu'r cymunedau hynny a'r swyddi hynny.
3. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i liniaru effaith y coronafeirws ar iechyd pobl yn y Rhondda? OQ55862
A gaf i ddiolch i Leanne Wood am y cwestiwn yna, Llywydd? Rydym ni'n gweithio gyda phartneriaid ym meysydd cyflogaeth, iechyd meddwl, anghenion iechyd nad ydynt yn ymwneud â coronafeirws ac i ymladd coronafeirws ei hun, i liniaru'r holl niweidiau iechyd ym mywydau pobl yn y Rhondda. Yn ystod y dyddiau diwethaf, mae cyfraddau mynychder a chanlyniadau positif yn yr ardal wedi gostwng o ganlyniad i ymdrechion cyfunol gwasanaethau lleol a phobl leol.
Mae'r cynllun ynysu coronafeirws wedi agor o'r diwedd ar ôl llawer o oedi, ond ni fydd yn rhoi llawer o gysur i rieni plant y mae'n rhaid iddyn nhw hunanynysu. Dim ond pobl y mae'r timau olrhain yn dweud wrthyn nhw'n ffurfiol i ynysu sy'n gymwys i gael taliad, ac nid yw hyn yn dda i ddim i riant heb ofal plant y mae'n rhaid iddo/iddi gymryd amser i ffwrdd o'r gwaith i ofalu am blentyn sydd wedi cael gorchymyn i aros gartref. Hefyd, nid oes unrhyw hawl i apelio os caiff cais ei wrthod. O gofio mai dim ond i bobl heb gynilion ac sy'n wynebu amddifadrwydd y mae'r gronfa cymorth dewisol yn berthnasol iddyn nhw fel rheol, ac mai ychydig iawn o gyflogwyr sy'n rhoi gwyliau â thâl i bobl ofalu am blant, bydd llawer o rieni yn wynebu tlodi oherwydd anhyblygrwydd y cynllun hunanynysu coronafeirws fel y mae'n cael ei weithredu yng Nghymru. Rwy'n dadlau o hyd, Prif Weinidog, bod angen i chi ei gwneud mor hawdd â phosibl i alluogi pobl i hunanynysu, felly sut ydych chi'n mynd i ddatrys y broblem benodol hon?
Wel, Llywydd, rwy'n hapus i edrych ar y pwyntiau y mae'r Aelod wedi eu codi, wrth gwrs, ac os oes pethau y gallwn ni eu gwneud a fydd yn gwneud i'r cynllun gyd-fynd yn well ag amgylchiadau unigol o'r math a ddisgrifiwyd ganddi, yna rwy'n hapus iawn y dylem ni wneud hynny. Rydym ni wedi rhoi £5 miliwn arall yn y gronfa cymorth dewisol yma yng Nghymru, i ganiatáu iddi allu ymateb i'r anawsterau a achosir gan coronafeirws y mae teuluoedd yng Nghymru yn eu dioddef, ac rydym ni eisoes wedi gwneud miloedd o daliadau drwy'r gronfa honno, a dyrannwyd miliynau o bunnoedd i deuluoedd yng Nghymru i helpu gydag anghenion sy'n gysylltiedig â coronafeirws. Bydd hynny bellach yn cynnwys anghenion teuluoedd y mae angen iddyn nhw hunanynysu. Mae'r gair 'dewisol' yn y gronfa cymorth dewisol yno am reswm. Mae yno i alluogi'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau i gymryd i ystyriaeth amgylchiadau penodol unigolion a theuluoedd sy'n gwneud cais i'r gronfa honno. Felly, nid yw'n system anhyblyg sy'n seiliedig ar reolau. Mae'n gweithredu o fewn fframwaith sy'n deg i bobl ac yna'n caniatáu i'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau arfer eu disgresiwn fel y gellir rhoi sylw priodol i'r gyfres unigryw o amgylchiadau sydd o'u blaenau. Os oes mwy y gallwn ni ei wneud wrth i brofiad o'r £500 ddod i'r amlwg, ac yn enwedig os oes angen i ni ei fireinio er mwyn sicrhau bod anghenion plant yn cael eu cymryd i ystyriaeth, yna rwy'n hapus i ddweud wrth yr Aelod fy mod i'n barod iawn i wneud hynny.
Prif Weinidog, bu lefel uchel iawn o haint mewn llawer o ardaloedd yn hen faes glo y de, fel y Rhondda, a bydd y boblogaeth yno yn sâl am gryn amser i ddod gyda COVID hir a phroblemau cysylltiedig eraill wedyn. Rwy'n arbennig o bryderus ynghylch sut y mae hyn yn mynd i gael ei reoli. Pa wasanaethau iechyd a chlinigau fydd ar gael i bobl, yn enwedig os bydd yn lleihau eu gallu i gadw swydd neu i chwilio am swydd, o gofio'r anweithgarwch economaidd y mae ardaloedd fel y Rhondda yn ei ddioddef ar hyn o bryd?
Mae'r rheini yn bwyntiau pwysig iawn y mae'r Aelod yn eu gwneud. Mae ef yn llygad ei le bod pobl sy'n byw mewn cymunedau difreintiedig wedi dioddef cyfraddau marwolaethau bron i ddwywaith y rhai mewn ardaloedd llai difreintiedig yn ystod misoedd cynnar coronafeirws, ac yn sicr gwelsom effaith hynny yn ardal awdurdod lleol Rhondda Cynon Taf. Y peth cyntaf y mae'n rhaid i ni ei wneud, Llywydd, yw rheoli'r effaith y mae'r ail don bresennol yn ei chael ar ein gwasanaethau ysbyty, oherwydd ar hyn o bryd, mae ein hysbytai yn gorfod ymdrin â'r argyfwng uniongyrchol o fwy o bobl yn dod drwy'r drws am y rheswm hwn, ac mae hynny, yn anochel, yn cael effaith ar eu gallu i barhau i ddarparu gwasanaethau eraill fel y gwasanaethau adsefydlu y cyfeiriodd David Melding atyn nhw. Gwn y bydd yn falch o weld y gostyngiad i'r gyfradd achosion yn Rhondda Cynon Taf dros y saith diwrnod diwethaf. Wythnos yn ôl, roedd yn 478 o bob 100,000 o'r boblogaeth; heddiw, mae'n 259. Mae cyfradd y canlyniadau positif wedi gostwng o dros 25 y cant i 18 y cant. Ac, yn ystod y diwrnod neu ddau diwethaf, mewn ysbytai yn ardal Rhondda Cynon Taf, 14 o achosion a gadarnhawyd sydd mewn gofal critigol erbyn hyn—dyna'r isaf ers 27 Hydref. Ceir 206 o achosion a gadarnhawyd mewn gwelyau acíwt eraill yn ardal bwrdd iechyd Cwm Taf Morgannwg—mae hynny 50 yn is na'r un diwrnod yr wythnos diwethaf a 64 yn is na'r pwynt uchaf, a oedd ar 3 Tachwedd. A dim ond cyn belled â'n bod ni'n gallu parhau i leihau'r niferoedd cynyddol presennol y bydd gan y bwrdd iechyd y capasiti wedyn i allu mynd i'r afael â'r canlyniadau tymor hwy. Rwy'n cytuno â'r pwynt yr oedd David Melding yn ei wneud, os oes gennych chi boblogaeth hŷn, fwy sâl a thlotach, yna mae'r effeithiau hirdymor hynny yn debygol o fod yn fwy dwys.
4. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o'r effaith y bydd canlyniad etholiadau llywyddiaeth yr Unol Daleithiau yn ei chael ar strategaeth ryngwladol Llywodraeth Cymru? OQ55853
Fel y mae ein strategaeth ryngwladol yn ei amlinellu, mae'r Unol Daleithiau yn berthynas o flaenoriaeth i Gymru ac mae'n hanfodol bwysig i'n heconomi. Rwyf i wedi ysgrifennu at y darpar Arlywydd a'r darpar Dirprwy Arlywydd i'w llongyfarch ar eu buddugoliaeth ac i gyfleu ein hymrwymiad o'r newydd i feithrin cysylltiadau agosach fyth yn seiliedig ar werthoedd a buddiannau a rennir.
Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ymateb cadarnhaol ac adeiladol yna. Rwy'n siŵr, fel minnau, y byddai'n croesawu'r ffaith ei bod hi'n ymddangos ein bod ni'n mynd i gael partner rhagweithiol, ymgysylltiedig ac adeiladol, nawr, sy'n barod i chwarae ei ran ar y llwyfan byd-eang, gan gynnwys drwy ailymuno â Sefydliad Iechyd y Byd wrth ymdrin â'r pandemig byd-eang a thrwy ailymrwymo i gytundeb Paris a chymryd rhan lawn a gweithredol yng Nghynhadledd y Partïon 26 sydd ar fin cael ei chynnal.
Ond a gaf i ofyn i'r Prif Weinidog beth y mae'n ei gredu y gallwn ni ei wneud hyd yn oed yn fwy o ran y cysylltiadau diplomataidd, economaidd, cymdeithasol, diwylliannol? A beth fydd arlywyddiaeth yr Unol Daleithiau yn ei gynnig i ni o ran pethau nad ydym ni efallai'n meddwl cymaint amdanyn nhw, fel yr agwedd at fasnach a chysylltiadau'r UE sy'n cael eu trafod ar hyn o bryd gan Lywodraeth y DU, a hefyd cytundeb Belfast, y broses heddwch, y cyfrannodd ein cydweithwyr, mae'n rhaid i ni gofio, lawer ati dros Lywodraethau olynol, gan gynnwys ein cyfaill da Paul Murphy?
Diolchaf i Huw Irranca-Davies am hynna. Rwy'n cytuno ag ef mai'r fantais fwyaf trawiadol y byddwn ni'n ei gweld gan arlywyddiaeth Biden yw ailymgysylltiad yr Unol Daleithiau â'r materion a'r sefydliadau rhyngwladol enfawr hynny, yr arferai fod yn bartner mor ddibynadwy ynddyn nhw ac nad yw wedi bod dros y blynyddoedd diwethaf. Felly, bydd y ffaith y bydd yn ailymgysylltu â Sefydliad Iechyd y Byd yn golygu y bydd ei gallu a gallu'r byd i ymdrin â coronafeirws yn cael ei gryfhau. Bydd y ffaith na fydd bellach yn troi ei chefn ar gytgord hinsawdd Paris yn newyddion da, nid yn unig i'r Unol Daleithiau ond i'r byd i gyd. Dyna'r peth mwyaf trawiadol yr wyf i'n credu yr ydych chi'n ei weld, o'r tu allan i'r Unol Daleithiau, fel rhywbeth sydd er budd i bob un ohonom ni.
Byddwn yn defnyddio ein swyddfeydd rhyngwladol, wrth gwrs, i barhau i gymryd rhan mewn cyfleoedd economaidd i Gymru, cysylltiadau diwylliannol rhwng Cymru a gwahanol rannau o'r Unol Daleithiau, ond hefyd y cysylltiadau gwleidyddol y mae angen i ni eu hadeiladu gyda'r weinyddiaeth newydd. Rwy'n credu fy mod i wedi dweud yr wythnos diwethaf, Llywydd, y bydd y glymblaid Gymreig ar Capitol Hill yn cael ei diwygio. Ymwelodd fy nghyd-Aelod, y cyn Brif Weinidog â'r glymblaid, gan gyfarfod â phobl sy'n rhan ohoni, ac edrychaf ymlaen at y diwrnod pan fydd ymweliadau gweinidogol â gwahanol rannau o'r byd, ac â’r Unol Daleithiau yn arbennig, ar gael unwaith eto. Oherwydd bydd hynny yn caniatáu i ni ddatblygu hyd yn oed yn gyflymach y strategaeth ryngwladol a drafodwyd gennym ni yr wythnos diwethaf, gyda'r cenhadon yr ydym ni wedi gallu eu penodi—dau ohonyn nhw yn yr Unol Daleithiau—a'r diaspora yr ydym ni'n gwybod sydd yno yn yr Unol Daleithiau, yn barod i'n helpu i gadw proffil Cymru yn uchel yno ac i ymgysylltu ar yr holl agenda honno a nodwyd gan Huw Irranca-Davies yn ei gwestiwn atodol.
Prif Weinidog, roedd hi'n Ddiwrnod Caredigrwydd y Byd yr wythnos diwethaf, a cheir Aelodau o'ch plaid eich hun, chi yn eu plith, sydd wedi cefnogi gwleidyddiaeth fwy caredig. Ond nid yw caredigrwydd yn rhywbeth y mae'r chwith wedi ei roi i Donald Trump yn ystod ei gyfnod fel Arlywydd yr Unol Daleithiau. A ydych chi'n cytuno â mi ei bod hi'n bwysig, ni waeth pwy yw Arlywydd yr Unol Daleithiau, nad yw Aelodau'r Siambr hon, gan gynnwys y rhai sy'n heclo ar eich meinciau cefn chi ar hyn o bryd, yn gwneud ymosodiadau personol dibwys yr ydym ni wedi eu gweld yn erbyn pobl fel Donald Trump dros y pedair blynedd diwethaf ac y dylen nhw yn hytrach ddilyn eu cyngor eu hunain?
Wel, byddwn i'n gallu darparu gwahanol fath o ateb i'r Aelod pe bawn i'n credu bod yr Arlywydd y cyfeiriodd ato wedi cymryd am eiliad y cyngor y mae Darren Millar wedi ei gynnig. Osgoi ymosodiadau personol dibwys? Onid ydych chi erioed wedi gweld y trydariadau y mae'r dyn hwnnw wedi eu arllwys allan yn ystod y pedair blynedd, a'r cam-driniaeth afiach y mae wedi ei gyfeirio at bobl sy'n anghytuno ag ef? A phan fydd yn cyfeirio at garedigrwydd, rwy'n meddwl am y 500 o blant hynny y mae'n debygol na fyddan nhw byth yn gweld eu rhieni eto, a dyna oedd canlyniad uniongyrchol camau y gwnaeth y dyn hwnnw fynnu eu cymryd yn yr Unol Daleithiau. Ni wnaf i ddefnyddio'r gair 'caredigrwydd' pan fy mod yn cyfeirio at Arlywydd blaenorol yr Unol Daleithiau tra bod y 500 o blant hynny yn dal i fod yn fy meddwl.
5. Pa gamau pellach y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r niwed sy'n deillio o COVID-19 yng Nghasnewydd? OQ55875
Y ffordd orau o fynd i'r afael â'r niweidiau uniongyrchol o COVID-19 yng Nghasnewydd yw drwy fesurau y gallwn ni eu cymryd gyda'n gilydd i leihau cysylltiad ag eraill, teithio dim ond pan fo angen, a gweithio gartref gymaint â phosibl. Mae Llywodraeth Cymru yn cynllunio yn weithredol ar gyfer posibiliadau brechu a phrofi torfol newydd, gan gynnwys sicrhau eu bod ar gael i ddinasyddion Casnewydd.
Prif Weinidog, cefais olwg ar ysbyty newydd y Faenor Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yr wythnos diwethaf. Fe'i hagorwyd yn swyddogol heddiw, ond cafwyd yr enedigaeth gyntaf yn ei ganolfan eni eisoes—merch fach, a anwyd yn briodol ddeuddydd yn ôl, ar ben-blwydd Aneurin Bevan. A wnewch chi gytuno â mi bod y cyfleuster hwn o'r radd flaenaf yn ychwanegiad i'w groesawu'n fawr at allu'r GIG i wasanaethu cenedlaethau i ddod, a bod ganddo swyddogaeth hanfodol i helpu i fynd i'r afael â COVID-19? Ac wrth gynorthwyo ymdrech rheng flaen y GIG yn erbyn y feirws, a wnewch chi ystyried yn ofalus gwell profion ar gyfer staff gofal cartref asymptomatig a gwell profion yn ein hysgolion uwchradd, a fyddai hefyd yn lleihau'r amser ysgol sy'n cael ei golli?
Wel, a gaf i ddiolch i John Griffiths am y cwestiwn yna, Llywydd, ac yn enwedig am yr hyn a ddywedodd ar y dechrau? Hoffwn longyfarch Poppy a'i rhieni yn fawr—fel yr wyf i'n siŵr yr hoffai'r Aelodau sydd yma. Y plentyn cyntaf i gael ei eni yn yr ysbyty newydd, ac i gael ei eni ar ben-blwydd Aneurin Bevan—dyna ddechrau gwych i'r ysbyty ac i'r teulu hwnnw, ac mae'n arwydd o'r hyn sydd i ddod gan yr ysbyty hwnnw sydd o'r radd flaenaf o ran graddfa, maint a phwrpas, yr un ysbyty pwysicaf ers agor y brifysgol athrofaol yma yng Nghaerdydd ddechrau'r 1970au.
Bydd yn gwneud gwaith pwysig dros ben yn ystod y gaeaf hwn, i'n helpu ni i ymdrin â'r argyfwng coronafeirws, gyda'r cannoedd o welyau ychwanegol y mae'n eu darparu yn y rhan honno o Gymru, ond yn y tymor hwy, i gyflawni gweledigaeth Dyfodol Clinigol Gwent, y gwn y bydd John Griffiths, fel yr Aelod lleol, wedi cymryd rhan fawr ynddi, bron i ddegawd yn ôl, pan roedd hynny yn cael ei gynllunio a'i gynhyrchu. Mae'n adeg falch iawn, rwy'n credu, i ni yma yng Nghymru fod wedi gweld y cyfleuster hwnnw yn agor yn gynnar ac ar gael i'r boblogaeth leol honno.
Bydd yn rhan bwysig, Llywydd, o'r ffordd y bydd y cyfleuster hwnnw a gwasanaethau iechyd yn fwy cyffredinol yn ardal Gwent yn gallu datblygu dros y gaeaf hwn trwy ddefnyddio rhai o'r posibiliadau profi torfol newydd. Yn yr un modd â chymaint o bethau yn ymwneud â coronafeirws, mae hyn yn digwydd yn gyflym iawn o'n cwmpas drwy'r amser, ac mae'n debygol y bydd gennym ni filoedd o'r profion llif ochrol hyn ar gael i ni yng Nghymru bob dydd yn y dyfodol agos iawn, a bydd hynny yn rhoi posibiliadau newydd i ni o ran profi gweithwyr rheng flaen yn asymptomatig, ac efallai y gallwn ni wneud mwy i ganiatáu i blant y mae'n rhaid iddyn nhw, ar hyn o bryd, fynd adref os canfyddir bod gan un plentyn y coronafeirws mewn ysgol—efallai y byddwn ni'n gallu eu defnyddio i ganiatáu i'r plant hynny ddychwelyd yn gyflymach i addysg. Felly, mae llawer o waith yn cael ei wneud gyda'n cydweithwyr yn y gwasanaeth iechyd ac eraill i wneud yn siŵr bod y posibilrwydd newydd hwn yn cael ei roi ar waith yn y rhannau hynny o gymdeithas Cymru lle mae'n cael yr effaith fwyaf, a, Llywydd, rydym ni wedi siarad o'r blaen ar lawr y Senedd yn y fan yma am eu defnyddio i alluogi ymweliadau â chartrefi gofal, un o'r materion gwirioneddol anodd y bu'n rhaid i deuluoedd eu hwynebu yn ystod y cyfnod eithriadol hwn.
Prif Weinidog, hoffem ninnau hefyd, ar y meinciau hyn, fynegi ein llongyfarchiadau i—rieni Poppy, dyna yw ei henw rwy'n credu, a hoffem groesawu'r ysbyty hefyd, sydd, wrth gwrs, o fudd mawr i'm holl etholwyr ar draws Dwyrain De Cymru. Bu llawer o bryderon y mae pobl wedi bod yn anfon negeseuon ataf yn eu cylch yn ddiweddar, oherwydd mae meddygon wedi dweud eu bod nhw'n pryderu am y lefelau staffio yn yr ysbyty newydd ar gyfer pan fydd yn agor. Sut gallwch chi dawelu meddyliau’r llawr hwn heddiw, Prif Weinidog, y bydd digon o staff i ymdopi â'r galw pan fydd yr ysbyty yn agor ei ddrysau? Diolch.
Llywydd, diolchaf i Laura Anne Jones am yr hyn a ddywedodd yn wreiddiol. Wrth gwrs, mae'r ysbyty eisoes wedi agor ei ddrysau. Mae wedi bod yn derbyn cleifion ers rhai dyddiau bellach. Gwelais gyfnewid gohebiaeth rhwng y cyfarwyddwr meddygol ac un meddyg a gyflogir gan y bwrdd iechyd a oedd yn nodi'n eglur, rwy'n credu, y ffordd y cytunwyd ar drefniadau staffio, y cytunwyd arnyn nhw gyda chlinigwyr, y cytunwyd arnyn nhw gyda'r arweinyddiaeth nyrsio yn y bwrdd iechyd. Rhoddwyd y trefniadau staffio hynny ar waith. Nid yw hynny'n golygu am eiliad, Llywydd, nad yw'r system o dan bwysau. Mae'r gwasanaeth iechyd o dan bwysau ym mhob man ar draws y Deyrnas Unedig, a'r rhan fwyaf o Ewrop hefyd, ac mae hynny yn sicr yn wir yma yng Nghymru. Ond gan weithio o fewn y pwysau hynny, lluniwyd cynlluniau, fe'u cytunwyd gyda'r bobl y mae angen iddyn nhw eu gweithredu, ac maen nhw'n cael eu rhoi ar waith wrth i'r ysbyty hwn dderbyn ei gleifion cyntaf.
6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau tlodi yng Nghymru? OQ55856
Diolchaf i Mike Hedges. Llywydd, mae Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar y camau ymarferol hynny sy'n sicrhau'r incwm mwyaf posibl ac yn lleihau costau byw hanfodol. Yn y tymor hwn, rydym ni wedi cyflwyno'r unig raglen llwgu yn ystod y gwyliau sydd wedi'i hariannu a'u dylunio yn genedlaethol yn y Deyrnas Unedig, ac ym mis Ionawr, byddwn yn darparu'r cymorth cyntaf erioed gyda chostau brecwast i blant sy'n dechrau yn yr ysgol uwchradd.
A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am yr ateb yna? Fel y—mae'n ddrwg gen i, bu'n rhaid i mi besychu yn y fan yna. Rydym ni i gyd yn cofio'r adeg pan mai cyflogaeth oedd y ffordd allan o dlodi, ond rydym ni'n gwybod erbyn hyn bod llawer o deuluoedd â phobl sy'n gweithio—mewn rhai achosion, mae'r ddau riant yn gweithio—sy'n byw mewn tlodi. Gwelwn hefyd y cynnydd o £20 yr wythnos i gredyd treth gwaith yn cael ei derfynu ym mis Ebrill gan Lywodraeth San Steffan. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i roi terfyn ar gontractau ymelwol sy'n talu llai na'r cyflog byw gwirioneddol naill ai ar gontractau dim oriau neu oriau wedi'u gwarantu isel i'r rhai a ariennir yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol gan drethdalwyr Cymru?
Diolchaf i Mike Hedges am hynna, a dychwelodd at y pwynt a wnes i yn gynharach y prynhawn yma, Llywydd, o ran tlodi mewn gwaith, mai credyd cynhwysol oedd yr ateb i dlodi mewn gwaith i fod, ac nid yw wedi digwydd felly, wrth gwrs, oherwydd ni chafodd ei ariannu yn ddigon hael o'r cychwyn i allu gwneud hynny. Mae ganddo gyfradd dreth ymylol o 63 y cant, felly os ydych chi'n deulu tlawd sy'n gweithio ac yn ennill punt ychwanegol, rydych chi'n cael cadw 37 ceiniog ohoni. Nid yw'n llawer o gymhelliant, nac yw, i droedio ymhellach ar hyd y llwybr i fyd gwaith? Ac eleni mae gennym ni'r anhawster ychwanegol o wrthodiad y Canghellor i gadarnhau y bydd yr £20 ychwanegol bob wythnos i gredyd cynhwysol yn cael ei barhau y tu hwnt i ddiwedd y flwyddyn ariannol hon. Fel y dywedais, bydd 35 y cant o aelwydydd nad ydynt yn bensiynwyr yng Nghymru yn colli dros £1,000 y flwyddyn drwy'r newid polisi hwnnw. Rwy'n clywed synau o'r cyrion, fel yr ydych chi, yn y Siambr, Llywydd; byddai'n well eu cyfeirio at gynorthwyo'r teuluoedd hynny nag at wneud y math o sylwadau a glywais i.
Sut yr ydym ni'n gweithredu, gofynnodd Mike Hedges? Wel, rydym ni'n gweithredu ein hunain. Daeth y GIG yng Nghymru yn gyflogwr cyflog byw pan oeddwn i'n Weinidog iechyd, ac mae wedi bod byth ers hynny. Rydym ni'n defnyddio ein contract economaidd i wneud yn siŵr ein bod ni'n hyrwyddo gwaith teg lle bynnag y bydd arian cyhoeddus Llywodraeth Cymru yn cael ei ddarparu. Rydym ni'n gweithredu gydag eraill, Llywydd: bydd cyngor y bartneriaeth gymdeithasol yn lansio'r ymgyrch hawliau yn y gweithle cyn diwedd y mis hwn, a bydd honno yn ffordd arall y gallwn ni weithredu i ymdrin â thlodi mewn gwaith, ac rydym ni'n cefnogi gwaith ymgyrchu pobl eraill.
Cefais y fraint o allu lansio Wythnos Cyflog Byw yma yng Nghymru ddydd Llun yr wythnos diwethaf, ac roedd hi'n galonogol iawn, mewn blwyddyn anodd, clywed bod pob prifysgol yng Nghymru yn gyflogwyr cyflog byw erbyn hyn, bod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi cael ei hachredu eleni fel cyflogwr cyflog byw, a bod gan gyngor Caerdydd uchelgais i wneud Caerdydd yn ddinas cyflog byw mewn ffordd sy'n ysbrydoliaeth i lawer o ddinasoedd eraill ar draws y Deyrnas Unedig gyfan.
Mae cwestiwn 7 [OQ55897] wedi'i dynnu nôl. Yn olaf, felly, cwestiwn 8, Helen Mary Jones.
8. Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael am y rhestrau aros am lawdriniaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda? OQ55890
Diolchaf i Helen Mary Jones am y cwestiwn yna, Llywydd. Mae bwrdd iechyd Hywel Dda wedi gwneud cynnydd cyson dros y blynyddoedd diwethaf i leihau amseroedd aros ar gyfer llawdriniaethau a diagnosteg a drefnwyd. Mae effaith coronafeirws a'r gwyriad angenrheidiol o adnoddau clinigol i ymateb iddo wedi cael effaith anochel ar amseroedd aros er gwaethaf ymdrechion enfawr staff rheng flaen.
Rwy'n ddiolchgar i'r Prif Weinidog am ei ateb, ac wrth gwrs rwy'n cysylltu fy hun â'r hyn a ddywedodd am yr ymdrechion enfawr y mae staff rheng flaen wedi bod yn eu gwneud mewn ysbytai a lleoliadau cymunedol ar draws ardal Hywel Dda. Ond mae'r angen i adfer triniaethau rheolaidd parhaus yn dod yn fwy a mwy yn fater o frys. Mae un o'm hetholwyr, Colin Jones o Lanelli, wedi disgrifio bod mewn poen ofnadwy ers i'w feddyg teulu ei atgyfeirio ar gyfer clun newydd posibl. Nid yw hyd yn oed wedi bod yn bosibl iddo weld y meddyg ymgynghorol eto i ddarganfod ai dyna'r ffordd gywir ymlaen. Felly, gan ddeall yr anawsterau sy'n bodoli o ran darparu ar gyfer y rheini—wel, nid yw'n teimlo yn 'rheolaidd' i Colin, mae'n debyg, ond ar gyfer y triniaethau hynny ac eithrio COVID—pa waith ychwanegol all Llywodraeth Cymru ei wneud i helpu Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a byrddau iechyd ledled Cymru i leihau'r rhestrau aros hynny am lawdriniaethau dewisol ymhellach?
Llywydd, mae'n rhaid i mi ailadrodd rhywbeth o ateb a roddais yn gynharach, sef mai'r un peth pwysicaf y gallwn ni i gyd ei wneud i helpu ein byrddau iechyd ledled Cymru yw gwneud popeth o fewn ein gallu i atal llif cleifion coronafeirws i'r ysbytai hynny. Roedd dau ddeg un y cant o'r holl dderbyniadau i'r ysbyty yr wythnos diwethaf oherwydd coronafeirws, i fyny o 19 y cant yr wythnos gynt, a thra bod hynny yn parhau, mae'n anochel ei fod yn lleihau gallu'r system i wneud gwaith nad yw'n ymwneud â coronafeirws. Felly, y peth pwysicaf y gallwn ni ei wneud yw gwneud popeth yr ydym ni'n gofyn i bobl ei wneud i reoli coronafeirws, oherwydd bydd hynny yn caniatáu i'r gwasanaeth iechyd i wneud yr hyn y mae wedi bod yn ei wneud drwy'r haf, sef adfer lefelau'r gwaith nad yw'n ymwneud â coronafeirws i'r sefyllfa flaenorol—wel, gymaint â phosibl i'r sefyllfa flaenorol—cyn i coronafeirws daro. Nid ydym ni yn ôl ar y lefelau hynny, ac mae hynny oherwydd, fel y gwn fod yr Aelod yn ei ddeall, hyd yn oed pan fydd clinigwyr yn gwneud gwaith nad yw'n ymwneud â coronafeirws, maen nhw'n gweithio mewn amodau i atal y perygl o coronafeirws, sy'n peryglu'r gyfradd cynhyrchiant a oedd yn bosibl yn flaenorol yn y gwasanaeth iechyd.
Yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud y tu hwnt i bopeth yr ydym ni'n ceisio ei wneud i reoli coronafeirws ei hun yw cynorthwyo clinigwyr yn y gwaith anodd iawn y maen nhw'n ei wneud o orfod blaenoriaethu yn glinigol y bobl sydd angen eu sylw. Ac mae honno'n neges anodd iawn i'w rhoi i'r unigolyn y cyfeiriodd Helen Mary Jones ato, ond bydd pobl sydd â mwy fyth o angen clinigol ac, yng Nghymru, nid wyf i'n credu y byddem ni byth eisiau camu yn ôl o'r egwyddor sylfaenol honno bod y rhai sydd angen y cymorth fwyaf yn dod i flaen y ciw.
Diolch i'r Prif Weinidog.
Mae'r cwestiynau nesaf i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan David Rees.
1. Pa drafodaethau y mae'r Dirprwy Weinidog yn eu cael gyda sefydliadau'r trydydd sector ynghylch cyllid yn sgil effaith COVID-19 ar sut y maent yn gweithredu? OQ55896
Rwy'n cael sgyrsiau rheolaidd gyda'r trydydd sector. Yn fy nghyfarfod diweddar gyda chyngor partneriaeth y trydydd sector, adroddodd rhwydweithiau'r trydydd sector ar effaith COVID-19 ar eu gweithrediadau. Yn benodol, penderfyniad Llywodraeth y DU i beidio ag ymestyn y cynllun ffyrlo yn ystod ein cyfnod atal byr.
Diolch am yr ateb yna, Dirprwy Weinidog. Rwy'n siŵr eich bod chi'n cytuno â mi bod y sector gwirfoddol a'r awdurdodau lleol yn cydweithio wedi bod yn gefnogol dros ben o'n cymunedau yn ystod pandemig COVID-19. A heb eu cefnogaeth nhw, byddai llawer o bobl wedi cael anawsterau mawr yn cael drwy'r cyfnod anodd hwn. Ond rydym ni'n dal i fwrw ymlaen â mwy o angen wrth i ni wynebu misoedd y gaeaf, ac mae hunanynysu wedi creu unigrwydd a sefyllfaoedd o angen dybryd i lawer o bobl, ac felly bydd yn ofynnol i'r sector gwirfoddol gamu ymlaen unwaith eto dros y cyfnod hwn. Ond daw cyllid yn her ddifrifol yn y sefyllfa hon. Pa ffrydiau ariannu ydych chi'n edrych arnyn nhw i sicrhau y gall y sefydliadau hynny gael yr arian i sicrhau eu bod nhw'n gallu darparu'r sector gwirfoddol sydd ei angen i ddiwallu anghenion COVID-19?
Diolchaf i David Rees am y cwestiwn yna ac rwyf i hefyd yn cytuno ag ef ynglŷn â'r ffordd y mae'r sector gwirfoddol, yn wir gwirfoddolwyr yn arbennig, wedi dod ymlaen mewn ymateb i'r pandemig ac wedi dangos y gofal a'r tosturi a ddangoswyd ganddyn nhw, yn enwedig ar anterth y pandemig yn ystod y cyfyngiadau symud, ond ers hynny. Ac os edrychwn ni nawr, mae gennym ni 34,229 o wirfoddolwyr cofrestredig ar ein platfform Gwirfoddoli Cymru, ac mae dros 20,000 o'r rheini wedi cofrestru ers 1 Mawrth. Ond y trydydd sector sy'n cefnogi'r ymchwydd mawr hwnnw o frwdfrydedd a chefnogaeth gan wirfoddolwyr. Felly, dyna pam y cyhoeddais i gronfa gymorth trydydd sector COVID-19 Llywodraeth Cymru yn ôl ym mis Ebrill, ac rydym ni wedi gwneud cefnogi'r sector yn ystod y pandemig yn un o flaenoriaethau'r Llywodraeth hon. Ac, wrth gwrs, bydd y sector yn chwarae rhan allweddol os ydym ni'n mynd i weld adferiad teg a chyfiawn o'r pandemig coronafeirws. Rwyf i hefyd yn annog sefydliadau elusennol a thrydydd sector sy'n dal i fod angen cymorth i archwilio'r cyllid sydd ar gael gennym ni o gronfa cadernid y trydydd sector a chronfa adfer y gwasanaethau gwirfoddol.
A dim ond i gloi yn derfynol ar y pwynt am eich etholaeth chi, mae gwasanaethau gwirfoddol cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi cael £215,997 o gyllid gan Lywodraeth Cymru eleni, ac mae hynny yn cynnwys cymorth ychwanegol o'r gronfa galluogi seilwaith.
2. A wnaiff y Dirprwy Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am flaenoriaethau diweddar ar gyfer gwaith cysylltiadau rhyngwladol Llywodraeth Cymru? OQ55861
Rydym ni newydd gyhoeddi cynlluniau gweithredu ar gysylltiadau rhyngwladol, sy'n nodi'r blaenoriaethau byrdymor a thymor canolig ar gyfer cyflawni'r strategaeth ryngwladol. Rydym ni'n canolbwyntio ar fentrau allweddol i arddangos Cymru a dangos ein bod ni'n genedl sy'n edrych tuag allan ac sy'n gyfrifol yn fyd-eang.
Diolch, Dirprwy Weinidog, ac a gaf i ddymuno'n dda i chi gyda'r agweddau newydd hyn ar eich portffolio? Nawr, yr wythnos diwethaf, cyflwynodd y Prif Weinidog strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer lle Cymru yn y byd a'r cydberthnasoedd pwysig yr ydym ni'n ceisio eu sicrhau ar gyfer y dyfodol. Ers hynny, rydym ni wedi gweld dau ddigwyddiad arwyddocaol: yn gyntaf, y digwyddiadau annymunol yn ymwneud ag Arlywydd yr Unol Daleithiau sy'n gadael, sy'n parhau i ddwyn gwarth ar y swydd fawreddog honno y bydd yn rhaid iddo ei gadael yn fuan. Er gwaethaf hyn, fodd bynnag, rwy'n gobeithio bod Llywodraeth Cymru yn gweithio i gefnogi trosglwyddiad grym didrafferth, ac rwy'n croesawu llythyrau'r Prif Weinidog at yr Arlywydd Biden, ac, yn enwedig, y Dirprwy Arlywydd Kamala Harris, yn eu llongyfarch ar eu buddugoliaeth. Ond, yn ail, ac yn llawer nes adref, y golygfeydd o anhrefn llwyr yng nghanol Llywodraeth Dorïaidd y DU dros yr wythnos diwethaf, yn arwain at COVID yn lledaenu o amgylch y Prif Weinidog, ac yn gorffen gyda'i sylwadau ymfflamychol am ddatganoli—sylwadau y mae Torïaid Cymru, gyda llaw, wedi bod bron yn gwbl dawel yn eu cylch.
Felly, Dirprwy Weinidog, ar yr adeg dyngedfennol hon, a ydych chi'n cytuno â mi bod yr ymddygiadau sy'n cael eu harddangos yn Downing Street ac o'i hamgylch, yn union fel yn yr Unol Daleithiau, yn diraddio Llywodraeth ac yn tynnu sylw yn llwyr oddi wrth y materion pwysig y mae angen eu datrys yn ystod y dyddiau a'r wythnosau nesaf er mwyn helpu Cymru a theulu ehangach y DU o wledydd i wynebu'r dyfodol ar ôl Brexit yn hyderus?
Diolch, Dawn Bowden, am godi'r cwestiynau pwysig iawn yna. Ac, wrth gwrs, mae trosglwyddo grym yn heddychlon yn elfen hanfodol i unrhyw ddemocratiaeth, ac mae cyfnod pontio didrafferth hyd yn oed yn fwy hollbwysig, o ystyried yr oes sydd ohoni a'r angen i'r weinyddiaeth newydd baratoi ac ymateb i her coronafeirws. Wrth gwrs, cydnabuwyd a chefnogwyd yn eang bod ein Prif Weinidog wedi ysgrifennu yn ddiweddar i longyfarch y darpar Arlywydd Joe Biden, a'r darpar Dirprwy Arlywydd Kamala Harris. Ac rwy'n adleisio'r llongyfarchiadau hyn—rwy'n siŵr ein bod ni i gyd—ac yn enwedig y ffaith bod gan yr Unol Daleithiau y Dirprwy Arlywydd benywaidd cyntaf, a fydd hefyd y Dirprwy Arlywydd Asiaidd-Americanaidd ac Affricanaidd-Americanaidd cyntaf. Mae hwnnw'n ganlyniad enfawr, sydd wedi codi gobaith mawr, yn enwedig ymhlith pobl America, ond ledled y byd. Ond rwy'n credu bod y ffaith eu bod nhw wedi sefyll, yr Arlywydd a'r Dirprwy Arlywydd, ar lwyfan o ymladd dros gydraddoldeb, mynd i'r afael â hiliaeth a hefyd mynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd ac ymladd coronafeirws yn adleisio'n gryf dros ben yr hyn sy'n annwyl i Gymru, ac rwyf i'n rhagweld, wrth gwrs, y bydd ein perthynas gyda'r Unol Daleithiau yn un a fydd yn ffynnu.
Ond, o ran ail ran eich cwestiwn, mae gen i ofn fy mod i wedi fy llenwi â llawer llai o optimistiaeth, oherwydd mae'n rhaid i'n pwyslais ni, a phwyslais Llywodraeth y DU, fod ar y cyfnod anhygoel o anodd hwn yr ydym ni ynddo. Yng Nghymru, rydym ni'n canolbwyntio fel erioed ar iechyd a llesiant y genedl. Ni fydd ein sylw yn cael ei dynnu oddi wrth hynny, ac ni ddylai Llywodraeth y DU ganiatáu i'w sylw gael ei dynnu ychwaith. Ond mae'r newyddion dros nos am sylwadau Boris Johnson ar ddatganoli, y pwyntiau a adleisiwyd yn y Siambr hon y prynhawn yma, wir yn dangos y diffyg ymgysylltu ar bontio yr UE yn arbennig, ond hefyd ymgysylltu ar sut yr ydym ni'n gweithio gyda'n gilydd fel pedair gwlad i fynd i'r afael â coronafeirws; mae'n ein gwneud ni'n fwy pryderus nag erioed. Anhrefn yn San Steffan yn gwaethygu, byddwn i'n dweud, ar ôl Cummings, pan fo angen cydweithio arnom ni, pan fo angen parch arnom ni tuag at Gymru, y Senedd, a'r pwerau yr ydym ni'n eu harfer yn y fan yma i gadw Cymru yn ddiogel.
3. Pa asesiad y mae'r Dirprwy Weinidog wedi'i wneud o effaith COVID-19 ar y sector wirfoddol yng Nghymru? OQ55891
Mae ymateb y sector i'r argyfwng wedi dangos cryfder a dyfnder y sector. Mae hefyd wedi tynnu sylw at bwysigrwydd trydydd sector cryf a gwydn, a dyna pam yr wyf wedi sefydlu grŵp adfer cyngor partneriaeth y trydydd sector i sicrhau adferiad teg, cyfiawn a gwyrdd.
Diolch i chi am eich ateb, a dwi'n nodi hefyd yr ateb roddoch chi'n gynharach i David Rees. Dwi eisiau gofyn yn benodol ynglŷn â sefyllfa cyrff a mudiadau amgylcheddol yng Nghymru, sydd, wrth gwrs, fel nifer o fudiadau eraill, yn wynebu trafferthion, yn aml efallai am fod eu safleoedd nhw, sydd yn ffynhonnell refeniw, wedi gorfod cau, hefyd aelodaeth yn dioddef yn sgil y ffaith, wrth gwrs, fod unigolion yn penderfynu torri nôl oherwydd sefyllfa yr economi ehangach. Ond mae'r cyrff a'r mudiadau amgylcheddol yma yn bartneriaid cyflawni, yn delivery partners, pwysig iawn i Lywodraeth Cymru pan fo'n dod i ystod eang o brojectau a rhaglenni sy'n ymwneud â mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, wrth gwrs, a'r argyfwng bioamrywiaeth sydd gennym ni yng Nghymru. Ond mae'n dod yn fwyfwy anodd i'r cyrff yna, oherwydd colli ariannu craidd, yn fwy na dim byd, i allu chwarae rhan lawn yn y gwaith yna.
A dwi eisiau gwybod beth rŷch chi'n ei wneud yn benodol o safbwynt y sector amgylcheddol wirfoddol, oherwydd os ydyn ni'n sôn am gael adferiad gwyrdd, wel mi fyddwn ni'n cychwyn o fan ymhellach yn ôl nag y bydden ni'n dymuno, oni bai, wrth gwrs, fod nifer o'r cyrff yma yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw.
Rwy'n ddiolchgar i Llyr Gruffydd am y pwyslais penodol yna ar y trydydd sector amgylcheddol, gan gydnabod hefyd wrth gwrs ein bod ni, yn ogystal â mynd i'r afael â coronafeirws ac ymateb iddo, wedi cael y llifogydd hefyd. Ac mae hynny, wrth gwrs, wedi cael effaith amgylcheddol enfawr, a chododd y trydydd sector, eto—a'r gwirfoddolwyr—i ymateb i hynny. Ond rwy'n credu bod y £24 miliwn i gefnogi sector gwirfoddol Cymru wedi cyrraedd cynifer o'r elusennau hynny—nid dim ond y rhai sydd efallai'n canolbwyntio mwy ar iechyd, gofal cymdeithasol a thai, ond hefyd y rhai yn y sector amgylcheddol. Mae gennym ni gronfa cadernid y trydydd sector—£1 filiwn—sy'n helpu sefydliadau trydydd sector yn ariannol drwy'r argyfwng. Ac rwy'n credu bod hwnnw'n bwynt allweddol yr ydych chi'n ei wneud, y rhai sydd efallai hefyd wedi gweld—mae llawer wedi gweld gostyngiad i'r gallu i godi arian, incwm o roddion. Yn wir, mae'r gronfa hyd yma wedi cynorthwyo 112 o sefydliadau, gyda dyfarniadau gwerth cyfanswm o £4.63 miliwn. A byddaf yn cael gwybodaeth benodol am faint o'r rheini sydd yn y sector amgylcheddol, oherwydd rwy'n credu mai dyna'r rhai y mae angen i ni eu gweld yn ein symud ni ymlaen, o ran eu gwaith hollbwysig, yn enwedig o ran mynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd.
Ond rwy'n credu hefyd bod ein cronfa adfer gwasanaethau sector gwirfoddol yn ymwneud â sut y gallwn ni symud ymlaen, gan ganolbwyntio ar leihau anghydraddoldebau ar draws cymdeithas o ganlyniad i COVID-19, a llawer o gymunedau yn dioddef yn anghymesur. Eu galluogi i edrych ymlaen o ran adferiad yw diben y gronfa honno, sydd hefyd yn cynorthwyo llawer o sefydliadau ledled Cymru.
4. A wnaiff y Dirprwy Weinidog ddatganiad am effaith pandemig y coronafeirws ar y gymuned Sipsiwn a Theithwyr? OQ55880
Rydym ni wedi gweithio i gynorthwyo cymunedau Sipsiwn a Theithwyr yn ystod y pandemig i fynd i'r afael â materion yn ymwneud â chyflogaeth, addysg, allgáu digidol, gofal iechyd, darpariaeth cyfleustodau a chyfathrebu.
Mae'r adroddiad diweddaraf ar effaith COVID ar y gymuned Romani a Theithwyr y mis hwn, o'r enw 'Moving for Change', yn tynnu sylw at ddioddefaint y gymuned hon, gan mai teuluoedd incwm isel ydyn nhw yn bennaf sy'n dibynnu'n drwm ar waith ym maes adeiladu—ar safleoedd adeiladu yn ogystal ag ar gartrefi pobl, gwneud gwaith atgyweirio toeau, gosod tarmac, a garddio tirlun, ac ati. Wrth gwrs, nid nhw yw'r unig gymuned hunangyflogedig sydd wedi dioddef yn ariannol—mae gyrwyr tacsi, cerddorion a gweithwyr theatr yn wynebu ansefydlogrwydd tebyg, a dweud y gwir, gan mai dim ond y rhai sydd mewn cyflogaeth sydd wedi bod yn gymwys ar gyfer y cynllun cadw swyddi. Hefyd, mae lefelau llythrennedd isel a chysylltedd rhyngrwyd gwael ar safleoedd Teithwyr yn ei gwneud yn anodd iawn i'r gymuned Sipsiwn a Theithwyr ddeall yr hyn y gallen nhw fod yn gymwys i'w dderbyn o ran cymorth hunangyflogedig o gronfa cadernid economaidd Llywodraeth Cymru. Beth mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud i estyn allan at y gymuned hon sydd ymhlith y mwyaf difreintiedig?
Diolchaf i Jenny Rathbone am y cwestiwn yna. Ac rwy'n croesawu adroddiad y Cwmni Diwylliannol a Chelfyddydau Romani, 'The impact of the novel coronavirus pandemic upon Romani and Traveller communities in Wales 2020', a llawer o wybodaeth ac argymhellion o'r adroddiad hwnnw yr ydym ni'n eu hystyried erbyn hyn, ochr yn ochr â thystiolaeth arall, i lywio gwaith—sy'n berthnasol iawn hefyd i'n cynllun gweithredu ar gydraddoldeb hiliol.
Felly, rydym ni'n bwriadu nawr—ariannwyd y Cwmni Diwylliannol a Chelfyddydau Romani gennym i ymgysylltu yn fwy â'r gymuned i gynorthwyo datblygiad y cynllun ac i wneud yn siŵr ein bod ni'n ymgysylltu â safbwyntiau'r gymuned. Ond rwy'n credu bod Llywodraeth Cymru yn parhau i ariannu'r prosiect Teithio Ymlaen i ddarparu amrywiaeth o wasanaethau i gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr yng Nghymru yn hanfodol. Ac maen nhw wedi helpu'r rhai mewn hunangyflogaeth i gael mynediad at gynlluniau Llywodraeth y DU, gan gynnwys y cynllun cymorth incwm hunangyflogaeth coronafeirws, a hefyd y rhai sy'n wynebu caledi ariannol eithafol, yr ydych chi'n ei gydnabod, wrth gwrs, yn y gymuned honno. Mae'r cynghorwyr wedi cynorthwyo i gwblhau ceisiadau i'r gronfa cymorth dewisol, a ddisgrifiwyd yn gynharach, wrth gwrs, gan y Prif Weinidog. Ac rydym ni wedi sicrhau bod y rhai sydd â'r arbenigedd a'r mynediad at gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn ymgysylltu â nhw.
Ond rwy'n falch iawn hefyd ein bod ni wedi ariannu, drwy gronfa argyfwng y gwasanaethau gwirfoddol, linell gymorth i ddarparu man cyswllt cyntaf hygyrch ar gyfer gwybodaeth—llinell gymorth COVID-19 BAME—ar amrywiaeth o faterion, gan gynnwys cyflogaeth a lles, addysg, tai, diogelwch personol a materion iechyd. Ac, wrth gwrs, y byddwn hefyd—yn cysylltu â chymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr i wneud yn siŵr bod awdurdodau lleol hefyd yn cymryd eu cyfrifoldebau o ddifrif o ran mynediad at ddysgu ac, yn wir, gwelliannau i sicrhau bod band eang ar gael.
Mae cwestiwn 5 [OQ55873] wedi ei dynnu yn ôl. Felly, diolch i'r Dirprwy Weinidog.
Y datganiad a chyhoeddiad busnes sydd nesaf, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hwnnw—Rebecca Evans.
Diolch, Llywydd. Mae gennyf i un newid i fusnes yr wythnos hon: bydd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru yn gwneud datganiad llafar am Tata Steel yn syth ar ôl y datganiad a chyhoeddiad busnes hwn. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi ar y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau'n electronig.
Diolch am eich datganiad busnes, Trefnydd. A gaf i alw am ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar ddeintyddiaeth yng Nghymru. Efallai eich bod chi'n ymwybodol y bydd nifer o bractisau deintyddol a weithredir gan BUPA yn cau y flwyddyn nesaf, o ganlyniad i gyhoeddiad a wnaed gan y cwmni hwnnw yn y gogledd. Bydd hynny'n effeithio ar tua 10,000 o bobl yn fy etholaeth i fy hun sy'n dibynnu ar bractis BUPA ym Mae Colwyn, ac, fel y gwyddoch chi, mae eisoes prinder deintyddion y GIG lle mae modd ceisio cofrestru â nhw fel dewis amgen. Rwy'n pryderu'n fawr ynghylch y sefyllfa hon, a hoffwn i weld Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i gynnig ateb i'r bobl benodol hyn yn fy etholaeth i fy hun ac, yn wir, y rhai sydd wedi'u heffeithio mewn mannau eraill yn ardal Caernarfon, yn ôl a ddeallaf i. Felly, a gawn ni ddatganiad ar y mater pwysig iawn hwn? Diolch.
Diolch i Darren Millar am godi'r mater hwn. Yn y lle cyntaf, rwy'n credu y byddaf i'n gofyn i'r Gweinidog Iechyd ofyn i'w swyddogion gysylltu â'r bwrdd iechyd yn y gogledd i ddeall y sefyllfa'n well, gyda'r bwriad o roi'r wybodaeth ddiweddaraf iddo maes o law.
Cyn imi godi materion o dan y datganiad busnes heddiw, hoffwn i fanteisio ar y cyfle hwn i gywiro'r Cofnod. Yr wythnos diwethaf, pleidleisiais i mewn camgymeriad yn erbyn y cynnig ar y cyd ar Ddiwrnod y Cadoediad, ac roeddwn i wedi bwriadu ymatal ar y cynnig fel yr oedd wedi'i gyflwyno, er mwyn pleidleisio ar welliant Plaid Cymru. Er fy mod yn deall nad oes modd newid y bleidlais yn ôl-weithredol, rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfle hwn, Llywydd, i gywiro'r Cofnod.
Gwyddom y gall ôl-effeithiau COVID hir adael pobl yn ddi-anadl, yn llesg, yn methu canolbwyntio ac mewn poen. Canfu astudiaeth gan King's College Llundain fod pobl hŷn, menywod a phobl sy'n cael nifer o symptomau gwahanol pan oedd ganddynt glefyd corafeirws yn fwy tebygol o ddatblygu COVID hir. Yn gynharach yr wythnos hon, cyhoeddodd y Llywodraeth yn Lloegr gynlluniau i sefydlu mwy na 40 o glinigau arbenigol i ymdrin â COVID hir. A gawn ni ddatganiad gan y Llywodraeth am ymateb Cymru i fynd i'r afael â'r cyflwr gwanychol hwn? A fydd gwasanaethau a chlinigau adsefydlu'n cael eu sefydlu yma i drin pobl a'u helpu i ddychwelyd at fywyd mor normal â phosibl? Sut yr ydym ni'n mynd i gyfrannu at ymchwil ar hyn? Beth yw'r strategaeth yng Nghymru i ymdrin â COVID hir?
Wel, byddai Leanne Wood wedi clywed y Prif Weinidog, mewn ymateb i gwestiwn gan David Melding yn gynharach, yn sôn am yr heriau sy'n gysylltiedig â COVID hir, yn enwedig yn etholaeth y Rhondda, a'r angen i sicrhau bod yr unigolion sydd wedi'u heffeithio yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt. Byddaf i'n bendant yn sicrhau bod y Gweinidog Iechyd yn ymwybodol o'ch pryder am hyn a'ch cais am ddatganiad yn benodol ar COVID hir, a gwn i y bydd e'n ystyried pryd fyddai orau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd am sut y cefnogir unigolion yr effeithiwyd arnynt.FootnoteLink
Hoffwn i ofyn am ddatganiad llafar gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar ymweliadau â chartrefi gofal. Yr oeddwn i'n ddiolchgar iawn i'r Dirprwy Weinidog a'r Gweinidog iechyd meddwl am fod yn bresennol yn y grŵp trawsbleidiol ar ddementia a gafodd ei gynnal gennym ni'n ddiweddar a lle'r oeddem ni'n canolbwyntio ar y mater hwn, ond rwy'n siŵr y byddai'r ddau'n cytuno â mi fod y dystiolaeth y gwnaethom ni ei glywed, o ran effaith cyfyngiadau ar ymweld, gan y rhai sy'n byw gyda dementia yn gwbl dorcalonnus . Rwy'n siŵr y byddai Aelodau eraill, fel fi, yn awyddus iawn i archwilio, ar lawr y Siambr, botensial profion llif unffordd cyflym newydd i ddarparu ymweliadau diogel â chartrefi gofal. Nawr, rwyf i mor awyddus ag unrhyw un i weld myfyrwyr yn dod adref ar gyfer y Nadolig, ond rwy'n credu, mewn gwirionedd, fod yn rhaid i ddarparu ymweliadau diogel â chartrefi gofal fod yn brif flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru.
Wel, yn wir mae'n gyfnod eithriadol o anodd i bobl sydd ag anwyliaid mewn cartrefi gofal a chartrefi nyrsio ac, yn wir, i'r bobl hynny mewn lleoliadau nad oes modd iddyn nhw weld teulu a'r ffrindiau y maent yn eu caru. Felly, mae hynny'n gwbl ddealladwy. Ac mae'r angen i gydbwyso hawliau pobl a chefnogi eu lles gydag awydd i ddiogelu pobl sy'n byw mewn cartrefi gofal rhag y risg o haint yn un heriol iawn.
Mewn ymateb i gais tebyg gan Lynne Neagle ac eraill, yr wythnos cyn diwethaf darparodd y Gweinidog ddatganiad ysgrifenedig a oedd yn ymwneud â'r gwaith sy'n canolbwyntio ar gartrefi gofal. Ac yn benodol, soniodd am y ffaith ein bod ni'n ystyried ystod o ddewisiadau i gefnogi darparwyr i alluogi'r dewisiadau ymweld hynny sydd wedi cael asesiad risg, gan gynnwys, er enghraifft, man cyfarfod drwy'r podiau ymweld hynny ac ati, a hefyd, wrth gwrs, dreialu'r profion cyflym i ymwelwyr. Felly, fel y dywedais i, rydym wedi cael y datganiad ysgrifenedig yn ddiweddar, ond rwy'n ymwybodol nawr bod Lynne Neagle yn awyddus iawn i gael y cyfle i glywed datganiad llafar ac i ofyn cwestiynau am hynny ac, unwaith eto, byddaf i'n sicrhau bod hynny'n cael ei ystyried yn briodol.
Trefnydd, hoffwn i alw am ddatganiad gan y Gweinidog Tai ynglŷn â digartrefedd yn ystod y pandemig. Ychydig fisoedd yn ôl, dywedodd y Gweinidog fod gan Lywodraeth Cymru ymrwymiad i roi terfyn ar gysgu ar y stryd a sicrhau bod llety brys ar gael—cam yr oeddwn i a llawer o rai eraill yn ei groesawu ar y pryd. Fodd bynnag, wrth i'r pandemig barhau i fynd rhagddo, rydym unwaith eto yn gweld niferoedd cynyddol o bobl yn cael eu gorfodi i gysgu mewn drysau siopau, y tu ôl i finiau neu ar ystadau diwydiannol. Ac yn ystod yr wythnosau diwethaf rwyf i wedi cael nifer o bobl o'r fath yn dod i fy swyddfa ranbarthol â thaer angen help arnynt. Dim ond y penwythnos hwn, gwelais o leiaf dri o bobl yn cysgu ar y stryd. Ar ddechrau misoedd y gaeaf, â COVID-19 ar gynnydd, mae'n bwysicach nag erioed ein bod yn dod o hyd i lety i'r rhai sy'n cael eu hunain heb do dros eu pen a heb unman i arfer hylendid dwylo da. Felly, Trefnydd, byddwn i'n ddiolchgar pe gallech ofyn i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wneud datganiad brys i'r Senedd hon am y camau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd yn ystod y misoedd nesaf i roi terfyn ar gysgu ar y stryd unwaith ac am byth. Diolch, Llywydd.
Diolch am y cyfle i roi sylwadau byr ar y gwaith y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ei wneud i sicrhau y gall pobl ddod oddi ar y strydoedd yn ystod y pandemig coronafeirws. Mae'r gwaith sydd wedi'i wneud gan Lywodraeth Cymru ochr yn ochr â phartneriaid mewn awdurdodau lleol a'r trydydd sector wedi bod yn gwbl anhygoel o ran sicrhau bod pobl yn gallu dod oddi ar y stryd ar hyn o bryd. Ond y cam nesaf, wrth gwrs, yw sicrhau y gall pobl fynd ymlaen i'r hyn y mae ein Gweinidog Tai yn ei alw'n 'gartref am byth', ac rwy'n credu y bydd y gwaith hwnnw'n hynod bwysig, yn ogystal â sicrhau na fydd pobl yn dychwelyd i'r strydoedd dros gyfnod y Nadolig. O ran pryd y byddai'r cyfle nesaf i glywed ynghylch hynny, hoffwn i dynnu sylw at y ffaith bod cwestiwn i'r Gweinidog Tai ynghylch cysgu ar y stryd yn cael ei ofyn yfory yn y Siambr, felly gallai hynny fod yn gyfle cynnar i glywed am y cynlluniau nesaf.
Trefnydd, tybed a gawn ni'r wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog Iechyd ynghylch darpariaeth gofal critigol, yn benodol yn y de-ddwyrain. Heddiw, cafodd agoriad hirddisgwyliedig Ysbyty Prifysgol y Faenor newydd yng Nghwmbrân ei hysbysebu'n dda. Gobeithio y gwnaiff hyn drawsnewid gofal critigol ac arbenigol yn y de-ddwyrain. Mae'n wir dweud ei fod yn adeilad newydd gwych, yn gyfleuster newydd, ond mae yna faterion y mae angen eu datrys. Mae rhai gweithwyr y GIG wedi ymddiried ynof eu bod nhw'n ofni bod prinder staff yn yr ysbyty. Mae yno oddeutu 471 o welyau a llawer o ystafelloedd preifat, sy'n wych ar yr wyneb ond, wrth gwrs, yna mae angen mwy o staff neu staff nyrsio nag y byddech chi gyda wardiau traddodiadol. Felly, a gawn ni'r diweddaraf gan Lywodraeth Cymru am yr hyn sy'n cael ei wneud i recriwtio mwy o staff i gyfleusterau newydd fel Ysbyty Prifysgol y Faenor?
Diolch i Nick Ramsay am godi'r pryder hwnnw, a byddwch chi wedi clywed y Prif Weinidog yn ymateb i fater tebyg iawn a gododd yn ystod cwestiynau'r Prif Weinidog y prynhawn yma. Wrth gwrs, mae ysbyty'r Faenor yn ysbyty o'r radd flaenaf gyda chyfleusterau sy'n ddelfrydol ar gyfer rheoli cleifion sydd â COVID a'r rheini heb COVID, ac wrth gwrs mae llawer o ystafelloedd ynysu yno i atal lledaeniad ac yn y blaen. Felly, fel y dywed Nick Ramsay, mae'n gyfleuster rhagorol. Rydym ni'n fodlon bod y bwrdd iechyd wedi trafod y cynlluniau i agor yr ysbyty gyda chydweithwyr clinigol, gan gynnwys efallai'r cyd-weithwyr hynny sydd wedi bod mewn cysylltiad uniongyrchol â chi. Ond, wrth gwrs, mae'n iawn ac yn briodol codi unrhyw bryderon sydd gan bobl a bod yn rhaid i bawb gydweithio i sicrhau bod y risgiau hynny'n cael eu lleihau. Felly, fe fyddwn i'n gwahodd Nick Ramsay i anfon y pryderon a godwyd gydag ef yn ddienw at y Gweinidog Iechyd fel y gall ef eu hystyried nhw a sicrhau bod y pryderon hynny yna'n cael eu codi'n uniongyrchol gyda'r bwrdd iechyd.
A gaf i ofyn am ddatganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ynglyn â phenderfyniad y Llywodraeth i dorri'r gefnogaeth mae wedi bod yn ei darparu ar gyfer y sector ynni hydro yng Nghymru. Mae'n rhaid i mi ddweud, mae yn bisâr fod gennym ni ar un llaw Lywodraeth sy'n dweud eu bod nhw eisiau tyfu cynhyrchiant ynni adnewyddadwy yng Nghymru, ond ar y llaw arall yn torri'r gefnogaeth sy'n cael ei darparu i'r sector ynni hydro—yn wir, yn tynnu'r mat o dan draed y sector, yn gadael, mae'n debyg nawr, rai o'r prosiectau hynny i fod yn anghynaladwy. Dwi'n gwybod am o leiaf un sy'n wynebu cynnydd o 1,000 y cant yn y trethi busnes maen nhw'n mynd i orfod eu talu. Mi wnaeth y sector gynnig cyfaddawd, a'r Llywodraeth i bob pwrpas yn anwybyddu hynny. Mae'r Llywodraeth hefyd wedi anwybyddu argymhellion wnaethpwyd mewn adroddiad a gomisiynwyd gan y Llywodraeth eu hunain, oedd yn cynnig datrysiad tymor hir i'r sefyllfa. Mae cyfathrebu gyda'r sector wedi bod yn eithriadol o sâl, nifer yn teimlo eich bod chi wedi claddu eich pennau yn y tywod, yn sicr wedi troi cefn arnyn nhw. Felly, mae angen datganiad arnom ni i geisio deall rhesymeg y Llywodraeth y tu ôl i'r penderfyniad hyn, sydd yn ymddangos yn benderfyniad neu'n gam gwag fydd yn gwneud dim byd ond tanseilio'r ymdrech i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd.
At hynny, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Weinidog yr Amgylchedd a Materion Gwledig ynghylch bwriad Llywodraeth y DU i ddiwygio rhyddhad bragdai bach. Nawr, ar hyn o bryd mae bragdai bach, y mae gennym ni lawer iawn ohonyn nhw yma yng Nghymru—y rhai sy'n cynhyrchu llai na 5,000 o hectolitrau y flwyddyn—yn cael gostyngiad o 50 y cant yn y dreth y maen nhw’n ei thalu, ond mae Llywodraeth y DU yn bwriadu diwygio hynny, gan leihau'r trothwy'n sylweddol, gan effeithio'n ddifrifol ar y rhan fwyaf o fragdai yma yng Nghymru. Rwyf wedi codi hyn o'r blaen yn y pwyllgor ac yma yn y Siambr. Dywedodd y Gweinidog nad oedd yn ymwybodol o'r mater ond y byddai'n gwirio a yw'r Llywodraeth wedi cyflwyno unrhyw sylwadau. Ysgrifennodd hi ataf wedyn yn dweud nad yw'r Llywodraeth wedi gwneud hynny gan nad yw'n fater sydd wedi'i ddatganoli, ac felly ni fyddai Llywodraeth Cymru yn mynd ar drywydd hyn. Nawr, mae hynny'n gwrthgyferbynnu'n llwyr ag agwedd Llywodraeth yr Alban, sydd wedi gwneud ymdrech ar y cyd i gyflwyno sylwadau ar ran y bragdai bach yno. Felly, mae Llywodraeth yr Alban wedi bod yn rhagweithiol; mae Llywodraeth Cymru yn eistedd yn ôl ac yn dweud, 'Nid ein problem ni yw hon.' Nawr, mae bragdai bach yn un o'r llwyddiannau sydd gennym ni o ran twf y sector, a bydd llawer o hynny'n cael ei ddadwneud os caiff y trothwy treth hwn ei leihau. Rwy'n erfyn ar y Llywodraeth i wneud rhywbeth yn ei gylch ac rwyf eisiau clywed beth yn union yw cynlluniau'r Gweinidog.
Felly, ar y mater cyntaf, wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cefnogaeth sylweddol i'r sector dŵr, ond byddwch chi'n ymwybodol, wrth gwrs, fod ein cefnogaeth yn canolbwyntio'n fawr ar gynlluniau ynni dŵr sydd wedi'u harwain gan y gymuned. Rwy'n nodi bod gennych chi gwestiwn i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ar ynni adnewyddadwy yfory, felly gallai hynny fod yn gyfle i godi hynny, neu rwy'n siŵr y byddwch chi'n ysgrifennu at y Gweinidog i godi'r pryderon hynny ar ran y sector hefyd.
Yn bersonol, rwy'n rhannu pryder Llyr am y rhyddhad i fragdai bach. Yn sicr, rwyf wedi codi hynny fel Aelod etholaethol gyda Llywodraeth y DU ar ran y bragdy Gŵyr rhyfeddol sydd gennym ni—bu'n rhaid imi fanteisio ar y cyfle i ychwanegu hynny. Ond byddaf i'n siarad â'r Gweinidog ar y mater penodol hwn, oherwydd mae ein bragdai bach yn arbennig o bwysig i lawer o'n cymunedau.
Gweinidog, a gawn ni ddadl ar y galw ledled Cymru ac, yn wir, ledled y DU, ar Lywodraeth y DU i ddatblygu ymgyrch defnyddio budd-daliadau ar draws y DU i sicrhau bod pawb sydd â hawl i gael cymorth ariannol yn ei gael mewn gwirionedd, yn enwedig wrth i'r dirywiad daro ein teuluoedd incwm isaf a'n cymunedau difreintiedig. Hefyd, a fyddai modd inni wneud y cynnydd dros dro cyfredol o £20 yr wythnos ar gyfer credyd cynhwysol yn barhaol a'i ymestyn ar draws y budd-daliadau newydd a fydd yn disodli credyd cynhwysol yn y dyfodol agos? Mae'n sicr bod hwn yn rhwymedigaeth foesol, felly gadewch inni ddangos ble mae'r Senedd yn sefyll ar y mater hwn.
Ac, yn yr un modd, a gawn ni ddadl hefyd ar yr ymgyrch flynyddol ar gyflogau byw gwirioneddol, a ddechreuodd yr wythnos diwethaf, ac ymgyrch Dinasyddion Cymru i dalu'r cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal? Eto, byddai'n caniatáu i'r Aelodau yn y fan hon ddangos eu cefnogaeth i hyn mewn egwyddor, ond gan hefyd gydnabod—mae COVID yn sicr wedi dangos hyn i ni—mai'r gweithwyr cyflog isel hynny sydd fwyaf gwerthfawr mewn gwirionedd, y rhai sy'n gofalu am ein cyfeillion a'n teulu, sy'n llenwi'r silffoedd, yn dosbarthu ein nwyddau, yn gweithio ar lawr y siop ac ar lawr y ffatri. Y nhw yw'r rhai sy'n haeddu ac sydd angen y cyflog byw gwirioneddol.
Llywydd, yn olaf, ar bwnc gwahanol iawn, mae darparwyr cyfleusterau diwylliannol yn fy ardal i wedi gofyn a gawn ni ddatganiad sy'n esbonio pam mae'n rhaid i ganolfannau celfyddydol a theatrau fel adeiladau yn eu cyfanrwydd aros ar gau? Oherwydd mae’r theatrau hyn yn fwy na mannau perfformio yn unig; maent yn darparu lle ar gyfer gweithdai, dosbarthiadau, cyfarfodydd, gwasanaethau addysgol, ac yn cael eu gweithredu a'u rheoleiddio'n broffesiynol a gallant fodloni gofynion diogelwch. Felly, gallai datganiad helpu i egluro y gall y lleoedd hyn, y cyfleusterau hyn, agor, yn amodol ar weithgarwch wedi’i reoleiddio ac nad yw'n ymwneud â'r enw 'theatr' neu 'leoliad diwylliannol' neu 'fan perfformio'. Byddai hyn yn help mawr. Diolch, Trefnydd.
Diolch i chi am gyflwyno tri mater gwirioneddol bwysig y prynhawn yma. Roedd y cyntaf yn ymwneud â phwysigrwydd sicrhau bod pawb yn cael yr holl gymorth ariannol y mae ganddynt yr hawl iddo, ac mae manteisio i'r eithaf ar fudd-daliadau lles yn un o'n meysydd gweithredu pwysig ar hyn o bryd. Drwy ein cyllid ein hunain, rydym yn sicr yn gwneud gwahaniaeth mawr yn y maes hwn. Rhwng mis Ionawr a mis Medi eleni, mae'r gwasanaethau cynghori ar fudd-daliadau sy'n cael ei ddarparu drwy gronfa gyngor sengl Llywodraeth Cymru wedi helpu aelwydydd ledled Cymru i hawlio dros £20 miliwn o incwm budd-dal lles ychwanegol. A gadewch inni gofio, mae hynny'n £20 miliwn o gyllid sydd wedyn bron yn sicr yn cael ei ailfuddsoddi mewn cymunedau lleol hefyd. Mae'n gwbl wir, serch hynny, fod angen i'r Adran Gwaith a Phensiynau wneud mwy, ac mae llythyr ar y cyd nawr wedi'i anfon at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau, ac wedi'i lofnodi gan Weinidogion o Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, yn galw arnynt i gael dull gweithredu mwy strategol ar gyfer budd-daliadau lles, ac rwy'n credu bod honno'n ymgyrch bwysig y gallwn ni i gyd ei chefnogi. Ac, wrth gwrs, roedd y cyflog byw gwirioneddol yn rhywbeth y siaradodd y Prif Weinidog yn angerddol yn ei gylch yn ystod cwestiynau'r Prif Weinidog y prynhawn yma, ac fe wnaeth ef noddi'r digwyddiad hwnnw yn ddiweddar yn y Senedd wrth gwrs. Cyfeiriodd at y gwaith yr ydym ni'n ei wneud i sicrhau bod y contract economaidd, er enghraifft, yn ystyried hynny i gyd, a'r gwaith yr arweiniodd ef arno yn bersonol i sicrhau bod y GIG yn gyflogwr cyflog byw gwirioneddol hefyd. Felly, rwy'n credu ein bod ni'n gwneud llawer o gynnydd yn y maes hwnnw, ond mae llawer eto i'w wneud.
Ac yna, yn olaf, rydym wedi dechrau'r broses o ganiatáu i theatrau ailagor gyda chapasiti cyfyngedig, a diwygiwyd ein canllawiau erbyn hyn i ganiatáu i theatrau ailagor yn y safleoedd hynny os ydynt yn ceisio darlledu heb gynulleidfa yn bresennol, neu ar gyfer ymarfer hefyd. Ein disgwyliad yw y bydd disgwyl i ddigwyddiadau—digwyddiadau'n fwy cyffredinol—allu ailddechrau yn y gwanwyn. Felly, bydd angen i'r gronfa adferiad diwylliannol gwerth £63 miliwn fod yno i gefnogi'r sector a sicrhau'r cynaliadwyedd hirdymor yn y cyfamser. Ond, yng ngoleuni'r cyd-destun iechyd cyhoeddus ehangach, mae'n ofynnol i theatrau a neuaddau cyngerdd aros ar gau i'r cyhoedd, a chafodd ein rhaglen o ddigwyddiadau prawf ei gohirio. Felly dyna, yn anffodus, yw'r sefyllfa ar hyn o bryd, a dyna pam mae'n bwysig iawn ein bod yn rhoi'r gronfa adfer honno ar waith.
A wnaiff y Llywodraeth roi datganiad ynghylch pam mae niferoedd lawer o goed aeddfed ac iach yn cael eu torri i lawr ar ymylon ein cefnffyrdd? Ac, yn y datganiad hwnnw, a fyddai modd inni ganfod pwy sydd wedi awdurdodi'r ymyriadau dinistriol hyn? Mae enghraifft eithafol yn digwydd wrth inni siarad ar ffordd osgoi Cwmbrân, yr A4042.
Mae'n hysbys bod coed yn elfen eithriadol o bwysig wrth fynd i'r afael â newid hinsawdd, gan eu bod yn amsugno llawer iawn o garbon deuocsid. Mae eu lleoliad ar ymylon y ffyrdd yng Nghymru yn eu gwneud yn arbennig o effeithlon yn y broses hon, heb sôn am eu rhinweddau pwysig yn amsugno sain.
Gweinidog, mae hyd yn oed archwiliad sydyn o'r coed hyn yn dangos eu bod yn aeddfed ac yn iach ac, felly, nad oeddent yn achosi unrhyw berygl diogelwch penodol. Felly, a gawn ni ddatganiad yn esbonio pam mae Llywodraeth sydd i fod yn ymrwymedig i Gymru ddi-garbon yn caniatáu, o bosibl yn awdurdodi, yr arfer dinistriol hwn i'r amgylchedd?
Wel, nid wyf i'n gyfarwydd â'r coed penodol na'r darn o ffordd y mae David Rowlands yn cyfeirio atyn nhw ar hyn o bryd. Felly, byddwn yn ei wahodd i ysgrifennu at y Gweinidog Trafnidiaeth yn y lle cyntaf, gan ddisgrifio ei bryderon, fel y gall y Gweinidog ymchwilio i'r mater a rhoi ymateb manylach iddo.
Diolch i'r Trefnydd. Felly, yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, byddwn yn awr yn cael toriad bach er mwyn gwneud newidiadau yn y Siambr. Diolch yn fawr.
Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 15:01.
Ailymgynullodd y Senedd am 15:11, gyda'r Dirprwy Lywydd (Ann Jones) yn y Gadair.
Felly, rydym ni'n ailgynnull trafodion y Cyfarfod Llawn y prynhawn yma gydag eitem 3, sef datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru ynghylch Tata Steel. Rwy'n galw ar Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Ar ddydd Gwener 13 Tachwedd, fe gyhoeddodd Tata Steel ei fod wedi cychwyn trafodaethau gyda SSAB Sweden ynghylch caffael gweithfeydd Tata Steel yn yr Iseldiroedd gan gynnwys, wrth gwrs, waith dur IJmuiden. Hefyd, mae'r cwmni wedi cychwyn proses i wahanu busnes Tata Steel yn yr Iseldiroedd a busnes yn y DU yn y dyfodol. Yn hollbwysig, fe eglurodd Tata Steel hefyd ei fod am adolygu'r holl ddewisiadau i wneud y busnes yn hunangynhaliol heb fod angen unrhyw gymorth ariannol oddi wrth Tata Steel India yn y dyfodol. Fe fydd yr ansicrwydd ynghylch beth a olygir gan hyn yn y pen draw i'r busnes yn y DU yn siŵr o fod yn achos pryder mawr i'r 8,000 o weithwyr sydd gan Tata Steel ledled y DU yn ogystal â'u teuluoedd nhw, y cymunedau lleol a'r niferoedd uchel sy'n gysylltiedig â chadwyn gyflenwi'r cwmni.
Fe siaradodd y Prif Weinidog a minnau ddydd Gwener gyda Dr Henrik Adam, prif swyddog gweithredol Tata Steel Europe. Fe eglurodd Dr Adam fod Tata Steel yn benderfynol o ddiogelu dyfodol sy'n gynaliadwy i'w weithrediadau yma yn y DU a diogelu'r gweithlu. Fe eglurodd Dr Adam hefyd fod creu cwmni ar gyfer y DU yn unig yn dynodi trobwynt tyngedfennol i'r busnes.
Nawr, bydd raid inni fanteisio ar y cyfle hwn i greu cartref sy'n gynaliadwy, diogel a llwyddiannus i Tata Steel yma yng Nghymru, un sy'n cyd-fynd â'n dyheadau ni o ran carbon isel, un sy'n wirioneddol gymwys i'r dyfodol ac yn sicrhau ein bod ni'n cynnal ein sector dur ni sy'n gynhenid yma yng Nghymru a'r DU ar gyfer yr hirdymor. Mae cefnogaeth sylweddol yn angenrheidiol, a buddsoddi yn arbennig, ond rydym ni'n glir y gall y diwydiant dur yng Nghymru, gyda'r amodau priodol yn y farchnad fewnol, fod â dyfodol cynaliadwy a llwyddiannus iddo.
Rwy'n ymwybodol fod pryderon penodol ynghylch y gwahanu oddi wrth waith Tata Steel yn IJmuiden, a fydd yn golygu y bydd Tata Steel UK yn colli'r defnydd a wneir o'r gwaith ymchwil a datblygu sy'n digwydd yn yr Iseldiroedd. Dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweld buddsoddiad sylweddol yn ein gallu o ran ymchwil a datblygu yma yng Nghymru sy'n gysylltiedig â'r sector dur. Mae mentrau fel y Sefydliad Dur a Metelau, SUSTAIN, FLEXIS ac ASTUTE yn golygu y gallwn adeiladu ar y wybodaeth arbenigol hon i ddatblygu ein galluoedd ymchwil a datblygu domestig ni ymhellach.
Mae pandemig COVID wedi codi cwestiynau pwysig o ran ein cydnerthedd economaidd, ac mae'n bryd nawr i sicrhau ein bod ni'n amddiffyn ein gallu i gynhyrchu dur yn yr hirdymor. Rydym wedi gweld pa mor bwysig yw bod gennym gadwyni gweithgynhyrchu a chyflenwi sy'n gryf, yn gydnerth ac yn lleol. Mae angen i'n sector dur ni fod wrth wraidd ein dyfodol carbon isel ni o ran adeiladau sy'n defnyddio ynni'n effeithlon, o ran ynni adnewyddadwy, cerbydau trydan carbon isel ac, wrth gwrs, adeiladu. Hefyd, rhaid peidio anghofio y gellir ailgylchu dur yn ddiddiwedd.
Mae'n hanfodol felly bod Llywodraeth y DU yn ymrwymo i gefnogaeth wirioneddol a sylweddol i Tata Steel a'r sector fel mater o frys—cymorth a fydd yn gwneud gwahaniaeth parhaol i'r sector ac yn sicrhau ei ddyfodol yn wirioneddol, nid papuro dros y craciau yn unig. Ac nid galwad newydd yw hon; mae'r sector wedi bod yn galw ar Lywodraeth y DU i weithredu mewn meysydd allweddol ers blynyddoedd lawer, gan gynnwys ynghylch prisiau ynni, ac i ddarparu pecyn effeithiol o gymorth o'r math a gafodd sectorau eraill drwy gytundebau penodol i'w sector nhw.
Felly, fe siaradais ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru ddydd Gwener, ac fe godais i'r mater ddoe gyda Gweinidog Busnes Llywodraeth y DU, Nadhim Zahawi AS. Rwyf wedi gofyn am gyfarfod hefyd gyda'r Ysgrifennydd Gwladol Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol. Mae Prif Weinidog Cymru wedi ysgrifennu at Brif Weinidog y DU eisoes ynglŷn â phwysigrwydd strategol Tata Steel, ac mae'n gobeithio cael trafodaeth gynnar gyda Phrif Weinidog y DU i drafod ceisio dyfodol sy'n gynaliadwy i'r cwmni. Gan Lywodraeth y DU yn unig y mae'r gallu i ddarparu'r raddfa o gymorth sy'n ofynnol bellach. Fe fyddai cymorth rhagweithiol a chyflym yn gamau pendant ar yr agenda lefelu am i fyny, ac yn dangos bod y DU yn gweithio dros Gymru yn y cyfnod tyngedfennol hwn.
Ar ben hynny, yn fy marn i, Dirprwy Lywydd, mae'n bwysig pwysleisio y byddai Brexit 'heb gytundeb' yn niweidiol iawn i sector dur y DU, ac felly mae'n hanfodol bod y DU yn sicrhau cytundeb masnach cynhwysfawr gyda'r UE gyda mynediad di-dariff i farchnadoedd yr UE. Y cytundeb masnach cynhwysfawr hwnnw gyda'r UE yw blaenoriaeth fwyaf unrhyw gytundeb masnach o ran cynhyrchwyr dur y DU. Yr UE yw'r farchnad allforio fwyaf o bell ffordd ar gyfer cwmnïau dur y DU a'u cwsmeriaid nhw yn y DU yn y sectorau gweithgynhyrchu. Mae'n hanfodol nad yw'r diwydiant dur yng Nghymru dan anfantais oherwydd rhwystrau masnach diangen fel tollau ychwanegol, tariffau, cwotâu neu rwystrau technegol i fasnachu.
Dirprwy Lywydd, mae gwariant sylweddol Llywodraeth y DU ar feysydd fel seilwaith yn golygu hefyd fod yna botensial enfawr o ran cyfleoedd i wneuthurwyr dur y DU. Byddai hynny'n helpu i ddiogelu swyddi mewn cwmnïau dur a'u cadwyni cyflenwi nhw, yn cadw gwerth ychwanegol gros yn ein heconomi ni, ac o bosibl yn lleihau allyriadau carbon drwy fyrhau'r cadwyni cyflenwi hyn. Fe fyddaf i'n ceisio cael trafodaethau pellach gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU a'r cwmni dros y dyddiau a'r wythnosau nesaf i gydweithio er mwyn sicrhau dyfodol gweithfeydd Tata Steel yn y DU ac yma yng Nghymru, ac fe allaf i sicrhau'r Aelodau y byddaf i'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf iddyn nhw ynglŷn â'r trafodaethau hynny.
Gweinidog, a gaf i ddiolch i chi am eich datganiad y prynhawn yma? Fe fyddwn innau'n cytuno bod penderfyniad Tata Steel i rannu busnesau'r DU a'r Iseldiroedd yn achos gofid mawr i weithwyr dur ledled Cymru, eu teuluoedd a'r cymunedau lleol a'r gadwyn gyflenwi ehangach. Hen beth annifyr yw ansicrwydd yn aml, ac rwy'n ofni ein bod ni wedi gweld digon o hynny yn ystod 2020, yn anffodus. Rwy'n ymwybodol ein bod ni'n defnyddio'r ieithwedd briodol o ran ein sgyrsiau ni ynglŷn â Tata, oherwydd yr hyn nad wyf i'n dymuno ei wneud—ac rwy'n siŵr y gallwn gytuno ar hynny, yw tanseilio gallu Tata ei hun i gyflwyno ei ddatrysiadau a'i alluoedd ei hunan.
Yn eich datganiad, rydych chi'n dweud eich bod o'r farn bod y diwydiant dur o bwysigrwydd strategol a bod iddo ddyfodol yng Nghymru a'r DU, ac fe fyddwn innau'n cytuno â hynny, ac rwy'n gobeithio'n ddiffuant eich bod chi'n iawn i ddweud hynny. Rydych chi'n dweud yn eich datganiad, Gweinidog, na fydd y gwaith ymchwil a datblygu a wneir yn yr Iseldiroedd ar gael i Tata Steel mwyach, ac rwy'n credu bod hwn yn fater sydd o bwys arbennig inni yma yng Nghymru. Tybed a wnewch chi ymhelaethu ar yr hyn a ddywedasoch y prynhawn yma o ran ein galluoedd ni yng Nghymru a'r DU, ond yn arbennig yng Nghymru, o ran cryfhau ein galluoedd ni ein hunain gydag ymchwil a datblygu. Pa arfau sydd gan Lywodraeth Cymru yn ei chist hi ei hun i sicrhau y gall cynhyrchu dur fod yn waith sy'n hunangynhaliol yma yng Nghymru? Tybed, Gweinidog, a wnewch chi amlinellu pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddefnyddio caffael cyhoeddus a buddsoddi i annog dulliau modern o adeiladu yma yng Nghymru.
Efallai y gwnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf hefyd am drafodaethau a gafodd Llywodraeth Cymru ynglŷn â chreu'r amgylchedd priodol i reoleiddio, sy'n diogelu'r gwaith cynhyrchu ledled Cymru a'r swyddi yn y gadwyn gyflenwi ehangach. At hynny, fe allai nod Llywodraeth Cymru o ddatgarboneiddio a'r amod o fod yn garbon niwtral ar gymhorthdal cyhoeddus erbyn 2050 drwy ddefnyddio ffwrneisi arc trydanol gael yr effaith o leihau nifer y staff sy'n angenrheidiol ar y safle ym Mhort Talbot. Felly sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflawni amcanion datgarboneiddio a diogelu bywoliaeth y bobl a gyflogir yn uniongyrchol yn y gadwyn gyflenwi ehangach ym Mhort Talbot? Yn olaf, efallai y byddai o gymorth hefyd pe byddech chi'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am unrhyw waith o ran diwygio ardrethi busnes a diwygio'r system ardrethi busnes a fydd yn helpu busnesau ledled Cymru yn y sector arbennig hwn.
A gaf i ddiolch i Russell George am ei gwestiynau ef? Rwy'n cytuno â'i ddatganiad cychwynnol, er y bydd hyn, yn amlwg, yn peri pryder—mae cyhoeddiad fel hyn bob amser yn arwain at ansicrwydd ac, felly, ansicrwydd—yn ystod y sgyrsiau a gawsom gyda Tata, mae'n gwbl glir i ni fod Tata yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i'r DU, ac yn gwbl benderfynol o drawsnewid eu hasedau nhw fel y bo'r angen i'w gwneud nhw'n gystadleuol ac ar gyfer diogelu'r swyddi a geir ar safleoedd Tata ledled y DU.
Rwy'n dyfalu y cawn ni brawf o'r ymrwymiad hwnnw cyn bo hir, yn y modd yr amlinellodd Russell George, gan ein bod ni'n gwybod, wrth iddyn nhw ddatgysylltu dwy ran o'r busnes a'u gwahanu nhw, y bydd cyfleusterau ymchwil a datblygu yn aros yn yr Iseldiroedd, ac felly hefyd rai o'r swyddogaethau sy'n cynnwys gwerthiannau, caffael a gwasanaethau digidol. Felly, fe fyddem ni'n disgwyl, fel rhan o wahanu'r cwmni, y bydd y galluoedd hynny'n cael eu hail-sefydlu yma yn y DU. Rwy'n credu y bydd symud tuag at ailsefydlu ymchwil a datblygu, gwerthu a chaffael yn arwydd clir gan Tata ei fod wedi ymrwymo'n llwyr i ddyfodol dur yn y Deyrnas Unedig.
Rwy'n credu bod Russell George yn gywir i nodi hefyd, er mai gan Lywodraeth y DU y mae'r swyddogaeth allweddol wrth estyn y cymorth angenrheidiol ar gyfer dur, ac ar gyfer Tata yn benodol yng nghyd-destun trafodaethau heddiw ar ddyfodol hyfyw, mae gan Lywodraeth Cymru swyddogaeth allweddol yn hyn hefyd. Rydym wedi cefnogi Tata ers blynyddoedd lawer, ers 2016, gan gynnig cymorth hanfodol o ran pecynnau hyfforddi sgiliau ac ymchwil a datblygu, ac mae'r cynigion hynny o gymorth yn parhau. Rydym wedi buddsoddi tua £11 miliwn, er enghraifft, mewn darparu hyfforddiant sgiliau, ac rydym wedi buddsoddi'n helaeth mewn cyfleusterau ymchwil a datblygu hefyd. Roeddwn i'n sôn am nifer ohonyn nhw yn fy natganiad i, ac fe fydd ymchwil a datblygu yn hollbwysig o ran ysgogi cystadleurwydd ac arloesedd y tu hwnt i rai o'r cyfleusterau ymchwil a datblygu sy'n benodol i'r sector dur y gwnaethom ni fuddsoddi ynddyn nhw. Rydym wedi buddsoddi mewn cyfleusterau gweithgynhyrchu sy'n ddibynnol ar y rhan sydd gan ddur yn y gadwyn gyflenwi hefyd—felly, dod â busnesau, yn enwedig busnesau bach, ynghyd yn y cyfleusterau ymchwil hynny, gan eu galluogi nhw i gydweithio, ac arloesi, a defnyddio cynhyrchion sy'n dod o deulu Tata Steel yn y DU. Fe allaf dynnu sylw at un enghraifft benodol: y Ganolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch ym Mrychdyn, dim ond tafliad carreg o waith Shotton.
O ran caffael, mae'r Aelodau yn ymwybodol mai Llywodraeth Cymru, i'r graddau y mae caffael yn y cwestiwn, oedd yr enw cyntaf ar siarter ddur y DU, sy'n ategu ein nodyn cyngor caffael cynharach ni, drwy annog prosiectau yng Nghymru i brynu dur o ansawdd da o Brydain ac elwa ar hynny lle bynnag y bo modd. Yn rhan o'n camau gweithredu ni i wella arferion caffael, yn ogystal â chydymffurfio â rheoliadau contractau cyhoeddus, rydym ni wedi rhoi offeryn cyfreithiol gorfodol ychwanegol ar waith yn ein holiadur cyn-cymhwyso tendr na fydd unrhyw ddur a gafodd ei ddympio—dim dur o gwbl a gafodd ei ddympio—yn cael ei ddefnyddio mewn unrhyw gontract a ddyfernir gan gyrff y sector cyhoeddus yng Nghymru. Ond fe fyddwn ni'n edrych, yn amlwg, tuag at Lywodraeth y DU i weld beth arall y gall ei wneud i sicrhau bod gan wneuthurwyr dur y DU bob cyfle i fod yn rhan o gadwyni cyflenwi ar gyfer prosiectau a ariennir yn gyhoeddus y mae dur yn ofynnol iddynt. Fe gefais i, yn ystod y 24 awr ddiwethaf, gylchlythyr dur diweddaraf y DU. Rwy'n annog yr Aelodau i gael golwg arno; mae'n hynod o addysgiadol, ac fe nodir yn hwnnw y bydd y galw am ddur yn y DU yn codi o £3.8 biliwn heddiw, eleni, i £6 biliwn erbyn diwedd y degawd hwn. Felly mae yna gyfleoedd enfawr, aruthrol o ran caffael yma yn y Deyrnas Unedig. Ac wrth gwrs, i Tata, mae yna gyfleoedd penodol o ran cerbydau modurol, oherwydd mae Tata'n cyflenwi mwy na thraean o'r dur ar gyfer gofynion sector modurol y DU.
Yna, yn olaf, o ran ardrethi busnes, fe fyddaf i wrth gwrs yn gofyn i'r Gweinidog Cyllid roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith sy'n ymwneud â dyfodol ardrethi busnes. Fe wn i fod hyn yn eithriadol o bwysig i Tata a gweithredwyr dur eraill yng Nghymru. Eto i gyd, mae'r pryder allweddol i fusnesau dur, yn enwedig i Tata, yn ymwneud â materion fel prisiau ynni anghystadleuol, lle mae prisiau trydan gweithrediadau ar y cyfandir hyd at 80 y cant yn is na'r Deyrnas Unedig. Yna, yn ail, yr her fawr i ddur yn y DU yw sicrhau y bydd yna bontio yng nghyd-destun ein huchelgeisiau ni o ran sero net, ac mae hynny'n gofyn am ymyrraeth sylweddol gan y wladwriaeth.
Fe hoffwn i ddechrau drwy ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad ac am y briff a roddodd ef i'r gwrthbleidiau ddydd Gwener. Rwy'n ategu ei holl sylwadau am bwysigrwydd enfawr y diwydiant dur i Gymru. Rydym ni'n tueddu, am resymau amlwg—oherwydd nifer y swyddi—i ganolbwyntio ar Bort Talbot, ond fel y dywedodd y Gweinidog, mae ei arwyddocâd yn llawer ehangach. Mae'r bobl a gyflogir yn ffatri Trostre yn eithriadol o bwysig yn Llanelli, sy'n rhan o'r rhanbarth yr wyf i'n ei gynrychioli.
Nawr, yn ei ddatganiad mae'r Gweinidog yn canolbwyntio llawer ar swyddogaeth Llywodraeth y DU ac mae'n adrodd yn ôl ar y trafodaethau a gafodd, ac mae hynny i gyd yn bwysig, mae'n amlwg. Rwy'n deall yr hyn a ddywedodd am yr angen i Lywodraeth y DU ddod i'r adwy ac ymrwymo i gefnogaeth wirioneddol ac arwyddocaol i Tata. Ond rwyf am ofyn iddo y prynhawn yma: beth yw ei gynllun ef os na fyddan nhw'n barod i wneud hynny? Mae ein profiad ni'n awgrymu na ellir dibynnu ar Lywodraeth y DU. Os ydym ni'n ystyried y profiad diweddar o ran ffyrlo, lle nad oedd y cymorth hwnnw ar gael pan oedd ei angen ar gymunedau Cymru, ond roedd ar gael cyn gynted ag yr oedd ei angen ar Swydd Surrey, sut y gallwn ni ddibynnu ar Lywodraeth y DU i wneud y peth iawn yn hyn o beth? Beth os bydd yr amodau, fel yr adroddwyd—yr amodau hynny y mae Llywodraeth y DU yn eu rhoi ar y cymorth hwnnw—yn arwain at ddiswyddiadau gwirioneddol sylweddol? Mae'n rhaid imi ofyn iddo: ai ei ddealltwriaeth ef yw bod cefnogaeth Llywodraeth y DU, fel yr adroddwyd eto, yn debygol o fod yn amodol ar ddisodli ffwrneisi chwyth ym Mhort Talbot gan ffwrneisi arc trydan?
Rwy'n cytuno â phopeth a ddywedodd y Gweinidog am ddatgarboneiddio, ond rwy'n gobeithio y byddai ef yn cytuno â minnau nad hon yw'r ffordd i gyflawni hynny. Gan ystyried yr hyn a ddywedodd y Gweinidog am y cynnydd tebygol yn y galw am ddur yng Nghymru a ledled y DU, a yw ef yn cytuno â mi na ddylem ruthro i ddatgarboneiddio ein diwydiant dur yn y fath fodd sy'n golygu bod yn rhaid inni gynyddu mewnforion dur yn aruthrol, gan allforio ein hôl troed carbon ni, mewn gwirionedd, yn hytrach nac ymdrin ag ef gan ddefnyddio technolegau newydd a gwneud ein diwydiant dur ni'n gynaliadwy gan ddefnyddio technolegau hydrogen sy'n cael eu datblygu, er enghraifft? Nawr, os nad oes perygl o hyn, yr hyn yr adroddwyd amdano, siawns ei bod er budd mwyaf y cwmni o ran hyder cwsmeriaid i hynny gael ei wadu, yn gadarn ac yn derfynol, ac os oes yna berygl, yna siawns nad oes angen inni drafod hynny ar goedd ynghyd â'r goblygiadau posibl.
Mae'r Gweinidog yn cyfeirio at adolygiad Tata o'r holl ddewisiadau i sicrhau bod y busnes yn hunangynhaliol heb fod unrhyw angen am gymorth ariannol gan Tata yn India yn y dyfodol, ac rwy'n siŵr y byddem ni i gyd yn deall pam mae hynny'n digwydd. Rwy'n deall yr hyn a ddywedodd y Prif Weinidog wrth Adam Price ynglŷn â'r ffaith fod Llywodraeth Cymru wasanaeth i Lywodraeth y DU a'r cwmni ar hyn o bryd. Ond a yw'r Gweinidog yn derbyn ei bod hi'n beth peryglus i ddibynnu ar hyn ar ei ben ei hun fel strategaeth? Oni ddylai Llywodraeth Cymru ac yntau, ar yr un pryd, fod yn archwilio modelau eraill a fyddai'n galluogi mynd â pherchnogaeth a rheolaeth y cwmni yn ôl i ddwylo Cymru pe byddai angen hynny? Roedd Llywodraeth Cymru yn barod i gefnogi'r gwaith o brynu gwaith Port Talbot gan reolwyr, o bosibl, ychydig flynyddoedd yn ôl. A wnaiff y Gweinidog ymrwymo y prynhawn yma i ystyried modelau perchnogaeth posibl eraill os nad yw'r dull y mae ef yn ei gymryd ar hyn o bryd yn llwyddiannus? A fyddai ef yn ystyried model cydweithredol? A fyddai ef yn ystyried cwmni di-elw? Ac os bydd Llywodraeth y DU yn cael cyfran yn y cwmni yn y pen draw, a wnaiff ef ymrwymo i ddod o hyd i ffordd y gall Llywodraeth Cymru wneud hynny hefyd, fel bod gennym ni sedd wrth y bwrdd pan wneir penderfyniadau ynglŷn â'r diwydiant hanfodol hwn yn y dyfodol?
A gaf i ddiolch i Helen Mary Jones am ei chwestiynau hi? Wrth gwrs, mae Helen Mary Jones yn iawn i dynnu sylw at y ffaith nad am Bort Talbot yn unig yr ydym ni'n sôn yma, na'r miloedd o weithwyr ym Mhort Talbot, ond am y gweithrediadau eraill sydd gan Tata Steel ledled Cymru hefyd, sy'n cyflogi niferoedd enfawr o bobl sy'n cael eu talu'n dda iawn. Yn wir, mae'r sector dur yn y Deyrnas Unedig yn talu cyflog cyfartalog o £36,000. Ac, o gofio bod llawer o weithfeydd dur yn y DU mewn ardaloedd y mae angen eu codi nhw i lefel uwch, fe fyddai colli unrhyw un o'r swyddi hyn yn y cymunedau hyn yn niweidiol iawn, a dyna pam, yn fy marn i, y mae Llywodraeth y DU yn ymwybodol iawn o'i chyfrifoldebau o ran cefnogi Tata. Yr arwyddion a gawsom ni oddi wrth Lywodraeth y DU, ac oddi wrth Tata, yw bod y trafodaethau yn digwydd, ac iddyn nhw fod yn gadarnhaol, ac y gallai canlyniad fod ger ein bron ni'n fuan. Ond, yn amlwg, mae pob diwrnod a gollir yn cynyddu'r pryder o fewn y gweithlu, ac felly, mae'n rhaid bwrw ymlaen â'r trafodaethau hynny mor gyflym â phosibl. Ac mae'n hynod bwysig, fel yr wyf i wedi crybwyll, o ran agenda lefelu ar i fyny, o ystyried bod gweithfeydd Tata Steel mewn rhai o'r cymunedau mwyaf difreintiedig yn y Deyrnas Unedig ac mae hynny'n gofyn am ymyrraeth uniongyrchol gan y wladwriaeth i'w galluogi nhw i werthfawrogi lefel uwch o ffyniant.
Nawr, mae Helen Mary Jones yn codi nifer o gwestiynau am y technolegau a ddefnyddir a'r modelau o berchnogaeth y gellid eu hystyried. Nid wyf i heddiw am fynegi barn ar y posibilrwydd o ddefnyddio ffwrnais hydrogen neu ffwrnais arc trydan, oherwydd, ar hyn o bryd, rydym ni'n canolbwyntio ar sicrhau bod Tata Steel yn cael y cyllid angenrheidiol oddi wrth Lywodraeth y DU mewn cytundeb, at ddiben cyffredin, i drosglwyddo'r safleoedd i sefyllfa o fod yn gystadleuol yn fyd-eang. A gadewch i mi sicrhau'r Aelodau mai Tata Steel sy'n cyflogi'r gweithlu dur mwyaf medrus, y gweithlu dur gorau yn Ewrop, os nad yn y byd. O ystyried yr offer a'r buddsoddiad priodol, fe all gweithrediadau Tata Steel yn y DU fod yn fwy nag unrhyw gyfleuster arall drwy'r byd. Felly, fe all Llywodraeth y DU fod yn ysgogydd i'r sector hynod bwysig hwn fod yr un gorau yn y byd.
Nawr, yn ystod fy nghyfnod i yn y swydd hon, rwyf wedi gweithio gyda phedwar Ysgrifennydd Gwladol gwahanol yn yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, ac mae pob un ohonyn nhw wedi rhoi sicrwydd i mi eu bod nhw'n awyddus i weld y sector dur yn cael ei godi i sefyllfa lle mae'n gystadleuol iawn, a lle bod yna ddyfodol cryf a chynaliadwy iddo. Fe allai'r pedwerydd Ysgrifennydd Gwladol yr wyf wedi bod yn gweithio gydag ef, Alok Sharma, fod yr un a fydd yn cyflawni'r gorchwyl. Ac mae hynny'n gwbl hanfodol er budd y gweithwyr, nid yn unig y rhai a gyflogir yn uniongyrchol gan Tata, ond yn y gadwyn gyflenwi hefyd.
Nawr, wrth grybwyll gwladoli Tata, nid wyf i o'r farn mai dyna'r ateb i'r cwestiwn a gaiff ei ofyn i ni ar hyn o bryd. Y cwestiwn cyfredol yw: sut y gall gweithrediadau Tata bontio yng nghyd-destun ein dyheadau ni o ran sero net? Sut all gweithrediadau Tata Steel weithio mewn ffordd sy'n gystadleuol o ystyried costau anghymesur ynni o ran y model busnes? A phe byddech chi'n gwladoli'r gweithfeydd neu beidio, fe fyddech chi'n wynebu'r costau hynny o hyd o ran ynni, na all neb ond Llywodraeth y DU wneud rhywbeth yn eu cylch nhw, a'r angen i ddatgarboneiddio yn ogystal â hynny. Ac, felly, mewn gwirionedd, mae'r model perchnogaeth yn ddadl, sy'n ddiddorol iawn i ni—ac rwyf i newydd wladoli'r rheilffyrdd yn ddiweddar—ond gallaf ddweud nad yw'n berthnasol i'r her sy'n ein hwynebu ni ar hyn o bryd, y mae dur yn ei hwynebu ar hyn o bryd. Yr her fawr sy'n ein hwynebu ni nawr yw sicrhau bod y newid yn ddiogel ac y gellir ei gyflwyno mewn ffordd sy'n gwarantu'r nifer fwyaf posibl o swyddi, yn dibynnu ar fewnforion oddi wrth gynhyrchwyr eraill sy'n llygru'r blaned, ond i ni fod â chyfnod pontio diogel ar waith i ddiogelu swyddi, a sicrhau y gallwn ni, mewn ffordd ddiogel, fodloni ein huchelgeisiau o ran sero net.
Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei ddatganiad ef y prynhawn yma. Mae Glynebwy, wrth gwrs, yn gyfystyr â dur, ac fe adeiladwyd llawer o gymunedau eraill yn fy etholaeth i, ac etholaethau pobl eraill, oherwydd dur, a phobl yn cael eu cyflogi mewn gweithfeydd dur a diwydiannau cysylltiedig. Mae dur yn bwysig i bob un ohonom ni, ac mae pob un ohonom ni ym Mlaenau Gwent wedi gweld effaith cau'r gweithfeydd dur—effaith hynny ar bobl, ar deuluoedd, ar y gymuned gyfan. Ac fe wyddom ni hefyd fod dur yn parhau i fod yn ganolog i'n dyfodol ni. Mae'n parhau i fod yn ganolog i economi Blaenau Gwent a rhannau eraill o'r wlad hon, ac mae'n hanfodol bod Llywodraeth weithredol yn gweithio gyda'r perchenogion a'r busnesau amrywiol i sicrhau dyfodol dur. Ac rwy'n falch bod y Ceidwadwyr wedi cydnabod hynny yn ystod y sesiwn hwn y prynhawn yma.
Dirprwy Lywydd, roedd ymateb y Gweinidog i Helen Mary Jones, i Blaid Cymru, yn ennyn fy niddordeb i a'r hyn a ddywedodd ef am swyddogaeth ynni a swyddogaeth cynaliadwyedd, o ran y model busnes sydd gan Tata ar hyn o bryd. Rwy'n cydnabod yr hyn a ddywedodd am bwysigrwydd sicrhau bod yna fusnes ar gael i Tata dros y blynyddoedd nesaf, a bod gennym fodel busnes ar gael i gynnal dur, ond rwy'n credu bod yna ffyrdd eraill i Lywodraeth Cymru gymryd dull mwy gweithredol hefyd. Mae'r pwynt a wnaeth y Gweinidog am ynni yn un cwbl dyngedfennol ac yn ganolog i ddyfodol y diwydiant hwn, ond fe wyddom ni hefyd y gall y Llywodraeth hon fynd ati'n weithredol i sicrhau y ceir cyflenwadau o ynni ar sail ynni adnewyddadwy, sy'n seiliedig ar gynaliadwyedd, ac a gaiff ei gyflenwi am bris y gall busnesau a defnyddwyr fforddio ei dalu hefyd.
Felly rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog, wrth ymateb i'r datganiad y prynhawn yma, a chan ymateb i'r hyn sy'n digwydd yn Tata ar hyn o bryd, yn cymryd yr olwg bellach honno ar y diwydiant a'n diwydiannau economaidd sefydledig ni, oherwydd yr un heriau a heriau tebyg sydd ganddyn nhw i gyd ac fe all Llywodraeth weithredol fuddsoddi yn hynny—nid yn unig yn y diwydiant hwnnw, ond yn yr economi honno, a chreu economi sy'n gynaliadwy o ran y farchnad, yn gynaliadwy yn ariannol, ac sy'n cynnal yr amgylchedd hefyd.
A gaf i ddiolch i Alun Davies am ei gwestiynau ef? Ac mae yn llygad ei le mai dur yw'r rheswm pam mae Glynebwy, fel llawer o gymunedau eraill yng Nghymru, yn bodoli. Rydym ni'n aml yn ordeimladwy wrth edrych i'r gorffennol, o ran swyddogaeth dur wrth lunio ein cymunedau ni, ein diwylliant ni, ein treftadaeth ni yng Nghymru. Ond rwy'n credu y dylem fod yr un mor angerddol o ran dyfodol y sector yng Nghymru. Oherwydd fel y dywedais i, gyda'r arfau, gyda'r buddsoddiad, gyda rhai o'r heriau a wynebodd y sector ers blynyddoedd lawer o ran costau ynni, ar ôl ymateb i'r rhain, mae gan y sector ddyfodol disglair iawn wir. Ac mae'r gwewyr a achosir—yn union fel yr amlinellodd yr Aelod Alun Davies—pan gaiff swyddi eu colli o'r gweithfeydd dur yn gyfarwydd iawn i mi. Ifanc oeddwn i pan gollwyd dros 8,000 o swyddi mewn un diwrnod yng ngwaith dur Shotton, ond rwy'n cofio'r gwewyr yn arbennig iawn, a'r dioddefaint a achosodd hynny ar unwaith, a'r creithiau parhaol a roddodd hynny i'r gymuned ehangach.
Mae Alun Davies yn gwbl gywir yn nodi bod ynni'n ystyriaeth hollbwysig o ran sut y byddwn ni'n cefnogi Tata a'r sector dur yn ehangach. Rwy'n parhau i ddweud bod angen gwneud rhywbeth o ran y prisiau uchel am drydan y mae cynhyrchwyr dur y DU a diwydiannau sy'n defnyddio llawer o ynni yn eu talu. Yn ôl UK Steel—ac, unwaith eto, fe hoffwn i dynnu sylw at y data newyddion diweddaraf, sy'n hynod o addysgiadol—mae ein gwneuthurwyr dur ni yn y DU yn talu 80 y cant yn fwy na'u cymheiriaid nhw yn Ffrainc; maen nhw'n talu 62 y cant yn fwy na'u cymheiriaid nhw yn yr Almaen. Felly, mae hyn yn dangos pa mor anghystadleuol, oherwydd y prisiau am ynni, yw rhai rhannau o'n prosesau ni yn y DU. Ac wrth gwrs, mae sectorau a busnesau eraill sy'n defnyddio llawer o ynni yn wynebu'r amrywiaethau hyn hefyd.
Nawr, mae Llywodraeth y DU—ac rwy'n croesawu hyn—wedi dod i'r adwy gyda'r gronfa trawsnewid ynni diwydiannol; rwy'n croesawu hynny. Serch hynny, ychydig dros £300 miliwn yn unig yw maint y gronfa, ac mae'r cymorth sydd ei angen ar Tata yn gymorth sy'n ymestyn y tu hwnt i fater prisiau ynni, sy'n ymestyn y tu hwnt i drawsnewid y sector cyfan. Mae angen cymorth busnes arbennig gan Lywodraeth y DU ar y cwmni. Ac yn ein cyfarfodydd niferus ni gyda Tata, rydym yn agored bob amser i geisiadau am gymorth, i gynorthwyo'r newid, y trawsnewid gyda'u busnesau nhw. Ond cawn ein hatgoffa trwy'r amser mai gan Lywodraeth y DU y mae'r brif ran yn hyn o beth, gyda'r gallu, y galluoedd o ran buddsoddi mewn modd sy'n cyflawni'r newid cadarn hwnnw.
Ac ynni adnewyddadwy—. Mae Alun Davies yn llygad ei le: fe fydd swyddogaeth Llywodraeth Cymru o ran hyrwyddo ynni adnewyddadwy yn eithriadol o bwysig, nid yn unig ar gyfer dur ond ar gyfer cynhyrchwyr eraill yng Nghymru sy'n defnyddio llawer o ynni. Ac fe geir posibiliadau enfawr o ran ynni adnewyddadwy ar dir ac ar fôr. O'm rhan i fy hun, mae datblygiadau melinau gwynt yn nofio ar wyneb y môr yn gyffrous iawn, ac fe allen nhw fod yn werth biliynau o bunnoedd i economi Cymru ac, os ydym ni'n hyrwyddo hyn yn y ffordd iawn, os byddwn ni'n denu'r buddsoddwyr priodol—ac rydym ni'n gweithio'n eithriadol o agos gyda'r sector—fe allem ni ddefnyddio mwy na dim ond melinau gwynt yn nofio ar wyneb y môr, fe allem ni fod yn gweithgynhyrchu'r tyrbinau hynny hefyd. Fe allem sicrhau bod y galluoedd ymchwil a datblygu yn ymsefydlu yng Nghymru hefyd, yn gysylltiedig â'r teuluoedd gweithgynhyrchu ehangach, gan gynnwys, wrth gwrs, y sector dur.
Diolch i chi am eich datganiad, Gweinidog. Mae'r gweithwyr dur a'u teuluoedd yn fy rhanbarth i'n pryderu llawer iawn am benderfyniad Tata i wahanu busnesau'r DU a'r Iseldiroedd. A ydych chi'n cytuno â mi ei bod yn bwysig i ni ei gwneud yn flaenoriaeth i sicrhau bod gweithfeydd Tata yn y DU yn hunangyllidol? Mae'n rhaid sicrhau bod gan Bort Talbot swyddogaeth yn y dyfodol o ran darparu anghenion dur y DU. Gweinidog, pa gamau yr ydych chi'n eu cymryd i sicrhau bod y dur a gynhyrchir ym Mhort Talbot yn cael ei ddefnyddio mewn buddsoddiadau seilwaith mawr gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU? Pa swyddogaeth sydd i waith Tata o ran darparu'r dur ar gyfer Metro'r De a chynlluniau i wella ffyrdd, megis deuoli priffordd Blaenau'r Cymoedd? Ac, yn olaf, Gweinidog, pa gamau a gymerodd Llywodraeth Cymru i gynorthwyo Tata i ddatgarboneiddio a lleihau eu costau ynni, y mae'r ddeubeth yn hanfodol i sicrhau cynaliadwyedd ei holl weithfeydd yn y DU? Diolch.
A gaf i ddiolch i Caroline Jones am ei chwestiynau hi? Fe fyddwn i'n cytuno'n llwyr y bydd y cyhoeddiad yn peri pryder mawr i weithwyr, ond mae'n rhaid inni gysuro'r gweithwyr hynny ein bod ni i gyd—ein bod ni i gyd—yn benderfynol o ddiogelu eu swyddi, a rhoi'r cymorth sydd ei angen ar gyfer gweld gweithfeydd Tata yn y DU yn mynd yn fwy cystadleuol yn y farchnad fyd-eang, gan gyflenwi mwy o ddur i'r DU a gwledydd eraill. Ac am y rhesymau a amlinellais i eisoes, rwy'n hyderus bod Tata yn llwyr ymrwymedig i'r DU.
Ond, fel y dywedais i, hefyd, fe fydd yna arwydd cynnar o'u hymrwymiad nhw yn dod yn sgil rhywfaint o'r ymgynghoriad a fydd yn digwydd nawr yn ystod y broses o wahanu'r cwmni, gan gynnwys sut mae Tata yn ymateb i anghenion y DU ar gyfer ail-sefydlu ymchwil a datblygu, gwerthu, caffael, a swyddogaethau digidol. Pan welwn ni ail-sefydlu'r prosesau penodol hynny, yna fe allwn ni fod hyd yn oed yn fwy hyderus bod Tata ar y trywydd iawn i sicrhau gweithrediadau'r DU a'u gwneud nhw'n hunangyllidol. Mae eu gwneud nhw'n hunangyllidol yn uchelgais sylweddol, ond rwy'n credu ei bod yn un sy'n angenrheidiol i ddiogelu holl weithfeydd y DU yn yr hirdymor. Ond fel y dywedais i droeon, fe fydd angen ymyrraeth uniongyrchol gan Lywodraeth y DU, ac mae'r trafodaethau hynny'n digwydd ar hyn o bryd, ond fe fyddwn i'n annog Gweinidogion Llywodraeth y DU i ddirwyn y trafodaethau hynny i ben yn gyflym ac yn gadarnhaol cyn gynted â phosibl.
Mae'r gweithwyr dur yng Nghymru a ledled y DU, sy'n cael eu cyflogi gan Tata, wedi bod yn bryderus ers gormod o lawer o flynyddoedd bellach, ac mae'n hen bryd iddyn nhw fod â'r sicrwydd, hyd yn oed gyda'r heriau eraill hynny sy'n ein hwynebu o ran datgarboneiddio a Brexit, y bydd yna ddyfodol iddyn nhw yn y sector hwnnw. Mae Trafnidiaeth Cymru wedi ymgysylltu'n uniongyrchol â busnesau ledled Cymru, gan gynnwys gyda Tata Steel, o ran cyfleoedd i fusnesau drwy raglen drawsnewid y metro. Mae busnesau eraill yn y sector dur yng Nghymru, fel Liberty Steel, er enghraifft, yn cynhyrchu cryn dipyn o ddur ar gyfer gwaith y mae Network Rail yn ei wneud. Felly, fe ddaw yna gyfleoedd amlwg i fusnesau dur yng Nghymru gyda'r metro.
Ac rwyf eisoes wedi ateb y cwestiynau ynghylch ynni, prisiau ynni, yr angen i fusnesau dur yng Nghymru fod yn gystadleuol. Mae'r gronfa trawsnewid ynni diwydiannol y cyfeiriais i ati ar gael eisoes, ond rydym wedi bod yn barod i weithio gyda busnesau dur, drwy rai o'r canolfannau ymchwil a datblygu ac arloesi a ariannwyd gennym, i sicrhau y gallan nhw leihau eu hallyriadau carbon, i sicrhau y gallan nhw weld y trawsnewid sydd ei angen i'w gwneud nhw'n gystadleuol yn fyd-eang.
Diolch. Rydym wedi cael un siaradwr o bob un o'r pedwar grŵp yma heddiw. Felly, a gaf i ofyn i bawb fod yn gryno nawr, ac mae hynny'n cynnwys atebion cryno hefyd, Gweinidog, efallai? Mae gennym nifer o gwestiynau.
Ymddiheuriadau.
Popeth yn iawn, ond mae gennym nifer o gwestiynau yr ydym ni'n bwriadu mynd trwyddyn nhw. Felly, Mark Isherwood.
Diolch, Llywydd. Bu Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart, a Gweinidog Busnes a Diwydiant y DU, Nadhim Zahawi, mewn cyfarfod â Tata Steel yn gynnar ddydd Gwener diwethaf, cyn cyhoeddiad y cwmni am ei weithrediadau masnachol ar gyfandir Ewrop. Fe gytunwyd y byddai Llywodraeth y DU a Tata Steel yn parhau i gydweithio i ddiogelu dyfodol cynhyrchiant cynaliadwy i ddur o ansawdd uchel yn y DU. Rwy'n croesawu eich ymgysylltiad chi â nhw, felly.
Mae Tata Steel Colours yn Shotton yn parhau i fod yn rhan allweddol o economi'r Gogledd-ddwyrain. Roedden nhw'n dweud wrthyf i bum mlynedd yn ôl eu bod yn gwbl ddibynnol ar y gadwyn gyflenwi ar gyfer cynhyrchiant cynaliadwy o ddur ym Mhrydain a'u bod nhw'n dibynnu ar borthiant o'r pen trwm yn y De, eu disgrifiad nhw. Pa ystyriaeth a roddwch chi i hynny, felly, wrth ichi ymgysylltu â Llywodraeth y DU a Tata Steel? Mae 700 o weithwyr yn Tata Steel yn Shotton o hyd, gyda'i systemau galfaneiddio dip twym, cotio organig, a chynhyrchu paneli adeiladu, a'r rhaglen brentisiaethau. Pa ystyriaeth y byddwch chi'n ei rhoi felly i'r materion allweddol hyn wrth ichi ymgysylltu â Llywodraeth y DU a Tata Steel? Mae Tata Steel yn Shotton hefyd yn y gystadleuaeth i gynnal canolfan logisteg i Heathrow. Pa ystyriaeth y byddwch chi'n ei rhoi i hyn felly wrth i chi ymgysylltu â Llywodraeth y DU a Tata Steel?
Ac yn olaf, fe gyfeiriwyd at fodel Dŵr Cymru. Fel y gwyddoch, fe fûm i'n gweithio cyn hyn yn y sector cydfuddiannol am dros ddau ddegawd, i'r gymdeithas adeiladu a ymunodd mewn gwirionedd â chymdeithas adeiladu dur Shotton—Cymdeithas Adeiladu John Summers—ac fe wn i, os nad oes gan gwmnïau cydfuddiannol rywbeth dros ben, fe fydd yr hwch yn mynd drwy'r siop, yn union yr un fath â busnes sydd er elw. A ydych chi'n cytuno â mi, felly, bod yn rhaid rhoi'r flaenoriaeth i gynnal eu busnes, gyda pha fodel bynnag a all gyflawni hyn orau, yn hytrach na rhoi sylw i'r modelau yn gyntaf?
A gaf i ddiolch i Mark Isherwood am ei gwestiynau a'i gyfraniad ef, ac rwyf i'n cytuno ag ef fod trafodaeth ynghylch modelau perchnogaeth mewn gwirionedd yn tynnu sylw oddi wrth yr hyn y mae'n rhaid ei wneud nawr? Ac rwy'n credu bod yn rhaid inni ganolbwyntio ar gefnogi Tata nawr i wireddu'r trawsnewid a amlinellais i sy'n angenrheidiol i'w wneud yn fwy cystadleuol a sicrhau dyfodol hirdymor y cyfleusterau yng Nghymru a ledled y DU.
Rwyf wedi siarad droeon erbyn hyn gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart, ers y cyhoeddiad hwn, ac rwyf wedi siarad hefyd, fel y dywedais i, â Nadhim Zahawi, ac rwy'n ceisio cael trafodaeth bellach gyda'r Ysgrifennydd Gwladol Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, Alok Sharma. Rwy'n awyddus i wneud yn siŵr y gall Llywodraeth Cymru gefnogi Llywodraeth y DU i gyflwyno'r arian i fusnesau Tata Steel UK, Tata Steel yma yng Nghymru yn bennaf, drwy ychwanegu gwerth—drwy ychwanegu gwerth. A'r rhan y gallwn ni ei chwarae yn Llywodraeth Cymru wrth ychwanegu gwerth yw cefnogi'r gweithwyr i ymgymryd â hyfforddiant sgiliau a sicrhau bod y galluoedd cywir o ran ymchwil a datblygu yn cael eu meithrin. Dyna yw ein swyddogaeth allweddol ni, a dyna pam rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn bod y trafodaethau parhaus hynny'n cynnwys Llywodraeth Cymru lle bynnag y bo hynny'n bosibl.
Fe ofynnodd Mark Isherwood nifer o gwestiynau a oedd yn ymwneud yn benodol â safle Tata Shotton, safle Shotton Colours, sy'n cyflogi 760 o weithwyr medrus iawn. Mae gan y safle hwnnw botensial enfawr—potensial enfawr. Fy nealltwriaeth i yw bod y galw am gynnyrch o'r safle hwnnw wedi dychwelyd, cyn y cyhoeddiad, i lefelau cyn COVID, gan ddangos pa mor gystadleuol yw'r safle hwnnw, pa mor dda yw ansawdd y cynhyrchion a ddaw ohono. Ac rwy'n parhau i deimlo'n gyffrous iawn o ran posibiliadau safle Tata ar gyfer bod yn ganolfan logisteg—nid yn unig yn ganolfan logisteg i Heathrow, ond i fusnesau eraill ar draws sawl sector. Ac mae fy swyddogion i'n cydweithio'n arbennig o agos gyda Tata Steel i ddeall rhai o'r rhwystrau y mae angen eu goresgyn wrth ffurfio'r ganolfan logisteg honno ar safle Shotton ac, yn benodol, sut y gallwn ni agor trydedd fynedfa i'r safle. Fe fyddai hynny'n hanfodol bwysig o ran sefydlu canolfan logisteg ar y safle sy'n gwasanaethu nid dim ond Heathrow yn unig ond llawer o sectorau eraill o bosibl ac, fel y soniais eisoes, felinau gwynt sy'n arnofio ar wyneb y môr. Rwy'n credu y gallai hwn fod yn gyfle i sefydlu gweithgynhyrchu neu logisteg ynni adnewyddadwy hefyd.
Gweinidog, a gaf i ddiolch i chi am eich datganiad y prynhawn yma? Rwy'n cael eich safbwynt chi yn galonogol iawn yn hyn o beth. A gaf i ddiolch ichi hefyd am yr holl gefnogaeth a roddodd Llywodraeth Cymru i'r diwydiant dur dros y blynyddoedd? Mae gweithwyr dur yn fy etholaeth i yn ddiolchgar iawn am y gefnogaeth honno ac, fel yr oeddech chi'n dweud yn gwbl briodol yn gynharach yn eich cyfraniad, y nhw yw'r goreuon yn y byd ac maen nhw wedi cyfrannu llawer i'r diwydiant, ac maen nhw'n dymuno i'r diwydiant barhau nawr i anrhydeddu eu hymrwymiad nhw a'u teuluoedd iddo.
O ran y pwyntiau a wnaethoch, rwy'n credu ei bod yn bwysig bod Llywodraeth y DU yn manteisio ar y cyfle hwn nawr—ac rwy'n gweld cyfle yn hyn—i ennill diwydiant dur i'r Deyrnas Unedig, a fydd yn gosod sylfaen ar gyfer gweithgynhyrchu fel arall ledled y wlad. Ac mae hwn yn gyfle, yn fy marn i, i gamu i'r bwlch a bod â rhan weithgar yn strategaeth ddiwydiannol y DU. Rwy'n gobeithio y byddan nhw'n manteisio arno.
Nawr, yn eich datganiad chi, roeddech chi'n dweud na fydd angen cymorth ariannol gan Tata Steel India yn y dyfodol. Maen nhw'n canolbwyntio ar hynny—maen nhw'n awyddus iddo fod yn weithgarwch cynaliadwy. Ond a ydych chi wedi cael unrhyw amcan am ba hyd y byddan nhw'n parhau i'w gefnogi a pha bryd y maen nhw'n disgwyl iddo fod yn hunangynhaliol, fel bod gennym ni o leiaf darged i anelu ato wrth sicrhau bod y diwydiant yn mynd yn hunangynhaliol?
Hefyd, o ran yr agenda datgarboneiddio, mae pawb yn sôn am hydrogen. Ymhen rhai blynyddoedd eto y daw hynny, gan nad yw'r dechnoleg ar gael hyd yn hyn. Ond un peth sydd ar gael nawr yw dal a storio carbon. A ydych chi'n ystyried ymchwil a datblygu pellach yn y maes hwnnw i sicrhau bod posibilrwydd o ddatgarboneiddio'r diwydiant ym Mhort Talbot yn arbennig felly, oherwydd, yn amlwg, dyna lle mae'r pen trwm, a dyna lle y byddai'r allyriadau carbon mwyaf? A gawsoch chi drafodaethau buddiol gyda'ch cyd-Aelod yn y Cabinet, Lesley Griffiths, ynglŷn â'r cynllun masnachu allyriadau sy'n cael ei roi ar waith i ddisodli'r cynllun masnachu allyriadau Ewropeaidd i sicrhau na fydd hyn yn niweidiol i'r diwydiant dur yn y dyfodol ac y bydd model y DU yn gefnogol ac yn ddefnyddiol iawn i sector dur y DU?
Fe fuom ni'n siarad am sgiliau a gwahanu'r busnesau'n ddwy ran, un i'r Iseldiroedd a'r llall i'r DU. Ac fe wyddom ni mai yn yr Iseldiroedd y lleolir yr elfennau ar hyn o bryd, oherwydd fe wnaethon nhw symud o Bort Talbot draw i'r Iseldiroedd—yr ymchwil a datblygu, a'r gwerthiant. Pa drafodaethau y byddwch yn eu cael o ran yr agenda sgiliau i sicrhau bod y rhain yn dychwelyd? A sut ydych chi'n gweithio o ran yr ymchwil a'r datblygu, yn enwedig yn Abertawe—oherwydd fe wn i fod Tata yn gweithio gydag Abertawe a Warwick, ond gydag Abertawe a'r Sefydliad Dur a Metel yn arbennig—i sicrhau mai dyna'r ganolfan ymchwil a datblygu ar gyfer dur yn y DU ac y bydd hyn hollbwysig i Tata weithio gyda nhw?
A wnewch chi ddod â'ch—[Torri ar draws.]—i derfyn?
Rwyf i ar fin dod i ben, ond, fel y gwyddoch chi, rwy'n siŵr, Dirprwy Lywydd, mae hwn yn fater difrifol i'm hetholaeth i a'r gweithlu sydd gennyf yn y fan honno.
Fy mhwynt olaf i, serch hynny, yw—mae llawer o sôn am lefelu ar i fyny gan Lywodraeth y DU. Roeddech chi'n sôn yn eich datganiad chi i'r wasg ddydd Gwener fod Prif Weinidog Cymru yn ceisio cael galwad ffôn gyda Phrif Weinidog y DU. A yw ef wedi galw'n ôl eto, ac a yw wedi cytuno i sicrhau bod y lefelu ar i fyny yn berthnasol i Gymru a'r sector dur yn ogystal ag yn unrhyw le arall?
A gaf i ddiolch i Dai Rees am ei gwestiynau a dweud ei fod ef yn ddadleuwr grymus ac angerddol dros Bort Talbot a'r sector dur yn ei gyfanrwydd yng Nghymru? Rwy'n croesawu ei gyfraniad heddiw yn fawr, ac rwy'n cytuno ag ef y ceir cyfle enfawr i Lywodraeth y DU ddangos ymrwymiad, ymrwymiad gwirioneddol, i lefelu am i fyny, ond i ddiogelu'r hyn sydd yn fuddiant strategol cenedlaethol i'r Deyrnas Unedig hefyd. Rwy'n credu bod dur yn bwysig i'n diogelwch cenedlaethol ni. Nid wyf yn credu ei bod hi'n bosibl inni ddychmygu na goddef, wrth inni gyrraedd diwedd y cyfnod pontio, y sefyllfa o gynhyrchu dur yn diflannu o'r Deyrnas Unedig. Ni ellir dychmygu hynny, wir. Ac fe all Llywodraeth y DU fanteisio ar y cyfle hwn felly i warantu y bydd gennym ddyfodol hyfyw a diogel i'r sector ledled y Deyrnas Unedig. Ac mae yna lawer o gyfleoedd fel yr amlinellais i eisoes, o ran caffael hefyd, gyda'r galw o fewn y DU yn unig yn dyblu yn ystod y degawd hwn—cyfleoedd enfawr os bydd caffael yn cael ei drefnu i sicrhau ein bod ni'n diogelu cymaint o'r gwariant cyhoeddus â phosibl ar gyfer gweithrediadau dur y DU.
Rwy'n gweithio gyda Tata a hefyd, mae'n rhaid imi ddweud, gydag undeb Community. Cefais drafodaeth dda iawn, trafodaeth gyfyngol, gyda Roy Rickhuss yn undeb Community. Gallaf ddweud ein bod ni'n cyd-fynd yn gyfan gwbl ag undeb Community. Nid oes lled blewyn o wahaniaeth rhyngom o ran ein ffydd ni yn y sector, ein hymrwymiad ni i Tata, ein hawydd ni i sicrhau y ceir dyfodol cryf a hyfyw i ddur yn y DU. Ac fe fyddwn ni'n cydweithio gyda Tata i ddeall yn union yr hyn y mae'r symudiad tuag at fod yn hunangynhaliol yn ei olygu, a sut y gellir ymgyrraedd at hynny a phryd y daw hynny i fod.
Fe allai dal carbon fod â swyddogaeth bwysig o ran cyflawni ein rhwymedigaethau ni o ran allyriadau carbon, ac, o ran y cynllun masnachu allyriadau, Dirprwy Lywydd, mae arnaf i ofn y gallwn i siarad am gryn amser am y System Masnachu Allyriadau, ond rwyf am ddweud—
Na chewch, dydw i ddim yn meddwl.
—mae Llywodraeth Cymru, gan weithio gyda Llywodraeth y DU ac, yn amlwg, weinyddiaethau datganoledig eraill, wedi datblygu cynllun masnachu allyriadau'r DU; bydd yn gweithredu fel cynllun annibynnol, neu bydd yn gysylltiedig â chynllun masnachu allyriadau yr UE, ac mae'r ddeddfwriaeth bellach ar waith i'r cynllun hwnnw fod yn weithredol ar 1 Ionawr 2021. Mae hynny'n hanfodol bwysig.
Yna, yn olaf, o ran cymorth pellach y gellid ei gyflwyno o ran ymchwil a datblygu, mae bargen ddinesig bae Abertawe, yn amlwg, ac mae gan Brifysgol Abertawe gynigion i ddatblygu arbenigedd dur yng Nghymru ymhellach drwy'r fargen ddinesig. Ac o ran yr alwad ffôn, nid wyf yn ymwybodol y cafwyd yr alwad ffôn honno eto, ond hysbysaf yr Aelodau pan ac os daw'r alwad honno.
Gweinidog, roeddwn yn falch iawn o'ch clywed yn agor gyda sylwadau ynglŷn â sylfaen sgiliau'r diwydiant dur yng Nghymru. Rwy'n credu bod pobl yn anwybyddu'r ffaith ei fod yn ddiwydiant sy'n moderneiddio'n gyson a dyna pam ei fod yn elfen mor bwysig yn y sefydliadau hynny fel bargen ddinesig bae Abertawe y sonioch chi amdani a Phrifysgol Abertawe. Ond rwy'n eithaf awyddus i wneud yn siŵr nad ydym ni'n anwybyddu'r cyfleoedd ar gyfer prentisiaethau yn hyn o beth hefyd. Mae Tata yn gyfrannwr enfawr yn y maes penodol hwnnw, a byddwn yn ddiolchgar o wybod pa sicrwydd yr ydych chi wedi'i gael am y cyfleoedd ar gyfer prentisiaethau yn ystod y cyfnod ansicr hwn. Diolch.
A gaf i ddiolch i Suzy Davies am ei chwestiwn? Ac mae hi'n llygad ei lle: mae pobl a gyflogir gan Tata ymhlith y rhai mwyaf medrus yn Ewrop o ran y sector dur, ac rydym ni, Llywodraeth Cymru, wedi bod yn falch o allu buddsoddi £11.7 miliwn o ran cyllid hyfforddiant sgiliau ers 2016. Bu gan brentisiaethau ran allweddol yn holl safleoedd Tata, a deallwn fod Tata yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i ddarparu cyfleoedd prentisiaeth hyd yn oed yn y cyfnod ansicr hwn, ac, wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cymhelliad yn ddiweddar i fusnesau gyflogi prentisiaid, gan gynnwys, yn bwysig, prentisiaid ifanc. Felly, i bob prentis ifanc o dan 25 oed y mae busnes yn ei gyflogi, byddant yn cael cymhelldal o £3,000, a gallai hyn fod yn hynod bwysig i gyflogwyr mwy fel Tata wrth gadw neu gyflogi prentisiaid yn ystod y pandemig ac yna'r adferiad. Ond byddaf yn falch o ysgrifennu at yr Aelodau gyda rhagor o fanylion am gynlluniau Tata ar gyfer eu darpariaeth prentisiaeth.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad? Ac a gaf i hefyd dalu teyrnged i'r gweithlu yng ngwaith dur Shotton, gan gynnwys fy nghyd-aelodau yn undebau Community ac Unite? Mae eu gwaith caled a'u medrusrwydd yn cynhyrchu'r dur gorau mewn gwirionedd, gan wneud safle Shotton yn broffidiol a dweud y gwir.
Gweinidog, rydych chi eisoes wedi gwneud sylwadau ynglŷn â'r ganolfan logisteg oddi ar y safle, yr wyf wedi bod yn gefnogwr ohono ers tro byd, ac rydych chi newydd wneud sylwadau ynglŷn â rhaglen brentisiaethau Tata; edrychaf ymlaen at gael rhagor o wybodaeth am hynny. Efallai heddiw y gallech chi sôn am hyfforddiant ehangach staff, sy'n rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid ar ei gyfer, a hefyd y cyfle i ddefnyddio dur gorau a mwyaf cynaliadwy'r byd yn rhan o'r adferiad gweithgynhyrchu gwyrdd o COVID, yn enwedig gan fod safle Shotton yn ceisio trawsnewid i fod yn garbon niwtral.
Nawr, mae'n rhaid imi ddweud, Dirprwy Lywydd, yn olaf, mae'r gefnogaeth hon gan y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru a'r gefnogaeth y maen nhw wedi'i chynnig yn y gorffennol yn gwrthgyferbynnu'n llwyr â Llywodraeth Geidwadol y DU, sydd wedi bod ar goll yn rhy aml o lawer, ac mae'n rhaid imi ddweud—. Clywaf dwt-twtio, ond mae'n rhaid imi ddweud bod fy nghymuned—fy nghymuned i—yn dal i ddioddef oherwydd yr hyn a ddigwyddodd yn ystod Llywodraeth Thatcher, ac mae ymhell bell o fod wedi'i anghofio. Felly, Gweinidog, a wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr ynghylch pa mor ffyddiog yr ydych chi god Gweinidogion y DU yn deall yr angen i ddarparu cymorth brys i ddur cynaliadwy yng Nghymru, ac i fod â strategaeth ar waith i wneud hynny?
A gaf i ddiolch i Jack Sargeant am ei gwestiynau, ac a gaf i ddiolch, ar goedd, i Jack Sargeant am y gwaith enfawr y mae wedi'i wneud i gefnogi cyfleuster Shotton Tata wrth ddatblygu'r cynlluniau ar gyfer canolfan logisteg? Mae fy swyddogion wedi bod yn gweithio gyda Tata Shotton i ddatblygu'r prif gynllun hwnnw, ond rwy'n gwybod faint o waith y mae Jack wedi'i gyfrannu at yr agenda benodol hon, a diolchaf iddo am hynny. Rwyf hefyd yn ddiolchgar am y gydnabyddiaeth o'r gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i Tata dros flynyddoedd lawer, a byddwn yn dweud, wrth edrych tua'r dyfodol, gadewch inni ddisgrifio hyn fel cyfle i Lywodraeth y DU ddangos—yn fuan iawn, mewn gwirionedd—ei bod wedi ymrwymo'n llwyr i gael cydraddoldeb yn y DU, drwy ddarparu'r cymorth hanfodol hwnnw y mae ar Tata ei angen er mwyn trawsnewid fel y mae'n dymuno gwneud, ac i sicrhau y daw yn fwy cystadleuol.
O ran yr hyn y gellid ei gynhyrchu ar safle Shotton, wel, fe wyddom fod ei gynhyrchion ymhlith y rhai gorau ar y farchnad, a'u bod eisoes yn cyfrannu at gynlluniau effeithlonrwydd ynni, yn enwedig yn y ganolfan adeiladu. Ond, yn amlwg, o ystyried ailgylchadwyedd dur, bydd yn dod yn nodwedd fwy amlwg byth o'n dyhead i ailddefnyddio ac adnewyddu wrth inni geisio adferiad gwyrdd. Felly, nid oes gennyf unrhyw amheuaeth na all y 760 o weithwyr ar safle Shotton deimlo'n falch a theimlo'n obeithiol y byddant yn cyfrannu, fel un o ddiwydiannau yfory, at economi fwy gwyrdd.
Mae'r Gweinidog yn sôn am y ffaith bod ailgylchu dur yn ddiddiwedd a'r angen i gefnogi eich dyheadau carbon isel, ond onid yw hynny'n awgrymu defnyddio ffwrneisi arc trydanol, yn hytrach na'r dull cynhyrchu presennol gyda ffwrneisi chwyth ym Mhort Talbot? Onid oes tensiwn anochel rhwng datgarboneiddio'r cyflenwad trydan, gan gynnwys dulliau o atal defnyddio ffyrdd rhatach o gynhyrchu trydan, er y bu rhai gwelliannau? Ac mae cwestiwn ynghylch a yw'r defnyddiwr neu'r trethdalwr yn talu'r pris mwy hwnnw a beth yw'r gyfran honno, ond onid oes y tensiwn hwnnw? Ac a yw Llywodraeth Cymru yn cefnogi Llywodraeth y DU gyda'r cynigion a gofnodwyd ganddi i dalu £500 miliwn, neu oddeutu hynny, tuag at newid y dull cynhyrchu i ddefnyddio ffwrneisi arc trydanol? A yw hynny'n rhywbeth y mae'n ei gefnogi, neu a yw'n well ganddo aros gyda'r ffwrneisi chwyth, er gwaethaf unrhyw oblygiadau i hynny o ran carbon? Ac onid yw'n bryd inni gydnabod mai'r rheswm pam mae'r broblem hon gyda ni yw oherwydd, yr haf diwethaf, i'r Comisiwn Ewropeaidd wahardd uno buddiannau Ewropeaidd Thyssenkrupp gyda Tata Steel, a fyddai wedi caniatáu i weithfeydd yr Iseldiroedd a Phort Talbot weithio gyda'i gilydd, ac yn hytrach mae'n rhaid eu gwahanu mewn ymateb i'r penderfyniad hwnnw gan y Comisiwn Ewropeaidd?
Wel, ynglŷn â'r sylw olaf yna—ac a gaf i ddiolch i Mark Reckless am ei gwestiynau—ynglŷn â'r sylw olaf yna, ni fyddai'r uno wedi mynd i'r afael â'r her y mae gweithrediadau dur y DU yn ei hwynebu ar hyn o bryd. Yr un fyddai'r heriau, a dim ond drwy gydweithio â Llywodraeth y DU y gellir ateb yr heriau hynny.
O ran y tensiwn sy'n bodoli, rwy'n cydnabod yn llwyr fod y tensiwn hwnnw yn bodoli, mae hynny yn broblem, ond y gwir amdani yw ar hyn o bryd, dur a gynhyrchir mewn ffwrneisi chwyth yw'r unig ddur y gellir ei ddefnyddio bron iawn mewn rhai sectorau, er enghraifft, yn y sector modurol. A dyna pam mae Tata Steel yn y DU yn darparu tua thraean o'r dur y mae'r sector modurol yn galw amdano. Nawr, dros amser, gellid datblygu, mireinio a pherffeithio technoleg newydd i ddarparu'r radd honno o ddur ond, ar hyn o bryd, nid oes modd gwneud hynny. Nawr, nid wyf am gael fy nargyfeirio i drafod y math o dechnoleg y gellid ei defnyddio yn y dyfodol, pa un a fyddai hynny'n seiliedig ar ffwrneisi hydrogen neu ffwrneisi arc trydanol, cyfuniad, neu a oes model cyfun y gellid ei fabwysiadu. Y cwbl a ddywedaf yw y dylai'r trawsnewid hwnnw ddigwydd dros gyfnod o amser, sy'n diogelu'r gweithlu ac yn sicrhau holl weithrediadau Tata Steel yng Nghymru. A byddwn yn cefnogi, nid yn unig Tata, ond Llywodraeth y DU a'r undebau, i gydweithio tuag at y nod terfynol hwnnw.
Gweinidog, ymhlith yr ardaloedd cryf yng Nghymru o ran traddodiad dur y mae Casnewydd, wrth gwrs, a Llanwern—esgusodwch fi—a Liberty Steel. Roedd gennym ni Orb, ond, yn anffodus, mae hynny wedi diflannu erbyn hyn, ac mae llu o gwmnïau llai. Felly, hoffwn gael rhywfaint o sicrwydd heddiw y bydd gan y traddodiad dur hwnnw a'r safleoedd dur hynny ran gref yn nyfodol dur yng Nghymru a'r DU. Mae llawer o bobl fedrus a phrofiadol yn yr ardal, rhai a gyflogir ar hyn o bryd a rhai a ddiswyddwyd yn ddiweddar, y gellid eu defnyddio. Ac, wrth gwrs, mae gan Liberty Steel, er enghraifft, syniadau clir iawn am ddur gwyrdd a sut y gellid bwrw ymlaen â hynny, yn ogystal â rhai syniadau ar yr agweddau ar ynni.
Rydych chi eisoes wedi cyfeirio, Gweinidog,—os bydd gennym ni waith Tata Steel ar wahân yn y DU—at yr angen am rai o'r swyddogaethau presennol, megis ymchwil a datblygu, caffael, gwerthu ac, yn wir, rai o'r agweddau digidol, i fod yn rhan o'r gweithredu unigryw hwnnw yn y DU. Mae rhywfaint o hynny wedi'i ganoli yn yr Iseldiroedd. Mae Llanwern wedi cynnal rhai o'r swyddogaethau hynny. Tybed a allech chi ddweud ychydig am y rhan y gallai fod i Lanwern wrth gynnal y swyddogaethau hynny eto, ac am rai o'r goblygiadau i hyfforddiant yn yr ardal, ac am y swyddogaeth y gallai fod i sefydliadau fel Coleg Gwent a Phrifysgol De Cymru.
A gaf i ddiolch i John Griffiths am ei gwestiynau a chydnabod hefyd y diddordeb anhygoel y mae wedi'i ddangos mewn cyfleusterau cynhyrchu dur yn ardal Casnewydd a'r rhanbarth ehangach dros flynyddoedd lawer? Mae'n gefnogwr mawr i'r sector.
Ar hyn o bryd mae Llanwern yn cyflogi tua 960 o bobl fedrus iawn, gan ddarparu dur ar gyfer y sector modurol ac, felly, yn dibynnu'n glir ar Bort Talbot. Roedd Tata yn eiddgar iawn—roedden nhw yn eiddgar iawn—i fynegi eu penderfyniad i sicrhau dyfodol eu gweithfeydd yn y DU pan siaradais â nhw ddydd Gwener. Ceisiwn nawr weld y swyddogaethau hynny y mae John Griffiths ac eraill wedi nodi yn cael eu hail-sefydlu yng Nghymru neu eu dychwelyd yma. Mae'n ddigon posib y gwelwn ni ddychwelyd y swyddi hynny yma o'r Iseldiroedd. Os na, yna byddwn yn disgwyl i alluoedd newydd gael eu sefydlu yma yng Nghymru.
Nid wyf yn credu mai mater i mi fyddai dyfalu pa swyddogaethau'n union a allai fod wedi'u lleoli ym mha rai o'r cyfleusterau dur. Ond, byddwn yn dychmygu, o ystyried swyddogaeth flaenllaw Llanwern o ran y sector modurol, y gallai fod cyfle yno i ddatblygu rhai o'r swyddogaethau gwerthu. Yn amlwg, byddwn yn gweithio gyda Tata i ystyried sut y gallwn ni gefnogi'r gwaith o sefydlu'r cyfleusterau a'r galluoedd hynny yma yng Nghymru. Rydym ni eisiau sicrhau cynifer o gyfleoedd gwaith â phosib. Ond, fel yr wyf wedi dweud, byddwn yn edrych yn fuan iawn ar y swyddogaethau hynny, pan fydd Tata yn dechrau'r broses o'u hail sefydlu neu eu dychwelyd yma i Gymru, a byddwn yn eu cefnogi mewn unrhyw ffordd y gallwn ni.
Diolch yn fawr iawn, Gweinidog.
Eitem 4 ar yr agenda y prynhawn yma yw datganiad gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ynglŷn â 'Llwybr Newydd—strategaeth drafnidiaeth newydd i Gymru'. Galwaf ar y Dirprwy Weinidog, Lee Waters.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae pandemig y coronafeirws wedi ein hatgoffa y ceir llawer o bethau yr oeddem ni ar un adeg yn eu cymryd yn ganiataol nad ydym yn eu gwneud mwyach. Mae'r gallu i fynd i leoedd yn hawdd, i weld teulu, gweithio, neu gymdeithasu, yn bethau nad oes angen atgoffa yr un ohonom ni o'u pwysigrwydd wrth i 2020 ddod i ben. Er gwaethaf datblygiadau enfawr o ran defnyddio cyfathrebu digidol, does dim byd tebyg i gysylltu â phobl wyneb yn wyneb. Ac, wrth i ni ddechrau edrych y tu hwnt i'r pandemig, mae siâp y system drafnidiaeth yn y dyfodol yn ein meddyliau i raddau helaeth.
Heddiw rydym ni yn lansio'r ymgynghoriad ar gyfer strategaeth drafnidiaeth newydd i Gymru: gweledigaeth ar gyfer trafnidiaeth yng Nghymru sy'n dangos sut y gallwn ni ailadeiladu cysylltiadau rhwng pobl yn y tymor byr, gan ail-lunio ein rhwydweithiau trafnidiaeth i ymateb i heriau newid yn yr hinsawdd. Yr adeg hon y flwyddyn nesaf, bydd angen i Lywodraeth Cymru gynhyrchu'r cam nesaf o lunio cynllun carbon isel. Bydd angen iddi nodi sut y byddwn yn cyrraedd y targedau uchelgeisiol y mae'r Senedd hon wedi ein hymrwymo iddyn nhw, er mwyn lleihau allyriadau carbon yn sylweddol.
Mae gan drafnidiaeth swyddogaeth fawr o ran ein cael ar lwybr carbon is, a bydd angen i'n strategaeth newydd fod â newid dulliau teithio wrth ei gwraidd: llai o deithiau mewn ceir a chyfran fwy o lawer o deithiau drwy fathau cynaliadwy o drafnidiaeth. Nawr, mae hynny'n haws ei ddweud nag ydyw i'w wneud, ac mae angen i'r ymgynghoriad hwn ganolbwyntio ein holl feddyliau ni ar sut y gall pob un ohonom gyfrannu at ein her gyffredin.
Rydym ni wedi dechrau. Mae'r cynlluniau datblygu cynnar ar gyfer systemau metro rhanbarthol dibynadwy a fforddiadwy ledled Cymru wedi ein helpu i ddychmygu'r dyfodol sydd ei angen arnom ni. Mae'r hyn yr ydym ni wedi ei wneud yn ddiweddar i ddod â rhwydwaith rheilffyrdd Cymru a'r gororau yn ôl i berchnogaeth gyhoeddus, ac i gymryd mwy o reolaeth dros gynllunio rhwydwaith bysiau'r genedl, a'r gwaith yr ydym ni yn ei wneud i fuddsoddi mewn rhwydweithiau ar gyfer teithio llesol i gyd yn gamau hirdymor pwysig sydd wedi cyfrannu.
Rydym ni hefyd yn gosod targedau i annog pobl i weithio'n hyblyg ac o bell i leihau'r angen i deithio yn y lle cyntaf. Ac, yn ysbryd ac yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, rydym ni wedi gwneud penderfyniadau anodd hefyd, gan neilltuo amser i ailystyried yr angen am ffordd liniaru'r M4, gan gydnabod, pan fydd y ffeithiau'n newid, fod yn rhaid i gamau gweithredu newid hefyd. Edrychwn ymlaen, yr wythnos nesaf, at adroddiad terfynol Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru, dan gadeiryddiaeth yr Arglwydd Burns, am argymhellion manwl ynghylch sut i fynd i'r afael â thagfeydd ar hyd yr M4 o amgylch Casnewydd.
Mae'r strategaeth yr ydym ni yn ei lansio heddiw yn nodi dechrau sgwrs wirioneddol y mae angen i bob un ohonom ni ei chael ynglŷn â sut y mae angen i'n rhwydweithiau trafnidiaeth newid dros y genhedlaeth nesaf, a phan fydd Aelodau'n darllen y dogfennau ymgynghori, byddant yn gweld eu bod yn deillio o ymgysylltu dwfn â rhanddeiliaid allweddol yn ysbryd cyd-gynhyrchu sydd ei angen gan Ddeddf cenedlaethau'r dyfodol. Y cam nesaf yw sgwrs ehangach fyth gyda phobl Cymru, oherwydd dim ond os bydd pobl yn dewis newid y byddwn yn cyflawni newid.
Dros y 50 mlynedd diwethaf, rydym ni wedi creu system drafnidiaeth sydd wedi blaenoriaethu defnyddio ceir. Mae wedi caniatáu rhyddid a hyblygrwydd unigol yr ydym ni i gyd yn eu gwerthfawrogi, ond bu hefyd yn fodd i wreiddio anghydraddoldebau dwfn a niwed amgylcheddol. Rydym ni wedi creu diwylliant o ddibyniaeth ar geir na fydd yn hawdd ei newid. Nod ein strategaeth ddrafft yw sicrhau hygyrchedd a chynaliadwyedd: symud nwyddau a phobl yn fwy effeithlon drwy fynd i'r afael â thagfeydd; gosod targedau ar gyfer newid sut mae pobl yn teithio fel bod mwy o le ar y ffordd ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus fwy deniadol; a chreu system nad yw'n darparu dim ond ar gyfer y rhai sydd â cheir, ond sydd hefyd yn gwasanaethu'r 23 y cant o bobl yn y wlad hon nad oes ganddyn nhw gar.
Wrth gwrs, nid yw'n ymwneud â newid dim ond yr hyn a ddywedwn ni; mae'r rheidrwydd yn ymwneud â newid yr hyn a wnawn ni. Mae hyn yn golygu newid sylfaenol i'r ffordd yr ydym ni'n gwneud penderfyniadau ynglŷn â thrafnidiaeth ac yn buddsoddi ynddi. Mae'n golygu sefydlu hierarchaeth drafnidiaeth gynaliadwy newydd, i ddarparu ar gyfer cerdded, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus cyn darparu a buddsoddi ar gyfer cerbydau modur preifat. Os cytunir ar y strategaeth honno, yna bydd angen inni nodi prosiectau ac ymyriadau penodol mewn cynllun cyflawni trafnidiaeth cenedlaethol pum mlynedd manwl. Mae heddiw'n ymwneud â'r cyfeiriad cyffredinol.
Bydd cyflawni'r weledigaeth yr ydym ni wedi'i nodi yn heriol. Bydd angen polisïau cydgysylltiedig, nid yn unig o fewn Llywodraeth Cymru, ond gan bartneriaid hefyd—yn enwedig gan lywodraeth leol, y bydd ganddi os cytuna'r Senedd, swyddogaeth hollbwysig, drwy gyd-bwyllgorau corfforaethol, i ddynodi cynlluniau rhanbarthol. Rydym ni wedi trafod droeon yn y Siambr hon nad yw Cymru wedi gweld y buddsoddiad yn ein rhwydwaith rheilffyrdd y mae ein poblogaeth a'n cyfran o seilwaith y rhwydwaith yn ei haeddu. Mae gan Lywodraeth y DU swyddogaeth o ran helpu i fynd i'r afael â hyn, a heddiw rwy'n cynnig gweithio yn adeiladol gyda nhw wrth iddyn nhw geisio cyflawni eu hymrwymiad i sicrhau cydraddoldeb yn y DU, os ydyn nhw, yn eu tro, yn ymrwymo i barchu'r setliad datganoli.
Ni allwn ni gyflawni ein nodau heb newid ymddygiad, a bydd hynny'n gofyn am ddewisiadau gwleidyddol anodd ac arweinyddiaeth gref—nid yn unig gan y Llywodraeth, ond yn lleol hefyd. Bydd gennych chi, fel Aelodau'r Senedd, swyddogaeth hollbwysig o ran helpu i gefnogi rhai o'r penderfyniadau lleol anodd sydd eu hangen er mwyn gwireddu hynny. Bydd angen gwyntyllu elfennau o hyn yn y ddadl sylfaenol, genedlaethol y mae angen inni ei chael nawr. Er enghraifft, pa ran a allai fod i godi tâl ar ddefnyddwyr ffyrdd? Fel yr oeddem yn ei gwneud yn glir yn gynharach yn y flwyddyn, nid oes gan Lywodraeth Cymru farn benodol ar hyn eto. Nid oes cynllun cyfrinachol mewn drôr desg gan y Llywodraeth yn barod ar gyfer codi tâl ar ddefnyddwyr ffyrdd, ond mae gennym ni gyfrifoldeb i ystyried sut y gellid ei ddefnyddio i sicrhau newid ymddygiad mewn ffordd deg, gyfiawn a chyfartal.
Fel y mae'r Canghellor wedi dweud yn y dyddiau diwethaf, mae symud oddi wrth beiriannau tanwydd hefyd yn golygu symud oddi wrth dreth danwydd, ac mae angen inni nawr benderfynu sut yr ydym yn llenwi'r bwlch a adewir gan hynny. Fel cam cyntaf yn y ddadl honno, Dirprwy Lywydd, rwyf heddiw'n rhoi adroddiad yn Llyfrgell yr Aelodau o'r enw 'Adolygiad annibynnol o godi tâl ar ddefnyddwyr y ffyrdd yng Nghymru', a gynhaliwyd gan Derek Turner. Mae hyn yn awgrymu, fel cam cyntaf, y dylid datblygu fframwaith cenedlaethol ar gyfer sut y gellir gwneud penderfyniadau ynghylch codi tâl ar ddefnyddwyr y ffyrdd, ac edrychaf ymlaen at ymgysylltu'n fanylach ag Aelodau ar y mater hwn wrth inni gynnal yr ymgynghoriad.
Mae yna rai sy'n dweud bod y dyfodol yn rhy ansicr i wneud cynlluniau o'r fath, neu y bydd ceir trydan yn datrys ein holl broblemau, a chredaf nad yw dull laissez-faire o'r fath, yn strategaeth drafnidiaeth effeithiol ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Yn wir, nid yw'n strategaeth o gwbl. Ni fydd yn datrys ein problemau tagfeydd. Ni fydd yn datrys ein problemau ansawdd aer. Ni fydd yn datrys ein hargyfwng gordewdra. Ni fydd yn ein gwneud yn genedl decach. Mae strategaeth drafnidiaeth newydd Cymru yn arwydd clir bod Llywodraeth Cymru, beth bynnag sydd gan yfory i'w gynnig, yn gweld trafnidiaeth gyhoeddus integredig o ansawdd uchel yn rhan hanfodol ac allweddol o'n dyfodol.
Dirprwy Lywydd, rydym ni mewn cyfnod tyngedfennol. Mae ein hinsawdd mewn argyfwng. Mae technoleg newydd yn amharu ar y ffordd yr ydym ni'n meddwl am deithio, ac mae'r coronafeirws yn brawf difrifol ar sylfeini ariannol ac economaidd modelau trafnidiaeth gyhoeddus. Mae hwn yn gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i roi trafnidiaeth gyhoeddus a thrafnidiaeth gynaliadwy wrth wraidd y Gymru yr ydym ni eisiau ei hadeiladu, i'n rhoi ar lwybr newydd. Diolch.
Gweinidog, a gaf i ddiolch ichi am gopi ymlaen llaw o'ch datganiad a hefyd am y briff technegol ddoe, a gynhaliwyd gennych chi eich hun, i lefarwyr y gwrthbleidiau? Gwerthfawrogwyd hynny'n fawr.
Gan fod y strategaeth hon yn eithaf eang, rwy'n siŵr yr hoffai Aelodau ei hystyried yn fanwl yn ystod y cyfnod ymgynghori sydd i ddod. O'm rhan i, rwy'n sicr yn credu ei bod hi'n hen bryd cael y strategaeth drafnidiaeth. Mae gennyf nifer o gwestiynau. Byddwn yn ddiolchgar pe gallech chi nodi'r amserlenni ar gyfer cyflawni'r strategaeth drafnidiaeth a dull Llywodraeth Cymru o gyflawni'r strategaeth. Fe wnaethoch chi sôn am y cynllun pum mlynedd cenedlaethol. A fydd hynny ar y cyd â llywodraeth leol drwy eu cynlluniau trafnidiaeth lleol neu ranbarthol? A byddai'n dda cael rhai dyddiadau ynghylch peth o gyd-destun yr hyn y buoch chi'n sôn amdano heddiw.
Mae Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau wedi ystyried datgarboneiddio trafnidiaeth—adroddiad y byddwn, fel y mae'n digwydd, yn ei drafod yn y Senedd hon ymhen ychydig wythnosau. Rydych chi wedi amlinellu heddiw, i raddau, sut y bydd strategaeth drafnidiaeth Cymru yn cefnogi nodau datgarboneiddio trafnidiaeth, ond a gaf i ofyn yn benodol: sut y byddwch chi'n sicrhau y bydd y sector cludo nwyddau a Maes Awyr Caerdydd yn chwarae rhan yn y gwaith o fynd i'r afael â'r bylchau a oedd yn bodoli cyn COVID, a ganfuwyd yng nghynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer datgarboneiddio? A sut y byddwch yn mynd i'r afael â'r canfyddiadau bod costau cyfalaf sylweddol buddsoddi mewn cerbydau trydan yn rhwystr gwirioneddol i gwmnïau ac awdurdodau lleol? Rwy'n sylweddoli eich bod wedi sôn bod mwy i'r maes penodol hwnnw na dim ond hynny. Yn eich datganiad, fe wnaethoch chi ddweud:
Rydym ni wedi creu diwylliant o ddibyniaeth ar geir na fydd yn hawdd ei newid.
Er mwyn newid y ffyrdd y mae pobl yn dewis teithio, mae angen newid meddylfryd, oherwydd mae meddylfryd yn pennu ymddygiad. Credaf fod Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau wedi dod i'r casgliad yn ddiweddar yn ei adroddiad ar ddatgarboneiddio na all Cymru fforddio colli'r cyfle i weld newid diwylliant parhaol yn y ffordd yr ydym ni'n teithio wrth i'r cyfyngiadau symud liniaru. Felly, rwy'n credu ein bod yn cytuno'n gyffredinol ar yr agwedd honno, ond rwyf hefyd yn ymwybodol yn ogystal bod rhannau helaeth o ddaearyddiaeth Cymru yn wledig iawn ac nad oes gan bobl ddewis ond defnyddio ceir; does dim dewis arall iddyn nhw. Hefyd, mae yna rai sydd ag anableddau nad oes ganddyn nhw ddewis arall ond teithio mewn car. Felly, rwy'n tybio ein bod yn cytuno, ond rwy'n ymwybodol y dylem ni fynd ati yn y ffordd gytbwys honno hefyd, a byddai eich sylwadau ynglŷn â hynny'n cael eu gwerthfawrogi.
Sut mae Llywodraeth Cymru wedi ymgorffori COVID-19 a'r adferiad o'r pandemig yn ei chynlluniau? Mae gennym ni bobl yn gweithio o gartref a newidiadau mewn patrymau gwaith. Hefyd, o ganlyniad i gadw pellter cymdeithasol a'r amharodrwydd hirdymor posib gan rai pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus eto, sut ydych chi wedi ystyried y goblygiadau posib hyn ar gapasiti, galw a hyfywedd y rhwydwaith? Rydych chi wedi dweud wrthym ni o'r blaen nad ydych chi eisiau i bobl gael eu hannog i beidio â defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, ond sut y bydd strategaeth drafnidiaeth Cymru yn annog pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus drachefn pan wyddom ni fod llawer yn troi'n ôl at y car preifat? A dywedaf yn hynny o beth hefyd—. Gadawaf hynny oherwydd amser.
Yn sicr, nid y bygythiad o gosbi'r modurwr yw'r ffordd ymlaen, yn fy marn i. Felly, sut y bydd strategaeth ddrafft Cymru yn ceisio creu dewis amgen deniadol a chyfleus yn hytrach na defnyddio'r car, a fydd yn cymell y newid ymddygiad sydd ei angen? Ni soniwyd am y Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol o gwbl, neu yn hytrach, ni allwn i weld llawer o sôn am y Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol—ni ddywedaf 'o gwbl'; dydw i ddim wedi cael amser i ddarllen y cyfan yn fanwl. Ond rwy'n ymwybodol y sefydlwyd hwnnw fel corff i edrych ar seilwaith ar gyfer y tymor hir, a meddwl ydw i tybed sut mae'r Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol yn cyd-fynd â'ch cynlluniau o ran y strategaeth a'r cynlluniau a fydd yn dilyn.
Ac yn olaf, a ydych chi'n cytuno y bydd perfformiad rhwydwaith trafnidiaeth ffyrdd Cymru yn galluogi cynhyrchiant a chystadleurwydd parhaus yn y dyfodol? Coridorau trafnidiaeth ffyrdd yw rhydwelïau masnach ddomestig a rhyngwladol ac maen nhw'n hybu cystadleurwydd cyffredinol economi Cymru, a byddwn yn croesawu eich safbwynt ar y datganiad hwnnw hefyd.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Diolch. Roedd nifer sylweddol o gwestiynau yn y fan yna. Gwnaf fy ngorau i geisio eu hateb cyn gynted ag y gallaf. O ran amserlenni, gweledigaeth 20 mlynedd yw hon ond mae'n amlinellu blaenoriaethau pum mlynedd, ac yna caiff cyflawniad manwl hynny ei gyflawni drwy gynllun cyflawni cenedlaethol, wedi'i ategu gan gynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol, a gaiff eu datblygu gan y cyd-bwyllgorau trafnidiaeth. Felly, fel y dywedais, y rhan bwysig o heddiw yw amlinellu—a maddeuwch y chwarae ar eiriau—cyfeiriad y daith, ac, i gynnwys eich cwestiwn olaf ond un, mae'r Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol wedi bod yn ymwneud yn helaeth â'n hymgynghoriad â swyddogion i'n cael ni i'r fan yma, fel y mae llawer o rai eraill wedi, yn wir. A holl ddiben yr ymgynghoriad 10 wythnos nawr yw dechrau ar sgwrs fwy trylwyr i fod yn sail i'r ddogfen derfynol y byddwn yn ei chyhoeddi cyn diwedd y tymor hwn.
Mewn gwirionedd, am y tro cyntaf, fe geir yn y strategaeth gynlluniau bach ar gyfer gwahanol fathau o drafnidiaeth, felly mae'r cwestiynau y mae Russell George yn eu gofyn am gludo nwyddau a theithiau awyr wedi eu cwmpasu yn wir gan gynlluniau bach ar wahân o fewn y strategaeth sydd â dulliau pwrpasol o ymdrin â phob un o'r rheini. Mae'r cwestiwn o seilwaith ceir trydan yn bwysig ac mae wedi ei gynnwys yn y weledigaeth gyffredinol. Nid lle y Llywodraeth yn unig yw gwneud hynny; nid yw'r Llywodraeth yn darparu gorsafoedd petrol ac ni ddylid disgwyl i ni ychwaith ddarparu'r holl seilwaith. Credaf, fel arfer, y dylem ni edrych ar ble y gallwn ni ymyrryd lle na fydd y farchnad efallai'n gweithredu a chefnogi yn y mannau hynny lle gellir cael yr effaith fwyaf.
Mae'r sylw am ardaloedd gwledig a phobl ag anableddau yn un da, ac, mewn gwirionedd, yn sylw a adlewyrchir yn y strategaeth. Yn wir, mae blaenoriaeth 4 yn gwneud yr union sylw nad oes gan lawer o bobl, gan gynnwys y rheini mewn ardaloedd gwledig a phobl anabl, y dewisiadau sydd gan eraill. Ond hanfod y strategaeth hon yw bod yn rhaid i ni wneud pethau'n wahanol i'r ffordd y buom ni'n gwneud pethau. Hyd yn oed mewn ardaloedd gwledig, mae nifer fawr o deithiau mewn trefi ac i drefi, ac mae llawer y gellir ei wneud yn hynny o beth. Nid oes ond rhaid inni edrych ar ein cymdogion Ewropeaidd i wybod bod ganddyn nhw ardaloedd gwledig ac eto mae ganddyn nhw ddull gwahanol iawn o ymdrin â thrafnidiaeth gynaliadwy nag sydd gennym ni. Felly, mae hi yn bosib gwneud hynny. Mae yna ffordd; credaf mai'r cwestiwn sy'n aros yw a yw'r ewyllys yno ar draws y Siambr.
Ac ynglŷn â'i sylw olaf ar y rhwydwaith ffyrdd fel rhydwelïau masnach, fel y mae'n ei alw—wrth gwrs, a chynnal ein seilwaith ffyrdd a'i addasu i heriau newid yn yr hinsawdd. Gwelsom, ddechrau eleni, yr effaith y mae llifogydd yn ei chael ar seilwaith ffyrdd a rheilffyrdd, ac mae'n hanfodol ein bod yn buddsoddi mwy nag y buom ni ar gynnal ein rhwydwaith ffyrdd, am y rheswm y mae Russell George yn ei nodi. Ond mae cael traffig oddi ar y ffyrdd, cael teithiau ceir diangen oddi ar y ffyrdd yn rhyddhau'r rhwydwaith ffyrdd ar gyfer y teithiau angenrheidiol hynny lle nad oes dewisiadau eraill.
Hoffwn ddiolch i'r Dirprwy Weinidog am ei ddatganiad heddiw ac am y briff technegol a roddodd i ni, Aelodau'r gwrthbleidiau, ddoe. Hoffwn ddiolch hefyd i'w swyddogion. Roedd yn ddefnyddiol iawn ac yn hynod ddiddorol. Wrth gwrs, mae hon yn gyfres eang iawn o gynigion. Credaf fod angen i bob un ohonom ni gymryd amser i'w hystyried yn iawn ac ymateb i'r ymgynghoriad, ond maen nhw yn uchelgeisiol, ac rydym ni, ar feinciau Plaid Cymru, yn croesawu hynny yn fawr iawn. Ac rwy'n cytuno â phopeth a ddywedodd y Gweinidog ynglŷn â bod yn rhaid i ni wneud pethau'n wahanol, ac nid oes neb yn credu y bydd hynny'n hawdd. Bydd heriau a bydd penderfyniadau anodd ac amhoblogaidd efallai i'w gwneud.
Bydd y gwaith sydd wedi'i wneud i baratoi'r drafft hwn, yn ein barn ni, yn sylfaen gref i bwy bynnag sy'n ffurfio'r Llywodraeth nesaf i symud yr agenda hon yn ei blaen, a'm hargraff i, Llywydd, yw y bydd cefnogaeth eang i'r Dirprwy Weinidog. Efallai fod gennym ni wahaniaeth barn am fanylion, ond caiff gefnogaeth eang ar draws y Siambr hon, a chredaf fod hynny'n bwysig. Oherwydd efallai y bydd angen llawer o Lywodraethau a llawer tymor Llywodraeth ac efallai Llywodraethau o wahanol liwiau ar gyfer newid ar y raddfa hon, ond credaf fod angen i bobl yn y sector a phartneriaid allweddol ddeall ein bod ni i gyd yn deall pwysigrwydd datgarboneiddio trafnidiaeth a sicrhau bod ein system trafnidiaeth gyhoeddus yn gweithio.
Mae gennyf ychydig o gwestiynau penodol yr hoffwn i eu gofyn i'r Dirprwy Weinidog heddiw—rhai am y broses ac o bosibl y broses yn y dyfodol, ond hefyd rhai manylion am y cynnwys. Ond os nad oes gan y Dirprwy Weinidog atebion ar unwaith, yna mae'r rhain yn sgyrsiau y byddwn yn sicr yn parhau i'w cael.
Mae'r Dirprwy Weinidog yn ei ddatganiad yn cyfeirio at ysbryd Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol droeon. A all ddweud wrthym ni y prynhawn yma i ba raddau y mae'r ddeddfwriaeth hon wedi darparu'r sail gyfreithiol ar gyfer paratoi'r ddogfen ymgynghori hon a'r camau gweithredu oddi mewn iddi? Mae'n ymddangos i mi, yn enwedig pan fydd penderfyniadau anodd i'w gwneud, y gall sail gyfreithiol glir o ran y cyd-destun fod o gymorth.
Mae'r dogfennau eu hunain a'r Gweinidog yn ei ddatganiad yn cyfeirio at hygyrchedd. Defnyddir y term hwnnw mewn nifer o ffyrdd, ac rwy'n cytuno ei fod yn amlwg yn hollbwysig. A gaf i ofyn yn benodol i'r Dirprwy Weinidog a yw'n cytuno â mi fod hygyrchedd corfforol yn dal yn rhwystr gwirioneddol i bobl ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, boed hynny'n rhiant â phram neu bobl sy'n byw gydag amrywiaeth o namau corfforol? Gwyddom, er enghraifft, faint o'n gorsafoedd na allwch chi eu defnyddio oherwydd bod cynifer o risiau. A gaf i ofyn i'r Dirprwy Weinidog a ymgynghorwyd â phobl anabl wrth baratoi'r drafft hwn a sut y bydd yntau a'i swyddogion yn sicrhau y galluogir nhw i ymateb i'r ymgynghoriad?
Cytunaf â'r Dirprwy Weinidog pan ddywed na fydd ceir trydan yn datrys ein holl broblemau, ond fel y dywedodd Russell George, mae ganddyn nhw swyddogaeth bwysig, a bydd cerbydau trydan yn bwysig, o bosib, mewn cymunedau gwledig yn arbennig. Croesawaf yr ymrwymiad yn y drafft i gynllun gwefrio cerbydau trydan, a chlywaf yr hyn a ddywed y Dirprwy Weinidog am beidio â darparu'r holl seilwaith o reidrwydd, ond ai bwriad y Dirprwy Weinidog yw y bydd y cynllun yn fodd o gyflymu'r broses sy'n mynd rhagddi ar hyn o bryd o gyflwyno'r seilwaith, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig? Byddwn yn dweud wrth y Dirprwy Weinidog na allwn ni aros am fethiant yn y farchnad mewn gwirionedd, oherwydd nid ydym ni'n gwybod faint o amser a gymer hi i ni wybod bod y farchnad wedi methu.
Nawr, rwy'n gwybod y bydd y Dirprwy Weinidog yn cytuno â mi, os ydym ni eisiau hwyluso newid ymddygiad, fod angen trawsnewidiad gwirioneddol arnom ni yn y ffordd y mae'r dulliau teithio llesol a thrafnidiaeth gyhoeddus yn cysylltu â'i gilydd. A yw'n cytuno â mi y bydd angen adolygu a chryfhau'r Bil bysiau drafft arfaethedig presennol er mwyn sicrhau ei fod yn rhoi digon o rym i bwy bynnag sy'n ffurfio Llywodraeth nesaf Cymru dros wasanaethau bysiau i sicrhau bod cwmnïau bysiau'n cydymffurfio â'r angen am y cysylltedd effeithiol hwnnw rhwng y gwahanol ffyrdd o deithio?
Ac yn olaf, a yw'r Dirprwy Weinidog yn cytuno â mi, os ydym ni eisiau argyhoeddi pobl i adael eu ceir gartref—ac rydym ni wedi siarad llawer am gyfleustra yn hyn o beth, ond i rai pobl, mae y tu hwnt i gyfleustra—rhaid inni sicrhau bod ffyrdd llesol o deithio a thrafnidiaeth gyhoeddus yn ddiogel ac yn teimlo'n ddiogel, yn enwedig i ddefnyddwyr a allai fod yn agored i niwed? Felly, a gaf i ofyn i'r Dirprwy Weinidog pa ystyriaeth sydd wedi'i rhoi wrth baratoi'r drafft hwn i bwysigrwydd sicrhau diogelwch pobl sy'n defnyddio dulliau teithio llesol a thrafnidiaeth gyhoeddus ac a allai fod yn agored i niwed, yn enwedig menywod a merched? Rwy'n meddwl, yn amlwg, yma, yn enwedig am deithio yn ystod y nos, pobl sy'n dychwelyd o sifftiau hwyr yn y gwaith, y mathau hynny o faterion, lle rwy'n gwybod fod llawer o fenywod yn amharod iawn i ddefnyddio ein dulliau trafnidiaeth gyhoeddus presennol, oherwydd p'un a ydyn nhw'n ddiogel ai peidio, nid ydyn nhw'n teimlo'n ddiogel iawn i'w defnyddio.
Diolch yn fawr am y cwestiynau yna ac am y cynnig o gefnogaeth eang, yn enwedig ynglŷn â'r egwyddor o ddatgarboneiddio trafnidiaeth. Cytunaf fod hon yn agenda drawsbleidiol a bydd yn cymryd sawl tymor o'r Senedd i'w gweithredu, a chroesawaf ei sylwadau.
O ran y sail gyfreithiol, yna, wrth gwrs, mae Deddf cenedlaethau'r dyfodol yn sail i'r dull a nodwyd gennym ni, ymhlith darnau eraill o ddeddfwriaeth, ond mae honno'n un sydd wedi bod yn ganolog, yn sicr i'r ffordd yr ydym ni wedi mynd ati i ymgynghori ynghylch cynnwys, cydweithredu a meddwl yn y tymor hir, a chydweithio â defnyddwyr a gydag eraill. Felly, mae hynny'n sicr wedi dylanwadu ar sut yr ydym ni wedi mynd ati.
O ran hygyrchedd corfforol a chyfranogiad pobl anabl, wel, maen nhw yn sicr wedi cymryd rhan. Cafwyd nifer o sesiynau gyda grwpiau cydraddoldeb, a chredaf y gwelwch chi pan ddarllenwch chi flaenoriaeth 1 yn yr ymgynghoriad ei fod yn adlewyrchu blaenoriaethau'r sector hwnnw'n fawr—mae'n llai, ar un ystyr, o ddatganiad o safbwynt y Llywodraeth, ac yn fwy, mewn gwirionedd, o adlewyrchiad o hynny. Felly rydym wedi dewis sut yn union i ymgynghori ar yr agweddau hynny. Felly, credaf fod hynny'n adlewyrchu'r ffaith bod ein hymgysylltiad â'r sector yn gwbl ddidwyll.
Mae'r mater, mewn gwirionedd, o rwystrau corfforol i drafnidiaeth gyhoeddus yn cyd-fynd â'r cwestiwn y mae Helen Mary yn ei ofyn am gysylltedd bysiau hefyd, oherwydd mae a wnelo hynny â chael marchnad breifat a reoleiddir yn llac i ymwneud â nwyddau cyhoeddus, sy'n anodd ei wneud o fewn y fframwaith deddfwriaethol presennol, ar gyfer yr holl ddeddfau cystadlu a rhwystrau a fydd yn gyfarwydd iawn iddi hi ac eraill yn y Siambr hon, a dyna pam yr oedd arnom ni eisiau deddfwriaeth yn y tymor hwn i roi sylfaen strategol ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus, nad ydym ni wedi gallu ei wneud oherwydd COVID.
Nawr, drwy'r telerau a'r amodau yr ydym ni yn eu gosod ar gyfer ein grantiau cymorth bysiau wrth ymateb i COVID—oherwydd, i bob diben, byddai'r cwmnïau bysiau hyn yn mynd i'r wal hebddynt—rydym ni wedi rhoi cymorth ariannol sylweddol ac mae angen cydweithrediad arnom ni yn gyfnewid am hynny, ac mae hynny'n cynnwys, i rai o'r rheini, yn enwedig, y gallu inni gydlynu. Mae hynny'n waith sy'n mynd rhagddo, ac rydym yn dal i gredu bod swyddogaeth i ddeddfwriaeth, ac rydym ni yn paratoi darn o ddeddfwriaeth i bwy bynnag sy'n ffurfio'r Llywodraeth nesaf i ddatblygu hynny os dymunant. Ond credwn fod y gofyniad am hynny yn bendant yn bodoli.
O ran ei sylw am wefrio ceir trydan mewn ardaloedd gwledig, mae hi'n gywir: mae angen gwneud mwy. Mae Llywodraeth y DU wedi nodi'r hyn y maen nhw'n ei alw'n gerbydau allyriadau hynod isel, sy'n gronfa drafnidiaeth wedi'i datgarboneiddio ar gyfer cerbydau trydan, sy'n rhy fach ar hyn o bryd, sef tua £29 miliwn—mae angen iddi fod yn llawer mwy na hynny—a chredaf fod hynny'n un o'r pethau y mae angen inni ei ystyried o ran y cynllun cyflawni, am y ffordd yr ydym ni'n blaenoriaethu ein buddsoddiad ar gyfer hynny o'u cymharu â phethau eraill.
Credaf fod ei sylw olaf am y canfyddiad o ddiogelwch a realiti diogelwch yn un pwysig iawn, ac mae'n mynd at wraidd popeth a wnawn ni yma, mewn gwirionedd, oherwydd tybiaethau pobl ynghylch trafnidiaeth gyhoeddus yw un o'r rhwystrau. Gwyddom o ymchwil fod pobl yn credu bod trafnidiaeth gyhoeddus yn cymryd mwy o amser i gyrraedd eich cyrchfan nag y mae mewn gwirionedd, mae pobl yn ei ystyried yn llai diogel nag ydyw mewn gwirionedd, ac un o'r dyfeisiau newid ymddygiad y mae angen i ni ei weld i wneud i hyn weithio yw newid canfyddiadau pobl drwy eu hannog i roi cynnig ar drafnidiaeth gyhoeddus, newid eu canfyddiadau, ac wrth gwrs, wrth wneud hynny, mae gennych chi ddiogelwch mewn niferoedd. Po fwyaf o bobl sy'n defnyddio rhwydweithiau teithio llesol neu rwydweithiau trafnidiaeth gyhoeddus, y mwyaf diogel y mae'n ei deimlo a'r mwyaf diogel y daw. Felly, ar un ystyr, dadl yr iâr a'r wy yw hon, a dyna pam y mae'r holl ymgyrch i newid sut mae pobl yn teithio, sy'n mynd y tu hwnt i ddatgarboneiddio—rydym ni wedi siarad yn y gorffennol am ddatgarboneiddio'r system drafnidiaeth; wel, mae hynny'n hanfodol, ond mae newid sut mae pobl yn teithio yn mynd y tu hwnt i hynny, oherwydd mae'n dweud, 'bydd gennym ni system drydan fwy gwyrdd, ond mae angen inni gael mwy o bobl yn ei defnyddio, a llai o bobl yn defnyddio ceir unigol.'
Rwy'n croesawu'r datganiad ac rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am hynny. Mae pobl ym Mlaenau Gwent eisiau system drafnidiaeth sy'n darparu cysylltedd effeithiol i bob un ohonom ni, gan ein cysylltu â phobl, lleoedd, gwasanaethau a swyddi. Mae angen gweledigaeth arnom ni ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus sy'n ystyried trafnidiaeth yn wasanaeth cyhoeddus ac nid fel dim ond busnes methedig sy'n rhoi elw o flaen angen y cyhoedd. Gwelsom, Llywydd, sut y dinistriodd Margaret Thatcher y gwasanaethau bysiau yr oeddem ni'n eu mwynhau ar draws y Cymoedd i gyd, ac yna gwelsom sut y dinistriodd John Major y rhwydwaith rheilffyrdd, ac rydym ni wedi gweld ers hynny sut na chawsom ni y buddsoddiad yn y rheilffyrdd y mae arnom ni i gyd ei angen.
Ond hoffwn weld fod y strategaeth hon yn un sydd wedi'i gwreiddio ym mhrofiad pobl ac anghenion pobl. Mae angen i ni gyfuno'r gwasanaethau bysiau a thrên. Mae angen i ni ail-reoleiddio gwasanaethau bysiau. Mae arnom ni angen i adolygiad Williams o fuddsoddi mewn rheilffyrdd ledled y Deyrnas Unedig arwain at ddatganoli'r buddsoddi yn y seilwaith rheilffyrdd, er mwyn galluogi'r Llywodraeth hon i sicrhau y gallwn ni fuddsoddi yn y gwasanaethau sy'n diwallu anghenion y bobl, a gwasanaethau sydd wedi'u cyfuno â dewisiadau eraill o ran trafnidiaeth gyhoeddus.
Mae angen inni ymchwilio i wasanaethau sy'n gwasanaethu pobl mewn trefi. Ofnaf ein bod, yn rhy aml o lawer, yn clywed am fentrau polisi sy'n gweithio'n dda mewn dinasoedd, ond nad ydyn nhw'n cyflawni ar gyfer trefi. Mae'r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru'n byw mewn trefi bach, ble bynnag y bônt, boed yng nghefn gwlad Sir Drefaldwyn, Dyfed wledig—efallai na ddylwn i ddefnyddio'r term hwnnw—neu Gymoedd y de, a'r trefi fydd y prawf ar gyfer y polisi hwn. A all rhywun deithio o Gwm i Rasa i gyrraedd y gwaith am 8 o'r gloch yn y bore? A all rhywun deithio o Sirhywi i ben isaf y dref i ymweld â meddyg? Sut y byddwn yn ymweld â ffrindiau a chymdogion sydd yn ysbyty'r Grange yng Nghwmbrân? Dyma'r hyn fydd yn profi llwyddiant y strategaeth drafnidiaeth, a dyma sut y byddaf innau'n profi'r strategaeth drafnidiaeth hon pan gaiff ei chyflwyno gan y Llywodraeth. Diolch.
Diolch. Cytunaf ag Alun Davies mai dyna'r profion, a chroesawaf ei her i sicrhau bod y Llywodraeth yn llwyddo yn y profion hynny, oherwydd oni allwn ni lwyddo â'r profion hynny, yna ni fydd trafnidiaeth gyhoeddus yn ddewis amgen realistig i'r car, ac, ar y sail honno, bydd ein gweledigaeth a'n strategaeth yn methu. Felly, cytunaf yn llwyr â'r dyhead yn hynny o beth. Wrth gwrs, gweithredu hynny o fewn system drafnidiaeth ddarniog sy'n eiddo preifat yw'r hyn sydd wedi ein llesteirio ni hyd yma, a dyna pam y mae angen inni fynd i'r afael â'r rheoliad, fel y dywed, ac mae angen inni fynd i'r afael â'r cydgysylltu. Nawr, credaf y bydd creu cyd-bwyllgorau corfforaethol yn helpu hynny. Credaf y bydd rhoi mwy o ran i Drafnidiaeth Cymru fel y meddwl cydlynu y tu ôl i'n system trafnidiaeth gyhoeddus yn mynd i'r afael â hynny, yn ogystal â meithrin gweithwyr proffesiynol medrus ac abl sy'n gallu gweithredu'r rhwydweithiau a bydd eu cynllunio a'u cydgysylltu yn y ffordd honno, yn hanfodol i gyflawni hynny hefyd.
Yn ogystal â chroesawu datblygiadau arloesol. Bydd Alun Davies yn gwybod o gadeirio tasglu'r Cymoedd am y dyhead i gael gwasanaeth bws sy'n ymateb i'r galw ym Mlaenau Gwent ac mewn mannau eraill sy'n gallu symud y tu hwnt i'r gwasanaeth wedi'i amserlennu tuag at un sy'n ymateb i alw defnyddwyr. Ac rwy'n falch o ddweud, o'r gwaith hwnnw a ddechreuodd, fod y gwasanaeth hyblyg sydd ar brawf gennym ni bellach mewn pump o gymunedau ledled Cymru, rwy'n credu, yn dod yn fuan i Flaenau Gwent. Mae ar brawf yng Nghasnewydd ar hyn o bryd ac yn llwyddiannus iawn. Felly, credaf fod hynny'n ateb ei faen prawf yn rhannol ynglŷn â sut i fynd o wahanol leoedd mewn ffordd hyblyg drwy newid ein cysyniad o beth yw bysiau a sut olwg sydd arnyn nhw. Ac rwy'n sicr yn credu bod llawer mwy y gallwn ni ei wneud ynghylch hynny.
Mae ei bwynt am y rheilffyrdd yn un da, a dyma lle mae gwir angen i Lywodraeth y DU wneud ei rhan. Dywedais yn y datganiad ein bod ni eisiau trafod yn adeiladol â Llywodraeth y DU. Bydd adroddiad Burns, a gyhoeddir yr wythnos nesaf, fel y gwyddom ni o'r hysbysiad yn ei gylch, yn rhoi pwyslais mawr ar y rheilffyrdd fel ateb i dagfeydd o amgylch Casnewydd, ac mae hynny'n mynd i'w gwneud hi'n ofynnol i Lywodraeth y DU ymateb mewn ffordd nad yw wedi'i wneud o ran trydaneiddio ac nad yw wedi gwneud o ran buddsoddiad cyffredinol yn y rheilffyrdd. Rydym ni wedi gweld y pwyslais ar HS2 a'r sgileffaith negyddol ar economi Cymru, ac mae angen i ni sicrhau y cawn ni ein cyfran o fuddsoddiad rheilffyrdd i'n galluogi i gyflawni ein huchelgeisiau.