Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

21/10/2020

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, dwi eisiau nodi ychydig bwyntiau. Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn y Siambr ac eraill ar gyswllt fideo. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y Cyfarfod Llawn heddiw, ac mae'r rhain wedi'u nodi ar eich agenda chi. A dwi eisiau atgoffa'r Aelodau fod y Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â threfn yn y Cyfarfod Llawn yn berthnasol i'r cyfarfod yma, ac yr un mor berthnasol i'r Aelodau sydd yn y Siambr ag i'r rhai sydd yn ymuno drwy gyswllt fideo.

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni'r prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Gweinidog cyllid, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Janet Finch-Saunders.

Cyllideb yr Economi

1. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru ynghylch y posibilrwydd o gynyddu'r gyllideb sydd ar gael yn 2020-21 i'w gwario ar yr economi yng Nghymru? OQ55724

Rwy'n cael trafodaethau rheolaidd gyda Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru am yr heriau ariannol sy'n wynebu'r economi o ganlyniad i'r pandemig. Hyd yma, rydym wedi darparu dros £1.7 biliwn o gyllid ychwanegol i helpu i gynnal ein heconomi ledled Cymru yn 2020-21.

Diolch, Weinidog. O edrych ar y manylion sy'n newid yn barhaus gan Busnes Cymru ar y wefan, mae'n ymddangos yn awr y bydd busnesau yn Aberconwy o bosibl yn cael yr un cymorth â busnesau newydd wrth wynebu'r cyfyngiadau symud ddydd Gwener—ardaloedd newydd sy'n wynebu cyfyngiadau symud—fel rhanbarthau eraill, er bod Aberconwy wedi bod dan gyfyngiadau lleol ers 1 Hydref. A gallaf ddweud wrthych, mae llawer o fy musnesau'n wynebu cannoedd o filoedd o bunnoedd o golled. Nawr, mae'r penderfyniad i roi £1,000 arall yn ôl disgresiwn yn yr ardaloedd yr effeithiwyd arnynt gan gyfyngiadau symud cyn y cyhoeddiad am y cyfnod atal byr yn annerbyniol. Felly, a wnewch chi gysylltu â Gweinidog yr economi i sicrhau bod ganddo'r dyraniad cyllideb angenrheidiol i ddarparu cymorth ariannol ychwanegol i fusnesau mewn ardaloedd awdurdodau lleol a oedd eisoes dan gyfyngiadau lleol ac a fydd erbyn ei ddiwedd wedi bod dan gyfyngiadau am oddeutu chwe wythnos? Ac a wnewch chi ei annog i adolygu'r penderfyniad i weithredu cap gwerth ardrethol o £51,000 fel bod fy musnesau lletygarwch lleol yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt mewn gwirionedd i gynnal eu busnesau ac yn wir, i gynnal eu gweithwyr? Diolch.

Mae Gweinidog yr economi a minnau'n cydnabod pa mor anodd yw'r cyfnod hwn wedi bod i fusnesau ledled Cymru, ond yn fwy felly, rwy'n dychmygu, yn y sector twristiaeth a lletygarwch, mae'n debyg. A dyna pam y mae cyfanswm o 1,206 o ficrofusnesau a busnesau bach a chanolig eu maint yn y sector twristiaeth a lletygarwch yng ngogledd Cymru eisoes wedi cael cyllid drwy'r gronfa cadernid economaidd, sef cyfanswm o £25.9 miliwn. Ac yn ogystal â'r cyllid hwnnw, yng ngogledd Cymru mae ein cronfa ymgysylltu twristiaeth ranbarthol a grantiau refeniw'r gronfa arloesi cynnyrch twristiaeth yn cefnogi sefydliadau'r sector cyhoeddus a'r sector preifat i gyflawni naw prosiect, sy'n werth bron i £1 filiwn. Ac yn sector twristiaeth a lletygarwch gogledd Cymru, mae'r cynllun benthyciadau i fusnesau yng Nghymru yn sgil COVID-19 Banc Datblygu Cymru wedi darparu dros £5.7 miliwn o gymorth i 105 o fusnesau. Felly, rydym ni a Banc Datblygu Cymru yn gwneud ein gorau i gefnogi busnesau ledled Cymru.

Rwy'n derbyn y pwynt y mae'r Aelod wedi'i wneud, ond rydym wedi ceisio adlewyrchu'r heriau ychwanegol sy'n wynebu'r busnesau sydd eisoes wedi wynebu cyfyngiadau lleol ar draws y rhan fwyaf o ardaloedd awdurdodau lleol yng Nghymru drwy sicrhau bod arian ychwanegol ar gael drwy'r pecyn diweddaraf. Ac mae'n werth cydnabod a pheidio â cholli golwg ar y ffaith mai busnesau ledled Cymru sydd â'r mynediad mwyaf o bell ffordd at fwyaf o gymorth, o'i gymharu ag unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig. A chredaf fod hynny'n dyst i'r flaenoriaeth rydym yn ei rhoi i gefnogi busnesau. Ond wedi dweud hynny, nid wyf yn bychanu'r heriau y mae busnesau'n eu hwynebu yn y cyfnod anodd hwn, ac yn enwedig yn y sector twristiaeth a lletygarwch.

Gadewch imi ddechrau drwy groesawu'r gefnogaeth ychwanegol a gyflwynwyd ddoe. Nid yw'n mynd i helpu pawb, ond bydd yn mynd yn bell iawn, rhaid dweud, yn enwedig y gronfa cymorth dewisol, i lenwi rhai o'r bylchau ar gyfer pobl sydd wedi disgyn rhwng dwy stôl hyd yma. Ac rwy'n sicr yn siarad ag arweinwyr awdurdodau lleol yn fy ardal i fel y gallant brosesu'r ceisiadau'n gyflym ac egluro i bobl sut y maent yn gweithio hefyd. Ond a gaf fi ofyn, yn eich trafodaethau gyda Gweinidog yr economi a chyda'r Prif Weinidog, a allwch hefyd gyflwyno'r sylwadau i Lywodraeth y DU am gyllid ychwanegol, ar gyfer swyddi'n benodol—cymorth swyddi—yn ogystal â chymorth busnes, oherwydd mae ein coffrau'n gyfyngedig yng Nghymru? Ac er fy mod yn cytuno â siaradwr blaenorol y Ceidwadwyr, a ofynnodd am gael mwy o gefnogaeth, mae angen i Lywodraeth y DU roi cymorth, nid y coffrau cyfyngedig sydd ar gael gennym ni yn unig. Felly, a wnaiff hi gyflwyno'r sylwadau hynny, os gwelwch yn dda?

13:35

Byddaf yn bendant yn cyflwyno'r sylwadau hynny. Yn wir, mae gennyf gyfarfod cyllid pedairochrog gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys yn ddiweddarach y prynhawn yma, lle byddaf yn gwneud yr union bwynt hwnnw am y newid o'r cynllun cadw swyddi i'r cynllun cefnogi swyddi. Mae'n creu anawsterau diangen i fusnesau yng Nghymru, lle bydd angen iddynt wneud cais i ddau gynllun gwahanol dros gyfnod o bythefnos er mwyn darparu'r cymorth y mae eu staff ei angen. Ac mae'n amlwg fod yna broblem wirioneddol gyda maint y cymorth sydd bellach ar gael ar gyfer pob un o'r swyddi hynny a'r ffordd y mae Llywodraeth y DU wedi penderfynu pa fath o swyddi sy'n swyddi hyfyw. Mae sectorau cyfan ar eu colled o ganlyniad i hynny. Mae sector y celfyddydau yn un ohonynt. Ond a gaf fi roi sicrwydd i fy nghyd-Aelod Huw Irranca-Davies y byddaf yn codi'r union fater hwn yn ddiweddarach y prynhawn yma.

Cymorth i Fusnesau

2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gymorth i fusnesau y mae rheoliadau Llywodraeth Cymru yn effeithio arnynt? OQ55763

Mewn ymateb i'r cyfnod atal byr sydd ar fin digwydd, ac yn unol â'n hymrwymiad i ddarparu cymorth pellach, rydym wedi creu cam 3 estynedig o'r gronfa cadernid economaidd i Gymru'n unig, gyda bron i £300 miliwn i gefnogi busnesau y mae'r cyfnod atal byr yn effeithio arnynt a chyfyngiadau lleol blaenorol.

Weinidog, mae pobl ledled Cymru, ac yn sicr yn fy etholaeth ym Mlaenau Gwent, yn ddiolchgar iawn am y gwaith y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud i gefnogi busnesau drwy gydol y cyfnod hwn. Rwy'n gwybod bod cannoedd o fusnesau yn fy etholaeth i wedi cael cymorth a chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, a chredaf fod y pecyn mwyaf o gymorth busnes yn unman yn y DU yn rhywbeth sydd eisoes wedi diogelu llawer o swyddi. Ond fel y nodwyd eisoes gan ein cyd-Aelod Huw Irranca-Davies, mae rhai o'r busnesau lleiaf yn enwedig yn syrthio drwy rai o'r bylchau sydd ar gael. Rwy'n meddwl am yrwyr tacsi, er enghraifft, ac rwy'n meddwl am bobl sy'n gweithio fel masnachwyr er mwyn eu cefnogi hwy a'u teuluoedd nad ydynt yn gweithio o fewn strwythur corfforaethol ffurfiol, os mynnwch. Weinidog, a yw'n bosibl sicrhau bod yr arian gennym i gefnogi'r bobl hyn sy'n anadl einioes i economi leol?

Fel rhan o'n pecyn cymorth gwerth £300 miliwn, a gyhoeddwyd yr wythnos hon, rydym yn sicrhau bod elfen ddewisol yno i awdurdodau lleol ei rhannu i fusnesau yn eu hardal, ac er mwyn gwneud hynny, rydym yn meddwl yn arbennig am y busnesau nad oes ganddynt safle, fel y mae Alun Davies yn dweud, felly nid ydynt yn ddarostyngedig i ardrethi annomestig, er enghraifft, ac felly maent yn colli'r cyllid grant awtomatig y bydd pob busnes sy'n cael rhyddhad ardrethi i fusnesau bach yn ei gael, ond serch hynny maent yn chwarae rhan bwysig yn ein heconomïau lleol ac maent yn swyddi sy'n aml yn arbennig o agored i niwed. Felly, rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu darparu'r elfen ddewisol honno o gyllid gyda'r cynllun hwn, ac rydym wrthi'n gweithio drwy'r canllawiau terfynol a'r mecanwaith y byddwn yn ei ddefnyddio i ddarparu'r cyllid hwnnw i awdurdodau lleol, ond mae cynnydd yn gyflym iawn ar hynny, felly dylem allu dweud rhagor yn fuan iawn.

Weinidog, mae busnesau yng Nghonwy a Sir Ddinbych ar eu gliniau'n llythrennol, ac mae llawer o swyddi sy'n dibynnu ar y busnesau hynny bellach yn ei chael hi'n anodd dal eu pennau uwchben y dŵr. Mae bron i dair wythnos wedi mynd heibio ers i chi roi Conwy a Sir Ddinbych, ynghyd â rhannau eraill o ogledd-ddwyrain Cymru, dan gyfyngiadau lleol. Mae hynny'n golygu eu bod eisoes wedi dioddef yn economaidd am dair wythnos yn hwy na'r hyn a achosir yn y rhannau hyn o Gymru o ganlyniad i'r cyfyngiadau ledled Cymru a fydd yn dechrau ddydd Gwener, ac eto, fel y nodwyd eisoes, ceir busnesau nad ydynt wedi cael unrhyw gymorth ychwanegol i adlewyrchu'r cyfnod hwnnw o gyfyngiadau lleol. Rwyf wedi eich clywed yn cwyno am yr adnoddau sydd ar gael i Lywodraeth Cymru. Rydych wedi cael gwerth £4.4 biliwn o adnoddau at eich defnydd, diolch i gefnogaeth Llywodraeth y DU. Pam na allwch ganolbwyntio mwy o gymorth ar gyfer y lleoedd nad ydynt eto wedi bod yn gymwys i gael adnoddau ychwanegol yng ngogledd-ddwyrain Cymru, fel rhan o'r pecyn rydych wedi'i gyflwyno gyda Gweinidog yr economi yr wythnos hon? Ac a allwch sicrhau busnesau yng Nghonwy a Sir Ddinbych y byddant hwy ar flaen y ciw am gymorth oherwydd y tair wythnos o boen ychwanegol y maent wedi'i ddioddef?

13:40

Wel, fel y mae Alun Davies newydd gydnabod yn ei gyfraniad, mae gan fusnesau ledled Cymru fynediad at y pecyn mwyaf hael o gymorth busnes yn unrhyw le yn y DU. A chredaf fod hynny'n adlewyrchiad o'r flaenoriaeth rydym wedi'i rhoi i gefnogi busnesau drwy'r addasiadau a wnaethom i gyllidebau Llywodraeth Cymru, ochr yn ochr â'r cyllid canlyniadol ychwanegol a gawsom gan Lywodraeth y DU. Ac o ganlyniad i'r penderfyniadau a wnaethom, yng Nghonwy yn unig dyfarnwyd cyfanswm o £8 miliwn o gyllid i 461 o ficrofusnesau a busnesau bach a chanolig, ac mae 83 o grantiau dechrau busnes wedi'u dyfarnu i fusnesau yng Nghonwy hefyd, sef cyfanswm o £207,500. A thrwy grant ardrethi busnes annomestig COVID-19, cafodd cyfanswm o 3,311 o ddyfarniadau eu prosesu i fusnesau Conwy, sef cyfanswm o bron i £40 miliwn. Ni fyddai llawer iawn o'r arian hwn wedi bod yn bosibl oni bai am yr ymarfer blaenoriaethu a wnaethom ar draws y Llywodraeth, a ryddhaodd £0.5 biliwn o gymorth ychwanegol er mwyn i ni ariannu ein cronfa cadernid economaidd. Felly, mae Llywodraeth Cymru yn mynd y tu hwnt i'r hyn rydych yn ei weld gan Lywodraeth y DU mewn perthynas â'n cymorth i fusnesau.

Yn ystod y cyfyngiadau symud ledled y DU yn gynharach yn y flwyddyn daeth yn amlwg nad oedd rhai pobl yn cael eu diogelu gan y cynllun ffyrlo. Un enghraifft yw Aled o Ystrad Mynach yn fy rhanbarth. Sefydlodd fusnes flwyddyn yn ôl, a olygai nad oedd yn gymwys ar gyfer y cynllun cymorth incwm i'r hunangyflogedig a oedd yn mynnu bod ffurflenni treth dwy flynedd ariannol ar gael er mwyn gallu ei dderbyn, ac nid oedd ei fusnes yn gymwys ychwaith ar gyfer cynllun grantiau cychwyn Llywodraeth Cymru. Mae ei fusnes wedi colli dros £1,000 o enillion. Gan ein bod yn dechrau ar gyfnod atal byr ddydd Gwener, Weinidog, pa sicrwydd y gallwch ei roi i mi na fydd pobl hunangyflogedig yn sefyllfa Aled yn syrthio drwy'r craciau eto? A gaf fi ofyn i chi hefyd, Weinidog, a fyddech yn ystyried yr alwad gan dasglu llawrydd Cymru, sy'n cynrychioli buddiannau gweithwyr llawrydd sy'n gweithio yn y diwydiant perfformio, i gynyddu'r cyllid sydd ar gael? Maent yn dweud bod gormod o geisiadau am y cynllun presennol, gyda llawer yn methu cael unrhyw gymorth. Felly, hoffwn glywed a yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu helpu ymhellach.

Diolch yn fawr am y cwestiwn hwnnw, a hefyd am nodi'r amgylchiadau penodol y mae Aled yn eu hwynebu. Yn amlwg, nid wyf yn gwybod beth yw'r amgylchiadau llawn sy'n gefndir i'w sefyllfa, ond fel y dywedais mewn ymateb i gwestiwn blaenorol, mae'n bwysig iawn ein bod, y tro hwn, wedi ychwanegu'r elfen ddewisol i awdurdodau lleol, nad yw wedi bod yno o'r blaen. A hynny i gydnabod yr achosion a gyflwynwyd i ni, fel achos Aled rydych wedi sôn amdano, sydd wedi syrthio rhwng yr holl gynigion gwahanol o gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Felly, rydym yn ceisio sicrhau bod mecanwaith ychwanegol ar waith yn awr i awdurdodau lleol allu darparu cymorth i fusnesau'n lleol. Ac fel y dywedais, rydym yn gweithio drwy'r manylion terfynol ar hynny, gyda'r bwriad o roi rhywfaint o arweiniad i awdurdodau lleol.

Weinidog, yn anffodus mae gormod o lawer o fusnesau'n syrthio drwy'r craciau yn y cymorth a gynigir, ac yn sicr nid yw'r gefnogaeth sydd ar gael yn gwneud iawn am yr effeithiau hirdymor y mae gwahanol gyfyngiadau wedi'u cael. Nid yw busnesau'n gwybod a fyddant ar agor neu ar gau o un wythnos i'r llall, ac nid yw llawer o ficrofusnesau'n cael unrhyw gymorth o gwbl am nad oes ganddynt gyfrifon am fwy nag un flwyddyn. Un enghraifft: cysylltodd fy etholwr â mi ynghylch dyfodol ei salon harddwch am nad yw'n gymwys i gael cymorth. Nid oes ganddi gyfrifon llawn oherwydd absenoldeb mamolaeth. Weinidog, pa gamau a gymerwch i sicrhau bod pob busnes yng Nghymru y mae mesurau diogelwch COVID yn effeithio arnynt yn cael cymorth ariannol, fel fy etholwr drwy ei chyfnod mamolaeth? Diolch.

Diolch am ddarparu enghraifft arall o fusnes nad yw wedi gallu cael cyllid hyd yma. Yn amlwg, nid wyf am roi'r argraff y bydd Llywodraeth Cymru yn gallu cefnogi pob busnes yng Nghymru, oherwydd nid yw'r cyllid sydd gennym yn ddigon ar gyfer hynny. Felly, rwyf am fod yn realistig, ond ar yr un pryd, rwyf am adlewyrchu'r ffaith ein bod wedi rhoi ystyriaeth drylwyr i'r materion a gyflwynwyd gennych chi ac eraill mewn perthynas ag unigolion sy'n rhedeg busnesau sydd wedi syrthio drwy'r bylchau yn y cymorth hyd yma. A dyna pam y mae'r elfen ddewisol hon mor bwysig, a pham ei bod yn bwysig ein bod yn cael y cyngor a'r arweiniad i awdurdodau lleol yn iawn er mwyn eu galluogi i gefnogi'r busnesau sy'n aml yn bwysig iawn yn lleol.

13:45
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a gaf i ddiolch i'r Gweinidog am y gyllideb atodol a gafodd ei chyhoeddi neithiwr? Dwi'n edrych ymlaen at ddilyn cyfnod sgrwtini y Pwyllgor Cyllid yn yr wythnosau nesaf. Mae yna symiau sylweddol wedi cael eu symud o fewn y flwyddyn ariannol yma, fel y buaswn yn ei ddisgwyl, oherwydd yr amgylchiadau eithriadol, ac mae hynny'n cynnwys i lywodraeth leol. Ond mae yna ansicrwydd mawr yn parhau wrth gwrs am gyllidebau'r flwyddyn nesaf. Heb fynd i fanylion mawr, mae fy nghyngor i yn Ynys Môn, er enghraifft, wedi gallu siarad efo fi am y rhai miliynau o bunnoedd o ddiffyg y maen nhw'n gallu eu hadnabod yn barod ar gyfer y flwyddyn nesaf yn uniongyrchol oherwydd y pandemig yma, pwysau ar y sector gofal. Rydych chi'n edrych ar bethau fel pwysau ychwanegol ar y cynllun lleihau'r dreth gyngor, oherwydd bod mwy o bobl yn ddibynnol arno fo ac yn y blaen.

Ydy'r Gweinidog yn gallu rhoi amlinelliad diweddaraf inni o beth fyddai'r egwyddorion y bydd y Llywodraeth yn eu dilyn o ran sicrhau bod cynghorau yn gallu cydbwyso eu llyfrau y flwyddyn ariannol nesaf? Ac a wnaiff hi edrych eto, yn sgil yr hyn sy'n cael ei amlygu rŵan, ar y syniad o gyllidebu dros gyfnod hirach—tair blynedd, dywedwn ni—er mwyn rhoi rhagor o sicrwydd ar gyfer y dyfodol?

Diolch i Rhun ap Iorwerth am nodi pwysigrwydd sicrwydd i awdurdodau lleol, ond hefyd i Lywodraeth Cymru, mewn perthynas â rheoli ei chyllideb dros gyfnod o flynyddoedd. Rwy'n siŵr y bydd yn rhannu fy siom ynglŷn â'r newyddion heddiw na cheir adolygiad cynhwysfawr o wariant mwy hirdymor ac yn hytrach, y bydd gennym gylch gwariant blwyddyn—adolygiad o wariant un flwyddyn.

Mae Llywodraeth y DU wedi dweud y bydd yn ceisio rhoi mwy o sicrwydd i iechyd yn Lloegr, i ysgolion yn Lloegr a hefyd i brosiectau seilwaith mawr. Ond nid yw hynny o unrhyw ddefnydd i Lywodraeth Cymru o gwbl, oherwydd mae angen i ni wybod faint fydd cyfanswm ein cyllid er mwyn deall o ble y daw'r cyllid ychwanegol, os o unman, os oes peth ar gael ar gyfer ysbytai yn Lloegr, er enghraifft. Felly, rwy'n credu ei fod yn ganlyniad siomedig iawn i Lywodraeth Cymru a hefyd wedyn i awdurdodau lleol, oherwydd ni allwn drosglwyddo'r sicrwydd hwnnw os na fyddwn wedi'i gael ein hunain.

Rydym yn gweithio'n galed iawn ar hyn o bryd yn paratoi ein cyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf. Rwyf eisoes wedi cael cyfres o gyfarfodydd dwyochrog gyda fy nghyd-Aelodau ac yn ddiweddar un gyda fy nghyd-Weinidog, y Gweinidog Llywodraeth Leol a Thai, a oedd yn awyddus iawn i bwysleisio'r achos dros gymorth i awdurdodau lleol. Ac o ran dull strategol y Llywodraeth yn gyffredinol, nid yw'n syndod o ystyried ein sefyllfa ein bod wedi cytuno eto eleni, yn amlwg, y bydd iechyd yn parhau i fod yn flaenoriaeth, yn flaenoriaeth i ni, ond hefyd, unwaith eto, byddwn am roi'r setliad gorau posibl i awdurdodau lleol ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.

Diolch am yr ateb yna, ac, wrth gwrs, dwi'n cyd-fynd efo'r Gweinidog o ran y penderfyniad i beidio â bwrw ymlaen efo adolygiad gwariant cynhwysfawr ar lefel y Deyrnas Unedig. Mae'n brawf unwaith eto, i mi, nad ydy San Steffan a Whitehall yn gweithio i Gymru—maen nhw'n gweithio i San Steffan ac i Whitehall.

Yn parhau efo llywodraeth leol, un elfen sydd wedi taro llywodraeth leol, wrth gwrs, ydy colled incwm. Mae'n taro gwahanol awdurdodau lleol mewn gwahanol ffyrdd, yn dibynnu ar y math o elfennau sydd ganddyn nhw o fewn eu portffolios sydd yn dod ag incwm i mewn. Ond, wrth gwrs, mae colled incwm ar lefel llywodraeth leol yn cael effaith uniongyrchol ar bawb trwy'r dreth gyngor yn y pen draw, o bosib, ond yn sicr o ran cynaliadwyedd y gwasanaethau y mae pawb yn dibynnu arnyn nhw. Felly, ydy'r Llywodraeth yn gallu rhoi sicrwydd y bydd digolledu yn digwydd o ran y golled incwm i lywodraeth lleol—a nid yn unig rŵan, wrth gwrs, ond mi fydd yna incwm a fydd yn cael ei golli am fisoedd lawer eto oherwydd natur y pandemig rydym ni'n byw drwyddo fo?

Wel, mae dwy ffurf ar gymorth i awdurdodau lleol: yn gyntaf oll, cafwyd y gronfa galedi, sef cronfa o £310 miliwn, sy'n cynnwys cyllid ychwanegol i fynd i'r afael â digartrefedd—i gael pobl sy'n cysgu allan oddi ar y stryd, er enghraifft—y cyllid ar gyfer prydau ysgol am ddim, gofal cymdeithasol i oedolion, glanhau ysgolion ac yn y blaen, a rhywfaint o gyllid cyffredinol i helpu awdurdodau lleol i fynd i'r afael â'r problemau y maent yn eu hwynebu. Ond ochr yn ochr â hynny, rydym wedi sefydlu cronfa o £198 miliwn i fynd ag awdurdodau lleol i ddiwedd y flwyddyn ariannol hon er mwyn iddynt allu mynd i'r afael â'r holl incwm y maent wedi bod yn ei golli. Caiff y cyllid hwnnw ei dynnu i lawr bob mis. Felly, gallaf ddweud ein bod hyd yma wedi talu dros £127 miliwn mewn costau ychwanegol drwy'r gronfa galedi honno, a £59 miliwn ar gyfer incwm a gollwyd hyd yma. Dylwn ddweud bod yr incwm a gollwyd yn cael ei hawlio bob chwarter, a'r gronfa galedi'n fisol. Felly, rwy'n credu bod y cyllid a neilltuwyd gennym ar gyfer awdurdodau lleol drwy'r ddwy gronfa, sef cyfanswm o £0.5 biliwn, yn ddigonol, yn ôl fy nealltwriaeth i o ran y trafodaethau a gefais gydag awdurdodau lleol, i ateb y ddwy agwedd ar yr her y maent yn ei hwynebu. Yn sicr, ar gyfer y flwyddyn ariannol hon, bydd trafodaethau pellach yn digwydd wrth inni symud ymlaen gyda phroses y gyllideb.

13:50

A dyna'r pwynt dwi'n ei wneud yn fan hyn: dydy hwn ddim yn rhywbeth sydd yn mynd i fod drosodd yn fuan. Mae eisiau edrych ar hyn fel rhan o'r cynlluniau ar gyfer y flwyddyn nesaf hefyd.

Un cwestiwn olaf, eto ynglŷn â llywodraeth leol, ac eto ynglŷn â'r hirdymor. Dwi'n croesawu cronfeydd sydd wedi cael eu sefydlu i helpu busnesau yn uniongyrchol. Dwi'n dal yn gwthio am ragor o gymorth, yn arbennig i rai sectorau sy'n cael eu hitio yn arbennig o galed, a'r rhai sy'n dal yn llithro drwy'r rhwyd, wrth gwrs. Ond pan ddaw hi at y gwaith o adeiladu yr economi, ydy, mae help i'r busnesau unigol yn bwysig, ond hefyd mae'r cynllunio a'r datblygu economaidd fydd yn digwydd ar lawr gwlad yn mynd i fod yn bwysig, ac mae llywodraeth leol yn mynd i fod yn allweddol ac yn mynd i fod angen adnoddau er mwyn gallu gwneud y math yna o ddelifro datblygu economaidd yn lleol. A gawn ni amlinelliad o'r lefel o gefnogaeth datblygu economaidd y gall cynghorau ei disgwyl? Achos mae'r cynghorau'n nabod yr ardaloedd maen nhw'n eu gwasanaethu a'r cyfleon fydd yn codi wrth ailadeiladu.

Wel, byddwch yn sicr wedi cael blas eisoes o'r math o feysydd y byddwn yn buddsoddi ynddynt drwy lywodraeth leol gyda'r gwaith y mae Jeremy Miles wedi bod yn ei arwain ar y pecyn ailadeiladu, a byddwch wedi clywed y cyhoeddiad am £340 miliwn i gefnogi rhywfaint o'r gwaith hwnnw. A bydd rhywfaint o'r cyllid hwnnw'n mynd drwy awdurdodau lleol, gan ganolbwyntio'n benodol ar adeiladu tai, er enghraifft—y dulliau adeiladu modern, y cartrefi sy'n cael eu hadeiladu i safonau amgylcheddol da iawn. Bydd fy nghyd-Aelodau'n gwneud cyhoeddiadau pellach yn ystod yr wythnosau nesaf am gynlluniau sydd wedi'u cynnwys yn y £340 miliwn hwnnw, felly ni ddywedaf ormod yn rhagor am y cynlluniau penodol a gyhoeddir, ond bydd gan awdurdodau lleol ran bwysig i'w chwarae yn nifer o'r cynlluniau hynny.

Wrth edrych tua'r dyfodol, rydym yn cael trafodaethau da iawn gydag awdurdodau lleol ar hyn o bryd i ystyried a oes gennym rôl yn cefnogi benthyca i awdurdodau lleol ymgymryd â pheth gwaith cyfalaf sy'n cyd-fynd â'n blaenoriaethau strategol ein hunain, blaenoriaethau a welwch yng nghynllun buddsoddi yn seilwaith Cymru, ac mae'r trafodaethau hynny'n mynd rhagddynt ar hyn o bryd. Ond unwaith eto, y meysydd sydd o ddiddordeb arbennig i ni yw tai a gofal iechyd.

Diolch, Lywydd. Prynhawn da, Weinidog. Weinidog, mae'r rhain yn amseroedd pryderus i fusnesau Cymru ac i weithwyr ledled Cymru gyda'r pandemig sy'n mynd rhagddo. Pa asesiad a wnaethoch o'r costau ariannol sy'n gysylltiedig â'r cyfnod atal byr sydd ar fin digwydd, ac a ydych wedi ystyried cost unrhyw gyfyngiadau symud posibl yn y dyfodol hefyd—cyfyngiadau ar sail dreigl?

Yn amlwg, mae effaith unrhyw gyfyngiadau ar fusnesau yn arbennig o galed, nid oes modd gwadu hynny, a dyna pam rydym wedi rhoi'r pecyn cymorth hwn o £300 miliwn ar waith ar gyfer busnesau, gyda golwg ar wneud popeth yn ein gallu i gefnogi busnesau ledled Cymru, a gwneud y broses ymgeisio—lle mae angen gwneud cais ac nid yw'n awtomatig—cyn gyflymed ag sy'n bosibl i gael yr arian hwnnw i fusnesau cyn gynted â phosibl. Oherwydd gwyddom fod llawer o fusnesau'n wynebu cyfnod mor anodd fel na allant aros i'r cyllid hwnnw ddod drwodd iddynt hwythau hefyd.

Rydym hefyd yn cyflwyno'r achos i Lywodraeth y DU. Felly, er bod gan Lywodraeth Cymru rôl gref a phwysig iawn yn darparu lefel o gymorth busnes, o ran cymorthdaliadau cyflog, cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw hynny'n llwyr ac mae'n rhywbeth nad yw Llywodraeth Cymru yn cael cyllid ar ei gyfer. Nid oes gennym lefel o adnoddau i allu camu i'r maes hwnnw ac ysgwyddo hynny heb gyllid gan Lywodraeth y DU. Felly, byddai unrhyw gymorth y gall y llefarydd ei gynnig yn hynny o beth o ran cyflwyno'r achos i'w gymheiriaid yn San Steffan yn cael croeso mawr.

13:55

Fe wnaf yr hyn a allaf yn hynny o beth, Weinidog. Mae'n amlwg y bydd y cyfnod atal byr yn cael effaith ariannol sylweddol ar fusnesau a chyflogwyr ledled Cymru. Rydych wedi sôn am yr angen i gydweithredu â Llywodraeth y DU. Ymddengys bellach fod swyddogion Llywodraeth Cymru yn gwybod bod cyfnod atal byr yn dod ddydd Mercher diwethaf, ac eto ni ysgrifennodd Llywodraeth Cymru at y Canghellor tan ddydd Gwener. Erbyn hynny, roedd eisoes yn glir na ellid cyflwyno'r cynllun cefnogi swyddi yng Nghymru yn gynharach nag a gynlluniwyd. Sut y sicrhewch yn awr fod cyllid digonol ar gael i lenwi unrhyw fylchau fel nad yw busnesau Cymru'n gorfod llenwi'r bwlch cyflog eu hunain yn y pen draw, neu yn y senario waethaf, yn diswyddo gweithwyr?

Mae'n drueni mawr na wnaeth Llywodraeth y DU ymateb yn gadarnhaol i'n cais i gyflwyno'r cynllun cefnogi swyddi wythnos yn gynt. Gwnaethom hyd yn oed gynnig darparu'r cyllid a fyddai'n llenwi'r bwlch o adnoddau Llywodraeth Cymru er mwyn iddynt wneud hynny. Felly, mae'n drueni mawr nad yw Llywodraeth y DU wedi bod o ddifrif ynglŷn â'i chyfrifoldeb tuag at weithwyr yng Nghymru, fel y byddwn wedi hoffi iddynt fod. Byddaf yn cael cyfle, fel y soniais yn gynharach, i godi hyn eto gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys mewn cyfarfod yn ddiweddarach y prynhawn yma. Ond yn amlwg, nid yw'n sefyllfa foddhaol, ac yn enwedig i fusnesau sydd bellach yn gorfod gwneud cais i ddau gynllun gwahanol er mwyn cynnal eu staff, ac rydym yn pryderu'n fawr, yn amlwg, am yr effaith a gaiff hynny ar y gweithlu ac ar swyddi pobl.

Diolch. Rwy'n cytuno gyda chi ar y pwynt olaf hwnnw, Weinidog; yn sicr nid yw'n sefyllfa foddhaol. Mae Ian Price, cyfarwyddwr Cydffederasiwn Diwydiant Prydain wedi dweud ei bod yn ymddangos yn bosibl iawn fod rhai pobl yn syrthio drwy'r craciau rhwng y cynllun cadw swyddi a'r cynllun cefnogi swyddi, ac mae Ben Cottam o Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru wedi dweud

mae faint o ddryswch sy'n gysylltiedig â hyn...yn dangos pa mor gymhleth

y gall hyn i gyd fod i gyflogwr bach yng Nghymru.

Gan edrych tua'r dyfodol nawr, addawyd mynediad i fusnesau at hyd at £5,000 yr un o gyllid mewn rhai achosion drwy'r pecyn cymorth presennol sydd ar gael. Pa drafodaethau a gawsoch gyda Gweinidog yr economi i sicrhau bod yr arian hwn ar gael i fusnesau cyn gynted ag sy'n bosibl?

Rwy'n cael trafodaethau rheolaidd gyda Gweinidog yr economi a thrafnidiaeth ar gymorth i fusnesau yng Nghymru, ac rydym wedi ceisio creu cynllun yma sy'n rhoi gallu i awdurdodau lleol symud y grantiau hyn ymlaen i fusnesau cyn gynted â phosibl. Bydd rhai ohonynt, yn amlwg, yn awtomatig, o ran cefnogi'r busnesau sy'n cael rhyddhad ardrethi i fusnesau bach. Yr hyn y byddwn yn ei wneud yw annog busnesau i sicrhau bod gan yr awdurdodau lleol eu manylion diweddaraf. Gwn fod hynny wedi dal ychydig o daliadau yn ôl o'r blaen, felly byddai hynny'n rhywbeth y byddwn yn annog busnesau i'w wneud. Ond rydym yn gweithio'n agos iawn gydag awdurdodau lleol, a hoffwn fynegi fy niolch mawr i'r gweithwyr mewn awdurdodau lleol a gafodd y grantiau allan i fusnesau mor gyflym ac effeithlon y tro diwethaf, a gwn y byddant yn gwneud yr un peth eto—a llawer ohonynt yn mynd y tu hwnt i'r galw, gan weithio oriau hir i wneud hynny. Felly, hoffwn gofnodi fy niolch gwirioneddol am hynny.

Cynghorau Sir

3. I ba raddau gall y Gweinidog sicrhau fod modd addasu cyllideb Llywodraeth Cymru dros y misoedd nesaf i gynorthwyo cynghorau sir yng Nghymru? OQ55761

Rydym yn parhau i weithio'n agos gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a llywodraeth leol i asesu ac ymateb i'r pwysau ariannol a roddir arnynt ar hyn o bryd gan y pandemig. Rydym yn darparu hyd at £0.5 biliwn o gyllid i gefnogi cynghorau ac i'w helpu i ymateb i effeithiau'r pandemig.

Os ydy'n wir, fel oeddech chi wedi dweud gynnau mewn ymateb i Rhun ap Iorwerth, fod y cyllid sydd eisoes yno o ran y gronfa caledi yn ddigonol tan ddiwedd y flwyddyn, pam mae cyngor sir Caerffili wedi dweud heddiw fod yna

'ansicrwydd mawr am arian ychwanegol'

yn ystod gweddill y flwyddyn ariannol cyfredol a Chyngor Sir Ceredigion yn dweud nad yw hi'n

'gwbl glir beth yw gwerth cyllid Covid-19 Llywodraeth Cymru, pa feysydd a ariennir, sy'n golygu bod hi'n anodd gwneud rhagolygon ariannol'?

Oni ddylai chi wneud beth mae Llywodraeth yr Alban wedi ei wneud wythnos diwethaf, sef cynnig pecyn o gyllid ychwanegol sydd yn werth £750 miliwn yn ychwanegol i gynghorau lleol yn yr Alban?

Wel, gyda pharch, dyna'n union rydym wedi'i wneud. Darparwyd pecyn cyllid gwerth bron i £0.5 biliwn gennym i awdurdodau lleol, ac mae awdurdodau lleol yn tynnu'r cyllid hwnnw i lawr bob mis ac yn chwarterol ar sail angen a'r cyllid y maent eisoes wedi'i wario. Felly ni ddylai fod dryswch i awdurdodau lleol ynglŷn â pha gyllid sydd ar gael iddynt, oherwydd mae'n amlwg iawn fod £310 miliwn ar gyfer y costau ychwanegol a ysgwyddir gan awdurdodau lleol o ganlyniad i'r pandemig, ac o fewn hwnnw rydym wedi nodi'r hyn y gall awdurdodau lleol wneud cais amdano: gwaith i gynorthwyo pobl i ddod oddi ar y strydoedd, gwaith ar brydau ysgol am ddim, gofal cymdeithasol i oedolion, corffdai dros dro, glanhau, a chronfa gyffredinol ar gyfer pob math o gostau eraill, megis staff TG, goramser, absenoldebau, cyfarpar diogelu personol a chostau glanhau. Ac rydym hefyd wedi ymestyn y cymorth i ofal cymdeithasol i oedolion o fis Hydref hyd ddiwedd y flwyddyn hefyd, fel na ddylai cyllid fod yn ddirgelwch i awdurdodau lleol. Rwy'n gwybod bod y trafodaethau a gefais gydag arweinwyr awdurdodau lleol wedi bod yn ddefnyddiol iawn yn sicr, ac maent yn croesawu'r cyllid yn fawr ac yn ei ddeall yn dda iawn.

Ochr yn ochr â hynny, buom yn gweithio'n agos iawn gydag awdurdodau lleol i ddeall lefel yr incwm y maent yn wynebu ei golli, a chytunwyd ar swm o £198 miliwn fel swm digonol i dalu'r costau hynny. Fel y dywedais, mae'r cyfan dan adolygiad drwy'r amser oherwydd ein bod yn gweithio'n agos iawn ac yn cael y diweddariadau misol a chwarterol hynny, ac os barnaf fod y cyllid hwnnw'n annigonol, mae'n amlwg y byddwn yn edrych arno eto, ond nid ydym wedi cael arwydd nad yw'n ddigonol ac ni fu unrhyw awgrym nad yw'r system yn glir.

14:00

Cymerodd fisoedd i gyllid chwarter 1 ddod drwodd, ac ym mis Gorffennaf, dywedodd adroddiad is-grŵp cyllid Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar arolwg incwm a gwariant COVID-19 ar gyfer chwarter 2 a phwysau cyllidebol yn y dyfodol fod Llywodraeth Cymru wedi cael cyllid o £280 miliwn fan lleiaf mewn symiau canlyniadol, ac y gallai gael mwy, oherwydd ar gyfer y chwarter cyntaf a'r ail chwarter oedd hwnnw. Fodd bynnag, ceir perygl o ddiffygion yn y gyllideb yn y dyfodol yn dibynnu ar nifer o ffactorau cymhleth a rhyng-gysylltiedig, ac mae senario waethaf yn nodi mai £475 miliwn fydd hyn. Bydd mynd i'r afael â diffygion mor fawr â hyn yn y flwyddyn ariannol gyfredol yn galw am drafodaethau ar draws lefelau'r Llywodraeth.

Dywedodd prif weithredwr CLlLC heddiw fod y sefyllfa bresennol yn ei gwneud yn anodd iawn i gynghorau gynllunio'n ariannol, felly rwy'n synnu nad ydych wedi clywed hynny. Dywedodd Sir y Fflint fod rheoli'r gyllideb mewn hinsawdd sy'n newid ac yn symud yn gyflym yn heriol iawn, a dywedodd Gwynedd unwaith eto fod ei sefyllfa ariannol yn heriol iawn. Sut rydych chi'n ymateb felly i alwadau o ogledd Cymru, ond yn cynrychioli Cymru gyfan, am sicrwydd fod penderfyniadau gan Lywodraeth Cymru sy'n arwain at golli incwm a gwariant ychwanegol oherwydd COVID yn parhau i gael eu talu gan Lywodraeth Cymru, a bod colledion casgliadau'r dreth gyngor yn cael eu cynnal, ac am eglurder ynghylch pa opsiynau ar gyfer benthyca gan awdurdodau lleol y gellir eu caniatáu er mwyn ateb pwysau ariannol? Cafodd hynny ei grybwyll wrthyf heddiw.

Fel y dywedais, rydym wedi rhoi'r sicrwydd hwnnw i awdurdodau lleol o ran y cyllid ychwanegol, ac fel y dywedais mewn ymateb i gwestiwn cynharach, hyd yma rydym wedi talu dros £127 miliwn ar gyfer costau ychwanegol, sy'n cael ei hawlio bob mis, a £59 miliwn ar gyfer colledion incwm hyd yma, a chaiff hwnnw ei hawlio bob chwarter. Felly, fel y gwelwch, ceir swm sylweddol o gyllid yn y pot sydd eto i'w hawlio.

Nid wyf yn anghytuno ag awdurdodau lleol fod hon yn sefyllfa heriol iawn, ac mae cyllidebu'n eithriadol o heriol, ond credaf fod y gronfa hon o arian, y buom yn gweithio gydag awdurdodau lleol i'w datblygu, rhaid imi ddweud, yn rhoi sicrwydd fod y cyllid yno. Rwy'n derbyn bod awdurdodau lleol yn profi pwysau mewn meysydd eraill, ac rydym yn dal i weithio gydag awdurdodau lleol ar hynny. Un fyddai colledion incwm, er enghraifft, ar daliadau'r dreth gyngor, ac i gydnabod hynny rwyf wedi darparu £2.9 miliwn ychwanegol i awdurdodau lleol er mwyn iddynt fynd i'r afael â rhywfaint o'r colledion incwm. Rydym yn gweithio'n agos iawn gyda hwy i ddeall colledion incwm o'r dreth gyngor dros weddill y flwyddyn ariannol, ond hefyd yn gwneud gwaith pwysig a manwl gyda hwy ar oblygiadau colledion incwm posibl o ardrethi annomestig hefyd, felly mae hwnnw'n waith sy'n mynd rhagddo.

Nid oes amheuaeth fod hon yn sefyllfa heriol i awdurdodau lleol, ond mae'n rhaid i ni gydnabod bod y cyllid hwn yn ei le, ac mae mecanwaith ar waith sydd wedi'i sefydlu mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, ac sydd mewn gwirionedd yn rhoi awdurdodau lleol mewn sefyllfa dda i ymateb i'r cyfyngiadau lleol, oherwydd nid oedd yn rhaid inni ddyfeisio system newydd yn sydyn: roedd gennym system ar waith a oedd yn gweithio ac y gallai awdurdodau lleol wneud cais iddi, neu hawlio arian ychwanegol ganddi.

14:05

Weinidog, ar 17 Awst eleni, cyhoeddodd Llywodraeth Lafur Cymru hwb ariannol o fwy na £216 miliwn i gynghorau lleol yng Nghymru i roi iddynt y sicrwydd y maent ei angen i gynllunio ar gyfer gweddill y flwyddyn, ac mae'n siomedig o ran yr adolygiad cynhwysfawr o wariant. Mae'r buddsoddiad ychwanegol hwnnw gan Lywodraeth Cymru ym mis Awst yn golygu bod cyfanswm cymorth COVID-19 Llywodraeth Lafur Cymru i awdurdodau lleol bron yn £0.5 biliwn. Weinidog, pa neges y mae hyn yn ei hanfon at fy etholwyr yn Islwyn am yr ymrwymiad y mae'r Llywodraeth Lafur yng Nghymru yn ei roi i awdurdodau lleol, megis awdurdod bwrdeistref sirol Caerffili, lle mae arweinwyr Llafur fel Philippa Marsden yn arwain ymatebion eu cymuned i'r pandemig byd-eang digynsail hwn?

Diolch i Rhianon Passmore am hynny ac am roi'r cyfle hwn imi gofnodi fy niolch i arweinwyr awdurdodau lleol, sydd wedi bod yn gwneud gwaith anhygoel yn cefnogi eu cymunedau ac yn sicrhau bod eu timau'n gallu ymateb i anghenion pobl ar lawr gwlad. Maent wedi gwneud gwaith anhygoel drwy gydol y pandemig ac wedi bod yn bartneriaid gwych i weithio gyda hwy i fynd i'r afael â'r pandemig hefyd.

O ran beth y mae hyn yn ei ddweud, rwy'n gobeithio ei fod yn dweud bod y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru yn rhoi premiwm uchel iawn ar awdurdodau lleol a'r gwasanaethau y maent yn eu darparu. Os edrychwch dros y ffin, gallwch weld yn union beth yw barn Llywodraeth y DU am awdurdodau lleol, o ran y ffordd y maent wedi lleihau cyllid i awdurdodau lleol dros flynyddoedd lawer, a nawr yn y ffordd y maent yn methu ymgysylltu'n briodol ag arweinwyr, megis Andy Burnham ym Manceinion, er enghraifft. Felly, rwy'n gobeithio bod hyn yn dangos bod Llywodraeth Cymru'n gwerthfawrogi awdurdodau lleol ac yn awyddus iawn i weithio mor agos ag sy'n bosibl gydag awdurdodau lleol, gan eu parchu fel partneriaid pwysig wrth fynd i'r afael â'r pandemig hwn.

Fferm Cosmeston

4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddatblygiad preswyl arfaethedig Llywodraeth Cymru ar Fferm Cosmeston ym Mhenarth? OQ55747

Cyflwynwyd cais cynllunio ar gyfer datblygiad preswyl ar dir yn Cosmeston. Neilltuwyd y safle ar gyfer tai yng nghynllun datblygu lleol mabwysiedig Bro Morgannwg. Os rhoddir caniatâd, bydd y safle'n esiampl ar gyfer cartrefi fforddiadwy a chynaliadwy gan ddefnyddio dulliau modern o adeiladu ac effeithlonrwydd ynni.

Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Mae hwn yn ddatblygiad sylweddol ar gyrion Penarth. Mae'n 60 erw o dir sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru ac yn amlwg, cais gan Lywodraeth Cymru i'r awdurdod lleol yw hwn, sef Cyngor Bro Morgannwg. Ac rwy'n datgan buddiant fel aelod o'r awdurdod hwnnw. A ydych yn credu ei bod yn briodol i gynllun mor fawr gael ei gyflwyno a'i hyrwyddo gan Lywodraeth Cymru gyda'r cyfyngiadau presennol yn atal ymgysylltiad â'r cyhoedd ar gynlluniau mor fawr? Ac a fyddai Llywodraeth Cymru yn ailystyried y cais hwn, gan ei dynnu'n ôl ac aros am adeg well, fel y gall y cyhoedd gael cyfle teg i ymgysylltu ac ymgynghori ynghylch y cynigion pwysig hyn ar gyfer datblygiad preswyl?

Wel, rwy'n credu ei bod yn bwysig cydnabod bod y tir eisoes wedi'i neilltuo i'w ddatblygu yng nghynllun datblygu lleol Bro Morgannwg, ac mae hwnnw eisoes wedi'i fabwysiadu wrth gwrs ac roedd yn destun ymgynghori, craffu ac archwilio drwy gydol y broses o'i baratoi. Fel y dywedais, byddai'r tir yn Cosmeston yn cyfrannu'n sylweddol at yr angen am dai a nodwyd ym Mro Morgannwg. Ac wrth gwrs, os nad yw'r cynnig hwn yn mynd rhagddo, mae'n debygol y bydd angen neilltuo safle arall. Ond yn bwysig, mae angen cyflwyno sylwadau i'r cyngor mewn perthynas â'r cais, a byddwn yn disgwyl i'r awdurdod lleol ddod o hyd i ffyrdd o ymgysylltu â'r cyhoedd a chaniatáu iddynt gyflwyno eu sylwadau ynglŷn â'r cynllun penodol hwn, ni waeth beth fo'r sefyllfa bresennol.

Tai Cyfradd Uwch

5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am niferoedd y tai cyfradd uwch sy'n ymddangos yn ffigurau diweddaraf y dreth trafodiadau tir? OQ55756

Gwnaf. Cyhoeddwyd y data diweddaraf ar y dreth trafodiadau tir gan Awdurdod Cyllid Cymru ar 25 Medi. Dangosai fod 3,300 o drafodiadau cyfradd uwch wedi digwydd rhwng 1 Ebrill a 31 Awst.

Diolch ichi am yr ateb. Mae'r tai, wrth gwrs, sydd o fewn y gyfradd uwch yn cynnwys nifer o wahanol fathau o dai, megis gwerthiant ail dai, eiddo prynu i osod, tai sy'n cael eu gwerthu i gymdeithasau tai, ac yn y blaen. Felly mae yna ystod o wahanol fathau o fewn yr un gyfradd yna. 

Nawr, rŷn ni'n ddiweddar yn fan hyn yn y Senedd, wrth gwrs, wedi trafod yr argyfwng tai a chynigion penodol i fynd i'r afael â hynny, ond mae wedi profi'n amhosibl cael yr ystadegau angenrheidiol i ddeall faint o'r gyfradd uwch yna sydd yn ail dai, sydd yn dai prynu i'w gosod ac yn y blaen, ac mae hynny, wrth gwrs, yn ei gwneud hi'n anoddach wrth edrych i lunio polisi. Felly, gaf i ofyn a wnewch chi sicrhau bod y ffigurau treth tafodiadau tir yn gwahaniaethu'n glir rhwng y mathau yna o dai a brynwyd oddi mewn i'r gyfradd uwch er mwyn i ni gael darlun cliriach o union natur ffynhonnell yr incwm sy'n dod o'r gwahanol fathau o dai yna?

14:10

Rwy'n ddiolchgar i Llyr Gruffydd am godi'r mater penodol hwn, a gwn fod gennym gyfarfod yn fuan hefyd lle gallwn gael cyfle i siarad am dreth trafodiadau tir, ond hefyd mater ehangach ail gartrefi, oherwydd gwn ei fod yn fater sy'n peri pryder difrifol i lawer o bobl.

Mae Llyr yn llygad ei le yn yr ystyr na allwch ddarllen neu fod anhawster mawr i ddehongli'r data fel y mae gennym, o ran y dreth trafodiadau tir a'r gyfradd uwch honno, oherwydd mae'n cynnwys pobl sy'n pontio o un cartref i'r llall—felly, pobl sy'n gwerthu eu prif gartref i symud i brif gartref arall, ond ceir cyfnod rhwng symud i'r ail a gwerthu'r cyntaf, os mynnwch—ac fel y crybwyllwyd hefyd, mae'n cynnwys eiddo a brynir gan landlordiaid preswyl, a byddai hynny'n rhywbeth rwy'n siŵr y byddai llawer ohonom yn gefnogol iawn iddo. Ac yn yr un modd, nid yw'r data'n dangos y tir sy'n mynd y ffordd arall, felly eiddo a oedd gynt yn eiddo prynu i osod sydd bellach yn cael ei brynu fel prif eiddo. Ond pan gawn y cyfarfod hwnnw, credaf y byddai'n gyfle i ni drafod yn fanylach i ba raddau y gallwn gael gwell data, mewn gwirionedd, er mwyn inni ddeall beth sy'n digwydd y tu ôl i'r ffigurau hynny. Ond edrychaf ymlaen at y sgwrs honno.

Caffael Lleol

6. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o lefel caffael lleol gan gyrff cyhoeddus yng Ngorllewin De Cymru? OQ55752

Gwariant caffael Gorllewin De Cymru, ar lefel awdurdod lleol, yn 2018-19 oedd £588 miliwn gyda 61 y cant yn cael ei wario yng Nghymru. Rydym yn gweithio gyda chydweithwyr i ddarparu fframweithiau caffael cenedlaethol yn rhanbarthol ac i sicrhau mwy o ganlyniadau economaidd a lles. Mae rhaglen yr economi sylfaenol hefyd yn gweithio i nodi cyfleoedd ar gyfer lleoleiddio gwariant caffael.

Diolch ichi am hynny, Weinidog. Nawr, mae data a gedwir ar gyfer y flwyddyn ariannol lawn ddiweddaraf, 2018-19, yn dangos mai dim ond 55 y cant o gyfanswm contractau awdurdodau lleol a'r GIG yng Nghymru a enillwyd gan gyflenwyr yng Nghymru. Mewn geiriau eraill, collwyd 45 y cant o wariant contractau i'r tu allan i Gymru. Gwyddom fod yr Alban yn cadw tua 70 y cant o'i chontractau o fewn ei ffiniau. Gwyddom hefyd y gall cefnogi cwmnïau lleol drwy eu hannog i dendro a thrwy ddyfarnu contractau sector cyhoeddus iddynt effeithio'n sylweddol ar yr economi leol a chreu swyddi. A ydych chi'n derbyn felly fod angen i Lywodraeth Cymru wneud mwy drwy weithio gyda chyrff megis cyngor Abertawe a bwrdd iechyd bae Abertawe i sicrhau bod mwy o gontractau cyhoeddus yn cael eu dyfarnu i gwmnïau lleol?

Rwy'n awyddus iawn i weithio gyda chyngor Abertawe a chyda'r bwrdd iechyd i weld beth arall y gallwn ei wneud er mwyn sicrhau bod cwmnïau lleol yn ennill y contractau hynny. Nid oedd y data y cyfeiriais ato yn fy ymateb, wrth gwrs, ond yn cyfeirio at awdurdodau lleol, oherwydd nid yw sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus, megis byrddau iechyd ac eraill, o reidrwydd wedi'u lleoli mewn un ardal, felly nid ydym wedi gallu eu cynnwys yn y dadansoddiad. Felly, mae'n werth cofio hynny fel rhyw fath o rhybudd iechyd ar gyfer y data hwnnw.

Ond rwy'n cytuno'n llwyr fod mwy y gallwn ei wneud, a gallwn wneud hynny drwy ein dull o weithredu rhaglen yr economi sylfaenol. Rydym wedi gofyn i'r Ganolfan Strategaethau Economaidd Lleol weithio gyda chlystyrau o fyrddau gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru i nodi cyfleoedd ar gyfer lleoleiddio gwariant caffael. Mae hwnnw'n waith gwirioneddol bwysig a chyffrous y credaf ei fod yn cynnig cyfle i newid pethau'n llwyr.

Mae gennym gronfa her yr economi sylfaenol hefyd wrth gwrs, ac mae cyngor Abertawe yn cyflawni un o'r prosiectau hynny sy'n anelu at gynyddu'r gyfran o gontractau adeiladu a enillir gan gontractwyr lleol yma yn yr ardal. Felly, unwaith eto, mae hwnnw'n waith pwysig, a gallwn rannu'r gwersi a ddysgir o hynny ledled Cymru hefyd. A chredaf fod y pandemig wedi rhoi cyfleoedd enfawr i ni gefnogi ac ymgysylltu â busnesau lleol mewn ffordd nad ydym wedi gallu ei wneud o'r blaen. Ceir rhai enghreifftiau rhagorol o sut y mae cwmnïau peirianneg lleol ac eraill yn newid y ffordd y maent yn cynhyrchu pethau er mwyn helpu gyda'r ymdrech drwy symud i gynhyrchu cyfarpar diogelu personol ac yn y blaen. Mae hynny wedi bod yn wych i gefnogi busnesau lleol ond hefyd i roi sicrwydd i wasanaethau cyhoeddus eraill o ran y gadwyn gyflenwi o nwyddau pwysig yn ystod y pandemig.

14:15
Cymorth Ariannol yn sgil Cyfyngiadau Coronafeirws

7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cymorth ariannol sydd ar gael i'r rheini y mae cyfyngiadau coronafeirws lleol yn effeithio arnynt? OQ55719

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno ystod o fesurau i gefnogi cymunedau ledled Cymru, gan gynnwys bron i £300 miliwn sydd bellach ar gael i gefnogi busnesau yn ystod y cyfnod atal byr. Rydym yn canolbwyntio'n benodol ar gefnogi busnesau a gweithio gydag awdurdodau lleol i fynd i'r afael ag anghenion pobl yng Nghymru.

Diolch ichi am yr ateb hwnnw, Weinidog. Nid busnesau'n unig sydd wedi ysgwyddo baich y cyfyngiadau a osodwyd ledled Cymru yn ystod y misoedd diwethaf. Gwyddom fod y gwasanaeth iechyd gwladol wedi gweld amseroedd aros yn cynyddu'n eithafol yn y misoedd diwethaf, ac wrth gwrs, yng ngogledd Cymru'n enwedig, roedd gennym yr amseroedd aros gwaethaf yn y wlad yn barod. A gaf fi ofyn i chi pa gymorth penodol y bwriadwch ei ddarparu o gyllideb Llywodraeth Cymru i gynorthwyo'r GIG i ymdrin â'r ôl-groniad enfawr o gleifion sy'n aros am apwyntiadau a thriniaethau? Ac yn benodol, a wnewch chi gefnogi Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gydag unrhyw strategaeth y mae'n ei chyflwyno er mwyn dileu'r rhestrau aros hynny a llwyddo i'w cael dan reolaeth unwaith eto?

Diolch i chi am godi'r mater pwysig hwn. Fel y gŵyr Darren Millar, yn ddiweddar cyhoeddodd Llywodraeth Cymru becyn sefydlogi ar gyfer y GIG yma yng Nghymru, ac mae'n becyn cymorth gwerth £800 miliwn a ddylai ganiatáu i fyrddau iechyd ac eraill ledled Cymru allu cyrraedd y pwynt ar ddiwedd y flwyddyn ariannol lle maent wedi gallu goresgyn yr holl bwysau ychwanegol a osodwyd arnynt gan COVID, a sefydlogi rhannau eraill o'r GIG yn ogystal, sydd mor bwysig hefyd wrth gwrs. Felly, mae'r cyllid hwnnw yno. Darparais floc o gyllid yn hytrach na gorfod cael sefyllfa lle byddai'n rhaid i'r Gweinidog iechyd barhau i ddod i gyfarfodydd unigol i drafod gwahanol rannau o'r gwasanaeth iechyd. Teimlwn mai chwistrelliad sylweddol o gyllid i'r adran iechyd oedd y ffordd orau o roi'r gallu iddo drosglwyddo'r cyllid a'r sicrwydd hwnnw'n gyflymach wedyn. Oherwydd rwy'n credu mai un o'r pethau rydym bob amser yn ceisio'i wneud yn ystod y pandemig hwn yw darparu cyllid cyn gynted ag y gallwn, a theimlwn mai dyna'r ffordd briodol o symud ymlaen. Rwyf wedi bod yn cael trafodaethau yn fy nghyfarfodydd dwyochrog rheolaidd gyda'r Gweinidog iechyd ynglŷn â chymorth i Betsi Cadwaladr ac mae'r trafodaethau hynny'n mynd rhagddynt ar hyn o bryd.

Ariannu Gwaith Adfer yn Dilyn Llifogydd

8. Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog wedi'i rhoi i ariannu gwaith adfer yn dilyn llifogydd yng Nghymru wrth ddyrannu cyllideb Llywodraeth Cymru? OQ55745

Mae atal a goresgyn llifogydd yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon. Ochr yn ochr â'r cyllid a ddarparwyd yn dilyn llifogydd dinistriol mis Chwefror, erbyn diwedd tymor y Senedd hon, byddwn wedi buddsoddi £390 miliwn i reoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol, gan helpu i ddiogelu dros 47,000 eiddo yng Nghymru.

Weinidog, mae cyllid Llywodraeth Cymru wedi'i groesawu'n fawr, yn enwedig y cyllid 100 y cant ar gyfer gwaith paratoi yn sgil difrod llifogydd mis Chwefror. Bythefnos yn ôl, gofynnais am yr addewid a wnaeth y Prif Weinidog ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru y byddai arian yn cael ei roi i Lywodraeth Cymru ar gyfer y difrod llifogydd a ddigwyddodd. Mae asesiad Rhondda Cynon Taf oddeutu £70 miliwn, ac wrth gwrs mae mater yn codi ynghylch ariannu'r gwaith sydd angen ei wneud i sefydlogi a gweithio ar domenni glo. Weinidog, a ydych wedi cael unrhyw arwydd eto gan Lywodraeth y DU y bydd yr arian a addawyd yn dod er mwyn galluogi Rhondda Cynon Taf i wneud y gwaith atgyweirio seilwaith y mae cymaint o'i angen?

Diolch i Mick Antoniw am y cwestiwn hwnnw a hefyd am y cyfarfodydd defnyddiol a gawsom er mwyn clywed o lawr gwlad ynglŷn â'r cymorth sydd ei angen ar yr awdurdod lleol a chymunedau er mwyn ymadfer yn iawn a symud ymlaen ar ôl y llifogydd dinistriol. Rydym wedi darparu cyllid cynnar a sicrwydd cynnar i awdurdodau lleol i ganiatáu iddynt fwrw ymlaen â'r gwaith, oherwydd gwyddom fod problemau diogelwch ynghlwm wrth hyn. Ond o ran y ffordd y mae Llywodraeth y DU wedi gallu chwarae ei rhan, mae wedi bod yn eithaf truenus hyd yma, o ystyried bod y Prif Weinidog wedi gwneud addewid mor gryf y byddai cyllid yn cael ei roi i Gymru o ganlyniad i'r llifogydd a'r angen i fynd i'r afael â hynny. Nid ydym wedi gweld ceiniog ohono eto. Rydym wedi gweld ymrwymiad i ychydig o gyllid, ond fel y dywed Mick Antoniw, mae'r cyllid cyffredinol ar gyfer mynd i'r afael â'r difrod lleol ond hefyd y gwaith sydd angen ei wneud dros gyfnod hir ar domenni glo yng Nghymru yn gannoedd o filiynau o bunnoedd. Cefais lythyr yn ddiweddar gan Brif Ysgrifennydd y Trysorlys yn awgrymu sgwrs bellach am hynny, ac edrychaf ymlaen at honno, ond credaf fod maint y broblem yma yn un lle mae gwir angen i Lywodraeth y DU gyflawni ei haddewid, a wnaed gan y Prif Weinidog, a chydnabod hefyd, mewn perthynas â'r tomenni glo, fod llawer o hyn yn rhagflaenu datganoli hefyd. Credaf fod gan yr Awdurdod Glo rôl arbennig a phenodol i'w chwarae i fynd i'r afael â'r materion hyn.

14:20
Datganiadau Ariannol Biliau

9. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae datganiadau ariannol sy'n cyd-fynd â Biliau newydd yn cymharu â'r costau gwirioneddol a geir? OQ55760

Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi tabl sy'n dangos costau gweithredu deddfwriaeth a ddaw i rym ochr yn ochr â'r gyllideb ddrafft. Mae'r tabl yn cynnwys esboniad os yw costau wedi newid yn sylweddol o amcangyfrifon yr asesiad effaith rheoleiddiol. Mae canllawiau'n nodi, lle bo'n ymarferol, y dylid ystyried gwir gost deddfwriaeth fel rhan o'r adolygiad ôl-weithredu.

Diolch yn fawr am y wybodaeth honno, oherwydd nid ydym yn cael llawer iawn o amser ar gyfer craffu ar ôl deddfu yma yn y Senedd hon, a gall olrhain y costau parhaus y gellir eu priodoli i ddeddfwriaeth fod yn anodd iawn, yn enwedig ar hyn o bryd pan na chawn gyfle i graffu cyn deddfu ar gost rheoliadau. A allwch gadarnhau am ba hyd y mae costau canlyniadau yn denu ar ôl i wahanol rannau o'r statudau a'r rheoliadau ddod i rym? A phryd y bwriadwch gyhoeddi datganiad cynhwysfawr ar gostau'r Ddeddf coronafeirws a'r rheoliadau COVID a gyflwynwyd oddi tani?

Diolch i chi am ofyn y cwestiwn hwnnw. O ran pa bryd y byddwn yn cyhoeddi'r manylion hynny, rydym yn cyhoeddi manylion ochr yn ochr â'r gyllideb ddrafft bob blwyddyn mewn perthynas â deddfwriaeth sy'n dod i rym. Fel arfer, byddem yn rhoi'r gorau i ddarparu'r wybodaeth honno pan fydd y Ddeddf wedi dod yn weithredol, oherwydd daw costau hynny a chyflawni hynny yn gostau busnes fel arfer a chânt eu hamsugno naill ai gan yr adrannau neu gael arian penodol ychwanegol wedi'i gysylltu â hwy. Felly, dyna'r ffordd arferol y byddem yn darparu manylion am hynny. Rwyf bob amser yn awyddus i archwilio beth arall y gallwn ei wneud o ran tryloywder a darparu'r wybodaeth y mae pobl ei hangen, cyn pleidleisio ar Filiau, ond wedyn hefyd. Felly, byddwn yn fwy na pharod i gael y drafodaeth honno gyda Suzy os oes syniadau penodol ganddi neu bryderon penodol yr hoffai eu trafod yn fanylach, oherwydd fel y dywedais, mae tryloywder yn bwysig iawn i helpu pobl i ddeall beth oedd cost y Biliau a roddwyd mewn grym gennym.

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg

Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Addysg. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Hefin David.

COVID-19 ac Ysgolion

1. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau y disgwylir i ysgolion eu cymryd i gyfyngu ar y risg o ledaenu heintiau COVID-19? OQ55750

Mae'r canllawiau gweithredol yn nodi'n glir y camau y mae angen i ysgolion a lleoliadau eu cymryd er mwyn cyfyngu ar y risg o ledaenu COVID-19. Mae'n hanfodol nad yw staff a disgyblion sy'n dangos unrhyw symptomau o COVID-19 yn mynychu'r ysgol a'u bod yn trefnu prawf.

Mae dau beth yn gysylltiedig â hynny. Yn gyntaf oll, cefais gwestiynau gan rieni'n gofyn inni gyfiawnhau'r ffaith na fydd blwyddyn 9 ymlaen yn yr ysgol yn ystod y cyfyngiadau symud yr wythnos ar ôl hanner tymor. A allwch ailadrodd y rhesymau am hynny a pham y mae hynny'n digwydd? Ac yn gysylltiedig â hynny, y cyngor i ysgolion yw cadw ystafelloedd dosbarth wedi'u hawyru. Mae nifer o rieni—ac athrawon mewn gwirionedd—wedi dod ataf i ddweud bod ystafelloedd dosbarth wedi'u hawyru yn oer iawn. Mae'n bryder sydd wedi'i godi yng Nghaerffili, ond rwyf wedi'i weld mewn mannau eraill hefyd. Rwyf wedi ysgrifennu at gyngor Caerffili ac maent yn dweud eu bod yn rhoi cyngor i ysgolion, ond a yw'n bosibl i Lywodraeth Cymru hefyd roi cyngor nad yw awyru o reidrwydd yn golygu ystafelloedd dosbarth rhewllyd, sy'n eithaf pwysig?

14:25

Dylai ysgolion a lleoliadau sicrhau bod lefel ddigonol o awyru'n digwydd, ac mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi canllawiau gweithredol i ysgolion ynglŷn â hynny. O ran goblygiadau'r cyfnod atal byr i addysg, rwyf wedi bod yn glir iawn ers yr haf hwn mai'r ffordd orau o darfu cyn lleied â phosibl ar addysg ein plant yw cadw lefelau trosglwyddo COVID-19 yn y gymuned mor isel â phosibl. Fel Llywodraeth, rydym yn cydnabod bod cyfnod atal byr yn hanfodol os ydym am ostwng lefelau trosglwyddo a lleihau'r gyfradd R. Rwy'n sylweddoli bod hwn yn gyfnod anodd iawn i rieni a dysgwyr ym mlwyddyn 9 ac uwch, ond gall y grwpiau blwyddyn hyn ymroi i ddysgu hunangyfeiriedig yn haws na rhannau eraill o'r garfan, a byddant yn cael cymorth i wneud hynny am yr wythnos gan eu hathrawon, a fydd yn yr ystafell ddosbarth.

Diolch, Lywydd. Cymerodd dipyn o amser i droi'r sain ymlaen, mae'n ddrwg gennyf. Weinidog, mae ein hysgolion, fel y gwyddoch, yn gwneud gwaith rhagorol, ac yn gweithio'n galed iawn i sicrhau bod yr ysgolion yn ddiogel rhag COVID i ddisgyblion ac athrawon fel ei gilydd. Fodd bynnag, mae'n ymddangos bod un man gwan, wrth ollwng a chasglu plant. Er bod yna systemau un ffordd gwych, trefniadau i gasglu plant ar wahanol amseroedd, yr holl bethau gwych hynny'n digwydd, nid yw rhieni a gwarcheidwaid, ar y cyfan, yn cadw pellter cymdeithasol a gwisgo masgiau. A ydych chi'n meddwl bod ychydig mwy y gallwch chi a Llywodraeth Cymru ei wneud i fynd i'r afael â hyn? Mae'n ymddangos bod perygl i hyn ddadwneud yr holl waith da a wneir gan yr ysgol, yn enwedig gan ein bod yn ceisio atal pobl rhag ymgynnull yn ystod y cyfnod atal byr. Diolch.

Yn gyntaf oll, a gaf fi ddiolch i chi, Laura, am gydnabod y gwaith caled, ar ran arweinwyr ysgol ac athrawon, i wneud ein hysgolion a'n colegau mor ddiogel ag y gallant fod? Ond rydych chi'n llygad eich lle; gall rhieni wella'r ymdrechion hynny'n sylweddol drwy sicrhau eu bod yn dilyn yr holl gyngor perthnasol pan fyddant yn dod â'u plant i'r ysgol ac yn eu casglu, a phan fyddant yn trefnu gweithgareddau eraill ar gyfer eu plant. Rydych yn gywir; mynegwyd pryderon wrthym am deuluoedd yn ymgynnull wrth gât yr ysgol ac nad ydynt yn gwneud hynny mewn ffordd sy'n cadw pellter cymdeithasol, neu deuluoedd efallai sy'n goruchwylio gweithgareddau plant, ac unwaith eto, teuluoedd yn anghofio gwneud hynny mewn ffordd sy'n cadw pellter cymdeithasol oddi wrth famau, tadau, gofalwyr a neiniau a theidiau eraill. Bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r amser hwn i adolygu ein holl gyfathrebiadau, er mwyn cyfleu negeseuon cryf i rieni a gofalwyr fod ganddynt hwythau rôl hollbwysig i'w chwarae hefyd yn sicrhau cyn lleied â phosibl o darfu ar addysg eu plant, ac mai un o'r ffyrdd hawdd y gallant wneud hynny yw cofio parhau i gadw pellter cymdeithasol oddi wrth rieni eraill ar ddechrau ac ar ddiwedd diwrnodau ysgol.

Canolfannau Addysg Awyr Agored

2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am agor canolfannau addysg awyr agored yn ystod pandemig COVID-19? OQ55739

Diolch, Russell. Rwy'n cydymdeimlo â'r her a wynebir gan ganolfannau addysg awyr agored oherwydd y pandemig. Mae ein canllawiau presennol yn cynghori yn erbyn teithiau ysgol preswyl domestig, ond mae'n caniatáu teithiau dydd amhreswyl domestig. Caiff y canllawiau hyn eu hadolygu'n barhaus a bydd y cyngor meddygol a gwyddonol diweddaraf yn llywio'r wybodaeth ddiweddaraf.

Diolch am eich ateb, Weinidog, ac rwy'n ddiolchgar eich bod yn cydymdeimlo, fel y nodwyd gennych. Mae dwy ganolfan awyr agored, fel mae'n digwydd, wedi bod mewn cysylltiad â mi, canolfannau sydd wedi'u lleoli ym Mhowys yn fy etholaeth; rwy'n gwybod, Weinidog, y bydd gennych ganolfannau awyr agored tebyg yn eich etholaeth eich hun ym Mhowys hefyd. Maent yn awyddus i Lywodraeth Cymru ddarparu canllawiau a fydd yn caniatáu iddynt ailagor ar yr un sail ag ysgolion, i'w hatal rhag mynd rhwng y cŵn a'r brain. Byddwn yn awgrymu bod canolfannau addysgol awyr agored yn cynnig manteision enfawr o ran datblygiad personol, addysg ac iechyd corfforol a meddyliol. Rwy'n ymwybodol fod Tim Farron AS yn ymgyrchu dros newid yng nghanllawiau cyfredol Llywodraeth y DU, sy'n atal ymweliadau addysgol dros nos mewn canolfannau addysgol awyr agored, ac rwy'n ymgyrchu'n gryf dros yr un peth yma yng Nghymru. Felly, a gaf fi ofyn i chi, Weinidog, a fyddwch yn gallu trafod gyda'ch cyd-Aelodau a chymryd camau i ganiatáu iddynt ailagor, gyda chanllawiau priodol i ddilyn, ar ôl y cyfnod presennol o gyfyngiadau symud a ddaw i ben ddechrau mis Tachwedd?

14:30

Russell, rydych yn gywir—gall addysg awyr agored roi manteision enfawr i blant a phobl ifanc, ac fel y dywedoch chi, mewn amrywiaeth o sgiliau a gwybodaeth sy'n datblygu. Ar hyn o bryd, gall teithiau dydd i ganolfannau preswyl o'r fath fynd rhagddynt, a chyn belled â bod ysgolion yn gwneud hynny mewn ffordd sy'n asesu risg, nid oes rheswm pam y dylai'r holl weithgareddau hynny ddod i ben. Ond ar hyn o bryd, mae cyngor gwyddonol yn glir iawn nad yw teithiau preswyl yn briodol. Ond fel y dywedais yn fy ateb cychwynnol i chi, byddwn yn parhau i adolygu hynny, ac nid ydym eisiau cyfyngu ar y teithiau preswyl hynny am eiliad yn hwy na sydd angen, o ystyried y manteision rydych wedi'u hamlinellu i blant.

Weinidog, diolch i chi am y sicrwydd nad ydych eisiau cadw'r rhain ar gau ar gyfer ymweliadau preswyl am funud yn fwy nag sy'n angenrheidiol, ac y byddwn, pan fydd hi'n ddiogel, yn dychwelyd at gael ymweliadau preswyl. Fe fydd hi'n gwybod mai ymweld â chanolfannau addysg awyr agored, i lawer ohonom, oedd y tro cyntaf inni gael ein trochi mewn amgylchedd awyr agored, a dysgu, drwy sgiliau a hyder a hunan-barch, yr holl fanteision a ddaw o hynny. Felly, a gaf fi ofyn iddi, yn gyntaf, a fydd hi, ynghyd â chyd-Aelodau eraill yn y Cabinet, yn parhau i weithio gyda phobl fel y Sefydliad Dysgu yn yr Awyr Agored a Chynghrair Awyr Agored Cymru i roi'r cynlluniau hynny ar waith ar gyfer pan allwn ddychwelyd at ddysgu preswyl yn yr awyr agored? Ond yn ail, a wnaiff hi hefyd, gyda chyd-Aelodau eraill yn y Cabinet, weithio gyda Llywodraeth y DU i ddiwygio'r cynlluniau cefnogi swyddi presennol sydd ganddynt i ymestyn eu cyrhaeddiad i'r amgylchedd dysgu yn yr awyr agored? Ar hyn o bryd, nid ydynt yn gallu gwneud cais am y cymorth hwnnw, ac mae angen i ni sicrhau eu bod yn goroesi'r cyfyngiadau presennol hyn, er mwyn ailadeiladu ar ôl yr argyfwng hwn.

Diolch, Huw. Rwy'n siŵr y bydd llawer o bobl wedi rhannu eich profiad—mai'r gallu i fynd ar daith breswyl oedd y cyfle cyntaf i dreulio amser estynedig yn yr amgylchedd naturiol. A gwn fod hwnnw'n rhywbeth sy'n cael ei werthfawrogi'n fawr gan lawer o ysgolion mewn rhannau o Gymru lle mae mynediad at yr awyr agored yn fwy cyfyngedig o bosibl, gallu mynd â phlant allan i ardaloedd—megis etholaeth Russell George, ac yn wir i Frycheiniog a Sir Faesyfed—i roi'r profiad hwnnw iddynt a gobeithio, cariad a diddordeb gydol oes mewn treulio amser yn yr awyr agored.

Fel y dywedais, rydym yn parhau i adolygu'r mater hwn. Cyfarfu fy swyddogion â Iechyd Cyhoeddus Cymru mor ddiweddar â 14 Hydref, i drafod priodoldeb y cyngor presennol. Yn anffodus, ar hyn o bryd, ni argymhellir teithiau preswyl, ond cyn gynted ag y gallwn wneud hynny, byddwn yn amlwg eisiau newid hynny.

O ran trafodaethau am gymorth economaidd, gan gydnabod pwysigrwydd addysg awyr agored i blant yn ogystal â'r ffaith eu bod, mewn gwirionedd, yn gyflogwyr gwerthfawr yn eu hawl eu hunain mewn cymunedau gwledig, gall canolfannau o'r fath wneud cais am gefnogaeth gan y gronfa cadernid economaidd y mae Llywodraeth Cymru wedi'i darparu. Ond byddaf yn sicr yn cyflwyno'r sylwadau rydych wedi gofyn amdanynt y prynhawn yma, a byddaf yn ysgrifennu'n ôl at yr Aelod.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Siân Gwenllian.

Diolch, Llywydd. Gaf i ddechrau gyda sefyllfa ariannol ein prifysgolion yn sgil yr argyfwng iechyd? Dwi'n ymwybodol bod yna gymorth yn cael ei ddarparu drwy'r gronfa buddsoddi ac adfer addysg uwch. Mae'n debyg bod y ceisiadau angen bod i mewn erbyn diwrnod olaf y mis yma, sydd wrth gwrs reit yng nghanol y cyfnod clo byr. Ac, wrth gwrs, mi fydd gan y prifysgolion anghenion ychwanegol yn sgil y cyfnod clo sydd yn cychwyn cyn bo hir, yn enwedig o ran cael help efo track and trace a llesiant meddyliol ac emosiynol.

Mae'r gefnogaeth yn cael ei rhannu rhwng cymorth i brifysgolion unigol a dyraniad ar gyfer buddsoddi cydweithredol. O dan yr amgylchiadau newydd, a wnewch chi feddwl ynglŷn ag ymestyn yr amser sydd gan y prifysgolion i wneud eu ceisiadau? Ond hefyd, a wnewch chi feddwl am newid y ffordd mae'r arian yma yn cael ei ddyrannu, fel eich bod chi'n diwygio'r dosbarthiad cyllid, er mwyn bod y cyllid yn cael ei flaenoriaethu ar gyfer y cymorth brys i brifysgolion unigol, yn hytrach nag ar gyfer y buddsoddi cydweithredol? 

14:35

Diolch i chi am y cwestiwn hwnnw. Yn wir rydym wedi sicrhau bod adnoddau ychwanegol ar gael i'r sector addysg uwch, mewn arian ychwanegol i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru a llythyr cylch gwaith i CCAUC i gefnogi'r gwaith o ddosbarthu a blaenoriaethu'r adnoddau hynny.

Mae'r Aelod yn codi mater amserlenni—mater i CCAUC yw hwnnw. Yr hyn y mae prifysgolion wedi'i ddweud wrthyf yw eu bod yn awyddus iawn i weld yr arian hwnnw yn eu cyfrifon, yn hytrach nag yng nghyfrifon CCAUC. Felly, onid oes angen sicrhau cydbwysedd drwy ddod â'r broses ymgeisio honno i ben a dyrannu'r arian hwnnw, yn hytrach nag ymestyn y broses ymgeisio?

O ran gofyn i brifysgolion gydweithio, mae awydd mawr ymhlith y sector addysg uwch yma yng Nghymru, sy'n seiliedig ar werthoedd cydweithredu yn hytrach na chystadlu, i gydweithio a chefnogi ei gilydd yn ystod y cyfnod hwn. Mae hynny'n arbennig o bwysig er mwyn gallu darparu adnoddau ar gyfer dull dysgu cyfunol a chynorthwyo ei gilydd i ddarparu cyfleoedd dwyieithog ar gyfer dysgu cyfunol. Felly, ni fyddwn eisiau cyfyngu ar allu prifysgolion Cymru, sy'n gweld gwerth mewn cydweithredu i helpu ei gilydd i ddod drwy'r cyfnod hwn.

Yn amlwg, mae'r sefyllfa'n newid drwy'r amser. Rwy'n falch iawn y bydd prifysgolion, yn ystod y cyfnod atal byr, yn gallu parhau i ddarparu dull dysgu cyfunol gydag addysgu wyneb yn wyneb yn ogystal â dysgu o bell. Ond yn amlwg, rydym yn cyfarfod yn rheolaidd â CCAUC a'r prifysgolion ac Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru i drafod pa gymorth ychwanegol y gallai fod ei angen ar brifysgolion ac addysg uwch a myfyrwyr yn ystod y cyfnod hwn, ar drothwy cyfnod ansicr y gaeaf. 

Dwi'n croesawu eich penderfyniad i ymestyn eich cynllun cinio am ddim i gynnwys y gwyliau ysgol tan wanwyn y flwyddyn nesaf, a hefyd eich penderfyniad i ymestyn y cinio am ddim i gynnwys mwy o ddisgyblion, yn enwedig y rhai o deuluoedd incwm isel. A wnewch chi ystyried ei ymestyn ymhellach i gynnwys teuluoedd sy'n derbyn credyd cyffredinol sylfaenol, neu, yn well fyth, i bob plentyn yng Nghymru, o gofio pa mor anodd ydy hi i deuluoedd gael dau ben llinyn ynghyd, a hefyd pa mor bwysig ydy hi i blant gael bwyd maethlon? 

Diolch, Siân. Cymru, yn ôl yng ngwanwyn eleni, oedd rhan gyntaf y Deyrnas Unedig i gyhoeddi cefnogaeth barhaus i deuluoedd sydd â hawl i gael prydau ysgol am ddim yn ystod gwyliau ysgol, ac rwy'n falch iawn fy mod wedi gallu gweithio gyda'r Gweinidog cyllid i sicrhau £11 miliwn ychwanegol, a fydd yn sicrhau y bydd plant sydd â hawl i gael prydau ysgol am ddim yn parhau i gael y cymorth hwnnw yn ystod yr hanner tymor hwn, yn ystod gwyliau'r Nadolig, hanner tymor mis Chwefror a gwyliau'r Pasg yn wir. Rydym yn parhau i adolygu ein hamrywiaeth o gymorth i deuluoedd sydd mewn anawsterau ariannol ar yr adegau hynny. Gwyddom fod ysgolion yn gweld cynnydd yn nifer y plant sydd bellach yn gymwys, yn anffodus, i gael prydau ysgol am ddim, sy'n rhoi pwysau ychwanegol ar gyllidebau. Ond rydym yn benderfynol o beidio ag anghofio'r plant y mae'r ysgol yn golygu cymaint mwy iddynt na dysgu yn unig, a sicrhau bod y teuluoedd hynny'n cael rhywfaint o sicrwydd mewn perthynas â chymorth ar gyfer eu plant mewn cyfnod ansicr iawn, fel y dywedais.

Dwi'n falch eich bod chi'n cadw'r sefyllfa o dan adolygiad parhaus. Mae hynny'n hollbwysig, onid ydy? 

I droi at fater arall, i orffen, ym mis Gorffennaf fe gyhoeddwyd y byddai 600 o athrawon ychwanegol yn cael eu recriwtio i ysgolion a 300 o gynorthwywyr dysgu ar gyfer y flwyddyn ysgol bresennol. Byddwn i'n hoffi cael diweddariad am hyn, a does yna, efallai, ddim digon o amser prynhawn yma i chi wneud hynny, ond a wnewch chi roi datganiad llawn i ni, maes o law, ac egluro i ni pa waith monitro a gwerthuso mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ynglŷn â'r gwariant yma ar gyfer yr athrawon ychwanegol a'r cynorthwywyr dysgu ychwanegol, ac esboniad yn union sut mae hyn yn arwain at leihau maint dosbarthiadau yn yr ysgolion?

14:40

Diolch, Siân. Rydych yn gywir i ddweud ein bod wedi dyrannu dros £29 miliwn i gynorthwyo ysgolion i fynd i'r afael â'r dysgu a gollwyd eisoes yn addysg ein plant. Mae hynny'n golygu yn wir y gall ysgolion geisio recriwtio athrawon ychwanegol, cynorthwywyr addysgu ychwanegol, neu'n wir unrhyw weithiwr proffesiynol arall y teimlant y byddai'n briodol eu cael i weithio gyda'u carfan o blant. Gallai hynny olygu gweithwyr ieuenctid, mentoriaid, ac rydym wedi darparu arweiniad, ochr yn ochr â'r adnoddau ariannol i wneud i hynny ddigwydd, a byddaf yn fwy na pharod i allu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y modd y gwariwyd yr adnoddau hynny yn yr ysgolion.

Mae'r Aelod hefyd yn sôn am faint dosbarthiadau. Er gwaethaf y pwysau aruthrol ar gyllidebau'r Llywodraeth ar hyn o bryd, rydym wedi gallu cynnal ein cyllid ar gyfer ein cyllideb lleihau maint dosbarthiadau hefyd. Ond mae'r Aelod yn iawn ac yn gywir i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am y defnydd o'r £29 miliwn, a byddaf yn hapus i ddarparu'r wybodaeth honno pan fydd y manylion ar gael.

Diolch, Lywydd. Prynhawn da, Weinidog. Pam yr anwybyddodd Llywodraeth Cymru ddymuniadau pob un o'r 22 arweinydd awdurdod lleol i gadw ysgolion uwchradd ar agor yn llawn yn ystod y cyfyngiadau symud sydd i ddod?

Wel, Suzy, mae'n rhaid ystyried amrywiaeth o safbwyntiau ar hyn o bryd. Fel y dywedais wrth ateb Hefin David, gwyddom mai cadw lefelau trosglwyddo COVID-19 yn y gymuned yn isel yw'r peth gorau y gallwn ni i gyd ei wneud i leihau'r amharu ar addysg. Mae'r cyfnod atal byr yn hanfodol os ydym eisiau arafu cyfraddau'r haint a gostwng y rhif R. Wrth wneud hynny, byddwn yn gweld llai o darfu yn ein hysgolion, o athrawon sydd efallai'n dal y feirws ac yn gorfod hunanynysu, o blant sy'n dal y feirws eu hunain ac yn gorfod hunanynysu, a'r effaith ganlyniadol y mae hynny'n ei chael ar blant eraill o fewn eu swigod.

Roedd cyfraniad ysgolion yn agor i'r rhif R yn hysbys iawn ac mae'n anochel. Mae'r Llywodraeth wedi cyhoeddi papur y grŵp cynghori technegol, ac roeddent yn teimlo bod gofyn i'r disgyblion ym mlynyddoedd 9 ac uwch astudio gartref am wythnos, o gofio eu bod yn fwy abl i wneud hynny, yn caniatáu inni sicrhau bod y cyfnod atal byr yn llwyddiannus, ac y gall aberth pawb wneud gwahaniaeth.

Wel, Weinidog, mae'r newyddion wedi bod yn llawn o'r trafodaethau rhwng y Prif Weinidog a meiri dinas-ranbarthau, a'r gwahanol fargeinion ynglŷn ag a ddylid cadw campfeydd, er enghraifft, ar agor. Ond pan fydd arweinwyr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn siarad fel un, gydag un llais, ar rywbeth mor bwysig â'n hysgolion, mae'n ymddangos bod Llywodraeth Cymru yn berffaith fodlon cyfarwyddo a pheidio â gwrando. Ac rwy'n gobeithio nad ydych yn awgrymu nad yw'r arweinwyr hynny wedi rhoi ystyriaeth briodol i gyngor y grŵp cynghori technegol, a gobeithio nad yw rhai o'r cyhuddiadau a wnaed yn erbyn y Ceidwadwyr Cymreig ddoe, am fod ganddynt safbwynt gwahanol i Lywodraeth Cymru, yn cael eu cyfeirio at yr arweinwyr hynny am fabwysiadu barn wahanol hefyd.

Weinidog, mae pawb ohonom yn gwybod beth y mae'r comisiynydd plant wedi'i ddweud am leihau mynediad plant a phobl ifanc at brofiad o addysg y mae ganddynt hawl i'w ddisgwyl, gyda chanlyniadau arbennig o ddifrifol i blant tlotach a'r rhai sydd mewn gofal. Nid oedran y plant hynny o reidrwydd sy'n penderfynu pa mor dda y gallant ddysgu gartref. Gwyddom beth y mae rhai rhieni a phobl ifanc yn ei ddweud am ansawdd peth o'r dysgu cyfunol a'r gwaith sy'n cael ei anfon adref atynt, ac nid yw bodolaeth Google Classrooms o reidrwydd yn golygu bod unrhyw un sy'n mynychu yn dysgu'r hyn y mae angen iddynt ei ddysgu. Gwyddom hefyd fod ysgolion uwchradd bellach wedi bod yn paratoi i addysgu yn yr ysgol yn bennaf, yn hytrach na chael gwybod gan lythyrau a ddatgelwyd yn answyddogol fod disgwyliadau'n mynd i newid heb unrhyw amser i baratoi. Yr hyn nad ydym yn ei wybod, gyda'r holl dorri a newid sy'n digwydd, yw sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi ein hathrawon a'n darlithwyr gyda'u hiechyd meddwl sy'n dirywio'n gyflym. A allwch chi ddweud wrthym, os gwelwch yn dda?

Wel, gadewch imi fod yn gwbl glir: hyd yn oed yn yr amgylchiadau mwyaf anodd a difrifol hyn, rydym wedi gallu sicrhau y bydd plant ysgolion cynradd, plant yn ein hysgolion anghenion addysgol arbennig, disgyblion sydd mewn addysg y tu allan i ysgolion ac mewn canolfannau arbenigol mewn ysgolion prif ffrwd yn gallu mynychu'r ysgol ar ôl y toriad. Rwy'n sylweddoli bod hwn yn gyfnod pryderus i'r holl fyfyrwyr y gofynnwyd iddynt aros gartref am yr wythnos honno, ond bydd eu dysgu'n cael ei gefnogi gan staff a fydd yn yr ysgol i allu darparu'r dysgu ar-lein. A chyn i'r Aelod ruthro i gondemnio ansawdd y dysgu hwnnw, gallaf ei sicrhau bod Estyn, consortia rhanbarthol, awdurdodau addysg lleol ac ysgolion eu hunain wedi bod yn gweithio'n galed iawn i roi cynlluniau wrth gefn ar waith i gefnogi dysgu o bell.

Mae'n ofid i mi fod unrhyw darfu pellach ar addysg i blant yma yng Nghymru. Yn anffodus, nid yw COVID-19 yn poeni am hynny. Fel y dywedais, y ffordd orau y gallwn darfu cyn lleied â phosibl ar ysgolion yw cadw lefelau trosglwyddo cymunedol yn isel. Wrth inni weld lefelau trosglwyddo cymunedol yn codi, rydym wedi gweld niferoedd cynyddol o blant yn ein hystafelloedd dosbarth yn gorfod hunanynysu. Os ydym am ddychwelyd at ryw fath o sefydlogrwydd a lleihau'r tarfu ar ddosbarthiadau unigol ac athrawon ac ysgolion, mae'n rhaid inni ostwng y rhif R a dyna yw'r bwriad gyda'r cyfnod atal byr.

14:45

Diolch ichi am hynny, Weinidog. Yn amlwg, mae ansawdd y gwaith sydd naill ai'n cael ei roi i bobl ifanc i fynd adref gyda hwy neu'r gwaith a gânt o bell yn amrywiol iawn. Rydych wedi cyfaddef hyn yn y gorffennol ac yn sicr nid yw'n adlewyrchiad o'r gwaith caled y mae athrawon yn ei wneud, a dyna pam y gofynnais i chi beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi iechyd meddwl ein hathrawon, yn enwedig gan fod dros eu hanner yn dweud bellach fod eu hiechyd meddwl wedi cael ei effeithio, a'r prif reswm am hynny yw bod canllawiau newydd ar unrhyw newidiadau y disgwylir iddynt ymdopi â hwy'n cyrraedd yn hwyr. Credaf fod y cyfuniad o ddiwygiadau addysg a'r tarfu ar addysgu a dysgu oherwydd COVID wedi rhoi straen gweladwy iawn ar ymarferwyr yn y sector, a oedd eisoes yn cael trafferth dod i ben wedi blynyddoedd o drefniadau ariannu anodd a niferoedd isel yn manteisio ar gyfleoedd. Sut y gall pawb ohonom helpu i sicrhau nad yw hyn i gyd wedi annog y rhai sy'n ystyried addysgu fel gyrfa rhag gwneud hynny?

Maddeuwch i mi, Suzy, fe wnaethoch ofyn cwestiwn uniongyrchol iawn ac nid yw ond yn iawn fod hwnnw'n cael ei ateb. Mae'r Llywodraeth hon wedi sicrhau bod adnoddau ariannol ychwanegol ar gael yn benodol i gefnogi iechyd meddwl a llesiant yn ystod yr argyfwng hwn. Ac yn gwbl briodol, er bod y rhan fwyaf o'r adnodd hwnnw ar gael i gefnogi plant a phobl ifanc, mae elfen o'r adnodd ar gael i gefnogi iechyd meddwl a llesiant staff ac arweinwyr ysgolion.

Rwy'n sylweddoli bod straen ychwanegol pan fo sefyllfaoedd yn newid, ond rwy'n siŵr y byddai'r Aelod yn deall ein bod mewn sefyllfa sy'n newid yn gyflym. Gall achosion ac ystadegau a lefelau heintio newid yn gyflym iawn, ac er mai fy mwriad bron bob amser yw rhoi cymaint o rybudd â phosibl, weithiau mae llywodraethau'n wynebu sefyllfa lle mae'n rhaid iddynt weithredu'n gyflym iawn.

O ran addysg gychwynnol i athrawon, rwy'n falch o ddweud ein bod wedi gweld lefel gref o recriwtio i raglenni addysg gychwynnol i athrawon eleni. Byddwn yn parhau i weithio gyda Chyngor y Gweithlu Addysg yng Nghymru i hyrwyddo addysgu fel gyrfa, a bobl bach, os oes yna adeg erioed i unigolion sydd eisiau gwneud gwahaniaeth i fywydau plant a phobl ifanc yng Nghymru, ac sy'n teimlo eu bod eisiau gwneud cyfraniad, byddai ein helpu i adfer yn y byd addysg ar ôl effeithiau COVID-19 nawr yn amser gwych i ystyried ac ymuno â'r proffesiwn.

Ymbellhau Cymdeithasol mewn Ysgolion

3. Pa gamau sy'n cael eu cymryd i sicrhau bod ysgolion yn cadw at ganllawiau ymbellhau cymdeithasol? OQ55742

Diolch, David. Mae'r canllawiau gweithredol ar gyfer ysgolion yn nodi'r mesurau rheoli sydd angen eu rhoi ar waith i leihau'r risg o drosglwyddiad, gan gynnwys cadw pellter cymdeithasol. Mae awdurdodau lleol yn parhau i weithio gyda'u hysgolion i sicrhau bod yr holl fesurau'n cael eu rhoi ar waith cystal ag y bo modd.

Weinidog, gwyddom mai cadw pellter cymdeithasol yw'r ffordd orau o atal trosglwyddiad y feirws. Mae arferion hylendid hefyd yn bwysig iawn, ond mae cadw pellter cymdeithasol yn hanfodol. Credaf y dylem fod yn ddiolchgar am broffesiynoldeb ein staff addysgu a'r holl staff wrth ganmol ysgolion, oherwydd nid ydym wedi gweld y lefelau trosglwyddo rydym wedi'u gweld mewn addysg uwch. Nawr, rwy'n sylweddoli nad oes modd eu cymharu'n uniongyrchol, ond maent yr un fath yn yr ystyr fod llawer o bobl ifanc yn ymgynnull. A chredaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn cynnal yr arferion gorau hyn, ac rydym yn ddiolchgar i'r holl staff sydd wedi ein galluogi i gadw cyfraddau presenoldeb yn ein hysgolion yn yr 80au uchel. Yn amlwg, rydym eisiau gwneud hyd yn oed yn well na hynny i sicrhau bod ein pobl ifanc yn cael addysg mor llawn ag sy'n bosibl.

14:50

Diolch, David, am gydnabod yr ymdrech enfawr a fu i sicrhau bod ein lleoliadau ysgol mor ddiogel â phosibl rhag COVID. Fel chithau, yr hyn y mae angen inni ei wneud yw parhau i adolygu ein cymorth a'n canllawiau sydd ar gael i ysgolion yng ngoleuni profiad. Mae pethau y gallwn eu dysgu o hanner tymor cyntaf y flwyddyn academaidd newydd—a dyna pam y cyhoeddwyd canllawiau newydd yr wythnos diwethaf—yng ngoleuni'r profiadau sydd gennym. Ond yn gyffredinol, rydym wedi gweld lefelau cryf o ymlyniad at fesurau cadw pellter cymdeithasol yn ein hysgolion, ac rwy'n ddiolchgar iawn am hynny.

Yr hyn sy'n wirioneddol bwysig, wrth i ni agosáu at hanner tymor, yw bod pobl ifanc yn atgoffa eu hunain o'r angen i barhau i gadw pellter cymdeithasol, i beidio ag ymgynnull yng nghartrefi ei gilydd dros hanner tymor, ac i barhau i ddilyn y rheolau, oherwydd mae hynny'n rhoi'r cyfle gorau i ni leihau'r tarfu ar addysg wrth symud ymlaen.

Weinidog, diweddarwyd y canllawiau gweithredol ar gyfer ysgolion a lleoliadau ar gyfer tymor yr hydref—fersiwn 3, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru—ddeuddydd yn ôl. Mae'r canllawiau hyn yn nodi y dylai awdurdodau lleol gyfathrebu'r mesurau rheoli i ysgolion a lleoliadau, ac y dylai ysgolion a lleoliadau weithio gyda staff, rhieni, gofalwyr a dysgwyr er mwyn i'r trefniadau diwygiedig weithio'n ymarferol. Weinidog, sut y bydd Llywodraeth Cymru yn mynd ati i sicrhau dull gweithredu cyson ar draws ysgolion yn Islwyn, a sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cael y wybodaeth ddiweddaraf gan fwrdeistref sirol Caerffili am y mesurau a fabwysiadwyd ar draws yr awdurdod ac ar draws blwyddyn academaidd 2020-21?

Wel, rydym mewn cysylltiad rheolaidd ag awdurdodau lleol. Rydym yn ymwybodol fod gwahaniaethau, weithiau, yn y dull a fabwysiadwyd gan awdurdodau lleol o gefnogi eu hysgolion. Dyna pam fod Estyn wrthi'n gwneud gwaith i nodi arferion da mewn awdurdodau lleol sy'n cefnogi lleoliadau unigol i gadw at reolau ac i gefnogi addysg yn ystod y cyfnod hwn.

Byddwn ni, fel Llywodraeth Cymru, yn ceisio defnyddio ein holl lwyfannau i atgyfnerthu'r negeseuon hynny gyda rhieni, oherwydd mae ganddynt hwythau hefyd rôl hollbwysig i'w chwarae mewn penderfyniadau y maent yn eu gwneud am eu bywydau, a sut y maent yn cefnogi eu plant i wneud penderfyniadau da—yn enwedig plant hŷn, a sut y maent yn gwneud penderfyniadau da pan fyddant y tu allan i'r ysgol—i sicrhau y gallwn leihau tarfu a lleihau cyfraddau trosglwyddo cymunedol.

Canlyniadau Arholiadau Haf 2020

4. A wnaiff y Gweinidog gadarnhau pryd y bydd yr adolygiad o ddyfarnu canlyniadau arholiadau yn ystod haf 2020 yn cael ei gyhoeddi? OQ55757

Bydd y panel annibynnol sy'n adolygu'r trefniadau ar gyfer dyfarnu graddau arholiadau haf 2020, ac yn archwilio ystyriaethau ar gyfer 2021, yn cyhoeddi eu hadroddiad interim erbyn diwedd y mis hwn a'u hadroddiad terfynol ym mis Rhagfyr.

Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Mae athrawon sy'n pryderu'n fawr ynglŷn â beth fydd yn digwydd yn arholiadau haf 2021 wedi bod mewn cysylltiad â mi. Mae angen iddynt fod yn ymwybodol o ba asesiadau y bydd disgyblion yn eu cael fel y gallant baratoi disgyblion a pharatoi eu gwaith. Ac os bydd yn ddull a gymedrolir yn fewnol, mae angen iddynt hefyd ddeall y gwaith ychwanegol y bydd ei angen yn sgil hynny. Felly, er eich bod yn dweud y bydd yr adroddiad interim yn cael ei gyhoeddi erbyn diwedd y mis hwn, a'r adroddiad terfynol erbyn mis Rhagfyr, i fod yn blwmp ac yn blaen, mae mis Rhagfyr yn rhy hwyr i rai o'r penderfyniadau a rhai o'r camau y mae angen eu cymryd. A fyddwch yn gwneud penderfyniad yn gynt na hynny i nodi pryd, neu a fydd, arholiadau'n mynd rhagddynt ym mis Gorffennaf 2021, ac os na, beth fydd yn dod yn eu lle?

Fy mwriad yw gwneud datganiad yn hyn o beth, David, yn yr wythnos sy'n dechrau ar 9 Tachwedd.

Ysgolion yn Sir Benfro

5. A wnaiff y Gweinidog amlinellu blaenoriaethau uniongyrchol Llywodraeth Cymru ar gyfer ysgolion yn sir Benfro? OQ55718

Fy mlaenoriaethau uniongyrchol ar gyfer ysgolion yn sir Benfro ac yn wir, ledled Cymru, yw darparu'r profiad dysgu gorau posibl i ddisgyblion, gan ddefnyddio'r canllawiau dysgu a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf, gan gadw plant, pobl ifanc a staff yn ddiogel.

14:55

Diolch am yr ymateb hwnnw, Weinidog. Nawr, fel y gwyddoch, gall athrawon cyflenwi chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gefnogi ein hysgolion, ac rwy'n siŵr bod cefnogi'r gweithwyr proffesiynol hynny yn flaenoriaeth i chi hefyd. Nawr, rwyf wedi derbyn gohebiaeth gan athrawon cyflenwi lleol sy'n poeni'n fawr nad yw nifer ohonynt yn cael y gyfradd sylfaenol isaf a argymhellir, fel yr amlinellir yn y fframwaith athrawon cyflenwi. Fel y gwyddoch o fy sylwadau blaenorol i chi ar y mater hwn, mae staff cyflenwi wedi cael amser caled iawn ers argyfwng COVID-19. Mae llawer wedi bod heb waith, ac mae wedi bod yn anodd cyfrifo neu wneud cais am ffyrlo oherwydd natur dros dro eu hincwm. Felly, a allwch chi ddweud wrthym pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau y gellir gorfodi'r fframwaith athrawon cyflenwi a bod athrawon cyflenwi'n cael eu talu'n ddigonol? Ac a allwch chi hefyd ddweud wrthym beth y mae Llywodraeth Cymru ac awdurdodau addysg lleol yn ei wneud i fonitro'r mater hwn a sicrhau bod staff cyflenwi'n cael eu trin yn deg, nid yn unig yn sir Benfro, ond ledled Cymru yn wir?

Ie, yn wir. Mae angen i'r holl asiantaethau cyflenwi hynny sy'n rhan o'r fframwaith gadw at amodau'r fframwaith hwnnw, sy'n mynd ati i ddiogelu buddiannau athrawon cyflenwi. Os oes gennych chi, Paul, neu'n wir os oes gan unrhyw Aelod dystiolaeth ynglŷn â lle nad yw hynny'n wir, gallaf eich sicrhau y bydd fy swyddogion ac aelodau o staff y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn mynd ar drywydd hynny. Yn wir, yn ddiweddar, tynnwyd ein sylw at achos o'r fath, ac aethom i'r afael ag ef ar unwaith. Yn yr achos hwnnw, roedd y cynnig gwaith wedi'i wneud yn uniongyrchol gan ysgol, ac fe gafwyd sgyrsiau i atgoffa'r bobl dan sylw o'r angen iddynt drin a thalu staff cyflenwi yn ddigonol. Felly, Paul, os oes gennych etholwyr nad ydynt yn y sefyllfa honno, rhowch wybod i mi a gallaf eich sicrhau y byddaf yn gweithredu ar hynny.

Diolch, Lywydd. Mae gennyf ddiddordeb yn ateb y Gweinidog—

Addysg yng Nghanol De Cymru

6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu addysg yng Nghanol De Cymru? OQ55746

Gwnaf, â phleser. Mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd statudol i gynnal ysgolion yn eu hardal. Yng Nghanol De Cymru, mae Consortiwm Canolbarth y De yn darparu cymorth gwella ysgolion i'r 277 o ysgolion, y ddwy ysgol arbennig a'r pedair uned cyfeirio disgyblion dan eu goruchwyliaeth.

Diolch, Weinidog. Mewn ysgolion yn Lloegr, bwriad Llywodraeth y DU yw bwrw ymlaen â'r rhan fwyaf o arholiadau yr haf nesaf. Nawr, rwy'n ymwybodol fod y Gweinidog newydd ddweud mewn ymateb i David Rees y bydd yn gwneud datganiad ar 9 Tachwedd, ac rwy'n sylweddoli na fydd hi eisiau achub y blaen ar hyn. Er hynny, arholiadau yw'r ffordd decaf a mwyaf tryloyw o asesu gallu disgyblion ysgol, a phan gawsant eu canslo yr haf diwethaf, a phan roddwyd graddau i ddisgyblion yn lle hynny, roedd yn llanast. Mae'r rhan fwyaf o ddisgyblion a myfyrwyr yn dweud eu bod eisiau i arholiadau gael eu cynnal gan nad ydynt eisiau gradd wedi'i rhoi gan athro neu ei chynhyrchu gan algorithm. Gwn y byddwch yn gwneud y datganiad ymhen ychydig wythnosau, ond a allai'r Gweinidog ein sicrhau ei bod yn gwneud popeth yn ei gallu i sicrhau bod arholiadau ysgol yn cael eu cynnal yng Nghymru yr haf nesaf?

Wel, mae'r Aelod yn iawn—mae arholiadau'n rhan bwysig a phrif ffrwd o'r ffordd rydym yn gweithredu ein system addysg yng Nghymru, ond rwy'n siŵr y bydd yr Aelod hefyd yn cytuno bod hwn yn gyfnod eithriadol, a'r hyn na all system arholi ei wneud yw datrys y tarfu eithafol sydd wedi bod ar addysg plant ar ei phen ei hun. Yn wir, pe bai'r Aelod yn edrych ar ei ranbarth ei hun, byddai'n ymwybodol fod rhai plant, heb fod unrhyw fai arnynt hwy, wedi wynebu tarfu i'w haddysg am eu bod mewn swigen gyda phlentyn sydd wedi dal COVID-19. Mae'r ffordd rydym yn dod o hyd i system—system arholi—sy'n trin y plentyn hwnnw yr un mor deg â phlentyn nad yw wedi wynebu tarfu pellach i'w haddysg am eu bod yn ddigon ffodus i fod mewn carfan nad yw wedi cael ei hanfon adref o'r ysgol, rwy'n siŵr y byddai'n cytuno, yn her go iawn. Dyna pam y gofynnais i'r adolygiad annibynnol edrych ar y sefyllfa, a bydd wedi gweld y bore yma fod Cymwysterau Cymru hefyd wedi cydnabod bod y tarfu ar addysg yn sylweddol. Mae Lloegr wedi gwneud eu penderfyniad; mae'r Alban wedi gwneud un gwahanol. Byddaf yn gwneud penderfyniad sydd, yn fy marn i, er lles gorau dysgwyr Cymru ac sy'n deg â'r garfan benodol hon o blant sydd, unwaith eto, yng ngeiriau Cymwysterau Cymru, wedi dioddef mwy o aflonyddwch ac wedi wynebu mwy o heriau—y garfan hon—na charfan y llynedd hyd yn oed, ac mae angen inni fod yn deg â hwy.

15:00

Diolch am yr ymateb i'r cwestiwn agoriadol, Weinidog. Yn amlwg, gyda'r cyfyngiadau symud cenedlaethol sy'n dod i rym nos Wener, mae blynyddoedd 9 ac uwch wedi cael eu gorchymyn i aros gartref o'r ysgol am wythnos. A allwch chi fy nghyfeirio at y dystiolaeth wyddonol sy'n dweud bod hwn yn gam gweithredu synhwyrol ar gyfer blynyddoedd 9 ac uwch, neu fel y dywedoch chi yn eich ymateb i Suzy Davies, a yw'n aberth y mae'n rhaid inni ei wneud, yn amlwg, i atal y feirws?

Fe fyddwch yn ymwybodol o'r dystiolaeth sydd wedi'i chynnwys ym mhapur y gell cyngor technegol sy'n sôn am gyfraniad cau ysgolion yn eu cyfanrwydd a chau ysgolion uwchradd yn benodol i leihau rhif R. Drwy gydol y pandemig hwn, rwyf wedi ceisio lleihau'r aflonyddwch i blant a sicrhau'r addysg orau bosibl. Mae'n peri pryder mawr i'r plant hynny ym mlynyddoedd 9 ac uwch fod y penderfyniad hwn wedi'i wneud, ond fel y dywedais wrth ateb cwestiynau cynharach, mae'r rhan hon o'r garfan yn y sefyllfa orau i allu cymryd rhan mewn dysgu hunangyfeiriedig a dysgu o bell. A thrwy gyfyngu ar y feirws ledled Cymru a lleihau cyfraddau trosglwyddo cymunedol, rwy'n gobeithio y bydd hynny'n cyfyngu ar yr aflonyddwch i addysg wrth inni anelu at ddiwedd y tymor hwn.

Blynyddoedd Ysgol yn Hunanynysu

7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y newidiadau yn y canllawiau newydd ynghylch anfon blynyddoedd ysgol llawn adref i hunanynysu? OQ55758

Mae canllawiau ychwanegol wedi'u cyhoeddi ar y cyd ag Iechyd Cyhoeddus Cymru a profi, olrhain, diogelu ar rôl olrhain cysylltiadau pan nodir achos positif o COVID-19 mewn lleoliad addysg. Mae hyn yn cynnwys nodi cysylltiadau agos i gyfyngu lle bo'n bosibl ar nifer y disgyblion a staff y gofynnir iddynt hunanynysu o ganlyniad i achos positif.

Diolch. Nid wyf yn bychanu'r dasg i benaethiaid ysgolion uwchradd, yn arbennig, o ad-drefnu cynlluniau, amserlenni ac amseroedd presenoldeb ysgolion er mwyn cydymffurfio â'r rheolau ar gadw pellter cymdeithasol a hylendid. Ond nid wyf yn credu y gall fod unrhyw gyfiawnhad dros anfon cannoedd o ddisgyblion adref i hunanynysu oherwydd bod un unigolyn wedi cael canlyniad positif. Anfonwyd 553 o blant adref o ddwy ysgol yn unig yng Nghaerdydd wythnos yn ôl, a hynny oherwydd bod un achos positif yn y ddwy ysgol. Nid wyf yn credu bod hynny'n gymesur. Pam fod penaethiaid yn dal i fod mewn sefyllfa lle maent yn teimlo nad oes ganddynt ddewis ond anfon cynifer o ddisgyblion adref? Ac a ydynt angen amddiffyniad y gyfraith er mwyn rhoi hyder iddynt ynysu niferoedd llai?

Wel, Suzy, rydych newydd amlinellu'r aflonyddwch sy'n digwydd bob dydd, mewn rhai rhannau o Gymru, i addysg plant. Yng ngoleuni profiad yr hanner tymor cyntaf hwn, rydym wedi gweithio gyda thimau profi, olrhain, diogelu a thimau diogelu iechyd i fyfyrio ar yr adborth a roddwyd gan benaethiaid i ddatblygu canllawiau newydd fel y gallwn leihau nifer y disgyblion a staff sy'n gorfod hunanynysu. Fel y nodoch chi, un ffordd rydym yn ceisio gwneud hyn yw drwy sicrhau y gallwn ganolbwyntio ar sicrhau bod gan ysgolion brosesau ar waith i gasglu gwybodaeth fel y gallwn fod â mwy o hyder ynghylch yr hyn yw cyswllt agos a gweithio gyda'r ysgolion hynny i nodi—efallai, yn y lle cyntaf, fod swigen yn cael ei hanfon adref, ond wedyn i weithio cyn gynted â phosibl, ar ôl anfon y swigen adref, i nodi'r cysylltiadau agos o fewn y grŵp penodol hwnnw a dod â mwy o'r plant hynny yn ôl i'r ysgol o fewn y 14 diwrnod o hunanynysu.

Felly, rydych yn iawn: mae angen inni roi cefnogaeth a hyder i benaethiaid wneud y penderfyniadau hyn. Ac wrth gwrs, mae angen i benaethiaid weithio gyda ni i sefydlu prosesau er mwyn iddynt allu nodi plant a fydd wedi bod mewn cysylltiad agos ag achos positif yn haws ac yn fwy parod, yn hytrach na gofyn i grwpiau blynyddoedd cyfan, neu swigod mawr iawn, i golli ysgol.

Gwasanaethau Addysg Digidol

8. Sut bydd Llywodraeth Cymru'n cefnogi gwasanaethau addysg ddigidol eleni? OQ55754

Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn pwysig hwnnw, Joyce. Yn amlwg, mae gwasanaethau addysg ddigidol wedi dod i'r amlwg yn ystod yr argyfwng, a byddwn yn parhau i weithio gydag ysgolion unigol ac awdurdodau addysg lleol i ddarparu'r adnoddau digidol sydd eu hangen ar blant.

15:05

Diolch am yr ateb hwnnw, ac mae Llywodraeth Cymru wedi dweud mai cadw plant mewn ysgolion yw un o'i phrif flaenoriaethau. A chan ystyried ton gyntaf y pandemig, cafodd Cymru ei chanmol gan y Sefydliad Polisi Addysg am arwain y ffordd yn y DU o ran darparu TG a dysgu ar-lein ac am gefnogi teuluoedd sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn arbennig. Ond yn anffodus, gallai tarfu ar addysgu wyneb yn wyneb a dysgu cyfunol fod yn nodwedd o addysg hyd y gellir rhagweld, felly ni allwn orffwys ar ein bri. Felly, drwy eich asesiad, Weinidog, pa gymorth ac adnoddau ychwanegol fydd eu hangen ar ysgolion, athrawon a theuluoedd i sicrhau na chaiff unrhyw ddisgybl ei adael ar ôl?

Diolch, Joyce, a diolch i chi am gydnabod y gwaith partneriaeth rhagorol rhwng fy adran i ac awdurdodau addysg lleol a ganiataodd i filoedd lawer o ddarnau o offer a dyfeisiau Mi-Fi gael eu darparu yn gyflym iawn yn ystod cyfnod cyntaf y pandemig. Rydym yn parhau i weithio gydag awdurdodau addysg lleol i sicrhau bod gwariant technoleg wedi'i gynllunio yn mynd tuag at offer i ysgolion fel y gellir ei ddosbarthu ac fel y gallwn barhau i sicrhau fod gan bob plentyn y cysylltedd a'r adnoddau TG sydd eu hangen arnynt i ganiatáu iddynt gymryd rhan mewn dysgu cyfunol a dysgu o bell, a sicrhau bod gan y staff eu hunain yr offer angenrheidiol fel y gallant ei ddefnyddio os oes angen iddynt weithio oddi ar safle'r ysgol.

Diolch, Lywydd. Weinidog, gwrandewais ar eich ymateb i Joyce Watson yn ofalus iawn, a'r mater penodol rwyf eisiau ei godi yw'r plant sydd i fod, neu'r myfyrwyr sydd i fod yn sefyll arholiadau y flwyddyn nesaf. Mae cryn dipyn o rieni wedi lleisio pryderon mai eu plant hwy yw'r rhai y teimlant y dylent fod yn cael eu—maddeuwch i mi am ddefnyddio'r gair 'blaenoriaethu', ond, oherwydd yr elfen arholiadau, mae gwir angen iddynt sicrhau bod ganddynt yr offer cywir, ac nid yr offer cywir yn unig, ond bod ganddynt allu i gael mynediad nid yn unig at y dysgu cyfunol, ond yn bwysicach, at ddysgu byw. Mae rhieni'n dweud wrthyf na chawsant rai o'r cyfleoedd hynny yn ystod y don gyntaf o'r coronafeirws. Felly, pan fyddwch yn cyhoeddi eich penderfyniad ynglŷn â'r arholiadau yn ddiweddarach y tymor hwn, a wnewch chi hefyd ystyried pa sicrwydd y gallwch ei gynnig i'r rhieni sy'n pryderu'n benodol am eu plant sy'n wynebu'r arholiadau hynny?

Wrth gwrs. Gallaf roi sicrwydd llwyr i chi, Angela, y byddwn, wrth ddod i gasgliad ynglŷn ag arholiadau haf 2021, yn gwbl ymwybodol o anghenion y dysgwyr hynny, dysgwyr y mae rhai ohonynt wedi dioddef hyd yn oed mwy o aflonyddwch i'w dysgu nag eraill, a sut rydym yn cynnig system sy'n deg i bob dysgwr ac sy'n cydnabod yr effaith anghymesur y gallai COVID fod wedi'i chael, heb unrhyw fai ar athrawon. Oherwydd, hyd yn oed gyda TG ac offer ychwanegol, gall materion eraill yn y cartref lesteirio gallu plentyn i gymryd rhan mewn peth o hynny weithiau. Felly, gallaf roi'r sicrwydd hwnnw i chi y bydd lles dysgwyr ar flaen fy meddwl, gan gydnabod yr aflonyddwch sylweddol y mae'r plant hynny wedi'i wynebu heb fod unrhyw fai arnynt hwy.

3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd

Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i Gomisiwn y Senedd, ac mae'r cwestiwn cyntaf i'w ateb gan y Comisiynydd Joyce Watson, a'r cwestiwn i'w ofyn gan Helen Mary Jones.

Staff sy'n Gweithio Gartref

1. Sut mae'r Comisiwn yn cefnogi staff sy'n gweithio gartref yn ystod pandemig y coronafeirws? OQ55729

6. Pa fesurau sydd ar waith i gefnogi staff y Comisiwn sy'n gweithio gartref yn ystod y pandemig? OQ55741

Diolch am y cwestiwn hwnnw. Mae'r mesurau a ddarperir i staff y Comisiwn yn helaeth ac yn cynnwys cymorth ymarferol ar ffurf TGCh ac addasiadau eraill i galedwedd a swyddfeydd cartref, gan gynnwys desgiau a chadeiriau; iechyd, diogelwch a chymorth emosiynol, yn amrywio o asesiadau offer a sgrin arddangos a chanllawiau gweithio o'r cartref i gymorth a mynediad at adnoddau llesiant. Ceir hyblygrwydd o ran arferion gwaith i gefnogi staff sydd â chyfrifoldebau gofalu, yn ogystal â chyfathrebu dwy ffordd parhaus a rheolaidd. Ers mis Medi, gall unigolion sy'n cael trafferth gyda llesiant neu sy'n cael anhawster gyda'u hamgylchedd cartref fynychu'r gweithle, a bydd yr holl drefniadau hyn yn cael eu hadolygu wrth i'r amgylchiadau newid.

15:10

Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Comisiynydd am ei hateb. Mae'n rhaid imi ddweud bod hynny'n galonogol iawn. Hoffwn ofyn yn benodol a yw'r meini prawf sy'n galluogi rhai staff i ddod i mewn i'r gweithle yn cynnwys amgylchiadau lle gall pobl fod gartref gyda phlant bach iawn ac efallai'n ei chael hi'n anodd iawn gweithio gartref. Felly, a yw'r mathau hynny o amgylchiadau teuluol wedi'u cynnwys yn y math o amgylchiadau arbennig lle gellid caniatáu i aelod o staff weithio yn y gweithle?

Diolch i chi am hynny. Wrth gwrs, mae gan bob cartref amgylchedd gwahanol, ac mae pob unigolyn, wrth gwrs, yn wynebu heriau gwahanol. Ac fel y dywedais yn fy ateb cyntaf, mae'n wir fod y llinellau cyfathrebu'n cael eu cadw ar agor, ac mae llawer o gyfathrebu. Mae gennym yr arolygon parhad busnes—mae dau arolwg pwls o lesiant wedi caniatáu inni archwilio ac ymateb i lesiant ymarferol, yn ogystal â llesiant emosiynol a chorfforol, yn effeithiol. Rydym yn cyfarfod â'r undebau llafur ddwywaith yr wythnos, gan ryngweithio'n rheolaidd â rhwydweithiau staff. Ac wrth gwrs, mae gennym ni fel cyflogwyr, Aelodau'r Cynulliad, ddyletswydd i'n staff hefyd. Felly, mae pethau wedi'u rhoi ar waith lle mae'n ddiogel gwneud hynny, i alluogi staff i fynd i'r gweithle pan fo hynny'n bosibl. Wrth gwrs, ni fydd mor hawdd gwneud hynny yn ystod y cyfyngiadau symud, lle cynghorir pobl i weithio gartref wrth gwrs.

Mae cwestiwn 1 wedi'i grwpio gyda chwestiwn 6, felly David Melding i ofyn ei gwestiwn atodol. David Melding.

Diolch yn fawr, Lywydd. Gomisiynydd, a gaf fi gofnodi fy niolch fy hun—ac rwy'n siŵr fy mod yn siarad ar ran yr holl Aelodau o'r Senedd—am y gefnogaeth ragorol a gawn gan staff y Comisiwn, ac wrth gwrs, sylweddolwn fod llawer o'r cymorth hwnnw'n dod drwy ein cyfarfodydd Zoom a'n cysylltiadau ein hunain. Ond mae lefel y proffesiynoldeb sydd wedi'i gynnal yn eithaf eithriadol. Ond rydym yn amlwg yn gweld bod staff yn aml bellach mewn sefyllfa lawer mwy ynysig nag y byddent yn yr amgylchedd gwaith arferol, a chredaf fod angen i ni gael sicrwydd fod y dulliau arferol, anffurfiol a ffurfiol, o oruchwylio, arfarnu a chefnogi yn bresennol fel bod gan staff y llinellau cyfathrebu hynny os ydynt yn teimlo straen uniongyrchol drwy eu dyletswyddau, neu straen y sefyllfa gymdeithasol gyffredinol rydym i gyd ynddi yn y cyfnod eithriadol hwn yn ein hanes.

Rydych yn llygad eich lle, David. Cadw llinellau cyfathrebu ar agor—oherwydd rydym i gyd yma heddiw, fel rydych newydd ei ddweud yn gywir, am fod staff eraill yn cefnogi hynny. Felly, mae cyfarfodydd tîm rheolaidd a chyfarfodydd unigol a gweithgarwch cymdeithasol yn mynd rhagddynt, ac mae rhai o'r rheini'n gyfathrebiadau wythnosol. Cynhelir nifer o gyfarfodydd staff cyffredinol, cynhelir sesiynau holi ac ateb, ceir blogiau ysgrifenedig a blogiau fideo ar gynnal gwaith, gweithio gartref a'n gwaith cynllunio i sicrhau bod staff yn teimlo mewn cysylltiad â'i gilydd, oherwydd mae ynysu'n amlwg yn her fawr i lawer o bobl. Mae hynny wedi'i wneud drwy ymgysylltu â'r undebau llafur a rhwydweithiau cydraddoldeb.

Wrth gwrs, mae'n rhaid i ni symud ymlaen. Rydym yn gorfod cynllunio'n weithredol ar gyfer y tymor hir, a cheir arolygon pwls sy'n darparu data cyfoethog, ac mae canran fawr o staff yn teimlo bod ganddynt gysylltiad da gartref. Mae gweithio gartref yn her i rai pobl, ond yn yr un modd, mae'n gyfle i bobl eraill, ac mae'n ddigon posibl y byddwn, wrth symud ymlaen, wrth recriwtio, yn gallu cynnig cyfleoedd cyflogaeth i ystod ehangach ac ystod fwy amrywiol o bobl.

15:15

A gaf fi ddiolch i chi am yr adroddiad, yn ogystal â chanmol yr holl fwriadau da a'r gwaith sy'n cael ei wneud? Ond a gaf fi ddweud nad wyf yn teimlo cymaint â hynny o sicrwydd ynghylch y broses hon? Yr hyn sydd gennym yw'r newid mwyaf dramatig yn y ffordd y mae gwaith yn cael ei wneud gartref, ac yn y gwaith yn dechnolegol, a hynny mewn sawl ffordd, a lle mae sefyllfaoedd tebyg wedi digwydd dros y degawdau diwethaf, mae angen i ni fel sefydliad a chyflogwyr fynd ati'n rhagweithiol i ymdrin â hyn. Credaf fod materion yn codi mewn perthynas ag iechyd meddwl, straen llygaid, problemau cyhyrysgerbydol, straen galwedigaethol, materion ergonomig, a materion yn ymwneud â'r oriau. Yr hyn sy'n amlwg iawn yw nad yw'n fater ohonom ni'n rheoli'r amgylchedd newydd hwn a Zoom ac yn y blaen, ond yn hytrach, fod Zoom a'r amgylchedd yn ein rheoli ni i raddau llawer mwy.

Yr hyn rwy'n credu y mae angen i ni ei gymryd, a'r hyn rwy'n credu sy'n ddyletswydd gyfreithiol arnom i'w wneud, yw comisiynu dadansoddiad iechyd galwedigaethol radical o'r hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd a sut y mae pobl yn gweithio. Credaf fod yn rhaid iddo fod yn adroddiad rhagweithiol, arbenigol a fydd yn cyflwyno argymhellion. Credaf fod angen ei wneud yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach, oherwydd bydd y ffordd hon o weithio yn aros gyda ni am gyfnod hir a dwys iawn. Tybed a allech ddweud hynny wrth y Comisiwn a gofyn iddynt gymryd y camau hynny sef y camau cyfreithiol y mae angen inni eu cymryd yn awr yn fy marn i. Credaf fod y camau presennol yn adweithiol yn hytrach nag yn rhagweithiol, a chredaf mai dyna'r newid yn y dull o weithredu y byddwn yn ei argymell.

Rwy'n cytuno bod rhaid inni sicrhau nad yw'r holl bethau hynny y sonioch chi amdanynt, y straen llygaid, ystum y corff—rwy'n siŵr nad yw fy un i'n dda iawn yma ar hyn o bryd, ac mae hynny'n wir am lawer o bobl eraill. Felly, credaf mai nawr yw'r adeg iawn i gael adolygiad oherwydd, fel y dywedais, rydym yn ystyried adolygu wrth symud ymlaen. Mae cydnabyddiaeth, wrth gwrs, y bydd llawer o bobl eisiau parhau i weithio gartref, ac ar y llaw arall, efallai y bydd yn rhaid i bobl eraill weithio gartref. Dyna a ddigwyddodd pan gawsom y don gyntaf o'r coronafeirws: yn sydyn bu'n rhaid inni ddod o hyd i wahanol ffyrdd o weithio ym mis Mawrth ac mae pobl bellach yn gwneud hynny.

O ran yr hyn y mae'r Comisiwn wedi canolbwyntio arno, a'r pethau y maent wedi'u gwneud, maent yn rhoi iechyd, diogelwch a chymorth emosiynol ar ffurf canllawiau gweithio gartref ac asesiadau offer sgrin arddangos, ac maent wedi sefydlu canllawiau ar ystum y corff, canllawiau TGCh, gwybodaeth a chysylltiadau, ac mae hynny, wrth gwrs, i gyd ar-lein. Rydym hefyd wedi helpu pobl sydd wedi cael eu cam-drin yn y cartref yn ystod y cyfyngiadau symud ac unwaith eto, mae hynny'n eithriadol o bwysig i'r bobl hynny.

Ond rydych wedi codi'r mater, a hynny'n gwbl briodol, ynghylch gofalu am y gweithlu yn yr un modd ag y byddent yn cael gofal pe baent yn weladwy mewn swyddfa, a'r holl bethau a fyddai wedi digwydd i sicrhau bod eu cadeiriau a'u sgriniau wedi'u gosod yn ergonomig, a bod eu desgiau'n gallu symud yn ôl eu hangen. Felly, mae angen cynnal asesiad. Rwy'n siŵr y bydd yr asesiad hwnnw'n digwydd ac yn bendant, gyda'r Aelodau eraill yma, byddaf yn rhoi ystyriaeth ddifrifol iawn iddo, a diolch i chi am hynny.

Cwestiwn 2 sy'n nesaf, ac mae'r cwestiwn hynny i'w ateb gan y Comisiynydd David Rowlands, ac i'w ofyn gan Andrew R.T. Davies.

Andrew R.T. Davies—a oes modd troi'r sain ymlaen? Dyna ni.

Llywodraeth Cymru ac Adeilad Tŷ Hywel

2. A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am sut mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio cyfleusterau yn adeilad Tŷ Hywel? OQ55748

A gaf fi ddiolch i Andrew R.T. am y cwestiwn hwnnw? Y sefyllfa yw bod gan Lywodraeth Cymru is-les i feddiannu swyddfeydd ar bumed llawr ac ail lawr Tŷ Hywel. Mae'r is-les yn cynnwys defnyddio cyfleusterau a rennir, gan gynnwys mannau parcio ceir, ystafelloedd cyfarfod a chynadledda, cyfleusterau ffreutur ac arlwyo, storio beiciau, mannau gwefru cerbydau trydan ac yn olaf, gwasanaethau ystafell y post.

15:20

Diolch am yr ateb hwnnw, Gomisiynydd. Yn amlwg, mae Llywodraeth Cymru, ers 29 Medi, wedi dewis cymryd rhan yn nhrafodion y Cyfarfod Llawn a'r Cynulliad drwy Zoom, yn hytrach na mynychu'r Cyfarfod Llawn neu gyfarfodydd pwyllgor yn bersonol. Byddwn yn ddiolchgar am gael gwybod gan y Comisiynydd: a oes unrhyw Weinidogion yn y Llywodraeth wedi mynychu'r cyfleusterau yn Nhŷ Hywel, oherwydd mae'n amlwg fod pobl wedi gweld Gweinidogion—nid wyf yn cyfeirio at swyddogion, rwy'n cyfeirio at Weinidogion yn unig—o fewn ystâd y Cynulliad? Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig i ni ddeall a yw Gweinidogion yn defnyddio'r cyfleusterau y mae ganddynt fynediad atynt ar ran Tŷ Hywel o'r ystâd.

Daeth David Melding i’r Gadair.

Wel, mae proses ar gyfer rheoli mynediad at yr ystâd, sy'n cynnwys proses hysbysu ar gyfer holl ddefnyddwyr yr ystâd, Aelodau a'u staff, Gweinidogion a'u staff, a staff a chontractwyr y Comisiwn, ac mae hyn wedi'i rannu â phob defnyddiwr ac mae'n gweithio'n effeithiol.

Wel, mae'n ymdrin â'r ffaith bod yn rhaid inni fod yn ofalus iawn ynghylch pwy sydd ar yr ystâd ar unrhyw un adeg. Nid wyf mewn sefyllfa i ateb ar ran y Gweinidogion, R.T., fel y gwyddoch.

Diolch, Gomisiynydd. Hoffwn atgoffa'r Aelodau mai cwestiynau yw'r rhain ac nid sgyrsiau.

Bydd cwestiwn 3 yn cael ei ateb gan y Llywydd. Alun Davies.

Etholiadau Nesaf y Senedd

3. A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am baratoadau i sicrhau y bydd etholiadau nesaf y Senedd fis Mai yn mynd rhagddynt yn ôl y bwriad? OQ55764

Bydd etholiad nesaf y Senedd yn garreg filltir hanesyddol i Gymru, gan y bydd pobl ifanc 16 a 17 oed yn cael pleidleisio am y tro cyntaf. Mae pandemig COVID yn golygu ei bod yn bosib y gwelir newidiadau i’r ffordd y caiff yr etholiad ei weinyddu o ran profiad y pleidleiswyr, a hynny er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd. Swyddogion canlyniadau awdurdodau lleol, Llywodraeth Cymru a'r Comisiwn Etholiadol sy'n gyfrifol am gynnal etholiad y Senedd. Fodd bynnag, mae swyddogion y Comisiwn wedi bod yn cymryd rhan yn y grŵp cynllunio etholiadau a gynullwyd gan Lywodraeth Cymru, i sicrhau bod y Comisiwn yn paratoi’n drylwyr ac i roi cyngor ar weithdrefnau perthnasol y Senedd.

Diolch yn fawr. Dwi'n gwerthfawrogi'r ateb yna gan y Llywydd, a dwi'n gwerthfawrogi'r gwaith sy'n cael ei wneud. Dwi eisiau bod mewn sefyllfa ble, os oes yn rhaid inni newid y gyfraith, ein bod ni'n gwneud hynny ymlaen llaw. Dwi'n awyddus iawn, iawn, iawn i sicrhau ein bod ni'n ystyried yr holl ddewisiadau a fydd gennym ni, yr opsiynau y byddwn ni, efallai, yn eu hwynebu ym mis Mai, a bod pob un peth wedi cael ei wneud—os oes yn rhaid newid y gyfraith, os oes yn rhaid gwneud trefniadau, beth bynnag ydyn nhw, fod y Comisiwn yn ran o hynny. Dwi'n deall y sefyllfa gyda swyddogion awdurdodau lleol ac yn y blaen, ond dwi eisiau bod yn sicr bod gennym ni bob peth yn ei le so bydd dim byd yn rhwystro'r etholiadau rhag cymryd lle ym mis Mai.

Wel, bydd yr Aelod yn gwybod, fel y dywedais i yn fy ateb i—cyfeiriais i at y ffaith bod y Llywodraeth wedi cynnull grŵp cynllunio etholiadau, ac mae'r grŵp hynny wedi bod yn cwrdd, a'r Comisiwn yn rhan o'r grŵp hynny, ac wedi cytuno ar adroddiad sydd heb ei gyhoeddi ar hyn o bryd, ond wedi ei gyflwyno i'r Prif Weinidog. Mae yna sawl agwedd yn rhan o'r gwaith hynny. Dwi'n siŵr, ar ryw bwynt, fe fydd y Prif Weinidog a'r Llywodraeth yn mynd ati i wneud cyhoeddiadau, mae'n siŵr, ynglŷn â goblygiadau pandemig COVID ar ein hetholiadau ni ar gyfer y flwyddyn nesaf, ond dwi eisiau bod y penderfyniadau hynny a'r cyhoeddiadau hynny, p'un ai a ydyn nhw'n ymwneud â'r angen i gael deddfwriaeth neu beidio yn y lle yma, eu bod nhw'n cael eu gwneud cyn gynted â phosib fel bod pob penderfyniad yn cael ei drafod fan hyn yn y Senedd ac yn cael ei sgrwtineiddio yn llwyr os ydy hwnna'n fater o ddeddfwriaeth hefyd.

Felly, gorau po gyntaf y byddwn ni'n gweld y drafodaeth yma'n drafodaeth gyhoeddus, gan gofio, wrth gwrs, ein bod ni yng nghanol cyfnod eithriadol o anodd ar y Llywodraeth ac ar bobl Cymru a bod angen inni fod yn rhesymol yn hyn oll. Ond, wrth gwrs, mae pobl Cymru yn haeddu eu hawl i bleidleisio ar gyfer ein Senedd nesaf ni, ac fe ddylai hynny fod ym mis Mai y flwyddyn nesaf, gan obeithio y bydd y pandemig COVID yn caniatáu i hynny ddigwydd. 

15:25

Bydd cwestiwn 4 yn cael ei ateb gan Joyce Watson. Neil McEvoy.

Gwahaniaethu Anuniongyrchol ar sail Hil

4. Pa asesiad y mae'r Comisiwn wedi'i wneud o'i bolisïau i sicrhau nad yw gwahaniaethu anuniongyrchol ar sail hil yn digwydd i aelodau etholedig a staff? OQ55734

[Anghlywadwy.]—yn cael eu datblygu a'u hadolygu yn gyson drwy broses gadarn, sy'n cynnwys ymgynghori â'n holl rwydweithiau cydraddoldeb yn y gweithle, ein hundebau llafur, ein cyfreithwyr, a lle bo'n briodol, cyngor gan ein cyfreithwyr allanol. Asesir polisïau newydd neu ddiwygiedig yn erbyn yr holl nodweddion gwarchodedig drwy asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb, ac mae'r Comisiwn yn gweithio gyda chyrff meincnodi annibynnol i gael sicrwydd allanol ar agweddau penodol ar bolisi. Rydym hefyd yn cael adborth gan Aelodau, eu staff a staff y Comisiwn, drwy arolygon amrywiol, gan gynnwys yr arolwg urddas a pharch. Mae hyfforddiant amrywiaeth a chynhwysiant ar gael i Aelodau, staff cymorth yr Aelodau a staff y Comisiwn. Mae gan Aelodau, staff yr Aelodau a staff y Comisiwn i gyd ffyrdd o godi pryderon yn ffurfiol, os oes angen. Cyfrifoldeb y bwrdd taliadau yw darparu polisi penodol ar gyfer Aelodau a staff yr Aelodau. Mae ystyriaethau amrywiaeth a chynhwysiant yn ganolog i waith y bwrdd taliadau.

Diolch. Y diffiniad o erledigaeth yn ôl y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yw pan fyddwch yn cael eich trin yn wael oherwydd eich bod wedi gwneud cwyn am wahaniaethu ar sail hil. Gwahaniaethu anuniongyrchol yw pan fydd gan sefydliad bolisi penodol neu ffordd o weithio sy'n rhoi pobl yn eich grŵp hiliol o dan anfantais. Yn ystod y cyfyngiadau symud, mater i'r Llywydd oedd penderfynu pwy fyddai'n holi'r Prif Weinidog yn hytrach na'r system bleidlais deg arferol.

Trefn. Trefn. Trefn. Neil, mae hwn yn fater sy'n ymwneud â gweithdrefn yn y Senedd, dan arweiniad y Llywyddion, ac nid yw'n rhywbeth y mae'r Comisiynydd yn gymwys i siarad amdano. Felly, mae'n rhaid i mi ofyn i chi eistedd oherwydd mae'r cwestiwn hwn, neu mae'r cwestiwn atodol hwn, yn groes i'r drefn.

Nid oedd yn groes i'r drefn. Cytunodd y swyddogion ar y cwestiwn hwn. Fe'i derbyniwyd. Rwy'n codi mater hiliaeth yn y Senedd hon, gwahaniaethu anuniongyrchol, a hoffwn ofyn i chi, gyda'r parch mwyaf, adael i mi barhau, os gwelwch yn dda.

A gafodd y sgript ei derbyn? Beth oedd y sgript a gafodd ei derbyn gennym?

Trefn. Rydych newydd ddweud wrthyf fod y sgript roeddech yn ei darllen wedi'i gosod yn Swyddfa'r Llywydd.

Trefn. Neil. Rwy'n derbyn bod yr hyn rydych newydd ei ddweud wrthyf yn ymwneud â'r cwestiwn cyntaf, ac fe'i camddeallais. Roeddwn yn gofyn i weld a oedd eich cwestiwn atodol wedi'i dderbyn gan Swyddfa'r Llywydd, ac nid yw wedi cael ei dderbyn. Ac rwyf newydd ddweud, yn fy marn i, caiff ei ystyried yn groes i'r drefn. Mae'n rhaid i chi eistedd yn awr.

[Anghlywadwy.]—yn y Senedd hon o beidio â chael gofyn cwestiynau i'r Prif Weinidog tra bod Aelodau eraill wedi cael gofyn hyd at 6 o gwestiynau.

Neil—[Anghlywadwy.]—yn cael ei ddiffodd. Nawr, eisteddwch fel y gallwn barhau â'n busnes.

David Rowlands fydd yn ateb cwestiwn 5.

Janet, pe baech yn cerdded o gwmpas yn fy nghroen i—

Trefn. Neil, gadewch y Siambr os gwelwch yn dda. Rwy'n credu mai dyna fyddai orau i bawb nawr.

Rwy'n mynd. Pe baech yn cerdded o gwmpas yn fy nghroen i—

Pe baech yn cerdded o gwmpas yn fy nghroen i, byddech yn gweld sut rydych yn cael eich trin. Nid ydych yn deall.

Bydd cwestiwn 5, mae'n ddrwg gennyf, yn cael ei ateb gan David Rowlands. Janet, mae'n ddrwg gennyf am dorri ar eich traws.

Bioamrywiaeth ar Ystad y Senedd

5. A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am wella ymwybyddiaeth o fioamrywiaeth ar ystad y Senedd? OQ55725

A gaf fi ddiolch i Janet Finch-Saunders am ei chwestiwn? O fewn y mannau gwyrdd cyfyngedig ar ein hystâd, mae'r Comisiwn wedi gwneud gwelliannau sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf i annog bioamrywiaeth. Gwnaethom gyflwyno dau gwch gwenyn a threfnu digwyddiad lansio gyda phlant lleol, Aelodau ac academyddion i hyrwyddo gwerth gwenyn a gwelliannau i gefnogi'r boblogaeth ehangach o bryfed peillio. Cafodd trydydd cwch gwenyn ei osod yr haf hwn. Mae'r Comisiwn hefyd wedi gweithio gyda'r RSPB a Buglife i ddod yn ganolfan Urban Buzz dros y 18 mis diwethaf. Hyrwyddwyd ein gwaith i gynulleidfaoedd ehangach drwy flog gwadd RSPB a ysgrifennwyd gan staff y Comisiwn fel enghraifft o'r hyn y gellir ei gyflawni mewn amgylchedd trefol.

15:30

Rwyf wedi darllen yr adroddiad blynyddol ar gynaliadwyedd ar gyfer 2019-20. Nid oes gennyf amheuaeth nad oes camau cadarnhaol yn cael eu cymryd i wella bioamrywiaeth ar ein hystâd—mae gennym brosiect cychod gwenyn y Pierhead, pwll dŵr bach, a'r stribed blodau gwyllt. Nawr, yn ôl yr adroddiad, mae'r clwb garddio a bioamrywiaeth wedi ymrwymo i gynnal a gwella'r cynefinoedd hyn. Ond rwy'n credu bod lle i gael mwy o uchelgais. Er nad yw'n rhan o ystâd y Senedd mewn gwirionedd, mae Bae Caerdydd ei hun i'w weld yn glir o'n teras. Felly pa ystyriaeth y gallech ei rhoi efallai i adeiladu ar brofiad blaenorol o weithio gyda'r RSPB a Buglife, drwy gydweithredu â'r Gymdeithas Cadwraeth Forol i ddatblygu prosiect 'Senedd a'r môr' i roi gwybod i ymwelwyr am y fioamrywiaeth gymhleth y gellid ei chyflawni ym Mae Caerdydd? Diolch.

Er nad yw'r Comisiwn wedi ystyried yr agwedd benodol hon o'r blaen, gan eich bod wedi ei dwyn i'n sylw, rwy'n siŵr ein bod yn fwy na pharod i gael golwg arni ac ystyried sut y gallwn ymateb i'ch awgrymiadau.

4. Cwestiynau Amserol

Cwestiynau amserol yw eitem 4. Ni ddaeth unrhyw gwestiynau i law.

5. Datganiadau 90 Eiliad

Eitem 5 yw'r datganiadau 90 eiliad, ac ni ddewiswyd unrhyw ddatganiadau. Felly cawn seibiant byr yn awr er mwyn caniatáu newid staff yn y Siambr.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 15:32.

15:35

Ailymgynullodd y Senedd am 15:37, gyda'r Llywydd yn y Gadair.

6. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Bil Calonnau Cymru

Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni, felly, yw'r ddadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod. Bil calonnau Cymru yw hwnnw, ac mae'r cynnig i'w wneud gan Alun Davies. 

Cynnig NDM7427 Alun Davies, Rhun ap Iorwerth, Dai Lloyd, Andrew R.T. Davies

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil calonnau Cymru i wella'r canlyniadau i bobl sy'n dioddef ataliadau’r galon y tu allan i'r ysbyty.

2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai gosod dyletswydd ar:

a) Gweinidogion Cymru i gyhoeddi strategaeth i wella canlyniadau ataliadau’r galon y tu allan i'r ysbyty a datblygu llwybrau goroesi ar gyfer y wlad gyfan;

b) awdurdodau lleol i gynllunio i sicrhau mynediad digonol i ddiffibrilwyr cymunedol ym mhob rhan o'u hardal;

c) Gweinidogion Cymru i sicrhau bod hyfforddiant mewn CPR yn cael ei ddarparu i bobl ledled Cymru;

d) byrddau iechyd i gydweithio i baratoi llwybr goroesi rhanbarthol ar gyfer ataliadau’r galon y tu allan i'r ysbyty; ac

e) Gweinidogion Cymru i gyflwyno adroddiad i'r Senedd ar gynnydd eu strategaeth yn erbyn amcanion bob blwyddyn.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Hoffwn ddechrau fy nghyfraniad heddiw drwy ddiolch i Dai Lloyd, Rhun ap Iorwerth ac Andrew R.T. Davies am eu cefnogaeth wrth gyflwyno'r cynnig deddfwriaethol hwn. Ond Lywydd, hoffwn ddechrau hefyd drwy ddiolch i Thoma a Mike Powell, a achubodd fy mywyd drwy roi triniaeth adfywio cardio-pwlmonaidd (CPR) i mi; Tom, a feiciodd fel y gwynt i ddod o hyd i ddiffibriliwr; i'r holl bobl nad wyf yn gwybod eu henwau a helpodd pan oedd angen seibiant ar Thoma; i'r parafeddygon; wedyn, i Sean Gallagher a'i dîm gofal y galon yn ysbyty'r Mynydd Bychan. Wrth ddiolch i'r holl bobl hyn, rydym hefyd yn adrodd stori am ataliad y galon a'r bobl y mae angen iddynt allu achub bywydau.

Nawr, fi fyddai'r cyntaf i dderbyn nad wyf yn athletwr naturiol. Ond pan benderfynais fynd allan i redeg un noson yn y gwanwyn, nid oedd gennyf reswm dros gredu y gallai fod y peth olaf y byddwn i byth yn ei wneud. Nid oeddwn wedi profi unrhyw boen nac anghysur ar unrhyw adeg yn y dyddiau cyn i hyn ddigwydd. Nid oeddwn yn teimlo'n sâl ac nid oedd gennyf unrhyw broblemu isorweddol a wnâi i mi gredu fy mod mewn perygl arbennig. Roedd yn gwbl annisgwyl. Roedd toriadau ar fy wyneb oherwydd ei fod wedi digwydd mor sydyn. Ni lwyddais i dorri fy nghwymp hyd yn oed. Pan fydd hyn yn digwydd, mae angen help ar unwaith ar yr unigolyn: adfywio cardio-pwlmonaidd ar unwaith a defnydd o diffibriliwr. Ond gwyddom y gall y ddau beth fod yn frawychus i wylwyr. Roeddwn yn anymwybodol cyn i mi gael unrhyw ddealltwriaeth o'r hyn oedd yn digwydd i mi. Nid oes amser i alw am help. 

Ysgrifennodd Tom e-bost ataf, a oedd yn esbonio'r hyn a ddigwyddodd. Gadewch i mi ei ddweud yn ei eiriau ef: 'Pan gyrhaeddais y fan, roeddent eisoes yn rhoi CPR i chi. Roedd pawb ar bigau'r drain ond yn drefnus. Er mwyn gwneud defnydd ohonof fy hun cynigiais gyfeirio'r ambiwlans i mewn. Dywedodd rhywun a oedd yn cerdded eu ci wrthyf na allent ddod o hyd i'r diffibriliwr yn ôl cyfarwyddyd y sawl a atebodd yr alwad 999. Roeddwn i'n gwybod bod lleoli'r diffibriliwr yn hollbwysig, felly ceisiais feddwl sut i ddod o hyd i un. Cefais un gan wraig garedig iawn wrth y ddesg ddiogelwch yn y coleg heb holi fawr o gwestiynau. Rhuthrais yn ôl wedi i mi ei gael. Roedd yr adrenalin yn llifo ac roeddwn yn rhy ofnus i'w wneud fy hun, ond roedd eich ffrind yn gwybod beth i'w wneud. Mae'n amlwg ei bod wedi cael hyfforddiant.' A'r hyfforddiant hwnnw, Lywydd, a achubodd fy mywyd ac sy'n fy ngalluogi i wneud yr araith hon heddiw.

Rwy'n cydnabod ac yn deall bod gan Gymru strategaeth atal y galon y tu allan i'r ysbyty, a lansiwyd yn ôl yn 2017, a deallaf ei bod yn darparu rhaglen waith gydweithredol ar gyfer gwella cyfraddau goroesi ac ôl-ofal. Mewn sawl ffordd, mae'r strategaeth hon yn cyffwrdd â'r prif faterion rwyf am fynd i'r afael â hwy y prynhawn yma. Rwy'n gwneud y cynnig deddfwriaethol hwn heddiw am nad wyf yn credu bod y cynllun wedi cael y cyrhaeddiad na'r effaith yr hoffai pawb ohonom eu gweld.

Yn ei hanfod, mae dwy brif elfen i'r cynnig hwn. Yn gyntaf oll, sicrhau ein bod yn cael cyfle i achub bywyd pan fydd rhywun yn dioddef ataliad y galon, ac yn ail, eu bod yn cael y gofal sydd ei angen arnynt i fyw bywyd normal wedyn. Rwy'n cydnabod bod Sefydliad Prydeinig y Galon, a llawer o Aelodau, wedi bod yn ymgyrchu ers rhai blynyddoedd o blaid darparu hyfforddiant CPR mewn ysgolion a cholegau. Rwy'n cytuno. Yn y cynnig hwn, rwy'n gofyn i Lywodraeth Cymru gymryd cyfrifoldeb am sicrhau bod hyfforddiant o'r fath yn digwydd. Mae'r Llywodraeth wedi gwrthwynebu hyfforddiant ffurfiol mewn amgylchedd ysgol. Felly, mae gan y Llywodraeth gyfrifoldeb i amlinellu beth y mae am ei wneud yn lle hynny.

Mae lleoliad diffibrilwyr cymunedol hefyd yn hanfodol. Oni ellir dod o hyd i ddiffibriliwr a'i ddefnyddio o fewn munudau, bydd yn rhy hwyr. Roeddwn i'n lwcus iawn, ond rwy'n ymwybodol fod dyn ifanc wedi cael ataliad y galon ychydig flynyddoedd yn ôl yn agos at y fan lle cefais i un. Bryd hynny, ni ddaethpwyd o hyd i ddiffibriliwr, a bu farw'r dyn ifanc hwnnw. Fe'm hatgoffir hefyd o'r ymgyrch sy'n cael ei harwain gan deulu Justin Edinburgh, cyn reolwr clwb pêl-droed Casnewydd a fu farw ar ôl cael ataliad y galon mewn campfa lle nad oedd diffibriliwr ar gael. Ni allaf weld ffordd ymlaen oni bai ein bod yn ei gwneud yn ddyletswydd uniongyrchol ar lywodraeth leol i sicrhau bod y pethau hyn sy'n achub bywydau ar gael drwy bob un o'n gwahanol gymunedau.

Ail agwedd y cynnig hwn yw sicrhau bod byrddau iechyd yn cydweithio ac yn cydweithredu i greu llwybrau goroesi. Mae hyn yn golygu bod clinigwyr a rheolwyr y GIG yn cydweithio ar draws ffiniau byrddau iechyd nid yn unig i ddatblygu a darparu'r diagnosis a'r gofal gorau, ond i sicrhau'r canlyniad gorau i gleifion. Rwy'n ofni weithiau nad yw ein byrddau iechyd yn gweithio gyda'i gilydd cystal ag y dylent o bosibl. Nid oes diben cystadlu, na dyblygu adnoddau. Hoffwn weld yr uchelgeisiau a geiriau'r strategaeth bresennol yn dod yn realiti. A dyna pam fy mod am weld hyn ar y llyfr statud. Mae llawer i'w ddysgu o'r enghraifft hon, a llawer i'w ddysgu o leoedd eraill a gwledydd eraill.

Unwaith eto, yng ngeiriau Tom: 'Mae'n rhaid bod eich brest wedi teimlo'n gleisiog ac yn boenus. Gweithiodd nifer o aelodau o'r cyhoedd yn galed arnoch. Roedd yn stwff dramatig. Ar ôl ei weld yn cael ei wneud, os bydd byth yn digwydd eto, rwy'n teimlo'n hyderus y gallwn reoli'r sefyllfa.' Rwyf am weld yr hyder hwnnw a'r gred honno'n dod yn gyffredin yng Nghymru. Ym mis Ebrill, deuthum yn un o ddim ond 3 y cant o bobl sydd wedi goroesi ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty. Rwy'n teimlo'n gryf fod gan bob un ohonom gyfrifoldeb mawr yn awr i bawb na wnaeth oroesi i sicrhau y gallwn i gyd, yn y dyfodol, gael yr un cyfle i oroesi a byw. Diolch yn fawr iawn. 

15:40