Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

13/10/2020

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae'r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 14:00 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn a, chyn i ni ddechrau, ychydig o bwyntiau wrthyf i. Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. Bydd yr holl Aelodau sy'n cymryd rhan yn nhrafodion y Senedd, lle bynnag y bônt, yn cael eu trin yn gyfartal. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y Cyfarfod Llawn heddiw, ac mae'r rhain wedi'u nodi ar yr agenda. A dwi eisiau atgoffa'r Aelodau fod y Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â threfn yn y Cyfarfod Llawn yn berthnasol i'r cyfarfod wrth gwrs, ac yr un mor berthnasol i Aelodau sydd yn y Siambr ag ydyn nhw i'r Aelodau sy'n ymuno drwy gyswllt fideo. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Dawn Bowden.

COVID-19 ar Ystâd y Llysoedd

1. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi ynghylch mynd i'r afael â lledaeniad COVID-19 ar ystâd y llysoedd yng Nghymru? OQ55713

Llywydd, diolchaf i Dawn Bowden am ei chwestiwn. Mae'n rhaid i lysoedd yng Nghymru weithredu yn ddiogel yn ystod y pandemig. I'r perwyl hwnnw, mae swyddogion yn cynnal deialog rheolaidd gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder a chyda Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi. Rwyf i wedi ysgrifennu at y prif weithredwr yn gofyn am sicrwydd pellach bod yr holl gamau angenrheidiol yn cael eu cymryd i sicrhau diogelwch y rhai sy'n mynd i adeiladau llysoedd yng Nghymru.

Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Yn dilyn pryderon a godwyd gyda mi, rwyf i hefyd wedi ysgrifennu at y gwasanaeth llysoedd a thribiwnlysoedd yn ddiweddar yn gofyn am sicrwydd bod eu harferion gweithredol yn dal i gydymffurfio â rheolau COVID Cymru. Rwyf i, wrth gwrs, yn deall bod y gwasanaeth llysoedd o dan bwysau sylweddol ar hyn o bryd, ond roeddwn i'n bryderus o glywed y gallai pobl sy'n ymddangos gerbron y llysoedd yng Nghaerdydd ar benwythnosau fod wedi cael eu trosglwyddo o ardaloedd fel Merthyr Tudful a'r canolbarth a'r gorllewin, a'u bod nhw'n cael eu cadw mewn amodau nad ydynt yn cydymffurfio â rheoliadau COVID Cymru. Rwy'n deall hefyd bod oddeutu 16 o gyfreithwyr sy'n gweithio yn y llysoedd yng Nghaerdydd hefyd wedi cyflwyno sylwadau i'r gwasanaeth llysoedd yn nodi eu pryderon am arferion gwaith diogel. Felly, a allwch chi ofyn am ddau sicrwydd: un, bod y driniaeth o bobl ar remand, ac sy'n ymddangos gerbron y llysoedd yng Nghymru, yn ogystal â'r bobl hynny sy'n gweithio yn y llysoedd, yn cydymffurfio â rheoliadau COVID Cymru, a gofyn i Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi wneud defnydd llawn o'u hystâd, gan gynnwys ailgyflwyno llysoedd penwythnos mewn lleoedd fel Merthyr Tudful, os oes angen, i'n helpu ni i gyd gadw'n ddiogel rhag lledaeniad yr haint?

Llywydd, diolchaf i Dawn Bowden am ei chwestiwn atodol. Rwy'n hapus iawn i roi sylw i'r materion y mae hi wedi eu nodi. Diolchaf iddi am adael i mi weld y llythyr y mae hi ei hun wedi ei ysgrifennu at y gwasanaeth llysoedd a thribiwnlysoedd, ac yn wir gwelais y llythyr gan ymarferwyr cyfreithiol—eu llythyr agored dyddiedig 18 Medi. Hoffwn sicrhau'r Aelodau bod Llywodraeth Cymru wedi parhau i drafod yn rheolaidd gydag uwch swyddogion yn y gwasanaeth llysoedd drwy gydol y pandemig—fi a'r Cwnsler Cyffredinol. Cyfnewidiais lythyrau gyda'r Arglwydd Brif Ustus yn gynharach ym mis Awst, pryd y dywedodd wrthyf fod Cymru wedi bod ar flaen y gad o ran ymdrechion y gwasanaeth i ailagor Llysoedd y Goron a llysoedd ynadon yn ddiogel. A chyfnewidiais lythyrau ddiwethaf gyda'r Arglwydd Ganghellor, a arweiniodd at ateb ganddo ar 21 Medi.

Felly, hoffwn roi sicrwydd i'r Aelodau ein bod ni wedi mynd ar drywydd materion drwy'r pandemig, gan wneud yn siŵr bod cyngor Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gael yn uniongyrchol i'r gwasanaeth llysoedd, a'u bod nhw'n gwbl ymwybodol o'i gyngor. Mater iddyn nhw wedyn yw gwneud yn siŵr eu bod nhw'n sicrhau bod y risgiau i'r diffynyddion ac i bobl eraill sy'n gweithio yn y system llysoedd cyn lleied a phosibl, a byddwn yn parhau i gyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU i sicrhau bod adeiladau llysoedd yng Nghymru yn ddiogel i bawb sydd angen eu defnyddio.

Mae COVID-19, wrth gwrs, yn effeithio ar ein llysoedd a'n hawdurdodau gorfodi o ddau gyfeiriad: y feirws ei hun a baich y rheoliadau. Nawr, yma yng Nghaerdydd, mae'r rheithgor yn nhreial dyn yr honnir iddo fod yn rhan o ddigwyddiad saethu wedi cael ei ryddhau ar ôl i un o'u nifer hysbysu bod ganddo symptomau coronafeirws. Gall swyddogion gorfodi argymell erlyn mewn llys ynadon pe byddai diffyg cydymffurfiad â chyfyngiadau symud lleol, ond maen nhw'n aruthrol o brysur a dweud y gwir.

Nawr, mae Heddlu De Cymru yn ymateb i 40 o adroddiadau o achosion o ddiffyg cydymffurfio bob dydd ar gyfartaledd, ac mae Arfon Jones, comisiynydd heddlu a throseddu gogledd Cymru, wedi datgan yn gyhoeddus ein bod ni yn ôl i'r hyn sy'n arferol o ran troseddau traddodiadol erbyn hyn, ac mae'n rhaid i ni barhau i orfodi'r rheoliadau coronafeirws hyn. Felly, pa gamau ydych chi'n eu cymryd, Prif Weinidog, i gynorthwyo i fynd i'r afael â'r ddwy brif broblem sy'n cael eu hachosi i awdurdodau gorfodi gan COVID-19?

14:05

Llywydd, ni fyddwn fy hun yn disgrifio'r rheoliadau sydd yno i'n cadw ni i gyd yn ddiogel fel baich. Amddiffyniad angenrheidiol ydyn nhw, sy'n golygu bod bywydau pobl yng Nghymru yn fwy diogel nag y bydden nhw heb y rheoliadau. Rwy'n cydnabod yr hyn y mae comisiynydd heddlu a throseddu'r gogledd wedi ei ddweud, bod lefelau troseddu cyffredinol wedi'u hatal ym mis Mawrth a mis Ebrill, ond eu bod nhw wedi adfer—os dyna'r gair iawn—i'r mathau o lefelau a oedd yn cael eu gweld yn gynharach yn y flwyddyn. Ac mae ein heddluoedd yn gweithio'n galed dros ben erbyn hyn i wneud yn siŵr eu bod nhw'n ymdrin â'r materion hynny, a'u bod nhw hefyd yn gallu cynorthwyo gyda'r busnes hanfodol o orfodi cyfyngiadau a rheoliadau coronafeirws yma yng Nghymru. Rwy'n llwyr gefnogi'r dull y mae ein heddluoedd wedi ei fabwysiadu drwy gydol y pandemig—eich bod chi'n dechrau bob amser drwy wneud yn siŵr bod pobl yn ymwybodol o'r rheolau, eich bod chi'n addysgu, yn cynghori, yn annog, ond, pan fydd hynny'n dod i ben ac y bydd pobl yn torri'r cyfreithiau sydd yno i'n hamddiffyn ni i gyd, yn fwriadol ac yn ymwybodol, yna mae'n rhaid cymryd camau gorfodi. A dyna'r dull y mae ein heddluoedd yn ei ddefnyddio, ac mae ganddyn nhw gefnogaeth lawn Llywodraeth Cymru wrth wneud hynny.

Mil o Ddiwrnodau Cyntaf Bywyd Plentyn

2. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effaith y pandemig parhaus ar 1,000 diwrnod cyntaf bywyd plentyn yng Nghymru? OQ55717

Llywydd, diolchaf i Lynne Neagle am hynna. Er nad yw babanod a phlant ifanc yn debygol naill ai o gontractio na chael eu heffeithio'n ddifrifol gan COVID-19, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ganolbwyntio ar lesiant corfforol, meddyliol ac emosiynol hirdymor pawb sy'n tyfu i fyny yn ystod yr argyfwng coronafeirws.

Prif Weinidog, mae'r dystiolaeth yn ddiamwys bod 1,000 diwrnod cyntaf bywyd plentyn, o feichiogrwydd i ddwyflwydd oed, yn gosod sylfeini ar gyfer bywyd iach a hapus. Tynnodd adroddiad diweddar 'Babies in Lockdown' gan y Parent—Infant Foundation sylw at yr effaith amlwg y mae COVID wedi'i chael ar deuluoedd a babanod, a hefyd mai teuluoedd sydd eisoes mewn perygl o ganlyniadau gwael sydd wedi dioddef yr anfantais fwyaf, wedi'i gwreiddio mewn coronafeirws unwaith eto. Rydym ni'n gwybod bod pryderon wedi eu codi yng Nghymru ynghylch cyfyngiadau ar gynnwys partneriaid yn ystod beichiogrwydd ac esgor, yn ogystal ag effaith llai o wasanaethau ymwelwyr iechyd ar iechyd meddwl amenedigol a chyfraddau bwydo ar y fron. O gofio ein bod ni'n wynebu cyfnod estynedig o gyfyngiadau y gaeaf hwn, pa gamau wnaiff y Prif Weinidog eu cymryd i sicrhau bod 1,000 diwrnod cyntaf bywyd babi wir yn gyfle sylfaenol i adeiladu iechyd corfforol a meddyliol da am oes? Diolch.

Diolch, Lywydd. Wrth gwrs, rwy'n cytuno â Lynne Neagle ynglŷn â phwysigrwydd y 1,000 diwrnod cyntaf hynny, pan fydd ymennydd plant yn tyfu'n gyflymach nag y bydd ar unrhyw adeg arall yn eu bywydau, a phan fydd yr atodiadau pwysig iawn hynny yn cael eu gosod a fydd yn sail i lesiant emosiynol dros weddill eu hoes. Fel y bydd Lynne Neagle yn gwybod, yn nyddiau cynnar coronafeirws, bu tarfu ar y mathau o wasanaethau y gallai teuluoedd a phlant ddibynnu arnyn nhw, oherwydd bod y staff eu hunain yn datblygu salwch o ganlyniad i coronafeirws ac oherwydd y bu'n rhaid ailgyfeirio ymwelwyr iechyd, er enghraifft, i helpu rhannau mwy brys fyth o'r gwasanaeth iechyd. Y newyddion da yw bod pob ymwelydd iechyd wedi eu dychwelyd i'w swyddi erbyn hyn, ac mae'r gwasanaethau hynny sydd mor bwysig ym mywydau'r plant ifanc hynny yn cael eu hadfer. Nid ydyn nhw 100 y cant yn ôl i ble'r oedden nhw o'r blaen, gan nad yw coronafeirws wedi diflannu. Ond serch hynny, gwn fod dealltwriaeth dda o'r ymdrechion sydd eu hangen, yn y ffordd y mae Lynne Neagle wedi'i nodi, a bod camau yn cael eu cymryd yn eu cyswllt yn ein gwasanaethau cymdeithasol ac yn ein gwasanaethau iechyd. A, Llywydd, ceir rhai llwyddiannau rhyfeddol o hyd, o ystyried y pwysau sydd wedi bod ar bawb. Aeth cyfraddau imiwneiddio yng Nghymru, yn ystod tri mis cyntaf y flwyddyn ariannol hon—felly'r tri mis pan oedd argyfwng coronafeirws yn ei anterth—aeth y brechlyn tri dos, chwech mewn un i fabanod yn uwch na 95 y cant yn ystod y chwarter hwnnw a chynyddodd y dos cyntaf MMR i blant ddwyflwydd oed i fwy na 95 y cant. Felly, er gwaethaf yr holl anawsterau yr oedd pobl yn eu hwynebu, ac rydym ni'n gwybod bod pobl weithiau'n amharod i ddod ymlaen i gael triniaethau yn y cyfnod anodd iawn hwnnw, ceir tystiolaeth o lwyddiant parhaus gwasanaethau i bobl ifanc yn y 1,000 diwrnod cyntaf hynny.

14:10

Prif Weinidog, mae'r 1,000 diwrnod cyntaf hynny mor bwysig a hoffwn gefnogi'r hyn y mae Lynne wedi'i ddweud gyda'i phryderon y mae hi wedi eu codi gyda chi heddiw, a diolch hefyd i chi a'r Llywodraeth am wrando ar rai o'r pryderon hynny. Gan fod gen i blentyn blwydd a hanner oed fy hun, a gafodd ei ben-blwydd yn un oed yn ystod y cyfyngiadau symud—ein cyntaf yn ystod y cyfyngiadau symud cenedlaethol—gallaf ddweud fy mod i'n poeni yn fawr am ei broses ddatblygu oherwydd y diffyg rhyngweithio gydag eraill, yn enwedig plant o'i oedran ei hun. Mae rhyngweithio a chwarae mor bwysig ar gyfer y camau hynny mewn bywyd ond, os na fyddwn ni'n ofalus, ni fydd canolfannau sy'n eich annog i gael y rhyngweithio hwnnw, fel canolfannau chwarae meddal—. Ni fydd unrhyw rai ar ôl yn Sir Fynwy yn fuan gan fod eu busnesau yn cael eu taro mor galed o ran nifer yr ymwelwyr ac incwm oherwydd bod yr ardaloedd cyfagos yn destun cyfyngiadau symud. Felly, os gwelwch chi'n dda, Prif Weinidog, a gaf i ofyn i chi heddiw ymgorffori rywsut yn y cylch newydd hwnnw o gyllid sy'n cael ei gyflwyno yn fuan, ffordd o helpu'r busnesau hynny sydd gymaint ar eu colled o ran nifer yr ymwelwyr ar hyn o bryd oherwydd bod yr ardaloedd cyfagos yn destun cyfyngiadau symud? Diolch.

Wel, Llywydd, diolchaf i Laura Anne Jones am hynna. Rwy'n adnabod ei man cychwyn yn dda iawn. Mae plant ifanc yn dysgu cymaint gan blant ifanc eraill o'u hoedran eu hunain, ac mae'r cyfle i chwarae a chymdeithasu â phlant yn y modd hwnnw yn hanfodol iddyn nhw, ac mae llawer o deuluoedd wedi canfod bod y cyfleoedd hynny wedi cael eu cwtogi o ganlyniad i bryder ynghylch coronafeirws a gwasanaethau ddim yn gallu gweithredu yn y ffordd yr oedden nhw o'r blaen.

Mae'r mater o fusnesau ychydig dros y ffin o ardaloedd sy'n destun cyfyngiadau symud lleol yn fater a godwyd gan yr Aelod gyda mi, mi wn, yr wythnos diwethaf. Addewais bryd hynny y byddwn yn siarad â'm cyd-Weinidog Ken Skates am y pwyntiau a godwyd ganddi, ac rwyf wedi cael cyfle i wneud hynny. Ac rwy'n falch o allu ei hysbysu bod Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru yn sicrhau bod y symiau o arian yr ydym ni wedi'u neilltuo yn ystod cam 3 y gronfa cadernid economaidd, a gynlluniwyd i helpu busnesau mewn ardaloedd sy'n destun cyfyngiadau symud, y bydd hyblygrwydd i ganiatáu i fusnesau ychydig ar draws y ffin y mae'r mesurau cyfyngiadau symud hynny yn effeithio arnynt fanteisio ar y gronfa honno hefyd, a diolchaf iddi eto am godi'r pwynt hwnnw gyda mi.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau, ac, felly, yn gyntaf yr wythnos yma, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Paul Davies. 

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, ddoe, rhybuddiodd un o'ch Gweinidogion iechyd y gellid cyflwyno ail gyfnod o gyfyngiadau symud cenedlaethol yma yng Nghymru. A yw hyn yn golygu bod dull presennol Llywodraeth Cymru o weithredu'r cyfyngiadau symud wedi bod yn fethiant?

Llywydd, dim mwy nag yr oedd cyhoeddiad Prif Weinidog y DU o system tair haen newydd yn Lloegr yn fesur o fethiant yn Lloegr. Mae'n bwynt arwynebol i'w wneud. Yr hyn yr oedd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn rhybuddio amdano ddoe yw bod niferoedd yr achosion coronafeirws yn tyfu ledled Cymru, bod y bwlch rhwng y rhannau hynny o Gymru nad ydyn nhw'n destun cyfyngiadau symud lleol a'r rhai sydd yn destun cyfyngiadau o'r fath yn lleihau, a bod yn rhaid i ni fod yn barod am y ffaith nad yw'r mesurau yr ydym ni wedi eu cymryd hyd yma yn ddigon i ymateb i ymosodiad y feirws yn ystod yr hydref a'r gaeaf. Cymerodd Prif Weinidog y DU gamau i newid trefniadau yn Lloegr ddoe oherwydd y cynnydd i'r feirws yno. Byddwn ninnau'n gwneud yr un peth yng Nghymru os bydd angen i ni wneud hynny yma.

Llywydd, wrth gwrs, mae'r Prif Weinidog eisiau siarad am Loegr, felly gadewch i ni siarad am Loegr. Gadewch i ni siarad am y ffaith fod y dystiolaeth ddiweddaraf gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig â COVID yn gymesur uwch yma yng Nghymru nag yn Lloegr. Gadewch i ni siarad am y ffaith bod dwy ran o dair o'r profion a gynhelir yng Nghymru yn cael eu cynnal gan labordai goleudy'r DU ac felly mae'n amlwg nad yw capasiti Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cael ei ddefnyddio yn effeithiol yng Nghymru. A gadewch i ni siarad am y buddsoddiad enfawr y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud yng Nghymru i gefnogi ein busnesau a'n gwasanaethau cyhoeddus ledled y wlad—dros £4 biliwn hyd yma. Mae'n rhaid i mi ddweud, Llywydd, byddwn i eisiau siarad am Loegr pe byddwn i'n gyfrifol am hanes Llywodraeth Cymru.

Nawr, dull gweithredu Llywodraeth Cymru fu cyflwyno cymysgedd o gyfyngiadau symud ar draws siroedd a chyfyngiadau symud hyperleol, fel yn achos Llanelli a Bangor. Ac er mwyn barnu effeithiolrwydd, neu aneffeithiolrwydd yn wir, dull cyfyngiadau symud presennol Llywodraeth Cymru, mae'n hanfodol ei bod yn cyhoeddi data ar lefel gymunedol. Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru hefyd gyhoeddi data yn ôl demograffeg, fel y gallwn ni ddilyn tueddiadau a defnyddio ein hadnoddau yn well i amddiffyn ein pobl. Ac mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru gyhoeddi data trosglwyddo yn agored, fel ein bod ni'n gweld sut mae'r feirws yn cael ei drosglwyddo, er enghraifft, yn ôl aelwyd, lleoliad lletygarwch, gweithle neu drwy deithio. Ac mae'n rhaid i bobl Cymru allu barnu drostynt eu hunain pa un a yw'r mesurau sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru hyd yma wedi bod yn gymesur ai peidio.

Nawr, mae rhai siroedd, wrth gwrs, wedi dewis cyhoeddi data cymunedol eu hunain, fel Rhondda Cynon Taf, Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Sir Fynwy, ac mae'r tryloywder hwnnw yn gwbl hanfodol. Ac mae'n gwbl deg y dylai pawb yng Nghymru gael mynediad at ddata ar eu cymuned leol eu hunain. Felly, Prif Weinidog, a wnewch chi ymrwymo nawr i arwain ar hyn, trwy gyhoeddi data ar sail gymunedol, ar sail demograffeg ac ar sail trosglwyddo, fel y gall pobl Cymru fod yn ffyddiog bod y mesurau cyfyngiadau symud presennol yn gymesur â bygythiad y feirws yn eu hardaloedd eu hunain?

14:15

Wel, Llywydd, polisi plaid yr Aelod yn wir yw: ar gyfer Cymru, gweler Lloegr, felly ni ddylai neb synnu at ei gyflwyniad i'r gyfres nesaf hon o gwestiynau.

Rwy'n cytuno gydag ef bod data ar lefel leol a gyhoeddwyd gan rai awdurdodau lleol yng Nghymru wedi bod yn ganllaw defnyddiol iawn i'r poblogaethau lleol hynny, ac y bydd yn annog awdurdodau lleol eraill, sydd mewn sefyllfa i wneud hynny, i wneud yr un peth. Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi llawer iawn o ddata bob dydd ar coronafeirws, yn uniongyrchol ein hunain a thrwy Iechyd Cyhoeddus Cymru a thrwy agweddau eraill ar wasanaethau yr ydym ni'n gyfrifol amdanyn nhw. Yr hyn na wnaf i ei wneud yw cyhoeddi data sydd mor gyfnewidiol fel ei bod hi'n amhosibl dod i gasgliadau synhwyrol a dibynadwy ohonyn nhw. Mae angen i'r data yr ydym ni'n eu cyhoeddi fod yn ddata y gellir eu defnyddio yn synhwyrol, a phan ellir gwneud hynny, yna rydym ni'n gwneud hynny.

Wel, Prif Weinidog, rydych chi'n dweud eich bod chi, fel Llywodraeth, yn cyhoeddi'r data, ond nid yw hynny'n wir, nac ydy? Oherwydd mae Vaughan Gething eisoes wedi ei gwneud yn eglur na fydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi data mwy lleol i roi mwy o wybodaeth i bobl yng Nghymru. Oherwydd ar 25 Medi, dywedodd nad yw eisiau darparu sylwebaeth barhaus. Rydych chi'n dweud un peth ac mae Vaughan Gething yn dweud rhywbeth arall. Yn amlwg, nid ydych chi'n unfrydol fel Llywodraeth, Prif Weinidog.

Mae Cymru angen cydbwysedd rhwng diogelu bywydau a bywoliaethau, ac nid ydym ni wedi gweld digon o ddata gwerthfawr hyd yn hyn i farnu cymesuredd mesurau Llywodraeth Cymru. Yn hytrach, yr hyn yr ydym ni wedi ei weld yw Llywodraeth Cymru yn pwyso am waharddiad ar deithio, er nad yw wedi darparu unrhyw tystiolaeth bod angen hynny mewn gwirionedd. A, Prif Weinidog, cyn i chi fwrw ymlaen â gwaharddiad ar deithio, dylech chi gyhoeddi'r dystiolaeth sydd gennych chi sy'n profi'r ddadl dros hynny.

Ac yn y cyfamser, mae Llywodraeth Cymru wedi cael digon o gyfleoedd i gyflwyno profion gorfodol ym Maes Awyr Caerdydd. Dywedasoch bedair wythnos yn ôl eich bod chi mewn trafodaethau gyda rheolwyr y maes awyr yr ydych chi'n berchen arno, ac eto ni fu unrhyw gynnydd o hyd. Prif Weinidog, mae nifer y teithwyr wedi gostwng gan 93 y cant, felly a oes gennych chi unrhyw fwriad i gyflwyno profion gorfodol—yr un profion y mae cydweithwyr eich plaid yn Llundain yn dal i alw amdanyn nhw—neu, fel sy'n wir am eich gwaharddiad arfaethedig ar deithio, ai'r cwbl yr ydych chi'n ei wneud yw aros i Loegr ei wneud yn gyntaf?

Wel, Llywydd, mae gen i ofn bod arweinydd yr wrthblaid ar chwâl yn llwyr y prynhawn yma: mae'n neidio o un peth sy'n annhebyg o ddigwydd i un arall. Nid oes unrhyw wahaniaeth rhwng y Gweinidog iechyd a minnau. Dywedais na fyddem ni'n cyhoeddi data ar lefel leol nad ydyn nhw'n ddibynadwy ac nad ydyn nhw'n gallu helpu pobl i wneud penderfyniadau cytbwys a phriodol; dyna mae'r Gweinidog iechyd yn ei ddweud, a dyna y mae angen i'r Aelod ei ddeall.

Gadewch i mi ymdrin â'r mater teithio, un y mae ef a'i blaid gymaint ar ochr anghywir y ddadl, gan wrthod cymryd cam syml a fyddai'n helpu i gadw Cymru yn ddiogel, ac sy'n creu dicter ofnadwy, gyda llaw, yn y rhan o Gymru y mae'n dod i'r Senedd i'w chynrychioli. Rhan o Gymru lle mae cyfradd bresennol coronafeirws yn is na 30 fesul 100,000 o'r boblogaeth, ond lle mae ei Lywodraeth ef, yn Lloegr, yn caniatáu i bobl o Lerpwl, lle mae 800 o achosion fesul 100,000, deithio o Lerpwl i Ddinbych-y-pysgod ac i orllewin Cymru i aros. Nawr, mae hynny yn annerbyniol i bobl yn yr ardal honno ac mae'n annerbyniol i minnau hefyd.

Holais Prif Weinidog y DU ynghylch y pwyntiau hyn eto ddoe. Unwaith eto, gwrthododd wneud y peth syml a'r peth iawn. Rwyf i wedi ysgrifennu ato unwaith eto heddiw. Rwyf i wedi cyflwyno'r dystiolaeth iddo, sy'n amlwg i unrhyw un ei gweld. Roedd gan yr Aelod ddiddordeb mawr mewn data yn gynharach yn y sesiwn hon. Cymeradwyaf iddo'r data yr wyf i'n cyfeirio atyn nhw yn y llythyr hwnnw, a fydd yn dangos pam mae'r cwbl y mae caniatáu i bobl o ardaloedd â chylchrediad uchel symud i ardaloedd â chylchrediad isel yn ei wneud yw cario'r feirws gyda nhw. Rydym ni'n atal hynny rhag digwydd yng Nghymru ac mae angen i Brif Weinidog y DU ei atal hefyd. A dylai fod yn siarad dros bobl Cymru, nid dros ei safbwynt pleidiol cul ei hun.

O ran y maes awyr, rydym ni'n parhau i fod mewn trafodaethau. Pan fydd yn bosibl cael system nad yw'n arwain at oedi hir dros ben â phobl yn y maes awyr yn aros i brofion gael eu cynnal—. Efallai ei fod ef yn meddwl ei bod hi'n hawdd gwneud hynny. Gallaf ddweud wrthych chi, ar ôl darllen yr holl wybodaeth, nad yw'n hawdd. Ceir ffyrdd y gallwn ni fynd i'r afael â'r broblem honno. Rydym ni'n agos iawn at gytuno ar hynny. Ar ôl i ni wneud hynny, byddwn yn gwneud yn siŵr bod pobl sy'n cyrraedd Maes Awyr Caerdydd yn gallu cael eu profi—a'u profi yn gyflym—fel y gallan nhw barhau â'u bywydau bob dydd pan fyddan nhw'n gallu gwneud hynny.

14:20

Diolch, Llywydd. Dair wythnos yn ôl, dywedodd y Grŵp Cynghori Strategol ar Argyfyngau, SAGE, ei bod yn debygol y byddai angen cyfuniad o ymyraethau i ddod ag R ar gyfer coronafeirws yn is nag 1. Ymhlith y mesurau y dywedodd y dylid ystyried eu cyflwyno ar unwaith oedd dangosydd sbarduno cyfyngiadau, cyfnod byr o gyfyngiadau symud, i ddychwelyd nifer yr achosion i lefelau isel; cau pob bar, bwyty, caffi, campfa dan do a gwasanaethau personol; ac i holl addysgu prifysgolion a cholegau fod ar-lein oni bai bod addysgu wyneb yn wyneb yn hanfodol.

A allwch chi gadarnhau, Prif Weinidog, eich bod chi'n ymwybodol o'r wybodaeth hon dair wythnos yn ôl? A chydag R yng Nghymru yn 1.37 ar hyn o bryd, a chyda nifer yr achosion newydd a adroddwyd heddiw yn 764, pam ydych chi wedi penderfynu peidio â gweithredu argymhellion SAGE pan eich bod chi wedi dweud yn gyson y byddech chi'n cael eich arwain gan yr wyddoniaeth?

Wel, Llywydd, daw cyngor SAGE i Lywodraeth Cymru drwy'r pwyllgor cell cyngor technegol. Nid yw'n dod heb ei gyfryngu gan fod cyngor SAGE yn cael ei reoli gan yr angen i roi cyngor i'r fwyaf o bedair gwlad y DU. Dyna pam mae gennym ni ein cell cynghori technegol ein hunain, a daw cyngor SAGE i mi drwy'r gell honno, ac nid ydym ni wedi cael ein cynghori hyd yn hyn gan TAC i weithredu system dangosydd sbarduno cyfyngiadau.

Ond, rwyf i yn cymryd y dadleuon o blaid cyfnod sbarduno cyfyngiadau o ddifrif, ac yng nghyfarfod COBRA ddoe, gofynnais i Brif Weinidog y DU am gyfarfod COBRA arbennig ychwanegol i drafod y syniad o ddangosydd sbarduno cyfyngiadau yn benodol. Rwy'n credu bod hwnnw yn syniad y bydd angen ei archwilio ymhellach, ac y mae angen ei rannu mewn safbwyntiau rhwng pedair gwlad y DU. Rwy'n ailadrodd yr alwad honno i Brif Weinidog y DU yn y llythyr yr wyf i wedi ei ysgrifennu ato heddiw.

Gadewch i ni edrych ar y dystiolaeth gan y gell cynghori technegol y cyfeiriasoch ato, Prif Weinidog. Ar 18 Medi, dywedodd:

Efallai y bydd angen pecyn o ymyraethau nad ydynt yn rhai fferyllol... ar raddfa leol a chenedlaethol i ddod ag R yn ôl o dan 1...mae ymateb cynharach a mwy cynhwysfawr yn debygol o leihau'r amser y bydd eu hangen.

Ailadroddodd hynny yn ei adroddiad nesaf ar 25 Medi, pryd y dywedodd:

Os na fydd y mesurau presennol yn dod ag R islaw 1 yna bydd angen cyfyngiadau ychwanegol i reoli'r epidemig yng Nghymru. Y cynharaf y bydd y mesurau ychwanegol yn cael eu cyflwyno, y mwyaf effeithiol y byddant.

Mae eich cydweithiwr Llafur yn San Steffan, Jonathan Ashworth, wedi dweud heddiw bod diffyg gweithredu'r Llywodraeth, yng ngoleuni papurau SAGE, yn peri pryder, ac y byddai'r wrthblaid Lafur wedi dilyn y cyngor gwyddonol ac wedi gweithredu dangosydd sbarduno cyfyngiadau wythnosau yn ôl. Dywedodd Keir Starmer ddoe bod yn rhaid i Brif Weinidog y DU, o dan yr amgylchiadau hyn, weithredu yn gyflym ac yn bendant, ond onid yw'r un peth yn berthnasol i chithau hefyd, Prif Weinidog?

14:25

Wel, Llywydd, rwy'n credu ein bod ni wedi gweithredu yn gyflym ac yn bendant. Mae'r cyfyngiadau lleol sydd gennym ni mewn ardaloedd diogelu iechyd yng Nghymru yn mynd y tu hwnt i'r hyn sy'n ofynnol yn Lloegr, hyd yn oed yn y mesurau haen 3 y mae Prif Weinidog y DU wedi eu cyhoeddi. Ac yn ystod y penwythnos, bu'n rhaid i ni gymryd camau unwaith eto i gyflwyno cyfyngiadau lleol o'r fath mewn ardal arall o Gymru, ym Mangor yn y gogledd. Felly, rwy'n credu ein bod ni'n gweithredu yn gyflym a'n bod ni'n gweithredu yn bendant.

Hoffwn fod yn eglur gyda'r Aelodau, yn yr un modd a gyda phobl sy'n byw yng Nghymru, os bydd y sefyllfa sy'n ein hwynebu yn parhau i ddirywio, os bydd nifer yr achosion o coronafeirws yn parhau i gynyddu, os byddwn ni'n parhau i weld llif ychwanegol o bobl i'n gwasanaeth iechyd, fel yr ydym ni wedi ei weld dros yr wythnos ddiwethaf—. Llywydd, bedair wythnos yn ôl, tua 200 oedd nifer y gwelyau lle'r oedd pobl â coronafeirws tybiedig neu a gadarnhawyd, ynddyn nhw yn ein hysbytai; mae'r nifer tua 500 yr wythnos hon. Os byddwn ni'n parhau i weld y niferoedd hynny yn cynyddu yn y modd hwnnw, yna bydd angen mesurau ychwanegol.

Un maes lle mae angen gweithredu cyflym a phendant arnom ni yw teithio o ardaloedd lle ceir haint uchel yr ydych chi eisoes wedi cyfeirio ato. Dyma'r bedwaredd wythnos yn olynol i mi dynnu sylw at wiriondeb pobl mewn ardaloedd lle ceir cyfraddau COVID uchel yn Lloegr yn cael teithio i rannau o Gymru. Ddoe, cadarnhaodd y Gweinidog iechyd, am y tro cyntaf, bod achosion coronafeirws wedi cael eu mewnforio o gysylltiad â rhai o'r ardaloedd hynny lle ceir llawer o achosion yn Lloegr. Efallai, Prif Weinidog, y gallech chi roi ychydig mwy o fanylion i ni am y dystiolaeth honno.

Yn amlwg, dylai Llywodraeth y DU weithredu i roi terfyn ar yr anghysondeb teithio hwn. Ond mae'n ymddangos bod aros am BoJo yn ymarfer eithaf ofer. Felly, yn hytrach nag ysgrifennu llythyr arall nad yw'n cael ateb neu aros am COBRA pedair gwlad, beth am weithredu yn annibynnol nawr er lles pobl Cymru? Os oes arnoch angen amser seneddol ychwanegol yr wythnos hon, Prif Weinidog, i gael y ddeddfwriaeth hon drwodd, yna byddwn ni fel gwrthblaid yn eich cefnogi. A allwn ni wir fforddio aros diwrnod arall, heb sôn am wythnos arall?

Wel, Llywydd, gofynnodd yr Aelod o ble mae'r dystiolaeth yn dod. Mae'n dod o'r arolwg gwyliadwriaeth dŵr gwastraff sy'n dangos, pan fydd pobl yn dod i Gymru o rannau eraill o'r Deyrnas Unedig, yna mae cyfradd y coronafeirws a geir mewn dŵr gwastraff yn cynyddu ac fe'i canfyddir mewn tystiolaeth genomeg—tystiolaeth genomeg newydd bwysig. Cyfeiriais at hynny yn y llythyr yr wyf i wedi ei anfon at Brif Weinidog y DU.

Rydych chi'n gweld, y modd lle rwy'n wahanol i arweinydd Plaid Cymru yw hwn: mae'n defnyddio'r iaith drwy'r amser o bobl o Loegr yn dod i mewn i Gymru, fel pe byddai hon yn rhyw fath o gystadleuaeth rhwng Cymru a Lloegr, ac rwyf i wedi bod yn gwbl eglur nad dyna'r pwynt yr wyf i wedi ei wneud i Brif Weinidog y DU erioed. Y pwynt yr wyf i'n ei wneud iddo yw na ddylid caniatáu i bobl o ardaloedd lle ceir nifer fawr o achosion deithio i ardaloedd lle ceir nifer fach o achosion—lle bynnag y mae'r ardaloedd â nifer fawr o achosion yn y Deyrnas Unedig, lle bynnag y mae'r ardaloedd â nifer fach o achosion yn y Deyrnas Unedig. Felly, nid yw hyn yn ymwneud ag atal pobl o Loegr rhag dod i Gymru, ac ni ddylem ni fyth ddechrau siarad yn y modd hwnnw. Mae'n ymwneud yn syml ag atal pobl, pa un a ydyn nhw'n byw yng Nghymru mewn ardal lle ceir nifer fawr o achosion yn mynd i ardal lle ceir nifer fach o achosion yng Nghymru neu Loegr neu'r Alban, neu bobl yn unrhyw le arall yn y Deyrnas Unedig lle mae cylchrediad y feirws yn uchel yn mynd i fannau lle nad yw'r feirws yn bodoli yn yr un ffordd, oherwydd pan eu bod nhw'n gwneud hynny, mae'r risg o ddod â'r feirws gyda nhw yn anochel ac yn amlwg yn uwch.

Prif Weinidog, ni fu unrhyw wahaniaeth rhwng sut yr ydych chi ac Adam Price yn siarad am y mater hwn. Yn wir, mae'n ymddangos erbyn hyn mai prin yw'r gwahaniaeth rhwng eich Llywodraeth chi a Phlaid Cymru. Mae llawer yn ofni ein bod ni'n cerdded yn ein cwsg tuag at annibyniaeth.

Ddoe, fe wnaethoch chi geisio cyflwyno wltimatwm i Brif Weinidog y Deyrnas Unedig. Heddiw, roeddech chi ar draws bron pob cyfrwng newyddion yn dweud eich bod chi eisiau gorfodi ffin rhwng Cymru a Lloegr. Yn y cyfamser, roedd yr awdur teithio llwyddiannus, Simon Calder, a oedd yn annog pobl i ddod ar wyliau i Gymru gan gydymffurfio â chyfyngiadau COVID, yn destun toreth o sarhad. Meddai:

Roedd dwyster y sylwadau negyddol o faint nad wyf i erioed wedi ei weld.

Ar ôl cael ei alw'n 'scum' a chael y neges i fynd i'r diawl ac aros yn Lloegr, mae'n dweud na fydd yn ymweld â Chymru eto. Pan gafodd ei holi, atebodd llefarydd ar ran eich Llywodraeth bod Boris Johnson wedi gwrthod cyflwyno cyfyngiadau teithio, er gwaethaf eich galwadau. Prif Weinidog, a wnewch chi gondemnio'r sarhad a ddioddefwyd gan Simon Calder am annog pobl i ymweld â Chymru mewn ffordd sy'n cydymffurfio â COVID, neu a ydych chi'n mabwysiadu safiad gwrth-Loegr Plaid Cymru nawr eu bod nhw wedi mabwysiadu gwrth-semitiaeth eich plaid chi?

14:30

Wel, Llywydd, ni allai'r Aelod fod wedi dehongli pethau yn fwy anghywir. Rwyf i wedi gwneud fy ngorau glas drwy gydol y drafodaeth am deithio i'w gwneud yn eglur nad yw'n fater o'r ffin i mi. Prif Weinidog y DU sy'n gorfodi iddo ddod yn fater yn ymwneud â'r ffin trwy ei wrthodiad i weithredu i atal pobl y tu mewn i Loegr rhag teithio o ardaloedd lle ceir nifer fawr o achosion i ardaloedd lle ceir nifer fach o achosion a theithio y tu hwnt i Loegr. Felly, fy safbwynt i yw fy mod i'n credu yn y Deyrnas Unedig; rwyf i'n credu mewn Teyrnas Unedig lwyddiannus. Rwy'n gresynu'n arw bod Prif Weinidog y DU yn ymddwyn mewn ffyrdd sy'n codi amheuon ynghylch hynny ym meddyliau pobl eraill. Ac rwy'n ailadrodd, Llywydd, fel yr wyf wedi ei ddweud eisoes: i mi, nid yw hyn yn ymwneud o gwbl ag atal pobl o Loegr rhag dod i Gymru; mae'n fater o atal unrhyw un, yn unrhyw le yn y Deyrnas Unedig, sy'n byw mewn ardal lle ceir nifer fawr o achosion rhag teithio i ardal lle ceir nifer fach o achosion, unrhyw le yn y Deyrnas Unedig. Er mwyn i hynny ddigwydd, mae'n rhaid i bob un ohonom ni chwarae ein rhan. Mae'r trefniadau hynny gennym ni yma yng Nghymru. Rwyf i eisiau i Brif Weinidog y DU wneud yr un peth i Loegr, gan fy mod i'n credu bod hynny yn cefnogi Teyrnas Unedig lwyddiannus, ac rwy'n credu bod peidio â gwneud hynny yn tanseilio'r rheini ohonom ni sydd eisiau dadlau o blaid yr achos hwnnw. O ran Simon Calder, credaf fod y cyngor a roddodd i bobl yn naïf, ond nid wyf i'n credu o gwbl y dylai pobl sy'n siarad am unrhyw bwnc gael eu sarhau, ac mae'n ofid i mi mai dyna oedd canlyniad yr hyn yr oedd wedi ei ddweud. Efallai nad wyf i'n cytuno ag ef, ond mae ganddo bob hawl i'w ddweud ac mae ganddo bob hawl i gael ei barchu.

Prif Weinidog, rydych chi'n sôn am barchu datganoli a'ch bod chi eisiau Teyrnas Unedig gref ond yn mynnu wedyn bod yn rhaid i Loegr wneud yr hyn yr ydych chi'n ei wneud yng Nghymru, neu gwae chi. Nawr, mae gennych chi'r polisi hwn o atal unrhyw un rhag croesi ardal cyngor, fel yr ydych chi'n ei ddiffinio, mae hwn gennych chi gyda grym y gyfraith, ond y gwir amdani, yn sgil syrffed â'r cyfyngiadau symud, oherwydd eich bod chi wedi ei barhau cyhyd o'r blaen, yw bod cydsyniad i'ch polisi yn lleihau. Gwrthwynebodd yr wrthblaid swyddogol eich polisi o atal pobl rhag croesi'r ffiniau cyngor hynny. Gan eich bod chi wedi cyflwyno cyfyngiadau symud caletach a hwy yng Nghymru i ohirio heintiau o'r haf i'r hydref a'r gaeaf, mae ein heconomi, yn ogystal â'n hiechyd, wedi dioddef.

Canfu melin drafod Centre for Cities y cafwyd yr adferiad gwannaf ar ôl y cyfyngiadau symud y tu allan i Lundain yng Nghaerdydd, gyda dim ond 51 y cant o'r ymwelwyr cyn-COVID yn dychwelyd i Gaerdydd, ac eto mae'r haint yng Nghymru yn saethu yn ôl i fyny, fel y mae yn Lloegr. Yn fy rhanbarth i, mae'r ardaloedd sydd â'r lleiaf o haint ar y ffin â Lloegr, tra bod gan Gaerdydd, Abertawe a'r Cymoedd gyfraddau uwch na rhannau cyfagos o Loegr, ac eto rydych chi'n awgrymu bod ein problemau ni yma yn adlewyrchu polisi yn Lloegr ac yn ceisio beio lledaeniad COVID ar bobl sy'n dod dros y ffin o Loegr. Prif Weinidog, onid dyna'r gwir reswm yr ydych chi'n bygwth gorfodi ffin i dynnu sylw oddi wrth gamreolaeth eich Llywodraeth eich hun a'r sefydliad hwn o'r pandemig?

Rwy'n anghytuno yn llwyr â'r pwyntiau yna. Rwy'n credu bod y ffordd y mae coronafeirws wedi cael ei reoli yng Nghymru wedi sicrhau cytundeb a chydsyniad pobl yng Nghymru. Yn sicr, nid ydyn nhw'n cytuno â'r math o syniadau ymylol y mae'r Aelod yn eu harddel yn y Siambr, yn ystod yr amser sy'n dal i fod ar ôl ganddo ar ôl gyda ni. Nid wyf ychwaith yn derbyn bod diben ein cais teithio i Brif Weinidog y DU yn ddim byd heblaw dull synhwyrol a syml o weithredu, sydd â'r nod o amddiffyn pobl a chadw Cymru yn ddiogel. Dyna yw amcan y Llywodraeth hon; efallai nad yw ef yn ei rannu.

Cwestiwn 3, Rhianon Passmore.

Dydych chi ddim wedi dad-dawelu. Ni ellir clywed Rhianon Passmore. Ewch ymlaen.

Profi COVID-19

3. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am alluoedd profi COVID-19 Cymru? OQ55715

Diolchaf i Rhianon Passmore, Llywydd. Mae materion capasiti yn rhwydwaith labordai goleudy'r DU wedi effeithio ar system brofi Cymru. Mae'r sefyllfa yn gwella ac mae angen iddi wneud hynny ymhellach. Yn y cyfamser, rydym ni wedi cynyddu capasiti a'r defnydd o labordai Cymru.

14:35

Diolch, Prif Weinidog. Diolch am hynna. Disgwylir i labordy COVID-19 arbenigol cyntaf Cymru agor yng Ngwent y mis hwn, a hoffwn iddo ymuno â mi i ddiolch i'n holl staff ymroddedig sy'n gweithio eu gorau glas ynddyn nhw ledled Cymru. Y gobaith yw y bydd y cyfleuster goleudy newydd yn prosesu 20,000 o brofion y dydd, ac fel y mae'r Prif Weinidog eisoes wedi cyfeirio ato, rheolir y labordai goleudy hyn gan Lywodraeth y DU a'u rhedeg gan gwmnïau preifat. A wnaiff Llywodraeth Cymru sicrhau bod y safle hwn ac Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi ymrwymo i gydweithio i gynyddu i nifer a throsiant cyflymach o brofion ar gyfer poblogaeth Cymru? Hefyd, mae'r cyhoeddiad yr wythnos diwethaf y byddai Llywodraeth Cymru yn creu safleoedd profi lleol ym mhrifysgolion Cymru yng Nghaerdydd, Abertawe, Pontypridd, Bangor ac Aberystwyth i'w groesawu hefyd. Felly, Prif Weinidog, pa bosibiliadau pellach sydd i Lywodraeth Cymru gynyddu'r capasiti profi hwnnw a pha bosibilrwydd sydd o leoli cyfleuster profi yn fy etholaeth i, sef Islwyn? Diolch.

Diolchaf i Rhianon Passmore am hynna. Mae hi'n iawn wrth ddweud bod y ganolfan newydd ym Mharc Imperial 5 wedi dod yn weithredol ar 5 Hydref. Mae eisoes yn gallu prosesu 10,000 o brofion y dydd a bydd yn gallu prosesu 20,000 o brofion y dydd pan fyddan nhw'n gwbl weithredol yn yr wythnos neu ddwy nesaf. Felly, bydd hynny yn rhoi hwb pellach i'n capasiti labordy, i gydnerthedd ein system ac yn ein helpu i barhau i wella amseroedd gweithredu. Felly, rwy'n falch iawn o allu rhoi'r sicrwydd hwnnw i'r Aelod ein bod ni'n defnyddio'r cyfle hwnnw, fel yr ydym ni'n defnyddio'r £32 miliwn y llwyddodd y Gweinidog iechyd ei ddarparu i Iechyd Cyhoeddus Cymru i ddarparu gwaith 24 awr mewn labordai rhanbarthol yn Abertawe, Caerdydd a'r Rhyl a chwe labordy poeth newydd, mewn ysbytai cyffredinol acíwt.

Y safleoedd profi lleol mewn prifysgolion—agorodd yr un yn Nhrefforest ar 25 Medi, yr un yn Abertawe yn gynharach yr wythnos hon, bydd yr un ym Mangor yn agor ar 16 Hydref, yng Nghaerdydd ar 16 Hydref, yn Aberystwyth ar 19 Hydref. Felly, unwaith eto, rydym ni'n symud yn gyflym i wneud yn siŵr bod y cyfleusterau profi lleol hynny ar gael. Hoffwn roi sicrwydd i'r Aelod y byddem ni'n defnyddio ein huned profi symudol hefyd, fel pe byddai angen cyfleusterau safle penodol ychwanegol yn ei hetholaeth hi—pe byddai hynny'n dod yn angenrheidiol, yna mae'r cyfleusterau gennym ni ac mae gennym ni'r profiad o'u symud nhw yn gyflym i'r mannau hynny lle mae eu hangen fwyaf.

Diolch, Prif Weinidog, am yr ateb yna. Pe byddwn i eisiau ymateb mwy manwl o ran eich llythyr at Brif Weinidog y DU, gallwn fynd at y cyfryngau erbyn hyn, oherwydd gwelaf eu bod nhw'n trydaru'r llythyr hwnnw nawr, ac nid ydym ni fel Aelodau'r Cynulliad wedi gweld y dystiolaeth wyddonol yr ydych chi'n ei hatodi iddo, sy'n destun gofid mawr ac yn amharchus, byddwn i'n ei awgrymu i chi. Hefyd, pan ddaw i gyngor SAGE o ran cyfyngiadau teithio, mae'n dweud mai effaith isel fyddai ganddyn nhw ac mai ffydd gymedrol sydd ganddyn nhw y bydden nhw'n llwyddiannus. Maen nhw'n mynd ymlaen i ddweud bod eithriadau a gorfodaeth yn debygol o fod yn gymhleth iawn. Felly, o gofio mai dyna gyngor SAGE yn ôl ym mis Medi, ac rwy'n cymryd yn ganiataol eich bod chi fel Llywodraeth wedi gweld hwnnw, pa ffydd sydd gennych chi bod y dadansoddiad profi yr ydych chi wedi ei rannu gyda Phrif Weinidog y DU yn bwysicach na'r cyngor y mae SAGE wedi ei roi ar gyfyngiadau teithio?

Llywydd, nid wyf i'n siŵr a oes gan y cwestiwn yna unrhyw beth i'w wneud â galluoedd profi Cymru. Ac os yw ef eisiau siarad am fod yn amharchus, ysgrifennais at Brif Weinidog y DU dros bythefnos yn ôl gyda chais manwl am gyfyngiadau teithio. Nid wyf i hyd yn oed wedi cael ateb i'r llythyr hwnnw. Mae hynny yn amharchus. Mae hynny yn amharchus i'r Senedd hon ac yn amharchus i bobl Cymru. Rhoddais yr wybodaeth ddiweddaraf i Brif Weinidog y DU—gwybodaeth a gwaith ymchwil a dderbyniwyd ar ôl y dyddiad y cyfeiriodd yr Aelod ato. Gadewch i ni obeithio y bydd yn barod y tro hwn i'w ystyried gyda'r difrifoldeb y mae'n ei haeddu.

Os cawn ni ddod yn ôl at brofi, mae e wedi dod i'm sylw i bod problemau difrifol wedi codi efo'r system brofi cyffredinol yn un o ardaloedd bwrdd iechyd y de, a mi liciwn i wybod beth ydy'r cysylltiad rhwng hynny a phrofi COVID. Dwi'n clywed bod profion gwaed dydd i ddydd mewn meddygfeydd teulu wedi cael eu canslo, a dim ond profi brys yn gallu digwydd. Mae'n swnio fel y math o beth yr oeddem ni'n yn cael ein rhybuddio ohono fo pan gafodd systemau cyflenwi Roche eu trafferthion, ond dwi'n nodi bod y Gweinidog iechyd wedi dweud wrthym ni wythnos yn ôl na fuasai hynny yn effeithio ar Gymru. Ydy'r Prif Weinidog yn gallu dweud wrthym ni beth sy'n mynd ymlaen yn fan hyn?

14:40

Llywydd, i ddweud y gwir, bydd yn rhaid i fi gael mwy o fanylion am y problemau mae Rhun ap Iorwerth wedi cyfeirio atyn nhw. Dwi wedi gweld datganiad ysgrifenedig gan Vaughan Gething a oedd yn esbonio'r effaith mae'r problemau mae Roche yn eu hwynebu ar hyn o bryd yn gallu ei gael yma yng Nghymru, nid ar ochr coronafeirws, ond ar rai pethau eraill rŷn ni'n trial eu gwneud bob dydd yn y gwasanaeth iechyd. Dwi ddim cweit yn deall eto beth oedd y cefndir i'r cwestiwn penodol, ond wrth gwrs os ydy Rhun ap Iorwerth eisiau ysgrifennu ataf i gyda'r manylion, dwi'n fwy na hapus i edrych i mewn i'r problemau.

Adferiad Economaidd ar ôl y Pandemig

4. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o adferiad economaidd ar ôl y pandemig yng Nghymru? OQ55683

Diolchaf i David Rowlands am y cwestiwn yna. Yr wythnos diwethaf, cyhoeddwyd ein cynllun ail-greu ar ôl COVID-19. Mae'n nodi ein hasesiad o effeithiau economaidd, iechyd a chymdeithasol dwys y feirws a sut y byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i greu dyfodol diogel ac iach i bobl Cymru sydd yn decach, sydd yn fwy cyfartal, sydd yn fwy gwyrdd ac sy'n ffynnu.

Diolchaf i'r Prif Weinidog am ei ateb. Er ei bod hi'n ddoeth gwneud trefniadau o'r fath ar gyfer yr amgylchedd ôl-bandemig, mae hefyd yn wir ei bod hi'n ddyletswydd ar y Llywodraeth i liniaru canlyniadau economaidd cyfyngiadau symud tra bo'r feirws yn dal gyda ni. Mae'r trefniadau cyfyngiadau symud diweddar wrth gwrs yn cael effaith echrydus ar fusnesau ledled Cymru. Fodd bynnag, Prif Weinidog, nid wyf i eisiau cwestiynu rhinweddau neu ddiffyg rhinweddau'r mesurau cyfyngiadau symud cyffredinol, ond gwiriondeb y cyfyngiadau diweddar pan na ganiateir i ni deithio o un awdurdod lleol i'r llall. Ceir rhannau o'r de lle na chewch chi, yn llythrennol, groesi'r ffordd na mynd i ben draw'r stryd, oherwydd trwy wneud hynny byddech chi'n mynd o un awdurdod i'r llall. Sut gall y Gweinidog a'i Lywodraeth gyfiawnhau cyfyngiadau mor hurt? Pam mae angen atal pobl rhag teithio o un awdurdod i'r llall pan fo'r ddau yn destun cyfyngiadau symud a bod ganddyn nhw ffigurau COVID tebyg, ac eto at ddibenion gwaith, gall pobl deithio i Gymru o ddinasoedd llawn COVID fel Lerpwl? Prif Weinidog, mae'n bwysig ein bod ni'n dod â phobl Cymru gyda ni yn y cyfnod cythryblus iawn hwn. Onid yw'n wir na fydd cyfyngiadau disynnwyr o'r fath yn ein helpu ni i gyflawni hyn?

Llywydd, rwyf i eisoes wedi dweud sawl gwaith y prynhawn yma mai'r ateb i bobl yn cael teithio i Gymru o ardaloedd â niferoedd coronafeirws uwch y tu hwnt i Gymru yw ei atal rhag digwydd. Nid yw'n gyfyngiad disynnwyr dweud wrth bobl na ddylen nhw deithio y tu allan i ardal eu hawdurdod lleol eu hunain, oherwydd y mwyaf o bobl yr ydym ni'n eu gweld, a'r mwyaf o deithio yr ydym ni'n ei wneud, y mwyaf y mae'r feirws yn lledaenu. Bwriedir i'r cyfyngiadau geisio pwyso i lawr ar y ffaith fod coronafeirws yn cynyddu mewn cynifer o rannau o Gymru. Nawr, os gallwn ni wneud pethau yn y rhannau hynny o Gymru lle mae'r mesurau yr ydym ni wedi eu cymryd hyd yma yn cael effaith, yna hoffwn gynnig gobaith i bobl yn y rhannau hynny o Gymru bod eu gweithredoedd yn dwyn ffrwyth. Os gallwn ni wneud unrhyw beth ym maes teithio, credaf mai dyna un o'r pethau cyntaf y byddem ni'n debygol o allu ei gynnig. Ond mae'r cyd-destun yr ydym ni i gyd yn gweithredu ynddo yn un lle mae'r awyr yn tywyllu, ac mae arnaf ofn bod yn rhaid profi popeth yr ydym ni'n ei wneud yn erbyn y ffaith sylfaenol honno o fywyd cyfoes yng Nghymru. Mae coronafeirws ar led eto. Mae'n cyrraedd yn ddyfnach ac ymhellach i gymunedau, mae'n gyrru mwy o bobl i'r ysbyty, bydd yn arwain at fwy o ddefnydd o welyau ein hunedau gofal dwys, ac yn anffodus iawn, oherwydd bod hwn yn glefyd marwol, bydd mwy o bobl yn marw. Ac mae'r cyfyngiadau yr ydym ni'n gofyn i bobl fyw gyda nhw i gyd wedi eu cynllunio i geisio eu cadw nhw, eu teuluoedd a'u cymunedau yn ddiogel. Ac nid oes unrhyw beth disynnwyr ynglŷn â hynny.

14:45

Prif Weinidog, mae eich nod o gael 30 y cant o bobl yn gweithio gartref yn ganmoladwy iawn; fodd bynnag, i weithio gartref, mae bron yn sicr y bydd angen cysylltiad band eang da arnoch chi. Mae gen i etholwyr sydd eisiau gweithio gartref ond nid ydyn nhw'n gallu gwneud hynny oherwydd nad oes ganddyn nhw fand eang addas, sy'n golygu nad oes ganddyn nhw ddewis arall ond teithio i'r gwaith. Sut ydych chi'n mynd i gyflawni eich nod, Prif Weinidog, o weithio gartref pan eich bod chi wedi methu â chyflawni eich ymrwymiad maniffesto yn 2011 i ddarparu band eang cyflym iawn i bob eiddo erbyn 2015?

Wel, Llywydd, diolch i Lywodraeth Cymru a'i buddsoddiad, mae gan filoedd ar filoedd o aelwydydd yng Nghymru fynediad at fand eang cyflym iawn erbyn hyn ac yn sicr ni fydden nhw wedi ei gael heb ymyrraeth Llywodraeth Cymru yn y maes hwn sydd heb ei ddatganoli. Nawr, dim ond wythnos yn ôl yr oedd arweinydd plaid yr Aelod yn dweud wrth bobl Cymru y byddai'n atal Llywodraeth yn y dyfodol o dan ei arweiniad ei hun rhag gwario arian ar gyfrifoldebau nad ydyn nhw wedi eu datganoli. Felly, bydd y teuluoedd hynny sydd wedi cael y fantais o fand eang cyflym iawn oherwydd y ffordd y bu'n rhaid i Lywodraeth Cymru wario arian ar faes y mae ei Lywodraeth ef yn gyfrifol amdano, yn canfod nad yw'r manteision hynny ar gael iddyn nhw mwyach, yn y posibilrwydd annhebygol iawn y gallai ei blaid fod mewn llywodraeth yma yng Nghymru.

Felly, byddwn yn parhau i fuddsoddi, byddwn yn parhau i anwybyddu cyngor arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, byddwn yn cyfrannu arian at y maes hwn nad yw wedi'i ddatganoli, a gall mwy o deuluoedd ym mhob rhan o Gymru, yn enwedig y rhai hynny sydd yr anoddaf a'r drutaf i'w cyrraedd, wybod bod ganddyn nhw, yng Nghymru, Lywodraeth sy'n barod i weithredu ar eu rhan.

Diogelwch Tân Cladin

5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddiogelwch tân cladin yng Nghymru yn sgil datgeliadau bod tystysgrif diogelwch tân wedi'i llofnodi'n dwyllodrus ar gyfer blociau o fflatiau yng Nghaerdydd a thu hwnt? OQ55706

Llywydd, mater i'r heddlu ac adrannau safonau masnach awdurdodau lleol yw twyll. Mae adroddiadau am dwyll mewn materion diogelwch tân yn cael eu hymchwilio ganddyn nhw ar hyn o bryd.

Iawn. Ochr-gamu da yn y fan yna. Mae miloedd o bobl yng Nghymru bellach yn byw mewn fflatiau anniogel sy'n werth dim. Ni allan nhw eu gwerthu ac maen nhw'n byw yno gan wybod, os bydd tân yna byddwn ni'n edrych ar Grenfell yng Nghymru. Maen nhw'n cael eu rinsio'n llwyr ar bob cyfle: mae'r yswiriant drwy'r to, mae'r taliadau gwasanaeth yn codi, ac mae rhai hyd yn oed yn gorfod talu i arolygwyr diogelwch tân fod ar y safle bob amser. Mae hon yn sefyllfa y mae wir angen ei datrys, ond pan ysgrifennodd preswylwyr Victoria Wharf atoch chi am eu bloc nhw, ni chawsant ymateb gennych chi hyd yn oed.

Yn Glasgow, Harbwr Glasgow, mae'r datblygwr Taylor Wimpey yn talu'r £30 miliwn sydd ei angen i newid y cladin peryglus yno, ond yn Victoria Wharf, disgwylir i'r preswylwyr dalu'r £30 miliwn eu hunain, ac mae un cyn-filwr y siaradais ag ef, David Murphy, sydd bellach yn poeni am gael ei wneud yn ddigartref oherwydd y costau hyn. Felly, pam mai'r datblygwr sy'n talu i ddatrys y broblem yn yr Alban, ond yng Nghymru disgwylir i breswylwyr dalu eu hunain? Mae Taylor Wimpey mewn gwirionedd yn cynghori eich Llywodraeth ar reoliadau adeiladu, felly oni allech chi eu cynghori nhw i dalu'r arian fel y maen nhw wedi ei wneud yn yr Alban, yn hytrach na'r gwrthdaro buddiannau sy'n sbarduno diffyg gweithredu gan y Llywodraeth yn y maes hwn?

Llywydd, mae cyrhaeddiad greddfol yr Aelod am esboniad sy'n gynllwyn i'w weld eto heddiw. Os yw preswylwyr wedi ysgrifennu ataf, byddan nhw wedi cael ymateb. Adeiladwyr a pherchnogion sy'n gyfrifol am yr adeiladau y maen nhw wedi eu hadeiladu a'r rhai y maen nhw'n berchen arnynt, a nhw ddylai dalu. Dylen nhw dalu i unioni'r diffyg yn yr adeiladau hynny. Nid yw'n iawn nac yn deg, nac yn foesol y dylid gadael y lesddeiliaid i gymryd y cyfrifoldeb. Ni allaf fod yn fwy eglur am hynny. Dylai'r cwmnïau hynny wneud y peth iawn dros y bobl hynny y mae eu methiannau wedi effeithio arnyn nhw. Dyna safbwynt Llywodraeth Cymru; rwy'n ei ailadrodd eto heddiw. A pha un a yw'n dwyll, fel y dywedais yn fy ateb gwreiddiol, Llywydd, nid yw am eiliad yn achos o ochr-gamu rhywbeth i fod yn eglur bod yr awdurdodau sydd â'r cyfrifoldeb i ymchwilio i dwyll yn gwneud hynny. Yn yr achos hwn, mae Heddlu Gwent ac adran safonau masnach Caerffili yn cynnal ymchwiliad gweithredol i'r materion y dechreuodd y cwestiwn hwn gyda nhw, ac mae'n rhaid caniatáu iddyn nhw gwblhau'r ymchwiliad hwnnw.

14:50

Prif Weinidog, rwy'n credu bod yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud am yr angen i'r sector preifat dderbyn cyfrifoldeb yn bwysig, ond bu methiant cyhoeddus gwirioneddol yn y fan yma. Nid yw rheoleiddio cyhoeddus wedi bod yn addas i'w ddiben; nid oedd yn addas i'w ddiben mewn Llywodraethau yr ydych chi wedi dweud sydd wedi gwasanaethu yma yng Nghymru pan roedd yn cael ei ddatblygu, ac mae hefyd wedi bod yn fethiant yn Lloegr, o dan Lywodraethau Llafur a Cheidwadol—nid wyf i'n osgoi cydnabod y cyfrifoldeb sydd gan fy mhlaid i yn y fan yma. Mae'n rhaid i lesddeiliaid gael eu gwasanaethu bellach drwy'r sector cyhoeddus yn dod a rhoi rhywfaint o sicrwydd o leiaf, fel cronfa diogelwch tân, ac yna mynd ar drywydd y buddiannau preifat hynny sydd wedi bod yn ddiffygiol iawn, ac mae angen system reoleiddio briodol arnom ni. Rwy'n cytuno â chi ar un peth—ni ddylid gadael y bil hwn ar garreg drws y lesddeiliaid.

Llywydd, byddwn yn cytuno â nifer o'r pwyntiau y mae'r Aelod wedi eu gwneud, ac os caiff fy mhlaid i ei dychwelyd i'r Llywodraeth ar ôl etholiadau mis Mai nesaf, yna byddwn yn cyflwyno deddfwriaeth i ymdrin â materion rheoleiddio a bylchau sydd wedi dod i'r amlwg yn y sector hwn. Rydym ni'n edrych o fewn Llywodraeth Cymru ar y posibilrwydd o gronfa diogelwch adeiladau i gynorthwyo lesddeiliaid heb greu'r perygl moesol o dalu biliau landlordiaid a chwmnïau adeiladu aflwyddiannus. Byddai gwneud hynny yn gyfystyr â chymryd y cyfrifoldeb oddi arnyn nhw ac annog ymddygiad anghyfrifol yn y dyfodol. Ond rydym ni'n edrych ar ffyrdd y gellid cynorthwyo'r lesddeiliaid eu hunain, a gwn fod gan fy nghyd-Weinidog, y Gweinidog sy'n gyfrifol am hyn, gyfarfod ddydd Iau yr wythnos hon i barhau i ddod o hyd i ffordd y gallwn ni ddiwallu eu hanghenion, heb greu, fel y dywedais, y perygl moesol o achub pobl gydag arian cyhoeddus o'r cyfrifoldebau preifat y dylen nhw eu cyflawni.

Gwerth am Arian

6. Sut mae'r Prif Weinidog yn sicrhau bod gwariant Llywodraeth Cymru yn cynnig gwerth am arian? OQ55711

Diolchaf i Angela Burns, Llywydd, am y cwestiwn yna. Ymhlith y mesurau a gymerwyd mae hyfforddiant cyllid gorfodol i holl staff Llywodraeth Cymru a hyfforddiant dwys ychwanegol i'r holl staff uwch. Mae sicrhau'r gwerth gorau am arian cyhoeddus yn sail i'r canllaw cynhwysfawr, 'Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru', sy'n ymdrin â phob agwedd ar ein rheolaeth ariannol.

Ymateb diddorol, ac rwy'n gofyn y cwestiwn hwn gan fod nifer o feysydd lle nad yw'n ymddangos bod gwerth am arian i drethdalwyr Cymru. Mae'r cynllun rheoli cynaliadwy yn nodi'n eglur mai ei nod yw cefnogi gweithredu ar y cyd sy'n gwella adnoddau naturiol. Mae'r cynllun newydd gael dyraniad pellach o £3 miliwn, er gwaethaf y ffaith mai dim ond £6 miliwn o'i ddyraniad blaenorol o £25 miliwn sydd wedi ei wario hyd yma, a dyfarnwyd y £3 miliwn er gwaethaf y ffaith nad yw'r cynllun wedi ei werthuso. Mae'r cynllun galluogi adnoddau naturiol a llesiant yn enghraifft arall. Mae ganddo ddyraniad cyllideb o £26 miliwn. Ym mis Medi rhoddwyd £16.5 miliwn arall i'r cynllun hwnnw, ac eto nid oes yr un geiniog wedi'i gwario ac ni fu unrhyw werthusiad o'r cynllun.

Prif Weinidog, a allwch chi esbonio i mi sut y mae'r mathau hyn o ddyfarniadau, gyda'r diffyg goruchwyliaeth neu fwriad hwn i ddefnyddio'r arian yn unol â'r gofyniad dyfarnu, yn dangos ac yn cynnig gwerth am arian i drethdalwyr Cymru?

Llywydd, nid wyf i'n gweld sut y mae'r Aelod yn dod i'r casgliad yn ail ran yr hyn a ddywedodd o'r dystiolaeth a ddarparwyd ganddi yn y rhan gyntaf. Mae'r Llywodraeth hon yn darparu 11,000 o lythyrau dyfarnu grant bob blwyddyn i dros 400 o gynlluniau grant. Mae gwerthuso wedi'i gynnwys yn rhan o bob cynllun grant, ac nid oes llawer o'n cynlluniau grant yn y flwyddyn eithriadol hon wedi gallu gwario arian yn y ffordd yr oedden nhw wedi ei fwriadu yn wreiddiol. Bydd yr Aelod yn gwybod ei bod yn un o flaenoriaethau allweddol y Llywodraeth hon yng nghylch llunio cyllidebau y llynedd i sicrhau bod cynlluniau bioamrywiaeth ar draws Llywodraeth Cymru yn cael eu hariannu yn briodol. Ariannwyd £140 miliwn arall gennym ni ar gyfer y math o gynlluniau cynaliadwy a galluogi yn yr amgylchedd y cyfeiriodd hi atyn nhw. Ni fu modd gwario cryn dipyn o'r arian hwnnw yn ystod y pandemig, ond rydym ni'n bwriadu, lle bynnag y gallwn, ailgyflwyno'r cynlluniau hynny, ochr yn ochr â'r sefydliadau trydydd sector yr ydym ni'n dibynnu cymaint arnyn nhw yn y maes hwn, ac y bydd eu gallu eu hunain i godi eu harian eu hunain ac i roi staff yn y maes wedi cael ei wneud yn llawer mwy anodd gan y pandemig.

Felly, hoffwn roi sicrwydd iddi bod y rheini yn gynlluniau pwysig iawn i'r Llywodraeth hon yng Nghymru. Rydym ni'n bwriadu dod o hyd i ffyrdd o barhau i ariannu gweithgarwch sy'n ddiogel ac y gall pobl ei wneud mewn amgylchedd coronafeirws. Yn anffodus, gohiriwyd nifer o'r cynlluniau hynny dros y misoedd diwethaf, ond lle ceir cyfleoedd newydd yng ngweddill y flwyddyn ariannol hon i adfer rhywfaint o'r tir hwnnw, dyna'n union yr hyn yr wyf i'n annog fy nghyd-Weinidogion i'w wneud, ac i ddod o hyd i ffyrdd o weithio gyda'n partneriaid yn y maes er mwyn cyflawni hynny.

14:55
COVID-19 yn Ynys Môn

7. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf o ran COVID-19 yn Ynys Môn? OQ55699

Diolch yn fawr, Llywydd. Mae nifer yr achosion o COVID-19 sydd wedi eu cadarnhau yn Ynys Môn wedi bod yn isel ers rhai misoedd, ond maen nhw wedi cynyddu yn ystod yr wythnos diwethaf. Mae'r grŵp lleol sy'n cydlynu'r camau gweithredu yn yr ardal yn adrodd yn rheolaidd i Lywodraeth Cymru. 

Diolch am yr ateb yna. Pan aeth Bangor i mewn i gyfnod o gyfyngiadau uwch, mi wnaeth un busnes ar Ynys Môn gysylltu'n syth i ddweud, 'Plis, gawn ninnau hefyd.' Y rheswm ydy yr addewid o gymorth ychwanegol i ardaloedd efo cyfyngiadau uwch. Ond ar gymaint o lefelau, mae busnesau yn fy etholaeth i yn dioddef yn yr un ffordd heb y cyfyngiadau uwch. Dwi'n poeni am effaith trafferthion Edinburgh Woollen Mill ar siop Pringle yn Llanfairpwllgwyngyll ac ar Peacocks yng Nghaergybi. Mae busnesau digwyddiadau, fel cwmni sain MAD neu gwmni Always Aim High, sy'n methu cynnal unrhyw weithgaredd busnes ar hyn o bryd, yn dioddef yn arw. Mae yna fusnesau lletygarwch sy'n dioddef yn drwm, a busnesau neu'r hunangyflogedig sydd wedi methu cael cymorth o dan gam 1 na 2 y gronfa cadernid economaidd ac sydd yn desperate am gefnogaeth. Ac mae Busnes Cymru, asiantaeth i Lywodraeth Cymru, wedi cyfeirio o leiaf dau fusnes i'm swyddfa i chwilio am help.

Rŵan, Prif Weinidog, plis gawn ni ymrwymiad (1) y bydd ymdrech o'r newydd i adnabod y rheini sydd yn y dyfroedd economaidd mwyaf dwfn, oherwydd cyfyngiad ar eu gweithgaredd neu fethiant i gael help hyd yma, a (2) y bydd Llywodraeth Cymru yn ceisio sicrhau bod cymorth yn ymestyn i bob ardal, nid dim ond y rhai sydd yn destun cyfyngiadau uwch?

Cyn i'r Prif Weinidog ateb y cwestiwn yna, rwy'n ymwybodol bod rhywfaint o anhawster gyda'r cyfieithiad ar hyn o bryd sy'n gysylltiedig â'n problemau cysylltiad band eang parhaus. Rwy'n cymryd yn ganiataol bod y Prif Weinidog wedi deall y cwestiwn heb fod angen cyfieithu, ond byddwn yn ymchwilio ymhellach i'r mater hwn. Felly, y Prif Weinidog i ymateb.

Wel, Llywydd, fe atebaf y cwestiynau yn Saesneg felly. Hoffwn roi sicrwydd i Rhun ap Iorwerth, pan oeddem ni, dros y penwythnos, yn gwneud y penderfyniad anodd i osod cyfyngiadau lleol yn ardal Bangor, bod gennym ni lawer o wasanaethau a chyrff lleol o amgylch y bwrdd hwnnw a oedd yn gallu myfyrio ar yr effaith y byddai hynny yn ei chael ar Ynys Môn yn arbennig. Dilynwyd hynny gennym ni ddoe gyda chyfarfod yn cynnwys arweinydd awdurdod lleol Ynys Môn, i wneud yn siŵr y gallem ni glywed yn uniongyrchol ganddi hi am effaith debygol y cyfyngiadau hynny ym Mangor ar yr ynys. Felly, roeddem ni'n ymwybodol o hynny o'r cychwyn cyntaf fel problem, ac rydym ni wedi gwneud gwaith dilynol arno ers hynny. Rwy'n credu y bydd Rhun ap Iorwerth wedi clywed fy ateb i Laura Anne Jones yn gynharach yn y prynhawn am hyblygrwydd yn y cronfeydd yr ydym ni'n eu darparu i ardaloedd lle ceir cyfyngiadau symud lleol ac i ardaloedd cyfagos lle mae effaith hynny yn treiddio i'r ardaloedd hynny. Bydd hynny'n sicr yn wir yn Ynys Môn. Ac, unwaith eto, byddaf yn gwneud yn siŵr, mewn trafodaethau y byddaf yn eu cael gyda'm cyd-Weinidog Ken Skates, ein bod ni'n dod o hyd i ffyrdd o wneud yn siŵr bod y cymorth angenrheidiol i gwmnïau sy'n cael eu heffeithio yn uniongyrchol ar yr ynys oherwydd cyfyngiadau Bangor—bod hynny yn cael ei gymryd i ystyriaeth yn briodol.

15:00
Effaith y Coronafeirws yn y Rhondda

8. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu pobl yn y Rhondda i oresgyn effaith y coronafeirws? OQ55680

Diolchaf i Leanne Wood, Llywydd, am hynna.

Fel y nodwyd gennym ni yn ein cynllun ail-greu, rydym ni wedi ymrwymo i ail-greu mewn modd sy'n gweithio i bobl Cymru, gan gynnwys y Rhondda, drwy fynd i'r afael â'r materion sydd bwysicaf iddyn nhw: diweithdra, anghydraddoldebau dwfn, tai fforddiadwy, adfywio canol ein trefi a chefnogi'r economi sylfaenol.

Mae ymchwil gan Achub y Plant wedi dangos bod mwy na hanner y teuluoedd yng Nghymru sydd ar gredyd cynhwysol, neu gredyd treth plant, wedi gorfod cwtogi ar hanfodion, ac rwy'n gweld hyn ar lefel gymunedol, gyda'r galw am y prosiect bwyd gwrth-dlodi sy'n cael ei redeg o'm swyddfa i, gyda chymorth cynghorwyr lleol a gwirfoddolwyr gwych. A wnewch chi roi mwy o gymorth i fusnesau a theuluoedd sy'n ei chael hi'n anodd? Rwy'n siŵr eich bod yn cefnogi'r galwadau ar Lywodraeth y DU heddiw gan Gyngres yr Undebau Llafur, ac rwy'n siŵr eich bod hefyd yn rhannu fy mhesimistiaeth o ran bodloni'r galwadau sylfaenol hynny ar gyfer hawliau gweithwyr.

Felly, a wnewch chi ddweud wrthym ni felly beth y gall eich Llywodraeth chi ei wneud i sicrhau, os y caiff pobl eu gwneud yn ddi-waith a'u bod yn colli eu hincwm, eu bod yn gallu hawlio rhyw fath o incwm sylfaenol cyffredinol, fel na fyddant yn colli eu hincwm os ydyn nhw'n colli eu bywoliaeth? Oherwydd rydym ni i gyd yn gwybod, pan fydd pobl yn colli eu hincwm y gall llawer o broblemau eraill ddeillio o hynny. Felly, beth allwch chi ei wneud i gyflwyno incwm sylfaenol cyffredinol i oresgyn y problemau y gwyddom na fydd Llywodraeth y DU yn eu datrys?

Llywydd, er fy mod i yn bersonol wedi gweld atyniadau incwm sylfaenol cyffredinol ers tro byd, nid yw'n syniad y gellir ei gyflwyno mewn modd cynhwysfawr yng Nghymru, yn union fel nad yw chwaer blaid yr Aelod yn yr Alban wedi gallu cyflwyno incwm sylfaenol cyffredinol yn yr Alban ychwaith. Mae gennyf ddiddordeb mewn gweld a yw hi'n bosibl cynnal rhai cynlluniau treialu arbrofol yma yng Nghymru, oherwydd credaf fod y syniad yn bendant yn un clodwiw ac y dylid ei archwilio yn y ffordd honno.

Cytunaf yn llwyr â'r galwadau heddiw drwy'r TUC, y dylid parhau â'r £20 ychwanegol at gredyd cynhwysol sydd wedi bod yn nodwedd o'r pandemig y tu hwnt i fis Ebrill y flwyddyn nesaf—mae hynny'n ymddangos yn gwbl sylfaenol. Ac rydym ni yn defnyddio ein cyllidebau Llywodraeth Cymru i ategu cyflog cymdeithasol teuluoedd drwy dalu o bwrs y wlad am bethau y byddai'n rhaid iddyn nhw eu hunain dalu amdanyn nhw fel arall. Ac rwy'n gwybod y bydd Leanne Wood wedi croesawu'r £11 miliwn ychwanegol y mae Llywodraeth Cymru wedi dod o hyd iddo i barhau i gynnig prydau ysgol am ddim yn ystod cyfnodau gwyliau ysgol am weddill tymor y Senedd fel enghraifft ymarferol o'r hyn y gallwn ni ei wneud gyda'r pwerau sydd gennym ni eisoes i wneud bywyd i'r teuluoedd hynny y cyfeiriodd hi atyn nhw ychydig yn haws nag y byddai hi fel arall.

Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip

Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Lynne Neagle. 

Hawliau Dynol Pobl Hŷn

1. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cynnal hawliau dynol pobl hŷn drwy'r pandemig COVID-19? OQ55705

Rydym ni'n parhau i fod wedi ymrwymo'n llwyr i hyrwyddo a chynnal hawliau pobl hŷn yng Nghymru. Mae'n ganolog i'r ffordd y mae Gweinidogion wedi mynd ati i weithredu'r ymateb polisi ehangach i'r coronafeirws yng Nghymru.

Diolch, Gweinidog. Fel y gwyddoch, rwy'n arbennig o bryderus ynglŷn ag effaith cyfyngiadau ar ymweld â chartrefi gofal ar bobl sy'n byw gyda dementia mewn cartrefi gofal. Mae tystiolaeth gynyddol bod y cyfyngiadau symud cyntaf wedi arwain at bobl sy'n byw gyda dementia yn marw o ddementia, nid o COVID, oherwydd iddyn nhw gael eu hynysu oddi wrth anwyliaid. Nawr, wrth i ni wynebu gaeaf hir o gyfyngiadau, credaf fod angen i Lywodraeth Cymru wneud popeth posibl i liniaru'r risg y bydd rhywbeth o'r fath yn digwydd eto. Ac nid wyf i'n credu y dylid ei adael i lywodraeth leol a chartrefi gofal. A wnewch chi drafod hyn gyda'r Dirprwy Weinidog a chyda'r Prif Weinidog i geisio datblygu cynllun sy'n sicrhau y gall bobl sy'n byw gyda dementia barhau i allu gweld eu hanwyliaid yn ystod y gaeaf hwn? Diolch.

15:05

Diolch yn fawr iawn, Lynne Neagle, ac i gydnabod eich gwaith blaengar yn cadeirio'r grŵp trawsbleidiol ar ddementia ac am ddwyn y materion hyn at sylw Gweinidogion. A byddwch yn ymwybodol y bu fy nghyd-Weinidog, Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, yn gweithio gyda chynrychiolwyr y sector, gan gynnwys Fforwm Gofal Cymru a Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru, i edrych ar yr holl fater hwnnw o ddarparu canllawiau i ddarparwyr cartrefi gofal ar sut y gallan nhw gefnogi pobl i ailgysylltu'n ddiogel â theuluoedd, ffrindiau a gweithwyr proffesiynol—sydd mor hanfodol i'r rhai hynny sy'n dioddef o ddementia. Ac wrth gwrs, mae cartrefi gofal wedi gweithio'n galed i sicrhau y gall pobl ymweld yn ddiogel â ffrindiau a theuluoedd. Mae hyn yn hanfodol, fel y dywedwch chi, i les pobl sy'n byw mewn cartrefi gofal, yn ogystal â'r rhai sy'n ymweld â nhw. Ac rwy'n credu ei bod hi'n glir iawn nad ydym ni eisiau—ac mae'r Dirprwy Weinidog wedi pwysleisio hyn—mynd ati mewn modd sy'n gosod cyfyngiadau cyffredinol diangen, ond mae'n rhaid cydnabod ymweliadau cymorth â chartrefi gofal—mae'n rhaid cael diogelwch o ran pa un a yw hi'n bosibl gwneud hynny.

Ond mae eich pwyslais arbennig ar ddementia yn hollbwysig. A chredaf fod hwn yn gwestiwn pan, wrth gwrs, os oes digwyddiad neu achosion gweithredol o COVID-19 mewn cartref gofal, mae'n rhaid cyfyngu ymweliadau i amgylchiadau eithriadol, rhesymau tosturiol, megis diwedd oes. Ond rwy'n gwybod y bydd y Gweinidogion eisiau ystyried hyn wrth i ni nesáu at fisoedd y gaeaf sydd ar ddod, a'r straen y gall hynny ei roi ar y rhai sy'n dioddef o ddementia a'u gofalwyr a'u teulu a'u ffrindiau.

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015

2. A wnaiff y Dirprwy Weinidog ddatganiad am weithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015? OQ55708

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn parhau i ddarparu ffordd unigryw Gymreig o fynd i'r afael â'r heriau hirdymor y mae ein pobl a'n planed yn eu hwynebu, ac mae wedi arwain ein dull o ail-greu, gan sicrhau adferiad sy'n seiliedig ar werthoedd.

Diolch am eich ymateb. Byddai ambell un yn dweud ei fod e'n ddynesiad unigryw Gymreig oherwydd rŷn ni wedi creu strwythur sylweddol iawn o bwyllgorau o'i gwmpas e. Ond yr hyn roeddwn i eisiau ei ofyn oedd: a ydych chi'n credu bod yna ormod o fyrddau gwasanaethau cyhoeddus wedi deillio yn sgil y Ddeddf, a hefyd, wrth gwrs, pwy sy'n eu dal nhw i gyfrif—i bwy maen nhw yn atebol i sicrhau eu bod nhw'n delifro'r gwahaniaethau mae disgwyl iddyn nhw eu delifro?

Wel, rwy'n credu bod y cyfleoedd y mae'r byrddau gwasanaethau cyhoeddus yn eu darparu i sicrhau bod gweithio traws-sector lleol yn bwysig iawn, oherwydd mae hynny mewn gwirionedd yn dwyn ynghyd y cyrff sector cyhoeddus hynny y mae'n rhaid iddyn nhw ddangos mewn gwirionedd eu bod yn cyflawni y Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Rwy'n credu bod y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yn dangos y ddarpariaeth honno fwyfwy, maen nhw'n mynd ati i gyflawni mewn modd lle gall gweithredu ar y cyd gael effaith wirioneddol ar wella lles. Rwy'n credu bod y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yn gwneud peth gwaith rhagorol. Rwy'n credu bod y gwaith a wneir hefyd lle mae'r Byrddau yn cydweithio, megis yng Ngwent—cydweithio i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd—yn allweddol. Ond mae'n amlwg bod yn rhaid i'r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus ddangos, ac rydym yn dysgu ledled Cymru, bod gweithio traws-sector—llywodraeth leol, iechyd, yr heddlu, pawb sydd â chyfrifoldeb i gyflawni amcanion deddfwriaeth llesiant cenedlaethau'r dyfodol—eu bod yn gwneud gwahaniaeth i fywydau dinasyddion.

Y Sector Gwirfoddol

3. A wnaiff y Dirprwy Weinidog ddatganiad am y sector gwirfoddol yng Nghymru a'i ymateb i'r pandemig COVID-19? OQ55674

Diolch yn fawr iawn, Paul Davies, am y cwestiwn yna. Ac mae'n eithaf clir o ran yr ymateb i gyfraniad y sector gwirfoddol y bu hynny'n hanfodol i'n hymdrechion i ymladd y pandemig, cydgysylltu cefnogaeth leol, helpu i gefnogi ein gwirfoddolwyr ymroddedig a thosturiol. Mewn gwirionedd, rwy'n siŵr y byddai Paul Davies yn ymuno â mi i ddweud 'diolch o waelod calon' i'n holl wirfoddolwyr a sefydliadau'r sector gwirfoddol.

Yn sicr, Dirprwy Brif Weinidog. Rwy'n credu bod y sector gwirfoddol ledled Cymru, ac yn wir yn sir Benfro, wedi gweithio'n eithriadol o galed dros y misoedd diwethaf i gefnogi pobl sy'n agored i niwed yn ein cymunedau. Ac i roi dim ond un enghraifft i chi, mae prosiect Gofal Covid Cymunedol Aberdaugleddau wedi bod yn gweithio gyda chronfa gymunedol y Loteri Fawr i ddarparu pecynnau bwyd, pecynnau crefft i blant, llyfrau darllen ac adnoddau ar gyfer preswylwyr cartrefi gofal. Rwy'n siŵr y byddwch chi felly yn cytuno â mi ei bod hi'n galonogol gweld cynifer o grwpiau lleol yn dangos ysbryd cymunedol o'r fath mewn ymateb i'r pandemig hwn, ac felly a allwch chi ddweud wrthym ni beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i adeiladu ar y gwaith gwirfoddol da hwnnw ar gyfer y dyfodol, ac i wneud yn siŵr bod yr arferion da ac effeithiol a welsom ni yn ystod y misoedd diwethaf yn parhau mewn gwirionedd yn y dyfodol?

15:10

Wel, rwy'n ddiolchgar am y cwestiwn yna, Paul Davies, oherwydd, wrth ddim ond edrych ar Sir Benfro, dyfarnwyd cyfanswm o £140,000 i wyth sefydliad ledled Sir Benfro drwy'r cymorth a oedd ar gael i'r trydydd sector oherwydd effeithiau'r pandemig. Wrth gwrs, mae hynny'n dod o'r ffynonellau cyllid yr ydym ni wedi'u darparu: cronfa argyfwng y gwasanaethau gwirfoddol, y gronfa adfer a'r gronfa cydnerthedd.

Ond mae eich cwestiwn yn bwysig o ran sut y gallwn ni symud hyn yn ei flaen. Mae ganddyn nhw swyddogaeth allweddol o ran yr adfer a'r ail-greu. Adlewyrchir hynny yn y cynllun ail-greu a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf. Oherwydd rwy'n credu hefyd ei fod yn adlewyrchu pwysigrwydd y seilwaith sydd gennym ni yma yng Nghymru, nid yn unig gyda Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, ond y 19 cyngor gwirfoddol sirol yng Nghymru. Ac un o'r canlyniadau clir, un o'r canlyniadau mwy cadarnhaol, sydd wedi deillio o fisoedd heriol ac anodd y pandemig yw bod cydweithio wedi cryfhau, yn enwedig cydweithio rhwng y trydydd sector, y sector gwirfoddol, a llywodraeth leol a'r gwasanaeth iechyd a Llywodraeth Cymru, ond hefyd ein bod yn gallu gweld bod effaith ein buddsoddiad mewn gwirionedd wedi helpu buddiolwyr, cefnogi swyddi ac y bu hefyd yn sail i bwysigrwydd cyfraniad y trydydd sector at ddarparu gwasanaethau lleol. Maen nhw wedi wynebu heriau, wrth gwrs, ac mae angen i ni gefnogi'r sylfaen honno o wirfoddolwyr a'i chadw yn gadarn ac yn gynaliadwy.

Gweinidog—Dirprwy Weinidog—profiad braf ond gostyngedig iawn oedd gweithio ochr yn ochr â llawer o'r gwirfoddolwyr yn ein cymuned ein hunain a fu'n gweithio drwy'r pandemig ac mae'n dangos mewn difrif calon pa mor hael y maen nhw yn ei roi o'u hysbryd a'u hamser. Ond mae hynny'n digwydd ym mhob rhan o'n cymunedau: pobl fel y cwmni cydweithredol Drive Taxis Cardiff, Paul a'i gydweithwyr yn y fan honno, sydd wedi bod yn dosbarthu presgripsiynau a dosbarthu bwyd i bobl na allen nhw fynd allan fel arall, a hynny am ddim; Andrew Pearson o weithwyr ffatri Unite Ford Pen-y-bont ar Ogwr a gynhyrchodd, pan oedd ar ffyrlo, fygydau am ddim i weithwyr gofal; ac, mae'n rhaid i mi grybwyll hefyd fy ffrind, yr anhygoel Elizabeth Buffy Williams, i fyny yn Pentre yn y Rhondda—y gwaith y mae hi wedi bod yn ei wneud ar gyfer tîm a gydnabuwyd, mae'n rhaid i mi ddweud, fel y dywedodd hi, ar gyfer y gymuned gyfan a'r hyn y maen nhw wedi ei wneud, yn rhestr anrhydeddau'r Frenhines. A gaf i ofyn i'r Gweinidog: a wnaiff hi ymuno â mi i dalu teyrnged i'r gwaith sydd wedi ei wneud ledled y cymunedau hyn ym mhob stryd ledled Cymru? A beth arall allwn ni ei wneud i sicrhau bod yr hunan-gynorthwywyr cymunedol hyn mewn gwirionedd yn dal ati y tu hwnt i'r pandemig i'r dyfodol hirdymor er mwyn cydnerthedd ein cymunedau?

Diolch yn fawr iawn, Huw Irranca-Davies. Rwyf wedi cael y pleser o gyfarfod â thacsis Drive, mewn gwirionedd, pan gawsom y cyfle i gyfarfod â nhw, y llynedd, y tu allan i'r Senedd, ac rwy'n cydnabod y cyfraniad y maen nhw wedi ei wneud yn ystod y pandemig, ac rwy'n credu bod hynny'n gydnabyddiaeth fawr o'r gefnogaeth a'r hunan-gymorth a gefnogwyd yn arbennig gan y mudiad cydweithredol. Ond rwyf hefyd wedi cyfarfod ag Elizabeth Buffy Williams ac rwyf yn ei llongyfarch ar ei gwobr ddiweddar, ac yn dweud bod yr enghreifftiau hyn—ac yn wir Unite, sy'n darparu'r mygydau wyneb am ddim—i gyd yn cyfrannu at ein cyfraniad cymunedol dros y misoedd anodd diwethaf. Ond rwy'n credu bod angen i ni—. Yn dilyn y cwestiwn blaenorol, mae angen i ni weld sut y mae hyn yn mynd â ni ymlaen. Rydym ni wedi gweld gwir fanteision gwirfoddoli a chydweithio. Rydym ni wedi gweld gweithredu lleol, hunan-gymorth a chyd-gymorth yn dod â manteision gwirioneddol tymor canolig a hirdymor, ac erbyn hyn mae gennym ni grŵp adfer COVID cyngor partneriaeth y trydydd sector, a fydd yn adrodd i mi y mis nesaf, a byddaf eisiau adrodd ar eu canfyddiadau a'u casgliadau ynghylch ymwreiddio hyn. Byddaf eisiau adrodd yn ôl i'r Senedd.

15:15
Cydraddoldeb Rhywiol

4. Sut mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo cydraddoldeb rhywiol yng Nghymru? OQ55712

Prynhawn da, Angela Burns. Mae'r cynllun i hyrwyddo cydraddoldeb rhywiol yng Nghymru, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth, yn nodi ein huchelgais a'n camau ymarferol i hyrwyddo cydraddoldeb i fenywod a merched. Mae camau gweithredu i ddileu rhwystrau yn cynnwys darparu cymorth gofal plant, creu cyfleoedd hyfforddi, mynd i'r afael â chyflogau isel, gwahaniaethu ac anghydraddoldebau hiliol.

Fel y gwyddoch chi, dydd Sul oedd Diwrnod Rhyngwladol y Ferch, ac mewn llawer lle yn y byd mae merched yn dal yn nwydd, i'w defnyddio, i'w cam-drin ac i'w masnachu. Mewn llawer lle, Gweinidog, byddwch yn gwybod nad yw merched yn cael fawr o addysg, eu bod yn beichiogi'n rhy ifanc, yn teimlo mai perthnasau treisiol yw eu hunig ddewis, o dan bwysau i briodi, yn dioddef anffurfio eu horganau rhywiol, ac yn cael eu trin fel gwrthrychau rhyw, ac, yn y cyfnod gwenwynig hwn yr ydym ni'n byw ynddo, maen nhw yn dioddef effeithiau cyfryngau cymdeithasol negyddol yn anghymesur. Rwy'n gwybod eich bod wedi ymrwymo o ddifrif i'r agenda hon, ond pan ddywedaf 'llawer lle', mae hynny hefyd yn cynnwys llawer lle yng Nghymru a llawer o ferched sy'n teimlo hyn. Yr hyn yr oeddwn i eisiau ei wybod oedd beth ydych chi'n ei wneud i ddysgu o'r arferion gorau mewn gwledydd eraill—rhai o'r gwledydd tlotach yn y byd, sydd wedi cymryd camau syfrdanol mewn gwirionedd i allu addysgu nid yn unig merched ifanc yn well, ond bechgyn ifanc, dynion ifanc, bod menywod a dynion yn gyfartal ac y dylid eu parchu yn yr un modd â'i gilydd. Beth allwn ni ei wneud i ddysgu o'r mathau hynny o leoedd a dod â'r dysgu hwnnw i Gymru oherwydd—ac rwy'n siarad fel rhywun a oedd yn y don honno o ffeministaeth yn y 1970au a'r 1980au—mae'n rhaid i mi ddweud fy mod i wedi fy nhristáu'n fawr oherwydd rwy'n credu bod hawliau menywod wedi dod o dan y lach gryn dipyn yn ddiweddar?

Wel, diolch yn fawr iawn, Angela Burns, am dynnu sylw at Ddiwrnod Rhyngwladol y Ferch a gwneud yn siŵr ein bod yn cofio amdano. Mae'n braf iawn hefyd eich bod yn edrych ar hyn o safbwynt byd-eang, gan fynd yn ôl at ein deddfwriaeth llesiant cenedlaethau'r dyfodol—ein bod yn ceisio bod yn wlad sy'n gyfrifol yn fyd-eang yn ogystal â bod yn wlad decach a mwy cyfartal hefyd. Mae hynny, wrth gwrs, yn dod â rhai cyfrifoldebau y mae angen i ni, Llywodraeth Cymru, eu cyflawni o ran ein pwerau ynghylch cyflawni'r Ddeddf Cydraddoldeb. Mewn gwirionedd, rwy'n credu bod y gwaith yr ydym ni yn ei wneud yn enwedig o ran bwrw ymlaen â'r cyfleoedd drwy ein gwaith gyda deddfwriaeth a chynlluniau sy'n mynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn hanfodol i hyn. Ond rwy'n croesawu'n fawr eich cydnabyddiaeth bod hyn yn ymwneud nid yn unig ag edrych ar hyn o safbwynt byd-eang, ond y gallwn ni ddysgu yn fyd-eang a gweithredu yn lleol a gweithredu yn genedlaethol yma yng Nghymru i hyrwyddo'r cyfleoedd hyn i ferched a menywod ifanc ym mhob agwedd ar eu bywydau.

Trais yn erbyn Menywod

5. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod? OQ55685

Yn 2020-21, rydym ni'n buddsoddi dros £4 miliwn o arian newydd i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, mae 18,800 o aelodau o'r cyhoedd wedi manteisio ar ein hadnoddau e-ddysgu, rydym ni wedi cyhoeddi canllawiau ar weithio gyda phobl sy'n cyflawni trais yn erbyn menywod, ac wedi gweithio gyda Hafan Cymru i gyflawni o bell ei brosiect Sbectrwm ar gyfer ysgolion.

Diolch am yr ateb yna, Gweinidog, a diolch am eich ymrwymiad parhaus i roi terfyn ar drais gan ddynion yn erbyn menywod. Fel y gwyddoch, rwy'n llysgennad Rhuban Gwyn, ac rwy'n falch iawn o ddilyn yn ôl traed fy nhad wrth gefnogi ymgyrch y Rhuban Gwyn. Bydd Diwrnod y Rhuban Gwyn eleni yn wahanol iawn ond nid yw'n llai pwysig. Nawr, rwyf wedi siarad â nifer o oroeswyr sy'n ofni bod y cyfyngiadau symud yn rhoi menywod mewn perygl. Gweinidog, rwy'n annog cynifer o ddynion â phosibl i wneud yr addewid i dynnu sylw at bwysigrwydd mynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, ond pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i nodi Diwrnod y Rhuban Gwyn a'r 16 diwrnod o weithredu sy'n dilyn?

15:20

Diolch yn fawr iawn, Jack Sargeant, am y cwestiwn yma, ac am eich gwaith ysbrydoledig a dewr yn yr ymgyrch hon fel llysgennad Rhuban Gwyn—fel llysgennad Rhuban Gwyn sydd, flwyddyn ar ôl blwyddyn, wedi bwrw ymlaen â hyn o ran hyrwyddo ymgyrch y Rhuban Gwyn. Rwy'n credu, eleni, y bydd hi'n anodd o ran ein gweithgareddau, o ran effaith y pandemig; mae hynny'n mynd i olygu y bydd yn rhaid i ni gynnal llawer o weithgareddau rhithwir. Ond rydym ni'n gobeithio, er enghraifft, adfywio ein hymrwymiad ni, Llywodraeth Cymru, i'r achos pwysig hwn ac i nodi Diwrnod y Rhuban Gwyn ar 25 Tachwedd. Rwy'n siŵr y bydd Joyce Watson yn canfod ffyrdd y gallwn ni wneud hynny hefyd, gan gofio ein gwylnosau blynyddol. Mae'n golygu bod yn rhaid i ni ystyried hynny o ran sut y bydd Llywodraeth Cymru yn mynd ati i annog mwy o ddynion o Lywodraeth Cymru i ymgysylltu â hyn—ein swyddogion, ein gweision sifil yn ymwneud â hyrwyddo ymgyrch y Rhuban Gwyn. Rwy'n ddiolchgar hefyd eich bod wedi cydnabod anawsterau'r cyfyngiadau symud i fenywod. Mae'n rhaid bwrw ymlaen â'n hymgyrch 'Nid yw cartref bob amser yn lle diogel' a hefyd â'n hymgyrch sy'n targedu pobl sydd wedi bod yn dyst i drais domestig, 'Ni fydd Cymru'n cadw'n dawel'. Mae angen i ni gysylltu hynny â neges ymgyrch y Rhuban Gwyn. Ac mae gennym ni bedwar awdurdod lleol, dau wasanaeth tân ac achub, dau heddlu ac un cyngor tref yng Nghymru wedi eu hachredu, yn ogystal â'r comisiynydd pobl hŷn, i ymgyrch y Rhuban Gwyn, felly gobeithiwn y gallwn ni hyrwyddo'r achrediad hwnnw ledled Cymru eleni. Diolch yn fawr, Jack Sargeant.

Amrywiaeth mewn Cynghorau Lleol

6. Pa drafodaethau y mae'r Dirprwy Weinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ynghylch rhoi mesurau ar waith i gynyddu amrywiaeth mewn cynghorau lleol? OQ55677

Diolch, Laura Anne Jones. Rwyf yn cael trafodaethau rheolaidd gyda'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ac aelodau'r Cabinet ynghylch cynyddu amrywiaeth ar draws pob sector. Ymhlith y camau gweithredu mae cynllun arbrofol y gronfa mynediad i swydd etholedig er mwyn cefnogi ymgeiswyr anabl gyda'r treuliau ychwanegol y maen nhw yn eu hysgwyddo o ganlyniad i'w gofynion mynediad neu gyfathrebu.

Gwych, Dirprwy Weinidog; dyna'n union yr oeddwn i'n mynd i'w ofyn i chi, oherwydd, fel y gronfa a sefydlwyd eisoes yn Lloegr—y gronfa EnAble—roeddwn i'n gobeithio y byddai Cymru yn gweithredu yn yr un modd, felly rwy'n diolch yn fawr i chi am hynny.

Ardderchog. Diolch yn fawr i'r—.

Oeddech chi eisiau dweud unrhyw beth? Mae'n ddrwg gennyf, fe dorrais ar eich traws yn y fan yna, Dirprwy Weinidog. Roedd hwnna'n ymddangos yn fodd colegol iawn o ofyn eich cwestiwn, Laura Anne, cefais fy arwain i feddwl nad oedd angen ymateb, ond a ydych chi eisiau ymateb, Dirprwy Weinidog? Ni ddylwn i fod wedi eich diffodd. Rwy'n siŵr y byddwch yn manteisio ar y cyfle i ddweud rhywbeth, os wyf i'n eich adnabod chi, Jane Hutt.

Ie, rwy'n ceisio troi fy meicroffon ymlaen. Allwch chi fy nghlywed i nawr? Rwy'n falch iawn fy mod wedi cyflawni mewn gwirionedd o ran fy ateb i'r cwestiwn gan Laura Anne Jones, ond mae hwn yn fater difrifol iawn i ni, nid yn unig o ran y Llywodraeth a'r hyn y mae'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol yn ei wneud i hyrwyddo'r cyfleoedd ar gyfer amrywiaeth, yn enwedig, byddwn yn dweud, mewn llywodraeth leol, ond hefyd yn y ffaith fod gan bob un o'n pleidiau gwleidyddol ran i'w chwarae yn hyn o beth hefyd, yn enwedig o ran sicrhau bod gennym ni ymgeiswyr mwy amrywiol yn sefyll yn yr etholiadau sydd o'n blaenau yn y dyfodol. Rwy'n falch iawn bod y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi datblygu ymgyrch amrywiaeth a democratiaeth sydd wedi arwain at y cynllun arbrofol hwn gyda'r gronfa fynediad, a'i bod hefyd wedi nodi camau gweithredu ar gyfer cam 2 ei rhaglen amrywiaeth a democratiaeth.

Mae hyn yn hollbwysig o ran y Bil llywodraeth leol. Fel y dywedodd y Gweinidog, mae hi'n adolygu ystod o ganllawiau sydd ar gael i awdurdodau lleol lle gellir cryfhau agweddau cydraddoldeb ac amrywiaeth. Ond rwyf yn credu mai'r pleidiau gwleidyddol hynny sydd angen bwrw ymlaen â hyn, ac rydym ni wedi gofyn i Lywodraeth y DU—ac efallai y gall Laura Anne ac eraill gefnogi o bob rhan o'r gynrychiolaeth wleidyddol—i adran 106 o'r Ddeddf Cydraddoldeb gael ei gweithredu. Byddai hyn yn gofyn am gasglu a chyhoeddi data amrywiaeth gan bleidiau gwleidyddol mewn cysylltiad, yn y dyfodol, ag etholiadau'r Senedd, ac yna byddai hefyd yn cyfateb i etholiadau llywodraeth leol. Diolch yn fawr, Llywydd.

Roeddwn i'n gwybod y byddai gennych chi ateb, Jane Hutt, er nad oedd cwestiwn i'w ateb. Diolch yn fawr am hynna.

15:25
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Y datganiad a chyhoeddiad busnes sydd nesaf, felly y Gweinidog Cyllid—wel, y Trefnydd, yn fwy penodol—sy'n ateb. Rebecca Evans sy'n gofyn—. Rebecca Evans sy'n cyflwyno—fe gaf i hyn yn iawn yn y diwedd—y datganiad. Rebecca Evans.

Diolch, Llywydd. Mae dau newid i agenda'r wythnos hon. Mae'r datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar Gwm Taf wedi'i symud i eitem 6 ar yr agenda, gyda'r busnes arall wedi'i ailrifo'n unol â hynny. Ac yn ail, mae'r Pwyllgor Busnes wedi cytuno y bydd y ddadl fer a ohiriwyd yr wythnos diwethaf yn cael ei chynnal yfory. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi ar y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau'n electronig.

Gweinidog, a gaf i ofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda? Yn gyntaf, yn dilyn ymateb y Prif Weinidog yn gynharach, a fyddech chi gystal â gofyn am ddatganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru i amlinellu'n union sut yn awr y bydd cam 3 y gronfa cadernid economaidd yn rhoi'r hyblygrwydd i sicrhau na fydd busnesau sydd eisoes wedi'u sefydlu mewn ardaloedd nad ydynt dan gyfyngiadau symud yn cael eu heffeithio'n andwyol gan ardaloedd cyfagos sydd dan gyfyngiadau symud? Rwy'n croesawu cefnogaeth y Prif Weinidog i hyn, gan fod y cyfnod hwn yn un pryderus i fusnesau yn sir Fynwy, yr effeithiwyd arnynt yn ddifrifol oherwydd diffyg cwsmeriaid.

Yn ail, a gaf i ofyn i'r Gweinidog Iechyd am ddatganiad yn amlinellu safbwynt cenedlaethol ynghylch presenoldeb partneriaid geni drwy gydol y broses eni, os gwelwch yn dda? Ar hyn o bryd, mae'r cyfyngiadau, yn fy marn i, yn rhy anhyblyg, ac mae rhyw fath o loteri rhwng byrddau iechyd yn digwydd, yn amlinellu pa mor hir, neu cyn lleied o amser, yn yr achos hwn, y gall partneriaid geni fod yn bresennol gyda'u hanwyliaid? Nid yw'n rhoi ystyriaeth i gymhlethdodau annisgwyl. Roedd fy mhrofiad geni cyntaf i—fy nhro cyntaf i—yn hollol iawn; ond yr ail dro, roedd y serfics wedi ymledu'n gynnar iawn ac yn gyflym iawn, a chefais broblemau geni, lle'r oedd y brif wythïen yn tyfu i mewn i'r brych ac roedd ffrwydrad a bu bron i'r ddau ohonom farw. Nid wyf eisiau mynd i ormod o fanylion, ond roedd honno'n broses gyflym iawn, a byddai wedi peri gofid mawr i mi pe na fyddai rhywun wedi bod gyda mi bryd hynny. Gyda'r cyfyngiadau presennol, ni fyddai unrhyw un wedi bod gyda mi bryd hynny. Felly, a oes modd ichi ganiatáu ychydig o hyblygrwydd yno, os gwelwch yn dda, oherwydd nid yw'n bosibl rhagweld genedigaethau, fel yr wyf newydd ei ddisgrifio? Diolch.

Rwy'n ddiolchgar i Laura Anne Jones am godi'r ddau fater hynny. O ran y cyntaf, sy'n ymwneud â cham 3 y gronfa cadernid economaidd, os oes unrhyw newidiadau i'r meini prawf cymhwysedd, yna fe wn mai Busnes Cymru, yn amlwg, fyddai'r lle cyntaf i etholwyr fynd er mwyn deall unrhyw newidiadau penodol. Ond, wrth gwrs, fel y dywedais, byddaf yn gwneud yn siŵr, pe bai newidiadau, y bydd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yn tynnu sylw cydweithwyr at hynny.

Ac ar yr ail fater, o bartneriaid geni, fe wn fod Lynne Neagle wedi codi'r mater penodol hwn ychydig wythnosau'n ôl yn y datganiad busnes, ac mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi paratoi ateb ysgrifenedig iddi, felly byddaf yn sicrhau eich bod chi hefyd yn cael yr ymateb hwnnw, sy'n nodi ei ystyriaeth o'r mater hwn. Diolch.

Yn dilyn y pwynt olaf, Gweinidog, yr wythnos hon yw Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod, a hoffwn ofyn i'r Llywodraeth gyflwyno datganiad yn rhoi gwybod inni am yr hyn sy'n cael ei wneud i helpu teuluoedd a mamau i ymdopi â'r trawma ac anawsterau seicolegol a all godi o ganlyniad i golli baban. Mae heriau penodol wedi codi, fel yr ydym newydd glywed, o ganlyniad i bandemig COVID, ac mae'r Gynghrair Ymwybyddiaeth Colli Babanod yn gofyn bod gwersi yn cael eu dysgu o don gyntaf y feirws. Mae llawer o bobl wedi codi gyda mi a llawer o Aelodau eraill hefyd, rwy'n siŵr, y mater hwn o bartneriaid yn cael eu hepgor o sganiau ac apwyntiadau allweddol. Os gallai ymgynghoriadau fideo, o leiaf, gynnwys partneriaid, yna byddai hynny'n helpu pawb, yn enwedig os oes rhaid rhoi newyddion drwg. Felly, a allwn ni gael datganiad i ymdrin â'r cwestiwn o bartneriaid yn bresennol mewn gwasanaethau beichiogrwydd, mamolaeth a newyddenedigol, yn enwedig pan fyddan nhw eisoes wedi colli baban, a hefyd sut y byddai modd gwella gwasanaethau'n fwy cyffredinol yn y maes hwn?

15:30

Diolch i Leanne Wood am godi'r mater hwn ac, o gofio'r dystiolaeth a'r diddordeb sydd ymhlith cyd-Aelodau, byddaf yn gwneud yn siŵr bod y Gweinidog Iechyd yn ysgrifennu at bob Aelod fel y bydd modd rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf iddyn nhw ynghylch y mater pwysig hwn.

Fel y mae Leanne Wood yn cydnabod, mae'n Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod. Mae'r Prif Weinidog, yn ei swydd fel Aelod o'r Senedd dros Orllewin Caerdydd, wedi cefnogi digwyddiad ers blynyddoedd lawer, ac wedi noddi digwyddiad, fel arfer yn y Pierhead. Eleni, yn amlwg, bydd y trefniadau'n wahanol, ond mae'r trefnwyr wedi gwneud trefniadau amgen i nodi'r wythnos, a bydd hynny'n digwydd ddydd Iau 15 Hydref, rhwng 6.45 p.m. a 7.15 p.m. Mae'r Prif Weinidog yn ein gwahodd i gyd i gymryd rhan os gallwn, naill ai drwy alw i mewn ar gyfer y gwasanaeth ffrwd fyw, neu drwy ymuno ag ef i gynnau cannwyll a rhannu llun ar gyfryngau cymdeithasol. Felly, byddwn i'n amlwg yn annog cydweithwyr i gymryd rhan yn y coffáu pwysig hwnnw hefyd.

Efallai fod rhai yn y Siambr yn ymwybodol o'r ffaith fod Cymru ar fin ennill coron pencampwriaeth gyrru rali'r byd. A allwch chi fy nghlywed i, Llywydd?

Na. A allwch chi ailadrodd yr hyn yr ydych chi newydd ei ddweud? Gallwn eich clywed chi nawr, rwy'n credu.

Diolch. Roeddwn i'n meddwl bod rhywbeth wedi mynd o'i le ar y peth ar y cyfrifiadur.

Efallai bod rhai yn y Siambr yn ymwybodol bod Cymru ar fin ennill coron pencampwriaeth gyrru rali'r byd. Beth bynnag fydd y canlyniad ym mis Tachwedd, mae ein Elfyn Evans ni o Ddolgellau wedi dangos sgiliau gyrru o'r radd flaenaf ac, unwaith eto, bydd yn rhoi ein gwlad glyfar a phenderfynol ar y map. Rwy'n siŵr y byddwn ni i gyd eisiau dymuno'n dda iddo ar gyfer y rowndiau nesaf.

Fodd bynnag, mae hyn yn codi cwestiwn i mi ynghylch Rali Cymru Prydain Fawr. Mae'r gogledd yn cynnal un o'r cymalau a gwn ei fod yn gyfnod cyffrous i gymunedau, yn enwedig pan fyddan nhw'n mynd drwy goedwig Clocaenog yn fy ymyl i ger Rhuthun. Mae cystadleuwyr, gwirfoddolwyr a phawb yn credu ei fod yn hollol wych, ac mae'n dod â refeniw y mae mawr ei angen i'r ardal. Byddwn i'n ddiolchgar, felly, o glywed gennych chi neu'r Gweinidog perthnasol o ran pa gymorth parhaus fydd Lywodraeth Cymru yn ei roi i Rali Cymru Prydain Fawr. Yn fy marn i, byddai cyfle enfawr yn cael ei golli i arddangos y dalent wirioneddol sydd gennym ni yng Nghymru, yn ogystal â, gobeithio, ddarpar bencampwr byd-eang, os na fyddwn ni'n parhau i'w gefnogi. A fydd y rali'n cael ei chynnal yng Nghymru y flwyddyn nesaf, Gweinidog?

Diolch am hynny. Mae arnaf i ofn nad wyf i'n gwybod yr ateb i'r cwestiwn hwnnw, ond byddaf yn gwneud yn siŵr bod y Gweinidog sy'n gyfrifol am ddigwyddiadau mawr yn ysgrifennu atoch gydag ateb. Wrth gwrs, rydym i gyd yn estyn ein dymuniadau gorau i Elfyn Evans o ran ei ymdrechion gyrru rali, ac yn croesi ein bysedd oll.

A allwn ni gael datganiad, Gweinidog, ar unrhyw drafodaethau rhwng Gweinidogion Llywodraeth Cymru ac Undeb Rygbi Cymru a Chymdeithas Bêl-droed Cymru ynghylch y gefnogaeth i glybiau rygbi a phêl-droed yng Nghymru? Nid mater i gyrff llywodraethu proffesiynol yn unig yw hwn, ond mater o gydlyniant cymunedol a chyfranogiad chwaraeon gweithredol, yn ogystal â threftadaeth chwaraeon, yn enwedig lle mae'r clybiau hyn wedi bod yn rhan o asgwrn cefn trefi a phentrefi lleol ers cenedlaethau, a lle mae llawer wedi dangos drwy COVID eu bod yn llawer mwy na chlybiau chwaraeon, drwy ddarparu cymorth fel prydau bwyd, dosbarthu bwyd, a hyd yn oed alwadau ffôn i aelodau ynysig yn ystod yr argyfwng.

Cawsom ein siomi o glywed yn ddiweddar fod Clwb Rygbi Maesteg ac Aberafan Quins ymhlith 30 o glybiau rygbi eiconig sy'n straffaglu o wythnos i wythnos, ac mae hyd yn oed glybiau pêl-droed fel Clwb Pêl-droed Pen-y-bont yn wynebu'r un sefyllfa bryderus. Felly, Gweinidog, siawns nad yw hyn yn rhywbeth y gallai Llywodraeth Cymru ei godi gydag Undeb Rygbi Cymru a Chymdeithas Bêl-droed Cymru i weld sut y byddai modd defnyddio'r dylanwad ariannol ar frig y gêm i helpu'r gêm clwb drwodd i'r dyfodol. Fel arall, byddwn ni nid yn unig yn colli'r gronfa o dalent sy'n cyflenwi ein prif glybiau a'n gêm genedlaethol; byddwn i'n colli asedau cymunedol gwerthfawr sy'n mynd ymhell y tu hwnt i chwaraeon ei hun.

Mae Huw Irranca-Davies yn llygad ei le i gydnabod bod ein clybiau'n mynd ymhell y tu hwnt i chwaraeon a'u bod wrth wraidd ein cymunedau ledled Cymru. Rwy'n gwybod y bydd y drafodaeth yr ydych yn ei disgrifio yn rhywbeth y bydd gan y Gweinidog sy'n gyfrifol am chwaraeon ddiddordeb i'w ystyried. Ond, yn sicr o ran Llywodraeth Cymru, rydym wedi rhoi cyllid ar waith drwy ein cronfa adfer chwaraeon a hamdden newydd gwerth £14 miliwn. Nawr, mae'r gronfa honno'n cael ei dosbarthu drwy Chwaraeon Cymru a gwn eu bod yn bwriadu rhoi rhagor o fanylion am y meini prawf cymhwysedd a'r broses ymgeisio ymhen rhyw wythnos nawr. Felly, dylai'r manylion pellach fod yno i glybiau yn fuan iawn.

15:35

Rwy'n galw am ddatganiad ar gefnogaeth i fusnesau gwely a brecwast yng Nghymru. Mae llawer o fusnesau gwely a brecwast bach wedi cysylltu â mi ar ôl i Lywodraeth Cymru eu heithrio eto o gymorth ariannol i'w helpu i oroesi'r pandemig; y tro hwn wedi'u gwahardd o drydedd rownd y gronfa cadernid economaidd. Cawsant eu hystyried yn anghymwys mewn cylchoedd blaenorol a chafodd grantiau busnesau ei gwrthod, yn wahanol i'w cymheiriaid yn Lloegr a'r Alban.

Mae eu sylwadau yn ystod y dyddiau diwethaf yn cynnwys: 'Mae'r gronfa hon, unwaith eto, yn ein gadael ni, fel miloedd o fusnesau bach, allan yn yr oerfel'; 'Unwaith eto, mae'n ymddangos ein bod wedi llithro drwy'r rhwyd gyda'r gronfa cadernid economaidd newydd hon'; 'Mae canslo wedi dinistrio ein harchebion am lefydd. A gaf i ofyn ichi godi hyn yn y Senedd?'; 'Cael trosiant o £65,000 llynedd i lawr nawr i £5,000 yn unig, does dim ffordd y gallwn ni gadw ein busnes ar agor'; 'Mae'r gwiriwr cymhwysedd ar gyfer cam diweddaraf y gronfa cadernid economaidd yn datgan y bydd microfusnesau'n gallu gwneud cais am hyd at £10,000 ar yr amod eu bod yn cyfateb hyn â'u buddsoddiad eu hunain o 10 y cant o leiaf, ac ar gyfer microfusnes twristiaeth a lletygarwch, bydd disgresiwn ar gyfer dyfarniadau grant o 100 y cant. Dechreuais weithio fy ffordd drwy'r gwiriwr dim ond i ganfod nad ydym ni, fel microfusnes, yn gymwys. Rwy'n credu y bydd yr un peth yn wir am lawer o ficrofusnesau, os nad y rhan fwyaf ohonyn nhw. A allwch chi bwyso ar Lywodraeth Cymru i newid eu meini prawf ac a wnewch chi archwilio'r bwlch hwn yr ydym ni wedi syrthio trwyddo, os gwelwch yn dda? Rydym yn gwbl anobeithiol ac nid ydym yn deall pam mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod cefnogaeth i'r rhan hanfodol hon o economïau twristiaeth lleol ledled Cymru.'

Rwy'n galw felly am ddatganiad sy'n mynd i'r afael â realiti a brys y sefyllfa hon.

Diolch i Mark Isherwood am godi'r mater hwn ar ran ei etholwyr. Gwn ei fod yn fater y mae wedi'i godi gyda mi o'r blaen.

Mae'n amlwg y bydd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi bod yma i glywed eich sylwadau y prynhawn yma a gwn fod ganddo ddiddordeb mewn archwilio'r gronfa cadernid economaidd o ran sut y mae'n cefnogi busnesau, ond hefyd pa gymorth arall y mae modd ei ddarparu mewn mannau eraill. Rwy'n gwybod y byddwch chi hefyd, yn y man cyntaf, yn cynghori eich etholwyr i siarad â chynghorwyr Busnes Cymru i ystyried a allan nhw gyfeirio'r busnesau hynny at fathau eraill o gymorth, megis benthyciadau adfer Llywodraeth y DU, er enghraifft.

Gaf i ofyn am ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog dros chwaraeon am yr heriau difrifol sy'n wynebu haenau uchaf pêl-droed yng Nghymru? Mae gemau uwch gynghrair Cymru, wrth gwrs, yn cael eu chwarae y tu ôl i ddrysau caeedig ar hyn o bryd ac mae hynny’n rhoi straen ariannol aruthrol ar y clybiau yma. Dyw hynny ddim yn gynaliadwy heb naill ai ganiatáu rhywfaint o gefnogwyr i fynychu’r gemau hynny, neu, wrth gwrs, i ddarparu cefnogaeth ariannol. A dwi’n clywed beth ddywedodd y Gweinidog ynglŷn â chronfeydd gan Chwaraeon Cymru, ond does dim sicrwydd eto ar y ffrynt yna.

Yn bwysicach na hynny o ran polisi, mae yn sefyllfa gwbl wirion. Mae polisi’r Llywodraeth yn dweud ar hyn o bryd cewch chi ddim mynd i mewn i'r stadiwm i wylio gêm, sefyll yn yr awyr agored, wedi’i wahanu’n gymdeithasol, ond fe gewch chi fynd i’r dafarn i wylio’r un gêm, neu yn wir, mewn rhai sefyllfaoedd, fe gewch chi fynd i’r clubhouse yn y stadiwm, lle mae’r gêm yn digwydd, a gwylio’r gêm drwy’r ffenest. Dyna yw sefyllfa polisi Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd. Mae’n ffars llwyr. Byddai’n llawer mwy diogel caniatáu rhywfaint, beth bynnag, o gefnogwyr i fynychu’r gemau hynny mewn modd wedi’i reoli a modd cyfrifol.

Ac ar yr un pryd, dyw clybiau tier 2, sef cynghreiriau Cymru North a Cymru South ddim yn cael chwarae o gwbl, wrth gwrs, er bod llawer o'r chwaraewyr, fel yn uwch gynghrair Cymru, yn chwaraewyr lled broffesiynol, er bod yn rhaid i’r clwb fodloni meini prawf y gymdeithas bêl-droed i gael trwydded tier 2, ac er bod nifer fawr o feysydd chwarae clybiau tier 2, sydd ddim yn cael chwarae, yn cwrdd â’r un criteria â meysydd tier 1, sydd yn cael chwarae, a bod rhai o’r meysydd tier 2 yna’n cael eu defnyddio ar gyfer gemau uwch gynghrair merched Cymru, sydd yn cael eu chwarae. Mae’r polisi yma dros y siop i gyd a dwi eisiau i’r Dirprwy Weinidog i ddod fan hyn i esbonio’r rhesymeg, oherwydd, yn fy marn i a nifer o bobl eraill, mae’n gwbl, gwbl hurt.

Wel, bydd y Dirprwy Weinidog wedi clywed eich cais am ragor o wybodaeth am y rhesymeg y tu ôl i'r penderfyniadau ynghylch gallu pobl i wylio chwaraeon yn fyw. Byddwch chi'n ymwybodol bod Llywodraeth Cymru wrthi'n treialu rhai o'r digwyddiadau mwy hynny er mwyn dysgu oddi wrthynt, o ran ein cynghori a'n helpu ni i feddwl sut yr ydym yn mynd ati i gynnal digwyddiadau mwy yn y dyfodol, gan ganolbwyntio'n benodol ar chwaraeon a'r celfyddydau, ond, yn anffodus, mae atgyfodiad y feirws wedi ei gwneud yn amhosibl parhau â hynny ar hyn o bryd. Ond, wrth gwrs, bydd y Gweinidog wedi clywed eich cais am ragor o wybodaeth, ac fel y clywsoch yn fy ymateb i siaradwr blaenorol, bydd cronfa adfer Chwaraeon Cymru yn cyhoeddi ei meini prawf a'i phroses ymgeisio yn fuan iawn.

15:40

Gweinidog, rwy'n gofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd ar wasanaethau iechyd trawsffiniol ac, yn benodol, bryderon y mae trigolion wedi'u codi gyda mi ynghylch llawdriniaeth ddewisol. Mae trigolion yn ceisio sicrwydd y byddan nhw'n parhau i allu manteisio ar wasanaethau yn Lloegr drwy'r pandemig, yn enwedig yn Ysbyty Iarlles Caer. A wnewch chi ofyn am ddatganiad ysgrifenedig neu ddatganiad llafar i'r Siambr gan y Gweinidog Iechyd?

Diolch am godi'r mater pwysig hwn, oherwydd cyfrifoldeb y byrddau iechyd, wrth gwrs, yw sicrhau'r gweithgarwch angenrheidiol i'w poblogaethau lleol, ac rydym yn gwybod bod pethau'n anodd o ran llawdriniaeth ddewisol ar hyn o bryd, dros y ffin, fel y maen nhw yma yng Nghymru. Ond, mae'n gwbl wir, lle mae'r contractau hynny ar waith, ac wedi bod ar waith gyda darparwyr yn Lloegr, cyn COVID, yna rydym yn llwyr ddisgwyl i'r darparwyr hynny yn Lloegr gyflawni eu rhwymedigaethau i gleifion yng Nghymru a thrin cleifion yn nhrefn blaenoriaeth glinigol. Felly, byddwn i'n gobeithio y gallwch roi'r sicrwydd hwnnw i'ch etholwyr. Ond, fel y dywedais, cafwyd effaith ar y capasiti dros y ffin, yn union fel y mae yng Nghymru, oherwydd dros y ffin, fel yma yng Nghymru, mae’n rhaid inni gyflwyno mesurau ychwanegol i sicrhau bod yr amgylchedd yn ddiogel i drin y cleifion hynny. Ond lle mae'r contractau hynny'n bodoli, yn sicr, dylen nhw fod yn cael eu bodloni, ac ni ddylai cleifion o Gymru fod dan unrhyw anfantais o ran hynny.

A gaf i gytuno'n gyntaf â sylwadau cynharach Leanne Wood yn cefnogi Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod? Bydd fy mab i fy hun yn troi'n ddwyflwydd oed fis nesaf—anodd credu hynny—ond ni allaf ddychmygu'r tor calon y mae rhieni a theuluoedd yn ei ddioddef pan nad yw pethau'n dilyn y cynllun, yn ystod beichiogrwydd ac ar ei ôl. Rwy'n credu bod angen cymorth ar y teuluoedd hynny, a byddaf i'n sicr yn cefnogi digwyddiad ar-lein Ymwybyddiaeth Colli Babanod y Prif Weinidog eleni.

Trefnydd, a wnewch chi ymuno â mi i groesawu Oergell Gymunedol gyntaf Sir Fynwy, a gafodd ei lansio yn ddiweddar yng Nghanolfan Bridges Trefynwy? Rwy'n siŵr y gwnewch chi hynny. Fe'i sefydlwyd gan Food Sense, a chyfrannwyd y bwyd gan archfarchnadoedd lleol a hefyd gan Gyngor Sir Fynwy, a helpodd i'w sefydlu. A allwn ni gael yr wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru am y modd y mae'r mathau hyn o fentrau gwrth-wastraff yn cael eu cefnogi ledled Cymru? Efallai y gallai Llywodraeth Cymru, efallai y gallai'r Senedd ei hun gefnogi'r math hwn o fenter yn y dyfodol.

Ac yn olaf, Llywydd, rydym bellach lai na mis i ffwrdd o Sul y Cofio, dyddiad arbennig o ingol eleni gyda phen-blwydd 75 oed Diwrnod VJ a'r atgofion pwerus sydd gan oroeswyr o hyd o'r adeg honno. Yn amlwg, mae'r pandemig a'r cadw pellter cymdeithasol angenrheidiol yn gwneud gwasanaethau traddodiadol yn amhosibl eleni, felly pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda'r Lleng Brydeinig Frenhinol a phartïon eraill sydd â diddordeb ynghylch sut y bydd Sul y Cofio yn cael ei goffáu y mis nesaf? Oherwydd rwy'n credu bod hwn yn bwnc sy'n agos iawn at galonnau pobl, a bydden nhw eisiau gweld rhyw fath o goffáu, hyd yn oed os na fydd hynny yn yr ystyr draddodiadol.

Diolch i Nick Ramsay am dynnu sylw at bwysigrwydd Sul y Cofio a sicrhau ein bod eleni'n ei nodi mewn ffordd briodol a'n bod yn gweithredu'r holl gynlluniau i wneud hynny. Gallaf gadarnhau y bydd y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol yn gwneud datganiad i'r Siambr ar nodi'r coffa a'n cefnogaeth barhaus i'r lluoedd arfog, ac fe welwch chi hynny ar y datganiad busnes a osodwyd heddiw.

Ac, wrth gwrs, yr un Gweinidog sy'n gyfrifol am fynd i'r afael â gwastraff, ac fe wn y bydd wedi clywed eich cais am ddatganiad ar sut y gallwn ni gefnogi a hyrwyddo mentrau rhagorol fel yr oergell gymunedol yng Nghanolfan Bridges yn Nhrefynwy. Rwy'n siŵr y bydd yn adnodd hollol wych yn y gymuned i bobl sydd ei angen ac, wrth gwrs, yn ein helpu i fynd i'r afael â gwastraff bwyd hefyd. Felly, llongyfarchiadau i bawb sydd wedi bod yn ymwneud â gwireddu hynny.

15:45

Hoffwn i ofyn am ddatganiad ar yr effaith y mae cyfyngiadau parhaus yn ei chael ar bobl â chyfrifoldebau gofalu, yn enwedig pobl a fyddai fel arfer yn dibynnu ar gyfleusterau canolfannau gofal dydd fel seibiant ac nad ydyn nhw wedi gallu cael y cymorth hwnnw ers misoedd lawer. Mae teuluoedd sy'n ofalwyr ac yn byw gyda'u hanwyliaid wedi gweld eu trefn ddyddiol yn mynd â'i phen i waered yn ystod y pandemig, ac mae llawer o gynghorau'n dal i ddweud nad yw canolfannau gofal dydd yn gallu agor. Mae hyn yn cael effaith negyddol ddifrifol iawn ar iechyd meddwl a lles y teuluoedd hynny. Nawr, rwy'n deall, wrth gwrs, fod angen i gynghorau ddarganfod cydbwysedd anodd rhwng diogelu iechyd y cyhoedd a lles preswylwyr, ond mae'r grŵp hwn o bobl wedi bod heb gymorth nawr ers cyfnod hir, ac nid oes diwedd yn y golwg. Rwy'n poeni fwyfwy am y doll y mae'n ei chymryd ar y bobl hyn. Felly, hoffwn i gael datganiad, os gwelwch yn dda, gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol a fyddai'n nodi o dan ba amgylchiadau y gallai'r cyfleusterau hyn ailagor ac unrhyw ganllawiau a chymorth y gellid eu darparu i gynghorau i'w helpu i ddarparu cyfleusterau dydd unigol neu gymorth unigol tra bydd y canolfannau hynny'n parhau i fod ar gau. Mae'n niwed cudd COVID, ac mae angen cefnogaeth nawr ar lawer o bobl.

Yn ail, Trefnydd, ac yn olaf, mae'r BBC newydd ddweud bod y Prif Weinidog wedi gwrthod llythyr diweddaraf Prif Weinidog Cymru yn galw am wahardd pobl sy'n teithio allan o ardaloedd sydd â chyfraddau uchel o haint COVID. Nawr, mae'n amlwg nad yw'r strategaeth ysgrifennu llythyrau wedi gweithio, felly mae angen un ddeddfwriaethol arnom. Pe bai angen amser seneddol ychwanegol ar y Llywodraeth yr wythnos hon er mwyn pasio hynny, yna byddem ni'n ei gefnogi. Felly, a allai'r Trefnydd gadarnhau, os gwelwch yn dda, mai bwriad Llywodraeth Cymru nawr yw deddfu er mwyn amddiffyn ein cymunedau, ac a allwch chi amlinellu pa amserlen ddeddfwriaethol yr ydych chi'n disgwyl i hynny ei dilyn?

Diolch i Delyth Jewell am godi'r ddau fater pwysig hyn. O ran cymorth i ofalwyr, mae wedi bod yn gyfnod anodd iawn i ofalwyr, a gwn y bydd y Gweinidog sy'n gyfrifol am wasanaethau cymdeithasol a gofalwyr eisiau rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf honno i chi. Gofynnaf iddi yn y lle cyntaf, ysgrifennu atoch chi ynghylch y canllawiau a'r gefnogaeth i awdurdodau lleol, a gwn y bydd yn ystyried y ffordd orau o roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gymorth i'r gofalwyr eu hunain.FootnoteLink

O ran gwrthod y cais yn y llythyr gan Brif Weinidog Cymru, mae'n amlwg bod hynny'n siomedig iawn, ond byddaf yn ei adael iddo ef nodi'r camau nesaf. Ond rwy'n ddiolchgar i Blaid Cymru am eu cynnig o gefnogaeth pe bai angen amser seneddol ychwanegol. Diolch.

John Griffiths. Mae angen i chi gael eich dad-dawelu John Griffiths.

Diolch yn fawr, Llywydd. Gweinidog, rwy'n croesawu'n fawr lofnod diweddar Llywodraeth Cymru ar ddatganiad Caeredin ar y fframwaith bioamrywiaeth byd-eang ôl-2020. Mae'r datganiad yn cydnabod yn feirniadol fod bioamrywiaeth iach a'r gwasanaethau ecosystem y mae'n eu darparu yn allweddol i les pobl ac i feithrin cadernid ein dinasoedd a'n rhanbarthau—mae hynny yn ystod ac ar ôl y pandemig—ac y dylai fod yn ganolog i'n hadferiad. Gwyddom fod ein hecosystemau wedi'u diraddio ac nad yw rhywogaethau prin yn gwneud yn dda yng Nghymru ac, yn wir, mae hynny'n wir ledled y byd i gyd. Felly, rwy'n croesawu llywodraethau a rhanbarthau yn llofnodi'r datganiad ac yn dangos uchelgais yn y maes hwn ac ar y materion hyn, a byddaf yn croesawu ymhellach, Gweinidog, ddatganiad gweinidogol llawn yn y Siambr ar ddatganiad Caeredin, yr ymrwymiadau ynddo a sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflawni'r ymrwymiadau hynny.

Diolch, John Griffiths, am godi'r mater hwn. Gwn y bydd y Gweinidog wedi clywed eich cais am ddatganiad. Ond yn y cyfamser, byddwn i'n dweud mai un o brif ganlyniadau datganiad Caeredin fu amlinellu swyddogaeth bwysig gwledydd datganoledig wrth ddatblygu a chyflawni'r fframwaith ar ôl 2020 drwy gynllun gweithredu newydd, ac rwy'n falch iawn o ddweud bod y Gweinidog Ynni, yr Amgylchedd a Materion Gwledig wedi ymrwymo i hynny. Drwy ein mentrau polisi, rydym yn cymryd camau i ymgorffori ystyriaeth bioamrywiaeth ledled y Llywodraeth, ac rydym yn gwneud hynny drwy ein polisi adnoddau naturiol, ein cynllun gweithredu adfer natur, ein dyletswydd bioamrywiaeth a chadernid ecosystemau adran 6, ac wrth gwrs yn fwyaf nodedig, byddwn i'n ei ddweud, drwy ein paratoadau ar gyfer y gyllideb hefyd. Mae'r cynllun gweithredu adfer natur, ar ei newydd wedd, yn nodi rhai themâu sydd i'w datblygu'n flaenoriaeth gan Lywodraeth Cymru, gan Cyfoeth Naturiol Cymru, gan y cyrff anllywodraethol amgylcheddol, awdurdodau lleol ac wrth gwrs ein partneriaethau natur lleol hefyd, yn ogystal â thirfeddianwyr a ffermwyr ledled Cymru. Ond yn bwysig iawn, mae'r darn hwnnw o waith wedi nodi rhai bylchau pwysig, a dylem fod yn ceisio hyrwyddo ein hymdrechion tuag at y rheini.

15:50

Diolch i'r Trefnydd.

Rwy'n ymddiheuro i'r holl Aelodau nad oeddwn i'n gallu eu galw. Mae ein hamser ar ben ar y datganiad hwnnw yn barod. Byddwn yn cymryd seibiant nawr, seibiant byr, a byddwn yn ailymgynnull ymhen ychydig funudau.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 15:51.

16:00

Ailymgynullodd y Senedd am 16:00, gyda David Melding yn y Gadair.

Trefn. Trefn. Mae'r Senedd yn eistedd unwaith eto. 

3. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol: Ailgylchu a'r Adferiad Gwyrdd

Symudwn at eitem 3, sy'n ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol ar ailgylchu a'r adferiad gwyrdd. Galwaf ar Hannah Blythyn.

Diolch, dirprwy Lywydd dros dro. Rwy'n falch o allu gwneud y datganiad hwn heddiw ynglŷn ag ailgylchu a'r adferiad gwyrdd. Dros yr 20 mlynedd diwethaf, rydym ni wedi buddsoddi £1 biliwn mewn seilwaith ailgylchu. Mae dulliau fel ein casgliad gwastraff bwyd cartref cyffredinol yn destun cenfigen i eraill ac yn golygu bod gennym ni'r gallu i gasglu ac ailgylchu llawer mwy.

Fis diwethaf, lansiais yr ymgyrch Bydd Wych, Ailgylcha, gyda'r nod o helpu pawb i ddod yn fwy ymwybodol o'r ystod eang o ddeunyddiau y gellir eu hailgylchu yng Nghymru, o blisgyn ŵy i boteli siampŵ. Yr uchelgais yw nid yn unig cynyddu ailgylchu er ei fwyn ei hun, ond sicrhau y gallwn ni ddefnyddio'r deunydd gwerthfawr a gesglir. Caiff ein gwastraff bwyd ei droi'n ynni adnewyddadwy sy'n pweru cartrefi a busnesau, a gellir troi'r deunyddiau yr ydym ni'n eu hailgylchu yn gynhyrchion newydd. Gan weithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol i ddatblygu ymgyrch Bydd Wych, sy'n cydnabod gwaith ein criwiau casglu yn briodol—adlewyrchiad o'r diolch diffuant gan gymunedau ledled Cymru, wrth iddynt weithio'n ddiflino i barhau i gasglu drwy gyfnod heriol. Mae cydnerthedd ein systemau casglu yn ystod y pandemig wedi bod yn gamp sylweddol. Nid yn unig y gwnaethant ymdopi â chynnydd mewn deunyddiau cartref, ond hefyd cynnydd mewn ffrydiau fel gwastraff clinigol.

Tynnodd y pandemig sylw at bwysigrwydd cynyddol ailgylchu i'n heconomi. Mae casglu'r bagiau a'r blychau ailgylchu o'n palmentydd wedi bod yn hanfodol i ddiwallu busnesau yng Nghymru gyda'r deunyddiau sydd eu hangen arnynt i gynhyrchu'r nwyddau a ddefnyddiwn. Mae busnesau fel Smile Plastics ar Benrhyn Gŵyr, a Capital Valley Plastics yn Nhorfaen, sy'n defnyddio plastigau wedi'u hailgylchu i wneud cynhyrchion fel pilenni atal lleithder a chownteri cegin yn dangos sut mae cwmnïau o Gymru'n arloesi i gyflwyno atebion gwyrddach. Mae hefyd yn golygu bod cynnal y casgliad ailgylchu nid yn unig yn bwysig i'n hamgylchedd ac i'n cymunedau, ond mae'n gynyddol hanfodol i'n heconomi.

Mae'r tarfu a achoswyd gan COVID-19 a'r ansicrwydd ynghylch Brexit yn golygu bod gennym ni gyfle i ailystyried ffyrdd o weithio a gwneud y newidiadau nawr i gefnogi adferiad gwyrdd a chyfiawn. Mae'r economi gylchol yn allweddol i'r adferiad hwnnw. Drwy gwtogi cadwyni cyflenwi, gallwn hybu cadernid economaidd, a thrwy barhau i ail-ddefnyddio adnoddau, gallwn gyflawni mwy o'u gwerth a manteisio ar y cyfleoedd economaidd newydd.

Mae hyn yn golygu edrych ar sgiliau gwyrdd, gan gynnwys y rheini ym maes atgyweirio ac ail-gynhyrchu. Mae hyn eisoes yn digwydd ledled Cymru. Un enghraifft o hyn yw'r Ganolfan RemakerSpace newydd ym Mhrifysgol Caerdydd, yr ydym ni wedi'i hariannu, a bydd yn cefnogi busnesau gyda'r sgiliau, yr offer a'r cyngor i ailystyried dyluniad cynhyrchion. Byddwn hefyd yn cefnogi'r economi sylfaenol yng Nghymru drwy ganolbwyntio buddsoddiad yn y dyfodol yn y seilwaith rhanbarthol sydd ei angen ar gyfer economi gylchol carbon isel. Rydym ni eisoes yn gweld clystyru busnesau a mentrau mewn canolfannau ailgylchu, fel eco-barc Bryn Pica yn Rhondda Cynon Taf, lle mae cynhyrchion a ystyriwyd yn flaenorol yn wastraff, megis paent a matresi, yn cael eu hail-gynhyrchu neu eu hailbrosesu yn hytrach na'u llosgi neu eu claddu.

Ni all adferiad gwyrdd a chyfiawn ganolbwyntio ar yr economi yn unig, mae'n rhaid iddo gysoni gweithredu amgylcheddol a chymdeithasol. Gwyddom fod 45 y cant o allyriadau carbon yn dod o'r nwyddau a'r cynhyrchion yr ydym ni yn eu gwneud ac yn eu defnyddio. Felly, mae ailgylchu, ailddefnyddio, trwsio ac ailbrosesu—dull newydd o ymdrin ag adnoddau—yn ganolog i ymateb i her yr argyfwng hinsawdd.

Y llynedd, lansiais ein cronfa economi gylchol, gyda'r nod o gefnogi cyrff sy'n cael arian cyhoeddus i ddechrau arloesi a defnyddio dulliau mwy cylchol. Cynhaliwyd ail gylch ariannu gennym ni yn gynharach eleni, ac unwaith eto bu llawer iawn mwy o geisiadau nag oedd o arian ar gael. Mae ein hymrwymiad i adferiad gwyrdd yn golygu bod cyllid ychwanegol bellach wedi'i sicrhau fel y gallwn ni gefnogi 74 prosiect economi gylchol ychwanegol ledled Cymru, gan roi'r adferiad gwyrdd ar waith.

Mae economi gylchol yn gweithio i gymunedau hefyd. Ar anterth y pandemig, dyfarnwyd cyllid i FareShare Cymru i ehangu eu darpariaeth ailddosbarthu i rannau newydd o Gymru, gan sicrhau bod bwyd a fyddai fel arall wedi ei wastraffu ar gael i bobl oedd ei angen. Rydym wedi galluogi Caffi Trwsio Cymru i sefydlu mwy o gaffis a chynnig arweiniad ar-lein ynglŷn ag atgyweirio eitemau hanfodol. Nid mynd i'r afael â materion uniongyrchol yn unig y mae ein cefnogaeth, ond, yn bwysig, mae a wnelo ef hefyd â llunio atebion hirdymor mwy cynaliadwy sy'n grymuso cymunedau. Felly, rydym ni yn creu cronfa ychwanegol o dros £13 miliwn i gefnogi gweithgareddau atgyweirio ac ailddefnyddio yng nghanol ein trefi, gan greu seilwaith cymunedol i ysgogi arloesi a datblygu sgiliau ar ein strydoedd mawr a helpu i drawsnewid trefi.

Lansiwyd ein hymgynghoriad 'Mwy nag Ailgylchu' y llynedd yn Llangollen. Roedd yn ymgynghoriad gwahanol—sgwrs a aeth o amgylch y wlad yn gosod ein nod o fod yn genedl ddi-wastraff erbyn 2050, lleihau allyriadau a thyfu'r economi gylchol, a gofyn i bobl am eu syniadau ynglŷn â sut y gallem ni gyflawni hyn. Daeth mil o ddinasyddion a rhanddeiliaid i 40 o ddigwyddiadau neu gyflwyno ymatebion. Roedd y negeseuon yn glir ac yn gyson. Mae ymdeimlad cryf o falchder yn yr hyn yr ydym ni wedi'i gyflawni ac ymdeimlad ein bod wedi cyflawni hyn gyda'n gilydd, ochr yn ochr ag awydd gwirioneddol i Gymru barhau i arwain y ffordd. Y mis diwethaf cyhoeddwyd crynodeb o'r ymatebion a byddwn yn cyhoeddi strategaeth economi gylchol newydd i Gymru erbyn diwedd y flwyddyn.

Fe'i gwnes hi'n glir y dylai ein hymagwedd at yr economi gylchol ymwneud â gweithredu a dyna'r hyn yr ydym ni yn ei wneud—o gyllid i gefnogi sefydliadau, busnesau a chymunedau i arloesi mewn newid, i fwrw ymlaen ag ymgynghoriad i wahardd y naw eitem blastig untro fwyaf cyffredin yng Nghymru, a gweithio gyda Llywodraethau eraill yn y DU i gyflwyno cynllun dychwelyd ernes a chyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr am becynnu. Ugain mlynedd yn ôl dechreuwyd ar daith ailgylchu uchelgeisiol. Rydym ni wedi gwneud llawer a gyda'n gilydd rydym ni wedi dangos mai ailgylchu yw'r hyn a wnawn ni yng Nghymru, gan adeiladu ar ein record falch, mynd y tu hwnt i ailgylchu mewn ffordd sy'n dod â manteision i'n hamgylchedd, ein heconomi a'n cymunedau.

16:05

Hoffwn ddiolch i'r Dirprwy Weinidog am ei datganiad ac ymuno â hi i gydnabod y gwaith rhagorol y mae ein hawdurdodau lleol wedi'i wneud yn ystod y systemau casglu, wrth gwrs, drwy'r pandemig hwn. Yn eich strategaeth 'Mwy nag Ailgylchu', rydych yn dweud, er mwyn cyflawni Cymru ddiwastraff a charbon isel;

'mae angen seilwaith rhanbarthol a hygyrch a chanolfanau cymunedol i ymdrin â deunyddiau â blaenoriaeth iddynt.'

Er mwyn gwireddu hyn, wrth gwrs, rhaid sicrhau mynediad rhwydd i safleoedd ailgylchu domestig ac annomestig. Mae'n amlwg o'r atebion i mi, mewn cais rhyddid gwybodaeth diweddar, fod tipio anghyfreithlon yn dal i fod yn fygythiad modern iawn. Yn wir, rhwng mis Gorffennaf 2019 a mis Mehefin 2020, cafwyd 675 o achosion o dipio anghyfreithlon ar draws Castell-nedd Port Talbot, 968 ar draws Sir Ddinbych, 1,034 ar draws Sir Fynwy, a 2,281 ledled Caerffili. Unigolion sy'n gwneud hynny—unigolion hunanol iawn, os caf i ychwanegu hynny—sy'n difetha ein cefn gwlad a'n hamgylchedd ac yn hytrach na mynd â'u hysbwriel i ganolfan y mae'r awdurdod lleol yn ei darparu, maent yn penderfynu mynd i wagio eu cerbyd, faniau yn aml, trelars. Ac i fod yn onest, mae'n warth a chywilydd llwyr arnynt. Fodd bynnag Rhondda Cynon Taf oedd testun y pryder mwyaf, ni chyhoeddwyd unrhyw hysbysiadau cosb benodedig er gwaethaf 2,816 o achosion a gofnodwyd rhwng 2019 a Mehefin 2020. Felly, i mi, mae angen rhwystr arnom ni, ac mae dyletswydd ar yr awdurdodau lleol, rwy'n credu, i ddarganfod pwy sy'n gwneud hyn, a sicrhau bod y dirwyon hynny'n swmpus, oherwydd mae angen rhwystr arnom ni yn gwbl bendant.

Felly, mae'r ffigurau'n awgrymu nad yw cynghorau, er bod ganddynt y pŵer, yn gallu gwneud y gwaith gorfodi. Felly, gyda'r ystadegau hyn mewn golwg, ac rwyf wedi codi hyn—rwyf wedi bod yn Aelod Cynulliad, yn Aelod o'r Senedd, ers naw mlynedd bellach—ar gynifer o achlysuron, rwy'n gofyn, a wnewch chi weithredu ar hyn nawr, i sicrhau bod awdurdodau lleol, gan roi COVID o'r neilltu nawr, mewn gwirionedd yn dechrau ystyried y dyletswyddau sydd ganddynt, a'r pwerau, ac yn dechrau gorfodi'n fwy cadarn? A wnewch chi ymrwymo i gynyddu cyllid awdurdodau lleol, i sicrhau bod canolfannau ailgylchu'n llawer haws eu cyrraedd? Mae eich strategaeth 'Mwy nag Ailgylchu' yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i gynyddu'r cymorth ariannol i'r sector er mwyn cynyddu gweithrediadau mewn ardaloedd gwledig. A gaiff y targed o £13 miliwn ei dargedu at drefi yn ogystal ag at ardaloedd gwledig? Ac a wnewch chi roi eglurder ynghylch eich cynlluniau ar gyfer cludo gwastraff mewn modd sy'n defnyddio adnoddau'n effeithlon ar gyfer cymunedau gwledig, yn enwedig eich cynlluniau ar gyfer trydaneiddio'r cerbydau hyn, a chynlluniau i wneud y gorau o lwybrau gwledig drwy wasanaethu dibenion deuol? Mae'n ymddangos bod y ddogfen yn awgrymu cyfuno gwasanaethau post a chasglu gwastraff, sy'n peri problemau yn fy marn i. A allwch chi gadarnhau hefyd a yw mannau gwefru ar bolion lamp a thechnoleg cerbyd i'r grid wedi'u hystyried yn rhan o'r cynlluniau trafnidiaeth gwastraff trydan hyn, fel y gall Cymru groesawu syniadau busnes yn gyntaf sy'n fentrus ac yn arloesol i gefnogi ymdrechion ein cenedl i leihau allyriadau?

Fel rwyf wedi dweud o'r blaen, canfu adroddiad diweddar gan WRAP Cymru fod modd ailgylchu 75 y cant o wastraff masnachol a diwydiannol a anfonwyd i'w losgi neu i safleoedd tirlenwi yng Nghymru mewn gwirionedd. Felly, mae hyn yn anghydnaws â llawer o'r ddeddfwriaeth—Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddfau eraill—yr ydym ni wedi eu pasio yn y fan yma. Dechrau da fyddai cyflwyno moratoriwm ar bob ymgynghoriad cynllunio sy'n ymwneud â llosgyddion newydd yn ystod y pandemig. Rwyf wedi crybwyll hynny. Rydych chi wedi dweud bod 45 y cant o allyriadau carbon yn dod o'r nwyddau a'r cynhyrchion yr ydym ni yn eu gwneud ac yn eu defnyddio ac, o'r herwydd, fod ailgylchu, ailddefnyddio, trwsio ac ailbrosesu, a dull newydd o ymdrin ag adnoddau yn ganolog i her yr argyfwng hinsawdd. Felly, gyda hyn mewn golwg, a wnewch chi amlinellu beth fyddwch chi'n ei wneud i weld cynlluniau a ariennir yn gyhoeddus yng Nghymru yn defnyddio deunyddiau naturiol ac ecogyfeillgar yn y lle cyntaf, fel gwlân Cymreig? [Torri ar draws.] Diolch. Mae gan Gymru'r potensial i fod hyd yn oed yn wyrddach ac yn well wrth ailgylchu, felly rwy'n erfyn arnoch i fod hyd yn oed yn fwy uchelgeisiol yn yr argyfwng hinsawdd hwn.

Ac mae gennyf un apêl arall, Dirprwy Weinidog. A wnewch chi, os gwelwch yn dda, weithio gyda Dŵr Cymru, a gadewch inni gael rhywfaint o addysg ynghylch y niwed y mae clytiau'n ei wneud i'n planed, newid yn yr hinsawdd ac, yn wir, ein cyflenwad dŵr? Oherwydd, pryd bynnag y byddaf yn cymryd rhan mewn diwrnod glanhau traeth, pryd bynnag yr af i'r gwaith trin carthion lleol ac ati, mae nifer y clytiau gwlyb a'r pethau y mae pobl yn eu rhoi yn y systemau yn broblem ddifrifol iawn, ac maen nhw yn achosi llawer o lygredd ledled Cymru, felly mae addysg yn allweddol. Ond rwy'n credu bod dyletswydd arnoch i weithio gyda Dŵr Cymru a gadewch i ni atal hyn unwaith ac am byth. Diolch.

16:10

A gaf i ddiolch yn gyntaf i'r Aelod am ei geiriau cynnes ac am ymuno â mi i gydnabod y gwaith y mae ein criwiau casglu wedi'i wneud a'u swyddogaeth ar hyd a lled y wlad ac mewn cymunedau yn ein hetholaethau, nid yn unig yn ystod y pandemig, ond drwy gydol y flwyddyn hefyd, a'r rhan y maent yn ei chwarae?

Gofynnodd yr Aelod rai cwestiynau am her tipio anghyfreithlon yn ein cymunedau, a chytunaf yn llwyr â hi fod hyn yn—dylem fod yn glir—ymddygiad gwrthgymdeithasol hollol annerbyniol, ac nid yw'n cael ei oddef ac ni chaiff ei oddef. Rydym yn gweithio'n agos gyda'n partneriaid yn yr awdurdod lleol i edrych ar y gwaith y gallwn ei wneud o ran gorfodi, ond hefyd mae'r Aelod yn codi pwyntiau pwysig ynghylch swyddogaeth addysgu.

Mae'n sôn am fynediad at gyfleusterau. Nawr, yn fy natganiad ac yn ein hymgynghoriad 'Mwy nag Ailgylchu', rydym ni wedi buddsoddi £1 biliwn yn yr 20 mlynedd diwethaf mewn seilwaith—seilwaith rhanbarthol a seilwaith sy'n golygu ein bod yn gallu ymdrin â'n hailgylchu a'i ailbrosesu. Ond yr hyn yr hoffem ni ei wneud yw mynd â hynny ymhellach, a buddsoddi yn y seilwaith cymunedol hwnnw, fel y gall pobl gael mynediad at gyfleusterau ar garreg eu drws heb orfod gyrru allan o'r dref, i'w gwneud hi mor hawdd â phosib i bobl wneud y peth iawn, ond hefyd mae hynny'n dod â manteision i drefi a chymunedau lleol hefyd, boed hynny drwy greu canolfannau ar gyfer trwsio ac ailddefnyddio, neu eu cyplysu â siopau diwastraff. A dyna pam yr wyf yn gobeithio y bydd y cyllid yr ydym ni wedi'i gyhoeddi'n ddiweddar yn helpu i gyfrannu, ochr yn ochr â'r gyfran ddiweddar o gyllid economi gylchol ar gyfer cyrff cyhoeddus a sefydliadau y gall cynghorau tref a chymuned wneud cais amdano y tro hwn hefyd. Felly, gallem weld mwy o brosiectau mewn trefi a chymunedau ledled y wlad, a gobeithio, felly, y gall eraill eu gweld ac yna gallwn eu cynyddu'n sylweddol ar draws y wlad.

Mae'r Aelod yn codi—dyma'r pwynt ynghylch llosgi. Gadewch inni fod yn glir: ein nod yw bod yn genedl ddiwastraff gydag economi fwy cylchol sy'n cadw adnoddau mewn defnydd ac sy'n osgoi gwastraff yn y lle cyntaf. Rhaid inni gyrraedd y sefyllfa yr hoffem ni fod ynddi ond, yn y cyfamser, mae arnom ni angen ffordd o ymdrin yn effeithiol â'n gwastraff na ellir ei ailgylchu mewn ffordd sy'n ei atal rhag llygru'r amgylchedd neu'n gweld y broblem yn cael ei throsglwyddo i fannau eraill. Ac mae gennym y cyfleusterau a all ddefnyddio'r gwastraff hwn i adfer ynni, ac mae gwres yn ffordd drosiannol bwysig o ymdrin â gwastraff yn unol â'r hierarchaeth wastraff. Ond yn yr ymgynghoriad 'Mwy nag Ailgylchu' buom yn sôn am gymryd cyfrifoldeb llawn am wastraff, ac mae hynny o lawr gwlad i'r Llywodraeth a phopeth yn y canol, ac roedd y ddogfen yn glir ynghylch llosgi ysbwriel fod hynny yn fesur trosiannol a'n cynllun hirdymor yw cadw adnoddau i'w defnyddio cyhyd ag y bo modd ac osgoi llosgi neu gladdu gwastraff.  

Hoffwn dalu teyrnged hefyd i'r rhai sy'n gweithio yn y sector gwastraff, yn enwedig staff awdurdodau lleol sydd wedi cadw'r olwynion casglu gwastraff yn troi drwy'r pandemig hwn. Sylwaf, Gweinidog, yn eich datganiad, yn amlwg mae pwyslais canmoladwy ar ailgylchu a'r economi gylchol, ond, wrth gwrs, y peth allweddol yma yw bod yn rhaid inni roi'r gorau i gynhyrchu'r gwastraff hwnnw yn y lle cyntaf, ac nid wyf yn clywed llawer yn eich datganiad am hynny. Ac fe hoffwn i chi ymhelaethu ar yr hyn yr ydych yn ei wneud yn hynny o beth, oherwydd mae ystadegau gan WRAP Cymru yn dweud wrthym ni ein bod yn cynhyrchu 400,000 tunnell o wastraff plastig yng Nghymru bob blwyddyn. Gwastraff deunydd pacio yw 67 y cant o hynny a dim ond 33 y cant o wastraff cartref yr ydym ni yn ei ailgylchu. Felly, er eich bod yn falch o record Cymru o ran ailgylchu, awgrymwyd i mi mai'r hyn sydd gennym ni, mewn gwirionedd, yw record dda o ran casglu deunydd ailgylchadwy yn hytrach na chael yr agwedd ailgylchu'n iawn o reidrwydd. Rydym ni wedi gweld sut mae rhywfaint o'r deunydd hwnnw'n diweddu mewn mannau na ddylai, ac mae ystadegau WRAP Cymru hefyd yn ein hatgoffa bod gennym ni ffordd bell, bell i fynd.

Mae eich datganiad yn dweud wrthym, a dyfynnaf:

'Fe'i gwnes hi'n glir y dylai ein hymagwedd at yr economi gylchol ymwneud â gweithredu a dyna'r hyn yr ydym ni yn ei wneud'.

Wel, rwyf wedi bod yn Aelod o'r Senedd hon ers naw mlynedd a hanner, bron i 10 mlynedd. Ddeng mlynedd yn ôl, roeddem yn sôn am yr angen am gynllun dychwelyd ernes. Rydym yn dal i sôn am yr angen am gynllun dychwelyd ernes. Ddeng mlynedd yn ôl, roedd y fan yma yn sôn am gyfrifoldeb estynedig y cynhyrchydd. Ddeng mlynedd yn ddiweddarach, rydym yn dal i siarad amdano. Ddeng mlynedd yn ôl, roeddem yn sôn am wahardd plastigau untro, a wyddoch chi beth? Rydym yn dal i sôn am wahardd plastigau untro. Os mai dyma'ch diffiniad o weithredu, Gweinidog, credaf fod gennym ni broblemau llawer dyfnach nag a ddychmygais erioed. Felly, a allwch chi ddweud wrthym ni pryd yn union y caiff y mentrau hyn eu cyflwyno? Oherwydd mae'n hen hen bryd, ac mae pobl fel fi wedi cael llond bol o aros am y gweithredu honedig yma.

Rwy'n edrych ymlaen at eich strategaeth economi gylchol newydd, i'w chyhoeddi ddiwedd eleni. Byddai gennyf ddiddordeb pe gallech chi efallai ymhelaethu ychydig ar sut y bydd hynny'n ystyried, wrth gwrs, yr holl sefyllfa o bandemig COVID yr ydym ni ynddi, a'r epidemig gwastraff newydd sy'n deillio o hynny o ran mygydau wyneb a menig ac eitemau un defnydd, sy'n bla nawr—a thybiaf y bydd rhyw fath o fentrau pwrpasol i geisio mynd i'r afael â'r materion penodol hynny—ond Brexit hefyd. Un o'r risgiau mawr a ddaw yn sgil Brexit fydd cynnydd enfawr mewn gwastraff bwyd, oherwydd yr hyn a welwn ni, o bosib, yw tarfu'n aruthrol ar gadwyni cyflenwi, gan arwain yn ddieithriad at gynhyrchu bwyd dros ben mewn rhai sectorau, ac un o'r rheini yw cig oen. Cafwyd adroddiadau yn y cyfryngau yr wythnos diwethaf y gallem ni fod yn wynebu hyd at 2 filiwn o garcasau ŵyn yn cael eu gwastraffu yn y DU yn unig, felly tybed pa gynlluniau wrth gefn a allai fod gennych chi fel Llywodraeth i baratoi eich hun ar gyfer hynny. Diolch.

16:15

Mae'r Aelod yn dweud ein bod yn dal i sôn am weithredu ar gynllun dychwelyd ernes, rydym yn sôn am gyfrifoldeb estynedig y cynhyrchydd ac rydym yn sôn am weithredu ar blastigau untro. Wel, i fod yn glir, nid siarad am y peth yn unig wyf i—rwy'n gweithredu yn ei gylch, ac mae'r Llywodraeth hon yn gweithredu yn ei gylch. Dyna pam yr ydym ni nid yn unig yn mynd ymhellach na rhannau eraill o'r DU o ran gweithredu i leihau plastigau untro, rydym yn edrych ar naw o'r plastigau untro mwyaf cyffredin, y rhai sy'n difetha ein cymunedau ac yn difetha ein strydoedd ac yn difetha ein moroedd, a'r rhai y gwyddom sy'n creu'r broblem fwyaf. Ond nid dim ond—. Dyma'r cam cyntaf nid yn unig o weithredu i ddiddymu plastigau untro yn raddol; un o'r pethau a fynegwyd yn ein hymgynghoriad 'Mwy nag Ailgylchu' oedd yr angen i edrych yn fwy cyfannol ar sut rydym ni, mewn gwirionedd, yn diddymu plastigau un defnydd yn raddol, am byth fel nad ydym yn symud y broblem i fannau eraill.

Ac rydym ni yn gweithredu drwy weithio gyda Llywodraeth y DU ar gynllun cyfrifoldeb estynedig y cynhyrchydd ac ar gynllun dychwelyd ernes. Y cynllun cyfrifoldeb estynedig y cynhyrchydd yw'r un a fydd yn wirioneddol drawsnewidiol o ran mynd i'r afael â'r materion hynny a grybwyllodd yr Aelod o ran lleihau gwastraff yn y lle cyntaf, a sbarduno'r newid hwnnw o ran y deunydd pacio y daw cynhyrchion ynddo drwy roi'r egwyddor y llygrydd sy'n talu ar y rhai sy'n cynhyrchu'r deunydd pacio yn y lle cyntaf. Lle gwelwn ni ar hyn o bryd eu bod yn talu tua 10 y cant o gost y deunydd pacio hwn, bydd cyfrifoldeb estynedig y cynhyrchydd yn golygu bod y cyfrifoldeb yn cynyddu i dalu 100 y cant o gost y deunydd pacio hwnnw.

O ran cynllun dychwelyd ernes, rydym yn awyddus i sicrhau bod hynny'n gweithio mewn ffordd sy'n gweithio i ni yng Nghymru, gan gydnabod ein bod mewn sefyllfa wahanol efallai i'n cyd-Aelodau mewn mannau eraill yn yr Alban ac yn Lloegr o ran ein sefyllfa parthed ailgylchu wrth ymyl y ffordd yn y lle cyntaf, gan weithio gyda busnesau Cymru a busnesau eraill i ystyried, mewn gwirionedd, sut yr ydym yn arloesi ac yn dewis technoleg fel, unwaith eto, na fyddwn ni yn wynebu canlyniadau anfwriadol. Felly, byddwn yn gweithio gyda'r aelwydydd hynny a dinasyddion Cymru sydd wedi gwneud eu rhan dros y blynyddoedd i wneud eu rhan mewn gwirionedd ac i ailgylchu eu deunyddiau wrth ymyl y ffordd, ac i weld sut y gall technoleg ddigidol eu galluogi hefyd i ddychwelyd eitemau cynllun dychwelyd ernes ar aelwydydd, fel nad oes rhaid iddynt gerdded bob cam yn ôl i beiriant gwerthu a dychwelyd nac i ganolfan gasglu o reidrwydd—felly, gweithio ar yr holl agweddau gwahanol.

Rydym ni—. Mae'r Llywodraeth hon yn gweithredu ac rydym ni wedi ymrwymo i barhau i arwain y ffordd, a sicrhau bod Cymru'n arweinydd byd-eang o ran nid yn unig ailgylchu, ond o ran mynd i'r afael â lleihau gwastraff yn y lle cyntaf.

16:20

Dirprwy Weinidog, a gaf i ddiolch i chi'n gyntaf am eich datganiad? A gaf i ddiolch i chi hefyd am y ffaith y byddwch chi, mewn gwirionedd, yn bresennol mewn sesiwn am blastig untro ym Mhontypridd ar-lein yn ddiweddarach yr wythnos hon, lle cewch gyfle hefyd i gyfarfod nid yn unig â phobl ifanc yn yr etholaeth, ond hefyd â fforwm ieuenctid Cyfeillion y Ddaear ym Mhontypridd, yr ydym yn cyfarfod â nhw yn rheolaidd i siarad am wahanol bosibiliadau a chynlluniau a allai fod ar gyfer ailgylchu?

A gaf i ddweud hefyd—? Fe wnaethoch chi gyfeirio yn eich datganiad at faint o gynnydd yr ydym ni wedi'i wneud. Credaf fod yn rhaid i ni ddechrau o safbwynt—ac efallai ei fod yn rhywbeth yn ymwneud â chenhedlaeth—pa mor bell yn ôl y gwnaethom ni lithro wedi'r 1950au a'r 1960au, oherwydd pan oeddwn yn blentyn roeddwn yn ailgylchu llawer iawn, yn casglu poteli gwydr o safleoedd adeiladu, cael y 4c yn ôl ar y poteli, mynd â nhw'n ôl i gael eu hailgylchu. Ac, wrth gwrs, pan aethoch i mewn i siop, papur fyddai'r holl fagiau, papur fyddai'r deunydd lapio ac yn y blaen. Felly, mae llawer o'r pethau yr ydym ni'n sôn am eu gwneud nawr yn bethau yr arferem ni eu gwneud, ac mae'n rhaid i ni ailgyfeirio llawer o'n busnes a'r ffordd yr ydym ni'n gwneud pethau i gyflawni hynny.

Ond a gaf i ddweud—mae un o'm hetholwyr wedi anfon ataf yr hyn sy'n gynllun dychwelyd ernes diddorol iawn sy'n cael ei gyflwyno yn America? Y cynllun yw bod cod bar ar boteli, pa un a ydyn nhw yn wydr, yn blastig ac ati. Mae ardoll ar yr holl boteli hynny, ac mae'r sawl sy'n eu prynu yn talu premiwm bach arnynt, ond, pan fyddant wedi gorffen gyda nhw, maent yn mynd â nhw i un o'r biniau ailgylchu mawr hyn, maent yn eu postio yno, darllenir y cod bar, ac maen nhw'n cael eu harian yn ôl. Nawr, dyma fersiwn sydd ychydig yn fwy soffistigedig i oedolion na'r hyn yr arferem ei wneud pan oeddwn yn blentyn yn casglu'r poteli hyn. Ond mae'n ymddangos i mi fod systemau a thechnolegau ar gael a all gyflawni llawer o hyn mewn gwirionedd, ac mae'n ymddangos i mi y byddai cynlluniau arbrofol fel hyn gyda thechnoleg mewn ardal sydd efallai â nifer o archfarchnadoedd ac yn y blaen yn ffordd o ddechrau ailgylchu o ddifrif, fel cynllun arbrofol, heb fod angen deddfwriaeth gymhleth. Tybed a yw hynny'n rhywbeth y byddai gennych chi ddiddordeb ynddo. Diolch.

A gaf i ddechrau drwy ddiolch i'r Aelod am ei gyfraniad meddylgar a myfyriol iawn yn y fan yna? Rwy'n credu eich bod yn llygad eich lle o ran sut yr ydym yn teimlo ein bod bron wedi cwblhau'r cylch o ran arferion defnyddwyr, pryd yr oedd yn ymwneud â chyfleustra, ac yna rydym wedi sylweddoli, mewn gwirionedd, fod cyfleustra'n costio mewn ystyr gwahanol hefyd—felly, edrych a meddwl mwy nawr am sut yr ydym yn defnyddio a'r ffordd yr ydym yn defnyddio pethau a'r angen, mewn gwirionedd, nid yn unig fel Llywodraeth i gymryd cyfrifoldeb a defnyddio ein grym a'n deddfwriaeth i sbarduno'r newid hwnnw, ond rhaid i ni hefyd—fel unigolion ein hunain, rhaid i ni feddwl, mewn gwirionedd, ynghylch sut yr ydym yn gwneud pethau a sut gallwn ni newid ein harferion ein hunain hefyd.

Mae'r Aelod yn sôn am y syniadau sydd ar gael o ran defnyddio technoleg arloesol a'r ffordd y gall technoleg ddigidol drawsnewid y sefyllfa yma o bosib, a dyna'n union yr oeddwn yn cyfeirio ato yn fy ateb blaenorol i'r cwestiwn blaenorol o ran archwilio yng Nghymru mewn gwirionedd sut yr ydym yn mynd ati i archwilio yng Nghymru sut gallwn ni ddod â dimensiwn gwahanol i, efallai, y dulliau traddodiadol hynny o gynlluniau dychwelyd ernes yn y ffordd y mae'r Aelod yn sôn amdani, o ran defnyddio technoleg ffonau clyfar. Rydym yn gweithio gyda busnesau i weld sut gallwn ni ddatblygu hynny mewn cynllun arbrofol yng Nghymru, ac rwy'n hapus i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelod am hynny, ac Aelodau eraill os ydyn nhw'n dymuno.

Yn olaf, rwy'n edrych ymlaen yn fawr at y digwyddiad yr wythnos hon. Rwyf wedi bod mewn ambell ddigwyddiad yn ddiweddar, ac mae cynulleidfa deilwng iawn bron bob amser ac fe glywir rhai syniadau gwych gan y rhai sy'n cyfrannu, sydd i gyd yn helpu i lywio cyfeiriad y maes hwn yn y dyfodol, y gwn i fod pobl, ac yn enwedig pobl ifanc, yn hynod o angerddol yn ei gylch mewn cymunedau ledled y wlad.

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n ategu llith Janet Finch-Saunders am glytiau gwlyb, sy'n enghraifft dda o'r ffordd y mae gweithgynhyrchwyr yn dyfeisio rhywbeth newydd y credant y gallant wneud arian allan ohono, a dyna lle mae cyfrifoldeb estynedig y cynhyrchydd yn berthnasol. Felly, byddai'n ddefnyddiol gwybod pa mor gadarnhaol yw eich sgyrsiau gyda Llywodraeth y DU i geisio ymestyn y math hwnnw o beth ledled y DU. A hefyd roeddwn eisiau rhefru ychydig am hambyrddau plastig du, oherwydd maen nhw'n gwbl ddiangen; mae digon o hambyrddau plastig eraill ar gael y gellir eu hailgylchu, ond ni ellir ailgylchu'r pethau hyn. Pam na fu'n bosib dod i gytundeb â Llywodraeth y DU ein bod yn gwahardd plastig du, ar y sail na ellir ei ailgylchu? Rwy'n sylweddoli bod poteli dŵr wedi cael adfywiad o ganlyniad i COVID, ond oni fyddai'n braf pe gallem ni fod yn codi dail yr adeg hon o'r flwyddyn, yn hytrach na photeli plastig? Felly, a allwch chi ddweud wrthym ni yn gyflym beth yw'r naw eitem blastig untro sydd fwyaf cyffredin o ran cael eu taflu ymaith a pha mor gyflym y gallwn ni weld eu dileu o'n cymdeithas?

16:25

Rwy'n diolch i'r Aelod am ei chwestiynau. Os caf i grybwyll y mater o glytiau gwlyb yn gyntaf, roeddwn i ar fai am beidio â chodi hynny yn fy ateb i Janet Finch-Saunders hefyd. Efallai mai cam cyntaf o ddull gweithredu fesul cam yw'r ymgynghoriad hwn ar blastigau untro, ac, o fewn yr ymgynghoriad hwnnw, rydym yn gwahodd pobl i awgrymu pethau y maen nhw'n credu efallai y dylid eu cynnwys neu beidio, neu y dylem ni eu hystyried mewn ail gam. Ac un o'r pethau y tynnir sylw ato fel rhywbeth i fynd i'r afael ag ef yw mater y clytiau gwlyb, a'r clytiau gwlyb hynny'n benodol a all gynnwys plastigau niweidiol sy'n andwyol i'r amgylchedd. Ac fel y dywedwch, maen nhw'n ymddangos mewn mannau lle na ddylen nhw fod, ar y traethau. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio ac mae wedi gweithio'n agos iawn gyda Dŵr Cymru yn hyn o beth mewn gwirionedd—ac fe fydd yn parhau i wneud hynny yn y tymor byr i ganolig gan roi negeseuon i'r cyhoedd ar sut y gellir cael gwared ar y rhain yn briodol dan yr amgylchiadau presennol hefyd.

Gyda chyfrifoldeb estynedig ar y cynhyrchydd, mae'r gwaith presennol a wnawn ni yn ymwneud, yn amlwg, â phecynnu'n benodol, ac fe fydd hynny yn helpu i fynd i'r afael â phethau fel y plastig du trafferthus hefyd. Mae'r syniad o gynyddu'r ffioedd modiwlaidd ar gyfer rhywbeth sy'n gwneud mwy o ddifrod i'r amgylchedd yn gymhelliant neu'n sbardun i gwmnïau neu gynhyrchwyr gynhyrchu pethau sy'n gwneud llai o ddifrod i'r amgylchedd ac y gellir eu hailfeddiannu a'u hailddefnyddio mewn rhyw ffurf neu'i gilydd i gyflawni uchelgeisiau ac egwyddorion economi gylchol.

Ym Mil Amgylchedd y DU, mae yna bwerau galluogi i Gymru, a fyddai'n cynnwys Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr ac, yn y dyfodol, fe allech chi edrych o ddifrif ar sut y gellid cymhwyso cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr i amrywiaeth o feysydd, nid pecynnu yn unig—fe allech chi edrych ar bethau fel tecstilau a deunyddiau trafferthus eraill. Felly, fe allai'r darn hwnnw o ddeddfwriaeth fod o bwys i ni yng Nghymru o ran adeiladu ar yr hyn yr ydym ni'n ei wneud eisoes a datblygu hynny ymhellach. Ond fe fyddwn i'n rhoi gair o rybudd yn ogystal â gair o anogaeth i'r Aelodau o bob rhan o'r Siambr i'n helpu ni i gyflwyno sylwadau ynglŷn â Bil y farchnad fewnol, yn benodol y pryderon ynghylch yr egwyddor o gydgydnabyddiaeth o fewn Bil y farchnad fewnol os daw'n ddeddf. Mae hynny'n caniatáu i unrhyw nwydd sy'n bodloni gofynion rheoliadol perthnasol sy'n ymwneud â gwerthiant yn y rhan o'r DU y caiff ei gynhyrchu ynddi neu ei fewnforio iddi, gael ei werthu mewn unrhyw ran arall o'r DU heb orfod cadw at ofynion rheoliadol perthnasol yn y rhan arall honno, a gallai hyn, yn ei hanfod, olygu y byddai'r Bil fel y mae ar hyn o bryd yn gallu ein hatal ni rhag gweithredu fel y gwnaethom o'r blaen ac fel y byddem yn dymuno ei wneud yn y dyfodol.

Felly, mae'r uchelgais yno a'r ymrwymiad a'r ewyllys i adeiladu ar ein record ni yng Nghymru a mynd y tu hwnt i ailgylchu o ran ein dull ni o leihau gwastraff yn y lle cyntaf a diddymu'r holl ddeunyddiau trafferthus hyn yn raddol. Ond mae gwir angen inni sicrhau na chaiff ein dwylo eu clymu wrth wneud hynny.

4. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip: Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb 2020

Fe symudwn ni nawr at eitem 4, sef datganiad can y Dirprwy Weinidog a'r Brif Chwip ar Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb 2020. Rwy'n galw ar Jane Hutt.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd dros dro. Heddiw rydym ni'n nodi Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb, digwyddiad cenedlaethol sy'n ceisio meithrin gwybodaeth a dealltwriaeth o ran troseddau casineb, gan annog pobl i roi gwybod amdanyn nhw, a hyrwyddo pwysigrwydd cymunedau'n gweithio gyda'i gilydd yn erbyn anoddefgarwch a rhagfarn.

Mae hon, wrth gwrs, yn Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb sy'n wahanol iawn i'r arfer. Un o gonglfeini'r wythnos ymwybyddiaeth yw sefydliadau'n mynd allan i fannau cyhoeddus ac yn ymgysylltu'n uniongyrchol â chymunedau ynghylch troseddau casineb. Mae'r amgylchiadau presennol wedi ei gwneud yn ofynnol i sefydliadau fynd ar-lein i gyrraedd pobl eleni. Ac mae'r wythnos hon hefyd yn dilyn y momentwm cymdeithasol y tu ôl i fudiad Black Lives Matter, sydd wedi tynnu sylw at anghydraddoldebau dybryd y mae angen i Gymru fynd i'r afael â nhw ar frys, yn cynnwys casineb a rhagfarn.

Yn ogystal ag ymgysylltu ar y cyfryngau cymdeithasol, fe fydd sawl digwyddiad a lansiad yn cael eu cynnal ar-lein yn ystod yr wythnos hon. Er enghraifft, heddiw mae Race Equality First yn cynnal lansiad rhithwir o'i brosiect gwahaniaethu a throseddau casineb, a fydd yn rhoi cymorth i ddioddefwyr troseddau casineb a gwahaniaethu ledled Cymru dros y tair blynedd nesaf.

Ddydd Sadwrn, fe fydd Cymorth i Ddioddefwyr Cymru yn lansio ei siarter troseddau casineb, sy'n dod â hawliau dioddefwyr troseddau casineb i'r rheng flaen. Fe fydd yn annog sefydliadau i fabwysiadu'r siarter i ddangos eu hymrwymiad nhw i fod â rhan yn y gwaith o fynd i'r afael â throseddau casineb, o ddarparu cymorth a gwybodaeth i ddioddefwyr i godi ymwybyddiaeth. Fe fydd Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i'r siarter ac rwy'n annog sefydliadau i gofrestru a dangos eu cefnogaeth nhw hefyd.

Ym mis Mawrth, fe arweiniais i ddadl ar ein cynnydd ni wrth fynd i'r afael â throseddau casineb yng Nghymru, ac fe roddais i'r wybodaeth ddiweddaraf am waith parhaus Llywodraeth Cymru a'r gwaith sydd ar y gweill ganddi. Ers hynny, mae ein pwyslais wedi bod, yn briodol, ar fynd i'r afael â phandemig COVID-19. Fe fu'n rhaid inni addasu'r gwaith a oedd wedi ei gynllunio gennym, er enghraifft, mae'r gwaith o gyflawni prosiectau troseddau casineb wedi symud ar-lein ac rydym yn gobeithio ailgychwyn gweithgarwch troseddau casineb mewn ysgolion erbyn diwedd y flwyddyn. Er hynny, rydym wedi gweld tystiolaeth glir hefyd o gymunedau cydlynol ledled Cymru, wrth i bobl ddod ynghyd i gefnogi ei gilydd drwy'r cyfnod heriol hwn. Mae'r ymrwymiad hollol newydd i wirfoddoli, i gefnogi cymdogion a'r rhai sydd fwyaf agored i niwed yn rhywbeth y mae'n rhaid inni barhau i'w ddathlu a'i drysori. Rwy'n gobeithio y gallwn ni barhau i adeiladu ar y cydberthnasau hyn wrth symud ymlaen.

Rydym wedi diwygio amserlen ein hymgyrch gyfathrebu Cymru gyfan ar droseddau casineb, a bydd lansiad yn digwydd yn gynnar y flwyddyn nesaf. Ymgyrch fawr fydd hon gyda'r amcan o dynnu sylw at yr effaith a gaiff troseddau casineb o ran ynysu dioddefwyr ac annog cefnogaeth y cyhoedd.

Mae ein timau cydlyniant cymunedol wedi bod yn allweddol i'n gwaith o gefnogi cymunedau a lliniaru tensiynau ledled Cymru yn ystod y pandemig. Mae'r hyblygrwydd a ddangoswyd gan y timau yn eu hymateb ar y cyd i her annisgwyl COVID-19 unwaith eto wedi tynnu sylw at werth anferthol y rhaglen.

Ond mae yna rai sy'n ceisio rhannu ein cymunedau ni â naratifau anfad ac ymrannol. Yn ddiweddar, mae unigolion manteisgar wedi ceisio elwa ar y ffordd annerbyniol y mae'r Swyddfa Gartref wedi cyfleu ei phenderfyniad i ddefnyddio gwersyll hyfforddi byddin Penalun i letya ceiswyr lloches heb ymgynghori nac ymgysylltu â'r gymuned leol a gwasanaethau cyhoeddus lleol. Ein nod ni yw bod yn genedl noddfa yng Nghymru, ac mae hynny'n golygu cefnogi'r rhai sy'n cyrraedd yma i ymdoddi'n effeithiol er budd cymunedau cyfagos, gan ddarparu cymorth a chefnogaeth i gyflawni hyn.

Drwy gyfrwng ein cyfarfodydd rheolaidd ni gyda'r heddlu a Chymorth i Ddioddefwyr, rydym wedi gweld adroddiadau am droseddau casineb, ar gyfartaledd, yn aros yn is drwy gyfnod y pandemig. Er na allwn ni fod yn sicr pam, mae'n bosibl ei fod o ganlyniad i ymbellhau cymdeithasol a phrinder cyfathrebu, neu fel arall oherwydd bod pobl yn gyndyn i roi gwybod am droseddau casineb oherwydd nad ydynt eisiau trafferthu'r heddlu yn ystod y cyfnod prysur hwn.

Fe wyddom drwy ein sgyrsiau gyda phob un o'r pedwar heddlu yng Nghymru fod troseddau casineb yn parhau i fod yn flaenoriaeth, ac rwy'n awyddus i achub ar y cyfle hwn i atgyfnerthu'r neges hon. Rydym yn annog dioddefwyr i ddal ati i ddod ymlaen ac adrodd am ddigwyddiadau yn ystod pandemig COVID-19, boed hynny i'r heddlu neu drwy'r Ganolfan Genedlaethol Adrodd am Droseddau Casineb a gaiff ei hariannu gan Lywodraeth Cymru, ac sy'n cael ei rhedeg gan Gymorth i Ddioddefwyr Cymru.

Fe hoffwn i ddiolch i'r heddlu, awdurdodau lleol, y trydydd sector, a'n holl bartneriaid am eu hyblygrwydd a'u dyfeisgarwch dros y misoedd diwethaf. Rydym yn parhau i fod yn ddiolchgar am eu cefnogaeth a'u harbenigedd.

Yn y gorffennol, rwyf wedi tynnu sylw at adolygiad Comisiwn y Gyfraith o ddigonolrwydd a chydraddoldeb yr amddiffyniad y mae deddfwriaeth troseddau casineb yn ei gynnig. Fe gyhoeddodd ei bapur ymgynghori ar 23 Medi. Mae Comisiwn y Gyfraith yn dymuno clywed gan gynifer o randdeiliaid â phosibl, gan gynnwys dioddefwyr troseddau casineb a'r darparwyr gwasanaethau sy'n eu cefnogi nhw. Rwy'n annog pobl yn gryf iawn i gymryd rhan, gan ei bod yn bwysig i'r ymgynghoriad allu clywed am safbwyntiau a phrofiadau yng Nghymru.

Yng ngweddill y tymor Seneddol, rydym yn bwriadu gosod y sylfeini ar gyfer gweithgarwch yn y maes hwn i'r dyfodol. Yn ogystal ag ymateb i ymgynghoriad Comisiwn y Gyfraith, fe fyddwn ni'n gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu egwyddorion cydlyniant cymunedol i ddod o hyd i nodau cyffredin a fydd yn meithrin ac yn hyrwyddo cydlyniant cymunedol yng Nghymru. Ac yn rhan o'r gwaith hwn, fe fyddwn ni'n cynhyrchu diweddariad ar gamau gweithredu yn y fframwaith troseddau casineb. Rydym yn gweithio ar bartneriaeth newydd gyffrous hefyd gyda dangosfwrdd HateLab Prifysgol Caerdydd, i gynyddu ein gallu ni i fonitro ac ymateb i gasineb ar-lein.

Heddiw, fe gyhoeddwyd ystadegau troseddau casineb cenedlaethol 2019-2020 ar gyfer Cymru a Lloegr. Roedden nhw'n dangos cynnydd cyffredinol o 2 y cant mewn troseddau casineb a gofnodwyd yng Nghymru, o'i gymharu â chynnydd o 8 y cant ledled Cymru a Lloegr i gyd. Roedd yr ystadegau yn cynnwys cynnydd o 10 y cant mewn troseddau casineb trawsryweddol, cynnydd o 2 y cant mewn troseddau casineb anabledd, a chynnydd o 2 y cant mewn troseddau casineb lle mae cyfeiriadedd rhywiol yn ffactor ysgogol. Fe fu yna ostyngiad o 2 y cant mewn troseddau casineb hiliol a gostyngiad o 3 y cant mewn troseddau casineb crefyddol. Nid ydym wedi gweld yr un lefel o gynnydd ar draws pob elfen o droseddau casineb ag y gwnaethom yn y flwyddyn flaenorol. Eto i gyd, mae'r ystadegau yn dangos bod y codiadau a welsom yn 2018-19 wedi parhau.

Yn ogystal â hynny, fe wyddom fod tua hanner y digwyddiadau casineb hunan-gofnodedig yn parhau i fod heb eu cofnodi fel troseddau casineb ledled y DU. Fe allai hyn amrywio—y rhesymau am hyn—oherwydd diffyg ffydd yn y system cyfiawnder troseddol neu oherwydd nad yw pobl yn gwybod sut i adrodd am droseddau casineb. Mae ein gwaith ni o godi ymwybyddiaeth am droseddau casineb ac annog dioddefwyr i adrodd yr un mor hanfodol ag erioed, fel y mae ein hymdrech ni i ddeall profiadau dioddefwyr yn well a'r rhesymau dros beidio â dymuno rhoi gwybod am y digwyddiadau.

Ledled Cymru, mae sefydliadau'n defnyddio Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb fel cyfle i atgoffa pobl nad oes yn rhaid iddyn nhw ddioddef casineb na rhagfarn. Nid yw'n dderbyniol i bobl fyw mewn ofn oherwydd pwy ydyn nhw. Rwy'n gobeithio y bydd pob Aelod yn ymuno â mi i gefnogi'r neges glir iawn hon heddiw nad oes lle i gasineb yng Nghymru. Diolch yn fawr.

16:35

Rwy'n diolch i'r Dirprwy Weinidog am ei datganiad heddiw. Rwyf i'n llwyr gefnogi'r Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb, er fy mod i'n gresynu'n fawr fod angen hynny arnom ni yn yr oes bresennol.

Mae troseddau casineb yn broblem gynyddol yn ein gwlad ni, ac yn anffodus, nid yw Cymru'n eithriad i hynny. Roedd heddluoedd yng Nghymru a Lloegr wedi cofnodi cynnydd o 10 y cant mewn achosion o droseddau casineb yn 2018-19, fel yr amlinellwyd gennych. Roedd y cynnydd hwn yn gyffredinol: cynnydd o 3 y cant mewn troseddau casineb crefyddol, troseddau casineb anabledd yn cynyddu 14 y cant, cynnydd o 25 y cant mewn troseddau casineb oherwydd cyfeiriadedd rhywiol, a throseddau casineb trawsryweddol wedi cynyddu 37 y cant.

Er ei bod yn debygol fod y cynnydd mewn troseddau casineb yn deillio o welliannau o ran cofnodi gan yr heddlu, ac mae yna ymwybyddiaeth gynyddol o droseddau casineb ar hyn o bryd, nid oes amheuaeth nad yw'r broblem yn gwaethygu. A ydych chi'n cytuno, Dirprwy Weinidog, fod angen mesurau eto i fynd i'r afael â throseddau casineb yng Nghymru?

Er bod y mwyafrif llethol y troseddau hyn yn seiliedig ar hil neu grefydd—

Trefn. Rwy'n ofni bod gennym ni wall technolegol, ac rwy'n credu ein bod wedi colli Zoom. Felly, rwyf am atal y cyfarfod am ennyd tra bydd y technegwyr yn ceisio ailsefydlu'r cysylltiad, ac yna fe fyddwn ni'n dod yn ôl atoch chi, Laura.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 16:38.

16:40

Ailymgynullodd y Senedd am 16:44, gyda David Melding yn y Gadair.

Trefn. Croeso nôl. Rwy'n falch o ddweud ein bod ni wedi datrys y materion technegol, ac rwy'n galw ar Laura Anne Jones.

Diolch, Llywydd dros dro. Rwy'n diolch i'r Dirprwy Weinidog am ei datganiad heddiw, ac yn diolch iddi am y gwaith a wnaeth hyd yn hyn hefyd, ynglŷn â hyn. Rwy'n llwyr gefnogi'r Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb, er fy mod i'n gresynu'n fawr fod angen hynny arnom yn yr oes bresennol. Mae troseddau casineb yn broblem gynyddol yn ein gwlad, ac yn anffodus, nid yw Cymru'n eithriad i hynny. Roedd heddluoedd yng Nghymru a Lloegr wedi cofnodi cynnydd o 10 y cant mewn achosion o droseddau casineb yn 2018-19, fel yr amlinellwyd gennych. Roedd y cynnydd hwn yn gyffredinol: cynnydd o 3 y cant mewn troseddau casineb crefyddol, troseddau casineb anabledd yn cynyddu 14 y cant, cynnydd o 25 y cant mewn troseddau casineb oherwydd cyfeiriadedd rhywiol, a throseddau casineb trawsryweddol wedi cynyddu 37 y cant.

Er ei bod yn debygol fod y cynnydd mewn troseddau casineb yn deillio o welliannau o ran cofnodi gan yr heddlu, ac mae yna ymwybyddiaeth gynyddol o droseddau casineb ar hyn o bryd, nid oes amheuaeth nad yw'r broblem yn gwaethygu. A ydych chi'n cytuno, Dirprwy Weinidog, fod angen mesurau ychwanegol i fynd i'r afael â throseddau casineb yng Nghymru? Er bod mwyafrif llethol y troseddau hyn yn seiliedig ar hil neu grefydd, mae cynnydd annymunol mewn troseddau yn erbyn pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol a phobl anabl. Fe ddywedodd Nancy Kelley, prif weithredwr Stonewall, nad oedd hi'n credu bod y cynnydd yn ymwneud â gwelliant yn yr adrodd. Ychwanegodd nad yw 80 y cant o bobl LGBT byth yn adrodd am droseddau casineb. Felly, dim ond crafu'r wyneb yw hyn mewn gwirionedd. Sut allwn ni argyhoeddi pobl bod angen iddyn nhw ddod ymlaen a rhoi gwybod am achosion o droseddau casineb?

Un o'r camau allweddol i'w cymryd yw rhoi sicrwydd i ddioddefwyr bod adrodd am droseddau casineb yn werth y drafferth. Er hynny, mae nifer y bobl sy'n cael eu herlyn am droseddau casineb homoffobig yn llai, er gwaethaf y cynnydd yn nifer y dioddefwyr posibl sy'n dod ymlaen. Fe gynyddodd adroddiadau a gofnodwyd am gam-drin homoffobig yn y DU o ychydig o dan 6,000 yn 2014-15 i dros 13,000 yn 2018-19, ond yn ystod yr un cyfnod, fe ostyngodd nifer yr erlyniadau o 1,500 i ychydig dros 1,000—o 20 y cant.

Yn yr un modd, mae'r ffigurau yn dangos mai dim ond pedwar o bobl a gyhuddwyd o drosedd casineb yn erbyn pobl anabl yng Nghymru llynedd, er gwaethaf 268 o gwynion. Fe wn i fod heddluoedd yng Nghymru yn cymryd y mater hwn o ddifrif. Mae gan Heddlu Gwent, er enghraifft, dîm o swyddogion cymorth troseddau casineb sydd wedi cael hyfforddiant ychwanegol i gefnogi dioddefwyr, cynnig cyngor a chyfeirio dioddefwyr at sefydliadau eraill a allai gynnig cymorth pellach. A wnewch chi ddweud wrthym pa drafodaethau mewn gwirionedd a gawsoch chi gyda'r heddluoedd, y comisiynwyr ac eraill i fynd i'r afael â'r broblem hon o'r gyfradd isel o euogfarnau am y troseddau hyn?

Yr hyn sy'n peri pryder, hefyd, fel yr amlinellwyd gennych, Gweinidog, yw'r cynnydd mewn troseddau casineb ar-lein. Cafwyd cynnydd arbennig o fawr mewn troseddau casineb ar-lein yn erbyn pobl anabl. Mae pandemig COVID-19 yn golygu y caiff pobl anabl eu cyfyngu i'w cartrefi gyda dim ond technoleg ddigidol i'w cadw nhw mewn cysylltiad â'r byd y tu allan. Felly, mae hwn yn destun pryder fod pobl anabl yn dioddef troseddau casineb ar-lein. Pa gamau y byddwch chi'n eu cymryd i fynd i'r afael â'r cam-drin hwn ar-lein, Gweinidog? Rwy'n croesawu'r ffaith eich bod chi'n cydweithio â Phrifysgol Caerdydd yn hyn o beth ac fe hoffwn i glywed ychydig mwy am hynny, os oes modd.

Ni ddylai unrhyw unigolyn yng Nghymru ddioddef rhagfarn na throsedd casineb. Rwy'n croesawu'r datganiad heddiw ac ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau bod pawb sy'n dioddef troseddau casineb yn cael eu cefnogi a bod y troseddwyr cael eu dwyn i gyfrif. Rwy'n cymell pobl hefyd i gymryd rhan yn y digwyddiadau ar-lein yr wythnos hon. Diolch.

16:45

Diolch yn fawr iawn i chi, Laura Anne Jones. Diolch am eich cefnogaeth i'r datganiad heddiw, gan ein hatgoffa ni, unwaith eto, bod troseddau casineb yn difetha bywydau llawer iawn o bobl. Nid oes amheuaeth nad oes angen y mesur pellach hwn arnom a'r gymeradwyaeth gennych chi heddiw, i fynd i'r afael â hyn, yn arbennig o ran ein hwythnos ni o ymwybyddiaeth o droseddau casineb.

Rwy'n arbennig o falch, ac fe fyddaf i'n gwneud sylwadau ar y pwyntiau a wnaethoch chi, o ran y dystiolaeth gan Stonewall Cymru a'r effaith ar bobl LGBT a phobl anabl hefyd. A hoffwn ddweud hefyd fy mod i wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cartref llynedd i annog Llywodraeth y DU i gydnabod troseddau casineb sy'n cael eu hysgogi gan gyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth drawsryweddol neu anabledd, fel troseddau difrifol, gan sicrhau eu bod nhw'n cael eu trin yn yr un ffordd ag y caiff troseddau casineb hiliol a chrefyddol eu herlyn. Felly, rydym yn aros am ganlyniad adolygiad Comisiwn y Gyfraith, fel y dywedais yn fy natganiad. Mae'r papur ymgynghori ar gael nawr ac rwy'n eich annog chi i gymryd rhan ac ymateb i'r adolygiad hwnnw.

Rwyf i o'r farn hefyd fod y materion a godwyd gennych sy'n ymwneud â phobl anabl yn berthnasol iawn heddiw ac rwy'n falch o gael y cyfle i gydnabod bod hwn hefyd yn fater lle gallwn ni droi ato am ymateb gan Gomisiwn y Gyfraith. Felly, rwy'n credu ei bod yn arbennig o bwysig, unwaith eto, ein bod ni'n edrych ar y cyfraddau sy'n gwanhau ar gyfer troseddau casineb anabledd. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod dioddefwyr troseddau casineb yn cael eu cefnogi a bod y troseddwyr yn cael eu dwyn i gyfrif o ran troseddau casineb anabledd. Rydym ni'n gweithio, er enghraifft, gyda Phobl yn Gyntaf Cymru Gyfan i godi ymwybyddiaeth o droseddau casineb. Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am droseddau casineb, ond rydym yn gweithio'n agos iawn gyda'r bwrdd cyfiawnder troseddol troseddau casineb i gynyddu'r achosion o adrodd am droseddau casineb a gwella cyfradd yr erlyniadau. Fel yr ydych chi'n dweud, Laura Anne, mae hynny'n hollbwysig, ac mae ein hymgysylltiad ni â'r heddlu yn allweddol i hynny.

Fe hoffwn i ddweud gair, yn olaf, am gasineb ar-lein. Mae'r HateLab ym Mhrifysgol Caerdydd yn bwysig iawn i ni. Fe fyddwn ni'n gleient yng nghynllun peilot dangosfwrdd HateLab—mae'n gweithio mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd. Mae'n helpu i nodi tueddiadau mewn areithiau casineb ar-lein, gan ddefnyddio mapio hashnodau, geiriau allweddol a dylanwadau'r cyfryngau cymdeithasol, ac fe fydd yn helpu i archwilio'r tarddle sy'n sail i densiynau mewn cymuned. Rydym yn gobeithio y bydd hwn yn ein galluogi ni i greu cyfathrebu wedi ei dargedu'n well. Ac, yn wir, oherwydd bod hwnnw gennym ni ym Mhrifysgol Caerdydd, fe allwn ni ei baru â'n gwaith ni ein hunain a meithrin cymunedau cydlynol yng Nghymru. Felly, diolch yn fawr iawn i chi, Laura Anne, am y cyfraniadau adeiladol iawn i'r datganiad y prynhawn yma.

16:50

Mae'n ddiddorol sut y gall gwahanol ystadegau adrodd gwahanol straeon. Mae'r Gweinidog yn defnyddio ffigurau'r heddlu, ond mae data llwyth achosion o Adroddiad Cenedlaethol Cymorth i Ddioddefwyr ar Droseddau Casineb a Chanolfan Gymorth Cymru yn dangos bod achosion o droseddau casineb wedi cynyddu 70 y cant rhwng mis Ebrill a mis Medi eleni. Nawr, rwy'n siŵr na fydd hynny'n syndod mawr i lawer, yn enwedig i rai mewn grwpiau lleiafrifol. Mae llawer o bobl yn dweud y gallan nhw ei synhwyro ac fe welwch chi ar-lein sut yn union y gall hynny fynd o ddrwg i waeth. Ac ni fydd o unrhyw syndod ychwaith, i'r rhai ohonom ni sydd wedi sylwi ar y ffordd y mae rhai yn gwneud môr a mynydd o fewnfudo, er enghraifft, ac yn fwyaf nodedig, yn sgil y digwyddiadau ym Mhenalun yn yr wythnosau diwethaf. Mae'r asgell dde eithafol yn defnyddio mater Penalun i'w harfogi ei hunan, ac maen nhw'n cael eu cefnogi a'u hysgogi gan elfennau o'r asgell dde eithafol sy'n eistedd yn y Senedd hon. Felly, a wnaiff y Gweinidog ymuno â mi i gondemnio'r rhai sy'n ceisio elwa'n wleidyddol ar y sefyllfa ofnadwy y mae ffoaduriaid yn eu cael eu hunain ynddi? A wnewch chi ymuno â mi hefyd i ddweud 'da iawn' wrth y Cynghorydd Joshua Beynon ac eraill sydd wedi amddiffyn y ffoaduriaid ym Mhenalun ac wedi cael eu sarhau am wneud hynny? A wnewch chi ddweud wrthym beth y gallwch chi ei wneud i atal ffoaduriaid ym Mhenalun rhag cael eu barnu, a pha gamau y gwnewch chi eu cymryd i atal yr asgell dde eithafol rhag ymgynnull yn y fan honno? Ac, yn olaf, pa adnoddau y gallwch chi eu rhoi i ysgolion a grwpiau cymunedol i'w galluogi nhw i herio'r ymddygiadau ar lefel gymharol isel sy'n gallu troi'n droseddau casineb? Mae'n amlwg nad ydym yn gwneud digon i fynd i'r afael â hyn yn llygad y ffynnon, neu fel arall ni fyddai angen cael diwrnod trosedd casineb yn flynyddol na dadl yn y Senedd hon ynglŷn â hyn. Felly, Gweinidog, rwy'n siŵr y byddech chi'n cytuno â'r pwynt hwnnw hefyd.

Diolch yn fawr iawn, Leanne Wood. Mae'n bwysig iawn eich bod chi'n tynnu sylw at brofiad byw gwirioneddol dioddefwyr troseddau casineb a'ch bod chi'n tynnu sylw at dystiolaeth ac ystadegau'r rhai sy'n cefnogi dioddefwyr troseddau casineb mewn gwirionedd. Mae angen inni gydnabod hynny a chydnabod hynny, yn wir, yn ogystal ag ystadegau'r Swyddfa Gartref.

Soniais am y ffordd amhriodol y gorfodwyd gwersyll byddin Penalun yn anghymwys gan y Swyddfa Gartref ac yna ei glustnodi'n ganolfan i letya ceiswyr lloches, a'r modd y gwnaed hynny, heb ymgynghori nac ymgysylltu â'r gymuned leol a gwasanaethau lleol. Ac fe fyddwn innau'n ymuno â chi i gydnabod dewrder pobl leol ac, yn wir, gynrychiolwyr etholedig fel y Cynghorydd Josh Beynon ac eraill. Ond rwyf wedi codi mater gwersyll Penalun, ac nid myfi yn unig, ond y Prif Weinidog hefyd, sydd wedi ysgrifennu dair gwaith at yr Ysgrifennydd Cartref ac wedi ysgrifennu at Chris Philp ar 9 Hydref. Yn ei lythyr, fe ddywedodd, 'Rwy'n ysgrifennu ar fyrder am y sefyllfa barhaus sy'n peri pryder mawr yng ngwersyll hyfforddi Penalun yn Sir Benfro. Credaf mai un o'r pethau am hyn a'r ffordd y digwyddodd yw ei fod wedi rhoi hwb i safbwyntiau asgell dde eithafol ddod i'r wyneb a difetha bywydau'r ceiswyr lloches hynny yn ogystal â'r gymuned leol. Fe wyddom fod yr asgell dde eithafol yn bodoli yn y DU; ein dyletswydd gyffredin ni yw ei gwrthsefyll.

Ond rwyf am ddweud bod llawer o gefnogaeth yn cael ei rhoi i gefnogi'r ceiswyr lloches a gafodd eu symud i wersyll hyfforddi byddin Penalun yn Sir Benfro. Mae Cymorth Mudol yn cydlynu cynigion o gefnogaeth, rwyf i wedi cyfarfod â'r fforwm cymunedau ffydd a'r eglwysi lleol, mae'r imam yn cymryd rhan, mae canolfan Oasis yn darparu hyfforddiant i ddysgu Saesneg, mae Cymorth i Ddioddefwyr yn ymgysylltu ag unigolion sy'n ymwneud â throseddau casineb, ac mae llawer o sefydliadau eraill, yn ogystal â'r gymuned leol, yn ceisio deall a llenwi'r bylchau yn y gwasanaethau lle mae modd.

Felly, rwy'n falch bod Leanne Wood wedi dod â hyn ger fy mron mewn cwestiynau ar y datganiad hwn. Ond hoffwn ddweud hefyd, fel y dywedodd hithau, ei bod yn hanfodol bwysig ein bod ni'n ymestyn allan at ein plant a'n pobl ifanc ni. Roeddem eisoes wedi dyfarnu cyllid i amrywiaeth o sefydliadau i fynd i'r afael â throseddau casineb, yn enwedig gydag ysgolion a chyda phobl ifanc. Mae gennym brosiect troseddau casineb gwerth £350,000 mewn ysgolion; fe gafodd hwnnw ei ariannu gyda chyllid pontio'r UE. Yr holl bwrpas yw creu hinsawdd ysgol lle nad yw rhagfarn nac ymddygiad casineb yn dderbyniol, ond yn caniatáu i blant ddatblygu safbwyntiau a barn amrywiol. Fe gafodd hyn ei ohirio gan COVID-19, ond, mewn gwirionedd, mae'r prosiect hwnnw'n mynd i symud ymlaen o ran hyfforddiant staff, gweithgarwch yn yr ystafell ddosbarth, pecynnau adnoddau, ymgysylltu â phlant a phobl ifanc yng nghyfnod allweddol 2 a chyfnod allweddol 3 cynnar, sy'n aml yn cael eu heithrio o sgyrsiau sy'n ymwneud â throseddau casineb, a bydd y gwaith hwnnw'n mynd yn ei flaen nawr.

16:55

Diolch yn fawr iawn i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip am ei datganiad am Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb, ac rwyf innau'n cytuno fod yna wahanol ystadegau a fydd yn cynnig gwahanol fesurau. Ond mae rhagwelediad o'r datganiad hwn i'w weld yn yr ystadegau troseddau casineb cenedlaethol 2019-20 ar gyfer Cymru a Lloegr a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Gartref heddiw. Mae'n dangos y cynnydd cyffredinol o 2 y cant mewn troseddau casineb a gofnodwyd yng Nghymru, o'i gymharu â chynnydd o 8 y cant ledled Cymru a Lloegr gyfan. Serch hynny, mae'r cynnydd llai hwn yn gynnydd y byddwn ni yng Nghymru yn gwneud popeth o fewn ein gallu i'w wrthsefyll.

Fel y dywedodd y Gweinidog, roedd yr ystadegau yn cynnwys cynnydd o 10 y cant mewn troseddau casineb trawsryweddol, cynnydd o 2 y cant mewn troseddau casineb anabledd a chynnydd o 2 y cant mewn troseddau casineb lle mae cyfeiriadedd rhywiol yn ffactor ysgogol iddo. Mae hyn yn ychwanegol at y cynnydd strategol diweddar, fel y crybwyllwyd gan Leanne Wood, mewn troseddau casineb dros y ddwy flynedd ddiwethaf, yn groes i'r duedd gynharach. Yn rhy aml o lawer, credaf y gallwn ni syrthio i'r fagl hon o gredu ein bod ni'n ymdrin â rhywbeth haniaethol, gyda data a materion damcaniaethol yn Siambr y Senedd hon, Senedd Cymru, ond y tu ôl i bob un o'r ffigurau hyn mae bywydau unigolion, straeon am fodau dynol unigol, mamau a thadau, neiniau a theidiau, brodyr a chwiorydd, a'u bywydau nhw'n cael eu difetha yn y gymdeithas, gan weithiau deimlo'n ddarostyngedig, yn wahanol ac yn wrthodedig. Felly, Dirprwy Weinidog, fel y crybwyllwyd, dim ond crafu'r wyneb a wna hyn o'r troseddau yr adroddwyd amdanynt; mae yna doreth o dan yr wyneb.

Gweinidog, yn dilyn cyhoeddiadau yn ddiweddar am fesurau, am y 'Genedl Noddfa', ac am Lywodraeth Cymru yn llofnodi siarter troseddau casineb Cymorth i Ddioddefwyr Cymru, sut y gall Llywodraeth Cymru barhau yn ei hymdrech wirioneddol a gweithgar i ddileu ymhellach y pla o droseddau casineb a sut y gall Llywodraeth Cymru gynorthwyo gwaith asiantaethau partner hanfodol a phwysig, megis Heddlu Gwent yn fy etholaeth i, sy'n gweithio'n ddygn i amddiffyn yr holl ddinasyddion y maen nhw'n eu cynrychioli? Ac i gloi, fe hoffwn i adleisio'r Dirprwy Weinidog hefyd: os ydych chi wedi dioddef oherwydd unrhyw drosedd casineb, dewch ymlaen a soniwch am hynny, oherwydd fe fydd Cymru'n gwrando ac fe fydd Cymru'n gwneud rhywbeth. Diolch.

17:00

Diolch yn fawr iawn, Rhianon Passmore. Fel y dywedwch, mae'r ystadegau sydd gennym ni heddiw yn dangos mai dim ond crafu'r wyneb yr ydym ni o ran troseddau na chawsant eu hadrodd, ac fe geir tystiolaeth eglur iawn o hynny gan y partneriaid hynny sy'n gweithio i ateb anghenion dioddefwyr troseddau casineb. Rwy'n credu ei bod yn bwysig cydnabod yr arian ychwanegol a ddarparwyd gennym ar gyfer yr adroddiad cenedlaethol ar droseddau casineb a'r ganolfan gymorth—sy'n cael ei rhedeg gan Gymorth i Ddioddefwyr Cymru—£360,000 dros ddwy flynedd, arian sy'n ychwanegol i'w cyllid blynyddol nhw, ac yn buddsoddi'n arbennig mewn gwaith i fynd i'r afael â throseddau casineb yng Nghymru. Hefyd mae'n bwysig cydnabod y ffaith fod gennym brosiectau troseddau casineb cymunedau lleiafrifol ar gyllid grant gwerth £480,000 ledled Cymru, ac rydym yn lansio ymgyrch gyfathrebu troseddau gwrth-gasineb yn gynnar y flwyddyn nesaf hefyd. Gyda'r ymgyrch honno rydym yn edrych ar sut y gallwn ni dynnu sylw at yr effaith a gaiff troseddau casineb o ran ynysu unigolion, a thynnu sylw at y cymorth sydd ar gael, gan annog tystion a throseddwyr posibl i feddwl yn wahanol am eu hymddygiad nhw.

Rwy'n credu ei bod yn bwysig inni edrych ar y grant Cymorth i Ddioddefwyr Cymru, a'r contract sydd gennym ni gyda nhw, ac rydym wedi ei wella—roedd y gwasanaeth presennol wedi rhoi cymorth i 2,017 o gleientiaid, ac mae 23 y cant o'r holl atgyfeiriadau a gafwyd yn ymwneud â throseddau casineb, gyda 334 yn cael cymorth yn y flwyddyn ariannol gyfredol hyd yn hyn. Mae'n bwysig cydnabod hefyd bod cleientiaid fel arfer yn cael eu cyfeirio at gymorth gan yr heddlu—90 y cant gan yr heddlu—sydd yn dangos eu hymrwymiad nhw i hyn yn fy marn i, ond mae hunangyfeirio hefyd wedi gostwng llawer i lawr i 7.2 y cant, felly rydym ni'n ddibynnol iawn ar yr heddlu.

Rwy'n diolch i Rhianon Passmore—

Trefn. Rwyf am atal y cyfarfod nes i ni ailsefydlu cysylltiad y Dirprwy Weinidog. Mae wedi bod yn fwy nag eiliad erbyn hyn, rwy'n ofni.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 17:02.

Ailymgynullodd y Senedd am 17:09, gyda David Melding yn y Gadair.

17:05

Trefn. Mae'n ddrwg gennyf hysbysu'r Aelodau nad ydym wedi llwyddo i ailgysylltu â band eang y Dirprwy Weinidog. Roeddem ni'n tynnu at derfyn yr eitem honno ac mae arnaf ofn y bydd raid imi ymddiheuro i Joyce Watson, yr oeddwn i'n mynd i alw arni i fod y siaradwr olaf i gyflwyno cwestiwn. Ond ymddiheuriadau, Joyce, mae'r dechnoleg wedi mynd yn drech na ni. Rydym wedi cael hwyl arni gyda'r dechnoleg yn gyffredinol, ond fe fu yna ychydig o heriau heddiw, rwy'n ofni.

17:10
5. Datganiad gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Mynd i'r Afael â Pharcio ar y Palmant

Felly, symudwn nawr at eitem 5, sy'n ddatganiad gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ynglŷn â mynd i'r afael â pharcio ar y palmant. Lee Waters.

Diolch. I rieni sydd â chadeiriau gwthio neu bobl mewn cadeiriau olwyn, gall parcio ar y palmant fod nid yn unig yn niwsans, ond hefyd yn berygl. Rwyf wedi bod am dro gydag unigolyn dall o amgylch ei ystad dai ac wrth ddod ar draws car yn gorchuddio y rhan fwyaf o'r palmant, fe wnaeth ei gi tywys yr hyn yr hyfforddwyd i'w wneud—fe'i arweiniodd i mewn i'r ffordd, yn hytrach na cheisio gwasgu drwy'r bwlch cul. Mae hwn yn ddigwyddiad beunyddiol i lawer o bobl sy'n agored i niwed. Pan fyddant yn dod ar draws ceir wedi'u parcio ar fannau sydd ar eu cyfer hwy, cânt eu gorfodi i gamu i'r ffordd. Ac nid yw'n syndod bod rhai'n dweud bod ofni wynebu'r perygl hwn yn peri iddynt aros gartref—ymddygiad gwrthgymdeithasol gan leiafrif sy'n achosi niwed i'r mwyafrif.

Rydym eisiau i fwy o bobl gerdded ar gyfer teithiau byr ac eto rydym yn goddef amgylchedd nad yw'n aml yn ystyriol o gerddwyr—mae gormod o lwybrau'n llawn annibendod neu wedi eu rhwystro. Canfu arolwg diweddar fod 83 y cant o bobl yng Nghymru yn ystyried hyn yn broblem gyffredin, yn broblem fawr neu'n broblem fawr iawn. Nid yw'r gyfraith bresennol ynghylch parcio ar y palmant mor glir nac mor ddefnyddiol ag y gallai fod. Nid oes unrhyw drosedd benodol ar gyfer parcio ar y palmant. Gall yr heddlu orfodi'r gyfraith drosedd bresennol o achosi rhwystr diangen i unrhyw ran o'r briffordd, ond anaml y caiff y drosedd hon ei gorfodi.

Rwy'n falch bod y Llywodraeth yn Lloegr wedi lansio ymgynghoriad ar yr hyn y gallent ei wneud i gryfhau'r gyfraith. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru ar y blaen. Yr haf diwethaf galwais dasglu arbenigol at ei gilydd i lunio argymhellion ymarferol ar gyfer mynd i'r afael â'r broblem. Roeddwn yn falch iawn bod Phil Jones wedi cyflawni'r dasg o gadeirio'r grŵp, ochr yn ochr â'r panel a gadeiriodd ar derfynau cyflymder 20 mya. Rwyf yn ddiolchgar iawn iddo ef a'i banelwyr am yr holl waith y maent wedi'i wneud. Gyda'i gilydd, mae gan y ddwy fenter hyn botensial gwirioneddol i achub bywydau ac ailgydbwyso'r amgylchedd o blaid cerddwyr i greu cymunedau sy'n rhoi pobl o flaen ceir.

Roedd fy mrîff i'r grŵp yn glir: dewch o hyd i ffordd ymlaen a fydd yn gweithio'n ymarferol. Nid wyf eisiau creu hyd yn oed mwy o broblemau i awdurdodau lleol na'r heddlu. Rwyf eisiau rhywbeth sy'n mynd i helpu ar lawr gwlad. Roedd y grŵp arbenigol yn cynnwys yr heddlu, y gwasanaeth tân, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Ffederasiwn y Busnesau Bach, y Gymdeithas Cludo Nwyddau ar y Ffyrdd, Cymdeithas Parcio Prydain a'r Gymdeithas Cludo Nwyddau, ochr yn ochr â grwpiau ymgyrchu fel Anabledd Cymru, Cŵn Tywys, Living Streets Cymru a Sustrans.

Mae'r adroddiad, yr ydym ni yn ei gyhoeddi heddiw, wedi cael ei brofi gan y grwpiau allweddol hyn. Mae tasglu parcio ar y palmant Cymru yn gwneud 10 argymhelliad, ac mae Llywodraeth Cymru yn derbyn pob un ohonynt. Nid yw'r tasglu o blaid gwahardd parcio ar y palmant yn llwyr. Fe edrychon nhw ar y profiad yn yr Alban lle mae gwaharddiad wedi'i greu mewn deddfwriaeth sylfaenol a daethant i'r casgliad bod honno'n broses rhy gymhleth ac y gallai gymryd hyd at bum mlynedd i'w chyflwyno. Ffordd gyflymach a gwell o fynd i'r afael â pharcio ar y palmant yw rhoi pwerau ychwanegol i awdurdodau lleol fynd i'r afael â'r broblem. Mae adroddiad y tasglu yn argymell y dylai Gweinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth i ychwanegu 'parcio ar droedffordd' at y rhestr o droseddau parcio yn Neddf Rheoli Traffig 2004. Bydd hyn yn galluogi cynghorau i gyflwyno gorfodaeth sifil am barcio ar y palmant.

Rydym yn cydnabod bod gormod o geir ar gyfer y lle sydd ar gael mewn rhai strydoedd. Byddwn yn nodi yn ein strategaeth drafnidiaeth newydd ar gyfer Cymru sut byddwn yn annog newid dulliau teithio i'w gwneud hi'n haws i bobl ddibynnu llai ar geir ar gyfer teithiau bob dydd. Ond yn y cyfamser, nid ydym ni eisiau cosbi pobl nad oes ganddyn nhw ddewis arall. Drwy roi pwerau gorfodi sifil i awdurdodau lleol gallant farnu ble y byddant yn gosod gwaharddiadau. Gallant dargedu mannau lle ceir problemau megis ysgolion ac ymateb i amgylchiadau lleol. Bwriadwn i'r pwerau newydd hyn, o orfodi sifil ar gyfer rhwystro diangen, ddod i rym erbyn mis Gorffennaf 2022.

Byddwn nawr yn sefydlu grŵp gweithredu gyda chynrychiolwyr llywodraeth leol a rhanddeiliaid i ddatblygu canllawiau gorfodi i helpu i sicrhau dull cyson o weithredu ledled Cymru. Bydd y gwaith hwn yn cyd-fynd â'r gwaith yr ydym ni yn ei wneud i gyflwyno terfyn cyflymder diofyn o 20 mya mewn ardaloedd preswyl o fis Ebrill 2023. Ac fel y dywedais wrth y Senedd o'r blaen ym mis Gorffennaf, mae hyn yn ymwneud â newid calonnau a meddyliau yn ogystal â gorfodi caled, a byddwn yn datblygu ymgyrch gyfathrebu sydd wedi'i gwreiddio mewn gwerthoedd i gyflwyno'r achos dros newid.

Dros amser, Dirprwy Lywydd, daw hyn yn beth arferol. Yn yr un ffordd ag ysmygu mewn bwytai, rhoi organau, ac ailgylchu ein gwastraff. Rwy'n argyhoeddedig y caiff hwn ei ystyried yn fesur synnwyr cyffredin yn gyflym iawn. Ac rwy'n gwerthfawrogi'r gefnogaeth drawsbleidiol dros fwrw ymlaen â hyn. Diolch.

17:15

Hoffwn ddiolch i'r Dirprwy Weinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma, ac i ddiolch fy hun i Phil Jones a'r grŵp gorchwyl a gorffen am eu gwaith hefyd. Dylwn i ddweud bod mater parcio ar y palmant yn fater y mae Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau wedi edrych arno o'r blaen, ac rydym ni wedi edrych arno'n arbennig fel rhan o'n hymchwiliad i deithio llesol.

Mae'n amlwg bod parcio ar y palmant yn arwain at ganlyniadau negyddol i lawer o gerddwyr, gan gynnwys pobl hŷn, pobl anabl a phlant, felly croesawaf argymhellion y grŵp gorchwyl a gorffen, ac rwyf hefyd yn croesawu ymateb Llywodraeth Cymru. Nid wyf yn credu ein bod yn anghytuno llawer y prynhawn yma ar y mater hwn. Dylwn ddweud fy mod yn siŵr bod Aelodau eraill wedi cael pobl yn codi materion etholaethol gyda nhw, a chytunaf â'r Dirprwy Weinidog, pan edrychais ar hyn fy hun fel Aelod etholaeth, nad oes canllawiau clir yn y gyfraith ynghylch y maes penodol hwn.

Rwy'n tybio y cytunwch â mi, Gweinidog, mai'r her sydd gennym ni yw bod parcio ar y palmant, mewn sawl ardal, yn cael ei ystyried yn hanfodol, nid yn unig oherwydd nad oes gan bobl sy'n byw yn yr ardaloedd hynny unman arall i barcio, ond oherwydd na fyddai cerbydau argyfwng a cherbydau ailgylchu ac ati yn gallu mynd ar hyd rhai strydoedd pe na bai pobl yn parcio ar y palmant. Felly, byddai unrhyw ddeddfwriaeth, boed yn sylfaenol neu'n eilaidd, wrth gwrs yn creu cryn bryder ymhlith rhai cymunedau gan mai dyma'r unig ffordd i breswylwyr barcio ger eu cartref. Felly, o ystyried hynny, sut y byddai Llywodraeth Cymru yn rhoi ystyriaeth briodol i hyn yn ystod unrhyw ymgyrch genedlaethol i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd ynghylch y mater mewn ymdrech i gynyddu dealltwriaeth y cyhoedd a chael adborth gan y cyhoedd? A faint o arian fydd eich adran yn ei neilltuo tuag at yr ymgyrch addysg gyhoeddus?

Wrth weithredu'r polisi hwn, mae'n ymddangos y byddai'n rhaid i bob awdurdod lleol, os wyf wedi deall yn iawn, wneud archwiliad o'r cannoedd o ffyrdd yn eu hardaloedd. A byddai'n rhaid i'r awdurdod wedyn wneud gorchmynion rheoleiddio trafnidiaeth ar gyfer unrhyw eithriad sydd ei angen. Felly, credaf y byddai'n anghyfrifol peidio ag ystyried y pwysau ar awdurdodau lleol o orfod eithrio cannoedd o strydoedd mewn llawer o achosion. Felly, tybed pa drafodaethau ydych chi wedi'u cael gyda'ch cyd-Weinidog, y Dirprwy Weinidog llywodraeth leol a gydag arweinwyr awdurdodau lleol i gael eu barn ar yr hyn sy'n debygol iawn o fod yn dasg anodd yn fy marn i.

Mae'n amlwg bod ardaloedd trefol fel Caerdydd ac Abertawe yn wahanol iawn, o ran dosbarthiad poblogaeth, i ardaloedd awdurdodau gwledig fel Powys neu Geredigion, a gallai fod canlyniadau anfwriadol sylweddol yn sgil gwaharddiad cyffredinol, os caiff ei gyflwyno, felly credaf fod yn rhaid i ni fod yn ofalus, wrth liniaru problem, yr ydym ni i gyd yn cytuno sy'n bodoli, nad ydym yn creu problem arall mewn ardal arall. Felly, tybed beth fyddai'r risg o unrhyw waharddiad yn ei achosi o ran canlyniadau anfwriadol. Rwy'n siŵr, Gweinidog, eich bod chi a'ch swyddogion wedi ystyried hynny, felly byddai'n ddefnyddiol cael eich barn ar hynny. Ac os gallech chi hefyd—. Gallech yn hawdd ragweld amgylchiadau lle y gallai fod angen i rai awdurdodau lleol eithrio cannoedd o ffyrdd o'r gwaharddiad oherwydd trefn y ffyrdd. Gallai pob ffordd gostio o leiaf £1,000 i'w heithrio, a gallai'r gost o baratoi gwaharddiad ar barcio ar y palmant ddisgyn yn anghymesur ar awdurdodau sydd â phoblogaethau dwysach mewn cymunedau a allai fod yn dlotach, oherwydd natur y strydoedd a'r stociau uwch o dai teras. Byddwn yn ddiolchgar pe gallech amlinellu pa ystyriaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u rhoi i hyn.

Yn olaf, mae'n bwysig mai'r corff sydd fwyaf abl i orfodi sy'n gwneud hynny, ac mae'r dystiolaeth yn awgrymu mai awdurdod lleol yw'r corff mwyaf priodol. Fodd bynnag, o gofio bod cyllidebau awdurdodau lleol a chyllidebau plismona dan bwysau, byddwn yn ddiolchgar pe gallech chi efallai ystyried sut y byddai'r rheoliadau'n gweddu i'r gweithgarwch gorfodi priodol mewn modd priodol hefyd.

17:20

Diolch. Rwy'n credu y gallaf roi rhywfaint o sicrwydd i leddfu pryderon Russell George, oherwydd mae wedi nodi'r broses o orchmynion rheoleiddio traffig ac eithrio strydoedd ar draws ardal fawr a fyddai'n berthnasol pe bai gwaharddiad cyffredinol, ond, fel yr wyf wedi'i wneud yn glir, nid creu gwaharddiad cyffredinol yw cynnig y tasglu, na chynnig Llywodraeth Cymru. Felly, ni fydd angen yr holl bethau hynny y mae wedi'u disgrifio o dan y cynnig hwn. Mae hon yn ffordd lawer callach a symlach o'i gwneud hi. Y dull y mae'n ei nodi yw'r modd y byddant yn mynd ati yn yr Alban a chredwn y byddai hynny'n gymhleth ac yn feichus.

Mae'r dull y mae'r tasglu wedi'i gynnig ychydig yn symlach na hynny, mewn gwirionedd: sef dweud wrth awdurdodau lleol, 'Chi sy'n adnabod eich cymunedau orau. Rydym yn derbyn nad yw pawb ym mhob stryd yn gallu osgoi palmant'—sy'n rhywbeth y mae angen i bob un ohonom ni fyfyrio arno; rydym ni wedi creu amgylchedd o'r fath ac mae angen i ni ddod yn ôl at hynny, ond, am y tro, yr hyn y gallwn ni ei wneud yn y cyfamser yw rhoi pwerau i ddirwyo yn yr ardaloedd hynny lle soniwyd bod parcio gwrthgymdeithasol yn achosi problemau penodol. Felly, er enghraifft, pe bai y tu allan i ysgol neu leoliad penodol, yna gallent ganolbwyntio'n gryf ar yr ardal honno, os mynnwch chi, gyda dirwyon i atal yr ymddygiad gwrthgymdeithasol hwnnw. Byddai'n ymyriad call, nid dull gweithredu cyffredinol. Felly, dyna pam fy mod i'n credu bod dull Cymru yn well na dull gweithredu'r Alban, gan ei fod yn fwy hyblyg; mae'n caniatáu i'r broblem gael ei thargedu lle mae fwyaf amlwg. Fel y dywedodd Russell George, pe bai gennym ni waharddiad cyffredinol, bob tro y credem fod parcio ar y palmant yn briodol, byddai'n rhaid i ni gyflwyno gorchmynion rheoleiddio traffig unigol ar gyfer y stryd benodol honno, a fyddai'n broses ddrud iawn ac yn cymryd llawer o amser. Felly, rwy'n credu bod camddealltwriaeth yna y fan yna, felly rwy'n gobeithio bod rhoi'r sicrwydd yna wedi tawelu'r meddwl rywfaint.

O ran y cyllid, mae'n gywir; goblygiadau hyn wrth gwrs yw y bydd awdurdodau lleol yn gallu penderfynu sut y maent yn dyrannu eu hadnoddau, ac mae honno'n sgwrs y byddwn yn ei chael gyda nhw yn y cyfnod cyn cyflwyno hwn.

Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei ddatganiad heddiw ac yn falch iawn o allu dweud y gallwn ni barhau i gefnogi yn y modd trawsbleidiol hwnnw y mae'n cyfeirio ato. Rwy'n adleisio'r hyn y mae'n ei ddweud am waith y tasglu: maent wedi gwneud darn rhagorol o waith ac mae'n ymddangos i mi fod y dull pragmatig hwn yn un synhwyrol iawn.

Rwy'n adleisio hefyd yr hyn y mae'r Dirprwy Weinidog wedi'i ddweud am ddifrifoldeb y broblem. Dyna'r math o beth, os nad yw erioed wedi effeithio arnoch chi, a allai ymddangos yn ddibwys, ond, fel y dywed y Dirprwy Weinidog, i bobl, mamau yn bennaf, gyda chadair wthio, i bobl â phroblemau symudedd, i bobl sy'n mynd ymlaen â'u bywyd bob dydd—. Yn rhywfaint o'r gwaith achos yr wyf wedi'i gael, pan fo pobl wedi dioddef anghwrteisi parhaus yn hyn o beth gan gymdogion, mae'n troi'n felltith ar eu tai, melltith ar eu heiddo a melltith ar eu bywydau. Felly, i bobl yr effeithir arnynt yn uniongyrchol, mae hwn yn fater difrifol iawn, ac, fel y dywed y Dirprwy Weinidog, os ydym ni eisiau creu amgylchedd lle mae'n hawdd i bobl gerdded, lle'r ydych chi'n teimlo'n ddiogel wrth gerdded ar hyd y ffordd gyda'ch plant, gyda'ch teulu, os ydych yn berson hŷn eich bod yn teimlo'n ddiogel ac yn gyfforddus, yna mae hwn yn fater y mae'n rhaid mynd i'r afael ag ef.

Hoffwn ofyn i'r Dirprwy Weinidog ein sicrhau ni y bydd yn edrych ar y problemau penodol sy'n cael eu creu gan gerbydau masnachol, boed y rheini'n gerbydau masnachol sy'n codi ac yn gollwng yng nghanol ein trefi, boed y rheini'n gerbydau pobl sydd efallai'n gwneud gwaith adeiladu ar dŷ sy'n arwain at barcio amhriodol dros gyfnod o ddyddiau—tybiaf mai dyna fyddai'r math o broblemau y gallai awdurdod lleol benderfynu eu bod yn wir yn broblemau ac y byddai angen iddynt weithredu.

Mae Russell George eisoes wedi cyfeirio at fater y cymunedau hynny lle nad oes unrhyw beth arall y gellir ei wneud mewn gwirionedd ar wahân i rywfaint o barcio ar ffyrdd, a tybed—ac rwy'n meddwl yn benodol am gymunedau'r Cymoedd yn y fan yma—a allai'r grŵp gweithredu edrych a oes capasiti i greu nifer bychan o leoedd parcio cymunedol. Rwy'n meddwl am lawer o leoedd yn y Cymoedd lle mae sawl darn o dir gwastraff nad oes neb yn gwybod pwy yw'r perchennog na beth yw ei ddefnydd, a gallai fod yn bosib i awdurdod lleol helpu i leihau problem parcio ar y palmant pe gellid manteisio ar rai o'r cyfleoedd hynny mewn modd hyblyg.

Rydych chi wedi crybwyll, ynghyd â Russell George, cost gorfodi. Tybed a yw hi'n wir, ac a wnaiff y Dirprwy Weinidog ddweud wrthym ni heddiw—mai'r bwriad yw caniatáu i awdurdodau lleol gadw'r dirwyon y maent yn eu codi, oherwydd, os yw hynny'n wir, yna gallai ddod yn weithred niwtral o ran cost iddynt yn y pen draw, gan fod llawer ohonynt, er enghraifft, yn gweithredu gorfodaeth parcio y dyddiau hyn.

Felly, gyda'r ychydig gwestiynau penodol yna, cynigiaf ein cefnogaeth i'r Dirprwy Weinidog unwaith eto. Gwneuthum ychydig o waith ar y cyfryngau cymdeithasol ynghylch y ddadl hon sy'n digwydd heddiw, y datganiad hwn heddiw, a chael ymatebion o barthau eithaf fy rhanbarth, o Bontyberem i Flaenau Ffestiniog, gyda phobl yn dweud wrthyf fod hon yn broblem wirioneddol iddynt a'u bod yn falch bod y Senedd yn mynd i'r afael â hi—felly, rwy'n hapus iawn i gynnig cefnogaeth Plaid Cymru i'r Dirprwy Weinidog yn hyn o beth.

17:25

Diolch yn fawr iawn ac rwy'n gwerthfawrogi'r gefnogaeth honno. Rwy'n credu bod hwn yn fater trawsbleidiol ac y bydd yn cymryd nifer o flynyddoedd i ddod i rym, a chredaf, gan ei fod yn cael ei orfodi gan bob awdurdod lleol o bob lliw, mae'n bwysig cynnal y consensws hwnnw, ac rwy'n falch fy mod wedi cael trafodaethau gydag arweinwyr awdurdodau lleol a chyda chomisiynwyr heddlu a throseddu, sy'n gefnogol hefyd.

I ateb y pwyntiau penodol gan ddechrau gyda'r olaf: ie, pwerau awdurdodau lleol yw'r rhain, felly mater i awdurdodau lleol fydd penderfynu sut i'w defnyddio a byddant, wrth gwrs, yn cael unrhyw refeniw a godir. Nid ydym yn gweld hyn fel mesur codi refeniw; mae hyn yn rhywbeth i awdurdodau lleol, eu barn nhw ynghylch sut i'w ddefnyddio orau i ymateb i sylwadau lleol, gan fy mod yn credu bod hynny'n briodol.

O ran creu mannau parcio, rwyf wedi cael y ddadl hon fy hun heddiw ar gyfryngau cymdeithasol. Diben hyn, ochr yn ochr â'r terfyn cyflymder o 20 mya, ochr yn ochr â'n hymagwedd o ran newid dulliau teithio yn strategaeth drafnidiaeth arfaethedig Cymru, yw newid ein diwylliant a newid yr amgylchedd lleol, gan roi blaenoriaeth i bobl dros geir. Dydw i ddim yn meddwl mai creu mannau parcio ychwanegol yw'r ateb tymor canolig na hirdymor i hyn. Mae angen inni fod—. Un o'r rhesymau dros broblemau parcio yw bod gormod o geir ar gyfer y mannau sydd ar gael. Erbyn hyn, mae gan lawer o deuluoedd bedwar car—neu fwy, mewn rhai achosion—ar strydoedd nad oeddent wedi'u cynllunio ar gyfer hynny, yn amlwg.

Felly, gan neilltuo lle cyhoeddus prin ar gyfer parcio ceir—ac o gofio y byddai hynny'n costio arian—gwyddom nad oes gan chwarter yr holl aelwydydd gar, felly byddai arian yn cael ei ddargyfeirio o wasanaethau a fyddai o fudd iddynt i fod o fudd i berchnogion ceir, felly byddai'n gam cymdeithasol anghyfiawn. Rwy'n credu bod angen i ni fod yn ofalus iawn nad ydym yn parhau â'r broblem o ran creu lle ychwanegol; mae angen i hyn fod yn rhan o gyfres o fesurau, a dim ond un yw hwn, fel rhan o ystod o ymyriadau, i annog pobl i wneud llai o ddefnydd o'u ceir, a hefyd i ystyried sut i wneud hyn yn addas ar gyfer y dyfodol, oherwydd, fel y gwyddom ni, wrth i geir sy'n gyrru eu hunain gael eu cyflwyno—. Gwyddom fod y rhan fwyaf o geir yn segur am 23 awr y dydd, gyda phobl yn buddsoddi yn sylweddol iawn mewn ceir sy'n llonydd yn gwneud dim byd am y rhan fwyaf o'r amser. Yr hyn y bydd ceir hunan-yrru yn ei ganiatáu wrth gwrs—a byddant mor ddrud fel ei bod hi'n annhebygol y bydd y rhan fwyaf o bobl yn gallu eu prynu—yw y byddwn yn gallu galw arnynt fel y mae eu hangen nhw arnom ni, a phan nad ydynt yn cael eu defnyddio, yn hytrach nag aros yn segur, gallant yrru ymaith a bod o ddefnydd i rywun arall.

Felly, rwy'n disgwyl—a dyma'r hyn y mae'r arbenigwyr yn ei awgrymu—wrth i'r rhain ddod yn fwy cyffredin dros yr 20 mlynedd nesaf, y bydd angen llai o geir arnom ni, oherwydd bydd modd defnyddio'r fflyd bresennol o geir yn fwy effeithlon. Felly, dydw i ddim yn meddwl y dylem ni fod, wrth ymateb i bryderon pobl am hyn, yn ceisio dargyfeirio arian i greu mannau parcio ychwanegol. Mae angen inni weld hyn fel cyfres o fesurau i symud y cydbwysedd mewn cymdeithas oddi wrth berchnogaeth ceir preifat ac at roi dewisiadau amgen gwirioneddol i bobl ar gyfer teithio'n lleol.

Ac yn olaf, o ran y pwynt cychwynnol am gerbydau masnachol, soniais fod y Ffederasiwn Busnesau Bach ymhlith y rhai a oedd ar y tasglu parcio ar y palmant ac a fydd nawr yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid i weithredu hyn, a chredaf fod hwnnw'n bwynt pwysig y byddaf yn sicrhau bod y grŵp hwnnw'n ei ystyried.

Diolch, Dirprwy Weinidog, am eich datganiad heddiw. Croesawaf waith y tasglu parcio ar y palmant ac rwy'n cydnabod yr effaith y mae parcio ar y palmant yn ei gael ar gerddwyr, yn enwedig y rheini sydd â phroblemau symudedd, cadeiriau gwthio, a defnyddwyr cadeiriau olwyn. Ond yn cynrychioli'r Cymoedd, â'u strydoedd teras hardd ond cul, rwy'n siŵr na fyddwch yn synnu o glywed fy mod hefyd yn falch o weld y dull pragmatig a geir yn argymhellion 2 a 3 y bydd angen, mewn rhai ardaloedd, i wneud eithriadau a chaniatáu parcio ar y palmant.

Gyda strydoedd fel yna sydd wedi'u hadeiladu 150 mlynedd neu fwy yn ôl, gallwn ddeall y problemau sy'n codi yno, ond yr hyn yr hoffwn ei ofyn ichi yw: pa drafodaethau ydych chi wedi'u cael gyda'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ynglŷn â'r ffordd y mae'r adeiladwyr mawr yn adeiladu ystadau tai modern, mewn llawer achos gyda ffyrdd cul iawn a diffyg parcio ar gyfer aelwydydd, mae hynny'n golygu bod parcio ar y palmant yn broblem yno, mewn ardaloedd lle y dylid bod wedi adeiladu'r datblygiadau hynny mewn gwirionedd i ganiatáu parcio priodol a defnyddio palmentydd yn briodol? Mae hwnnw'n faes yr hoffwn weld Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio arno yn y dyfodol.

Soniwch hefyd am eich gwaith gyda'r Ffederasiwn Busnesau Bach, a tybed a yw rhan o'r trafodaethau hyn wedi crybwyll y nifer y bobl sydd bellach yn mynd â faniau gwaith adref ac yn eu parcio y tu allan i'w tai. Mae'n sicr yn fater y mae llawer iawn o etholwyr yn ei godi gyda mi pan na allant barcio y tu allan i'w cartrefi eu hunain, yn enwedig yn y strydoedd teras cul hyn. Nid wyf yn siŵr beth y gellir ei wneud yn ei gylch, ond byddwn yn croesawu eich barn ar hynny mewn ymateb. Ac—

17:30

Diolch, Vikki. Dyna ddau gwestiwn. Rydych chi ar ddwy funud, nawr—munud drosodd. Gweinidog.

Diolch. Iawn ceisiaf fod yn gryno mewn ymateb. Rydym, fel rhan o'r 'Polisi Cynllunio Cymru' diweddaraf a gyhoeddwyd, tua dwy flynedd yn ôl bellach, wedi rhoi'r hierarchaeth o ddefnydd ffyrdd o fewn y canllawiau hynny, sy'n rhoi cerddwyr ar y brig a cheir ar y gwaelod, ac mae sicrhau bod hynny'n cael ei weithredu ym mhob adeilad newydd, mi gredaf, yn mynd i fod yn hanfodol er mwyn sicrhau nad yw'r broblem hon yn dal i godi. Oherwydd un o'r problemau sydd gennym, fel y nododd Vikki Howells yn gywir, yw bod ystadau newydd yn creu'r broblem wrth adeiladu ac mae'n aml yn anymarferol—. Rydym i gyd wedi cerdded y rhain fel rhan o'n penwythnosau niferus hapus yn canfasio yn ein hetholaethau, lle byddai'n anodd iawn gweithredu gwaharddiad mewn llawer o ystadau, dyna un o'r rhesymau pam yr ydym yn ffafrio'r dull pragmatig. Felly, mae Vikki yn iawn i dynnu sylw at y broblem.

Ac mae'r cerbydau masnachol, ar un ystyr, yn amlygiad arall o'r ffaith ein bod wedi datblygu cymdeithas sy'n canolbwyntio ar geir, a dyna—. Rydym yn ceisio, ar un ystyr, ymdrin â symptomau'r broblem yma, gyda'r cynnig terfyn cyflymder 20 mya a pharcio ar y palmant, ond oni bai ein bod yn ymdrin â gwraidd y broblem, yna bydd yn parhau i amlygu ei hun. A dyna pam, rwy'n credu, fod y pwyslais ar newid dulliau teithio yn strategaeth drafnidiaeth arfaethedig Cymru yn hanfodol, nid yn unig ar gyfer mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, oherwydd mae'n rhan hanfodol o hynny, ond hefyd o ran ailgydbwyso ein cymdeithas oddi wrth y pwyslais ar berchnogaeth ceir fel yr ateb i bopeth ac sy'n teyrnasu dros y ffordd y mae ein cymunedau'n edrych ac yn teimlo.

Diolch am eich datganiad, Dirprwy Weinidog. Parcio ar y palmant yw un o'r problemau mwyaf sy'n wynebu'r rhai sydd â phroblemau symudedd, mamau ifanc â chadair wthio a phlant bach, a phobl sydd wedi colli eu golwg. Dirprwy Weinidog, oni chaiff mesurau eu gorfodi'n llym, bydd yn rhaid i'm hetholwyr barhau i wynebu'r her pryd bynnag y byddant yn gadael eu cartrefi. Sut y caiff mesurau eu gorfodi, a pha drafodaethau ydych chi wedi'u cael gydag awdurdodau lleol a heddluoedd am fesurau gorfodi? Oherwydd, mewn pentref bach yn fy rhanbarth i, mae cerbyd masnachol yn parcio'n gyson lle ceir llinellau melyn dwbl, gan orfodi pobl i fynd i'r ffordd a pheryglu eu bywydau dro ar ôl tro.

Dirprwy Weinidog, wedi dweud hynny, a ydych yn cytuno bod yn rhaid inni hefyd roi sylw i ochr arall y geiniog, sef diffyg darpariaeth parcio? Pa drafodaethau ydych chi wedi'u cael gyda'r prif adeiladwyr tai ynghylch sicrhau bod datblygiadau tai yn darparu digon o le parcio ger yr eiddo neu gerllaw? Ac a ydych chi yn cytuno bod darparu un neu ddau o leoedd parcio ar gyfer cartref pum ystafell wely yn gwbl annigonol y dyddiau hyn? Mae gan rai aelwydydd ddau neu dri char—pedwar yn aml. Dirprwy Weinidog, beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i leihau'r ddibyniaeth ar geir personol? Ac a fyddwch yn gwneud buddsoddiad ychwanegol mewn trafnidiaeth gyhoeddus? Pa ystyriaeth ydych chi wedi'i rhoi i hyrwyddo neu hyd yn oed sybsideiddio cynlluniau rhannu ceir fel dewis arall? Yn olaf, Dirprwy Weinidog, pa effaith y credwch y bydd gweithio gartref yn ei chael ar berchnogaeth ceir a phroblem parcio ar y palmant? Diolch yn fawr.

17:35

Dydw i ddim yn siŵr y byddaf yn gallu gwneud cyfiawnder â'r holl gwestiynau yna yn yr amser sydd ar gael. Mae nifer ohonyn nhw eisoes wedi cael sylw yn y datganiad. Felly, efallai y bydd Caroline Jones yn maddau i mi os nad wyf ond yn canolbwyntio ar y rhai nad ydynt wedi'u cynnwys.

Credaf fod rhannu ceir yn fater hollbwysig, a bydd annog pobl i wneud yr hyn a elwir yn 'ddewisiadau doethach'—rhannu ceir a chynllunio teithio yn eu plith—yn rhan bwysig o'r mesurau a wnaethom i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd fel rhan o strategaeth drafnidiaeth Cymru. Yn hollbwysig, yr enghraifft a roddodd o bobl â phum car mewn cartref pum ystafell wely, credaf fod angen inni ofyn i ni'n hunain fel cymdeithas: ai dyna'r hyn yr ydym ni eisiau ei weld o hyd? A ydym ni eisiau sefyllfa lle mae pobl yn teimlo mai'r unig ddewis sydd ganddyn nhw yw cael nifer o geir sydd, fel y dywedais, yn aros yn segur am y rhan fwyaf o'r amser? Heb os nac oni bai mae angen inni symud tuag at sefyllfa, os ydym o ddifrif ynghylch gweithredu ein hymrwymiadau newid yn yr hinsawdd, o leihau dibyniaeth pobl ar geir.

Wrth gwrs, bydd gan bobl geir o hyd. Rwy'n hapus i yrru car. Ond, ni ddylai fod angen i chi gael car i wneud pob taith. Dylech gael dewis, a dylai fod yn haws ac yn fwy cyfleus defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer llawer o'n teithiau bob dydd. Dyna y mae angen i ni fod yn ymgyrraedd tuag ato. Rydym ni wedi buddsoddi'n sylweddol, yn enwedig yn sgil COVID, i gynnal y sector trafnidiaeth gyhoeddus, a fyddai fel arall wedi mynd i'w wal mewn llawer o achosion. Ond mae angen i bob un ohonom ni feddwl am gyfran y gwariant ar wahanol ffurfiau o drafnidiaeth, gan adlewyrchu i ble'r ydym ni eisiau cyrraedd.

Gweinidog, a gaf i ddweud o ddifrif fy mod yn croesawu hyn a'r camau gweithredu sy'n deillio ohono mewn gwirionedd? Dros yr ugain mlynedd bron yr wyf wedi bod yn gynrychiolydd yma yn Ogwr, mae hyn wedi cynyddu a chynyddu yn fy etholaeth. Credaf eich bod yn iawn i ganolbwyntio ar ddwy agwedd. Mae un yn ffordd bragmatig ymlaen sy'n gweithio gydag awdurdodau lleol, yn gweithio gyda chymunedau lleol a, rhaid imi ddweud, gyda sefydliadau ar lawr gwlad hefyd, fel clymblaid Pen-y-bont ar Ogwr o bobl anabl, er mwyn canfod atebion. Ond, y peth arall yw'r angen enfawr hwn am newid ymddygiad hefyd, ac mae hynny, mae'n rhaid i mi ddweud, yn gryn orchwyl. Pan edrychwch chi ar dai teras, fel y crybwyllwyd, mewn cymunedau yn fy nghwm i, nad oeddent wedi'u cynllunio ar gyfer cael car y tu allan ac sydd bellach o bosib ag un neu ddau gar, neu drelar a fan waith o bosib hefyd, dyna faint yr her sydd gennym ni. Mater i chi a fi ac eraill yw sefyll gyda phobl ac egluro y gallwn ni wneud hyn mewn ffordd wahanol.

Felly, a gaf i ofyn iddo ymhelaethu ar sut y mae'n gweld hyn yn gweithio wrth ymgysylltu â chymunedau lleol, trigolion lleol, grwpiau buddiant lleol, gan gynnwys y grwpiau hynny o bobl â nam ar eu golwg a phobl sydd â phroblemau symudedd, rhieni lleol a phlant a phlant bach, yn ogystal â phreswylwyr a'r awdurdod lleol, i sicrhau ei fod yn drefniant pwrpasol ar gyfer pob stryd a phob cymuned, ac nid gordd i dorri'r un gneuen ar bob stryd yn unig?

Roedd dau bwynt yn y fan yna, mewn gwirionedd. Yn gyntaf, cytunaf â Huw Irranca pan fo'n rhoi'r darlun a gyflwynodd Vikki Howells i ni hefyd, o strydoedd cul gyda cheir lluosog a cherbydau gwaith weithiau, ac rwy'n ailadrodd: ni allwn adeiladu ein ffordd allan o'r broblem hon. Mae hon yn broblem sydd wedi dod i'r amlwg dros yr 20 i 30 mlynedd diwethaf wrth i ddibyniaeth ar geir dyfu. Hyd yn oed pe bai'r arian a'r tir ar gael gennym ni, credaf y byddai cwestiynau difrifol i'w gofyn ynghylch pa un ai dyma oedd y flaenoriaeth gywir i ni ai peidio, oherwydd mae'n parhau â'r broblem ac nid yw'n mynd i'r afael â gwraidd y broblem.

O ran gweithredu hyn nawr, a gweithio gyda chymunedau lleol, dyna pam, yn y gwaith ar y terfyn 20 mya a'r gwaith hwn, rwyf wedi ceisio sicrhau mai awdurdodau lleol yw'r partneriaid allweddol wrth gyflawni hyn, a'u dwyn at ei gilydd, yn ysbryd cydweithio, wrth inni lunio'r rheolau a'r argymhellion hyn, i ystyried rhywbeth a fydd yn gweithio iddynt.

Edrychwch ar yr amserlen. Rydym yn dweud y caiff y pwerau parcio ar y palmant eu rhoi i awdurdodau lleol ym mis Gorffennaf 2022. Yna, y mis Ebrill canlynol, daw'r terfynau cyflymder 20 mya i rym ledled Cymru. Yn y ddau achos hynny, mater i'r awdurdodau lleol fydd penderfynu sut y caiff y pwerau hynny eu gweithredu yn eu hardaloedd lleol, a nhw fydd yn gwybod orau. Byddwn yn gweithio ochr yn ochr â nhw, hyd at y pwynt hwnnw, wrth ddatblygu ymgyrch cyfathrebu cyhoeddus, fel y gwnaethom ni ynghylch rhoi organau, sy'n ceisio cael pobl ar ein hochr ni, nid fel ffordd o'u cosbi neu i wneud bywyd yn anodd, ond fel ffordd o ddweud wrthynt, 'Mae gennym ni ymdeimlad cyffredin o werthoedd yma o ran y ffordd yr ydym ni eisiau i gymdeithas fod a sut mae ein cymunedau lleol eisiau gweithio.' Gwyddom o arolygon barn mynych yr ystyrrir y rhain yn broblemau, yn niwsans gwirioneddol beunyddiol i bobl yn eu cymunedau, a dyna pam rydym ni eisiau gweithio, gyda'r cyhoedd, i feithrin cefnogaeth ac ymdeimlad o ysbryd a dealltwriaeth a diben cyffredin, a chydag awdurdodau lleol i sicrhau bod y gweithredu'n briodol a'i fod yn ddigon hyblyg yn lleol fel y gallant benderfynu sut a ble i'w gymhwyso.

17:40

Wel, mae hon yn broblem sydd wedi difetha fy nghymuned yn Aberconwy o'r adeg pan oeddwn yn gynghorydd tref, yna yn gynghorydd sir, i'r fan lle yr wyf yn awr, ac rwyf wedi bod yma—fel y'm cywirwyd gan Llyr yn gynharach—am bron i 10 mlynedd. Felly, croesawaf eich datganiad yn fawr. Mae'n eithaf trist gweld pobl—. Mae gennym ni ddemograffeg hŷn yn Aberconwy ac mae'n wirioneddol drist pan—. Rydych yn tueddu i feddwl am barcio ar ymyl palmant—na. Rydych yn gweld ceir cyfan, yn aml iawn, hanner lled car, a rhaid imi ddweud, weithiau, pan fydd llwyni wedi gordyfu hefyd, ni roddwyd unrhyw ystyriaeth o gwbl i'r sawl sy'n ei chael hi'n anodd cael mynediad i'r palmant hwnnw. Sylwaf nad oes gan 80 y cant, ledled Cymru, fawr o ffydd y gall yr awdurdod lleol na'r heddlu wneud unrhyw beth.

Gwn, yn fy sefyllfa fy hun, fod gennyf i awdurdod lleol gwych, ond fe geir sefyllfa o fwrw bai, felly byddai—. Ond, yr hyn y byddwn yn ei ddweud wrthych yw bod ein hawdurdodau lleol dan bwysau mawr ar hyn o bryd, felly byddaf yn chwilio am adnoddau ychwanegol i gefnogi hyn, oherwydd mae datganiadau'n iawn yn eu lle, Dirprwy Weinidog, ond credaf, os ydych yn rhoi'r gwaith iddyn nhw o orfodi'r dirwyon—rwy'n hoffi syniad Helen Mary pryd y gallai ddod yn ffrwd refeniw mewn gwirionedd, ond i ddechrau, ceir y costau sefydlu gwirioneddol. Felly, hoffwn weld rhai ystyriaethau o ran hynny.

Ac yn olaf, yr hyn yr hoffwn i ei ofyn—. Mae palmentydd wedi eu gostwng yn bryder enfawr hefyd yn fy etholaeth i, felly er eich bod yn rhoi arweiniad a chyfarwyddiadau i awdurdodau lleol, a wnewch chi ystyried y rheini sydd mewn bygis neu mewn cadeiriau olwyn neu sydd â fframiau Zimmer—wyddoch chi, fframiau Zimmer ar olwynion bychain—a gwneud yn siŵr y cawn fwy o balmentydd wedi'u gostwng hefyd? Felly, gadewch i ni gael hyn yn iawn.

Ac yn olaf—

Diolch yn fawr iawn. Croesawaf sylwadau Janet Finch-Saunders yn gynnes iawn. O ran y ddau bwynt penodol, mae gan awdurdodau lleol bwerau gorfodi sifil eisoes dros nifer o bethau. Yr hyn yr ydym yn ei wneud yn y fan yma yw ychwanegu arf at yr arfau. Felly, o safbwynt lleiafsymiaeth, nid ydym yn creu unrhyw waith ychwanegol na chyfrifoldebau ychwanegol iddynt; rydym yn rhoi arf ychwanegol iddynt ei ddefnyddio os ydynt yn dewis ei ddefnyddio, ac os yw parcio ar y palmant yn broblem yn eu hardaloedd a'u bod eisiau mynd i'r afael â hynny ac os ydyn nhw eisiau cyflwyno dirwyon, byddwn yn caniatau iddyn nhw wneud hynny. Felly, nid oes angen cynhenid am gyllid ychwanegol ar gyfer hynny. Ond, yn amlwg byddwn yn gweithio gydag awdurdodau lleol, fel y buom ni yn ei wneud, i ddeall yn iawn a fydd yna unrhyw ofynion ychwanegol i weithredu hyn yn briodol a byddwn yn trafod hynny yn y ffordd arferol.

O ran y palmentydd isel, fel y dywedais, mae hyn yn rhan o weddnewid yr amgylchedd lleol i'w wneud yn fwy cyfeillgar i gerddwyr. Rydym ni wedi creu, dros y 50 mlynedd diwethaf, amgylchedd gelyniaethus i gerddwyr ac i feicwyr ar ein ffyrdd ac yn ein cymunedau, ac mae hyn yn rhan o'r mudiad i newid hynny. Oherwydd oni newidiwn ni hynny, byddwn yn parhau i gael problem gordewdra, problem ansawdd aer ac allyriadau carbon cynyddol—yr holl bethau y mae pob un ohonom ni yn dweud bod arnom ni eisiau mynd i'r afael â nhw—ac mae hyn yn rhan bwysig o newid hynny, ar lawr gwlad.

Mae gan awdurdodau lleol eisoes fynediad at gyllid drwy'r cronfeydd teithio llesol, a gadewch i ni gofio, mae teithio llesol yn ymwneud â cherdded a beicio; mae'n ymwneud â cherddwyr. Ac mae gennym ni arian ar gyfer gwelliant parhaus o dan Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 ar gyfer awdurdodau lleol, wedi'i neilltuo bob blwyddyn o'r dyraniadau a wnawn iddynt, lle gallant gael arian ar gyfer gwella'r amgylchedd, ar gyfer newidiadau bach fel gostwng palmentydd, yn union fel y mae ganddynt arian ar gyfer dileu rhwystrau ar lonydd beicio, er enghraifft, nad ydynt bellach yn addas i'r diben y cawsant eu cynllunio'n wael ar ei gyfer yn y lle cyntaf. Felly, mae cyllid ar gael eisoes i awdurdodau lleol wneud hynny, ond rwy'n cytuno â hi bod yn rhaid gweld hyn yng nghyd-destun gwneud ein cymunedau'n fwy cyfeillgar i gerddwyr, a bydd angen amrywiaeth o ymyriadau i gyflawni hyn, a dim ond un ohonyn nhw yw hyn.

Diolch, Llywydd dros dro. A gaf i ddiolch i'r Dirprwy Weinidog am ei ddatganiad? Rwy'n llwyr gefnogi'r hyn y mae wedi bod yn ei ddweud ynglŷn â'r angen i weithredu. Dim ond y penwythnos diwethaf deuthum ar draws fan wedi'i pharcio ar ddarn cas o'r ffordd i fyny Cwm Afan, ac fe'm gorfodwyd i fynd i'r ffordd, ac ni ddylai'r sefyllfa honno fyth godi. Rwy'n derbyn popeth y mae wedi'i ddweud ynglŷn ag ystyried, ar gyfer y dyfodol, newid dulliau teithio ac ymddygiad pobl a lleihau nifer y cerbydau, ond nid ydym ni yn y fan yna eto, ac mae gennym ni lawer o waith i'w wneud o hyd i gyrraedd y fan yna tra byddwn yn sicrhau bod ein trafnidiaeth gyhoeddus yn gweithio yn effeithiol. Felly, a wnaiff ystyried yn ofalus iawn rai o'r pethau dros dro y gellir eu gwneud i gefnogi pobl, i sicrhau bod pobl yn cofleidio ein neges? Nid wyf yn hoffi siarad am hyn fel refeniw arian parod i awdurdodau lleol, oherwydd bydd pobl yn ei weld fel dim ond ffordd o gael arian parod, heb ddeall ei ddiben mewn gwirionedd; a'i ddiben yw sicrhau bod pob cerddwr yn ddiogel. Felly, a wnewch chi edrych ar fesurau dros dro yn y cyfamser nes inni gyrraedd y sefyllfa lle mae gennym ni system drafnidiaeth gyhoeddus effeithiol ac y gallwn ni weld wedyn y gostyngiad yn nifer y cerbydau? I lawer o bobl mewn llawer o gymunedau, y cerbyd ar hyn o bryd, ac efallai hyd y gellir rhagweld, yw'r unig ffordd y gallant gyrraedd y gwaith neu'r unig ffordd y gallant gyrraedd eu lleoedd hanfodol. Ond mae angen i ni ystyried y ddwy agwedd: symud i un cyfeiriad, ond, ar yr un pryd, cefnogi'r symudiad hwnnw drwy gynnig dewisiadau amgen dros dro.

17:45

Cytunaf â hynny. Mae'n amlwg y bydd hyn—wyddoch chi, mae wedi cymryd degawdau inni gyrraedd y sefyllfa hon ac mae'n mynd i gymryd amser i newid y diwylliant ac i roi'r buddsoddiad ar waith ac ailgydbwyso'r buddsoddiad tuag at fesurau sy'n annog pobl i beidio â defnyddio ceir ac annog newid mewn dulliau teithio. Felly, ni fydd hyn yn digwydd drwy glicio bysedd.

Gadewch i ni fod yn glir ynghylch beth yw'r pŵer hwn. Nid yw pawb sy'n parcio ar y palmant yn gwneud hynny am nad oes ganddynt ddewis arall. Mae rhai pobl yn parcio ar y palmant am eu bod yn anystyriol, oherwydd nid ydynt wedi ystyried sut beth yw bod yn fam â chadair wthio neu rywun rhannol ddall nad yw'n gallu mynd o le i le. Ac wrth i ni ddod yn fwy dibynnol ar geir, mae llai o bobl yn gwybod sut beth yw bod heb gar i fynd ar daith heb gymorth neb arall.

Ac mae hwn hefyd yn fater o dlodi. Gwyddom fod chwarter y bobl yn yr 20 y cant o'r aelwydydd tlotaf, yn or-ddibynnol ar gludiant ceir. Mae'n ddrwg gennyf, mae hynny'n anghywir, Llywydd. Yn yr 20 y cant isaf o aelwydydd, mae pobl yn gwario tua chwarter eu hincwm ar gynnal ceir. Ac, yn gynyddol, rydym yn gorfodi pobl nad ydynt yn gallu ei fforddio i gael car, oherwydd ein bod wedi creu amgylchedd lle mae hynny'n hanfodol er mwyn gallu mynd o le i le. Rhaid ystyried hyn fel rhan o ymdrech ehangach i newid hynny, drwy fynd i'r afael â'r tlodi trafnidiaeth hwn, i fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau. Rydym yn dweud wrth bobl ar incwm is yn y bôn, 'Cewch gadw at wasanaethau bysiau o safon isel' neu, 'Cewch gerdded ar strydoedd anniben'.

Rhan o'n hymyriad yw creu cymdeithas decach yn ogystal â chymdeithas sy'n mynd i'r afael â melltith llygredd aer, gordewdra a newid yn yr hinsawdd. Felly, ynglŷn â sylw David Rees: mae'n bwysig iawn ein bod yn gwneud hyn yn briodol ac yn sensitif i gael pobl ar ein hochr ni. Nid mesur yw hwn sydd wedi'i gynllunio i gosbi pobl. Mae'n rhaid i ni helpu pobl i wneud y newid, ac mae hynny'n gofyn am ymyriadau lluosog. Ond, hefyd, mae angen i ni atgoffa pobl, os ydynt yn gwneud pethau sy'n wrthgymdeithasol ac yn peri anfantais i'r rhai sy'n agored i niwed, yna mae cosb i'w thalu.

Diolch, Gweinidog. Byddwn nawr yn cael seibiant byr i ganiatáu newid aelodau yn y Siambr.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 17:48.

17:50

Ailymgynullodd y Senedd am 17:54, gyda'r Llywydd yn y Gadair.

6. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar Wasanaethau Mamolaeth a Gwelliannau Llywodraethu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar wasanaethau mamolaeth a gwelliannau llywodraethu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Dwi'n galw ar y Gweinidog iechyd i wneud ei ddatganiad—Vaughan Gething.

17:55

Diolch, Llywydd. Roeddwn eisiau manteisio ar y cyfle heddiw i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y cynnydd o ran gwella gwasanaethau mamolaeth a threfniadau llywodraethu o ansawdd ehangach ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Roeddwn yn credu ei bod yn arbennig o bwysig fy mod yn sicrhau pawb, er bod yn rhaid i ni o reidrwydd roi cymaint o sylw i reoli'r pandemig COVID sy'n dal yma, ein bod hefyd wedi parhau i ganolbwyntio ar feysydd pwysig fel y maes hwn. Roeddwn yn arbennig o awyddus i roi sicrwydd i fenywod a theuluoedd yr effeithiwyd arnynt fod hyn yn wir, a bod y camau a roddais ar waith y llynedd i sicrhau'r gwelliannau gofynnol a pharhaus mewn gwasanaethau mamolaeth wedi parhau dros y cyfnod anodd hwn.

Ar 28 Medi, cyhoeddais y pedwerydd adroddiad diweddaru gan banel goruchwylio annibynnol y gwasanaethau mamolaeth. Mae'r panel wedi parhau i chwarae rhan hanfodol wrth roi'r sicrwydd allanol angenrheidiol bod gwelliannau cynaliadwy yn cael eu gwneud mewn modd amserol a thryloyw. Fe'm calonogwyd yn fawr felly o weld y panel yn cadarnhau bod cynnydd pellach wedi'i wneud dros y chwe mis diwethaf, ac yn arbennig eu hasesiad bod y bwrdd iechyd wedi gwneud yn hynod o dda i gynnal momentwm yn wyneb her COVID-19. Nid wyf yn tanamcangyfrif yr hyn a gyflawnwyd, a hoffwn ddiolch i'r holl staff a oedd yn rhan o'r gwaith hwnnw.

Rwyf yn derbyn ac yn cydnabod bod proses sicrwydd y panel wedi cael rhai cyfyngiadau, fel y maen nhw eu hunain wedi dweud, tra bod y cyfyngiadau COVID yn parhau—yn enwedig eu bod yn methu â chael cyswllt wyneb yn wyneb â menywod a theuluoedd yn ogystal â staff i glywed yn uniongyrchol ganddynt am eu profiadau. Bydd y panel yn ailedrych ar feysydd allweddol unwaith y gellir llacio'r cyfyngiadau er mwyn sicrhau bod y newidiadau wedi'u gwreiddio ac yn gynaliadwy.

Yn amlwg, bu'n rhaid gohirio rhai agweddau eraill ar wella hefyd yn ystod y cyfnod hwn, megis rhaglenni datblygu diwylliannol ac arweinyddiaeth. Bydd angen ailddechrau'r rhain cyn gynted â phosibl, ond yn amlwg, o ystyried y pwysau presennol, rhaid i ni fod yn realistig ynghylch pryd y gallai hynny ddigwydd. Mae'n anffodus hefyd y bu rhaid i ganolfan eni Tirion yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg gau dros dro oherwydd cyfyngiadau staffio yn ystod uchafbwynt cychwynnol COVID. Yn anffodus, bu'n rhaid gohirio unwaith eto gynlluniau i ailagor y ganolfan yr wythnos diwethaf o ystyried yr achosion presennol. Fodd bynnag, bydd y bwrdd iechyd yn adolygu hyn yn rheolaidd ac maen nhw'n benderfynol o ailagor y ganolfan cyn gynted ag y bydd yn ddiogel gwneud hynny.

Heddiw, roeddwn hefyd eisiau rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y cynnydd yn y rhaglen adolygu clinigol. Ar hyn o bryd mae hyn yn cynnwys adolygu'r gofal a ddarperir i fenywod a babanod mewn tri chategori diffiniedig rhwng mis Ionawr 2016 a mis Medi 2018. Mae hyn yn cynnwys gofalu am fenywod, yn enwedig y rhai yr oedd angen eu derbyn i ofal dwys, babanod a oedd, yn anffodus, yn farwanedig neu a fu farw yn y cyfnod newyddenedigol, yn ogystal ag agweddau eraill ar ofal newyddenedigol. Erbyn hyn mae tua 160 o achosion yn cael eu hadolygu, gyda'r nifer wedi cynyddu'n bennaf oherwydd hunanatgyfeiriadau gan fenywod yn gofyn am adolygiad o'u gofal. Mae fy ymrwymiad i fenywod i adolygu eu gofal os oes ganddynt bryder, yn parhau, ac mae proses sefydledig ar waith ar gyfer ystyried ceisiadau hunanatgyfeirio o'r fath.

Felly, mae'r rhaglen adolygu clinigol yn helaeth ac mae'r gwaith wedi parhau heb unrhyw oedi yn ystod yr achosion o COVID. Mae hynny ynddo'i hun yn dyst i ymrwymiad pawb sy'n rhan o hyn. Mae'r panel yn agos at gwblhau adolygiadau'r categori mamolaeth, ac yn ystod yr wythnosau nesaf bydd y panel yn ysgrifennu at y menywod yr effeithir arnynt i rannu eu canfyddiadau â hwy. Yn dilyn hyn, byddan nhw wedyn yn cynhyrchu dadansoddiad thematig o'u canfyddiadau a'u hargymhellion, gyda'r nod o wneud hynny erbyn diwedd y flwyddyn galendr hon. Ar ôl imi ei dderbyn, byddaf wrth gwrs yn ei gyhoeddi, fel gyda holl adroddiadau'r panel.

Mae'r panel wedi pwysleisio'r angen i'r bwrdd iechyd sicrhau bod y dulliau angenrheidiol ar waith i gefnogi menywod, teuluoedd a staff wrth i ganfyddiadau'r adolygiadau clinigol ddechrau dod i'r amlwg. Hoffwn ddiolch hefyd i'r menywod a'r teuluoedd hynny sy'n gysylltiedig am eu hamynedd a'u dealltwriaeth wrth i'r gwaith barhau i fynd rhagddo. Rwy'n sylweddoli ei bod yn anodd aros am ganlyniad yr adolygiad a'r pryder y gallai hyn ei greu. Mae'n bwysig bod y broses hon yn arbenigol, yn drylwyr ac yn canolbwyntio ar brofiadau'r bobl hynny sy'n defnyddio'r gwasanaethau. Yn anffodus, mae hyn yn golygu y bydd yn cymryd peth amser i bob menyw a theulu gael eu hadborth unigol.

Mae'r bwrdd iechyd wedi parhau i wneud cynnydd gyda'i drefniadau ansawdd a llywodraethu ehangach fel rhan o'r gofynion ymyrraeth a dargedir. Maen nhw wedi rhoi model gweithredu newydd ar waith sy'n seiliedig ar ardal dan arweiniad clinigol. Rwyf yn falch o weld y byddan nhw'n lansio eu fframwaith gwerthoedd ac ymddygiad newydd yn ddiweddarach yr wythnos hon. Mae hynny'n dilyn ymgysylltu helaeth â staff, cleifion a rhanddeiliaid.

Mae'r rhain yn gamau pwysig i ddangos eu bod yn sefydliad sydd wir yn cael ei lywio gan ansawdd, yn agored ac yn un sy'n dysgu. Mae'r ffordd agored a thryloyw y maen nhw wedi ymateb i'r achosion presennol a difrifol o'r COVID yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn enghraifft arall o hyn. Nid wyf yn credu y bydd yr un ohonom yn tanamcangyfrif yr effaith y mae hyn wedi'i chael ar ein staff, na'u hymrwymiad i wneud eu gorau glas dros y cymunedau y maen nhw'n eu gwasanaethu.

Deallaf hefyd y bydd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ac Archwilio Cymru yn gwneud gwaith dilynol yn ystod y misoedd nesaf i asesu cynnydd o'i gymaru â'r argymhellion a wnaethant yn yr adolygiad llywodraethu ansawdd y llynedd. Bydd hwn yn ddarn pwysig o waith i roi sicrwydd allanol i ni ynglŷn â graddau'r cynnydd sy'n cael ei wneud.

Mae'n amlwg bod gwaith sylweddol i'w wneud o hyd. Serch hynny, rwyf yn obeithiol y bydd cynnydd yn parhau i gael ei wneud, yn enwedig o ystyried yr ymrwymiad y mae'r bwrdd iechyd a'i staff wedi'i ddangos, yn ystod y cyfnod eithriadol o heriol yr ydym i gyd yn byw drwyddo. Diolch, Llywydd.

18:00

Diolch, Gweinidog, am eich datganiad, ac mae mor briodol bod y datganiad hwn yn cael ei wneud yr wythnos hon, o gofio bod hi'n Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth Colli Babanod, fel y disgrifiwyd ac y crybwyllwyd yn y datganiad busnes a, chredaf, rai cwestiynau a wnaeth y Prif Weinidog ateb hefyd. Rwyf hefyd yn falch o weld y cynnydd sy'n cael ei wneud gan y panel adolygu ac rwy'n ddiolchgar am y briff yr oedd Aelodau wedi gallu ei gael tua phythefnos yn ôl gyda'r panel hwnnw.

Hoffwn ofyn cyfres o gwestiynau i'r Gweinidog ynglŷn â'i ddatganiad: cyfeiriodd, yn amlwg, at yr achosion presennol o COVID-19 yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, ond hefyd mae achosion yn effeithio ar y ddau ysbyty arall sydd yn ardal bwrdd iechyd Cwm Taf. Byddwn yn ddiolchgar i ddeall os effeithiwyd ar wasanaethau mamolaeth o gwbl, ac a yw mamau beichiog a theuluoedd yn cael lefel wahanol o wasanaeth oherwydd yr achosion hyn, gan fod cyfyngiadau arbennig wedi'u rhoi ar waith ar gyfer gwasanaethau eraill yn yr ysbytai? Felly, pe gallech egluro hynny. Hoffwn ddeall hefyd, pan grybwyllwyd y cyfyngiadau staffio hynny yn y ganolfan eni oherwydd y camau cynharach a gymerwyd oherwydd yr achosion o COVID—a all roi sicrwydd nad yw'r cyfyngiadau staffio hynny bellach ar waith ac, unwaith y bydd amgylchiadau arferol yn ôl, nid oes rheswm pam na allai'r ganolfan eni gyflawni ei swyddogaeth lawn o ran cefnogi mamau beichiog?

Hoffwn ddeall hefyd, os yn bosibl, pa lefel o gymorth y mae'n deall y mae'r bwrdd iechyd yn ei rhoi ar waith i deuluoedd y mae'r digwyddiad ofnadwy hwn mewn gofal mamolaeth wedi effeithio arnynt yn ardal Cwm Taf, ynghyd â'r cymorth i staff, yn enwedig o ran yr adolygiadau categori mamau, yn amlwg, y tynnodd sylw atynt, fyddai ar gael cyn y Nadolig. Mae'n hanfodol bod y teuluoedd, yn ogystal â'r staff, yn amlwg, yn cael eu cynorthwyo pan ddaw'r adolygiadau hynny allan a bod rhai o'u casgliadau'n dod yn gyhoeddus.

Yn yr un modd, pan sonia am yr adolygiad clinigol yn dechrau dod i'r amlwg-ac rwy'n deall yn iawn, yn amlwg, y sefyllfa bresennol ac y bydd oedi cyn cyflwyno rhywfaint o'r wybodaeth hon, ond a allai ymhelaethu mwy ar faint o amser y mae'n credu y gallai'r broses adborth ei gymryd? Dywedodd y bydd yn cymryd ychydig mwy o amser na'r hyn y dymunai yn ei ddatganiad, ond credaf pe gallai egluro faint o amser yr ydym yn sôn amdano, yn sicr o safbwynt Aelod o'r Senedd sy'n cynrychioli'r ardal hon, byddai'n ddefnyddiol wrth ymgysylltu ag etholwyr pe gallem ddeall faint o amser y mae'n ei ragweld neu y mae'r panel adolygu yn ei ragweld.

Ac, yn olaf, o ran gwasanaethau mamolaeth yn fwy cyffredinol ledled Cymru, a all roi sicrwydd bod y materion yn ardal Cwm Taf—a gwn ei fod wedi rhoi'r sicrwydd hwn o'r blaen, ond mae'n amlwg bod rhywfaint o amser wedi mynd heibio erbyn hyn—a all roi sicrwydd i ni nad yw gwasanaethau mamolaeth mewn rhannau eraill o Gymru yn dioddef yr un problemau a gafodd Cwm Taf, sef diffyg llywodraethu, diffyg goruchwyliaeth a arweiniodd at ganlyniadau mor drasig i lawer o deuluoedd ag aelod beichiog ar yr hyn a ddylai fod wedi bod yn un o'r achlysuron mwyaf llawen y byddai unrhyw un yn ei brofi yn ei fywyd? Diolch, Llywydd.

18:05

Diolch am y cwestiynau. O ran y darlun eang o wasanaethau mamolaeth ledled Cymru, mae'r sicrwydd rheolaidd y mae adran y prif nyrs yn ei roi o ran gwasanaethau bydwreigiaeth yn dangos bod pryderon yn cael eu trin yn briodol ar draws y gwasanaeth, a bod gwasanaethau mamolaeth yn ddiogel. Ac rwy'n gobeithio bod hynny'n ddefnyddiol o ran darparu'r sicrwydd hwnnw yn sgil yr ymgysylltu rheolaidd a gawn drwy'r prif swyddog nyrsio â gwasanaethau bydwreigiaeth.

O ran yr amser ar gyfer adolygiadau archwiliadau clinigol, ni allaf ac ni fyddaf yn rhoi cyfnod amser pendant, oherwydd rhan o'r her, fel y dywedais yn fy natganiad, yw ein bod wedi gweld cynnydd ac wedi disgwyl i rhwng 140 a 160 o adolygiadau gael eu hadolygu, ac mae'n bosibl y bydd mwy o fenywod a'u teuluoedd yn dod ymlaen. A chredaf na fyddai'n ddefnyddiol i mi osod yr hyn a fyddai'n anochel yn cael ei ystyried yn darged i'r adolygiadau hynny ddod i ben, a'r peth pwysicaf mewn gwirionedd yw i'r adolygiadau ddod i ben. Byddwn yn dysgu mwy wrth i ni fynd drwy gam cyntaf y tri chategori ac, fel y dywedais, yr oeddwn yn gallu dweud heddiw y dylai'r categori cyntaf hwnnw adrodd erbyn diwedd y flwyddyn galendr hon. Ond fy mhrofiad i yw, unwaith y byddwch yn dechrau gosod fframiau amser ar gyfer gwaith a ddylai gael ei arwain gan y dystiolaeth, ac y dylid ei arwain drwy roi ystyriaeth briodol mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, yna mae pwysau amser ei hun yn arwain at effaith annefnyddiol iawn ar deuluoedd ac ar staff.

Mae hynny'n mynd yn ôl at y pwynt am gymorth i deuluoedd, ac rwy'n falch eich bod wedi'i godi, oherwydd mae gennym linell gymorth bwrpasol. Rydym hefyd wedi gallu cael rhywfaint o gefnogaeth gan Sands sy'n elusen, fel y gwyddoch, sy'n ymdrin â cholli babanod, ac mae'r cymorth hwnnw ar gyfer teuluoedd y bydd angen cymorth arnynt. I lawer o deuluoedd, yn anffodus, er eu bod ar y naill law yn edrych ymlaen at gael adolygiad annibynnol o'r gofal y maen nhw a'u teuluoedd wedi'i gael—ac mae'n bwysig cydnabod nad oedd pob teulu yn y 160 o adolygiadau wedi colli plentyn—gan ddeall y byddant, llawer ohonynt, yn ail-fyw profiadau anodd. Felly, mae'n bwysig iddyn nhw gael eu cynorthwyo, a dyna pam y mae'r gefnogaeth benodol honno gennym ar waith.

Bydd angen i ni hefyd gynorthwyo staff a fydd, unwaith eto, yn gweld hyn fel cyfnod anodd o bosibl. Ac fel y cofiwch o adroddiadau blaenorol, ymyrrodd y bwrdd iechyd wrth edrych eto ar ddiwylliannau'r gweithle, a dealltwriaeth o sut y mae rhai o'r ymddygiadau a nodwyd â manylder anodd iawn yn adroddiad cyntaf y panel, sut yr aed i'r afael â'r rheini a symud ymlaen mewn modd cadarnhaol.

Fe wnaethoch chi ofyn cwestiwn am effeithiau COVID ar wasanaethau mamolaeth ac, yn benodol, yn y bwrdd iechyd hwn gyda gweithgarwch, o gofio bod yna nifer o heintiau a gafwyd mewn ysbytai a hefyd COVID sy'n dod i mewn o'r gymuned. Yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, mae canolfan Tirion yn dal ar gau, fel y dywedais yn fy natganiad, felly nid wyf yn disgwyl i'r uned honno dan arweiniad bydwragedd agor nes ei bod yn ddiogel gwneud hynny. Roedd i fod i agor ddechrau mis Hydref ac, fel y dywedais, bydd ar agor pan fydd yn ddiogel gwneud hynny. Mae gwasanaethau mamolaeth ar y ddau safle arall yn parhau ac, wrth gwrs, mae'r tîm bydwreigiaeth cymuned yn parhau i ddarparu gofal mewn cymunedau i fenywod a'u teuluoedd.

Felly, dyna'r sefyllfa bresennol, ond os bydd unrhyw ran o'r darlun hwnnw'n newid, yna byddaf i neu'r bwrdd iechyd yn gwneud hynny'n glir i'r cyhoedd ac, yn wir, i holl Aelodau'r Senedd sy'n cynrychioli'r rhan hon o Gymru.

Leanne Wood. Mae'n ymddangos fod Leanne Wood wedi colli'r cysylltiad. Allwch chi gadarnhau eich bod chi yna, Leanne Wood? Rwy'n gwybod eich bod wedi cael problemau.

Iawn. Diolch, Llywydd. Gweinidog, bydd y diweddariad hwn yn cael ei groesawu gan y menywod a gododd bryderon nifer o flynyddoedd yn ôl, ac a gafodd eu trin yn nawddoglyd a'u hanwybyddu bryd hynny. Nawr, rwy'n falch bod y panel adolygu wedi dod i'r casgliad bod gwelliannau wedi'u gwneud i wasanaethau mamolaeth, ond bydd pryder dealladwy yn y gymuned ynghylch pa un a ddysgwyd gwersi. Wrth gwrs, bydd cwestiynau ynghylch pa un a allai'r achosion presennol o COVID sydd wedi cymryd bywydau llawer o bobl yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg fod wedi eu hatal, ac a yw gweithdrefnau rheoli heintiau wedi bod cystal ag y dylent fod. Gwn fod y Gweinidog yn ei ddatganiad wedi dweud bod y bwrdd wedi bod yn onest ynghylch hyn a bod hyn yn arwydd o gynnydd, a tybed a yw hynny'n awgrymu efallai nad yw'r bwrdd blaenorol wedi bod yn onest. Ond a all y Gweinidog heddiw roi sicrwydd i ni y bydd ymchwiliad i'r achosion hyn yn y dyfodol a rhoi sicrwydd i ni y bydd y bwrdd a Llywodraeth Cymru yn gwbl agored a thryloyw yma, oherwydd, wrth gwrs, bydd hynny'n hanfodol i sicrhau bod gan y gymuned ffydd mewn gwasanaethau lleol?

Mae datganiad y Gweinidog hefyd yn canmol y bwrdd am wneud gwelliannau yng nghyd-destun COVID. Mae'n wir, wrth gwrs, fod angen diolch i staff ein GIG bob dydd am y gwaith digynsail sydd wedi digwydd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Ond mae arnaf ofn bod y Gweinidog wedi hepgor pwysau sylweddol arall y bu'n rhaid i staff Ysbyty Brenhinol Morgannwg ddelio ag ef, a dyna fu'r ansicrwydd ynghylch ei swyddogaeth yn y dyfodol a chwestiynau ynghylch y gwasanaethau yno. Mae wedi bod yn wrthdyniad cwbl ddiangen. Felly, a all y Gweinidog gadarnhau heddiw na fydd y staff yn gorfod ysgwyddo'r gwrthdyniad hwn eto yn y dyfodol, ac y bydd y gwasanaethau damweiniau ac achosion brys yn rhan o Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn y dyfodol ar ôl y pandemig?

Gan symud ymlaen at faterion staffio eraill, gwyddom fod yr uned eni wedi cael problemau staffio a'i bod bellach wedi cau dros dro. Felly, a all y Gweinidog ymrwymo i gynyddu staff fel bod gan yr uned fwy o gydnerthedd drwy'r gaeaf?

Yn olaf, hoffwn ofyn cwestiwn mwy cyffredinol am wasanaethau mamolaeth a fydd o ddiddordeb ehangach, ac mae hynny'n ymwneud â'r rheolau cyffredinol ynghylch mynediad at wasanaethau mamolaeth, geni a newyddenedigol yn ystod y pandemig hwn. Gwyddom fod y gwaharddiad ar ymwelwyr rhag mynd gyda menywod i apwyntiadau a sganiau neu pan fyddant yn yr ysbyty, weithiau o reidrwydd, wedi niweidio'r menywod hynny. Felly, a wnewch ymrwymo i adolygu'r rheolau ac ystyried mesurau a all alluogi'r ddau riant i gymryd rhan ym mhob agwedd ar y beichiogrwydd a'r enedigaeth, a'r amodau y mae angen eu rhoi ar waith er mwyn i bawb allu gwneud hynny'n ddiogel?

18:10

Diolch am yr amrywiaeth o gwestiynau. Gobeithio caiff y diweddariad hwn ei groesawu gan fenywod nad oedd eu pryderon wedi'u cymryd o ddifrif ac a gafodd eu hanwybyddu yn flaenorol. Gorchmynnais yr adolygiad annibynnol gan y cyd-golegau brenhinol ar y sail bod problem amlwg nad oedd wedi'i datrys ac na ellid ei datrys yn foddhaol pe bai'r bwrdd iechyd ei hun yn comisiynu adolygiad, oherwydd ni chredaf y byddai hynny wedi ennyn hyder y cyhoedd, sy'n hanfodol.

O ran y pryder ynghylch pa un a yw gwersi'n cael eu dysgu mewn gwirionedd, dyna'n union pam mae gennym banel annibynnol a phroses sicrwydd annibynnol. Felly, nid yw'n fater o'r bwrdd iechyd yn marcio eu gwaith cartref eu hunain. Mae'r hunanasesiad hwnnw'n arwydd o sefydliad aeddfed a hyderus sy'n gwneud y peth iawn. Ond mae angen i ni fagu hyder o hyd ac mae angen i ni gael goruchwyliaeth annibynnol, felly yn sicr nid yw gwaith y panel annibynnol wedi'i gwblhau, ac rwy'n cydnabod hynny yn fy natganiad ysgrifenedig ac yn fy natganiad i Siambr y Senedd heddiw.

Nawr, o ran y materion sy'n ymwneud â Chanolfan Geni Tirion, a'r gallu i recriwtio staff iddi—caiff ei hail-sefydlu ar sail Birthrate Plus, sy'n ddull gweithlu cydnabyddedig, i sicrhau bod ganddo ddigon o staff a bod cynaliadwyedd wedi'i gynnwys er mwyn gallu gweithredu'n ddiogel ac i'r safon y byddwn yn ei ddisgwyl ar gyfer unrhyw fenyw ar fin rhoi genedigaeth mewn unrhyw ran o Gymru. Ac wrth ymrwymo i Birthrate Plus, mae hwnnw'n ymrwymiad cenedlaethol yr ydym wedi bod yn falch o'i wneud yn y gorffennol, ac rydym wedi gwneud yn gymharol dda o ran recriwtio pobl i fwrdd iechyd Cwm Taf Morgannwg. Roedd peth pryder y byddem yn ei chael hi'n anodd recriwtio oherwydd yr her o ystyried y problemau mewn gwasanaethau mamolaeth a arweiniodd at yr adroddiad hwn ac at yr angen i gael proses wella annibynnol. Ac, unwaith eto, rwy'n credu ei fod yn un o agweddau cadarnhaol goruchwyliaeth y panel. Maen nhw'n cydnabod bod cynnydd yn cael ei wneud a'i fod wedi'u helpu i newid y diwylliant yn gadarnhaol o fewn unedau lle mae'r recriwtio'n digwydd.

Nawr, o ran eich pwynt am ddysgu o'r achosion, nid wyf yn credu bod unrhyw gysylltiad rhwng arferion a nodwyd yn yr adroddiad hwn a'r achosion ei hun. Mae'n sicr y bydd dysgu, ac, yn wir, mae'r prif swyddog meddygol eisoes wedi gofyn am rannu adroddiad gwersi a ddysgwyd yma am yr achosion yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, am yr achosion llai niferus ar hyn o bryd yn ysbytai'r Tywysog Siarl a Thywysoges Cymru, ac edrych yn ôl a dysgu o achos Maelor Wrecsam yn gynharach yn y flwyddyn. Ond, o ystyried y peryglon sy'n bodoli gyda'r achosion cynyddol o COVID y gwelwn drosglwyddo cymunedol yn dod i mewn i nifer o'n hysbytai, mae arnaf ofn, o ystyried y lefelau cynyddol o COVID yn y gymuned, mae'n anochel y gwelwn fwy o bobl yn profi'n bositif yn ein hysbytai yn hytrach na'r bobl hynny sy'n cael eu derbyn gyda COVID wedi'i gadarnhau neu wedi ei amau hefyd.

O ran y canllawiau yr ydym wedi'u rhoi i'r gwasanaeth iechyd ar bartneriaid yn cael mynd gyda menywod ar wahanol adegau yn ystod eu beichiogrwydd, yna rydym wedi cyhoeddi canllawiau a gymeradwywyd gan y prif nyrs a nifer o'r colegau brenhinol yn ddiweddar. Felly, byddaf yn gwneud yn siŵr bod hynny'n cael ei ddosbarthu i'r Aelodau fel y gallwn fod yn glir eto am y canllawiau sydd ar waith, oherwydd nid oes gwaharddiad cyffredinol ar bartneriaid rhag mynd gyda menywod ar wahanol gamau yn ystod beichiogrwydd, nac yn wir yn ystod cymorth ar ôl genedigaeth, gydag ymweliadau cartref gan fydwragedd yn y dyddiau cynnar iawn ar ôl eu geni, ac yn wir ymwelwyr iechyd wedi hynny. Mae rhai heriau yn yr ystad sydd gennym, lle mae her ynghylch cadw pellter cymdeithasol, ac mae angen i'r ysbyty sy'n darparu gofal ac, yn wir, y fenyw a'i theulu weithio ar hyn, ond mae gennym, mi gredaf, sefyllfa eithaf clir y byddaf yn hapus i drefnu ei fod ar gael i'r Aelodau eto.

O ran eich pwynt am ddyfodol meddygaeth frys, dechreuoch drwy ddweud eich bod yn pryderu am fenywod a oedd wedi cael eu hanwybyddu o'r blaen ac y cafodd eu hanghenion eu cynnwys mewn materion eraill. Nid wyf yn credu ei fod yn addas iawn, ar gyfer datganiad sylweddol a phwysig ar wasanaethau mamolaeth a'r gwelliannau a wnaed a'r gwelliannau sydd eu hangen o hyd, i geisio cysylltu maes cwbl ddigyswllt. Mae'r cwestiynau am feddygaeth frys wedi'u datrys gan y bwrdd iechyd oherwydd y recriwtio llwyddiannus sydd wedi'i wneud, ac nid wyf yn credu ei fod yn briodol nac yn helpu'r menywod yr ydym i fod i'w crybwyll heddiw i geisio ail-fyw dadleuon sydd wedi hen ddiflannu.

18:15

Diolch i chi am y wybodaeth ddiweddaraf, Gweinidog. Yn gyntaf, a allaf ddiolch i'r panel goruchwylio am eu gwaith parhaus dros y misoedd diwethaf a nodi bod yr adolygiad yn dweud bod y bwrdd iechyd wedi cadw at ei ymrwymiad i adolygu gwasanaethau mamolaeth yng Nghwm Taf, ac mae hynny i'w groesawu? Fel chithau, hoffwn ddiolch i bawb sy'n ymwneud â chyflawni'r gwelliannau hynny. Yn ail, i gofnodi eto fy nghydymdeimlad diffuant â phawb a ddioddefodd golled ac i gydymdeimlo â'r rhai a gafodd brofiad yn ystod eu beichiogrwydd a'u genedigaeth a oedd ymhell islaw'r hyn y byddem yn disgwyl i'n GIG ei ddarparu.

Gweinidog, mae'r menywod, y teuluoedd ac eraill y mae'r methiannau a nodwyd yn effeithio arnynt ar fin dechrau cyfnod anodd iawn, pan gânt ganlyniadau eu hadolygiadau achos a'u profiad, ac mae'n ddigon posibl mai dyna'r cyfnod anoddaf y maen nhw wedi gorfod ei wynebu hyd yma. Felly, byddwch yn deall bod fy nghwestiwn ar hyn o bryd yn canolbwyntio'n llwyr arnynt. Ac rydych wedi sôn am gefnogaeth i'r teuluoedd yn eich datganiad, ond a allwch fy sicrhau, cyn belled ag y bo modd, y bydd unrhyw drefniadau cymorth a roddir ar waith yn cyd-fynd â dymuniadau'r teuluoedd, y menywod a'r teuluoedd, ac, o ystyried y bydd yr holl brofiadau wedi bod yn wahanol, y caiff y cymorth sydd ar gael iddyn nhw ei deilwra i anghenion pob unigolyn sy'n rhan o'r adolygiadau hyn?

Diolch i chi am y cwestiwn, ac rwy'n hapus iawn i ailadrodd bod angen i ni roi cymorth i fenywod a'u teuluoedd. Fel y dywedais, bydd yn brofiad anodd iawn, ac nid yw'n un y gallaf ddweud fy mod yn ei ddeall, oherwydd nid wyf wedi byw drwy'r profiad hwnnw, ac mae'n bwysig deall y bydd yn wahanol i wahanol bobl. Bydd pobl sydd wedi dioddef colled yn profi hynny'n wahanol, bydd pobl sydd wedi dioddef gofal gwael yn profi hynny'n wahanol, ac mae'n bwysig deall eu hamgylchiadau unigol wrth roi cymorth iddynt. Gallaf ddweud yn onest, yn fy sgyrsiau uniongyrchol â theuluoedd o'r blaen—gwn eich bod wedi gallu mynychu rhai o'r digwyddiadau a gynhaliwyd—fod amrywiaeth wirioneddol o brofiad wedi bod, pryd cafwyd rhai pobl yn bresennol nad oeddent eisiau siarad ag unrhyw un, yn amlwg wedi cynhyrfu ond na allent siarad â phobl; eraill a oedd yn gwerthfawrogi'r ffaith bod aelodau'r panel yno, fy mod i yno; a phobl eraill a oedd yn dal yn hynod o ddig a gofidus. Ac mae'r amrywiaeth hwnnw o emosiynau yn un y gallwn ddisgwyl ei weld eto pan gyhoeddir yr adolygiadau. Ond mae darparu adroddiadau'r panel yn onest yn rhan angenrheidiol o welliant. Ac fel y dywedais, mae gennym gefnogaeth gan amrywiaeth o grwpiau, gan gynnwys grŵp lleol Snowdrop, gan gynnwys Sands, a gan gynnwys cyngor iechyd y pwyllgor lleol hefyd, a'r holl bethau gwahanol y gallant eu gwneud o ran cynorthwyo pobl, ac mae'r llinell gyngor uniongyrchol a'r llwybr cyswllt sydd gan deuluoedd i'r panel yno i sicrhau ein bod yn deall ac y gallwn ymateb i anghenion unigol teuluoedd. Oherwydd, fel y dywedais, nid wyf yn tanamcangyfrif pa mor anodd fydd y profiad, ond, i siarad yn onest, ni fydd yn brofiad y gallaf ei ddeall na'i rannu â hwy, oherwydd yr wyf yn ffodus nad wyf wedi cael yr un profiad â nhw gyda'n gwasanaethau mamolaeth yma yng Nghymru.

18:20

Gweinidog, yn gyntaf, gadewch i mi ddiolch i chi am y datganiad ac am y gwaith sy'n digwydd, a chredaf fod yn rhaid i bob un ohonom—a chredaf ei fod ymhlyg yn yr hyn y mae pawb wedi'i gael—gydnabod y rhan bwysig y mae holl staff y GIG yn yr ysbytai hyn yng Nghwm Taf yn ei chwarae mewn gwirionedd yn yr amgylchiadau anoddaf, fis ar ôl mis, a chredaf ein bod yn dal i groesawu'n fawr beth mae eu cyfraniad yn ei olygu i bob un ohonom.

Mae llawer o'r pethau yr oeddwn eisiau eu gofyn wedi'u hateb, ond, o ran cymorth i deuluoedd, dim ond y mater o sut y caiff hynny ei werthuso. Yr ail beth yr hoffwn ofyn amdano yw'r gymuned: fel y gwyddoch, mae ysbryd cymunedol aruthrol o gefnogaeth i'r ysbytai yn Rhondda Cynon Taf ac yn ardal Merthyr, a gwelwyd hynny'n ddiweddar. Ond sut mae tawelu meddwl ac ailadeiladu hyder? Oherwydd mae'r holl flociau adeiladu iawn ar waith, mae'r holl gamau cywir yn cael eu cymryd; cyn COVID, roeddwn yn gallu ymweld â'r ysbyty, a gweld y cynnydd, y camau, y mentrau newydd, yr arweinyddiaeth newydd a oedd ar y gweill, ond mae yna faes o hyd lle mae'n rhaid i ni argyhoeddi'r gymuned a'u sicrhau bod y cynnydd hwnnw'n ddilys a'i fod yn para'n hir, ac ati.

Ac yna, yn olaf, a allwch roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y camau sydd wedi'u cymryd nawr o ran cyfleu sefyllfa canolfan geni Tirion yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, sydd yn fy etholaeth i, a sut y caiff hynny ei gyfleu i'r teuluoedd hynny y byddai angen iddyn nhw gael mynediad at y gwasanaeth hwnnw'n draddodiadol? Diolch, Gweinidog.

Ymdriniaf â'r pwynt olaf yn gyntaf. Felly, dylai fod gan bob menyw fydwraig gymuned a all roi mynediad uniongyrchol iddi at gymorth ac arweiniad ar gyfer ei beichiogrwydd, pe byddai fel arall wedi bod yn rhoi genedigaeth yng nghanolfan geni Tirion, i esbonio yr ystod o ddewisiadau amgen sydd ar gael iddynt. Ac mae'n bosibl nad o fewn y bwrdd iechyd yn unig y mae hynny, oherwydd gwn fod Cwm Taf Morgannwg yn arbennig wedi bod yn gweithio gyda Chaerdydd a'r Fro i sicrhau y gallant gefnogi ei gilydd, o ystyried yr achosion yn ysbyty Brenhinol Morgannwg ac o ystyried bod effaith yr anallu i staffio'n llawn a staffio canolfan geni Tirion yn ddiogel wedi atal agor yr uned honno dan arweiniad bydwragedd.

O ran eich dau bwynt arall, o ran cymorth, mae gan bob bwrdd iechyd arweinydd ar gymorth profedigaeth, ond yn fwy cyffredinol, cymorth mewn unrhyw ddigwyddiad, ac rydym yn chwilio am gymorth i bob bwrdd iechyd—gan gynnwys Cwm Taf—yn unol â chanllawiau'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal, a bydd y bydwragedd profedigaeth yng Nghwm Taf wedi bod mewn cysylltiad ag amrywiaeth o bobl yn y teulu. Mae rhywfaint o hyn mewn gwirionedd yn ymwneud â mynd drwy faterion hanesyddol, serch hynny, yn hytrach na'r profiad mwy arferol o gymorth yn nes at adeg profedigaeth, a dyna pam yr ydym wedi ymgysylltu ag amrywiaeth o bartneriaid allanol i gynnig y cymorth hwnnw. Ond mae gan unrhyw deulu sy'n pryderu, ar ôl derbyn eu hadroddiad, neu hyd yn oed cyn derbyn eu hadroddiad—linellau cyswllt uniongyrchol i'r panel ei hun i ofyn am y cymorth hwnnw, ac maen nhw hefyd wedi cael cyfle i gysylltu â'r cwnselydd iechyd cymunedol, sydd, a bod yn deg, yn fy marn i wedi gwneud gwaith da yn cynorthwyo menywod a'u teuluoedd i ddeall y dewisiadau sydd ar gael iddyn nhw a'u cefnogi, ac eto i ddeall yr hyn sy'n bwysig iddyn nhw a'u cefnogi i ddod o hyd i'r cymorth a'r llwybr priodol ymlaen.

O ran eich pwynt am hyder y gymuned o ran bod gwelliant yn cael ei wneud, mae hynny'n rhan sylweddol o'r rheswm pam yr ydym yn cael y broses panel annibynnol hon: nodi'n agored ac yn dryloyw pa gynnydd sy'n cael ei wneud, nid gan bobl sy'n cael eu cyflogi gan y bwrdd iechyd, ond gan bobl sydd wedi'u cynnwys yn uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru nad ydynt yn darparu gwasanaeth yng Nghymru. A rhan o hynny yw'r ymgysylltu uniongyrchol gwirioneddol bwysig ag un o aelodau'r panel a grŵp o fenywod o ran ail-ddeall sut y dylai gwasanaethau mamolaeth weithio a gwella yn yr ardal. Felly, mae cysylltiad uniongyrchol, mae mynediad a dealltwriaeth, ac mae'n ymwneud â bod yn agored ac yn dryloyw iawn. Felly, gyda'r holl adroddiadau yr ydym wedi'u cael gyda'r adroddiadau gwella chwarterol, rwyf wedi sicrhau bod teuluoedd yn cael yr adroddiad hwnnw gyntaf, cyn iddo fynd i'r cyhoedd, fel nad yw teuluoedd yn darllen yn y newyddion beth mae'r adroddiadau'n ei ddweud, ac rydym wedi trefnu mynediad uniongyrchol o'r blaen o ran y cyfle i gael cwestiwn ac ateb gydag aelodau'r panel pan fydd yr adroddiadau wedi'u cyhoeddi. Felly, rydym yn sicrhau bod cysylltiadau a llwybrau uniongyrchol ar gyfer y teuluoedd hynny, ac yn wir y cymunedau ehangach y maen nhw'n byw ynddynt. Ac mae angen i ni barhau â'r dull gweithredu hwnnw, gan ein bod yn gobeithio y bydd Cwm Taf yn parhau, ar ei ffurf newydd fel Cwm Taf Morgannwg, ar y daith wella hon i ddarparu'r gwasanaethau o ansawdd uchel yr wyf eisiau eu sicrhau ar gyfer fy etholwyr, a chredaf y dylai pob rhan o Gymru allu eu mwynhau hefyd.

18:25

Mae llawer o ganfyddiadau gwirioneddol gadarnhaol yn adroddiad cynnydd eich panel bod gwasanaethau mamolaeth wedi ymdopi â'r elfennau gwaethaf o COVID-19 a bod uwch dîm yn y bwrdd iechyd prifysgol yn cynnal ei lefel uchel o ymrwymiad. Ac wrth gwrs, rwy'n croesawu hynny yn fawr iawn ar ran fy etholwyr i. O ran edrych i'r dyfodol a sicrhau bod gwasanaethau mamolaeth o'r safon uchaf bosibl i'n holl deuluoedd, mae'r camau 'gwneud yn ddiogel' sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad yn allweddol. Ac rwy'n sylwi bod materion sy'n ymwneud â'r newid diwylliannol hirdymor yn dal heb eu datrys, a'r gwaith sy'n ymwneud â chryfhau arweinyddiaeth yn yr un modd. Felly, Gweinidog, a wnewch chi ddweud rhywfaint yn fwy am y materion hyn, gan mai nhw oedd rhai o'r rhannau mwyaf gofidus yn y cwynion gwreiddiol?

Rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn, oherwydd dywedais yn fy natganiad y bu'n rhaid oedi rhai elfennau o hynny, ond maen nhw'n bwysig iawn o ran rhoi'r sicrwydd hwnnw y mae Aelodau eraill wedi gofyn amdano hefyd. A rhan o hyn—os ydym ni am gael asesiad gonest ohono, ni allwn ni ddweud yn syml, ymhen chwe mis, neu ymhen 12 mis, y gallwn ni ei groesi oddi ar y rhestr. Oherwydd, mewn gwirionedd, nid yw'r newid diwylliannol hirdymor a'r camau sefydlu arweinyddiaeth dosturiol o ansawdd uchel, i staff ac i'r cyhoedd maen nhw'n eu gwasanaethu, yn rhywbeth yr wyf i'n credu y gallwch chi osod y math hwnnw o amserlen arno. Mae'n un o'r pethau lle rydych chi'n gwybod os yw yno ac rydych chi hefyd yn gwybod os nad yw yno hefyd, ac i wybod bod y newid yn cael ei gynnal hefyd.

Felly, byddwn ni'n ceisio bod ag amrywiaeth o wahanol ddulliau. Dyna pam mae'n bwysig i'r panel allu cael sgyrsiau â menywod a theuluoedd sy'n defnyddio'r gwasanaethau yn awr ar ryw ffurf—byddan nhw'n gallu gwneud hynny wyneb yn wyneb pan fydd yr amgylchiadau yn caniatáu hynny, pan fydd yn ddiogel gwneud hynny, ond hefyd i ryngweithio â staff a'u cynrychiolwyr. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn bod cynrychiolwyr undebau llafur sy'n cynrychioli'r staff yn gallu rhyngweithio â'r panel i nodi'n onest eu barn ar y gwasanaeth fel y mae ar hyn o bryd a'r cynnydd sy'n cael ei wneud. Rwyf i yn credu ei bod yn deg dweud bod y cyfarwyddwr gweithredol nyrsio a bydwreigiaeth, Greg Dix, wedi gwneud gwahaniaeth, ac ystyrir ei fod yn rhywun sydd wedi dod i mewn ar ôl digwyddiadau, ac felly ystyrir ei fod mewn swyddogaeth o fod yn arweinydd gonest heb gysylltiad â'r gorffennol—mae hynny wedi bod yn ddefnyddiol iawn, yn fy marn i. Ond mae'n bwysig sicrhau, wrth i ni fynd trwy'r broses wella hon, nad ydym yn ceisio rhuthro o fod eisiau gallu datrys yr holl faterion sy'n peri pryder. Mae gennym ni ateb llawer mwy cyson ar gyfer gwella. Oherwydd y syniad yw bod gennym ni, ar ddiwedd y broses hon, wasanaeth o ansawdd uchel, hunangynhaliol ac y mae gan bobl hyder ynddo, yn hytrach nag un yr ydym ni wedi arwain at—rydym ni wedi gweithio i derfyn amser artiffisial a allai fod yn addas i wleidydd fel fi, yn hytrach nag, mewn gwirionedd, y staff sy'n gweithio yn y gwasanaeth a'r menywod a'u teuluoedd sy'n dibynnu arno.

Diolch i'r Gweinidog am hynna.

Yr eitemau nesaf yw 7 ac 8 ar y rheoliadau hynny o dan eitem 7 ac 8. Ac yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, oni bai bod Aelod yn gwrthwynebu, bydd y ddau gynnig o dan eitemau 7 ac 8 ar y rheoliadau diwygio iechyd yn cael eu grwpio ar gyfer y ddadl, ond gyda phleidleisiau ar wahân. Os nad oes yna wrthwynebiad i'r grwpio o ran y ddadl, mi wnawn ni symud ymlaen.

7. & 8. Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 16) (Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam) 2020 a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 17) 2020

Dwi'n mynd i alw'r Gweinidog iechyd i gyflwyno'r rheoliadau. Dwi ddim yn gweld y Gweinidog iechyd ar hyn o bryd. Ydy'r—? Y Gweinidog iechyd.

18:30

Llywydd, ymddiheuriadau. A gaf i un eiliad cyn dechrau'r ddadl? Mae rhywbeth y mae angen i mi ymdrin ag ef lle'r ydw i. Rwy'n ymddiheuro, ond a gaf i 30 eiliad?

Okay. You can have 30 seconds.

Mae'n rhaid i mi ofyn i'r Gweinidog iechyd ddod i'r meicroffon.

Nid wyf yn credu bod y Gweinidog iechyd yn barod ar gyfer yr eitem hon ac, felly, rwy'n mynd i ohirio'r eitem tan yn ddiweddarach y prynhawn yma, a byddaf i, yn y cyfamser, os oes modd, yn galw'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol. A yw'r Gweinidog llywodraeth leol yno? Unwaith eto, nid yw'n ymddangos ei bod hi yno.

Gweinidog Iechyd, a gaf i ofyn i chi a ydych yn barod i gyflwyno'r rheoliadau erbyn hyn?

Nac ydw, yn anffodus. Pe gallech chi roi 10 eiliad arall i mi byddaf i'n gallu dechrau. Ymddiheuriadau, Llywydd, mae'n hynod—[Torri ar draws.]

Rydym ni'n amyneddgar iawn gyda chi. Hoffech chi egluro wrthym ni beth yw'r broblem, Gweinidog iechyd? A ydych mewn sefyllfa, yn awr, i allu cyflwyno'r rheoliadau?

Ymddiheuriadau, Llywydd. Rwyf i mewn sefyllfa erbyn hyn i gyflwyno'r rheoliadau, a diolch i chi am y cyfle i ailosod a gallu dechrau, Llywydd. Rwy'm ymddiheuro am dorri ar draws y trafodion.

Cynnig NDM7425 Rebecca Evans

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 16) (Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Medi 2020.

Cynnig NDM7424 Rebecca Evans

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 17) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Hydref 2020.

Cynigiwyd y cynigion.

Y rheoliadau sydd ger ein bron heddiw yr wyf i'n eu cynnig yn ffurfiol ac yn gofyn i'r Senedd eu cefnogi yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 16) (Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam) 2020. Byddaf i'n cyfeirio atyn nhw o hyn allan fel y rheoliadau diwygio perthnasol. Mae rheoliadau Rhif 16 yn cyfeirio at Gonwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam. Ac rwyf i'n cynnig Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 17) 2020.

Fel yr ydym ni wedi gweld yn ystod y pandemig coronafeirws, rydym ni wedi mabwysiadu dull sy'n seiliedig ar dystiolaeth, gan ystyried y cyngor diweddaraf gan adran y prif swyddog meddygol a'n cynghorwyr gwyddonol ein hunain yn Llywodraeth Cymru. Rydym ni'n gweld cynnydd mewn achosion coronafeirws ledled y wlad. Fe wnaethom ni'r penderfyniad i gyflwyno mesurau ychwanegol ar draws y pedwar awdurdod yn y gogledd ar sail cynnydd parhaus a chynnydd disgwyliedig gan ein cynghorwyr iechyd proffesiynol ac iechyd cyhoeddus yn y pedwar ardal berthnasol. Yn ogystal â defnyddio metrigau o ran y data mewn achosion ym mhob 100,000 o bobl, rydym ni hefyd yn defnyddio gwybodaeth o'n gwasanaeth profi, olrhain a diogelu am y cynnydd tebygol mewn achosion, a hefyd gan ein hymgynghorwyr mewn clefydau trosglwyddadwy.

Ar y sail honno, fe wnaethom ni i weithredu'r rheoliadau y dilyn patrwm cyson y bydd yr Aelodau yn gyfarwydd ag ef erbyn hyn. Cyflwynodd y rhain ofynion i aros o fewn y sir oni bai bod esgus rhesymol dros beidio â gwneud hynny, ac rydym ni wedi trafod y rhestr o esgusodion rhesymol o'r blaen. Fe wnaethom ni gyflwyno amrywiaeth o fesurau, gan gynnwys atal aelwydydd estynedig. Fel y bydd yr Aelodau yn cofio, rydym ni bellach wedi cyflwyno rheoliadau sy'n golygu y gall aelwydydd un oedolyn barhau i grwpio ag aelwyd arall, ond ag uchafswm o ddau bob amser, mewn trefniant unigryw.

Y rheoliadau teithio lleol yw'r rhai sydd wedi derbyn y sylw mwyaf, ac, unwaith eto, mae'r dystiolaeth bresennol wedi dangos bod cyfyngiadau ar deithio yn arwain at leihau nifer yr achosion o'r feirws. Byddwch chi'n gweld bod y Prif Weinidog, heddiw, wedi ysgrifennu unwaith eto at y Prif Weinidog y DU yn gofyn am drefniadau cyfatebol i sicrhau na all pobl o ardaloedd lle mae llawer o achosion yn gallu teithio i Gymru a thrwyddi. Rydym ni hefyd wedi darparu gwybodaeth sy'n nodi unwaith eto y dystiolaeth sydd ger ein bron, bod teithio i mewn ac allan o ardaloedd yn gwneud gwahaniaeth o ran trosglwyddo'r feirws.

Mae'r rhain yn ddewisiadau anodd a chytbwys y mae'n rhaid i ni eu gwneud ynglŷn â sut yr ydym yn cadw Cymru'n ddiogel. Rwy'n cydnabod bod amrywiaeth barn ar yr holl gamau yr ydym yn ceisio'u cymryd, ond rwyf i yn gofyn i'r Aelodau eu cefnogi, yn enwedig oherwydd, ers cyflwyno'r rheoliadau hyn, rydym ni wedi gweld y cynnydd disgwyliedig mewn achosion yn y pedwar awdurdod hyn. Ond rydym ni hefyd, erbyn hyn, yn wynebu llawer mwy o ddewisiadau arwyddocaol ac anodd y bydd yn rhaid i ni eu gwneud wrth i ni geisio cadw Cymru'n ddiogel ac, yn benodol, wrth i ni geisio gwneud hynny cyn gaeaf a hydref heriol iawn, iawn. Rwy'n edrych ymlaen at glywed cyfraniadau'r Aelodau ac ymateb i'r ddadl. Diolch, Llywydd.

18:35

Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mick Antoniw.

Diolch, Llywydd. Mae'r ddwy set o reoliadau yn diwygio prif Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020. Nawr, daeth rheoliadau diwygio Rhif 16 i rym ar 1 Hydref ac, fel y mae'r teitl yn ei awgrymu, maen nhw'n dynodi Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam yn ardaloedd diogelu iechyd lleol, gan osod cyfyngiadau penodol arnyn nhw. Mae'r rheoliadau yn cynnwys yr un cyfyngiadau sydd wedi eu rhoi ar waith ar gyfer ardaloedd eraill sydd wedi eu dynodi yn ardaloedd diogelu iechyd lleol. Cododd ein hadroddiad dri phwynt rhinwedd. Yr wythnos diwethaf, dywedais y byddem ni'n ystyried i ba raddau yr oedd memoranda esboniadol yn cynnwys tystiolaeth ynghylch pam mae cyfyngiadau symud yn cael eu gosod ar ardaloedd. Mae'r ystyriaeth honno yn llywio ein pwynt rhinwedd cyntaf. Mae'r memorandwm esboniadol yn nodi bod rheoliadau diwygio Rhif 16 yn ymateb i'r bygythiad i iechyd pobl o'r coronafeirws ac i'r bygythiad a achosir gan nifer cynyddol yr achosion a lledaeniad y coronafeirws yn yr ardaloedd hyn ac yn ehangach. Pan fo'r cyfyngiadau coronafeirws yn cael eu tynhau mewn unrhyw ffordd arwyddocaol, rydym ni'n credu y dylai'r memoranda esboniadol nodi'r dystiolaeth y mae Llywodraeth Cymru yn dibynnu arni wrth benderfynu bod tynhau o'r fath yn angenrheidiol ac yn gymesur. Felly, o ran rheoliadau diwygio Rhif 16, mae ein hadroddiad yn gofyn i Lywodraeth Cymru nodi'r dystiolaeth a ddangosodd, yn gyntaf, y dylai Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam fod yn destun cyfyngiadau lleol yn y ffordd y maen nhw; yn ail, bod cymaint o frys am yr angen am gyfyngiadau lleol yn yr ardaloedd hynny nad oedd amser i'r Senedd gymeradwyo drafft o'r rheoliadau ymlaen llaw; ac yn drydydd, nad oedd angen i ardaloedd o Gymru fod yn destun cyfyngiadau lleol.

Ar ôl ein cyfarfod pwyllgor ddoe, cawsom ymateb Llywodraeth Cymru i'n hadroddiad, a darperir yr ymateb gydag agenda y Cyfarfod Llawn heddiw. Yn ein barn ni, bydd cynnwys tystiolaeth o'r fath yn y memoranda esboniadol yn y dyfodol yn helpu tryloywder yn ogystal â phrosesau craffu y pwyllgor ar gyfyngiadau y coronafeirws. Bydd hyn yn arbennig o bwysig pe byddai ardaloedd o Gymru yn mynd i gyfres o gyfyngiadau symud treigl yn ystod y misoedd nesaf. Mae ein hail a'n trydydd pwynt teilyngdod yn tynnu sylw at gyfiawnhad Llywodraeth Cymru dros unrhyw ymyrraeth bosibl â hawliau dynol a diffyg ymgynghori ar y rheoliadau.

Rwy'n troi yn awr at reoliadau diwygio Rhif 17, a ddaeth i rym ar 3 Hydref. Mae'r diwygiadau i'r prif reoliadau yn benodol yn caniatáu i aelwyd sy'n cynnwys dim mwy nag un oedolyn sy'n byw mewn ardal diogelu iechyd leol ac aelwyd arall sydd hefyd yn byw yn yr ardal ffurfio aelwyd estynedig dros dro. Maen nhw hefyd yn caniatáu i safleoedd sglefrio agor, ac maen nhw'n gwneud mân ddiwygiadau canlyniadol. Mae ein pwyntiau adrodd unwaith eto yn tynnu sylw at gyfiawnhad Llywodraeth Cymru dros unrhyw ymyrraeth bosibl â hawliau dynol a diffyg ymgynghori ar y rheoliadau. Diolch, Llywydd.

Gweinidog, diolch i chi am eich sylwadau agoriadol. Rwy'n gwerthfawrogi y bu ad-drefnu yn y Llywodraeth, ond mae'n ymddangos bod angen mwy o gymorth arnoch i gadw at eich amserau ar y datganiadau hyn. Roedd yn hynod anffodus, a dweud y lleiaf, ddechrau'r ddadl a'r drafodaeth ynghylch y rheoliadau pwysig iawn hyn y prynhawn yma.

Fel Ceidwadwyr Cymru, byddwn ni yn pleidleisio yn erbyn rheoliadau diwygio Rhif 16, sy'n cyfeirio at Gonwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam, ond byddwn ni yn cefnogi rheoliadau Rhif 2, sef eitem 8 ar yr agenda, sy'n cyfeirio at aelwydydd estynedig, sydd, yn ein barn ni, yn ychwanegiad pwysig, yn amlwg, i gynorthwyo pobl sy'n byw ar eu pen eu hunain.

Os caf i sôn am rai o'r rhesymau dros ein gwrthwynebiadau, sydd yn y bôn yn adlewyrchu'r un gwrthwynebiadau y gwnaethom ni eu cyflwyno yr wythnos diwethaf, wrth bleidleisio yn erbyn y cyfyngiadau a gyflwynwyd yr wythnos diwethaf: nid ydym ni yn credu bod y cyfyngiadau ar siroedd cyfan y mae'r Llywodraeth wedi eu rhoi ar waith yn angenrheidiol yn y pen draw yn yr holl ardaloedd a nodir yn y rheoliadau hyn a byddai dull llawer mwy penodol wedi bod yn llawer mwy addas yn yr achos hwn. Mae'r Llywodraeth wedi profi ddwywaith eu bod nhw'n gallu gwneud hyn erbyn hyn—unwaith yn Llanelli ac, yn amlwg, unwaith ym Mangor. Bydd llawer o bobl yn y gogledd sy'n dioddef o dan arfer cyfyngiadau ar draws y sir gyfan yn meddwl, 'Wel, pam ym Mangor lle mae cyfradd heintio o 400 ym mhob 100,000 o bobl, tra bod cyfraddau heintio llawer is mewn rhannau eraill o'r gogledd?' Gellid bod wedi gweithredu dull llawer mwy penodol gyda chanlyniadau gwell, byddwn i'n awgrymu, ac felly byddwn i'n ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog dynnu sylw at pam y nodwyd bod angen cyfyngiadau symud ar draws y pedair sir arall pan gafodd Gwynedd gyfyngiadau ar dref/dinas gyfan yn unig ym Mangor, lle mae cyfradd heintio lawer uwch.

Hoffwn i ddeall hefyd pryd y bydd yr adolygiad pythefnosol o effeithiolrwydd y rheoliadau blaenorol yr ydym ni wedi eu gweld ar gyfer y Fro, Caerdydd, Torfaen, Castell-nedd Port Talbot ar gael, oherwydd, unwaith eto, er mwyn cadw hyder y cyhoedd, mae'n bwysig iawn bod y cyhoedd yn deall effeithiolrwydd y camau hyn ac, mewn gwirionedd, pa un a ydyn nhw yn cael effaith ar atal y feirws.

Soniodd y Gweinidog, yn ei sylwadau agoriadol, am y llythyr y mae'r Prif Weinidog wedi ei anfon heddiw at Brif Weinidog y DU yn gofyn am fwy o gyfyngiadau teithio, ac fe wnes i ofyn i Brif Weinidog Cymru, ond ni chefais ateb ganddo, ynghylch y cyngor SAGE a roddwyd ym mis Medi ar effeithiolrwydd cyfyngiadau teithio, ac fe wnaethon nhw ddweud—dyma'r ddogfen SAGE rwy'n ei darllen—byddan nhw'n cael effaith fach ac roedd ganddyn nhw hyder cymedrol yn y canlyniadau. Fe wnaethon nhw ddweud hefyd fod eithriadau a gorfodaeth yn debygol o fod yn gymhleth iawn i'w cyflawni. Byddwn i'n ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog nodi a yw'n gweithio mewn gwirionedd ar sail y cyngor hwn y mae SAGE wedi ei roi i'r Llywodraeth wrth sôn am eithriadau teithio, yn enwedig pan fo'n sôn am effaith fach a hyder cymedrol yn unig. Mae yn ymddangos bod llawer o greu penawdau yn hytrach na dilyn yr wyddoniaeth o ran rhai o'r rheoliadau y mae'r Llywodraeth yn eu cyflwyno ar hyn o bryd. Yn benodol, o ran y llythyr y mae'r Prif Weinidog wedi ei anfon heddiw a'r sôn am y ddogfen friffio sydd wedi ei hanfon ynghlwm ag ef—ac nid yw'r ddogfen friffio honno wedi ei hadolygu gan gymheiriaid—nid yw hynny yn brawf pendant. Dyma'r geiriau sydd wedi eu datgelu i'r wasg heddiw, gan fod y wasg wedi gweld y ddogfen hon ond nid ydym ni fel Aelodau'r Cynulliad wedi gweld y ddogfen hon. Felly, unwaith eto, o'r meinciau hyn, byddem ni yn amheus iawn o'r ffordd y mae'r Llywodraeth yn cynnig (a) torri cylched a (b) cyfyngiadau teithio pellach, oherwydd o'r hyn yr ydym ni yn ei weld yn y dystiolaeth sydd wedi ei chyflwyno, nid yw'r dystiolaeth yn cefnogi'r ffordd honno. Hoffwn i dynnu sylw hefyd at y ffaith bod cynrychiolydd Ewrop yn Sefydliad Iechyd y Byd heddiw wedi ei roi ar gofnod yn dweud na fyddai cyfyngiadau torri cylched yn effeithiol a'u bod yn cael llawer mwy o effeithiau niweidiol ar iechyd meddwl ac iechyd a lles corfforol, ac rwyf i'n credu bod hynny yn rhywbeth y mae angen i'r Llywodraeth fyfyrio arno, yn hytrach na dilyn cais Keir Starmer am 5 o'r gloch heddiw am gyfyngiadau symud.

18:40

Fel yr wythnos diwethaf, mi fyddwn ni'n atal pleidlais ar un o'r rheoliadau heddiw, a hynny am yr un rheswm. Wythnos yn ôl, mi oeddem ni'n trafod cyfyngiadau ar draws nifer o siroedd yn y de. Mi ddywedais i a sawl Aelod arall, yn cynnwys Cadeirydd y pwyllgor deddfwriaeth, fod y sefyllfa yn annerbyniol, dwi'n meddwl, lle rydyn ni'n cael cais i gymeradwyo rheoliadau sy'n gosod cyfyngiadau ar ardaloedd heb gael gweld data sydd yn rhoi darlun digon cynhwysfawr inni allu dod i benderfyniad ynglŷn â phriodoldeb y rheoliadau hynny. Ac er bod y Llywodraeth wedi cael bron wythnos wedyn i ymateb i hynny, yn anffodus mi fethwyd â rhoi y math yna o ddata manwl i'r pwyllgor deddfwriaeth unwaith eto ac i ninnau fel deddfwyr ar gyfer y set nesaf o reoliadau yma rydyn ni'n eu trafod heddiw yn ymwneud â phedair sir yn y gogledd. 

Rydyn ni, wrth gwrs, yn cydnabod bod y sefyllfa yma yn eithriadol a bod yna amgylchiadau lle mae angen i'r Llywodraeth weithredu drwy osod cyfyngiadau neu gyflwyno rhyw newidiadau brys eraill mewn ffordd sy'n symud yn gynt na mae'r broses graffu normal yn gallu digwydd. Dyna pam rydym ni fel Senedd wedi cytuno i'r dull cyffredinol yma o weithredu, ond, yn gyntaf, mae'n rhaid i'r Llywodraeth drio sicrhau bod y craffu yn gallu digwydd mor gyflym â phosib—pwynt rydyn ni wedi ei wneud o'r blaen. Ond, yn ail, mae'n rhaid iddyn nhw ein harfogi ni fel y rhai sydd yn gwneud y craffu efo'r data y maen nhw yn ei ddefnyddio i ddod i'w penderfyniadau nhw. Yn yr achos yma, gofyn yn syml ydyn ni am ddata manwl ynglŷn â lle mae achosion o COVID, lle mae yna glystyrau, beth ydy'r patrymau, lle mae'r ardaloedd o risg uwch, a hynny er mwyn inni allu penderfynu ydyn ni'n cytuno bod y targedu yn digwydd mor fanwl ag y gall o. Felly, ymatal fyddwn ni eto ar welliant Rhif 16.

A thra fy mod i'n sôn am yr angen i rannu data a chyfathrebu efo ni fel Senedd, gaf i bwysleisio'r rhwystredigaeth dwi'n ei chlywed gan gynrychiolwyr lleol—nid dim ond Aelodau'r Senedd, gyda llaw, ond ar lefel llywodraeth leol hefyd—fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru gyfathrebu yn well ynglŷn â rhesymeg cyfyngiadau, y data, y cefndir, y goblygiadau, nid dim ond er ein mwyn ni, a hwyluso ein gwaith ni, ond fel ein bod ni'n gallu cyfathrebu yn well ac ateb cwestiynau ein hetholwyr ni? Oes, mae yna alwadau ffôn wedi bod yn dod gan y Gweinidog, ar y funud olaf yn reit aml, ond dwi yn gofyn am ddatblygu protocols ynglŷn â sut i rannu gwybodaeth, pa wybodaeth i'w rhannu, pryd i'w rhannu, ac ati, achos mae cyfathrebu yn rhan bwysig iawn, iawn o'r frwydr yn erbyn y feirws.

Ar yr ail set o reoliadau, wedyn, mi fyddwn ni'n pleidleisio dros hwn. Mi fydd y Gweinidog yn gwybod fy mod i wedi codi droeon fy mhryder am impact y pandemig yma ar lesiant pobl, ar unigrwydd, iechyd meddwl. Dwi'n clywed tystiolaeth ar lafar gan weithwyr iechyd sy'n poeni bod yna gynnydd mewn problemau iechyd meddwl, hunan-niweidio, hunanladdiad hyd yn oed. Beth sydd gennym ni yn y rheoliadau yma ydy caniatâd i bobl sy'n byw ar eu pennau eu hunain mewn ardaloedd dan gyfyngiad uwch i ddod at ei gilydd i gael cwmni. Mae hynny'n dda, ond dwi yn gofyn i'r Llywodraeth ddod â strategaeth glir iawn i ni i ddangos bod llesiant yn ffactor gwbl ganolog i gamau'r Llywodraeth i geisio taclo'r feirws, achos mae yna fygythiadau yma i les pobl gan y feirws ei hun, ac mae yna fygythiad i les ac iechyd yn ehangach.

Yn olaf, o ran deddfwriaeth arall, rheoliadau eraill y byddem ni yn licio eu gweld, dwi'n gwybod bod y Prif Weinidog wedi ysgrifennu droeon erbyn hyn at Brif Weinidog y Deyrnas Unedig, ac dwi'n meddwl bod yr amser i lythyru wedi dod i ben: mae'r amser i weithredu wedi cyrraedd erbyn hyn. Er bod Prif Weinidog Cymru wedi penderfynu chwarae rhyw gêm unoliaethol od yn ymateb i Adam Price y prynhawn yma, mae ein pwynt ni fel plaid yn glir iawn: pa un ai o fewn Cymru neu rhwng gwahanol wledydd a'i gilydd, mae yna risg, ac dwi'n gwybod bod y Prif Weinidog yn cytuno â ni, mewn pobl yn teithio o ardal risg uchel i ardal risg llai. Rydyn ni'n meddwl y dylai fod yna gyfyngiad ar deithio. Mae'r cyfyngiad yn bodoli o fewn Cymru. Dydy o ddim yn bodoli o Loegr i Gymru, felly gofyn i chi sgwario'r cylch hwnnw ydyn ni ac i sicrhau bod yna gysondeb. Defnyddiwch y grymoedd sydd gennych chi.

18:45

Mae Rhun ap Iorwerth yn y fan yna yn sôn am wneud cylch penodol yn sgwâr, ond yn ôl yr hyn a ddeallaf i, y galw yw bod Lloegr yn gwneud yr un peth gydag ardaloedd risg uchel yn Lloegr ag y mae'r ddeddfwriaeth yn ei wneud yng Nghymru, ac eto mae Plaid Cymru yn ymatal ar y ddeddfwriaeth i roi'r pedair sir hyn yn y gogledd dan gyfyngiadau symud. Maen nhw'n mynnu y dylai Llywodraeth y DU, drwy rym y gyfraith, bleidleisio i gael y cyfyngiadau symud hynny o amgylch ardaloedd sirol neu ardaloedd awdurdodau lleol yn Lloegr y maen nhw'n gwrthod eu cefnogi yng Nghymru. Rwy'n falch iawn o weld bod y Ceidwadwyr unwaith eto yn pleidleisio yn erbyn y mesurau cyfyngiadau symud hyn ar gyfer y pedair sir yn y gogledd, fel y gwnaethon nhw yn y de, ac eithrio Llanelli.

Y diffyg eglurder yma: pam ffin sirol? Pam mae'n mynd dros y ffin sirol? Mewn ardal dan sylw lle mae gennych chi bedwar gyda'i gilydd, pam mae mor beryglus mynd o un o'r pedair sir hynny i'r lleill pan fo ganddyn nhw lefelau tebyg o heintiau? Pam mae'n ddiogel mynd o fewn ardal eich cyngor, neu yn achos Gweinidogion, i fynd o'u cartref i Barc Cathays ond nid i'r fan yma, ac eto mae mynd y tu hwnt iddyn nhw yn beryglus yn sydyn? Sut y gallwch chi fynnu bod Llywodraeth y DU yn gwneud yn Lloegr yr hyn y mae hyd yn oed eich cefnogwyr cyffredinol ym Mhlaid Cymru yn y fan yma yn gwrthod ei wneud yng Nghymru? Fe wnaethoch chi ychwanegu at hyn, neu fe wnaeth y Prif Weinidog, at y llythyr at Brif Weinidog y DU, astudiaeth wyddonol, mae'n debyg, neu felly y cafodd ei disgrifio. Rwy'n credu ei bod wedi ei disgrifio yn fedrus, o leiaf gymaint â phosibl ar sail yr wybodaeth gyfyngedig, gan Andrew R.T. Davies, ond os nad yw hyd yn oed yr awduron o'r farn ei bod yn dangos unrhyw beth, ac os nad yw wedi ei hadolygu gan gymheiriaid, o ba werth yw hyn, a sut ar y ddaear y mae'n mynd i argyhoeddi'r Prif Weinidog i wneud yn Lloegr yr hyn yr ydych wedi ei wneud yng Nghymru? Nawr, mewn cwestiynau yn gynharach, fe wnaeth y Prif Weinidog, rwy'n credu, nifer o sylwadau ynghylch y papur hwn, ac nid wyf i'n hollol siŵr a oeddwn i'n ei ddeall ai peidio, ond rwy'n credu y gwnaeth gyfeirio atyn nhw'n ymchwilio i garthffosydd a phrofi gwastraff dynol amrywiol mewn gwahanol grynodiadau a faint o'r coronafeirws oedd i'w weld, ac yna rywsut y cafodd hynny ei fapio ar y genom dynol a phenderfynwyd bod mwyfwy ohono gan bobl â genomau y mae'n rhaid eu bod o Loegr yn hytrach nag o Gymru. Nawr, rwy'n gobeithio fy mod i wedi camddeall yr hyn a ddywedodd y Prif Weinidog, ond a wnewch chi gadarnhau hynny ac a wnewch chi gyhoeddi'r astudiaeth hon fel y gall Aelodau'r Senedd yn ogystal â'r Prif Weinidog weld dilysrwydd, neu fel arall, rywbeth sydd, o'r hyn yr ydym ni wedi ei weld, yn swnio'n eithaf amherswadiol?

Byddwn ni'n pleidleisio yn erbyn y rheoliadau hyn, Rhif 16, i orfodi cyfyngiadau pellach. Rydym ni wedi penderfynu cefnogi Rheoliadau Rhif 17 ar y cyfan. Rwy'n credu eu bod nhw yn ailagor canolfannau sglefrio iâ, ac rydym ni yn credu ei fod yn syniad da caniatáu o leiaf i aelwydydd un person gymysgu ag aelwyd arall. Fodd bynnag, Gweinidog, a wnewch chi egluro'r amwysedd yn yr hyn y gwnaethoch ei ddweud yn gynharach, oherwydd fe wnaethoch chi ddweud bod yn rhaid i'r nifer uchaf fod yn ddau, ond ni wnaethoch nodi ai dau unigolyn neu ddwy aelwyd oedd hynny? Felly, mae'n rhaid i un o'r aelwydydd fod yn unigolyn unigol; ydyn nhw'n cael cymysgu ag aelwyd arall â mwy nag un unigolyn ynddi, neu ag aelwyd un aelod arall yn unig? Diolch.

18:50

Byddai'n anghyfrifol iawn i unrhyw Aelod o'r Senedd hon gefnogi camau gorfodi cyfyngiadau sylweddol ar ein hetholwyr pan nad ydym ni wedi cael digon o dystiolaeth i allu eu cyfiawnhau. Mae gan Lywodraeth Cymru ddyletswydd gyfreithiol, fel y gwnaethom ni glywed yn gynharach, i ddangos bod unrhyw gyfyngiadau y mae'n eu gosod ar bobl Cymru yn gymesur ac yn angenrheidiol, ac eto maen nhw wedi methu â darparu'r data i gefnogi eu safbwynt.

Nawr, fel person sy'n cynrychioli etholaeth sy'n pontio dwy ardal awdurdod lleol, Conwy a Sir Ddinbych, mae'n ofid i mi, er gwaethaf gofyn dro ar ôl tro am yr wybodaeth hon a'r data hyn gan Weinidogion ac, yn wir, gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ac, yn wir, gan fy mwrdd iechyd lleol fy hun, fod Llywodraeth Cymru a'r holl gyrff eraill hynny wedi methu â'i darparu. Nid yw'r data sydd ar gael i'r cyhoedd yn dangos i mi y cyfraddau achosion y coronafeirws yn ôl cymuned. Mae'n bosibl mewn gwirionedd ei fod yn rhoi cymunedau mewn rhannau risg isel iawn o Gonwy a Sir Ddinbych mewn mwy o berygl oherwydd ein bod yn annog pobl o rannau risg uchel o'r siroedd i deithio i'r rhannau risg is hynny o'r siroedd, os ydym am gredu yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddweud ynghylch teithio. Felly, ar y sail honno, mae'n gwbl amhosibl i mi allu cyfiawnhau dull ar draws siroedd cyfan o weithredu'r cyfyngiadau lleol hyn. Nid oes unrhyw ddata yn cael eu cyhoeddi ynghylch y man trosglwyddo tebygol na'r gweithgareddau sy'n debygol o fod yn gysylltiedig â'r trosglwyddo, felly sut ar y ddaear ydym ni'n gallu penderfynu pa un a ellir cyfiawnhau'r cyfyngiadau ar faterion fel teithio?

Nawr, byddaf i'n dweud bod y math hwn o ddata ar gael mewn rhannau eraill o'r DU, felly pam mae Llywodraeth Cymru yn dewis peidio â'u cyhoeddi neu eu rhannu ag Aelodau'r Senedd hon? Ni allwn ni ond dod i'r casgliad mai'r rheswm am hynny yw nad yw'r data yn cefnogi eich safbwynt, nad yw'n cefnogi eich polisi ac nad yw'n cefnogi'r cyfyngiadau yr ydych yn ceisio eu gorfodi ac yr ydych chi eisoes wedi eu gorfodi. A'r cyfyngiadau teithio hyn yn arbennig sy'n ei gwneud yn anodd iawn i bobl yn ardaloedd Conwy a Sir Ddinbych.

Yn wir, Prif Weinidog, clywais yr hyn a oedd gennych i'w ddweud yn ystod y ddadl, neu'r cyfnewid yn ystod Cwestiynau'r Prif Weinidog yn gynharach, ac eto mae'n gwbl groes i'r hyn yr ydych wedi ei ddweud wrth y Siambr hon o'r blaen. Fe wnaethoch chi ddweud mewn ymateb i gwestiwn gen i ar 23 Medi, ynghylch twristiaeth, ac rwy'n tybio y gallwn ni ddefnyddio hyn fel dirprwy ar gyfer teithio, mai'r newyddion da yw, ac rwy'n dyfynnu:

'Y newyddion da yw ein bod ni wedi cael twristiaid yn dod i Gymru o rannau eraill o'r Deyrnas Unedig ers rhan gyntaf mis Gorffennaf bellach, ac nid oes tystiolaeth bod hynny wedi arwain at gynnydd sydyn mewn heintiau yn y rhannau hynny o Gymru y mae pobl yn ymweld â nhw amlaf. Yn wir, mae'r coronafeirws yn parhau i fod ar ei isaf yn y lleoedd hynny y mae twristiaid yn ymweld â nhw amlaf.'

Mae hynny mewn ffordd yn tanseilio yn llwyr y ddadl yr ydych yn ei gwneud ynghylch cyflwyno'r cyfyngiadau teithio llym hyn ar fy etholwyr i a phobl eraill ledled Cymru. Wyddoch chi, roedd hi'n gwbl dorcalonnus yn gwylio'r teledu dros y penwythnos hwn i weld pobl yn cael eu cyfweld ym mrenhines y cyrchfannau twristiaeth, Llandudno, ar arfordir y gogledd. Roedd gennym ni un unigolyn sy'n cadw siop yno yn dweud wrth ohebwyr mai dim ond £6.50 y gwnaethon nhw ei gymryd dros y cownter ar un diwrnod yr wythnos diwethaf. Dywedodd bwyty lleol fod ganddyn nhw 184 o bobl yn bwyta yno fel arfer ar ddydd Sadwrn, yr wythnos flaenorol cyn y cyfyngiadau; roedd hynny i lawr i 18 ar y dydd Sadwrn yn dilyn cyflwyno'r cyfyngiadau. Ac oni bai eich bod yn gweithredu yn gyflym, gallaf i ddweud wrthych chi y bydd y busnesau hyn yn mynd i'r wal. A phan fyddan nhw'n mynd i'r wal, bydd yr holl bobl hynny sy'n dibynnu ar eu bywoliaeth o'r busnesau hynny yn gweld effaith sylweddol ar ansawdd eu bywyd, oherwydd nid ydym yn sôn am y busnesau hynny yn unig, rydym yn sôn am bob un person y maen nhw'n ei gyflogi, pob teulu sy'n dibynnu ar y pecynnau cyflog sy'n dod i mewn drwy'r gyflogaeth honno, a phob un cyflenwr y mae'r busnesau hyn yn prynu eu nwyddau oddi wrthyn nhw. Bydd yr effeithiau canlyniadol yn gwbl enfawr.

Ac, wrth gwrs, nid yw'r cyfyngiadau teithio hyn yn rhoi unrhyw ystyriaeth o gwbl i'r patrymau teithio rheolaidd y mae pobl yn eu mwynhau, yn enwedig i'r rhai hynny sy'n byw yn y rhannau hynny ar ffiniau yr ardaloedd awdurdodau lleol hyn. Ni all fy etholwyr i, er enghraifft, ym Mae Cinmel fynd ychydig gannoedd o lathenni i'r Rhyl i'w harchfarchnad leol. Yn hytrach, gallan nhw, wrth gwrs, deithio awr i'r cyfeiriad arall yr holl ffordd i lawr i barc cenedlaethol Eryri lle mae lefelau isel iawn o haint y coronafeirws, mae'n siŵr, ac eto nid ydyn nhw'n cael mynd ychydig gannoedd o lathenni i'w harchfarchnad agosaf. Mae'n gwbl hurt.

Mae prinder tystiolaeth. Ni fyddaf i'n pleidleisio dros y cyfyngiadau o ran rheoliadau Rhif 16 ar y coronafeirws. Ychydig iawn o dystiolaeth sydd hefyd i awgrymu bod y cyfyngiadau hyn yn gweithio mewn gwirionedd. Lle maen nhw wedi eu gosod, y realiti yw bod y cyfraddau wedi bod yn codi mewn rhai achosion. Felly, aeth Rhondda Cynon Taf yn destun cyfyngiadau fis yn ôl. Nawr, cofiwch mai 14 diwrnod yw'r cyfnod heintus, iawn? Felly, dylen nhw fod wedi cael effaith erbyn hyn. Aeth yn destun cyfyngiadau fis yn ôl pan oedd 82.1 o achosion ym mhob 100,000 o bobl dros saith diwrnod. Heddiw, mae'r ffigur hwnnw yn 178.2, bron i ddwbl yr hyn yr oedd. Mae Caerffili wedi bod dan gyfyngiadau ers 8 Medi. Ar 26 Medi, yr oedd ganddi 36.4 o achosion—yr oedd wedi bod yn teithio i'r cyfeiriad iawn—ym mhob 100,000 o bobl, ond heddiw mae'r ffigur hwnnw yn 92.2. Felly, os yw'r dystiolaeth yn awgrymu efallai nad yw'r rhain yn gweithio, os nad oes gwybodaeth fesul cymuned, os nad oes digon o ddata a thystiolaeth i ddangos bod y cyfyngiadau teithio yn gweithio, pam ar y ddaear y dylai unrhyw un yn y Siambr hon bleidleisio dros y gyfres benodol hon o gyfyngiadau? Rwyf i'n annog pawb i bleidleisio yn eu herbyn.

18:55

Y Gweinidog iechyd i ymateb i'r ddadl—Vaughan Gething.

Mae angen i chi droi eich meic ymlaen, Gweinidog. Allwn ni ddim eich clywed chi.

Diolch, Llywydd. Byddaf i'n ymdrin ar y dechrau â'r un pwynt o eglurhad a gododd Mark Reckless am reoliadau diwygio Rhif 17, lle rydym ni wedi cyflwyno esemptiad cyffredinol i'r cyfyngiadau sy'n berthnasol. Mae hyn yn golygu y gall aelwyd un person neu aelwyd un rhiant ymweld ag un aelwyd arall yn yr un sir. Y pwynt yr oeddwn i'n ei wneud oedd na all fod yn fwy na dwy aelwyd mewn swigod unigryw. Ni all pobl symud rhwng un aelwyd ac aelwyd arall.

Byddaf i'n ymdrin â'r pwyntiau y mae Rhun ap Iorwerth yn eu gwneud ynghylch y data a'r dull yr ydym ni'n ei ddefnyddio mewn awdurdodau lleol. Mae'n bwysig cydnabod ein bod ni, o ran pob un o'r dewisiadau yr ydym ni wedi eu gwneud, wedi clywed tystiolaeth gan randdeiliaid lleol, y timau rheoli digwyddiadau sy'n cynnwys pobl o amrywiaeth o sefydliadau lleol, gan gynnwys y gwasanaeth iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru, ymgynghorwyr mewn clefydau trosglwyddadwy a'r awdurdod lleol. Maen nhw yn bartner o amgylch pob un o'r byrddau tîm rheoli digwyddiadau hynny. Felly, mae'r awdurdod lleol yn ymwneud yn gynnar â darparu tystiolaeth, gwybodaeth ac argymhellion i'r Gweinidogion.

Rydym yn cael argymhellion gan bob un o'r timau hynny ynglŷn â'r dewisiadau posibl ac ynghylch a ydyn nhw'n argymell y dylai Gweinidogion weithredu, ac rydym yn cael yr argymhellion hynny cyn cyrraedd pob un o'r pwyntiau penderfynu, gan gynnwys yn y rheoliadau Rhif 16 yr ydym ni'n eu trafod heddiw. Cyn gwneud unrhyw benderfyniad, mae Gweinidogion yn cyfarfod yn uniongyrchol ag arweinwyr awdurdodau lleol a'u prif weithredwyr. Ac felly, rydym ni yn trafod y data sydd ar gael iddyn nhw. Rydym ni'n trafod y data profi, olrhain a diogelu hefyd, patrymau yr haint fel y maen nhw, ac mae hynny wedi digwydd gyda phob awdurdod lleol lle'r ydym ni wedi ystyried y cyfyngiadau lleol ychwanegol hyn.

Mae hefyd yn deg nodi rhywfaint o'r gorgyffwrdd â sylwadau Andrew R.T. Davies, lle rhoddodd y tîm rheoli achosion gyngor i gyflwyno cyfres o gyfyngiadau ledled y sir ym mhob achos, ac ym mhob un o'r ardaloedd hynny, er i arweinydd Conwy ddadlau dros beidio â chael y cyfyngiadau teithio, nid dyna oedd y sefyllfa a gefnogwyd gan fwyafrif helaeth arweinwyr eraill y gogledd. Mae hefyd yn wir nad oedd unrhyw arweinydd awdurdod lleol yn y cyfarfod hwnnw yn dadlau dros ddull is-ranbarthol o fewn y pedair sir yr ydym yn trafod rheoliadau Rhif 16 ar eu cyfer.

Y rheswm pam, gan droi at sylwadau a wnaed gan Andrew R.T. Davies, y gallem ni ddefnyddio dull gwahanol ym Mangor yn sir Gwynedd yw oherwydd bod y data ar gael, fel yr oedd ar gael yn Llanelli, i ganiatáu i ni ddefnyddio dull mwy penodol. Er ein bod ni'n gweld cynnydd yng nghefn gwlad Gwynedd erbyn hyn y mae angen i ni ei ystyried hefyd. Ond, ar adeg gwneud penderfyniad, gwnaed achos dros roi cyfyngiadau ar waith ym Mangor, nid yn deillio o gymuned y myfyrwyr yn unig, mae'n bwysig nodi. Yr her yn y pedwar awdurdod yr ydym ni'n eu trafod heddiw yn rheoliadau Rhif 16 yw nad oedd gennym ni ardal benodol i'w neilltuo o bob un o'r siroedd, ac fel yr wyf wedi ei ddweud, argymhelliad y tîm rheoli digwyddiadau lleol oedd cyflwyno'r cyfyngiadau lleol hyn ar draws y sir gyfan.

Rwyf i hefyd yn hapus i gadarnhau i Mark Reckless, ydym, rydym ni yn ystyried canlyniadau monitro dŵr gwastraff, ac rwy'n siŵr y gallwn ni gyhoeddi'r papur nad yw'r Aelodau efallai wedi cael gafael arno heddiw. Mae hynny yn nodi'r dystiolaeth bresennol, wrth iddi ddatblygu, o'r realiti bod teithio yn rhan o ledaeniad y coronafeirws yn y Deyrnas Unedig, yn union fel y bu rhwng gwledydd yn y byd. Dyna'r rhesymeg gyfan sy'n sail i'n rheoliadau cwarantin. Maen nhw'n fesurau iechyd cyhoeddus i ddiogelu ardaloedd lle mae llai o achosion rhag trosglwyddo'r coronafeirws iddyn nhw. Nid wyf i'n credu bod hyn yn arbennig o anodd nac yn newydd o ran dadl. Mae'n gyson â'r dull hwnnw sy'n cael ei ddefnyddio. A gyda phob parch, nid yw'r galw am bapur sydd wedi ei adolygu gan gymheiriaid yn un yr wyf i'n credu y dylid ei gymryd o ddifrif ar hyn o bryd. Gyda'r dystiolaeth ddatblygol sy'n dod i law, er mwyn cyrraedd y pwynt o gael papur sydd wedi ei adolygu gan gymheiriaid, byddai'n rhaid i ni aros am gyfnod hir iawn cyn cymryd unrhyw gamau ar y dystiolaeth sydd ger ein bron.

Ac mae hynny'n ein tywys ni at y pwynt ynghylch cyflymder. Rydym ni'n gwybod bod yn rhaid i ni wneud dewisiadau o fewn cyfnod cyfyngedig. Byddwch chi wedi clywed yn uniongyrchol gan y prif swyddog meddygol yn gyhoeddus, gennyf i, a'r Prif Weinidog, am y realiti bod y cyfraddau yr ydym ni'n eu gweld yn codi, yn union fel y maen nhw wedi ei wneud yn y pedair sir yr ydym ni'n eu trafod heddiw. Erbyn hyn mae gan Gonwy gyfradd o 122.9 ym mhob 100,000 o bobl, Sir Ddinbych 113.9, Sir y Fflint 168.5, a Wrecsam 181.7. Mae'r cyfraddau cadarnhaol yn y siroedd yn y gogledd yr ydym yn eu trafod heddiw yn amrywio o 6.6 y cant i 11.5 y cant. Mae'r rhain yn gyfraddau cynyddol o'r coronafeirws, a gallwn ni fod yn hyderus, heb y cyfyngiadau yr ydym ni wedi eu cyflwyno, y byddai patrwm yr haint wedi codi hyd yn oed ymhellach, a hyd yn oed yn gyflymach.

Yr her sydd ger ein bron yw a ydym ni'n barod i weithredu ar y dystiolaeth honno, ac i weithredu i atal niwed pellach rhag digwydd, neu a yw'r Senedd hon yn cefnogi'r farn na ddylem ni weithredu, ac y dylem ni ganiatáu i'r cyfyngiadau lacio, ac i'r haint drosglwyddo ymhellach ac yn gyflymach, a hynny'n anochel, gyda mwy o niwed i'n hetholwyr ni. Nid wyf i'n credu mai dyna'r dull cywir i'w ddefnyddio. O ran yr hyn y mae Darren Millar wedi ei ddweud, rwyf i yn credu y byddai'n anghyfrifol dros ben i unrhyw ddeddfwr yn y lle hwn weithredu i wrthod darparu amddiffyniadau i'r cymunedau yr ydym ni yn eu gwasanaethu.

Rwy'n gofyn i bobl, o ran y dewisiadau sydd o'n blaenau, o ran torri'r cylched neu fel arall, gael eu harwain unwaith eto gan y dystiolaeth yr ydym ni'n ei darparu, y dystiolaeth y mae ein cymuned wyddonol yn ei darparu. Byddwn yn parhau i gyhoeddi crynodeb o'r cyngor yr ydym ni'n ei gael gan ein grŵp cynghori technegol ein hunain mewn modd agored a thryloyw. Mae hynny, ynghyd â chyngor y prif swyddog meddygol, yn llywio y dewisiadau yr ydym ni yn eu gwneud—y dystiolaeth o Gymru, a'r DU ehangach. Ac, fel y nodais, rwyf i'n credu bod y rhain yn gamau penodol a chymesur i'w cymryd mewn ymateb i'r cynnydd yr ydym ni'n ei weld yn y pedwar awdurdod perthnasol. Ond o ran y mesurau sy'n ymwneud â lliniaru ar gyfer aelwydydd un oedolyn ac aelwydydd un rhiant—rwyf i yn croesawu'r ffaith bod pobl o bob rhan o'r Siambr wedi bod yn barod i gefnogi'r mesurau hynny. Mae gan bob un ohonom ni gyfrifoldeb, mae angen i bob un ohonom ni wneud dewisiadau, ac rwyf i'n cymeradwyo'r rheoliadau hyn i'r Senedd ac yn gofyn i'r Aelodau eu cefnogi.

19:00

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 7? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, dwi'n gohirio'r bleidlais ar eitem 7 tan y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 8? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Ac felly mae'r cynnig o dan eitem 8 wedi'i dderbyn, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Yr eitemau nesaf yw eitemau 9 a 10. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, oni bai fod Aelod yn gwrthwynebu, caiff y ddau gynnig o dan yr eitemau yma eu grwpio ar gyfer dadl, ond gyda'r pleidleisiau ar wahân.

19:05
9. & 10. Dadl: Egwyddorion Cyffredinol y Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) a'r Penderfyniad Ariannol ynghylch y Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru)

Gan nad oes neb yn gwrthwynebu i'r grwpio ar gyfer y ddadl, dwi'n gofyn i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol gyflwyno'r cynnig. Julie James.

Cynnig NDM7422 Rebecca Evans

Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru).

Cynnig NDM7423 Rebecca Evans

Cynnig bod Senedd Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.

Cynigiwyd y cynigion.

Diolch, Llywydd. Wrth agor, hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r gwahanol bwyllgorau yn y Senedd, yr Aelodau a'r staff, sydd wedi gwneud popeth posibl i sicrhau bod y Bil hwn wedi gallu symud ymlaen i'r ddadl heddiw, drwy'r hyn a fu'n saith mis cythryblus a heriol iawn. Hoffwn ddiolch hefyd i'm swyddogion am y gwaith rhagorol y maen nhw wedi ei wneud i barhau â'r gwaith, er gwaethaf y pwysau cyson y mae'r pandemig wedi ei roi ar ein hadnoddau yn ystod y cyfnod hwnnw. Mae'n arwydd o'n haeddfedrwydd a'n proffesiynoldeb fel deddfwrfa a Llywodraeth ein bod wedi gallu bwrw ymlaen â'n huchelgeisiau deddfwriaethol allweddol ar yr un pryd â llywio ein ffordd drwy argyfwng digynsail, yn ogystal â rheoli'r paratoadau cymhleth ar gyfer diwedd cyfnod pontio'r UE. Rwy'n sylweddoli cymaint fu'r ymdrech i'n harwain mor bell â hyn gyda'r Bil, a gobeithio nad wyf yn temtio ffawd wrth ddweud hynny. Ar ôl darllen adroddiadau Cyfnod 1 gan y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau a'r Pwyllgor Deddfwriaethol, Cyfiawnder a Chyfansoddiad, rwy'n obeithiol, gyda chefnogaeth barhaus yr Aelodau, y byddwn ni'n gallu cael y Bil hwn drwy weddill y cyfnodau craffu ac ar y llyfr statud cyn diwedd tymor presennol y Senedd.

Hoffwn i droi yn awr at argymhellion y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau a'r Pwyllgor Deddfwriaethol, Cyfiawnder a Chyfansoddiad, ond cyn gwneud hynny, dylwn i nodi nad yw'r Pwyllgor Cyllid wedi cyhoeddi ei adroddiad ei hun yn gysylltiedig â'r Bil. Rwy'n cymryd bod hyn yn arwydd cadarnhaol bod y pwyllgor wedi'i fodloni gan y dystiolaeth ysgrifenedig a llafar a ddarparwyd gennyf, a'i fod yn derbyn fy honiadau na fydd y ddeddfwriaeth hon yn arwain at ganlyniadau ariannol negyddol i landlordiaid da yng Nghymru, ac na fydd yn arwain at lwyth gwaith gormodol i'r gwasanaeth llysoedd yng Nghymru. Rwy'n edrych ymlaen at glywed gan Llyr yn ddiweddarach yn y ddadl. Nawr, i ymdrin â phob un o'r naw argymhelliad yn adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn eu tro.

Rwy'n croesawu yr argymhelliad cyntaf, y dylai'r Senedd gefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil. Rwy'n barod i dderbyn yr ail argymhelliad mewn egwyddor. Fe fyddwn ni, wrth gwrs, yn edrych yn ofalus ar effeithiau'r ddeddfwriaeth dros amser, pan fydd wedi dod i rym, a byddwn ni'n cynnal adolygiad o'i heffaith a'i heffeithiolrwydd pan fydd digon o amser wedi mynd heibio. Rwy'n cytuno'n llwyr bod hyn o bwys hanfodol, a gallaf ddweud wrthych chi fod gwaith ar y ffordd orau o fonitro effeithiau'r ddeddfwriaeth eisoes ar y gweill. Byddwn ni hefyd yn ystyried y ffordd orau o adrodd ar effeithiau'r ddeddfwriaeth, mewn ffyrdd sy'n ddefnyddiol i'r sector ac i ddatblygu polisi ac arfer yn y dyfodol. Ac os daw unrhyw ganlyniadau anfwriadol i'r amlwg, byddwn ni wrth gwrs yn cymryd camau i fynd i'r afael â'r rheini, naill ai drwy ganllawiau neu, os oes angen, rhagor o newid deddfwriaethol. Fy unig amheuaeth o ran yr argymhelliad, a'r rheswm pam yr wyf i wedi ei dderbyn mewn egwyddor yn hytrach nag yn ddiamod, yw bod rhai o'r meysydd y mae'r pwyllgor wedi eu cynnwys yn y cwmpas arfaethedig ar gyfer adolygiad o'r fath yn faterion nad ydyn nhw yn uniongyrchol gysylltiedig â'r Bil, ac na fyddent yn cael eu heffeithio gan ei weithrediad—er enghraifft, cydgrynhoi cyfraith tai, neu faterion yr eir i'r afael â nhw drwy waith arall, fel nifer y bobl sy'n ddigartref yn fwriadol, a fydd yn cael eu cynnwys yn rhan o waith ehangach o fewn Llywodraeth Cymru, gan gynnwys ein hymateb i amrywiol adroddiadau ac argymhellion gan y grŵp gweithredu ar ddigartrefedd.

Gan droi at argymhelliad 3, rwy'n fodlon derbyn hwn, a byddaf yn trafod gyda'm cyd-Weinidogion yn y Cabinet a'm swyddogion pa un ai Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru fyddai'r corff a fyddai yn y sefyllfa orau i gynnal ymarfer o'r fath. Ac os oes cytundeb, byddwn ni'n ceisio comisiynu'n gwaith hwnnw yn unol â hynny.

Rwyf hefyd yn barod i dderbyn yr argymhelliad nesaf. Er bod ymgysylltu â thenantiaid y sector rhentu preifat wedi cael ei gydnabod ers tro byd fel bod yn heriol oherwydd natur y sector ac amrywiaeth y bobl sy'n rhentu eu cartrefi gan landlord preifat, rydym ni wedi gallu gwneud gwelliannau sylweddol drwy'r pandemig, drwy dechnegau cyfathrebu arloesol. Dylwn nodi hefyd fod Llywodraeth Cymru eisoes yn ariannu Gwasanaeth Cynghori Cyfranogiad Tenantiaid Cymru, y mae ei gylch gwaith yn cynnwys ymgysylltu â thenantiaid y sector rhentu preifat. Mae'n ddigon posibl bod rhywfaint o werth mewn adolygu effeithiolrwydd y trefniadau hynny, yn enwedig yng nghyd-destun y gwersi yr ydym yn parhau i'w dysgu o brofiad COVID. Yn sgil hyn, rwyf wedi gofyn i hynny gael ei ddatblygu, a byddaf yn adrodd yn ôl i'r Senedd ar hyn yn y dyfodol. Gobeithio y bydd hyn yn bodloni'r pwyllgor ar yr adeg hon.

Mae argymhelliad 5 yn gofyn i'r Llywodraeth gyflwyno gwelliannau yng Nghyfnod 2 i sicrhau bod eiddo a feddiannir gan weinidogion crefydd yn cael eu heithrio o ofynion y ddeddfwriaeth hon. Rwy'n fodlon derbyn yr argymhelliad hwn mewn egwyddor. Wrth wneud hynny, dylwn i egluro yn gyntaf fod trafodaethau yn parhau rhwng fy swyddogion a chynrychiolwyr y sector yng Nghymru ar y mater hwn, ac yn ail, bod gennym ni eisoes bŵer i wneud rheoliadau yn y Bil sy'n caniatáu i eithriad o'r fath gael ei fewnosod yn Atodlen 1. Nid oes angen gwelliant penodol felly ar gyfer hyn. Felly, yn hytrach na chyflwyno gwelliant yng Nghyfnod 2, rwy'n rhoi ymrwymiad i chi y byddwn ni'n gwneud rheoliadau i ddarparu'r eithriad hwn cyn gweithredu'r Ddeddf wedi'i diwygio os byddwn yn dod i'r casgliad bod hyn yn angenrheidiol. Hyderaf y bydd hyn yn bodloni'r pwyllgor yn hyn o beth.

Mae argymhelliad 6 yn gofyn i ni gyflwyno gwelliant i ymestyn y cyfnod y gellir tynnu rhybudd landlord yn ôl a'i ailgyflwyno, er enghraifft, i gywiro camgymeriad, o 14 diwrnod i 28 diwrnod. Ar ôl gwrando ar y dadleuon a gyflwynwyd ar y mater hwn gan gynrychiolwyr landlordiaid, ac ar ôl ystyried casgliadau'r pwyllgor ar hyn, rwy'n fodlon derbyn yr argymhelliad hwn ar y sail y bydd o gymorth i landlordiaid da sydd wedi gwneud camgymeriad gonest. Ni fydd ychwaith yn effeithio'n negyddol ar ddeiliaid contract, gan y bydd yn dal yn ofynnol i'r rhybudd sydd wedi ei ailgyflwyno fod am o leiaf chwe mis. Felly, byddwn, fe fyddwn ni'n cyflwyno gwelliant i wneud y newid hwnnw.

Mae argymhelliad 7 yn gofyn i ni gynnal astudiaeth o ddichonoldeb fanwl i sut y gallai tribiwnlys neu lys tai weithio yng Nghymru, gyda'r bwriad o sefydlu corff o'r fath fel blaenoriaeth yn y Senedd nesaf pe byddai'r astudiaeth yn dod i'r casgliad bod hyn yn debygol o arwain at welliannau yn y sector ac y byddai modd ei gyflawni. Rwy'n derbyn yr argymhelliad hwn mewn egwyddor. Bydd aelodau'r Pwyllgor yn gwybod o'm tystiolaeth fy mod i yn bersonol yn cefnogi llys neu dribiwnlys tai i Gymru, fel y mae pleidiau gwleidyddol eraill yn y Senedd. Er fy mod i'n sylweddoli bod yr argymhelliad yn ymwneud â sefydlu astudiaeth o ddichonoldeb yn unig ar hyn o bryd, byddai hynny'n dal i fod yn ymrwymiad sylweddol ar adeg pan fo'r holl adnoddau sydd ar gael gennym yn cael eu hymestyn i'r eithaf i reoli effaith yr achosion o'r coronafeirws ac yn wir ar y Bil hwn. Hefyd, dim ond ychydig iawn o amser sydd gennym ni ar ôl yn nhymor presennol y Senedd. Felly, byddai'n afrealistig i mi ymrwymo i ddechrau gweithio ar astudiaeth o ddichonoldeb ar hyn o bryd. Am y rhesymau hyn, dim ond mewn egwyddor y gall y Llywodraeth gefnogi'r argymhelliad hwn am y tro, ond rwy'n gobeithio, pan fyddwn yn goresgyn yr anawsterau presennol a phan fydd rhyw fath o normalrwydd wedi dychwelyd, fod hyn yn rhywbeth y byddai gweinyddiaeth yn y dyfodol yn dymuno ei ddatblygu cyn gynted ag y bydd adnoddau yn caniatáu.

Mae argymhelliad 8 yn gofyn i ni gyhoeddi canllawiau newydd i awdurdodau lleol pan ddaw Deddf ddiwygiedig 2016 i rym, gan ei gwneud yn ofynnol iddyn nhw ystyried unrhyw bersonau y cyflwynir hysbysiad iddynt a fydd yn dod i ben o fewn 84 diwrnod fel bod wedi eu bygwth â digartrefedd ac felly yn gymwys i gael cymorth o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014. Rwy'n fodlon derbyn yr argymhelliad hwn mewn egwyddor, gan fy mod yn cefnogi'n gryf yr egwyddor o ymgysylltu ag aelwydydd ar gam cynnar i weithio i atal digartrefedd. Fodd bynnag, ni fyddai'n bosibl diwygio'r diffiniad statudol o 'fygythiad o ddigartrefedd' fel y nodir yn Neddf Tai (Cymru) 2014 drwy gyhoeddi canllawiau. Felly, byddwn ni'n ystyried y ffordd orau o gyflawni'r egwyddor o ymyrraeth a chymorth cynharach a geir yn yr argymhelliad hwn yn rhan o'n gwaith ehangach i atal digartrefedd.

Mae argymhelliad olaf y pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn gofyn i ni ddiwygio Deddf 2014 fel mai dim ond os darperir llety i unigolyn neu deulu am 12 mis y caiff y dyletswyddau digartrefedd hynny eu hystyried fel bod wedi eu cyflawni yn hytrach nag ar ôl chwe mis, fel y mae ar hyn o bryd. Er fy mod yn deall y rhesymeg y tu ôl i'r argymhelliad hwn, nid yw'n un y gall y Llywodraeth ei gefnogi, mae arnaf i ofn. Ni ellid gwneud unrhyw newidiadau deddfwriaethol posibl ar wahân a byddai angen eu hystyried yn rhan o'r ystyriaethau polisi a deddfwriaethol ehangach wrth fwrw ymlaen â'r agenda drawsnewid a nodir yn ein strategaeth ar gyfer rhoi terfyn ar ddigartrefedd, a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2019. Mae'r gwaith i gyflawni'r strategaeth yn cael ei lywio gan y grŵp gweithredu arbenigol ar ddigartrefedd ac mae wedi symud ymlaen yn gyflym eleni, a bu buddsoddiad sylweddol yn yr ymateb i ddigartrefedd yng ngham 2 COVID-19. Archwiliodd y grŵp gweithredu ar ddigartrefedd yn benodol y fframwaith polisi a'r mesurau sydd eu hangen i roi terfyn ar ddigartrefedd yng Nghymru a bydd eu hadroddiad yn llywio'r ystyriaethau ehangach o ran unrhyw newidiadau polisi a deddfwriaethol posibl sydd eu hangen. Am y rhesymau hyn rwy'n gwrthod argymhelliad 9.

Gan droi yn awr at bedwar argymhelliad y pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad. O ran y cyntaf o'r argymhellion hynny, mae asesiad trylwyr o'r darpariaethau yn y Bil wedi ei gynnal i sicrhau eu bod yn gydnaws â hawliau dynol. 

Yr ail argymhelliad yw y dylem gynyddu ymgysylltiad a datblygu cysylltiadau mwy ffurfiol â deiliaid contractau yn y sector rhentu preifat yng Nghymru. Mae hyn yn adlewyrchu argymhellion 3 a 4 y pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, a nodais yn gynharach fy mod yn fodlon ei dderbyn, gan nodi ein bod eisoes yn cefnogi TPAS Cymru yn hyn o beth. Hyderaf y bydd y pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad yn fodlon â'm cynnig i adolygu effeithiolrwydd y trefniadau hynny gyda'r bwriad o'u cryfhau lle bo angen.

Mae trydydd argymhelliad y pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad yn gofyn, yn rhan o'n gwerthusiad arfaethedig o Ddeddf 2016, fel y'i diwygiwyd gan y Bil hwn, y dylem ystyried yr angen a'r brys posibl i gydgrynhoi cyfraith tai yn llawn fel y mae'n berthnasol yng Nghymru. Mae hyn yn sicr yn rhywbeth y gall y Llywodraeth ei dderbyn mewn egwyddor, ond, yn ôl ei natur, mae'n ymrwymiad a fyddai i weinyddiaeth yn y dyfodol ei ddatblygu. Fel y soniais yn gynharach, serch hynny, nid yw adolygu'r posibilrwydd o gydgrynhoi cyfraith tai yng Nghymru yn ymarfer y gallem ni ei gynnal yn rhan o unrhyw adolygiad o Ddeddf 2016 sydd ar waith. Byddai yn ymarfer ar wahân ac am y rheswm hwnnw rwy'n tueddu i dderbyn yr argymhelliad hwn mewn egwyddor yn hytrach nag yn ddiamod.

Ac yn olaf, mae argymhelliad 4 yn ymwneud â'r potensial i sefydlu tribiwnlys tai yng Nghymru. Fel y dywedais yn fy ymateb i argymhelliad tebyg y pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar y mater hwn, er fy mod i yn bersonol yn gefnogol, mae hwn bellach yn fater i lywodraeth yn y dyfodol, yn hytrach na hon, felly rwy'n derbyn yr argymhelliad mewn egwyddor ar y sail honno.

Daw hyn â mi at ddiwedd fy ymatebion ffurfiol i bob un o argymhellion y pwyllgorau. Hoffwn ailadrodd fy niolch gwirioneddol i Gadeiryddion, aelodau a staff y pwyllgorau sydd wedi gweithio mor galed mewn amgylchiadau eithriadol o anodd i gwblhau proses graffu Cyfnod 1 a chyflwyno yr adroddiadau hyn. Rwy'n credu ei fod yn arwydd o'r ymdrech sydd wedi ei gwneud i ddatblygu'r dull deddfwriaethol penodol hwn o wella sicrwydd deiliadaeth bod yr adroddiadau hyn wedi bod yn ffafriol ar y cyfan, gyda dim ond ychydig o argymhellion ar gyfer gwelliannau i'r Bil ei hun.

Rydym wedi gweithio'n galed i ddatblygu Bil sy'n taro cydbwysedd teg rhwng buddiannau deiliaid contractau i ganiatáu iddyn nhw deimlo'n ddiogel ac wedi ymgartrefu yn y llety y maen nhw'n ei alw'n gartref, gan hefyd barchu buddiannau landlordiaid, a chaniatáu iddyn nhw adennill meddiant o'u heiddo pan fo rheswm da dros yr angen iddyn nhw wneud hynny.

Wrth gloi, hoffwn i sôn hefyd, yn dilyn trafodaethau manwl gyda'm cyd-Aelodau yn y Cabinet dros yr wythnosau diwethaf, ei bod wedi dod yn amlwg i mi nad oes gennym ni ddigon o amser na chapasiti deddfwriaethol mwyach i gwblhau'r holl waith sydd ei angen i ddod â darpariaethau Deddf 2016 ddiwygiedig i rym y flwyddyn nesaf, fel yr oeddem wedi gobeithio ei wneud cyn yr achosion o COVID. Yn hytrach, fe fyddwn yn ceisio cwblhau'r holl ganllawiau is-ddeddfwriaeth angenrheidiol a'r gwaith codi ymwybyddiaeth sydd ei angen mewn pryd ar gyfer dyddiad gweithredu yng ngwanwyn 2022. Rwy'n siomedig iawn ein bod wedi gorfod cymryd y cam hwn, ond dyna realiti'r sefyllfa yr ydym ni ynddi ar hyn o bryd, gyda chymaint o'n hadnoddau wedi'u canolbwyntio ar y pandemig yn y misoedd diwethaf, a heb fawr o arwydd y bydd y pwysau hwnnw yn lleihau yn y dyfodol rhagweladwy.

Edrychaf ymlaen at glywed yn awr gan Gadeiryddion y pwyllgorau craffu a gan Aelodau eraill sy'n dymuno siarad am y Bil, ac fe wnaf ymateb i unrhyw bwyntiau eraill nad wyf eisoes wedi ymdrin â nhw yn fy sylwadau terfynol. Diolch, Llywydd.

19:15

Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, John Griffths.  

Diolch, Llywydd. Rwy'n falch o gyfrannu at y ddadl heddiw, fel Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau. Hoffwn ddiolch i bawb a roddodd dystiolaeth i helpu i lywio ein gwaith, yn enwedig y tenantiaid a ddaeth i'n grwpiau ffocws a gynhaliwyd ledled Cymru a landlordiaid ac asiantau gosod a ymatebodd i'n harolwg. Fel pwyllgor, rydym yn parhau i roi gwerth mawr ar brofiad go iawn i helpu i lywio ein gwaith craffu. Cafodd y craffu hwnnw ei oedi gan y pandemig, pandemig sy'n tynnu sylw at bwysigrwydd bod â lle diogel i'w alw'n gartref.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud mai craidd y Bil hwn yw'r nod o wella sicrwydd deiliadaeth. Nid yw pawb yn cytuno y bydd y Bil hwn—[Anghlywadwy.]—ond, fel pwyllgor, roeddem ni'n argyhoeddedig o rinweddau'r dull hwn. Clywsom amrywiaeth o dystiolaeth yn awgrymu y byddai cryfhau sicrwydd deiliadaeth yn cael effaith gadarnhaol ar les y rhai sy'n byw yn y sector rhentu preifat. Awgrymwyd hefyd y byddai hyn yn dod â manteision economaidd a chymdeithasol ehangach i'r gymuned.

Ond, wrth gwrs, nid oedd pawb yn cytuno bod angen y Bil hwn. Roedd landlordiaid ac asiantau gosod yn pryderu y byddai'r Bil yn gwneud gosod yn y sector rhentu preifat yn llai deniadol, gan achosi i landlordiaid adael y sector a rhoi mwy o bwysau o bosibl ar dai cymdeithasol. Dywedodd landlordiaid wrthym eu bod yn poeni na fydden nhw'n gallu adennill meddiant o'u heiddo, pe byddai eu hamgylchiadau personol yn newid neu oherwydd achosion o dorri contract. Fe ddychwelaf at y pwynt hwn yn ddiweddarach yn fy sylwadau.

Dywedodd y Gweinidog wrthym ei bod hi wedi ceisio dod o hyd i gydbwysedd rhwng y gwahanol safbwyntiau. Rydym ni'n credu bod y cydbwysedd cywir wedi'i daro, ond rydym yn galw am rai mân welliannau, a fydd, yn ein barn ni, yn cryfhau'r Bil. Rydym felly yn argymell bod y Senedd yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil.

Cyn symud ymlaen at rai o'r manylion o'n gwaith craffu, mae'n werth nodi mai dyma'r ail Fil yr ydym ni wedi ei ystyried sy'n ceisio diwygio Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016, Deddf a basiwyd bum mlynedd yn ôl gan y Cynulliad blaenorol ond nad yw wedi'i chychwyn eto. Rydym yn deall y rhesymau y tu ôl i'r oedi, a gafodd eu dwysáu ymhellach gan y pandemig. Mae Deddf 2016 yn ddarn sylweddol o gyfraith tai, a fydd yn newid y fframwaith cyfreithiol ar gyfer rhentu eiddo, ac mae'n newid a fydd yn effeithio ar tua thraean o bobl Cymru.

Roeddem yn falch bod y Gweinidog wedi cadarnhau ei bod yn bwriadu i Ddeddf 2016, fel y'i diwygiwyd gan y Bil hwn, pe byddai'r Bil hwn yn cael ei basio, gael ei gweithredu erbyn hydref y flwyddyn nesaf, ac, yn amlwg, mae'r ffaith fod rhagor o oedi erbyn hyn yn yr amserlen honno yn peri pryder, ond rwy'n deall yr hyn a ddywedodd y Gweinidog ynglŷn â hynny.

Fe symudaf ymlaen felly at rai materion penodol yn yr adroddiad. Yn argymhelliad 2 rydym yn tynnu sylw at nifer o feysydd y credwn y mae'n rhaid i'r adolygiad ôl-weithredu o Ddeddf 2016 ymdrin â nhw—yr holl faterion a ddaeth i'r amlwg yn ystod ein gwaith craffu ac sy'n deillio o weithredu'r darpariaethau gyda'r Bil hwn sydd ger ein bron, yn hytrach na'r newidiadau ehangach yn Neddf 2016—ac rwy'n falch o glywed yr hyn a oedd gan y Gweinidog i'w ddweud am hynny.

Un thema gyffredin drwy gydol ein holl waith ar ddeddfwriaeth tai yn y Senedd hon fu diffyg data ar y sector rhentu preifat, wedi'i ddwysáu gan ddiffyg grwpiau wedi'u trefnu i gynrychioli tenantiaid. Mae hyn yn ei gwneud yn anodd sicrhau bod polisi a deddfwriaeth yn cael eu llywio'n llawn gan ddata cywir a phrofiad byw. Dyna pam y gwnaethom argymhellion 3 a 4, a fydd, yn ein barn ni, yn helpu i fynd i'r afael â'r materion hyn a gobeithio y byddan nhw'n arwain at welliannau o ran datblygu a gweithredu polisïau, a gwn fod y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad hefyd wedi gwneud argymhelliad tebyg ynghylch ymgysylltu â thenantiaid. Ac, unwaith eto, rwy'n falch bod y Gweinidog wedi ystyried y materion hyn.

Yn ystod ein gwaith craffu, fe wnaethom ni ystyried yr effeithiau ar rai meysydd penodol o'r farchnad rentu, fel myfyrwyr a'r sector tai cymdeithasol. Mae un o'r meysydd lle yr ydym ni wedi argymell newidiadau yn ymwneud â llety a ddarperir yn rhan o swydd gweinidog crefydd. Cawsom sylwadau gan Cytûn a'r Eglwys yng Nghymru, yn tynnu sylw at rai materion penodol iawn yn ymwneud â'r math hwn o lety. Fe wnaethom gytuno y dylid diwygio'r Bil i sicrhau y dylai eiddo sy'n lletya gweinidogion crefydd yn rhinwedd y swydd hon gael eu heithrio o'r darpariaethau yn y Bil, ac arweiniodd hynny at i ni wneud argymhelliad 5. Ac rwy'n falch unwaith eto y bydd y Gweinidog yn ystyried y materion hyn ac yn gweithio i weld sut orau i fynd i'r afael â nhw.

Mae'r Bil yn darparu ar gyfer gallu tynnu rhybudd adennill meddiant yn ôl o fewn 14 diwrnod i'w gyflwyno heb i'r landlord orfod aros chwe mis arall cyn ailgyflwyno'r rhybudd. Diben y cyfnod ystyried hwnnw yw sicrhau nad yw unrhyw wallau gweinyddol yn y rhybudd yn oedi materion yn ormodol ac yn oedi adennill meddiant yn ormodol. Clywsom gan landlordiaid nad yw 14 diwrnod yn hir iawn o ran nodi materion yn ymwneud â chamgymeriadau mewn rhybudd, a dyna pam y gwnaethom gytuno â nhw a galw am ymestyn y cyfnod i 28 diwrnod, ac, unwaith eto, rwy'n falch iawn o ymateb y Gweinidog.

O ran y llysoedd, tynnodd y rhan fwyaf o'n hymatebwyr sylw at yr oedi yn system y llysoedd, sy'n achosi anawsterau i landlordiaid a thenantiaid ar hyn o bryd. Rydym ni'n derbyn nad oes digon o amser yn nhymor presennol y Senedd i wneud gwaith sylweddol i geisio mynd i'r afael â'r materion hyn, ond rydym yn credu bod rhinwedd i Lywodraeth Cymru wneud rhagor o waith archwilio ar sefydlu llys neu dribiwnlys tai i nodi a fydd hyn yn ceisio mynd i'r afael â rhai o'r materion hyn. Fel y dywedodd y Gweinidog unwaith eto heddiw, gwyddom ei bod hi yn bersonol yn cefnogi'r galwadau hyn, ond, unwaith eto, clywais ei sylwadau a'i hesboniad heddiw, a byddwn yn edrych yn ofalus ar gynnydd ar y materion hynny.

Yn olaf, o ran digartrefedd—hoffwn sôn am effaith y Bil hwn ar ddigartrefedd. Bydd y darpariaethau yn rhyngweithio â gofynion ar awdurdodau lleol i gefnogi'r bobl hynny sydd dan fygythiad o ddigartrefedd, a dyna pam y gwnaethom ni argymhellion 8 a 9, i geisio sicrhau bod awdurdodau lleol, wrth gyflawni'r dyletswyddau hyn, yn cydymffurfio ag ysbryd y ddeddfwriaeth yn ogystal â'r gofynion yn y ddeddfwriaeth. Clywais sylwadau'r Gweinidog. Gwn fod y Gweinidog wedi ymrwymo'n llwyr i fynd i'r afael â digartrefedd a chysgu ar y stryd, ac rwy'n credu ein bod ni i gyd wedi bod yn ddiolchgar iawn o weld y cynnydd a wnaed yn ystod y pandemig, ac yn wir y cyhoeddiadau a gynhaliodd y gwelliannau hynny. Ac rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog, fel y dywedodd hi, yn mynd i'r afael â'r materion hyn yn yr ysbryd hwnnw, ac yn gwneud yn siŵr, gobeithio, na chollir dim o'r cynnydd hwnnw. Diolch yn fawr, Llywydd.

19:20

Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mick Antoniw.

Diolch, Llywydd. Dim ond pedwar argymhelliad sydd yn ein hadroddiad ar y Bil ar gyfer y Gweinidog, ac fe wnaf i amlinellu pob un yn gryno. Yn gyntaf, o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd, mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn ei gwneud yn ofynnol i holl ddarpariaethau Bil fod yn gydnaws â'r confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol. Fe wnaethom ni ofyn i'r Gweinidog am ei hasesiad hi o effaith y Bil ar hawliau dynol tenantiaid a landlordiaid. Dywedodd y Gweinidog wrthym ni y byddai effaith a bod y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yn ymwneud â'r broses, a dywedodd hi hefyd fod cyfiawnhad dros unrhyw ymyrraeth â'r hawliau hynny a'u bod yn gymesur â budd y cyhoedd. Rydym ni'n cydnabod bod y memorandwm esboniadol yn rhoi rhagor o fanylion am effaith y Bil ar erthygl 1, protocol 1 ac erthygl 8 o'r confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol, ond mae gennym ni rai pryderon nad yw'r Gweinidog wedi rhoi digon o fanylion i ni y byddem ni wedi dymuno eu cael.

Mae ein hargymhelliad 1 yn gofyn i'r Gweinidog gyhoeddi dadansoddiad llawn o effaith darpariaeth y Bil ar hawliau dynol. Cyn symud ymlaen, hoffwn i sôn yn fyr am reoliadau diweddar a wnaed gan Weinidogion Cymru mewn ymateb i'r coronafeirws i'r fframwaith deddfwriaethol presennol sydd wedi ei newid dros dro ar gyfer y broses feddiannu a chyfnodau rhybudd landlordiaid. Fe wnaeth Deddf y Coronafeirws 2020 gynyddu dros dro y cyfnod rhybudd yr oedd yn rhaid i landlord yng Nghymru neu Loegr ei roi i dri mis cyn y gallen nhw ofyn i lys am orchymyn adennill meddiant. Yna fe wnaeth y Gweinidog Reoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Tenantiaethau Sicr a Thenantiaethau Byrddaliadol Sicr, Estyn Cyfnodau Hysbysu) (Diwygio) (Cymru) 2020. Fe wnaethon nhw ymestyn y cyfnod rhybudd o dri mis i chwe mis dros dro, ac wedyn, ar 25 Medi 2020, fe wnaeth y Gweinidog Reoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Tenantiaethau Preswyl: Gwarchodaeth Rhag Troi Allan) (Cymru) 2020. Mae'r rheoliadau hyn yn ymestyn tan 31 Mawrth 2021 ac yn ystod y cyfnod hwn bydd yn rhaid rhoi mwy o rybudd i denantiaid. Rwy'n sôn am y rheoliadau hyn, a chyfeiriwyd atyn nhw, i bwysleisio pwysigrwydd ystyriaethau hawliau dynol wrth wneud deddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth. Daeth y ddwy set o reoliadau i rym lai na 21 diwrnod ar ôl iddyn nhw gael eu gosod gerbron y Senedd, sy'n golygu ychydig iawn o rybudd i landlordiaid a thenantiaid. Mae ein gwaith craffu ar y rheoliadau hyn wedi tynnu sylw Llywodraeth Cymru at yr hyn yr ydym ni'n ystyried ei fod yn ddadansoddiad annigonol o hawliau dynol landlordiaid a thenantiaid sy'n cystadlu â'i gilydd.

O ran yr angen am y Bil, fe wnaethom ni nodi nad oedd ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ei hun ar y diwygiadau arfaethedig i gyfnodau rhybudd yn darparu tystiolaeth o gefnogaeth ffafriol gref. Fe wnaethom ni sylwi hefyd ar awgrym y Gweinidog y bu rhywfaint o ddibyniaeth ar ddefnyddio tystiolaeth anecdotaidd. Rydym ni yn cydnabod y gall fod problem ehangach ynghylch ymgysylltu â'r sector rhentu preifat yng Nghymru, ond, ar bwynt egwyddor cyffredinol, mae sail dystiolaeth y Gweinidog wedi ei gwanhau gan anffurfioldeb y data ac nid oedd y pwyllgor o'r farn ei bod yn arfer da dibynnu ar dystiolaeth o'r fath fel sail dros newid deddfwriaeth sylfaenol.

Mae ein hargymhelliad 2 yn gofyn i Lywodraeth Cymru gynyddu ei hymgysylltiad a datblygu cysylltiadau mwy ffurfiol â deiliaid contractau yn y sector rhentu preifat yng Nghymru. Dylai hyn hwyluso'r gwaith o gasglu data yn fwy cadarn o'r sector hwn er mwyn llywio cynigion deddfwriaethol yn well. Ac rwy'n croesawu'r ffaith bod y Gweinidog wedi derbyn yr argymhelliad penodol hwn.

Roedd argymhelliad 3 yn ein hadroddiad yn ymwneud â chyfyngiadau y sail dystiolaeth. Rydym ni wedi croesawu bwriad y Gweinidog i adolygu gweithrediad y Bil yn rhan o'r gwerthusiad arfaethedig o Ddeddf 2016. Fel pwyllgor, mae gennym ni bryderon cyffredinol ynghylch amledd y llyfr statud fel y mae'n berthnasol yng Nghymru. Felly fe wnaethom ni argymell y dylai'r gwerthusiad arfaethedig o Ddeddf 2016 ystyried y brys posibl i gydgrynhoi cyfraith tai Cymru yn llawn. Unwaith eto, rwy'n croesawu'r ffaith bod y Gweinidog yn derbyn hyn mewn egwyddor ac rwy'n cydnabod hefyd fod hwn, yn amlwg, yn fater i Gynulliad yn y dyfodol erbyn hyn.

Gan symud at ein hargymhelliad olaf, nodwyd bod y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn cytuno â Llywodraeth Cymru bod effaith gyffredinol y Bil ar lwyth achosion y system llysoedd yng Nghymru yn debygol o fod yn ddibwys dros amser. Serch hynny, mae'r Gweinidog yn derbyn y bydd y Bil hefyd yn achosi cynnydd yn nifer yr hawliadau gan landlordiaid preifat y mae angen gwrandawiadau arnyn nhw. Mae'n rhaid osgoi oedi posibl i achosion llys. Ni ddylai'r system llysoedd arwain at gostau uchel ac mae datrys yn amserol yn bwysig er mwyn lliniaru'r effaith a gaiff y Bil ar hawl y landlord i gael mynediad i'w eiddo ei hun. Felly, ein pedwerydd argymhelliad—ac rydym ni'n ystyried bod hwn yn argymhelliad arbennig o bwysig, unwaith eto ar gyfer Cynulliad yn y dyfodol—sef i ymchwilio i'r angen am dribiwnlys tai penodedig yng Nghymru. Gallai tribiwnlys o'r fath, ymysg pethau eraill, ystyried hawliadau meddiant a wneir gan landlordiaid. Rydym ni'n argymell y dylid rhoi gwybod i'r Senedd am ganlyniad yr ymchwiliad hwn ac y dylai hwn fod yn fater sy'n cael ei gario drosodd yn sicr i'r Cynulliad nesaf hefyd. Diolch, Llywydd.

19:30

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Dwi'n falch iawn o gyfrannu at y ddadl yma fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid. Roedden ni wedi disgwyl clywed tystiolaeth gan y Gweinidog yn ôl ym mis Mawrth, wrth gwrs, ar y mater yma, ond bu'n rhaid inni ohirio'r sesiwn honno yn wyneb pandemig COVID-19. Yn lle hynny, mi wnaethon ni ysgrifennu at y Gweinidog yn gofyn am wybodaeth am oblygiadau ariannol y Bil, rhag ofn y bydden ni'n methu aildrefnu sesiwn dystiolaeth cyn y dyddiad cau ar gyfer adrodd yng Nghyfnod 1. Ond gan fod y dyddiad cau hwnnw wedi'i ymestyn, fe gawsom ni yn y pendraw gyfle i glywed gan y Gweinidog, ac rŷn ni'n ddiolchgar iawn iddi am hynny, wrth gwrs.

Mae'r pwyllgor yn nodi y bydd y Bil yn diwygio Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 i roi rhagor o sicrwydd o ran tenantiaeth i ddeiliaid contractau sy'n rhentu, yn enwedig, wrth gwrs, y bobl hynny sydd yn y sector rhentu preifat, drwy ymestyn faint o rybudd y mae'n rhaid i landlord ei roi o ddeufis i i chwe mis, pan nad yw deiliad y contract ar fai.

Rŷn ni'n nodi bod diwygiadau yn cael eu gwneud yng ngweddill y Deyrnas Unedig yn y maes yma hefyd, wrth gwrs. Yn Araith y Frenhines ym mis Rhagfyr y llynedd, fe wnaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig gynnwys Bil arfaethedig i ddiwygio trefniadau ar gyfer rhentwyr, a fydd yn atal troi pobl allan o'u cartrefi heb fai. Yn yr Alban wedyn, fe greodd Deddf Tai Preifat (Tenantiaethau) (Yr Alban) 2016 gategori newydd o denantiaeth rhentu preifat yn yr Alban, gan ddod â'r arfer o droi allan heb fai i ben a nodi 18 rheswm y caiff landlord eu defnyddio i ddod â thenantiaeth i ben.

At ei gilydd, mi fydd cost net y Bil yma, fel sy'n cael ei nodi yn yr asesiad effaith rheoleiddiol, rywle rhwng £9.5 miliwn a £13 miliwn. Yn gyffredinol, rŷn ni'n fodlon ar y dystiolaeth a roddwyd gan y Gweinidog, felly does gennym ni ddim materion i'w hadrodd o ran goblygiadau ariannol y Bil.

Rwyf i'n siarad fel yr Aelod a gynrychiolodd grŵp y Ceidwadwyr yn nhrafodion Cyfnod 1, ac a etholwyd i'r pwyllgor cydraddoldeb a llywodraeth leol at y diben hwnnw, ond nid fi yw'r llefarydd ar dai mwyach, a bydd fy nghyd-Aelod Mark Isherwood yn siarad yn swyddogol ar ran y grŵp yn ddiweddarach.

A gaf i ddweud fy mod i'n falch iawn o gytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil hwn? Rwyf i'n credu, gyda mesurau eraill y cyfeiriwyd atyn nhw, y dylai ddarparu marchnad gryfach a mwy effeithlon i'r sector rhentu preifat yn benodol, ac mae'n ceisio sicrhau cydbwysedd rhwng tenantiaid—sydd yn aml yn cael eu galw yn 'genhedlaeth rhentu' erbyn hyn—a landlordiaid. Ac mae'r genhedlaeth rhentu, os caf i gymryd bod hynny yn golygu pobl yn y sector rhentu preifat, yn rhywbeth tebyg i 20 y cant o'r boblogaeth o ran tai erbyn hyn, sy'n newid eithaf rhyfeddol o'r 1980au, pan gafodd llawer o'r gyfraith yr ydym ni wedi ceisio ei diwygio yn ystod y Senedd hon ei deddfu am y tro cyntaf, a hynny mewn gwirionedd i adfywio y sector rhentu, a oedd wedi dirywio yn sgil gor-reolaeth ar y pryd. Felly, mae'n fater o ail-gydbwyso; mae'n digwydd yn Lloegr, mae'n digwydd yn yr Alban, a dyna pam, pan oeddwn i'n llefarydd y Ceidwadwyr—a pholisi sy'n parhau—yr oedd grŵp y Ceidwadwyr yn falch o gefnogi'r diwygiadau hyn i'r sector rhentu yn gyffredinol. Ac a gaf i ddweud cymaint o bleser y bu hi i weithio gyda'r pwyllgor cydraddoldeb a llywodraeth leol a'r Aelodau—yr oedd yn adeiladol iawn—ac, yn fwy diweddar, rwyf i hefyd wedi bod ar y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, ac, unwaith eto, rwy'n falch o'r gwaith diwyd sydd wedi ei wneud ar y Bil hwn. Ac yn wir, rwy'n nodi, fel y mae pobl eraill wedi gwneud, yr argymhellion tebyg mewn rhai ffyrdd rhwng y ddau bwyllgor hynny.

Hoffwn i wneud rhai pwyntiau penodol, ond gadewch i mi ddweud yn gyntaf fy mod i'n credu bod cydgrynhoi cyfraith tai yn rhywbeth a fyddai'n ddymunol iawn. Rydym ni'n gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gydgrynhoi cyfreithiau. Bu'n un o'r pethau yr oeddem ni'n credu y gallai'r Senedd ei wneud, neu ddechrau ei wneud, pan gafodd bwerau deddfu sylfaenol, a sicrhau nad oedd gennym ni'r math o lyfr statud anniben sy'n bodoli mewn awdurdodaethau eraill, a bod tai yn faes cyfraith gyhoeddus da iawn i ddechrau hyn, oherwydd ei fod mor bwysig o ran bywydau pobl, ond hefyd yr oedd yn gyfreithiau yr oedd angen eu diwygio ac maen nhw'n systematig iawn; maen nhw'n ymwneud â'i gilydd. Mae'r Bil hwn mewn gwirionedd yn diwygio Deddf 2016, felly Deddf o'r pedwerydd Cynulliad, fel y gwnaethom ni glywed, na fydd yn cael ei chychwyn mewn gwirionedd tan y chweched Senedd. Rwyf i yn credu bod hyn yn dipyn o record i rywbeth gael ei basio mewn pedwaredd Senedd a pheidio â chael ei ddeddfu—ei gychwyn, yn hytrach—tan chweched Senedd, ac nid yw'n arfer da iawn o gwbl, hyd yn oed—. Wrth gwrs, mae yna rai rhesymau yn sgil COVID i esbonio'r estyniad i'r oedi gormodol hwn, ond mae'r rhan fwyaf o'r oedi gormodol wedi ei achosi gan ffactorau eraill, ac rwyf i'n credu y dylai Llywodraeth Cymru fod wedi rhoi mwy o sylw iddyn nhw. Ond, beth bynnag, mae hwnnw'n nodyn sur ac rwy'n awyddus i fod yn gadarnhaol ar y cyfan yn fy sylwadau. 

Os gallaf i droi at yr adroddiad pwyllgor Cyfnod 1, hoffwn i dynnu sylw at y canlynol: cyfeiriwyd eisoes at yr angen am ddata gwell o'r sector rhentu preifat, ac rwy'n falch bod y Gweinidog wedi derbyn yr argymhelliad hwnnw. Fel y dywedais i, mae'n 20 y cant o'r sector tai erbyn hyn, ac mae angen gwell data arnom ni ac mae angen gwell cysylltu â thenantiaid y sector preifat arnom ni. Mae gennym ni gysylltiadau rhagorol dros ddegawdau lawer â'r rhai hynny yn y sector cymdeithasol, ac mae'n sector anoddach—mae'n fwy tameidiog, denantiaid y sector preifat—ond mae angen i ni gael gwell tystiolaeth ganddyn nhw. Mae angen gwneud rhai gwelliannau i'r Bil, ac rwy'n siŵr y bydd fy nghyd-Aelod Mark Isherwood yn siarad rhywfaint am hyn hefyd, ond byddem ni wedi pwyso'n gryf iawn am ymestyn y rhybudd tynnu yn ôl ac yna ailgyhoeddi y mae'n rhaid i landlordiaid ei roi o 14 i 28 diwrnod, ond rwyf i wrth fy modd bod y Gweinidog wedi derbyn yr argymhelliad hwnnw ac felly, yn ôl pob tebyg, ni fydd angen ein gwelliant ein hunain ar hynny.

Felly, rwyf i yn credu, i gloi, gan fod hyn yn cwblhau cyfres o ddiwygiadau i'r sector rhentu preifat, gan ein bod ni wedi symud o droi allan heb fai, i bob pwrpas, i droi allan am reswm, fod hawl y landlord i gael proses effeithiol yn bwysig iawn. A dyna pam mae'r ddau bwyllgor wedi gwneud y pwynt hwn ynghylch yr angen i landlordiaid allu cael gafael ar weithdrefn effeithlon a chost isel, ac o bosibl y byddai'n well gwneud hynny drwy dribiwnlys tai. Ac rwyf i yn gobeithio y bydd hynny yn cael ei ystyried o ddifrif yn y chweched Senedd na fyddaf i'n Aelod ohoni, ond byddwn i yn annog yr Aelodau sy'n cael eu hethol i honno i edrych ar y rhan benodol honno, oherwydd ei bod yn rhan o'r cydbwysedd, ac mae gan landlordiaid hawl i adfeddiannu eu heiddo ac mae'n rhaid bod â phroses sy'n effeithlon er mwyn iddyn nhw wneud hynny pan fydd rheswm i wneud hynny. 

19:35

Mae'n bleser dilyn David Melding yn y ddadl hon. Mae Plaid Cymru yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil hwn, ond nid ydym ni'n credu bod y Llywodraeth wedi mynd yn ddigon pell. Rydym ni, wrth gwrs, yn cymeradwyo argymhellion adroddiadau'r pwyllgorau, ac yn diolch i Gadeirydd a chlercod y pwyllgorau am eu cefnogaeth wrth gasglu'r dystiolaeth a arweiniodd at ein hargymhellion yn yr adroddiad hwnnw. Mae gwerth mewn tynnu sylw, fel y mae David Melding newydd ei wneud, at y ffaith bod y Bil yn diwygio Deddf nad yw wedi ei gweithredu eto, Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016. Ac fel y mae'r pwyllgor wedi ei nodi hefyd, mae bod â'r bwlch sylweddol hwn rhwng Bil yn dod yn gyfraith ac yn cael ei weithredu yn anarferol ac yn destun gofid. Os ydym ni wedi dysgu unrhyw beth eleni, y wers yw nad yw diffyg gweithredu a syrthni gan y Llywodraeth yn arwain at wasanaeth cyhoeddus da, ac rwy'n gobeithio bod y wers honno wedi ei dysgu o'r profiad. Ond nodyn sur yw hwnnw ac rwy'n gobeithio bod yn fwy cadarnhaol yn rhai o'r sylwadau hyn.

Mae'n amlwg, er bod y Bil yn ymestyn y cyfnod cyn caniatáu troi allan heb fai, ei fod yn cynrychioli newid barn gan y Llywodraeth, oherwydd fe wnaeth y Prif Weinidog presennol, wrth gwrs, addo gwaharddiad llwyr yn ystod ei ymgyrch arweinyddiaeth. Nawr, mae hynny'n rhywbeth y byddwn ni, fel Plaid Cymru, yn dymuno dychwelyd ato mewn cyfnodau diweddarach. Mae'r cyfnod rhybudd estynedig yn ddechrau, ac mae'r Llywodraeth wedi cyfiawnhau ymestyn y cyfnod i chwe mis gan nad oedd y ddau fis o rybudd blaenorol yn ddigon o amser i denantiaid sicrhau llety amgen yn yr un gymuned neu ardal â'r ysgol y mae eu plentyn yn ei mynych. Nid yw'n ddigon o amser i drefnu newidiadau i becynnau gofal, i gynilo i dalu costau symud a chynllunio ar gyfer symud o amgylch bywydau bob dydd tenantiaid, gan gynnwys ymrwymiadau cyflogaeth a theuluol.

Nawr, rwy'n credu mai'r pwynt cyntaf yn y fan yna yw'r mwyaf argyhoeddiadol o bosibl: pam ddylai addysg a datblygiad personol unrhyw blentyn gael eu haberthu? Oherwydd, yn rhy aml yn y wlad hon, rydym ni'n ystyried eiddo fel buddsoddiad ac yn rhoi blaenoriaeth i hawliau landlordiaid dros hawliau plant i fwynhau plentyndod sefydlog. Mae chwe mis yn welliant—mae'n gwarantu, i bob pwrpas, denantiaeth am flwyddyn—ond byddwn i'n dal i gwestiynu a fyddai hynny yn ddigon o amser bob amser. Mewn ardaloedd gwledig, neu yng nghymunedau'r Cymoedd, mae prinder llety addas yn aml. Felly, mae'n bosibl na fyddai hyd yn oed chwe mis o rybudd yn ddigon o amser i deulu ddod o hyd i eiddo arall sy'n galluogi ei blentyn i aros yn yr un ysgol.

Llywydd, mae angen gwirioneddol i ni roi'r ddeddfwriaeth hon yn ei chyd-destun. Os caiff ei phasio heb ei diwygio, bydd tenantiaid yng Nghymru yn parhau i gael llai o amddiffyniad rhag troi allan heb fai nag yn yr Alban ac, yn wir, yn Lloegr, lle mae'r ddeddfwriaeth arfaethedig ar gyfer gwaharddiad llwyr ar droi allan heb fai. Mewn gwirionedd, y cwestiwn yw: pam newid meddwl? Mae'r Llywodraeth wedi dweud y byddai gwaharddiad llwyr yn torri hawliau dynol, ond, os yw hynny'n wir, pam nad oes unrhyw gymdeithasau landlordiaid cyfoethog wedi dwyn Llywodraeth yr Alban i'r llys?

Nawr, mae'r Llywodraeth hefyd wedi dweud y dylai landlordiaid allu cael eu heiddo yn ôl, er enghraifft, os mai dim ond un eiddo y maen nhw'n berchen arno a'u bod yn wynebu digartrefedd eu hunain. Nawr, o dan yr amgylchiadau hynny, wrth gwrs y byddem ni eisiau amddiffyniad, ond bydd amrywiaeth o resymau eraill o hyd lle gallai landlord gymryd y camau hyn. Y cyfan yr ydym ni eisiau ei weld yw bod gan denant da sy'n talu rhent ac yn gofalu am yr eiddo ei hawl i fywyd teuluol sefydlog wedi ei warchod, ac nad yw pedwar mis ychwanegol o amddiffyniad rhag troi allan heb fai yn mynd yn ddigon pell ar gyfer hynny. Dylem ni roi terfyn ar droi allan heb fai, fel yr addawodd y Prif Weinidog. Dylem ni fod â pholisi o gefnogi tenantiaid i fod yn berchnogion cartrefi trwy sefydlu dulliau er mwyn iddyn nhw allu prynu'r cartref oddi wrth landlordiaid sy'n dymuno gadael y farchnad, a hefyd ariannu cymdeithasau tai i gymryd eiddo oddi wrth landlordiaid sy'n dymuno gadael y farchnad. Oherwydd, mae hyd yn oed cymdeithasau'r landlordiaid yn cytuno y dylem ni fod yn cael gwared ar landlordiaid gwael, ac yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf rydym ni wedi gweld gormod o landlordiaid gwael. Ac mae'n rhaid rhoi terfyn ar y canfyddiad, a gaiff ei annog gan y cyfryngau, fod eiddo yn ffordd o wneud arian yn gyflym. Cartref rhywun yw tŷ yn bennaf oll; ni ddylid ei ystyried yn ased, yn ffordd o gronni cyfoeth, yn enwedig nid yn sgil tlodi pobl eraill.

Felly, mae llawer yn y Bil hwn yr ydym ni yn ei groesawu, ond mae llawer mwy yr hoffem ni weld y Llywodraeth yn ei wneud a byddwn ni'n pwyso am hyn yn y cyfnodau diweddarach. Diolch.

19:40

Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei datganiad heddiw ac am ystyried egwyddorion cyffredinol y Bil hwn. Hoffwn i gofnodi fy niolch i'r pwyllgorau a adroddodd ar y Bil hwn. Mae'r adroddiadau yn gytbwys ac yn ddiddorol.

Unwaith eto, byddaf i'n datgan buddiant. Rwyf i yn rhywbeth rwyf i'n ei alw yn landlord damweiniol—fe wnes i etifeddu tŷ fy nhad ac rwy'n rhentu'r eiddo erbyn hyn i deulu lleol. Drwy wneud hynny, rwy'n rhannol yn darparu ar gyfer fy henaint ac yn ychwanegu at fy mhensiwn. Rwy'n gwybod bod eraill yn rhentu eiddo maen nhw wedi ei etifeddu dim ond er mwyn ad-dalu ffioedd cartref gofal sy'n ddyledus i gynghorau. Rwyf i wedi cofrestru gyda Rhentu Doeth Cymru, mae'r eiddo yn cael ei reoli gan asiant, cynyddodd y ffioedd 1 y cant pan gafodd Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd ac ati) (Cymru) 2019 ei chyflwyno. Mae'n rhaid i mi lenwi ffurflen dreth. Mae'n gyfrifoldeb gwirioneddol ac mae'n teimlo'n rhy aml fel bwrn. Rwy'n dweud hyn wrthych chi, gan fy mod i'n teimlo bod gan lunwyr polisi a rhai yn y Siambr hon farn ar landlordiaid sydd yn sownd rywle yn y 1970au a'r 1980au—pobl gyfoethog, ddi-hid sy'n hapus i gyfrif eu harian tra bod eu tenantiaid yn byw mewn tlodi. Yn sicr, nid yw hynny yn wir mewn llawer o amgylchiadau.

Ond, ers dros ddegawd neu ddau erbyn hyn, mae pobl gyffredin wedi clywed y dylen nhw gynilo ar gyfer eu henaint ac mae llawer wedi ei ystyried yn beth da i fuddsoddi eu harian mewn eiddo. Ac yna daw cyni ac mae landlordiaid yn cael eu trethu a'u rheoleiddio, maen nhw'n talu'n fwy ac yn gorfod gwneud mwy nag erioed o'r blaen. Felly, i berchnogion un eiddo prynu-i-osod yn unig, mae'n eithaf beichus ac yn mynd yn opsiwn llai a llai deniadol. Gall fod yn wahanol i ddeiliaid portffolio, wyddoch chi.

Ni fyddaf i'n ymhelaethu yma yn awr pa mor anniben yw'r gyfres hon o ddeddfwriaeth, gyda diwygiadau yn cael eu gwneud i'r Ddeddf tai nad yw wedi dod i rym eto; mae'r ddau bwyllgor wedi codi'r pwynt hwn gyda chi. Fodd bynnag, rwyf i yn credu bod gwerth gwneud y pwynt bod angen i bobl fod â hyder yn y ddeddfwriaeth sy'n cael ei datblygu yma yn y Senedd hon ac yn ei bwriad a'i heffaith. Nid oes gen i unrhyw anhawster o ran cymryd camau i alluogi tenantiaid i deimlo yn fwy diogel ac i fod yn fwy diogel yn eu cartrefi rhent. Fel y dywedodd Delyth, wyddoch chi, eu cartrefi nhw ydyn nhw. Maen nhw'n talu am y fraint o gael byw yn yr eiddo hwnnw; dylai fod ganddyn nhw rywfaint o sicrwydd yn y ddeiliadaeth. Ac rwy'n deall pa mor anodd y gall fod pan fydd angen yr eiddo yn ôl ar landlord ac mae cysylltiadau teuluol â'r ardaloedd a'r ysgolion i'w hystyried. Fodd bynnag, mae'n rhaid i mi gyfaddef i mi ddarllen â chryn syndod bod unrhyw dorri ar hawliau dynol landlordiaid yn cael ei ystyried yn iawn a bod eu hanghenion a'u hawliau nhw yn cael eu hystyried yn isradd i anghenion y tenant. Byddaf i'n rhoi dwy enghraifft i chi: mae etholwr A yn ffurfio perthynas newydd ac yn symud i mewn gyda'i phartner newydd. Mae hi'n rhentu ei thŷ hi i rywun arall. Mae ei pherthynas yn chwalu, nid yw hi'n gallu cael mynediad i'w chartref ei hun oherwydd y gyfraith hon. Mae hi'n ddigartref nes iddi gyflwyno'r hysbysiadau perthnasol. Enghraifft: mae etholwr B yn cael diagnosis o salwch terfynol. Mae'n dymuno gwerthu ei holl asedau i wneud yr holl bethau ar ei restr fwced frys iawn erbyn hyn. Nid yw'n cael gwneud hyn oherwydd bod angen iddo gyflwyno hysbysiadau perthnasol. Efallai y bydd y dyn hwnnw druan yn marw wrth iddo aros. Sut y mae hyn yn deg?

Rydych chi'n sôn yn eich tystiolaeth i bwyllgor bod mwyafrif y landlordiaid yn landlordiaid da, felly beth ydych chi'n ceisio ei wella yn y fan yma? Hefyd, mae'n ymddangos bod cynsail y Bil wedi ei seilio ar dystiolaeth anecdotaidd, fel sydd wedi ei ddweud eisoes, yn bennaf drwy waith achos etholaethol. Mae hynny yn peri pryder mawr i mi. Mae'n ymddangos bod y Bil wedi ei seilio ar denant perffaith sy'n talu ei rent ac yn gofalu am yr eiddo, ond mae pob un ohonom ni yn gwybod nad yw hyn yn wir bob amser. Rwyf i wedi gweld cryn dipyn o achosion fel hynny, diolch byth nid ar fy eiddo fy hun ond trwy fy asiantau. Mae llawer o landlordiaid wedi gorfod ymdrin â thenantiaid twyllodrus nad ydyn nhw'n talu dim neu sy'n dinistrio'r eiddo, neu'n gwrthod gadael pan fyddan nhw i fod i'w wneud. Gall y math hwn o beth ddifetha bywydau pobl. Felly, rwy'n falch bod prosesau y llysoedd wedi eu hystyried. Mae rhentu eiddo i bobl yn edrych yn fwyfwy tebyg i draffig un ffordd, wrth i'r hawliau i gyd orwedd gyda'r tenantiaid a'r rhwymedigaethau i gyd gyda'r landlord. Nid yw hyn yn creu sector rhentu preifat bywiog, felly rwyf i'n credu ei bod yn hanfodol dangos rhywfaint o ewyllys da, a phan fo angen prosesau llysoedd neu dribiwnlysoedd, bod hyn yn digwydd yn gyflym ac yn effeithlon. Felly, rwyf i'n credu bod modd cael gwell cydbwysedd, Gweinidog. Os na, bydd landlordiaid preifat, fel sydd wedi ei ddweud o'r blaen hefyd, yn pleidleisio gyda'u traed, a bydd mwy o bwysau'n cael ei roi ar y farchnad dai sydd eisoes dan bwysau os byddan nhw'n gadael y farchnad honno. Diolch.

19:45

Huw Irranca-Davies. Huw Irranca-Davies, nid ydym yn eich clywed chi ar hyn o bryd. Mae'n ymddangos eich bod chi'n gwybod ein bod ni eisiau eich clywed chi.

Mae'n ddrwg gen i, Llywydd, mae'r botwm bach newydd ddod drwodd i ganiatáu i mi siarad.

Diolch yn fawr iawn. A gaf i, yn gyntaf, fel aelod o'r pwyllgor, ddiolch i fy nghyd-Aelodau ar y pwyllgor a'r Cadeirydd, a hefyd y tystion, am yr hyn sydd wedi bod yn dystiolaeth wirioneddol ddiddorol a thrylwyr, fel y mae'r pwyllgor hwn bob amser yn ei chymryd, gan geisio sicrhau bod y cydbwysedd hwn yn iawn o ran sicrwydd deiliadaeth i denantiaid a hefyd, y cydbwysedd hawliau i landlordiaid? Ac, wrth siarad yn rhan o'r ddadl hon i gefnogi, yn gryf mae'n rhaid i mi ddweud, nid yn unig yr egwyddorion cyffredinol, ond hefyd y syniad o fwrw ymlaen â hyn am resymau y byddaf i'n sôn amdanyn nhw mewn eiliad, rwyf i hefyd yn datgan buddiant oherwydd fy mod i yn landlord fy hun. Rwyf i wedi bod yn denant droeon wrth i mi symud o amgylch y wlad. Rwy'n landlord, rhywfaint fel yr oedd Mandy yn ei ddweud, drwy ddamwain—drwy amgylchiadau teuluol. Rwy'n credu y bydd llawer o fy etholwyr i yn yr un cwch, a bod ganddyn nhw, efallai drwy brofedigaeth, efallai drwy gymynrodd neu beth bynnag, un eiddo.

Ond lle y byddwn i'n anghytuno â Mandy yw fy mod i'n credu bod y cynigion yn y Bil yn gywir ar y cyfan mewn gwirionedd. Rwy'n edrych ymlaen at ddadl bellach ar hyn, ond rwy'n credu eu bod yn gywir ar y cyfan, oherwydd yr hyn yr ydym ni wedi ei gael ers amser maith yw tuedd gormodol tuag at bŵer y landlord, ac mae llawer o landlordiaid da ar gael, ond mae tenantiaid wedi bod yn ddi-rym ac, o ran y denantiaeth ddiogel hon, rydym ni wedi cymryd camau mor fawr yng Nghymru, yn enwedig gyda'r dull rhentu doeth, sydd, yn fy marn i, wedi achosi llawer o landlordiaid i ymateb i'r her a chymryd y cyfrifoldebau o ddifrif. Ond mae'r Bil hwn, mae'n rhaid i mi ddweud, yn mynd ag ef ymhellach hefyd, ond rwy'n edrych ymlaen at weld y dadleuon ehangach arno yn cael eu cyflwyno.

Ond, Gweinidog, rwy'n mynd i gynnig ychydig o bêl dro i chi, oherwydd er fy mod i'n cytuno yn llwyr â'r hyn y mae'r pwyllgor wedi ei gyflwyno a llawer o sylwadau David Melding ac eraill yma heddiw a Chadeirydd y pwyllgor, hoffwn i sôn am fater ychydig yn wahanol, ac mae'n ymwneud â beth arall y bydd y Bil hwn yn ei wneud. A'r rheswm rwy'n dweud hyn yw fy mod i'n dymuno diolch i bobl Diogelwch Trydanol yn Gyntaf am eistedd i lawr gyda mi yn rhithwir a thrafod rhywfaint am eu cefnogaeth fawr i'r Bil hwn, mae'n rhaid i mi ddweud, oherwydd eu bod nhw yn dymuno gweld hyn yn cael ei gyflawni yn gyflym ac yn cael ei roi ar waith, ond hefyd yr hyn y maen nhw'n ystyried y bydd hyn yn ei wneud o ran mesurau ffitrwydd i fod yn gartref sydd yn y Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) wreiddiol a'r hyn y gallai hyn ei wneud yn awr, mewn gwirionedd, ar gyfer diogelwch trydanol os byddwn ni'n bwrw ymlaen ag ef ac os byddwn ni'n gwneud hynny'n iawn. Y cefndir i hyn, wrth gwrs—gyda llaw, Gweinidog, mae'n rhaid i mi ddweud fy mod i'n gobeithio cael ymateb cadarnhaol gennych chi, oherwydd bod y prif unigolyn materion allanol ar gyfer Diogelwch Trydanol yn Gyntaf yng Nghymru yn digwydd byw yn fy nhref i, felly mae wedi bod yn curo ar fy nrws i—yw oherwydd, wrth gwrs, ein bod ni'n gwybod bod 62 y cant o danau domestig yn cael eu hachosi gan drydan, ac mae'r Bil hwn yn rhoi arwyddocâd mawr i'r mesurau ffitrwydd i fod yn gartref, nid yn unig i landlordiaid cymdeithasol ac i landlordiaid preifat, ond hefyd oherwydd yr hyn y mae'n ei wneud o ran y mater ehangach hwnnw yn ymwneud â diogelwch. Felly, y gofynion o ran diogelwch trydanol yw un, gan Diogelwch Trydanol yn Gyntaf, bod Aelodau'r Senedd yn cefnogi'r Bil hwn ac nad oes unrhyw oedi, a dweud y gwir, i sicrhau nad oes rhagor o oedi i'r gwiriadau diogelwch trydanol sy'n rhan o'r mesurau ffitrwydd i fod yn gartref hyn, eu bod yn cael eu gweithredu cyn gynted â phosibl. Maen nhw yn gofyn hefyd, Gweinidog, bod Llywodraeth Cymru yn llunio amserlen glir mewn gwirionedd o ran gweithredu'r gwiriadau diogelwch trydanol gorfodol yr ydym ni'n dal i aros amdanyn nhw, ac rwy'n credu y bydd symud hyn ymlaen yn gyflym yn ein galluogi i wneud hyn. Tybed a fyddai'r Gweinidog yn gallu ymateb i'r mater hwnnw ynghylch yr amserlen ar gyfer y gwiriadau diogelwch hynny hefyd, ond, wrth gwrs, heb aros i wneud hyn, oherwydd yn y cyfamser, mae angen datrys hefyd y mater o fwrw ymlaen mewn gwirionedd ag ymweliadau diogelwch yn y cartref i berchnogion cartrefi agored i niwed gan fecanweithiau sefydledig y gwasanaethau tân ac achub, a'u bod yn cyfeirio i wasanaethau gofal ac atgyweirio, er enghraifft, pan fo peryglon trydanol yn cael eu nodi.

Felly, Gweinidog, rwy'n gwbl gefnogol wrth siarad yn y ddadl ar egwyddorion cyffredinol y Bil hwn. Nid wyf i'n gweld yr anhawster i gyflwyno'r mesurau hyn cyn i'r Bil cyfan yr ydym ni wedi ei roi ar waith gael ei ddeddfu. Mae'n anarferol iawn, mae'n rhaid i mi ddweud, ond rwy'n credu ei fod yn iawn, oherwydd ein bod ni wedi sylwi ar bethau y mae angen ymdrin â nhw, ond, wrth wneud hynny, a allwn ni hefyd ystyried y materion hynny sy'n ymwneud â'r mesurau ffitrwydd i fod yn gartref, ac yn enwedig y rhai hynny sy'n ymwneud â diogelwch trydanol, gan ein bod ni'n gwybod ei fod yn arwain at farwolaethau? Os gallwn ni wneud hyn yn iawn, byddwn ni'n achub bywydau yn ogystal ag ymdrin â'r mater hwn o gydbwysedd sicrwydd deiliadaeth i denantiaid a gyda landlordiaid. Diolch yn fawr iawn.

19:50

Fel y mae memorandwm esboniadol Llywodraeth Cymru i'r Bil hwn yn ei ddweud,

'Mae'r sector rhentu preifat yn chwarae rôl bwysig wrth ddiwallu anghenion pobl Cymru o ran tai'

ac

'mae Llywodraeth Cymru am sicrhau'r cydbwysedd iawn o gefnogaeth a rheoleiddio o fewn y sector rhentu preifat.'

Fodd bynnag, o ystyried dibyniaeth gynyddol pobl ar y sector rhentu preifat ar gyfer tai, mae'n rhaid cael cydbwysedd manwl i amddiffyn y ddwy ochr yn y trefniadau hyn ac osgoi canlyniadau anfwriadol sy'n mynd yn groes i'r nod hwn. Wrth gwrs, mae angen sicrwydd cartref da a landlord cyfrifol ar denantiaid, ond mae angen sicrwydd tenantiaid cyfrifol ar landlordiaid hefyd. Mae mwyafrif y landlordiaid yn unigolion sy'n gosod un neu ddau eiddo i'w rentu. Mae llawer o'r rhain yn dibynnu ar yr incwm hwnnw ar gyfer eu costau byw o ddydd i ddydd, neu i ddarparu pensiynau. Byddai unrhyw gamau gweithredu sy'n gyrru landlordiaid da allan o'r sector ac yn lleihau'r stoc dai sydd ar gael i'w rhentu yn niweidiol i denantiaid yn y tymor hir.

Er bod y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn argymell cytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil hwn, mae hefyd yn cydnabod bod rhaniad clir yn y farn ar ba un a oedd angen y ddeddfwriaeth. Mae memorandwm esboniadol y Bil yn nodi mai nod cyffredinol y Bil yw gwella sicrwydd deiliadaeth i'r rhai hynny sy'n rhentu eu cartrefi yng Nghymru. Fodd bynnag, roedd yr ymatebion i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru yn gymysg. Er bod 70 y cant o'r deiliaid contract yn y sector hwn a ymatebodd yn cefnogi'r prif gynnig i ymestyn y cyfnod rhybudd ar gyfer troi allan adran 173 i chwe mis, a bod 78 y cant yn cefnogi'r cynnig i atal hysbysiad troi allan rhag cael ei gyflwyno o fewn chwe mis cyntaf contract meddiannaeth newydd, roedd 94 y cant o landlordiaid preifat a ymatebodd yn erbyn y cyntaf, ac roedd 92 y cant o asiantau gosod eiddo yn erbyn yr olaf. Er gwaethaf y gwahaniaeth barn hwn, byddwn ni'n cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil i roi mwy o sicrwydd i bobl sy'n rhentu eu cartrefi yng Nghymru. Fodd bynnag, rydym ni hefyd yn cydnabod pryderon landlordiaid o ran yr effaith y gallai'r diwygiadau hyn ei chael ar eu gallu i ddiogelu eu hincwm, cael gwared ar denantiaid gwael pan fo popeth arall wedi methu, a sicrhau y gallan nhw ailfeddiannu'r eiddo o dan amgylchiadau eithriadol, megis yr angen i symud ynddo eu hunain.

Fel y dywedodd Cymdeithas Genedlaethol y Landlordiaid Preswyl mewn tystiolaeth ysgrifenedig i'r pwyllgor,

Nid yw landlordiaid yn mynd i'r llys heb reswm da ac mae'n well ganddyn nhw gadw tenantiaid da yn eu cartrefi.

Mae ARLA Propertymark, y corff proffesiynol a rheoleiddio ar gyfer asiantau gosod eiddo, yn datgan y bydd gosod eiddo yn llai hyfyw i landlordiaid o dan gynigion presennol y Bil, lle nad oes,

ffordd syml o adennill yr eiddo yn gyflym pan fydd pethau yn mynd o chwith.

Maen nhw'n nodi o ganlyniad y bydd llai o gartrefi rhentu preifat, gan arwain yn y pen draw at lai o ddewis o le i fyw i denantiaid, rhenti cynyddol a gorfodi landlordiaid i fod yn fwy amharod i fentro a dewis rhoi cartref i denantiaid risg isaf yn unig. Er mwyn gwneud y ddeddfwriaeth yn ymarferol, maen nhw'n datgan bod yn rhaid diwygio'r Bil i gynnwys pedair sail orfodol dros adfeddiannu: pan fo'r landlord yn bwriadu gwerthu'r eiddo, yn bwriadu symud i mewn i'r eiddo, yn bwriadu symud aelod o'r teulu i'r eiddo, a phan fo angen i fenthyciwr morgais adennill yr eiddo. Caiff ei nodi er bod bwriad Llywodraeth y DU i ddiddymu camau troi allan heb fai yn Lloegr yn mynd ymhellach na Bil Llywodraeth Cymru, bod ei Bil Diwygio i Rentwyr yn rhoi mwy o hawliau i landlordiaid gael meddiant o'u heiddo drwy'r llysoedd, pan fo angen dilys iddyn nhw wneud hynny, trwy ddiwygio'r ddeddfwriaeth bresennol. Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi dweud y byddan nhw yn gweithio i wella proses y llysoedd er mwyn ei gwneud yn gyflymach ac yn haws i landlordiaid gael eu heiddo yn ôl yn gynt.

Yng ngoleuni canlyniadau anfwriadol y Bil hwn, mae Cymdeithas Genedlaethol y Landlordiaid Preswyl wedi ceisio datblygu cyfaddawdau adeiladol sy'n ceisio cydbwyso anghenion landlordiaid a thenantiaid, ac rwy'n croesawu'r ffaith bod y Gweinidog eisoes wedi derbyn un ohonyn nhw. Er enghraifft, yn ogystal, caniatáu i hysbysiad troi allan heb fai adran 173 o chwe mis gael ei gyflwyno ar ôl pedwar mis ond i ddod i rym ar ddiwedd y cyfnod penodedig o chwe mis, gan roi mwy o rybudd i denantiaid a mwy o hyblygrwydd i'r landlord; a diwygio hyd y contract lleiaf i 12 mis, ond caniatáu toriad gan y tenantiaid yn unig o chwe mis os yw'r landlord a'r tenant yn cytuno ar hynny ar ddechrau'r contract.

Rwyf i hefyd, wrth wrando ar y cyfraniad blaenorol, yn nodi'r alwad gan Diogelwch Trydanol yn Gyntaf i Lywodraeth Cymru weithredu cyn gynted ag y bo modd y gofynion yn y ddeddfwriaeth wreiddiol i landlordiaid sicrhau bod unrhyw anheddau a gaiff eu gosod yn addas i fod yn gartref, gan gynnwys gwiriadau diogelwch trydanol gorfodol. Diolch.

19:55

Na, Llywydd, nid wyf i wedi cyflwyno cynnig i siarad yn y ddadl hon, diolch. Mae'n ddrwg gen i.

Gwych. Peidiwch â chymryd hynny'n bersonol; ond mae'n agosáu at 8 o'r gloch, ac mae hynny'n codi fy nghalon—un siaradwr yn llai. Daw hynny â ni at y Gweinidog i ymateb i'r ddadl.

20:00

Diolch, Llywydd. A gaf i ddechrau unwaith eto drwy ddiolch i John, Llyr a Mick am eu sylwadau adeiladol a defnyddiol heno a hefyd, unwaith eto, am waith eu priod bwyllgorau yr ydym ni'n ddiolchgar iawn amdano? Ac, fel y dywedais i ar y dechrau, rwy'n gwerthfawrogi'n fawr y gwaith caled aruthrol sydd wedi digwydd o dan amgylchiadau anodd iawn, ac yn arbennig o ddiolchgar i Llyr, gan ei fod wedi sôn ei fod wedi bod trwy weithdrefn gymharol anarferol i fynd trwy'r gwahanol gamau craffu. Felly rwy'n ddiolchgar iawn i bobl am wneud hynny. Rwyf i hefyd yn ddiolchgar iawn i'r holl Aelodau eraill sydd wedi siarad yn ystod y ddadl heddiw.

Hoffwn i wneud un neu ddau o sylwadau mewn ymateb i wahanol sylwadau y mae'r Aelodau wedi eu gwneud. Ni fydd gen i amser i fynd trwy bob un ohonyn nhw, Llywydd, ond hoffwn i ddechrau trwy ddweud ei bod yn bwysig cadw rheoliadau COVID ar wahân i'r Bil diwygio sydd ger ein bron ni heddiw. Rwy'n credu bod nifer o'r Aelodau wedi cyfuno un neu ddau o'r materion. Rwy'n hapus iawn i gynnal sesiwn briffio yn nes ymlaen i'r Aelodau ynghylch y gwahaniaethau rhwng y ddau.

O ran rhai o'r materion y gwnaeth nifer o'r Aelodau eu codi ynghylch gallu'r llysoedd i ymdopi, rydym ni'n disgwyl gostyngiad eang mewn achosion o feddiant landlordiaid cymdeithasol o ganlyniad i nifer o gytundebau yr ydym ni wedi eu gwneud â landlordiaid cymdeithasol yng Nghymru, a bydd hynny'n rhyddhau nifer o adnoddau'r llys i ddarparu ar gyfer unrhyw gynnydd mewn gwrandawiadau sy'n deillio o'r Bil hwn, er nad ydym ni'n disgwyl i hynny ddigwydd.

O ran sefyllfa'r Alban, mae'n ymddangos bod nifer o bobl o dan yr argraff bod yr Alban wedi gwneud rhywbeth nad ydym ni yn ei wneud, ond i fod yn glir, mae'r Bil diwygio hwn yn gwarantu chwe mis o rybudd pan nad yw'r tenant ar fai. Nid yw hyn yn wir yn yr Alban, lle mae'n bosibl troi tenant nad yw ar fai allan â chyn lleied â 28 diwrnod o rybudd, er enghraifft, pan fo landlord yn dymuno gwerthu'r tŷ y mae'r tenant yn ei feddiannu, ac nad oes angen i'r tenant fod wedi cyflawni unrhyw fai wrth feddiannu'r tŷ hwnnw er mwyn i hynny fod yn weithredol. Felly nid yw hynny yn wir, Llywydd, ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn bod yr Aelodau yn deall hynny.

Mae nifer o bethau eraill y mae'r Aelodau wedi eu codi ynghylch y dystiolaeth, ac yn y blaen, ond yr un oedd yr ergyd ym mhob un. Y dystiolaeth sydd gennym ni yw mai dim ond deufis o rybudd y mae'n ofynnol ei roi ar hyn o bryd a, heb y Ddeddf diwygio, bydd hynny yn parhau. Mae'n amlwg nad yw hynny'n ddigon i ddod o hyd i gartref newydd neu ysgolion newydd i'ch plant, ac yn y blaen, ac felly bydd hyn yn rhoi llawer mwy o amser i denantiaid allu gwneud hynny ac, wrth gwrs, nid oes modd rhoi rhybudd yn y chwe mis cyntaf, felly mae'n rhoi o leiaf flwyddyn o sicrwydd deiliadaeth i bawb. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn dweud hynny.

Rwyf i'n awyddus hefyd i sicrhau'r Aelodau ein bod ni'n parhau i weithio'n agos gyda'n holl randdeiliaid, o'r sector landlordiaid a gyda'r rhai hynny sy'n cynrychioli buddiannau deiliaid contractau yng Nghymru, wrth i ni symud tuag at gam nesaf y broses graffu. A Llywydd, gallwch chi ddweud o'r gwahanol gyfraniadau o ochr arall y llawr ein bod ni'n cael ein beirniadu gan bobl sydd o'r farn ein bod ni'n llym ar y landlordiaid ac yn cael ein beirniadu gan bobl sydd o'r farn nad ydym ni wedi ystyried hawliau tenantiaid, ac felly rwy'n teimlo'n gryf iawn ei bod hi'n ymddangos ein bod ni yn cyflawni'r cydbwysedd y gwnaethom ni siarad amdano gymaint yn rhan o'r broses hon.

Dylwn i ychwanegu wrth gloi, yn ogystal â gwelliannau'r Llywodraeth yr wyf i wedi ymrwymo i'w cyflwyno mewn ymateb i argymhellion y pwyllgorau heddiw, y bydd nifer o welliannau gan y Llywodraeth yng Nghyfnod 2 hefyd i gywiro materion technegol, yn y Bil hwn ac yn Neddf 2016, y mae'n ei diwygio. Nid yw'r un o'r rhain yn arwyddocaol, gan hynny rwy'n golygu na fyddan nhw'n newid cwmpas y ddeddfwriaeth na'r polisi cyffredinol y mae'n ceisio'i gyflawni, a byddaf i'n sicrhau bod yr Aelodau yn cael eu briffio yn llawn o ran diben ac effaith y gwelliannau hynny pan fyddwn ni'n eu cyflwyno.

Fe wnes i sôn yn fy sylwadau agoriadol am fy siom o orfod gohirio gweithredu'r Ddeddf ddiwygiedig i ddechrau 2022. Fodd bynnag, mewn ymgais i gloi ar nodyn mwy cadarnhaol, gallaf i ddweud yn onest fy mod i'n credu y bydd yn gryn gyflawniad ar ran bob un ohonom ni os gallwn ni gwblhau'r gwaith sy'n weddill i gael y Bil hwn ar y llyfr statud cyn i'r tymor hwn ddod i ben, ac rwyf i'n edrych ymlaen yn fawr at barhau i ymgysylltu â'r Aelodau o bob plaid yn yr ysbryd adeiladol sydd wedi bod yn nodweddiadol yn ein gwaith ar y Bil pwysig hwn hyd yma. Diolch yn fawr, Llywydd.

Y cwestiwn yw, felly: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 9? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Dwi'n gweld gwrthwynebiad i hynny, felly mae'r cynnig yna o dan eitem 9 yn cael ei ohirio tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Gan fod y bleidlais, felly, ar egwyddorion cyffredinol y Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) Cymru wedi ei gohirio tan y cyfnod pleidleisio, byddaf hefyd yn gohirio'r bleidlais ar y penderfyniad tan y cyfnod pleidleisio hefyd.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Sy'n dod â ni at y cyfnod pleidleisio ac fe fyddwn ni'n cymryd egwyl o bum munund cyn cychwyn ar y bleidlais. Yr egwyl, felly.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 20:05.

20:10

Ailymgynullodd y Senedd am 20:11, gyda'r Llywydd yn y Gadair.

11. Cyfnod Pleidleisio

Dyma ni'n cyrraedd felly'r cyfnod pleidleisio, ac mae'r bleidlais gyntaf ar y Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 16) (Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam) 2020. A dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 28, naw yn ymatal, 14 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig yna wedi ei gymeradwyo.

Eitem 7 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 16) (Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam) 2020: O blaid: 28, Yn erbyn: 14, Ymatal: 9

Derbyniwyd y cynnig

Yr eitem nesaf fyddai eitem 8 ar yr agenda, ond cafodd y cynnig ar eitem 8 ar yr agenda ei dderbyn ar y pryd. Ond rwyf ar ddeall bod gwrthwynebiad yr oedd Gareth Bennett yn ceisio ei wneud bryd hynny. Rwy'n ymddiheuro i Gareth Bennett nad oeddwn i wedi gweld y gwrthwynebiad hwnnw, ond mater i'w gofnodi yw hynny erbyn hyn.

Bydd y bleidlais nesaf, felly, ar egwyddorion cyffredinol y Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru), a galwaf am bleidlais ar y cynnig—

—a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 45, dau yn ymatal, pedwar yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi ei gymeradwyo.

Egwyddorion Cyffredinol y Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru): O blaid: 45, Yn erbyn: 4, Ymatal: 2

Derbyniwyd y cynnig

Y bleidlais nesaf ar y penderfyniad ariannol ynghylch y Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru). Galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 45, dau yn ymatal, pedwar yn erbyn, ac felly mae'r cynnig yna wedi ei gymeradwyo. 

Y Penderfyniad Ariannol ynghylch y Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru): O blaid: 45, Yn erbyn: 4, Ymatal: 2

Derbyniwyd y cynnig

Dyna ddiwedd ar ein pleidleisio ni am y dydd. Diolch yn fawr i bawb. 

Daeth y cyfarfod i ben am 20:14.