Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

29/09/2020

Cynnwys

Contents

Datganiad gan y Llywydd
1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Datganiad gan y Llywydd
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
3., 4., 5. & 6. Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 10) (Rhondda Cynon Taf) 2020, Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 8) (Caerffili) 2020, Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 11) (Blaenau Gwent, Casnewydd, Merthyr Tudful a Phen-y-Bont ar Ogwr etc.) 2020 a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol etc.) (Cymru) 2020
7. Datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Y Gronfa Cadernid Economaidd—Cam 3
8. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol: Canol Trefi: Diogelu eu dyfodol
9. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar Wasanaethau Mamolaeth a Gwelliannau Llywodraethu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
10. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Pysgodfeydd
11. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Amaethyddiaeth
12. Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Dyddiad Cyhoeddi'r Gofrestr Etholiadol) (Cymru) (Coronafeirws) 2020
13. Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Amrywio Dros Dro Gyfraddau a Bandiau ar gyfer Trafodiadau Eiddo Preswyl) (Cymru) 2020
14. Rheoliadau Gofynion y Cwricwlwm (Diwygio paragraff 7(6) o Atodlen 17 i Ddeddf y Coronafeirws 2020) (Cymru) 2020
15. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar Gyfyngiadau Coronafeirws Lleol
16. Dadl: Y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol
17. Cyfnod Pleidleisio

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:31 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, dwi eisiau nodi ychydig o bwyntiau. Cynhelir y Cyfarfod Llawn hwn ar ffurf hybrid, gydag Aelodau yn Siambr y Senedd, ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. Bydd yr holl Aelodau sy'n cymryd rhan yn nhrafodion y Senedd, ble bynnag y bônt, yn cael eu trin yn gyfartal heddiw. Mae pob Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer Cyfarfod Llawn heddiw, ac mae'r rhain wedi'u nodi ar eich agenda chi. A dwi eisiau atgoffa Aelodau fod y Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â threfn yn y Cyfarfod Llawn yn berthnasol i'r cyfarfod hyn, ac yr un mor berthnasol i'r Aelodau sydd yn y Siambr ag ydyn nhw i'r rheini sy'n ymuno drwy gyswllt fideo.

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Cwestiynau i'r Prif Weinidog yw'r eitem gyntaf ar yr agenda, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Michelle Brown.

Adeiladu'n Ôl yn Wyrddach

1. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i adeiladu'n ôl yn wyrddach ar ôl pandemig COVID-19? OQ55625

Llywydd, diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. Ar draws Llywodraeth Cymru, rydym ni'n paratoi ar gyfer ailadeiladu gwyrdd ar ôl COVID. Bydd y camau yr ydym ni'n eu cymryd yn creu economi fwy cynaliadwy a chydnerth yn y dyfodol, yn mynd i'r afael ag argyfwng yr hinsawdd, ac yn mynd i'r afael â'r dirywiad i fioamrywiaeth.

Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Mae eich ffrindiau yng Nghyngres yr Undebau Llafur wedi dweud bod yn rhaid i'r adferiad gwyrdd hwn fod yn dda i'r amgylchedd, ac mae Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru yn dweud bod gennym ni gyfle unwaith mewn oes—

Michelle, a gaf i eich atal am funud? Rwy'n credu efallai ein bod ni wedi colli dechrau eich cwestiwn atodol. Os gallwch chi ddechrau eto.

Iawn. Diolch am eich ateb, Prif Weinidog. Mae eich ffrindiau yng Nghyngres yr Undebau Llafur wedi dweud bod yn rhaid i unrhyw adferiad fod er lles yr amgylchedd ac mae Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru yn dweud bod gennym ni gyfle unwaith mewn oes i lunio syniadau gweledigaethol a buddsoddiad trawsnewidiol i fynd i'r afael ag iechyd, yr economi, a'r argyfyngau hinsawdd a natur parhaus, er mwyn dyfodol hirdymor Cymru. Mae hi'n dweud ein bod ni angen diffiniad newydd o ffyniant yn seiliedig ar lesiant a ffordd decach a gwyrddach o fyw. Felly, beth yw un o'ch syniadau llawn dychymyg? Adeiladu ffordd arall eto—y llwybr coch—ffordd na fydd yn diogelu natur a'r amgylchedd, fel y mae'r TUC, comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol a phobl Cymru ei eisiau, ond a fydd yn eu dinistrio. Diddymwyd ffordd liniaru'r M4 gennych chi gan y byddai'n niweidio'r amgylchedd yn y de. Felly, mae'n drueni i bobl y gogledd nad ydych chi'n poeni cymaint amdanom ni, ond yn hytrach yn poeni mwy am yrwyr lorïau sydd eisiau croesi i mewn ac allan o Iwerddon. Dywedasoch yn wreiddiol iddo gael ei ddewis oherwydd mai dyma'r dewis rhataf, ond mae'r amcangyfrif o'r gost eisoes wedi codi gan £20 miliwn. Rydym ni angen i bob ceiniog sydd gennym ni gael ei gwario ar brosiectau adfer. Pa bryd fydd y Llywodraeth yn rhoi'r gorau i'r rhethreg ac yn neilltuo arian i brosiectau a fydd yn helpu ein hadferiad, ac yn gwneud hynny mewn modd nad yw'n dinistrio coetiroedd a thir fferm hynafol am byth?

Wel, Llywydd, mae gen i gyda mi yma, fel y gall yr Aelodau ei weld, y briff i randdeiliaid a ddosbarthwyd i Aelodau ac eraill am y cynlluniau ar gyfer datblygu cynllun coridor Sir y Fflint. Rhag ofn nad yw'r Aelod wedi cael cyfle i weld y ddogfen honno, gadewch i mi ei sicrhau ei bod yn ei gwneud yn eglur mai proses ddylunio ragarweiniol yw'r cam yr ydym ni arno gyda'r llwybr coch, a fydd yn edrych yn fwy manwl ar yr holl faterion amgylcheddol a pheirianneg a godwyd yn ystod yr ymgynghoriad. Bydd y llwybr a ffefrir yn cael ei ddatblygu ymhellach o ganlyniad i'r ystyriaeth honno, gan gynnwys arfarniadau amgylcheddol, traffig ac economaidd, ac, fel y mae'r briff i randdeiliaid yn ei gwneud yn eglur, bydd hynny i gyd yn cael ei ddylunio i sicrhau bod effaith y gwelliannau—y gwelliannau angenrheidiol iawn—cyn lleied â phosibl ar drigolion lleol, y dirwedd, ansawdd aer a bioamrywiaeth. Felly, nid wyf i'n diystyru am eiliad y pryderon y mae'r Aelod wedi eu codi. Maen nhw'n rhai cywir a phriodol, ond mae'r broses yr ydym ni wedi cychwyn arni wedi ei llunio yn union i archwilio gyda phobl leol a chyda rhanddeiliaid lleol y materion y mae'r Aelod yn eu codi a'u datrys nhw mewn modd sy'n cymryd y materion pwysig hynny i ystyriaeth.

13:35

Prif Weinidog, yn amlwg os ydym ni'n mynd i adeiladu yn ôl ac adeiladu yn ôl yn wyrddach, mae'n bwysig y gall busnesau oroesi gwahanol gyfnodau cyfyngiadau symud rhanbarthol neu leol, neu gyfyngiadau symud cenedlaethol yn wir. Pa hyder allwch chi ei roi i fusnesau y byddan nhw yno ar ddiwedd yr argyfwng coronafeirws hwn, ac yn arbennig, ar ôl i ni ei drechu nawr—ar yr ail gynnig—na fydd trydydd cyfnod o gyfyngiadau symud yn ddiweddarach yn y gaeaf, pedwerydd cyfnod o gyfyngiadau symud, a fydd yn cael effaith enfawr ar fusnesau a hyder busnesau, yn ogystal ag ar hylifedd y busnesau hynny i fod yno i adeiladu yn ôl yn well, i adeiladu yn ôl yn wyrddach?

Llywydd, mae'r Aelod yn gwneud dau bwynt yn y fan yna. Gwn y bydd yn croesawu'r cyhoeddiad gan fy nghyd-Weinidog Ken Skates o £60 miliwn i helpu busnesau y mae'r cyfyngiadau lleol ar ddiogelu iechyd wedi effeithio arnyn nhw yn benodol, a bydd fy nghyd-Weinidog yn gwneud datganiad ar lawr y Senedd yn ddiweddarach y prynhawn yma a bydd yn gallu egluro mwy o'r manylion bryd hynny.

Mae'r ail bwynt y mae Andrew R.T. Davies yn ei wneud yn ymwneud â digwyddiadau yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Ac yn hynny o beth, hoffwn ddweud hyn: bydd hynny yn dibynnu, yn hollbwysig, ar y graddau y mae dinasyddion Cymru yn parhau i gyd-fynd â'r holl fesurau a fydd yn gwneud gwahaniaeth i gynnydd i achosion o'r coronafeirws yn y dyfodol. Felly, bydd y Llywodraeth yn gwneud yr holl bethau y gallwn ni eu gwneud. Bydd y gwasanaeth iechyd, awdurdodau lleol, sefydliadau iechyd cyhoeddus, yr heddlu—yr holl sefydliadau hynny sy'n gweithio mor galed i geisio diogelu pobl a chadw Cymru yn ddiogel—yn chwarae eu rhan. Ond, yn y pen draw, mae coronafeirws yn lledaenu pan fydd pobl yn cyfarfod gyda'i gilydd o dan amgylchiadau na ddylen nhw, pan fyddan nhw'n teithio yn ddiangen, pan fyddan nhw'n dod i gysylltiad ag eraill mewn ffyrdd y gellid eu hosgoi, ac mae'r siawns sydd gennym ni o osgoi rhagor o achosion o gynnydd a chyfyngiadau lleol pellach yn dibynnu yn hollbwysig ar bob un ohonom ni yn chwarae ein rhan.

Buddsoddi Rhanbarthol

2. Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Phrif Weinidog y DU ynghylch cynigion Llywodraeth y DU ar gyfer buddsoddi rhanbarthol yng Nghymru? OQ55600

Wel, Llywydd, nid yw Prif Weinidog y DU wedi cynnig unrhyw drafodaethau ynghylch y mater hwn. Rydym ni'n trafod ein cynlluniau gyda Gweinidogion eraill Llywodraeth y DU, ond mae cynnydd yn dal i fod yn araf, er mai dim ond tri mis sydd ar ôl tan y bydd cyllid yr UE ar ei gyfnod olaf .

Wel, Prif Weinidog, rwy'n siomedig o weld nad oes unrhyw drafodaethau wedi eu cynnal ar y lefel uchaf honno o Lywodraeth, ond nid wyf i'n rhoi'r bai arnoch chi o gwbl. Yng Nghymru, gyda'n model cadw pwerau sefydledig o ddatganoli a'r blaenoriaethau gwario yn deillio o fframwaith polisi eglur, a gyfansoddwyd yn gyfreithiol, yn seiliedig ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, gallwn ddadlau yn y Senedd ynghylch y blaenoriaethau cymdeithasol ac economaidd ac amgylcheddol, ein llwyddiant a'n methiannau, mewn ffordd agored ac atebol a democrataidd, ac rydym ni'n gwneud hynny. Ond, mae gen i bryder, Prif Weinidog. Yn Lloegr, cyn yr etholiad cyffredinol diwethaf, rydym ni'n gwybod erbyn hyn mai seddi ymylol y Ceidwadwyr mewn ardaloedd cefnog oedd naw o'r 10 prif fuddiolwr y cynnydd i wariant ar addysg . Ac mae'r Swyddfa Archwilio Genedlaethol wedi datgelu bod rhai o rannau mwyaf difreintiedig Lloegr wedi cael eu gadael allan o gynllun gwerth £3.6 biliwn i adfywio canol trefi. Dewiswyd chwe deg un o'r trefi hynny gan Weinidogion dan arweiniad Robert Jenrick, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Dai, Cymunedau a Llywodraeth Leol. Roedd pob un ond un yn seddi yr oedd y Torïaid yn eu cynrychioli neu a oedd yn dargedau iddynt.

Felly, Prif Weinidog, a ydych chi, fel finnau, yn poeni, yn absenoldeb eglurder ynghylch cronfa ffyniant gyffredin y DU, yn absenoldeb ymgysylltiad gan Brif Weinidog y DU ac yn absenoldeb fframwaith polisi DU, bod perygl eglur presennol y gallai Mr Johnson gael ei berswadio gan y rhai sydd â—[Anghlywadwy.] —a diffyg dealltwriaeth o ddatganoli i ystyried cronfeydd i ddisodli rhai'r UE fel cyfle ar gyfer jerimandro pleidiol yng Nghymru?

Wel, Llywydd, rwy'n credu bod Huw Irranca-Davies yn gwneud pwynt pwysig iawn, ac mae'n gwneud hynny gyda holl awdurdod rhywun sydd wedi cadeirio ein grŵp llywio buddsoddi rhanbarthol, sy'n cadeirio pwyllgor monitro'r cronfeydd strwythurol Ewropeaidd ac sy'n cadeirio ein grŵp cynghori Ewropeaidd. Felly, mae'r pethau y mae'n eu dweud wrth y Senedd yn dod gyda'r holl awdurdod a'r wybodaeth y mae wedi gallu eu dwyn ynghyd yn y swyddi pwysig iawn hynny.

Nawr, mae'r cynlluniau ar gyfer buddsoddiad yng Nghymru yn y dyfodol y mae wedi eu llunio gyda'r cyd-Aelodau hynny, trefniant wedi'i wneud yng Nghymru sy'n adlewyrchu arfer gorau rhyngwladol, gan ddiwallu anghenion penodol gwahanol sectorau a rhannau o Gymru gyda mwy o ddirprwyo penderfyniadau i ranbarthau, mae hwnnw'n ddull sydd wedi ei gymeradwyo nid yn unig gan y Senedd, ond gan y grŵp seneddol hollbleidiol dan gadeiryddiaeth ein cydweithiwr Stephen Kinnock yn San Steffan, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Prifysgolion Cymru, yr Awdurdod Safonau Ariannol, Cydffederasiwn Diwydiant Prydain, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a melinau trafod annibynnol fel Sefydliad Joseph Rowntree.

Y perygl nawr yw bod Llywodraeth y DU, wrth geisio mantais bleidiol adrannol gul, yn llunio sefyllfa lle byddan nhw yn cymryd penderfyniadau oddi wrth y Senedd a etholwyd yn ddemocrataidd ac yn eu rhoi yn nwylo Ysgrifennydd Gwladol Cymru nas etholwyd—o safbwynt Cymru—ac mae gen i ofn bod yr holl rybuddion y mae Huw Irranca-Davies wedi eu gwneud y prynhawn yma yn debygol iawn o fod yn wir oni allwn ni atal y cynlluniau hynny rywsut, a byddwn yn gweithio mor galed ag y gallwn i wneud yn union hynny.

13:40

Prif Weinidog, canfu adroddiad y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd ar ddyfodol datblygu rhanbarthol a buddsoddiad cyhoeddus yng Nghymru nad oedd y cysylltiadau marchnad lafur rhwng cymunedau'r canolbarth a'r de-orllewin yn arbennig o gryf. Nid yw'r argymhelliad hwnnw yn syndod o gwbl i mi. Aeth yr adroddiad ymlaen i argymell y byddai'n fuddiol gwahanu'r canolbarth oddi wrth y de-orllewin i greu pedwar rhanbarth economaidd ar wahân, yn hytrach na'r tri rhanbarth presennol. Tybed pa ystyriaethau yr ydych chi a Llywodraeth Cymru wedi eu rhoi i'r argymhelliad penodol hwn a'r argymhellion eraill ar gyfer buddsoddi rhanbarthol yn adroddiad yr OECD.

Llywydd, diolchaf i Russell George am y cwestiwn yna. Mae'n tynnu sylw at adroddiad pwysig iawn yr OECD a gomisiynwyd gennym ni, yn rhan o'n penderfyniad, fel y dywedais yn gynharach, y dylai polisi datblygu economaidd rhanbarthol yng Nghymru gael ei lywio gan arfer gorau rhyngwladol. Mae'r adroddiad yn cael ei ystyried gan y grwpiau a gadeirir gan Huw Irranca-Davies, a bydd hynny'n llywio ein syniadau yn Llywodraeth Cymru a byddwn yn ymateb yn llawn i argymhellion yr OECD. Ond y pwynt yr wyf i'n ei wneud yn fwy cyffredinol, Llywydd, yw hwn: bod yr adroddiad yn rhoi cyfle i ni yn y Senedd hon—Aelodau yma—gyfrannu eu holl brofiad a'u gwybodaeth leol at y ffordd y mae'r penderfyniadau hyn yn cael eu gwneud yng Nghymru. Mae'r syniad y dylai'r penderfyniadau hyn gael eu cymryd oddi wrthym ni ni a chael eu gwneud gan rywun sy'n eistedd y tu ôl i ddesg yn Whitehall, a fydd yn gwybod ychydig iawn, iawn am ganolbarth Cymru, de-orllewin Cymru nac unrhyw rannau eraill sydd angen elwa ar ein cyllid yn y dyfodol, rwy'n credu yn berygl gwirioneddol i ni a byddai'n golygu, yn y dyfodol, na fyddai'r mathau o gwestiynau y mae Russell George wedi eu codi yn briodol iawn yma y prynhawn yma yn rhan o'n hystyriaethau na'n penderfyniadau mwyach.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Paul Davies. 

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, cyhoeddwyd cyfres o ddatganiadau polisi pwysig gan Weinidogion Llywodraeth Cymru erbyn hyn i'r cyfryngau yn hytrach nac i'r Siambr hon. Wrth gwrs, mae'n hanfodol bod Aelodau yn cael y cyfle i ymateb i gyhoeddiadau Llywodraeth Cymru ar ran pobl Cymru. Yr wythnos diwethaf, fe wnaethoch ddewis gwneud cyhoeddiad i'r cyfryngau a oedd yn effeithio ar gannoedd o filoedd o bobl ledled y de. Methoch ag ateb cwestiynau ar amseriad eich datganiad, a'r wythnos hon rydych chi wedi penderfynu peidio ag ymddangos yn bersonol hyd yn oed. Prif Weinidog, mae'r diystyrwch hwnnw o ddemocratiaeth Cymru yn annerbyniol, ac a wnewch chi sicrhau nawr y bydd unrhyw benderfyniadau yn y dyfodol yn cael eu gwneud yn y Siambr hon yn gyntaf fel y bydd gan Aelodau etholedig, yn yr ysbryd o fod yn agored ac yn dryloyw, gyfle i graffu yn briodol ar Lywodraeth Cymru?

Llywydd, dywedasoch wrth gyflwyno sesiwn y prynhawn yma bod gan bob Aelod o'r Senedd yr un cyfle i gymryd rhan, boed hynny o bell neu'n bersonol, felly gadawaf i chi ymdrin â'r sylwadau a wnaeth arweinydd yr wrthblaid ynghylch ble mae pobl yn dewis cymryd rhan yn y trafodion hyn.

Rwy'n dweud wrth bobl yng Nghymru drwy'r amser y dylen nhw osgoi teithiau diangen, ac rwy'n credu bod yr un gallu gen i i ateb cwestiynau yn y ffordd yr ydym ni'n ei wneud nawr ag y byddai gen i pe bawn i yn y Siambr. Mae'n gwbl anghywir i'r Llywodraeth ofyn i bobl yng Nghymru weithredu mewn un cyfeiriad ac yna peidio ag ymddwyn yn yr un ffordd ein hunain. Rwy'n credu bod yr Aelod yn hollol anghywir i awgrymu, rywsut, gan fy mod i'n ateb cwestiynau yn y ffordd yr wyf i'n ei wneud, nad yw hynny'n foddhaol. Ond mae hwnnw'n bwynt i chi, Llywydd, rwy'n credu, yn hytrach nag i mi.

O ran y pwynt arall, mae'n amlwg yn lol. Rwy'n ateb cwestiynau ar lawr y Cynulliad hwn, rwy'n gwneud datganiadau ar lawr y Cynulliad hwn yn gwbl reolaidd. Fe wnes i hynny drwy'r toriad, pan nad oedd ei Lywodraeth ef yn San Steffan ar gael i ateb yr un cwestiwn gan unrhyw gynrychiolydd etholedig, ac nid oes unrhyw beth o gwbl y mae'n rhaid i'r Llywodraeth hon ymddiheuro amdano na bod yn atebol amdano o ran bod ar gael ac yn atebol i Senedd Cymru.

13:45

Wel, Llywydd, nid wyf i'n mynd i gymryd unrhyw bregethau gan y Prif Weinidog. Awgrymaf i chi, Prif Weinidog, eich bod yn gallu dod i swyddfeydd eich Llywodraeth ym Mharc Cathays, ond na allwch chi ddod i galon democratiaeth Cymru, sydd hefyd yn weithle i chi. A phan ddaw'n fater o wneud datganiadau y tu allan i'r Siambr hon, mae gen i ofn bod gennych chi gryn hanes fel Llywodraeth. Mae dros 2 filiwn o bobl ledled Cymru yn byw o dan gyfyngiadau eich Llywodraeth erbyn hyn; y peth lleiaf y gallwch chi ei wneud yw cynnig cyfle i'w cynrychiolwyr etholedig eich holi am eich penderfyniadau, a dyna pam mae gwneud datganiadau i'r Siambr hon yn gyntaf mor bwysig.

Nawr, ceir rhai pryderon gwirioneddol am effaith cyfyngiadau symud lleol ar bobl sy'n byw ar eu pennau eu hunain, ac mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn edrych ar y cyfyngiadau gyda'r bwriad o ddod o hyd i ryw ffordd o ganiatáu i aelwydydd un person gymysgu â pherson arall. Prin fu'r gydnabyddiaeth o'r effaith ddifrifol y gallai hyn ei chael ar iechyd meddwl pobl, yn enwedig o gofio bod cynifer o aelwydydd un person eisoes wedi gorfod amddiffyn yn ystod y rhan fwyaf o eleni. A gwn eich bod chi wedi dweud eich bod yn pryderu am y bobl oedrannus hynny sy'n byw ar eu pennau eu hunain nad ydyn nhw, ar hyn o bryd, yn cael cymysgu ag unrhyw un arall o dan do. Felly, a allwch chi ddweud wrthym ni beth yr ydych chi'n ei wneud yn ei gylch, oherwydd rydych chi'n ymwybodol o fodel yr Alban sy'n caniatáu i un person ffurfio aelwyd estynedig gydag un arall? O wybod pa mor anobeithiol o ynysig y mae'n rhaid bod rhai pobl ledled Cymru yn teimlo, a allwch chi ddweud wrthym ni pam nad yw Llywodraeth Cymru eisoes wedi newid y rheoliadau o ran aelwydydd un person, oherwydd rwy'n siŵr y byddech chi'n cytuno, mae'n rhaid i ni gynnig gobaith i'r bobl hyn?

Wel, Llywydd, rwy'n credu fy mod yng nghalon democratiaeth Cymru nawr, ac rwy'n ateb cwestiynau'r Aelod, felly rwy'n dal i fethu â gweld beth mae e'n ei gredu sydd ganddo i gwyno amdano.

O ran pobl sy'n byw mewn aelwydydd un person, rwy'n credu bod hwnnw'n fater pwysig. Rwyf i wedi bod yn ei drafod gydag arweinyddion awdurdodau lleol sy'n destun cyfyngiadau lleol. Rwyf i wedi bod yn cymryd diddordeb ym model yr Alban o wneud hynny. Mae'n cael ei ystyried yn rhan o'r adolygiad 21 diwrnod yr ydym ni'n ei gynnal yma yng Nghymru. Felly, yng Nghymru, rydym ni wedi cadw at y patrwm o adolygu ein rheoliadau bob tair wythnos. Mae'r ystyriaeth honno ar gyfer aelwydydd un oedolyn yn rhan o'r adolygiad tair wythnos presennol, a drafodwyd gan gyd-Weinidogion yn y Cabinet y bore yma. Rwy'n obeithiol y byddwn ni'n gallu cwblhau'r rheoliadau angenrheidiol a'r cyngor y mae angen i ni ei gael gan y prif swyddog meddygol ac eraill er mwyn cwblhau ein hystyriaeth ohonyn nhw yn yr adolygiad tair wythnos sy'n dod i ben yr wythnos hon.

Prif Weinidog, gan fod mwy a mwy o bobl ledled Cymru yn byw o dan gyfyngiadau llymach erbyn hyn, mae'n gwbl hanfodol bod rhaglen brofi Llywodraeth Cymru mor effeithiol â phosibl, a bod capasiti yn cael ei ddefnyddio. Y penwythnos diwethaf, dywedasoch wrthym ein bod ni'n gweithredu yng Nghymru ar hyn o bryd tua 2,000 i 3,000 o brofion y dydd o gapasiti Cymru, sydd hyd yn oed yn sylweddol is na'r targed o 9,000 o brofion y dydd a addawodd Llywodraeth Cymru yn wreiddiol. Ac eto, wythnos yn gynharach, dywedasoch y gellid prosesu 28,000 o brofion ychwanegol yr wythnos, gyda chapasiti ychwanegol ar gael i reoli cynnydd i achosion ledled Cymru.

Prif Weinidog, mae'n gwbl hanfodol bod y system yn gallu ymateb i gynnydd sydyn mewn profion sy'n deillio o gynnydd i achosion, ac eto rydych chi wedi ei gwneud yn eglur i Gymru gyrraedd ei chapasiti llawn, y byddai'n anodd o ddydd i ddydd. O gofio eich bod chi wedi buddsoddi £32 miliwn arall i gyflymu amseroedd derbyn canlyniadau profion coronafeirws, a allwch chi ddweud wrthym ni pa newidiadau sylfaenol sydd wedi cael eu cyflwyno i'n gwasanaethau labordy i gynyddu eu capasiti a'u cydnerthedd, a pha gamau brys ydych chi'n eu cymryd i sicrhau bod pob labordy yng Nghymru yn agored ac yn gweithio? Ac yn fwy cyffredinol, pa mor ffyddiog ydych chi bod gan Gymru system brofi sy'n gallu cefnogi ein pobl dros fisoedd y gaeaf?

13:50

Llywydd, rwy'n meddwl os yw'r Aelod eisiau fy nyfynnu y dylai geisio gwneud hynny yn gywir. Dywedais dros y penwythnos y byddai'r niferoedd profi yr wythnos hon dros 5,000 ac y byddai'n codi i 8,000 o fewn system Cymru yn fuan iawn. Y gwir frwydr sy'n ein hwynebu yn system Cymru ar hyn o bryd yw'r problemau sy'n wynebu'r labordai goleudy y mae ei blaid ef yn gyfrifol amdanynt. Nawr, rydym ni wedi cael sicrwydd gan y labordai goleudy hynny y byddan nhw'n gallu cynyddu'r gwasanaeth y maen nhw'n ei ddarparu i Gymru o'r 9,400 o brofion sydd gennym ni ar hyn o bryd i 14,000 erbyn dechrau mis Hydref a 19,000 erbyn dechrau mis Tachwedd. Rwy'n gobeithio'n fawr y bydd hynny yn profi i fod yn wir ac y bydd y labordai goleudy yn gallu dychwelyd i'r lefel o wasanaeth yr oedden nhw'n ei darparu i Gymru tua pedair wythnos yn ôl. Ond os ydych chi eisiau gwybod ym mhle y bu'r trafferthion yng Nghymru dros yr wythnosau diwethaf, mae wedi bod yn y pwysau y mae'r system labordai goleudy wedi eu dioddef a'r anawsterau y mae ei Lywodraeth ef yn San Steffan wedi eu cael yn ymdopi â'r pwysau hynny ac yn rhoi'r system honno ar y trywydd iawn unwaith eto.

Diolch, Llywydd. Bydd llawer ohonom ni wedi cael ein synnu a'n dychryn braidd gan y golygfeydd o ben yr Wyddfa dros y penwythnos, gyda chiwiau hir o bobl yn ceisio cyrraedd y copa gan ddiystyru yn llwyr, mae'n ymddangos, canllawiau cadw pellter cymdeithasol, ond mae'n codi mater ehangach wrth gwrs. Bydd llawer o'r rhain wedi bod yn ymwelwyr ac nid oes dim wedi'i nodi yn y canllawiau ar hyn o bryd sy'n atal rhywun sy'n dod o fan lle ceir nifer fawr o achosion o COVID mewn rhannau eraill yn y DU rhag teithio i ardaloedd o Gymru sydd â throsglwyddiad cymunedol isel ar hyn o bryd. Pam, Prif Weinidog, na chewch chi deithio o Aberafan i'r Fenni, ond y cewch chi deithio o Fanceinion i Fynytho?

Wel, Llywydd, a gaf i ddechrau drwy gytuno ag Adam Price bod y rheini yn lluniau a oedd yn peri pryder? Gadewch i mi wneud nifer o bwyntiau mewn ymateb, fodd bynnag. I ddechrau, mae'n bwysig iawn ac rydym ni wedi cael llawer o bryder dros yr haf mewn cyrchfannau gwyliau ynghylch pobl yn teithio o fannau eraill yn y Deyrnas Unedig a'r risg y gallai hynny ei pheri o ran lledaeniad y feirws yn yr ardaloedd hynny. Mewn gwirionedd, mae'r dystiolaeth wedi bod yn llawer mwy cadarnhaol na hynny ac nid oes gennym ni enghreifftiau lle mae'r feirws wedi mynd allan o reolaeth yn yr ardaloedd gwyliau hynny gan ei fod wedi cael ei fewnforio o fannau eraill. Felly, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn cael ein harwain gan y dystiolaeth a'r dystiolaeth yw nad yw hynny wedi achosi anawsterau, a chredaf fod hynny'n deyrnged i ddau beth: y rheswm yw bod pobl wedi clywed ein neges am ymweld â Chymru yn ddiogel, ac mae'n deyrnged i'r ymdrechion a wnaed yn y cymunedau hynny i groesawu pobl o fannau eraill, sydd mor bwysig i'r economi leol, ond gwneud hynny mewn ffordd nad yw'n peri risg i iechyd y cyhoedd.

Fodd bynnag, rwy'n credu bod yr Aelod yn gwneud pwynt pwysig. Yng Nghymru, pan fydd gennym ni ardal â nifer fawr o achosion, rydym ni'n gofyn i bobl beidio â theithio y tu allan i'r ardal honno heblaw at ddibenion penodol cyfyngedig, ac nid yw mynd ar wyliau yn un ohonyn nhw. Ysgrifennais at Brif Weinidog y DU ddoe yn ei annog i wneud yr un peth yn Lloegr. Nid wyf i'n credu ei bod hi'n iawn i ni sefydlu cyfres o reolaethau ar y ffin yn ceisio atal pobl o fannau eraill rhag ymweld â Chymru: rwy'n credu y byddai hynny yn ein harwain at bob math o sefyllfaoedd anghyson ac anodd. Ond rwy'n credu, wrth i ni weithredu i atal pobl sy'n byw mewn mannau â nifer fawr o achosion yng Nghymru rhag teithio i Loegr a chymryd y risg o'r feirws gyda nhw, y dylai Prif Weinidog y DU yn rhinwedd ei swydd fel Prif Weinidog Lloegr yn yr achos hwn wneud yr un peth i atal pobl o fannau â nifer fawr o achosion yn Lloegr rhag teithio o fannau eraill yn Lloegr i Gymru neu i rannau eraill o'r Deyrnas Unedig oherwydd y risg y mae hynny'n sicr yn ei hachosi. Ysgrifennais ato ddoe yn gofyn iddo wneud hynny, gan ei annog i drefnu cyfarfod COBRA ar gyfer yr wythnos hon, fel y gwnaeth Prif Weinidog yr Alban dros y penwythnos, ac edrychaf ymlaen at gael ateb.

Prif Weinidog, mae'r haf wedi bod yn gyfnod pryderus iawn i bobl ifanc, fel y gwyddoch. O ganlyniad i'r llanast Safon Uwch, gadawyd llawer ohonyn nhw ddim yn gwybod a oedden nhw'n mynd i'r brifysgol o gwbl, heb sôn am ba un. Ar ôl cyrraedd y campws yr wythnos diwethaf, y pryder nawr fydd a fyddan nhw'n cael dychwelyd adref ar gyfer y Nadolig. Mae myfyrwyr fel Meg, myfyriwr y gyfraith blwyddyn gyntaf o Aberhonddu, sy'n astudio yng Nghaerfaddon, angen eglurder. Mae hi'n dweud bod neges y Llywodraeth yn amlwg yn ddryslyd ac yn sicr y gallai gael ei chyfleu yn well, yn enwedig i fyfyrwyr sydd wedi symud i wahanol wlad sydd â gwahanol reoliadau. Felly, a allwch chi ateb y cwestiynau penodol hyn? I ba raddau y mae addysg wedi'i heithrio o reolau sy'n caniatáu i fyfyrwyr ffurfio aelwydydd newydd? A gaiff myfyrwyr sy'n astudio ac yn byw mewn ardal dan gyfyngiad yng Nghymru ond sy'n byw mewn mannau eraill ddychwelyd adref? A gaiff myfyrwyr sy'n astudio ac yn byw mewn ardaloedd lle nad oes cyfyngiadau ar waith deithio adref, hyd yn oed os yw'r cartref mewn ardal lle ceir cyfyngiadau lleol? Ac yn olaf, a gaiff myfyrwyr sy'n astudio mewn un ardal sydd dan gyfyngiadau lleol deithio i ardal arall sy'n destun cyfyngiadau lleol os yw hyn yn golygu cyrraedd adref?

13:55

Llywydd, mae'r rheolau sy'n llywodraethu pobl ifanc yng Nghymru yr un rheolau â'r rhai sy'n llywodraethu pawb arall. Nid wyf i'n barod i bwyntio'r bys at bobl ifanc ar gyfer triniaeth andwyol yn y modd sy'n cael ei awgrymu weithiau. Rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedodd Adam Price wrth agor yr ail gyfres yna o gwestiynau, bod pobl ifanc wedi cael amser anodd iawn yn ystod coronafeirws, ac mae Llywodraeth Cymru gyda'r sector yng Nghymru yn gweithio'n galed iawn i wneud yn siŵr bod lles pobl ifanc, hyd yn oed yn y gyfres anoddaf hyn o amgylchiadau, yn parhau i gael ei ddiogelu yn briodol, bod eu gallu i gael mynediad at addysg o ansawdd uchel yn cael ei gadw drwy gydol y tymor hwn, ac nad ydyn nhw'n cael eu trin yn wahanol i unrhyw ddinesydd arall yng Nghymru. A'r atebion i gwestiynau Adam Price yw y byddai'r rheolau a fyddai'n berthnasol i unrhyw berson yng Nghymru yn berthnasol i berson ifanc sy'n astudio hefyd, ac mae hynny i gyd ar gael i bobl sydd angen cael atebion i'r cwestiynau hynny, ar wefan Llywodraeth Cymru, ond hefyd yn y cyngor penodol gan wahanol sefydliadau addysg uwch sy'n gweithio'n galed i gyfathrebu â phobl sydd wedi cyrraedd i astudio ynddyn nhw.

Ar 4 Medi, Prif Weinidog, rhybuddiodd SAGE bod risg sylweddol y gallai addysg uwch chwyddo trosglwyddiad COVID-19 yn lleol ac yn genedlaethol. Dywedasant fod angen trosolwg cenedlaethol o'r risg, ac unwaith eto, nodwyd ganddyn nhw bod profi yn hollbwysig. Ar 15 Gorffennaf, dywedasoch chi, 'Heddiw gallwn gynnal 15,000 o brofion y dydd.' Ddydd Sul, dywedasoch, 'nid yw 15,000 yn darged cynaliadwy o ddydd i ddydd.' Felly, wrth i brifysgolion agor eu drysau, mae'r system brofi yn methu, ac os mai'r broblem yw'r rhwydwaith labordai goleudy, pam wnaethoch chi gyd-fynd ag ef a rhoi eich ymddiriedaeth ynddo yn y ffordd y gwnaethoch chi? Nawr, y cyngor gan SAGE ddechrau'r mis hwn oedd y dylid gweithredu strategaeth gydgysylltiedig ar frys ar gyfer ymateb i gynnydd mewn achosion, rhwng y Llywodraeth, sefydliadau addysg uwch a thimau iechyd cyhoeddus lleol, ond mae'n ymddangos ar hyn o bryd, Prif Weinidog, nad oes cynllun eglur i gefnogi myfyrwyr, dim cynllun eglur i gefnogi'r sector addysg uwch. Dim ond 12 wythnos sydd tan y Nadolig; pa bryd y gallwn ni ddisgwyl y cynllun hwnnw?

Llywydd, mae'r cynllun hwnnw yn bodoli, ac mae'r Aelod yn hollol anghywir i ledaenu cyhuddiadau nad yw'n bodoli pan fo'n amlwg iawn ei fod, a bod cynifer o bobl yn gweithio mor galed i wneud yn siŵr bod myfyrwyr yng Nghymru yn derbyn gofal da. Mae'n hollol anghywir i ddweud bod y system brofi yn methu yng Nghymru. Mae gennym ni dros 100,000 o fyfyrwyr yng Nghymru ac mae tua 100 ohonyn nhw wedi cael eu profi fel achosion positif o coronafeirws. O'n system Profi Olrhain Diogelu, mae 93 y cant o gysylltiadau agos yn dal i gael eu cysylltu, cyrhaeddwyd 94 y cant o achosion positif—85 y cant o'r rheini o fewn 24 awr, 92 y cant o fewn 48 awr. Mae'r system yng Nghymru—a'r system yn yr Alban yn wir—yn gwrthsefyll y cyfnod anodd yr ydym ni'n byw drwyddo. Mae'n wahanol iawn i'r hyn sy'n digwydd mewn mannau eraill.

O ran y labordai goleudy, cefais fy annog droeon ar lawr y Senedd i wneud yn siŵr bod Cymru yn manteisio'n llawn ar y capasiti y byddai'n ei gynnig i ni. Roedd hi'n iawn i ni wneud hynny, ac fel y dywedais, tan nifer o wythnosau yn ôl, roedd y system yn gwasanaethu Cymru yn dda iawn. Rydym ni eisiau gweld y system honno yn cael ei hailgyflwyno. Rydym ni eisiau ei gweld yn ôl yn darparu nifer y profion a phrydlondeb y profion yr ydym ni'n gwybod sydd eu hangen ar Gymru. Anogaf Weinidogion y DU i wneud yn siŵr eu bod nhw'n gwneud popeth yn eu gallu i'n rhoi ni yn y sefyllfa honno, ac yna byddwn ni'n falch iawn yn wir, unwaith eto, o fod yn rhan o'r system honno, sy'n darparu miloedd o brofion i bobl Cymru ac sy'n rhan o'r seilwaith y byddwn ni i gyd yn dibynnu arno wrth i ni fynd ymhellach i'r hydref a'r gaeaf.

14:00

Prif Weinidog, pan wnaed Caerdydd yn destun cyfyngiadau symud lleol gennych chi, a thrwy rym y gyfraith ei gwneud yn ofynnol i bobl weithio gartref os oedd yn rhesymol ymarferol, a wnaethoch chi ystyried effaith bosibl hynny ar ein trafodion yn y Senedd? Nawr, os ydych chi'n gywir pan fyddwch chi'n dweud bod gan Aelodau yr un gallu i gymryd rhan, boed o bell neu'n bersonol, onid yw hynny'n awgrymu ei bod hi'n rhesymol ymarferol i Aelodau weithio gartref? Ac os oes gan Aelodau farn wahanol, o ystyried mai dyna'r gyfraith, a allen nhw gael cnoc ar y drws gan Heddlu De Cymru? Dywedasoch yn gynharach, 'Bydd fy nghyd-Weinidog yn gwneud datganiad ar lawr y Siambr yn ddiweddarach heddiw'. A allaf i gasglu o hynny y bydd rhai Gweinidogion yn dod yn bersonol i'r Siambr, hyd yn oed os na fyddwch chi eich hun? Ac nid ydych chi wedi dweud a ydych chi'n siarad o gwt â phob cyfleuster yng nghefn eich gardd, neu a ydych chi'n siarad o'ch swyddfa ym Mharc Cathays. Os ydych chi'n siarad o'ch swyddfa, yna mae'n debyg eich bod chi wedi penderfynu nad yw'n rhesymol ymarferol gweithio gartref, felly pam na wnewch chi ddod i'r Siambr? Ac, yn gyffredinol, pan eich bod chi'n dweud bod yn rhaid i bobl weithio gartref yn ôl y gyfraith os yw'n rhesymol ymarferol, a fyddech chi'n gofyn i bobl wneud fel y dywedwch, neu ddilyn yr esiampl a roddwyd gan ein Llywydd ac arweinydd yr wrthblaid?

Wel, Llywydd, gallaf sicrhau'r Aelod, pan fydd y penderfyniad yn cael ei wneud i gyflwyno cyfyngiadau lleol mewn unrhyw ran o Gymru, yna caiff pob agwedd ar y penderfyniad hwnnw ei hystyried yn ofalus. Mater i Aelodau unigol yw llunio barn ynghylch sut y maen nhw'n cydymffurfio â'r gyfraith. Mae'n rhesymol ymarferol i mi weithio o'm swyddfa ym Mharc Cathays, oherwydd er mwyn gallu ateb cwestiynau'r Aelodau, rwyf i angen cymorth staff Llywodraeth Cymru, sy'n fy helpu i wneud yn siŵr fy mod i mewn sefyllfa cystal ag y gallaf fod ynddi i ddarparu atebion y mae gan Aelodau hawl i'w disgwyl. Felly, mae'n rhesymol ymarferol i mi weithio o'r fan yma gan fy mod i'n byw yng Nghaerdydd ac nid oes angen i mi groesi unrhyw ffiniau i gyrraedd yma. Mae Aelodau eraill wedi'u rhwymo gan y rheoliadau, yn union fel pob aelod o gymdeithas Cymru mewn ardaloedd lle mae cyfyngiadau lleol ar waith, ac rwy'n credu bod rhwymedigaeth ar bobl i wneud yn siŵr eu bod nhw'n ystyried yn ofalus y sefyllfa gyfreithiol y maen nhw ynddi. Rwyf i ar lawr y Senedd, Llywydd. Fel y'i gwnaed yn eglur gennych chi, mae cyfranogiad rhithwir neu gorfforol yn union yr un fath. Rwyf i ar lawr y Senedd nawr yn ateb cwestiynau. Bydd fy nghyd-Weinidog Ken Skates yn ateb cwestiynau o bell, a bydd yntau ar y llawr hefyd.

Prif Weinidog, rydych chi'n dweud eich bod chi'n gweithio o'ch swyddfa gan ei bod yn rhesymol ymarferol gwneud hynny, ond onid yw'r gyfraith yn dweud bod yn rhaid i chi weithio gartref os yw'n rhesymol ymarferol gwneud hynny? Ac o ystyried ei bod hi yr un mor bosibl cymryd rhan o bell ac yn gorfforol, onid yw hynny'n wir? Ac eto rydych chi'n dewis peidio â dod i'r Siambr, yn union fel y gwnaethoch ddewis yr wythnos diwethaf i wneud cyhoeddiadau nid yn y Siambr, ond drwy'r cyfryngau. Rydych chi'n dweud bod yr holl benderfyniadau a chyhoeddiadau a rheoliadau hyn yr ydych chi'n dal i'w pasio gydag amrywiaeth a rheoleidd-dra helaeth ynghylch coronafeirws yn cael eu hystyried yn ofalus, ac i'r perwyl hwnnw, a gaf i ofyn a yw eich polisi o wneud i bawb adael tafarndai a bwytai ar yr un pryd yn gweithio i'n helpu i feithrin imiwnedd torfol?

A gaf i ofyn hefyd beth sy'n digwydd o ran ein democratiaeth a chynigion a gadeiriwyd gan swyddog yn eich Llywodraeth i ystyried gohirio'r etholiad ac ymestyn tymor y Senedd Cymru hon y tu hwnt i bum mlynedd? Oni fyddai hynny'n rhyfeddol o ystyried yr arferion democrataidd sydd gennym ni? Yn yr Unol Daleithiau, gwelwn y ddadl gyntaf rhwng y cystadleuwyr arlywyddol heno. Sylwaf fod Donald Trump eisiau gohirio'r etholiadau yno, ond gwrthodwyd hynny yn gyflym iawn. Onid yw'n wir bod angen i ni bleidleisio fis Mai nesaf, fel sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith, ac na fyddai'n iawn o gwbl ymestyn ein tymor ymhellach neu ohirio'r etholiadau hynny? Fel y dywedodd un o'm hetholwyr heddiw—ac rwy'n meddwl tybed a allech chi ateb hyn—os gallwn ni giwio i fynd i'r archfarchnad, siawns y gallwn ni giwio i bleidleisio.

14:05

Llywydd, nid yw'r rheoliadau sydd ar waith yng Nghymru yn ei gwneud yn ofynnol i bobl i gyd adael y dafarn ar yr un pryd; yn wir, roedd yn benderfyniad bwriadol iawn i beidio â gwneud hynny. Yn Lloegr, mae'n rhaid i bawb fod ar y palmant am 10 o'r gloch yn y nos, pa un a ydyn nhw hanner ffordd drwy bryd o fwyd neu newydd ddechrau yfed. Mae'n rhaid iddyn nhw fod y tu allan am 10 p.m. ac fel yr ydych chi wedi gweld mewn mannau eraill, mae hynny'n amlwg yn achosi anawsterau o ran trefn gyhoeddus ac iechyd y cyhoedd. Fe wnaethom ni benderfynu mabwysiadu'r achos cwbl i'r gwrthwyneb yma yng Nghymru. Mae gan bobl amser ar ôl 10 o'r gloch i orffen yr hyn y maen nhw'n ei fwyta a'i yfed, ac i adael mewn ffordd drefnus, wedi'u gwasgaru dros y cyfnod hwnnw. Mae sefyllfa yn hollol i'r gwrthwyneb ar waith yng Nghymru i'r un a awgrymwyd yn y cwestiwn.

Llywydd, gadewch i mi ddweud fy mod i wedi ymrwymo yn llwyr i gael etholiad ym mis Mai y flwyddyn nesaf. Dyna'n sicr yw'r peth iawn; dyna a ddylai ddigwydd yn fy marn i. Nid yw'n iawn ymestyn y Senedd hon y tu hwnt i'w thymor presennol. Rwy'n teimlo yn gryf iawn bod angen adnewyddu'r Senedd yn ddemocrataidd. Dylai'r cyfle i bobl yng Nghymru benderfynu pwy y maen nhw eisiau i'w cynrychioli yn y dyfodol fod yn eu dwylo nhw, a dylai fod yn eu dwylo nhw ym mis Mai y flwyddyn nesaf.

Yr unig bwynt y byddwn i'n ei wneud i'r Aelod yw hwn: nid oes yr un ohonom ni'n gwybod beth fydd y sefyllfa o ran coronafeirws bryd hynny. Yn union fel yr wyf i eisiau cael etholiad, rwyf i eisiau cael etholiad lle mae pob dinesydd yng Nghymru yn teimlo'n hyderus ynghylch gallu cymryd rhan, ac nad ydyn nhw'n cael eu hatal rhag cymryd rhan gan ofnau a allai fod ganddyn nhw am y risgiau a fyddai'n cael eu peri i'w hiechyd pe byddai coronafeirws ar lefel anodd dros ben unwaith eto.

Felly, mae mis Mai ymhell iawn i ffwrdd, ac nid oes yr un ohonom ni mewn sefyllfa i allu edrych i mewn i'r bêl grisial honno. Rwy'n rhannu penderfyniad yr Aelod y dylem ni bleidleisio ym mis Mai y flwyddyn nesaf, ond gwnaf yr un pwynt hwnnw iddo yn syml: ein bod ni eisiau etholiad lle mae pob dinesydd yng Nghymru yn teimlo y gall fynd i'r orsaf bleidleisio ac nad ydyn nhw'n cael eu hatal rhag gwneud hynny gan y gallai'r sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd ar y pryd fod yn annymunol iawn iddyn nhw. Mae'n hurt i beidio â bod yn barod i ystyried hynny a meddwl sut y byddem ni'n ymdopi ag ef pe byddem yn ei wynebu.

Profiadau Ymwelwyr

3. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cael gyda phartneriaid perthnasol ynglŷn a phrofiadau ymwelwyr yng Nghymru yn 2021? OQ55621

Diolch yn fawr, Llywydd, i Siân Gwenllian am y cwestiwn. Mae’r sector twristiaeth ac adfer profiadau ymwelwyr at y dyfodol yng Nghymru yn cael eu trafod mewn cyfarfodydd rheolaidd o’r tasglu twristiaeth. Mae’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog sydd â chyfrifoldebau dros dwristiaeth yn mynychu’r cyfarfodydd hyn.

Rydyn ni wedi croesawu llawer mwy o ymwelwyr nag arfer i fannau twristaidd yn fy etholaeth i eleni. Maen nhw wedi dod â hwb haf bach Mihangel i'r economi leol, ond dydy'r profiad ar gyfer yr ymwelydd nac ar gyfer y boblogaeth leol ddim wedi bod yn bleserus ar bob achlysur—problemau parcio a theithio; ciwiau hir, a nid yn unig ar gopa'r Wyddfa; problemau sbwriel. Mae'r rhain i gyd yn cael effaith negyddol ar brofiad yr ymwelydd ac, wrth gwrs, yn creu rhwystredigaeth mawr i'r boblogaeth leol. Ydych chi'n cytuno bod yn rhaid canfod ffyrdd i reoli gordwristiaeth a bod gan y Llywodraeth rôl bwysig i'w chwarae drwy dynnu'r holl bartneriaid perthnasol at ei gilydd er mwyn cynllunio ymlaen at dymor llwyddiannus y flwyddyn nesaf?

Diolch yn fawr i Siân Gwenllian am y cwestiynau ychwanegol yna. Dwi'n cytuno â hi am y pethau rŷm ni'n trio cadw gyda'i gilydd. Mae'r diwydiant twristiaeth yn bwysig iawn yng ngogledd Cymru, ac mae'r ateb i'r problemau yn dibynnu ar dynnu pobl gyda'i gilydd, rownd y bwrdd gyda'i gilydd, a meddwl am sut dŷn ni'n gallu rhoi profiadau arbennig o dda i bobl sy'n dod aton ni, sy'n rhan o'r economi leol, ac ar yr un amser yn gwarchod y pethau mae pobl yn dod i Gymru i'w gweld ac i'w mwynhau.

A pan dwi'n siarad am bethau fel yna, Llywydd, allaf i jest ddweud—? Cefais i'r fraint o gymryd rhan ddydd Sul mewn seremoni i nodi'r garreg filltir ddiweddaraf yn y daith i sicrhau statws safle treftadaeth y byd i'r diwydiant llechi yng ngogledd-orllewin Cymru, a chroesawu i Gymru Frau Friederike Hansell ac eraill o UNESCO sy'n ymweld â'r ardal. Roedd hwnna'n dangos bod pobl ledled y byd eisiau dod i weld y pethau sydd gyda ni yma yng Nghymru, ond y peth pwysig yw ei wneud e mewn ffordd sy'n gwarchod y pethau maen nhw eisiau eu gweld, ac i dynnu mewn pobl leol, pobl yn y busnesau yna, rownd y bwrdd gyda'r awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru i gynllunio gyda'i gilydd am y dyfodol.

14:10

Prynhawn da, Prif Weinidog. Maddeuwch i mi os byddaf yn torri ar draws unrhyw beth yr ydych chi wedi ei ddweud eisoes; yn anffodus, nid oedd y cyfieithiad yn gweithio ar fy nghyfrifiadur. Darperir llawer o'r profiadau i ymwelwyr yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro gan fusnesau microdwristiaeth, boed nhw'n eco-gabanau coed yng nghoedwigoedd Sir Gaerfyrddin neu'n safleoedd gwersylla a busnesau bach ar hyd parc cenedlaethol Arfordir Penfro. Gan eu bod nhw'n wahanol iawn ac yn atyniad arbennig i rai grwpiau o bobl, maen nhw wrth gwrs wedi cael eu taro'n eithaf difrifol gan bandemig COVID-19.

Gwrandewais yn ofalus iawn ar eich ateb i Adam Price yn gynharach ynghylch pa un a ddylai pobl wneud taith i'n gweld ni ai peidio, ond hoffwn ddarllen rhywbeth i chi gan Microdwristiaeth Cymru, sy'n dweud, 'Mae ein haelodau yn ymdrin erbyn hyn â gwesteion dryslyd sydd eisiau canslo neu newid eu gwyliau gan nad ydyn nhw'n deall y polisïau cyfyngiadau symud lleol'. A ddoe, dywedodd Gweinidog yr economi, yn ystod cynhadledd i'r wasg Llywodraeth Cymru, a dyfynnaf, 'Mae'n hanfodol bod pobl yn ystyried yn ofalus a yw eu teithiau yn angenrheidiol'.

Mae busnesau microdwristiaeth yn fy ardal i eisoes o dan y dŵr yn ariannol oherwydd y cyfyngiadau symud cynharach. A allwch chi roi unrhyw gyfarwyddyd arall iddyn nhw ynghylch yr hyn y dylen nhw ei ddweud pan fydd rhywun yn eu ffonio naill ai o Loegr neu o wahanol ran o Gymru ac yn dweud, 'Rwy'n mynd i ganslo fy mhythefnos yn eich tŷ pen coeden yn Sir Gaerfyrddin gan nad wyf i'n credu fy mod i'n cael teithio', neu'n waeth byth, maen nhw'n gofyn iddyn nhw a ddylen nhw deithio ai peidio , sy'n rhoi'r cyfrifoldeb o wneud y penderfyniad hwnnw ar y gweithredwr?

Wel, Llywydd, mae gen i gydymdeimlad aruthrol â'r busnesau y mae Angela Burns wedi tynnu sylw atyn nhw. Llwyddais fy hun i dreulio amser byr yn ystod cyfnod y gwyliau yn ei hetholaeth hi a gallwn weld yn union pa mor galed yr oedd pobl sy'n ennill bywoliaeth drwy ymwelwyr yn gweithio i geisio gwneud iawn am y colledion yr oedden nhw wedi eu dioddef yn gynharach yn y flwyddyn. Felly, mae'n anochel bod dychweliad coronafeirws ledled y Deyrnas Unedig yn anodd iawn iddyn nhw. Rydym ni'n gwneud ein gorau i gyfathrebu mor eglur ag y gallwn ni drwy'r gwahanol rwydweithiau sydd gennym ni, drwy'r grŵp y soniais amdano yn fy ateb i Siân Gwenllian sy'n cyfarfod bob wythnos gyda Llywodraeth Cymru, i wneud yn siŵr, drwy'r trefniadau twristiaeth rhanbarthol, ein bod ni'n cyfleu'r negeseuon hynny.

Heddiw, bydd Ken Skates yn gwneud datganiad ar lawr y Senedd, a fydd yn cynnwys cyllideb wedi'i neilltuo gwerth £20 miliwn ar gyfer lletygarwch a thwristiaeth, yn ychwanegol at y £27 miliwn y mae'r sector wedi gallu cael gafael arno o ddwy fersiwn gyntaf y gronfa adfer economaidd. Felly, gobeithiaf y bydd hynny yn rhywfaint o gymorth i'r busnesau y mae Angela Burns wedi tynnu sylw atyn nhw. Roeddem ni'n gweithio yn galed gyda'r sector i geisio ymestyn y tymor fel y byddai pobl wedi gallu parhau i weithio'n hwy, ac mae'r anawsterau yr ydym ni'n eu profi wrth i'r feirws gydio unwaith eto yn ergyd, i'r cynlluniau hynny ac i'r bobl sy'n gweithio'n galed ac wedi gwneud cymaint i geisio adennill rhywbeth o'r tymor i'r busnesau y maen nhw wedi gweithio mor galed i'w datblygu.

14:15
Cyfyngiadau COVID-19 yng Nghasnewydd

4. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyfyngiadau COVID-19 yng Nghasnewydd? OQ55599

Diolchaf i John Griffiths, Llywydd. Yn dilyn cynnydd sydyn i nifer yr achosion, cyflwynwyd cyfyngiadau lleol yng Nghasnewydd ar 22 Medi. Mae'n rhy gynnar i wneud asesiad pendant, ond mae nifer yr achosion yn dechrau sefydlogi diolch i ymdrechion pobl leol. Rydym ni'n monitro'r sefyllfa yn ddyddiol ac yn adolygu'r cyfyngiadau lleol yn ffurfiol bob wythnos.

Prif Weinidog, mae'n bwysig i bobl wybod y bydd cydymffurfio â chyfyngiadau i leihau achosion yn arwain at lacio'r cyfyngiadau hynny yn brydlon pan fydd hi'n ddiogel gwneud hynny. Felly, rwy'n clywed yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud am rai arwyddion bod materion yn symud i'r cyfeiriad iawn, ond a oes unrhyw beth arall y gallwch chi ei ddweud am gydymffurfiad ac effeithiolrwydd y mesurau lleol a'r hyn y gallai hynny ei olygu i amseriad diddymu'r mesurau hynny? A phan oedd gan bobl mewn ardaloedd â chyfyngiadau lleol wyliau a drefnwyd ymlaen llaw sydd wedi'u heffeithio, a wnewch chi wneud popeth o fewn eich gallu i sicrhau bod y diwydiant teithio yn gweithredu'n gyfrifol ac yn darparu ad-daliadau llawn a diamod?

Llywydd, diolchaf i John Griffiths am y pwyntiau yna. Rwy'n hapus i gadarnhau bod y ffigurau dyddiol yr wyf i'n eu gweld ac yn cael cyngor arnyn nhw gan ein cydweithwyr ym maes iechyd cyhoeddus wedi parhau i ddangos gostyngiad bach ond parhaus yn nifer yr achosion yn ardal cyngor bwrdeistref sirol Casnewydd. Siaradais â phrif gwnstabl Heddlu Gwent ddwywaith yr wythnos diwethaf ac fe'm calonogwyd gan yr hyn yr oedd ganddi i'w ddweud am lefel y cydymffurfiad a welir yn yr awdurdodau lleol hynny sy'n destun cyfyngiadau lleol, ac ailadroddodd bwynt a wnaed i mi yn gynharach am Gaerffili—bod pobl yng Nghasnewydd eisiau gwneud y peth iawn; dydyn nhw ddim yn ceisio dod o hyd i ffyrdd o osgoi'r rheolau, maen nhw eisiau ymddwyn yn unol ag ysbryd y rheolau gan eu bod nhw wedi deall po fwyaf y byddwn ni'n gwneud hynny, y cyflymaf y byddwn ni'n gostwng y cynnydd lleol hwnnw i achosion a'r cynharaf y byddwn ni'n gallu diddymu'r cyfyngiadau hynny. Ac rwy'n hynod ddiolchgar, i ddinasyddion Casnewydd, ond hefyd i swyddogion awdurdodau lleol a gwasanaeth yr heddlu, am bopeth y maen nhw'n ei wneud i helpu pobl i wneud y peth iawn.

Byddwn yn adolygu'r cyfyngiadau ddydd Iau yr wythnos hon a byddaf yn trafod gyda'm swyddogion sut y gallem ni ddechrau, gam wrth gam, diddymu'r cyfyngiadau lleol hynny. Ni allaf addo o gwbl y byddwn ni'n gallu dechrau ar y daith honno y dydd Iau hwn, ond rwyf i eisiau gwneud yn siŵr ein bod ni'n cynllunio ar gyfer y llwybr allan o'r cyfyngiadau lleol hynny gyda phobl leol a chydag asiantaethau lleol fel y gallwn ni gyfleu hynny yn eglur i bobl sy'n byw yn yr ardaloedd hynny. 

O ran yr ail bwynt pwysig a gododd John Griffiths am drefniadau gwyliau, bydd yn gwybod bod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi ysgrifennu yn gynharach at y diwydiant teithio; ysgrifennodd eto ar 23 Medi. Rwy'n falch ein bod ni wedi cael ateb gan Gymdeithas Yswirwyr Prydain yn cadarnhau bod eu haelodau wedi ymrwymo i gynorthwyo eu cwsmeriaid o dan yr amgylchiadau a nodwyd gan John Griffiths a'u bod yn disgwyl talu £275 miliwn mewn hawliadau canslo. Yr hyn y mae angen i ni ei weld yw'r teimladau cyffredinol hynny, teimladau calonogol, yn cael eu darparu ar lawr gwlad ym mywydau pobl y tarfwyd ar eu gwyliau.

Busnesau ym Mhen-y-bont ar Ogwr

5. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i roi i fusnesau ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn ystod pandemig y coronafeirws? OQ55613

A gaf i ddiolch i Carwyn Jones, Llywydd? Dyfarnwyd cyllid i 474 o ficrofusnesau a mentrau bach a chanolig eu maint ym Mhen-y-bont ar Ogwr drwy'r gronfa cadernid economaidd Cymru yn unig, yn dod i gyfanswm o £88.1 miliwn, gydag o leiaf 2,500 o swyddi yn cael eu diogelu hyd heddiw. Byddwn yn parhau i gynorthwyo busnesau ledled Cymru i aros yn hyfyw drwy'r pandemig ac i ymateb i heriau anochel Brexit.

14:20

Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Bydd busnesau ym Mhen-y-bont ar Ogwr a ledled Cymru, Prif Weinidog, yn falch iawn o glywed y cyhoeddiad yr wythnos hon, gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, o £60 miliwn ychwanegol o gyllid i fusnesau ledled Cymru wrth iddyn nhw barhau i wynebu heriau coronafeirws. O ran busnesau ym Mhen-y-bont ar Ogwr a ledled Cymru, sut y gallen nhw fynd ati i gael gafael ar y cyllid hwnnw a chael gafael ar gymorth, a pha fath o symiau y gellid disgwyl yn rhesymol iddyn nhw eu cael o ganlyniad i'r ceisiadau hynny?

Wel, Llywydd, diolchaf i Carwyn Jones am y cwestiynau atodol yna. Ceir cyfanswm o £140 miliwn yn nhrydydd cam y gronfa cadernid economaidd. Bydd y gwiriwr cymhwysedd ar gyfer y cam diweddaraf hwn yn agor ar 5 Hydref, ac, wrth gwrs, rwy'n gobeithio y bydd unrhyw fusnes sy'n credu, ar ôl gweld y manylion, y gallen nhw fod yn gymwys i gael cymorth yn dod o hyd i'r gwiriwr cymhwysedd hwnnw i wneud ceisiadau cyn gynted ag y gallan nhw wneud hynny. Bydd microfusnesau yn cael gwneud cais am hyd at £10,000; Bydd busnesau bach a chanolig yn cael gwneud cais am hyd at £150,000; a bydd busnesau mawr yn cael gwneud cais am hyd at £200,000. Nawr, wrth gwrs, ceir amodau a rheolau sy'n berthnasol yn gysylltiedig â hynny i gyd, ond mae hynna, gobeithio, yn rhoi syniad o faint y cymorth a fydd ar gael.

Llywydd, dim ond i roi awgrym arall o sut y mae'r cynllun wedi bod yn gweithio: atebais gwestiynau yma yn y Senedd yn gynharach yn yr haf am y gronfa gwerth £5 miliwn a lansiwyd gennym ni bryd hynny i ddarparu cymorth yn arbennig i fusnesau bach, unig fasnachwyr ac yn y blaen, a dyfarnwyd dros £4 miliwn o'r £5 miliwn hwnnw eisoes. Felly, rwy'n credu bod hynny'n dangos bod gennym ni system ar waith sydd nid yn unig yn ymateb i anghenion busnesau Cymru, ond sy'n gallu ymateb, cyn gynted ag y gallwn, i gael yr arian oddi wrthym ni ac i'w dwylo nhw fel y gallan nhw barhau i fod yn fusnesau llwyddiannus yn y dyfodol.

Cymorth Ariannol i Fusnesau

6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gymorth ariannol Llywodraeth Cymru i fusnesau y mae pandemig y coronafeirws wedi cael effaith arnynt? OQ55591

Diolchaf i'r Aelod am hynna, Llywydd. Ein pecyn cymorth busnes gwerth £1.7 biliwn yw'r cynnig mwyaf hael o gymorth unrhyw le yn y Deyrnas Unedig. Fel yr wyf i wedi ei ddweud sawl gwaith y prynhawn yma, bydd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru yn rhoi mwy o fanylion am gam 3 y gronfa cadernid economaidd mewn datganiad llafar yn ddiweddarach y prynhawn yma.

Diolch, Prif Weinidog. Rwy'n croesawu'r hyn yr ydych chi wedi ei wneud eisoes ac edrychaf ymlaen at glywed yr hyn sydd gan y Gweinidog i'w ddweud y prynhawn yma. Ond mae perchennog cwmni cludo nwyddau bach sy'n gweithio yn y sector adeiladu yr oedd angen cymorth ariannol arno gan fod safleoedd adeiladu a chwareli yn cau oherwydd y pandemig wedi cysylltu â mi. Gwnaeth gais am gam cyntaf y cyllid o'r gronfa cadernid economaidd yn fuan ar ôl iddo ddod ar gael, dim ond i ganfod ei fod wedi cael ei dynnu yn ôl oherwydd y galw. Cysylltodd wedyn â Busnes Cymru, a'i gynghorodd i geisio cyllid drwy'r cynllun hunangyflogedig, a gwnaeth hynny gan dderbyn taliad bach. Pan wnaeth gais am fwy o arian o'r gronfa cadernid economaidd, fe'i gwrthodwyd gan ei fod wedi hawlio gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi. Dywedodd fy etholwr pe byddai'n gwybod y byddai'r cyngor hwn yn ei wneud yn anghymwys i gael mwy o arian o'r gronfa cadernid economaidd, ni fyddai wedi gwneud cais. Prif Weinidog, a ydych chi'n ymwybodol o fwy o achosion fel hyn, ac a ydych chi'n cytuno â mi nad yw'n iawn bod y cwmni hwn o dan fygythiad erbyn hyn oherwydd cyngor a gafwyd gan Busnes Cymru?

Llywydd, nid wyf i'n gyfarwydd â manylion y cwmni penodol y mae'r Aelod yn cyfeirio ato, ond rwy'n barod iawn i fynd ar drywydd y pwyntiau y mae wedi eu gwneud. Os hoffai roi manylion y cwmni i mi a'r pryderon sy'n sail i'r cwestiwn y mae wedi ei godi ar ei ran y prynhawn yma, byddaf yn sicr o wneud yn siŵr eu bod nhw'n cael sylw. A diolchaf i'r Aelod am yr hyn a ddywedodd ar y cychwyn am groesawu'r cymorth yr ydym ni yn gallu ei roi i fusnesau yng Nghymru yn fwy cyffredinol.

TB Buchol

7. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â TB buchol yng Nghymru? OQ55612

14:25

Llywydd, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithredu ein rhaglen dileu TB, gan fynd i'r afael â phob ffynhonnell haint mewn buches wartheg. Roedd nifer yr achosion newydd mewn buchesi y llynedd yr isaf ers 15 mlynedd, gyda gostyngiad o 16 y cant i ddigwyddiadau yn y 12 mis hyd at fis Mehefin 2020.

Diolch, Prif Weinidog. Nawr, yn y 12 mis hyd at fis Mehefin 2020, lladdwyd 10,823 o wartheg oherwydd TB mewn gwartheg. Nawr, ydw, rwy'n cytuno bod hynny'n ostyngiad o 12 y cant ar y 12 mis blaenorol, ond cefais sioc o glywed yn y Pwyllgor Newid yn yr Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig y Gweinidog yn disgrifio hyn fel 'mae'r ystadegau diweddaraf yn dda'. Wel, dydyn nhw ddim yn dda os siaradwch chi â'r ffermwyr ledled Cymru. Mewn gwirionedd, maen nhw'n gywilyddus, yn enwedig gan y bu cynnydd o 56 y cant i nifer yr achosion newydd mewn buchesi yn ardaloedd risg isel Cymru yn ystod y tair blynedd diwethaf. Er bod 33,512 o wartheg wedi cael eu lladd, dim ond 16 o drwyddedau a roddwyd i ddal, marcio a difa moch daear er mwyn atal y clefyd erchyll hwn rhag lledaenu. Prif Weinidog, a ydych chi'n ystyried bod yr ystadegau diweddaraf yn dda a beth arall ydych chi'n ei wneud i sicrhau bod lledaeniad TB mewn gwartheg ymhlith ein bywyd gwyllt cyn lleied â phosibl? Diolch.

Wel, Llywydd, rwy'n credu bod yn rhaid i ni annog pobl yn y sector sy'n gweithio mor galed pan fyddwn ni'n gweld gostyngiad i nifer yr achosion newydd mewn buchesi 24 mis yn olynol, pan fyddwn ni'n gweld mai'r nifer honno yw'r isaf ers 15 mlynedd, ac yn chwarter cyntaf eleni, yr isaf mewn unrhyw chwarter ers dechrau casglu ffigurau. Felly, mae'n bwysig ein bod ni'n annog y bobl hynny yn y sector sy'n gwneud popeth yn eu gallu, gan gynnwys ffermwyr, wrth gwrs, i ymdrin â'r clefyd ofnadwy hwn drwy ddangos bod y camau y maen nhw'n eu cymryd yn cael effaith gadarnhaol, a dyna'n union yr oedd y Gweinidog yn ceisio ei wneud.

Mae TB yn glefyd echrydus mewn gwartheg, ac mae ei effaith ar y ffermydd hynny sydd wedi gorfod gweld buchesi cyfan yn cael eu lladd yn ofnadwy, ar bobl sydd wedi buddsoddi cymaint yn y buchesi hynny dros gynifer o flynyddoedd. Yr unig ffordd o fynd i'r afael ag ef yw drwy fynd i'r afael ag ef ym mhob agwedd, drwy brofion cywir, drwy safonau bioddiogelwch uchel, drwy gynlluniau gweithredu buchesi unigol a buddsoddi yn yr wyddoniaeth fel yr ydym ni'n ei wneud yn y ganolfan ragoriaeth TB yn Aberystwyth. Mae'r rheini yn gamau y mae'n rhaid i bob rhan o'r sector gymryd rhywfaint o gyfrifoldeb am eu gweithredu.

Dywedodd yr Aelod yn ei chwestiwn atodol i mi ei bod hi'n gywilyddus—nifer yr achosion newydd yr ydym ni'n eu gweld mewn ardaloedd TB isel. Ond bydd hi'n gwybod bod 82 y cant o achosion newydd yn yr ardaloedd isel hynny yn cael eu holrhain i wartheg sy'n cael eu prynu a'u symud i mewn i'r ardaloedd hynny, gan ddod â TB gyda nhw. Dyna pam mae gan safonau bioddiogelwch uchel, profion cywir a'r mesurau eraill yr wyf i wedi sôn amdanyn nhw i gyd eu rhan i'w chwarae, ac yn y modd hwnnw, byddwn yn llwyddo gyda'n gilydd i ddileu'r clefyd ofnadwy hwn o Gymru.

Diogelwch ar y Ffyrdd

8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddiogelwch ar y ffyrdd yng ngogledd Cymru? OQ55598

Llywydd, diolchaf i Darren Millar am hynna. Mae diogelwch ar y ffyrdd yn parhau i fod yn bryder allweddol i Lywodraeth Cymru. Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi goruchwylio adolygiad o faterion diogelwch ar gefnffyrdd, ac ar ben arall y sbectrwm, mae'r Dirprwy Weinidog yn yr adran honno yn bwrw ymlaen â mentrau fel cyflwyno terfynau cyflymder 20 mya, a fydd, ar eu pennau eu hunain, yn cael effaith ar ddiogelwch ar y ffyrdd yn y gogledd ac mewn rhannau eraill o Gymru hefyd.

Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Un o ganlyniadau'r cynnydd i nifer y bobl sy'n gweithio gartref yw ein bod ni wedi gweld gostyngiad sylweddol i draffig ar lawer o'n ffyrdd, ac, yn anffodus, oherwydd bod llai o draffig, mae hynny yn aml wedi arwain at gynnydd mewn goryrru, ac mae hynny'n gwbl wir ar gefnffordd yr A494 rhwng Rhuthun a'r Wyddgrug, y mae llawer ohoni yn fy etholaeth i. Rydym ni wedi cael nifer o ddamweiniau difrifol, yn anffodus, rhai lle mae unigolion wedi colli eu bywydau, yn ardal Llanbedr, a hefyd yn ardal Llanberis bu cynnydd sylweddol mewn goryrru.

A gaf i eich annog, Prif Weinidog, i weithio gyda'r Gweinidog sy'n gyfrifol am drafnidiaeth i ystyried pa fesurau ychwanegol y gellid eu cymryd ar y darn penodol hwn o ffordd, gan gynnwys pa un a allai fod yn ymarferol i gyflwyno camerâu cyflymder cyfartalog, sydd, i bob golwg, wedi bod mor effeithiol o ran lladd cyflymder, yn hytrach na phobl, ar ffyrdd peryglus mewn mannau eraill yn y wlad?

14:30

Llywydd, a gaf i ddiolch i Darren Millar am y cwestiynau dilynol pwysig iawn hynny? Mae'r marwolaethau yn y Gogledd ym mis Medi wedi bod yn ofidus iawn, a gwn ei fod ef wedi ymwneud yn uniongyrchol â rhai ohonyn nhw. Roeddwn i eisiau diolch iddo am y llythyr a anfonodd at y Gweinidog ddiwedd mis Awst, a gwn ei fod wedi cael ateb gan Ken Skates yn benodol ynghylch diogelwch ar ffordd yr A494, mesurau y mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi'u cymryd ac y mae angen eu monitro nawr am eu heffeithiolrwydd, ond hoffwn roi sicrwydd iddo ef, yn yr un modd â'r llythyr, os nad yw'r mesurau hynny'n effeithiol, yna caiff mesurau eraill eu hystyried o'r math y mae wedi'i nodi, fel y gallwn ni wneud popeth o fewn ein gallu, ar y cyd, i sicrhau nad yw bywydau, a bywydau ifanc, yn cael eu colli ar ffyrdd yn y Gogledd.

Datganiad gan y Llywydd

A chyn inni symud ymlaen, dim ond i ddweud bod Aelodau wedi gofyn i mi am bwynt o drefn yn y fan hon, ond byddaf i'n mynd i'r afael â'r mater yn y modd hwn. Yn gyntaf, mae pob Aelod—Gweinidog ac Aelodau eraill—yn cymryd rhan lawn a chyfartal yn y Senedd hon, p'un a ydyn nhw’n gwneud hynny'n rhithiol neu yma'n gorfforol yn y Siambr. Ac, yn ail, i dawelu meddwl yr Aelodau sy'n bresennol y prynhawn yma eich bod yn gwneud hynny yn unol â rheoliadau a chanllawiau. Nawr, am weddill y prynhawn hir hwn a'r noson o waith sydd gennym ni o'n blaenau, gadewch inni ganolbwyntio ar gynnwys yr hyn sydd gennym i'w ddweud yn hytrach nag o ble y gallem ni fod yn ei ddweud.

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf yw'r datganiad busnes. Rwy'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad busnes. A byddaf i hefyd yn tynnu sylw at y ffaith bod hyn wedi'i amserlennu gan y Llywodraeth am 15 munud, ond mae gennyf i lawer iawn o siaradwyr, o bob plaid, sy'n dymuno cyfrannu at y prynhawn, felly rwy'n eich rhybuddio efallai na fydd modd ichi gael eich galw, oherwydd y dyraniad amser o 15 munud ar gyfer yr eitem hon.

Y Trefnydd i wneud y datganiad. Rebecca Evans.

Diolch, Llywydd. Mae sawl newid i'r agenda heddiw. Bydd y ddadl ar bedwar Rheoliad Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) 2020 yn cael ei chynnal yn syth ar ôl y datganiad a chyhoeddiad busnes hwn. Mae'r ddadl ar gynnig cydsyniad deddfwriaethol y Bil Pysgodfeydd wedi'i gohirio tan yr wythnos nesaf. Ac yn olaf, mae'r datganiad ar wasanaethau mamolaeth a gwelliannau llywodraethu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf wedi'i ohirio tan 13 Hydref er mwyn darparu ar gyfer datganiad i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd am gyfyngiadau'r coronafeirws leol. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi ar y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau'n electronig.

Efallai y caf i ofyn am ddatganiad byr, Trefnydd, gan Weinidog yr Economi efallai, ynglŷn â chau Ford, a ddigwyddodd, gwaetha'r modd—ac roeddem ni i gyd yn aros amdano—yr wythnos diwethaf, dim ond i roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am ganlyniadau terfynol y tasglu yno a sefydlwyd er mwyn cynorthwyo'r bobl sy'n gweithio yno i ddod o hyd i swyddi. Pan fyddwn ni'n sôn am roi £100,000 o'r neilltu ar gyfer hyn, mae'n ymddangos fel swm eithaf bach o'i gymharu â'r hyn y clywsom  heddiw. Felly, byddai hynny i'w groesawu'n fawr.

Rwy'n credu y byddwn i hefyd yn gofyn am ddatganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, yr wybodaeth ddiweddaraf am ei barn hi ynghylch cefnogaeth ar wahân i sŵau. Rwy'n sylweddoli y byddwn ni'n clywed mwy am y gronfa cadernid economaidd yn nes ymlaen, ond mae angen rhoi sylw penodol a manwl i ofynion penodol atyniadau ymwelwyr sy'n gyfrifol am les anifeiliaid, oherwydd, yn amlwg, nid oes unrhyw wahaniaeth a yw atyniad ar agor neu ar gau, mae angen yr un staff a'r un nifer o bobl—yr un arian arnyn nhw, mae'n ddrwg gennyf i—i gefnogi lefelau lles anifeiliaid yno.

Ac yna, yn olaf, a fyddai modd inni gael llythyr neu ddatganiad, gan Weinidog yr Amgylchedd eto, ynghylch rheoli gwarchodfa natur Cynffig yn fy rhanbarth i? Mae'n safle sy'n bwysig yn fyd-eang. Nid oes unrhyw un wedi bod yn gyfrifol amdano mewn gwirionedd ers i'r awdurdod lleol ddewis peidio ag adnewyddu ei brydles fis Rhagfyr diwethaf ac, er bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cael rhywfaint o weithgarwch yno, mae'r trafodaethau rhyngddynt hwy a pherchnogion y safleoedd wedi chwalu. O ystyried bod hwn yn faes o bwysigrwydd—wel, byd-eang—mewn gwirionedd, nid pwysigrwydd cenedlaethol yn unig, byddwn i'n gobeithio y byddai gan y Gweinidog, gyda'i chyfrifoldebau cyffredinol dros yr amgylchedd, rywbeth pwysig i'w ddweud am hyn. Diolch.

14:35

Diolch yn fawr iawn i Suzy Davies am godi'r tri mater pwysig hynny, a gofynnaf i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ysgrifennu at gyd-Aelodau gyda'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y sefyllfa ar ôl tristwch cau Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Rwy'n gwybod bod y tasglu wedi gweithio'n ddiflino i ddod â'r holl bartneriaid at ei gilydd i ddwysáu'r ymdrechion i gefnogi'r rheini yr effeithiwyd arnyn nhw ac i ddenu buddsoddiad newydd ac i greu cyfleoedd cyflogaeth lleol. Ac, wrth gwrs, nawr mae'r gronfa etifeddiaeth yn bodoli, sydd ar gael i'r gymuned ei defnyddio hefyd, ond rwy'n credu y byddai'n ddefnyddiol i'r Gweinidog ddwyn ynghyd yr holl agweddau hynny ar y gwaith er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i gydweithwyr â diddordeb ynghylch hynny, felly byddaf i'n sicrhau bod hynny'n digwydd.

O ran y gefnogaeth i sŵau, fel y dywed Suzy, mae cyfle, yn ddiweddarach heddiw, i geisio codi hynny gyda Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth o bosibl. Ond, unwaith eto, efallai y byddwn i'n gwahodd Suzy i ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i fynegi ei phryder penodol o ran lles anifeiliaid o ganlyniad i'r coronafeirws.

Ac, unwaith eto, ar fater gwarchodfa natur Cynffig, byddaf i'n gofyn i'r Gweinidog ysgrifennu atoch gyda'r wybodaeth ddiweddaraf i ymateb i'r pryderon yr ydych newydd eu codi.

Mae llawer o bobl wedi cael eu gadael yn ddiymgeledd gan eu cwmnïau yswiriant ar ôl i gyfyngiadau symud gael eu gosod ar lawer o leoedd yn y De ac nad oedd pobl yn gallu mynd ar wyliau. Nawr, mae'n bosibl bod rhai polisïau wedi cynnwys print mân yn atal taliadau oherwydd COVID-19, ond rwy'n gwybod nad yw hyn yn wir ym mhob achos o wrthod. Mewn un achos, dywedodd un cwmni wrth gwsmer fod cyngor gan Lywodraeth Cymru yn amherthnasol ac mai dim ond cyngor i beidio â theithio gan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad y maen nhw'n ei dderbyn. Nawr, rwy'n gobeithio y bydd eich Llywodraeth yn cytuno â mi na ddylai cyfyngiadau wedi'u gorfodi gan Gymru gael eu hystyried yn llai na rhai sy'n cael eu gorfodi gan San Steffan. A wnaiff y Llywodraeth, felly, ddatganiad clir ynghylch statws cyfreithiol y cyfyngiadau hyn yng Nghymru a sut y dylen nhw effeithio ar bolisïau yswiriant? Gwn fod sylwadau wedi'u cyflwyno i Gymdeithas Yswirwyr Prydain, ond nid oedd yn glir o ateb y Prif Weinidog a oes datganiad cyfreithiol, yr wyf i wedi gofyn amdano, wedi'i wneud, ac nid yw'n ymddangos eu bod wedi gwneud unrhyw sicrwydd o ran ad-daliadau i bawb, ac yn ddiamau, y dylen nhw wneud hynny. Byddai'n ddefnyddiol inni gael datganiad i glywed beth arall y gall y Llywodraeth ei wneud i sicrhau bod y bobl hynny yn cael yr ad-daliadau gwyliau sydd wedi'u gwrthod iddynt.

Mae Leanne Wood yn gywir: mae mor siomedig i bobl bod eu gwyliau wedi'u canslo o ganlyniad i goronafeirws a'r rheoliadau a'r cyfyngiadau y bu'n rhaid eu rhoi ar waith. Fel y dywedodd y Prif Weinidog, rydym wedi bod yn codi hyn yn uniongyrchol gyda'r diwydiant yswiriant a chawsom ymateb cymharol gadarnhaol yn ôl, rwy'n credu, gan gorff y diwydiant. Ond, fel y dywedodd y Prif Weinidog ac rwy'n credu bod Leanne Wood wedi'i ddweud hefyd, mae angen troi'r geiriau teg hynny nawr yn weithredu ac yn daliadau i'r deiliaid polisïau yr effeithiwyd arnynt. Ond os oes diweddariad pellach ar hynny, byddaf i'n siŵr o rannu hynny gyda Leanne.

A gaf i ofyn am ddau ddatganiad llafar gan y Llywodraeth—yr un cyntaf o ran darparu prydau ysgol am ddim? Rydym wedi cael nifer o ddatganiadau ysgrifenedig ar y ddarpariaeth, o ran ei hehangu, ac rwy'n falch iawn o'r rheini, ond a allwn ni gael datganiad llawn ar beth yn union yw'r sefyllfa o ran hynny nawr ? Mae fy marn i yn hysbys, y dylai prydau ysgol am ddim barhau trwy bob gwyliau a, phan nad yw plant yn yr ysgol, dylen nhw barhau i gael prydau ysgol am ddim, oherwydd mae'n  rhaid iddyn nhw fwyta pan nad ydyn nhw yn yr ysgol. Felly, a allwn ni gael datganiad am hynny, ac, yn ail, ac mae hyn yn weddol addas yr adeg hon o'r flwyddyn, ddatganiad am ddefnyddio tân gwyllt drwy gydol y flwyddyn, yn enwedig yr adeg hon o'r flwyddyn, a'r hyn y gall Llywodraeth Cymru neu awdurdodau lleol ei wneud i gyfyngu ar ddefnyddio tân gwyllt? Oherwydd gallaf i ddweud wrthych chi, yn Nwyrain Abertawe, nad oes mis yn mynd heibio heb i arddangosfa tân gwyllt ddigwydd yn rhywle.

Mae Mike Hedges yn llygad ei le ar yr ail bwynt hwnnw. Rwy'n credu fy mod yn gweld yr arddangosfeydd tân gwyllt hynny ledled Abertawe yn rheolaidd hefyd. Rydym yn cydnabod bod canslo cynifer o ddigwyddiadau a drefnwyd eleni yn peri'r risg  bod pobl yn defnyddio tân gwyllt yn eu gerddi fwyfwy. Gwyddom fod y pwerau i wneud y rheoliadau hynny yn dod o dan Ddeddf Tân Gwyllt 2003, a Gweinidogion Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am hynny, a dyna pam yr ydym ni’n ceisio gweithio'n agos iawn gyda'r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol yn San Steffan, sy'n gyfrifol am reoliadau tân gwyllt. Rydym yn annog ymateb cryf iawn gan Lywodraeth y DU i'r argymhellion a wnaed yn adroddiad diweddar Pwyllgor Deisebau Tŷ'r Cyffredin ar dân gwyllt. Ac mae swyddogion yn Llywodraeth Cymru hefyd wrthi'n gweithio gyda BEIS ar negeseuon cyhoeddus ar gyfer tymor y coelcerthi sydd ar ddod, a hefyd gyda'r Cynllun Gweithredu Byd-eang i godi ymwybyddiaeth ynghylch effeithiau ansawdd aer coelcerthi a thân gwyllt ar Ddiwrnod Aer Glân hefyd.

O ran y mater cyntaf, rwy'n gwybod bod Mike Hedges yn cydnabod yn llwyr y rhan hanfodol y mae prydau ysgol am ddim yn ei chwarae o ran sicrhau bod plant yn cael y pryd iach hwnnw ac nad ydyn nhw'n llwglyd yn ystod adegau digynsail, ac yn enwedig felly yn ystod gwyliau'r haf. Ers hynny, rydym wedi darparu £1.28 miliwn arall i helpu awdurdodau lleol i dalu costau ychwanegol prydau ysgol am ddim yn ystod pythefnos cyntaf tymor yr hydref, pan fydd rhai o'r ysgolion yn addasu a bod ganddyn nhw'r dull mwy hyblyg hwnnw o ddysgu. Unwaith eto, ers hynny rydym wedi cytuno ar gyllid o £420,000 o leiaf fel y bydd y rhai sy'n cael prydau ysgol am ddim hefyd yn parhau i gael y ddarpariaeth honno os na allan nhw fynychu'r ysgol am unrhyw reswm, fel gorfod hunanynysu ac yn y blaen. Felly, rydym yn ceisio sicrhau ein bod ni'n ystyried yr holl wahanol senarios a allai effeithio ar blant.

14:40

A gaf i gytuno'n gyntaf â sylwadau Mike Hedges ynglŷn â'r angen am fwy o reoleiddio ar dân gwyllt? Dau fater os caf i, Llywydd: yn gyntaf, Trefnydd, mae nifer o etholwyr wedi cysylltu â mi sy'n pryderu'n fawr o ran y nifer cyfyngedig o gerbydau trên sy'n cael eu defnyddio i fynd â phobl ifanc i Goleg Chweched Dosbarth Henffordd ac oddi yno, o orsaf y Fenni. Er bod pob plentyn wedi talu am ei docyn tymor ymlaen llaw, rwyf wedi cael gwybod bod Trafnidiaeth Cymru wedi darparu bysiau sy'n gwbl annigonol, heb gadw pellter cymdeithasol o gwbl. Tybed a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog Trafnidiaeth yn amlinellu unrhyw drafodaethau y gallai fod wedi'u cael â Thrafnidiaeth i Gymru ac esboniad ynghylch pam yr ymddengys bod pobl ifanc yn cael eu trin yn wahanol i oedolion yn hyn o beth.

Yn ail ac yn olaf, Llywydd, mae Undeb y Cerddorion wedi bod yn weithgar iawn ar Twitter yn ddiweddar, ac maen nhw wedi bod yn codi'r mater o ystadegau pryderus iawn am sefyllfa cerddorion drwy'r pandemig. Nid oes gan 36 y cant o gerddorion unrhyw waith o gwbl; bydd 87 y cant yn ennill llai nag £20,000 y flwyddyn. Rwy'n gwybod bod Stephen Crabb wedi codi'r mater hwn yn y Senedd. O gofio bod y celfyddydau wedi'u datganoli i Gymru, i raddau helaeth, tybed a gawn ni ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ynghylch pa gymorth sy'n cael ei roi i'r celfyddydau yn ystod y cyfnod anodd hwn, yn enwedig cerddoriaeth. Rydym yn ymwybodol o bwysigrwydd cerddoriaeth nid yn unig i gerddorion, ond i bob un ohonom ni o ran ein hiechyd meddwl. Rwy'n siŵr ein bod eisiau gwrando ar gerddoriaeth, yn enwedig ar hyn o bryd, yn ystod y pandemig, ac rwy'n credu y byddech yn cytuno â mi bod cerddoriaeth yn haeddu gwell.

Diolch i Nick Ramsay am godi'r materion hynny. Os nad oes ots ganddo ef, byddaf yn ei wahodd i ysgrifennu at Weinidog yr economi a thrafnidiaeth ar y mater cyntaf hwnnw, sy'n ymwneud â nifer y cerbydau trên i gludo pobl ifanc o orsaf y Fenni. Rwy'n credu mai dyna fyddai'r ffordd gyflymaf o fynd ar ôl yr ymholiad penodol hwnnw.

Ac yna rwy'n cydnabod yn llwyr yr effaith y mae'r coronafeirws wedi'i chael ar y bobl hynny sy'n gweithio o fewn y diwydiant cerddoriaeth, o ran sefydliadau a chorau ac ati, ond hefyd o ran y gweithwyr llawrydd sy'n ennill eu bywoliaeth drwy'r diwydiant cerddoriaeth. Dyna pam rydym ni'n parhau i weithio ochr yn ochr â'n grŵp rhanddeiliaid cerddoriaeth i ddeall pryderon ac effaith y coronafeirws, ac rydym hefyd wedi cyhoeddi cyllid drwy'r gronfa adferiad diwylliannol gwerth £53 miliwn. Felly, byddwn i'n cynghori sefydliadau ac unigolion i wneud ymholiadau i weld a allai rhywfaint o gymorth ariannol fod ar gael iddyn nhw drwy'r gronfa benodol honno.

Heddiw, fe yrrais i e-sgwter, sydd â chaniatâd i fynd ar y ffyrdd dan reoliadau newydd. Tybed a gawn ni ddatganiad ynghylch sut y gallwn ni ymestyn hynny fel dull arall o deithio i ategu'r gostyngiad mewn trafnidiaeth gyhoeddus ac, yn amlwg, y gostyngiad angenrheidiol yn nefnydd cerbydau preifat.

Hoffwn i hefyd gael ail ddatganiad gan Lesley Griffiths, fel y Gweinidog sy'n gyfrifol am fwyd, ynghylch pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith 'dim cytundeb' posibl ar y bygythiad i gyflenwadau bwyd yr ydym yn eu mewnforio o Ewrop ar hyn o bryd. A tybed a fyddai'n bosibl gwneud hynny i'r Senedd.

14:45

Diolch i Jenny Rathbone am godi'r ddau fater hynny. Rwyf i hefyd wedi cael y pleser o geisio reidio e-sgwter ac roedd yn ffordd wych o fynd o gwmpas. Rwy'n gwybod bod hyn yn rhywbeth sy'n cael ei archwilio mewn gwahanol rannau o Lywodraeth Cymru. Rwy'n deall bod rhai o'r problemau sy'n peri anhawster yn ymwneud â thrwyddedu a rheoleiddio mewn cysylltiad ag e-sgwteri, oherwydd mae'r eitemau hynny'n dod o dan Lywodraeth y DU. Ond rwy'n gwybod ei fod yn rhywbeth y mae Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi bod yn ymddiddori ynddo, a gofynnaf i iddo roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ei syniadau yn hynny o beth.

Ac yna, unwaith eto, byddaf i'n sicrhau bod Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig yn ymwybodol o'ch cais ynghylch y datganiad hwnnw ar fater penodol effaith Brexit 'dim cytundeb' posibl ar gyflenwadau bwyd i ni yma yng Nghymru.

Trefnydd, hoffwn i ofyn am ddatganiad gan y Prif Chwip yn ei swydd fel y Gweinidog sy'n gyfrifol am gydraddoldeb, i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd ynghylch sefyllfa'r ceiswyr lloches sy'n cyrraedd Penalun. Rwy'n deall bod rhagor o aflonyddwch wedi bod ddoe, er ei fod, diolch byth, o natur ansylweddol. Bydd y Llywodraeth yn ymwybodol o lythyr wedi'i eirio'n gryf iawn gan y bwrdd iechyd lleol, y cyngor sir, gyda chefnogaeth cynrychiolwyr lleol ac arweinwyr ffydd a chymdeithas ddinesig yn y cymunedau hynny. Mae copi ohono wedi dod i law. Mae'n codi pryderon difrifol ynghylch penderfyniad y Swyddfa Gartref o ran, yn benodol, y gallu i ddarparu'r cymorth priodol, y gefnogaeth grefyddol briodol, er enghraifft, a chefnogaeth drwy gyfrwng yr ieithoedd priodol, a hefyd mae'n codi rhai pryderon penodol am amodau'r adeiladau lle caiff y dynion hyn eu cartrefu. Yn amlwg, rydym ym gwybod nad yw'r Swyddfa Gartref wedi bod o gymorth hyd yma yn hyn o beth, ond byddwn i'n awgrymu, Trefnydd, pe bai'r Swyddfa Gartref yn parhau i fod yn bengaled, mai ein cyfrifoldeb ni fel dinasyddion Cymru yw sicrhau bod y dynion hynny sy'n cael eu rhoi i setlo ym Mhenalun yn cael eu cefnogi a'u diogelu. Felly, byddwn i'n ddiolchgar am ddatganiad gan y Prif Chwip ynghylch sut y gall Llywodraeth Cymru weithio gyda'r bwrdd iechyd, yr awdurdod lleol ac asiantaethau lleol eraill i geisio sicrhau, os nad oes modd adsefydlu'r dynion ifanc hynny mewn canolfannau mwy priodol, eu bod yn cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw.

Rwy'n hapus iawn i siarad â'r Gweinidog sy'n gyfrifol am gydraddoldeb ar y pwynt hwn. Rwy'n credu, os cofiaf yn iawn, fod yna gwestiwn ar y mater hwn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yfory, felly gallai hynny fod yn gyfle cynnar i archwilio rhai o'r materion hynny ymhellach. Ond, fel y dywedais, byddaf i'n sicrhau fy mod yn cael y sgwrs honno gyda'r Dirprwy Weinidog sy'n gyfrifol am gydraddoldeb.

Rwy'n gofyn am ddatganiad ar ddiogelwch adeiladu, Gweinidog. Mae EWS1 yn dystysgrif sy'n gwirio diogelwch waliau allanol adeilad—y cladin, er enghraifft. Nawr, mae un o drigolion Marseille House yn Century Wharf, Caerdydd, wedi rhoi tystiolaeth i mi fod tystysgrif EWS1 ar gyfer yr adeilad wedi'i llofnodi gan un o gyflogeion y Mansion Group, gyda'u pencadlys yng Nghainle, Swydd Gaer, ac mae'r sawl a lofnododd y dystysgrif ddiogelwch hon wedi datgan yn ysgrifenedig na wnaethon nhw gynnal yr arolygiad, na wnaethon nhw lofnodi'r ffurflen, nad oedd ganddyn nhw unrhyw gysylltiad â Specialist Facade Inspections Ltd, sydd wedi'i leoli yn Nhrecelyn, ac nad llofnod yr uwch syrfëwr caffael yw'r llofnod ar y llythyr. Nawr, mae Specialist Facade Inspections Ltd yn dweud eu bod nhw yn ddioddefwr hefyd, ond y gwir amdani yw bod gennym ni dystysgrif ddiogelwch ac nid wyf yn gwybod pwy sydd wedi'i llofnodi. Ac mae hwn yn fater pwysig iawn nawr. Felly, hoffwn i gael datganiad ynghylch pryd y bydd y Gweinidog Tai yn mynd i'r afael â'r materion, yn sefydlu tasglu ac yn datrys hyn. Diolch.

Wel, mae'r sefyllfa y mae Neil McEvoy yn ei disgrifio yn amlwg yn un ddifrifol, felly byddwn i'n ei wahodd i anfon y manylion at y Gweinidog Tai ynglŷn â'r pryderon o ran y dogfennau, sut y cawsant eu prosesu a'r profion a gafodd eu cynnal i lywio'r gwaith o lofnodi'r dogfennau hynny. Yn amlwg, nid yw hynny'n rhywbeth y gallwn i ymdrin ag ef yn y datganiad busnes y prynhawn yma. Rhoddodd y Gweinidog ymateb i ddadl ar ddiogelwch adeiladu ychydig wythnosau yn ôl, ond gwn ei bod yn awyddus i ddatblygu'r mater hwn. Felly, os byddwch chi'n anfon yr wybodaeth fanwl honno, rwy'n siŵr y gall gynghori ar y camau gweithredu gorau ar gyfer y preswylwyr dan sylw.

14:50

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Fe hoffwn i gael datganiad ynglŷn â charchardai yng Nghymru, i amlinellu bod gan garcharorion yr hawl i siarad a defnyddio'r Gymraeg heb wynebu gwahaniaethu na chamdriniaeth o fewn ystad y carchardai. Mae hwnnw'n fater sydd wedi'i godi'n ddiweddar. Ond hefyd, o ran carcharorion sy'n gadael sefydliadau diogel, mae bob amser yn broblem pan fo digartrefedd yn fater sylweddol sy'n wynebu pobl, yn enwedig yn ystod misoedd y gaeaf, ond yng nghanol pandemig mae'r holl faterion hynny'n llawer, llawer gwaeth. Rydym ni wedi gweld adroddiad yn ddiweddar gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru a amlinellodd faint o argyfwng sy'n wynebu pobl sy'n gadael sefydliadau diogel yng Nghymru, a byddai'n ddefnyddiol, rwy'n credu, pe bai pob un ohonom ni wedi cael yr wybodaeth ddiweddaraf am ddatganoli'r gwasanaeth carchardai i sicrhau ein bod yn gallu darparu gwasanaethau cydgysylltiedig mewn ffordd a argymhellodd comisiwn Thomas.

Hoffwn hefyd gael cyfle i drafod yr adroddiad a gafodd sylw ar y BBC y bore yma am yr etholiadau nesaf ar gyfer y Senedd ym mis Mai. Mater i ni fel Aelodau benderfynu arno yw hwn. Ni chredaf y dylai ein hetholiad gael ei benderfynu drwy gytundebau yn y dirgel neu gan grwpiau bach o bobl. Mae'n fater y dylem ni i gyd allu pleidleisio arno, ei wyntyllu a'i drafod yn agored. Credaf—a chytunaf â'r Prif Weinidog—fod yn rhaid cael etholiad ym mis Mai a bod yn rhaid i'r awdurdodau perthnasol, pa un ai'r Llywodraeth neu Gomisiwn y Senedd, ddarparu'r adnoddau a'r sail gyfreithiol ar gyfer cynnal yr etholiad hwnnw os bydd amgylchiadau'n parhau'n anodd iawn, boed hynny'n rhoi pleidlais drwy'r post i bawb neu'n ffordd arall o sicrhau bod y bleidlais yn ddiogel. Ond rhaid cynnal y bleidlais, rhaid cael etholiad ym mis Mai, a rhaid inni gael y cyfle i bleidleisio ar hynny a sicrhau nad yw pobl Cymru'n cael eu hamddifadu o'u democratiaeth. 

Diolch i Alun Davies am godi'r ddau fater yna. Byddaf yn sicrhau bod y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip yn ymwybodol o'r pryder hwnnw ynghylch dadl ynglŷn â charchardai yng Nghymru, ond gwn y bydd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol hefyd yn awyddus i ysgrifennu atoch chi gyda'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith sydd wedi bod yn digwydd yn ystod epidemig y coronafeirws i sicrhau nad oes neb yn gadael y carchar ac yn cysgu ar y stryd, a pha gymorth y gallwn ni ei gynnig i bobl ar ôl iddyn nhw gael eu rhoi mewn tai addas yn ystod yr argyfwng hwn, ond sicrhau wedyn eu bod yn cadw to dros eu pennau wrth inni ddechrau symud i'r cyfnod ailadeiladu.

Cytunaf yn llwyr hefyd fod yn rhaid cael etholiad ym mis Mai, ac rydym yn cynllunio ac yn gweithio'n llwyr ar y sail honno. Nid wyf eto wedi gweld copi o'r adroddiad y cyfeiriwyd ato yn y wasg, ond fel y nododd y Prif Weinidog yn gynharach, dyna yn bendant y sail yr ydym yn cynllunio arno—y bydd etholiad ym mis Mai, a bod hynny'n angenrheidiol.

Diolch i'r Trefnydd.

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, oni bai bod Aelod yn gwrthwynebu, bydd y pedwar cynnig o dan eitemau 3, 4, 5 a 6 ar y Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020 yn cael eu grwpio ar gyfer dadl ond gyda pleidleisiau ar wahân. Oes yna unrhyw wrthwynebiad i'r grwpio ar gyfer dadl? Dwi ddim yn gweld gwrthwynebiad i hynny.

3., 4., 5. & 6. Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 10) (Rhondda Cynon Taf) 2020, Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 8) (Caerffili) 2020, Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 11) (Blaenau Gwent, Casnewydd, Merthyr Tudful a Phen-y-Bont ar Ogwr etc.) 2020 a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol etc.) (Cymru) 2020

Ac felly dwi'n galw ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gyflwyno'r cynigion—Vaughan Gething. 

Cynnig NDM7396 Rebecca Evans

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 10) (Rhondda Cynon Taf) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Medi 2020.

Cynnig NDM7383 Rebecca Evans

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 8) (Caerffili) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Medi 2020.

Cynnig NDM7399 Rebecca Evans

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 11) (Blaenau Gwent, Casnewydd, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr etc.) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Medi 2020.

Cynnig NDM7395 Rebecca Evans

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol etc.) (Cymru) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Medi 2020.

Cynigiwyd y cynigion.

Diolch, Llywydd. Cynigiaf y pedair cyfres o gynigion sy'n cynnwys rheoliadau ger ein bron heddiw yn ffurfiol, a gofynnaf i Aelodau eu cefnogi. Cyflwynwyd y rheoliadau hyn unwaith eto o dan Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 drwy ein gweithdrefnau brys i gefnogi sut yr ydym ni'n mynd ati ar hyn o bryd i ymdrin â'r coronafeirws. Fe ŵyr aelodau bod Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â'n strategaeth i ymdrin â'r coronafeirws mewn modd pwyllog sy'n seiliedig ar dystiolaeth, gan gynnwys drwy'r gofyniad ffurfiol i adolygu'r angen am unrhyw un o'r gofynion a'r rheoliadau hyn, a'u cymesuredd, bob 21 diwrnod.

Cyflwynwyd y rheoliadau yr ydym yn eu trafod heddiw dros gyfnod rhwng 7 Medi ac 17 Medi. Maen nhw'n dangos y camau cyflym ond angenrheidiol y bu'n rhaid i Lywodraeth Cymru eu cymryd i ymateb i'r cynnydd diweddar yn nifer yr achosion mewn rhai rhannau o Gymru. Er mwyn sicrhau ein bod wedi'n harfogi i wneud hynny, rydym ni wedi cynyddu pwerau awdurdodau lleol ac wedi gweithredu cyfyngiadau lleol yng Nghaerffili, Rhondda Cynon Taf, Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Chasnewydd. Dyna'r cyfresi o reoliadau sydd ger ein bron. Yn anffodus, fel y dywedais, rydym ni wedi gweld cynnydd sydyn yn nifer y cyfraddau heintio cadarnhaol. Bydd aelodau hefyd yn ymwybodol ein bod ni erbyn hyn wedi cyflwyno cyfyngiadau lleol pellach ar draws Llanelli, Caerdydd ac Abertawe, a ddaeth i rym am 6 yr hwyr ar 26 Medi yng nghyswllt Llanelli, ac am 6 yr hwyr ar 27 Medi yng Nghaerdydd ac Abertawe. Caiff gwelliannau i'r prif reoliadau sy'n berthnasol i Gaerdydd, Abertawe a Llanelli eu trafod yn y Senedd ar 6 Hydref. Fel yr ydym ni wedi nodi yn ein cynllun rheoli'r coronafeirws, mae gennym ni ddull o fonitro achosion, ac rydym yn ceisio rheoli achosion lleol. Mae'r cyfyngiadau'n seiliedig ar yr egwyddorion o bwyll, cymesuredd a sybsidiaredd. Caiff y mesurau hyn eu hadolygu'n gyson. Byddaf yn mynd i'r afael â phob un o'r rheoliadau sy'n cael eu hystyried heddiw yn eu tro.

O ganlyniad i ddata sy'n dangos cynnydd cyflym mewn achosion COVID-19 yng Nghaerffili, i reoli lledaeniad y feirws ac i ddiogelu iechyd y cyhoedd ar draws ardal yr awdurdod lleol hwnnw, cyflwynwyd Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 8) (Caerffili) 2020 ar 8 Medi. Cyfeiriaf at bob un o'r rheoliadau dilynol yn ôl rhif eu gwelliant i'r prif reoliadau. Mae'r rheoliadau hyn yn gwahardd aelwydydd yn yr ardal rhag bod yn rhan o aelwyd estynedig neu rhag ffurfio swigod gydag aelwydydd eraill. Pan fo aelwyd o ardal arall wedi ffurfio aelwyd estynedig gydag aelwyd o fewn yr ardal, ni chaiff yr aelwyd yn yr ardal honno bellach ei thrin yn rhan o swigen estynedig yr aelwyd honno. Mae'n gwahardd trigolion yr ardal rhag gadael neu gadw draw o'r ardal heb esgus rhesymol. Mae'n ei gwneud hi'n ofynnol i drigolion yr ardal ddychwelyd i weithio o gartref oni bai nad yw'n rhesymol ymarferol iddyn nhw wneud hynny. Ac mae'n gwahardd pobl o'r tu allan i'r ardal rhag dod i mewn i'r ardal honno heb esgus rhesymol. Mae'n ei gwneud hi'n ofynnol i bobl sy'n bresennol yn yr ardal wisgo gorchudd wyneb pan fyddant mewn safle agored, yn amodol ar yr esemptiadau a'r eithriadau, ac mae'n ei gwneud hi'n ofynnol i'r cyfyngiadau a'r gofynion a gyflwynir gan reoliadau diwygio Rhif 8 gael eu hadolygu ar neu cyn 24 Medi, ac, os cânt eu hail-gyflwyno wedyn, o leiaf unwaith bob saith niwrnod wedi hynny. Yn olaf, mae cyfyngiadau ychwanegol wedi'u gosod ar bob safle sy'n gwerthu alcohol yn ardal yr awdurdod lleol, felly rhaid iddyn nhw roi'r gorau i werthu pob math o ddiodydd meddwol am 10 yr hwyr. Bwriadwyd i hyn fod yn 11 yr hwyr yn wreiddiol. Fodd bynnag, yn seiliedig ar gyngor i helpu atal lledaeniad y feirws, mae cyfyngiad ledled Cymru o roi'r gorau i werthu alcohol am 10 yr hwyr wedi'i weithredu ers hynny ar gyfer pob siop sydd â thrwydded i werthu alcohol.

Ar 17 Medi, cyflwynwyd rheoliadau diwygio Rhif 10 i osod yr un cyfyngiadau ag yr wyf wedi'u disgrifio yn Rhondda Cynon Taf ag a gyflwynwyd ym mwrdeistref Caerffili. Mae'r dystiolaeth o'r wythnosau diwethaf yn glir: lle yr ydym ni wedi gweld cynnydd mewn cyfraddau trosglwyddo, mae'r rhain wedi deillio'n bennaf o bobl yn peidio â chadw pellter cymdeithasol ac yn anwybyddu'r cyfyngiadau blaenorol. Bu cynnydd mawr yn nifer yr achosion o COVID-19 a gadarnhawyd yn Rhondda Cynon Taf. Ar 22 Medi, cyflwynodd rheoliadau diwygio Rhif 11 yr un cyfyngiadau yn ardaloedd awdurdodau lleol Blaenau Gwent, Merthyr Tudful a Chasnewydd am yr un rhesymau.

Yn olaf, mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol ac ati) (Cymru) 2020 yn rhoi pwerau i awdurdodau lleol ymyrryd wrth i achosion ddigwydd fel y gallant weithredu i gau tir neu safleoedd lleol unigol ac atal digwyddiadau lleol. Daeth y rhain i rym ar 14 Medi. Rhoddwyd pwerau sy'n cyfateb yn fras i'r rhain i awdurdodau lleol yn Lloegr a'r Alban drwy reoliadau a wnaed gan Lywodraethau'r DU a'r Alban. O dan y rheoliadau hyn, caiff awdurdod lleol gyhoeddi cyfarwyddyd safle, cyfarwyddyd digwyddiad neu gyfarwyddyd man cyhoeddus. Mae'r pwerau hyn yn fodd i awdurdodau lleol gymryd camau ataliol effeithiol lle bo amgylchiadau'n gofyn am hynny. Ein bwriad ar hyn o bryd yw y daw'r prif reoliadau i ben ar ddiwedd y dydd ar 8 Ionawr 2021. Mae hynny chwe mis o'r adeg y cawsant eu llunio a'u cyflwyno. Felly, bwriedir i'r rheoliadau ddod i ben ar yr un diwrnod.

Llywydd, fel y gwyddom ni i gyd, mae gan bob un ohonom ni ran i'w chwarae i gadw Cymru'n ddiogel. Mae angen y rheoliadau hyn ar gyfer ein hymdrechion parhaus i fynd i'r afael â'r pandemig hwn a gofynnaf i'r Senedd eu cefnogi.

15:00

Gweinidog, diolch am eich datganiad y prynhawn yma. Mae hi yn ofid i mi na wnaed hynny ar lawr y Senedd yma, ond rwy'n llwyr barchu ei bod yn rhan o drafodion y sefydliad hwn p'un a ydych chi'n rhithwir neu yn y Senedd. Ond rwyf yn pryderu'n fawr am rai o'r honiadau—mewn gwirionedd, haeriad gennych chi heddiw i mi ar Twitter—eich bod, drwy eich gweithredoedd, yn cadw Cymru'n ddiogel, ac nad wyf i drwy fynychu'r trafodion seneddol hyn. Hoffwn ofyn am eglurhad gennych chi a yw'r rheoliadau yr ydych chi wedi'u cyflwyno ger ein bron heddiw neu'r rheoliadau a ddaw i rym yr wythnos nesaf sy'n cwmpasu Caerdydd a Bro Morgannwg, os byddwch yn mynychu cyfarfod seneddol a fyddech yn torri'r rheoliadau hynny, oherwydd rydych chi wedi awgrymu hynny mewn trydariad ataf. Felly, a allwch chi fy nghyfeirio at ble yn y rheoliadau hyn y byddaf yn torri'r rheoliadau hynny drwy fynychu'r Senedd hon, neu yn wir, Aelodau Seneddol, megis Kevin Brennan, yn mynychu San Steffan heddiw, ac eto mae ei gyd-Aelod seneddol o'r sefydliad hwn ym Mharc Cathays? Rwy'n credu bod hwnnw'n gwestiwn pwysig y mae'n rhaid i chi ei ateb os ydych yn cyflwyno'r honiad hwnnw bod seneddwyr yn torri'r cyfyngiadau ac nad ydynt yn cadw Cymru'n ddiogel. Rydym ni i gyd wedi ymrwymo i sicrhau bod Cymru'n ddiogel ac rydym ni eisiau gweld diwedd y feirws yma. Dyna pam heddiw y bydd y Ceidwadwyr Cymreig am y tro cyntaf wrth gyflwyno rheoliadau yn ymatal ar y rheoliadau hyn oherwydd y ffordd yr ydych chi'n ymdrin â'r materion hyn mewn modd mor ddi-hid.

Hoffwn hefyd ofyn am eglurhad gennych chi: a yw'r rheoliadau hyn yn dechrau'r broses o gyfyngiadau symud ar sail fwy rhanbarthol yn hytrach nag ar sail leol? A yw'n wir mai'r amser nawr i dafarndai a lleoliadau cymdeithasol gau o dan y cyfyngiadau yw 10:20 yn hytrach na 10 o'r gloch? Oherwydd sylwaf mewn sylwadau yn y wasg a wnaethoch chi yr wythnos diwethaf y byddech, mewn gwirionedd, yn disgwyl i bob digwyddiad cymdeithasol gau erbyn 10:20 yn hytrach na 10 o'r gloch. A yw hynny wedi'i gynnwys yn y rheoliadau ynteu ai eich dyhead chi yw hynny?

Unwaith eto, hoffwn ofyn am eglurhad ynghylch pa arweinwyr gwleidyddol, cynrychiolwyr etholedig gwleidyddol sy'n cael cyfarwyddyd am y rheoliadau hyn cyn iddynt gael eu cyhoeddi, oherwydd unwaith eto, ar y cyfryngau cymdeithasol dros y penwythnos, sylwais fod rhai Aelodau etholedig o sefydliadau eraill yn nodi eu bod wedi siarad â'r Gweinidog iechyd cyn cyflwyno'r rheoliadau hyn a chyn eu bod ar gael i'r cyhoedd. Mae hynny'n annerbyniol. Siawns nad oes cydraddoldeb ymysg Aelodau etholedig, ac y dylid briffio Aelodau, os cânt eu briffio, ar sail gyfartal. Byddwn yn ddiolchgar cael deall sut yr ydych yn mynd ati i friffio Aelodau sefydliad etholedig nad yw wedi'i gynnwys yn unfrydol yn y sesiynau briffio hynny os ydynt yn cynrychioli'r ardal benodol honno ac yn chwarae rhan bwysig wrth draddodi'r wybodaeth honno i'r cymunedau y maen nhw'n eu cynrychioli.

Rydym ni'n troi eto fan hyn at ran o'n busnes seneddol ni sydd wirioneddol yn arwyddocaol—efallai'r rhan fwyaf arwyddocaol o'n trafodaethau ni ar yr adeg yma. Mae'n ymwneud â'r Senedd yma'n trafod ac, fel rydw i'n disgwyl, yn rhoi sêl bendith i reoliadau sy'n gosod cyfyngiadau difrifol iawn eto ar ryddid unigolion ac ar gymunedau. O ran y rheoliadau yn eitemau agenda 3, 4 a 5 sy'n ymestyn cyfyngiadau COVID i ragor o siroedd, rydym ni yn mynd i fod yn cefnogi, ond—a rydw i'n gwneud y pwynt yma eto—mi ydym ni'n credu y dylid bod yn cyflwyno'r cyfyngiadau ar ardaloedd mor fach â phosib ac y dylid gweithredu yn hyper-lleol, os leiciwch chi, lle bod hynny'n bosib.

Rydw i hefyd yn annog ystyried yn ofalus iawn wahanol elfennau'r cyfyngiadau. Rydym ni'n edrych arnyn nhw yn eu cyfanrwydd, wrth gwrs, ac rydym ni'n cefnogi'r egwyddor gyffredinol, ond mae eisiau edrych yn fanwl iawn ar wahanol elfennau'r cyfyngiadau. Mae'n bosib bydd eisiau tynhau ymhellach, mewn rhai ffyrdd, beth sy'n digwydd ar ôl i'r tafarndai a'r bwytai gau am 10 o'r gloch a'r angen i wasgaru pobl heb iddyn nhw fynd i gartrefi ei gilydd ac yn y blaen, ond ar yr ochr arall, mae eisiau rhoi ystyriaeth ofalus iawn i'r impact ar les ac iechyd meddwl pobl ac ystyried camau, er enghraifft, i ganiatáu mwy o gyswllt i bobl sy'n debyg o ddioddef o unigrwydd. Mae'n bwysig cofio bod y cyfyngiadau yma'n cael impact ddofn iawn ar bobl o fewn ein cymunedau ni.

Hefyd, mae'n bwysig cofio ein bod ni'n delio â dull o ddeddfu sy'n llai na boddhaol. Dwi'n pwysleisio'r angen i ddod â'r rheoliadau yma o'n blaenau ni cyn gynted â phosib, ac er bod yna lai o oedi rhwng gweithredu'r rheoliadau a'u trafod nhw nag yr oedd yr wythnos diwethaf, rydyn ni'n dal yn fan hyn yn trafod rheoliadau ddaeth i rym mor bell yn ôl â 7 Medi, ac mae'n rhaid trio tynhau'r amserlen.

Ac efo eitem agenda 6, er mai technegol ydy o mewn gwirionedd, yn cywiro camgymeriad blaenorol, dwi yn nodi bod y pwyllgor deddfwriaeth wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am eglurhad o pam bod angen i'r rheoliadau yma fod wedi dod i rym cyn iddyn nhw gael eu gosod gerbron y Senedd, ac mae yna ofynion clir iawn ar y broses ddylai gael ei dilyn yn Neddf Offerynnau Statudol 1946. Dwi'n nodi yn fan hyn fy niolch i'r pwyllgor hwnnw am eu gwaith nhw.

A'n olaf, tra mai beth sydd gennym ni yn fan hyn yng ngwelliannau 10, 8 ac 11 ydy cyfyngiadau newydd sy'n gofyn i drigolion yr ardaloedd dan sylw chwarae eu rhan nhw mewn ceisio gwaredu'r feirws, gadewch inni gofio bod yn rhaid i'r Llywodraeth chwarae eu rhan nhw hefyd, yn arbennig felly pan mae'n dod at brofion. Sortiwch y profion; sicrhewch eu bod nhw ar gael pan fydd pobl eu heisiau nhw; bod canlyniadau yn cael eu dychwelyd yn gyflym er mwyn cael dechrau'r gwaith olrhain, a gobeithio wedyn na fyddwn ni ddim angen cymaint o reoliadau fel y rhai sydd o'n blaenau ni heddiw.

15:05

Dwywaith dwi wedi anghofio galw Cadeirydd y pwyllgor deddfwriaeth, felly dyma ni ar y trydydd tro, dyma fi'n cofio i alw Cadeirydd y pwyllgor deddfwriaeth, Mick Antoniw.

Diolch, Llywydd. Roeddwn i wedi sylwi, ac yn disgwyl yn eiddgar. Adroddiad gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yw hwn mewn perthynas â'r pedair cyfres o reoliadau, felly mae'n adroddiad cyfansawdd. Bydd yr Aelodau'n gwybod mai Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020 yw'r prif reoliadau ynglŷn â'r Coronafeirws yng Nghymru, a chymeradwyodd y Senedd y rheoliadau hynny ar 5 Awst 2020. Adroddwyd ar reoliadau diwygio Rhif 8 ar 21 Medi, a ddoe adroddwyd ar reoliadau diwygio Rhif 10 a Rhif 11, ynghyd â'r rheoliadau sy'n ymwneud â swyddogaethau awdurdodau lleol. Rydym yn cydnabod, wrth drafod y rheoliadau hyn heddiw, fod Llywodraeth Cymru hefyd wedi llunio rheoliadau diwygio pellach, sydd, fel y dywedais yr wythnos diwethaf, yn dangos pa mor chwim y mae'r Llywodraeth yn gweithredu ar y materion hyn.

Mae rheoliadau Rhif 8, Rhif 10 a Rhif 11 i gyd yn ymwneud â chyfyngiadau a gyflwynwyd ar gymunedau penodol. Daeth rheoliadau diwygio Rhif 8 i rym ar 8 Medi ac, fel y gŵyr yr Aelodau, maent yn cyflwyno cyfyngiadau mewn cysylltiad â bwrdeistref sirol Caerffili fel ardal diogelu iechyd leol. Yn fyr, mae'r cyfyngiadau'n cwmpasu aelwydydd estynedig, gwaharddiadau ar deithio o'r ardal ac i mewn iddi, ac yn ei gwneud hi'n ofynnol i breswylwyr weithio gartref oni bai nad yw'n rhesymol ymarferol iddyn nhw wneud hynny. Yna, mae rheoliadau diwygio Rhif 10 yn cyflwyno cyfyngiadau tebyg ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf o 17 Medi ymlaen, gyda chyfyngiad ychwanegol yn ei gwneud hi'n ofynnol i bob safle sydd wedi'i drwyddedu i werthu alcohol beidio ag agor cyn 6 y bore ac iddo gau am 11 yr hwyr neu cyn hynny bob dydd. Ac yna o 22 Medi, cyflwynodd rheoliadau diwygio Rhif 11 yr un cyfyngiadau i awdurdodau lleol Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Chasnewydd, ac roedd rheoliadau Rhif 11 hefyd yn cyfyngu ar oriau agor safleoedd trwyddedig i fwrdeistref sirol Caerffili.

Nawr, yn ein hadroddiadau, fe wnaethom ni dynnu sylw at y diffyg ymgynghori cyhoeddus neu asesiadau effaith rheoleiddiol a gynhaliwyd mewn cysylltiad â'r rheoliadau diwygio, ac ystyried hefyd asesiad Llywodraeth Cymru o'r graddau y mae unrhyw ymyrraeth â hawliau dynol yn gyfiawn ac yn gymesur wrth geisio'r nod cyfiawn o ddiogelu iechyd y cyhoedd. Tynnaf sylw'r Aelodau felly at ein hadroddiadau ar y rheoliadau diwygio.

Yn ein cyfarfod ddoe, buom hefyd yn trafod ystyr yr hyn sy'n gyfystyr ag 'esgus rhesymol' at ddibenion y rheoliadau. Mae hwn yn fater y mae llawer o etholwyr sydd eisiau gwneud y peth iawn wedi'i godi gyda phob un ohonom ni. Credwn y dylai Llywodraeth Cymru gyhoeddi canllawiau manylach ar y mater hwn a byddwn yn ysgrifennu at y Gweinidog yn benodol ar y mater yma.

Dychwelaf yn awr at y Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol ac ati) (Cymru) 2020. Rheoliadau yw'r rhain a ddaeth i rym ar 18 Medi. Maen nhw'n rhoi pwerau i awdurdodau lleol ledled Cymru drwy roi cyfarwyddiadau i bobl berthnasol gau safleoedd unigol neu osod cyfyngiadau neu ofynion penodol arnynt. Maen nhw'n gwahardd rhai digwyddiadau, neu fathau o ddigwyddiadau, rhag digwydd, neu yn gosod cyfyngiadau neu ofynion arnynt, a gallant hefyd gyfyngu ar fynediad i ddigwyddiadau awyr agored cyhoeddus neu eu cau.

Mae ein hadroddiad yn gwneud pedwar pwynt rhinwedd, a hoffwn dynnu sylw at dri ohonynt yn fyr. Mae rheoliad 9 yn ei gwneud hi'n ofynnol i awdurdod lleol roi sylw i unrhyw ganllawiau a gyflwynir gan Weinidogion Cymru ynghylch y rheoliadau. Mae ein trydydd pwynt adrodd yn nodi nad yw'n ymddangos bod y canllawiau mewn cysylltiad â'r rheoliadau hyn yn cael eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru, neu o leiaf nad yw'n hawdd dod o hyd iddynt. Credwn y byddai sicrhau bod y canllawiau ar gael neu ei bod hi'n haws cael gafael arnynt yn gymorth defnyddiol i awdurdodau lleol ac aelodau o'r cyhoedd sy'n dymuno deall effaith y rheoliadau hyn. Mae'r rheoliadau hefyd yn ei gwneud hi'n ofynnol i awdurdod lleol gymryd camau rhesymol i roi rhybudd ymlaen llaw o gyfarwyddyd safle, cyfarwyddyd digwyddiad neu gyfarwyddyd man cyhoeddus. Mae ein pedwerydd pwynt adrodd yn nodi'r gwahaniaeth mewn triniaeth rhwng y mathau o hysbysiad o ran y materion a nodir yn rheoliadau 11 a 12, fodd bynnag, nid yw'n glir pam mae angen y gwahaniaeth hwn.

Ac yna, yn olaf, fel y gwyddom ni, mae Llywodraeth Cymru bellach wedi ysgrifennu at y Llywydd, fel sy'n ofynnol gan Ddeddf Offerynnau Statudol 1946, yn esbonio pam yr oedd angen i'r rheoliadau ddod i rym cyn eu cyflwyno gerbron y Senedd. Byddwn yn croesawu sylwadau'r Gweinidog iechyd ar y materion hyn yr wyf wedi'u crybwyll ynghylch y rheoliadau ynglŷn â swyddogaethau awdurdodau lleol. Diolch, Llywydd.

15:10

Diolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad. Rwy'n rhannu siom Andrew R.T. ei fod wedi penderfynu mentro i'w swyddfa ym Mharc Cathays; mae wedi mynd ychydig ymhellach o'i gartref i gyrraedd yno nag y byddai i ddod i'r Senedd. Er hynny, rwy'n gwerthfawrogi ein bod ychydig yn llai ar ei hol hi wrth wneud y rheoliadau hyn na rhai o'r lleill yr ydym ni wedi'u gwneud o'r blaen. Ein bwriad ni yw pleidleisio yn erbyn y rheoliadau hyn am yr un rhesymau a roddais yr wythnos diwethaf. Mae'n debyg y bydd y Gweinidog a'r Aelodau'n falch o glywed nad wyf yn bwriadu ailadrodd y rhesymau hynny. Fodd bynnag, a gaf i groesawu datganiad Andrew R.T. Davies y bydd y Ceidwadwyr o leiaf yn ymatal ar y gyfres hon? Mae'n dweud mai dyma'r tro cyntaf iddyn nhw ymatal—rwy'n credu eu bod wedi ymatal ar o leiaf un gyfres o'r blaen. Cafwyd llawer o gwynion ganddyn nhw am y rheol greulon 5 milltir, er fy mod yn credu eu bod wedi pleidleisio dros y gyfraith aros yn lleol a oedd yn gyfrwng i hyrwyddo hynny, ond rwy'n credu iddyn nhw ymatal ar gyfres arall ar y pryd, felly mae'n dda gweld eu bod bellach yn edrych ar y rhain gyda llygad ychydig yn fwy beirniadol nag o'r blaen.

A gaf i ofyn i'r Gweinidog—? Fel y gwyddoch chi, Gweinidog, credaf fod y rheoliadau hyn yn anghymesur ac yn wrthgynhyrchiol, a byddwn yn cwestiynu i ba raddau y maen nhw'n seiliedig ar dystiolaeth. Tybed, serch hynny, a gaf i ganolbwyntio'n benodol ar y tri chyngor a gynhwyswyd yn fwyaf diweddar? Fe wnaethoch chi nodi rhai egwyddorion gynnau fach ar gyfer y rheoliadau dan sylw, ac rydym yn sôn, o leiaf yn achos Caerffili, am gynnydd cyflym mewn rheoliadau ynglŷn â'r coronafeirws i gyfiawnhau'r rheoliadau. Ond gyda'r tri chyngor diweddaraf a gynhwyswyd, mae'n ymddangos bron fel eich bod yn llenwi'r bylchau yn y rhanbarth. Os edrychwch chi ar y cynghorau hynny'n unigol, tybed a ellir cyfiawnhau hynny ar sail unigol. Mae'n fy nharo i fod hyd yn oed llai o alw amdanyn nhw ac am y rheoliadau eraill. Ystyriwch, er enghraifft, Torfaen, lle mae un etholwr wedi dweud wrthyf, o leiaf ar sail data cyhoeddus sydd ar gael iddynt o ddoe ymlaen, ein bod yn gweld dim mwy na thua saith y dydd yn cael eu heintio yn Nhorfaen, ac yn gyffredinol ymddengys y buoch yn edrych ar drothwy o 20 o bob 100,000 o leiaf cyn i chi ystyried cyfyngiadau, a dyna oedd y sail i'ch asesiad yn ymwneud â thramor hefyd. Pam yr ydych chi wedi gosod rheoliadau a gofynion cyfyngiadau symud mor llym yn Nhorfaen pan ymddengys hi fod nifer yr achosion o'r coronafeirws yn sylweddol is na hynny?

Mae'r Gweinidog, unwaith eto, yn cymryd gordd i dorri cneuen, yn fy marn i. Onid yw hi'n anochel pan fyddwch yn llacio'r cyfyngiadau bod y risg o gynyddu haint yn sicr o ddigwydd? Ac, yn amlwg, wrth i ni ddynesu at y gaeaf, mae mwy o risg beth bynnag y bydd pobl yn dal unrhyw haint anadlol. Mae'n bennaf wir, lle ceir marwolaethau o COVID, eu bod yn digwydd ymhlith pobl hŷn. Pobl dros 85 oed yw 40 y cant o'r marwolaethau; 30 y cant yn y grŵp oedran o 75 i 84; a 15 y cant arall yn fy ngrŵp oedran i, 65 i 74; tra bod y rhan fwyaf o'r heintiau'n digwydd mewn pobl iau, ac nid ydyn nhw mewn perygl sylweddol o gwbl. Yn wir, cyfrifir bod rhywun dros 85 oed 1,000 gwaith yn fwy tebygol o farw o COVID na rhywun sydd o dan 65 oed.

Felly, nid yw'r rheoliadau hyn yn gymesur, yn fy marn i, fel y dywed y Gweinidog. Yr hyn y mae wedi'i wneud—tybed a fyddai'n cytuno â hyn—mewn gwirionedd yw troi'r de yn arbennig yn fath o gyfres o 'gulags' sy'n cyfyngu pobl o fewn ffiniau'r awdurdod lleol y maen nhw'n byw ynddo. Nid ydyn nhw yn debygol o fod yn effeithiol oni bai eu bod yn parhau am gyfnod amhenodol, a byddwn yn parhau i weld cyfyngiadau symud dirifedi os nad ydym yn derbyn yr anochel: hyd nes y bydd brechlyn yn effeithiol ac wedi'i ddosbarthu'n eang, rhaid i'r risg o haint barhau.

15:15

Byddaf yn pleidleisio yn erbyn y cyfyngiadau symud lleol heddiw. Dydw i ddim yn credu ei bod hi'n iawn atal Cymry rhag symud o gwmpas ein gwlad ein hunain pan fydd y ffin, y porthladdoedd a'r meysydd awyr ar agor, ac yn agored heb brofion hefyd. Felly, pam y dylid caniatáu i bobl o dros y ffin sydd â chyfraddau heintio llawer uwch deithio'n rhydd, pan na all pobl Cymru yma, mewn rhai amgylchiadau, deithio i'r dref nesaf hyd yn oed? Dydw i ddim yn mynd i bleidleisio i gyflwyno cyfyngiadau symud yn fy ninas a'm gwlad fy hun ond ei gadael yn agored i bawb arall ddod yma fel y mynnont. 

Rydym ni eisoes wedi sôn am frechlynnau gorfodol, cyrffyw a hyd yn oed defnyddio'r fyddin, ac nid wyf yn siŵr beth mae gwyddoniaeth yn ei ddweud ynghylch yr angen i ni gau sefydliadau adloniant am 10 yr hwyr. Ble mae'r wyddoniaeth sy'n sail i hynny? Pam na chaniateir i DJs chwarae? Dylem fod yn trin pobl fel oedolion, oherwydd mae rhai busnesau wedi ymdrechu'n wirioneddol galed ac wedi gwario llawer o arian ar ragofalon. O'm rhan fy hun, es i Mocka Lounge yng Nghaerdydd a chafodd y rhagofalon a gymerwyd argraff fawr arnaf—roedden nhw wedi'u trefnu'n dda iawn. Gwn fod lleoedd eraill fel hynny hefyd.

Yn y rheoliadau hyn mae cymaint o wrthddywediadau. Mae gennym ni wahanu yn yr ysgol, ac eto ar y bws mae pawb yn cymysgu. Ychydig iawn y mae pobl yn ei wybod am fygydau, o ran pa mor aml y dylech newid eich mygydau. Rwy'n gweld pobl yn cerdded o gwmpas mewn sgriniau wyneb, yn meddwl eu bod yn amddiffyn eu hunain rhag anadlu pethau i mewn ac amddiffyn eraill rhag yr hyn y maen nhw yn ei anadlu allan, ond nid yw sgriniau wyneb yn gwneud hynny. Ble mae'r biniau i roi mygydau ynddyn nhw a chael gwared arnyn nhw'n ddiogel? Ble maen nhw? Rydych chi'n gweld mygydau ar lawr ym mhobman.

Mae'r dull gweithredu yn anhrefnus ac yn adweithiol. Dywedais yn y Senedd hon ym mis Mawrth na allwch chi ymladd pandemig heb brofion. Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi dweud wrthym ni o'r cychwyn cyntaf, 'Profwch, profwch, profwch'; fel arall, mae fel ceisio diffodd tân gyda mwgwd dros eich llygaid. Yr hyn y dylem ni fod yn ei wneud yw meddwl am brosesau a meddwl am sut y gallwn ni amddiffyn yr henoed a'r rhai sy'n agored i niwed rhag dal y feirws yma. Sut mae gwarchod pobl?

Yn ei hanfod, yr hyn y mae'n rhaid inni ei wneud mewn gwirionedd yw profi. Faint ohonom ni sydd wedi bod yn sâl yn ystod y misoedd diwethaf a heb wybod a fu'r coronafeirws arnom ni oherwydd nad yw'r prawf gwrthgyrff wedi bod ar gael? Faint ohonom ni sydd â rhyw fath o imiwnedd i'r feirws ond na wyddom ni hynny? Nid ydym ni yn mynd i symud ymlaen ymhellach nes ein bod yn canfod ac yn ynysu'r feirws yma. Yn y cyfamser, mae'r cyfyngiadau symud hyn—bydd un arall ac un arall ac un arall. Bydd yn ddi-ben-draw, felly ni chefnogaf y cynigion heddiw, a dyma'r tro cyntaf.

15:20

Diolch, Llywydd. Diolch i'r Aelodau am eu cyfraniad i'r ddadl. Byddaf yn ceisio ymdrin â phob un yn ei dro yn fyr. Gan ddechrau gydag Andrew R.T. Davies, mae'n amlwg fy mod yn gresynu at ei ymagwedd yntau a'i grŵp. O'r hyn y maen nhw yn ei ddweud, maen nhw'n ymatal nid am eu bod yn anghytuno â'r mesurau neu nad yw'r mesurau sy'n cael eu gweithredu rywsut yn briodol, ond mae'n gwestiwn ynglŷn â phroses yn hytrach na chanlyniad o ran sut yr ydym yn cadw pobl yng Nghymru'n ddiogel.

Gallaf ddweud yn llwyr, yn gwbl ddidwyll, wrth bawb a phopeth yng Nghymru nad oes dim byd di-hid yn ein dull gweithredu. Mae'n cymryd llawer iawn o amser, egni ac ymdrech gan Weinidogion, ein swyddogion a'n cyd-Aelodau mewn awdurdodau lleol, sydd hefyd â dewisiadau eithriadol o anodd eu gwneud ar draws y sbectrwm gwleidyddol. Rydym ni wedi gweithio'n galed iawn gyda nhw, gyda'r heddlu ac, yn wir, gyda'n gwasanaeth iechyd wrth gynnal a cheisio deall patrwm yr haint sy'n amlygu ei hun. Yn hytrach na chwilio am wrthdaro, credaf y dylai cynrychiolwyr etholedig fod yn chwilio am ateb i sut yr ydym yn ceisio atal y feirws ac amddiffyn Cymru rhag niwed. 

Mae'n werth cadarnhau hefyd, wrth gwrs, ein bod yn cyflwyno'r rheoliadau hyn mewn modd sy'n ystyried ein prosesau yma yng Nghymru. Mae'r brif weithdrefn gadarnhaol yn ei gwneud hi'n ofynnol i'r rheoliadau hyn gael cefnogaeth y Senedd neu maen nhw'n methu. Wrth gwrs, yn Lloegr, cyflwynir y rheoliadau cyfatebol gan orchmynion gweinidogol heb i Senedd y DU orfod pleidleisio arnynt. Rwy'n credu bod ein proses yn well o lawer yn ddemocrataidd ac yn rhoi cyfle i graffu mewn modd bwriadol a rheolaidd, fel y mae i fod i'w wneud.

Cadarnhaodd y Prif Weinidog y materion yn ymwneud â theithio a'r cyfyngiadau teithio. Mae'n ofynnol i mi fod yma gan nad yw'n rhesymol ymarferol i mi wneud fy holl waith heb amrywiaeth o swyddogion eraill yma hefyd. Ar ddyddiau eraill, byddaf yn gwneud gwaith o gartref, pan fydd yn weddol ymarferol i mi wneud hynny. O ran briffio Aelodau, os na chysylltwyd â'r Aelod drwy amryfusedd, yna mae hynny'n sicr yn rhywbeth i ni edrych arno. Nid yw hynny'n ymgais fwriadol. Unwaith eto, rydym yn ymdrechu'n galed i siarad â chynrychiolwyr etholedig ar draws y sbectrwm gwleidyddol pan fo'n rhaid i ni wneud y dewisiadau hyn hefyd. Ac o ran y sylw ynghylch yr amser cau ar gyfer y fasnach letygarwch, mae hynny yn y rheoliadau; 10 o'r gloch ar gyfer rhoi terfyn ar werthu alcohol, a 10.20 gyda'r nos pan fo'n rhaid i'r safle hwnnw gau.

Derbyniaf sylwadau Rhun ap Iorwerth am chwilio am ardal leol o fewn ardal cyngor lle bo hynny'n bosibl. Dyna'n union yr ydym ni wedi'i wneud yn Sir Gaerfyrddin, oherwydd mae Llanelli yn ardal benodol. Pe na bai Llanelli yn rhan o Sir Gaerfyrddin ni fyddem yn ystyried gweithredu yn Sir Gaerfyrddin o ystyried gweddill y cyfraddau sy'n bodoli. Ystyriwn hyn bob tro y byddwn yn bwrw ymlaen â'r posibilrwydd o gyflwyno'r rheoliadau hyn—a yw'n bosib gweithredu mewn modd sy'n effeithio ar ardal sy'n llai na'r awdurdod lleol cyfan. Ar bob achlysur hyd at y cyfnod hwnnw, gwelsom nad oedd hi'n bosib mewn gwirionedd yn unol â'r dystiolaeth bod y feirws wedi lledaenu ar draws ardal yr awdurdod lleol hwnnw.

Cyfyngiadau lleol i'r sir yw'r rhain, nid ydynt yn rhai rhanbarthol. Felly, nid yw'n golygu y gallwch chi deithio i unrhyw le o'ch dewis ar draws ardal ehangach de Cymru lle mae'r cyfyngiadau ar waith. Mae'n berthnasol i'r awdurdod lleol unigol yr ydych yn byw ynddo—unwaith eto, o ran y sylw am esgus rhesymol y deuaf ato'n ddiweddarach ar gyfer teithio. Rydym ni yn trafod yn rheolaidd gydag awdurdodau lleol am yr hyn yr ydym ni yn ei wneud a pham, a bydd hynny'n parhau. Rydym yn mynd ati mewn sawl ffordd yn gwbl fwriadol. Nid penderfynu gorfodi'r mesurau hyn yr ydym ni yn ei wneud ac yna rhoi gwybod i awdurdodau lleol am ein penderfyniadau wedyn. Bydd yr Aelod yn gwybod, rwy'n siŵr, o'i gysylltiadau ei hun, ein bod ni wedi mynd ati mewn modd bwriadol a gofalus iawn.

O ran y pwynt am brofion a wnaeth yr Aelod, rydym ni nawr yn cynnal 10,000 i 11,000 o brofion y dydd ledled Cymru. Erbyn hyn, mae 3,000 i 4,000 o'r profion hynny'n brofion labordy Iechyd Cyhoeddus Cymru a disgwyliwn i fwy o'r rheini gael eu cyflwyno dros y dyddiau nesaf wrth i ni gynyddu nid yn unig nifer y mannau profi a'r mynediad iddynt, ond faint o brofion sydd ar gael hefyd. Bydd yr Aelod yn gweld, wrth i ni gyflwyno nid yn unig mwy o'r profion hynny ond y lonydd cyson mewn canolfannau profi drwy ffenest y car yr wyf wedi'u cyhoeddi o'r blaen, y bydd gennym ni hefyd gyfres o ganolfannau galw heibio, yna rydym ni hefyd yn ceisio sicrhau bod profion Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gael yn y mannau hynny hefyd, er mwyn sicrhau y gallwn ni nid yn unig llenwi'r bylchau sy'n cael eu creu gan heriau rhaglen labordai Goleudy ar hyn o bryd, ond y bydd gennym ni gapasiti ychwanegol beth bynnag o fewn y maes. Rydym ni hefyd yn defnyddio ein hadnoddau profi symudol wrth i gyfraddau heintio gynyddu mewn gwahanol rannau o Gymru.

O ran sylwadau Mick Antoniw, ynghylch y sylw am esgus rhesymol dros deithio, rwy'n credu ein bod wedi gwneud popeth o fewn ein gallu o ran ceisio nodi'r canllawiau sydd ar gael o ran yr hyn sydd yn esgus ac nad yw'n esgus rhesymol dros deithio. Yr her yw, os byddwn yn darparu canllawiau hyd yn oed yn fwy helaeth a manwl, y bydd gennym ni drwch o reolau yn y pen draw, ac mae'n her i ni. Byddwn yn ystyried y pwyntiau a wnaed yn adroddiadau'r pwyllgor deddfwriaeth a chyfiawnder, ond mae angen inni feddwl ynglŷn â phryd y byddwn ni mewn sefyllfa pan fo hi'n dal yn ymarferol i bobl ddeall—ac mae rhywfaint o hyn yn dibynnu ar farn aelodau unigol o'r cyhoedd am yr hyn sy'n esgus rhesymol mewn gwirionedd, i feddwl ynglŷn â sut maen nhw yn cydymffurfio â'r rheoliadau yn hytrach na chwilio am ffordd o'u hosgoi. Ac o ran eich sylw am reoliadau'r awdurdodau lleol a'r canllawiau, byddwn yn edrych ar y canllawiau i weld a yw hynny wedi ei gynnwys; derbyniaf eich sylw a byddaf yn gwirio i weld beth sydd ar gael i'r cyhoedd ac ymhle. Derbyniaf hefyd y sylw am y camgymeriad clerigol wrth gyflwyno'r rheoliadau—roedd hynny'n rhywbeth a ddigwyddiodd unwaith yn unig, ac rydym ni wedi ysgrifennu at y Llywydd, rwy'n credu, i gadarnhau bod hynny'n wir. Byddwn yn sicrhau bod y pwyllgor yn ymwybodol o hynny yn yr ymateb ffurfiol i'ch adroddiad.

Gan droi at Mark Reckless, mae'n gyson—nid wyf yn cytuno ag ef ac nid yw'n cytuno â mi, ond mae'n gyson yn y safbwynt y mae wedi ei arddel drwy gydol y rheoliadau hyn. O ran yr ymchwydd cynyddol, gan ddefnyddio enghraifft Torfaen y canolbwyntiodd yn benodol arni, saith diwrnod yn ôl, y gyfradd fesul 100,000 yn Nhorfaen oedd 22.3, heddiw mae'n 47.9; gallwch weld cynnydd sylweddol yn lefelau'r feirws. Ac oherwydd ein bod yn deall bod y prif gyfraddau'n debygol o fod yn llai na'r sefyllfa wirioneddol—ac mae hynny'n rhannol oherwydd yr oedi mewn profion yn labordai Goleudy—gallwn faentumnio o hynny nifer y bobl nad ydynt efallai'n dod o'u gwirfodd i gael eu profi.

Y pwynt arall rwy'n credu ei bod hi'n bwysig cofio ei ystyried yw'r cyfraddau cadarnhaol—nifer y bobl ym mhob 100 sy'n profi'n gadarnhaol—ac eto, mae'r gyfradd yn Nhorfaen wedi cynyddu dros y saith a 14 diwrnod diwethaf. Credaf ei fod mewn gwirionedd yn cyfiawnhau—ac mae cefnogaeth i hyn ymysg yr holl randdeiliaid lleol—y mesurau a weithredwyd. Rhaid cyfaddef y byddwn yn trafod ac fe ofynnir i'r Senedd bleidleisio ar y rheoliadau hynny ar gyfer Bro Morgannwg, Torfaen a Chastell-nedd Port Talbot yn y dyfodol.

Credaf fod Neil Hamilton, unwaith eto, yn gyson â'i gyfeiriad bwriadol sarhaus wrth ddweud bod de Cymru wedi'i throi'n gulag. Credaf y bydd pobl sydd â theuluoedd sydd wedi dioddef mewn gwir gulags yn gweld hynny'n annymunol iawn ac yn gyfeiriad cwbl amhriodol i'w wneud yn y dewisiadau democrataidd yr ydym ni yn eu gwneud yma heddiw, ac yn y bygythiad yr ydym ni yn ei wynebu mewn pandemig iechyd cyhoeddus.

O ran sylwadau Neil McEvoy, mae'r her yn seiliedig yn fras ar gyswllt dan do mewn lleoliadau lletygarwch, ond yn enwedig yn y cartref. Credaf fod ymgais i ddweud na ddylem ni gyflwyno cyfyngiadau symud mewn ardaloedd ac na ddylem ni gyflwyno cyfyngiadau lleol yng Nghymru, oherwydd nad yw eraill yn gweithredu'n wahanol mewn rhannau eraill o'r DU. Credaf fod gwneud dim oherwydd nad yw eraill yn gweithredu yn ildio ein gallu i wneud dewisiadau yng Nghymru i ddiogelu a chadw Cymru'n ddiogel. Ac nid wyf yn credu bod hynny'n gam gweithredu priodol o gwbl. Credaf fod camddealltwriaeth hefyd o amcan a diben y profion. Credaf y gallai fod yn ddefnydd da o'i amser petai'n darllen y cyngor penodol a gawsom ni gan ein grŵp cynghori technegol. Credaf y gallai hynny helpu gyda rhai o'r sylwadau a wnaeth. Dywedodd hefyd wedyn ei bod hi'n bwysig ynysu'r feirws, gan fynnu ar yr un gwynt peidio â chael unrhyw gyfyngiadau teithio o gwbl. Rwy'n credu bod hynny'n gamddealltwriaeth gwirioneddol o'r hyn yr ydym ni yn ceisio'i gyflawni ac amcan a diben y rheoliadau hyn. Felly, cyfraniad braidd yn siomedig ac anaddas.

Mae'r rheoliadau sydd wedi'u trafod heddiw yn adlewyrchu ystyriaeth ofalus o sut yr ydym ni yn cydbwyso rhyddid unigol â rheoli bygythiad parhaus y coronafeirws ac mae'n pwyso'n drwm iawn ar feddyliau Gweinidogion sy'n gwneud y dewisiadau hyn ein bod yn gwneud dewisiadau gwirioneddol arwyddocaol ynghylch rhyddid unigol pobl, gan geisio gwneud y peth cywir, wrth gwrs, i gadw Cymru'n ddiogel. Mae ein dull gweithredu yn seiliedig, fel y bu erioed, ar gyngor y prif swyddog meddygol a'i adran, ein cynghorwyr gwyddonol, y grŵp cynghori technegol a'r astudiaeth a wnânt o dystiolaeth o Gymru, ledled y DU a thu hwnt.

Fel y dywedais, credaf ein bod yn cymryd camau penodol a chymesur mewn ymateb i'r ymchwydd cynyddol o achosion o'r coronafeirws mewn ardaloedd  awdurdodau lleol penodol. Ond, i orffen, mae gan bob un ohonom ni gyfrifoldeb parhaus i wneud dewisiadau ac i ddilyn y mesurau i'n cadw ni, ein teuluoedd, ein hanwyliaid a'n cymunedau'n ddiogel. Mae hynny'n golygu cadw pellter oddi wrth ein gilydd pan fyddwn ni allan, i olchi ein dwylo'n aml ac i weithio gartref lle bynnag y bo modd. Mae angen i ni wisgo gorchudd wyneb mewn mannau cyhoeddus dan do, mae angen i ni aros gartref os oes gennym ni symptomau ac wrth i ni aros am ganlyniad prawf, ac mae angen i ni ddilyn unrhyw gyfyngiadau lleol sydd ar waith. Gofynnaf i Aelodau'r Senedd gefnogi'r rheoliadau hyn a gwneud ein rhan, fel Aelodau etholedig, i helpu cadw Cymru'n ddiogel.

15:25

Diolch i'r Gweinidog. Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 3? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Diolch. Felly, mae'r bleidlais o dan eitem 3 wedi'i gohirio tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 4? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, dwi'n gohirio'r bleidlais o dan eitem 4 hefyd tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

15:30

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 5? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, dwi'n gohirio'r bleidlais.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 6? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, dwi'n gohirio'r bleidlais ar eitem 6 hefyd tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Mae hynny'n dod â ni nawr at gyfnod o doriad. Fe fyddwn ni'n torri am gyfnod byr i alluogi newidiadau i'r Siambr. Felly, torri'r darllediad.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 15:30.

Ailymgynullodd y Senedd am 15:36, gyda David Melding yn y Gadair.

15:35

Rwy'n galw am drefn. Mae'r Senedd yn eistedd unwaith eto.

7. Datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Y Gronfa Cadernid Economaidd—Cam 3

Eitem 7 yw datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Y Gronfa Cadernid Economaidd—Cam3. Ac rwy'n galw ar y Gweinidog, Ken Skates.

Diolch yn fawr iawn. Fel y dywedwyd o'r blaen, mae'r darlun economaidd yn llwm ac yn ansefydlog, a'i lwybr i'r dyfodol yn gwbl gysylltiedig â chwrs y pandemig ac, yn wir, â diwedd cyfnod pontio'r UE. Wrth i'r darlun o'r sefyllfa economaidd ddod yn fwy amlwg, rydym wedi gorfod canolbwyntio'n llymach dros y dyddiau diwethaf ar y cydbwyso cymhleth hwn a geir rhwng iechyd y cyhoedd ar y naill law a'r economi ar y llaw arall, a chyhoeddwyd cyfyngiadau pellach yn genedlaethol ac yn lleol i reoli cylchrediad y feirws wrth inni fynd i mewn i gyfnod yr hydref a'r gaeaf. O ystyried y cyd-destun ansefydlog hwn sy'n datblygu'n gyflym, ac wrth inni geisio dod o hyd i'r cydbwysedd rhwng amddiffyn ac adferiad, mae'n amlwg fod yna sail resymegol gref dros barhau i gefnogi busnesau, pobl a chymunedau Cymru er mwyn helpu i wella eu rhagolygon yn y tymor byr a chanolig.

Mae'r cynllun i amddiffyn swyddi gan Lywodraeth y DU yn sgil coronafeirws, a fydd yn dod i ben y mis nesaf, wedi bod yn hanfodol i ddiogelu swyddi yng Nghymru, ac mae hwn wedi darparu cymorth ar raddfa ddigynsail y gellir ond ddod gan Lywodraeth y DU. Rydym wedi annog Llywodraeth y DU yn gyson i roi trefniadau newydd ar waith wrth i'r cynllun i amddiffyn swyddi yn sgil coronafeirws ddod i ben. Yn arbennig, rydym wedi pwyso am fwy o gefnogaeth i'r sectorau hynny sy'n cael eu taro galetaf, am fwy o ymdrechion i greu swyddi yn ogystal â diogelu swyddi a mwy o fuddsoddi mewn hyfforddiant a sgiliau, ac fe fyddai pob un ohonyn nhw'n cynorthwyo gydag adferiad cyflymach i'r economi.

Fe ddylid cynnig cymorth i helpu gweithwyr sy'n cael eu diswyddo ar hyn o bryd, a'r rheini fydd yn colli eu swyddi yn yr wythnosau i ddod, wrth i'r cynlluniau cymhorthdal cyflogaeth presennol ddiflannu. Mae angen gwneud mwy i helpu pobl i ddod o hyd i swyddi newydd a chymell cyflogwyr i gyflogi gweithwyr. Felly rydym yn croesawu penderfyniad y Canghellor i ymestyn y gostyngiad mewn treth ar werth ar gyfer y sector lletygarwch a thwristiaeth tan fis Mawrth 2021, i ymestyn terfynau amser i ad-dalu ar gyfer busnesau sydd wedi gohirio TAW a rhoi telerau sy'n fwy hyblyg i fusnesau sydd wedi cael benthyciadau a gefnogir gan y Llywodraeth. Serch hynny, yn gyffredinol, mae'r mesurau a gyhoeddwyd, yn anffodus, yn annhebygol o fod yn ddigonol i atal cynnydd mawr mewn diweithdra yn y misoedd i ddod. Mae angen gwneud mwy, ac fe fyddwn ni'n parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i gymryd camau sy'n fwy eofn i sicrhau ein hadferiad economaidd ni a chefnogi ffyniant busnesau a phobl ledled y DU i'r dyfodol.

Hyd yma, mae ein cronfa cadernid economaidd eisoes wedi cefnogi 13,000 o fusnesau, gan helpu i sicrhau mwy na 100,000 o swyddi i'n dinasyddion. Nod ein pecyn cymorth busnes gwerth £1.7 biliwn, sy'n cyfateb i 2.6 y cant o'n gwerth ychwanegol crynswth, yw atgyfnerthu ac ategu cynlluniau eraill gan Lywodraeth y DU, ac mae hyn yn golygu mai cwmnïau yng Nghymru sy'n cael y cynnig mwyaf hael o gymorth yn unman yn y Deyrnas Unedig.

Nawr, yn dilyn yr egwyddorion i ddarparu cymorth gwell, fe gyhoeddais i ddoe fod Llywodraeth Cymru yn darparu £140 miliwn ychwanegol i fusnesau i'w helpu nhw i ymdrin â heriau economaidd COVID-19 ac ymadawiad arfaethedig y DU â'r UE. Fe fydd y cyllid o drydydd cam y Gronfa Cadernid Economaidd yn gweld cymorth ehangach yn cael ei roi i ddiogelu swyddi a helpu busnesau i ddatblygu, yn ogystal â chymorth ychwanegol i gwmnïau y mae cyfyngiadau lleol yn effeithio arnyn nhw. Fe fydd y cyfnod newydd hwn o'r Gronfa Cadernid Economaidd yn golygu y bydd £80 miliwn ar gael i helpu busnesau i ddatblygu a diogelu cyflogaeth eu gweithluoedd, drwy grantiau datblygu busnes, ond yn gyfnewid am hynny bydd gofyn i gwmnïau ymrwymo rhai o'u hadnoddau nhw eu hunain. Fe fydd tua £20 miliwn o'r gyllideb hon yn cael ei ddyrannu i gefnogi busnesau twristiaeth a lletygarwch y gwn eu bod yn wynebu cyfyngiadau a heriau penodol wrth inni wynebu misoedd y gaeaf. Yn ogystal â hynny, fe fydd y cynllun yn gwobrwyo'r busnesau sy'n creu cyfleoedd gwaith newydd i'r rheini dan 25 oed. Yn y cyfamser, fe fydd £60 miliwn yn ychwanegol yn cael ei ddyrannu i gynorthwyo ardaloedd lle mae cyfyngiadau lleol yn weithredol. 

Yn olaf, rwy'n rhoi ystyriaeth i sut y gellid defnyddio Banc Datblygu Cymru i atgyfnerthu a sicrhau cyfalaf tymor hir i fusnesau bach a chanolig yng Nghymru wrth inni ymlwybro drwy'r misoedd nesaf. Fe fydd y grantiau datblygu busnes yn agored i fusnesau o bob maint. Fe fydd microfusnesau, y rhai sy'n cyflogi rhwng un a naw o bobl, yn gallu gwneud cais am hyd at £10,000, ar yr amod eu bod nhw'n cyfateb hynny â buddsoddiad ganddyn nhw eu hunain o 10 y cant o leiaf. Fe fydd BBaChau, y busnesau hynny sy'n cyflogi rhwng 10 a 249 o bobl, yn gallu gwneud cais am hyd at £150,000. Nawr, fe fydd yn ofynnol i fusnesau bach gyfateb hynny â 10 y cant o leiaf o'u harian nhw eu hunain, a busnesau canolig eu maint gydag o leiaf 20 y cant o'u harian nhw eu hunain. Fe all busnesau mawr, y rhai sy'n cyflogi dros 250 o bobl, wneud cais am hyd at £250,000, ar yr amod eu bod yn cyfateb hyn â'u buddsoddiad eu hunain o 50 y cant o leiaf. Fe fydd elfen o ddisgresiwn yn y gronfa i alluogi lefelau uwch o gymorth i ficrofusnesau a busnesau bach a chanolig sydd yn y diwydiannau twristiaeth a lletygarwch.

Fe fydd y gwirydd cymhwysedd, i gwmnïau gael gwybod a fyddan nhw'n gallu cael cyllid o drydydd cam y Gronfa Cadernid Economaidd, ar gael o'r wythnos nesaf ymlaen. Fe allai cwmnïau a gafodd arian grant drwy gam 1 a/neu 2 o'r Gronfa, neu grantiau annomestig sy'n gysylltiedig â chyfraddau, fod yn gymwys i gael cymorth pellach hefyd drwy drydydd cam y Gronfa. Fe fydd £60 miliwn arall, fel y dywedais i, yn cael ei ddarparu i gefnogi cwmnïau sy'n cael eu gorfodi i gau neu sy'n cael eu heffeithio'n sylweddol gan y cyfyngiadau lleol ar hyn o bryd.

Fe all natur cyfyngiadau lleol amrywio yn ôl amgylchiadau amrywiol, ac fe all hyn roi pwysau ariannol ar Lywodraeth Cymru os na chaiff ei liniaru'n llawn gan unrhyw ymateb gan Lywodraeth y DU. Gallaf ddweud, wrth gynllunio'r cam cymorth nesaf hwn, ein bod ni wedi dadansoddi'r data economaidd yn ofalus ac wedi cynnwys yr hyn a ddysgwyd mewn ardaloedd eraill yn y DU sydd wedi gweld cyfyngiadau lleol, gan gynnwys, yn arwyddocaol iawn, Gaerlŷr ac Aberdeen. Rydym yn ymwybodol y bydd cyflwyno cyfyngiadau lleol yn effeithio ar economïau lleol, ar fusnesau a gweithwyr fel ei gilydd, ac rydym yn gweithio gyda'n partneriaid lleol i archwilio ffyrdd o gefnogi busnesau yn ystod y cyfnod hwn i ddiwallu eu hanghenion nhw ac anghenion y gweithwyr a'r cymunedau.

Dylai busnesau o hyd fynd at Busnes Cymru yn y lle cyntaf i gael cyngor, ac mae ein hamrywiaeth bresennol ni o ddewisiadau ar gyfer cael cymorth ariannol i fusnesau yn parhau. Mae COVID-19 yn fater sy'n effeithio ar y DU gyfan. Mae gan Lywodraeth y DU swyddogaeth barhaol i lunio a darparu cymorth economaidd lleol. Rwyf wrthi'n cynnal trafodaethau gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU ynglŷn â hyn.

Ni welwyd cyfnod fel hwn erioed o'r blaen. Mae'r coronfeirws a'r perygl cynyddol y bydd y DU yn cyrraedd diwedd cyfnod pontio'r Undeb Ewropeaidd heb gytundeb wedi gosod her anhygoel ar ein busnesau ni. Eto i gyd, mae'r cyhoeddiad hwn yn rhoi'r sicrwydd sydd ei angen ar ein busnesau ni ar yr adeg y mae'r angen mwyaf amdano, y bydd yna gymorth pellach ar gael. Mae hyn yn rhoi'r hyblygrwydd inni ymateb i amgylchiadau hefyd, wrth iddynt ddod i'r amlwg, a fydd yn bwysig dros y misoedd cynhyrfus nesaf. Fel Llywodraeth i Gymru, rydym yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi ein busnesau ni, ein cymunedau ni a'n gweithwyr ni.

15:45

A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma a hefyd am y gefnogaeth ychwanegol a gyhoeddodd ef i gefnogi busnesau yma yng Nghymru? Rwy'n gwerthfawrogi, Gweinidog, hefyd, yn eich datganiad, eich bod chi'n croesawu'r gwahanol gynlluniau a gyhoeddodd y Canghellor i gefnogi busnesau ledled y Deyrnas Unedig. Rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno â mi hefyd, Gweinidog, y bydd mesurau fel y cynllun cefnogi swyddi yn rhoi'r cyfle sydd ei angen ar gyflogwyr i ddiogelu swyddi gweithwyr wrth inni ymlwybro trwy'r hyn sy'n debygol o fod, fel y dywedwch, Gweinidog, yn aeaf anodd iawn. Fe fydd rhywbeth i ddiogelu busnesau ymhellach, drwy ymestyn terfynau amser benthyciadau a gohirio TAW ar gyfer y sectorau twristiaeth a lletygarwch, yn fendith i'w chroesawu hefyd i lawer o fusnesau yma yng Nghymru.

Gan droi at eich datganiad, Gweinidog, fy marn i yw y dylai'r cyllid a ddarparwyd gan Lywodraeth y DU i Lywodraeth Cymru gael ei ddyrannu'n uniongyrchol i fusnesau cyn gynted ag y bo modd er mwyn atal busnesau rhag syrthio rhwng dwy stôl. Rwy'n sylweddoli bod Llywodraeth Cymru wedi ceisio lliniaru rhai o'r bylchau a theilwra rhai polisïau drwy bolisïau a gyflwynodd Llywodraeth y DU. Ers y mis diwethaf, rwy'n credu fy mod yn iawn i ddweud—fe wnewch chi fy nghywiro i os ydw i'n anghywir, ond—dim ond hanner y £500 miliwn o'r gronfa cadernid economaidd a gafodd ei ddosbarthu mewn gwirionedd. Felly, peth da fyddai cael dadansoddiad o'r dyraniad hwnnw o £500 miliwn: yr hyn a wariwyd ar gam 1 a cham 2, yr hyn a oedd dros ben o gam 2, a faint, os o gwbl, yr ydych chi'n disgwyl ei weld dros ben ar ddiwedd cam 3.

Rwy'n croesawu'r newyddion hefyd y bydd £60 miliwn ar gael yn benodol i ardaloedd sydd wedi gweld cyfnodau clo  unwaith eto, oherwydd rwy'n credu bod angen eglurder ar fusnesau, yn enwedig y busnesau llai a busnesau bach a chanolig, ynghylch sut i gael gafael ar yr arian. Rwy'n credu ei bod yn hanfodol i'r arian hwn gyrraedd y busnesau hynny cyn gynted ag y bo modd. Os yw'r cyllid ar gael, yna fe ddylid ei ddosbarthu ar fyrder, yn sicr, ac efallai y gallech ddweud rhagor wrthym am sut y bydd yr arian penodol hwn yn cyrraedd y busnesau cywir mewn da bryd.

Fe gyhoeddodd y Trysorlys y gall busnesau yn Lloegr, y mae'n ofynnol iddynt gau oherwydd cyfnodau clo lleol, hawlio £1,500 fesul safle bob tair wythnos. Nawr, rwy'n sylweddoli nad yw'n ofynnol i fusnesau gau fel rhan o fesurau cloi lleol yma, ond efallai y daw hynny'n angenrheidiol, a hefyd, i bob pwrpas, mae rhai busnesau yn cael eu cau gan y cyfyngiadau sydd ar waith. Felly, a ydych chi wedi ystyried cyflwyno cynllun tebyg yma yng Nghymru? Gallaf weld na soniwyd am hynny yng nghwestiynau'r Prif Weinidog ac ni soniwyd amdano yn y datganiad, ond rwy'n gobeithio y gwnewch chi roi rhagor o wybodaeth inni yn hynny o beth.

Mae angen rhywfaint o gymorth economaidd wedi ei dargedu ar gymunedau a gwahanol sectorau o fusnes yr effeithir arnynt  fwyaf oherwydd y pandemig, ac rwy'n sylweddoli eich bod wedi neilltuo cyllid ar gyfer y sector twristiaeth a lletygarwch, ond tybed a ydych chi wedi ystyried cymorth penodol i sectorau penodol eraill.

Roeddwn i braidd yn ofidus—rwyf wedi cael rhywfaint o ohebiaeth ynglŷn â phryderon busnesau fod yn rhaid iddyn nhw, i bob pwrpas, berthyn i undeb llafur cyn iddyn nhw gael unrhyw arian. Felly, byddai'n ddefnyddiol pe gallech chi efallai dawelu rhai o bryderon busnesau yn hynny o beth, oherwydd, yn amlwg, nid yw bod yn rhan o undeb llafur bob amser yn addas i rai busnesau, cyflogwyr neu weithwyr, ac fe fyddai hynny, yn amlwg, yn difreinio cryn nifer o fusnesau ledled Cymru.

Yn olaf, tybed pa ystyriaeth a gafodd ei rhoi i adolygiad gwariant mwy cynhwysfawr o flaenoriaethau, gan edrych ar feysydd eraill o fewn eich portffolio chi, efallai, nad ydyn nhw mor hanfodol yn ystod y cyfnod penodol hwn er mwyn ailgyfeirio arian mewn ffordd briodol yn ystod y pandemig, ac rwy'n meddwl tybed pa ystyriaethau o ran gwariant a wnaethoch chi dros y misoedd diwethaf yn hyn o beth. Diolch, Llywydd dros dro.

15:50

A gaf i ddiolch i Russell George am ei gwestiynau a'i ymateb adeiladol a chadarnhaol iawn i'r datganiad heddiw? A gaf i ddiolch ar goedd i Russell George a holl lefarwyr y gwrthbleidiau am y cyfle sy'n dod yn rheolaidd i drafod yr argyfwng economaidd sy'n ein hwynebu ni? Rwy'n croesawu eu cyfraniadau nhw, eu syniadau nhw a'u beirniadaethau nhw'n fawr iawn. Fe ofynnodd Russell George nifer o gwestiynau pwysig, ond a gaf i ddweud ei fod yn llygad ei le wrth nodi mai swyddogaeth gefnogol sydd gan Lywodraeth Cymru o ran y gwaith a wnawn ni gyda Llywodraeth y DU wrth geisio diogelu swyddi? Ein gwaith ni i gyd yw ceisio achub busnesau ac amddiffyn swyddi ar hyn o bryd. Rydym yn gweithio'n agos â'n gilydd. Rwy'n cael galwadau rheolaidd iawn gan Weinidogion Llywodraeth y DU, ac mae'n rhaid imi ddweud bod Llywodraeth y DU, ar adegau, wedi ymateb i feirniadaeth Llywodraeth Cymru a galwadau Llywodraeth Cymru am newidiadau i systemau, ac maen nhw wedi gwneud hynny mewn ffordd gadarnhaol. Fe allaf i nodi un achos penodol lle mae hynny wedi digwydd, ac mae hyn yn bwysig o ran y cynllun cymorth swyddi. O ran y cynllun benthyciadau amharu ar fusnes oherwydd coronafeirws, roeddem ni'n galw am wneud nifer o newidiadau ac fe ddigwyddodd y newidiadau hynny, ac, o ganlyniad i hynny, roedd modd i fwy o fusnesau yng Nghymru gael eu cefnogi drwy'r cynllun arbennig hwnnw.

Rwy'n croesawu'r cynllun i gefnogi swyddi, ydw wir. Mae'n gwbl hanfodol ein bod ni wedi osgoi dod â hwnnw i ben yn ddisymwth ar ddiwedd mis Hydref. Er hynny, yn ein hasesiad uniongyrchol ni o'r cynllun cymorth swyddi, fe ddaeth yn amlwg na fydd nifer o sectorau na nifer sylweddol o fusnesau, efallai, yn gallu cael y cymorth sydd ei angen i osgoi colli swyddi—efallai na fydd y gyfradd ymyrraeth yn ddigon mawr. Felly, er fy mod i'n croesawu'r cynllun cymorth swyddi, fe fyddwn i'n annog Gweinidogion Llywodraeth y DU i gadw meddwl agored hefyd, a bod yn wyliadwrus iawn fod y cynllun yn gweithredu fel y'i bwriadwyd, ac, os nad na, i wneud yr addasiadau angenrheidiol i sicrhau bod cynifer o fusnesau a chymaint o weithwyr â phosibl yn elwa arno. Fel y dywedais, fe ddigwyddodd hynny gyda'r Cynllun Benthyciadau Amharu ar Fusnesau oherwydd Coronafeirws, ac rwy'n gobeithio y bydd hynny'n digwydd, pe byddai angen, gyda'r cynllun cymorth swyddi.

Roeddem bob amser wedi bwriadu defnyddio'r gronfa cadernid economaidd cam wrth gam. Ni allem fod wedi gwario'r £500 miliwn ar un cam a disgwyl i fusnesau ddod trwy'r gwaethaf a allai barhau y tu hwnt i'r hydref eleni, ac sy'n debygol o wneud hynny. Ein bwriad ni bob amser, felly, oedd cadw cyllid ar gyfer cylchoedd pellach o gymorth i fusnesau. Rwy'n credu mai dyna'r peth iawn i'w wneud. Rydym wedi dyrannu £480 miliwn hyd yn hyn o'r £500 miliwn o'r gronfa cadernid economaidd. Mae hynny, wrth gwrs, dros ben y £768 miliwn a fuddsoddwyd mewn busnesau ledled Cymru drwy'r cynllun grant sy'n gysylltiedig ag ardrethi. Mae hynny'n golygu bod gennym £20 miliwn wrth gefn, ac mae hynny'n bwysig ar gyfer cylch arall bosibl o gymorth lleol sy'n gysylltiedig â chyfyngiadau yn y gaeaf. Rwy'n cydnabod bod angen brys i benderfynu ar sut i ddefnyddio ein cyllid, ac fe fydd Busnes Cymru, fel y dywedais i yn fy natganiad, yn rhoi eu gwirydd cymhwysedd nhw ar waith yr wythnos nesaf. Erbyn diwedd mis Hydref, fe fydd ceisiadau wedi cael eu gwneud gan fusnesau ac rwy'n credu, fel yr ydym ni wedi dangos mewn cylchoedd o gymorth yn flaenorol, y byddwn ni'n gweld yr arian yng nghyfrifon busnesau mewn dim o amser wedi i'r ceisiadau hynny gael eu prosesu.

Gallaf gadarnhau hefyd ein bod ni'n gweithredu fwy neu lai yr un cynllun ag a ddefnyddir mewn rhannau o Loegr o ran y grantiau sydd ar gael. Ac fe ddylwn i ddweud nad oes unrhyw fusnes—fel y dywedodd Russell George yn gywir, nad oes unrhyw fusnes yn cael ei orfodi i gau gan y rheoliadau, ond mae'n ddigon posibl bod perchnogion busnes yn teimlo nad oes dewis ganddyn nhw ond cau, oherwydd diffyg ymwelwyr a chwsmeriaid, ac felly mae'n debygol y caiff incwm sylweddol iawn ei golli, o ddiffyg gwerthiant, ac felly, yn ei dro, mae'n hanfodol bwysig ein bod ni'n dod i'r adwy ac yn cefnogi'r busnesau hynny ar sail dreigl.

Rydym wedi modelu faint o fusnesau y gallwn ni eu cefnogi gyda'r £60 miliwn o'r gronfa cyfnodau clo lleol. Rydym o'r farn, yn seiliedig ar y sefyllfa bresennol ledled Cymru, y darlun presennol, y byddem yn gallu darparu dau gylch o gyllid i fusnesau drwy ymyriadau cyfnodau clo lleol. Mae hwnnw'n gyfnod sylweddol iawn o gefnogaeth, oherwydd fe fyddai pob cyfnod yn debygol o bara am dair wythnos, ac felly mae hyn yn mynd â ni drwodd i'r flwyddyn newydd, pan ddywedaf i—. Ac rwyf wedi dweud eisoes, mae gennym £20 miliwn yn ein cronfa wrth gefn i ddefnyddio un cylch arall o bosibl. Fe ellid defnyddio'r £20 miliwn hwnnw hefyd ar gyfer nid yn gymaint gymorth sy'n benodol i'r sector, ond unrhyw weithgarwch is-ranbarthol penodol y mae angen ei gynnal, os collir llawer o swyddi mewn ardal benodol. Ac rydym yn gweithio gyda rhanddeiliaid lleol, gydag arweinwyr llywodraeth leol, i sicrhau, lle ceir her benodol, ein bod ni'n gallu defnyddio arian yn y maes hwnnw, gan gydweithio'n agos â swyddogion yr awdurdodau lleol.

Ond fe geir sectorau eraill y mae angen cymorth brys arnynt—y sector awyrofod yw'r un amlycaf efallai. Rydym wedi galw am fargen sector ar gyfer awyrofod yn gyson iawn, yng ngoleuni'r heriau a wynebir gan fusnesau oherwydd coronafeirws. Cafodd tasglu ei sefydlu, dan arweiniad Tom Williams, arbenigwr gwych ym maes awyrofod ac awyrennau, ac mae'n gwbl hanfodol ein bod ni, fel Llywodraeth Cymru, a'r gweinyddiaethau datganoledig eraill, â rhan lawn i'w chwarae mewn unrhyw weithgaredd sy'n ymwneud ag ymateb i'r heriau y mae'r busnesau awyrofod ac awyrennau yn eu hwynebu.

A gaf i hefyd gyfeirio at bwynt pwysig arall a gafodd ei godi? Nid yw'n wir fod cydnabod undeb llafur yn un o'r gofynion pendant ar gyfer cael cyllid, oherwydd nid yw bob amser yn ymarferol cydnabod undeb llafur ym mhob achos. Ond yr hyn y gwnaethom ni ei ddweud yw, o ganlyniad i dderbyn arian o gronfeydd cadernid economaidd, mae'n gwbl hanfodol bod busnes wedi ymrwymo i egwyddorion y contract economaidd ac yna ddatblygu contract economaidd cadarn. Ac, yn rhan o'r broses o ddatblygu'r contract economaidd cadarn hwnnw, rydym wedi gwahodd undebau llafur i ymgysylltu â busnesau sydd wedi elwa ar bwrs y wlad. Ac rwy'n credu bod hynny'n hollol iawn wrth inni ymdrechu i ddod 'nôl yn gryfach, wrth i ni ymdrechu i sicrhau bod yr adferiad yn un teg. Nid ydym yn ymddiheuro am wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi nid yn unig y busnesau ond y gweithwyr hefyd.

15:55

Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei ddatganiad heddiw ac am yr ymgysylltu cadarnhaol y cyfeiriodd Russell George ac yntau ato eisoes, sydd ar draws y pleidiau, yn ystod yr argyfwng hwn. Ac rwy'n ddiolchgar iawn ei fod ef, yn rhai o'r cyhoeddiadau a wnaeth y Gweinidog heddiw, yn amlwg wedi ymgysylltu'n weithredol gyda'r trafodaethau hynny ac wedi rhoi ystyriaeth i hynny, ac yn cyfeirio'n neilltuol yn y fan hon fy mod i'n gwybod ein bod ni wedi codi effaith bosibl cyfnodau clo lleol gydag ef, ac mae'n braf iawn gweld y buddsoddiad y bwriada ei wneud.

A gaf i ddechrau drwy ofyn iddo am ychydig mwy o fanylion am y cymhwysedd tebygol ar gyfer yr adnoddau ar gyfer cyfnodau clo lleol? Mae'n ddigon posibl, fel y dywedodd y Gweinidog mewn ymateb i Russell George, nad yw'n ofynnol i fusnesau gau, ac efallai na fydd rhai ohonyn nhw yn cau, ond efallai fod yr effaith ar eu masnachu nhw'n un ddifrifol iawn. Efallai eu bod nhw'n teimlo y byddai'n well iddyn nhw ddal ati, yn enwedig os mai dim ond, dywedwch, cyfnod clo o dair wythnos fydd gyda ni, ond fe all eu helw nhw ddiflannu'n llwyr. Felly, a yw'r Gweinidog yn rhagweld y bydd yn rhaid i fusnesau gau mewn gwirionedd cyn y gallan nhw wneud cais am gymorth, yn hytrach na chael rhywfaint o hyblygrwydd posibl yn hynny o beth? Ac a wnaiff ddweud ychydig mwy wrthym ni ynglŷn â sut mae'r grantiau cyfnod clo lleol hynny'n debygol o gael eu cyflwyno? Mae'r Gweinidog, yn amlwg yn gwbl briodol, yn dweud mai Busnes Cymru fydd y man cyswllt cyntaf ar gyfer y rhan fwyaf o'r gronfa cadernid economaidd, ond rwy'n awgrymu y gallai fod yna achos o blaid cynnwys llywodraeth leol yn hyn o beth.

Mae'r Gweinidog yn croesawu'r cynllun i gefnogi swyddi ac, wrth gwrs, mae pawb yn falch o weld Llywodraeth y DU yn cymryd camau, ond, fel y dywedodd y Gweinidog, mae yna rai busnesau na fydd hynny'n ddefnyddiol iddynt, ac na fydd rhoi pobl ar waith rhan-amser o bosibl yn gweithio.

Rwy'n croesawu'n fawr gyhoeddiad y Gweinidog y bydd £20 miliwn ar gael ar gyfer busnesau twristiaeth a lletygarwch, ond mae hefyd yn cyfeirio at fusnesau y mae angen iddyn nhw ddefnyddio eu hadnoddau nhw eu hunain. Nawr, oherwydd yr effaith a wynebodd busnesau twristiaeth a lletygarwch yn gynharach yn yr haf, pan nad oedden nhw'n gallu agor o gwbl, a phan maen nhw'n agor mewn ffordd gyfrifol, mae lefelau'r busnes wedi gostwng. A hefyd, mae'n ddrwg gennyf ddweud, ceir arferion gresynus iawn o hyd gan gwmnïau yswiriant y busnesau hynny, i rai o'r busnesau hynny, ac rwyf am roi hyn gerbron y Gweinidog, mae'n ddigon posibl nad oes ganddyn nhw'r adnoddau i'w buddsoddi, ac fe allai hyn fod yn wir am fusnesau diwylliannol hefyd, fel lleoliadau i gynnal cyngherddau. Felly, tybed a wnaiff roi rhywfaint o sicrwydd inni y rhoddir ystyriaeth i hynny, i'r busnesau hyn nad oes ganddynt, am resymau da, yr adnoddau eu hunain ac efallai eu bod wedi cyrraedd terfyn eu capasiti i fenthyca, y bydd rhywfaint o gymorth ar gael i'r rhain.

Tybed a all ddweud wrthym ni a yw microfusnesau ac unig fasnachwyr yn debygol o elwa ar y cylch hwn ai peidio. Ac fe hoffwn i ofyn hefyd a yw'r Gweinidog yn hyderus bod gan Fusnes Cymru y capasiti i ymdrin â'r cylch newydd hwn o gyllid sydd i'w groesawu yn fawr. Fel y dywedodd y Gweinidog ei hun, mae angen i ni gael y cyllid i'r man priodol yn gyflym.

Yn olaf, rwy'n falch iawn o glywed y Gweinidog yn dweud ei fod mewn sgwrs â Llywodraeth y DU ar hyn o bryd. Tybed a yw'r sgwrs honno—ac efallai nad yw hyn yn ei bortffolio ef, ond ar draws y Llywodraeth—yn cynnwys trafodaethau parhaus am gynyddu pwerau benthyca Llywodraeth Cymru, oherwydd mae'n ymddangos i mi yn y tymor hwy—bod partneriaeth dda â Llywodraeth y DU, wrth gwrs, yn ddymunol—ond yn y tymor hwy, efallai y bydd Gweinidogion Cymru yn dymuno gwneud buddsoddiadau sylweddol na fydd eu pwerau benthyca presennol nhw'n caniatáu i hynny ddigwydd. Mae'r Gweinidog yn sôn am y sector awyrofod yn benodol, a tybed a yw ei sgyrsiau ef â Llywodraeth y DU—rwy'n siŵr eu bod nhw—yn ymwneud â chefnogaeth i'r diwydiant dur, oherwydd mae hynny y tu hwnt i gapasiti presennol Llywodraeth Cymru yn ariannol.

Ac yn olaf, yn y trafodaethau parhaus hynny gyda Llywodraeth y DU, a gaf i ofyn i'r Gweinidog unwaith eto a fydd ef yn ystyried codi achos y rhai nad ydyn nhw wedi cael cymorth, yn enwedig y bobl nad oedden nhw'n cael cymorth gan y cynllun ffyrlo? Mae rhai ohonyn nhw, wrth gwrs, wedi symud ymlaen yn llwyddiannus, maen nhw mewn swyddi eraill, ond fe fu'n rhaid i rai ohonyn nhw ddefnyddio eu holl gynilion. Rwyf i wedi ymdrin â phobl ifanc sydd wedi colli blaendaliadau ar gyfer tai a phobl a fu'n rhannol hunangyflogedig sydd wedi gorfod gwario eu cynilion treth. Felly, a gaf i ofyn iddo ef a wnaiff gytuno â mi fod gan yr ymgyrch, ExcludedUK, achos i'w gyflwyno o hyd, a gofyn i'r Canghellor a oes unrhyw gefnogaeth y gellid ei rhoi i'r rhai na roddwyd cymorth iddyn nhw? Rwy'n gofyn, wrth gwrs, a ellid gwneud hynny ar lefel Cymru, ond rwy'n deall yr hyn a ddywedodd y Gweinidog yn y gorffennol am gapasiti cyllideb Cymru a'r angen i dargedu cymorth at amddiffyn swyddi. Ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i'r miloedd lawer hynny o ddinasyddion Cymru sy'n eu cael eu hunain yn y sefyllfa hon, ein bod ni'n cydnabod yn y fan hon o leiaf nad ydyn nhw wedi mynd yn anghof gennym ni.

16:00

A gaf i ddiolch i Helen Mary Jones am ei chwestiynau a'i chyfraniad, ac a gaf i ddweud bod Helen Mary Jones wedi bod â rhan yn sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn ymateb yn briodol ac yn ddigonol i anghenion busnesau? Mae'r sgyrsiau rheolaidd a gawsom wedi helpu i lunio pob un o dri cham y gronfa cadernid economaidd, ac rwy'n hynod ddiolchgar iddi hi am nid yn unig y gefnogaeth ond y feirniadaeth adeiladol a roddwyd.

Rwyf i am geisio ymateb i'r holl ymholiadau pwysig a godwyd ganddi, yn y drefn y'u codwyd gan Helen Mary Jones. Yn gyntaf oll, o ran cymhwysedd, ni fydd angen cyd-fuddsoddi ar rai busnesau. Roedd y gronfa o £20 miliwn ar gyfer busnesau twristiaeth a lletygarwch yn caniatáu disgresiwn ac felly cyfradd ymyrraeth o 100 y cant. Ni fydd angen i'r holl fusnesau hynny, felly, sy'n gwneud cais am y cymorth hwn gyd-fuddsoddi. Ac rwy'n cytuno'n llwyr â Helen Mary Jones nad oes gan nifer enfawr o fusnesau yn y sectorau twristiaeth a lletygarwch ragor o adnoddau ariannol i'w buddsoddi, ac maen nhw mewn llawer o achosion wedi cyrraedd terfyn eu capasiti i fenthyca hefyd. Felly, fe fydd angen lefel ymyrraeth o 100 y cant ar lawer o fusnesau.

O ran cymhwysedd a'r cwestiwn a fydd yn ofynnol i fusnesau gau, yr ateb yw 'na'. Ni fydd yn ofynnol i fusnesau gau er mwyn sicrhau cyllid. Fe fydd yn rhaid iddynt allu profi iddynt gael eu heffeithio'n sylweddol yn ystod cyfnodau clo lleol, a bod hynny'n golygu gostyngiad o 40 y cant o leiaf yn eu trosiant. Rydym yn gweithio'n eithriadol o agos gyda chyfeillion a chydweithwyr mewn llywodraeth leol o ran gweinyddu'r trydydd cam hwn o gymorth. Mae'n rhaid imi ddiolch ar goedd i gydweithwyr mewn llywodraeth leol am eu hymdrechion diflino i sicrhau bod dau gam cyntaf y Gronfa a'r grantiau sy'n gysylltiedig ag ardrethi wedi cael eu gweinyddu ar garlam, ac fe gyflwynwyd cymorth o ran cyfeirio busnesau at Fusnes Cymru yn briodol hefyd.

Mae'n rhaid  mi ddweud, ochr yn ochr â'r gefnogaeth a gyhoeddwyd gennym ddoe, bod fy nghyfaill a'm cyd-Aelod, Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, wedi cyhoeddi cronfa o £7 miliwn hefyd i weithwyr llawrydd yn y diwydiannau creadigol. Mae hon yn achubiaeth i lawer o bobl greadigol a thalentog, ac roeddwn i wrth fy modd o weld Dafydd Elis-Thomas yn gwneud y cyhoeddiad hwnnw.

Ac mewn ymateb i'r cwestiwn ynghylch lle bydd angen hyblygrwydd ychwanegol gan Lywodraeth Cymru, mae'r Gweinidog cyllid wedi sôn yn rheolaidd am yr angen i Lywodraeth Cymru allu gweithredu gyda mwy o hyblygrwydd, i allu benthyca mwy, ac yn y blaen, ac mae'r sefyllfa honno'n un sy'n parhau.

Mae dur yn eithriadol o bwysig i economi Cymru, ac yn yr un modd fusnesau modurol ac awyrofod sy'n wynebu pwysau arbennig ac sydd ag angen cymorth y tu hwnt i'r hyn y gall Llywodraeth Cymru ei fforddio. Ac yn ein trafodaethau rheolaidd ni â chymheiriaid yn Llywodraeth y DU, fe fyddaf i'n pwysleisio'r angen i Weinidogion gyflwyno camau beiddgar i gefnogi'r sectorau gweithgynhyrchu hynod bwysig hyn.

Fe fyddwn ni'n parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU hefyd i fod yn ymatebol ac yn gyfrifol o ran cefnogi'r rhai sy'n parhau i syrthio rhwng dwy stôl, nad ydyn nhw wedi cael cymorth eto y mae ei angen yn fawr arnynt i sicrhau y gall eu mentrau nhw barhau y tu hwnt i'r pandemig hwn. Mae'n rhaid imi ddweud nad yw'r trafodaethau hynny'n dwyn ffrwyth bob amser, ond yn yr un modd, mewn llawer o achosion, fel yr amlinellais i yn fy atebion i Russell George, fe gafwyd ymatebion cadarnhaol sawl gwaith gan gymheiriaid, yn enwedig o fewn yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol ac yn Swyddfa Cymru.

16:05

Diolch, Gweinidog, am eich datganiad chi, ac a gaf i ategu sylwadau Helen Mary ynglŷn â'n gallu i gael sgwrs â chi, sy'n rhoi rhywfaint o fewnbwn i ni ac yn rhoi mwy o ddealltwriaeth o'ch syniadau chi sydd wrth wraidd ymyriadau Llywodraeth Cymru?

Nid oes unrhyw amheuaeth na fydd yr ymyriadau hyn yn newyddion i'w groesawu i'r busnesau niferus hynny sy'n ei chael hi'n anodd, nid yn unig i aros ar agor drwy COVID, ond i oroesi yn y tymor hir. Mae fy mhlaid i'n cydnabod yn y fan hon bod eich cefnogaeth chi, sy'n fwy na'r hyn a roddwyd gan Lywodraeth y DU, wedi bod yn amhrisiadwy, ac rwyf wedi clywed llawer o bobl busnes yn cadarnhau hyn i mi. Yn wir, fe glywais i un yn dweud wrthyf ei fod yn ystyried pleidleisio i'r Blaid Lafur am y tro cyntaf. Wrth gwrs, fe fu'n rhaid i mi ei ddarbwyllo yn hynny o beth. [Chwerthin.]

Fodd bynnag, mae'r ffigurau yn siarad drostynt eu hunain: fe ddywedir bod cam 1 wedi arbed 56,000 o swyddi, ac yna fe arbedwyd 18,000 arall yng ngham 2. Rwy'n credu efallai fod eich ffigurau yn well na hynny, mewn gwirionedd, Gweinidog. Er hynny, Gweinidog, onid ydych chi'n cytuno mai mesurau tymor byr yw'r rhain yn unig, ffaith y gellir ei gweld os edrychwn ni ar yr arian sydd ar gael i ficrofusnesau cymwys—sef £10,000 os byddan nhw'n codi 10 y cant eu hunain? Rwy'n teimlo bod deg y cant yn ffigur rhesymol i'w ofyn i'r busnesau hynny, gyda llaw. Ond dim ond am gyfnod byr y bydd £10,000 yn eu cynnal nhw, hyd yn oed y microfusnesau. Yr hyn y mae angen mawr iddyn nhw ei wneud yw parhau i fasnachu ar y lefelau a oedd yn bod cyn COVID.

Mae'n hollbwysig, felly, Gweinidog, mai dim ond pan fydd hynny'n gwbl angenrheidiol y gorfodir cyfnodau clo gan Lywodraeth. Rwy'n siŵr y gwnewch chi gytuno, Gweinidog, bod pwysau'n cynyddu trwy'r amser ar bob busnes, ac fe wyddom ni y bydd y canlyniadau yn para am gyfnod hir. Felly, unwaith eto, Gweinidog, diolch i chi am yr ymyriadau diweddaraf hyn, ond os byddwn ni'n parhau gyda'r cyfnodau clo hyn, rwy'n ofni y bydd cyfran fawr o'r gymuned fusnes yn cael ei cholli am byth.

Wel, a gaf i ddiolch i David Rowlands am y ffordd y mae ef wedi cymeradwyo ein camau ni hyd yn hyn? Rwy'n ddiolchgar iawn iddo am y sylwadau a wnaeth heddiw. Ac, ydynt, mae ein camau ni wedi arwain at ddiogelu nifer fawr iawn o swyddi: dros 106,000 yn ystod dau gam cyntaf y gronfa cadernid economaidd ac, wrth gwrs, diogelwyd 16,000 o swyddi drwy'r cymorth a gyflwynodd y banc datblygu.

Fe fydd yr Aelodau yn ymwybodol o'r gyfradd ddiweithdra yng Nghymru ar hyn o bryd: 3.1 y cant. Mae hynny 1 y cant yn llai na chyfartaledd y DU. Nawr, fe wyddom ni y bydd diweithdra yn cynyddu, a hynny'n gyflym, ond mae'n ddigon posibl y bydd yna wahaniaeth o 1 y cant rhwng cyfartaledd Cymru a symiau cyfartalog y DU, mewn termau real, o tua 15,000 o bobl—mae'n ddigon posibl y gallai 15,000 o bobl fod yn ddi-waith ar hyn o bryd oni bai am y gwerth ychwanegol a gynigiwyd gennym ni drwy ddau gam cyntaf y gronfa cadernid economaidd. Ac fel y dywedais i ddoe, i'w roi yn ei gyd-destun, mae hynny'r golygu'r holl boblogaeth mewn gwaith ym Mrynmawr a Glynebwy, neu'r Wyddgrug a Bwcle. Mae'n ymyrraeth enfawr  ac rwy'n falch o'r swyddi a achubwyd felly, ac rwy'n falch o'r busnesau yr ydym ni wedi eu cadw'n fyw yn ystod y cyfnod hynod anodd hwn. Ond fe allai'r holl waith caled a'r buddsoddiad hwnnw fod wedi mynd i'r gwellt pe bai'r cynllun amddiffyn swyddi wedi dod i ben yn ddisymwth ar ddiwedd mis Hydref, a dyna pam mae'r cynllun cefnogi swyddi mor bwysig, a pham mae'n rhaid i drydydd cam y gronfa cadernid economaidd ategu'r cynllun cymorth swyddi.

Nawr, mae grantiau datblygu busnes—yr £80 miliwn hwnnw o gymorth a amlinellais—yn ymwneud â meithrin cydnerthedd ac addasu i economi'r yfory, ond rydym yn cydnabod hefyd bod angen codi pontydd, pontydd drwy'r hydref a'r gaeaf, ar lawer o fusnesau er mwyn cyrraedd economi'r yfory, a dyna pam rydym ni'n cyflwyno'r £60 miliwn hwn o gymorth i'r busnesau hynny a fydd yn wynebu cyfnodau clo lleol yn ystod yr wythnosau a'r misoedd nesaf. Fel y dywedais i yn fy atebion i Helen Mary Jones, nid ydym yn mynnu bod unrhyw fusnesau yn cau ar gyfer cael cyfran o'r cyllid hwnnw, yr unig beth sy'n rhaid iddynt ei wneud yw dangos iddynt gael eu heffeithio'n fawr, a bydd maint y cymorth a gynigir, yn fy marn i, yn ddigon i fusnesau allu oroesi'r cyfnodau anodd hynny o gyfyngiadau.

Mae grantiau datblygu busnes a'r cais am arian cyfatebol, rwy'n credu, yn dangos ein hawydd ni i allu symud y tu hwnt i goronafeirws mewn ffordd sy'n cydnabod bod rhai sectorau â chyfleoedd ardderchog i feithrin swyddi, ac felly mae'r gofyniad am gyfraniad gan fusnesau yn gwbl briodol os ydym am sicrhau ein bod yn manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd i dyfu yn y sectorau hynny sy'n wydn ac sy'n gallu ymddangos yn gyflym. Ond, yn yr un modd, mae rhai sectorau sy'n hynod bwysig, megis twristiaeth a lletygarwch, lle bydd y gyfradd ymyrraeth yn 100 y cant oherwydd, fel y dywedais i eisoes, na all busnesau fenthyca mwy o arian neu na allant fuddsoddi unrhyw gyfran o'u hadnoddau nhw eu hunain yn eu hymgais i oroesi ac addasu i'r normal newydd.

16:10

Nawr, mae gennyf i bump o Aelodau Llafur ac un Aelod arall o wrthblaid sy'n dymuno gwneud cyfraniad, felly arhoswch funud, os gwelwch chi'n dda. Rwy'n bwriadu galw ar bob un ohonoch chi, mae hwn yn ddatganiad pwysig, ond mae'n gyfyng arnom o ran amser y prynhawn yma hefyd. Dawn Bowden.

Diolch, Llywydd dros dro. A gaf i ddiolch i chi, Gweinidog, am eich datganiad ac am yr wybodaeth ychwanegol y gwnaethoch chi ei rhoi i ni heddiw? Oherwydd rwy'n siŵr y bydd y grantiau a'r cymorth pellach a gyhoeddwyd yn cynorthwyo nifer o fusnesau yn fy etholaeth i, y mae llawer ohonyn nhw—yn y sector lletygarwch yn arbennig—wedi cysylltu â mi yn mynegi pryder difrifol ynghylch sut y gallan nhw barhau i weithredu yn ystod y cyfyngiadau lleol newydd sy'n berthnasol ym Merthyr Tudful a Rhymni erbyn hyn, pa mor angenrheidiol bynnag y gallai'r cyfyngiadau hyn fod. Felly, mae'r £60 miliwn i fusnesau yn benodol yn y meysydd hyn i'w groesawu yn arbennig.

Fodd bynnag, un mater yr wyf i wedi bod yn ei ystyried yn ofalus yw trafferthion atyniadau gweithgareddau mawr yn fy etholaeth i, fel BikePark Wales a Chanolfan Gopa Rock UK, o gofio bod y cyfyngiadau lleol ym Merthyr Tudful wedi dihysbyddu eu cwsmeriaid nhw, sy'n dod yn bennaf yno o'r tu allan i'r sir. Rydych chi wedi sôn am gefnogaeth benodol i'r diwydiant twristiaeth, felly a wnewch chi ddweud wrthyf a roddir unrhyw ystyriaeth yn benodol i fusnesau o'r fath sy'n darparu gweithgareddau naill ai yn yr awyr agored yn bennaf neu mewn cyfleusterau sydd â safleoedd dan do mawr iawn? Er enghraifft, a yw'n bosibl y gellid ystyried llacio ychydig ar rai cyfyngiadau teithio i ganiatáu i'r busnesau hyn yn yr amgylcheddau a ddisgrifiais geisio ailddechrau eu gweithgarwch, neu a ydych chi'n hyderus, o ystyried yr wybodaeth ychwanegol y gwnaethoch chi ei rhoi i ni heddiw, y bydd y mesurau cymorth ychwanegol a gyhoeddwyd yn ddigonol i gario'r busnesau arbennig hyn drwy gam presennol y cyfyngiadau lleol newydd?

Wel, a gaf i ddiolch i Dawn Bowden am ei chwestiwn hi a dweud mai ein man cychwyn ni yw blaenoriaethu iechyd y cyhoedd? Mae'n rhaid inni sicrhau ein bod ni'n rheoli'r feirws yn yr ardaloedd hynny sydd dan gyfyngiadau lleol. Mae hynny'n hollbwysig nid yn unig i fuddiannau a lles ac iechyd pobl, ond hefyd i les economïau lleol ac economïau'r cymunedau a nodwyd gan Dawn Bowden.

O ran cefnogaeth i atyniadau gweithgareddau sy'n dibynnu ar niferoedd yr ymwelwyr o'r tu hwnt i'w ffiniau, nid oes modd inni wneud eithriadau i'r rheol, yn fy marn i. Mae'n gwbl hanfodol ein bod ni'n parhau gyda chysondeb oherwydd fe allai busnesau ar draws pob sector, rwy'n credu, gyflwyno achos dilys iawn dros eithriadau i'r rheolau, a phan rowch chi ganiatâd i un, rydych chi'n agor y drws wedyn i rai eraill sy'n ceisio cael eu heithrio rhag cyfyngiadau lleol. Yn hytrach na hynny, rydym ni o'r farn ei bod yn bwysicach cynnig ymateb i'r economi gyfan, a dyna'r hyn yr ydym ni'n ei wneud gyda'r £60 miliwn o gyllid, ond yn yr un modd roeddem ni'n cydnabod bod yna angen cymorth ychwanegol ar fusnesau fel atyniadau gweithgareddau sy'n rhan o dwristiaeth a lletygarwch, a dyna pam mae gennym £20 miliwn arall ar gael i fusnesau i'w galluogi i fynd drwy'r cyfnod anodd hwn.

Ond o ran cyfyngiadau lleol, mae'r cymorth yn cael ei roi ar y sail mai mesur dros dro, byrdymor yw hwn i amddiffyn busnesau am gyfnod o ryw dair wythnos. Dyna nod y gronfa cyfnodau clo lleol, ac mae'n seiliedig ar yr hyn a ddysgwyd o ardaloedd fel Aberdeen a Chaerlŷr sydd wedi mynd drwy'r broses o gymhwyso cyfyngiadau lleol a chefnogi busnesau. Rydym ni'n hyderus, yn seiliedig ar fodelau llwyddiannus mewn mannau eraill, y bydd y model hwn yn llwyddo yng Nghymru wrth amddiffyn busnesau drwy gyfnodau anodd iawn.

16:15

Diolch. Rwy'n credu y gallwch chi fy nghlywed i nawr. Diolch yn fawr iawn. Rwyf i o'r farn fod gweithgynhyrchu yn gwbl hanfodol i les ein heconomi ni i'r dyfodol, ac fe welsom waith rhagorol yn cael ei wneud i gael gweithgynhyrchwyr i gynhyrchu cyfarpar diogelu personol yn ystod y pandemig. Yn fwyaf diweddar, fe welsom ni gau gwaith ceir Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr, oherwydd bod y DU yn gwrthod aros yn y farchnad sengl Ewropeaidd, ac mae'r cwmni rhyngwladol Americanaidd bellach wedi mynd â'i fuddsoddiad i fannau eraill yn Ewrop; ein colled ni, yn elw i ryw wlad arall.

Felly, rwy'n awyddus i archwilio eich strategaeth chi ar gyfer adleoli sgiliau gweithgynhyrchu gweithlu Ford yng nghanol y cythrwfl hwn. Er enghraifft, fel y clywsoch chi'n gynharach efallai, fe roddais i gynnig ar reidio e-sgwter heddiw. Mae potensial i bob un e-sgwter gymryd lle 17 o deithiau mewn car, sy'n amlwg yn gyfraniad mawr i'r argyfwng yn yr hinsawdd, oherwydd dim ond 2 y cant o allyriadau carbon car y mae'n ei ddefnyddio. Ond yn Tsieina y caiff hwnnw ei weithgynhyrchu ar hyn o bryd; fe ellid ei weithgynhyrchu yng Nghymru'n hawdd, ac fe ellid defnyddio'r math o sgiliau sydd gan weithwyr Ford unwaith eto'n rhwydd.

Yn yr un modd, gwn fod penaethiaid ysgolion uwchradd yn fy etholaeth i yn ymbil am feiciau i'w disgyblion nhw sy'n byw ymhellach o'r ysgol, i'w galluogi nhw i osgoi'r risg o orfod teithio ar fws. Mae'r rhain yn bethau y gallem ni fod yn eu gwneud yng Nghymru, felly a yw'n rhywbeth yr ydych chi'n canolbwyntio arno fel un o'ch prif flaenoriaethau er mwyn sicrhau bod y pethau hyn gyda ni yng Nghymru sy'n hanfodol i'n heconomi sylfaenol ni?

A gaf i ddiolch i Jenny Rathbone am y pwyntiau pwysig y mae hi'n eu gwneud am weithgynhyrchu? Mae busnesau gweithgynhyrchu'n cyflogi 10 y cant o'r gweithlu yng Nghymru. Ledled y DU, y ganran gyfatebol yw 8 y cant, ac felly mae gan weithgynhyrchu le pwysicach yng Nghymru nag yn y DU yn gyffredinol o ran ei gyfraniad i'r economi. Efallai fod yr Aelodau yn ymwybodol fy mod i wedi lansio cynllun gweithgynhyrchu ar gyfer ymgynghoriad yn ddiweddar. Ymgynghorir arno tan ganol mis Hydref; rwy'n annog pob Aelod i fynegi ei farn a'i safbwynt ynglŷn â'r cynllun. Mae'n cynnwys camau gweithredu arfaethedig sy'n cyffwrdd yn uniongyrchol â'r hyn a amlinellodd Jenny Rathbone: yr angen am ailsgilio, yr angen am nodi cyfleoedd newydd i fusnesau a gweithwyr gweithgynhyrchu.

Gallaf ddweud fy mod i, o ran cau Ford, yn gwrando'n astud ar y cwestiynau i'm cyfaill a'm cyd-Aelod Rebecca Evans yn gynharach. Fe gyhoeddwyd datganiad ysgrifenedig ynghylch cau gwaith Pen-y-bont ar Ogwr ar 24 Medi, ac fe gafodd bron pob aelod o staff yn y gwaith hwnnw gymorth gan Gyrfa Cymru, drwy'r tîm ymateb cyflogaeth rhanbarthol, gan eu helpu nhw i nodi pa sgiliau sydd ganddyn nhw a sut y gallen nhw gael cyfleoedd cyflogaeth mewn busnesau eraill—neu'n hollbwysig, y gallen nhw ddechrau eu busnesau eu hunain, ac mae nifer dda  o bobl a oedd yn Ford wedi dechrau eu busnesau eu hunain.

Bydd Jenny Rathbone yn ymwybodol bod gwasanaeth paru swyddi a sgiliau yn cael ei weithredu gan Gyrfa Cymru a'n bod ni wedi cyhoeddi £40 miliwn ychwanegol o gyllid yn ddiweddar i unigolion ar gyfer ennill y sgiliau neu ailsgilio mewn meysydd o weithgarwch lle gwyddom y bydd swyddi'n bodoli yn y blynyddoedd i ddod. Rwy'n credu bod COVID wedi dangos bod cymaint o'n gweithgynhyrchwyr ni'n gallu troi eu llaw at gyfleoedd newydd hefyd. Fe wyddom, er enghraifft, yn y ganolfan ymchwil gweithgynhyrchu uwch, fod nifer sylweddol iawn o weithwyr awyrofod wedi troi eu llaw at gynhyrchu Cyfarpar Diolgelwch Personol, ac o ganlyniad i'r gwaith hwnnw, rydym nawr yn achub y blaen ar rai gweithgynhyrchwyr rhyngwladol o ran cynhyrchu offer hanfodol ar gyfer ein marchnad ddomestig ni. Felly, o fewn y cynllun gweithgynhyrchu, yr ymgynghorir arno ar hyn o bryd, mae yna ganolbwyntio mawr iawn ar gwtogi cadwyni cyflenwi a chynnal cyfleoedd o ran gweithgynhyrchu unwaith eto yma yng Nghymru.

16:20

Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma. Croesawaf yn arbennig, fel eraill, y £60 miliwn ychwanegol o gymorth i fusnesau yn yr ardaloedd sydd â chyfyngiadau arbennig ar hyn o bryd, a gwn fod hynny'n rhywbeth fydd yn cael croeso cynnes ym Mlaenau Gwent. A gaf i ofyn i'r Gweinidog sicrhau bod y cymorth ychwanegol hwn yn cyrraedd busnesau bach yn arbennig, ac yn cyrraedd pobl hunangyflogedig? Mae nifer o fusnesau sy'n poeni'n fawr am y dyfodol wedi cysylltu â mi, ac mae angen y bont hon arnynt i'w gweld trwy'r misoedd nesaf hyn er mwyn eu galluogi i lwyddo yn y dyfodol. Gweinidog, a allech gadarnhau hefyd mai cymorth i fusnesau sydd eisoes yn cydymffurfio â'u holl gyfrifoldebau rheoleiddio a chyfreithiol presennol yw hwn? Rydym eisiau gweld adferiad teg o COVID, ac rydym eisiau sicrhau ein bod yn chwarae'n deg gyda busnesau sy'n cefnogi'r gymuned eisoes, a bod y contract economaidd a chymdeithasol yr ydych wedi sôn amdano yn dal yn wir fel rhan o'r cymorth ychwanegol hwn. Ac yn olaf, Gweinidog, lansiwyd menter y Cymoedd Technoleg gennych tua thair blynedd yn ôl yng Nglyn Ebwy, i helpu i fuddsoddi'n sylweddol yn yr economi leol yno. A allwch gadarnhau bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo o hyd i'r weledigaeth honno a amlinellwyd gennym rai blynyddoedd yn ôl, ac y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau â'r rhaglen fuddsoddi honno, drwy argyfwng COVID, i sicrhau ein bod yn gallu parhau i adeiladu economi—i sicrhau bod economi Blaenau Gwent yn parhau i gael y math hwn o fuddsoddiad sydd ei angen arnom? Diolch.

A gaf i ddiolch i Alun Davies am ei sylwadau a'i gwestiynau? Fel arfer, yn ystod dirwasgiad, mae anghydraddoldebau'n  gwaethygu, ac rydym yn gweithio'n ddiflino i sicrhau, wrth i ni adfer o'r coronafeirws, ein bod yn lleihau anghydraddoldebau yn ein rhanbarthau ac ar draws y rhanbarthau. Ac felly, bydd buddsoddi ym menter y Cymoedd Technoleg a buddsodd yn y cymunedau y mae'r Aelod yn eu gwasanaethu yn parhau. Rydym yn benderfynol o sicrhau, wrth i ni adeiladu'n ôl yn well, ein bod yn gwneud hynny mewn ffordd sy'n wyrdd, yn deg ac yn gyfiawn. Bydd contractau economaidd yn cael eu datblygu gyda'r busnesau hynny sy'n cael y grantiau datblygu busnes, ac mae Llywodraeth y DU yn gweithio ar gymorth newydd i ddod yn lle'r cynllun cymorth hunangyflogaeth. Mae angen inni sicrhau bod ein cefnogaeth i bobl hunangyflogedig yn cyd-fynd ag unrhyw beth y mae Llywodraeth y DU yn ei gyflwyno yn yr wythnosau i ddod. Rhaid i mi ddweud na fydd busnesau sy'n torri unrhyw gyfyngiadau yn elwa o fuddsoddiad cyhoeddus os ydyn nhw'n peryglu iechyd y cyhoedd. Ac felly, mae pwerau sydd ar gael i awdurdodau lleol; sicrhawyd eu bod ar gael ar 14 Medi. Os ydyn nhw'n eu defnyddio gyda busnes sydd ddim yn dilyn y cyfyngiadau, yna byddem yn gwrthod cymorth i'r busnesau hynny, oherwydd, fel y dywedais, ni fyddwn yn gwobrwyo busnesau sy'n peryglu iechyd y cyhoedd.

Diolch, Gweinidog, am eich datganiad. Mae fy holl ranbarth dan gyfyngiadau symud bellach, felly byddant yn ddiolchgar iawn o glywed am y £60 miliwn yr ydych yn cyfeirio ato. Ond mae gen i rai cwestiynau penodol iawn gan y sector twristiaeth, ac rydych chi eisoes wedi ateb y cyntaf ohonynt. Roeddwn yn ddiolchgar iawn i chi am eich ateb i Helen Mary Jones na fydd o reidrwydd angen i'r busnesau hyn gydymffurfio â rhai amodau. Ond fe'u gelwir yn grantiau datblygu, a byddwn yn ddiolchgar pe gallech gadarnhau heddiw y byddant ar gael ar gyfer ystod eang o anghenion, yn enwedig cadw staff a gorbenion, oherwydd bydd hyn yn dal i ymwneud â llif arian parod, yn hytrach na diffyg sylfaenol mewn cynlluniau busnes ar gyfer cynifer o'r busnesau hyn, yn enwedig y rhai sydd wedi cael ergyd o ail gyfyngiadau symud. Ond rwy'n credu bod y gwahaniaethau rhwng y sefydliadau hyn yn bwysig hefyd, a dyna pam y codais atyniadau anifeiliaid fel rhai sydd angen sylw penodol iawn pan oeddwn yn siarad yn gynharach heddiw. Nid wyf yn credu y gall y Gronfa ddarparu'n llawn ar anghenion atyniadau anifeiliaid heb ddealltwriaeth o les anifeiliaid a'r gofynion ychwanegol ar gyfer hynny.

Mater arall, wedi hynny, yw rhywfaint o sicrwydd. Mae'n siŵr y byddwch yn dweud bod angen inni ymateb i'r feirws, ond mae atyniadau ymwelwyr yn ymateb i'r feirws—maen nhw'n cydymffurfio â rheolau COVID neu nid ydynt ar agor, fel yr oeddem yn ei ddweud yn awr. Felly, beth allwch chi ei ddweud wrth atyniadau y mae angen iddynt gynllunio nawr ar gyfer cynnig Nadolig sy'n cydymffurfio â COVID, yn enwedig gan y gallai fod angen iddynt droi at y Gronfa Cadernid Economaidd er mwyn paratoi ar gyfer y cynnig hwnnw?

Yn olaf, gan fod hyn yn rhan o'ch adran chi hefyd, a allwch roi syniad inni o sut yr ydych yn hyrwyddo'r neges hon i'r cyhoedd—bod yr atyniadau i ymwelwyr yn ddiogel ac ar agor y tu allan i ardaloedd sydd dan gyfyngiadau symud, a hyd yn oed mewn ardaloedd sydd dan gyfyngiadau y gall preswylwyr barhau i ymweld â nhw er lles eu hiechyd corfforol a meddyliol? Diolch.

16:25

Gweinidog, rwy'n sylweddoli na chlywodd yr Aelod fi'n ei hatal ar ôl 1 munud a 30 eiliad—

—felly ymddiheuraf i'r Aelodau eraill, ond roeddwn yn ceisio dweud bod y cyfraniad hwnnw'n rhy hir, yn enwedig y pwynt olaf a wnaed. Ond, Gweinidog, atebwch mor gryno â phosibl.

Diolch. O ran busnesau sy'n gysylltiedig â thwristiaeth, rydym yn amlwg yn cynnal trafodaethau parhaus â Llywodraeth y DU. Mae fy nghyfaill a'm cyd-Aelod Dafydd Elis-Thomas mewn cysylltiad rheolaidd iawn â chymheiriaid yn Llywodraeth y DU ac mae wedi bod yn trafod pecyn cymorth sy'n gysylltiedig â thwristiaeth a lletygarwch gan Lywodraeth y DU. Bydd grantiau datblygu busnes yn gofyn i fusnesau ddangos sut y mae ganddynt gynllun i fynd y tu hwnt i'r coronafeirws, er mwyn goroesi nid yn unig yr her uniongyrchol ond ffynnu yn y dyfodol.

Derbyniaf y pwyntiau a godwyd ynglŷn â materion lles anifeiliaid yn fawr iawn. Rydym mewn trafodaethau ar draws adrannau o fewn Llywodraeth Cymru ynghylch y cymorth sy'n ofynnol gan atyniadau ymwelwyr anifeiliaid. Ond, mae'n rhaid dweud ein bod, drwy ddau gam cyntaf y gronfa cadernid economaidd, wedi gallu buddsoddi'n helaeth iawn mewn sŵau ac atyniadau anifeiliaid eraill.

O ran y cynnig Nadolig sy'n cydymffurfio â rheolau COVID a awgrymwyd gan yr Aelod, rwy'n credu mai manwerthu, mae'n debyg, sydd angen y cymorth mwyaf yn hyn o beth. Pan siaradais â Chonsortiwm Manwerthu Cymru yn ddiweddar, dywedon nhw mai eu neges i ddefnyddwyr yw prynu nawr a pheidio ag aros tan yn agos i'r Nadolig—prynwch gam wrth gam—ac rwy'n sicr yn cefnogi'r neges honno i boblogaeth Cymru.

O ran cyfleu'r neges yn ehangach ynglŷn ag atyniadau sydd ar agor, wrth gwrs, mae gan Gymdeithas Atyniadau Ymwelwyr Cymru ran bwysig i'w chwarae yn hyn o beth, sef sicrhau bod y cyhoedd yn ymwybodol bod atyniadau ymwelwyr yn gweithredu mewn ffordd ddiogel iawn sy'n rhydd rhag COVID. Mae Dafydd Elis-Thomas a minnau, ein dau, yn siarad ag atyniadau ymwelwyr sydd wedi dangos adnoddau anhygoel wrth addasu i'r coronafeirws, sy'n gweithredu'n ddiogel ac sy'n derbyn adborth da gan gwsmeriaid o ganlyniad i'r camau cyfrifol a gymerwyd ganddynt. Rydym eisiau gallu helpu busnesau fel y rhain drwy ddefnyddio'r grantiau datblygu busnes hynny, a fydd nid yn unig yn cynnig pont drwy'r coronafeirws ond cyfle i adfer pan fyddwn wedi dod trwy'r pandemig hwn.

Gweinidog, diolch am eich datganiad y prynhawn yma ac am y gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynorthwyo ein busnesau drwy gydol y pandemig hwn. Ategaf bryderon Helen Mary Jones ynglŷn â'r sector dur. Gwrandewais ar eich atebion, ond rwyf wedi colli hyder yn Llywodraeth y DU ar hyn o bryd, yn enwedig gan ei bod yn ymddangos bod Prosiect Birch wedi dod i ben. Felly, gofynnaf i chi nid yn unig i siarad â nhw ond i weiddi'n uchel a'u galw allan ar Brosiect Birch.

O ran cam 3 y Gronfa Cadernid Economaidd, a allwch gadarnhau y gall busnesau sydd o bosibl eisoes wedi gwneud cais am gymorth wneud cais am fwy o gymorth o'r gronfa hon? Er enghraifft, mae gennyf fusnes yn fy etholaeth i sy'n darparu peirianneg sain ar gyfer cyngherddau mawr a digwyddiadau awyr agored. Nawr, nid ydynt wedi cael unrhyw fusnes ers dechrau'r cyfyngiadau symud ac mae'n annhebygol y bydd ganddynt unrhyw fusnes am y misoedd nesaf. Mae'n debyg na allant fforddio cynnwys cyllid i gefnogi hynny oherwydd nid ydynt wedi cael incwm yn y cyfnod hwnnw. A allwch gadarnhau bod busnesau fel hynny'n gallu cael arian o'r gronfa hon i sicrhau y gallant oroesi? Maent yn cynnig gwasanaeth gwych i'r diwydiant a'r sector adloniant, ond heb y cymorth hwnnw efallai na fyddant yma ymhen chwe mis.

A allaf ddiolch i Dai Rees am ei gwestiynau a'i sicrhau ein bod yn cyflwyno'r achos dros ddiwydiant dur Cymru bob wythnos y mae gennym gysylltiad â Llywodraeth y DU? Mae'n gwbl hanfodol bod cymorth yn cael ei gyflwyno ar gyfer y sector dur ac, fel y dywedais yn gynharach, ar gyfer y sector modurol, ar gyfer awyrofod ac ar gyfer hedfan.

Gan roi sylw uniongyrchol i'r cwestiwn a gododd am gymorth drwy drydydd cam y gronfa cadernid economaidd, gallaf gadarnhau y gall busnesau a oedd wedi gwneud cais am gymorth o'r blaen, p'un a oeddent wedi'i sicrhau ai peidio, wneud cais am y trydydd cam hwn o gymorth gan y gronfa cadernid economaidd, oherwydd mae'r math o gymorth yr ydym yn ei gynnig y tro hwn yn wahanol. Mae'n ymwneud â sicrhau y gall busnesau oroesi drwy gyfyngiadau lleol a bod busnesau'n gallu addasu i'r economi newydd.

16:30

Ac i orffen y datganiad hwn, un cwestiwn olaf—Mick Antoniw.

Diolch, Gweinidog, am eich datganiad ac am y manylion am y cyllid hwn. A gaf i ofyn yn gryno iawn am y diwydiant coetshis a theithiau—? Mae gennyf gannoedd o bobl a gyflogir yn fy etholaeth i sy'n gweithio yn y diwydiant hwn, a gwn eich bod yn gyfarwydd ag ef—a wnewch chi ystyried a yw'n briodol i rai o'r cwmnïau hyn gael eu categoreiddio fel trafnidiaeth yn hytrach na thwristiaeth a lletygarwch, sy'n gymaint yn rhan o'u busnes, oherwydd nid yw cael eu categoreiddio felly yn eu hanghymhwyso rhag rhai budd-daliadau o ran TAW, o ran y dreth gyngor ac yn y blaen? Mae'n ymddangos i mi y byddai hynny o gymorth sylweddol, yn enwedig i gwmnïau bysiau yn fy etholaeth.

Rwy'n sicr yn croesawu'r datganiad o ran hedfan a'ch sylwadau yn y fan yna. Mae Keir Starmer, arweinydd y Blaid Lafur, wedi galw am newid y gyfraith i'w gwneud yn anghyfreithlon i gwmnïau ddiswyddo ac ail-gyflogi ar delerau ac amodau is. A fyddech chi'n cefnogi galwad am y newid hwnnw yn y gyfraith? A hefyd, o ran grantiau, a wnewch chi sicrhau na fyddai cwmnïau sy'n dilyn y camau gweithredu hynny yn gymwys yn foesegol i gael cymorth gan Lywodraeth Cymru?

Diolch i Mick Antoniw am ei gwestiynau. Byddwn ni'n sicr yn edrych ar gategoreiddio cwmnïau bysiau. Wrth gwrs, bydd cwmnïau bysiau'n gallu gwneud cais ac, os ydyn nhw'n bodloni'r meini prawf, byddan nhw'n gallu sicrhau cyllid cadernid economaidd drwy'r trydydd cam, yn union fel yr oedden nhw'n gallu ei sicrhau yn ystod dau gam cyntaf y cymorth.

Byddwn i hefyd yn adleisio'r sylwadau a wnaeth Mick Antoniw ynglŷn â diswyddo a chyflogi. Mae'n hanfodol, fel y dywedais mewn ymateb i gyfraniad cynharach, wrth i ni edrych ar yr adferiad ein bod yn ceisio lleihau anghydraddoldebau, er mwyn gwella arferion gweithio teg, yn hytrach na chaniatáu'r hyn sy'n digwydd yn y rhan fwyaf o amgylchiadau pan fydd dirwasgiad, sef eich bod yn gweld hawliau gweithwyr yn cael eu disbyddu, eich bod yn gweld anghydraddoldebau'n lledu, eich bod yn gweld y cymunedau hynny a adawyd ar ôl cyn i ddirwasgiad gael eu gadael ar ôl hyd yn oed yn fwy ar ôl i chi ddod allan ohono. Ni fydd hynny'n digwydd y tro hwn. Rydym yn benderfynol o sicrhau ein bod yn adeiladu economi decach a gwyrddach a mwy cyfiawn.

8. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol: Canol Trefi: Diogelu eu dyfodol

Symudwn yn awr at eitem 8, sy'n ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog dros Dai a Llywodraeth Leol ar ganol trefi—diogelu eu dyfodol. Hannah Blythyn.

Diolch, Dirprwy Lywydd dros dro. Roeddwn i eisiau manteisio ar y cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y pecyn trawsnewid trefi gwerth £90 miliwn a gyhoeddwyd ym mis Ionawr a'r datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd ychydig cyn toriad yr haf ar gymorth i ganol ein trefi ymdopi â phandemig y coronafeirws.

Mae ymdeimlad o falchder wrth wraidd cymunedau ledled y wlad. Lleoedd hamdden, byw, gweithio a dysgu. Trefi sy'n cyfateb i anghenion heddiw wrth barhau i fod wedi'u gwreiddio i'w treftadaeth falch. Nid yw'r pandemig wedi newid ein hymrwymiad na'n huchelgais. Os rhywbeth, mae wedi'i atgyfnerthu a'i ail-danio. Ond mae wedi newid yr amgylchiadau ac wedi cyflymu tueddiadau sefydledig fel twf gwerthiannau ar-lein a phwysau ar y sector manwerthu.

Rydym ni hefyd wedi gweld newidiadau mwy cadarnhaol, a gwerthfawrogiad newydd o'r mannau gwyrdd a natur ar garreg y drws a llai o draffig, tagfeydd ac, o ganlyniad, allyriadau, ochr yn ochr â newid tuag at siopa'n lleol a'r cynnydd ym mhoblogrwydd marchnadoedd awyr agored. Mae'n rhaid i ni gadw'r newidiadau cadarnhaol hyn. Mae creu cymunedau gwyrdd a glân, gyda gwelliannau fel gwyrddio mannau cyhoeddus, mynd i'r afael â draenio a gwella ansawdd aer, yn ganolog i lunio canol trefi y dyfodol.

Mae cymorth seilwaith gwyrdd trawsnewid trefi yn ein galluogi i roi'r dyhead hwn ar waith heddiw, gydag 20 o brosiectau gwerth cyfanswm o £9 miliwn, fel y cynllun yn y Drenewydd a f