Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Plenary - Fifth Senedd
08/07/2020Cynnwys
Contents
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 11:01 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Croeso, bawb, felly, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, dwi eisiau nodi ychydig o bwyntiau. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y Cyfarfod Llawn yma heddiw, ac mae'r rhain wedi'u nodi ar eich agenda chi. Dwi hefyd eisiau atgoffa'r Aelodau bod y Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â threfn yn y Cyfarfod Llawn yn gymwys i'r cyfarfod yma, ac maen nhw yr un mor berthnasol i Aelodau yn y Siambr â beth ydyn nhw i'r Aelodau sy'n ymuno yn y cyfarfod rhithwir.
Yn gyntaf y prynhawn yma—.
Yr wythnos hon mae’n bum mlynedd ar hugain ers hil-laddiad erchyll Srebrenica. Rydym yn cofio am y dioddefwyr, y goroeswyr a phawb yr effeithiwyd arnynt gan y fath weithred gywilyddus o gasineb ar yr adeg hon. Hoffwn wahodd y Prif Weinidog i wneud datganiad yn awr.
Diolch yn fawr, Lywydd. Fel y dywedoch chi, eleni, rydym yn nodi pum mlynedd ar hugain ers hil-laddiad Srebrenica. Ym mis Gorffennaf 1995, fe wnaeth y Cadfridog Ratko Mladić a'i unedau parafilwrol Serbaidd drechu a chipio tref Srebrenica, gan anwybyddu'r ffaith bod yr ardal wedi'i dynodi'n lle rhydd rhag unrhyw ymosodiad arfog neu weithred elyniaethus arall. Yn y dyddiau a ddilynodd cwymp y dref, lladdwyd dros 8,000 o ddynion a bechgyn Mwslimaidd Bosniaidd. Cafodd miloedd o fenywod, plant a phobl oedrannus eu halltudio drwy orfodaeth. Dyma oedd yr erchyllter mwyaf ar bridd Ewrop ers diwedd yr ail ryfel byd.
Heddiw, cofiwn y rhai a gollodd eu bywydau yn Srebrenica. Mae ein meddyliau gyda'r rhai sydd wedi goroesi, ac sydd wedi gwneud cymaint i sicrhau na fydd y gymuned ryngwladol yn eu hanghofio. Mae Srebrenica yn enw arall ar y rhestr o drefi a gwledydd sydd wedi eu llygru gan gasineb a hil-laddiad, ond mae hefyd yn ein hatgoffa o'r hyn sy'n digwydd pan fydd neb yn herio casineb a rhagfarn. Mae'n ein hatgoffa ni i gyd i sefyll gyda'n gilydd yn erbyn y casineb a'r rhaniadau yn ein cymunedau ein hunain yn ei holl ffurfiau, ble bynnag rydym ni yn y byd. Yng ngwasanaeth coffa'r Holocost yn gynharach eleni a fynychwyd gan nifer ohonom yma, clywsom gan Srebrenica, a chlywsom y slogan a ddywedir mor aml, 'Byth eto', a'r bwlch y mae'n rhaid i ni i gyd weithio mor galed i’w gau rhwng yr uchelgais hwnnw a'r gweithredoedd rydym yn dal i’w gweld o'n cwmpas yn y byd. Rhaid inni ddysgu o'r eiliadau tywyll hyn o hanes.
Mae Cymru’n Cofio Srebrenica.
Rwy'n falch o'r berthynas y mae ein Senedd wedi'i meithrin â Cofio Srebrenica a chyda phobl Bosnia. A'r person sydd wedi arwain ar y gwaith hwnnw i'r Senedd hon—gofynnaf i David Melding siarad yn awr ar ran yr elusen Cofio Srebrenica. David Melding.
Diolch, Lywydd. A gaf fi ddiolch i chi, yn bersonol, a'r Comisiwn hefyd am ganiatáu inni gael y datganiad hwn heddiw, sy'n briodol iawn yn fy marn i nodi pum mlynedd ar hugain ers y digwyddiad? Fel y dywedoch chi, roedd yn anrhydedd i mi arwain dirprwyaeth o’r Comisiwn yn 2015. Gwelwyd digwyddiad mawr yn y flwyddyn honno hefyd—digwyddiad cenedlaethol Cymru y flwyddyn honno—yn y Senedd, ac fe'i cynhaliwyd yn urddasol ac yn bwrpasol iawn.
Nawr, dyma ni, 25 mlynedd wedi'r gyflafan ofnadwy—y bennod dywyllaf, o ran gwrthdaro Ewropeaidd, ers yr ail ryfel byd. Fel y Prif Weinidog, rwy'n gwisgo blodyn Srebrenica. Cafodd y blodyn hwn ei grosio gan Famau Srebrenica—mamau'r dioddefwyr. Rwy'n credu y dylem gofio am yr holl berthnasau a fu’n byw gyda'r ing ofnadwy o fod wedi gweld eu hanwyliaid yn cael eu llofruddio yn y gyflafan ofnadwy honno.
Hoffwn dalu teyrnged hefyd i fwrdd Cofio Srebrenica Cymru, yn enwedig Saleem Kidwai ac Abi Carter, sef y cyd-gadeiryddion, sy'n gwneud llawer—cymaint—i godi ymwybyddiaeth o'r digwyddiad ofnadwy hwn yn ein hanes, ond hefyd beth y dylem fod yn ei wneud yn ein cymunedau ein hunain i sicrhau na chaniateir i gasineb o'r fath ffynnu yn unrhyw le yn Ewrop.
Rwyf eisiau sôn hefyd am ba mor gydgysylltiedig ydym ni trwy waith heddwas o Gymru, Howard Tucker, a oedd yn bennaeth llu ymchwilio’r Cenhedloedd Unedig yn gynnar yn y 2000au, a arweiniodd at gymaint o’r casglu tystiolaeth ac a’i gwnaeth hi’n bosibl cynnal achosion yn yr Hag yn erbyn y troseddwyr rhyfel. Mae'n atgoffa bod gan Gymru ei rhan i'w chwarae trwy lawer o'i dinasyddion.
Gwlad fach ydym ni, fel Bosnia, a gobeithio y bydd y cysylltiadau'n parhau, fel y cawsant eu harwain gan y Senedd. Hefyd, rwy’n cymeradwyo gwaith Llywodraeth Cymru yn achub ar gyfleoedd i hyrwyddo ymwybyddiaeth o Srebrenica drwy’r cwricwlwm addysgol, er enghraifft.
Mae gan bob un ohonom ein rhan i'w chwarae yn amddiffyn democratiaeth gref, sydd ond yn gallu ffynnu ar sail goddefgarwch diwylliannol a dathliad o ddiwylliannau a thraddodiadau amrywiol. Pan wnawn hynny yng Nghymru, rydym hefyd yn helpu pobl Bosnia, fel y gwnawn gyda'n cysylltiadau uniongyrchol â hwy y gobeithiaf y byddant yn parhau am amser maith. Diolch yn fawr iawn.
Diolch, David Melding a'r Prif Weinidog. Mae Cymru'n cofio Srebrenica, ac mae ein Senedd yn gwneud hynny heddiw.
Dychwelwn heddiw, wrth gwrs, i'r Siambr hon, rai ohonom, a chofiwn am Mohammad Asghar, a gollasom yn ystod yr wythnosau diwethaf. Ar ran yr holl Aelodau, byddwn yn cofio’n annwyl heddiw am ein cyd-Aelod, Mohammad Asghar.
Ond heddiw hefyd, yw'r diwrnod rydym yn croesawu Aelod newydd, Laura Anne Jones—ar ran y Senedd, croeso—Aelod newydd i’r lle hwn dros Ddwyrain De Cymru. Edrychwn ymlaen at eich cyfraniadau yma yn y Siambr. Felly, galwaf yn awr ar Laura Anne Jones i wneud ychydig o ddatganiadau.
Diolch yn fawr, Lywydd. Mae heddiw, i mi, yn ddiwrnod o emosiynau cymysg. Rwy’n hynod o falch wrth gwrs, ac yn teimlo anrhydedd o gael sefyll yma eto i gynrychioli pobl de-ddwyrain Cymru yn y Siambr hon. Ond mae'r teimladau hyn yn gymysg â thristwch mawr. Hoffwn yn fawr pe bawn wedi cael y cyfle hwn i wasanaethu, ac y gallwn ei gyflawni, heb fod wedi colli ein hannwyl gyfaill, Mohammad Asghar.
Mae'r rhain yn amgylchiadau trasig i ddod yn Aelod o'r Senedd hon. Rwy’n ddiolchgar am y cyfle, felly, Lywydd, i ddweud ychydig eiriau am ein ffrind a’n cyd-Aelod, a adwaenem yn hoffus yn ein plaid ac yn y Siambr hon, fel Oscar.
Roedd Oscar yn ddyn caredig, gofalgar a hael, a gwn y bydd pawb yn y Siambr hon a thu hwnt yn gweld ei eisiau'n enbyd—y disgleirdeb drygionus hwnnw yn ei lygad a'r chwerthin heintus hwnnw. Roedd Oscar yn caru ei deulu yn fwy na dim yn y byd, ac roedd yn trin ei staff a'r gymuned ehangach fel teulu hefyd. Mae fy meddyliau a fy ngweddïau gyda Natasha a Firdaus, ei deulu a'i ffrindiau, ar yr adeg enbyd o drist hon.
Roedd Oscar o ddifrif ynglŷn â’i rôl, yma ac yn ei waith yn amddiffyn cymunedau de-ddwyrain Cymru, ac roedd yn ymrwymedig iawn i'r ddwy rôl. Daeth hyn yn amlwg iawn pan fynychais ei angladd, ac roedd pobl wedi dod allan i’r strydoedd i'w anrhydeddu. Yn amlwg, fe wnaf bopeth a allaf, i anrhydeddu Oscar fy hun, a gwneud fy ngorau glas i barhau â'i waith a rhoi llais i'r rhai y mae gennyf gyfrifoldeb yn awr i'w cynrychioli. Byddaf yn ceisio hyrwyddo'r achosion a oedd yn agos at galon Oscar: tegwch, cyfiawnder cymdeithasol, addysg, a hyd yn oed criced—camp rwy’n rhannu ei gariad tuag ati.
Trwy gydol ei amser fel Aelod Cynulliad ac fel Aelod o’r Senedd, câi ei arwain gan un gred: y dylai pawb o unrhyw gefndir allu camu ymlaen mewn bywyd, ac roedd yn benderfynol iawn o’u helpu. Roedd Oscar yn berson a garai bobl a chanddo galon mor fawr â dinas Casnewydd a garai cymaint. Credai'n gryf mewn menter rydd, a daeth â'r Bil menter yma i'r Cynulliad hwn wrth gwrs, Bil a oedd yn cynnwys cynigion i dyfu'r economi.
Nid oedd byth yn brin o syniadau, a chofiaf un araith yng nghynhadledd plaid y Ceidwadwyr Cymreig pan amlinellodd ei gynigion ar gyfer cwmni hedfan yng Nghymru, a hynny heb unrhyw ymgynghori, ynghyd â’i gynlluniau i ddiwygio'r system nawdd cymdeithasol i gael gwared ar yr angen am fanciau bwyd.
Roedd twf economaidd yn bwysig i Oscar, nid fel nod ynddo'i hun ond fel modd o gyflawni'r hyn a ddymunai ei gyflawni. Roedd Oscar eisiau creu economi lwyddiannus a deinamig yng Nghymru i drechu tlodi, galluogi symudedd cymdeithasol, ac i ddarparu’r gwasanaethau o ansawdd uchel y mae pobl eu hangen ac yn eu haeddu.
Roedd ei awydd angerddol i helpu pobl yn seiliedig ar ei ffydd Fwslimaidd ddofn. Fodd bynnag, roedd yn parchu pobl o bob ffydd grefyddol ac yn eu helpu i ddeall ei ffydd ei hun.
Bu llawer o deyrngedau gwych i Oscar o'r Senedd hon ac ymhell tu hwnt iddi; yr arweinwyr yn y dwyrain canol lle roedd Oscar wedi ymrwymo i hyrwyddo heddwch, a chan Brif Weinidog y DU a ddiolchodd iddo am ei wasanaeth cyhoeddus gan gydnabod y bydd y gwaith a wnaeth Oscar yn cael effaith gadarnhaol barhaol, ac rwy’n siŵr fod ei deulu’n falch iawn o hynny.
Pleser a braint oedd adnabod Mohammad Asghar. Roedd yn Gymro balch, yn Brydeiniwr balch, ac yn falch o'i etifeddiaeth Bacistanaidd. Lywydd, efallai fod golau Oscar wedi diffodd, ond bydd yr effaith gadarnhaol a gafodd ar ei gymuned a'i wlad bob amser yn aros. Fe ymdrechaf i barhau â'i waith da hyd eithaf fy ngallu. Diolch. Diolch yn fawr, Lywydd.
Diolch, Laura Anne Jones, am eich geiriau caredig iawn i gofio am Mohammad Asghar, fel rydym ni i gyd yn cofio amdano heddiw, a phob dymuniad da i chi yn eich gwaith yma yn y Senedd.
Cwestiynau i'r Prif Weinidog nawr yw'r eitem nesaf, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Delyth Jewell.
1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am leihau'r risg o heintiadau COVID-19 mewn ffatrïoedd a lleoliadau caeedig eraill? OQ55438
Diolch, Llywydd. Jest cyn ateb y cwestiwn, gaf i jest ddweud gair o ddiolch i chi a phob un sydd wedi gweithio mor galed i baratoi y Siambr i'n helpu ni i gyd i ddod nôl fan hyn heddiw?
Ddydd Llun, Lywydd, cadeiriais gyfarfod cyntaf grŵp i sefydlu fforwm iechyd a diogelwch cenedlaethol ar gyfer Cymru, fel y cynigiwyd ar y cyd gan Gyngres yr Undebau Llafur a Chydffederasiwn Diwydiant Prydain yng Nghymru. Bydd yn cynghori ar fesurau i leihau risg mewn lleoliadau caeedig, yn ychwanegol at y canllawiau helaeth a gyhoeddwyd eisoes ar gyfer y sector.
Diolch i'r Prif Weinidog am ei ymateb. Ysgrifennais at Kepak a chyngor Merthyr Tudful ar 1 Ebrill eleni i fynegi fy mhryderon ynghylch diffyg gweithdrefnau cadw pellter cymdeithasol a hylendid yn eu ffatri ym Merthyr Tudful ar ôl i etholwr dynnu fy sylw at y mater. Roedd yr etholwr yn pryderu y gallai achosion o COVID-19 ddigwydd yno oni bai bod rheoliadau priodol yn cael eu rhoi ar waith, ac roedd hwnnw’n bryder y gellid ei gyfiawnhau yn anffodus. Nawr, er bod fy llythyr at y cwmni heb gael ei ateb, rhoddodd y cyngor gamau ar waith: dywedasant wrthyf eu bod wedi trefnu i'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch sicrhau bod y rheoliadau perthnasol yn cael eu dilyn, a'u bod wedi trefnu i gael gweithiwr amser llawn o’r Asiantaeth Safonau Bwyd ar y safle. Ond gwyddom nad oedd hyn yn ddigon i atal clwstwr o achosion o COVID-19 yn y ffatri, a chredir bod 135 o bobl bellach wedi'u heintio.
Brif Weinidog, carwn wybod a oeddech chi'n ymwybodol fod pryderon wedi'u lleisio ynglŷn â’r ffatri ac a oeddech chi'n fodlon â'r camau a gymerwyd gan gyngor Merthyr Tudful. O ystyried bod yr achosion wedi digwydd er gwaethaf eu hymdrechion gorau, a ydych chi’n cytuno yn awr fod angen i chi edrych eto ar dynhau rheoliadau ar gyfer gweithleoedd risg uchel fel ffatrïoedd prosesu cig, ac y dylid defnyddio ein capasiti i gynnal profion ychwanegol yn rheolaidd i brofi gweithwyr sy'n gweithio o dan yr amodau hyn fel y gellir cyfyngu’n well ar nifer yr achosion yn y dyfodol?
Lywydd, a gaf fi ddiolch i'r Aelod am y cwestiwn hwnnw? Wrth gwrs, codwyd pryderon am y ffatri gan fy nghyd-Aelod Dawn Bowden, a daethpwyd â’r pryderon hynny i sylw awdurdodau eraill sy'n gyfrifol am sicrhau diogelwch yn y ffatri yn ogystal â’r awdurdod lleol. Goruchwylir hynny bellach gan dîm rheoli achosion, sy'n cynnwys aelodau o'r awdurdod lleol, y bwrdd iechyd lleol, Iechyd Cyhoeddus Cymru, adran iechyd yr amgylchedd, yr Asiantaeth Safonau Bwyd a'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch. Mae'r tîm hwnnw'n ymchwilio i'r hyn sydd wedi achosi'r nifer o achosion a welsom yn Kepak Merthyr Tudful.
Nid yw'n glir o hyd yn y wybodaeth a welais mai yn y ffatri yr achoswyd y cynnydd yn nifer yr achosion, yn hytrach na bod yr haint wedi'i drosglwyddo i'r ffatri o'r gymuned. Mae'r gwaith hwnnw'n dal i fynd rhagddo, ac mae Llywodraeth Cymru yn cael y wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd am gyfarfodydd y tîm hwnnw—cynhelir un ohonynt heddiw—a byddwn yn cael ein llywio gan eu hymchwiliadau a'r argymhellion y disgwyliaf eu clywed ganddynt.
Brif Weinidog, sylwaf fod Sefydliad Iechyd y Byd yn debygol o addasu ei gyngor ar yr effaith cwmwl a gynhyrchir drwy anadlu ac y gall y gronynnau bach iawn sy'n cael eu cynhyrchu felly hongian yn yr awyr am oriau, ac maent yn arbennig o dueddol o wneud hynny mewn mannau bach fel toiledau lle ceir sychwyr dwylo, er enghraifft. A allwch chi ein sicrhau, wrth inni gael mwy o wybodaeth wyddonol am y clefyd hwn, y byddwch yn addasu eich canllawiau ar beth sy'n briodol i'w wneud, gan sicrhau eu bod yn cyrraedd y rhai y mae angen iddynt wybod—[Anghlywadwy.]—?
Diolch i David Melding am hynny. Cafodd rhai ohonom gyfle i drafod y mater hwn yn fyr gyda'r prif swyddog meddygol yn gynharach heddiw. Ei ddehongliad ef o'r dystiolaeth sydd wedi dod i'r amlwg yn Sefydliad Iechyd y Byd yw bod y rhan fwyaf o'r trosglwyddiad yn dal yn fwy tebygol o gael ei basio drwy ddiferion yn hytrach na thrwy ronynnau mân, a dyna oedd barn feirolegwyr Cymru ddoe. Ond wrth gwrs, gallaf roi sicrwydd i'r Aelod ein bod yn parhau i ddilyn y wyddoniaeth, ac os yw'r wyddoniaeth yn newid ac os oes angen newid ein gweithredoedd, byddwn yn cymryd y camau hynny yn unol â'r dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg.
O'r cychwyn, gwelwyd bod coronafeirws yn feirws sy'n ymddwyn mewn ffyrdd annisgwyl, a gwyddom lawer iawn mwy yn awr nag a wyddem ychydig wythnosau yn ôl. Bydd y dystiolaeth a ddaeth i'r amlwg ddoe a thros nos yn rhan o'r corff o dystiolaeth y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i bwyso arno.
Diolch am yr atebion i gwestiwn Delyth Jewell, Brif Weinidog, a diolch i chi hefyd am gydnabod y gwaith a wnaed yno gyda'r cwmni, gyda'r cyngor a chyda phartneriaid eraill ers cryn dipyn o wythnosau cyn hyn.
A gaf fi ddiolch i'r tîm rheoli digwyddiadau ym Merthyr Tudful a Llywodraeth Cymru am y diweddariadau am y digwyddiad? Mae hynny wedi bod yn amhrisiadwy o ran rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni. Hyd yma, mae'n galonogol clywed bod y digwyddiad hwn dan reolaeth o hyd ac nad oes tystiolaeth, ar hyn o bryd, o drosglwyddiad cymunedol, a diolch i bawb sy'n cydweithredu i sicrhau bod hynny'n dal yn wir. Fodd bynnag, yng ngoleuni'r digwyddiad hwn, a allwch ddweud wrthyf p'un a oes unrhyw weithleoedd mawr eraill yn yr ardal, yn enwedig rhai sydd â nodweddion amgylcheddol tebyg nad ydynt bob amser yn gallu rheoli mesurau cadw pellter cymdeithasol, yn mynd i gael eu harolygu hefyd ac y bydd profion yn cael eu cynnal ar eu gweithluoedd?
Ac a gaf fi ofyn pa fesurau y mae'r tîm rheoli digwyddiadau yn eu rhoi ar waith i sicrhau yr eir i'r afael â materion cydlyniant cymunedol hefyd, o gofio bod gweithlu mudol mawr iawn o ddwyrain Ewrop yn y ffatrïoedd hyn?
Diolch i Dawn Bowden am hynny ac am ei chydnabyddiaeth o'r gwaith y mae'r tîm rheoli digwyddiadau wedi'i wneud. Cytunwyd yn unfrydol yn ddiweddar na ddylid datgan bod clwstwr o achosion yn y ffatri ac y dylid parhau i'w reoli fel digwyddiad.
Lywydd, mae Dawn Bowden yn gwneud dau bwynt pwysig, yn gyntaf, mewn perthynas ag arolygu ffatrïoedd eraill; yn sicr, byddwn yn disgwyl mwy o ymwybyddiaeth ymysg yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ac eraill o'r angen i wneud hynny. Ac a gaf fi dalu teyrnged, am funud, i rôl yr undebau llafur yn yr holl safleoedd hyn? Mae llawer o'r wybodaeth o'r rheng flaen a gawn yn dod trwy'r mudiad undebau llafur ac mae'n ein rhybuddio am yr angen i archwilio, a lle mae’r dystiolaeth yn awgrymu y dylid gwneud hynny, i ymestyn profion i gynnwys lleoliadau eraill.
Mae'r ail bwynt y mae Dawn Bowden yn ei wneud hefyd yn bwysig iawn, Lywydd—materion yn ymwneud â chydlyniant cymunedol—ac mae hynny wedi bod ar flaen ein meddyliau yn yr holl safleoedd a fu’n gysylltiedig ag achosion niferus neu ddigwyddiadau. Ac rydym wedi dysgu nifer o bethau am yr angen am negeseuon mewn ieithoedd heblaw Saesneg a Chymraeg, i ddod o hyd i wahanol ffyrdd o gyfathrebu â gweithluoedd o rannau eraill o'r byd, ac yna i gyfathrebu'n glir â phobl eraill yn yr ardaloedd hynny ynglŷn â phan fydd tystiolaeth, neu yn yr achosion hyn, pan na fydd tystiolaeth, o drosglwyddiad cymunedol ehangach helaeth er mwyn tawelu ofnau sy'n codi'n anochel y gallai hyn fod yn glwstwr o achosion neu'n ddigwyddiad nad yw wedi'i gyfyngu i'r ffatri ei hun.
2. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i adolygu ei chanllawiau ar y defnydd o orchuddion wyneb gan aelodau o'r cyhoedd? OQ55432
Lywydd, mae canllawiau Llywodraeth Cymru yn annog ond nid yw'n mandadu'r defnydd o orchuddion wyneb tair haen mewn lleoliadau cyhoeddus lle nad yw'n bosibl cadw pellter cymdeithasol. Mae'r canllawiau hynny'n cael eu hadolygu'n barhaus.
Diolch, Brif Weinidog. Gwyddom bellach y gellir lledaenu’r feirws SARS-CoV-2, nid yn unig gan beswch a thisian, ond y gellir ei gario mewn microddiferion ac y gall cludwyr asymptomatig ei ledaenu. Caiff microddiferion eu cynhyrchu trwy anadlu a siarad. Rydym hefyd yn gwybod y gall gorchuddion wyneb helpu i ddal microddiferion ac atal lledaeniad coronafeirws. Felly, pam y mae Cymru yn un o'r ychydig wledydd yn y byd nad yw'n gorchymyn defnyddio gorchuddion wyneb mewn rhai lleoliadau? Hoffwn weld gorchuddion wyneb yn orfodol ym mhob lleoliad cyhoeddus.
Brif Weinidog, a wnewch chi ymrwymo yn awr i’w gwneud yn orfodol i wisgo gorchuddion wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus ac i adolygiad brys i weld a ddylai'r canllawiau hynny ymestyn i gynnwys pob man cyhoeddus? Diolch.
Wel, Lywydd, rwy’n ymrwymo i ddal ati i adolygu’r mater ac i gymryd cyngor gan y rhai sydd yn y sefyllfa orau i roi cyngor hwnnw i ni. Ac mae'r cyd-destun yn newid ac efallai y bydd y cyngor yn newid, ac os bydd y cyngor yn newid, bydd ein safbwynt yng Nghymru yn newid hefyd.
Ond rwyf am ddweud wrth yr Aelod nad yw gwisgo gorchudd wyneb ynddo'i hun yn fwled hud sy'n atal pobl rhag dal neu ledaenu coronafeirws. Mae ein prif swyddog meddygol ein hunain bob amser wedi bod yn bryderus, ac mae'n bryder y gwelaf fod rhannau eraill o'r byd yn ei rannu, pan fydd pobl yn gwisgo gorchudd wyneb, eu bod yn gweithredu mewn ffyrdd na fyddent yn ei wneud pe na baent yn ei wisgo; ac maent yn gweithredu mewn ffyrdd mwy peryglus hefyd. Y gred ei bod hi’n iawn rywsut i chi beidio â chydymffurfio â mesurau cadw pellter cymdeithasol, er enghraifft, a pheidio â chymryd gofal wrth ei wisgo a’i dynnu, ac osgoi cyffwrdd â’ch wyneb, oherwydd gwyddom mai dyna un o’r ffyrdd y mae’r feirws yn fwyaf tebygol o gael ei ledaenu.
Felly, er bod yr Aelod yn cyflwyno achos perswadiol, ac rwyf wedi gwrando arno'n ofalus iawn, o ran yr hyn y mae'n ei hyrwyddo, rwy'n credu ei bod yn bwysig i ni roi sylw i'r ffaith bod anfanteision posibl yn ogystal â manteision i hyn; dyna pam ein bod yn ei adolygu'n barhaus. Ac os bydd y sefyllfa'n newid, bydd safbwynt Llywodraeth Cymru yn newid hefyd.
A yw'r Prif Weinidog yn cytuno ei bod yn chwerthinllyd ac yn ddryslyd cael ymagwedd wahanol y naill ochr a’r llall i'r ffin, yn enwedig pan ystyriwch gymaint o bobl sy'n teithio’n ddyddiol o un ochr i'r llall? A all y Prif Weinidog fy sicrhau y bydd yn rhoi’r gorau i fod yn wahanol a’i angen i fod yn wahanol i Loegr heb unrhyw reswm mwy nag i fod yn wahanol, a gwneud yr hyn y mae'r undeb Unite yn ei awgrymu ac adolygu'r canllawiau ar frys i fabwysiadu ymagwedd sy’n dangos mwy o synnwyr cyffredin?
Lywydd, rwy'n croesawu'r Aelod yn ôl i'r Siambr, a chredaf ei bod newydd ddweud yr hyn a ddywedais, sef ein bod yn ei adolygu'n barhaus. Ac rwy'n effro iawn i effaith y ffin yma. Mae yna gamau gweithredu ar y naill ochr a’r llall i'r ffin. Nid yw'n fater o Loegr yn gwneud newid a bod rhaid i Gymru ddilyn. Byddai'n gwbl bosibl bod wedi cael sgwrs gyda Llywodraeth y DU lle gallem fod wedi cyrraedd safbwynt ar y cyd; yn anffodus, ni chynigiwyd y sgwrs honno i ni ar unrhyw adeg.
Ond mae'r Aelod yn gwneud pwynt pwysig ynglŷn â chysondeb ar hyd y ffin, ac mae hynny yn fy meddwl wrth inni adolygu ein safbwynt yn barhaus mewn perthynas â gorchuddion wyneb, a newidiadau eraill a wnaed mewn mannau eraill hefyd.
Rhianon Passmore. Rhianon Passmore, ni allwn eich clywed ar hyn o bryd. A wnewch chi ddweud rhywbeth? Na, ni allwn eich clywed o hyd. A ellir ei gywiro ar unwaith, neu a fydd rhaid i mi symud ymlaen? Na, mae'n ddrwg gennyf, bydd yn rhaid inni symud ymlaen, Rhianon Passmore.
Felly, symudaf yn awr at y cwestiynau gan arweinwyr y pleidiau.
Arweinydd y Ceidwadwyr, Paul Davies.
Diolch, Lywydd. Brif Weinidog, yr allwedd i fynd i’r afael â lledaeniad y feirws ofnadwy hwn, a’i ddileu yn wir, yw rhaglen brofi Cymru a’i gallu i gyrraedd cymaint o bobl â phosibl er mwyn hysbysu pobl yn well cyn iddynt wneud penderfyniadau am ryngweithio’n gymdeithasol. Rydym yn gwybod bod capasiti labordai yng Nghymru ychydig dros 15,000, sydd, fel y gwyddoch, yn dal i fod ymhell o'r 20,000 prawf posibl y dydd a argymhellwyd gan Lywodraeth Cymru yn y ddogfen 'Profi Olrhain Diogelu'. Yn wir, gwyddom mai cyfanswm nifer y profion yn ystod y 24 awr ddiwethaf oedd 3,054, sy'n golygu mai dim ond un rhan o bump o'r capasiti sydd wedi'i ddefnyddio. Ac yn fwy pryderus, yn ôl ffigurau swyddogol, ni chynhaliwyd unrhyw brofion ychwanegol rhwng 28 Mehefin a 5 Gorffennaf ar gyfer gweithwyr gofal iechyd ledled Cymru. Yn amlwg, mae hyn yn dangos y gellid ac y dylid gwneud mwy o brofion. Brif Weinidog, a allwch chi ddweud wrthym pam y mae lefelau profi yng Nghymru mor isel ac a allwch chi ddweud wrthym hefyd beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i godi lefelau profi ledled y wlad?
Wel, Lywydd, rwy'n credu y gallai'r Aelod fod wedi cydnabod y ffaith mai 15,000 o brofion yw'r nifer fwyaf a gawsom erioed ac mae wedi codi'n gyson iawn dros yr wythnosau diwethaf, a bydd mwy o gapasiti’n cael ei ychwanegu at hynny hefyd.
Rwy'n credu bod mater profi, fodd bynnag—nifer y profion a ddefnyddir—yn llawer mwy cymhleth nag y mae'n ei awgrymu, oherwydd yn sail i'w gwestiwn mae'r rhagdybiaeth fod mwy yn well yn awtomatig. Wrth i nifer yr achosion ostwng yng Nghymru, y gwir amdani yw y ceir llai o bobl â symptomau a daw llai o bobl i gael prawf, ac nid yw hynny'n beth drwg ynddo'i hun, oherwydd mae'n dangos i ni fod llawer iawn llai o’r coronafeirws yng Nghymru heddiw nag a oedd wythnos yn ôl, neu fis yn ôl, neu dri mis yn ôl. Felly, nid yw'n fater syml o ddweud, 'Os ydych yn cynnal mwy o brofion, rhaid eich bod yn gwneud yn well.'
Mae angen i chi ddefnyddio eich profion am y rheswm iawn. Mae angen i chi eu defnyddio yn y lle iawn. Mae gan bob lleoliad gofal iechyd fynediad uniongyrchol at brofion, felly lle mae clinigwyr yn credu bod angen cynnal profion, cânt eu cynnal, ac rydym yn cynnal mwy o brofion ar gleifion yn yr ysbyty nag erioed o'r blaen wrth i fwy o bobl ddychwelyd at agweddau eraill ar y gwasanaeth iechyd. Tra bod nifer yr achosion o’r clefyd yn gostwng, bydd llai o bobl â symptomau ac felly bydd llai o bobl yn gofyn am brawf, fel y gall pawb ei wneud. Felly, yr hyn rwy’n ei ddweud, Lywydd, yw ei fod ychydig yn fwy cymhleth na honiad syml sy’n nodi ei fod yn beth gwael os yw nifer y profion yn gostwng, a’i fod yn beth da os yw nifer y profion yn codi.
Brif Weinidog, yr wythnos diwethaf, fe ddywedoch chi’n glir fod gan Weinidogion Cymru bwerau trwy reoliadau i weithredu’n lleol i ailgyflwyno rhai cyfyngiadau er mwyn ymdrin â chlystyrau lleol. Mae'n gwbl hanfodol na chyfyngir ymhellach ar ryddid pobl, felly, os bydd Llywodraeth Cymru ar unrhyw adeg yn penderfynu cyflwyno cyfyngiadau symud lleol yn y dyfodol, mae'n rhaid dweud yn hollol glir wrth bobl Cymru yn union pam y gwnaed y penderfyniad hwnnw, ynghyd â darparu'r dystiolaeth wyddonol a meddygol ddiweddaraf i gyfiawnhau penderfyniad Llywodraeth Cymru.
Felly, Brif Weinidog, a allwch chi ddweud wrthym pa drafodaethau rydych chi eisoes wedi'u cael gyda swyddogion iechyd cyhoeddus ynghylch y gallu i greu cyfyngiadau symud lleol pe bai'r dystiolaeth yn ddigon cryf i awgrymu bod y feirws yn lledaenu mewn cymunedau penodol ledled Cymru? A yw Llywodraeth Cymru wedi dechrau gwneud unrhyw waith modelu mewn perthynas â chyflwyno cyfyngiadau symud lleol yn y dyfodol a pha asesiad rydych chi wedi'i wneud o'r effaith y gallai gwahanol gyfyngiadau symud ei chael mewn gwahanol rannau o Gymru?
Wel, Lywydd, gadewch i mi ddechrau trwy gytuno â'r pwynt cyntaf a wnaeth yr Aelod. Nid wyf yn credu y dylem fyth gyfyngu ar ryddid pobl oni bai bod yr achos dros wneud hynny’n glir iawn a bod gennym dystiolaeth i gyfiawnhau hynny. Rwy'n hollol siŵr, pan wnaeth ei gymheiriaid gwleidyddol yn Llundain y penderfyniad hwnnw mewn perthynas â Chaerlŷr, fod y materion hynny ar flaen eu meddyliau ar y pryd, a byddem yn disgwyl dilyn yr un dull o weithredu.
Mewn perthynas â thystiolaeth, rwy'n awyddus iawn i'n gweld yn cyrraedd pwynt lle rydym yn gallu cytuno'n ffurfiol ar aelodaeth Cymru o gyd-ganolfan bioddiogelwch. Felly, trafodais y mater hwn gyda Michael Gove fore ddoe. Dyma'r corff a fydd yn dwyn gwybodaeth o bob math ynghyd, o bob rhan o'r Deyrnas Unedig, ac yn rhoi'r dystiolaeth orau inni o ddatblygiadau lleol mewn perthynas â'r clefyd, a bydd honno ar gael ym mhob rhan o'r Deyrnas Unedig, a byddant yn safonau cyffredin ac yn ddulliau cyffredin o weithredu, hefyd—y dystiolaeth a ddefnyddir, y sbardunau a nodir ac yn wir, rhai o'r dulliau a fydd yn cael eu gweithredu o ganlyniad i hynny. Rwyf bob amser wedi meddwl y byddai cyd-ganolfan bioddiogelwch yn rhywbeth a fyddai'n ddefnyddiol i ni yng Nghymru. O'r cyngor a gefais gan fy swyddogion, credaf ein bod yn agos at sefyllfa lle gallwn ymrwymo iddi'n ffurfiol, a phwysais ar Mr Gove ddoe i gyflymu'r trafodaethau hynny er mwyn inni allu cyrraedd y sefyllfa honno. Pan fydd gennym gyd-ganolfan—ac mae'r gair 'cyd' yn bwysig iawn; ni all fod yn gorff i'r DU y mae gweinyddiaethau datganoledig yn ddim ond atodiad iddo—rhaid iddi fod yn gyd-ganolfan wirioneddol a chredaf felly y bydd y wybodaeth y mae'n ei darparu yn mynd gryn dipyn o ffordd tuag at ateb llawer o'r cwestiynau y mae Mr Davies wedi'u gofyn i mi y bore yma.
Brif Weinidog, wrth i nifer yr achosion newydd barhau i ostwng ledled Cymru, bydd angen i Lywodraeth Cymru a'r byrddau iechyd lleol ddechrau edrych ar driniaethau a gwasanaethau eraill y GIG, ac fel y gwyddoch, roedd bron i 500,000 yn aros am driniaeth cyn y pandemig COVID-19. Nawr, mae Coleg Brenhinol y Llawfeddygon wedi rhybuddio y bydd oedi o ran llawdriniaethau eisoes wedi arwain at fwy o angen am lawdriniaethau cymhleth, ac mae’r British Heart Foundation hefyd wedi dweud, gan nad yw’r gwasanaethau ar gael o hyd, fod brys cynyddol am y triniaethau hyn, a bod hynny wedi creu carfan sylweddol o gleifion sydd angen triniaeth frys. Brif Weinidog, bydd hyn yn ei dro yn parhau i drethu capasiti’r GIG. Nawr, yng ngoleuni'r pryderon dilys iawn a godwyd gan sefydliadau fel Coleg Brenhinol y Llawfeddygon a’r British Heart Foundation, pa drafodaethau strategol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cael gyda byrddau iechyd lleol i sicrhau y gellir cynnal llawdriniaethau brys a llawdriniaethau wedi’u cynllunio, ac y gall y gweithlu ymdopi â'r ôl-groniad o lawdriniaethau dewisol? Pa sicrwydd y gallwch ei roi i bobl ledled Cymru sy'n aros am driniaethau y byddant yn gallu cael mynediad at driniaethau a gwasanaethau'r GIG, a sut rydych yn cefnogi'r byrddau iechyd lleol i gyflymu'r broses o ailgychwyn llawdriniaethau wedi’u cynllunio ledled Cymru?
Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn pwysig. Ddydd Gwener, pan fyddaf yn gallu cyhoeddi canlyniadau'r cyfnod adolygu tair wythnos cyfredol, gobeithiaf allu egluro i bobl yng Nghymru i ba raddau rydym yn defnyddio'r lle rydym yn gobeithio sydd gennym i symud i barhau i lacio’r cyfyngiadau symud yng Nghymru, ac i ba raddau rydym yn defnyddio'r lle hwnnw i barhau i ailagor y GIG yma yng Nghymru, gan fod honno'n rhan bwysig o'r ffordd y mae’r cyfyngiadau symud yn cael eu llacio, agor mwy o'n gwasanaethau gofal sylfaenol a gofal eilaidd. Nid wyf am ddweud wrth yr Aelod nac wrth unrhyw un arall fod hon yn broses syml. Mae cryn dipyn o waith yn mynd rhagddo i greu parthau gwyrdd, fel y'u gelwir, yn ein hysbytai—parthau heb goronafeirws—fel y gall llawdriniaethau ailddechrau, ac fel y gall pobl fod yn hyderus wrth ddychwelyd i'r lleoliadau hynny na fyddant mewn perygl o gael eu heintio gan bobl sy'n dioddef o'r afiechyd eisoes. Bydd hynny ynddo’i hun yn cyfyngu ar nifer y llawdriniaethau, er enghraifft, y gall theatr eu cyflawni mewn diwrnod, gan fod y lefelau bioddiogelwch sy'n angenrheidiol i atal coronafeirws rhag lledaenu yn real iawn, a byddant yn cael effaith gyfyngol, ar y gorau, ar y graddau y gall gweithgarwch ailddechrau. Ar yr un pryd, Lywydd, mae'r GIG yn gorfod paratoi at y gaeaf sydd o'n blaenau, tymor y ffliw sydd o'n blaenau, a'r rhybuddion y mae pob un ohonom yn eu clywed am don arall o'r coronafeirws dan amodau gaeaf. Felly, er bod ein cymheiriaid yn y GIG yn gwneud ymdrechion enfawr, fel y gwelir yn y cynlluniau ail chwarter y maent wedi'u cyflwyno i Lywodraeth Cymru ar gyfer ailagor y gwasanaeth iechyd, bydd angen cydbwyso llawer o alwadau sy'n cystadlu, ac ni ddylai unrhyw un gredu bod llwybr hawdd neu syml i'w gael yn ôl at y lefelau o weithgarwch y gallai’r GIG yng Nghymru ac mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig eu cynnal cyn COVID.
Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch, Llywydd. Gaf i ar y dechrau ategu ar ran Plaid Cymru y sylwadau ynglŷn â'r hil-laddiad erchyll yn Srebrenica? Yn angof, ni chânt fod.
Brif Weinidog, mae perchennog cartref gofal yn fy etholaeth wedi cysylltu â mi. Dywed fod ei weithwyr yn gweithio'n galed ac nad ydynt yn cael eu gwerthfawrogi, ac mae am i Lywodraeth Cymru gadw at yr addewid a wnaed ym mis Mai y byddai pob gweithiwr mewn lleoliad gofal yn derbyn £500. Nawr, nid yw aros am San Steffan erioed wedi gwneud llawer o les i ni yng Nghymru, ac oes, mae angen i Drysorlys y DU ddod o hyd i'w gwmpawd moesol drwy sicrhau bod y taliad yn ddi-dreth. Ond mae rhywbeth y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud i sicrhau bod gweithwyr yn derbyn y swm llawn o arian a addawyd iddynt, ni waeth beth y bydd San Steffan yn ei benderfynu. Ym mis Rhagfyr y llynedd, gwnaed addewid i feddygon y byddai'r GIG yn talu eu biliau treth am weithio goramser. A fyddwch chi, os bydd angen, yn cynnig yr un sicrwydd treth i ofalwyr fel nad ydynt ar eu colled?
Lywydd, mae Adam Price yn codi pwynt pwysig, ac rydym yn parhau i drafod hynny gyda'r undebau llafur, yn arbennig. Ond byddai gwneud y penderfyniad hwnnw heddiw’n caniatáu i Lywodraeth y DU beidio â gwneud y peth iawn, gan y bydd unrhyw awgrym y byddwn ni yn ei dalu yn gwarantu na fyddant yn gwneud y peth iawn, ac fel y dywedwch, yn ailddarganfod eu cwmpawd moesol ar y mater hwn. Felly, rydym wedi parhau â'r hyn yr ystyriwn eu bod yn drafodaethau adeiladol yn ein barn ni gyda Thrysorlys y DU, i amlinellu ffyrdd y gellid gwneud y taliad hwn heb iddo fod yn agored i dreth ac yswiriant gwladol.
Ni chredaf y gellir dod â'r trafodaethau hynny i ben eto, a chaniatáu i Lywodraeth y DU gael ei hesgusodi rhag cyflawni’i chyfrifoldebau, a gwario mwy o arian Llywodraeth Cymru ar gyfrifoldebau y dylent hwy eu hunain fod yn eu cyflawni. Nid ydym yn gofyn iddynt am arian, fel y gwn fod Adam Price yn ei ddeall; rydym yn gofyn iddynt beidio â mynd ag arian sy'n eiddo i weithwyr Cymru.
Mae'r pandemig COVID-19 wedi tynnu sylw at bwysigrwydd y sector gofal, ac mae’n rhaid i mi ddweud, ar ôl darllen adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, at y ffaith ei fod hefyd yn cael ei esgeuluso. Mae contractau dim oriau a chyflog isel wedi bod yn rhai o nodweddion y sector gofal ers degawdau. Mae ymchwil PayScale yn amcangyfrif mai'r gyfradd fesul awr ar gyfartaledd, er enghraifft, yw £8.19. Does bosibl na ddylai gwerthfawrogi ein gweithwyr gofal ddechrau gyda strwythur tâl addas sy'n debyg i'r un a geir mewn proffesiynau eraill. Ym mis Chwefror, addawodd eich Llywodraeth y byddai staff y GIG ar y cyflogau isaf yn derbyn y cyflog byw gwirioneddol, sef £9.30 yr awr. Oni ddylid defnyddio'r egwyddor honno nawr ar gyfer gweithwyr yn y sector gofal fel cam cyntaf i sicrhau cydraddoldeb â'r GIG? Yn wir, Brif Weinidog, a allwn fforddio peidio â gwneud hynny?
Wel, rwy'n cytuno ag Adam Price, Lywydd, fod yr argyfwng coronafeirws wedi tynnu sylw at y sector a'r ffordd nad yw wedi cael ei werthfawrogi’n iawn ers blynyddoedd lawer. Yn y pen draw, nid her i'r Llywodraeth yw hon; mae'n her i'n cymdeithas gyfan o ran i ba raddau rydym yn barod i dalu am lefelau addas o gyflog, ac amodau gwaith priodol i bobl yn y sector hwnnw. Ac mae un Llywodraeth ar ol y llall ar lefel y DU wedi methu cyflwyno cynigion ar gyfer talu am ofal cymdeithasol. Daethom yn agos iawn at hynny ar un adeg yn 2015 o ganlyniad i adolygiad Dilnot, ac yna ni chafwyd y ddeddfwriaeth angenrheidiol oherwydd etholiad cyffredinol, ac nid ydym wedi gallu dychwelyd at y pwynt hwnnw.
Mae Llywodraeth Cymru’n talu'n uniongyrchol am staff y GIG drwy’r byrddau iechyd, ac roeddwn yn falch iawn pan oeddwn yn Weinidog iechyd o allu taro bargen sydd wedi gwarantu bod y bobl ar y cyflogau isaf yn y gwasanaeth iechyd bob amser wedi cael y cyflog byw gwirioneddol ers hynny. Nid ni yw'r cyflogwr mewn perthynas â'r sector hwn. Ond rwyf am fod yn gadarnhaol yn fy ateb i gwestiwn Adam Price, gan fy mod yn cytuno ag ef y dylai’r coronafeirws olygu bod yn rhaid i ni, fel cymdeithas, fod yn barod i ddod o hyd i'r arian i sicrhau bod hwn yn sector sy'n cydnabod pwysigrwydd y gwaith y mae'n ei wneud bob dydd o'r flwyddyn.
Mae'r Coleg Nyrsio Brenhinol a 13 undeb iechyd wedi ysgrifennu at Brif Weinidog Lloegr, fel y’i gelwir bellach, i ofyn am drafodaethau ynglŷn â chodiad cyflog cynnar ar gyfer y GIG. A wnewch chi arwain y ffordd a gwobrwyo staff ein GIG ni hefyd? Os yw'r argyfwng iechyd presennol wedi dysgu unrhyw beth inni, dylai gwerthfawrogi'r rheini sy'n gofalu amdanom ar bob adeg o ddechrau ein bywyd hyd ddiwedd ein hoes fod yn flaenoriaeth i unrhyw genedl ofalgar. Yn ystod eich cais am yr arweinyddiaeth, Brif Weinidog, fe ddywedoch chi na fyddech yn newid cyfraddau treth oni chaech eich gorfodi i wneud hynny. A ydych chi'n credu bellach fod gwaith caled gweithwyr iechyd a gofal yn ddigon o reswm i chi newid eich meddwl?
Lywydd, byddwn yn parhau yn y ffordd y gwnawn, drwy ysbryd partneriaeth gymdeithasol, i drafod gyda'r undebau iechyd a'r byrddau iechyd lleol mewn perthynas â chyflog ac amodau yn y gwasanaeth iechyd. Dyna'r ffordd rydym yn gwneud hynny, a dyna'r ffordd rydym yn bwriadu parhau i wneud hynny. Nid yw'r trafodaethau hynny bob amser yn hawdd, ac ni ddylent fod yn hawdd. Nid yw partneriaeth gymdeithasol yn drefn gysurus, ond mae'n lle i ddod at ein gilydd i geisio dod o hyd i atebion cyffredin i broblemau cyffredin, a dyna sut y byddwn yn mynd i'r afael â mater cyflogau gyda staff ein GIG. Ymrwymodd fy mhlaid, Lywydd, i beidio â chodi cyfraddau treth incwm yn ystod tymor y Senedd hon. Dyna yw ein safbwynt polisi o hyd.
Arweinydd Plaid Brexit, Mark Reckless.
Brif Weinidog, a ydych yn fodlon mai dau gyfle yn unig y mae'r Senedd hon, sy'n gweithredu o dan arweiniad Llywodraeth Cymru, wedi eu cael i holi cwestiynu i chi wyneb yn wyneb dros gyfnod o chwe mis? A yw'n well gennych wynebu craffu drwy gynadleddau dyddiol i'r wasg, wedi eu darlledu'n fyw, heb unrhyw gyfle i’r gwrthbleidiau ateb? O gofio bod rhan helaeth o'r cyfryngau’n ddibynnol yn ariannol ar Lywodraeth Cymru, a ydych o’r farn ei bod er budd y cyhoedd i'r darlledwr gwladol ein gorfodi i wrando arnoch yn traethu ar eich hoff gaws? A sut y gall fod yn gydnaws â siarter y BBC, gyda phob tegwch, neithiwr, er enghraifft, ar Ineos, fod BBC Wales wedi dangos y Gweinidog Llafur, arweinydd y cyngor Llafur, yr AS Llafur, a'r undeb sy'n cyllido Llafur, heb unrhyw ymateb o fath yn y byd gan y gwrthbleidiau? Rydych yn dweud mai eich blaenoriaeth yw adolygu pob enw stryd a phob cerflun yng Nghymru, i weld a ydynt yn gydnaws â gofynion sefydliad sydd am ddad-ariannu'r heddlu. Onid yw'n bryd dad-ariannu'r BBC?
Wel, Lywydd, nid oes ci yma, ond mae'r Aelod yn barod i chwibanu arno, ac mae’n gwneud hynny eto heddiw. Rwy'n ateb cwestiynau ar lawr y Senedd pryd bynnag y bydd y Senedd yn gofyn i mi wneud hynny, ac nid fy mhenderfyniad i yw pryd y dylai hynny ddigwydd, ac ni ddylai fod yn benderfyniad i mi. Rwyf wedi ateb cwestiynau drwy gydol argyfwng y coronafeirws bob tro y mae'r Senedd wedi gofyn i mi wneud hynny, mewn pwyllgorau neu yn y Cyfarfod Llawn, a dyna fy safbwynt.
Nid wyf yn gyfrifol am y BBC ac ni ddylwn fod chwaith. Nid yw'n ddarlledwr gwladol ar unrhyw ystyr, a dylai'r Aelod wybod yn well nag awgrymu ei fod, neu awgrymu nad yw'n iawn i ddarlledwr gyfweld y bobl sydd wedi eu hethol i gynrychioli pobl mewn ardal benodol, o ba blaid bynnag, ym mha bynnag ran o Gymru.
Felly, mae'r Prif Weinidog yn fodlon â'r craffu hwnnw—pedwar llais Llafur, dim un o leisiau'r gwrthbleidiau? Ac mae hynny ymhell o fod yr unig enghraifft. Os ydych yn dibynnu ar BBC Wales am eich newyddion, a llawer o’r sefydliadau sy’n cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru i ddarparu newyddion, byddai rhywun yn cael yr argraff, o dan ein harweinydd gwych, Mark Drakeford, y bu llwyddiant mawr yng Nghymru o ran rheoli’r argyfwng COVID. Onid y gwir amdani yw bod cyfraddau heintiau yng Nghymru wedi bod yn uwch nag yn Lloegr, ac yn sylweddol uwch nag yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, er gwaethaf llawer llai o brofi? Onid yw'n wir fod 1,097 o bobl wedi'u symud o ysbytai i gartrefi gofal heb eu profi? A chan ein bod yn sôn am San Steffan ac aros amdanynt hwy, ni welsom brofion yn cael eu cynnal mewn cartrefi gofal tan bythefnos neu dair wythnos ar ôl Lloegr a'r Alban. Onid y realiti yw bod y gwaith o reoli’r argyfwng COVID ac argyfwng yr economi wedi bod yn waeth yng Nghymru, ac y bydd pobl Cymru yn talu am hynny am gryn dipyn o amser?
Lywydd, fel y dywedais wrth yr Aelod, byddaf yn ateb cwestiynau ar lawr y Senedd hon pryd bynnag y bydd y Senedd yn gofyn i mi wneud hynny. Felly mater iddo ef, nid i mi, yw pa mor aml y mae hynny'n digwydd. Gwrthodaf yr hyn a ddywedodd yn llwyr. Mae yna bob amser bobl sy'n digwydd byw yng Nghymru y byddai’n well ganddynt pe na baent yn byw yma. Mae'r ateb i hynny yn eu dwylo hwy ac nid fy rhai i.
3. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effaith COVID-19 ar yr economi yng Nghanol De Cymru? OQ55436
Lywydd, mae Cymru’n parhau i fod yng nghanol argyfwng y coronafeirws, ond wrth i gylchrediad y feirws leihau, mae gweithgarwch economaidd yng Nghanol De Cymru yn parhau i wella gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.
Diolch i'r Prif Weinidog am ei ymateb. Mae cael ymateb cydgysylltiedig gan wahanol Lywodraethau yn y DU wedi bod yn un o broblemau'r argyfwng rydym yn byw drwyddo, ac mae'n amlwg y bydd yr economi yng Nghymru yn dioddef i raddau mwy gan fod y Prif Weinidog yn mynnu gwneud pethau'n wahanol yma. Rwy'n teimlo y gallai'r broblem fod yn cael ei gwaethygu gan fod gan y Prif Weinidog syniad chwyddedig o'i bwysigrwydd ei hun. Efallai mai un broblem yw bod cyflog Prif Weinidog Cymru bron yr un faint â chyflog Prif Weinidog y DU. O ystyried bod cymdeithas fasnach bwysig yng Nghymru newydd ddatgan nad oes hyder ganddynt yn y Prif Weinidog, a yw'n credu'n wirioneddol ei fod yn haeddu cyflog o'r fath?
Lywydd, rwy'n gweithio mor galed ag y gallaf bob dydd i roi sylw i anghenion pobl Cymru. Deallaf fod yr Aelod yn ei chael hi’n anodd iawn deall y gwahaniaeth rhwng yr hyn sy'n bosibl i Gymru a'r hyn sy'n bosibl mewn mannau eraill. Gwelaf, yn ei gyfraniad diwethaf—. Tynnwyd fy sylw at ei gyfraniad ar 24 Mehefin, pan ddywedodd,
'rydym yn gwybod na wnaeth Mark Drakeford fynychu cyfarfodydd COBRA am sawl wythnos, pan oedd yn gallu gwneud hynny.'
Lywydd, efallai y dylwn gofnodi, gan fy mod yn siŵr na fyddai'r Aelod yn dymuno camarwain pobl yn fwriadol, nad oes unrhyw gyfarfod COBRA wedi bod—cyfarfod y cefais wahoddiad iddo—nad wyf wedi’i fynychu.
A gaf finnau ddiolch ar goedd hefyd i staff y Comisiwn ac i chi fel Llywydd am sicrhau bod y cyfleusterau hyn ar gael heddiw ar gyfer y Cynulliad hybrid cyntaf?
Brif Weinidog, mae economïau de Cymru wedi’u cydblethu’n agos iawn, ac mae’r newyddion ddoe am ailystyriaeth Ineos—os cawn ei alw’n hynny—ynghylch eu cynigion ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn effeithio ar Ganol De Cymru, ac yn benodol, ar Fro Morgannwg, lle mae llawer o deithio yn ôl ac ymlaen i gyrraedd swyddi. A allwch egluro beth yn union sy'n digwydd gyda'r cynnig? Yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae Ineos wedi rhoi’r gorau i ystyried bwrw ymlaen â chamau nesaf y prosiect ar hyn o bryd, ond nid ydynt wedi dod â'r prosiect ei hun i ben. Ac nid oedd sylwadau gan AS yr etholaeth ar y teledu neithiwr ynglŷn â methu ymddiried yn y cwmni yn ddefnyddiol o gwbl. Does bosibl na ddylem fod yn gweithio ddydd a nos i argyhoeddi Ineos fod Pen-y-bont ar Ogwr ac economi ehangach de Cymru yn gartref delfrydol ar gyfer eu cynigion uchelgeisiol ar gyfer y cyfleuster newydd hwn.
Diolch i'r Aelod am hynny. Hoffwn ddweud wrtho fod Llywodraeth Cymru a'r contractwyr rydym wedi'u cyflogi wedi gweithio'n ddiflino i sicrhau bod y safle wedi cael ei baratoi yn unol ag amserlenni tynn Ineos a bod y gwaith hwnnw wedi parhau er gwaethaf y llifogydd yn gynharach yn y flwyddyn a'r argyfwng coronafeirws. Felly, rydym wedi gweithio'n galed iawn i geisio bodloni’r gofynion a nodwyd gan y cwmni. Felly, roedd yn anochel ein bod wedi cael ein siomi ar 2 Gorffennaf, pan ddywedwyd wrth swyddogion—nid Gweinidogion; dywedwyd wrth swyddogion—fod y cwmni'n bwriadu atal ei gynlluniau ar gyfer buddsoddi yng Nghymru ac ym Mhortiwgal, hyd nes y cynhelir adolygiad. Roedd y cwmni i fod i arwyddo cytundeb pwysig gyda Llywodraeth Cymru ddydd Llun. Roedd yn siomedig iawn i ni, ar ôl yr holl ymdrechion a wnaed, nad oedd hynny'n bosibl.
Ond gadewch i mi gytuno â'r hyn y mae Andrew R.T. Davies wedi’i ddweud: er bod posibilrwydd o hyd y gallai’r cwmni hwn ddod i Gymru, rhaid inni weithio'n gadarnhaol gyda hwy i ddadlau pob achos dros sicrhau hynny. Siaradodd fy nghyd-Aelod Ken Skates yn uniongyrchol gyda’r cwmni nos Lun, a gwn iddo wneud y pwynt hwnnw: er gwaethaf ein siom, mor hwyr yn y dydd, i ddarganfod y gallai’r cwmni fod yn ailfeddwl, bydd unrhyw beth y gallwn ei wneud o hyd i'w perswadio ynglŷn â manteision dod i Ben-y-bont ar Ogwr a'r gweithlu rhagorol sydd ar gael iddynt yno—ni fyddwn byth yn rhoi'r gorau i ddadlau’r achos hwnnw, hyd at y pwynt pan fydd y cwmni hwnnw'n gwneud penderfyniad terfynol.
Brif Weinidog, rwyf wedi bod yn trafod gyda llawer iawn o fusnesau yng Nghwm Cynon sy'n hynod ddiolchgar am y gefnogaeth ariannol a gawsant gan Lywodraeth Cymru o dan y gronfa cadernid economaidd. Er mwyn cael mynediad at y gronfa honno, nodaf fod angen iddynt ymrwymo i gontract economaidd Llywodraeth Cymru. A allwch roi asesiad inni o sut rydych yn meddwl y bydd ymrwymo i’r contract economaidd hwnnw o fudd i economi a chymdeithas rhanbarth Canol De Cymru yn y dyfodol?
Diolch i Vikki Howells am hynny, Lywydd. Gwn y bydd yn cydnabod bod y cyflymder anhygoel y bu’n rhaid gwneud popeth yn ystod yr argyfwng coronafeirws yn golygu na fu modd cael y math o drafodaeth fanwl y byddem fel arfer yn ei chael gyda busnesau ynghylch contract economaidd.
Cyn yr argyfwng, roeddem wedi cytuno ar gontractau economaidd gyda 385 o gwmnïau yng Nghymru. Heddiw, mae dros 4,000 o gwmnïau wedi ymrwymo i egwyddorion y contract economaidd. Ac mae'r egwyddor yn bwysig iawn. Mae'n dweud wrth gwmnïau, pan fydd y cyhoedd yng Nghymru yn dod o hyd i arian i'w cefnogi yn y gwaith a wnânt ac i'w helpu i gynnal a chreu swyddi newydd, fod gan y cyhoedd yng Nghymru hawl i elw ar y buddsoddiad hwnnw sy'n mynd y tu hwnt i fuddiant y cwmni ei hun, a bod yna bethau pwysig rydym am eu creu ledled Cymru: dyfodol carbon isel, lefelau cynyddol o fuddsoddiad mewn sgiliau, ac ymagwedd gwaith teg tuag at Gymru. Mae'r holl bethau hynny'n bwysig, a phan fyddwn yn llunio contract economaidd gyda chwmni, rydym yn ceisio negodi’r enillion ychwanegol hynny ar y buddsoddiad a wneir gan y cyhoedd yng Nghymru.
A'r newyddion da, Lywydd, yw bod cwmnïau yng Nghymru yn barod iawn i weld manteision hynny. Maent hwythau hefyd yn awyddus i gael dyfodol yng Nghymru sy'n caniatáu iddynt barhau i fasnachu'n llwyddiannus mewn gwlad lle nad oes gennym gyflogau isel, lle nad oes gennym sgiliau isel, a lle rydym yn canolbwyntio, fel y mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ei fynnu gennym, ar wneud penderfyniadau heddiw sy'n rhoi cyfle iawn i'r rheini a ddaw ar ein holau i gael dyfodol llwyddiannus.
Tynnwyd cwestiwn 4 [OQ55414] yn ôl. Cwestiwn 5—Rhun ap Iorwerth.
5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ailagor y sector dwristiaeth yng ngogledd Cymru? OQ55437
Diolch am y cwestiwn. Llywydd, mae codi’r gofyniad i aros yn lleol yn caniatáu i bobl deithio o amgylch Cymru. Mae atyniadau i ymwelwyr yn yr awyr agored yn gallu agor, ar yr amod eu bod nhw’n gwneud hynny'n ddiogel. Rydw i wedi nodi y dylai llety hunangynhaliol a darpariaeth lletygarwch awyr agored baratoi i ailagor yn yr wythnos sydd i ddod.
Diolch am yr ymateb yna. Dau beth hoffwn i eu codi. Yn gyntaf, apêl unwaith eto am ymestyn y gefnogaeth i fusnesau twristiaeth a lletygarwch. Mae colli cymaint o'u tymor yn golygu eu bod nhw yn barod wedi colli cyfran sylweddol o'u trosiant blynyddol, ac efo amser yn brin iawn i wneud i fyny am hynny, wrth gwrs.
Ond mae'r ail bwynt ynglŷn â natur twristiaeth. Mi fydd y Prif Weinidog yn gwybod, fel minnau, am y pryder gwirioneddol sydd yna am ddychweliad twristiaeth, achos dydy bygythiad y feirws ddim wedi diflannu. Felly, dwi'n cefnogi ymgyrch yn Ynys Môn, er enghraifft, i atgoffa twristiaid i gadw at fesurau i ddiogelu cymunedau ac i ymddwyn efo parch at bobl o'u cwmpas ac ati. Ond dwi hefyd yn meddwl bod rŵan yn gyfle i ailystyried natur y berthynas rhwng twristiaeth a'n cymunedau ni mewn ffordd mwy sylfaenol. Felly, a ydy'r Prif Weinidog yn cytuno efo fi, a chynrychiolwyr twristiaeth dwi wedi bod yn siarad efo nhw yn fy etholaeth i, bod angen defnyddio'r cyfnod yma i osod sylfeini am fath newydd o dwristiaeth, sy'n rhoi mwy o berchnogaeth a rheolaeth leol dros dwristiaeth, sy'n gwneud y sector yn fwy cynaliadwy, yn ymateb i bryderon lleol am effaith gordwristiaeth, ac yn uchafu budd economaidd lleol?
Wel, Llywydd, diolch i Rhun ap Iorwerth am y cwestiwn diddorol yna. A jest i ddweud yn gyntaf: dwi'n cydnabod y ffaith bod twristiaeth yn bwysig iawn i bobl yn Ynys Môn. Y rheswm pam ein bod ni wedi symud yn ofalus, cam wrth gam, yw i sicrhau bod y sector yn barod i groesawu ymwelwyr nôl yn ddiogel, ac i wneud hynny drwy dynnu cymunedau gyda ni ar y daith yna. Ac mae'n bwysig i'r diwydiant weithio'n galed gyda'r bobl leol i baratoi ac i'w wneud e mewn ffordd ble mae llais pobl leol yn cael effaith ar natur y diwydiant. Mae beth mae Rhun ap Iorwerth yn ei ddweud am y cyfle sydd gyda ni i ailfeddwl am hynny yn rhywbeth pwysig. A phan dwi wedi siarad gyda'r grŵp dŷn ni wedi'i dynnu gyda'i gilydd—a ches i gyfle i wneud hynny yn ddiweddar ar 18 Mehefin—un peth a oedd yn fy nharo i oedd y pwynt roedd pobl yn y grŵp yn ei godi, sef eu bod nhw'n awyddus i ddefnyddio'r cyfle sydd gyda nhw i ailgreu'r berthynas rhwng pobl sy'n gweithio yn y maes a phobl sy'n byw yn lleol. Dwi'n cytuno gyda beth roedd Rhun ap Iorwerth yn ei ddweud am ddefnyddio'r cyfle sydd gyda ni ac i wneud pethau gyda'n gilydd ac yn ofalus dros yr wythnosau i ddod. Achos os ydyn ni'n ei wneud e'n llwyddiannus, bydd mwy dŷn ni'n gallu ei wneud i helpu'r sector yn y tymor sydd dal gyda ni ac i wneud mwy i helpu'r sector drwy ei wneud e fel yna.
Brif Weinidog, mae 24,000 o bobl yn gweithio ym maes bwyd a diod yn y diwydiant gweithgynhyrchu, gydag oddeutu 230,000 yn cael eu cyflogi yn y gadwyn gyflenwi ehangach. Mae oddeutu 3,700 o wahanol gynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru yn manwerthu, ac mae'r sector lletygarwch yn gam hanfodol. A wnewch chi ystyried ailagor y sector lletygarwch dan do o 13 Gorffennaf, ond yn bwysicach fyth, eu hysbysu ynghylch hynny yn awr? Os nad ydych am wneud hynny, beth a ddywedwch wrth Gydweithfa Bwytai Annibynnol Cymru, y canfu ei harolwg fod disgwyl y bydd o leiaf 30,000 o swyddi'n cael eu colli yn y sector, a bod bron i hanner y ffigur hwn eisoes wedi eu colli? A allwch chi egluro i mi sut yr ystyrir ei bod yn ddiogel i blant fod mewn ystafelloedd dosbarth yn bwyta eu cinio, ond eto'n anniogel i oedolion eistedd mewn bwyty? Diolch.
Wel, Lywydd, credaf ei bod yn hawdd iawn esbonio'r gwahaniaeth: hyd y gwn i, nid yw alcohol yn cael ei weini mewn ysgolion yng Nghymru, tra byddai’n cael ei weini yn y cyd-destun y cyfeiria’r Aelod ato. Mae'r syniad fod modd cymharu'r pethau hyn rywsut yn amlwg yn chwerthinllyd pan ddechreuwch chi ei ystyried. Na, ni fyddaf yn ailagor lletygarwch dan do ar 13 Gorffennaf, ond rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu gweithio gyda'r sector ac y bydd lletygarwch awyr agored yn ailagor yng Nghymru ar y dyddiad hwnnw. Yr hyn y byddwn yn ei wneud wedyn yw gweithio gyda'r sector i sicrhau eu bod yn cael llwyddiant wrth ailagor, eu bod yn cyflawni'r nifer o fesurau cymhwysol sydd ganddynt mewn ffordd ymroddedig a dychmygus iawn, yn cyflwyno—mesurau i liniaru effaith coronafeirws—ac ar yr amod ein bod yn gweld bod hynny'n digwydd yn llwyddiannus, byddwn yn gallu ystyried ailagor lletygarwch dan do.
Credaf mai’r hyn nad yw'r Aelod byth i'w gweld yn ei ddirnad yw na fydd pobl yn dychwelyd i ddefnyddio'r cyfleusterau hynny oni bai eich bod yn barod i wneud hyn mewn ffordd ofalus; ni fydd gan bobl hyder i ddod yn ôl i fwytai a chaffis a thafarndai yng Nghymru oni bai eu bod yn gwybod ein bod wedi gweithio gyda'n gilydd i sicrhau bod y lleoedd hynny’n ddiogel. Bydd yr wythnosau i ddod, pan wyf yn hyderus y bydd y sector yn cadw at yr addewidion y mae wedi'u gwneud, yn fuddsoddiad i sicrhau, pan fyddwn yn gallu ailagor lletygarwch dan do, y bydd gan bobl Cymru hyder i ddychwelyd ato, a bydd hynny o fudd i’r sector hwnnw a'r busnesau hynny.
6. A wnaiff y Prif Weinidog ein diweddaru am drafodaethau’r Llywodraeth ynglyn a’r 94 swydd sydd dan fygythiad yn ffactri Northwood Hygiene Products ym Mhenygroes yn etholaeth Arfon? OQ55424
Diolch yn fawr i Siân Gwenllian am y cwestiwn. Daeth yr ymgynghoriad ffurfiol ar y cynigion ar gyfer cau ffatri Northwood Hygiene Products i ben ar 4 Gorffennaf. Er gwaethaf ymdrechion y gweithwyr lleol a’r rheolwyr, cyngor sir Gwynedd a Llywodraeth Cymru, mae’r cwmni wedi penderfynu bwrw ymlaen â’i gynlluniau i gau. Mae’r ymdrechion nawr yn mynd i ganolbwyntio ar gefnogi staff a chwilio am fuddsoddiad arall ar gyfer y safle.
Buaswn i'n licio diolch i'ch Llywodraeth chi am fod mor barod i roi help ac i gefnogi'r cynnig amgen gan y gweithlu ym Mhenygroes, ond yn anffodus, fel rydych chi'n dweud, mae'r cwmni wedi gwrthod y cynnig hwnnw am resymau masnachol ac maen nhw'n bwrw ymlaen i ddiswyddo'r 94 gweithiwr, sydd yn ergyd anferth. Ond mae'n rhaid i ni ddal ati i ganfod defnydd arall ar gyfer y safle, felly diolch am roi sicrwydd y bydd swyddogion eich Llywodraeth chi'n parhau i weithio efo Cyngor Gwynedd ac eraill i edrych mewn i'r opsiynau, gan gynnwys denu prynwr newydd. Mae 94 swydd yn Nyffryn Nantlle yn gyfwerth â miloedd o swyddi mewn rhannau mwy poblog o Gymru ac yn haeddu'r un ymdrech a'r un sylw gan eich Llywodraeth chi wrth inni geisio ffordd ymlaen.
Diolch yn fawr i Siân Gwenllian. Dwi'n cydnabod y pwynt yr oedd hi'n ei wneud am effaith colli 94 o swyddi mewn lle fel Nantlle, ac mae cau'r ffatri yn ergyd fawr i'r gweithlu ac i'r gymuned. Ac fel roedd Siân Gwenllian yn cydnabod, roedd swyddogion Llywodraeth Cymru a Chyngor Gwynedd wedi gweithio'n galed i geisio gwarchod y swyddi, lan at roi arian ar y bwrdd i drio perswadio'r cwmni i aros gyda'r gweithwyr, sydd wedi bod yn ffyddlon i'r cwmni dros gyfnod hir. Nawr, fel roedd Siân Gwenllian yn dweud, mae'n rhaid inni feddwl gyda'n gilydd am sut rŷn ni'n gallu tynnu buddsoddiadau eraill ar gyfer y safle. Mae Llywodraeth Cymru yn arwain partneriaeth adfer rhanbarthol sy'n cynnwys y cynghorau lleol, busnes a phartneriaid eraill i gynllunio ar gyfer dyfodol gogledd Cymru ar ôl COVID i gyd, ond hefyd yng nghyd-destun beth mae etholwyr Siân Gwenllian yn ei wynebu ar ôl y penderfyniad i gau y ffatri.
7. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y grant bloc diweddaraf gan Lywodraeth y DU? OQ55435
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwnnw. Ynghyd â llawer o adrannau Whitehall, mae Llywodraeth Cymru wedi tynnu arian ad-daladwy o gronfa hapddigwyddiadau'r DU. Yn ein hachos ni, defnyddiwyd £857 miliwn i flaenoriaethu ein camau gweithredu i gefnogi busnesau a gwasanaethau cyhoeddus yn wyneb pandemig byd-eang y coronafeirws.
Diolch, Brif Weinidog. Rwy'n ymddiheuro bod y cwestiwn wedi'i eirio'n gymharol sych, ond roeddech yn deall yr ystyr. Brif Weinidog, fel y dywedwch, mae Llywodraeth y DU newydd gytuno i ddefnydd y £857 miliwn ac mae cyllideb Llywodraeth Cymru wedi'i chynyddu'n sylweddol ers dechrau'r pandemig, a hynny'n gwbl briodol. Gan fod y ffocws yn troi yn awr at godi'r cyfyngiadau symud a chael yr economi i symud eto, a wnewch chi ystyried darparu cymorth i'r farchnad dai a'r rhai sy'n prynu am y tro cyntaf yn arbennig? Mae'n debygol, yn y datganiad heddiw, y bydd y Canghellor yn cyhoeddi gwyliau posibl ar gyfer y dreth stamp—yn sicr, rhyddhad treth stamp i brynwyr. A yw hynny'n rhywbeth y byddwch yn ei ystyried yma? Siaradodd fy nghyd-Aelod Laura Anne Jones yn ei chwestiwn yn gynharach am afluniad posibl ar hyd y ffin yng nghyswllt prosesau COVID-19. Ni fyddai afluniad gwaeth na'r afluniad a fyddai'n digwydd i'r farchnad dai pe darperir mwy o ryddhad ar gyfer y dreth stamp yn Lloegr nag ar gyfer y dreth trafodiadau tir yma yng Nghymru, felly a wnewch chi addo edrych ar hyn?
Wel, Lywydd, mae'n bwysig dweud bod yr £857 miliwn yn arian ad-daladwy; nid yw'n arian y gallwn ei ddefnyddio i fuddsoddi yng Nghymru. Ac er fy mod eisiau cydnabod yr help a gawsom drwy'r Ysgrifennydd Gwladol a thrwy'r Trysorlys i sicrhau hwnnw, gadewch i ni ei roi yn ei gyd-destun: mae'r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn Whitehall wedi tynnu £25 biliwn o arian ad-daladwy o'r gronfa hapddigwyddiadau, felly rydym yn sôn am newid mân o gymharu â hynny.
Lywydd, arhoswn i weld beth fydd gan Ganghellor y Trysorlys i'w ddweud heddiw. Mae ein treth stamp, ein cyfundrefn treth trafodiadau tir yng Nghymru, eisoes yn rhyddhau llawer mwy o bobl rhag talu'r dreth honno yng Nghymru nag a fyddai'n digwydd ar draws y ffin, felly os yw'r Aelod eisiau ystyried hynny'n afluniad, mae'n afluniad o blaid ei etholwyr a hwythau'n byw ar yr ochr hon i'r ffin. Ond yr hyn rydym wedi'i ddysgu, Lywydd, dros flynyddoedd lawer, yw na ddylem ddibynnu ar y penawdau y mae'r Trysorlys yn eu gwneud cyn unrhyw ddatganiad. Arhoswn i glywed beth fydd gan Ganghellor y Trysorlys i'w ddweud. Fe edrychwn ar y ffyrdd y bydd Cymru'n colli arian yn ogystal â'r ffyrdd y gallem elwa, ac yna bydd y Cabinet yma'n dod i gasgliadau cyffredinol ar effaith unrhyw newidiadau a allai gael eu cyhoeddi heddiw ar y gyllideb ac ar bolisïau yma yng Nghymru.
Ac yn olaf, cwestiwn 8—Jenny Rathbone.
8. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu cymryd i fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau iechyd gwaelodol sydd wedi gwneud rhai dinasyddion yn fwy agored nag eraill i COVID-19? OQ55434
Lywydd, a gaf fi ddiolch i'r Aelod am y cwestiwn pwysig hwn? Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i wneud popeth yn ein gallu i fynd i'r afael â'r anghydraddoldeb annerbyniol yng nghanlyniadau iechyd cymunedau mwyaf a lleiaf difreintiedig Cymru, ac fel y gwelsom yng nghyd-destun COVID, yn y gymuned ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn arbennig. Mae lleihau anghydraddoldeb yn uchelgais canolog yn 'Ffyniant i Bawb' ac mae'n ganolog yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
Diolch, Brif Weinidog. Deiet gwael sydd wrth wraidd y broblem hon. Gwyddom fod y gweithgynhyrchwyr bwyd yn gwario biliynau o bunnoedd ar annog pobl i fwyta bwyd wedi'i brosesu sy'n llawn o fraster, siwgr a halen, ac rydym yn gwybod nad yw hyn yn faethlon wrth gwrs, a'i fod yn arwain at ordewdra, sydd wedyn yn arwain at ddiabetes, clefyd y galon ac at ganser yn wir, ac yn awr COVID-19. Felly, tybed pa fesurau y mae'r Llywodraeth yn eu hystyried i drawsnewid y system fwyd sy'n difetha ein bywydau, nid yn unig er mwyn gwella bwydo ar y fron a diddyfnu, ond cydymffurfiaeth hefyd â rheoliadau bwyd iach mewn ysgolion a mynd i'r afael ag ymgyrchoedd hysbysebu gwerth miliynau o bunnoedd y diwydiant bwyd sy'n annog pobl i fwyta'r pethau anghywir? Pa bryd oedd y tro diwethaf i chi weld hysbyseb am lysiau?
Wel, Lywydd, gadewch i mi gytuno â Jenny Rathbone fod deiet gwael yn gynnyrch tlodi, a'r hyn sy'n arwain at ordewdra mewn teuluoedd tlawd yw'r ffaith na allant fforddio prynu deiet sy'n gytbwys ac sy'n cynnwys yr amrywiaeth y gall eraill ohonom ei gymryd yn ganiataol. Rydym yn mabwysiadu cyfres o wahanol fesurau i geisio mynd i'r afael â hynny. Nid yw'r holl ddulliau yn ein dwylo ni. Cynhaliodd Llywodraeth y DU ymgynghoriad ar hysbysebu yn gynharach y llynedd, ac yn ein cyfraniad i'r ymgynghoriad hwnnw, fe wnaethom annog Llywodraeth y DU i fod yn fwy gorfodol yn ei dull o weithredu, nid cynghori cwmnïau ar arferion gorau yn unig, ond ei gwneud yn ofynnol i beidio ag anelu hysbysebion, er enghraifft, at blant neu o amgylch ysgolion. Rydym yn ystyried yr adroddiad a gyhoeddwyd gan Bwyllgor Dethol Tŷ'r Arglwyddi ar Fwyd, Tlodi, Iechyd a'r Amgylchedd a ryddhawyd ar 6 Gorffennaf, o'r enw 'Hungry for change: fixing the failures in food', ac mae hwnnw'n bendant yn tynnu sylw at gyfres o faterion y mae'r Aelod ei hun newydd eu dwyn i'n sylw. Mae nifer o argymhellion yn yr adroddiad hwnnw y byddwn eisiau pwyso arnynt yn y gwaith y byddwn yn ei wneud yma yng Nghymru yn rhan o'n hymgynghoriad ein hunain dros gyfnod yr hydref ar amgylchedd bwyd Cymru, sy'n cael ei gynllunio gan fy nghyd-Aelod Vaughan Gething.
Diolch i'r Prif Weinidog.
Y datganiad a chyhoeddiad busnes sydd nesaf, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hwnnw—Rebecca Evans.
Diolch, Lywydd. Nid oes unrhyw newidiadau i agenda heddiw. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y cyhoeddiad a'r datganiad busnes, sydd i'w weld ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau'n electronig.
Darren Millar. Mae Darren yn anarferol o dawel. [Chwerthin.] Darren? Darren Millar, a wnewch chi—?
Maddeuwch i mi. Diolch, Lywydd. A gaf fi alw am ddau ddatganiad heddiw, os gwelwch yn dda, Drefnydd? A gaf fi ddatganiad gan y Gweinidog sy'n gyfrifol am y lluoedd arfog ar ddyfodol swyddogion cyswllt y lluoedd arfog sydd gennym yng Nghymru? Bydd y Gweinidog yn ymwybodol o'r gwaith da y mae'r swyddogion hyn wedi'i wneud ers iddynt gael eu penodi o ran ceisio sicrhau bod cyfamod y lluoedd arfog yn cael ei weithredu ar bob lefel ledled Cymru, ond mae'r cyllid ar gyfer y swyddi hyn yn dod i ben ym mis Mawrth y flwyddyn nesaf, ac rwy'n awyddus iawn i sicrhau eu bod yn cael eu cadw ar gyfer y dyfodol. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallech drefnu datganiad ar y mater hwnnw cyn gynted â phosibl.
Yn ogystal, a gaf fi alw am ddatganiad cyn gynted â phosibl ar y dreth trafodiadau tir? Rhagwelir yn eang y bydd gwyliau ar gyfer taliadau'r dreth stamp yng Nghymru—yn Lloegr yn hytrach, hyd at £500,000. Mae angen inni gael y farchnad eiddo i symud eto yma yng Nghymru cyn gynted ag sy'n bosibl. Mae'n ddangosydd da o iechyd economaidd. A byddwn yn falch o gael gwybod a yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno gwyliau ar gyfer y dreth trafodiadau tir hefyd er mwyn cefnogi'r farchnad eiddo yma, os cyhoeddir mesur o'r fath yn Lloegr. Diolch.
Diolch i Darren Millar am godi'r ddau fater hwnnw, ac ydw, rwy'n cydnabod gwaith da swyddogion cyswllt y lluoedd arfog. Fel y dywed Darren, mae'r cyllid ar gael iddynt tan ddiwedd tymor y Cynulliad hwn, neu'n sicr tan ddiwedd y flwyddyn ariannol hon, a bydd y gwasanaeth penodol hwnnw, ynghyd â phob un arall, yn rhan o'r trafodaethau rydym yn eu cynnal cyn pennu'r gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Ac wrth gwrs, mae gennym gyfle i drafod hyn yn eithaf manwl yn y ddadl y mae'r Pwyllgor Cyllid wedi'i chyflwyno ar gyfer Cyfarfod Llawn yr wythnos nesaf.
Ar y dreth trafodiadau tir, rwy'n awyddus iawn i glywed yr hyn sydd gan y Canghellor i'w ddweud yn niweddariad economaidd yr haf y prynhawn yma. Yn amlwg, mae yna bethau rwy'n awyddus iawn i'w glywed yn siarad amdanynt, o ran cefnogaeth i'r economi, i bobl ifanc ac yn y blaen. Byddaf yn rhyddhau datganiad erbyn diwedd y dydd yn nodi fy ymateb cyffredinol i'w ddatganiad. Yna, mewn perthynas ag unrhyw benderfyniadau manwl y bydd angen i mi eu gwneud wedyn ar yr ystod eang o faterion, byddaf yn gwneud hynny maes o law, ond yn amlwg, byddaf eisiau gwneud datganiadau cynnar ar bob peth o bwys.
Hoffwn ofyn am ddau ddatganiad gan y Trefnydd heddiw. Byddwn yn ddiolchgar pe gellid dod o hyd i amser i gael datganiad gan y Gweinidog iechyd ar fater atebolrwydd gwleidyddol. Hoffwn glywed ei farn am ei rôl ei hun yn penderfynu pa wasanaethau hanfodol sydd ar gael ym mha rannau o Gymru, yn enwedig mewn perthynas â'r newyddion diweddar y bydd y gwasanaeth damweiniau ac achosion brys 24 awr a arweinir gan feddyg ymgynghorol yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn cael ei gadw. A oedd ganddo ef ran yn y penderfyniad hwnnw? Pa rôl sydd ganddo yn awr o ran recriwtio meddygon ymgynghorol, sy'n elfen allweddol i'r cynllun weithio? Beth yw statws rhaglen de Cymru, a oedd yn sbardun allweddol yn y penderfyniad blaenorol i gau'r adran ddamweiniau ac achosion brys? A hefyd, beth oedd ei rôl yn y penderfyniad i dalu swm chwe ffigur i gyn brif weithredwr bwrdd iechyd Cwm Taf ar ôl iddi ymddiswyddo yn sgil y sgandal gwasanaethau mamolaeth? Rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau'n cytuno bod y materion atebolrwydd hyn yn haeddu cael eu craffu gennym, a bod y bobl yr effeithiwyd arnynt gan y penderfyniadau hyn yn haeddu atebolrwydd gwleidyddol hefyd.
Hefyd, hoffwn godi mater llifogydd. Yn Lloegr—
Mae eich amser ar ben, Leanne Wood. Rwy'n mynd i ofyn i'r Trefnydd ymateb.
Mae'r rheini'n gwestiynau manwl, y gwn y bydd yr Aelod eisiau eu codi'n uniongyrchol gyda'r Gweinidog iechyd. Wrth gwrs, mae gan y Gweinidog iechyd gwestiynau llafar y prynhawn yma, a gallai hwnnw fod yn gyfle i ddechrau trafod rhai o'r cwestiynau hynny.
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar benderfyniad Ineos i weithgynhyrchu'r model newydd yn Ffrainc, yn hytrach nag ym Mhen-y-bont ar Ogwr, fel y cyhoeddwyd yn wreiddiol, o gofio bod y cyhoeddiad hwn yn ergyd drom i Ben-y-bont ar Ogwr ac i Gymru? Rwy'n deall bod Ineos wedi dechrau trafodaethau gyda Mercedes-Benz ar gyfer caffael safle ym Moselle yn Ffrainc. Gan fod prosiect Ineos wedi'i sicrhau gyda phecyn ariannol sylweddol gan Lywodraeth Cymru ac Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU, a allai'r Gweinidog amlinellu'r opsiynau posibl sydd ar gael i Lywodraeth Cymru bellach, naill ai i ddychwelyd at y sefyllfa gynharach neu i adfer y cyllid a fuddsoddwyd hyd yn hyn?
Cawsom ein syfrdanu a'n siomi'n fawr gan y ffordd y cafodd y newyddion ei drosglwyddo i swyddogion yn dilyn yr holl waith caled a'r berthynas, rwy'n credu, a ddatblygwyd dros nifer o flynyddoedd. Mae Llywodraeth Cymru a'n contractwyr wedi gweithio'n ddiflino i sicrhau bod y safle'n barod, yn unol ag amserlenni tynn Ineos, er gwaethaf llifogydd a COVID-19. Bydd cyfle i fynd ar drywydd y materion hyn yn fanylach yn y cwestiwn amserol, sydd wedi'i dderbyn gan y Llywydd, cwestiwn gan Carwyn Jones. Bydd yn gofyn y cwestiwn hwnnw i Weinidog yr economi y prynhawn yma.
Weinidog, byddwch wedi gweld adroddiadau yn y wasg heddiw fod Llywodraeth y DU yn bwriadu diddymu cynllun parcio am ddim y GIG a gyflwynwyd ganddynt yn Lloegr ar ddechrau argyfwng y coronafeirws. A all y Gweinidog gadarnhau heddiw, er mwyn osgoi'r angen am ddatganiad, nad oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw fwriad i newid ei hymrwymiad hirsefydlog i ddarparu parcio am ddim i staff, cleifion ac ymwelwyr yn lleoliadau GIG yng Nghymru?
Rwy'n hapus iawn i ddarparu'r sicrwydd hwnnw nad oes gennym unrhyw gynlluniau o gwbl i newid ein hymrwymiad i ddarparu parcio am ddim i staff, ymwelwyr a chleifion mewn ysbytai yma yng Nghymru, a oedd, wrth gwrs, yn bolisi a gyflwynasom yn ôl yn 2008. Rydym yn awyddus iawn i weld y polisi hwnnw'n parhau.
Arweinydd y tŷ, a gaf fi ofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda? Ddoe, cafodd diffygion y byrddau iechyd eu dileu gan y Gweinidog iechyd. Rwy'n rhyfeddu, oni bai ei fod wedi cyrraedd yn ystod yr awr ddiwethaf, nad ydym ni, fel Aelodau, wedi cael datganiad ar hyn—fe'i cyhoeddwyd yn y gynhadledd i'r wasg ddoe. Ni all hynny fod yn iawn. Nid wyf yn beirniadu unrhyw benderfyniad i leihau'r ddyled, ond cafodd dyled o £0.5 biliwn ei dileu ddoe. Ein rôl ni yw ymchwilio i hynny a'i brofi, a meddwl hefyd a yw'r Llywodraeth yn bwriadu dileu diffygion mewn awdurdodau lleol—[Anghlywadwy.]—neu gyrff cyhoeddus eraill. Ond yn absenoldeb unrhyw fath o ddatganiad heblaw'r datganiad i'r wasg ddoe, ni allwn wneud hynny. Felly, a gaf fi erfyn arnoch i ddod o hyd i'r datganiad hwnnw? Ni ddylwn orfod erfyn arnoch, ond a gaf fi ofyn i chi ryddhau'r datganiad hwnnw i'r Aelodau er mwyn inni allu deall beth yn union yw'r goblygiadau?
Ac yn ail, a gaf fi hefyd ofyn am ddatganiad gennych, drwy eich rôl fel Gweinidog cyllid, ar y modd y mae cyrff cyhoeddus yng Nghymru yn defnyddio'r cynllun ffyrlo? Yn amlwg, mae cyrff cyhoeddus wedi bod o dan bwysau mewn perthynas â chostau. Mae'r cynllun ffyrlo wedi diogelu llawer o swyddi ar draws pob sector, ond byddai llawer o'r cyrff cyhoeddus eisoes wedi cael arian yn y setliadau cyllideb ar gyfer eleni i dalu am y swyddi hynny, yn lle cael arian cyhoeddus ddwy waith a defnyddio'r cynllun ffyrlo hefyd. Rwy'n cael fy arwain i gredu bod rhai awdurdodau lleol wedi rhoi cynifer â 500 o weithwyr ar y cynllun ffyrlo tra'n derbyn yr arian hwnnw yn eu setliad gennych chi fel Gweinidog cyllid, sy'n rhan o Lywodraeth Cymru. Felly, a gawn ni ddatganiad i ymhelaethu ar eich dealltwriaeth o'r defnydd a wneir o'r cynllun ffyrlo yn y sector cyhoeddus?
Diolch i Andrew R.T. Davies am godi'r ddau fater hwnnw. Eto, fel y soniais o'r blaen, mae gan y Gweinidog iechyd gwestiynau heddiw, felly bydd cyfleoedd i drafod eich cwestiwn penodol ynglŷn â dileu diffygion y byrddau iechyd. Ond unwaith eto, bydd cyfle i mi siarad â'r Gweinidog iechyd fy hun a throsglwyddo'r cais am ddatganiad ar y mater penodol hwnnw.FootnoteLink
Ac yna, ar y cynllun ffyrlo, ceir canllawiau gan Lywodraeth y DU sy'n dweud ym mha amgylchiadau y dylai cyrff y sector cyhoeddus ddefnyddio ffyrlo. Ni ddylid ei ddefnyddio ac eithrio mewn nifer gymharol fach o amgylchiadau yng Nghymru, a chredaf fod hynny wedi digwydd mewn gwirionedd. Felly, er enghraifft, mae awdurdodau lleol nad ydynt wedi gallu adleoli staff i rolau eraill wedi gallu ei ddefnyddio, ond ar nifer gymharol fach o achlysuron yn unig y cafodd ei ddefnyddio. Ond rwy'n hapus i ysgrifennu atoch gyda rhagor o fanylion am hynny.
Gaf i ofyn, os gwelwch yn dda, am ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog plant a gwasanaethau cymdeithasol ynglŷn â chynlluniau chwarae plant oedran ysgol dros wyliau'r haf? Tra'n croesawu'r ffaith y bydd yna ddarpariaeth ar gyfer plant bregus, mae'n siomedig iawn na fydd yna lefydd ar gael i blant gweithwyr allweddol. Mae gwaith rhieni y plant yma yn parhau i fod yn gwbl greiddiol i'r ymdrechion i gael y gwasanaeth iechyd yn ôl ar ei thraed, ac mae'n anffodus iawn nad ydy'r plant yma'n cael eu cynnwys yn y cohort o blant fydd yn cael y ddarpariaeth dros yr haf. Felly, byddwn i'n hoffi datganiad i'r perwyl y bydd y cohort o blant yma'n cael eu cynnwys hefyd. Dydyn ni ddim yn siarad am arian mawr yn fan hyn.
Gwn fod datganiad wedi'i gyhoeddi'n gynharach yr wythnos hon a oedd yn nodi rhai o'r paramedrau ar gyfer y ddarpariaeth gofal plant a chwarae a ddarperir dros yr haf, ond byddaf yn gwneud yn siŵr heddiw fy mod yn cael cyfle i siarad â'r Dirprwy Weinidog a sicrhau ei bod yn ymwybodol o'r cais hwnnw am ddatganiad penodol ynghylch plant gweithwyr allweddol dros yr haf.
Drefnydd, erbyn mis Medi, tri diwrnod yn unig fydd ein plant wedi'u cael yn yr ysgol mewn chwe mis. Mae eu haddysg yn dioddef, ac mae eu hiechyd meddwl a'u hiechyd corfforol yn dioddef hefyd. Mae plant agored i niwed ar ei hôl hi mewn sgiliau allweddol, ac os nad yw ein plant yn mynd yn ôl yn llawn ym mis Medi, gallai rhieni golli swyddi hefyd, am na fyddant yn gallu dychwelyd i'r gwaith. Dyddiau yn unig sydd gan ysgolion i fynd cyn diwedd tymor yr haf i gynllunio ar gyfer tymor yr hydref. Rydym wedi bod yn y tywyllwch yn rhy hir yma yng Nghymru. Felly, a all y Gweinidog addysg ddarparu datganiad clir cyn gynted â phosibl os gwelwch yn dda i nodi sut olwg fydd ar addysg ym mis Medi?
Rwy'n cymryd y cyfle hwn i groesawu Laura Anne i'r Senedd—neu yn ôl i'r Senedd, dylwn ddweud—ac edrychaf ymlaen at eich cyfraniadau yn y datganiad busnes.
Gwn fod y Gweinidog wedi bod yn gweithio'n galed iawn gyda'r sector addysg, yr awdurdodau lleol, yr undebau llafur ac yn y blaen i bennu'r ffordd ymlaen o ran dychwelyd i ysgolion. Wrth gwrs, Cymru yw'r unig ran o'r DU sydd wedi sicrhau y caiff pob plentyn gyfle i ddychwelyd i'r dosbarth am beth amser o leiaf cyn gwyliau'r haf, sy'n bwysig yn fy marn i o ran ailgysylltu ac ailsefydlu'r cysylltiadau hynny. Y Gweinidog sy'n ateb cwestiynau nesaf y prynhawn yma, a gwn ei bod yn awyddus i sicrhau bod cyd-Aelodau yn gwybod cymaint â phosibl am y cynlluniau ar gyfer mis Medi.
Hoffwn gael datganiad gan y Gweinidog plant. Cefais gyfarfod yn ddiweddar, y diwrnod o'r blaen, ar Zoom gyda nifer o famau, gyda nain ac un tad, ac roedd y plant i gyd mewn gofal. Y broblem gyffredin yw bod yr adroddiadau sy'n cael eu cyflwyno gerbron llysoedd i alluogi plant i gael eu gosod mewn gofal yn anghywir, dro ar ôl tro. Rwyf wedi gweld y gwallau; nid yw'r system yn eu nodi, caiff plant eu rhoi mewn gofal, sy'n esbonio, yn fy marn i, y gwahaniaeth mawr rhwng nifer y plant sydd mewn gofal yng Nghymru a nifer y plant sydd mewn gofal yn Lloegr. Felly, fy nghwestiwn a phwrpas y datganiad yw: beth y gall y Gweinidog ei wneud, o ran polisi, i sicrhau bod yr adroddiadau hyn, sy'n cael effaith enfawr ar fywydau pobl—? Roeddwn yn siarad ar-lein y diwrnod o'r blaen â mamau a oedd wedi cael eu llethu'n llwyr. Beth y gellir ei wneud i sicrhau bod gwallau'n cael eu cywiro cyn i'r plant gael eu rhoi mewn gofal?
Wel, mae'r mater y mae Neil McEvoy yn ei godi yn amlwg yn ddifrifol iawn o ran sicrhau bod gwybodaeth gywir yn cael ei chyflwyno yn yr achosion hynod bwysig hyn. Felly, a gaf fi ei wahodd i ysgrifennu at y Gweinidog gyda mwy o fanylion am ei brofiadau a'r trafodaethau a gafodd yn ei alwad gyda mamau a neiniau a theidiau er mwyn inni ddeall y problemau y mae'n eu disgrifio yn well?
David Melding.
Diolch yn fawr, Lywydd. Rwy'n ddiolchgar iawn eich bod wedi gallu fy ngalw. Drefnydd, a gaf fi alw am ddadl yn amser y Llywodraeth ar adolygiad Cumberlege, a gyhoeddir heddiw o dan y teitl 'First Do No Harm'? Rwy'n atgoffa'r Aelodau ei fod yn ymwneud â defnyddio triniaethau meddygol a mewnblaniadau amrywiol, fel mewnblaniadau rhwyll. Ac er ei fod wedi'i gomisiynu gan Lywodraeth y DU, roedd Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth Cymru yn rhanddeiliaid a chynhaliwyd digwyddiad i gleifion yng Nghaerdydd. Mae wedi datgelu llawer o bethau sy'n gofyn am ddadl lawn, rwy'n credu, yn enwedig holl fater mynediad cyfartal menywod at wasanaethau iechyd addas at y diben, ac un o brif gasgliadau'r adroddiad yw ein bod angen comisiynydd diogelwch cleifion. Mae'r rhain yn faterion pwysig iawn. Rwy'n siŵr nad fi yw'r unig Aelod sydd eisoes wedi cael gohebiaeth gan etholwyr yn gofyn i Lywodraeth Cymru a ninnau yma yn y Senedd archwilio argymhellion yr adroddiad hwn yn drylwyr. Felly, a allem gael dadl, os gwelwch yn dda, yn amser y Llywodraeth, cyn gynted ag y bo modd?
Mae hwn yn adroddiad difrifol iawn yn wir, gyda chasgliadau pwysig. Gwn fod y Gweinidog iechyd wedi croesawu adroddiad y tîm adolygu, sydd, fel y dywed David Melding, yn ymwneud yn bennaf â Lloegr, ond yn sicr bydd ganddo oblygiadau ar gyfer ymarfer clinigol yma yng Nghymru. Gwn fod y Gweinidog yn bwriadu mynd ati'n ofalus i asesu'r argymhellion a'r casgliadau mewn perthynas ag ymarfer cyfredol yma yng Nghymru, ac yna bydd yn ystyried a ddylent gael eu mabwysiadu gan y GIG yng Nghymru cyn y bydd yn cyhoeddi ei ymateb. Ond mae'n gyfarwydd iawn â'r adroddiad ac mae'n croesawu'r gwaith sy'n sail iddo.
Diolch i'r Trefnydd.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Addysg, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Joyce Watson.
1. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r cynnydd a fu yng ngweithgareddau ysgolion yr wythnos diwethaf? OQ55427
Diolch i chi, Joyce. Mae'r adborth uniongyrchol gan randdeiliaid allweddol, rhieni a dysgwyr yn hynod gadarnhaol. Mae'r cyfle i staff ysgol ddal i fyny gyda'u dysgwyr wedi cael ei groesawu'n fawr. Mae tystiolaeth ac arferion da o'r cyfnod presennol hwn o weithredu yn helpu i lywio gwaith ysgolion ar gyfer y dyfodol.
Rwy'n falch iawn fy mod yn gallu sefyll yma heddiw a dweud bod plant yng Nghymru wedi cael cyfle i fynd i'r ysgol cyn i bobl gael yr un cyfle i fynd i dafarn. Rwy'n credu ei fod yn dweud rhywbeth am y blaenoriaethau yma yng Nghymru. Rwy'n rhannu eich gwerthfawrogiad o'r holl bobl sydd wedi dod at ei gilydd mewn ymdrechion ar y cyd i sicrhau bod hynny'n digwydd, a hoffwn ddiolch i bawb ohonynt yma heddiw ar ran yr holl rieni hynny.
Fel y dywedwch, mae hwn yn gyfle i ailgydio a dal i fyny, ac mae'r ychydig wythnosau hyn cyn toriad yr haf yn bwysig ar gyfer nodi heriau logistaidd. Un o'r heriau logistaidd hynny yn fy rhanbarth i fydd cludiant i'r ysgol. Felly, a gawn ni edrych ymlaen at ddatganiad yn y dyfodol agos ar yr hyn a ddysgwyd, beth sydd wedi gweithio'n dda a ble mae angen inni fod nesaf efallai?
Diolch, Joyce, yn enwedig am gydnabod y gwaith caled sydd wedi'i wneud i sicrhau bod y cyfleoedd hyn ar gael i blant yng Nghymru. Mae wedi bod yn ymdrech gyfunol enfawr gan bawb sydd ynghlwm wrth hyn. Un o'r rhesymau pam roeddem eisiau darparu'r cyfleoedd hyn, y tu hwnt i addysg, yw'r union resymau rydych wedi'u disgrifio—fel y gallwn fynd i'r afael â rhai o'r materion logistaidd gwirioneddol ddyrys sy'n gysylltiedig â dychwelyd yn ddiogel i ysgolion ar gyfer disgyblion ac aelodau o staff—ac yn amlwg, mae cludiant yn un o'r rheini. Mae'n rhaid i mi ddweud bod y mwyafrif helaeth o awdurdodau lleol ar draws Cymru yn ystod y cyfnod hwn wedi gallu sicrhau bod y plant sydd angen cludiant wedi gallu cael cludiant, ond heb amheuaeth, fe gafwyd problemau logistaidd. Neithiwr ddiwethaf cyfarfûm â nifer sylweddol o arweinwyr cynghorau ac undebau llafur i drafod materion yn ymwneud ag addysg. Wrth gwrs, codwyd cludiant, a byddwn yn gweithio gyda chyfarwyddwr addysg ac arweinwyr trafnidiaeth ym mhob un o'r 22 awdurdod lleol i fynd i'r afael â'r materion hyn cyn y flwyddyn academaidd newydd.
Weinidog Addysg, rwy'n cydnabod bod y rhain yn benderfyniadau anodd i'r Llywodraeth, ond mae'n rhaid i'r Llywodraeth gydbwyso anfanteision a manteision unrhyw bolisi. Ac er fy mod yn gweld eich bod yn ceisio cadw ein plant yn ddiogel, ac yn parchu hynny, mae'n amlwg ei fod, yn eironig, yn cael effaith andwyol ar ein plant a'u bod yn dioddef, ac rwyf wedi gweld hynny drosof fy hun, gan fod gennyf fab 10 mlwydd oed yn yr ysgol gynradd.
Fel y dywedais yn gynharach yn y Siambr, nid addysg ein plant yn unig sy'n dioddef, mae eu hiechyd meddyliol a chorfforol a'u datblygiad yn dioddef hefyd. Gofynnaf i chi edrych ar ba mor isel yw risg COVID-19 yn awr a chydbwyso hynny â'r effaith niweidiol y mae peidio â mynd yn ôl i'r ysgol yn llawnamser yn ei chael ar ein plant. Ac er ein bod yn croesawu'r cyfle yn y tair wythnos yma i'n plant fynd yn ôl am dridiau, oni bai bod pob plentyn yn mynd yn ôl i'r ysgol ym mis Medi, bydd gennyf ddiddordeb mewn clywed sut rydych yn disgwyl i rieni ofalu am eu plant, addysgu eu plant, a chadw swyddi os yw'r dysgu rhan amser hwn yn parhau.
Er nad oes llawer o amser bellach i'n hysgolion baratoi i ailagor, mae Llywodraeth yr Alban wedi dweud yn gwbl glir eu bod am ailagor yn llawn ym mis Awst. Yng Nghymru, mae athrawon, disgyblion a rhieni, fel y dywedais o'r blaen, wedi bod yn y tywyllwch yn rhy hir. Mae angen inni wybod. A fyddech cystal â dweud wrthym, Weinidog, pa bryd y gallwn ddisgwyl i bob plentyn ddychwelyd i'r ysgol yn llawnamser?
Byddaf yn gwneud datganiad ar y camau nesaf ym maes addysg i blant yng Nghymru cyn diwedd yr wythnos.
O, dylwn ddweud—mae'n ddrwg gennyf, rwy'n anghwrtais—croeso'n ôl, Laura.
2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarpariaeth addysg i blant gweithwyr allweddol? OQ55407
Diolch, Russell. Ar 3 Mehefin, cyhoeddais y byddai pob disgybl yng Nghymru, gan gynnwys plant gweithwyr hanfodol, yn cael cyfle i ailgydio, dal i fyny a pharatoi ar gyfer yr haf a mis Medi o 29 Mehefin ymlaen.
Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Mae'r ateb yn glir ynddo'i hun, ond mae un o fy etholwyr wedi dweud wrthyf ei fod yn poeni bod plant gweithwyr allweddol sy'n mynychu'r hybiau gofal plant hefyd wedi'u hatal rhag mynychu'r diwrnodau ailgydio a dal i fyny, ac mae'r rhiant yn pryderu na fydd plant yn cael cyswllt â'u hathrawon a'u cyfoedion arferol, ac y bydd hynny'n effeithio hefyd ar eu gallu i baratoi ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf. A allwch chi gadarnhau, Weinidog, p'un a ddylai ysgolion fod yn sicrhau bod pob plentyn, gan gynnwys rhai gweithwyr allweddol, yn gallu ailgydio a dal i fyny gyda'u hathrawon, ac y dylai hynny ddigwydd cyn gwyliau'r haf?
Diolch yn fawr iawn am hynny, Russell. Mae'r gofyniad i geisio cyfyngu ar nifer y cysylltiadau sydd gan blant unigol yn un o'r problemau logistaidd hynod o anodd y mae gweithrediadau presennol yr ysgolion wedi'u dwyn i'n sylw. Mae hyn yn arbennig o wir yn sir Powys, gan fod nifer helaeth o bobl sy'n byw ym Mhowys yn cymhwyso fel gweithiwr hanfodol mewn gwirionedd, ac mae'r galw am ofal i blant gweithwyr hanfodol wedi cynyddu'n enfawr ym Mhowys dros yr wythnosau diwethaf. Rwy'n ddiolchgar iawn fod Powys o dan arweiniad Lynette Lovell, cyfarwyddwr addysg Powys, wedi gallu sefydlu pum hyb gofal plant ychwanegol yn ystod y cyfnod hwn a'u bod yn gweithio'n galed iawn i sicrhau nad yw'r plant sy'n mynychu'r hybiau hynny o dan anfantais o ran eu haddysg a'u gallu i ailgydio a dal i fyny.
Mae Lynette yn un o'r bobl y mae angen inni ddweud diolch wrthynt, Lywydd, fel y gwnaeth Joyce Watson. Fel cyn brifathrawes ei hun, ac fel rhywun sydd bellach yn gyfarwyddwr, mae wedi bod yn staffio rhai o'r hybiau gofal plant hynny dros y gwyliau a gwyliau banc. Dyna'r math o ymrwymiad a welsom ar hyd a lled Cymru sydd wedi sicrhau bod plant ein gweithwyr hanfodol wedi cael gofal da, gan ganiatáu i'w rhieni fwrw ymlaen â'u gwaith pwysig, ac rwy'n cymeradwyo gwaith Cyngor Sir Powys yn hynny o beth.
Alun Davies.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Fel eraill, hoffwn gofnodi fy niolch i chi ac eraill am sicrhau bod y sesiwn hon yn bosibl heddiw.
Weinidog, mae pobl ym Mlaenau Gwent yn dweud wrthyf fod ganddynt gryn dipyn o hyder yn eich arweinyddiaeth ym maes addysg, a’u bod yn cymharu hynny â'r traed moch rydym wedi'i weld dros y ffin. Mae pobl yn dweud wrthyf eu bod yn awyddus iawn i allu parhau i weld y math hwn o arweinyddiaeth.
O ran ein sefyllfa ar hyn o bryd, rwy'n awyddus i sicrhau bod gennym y cyfleusterau a'r ddarpariaeth addysgol ar waith ar gyfer pob plentyn, ac mae hynny'n cynnwys plant ag anghenion dysgu ychwanegol. Rwyf wedi bod yn bryderus iawn nad oes gennym, ym mhob man, y ddarpariaeth sydd ei hangen arnom i sicrhau bod ein plant mwyaf agored i niwed, a phlant sydd angen cymorth dysgu ychwanegol, yn cael hynny o fewn y modelau hyb rydym wedi’u gweld yn ddiweddar, ond hefyd wrth inni ddychwelyd at y dysgu cyfunol rydych wedi'i ddisgrifio mewn datganiadau diweddar. Rwy'n deall y byddwch yn gwneud datganiad heddiw ac yn ddiweddarach yr wythnos hon am y math o fframwaith a strwythurau a fydd gennym ym mis Medi, Weinidog, a hoffwn ofyn i chi sicrhau eich bod yn rhoi sylw llawn i blant ag anghenion dysgu ychwanegol.
Diolch, Alun. Mae'r cyfnod hwn o darfu ar addysg plant o ganlyniad i'r pandemig wedi bod yn her arbennig i'r plant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae llawer o'n hawdurdodau lleol wedi gallu cadw eu hysgolion arbennig ar agor drwy gydol y cyfnod hwn i gefnogi'r teuluoedd hynny, yn enwedig os oes gan y plant hynny anghenion dwys a phenodol iawn, ond rwy'n ymwybodol, mewn awdurdodau lleol eraill, nad yw’r gwasanaeth hwnnw wedi bod ar gael ym mhob man.
Wrth inni nesáu at y camau nesaf ym maes addysg yng Nghymru, byddwn yn rhoi sylw arbennig i anghenion cymorth plant ag anghenion dysgu ychwanegol. Rwy'n gobeithio gallu gwneud datganiad yn fuan hefyd ar yr hyn y gallwn ei wneud i fynd i’r afael â’r effaith y mae’r cyfnod hwn o darfu wedi’i chael, ac yn amlwg, bydd plant ag angen dysgu ychwanegol yn rhan flaenoriaethol o’r cohort y byddwn yn ceisio’i gefnogi wrth inni symud ymlaen.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Suzy Davies.
Diolch, Llywydd, a diolch, Weinidog, hefyd.
A gaf fi ychwanegu fy llais at y rheini sydd wedi llongyfarch ysgolion a'r athrawon, y staff, yn ogystal â rhieni a theuluoedd, ac yn wir, rhai o swyddogion y cynghorau hefyd, sydd wedi cyfrannu at allu agor ysgolion yn ystod yr ychydig wythnosau diwethaf, ac yn enwedig y rheini sy'n benderfynol o fynd am y bedwaredd wythnos honno?
Hoffwn ddechrau heddiw, fodd bynnag, gyda'r cwestiynau a godwyd gan Gomisiynydd Plant Cymru ynghylch hawl plentyn i addysg, yn gyffredinol, ac efallai y gallwch ddweud wrthym a yw eich polisïau a'ch rheoliadau wedi bod yn destun asesiad o’r effaith ar hawliau plant. Ond roeddwn yn arbennig o awyddus i ganolbwyntio ar ei hanogaeth i chi fod yn glir ynghylch eich cynlluniau ar gyfer mis Medi. Clywais yr hyn a ddywedoch chi wrth eraill yn y Siambr heddiw, ond mae ysgolion a chynghorau Cymru wedi gweld bod tair gwlad arall y DU eisoes wedi cyhoeddi eu canllawiau ar gyfer y tymor nesaf. Ddoe, yn y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, fe ddywedoch chi wrthym eich bod yn aros am y wyddoniaeth ddiweddaraf ar drosglwyddiad COVID-19 cyn i chi gyhoeddi eich canllawiau, er fy mod yn credu bod rhanddeiliaid yn ystyried drafft cyn hynny. A wnaethoch chi ofyn am yr adroddiad ar y wyddoniaeth honno, neu a oedd ar ei ffordd beth bynnag, ac a oeddech yn rhagweld y byddai'n gwneud gwahaniaeth sylweddol i'r canllawiau roeddech eisoes wedi'u paratoi a'u darparu ar ffurf ddrafft? Os gwnaethoch, pam fod yr haen ganol yn dal i edrych dros ddrafft ddydd Llun, ac os na wnaethoch, pam na wnaethoch gyhoeddi’r canllawiau hynny yn gynharach, gyda chafeat priodol ar gyfer rhai mân newidiadau, fel y gallai ysgolion a chynghorau fwrw ymlaen â rhywfaint o waith paratoi fan lleiaf, gan gofio bod eu hamser i weithredu bellach mor fyr?
Yn gyntaf, yn ôl fy nealltwriaeth i, er y bu cyhoeddiad yn yr Alban y bydd yr holl blant yn dychwelyd i'r ysgol heb unrhyw fesurau cadw pellter cymdeithasol ym mis Awst, ni chafwyd unrhyw ganllawiau gan Lywodraeth yr Alban i gefnogi'r penderfyniad hwnnw. Mae hynny'n adlewyrchu'r materion cymhleth iawn y mae Gweinidogion ledled y Deyrnas Unedig a minnau'n mynd i'r afael â hwy, yn enwedig wrth i'r wyddoniaeth a'r ddealltwriaeth ynglŷn â sut y mae'r afiechyd yn ymddwyn barhau i esblygu.
Cawsom rywfaint o rybudd y byddai papurau gwyddonol newydd ar gael i'r Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau ddiwedd yr wythnos hon. Gwnaethom ofyn i'r papurau hynny gael eu hanfon at Lywodraeth Cymru cyn gynted â phosibl, fel y gallem eu hystyried yn ein cynlluniau. Nid oeddwn am wneud datganiad, a bod digwyddiadau'n achub y blaen arno pe bai gwyddoniaeth bellach yn dod ar gael. Credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn meithrin hyder ymysg staff, ac yn hollbwysig, ymysg rhieni ein bod yn gweithredu yn unol â’r cyngor gwyddonol diweddaraf.
Drwy gydol y broses hon, rydym wedi dweud mai ein nod fyddai sicrhau cymaint â phosibl o gyswllt wyneb yn wyneb ar gyfer ein plant, a lleihau tarfu, a gwn fod ysgolion wedi paratoi canllawiau gweithredol ar gyfer ystod o senarios, a bydd yn rhaid parhau i adolygu’r cynlluniau hynny, ni waeth pa ddatganiad y gallaf ei wneud erbyn diwedd yr wythnos hon, gan fod y ffordd y mae'r afiechyd yn ymddwyn yn ein cymuned yn allweddol er mwyn datgloi cyfleoedd addysgol i blant. Gallaf roi sicrwydd i’r Aelod fod penderfyniadau a wneir o fewn yr adran yn destun asesiad hawliau integredig.
Iawn, mae hwnnw’n sylw diddorol, yr un olaf hwnnw, oherwydd yn sicr, fy nealltwriaeth i yw nad yw amryw reoliadau sydd wedi dod drwy bwyllgor gwahanol wedi cael yr asesiadau hynny o hawliau o reidrwydd.
Tybed a allwch fod o gymorth inni ar fater tebyg, sy'n ymwneud â dysgu cyfunol, gan fod rhywfaint o ddryswch ynglŷn ag a fydd mis Medi yn amgylchedd dysgu cyfunol ai peidio. Fy nealltwriaeth i yw eich bod wedi rhoi rhywfaint o eglurder ynghylch hyn drwy ddweud mai addysgu wyneb yn wyneb, pan fydd plant yn dychwelyd ym mis Medi, yw'r hyn rydych yn anelu ato, ac rwy'n gobeithio y bydd hynny'n tawelu meddwl rhai rhieni pryderus. Rydych yn edrych arno'n fwy fel offeryn ychwanegol, a fydd mewn rhai achosion unigol yn diwallu anghenion plentyn yn well na phresenoldeb yn yr ysgol yn unig o bosibl.
Dywedodd eich swyddogion wrthym ddoe nad yw athrawon yn gyfarwydd â’r ffordd hon o addysgu, ond eu bod wedi elwa’n ddiweddar iawn o gyngor a oedd yn seiliedig ar wybodaeth a gasglwyd gan y consortia, sy’n galonogol yma yn fy marn i, ond yn ôl yr hyn rwy'n ei ddeall, nid oedd y gwaith casglu data hwnnw ar yr hyn roedd ysgolion yn ei wneud ers mis Mawrth wedi dechrau'n iawn tan ddiwedd mis Mai, pan anogwyd y consortia i wneud y gwaith hwnnw, gyda’u hadroddiadau'n cael eu hanfon atoch wedyn erbyn 19 Mehefin, dros bythefnos yn ôl. Mae hwn wedi bod yn gyfnod eithaf hir bellach, felly credaf y dylech fod mewn sefyllfa i ddweud wrthym heddiw beth y mae'r adroddiadau hynny wedi'i ddweud wrthych, nid yn unig am faint, ond am ansawdd y cynnig sy'n cael ei wneud gan ysgolion unigol, yr adborth gan ysgolion i ddisgyblion o ran eu dysgu yn ogystal â'u llesiant, a pha mor gyflym y mae ysgolion wedi gallu nodi a mynd i'r afael â bylchau yn yr hyn roeddent yn ei wneud hyd eithaf eu gallu yn eu hamgylchiadau presennol.
Diolch, Suzy. Credaf y bydd dysgu cyfunol yn parhau i chwarae rhan mewn addysg yng Nghymru mewn sawl ffordd, ond yn amlwg, fel y nodoch chi, yn gwbl gywir, fy nod yw cynyddu cyswllt wyneb yn wyneb rhwng plant ac athrawon yn eu hysgolion, ond mae'n rhaid i ni nodi’r pethau cadarnhaol yn yr argyfwng rydym ynddo, ac i rai o'r staff, ac yn wir i rai o'r plant, mae'r dull dysgu cyfunol neu'r dull dysgu o bell wedi bod o fudd iddynt. Mae'n adeiladu, wrth gwrs, ar y gwaith pwysig sydd gennym yn y prosiect e-ysgolion, rhywbeth y bydd y Llywydd yn gyfarwydd iawn ag ef. Mae'r dull dysgu cyfunol hwnnw'n ein helpu i oresgyn rhai o'r anfanteision logistaidd y gall plant eu hwynebu am eu bod mewn dosbarthiadau bach, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. Felly, mae angen i ni nodi’r daioni sydd wedi deillio o'r argyfwng hwn, ac a fydd yn ein helpu i lywio polisi wrth inni symud ymlaen, ac i rai plant, yn enwedig plant sydd efallai’n ei chael hi'n anodd neu'n heriol yn yr ysgol, bydd cefnogi eu dysgu mewn amrywiaeth o ffyrdd yn bwysig iawn wrth inni symud ymlaen.
Rwy'n awyddus iawn i ddeall yr hyn sydd wedi bod yn digwydd mewn ysgolion unigol. Rwyf wedi bod yn ddi-flewyn-ar-dafod ynglŷn â hyn: mae’r perfformiad wedi bod yn gymysg. Mae rhai ysgolion wedi gallu mynd i’r afael â’r her hon yn well nag eraill, ac yn wir, mae rhai teuluoedd wedi gallu rhyngweithio â'u hysgolion yn well nag eraill. Fel y gwnaethom drafod yn y pwyllgor ddoe, rydym wedi ceisio cymryd camau cadarnhaol iawn, camau llwyddiannus, mewn perthynas ag anfantais ddigidol, ac mae arferion da ar ran addysgu wedi cael eu hategu gan ganllawiau ynghylch parhad dysgu gan y Llywodraeth, ac mae'r arferion da hynny a gasglwyd gan Estyn a’r consortia rhanbarthol bellach yn cael eu defnyddio i lywio arferion gorau ar draws ysgolion. Rydym hefyd wedi gallu darparu hyfforddiant, drwy'r consortia rhanbarthol, i staff allu deall a defnyddio ein platfform dysgu digidol, Hwb, i'r graddau mwyaf posibl. Oherwydd y sefyllfa ar Ynys Môn, er enghraifft, bu modd i mi gyfarfod yn ddiweddar â chynrychiolwyr penaethiaid Ynys Môn, a dywedasant eu bod wedi elwa'n fawr o'r gweminarau a'r hyfforddiant proffesiynol a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru a chonsortiwm GwE i'w staff i allu cefnogi dysgu cyfunol a dysgu o bell yn y ffordd orau.
Diolch am eich ateb. Credaf y bydd rhai athrawon llanw ar Ynys Môn yn awyddus i siarad â chi hefyd. Ni chredaf fod amheuaeth fod athrawon a staff ysgolion, a rhieni a disgyblion, wedi ymateb i'r her hon dros yr ychydig fisoedd diwethaf, ond mae pawb bellach yn dechrau colli amynedd, fel rydym eisoes wedi clywed. Yr hyn y buaswn yn ei ddweud yw nad wyf yn credu y dylai athrawon, ysgolion a staff ysgolion yn arbennig fod wedi bod ar eu pennau eu hunain yn hyn o beth. Nid yw rôl y consortia i gefnogi’r gwaith o wella ysgolion wedi diflannu yn ystod y cyfnod hwn, a ni waeth pa mor bell rydym wedi mynd oddi wrth y cwricwlwm, a pha mor wahanol bynnag yw'r profiad o gael rhieni i chwarae'r rôl fwy o lawer hon yn y gwaith o ddarparu addysg, nid oes unrhyw rheswm dros roi’r gorau’n gyfan gwbl i roi sylw i safonau. Rwyf wedi bod braidd yn bryderus ynghylch arafwch y consortia a swyddogion awdurdodau lleol sydd â rôl mewn gwella ysgolion. A allwch ddweud wrthyf beth yn union y maent wedi bod yn ei wneud yn rhagweithiol yn ystod y cyfnod hwn, nid dros yr ychydig wythnosau diwethaf yn unig, i gefnogi ysgolion i wneud eu gorau yn ystod anhrefn y cyfnod hwn?
Wel, rwyf newydd roi enghraifft i chi yn ardal GwE, lle maent wedi bod yn darparu cyfleoedd dysgu proffesiynol ar-lein i staff ledled gogledd Cymru fel y gallant ddefnyddio Hwb, ein platfform dysgu digidol, yn y ffordd orau. Yn fy ardal leol i, os trown at rôl awdurdod lleol, cymerodd Cyngor Sir Powys gynllun parhad dysgu Llywodraeth Cymru a’i addasu ar gyfer cyd-destun Powys, ac rydym wedi bod yn cynorthwyo ysgolion i roi’r cynllun hwnnw ar waith. Mae consortia rhanbarthol eraill, unwaith eto, wedi mynd ati'n rhagweithiol i gefnogi ysgolion, casglu gwybodaeth a darparu cyfleoedd dysgu proffesiynol. A dylwn ddweud hefyd fy mod yn ymwybodol fod staff y consortia, sydd wedi cael y caniatâd a'r profiad priodol, wedi bod yn gweithio yn ein hybiau gofal plant hefyd. Felly maent wedi bod yn chwarae eu rhan yn cefnogi addysg yn y cyfnod hwn.
Llefarydd Plaid Cymru, Siân Gwenllian.
Diolch, Llywydd, a diolch i'r Gweinidog Addysg am fod yn fodlon cyfarfod yn rhithiol bob wythnos yn ystod cyfnod yr argyfwng. Mae wedi bod yn fendithiol iawn, dwi'n credu, ein bod ni wedi gallu cynnal y cyfarfodydd yna a'r drafodaeth yna.
Maddeuwch i fi, ond dwi yn mynd i fynd yn ôl at fater yr ysgolion a mis Medi, oherwydd mae hwn yn dal yn rhywbeth sy'n fyw iawn ym meddwl penaethiaid, rhieni a phlant a phobl ifanc hefyd: beth yn union fydd yn digwydd ym mis Medi. Os bydd hi'n ddiogel, wrth gwrs, dwi'n meddwl ein bod ni i gyd yn cytuno mai'r peth gorau i'n plant a'n pobl ifanc ni ydy bod yr ysgolion yn ailagor yn llawn. Dwi'n meddwl os ydyn ni wedi dysgu rhywbeth yn ystod y cyfnod yma, rydym ni wedi dysgu bod y berthynas rhwng y disgybl a'r athro yn y dosbarth yn rhywbeth mor werthfawr ac nad ydy'r holl ymdrechion i greu addysg ar-lein ddim yn gallu cymryd drosodd y rôl greiddiol yna, er, wrth gwrs, mae ganddo fo le canolog.
Yn y pwyllgor ddoe, fe wnaethoch chi ddweud y bydd yna gyhoeddiad yr wythnos yma ynglŷn â pha drefniadau rydych chi'n disgwyl eu gweld ar waith ym mis Medi, ond mi wnaethoch chi ddweud hefyd eich bod chi wedi dal yn ôl rhag gwneud unrhyw gyhoeddiad oherwydd bod y wyddoniaeth yn esblygu. Ydy, mae o'n esblygu, ond mae o'n esblygu yn yr Alban ac yng Ngogledd Iwerddon hefyd, ac maen nhw wedi gallu cyhoeddi. Ac yn groes i beth roeddech chi'n ei ddweud mewn ymateb i Suzy Davies, mae'r Alban wedi cyhoeddi canllawiau. Ar 21 Mai, gwnaethon nhw ddweud bod eu hysgolion nhw'n ailagor ar 11 Awst, ac wedyn fe wnaethon nhw gyhoeddi canllawiau ar 28 Mai, ac mi wnaeth Gogledd Iwerddon, ar 18 Mehefin, ddweud bod eu hysgolion nhw'n mynd i ailagor yn raddol o 24 Awst ymlaen, a chafodd canllawiau eu cyhoeddi ar 19 Mehefin. Rŵan, dwi'n derbyn ein bod ni ddim eisiau dilyn gwledydd eraill a'n bod ni'n gallu gwneud ein penderfyniadau ein hunain fan hyn, ond beth sydd yn wahanol o ran y wyddoniaeth yn esblygu yn fan hyn a natur lledaeniad y feirws yn fan hyn o gymharu efo'r gwledydd eraill yma?
Wel, yn gyntaf oll, Siân, a gaf fi ddweud fy mod yn ddiolchgar i chi a Suzy Davies am y cyfle, fel y dywedoch chi, yn wythnosol fel arfer, i allu cadw mewn cysylltiad ac am barhau i fy nwyn i gyfrif?
Nid wyf yn ymwybodol o'r papurau gwyddonol a ystyriwyd gan fy Ngweinidogion cyfatebol yng Ngogledd Iwerddon, yr Alban neu Loegr ac a arweiniodd at y datganiadau hynny ganddynt. Drwy gydol y cyfnod hwn, rydym wedi cael ein llywio gan y wyddoniaeth. Mae'n bwysig iawn ein bod yn gwneud hynny er mwyn meithrin hyder ymhlith staff a rhieni. Y wyddoniaeth honno sydd wedi ein harwain yng Nghymru i allu gwneud rhywbeth hollol wahanol i'r hyn sydd wedi digwydd yng Ngogledd Iwerddon neu'r Alban, gan gydnabod bod dyddiadau eu tymhorau’n wahanol ac felly ei bod wedi bod yn fwy heriol iddynt, ac yn wahanol i'r hyn y maent wedi'i wneud yn Lloegr. Ochr yn ochr â'r wyddoniaeth, rydym hefyd wedi gallu ystyried yr ymarfer dros yr wythnos a hanner erbyn hyn o waith ysgolion i'n helpu i lywio'r broses o wneud penderfyniadau ar gyfer y dyfodol.
Fel y dywedais, nid wyf yn siŵr beth y mae Gweinidogion unigol eraill wedi'i ddarllen cyn gwneud y cyhoeddiad a wnaethant, ond roeddwn yn hollol benderfynol y byddem yn gwneud penderfyniad ar sail y cyngor gwyddonol diweddaraf ac ar brofiad y cyfnod hwn o addysg lle mae gennym fwy o blant yn ein hysgolion. Yn amlwg, fel y dywedwch, byddaf yn gwneud datganiad yn ddiweddarach yr wythnos hon. Bydd yn rhaid parhau i adolygu'r datganiad hwnnw a bydd yn rhaid inni gael pwyntiau adolygu rheolaidd, oherwydd, fel rydym wedi’i weld yma yng Nghymru, gall y clefyd godi ei ben ac ymyrryd â chynlluniau sydd wedi'u rhoi ar waith a'u paratoi'n ofalus, fel y digwyddodd, er enghraifft, ar Ynys Môn. Ond bydd y datganiad yn cael ei wneud yn ddiweddarach yr wythnos hon.
Mi fydd penaethiaid yn falch iawn o glywed bod yna wybodaeth yn dod, ond mae hi'n hwyr iawn yn y dydd; dim ond wythnos sydd gan yr ysgolion ar ôl i baratoi. Yn edrych ymlaen i fis Medi, beth fydd eich cynlluniau chi i wneud yn siŵr na fydd y bwlch cyrhaeddiad yn lledaenu yn sgîl yr argyfwng? Fydd yr arian sydd wedi cael ei gyhoeddi gan Brif Weinidog Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cael ei wario ar gynllun lliniaru? Mi wnaeth Plaid Cymru gyhoeddi cynllun rai wythnosau nôl a fyddai'n cynnwys cyflogi mwy o athrawon, cael athrawon sydd newydd ymddeol, efallai eu gwahodd nhw i ddod yn ôl i'r ysgolion. Beth fydd eich nod chi ar gyfer plant a phobl ifanc sydd ddim wedi cael cefnogaeth yn ystod cyfnod y pandemig yma, sef y rhai o dan yr anfantais fwyaf, sef yr her fwyaf? Beth yn union ydy'ch cynlluniau chi ar gyfer y cohort yna?
Rydych yn iawn i ddweud bod Llywodraeth San Steffan wedi cyhoeddi rhaglen dal i fyny gwerth £1 biliwn. Mae angen i mi sicrhau bod yr Aelodau'n ymwybodol nad arian newydd yw’r holl arian hwnnw, a chawsom ein cynghori fel Llywodraeth Cymru y gallem ddisgwyl cyllid canlyniadol o hyd at £30 miliwn ar y gorau, a dim mwy, yn y flwyddyn ariannol hon. Mae gweddill yr arian a gyhoeddwyd ar gyfer y flwyddyn ariannol newydd, ac nid yw ar gael i Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd. Felly, hoffwn fod yn glir ynghylch y paramedrau rydym yn gweithio o'u mewn.
Fel y dywedais yn gynharach rwy’n credu, rwy'n gobeithio bod mewn sefyllfa—unwaith eto, erbyn diwedd yr wythnos hon—i amlinellu dull unigryw i Gymru o liniaru'r effaith y mae'r afiechyd wedi'i chael ar addysg ein plant. Gwyddom fod y cyfnod hwn o darfu wedi bod yn arbennig o heriol i rannau penodol o'r cohort. Buom yn siarad am blant ag anghenion dysgu ychwanegol yn gynharach. Yn amlwg, o ran y plant o gefndir economaidd difreintiedig, rydym bob amser yn poeni am y bwlch cyrhaeddiad ar gyfer y plant penodol hynny. Felly, rydym yn bwriadu sicrhau ei bod yn rhaglen sydd wedi'i lleoli yn yr ysgol, sy'n wahanol iawn i'r dull a ddefnyddir yn Lloegr lle ceir pwyslais ar gyflogi tiwtoriaid preifat. Credaf fod angen i unrhyw raglen benodol i gefnogi dysgu plant fod yn seiliedig ar y gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda hwy bob dydd, sy’n eu hadnabod orau ac sy’n gallu ymdrin ag amgylchiadau'r plant hynny.
Yr hyn sy'n hanfodol am yr amser y mae plant yn ei dreulio yn yr ysgol ar hyn o bryd yw bod y gwaith hwnnw eisoes yn dechrau mynd rhagddo i nodi beth fu effaith y cyfnod hwn o darfu ar blant, ac i athrawon ddechrau cynllunio ar gyfer yr hyn y mae angen iddynt ei wneud nesaf i symud plant yn eu blaenau. I rai plant, cynnwys fydd y brif flaenoriaeth; i blant eraill, bydd yn golygu mynd i'r afael â'u hiechyd a'u lles emosiynol. Mae hwn wedi bod yn gyfnod cythryblus iawn i bob un ohonom. Bydd rhai ohonom wedi colli ffrindiau neu berthnasau, ac wedi adnabod pobl sydd wedi bod yn wirioneddol sâl, ac os yw hynny'n wir amdanom ni, yna wrth gwrs, bydd yn wir am ein plant hefyd. Ac mae sicrhau bod ein plant mewn sefyllfa i ddysgu ac i ailymgysylltu â'u haddysg yn wirioneddol bwysig. Dyna pam ei bod yn bwysig ein bod wedi cymryd y cam i roi cyfle i bob plentyn—nid grwpiau blynyddoedd penodol, ond pob plentyn—fynd yn ôl i'r ysgol cyn mis Medi.
Diolch. Tri deg miliwn—dydy hynny ddim yn mynd i fynd yn bell iawn, er gwaethaf rhyw gyhoeddiadau mawr a oedd yn cael eu gwneud gan y Torïaid yn Lloegr yn ddiweddar. Y bwlch digidol: dyma fater arall sydd wedi dod yn amlwg yn ystod y pandemig—yr anfantais ddigidol y mae rhai myfyrwyr, disgyblion yn dioddef o ran dyfeisiadau a chysylltedd. Mae un arolwg dwi wedi ei weld yn ddiweddar gan Grŵp Llandrillo Menai yn dangos bod 30 y cant o'r myfyrwyr yn teimlo eu bod nhw dan anfantais—hynny yw, eu bod nhw'n methu cael mynediad digonol i ddysgu o bell er mwyn cwblhau eu hastudiaethau nhw, gan nad yw'r cyfarpar neu'r band eang, neu'r ddau, ddim ganddyn nhw. Mae 30 y cant o bobl ifanc yn ffigur mawr, fyddwn i'n tybio, pan fyddwch chi'n meddwl ar draws Cymru. A thybed a fyddai arolwg tebyg ymhlith myfyrwyr addysg uwch yn dangos yr un thema, neu a ydy hyn yn tanlinellu, a dweud y gwir, statws sinderela addysg bellach yng Nghymru? Felly, hoffwn i wybod beth ydy'ch cynlluniau chi i gau'r bwlch digidol yn y sector addysg bellach yn arbennig.
Wel, rydych chi'n iawn—un o'r rhwystrau a fu i ddysgu yn ystod y cyfnod hwn i blant sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol yw nad oes ganddynt ddyfais, neu ddyfais addas, neu'n wir, gysylltedd gartref. Dyna pam rydym wedi gwario £3 miliwn ar geisio mynd i'r afael â'r sefyllfa honno. Rwy'n ddiolchgar iawn i gymheiriaid mewn llywodraeth leol sydd wedi gweithio mewn partneriaeth â ni i ddarparu dros 10,000 darn o offer, a dros 10,000 o ddyfeisiau MiFi. Unwaith eto, mae hyn yn gyflawniad y credaf y gallwn fod yn falch ohono yng Nghymru, o gymharu â'r gallu i ddarparu offer mewn gwledydd eraill, lle maent wedi’i chael hi’n anodd gwneud hynny. Rydym wedi benthyca offer sydd eisoes mewn ysgolion yn hytrach na mynd i'r farchnad i’w brynu’n newydd, gan ein bod yn gwybod bod pawb arall yn mynd i'r farchnad i brynu’n newydd, ac y byddai hynny'n arwain at oedi sylweddol cyn rhoi’r hyn roedd arnynt ei angen i’r plant. Byddwn yn rhoi offer newydd i ysgolion yn lle’r offer a fenthycwyd i’r plant—a gafodd ei roi i’r plant.
Rydym wrthi’n trafod cynlluniau gyda'r sector addysg bellach i weld a ellir rhoi sefyllfa debyg a lefel debyg o gefnogaeth ar waith ar gyfer addysg bellach. Ond unwaith eto, byddwn yn cymeradwyo gwaith aelodau ColegauCymru, sydd wedi gwneud gwaith gwych yn sicrhau bod myfyrwyr addysg bellach sydd mewn perygl o gael eu hallgáu'n ddigidol wedi gallu cael cymorth. Ac er ein bod yn siarad, yn hollol ddealladwy, am ysgolion yn dychwelyd, mae colegau addysg bellach hefyd yn ôl yn gweithio, ac mae ganddynt bwyslais arbennig ar gysylltu â'n myfyrwyr mwyaf bregus—yr union fyfyrwyr y sonioch chi amdanynt, Siân, myfyrwyr y mae dysgu o bell wedi bod yn her arbennig iddynt o bosibl—ac mae hynny'n mynd yn dda iawn, yn ôl yr hyn a ddeallaf.
3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynghylch cynlluniau Llywodraeth Cymru i ehangu’r ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg yn ardal Merthyr Tudful? OQ55422
Diolch, Delyth, am y cwestiwn.
Clustnodwyd buddsoddiad cyfalaf o £1.83 miliwn i ehangu darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg ym Merthyr Tudful. Rydym yn talu costau llawn y prosiectau hyn i wneud y defnydd gorau o'r cyllid sydd ar gael. Mae'r awdurdod hefyd wedi derbyn £661,000 o'r grant lleihau maint dosbarthiadau babanod, hefyd i gefnogi addysg cyfrwng Cymraeg.
Diolch am yr ateb yna, Weinidog. Mae Rhieni dros Addysg Gymraeg wedi cysylltu â mi ynghylch eu hymgyrch nhw i fynd i'r afael â'r diffyg darpariaeth o addysg Gymraeg yn yr ardal. Ar hyn o bryd, dim ond dwy ysgol gynradd sydd yno, a does dim ysgol uwchradd o gwbl—sefyllfa gwbl annheg ar blant yr ardal. Mae Rhieni dros Addysg Gymraeg eisiau gweld ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg newydd yn cael ei hagor, yn ogystal ag ysgol gynradd ychwanegol. Ers iddyn nhw ddechrau eu hymgyrch lai na blwyddyn yn ôl, maen nhw wedi gwneud camau breision. Mae trafodaethau gyda'r cyngor am agor ysgol gynradd newydd yn gadarnhaol, mae'r fforwm addysg Gymraeg wedi cwrdd yn rhithiol yn ystod y cyfnod clo, ac mae cynlluniau ar y gweill i gynhyrchu deunydd i hyrwyddo addysg Gymraeg ymysg rhieni, yn ogystal â threfnu digwyddiadau. Felly, Weinidog, a wnewch chi ymuno â fi i longyfarch RhAG am eu gwaith campus hyd yma, yn ogystal â Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful am ddangos brwdfrydedd dros eu helpu nhw? Ac a allwch chi fy sicrhau i y byddwch chi fel y Gweinidog Addysg yn cynnig pob cefnogaeth bosib er mwyn galluogi Rhieni dros Addysg Gymraeg a'r cyngor i agor ysgolion cyfrwng Cymraeg newydd ym Merthyr?
Diolch, Delyth. Fel y dywedais yn fy ateb i'ch cwestiwn cyntaf, mae Llywodraeth Cymru'n ariannu'r prosiectau y bydd yr Aelod yn gyfarwydd â hwy yn llawn. Bydd y grant o £1.83 miliwn yn cefnogi’r gwaith o ad-drefnu Ysgol Rhyd-y-grug i ddarparu ar gyfer dwy ystafell ddosbarth ychwanegol ac i gynyddu darpariaeth feithrin a chyn-feithrin. A bydd y grant hefyd yn ariannu ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg newydd gyda lle i 210 o ddisgyblion, gan ddarparu lleoliad blynyddoedd cynnar a gofal plant cynnar drwy gyfrwng y Gymraeg yn ogystal. Mae'r grant lleihau maint dosbarthiadau babanod wedi'i ddyrannu i Ysgol Gynradd Gymraeg Santes Tudful hefyd i ddarparu estyniad annibynnol i ddwy ystafell ddosbarth ychwanegol, gan gynnwys lobi a thoiledau newydd, a bydd yr hen adeilad dros dro yn cael ei symud i greu man chwarae awyr agored i gefnogi'r cyfnod sylfaen.
Felly, yn amlwg, mae'r grantiau cyfalaf y gall Llywodraeth Cymru eu rhoi i Ferthyr Tudful yn mynd i wneud gwahaniaeth mawr, ac rwy'n ddiolchgar i bawb sy'n ymgyrchu ym Merthyr Tudful a'r cyngor am ymgysylltu mor gadarnhaol â'n rhaglen gyfalaf i sicrhau bod y prosiectau hyn ar gael, ac fel rydym wedi'i weld mewn ardaloedd eraill yng Nghymru, pan fyddant ar gael, rwy'n siŵr y bydd rhieni'n gwneud penderfyniad cadarnhaol iawn i ddewis addysg Gymraeg ar gyfer eu plant.
Weinidog, rhaid inni sicrhau bod ein targedau addysg iaith Gymraeg uchelgeisiol ym Merthyr Tudful, ac ar draws Cymru, yn cael eu cyflawni, ac mae'n bwysig bod buddion addysg yn Gymraeg yn cael eu rhoi i'n holl blant ym mhob cymuned. A allaf ofyn, felly, a fydd y Gweinidog yn rhoi cefnogaeth bellach i gyngor Pen-y-bont ar Ogwr, gan fod datblygiad tir pwysig wedi cwympo drwodd gan effeithio'n sylweddol ar eu cynlluniau? Efallai y bydd angen tipyn bach mwy o help i gyflawni ein targedau uchelgeisiol ym Mhen-y-bont ar Ogwr, gan weithio hefyd gyda grwpiau fel Rhieni dros Addysg Gymraeg Pen-y-bont.
Diolch am hynny, Huw. A gaf fi roi sicrwydd i’r Aelodau ein bod wedi datblygu dangosfwrdd i roi trosolwg o'r sefyllfa ar draws yr holl awdurdodau lleol yn dilyn COVID-19, ac mae'r dangosfwrdd yn nodi bod awdurdodau lleol ar y trywydd iawn i gyflawni targedau eu cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg. Yn amlwg, os oes pryderon ynghylch gallu awdurdod lleol unigol i gyflawni'r targedau sydd wedi'u cynnwys yn eu cynllun strategol Cymraeg mewn addysg, bydd ein swyddogion yn awyddus i gael sgwrs gyda hwy i ddeall beth yw'r rhwystrau i gyflawni'r nodau yn y cynlluniau hynny.
4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer ailddechrau addysg amser llawn ym mis Medi? OQ55397
Ers 29 Mehefin, mae ein dysgwyr wedi bod yn achub ar y cyfle i ailgydio, dal i fyny a pharatoi ar gyfer tymor yr hydref. Gan weithio gyda rhanddeiliaid, rydym yn datblygu cynlluniau cadarn er mwyn i blant ddychwelyd i'r ysgol ym mis Medi, ac fel rwyf wedi’i ddweud droeon y prynhawn yma, Lywydd, rwy'n bwriadu gwneud datganiad yn ddiweddarach yr wythnos hon i amlinellu fy nghynlluniau.
Diolch am eich ateb, Weinidog, ac rwy'n derbyn eich bod wedi ateb cwestiynau eraill ar y maes penodol hwn, ond credaf fod hyn yn dangos faint o ohebiaeth y mae pob un ohonom yn ei chael gan rieni ac athrawon pryderus, yn ogystal â phlant sydd am ddeall beth fydd y sefyllfa ym mis Medi. Gwn eich bod wrthi'n gweithio ar y broses honno, Weinidog, ond o ystyried y dryswch ynghylch y cyhoeddiadau blaenorol ynglŷn ag agor ysgolion yn rhannol, sylwadau'r prif swyddog meddygol, er enghraifft, a sylwadau'r undebau, a allwch chi ein hargyhoeddi y bydd y cyhoeddiad y byddwch yn ei wneud yn ddiweddarach yn yr wythnos yn gyhoeddiad cydlynol i roi eglurder llwyr fel y gall pobl fod â hyder y gwelir addysg amser llawn ym mis Medi? Oherwydd, gyda diwedd y cynllun ffyrlo a'r pwysau economaidd y mae teuluoedd yn ei wynebu, mae'n ddigon posibl y bydd yn rhaid i bobl feddwl am fwyd yn hytrach na ffracsiynau os na cheir addysg amser llawn ym mis Medi. Ac rwy'n gobeithio y gallwch roi'r hyder inni heddiw mai dyna yw eich cyfeiriad teithio mewn perthynas ag agor ysgolion ym mis Medi.
Wel, Lywydd, rwy'n deall bod plant, rhieni a gweithwyr proffesiynol yn awyddus i wybod mwy am yr hyn y gallwn ei ddisgwyl ym mis Medi. Rydym yn cynnal y trafodaethau hynny, fel y dywedodd yr Aelod. Weithiau, mae'r trafodaethau hyn yn cael eu cymhlethu gan y ffordd y mae ein system addysg wedi'i strwythuro yng Nghymru, sy'n golygu bod angen ymgysylltu â llawer iawn o randdeiliaid cyn y gallwn wneud cyhoeddiad, ond rwy'n gwbl sicr, ac rwyf wedi bod yn gwbl sicr drwy gydol y broses hon, fy mod yn benderfynol o wneud y mwyaf o'r cyfleoedd ar gyfer addysg ein plant a lleihau'r effaith y mae'r afiechyd hwn wedi'i chael arni. Mae angen inni gydbwyso'r risgiau—y risgiau i blant a'r staff sy'n gweithio gyda hwy—y mae COVID-19 yn eu hachosi. Ond wrth lwc, oherwydd gwaith caled ac ymdrechion y cyhoedd yng Nghymru i ddechrau gostwng cyfradd y trosglwyddiad cymunedol, mae angen inni bellach gyfrifo'r risgiau nad ydynt yn ymwneud â COVID i'n plant, yn sgil cyfnod hir heb addysg. Ac oherwydd gwaith caled y cyhoedd yng Nghymru, rydym mewn sefyllfa i allu gwneud hynny.
Weinidog, rwy'n clywed gan rieni gofidus, sydd â phlant yn gofidio’n fawr, sydd eisiau ac angen gwybod y byddant yn mynd yn ôl i'r ysgol yn llawnamser ym mis Medi. Mae rhieni sy'n byw ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr hyd yn oed yn ystyried anfon eu plant i ysgolion yn Lloegr ym mis Medi. Beth sydd gennych i'w ddweud wrth y rhieni hynny? Diolch.
Mandy, rwy'n rhiant sy'n byw mewn etholaeth ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr. Ddoe, llwyddodd fy merch sydd ym mlwyddyn 9 i ddychwelyd i'r ysgol am yr eildro. Pe bawn i'n byw dros y ffin, yn swydd Henffordd, ni fyddai wedi gosod troed mewn ystafell ddosbarth tan fis Medi. Gadewch i ni fod yn hollol glir beth y mae'r system addysg a'r athrawon a'r penaethiaid a'r staff cymorth a'n hawdurdodau lleol wedi gallu ei gyflawni yng Nghymru: mae plant sy'n byw yn eich etholaeth na fyddai'n mynd i ystafell ddosbarth tan fis Medi wedi gallu ailgydio a dal i fyny a dechrau paratoi. A byddaf yn parhau i weithio gyda'r addysgwyr proffesiynol gweithgar yn ein gwlad i wneud y mwyaf o'r cyfle i'n plant ym mis Medi. Gadewch i ni fod yn glir iawn am y gwahaniaethau ar y ddwy ochr i’r ffin. Ac rwy'n falch fy mod ar yr ochr hon.
Weinidog, diolch am eich atebion i'r cwestiynau hyn. Rydym yn deall yn glir yn awr y byddwch yn gwneud datganiad ar y mater hwn. Ond yn briodol felly, mae rhieni'n wirioneddol bryderus am hyn, nid oes amheuaeth am hynny, ac maent angen eglurder cyn gynted â phosibl. Mae angen trefnu gofal plant ac mae yna lawer o ffactorau eraill hefyd. Felly, yn dilyn y datganiad, yn ddiweddarach yr wythnos hon, a wnewch chi gadarnhau ac ymrwymo heddiw y bydd unrhyw gyhoeddiadau neu wybodaeth bellach i rieni yn cael eu rhoi iddynt ar fyrder? Oherwydd mae angen i etholwyr ar draws Alun a Glannau Dyfrdwy ac ar draws Cymru wybod hyn cyn gynted â phosibl er mwyn iddynt allu cynllunio.
Wrth gwrs, Jack. Rwyf wedi ymdrechu, trwy gydol yr holl gyfnod hwn, i fod mor eglur ag y gallaf fod gydag addysgwyr proffesiynol yng Nghymru a chyda rhieni Cymru. Ac nid yw hynny wedi bod yn hawdd bob amser, oherwydd diffyg dealltwriaeth weithiau, ar ran elfennau o’r wasg yn arbennig, ynglŷn â thrafodaethau a chyhoeddiadau a wnaed ynghylch awdurdodaethau eraill, a'r effaith y mae'n ei chael ar Gymru. Rydym wedi defnyddio amrywiaeth o lwyfannau a phob cyfle i gyfathrebu â rhieni a gallaf eich sicrhau y byddwn yn parhau i wneud hynny.
Mae'r penderfyniadau a wnaf yn un agwedd bwysig, yn amlwg, ond oni bai bod gan y rhieni hyder ynom, fel eu bod yn gwybod y gallant anfon eu plant i amgylchedd diogel, ni fyddant yn gwneud y dewis hwnnw. Gan ein bod wedi gallu cynnig cyfle i bob plentyn yr ochr hon i'r haf, rwy’n hynod o falch y gall rhieni weld pa mor ddiogel y mae eu hathrawon a'u penaethiaid wedi gallu gwneud eu hysgolion ac felly, rwy'n gobeithio y bydd hynny'n meithrin hyder ar gyfer beth bynnag y gallwn ei wneud ym mis Medi.
5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am faint dosbarthiadau mewn ysgolion yng Nghymru? OQ55411
Mae lleihau maint dosbarthiadau, wedi'i dargedu at y rhai a fydd yn elwa fwyaf, yn gam gweithredu allweddol yn ‘Cenhadaeth ein Cenedl'. Rwyf wedi sicrhau bod £36 miliwn ychwanegol ar gael dros dymor y Cynulliad hwn ar gyfer lleihau maint dosbarthiadau babanod.
Diolch, Weinidog. Mae argyfyngau'n creu cyfleoedd yn eu sgil a gall yr amgylchiadau mwyaf anffodus greu newid cadarnhaol iawn. Nid yw'r dull dysgu cyfunol yn mynd i weithio pan ddaw’r hydref, mae plant ar ei hôl hi, nid yw pawb ar-lein ac mae problem gyda rhieni'n gweithio. Fel cyn-athro, rwy'n ymwybodol iawn o fanteision enfawr dosbarthiadau llai: mae perthynas wahanol yn yr ystafell ddosbarth, mae'n fwy o gymuned, mae mwy o amser i blant, daw hyfforddiant un i un yn bosibl. Mae yna reswm pam fod ysgolion preifat yn cynnig dosbarthiadau llai o faint; fe wyddom hynny.
Felly, rydych chi mewn sefyllfa yn awr—fe allech chi greu newid gyda'r nod o dorri maint dosbarthiadau yn radical. Creu newid anferth yn yr argyfwng hwn, os mynnwch chi: dod ag athrawon sydd wedi gadael y proffesiwn i mewn, dod â phobl yn ôl i mewn yn unswydd er mwyn gwneud toriad radical ym maint dosbarthiadau yn bosibl i allu cydymffurfio â mesurau cadw pellter cymdeithasol mewn ysgolion a chael ysgolion yn ôl yn weithredol yn llawnamser gyda disgyblion yn yr ysgol yn llawnamser. Pam ddim?
Wel, fel y dywedais yn glir yn fy ateb cyntaf rwy’n meddwl, Lywydd, mae lleihau maint dosbarthiadau wedi bod yn flaenoriaeth i mi a’r Llywodraeth hon. Rydym wedi buddsoddi yn hynny, ac mae'r buddsoddiad hwnnw wedi arwain at 110 o athrawon ychwanegol yn gweithio yn ein hysgolion, a 45 o gynorthwywyr addysgu ychwanegol. Ac mewn rhai mannau, nid y staff sydd wedi bod yn rhwystr rhag cael dosbarthiadau llai ond yr adeilad ei hun, ac felly, rydym wedi creu 52 o ystafelloedd dosbarth ychwanegol. Yn amlwg, fel y dywedais wrth ateb cwestiynau eraill, byddwn yn ceisio gwneud yr hyn a allwn i gefnogi plant ar y cam nesaf yn eu haddysg, i oresgyn rhai o'r diffygion a fydd yn ddiamheuaeth—yn ddiamheuaeth—wedi digwydd oherwydd yr aflonyddwch hwn, a bydd staff ychwanegol yn rhan bwysig o hynny rwy'n siŵr.
6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddefnyddio cyfarpar diogelu personol mewn ysgolion? OQ55430
Mae'n hanfodol fod y rhai sydd angen cyfarpar diogelu personol yn gallu cael gafael arno. Mae ein canllawiau ar gynyddu gweithgarwch mewn ysgolion yn nodi'r defnydd o gyfarpar diogelu personol gan addysgwyr a staff cymorth yn y sector addysg.
Mewn perthynas â masgiau wyneb, nodaf mai’r ateb a roddodd y Prif Weinidog yn gynharach oedd nad yw gorchudd wyneb yn fwled hud ynddo'i hun, ac rwy'n tybio bod gan y Llywodraeth nifer o bryderon yn codi o hynny. Ond cysylltodd un o drigolion Caerffili â mi yn pryderu ynglŷn ag anfon ei phlentyn yn ôl i'r ysgol hyd nes y bydd yn gweld bod masgiau wyneb ar gael yn ehangach, ac yn enwedig mewn ysgolion. Pa sicrwydd y gallwch ei roi iddi heddiw, a pha bryd y cawn wybodaeth bellach am gyfarpar diogelu personol a masgiau wyneb mewn ysgolion o fis Medi ymlaen?
Dim ond mewn amgylchiadau penodol iawn y mae Llywodraeth Cymru yn cynghori y dylai staff sy'n gweithio yn ein hysgolion ddefnyddio masgiau wyneb. O ran gorchuddion wyneb—oherwydd mae cryn dipyn o wahaniaeth rhwng y ddau beth—nid ydym yn cynghori bod gorchuddion wyneb yn angenrheidiol mewn ysgolion.
7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gymorth addysgol i blant nad ydynt wedi dychwelyd i'r ysgol? OQ55418
Rwy'n credu, Janet, wrth i ddysgwyr ddychwelyd i amgylchedd ffisegol yr ysgol, y bydd addysgwyr yn darparu cyfuniad o ddulliau, yn enwedig ar gyfer y plant nad argymhellir o bosibl eu bod yn dychwelyd i'r ysgol ar hyn o bryd.
Diolch. Ym mis Ebrill, cyhoeddwyd £300 miliwn ychwanegol i gefnogi dysgwyr sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol, ac eto rwy'n ymwybodol fod llawer o rieni wedi aros yr holl fisoedd hyn am liniadur. Rwyf hyd yn oed wedi cael problemau’n ymwneud â darparu dongl. Felly, a allwch chi gadarnhau p'un a yw'r holl ddysgwyr sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol yng Nghymru wedi cael y dechnoleg sydd ei hangen arnynt erbyn hyn, a sut yr ewch chi i'r afael â'r diffyg? Fis diwethaf canfu adroddiad arolwg mai dim ond 1.9 y cant o fyfyrwyr a oedd yn cael pedair gwers y dydd. Pa gamau rydych chi wedi'u cymryd i wella hyn? Wedyn, ddydd Llun, fe wnaethoch gyhoeddi bod £1 filiwn wedi'i ddyrannu i gefnogi'r plant hynny i ailgysylltu ag addysg dros wyliau'r haf, yn enwedig y rhai nad ydynt wedi bod yn yr ysgol. Ond rwy'n gofyn: pa mor realistig yw disgwyl hyn gan blant dros wyliau'r haf, yn enwedig pan nad yw nifer ohonynt wedi gallu manteisio ar ddysgu ar-lein yn ystod tymor yr haf ei hun? Diolch.
Janet, fel y dywedais wrth ateb Siân Gwenllian, mae ysgolion wedi dosbarthu dros 10,000 o ddyfeisiau unigol, a thros—. Mewn gwirionedd, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu dros 10,000 o drwyddedau meddalwedd sy'n caniatáu i'r offer gael ei droi'n beth sydd ei angen ar blentyn. Mewn gwirionedd, mae'r nifer yn uwch na hynny, oherwydd bod ysgolion unigol eisoes wedi mynd ati i ddarparu nifer o ddyfeisiau.
Os ydych chi mewn cysylltiad â rhieni sy'n dweud nad ydynt wedi gallu cael gliniadur neu ddyfais Mi-Fi, awgrymaf yn barchus i chi, Janet, fod angen iddynt siarad â'u pennaeth, neu â'u hawdurdod lleol sydd â chyfrifoldeb am gydlynu'r cynllun hwn. Mae'n amhosibl goruchwylio dosbarthiad gliniaduron unigol o Fae Caerdydd neu, yn wir, o gartref yn Aberhonddu â chysylltiad gwael. Felly, Janet, mae gwir angen i chi ofyn i'ch awdurdod lleol pam nad yw plant yn eich ardal yn cael y cymorth sydd ei hangen arnynt.
Ac yn olaf, Jenny Rathbone—cwestiwn 8.
8. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i drawsnewid y broses o ddarparu addysg mewn meysydd chwarae ysgolion a lleoliadau awyr agored eraill yng ngoleuni'r pandemig COVID-19? OQ55420
Rydym wedi cyhoeddi canllawiau gweithredol a chanllawiau dysgu ar gyfer ysgolion a lleoliadau sy'n nodi manteision corfforol, meddyliol ac addysgol dysgu awyr agored ac sy'n pwysleisio y dylent wneud y mwyaf o'r amser y mae dysgwyr yn ei dreulio yn yr awyr agored. Mae manteision dysgu awyr agored yn arbennig o berthnasol yng nghyd-destun y pandemig COVID-19.
Diolch i chi am hynny, Weinidog. Rwy'n falch eich bod chi'n cydnabod bod hwn yn offeryn pwysig iawn yn yr arfogaeth ar gyfer cael pob plentyn yn ôl i'r ysgol lle bo hynny'n bosibl a gwneud y mwyaf o'r cyfleoedd hynny. Felly siom yw gorfod adrodd mai dim ond pedair awr ar y mwyaf a gynigiwyd i blant yn o leiaf un o fy ysgolion cynradd dros y cyfnod hwn o dair wythnos, a hynny'n syml oherwydd eu bod wedi cael eu rhoi mewn swigen o bump o blant—hyn mewn ysgol sy’n cynnig llawer o addysg awyr agored. Nid yw'n ymddangos bod y defnydd o feysydd chwarae ysgolion wedi cael ei gynnwys yn briodol yn y cynlluniau o ran yr hyn y gallant ei gynnig i'w plant, yn enwedig lle nad oes gan blentyn unrhyw fan chwarae awyr agored gartref.
Rwyf am dynnu sylw pawb at bwysigrwydd y gwaith sy'n cael ei wneud yn Nenmarc. Pwysleisiodd ei gynllun saith pwynt ar ailagor ysgolion yng nghanol mis Ebrill bwysigrwydd gwneud addysg awyr agored nid yn unig yn beth braf i'w gael ond yn rhan reolaidd o gynlluniau gwersi. Rwy'n clywed y lleisiau negyddol sy'n dweud, 'Wel, nid yw ein tywydd yn caniatáu hynny', ond na, ddim o gwbl. Mae hyn i gyd yn ymwneud â chael yr offer cywir. Ni waeth a yw'n bwrw glaw, yn wyntog neu’n bwrw eira: cyn belled â bod gan y plant a’r athrawon offer cywir, mae'n gwbl bosibl parhau i addysgu yn yr awyr agored ar bob adeg o'r flwyddyn.
Felly, yn eich fframwaith penderfyniadau ar gyfer ysgolion yn y cam nesaf o’r broses ailagor, fe sonioch chi am Ddenmarc, ond dim ond yng nghyd-destun eu defnydd o adeiladau eraill i gynyddu capasiti, a gwnaeth hynny fy synnu yng ngoleuni'r gwaith gwirioneddol lwyddiannus y mae Denmarc wedi'i wneud ar gael plant yn ôl i'r ysgolion. Felly, pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i drawsnewid addysgu yn yr awyr agored fel y ffordd fwyaf diogel o guro trosglwyddiad y clefyd? Ac er mwyn gwneud y mwyaf o'r cyfleoedd y buoch chi'n siarad amdanynt yn gynharach, a wnewch chi ystyried defnyddio'r gwyliau ysgol i gynnig cyrsiau cyflym i athrawon mewn hyfforddiant ysgolion coedwig? Oherwydd mae'n amlwg fod angen yr hyfforddiant hwnnw ar rai pobl.
Wel, Jenny, rwy'n credu bod mynediad at ddysgu awyr agored, mewn pandemig neu beidio, yn creu manteision gwirioneddol i blant: i'w hiechyd meddwl, i'w hiechyd corfforol, a’u gallu i ddeall eu hamgylchedd a pha mor bwysig ydyw. Cefais fy synnu wrth weld trwy'r cyfryngau cymdeithasol y dulliau arloesol iawn y mae llawer o ysgolion wedi'u gweithredu yn ystod y cyfnod hwn i addysgu plant yn yr awyr agored.
Mae'r canllawiau gan Lywodraeth Cymru yn nodi'n glir ein bod yn gofyn i ysgolion gynnig tair sesiwn fan lleiaf. Mae llawer wedi gallu cynnig mwy na hynny, ond rwy'n cydnabod bod rhai ysgolion yn teimlo bod ganddynt gyfyngiadau penodol, er bod hynny’n aml yn ymwneud mwy â’r ffaith eu bod yn cydbwyso anghenion gofal plant sy'n agored i niwed a phlant gweithwyr hanfodol. Ond rydych chi'n hollol iawn. Nid wyf yn siŵr pwy ddywedodd hynny, ond dywedodd rhywun unwaith nad oedd y fath beth â thywydd gwael, dim ond dewis gwael o ddillad, ac yn amlwg, yn y cyfnod sylfaen, fe welwch blant ifanc allan bob dydd yn dysgu ym mhob tywydd yn yr amgylchedd bywiog hwnnw.
Gall athrawon sydd â diddordeb ac ysgolion sydd â diddordeb mewn dysgu awyr agored gael gafael ar gymorth trwy Hwb yn ogystal â thrwy Gyngor Dysgu Awyr Agored Cymru, sydd yno i gefnogi ysgolion, ac mae Gweinidog yr amgylchedd a minnau wedi cael sgyrsiau cadarnhaol iawn gyda Cyfoeth Naturiol Cymru am yr hyn y gallant hwythau hefyd ei gynnig i'r agenda hon, yn enwedig yng ngoleuni ein cwricwlwm newydd.
Diolch i'r Gweinidog.
Fe gymerwn doriad yn awr a byddwn yn ailgychwyn am 2 o'r gloch.
Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 13:14.
Ailymgynullodd y Senedd am 14:02, gyda'r Llywydd yn y Gadair.
Dyma ni'n ailddechrau'r sesiwn, felly'r eitem nesaf ar ein hagenda ni yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Michelle Brown.
1. Pryd y bydd GIG Cymru yn gweithredu fel yr oedd cyn y pandemig Covid-19? OQ55426
Mae'n amhosibl dweud pryd y gallai GIG Cymru weithredu fel y gwnaeth cyn y pandemig COVID-19. Ni all yr un ohonom ddweud gyda sicrwydd pa bryd y daw’r pandemig i ben. Serch hynny, fel y dywedais o'r blaen, byddwn yn addasu ymarfer y GIG i ystyried yr arloesi a'r gwelliant a welwyd yn ystod y pandemig.
Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Dywed cannoedd o feddygon yng Nghymru fod gofal ehangach i gleifion wedi cael ei esgeuluso yn ystod y pandemig COVID-19. Erbyn ddoe, nifer y bobl sydd wedi marw yng Nghymru o COVID-19 oedd 1,531. Mae pob un o'r rheini'n golled drist iawn i'r teulu dan sylw, ond mae'r gostyngiad yn nifer y bobl sy'n dechrau triniaeth ganser hanfodol yn llawer uwch. Er enghraifft, ym mis Ebrill yn unig, roedd yn fwy na 5,000, ac mae atgyfeiriadau at lwybr canser sengl wedi haneru ers y cyfyngiadau symud. Mae Dr David Bailey, cadeirydd cyngor Cymdeithas Feddygol Prydain yng Nghymru wedi dweud, ac rwy'n dyfynnu,
mae yna lawer o gleifion nad ydynt yn cael y gofal sydd ei angen arnynt yn awr—maent mewn perygl o weld eu cyflyrau’n gwaethygu ac efallai y bydd rhai’n marw o ganlyniad i hynny hyd yn oed.
Mae ymchwil gan y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant yn dangos bod mwy o blant yn y DU wedi marw yn sgil gohirio triniaeth yn ystod y cyfyngiadau symud nag a fu farw o COVID-19, gan gynnwys naw o sepsis canser a chlefyd metabolig. Mae'n ymddangos eich bod yn hapus i frolio eich bod yn atal mwy o farwolaethau o COVID-19, ond pa bryd y byddwch chi'n cyhoeddi ffigurau'r nifer o bobl sydd wedi marw o glefydau eraill oherwydd y cyfyngiadau rydych chi wedi'u rhoi ar ein GIG?
Wel, rwy'n credu bod un neu ddau o bwyntiau pwysig yn codi o'r sylwadau amrywiol. Yn amlwg, nid wyf yn cytuno â phob sylw a wnaeth yr Aelod, ond o ran gwasanaethau canser, rydym eisoes wedi nodi'n glir fod gwasanaethau canser brys ar gael bob amser yn ystod y pandemig, hyd yn oed pan gaewyd rhannau eraill o'r GIG, yn dilyn fy mhenderfyniad ar 13 Mawrth. Felly, rydym yn bwriadu ailgychwyn gwasanaethau yn gynyddol. Byddwn yn ailgychwyn gwasanaethau sgrinio; bydd yr Aelod ac eraill yn ymwybodol eu bod yn cael eu hailgychwyn yn gynyddol trwy'r haf.
Mae'n rhan o'r anhawster, serch hynny, oherwydd y pandemig, fod yna ystod o gleifion wedi dewis gohirio eu triniaeth. Digwyddodd hynny mewn ymgynghoriad â'r clinigwyr a oedd yn eu trin. Darparwyd opsiynau triniaeth amgen, ac rwy'n pryderu, wrth gwrs, nid yn unig ym maes canser, ond mewn ystod eang o feysydd eraill, nad ydym wedi gweld y lefel o weithgaredd yn cael ei chynnal, a'r hyn sy'n rhaid inni ei wneud yw ailfeddwl, fel rydym yn ei wneud yn gynyddol, sut y mae gwasanaethau'r GIG yn ailgychwyn, yn ogystal â meithrin hyder yn y cyhoedd y gallent ac y dylent wneud defnydd o’r gwasanaethau GIG sydd ar gael, fel y mae'r rhai ar gyfer canser yn wir. Rydym yn dechrau gweld adferiad yn nifer yr atgyfeiriadau hynny.
Yr ail bwynt, rwy’n credu, Lywydd, yw'r pwynt ehangach a wnaed ar farwolaethau ychwanegol. Mae gennyf ddiddordeb erioed yn y ffigurau marwolaethau ychwanegol, a beth y maent yn ei olygu, nid yn unig o ran Cymru ond pob rhan arall o'r Deyrnas Unedig, wrth inni geisio dysgu o gyfnod cyntaf y pandemig hwn. Rwy'n obeithiol cyn diwedd yr wythnos nesaf y bydd gennym adroddiad dros dro ar farwolaethau ychwanegol, gyda gwersi, nid yn unig i ni yma yng Nghymru, ond i’w rhannu â rhannau eraill o'r DU, gan fy mod am ddysgu o ymarfer yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, yn ogystal â Lloegr.
Clywais eich ymateb i’r cwestiwn cynharach, Weinidog, a chlywais hefyd eich ymateb i'r Prif Weinidog—mae'n ddrwg gennyf, cwestiwn Paul Davies i'r Prif Weinidog yn gynharach heddiw ar y pwnc hwn. A gaf fi ofyn pa sicrwydd y gallwch ei roi y bydd trigolion Cymru yn cael eu trin yn gyfartal gan ysbytai Lloegr wrth ailddechrau gwasanaethau'r GIG, ac yn enwedig wrth ailddechrau gwasanaethau allgymorth gan feddygon ymgynghorol ysbytai yn Lloegr i ysbytai Cymru i ddarparu apwyntiadau a thriniaethau yn nes at adref i gleifion Powys?
Diolch am y cwestiwn. Mae’n fater pwysig sy’n ymwneud â gofal trawsffiniol, i'r rhai sy'n dod i mewn i Gymru, yn enwedig mewn gofal sylfaenol, ond rhywfaint o driniaeth ysbyty sy'n digwydd hefyd fel rhan reolaidd, arferol o driniaeth y GIG i drigolion Cymru yn ysbytai Lloegr. Mae'n arbennig o wir ar gyfer Powys ac ar gyfer Betsi Cadwaladr lle mae elfennau o ofal yn cael eu comisiynu'n rheolaidd, ac maent wedi cael sgyrsiau rheolaidd gyda'r ymddiriedolaethau, oherwydd mae Lloegr wedi trefnu eu hymddiriedolaethau ysbyty yn grwpiau rhanbarthol, a chânt eu rheoli trwy drefniadau rheoli arian ac aur. A gallaf sicrhau'r Aelod, a'r bobl sy'n gwylio, fod Powys a Betsi Cadwaladr yn bartneriaid gweithredol yn y sgwrs honno fel sefydliadau comisiynu sy'n darparu gofal i drigolion Cymru.
Mae yna heriau unigol gan fod rhai o'r cenadaethau wedi newid mewn ysbytai unigol. Gwn y bu newid bach yn Gobowen yn y ffordd y mae'r darparwr yn cyflawni, yn yr un modd ag y mae rhai heriau mewn perthynas ag Ymddiriedolaeth GIG Ysbyty Amwythig a Telford sydd wedi cael llawer o sylw. Ond rwy'n hapus i roi sicrwydd i'r Aelod fod system Cymru yn ymgysylltu'n briodol â'n partneriaid rheolaidd dros y ffin yn Lloegr, i geisio sicrhau na pheryglir gofal trigolion Cymru.
Weinidog, ni all staff y GIG fynd i’r afael ag ôl-groniad o waith mawr ei angen oni bai eu bod yn gallu gweithio dros yr haf, ac i staff y GIG sydd ag aelodau teuluol yn unig y bydd swigod cymorth yn ddefnyddiol. Nawr, cafwyd cyhoeddiad i'w groesawu'n fawr am gyllid ychwanegol ar gyfer gofal plant dros yr haf yn gynharach yn yr wythnos, ond ni chyhoeddwyd unrhyw ganllawiau i awdurdodau lleol ar ddarparu gofal plant i weithwyr allweddol y GIG a gofal cymdeithasol. Rwy’n falch iawn o ddweud y bydd cyngor Torfaen yn darparu gofal plant i staff y GIG a gofal cymdeithasol, ond rwyf wedi clywed am un awdurdod lleol sy’n ystyried codi £20 y dydd ar weithwyr allweddol, sy’n gic go iawn yn y dannedd i staff y GIG sydd wedi aberthu cymaint yn y pandemig hwn. A wnewch chi drafod hyn gyda’r Dirprwy Weinidog ar frys, a chyhoeddi arweiniad clir i awdurdodau lleol ar beth rydych chi’n ei ddisgwyl ganddynt dros yr haf, fel y gall staff y GIG fynd yn ôl i ymdrin â’r ôl-groniad o waith hanfodol y gwyddom fod ei angen yn ddirfawr? Diolch.
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Wrth gwrs, rydym eisiau gweld gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol yn gallu parhau i weithio yn ystod yr haf, ac rwy'n cydnabod bod trefniadau gofal plant yn rhan o hynny. Byddai'n ddefnyddiol i mi pe bai'r Aelod yn darparu'r enghraifft y mae wedi'i roi heddiw yn fwy manwl i mi. Byddwn yn falch iawn o weld gohebu rhyngoch chi a’r Dirprwy Weinidog a minnau i ni allu trafod materion gyda'n swyddogion yma, a chael sgwrs adeiladol hefyd gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, oherwydd trwy gydol y pandemig, maent wedi bod yn bartner adeiladol iawn gyda ni, a chredaf y byddant yn cydnabod y problemau sy'n bodoli ym mhob cymuned, oherwydd, wrth gwrs, maent yr un mor awyddus â ninnau i weld y GIG yn parhau i wneud ei waith, ynghyd â phartneriaid mewn gofal cymdeithasol.
2. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith COVID-19 ar wasanaethau iechyd yng ngogledd Cymru nad ydynt yn gysylltiedig â COVID-19? OQ55406
Rwy'n ymwybodol, wrth gwrs, fod COVID-19 wedi cael effaith go iawn ar ofal nad yw'n ofal COVID-19 yng ngogledd Cymru ac ar draws y wlad gyfan, ac mae cleifion yn aros am apwyntiadau a thriniaeth. Fodd bynnag, yn ogystal ag ysbytai’n gohirio apwyntiadau, fel y trafodwyd gennym yn gynharach, rwy'n ymwybodol fod rhai cleifion wedi dewis gohirio eu hapwyntiadau yn ystod y pandemig. Bydd cyflwyno mwy o weithgaredd y GIG yn gynyddol yn darparu mwy o ofal nad yw’n ofal COVID ledled Cymru.
Diolch, Weinidog. Mae fy mhryderon dybryd am ganlyniadau anfwriadol y cyfyngiadau symud wedi’u cofnodi eisoes. Mae'r ffaith bod yr un pwnc wedi codi fwy nag unwaith heddiw yn dyst i'r straeon y mae pawb ohonom, heb os, yn eu clywed am apwyntiadau cemotherapi wedi'u gohirio neu eu canslo, am apwyntiadau meddygol wedi'u gohirio neu eu canslo a sgrinio nad yw’n digwydd. Rydych wedi bod yn awyddus i ddweud wrth y cyhoedd fod y GIG yn agored i fusnes, pan ymddengys mai’r gwrthwyneb yw’r realiti, a dyma brofiad byw ein hetholwyr. Weinidog, a ydych chi'n cerdded i mewn i argyfwng iechyd sy’n mynd i fod yn fwy o faint ac yn fwy marwol yn nes ymlaen eleni? Diolch.
Wel, mae'r Prif Weinidog a minnau wedi cydnabod, nid yn unig heddiw ond yn rheolaidd, y pryder sydd gennym ynghylch yr ôl-groniad sylweddol sy'n cael ei greu yn lefelau galw ac angen y GIG. Rydym wedi siarad ar wahanol bwyntiau—mewn gwirionedd, ar gamau cynnar yn ystod y pandemig—am y pryder fod rhai pobl yn dewis peidio â dod i mewn i gael triniaeth. Roedd un o'r pwyntiau cynharaf a wneuthum yn nodi’r gostyngiad yn nifer y bobl a oedd yn dod i gael triniaeth ar gyfer strôc. Nid wyf yn credu bod hynny wedi digwydd oherwydd bod nifer yr achosion o strôc, o fewn nifer o wythnosau i osod y cyfyngiadau symud, wedi gostwng yn sydyn yng Nghymru. Y rheswm am hyn oedd bod pobl yn dewis peidio â dod i mewn. Dyna ran o anhawster yr hyn sydd angen inni ei wneud i ailbeiriannu ein gwasanaeth yn gynyddol. Fel y mae'r Prif Weinidog wedi amlinellu, mae yna gynlluniau ar waith i gael parthau gwyrdd, os mynnwch, lle maent yn rhydd o COVID neu heb fawr o berygl COVID, a pharthau coch, lle caiff pobl dan amheuaeth o fod â COVID eu trin. Ond mae angen i ni ennyn digon o hyder i bobl ddefnyddio'r gwasanaeth.
Nid mater o fod yn ddoeth ar ôl y digwyddiad yw hyn. Gwyddom fod nifer y marwolaethau ychwanegol yng Nghymru yn fwy na 2,000 ers dechrau cyfnod y pandemig. Pe na baem wedi rhoi camau ar waith, gallwn fod yn dra hyderus y byddem wedi gweld mwy o farwolaethau. Felly, ein her yw sut y gallwn gydbwyso'r mathau gwahanol o niwed, y gwahanol heriau, y mae’r cyfyngiadau symud yn eu creu, gan eu llacio a chael ein hunain yn barod ar gyfer yr hyn a allai ddigwydd dros yr hydref a'r gaeaf. Ond yn sicr, nid yw’r Llywodraeth na’r gwasanaeth iechyd gwladol yn llaesu dwylo.
Ar ôl i chi gyhoeddi bod byrddau iechyd yn edrych ar sut y gallant ailgychwyn llawdriniaethau a gwasanaethau canser wedi'u cynllunio y GIG, cefais e-bost gan etholwr yn dweud, 'Ceisiwch ddweud hynny wrth fy ffrind, sydd â thiwmor ar ei aren ac y gohiriwyd ei lawdriniaeth, ac wrth fy ngwraig, sydd â chwydd o dan ei braich ac o dan ei chlust, i lawr at ran uchaf ei bron—dim pelydr-x na sgan, a chanslwyd ei sesiwn ffisiotherapi gyntaf'. Ar 17 Mehefin, fe ddywedoch chi fod GIG Cymru yn parhau i ddarparu triniaeth frys a diagnosteg ar gyfer achosion lle ceir amheuaeth o ganser. Derbyniodd etholwr lythyr gan y bwrdd iechyd heddiw yn nodi, 'Oherwydd sefyllfa gofal iechyd COVID-19, gallai fod angen i chi aros am gyfnod sylweddol i gael archwiliadau', ac mae hi'n ofni y gallai fod ganddi ganser. A welodd y Gweinidog y rhaglen Panorama yr wythnos hon, yn rhybuddio y gallem weld 35,000 o farwolaethau canser ledled y DU o ganlyniad anuniongyrchol i'r pandemig presennol? A oes ganddo ffigur ar gyfer Cymru? Pa gamau ychwanegol y bydd GIG Cymru yn eu cymryd yn awr i leihau'r nifer hon?
Wel, yn amlwg, fel y gŵyr yr Aelod, nid wyf mewn sefyllfa i wneud sylwadau ar y pryderon unigol y mae'n eu nodi, ac rwy'n siŵr y bydd yn codi'r rheini gyda'r bwrdd iechyd sy'n darparu’r driniaeth. Mater o ffaith, nid barn, yw ein bod yn ailgychwyn gwasanaethau'r GIG a bod gofal canser brys wedi bod ar gael ers y cychwyn. Fodd bynnag, bydd yna adegau pan fydd materion gweithredol, megis pobl yn ynysu os ydynt wedi cael prawf positif, neu eu cyd-destun wedi effeithio ar rannau unigol o'n gwasanaeth. Rydym yn ceisio trin mwy o bobl yn gynyddol a rhoi hyder, fel rwy’n dweud, i bobl ddod i mewn i'r gwasanaeth.
O ran marwolaethau ychwanegol o ganser, a chyflyrau eraill hefyd, fel y dywedais, unwaith eto, rwy'n wirioneddol bryderus, ac wedi bod ers misoedd, fel y gwyddoch o'r Cofnod, fod yr effaith ar driniaethau’n golygu y byddwn yn cael gwahanol ganlyniadau a niwed wedi'i achosi mewn gwahanol ffyrdd. Mae'n rhan o'r hyn sydd wedi gwneud ein tasg, fel Llywodraeth a gwasanaeth iechyd sy'n gweithio ar gyfer pobl Cymru, mor anhygoel o anodd, ond rwy'n hyderus ein bod yn gwneud y peth iawn wrth ailgychwyn gweithgaredd a bydd mwy o fywydau'n cael eu hachub o ganlyniad i hynny.
Cwestiynau yn awr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y grŵp Ceidwadol—Janet Finch-Saunders.
Diolch, Lywydd. Weinidog, rhyddhawyd 1,097 o gleifion neu unigolion i gartrefi gofal heb brawf COVID-19 ym mis Mawrth a mis Ebrill. Ddydd Sul, fe sonioch chi nad oes tystiolaeth i awgrymu bod hyn wedi achosi unrhyw gynnydd yn nifer yr achosion neu farwolaethau o COVID. Mewn perthynas â chyfraddau marwolaeth ac achosion, roedd addewid i gyhoeddi adroddiad interim cyn y toriad. A fydd hwn yn edrych yn agos iawn ar effaith rhyddhau cleifion ar gartrefi gofal? Beth a ddywedwch wrth berchnogion cartrefi gofal sydd wedi darparu tystiolaeth lafar yn dweud er enghraifft, 'Ni chynhaliwyd profion ar y bobl a ryddhawyd o'r ysbyty am mai ar ôl iddynt ein cyrraedd y gwelwyd bod ganddynt symptomau?' Rwyf wedi sefydlu bod 188 o gartrefi yng ngogledd Cymru wedi derbyn cleifion o’r ysbyty yn ystod y naw wythnos ar ôl 16 Mawrth. A fydd eich adroddiad interim yn trawsgyfeirio data rhyddhau cleifion â data cartrefi gofal sydd wedi cofnodi achosion o COVID-19?
Fel rheol, Lywydd, cwestiynau ar gyfer y dirprwy yw cwestiynau gan Janet Finch-Saunders, ond rwy'n credu ei bod hi'n amlwg heddiw mai ar fy nghyfer i y mae hwn. O ran yr adroddiad interim rwy’n dal i fod am ei weld yn cael ei gyhoeddi cyn inni ddechrau ar y toriad, yn amlwg ni fydd yn manylu ar y lefel unigol y mae'r Aelod yn holi yn ei chylch.
Yr hyn y byddwn yn ei wneud, serch hynny, yw ceisio deall beth sydd wedi digwydd, o ran y dewisiadau a wnaethom ar yr adeg pan oedd y GIG mewn perygl gwirioneddol o gael ei lethu pe na baem yn paratoi—. Dyna pam y gwneuthum y penderfyniad ganol mis Mawrth i ohirio ystod o weithgaredd ac i ysbytai greu lle ac amser i staff ailhyfforddi er mwyn achub bywydau. Dyna pam hefyd ein bod wedi gweithredu ystod o fesurau trwy gydol y pandemig i gefnogi nid yn unig y sector gofal preswyl ond yr amgylchedd iechyd a gofal cymdeithasol ehangach hefyd. Rwy'n credu y bydd gan yr adroddiad interim amryw o wersi i'r Llywodraeth ac yn fwy eang. Fel y dywedaf, mae mwy o wersi i'w dysgu ohono.
O ran rhyddhau cleifion heb gynnal profion coronafeirws arnynt, fel y dywedais ar sawl achlysur, roedd hynny oherwydd mai dyna oedd y cyngor ar y pryd. Y penderfyniad a gymerais, yn seiliedig ar y cyngor hwnnw, oedd na ddylid profi pobl heb symptomau ar yr adeg honno. Fodd bynnag, mae'n werth i bob un ohonom gofio bod amryw o'r bobl a ryddhawyd yn cael eu rhyddhau i ddychwelyd i'w cartrefi eu hunain. Rwy'n credu ei bod yn bwysig inni gynorthwyo pobl i ddychwelyd a chael gofal yn eu cartref eu hunain wrth inni geisio cefnogi'r sector cartrefi gofal ehangach. Dyna'r dull y byddwn yn parhau i'w weithredu—dysgu o'r hyn sydd wedi digwydd a chymhwyso hynny ar gyfer y dyfodol.
Diolch, Weinidog. Nawr, nid fi’n unig sy'n pryderu am gartrefi gofal. Mae adroddiad y comisiynydd pobl hŷn, 'Lleisiau Cartrefi Gofal', wedi gofyn am gyfleusterau cam-i-lawr i sicrhau y caiff cleifion eu rhyddhau’n ddiogel o'r ysbyty, a chanfu fod argaeledd cyfyngedig profion yn achos pryder sylweddol. O 15 Mehefin, roedd holl staff cartrefi gofal i gael cynnig prawf wythnosol am gyfnod o bedair wythnos. A wnewch chi ymestyn hyn? Yn ystod yr wythnos ddiweddaraf, cafodd 49.6 y cant o ganlyniadau profion a awdurdodwyd yn labordai GIG Cymru eu dychwelyd o fewn diwrnod, a 74.1 y cant o fewn dau ddiwrnod. Pam y mae'r canrannau'n gostwng, a pha fesurau penodol y byddwch chi'n eu rhoi ar waith i wyrdroi'r duedd?
Fe wnaf ymdrin â'r pwynt olaf yn gyntaf. O ran gwella amser dychwelyd canlyniadau profion, mae'n bryder gwirioneddol i mi a'r Llywodraeth a'r gwasanaeth iechyd. Mae gennym raglen wella ar waith sy'n nodi meysydd ar gyfer gwneud gwahaniaeth ymarferol i'r ddarpariaeth weithredol er mwyn cyflymu amseroedd dychwelyd canlyniadau. Mae gwaith eisoes ar y gweill mewn perthynas â gwasanaethau cludo a mwy o weithredu’n digwydd, gyda chydweithwyr yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, i wella effeithlonrwydd yn ein labordai.
O ran y dull ehangach o weithredu, byddwn yn cyhoeddi strategaeth brofi ddiwygiedig. Rwy'n disgwyl cyngor i mi ei ystyried a gwneud penderfyniad yn ei gylch, ac rwy'n disgwyl i'r strategaeth brofi honno gael ei chyhoeddi cyn diwedd yr wythnos nesaf. Felly, byddwn yn parhau i ddysgu o dystiolaeth ac o brofiad wrth inni geisio adolygu ein dull o weithredu ar gyfer y dyfodol, gyda'r unig ffocws ar achub bywydau a helpu Cymru i lacio’r cyfyngiadau symud yn ddiogel.
Diolch i chi unwaith eto. Nawr, mae llawer o bobl y siaradais â hwy yn y sector gofal cymdeithasol a staff cartrefi gofal yn teimlo eu bod wedi cael cam gan y Prif Weinidog. A ydych yn cytuno â mi y dylai ymddiheuro am fethu gwneud y cyhoeddiad ynghylch y taliad o £500 heb gysylltu â Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi neu egluro a fyddai'r bonws yn effeithio ar unrhyw fudd-daliadau cyn gwneud y cyhoeddiad, neu ai chi sy’n gyfrifol am hyn? A ddylai ddarparu dyddiad ar frys ar gyfer talu’r bonws, rhoi’r gorau i din-droi, a defnyddio pwerau a chyllid Llywodraeth Cymru i grosio’r taliad i fyny er mwyn sicrhau bod gweithwyr gofal cymdeithasol yn elwa o’r £500 hwn fan lleiaf? Hoffwn ei weld yn sicrhau hefyd fod staff hosbisau cymunedol yn gymwys i gael y bonws. A ydych chi'n cytuno â'r pethau hyn, Weinidog iechyd?
Wel, fel y cofiwch o wrando ar y Prif Weinidog yn gynharach, rydym yn parhau i siarad gyda Llywodraeth y DU i geisio sicrhau bod gweithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru yn cael y £500 llawn. Ni chredaf y byddai'n ddiwrnod da i CThEM pe baent yn mynd ag arian o bocedi gweithwyr sy'n cael cyflog gwael yn y sector gofal cymdeithasol, a byddwn yn ceisio dihysbyddu pob llwybr trafod cyn gwneud unrhyw ddewis pellach, ond mae'n fater sydd yn nwylo Llywodraeth y DU. Ni ddylai'r taliad hwn fod yn ffynhonnell o arian annisgwyl i Drysorlys y DU.
Llefarydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch yn fawr iawn. Yn gyntaf, gaf i groesawu datganiad y Gweinidog ei fod o'n ystyried canllawiau cryfach ar ddefnydd gorchuddion wyneb? Dwi'n galw eto yr wythnos yma am wneud gorchuddion yn orfodol mewn rhai llefydd dan do. Mae'r dystiolaeth, dwi'n meddwl, o les hynny yn cryfhau, felly, hefyd y dystiolaeth ar y tebygrwydd y bydd y feirws yn lledaenu drwy'r awyr. Felly, dwi'n edrych ymlaen at ddatganiad cadarn a buan ar hynny.
Ond am droi at adroddiad pwyllgor iechyd a gofal y Senedd ydw i, a'r pwyllgor yn cyhoeddi adroddiad heddiw sydd yn codi llawer o gwestiynau sylfaenol am ymateb Llywodraeth Cymru i'r pandemig. Un o'r rheini ydy'r arafwch o ran camau gweithredu i warchod y sector gofal. Rŵan, dwi wedi gweld ffigurau sydd yn dangos faint o brofion antibody sydd wedi cael eu gwneud mewn gwahanol sectorau: 13,000 o weithwyr iechyd wedi'u profi; 9,000 o weithwyr mewn hubs addysg wedi cael eu profi; a dim ond 75 o bobl sydd yn gweithio yn y sector gofal. Ydy'r Gweinidog yn gallu gweld bod hynny'n atgyfnerthu'r teimlad bod y sector yma wedi methu â chael ei blaenoriaethu'n gynnar yn y pandemig yma a'i bod hi'n dal i fethu â chael ei blaenoriaethu rŵan?
Nid wyf yn credu ei fod yn gasgliad sy'n ffeithiol gywir i'w gyrraedd nad oedd y Llywodraeth a'n partneriaid yn rhoi blaenoriaeth i'r sector gofal cymdeithasol o ran faint o gymorth a ddarparwyd gennym, ar ffurf cymorth ariannol ychwanegol ar sail argyfwng, a'r cymorth ychwanegol rydym yn gobeithio dod o hyd iddo ar adeg anodd iawn hefyd. Rydym hefyd wedi darparu llawer iawn o gyfarpar diogelu personol am ddim i'r sector gofal cymdeithasol ar adeg pan oedd eu llinellau cyflenwi arferol wedi chwalu. Felly, mae cryn dipyn o gymorth wedi bod, gan gynnwys staffio yn ogystal.
O ran y profion gwrthgyrff, nid wyf yn credu bod y ffigurau'n gywir. Byddaf yn falch o edrych ar y ffigurau eto a dod yn ôl, nid yn unig at yr Aelod, ond yn fwy cyffredinol, oherwydd mae gweithwyr gofal cymdeithasol, gweithwyr iechyd a gweithwyr addysg yn dri o'r grwpiau blaenoriaeth ar gyfer y prawf gwrthgyrff. A phwrpas y prawf gwrthgyrff mewn gwirionedd yw ein helpu i ddeall lefel y coronafeirws o gwmpas y wlad ar yr adeg hon. Nid yw'r dystiolaeth yn gir o ran pa mor hirdymor yw ymateb gwrthgyrff, neu'n wir, pa mor ddefnyddiol yw'r prawf o ran trosglwyddiad pobl i bobl eraill, neu'n wir i helpu pobl i wella neu fod ag imiwnedd rhag cael eu heintio eto gan y coronafeirws, ond mae'n sicr yn ein helpu i ddeall pa mor bell y mae coronafeirws wedi lledaenu. Byddwn yn parhau i ddefnyddio'r profion sydd ar gael inni i wneud hynny, a gallwch ddisgwyl gweld mwy o hynny yn y strategaeth brofi y cyfeiriais ati eisoes.
Dwi am droi at ddata rŵan, os caf i. Roeddem ni i gyd yn croesawu'r ffigurau yn gynharach yr wythnos yma o ddiwrnod arall lle na chofnodwyd yr un farwolaeth COVID-19 yng Nghymru; rydym ni eisiau mwy o ddyddiau felly. Y ffigurau hefyd yn dangos mai dim ond saith achos newydd o COVID-19 a gafodd eu cofnodi ar dashboard Iechyd Cyhoeddus Cymru—eto, newyddion da. Ond mae eisiau bod yn ofalus efo'r ffigurau yma, dwi'n meddwl, achos mi allai'r ffigurau bod allan ohoni dipyn, oherwydd dwi'n deall y gallai cymaint â 35 i 40 y cant o achosion newydd positif sydd ddim yn cael eu cyhoeddi yn y ffordd yma os ydyn nhw'n cael eu profi mewn labordai sydd ddim yn rhan o'r NHS.
A wnaiff y Gweinidog roi sicrwydd y bydd popeth yn cael ei wneud i sicrhau bod pob canlyniad positif yn cael eu dangos ar dashboard data cyfredol a hefyd ein bod ni'n gallu gweld ym mha ardaloedd mae'r achosion positif hynny? Hefyd, plîs allwn ni sicrhau bod meddygon teulu yn cael gwybod pan fo'u cleifion nhw'n profi'n bositif, achos, o siarad efo meddygon teulu yn Ynys Môn, dydyn nhw ddim yn cael dim gwybodaeth o gwbl?
Rwy'n credu bod tri phwynt yr hoffwn eu gwneud mewn ymateb i'r rheini. Mae'r un olaf yn ymwneud â'r pwynt am roi gwybod i feddygon teulu. Dylai fod ar gael fel rhan o gofnod y claf; dylai fod ar gael i ymarfer cyffredinol. Ac os oes gan yr Aelod achosion unigol y mae'n ymwybodol ohonynt yn ei etholaeth, byddwn yn falch iawn o weld y rheini er mwyn sicrhau bod y system yn gweithio fel y dylai.
Bydd yr Aelod yn cofio mai dyna ran o'r rheswm nad oeddem yn gallu—. Wel, dewisais beidio â chymryd rhan yn rhaglen brofi'r DU, oherwydd, ar gam cynnar, nid oeddem yn gallu cael canlyniadau'r profion hynny wedi'u bwydo'n ôl yn ddibynadwy ac yn rheolaidd o fewn ein system. Bydd yr Aelod yn cofio bod problemau'n parhau yng Nghaerlŷr o ran pa mor rheolaidd y darperir y wybodaeth honno o fewn y system yn Lloegr.
Mae hynny'n fy arwain at fy ail bwynt, sef ein bod eisoes yn darparu gwybodaeth am faint o'n hachosion positif sy'n dod o raglen brofi'r DU, rhaglen rydym wedi optio i mewn iddi, yn enwedig mewn canolfannau profi drwy ffenest y car, yn ogystal â'r hyn y mae labordai Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ei ddarparu. Felly, ddoe, cafwyd tri chanlyniad positif o raglen y DU, ac yn ogystal â'r saith o labordai Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae hynny'n gwneud 10 o achosion positif i gyd ledled Cymru.
Ac mae hynny'n cysylltu â fy nhrydydd pwynt, sef ein bod yn gweld tuedd gadarnhaol ar i lawr yn yr holl ddata a welwn ar hyn o bryd, o ran yr achosion o goronafeirws er gwaethaf y ffaith bod dau glwstwr yng ngogledd Cymru a'r digwyddiad o amgylch Merthyr Tudful. Felly, mae hynny ar bethau fel derbyniadau i ysbytai, achosion positif, ac yn wir, y defnydd o ofal critigol. Rydym i gyd yn gweld pethau'n symud i'r cyfeiriad iawn, a dyna pam ein bod yn gallu gwneud camau gofalus ond cynyddol tuag at lacio cyfyngiadau symud yng Nghymru. Ond mae'r achosion yn ein hatgoffa na ddylai'r un ohonom laesu dwylo, oherwydd, yn anffodus, nid yw coronafeirws wedi diflannu.
Yn hollol. Rwy'n credu eich bod wedi cadarnhau'r hyn roeddwn yn ei ddweud yn eich ymateb yno ar ddata'r dangosfwrdd. Dywedwch fod saith prawf positif yng Nghymru, tri mewn labordai nad ydynt yn rhai'r GIG; dim ond y saith a ddangosai'r dangosfwrdd a welais i. Felly, mae hynny'n dangos bod yn rhaid i'r holl ddata gael ei gyflwyno mewn ffordd gyfredol, lle bynnag y caiff y profion eu prosesu.
Rwy'n mynd i droi, yn olaf, at faes arall lle mae angen canlyniadau profion cyflymach, sef diagnosis canser. Mae argyfwng COVID wedi arwain at nifer o ragfynegiadau pryderus iawn am y marwolaethau ychwanegol o ganser sy'n debygol o ddigwydd eleni o ganlyniad i ganslo rhaglenni sgrinio, pobl yn rhy ofnus i ymweld â'r GIG, ac wrth gwrs, gohirio triniaethau. Felly, mae'n fwy hanfodol nag erioed ein bod yn cael canlyniadau prawf cyflym mewn achosion lle ceir amheuaeth o ganser. Felly, a wnewch chi fabwysiadu cynllun achub canser sydd â thargedau mwy uchelgeisiol ar gyfer profi a rhoi triniaeth nag a fu yn y gorffennol, oherwydd y tebygolrwydd y bydd y GIG yn canfod canserau'n hwyrach?
[Anghlywadwy.]—gwybodaeth am ganser, a gallaf sicrhau'r Aelod mai'r penderfyniad a wneuthum i gyflwyno a threialu'r llwybr canser sengl fydd y ffordd ymlaen pan fyddwn yn ailgychwyn mesurau perfformiad newydd yn y dyfodol, wrth inni fynd ati'n gynyddol i ailgychwyn rhagor o fathau o weithgarwch y GIG. Rwyf eisoes wedi penderfynu na fyddwn yn adrodd ar yr hen fesurau. Nid wyf yn credu y byddai'n fuddiol nac yn eglur i adrodd ar yr hen fesurau o dan y llwybr brys a'r llwybr nad yw'n llwybr brys, a dim ond ar y llwybr canser sengl y byddwn yn adrodd, llwybr sydd, fel y gŵyr yr Aelod, wedi cael ei gefnogi gan glinigwyr ac elusennau canser y trydydd sector. A bydd hynny, rwy'n meddwl, yn rhoi arwydd llawer cywirach inni o'r hyn sy'n digwydd mewn gwirionedd o ran trin canser ac amseroedd aros. Felly, rwy'n disgwyl i hwnnw ddarparu'r lefel o eglurder a thryloywder o ran pa mor gyflym y down drwy'r nifer sy'n cael eu hatgyfeirio at ein gwasanaethau canser, wrth inni ymateb i'r angen i ailgychwyn gwasanaethau. Oherwydd, fel y bydd yr Aelod yn gwybod, ataliwyd gwasanaethau endosgopi yn ystod y pandemig; maent yn ailgychwyn yn awr. Ond mae hynny'n rhoi heriau sylweddol i ni mewn sawl agwedd ar ein gwaith, nid yn unig canser, ond byddwn yn parhau i fod yn agored ac yn dryloyw ynglŷn â'r hyn rydym yn ei wneud a beth y mae hynny'n ei olygu i bobl yma yng Nghymru.
Llefarydd Plaid Brexit, Caroline Jones.
Diolch, Lywydd. Weinidog, diolch i waith caled ac ymroddiad ein staff iechyd a gofal, yn ogystal â'r aberth enfawr gan y cyhoedd yng Nghymru, rydym dros y gwaethaf o'r argyfwng coronafeirws yn awr. Fel y mae'r prif swyddog meddygol yn dweud, a hynny'n gywir, gallem wynebu bygythiad o'r newydd gan COVID-19 erbyn yr hydref. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru ar waith i sicrhau y gall y GIG yng Nghymru ddarparu gwasanaethau rheolaidd ar yr un pryd ag ymdrin â COVID-19? Neu a yw eich cynlluniau'n rhagweld y bydd gwasanaethau o ddydd i ddydd y GIG yn cael eu hatal ymhellach? Diolch.
Mae dau bwynt i'w gwneud yno: y cyntaf yw ein bod yn edrych ar wyliadwriaeth ryngwladol, yr hyn sy'n digwydd mewn gwledydd eraill wrth iddynt gyrraedd eu gaeaf. Mae'n rhan o'r heriau o gwmpas Melbourne, ond mae hefyd yn rhan, er enghraifft, o bryder sydd gennym am Dde America wrth iddynt nesáu at eu gaeaf ac yn arbennig, heriau tai gorlawn a phobl sydd eisoes yn agored i niwed. Mae hynny'n destun pryder gwirioneddol i ni, ac mae hynny'n goleuo ein cynlluniau yma ynghylch ailddechrau'r GIG, fel y dywedais o'r blaen, y cynlluniau sydd gennym yn barod—yr angen am lwybrau COVID-positif neu rai lle ceir amheuaeth o COVID a llwybrau i rai nad ydynt wedi'u heintio â COVID, y dynodiad gwyrdd a choch, y bydd gofyn gwneud gwaith ychwanegol arnynt dros yr haf, yn ffisegol yn yr amgylchedd mewn amrywiaeth o'n cyfleusterau triniaeth yn y GIG—ac yna bydd angen inni feddwl nid yn unig am ailgychwyn y gweithgaredd hwnnw, ond faint o waith a pha mor bell y gallwn ei gynnal drwy'r gaeaf, a ninnau'n gwybod y bydd pwysau normal, rheolaidd ar y gwasanaeth iechyd. Ond os bydd cynnydd sydyn pellach yn lefelau coronafeirws drwy'r hydref neu'r gaeaf, mae'n bosibl wrth gwrs y bydd angen i mi wneud penderfyniad arall i atal rhannau o'n gwasanaeth iechyd, oherwydd niwed llawer mwy a allai gael ei achosi drwy gynnydd sydyn yn y nifer o achosion o'r coronafeirws a pheidio â newid y ffordd y mae ein gwasanaeth iechyd yn darparu ei wasanaeth.
Felly, mae'r pethau hynny i gyd yn bosibl, ond fy nghynllun yw cael cymaint â phosibl o driniaethau arferol i ailddechrau yn y gwasanaeth iechyd gwladol drwy'r haf a gwneud popeth sydd ei angen i helpu pobl i barhau i gymryd camau i leihau'r perygl o gynnydd pellach mewn achosion o goronafeirws yma yng Nghymru.
Diolch, Weinidog. Wrth gwrs, daw'r bygythiad mwyaf y gaeaf hwn o ymdrin â thymor annwyd a ffliw gwael ochr yn ochr â COVID. Weinidog, a wnewch chi ymrwymo i ehangu argaeledd y brechlyn ffliw a sicrhau ei fod ar gael yn gynharach? Bydd cyfyngiadau’r pandemig yn ei gwneud yn llawer anoddach i ddosbarthu'r brechlyn ffliw nag mewn blynyddoedd blaenorol, felly mae angen inni ddechrau paratoi i'w ddarparu yn awr. Weinidog, y llynedd, ni dderbyniodd llawer o bobl eu brechlyn tan fis Rhagfyr, a gwelwyd prinder sylweddol. A allwch warantu na fydd y prinder hwn yn digwydd eleni? Diolch.
Wel, gallaf ddweud ein bod eisoes yn edrych ar raglen ffliw eleni, ac yn benodol, ar gaffael stociau ychwanegol o'r brechlyn ffliw. Mae gwaith yn mynd rhagddo ledled Cymru ar ehangu cymhwysedd ar gyfer rhaglen ffliw'r GIG. Rwyf am weld niferoedd uwch o lawer o staff sy'n gweithio gyda phobl agored i niwed yn ogystal â'r bobl sy'n gymwys i gael brechlyn ffliw'r GIG yn manteisio ar yr hawl honno.
Roedd problemau penodol gyda ffurf y cyflenwad o'r brechlyn y llynedd. Rydym yn cael trafodaethau cynnar. Mae’r gwaith hwnnw’n mynd rhagddo nid yn unig yng Nghymru, ond mae'n sgwrs rwyf wedi'i chael hefyd gyda Gweinidogion iechyd y pedwar Cabinet ledled y DU, gan ein bod yn rhannu adnoddau o ran y ffordd rydym yn caffael y brechlyn ffliw. Felly, rydym yn ystyried caffael yn gynharach ac ar raddfa fwy i sicrhau ein bod yn gallu helpu pobl i ddiogelu eu hunain a'u teuluoedd, wrth gwrs.
Gwyddom y bydd y perygl o gael ffliw yn broblem bosibl os gwelwn gynnydd pellach yn y coronafeirws ei hun. Nid wyf yn poeni gymaint y gallai’r tymor ffliw fod yn anodd, ond gallai tymor ffliw cyffredin gyda chynnydd pellach yng nghyfraddau coronafeirws arwain at ganlyniadau difrifol iawn a niwed gwirioneddol ledled Cymru, felly mae'n un o fy mhryderon mwy arwyddocaol yn awr wrth gynllunio ar gyfer yr hydref a'r gaeaf.
3. Pa ganllawiau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u rhoi i fyrddau iechyd i ailddechrau triniaethau nad ydynt yn gysylltiedig â Covid-19 a thriniaethau nad ydynt yn peryglu bywyd? OQ55425
Diolch. Rwyf wedi cyhoeddi fframweithiau gweithredu COVID-19 GIG Cymru ar gyfer chwarter 1 y flwyddyn ariannol hon, ac yn fwy diweddar, chwarter 2. Mae'r rhain yn darparu arweiniad ar y camau i'w cymryd ar draws y system iechyd a gofal cymdeithasol, ac yn adeiladu tuag at ddychwelyd i ddarparu ystod ehangach o wasanaethau.
Diolch am eich ateb, Weinidog, a diolch am eich atebion i gwestiynau cynharach ar thema debyg, gan ei bod yn bwysig ein bod yn mynd i'r afael â materion ynghylch gofalu am bobl nad oes ganddynt COVID-19, ond sydd â phroblemau iechyd difrifol iawn serch hynny. Yn y pwyllgor iechyd a gofal cymdeithasol yr wythnos diwethaf, clywsom am y rhestrau aros sy'n amlwg yn ehangu wrth inni aros oherwydd yr oedi gyda thriniaethau, a chlywsom hefyd ei bod hi'n debygol y bydd swigen arall o restrau aros a fydd yn cynnwys yr unigolion nad ydynt wedi cael eu gweld eto, ond a fydd yn yn cael eu gweld am driniaethau angenrheidiol ar gyfer cyflyrau sydd ganddynt ar hyn o bryd. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'w wneud i helpu’r byrddau iechyd i ymdopi â'r her hon? Oherwydd yn y gorffennol, rydych wedi creu cynlluniau ar gyfer rhestrau aros. A ydych yn mynd i wneud rhywbeth tebyg neu gymryd camau eraill i helpu’r byrddau iechyd a chyflwyno cyfleusterau ychwanegol, o bosibl, i fynd i’r afael â’r rhestrau aros a fydd yn sicr yn cael eu creu o ganlyniad i hyn?
Rydym yn cymryd nifer o wahanol gamau. Byddwch wedi clywed y Prif Weinidog yn disgrifio hyn yn gynharach. Nid yw'n fater syml na hawdd, oherwydd o ran y cynlluniau arferol ar gyfer rhestrau aros, y ffordd y byddem wedi gweithio, byddem wedi gallu mynd drwy fwy mewn cyfnod cyffredin, os mynnwch, yn y GIG, yn ogystal â chynnal sesiynau ychwanegol. Mae hynny'n llai tebygol o fod yn bosibl yn yr un ffordd. Dyma pam ein bod wedi cadw mewn cysylltiad â'r sector annibynnol a sut y gallant helpu o ran ymdrin â materion brys a materion eraill hefyd. Ond dyna hefyd pam ein bod yn edrych ar y fframwaith gweithredu cyfredol a'r angen i ddiwygio'r ffordd rydym yn darparu gwasanaethau yn barhaus. Gan ein bod ystyried cael parthau gwyrdd, efallai y bydd gennym fwy o ofal dewisol a llif cleifion mewn rhai rhannau o'r gwasanaeth oherwydd y ffordd y bydd yn rhaid i ni ymddwyn i sicrhau bod gennym barthau diogel rhag COVID, ac os hoffwch, parthau sy'n cynnwys achosion posibl o COVID neu achosion COVID positif hefyd. Felly, gallwch ddisgwyl gweld hynny yng nghynlluniau'r byrddau iechyd, ond hefyd yn y datganiadau rwy'n disgwyl parhau i’w gwneud yn y Senedd wrth inni fynd i mewn i'r hydref, i nodi mwy o fanylion ynglŷn â hynny. Ac wrth gwrs, bydd cynlluniau’r byrddau iechyd yn mynd drwy gamau llywodraethu arferol y byrddau iechyd ac yn cael eu cyhoeddi fel rhan o bapurau'r byrddau iechyd.
Weinidog, roedd mynediad at driniaethau lle nad yw bywyd yn y fantol eisoes yn anghyfartal yn y GIG ledled Cymru. Gwyddom mai'r sefyllfa, er enghraifft, hyd yn oed cyn COVID yng ngogledd Cymru oedd bod pobl yn gorfod aros hyd at ddwy flynedd am eu llawdriniaethau orthopedig. Felly, a allwch ddweud wrthym, yn y camau hyn rydych yn disgwyl i fyrddau iechyd eu cymryd, a fydd cefnogaeth ychwanegol benodol i fyrddau iechyd fel Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i'w helpu i fynd i'r afael â'r hyn sy'n debygol o fod yn broblem fwy sylweddol o lawer yng ngogledd Cymru na rhannau eraill o'r wlad o bosibl?
Wel, ni fyddwn yn dymuno dyfalu ynghylch yr her gymharol rhwng gwahanol rannau o'r wlad. Gwn fod pob bwrdd iechyd yn edrych yn weithredol ar yr hyn y bydd angen iddo ei wneud i sicrhau ei fod yn ymdopi nid yn unig â’r niferoedd ar y rhestr aros, ond ei fod hefyd yn blaenoriaethu'n glinigol y gwahanol bobl sy'n aros am wahanol driniaethau, a sut y mae angen inni ailgychwyn mwy o weithgarwch yn y gwasanaeth yn ddiogel. Dyna pam fod y penderfyniad a wneuthum, ac a gadarnhawyd gennyf ddoe, i gymryd camau ar lefelau dyled rhai o sefydliadau'r GIG, wedi bod yn ffactor cadarnhaol arwyddocaol. A bod yn deg, mae'n fater roedd llefarydd swyddogol y Ceidwadwyr Cymreig wedi gofyn i mi ei ystyried dros nifer o wythnosau, i sicrhau, mewn cynlluniau COVID, nad oedd byrddau iechyd wedyn yn cael eu rhoi mewn sefyllfa lle byddai'n rhaid iddynt ailystyried gwneud arbedion ariannol cyn gwneud y peth iawn drwy'r amgylchiadau eithriadol hyn. Rwyf bob amser wedi dweud na fyddai unrhyw fwrdd iechyd yn cael ei beryglu na'i gosbi am wneud y peth iawn, ac mae hynny'n sail i'r dewis a wneuthum ddoe i helpu byrddau iechyd i gynllunio'n adeiladol ac yn gadarnhaol ar gyfer y dyfodol a'r bobl y maent yn eu gwasanaethu.
4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effeithlonrwydd y drefn tracio ac amddiffyn yn y gogledd? OQ55428
Mae gwasanaeth tracio ac olrhain GIG Cymru wedi cael dechrau cadarnhaol, gydag ymhell dros 84 y cant o'r cysylltiadau'n cael eu gwneud yn llwyddiannus. Mae'r gwasanaeth profi, tracio ac olrhain wedi bod yn agwedd hanfodol ar y gwaith llwyddiannus, hyd yn hyn, o reoli’r ddau glwstwr yng ngogledd Cymru, a hoffwn dalu teyrnged i'n partneriaid a'n staff ar y rheng flaen am y gwaith y maent yn ei wneud i helpu i gadw Cymru’n ddiogel.
Diolch am eich ymateb. Wrth gwrs, mae llwyddiant unrhyw fenter o'r fath yn dibynnu i raddau helaeth ar y profion cychwynnol, ac fel rydym wedi’i weld yr wythnos hon gyda rhai achosion a oedd yn gysylltiedig â thafarndai yn Lloegr, olrhain ar unwaith yn seiliedig ar brofion cyflym yw'r ffordd fwyaf effeithiol o nodi’r rhai a ddylai fod yn hunanynysu. Ar yr un pryd, rydym yn dal i glywed am achosion lle mae pobl â symptomau yn aros mwy na phum diwrnod am ganlyniadau profion. Felly, pam ein bod yn dal i weld yr oedi hwn cyn cael canlyniadau profion yn ôl, Weinidog? Yn eich tyb chi, beth yw gobygiadau hynny o ran atal y clefyd rhag lledaenu ymhellach?
Mae'n destun pryder. Fe'i codwyd mewn cwestiynau blaenorol, nid yn unig yma, ond y tu allan hefyd, ynghylch yr angen i weld rhagor o welliant o ran cyflymder canlyniadau profion, gan fod hynny wedyn yn golygu y dylem gael system a gwasanaeth olrhain cysylltiadau mwy effeithiol hyd yn oed, ac mae’r achosion unigol—ni waeth a ydynt yn lleiafrif cymharol fach o ran canran—mae pob un ohonynt yn ffactor risg i'r unigolyn ac i'w cysylltiadau. Dyna pam fod ystod o gamau gwella eisoes ar y gweill. Yn hytrach nag egluro pam nad yw'n bwysig, mae'n bwysig, a dyna pam fod angen inni weld mwy o effeithlonrwydd ym mhroses y labordy yn ogystal â’r cludwyr, a sicrhau bod mwy a mwy o bobl yn cael eu canlyniadau’n brydlon. Oherwydd, mewn gwirionedd, mae ein gwasanaeth olrhain cysylltiadau’n gwneud gwaith da iawn o ran olrhain y cysylltiadau hynny pan gânt bobl sydd wedi cael achos positif, ac mae angen inni sicrhau bod pobl yn parhau i gefnogi'r gwasanaeth olrhain cysylltiadau, fel nad ydynt yn teimlo bod rhywun yn dweud wrthynt am hunanynysu heb fod angen, gan y gallai hynny effeithio ar barodrwydd pobl i barhau i hunanynysu yn y dyfodol, ac mae hynny'n bwysig i bob un ohonom, p'un a ydym yn adnabod y bobl hynny ai peidio, er mwyn helpu i gadw Cymru’n ddiogel.
Tynnwyd cwestiwn 5 [OQ55415] yn ôl, felly, cwestiwn 6, Joyce Watson.
6. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynllun taliadau arbennig y gweithlu gofal cymdeithasol? OQ55429
Diolch i Joyce Watson am ei chwestiwn. Rydym wedi cyhoeddi canllawiau dros dro ar y cynllun i gadarnhau'r meini prawf cymhwysedd. Mae'r gwaith bellach yn canolbwyntio ar gwblhau cynllun gweithredu a chyflawni cadarn i sicrhau bod y taliadau'n cael eu gwneud cyn gynted â phosibl.
Diolch. Mae’n syfrdanol fod y Torïaid yn ceisio troi ffordd wirioneddol ddilys a chadarnhaol o wobrwyo'r rheini sy'n gweithio yn y sector gofal yn rhywbeth negyddol, yn yr un modd ag y mae Prif Weinidog y DU wedi beio gweithwyr gofal am ledaenu’r coronafeirws. A ydych yn cytuno â mi ei bod yn bryd i'r Torïaid ddangos agwedd fwy cadarnhaol tuag at weithwyr gofal sydd wedi rhoi cymaint i'w cymunedau, ac oni fyddent yn ddoeth i fabwysiadu geiriau Winston Churchill ym 1940, pan ddywedodd,
Ni fu erioed dyled mor fawr gan gynifer i gyn lleied.
Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i Joyce Watson am ei chwestiwn atodol, gan ei fod yn rhoi cyfle i mi ddiolch i'r holl weithwyr gofal yng Nghymru am eu gwaith diflino yn y cyfnod anodd hwn, ac i ddweud ei bod yn drueni y gallai geiriau Prif Weinidog y DU ddoe fod wedi peri loes iddynt. Rwy’n siŵr y byddai Joyce Watson yn cytuno â mi mai un o’r ffyrdd y gallai Prif Weinidog y DU ddangos ei fod yn gwerthfawrogi gweithwyr gofal yw caniatáu iddynt gael y £500 yn llawn. Fel y dywedodd y Prif Weinidog yn ei gwestiynau, rydym yn dal i edrych gyda CThEM i weld a allwn ddod i gytundeb, ond os yw Prif Weinidog y DU yn difaru’r hyn a ddywedodd ddoe, bydd yn sicrhau eu bod yn cael yr arian hwnnw’n llawn.
7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu gwasanaethau iechyd yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda? OQ55405
Mae ffocws diweddar Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, fel y byrddau eraill ledled Cymru, wedi bod ar eu hymateb i COVID-19. Mae'r bwrdd iechyd bellach yn cynllunio ar gyfer parhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol ac allweddol ochr yn ochr â gofalu am gleifion y mae COVID-19 wedi effeithio arnynt.
Weinidog, mae gwasanaeth damweiniau ac achosion brys cryf yn rhan annatod o’r gwaith o ddarparu gwasanaethau iechyd effeithiol mewn ysbytai ar draws ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Nawr, fel y gwyddoch, mae ymgyrch gref i gadw gwasanaethau damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg. O ystyried y newyddion diweddar fod bwrdd iechyd Cwm Taf wedi penderfynu cadw gwasanaethau damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, mae pobl sir Benfro bellach yn edrych ar y penderfyniad hwnnw, ac yn gwbl briodol, yn gofyn am yr un mesurau diogelu. Felly, a allwch ddweud wrthym beth yw safbwynt Llywodraeth Cymru ar ddarparu gwasanaethau damweiniau ac achosion brys yn sir Benfro, ac yng ngoleuni'r newid mewn polisi mewn perthynas â gwasanaethau damweiniau ac achosion brys eraill ledled Cymru, a wnewch chi sicrhau bod gwasanaeth damweiniau ac achosion brys yn parhau i fod ar gael yn ysbyty Llwynhelyg, yn union fel y maent yn parhau i fod ar gael yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg?
Wel, fel y gŵyr yr Aelod, cynhaliodd y bwrdd iechyd yng Nghwm Taf Morgannwg ymgynghoriad ynglŷn ag opsiynau, a bu modd iddynt recriwtio mwy o staff i ddarparu'r gwasanaeth hwnnw'n ddiogel. Bydd yr Aelod hefyd yn gwybod, dros gyfnod hir o amser, am yr heriau a wynebwyd wrth ddarparu gofal iechyd ledled Cymru a'r cynlluniau ar gyfer darparu gofal iechyd yn y dyfodol, a bydd hefyd yn cofio’r cwestiwn gan ei gyd-Aelod, Darren Millar, rai wythnosau yn ôl, a alwodd ar Lywodraeth Cymru i beidio ag ymyrryd mewn newidiadau sydd eisoes ar y gweill i’r gwasanaeth. Rwy'n disgwyl i'r bwrdd iechyd barhau i ddarparu gofal diogel ac effeithiol a pharhau i sicrhau bod y gwaith o drawsnewid iechyd a gofal yng ngorllewin Cymru, fel yr amlinellwyd yn eu cynllun, 'Canolbarth a Gorllewin Iachach', yn parhau i fod o fudd i bob dinesydd ym mhob rhan o ganolbarth a gorllewin Cymru.
8. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y ddarpariaeth gofal plant am ddim, yng ngoleuni'r ffaith bod y cyfyngaidau symud yn sgil Covid-19 yn parhau i gael eu llacio yng Nghymru? OQ55431
Rydym yn darparu gofal plant am ddim i blant cyn oed ysgol sy’n blant i weithwyr hanfodol a phlant agored i niwed o dan gynllun cymorth gofal plant y coronafeirws. Mae ein cynnig gofal plant yn parhau i fod ar gau dros dro i ymgeiswyr newydd. Rydym yn bwriadu ei ailagor ym mis Medi, yn ddibynnol ar y sefyllfa o ran yr ymateb i'r feirws.
Gyda hynny mewn golwg, mae preswylydd wedi cysylltu â mi gyda chwestiynau am y 30 o oriau am ddim—mae hi eisoes yn gymwys fel un o'r bobl sydd eisoes yn gymwys—drwy gydol gwyliau'r ysgol, y mae ganddynt hawl iddynt. A allwch gadarnhau a chofnodi y bydd hynny'n parhau i fod ar gael i'r bobl hynny sydd eisoes yn gymwys? Ac o ran mis Medi, mae'n gweithio gartref ac mae ei phartner yn gweithio gartref hefyd. Pryd y cawn eglurder ynglŷn ag argaeledd ym mis Medi fel y gall rhieni ystyried eu hopsiynau cyn yr adeg honno?
Diolch i Hefin David am ei gwestiwn. Cafodd y gyllideb ar gyfer y cynnig ei haddasu o fis Ebrill i ariannu gofal plant ar gyfer plant cyn oed ysgol sy’n blant i weithwyr hanfodol a phlant agored i niwed o dan gynllun cymorth gofal plant y coronafeirws. Felly, yn anffodus, roedd hyn yn golygu bod yn rhaid inni gau'r cynnig dros dro i ymgeiswyr newydd. Rydym yn gweithio gyda'n rhanddeiliaid allweddol yn awr, yn enwedig yr awdurdodau lleol, sy'n gweinyddu cynllun cymorth gofal plant y coronafeirws a'r cynnig yn eu hardaloedd lleol i weld pryd y gallwn ailagor y cynnig i rieni newydd. Gobeithiwn yn fawr y gallwn ailgychwyn y ddarpariaeth gofal plant ac addysg o dan y cynnig yn nhymor yr hydref. Mae hyn yn amlwg yn ddibynnol ar y data ar y feirws dros yr haf, ond rydym yn ymwybodol o ba mor bwysig yw'r cymorth hwn i deuluoedd ac i ddarparwyr gofal plant. Felly, rydym yn bwriadu gwneud cyhoeddiad cyn gynted â phosibl.
9. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ynghylch datblygu Ysbyty Cymunedol Maesteg yn y dyfodol yn dilyn yr adroddiad i'r bwrdd iechyd ynghylch gofal brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg? OQ55400
Mater i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yw darpariaeth gwasanaethau yn Ysbyty Cymunedol Maesteg. Fodd bynnag, deallaf fod y bwrdd iechyd yn parhau i fod yn ymrwymedig i gynnal y gwasanaethau cyfredol a ddarperir yn yr ysbyty cymunedol hwnnw, ac mae'n ymgysylltu'n weithredol ag ystod o gynrychiolwyr cymunedol i ymestyn y gwasanaethau hynny ymhellach.
Weinidog, diolch am eich ateb, ac rydych yn llygad eich lle—penderfyniad i'r bwrdd ydyw. Ond rwyf am ofyn i chi a fyddech yn croesawu'r pwyslais newydd y mae'r bwrdd iechyd wedi'i roi, yn anad dim yng ngoleuni penderfyniad Ysbyty Brenhinol Morgannwg, penderfyniad sydd i’w groesawu’n fawr, ar fuddsoddi’n helaeth hefyd mewn gofal sylfaenol a chymunedol er mwyn diogelu ein gwasanaethau brys a sicrhau bod pobl yn mynd i’r lle iawn i gael y driniaeth iawn. Ac yn wir, maent bellach yn canolbwyntio’n fanwl ar ddatblygu gofal cymunedol yn ysbyty Maesteg. A fyddai ganddo ddiddordeb yn hyn? A fyddai’n siarad â’r bwrdd am eu gwaith gydag Ysbyty Cymunedol Maesteg, a hefyd eu bwriad i ddatblygu gofal cymunedol a sylfaenol yn ardal Llanharan hefyd? Mae'n wych gweld y ffocws newydd hwn.
Yn sicr, byddwn yn hapus i gymryd diddordeb ac i sicrhau bod y bwrdd iechyd, wrth ddatblygu'r gwasanaethau hyn yn etholaeth yr Aelod, yn ymgysylltu'n weithredol ag ef fel un o'r rhanddeiliaid cymunedol pwysicaf, gan y deallaf fod bwrdd y prosiect i fod i ailddechrau ar rywfaint o'u gwaith, sydd wedi'i ohirio yn ystod y pandemig coronafeirws hyd yma, i barhau i edrych ar y dyfodol. Rwy’n fwy na pharod i sicrhau bod yr Aelod yn cael ei hysbysu'n llawn ac yn briodol, a'i fod yn ymgysylltu'n uniongyrchol â'r bwrdd iechyd ar y mater hwn ar gyfer y dyfodol.
Diolch i'r Gweinidog.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau amserol, ac mae'r cwestiwn cyntaf i'w ofyn i'r Dirprwy Weinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Twristiaeth, ac i'w ofyn gan Siân Gwenllian.
1. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y gefnogaeth fydd ar gael i'r celfyddydau yng Nghymru ar ôl i Lywodraeth Prydain gyhoeddi pecyn i gefnogi'r sector ymdopi ag effeithiau COVID-19? TQ466
Diolch am y cwestiwn yna, Siân. Mae gyda ni gronfa cadernid economaidd yn barod o fewn Llywodraeth Cymru yn darparu pecyn cymorth busnes sydd gyda'r mwyaf hael yn y Deyrnas Unedig. Ond rydym ni hefyd yn ymwybodol drwy'r trafodaethau cyson gyda'r sectorau, gan gynnwys y celfyddydau a diwylliant, beth yw'r heriau tymor hir y bydd angen cymorth ychwanegol.
O'r diwedd, fe ddaeth y cyhoeddiad gan y Gweinidog diwylliant yn Lloegr am arian i'r celfyddydau yng Nghymru. Mae'n rhwystredig gorfod disgwyl am gyhoeddiadau fel hyn cyn y caiff Llywodraeth Cymru weithredu. Dwi'n siŵr eich bod chi'n cytuno efo hynny. A wnewch chi symud ymlaen yn ddioed i sefydlu tasglu, i gynnwys cynrychiolwyr o bob rhan o'r sector, er mwyn sicrhau cynllun gweithredu i achub y celfyddydau? Mae hi'n argyfwng arnyn nhw. Mae angen i'r cynllun sicrhau cefnogaeth i bob rhan o'r sector, o'r canolfannau a'r theatrau i'r miloedd o weithwyr llawrydd sydd yn rhan annatod o ecoleg y celfyddydau yng Nghymru.
Diolch yn fawr. Rydw i'n cytuno â chynnwys y cwestiwn, ond dwi ddim yn gallu cytuno i ateb yn adeiladol ynglŷn â sefydlu unrhyw fath o dasglu newydd, oherwydd dwi'n meddwl bod gennym ni y cyrff effeithiol yng Nghymru i weithredu yn y maes yma, drwy Gyngor Celfyddydau Cymru, ond hefyd drwy lywodraeth leol. A dwi wedi cael trafodaethau'n barod—y bore yma, fel mae'n digwydd—gyda'r cynghorau lleol ynglŷn â'r posibilrwydd o ddefnyddio mwy o'r cynghorau lleol i gefnogi y celfyddydau yn y cymunedau. Ac felly, tra mod i'n croesawu'r gwariant o £59 miliwn ar gyfer Cymru, nid y fi fydd yn gwneud y penderfyniad ar y gwariant yna, oherwydd yn ôl y gyfundrefn gyllido sydd gan Gymru, wrth gwrs—ac yn yr Alban a Gogledd Iwerddon yr un peth—mae'r cyllid yn cael ei ddosbarthu ar sail gwariant yng Nghymru yn ddatganoledig ar wariant cyfatebol yn Lloegr. Ond dydy hi ddim yn dilyn y bydd y gwariant yna yn cael ei wario'n gyfan gwbl ar yr hyn sydd yn digwydd yn Lloegr. A phe byddem ni'n dechrau mynd i lawr y llwybr yna, yna beth fyddai diben cael Llywodraeth yng Nghymru, cael cyllideb Gymreig, a chael rhyddid i Weinidogion yng Nghymru benderfynu beth sydd orau? Ac felly dydw i ddim yn bwriadu ymrwymo i ddilyn beth sy'n digwydd yn Lloegr.
Wel, wrth gwrs, Ddirprwy Weinidog, gallech wario mwy nag y maent am ei wario yn Lloegr—onid yw’r dewis yn mynd i fyny ac i lawr? Ond credaf ei bod yn bwysig iawn fod y cymorth hynod sylweddol hwn a fydd yn dod yn awr i sector y celfyddydau yn Lloegr, ac a fydd felly'n arwain at swm enfawr o gyllid canlyniadol—tua £59 miliwn—i Gymru yn cael ei wario mewn ffordd fentrus a strategol. Nodaf, yn Lloegr, fod y Gweinidog yno’n dweud ei fod am gyfuno cefnogaeth leol effeithiol â chadw’r hyn y mae’n ei alw’n drysor y seilwaith artistig yn Lloegr. Ac ymddengys i mi y bydd angen diogelu ein sefydliadau gwych yng Nghymru hefyd, gan na fydd cymaint ohonynt yn gallu rhoi unrhyw fath o fodel busnes arferol ar waith tan ymhell i mewn i 2021 ar y gorau. Felly, a allwch roi sicrwydd i ni y byddwch yn gweithio gyda'r holl sefydliadau gwych hyn? A hefyd, a fyddwch yn achub ar y cyfle i hyrwyddo'ch cynlluniau Cyfuno o ran mynediad a chydraddoldeb yn y celfyddydau, gan ei bod yn ymddangos i mi, o ystyried lefel y gefnogaeth gyhoeddus hon, y byddwn mewn sefyllfa i fynnu bod yr agenda honno’n cael ei datblygu'n gyflym?
Yn sicr, gallaf ddweud wrtho’n gadarnhaol fod y cynllun Cyfuno yn un rwyf wedi’i etifeddu drwy un o fy hen ffrindiau gwleidyddol, Kay Andrews—y Farwnes Andrews—a ddyfeisiodd y cynllun, gan adrodd i Lywodraeth Cymru i’w sefydlu. A gallaf roi sicrwydd i chi y byddwn yn ei ystyried yn flaenoriaeth ar gyfer buddsoddiad pellach, gan ei fod yn dwyn materion cyfan ynghyd sy’n ymwneud ag anabledd a'r celfyddydau cymunedol, ac yn eu cysylltu â'r hyn y gallwn ei wneud.
Nawr, fe sonioch chi hefyd am 'sefydliadau'. Hoffwn ddweud yn gwbl glir nad yw'r cyllid hwn rydym wedi'i gael ar gyfer sefydliadau o reidrwydd. Mae ar gyfer sefydliadau sydd â chynlluniau busnes i'w cyflawni. Mae hefyd ar gyfer yr unigolion hynny—y gweithwyr artistig unigol—sy'n hunangyflogedig, y mwyafrif llethol ohonynt. A chredaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn edrych tuag at y sector cyfan. Mae ar gyfer y personél sy'n darparu gwasanaethau artistig, yn ogystal â'r sefydliadau.
Rwy’n amlwg yn clywed yr hyn a ddywed y Gweinidog am y ffordd y mae cyllid datganoledig yn gweithio, ond fe fydd yn ymwybodol—gwn ei fod yn ymwybodol—o ba mor ddifrifol yw’r argyfwng sy’n wynebu’r sector, ac ymyl y clogwyn rydym yn ei wynebu wrth inni agosáu at y pwynt pan fydd y cynllun ffyrlo yn dechrau cael ei leihau ym mis Awst. Mae rhai sefydliadau celfyddydol eisoes yn gwneud rhai staff—. Maent yn cyhoeddi llythyrau diswyddo oherwydd efallai y bydd yn rhaid iddynt gael gwared ar staff ddiwedd mis Gorffennaf. Felly, er fy mod yn deall yr hyn y mae'r Gweinidog wedi'i ddweud am yr adeg y bydd angen i Lywodraeth Cymru wneud penderfyniad ynghylch faint o'r arian sy'n cael ei wario yn y sector hwn—ac wrth gwrs, fel Cadeirydd y pwyllgor, byddech yn disgwyl i mi ddymuno gweld y swm cyfan yn cael ei wario—a gaf fi ofyn i'r Gweinidog p’un a oes ganddo amserlen ddangosol o ran pryd y bydd y penderfyniadau hyn ynghylch swm yr arian yn cael eu gwneud, a hefyd pryd y bydd y sector yn gwybod sut y gallant wneud cais amdano?
Wel, bydd y drafodaeth gychwynnol ymhlith Gweinidogion yn mynd rhagddi yr wythnos hon. Rydych yn sôn am wneud cais amdano, ond nid ydym wedi penderfynu eto a fydd hyn yn rhan o gynllun sy’n bodoli eisoes, i ategu'r hyn y mae cyngor y celfyddydau wedi'i wneud, ac rwy'n ddiolchgar iawn am y ffordd y mae cyngor y celfyddydau wedi rheoli'r £7 miliwn y gwnaethom ei ddarparu iddynt cyn inni wybod bod gennym y cyllid pellach hwn. Felly, bydd yn cael ei drafod gyda chyngor y celfyddydau, ac yn enwedig gydag awdurdodau lleol Cymru, gan y credaf ei bod yn bwysig ein bod yn adfywio'r celfyddydau cymunedol a'r theatrau a'r gweithgarwch artistig sydd, yn draddodiadol, wedi digwydd drwy'r bartneriaeth rhwng yr awdurdodau lleol a chyngor y celfyddydau.
Diolch i'r Dirprwy Weinidog. Mae'r cwestiwn amserol nesaf i'r Gweinidog Economi, Trafnidiaeth a'r Gogledd, a'r cwestiwn i'w ofyn gan Carwyn Jones.
2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad yn dilyn adroddiadau bod Ineos yn ailystyried ei benderfyniad i adeiladu ffatri newydd ym Mhen-y-bont ar Ogwr? TQ468
Roeddwn yn hynod siomedig gyda’r ffordd y cafodd Llywodraeth Cymru glywed y newyddion, yn dilyn yr holl weithio mewn partneriaeth a ddatblygwyd dros nifer o flynyddoedd. Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi amser, egni ac arian yn y busnes hwn.
Diolch, Weinidog. Mae'n ddrwg gennyf, Lywydd—a ydych yn fy ngalw yn ôl?
Ydw. Os gwelwch yn dda—Carwyn Jones.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Mae hyn yn siom enfawr, wrth gwrs, i bobl Pen-y-bont ar Ogwr—y dref a'r ardal gyfagos. Weinidog, a ydych yn cytuno â mi, pan fo busnesau'n dadlau'r achos dros Brexit, fod cyfrifoldeb ychwanegol arnynt i fuddsoddi yn y DU a pheidio â buddsoddi yn y farchnad sengl am fod hynny'n fwy cyfleus o bosibl? A ydych chi hefyd yn cytuno y dylai'r bobl sy'n gefnogwyr Brexit angerddol fod yn ddig am yr hyn sydd wedi digwydd yma, gan fod hyn yn tanseilio eu cred angerddol y byddai'r DU yn well y tu allan i'r UE? Ac a ydych yn cytuno hefyd y byddai croeso i'r cefnogwyr Brexit hynny ymuno â mi wrth i mi fynegi fy nicter mawr, mewn gwirionedd, pan fydd cwmni'n penderfynu adeiladu car Prydeinig, yn penderfynu ei fod am adeiladu yn y DU, yna’n penderfynu newid ei feddwl ac adeiladu yn yr UE? Nid yw honno, Weinidog, yn ffordd o fynegi hyder yn Brexit, ydy hi?
Buaswn yn cytuno’n llwyr â Carwyn Jones ac yn dweud bod y penderfyniad hwn yn peri dryswch o gofio bod y busnes dan sylw wedi cefnogi Brexit mor frwd, ac nid oes amheuaeth o gwbl fod Brexit yn gwneud difrod aruthrol i’r diwydiant modurol ac i’r economi’n gyffredinol. Ac yn y bôn, yr hyn y maent wedi penderfynu ei wneud—ffaith—yw symud i Ffrainc wrth inni gyrraedd diwedd y cyfnod pontio, heb unrhyw olau ar ddiwedd y twnnel. Ac maent yn symud un o eiconau hanes modurol Prydain i Ffrainc, ac maent yn mynd i'w adeiladu yn Ewrop yn hytrach nag ym Mhrydain lle roedd y cwmni wedi addo’i adeiladu. Bydd hynny'n siomedig iawn, rwy'n siŵr, i holl gefnogwyr y cynnyrch—yr hen Defender, neu'r hyn a fydd yn cael ei adnabod fel y Grenadier—a oedd wedi dathlu'r ffaith, yn ôl ym mis Medi y llynedd, y byddai'n cael ei adeiladu ym Mhrydain.
Rydym am wneud popeth a allwn i sicrhau bod yr opsiynau amgen rydym wedi bod yn eu harchwilio ar gyfer Pen-y-bont ar Ogwr yn cael eu darparu ar gyfer cymuned Pen-y-bont ar Ogwr a'r ardal gyfagos. A hoffwn ddiolch i Carwyn Jones am y gwaith y mae wedi'i wneud yn arwain un o'r ffrydiau gwaith a gafodd eu creu fel rhan o dasglu Ford gan sicrhau ein bod yn canolbwyntio nid yn unig ar y bobl sy'n mynd i gael eu heffeithio drwy golli Ford, ond y lleoedd sy'n mynd i gael eu heffeithio hefyd. A thrwy waith caled y cyn Brif Weinidog, rydym wedi gallu nodi cyfleoedd i fuddsoddi mewn mwy o hybiau menter wrth adfywio Porthcawl, ac rydym yn cefnogi busnesau yng nghymoedd gogleddol Pen-y-bont ar Ogwr hefyd.
Ond rwy'n siŵr y dylai'r newyddion siomedig hwn adlewyrchu perfformiad gwael Llywodraeth y DU o ran y negodiadau gyda'n cymheiriaid Ewropeaidd hyd yma, a dylai hefyd fod yn rhybudd gwirioneddol ynglŷn â chyflwr y sector modurol wrth inni gyrraedd diwedd y cyfnod pontio.
Suzy Davies. Suzy Davies, ni allwn eich clywed ar hyn o bryd. A allwch chi—?
Rhowch eiliad i mi.
Iawn, rwy'n credu ein bod yn gallu eich clywed chi nawr.
Iawn? Diolch yn fawr, ac mae'n ddrwg gennyf. Diolch am fy ngalw ar y cwestiwn amserol hwn. Mae'n ddrwg gennyf ei bod yn ymddangos iddo gael ei wastraffu gan yr unigolyn a ofynnodd y cwestiwn yn wreiddiol, oherwydd mae'n eithaf amlwg fod y cwmni hwn wedi dewis Pen-y-bont ar Ogwr nid yn unig dros dri neu bedwar safle arall yn y DU yn wreiddiol ond nifer o safleoedd Ewropeaidd hefyd. Ac mae'n werth cofio bod ffatri arall ym Mhortiwgal, sydd, hyd y gwn i, yn dal i fod o fewn yr UE, hefyd wedi cael ei siomi gan y cwmni hwn. Felly, teimlaf fod y cwestiwn hyd yn hyn wedi tynnu'r sylw i gyd oddi ar geisio datrys y broblem hon ar gyfer pobl Pen-y-bont ar Ogwr sydd, wrth gwrs, wedi bod yn dibynnu ar hyn, nid yn unig yn ariannol, ond yn emosiynol.
Tybed, Weinidog, a allwch ddweud wrthym, wrth edrych yn ôl ar y 18 mis diwethaf, p'un a oedd unrhyw arwyddion efallai nad oedd Ineos mor ymroddedig i'r prosiect hwn ag roeddech wedi'i obeithio. Ym mis Mawrth 2019, mewn gwirionedd, codais y ffaith bod y cwmni wedi mynd at BMW i gael yr injan ar gyfer y Grenadier, pan oeddem yn dal i obeithio y gallai Ford fod wedi denu'r cwmni. A phan na chlywsom unrhyw beth wedyn am chwe mis, rwy'n credu ein bod ni i gyd yr un mor gyffrous â chi pan ddywedodd Ineos eu bod yn dod i'r safle ym Mrocastell. Nawr, bryd hynny, fe ddywedoch chi fod Llywodraeth Cymru—ac rwy'n dyfynnu—'wedi bod yn hanfodol bwysig i ddenu'r busnes hwn i Gymru'. Felly, yn ôl pob tebyg, rydych yn hanfodol bwysig i'w dwyn i gyfrif mewn perthynas â'u hymrwymiad yn y lle cyntaf hefyd. Fe ddywedoch chi hefyd fod y trefniant yn caniatáu i chi sicrhau cyllid Ewropeaidd i hwyluso rhagor o seilwaith ffyrdd a chyfleustodau ar y safle.
Felly, a allwch chi ddweud wrthym, a ydych yn credu bod y cwmni'n chwarae gêm galed ar cam hwn, a'i bod yn dal yn bosibl y caiff bargen ei tharo yma? A yw Ineos wedi dweud rhywbeth wrthych am hygyrchedd y safle o ran y ffyrdd a'r rheilffyrdd, neu'n wir, hygyrchedd o ran y ffyrdd a'r rheilffyrdd i'r safle ym Mhortiwgal sydd hefyd wedi cael ei effeithio gan hyn, o'u cymharu â'r safle yn Ffrainc? A gawsoch unrhyw arian Ewropeaidd ac a fydd yn rhaid i unrhyw gyfran o hwnnw fynd yn ôl yn awr? Ac yn y darpariaethau adfachu y byddwch yn anochel wedi'u cynnwys mewn unrhyw drefniant ag Ineos hyd yn hyn, a oedd unrhyw un ohonynt yn ymwneud â'r gost o £4 miliwn ar baratoi'r safle ym Mrocastell, gan wybod, wrth gwrs, mai Ineos oedd y busnes angori perthnasol i'ch gallu i ddenu'r busnesau cadwyn gyflenwi a'r busnesau eilaidd hynny i'r safle? Ac efallai y caf ofyn hefyd, gan ei bod yn ymddangos bod y cytundeb hwn wedi mynd i'r gwellt ar y diwrnod roedd disgwyl i'r brydles gael ei llofnodi—
Ni chewch ofyn unrhyw gwestiynau pellach, Suzy. Mae eich amser ar ben eisoes.
Dyna ni. Diolch yn fawr iawn, Lywydd.
Diolch.
A gaf fi ddiolch i Suzy Davies am ei chwestiynau? Rwyf am fynd i'r afael â'r cwestiwn ynglŷn â hygyrchedd yn gyntaf. Mae unrhyw awgrym fod penderfyniad yr M4 wedi dylanwadu ar Ineos yn nonsens llwyr. Y gwir amdani yw bod penderfyniad yr M4 wedi'i wneud yn haf 2019, a bod cytundeb Ineos wedi'i sicrhau yn hydref 2019. Mewn pedair blynedd o drafodaethau gyda'r cwmni, ni chodwyd mater yr M4 ar unrhyw achlysur. Mae'r honiad yr un mor gredadwy â'r honiad y gallai methiant a gwrthodiad Llywodraeth y DU i drydaneiddio prif reilffordd de Cymru fod wedi dylanwadu ar benderfyniad Ineos. Y gwir amdani yw bod safle wedi dod ar gael yn Ffrainc yn hwyr iawn yr wythnos diwethaf, ac mewn cyfnod byr iawn o amser, penderfynodd y busnes fynd i Ffrainc, yn hytrach nag aros yng Nghymru. Byddwn yn ceisio adennill y £4 miliwn a wariwyd hyd yn hyn. Mae gobaith bach iawn y gallai ddod i Gymru o hyd, ond byddai angen i'r cytundeb yn Ffrainc fynd i'r gwellt er mwyn i hynny ddigwydd. Ond byddwn yn parhau i weithio er mwyn sicrhau bod cynifer o gyfleoedd swyddi â phosibl yn dod i Ben-y-bont ar Ogwr a'r cymunedau cyfagos.
Weinidog, mae hon yn ergyd drom arall i fy rhanbarth ac mae'n hynod o siomedig. Ond o ran sefyllfa Ineos, roedd gan y Grenadier oes silff fer iawn ac wrth inni fynd ati i gael gwared yn raddol ar injans tanwydd ffosil, a hynny mewn hinsawdd economaidd ansicr, roedd eu dyfodol yn ansicr. Ond serch hynny, mae'n destun gofid i fy etholwyr a fy rhanbarth. Brif Weinidog, mae'n amlwg fod y sector modurol traddodiadol ar ei ffordd allan. A wnaiff eich Llywodraeth ganolbwyntio ei hymdrechion yn awr ar ddenu cwmnïau fel Tesla? Ac a wnewch chi ymrwymo i fuddsoddi mewn hyfforddiant ac ymchwil a datblygu yn y sector cerbydau trydan, yn hytrach na'r sector petrol traddodiadol?
A gaf fi ddiolch i Caroline Jones am ei chwestiwn? A hoffwn roi sicrwydd i Caroline Jones y byddai prosiect Grenadier—o ganlyniad i'r ffaith y byddai'r cwmni, Ineos, wedi llofnodi contract economaidd gyda Llywodraeth Cymru—wedi arwain at ddefnyddio systemau gyriant amgen yn ôl pob tebyg, ar gyfer injan hybrid i ddechrau a system drydan lawn, neu system hydrogen hyd yn oed, o hynny ymlaen. Mae'r ffaith ei fod yn awr yn mynd i Ffrainc yn golygu na fydd unrhyw gontract economaidd ar waith, ac felly nid ydym yn gwybod beth fydd dyfodol y Grenadier y tu hwnt i'r injan diesel.
Gallaf sicrhau'r Aelod ein bod yn rhoi egni ac ymdrech aruthrol tuag at sefydlu'r gigaffatri ar safle Bro Tathan, a allai greu 3,500 o swyddi, gan weithio gyda Britishvolt. Er mwyn sicrhau hynny, mae angen buddsoddiad gan Lywodraeth y DU drwy'r gronfa drawsnewid fodurol. Mae hwn yn bwynt rwyf wedi'i godi gyda nifer o Weinidogion yn San Steffan, ac yn sgil penderfyniad Ineos, rwy'n gobeithio y bydd Gweinidogion Llywodraeth y DU yn rhoi sicrwydd cadarn y byddwn yn derbyn y symiau angenrheidiol ar gyfer sefydlu'r gigaffatri yn ne Cymru.
Roedd penderfyniad Ineos yn ergyd drom, oherwydd ddydd Gwener yr wythnos diwethaf yn unig yr aeth y safle yn Ffrainc ar werth. Roedd popeth—popeth—roeddem yn ei wneud gyda'r cwmni yn arwain at weithgynhyrchu'r Grenadier yn llwyddiannus ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a gwnaethpwyd y penderfyniad mewn ychydig ddiwrnodau'n unig i beidio â buddsoddi yng Nghymru, ac mae'n drueni mawr ac rydym yn hynod siomedig yn ei gylch.
Wrth gwrs, rydym yn rhannu siom y Gweinidog ac yn cydymdeimlo'n fawr â'r gymuned o amgylch Pen-y-bont ar Ogwr a oedd, yn amlwg, yn edrych ymlaen yn fawr at y cyfleoedd y gallai hyn fod wedi'u darparu. A gaf fi ofyn i'r Gweinidog a ddylwn gasglu o'r hyn a ddywedodd fod hwn yn benderfyniad cadarn ac na allwn ddisgwyl i Ineos ailystyried? Rwy'n credu y byddai'n helpu pobl i wybod. Ac mewn sefyllfa fel hon, y peth olaf rydym ei eisiau yw gobaith ffug.
A all y Gweinidog ddweud rhagor heddiw ynglŷn â pha gynlluniau pellach sydd yna ar gyfer y safle—beth arall y gallai Llywodraeth Cymru fod yn ei ystyried? Ac efallai os nad yw'n gallu gwneud hynny, o ystyried yr hyn y mae eisoes wedi'i ddweud ynglŷn â'r ffaith bod hyn wedi bod yn ergyd drom iddo ef a'i swyddogion, a allai ymrwymo i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau drwy'r toriad ynglŷn â pha ddatblygiadau sy'n mynd rhagddynt?
Ac yn olaf, a yw'r Gweinidog yn cytuno â mi—ac ar un ystyr, mae hyn yn adeiladu ar ei ateb i Caroline Jones—y dylem ddysgu gwersi o'r profiad hwn o bosibl, ac efallai ei bod yn bryd inni ailffocysu, fel cenedl, ein polisïau economaidd ar yr agenda werdd, fel y mae Caroline Jones wedi'i awgrymu, ond hefyd er mwyn inni ddibynnu llai ar fewnfuddsoddi, er mwyn i ni fod yn llai agored i fympwy busnesau ac unigolion fel y person yn y sefyllfa hon, a'n bod yn buddsoddi mwy mewn cynlluniau i dyfu ein seilwaith busnes ein hunain, y busnesau sydd wedi'u gwreiddio yma sy'n credu yn eu cymunedau ac a fydd yn gwneud i hynny weithio? Wrth gwrs, mae hynny'n cymryd mwy o amser o ran darparu swyddi, ond pan gaiff y swyddi hynny eu darparu, maent yn llawer mwy tebygol o aros.
A gaf fi ddiolch i Helen Mary Jones am ei chwestiynau? Yn sicr, byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am unrhyw ddatblygiadau. Rydym yn cadw cyfathrebiadau ar agor gydag Ineos wrth gwrs. Ond er mwyn gwrthdroi'r penderfyniad hwnnw, rwy'n credu y byddai angen cyfraniadau uniongyrchol gan Brif Weinidog y DU, o ystyried pa mor agos yw Prif Weinidog y DU a'i gyd-Aelodau at y person sy'n berchen ar Ineos. Rwy'n siŵr y bydd Prif Weinidog y DU mewn cysylltiad uniongyrchol â'r cwmni dros y dyddiau nesaf. Rwy'n gobeithio y bydd yn gallu sicrhau'r prosiect ar gyfer y DU, ond nid wyf yn ffyddiog y bydd hynny'n digwydd, ac ni fyddwn yn dymuno cynnig gobaith ffug i unrhyw un sy'n dyheu am weithio yn ffatri Ineos ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
O fewn y cynllun gweithredu ar yr economi, mae buddsoddi mewn twf cynhenid yn ganolog i'n hymgais i sbarduno twf cynhwysol a theg ledled Cymru, ac rydym wedi ymrwymo'n llawn i dyfu'r economi sylfaenol, i'w chryfhau, ac i sicrhau yr ymdrinnir â'r canol coll mewn ffordd a gafodd sylw mewn gwledydd eraill, gan gynnwys, er enghraifft, yn yr Almaen. Mae dau gynnig amgen ar gyfer safle Ford ei hun, ac rydym yn gweithio arnynt, ac yn ychwanegol at hynny, fel y dywedais yn fy ateb i Caroline Jones, rydym yn edrych hefyd ar botensial y gigaffatri ar safle Bro Tathan.
Mae'n rhaid i mi ddweud, yn lleol, fod pobl yn siomedig tu hwnt o glywed y penderfyniad munud olaf hwn, pan oedd y gwaith adeiladu a datblygu'n digwydd ar y safle, ac rwy'n ategu'r alwad gan eraill yma arnoch chi, Weinidog, a'r Prif Weinidog i apelio'n uniongyrchol ar Brif Weinidog y DU, ar Boris Johnson, i ofyn i'r prif weithredwr a'r cwmni hwn, hyd yn oed ar y funud olaf hon, i ailfeddwl. Oherwydd mae'r syniad bod y Grenadier, sy'n adeiladu ar sefydliad Prydeinig eiconig y Land Rover Discovery, a gyflwynwyd gan rywun sy'n hyrwyddo Prydain a phopeth Prydeinig, yn ogystal â'r ymgyrch dros adael yr UE ar y sail na fyddai unrhyw swyddi'n cael eu colli—dyma'r union foment y dylai Prif Weinidog y DU gamu i mewn ar unwaith a dweud, 'Meddyliwch eto', oherwydd pe bai'n gwneud, byddai ganddo deyrngarwch a gweithlu medrus ymhlith y bobl yma ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Rydym yn meddwl yn awr, 'Beth ddiawl? Sut y mae ynganu Grenadier yn Ffrangeg neu yn Almaeneg?'. Mae hwn yn frand Prydeinig eiconig yn ôl y sôn ac rydym yn ddig yn lleol am y brad munud olaf hwn.
A gaf fi gytuno'n llwyr â Huw Irranca-Davies a dweud bod ei ddicter a'i siom yn cael eu rhannu ar draws Llywodraeth Cymru? Fel y dywedais yn fy ateb i'r cyn Brif Weinidog, Carwyn Jones, roedd y Defender yn ddarn eiconig o hanes modurol Prydeinig, ac roedd y ffaith ei fod yn dychwelyd, er gydag enw gwahanol ac ar ffurf wahanol, yn cael ei ddathlu gan y wasg fodurol, gan selogion modurol ac yn arbennig gan berchnogion y Defender gwreiddiol. Yn anffodus, gwyddom erbyn hyn eu bod wedi rhoi'r gorau i gynhyrchu'r Defender Prydeinig diwethaf eisoes, a digwyddodd hynny flynyddoedd lawer yn ôl. Bydd hwn yn fwystfil hollol wahanol gydag enw gwahanol, wedi'i adeiladu y tu allan i Brydain, ac rwy'n credu y bydd miloedd ar filoedd o gwsmeriaid posibl yn cael eu siomi'n arw gan hynny.
Weinidog, rwy'n siomedig ynglŷn â'ch ymateb heddiw, yn ceisio beio Brexit am y sefyllfa rydym ynddi, a byddwn yn eich annog i wrando ar ymateb y Prif Weinidog i mi yn ystod y cwestiynau i'r Prif Weinidog ynglŷn â mabwysiadu agwedd fwy cadarnhaol wrth ymgysylltu â'r cwmni. Pe bawn i'n rheolwr gyfarwyddwr yn y cwmni ac yn gwrando ar eich atebion heddiw, byddwn yn sylweddoli bod arwydd 'ar gau' yn fy atal rhag dod yn ôl i Gymru, ac rwy'n credu bod hynny'n anffodus iawn. Mae cyfle i adeiladu ffatri ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a dylai hynny ddigwydd, heb rithyn o amheuaeth, ac rwyf am roi hwb i'r olwyn a chefnogi hynny, ond ni fydd eich tôn negyddol heddiw yn gwneud dim i ailagor trafodaethau gyda'r cwmni hwnnw. Y tro diwethaf i mi edrych, roedd Portiwgal yn yr Undeb Ewropeaidd ac roedd Nissan newydd ailddatgan eu hymrwymiad i Sunderland. Felly, pam ar y ddaear eich bod chi mor negyddol ynglŷn â'r cynnig hwn?
Credaf fod y cwestiwn gan Andrew R.T. Davies braidd yn anghredadwy. Dylech ddefnyddio eich egni i gyfarwyddo Prif Weinidog y DU i ymyrryd yn bersonol ac ar unwaith i ddod â ffatri Ineos i Gymru. Nid ydych wedi cael sgwrs gyda phrif swyddog gweithredol y cwmni; rwyf fi wedi gwneud hynny. Rwy'n gwybod y rhesymau pam eu bod wedi penderfynu peidio â bwrw ymlaen â Chymru a Phortiwgal fel canolfannau ar gyfer gweithgynhyrchu'r Grenadier. Gallai fod gan Brif Weinidog y DU rôl allweddol i'w chwarae yn sicrhau bod gan Gymru obaith o sicrhau gwaith o'r prosiect hwn, a dylech gyfeirio eich egni tuag at Brif Weinidog y DU ei hun.
Diolch i'r Gweinidog.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan y Gweinidog Addysg ar y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru). Dwi'n galw ar y Gweinidog Addysg i wneud y datganiad—Kirsty Williams.
Diolch yn fawr, Lywydd. Mae'n bleser gennyf gyflwyno'r Bil cwricwlwm ac asesu i'r Senedd ei ystyried. Rwy'n gwneud hynny ar ran y Llywodraeth hon ac ar ran yr athrawon, academyddion, addysgwyr, busnesau, undebau a llawer o rai eraill sy'n adeiladu'r dyfodol hwn ar gyfer ein dysgwyr, ein hysgolion a'n cenedl.
Nawr, ni fyddem wedi gallu rhagweld y byddem yn troi'r dudalen hon yn llyfr hanes addysg yng Nghymru o dan yr amgylchiadau hyn. Mae'r ymdrech genedlaethol yn erbyn y coronafeirws yn cynnwys tîm o 3.2 miliwn ac mae'r teulu addysg wedi wynebu'r her gyda'i gilydd, gan gamu i'r adwy i sicrhau bod ein plant a'n pobl ifanc yn cael eu cefnogi gyda'u llesiant, eu gallu i ddysgu ac i dyfu.
Nawr, mae ein diwygiadau addysg, gyda'r cwricwlwm newydd yn ganolbwynt iddynt, hefyd yn ymdrech genedlaethol a rennir: arbenigedd, profiad ac egni cyfunol, fel ein bod yn codi safonau i bawb, yn lleihau'r bwlch cyrhaeddiad ac yn sicrhau bod gennym system addysg yng Nghymru sy'n destun balchder ac yn ennyn hyder y cyhoedd.
Mae'r Bil hwn yn darparu fframwaith deddfwriaethol newydd i gefnogi'r cwricwlwm a'r trefniadau asesu newydd, ac mae'n ein helpu i gyflawni'r uchelgeisiau hynny ar gyfer pob dysgwr unigol, pob athro unigol a phob lleoliad addysg unigol.
Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.
Gyd-Aelodau, dyma'r amser i gael y cwricwlwm cyntaf erioed i gael ei wneud yng Nghymru, wedi'i ffurfio gan y dysgu gorau yma yng Nghymru a thu hwnt. Nid yw nodweddion hanfodol y cwricwlwm presennol a ddyfeisiwyd ym 1988, gan Lywodraeth San Steffan ar y pryd, yn addas at y diben yn y Gymru gyfoes—un a ddyluniwyd cyn cwymp Wal Berlin, cyn iddi gael ei chwalu'n rwbel. Wel, nid dyna'r sylfaen gref rydym ei hangen i greu cwricwlwm entrepreneuraidd, llawn gwybodaeth a sgiliau hyblyg sy'n addas ar gyfer dinasyddion yr unfed ganrif ar hugain yng Nghymru a'r byd.
Fodd bynnag, mae'r cwricwlwm sydd newydd ei ffurfio'n ymwneud â mwy na sgiliau ar gyfer dyfodol ein heconomi a chyflogaeth yn y dyfodol. Bydd yn cynorthwyo pobl ifanc i ddatblygu safonau llythrennedd a rhifedd uwch, i fod yn fwy cymwys yn ddigidol ac yn ddwyieithog, ac i esblygu i fod yn feddylwyr mentrus, creadigol a beirniadol fel y mae pawb ohonom eisiau eu gweld, rwy'n siŵr. A bydd yn helpu i ddatblygu ein pobl ifanc fel dinasyddion hyderus, galluog a thosturiol—dinasyddion Cymru; yn wir, dinasyddion ein byd. Felly, byddwn yn deddfu ar gyfer y pedwar diben, er mwyn iddynt fod yn weledigaeth ac yn ddyhead a rennir ar gyfer pob plentyn, pob person ifanc. Ac wrth gyflawni'r rhain, rydym yn gosod disgwyliadau uchel i bawb, yn hyrwyddo llesiant unigol a chenedlaethol, yn mynd i'r afael ag anwybodaeth a chamwybodaeth, ac yn annog ymgysylltu beirniadol a dinesig. Bydd pob ysgol yn cael cyfle i gynllunio a gweithredu eu cwricwlwm eu hunain o fewn y dull cenedlaethol sy'n sicrhau cysondeb i ddysgwyr ar draws y wlad.
Mae'r chwe maes dysgu a phrofiad yn cysylltu disgyblaethau cyfarwydd ac yn annog cysylltiadau cryf ac ystyrlon ar eu traws. Er bod disgyblaethau'n dal i fod yn bwysig, mae'r dull newydd hwn yn cynorthwyo dysgwyr i feithrin cysylltiadau ar draws eu dysgu, gan eu helpu i ddeall yr hyn y maent yn ei ddysgu yn ogystal â pham y maent yn ei ddysgu, a bydd y Bil angen cwricwlwm i wreiddio'r sgiliau trawsgwricwlaidd gorfodol, sef llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol. Yn ogystal, mae'r Bil yn nodi pedair elfen orfodol arall yn y cwricwlwm, gan gynnwys y Gymraeg a'r Saesneg. Mae hyn yn adlewyrchu ein dwyieithrwydd, tra hefyd yn cydnabod trochi cyfrwng Cymraeg allweddol a llwyddiannus iawn. Fodd bynnag, rwy'n cydnabod y ddadl barhaus ar safle'r Saesneg yn y Bil. Ac yn union fel y gwneuthum yr wythnos diwethaf yn ystod dadl Plaid Cymru, rwyf am ddweud unwaith eto y byddaf yn parhau i gymryd rhan yn y sgyrsiau hynny ac yn ystyried y camau nesaf. Ond gallaf sicrhau'r Aelodau fy mod wedi ymrwymo'n llwyr i gynnydd pob dysgwr ar y daith i fod yn ddinesydd dwyieithog fan lleiaf, ac mae eu gwerthfawrogiad, eu dealltwriaeth a'u gallu i gwestiynu'r byd yn adeiladu o wybod eu hanes eu hunain, eu democratiaeth eu hunain a'u hamgylchedd eu hunain.
Mewn gwirionedd, mae darpariaethau'r cwricwlwm presennol yn gul, maent yn gyfyngol, ac nid ydynt yn gwneud digon i gefnogi athrawon i gynllunio a datblygu cwricwlwm sy'n rhoi blaenoriaeth i gynnydd dysgwyr. Felly, byddwn yn symud i gyfnod newydd lle bydd pob dysgwr yn elwa o addysg eang a chytbwys. Ond mae'n rhaid inni beidio â gostwng ein disgwyliadau ar gyfer unrhyw un o'n pobl ifanc, ni waeth beth fo'u cefndir. Mae'n fater sylfaenol o degwch a rhagoriaeth i bawb, a dyna pam fod miloedd a miloedd yn rhagor o ddysgwyr yng Nghymru yn dechrau ac yn ennill TGAU gwyddoniaeth erbyn hyn. Dyna pam ein bod ni bellach yn perfformio'n well na chenhedloedd eraill y Deyrnas Unedig yn ein canlyniadau Safon Uwch a dyna pam fod miloedd yn fwy yn astudio ac yn llwyddo ar lefelau addysg uwch.
Felly, mae'r Bil yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion gyhoeddi cod cynnydd sy'n nodi'r ffordd y mae'n rhaid adlewyrchu cynnydd yng nghwricwlwm ysgol. Bydd cyhoeddi cod cynnydd gydag elfennau gorfodol yn sicrhau bod cysondeb yn y ffordd yr edrychir ar gynnydd ar draws y wlad.
Oherwydd ein bod yn codi safonau ac yn cyflawni system sy'n gallu ennyn hyder y cyhoedd, mae'r cyflawniadau rwyf newydd eu crybwyll hefyd yn dangos ein bod bellach yn barod fel cenedl i symud ymlaen gyda'n cwricwlwm newydd. Mae hyn yn golygu symud o bynciau cul i chwe maes dysgu a phrofiad eang; cwricwlwm sy'n seiliedig ar ddiben—pedwar diben sy'n cyfleu'r math o ddinasyddion rydym eu heisiau, y dinasyddion rydym eu hangen; a ffocws go iawn ar dri sgil craidd statudol: llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol. Hwn fydd ein cwricwlwm newydd i Gymru, o Gymru, gan Gymru, ac rydym wedi gweithio gyda'n gilydd i gyrraedd y pwynt hwn. System lle mae gan bawb gyfran a rennir, lle rydym yn gosod safonau uchel i bawb a lle rydym yn cyfuno gwybodaeth, sgiliau a phrofiad, lle nad oes neb, yn unman, yn cael ei ddiystyru, a lle gallwn gymryd y camau nesaf yn ein cenhadaeth genedlaethol i ddiwygio addysg.
Ddirprwy Lywydd, rwy'n gobeithio eich bod yn gallu dweud fy mod yn teimlo'n gyffrous iawn am y cyfle hwn, ac edrychaf ymlaen at gyfraniadau ac ymdrechion cyfunol yr Aelodau yma yn y Senedd hon i fynd â'r Bil arwyddocaol hwn ar ei daith seneddol. Diolch yn fawr iawn.
[Anghlywadwy.]—yn bendant, gallaf weld pa mor gyffrous rydych chi gyda'r Bil hwn. Diolch i chi am ei gyflwyno. Efallai eich bod yn ei gadael ychydig yn hwyr i sicrhau Cydsyniad Brenhinol erbyn diwedd tymor y Senedd hon, ac mae hynny, rwy'n ofni, yn fy arwain yn syth at fy sylw cyntaf. Mae'r Bil yn darparu ar gyfer adolygiad pum mlynedd, sy'n golygu y bydd hyn yn digwydd—[Torri ar draws.] Helo? A ydych yn dal i fy nghlywed? Iawn, rwyf am barhau. Gobeithio y byddwch yn ymestyn fy amser rhywfaint.
Diolch. Ie, y pwynt roeddwn yn ei wneud yw bod y Bil fel ag y mae yn cyflwyno adolygiad pum mlynedd, sy'n golygu y bydd yn digwydd yr un pryd â'r etholiad nesaf. Felly, roeddwn eisiau gwybod beth oedd y meddylfryd y tu ôl i wahardd Senedd gyfan rhag asesu llwyddiant y cwricwlwm newydd. Credaf, efallai, oherwydd amseriad yr adolygiad hwnnw, y gallai wneud mwy o synnwyr i ni gael seithfed Senedd i archwilio'i ganfyddiadau, pe baem yn gohirio gweithredu'r Bil rhyw ychydig er mwyn gwneud iawn am yr oedi yn y gwaith o ddatblygu'r cwricwlwm yn sgil COVID-19. Mae'r memorandwm esboniadol yn dweud bod effeithiau llawn COVID ar ddatblygu'r cwricwlwm yn anhysbys, ond mai'r amserlenni presennol—ac rwy'n dyfynnu—
'sy'n dal i roi'r syniad gorau o sut a phryd y caiff y diwygiadau i'r cwricwlwm eu cyflwyno fesul cam.'
Ac rwy'n credu bod hynny'n diystyru'r ffaith bod 76 y cant o ysgolion eisoes wedi dweud wrthym fod COVID wedi cael effaith negyddol ar ddatblygiad y cwricwlwm, ac nad yw 46 y cant ohonynt wedi gwneud unrhyw beth o gwbl yn ystod y cyfyngiadau. Gan mai athrawon a rhai academyddion sy'n awgrymu gohirio'r gweithredu, tybed a fyddech yn ymrwymo i gadw meddwl agored ar ddyddiad gweithredu wrth i'r Bil fynd yn ei flaen ac wrth i ragor o dystiolaeth gael ei chasglu am effeithiau parhaus COVID ar y gwaith o ddatblygu'r cwricwlwm. Yn amlwg, mae angen dal i fyny â'r cwricwlwm—y cwricwlwm presennol—a bydd hynny'n cymryd amser hefyd.
Mae'r egwyddor o gwricwlwm lleol yn athroniaeth graidd yn y Bil hwn, ac mae elfennau gorfodol y cwricwlwm lleol hwnnw'n cynnwys elfennau dadleuol mewn perthynas ag addysg cydberthynas a rhywioldeb. Deallaf nad yw'r gwaith yn hollol gyflawn o hyd. Ac rwy'n gwybod bod pob elfen wedi'i llunio ar y cyd â phartneriaid, ond os yw'n mynd i gael ei gydgynhyrchu go iawn mae angen inni wybod sut y bydd llais y plentyn, y rhiant a'r gymuned ehangach yn cael sylw dyledus wrth greu cwricwlwm lleol. Fel enghraifft o sut y gallai'r lleisiau hynny gael eu mygu'n anfwriadol, er nad ar yr un pwynt yn union, mae dyletswydd ar yr ysgol i gyhoeddi ei chwricwlwm, ond nid oes unrhyw beth yn y Bil ynglŷn â hysbysu teuluoedd am yr hawl i ofyn am gwricwlwm crefyddol amgen, er enghraifft. Felly, beth yw rôl y gymuned ehangach wrth gynllunio'r cwricwlwm, a sut y caiff y lleisiau hynny eu pwysoli? Ac mewn gwirionedd, sut olwg fydd ar ymgynghoriad ar godau a chanllawiau—a fydd hynny'n digwydd gydag addysgwyr proffesiynol yn unig neu'n ehangach? Ac i fynd i'r pen arall, mae'r penderfyniad terfynol ar y cwricwlwm yn nwylo'r pennaeth a'r llywodraethwyr, cyn belled â'u bod yn parchu canllawiau a gofynion sy'n codi o'r Bil. Felly, rwy'n deall nad yr awdurdodau lleol sy'n barnu'n derfynol fel gyda rhai penderfyniadau am ysgolion. Felly, sut y bydd y cynlluniau strategol lefel uwch hynny, megis y cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg, a fydd yn effeithio ar y cwricwlwm, yn cael eu rhoi mewn grym?
Ac yn olaf—bydd gennyf ddigon i ofyn i chi yn nes ymlaen, rwy'n gwybod. Hyd yn oed yn awr, nid yw'r holl asesiadau effaith ar gyfer y Bil wedi'u cwblhau, ond mae'r amcangyfrifon costau cyfredol oddeutu £43 miliwn o gostau uniongyrchol i ysgolion, ac mae £394 miliwn pellach o gostau a ymgorfforwyd, sydd eisoes yn fwy na'r amcangyfrif is o'r gost, ac ymhell dros hanner ffordd at yr amcangyfrif uwch. Felly, a wnewch chi ymrwymo i roi'r wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd am gostau, nid yn unig yn ystod hynt y Bil hwn, ond y tu hwnt i hynny, oherwydd nid wyf yn credu y byddai'n waith craffu da ar ein rhan mewn sefyllfa lle rydym yn ceisio tynnu'r wybodaeth hon o gyllidebau blynyddol y Senedd, pan fydd llawer o'r gwariant hwn yn dod o lywodraeth leol mewn gwirionedd?
Felly, diolch am eich datganiad heddiw. Edrychaf ymlaen at waith craffu pellach ar y pwerau y mae'r Bil yn eu cynnwys, lle ieithoedd tramor modern a sgiliau achub bywyd ac—nid wyf eisiau i hyn gael ei anwybyddu—y gwaith cyfochrog y bydd angen i'r Llywodraeth ei ddatblygu gyda gwasanaethau datblygu ysgolion, Estyn a Cymwysterau Cymru, ar y safonau, yr atebolrwydd a'r arholiadau sy'n cyd-fynd â'r cwricwlwm hwn. Mae'n rhaid iddynt fynd law yn llaw i ennyn hyder ac yn wir i sicrhau cefnogaeth y Ceidwadwyr Cymreig i'r Bil maes o law. Ond am nawr, rwy'n dymuno'n dda i chi yn eich amcanion ar gyfer y ddeddfwriaeth hon.
A gaf fi ddiolch i Suzy Davies am y cwestiynau hynny? Fel y bydd wedi nodi, y bwriad yw y bydd y cwricwlwm yn dod yn statudol ym mhob lleoliad cynradd, ynghyd â blwyddyn 7 mewn lleoliadau uwchradd, ar gyfer dechrau blwyddyn academaidd 2022. Felly, yn ddi-os, mae COVID wedi cael effaith ar gynllunio—a hynny heb rithyn o amheuaeth—ond mae gennym gyfnod sylweddol o amser o hyd i ysgolion baratoi.
Mae'n dyfynnu'r niferoedd sydd wedi ymateb i arolwg a gynhaliwyd ganddi, ac nid wyf yn amau hynny. Rwyf innau hefyd yn cael sgyrsiau ag addysgwyr proffesiynol sydd eisiau cyflymu'r broses o gyflwyno'r cwricwlwm. Ac oherwydd y cyfnod sylweddol o darfu sydd wedi bod, lle bu'n rhaid i ni atal y cwricwlwm cenedlaethol dros dro, maent yn meddwl tybed pam y byddem yn dychwelyd at yr hen ffordd o wneud pethau pan fo'r ffordd newydd hon yma—mae'r wawr newydd bron ar ein gwarthaf. Felly, rwy'n gwybod bod llawer o ysgolion eisoes yn cynllunio'u cwricwlwm, er nad yw'n ofynnol iddynt wneud hynny ar hyn o bryd, er mwyn nodi'r cyfeiriad rydym yn teithio iddo. Ond wrth gwrs, yn sicr, rydym wedi cyrraedd y pwynt hwn heddiw mewn ysbryd o gydadeiladu—cydadeiladu gyda'n haddysgwyr proffesiynol, a fydd yn gyfrifol am ddod â hyn yn fyw i ddysgwyr yng Nghymru. Byddwn yn parhau i gael y trafodaethau hynny wrth symud ymlaen.
Byddwn yn darparu diweddariadau rheolaidd ynghylch cyllid, a hoffwn sicrhau'r Aelod, drwy gydol y broses hon, i'r pwynt rydym wedi'i gyrraedd heddiw—wrth gwrs, yr hyn rydym yn edrych arno heddiw yw'r sail ddeddfwriaethol. Cafodd y cnawd ei gyhoeddi fisoedd lawer yn ôl wrth gwrs, o ran y datganiadau ar 'yr hyn sy'n bwysig', y camau cynnydd a'r cysyniadau dysgu. Felly, mae ysgolion wedi cael cyfle eisoes, wrth gwrs, i gymryd rhan yn hyn.
Ond mae Estyn, Cymwysterau Cymru a'n gwasanaethau gwella ysgolion wedi bod yn rhan annatod o'r gwaith datblygu hyd yma; maent wedi bod yn rhan o'r broses honno o gydadeiladu. Wrth gwrs, bydd gan Estyn rôl hollbwysig yn gwirio parodrwydd lleoliadau i gyflwyno'r cwricwlwm. Bydd gan ein gwasanaethau gwella ysgolion rôl hollbwysig yn darparu'r dysgu proffesiynol a'r cymorth y bydd ei angen ar ysgolion. Mae'r Aelod yn ymwybodol iawn, oherwydd gwn ei bod yn cadw mewn cysylltiad agos â Cymwysterau Cymru, eu bod hwy eu hunain yn gwneud gwaith ochr yn ochr â'r cwricwlwm newydd ar yr effaith a gaiff y cwricwlwm newydd ar ein system gymwysterau. Felly, wrth gwrs, bydd y gwaith hwnnw'n parhau.
Mae Suzy yn llygad ei lle: cyfrifoldeb a dyletswydd gyfreithiol pennaeth yr ysgol unigol yw llunio cwricwlwm. Dyletswydd y pennaeth a'r corff llywodraethu yw gweithredu'r cwricwlwm hwnnw yn y lleoliad penodol hwnnw. Mae'r canllawiau ar y cwricwlwm a gyhoeddais ym mis Ionawr yn pwysleisio'n gadarn iawn y dylai cyd-destun yr ysgol a'r cymunedau y mae'n eu gwasanaethu fod ar flaen y meddwl wrth ddylunio, datblygu a gweithredu'r cwricwlwm. Cynsail y cwricwlwm cyfan yw ei fod yno i wasanaethu anghenion ei gymuned leol drwy ddarparu cwricwlwm sy'n briodol i'w ddysgwyr.
Nawr, mae unrhyw un ohonoch sydd wedi treulio unrhyw amser yn yr ysgol yn gwybod bod athrawon, weithiau, yn mynegi eu rhwystredigaeth pan fydd gofyn iddynt gyflwyno gwers am fod rhywun ym 1988 wedi penderfynu ei bod yn ddyletswydd arnynt i wneud hynny i ddosbarth o blant nad oes ganddynt unrhyw ddiddordeb nac unrhyw ddealltwriaeth o'r rheswm pam fod angen iddynt wneud hynny. Nid yw hynny'n dod â dysgu'n fyw—mae'n tynnu pawb i lawr. Nawr, cawn gyfle i ryddhau proffesiynoldeb creadigol ein gweithlu addysgu i allu cynllunio cwricwlwm sydd o ddifrif yn diwallu anghenion y plant o'u blaenau.
Ddirprwy Lywydd, gadewch i mi roi enghraifft i chi. Yn ysgol fy merch, Ysgol Calon Cymru, sy'n gwasanaethu cymunedau Llandrindod, Llanfair-ym-Muallt a phob man arall rhyngddynt, maent eisoes yn dechrau meddwl am y ffordd y byddant yn cyflawni eu cwricwlwm newydd. Mae'r cysyniad o glirio Mynydd Epynt, milltiroedd bwyd a chynaliadwyedd y Gymru wledig yn ganolog i'r cwricwlwm hwnnw. Felly, ar gyfer blwyddyn 9, mae pob un o'u pynciau wedi eu hadeiladu o amgylch y cysyniadau hynny.
Yn ystod y cyfnod hwn, tra bônt wedi bod adref o'r ysgol, ac yn y gwaith sydd wedi dod adref, unwaith eto, maent wedi ymwneud â'r cwricwlwm newydd. Y thema yw deallusrwydd artiffisial, ac mae hwnnw wedi cynnwys gwyddoniaeth, mathemateg, Frankenstein—pan gefais amser i wneud unrhyw ddysgu gartref, rydym wedi bod yn astudio Frankenstein, Frankenstein Shelley—y gallu hwnnw i ddod â disgyblaethau unigol at ei gilydd i wneud y cysylltiadau hynny. Felly, mae ysgolion eisoes yn gwneud y gwaith hwn, ond mae'n bwysig fod rhieni a chymunedau'n cael cyfle i fwydo i mewn i hynny. Bydd yn rhaid cyhoeddi'r cwricwlwm, ond yn sicr gallwn gael sgyrsiau yn ystod hynt y Bil ynglŷn â sut y gallwn sicrhau, mewn canllawiau, fod barn rhieni a phobl ifanc eu hunain yn cael ei hystyried wrth gynllunio'r cwricwlwm. Ac os byddwch yn ymweld â'n hysgolion yn awr, fe fyddwch yn gwybod nad yw dysgu sy'n canolbwyntio ar y disgybl, lle mae disgyblion yn dewis ac yn llywio'r pynciau, yn gysyniad dieithr i'n hathrawon; mae'n gysyniad y maent yn ei ddeall ac yn ei groesawu.
Yn sicr, mae cyhoeddi'r Bil drafft yn garreg filltir bwysig ac, fel dywedodd y comisiynydd plant yr wythnos yma, mae'n rhaid inni edrych ar y cwricwlwm newydd fel addewid i bob plentyn yng Nghymru, ac, wrth greu'r addewid yma, mae yna ddyletswydd ar bob un ohonom ni yn y Senedd yma i graffu ar y ddeddfwriaeth newydd yn ofalus iawn er mwyn osgoi canlyniadau anfwriadol ac er mwyn gwneud yn siŵr bod y nod sydd yn cael ei grisialu yn y cwricwlwm yn mynd i gael ei gyrraedd.
O ran gweithredu ac amserlen gweithredu’r cwricwlwm, dwi'n gallu gweld eich dadl chi fod yna rai elfennau o'r cwricwlwm, rhai elfennau sydd yn barod yn dechrau gwreiddio yn ein hysgolion ni, sy'n berthnasol iawn yn sgil yr argyfwng COVID.
Dwi yn falch o weld lle blaenllaw i iechyd a llesiant fel maes dysgu a phrofiad, ond dydy o ddim yn mynd i fod yn elfen fandadol na gofynnol o'r ddeddfwriaeth. Mae'r comisiynydd plant yn dadlau yr wythnos yma fod angen i'r Bil hwn fynd ymhellach nag y mae o i ddiogelu llesiant plant drwy sicrhau bod y ddeddfwriaeth yn gwneud agwedd ysgol gyfan ar lesiant ac iechyd meddwl yn ofynnol drwy'r ddeddf.
Rydych chi eisoes wedi cyhoeddi datganiad arall heddiw ynglŷn â'r ymgynghoriad ynglŷn â fframwaith o ganllawiau ar wreiddio'r dull ysgol gyfan ar iechyd meddwl a llesiant emosiynol, ac rydych chi'n dweud yn y datganiad hwnnw mai pwrpas y fframwaith ydy hyrwyddo cysondeb a chydraddoldeb. Felly, pam na wnewch chi ddim mynd y cam ymhellach yma rŵan y mae'r comisiynydd plant, er enghraifft, ac eraill, yn galw amdano fo, sef gwneud iechyd meddwl a llesiant yn ofyniad yn y ddeddf, yn ofynnol yn y ddeddf?
Ac mae'r elfen yma ynglŷn â gwneud rhai materion yn fandadol, ac eraill, sydd hefyd yn haeddu'r un lefel o ofyniad deddfwriaethol, yn cael eu neilltuo o'r ddeddfwriaeth. Rydym ni wedi cychwyn y drafodaeth yma yr wythnos diwethaf yn ystod dadl Plaid Cymru, a dwi'n meddwl bydd hon yn rhywbeth byddwn ni'n dod yn ôl ati hi yn ystod taith y Bil drwy'r Senedd yma dros yr wythnosau nesaf yma.
Mae rhai pynciau yn fandadol, ac mae yna rai materion croes-gwricwlaidd yn fandadol hefyd. Felly, hoffwn i ofyn: beth ydy'r meini prawf rydych chi wedi eu defnyddio cyn gwneud y penderfyniadau yma, cyn penderfynu? Pa feini prawf sydd tu ôl i'r penderfyniadau i gynnwys rhai pethau yn fandadol ac i beidio â chynnwys materion eraill?
Ac, yn olaf, dwi'n siŵr eich bod chi'n cytuno bod angen tystiolaethu'r angen am ddeddfwriaeth newydd cyn ei chyflwyno. Mae hon yn thema drwy'n gwaith ni yma yn y Senedd o ran cyflwyno unrhyw fath o ddeddfwriaeth newydd: mae angen dangos pam fod ei angen hi. Dwi'n cyd-fynd efo chi: mae angen deddfwriaeth er mwyn gwreiddio cwricwlwm newydd yn ein hysgolion ni. Ond, i jest droi at un agwedd, pa dystiolaeth addysgol sydd gennych chi bod angen gwneud y Saesneg yn elfen orfodol o'r cwricwlwm—pa dystiolaeth—ac oes yna unrhyw gorff neu arbenigwr addysgol neu fel arall wedi argymell i chi gynnwys hyn ar wyneb y Bil?
A gaf fi ddiolch i Siân Gwenllian? Ac a gaf fi ddweud fy mod yn croesawu'n fawr y broses sydd gennym yn awr o ran craffu? Bûm yn y Siambr hon yn ddigon hir, ar yr ochr acw i'r tŷ ac ar yr ochr hon i'r tŷ, i wybod proses mor werthfawr yw proses graffu'r Senedd hon a sut, yn aml, y mae deddfwriaeth yn gryfach ac yn well o ganlyniad i hynny. Dyna'r holl bwynt pam y mae llawer ohonom wedi neilltuo degawdau sylweddol o'n bywydau fel oedolion yn ymgyrchu dros Senedd. Ac felly, mae'r broses graffu honno yn un y dylai Gweinidogion ei chroesawu; nid yw bob amser yn gyfforddus, ond yn sicr mae'n rhan bwysig o'n democratiaeth, onid yw? Ac rwy'n siŵr y ceir cyfleoedd gwerthfawr iawn drwy gydol taith y Bil i brofi ac i herio a lle bo angen, i wella. Nid wyf yn credu bod yna Fil erioed wedi mynd drwy'r Senedd nad yw wedi bod yn well o ganlyniad i'r broses honno, y broses seneddol.
O ran iechyd a lles, wel, dyma un o'r datblygiadau cyffrous o fewn y cwricwlwm, fod iechyd a lles yn un o'r meysydd dysgu a phrofiad y byddwn yn deddfu ar eu cyfer yn y Bil. Ac mae hynny'n cwmpasu amrywiaeth eang o bynciau, iechyd corfforol ac iechyd meddwl a lles fel ei gilydd. A darperir yn dda ar gyfer pwysigrwydd iechyd meddwl o fewn y datganiadau 'yr hyn sy'n bwysig' sy'n sail i'r meysydd dysgu a phrofiad unigol. Felly, credaf ein bod wedi rhoi arwydd clir iawn o'r hyn rydym yn ei ddisgwyl o ran cyflawni maes dysgu a phrofiad iechyd a lles—ac mae gennych ddyletswydd i'w gyflawni—y bydd iechyd meddwl a llesiant, yn rhan bwysig o hynny.
A gaf fi ddiolch i Siân am dynnu sylw pawb at y datganiad ysgrifenedig arall sydd wedi mynd allan heddiw ar ddechrau ein hymgynghoriad ar ein dull ysgol gyfan a'r fframwaith i gefnogi ysgolion? Mae hynny'n ganlyniad uniongyrchol, unwaith eto, i graffu gan y Senedd hon a gwaith y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar iechyd meddwl a llesiant plant. Oherwydd, er y byddwn yn cytuno â hi fod lle i hynny fel pwnc o fewn y cwricwlwm, yr hyn y mae adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn sôn llawer amdano yw nad yw ein plant yn gallu cael iechyd meddwl a lles drwy ddysgu gwers amdano; mae'n rhaid inni greu'r amodau yn yr ysgol ei hun iddi allu bod yn amgylchedd iach. Felly, dylai pawb yn yr ysgol, amgylchedd yr ysgol, pawb sy'n gweithio yn yr ysgol honno, yr holl ethos sy'n sail i'r ysgol honno, fod yno i gefnogi iechyd meddwl a lles plant. Ac nid rhywbeth 'braf i'w gael' neu rywbeth ychydig yn anarferol yw hynny, oherwydd fe wyddom, heb iechyd meddwl da a lles, nad yw plant yn gallu dysgu; yn syml iawn, ni fyddant yn dysgu. Mae'n rhaid inni fynd i'r afael ag iechyd meddwl a lles plant a chreu amgylchedd lle maent yn hapus ac yn ddiogel ac yn teimlo'n ddiogel, neu fel arall ni fydd y dysgu mor llwyddiannus ag y byddem yn dymuno iddo fod.
Felly, rwy'n gobeithio y bydd pobl yn ymateb i'r ymgynghoriad ac rwy'n gobeithio bod y fframwaith yn gwneud cyfiawnder â gwaith y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl'. Mae digon o gyfle i'r cwricwlwm gefnogi iechyd meddwl a lles plant, ond mae'n rhaid iddo fod yn ein hysgolion fel rhywbeth sy'n fwy na dim ond elfen o'r cwricwlwm.
Nawr, wrth gwrs, rwy'n deall—mawredd, nid wyf yn credu bod diwrnod wedi mynd heibio ers i mi gael y swydd hon pan nad wyf wedi cael e-bost gan rywun sy'n frwdfrydig iawn, yn angerddol iawn, ynglŷn â pham y mae angen i'w pwnc fod ar wyneb y Bil. Ac nid wyf yn amau na all y bobl hynny i gyd wneud achos dilys iawn, ond pe baem yn gwneud hynny, byddem yn cyrraedd y fan lle rydym yn awr, Ddirprwy Lywydd, gyda chwricwlwm gorlawn, sy'n amhosibl ei reoli ac sydd wedi amddifadu'r proffesiwn o'i greadigrwydd, am ei fod wedi crebachu addysgu i fod yn ymarfer ticio blychau o bopeth y mae rhywun dros y blynyddoedd wedi penderfynu bod yn rhaid ei addysgu. A phob wythnos, bron, mae gennym stori sy'n dweud, 'Mae angen i hyn fod yn rhan o'r cwricwlwm', ac mae hynny wedi digwydd dros flynyddoedd lawer. Mae Gweinidogion sydd â bwriadau da, ac a oedd yn dymuno gwneud y peth iawn ac wedi cael eu cymell gan fwriadau clodwiw, wedi'i ychwanegu at y cwricwlwm—maent wedi'i ychwanegu at y cwricwlwm. Ac rydym wedi rhoi rhywbeth sy'n gwbl amhosibl ei reoli i ni ein hunain. Ac yn syml, drwy ei restru, nid yw hynny ynddo'i hun yn golygu y bydd honno'n wers o ansawdd a gyflwynir yn dda yn y maes penodol hwnnw.
Felly, yn gwbl briodol, yr her yw pam ein bod wedi canolbwyntio ar y pynciau sydd gennym ar wyneb y Bil. Wel, gobeithio na all neb yma anghytuno na ellir cwestiynu'r angen i sicrhau ein bod yn mynd i'r afael â llythrennedd a rhifedd ein plant. Dyma'r sgiliau sylfaenol y bydd eu hangen ar blant unigol pan fyddant yn gadael yr ysgol. Ac yn gynyddol—a mawredd, onid yw pob un ohonom wedi gorfod dysgu'n sydyn dros yr wythnosau diwethaf—cymhwysedd digidol yw'r drydedd elfen, ochr yn ochr â llythrennedd a rhifedd. Ac efallai—. Rwy'n gobeithio na fydd byth yn digwydd, y bydd yn rhaid i'n plant reoli eu ffordd drwy bandemig, ond efallai y byddant yn ymdopi ychydig yn well nag y gwnaeth rhai ohonom, ac ni fydd galwadau 'Mae eich meic ar gau' neu 'Caewch eich meic' byth yn cael eu clywed eto os byddwn yn y sefyllfa honno eto. Felly, llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol—dyma'r pethau craidd sydd eu hangen ar ein plant pan fyddant yn gadael yr ysgol.
O ran yr hyn a elwid yn addysg grefyddol yn 'Dyfodol Llwyddiannus', yn y cwricwlwm newydd, mae'r enw'n newid i grefydd, gwerthoedd a moeseg i adlewyrchu ymrwymiad ac argymhelliad Graham Donaldson yn y ddogfen 'Dyfodol Llwyddiannus' wreiddiol, fel y mae Cymraeg, yr ychwanegiad—. Mae dau ychwanegiad uwchlaw a thu hwnt i hynny, sef yn gyntaf, addysg cydberthynas a rhywioldeb. A Siân, yn gwbl briodol, rydych chi wedi sôn am iechyd meddwl a lles plant. Mae ein cydberthynas ag eraill yn hanfodol i'n hiechyd a'n lles fel bodau dynol, onid yw? Mae'n gwbl sylfaenol, ac mae sicrhau bod ein plant yn gallu dysgu am hawliau, cyfrifoldebau, parch, amrywiaeth, diogelwch, fel y dywedais, cyfrifoldeb personol, i gael perthynas ddiogel ac iach ag eraill yn sylfaenol yn fy marn i. Ac roedd yn argymhelliad clir gan y grŵp arbenigol, dan gadeiryddiaeth Emma Reynolds, yr Athro Emma Reynolds, a sefydlais pan ddechreuais yn fy swydd.
Ac o ran y Saesneg, yn gyntaf oll, mae Saesneg ynddo'i hun yn bwnc pwysig iawn, a dyna'r hyn rydym yn sôn amdano, pwnc. Rwy'n meddwl weithiau—yn ddealladwy, nid wyf yn beirniadu—fod yna gamddealltwriaeth rhwng iaith yr addysg a chyfrwng yr addysgu yn hytrach na'r pwnc. Ac mae hyn yn adlewyrchu fy nghred ein bod am greu dinasyddion dwyieithog o'n holl ddinasyddion. Ond fel y dywedais, rwy'n cydnabod bod yna ddadl gref a bod yna ofn canlyniadau anfwriadol o ganlyniad i hynny, ac rwyf wedi ymrwymo wrth agor heddiw y byddwn yn cael trafodaethau parhaus.
Diolch yn fawr iawn am eich datganiad, Weinidog. Rwy'n credu bod rhywfaint o amheuaeth ynglŷn â'r cwricwlwm newydd yn fy ngrŵp, ond rwy'n credu bod angerdd y Gweinidog wrth siarad—rydym am barhau i fod yn rhan o'r ddadl ac nid ydym, ar y cam hwn, wedi penderfynu ei wrthwynebu. Hoffem weld y Bil mewn mwy o fanylder a chael mwy o fudd o drafodaethau gyda'r Gweinidog.
Mae hi'n dweud ei bod eisiau system sy'n destun balchder ac sy'n mwynhau hyder y cyhoedd, ac rwy'n siŵr y byddem i gyd yn cytuno â hynny. Rwyf hefyd yn meddwl nad yw'r syniad y gellid ei adolygu neu ei ailystyried 30 mlynedd ar ôl cwricwlwm 1988 yn y DU yn un y dylid ei ddiystyru mewn egwyddor. Mae hi'n cyfeirio at gwricwlwm sy'n ddi-os wedi'i wneud yng Nghymru. Yn y cyd-destun hwnnw, a gaf fi ofyn ychydig am rôl yr Athro Donaldson, ac yn arbennig y newidiadau sydd wedi digwydd yng nghwricwlwm yr Alban nad ydynt wedi cael canmoliaeth unfryd, a beth oedd ei rôl gyda hynny a sut y mae'n wahanol, beth y bu'n ei wneud gyda chi, dros Gymru?
Rydych yn cyfeirio at bob ysgol yn cael cyfle i gynllunio a gweithredu eu cwricwlwm eu hunain. A gaf fi eglurhad: a yw hynny'n ofyniad ar gyfer pob ysgol yn ogystal â chyfle, neu a oes cwricwlwm cenedlaethol y gall yr ysgol ei gymryd a'i ddefnyddio, a bod gan athrawon fwy o ddisgresiwn wedyn ynglŷn â'r hyn y maent yn ei wneud o'i fewn? Neu a oes raid i bob ysgol ddilyn y broses hon, proses sylweddol iawn o bosibl, o ddatblygu eu cwricwlwm eu hunain?
Rwy'n meddwl hefyd am y cydbwysedd rhwng y disgyblaethau traddodiadol a'r cysylltiadau rydych chi'n ceisio eu meithrin ar draws y meysydd dysgu a phrofiad—er enghraifft, iechyd a lles. Rwy'n sicr yn adnabod rhai rhieni ac yn sicr mae gan rai o fy ngrŵp bryderon ynghylch yr hyn a allai ddigwydd i drylwyredd addysgu'r disgyblaethau traddodiadol hynny o fewn y dull newydd. A allai roi rhyw sicrwydd ar hynny?
A gaf fi eglurhad hefyd: a yw hi'n dweud ei bod yn agored, o bosibl, i welliant yn ystod taith y Bil mewn perthynas ag a ddylai'r Saesneg fod yn elfen gwricwlaidd orfodol? Efallai fy mod wedi camddeall hyn, ond a yw Plaid Cymru yn dadlau o'u dadl flaenorol y dylai Cymraeg barhau'n ofyniad gorfodol ond y dylid dileu Saesneg oddi ar wyneb y Bil fel gofyniad gorfodol? Ai dyna yw'r cynnig mewn gwirionedd, ac os felly, a yw hynny'n rhywbeth y byddai'n ei ystyried o ddifrif?
Ac mae hi'n cyfeirio at blant yn gwybod eu hanes, eu democratiaeth a'u hamgylchedd eu hunain, ac rwy'n credu y gallwn i gyd gytuno â hynny fel ymadrodd, ond mae'n gadael yn agored i ba raddau y mae'r hanes hwnnw, a democratiaeth yn arbennig, yn benodol Gymreig ac i ba raddau y mae'n brofiad Prydeinig cyffredin.
Mae'n cyfeirio at fwy o bobl yn astudio TGAU gwyddoniaeth, sy'n wych. Beth am ieithoedd tramor modern? A all y cwricwlwm newydd hwn fynd i'r afael â'r dirywiad yn y rhain?
Ac yn olaf, mae hi'n cyfeirio at gyhoeddi cod cynnydd gydag elfennau gorfodol. A allem ystyried tasgau asesu safonol wedi'u gosod yn annibynnol yn 11 oed yn rhan o hynny?
Wel, Ddirprwy Lywydd, rwy'n credu bod yr Aelod wedi gosod her i mi, un rwy'n fwy na pharod i'w hwynebu, er mwyn ei argyhoeddi pam y mae angen iddo gefnogi'r newid yn ein cwricwlwm.
Bydd dyletswydd ar bob ysgol unigol, pob pennaeth unigol i gynllunio cwricwlwm, ac yna cyfrifoldeb cyfreithiol y pennaeth a'r corff llywodraethu yw rhoi'r cwricwlwm hwnnw ar waith. Mae angen iddynt wneud hynny yng nghyswllt y pedwar diben a'r meysydd dysgu a phrofiad unigol fel yr amlinellir yn y Bil, ac yna gan gyfeirio at 'yr hyn sy'n bwysig'. Wrth gwrs, cyhoeddwyd y rhain oll yn gynharach eleni. Felly, ceir sgaffaldwaith o gwmpas ein disgwyliadau o'r meysydd bras y byddem yn disgwyl iddynt gael eu cynnwys. Felly, i ateb Siân Gwenllian, gwersi a fyddai'n canolbwyntio ar helpu i ddatblygu iechyd meddwl a lles plant, ond bydd y pynciau, er enghraifft, y byddech chi'n dewis gwneud hynny drwyddynt yn amrywio o ysgol i ysgol gan adlewyrchu'r plant o'ch blaen.
Nawr, rydym yn cydnabod, oherwydd bod y cwricwlwm hwn yn gwricwlwm ar gyfer rhai rhwng tair ac 16 oed, fod rhai o'n lleoliadau meithrin yn lleoliadau nas cynhelir—. Felly, fel rhan o'n cyfnod sylfaen, mae Llywodraeth Cymru yn ariannu'r lleoliad hwnnw i ddarparu addysg blynyddoedd cynnar. Cydnabyddwn fod rhai o'r rheini'n cael eu rhedeg gan elusennau, rhai ohonynt yn cael eu rhedeg gan grwpiau bach, ac felly, byddai'n dasg arbennig o feichus i'r rhan honno o'r sector gynllunio cwricwlwm ar eu cyfer. Felly, bydd gan Lywodraeth Cymru gwricwlwm penodol ar gyfer y grŵp oedran hwnnw, fel y gall y meithrinfeydd cyfnod sylfaen hynny, fel y dywedais, ei ddefnyddio oddi ar y silff, oherwydd byddai honno'n dasg feichus iawn i'r rhan benodol honno o'r sector. Ond fel arall, lle'r penaethiaid unigol, gan ddefnyddio'r sgaffaldwaith cenedlaethol, fydd llunio cwricwlwm sy'n diwallu anghenion eu plant.
Gofynnodd yr Aelod am rolau a chyfrifoldebau Graham Donaldson, ac unrhyw gysylltiadau a gorgyffwrdd rhwng ein cwricwlwm newydd a'r Cwricwlwm ar gyfer Rhagoriaeth yn yr Alban. Wel, weithiau mae pobl yn cymharu, ac yn sicr ceir rhai agweddau athronyddol bras ynglŷn â datganoli'r cwricwlwm i lawr i ysgolion, y symud oddi wrth ddisgyblaethau cul iawn a dull mwy trawsgwricwlaidd y mae'r ddau gwricwlwm yn eu rhannu. Rwy'n credu ein bod wedi manteisio ar y cyfle i ddeall lle mae gweithredu wedi bod yn anodd yn yr Alban. Felly, nid wyf yn meddwl mai cysyniad y cwricwlwm ydyw, ac rwy'n meddwl os edrychwch chi ar y feirniadaeth o'r hyn sydd wedi digwydd yn yr Alban, nid y cwricwlwm ei hun, ond yn hytrach y broses weithredu sydd wedi bod yn fwyaf heriol i bobl. Oherwydd rydym wedi gallu dysgu o hynny, mewn gwirionedd, rydym wedi mynd allan o'n ffordd i geisio deall beth oedd yr anawsterau yn yr Alban. Roedd rhywfaint o hynny'n ymwneud ar y cychwyn cyntaf â'r ffaith nad oedd digon o arweiniad, wedyn dechreuodd pobl fynd i banig am nad oedd digon o sgaffaldwaith ar gyfer ysgolion, felly roedd diwydiant cyfan yn darparu cyngor ac arweiniad i ysgolion, a olygai fod athrawon wedi cael eu llethu'n llwyr gan hynny. Felly, rydym wedi gallu dysgu o rai o heriau gweithredu. Rwy'n credu bod gwahaniaeth i'w wneud rhwng y cwricwlwm ei hun a'r broses weithredu sy'n cynorthwyo ysgolion wrth iddynt symud ymlaen.
Byddwn hefyd yn rhoi mwy o gyfarwyddyd o ran cynnwys y cwricwlwm addysg cydberthynas a rhywioldeb sy'n seiliedig ar egwyddorion y Cenhedloedd Unedig. Felly, byddwn yn rhoi mwy o gyfarwyddyd yn hynny o beth.
Gall Siân Gwenllian siarad drosti ei hun, ond rwy'n meddwl, os caf—rwyf mewn peryg o roi geiriau yng ngheg Siân. Nid y ffaith bod Saesneg ar wyneb y Bil yw'r broblem, ond canlyniad anfwriadol cael Saesneg ar wyneb y Bil ar egwyddorion addysg drochi. Felly, nid am gael gwared ar yr iaith Saesneg y maent; nid dyna sydd yma. Mae hyn yn ymwneud â pha un a fyddai canlyniad anfwriadol i gynnwys Saesneg ar wyneb y Bil mewn perthynas ag addysg drochi, fel y dywedais. Nawr, mae'r Bil yn caniatáu ar gyfer y gofyniad statudol i'r Saesneg gael ei gohirio er mwyn caniatáu ar gyfer addysg drochi Gymraeg, ac mae hynny'n bwysig oherwydd rydym yn gwybod, o ran caffael iaith yn llwyddiannus, fod trochi'n ffordd bwysig eithriadol a phrofedig o sicrhau bod plant yn gallu caffael sgiliau yn y Gymraeg. A dywedaf hynny fel rhywun y mae eu plant wedi bod yn y system honno. Heb allu fy mhlant i gael addysg feithrin, ac i fynd i ysgol gynradd Gymraeg lle nad oeddent yn gwneud unrhyw Saesneg, unrhyw Saesneg ffurfiol, tan eu bod yn saith oed, ni fyddai fy mhlant yn siaradwyr Cymraeg a Saesneg dwyieithog. Y broses honno yw'r un y gwyddom sy'n gwneud y gwahaniaeth. Mae pryder y gallai'r ffordd y caiff y Bil ei ddrafftio ar hyn o bryd danseilio hynny. Nawr, fel y dywedais, nid wyf yn credu hynny, ac rwy'n meddwl bod rhywfaint o ddryswch ynglŷn ag iaith dysgu a chyfrwng y dysgu yn yr ysgol yn hytrach na'r cwricwlwm. Ond nid wyf eisiau tanseilio egwyddor trochi mewn unrhyw ffordd neu sicrhau na all trochi ddigwydd. Mae'r Bil yn caniatáu i drochi ddigwydd ac i'r Saesneg gael ei gohirio, ond mae pryder nad oes digon o ddiogelwch o hyd i gefnogi trochi, ac rwy'n agored i gael sgwrs ynglŷn â beth arall y gallwn ei wneud, nid i fychanu'r iaith Saesneg, ond i sicrhau a diogelu trochi yn y Gymraeg, oherwydd gwyddom fod hynny'n bwysig iawn a gwyddom ei fod yn gweithio Felly, rwy'n gobeithio nad wyf wedi rhoi geiriau yn eich ceg, ond rwy'n credu mai dyna yw safbwynt rhai pobl o leiaf yn y ddadl hon.
O ran hanes a democratiaeth a'r amgylchedd, daw hyn â ni'n ôl at egwyddor cynefin o fewn y cwricwlwm newydd, a'r modd y mae plant yn dysgu am weddill y byd yn gyntaf drwy ddysgu am eu hardal eu hunain. Drwy ymwneud â'ch ardal eich hun a'ch hanes eich hun y gallwch ddechrau ehangu eich meddwl i'r byd ehangach. Felly, roedd Siân yn y ddadl yr wythnos diwethaf yn sôn am ei hanes lleol a'i gysylltiad â theulu a oedd yn masnachu mewn caethweision, ac nad oedd hi'n gwybod am hynny. Gallwch ddysgu am hynny yn eich ysgol gynradd a gallwch ddeall hynny ac rydych yn ei wybod oherwydd eich bod yn gallu ei weld, ond o hynny wedyn gallwch symud ymlaen i gael sgwrs am hanes Prydain, hanes y byd ac egwyddor caethwasiaeth. Felly, mae'n ymwneud â chymryd y cysylltiadau yn eich ardal ar gyfer ein plant ieuengaf a dysgu allan wedyn am y byd o'r egwyddor honno.
Mae'n ddrwg gennyf. Rwyf wedi aros pedair blynedd ac ychydig bach mwy am hyn.
Mae gennym bedwar siaradwr arall ac ychydig iawn o amser sydd gennym, ond o leiaf cawn weld i ble'r awn ni. Nawr fod hynny allan o'ch system, rwy'n siŵr y gallwn symud ymlaen at atebion byrrach. [Chwerthin.]
O'r gorau. Dyna fi wedi ei chael hi. Ac rwy'n falch o fod yn ôl hefyd. Rwyf wedi gweld colli pawb. [Chwerthin.]
Fe gewch faddeuant. Lynne Neagle. Na, ni allwn glywed. Mae'n ddrwg gennyf, Lynne, ni allwn eich clywed.
A allwch chi fy nghlywed i nawr?
Dyna welliant, gallwn. Iawn, diolch.
Diolch, a diolch i chi am eich datganiad, Weinidog. Fel y gwyddoch, mae'r pwyllgor wedi gwneud llawer o waith yn y Senedd hon yn craffu ar hynt y gwaith o ddatblygu'r cwricwlwm hyd yma, ac rwy'n sicr yn edrych ymlaen at weld y pwyllgor yn craffu ar y Bil hwn yng Nghyfnod 1.
Rwyf am roi croeso cynnes iawn i'r canllawiau ar ddull ysgol gyfan o ymdrin ag iechyd meddwl a gyhoeddwyd heddiw. Fel y gŵyr y Gweinidog, rwyf wedi bod yn ymwneud yn helaeth â'r gwaith o ddatblygu'r canllawiau hynny drwy'r grŵp gorchwyl a gorffen gweinidogol a'r grŵp rhanddeiliaid, a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi bod yn rhan ohono ac annog pob Aelod i'w ddarllen. Rwyf wedi darllen llawer o ddogfennau Llywodraeth Cymru dros y blynyddoedd, ond nid wyf erioed wedi darllen un sydd wedi fy llenwi â'r fath obaith ar y mater hwn. Hoffwn ddiolch hefyd i'r Gweinidog am wrando ar sylwadau gennyf fi a sefydliadau'r trydydd sector fel Samariaid Cymru a Mind, a gosod hyn ar sail statudol, gan fod iechyd meddwl ein plant yn rhy werthfawr i'w adael i ffawd.
Felly, gyda hynny mewn golwg, rwy'n siŵr fod y Gweinidog yn fy adnabod yn ddigon da erbyn hyn i wybod y byddaf yn dal i fod eisiau craffu'n ofalus iawn ar y trefniadau yn y Bil i gyflawni'r agweddau iechyd meddwl ym maes dysgu a phrofiad iechyd a lles, a hoffwn ofyn i'r Gweinidog ddweud ychydig mwy ynglŷn â'r ffordd y mae'n credu y bydd y canllawiau ar ddull ysgol gyfan yn cyd-fynd â'r ymdrechion yn y cwricwlwm i ddarparu'r maes pwysig hwnnw ar gyfer iechyd meddwl ein plant a'n pobl ifanc.
Ddirprwy Lywydd, a gaf fi ddiolch i Lynne Neagle am ei chyfraniad y prynhawn yma a diolch iddi am y gefnogaeth i'r ymgynghoriad sydd wedi mynd allan heddiw? Mae pawb yn y Siambr hon yn gwybod pa mor angerddol y mae Lynne yn teimlo am y pwnc penodol hwn. Bydd pawb yma hefyd yn gwybod ei bod hi'n dasgfeistres galed, ac os yw hi'n hapus â'r ddogfen, rhaid bod hynny’n golygu ei bod yn un dda. Felly rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu cyflawni’r hyn roedd disgwyl i ni ei wneud, ac mae’r diolch am hynny, fel y dywedoch chi, i waith caled llawer iawn o bobl nad ydynt wedi gadael i'r Llywodraeth symud modfedd oddi wrth yr egwyddorion a nodwyd yn 'Cadernid Meddwl'.
Fel y dywedais wrth Siân Gwenllian, nid wyf yn credu y gallwn adael i iechyd meddwl a lles fod yn ddim ond pwnc o fewn y cwricwlwm. Mae dull ysgol gyfan yn fwy na'r cwricwlwm yn unig, mae'n ymwneud â'r amgylchedd cyfan hwnnw. Yn amlwg, mae hyn yn cymysgu gyda'i gilydd, wrth lunio—. Os ydym am gael dull ysgol gyfan a’n bod yn rhoi'r arweiniad hwnnw ar sylfaen statudol, wrth lunio cwricwlwm bydd yn rhaid i'r pennaeth a'r corff llywodraethu fod yn ymwybodol o'r dull ysgol gyfan hwnnw a bydd yn rhaid iddynt feddwl am iechyd meddwl a lles plant wrth lunio'r cwricwlwm hwnnw, nid yn unig fel pwnc, ond y dull cyffredinol o sut y caiff y cwricwlwm ei lunio ac yn allweddol, sut y caiff y cwricwlwm hwnnw ei weithredu mewn ysgol. Felly dyna sut y mae'r ddau yn cysylltu â'i gilydd.
Fel y dywedais wrth Siân Gwenllian, mae'n amlwg iawn yn y datganiadau ar ‘yr hyn sy'n bwysig'; mae'r pwyslais ar iechyd meddwl a lles yn rhan o'r maes dysgu a phrofiad iechyd a lles ac mewn gwirionedd, gallai iechyd meddwl fod yn un o'r pynciau y gellir siarad amdanynt nid yn unig ym maes iechyd a lles, ond gellir siarad amdano mewn iaith, gellir ei addysgu mewn gwyddoniaeth, gellir ei addysgu yn y dyniaethau. Felly dyna sut rwy'n rhagweld y bydd y cwricwlwm yn cael ei ddatblygu. Ond rwy'n ddiolchgar iawn am ymroddiad Lynne i'r agenda hon, ac fel y dywedais, os yw hi'n hapus, rwyf innau’n hapus.
Mae'n gywir dweud nad yw'r cwricwlwm cyfredol a ddyfeisiwyd ym 1988 gan Lywodraeth yn San Steffan yn addas, fel y dywedwyd, i’r Gymru gyfoes ac mae'r angen addysgol, fel y cytunwyd yn gydsyniol ar draws y Siambr hon, i barhau i ddatblygu safonau uwch mewn llythrennedd, rhifedd a meddwl digidol allweddol, ac i'n myfyrwyr ddod yn ddinasyddion hyderus, galluog a thosturiol yng Nghymru yn rhedeg trwy'r cwricwlwm newydd i gyd. A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y mae'r cod cynnydd arfaethedig newydd yn ceisio sicrhau bod safonau'n parhau i godi a sut y bydd symud i'r chwe maes dysgu a phrofiad ehangach yn paratoi disgyblion Cymru’n well i ddod yn ddinasyddion rhyngwladol yn y byd?
Diolch yn fawr iawn, Rhianon. Bydd yn rhaid i Weinidogion Cymru gynhyrchu cod cynnydd o ganlyniad i hyn. Mae ein camau cynnydd eisoes allan yn y parth cyhoeddus, a hynny er mwyn rhoi sicrwydd o ddull cenedlaethol ar gyfer lle byddem yn disgwyl i blant fod, oherwydd er ein bod ni wrth gwrs eisiau parchu sefydliadau unigol wrth ddylunio eu cwricwlwm, mae'n rhaid i ni gael sicrwydd y bydd plant yn symud ymlaen a bod disgwyliadau ynglŷn â’r hyn y gall plant ei wneud yr un peth ar sail genedlaethol.
Mewn perthynas â dinasyddiaeth fyd-eang, unwaith eto, dyma un o'r pedwar diben a nodir yn y Bil. Maddeuwch i mi, ni wneuthum ateb cwestiwn Mr Reckless am ieithoedd tramor modern. Wrth ateb Siân Gwenllian—. Wrth agor y datganiad heddiw, dywedais fy mod yn gobeithio y bydd plant yn dod yn ddinasyddion dwyieithog fan lleiaf. Mae'r cwricwlwm mewn gwirionedd yn glir iawn ynghylch ein disgwyliadau o ran dod ag ieithoedd tramor i mewn i ysgolion cynradd ar sail gyson. Mae rhai o'n hysgolion cynradd eisoes yn gwneud hynny, ac maent yn ei wneud yn dda iawn, ond mewn gwirionedd mae hyn yn ceisio mynd i'r afael â rhai o'r heriau sydd gennym yn ddi-os o ran y nifer sy’n astudio ieithoedd tramor modern—ac nid oes unrhyw bwynt i mi esgus nad oes her yn ein hwynebu o ran y nifer sy’n astudio ieithoedd tramor modern, yn sicr yn 14, 16 a 18 oed. Mae'r gallu i gyflwyno'r dysgu hwnnw yn gynharach ym mywyd plentyn yn un ffordd y gobeithiwn fynd i'r afael â'r diffyg. Dysgu iaith dramor yw un o'r ffyrdd y gallwn ddatblygu ein dealltwriaeth o'r byd o'n cwmpas a dod yn ddinasyddion byd-eang o'r fath.
Diolch, Weinidog. Roeddwn yn arbennig o falch o'ch clywed yn dweud y bydd llawer mwy o gyfarwyddyd ar gyfer addysg cydberthynas a rhywioldeb na rhannau eraill o'r cwricwlwm. Felly, ni wnaf ofyn i chi ynglŷn â hynny. Roeddwn eisiau archwilio rhai o gymhlethdodau eich uchelgais, ac rwy'n ei gefnogi'n llwyr, i sicrhau ei bod yn ddyletswydd ar y pennaeth i lunio'r cwricwlwm sy'n addas i'r ysgol honno, a'r corff llywodraethu i'w weithredu. Rwyf am gysylltu hyn â gofynion y Cwricwlwm Du, sy'n sefydliad gwirfoddol a sefydlwyd ar ddechrau 2019, gyda’r awydd, yn amlwg, i sicrhau bod holl ysgolion y DU yn ymgorffori hanesion du yn y cwricwlwm fel bod gan ddisgyblion fersiwn lawn a chywir o hanes Prydain, sydd yn fy marn i yn ddyhead cwbl ganmoladwy ac yn un y mae'n rhaid inni ei gael os ydym am gael cymdeithas gydgysylltiedig.
Felly, Ysgol Gynradd Mount Stuart, rwy'n gwbl hyderus fod ganddynt gynnig amlddiwylliannol bywiog iawn i'w disgyblion. O dan arweinyddiaeth Betty Campbell, roedd eisoes yn dempled ar gyfer hynny. Yn yr un modd, mewn llawer o'r ysgolion yn fy etholaeth, a fydd ag ystod hyfryd o fynychwyr amlddiwylliannol, bydd y syniad hwn o bobl yn dod o wahanol rannau o'r byd sydd â gwahanol ddiwylliannau eisoes yn rhan ganolog o'u meddylfryd. Ond tybed sut y credwch y gallwn sicrhau y bydd pob ysgol nad yw eu mynychwyr yn dod o gefndir mor amrywiol yn cael eu galluogi i fynd i'r afael â rhai o'r agweddau mwy anghyfforddus ar ein diwylliant ac a dweud y gwir, agweddau hiliol ar ein diwylliant yr un mor effeithiol â'r ysgolion sydd â'r amlddiwylliannaeth honno eisoes wedi'i hymgorffori ynddynt. Oherwydd yn amlwg mae angen i ni sicrhau bod ein holl ddisgyblion yn ddinasyddion goleuedig yn foesegol.
Diolch am hynny. I gadarnhau i Jenny fod y Bil yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi cod sy'n nodi'r dysgu craidd sydd i'w wneud yn y cwricwlwm addysg cydberthynas a rhywioldeb, ac sy'n dod o dan benawdau hawliau a thegwch, cydberthynas, rhyw, rhywedd a rhywioldeb, cyrff a delwedd corff, iechyd a lles rhywiol, trais, diogelwch a chymorth. Dyna egwyddorion y Cenhedloedd Unedig sy'n ffurfio'r hyn y maent yn ei ystyried yn addysg cydberthynas a rhywioldeb ddigonol.
O ran hanes, neu fel yr hoffwn ei alw, 'hanesion' Cymru—ac rwyf wedi mynd i drwbl am ddweud hynny—ond mae hynny ond yn dweud wrthych fod yn rhaid i ni gael dull lluosogaethol o ddysgu ein hanes, onid oes? A’r wythnos diwethaf, buom yn siarad am hanes menywod, hanes pobl dduon, hanes y dosbarth gweithiol. Mae Cymru'n cynnwys llu o straeon, ac mae'n rhaid inni ddechrau hynny o'r cychwyn cyntaf o fewn ein cynefin. Ond rydych chi'n iawn—mae'n rhaid inni archwilio hynny, ac nid yn ein cymunedau mwyaf amrywiol yn unig. Felly, yn sicr, mae'n rhaid inni siarad am y terfysgoedd hil yma yng Nghaerdydd; mae'n rhaid inni siarad am rai o’r agweddau annymunol a welsom yn rhai o'n dinasoedd eraill, a phrofiad byw pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig a ddaeth i gyfrannu at fywyd Cymru. Mae angen inni siarad am y profiad Gwyddelig ym Merthyr Tudful a'r cyfraniad a wnaeth y gymuned Wyddelig i'n cymunedau yn y Cymoedd, cyfraniad ein cymuned Asiaidd i'n GIG a'n gallu i ddarparu GIG.
Mae rhywfaint o hynny'n anghyfforddus—i wehyddion canolbarth Cymru, gwehyddion canolbarth Cymru a wnaeth eu harian ar sail gwehyddu brethyn a oedd yn dilladu'r caethweision ar y llongau caethweision. Nid yw'n rhywbeth cyffyrddus i siarad amdano. Y rheswm pam y mae gan gynifer o Americanwyr du gyfenwau Cymraeg—. Ar hyn o bryd rwy'n darllen cofiant Frederick Douglass, ac roedd ei berchnogion cyntaf—y teulu a'i cadwodd mewn caethiwed o’r eiliad y’i ganed—yn hanu o dras Gymreig; Lloyds oeddent. Dyna Hugh Lloyd—roeddent yn Gymry, ac mae'n rhaid inni wynebu hynny, er ei fod yn gwneud i ni deimlo’n anghyfforddus. Ac mae darpariaeth yma i ddweud mai ein disgwyliad yn 'yr hyn sy'n bwysig' yw ein bod yn disgwyl i'n hanesion gael eu dysgu mewn ffordd lluosogaethol sy'n herio cyfraniadau anhygoel Cymry yn ein gwlad ac ar draws y byd, a phethau a ddylai wneud inni deimlo ychydig yn anghyfforddus weithiau.
Fel arfer, dwi'n siarad yn Saesneg achos dwi'n fwy hyderus yn Saesneg, achos pan o'n i yn yr ysgol, do'n i ddim yn gallu dysgu Cymraeg—dim gair, dim gair o Gymraeg, tan wnes i gwrs Wlpan. Roedd y cwrs drwy drochi yr iaith. Wedyn, yr wythnos diwethaf, ro'n i'n poeni'n fawr pan oedd y Blaid Lafur yma, a'r Gweinidog hefyd dwi'n meddwl, a Phlaid Cymru, wedi pleidleisio yn erbyn cyrsiau trochi.
Felly rwy'n edrych am sicrwydd, a dweud y gwir, ac mae'n fater o gydraddoldeb—ac rwy'n dweud hyn fel Cymro sy’n siarad Saesneg fel iaith gyntaf, am nad oeddwn yn deall gair o Gymraeg hyd nes fy mod yn 32, ac rwy'n cofio rhywun o Ddenmarc yn siarad â mi yn Sbaen yn Gymraeg, ac roeddwn i'n meddwl ei fod yn siarad â mi mewn Daneg. Dyna pa mor gywilyddus oedd fy addysg. Felly, credaf yn angerddol y dylai dosbarthiadau trochi fod ar gael yn rhydd i athrawon ac i ddisgyblion. Felly fy nghwestiwn mewn gwirionedd yw: pam y pleidleisiwyd yn erbyn hynny yr wythnos diwethaf?
Gan iddo godi, rwyf am gyffwrdd â'r hyn rwy'n ei glywed yn y Siambr am y gymuned ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. Rwy'n ei ystyried yn eithaf sarhaus, a dweud y gwir. Mae gennym bobl o lawer o gymunedau yng Nghymru—mae llawer ohonom heb fod yn wyn, mae llawer ohonom yn dod o bob rhan o'r blaned hon, ac rydym yn creu cenedl hyfryd o'r enw Cymru. Ac rwy'n cofio Betty Campbell, y pennaeth du cyntaf yng Nghymru, pan gafodd ei labelu fel rhywun o’r gymuned ‘ddu a lleiafrifoedd ethnig'; rydym yn dweud ‘du ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig’ y dyddiau hyn—ac fe ddywedodd, 'Nid person o gymuned ddu neu leiafrif ethnig ydw i . Cymraes ydw i'. A hoffwn adleisio cefnogaeth yno i'r Gweinidog, mewn gwirionedd, pan ddywedodd fod gennym lawer o hanesion yma yng Nghymru. Ac rwyf am gefnu ar y rhaniadau hyn, lle mae gennym gymuned ddu ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig fel y'i gelwir. Mae yna lawer ohonom nad ydym yn wyn—nifer ohonom—ac nid un gymuned yn unig ydym ni. Nid ydym byth yn dweud y 'gymuned wen', ac mae'n rhaid inni atal yr iaith ymrannol hon, ac mae angen inni werthfawrogi'r hyn sydd gennym yng Nghymru, a dylem siarad am yr hyn sy'n ein huno ni a'n holl hanesion. Diolch.
Heddiw, yn fy natganiad agoriadol ac wrth ymateb i gwestiynau gan Siân Gwenllian a Mark Reckless, rwy’n meddwl fy mod wedi ceisio ailadrodd fy nghefnogaeth lwyr i addysg drochi yn y Gymraeg a phwysigrwydd hynny yma yng Nghymru fel ffordd brofedig o sicrhau bod plant yn caffael iaith. Ac mewn gwirionedd, mae Llywodraeth Cymru yn ceisio cefnogi addysg Gymraeg ac mae ganddi dargedau uchelgeisiol ar ei chyfer. Mewn cwestiynau yn gynharach, buom yn siarad am y £1.68 miliwn rydym yn ei wario ym Merthyr Tudful ar gynyddu argaeledd addysg drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'r heriau'n niferus o ran sicrhau bod angen i ansawdd ein haddysg Gymraeg yn ein lleoliadau cyfrwng Saesneg fod yn well na’r hyn ydyw. Oherwydd hyd yn oed gyda thargedau’r cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg, bydd llawer o blant yn parhau i fynd i ysgol Saesneg, lle mae'r Saesneg yn gyfrwng dysgu, ac rydym am i'r plant hynny wneud cynnydd yn y Gymraeg. Rwyf am i'n plant i gyd adael ein hysgolion yn gallu defnyddio'r ddwy iaith yn eu bywydau beunyddiol, p’un a aethant i ysgol Gymraeg, i ysgol ddwyieithog, neu i ysgol Saesneg. Dyna'r uchelgais y mae'r cwricwlwm hwn a'r camau cynnydd yn ei osod ger ein bron. Ac nid wyf yn credu bod unrhyw un yn y Siambr hon, mewn unrhyw blaid wleidyddol, yn anghytuno â hynny. Y cwestiwn yw: ai’r ffordd y mae’r ddeddfwriaeth wedi ei fframio ar hyn o bryd yw’r ffordd iawn i gyflawni hynny?
A gallaf ddweud, roeddwn yn ofalus iawn—rwy’n siarad yn fwriadol am hanesion Cymru oherwydd bod ein cenedl yn cynnwys cyfraniadau gan bobl o bob hil, sydd â stori unigryw i'w hadrodd am eu perthynas â Chymru, boed eu bod wedi dod yma, boed eu bod wedi’u geni yma. Ac mae angen deall hynny i gyd, ac ni ddylem fyth wneud y—. Nid wyf yn credu y dylem wahaniaethu rhwng 'Eich hanes chi, a'n hanes ni'. Mae llu o straeon i'w hadrodd am y genedl.
Diolch yn fawr iawn, Weinidog. Rwy'n falch eich bod chi'n falch o fod yn ôl. Er bod rhai atebion yn hir, fe wnawn faddau i chi; ni chewch faddeuant yr wythnos nesaf, os byddwch chi'n ymateb i unrhyw beth yr wythnos nesaf. [Chwerthin.]
Eitem 7 ar yr agenda yw datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ar ddyfodol y gefnogaeth i amaethyddiaeth, a galwaf ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Heddiw, rwyf am amlinellu'r camau nesaf y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddatblygu cynigion ar gyfer dyfodol y gefnogaeth i amaethyddiaeth yng Nghymru. Y llynedd, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru yr ymgynghoriad 'Ffermio Cynaliadwy a'n Tir'. Amlinellai gynigion ar gyfer system newydd o gymorth ariannol i ffermwyr, ac roedd hefyd yn argymell y dylid rheoli tir yn gynaliadwy fel y fframwaith polisi ar gyfer darparu'r gefnogaeth honno.
Cyflwynodd yr ymgynghoriad achos dros gyllid yn y dyfodol i gefnogi a gwobrwyo ffermwyr sy'n gweithredu systemau ffermio cynaliadwy mewn byd lle mae cytundebau masnach yn y dyfodol yn debygol o agor ein marchnadoedd i fwy o gystadleuaeth, gan ddangos cynaliadwyedd bwyd a gynhyrchir ar ffermydd Cymru, gyda safonau lles anifeiliaid ac amgylcheddol uchel yn debygol o fod yn gynyddol bwysig. Byddai'r fframwaith hefyd yn caniatáu inni gefnogi cynhyrchu bwyd yn gynaliadwy a chyflawni yn erbyn ein hymrwymiadau cyfiawnder amgylcheddol.
Cawsom dros 3,300 o ymatebion i'r ymgynghoriad. Hoffwn ddiolch eto i'r rhai a gymerodd amser i'w ddarllen, ei ystyried ac ymateb iddo. Ym mis Mai, cyhoeddais ddadansoddiad annibynnol o'r ymatebion, a heddiw, rwy'n cyhoeddi'r ymateb polisi i'r ymgynghoriad. Mae'r ystod o safbwyntiau a fynegwyd yn yr ymatebion yn adlewyrchu cwmpas eang y cynigion yn yr ymgynghoriad. Ar ôl ystyried y rhain yn ofalus a'r ystod o safbwyntiau a fynegwyd yn ystod y broses, rwy'n parhau i gynnig system o gefnogaeth i amaethyddiaeth yn y dyfodol wedi'i chynllunio o amgylch y fframwaith rheoli tir yn gynaliadwy.
Codwyd cystadleurwydd y sector ffermio yng Nghymru fel mater allweddol mewn llawer o ymatebion, gyda rhai’n dadlau y byddai canolbwyntio ar ganlyniadau amgylcheddol yn niweidio hyfywedd ariannol ffermio yng Nghymru. Byddai'r dull arfaethedig yn darparu llif incwm pwysig i ffermwyr, gan gydnabod y gwaith pwysig a wnânt yn cyflawni canlyniadau amgylcheddol a’u gwobrwyo amdanynt. Yn ogystal, rydym yn ceisio cryfhau cystadleurwydd hirdymor y sector trwy well cyngor a chefnogaeth i fusnesau. Bydd hyn yn helpu i gefnogi ffermwyr yn y realiti economaidd newydd yn dilyn ymadawiad y DU â'r UE. Mae cystadleurwydd ffermio, cynhyrchu bwyd a gwytnwch amgylcheddol gwell yn agendâu sy’n ategu ei gilydd ac mae ein cynigion yn glir yn hyn o beth. Bydd dull o reoli tir yn gynaliadwy yn caniatáu inni ymateb i'r argyfwng hinsawdd, yn helpu i wyrdroi dirywiad mewn bioamrywiaeth, yn sicrhau safonau uchel o ran iechyd a lles anifeiliaid ac yn amddiffyn ein hadnoddau naturiol. Bydd bwyd a gynhyrchir gan ddefnyddio'r dull hwn yn gynaliadwy, ac yn diogelu’r cyflenwad bwyd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Yng ngoleuni hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno i barhau i ddatblygu cynigion ar gyfer cynllun yn seiliedig ar y fframwaith rheoli tir yn gynaliadwy. Archwilir ystod o opsiynau, a bydd pob un ohonynt yn cael eu barnu o ran cost, budd a chydymffurfiaeth â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) (2015) a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) (2016). I gefnogi datblygiad ein cynigion, rydym yn cynnal amryw o ddadansoddiadau economaidd i ddeall effaith symud o gynllun cymorth incwm yn seiliedig ar hawliau i gynllun gwirfoddol sy'n gwobrwyo am gynhyrchu canlyniadau. Rydym yn disgwyl allbwn o'r dadansoddiad hwn yr haf nesaf a byddaf yn sicrhau bod hwn ar gael i'r cyhoedd.
Ni wneir unrhyw benderfyniad ar unrhyw gynllun yn y dyfodol cyn i mi ystyried canlyniadau'r dadansoddiad a’r holl ffactorau perthnasol eraill. Er mwyn galluogi ffermwyr i addasu eu model busnes presennol i ddarparu ar gyfer unrhyw newidiadau sy'n ofynnol o dan y cynllun arfaethedig, bydd yna gyfnod pontio. Cyn diwedd tymor y Senedd hon, byddaf yn cyhoeddi Papur Gwyn, a fydd yn paratoi'r ffordd ar gyfer cyflwyno Bil amaethyddiaeth (Cymru) yn ystod chweched tymor y Senedd. Rwy'n cynnig bod y Bil hwn yn strategol ei gwmpas, gan osod fframwaith o gefnogaeth a all ddarparu ar gyfer datblygu amaethyddiaeth a choedwigaeth yng Nghymru am y 15 i 20 mlynedd nesaf. Bydd y Bil yn galluogi ffermwyr i gael cymorth ariannol ac yn sicrhau y gellir cymhwyso system reoleiddio gydlynol a theg i'r sector amaethyddol. Dros y misoedd nesaf, byddwn yn parhau i ymgysylltu â rhanddeiliaid i alluogi datblygiad parhaus y cynigion hyn ar gyfer y Papur Gwyn.
Er mwyn sicrhau bod ffermwyr yn cael eu cefnogi wedi i'r DU adael yr UE, rwy'n bwriadu lansio ymgynghoriad yn ddiweddarach yn yr haf i ofyn am safbwyntiau ar gadw a symleiddio rheolau ynghylch cefnogaeth amaethyddol i ffermwyr a'r economi wledig. Byddai'r gefnogaeth hon yn pontio'r bwlch rhwng cyllid cyfredol yr UE ac unrhyw gynllun newydd yn seiliedig ar reoli tir yn gynaliadwy. Mae oedi parhaus Llywodraeth y DU cyn cadarnhau lefel y cyllid newydd yn rhwystredig ac yn peri oedi i’n gallu i flaengynllunio’n fanwl.
Yn fyd-eang, mae’r ychydig fisoedd diwethaf wedi bod yn hynod heriol ac nid yw ffermwyr Cymru, wrth gwrs, wedi gallu dianc rhag yr amgylchiadau diweddar. Rwy'n falch o'r gwytnwch y maent wedi'i ddangos wrth ymateb i'r anawsterau hynny. Mae ffermwyr, coedwigwyr a rheolwyr tir eraill yn chwarae rhan hanfodol yn lles economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol Cymru. Byddwn yn parhau i'w cynorthwyo i addasu i newidiadau economaidd a gwleidyddol, yn ogystal ag effaith newid yn yr hinsawdd.
Weinidog, diolch am eich datganiad. Heddiw, dechreuais fy niwrnod tua hanner awr wedi pedwar y bore yma, drwy lwytho ŵyn a mamogiaid i fynd i farchnad Rhaglan. A phan oeddwn yn darllen eich datganiad, rhaid i mi ddweud, pe bawn i'n siarad â ffermwyr ym marchnad Rhaglan heddiw nid wyf yn siŵr y byddwn yn teimlo rhithyn yn fwy o hyder yn yr hyn a allai fod yn dod i’n rhan i gymryd lle’r pecyn cymorth sydd ar gael i ffermwyr yma ar hyn o bryd yng Nghymru ar ôl ymgynghoriadau helaeth gan eich adran. Ac rwy'n derbyn bod amryw o leisiau'n dweud, 'Dylai fod saib oherwydd COVID' a gallwn ddeall hynny, oherwydd yn amlwg mae COVID wedi newid y dirwedd gyfan rydym yn gweithio ynddi ar hyn o bryd. Nid oes ond angen i chi fynd ar unrhyw wefan yn awr i weld bod £500 miliwn o arian ychwanegol yn dod i Lywodraeth Cymru oherwydd cyhoeddiadau gan y Canghellor heddiw. Mae'r rheini'n symiau digynsail o arian a fydd yn dod i goffrau Llywodraeth Cymru, a mater i'r Llywodraeth fydd penderfynu sut y bydd yn dyrannu'r arian hwnnw yn unol â hynny.
Ond rwy'n credu ei fod yn gwestiwn teg, o ystyried faint o egni y mae'r adran wedi'i losgi ar yr ymarfer penodol hwn, ac yn briodol felly, oherwydd mae’n agenda drawsnewid—beth yn union y gallwn ei weld wrth symud ymlaen a fydd yn rhoi hyder i ffermwyr y bydd y gefnogaeth yn dod drwodd i gynnal y cymunedau gwledig sy'n dibynnu ar yr arian hwn, gan fod Llywodraeth y DU wedi ymrwymo, yn oes y Senedd hon, i neilltuo'r arian hwnnw a'i drosglwyddo i Lywodraeth Cymru? Ac yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae'r Prif Weinidog presennol wedi nodi y bydd yr arian hwnnw'n cael ei drosglwyddo i ffermydd, os daw yn yr amlen wledig honno. Ac felly, byddwn yn ddiolchgar am yr ateb hwnnw gennych chi fel y gall pobl ddeall y daith rydych chi'n mynd arni yn yr adran yn awr.
Hoffwn ddeall hefyd faint yn fwy o bwyslais rydych chi'n ei roi ar elfen diogelwch y cyflenwad bwyd mewn unrhyw drafodaethau a dadleuon rydych chi'n eu cael yn fewnol, ar y sail ein bod wedi gweld yr hyn a ddigwyddodd yn gynnar yn yr argyfwng COVID. Mae defnyddwyr, ein pleidleiswyr, ein hetholwyr yn rhoi llawer iawn o bwysau ar gynnyrch lleol a deall o ble y daw'r cynnyrch hwnnw, a byddwn yn awgrymu bod cynhyrchu bwyd yn nwydd cyhoeddus. A ydych chi'n uniaethu â hynny, yn hytrach na'i adael i fympwy’r farchnad yn unig? Mae'n nwydd cyhoeddus sydd angen elfen o gefnogaeth gan y Llywodraeth, a gwn ei fod yn bwynt rydych chi a minnau wedi ei drafod ar ein traed yn y fan hon dros amser.
Hoffwn ddeall hefyd pa ddadansoddiad economaidd a gafwyd yn yr adran, yn enwedig gan y byddwch chi'n cyflwyno Papur Gwyn cyn i'r Cynulliad gael ei ddiddymu. Oherwydd, wrth gwrs, i'r gymysgedd hon mae'n rhaid inni gofio y cynhelir etholiad Cynulliad. Rwy'n siŵr y byddwch yn ymladd â phob gewin i gadw Llywodraeth Lafur yma yng Nghymru. Nid yw’n afresymol i mi ddweud y byddaf yn ymladd â phob gewin i wneud Paul Davies yn Brif Weinidog Cymru ar Lywodraeth Geidwadol. Ond rwy’n datgan yr hyn sy’n berffaith amlwg. Dim ond nodi’r hyn sy’n berffaith amlwg a wnaf, yn yr wyth i naw mis nesaf—[Torri ar draws.] O'r datganiad hwn, efallai y bydd gwaith paratoi gan y Llywodraeth benodol hon, ond bydd Llywodraeth newydd ar ôl mis Mai y flwyddyn nesaf, gan gymryd, yn amlwg, fod yr etholiadau'n mynd rhagddynt. Felly, mae'n bwysig deall pa ddadansoddiad economaidd a wneir gan yr adran ar unrhyw gynigion y mae'n eu cyflwyno. Ac a fyddwch chi'n sicrhau bod y dadansoddiad economaidd hwnnw ar gael, fel y gall pobl ddeall y meddylfryd sy’n sail i beth o'r gwaith sy'n digwydd?
Rydych yn cyffwrdd â chynllun gwirfoddol yn eich datganiad. Rwy'n credu mai'r ffordd rydych chi'n ei eirio yw cynllun yn seiliedig ar hawliau i gynllun gwirfoddol. Wel, mae'r cynllun cyfredol yn gynllun gwirfoddol, oherwydd nid oes raid i chi ymuno ag ef, nid oes raid i chi wneud hynny. Felly, mae'n ymddangos eich bod yn rhoi pwyslais mawr ar y geiriad hwn. Byddwn yn ddiolchgar pe gallech roi cnawd ar esgyrn eich syniadau ynglŷn â hyn—pam y credwch y bydd yn fwy o ymdrech wirfoddol i ffermwr/tirfeddiannwr yng Nghymru ymuno â'ch cynllun nag y byddai o dan y cynllun presennol efallai, o ystyried eich bod chi'n rhoi cymaint o bwyslais arno yn eich araith?
Rydych chi hefyd yn crybwyll cyfnod pontio o'r cynllun cyfredol i beth bynnag a ddaw yn ei le. Ac rwyf wedi cyffwrdd ar yr etholiad a fydd yn digwydd y flwyddyn nesaf. Nid oes gennym Fil amaethyddol yma yng Nghymru, er bod pwerau enfawr o fewn Bil amaethyddol y DU, ac yn amlwg fe wnaethoch chi, fel Gweinidog, a Llywodraeth Cymru, geisio diogelu’r cyfnod pontio hwnnw. Yn y Bil hwnnw, mae modd i'r cynlluniau cyfredol fod ar waith tan 2024. A ydych chi'n rhagweld cynllun pontio a fyddai'n cymryd cyhyd â hynny ac felly, y byddech yn gallu defnyddio'r model cymorth cyfredol hyd nes yr amser hwnnw? Neu a ydych chi'n edrych ar gyfnod pontio llawer byrrach?
Fy mhwynt olaf, gyda goddefgarwch y Dirprwy Lywydd, fel y cofiaf o'r wythnos diwethaf—[Chwerthin.]—pob lwc i chi gyda’r gwaith o symleiddio canllawiau a rheolau’r polisi amaethyddol cyffredin sy'n bodoli ar hyn o bryd. Rhaid i mi ddweud, fel Aelod ers tua 13 mlynedd, rwyf wedi sefyll yma lawer gwaith ac wedi clywed Gweinidogion o bob lliw a llun yn siarad am symleiddio rheolau a rheoliadau. Byddwn yn ddiolchgar iawn, a gallaf weld un o'ch rhagflaenwyr y tu ôl i chi yn y fan honno, a gallaf ei gofio’n sefyll yma droeon yn siarad am symleiddio—felly, hoffwn ddeall sut y credwch y gallwch wneud hyn, oherwydd bob lwc i chi gyda hynny, fel y dywedaf, rwy’n dymuno’n dda i chi ar hynny. Ond yn aml iawn, pan fydd Llywodraethau'n mynd ati i osod agenda symleiddio, mae'n arwain at lu o reoliadau a rheolau newydd sy'n cymhlethu'r darlun hyd yn oed yn fwy.
A fy mhwynt olaf, os caf, yw bod gan eich adran sawl adroddiad gan yr archwilydd cyffredinol ynghylch y cynllun datblygu gwledig. Mae'r cynllun datblygu gwledig yn gynllun Cymreig unigryw a ddyfeisiwyd yma yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru. Yn seiliedig ar yr adroddiadau hynny ac ymdrechion yr adran, nid yw'n rhoi hyder i mi wrth symud ymlaen fod yr adran mewn sefyllfa dda i ddyfeisio'r mesurau newydd hyn ar gyfer amaethyddiaeth yng Nghymru a chefn gwlad Cymru. Gobeithio yr ewch i'r afael â rhai o'r materion hynny yn eich ymateb byr i mi, i roi hyder i mi ac i eraill na ddylem gymryd fod popeth o’r cynllun datblygu gwledig yn trosglwyddo i’r mesurau newydd hyn rydych yn eu cyflwyno ar gyfer ffermio cynaliadwy.
Diolch i chi, Andrew R.T. Davies, am y rhestr hir honno o gwestiynau y ceisiaf eu hateb i gyd. Rwy'n credu eich bod chi'n iawn, rydym wedi cael dwy broses ymgynghori hir, ac rydym wedi gorfod oedi'r gwaith. Nid wyf mor bell ymlaen ag y byddwn wedi eisiau bod, ond fe fyddwch yn deall, gyda'r pandemig COVID-19—dyna oedd y ffocws, ac mae'n parhau i fod yn ffocws. Ond roeddwn yn meddwl ei bod hi'n bwysig i mi gyflwyno'r datganiad hwn i'r Senedd er mwyn rhoi gwybod i'r Aelodau ble rydym yn y broses. Roeddwn eisiau sicrhau pobl y byddaf yn cyflwyno Papur Gwyn cyn diwedd tymor y Senedd hon. Roeddwn wedi gobeithio y byddem wedi cael Bil amaethyddol drafft, ond o ystyried hyd cyfnod pontio’r UE, ac yn amlwg, gyda’r oedi a gawsom eleni, yn amlwg ni fydd hynny’n digwydd. Ond roeddwn i'n meddwl ei bod yn galonogol iawn gweld y lefel eang o gefnogaeth i'r fframwaith rheoli tir yn gynaliadwy. Felly, bydd dadansoddiad parhaus o hynny yn awr, gyda modelu ac yn y blaen dros yr ychydig fisoedd nesaf. Rwy'n ymwybodol iawn pan oeddwn yn dweud yn fy natganiad, 'Byddaf yn gwneud hyn, byddaf yn gwneud y peth arall', ond wrth gwrs, cynhelir etholiad fis Mai nesaf. Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig cynnal y momentwm hwnnw. Mae'n bwysig iawn i'r sector amaethyddol. Felly, o’r herwydd, roeddwn i eisiau rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau.
Ar y cyllid—fel rwy’n dweud, nid ydym wedi cael cadarnhad ynghylch lefel y cyllid, ond rydych yn iawn, mae'r Prif Weinidog wedi dweud y bydd cyllid yn cael ei neilltuo i amaethyddiaeth ar gyfer y cyfnod hwn.
Mae diogelwch y cyflenwad bwyd yn bwynt diddorol iawn, oherwydd rydych chi'n hollol iawn—rydych chi a minnau ac eraill wedi dadlau ynghylch nwyddau cyhoeddus, ac ynglŷn ag a yw bwyd yn nwydd cyhoeddus mewn gwirionedd, ond mae ganddo farchnad, felly ni all fod. Fodd bynnag, mae diogelwch y cyflenwad bwyd yn amlwg yn bwysig iawn. Ac fel y dywedwch, gwelsom y prynu mewn panig ar gychwyn y pandemig mewn ffordd y credem y gallai ddigwydd pe bai Brexit heb gytundeb yn digwydd. Ac yn amlwg, roedd pobl yn teimlo'n ofnus, rwy'n credu, na fyddai digon o fwyd. Ac rydych chi'n llygad eich lle, camodd ein ffermwyr i’r adwy, ynghyd â llawer o bobl yn y gadwyn cyflenwi bwyd, i wneud yn siŵr, fel gwlad, na fyddem yn mynd yn brin o fwyd, ac rydym yn ddiolchgar iawn iddynt am hynny.
Felly, rydym am barhau i ganolbwyntio ar y sector yn cynhyrchu bwyd cynaliadwy o ansawdd uchel sy'n diwallu anghenion defnyddwyr. Rydych chi'n iawn, cafwyd ymdrech wirioneddol, rwy'n credu, ar ran aelodau'r cyhoedd, i brynu bwyd a gynhyrchir yn lleol. Gwelsom gynnydd enfawr yn y defnydd o gigyddion lleol, ac rwyf wedi cael sgyrsiau diddorol iawn gyda'n cynhyrchwyr bwyd a diod yng Nghymru dros y tri neu bedwar mis diwethaf. Mae rhai ohonynt wedi bwrw iddi gyda gwerthiannau ar-lein, er enghraifft, ac roeddem yn gallu eu cefnogi mewn perthynas â phecynnu ac ati, ac rydym am gynnal yr ymddygiad hwnnw, y bydd pobl yn parhau i brynu'n lleol. Felly, er na all ffermydd yng Nghymru gynhyrchu mwy na rhan o'r deiet amrywiol sydd ei angen arnom i gynnal iechyd—ac mae masnach yn bwysig iawn—rwy'n credu ein bod eisiau gwneud popeth yn ein gallu i sicrhau bod diogelwch y cyflenwad bwyd yn cael ei alluogi trwy fod cynnyrch o Gymru’n cael ei gefnogi gan fwyd wedi'i fewnforio, ond mae'n rhaid i'r bwyd hwnnw hefyd gyrraedd y safonau a welwn yma yng Nghymru.
Rydych chi'n iawn am y Bil amaethyddol sy'n mynd trwy Lywodraeth y DU ar hyn o bryd, ac rydym yn disgwyl cael pwerau ganddo. Os ydym am dalu ein ffermwyr y flwyddyn nesaf, roedd hi’n bwysig iawn ein bod yn cymryd y pwerau hynny, a dyna pam y gwnaethom geisio gwneud hynny.
Fe sonioch chi am 2024, a chredaf, yn realistig, na fyddwn yn gallu pontio i gynllun newydd lawer cyn 2024, os cyn hynny o gwbl yn wir. Fe sonioch chi am hyder yn y cynllun newydd. Felly, sgyrsiau a gefais gyda llawer o ffermwyr—a chi hefyd mae’n debyg, ac yn sicr, roeddwn i'n siarad â Ffermwyr Dyfodol Cymru; cefais gyfarfod â hwy ychydig wythnosau yn ôl—nid ydynt yn credu bod cynllun y taliad sylfaenol wedi eu gwneud yn ddigon gwydn. Maent am gael y cynllun hwn oherwydd eu bod yn credu y bydd yn eu helpu i feithrin y gwytnwch hwnnw. Felly, rwy'n hyderus y bydd y canlyniadau rydym yn eu ceisio o fewn y cynllun hwn yn sicrhau bod gennym y sector amaethyddol gwydn hwnnw rydym ei eisiau.
O ran y symleiddio, rwy'n derbyn hynny'n llwyr. Nid ydym wedi gweithio ar fanylion hynny. Unwaith eto, dyna un peth sydd wedi cael ei ohirio dros yr ychydig fisoedd diwethaf, ond fel y dywedaf, byddwn yn lansio ymgynghoriad—mae'n dweud yn fy nodiadau, 'yn yr haf', ond yn amlwg, mae’n haf eisoes, felly nid wyf yn hollol siŵr. Ond yn sicr nid wyf mewn sefyllfa i allu gwneud hynny yn ystod yr haf gwleidyddol eto.
Fe sonioch chi am Taliadau Gwledig Cymru, ac rwy’n ddiolchgar i Archwilio Cymru am yr adroddiad hwnnw, ac yn amlwg bydd swyddogion yn ymateb iddo maes o law ac yn darparu tystiolaeth i’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, a dyna’r union le y dylid ei ystyried yn briodol. Fodd bynnag, rwyf am ddweud—a chredaf fod yr adroddiad yn gwneud hyn yn glir iawn—gwerth am arian yw'r broblem. Ni chafodd ei brofi’n iawn wrth arfarnu prosiectau, a gwn fod swyddogion wedi adolygu’r prosiectau dan sylw i sicrhau eu bod yn sicrhau gwerth am arian yn ymarferol a lle bo’n briodol yn rhoi camau ar waith i sicrhau ein bod yn cyflawni gwerth am arian, gan gynnwys aildendro rhai o’r prosiectau. Felly, roedd gwaith eisoes wedi'i wneud yn rhai o'r meysydd, felly mae gennyf hyder yn Taliadau Gwledig Cymru ac maent wedi gweithio'n galed iawn ar y broses hon a sicrhau bod y cynllun yn dod yn destun ymgynghoriad. Fel y dywedaf, nid ydym mor bell ymlaen ag y byddwn wedi dymuno bod, ond yn amlwg—. Rwy'n credu bod y cam nesaf yn fwy cyffrous yn ôl pob tebyg, ond rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn i ni oedi yn awr, ystyried yr ymatebion, ac rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau wedi darllen y ddogfen.
Diolch am eich datganiad y prynhawn yma, Weinidog. Fe ddechreuaf efallai trwy ofyn i chi egluro ychydig o anghysondebau y credaf fy mod yn sylwi arnynt yn eich datganiad ac yn y ddogfen ymateb polisi gysylltiedig a gyhoeddwyd gennych i fynd gyda'ch datganiad heddiw. Rydych chi'n dweud wrthym yn eich datganiad y byddwch yn cyflawni ystod o ddadansoddiadau economaidd i ddeall effaith symud o un system i'r llall—rydych chi eisoes wedi ymhelaethu ychydig ar hynny—a'ch bod yn disgwyl allbwn o'r dadansoddiad yr haf nesaf, ond yn yr anadl nesaf, rydych chi'n dweud cyn diwedd tymor y Senedd hon—felly, mae hynny ymhell cyn yr haf nesaf a chyn i'r dadansoddiad o’r effaith economaidd fod ar gael—byddwch yn cyhoeddi Papur Gwyn, gan baratoi'r ffordd ar gyfer cyflwyno Bil amaethyddiaeth (Cymru). Felly, mewn gwirionedd, onid yw hynny’n rhoi’r drol o flaen y ceffyl oherwydd eich bod yn cynnig deddfwriaeth cyn i chi wybod beth fydd yr effaith economaidd?
Ac yn nes ymlaen, dywedwch wrthym yn y datganiad fod oedi parhaus Llywodraeth y DU cyn cadarnhau lefel y cyllid newydd yn rhwystredig a bod blaengynllunio manwl wedi'i ohirio—ac ni allwn gytuno mwy—ond sut felly y gallwch wneud y dadansoddiad economaidd o effaith system gymorth newydd os nad ydych yn gwybod faint o arian sy'n dod i Gymru? Oherwydd os cawn £5 miliwn, bydd yn cael effaith benodol; os cawn £105 miliwn, bydd yn cael effaith economaidd wahanol iawn. Felly, mae'n awgrymu i mi eich bod yn gweithio'n ddall i ryw raddau yma a'r risg, wrth gwrs, yw eich bod yn ei gael yn ofnadwy o anghywir.
Hoffwn i chi ymhelaethu ymhellach ar yr ymgynghoriad y sonioch chi amdano a allai ddigwydd yr haf hwn, neu beidio—nid oeddech yn sicr pryd yn union y bydd yn digwydd—ynglŷn â chadw a symleiddio rheolau ynghylch cymorth amaethyddol i ffermwyr a'r economi wledig. Pa fath o reolau rydych chi'n edrych arnynt yma? Pa reolau yn benodol? Rhowch un enghraifft i ni oherwydd rwyf eisiau deall yn union beth rydych chi'n ceisio'i gyflawni a ble rydych chi'n targedu'r ymgynghoriad hwnnw.
Rydych yn dweud wrthym yn eich datganiad fod rhai yn dadlau y byddai'r ffocws ar ganlyniadau amgylcheddol yn niweidio hyfywedd ariannol ffermio yng Nghymru. Nid wyf yn cytuno y byddai'n niweidio hyfywedd economaidd ffermio yng Nghymru. Credaf, mewn gwirionedd, fod talu am nwyddau cyhoeddus yn cynnig cyfleoedd enfawr ac mae'n rhaid i ni adlewyrchu'r argyfwng hinsawdd ac ecolegol sy'n ein hwynebu o fewn polisi rheoli tir fel y gwnawn ar draws holl bolisïau'r Llywodraeth. Ond wrth gwrs, fy mhryder, fel y gwyddoch, yw eich bod yn fframio hon fel sefyllfa naill ai/neu. Rydych chi'n rhoi'r cynnig inni naill ai ein bod yn cael taliad am nwyddau cyhoeddus neu ein bod yn cadw taliad sylfaenol. Nawr, nid wyf yn cytuno ei bod hi’n sefyllfa naill ai/neu. Rwy'n credu bod cael gwared yn llwyr ar o leiaf un elfen o daliad uniongyrchol yn creu gormod o risg y byddwch yn colli'r ffermydd teuluol rydych chi'n dibynnu arnynt i gyflawni'r canlyniadau amgylcheddol rydym i gyd eisiau eu gweld. Ac wrth gwrs, bydd hynny'n gwaethygu’r anghydbwysedd pŵer sydd gennym yn y gadwyn gyflenwi bwyd gan adael ffermydd Cymru i raddau mwy ar fympwy marchnad gamweithredol sydd, wrth gwrs, yn cael ei rheoli i raddau helaeth gan nifer fach iawn o fanwerthwyr mawr iawn, a bydd hynny'n gwanhau mewn gwirionedd, nid yn cryfhau, gwytnwch y sector mewn sawl ffordd. Rydych chi'n dweud bod cynhyrchiant bwyd yn cael ei wobrwyo gan y farchnad—dyna oedd eich geiriau. Wel, os yw COVID-19 wedi dysgu unrhyw beth i ni, mae wedi tanlinellu unwaith ac am byth mewn gwirionedd nad yw'r farchnad bob amser yn gwobrwyo cynhyrchiant bwyd, ac yn aml iawn mae'r farchnad yn camfanteisio arno, a chamfanteisir ar gynhyrchiant bwyd er anfantais i'n ffermydd teuluol, ein heconomi wledig, a'n cymuned wledig ehangach. Felly, rwy’n ofni y bydd cael gwared ar unrhyw gymorth uniongyrchol yn gadael y ffermydd hynny hyd yn oed yn fwy agored a bydd Brexit, wrth gwrs, yn gwneud pethau hyd yn oed yn waeth. Felly dyna pam y byddai'n well gennyf fodel hybrid. Iawn, gadewch inni gynyddu’r cymorth i nwyddau cyhoeddus, ond gan gadw o leiaf elfen o gymorth uniongyrchol.
Nawr, yn olaf gennyf fi, rydych chi'n cyfeirio at y gwasanaeth cynghori ac rydych chi'n dweud eich bod yn mynd i gomisiynu asesiad annibynnol a gwrthrychol o effeithiolrwydd Cyswllt Ffermio—dywedwch wrthym yn eich dogfen ymateb polisi—i helpu i lunio cymorth cynghori yn y dyfodol, a chredaf mai dyna'r peth hollol iawn i'w wneud, ond wrth gwrs, i ddatblygu’r hyn a ddywedwyd yn gynharach am rai o'r materion a amlygwyd yn ddiweddar mewn perthynas â'r cynllun datblygu gwledig gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, y risg wrth gwrs wrth drosglwyddo dull y cynllun datblygu gwledig yn effeithiol i'r system newydd sy'n cael ei chynnig, rydych mewn perygl, wrth gwrs, o drosglwyddo rhywbeth lle nad ydym o bosibl wedi dysgu'r gwersi y mae angen inni eu dysgu o ran y ffordd y caiff ei gyflawni—. Wyddoch chi, yn sicr nid ydym wedi asesu effaith y cynllun datblygu gwledig yn ddigon effeithiol hyd yn hyn—y pethau gwerth am arian a'r materion ynghylch costeffeithiolrwydd a amlygwyd gan yr archwilydd cyffredinol, a gwn fod nifer o bobl yn galw am adolygiad annibynnol i'r cynllun datblygu gwledig. Felly, os ydych chi'n barod i gael asesiad annibynnol a gwrthrychol o rai elfennau, does bosibl na ddylech fod yn barod i gael y sylw ehangach hwnnw i'r sefyllfa cyn inni ei fewnblannu yng nghalon y system newydd rydym yn symud tuag ati.
Diolch am y cwestiynau hynny, Llyr. Mae'n ddrwg gennyf, ni atebais bwynt Andrew R.T. Davies ynghylch y dadansoddiad economaidd, ac rydym ar hyn o bryd yn caffael ymgynghorydd annibynnol i archwilio effaith y cynigion ar economi amaeth Cymru, ac yna—. Mae'n waith cymhleth a phan ddaw i law, os mai fi fydd yn ei gael, byddwn yn sicr yn gallu ei gyhoeddi, ond rwy'n credu y bydd yn cymryd ychydig o amser, oherwydd ei fod yn waith mor gymhleth.
Mae hefyd yn bwysig iawn archwilio effeithiau economaidd amcangyfrifedig y cynigion ar fusnesau fferm—rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn—yn ogystal ag ar draws y gwahanol sectorau fferm a'r gwahanol ranbarthau fferm yng Nghymru. A soniodd Llyr am ganlyniadau amgylcheddol gwahanol—wel, ni wnaethoch ddweud am wahanol ffermydd, roeddech chi'n siarad am y canlyniadau amgylcheddol, a'r hyn sy'n bwysig iawn, ac un o'r cwestiynau a ofynnwyd i mi’n gyson oedd, 'A fyddai unrhyw ffermydd na allai gynhyrchu unrhyw ganlyniadau amgylcheddol?', a chredaf mai'r ateb yw, 'Na, credwn fod pob fferm o bob math a phob maint gwahanol yn gallu cynhyrchu canlyniadau amgylcheddol ac maent yn gwneud hynny yn awr, ond heb gael eu gwobrwyo amdanynt.'
Felly, gobeithiwn y bydd pob fferm yn gallu denu taliad o dan y cynllun ffermio cynaliadwy arfaethedig a dyna pam ei bod hi'n bwysig iawn gwneud dadansoddiad economaidd, a modelu hefyd. Felly, bydd modelu pellach yn digwydd dros y misoedd nesaf. Rydych chi'n iawn am gyfnod pontio'r UE yn y dyfodol a gadael yr UE, oherwydd gwyddom y bydd gan gysylltiadau masnach yn y dyfodol botensial i effeithio ar lawer o feysydd amgylcheddol a materion gwledig, ac er nad ydym yn gwybod beth fydd lefel y cyllid, yr hyn a ddywedwyd wrthym yw na fyddem yn colli ceiniog, felly dyna'r sail rwy’n gweithio arni ac y mae swyddogion yn gweithio arni er mwyn cyflwyno'r cynllun hwn.
Rwy'n credu eich bod yn gwneud pwynt pwysig iawn am COVID-19, a'r pryder ynghylch camfanteisio ar rai o'n cynhyrchwyr fferm, a gwneuthum ymdrech fawr i gyfarfod â'r fforymau manwerthu yn rheolaidd—cyfarfûm â hwy eto y bore yma—i sicrhau nad oedd hynny'n digwydd. Clywsom am un neu ddau o ddigwyddiadau lle roedd archfarchnadoedd yn rhesymoli eu cynnyrch ar bris gostyngol, ond roedd yn bwysig iawn nad oeddent yn torri cynhyrchwyr Cymru allan, ac nid oeddem am i'r camfanteisio hwnnw ddigwydd. Mae cynhyrchu bwyd bob amser wedi bod yn bwysig iawn i mi, ac roedd bob amser yn rhan o'r ymgynghoriadau. Os edrychwch ar ymgynghoriad Llywodraeth y DU, nid wyf yn credu bod y gair 'bwyd' wedi ymddangos o gwbl. Fe wnaethom yn siŵr bob amser ei fod yn gweithio, ac rydym yn gwneud gwaith yn awr ar werthoedd brand cynaliadwy, ac rydym yn cysylltu hynny â'n cynhyrchiant bwyd a diogelwch ein cyflenwad bwyd. Crybwyllais yn fy ateb i Andrew adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, ond yn amlwg, mae'r risg honno y cyfeiriwch ati'n rhywbeth roeddwn yn pryderu yn ei gylch wrth gwrs, ac wrth i swyddogion ymateb i'r adroddiad hwnnw yn y pwyllgor archwilio, gallwn—. Ar ôl craffu ar yr adroddiad hwnnw yn y modd y dylid ei wneud, gallwn edrych arno. Ond rydym yn cael adolygiad parhaus o'r ffordd y caiff y cynllun datblygu gwledig ei gyflawni; os nodir problemau y gallwn fynd i'r afael â hwy, bydd angen inni wneud hynny, ond credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn gwneud pethau'n iawn cyn i unrhyw gynllun gael ei gyflwyno, oherwydd y peth olaf rwyf am ei wneud yw ei wneud yn fwy cymhleth neu'n anos.
Ond rwy'n mynd yn ôl at yr hyn a ddywedais wrth Andrew am gynllun y taliad sylfaenol a'r bobl a ddywedodd nad oedd yn darparu'r gwytnwch sydd ei angen, ac felly, er nad wyf am ruthro i bontio, nid wyf yn credu ei bod yn ddefnyddiol i beidio â chael y cynllun ar waith, ond yn realistig ni chredaf y bydd hynny'n digwydd cyn 2024. Ond rwyf eisiau gwneud yn siŵr fod pawb yn cael cyfle i gymryd rhan, fod pawb yn cael eu gwobrwyo am y nwyddau cyhoeddus y maent yn eu darparu—ansawdd yr aer, ansawdd y pridd, ansawdd y dŵr. Nid yw hynny'n digwydd yn awr.
Rwy'n croesawu'r cyfle i gyfrannu heddiw a chwifio'r faner dros ein sector amaethyddol. Rwy'n byw mewn cymuned ffermio, ac roeddwn i'n arfer gweithio ynddi fel gweithiwr fferm ar ffermydd cymysg a hefyd fel bugail. Tra bûm yn gweithio yn y gymuned hon, roedd yn rhaid i mi gydymffurfio â'r rheolau a'r rheoliadau a osodwyd arnom gan yr UE, megis torri cwotâu llaeth. Roedd gwylio fy ffermwyr yn gorfod cael gwared ar alwyni o laeth ddwywaith y dydd ar ôl godro am ei bod yn erbyn y rheolau hyd yn oed i'w roi i rywun am ddim, yn gwbl ddinistriol. Yna roedd gennych y cyfyngiadau trwm, y fiwrocratiaeth dorfol a'r taliadau i dirfeddianwyr mawr, cyfoethog am beidio â ffermio eu tir eu hunain—nid oedd hynny'n gwneud unrhyw synnwyr i mi. Gwyliais ffermydd bach yn methu a gwelais ddynion yn crio. Tyfodd fy Ewrosgeptigiaeth o weithio o fewn y fframwaith hwnnw.
Mae eich ymateb i'r amgylchiadau newydd a ddaeth yn sgil ein hymadawiad â'r UE yn ystyriol ac mae wedi cymryd cryn dipyn o amser ers yr ymgynghoriad cychwynnol. Nid beirniadaeth yw honno. Mae'n rhaid meddwl yn drwyadl am unrhyw newid ar y fath raddfa ac o'r natur hon, rhaid ei drafod a'i drafod eto gyda'r rhai a fydd yn gweithio o'i fewn, ac mae'n amlwg fod hynny'n wir yma. Rwy'n croesawu'r cynnig ar gyfer y Papur Gwyn yn nhymor nesaf y Senedd, a'r gwaith sy'n mynd rhagddo a fydd yn llywio'r cynnwys.
Bydd rhai yn y Siambr hon yn dathlu'r ffaith bod y DU ar hyn o bryd yn y broses o negodi masnach gyda gweddill y byd; bydd gan eraill amheuon am safonau a chystadleuaeth. Felly, rwy'n falch fod Ysgrifennydd masnach y DU, yr wythnos diwethaf, wedi cyhoeddi comisiwn masnach ac amaethyddiaeth i ddylanwadu ar safonau lles anifeiliaid a chystadleuaeth yn ein hymgais i gael masnach fyd-eang. Roedd NFU Cymru yn rhan o hyn, a bydd yn parhau i gymryd rhan, mae'n ymddangos. A gaf fi ofyn i chi beth yw eich barn am y comisiwn hwn, er ei bod yn ddyddiau cynnar, a pha drafodaethau a gafodd Liz Truss gyda chi cyn iddo gael ei gytuno? Ac a oes trafodaethau ar y cyd yn cael eu cynnal bellach rhwng holl Lywodraethau'r DU ar fframweithiau cyffredin, masnach a'r holl faterion cysylltiedig? Pa sicrwydd y gallwch ei roi i'r rheini yn y sector y bydd cymorth o ryw fath yn parhau i fod ar gael tra byddant yn pontio—er fy mod yn credu eich bod wedi ateb rhan o hynny—o un cynllun i'r llall?
Rwy'n gwerthfawrogi'n fawr y ffocws ar reoli tir yn gynaliadwy a nwydd cyhoeddus yn eich cynigion. Ymddengys fod hyn yn creu'r bont sydd ei hangen arnom rhwng y presennol a'r dyfodol, ac mae yn ysbryd Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. A ydych yn ffyddiog, fodd bynnag, fod digon o hyblygrwydd wedi'i gynnwys yn y cyfeiriad teithio i ddarparu lle i ffermwyr allu arloesi a gwneud penderfyniadau drostynt eu hunain? Gwn fod cynlluniau blaenorol a chyfredol wedi'u disgrifio gan y sector fel rhai rhy ragnodol, ac rwy'n gobeithio bod gwersi wedi'u dysgu yn y fan honno.
Yn olaf, hoffwn dalu teyrnged i bawb sy'n gweithio yn y byd amaeth. Fel gweithwyr allweddol, maent wedi cadw'r wlad wedi ei bwydo o dan amgylchiadau eithriadol o anodd. Mae llawer o ddefnyddwyr wedi gweld manteision cael pecynnau cig, ffrwythau a llysiau gan eu cyflenwyr lleol. Rwy'n tybio, ac yn gwir obeithio, y bydd yr arferion a'r gwasanaethau hyn yn aros pan ddaw'r cyfyngiadau symud i ben. Rwy'n dymuno'n dda i chi gyda'ch camau nesaf, ac rwy'n dymuno gweld y sector hwn yma yng Nghymru, gyda'i gynnyrch gwych, ei arloesedd a'i wasanaethau rhagorol, yn cael y dyfodol mwyaf disglair. Diolch.
Diolch yn fawr iawn i Mandy Jones am y sylwadau a'r cwestiynau hynny. Rwy'n cytuno'n llwyr—mae pawb yn y gadwyn cyflenwi bwyd wedi bod yn weithwyr allweddol wrth sicrhau nad ydym wedi mynd heb fwyd fel y dywedais yn gynharach.
Un o'r pethau a welsom ar ddechrau'r pandemig, yn anffodus, ar un achlysur, oedd llaeth yn cael ei arllwys ymaith, ac rwy'n cytuno'n llwyr â chi ynglŷn â pha mor dorcalonnus oedd hynny i'r ffermwyr, a dyna'r rheswm pam ein bod wedi cyflwyno cynllun y sector llaeth.
Er na fyddwch chi na minnau byth yn cytuno ar drefniadau pontio'r UE, un peth rwy'n cytuno yn ei gylch yw nad yw ffermwyr gweithredol wedi cael eu gwobrwyo'n ddigonol, a bydd y cynllun hwn yn gwobrwyo ffermwyr gweithredol. Roedd hynny'n bwysig iawn wrth inni gyflwyno'r cynllun: nad y tirfeddianwyr ond y ffermwyr, y bobl sy'n gwneud yr holl waith, fydd yn cael eu gwobrwyo. Rwyf hefyd wedi dweud ar hyd yr amser y byddwn wedi methu os cawn fwy o fiwrocratiaeth. Mae angen inni wneud yn siŵr fod pethau'n llawer symlach.
Yr ateb byr yw na chafodd Liz Truss sgyrsiau gyda mi cyn iddi gyhoeddi hynny, ond ni fyddwn yn disgwyl hynny. Ceisiasom ei chael hi i ddod i sawl un o'n cyfarfodydd pedairochrog yn Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig pan oedd hi yn y Trysorlys a methasom yn druenus, ar wahân i un alwad ffôn, felly nid yw hynny'n fy synnu. Fodd bynnag, byddaf yn cael sgyrsiau gyda George Eustice, yr Ysgrifennydd Gwladol dros DEFRA. Fel y gwyddoch, rydym yn cyfarfod yn rheolaidd—cawsom gyfarfod yr wythnos diwethaf—ac mae honno'n sgwrs a fydd yn mynd rhagddi wrth inni drafod fframweithiau hefyd.
Mae arnaf eisiau sicrhau pawb na fyddwn yn troi at y cynllun newydd heb gyfnod pontio sylweddol. Ni fyddwn yn trosglwyddo i'r cynllun hwnnw hyd nes y bydd popeth yn ei le. Fel y dywedais, credaf y byddai'n syndod mawr pe bai hynny'n digwydd cyn 2024.
Yn amlwg, cawsom ein harwain gan Ddeddf cenedlaethau'r dyfodol a Deddf yr amgylchedd, a byddant yn parhau i'n harwain. Rwy'n credu bod yna ddigon o hyblygrwydd. Rwyf am weld arloesedd yn ein sector amaethyddol—mae'n rhywbeth rydym wedi'i annog ac rwy'n credu bod sawl rhan o'r sector wedi deall hynny.
Rwy'n sylweddoli bod yn rhaid ei bod yn rhwystredig iawn peidio â gwybod faint o arian y mae Cymru yn mynd i'w gael o beth bynnag sy'n mynd i gymryd lle'r polisi amaethyddol cyffredin, ond rwy'n teimlo, p'un a yw'n mynd i fod yn £5 miliwn neu £105 biliwn neu filiwn, fod angen inni osod y paramedrau rydym yn mynd i weithredu o'u mewn. Rwy'n teimlo na chawn lais yn hyn, yn dibynnu ar beth fydd Llywodraeth y DU yn ei ddarparu—gyda'u Brexit heb gytundeb o bosibl, gyda'u cytundeb masnach gyda'r Unol Daleithiau a chlorineiddio ein rhaglen fwyd.
Felly, rwy'n teimlo ein bod mewn perygl o fethu gwneud dim heblaw derbyn yn oddefol beth bynnag y mae Llywodraeth y DU yn ei roi i ni, yn hytrach na phenderfynu'n weithredol beth sy'n bwysig yn ein tyb ni ynglŷn â'r ffordd rydym yn defnyddio ein tir a'r ffordd rydym yn gwobrwyo canlyniadau yn hytrach na dim ond hawl, yn syml oherwydd bod rhywun yn dirfeddiannwr. Felly, mae'n ymddangos i mi fod angen inni symud yn llawer cyflymach nag y nodwch yn eich datganiad. Mae'n fy ngofidio nad ydym hyd yn oed yn mynd i gael dadansoddiad o'r newid o gynllun yn seiliedig ar hawliau i gynllun gwirfoddol tan yr haf ar ôl etholiadau'r flwyddyn nesaf.
Fel y dywedwch, mae wedi bod yn gyfnod heriol iawn yn fyd-eang ond mae gennym gymaint o bethau sy'n digwydd o'n cwmpas, ac os na fyddwn yn penderfynu'n weithredol beth rydym am ei wneud, yn unol â Deddf yr amgylchedd a Deddf cenedlaethau'r dyfodol, fe gawn ein sgubo ymaith.
Felly, roeddwn am eich holi ynglŷn â dau ddatblygiad penodol sydd eisoes wedi digwydd yn ddiweddar. Un ohonynt yw—nid wyf yn gwybod a yw Andrew R.T. Davies a Llyr Gruffydd yn ymwybodol o hyn, ond mae'r DU wedi cyhoeddi canllawiau ar farchnata rhywogaethau o hadau amaethyddol a llysiau a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i ymgeiswyr sy'n dymuno ychwanegu unrhyw rywogaeth nad yw ar y rhestr yn barod i dalu £300 y rhywogaeth i gael lle ar y rhestr a ganiateir er mwyn eu gwerthu. Rhodd i Monsanto a McDonaldeiddio bwyd yw hyn, yn hytrach na bod y rhywogaethau mwyaf addas yn cael eu rhannu ar gyfer eu tyfu ym mhridd Cymru. Felly, byddwn yn awyddus i wybod a ydych wedi cael cyfle i ddadansoddi beth yn union fydd effaith hynny.
A'r ail bwynt yw bod Dr Tom Jefferson o Ganolfan Meddygaeth Seiliedig ar Dystiolaeth Prifysgol Rhydychen yn ystod yr ychydig ddyddiau diwethaf wedi nodi presenoldeb coronafeirws ledled y byd yn systemau carthffosiaeth Sbaen, yr Eidal a Brasil ymhell cyn yr achos yn Wuhan, a dywed i'r clefyd daro am iddo ganfod amodau ffafriol mewn amgylcheddau bwyd-ddwys fel ffatrïoedd bwyd a safleoedd pecynnu cig, ac rwy'n awgrymu y dylem ychwanegu ffermydd cywion ieir a moch dwys a mega-hufenfeydd at y rhain.
A wnewch chi ddod i ben, os gwelwch yn dda?
Felly, roeddwn yn meddwl tybed pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wneud o'r cysylltiad rhwng COVID a'i fagu mewn amgylcheddau bwyd dwys.
Iawn, diolch, Jenny Rathbone. Rydym yn mynd ar drywydd ein cynllun a'n polisi amaethyddol ein hunain. Rwyf bob amser wedi dweud y bydd yn cael ei deilwra ar gyfer Cymru ac rydym yn parhau i wneud hynny yng ngoleuni'r holl anawsterau rydych wedi'u hamlinellu.
Mewn perthynas â'r cyfeiriad at y £300 y rhywogaeth i ychwanegu gwerthwyr at y rhestr a ganiateir, mae'r ffi o £300 yn rhan o'r broses ymgeisio arferol ar gyfer rhestriadau yn y DU ac mae hynny'n sicrhau bod y costau a ysgwyddir wrth ddarparu'r gwasanaethau hyn yn cael eu hadennill yn llawn. A'r gost o gofrestru mathau treftadaeth neu rywogaethau a fwriadwyd ar gyfer garddwyr yn bennaf—rwy'n credu eu bod yn cael eu galw'n 'llysiau amatur'—mae honno'n is, ac mae oddeutu £100 am bob rhywogaeth yr ymgeisir amdani. Ond rydym yn parhau i weithio i gefnogi'r diwydiant, ac enghraifft o hyn yw'r broses symlach a lansiwyd gennym yn ddiweddar ar gyfer copïo rhywogaethau o blanhigion catalog cyffredin yr UE i restr genedlaethol y DU er mwyn sicrhau bod gennym farchnata parhaus a di-dor yn y DU ar ôl i gyfnod pontio'r UE ddod i ben.
O ran eich cwestiwn ynghylch Dr Tom Jefferson, sydd, fel y dywedwch, wedi nodi presenoldeb y feirws o amgylch y byd cyn yr achosion yn Wuhan, fe fyddwch yn ymwybodol o'r ddau achos a gawsom yng ngogledd Cymru a'r digwyddiad ym Merthyr Tudful, a hoffwn ddiolch i Iechyd Cyhoeddus Cymru, yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ac awdurdodau lleol am eu hymateb i'r achosion hyn. Bydd fy nghyd-Aelodau'n ymwybodol fod nifer o achosion wedi'u nodi o'r newydd ac mai nifer fach ohonynt a geir bellach, a hynny oherwydd bod gennym y system profi, olrhain a diogelu ar waith yn awr.
Rwyf am bwysleisio bod gan y diwydiant bwyd arferion sefydledig i gyfyngu ar groeshalogi o fewn ei linellau cynhyrchu ac ymhlith ei staff, a chydnabuwyd hyn gan yr awdurdodau iechyd cyhoeddus a chan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn ystod eu hymchwiliadau. Unwaith eto, hoffwn bwysleisio bod yr Asiantaeth Safonau Bwyd wedi dweud nad oes unrhyw risg o drosglwyddo drwy fwyd, ond wrth gwrs rydym yn edrych yn barhaus ar hyn a byddwn bob amser yn ystyried tystiolaeth brofedig pan fyddwn yn datblygu ein polisi.
Yn olaf, Neil McEvoy.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Weinidog, diolch am y datganiad. Dywedodd y cyhoeddiad Nation.Cymru heddiw fod y Financial Times yn adrodd y bydd Llywodraeth y DU yn gorfodi Cymru i dderbyn cynnyrch amaethyddol israddol, megis cyw iâr wedi'i glorineiddio er enghraifft, a dywedodd fod uwch swyddog yn Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd disgwyl i ni gydymffurfio â hynny.
Onid ydych yn credu ei bod yn bryd i Lywodraeth Cymru dynnu llinell yn y tywod i Lywodraeth y DU a sefyll yn gadarn dros gynhyrchwyr bwyd yng Nghymru? Oherwydd mae'r ddeddfwriaeth yn bodoli eisoes. Mae gennym ddeddfwriaeth iechyd cyhoeddus a dylem ei defnyddio i atal mewnforio cyw iâr wedi'i glorineiddio a chynhyrchion israddol eraill. Felly, nid wyf yn gweld pam y dylai iechyd pobl Cymru gael ei niweidio gan gynnyrch o'r fath. Felly, mae'r pwerau ar waith gennym eisoes, y cwestiwn i chi mewn gwirionedd yw hwn: a ydych yn barod i'w defnyddio ac a ydych yn barod i gefnogi'r gymuned amaethyddol yn y ffordd honno?
Yr ateb byr yw 'ydw'. Rwy'n gwbl benderfynol o gefnogi'r gymuned amaethyddol, ac rydym wedi dweud yn glir iawn wrth Lywodraeth y DU na fyddwn yn derbyn safonau is ym maes iechyd a lles anifeiliaid. Fe fyddwch yn ymwybodol mai Eluned Morgan yw'r Gweinidog â chyfrifoldeb dros drafodaethau masnach ar ran Llywodraeth Cymru ac mae hi hefyd wedi dweud yn glir mewn perthynas â'r trafodaethau masnach sydd ar y gweill yn awr gan Lywodraeth y DU wrth i ni nesáu at gyfnod pontio'r UE, na fyddwn yn derbyn hynny. Rwyf hefyd wedi dweud yn glir iawn wrth DEFRA nad ydynt yn dderbyniol. Nid ydynt yn dderbyniol i'r UE yn awr, felly nid wyf yn gweld pam y dylent fod yn dderbyniol ar ôl y cyfnod pontio.
Diolch yn fawr iawn, Weinidog.
Eitem 8 ar yr agenda yw dadl ar adroddiad Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar effaith COVID-19 ar chwaraeon. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i gyflwyno'r cynnig, Helen Mary Jones.
Cynnig NDM7344 Helen Mary Jones
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar effaith yr achosion o Covid-19 ar chwaraeon, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Mehefin 2020.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o allu cyflwyno'r adroddiad hwn gan ein pwyllgor i'r Cynulliad heddiw, ac wrth wneud hynny, rwyf am ddechrau drwy ddiolch i'r tystion a roddodd dystiolaeth i ni ac wrth gwrs, i staff y pwyllgor sy'n gwasanaethu ein pwyllgor yn eithriadol o dda.
Mae chwaraeon, fel rydym i gyd yn cytuno rwy'n siŵr, yn rhan hanfodol o'n bywyd fel gwlad, o lefel ryngwladol i chwaraeon proffesiynol elît i chwaraeon cymunedol ac i weithgarwch corfforol nad yw'n perthyn i'r categori chwaraeon mewn gwirionedd. Gwn ei fod yn agos iawn at galonnau llawer ohonom yn y Siambr hon. Cawsom ein hatgoffa eto gan Laura Anne Jones yn gynharach yn ein trafodaethau heddiw pa mor angerddol oedd Mohammad Asghar, er enghraifft, am ei griced.
Mae effaith uniongyrchol yr argyfwng ar chwaraeon wedi bod yn ddinistriol—'catastroffig' oedd y gair a ddefnyddiwyd gan y tystion. Ar unwaith, caewyd y cyfan yn llwyr. Ac roedd yr £8.5 miliwn a ryddhawyd ar unwaith—arian a gafodd ei addasu at ddibenion gwahanol—gan Chwaraeon Cymru i'w groesawu'n fawr. Mae wedi gwneud gwahaniaeth enfawr—dyma a ddywedwyd wrthym—ond wrth gwrs, mae'r cwestiwn ynghylch cymorth mwy hirdymor yn codi yn awr.
Clywsom yn ystod ein sesiynau tystiolaeth nad oedd pawb a oedd yn gweithio yn y sector wedi gallu cael cymorth, naill ai gan Lywodraeth y DU na chan gynlluniau Llywodraeth Cymru, a'r enghreifftiau a roddwyd oedd unigolion fel hyfforddwyr hunangyflogedig. Dyna pam ein bod wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru ymyrryd i sicrhau bod pawb sy'n gweithio yn y sector yn gymwys i gael elfen o gymorth ariannol. Mae'n hanfodol ein bod yn cadw'r seilwaith dynol hwnnw. Dros y dyddiau diwethaf, clywais fod amheuaeth ynglŷn â'r fwrsariaeth caledi wreiddiol a gynigiwyd gan y Llywodraeth i dargedu'n benodol y bobl hunangyflogedig nad oeddent wedi cael eu helpu hyd yma. A heddiw, hoffwn annog y Dirprwy Weinidog i gael trafodaeth bellach gyda chyd-Weinidogion i sicrhau, os na fydd y cynllun hwnnw'n mynd yn ei flaen, fod dewisiadau amgen ar gael i'r bobl sy'n gweithio yn y sector chwaraeon.
Bydd yr Aelodau'n ymwybodol, wrth gwrs, fod rhai o'n hawdurdodau lleol, mewn ymateb yn rhannol i gyni, wedi creu ymddiriedolaethau hamdden i redeg eu cyfleusterau chwaraeon a hamdden. Clywsom yn ystod ein sesiynau tystiolaeth fod yr ymddiriedolaethau hyn yn wynebu anawsterau penodol yn awr. Wrth gwrs, nid oes ganddynt incwm ac ni fydd hyn ond yn gwaethygu ar ôl i'r cynllun ffyrlo ddechrau cael ei dapro. Dyna pam ein bod wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru weithio gydag awdurdodau lleol i ystyried y cymorth y gallai fod angen ei ddarparu i ymddiriedolaethau hamdden ac i fod yn barod i gynnig rhywfaint o gymorth cyhoeddus angenrheidiol. Mae'n wir, wrth gwrs, y gall y cyfleusterau hamdden hynny sy'n dal i fod yn nwylo llywodraeth leol gael rhywfaint o gymhorthdal o rannau eraill o'r awdurdod lleol; ni all yr ymddiriedolaethau annibynnol gael hwnnw wrth gwrs. Ni allwn fforddio colli'r cyfleusterau cymunedol hanfodol hyn.
Clywsom fod effeithiau ar gydraddoldeb o ran lefelau cyfranogi mewn chwaraeon ac yn y ffordd yr effeithiodd yr argyfwng ar glybiau a sefydliadau chwaraeon. Clywsom, er enghraifft, fod pêl-droed merched wedi cael ei effeithio'n anghymesur o gymharu â gêm y dynion. Clywsom hefyd, er bod rhai pobl wedi cymryd rhan mewn mwy o weithgarwch corfforol yn ystod y cyfyngiadau symud, mae eraill wedi bod yn gwneud llai. Mae pobl o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol uwch yn tueddu i wneud mwy nag y byddent wedi'i wneud cyn yr argyfwng ac mae llawer o'r rhai o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is yn gwneud llai mewn gwirionedd. Dyna pam ein bod wedi argymell y dylai cynllun adfer Llywodraeth Cymru a chymorth ariannol i'r sector fynd i'r afael â'r bwlch cynyddol mewn anweithgarwch corfforol rhwng grwpiau, ac y dylai cymorth ariannol Chwaraeon Cymru ganolbwyntio ar y sefydliadau sy'n wynebu'r heriau mwyaf wrth inni symud ymlaen.
Ond ceir cyfleoedd hefyd. Mae'r ffaith bod yr holl Lywodraethau ar yr ynysoedd hyn wedi blaenoriaethu ymarfer corff trwy ganiatáu awr y dydd allan o'r tŷ trwy gydol y cyfyngiadau symud ac ar anterth yr argyfwng yn anfon neges glir iawn am bwysigrwydd gweithgarwch corfforol. Nawr, mae'n rhaid i ni adeiladu ar hyn, a dyna pam ein bod wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru arwain sgyrsiau gyda chynrychiolwyr o'r sectorau iechyd a chwaraeon a gweithgareddau corfforol i osod cyfeiriad polisi cydgysylltiedig hirdymor ar gyfer gweithgarwch corfforol ac iechyd y cyhoedd. Ac mae'n hanfodol fod y cyfeiriad polisi hirdymor hwn yn mynd i'r afael â'r anghydraddoldebau y cyfeiriais atynt yn gynharach.
Gwelsom ddechrau'r dychweliad at chwaraeon elît y tu ôl i ddrysau caeedig, ac mae hynny, wrth gwrs, wedi cael ei groesawu'n fawr. Ac yn amlwg, nid yw'n amser eto i'r torfeydd ddychwelyd, ac ni chawsom unrhyw dystiolaeth gan y sector yn awgrymu eu bod yn dymuno gwthio'r broses yn gyflymach na'r hyn sy'n ddiogel ar gyfer eu cynulleidfaoedd. Fodd bynnag, dywedodd tystion wrthym fod angen amser ar y sector i baratoi ar gyfer pan fydd modd iddynt groesawu eu cynulleidfaoedd yn ôl a bod angen mwy o eglurder arnynt. Felly, er enghraifft, dywedodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru wrthym fod angen diffiniad cliriach arnynt gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â'r hyn y mae torf fawr yn ei olygu, a gwnaethant y pwynt y byddai torf fawr mewn stadiwm o un maint yn dorf fach iawn mewn stadiwm o faint arall. Felly, am y rhesymau hyn, rydym wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru gyhoeddi canllawiau ar dorfeydd mewn digwyddiadau chwaraeon, gan ddatblygu hyn mewn cydweithrediad â'r cyrff llywodraethu chwaraeon a darparwyr cyfleusterau, ac y dylent ddatblygu'r canllawiau hyn cyn gynted â phosibl er mwyn galluogi lleoliadau chwaraeon i baratoi ar gyfer pan fydd cynulleidfaoedd yn gallu dychwelyd.
Ddirprwy Lywydd, mae chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ganolog i'n hiechyd a'n lles fel unigolion, fel cymunedau ac fel cenedl. Mae'r sector ar hyn o bryd—a gwn fod y Dirprwy Weinidog yn ymwybodol iawn o hyn—yn agored iawn i niwed mewn nifer o ffyrdd. Mae arweinyddiaeth yn hanfodol er mwyn diogelu'r sector pwysig hwn. Rwy'n cymeradwyo ein hadroddiad i'r Senedd, ac edrychaf ymlaen at gyfraniadau'r Aelodau i'r ddadl hon.
Ddirprwy Lywydd, roedd hwnnw'n adroddiad llawn a chynhwysfawr iawn ar yr hyn y credaf ei fod yn adroddiad byr ardderchog a phwrpasol, adroddiad sydd wedi darparu cryn dipyn o ddata pwysig iawn am yr effaith ar chwaraeon. A'r pwynt pwysig ynddo i mi yw hwn mewn gwirionedd: yn gyntaf, mae'r effaith yn mynd i fod yn drwm iawn ar sefydliadau ar lawr gwlad yn ein cymunedau, a dyna lle mae angen inni ganolbwyntio.
Mae llawer o glybiau bellach yn paratoi i ddychwelyd. Rwy'n falch iawn fod rhai o'n cynghorau wedi bod yn ddigon darbodus i geisio gwneud gwaith i baratoi ar gyfer hynny. Er enghraifft, mae Rhondda Cynon Taf yn fy ardal i wedi bod yn torri'r gwair yn y caeau oherwydd y perygl o golli'r caeau hynny am flwyddyn neu ddwy am nad ydynt yn cael eu torri'n rheolaidd. Felly, mae o leiaf rai paratoadau wedi bod yn digwydd.
I mi, rwy'n credu mai'r hyn rydym wedi gallu dechrau ei nodi yw ffordd newydd o edrych ar chwaraeon. Oherwydd mae'r rhyngweithio rhwng chwaraeon, iechyd, morâl, cymuned, lles, y cysylltiadau rhwng addysg ac iechyd, mae'n ymddangos i mi, yn bwysig tu hwnt. A chredaf fod y modd yr awn yn ein blaenau, gan edrych ar chwaraeon a'r rôl y mae'n ei chwarae mewn ffordd wahanol, yn mynd i fod yn eithriadol o bwysig, ac roedd y pwynt hwnnw, wrth gwrs, i'w weld yn y dystiolaeth a gawsom.
Rwyf hefyd yn pryderu'n arbennig am rai o'r campau llai adnabyddus sy'n eithaf aml yn cael cryn dipyn o gefnogaeth: er enghraifft, pêl-fasged, tîm pêl-fasged Cymru, sydd wedi perfformio'n dda iawn, a thîm ParaCheer Cymru, a berfformiodd yn y Cynulliad hwn yn weddol ddiweddar. Nawr, nid ydynt yn perthyn i'r categorïau arferol o chwaraeon, ond chwaraeon ydynt—cyfuniad o chwaraeon a dawns. Ac wrth gwrs, mae yna chwaraeon eraill o gwmpas. Fe fyddwn i'n disgrifio rhai o'r ysgolion dawns fel chwaraeon mewn gwirionedd.
Yn fy etholaeth, mae gennym Dance Crazy Studios gyda 600 o ddisgyblion, sydd wedi cynhyrchu pencampwyr y DU o blith eu pobl ifanc. Mae'n gorff hollol anhygoel sy'n perfformio'n wych. Ond wrth gwrs, maent yn dal i fod yn yr un sefyllfa â champfeydd ac eraill, er enghraifft, sy'n methu perfformio, er bod cymaint o bobl ifanc, plant, a fyddai, yn ystod yr haf hwn, rwy'n meddwl, yn mwynhau'r cyfle yn awr i allu cymryd rhan mewn gweithgareddau. Ac rwy'n gwybod, er enghraifft, gyda Dance Crazy, maent yn dweud, 'Edrychwch, fe wnawn ni hyn yn yr awyr agored; fe wnawn ni hyn gan gadw pellter cymdeithasol; fe wnawn bopeth sydd ei angen.' Ac rwy'n credu bod yn rhaid inni edrych ar rai o'r rhain yn ein cymunedau o ran y cyfraniad penodol y byddant yn ei wneud i les a llesiant pobl ifanc dros yr wythnosau nesaf.
Mae her bellach i'n canolfannau hamdden, sydd, fel y gwyddom, yn wynebu heriau gwirioneddol, a'r effaith ar awdurdodau lleol o ran yr incwm a gollir, ond hefyd o ran ffitrwydd, gan fod llawer o'n canolfannau hamdden wedi'u lleoli yn ein cymunedau dosbarth gweithiol yn bennaf. O'n cymunedau dosbarth gweithiol i raddau helaeth y daw'r gyfran o bobl sy'n eu defnyddio yn hytrach na defnyddio campfeydd preifat ac yn y blaen. Felly, cymorth i gynghorau sydd wedi colli'r incwm hwnnw, a hyd yn oed pan fydd y canolfannau hamdden hyn yn dechrau gweithredu eto, bydd y niferoedd a fydd yn eu mynychu'n is.
Ac mae a wnelo'r pwynt olaf a wnaf ag argymhelliad 3, sy'n ymwneud â'r pwynt a wnaeth Helen Mary Jones mor dda, sef mater anghydraddoldeb. Y cymunedau dosbarth gweithiol sy'n mynd i gael eu taro galetaf; y cymunedau mwyaf difreintiedig fydd yn cael eu taro galetaf yn ddiwylliannol, o ran gweithgarwch, o ran iechyd ac o ran mynediad. Mae'n ymddangos i mi mai un opsiwn atyniadol iawn fyddai i Lywodraeth Cymru wneud asesiad penodol iawn o gydraddoldeb mewn perthynas â chwaraeon a'r effaith ar ein cymunedau pan ddaw'n fater o flaenoriaethu'r union adnoddau sydd ar gael inni. Diolch.
A gaf fi gymeradwyo'r adroddiad hwn? Rwy'n credu ei fod yn ddarn da iawn o waith ac mae'n cyflwyno chwe argymhelliad cydlynol a chysylltiedig, ac rydym yn trafod hyn ar y diwrnod y mae gemau prawf criced yn dechrau eto. Nid wyf yn siŵr a fu yna chwarae'n bosibl yn Southampton heddiw, wrth i fis Gorffennaf barhau i esgus ei bod yn fis Hydref, ond mae gweld India'r Gorllewin eto—ac mae llawer o sylwebyddion yn credu mai dyma'r tîm gorau iddynt ei gael ers yr 1980au—yn codi'r galon. Mae llawer o bobl nad ydynt bellach yn chwarae criced, fel fi, yn dal i ddyheu am ei wylio. Felly, o ran ysbryd y cyhoedd, rwy'n credu bod chwaraeon elît yn bwysig iawn.
Mae gan ddau dîm Cymru yn y bencampwriaeth, Abertawe a Chaerdydd, obaith o gael lle yn y gemau ail-gyfle, yn enwedig Caerdydd, a hoffwn fynegi fy nymuniadau gorau. Roedd y canlyniad neithiwr ychydig yn siomedig, ond mae eu safon wedi codi'n ôl yn dda yn y gemau diwethaf ac maent wedi ennill pwyntiau gwerthfawr iawn. Felly, rwy'n dal i fod yn obeithiol iawn.
Rwy'n canmol y darlledwyr hefyd am roi cymaint o bêl-droed yr uwch gynghrair a'r bencampwriaeth ar deledu am ddim. Rwy'n wyliwr pêl-droed brwd. Mae gwylio'r gemau hyn y tu ôl i ddrysau caeedig yn brofiad rhyfedd, gwag, atseiniol ar hyn o bryd, ond mae'n llawer gwell na dim.
O ran rygbi ar y lefel elît, rwy'n poeni'n ddirfawr ei fod mewn llawer mwy o anhawster na phêl-droed hyd yn oed, ac mae pêl-droed, mae'n rhaid inni ddweud, ar lefel elît, yn eithaf llewyrchus rhwng yr uwch gynghrair a'r bencampwriaeth ac yna mae'r cynghreiriau is, nad ydynt yn cael incwm teledu yn wynebu llawer mwy o anhawster. Ond rwy'n credu bod rygbi proffesiynol yng Nghymru yn wynebu argyfwng. Bydd hyn yn cael effaith fawr ar ein tîm cenedlaethol hefyd os nad ydym yn ofalus, ond yn sicr ar rygbi rhanbarthol, a'n gallu i ddenu digwyddiadau mawr a'r hyn rydym yn ei deimlo fel cenedl mewn gwirionedd. Felly, mae'n rhaid edrych yn ofalus iawn ar y pethau hyn, ac rwy'n gobeithio y gall Llywodraeth Cymru weithio gyda'r awdurdodau proffesiynol i sicrhau bod cymaint o'n diwylliant rygbi ag sy'n bosibl yn goroesi.
Ond yn gwbl briodol, roedd ein prif ffocws ar le chwaraeon cymunedol i'r bobl, ac rwy'n credu bod y ffordd rydym wedi cysylltu pethau fel yr angen am weithgarwch corfforol, a'r angen i gysylltu chwaraeon ac iechyd y cyhoedd, yn allweddol iawn. Fel rydym newydd ei glywed gan Mick Antoniw, mae angen inni ganolbwyntio ein hadnoddau yn y cymunedau tlotaf, sy'n aml â'r nifer leiaf o fannau agored a chyfleusterau chwaraeon da. Felly, rwy'n gwybod bod cynghorau'n edrych ar hyn i sicrhau eu bod yn cael y cymorth mwyaf posibl wrth i bethau agor eto.
Rwy'n credu bod argymhelliad 2 yn bwysig iawn—y ffordd rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol i gefnogi chwaraeon a chlybiau cymunedol. Unwaith eto, dylid rhoi rhywfaint o flaenoriaeth, yn fy marn i, i'r rhai mwyaf anghenus yn y cymunedau mwy ymylol, oherwydd mae'r gwaith sy'n digwydd yno'n annog pobl o bob oed—. Mae chwaraeon ar gael i bawb eu chwarae; dyna ryfeddod y peth. Ond hefyd, i'n plant a'n pobl ifanc, mae cael cyfleoedd chwaraeon mor bwysig, ac nid yw'r cyfan wedi'i leoli yn yr ysgol; mae angen iddo fod wedi'i leoli yn y gymuned hefyd.
Felly, pleser mawr yw cael cymeradwyo'r adroddiad hwn, ac rydym yn ddiolchgar iawn, Ddirprwy Lywydd, fod amser wedi'i roi i drafod yr adroddiad hwn, fel a gafwyd yn ddiweddar i'n hadroddiad ar y sector celfyddydau. Mae'r rhain yn feysydd pwysig iawn, ond nid ydynt bob amser yn cael y sylw y maent ei angen o bosibl er budd iechyd ein bywyd cenedlaethol. Felly, unwaith eto, rwy'n cymeradwyo eich adroddiad. Diolch i'r Cadeirydd am ei harweiniad, ac i'n hysgrifenyddiaeth, a'n galluogodd i gyflawni'r gwaith ardderchog hwn.
A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i'r pwyllgor am gynhyrchu'r adroddiad hwn? Mae'n gyfle amserol i edrych ar effeithiau'r pandemig coronafeirws ar chwaraeon, a hefyd i graffu ar ymateb Llywodraeth Cymru. Ar y nodyn hwnnw, roedd yn galonogol darllen bod cyrff chwaraeon ledled Cymru yn gadarnhaol am y ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi ymdrin â hwy a'u helpu drwy'r argyfwng hwn, ac wrth gwrs, darparwyd yr arian hwnnw i gefnogi sefydliadau chwaraeon a gweithgarwch corfforol y mae'r argyfwng wedi effeithio'n negyddol arnynt. Yn y cyfraniad hwn heddiw hoffwn ofyn i'r Gweinidog barhau i gefnogi'r sefydliadau hyn, gan gynnwys yr adnoddau gwych sydd gennym yma, yn cynnwys y grwpiau gweithgarwch corfforol a'r clybiau chwaraeon llawr gwlad. Wrth wneud hyn, Weinidog, rwy'n disgwyl i chi gofio'r llawenydd y gall chwaraeon ei roi i'r rhai sy'n cymryd rhan, ond hefyd i'r rhai sy'n gwylio, a gwn hyn yn dda iawn. Ddirprwy Lywydd, mae'n rhaid i mi ddweud fy mod wedi bod yn aros am y cyfle hwn, i sefyll yn Senedd Cymru—oherwydd mae'n iawn ein bod yn sefyll yn Senedd Cymru—a dweud hyn: yn ystod y cyfyngiadau symud, enillodd fy nhîm annwyl, Cei Connah, deitl Uwch Gynghrair Cymru, ac maent wedi cael tymor bendigedig, felly rwy'n siarad ar ran y Senedd hon ac etholaeth Alun a Glannau Dyfrdwy pan ddywedaf pa mor falch rydym ni fod y tlws yn dod yn ôl i Gymru. Blwyddyn wych i Gei Connah—maent wedi chwarae pêl-droed anhygoel, ac mae'n hyfryd gweld bod chwech o'r garfan a enillodd y bencampwriaeth yn nhîm y tymor. Gwn y bydd llawer o'n Haelodau yma ac Aelodau ledled Cymru'n falch iawn y bydd yna gemau pêl-droed Cynghrair y Pencampwyr yn cael eu cynnal yng Nghei Connah y flwyddyn nesaf.
Felly, Weinidog, a fyddech cystal ag ystyried y negeseuon pwysig yn yr adroddiad? Diolch yn wir i aelodau'r pwyllgor unwaith eto amdano. A wnewch chi ddiogelu clybiau llawr gwlad pob math o chwaraeon yng Nghymru, fel y soniodd Mick Antoniw yn ei gyfraniad, a chofiwch y llawenydd y gall chwaraeon ei gynnig.
Rwy'n credu bod y themâu cryf yn yr adroddiad sydd wedi cael eu hadleisio yn y Siambr heddiw yn bwysig iawn ac yn amserol iawn, ac yn ddefnyddiol iawn ar hyn o bryd, ac rwy'n mawr obeithio y bydd y pwyntiau a'r argymhellion yn cael eu gweithredu'n fuan.
Yn fy mhrofiad i, Ddirprwy Lywydd, yng Nghasnewydd mae gennym Gasnewydd Fyw, sef ymddiriedolaeth hyd braich a sefydlwyd gan yr awdurdod lleol. Fel y clywsom yn gynharach, mae yna fodelau gwahanol, wrth gwrs—rhai yn y sector preifat, rhai a gedwir gan awdurdodau lleol ac eraill a gedwir hyd braich—ond mae pob un ohonynt yn gwneud gwaith pwysig iawn yn darparu'r cyfleoedd hamdden sy'n golygu cymaint i bobl, ac sy'n cysylltu'n helaeth iawn ag iechyd a mynd i'r afael ag amddifadedd. Mae gan Gasnewydd Fyw, er enghraifft, rai cyfleusterau da iawn, megis felodrom Geraint Thomas, y pwll nofio 25m, Canolfan Casnewydd, sy'n ganolfan hamdden, ond sydd hefyd ar gyfer adloniant ac yn cynnwys campfa a phwll nofio i'r teulu yn ogystal, a cheir cyfleusterau eraill fel y ganolfan denis. Felly, mae'r rhain i gyd yn wirioneddol bwysig i bobl allu cadw'n heini ac yn iach a chael cyfleoedd chwaraeon, ar lefel elît, ond ar lefel llawr gwlad hefyd. Yn wir, mae felodrom Geraint Thomas ar hyn o bryd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer adsefydlu COVID-19, sy'n wirioneddol drawiadol i'w weld—y sefydliad yn estyn allan a gweithio gyda'r ganolfan iechyd yn y ffordd honno mewn argyfwng fel yr un sy'n ein hwynebu ar hyn o bryd. Maent yn gwneud llawer iawn o ran addysg cwricwlwm amgen, ymdrin â ffactorau amddifadedd drwy fynd â chwaraeon a gweithgarwch i'r cymunedau mwyaf difreintiedig. Credaf fod ehangder a dyfnder yr holl waith hwnnw, Ddirprwy Lywydd, yn atgyfnerthu'r cyfle i adeiladu partneriaethau newydd rhwng y sectorau hamdden, chwaraeon, gweithgarwch corfforol ac iechyd. Rwy'n falch fod hynny wedi'i amlygu yn yr adroddiad ac mae'n dda clywed Aelodau eraill yn ategu hynny hefyd. Mae'n hen bryd i hynny ddigwydd a dylai fod yn rhan gref nid yn unig yn y tymor hwy ond hefyd yn yr hyn a wnawn yn y tymor byr.
Mae clwb pêl-droed Casnewydd, wrth gwrs—rwy'n llongyfarch Jack ar lwyddiant Cei Connah—ond gwn fod clwb pêl-droed Casnewydd hefyd yn agos at galon Jack, ac un o'r rhesymau am hynny yw'r gwaith da iawn y mae'r clwb wedi'i wneud ar faterion iechyd meddwl, ac mae Jack a Jayne Bryant wedi bod yn rhan o'r gwaith hwnnw. Rydym i gyd wedi bod yn cefnogi hynny. Mae'n enghraifft, unwaith eto, o'r clwb pêl-droed yn deall ei bwysigrwydd i Gasnewydd o ran synnwyr pobl o hunaniaeth a pherthyn, a'r gwaith ehangach y gallant ei wneud drwy ddefnyddio'r grym, y statws a'r rôl sydd ganddynt. Mae wedi bod yn bwerus iawn o ran eu hymgyrch iechyd meddwl, ac mae wedi cyrraedd llawer o bobl ac mae'n rhywbeth y maent yn dymuno ei gryfhau a'i ddatblygu ymhellach.
Mae'n wir dweud, Ddirprwy Lywydd, fod clybiau fel Casnewydd yn dibynnu'n fawr ar yr arian sy'n dod drwodd pan fydd ganddynt gemau cartref, ac nad ydynt yn yr un sefyllfa freintiedig â rhai o'r clybiau eraill ar frig y pyramid pêl-droed, lle mae ganddynt lawer iawn o arian a llawer o gyfoeth wedi'i grynhoi ymhlith y perchnogion. Mae gwir angen inni ailfeddwl, rwy'n credu, am fodel pêl-droed llawer mwy cynaliadwy, sy'n ymwneud mwy â chlybiau llawr gwlad a'r clybiau ar lefelau is y pyramid pêl-droed, ac mae angen i'r holl arian hwnnw yn yr uwch gynghrair lifo i lawr yn fwy effeithlon nag sy'n digwydd ar hyn o bryd. Mae hwn yn gyfle yn awr—y materion sy'n codi gyda COVID-19 a'r byd pêl-droed—i edrych ar hynny i gyd a symud at fodel llawer mwy cynaliadwy, ac un a fyddai'n ennyn llawer mwy o gefnogaeth y cyhoedd. Rwy'n siŵr fod pob un ohonom yn gyfarwydd iawn â phobl sydd â barn sinigaidd iawn, a realistig iawn, yn fy marn i, ar bêl-droed ar y lefel uchaf a'r arian sydd ar gael a'r ffordd y caiff yr arian hwnnw ei ddefnyddio a sut y gellid ei ddefnyddio'n llawer gwell ar gyfer clybiau llawr gwlad a chlybiau ar lefelau is y pyramid. Unwaith eto, rwy'n gobeithio y bydd hynny'n deillio o'r argyfwng presennol hwn ac yn cael ei gryfhau gan waith ein pwyllgor a'r adroddiad.
Un mater olaf, Ddirprwy Lywydd, ac mae'n ymwneud â gweithgareddau. Rydym yn meddwl llawer iawn am yr ysgolion ar hyn o bryd, o ran dychwelyd at gymaint o normalrwydd ag sy'n bosibl, ac mae hynny'n wirioneddol bwysig. Agwedd arall ar hynny yw'r holl weithgareddau y mae plant yn eu gwneud, y dosbarthiadau y maent yn eu mynychu, yr hyfforddiant y maent yn ei gael, boed yn griced, pêl-droed, tenis, athletau, dawns, gymnasteg. Mae'n rhan wirioneddol bwysig o ddatblygiad plant a'u mwynhad o fywyd. Roeddent yn ei fwynhau, maent yn gweld ei golli, ac mae'n rhywbeth y maent hwy a'u teuluoedd eisiau dychwelyd ato cyn gynted â phosibl.
Rwy'n deall fy mod weithiau'n rhoi'r argraff fy mod yn treulio mwy o amser yn gwylio chwaraeon nag a dreuliaf yn cymryd rhan, ac mae'r misoedd diwethaf wedi fy nysgu am beryglon cymryd rhan mewn rhai gweithgareddau, mae'n rhaid i mi ddweud. Ond y prynhawn yma, os caf, hoffwn wneud yr achos, am rai munudau, dros edrych eto ar sut y gallwn ailagor y cyfleusterau sy'n galluogi pobl i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol a chwaraeon yn ein cymunedau.
Mwynheais ddarllen adroddiad y pwyllgor. Teimlwn fod cydbwysedd da iawn yn yr adroddiad rhwng ei ffocws ar y prif chwaraeon wedi'u trefnu—ac rwy'n cytuno'n gryf â'r dadansoddiad a ddarparwyd i'r pwyllgor gan gynrychiolwyr y chwaraeon hyn—ac effaith COVID hefyd ar faterion ehangach yn ymwneud â ffitrwydd, iechyd a llesiant yn ein cymdeithas, materion y mae John Griffiths newydd fod yn eu disgrifio yng Nghasnewydd. A gallai fod wedi gwneud yr araith honno am Flaenau Gwent ac am lawer o gymunedau eraill ar hyd a lled y wlad hefyd. Ceir nifer o ardaloedd lle mae chwaraeon yn bwysig i'n hiechyd a'n llesiant meddyliol cyffredinol.
Tua blwyddyn yn ôl bellach, roeddwn yn Ysgol Gynradd y Cwm yn fy etholaeth yn cymryd rhan yn y filltir ddyddiol a'r gweithgarwch corfforol roedd y plant yn ei wneud yn yr ysgol honno. Roedd y pennaeth yn glir iawn fod canlyniadau'r gweithgarwch corfforol hwnnw i'w gweld yng nghanlyniadau addysgol y disgyblion yn yr ysgol yn ogystal â'u hiechyd a'u llesiant. Ac o ystyried y sefyllfa rydym wedi bod drwyddi dros y misoedd diwethaf, rwy'n ymwybodol iawn fod y plant a'r bobl ifanc hyn, yn enwedig yn yr achos hwn, yn colli'r cyfleoedd hynny.
Ond rydym hefyd yn gwybod—ac roeddwn yn credu bod yr adroddiad yn glir iawn yn hyn o beth—ein bod, dros y tri mis diwethaf, wedi gweld lefelau gwahaniaethol o weithgarwch corfforol yn ein cymunedau; fod cymunedau cyfoethocach, teuluoedd cyfoethocach, pobl gyfoethocach i'w gweld yn gallu cynyddu gweithgarwch corfforol a gwneud mwy o ran iechyd a llesiant, ond gwelsom bobl dlotach, pobl sy'n dod o gefndiroedd tlotach ac sy'n byw mewn cymunedau tlotach, yn gwneud llai o weithgarwch corfforol ac yn cael llawer llai o gyfle i gymryd rhan mewn chwaraeon a chefnogi llesiant.
Yr hyn y mae hynny'n ei wneud, wrth gwrs, yw cynyddu ac ehangu'r anghydraddoldebau a welwn eisoes yn ein cymunedau o ran iechyd a llesiant ehangach, ac mae perygl gwirioneddol y bydd COVID yn cael yr effaith glir ac amlwg a gaiff y feirws ar ein cymunedau ar unwaith, ond bydd hefyd yn gadael gwaddol o anghydraddoldeb yn ein cymunedau, ac rwy'n gobeithio y gall y Llywodraeth fynd i'r afael â rhai o'r problemau hyn. Hoffwn weld sut y mae'r Llywodraeth yn llunio cynllun i agor y cyfleusterau a fydd yn sail i iechyd a llesiant gwahanol gymunedau, yn deall sut y gellir ailagor pyllau nofio, yn deall sut y gellir ailagor canolfannau hamdden eto, ynghyd â champfeydd a stiwdios ffitrwydd.
Rydym eisoes yn sôn am y modd y mae chwaraeon awyr agored wedi gallu ailgychwyn dros yr wythnosau diwethaf, ond chwaraeon dan do hefyd. Rwy'n noddwr y clwb chwaraeon cadair olwyn yng Nglynebwy, ac rwyf wedi gweld sut y mae'r clwb chwaraeon cadair olwyn yno wedi gallu datblygu, nid yn unig y clwb o ran eu gweithgareddau, ond hefyd o ran y ffordd y maent yn mynd i'r afael â materion sylfaenol a phwysig fel iechyd a llesiant eu haelodau. A phan fyddwn yn sôn am chwaraeon, rwy'n credu bod angen inni fabwysiadu ymagwedd fwy cyfannol tuag at yr hyn yw chwaraeon mewn gwirionedd. Nid gwylio rhai o'r gemau cenedlaethol a rhyngwladol yn unig ydyw, mae hefyd yn golygu'r hyn sy'n digwydd ar brynhawn Sadwrn, bore Sadwrn a nos Fawrth yn ein cymunedau ar hyd a lled y wlad.
Byddwn mewn helynt ofnadwy gartref pe na bawn yn defnyddio'r cyfle hwn hefyd i ddweud bod fy mab naw oed yn awyddus iawn i fynd allan i chwarae pêl-droed eto, ac rwy'n siŵr bod yna deuluoedd â meibion naw oed ar hyd a lled y wlad sydd eisiau mynd allan i chwarae pêl-droed neu rygbi neu beth bynnag. Felly, mae angen i ni edrych ar sut y gallwn wneud hyn.
Gadewch imi orffen ar y pwynt hwn, Ddirprwy Lywydd; rwy'n gwybod fy mod yn profi eich amynedd. Dyma adroddiad arall sy'n dangos diffyg ymgysylltiad effeithiol ar ran Llywodraeth y Deyrnas Unedig â Llywodraeth Cymru. Mae hon wedi bod yn broblem gyson drwy gydol y misoedd diwethaf, ac rwy'n gobeithio, Ddirprwy Lywydd, wrth dderbyn yr adroddiad y prynhawn yma, y bydd Senedd Cymru hefyd yn nodi bod angen i ni fynd i'r afael â'r broblem sylfaenol hon o ddiffyg ymgysylltiad ar ran Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
Gobeithio y gwnewch chi faddau i mi am sefyll a chyfrannu at y ddadl hon. Yn amlwg, dyma fy niwrnod cyntaf, ond roeddwn yn llefarydd Ceidwadol dros chwaraeon yn 2003 felly roeddwn yn teimlo'r angen i sefyll a dweud rhywbeth. Yn gyntaf oll, hoffwn gymeradwyo'r adroddiad fy hun; roeddwn yn credu ei fod yn—. Yr hyn a ddywedodd Helen Mary Jones; hoffwn ddiolch iddi am hynny a diolch i'r pwyllgor. Roeddwn yn meddwl eu bod yn argymhellion synhwyrol iawn ac yn argymhellion angenrheidiol iawn.
Rwy'n credu bod chwaraeon a gweithgarwch corfforol wedi chwarae rhan hanfodol yn llesiant pobl yn ystod y cyfyngiadau symud dros y tri mis diwethaf. Rwy'n gwybod, gan fy mhlant fy hun, ei fod wedi achub ein bywydau mewn llawer o ffyrdd. Mae yna ŵr bonheddig o'r enw Joe Wicks—nid wyf yn siŵr a ydych chi'n gwybod amdano—a oedd yn gwneud ymarfer corff yn ei gartref. Ond eto, i'r teuluoedd heb iPads gartref nac unrhyw fath o gyfrifiadur, ni fyddent yn cael hynny. I'r rhai a allai fforddio'r pethau hynny, roedd yn wych eu bod yn eu galluogi i ddefnyddio hynny, ac mae hynny'n rhywbeth y dylem edrych arno, wrth symud ymlaen—y dylai ysgolion fabwysiadu'r rôl honno efallai yn hytrach na gorfod dibynnu ar enwogion tebyg iddo ef. Ond roeddwn yn credu bod yr hyn a gyflawnodd yn wych.
Hefyd, rwyf wedi bod yn mwynhau tenis gyda fy mab, oherwydd mae hynny wedi dychwelyd o ran hyfforddiant un-i-un yn awr, sy'n wych—mae gwneud unrhyw fath o chwaraeon yn wych, a minnau wrth fy modd â chwaraeon fy hun, a fy mhlentyn, yn amlwg. Ond rydym yn edrych ymlaen at weld hynny'n datblygu er mwyn galluogi mwy o blant i chwarae gyda'i gilydd mewn gemau ac yn y blaen.
Rwyf hefyd eisiau gwneud pwynt nad yw wedi'i godi eto—rydych i gyd wedi gwneud pwyntiau da iawn; Mick Antoniw, John Griffiths, ac ati—fod angen inni edrych ar y plant sy'n agored i niwed, fel rwyf newydd ei amlinellu. Dyma'r rhai y mae angen inni eu targedu, yn enwedig o ran chwaraeon, ac mae angen i ni eu cyrraedd, oherwydd mae'r manteision mor enfawr, o ran iechyd a llesiant ac yn y blaen. Ond mae'n rhaid i ni sylweddoli, wrth i bethau agor yn awr, yn y gaeaf mae'n debyg, y bydd glaw yn rhwystro unigolion rhag chwarae mewn rhai mannau. Er enghraifft, yng Nghasnewydd, mae gennych doreth o gaeau 3G a 4G i chwarae arnynt, felly mae'n sicrhau bod gan blant y dilyniant hwnnw a'u bod yn gallu parhau i gymryd rhan mewn chwaraeon.
Rwyf eisiau inni gofio, mewn ardaloedd gwledig, er bod Trefynwy yn cael ei hystyried yn ardal gefnog i raddau helaeth, nid yw hynny'n wir—mae gennym bocedi difrifol o amddifadedd. Ond o ran cyfleusterau a darpariaeth chwaraeon mewn ardaloedd gwledig, rydym yn dlawd iawn, ac yn llythrennol, ni allwn chwarae pêl-droed na rygbi nac unrhyw beth ar lawr gwlad. Ac rwy'n meddwl am chwaraeon fy mhlant yma; mae'n hanfodol fod ein plant yn cael cymryd rhan mewn chwaraeon, ac ni allant wneud hynny os nad yw'r cyfleusterau ar gael. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y pwyllgor hwn yn perswadio'r Llywodraeth i edrych ar ardaloedd gwledig, a sicrhau bod gennym yr un cyfleusterau a'r un cyfleoedd â'r rheini yn ein dinasoedd a'n trefi mwy o faint. Diolch.
A gaf fi alw yn awr ar y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Dafydd Elis-Thomas? Mae'n ddrwg gennyf, ni allwn eich clywed chi. A allech chi roi cynnig arall arni? Mae'n ddrwg gennyf, Ddirprwy Weinidog, nid ydym yn eich clywed ar hyn o bryd. Tybed a all rhywun—neu ai'r botwm sain ar eich clustffonau yw'r broblem?
A yw hynny'n well? Dyna ni—a yw hynny'n well?
Dyna ni. Gallwn eich clywed nawr. Na, ni allwn eich clywed chi nawr. Beth bynnag a wnaethoch ynghynt a wnaeth y tric, gyda'r botwm sain ar y clustffonau, mwy na thebyg. Dyna'r ateb i'r broblem yn ôl pob tebyg. A gawn ni ychydig funudau o egwyl technegol? Cawn ychydig funudau o egwyl technegol, ac yna efallai y bydd rhywun yn gallu gweld a allant gael y Dirprwy Weinidog i ymateb. Felly, rydym am gael egwyl am ychydig funudau. Felly gobeithio y gall y technegwyr ddatrys y broblem, a gobeithio y gallwn ailgychwyn yn fuan.
Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 17:23.
Ailymgynullodd y Senedd am 17:24, gyda'r Dirprwy Lywydd yn y Gadair.
Mae hynny'n iawn nawr, Ddirprwy Weinidog.
Gaf i ddiolch yn fawr i bawb sydd wedi cyfrannu i'r ddadl a diolch am y cyfle i gael dadl fel hyn am chwaraeon ac effaith yr argyfwng iechyd cyhoeddus ar chwaraeon, sy'n debyg i'r ddadl a gawsom ni ar y celfyddydau? Dwi'n meddwl ei bod hi'n ardderchog bod y Cynulliad yn gallu cyfrannu fel hyn i osod agenda i'r Llywodraeth wrth i ni ymateb i'r argyfwng rydym ni ynddo fo.
Helen Mary Jones, diolch am bwysleisio'r cyfraniad rydyn ni wedi'i wneud trwy Chwaraeon Cymru. Chwaraeon Cymru yw ein corff sydd yn gweithredu polisi chwaraeon yng Nghymru ac mae'r £8.5 miliwn yn sicr yn mynd i sicrhau bod yna fwy o gymryd rhan mewn chwaraeon yn y wlad yn gyffredinol. Rydym ni wedi bod yn ceisio datblygu, ers tair blynedd, polisi o ddefnyddio cyllid iechyd mewn partneriaeth gyda chwaraeon, a medraf i'ch sicrhau chi y bydd hynny'n parhau.
Diolch i Mick Antoniw am bwysleisio'r pwysigrwydd o chwaraeon llai amlwg, megis pêl-fasged, a hefyd y cwmni Dance Crazy ges i gyfle i weld pan wnaethon nhw berfformio yn y Senedd, a hefyd i bwysleisio'r angen i osgoi anghyfartaledd yn y defnydd o ganolfannau hamdden. Mae hynny'n sicr yn fater y byddaf am ei drafod gyda llywodraeth leol a gyda'r rhai sy'n gyfrifol o fewn Chwaraeon Cymru yn ogystal.
Diolch i David Melding am sôn an griced ac am bwysleisio'r modd y mae chwaraeon yn cynnal morâl y cyhoedd a'r angen i gael darpariaeth briodol yn rhanbarthol ac ar draws Cymru. Mae'n dda gen i ddweud ein bod ni wedi bod mewn trafodaethau yn ddiweddar gydag Undeb Rygbi Cymru. Rydym yn ymwybodol o'u hargyfwng cyllido presennol nhw ac rydym yn chwilio am ffordd o helpu i ddatrys hynny.
Diolch yn fawr i Jack Sargeant am bwysleisio pêl-droed yn y gogledd. Dwi wedi bod yn gwylio Connah’s Quay Nomads a dwi'n meddwl eu bod nhw wedi gwneud yn rhagorol. Bechod bod y Bala ddim cweit wedi cyrraedd yr un safon, ond rydym ni'n ymwybodol iawn o'r angen i gryfhau rôl pêl-droed cymunedol ac mi fyddwn ni'n gwneud hynny drwy gydweithrediad â'r cyllid rydym ni'n ei rhoi yn gyson i Gymdeithas Bêl-droed Cymru.
Diolch i John Griffiths am dynnu sylw, unwaith eto, at yr amrywiaeth ardderchog sydd yna o chwaraeon yng Nghasnewydd. Rydym ni wedi cael cyfle yn ystod y ddwy flynedd a hanner diwethaf i ymweld sawl gwaith â Chasnewydd ac i gefnogi datblygiad y felodrom, y pwll nofio a gweithgareddau eraill sy'n digwydd. Felly, mae'r bartneriaeth a'r ysbrydoliaeth sy'n cael eu cynnig i ddinas Casnewydd gan Newport County fel tîm yn fodel, gobeithio, y gallwn ei ddilyn drwy Gymru.
Ac yna, Alun Davies, diolch am bwysleisio'r cysylltiad, unwaith eto, rhwng ffitrwydd ac iechyd meddwl. Mae hon yn wers bwysig i ni yn yr argyfwng yma, oherwydd wrth inni ddeall pwysigrwydd chwaraeon, rydym ni'n gallu gweld y modd y mae cymuned gyfan yn gallu dod allan o argyfwng. Rwy'n meddwl bod yr ysbrydoliaeth y mae chwaraeon yn gallu ei gynnig mewn sefyllfa fel hyn yn rhywbeth y gallwn ni ei ganmol yn arbennig.
Gaf i hefyd ddiolch i Laura Anne Jones? Mae'n braf ei gweld hi yn ôl, ond mewn amgylchiadau trist, wrth gwrs—ac am ei sylwadau ar bwysigrwydd gwahanol chwaraeon, megis tenis, megis cael meysydd 3G mewn ardaloedd gwledig, nid jest mewn ardaloedd trefol, ac efallai y gallwn ni gael sgwrs benodol ar hynny er mwyn sicrhau ein bod ni'n gallu datblygu hyn.
Ac yna, gaf i bwysleisio, wrth gloi, bod gen i nid yn unig gyfrifoldeb am chwaraeon ac am y celfyddydau, fel yr wythnos diwethaf, ond hefyd bod gen i gyfrifoldeb cyffredinol i gael trosolwg ar weithgaredd corfforol? A dwi'n meddwl mai'r ymrwymiad garwn i roi, am weddill fy nhymor, fel Gweinidog chwaraeon, ydy y byddaf i'n rhoi sylw arbennig i'r trosolwg cyfrifoldeb yma, fel y gallwn ni ddathlu gweithgaredd corfforol yn gyffredinol, fel un o'n rhinweddau cenedlaethol. Diolch yn fawr.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Helen Mary Jones i ymateb i'r ddadl?
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Ac rwy'n ddiolchgar iawn i'r holl Aelodau sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl. Mae'n amhosibl ymateb i'r hyn y mae pawb wedi'i ddweud wrth gwrs, ac rwy'n meddwl bod llawer o themâu cyffredin y deuaf atynt mewn munud, ond mae'n rhaid i mi sôn am un neu ddau Aelod unigol. Ni allaf beidio â llongyfarch Cei Connah neu ni fyddai Jack Sargeant byth yn maddau i mi. Mae'n gamp fawr, ac rwy'n siŵr ein bod i gyd am ategu llongyfarchiadau Jack Sargeant yn y Senedd y prynhawn yma. A rhaid i mi yn bersonol groesawu Laura Anne Jones yn ôl i'n Senedd, er o dan amgylchiadau trasig iawn. Bu Laura a minnau, wrth gwrs, yn gwasanaethu gyda'n gilydd yn y gorffennol, ac mae'n rhaid i mi ddweud, mae'n braf iawn gweld menyw arall yn y Siambr. Felly, croeso nôl.
Rwy'n credu mai'r hyn a wnaeth fy nharo, Ddirprwy Lywydd, oedd y themâu cyffredin a ddeilliodd o gyfraniadau'r holl Aelodau: y ffordd y gall chwaraeon ein hysbrydoli, y modd y gall godi ein hysbryd ar adegau anodd—soniodd David Melding am fod yn falch o weld y criced yn ôl—ond hefyd thema gyffredin anghydraddoldeb a pha mor bwysig yw hi i sicrhau bod pobl yn ein cymunedau tlotaf yn gallu manteisio ar gyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol. Ac roeddwn yn falch iawn o glywed yr hyn a ddywedodd y Gweinidog ar ddiwedd ei gyfraniad am yr ymrwymiad i hyrwyddo pob math o weithgarwch corfforol, nid yr hyn a ystyriwn yn draddodiadol yn chwaraeon yn unig.
Yng nghyfraniad John Griffiths, fe'm trawyd yn fawr gan ei wybodaeth fanwl am y byd chwaraeon yn ei gymuned a'i etholaeth ei hun. A chredaf fod hynny'n cael ei rannu'n gyffredinol ar draws y Siambr. Yn sicr, roedd yn amlwg yng nghyfraniad Alun Davies. Cyfeiriodd yr Aelodau hefyd at bwysigrwydd aruthrol gweithgarwch corfforol i blant. Rwy'n siŵr bod llawer o fechgyn a merched naw oed—gan ddychwelyd at gyfraniad Alun Davies—yn ysu am gael mynd allan a gallu chwarae gyda'i gilydd eto, cyn gynted ag y bydd yn ddiogel iddynt wneud hynny.
Cyfraniad Mick Antoniw, lle tynnodd sylw unwaith eto at bwysigrwydd adnoddau cyhoeddus i alluogi pobl dlotach i barhau i gymryd rhan neu ddechrau cymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol, pobl na allant fforddio ymaelodi â champfa breifat er enghraifft—. Ac rwy'n gobeithio'n fawr, pan fydd y Dirprwy Weinidog yn ymateb yn ffurfiol i'n hadroddiad, y bydd yn trafod mater yr ymddiriedolaethau hamdden a'r cyfleusterau nad ydynt yn nwylo awdurdodau lleol yn llawn mwyach ac a allai wynebu heriau mwy na'r canolfannau hamdden sy'n dal i fod yn eiddo i'r awdurdodau lleol hyd yn oed.
Rwy'n ddiolchgar i bawb am eu cyfraniadau, fel y dywedais, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn sôn am awgrym Mick Antoniw y dylid cynnal asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb. Nid yw'n argymhelliad ffurfiol gan y pwyllgor, ond mae'n sicr wedi deillio o gyfraniadau pawb heddiw, ac fe gododd yn y trafodaethau a gawsom fel pwyllgor. Gwyddom na allwn—. Ni fydd byth ddigon o arian i wneud popeth i bawb. Ac rwy'n credu bod yna neges glir i'r Llywodraeth, o'n pwyllgor ni ac o'r Siambr hon fod yn rhaid i ni gynorthwyo'r bobl sy'n cael y lleiaf o gyfleoedd wrth inni bennu blaenoriaethau. Er enghraifft, ni chawsom unrhyw dystiolaeth ffurfiol, dan y sesiwn hon, ynglŷn â chyfranogiad pobl dduon a phobl o liw mewn chwaraeon ar lefel gymunedol. Ond gwyddom, o waith blaenorol, y gallent fod yn wynebu mwy o her o ran sicrhau mynediad.
Felly, byddwn yn awgrymu wrth y Gweinidog, wrth iddo geisio blaenoriaethu yn y dyfodol, ei fod yn cynnal asesiad o effaith y cymorth sydd eisoes wedi'i ddarparu ar gydraddoldeb. Mae'n iawn i ddweud, wrth gwrs, fod y gefnogaeth sydd eisoes wedi'i darparu drwy Chwaraeon Cymru wedi cael croeso cynnes iawn gan y sector pan roesant dystiolaeth inni. Ond roeddent yr un mor glir—a gwn fod y Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog yn gwybod hyn—na fydd y gefnogaeth honno, er ei bod wedi cael croeso mawr, yn ddigon ynddi ei hun i'n cario drwodd.
Felly, rwyf am gloi, Ddirprwy Lywydd, drwy ddiolch i bawb a gymerodd ran yn y ddadl hon a phawb, unwaith eto, a gymerodd ran ym mhroses y pwyllgor, y dystiolaeth ysgrifenedig a llafar ac wrth gwrs, fel y mae eraill, gan gynnwys David Melding, wedi sôn, rydym fel pwyllgor yn ddiolchgar iawn i'n staff eithriadol. Edrychwn ymlaen at ymateb ffurfiol y Llywodraeth i'n hadroddiad, y gwyddom y bydd yn dod maes o law. Ac rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ymateb yn anffurfiol yn y ddadl ar yr adeg hon.
Gyda hynny, Ddirprwy Lywydd, hoffwn gymeradwyo'r adroddiad hwn i'r Senedd ac edrychaf ymlaen at graffu ymhellach ar y Llywodraeth, wrth i'w cefnogaeth i'r sector chwaraeon ac yn bwysig iawn, i'r sector gweithgarwch corfforol barhau drwy'r cyfnod anodd hwn.
Diolch. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na, nid wyf yn gweld gwrthwynebiad, felly derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 9 ar ein hagenda y prynhawn yma yw'r ddadl ar ddeiseb y Pwyllgor Deisebau P-05-967, 'Annog Llywodraeth Cymru i ddiwygio ei pholisi ar ryddhad ardrethi annomestig i helpu i gadw siopau Debenhams ar agor yng Nghymru', a galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i gyflwyno'r cynnig—Janet Finch-Saunders.
Cynnig NDM7343 Janet Finch-Saunders
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi’r ddeiseb 'P-05-967 Annog Llywodraeth Cymru i ddiwygio ei pholisi ar ryddhad ardrethi annomestig i helpu i gadw siopau Debenhams ar agor yng Nghymru' a gasglodd 5,790 o lofnodion.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a hefyd am y cyfle i gyflwyno'r ddadl hon. Mae'r ddeiseb o'n blaenau yn cynnwys 5,790 o lofnodion. Fe'i cyflwynwyd gan Peter Black, cyn gyd-Aelod i lawer ohonom yma yn y Senedd, a chynghorydd etholedig ar hyn o bryd ar Gyngor Abertawe.
Mae'r ddeiseb hon yn codi pryderon am yr effaith y gall cau siopau manwerthu mawr ei chael ar hyfywedd canol trefi a dinasoedd. Mae'n gwneud hynny yng nghyd-destun yr heriau sy'n wynebu'r sector manwerthu o ganlyniad i'r coronafeirws. Mae'r ddeiseb yn cyfeirio at siopau Debenhams yn unol â'r rôl ganolog sydd i'r siop honno yng nghanol dinas Abertawe. Mae'r un peth yn wir yma yn Llandudno—mae'n bendant yn siop angori i lawer o bobl yn ein prif ganolfan siopa. Fodd bynnag, y pwynt ehangach a wnaed gan y deisebwyr yw pwysigrwydd siopau angori mawr o'r fath yng nghanol llawer o drefi a dinasoedd ledled Cymru. Gallai'r effaith ganlyniadol o golli siop o'r fath, a'r gostyngiad yn nifer y cwsmeriaid yn sgil hynny, fod yn ddinistriol i fusnesau eraill yn yr ardal.
Nawr, rwyf am bwysleisio, wrth gyflwyno'r ddeiseb hon, nad yw'r Pwyllgor Deisebau yn ceisio annog dadl fanwl ynghylch manteision cynnig cymorth ariannol i un cwmni penodol, nac am sefyllfa ariannol Debenhams ei hun. Yn hytrach, credaf y gall trafod y ddeiseb hon helpu i daflu goleuni ar ddau fater pwysig: (1) sut orau i flaenoriaethu'r cymorth ariannol sydd ar gael i fusnesau gan Lywodraeth Cymru i'r rhai sydd fwyaf o'i angen; a (2) pa fesurau y gellir eu cymryd i ddiogelu ein strydoedd mawr rhag effeithiau'r pandemig ofnadwy hwn. Serch hynny, mae angen nodi ychydig o gefndir y ddeiseb yn gryno.
Ym mis Mawrth, cyhoeddodd y Gweinidog Cyllid becyn cymorth i fusnesau mewn ymateb i COVID-19. Roedd hyn yn cynnwys 100 y cant o ryddhad ardrethi busnes ar gyfer eiddo a ddefnyddir ar gyfer manwerthu, hamdden a lletygarwch, am flwyddyn yn unig. Wedi hynny, diwygiwyd y cynllun i eithrio eiddo â gwerth ardrethol o £500,000 a throsodd. Mae Llywodraeth Cymru yn datgan bod hyn yn effeithio ar lai na 200 eiddo yng Nghymru ac mae wedi ei galluogi i ailgyfeirio mwy na £100 miliwn i'w chronfa cadernid economaidd. Mae cwmnïau, gan gynnwys Debenhams, wedi honni y gallai'r penderfyniad hwn beryglu camau i ailagor siopau mawr yng Nghymru. Yn achos siopau Debenhams yn Abertawe a Chasnewydd, dwy siop a ddaeth i sylw'r pwyllgor, cytunwyd yn lleol i ohirio ardrethi busnes. Nododd y deisebydd nifer y swyddi a gynhyrchir gan safleoedd manwerthu mawr, o ran cyflogaeth uniongyrchol ac yn anuniongyrchol i'r economi leol. Mae hefyd yn tynnu sylw at y ffaith nad yw'r cytundebau lleol ond yn berthnasol i ohiriadau, gyda'r arian yn dal i fod yn ddyledus yn y dyfodol.
Yn amlwg, mae llawer o fanwerthwyr wedi gallu ailagor eu drysau ers i gyfyngiadau ar werthu nwyddau dianghenraid gael eu llacio ar 22 Mehefin. Gobeithiwn y bydd hyn yn helpu i liniaru'r heriau a wynebir gan lawer o fanwerthwyr ledled Cymru. Fodd bynnag, mae'n amlwg fod yna adegau anodd iawn o'n blaenau, ac nid wyf yn gor-ddweud pan ddywedaf fod heriau dirfodol yn wynebu llawer o fusnesau bach a mawr. Mae llawer o'r heriau hyn yn rhai strwythurol ac yn rhagflaenu'r argyfwng presennol, ond maent yn sicr wedi'u gwaethygu gan y cyfyngiadau symud a oedd yn ofynnol i fynd i'r afael â'r clefyd. Gobeithio y bydd y ddadl hon yn ein helpu i drafod ymhellach sut y gall Llywodraeth Cymru ymateb i'r heriau hynny yn y ffordd orau. Rwyf hefyd yn edrych ymlaen at glywed gan y Gweinidog heddiw am y camau sy'n cael eu cymryd i gefnogi manwerthwyr a busnesau eraill yng Nghymru. Diolch yn fawr.
Croesawaf y cyfle hwn i siarad am y ddeiseb hon. Mae eistedd ar y Pwyllgor Deisebau yn fraint go iawn i mi gan ei fod yn gyfle gwych imi edrych ar eitemau o bwysigrwydd enfawr, fel hwn. Mae'r ddeiseb hon yn gofyn i'r Llywodraeth weithredu i helpu i ddiogelu dyfodol cyflogwr pwysig yma yng Nghymru a dylem i gyd fod yn ymwybodol iawn o'r angen i lywodraeth ddangos hyblygrwydd wrth ddiogelu swyddi manwerthu, lle mae effaith y pandemig coronafeirws ar ein stryd fawr wedi bod yn fawr. Wrth gwrs, ceir sectorau eraill hefyd. Effeithiwyd ar lawer o sectorau ledled Cymru, ac rwyf innau wedi galw ar Lywodraeth y DU i weithredu'n gyflym i gefnogi'r diwydiant awyrofod. Ni allaf ond gobeithio y byddant yn dechrau rhoi ystyriaeth ddifrifol i'r galwadau hyn.
Ddirprwy Lywydd, nodais ymateb y Gweinidog i'r pwyllgor gyda gwir ddiddordeb ac yn arbennig y ffaith bod Llywodraeth Cymru yn darparu rhyddhad ardrethi annomestig i'r rhan fwyaf o siopau Debenhams yng Nghymru, gyda chyfanswm cymorth o dros £1 filiwn. Fodd bynnag, mae'n rhaid inni gydnabod bod y cwmni hwn yn gyflogwr pwysig ledled Cymru a byddwn yn annog y Gweinidog i amlinellu ymhellach sut y gall weithio gyda'n partneriaid llywodraeth leol i gefnogi'r swyddi hyn ymhellach a sut y gall edrych eto hefyd ar sut rydym yn cefnogi'r holl swyddi ar draws ein strydoedd mawr a phob busnes ar ein strydoedd mawr drwy gydol yr argyfwng hwn ac i mewn i'r cyfnod ôl-COVID. Diolch.
Rwy'n falch o ddweud ychydig eiriau yn y ddadl hon a diolch i Janet Finch-Saunders ac yn wir i'r Pwyllgor Deisebau am ystyried deiseb bwysig. Codais fater Debenhams yn gyntaf ychydig wythnosau'n ôl bellach pan soniwyd gyntaf am y bygythiad i siopau Cymru yng Nghasnewydd ac Abertawe, rwy'n credu, a'r tro cyntaf i'r mater gael sylw yn fy ngwasg leol. Rwy'n credu ei bod yn hawdd iawn inni ganolbwyntio ar yr angen i gefnogi busnesau bach a chanolig yn ystod y pandemig, ac wrth gwrs, mae hynny'n hanfodol bwysig, ac yn fy etholaeth fy hun yn fy ardal i o dde Cymru, mae gennych drefi marchnad, mae gennych siopau bach sydd angen cymorth, ond ar yr un pryd, os tynnwn ein llygad oddi ar y bêl ac os nad edrychwn ar ffyrdd y gallwn gefnogi'r siopau angori mwy o faint hefyd, rwy'n credu y byddwn yn esgeuluso rhywbeth. Ac fel y dywedodd Janet Finch-Saunders wrth agor, mae'r ffordd y mae'r gyfundrefn ardrethi busnes yn gweithio yng Nghymru—y gyfundrefn ardrethi annomestig—yn golygu bod siopau fel Debenhams wedi teimlo dan fygythiad. Rwy'n credu y byddai'n rhy hawdd inni feddwl, 'Wel, iawn, maent yn gwmnïau mwy o faint, byddant yn iawn.' Yn y pen draw, os collwn siop fel y siop flaenllaw yng Nghasnewydd, sydd ond wedi bod ar agor ers rhai blynyddoedd bellach, siop gymharol newydd, rydym yn colli llawer o swyddi, rydym yn colli siop angori fawr yn yr ardal honno sy'n dod â phobl i mewn, pobl sy'n mynd wedyn i siopa mewn siopau cyfagos a chefnogi'r economi leol. Ac er ei fod yn yr etholaeth gyfagos—mae yng Ngorllewin Casnewydd, yn ardal Jayne Bryant—mae llawer o bobl yn fy ardal i yn mynd i lawr i'r siop honno wrth gwrs ac mae llawer o bobl yn gweithio yno.
Felly, diolch i chi am gyflwyno'r ddeiseb hon, Janet, ac a gaf fi ddiolch i aelodau'r Pwyllgor Deisebau am wneud hynny a chyflwyno'r ddadl hon yma heddiw? Gadewch inni annog Llywodraeth Cymru i ailedrych ar y cynllun rhyddhad ardrethi annomestig. Ydy, mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud nifer o bethau i geisio cefnogi busnesau ac yn arbennig busnesau llai o faint, ond gadewch inni beidio â cholli golwg ar y ffaith bod angen y cymorth ar y siopau mawr fel Debenhams.
Hoffwn glywed y newyddion diweddaraf gan y Gweinidog hefyd, pan fydd yn ymateb, am y trafodaethau a gynhaliwyd gyda rheolwyr Debenhams hefyd, oherwydd o'r hyn y gwn eu bod wedi'i ddweud, rwy'n credu bod ganddynt syniadau da iawn, a gobeithio y gallwn ddod i drefniant a fydd yn plesio pob ochr. Ond diolch am y ddadl hon heddiw.
Er ein bod yn cefnogi'r cynnig, mae'n siomedig nodi na allai gynnwys manwerthwyr stryd fawr eiconig eraill. Rwy'n deall, wrth gwrs, fod yn rhaid i'r pwyllgor gyflwyno'r ddadl yng ngoleuni'r ddeiseb wreiddiol. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn, fodd bynnag, i bwysleisio bod siopau mawr eraill wedi cau neu ar fin cau llawer o'u siopau stryd fawr. Rydym ni yn Nhorfaen wedi gweld siop Marks and Spencer yn cau yng nghanol tref Cwmbrân, ac mae rhywun yn meddwl tybed beth yw sefyllfa ariannol busnesau o'r fath fel siop adrannol David Evans yn y dref, sy'n un o gadwyn siopau House of Fraser. Yn aml, mae'r siopau cadwyn enwog hyn yn siopau angori ar gyfer canol trefi; mae eu habsenoldeb yn aml yn achosi—os maddeuwch y gair mwys—adwaith cadwynol i'r canolfannau yr effeithir arnynt, lle na all llawer o siopau bach oroesi oherwydd y gostyngiad yn nifer yr ymwelwyr â'r dref ei hun. Er ein bod yn cefnogi'r alwad hon ar ran Debenhams, a gaf fi annog y Llywodraeth i helpu pob siop o'r fath? Mae dyfodol canol ein trefi a'n dinasoedd yn y fantol, a rhaid inni wneud popeth yn ein gallu i helpu i'w cynnal.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd, Rebecca Evans?
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod yr heriau sy'n wynebu busnesau yn ystod y pandemig, a chafwyd ymdrech ryfeddol i ddarparu'r pecyn cymorth mwyaf hael i fusnesau yn unrhyw ran o'r DU. Mae ein pecyn gwerth £1.7 biliwn yn cynnwys dros £350 miliwn o ryddhad ardrethi annomestig i fusnesau yn y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch, ac mae'r cynllun hwn yn gostwng y biliau ardrethi ar gyfer y busnesau hyn i sero ar gyfer y flwyddyn ariannol hon. Mae hyn yn ychwanegol at ein cynlluniau rhyddhad ardrethi presennol, sy'n darparu dros £230 miliwn o gymorth eleni. O ganlyniad i'n cynlluniau, nid yw dros 70,000 o fusnesau a sefydliadau eraill yng Nghymru yn talu unrhyw ardrethi o gwbl eleni. Rydym hefyd wedi darparu dros £800 miliwn o gyllid ar gyfer grantiau sy'n gysylltiedig â gwerthoedd ardrethol i gefnogi busnesau bach a chanolig ledled Cymru, gan gynnwys busnesau yn y sector manwerthu. Rydym wedi gweithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod yr arian hwn wedi cyrraedd busnesau cyn gynted â phosibl, ac rwyf am ddiolch i bob awdurdod lleol ledled Cymru am y ffordd hyblyg ac effeithlon y maent wedi mynd i'r afael â'r her hon i gefnogi busnesau ar draws ein cymunedau. Hyd yn hyn, maent wedi rhoi dros 60,000 o grantiau i fusnesau cymwys. Yn wahanol i Loegr, mae busnesau nad ydynt yn gymwys ar gyfer y cynlluniau hyn wedi gallu gwneud cais am gymorth ariannol drwy ein cronfa cadernid economaidd gwerth £0.5 biliwn, cronfa a luniwyd i fynd i'r afael â'r bylchau yn y DU a adawyd yng nghynnig Llywodraeth y DU.
Gwn nad yw pob busnes wedi cymhwyso i gael cymorth ariannol, ac mae ein pecyn wedi'i gynllunio i fod yn fforddiadwy o fewn yr arian sydd ar gael yn wyneb pandemig byd-eang digyffelyb. Er gwaethaf y pwysau hyn, mae ffigurau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod 34 y cant o'r holl fusnesau yng Nghymru wedi cael cymorth gan y Llywodraeth yng Nghymru, o'i gymharu â 14 y cant yn Lloegr. Cafodd ein gallu i fynd y tu hwnt i'r cymorth a gynigir gan Lywodraeth y DU ei ariannu'n rhannol gan ein penderfyniad i gapio'r cymorth sydd ar gael drwy ein mesurau rhyddhad ardrethi newydd, ac ni wnaed y penderfyniad hwnnw ar chwarae bach. Galluogodd dros £100 miliwn i gael ei gyfeirio tuag at ein cronfa cadernid economaidd, sy'n cefnogi busnesau o bob maint. I ddangos yr effaith a gaiff hyn, dyma'r swm sydd ei angen i ariannu grantiau o £50,000 ar gyfer dros 2,000 o fusnesau bach a chanolig yng Nghymru, ac mae'r gronfa hon wedi cynorthwyo miloedd o fusnesau bach, sy'n gyfran fwy o economi Cymru, gyda llawer ohonynt yn asgwrn cefn i'n cymunedau.
Gan droi at yr heriau sy'n wynebu Debenhams, rwy'n cydnabod pwysigrwydd siopau Debenhams i'n trefi a'n dinasoedd ledled Cymru, ac rwyf wedi cyfarfod â chadeirydd Debenhams i ddysgu mwy am sefyllfa'r cwmni. Mae'n bwysig cydnabod bod y rhan fwyaf o siopau Debenhams yng Nghymru yn derbyn rhyddhad ardrethi a chymorth grantiau gwerth £1.3 miliwn eleni. Fodd bynnag, mae problemau Debenhams wedi'u dogfennu'n dda, ac wrth i'r cwmni wynebu ei drydedd broses ansolfedd mewn 12 mis, nid wyf yn credu ei bod yn gredadwy honni y gellid gwarantu cynaliadwyedd y busnes drwy ryddhad ardrethi pellach gan Lywodraeth Cymru. Mae Debenhams eisoes wedi cyhoeddi bod rhai o'i siopau'n cau ledled y DU, ac mae'r rheini'n cynnwys nifer o safleoedd a oedd yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi. Ac o ystyried y cefndir heriol hwn, cyfeiriais y cwmni at y gronfa cadernid economaidd, sydd wedi cefnogi busnesau sy'n strategol bwysig yng Nghymru gyda gwerth ardrethol o dros £500,000.
Nid yw ond yn iawn fod unrhyw gymorth pellach yn gysylltiedig ag ymrwymiadau clir ynghylch swyddi a chynlluniau busnes, oherwydd dyma'r ffactorau sy'n pennu a yw ein cymorth yn cyflawni mewn gwirionedd ar gyfer ein cymunedau, canol ein trefi a'n gweithwyr yng Nghymru. Gyda'n hadnoddau cyfyngedig, rwy'n hyderus fod cydbwysedd teg wedi'i daro drwy gyfyngu rhyddhad ardrethi i'r safleoedd mwy hynny er mwyn cefnogi busnesau llai heb unman arall i droi. Rhaid inni gydnabod hefyd fod ardrethi annomestig yn bodoli i helpu i ariannu'r gwasanaethau lleol rydym oll yn dibynnu arnynt. Caiff pob ceiniog o refeniw a gesglir ei defnyddio i ariannu gwasanaethau lleol, ac mae'r gwasanaethau hyn yn hanfodol ar adegau arferol, ond o dan yr amgylchiadau presennol, mae awdurdodau lleol hefyd yn darparu cymorth uniongyrchol a hanfodol wrth ymdrin ag effaith y feirws.
Felly, i orffen, gan weithio ar gyflymder ac i raddau sy'n gwbl ddigynsail, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cymorth i Debenhams ac wedi ymgysylltu'n gadarnhaol â'r cwmni, tra'n ceisio diogelu swyddi a sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio'n ddoeth. Diolch yn fawr.
A gaf fi alw yn awr ar Janet Finch-Saunders i ymateb i'r ddadl?
Diolch yn fawr, Lywydd. Ac wrth gloi'r ddadl heddiw, hoffwn ddiolch i'r deisebydd ac eraill sydd wedi cysylltu â'n pwyllgor ynglŷn â'r mater hwn. Roedd yn dda gweld Jack Sargeant yn cyfrannu fel aelod o'r pwyllgor, a wyddoch chi, yn galw ar y Gweinidog i nodi sut y gellir cefnogi busnesau o'r fath. Mae fy nghyd-Aelod Nick Ramsay yn cymeradwyo unwaith eto yr angen i gydnabod bod y siopau angori hyn, ar ôl inni eu colli, hefyd yn arwain at golli llawer o swyddi. Tynnodd David Rowlands sylw at y ffaith bod siopau mawr eraill allan yno—a soniodd am House of Fraser, Marks and Spencers—a sut y mae hynny'n arwain at adwaith cadwynol pan fyddwn yn colli'r siopau mawr hyn.
Mae'r ddadl hon wedi ein galluogi i godi pwyntiau a materion pwysig, ac rwy'n ddiolchgar iawn i'r Gweinidog am ymateb i lawer ohonynt. Bydd y Pwyllgor Deisebau yn ystyried y ddeiseb hon unwaith eto yng ngoleuni'r cyfraniadau a wnaed yn ein Cyfarfod Llawn y prynhawn yma. Diolch yn fawr iawn.
Diolch. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nid wyf yn gweld unrhyw wrthwynebiadau, felly derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Rebecca Evans, gwelliant 2 yn enw Siân Gwenllian, a gwelliant 3 yn enw Caroline Jones. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 ei ddad-ddethol.
Symudwn yn awr at eitem 10 ar yr agenda, sef dadl y Ceidwadwyr Cymreig—COVID-19 a Thrafnidiaeth—a galwaf ar Darren Millar i gyflwyno'r cynnig. Darren.
Cynnig NDM7345 Darren Millar
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn croesawu llacio'r cyfyngiadau diweddar ar deithio yn ystod coronafeirws.
2. Yn cydnabod effaith andwyol y cyfyngiadau teithio blaenorol ar berthnasoedd personol, iechyd meddwl a lles pobl, a manwerthwyr.
3. Yn gresynu at fethiant Llywodraeth Cymru i ddarparu cymorth digonol i weithredwyr bysiau yng Nghymru yn ystod y pandemig coronafeirws.
4. Yn mynegi siom bod Llywodraeth Cymru wedi peidio â chefnogi cwmnïau hedfan i hedfan o Faes Awyr Caerdydd.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) diystyru'r angen i gyflwyno gofynion cwarantin i breswylwyr sy'n teithio i Gymru o'r tu mewn i'r Ardal Deithio Gyffredin;
b) mynd ati ar frys i adolygu a chynyddu'r cymorth sydd ar gael i weithredwyr bysiau yng Nghymru, er mwyn eu galluogi i gynyddu amlder a chapasiti gwasanaethau bysiau i bobl Cymru;
c) hyrwyddo'r broses o sefydlu llwybrau newydd o Faes Awyr Caerdydd i gyrchfannau diogel ledled y byd er mwyn ei helpu i lamu yn ôl o'r pandemig coronafeirws.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Cynigiaf y cynnig ar y papur trefn.
Mae pobl Cymru wedi dioddef y cyfyngiadau symud mwyaf difrifol y bydd neb ohonom wedi'u profi yn ystod ein hoes yn y misoedd diwethaf—cyfyngiadau sydd wedi bod yn fwy llym ac wedi para'n hwy nag unrhyw le arall yn y Deyrnas Unedig. Torrwyd y cysylltiad rhwng pobl a'u ffrindiau a'u teuluoedd. Mae Sul y Mamau, Sul y Tadau, y Pasg, pen-blwyddi, pen-blwyddi priodas, priodasau a phob math o ddigwyddiadau eraill a fyddai fel arfer yn dod â theuluoedd at ei gilydd wedi bod yn achlysuron eithaf tawel eleni. Ac wrth gwrs, cyflwynwyd y cyfyngiadau am reswm da: trwy aros gartref, rydym yn helpu i ddiogelu llawer o'r rhai mwyaf bregus yn ein cymdeithas, ac rydym wedi lleihau lledaeniad y coronafeirws. Ond roedd parhau'r rheol 5 milltir yn greulon. Rwy'n cydnabod mai bwriad Llywodraeth Cymru oedd atal teithiau hir ac osgoi llethu traethau Cymru neu gyrchfannau eraill, ond roedd y rheol 5 milltir yn fympwyol. Roedd yn cadw teuluoedd ar wahân, a thu hwnt i ardaloedd trefol a dweud y gwir, roedd hi'n destun gwawd. Effeithiodd yn andwyol ar berthynas pobl â'i gilydd. Gwaethygodd broblemau'n ymwneud ag unigrwydd ac arwahanrwydd, cyfrannodd at salwch meddwl a lles gwael, a gwnaeth lawer o fusnesau yng Nghymru yn llai hyfyw.
Cyn y pandemig, Cymru oedd â'r economi wanaf yn y DU eisoes wrth gwrs, a'r gyfradd uchaf o siopau gwag ar y stryd fawr, felly nid yw cadw Cymru dan gyfyngiadau symud am fwy o amser yn mynd i'n helpu i fynd i'r afael â'r ffeithiau hyn. Er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth y cyhoedd â chanllawiau'r Llywodraeth, wrth gwrs, mae'n bwysig fod angen i Weinidogion sicrhau bod eu cyfarwyddiadau i'r cyhoedd yn deg, yn realistig ac wedi eu cefnogi gan dystiolaeth. Byddai gwneud unrhyw beth heblaw hynny, wrth gwrs, yn creu perygl o elyniaethu'r cyhoedd ac eto, hyd yma, nid yw Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi rhithyn o dystiolaeth wyddonol dros ei rheol 5 milltir greulon. A dyna pam ein bod yn croesawu llacio'r cyfyngiadau teithio o ddydd Llun ymlaen yn fawr iawn.
Bydd llawer o'r bobl sydd am fwynhau cael eu rhyddid yn ôl, wrth gwrs, yn dewis neidio ar fws. Mae teithio ar fws, wrth gwrs, yn hanfodol i lawer o'n dinasyddion, ond mae'n achubiaeth sydd mewn perygl cynyddol yma yng Nghymru. Roedd nifer y bobl a deithiai ar fysiau eisoes wedi gostwng bron i chwarter dros y 13 mlynedd diwethaf o ganlyniad i doriadau ariannol, masnachfreintiau aflwyddiannus a chwtogi nifer y llwybrau, ac yn ystod y pandemig, mae wedi gostwng 90 y cant arall, a digwyddodd rhywfaint o hynny'n uniongyrchol o ganlyniad i bobl yn methu teithio y tu hwnt i'r rheol 5 milltir greulon.
Mae'r mesur cadw pellter cymdeithasol o 2m hefyd yn golygu mai dim ond nifer fach o'u teithwyr blaenorol y gall bysiau eu cludo erbyn hyn. Mewn rhai achosion, ni fydd bws â chapasiti llawn o 64 ond yn gallu cludo llai na 10 o deithwyr yn unig. Felly, mae angen i Lywodraeth Cymru atal toriadau pellach i wasanaethau bysiau drwy gynyddu'r cymorth sydd ar gael i weithredwyr er mwyn diogelu'r llwybrau hollbwysig hyn i fywydau pobl.
Mae'r Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr wedi awgrymu y gallai £5.7 miliwn y mis adfer gwasanaethau yng Nghymru i'w capasiti cyn y cyfyngiadau. Nawr, rwy'n falch iawn fod cyflwyno ein cynnig yr wythnos diwethaf wedi golygu bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei bod yn sefydlu cronfa argyfwng ar gyfer bysiau yng Nghymru, ond rwy'n ofni mai prin oedd y manylion yn y datganiad ysgrifenedig i fynd gyda'r cyhoeddiad ynglŷn â sut y bydd y gronfa newydd hon yn gweithio, felly efallai y gall y Gweinidog rannu rhagor o wybodaeth am hyn yn ei ymateb i'r ddadl hon, oherwydd os collwn fwy o lwybrau bysiau yn ystod y pandemig hwn, y realiti yw ein bod mewn perygl o weld newid moddol—newid yn ôl i ddefnyddio'r car ac oddi ar drafnidiaeth gyhoeddus. Oherwydd pan fydd llwybrau bysiau'n cael eu torri, y gwir amdani yw mai anaml iawn y byddant yn cael eu hadfer.
Ddirprwy Lywydd, mae arnom angen i Lywodraeth Cymru edrych eto ar ei safbwynt ar orchuddion wyneb. Unwaith eto, ymddengys bod Cymru ar ei hôl hi yn y mater hwn. Er bod gorchuddion wyneb yn orfodol yn awr ar gyfer rhai gweithgareddau yn yr Alban ac yn Lloegr, nid yw hynny'n digwydd yng Nghymru. Gan fod lefel y teithiau trawsffiniol rhwng Cymru a Lloegr mor sylweddol, nid yw hyn yn gwneud synnwyr, a dyna pam y byddwn yn cefnogi gwelliant Plaid Brexit, sy'n argymell bod gorchuddion wyneb yn orfodol wrth deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru yn y dyfodol.
Ond nid ein bysiau yn unig sy'n dioddef o effaith y pandemig—mae'r diwydiant hedfan yn dioddef hefyd wrth gwrs. Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Airbus fod dros 1,400 o swyddi'n cael eu colli yn ei safle ym Mrychdyn yng ngogledd Cymru—ergyd drom i'r gweithwyr a'u teuluoedd, yn ogystal â'r economi ehangach. Yn ogystal, mae maes awyr Caerdydd, y bu trethdalwyr yn ei gynnal ers ei wladoli yn ôl yn 2013, yn naturiol wedi gweld gostyngiad enfawr yn nifer y teithwyr.
Ni chaiff y syniad o adferiad buan i faes awyr Caerdydd a'r sector hedfan ehangach ei helpu drwy fod Llywodraeth Cymru'n annog cwmnïau hedfan rhad poblogaidd fel Ryanair rhag hedfan o Gymru, fel y gwnaethant yr wythnos diwethaf. Felly, a all Gweinidogion esbonio heddiw pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'w cymryd i helpu'r diwydiant hedfan yng Nghymru i ymadfer, gan gynnwys cynlluniau i hyrwyddo llwybrau newydd i ac o fannau diogel tramor lle mae'r gyfradd drosglwyddo'n isel? Mae hyn yn arbennig o bwysig, wrth gwrs, i ddiwydiant twristiaeth Cymru, sydd angen manteisio i'r eithaf ar yr hyn sy'n weddill o dymor yr haf wrth symud ymlaen.
Mae'r diwydiant, wrth gwrs, yn werth biliynau i economi Cymru—mae'n cyflogi 8 y cant o weithlu Cymru—ac eto mae wedi bod ar gau am fwy o amser nag unrhyw ran arall o'r DU. Cafodd busnesau twristiaeth a lletygarwch agor yn Lloegr ddydd Sadwrn wrth gwrs, ond mae darpariaeth llety dros nos yn dal ar gau am naw diwrnod arall ar ôl y dyddiad agor yn Lloegr, a hynny ar adeg dyngedfennol, pan fo llawer o fusnesau ar ymyl y dibyn.
Ein marchnad dwristiaeth fwyaf, wrth gwrs, sy'n mynd i fod yn allweddol i adferiad yr economi twristiaeth, yw Lloegr, ac eto aeth ein Gweinidog iechyd ar yr awyr ar orsaf radio genedlaethol yr wythnos diwethaf i ddweud na fyddai'n diystyru cyflwyno cyfnod cwarantin ar gyfer ymwelwyr â Chymru o rannau eraill o'r Deyrnas Unedig—am awgym chwerthinllyd. Pam y byddai unrhyw un yn dod i Gymru am benwythnos o wyliau pe bai'n rhaid iddynt dreulio pythefnos mewn cwarantin ar ôl iddynt gyrraedd? Mae'n sefyllfa hollol hurt. Mae gennym ffin agored â Lloegr. Sut ar y ddaear y byddai Llywodraeth Cymru yn gallu atal y teithio dyddiol rhwng Cymru a Lerpwl, Caer, Amwythig neu Fryste pan fo gennych sefyllfa fel sydd gennym ni? Y peth olaf sydd ei angen ar bobl Cymru, a bod yn onest, yw llen lechi ar hyd ein ffin â Lloegr ar adeg pan fo angen inni hybu masnach rhwng ein dwy genedl wych.
Ni ddylai neb sy'n cyrraedd Cymru o'r DU na'r ardal deithio gyffredin ehangach orfod treulio cyfnod dan gwarantin wrth ymweld â'r rhan hon o'r Deyrnas Unedig, felly rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn diystyru hyn heddiw, ac rwy'n disgwyl i'r Gweinidog wneud hynny yn ei sylwadau ar ein dadl. Gobeithio hefyd y bydd llefarydd Plaid Cymru yn egluro pam eu bod i'w gweld yn cefnogi gosod gwladolion y DU ac Iwerddon dan gwarantin cyn iddynt ddod i mewn i Gymru, oherwydd mae eu gwelliant yn cynnig dileu'r datganiad sydd gennym yn ein cynnig ni er mwyn ei ddiwygio. Nawr, rydym yn cefnogi gwaith Llywodraeth y DU yn sefydlu pontydd awyr, sef yr hyn y mae gwelliant Plaid Cymru'n cyfeirio ato wrth gwrs. Rydym yn cefnogi'r gwaith hwnnw. Rydym am weld pontydd awyr yn cael eu sefydlu gyda chyrchfannau tramor diogel eraill. Ond wrth gwrs, nid yw pontydd awyr yn berthnasol i wledydd fel Lloegr lle mae gennym bontydd go iawn sy'n cysylltu Cymru â Lloegr. Felly, er mwyn y rhai sy'n croesi'r ffin yn rheolaidd ac sy'n awyddus i ymweld â Chymru, rydym yn mynd i wrthwynebu gwelliant Plaid Cymru. Rwy'n credu bod angen inni anfon neges glir iawn heddiw, sef bod Cymru, o 11 Gorffennaf ymlaen, a gwell hwyr na hwyrach, ar agor i fusnes yn bendant iawn ac rydym am annog pobl i ymweld â Chymru'n ddiogel.
Felly, i gloi'r sylwadau agoriadol hyn, Ddirprwy Lywydd, mae Cymru'n ailagor, er yn araf. Mae angen inni helpu i sicrhau bod Cymru'n ailddechrau symud drwy gefnogi gweithredwyr trafnidiaeth gyhoeddus, drwy gael ein rhwydwaith bysiau yn ôl ar ei draed, drwy gefnogi ein diwydiant awyrennau, ac mae angen hefyd inni ddiogelu ein diwydiant twristiaeth a'r swyddi sy'n ddibynnol arno drwy hyrwyddo Cymru fel cyrchfan, nid tynnu llen lechi ar hyd ein ffin. Mae Llywodraeth y DU wedi gwneud ei rhan wrth gwrs, gyda gostyngiad yn y TAW i fusnesau twristiaeth a lletygarwch ar gyfer y dyfodol, sy'n gam rhagorol yn fy marn i. Mae angen inni weld Llywodraeth Cymru yn torchi ei llewys yn awr ac yn cyflawni rhywfaint o waith cymorth ei hun. Rwy'n annog pobl i gefnogi ein cynnig. Diolch.
Diolch. Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Galwaf ar Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans, yn ffurfiol.
Gwelliant 1—Rebecca Evans
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi nad yw Coronafeirws wedi diflannu er gwaethaf y ffaith bod y trosglwyddiad o fewn cymunedau wedi lleihau yn sgil y mesurau sydd wedi’u cyflwyno. Mae hyn yn cyfiawnhau dull gofalus Llywodraeth Cymru o gydbwyso’r peryglon i iechyd y cyhoedd â pheryglon economaidd, cymdeithasol ac eraill, gan gynnwys teithio.
2. Yn cydnabod y pwysau sylweddol y mae’r Coronafeirws wedi’i roi ar gyllid Llywodraeth Cymru, a heb hyblygrwydd ychwanegol gan Lywodraeth y DU, mae buddsoddiad uwch mewn un maes, fel iechyd, cymorth i fusnesau neu drafnidiaeth yn golygu bod llai o gyllid ar gael ar gyfer meysydd eraill.
3. Yn croesawu’r pecyn sylweddol o gymorth brys sydd wedi’i gyflwyno gan Lywodraeth Cymru er mwyn achub cwmnïau bysiau a threnau yng Nghymru yn ystod y pandemig.
4. Yn cydnabod swyddogaeth bwysig Maes Awyr Caerdydd yn ystod yr argyfwng, gan helpu i gludo cyflenwadau o gyfarpar diogelu personol i Gymru.
5. Yn nodi gwaith Llywodraeth Cymru:
a) gyda llywodraethau eraill datganoledig er mwyn ystyried dull ar draws y pedair gwlad ar gyfer codi cyfyngiadau teithio rhyngwladol;
b) gyda chwmnïau bysiau ac awdurdodau lleol er mwyn ystyried cynyddu gwasanaethau mewn modd priodol a rheoli hyn mewn modd cynaliadwy yn y dyfodol; ac
c) gyda Maes Awyr Caerdydd er mwyn ystyried llwybrau teithio newydd a diogelu ei ddyfodol fel rhan o system trafnidiaeth gyhoeddus integredig ar draws Cymru, a hynny er gwaethaf gwrthwynebiad parhaus gan Lywodraeth y DU mewn maes polisi sydd wedi’i gadw i raddau helaeth er mwyn sicrhau bod meysydd awyr rhanbarthol oll yn cael eu trin yn yr un modd.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Yn ffurfiol.
Diolch. Galwaf ar Helen Mary Jones i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Helen Mary.
Gwelliant 2—Siân Gwenllian
Dileu pwynt 5(a) a rhoi yn ei le:
'cytuno i sefydlu pontydd awyr i wledydd eraill pan fydd yn ddiogel gwneud hynny a chadw trefniadau teithio o dan adolygiad parhaus;'
Cynigiwyd gwelliant 2.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf fi ddechrau drwy ddiolch i grŵp y Ceidwadwyr am gyflwyno hyn? Mae'n ddadl bwysig ac mae'n iawn inni fod yn trafod materion sy'n ymwneud â thrafnidiaeth. Ac mae yna elfennau o'u cynnig na allaf anghytuno â hwy. Mae'n beth da fod cyfyngiadau teithio'n cael eu codi. Mae'n beth da gan ei bod yn teimlo'n fwy diogel bellach i godi'r cyfyngiadau teithio. Ac wrth gwrs, mae cyfyngiadau teithio wedi bod yn galed iawn ar bobl, yn galed arnom i gyd. Ni all fod un ohonom yn y Siambr hon a'r rhith-Siambr sydd heb weld colli rhywun neu fwy nag un person nad ydym wedi gallu eu gweld. Ond fel y cydnabu Darren Millar, roedd y cyfyngiadau hynny'n angenrheidiol.
Ac mae'r pryderon y mae'r cynnig yn eu codi ynghylch cefnogaeth i'r diwydiant bysiau yn bwyntiau a wnaed yn dda yn fy marn i. Croesewir datganiad y Dirprwy Weinidog yn gynharach yr wythnos hon, datganiad a wnaed wedi i'r cynnig hwn gael ei gyflwyno wrth gwrs. Ond rhaid i mi gytuno â Darren Millar fod yr ymrwymiad i gynllun argyfwng ar gyfer bysiau yn un i'w groesawu, ond mae'n anarferol o amwys ar ran y Dirprwy Weinidog. Mae'n brin o ffigurau ac amserlenni, ac mae angen y rheini ar y diwydiant ar fyrder, a gobeithio bod y Dirprwy Weinidog yn deall hynny.
Nawr, rwy'n hapus iawn i egluro i Darren Millar pam ein bod wedi cynnig diwygio ei gynnig yn y ffordd y gwnaethom, ac wrth wneud hynny, os caf, Ddirprwy Lywydd, fe ddarllenaf yn union beth y mae ei gynnig presennol yn ei ddweud. Mae'n gofyn i Lywodraeth Cymru, ac rwy'n dyfynnu:
'[d]diystyru'r angen i gyflwyno gofynion cwarantin i breswylwyr sy'n teithio i Gymru o'r tu mewn i'r Ardal Deithio Gyffredin'.
Nawr, nid yw hynny'n dweud yn glir mai'r hyn y mae'n ei olygu yw ei ddiystyru ar hyn o bryd i bobl sy'n teithio o rannau eraill o'r DU a rhannau eraill o Weriniaeth Iwerddon. Felly, mae'r hyn a ddywedodd Darren Millar wrthym ychydig yn wahanol i'r hyn sydd yn nhestun ei gynnig, ac mae'r hyn sydd yn nhestun ei gynnig, Ddirprwy Lywydd, yn wallgof, a bod yn onest. Mae cymal 5(a), fel y mae, yn gofyn i Lywodraeth Cymru ddiystyru'r angen i gyflwyno gofynion cwarantin. Nid yw'n dweud am ba hyd ac nid yw'n dweud o dan ba amgylchiadau. O ddifrif? Diystyru, am byth?
Mae perygl gwirioneddol o ail don—a mwy nag un o bosibl, Duw a'n helpo—o'r feirws hwn. Felly, gadewch i ni ddychmygu, Ddirprwy Lywydd, ein bod yn cael nifer fawr o achosion o'r coronafeirws ym Mharis, gadewch i ni ddweud. Ymhen blwyddyn yn yr amgylchiadau hynny, neu ymhen chwe mis yn yr amgylchiadau hynny, gan weithio gyda Llywodraeth y DU, gobeithio, oni ddylai Llywodraeth Cymru gyfyngu ar deithio i Baris, er cymaint y byddem i gyd yn gweld colli hynny, a chyflwyno cwarantin wedyn i ganiatáu i deithio hanfodol ddigwydd eto'n ddiogel? Yn sicr fe ddylent. A dyna pam ein bod wedi cyflwyno gwelliant 2, Darren Millar, yn dileu'r cymal ac yn rhoi rhywbeth mwy cymedrol yn ei le. Nid oes neb am i deithio gael ei gyfyngu'n ddiangen. Yn bendant, rwy'n awyddus iawn i ymweld â fy mherthnasau yn yr Eidal, ond rhaid codi'r cyfyngiadau hynny'n ddiogel.
Hoffwn wneud sylw byr, os caf, Ddirprwy Lywydd, ar welliant 3, ac rydym yn hapus iawn i gefnogi hwn. Nid ydym yn deall amharodrwydd Llywodraeth Cymru i fynnu bod gorchuddion wyneb yn cael eu gwisgo ar drafnidiaeth gyhoeddus ac yn wir, mewn sefyllfaoedd eraill lle mae'n anodd cadw pellter cymdeithasol. Roedd nifer o dystion i Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yn ein gwrandawiadau diweddar ynghylch trafnidiaeth, gan gynnwys cynrychiolwyr yr undebau llafur, yn gryf o blaid gwisgo gorchuddion wyneb.
Nawr, dywedodd y Prif Weinidog, wrth ymateb i gwestiwn yn gynharach, fod Llywodraeth Cymru yn pryderu eu bod yn credu, os yw pobl yn gwisgo masgiau wyneb, y gallai hynny eu hannog i ymddwyn mewn modd sy'n amhriodol. I mi, mae'n ymddangos y bydd gweld pobl yn gwisgo gorchuddion wyneb yn annog pobl i gofio nad ydym eto mewn amseroedd arferol ac yn bendant, gallai hynny eu hannog i gadw pellter cymdeithasol a bod yn fwy gofalus. Rwy'n synnu braidd nad yw'r Llywodraeth Lafur yng Nghymru yn barod i wrando ar eu cymheiriaid partneriaeth gymdeithasol yn yr undebau llafur yn hyn o beth—y gweithwyr yr effeithir arnynt fwyaf, gweithwyr y mae llawer ohonynt, yn anffodus, wedi mynd yn sâl a rhai ohonynt wedi marw oherwydd risg uchel eu swyddi. Felly, os yw Llywodraeth Cymru o ddifrif yn credu bod gwisgo gorchuddion wyneb yn mynd i wneud i bobl ymddwyn mewn ffordd amhriodol, rwy'n awyddus iawn iddynt gyhoeddi'r dystiolaeth sy'n sail i hynny. Oherwydd nid wyf yn un o gefnogwyr mwyaf brwd synnwyr cyffredin fel arfer, ond mae synnwyr cyffredin yn awgrymu fel arall, ac mae fy mhrofiad personol i o fod mewn lleoliadau lle mae pobl yn gwisgo gorchuddion wyneb hefyd yn awgrymu fel arall.
Ddirprwy Lywydd, i gloi, ni allwn gefnogi gwelliant y Llywodraeth. Dyma'r stwff 'mae popeth yn iawn' arferol. Nid yw popeth yn iawn. Nid yw hwnnw'n ymateb digonol i'r pwyntiau y mae'r Ceidwadwyr wedi'u codi yn eu cynnig. Ddirprwy Lywydd, hoffwn gloi drwy gymeradwyo ein gwelliant a gwelliant 3 i'r Siambr.
Diolch. A gaf fi alw ar Caroline Jones i gynnig gwelliant 3, a gyflwynwyd yn ei henw hi?
Gwelliant 3—Caroline Jones
Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 5:
'sicrhau bod gwisgo gorchuddion wyneb yn orfodol ar bob math o drafnidiaeth gyhoeddus;'
Cynigiwyd gwelliant 3.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y gwelliant a gyflwynwyd yn fy enw i yn ffurfiol, a diolch i'r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno'r ddadl bwysig hon. Cymru yw un o'r ychydig leoedd ar y ddaear lle nad yw gwisgo masgiau wyneb yn orfodol. Ddoe ddiwethaf, cyhoeddodd y gymdeithas frenhinol ddau adroddiad yn tynnu sylw at bwysigrwydd gwisgo gorchuddion wyneb yn gyhoeddus. Mae masgiau wyneb yn gallu ac yn atal lledaeniad y feirws hwn. Mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthwynebu cam o'r fath am eu bod yn credu y bydd yn rhoi ymdeimlad eu bod yn ddiogel rhag pob dim i bobl; y byddant yn sydyn yn anghofio popeth y buont yn ei wneud dros y 100 diwrnod diwethaf. Ydy, mae'r angen i gadw pellter cymdeithasol a hylendid dwylo da yn bwysig, ac nid yw hynny'n diflannu oherwydd eich bod yn gwisgo masg, ond mae'n rhaid i ni ennill pob mantais fach y gallwn ei hennill dros y clefyd hwn.
Ni allwn barhau dan gyfyngiadau am byth. Ni all ein rhiant gor-amddiffynnol, Llywodraeth Cymru, fforddio talu i ni aros yn gudd hyd nes y dônt o hyd i wellhad. Wrth inni ddychwelyd at ryw fath o fywyd arferol, mae angen pob amddiffyniad posibl arnom. Mae gwisgo masgiau wyneb yn gyhoeddus yn amddiffyniad o'r fath. Mae'r wyddoniaeth yn gadarn. Gall gorchuddion wyneb atal y rhai sydd wedi'u heintio â'r feirws SARS-CoV-2 rhag ei ledaenu drwy ficroddiferion. Mae tystiolaeth yn dod i'r amlwg hefyd fod y rhan fwyaf o heintiadau'n digwydd yn ystod y cyfnod cyn-symptomatig neu gan gludwyr asymptomatig, ac oherwydd mai dim ond rhai sydd â symptomau y mae Llywodraeth Cymru yn eu profi—ac nid ydynt yn gwneud hynny'n rhy dda ar hyn o bryd—byddwn yn methu'r rhan fwyaf o achosion. Os ydym o leiaf yn ei gwneud hi'n orfodol i wisgo masgiau wyneb ar bob math o drafnidiaeth gyhoeddus, gallwn helpu i gyfyngu ar ledaeniad COVID-19.
Roedd y cyfyngiadau'n effeithiol; ni fwriadwyd iddynt gael gwared ar y coronafeirws yn llwyr. Cawsant eu rhoi ar waith i sicrhau nad oeddem yn cael ein llethu, er mwyn rhoi amser i ni baratoi. Ac a bod yn deg, fe weithiodd. Fe wnaethom brynu amser i ni ein hunain, ni chafodd ein GIG ei lethu, ond wrth inni ddod allan o'r cyfyngiadau symud, rhaid i ni arfer y rhagofalon angenrheidiol. Dengys tystiolaeth o rai o'r gwledydd yr effeithiwyd arnynt waethaf gan y pandemig fod gan lai nag un o bob 10 wrthgyrff yn erbyn y feirws. Nid yw COVID-19 wedi gorffen gyda ni eto. Ni allwn aros ynghudd, felly mae'n rhaid inni arfer pob rhagofal. Ac mae dyletswydd ar bob un ohonom i ddiogelu ein ffrindiau, ein teulu, ein cymdogion a'n cydwladwyr. Mae cadw pellter cymdeithasol yn gweithio, ond nid yw'n ymarferol. Ni allwn barhau i redeg trafnidiaeth gyhoeddus ar chwarter y capasiti am y flwyddyn neu ddwy nesaf tra bod brechlyn yn cael ei ganfod, ei gynhyrchu ar raddfa fawr, a'i roi i 7 biliwn o bobl.
Rydym yng nghanol argyfwng hinsawdd, ond yn hytrach na thorri ein hallyriadau'n sylweddol, rydym yn eu cynyddu. Rydym wedi treulio degawdau yn ceisio annog newid moddol, gan ddweud wrth bobl am gefnu ar y car, a mynd ar y trên neu'r bws, ac yn awr rydym yn dweud wrthynt am osgoi trafnidiaeth gyhoeddus. Ac ni allwn barhau i wneud hynny. Rhaid inni roi mesurau ar waith i liniaru'r risgiau. Mae masgiau wyneb gorfodol yn un mesur o'r fath: dim masg wyneb, dim teithio. Dyna'r unig ffordd y gallwn sicrhau diogelwch pob teithiwr. Nid pawb sy'n gallu gweithio gartref; mae pobl angen teithio. Gadewch inni sicrhau ein bod yn gwneud hynny mor ddiogel ag y gallwn, ac mae peidio â chefnogi ein gwelliant yn rhoi negeseuon cymysg i'r cyhoedd ac yn peryglu diogelwch y cyhoedd. Felly, rhaid cael cysondeb, a dyna pam rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi ein gwelliant heddiw. Diolch yn fawr.
Rwy'n falch o gael siarad yn y ddadl hon heddiw. Rwy'n mynd i ganolbwyntio fy sylwadau ar ddiffyg cymorth digonol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y diwydiant bysiau, yn hanesyddol ac yn ystod y pandemig COVID-19. Ac rwy'n falch, fel y dywedodd Darren Millar, Ddirprwy Lywydd, fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei chynllun argyfwng ar gyfer bysiau cyn gynted ag y cafodd y cynnig hwn ei gyflwyno—mae hi bob amser yn dda pan fydd y Ceidwadwyr Cymreig yn dylanwadu ar bolisi Llywodraeth Cymru.
Fe roddaf rywfaint o gyd-destun a chefndir i fy nghyfraniad o safbwynt y diffyg cefnogaeth i'r diwydiant bysiau. Mae nifer y siwrneiau gan deithwyr bws yng Nghymru wedi gostwng ers datganoli tra bod nifer y ceir ar ein ffyrdd wedi cynyddu. Meddai Simon Jeffrey o'r felin drafod Centre for Cities, ac mae hwn yn ddyfyniad gwirioneddol dda sy'n crynhoi'r mater hwn mor dda:
Mae trafnidiaeth wael yn rhoi pobl mewn ceir, sy'n arafu bysiau, yn gwthio eu costau i fyny, gan eu gwneud yn llai dibynadwy ac mae pobl yn rhoi'r gorau i'w defnyddio.
A dyna oedd casgliad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, fwy neu lai, pan adroddasom ar y mater hwn rai blynyddoedd yn ôl—yr angen i dorri'r cylch hwn. Ddirprwy Lywydd, ni all y tueddiad barhau. Os ydym am fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru ei hun wedi'i ddatgan, mae angen inni fynd i'r afael â'r mater hwn.
Ac wrth gwrs, mae torri llwybrau'n effeithio'n anghymesur ar bobl hŷn, gan arwain at fwy o unigrwydd ac arwahanrwydd. Ac wrth gwrs, gyda phobl iau, mae'n atal pobl iau rhag teithio i ac o ganolfannau addysgol. Felly, mae'n eu hatal rhag manteisio ar addysg bellach. Mae hynny'n broblem yn y Gymru wledig ac mewn ardaloedd lled-wledig yng Nghymru. Mae hyn i gyd, wrth gwrs, yn gwbl groes i strategaeth Llywodraeth Cymru ei hun, 'Ffyniant i Bawb'. Felly, mae'n rhaid i'r Llywodraeth symud oddi wrth y rhethreg a dechrau cefnogi'r diwydiant hwn.
Gan droi at y pandemig, rwy'n croesawu'r £29 miliwn, mae'r diwydiant yn croesawu'r £29 miliwn a gyhoeddodd y Llywodraeth ar 31 Mawrth, ond gadewch inni fod yn glir, nid arian newydd oedd hwnnw. Hefyd, dim ond am dri mis y parhaodd yr arian hwnnw, ac mae'r tri mis wedi mynd heibio erbyn hyn. Felly, Cymru yw'r unig wlad yn y DU sydd heb ddarparu arian ychwanegol ar gyfer cefnogi'r diwydiant. Mae taer angen i Lywodraeth Cymru gynyddu'r cyllid a sicrhau bod y gweithredwyr bysiau presennol yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i oroesi'r pwysau ariannol a digynsail sydd arnynt.
Ni allaf siarad yn y ddadl hon heb siarad am lwybr bws 72 yn fy etholaeth i, sy'n cynorthwyo pobl yn Llanfyllin a Llansanffraid i gyrraedd Croesoswallt, i siopa ac ar gyfer apwyntiadau iechyd. Diddymwyd y gwasanaeth hwnnw ychydig wythnosau'n ôl. Nid oes gan y bobl hyn sy'n defnyddio'r gwasanaeth eu cludiant eu hunain—mae'n wasanaeth hollol hanfodol. Ni allai'r gweithredwr barhau'r gwasanaeth am nad oedd yn hyfyw yn ariannol. Felly, rwy'n gweithio gyda'r Cynghorwyr Peter Lewis a Gwynfor Thomas a chynghorau cymuned lleol i ddod o hyd i ateb, ond mae'n anhygoel o anodd heb gefnogaeth y Llywodraeth. Dywedodd y cydffederasiwn cludiant yn ddiweddar wrth Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau fod angen £5.2 miliwn y mis i gael gwasanaethau i fyny i 100 y cant oherwydd mesurau cadw pellter cymdeithasol. Fel arall, ni fydd gwasanaethau bysiau yn gynaliadwy.
Nawr, gan droi at y cynllun argyfwng ar gyfer bysiau, rwy'n croesawu'n fras y ffaith bod y Llywodraeth wedi creu'r cynllun hwn, ond fel y dywedodd Darren Millar a Helen Mary Jones, ni ddaeth manylion ariannol gyda'r cynllun. Hefyd, ni cheir manylion ynglŷn â sut y gellir dosbarthu'r arian. Felly, mae gennyf nifer o gwestiynau yma i'r Dirprwy Weinidog: faint o arian a ddyrennir yn y tymor byr? A fydd yn gymesur â maint busnes? Y tu hwnt i'r cyfnod argyfwng, sut olwg fydd ar y systemau ariannu newydd a'r dull partneriaeth ar gyfer y diwydiant bysiau yn hirdymor? Beth fydd y cyhoeddiad hwn yn ei olygu i'r Bil bysiau? A fydd yn cael ei roi o'r neilltu yn gyfan gwbl yn awr? Ac a yw Llywodraeth Cymru bellach yn gallu darparu'r eglurder sydd ei angen ar y diwydiant ynglŷn â'r cymorth ariannol amlflwydd parhaus i'r gwasanaethau bysiau allu gweithredu tra bod masnachu'n dal i fod wedi'i gyfyngu? Mae'r diffyg manylder ar gyfer y cyllid hirdymor sy'n gysylltiedig â'r cynllun argyfwng ar gyfer bysiau yn bryder gwirioneddol. Felly, cymaint o gwestiynau, Ddirprwy Lywydd, a hyd yma, o leiaf, ychydig iawn o atebion manwl gan y Llywodraeth.
Wrth i mi ddod i ben, yr hyn y credaf y mae angen i'r Gweinidog ei wneud yn awr—a hyn er mwyn bod yn gadarnhaol ac yn adeiladol—gyda pheth brys, yw cyflwyno tasglu i ailfeddwl, ail-lunio ac ailddechrau gwasanaethau bysiau lleol a'r modd y maent yn gweithredu yng Nghymru ar ôl y pandemig, o dan arweiniad Llywodraeth Cymru, gyda mewnbwn gan Trafnidiaeth Cymru, y diwydiant ac awdurdodau lleol. Rwy'n gobeithio y bydd y Dirprwy Weinidog yn ystyried yr awgrym hwnnw o ddifrif, ac rwy'n mawr obeithio y bydd yn gallu ateb rhai o'r cwestiynau a ofynnais yn fy nghyfraniad. Diolch.
Rwyf am ganolbwyntio fy sylwadau heddiw ar drafnidiaeth bws, oherwydd ar gyfer Torfaen, fel llawer o gymunedau difreintiedig yng Nghymru, y rhain yw'r cysylltiadau trafnidiaeth pwysicaf. Heb yr ateb cywir i weithredwyr, gyrwyr a theithwyr, rydym mewn perygl o ddioddef y canlyniad gwaethaf posibl yn y tymor hir yn sgil y pandemig hwn, ac o weld yr anfantais sydd eisoes yn bodoli yn gwreiddio'n ddyfnach yn ein cymunedau.
Rwy'n gwybod bod dadl yn mynd rhagddi ar hyn o bryd ynglŷn ag a fydd COVID-19 yn gorfodi pobl yn ôl i'w ceir, ond i lawer o bobl mewn cymunedau fel Trefddyn yn fy etholaeth i, lle mae nifer y bobl sy'n berchen ar geir yn llawer is na chyfartaledd Cymru, nid oes dewis. O ran iechyd neu'r amgylchedd, mae'n fater o drafnidiaeth gyhoeddus neu ddim byd. Mae'r un peth yn wir o ran cyfraddau marwolaethau, y gallu i addysgu gartref, mynediad at ofal iechyd neu atebion trafnidiaeth. Nid yw COVID-19 yn gwneud pawb yn gyfartal fel yr awgrymodd rhai yn ôl ym mis Mawrth. Nid yw'n effeithio ar bawb ohonom yr un fath. Mewn gwirionedd, mae'r pandemig hwn wedi gweithredu fel catalydd ar gyfer anghydraddoldeb. Fel y dywedodd yr Athro Devi Sridhar,
Cyfoeth yw'r strategaeth warchod orau rhag y feirws hwn, a rhag profi effeithiau difrifol.
Wrth inni weithio ein ffordd allan o'r cyfyngiadau symud, mae hybu mynediad diogel at drafnidiaeth gyhoeddus yn hanfodol i sicrhau nad yw diogelwch iechyd y cyhoedd ar gyfer y breintiedig yn unig. Rwy'n cydnabod na fydd yn hawdd. Mae'r arolygon barn yn dweud wrthym mai'r dychweliad at drafnidiaeth gyhoeddus yw pryder Rhif 1 i bobl mewn perthynas â llacio'r cyfyngiadau symud, gyda 78 y cant o bobl yn dweud eu bod yn poeni. Cyfunwch hyn â 90 y cant yn llai o deithiau bws yn cael eu gwneud, ac rydym mewn man anodd iawn.
Mae'r cynllun argyfwng ar gyfer bysiau sydd newydd ei gyhoeddi i'w groesawu'n fawr, ac roeddwn yn arbennig o falch o weld y bydd ymgysylltiad ynghylch cynllunio llwybrau yn orfodol cyn gallu derbyn y cyllid. Rhaid i hyn sicrhau bod cysylltiadau cymdeithasol hanfodol yn cael eu cynnal, ac nid y teithiau mwyaf poblogaidd yn unig. Os yw'r pandemig wedi cynyddu anghydraddoldeb, rhaid inni weld adfer fel sbardun i gyfleoedd ar gyfer ein cymunedau tlotaf. Nid yw'r ddadl hon am gydraddoldeb a chyfle yn gyfyngedig i deithwyr; mae'n bwysig i yrwyr bysiau hefyd. Mae ffigurau gan Swyddfa Ystadegau Gwladol Cymru a Lloegr yn dangos cyfraddau marwolaeth cryn dipyn yn uwch yn gysylltiedig â COVID-19 ymhlith gyrwyr bysiau a choetsys. Bydd yr Aelodau'n gwybod bod Sadiq Khan wedi cyhoeddi ymchwiliad penodol i'r mater yn Llundain.
Felly, daw hyn â mi at yr ail bwynt heddiw, sef gorchuddion wyneb gorfodol ar drafnidiaeth gyhoeddus. Bydd pawb yn y Senedd yn gwybod fy mod wedi cefnogi'r ymagwedd ragofalus a gymerwyd yng Nghymru tuag at lacio'r cyfyngiadau, ac felly rwy'n ei chael hi'n anodd cyfiawnhau'r hyn sydd i'w weld fel anghysondeb yn ein dull o weithredu. Yn yr Alban, pan gyhoeddwyd bod gwisgo gorchuddion wyneb yn orfodol, cafodd gefnogaeth gyffredinol gan weithredwyr, undebau llafur a grwpiau teithwyr. Dywedodd eu corff gwarchod annibynnol, Transport Focus, yn ddiflewyn-ar-dafod,
Mae pobl sy'n ystyried dychwelyd at drafnidiaeth gyhoeddus wedi dweud wrthym eu bod am i bob teithiwr ddefnyddio gorchuddion wyneb.
Mae hon yn agwedd y credaf y bydd yn cael ei hefelychu yng Nghymru, lle dywedodd 81 y cant o'r bobl a holwyd fis diwethaf eu bod yn cefnogi gwisgo gorchuddion wyneb mewn mannau dan do a rennir. Mae'r neges i'w gweld yn glir i mi: os ydym am i bobl ddychwelyd yn ddiogel at drafnidiaeth gyhoeddus, rhaid inni wneud gorchuddion wyneb yn orfodol. Mae Cymdeithas Feddygol Prydain yng Nghymru wedi dweud y bydd gwisgo masgiau yn rhoi mwy o ddiogelwch i'r cyhoedd ac yn bwysig, bydd yn diogelu bywydau'r staff sy'n gweithio ar drafnidiaeth gyhoeddus, sydd, fel y mae'r dystiolaeth yn awgrymu, yn wynebu mwy o risg o haint. Mae gwybodaeth a roddwyd i mi gan undeb Unite, sy'n cynrychioli gyrwyr ledled Cymru, yn dangos y problemau y mae eu haelodau'n eu hwynebu'n feunyddiol oherwydd y canllawiau presennol. Mae hyn yn arbennig o ddifrifol ar wasanaethau trawsffiniol, gyda theithwyr yn dod ar fysiau heb fasgiau ac yna'n cael dadleuon gyda theithwyr eraill ar y naill ochr neu'r llall i'r ffin sy'n gwisgo masgiau. Nawr, yr unig ffordd i ddatrys y dadleuon hynny pan fyddant yn digwydd yw i'r gyrrwr adael eu sedd, gan eu gwneud yn fwy agored eto i ddal COVID-19.
Gan mai un o'r rhesymau dros beidio â dilyn y trywydd gorfodol yw'r diffyg awydd i ofyn i staff trafnidiaeth blismona'r mesurau hyn, mae'n ymddangos bod y canllawiau presennol yn gwneud iddynt wneud hynny beth bynnag, ond heb eglurder deddf Gymreig i'w cefnogi. Rwyf wedi edrych ar yr hyn y mae'r prif swyddog meddygol wedi dweud am hyn, rwyf wedi edrych ar ganllawiau Sefydliad Iechyd y Byd ac rwyf wedi darllen y nodyn gan y grŵp cyngor technegol, ac mae'n rhaid i mi ddweud nad yw'n glir o gwbl i mi pam nad ydym yn dilyn llwybr gorfodol. A gaf fi ofyn felly i'r Gweinidog gyhoeddi cyfrif manylach o nodyn y grŵp cyngor technegol? Mae'r nodyn a luniwyd o'r drafodaeth honno'n amwys ac yn ddi-fudd i'r rheini ohonom sydd am ddeall penderfyniadau'r Llywodraeth. Lle mae'r Llywodraeth yn dyfynnu, er enghraifft, y gallai gwisgo gorchuddion wyneb beri i bobl beidio â dilyn mesurau diogelwch eraill pwysicach, byddai o fudd i'r drafodaeth hon ein bod yn gwybod yn union o ble y daw'r dystiolaeth honno a'r hyn y mae'n ei ddweud yn fanwl. Mae'n ymddangos i mi mai mater o gyfleu neges gyhoeddus yw hyn, ac os yw'r Llywodraeth yn cael hynny'n iawn, gallwn fabwysiadu'r hyn y mae'r undebau llafur yn galw amdano—ymagwedd yn seiliedig ar synnwyr cyffredin sy'n diogelu gyrwyr ac sydd o fudd i deithwyr fel ei gilydd. Diolch.
Yn amlwg, mae tirwedd trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru wedi newid yn ddramatig eleni mewn ymateb i'r pandemig COVID-19, a chyn i mi fynd rhagddi i wneud fy sylwadau, hoffwn fanteisio ar y cyfle i ddiolch i'r gweithwyr ledled Cymru sydd wedi parhau i weithio ac sy'n cadw llwybrau teithio hanfodol ar agor i weithwyr allweddol ledled y wlad. Mae trafnidiaeth gyhoeddus cyn ac yn sicr yn ystod y cyfyngiadau wedi bod yn achubiaeth i weithwyr allweddol, ac mae arnom oll ddyled fawr iddynt am eu hymroddiad a'u gwaith caled drwy gydol yr argyfwng hwn.
Nawr, ar ddechrau'r pandemig COVID-19, manteisiais ar y cyfle i holi'r Prif Weinidog am brotocolau ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus i sicrhau bod mesurau'n cael eu rhoi ar waith i ddiogelu diogelwch cymudwyr ac i gynnal y safonau hylendid uchaf posibl, oherwydd roedd yn amlwg o'r cychwyn cyntaf y byddai COVID-19 yn amharu'n sylweddol ar wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus ledled Cymru. Felly, dylai hwn fod wedi bod yn faes a gai flaenoriaeth gan Lywodraeth Cymru o'r cychwyn cyntaf, ac mae'n rhwystredig clywed gan y rhai sy'n gweithio yn y sector na ddarparwyd mwy o wybodaeth ac eglurder o'r cychwyn cyntaf. Roedd tystiolaeth gan randdeiliaid i Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau y mis diwethaf yn dweud yn glir fod angen i'r sector wybod i ble roedd yn mynd, a chyda pheth eglurder yn eithaf cyflym. Aelodau, ni ellir rhoi digon o bwyslais ar yr angen hwnnw am eglurder. Ar gyfer y rhan fwyaf o ddarparwyr trafnidiaeth gyhoeddus, mae lefelau gwasanaeth wedi gostwng yn sylweddol dros nos, gan arwain at waith o ddifrif ar gynllunio'r gweithlu ac angen i ailwampio ac ailasesu llwybrau er mwyn sicrhau y gallai'r rhai sy'n parhau i deithio at ddibenion hanfodol wneud hynny o hyd ac yn y modd mwyaf diogel posibl.
Gan symud ymlaen, mae'r sector trafnidiaeth yn iawn i nodi nad yw gweithredu gwasanaethau bysiau masnachol yn ymarferol lle mae lefelau capasiti cerbydau ar lefel is. Yn naturiol, ni fydd bysiau, er enghraifft, yn gallu darparu ar gyfer yr un nifer o deithwyr i bob cerbyd ag y gallent ei wneud cyn y pandemig, ac felly mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru ddechrau edrych o ddifrif ar sut y bydd gwasanaethau bysiau yn gynaliadwy yn y dyfodol, gan ystyried y problemau mawr y maent yn eu hwynebu mewn perthynas â glynu at y canllawiau cadw pellter cymdeithasol.
Nawr, mae Aelodau eraill wedi cydnabod bod bysiau'n achubiaeth i gynifer o bobl ledled Cymru drwy ddarparu ffordd i bobl gyrraedd a manteisio ar wasanaethau a chyfleusterau hanfodol, ac wrth i fwy a mwy o bobl ddychwelyd i'r gweithle, mae angen strategaeth argyfwng ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus er mwyn sicrhau nad yw cymunedau'n cael eu gadael ar ôl wrth i'r galw am deithio gynyddu. Rwyf hefyd yn ymwybodol o'r effaith yn fy etholaeth fy hun, lle mae darparwyr lleol wedi dweud yn glir iawn fod angen mwy o gymorth ac arweiniad gan Lywodraeth Cymru. Rwy'n ymwybodol o'r gwaith a wnaed gan y Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr i sefydlu grŵp adfer gyda Trafnidiaeth Cymru, awdurdodau lleol a rhanddeiliaid eraill, ac mae hwnnw'n gyfrwng pwysig ar gyfer ymgysylltu â'r sector trafnidiaeth ac ymateb i'w pryderon. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, darparodd y grŵp hwnnw wybodaeth ynglŷn â faint y byddai'n ei gostio i gynyddu gwasanaethau dros gyfnod o chwe mis rhwng mis Mehefin a mis Rhagfyr ar gyfer yr holl weithredwyr yng Nghymru, yn ogystal â darparu gwybodaeth mewn perthynas â phecyn ysgogi economaidd ar gyfer bysiau. Bedair wythnos ar ôl cael y wybodaeth honno, dywedwyd yn glir wrth Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau na chafwyd ymateb ffurfiol i'r grŵp adfer. Roedd y wybodaeth honno'n haeddu sylw brys o gofio effaith ddifrifol y pandemig ar ddarparwyr, ac eto roedd y Llywodraeth yn araf yn ymateb yn ffurfiol i'r sector. Wrth symud ymlaen, rhaid i Lywodraeth Cymru gynyddu ei hymdrechion a'i chyfathrebiadau â'r diwydiant trafnidiaeth, a rhaid dysgu gwersi o'r pandemig hwn i lywio polisi'n well yn y dyfodol.
Hoffwn ddefnyddio fy amser hefyd i ganolbwyntio ar effaith COVID-19 ar y diwydiant cludo nwyddau ar y ffyrdd, gan fod y sylwadau a gefais gan fusnesau yn fy etholaeth wedi dangos yn glir fod y busnesau hyn wedi methu cael cymorth grant pwysig a mesurau eraill a gyflwynwyd yn wreiddiol i gefnogi diwydiant. Mae'n dal i fod angen mawr am y busnesau hyn i gefnogi ymateb y wlad i'r argyfwng COVID-19, ac felly mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru wneud mwy i sefydlu sut a lle y gall gefnogi'r busnesau hyn orau. Dywedodd un darparwr lleol wrthyf, ac rwy'n dyfynnu, 'Er bod y rhan fwyaf o'n cwsmeriaid wedi cau drws eu siopau a'r staff wedi'u gosod ar ffyrlo, mae angen i ni fod yn weithredol o hyd er mwyn darparu cyflenwadau hanfodol i ysbytai a bwyd i ganolfannau dosbarthu. Mae'r llwythi a gludwn wedi lleihau'n sylweddol gan fod rhai cwsmeriaid sy'n gwerthu nwyddau dianghenraid wedi cau. Nid yw'r mesurau cymorth ariannol presennol yn gweithio. Nid oes modd cael benthyciadau ac nid ydynt yn darparu'r cymorth uniongyrchol sydd ei angen ar weithredwyr.' Dyna'r realiti y mae rhai busnesau cludo nwyddau yn ei wynebu yng Nghymru, ac mae'n rhaid i rywbeth newid.
Ddirprwy Lywydd, mae'r pandemig COVID-19 wedi cael effaith enfawr ar fywydau pawb ohonom. Mae'n argyfwng iechyd cyhoeddus, yn argyfwng economaidd, a gallai'n hawdd iawn fod yn argyfwng trafnidiaeth hefyd os na weithredwn yn awr a gwrando ar y pryderon a leisir gan y sector. Rwy'n derbyn nad oes y fath beth â ffon hud ac y bydd effaith COVID-19 yn parhau i'w deimlo am beth amser i ddod, ond mae'n rhaid i'r diffyg cymorth ac ymgysylltiad ystyrlon â'r sector newid. Felly, wrth ymateb i'r ddadl y prynhawn yma, gobeithio y bydd y Dirprwy Weinidog yn rhoi sylw i'r pryderon a gyflwynwyd gan y sector ac yn dechrau ystyried sut y gall darparwyr trafnidiaeth gyhoeddus Cymru fynd i'r afael â rhai o'r problemau hyn wrth i'r cyfyngiadau lacio ac wrth i fwy o bobl ddod i ddibynnu ar eu gwasanaethau. Diolch.
Rwyf am droi fy sylw ar unwaith at drafnidiaeth bws. Wrth ddiolch i'r Ceidwadwyr am gyflwyno'r ddadl hon, hoffwn yn arbennig ddiolch i yrwyr bws yn gyntaf am eu hymdrechion i gadw trafnidiaeth i fynd, yn enwedig ar gyfer gweithwyr allweddol, drwy gydol yr argyfwng hwn, y pandemig a gawsom. Mewn gwirionedd, y gyrwyr bws sydd wedi bod yn weithwyr allweddol drwy gydol yr argyfwng hwn, ac maent wedi peryglu eu hunain wrth wneud hynny, ac yn parhau i wneud hynny. Felly, byddwn yn sicr yn cytuno â'r sylwadau sydd wedi'u gwneud eisoes ynglŷn â sicrhau eu diogelwch. Mae hyn yn rhywbeth rwyf eisoes wedi bod yn ymwneud â chwmnïau bysiau a'r undebau yn ei gylch, a byddaf yn parhau i wneud hynny. Edrychaf ymlaen at glywed gan y Gweinidog sut y byddant yn sicrhau diogelwch gyrwyr bysiau yn y dyfodol, gan gydnabod y risg uwch i yrwyr, a chydnabod y risg gynyddol, gydag unrhyw newidiadau i'r mesurau cadw pellter cymdeithasol, i fwy o deithwyr sydd eisiau teithio erbyn hyn, yn ogystal, wrth i bobl ddychwelyd i'r gwaith—sut y bydd Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â gweithredwyr bysiau a'r undebau ar y mater hollbwysig hwn.
Hefyd, Weinidog, fel defnyddiwr trafnidiaeth gyhoeddus rheolaidd fy hun, byddwn yn ychwanegu fy llais at y rheini, gan gynnwys fy nghymheiriaid yn yr undebau, sy'n credu y dylai gorchuddion wyneb fod yn orfodol ar drafnidiaeth gyhoeddus, a hynny'n syml fel mesur rhagofalus. Rwy'n siŵr mai'r ddadl fyddai nad ydym wedi gweld y dystiolaeth ddiffiniol eu bod yn chwarae rôl benodol, ond fel mesur rhagofalus—yr hyn y mae Lynne eisoes wedi'i nodi ar y risg uwch o fynd ar drafnidiaeth gyhoeddus mewn gofod agos, cyfyng fel bws, ond hefyd y risg uwch y gwyddom fod gyrwyr bysiau eisoes yn agored iddi, heb sôn am eu teithwyr. Mae'n pasio'r prawf synnwyr cyffredin hwnnw y mae undebau a chyrff teithwyr yn dweud y byddai'n ei wneud yn gwbl resymegol.
Felly, yn hytrach nag aros am yr holl dystiolaeth i ddweud yn hytrach, 'Gadewch i hyn ddigwydd', gadewch inni ei wneud, oherwydd, mewn gwirionedd, mae teithwyr, gyrwyr, pawb arall yn credu ei fod yn gwneud synnwyr. Byddwn yn dweud y byddai'n gwneud synnwyr fel rhywun sy'n teithio ar fysiau a threnau yn rheolaidd. Byddaf yn gwisgo un beth bynnag, felly rwyf am i bobl eraill wneud hynny hefyd, oherwydd fy mod am ddiogelu pobl eraill, nid fi fy hun. Felly, gadewch i ni fwrw ymlaen i'w wneud.
Ond a gaf fi ddweud o ran y cyllid—? Mae fy ymgysylltiad dros y cyfnod argyfyngus hwn â phobl fel First Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Rhondda Cynon Taf wedi bod yn rhagorol. Rydym yn llythrennol wedi eistedd mewn cyfarfodydd fideo ac oherwydd y cyllid caledi a roddwyd ar waith, rydym wedi siarad am y llwybrau sy'n flaenoriaeth er mwyn i bobl gyrraedd y gwaith ar yr adeg y mae angen iddynt wneud hynny, i'w hysbytai, i'w cartrefi gofal, i'r mannau hynny lle roedd gweithwyr allweddol yn mynd. Dyma'r tro cyntaf erioed i mi eistedd mewn sefyllfa o'r fath, ac roedd hynny oherwydd bod y cyllid wedi'i gynllunio i ganiatáu i hynny ddigwydd—i awdurdodau lleol a weithiau, i bobl fel fi eistedd mewn partneriaeth a dweud, 'Ble mae'r data sy'n dweud y dylem fod yn darparu'r bysiau hyn, ar ba adegau o'r dydd y dylem fod yn eu darparu?'—ac rydym wedi bwrw ymlaen â hynny.
Felly, rwy'n croesawu hynny; mae hynny wedi caniatáu inni ddod â—. Hyd yn oed yn nannedd yr argyfwng, daethom ag wyth neu naw o wasanaethau yn ôl yn weithredol o fewn dyddiau, ac mae'n glod i First Cymru a oedd yn eistedd gyda ni, yn glod i'r gyrwyr hynny a oedd yn barod i'w gweithredu. Ac wrth i ni symud ymlaen gyda'r cynllun argyfwng newydd ar gyfer bysiau, rwy'n falch fod yr ymagwedd honno yno, gan symud yn raddol oddi wrth y system ddadreoleiddiedig hon lle rydym yn taflu arian at y wal ac yn meddwl tybed beth sy'n digwydd, a'n bod yn dweud mewn gwirionedd, 'Gadewch inni gynllunio ffordd ymlaen ar hyn'. Weinidog, gwn eich bod wedi eich argyhoeddi ynglŷn â hyn; rhaid i hon fod yn ffordd ymlaen yn y tymor hwy i'r sector bysiau hefyd, gan ddefnyddio'r sgiliau, cadw'r swyddi, adeiladu ar y swyddi; adeiladu'n ôl, mae'n rhaid i mi ddweud, nid yn unig y nifer o bobl sy'n teithio ond ymhell y tu hwnt i hynny.
Dyna beth ddylai ein dyhead barhau i fod, fel nad yw'n fethiant mewn bywyd, fel y dywedodd rhywun unwaith, os ydych dros oed penodol eich bod yn teithio ar fws—mae'n llwyddiant, oherwydd maent yn lân, maent yn fforddiadwy, maent yn hawdd eu defnyddio, mae gennym docynnau sy'n cydgysylltu, mae'n cysylltu â threnau ac yn y blaen. Dyna fu eich nod erioed, Weinidog, ac mae angen inni ddychwelyd at hynny a pheidio â cholli golwg ar y nod wrth fynd yn ein blaenau.
Felly, mae hyn yn anodd iawn o ran sut y gwnawn hyn pan fo pobl yn poeni ar hyn o bryd, ond po fwyaf o gefnogaeth y gallwn ei rhoi i weithredwyr bysiau, a sicrhau bod y gwasanaethau'n mynd ar yr adegau y mae pobl am iddynt fynd, a dweud wrth bobl, 'Fe'i gwnawn yn ddiogel i chi'—. A hynny, Weinidog, mae'n rhaid i mi ddweud, yw lle byddai'r penderfyniad syml ynglŷn â gwneud y defnydd o fasgiau wyneb yn orfodol yn help mawr. Gadewch inni wneud hynny a gwneud i bobl deimlo y gallant gyfrannu at ei gwneud yn fwy diogel ar drafnidiaeth gyhoeddus, fel ein bod yn cael mwy o bobl yn ôl arnynt yn awr. Diolch yn fawr iawn.
Fel y mae ein cynnig yn ei argymell, dylai'r Senedd Gymreig hon resynu at
'fethiant Llywodraeth Cymru i ddarparu cymorth digonol i weithredwyr bysiau yng Cymru yn ystod y pandemig coronafeirws'
a galwn ar Lywodraeth Cymru i
'[f]ynd ati ar frys i adolygu a chynyddu'r cymorth sydd ar gael i weithredwyr bysiau yng Nghymru, er mwyn eu galluogi i gynyddu amlder a chapasiti gwasanaethau bysiau i bobl Cymru'.
Mae nifer y cerbydau bysiau a choetsys yng Nghymru wedi gostwng 10 y cant mewn pum mlynedd, a bron 20 y cant dros y degawd diwethaf. Er bod datganiad ysgrifenedig gan Ken Skates, Gweinidog yr economi a thrafnidiaeth, ar 31 Mawrth yn manylu ar gymorth cychwynnol o £69 miliwn ar gyfer gwasanaethau bysiau a rheilffyrdd, dim ond y cyllid arferol a delir ymlaen llaw yw hwn, nid arian newydd. Dri mis yn ddiweddarach, ni fu unrhyw wybodaeth newydd o hyd ar gyllid arbennig ar gyfer llwybrau bysiau, mewn gwrthgyferbyniad llwyr â Llywodraeth y DU, a gyhoeddodd, ar 3 Ebrill, £397 miliwn ar gyfer gwasanaethau bysiau Lloegr i ymdopi â'r pandemig, gan gynnwys £167 miliwn o arian newydd dros 12 wythnos, ac yn wahanol hefyd i Lywodraeth yr Alban, a gyhoeddodd £46.7 miliwn o wariant ychwanegol ar 19 Mehefin i gynorthwyo gweithredwyr bysiau i gynyddu gwasanaethau bws dros yr wyth wythnos nesaf. Ar 24 Mehefin, ysgrifennodd Bysiau Arriva Cymru ataf ynglŷn ag effaith sylweddol cadw pellter cymdeithasol ar gapasiti bysiau, gan ychwanegu, heb gymorth ariannol ychwanegol, yn debyg i'r grant cymorth i wasanaethau bysiau COVID-19 sydd ar waith ledled Lloegr, na all gweithredwyr bysiau weithredu'r lefelau gwasanaeth annigonol presennol ledled Cymru ar sail ariannol gynaliadwy, heb sôn am gynyddu lefelau gwasanaethau i 100 y cant o'r lefelau cyn yr argyfwng i ddarparu capasiti hanfodol ar draws y rhwydwaith bysiau.
Nododd fy araith yn y ddadl bwyllgor ar effeithiau COVID-19 ar economi, seilwaith a sgiliau Cymru ar 1 Gorffennaf, er i'r Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr gyflwyno cynnig i Lywodraeth Cymru ar 15 Mai a fyddai'n galluogi gweithredwyr i gynyddu gwasanaethau bysiau, gyda chostau llawn ar gyfer holl weithredwyr bysiau Cymru, dywedodd gohebiaeth y diwydiant a dderbyniwyd ddiwedd Mehefin nad oeddent eto wedi cael ymateb swyddogol ystyriol, a Chymru bellach yw'r unig wlad yn y DU sydd heb gytuno ar gyllid i weithredwyr trafnidiaeth allu dechrau cynyddu gwasanaethau, gyda chostau eraill ar gyfer gwasanaethau ychwanegol. Mae hynny'n destun cywilydd. Y diwrnod wedyn, cafwyd cyhoeddiad gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Lee Waters, ynglŷn â chreu'r cynllun argyfwng ar gyfer bysiau. Ar ôl i mi gopïo ei ddatganiad i gynrychiolwyr y diwydiant yng ngogledd Cymru, fe wnaethant ymateb—ac rwy'n dyfynnu—fod 'cyfyngiadau parhaus Llywodraeth Cymru mewn ymateb i'r pandemig, gan gynnwys ar gadw pellter cymdeithasol, yn golygu bod capasiti gwasanaethau bysiau yn dal i fod yn llawer llai, ac nid oes digon o arian o werthiant tocynnau ar gyfer cynyddu gwasanaethau heb ragor o gyllid.' 'Edrychwn ymlaen', meddent, 'at ddeall manylion y trefniadau trosiannol arfaethedig er mwyn cau'r bwlch hwnnw fel y gallwn asesu pa gynnydd yn y gwasanaethau a allai fod yn bosibl o fewn yr adnoddau sydd ar gael ac o ba bryd.'
Yn y cyfamser, fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru wedi llwyddo i ddod o hyd i £15.4 miliwn ar fyrder ar gyfer cynlluniau teithio di-COVID sy'n lledu palmentydd ac yn creu mwy o le ar gyfer beicwyr, gan atal ymgysylltiad hanfodol ymlaen llaw â'r cymunedau yr effeithir arnynt. Yn Ninbych, er enghraifft, creodd hyn genllif o negeseuon e-bost, gan gynnwys: 'Bydd angen i unrhyw un sy'n byw yn y pentrefi cyfagos yrru i'r dref gan fod cysylltiadau beicio'n wael iawn'; 'Dyma'r cynllun mwyaf peryglus y clywais amdano erioed'; 'Bûm yn gofyn a fydd trigolion Dinbych yn cael cyfle i roi eu barn—nid wyf yn credu y bydd gennym lais yn hyn'; 'Mae yna ddeiseb yn erbyn y cynllun hwn, sydd â thros 550 o lofnodion eisoes'; a 'Nid oes unrhyw sail ffeithiol na rhesymegol i'r cynigion hyn, a byddant yn wrthgynhyrchiol yn y pen draw.'
Felly, galwn ar Lywodraeth Lafur Cymru i lacio'r rheol 2m i 1m a mwy, yn amodol ar fesurau rhagofalus, er mwyn sicrhau bod bysiau'n gallu rhedeg, ac y gall cyrff trafnidiaeth eraill ailagor. Fel y dywed canllawiau diogelu rhag COVID y DU, mae defnyddio mesurau lliniaru, fel gwisgo gorchudd wyneb, glanhau trylwyr, arfer hylendid da, awyru gwell, a defnyddio sgriniau amddiffynnol ar bellter o 1m, yr un peth yn fras â bod 3m ar wahân. Mae hyn yn allweddol ar gyfer sefydliadau hyfforddi gyrwyr cerbydau nwyddau trwm yng Ngwynedd, a ofynnodd i mi roi pwysau ar y Prif Weinidog i ganiatáu profion a symud at y rheol 1m yng Nghymru. Bydd y profion hyn yn ailgychwyn yn Lloegr ar 13 Gorffennaf. Dywedodd fod llawer o sefydliadau hyfforddi gyrwyr o bob sector yng Nghymru ar fin mynd yn fethdalwyr. Gadewch inni obeithio felly y bydd y Prif Weinidog hwn yn cydnabod ac yn rhoi sylw yn awr i effaith niweidiol ei Lywodraeth ar sector trafnidiaeth Cymru.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Lee Waters?
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r gweithwyr trafnidiaeth, o weithwyr maes awyr sy'n caniatáu i gyfarpar diogelu personol hanfodol gael ei gyflenwi i faes awyr Caerdydd, staff bysiau a threnau, sydd wedi helpu gweithwyr allweddol i ddarparu gwasanaethau, staff siopau beiciau sydd wedi helpu i annog pobl i feicio, i weithwyr priffyrdd sydd wedi helpu i wneud gwaith atgyweirio hanfodol. Mae eu gwaith caled drwy gydol yr argyfwng wedi bod yn amhrisiadwy.
Mae hon yn adeg enbyd, Ddirprwy Lywydd, ac mae'n galw am ymatebion difrifol, ac nid yw'r cynnig hwn gan y Blaid Geidwadol yng Nghymru yn ymateb difrifol. Ac rwy'n dweud 'y Blaid Geidwadol yng Nghymru', Ddirprwy Lywydd, oherwydd mae arnaf ofn fod y prosiect anrhydeddus i greu'r Ceidwadwyr Cymreig i'w weld fel pe bai wedi marw—wedi ei anghofio yn wyneb y coronafeirws er mwyn dilyn y trywydd byrbwyll a osodwyd gan y Blaid Geidwadol yn Lloegr.
Wythnos ar ôl wythnos, mae Llywodraeth Cymru wedi wynebu galwadau gan y Blaid Geidwadol yng Nghymru i efelychu'r cyhoeddiad cefn amlen diweddaraf o Stryd Downing. Nid polisi iechyd cyhoeddus a yrrir gan gynhadledd y wasg yw dull y Llywodraeth hon o weithredu. Ac ni ddylai'r Torïaid yma efelychu ffolineb eu cymheiriaid yn Llundain os ydynt am i frand Plaid y Ceidwadwyr Cymreig gadw unrhyw hygrededd.
Mae'r cynnig yn gresynu at fethiant Llywodraeth Cymru i ddarparu cymorth digonol i weithredwyr bysiau yng Nghymru yn ystod y pandemig coronafeirws. Yn syml, nid yw'n wir, Ddirprwy Lywydd. Cwmnïau masnachol yw'r rhain, fel y maent yn ein hatgoffa'n aml, ac mae 95 y cant o'u cwsmeriaid wedi rhoi'r gorau i ddefnyddio eu gwasanaeth, ond er bod teithwyr, yn ddealladwy, wedi cefnu ar drafnidiaeth gyhoeddus, nid yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud hynny. Honnodd Darren Millar fod y gostyngiad o 95 y cant yn ganlyniad i'w hoff slogan—y 'rheol bum milltir greulon'. Ond mae'r cwymp wedi bod yr un fath yn Lloegr, Darren, felly beth yw rhesymeg hynny? Rwy'n credu mai'r gair a ddefnyddioch chi yn eich cyfraniad oedd 'hurt'—wel, os yw'r cap yn ffitio.
Rydym wedi bod yn darparu cymhorthdal o £30 y pen am bob teithiwr bws. Cyn COVID, roedd cyllid y sector cyhoeddus yng Nghymru oddeutu hanner refeniw'r gweithredwyr bysiau. Nid yw'r swm a gafodd gweithredwyr yng Nghymru gan y trethdalwyr wedi gostwng. Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi darparu cyllid ychwanegol i weithredwyr bysiau i ddod â'r swm o arian cyhoeddus y maent yn ei gael i ychydig llai na hanner eu refeniw cyn-COVID, gan efelychu ein lefel ni o gefnogaeth. Ac eto, nid wyf yn clywed y Blaid Geidwadol Seisnig yng Nghymru yn tynnu sylw at hynny. Bydd ein cyllid argyfwng yn parhau i warantu cefnogaeth i'r diwydiant. Mae ein cymorth ni ein hunain bellach dros £45 miliwn ar gyfer chwe mis cyntaf y flwyddyn ariannol hon, ac eto mae'r cynnig heddiw'n gresynu at ein methiant i ddarparu cymorth digonol. Mae'r rhain yn adegau difrifol—nid yw hwn yn ymateb difrifol.
Byddwn yn parhau i gefnogi trafnidiaeth gyhoeddus, oherwydd er bod teithwyr wedi cefnu arni am nawr, rydym am sicrhau bod rhwydwaith yno i'w gwasanaethu pan fydd hyn ar ben. Wrth gwrs, mae'n gyfnod anodd iawn, ac mae galwadau aruthrol ar arian cyhoeddus, ac mae punt a werir ar redeg bws sydd fwy neu lai yn wag yn bunt na chaiff ei gwario ar gartrefi gofal, ar gefnogi canol trefi sy'n ei chael hi'n anodd, ar helpu pobl ifanc yn ôl i waith. Felly, pan fyddwn yn ymrwymo arian trethdalwyr Cymru i helpu cwmnïau bysiau sydd mewn trafferthion, rydym yn gwneud dewis, ac mae'n bolisi gennym i gael rhywbeth yn gyfnewid am hynny—ymrwymiad i gadw prisiau tocynnau'n isel, ymrwymiad i gadw'r gwasanaethau y mae teithwyr am eu cael, ac ymrwymiad gan gwmnïau i agor eu llyfrau er mwyn inni weld bod ein cyllid yn mynd lle dylai fynd.
Nawr, mae nifer o gyfranwyr wedi trafod masgiau wyneb yn y ddadl heddiw, Ddirprwy Lywydd: Lynne Neagle, Caroline Jones a Huw Irranca-Davies. Ac fel y dywedodd y Prif Weinidog yn gynharach wrth y Senedd, rydym yn edrych ar y sefyllfa mewn perthynas â masgiau i weld a allwn ganiatáu i fwy o bobl deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus, a thrafod ei gyngor gyda'r prif swyddog meddygol. Nid yw mor syml ag y caiff ei gyfleu. Mae yna gyfaddawdu yma. Rydym yn pryderu am faterion cydraddoldeb—ceir llawer o bobl nad ydynt yn gallu gwisgo masg. Mae llawer o anableddau'n gudd, ac mae perygl y bydd teithwyr yn teimlo llid pryder eu cyd-deithwyr am beidio â gwisgo masg. Felly, mae angen inni droedio'n ofalus. Ac mae'r dystiolaeth fod masgiau'n effeithio ar ymddygiad pobl gan eu gwneud yn fwy byrbwyll yn rhywbeth rydym yn ei gadw mewn cof hefyd. Ond fel rwy'n dweud, rydym yn ei adolygu. Nid ydym mewn sefyllfa heddiw i newid ein safbwynt, ond rydym yn ei drafod ar hyn o bryd gyda'r prif swyddog meddygol.
Byddwn yn sicrhau bod cyllid ychwanegol ar gael i gefnogi cynnydd graddol mewn gwasanaethau, ond ar adeg sy'n briodol i deithwyr a'r economi, nid i gyfranddalwyr cwmnïau bysiau'n unig, sydd wedi bod yn lobïo'r Ceidwadwyr Cymreig heddiw, mae'n amlwg. Mae'n bosibl eu bod am inni drosglwyddo mwy o'n harian i berchnogion sy'n filiwnyddion neu Lywodraethau tramor, ond byddwn yn parhau i fynnu gwerth i deithwyr Cymru ac nid ydym yn ymddiheuro am hynny.
Gadewch i mi droi at Faes Awyr Caerdydd, lle mae'r cynnig yn ein beirniadu am annog cwmnïau hedfan i beidio â hedfan. Maes awyr roedd y Ceidwadwyr am inni adael iddo fethu mewn dwylo preifat, maes awyr a achubwyd ac a adfywiwyd trwy berchnogaeth Llywodraeth Cymru a hyd nes y tarodd y pandemig roedd yn cael ei wella—mae'r niferoedd wedi codi 70 y cant ers i Lywodraeth Cymru gamu i mewn—a hynny, ar bob cam o'r ffordd, yn wyneb gwrthwynebiad y Blaid Geidwadol yng Nghymru—ar bob cam—a'n galwadau ar Lywodraeth y DU i helpu meysydd awyr rhanbarthol, fel Caerdydd, wedi'u hanwybyddu. A dyna lle dylai'r Ceidwadwyr Cymreig anelu rhywfaint o'u pŵer, gymaint ag sydd ganddynt, ar geisio perswadio Llywodraeth y DU i ddatblygu strategaeth gydlynol ar gyfer meysydd awyr rhanbarthol.
Ac yn awr cawn ein beirniadu am fod eisiau gorfodi'r cyfyngiadau teithio y pleidleisiodd y Ceidwadwyr drostynt. Cefnogodd y Ceidwadwyr y ddeddf a basiwyd gan y Senedd hon i ofyn i bobl aros yn lleol. A chyn gynted ag y daw corfforaeth heibio, gwelwn wir liwiau'r Torïaid—ar ochr cwmni preifat arall sydd am roi elw tymor byr o flaen iechyd y cyhoedd. Ac unwaith eto, nid ydym yn ymddiheuro am fod eisiau cadw pobl yn ddiogel.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Lywydd, mae'r ddeddf ar gadw'n lleol bellach wedi'i chodi, ac rydym yn gweithio'n agos iawn gyda rheolwyr Maes Awyr Caerdydd i sicrhau ei ddyfodol. Felly, byddwn yn gwrthwynebu'r cynnig, Lywydd. Rydym yn ddiolchgar i Blaid Cymru am eu gwelliant, a byddwn yn ei gefnogi. A dywedaf wrth y Blaid Geidwadol yng Nghymru, 'Byddwch o ddifrif'. Diolch, Lywydd.
Rwyf wedi cael gwybod am ddau ymyriad byr. Daw'r cyntaf gan Hefin David.
Diolch, Lywydd. Mae llawer wedi'i wneud gan y plismon drwg, Russell George—na, y plismon da, Russell George—roedd 75 y cant o'i araith yn blismon drwg—yn cyfeirio at dystiolaeth y Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau. Wel, mae pwynt 2, rwy'n credu, yn y cynnig yn dweud bod y Ceidwadwyr yn gresynu at fethiant Llywodraeth Cymru i ddarparu cymorth digonol i weithredwyr bysiau Cymru. Ond mae'r dystiolaeth gan Nigel Winter, rheolwr gyfarwyddwr Stagecoach De Cymru, yn y pwyllgor—. Gofynnais y cwestiwn hwn iddo:
A gaf fi ofyn am effeithiolrwydd cymorth Llywodraeth Cymru, cymorth ariannol, yn ystod yr argyfwng, a sut y mae'r cyllid yn cael ei ddyrannu ac ar ba sail?
Ei ateb, os caf ei gofnodi, oedd:
Os caf ateb hynny, Gadeirydd, rwy'n meddwl, yn gyntaf oll, i ddweud, pan darodd y pandemig gyntaf ar ddiwedd mis Mawrth/dechrau mis Ebrill, roeddwn yn meddwl bod ymateb y Gweinidog i gefnogi'r diwydiant yn cael ei werthfawrogi'n fawr, yn amserol iawn, yn gyflym iawn. Credaf fod ei weithredu pendant wedi helpu i gynnal gweithredwyr, a fyddai wedi bod mewn anhawster ariannol difrifol fel arall.
Rwy'n credu bod angen i ni gofnodi hynny.
A Helen Mary Jones.
Diolch, Lywydd. Roeddwn am gywiro neu newid sylw a wneuthum yn fy nghyfraniad cynharach. Wrth gwrs, wrth gyfeirio at y rheswm pam ein bod yn gwrthwynebu'r syniad na ddylai Llywodraeth Cymru fyth orfodi cwarantin, cyfeiriais at enghraifft a oedd y tu allan i'r ardal deithio gyffredin. Rwy'n siŵr na fydd yn syndod i Darren Millar wybod nad wyf yn arbenigwr ar y materion hyn, ond mae fy mhwynt yn sefyll. Byddai'n dal yn chwerthinllyd pe bai achos yn Nulyn neu yn Guernsey i Lywodraeth Cymru beidio â gallu gosod cwarantin, os mai dyna'r peth diogel i'w wneud. Rwy'n ddiolchgar i chi, Lywydd, am ganiatáu i mi gywiro fy hun.
Nick Ramsay i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Lywydd. A gaf fi ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl bwysig hon heddiw? Rwy'n credu, i ddechrau, fod yn rhaid i mi droi at sylwadau'r Gweinidog. Rwy'n cefnogi dadlau cryf yn y Siambr neu ar Zoom, a gwn fod pethau wedi bod braidd yn anodd gyda fformat dadleuon yn ddiweddar, ond roeddwn yn siomedig iawn ynghylch yr ymosodiad ar ein cynnig fel un nad yw'n gynnig difrifol. Pan edrychwch ar gynnig sy'n galw am fwy o gymorth i'r diwydiant bysiau sydd wedi bod yn cael y fath anawsterau gyda chapasiti mewn perthynas â chadw pellter cymdeithasol, pan wnaethom alw yn ein cynnig am gymorth i Faes Awyr Caerdydd, a'n bod yn meiddio dweud ein bod yn credu y dylid cael teithiau awyr o Faes Awyr Caerdydd, ac eto mae'n—
Ond ni fyddai yno pe baech chi wedi cael eich ffordd.
Wel, rwy'n falch eich bod wedi dweud hynny, Mick Antoniw, oherwydd mae'n berffaith wir i ddweud nad oeddem yn cefnogi'r penderfyniad i roi'r maes awyr mewn dwylo cyhoeddus. Ond fe ddywedaf wrthych beth sy'n eironig yw pan fyddwch yn cefnogi perchnogaeth gyhoeddus ar y maes awyr ac rydych yn rhoi arian cyhoeddus tuag at hynny, ac yna eich bod yn gwneud penderfyniadau sy'n gwrthod gadael i awyrennau hedfan o'r maes awyr hwnnw sy'n mynd i gael arian yn ôl i'r trethdalwr. Felly, os ydym am siarad am ddadl ddifrifol yn y Siambr hon, rwy'n meddwl yn ôl pob tebyg y dylai'r Gweinidog edrych ychydig yn fwy manwl ar ei gyfraniadau ei hun cyn ymosod ar yr ochr hon i'r tŷ. [Torri ar draws.] Nid wyf yn meddwl y gallaf dderbyn ymyriad.
Na—[Anghlywadwy.]
Fe fyddwn yn gwneud hynny fel arall, Jenny. Rwy'n credu ei bod hi'n wir i ddweud bod llacio cyfyngiadau coronafeirws ar deithio wedi creu amrywiaeth o heriau, ac amrywiaeth o gyfleoedd hefyd, a chredaf fod angen inni edrych ar y cydbwysedd rhwng y rheini a sicrhau ein bod yn deall hynny. Fel y dywedodd Darren Millar wrth agor, nid oes amheuaeth o gwbl fod cyfyngiadau, megis y rheol 5 milltir, ni waeth faint y mae Gweinidogion yn honni ei bod yn ddewisol—roedd yn peri dryswch. Roedd yn achosi straen. Ac mae dweud wrthym ac wrth ein hetholwyr mai rheol oedd hi ond nad oedd yn rheol ar yr un pryd—wel, nid oedd hynny o ddifrif. Ac rwy'n falch fod y rheol pum—. Ac rydym i gyd yn croesawu'r ffaith bod y rheol honno wedi'i diddymu, fel y dywedodd Darren Millar wrth agor.
Dywedodd Darren hefyd ei fod yn croesawu'r gronfa argyfwng ar gyfer bysiau, ac mae'n wir ein bod yn croesawu hynny, ond rydym angen gweld mwy o fanylion amdani. A byddwn yn hoffi pe bai'r Gweinidog yn ei ymateb, yn hytrach na siarad cymaint am fanylion ein cynnig, wedi rhoi ychydig mwy o fanylion ynglŷn â maes sy'n annelwig iawn ar hyn o bryd, ac mae'n faes y mae angen cymorth ar y diwydiant bysiau i ymdopi ag ef.
Rwy'n falch fod Helen Mary Jones wedi egluro ei sylwadau cynharach. Mae'n rhaid ei bod wedi rhagweld y byddwn yn ei chywiro—. Galwodd hithau ein cynnig yn 'wallgof' hefyd. Nid wyf yn siŵr beth ydyw, pan geisiwch gyflwyno pethau mewn cynnig sy'n synnwyr cyffredin i'r cyhoedd ac yn synnwyr cyffredin i'r bobl ar lawr gwlad, fod angen i chi gefnogi'r economi, cefnogi cysylltiadau trafnidiaeth a chefnogi'r cyhoedd mewn pandemig—nid wyf yn deall yn iawn pam ar y ddaear y byddai hynny'n cael ei alw'n 'wallgof'. Ond oedd, roedd defnyddio Paris yn enghraifft o'r ardal deithio gyffredin yn rhyfedd.
Rwy'n meddwl ei bod yn berffaith rhesymol i ddweud, fodd bynnag, ar ryw adeg yn y dyfodol, y byddai ceisio gorfodi cwarantin ar hyd y ffin rhwng Cymru a Lloegr ac o fewn ardal deithio gyffredin sydd wedi bodoli o fewn y DU a rhwng Iwerddon ers canrif—mae'n amlwg y byddai anawsterau mawr o ran gorfodi'r cwarantin hwnnw. Byddai costau mawr ynghlwm wrth hynny. Felly, rwy'n credu ei bod hi'n eithaf rhesymol unwaith eto i ni ddweud na ddylai hynny fod yn rhywbeth y dylai Llywodraeth Cymru ddibynnu arno. Wrth gwrs, byddai angen mwy o gydweithredu ar draws y DU hefyd. Ac yn wir, y Gweinidog emeritws, Alun Davies—wel, fe gyfrannodd yntau yn gynharach a chyhuddo'r Ceidwadwyr Cymreig o fod â ffetish ynglŷn â'r ffin. Wel, y cyfan a ddywedwn yw bod y ffin yn ffin agored hir. Mae problemau gwirioneddol ynghlwm wrth hynny a byddai ceisio gorfodi cwarantin yn anodd. Ac unwaith eto, ni roddwyd unrhyw fanylion. Roedd y cyfan yn aneglur iawn o ran sut y byddai hynny'n digwydd yn ymarferol.
Gwnaeth Caroline Jones, a Lynne Neagle mewn gwirionedd, bwyntiau synhwyrol iawn ynglŷn â galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu'r penderfyniad i beidio â gwneud gwisgo masgiau wyneb yn orfodol ar drafnidiaeth gyhoeddus. Eto, sut y gallwch ddisgrifio hynny fel pwynt nad yw'n bwynt difrifol i'w wneud yn y ddadl? Mae'r rhan fwyaf o arbenigwyr yn derbyn y dylai gwisgo masgiau wyneb fod yn orfodol, ac mae hynny'n digwydd mewn mannau eraill. Felly, os yw'r dystiolaeth a nododd y Gweinidog yn wir ynglŷn â pham na ddylem gael hynny wedi'i orfodi yng Nghymru, gadewch inni weld y dystiolaeth honno. Rwy'n credu bod Lynne Neagle wedi galw am hynny. Gadewch i ni ei gweld. Gadewch i ni ddeall pam na ddylai gwisgo masgiau wyneb fod yn orfodol yn y gornel hon o'r Deyrnas Unedig pan gaiff ei orfodi ym mhobman arall.
Yn ganolog i hyn oll y mae'r angen i ddiogelu'r cyhoedd, fel y gwn fod Llywodraeth Cymru yn ei ddweud yn gyson ac wedi dadlau yn y gorffennol. Dyna pam ein bod wedi cyflwyno'r ddadl hon. Dyna pam y cawn y dadleuon hyn ynglŷn â'r angen i ymdrin â'r pandemig. Mae angen inni ddiogelu'r cyhoedd, ond ar yr un pryd mae angen inni lacio'r cyfyngiadau a chefnogi'r economi wrth inni symud ymlaen.
Ac fe ddywedaf wrth gloi, Lywydd, fy mod yn gobeithio, pan ddown allan o'r cyfyngiadau hyn, gan fynd yn ôl at rai o bwyntiau cychwynnol Darren Millar—rwy'n gobeithio na fyddwn yn ceisio dychwelyd at holl hen arferion y gorffennol, ac y byddwn yn ceisio gweithredu ac nid siarad yn unig am ddatblygu economi wyrddach, economi fwy cynaliadwy yn y dyfodol, economi sy'n adeiladu ar gyfleoedd a gyflwynwyd dros y mis diwethaf, ac nad yw ond yn ymateb ac yn osgoi rhai o'r heriau sy'n cael eu cyflwyno. Rwy'n credu bod y cyhoedd yn deall hynny, rydym yn deall bod nifer o Aelodau'r Cynulliad—Aelodau o'r Senedd, dylwn ddweud—ar feinciau'r Llywodraeth yn deall hynny hefyd. Mae hon yn ddadl ddifrifol, mae'n gynnig difrifol, mae hon yn drafodaeth ddifrifol i'w chael. Gadewch i bawb ohonom weithio gyda'n gilydd ac wrth i ni symud ymlaen i roi economi Cymru ar sylfaen inni allu dod allan o'r cyfyngiadau mewn ffordd sy'n wirioneddol gadarn a chynaliadwy ac er mwyn inni allu adeiladu Cymru yn y dyfodol y gall pobl fod yn falch ohoni.
Y cynnig yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.]
Roeddwn i'n meddwl efallai y byddech. [Chwerthin.]
Dwi felly'n gohirio'r bleidlais ar yr eitem tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Yn unol â Rheol Sefydlog 34.14D, bydd egwyl o bum munud o leiaf cyn cynnal y cyfnod pleidleisio, a bydd cymorth technoleg gwybodaeth wrth law i helpu gydag unrhyw faterion yn ystod yr amser yma. Felly, rŷn ni ar egwyl.
Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 18:56.
Ailymgynullodd y Senedd am 19:06, gyda'r Llywydd yn y Gadair.
Felly, dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio, ac mae'r bleidlais gyntaf ar gynnig y Ceidwadwyr Cymreig ar drafnidiaeth, a dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 16, neb yn ymatal, 39 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi ei wrthod.
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Covid-19 a Thrafnidiaeth - Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 16, Yn erbyn: 39, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y cynnig
Mae'r bleidlais nesaf ar welliant 1, ac, os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol. Dwi'n galw am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 29, neb yn ymatal, 26 yn erbyn, ac felly mae gwelliant 1 wedi ei gymeradwyo—gwelliant 2 a gwelliant 3 wedi eu dad-ddethol.
Dadl Ceidwadwyr Cymreig - Gwelliant 1 (Rebecca Evans): O blaid: 29, Yn erbyn: 26, Ymatal: 0
Derbyniwyd y gwelliant
Cafodd gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol.
Felly, dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig fel y'i diwygiwyd.
Cynnig NDM7345 fel y'i diwygiwyd
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi nad yw Coronafeirws wedi diflannu er gwaethaf y ffaith bod y trosglwyddiad o fewn cymunedau wedi lleihau yn sgil y mesurau sydd wedi’u cyflwyno. Mae hyn yn cyfiawnhau dull gofalus Llywodraeth Cymru o gydbwyso’r peryglon i iechyd y cyhoedd â pheryglon economaidd, cymdeithasol ac eraill, gan gynnwys teithio.
2. Yn cydnabod y pwysau sylweddol y mae’r Coronafeirws wedi’i roi ar gyllid Llywodraeth Cymru, a heb hyblygrwydd ychwanegol gan Lywodraeth y DU, mae buddsoddiad uwch mewn un maes, fel iechyd, cymorth i fusnesau neu drafnidiaeth yn golygu bod llai o gyllid ar gael ar gyfer meysydd eraill.
3. Yn croesawu’r pecyn sylweddol o gymorth brys sydd wedi’i gyflwyno gan Lywodraeth Cymru er mwyn achub cwmnïau bysiau a threnau yng Nghymru yn ystod y pandemig.
4. Yn cydnabod swyddogaeth bwysig Maes Awyr Caerdydd yn ystod yr argyfwng, gan helpu i gludo cyflenwadau o gyfarpar diogelu personol i Gymru.
5. Yn nodi gwaith Llywodraeth Cymru:
a) gyda llywodraethau eraill datganoledig er mwyn ystyried dull ar draws y pedair gwlad ar gyfer codi cyfyngiadau teithio rhyngwladol;
b) gyda chwmnïau bysiau ac awdurdodau lleol er mwyn ystyried cynyddu gwasanaethau mewn modd priodol a rheoli hyn mewn modd cynaliadwy yn y dyfodol; ac
c) gyda Maes Awyr Caerdydd er mwyn ystyried llwybrau teithio newydd a diogelu ei ddyfodol fel rhan o system trafnidiaeth gyhoeddus integredig ar draws Cymru, a hynny er gwaethaf gwrthwynebiad parhaus gan Lywodraeth y DU mewn maes polisi sydd wedi’i gadw i raddau helaeth er mwyn sicrhau bod meysydd awyr rhanbarthol oll yn cael eu trin yn yr un modd.
Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 29, pedwar yn ymatal, 22 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi ei ddiwygio wedi ei dderbyn.
Dadl Ceidwadwyr Cymreig - Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 29, Yn erbyn: 22, Ymatal: 4
Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd
Yr eitem nesaf, felly, o fusnes, yw Cyfnod 3 ar y Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru), ac felly rŷn ni'n symud yn syth i'r grwpiau.
Ac mae'r grŵp cyntaf o welliannau yn ymwneud â'r drosedd i ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol. Gwelliant 1 yw'r prif welliant yn y grŵp, a dwi'n galw ar Llyr Gruffydd i gynnig y prif welliant ac i siarad i'r gwelliant a'r gwelliannau eraill—Llyr Gruffydd.
Cynigiwyd gwelliant 1 (Llyr Gruffydd).
Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a diolch am y cyfle i gynnig dau welliant Plaid Cymru yn y grŵp yma. Ar hyn o bryd, wrth gwrs, dyw'r Bil ddim ond yn gwahardd anifeiliaid gwyllt rhag perfformio neu gael eu harddangos ar gyfer adloniant mewn amgylchedd o syrcas deithiol. I fi, mae'r diffiniad yna yn llawer rhy gyfyng, ac mi fydd Aelodau, wrth gwrs, wedi derbyn negeseuon gan fudiadau megis yr RSPCA ac Animal Defenders International yn mynegi'r un farn ac yn eich hannog chi i gefnogi gwelliannau Plaid Cymru yn hynny o beth.
O dan y ddeddfwriaeth, mae'n dal i fod yn gyfreithlon i fynd ag anifail gwyllt ar daith gyda syrcas deithiol a'i hyfforddi ar gyfer perfformio yng Nghymru—efallai, wrth gwrs, ar gyfer ei arddangos yn ddiweddarach mewn gwlad heb waharddiad. Nawr, byddai hyn yn dal i wneud yr anifeiliaid hynny'n agored i lawer o'r ffactorau sy'n peryglu lles ac yn gwneud bywyd mewn syrcas deithiol mor anodd iddynt. Ar hyn o bryd, nid yw'r ddeddfwriaeth yn mynd i'r afael â realiti o'r fath na'r heriau niferus y tu hwnt i berfformio ac arddangos yn unig sy'n gwneud bywyd mewn syrcas deithiol yn realiti annymunol i'r anifeiliaid, gan gynnwys cael eu cludo a'u gorfodi i hyfforddi wrth gwrs.
Nid yw'r gwelliant hwn yn ymwneud ag amddifadu o eiddo, mae'n ymwneud ag atal problemau lles sy'n gysylltiedig â natur amharhaol syrcasau teithiol. Mae materion lles sy'n gysylltiedig â defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol yn ymestyn ymhell y tu hwnt i berfformio ac arddangos, a dylai deddfwriaeth ymdrin â chaethiwed, straen wrth gael eu cludo, hyfforddiant dan orfodaeth a grwpio cymdeithasol annormal sy'n parhau'n realiti i'r anifeiliaid hyn. Byddai gwrthod y gwelliannau hyn yn golygu, wrth gwrs, y byddwn yn dal i ganiatáu i anifeiliaid gwyllt deithio a hyd yn oed hyfforddi gyda syrcasau teithiol, ac felly ni fyddwn ond yn gwahardd perfformio neu arddangos.
Un ffocws mawr ar gyfer y Bil hwn oedd rhoi diwedd ar weld anifeiliaid gwyllt yn teithio mewn syrcasau teithiol, a chredaf y byddai colli'r cyfle hwn yn arwyddocaol. Nawr, mae'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig eisoes wedi archwilio i weld sut y byddai peidio â chael gwaharddiad llwyr yn annhebygol o fodloni disgwyliadau'r cyhoedd. Felly, byddai ein gwelliant cyntaf yn dod â Chymru'n agosach at y gwaharddiadau mwy cadarn a welwn mewn lleoedd fel Gweriniaeth Iwerddon, lle mae'r ddeddfwriaeth yn dweud na chaniateir i berson ddefnyddio anifail gwyllt mewn syrcas, a bod unrhyw gyfeiriad at syrcas yn cynnwys cyfeiriad at unrhyw fan lle caiff anifeiliaid a ddefnyddir mewn syrcas eu cadw neu eu hyfforddi.
Gan ddod at ein hail welliant, rwy'n siŵr y byddai pawb ohonom yn cytuno ei bod hi'n hen bryd cael gwaharddiad ar ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yng Nghymru, ond er ei fod ar yr agenda ers blynyddoedd lawer yma yng Nghymru, ni fydd y genedl olaf ym Mhrydain yn awr i gyflwyno gwaharddiad. Mae trafodaethau wedi bod yn mynd rhagddynt yn y Cynulliad, fel ag yr oedd, ers o leiaf 2006, gyda chyflwyno datganiad barn a oedd yn gobeithio y gallai Deddf Lles Anifeiliaid 2006 rymuso Cymru i weithredu. Cymerodd naw mlynedd i ni—yn 2015, felly—i Lywodraeth Cymru ddweud ei bod yn credu nad oes lle i ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau, ond wrth gwrs rydym yn dal i aros. Yn Lloegr, yn y cyfamser, daeth Deddf Anifeiliaid Gwyllt mewn Syrcasau 2019 i rym ym mis Ionawr eleni, ac yn yr Alban, wrth gwrs, mae gwaharddiad wedi bod mewn grym ers 2018.
Fodd bynnag, fel y'i drafftiwyd, ni ddaw gwaharddiad arfaethedig Cymru i rym tan 1 Rhagfyr eleni, ac rwy'n gwybod ei bod hi'n amlwg fod amgylchiadau'n ei gwneud yn annhebygol yn awr y gwelwn unrhyw syrcasau teithiol yn ymweld â Chymru yr haf hwn—er, pwy a ŵyr beth fydd yn digwydd yn ddiweddarach yn yr hydref, o bosibl—ond wrth gwrs, byddai'n golygu wedyn mai Cymru fyddai'r unig leoliad lle byddai perfformiad syrcas yn dal i fod yn realiti cyfreithlon i anifeiliaid gwyllt, er mai dros dro fyddai hynny.
Nawr, rwy'n ddiamynedd yn fy awydd i weld gwaharddiad yn cael ei weithredu, er fy mod yn deall bod yr amgylchiadau wedi newid ers cyflwyno'r gwelliant penodol hwn yn gynharach eleni, ac rwy'n derbyn hefyd, wrth gwrs, fod yr ail welliant yn dibynnu i raddau helaeth ar basio'r gwelliant cyntaf, ond byddwn yn annog yr Aelodau i gefnogi ein dau welliant i'r Bil hwn. A hoffwn ddweud hefyd, Lywydd, na fyddaf yn cyfrannu at y ddadl ar y grŵp nesaf o welliannau, ond bydd Plaid Cymru yn cefnogi'r holl welliannau a gafodd eu cyflwyno i'r Bil hwn heddiw. Diolch.
Rwy'n croesawu'r cyfle i gynnig y gwelliant yn fy enw i yn y grŵp hwn, gwelliant 3. Byddwn hefyd yn cefnogi'r gwelliant cyntaf y mae Plaid Cymru wedi ei gyflwyno heddiw, ond ni fyddwn yn cefnogi'r ail welliant gan Blaid Cymru, ac fe wnaf egluro pam. Gallwn fod yn hynod o Churchillaidd a cheisio apelio ar feinciau'r Llywodraeth i gefnogi ein gwelliannau gerbron y Siambr heddiw, ond rwy'n tybio fy mod yn cofio o'r cyfnod pwyllgor mai ychydig iawn o lwc a gawsom. Ond rwy'n credu eu bod yn werth eu gosod yng Nghyfnod 3, yn enwedig y gallu i sicrhau na ellid troi ymarferion hyfforddi a wneir gydag anifeiliaid syrcas yn ffynhonnell incwm drwy ffi i syrcasau. Oherwydd, ar hyn o bryd, mae bwlch yn y Ddeddf, fel y tystiodd gwybodaeth a roddwyd i ni yn y cyfnod pwyllgor, Cyfnod 1, gan amrywiol sefydliadau a ddywedai, 'Byddai'r ddeddfwriaeth hon yn atal anifeiliaid rhag cael eu harddangos yn y cylch at ddibenion adloniant', ond roedd perygl y gallai anifeiliaid ddal i deithio gyda'r syrcas honno i Gymru a mynd drwy drefn hyfforddi y tu allan i gylch y syrcas yn y pen draw a allai greu incwm drwy ffi i'r syrcas—i berchnogion ac arddangoswyr syrcas.
Fel y dywedodd Llyr, llefarydd Plaid Cymru, mae hwn wedi cael ei daflu o gwmpas yn awr ers 2006, gyda'r datganiad barn cyntaf. Does bosibl nad yw'n gwneud synnwyr, os ydym yn mynd i roi deddfwriaeth drwy Senedd Cymru, ein bod yn ceisio cau unrhyw fylchau a nodwyd yn y dystiolaeth arbenigol a gawsom yn y pwyllgor. Ac felly rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau'n gallu cefnogi gwelliant 3 yn y grŵp penodol hwn, oherwydd nid yw'n ceisio trawsnewid y Bil, mae'n ceisio gwella'r Bil a chau unrhyw fylchau a allai, yn y dyfodol, gynnig ffrwd incwm i berchnogion syrcas pan fyddant yn dod i Gymru gyda'r anifeiliaid y gallent fod yn eu cludo gyda hwy. Mae'n ymddangos yn ymarfer cwbl resymegol i wneud hyn, ac rwy'n gobeithio y bydd y Llywodraeth yn ymatal rhag gwrthwynebu'r gwelliant penodol hwn, gan ei fod wedi'i seilio ar y dystiolaeth a gymerodd y pwyllgor.
Ni fyddwn yn cefnogi'r ail welliant y mae Plaid Cymru wedi'i gyflwyno, eto am fod y dystiolaeth yn dangos yn glir fod angen cyfnod pontio, o'r adeg y dôi'r ddeddfwriaeth i rym, er mwyn i berchnogion syrcas ddod o hyd i gartrefi addas ar gyfer yr anifeiliaid hyn, yr anifeiliaid gwyllt hyn, y bydd angen rhoi sylw i ystyriaethau ynglŷn â'u lles yn y pen draw. Ac unwaith eto, cafwyd tystiolaeth o hynny yng Nghyfnod 1. Gallaf gydymdeimlo â Llyr pan fo'n gwneud y pwynt y byddai'n well ceisio ei wneud cyn gynted ag sy'n bosibl, ond y gwir amdani yw ein bod yn sôn am anifeiliaid byw ac mae yna ystyriaethau lles yn gysylltiedig â hynny, a phan ddaw'r ddeddfwriaeth hon i rym, bydd angen iddi roi lle i anadlu er mwyn ei gwneud hi'n bosibl dod o hyd i gartref addas ar eu cyfer yn y dyfodol. A dyna pam na fyddwn yn cefnogi'r gwelliant hwnnw. Felly, rwy'n cynnig gwelliant 3 a galwaf ar Senedd Cymru i gefnogi gwelliant 3, sy'n sefyll yn fy enw i, yn y grŵp hwn.
Dyma'r ail dro i'r Aelodau gyflwyno gwelliannau i ymestyn cwmpas y drosedd. Gwnaethant yr un peth yng Nghyfnod 2, pan gawsant eu gwrthod gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig.
Hoffwn ddechrau drwy ddweud yn glir iawn mai diben y Bil hwn yw mynd i'r afael â phryderon moesegol drwy wahardd y defnydd o anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol yng Nghymru. Mae deddfwriaeth arall ar waith i ddiogelu lles anifeiliaid. Diben cul iawn sydd i'r Bil hwn ac mae'n ceisio ei gwneud yn drosedd i weithredydd syrcas deithiol ddefnyddio neu beri neu ganiatáu i berson arall ddefnyddio anifail gwyllt mewn syrcas deithiol. Caiff anifail gwyllt ei ddefnyddio os yw'r anifail yn perfformio neu os caiff ei arddangos. Os yw syrcasau'n dewis cadw a hyfforddi eu hanifeiliaid gwyllt a'u defnyddio mewn ffordd wahanol, bydd ganddynt hawl i wneud hynny, cyn belled â'u bod yn gwneud hynny'n gyfreithlon.
Wrth roi tystiolaeth i'r pwyllgor, mae'r syrcasau eisoes wedi dweud eu bod yn bwriadu parhau i ddefnyddio eu hanifeiliaid gwyllt, er nad fel rhan o'r syrcas deithiol. Ac er mwyn gwneud hyn, mae'n debyg y byddai angen iddynt eu hyfforddi. Mae'n debygol fod unrhyw benderfyniad ar ddyfodol eu hanifeiliaid gwyllt wedi'i wneud eisoes, o gofio'r gwaharddiad yn Lloegr a ddaeth i rym ym mis Ionawr. Byddai rhywun yn tybio y byddai'n aneconomaidd i syrcasau barhau i fynd â'u hanifeiliaid gwyllt gyda hwy pan fyddant yn mynd ar daith os na allant eu defnyddio, er mai penderfyniad iddynt hwy fyddai hynny.
Mae'r gwelliannau a gynigir yn gyfystyr â gwaharddiadau de facto, naill ai ar gadw anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol—a fyddai'n gyfystyr ag amddifadu o eiddo'n gyfan gwbl—neu ar hyfforddi anifeiliaid gwyllt, a byddai hyn yn creu risg o dramgwyddo'r hawl i fwynhau eiddo'n heddychlon, a ddiogelir gan erthygl 1 o brotocol 1 y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol. Mae cyfyngu ar y modd y caiff anifail ei ddefnyddio mewn amgylchedd syrcas, fel rydym yn ceisio ei wneud yma, yn llai o ymyrraeth nag amddifadu perchennog ohono'n llwyr, neu gyfyngu ar y modd y maent yn defnyddio anifeiliaid gwyllt y tu allan i amgylchedd y syrcas.
Rwy'n deall awydd yr Aelod i weld gwaharddiad yn cael ei weithredu cyn gynted ag sy'n ymarferol, ac nid oes modd cyfiawnhau defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol mwyach ar gyfer adloniant yn unig, a dyna pam y cyflwynais y ddeddfwriaeth hon. Dylai'r Bil, os yw'n llwyddiannus, gael Cydsyniad Brenhinol ganol mis Awst ar y cynharaf, a dod i rym ar 1 Rhagfyr. Cafodd y dyddiad dod i rym ei godi gan yr Aelod yn ystod y ddadl ar egwyddorion cyffredinol y Bil, a dywedais y byddwn yn ystyried dyddiad dod i rym cynharach, fel y gwneuthum pan roddais dystiolaeth i'r pwyllgor y llynedd. Fodd bynnag, yn ei adroddiad Cyfnod 1, wrth gydnabod y pryderon ynghylch amseriad y gwaharddiad a'r galwadau i gyflwyno'r gwaharddiad yn gynharach, nododd y pwyllgor, ac rwy'n dyfynnu:
'Byddai amser a ganiateir ar gyfer craffu deddfwriaethol ar y Bil yn darparu cwmpas cyfyngedig i’r dyddiad dod i rym gael ei gyflwyno’n gynharach. O ystyried hyn, a goblygiadau ymarferol cyflwyno’r gwaharddiad yn ystod y tymor teithio, rydym yn fodlon bod y dyddiad dod i rym yn rhesymol ac yn briodol.'
Rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau'n cofio mai'r rheswm dros osod y dyddiad dod i rym ym mis Rhagfyr yw y bydd disgwyl i syrcasau teithiol sydd wedi defnyddio anifeiliaid gwyllt fod wedi cwblhau eu teithiau ac wedi dychwelyd i'w man aros dros y gaeaf erbyn hynny. Ond fel y nododd Llyr, oherwydd cyfyngiadau COVID-19, nid yw'r syrcasau hyn wedi teithio o gwbl eleni, ac mae'n rhy gynnar i ddweud pa bryd y caniateir y math hwn o weithgaredd. Ond fel y nodwyd gennych, mae'n bosibl y gallai'r syrcasau fynd ar daith yn hwyrach eleni, ac os byddant yn gwneud hynny, mae'n bosibl y byddant yn penderfynu peidio â theithio eto yng Nghymru gyda'u hanifeiliaid gwyllt, o gofio bod y gweithgaredd wedi'i wahardd bellach yn Lloegr, lle mae'r ddwy syrcas wedi'u lleoli.
Byddai gweithredu gwaharddiad yn ystod y tymor teithio, a allai fod unrhyw adeg tan ddiwedd mis Tachwedd, yn rhoi'r syrcasau mewn sefyllfa anodd ac afresymol o orfod cydymffurfio â darpariaethau'r Bil tra byddent ar daith gyda'u hanifeiliaid gwyllt. Rydym wedi edrych ar y dyddiad dod i rym yn ofalus iawn, ac nid oes fawr ddim i'w ennill o'i gyflwyno ychydig wythnosau'n gynharach fel y byddai'n debygol o fod.
Felly, Lywydd, nid wyf yn credu bod angen yr un o'r gwelliannau hyn. Diben y Bil yw mynd i'r afael â phryderon moesegol—[Torri ar draws.] Ie.
Diolch. Nid oeddwn yn siŵr fod ymyriadau'n cael eu caniatáu.
Nid wyf innau'n gwybod chwaith.
Wel, gan eich bod wedi tynnu sylw at hynny, na, ni chânt eu caniatáu.
Nac ydynt. O'r gorau. Diben y Bil—
Yn gyflym iawn, oherwydd rwy'n berson caredig iawn.
Rwyf am ofyn am bwynt o eglurhad ynglŷn â'r gwelliant a gyflwynais ar hyfforddiant. Fe ddywedoch chi yn eich sylwadau agoriadol fod perchnogion syrcas wedi dweud y byddant yn defnyddio'r anifeiliaid mewn ffordd wahanol. Fe ddywedoch chi hynny yn eich sylwadau agoriadol, Weinidog. Felly yn sicr mae gwelliant 3 yn amlwg yn ceisio atal hynny rhag digwydd mewn ymarferion hyfforddi, a ddylai'r gwelliant sy'n cael ei dderbyn gan y Llywodraeth hefyd felly, yn eich geiriau chi, atal y perchnogion rhag defnyddio'r anifeiliaid mewn ffordd wahanol.
Rwy'n credu fy mod wedi egluro hynny yn fy ateb cynharach, Lywydd.
Felly, diben y Bil yw mynd i'r afael â phryderon moesegol am y ffordd y caiff anifeiliaid gwyllt eu defnyddio mewn syrcasau teithiol. Mae deddfwriaeth arall eisoes ar waith i ddiogelu lles anifeiliaid, gan gynnwys lles anifeiliaid wrth iddynt gael eu cludo. Felly, rwy'n annog yr Aelodau i wrthod y gwelliannau. Diolch.
Llyr Gruffydd yn ymateb i'r ddadl.
Diolch, Lywydd. Wel, diolch am y cyfraniadau i'r drafodaeth hon ynghylch y grŵp cyntaf hwn o welliannau. Rwyf wedi fy nhristáu braidd, Weinidog, wrth eich clywed yn derbyn yn gyndyn braidd y gallai anifeiliaid gwyllt fynd ar daith gyda syrcasau yng Nghymru yn yr hydref, pan allem ddeddfu yn awr mewn gwirionedd, heddiw, i atal hynny rhag digwydd.
Ac fe gyfeirioch chi at 'fwynhau eiddo'n heddychlon', gan ddyfynnu eich geiriau chi, fel hawl ddynol. Hyd yn oed pan fydd yn mynd yn groes i les anifeiliaid? Rwy'n credu bod cwestiynau difrifol y mae angen eu gofyn ynglŷn â hynny. Rwy'n teimlo ei bod yn eithaf croes i'r graen ein bod yn deddfu yma i ddiogelu lles anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol ac yna'n dewis diffinio hynny mewn ffordd mor gul fel ein bod yn colli cyfle go iawn yma i'w ymestyn y tu hwnt i berfformio ac arddangos yn unig.
Fe sonioch chi fod darnau eraill o ddeddfwriaeth ar waith sy'n diogelu lles anifeiliaid. Rwy'n deall hynny, ond rydym yn cael neges glir gan nifer o sefydliadau lles anifeiliaid y cyfeiriais atynt yn dweud wrthym eu bod yn cefnogi'r gwelliannau hyn. Felly, mae'n rhaid bod rhywbeth o'i le yn y darpariaethau presennol sydd i'w cael. Felly, rwy'n siomedig nad ydych yn derbyn y gwelliannau hyn, ac rwy'n siŵr y bydd y cyhoedd yn fwy cyffredinol hefyd mewn penbleth ynglŷn â hyn ac yn rhannu fy siom.
Felly, byddwn yn annog yr Aelodau i beidio â gwastraffu'r cyfle hwn i wneud cymaint o wahaniaeth ag y gallwn yn y ddeddfwriaeth hon, ac rwyf am ofyn i chi gefnogi dau welliant Plaid Cymru y prynhawn yma.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw un yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, rydym yn symud i bleidlais yn syth, ac yn unol â Rheol Sefydlog 34.14D, bydd egwyl unwaith eto o bum munud cyn inni bleidleisio ar y gwelliant yma a'r ddau nesaf. Felly, dwi'n dod â'r sesiwn i ben am bum munud.
Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 19:24.
Ailymgynullodd y Senedd am 19:30, gyda'r Llywydd yn y Gadair.
[Anghlywadwy.] [Chwerthin.] O blaid 25, neb yn ymatal, 29 yn erbyn, ac felly mae'r gwelliant wedi ei wrthod.
Gwelliant 1 - Cyfnod 3 Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru): O blaid: 25, Yn erbyn: 29, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Cynigiwyd gwelliant 3 (Andrew R.T. Davies).
Cynnig.
Cynigiwyd gan Andrew R. T. Davies
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 3? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Felly, rydym ni'n symud i bleidlais ar welliant 3. Agor y bleidlais. [Anghlywadwy.]—gydag un Aelod—[Anghlywadwy.] Canlyniad y bleidlais ar welliant 3 oedd bod 25 o blaid, neb yn ymatal, 29 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 3 wedi ei wrthod.
Gwelliant 3 - Cyfnod 3 Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru) : O blaid: 25, Yn erbyn: 29, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Gwelliant 2. Llyr Gruffydd.
Cynigiwyd gwelliant 2 (Llyr Gruffydd).
Cynnig.
Mae gwelliant 2 wedi ei gynnig. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 2? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Felly, rydym ni'n symud i bleidlais ar welliant 2. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais, ac mae un Aelod eto heb fedru pleidleisio. Canlyniad y bleidlais yw bod 12 o blaid, un yn ymatal, 41 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 2 wedi ei wrthod.
Gwelliant 2 - Cyfnod 3 Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru) : O blaid: 12, Yn erbyn: 41, Ymatal: 1
Gwrthodwyd y gwelliant
Y grŵp nesaf o welliannau yw'r grŵp sydd yn ymwneud â phwerau arolygu. Gwelliant 4 yw'r prif welliant yn y grŵp yma, a dwi'n galw ar Andrew R.T. Davies i gynnig y prif welliant.
Cynigiwyd gwelliant 4 (Andrew R.T. Davies).
Diolch yn fawr, Lywydd. Mae'n bleser gennyf gynnig y gwelliannau yng ngrŵp 2 sy'n sefyll yn fy enw i, a gobeithio y cânt gefnogaeth yn y Cynulliad, ond unwaith eto, nid wyf yn credu y caf lawer o lwc, a dweud y gwir, ond dyna chi, mae'n werth rhoi cynnig arni, oherwydd mae'n faes pwysig. Mae'n ymwneud â phwerau arolygu a'r person a gaiff ei ddirprwyo i gynnal yr arolygiad hwnnw. Ar hyn o bryd, nid yw'r Bil yn glir ynglŷn â phwy'n union a fyddai'n gwneud hynny, ac mae'r gwelliannau hyn yn ceisio tacluso'r ddeddfwriaeth honno fel y byddai'n rhaid i'r person naill ai fod yn filfeddyg neu'n unigolyn â'r cymwysterau addas.
Roedd yn feirniadaeth deg yn y sesiwn dystiolaeth a hefyd yng nghyfarfodydd Cyfnod 2 y pwyllgor fod y Gweinidog wedi nodi, mewn gwirionedd, yn y gwelliant ar y pryd, ein bod yn rhagnodol iawn wrth ddweud mai milfeddyg yn benodol a ddylai wneud hynny. Y tro hwn, rydym wedi ehangu'r gwelliant i ddweud person â chymwysterau addas.
Rwy'n credu bod llawer ohonom, yn ein rolau fel gwleidyddion, wedi eistedd ynghanol anghydfod ac wedi edrych am farn arbenigol a chyngor arbenigol. Wel, a bod yn deg, ni allwch gael barn fwy arbenigol yn y maes arolygu penodol hwn na milfeddyg neu berson â chymwysterau addas sydd â chymhwyster tebyg i filfeddyg. Yn sicr, fel gwleidyddion, dylem geisio cael gwared ar y gwrthdaro mewn unrhyw ddeddfwriaeth, a chael datrysiad llwyddiannus, gobeithio, lle gallai fod anghydfod.
Felly, mae'r gyfres hon o welliannau'n ceisio gwneud hynny, a mawr obeithiaf y bydd Senedd Cymru'n cymeradwyo'r gwelliannau sy'n sefyll yn fy enw i, ac yn cael deddfwriaeth lawer cryfach a all roi gwell trefn ar y broses anghydfod pe bai angen y pwerau hyn—pwerau mynediad a phwerau archwilio. Felly rwy'n gobeithio y bydd y Senedd yn cefnogi'r gwelliannau yn fy enw i y prynhawn yma.
Y Gweinidog.
Diolch, Lywydd. Mae paragraff 9 o'r Atodlen yn nodi'r pwerau arolygu, chwilio ac ymafael sydd ar gael i arolygydd wrth arfer pŵer mynediad. Ni all arolygydd ymafael mewn anifail gwyllt, ond gall, er enghraifft, ei archwilio neu gymryd samplau. Ond mae'n annhebygol iawn y bydd angen y pwerau hyn. Mae arolygwyr eisoes yn gweithio gyda'r un pwerau mewn meysydd deddfwriaethol eraill. Nid ydynt yn newydd, ac maent yn adlewyrchu pwerau sydd eisoes ar waith yn Neddf Lles Anifeiliaid 2006 a Deddf Anifeiliaid Gwyllt mewn Syrcasau 2019 yn Lloegr, a Deddf Anifeiliaid Gwyllt mewn Syrcasau Teithiol (yr Alban) 2018—maent ill dwy'n cynnwys pwerau tebyg.
Mae paragraff 8 o'r Atodlen yn caniatáu i arolygwyr fynd â phersonau eraill i'r fangre ac unrhyw gyfarpar a deunyddiau y mae'r arolygydd yn barnu eu bod yn briodol i'w cynorthwyo yn eu dyletswyddau. Gallai'r bobl eraill gynnwys arbenigwyr, er enghraifft, arbenigwr sŵolegol i helpu i adnabod anifeiliaid, neu filfeddyg. Byddai'n ofynnol i filfeddyg gymryd sampl o anifail cyhyd â bod y samplu'n cael ei ystyried yn rhan o ymarfer llawfeddygaeth filfeddygol, fel y'i diffinnir gan Ddeddf Milfeddygon 1966. Ceir eithriadau, ond byddai'n rhaid i filfeddyg gymryd sampl gwaed, er enghraifft, ar gyfer profion DNA i benderfynu a yw anifail o rywogaeth sydd fel arfer wedi'i ddomestigeiddio yn Ynysoedd Prydain ai peidio.
Mae paragraff 10 o'r Atodlen yn caniatáu i unrhyw berson a ddaw gyda'r arolygydd i'r fangre arfer pwerau'r arolygydd o dan baragraff 9 ar yr amod eu bod o dan oruchwyliaeth yr arolygydd. Gallai milfeddyg sy'n dod gydag arolygydd gymryd samplau o anifail dan oruchwyliaeth at ddibenion adnabod. Felly, mae'n dilyn bod y cynnig i nodi mai dim ond person wedi'i hyfforddi'n addas neu filfeddyg sy'n cael archwilio, mesur, profi neu gymryd sampl o anifail, a'r pwerau cysylltiedig i wneud rheoliadau, yn ddianghenraid ac na ellir eu cyfiawnhau. Felly, gofynnaf i'r Aelodau wrthod y gwelliannau hyn, sy'n gwbl ddiangen. Diolch.
Andrew R.T. Davies i ymateb.
Os caf ymateb i'r Gweinidog, Weinidog, chi oedd yn gyfrifol am y strategaeth TB gwartheg yma yng Nghymru, ac mae'n amlwg fod rhaid cael milfeddyg neu rywun â chymwysterau addas i gynnal y profion hynny—mae wedi'i nodi yn y rheolau a'r rheoliadau. Does bosibl nad yw'r un resymeg yn berthnasol yma pan fyddwch yn sôn am anifeiliaid gwyllt, ac anifeiliaid egsotig hyd yn oed, lle gallai fod lle i amau, gallai fod pryder ynglŷn ag a yw'r anifail yn dod o dan y ddeddfwriaeth. Fel y dangosodd y dystiolaeth a gasglwyd gan y pwyllgor yng Nghyfnod 1, nid yw'r rhestr yn ddiffiniol ac mae angen y farn arbenigol honno arnoch os bydd yn rhaid cynnal prawf, neu eglurhad ynglŷn â pha anifeiliaid a allai ddod o dan y ddeddfwriaeth neu beidio. Clywodd yr Aelodau yn y pwyllgor—Aelodau Llafur hefyd—y dystiolaeth honno.
Felly, byddwn yn awgrymu bod y gwelliannau hyn sydd wedi'u cyflwyno heddiw, unwaith eto, fel fy ngwelliant cyntaf yng ngrŵp 1, yn ymwneud â thacluso rhai o'r elfennau mwy llac yn y ddeddfwriaeth hon, fel eu bod yn cael gwared ar y gwrthdaro. Gobeithio y caiff y ddeddfwriaeth hon ei phasio, oherwydd nid yw'r ddeddfwriaeth yn ddadleuol—mae pawb ohonom yn cefnogi ei gweithredu—ond yn y pen draw, gall fod yn ddeddfwriaeth lawer gwell os caiff y gwelliannau hyn eu derbyn gan y Llywodraeth a'u cefnogi gan y Senedd gyfan. Clywaf yr hyn y mae'r Gweinidog yn ei ddweud, ac rwy'n derbyn y bydd y gwelliannau hyn yn methu heno, ond byddaf yn eu gwthio i bleidlais fel y gellir eu profi heno. Rwy'n galw am y bleidlais felly.
Y cynnig, felly, yw i dderbyn gwelliant 4. A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Felly, yn unol â Rheol Sefydlog 34.14D, bydd egwyl o bum munud eto cyn i ni bleidleisio ar y gwelliant yma a gweddill y gwelliannau am y prynhawn yma. Felly, egwyl o bum munud.
Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 19:38.
Ailymgynullodd y Senedd am 19:41, gyda'r Llywydd yn y Gadair.
Felly, rŷm ni'n pleidleisio nawr ar welliant 4. Gwelliant 4—agor y bleidlais.
[Anghlywadwy.]—heb lwyddo i'w bwrw, ond rwy'n cau'r bleidlais.
O blaid 25, un yn ymatal, 28 yn erbyn. Ac felly, mae gwelliant 4 wedi ei wrthod.
Gwelliant 4 - Cyfnod 3 Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru) : O blaid: 25, Yn erbyn: 28, Ymatal: 1
Gwrthodwyd y gwelliant
Andrew R.T. Davies, gwelliant 5.
Cynigiwyd gwelliant 5 (Andrew R.T. Davies).
Cynnig.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 5? Unrhyw un yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, rŷm ni'n symud i bleidlais ar welliant 5. Agor y bleidlais.
[Anghlywadwy.]—i bleidleisio, ond rwy'n cau'r bleidlais.
O blaid 25, un yn ymatal, 28 yn erbyn. Ac felly, mae gwelliant 5 wedi ei wrthod.
Gwelliant 5 - Cyfnod 3 Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru) : O blaid: 25, Yn erbyn: 28, Ymatal: 1
Gwrthodwyd y gwelliant
Gwelliant 6, Andrew R.T. Davies.
Cynigiwyd gwelliant 6 (Andrew R.T. Davies).
Cynnig.
Gwelliant 6, felly. A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Felly, rŷm ni'n symud i bleidlais ar welliant 6. Agor y bleidlais.
Fe wnawn gau'r bleidlais.
O blaid 25, un yn ymatal a 28 yn erbyn. Ac felly, mae'r gwelliant wedi ei wrthod.
Gwelliant 6 - Cyfnod 3 Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru) : O blaid: 25, Yn erbyn: 28, Ymatal: 1
Gwrthodwyd y gwelliant
Gwelliant 7, Andrew R.T. Davies.
Cynigiwyd gwelliant 7 (Andrew R.T. Davies)
Cynnig.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 7? A oes unrhyw un yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Rŷn ni'n symud i bleidlais ar welliant 7. Agor y bleidlais.
[Anghlywadwy.]—methu ei bwrw. Cau'r bleidlais.
O blaid 26, neb yn ymatal, 28 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 7 wedi ei wrthod.
Gwelliant 7 - Cyfnod 3 Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru): O blaid: 26, Yn erbyn: 28, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Gwelliant 8, Andrew R.T. Davies.
Cynigiwyd gwelliant 8 (Andrew R.T. Davies).
Cynnig.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 8? Unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Felly, rŷn ni'n symud i bleidlais. Agor y bleidlais ar welliant 8.
Un bleidlais na ellir ei bwrw o hyd.
Dau ddeg chwech o blaid, neb yn ymatal, 28 yn erbyn. Ac felly, mae'r gwelliant wedi'i wrthod.
Gwelliant 8 - Cyfnod 3 Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru): O blaid: 26, Yn erbyn: 28, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Gwelliant 9, Andrew R.T. Davies.
Cynigiwyd gwelliant 9 (Andrew R.T. Davies)
Cynnig.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 9? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Felly, rŷn ni'n symud i bleidlais ar welliant 9. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais, gydag un person wedi methu pleidleisio. O blaid 26, neb yn ymatal, 28 yn erbyn. Ac felly, mae gwelliant 9 wedi ei wrthod.
Gwelliant 9 - Cyfnod 3 Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru) : O blaid: 26, Yn erbyn: 28, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Rŷn ni wedi cyrraedd, felly, ddiwedd ein hystyriaethau ar Gyfnod 3 o'r Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru). Dwi'n datgan y bernir pob adran o'r Bil a phob atodlen iddo wedi eu derbyn. Daw hynny â thrafodion Cyfnod 3 i ben.
Barnwyd y cytunwyd ar bob adran o’r Bil.
A, chyn cloi, a gaf i ddiolch i bawb am heddiw? Ac a gaf i ddiolch yn enwedig i'r swyddogion sydd wedi gweithio i ddarparu'r gallu i ni, fel Senedd, bleidleisio yn electronig o bell ac i dorri tir newydd wrth wneud hynny, unwaith eto? Diolch i chi i gyd am eich amynedd a phob dymuniad da.
Daeth y cyfarfod i ben am 19:48.