Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Plenary - Fifth Senedd
24/06/2020Cynnwys
Contents
Cyfarfu'r Senedd drwy gynhadledd fideo am 11:00 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, dwi angen nodi ychydig bwyntiau. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y Cyfarfod Llawn heddiw, ac mae'r rhain wedi'u nodi ar eich agenda chi. Hoffwn hefyd atgoffa'r Aelodau bod y Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â threfn yn y Cyfarfod Llawn yn gymwys i'r cyfarfod yma, a'r cyfyngiadau amser o ran hyd cwestiynau a gaiff eu cymhwyso i'r cyfarfod hwn hefyd.
Felly, yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y bore yma yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Caroline Jones.
Diolch, Lywydd.
1. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r proffesiwn deintyddol yng Nghymru yn ystod y pandemig coronafeirws? OQ55332
Lywydd, diolch i Caroline Jones am ei chwestiwn. Rydym yn cefnogi'r proffesiwn drwy ailagor gwasanaethau deintyddol yn ddiogel, fesul cam, ac yn seiliedig ar risg. Mae'r holl gamau a gymerwn i leihau'r risg o drosglwyddiad cymunedol hefyd yn helpu i amddiffyn timau deintyddol a chleifion rhag coronafeirws yng Nghymru.
Diolch, Brif Weinidog. Mae'r proffesiwn deintyddol, fel pob sector yn economi Cymru, yn dioddef yn ddifrifol o ganlyniad i’r cyfyngiadau symud. Er y bydd dod allan o lefel y rhybudd coch yn rhywfaint o ryddhad, ni fydd yn ddigon i gefnogi llawer o bractisau, ac ni allwn fforddio colli unrhyw bractis deintyddol yng Nghymru. Mae nifer o bractisau wedi cysylltu â mi, unig berchnogion yn aml, sy'n poeni y bydd colli busnes yn golygu y bydd eu busnesau’n mynd i’r wal ac y byddant hyd yn oed yn colli eu cartrefi. Brif Weinidog, pa gymorth ariannol, y tu hwnt i dalu 90 y cant o werth y contractau blynyddol, rydych yn ei gynnig i ddeintyddion yng Nghymru i sicrhau nad ydym yn colli unrhyw bractisau? Diolch.
Lywydd, rydym yn cefnogi practisau deintyddol yng Nghymru mewn nifer o wahanol ffyrdd. Credaf ei bod yn bwysig crybwyll y gair 'amynedd' wrth siarad am bractisau deintyddol, gan fod yn rhaid i ddiogelwch cleifion a staff barhau i fod ar frig ein hagenda. Mae risg gynhenid ynghlwm wrth nifer o bractisau deintyddol o ran coronafeirws, gan fod technegau aerosol, sy'n anochel ac yn angenrheidiol mewn deintyddiaeth, yn peri risgiau penodol.
Rydym yn cefnogi deintyddion y GIG drwy sicrhau bod 80 y cant o gontractau'r GIG wedi cael eu talu rhwng mis Ebrill a mis Mehefin. Byddwn yn talu 90 y cant o'r contractau hynny o fis Gorffennaf ymlaen. Rydym yn cefnogi'r contractau hynny a'r contractwyr hynny gyda chyfarpar diogelu personol. Felly, mewn ystod eang o ffyrdd, rydym yn cefnogi'r proffesiwn. Y brif ffordd y gallwn eu cefnogi yw drwy sicrhau bod gennym ddull fesul cam sy'n ailgychwyn gweithgaredd deintyddol cyn gynted ac mor ddiogel ag sy'n bosibl, a dyna'r llwybr y byddwn yn parhau i'w ddilyn yng Nghymru, ochr yn ochr â'r proffesiwn.
Bore da, Brif Weinidog. Fe sonioch chi am y triniaethau sy'n cynhyrchu aerosol. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae Llywodraeth Cymru, wrth symud ymlaen, yn hyrwyddo bwlch o awr rhwng y triniaethau hynny i ganiatáu i’r aer gyfnewid mewn practisau, ond ychydig iawn o wyddoniaeth sydd y tu ôl i hyn. Edrychodd Ewrop ar 15 munud rhwng triniaethau sy'n cynhyrchu aerosol, ond maent wedi diystyru hynny bellach gan nad oes digon o wyddoniaeth yn bodoli ar y broses benodol honno. Ar ddiwrnod fel heddiw, pan fo'n llonydd iawn, yn boeth ac yn fyglyd, sut rydych yn—? Yn gyntaf oll, ble mae'r wyddoniaeth ar hynny, Brif Weinidog? Ble y gallaf weld honno? Ac yn ail, sut rydych yn awgrymu y gall deintyddion sicrhau bod yr aer hwnnw'n cyfnewid am awr? Oherwydd ni fyddai agor y ffenestri ar ddiwrnod fel heddiw yn ddigon.
Wel, Lywydd, nid yw’r Aelod na minnau’n arbenigwyr ar y wyddoniaeth y tu ôl i ymarfer deintyddol diogel. Am hynny, mae'n rhaid inni ddibynnu ar y bobl sy'n arbenigwyr, a dyna pam fod gennym brif swyddog deintyddol yng Nghymru. Siaradais â Dr Colette Bridgman ddoe ynglŷn â’r cyngor y mae'n ei ddarparu i'r proffesiwn a sut y mae'r cyngor hwnnw'n deillio o drafodaethau ag aelodau blaenllaw o'r proffesiwn. Mae'n rhaid inni ddibynnu ar y bobl sy'n cael eu cyflogi fel y bobl uchaf yn eu maes i roi cyngor i ni. Maent yn adolygu’r cyngor hwnnw’n rheolaidd. Os byddant yn teimlo ei bod yn ddiogel caniatáu mwy o weithgarwch, byddant yn gwneud hynny. Cymerwyd camau gan Dr Bridgman ddydd Gwener diwethaf, ochr yn ochr â'r newidiadau eraill a gyhoeddwyd gennym. Cododd y categori coch ar gyfer deintyddiaeth yng Nghymru er mwyn caniatáu i fwy o driniaethau gael eu darparu'n gynt. Ond ni allwn fwrw ymlaen heb ddibynnu ar gyngor y bobl hynny, sydd mewn sefyllfa well o lawer na mi, a chyda phob parch, mewn sefyllfa well o lawer na'r Aelod, i ddeall y wyddoniaeth ac i roi'r cyngor hwnnw, a dyna fyddwn yn parhau i'w wneud.
Brif Weinidog, mae prif swyddog deintyddol Cymru, Dr Colette Bridgman, wedi nodi y bydd ailagor gwasanaethau deintyddol arferol llawn yng Nghymru yn digwydd fesul cam, a nododd ei bod yn gwbl ymwybodol o’r pryderon ynghylch cyfnod hir o ddiffyg gwasanaethau ar gyfer hylendid y geg. Yn wir, mae prif swyddog deintyddol Cymru wedi dweud ar goedd y byddai Llywodraeth Cymru yn adolygu’r amserlenni'n gyson. Felly, Brif Weinidog, gyda llwyddiant Cymru ar draws gwledydd y DU o ran cadw rhif atgynhyrchu a chyfradd twf lledaeniad COVID-19 yn isel, pa gamau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i sicrhau bod gan bractisau deintyddol ledled Cymru yr hylif diheintio dwylo, y masgiau, y menyg, y cyfarpar diogelu personol, a'r adnoddau rheoli ac atal heintiau angenrheidiol fel y gallant barhau i ailagor pan fydd amgylchiadau'n caniatáu i hynny ddigwydd yn ddiogel?
Ac a wnaiff y Prif Weinidog roi ymrwymiad hefyd i fy etholwyr yn Islwyn y bydd gofal deintyddol yn cael ei ystyried yn faes ffocws blaenoriaethol gan Lywodraeth Cymru fel rhan hanfodol o wasanaeth iechyd gwladol Cymru, gan iddi roi Aneurin Bevan i Lafur Cymru?
Lywydd, diolch i Rhianon Passmore am hynny, a diolch iddi am dynnu sylw at y ffordd y mae pethau wedi cael eu gwneud yng Nghymru. Yn wahanol i Loegr neu'r Alban, mae practisau deintyddol yng Nghymru wedi gallu aros ar agor drwy'r pandemig i roi gofal brys wyneb yn wyneb, a hynny'n ychwanegol at y canolfannau deintyddol brys sydd wedi bod ar agor gennym. Ac wrth gwrs, rydym yn gweithio'n agos iawn gyda'r cydweithwyr sy'n gontractwyr yn y gwasanaeth iechyd gwladol. Mae’r deintyddion sy'n dewis gweithio yn y gwasanaeth iechyd gwladol yn elwa o'r holl fanteision hynny, ac mae hynny'n cynnwys darparu'r mathau o adnoddau a nododd Rhianon Passmore yn ei chwestiwn.
Mae llawer o bractisau deintyddol yn dewis peidio â bod yn rhan o'r gwasanaeth cyhoeddus yma yng Nghymru ac ni allant ddisgwyl gallu dewis peidio â bod yn rhan o'r gwasanaeth ac elwa wedyn o'r holl fanteision a geir o fod yn rhan o'r gwasanaeth. Os ydych yn ymarferydd preifat mewn busnes preifat, mae gennych gyfrifoldeb i sicrhau eich cyflenwadau eich hun o lawer o'r pethau sydd eu hangen arnoch er mwyn gallu bodloni'r safonau rheoleiddiol y bydd yn rhaid i chi barhau i gydymffurfio â hwy.
Ac rwy'n fwy na pharod i roi ymrwymiad i etholwyr yr Aelod yn Islwyn a ledled Cymru fod deintyddiaeth yn wasanaeth blaenoriaethol i ni. Mae deintyddiaeth y GIG yn flaenoriaeth i ni. Cyhoeddodd y Gweinidog iechyd ddatganiad ysgrifenedig ddoe yn egluro sut y byddwn yn ailagor deintyddiaeth mewn ffordd sy'n ddiogel i staff ac yn ddiogel i gleifion, a dyna'r llwybr y byddwn yn parhau i’w ddilyn yng Nghymru.
2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i'r cyfryngau lleol er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i breswylwyr yn ystod y pandemig Covid-19? OQ55303
Diolch i Mike Hedges am ei gwestiwn. Lywydd, mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi cyfryngau print a darlledu lleol yn ystod y pandemig. Rydym wedi talu am hysbysebion fel rhan o'n hymgyrch 'Diogelu Cymru'. Mae cymorth grant uniongyrchol wedi'i ddarparu drwy'r gronfa newyddiaduraeth gymunedol annibynnol, ac rydym wedi gweithio gydag Ofcom i sicrhau bod y cyfryngau yng Nghymru wedi elwa o'r gronfa radio gymunedol.
Mike Hedges? Mike Hedges, eich microffon.
Fe agoraf fy microffon eto—mae’n ddrwg gennyf. Diolch, Brif Weinidog. Mae'r cyfryngau wedi bod yn hanfodol i roi sylw i newyddion da a drwg yn y cyfnod heriol hwn, ac yn anffodus, nid yw'r sylw a roddwyd i farwolaethau wedi'i gyfyngu i'r coronafeirws, ond rydym hefyd wedi gweld llofruddiaeth erchyll George Floyd yn America a'r ymosodiad dychrynllyd â chyllell yn Reading dros y penwythnos.
Yn ystod y llifogydd yn gynharach eleni, ac yn ystod y cyfyngiadau symud yn sgil y coronafeirws, mae gorsafoedd radio lleol fel Swansea Sound, a phapurau newydd fel y South Wales Evening Post wedi rhoi gwybod i drigolion am yr hyn sy'n digwydd. Fel y gŵyr y Prif Weinidog, mae’r sioe frecwast ar fore Sul ar Swansea Sound yn caniatáu i bobl leol holi gwleidyddion a mynegi eu safbwyntiau hefyd. A wnaiff y Prif Weinidog ymuno â mi a gwleidyddion o bob rhan o’r Siambr i alw ar berchnogion Swansea Sound i gadw rhaglenni lleol a chyflwynwyr lleol er budd pobl de-orllewin Cymru?
Wel, Lywydd, diolch i Mike Hedges. Mae'n gwneud pwynt pwysig iawn am arwyddocâd y cyfryngau lleol yn sicrhau bod trigolion lleol yn cael y wybodaeth ddiweddaraf, nid yn unig am COVID-19, ond am yr ystod ehangach honno o bethau. Yn wir, yng Nghymru, bydd pobl wedi bod yn meddwl am deulu a ffrindiau'r bobl a laddwyd yn yr ymosodiad erchyll yn Reading ar y penwythnos, a bydd y cyfryngau lleol wedi chwarae rhan bwysig iawn yn egluro natur y digwyddiad i'r gymuned leol honno.
Lywydd, mae gennyf atgof braf iawn o ymuno â Mike Hedges yn gynnar un bore Medi i fynd i ateb cwestiynau gwrandawyr yn Abertawe. Rwy’n cofio i mi gael fy mhlesio’n fawr gan broffesiynoldeb hamddenol y cyflwynydd yno, Kev Johns, ac yn wir, bywiogrwydd gwrandawyr Swansea Sound yn gynnar yn y bore wrth ffonio i mewn i ofyn cwestiynau i ni. Felly, rwy'n ymwybodol, wrth gwrs, fod Swansea Sound yn un o’r 56 o orsafoedd radio gwahanol ledled y Deyrnas Unedig a brynwyd gan Bauer. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, nid yw Ofcom wedi derbyn unrhyw gais gan y cwmni hwnnw i newid fformat Swansea Sound, a golyga hynny y bydd yn ofynnol i'r orsaf, o dan ba bynnag enw neu drefniant a fydd ar waith yn y dyfodol, barhau i gyflawni'r fformat gwreiddiol, ac mae hynny'n cynnwys ymrwymiadau mewn perthynas â'r Gymraeg a newyddion a gwybodaeth leol.
Lywydd, rwyf wedi cymryd rhan mewn nifer fawr o'r 80 cynhadledd i'r wasg y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn rhan ohonynt yn ystod argyfwng y coronafeirws. Mae oddeutu hanner y cyfranogwyr wedi bod yn gyfryngau lleol, gan gynnwys Swansea Sound, ac maent wedi darparu gwasanaeth hanfodol yn ystod yr argyfwng, yn union fel y disgrifiodd Mike Hedges.
Brif Weinidog, credaf fod hwn yn gwestiwn pwysig iawn. Nawr, rwy'n deall bod naw sefydliad newyddion cymunedol wedi derbyn grant uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru, ac rydych chi wedi sôn am rôl caffael mewn hysbysebu a darparu gwybodaeth gyhoeddus. Credaf hefyd y gallai awdurdodau lleol wneud llawer yn y maes hwn. Mae'n wasanaeth gwirioneddol hanfodol, fel y dywedoch chi, ac mae'n rhaid inni fod yn ymwybodol fod rhai o'r darparwyr newyddion traddodiadol o dan gryn dipyn o straen bellach, ac rydym mewn perygl o golli capasiti a swyddi lleol gwerthfawr a phwysig iawn os na roddwn fwy o gefnogaeth i'r sector cyfryngau lleol yn ystod yr argyfwng hwn.
Rwy'n cytuno â'r hyn y dywedodd David Melding. Rydym wedi bod yn falch o allu addasu cyllid a oedd dros ben yn y gronfa newyddiaduraeth gymunedol at ddibenion gwahanol. Mae dros £76,000 wedi'i ddarparu, ac mae llawer o’r cyfryngau yng Nghymru wedi elwa o hynny. Cronfa ar gyfer y DU yw'r gronfa radio cymunedol, ac rydym wedi cynorthwyo gorsafoedd yng Nghymru i wneud ceisiadau llwyddiannus iddi. Mae budd cyhoeddus mewn sicrhau, wrth gwrs, fod cyfryngau lleol yn ffynnu yng Nghymru. Mae’n rhaid gwneud hynny’n ofalus, gan fod yn rhaid osgoi unrhyw awgrym o ymyrraeth mewn unrhyw benderfyniadau golygyddol y bydd y gwaith o adrodd y newyddion yn dibynnu arnynt, ond credaf ein bod wedi llwyddo i sicrhau’r cydbwysedd hwnnw, ac rydym yn awyddus i barhau i gefnogi'r mynediad a gynigiwn at y sianeli cyhoeddi a darlledu hynny, ac yn uniongyrchol, lle gallwn wneud hynny.
Mae fy nghwestiwn i am y wasg print cyfrwng Cymraeg. Dwi wedi bod yn holi eich Llywodraeth chi faint o ddefnydd sydd yn cael ei wneud i rannu gwybodaeth am yr argyfwng drwy gyfrwng y wasg printiedig cyfrwng Cymraeg. Dwi wedi holi am ffigyrau gwariant, ond dwi'n dal i ddisgwyl ffigyrau swyddogol, yn anffodus. Os fedrwch chi roi hynny ar waith, mi fyddwn i yn ddiolchgar.
Ond, o fy ymchwil i, mae'r sefyllfa yn hynod siomedig. Er enghraifft, dim ond un hysbyseb, gwerth tua £800, sydd wedi ymddangos yn ein hunig wythnosolyn cyfrwng Cymraeg ers cychwyn y pandemig. Brif Weinidog, a wnewch chi sicrhau bod eich Llywodraeth chi yn gwneud defnydd llawn o'r wasg brint i ledaenu negeseuon pwysig i bobl Cymru, ac a wnewch chi sicrhau bod y wasg brint cyfrwng Cymraeg yn cael ei chynnwys yn llawn yn eich ymgyrchoedd cyhoeddusrwydd o hyn ymlaen?
Wrth gwrs, Llywydd, mae'r bobl sy'n cael newyddion trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg yn bwysig i ni, ac mae'r gwasanaethau sydd ar gael iddyn nhw yn bwysig hefyd. Rŷn ni'n treial eu cefnogi nhw, ac rŷn ni'n treial eu cefnogi nhw mewn print hefyd. Rŷn ni yn gwario arian i helpu'r sector yna i gario ymlaen yn y gwaith pwysig y maen nhw'n ei wneud. Dwi'n siŵr y bydd pobl yma yn gweithio'n galed ar y cwestiynau y mae Siân Gwenllian wedi'u rhoi i mewn, gyda nifer fawr o gwestiynau eraill, a phan fydd y ffigurau yna ar gael, rŷn ni'n mynd i'w dosbarthu nhw a'u rhannu nhw â phobl eraill. So, yn gyffredinol, wrth gwrs rŷn ni eisiau cefnogi'r sector, a'i wneud e mewn ffordd briodol, yn ogystal â phopeth arall rŷn ni'n gwneud i dreial bybu'r iaith Gymraeg.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Blaid Dorïaidd, Paul Davies.
Diolch, Lywydd. Brif Weinidog, yr wythnos diwethaf, penderfynodd eich Llywodraeth ailddechrau gweithgarwch siopau nwyddau dianghenraid yng Nghymru, ond cadwodd ei rheol deithio 5 milltir, sy'n golygu bod llawer o deuluoedd ledled Cymru yn dal i fethu mynd i weld eu hanwyliaid. Wrth i fwy a mwy o bobl ddychwelyd i'r gwaith a rhyngweithio'n ddiogel â chydweithwyr ac aelodau o'r cyhoedd, roedd y cyhoeddiad yr wythnos diwethaf yn gyfle gwych i ystyried diddymu rheol deithio 5 milltir Llywodraeth Cymru. Mae busnesau dianghenraid wedi cael caniatâd i ailddechrau masnachu, a chan fod pobl yn gallu teithio mwy na 5 milltir i ymweld â chanolfan arddio, mae'r cwestiwn yn codi o hyd pam na allant weld eu hanwyliaid. Felly, a allwch ddweud wrthym, Brif Weinidog, pa dystiolaeth wyddonol benodol sydd gennych fel Llywodraeth dros gadw'r rheol 5 milltir?
Lywydd, mae’n rhaid i mi gywiro Aelodau bob tro rwy'n ateb cwestiwn. Ar y cychwyn, rwy’n credu ei fod yn gamgymeriad, ond pan fydd yn rhaid i mi ei gywiro dro ar ôl tro, rwy'n dechrau meddwl ei fod yn fwriadol. Fe ŵyr yr Aelod yn iawn nad oes rheol o'r math y mae'n ei ddisgrifio yn bodoli. Pe bai'n rheol, byddai rheoliad yn bodoli. Nid oes unrhyw reoliad yn bodoli. Dywed y rheoliad wrth bobl am aros yn lleol. Cyngor i bobl yw pum milltir ar beth y gallai 'aros yn lleol' ei olygu, a byddai'n ddefnyddiol iawn pe bai arweinydd yr wrthblaid yn gofyn ei gwestiynau’n gliriach fel nad yw pobl yn cael yr argraff anghywir. Mae’n rhaid i bobl aros yn lleol; mae’n rhaid iddynt ddehongli hynny yn eu hardaloedd eu hunain.
Rydym wedi cadw'r rheol 5 milltir am bythefnos arall. Os bydd popeth fel y gobeithiwn y bydd erbyn dechrau mis Gorffennaf, gallwn gadarnhau na fydd hynny'n berthnasol yng Nghymru mwyach. Mae wedi bod yn rhan bwysig iawn o'n harfogaeth i atal y feirws rhag lledaenu o un gymuned i'r llall. Mae Mr Davies yn cynrychioli etholaeth yn ne-orllewin Cymru lle mae pobl wedi bod yn bryderus iawn ynglŷn ag ymwelwyr o'r tu allan i'r rhan honno o Gymru, o fannau lle mae'r feirws wedi bod yn lledaenu'n fwy eang, yn dod â'r feirws hwnnw yno gyda hwy. Gan ein bod wedi cael rheol 'aros yn lleol' yng Nghymru, mae lleoedd fel Sir Benfro wedi cael eu gwarchod i raddau helaeth rhag effaith y coronafeirws. Dyna lwyddiant ein polisi, ac mae etholwyr yr Aelod yn teimlo’r effaith honno’n uniongyrchol.
Brif Weinidog, gallwch roi faint fynnoch o liw ar hyn, ac rydych newydd ddweud nad oes rheol 5 milltir yn bodoli—os felly, pam ar y ddaear cynnwys 5 milltir yn y canllawiau yn y lle cyntaf? Mae'n gwbl amlwg fod eich rheol 5 milltir yn parhau i beri gofid anfesuradwy i gynifer o deuluoedd ledled Cymru. Cawsoch gyfle yr wythnos diwethaf i roi rhywfaint o obaith i deuluoedd y gallent ddechrau gweld eu hanwyliaid yn ddiogel, gan gydymffurfio â rheoliadau cadw pellter cymdeithasol.
Nawr, ddoe, gwelsom ragor o gyfyngiadau’n cael eu codi mewn rhannau eraill o'r DU, lle gwnaed y penderfyniad i lacio'r canllawiau cadw pellter cymdeithasol yn Lloegr o 2m i 1m. Cyflwynwyd ein rheoliadau cadw pellter cymdeithasol yma yng Nghymru ar ddechrau'r pandemig, a hynny'n briodol er mwyn helpu i gyfyngu ar ledaeniad y feirws. Fodd bynnag, wrth i gyfradd R barhau i ostwng i'r lefel hon, mae'n iawn ailasesu'r rheoliadau hyn. Dywedodd eich cyd-Aelod, arweinydd y Blaid Lafur, Syr Keir Starmer, ei fod yn croesawu’r datganiad yn gyffredinol, gan ychwanegu ei fod yn credu bod Llywodraeth y DU yn ceisio gwneud y peth iawn a’i fod yn eu cefnogi yn hynny o beth. O ystyried bod Sefydliad Iechyd y Byd eisoes yn argymell pellter o 1m o leiaf, a allwch gadarnhau pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith llacio'r rheoliadau cadw pellter cymdeithasol, a pha drafodaethau rydych yn eu cael gyda gweithwyr proffesiynol, ac yn wir, eich cyd-Aelodau ynglŷn â’r mater hwn?
Lywydd, gan ddychwelyd at bwynt cyntaf yr Aelod, gobeithiaf ei fod yn cynghori ei etholwyr ei bod yn gwbl bosibl yng Nghymru heddiw i bobl sydd â rheswm tosturiol dros wneud hynny deithio mwy na phellter lleol er mwyn gweld pobl sydd angen yr ymweliad hwnnw. Byddai'n drueni mawr pe bai—[Anghlywadwy]—ynglŷn â hynny, gan y dylai'r bobl yn yr amgylchiadau a ddisgrifiodd allu gweithredu yn unol â'r gallu hwnnw i ymweld â rhywun ar sail dosturiol lle mae hynny'n angenrheidiol. Mae hynny ar gael i bobl yng Nghymru heddiw, fel y bu ers i'r newidiadau gael eu gwneud.
O ran y newidiadau a wnaed dros y ffin, edrychaf ymlaen at weld y dystiolaeth sy'n sail i'r newidiadau hynny. Siaradais fore ddoe â Michael Gove, yr Ysgrifennydd Gwladol yn Swyddfa’r Cabinet, ac addawodd y byddai’r gweinyddiaethau datganoledig yn gweld yr holl dystiolaeth y mae Llywodraeth y DU wedi’i defnyddio wrth ddod i’w chasgliadau. Nid oedd y dystiolaeth honno wedi cyrraedd erbyn diwedd ddoe, ond rydym yn sicr yn gobeithio’i gweld heddiw.
Yng Nghymru, mae’r neges yn dal i fod yr un fath: arhoswch 2m ar wahân. Dyna'r ffordd ddiogel i ymddwyn. Y wyddoniaeth rydym wedi'i gweld yw'r wyddoniaeth gan y Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau sy'n dweud y byddai'r risg yn cynyddu pe baech yn haneru'r pellter i rhwng dwy a phum gwaith yn fwy na phe baech yn cadw pellter o 2m. Dyna'r wyddoniaeth; roedd gan yr Aelod ddiddordeb yn y wyddoniaeth pan oedd yn ymwneud ag ef. Dyna'r wyddoniaeth mewn perthynas â'r rheol 2m. Os gallwn wneud rhai eithriadau mewn rhai sectorau gan fod trosglwyddiad y clefyd yn gostwng yng Nghymru, ar yr amod ei bod yn ddiogel inni wneud hynny, gan roi mesurau lliniaru ar waith, yna wrth gwrs, byddwn yn ystyried hynny'n ofalus iawn.
Gwn fod sectorau yn Lloegr yn aros heddiw i weld y canllawiau ar sut y byddant yn gallu defnyddio'r cyngor a roddwyd iddynt ddoe mewn ffordd ymarferol. Rydym ninnau hefyd yn edrych ymlaen at eu gweld. Os bydd modd lleihau’r rheol 2m drwy eithriadau, gan ddefnyddio iechyd y cyhoedd bob amser fel ein prif brawf, byddwn yn ystyried yr hyn y gallwn ei wneud yng Nghymru. Ond byddwn yn gwneud hynny drwy edrych ar y dystiolaeth yn gyntaf cyn gwneud penderfyniad, yn hytrach na gwneud y penderfyniad ac yna chwilio am y dystiolaeth.
Wel, Brif Weinidog, un sector sydd yn sicr angen rhywfaint o lacio yn y rheoliadau yw'r sector twristiaeth a lletygarwch. Nawr, croesawyd y datganiad yr wythnos diwethaf, wrth gwrs, ond mae wedi arwain at fwy o gwestiynau nag o atebion, o ystyried yr ohebiaeth rwyf wedi’i chael gan bobl sydd â busnesau twristiaeth. Mae angen eglurder ar y diwydiant twristiaeth a lletygarwch, yn fy marn i ar ffurf strategaeth fanwl ar gyfer y tymor byr, ac yn wir, y tymor hwy—strategaeth sy'n nodi bwriad Llywodraeth Cymru yn glir yn erbyn amserlenni, dyraniadau cyllid a chymorth i sicrhau y gall busnesau barhau i fod yn hyfyw, a strategaeth sy'n ateb cwestiynau’r sector, yn hytrach na pheri mwy o ddryswch nag erioed i’r gweithredwyr.
Brif Weinidog, a wnewch chi ymrwymo felly i ddarparu strategaeth benodol ar gyfer twristiaeth yng Nghymru sy'n amlinellu sut yn union y bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r sector yn y tymor byr ac yn darparu eglurder ar gyfer y tymor hwy, fel y gall busnesau fod yn hyderus ynghylch hyfywedd y diwydiant wrth symud ymlaen? Ac o ystyried pa mor fregus yw'r sector lletygarwch yng Nghymru, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd ar unwaith i gefnogi busnesau lletygarwch ledled y wlad?
Wel, Lywydd, mae'r cyhoeddiad a wnaethom ddydd Gwener yn rhoi gobaith i'r diwydiant twristiaeth yng Nghymru. Deilliodd o drafodaethau manwl iawn gyda'r sector ei hun. Mae’n rhaid i'r sector baratoi yn awr i ddangos y gall ailagor yn ddiogel mewn perthynas â llety hunangynhwysol, a'i fod yn gallu gweithio gyda’i gymunedau lleol, gan fod cydsyniad cymunedol yn parhau i fod yn rhan hanfodol bwysig o'r cynllun ar gyfer y diwydiant hwnnw.
Pan fydd y diwydiant wedi dangos, fel rwy'n sicr yn gobeithio y gall, ei fod yn gallu ailagor yn ddiogel ar y telerau rydym wedi'u cyhoeddi hyd yn hyn, ein nod fydd ychwanegu at yr ystod o bethau y gall y diwydiant hwnnw eu gwneud. Ond mae'n bwysig ein bod yn gwneud hynny gam wrth gam, ein bod yn rhoi hyder i gymunedau lleol, drwy ddangos y gellir ailagor y diwydiant mewn ffordd sy'n diogelu iechyd staff, ymwelwyr, a phobl sy'n byw yn yr ardaloedd hynny. A chredaf fod y diwydiant yn deall hynny'n dda iawn.
Lywydd, ymddengys i mi fod y galwadau am eglurder mewn set o amgylchiadau sydd mor aneglur yn methu’r pwynt yn gyfan gwbl. Os gall yr Aelod ddweud wrthyf beth fydd sefyllfa'r feirws yng Nghymru ymhen chwe wythnos, heb sôn am chwe mis, byddai modd inni ddarparu eglurder o'r math y mae'n gofyn amdano, ond nid yw hynny’n bosibl. Ac rwy'n siŵr ei fod yn deall hynny—nad oes yr un ohonom yn gwybod sut y bydd y clefyd hwn yn datblygu wrth inni fynd drwy'r haf ac i mewn i’r hydref. Rydym yn gwneud ein gorau i ddarparu canllawiau ymlaen llaw i sectorau yng Nghymru, ond byddai gofyn inni ddarparu eglurder lle nad yw hynny’n bosibl yn rhoi prosbectws ffug i'r diwydiannau hynny, nid rhywbeth defnyddiol o'r math rydym am ei ddarparu.
Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Brif Weinidog, dim ond newydd ddychwelyd i'w cartrefi ar ôl llifogydd mis Chwefror roedd rhai preswylwyr pan gwympodd glaw trwm yn ardal Pentre yr wythnos diwethaf, gan achosi rhagor o ddifrod i eiddo. Yn 2017, roedd disgwyl i Weinidogion Cymru benodi cadeirydd ac aelodau i’r pwyllgor llifogydd ac erydu arfordirol cyn diwedd y flwyddyn honno. Mewn gwirionedd, ni chafodd aelodau’r pwyllgor hwnnw, a sefydlwyd o dan delerau Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, eu cyhoeddi tan fis Mawrth 2019, ac ni chynhaliwyd eu cyfarfod cyntaf tan fis Mehefin 2019. Dyna ddwy flynedd heb ffocws digonol ar strategaeth eich Llywodraeth ar lifogydd. Brif Weinidog, pam y cymerodd hi gymaint o amser i wneud hynny?
Nid wyf yn cytuno â'r Aelod o gwbl fod penodiadau o'r math hwnnw wedi golygu nad ydym wedi cael ffocws sylweddol iawn ar lifogydd, llifogydd mewndirol ac arfordirol, yng Nghymru. Rydym wedi defnyddio tymor y Cynulliad hwn i sicrhau’r pecyn cyllido mwyaf uchelgeisiol a welsom erioed ar gyfer llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru, a thrwy weithio gyda'n hawdurdodau lleol, rydym wedi diwygio'r gyfran o gyllid rhwng Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol—rydym bellach yn ariannu'r holl waith paratoi ar gyfer y cynlluniau hynny. A bydd ein cyfraniad at gymorth grant i awdurdodau lleol yn cynyddu i 85 y cant o gyfanswm y cynlluniau hynny. Credaf fod hynny'n dangos i ba raddau rydym wedi buddsoddi yn y maes hwn mewn ffordd fwy cadarn o lawer nag ambell benodiad.
Rwy’n cydymdeimlo’n llwyr, Lywydd, â'r unigolion y soniodd Adam Price amdanynt, sydd wedi treulio'r ychydig fisoedd diwethaf yn cael trefn ar eu cartrefi, dim ond i wynebu llifogydd eto. Ond pan fyddant yn ymdrin â hynny, ni chredaf eu bod yn poeni am benodiadau i bwyllgorau'r Llywodraeth.
Rydym mewn dau argyfwng uniongyrchol—un sy’n gysylltiedig ag iechyd ac un economaidd. Ond mae trydydd argyfwng—yr argyfwng ecolegol, na allwn fforddio ei anwybyddu. Bydd yn arwain at ganlyniadau hirdymor, ond bydd rhai canlyniadau uniongyrchol hefyd, gan gynnwys risg uwch o lifogydd. Nawr, mae ymchwil gan brifysgolion Birmingham a Southampton yn dangos y gallai plannu coed ger afonydd leihau uchder llifogydd mewn trefi hyd at 20 y cant. Bron i ddegawd yn ôl, mabwysiadodd Llywodraeth Cymru’r targed uchelgeisiol a gafodd ganmoliaeth eang o blannu 5,000 hectar o goetir newydd bob blwyddyn tan 2030. Gostyngwyd y targed i 2,000 hectar. Yn y pum mlynedd diwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi cyflawni cyfartaledd o 300 hectar y flwyddyn yn unig, ac yn y 12 mis hyd at fis Mawrth eleni, dim ond 80 hectar a gyflawnodd—4 y cant o'r targed. Brif Weinidog, ble mae'r brys yn yr argyfwng hinsawdd?
Lywydd, rwy'n cytuno â'r Aelod nad oedd faint o goetir a grëwyd yng Nghymru y llynedd yn ddigon da. Yn ogystal â chreu coetir newydd, mae'n bwysig dweud bod yna ymdrech enfawr yn digwydd i ailstocio coetir. Ac mewn gwirionedd, fe wnaethom blannu mwy o goed ar gyfer ailstocio coetir y llynedd nag y gwnaethom y flwyddyn flaenorol. Ond ni chrëwyd gymaint o goetir newydd ag y byddem yn dymuno’i weld y llynedd. I raddau, mae’n ymwneud ag amseriadau yn y rhaglen datblygu gwledig o ran pryd y caiff arian ei ryddhau i'r sector. Ond rydym wedi rhoi pedair gwaith yn fwy o arian i gynllun Glastir, sydd wedi bod yn—. Rowndiau creu coetir Glastir yw’r ffordd fwyaf llwyddiannus rydym wedi'i darganfod hyd yn hyn o ysgogi gwaith plannu coed newydd yng Nghymru. Mae’r gyllideb ar gyfer y rhaglen bellach yn £8 miliwn, i fyny o £2 filiwn, ac rwy’n hyderus y byddwn yn gweld cynnydd sylweddol ac angenrheidiol ar greu coetir newydd yng Nghymru, ochr yn ochr â’n huchelgais ar gyfer coedwig genedlaethol.
Ers 2015, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi dioddef gostyngiad cyson yn eu cyllid, tra'n ymgymryd â mwyfwy o gyfrifoldebau. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru bellach yn wynebu toriad pellach o £7.5 miliwn. Felly, mae Llywodraeth Cymru yn torri'n ôl ar gyllid, yn torri'n ôl ar blannu coed, ac mae'n ymddangos ei bod yn torri'n ôl ar ei hymrwymiad i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd. Nawr, yr hyn y mae llawer o bobl yn y Rhondda a chymunedau cyfagos ei eisiau yn awr yw ymchwiliad brys wedi'i arwain gan arbenigwyr i ddarganfod pam y maent yn dioddef llifogydd parhaus ac yn hollbwysig, beth sydd angen ei wneud i atal hyn. Brif Weinidog, a wnewch chi ymrwymo i ymchwiliad o'r fath heddiw?
Wel, Lywydd, nid ydym yn torri'n ôl ar blannu coed; rydym yn rhoi pedair gwaith cymaint o fuddsoddiad tuag at blannu coed. Ac er bod CNC, yn anochel, wedi gorfod ysgwyddo'i gyfran o ddegawd o gyni—felly, nid cyllideb CNC sy'n cael ei chwtogi bob blwyddyn; cyllideb Llywodraeth Cymru sydd wedi cael ei chwtogi bob blwyddyn ers 2010, ac rwy'n ofni na ellir ystyried bod unrhyw ran o'r gwasanaeth cyhoeddus yn gwbl ddiogel rhag hynny. Bydd yna ymchwiliadau. Mae yna gyfrifoldebau cyfreithiol ar yr awdurdod lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru pan fydd llifogydd yn digwydd. A gwn fod yr elfennau lleol hynny'n gweithio'n galed iawn eisoes i wneud yn siŵr ein bod yn deall pam y cafwyd llifogydd eto yn y rhannau hynny o'r Rhondda yn ddiweddar iawn, er mwyn ychwanegu hynny at ein dealltwriaeth o'r llifogydd a gafwyd yn ôl ym mis Chwefror, ac yna, pan fydd yr ymchwiliadau lleol wedi dod i ben, byddwn yn defnyddio'r canlyniad i wneud yn siŵr ein bod yn rhoi mesurau lliniaru pellach ar waith.
Arweinydd Plaid Brexit, Mark Reckless.
Brif Weinidog, ddoe, cyhoeddodd Prif Weinidog y DU y byddai bwytai, tafarndai a lleoliadau adloniant yn ailagor, a newid o fod yn rheoliadau i fod yn ganllawiau, gan ddweud y byddai'n ymddiried yn synnwyr cyffredin pobl Prydain. A allwch chi gadarnhau nad yw'r pwyslais ar synnwyr cyffredin Prydeinig yn berthnasol i Gymru a'ch bod yn bwriadu cadw Cymru sawl wythnos y tu ôl i Loegr?
Cyfeiriodd arweinydd yr wrthblaid yma at arweinydd yr wrthblaid yn San Steffan a'i gefnogaeth gyffredinol i ddull gweithredu Llywodraeth y DU. Yn yr un modd, ar wahân i fy ngrŵp i, onid yw'n wir fod cefnogaeth drawsbleidiol wedi bod yma i'r dull gweithredu gwahanol a alluogwyd gan ddatganoli yng Nghymru? Yn wahanol i'r canllaw pum milltir sy'n cael ei drafod yn helaeth, mae'r rheol 2m wedi'i hymgorffori yn y gyfraith, gyda phob busnes yng Nghymru yn gorfod enwebu rhywun i fod yn atebol ar gyfer eu herlyn. Cafodd ei gymeradwyo a'i ymgorffori gan y Senedd hon gyda chefnogaeth Aelodau Llafur a Phlaid Cymru, yn ogystal â phleidleisiau'r Ceidwadwyr Cymreig. Os yw'r Aelodau eisiau dilyn dull gweithredu Llywodraeth y DU ac ailagor ein heconomi, onid oes angen iddynt bleidleisio dros hynny?
Lywydd, roedd cyhoeddiadau'r Prif Weinidog ddoe yn gyhoeddiadau ar gyfer Lloegr. Mae'n rhaid i'r Senedd hon dderbyn ei chyfrifoldebau, fel y dywed yr Aelod, dros wneud rheoliadau i Gymru. Byddwn yn parhau i wneud hynny mewn ffordd sy'n rhoi iechyd ein poblogaeth yn gyntaf yn y ffordd y cyflwynwn gynigion i lawr y Senedd a cheisio sicrhau cefnogaeth iddynt. Ceir lleiafrif—sy'n cael ei gynrychioli gan yr Aelod—a fyddai'n dymuno byw yn rhywle arall a bod penderfyniadau'n cael eu gwneud yn wahanol. Rydym yn hyderus fod y rhan fwyaf o'r Senedd yn cefnogi'r dull a ddefnyddiwn, ond rydym yn hyderus fod pobl Cymru yn ei gefnogi hefyd.
Brif Weinidog, nid yw'r ffaith bod rhai pobl efallai mewn lleiafrif neu'n anghytuno â'ch dull gweithredu yn golygu eu bod eisiau byw yn rhywle arall. Heddiw, rydym yn pleidleisio ar y gyllideb atodol, sy'n priodoli ac yn ailddyrannu llawer iawn o gyllid. Ond yng ngwelliant eich Llywodraeth i ddadl a gynhelir yn ddiweddarach heddiw, rydych yn awgrymu nad yw'n ddigon a bod yn rhaid i Lywodraeth y DU fynd ati ar frys i ddileu cyfyngiadau ariannol sy'n atal Llywodraeth Cymru rhag ymateb yn effeithiol i'r pandemig.
Ond onid defnydd eich Llywodraeth o bwerau afresymol sydd gennych eisoes ym maes iechyd sy'n achosi dirywiad yn refeniw Cymru o'i gymharu â Lloegr? Beth yw effaith cyfyngiadau symud llymach, sy'n para'n hwy yng Nghymru ar refeniw Cymru a'r cyfraddau treth incwm hynny? Pa ddirywiad pellach a welwn yn awr yn nerbyniadau'r dreth trafodiadau tir, o gofio bod marchnad dai Lloegr wedi ailagor chwe wythnos yn ôl, ac eto rydych yn parhau i wahardd gwerthwyr rhag arddangos tai yma, heblaw am eiddo gwag? O ystyried y twll cyllidol a ddaw i ganlyn hynny, pa mor hir fydd hi, Brif Weinidog, cyn i chi ddefnyddio'r pwerau a roddwyd i chi gan y Ceidwadwyr i godi swm digyfyngiad o dreth incwm?
Lywydd, mae'r Aelod bob amser yn llwyddo i droi cwestiwn synhwyrol yn nonsens, fel y gwnaeth ar y diwedd. Felly, gallwch fod yn eithaf sicr nad oes cynnig o'r fath yn unman, heblaw yn ei feddwl ei hun.
Nid yw'r pwyntiau rydym yn eu gwneud i'r Trysorlys ond yn gyfres o bwyntiau synhwyrol. Rydym eisiau'r gallu i droi cyfalaf yn refeniw, ar adeg pan fo'r pwysau ar ein cyllidebau refeniw yn fwy nag erioed o'r blaen. Rydym eisiau mwy o hyblygrwydd i allu defnyddio'r gronfa Gymreig mewn modd a fyddai'n caniatáu inni ymateb i amodau pandemig byd-eang. Mae'r rhain yn fesurau synhwyrol a fyddai'n ein galluogi i reoli'r pwysau sydd arnom mewn ffordd sy'n ymateb iddynt o fewn ein hadnoddau ein hunain. Mae'n bryd i reolau'r Trysorlys ddal i fyny â natur datganoli, a gobeithio y gallwn ddefnyddio'r cyfle hwn i gyflymu rhywfaint o'r meddylfryd sydd, yn fy marn i, wedi glynu at ffyrdd blaenorol o wneud pethau yn rhy hir.
Cyn i mi alw'r cwestiwn nesaf, ac yn unol â fy rôl i sicrhau bod busnes y Senedd yn cael ei gynnal yn briodol, ac i'n hatgoffa i gyd ein bod yn cyfarfod heddiw o bell ac yn rhithwir, rwy'n ymwybodol fod un Aelod yn y Siambr ac yn ffilmio ei hun ac yn darlledu i'r perwyl hwnnw ar y cyfryngau cymdeithasol. Rwyf am ofyn i'r Aelod hwnnw gael ei dynnu o'r Senedd rithwir yn awr, ac fe fyddwn yn cau'r Siambr maes o law. Fy nghyngor i Mr McEvoy yw i beidio â chwarae gemau gyda'ch Senedd.
Cwestiwn 3—David Rowlands.
3. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effeithiolrwydd y camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru yn ystod y pandemig COVID-19? OQ55329
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Caiff effeithiolrwydd ein holl gamau gweithredu ei asesu drwy lens iechyd y cyhoedd, gan gadw pobl a chymunedau yn ddiogel yng Nghymru yn ystod y pandemig. Mae'r cylch adolygu tair wythnos yn golygu bod popeth a wnawn yn cael ei asesu yng ngoleuni'r dystiolaeth ddiweddaraf sydd ar gael.
Diolch i'r Prif Weinidog am yr ateb hwnnw. Rwy'n deall na ellir cael atebion pendant hyd nes y bydd ymchwiliad wedi'i gynnal a hyd nes y bydd yr adroddiad wedi ei gynhyrchu, a bydd hynny, wrth gwrs, yn cymryd amser. Ond ar hyn o bryd hoffwn ofyn i'r Prif Weinidog lunio adroddiad interim, un a fyddai'n caniatáu i gamau unioni gael eu rhoi ar waith yn gyflym, yn seiliedig ar y wybodaeth a gasglwyd dros y misoedd diwethaf.
Wel, gadewch imi ddechrau, Lywydd, drwy gytuno â David Rowlands—mae'n bwysig iawn dysgu o'n profiadau, ac rydym yn gwneud ein gorau glas i wneud hynny bob dydd wrth inni feddwl am ddigwyddiadau'r wythnosau diwethaf a chynllunio ar gyfer yr heriau sydd o'n blaenau. Ond rwyf eisiau esbonio iddo—a gwn ei fod yn debygol o ddeall—fod Llywodraeth Cymru yn dal i fod yn brysur iawn yn ymdrin â'r argyfwng sydd o'n blaenau, yn ymdrin ag achosion o'r coronafeirws yng ngogledd Cymru yr wythnos hon, yn edrych ar yr effaith ar y sector prosesu cig yn fwy cyffredinol, yn parhau i wneud yn siŵr ein bod yn darparu profion yn ein sector cartrefi gofal, ac yn sicrhau ein bod yn edrych ar ragor o gyfleoedd y gallwn eu cynnig i bobl yng Nghymru i adfer y rhyddid y maent wedi ei golli yn ystod yr argyfwng. Rydym yn defnyddio'r holl bobl sydd gennym—ac nid yw'r mwyafrif helaeth o gyflogeion Llywodraeth Cymru yn gweithio yn y ffordd arferol; maent yn dal i weithio o gartref—i barhau i ganolbwyntio ar yr heriau uniongyrchol sy'n ein hwynebu i baratoi ar gyfer yr hydref a'r gaeaf sydd i ddod. Bydd y foment yn dod, fel y dywedodd David Rowlands, pan ddaw cyfle i gamu'n ôl a gwneud adolygiad ffurfiol o'r pethau hyn. Yn anffurfiol, rydym yn dysgu drwy'r amser ac yn cymhwyso'r gwersi ond hyd nes y bydd y storm wedi tawelu, pan na fyddwn yn gorfod ymdrin yn ddyddiol ag effaith yr argyfwng ar fywydau pobl Cymru a chymunedau Cymru, nid yw'r foment honno wedi cyrraedd eto.
Diolch am yr ateb hwnnw, Brif Weinidog. Un mesur rwy'n ei groesawu dros yr wythnosau diwethaf mewn perthynas â'r rheoliadau COVID, yn amlwg, yw agor ysgolion yr wythnos nesaf. Rwy'n datgan buddiant fel aelod o awdurdod lleol, ac yn benodol, mae ein hawdurdod lleol wedi cyhoeddi canllawiau sy'n dweud na allant fanteisio ar y cyfle i agor ysgolion ar y bedwaredd wythnos, oherwydd nad yw Llywodraeth Cymru wedi cwblhau'r trafodaethau cytundebol gyda'r undebau. A ydych yn credu bod hwnnw'n rheswm teg dros gau ysgolion ledled Cymru—oherwydd bod Llywodraeth Cymru wedi methu cwblhau trafodaethau cytundebol gyda'r undebau?
Wel, Lywydd, bydd fy nghyd-Aelod Kirsty Williams yn ateb cwestiwn amserol ar y mater hwn yn ddiweddarach y prynhawn yma. Gadewch i mi ailadrodd mai'r cyngor a ddarparodd Llywodraeth Cymru oedd fod yr achos dros ailddechrau addysg am bedair wythnos yng Nghymru yn gryf pe bai'n bosibl gwneud hynny. Rydym bob amser wedi cydnabod o'r dechrau fod problem gytundebol yn codi gyda'r bedwaredd wythnos, a dyna pam y gwnaethom gynnig, i athrawon a fyddai'n gweithio yn y bedwaredd wythnos, y byddai wythnos ychwanegol o wyliau'n cael ei hadfer iddynt yn ystod hanner tymor mis Hydref. Ond fel y dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wrth groesawu ein cynigion, eu lle hwy oedd cymryd y cynigion a'u rhoi ar waith o dan yr amgylchiadau gwahanol y mae pob awdurdod lleol yng Nghymru yn eu hwynebu. A dyna'r ffordd y mae'n rhaid i bethau fod, oherwydd hwy yw'r cyflogwyr, nid Llywodraeth Cymru.
Bydd yna blant yng Nghymru a fydd mewn lleoedd lle mae'n bosibl agor yr ysgol am bedair wythnos, ac rwy'n falch iawn fod yr awdurdodau addysg lleol sy'n gallu gwneud hynny wedi gallu cytuno ar hynny. Bydd awdurdodau lleol eraill yn wynebu heriau gwahanol, amgylchiadau gwahanol, ac yn dod i gasgliadau gwahanol. Mae hynny'n anochel yn y ffordd y mae pethau'n cael eu gwneud.
4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth i'r sector lletygarwch yng Nghymru yng ngoleuni COVID-19? OQ55342
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwnnw. Y pecyn cymorth i'r sector lletygarwch yng Nghymru yw'r un mwyaf hael yn y Deyrnas Unedig. Mae miloedd o fusnesau wedi elwa o 100 y cant o ryddhad ardrethi i fusnesau bach a chronfa cadernid economaidd Llywodraeth Cymru. Darparwyd cyfanswm o dros £330 miliwn i gynorthwyo'r sector yn ystod y pandemig.
Diolch. Mae busnesau a sefydliadau twristiaeth yng ngogledd Cymru wedi dweud, pe caniateid i dwristiaeth agor heddiw, y gallai 10,500 o swyddi yn y sector twristiaeth gael eu colli, ac maent yn dweud eich bod chi a'ch Llywodraeth yn dinistrio'r diwydiant hanfodol hwn. Er mwyn gwrthbrofi'r honiadau hynny, pa gymorth fydd ar gael i fusnesau na fydd yn gallu agor ar 13 Gorffennaf? Mae busnesau llety hunangynhwysol a gwestai ensuite yn daer angen gweledigaeth, gyda chanllawiau ar sut i baratoi'n ddiogel. A wnewch chi ddarparu hyn? A wnewch chi egluro beth yn union rydych yn ei olygu wrth lety hunangynhwysol, gan weithio gyda'u cymunedau lleol? A wnewch chi ddatgan yn glir p'un a all safleoedd gwersylla sydd â chyfleusterau a rennir baratoi i agor os byddant yn cau'r rhain? Brif Weinidog, nid yw eich arweinyddiaeth ar y mater hwn erioed wedi bod yn destun cymaint o graffu, a hynny, mae'n rhaid imi ddweud, gyda llawer o feirniadaeth. Diolch.
Wel, diolch i'r Aelod am y cwestiynau hynny. Wrth gwrs bod gweithredoedd Llywodraeth yn destun craffu—fe ddylent fod. Dyna pam rydym wedi ateb cwestiynau ar lawr y Senedd bob wythnos yn ystod y pandemig hwn a byddwn yn parhau i wneud hynny.
O ran y sector hunangynhwysol o fewn y diwydiant twristiaeth, wrth gwrs ein bod yn gweithio gyda'r sector i roi arweiniad ac i ateb eu cwestiynau. Mae'n arweiniad a ddarperir gyda'r sector ei hun. Buom yn gweithio gyda UKHospitality Cymru a Chynghrair Twristiaeth Cymru i sicrhau bod eu canllawiau arfer gorau ar gyfer gweithio'n ddiogel yn yr economi ymwelwyr ar gael i bawb allu paratoi ar gyfer codi'r cyfyngiadau. Mae Croeso Cymru wedi cynnal tri digwyddiad ymgynghori gyda dros 100 o gynrychiolwyr o'r pedwar fforwm twristiaeth ledled Cymru, yn ogystal â chyrff sy'n cynrychioli'r diwydiant. Diben rhoi rhybudd i bobl y dylent baratoi yw sicrhau, pan fydd cwestiynau'n codi, fod amser i ddatrys y cwestiynau hynny gyda'r sector. Ac rwy'n gwybod bod y sector yn edrych ymlaen yn arw at allu ailagor a gwneud hynny mewn ffordd sy'n ddiogel, mewn ffordd sy'n diogelu enw da'r sector, a phan all y sector ddangos ei fod wedi gallu gwneud hynny'n llwyddiannus, byddwn eisiau gadael iddo wneud mwy.
Ond mae enw da yn ffactor real sy'n codi yma i'r sector, ac ni fyddwn yn rhuthro yn y ffordd y mae'r Aelod yn awgrymu, heb unrhyw waith paratoi priodol i agor safleoedd gwersylla gyda chyfleusterau a rennir, ni fydd hynny'n digwydd—gadewch i mi ei sicrhau o hynny—yn ystod y don gyntaf, oherwydd gwyddom fod coronafeirws yn ffynnu mewn cyfleusterau a rennir. Pam y byddem yn peryglu enw da'r diwydiant gwirioneddol bwysig hwn yng Nghymru drwy ganiatáu i arferion anniogel ddigwydd? Ni fyddwn yn gwneud hynny. Byddwn yn symud ymlaen yn y ffordd rydym wedi'i nodi: yn ofalus, gam wrth gam, gan ddangos llwyddiant, a chaniatáu i fwy ddigwydd pan fydd y llwyddiant hwnnw wedi'i ddangos, mewn ffordd a fydd yn diogelu enw da hirdymor y diwydiant hollbwysig hwn yng Nghymru.
Bydd y Prif Weinidog yn ymwybodol o'r cyhoeddiad yr wythnos hon gan Castell Howell, busnes bwyd pwysig iawn yn fy rhanbarth, eu bod yn ymgynghori ynghylch diswyddiadau. Mae hyn wrth gwrs yn rhannol oherwydd eu bod wedi dibynnu ar gwsmeriaid yn y sector lletygarwch. A wnaiff y Prif Weinidog ymrwymo heddiw i sicrhau bod ei Lywodraeth a'i swyddogion yn gweithio'n agos gyda'r cwmni i weld a oes unrhyw ffordd y gellir osgoi'r diswyddiadau, ac a wnaiff ymrwymo yn y dyfodol i adolygu polisïau caffael Llywodraeth Cymru, er mwyn i gwmnïau fel Castell Howell allu manteisio ymhellach arnynt yn y dyfodol?
Rwy'n hapus iawn i wneud y ddau beth, Lywydd. Bydd ein swyddogion yn sicr yn gweithio'n ofalus gyda'r cwmni pwysig hwnnw ac mae gennym uchelgais i wario mwy o'r bunt Gymreig ar fusnesau Cymru. Cyflawnwyd rhai pethau pwysig iawn yn Sir Gâr, yn enwedig, yn ddiweddar, o ran dosbarthu cyflenwadau bwyd lleol i gymunedau lleol.
Mae gan Lywodraeth y DU ran i'w chwarae yma hefyd, Lywydd. Mae'n rhaid sicrhau nad yw ei chynllun ffyrlo yn erfyn di-awch. Lle ceir rhannau o'r economi na allant ailagor oherwydd effeithiau mwy hirdymor y coronafeirws, mae'n bwysig i'r sectorau hynny fod y cynllun ffyrlo—a fydd, yn ôl yr hyn a ddeallaf, yn gorfod cael ei addasu; deallaf y bydd yn rhaid ei ddiddymu o rannau o'r economi sy'n gallu ailddechrau, ond lle nad yw hynny'n wir, ac mae lletygarwch yn sicr yn rhan o hynny, gyda'r effeithiau canlyniadol ar ddiwydiannau eraill—mae angen i'r cynllun ffyrlo barhau'n rhan bwysig o arfogaeth Llywodraeth y DU, wedi'i hategu gan yr hyn y gallwn ei wneud drwy ein cronfa cadernid economaidd, i barhau i gefnogi sectorau a busnesau pwysig fel Castell Howell, er mwyn iddynt allu parhau i gael dyfodol llwyddiannus.
5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am economi Blaenau'r Cymoedd? OQ55336
Mae'r ffaith bod cynigydd a ffefrir wedi'i benodi ddydd Gwener ar gyfer adeiladu adrannau 5 a 6 o ffordd Blaenau'r Cymoedd, sy'n werth £500 miliwn, yn garreg filltir bwysig yn nyfodol yr economi yn y rhan honno o Gymru. Bydd yn sicrhau manteision economaidd a chymunedol mewn cyfnod o adfer ar ôl y coronafeirws. Ac o'r £500 miliwn hwnnw, disgwylir £170 miliwn o fewn y gadwyn gyflenwi leol yn unig.
Brif Weinidog, rwy'n ddiolchgar am hynny, ac wrth gwrs rydym hefyd yn dal i aros i orffen y rhan rhwng Gilwern a Bryn-mawr, ac rwy'n credu y bydd hynny'n cael ei groesawu pan fydd hwnnw wedi'i gwblhau. Ond rydym i gyd yn cydnabod effaith ddynol y coronafeirws a gwyddom fod cefnogaeth eang a dwfn eisoes i'r dull y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddilyn. Ond mae angen i ni barhau i ddarparu'r cymorth hwn i bobl ar gyfer y cyfnod ar ôl COVID, a'r hyn a fydd yn digwydd i gyflogaeth yn enwedig bryd hynny. Ym Mlaenau Gwent, gwyddom i gyd am bobl sy'n ofni colli eu swyddi; gwelwn yr ansicrwydd ynghylch dyfodol parc yr ŵyl yng Nglynebwy, a gwyddom fod angen buddsoddi ar frys o hyd mewn safleoedd strategol, megis Rasa neu Ryd-y-Blew. Felly, hoffwn ofyn i chi weithio gyda mi ac Aelodau eraill sy'n cynrychioli'r etholaethau hyn, i ddarparu cynllun swyddi ar gyfer Blaenau'r Cymoedd a fydd yn sicrhau cyflogaeth ar unwaith ac yn y tymor hir.
Lywydd, diolch i Alun Davies am y gyfres bwysig honno o gwestiynau. Bydd yn falch o wybod, ac rwy'n gwybod y bydd ei etholwyr yn falch o wybod, fod 85 y cant o'r rhan o ffordd Blaenau'r Cymoedd rhwng Gilwern a Bryn-mawr bellach wedi'i chwblhau, er gwaethaf yr heriau gwirioneddol, yr heriau daearegol a fu yn y rhan honno o Gymru. Rwy'n bryderus, fel y mae ef, rwy'n gwybod, am safle parc yr ŵyl yng Nglynebwy, ac rydym yn gweithio'n agos gyda'r awdurdod lleol yno i weld beth y gellir ei wneud i roi sylw i'r cyhoeddiadau a wnaed yr wythnos diwethaf. Rydym yn parhau i fwrw ymlaen â'n cynllun ar gyfer y clwstwr uwch-dechnoleg ar y safle gwaith cyfagos ac yn paratoi safleoedd eraill er mwyn iddynt fod mewn sefyllfa dda i ddenu swyddi i ardal Blaenau Gwent.
Ond i ymateb am funud, Lywydd, i'r pwynt cyffredinol a wnaeth Alun Davies: dylem ni—bob un ohonom—fod yn bryderus am yr effaith y mae coronafeirws yn ei chael ar swyddi. Rwy'n meddwl am brofiad 30 mlynedd rhai cymunedau yng Nghymru i ymadfer ar ôl yr 1980au a'r colli swyddi bwriadol yn y cymunedau hynny ar y pryd; nid yw coronafeirws yn weithred fwriadol wrth gwrs, ond gall ei effaith fod yn ddirfawr. Ac rwyf eisiau rhoi sicrwydd i Alun Davies, ac i eraill, y bydd Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio'n ddi-baid yn ystod gweddill tymor y Senedd hon ar wneud popeth yn ein gallu i gefnogi cyflogaeth yn yr ardaloedd hynny, fel y gallwn osgoi'r graith ar bobl ifanc yn arbennig, mewn rhannau penodol o Gymru, gymaint ag y gallwn, drwy gydgysylltu ein gweithredoedd gyda rhai pobl eraill i gefnogi'r economïau a'r swyddi lleol hynny.
Leanne Wood. Eich microffon, Leanne Wood.
Diolch. Brif Weinidog, gyda newyddion yr wythnos hon fod 15 o bobl yn mynd ar drywydd pob swydd yn y Rhondda, a hynny'n dilyn y newyddion fod dwy o'r trefi yn y rhestr o 20 tref fwyaf agored i broblemau economaidd yn sgil COVID, mae'n amlwg fod angen cynllun swyddi penodol ar gyfer y Rhondda. Rydym eisoes wedi clywed sut rydym angen system ddraenio gynaliadwy newydd, sut rydym angen strategaeth ar blannu coed ar raddfa fawr, ac rydym angen pethau fel ynni adnewyddadwy hefyd. A allwch ddweud wrthym pa fuddsoddiad rydych yn bwriadu ei wneud yn seilwaith y Rhondda, a sut y bwriadwch wrthdroi'r sefyllfa lle mae pobl yn y Rhondda wedi cael eu hanwybyddu gan Lywodraethau olynol yng Nghymru a'r DU ers yr 1980au?
Wel, Lywydd, mae'n wirion awgrymu bod pobl y Rhondda wedi cael eu hanwybyddu; yn sicr, nid ydynt. Ac os ydynt, fe fydd hi'n gofyn i'w hun beth y mae hi wedi'i wneud, fel cynrychiolydd yr ardal honno, i unioni'r sefyllfa. Ni fyddai'n gyflawniad balch iawn pe bawn i fel cynrychiolydd yn sefyll a dweud bod fy ardal wedi cael ei hanwybyddu, ac nid yw wedi cael ei hanwybyddu—mae'n gwybod nad yw hynny'n wir.
Ond hoffwn ymateb i'r pwynt sylweddol a synhwyrol a wnaeth, sef bod yn rhaid i ni bryderu am y rhannau o Gymru sy'n arbennig o agored i ddirywiad economaidd. Rydym yn gweithio'n galed iawn yn Llywodraeth Cymru i ddod ag arian cyfalaf ynghyd, a phrosiectau cyfalaf ynghyd, fel ein bod, os bydd Llywodraeth y DU, fel rydym yn gobeithio, yn ymateb yn natganiad y Canghellor ym mis Gorffennaf drwy wneud cyfres newydd o fuddsoddiadau mewn seilwaith i greu swyddi, ond i greu amodau ar gyfer y dyfodol, ein bod yn y sefyllfa orau bosibl i gael prosiectau'n barod i ddefnyddio'r arian hwnnw a'i ddefnyddio er lles cymunedau ledled Cymru, gyda phwyslais arbennig ar y mannau lle bydd effaith coronafeirws i'w deimlo fwyaf. Ac mae hynny'n sicr yn cynnwys y Rhondda, ac yn sicr mae'n cynnwys nifer o'r mesurau y soniodd Leanne Wood amdanynt yn rhan agoriadol ei chwestiwn. Gall fod yn dawel ei meddwl fod y pethau hynny'n rhan bwysig o'n meddylfryd ac y byddant yn parhau i fod felly.
6. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am Lywodraeth Cymru yn ail-agor sector twristiaeth Cymru? OQ55318
Diolch i'r Aelod am hynny, Lywydd. Ar 19 Mehefin, dywedais, ar yr amod bod ystyriaethau iechyd y cyhoedd yn caniatáu hynny, y byddai Llywodraeth Cymru yn codi'r gofyniad i 'aros yn lleol' ar 6 Gorffennaf. Ar yr un pryd, dywedais wrth berchnogion llety hunangynhwysol i baratoi i ailagor o 13 Gorffennaf ymlaen.
Diolch, yn amlwg, am eich cyhoeddiad ddydd Gwener, er bod yn rhaid i mi ddweud nad yw'r cysyniad o gydsyniad cymunedol a'r defnydd o'r gair 'archebion' yn y naratif wedi helpu perchnogion parciau carafannau sefydlog, na pherchnogion carafannau eu hunain, i ddeall yr hyn y gallant ei wneud mewn gwirionedd.
Yr wythnos diwethaf, gofynnais i Weinidog yr economi pam fod cwmnïau twristiaeth nad ydynt wedi'u cofrestru at ddibenion TAW yn cael eu trin yn wahanol i gwmnïau neu unig fasnachwyr nad ydynt wedi'u cofrestru ar gyfer TAW mewn perthynas â chael mynediad at y gronfa cadernid economaidd. Microfusnesau yw'r rhain nad ydynt yn gallu manteisio ar y cymorth i'r hunangyflogedig, nid y busnesau mwy y cyfeiriodd atynt yn ei ateb. Mae rhai ohonynt yn ficrofusnesau twristiaeth cyffrous, newydd, gwyrdd neu ddarparwyr llety gwely a brecwast bach, ac yn anecdotaidd, mae cyfran eithaf uchel ohonynt yn cael eu rheoli gan fenywod. Felly, a fyddech cystal ag ailystyried hyn? Oherwydd, yn fy marn i, nid oes cyfiawnhad o gwbl dros drin dau fusnes yn wahanol ar sail cofrestriad yn Nhŷ'r Cwmnïau, gydag un fersiwn â hawl i gymorth a'r llall yn gorfod ymbil am arian o gronfa galedi.
Wel, Lywydd, yn gyntaf, gadewch imi egluro y bydd carafannau sefydlog, lle maent yn hunangynhwysol, yn gallu ailagor o 13 Gorffennaf ymlaen. Nid wyf yn gwbl sicr fy mod yn deall beth yw'r broblem gydag 'archebion', oherwydd mae pobl yn gallu cymryd archebion o 13 Gorffennaf ymlaen. Mae angen iddynt fod yn ymwybodol fod y dyddiad hwnnw'n dal i fod yn amodol ar ledaeniad y feirws ar y pryd. Mae hynny'n anochel, a dyna'r union ffordd y mae ei Llywodraeth hi yn y Deyrnas Unedig wedi bwrw ati o'r cychwyn. Maent yn gwneud cyhoeddiadau, ac maent yn ei gwneud yn glir fod yn rhaid cadarnhau'r pethau hynny yn nes at yr amser gan nad oes unrhyw un ohonom yn gwybod beth fydd y sefyllfa o ran y coronafeirws yn yr wythnosau i ddod.
Ar ei phwynt ynglŷn â chofrestru at ddibenion TAW, edrychwch, mae'n rhaid i mi esbonio: ein nod yw ceisio cael arian i bobl cyn gynted â phosibl, a gwneud hynny gyda chyn lleied o fiwrocratiaeth ag sy'n bosibl. Ond arian cyhoeddus yw hwn, ac mae gan y cyhoedd hawl i wybod bod lefel o uniondeb yn y ffordd y mae'n cael ei wario ar eu rhan. Rydym wedi defnyddio cofrestriad at ddibenion TAW fel llwybr byr drwy gyfres gyfan o wiriadau eraill y byddem wedi gorfod eu gwneud er mwyn sicrhau bod pobl sy'n cyflwyno ceisiadau i ni yn ddilys. Os oes ganddynt gofrestriad at ddibenion TAW, byddant eisoes wedi gorfod mynd drwy nifer o wiriadau, ac rydym yn dibynnu ar y rheini fel rhan o'n gofynion uniondeb wrth ddosbarthu arian cyhoeddus at ddibenion priodol.
Nawr, rwy'n deall bod hynny wedi golygu bod pobl nad ydynt wedi'u cofrestru at ddibenion TAW wedi methu elwa yn yr un ffordd, ac rydym wedi gweithio'n galed yn ail gam y gronfa cadernid economaidd i geisio mynd i'r afael â hynny. Ond mae yno i bwrpas priodol. Mae yno i bwrpas y byddai Suzy Davies, rwy'n credu, o dan amgylchiadau eraill, yn ei gydnabod yn dda iawn: os ydych yn gwario arian cyhoeddus, mae rhwymedigaeth arnoch i wneud yn siŵr eich bod wedi rhoi isafswm o leiaf o wiriadau yn y system i wneud yn siŵr na chamfanteisir ar y cynlluniau rydym yn eu rhoi ar waith yn gyflym iawn gan bobl sydd, wyddoch chi, yn meddwl y gall hon fod yn ffordd gyflym o gael arian gan Lywodraeth pan nad ydynt yn fusnes go iawn o gwbl.
7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y gefnogaeth a roddir i rieni maeth yn ystod yr argyfwng coronafeirws? OQ55341
Lywydd, mae gofalwyr maeth yn gwneud cyfraniad hollbwysig a chadarnhaol i fywydau plant sy'n derbyn gofal. Rwy'n hynod o ddiolchgar am eu hymroddiad parhaus yn ystod y cyfnod eithriadol hwn. Mae gofalwyr maeth ledled Cymru wedi wynebu adegau heriol iawn ac maent yn parhau i ddarparu cymorth hanfodol i rai o'n pobl ifanc fwyaf agored i niwed.
Brif Weinidog, diolch am yr ateb hwnnw. Hoffwn i chi ategu fy niolch i rieni maeth ar hyd a lled Cymru am y cyfraniad y maent yn ei wneud bob dydd, yn enwedig yn ystod yr argyfwng hwn. Mae'r cyfyngiadau symud wedi cynyddu'r pwysau ar deuluoedd sy'n agored i niwed, ac mae diswyddiadau a dirywiad mewn iechyd meddwl wedi cyfrannu at y perygl y bydd teuluoedd yn chwalu. Felly, a yw'r Prif Weinidog yn rhannu fy mhryder ynghylch yr adroddiad gan Barnardo's sy'n dweud bod nifer y plant yng Nghymru sydd angen gofal maeth wedi codi 45 y cant, tra bo nifer y bobl sy'n cynnig eu hunain fel darpar rieni maeth wedi haneru? A wnaiff nodi sut y gall Llywodraeth Cymru helpu i gau'r bwlch a chydnabod y cyfraniad gwirioneddol werthfawr y mae rhieni maeth yn ei wneud a'u cefnogi yn y gwaith gwerthfawr y maent yn ei wneud?
Wel, Lywydd, rwy'n bendant am ymuno â Mick Antoniw i dalu teyrnged i'r gwaith y mae gofalwyr maeth yn ei wneud yng Nghymru ac wedi'i wneud yn ystod argyfwng y pandemig. Mae ef a minnau wedi bod yn rhieni maeth yn y gorffennol ac yn gwybod rhywfaint am yr heriau, ond hefyd y llawenydd enfawr y gall ei gynnig.
Darllenais adroddiad Barnardo's. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn inni fod yn glir fod tirwedd gofal maeth yng Nghymru yn wahanol i sefyllfa'r DU. Mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, mae Barnardo's a mudiadau'r trydydd sector yn chwarae rhan fwy o lawer yn y ddarpariaeth o wasanaethau maethu nag y gwnânt yng Nghymru. Mae'r defnydd o ddarparwyr darpariaeth elusennol yng Nghymru, gan gynnwys Barnardo's, yn 3 y cant o gyfanswm y gweithlu gofal maeth, ac mae'r gyfran honno wedi bod yn gostwng. Mae awdurdodau lleol yng Nghymru yn parhau i ddarparu bron i dri chwarter yr holl ofal maeth.
Mae Arolygiaeth Gofal Cymru wedi darparu adroddiad ar weithgarwch gofal maeth yn ystod mis Ebrill a mis Mai eleni. Maent yn nodi sefydlogrwydd cyffredinol, mai pur anaml y methodd trefniadau gofal maeth, a bod lefel dda o leoliadau ar gael. Felly, mae'r adroddiad yn ddiddorol iawn. Mae'n bwysig ein bod yn meddwl am y materion y mae'n eu codi. Nid wyf yn credu ei fod yn dweud wrthym beth sy'n digwydd yn y rhan helaeth o'r maes gofal maeth ar draws Cymru.
Credaf fod awdurdodau lleol wedi gweithio'n galed i gefnogi'r gofalwyr maeth hynny. Mae'n ddiddorol dysgu oddi wrthynt nad cyllid yw'r math o gymorth y mae gofalwyr maeth wedi gofyn amdano fel y cyfryw, ond help i wneud yn siŵr fod ganddynt y cyfarpar sydd ei angen ar blant i ddysgu o bell, cymdeithasu, cadw mewn cysylltiad â theuluoedd biolegol os yw hynny'n rhan o gynllun y plentyn hwnnw. Mae awdurdodau lleol wedi gweithio'n galed i gynorthwyo eu gofalwyr maeth gyda hynny.
Unwaith eto, rwy'n cytuno â'r pwynt y mae Mick Antoniw wedi'i wneud am yr ymdrechion gwych y mae'r teuluoedd hynny'n eu gwneud ar ran plant agored i niwed yng Nghymru.
Cwestiwn 8—John Griffiths.
Eich microffon, John—a wnewch chi aros hyd nes y bydd y microffon wedi'i agor? Parhewch.
8. Pa gamau pellach y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod y ddarpariaeth addysg o fis Medi ymlaen o safon uchel? OQ55330
Lywydd, mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid i sicrhau bod arferion gorau'r tri mis diwethaf yn cael eu mabwysiadu'n ehangach yn y dyfodol. Bydd arolygwyr Estyn yn ymweld ag ysgolion yng Nghymru o fis Medi ymlaen, fel rhan o'r ymdrech ar draws y system gyfan.
Brif Weinidog, ceir pryder mawr ynghylch cyfleoedd bywyd ein plant, yn enwedig y rheini yn ein teuluoedd tlotaf. Nid oes digon o'r disgyblion yr ystyrir eu bod yn agored i niwed wedi dychwelyd i'r ysgol, ac mae lefelau gweithio gartref wedi bod yn amrywiol iawn. Mae'n debyg y bydd dychwelyd i'r ysgol ddiwedd y mis hwn yn digwydd am ychydig oriau unwaith yr wythnos yn unig ac efallai na fydd yn cynnwys y bedwaredd wythnos ychwanegol. Ac wrth gwrs, pan fydd y plant yn dechrau dychwelyd i'r ysgol yn nhymor yr hydref, rhaid i ddysgu cyfunol fod o safon uchel yn ein holl ysgolion—pob un o'n hysgolion. Felly, Brif Weinidog, pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau ymateb Cymru gyfan, gydag ysgolion, undebau ac awdurdodau addysg lleol yn camu i'r adwy o fewn gofynion cenedlaethol clir?
Lywydd, diolch i John Griffiths am hynny. Mae'n iawn i ddweud nad oes digon o blant sy'n agored i niwed wedi bod yn mynychu yng nghyfnod y pandemig, ond rydym wedi mynd o ryw 300 o blant yn yr wythnosau cynnar iawn i dros 1,500 yn yr wythnos ddiweddaraf. Felly, rydym wedi cael cynnydd cyson yn nifer y plant sy'n mynychu. Bydd ailagor pob ysgol ar 29 Mehefin yn gam pwysig arall, oherwydd gwyddom fod plant sy'n agored i niwed yn llai tebygol o fynychu ysgol wahanol i’w hysgol eu hunain. Mae yna lawer o resymau am hynny, a phan fydd eu hysgol eu hunain yn ailagor, gydag athrawon cyfarwydd ac wynebau cyfarwydd, rydym yn hyderus y byddwn yn gweld rhagor o'r plant hynny yn dychwelyd at addysg.
Ond rwy'n cytuno â John Griffiths fod angen inni weld profiad ysgol gwahanol iawn ym mis Medi, ac y bydd dysgu o lwyddiant yr wythnosau diwethaf yn bwysig iawn i hynny. Oherwydd er bod amrywio wedi bod yn un nodwedd o bethau, nodwedd arall yw fod yna lawer iawn o ysgolion wedi ymateb yn rymus iawn i'r her o ddysgu o bell, wedi'i gyfuno â chyswllt o bell â'r ysgol hefyd i blant. Rydym eisiau sicrhau bod disgwyliad cenedlaethol y bydd pob ysgol yn dysgu o’r profiadau gorau ac yn gweithredu hynny er budd plant a phobl ifanc o fis Medi ymlaen. Ac fel y dywedais yn fy ateb gwreiddiol, byddwn yn defnyddio Estyn fel rhan o'r ymdrech honno i sicrhau bod y pethau gwych—ac maent yn bethau gwych—y mae cymaint o benaethiaid ac athrawon wedi'u dyfeisio i gynorthwyo plant a phobl ifanc yng Nghymru yn cael eu deall gan weddill y system, eu bod yn cael eu mabwysiadu gan weddill y system, a bod yr addysg o fis Medi ymlaen o safon mor uchel ag y gallwn ei gwneud o dan yr amgylchiadau y byddwn yn eu hwynebu ar y pryd.
9. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisïau Llywodraeth Cymru ar gyfer cefnogi'r economi yn ystod y pandemig presennol? OQ55325
Lywydd, rydym yn gwneud popeth yn ein gallu i liniaru effeithiau'r pandemig ar ein heconomi. Mae ein pecyn cymorth o £1.7 biliwn yn golygu bod gan fusnesau Cymru fynediad at y cymorth mwyaf hael i fusnesau yn unrhyw fan yn y Deyrnas Unedig.
Diolch, Brif Weinidog. Mae hwn yn amlwg yn gyfnod heriol. Fe ddywedoch chi yn gynharach, mewn ymateb i gwestiwn 4—rwy’n credu mai Janet Finch-Saunders a’i gofynnodd—lle na all rhai rhannau o’r economi fel lletygarwch a thwristiaeth ailagor, y dylai cynllun ffyrio Llywodraeth y DU barhau. Wrth gwrs, os yw'r rhannau hynny o'r economi yn ailagor yn Lloegr, mae'n fy nharo i na fydd unrhyw gynllun ffyrlo ac felly ni fydd unrhyw arian yn sgil hynny ar gyfer gosod gweithwyr ar ffyrlo yng Nghymru. Felly, onid yw'n wir, Brif Weinidog, er budd economi Cymru, ei bod hi’n bwysig i chi adolygu'r sefyllfa a cheisio ailagor cymaint o'r diwydiant lletygarwch â phosibl yng Nghymru mor gyflym ac mor ddiogel â phosibl? Ac os nad oes modd gwneud hynny, oni fydd yn rhaid i'ch Llywodraeth edrych ar ffyrdd o ariannu cynlluniau cymorth megis cyflwyno cynllun ffyrlo eich hun, ac oni fydd hynny o reidrwydd yn cynnwys rhyw lun ar fenthyca ychwanegol neu godiadau treth ar ryw adeg.
Wel, Lywydd, rhaid bod y geiriau 'cyflym' a 'diogel' yn golygu rhywbeth yn hyn oll. Ni all fod yn gyflym ar draul diogel, a phe bai hynny'n digwydd, ni fyddai'n gyflym iawn o gwbl oherwydd byddem yn mynd ar ein pennau yn ôl i'r argyfwng rydym bellach yn dod allan ohono.
Ni ddylai neb gredu bod y cyhoeddiadau a wnaed ddoe gan Lywodraeth y DU yn golygu y bydd y diwydiant lletygarwch yn Lloegr yn ailddechrau fel roedd cyn i'r argyfwng ddechrau. Roeddwn yn meddwl bod Prif Weinidog y DU ei hun yn glir iawn am hynny ddoe. Bydd angen cefnogi'r diwydiant hwnnw ar lefel y DU, a dyna beth rydym yn disgwyl i Lywodraeth y DU ei wneud.
Yn olaf, Russell George.
Diolch, Lywydd. Brif Weinidog, byddai’r swyddi pellach a gollir yn Laura Ashley, cyflogwr eiconig a phwysig yn y Drenewydd, wedi bod yn brif newyddion oni bai am y pandemig cyfredol. Mae'n newyddion ofnadwy, wrth gwrs, y bydd y gweithgaredd manwerthu a gweithgynhyrchu yn dod i ben. Ni allai fod wedi digwydd ar adeg waeth, rwy'n siŵr y byddech yn cytuno. Ychydig fisoedd yn ôl yn unig, câi tua 550 o weithwyr eu cyflogi gan Laura Ashley yn y Drenewydd. Mae cannoedd wedi cael eu diswyddo ac yn amlwg, mae'r rhai sy'n parhau mewn gwaith yn bryderus wrth weld eu swyddi yn y fantol. Roedd yna weithlu ffyddlon yn y Drenewydd, gyda llawer ohonynt yn gweithio i'r cwmni ers degawdau.
A gaf fi erfyn ar Lywodraeth Cymru i wneud popeth yn ei gallu i fanteisio ar y cyfle olaf hwn i achub y cwmni rhyngwladol enwog, sydd â hanes hir o gyflogi teuluoedd cyfan yn fy etholaeth? Pa gyngor y gallwch ei roi i'r rhai a ddiswyddwyd? Ac yn olaf, beth arall y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i gefnogi staff medrus a ffyddlon iawn, neu gyn-staff, Laura Ashley a phawb yn y gadwyn gyflenwi ehangach yr effeithiwyd yn andwyol arnynt gan y newyddion hynod o drist hwn?
Lywydd, a gaf fi gytuno â'r Aelod ynglŷn â difrifoldeb y newyddion? Fel y dywedodd Russell George, mae pobl wedi cael eu cyflogi ers llawer iawn o flynyddoedd o fewn y diwydiant hwnnw, ac mae teuluoedd cyfan wedi bod yn rhan o'r profiad hwnnw. Mae'n drist iawn, ac ar adegau eraill, byddem wedi bod yn canolbwyntio arno mewn ffordd wahanol. Ond bydd Llywodraeth Cymru yn trefnu'r cymorth y buom yn ei ddefnyddio'n llwyddiannus mewn enghreifftiau eraill o'r fath, gan weithio gyda sefydliadau'r DU—yr Adran Gwaith a Phensiynau, ac ati—yn ogystal â'r pethau y gallwn ni eu rhoi at ei gilydd i wneud popeth a allwn i weld a fyddai unrhyw beth arall yn bosibl o hyd o ran y diwydiant, a lle nad yw hynny'n bosibl, buddsoddi yn sgiliau'r boblogaeth leol honno er mwyn darganfod cyfleoedd eraill, a sicrhau bod yr holl gymorth y gallwn ei ddarparu, ochr yn ochr ag eraill, yn cael ei roi ar waith er budd etholwyr yr Aelod yn yr amgylchiadau anodd iawn y mae'n rhaid iddynt eu hwynebu.
Diolch i'r Prif Weinidog.
Yr eitem nesaf yw'r cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog, Jane Hutt, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan David Melding.
1. Pa gymorth mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i'r sector gwirfoddol yng ngoleuni'r pandemig coronafeirws? OQ55337
Ar 6 Ebrill, cyhoeddais £24 miliwn o gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer y sector gwirfoddol yng Nghymru, gan ddarparu tair elfen o gymorth: cymorth uniongyrchol ar gyfer ymateb y sector i'r argyfwng, cymorth i sefydliadau sy'n cael trafferth i oroesi oherwydd colli incwm codi arian, a chymorth ychwanegol i seilwaith sector gwirfoddol Cymru.
Lywydd, a gaf fi nodi fy mod yn swyddog yn Urdd Sant Ioan? Weinidog, fe fyddwch yn gwybod bod St John Cymru wedi bod yn darparu gwasanaethau hanfodol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol a chymorth cyntaf ers canrif. Mae'n olygfa gyfarwydd iawn yn ein digwyddiadau cenedlaethol, ac fel llawer o sefydliadau gwirfoddol mawr eraill, mae wedi dangos cryfder rhyfeddol dros y blynyddoedd hynny, ond erbyn hyn mae wedi colli un o'i phrif bileri incwm, ac mae model busnes dan fygythiad o ganlyniad—yn achos yr urdd, ei incwm hyfforddiant, sydd fwy neu lai wedi diflannu dros nos o'i lefel hynod lwyddiannus. A ydych yn cytuno â mi ei bod hi'n debygol y bydd angen parhau'r cymorth sylweddol a derbyniol a roddwyd gan Lywodraeth Cymru hyd yma os ydym am weld ein prif ddarparwyr sector gwirfoddol o gryfder a lles i bobl Cymru yn rhan o'r adferiad hwnnw ac yn parhau mor weithredol ag y bo modd yn y cyfnod adfer?
Wel, hoffwn ddiolch i David Melding am y cwestiwn hwnnw, a hefyd mae'n rhoi cyfle i mi ddiolch i Ambiwlans Sant Ioan a'u llongyfarch—Urdd Sant Ioan, rydych yn swyddog ynddi. Mae Ambiwlans Sant Ioan, wrth gwrs, yn darparu cefnogaeth wych gan wirfoddolwyr, a hefyd y gwaith gyda'u pobl ifanc. Rydych chi wedi datgelu heddiw, wrth gwrs, y pwysau ar Ambiwlans Sant Ioan Cymru o ran eu sefyllfa bresennol, ond gallaf ddweud wrthych fod hyn yn rhan o'n trafodaethau gyda chyngor partneriaeth y trydydd sector ynglŷn â sut y gallwn gefnogi'r trydydd sector yng Nghymru i gefnu ar effaith uniongyrchol y pandemig coronafeirws a dechrau ymadfer. Mae ganddynt ran mor bwysig i'w chwarae, a byddwn yn ceisio dod o hyd i'r adnoddau i'w cefnogi ar y daith honno.
Weinidog, i ychwanegu at yr hyn roedd David yn ei ddweud, credaf ein bod i gyd yn gwybod bod ymateb gwirfoddolwyr yn ystod yr argyfwng wedi bod yn anhygoel, ym mhob rhan o Ogwr, ond ar draws Cymru gyfan yn ogystal, yn cefnogi cymunedau gyda bwyd a phresgripsiynau, cerdded cŵn, danfon nwyddau, neu ddim ond cyswllt cymdeithasol a wyneb cyfeillgar i'w weld, gan gadw pellter cymdeithasol. Mae wedi bod yn anhygoel. Ond Weinidog, a gaf fi ofyn i chi pa drafodaethau a gawsoch gyda Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, sydd wedi bod yn ystyried pa wersi a ddysgwyd o'r argyfwng hwn i'r sector gwirfoddol, ynglŷn â chynnal yr ymdrech a'r brwdfrydedd gwirfoddol, ynglŷn â chynaliadwyedd ariannol ac ynglŷn â phroffil a pha mor fregus, rhaid dweud, yw proffil gwirfoddolwyr mewn ymateb i bandemig o'r fath, ond hefyd lle'r trydydd sector yn fwy hirdymor i fod yn rhan annatod o gynlluniau lleol nid ar gyfer argyfyngau yn unig, ond ar gyfer cadernid cymunedol yn fwy cyffredinol? Pa fath o drafodaethau rydych yn eu cael gyda Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru ynglŷn â hyn?
Wel, diolch yn fawr iawn, Huw Irranca-Davies. Ac eto, a gawn ni dalu teyrnged i'r gwirfoddolwyr? Gwnaethom hynny ychydig wythnosau'n ôl yn yr wythnos gwirfoddoli, ond ar 19 Mehefin, roedd gan Gwirfoddoli Cymru 31,714 o wirfoddolwyr cofrestredig—dros 18,000 wedi'u cofrestru ers y cyfyngiadau symud, ac ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac Ogwr a'r holl wirfoddolwyr hynny sydd wedi camu ymlaen i ddarparu cefnogaeth. Mae'n cael ei adlewyrchu ar draws Cymru gyfan.
Felly, rydym yn awr yn edrych, gyda chyngor partneriaeth y trydydd sector, oherwydd yn amlwg mae CGGC yn chwarae rôl allweddol yn hyn, ar ffyrdd y gallwn gynnal y lefel honno o wirfoddoli ac ymrwymiad. Mae rhai o'r rhain yn wirfoddolwyr ifanc sydd wedi camu ymlaen, a bydd rhai yn mynd yn ôl i'r gweithle ond yn awyddus i barhau i wirfoddoli, felly rydym yn edrych ar hynny'n ofalus iawn. Ond maent yn bodloni rhai o'r anghenion ar gyfer rhai o'r bobl fwyaf difreintiedig yng Nghymru hefyd. Credaf mai dyma lle mae gwaith allweddol arall y sector gwirfoddol gydag awdurdodau lleol wedi bod yn glir. Felly, mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn cyfarfod â phob un o'r cynghorau gweithredu gwirfoddol ym mhob sir yng Nghymru. Mae gennym seilwaith cadarn iawn yng Nghymru mewn gwirionedd, ac mae'r berthynas waith honno—llywodraeth leol, byrddau iechyd, yn strategol gyda'r sector gwirfoddol—rhaid iddi barhau, a gallwn ddysgu ohoni.
2. A wnaiff y Dirprwy Weinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn monitro lefelau cam-drin domestig yn ystod y cyfnod argyfwng? OQ55340
Rwy'n monitro niferoedd wythnosol y rhai sy'n cysylltu â'n llinell gymorth Byw Heb Ofn a nifer y mannau lloches ledled Cymru. Er mwyn mynd i'r afael ag effaith COVID-19, cynhelir cyfarfod wythnosol i'n holl randdeiliaid trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol gyda Llywodraeth Cymru i asesu'r sefyllfa, a lansiwyd ymgyrch, 'Ddylai neb fod yn ofnus gartref', ar 7 Mai.
Diolch am hynny, Weinidog. Rwy'n credu ein bod i gyd yn ymwybodol fod cynnydd wedi bod mewn cam-drin domestig dros y misoedd diwethaf. Rwy'n bryderus iawn ein bod yn clywed geiriau caredig gan y Llywodraeth, ond ni welwn fawr o fuddsoddi yn y gwasanaethau i helpu a chefnogi menywod a phlant, sydd weithiau mewn angen eithaf enbyd. Mae gennym sefydliadau gwych a phobl wych ym Mlaenau Gwent, ond mae arnynt angen mwy o gefnogaeth a mwy o gymorth. Mae arnynt angen yr adnoddau a'r buddsoddiad i estyn allan a helpu menywod sy'n ffoi rhag camdriniaeth a thrais yn eu cartrefi.
Rwyf am i Lywodraeth Cymru roi cymorth gweithredol i ni, Weinidog. Nid geiriau caredig sydd eu hangen arnom, nid cyfarfodydd sydd eu hangen arnom, nid asesiadau sydd eu hangen arnom. Gweithredu sydd ei angen, ac rwy'n gobeithio, Weinidog, y byddwch yn gallu darparu gweithredu o'r fath a'r ysgogiad i ddiwallu anghenion y menywod sy'n ffoi rhag trais yn y cartref ac sydd mewn sefyllfa ofnadwy mewn gormod o achosion.
Diolch i Alun Davies am ei gwestiwn, ac am godi hyn heddiw. Mae'n flaenoriaeth allweddol i mi, ac yn wir, mae'n bwysig ein bod yn cyfarfod â'r darparwyr arbenigol hynny, megis y gwasanaethau a ddarperir ym Mlaenau Gwent, i gael gwybod o'r rheng flaen ynglŷn ag effaith cam-drin domestig o dan y cyfyngiadau symud a sut y mae hynny mewn gwirionedd wedi atal pobl rhag gofyn am gymorth. Gwn eich bod wedi codi'r mater hwn, yn enwedig ynglŷn ag etholwyr yr effeithiwyd arnynt, ond rydym wedi darparu cyllid—£1.2 miliwn o arian newydd—i brynu llety gwasgaredig yn y gymuned. Rydym wedi darparu £250,000 ychwanegol o arian newydd i gefnogi'r gwaith o ddarparu gwasanaethau trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
Hefyd, mae'r gwasanaethau hynny'n elwa o'r pecyn digartrefedd gwerth £10 miliwn a ddarperir ar gyfer llety mewn argyfwng, ac wrth gwrs, fel y gwyddoch, ceir gwaith rhanbarthol mewn perthynas ag anghenion a darparwyr arbenigol, a chydweithio agos â'r heddlu, sydd wedi bod yn arbennig o bwysig. A gaf fi ddweud ein bod newydd ddyrannu dros £100,000 i Cymorth i Fenywod Cymru hefyd i roi cymorth strategol i'r rheini sydd ar y rheng flaen? Mae'n bwysig iawn inni gydnabod, wrth inni gefnu ar y cyfyngiadau symud, y bydd yr anghenion hyd yn oed yn fwy wrth i ddioddefwyr ofyn am gymorth. Ond yn ystod y cyfyngiadau rydym wedi gorfod gweithio'n agos iawn a sicrhau bod ein cyllid yn cyrraedd y gwasanaethau hynny.
Weinidog, roeddwn yn gwrando ar eich ateb i'r Aelod dros Flaenau Gwent, a'r hyn sy'n wirioneddol bwysig yw bod y lefel hon o gefnogaeth yn cael ei deall, ei bod yn gwneud gwahaniaeth ar lawr gwlad. Yn aml iawn, y rhai yr effeithir arnynt yn fawr gan drais domestig yw'r plant mewn cartrefi lle mae trais yn y cartref wedi digwydd. Pa sicrwydd y gallwch ei roi i mi fel Aelod ac i fy etholwyr fod y cymorth rydych yn ei roi ar waith yn cael ei dargedu i gefnogi'r plant, a fydd yn aml iawn yn cael eu dal yn y canol mewn achosion o'r drosedd erchyll hon yn erbyn unigolion?
Wel, rwy'n ddiolchgar i Andrew R.T. Davies am y cwestiwn hwnnw, sy’n canolbwyntio'n benodol ar anghenion y plant hynny. Rhaid inni gydnabod bod yna aelwydydd sydd wedi dioddef trais yn y cartref heb allu cyfathrebu. Yn y dyddiau cynnar, nid oedd ein llinell gymorth Byw Heb Ofn yn derbyn y galwadau hynny. Mewn gwirionedd, roeddem yn annog pobl i ddefnyddio 999 a 55. Mae'r heddlu wedi bod yn allweddol bwysig, oherwydd roedd honno'n ffordd y gallent fynd i ofyn am gymorth. Ond rydym yn cydnabod hefyd y byddai llawer o'r dioddefwyr hynny wedi cael eu canfod pe bai eu plant yn yr ysgol. Mae ysgolion hyb wedi bod yn bwysig iawn, ond mae gennym fferyllfeydd ac archfarchnadoedd hefyd yn lleoedd cyswllt lle gallai dioddefwyr fynd i gael cefnogaeth a chyngor.
Rwy'n credu bod yr ymgyrch 'Ddylai neb fod yn ofnus gartref' wedi ysgogi ac wedi rhoi sylw i alwadau am gymorth a galwadau am help, a dyna lle mae'n rhaid i'n holl ddarparwyr arbenigol gamu i mewn. Mae'n amlwg fod angen inni edrych ar anghenion plant yn arbennig, ac wrth i'r ysgolion ailagor, rwy'n credu y bydd y fan honno'n lle pwysig arall lle gall dioddefwyr a'r plant hynny elwa o fynd yn ôl i'r ysgol ac yn ôl at y math o gefnogaeth y bydd ei hangen arnynt.
3. Pa asesiad y mae'r Dirprwy Weinidog wedi'i wneud o effaith y pandemig Covid-19 ar gydraddoldeb i fenywod yn y gweithle? OQ55316
Rwyf wedi bod yn gweithio'n agos gyda'r rhai yr effeithir arnynt waethaf gan COVID-19 yng Nghymru. Mae Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru, er enghraifft, wedi tynnu sylw at y ffordd y mae menywod wedi cael eu heffeithio'n anghymesur fel gofalwyr, fel mamau ac yn y gweithle. Mae cydraddoldeb yn ganolog i fframwaith adfer y Prif Weinidog yn sgil y pandemig.
Diolch, Weinidog. Mae'n dda gwybod bod y gwaith hwnnw'n mynd rhagddo. Wrth i'r economi ddechrau agor, mae nifer gynyddol o fenywod sydd â chyfrifoldebau gofalu am blant wedi cysylltu â mi am fod pwysau'n cael ei roi arnynt i ddychwelyd i'r gwaith. Wrth gwrs, mae hynny'n heriol iawn, gan nad ydym yn debygol o weld plant yn ôl mewn ysgolion ar sail normal am gryn amser.
Beth y gall y Llywodraeth ei wneud i anfon neges glir iawn i gyflogwyr yng Nghymru fod angen iddynt fod yn ystyriol o rieni sy'n gweithio yn ystod y cyfnod hwn er mwyn eu cynorthwyo i gadw eu gwaith? Beth yn fwy y gall y Llywodraeth ei wneud i edrych ar bethau fel 'swigod' neiniau a theidiau i sicrhau bod rhieni sy'n gweithio yn gallu cael y gofal plant sydd ei angen arnynt i gadw eu swyddi?
Diolch yn fawr, Lynne Neagle. Mae'r rhain yn gwestiynau allweddol sy'n cael eu gofyn i bawb ohonom, rwy'n siŵr. Mae'n bwysig hefyd fod ein partneriaid cymdeithasol yn ymwneud â hyn. Gwn fod TUC Cymru yn cyfleu'r neges yn gryf cyn i ysgolion ailagor yr wythnos nesaf y dylai cyflogwyr gadw staff ar ffyrlo a pheidio â disgwyl iddynt ddychwelyd i'r gwaith nes iddynt ailagor, a hynny ar sail raddol. Felly, wrth gwrs, mae mwy a mwy o bobl yn wynebu dychwelyd i'r gwaith, a chyhoeddwyd, o 22 Mehefin, fod cyfleusterau gofal plant yn ail-agor yn raddol, ac maent yn gweithredu dan ganllawiau newydd.
Rwy'n credu ei bod yn bwysig fod pob un o'n gweithwyr allweddol wedi cael gofal plant am ddim dros y cyfnod hwn, yn yr ysgolion hyb hynny, gyda phlant agored i niwed hefyd. Felly, os yw pobl eisiau gwybodaeth am eu cyfleusterau gofal plant lleol, gallwch ddod o hyd iddi gan eich gwasanaeth gwybodaeth i deuluoedd lleol. Ond rwy'n credu hefyd eich bod yn codi pwynt pwysig iawn am y math o ofal plant sydd eisoes yn digwydd, gyda neiniau a theidiau yn arbennig. Mae hyn yn rhywbeth rydym yn ei ystyried o ran yr angen, oherwydd yn amlwg, ar hyn o bryd, mae'n ymwneud â'r ffaith na allwch fod yn y tŷ—gallwch gyfarfod ag aelwydydd, ond nid o dan do. Fe'i hystyriwyd yn rhan o'r broses adolygu 21 diwrnod, ynglŷn â chymysgu aelwydydd a dod at ein gilydd i lywio syniadau, a galluogi'r gofal plant pwysig hwnnw sy'n digwydd yn aml gyda neiniau a theidiau fel ystyriaeth allweddol. Felly, mae'n sicr yn cael ei ystyried, ond mae ailagor cyfleusterau gofal plant yn bwysig yn ogystal â'r neges gref i gyflogwyr beidio â gorfodi rhiant, yn enwedig menywod, i ddychwelyd i'r gwaith heb y gofal plant hwnnw.
4. A wnaiff y Dirprwy Weinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru yn ystod gweddill tymor y Senedd hon ar gyfer creu Cymru fwy cyfartal? OQ55334
Wrth i ni ddod allan o gyfnod cyfyngiadau symud COVID, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gadw cydraddoldeb yn ganolog yn ei gweithredoedd. Mae cydraddoldeb yn un o dair colofn fframwaith adfer y Prif Weinidog, a chaiff ei ategu gan weithgareddau deddfwriaethol, ymchwil ac ymgysylltu.
Diolch, Ddirprwy Weinidog. Mae wedi bod yn gadarnhaol iawn gweld arddangosiadau heddychlon o undod â Black Lives Matter, a chefais fy mhlesio'n fawr iawn gan nifer y bobl iau yn arbennig sy'n cysylltu â mi ynglŷn â'r mater hwn. Mae un cwestiwn y maent i gyd yn ei ofyn yn ymwneud â rôl addysg yn trechu hiliaeth a hyrwyddo cydraddoldeb. Gwn fod gwaith yn mynd rhagddo gyda Race Council Cymru, er enghraifft, ar hanes yn y cwricwlwm newydd, ond pa drafodaethau a gawsoch gyda'r Gweinidog Addysg am y materion hyn yn fwy cyffredinol o fewn y cwricwlwm newydd ac yn arbennig, hyrwyddo ystod amrywiol o awduron o fewn yr elfen llythrennedd?
Mae'r digwyddiadau y mae pawb ohonom wedi'u gweld rwy'n siŵr, ac wedi cymryd rhan ynddynt yn rhithwir—digwyddiadau y bûm yn rhan ohonynt a drefnwyd gan Race Council Cymru a hefyd yr adroddiad sydd wedi'i gyhoeddi yr wythnos hon, adroddiad ar ffactorau economaidd-gymdeithasol yr effaith anghymesur ar bobl a chymunedau pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig—yn hanfodol er mwyn symud ymlaen i ymdrin â'r materion hyn.
Fel y soniodd y Prif Weinidog pan gyhoeddwyd yr adroddiad ddydd Llun, mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag Estyn i sicrhau bod eu hadolygiad o hanes Cymru yn rhoi ystyriaeth lawn i hanes, hunaniaeth a diwylliant pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru a thu hwnt. Ac mae'r Gweinidog addysg yn mynd i gyhoeddi gweithgor cyn bo hir i oruchwylio'r gwaith o ddatblygu'r adnoddau dysgu hynny. Wrth gwrs, mae hynny'n cynnwys awduron du ac rwy'n diolch i etholwyr yr Aelod am godi'r mater hwn hefyd, yn ystod y cyfnod pwysig hwn sy'n tynnu sylw at bwysigrwydd Black Lives Matter, a mynd i'r afael â'r materion hyn.
Diolch i'r Dirprwy Weinidog.
Yr eitem nesaf felly yw'r datganiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hynny.
Diolch, Lywydd. Nid oes unrhyw newidiadau i'r agenda ar gyfer heddiw. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith papurau'r cyfarfodydd sydd ar gael i'r Aelodau'n electronig.
Arweinydd y tŷ, a yw'n bosibl deall—ac rwy'n sylweddoli, oherwydd yr argyfwng COVID, fod y Llywodraeth wedi canolbwyntio'n llwyr ar ymdrin â'r materion sy'n ymwneud â COVID—ond a yw'n bosibl deall sut y bydd y Llywodraeth yn dychwelyd at allu ateb cwestiynau'r Aelodau'n brydlon a dychwelyd gydag atebion i ymholiadau etholaethol hefyd? Oherwydd ar hyn o bryd, mae gennyf fewnflwch sy'n dangos cwestiynau heb eu hateb ers mis Ebrill, ac yn sicr, rwy'n cael atebion gan Weinidogion sy'n dyddio'n ôl i ddiwedd mis Mawrth a dechrau mis Ebrill. Byddai deall rhyw gymaint ynglŷn â sut y mae'r Llywodraeth yn bwriadu gweithio drwy'r ôl-groniad hwn fel y gallwn ymateb i ymholiadau etholaethol yn dderbyniol iawn.
Diolch i Andrew R.T. Davies am ddechrau ei gyfraniad drwy gydnabod y pwysau eithafol sydd ar Lywodraeth Cymru o ran ymateb i argyfwng coronafeirws.
Yn amlwg, mae maint yr ohebiaeth a nifer y cwestiynau ysgrifenedig wedi cynyddu'n aruthrol; felly, rydym wedi cael dros 850 yn yr un cyfnod o amser ag y byddem wedi cael 250 y llynedd. Felly, yn amlwg, mae darparu'r atebion hynny yn rhoi straen enfawr ar adnoddau, ond rydym yn ceisio ymateb mor gyflym ag sy'n bosibl. Ond hoffwn atgoffa Andrew R.T. Davies a chyd-Aelodau eraill gyda pharch fod llawer iawn o wybodaeth ar gael i'r cyhoedd, ac rwy'n credu bod gwefan Llywodraeth Cymru yn darparu llawer o'r wybodaeth honno. Ond fel y dywedais, rydym yn gwneud ein gorau i ymateb mor gyflym â phosibl i'r llu o gwestiynau ysgrifenedig a gawn.
Leanne Wood. Arhoswch eiliad, Leanne, tra bydd eich microffon yn cael ei agor. Iawn, parhewch.
Diolch. Yr wythnos diwethaf yn y Rhondda, dioddefodd llawer o eiddo lifogydd, rhai am yr eilwaith, rhai am y trydydd tro hyd yn oed. Nawr, mae'n ddigon posibl fod achosion ac effeithiau'r llifogydd ym mis Mehefin yn wahanol iawn i'r llifogydd ym mis Chwefror, ond mae'r effeithiau yr un fath yn union, ac am resymau da, nid yw pobl yn hyderus fod y problemau wedi'u datrys. A dyna pam fod angen ymchwiliad annibynnol dan arweiniad arbenigwyr—nid yn unig ar yr achosion, ond er mwyn cyflwyno argymhellion ar gyfer lliniaru llifogydd yn y dyfodol hefyd ac i ystyried pa fuddsoddiad ddylai ddigwydd. Mae angen i ni wybod mwy hefyd. Pam, er enghraifft, nad oedd pobl yn gallu cael bagiau tywod pan oedd eu hangen arnynt, nid yn unig nawr, ond ym mis Chwefror hefyd? Ble roedd y cynlluniau argyfwng? Rhagwelwyd y rhybudd tywydd melyn ers dyddiau. Beth oedd rôl Cyfoeth Naturiol Cymru? Mae wedi bod yn arbennig o ddiflas gweld awdurdodau amrywiol yn ffraeo â'i gilydd ynglŷn â phwy sy'n gyfrifol a neb yn derbyn cyfrifoldeb, a thrwy'r amser, mae premiymau yswiriant pobl yn codi allan o reolaeth. Felly, nid oes dim o hyn yn ddigon da.
Nawr, mae yna nifer o opsiynau ar gyfer cynnal ymchwiliadau annibynnol, dan arweiniad arbenigwyr, ac wrth gwrs, gallaf ddeall pam y byddai Llywodraeth Cymru dan arweiniad Llafur yn cytuno â'r AS lleol yn ei wrthwynebiad i ymchwiliad. Dyna wyneb, rhaid dweud, ag yntau wedi pleidleisio i gefnogi un yn Lloegr. A dylai'r hyn sy'n ddigon da i Loegr fod yn ddigon da i Gymru, ac yn ddigon da i'r Rhondda. Po fwyaf y bydd y Llywodraeth yn gwrthwynebu ymchwiliad i hyn, mae arnaf ofn mai y bydd pobl yn credu fwy a mwy bod gennych rywbeth i'w guddio. Gallai fod yn gyflym ac yn rhad pe bai'r Llywodraeth eisiau iddo fod. Felly, a gawn ni ddatganiad ar frys yn amlinellu sut y mae'r Prif Weinidog yn bwriadu darganfod beth sydd wedi digwydd yn y Rhondda a'i unioni?
Credaf i’r Prif Weinidog ymateb i arweinydd Plaid Cymru ar y pwynt hwn yn gynharach yn ystod cwestiynau i'r Prif Weinidog, ond yn amlwg, unwaith eto, rydym yn cydymdeimlo gyda phobl Rhondda Cynon Taf, sydd wedi wynebu llifogydd ofnadwy unwaith yn rhagor. Gwn fod Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymchwilio i hyn ar hyn o bryd, ac rydym mewn cysylltiad agos â'u swyddogion i ddeall achos y llifogydd a'r effeithiau cysylltiedig. A hefyd, wrth gwrs, mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd statudol i ymchwilio i lifogydd o dan Adran 19 yn Neddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010, a bydd eu hadroddiad ar ymchwiliadau llifogydd yn nodi achosion y llifogydd ac yna'n gwneud argymhellion ynghylch sut y gellir lleihau’r risgiau hynny yn y dyfodol. Ond yn amlwg, gwnaed y pwynt gennych chi a chan arweinydd Plaid Cymru y prynhawn yma, a byddwn yn ystyried y ffordd orau o roi'r wybodaeth ddiweddaraf i gyd-Aelodau gyda datganiadau ar lifogydd a'r ymateb.
Ac yn olaf, Delyth Jewell.
Hoffwn ofyn am ddatganiad i egluro tri mater gwahanol ond cysylltiedig ynghylch cartrefi gofal. Y cyntaf yw'r rhesymeg y tu ôl i'r penderfyniad gwreiddiol gan Lywodraeth Cymru i wrthod profion COVID-19 ar gyfer preswylwyr asymptomatig sy'n gadael yr ysbyty cyn mynd yn ôl i gartrefi gofal. O ystyried nifer y marwolaethau a'r teuluoedd mewn galar yn sgil y polisi, mae budd cyhoeddus clir mewn esbonio’r rhesymau dros y penderfyniad hwn. Nid yw dweud 'Dyna yw'r cyngor a gawsom' yn ddigon da.
Nawr, yr ail yw esboniad pam y newidiwyd y polisi hwn o 23 Ebrill ymlaen. Pan ofynnais i'r Prif Weinidog am hyn yn wreiddiol yn ystod cwestiynau i’r Prif Weinidog ar 29 Ebrill, dywedodd wrthyf fod y polisi wedi'i newid, a dyfynnaf,
'nid oherwydd bod y cyngor clinigol wedi newid, ond oherwydd ein bod ni'n cydnabod yr angen i roi ffydd i bobl yn y sector'.
Ond mewn cynhadledd i'r wasg ddydd Llun, dywedodd, mewn perthynas â'r mater hwn, ac unwaith eto, rwy'n dyfynnu
Pan newidiodd y cyngor, fe wnaethom newid yr arfer.
Credaf fod dyletswydd ar y Prif Weinidog i egluro pam ei fod wedi rhoi atebion gwrthgyferbyniol i'r cwestiwn hwn.
Yna, y mater olaf yw esboniad, os gwelwch yn dda, ynglŷn â honiad y Gweinidog iechyd nad arweiniodd y polisi gwreiddiol at unrhyw farwolaethau, pan fo tystiolaeth glir i'r gwrthwyneb. Siaradais â pherchennog cartref gofal y bore yma a alwodd yr honiad hwnnw'n
syfrdanol o dwp. Mae'r holl dystiolaeth yn awgrymu mai peidio â phrofi pobl a oedd yn gadael yr ysbyty a arweiniodd at y marwolaethau hyn.
Nawr, mae ceisio cael gwybodaeth gan Lywodraeth Cymru am y mater hwn fel ceisio cael gwaed o garreg, ac mae'r cymylu parhaus yn rhoi'r argraff eu bod yn ceisio cuddio rhywbeth. Felly, rwyf am ofyn am ddatganiad sy’n nodi'r holl ffeithiau mewn perthynas â'r mater hwn cyn gynted â phosibl.
Diolch i Delyth Jewell am godi'r mater pwysig hwn, gan ei bod yn amlwg fod COVID-19 mewn cartrefi gofal yn fater o'r pwys mwyaf yn ystod y pandemig hwn sy'n parhau.
Mae Delyth yn codi cyfres o gwestiynau eithaf manwl y tybiaf y byddai angen atebion manylach iddynt nag y gallaf eu darparu heddiw, gan nad yw’r dystiolaeth a'r cyngor ac ati gennyf wrth law. Serch hynny, rydym wedi ceisio bod mor dryloyw â phosibl drwy ddarparu crynodebau o'r cyngor y mae Llywodraeth Cymru yn ei gael ar wefan Llywodraeth Cymru. Ond os caf wahodd Delyth Jewell i ysgrifennu at y Prif Weinidog, neu’n fwy priodol yn ôl pob tebyg, at y Gweinidog iechyd, ynglŷn â’r cwestiynau penodol hynny, yn amlwg byddant yn ceisio ymateb maes o law.
Diolch i'r Trefnydd.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestitynau i'r Gweinidog Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig. Ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Janet Finch-Saunders.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am les anifeiliaid mewn sŵau yng Nghymru? OQ55307
Diolch. Ysgrifennodd swyddogion at bob sw ac atyniad anifeiliaid yng Nghymru. I'r rhai a ymatebodd, rydym wedi bod yn cynnig cyngor a chymorth drwy gydol y pandemig COVID-19. Mae'r mwyafrif o'r rheini a fu mewn cysylltiad â ni wedi derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru a/neu sefydliadau eraill. Mae swyddogion yn parhau i fonitro'r sefyllfa.
Diolch, Weinidog. Mae yna ddywediad, 'Ni allwch roi pysgod ar ffyrlo'. Mae'n ddyletswydd ar sŵau ledled Cymru i gynnal safonau lles anifeiliaid. Mae hyn yn costio miloedd o bunnoedd, fel y £118,000 y mis i Sw Mynydd Cymru, sw genedlaethol Cymru. Yn ystod y cyfyngiadau symud, mae sŵau wedi cael eu gwthio tuag at ben eu tennyn. Cafwyd sôn am ewthanasia mewn lleoedd fel y Wild Animal Kingdom yn Borth a Sw Môr Môn. Fel y dywedodd y sector, dylai fod cronfeydd arbennig ar gael i gydnabod bod yn rhaid iddynt aros yn weithredol, hyd yn oed pan fyddant ar gau. O ystyried lles anifeiliaid, a’r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi cael swm sylweddol o gyllid canlyniadol Barnett o gronfa sŵau Llywodraeth y DU, pam nad ydych wedi sefydlu cronfa gymorth i sŵau Cymru i ddarparu'r gefnogaeth hon y mae cymaint o'i hangen? Diolch.
Os caf gywiro Janet Finch-Saunders: nid yw Llywodraeth Cymru wedi cael arian sylweddol mewn cyllid canlyniadol Barnett. Mae Llywodraeth y DU wedi nodi y byddwn yn cael rhywfaint yn ddiweddarach eleni, ond yn amlwg, pe baem wedi aros am hwnnw, byddai wedi arwain at broblemau lles anifeiliaid, ac nis cafwyd.
Nid oeddem yn teimlo ein bod angen cronfa sŵau benodol, fel y’i gelwir gennych, oherwydd o'r cychwyn cyntaf, gwnaethom ddarparu manylion y cynlluniau presennol a oedd gennych i'r holl atyniadau anifeiliaid a sŵau trwyddedig. Gwn fod Sw Mynydd Cymru wedi datgan yn gyhoeddus eu bod wedi cael arian drwy'r gronfa cadernid economaidd, a’u bod hefyd wedi cael benthyciad gan Fanc Datblygu Cymru, y ddau ohonynt, yn amlwg—roedd un gan Lywodraeth Cymru, nad oedd yn ad-daladwy, a'r llall gan Fanc Datblygu Cymru, a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru. Deallaf hefyd fod cais wedi’i wneud gan gronfa cadernid y trydydd sector, a chredaf mai yn y maes hwnnw y daw'r cyllid canlyniadol gan Lywodraeth y DU. Ond hoffwn ddweud yn glir iawn nad ydym wedi cael y cyllid hwnnw. Anfonwyd holiadur i'r holl sŵau ac atyniadau anifeiliaid, fel y dywedais, ar—nid ar ddechrau'r pandemig, mae'n debyg, ond yn sicr ym mis Ebrill. Ac rydym wedi gallu dangos bod y cyllid hwnnw ar gael heb sefydlu cynllun penodol ar gyfer sŵau ac atyniadau anifeiliaid.
Mandy Jones. Parhewch.
Diolch, Lywydd. Gwn y bu llawer o sŵn ynglŷn â darpariaeth benodol Llywodraeth y DU ar gyfer sŵau ac acwaria, a oedd yn caniatáu i bob busnes gael mynediad at gyllid grant o hyd at £100,000. Ysgrifennais at Ken Skates rai wythnosau yn ôl, ynglŷn â Sw Mynydd Cymru yn benodol, a rhoddodd sicrwydd nad oedd sŵau Cymru ar eu colled. Wrth i’r cyfyngiadau symud barhau i gael eu llacio, gobeithio, a wnewch chi ymuno â mi i ofyn i'r cyhoedd yng Nghymru fynd allan i’r awyr iach, ac i ymweld â'n sŵau a'n hatyniadau lleol, fel y gallwn atgoffa ein hunain o'u cyfraniad at addysg a chadwraeth, yn ogystal â gweithgareddau hamdden? Diolch.
Diolch, Mandy Jones. Ac yn sicr, wrth i'r cyfyngiadau symud gael eu llacio, dyna fydd neges Llywodraeth Cymru.
2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y Cynllun Cymorth i Ffermwyr Godro Cymru sydd wedi agor yn ddiweddar ar gyfer ceisiadau? OQ55320
Diolch. Agorodd y cynllun cymorth i ffermwyr godro ar 18 Mehefin i gefnogi’r ffermwyr sydd wedi eu taro galetaf gan amodau eithriadol y farchnad yn sgil COVID-19. Bydd gan ffermwyr cymwys hawl i hyd at £10,000 i'w helpu i barhau i dalu costau sefydlog ac i gynnal capasiti cynhyrchu, heb effeithiau ar les anifeiliaid a'r amgylchedd.
Diolch am eich ateb. Mae nifer o ffermwyr wedi cysylltu â mi, mae'n rhaid i mi ddweud, a hwythau ychydig bunnoedd yn brin, yn llythrennol, o gyrraedd y trothwy o 25 y cant o ostyngiad yn eu hincwm, a fyddai wedyn yn eu gwneud yn gymwys ar gyfer y cynllun cymorth wrth gwrs. Ond mae’r rhain yn ffermwyr sydd wedi wynebu colledion sylweddol, ond wedi hynny, nid ydynt yn cael unrhyw beth, dim cymorth o gwbl, oherwydd, wrth gwrs, maent yn parhau i fod yn anghymwys ar gyfer pob cynllun cymorth arall, a'r gronfa cadernid economaidd yn fwyaf arbennig.
Nawr, mae'r Comisiwn Ewropeaidd wedi cynnwys mesur COVID-19 yng nghronfa amaethyddol Ewrop ar gyfer datblygu gwledig, ac mae Aelodau o Senedd Ewrop bellach wedi pleidleisio i roi cyfandaliad untro o €7,000 i ffermwyr, gyda hyd at 2 y cant o gyllideb y cynllun datblygu gwledig, ynghyd â chydgyllido gyda chronfeydd yr UE, wedi’i ganiatáu ar gyfer y mesur hwn. Felly, a wnewch chi ystyried rhoi’r mesur hwn ar waith fel y gallwn helpu i leddfu'r problemau llif arian ar gynifer o ffermydd Cymru?
Diolch, Llyr, ac rydych yn llygad eich lle, mae Comisiwn yr UE wedi gwneud hynny. Ac yn sicr, mater i ni fyddai penderfynu a allwn wneud hynny, ac mae'n rhywbeth rwyf wedi gofyn i swyddogion edrych arno.
Prynhawn da, Weinidog. Mae croeso mawr i’r gronfa cymorth i ffermwyr godro yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, ond maent wedi gofyn nifer o gwestiynau i mi yn ei chylch. Un ohonynt oedd: pam y gwnaethoch benderfynu ei gyfrifo ar bris yr uned laeth yn hytrach na 25 y cant o’r golled incwm gyffredinol? Oherwydd nododd rhai ohonynt, er bod y pris y cânt am bob litr o laeth yr un fath, neu ddim yn cyrraedd y trothwy o 25 y cant yn llai o drwch blewyn, maent wedi colli llawer iawn o laeth yn ôl cyfaint. Mae hynny’n fy arwain at yr ail bwynt, sef: tybed a allech roi amlinelliad inni o'r hyn y gallech ei wneud, o bosibl, i helpu i gynyddu'r nifer o bobl sy'n prynu llaeth a chynhyrchion llaeth, nid yn unig ymhlith y cyhoedd, ond drwy helpu ffermwyr i arallgyfeirio mwy, oherwydd, fel y gwyddom, mae'r diwydiant lletygarwch wedi chwalu, a dyna lle mae llawer o fy ffermwyr wedi colli eu marchnad.
Diolch, Angela. Rydych yn codi pwynt tebyg i Llyr, ac mae'n debyg y dylwn ddweud bod gennych enillwyr a chollwyr bob amser gyda’r cynlluniau hyn. Yn anffodus, mae'n rhaid cael torbwynt. Mae'n gyllideb gyfyngedig; nid oes gennym swm helaeth o arian i chwarae ag ef. Felly, cyflwynwyd y cynllun i gefnogi’r ffermwyr a gafodd eu taro galetaf gan yr amodau marchnad eithriadol a ddioddefodd y sector llaeth yn sgil COVID-19. Mae'n ei gwneud yn ofynnol i ffermwyr fodloni meini prawf cymhwysedd o ostyngiad o 25 y cant neu fwy ym mhris llaeth, fel y dywedoch chi. Roedd hynny'n seiliedig ar ddadansoddiad o'r prynwyr llaeth sy'n wynebu'r effaith fwyaf o ganlyniad i'r argyfwng. Fe'i cynlluniwyd hefyd mewn ymateb i benderfyniadau a oedd y tu hwnt i reolaeth y ffermwyr llaeth, felly’n bennaf o ganlyniad i weithredoedd y prynwr llaeth.
Credaf eich bod yn gwneud pwynt pwysig iawn ynghylch annog mwy o bobl mewn perthynas â bwyta ac yfed mwy o laeth a chaws a chynhyrchion llaeth ac yn y blaen. Efallai eich bod yn ymwybodol o ymgyrch defnyddwyr newydd y Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth. Fe’i hariannwyd yn rhannol gan Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban. Felly, mae honno wedi'i hanelu'n bennaf at sicrhau cynnydd o 3 y cant yn y galw am laeth gan ddefnyddwyr. Byddaf yn gallu rhoi diweddariad i’r Aelodau ar lwyddiant y cynllun dros yr wythnosau nesaf.
Rwy'n siomedig nad yw Llywodraeth Cymru wedi llwyddo i ddod o hyd i'r cyfalaf sydd ei angen i gynyddu cynhyrchiant garddwriaeth Cymru—
A allwch symud yn agosach at eich microffon, Jenny? Nid ydym yn eich clywed yn iawn. Ie, a wnewch chi wisgo eich clustffonau, Jenny?
Gallaf, mae’n ddrwg gennyf—ymddiheuriadau. Ymddiheuriadau i bawb.
Roeddwn eisiau dweud, er fy mod yn siomedig nad yw Llywodraeth Cymru wedi dod o hyd i'r arian i gynyddu cynhyrchiant garddwriaeth yn ystod y tymor tyfu pwysig hwn, o ystyried bod diogelwch y cyflenwad bwyd mewn perthynas â ffrwythau a llysiau yng Nghymru yn beryglus o isel ar 1 y cant, ac nid ydym yn gwybod beth fydd yn digwydd yn y dyfodol o ran mewnforion o ganlyniad i’r coronafeirws, serch hynny, rwy'n croesawu'r cynllun i roi'r iawndal i ffermwyr godro bach sydd wedi colli 25 y cant neu fwy o'u hincwm yn sgil cau caffis a bwytai.
Tybed a allech ddweud wrthym pa gynnydd a wnaed o ran cynyddu capasiti i droi llaeth dros ben yn gaws a menyn, ac i ddefnyddio cynllun ymyrraeth gyhoeddus yr UE i storio llaeth, menyn a chaws er mwyn atal llaeth rhag cael ei dywallt i lawr y draen yn y dyfodol. Hefyd, tybed a allwch ddweud wrthym beth yw'r cyfanswm a neilltuwyd ar gyfer y cynllun i achub ffermwyr llaeth.
Diolch, Jenny. Mae pob un ohonom yn dod i arfer â ffyrdd newydd o weithio, onid ydym? Ynglŷn â’ch sylwadau am arddwriaeth, fel y dywedwch, 1 y cant yn unig o sector amaethyddol Cymru ydyw, felly mae potensial enfawr yno i gynyddu. A byddwch yn gwybod, o'r atebion a roddais i chi yn ystod sesiwn graffu’r pwyllgor, fod hwn yn faes rydym yn edrych arno a sut rydym yn galluogi ffermwyr i droi at ran garddwriaethol y sector os ydynt yn dymuno gwneud hynny.
Mewn perthynas â'ch cwestiynau ynglŷn â'r sector llaeth, ar hyn o bryd, credaf fod £0.5 miliwn wedi'i neilltuo, ond bydd yn rhaid imi wirio hynny. Ac rydym yn sicr yn edrych ar y ceisiadau ar hyn o bryd. Credaf ein bod wedi cael oddeutu 91 o geisiadau, a gwn fod oddeutu 11 wedi'u prosesu eisoes, a bydd yr arian yn cyrraedd ffermwyr, gobeithio, erbyn diwedd yr wythnos hon. Cafodd y cynlluniau cymorth i storfeydd preifat ar gyfer llaeth powdr sgim, menyn a chaws eu cyhoeddi gan y Comisiwn Ewropeaidd ac fe'u hagorwyd ar 7 Mai. Gwn fod y cwota caws, yn arbennig, wedi cael croeso mawr, ac mae'r dyraniad hwnnw bellach wedi'i lenwi, ond mae ceisiadau'n parhau i gael eu derbyn ar gyfer menyn. Nifer fach iawn o achosion a oedd yn ymwneud â llaeth na chafodd ei gasglu, ac mae llaeth nad yw’n cael ei gasglu wedi'i gynnwys fel rhan o'r cynllun cymorth i ffermwyr godro, gan fod hyn yn amlwg y tu hwnt i reolaeth y ffermwr godro. Ond rwy’n cydnabod yn llwyr pa mor ddiflas oedd hynny. Hyd yn oed i nifer fach o ffermwyr, roedd yn hynod ddiflas ac mae'n rhywbeth y byddem am ei osgoi.
Cwestiynau nawr gan lefaryddion y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Llyr Gruffydd.
Diolch, Lywydd. Weinidog, fe fyddwch yn ymwybodol, rwy’n siŵr, fod ymchwiliad troseddol bellach ar y gweill i’r tân ar safle tirlenwi Hafod—
Mae'n ddrwg gennyf, Lywydd; ni allaf glywed.
O, iawn. Rwy’n gallu clywed. Llyr, a allwch chi—
Gallaf glywed nawr. Mae’n ddrwg gennyf, Llyr.
O'r gorau, mae pawb yn iawn. Gallwn barhau. Parhewch, Llyr.
Gofyn oeddwn i, Weinidog, fy mod yn siŵr eich bod yn ymwybodol o'r ymchwiliad troseddol sydd ar y gweill i'r tân ar safle tirlenwi Hafod, ger Wrecsam, yn gynharach y mis hwn. Ac mae Cyfoeth Naturiol Cymru a'r cwmni sy'n rhedeg y safle wedi dweud wrthyf nad ydynt yn gwybod beth ddechreuodd y tân. Nawr, os felly, onid ydych yn credu ei bod yn ddoeth peidio â chaniatáu i'r cwmni barhau i ddympio yno, cyn i'r ymchwiliad troseddol ddod i ben?
Cefais sicrwydd gan CNC ei bod yn gwbl ddiogel i barhau. Mae gennyf gyfarfod gyda CNC yfory. Dim ond yn ddiweddar y cefais wybod am y digwyddiad rydych newydd gyfeirio ato. Felly, byddaf yn sicr yn ei godi gyda CNC yfory, ac yn cael mwy o sicrwydd ac yna rwy'n fwy na pharod i ysgrifennu at yr Aelod i roi'r wybodaeth ddiweddaraf iddo yn dilyn fy nghyfarfod yfory.
Wel, rwy'n siŵr y bydd nifer o bobl yn synnu eu bod yn cael parhau heb wybod beth yn union a achosodd y tân. Felly, hoffwn eich annog, Weinidog—ac rwyf wedi codi hyn gyda chi eisoes—i sicrhau bod camau'n cael eu cymryd yn gynt yn hytrach na’n hwyrach. Oherwydd yn amlwg, nid oedd y gymuned leol yn dymuno’i gael yno yn y lle cyntaf, a bellach rydym yn gweld rhai o ganlyniadau'r datblygiad hwnnw.
Nawr, fe gyfeirioch chi at Cyfoeth Naturiol Cymru yn eich ymateb i mi, wrth gwrs, ac maent yn allweddol o ran amddiffyn ein hamgylchedd, ymateb i achosion o lygredd fel hyn, ond hefyd yr ymateb i’r llifogydd rydym wedi’u gweld mewn gwahanol rannau o Gymru dros y misoedd diwethaf, ac ar raddfa ehangach, yr argyfwng hinsawdd a'r argyfwng natur sy’n ein hwynebu. Ac rwyf wedi mynegi pryderon wrthych chi o'r blaen ynglŷn â chyllid Cyfoeth Naturiol Cymru dros y blynyddoedd diwethaf, a'r ffaith eu bod ar drywydd anghynaliadwy o adnoddau sy'n prinhau yn sgil toriadau cyllid ar y naill law, ac ar y llaw arall, mwy o ddyletswyddau a chyfrifoldebau. Felly, i bob pwrpas, mae'r Llywodraeth hon yn gofyn i CNC wneud mwy gyda llai.
Roeddent eisoes wedi cael toriad mewn termau real yn eu cyllideb ar gyfer eleni, a bellach, maent yn wynebu toriad pellach, fel y gwyddoch, o £7.5 miliwn i'w cyllideb yn ystod y flwyddyn. Nawr, os ychwanegwch y miliynau o bunnoedd o golledion a ragwelir ar gyfer eu gweithgarwch pren, mae hon yn troi'n sefyllfa enbyd. Felly, yng ngoleuni eu rôl hanfodol yn amddiffyn yr amgylchedd, yn ymateb i lifogydd ac yn arwain y frwydr yn yr argyfwng hinsawdd, a wnewch chi ailystyried y toriad arfaethedig yn y gyllideb i Cyfoeth Naturiol Cymru?
Unwaith eto, rwy'n credu fy mod wedi cyfeirio at hyn yn fy atebion i'r pwyllgor, ac rydym yn gweithio'n galed iawn gyda CNC. Nid ydym eisiau bod yn y sefyllfa hon, lle rydym wedi gorfod ailosod ac addasu ein cyllideb at ddibenion gwahanol mor fuan yn y flwyddyn ariannol, ond gyda'r pandemig COVID-19, rwy’n siŵr y bydd pob Aelod yn derbyn ei bod hi'n gwbl hanfodol inni wneud hynny. Pan gyfarfûm â CNC oddeutu pythefnos neu dair wythnos yn ôl, gofynnais iddynt am eu hasesiad ynghylch cyllid nad yw’n gyllid cymorth grant, a chredaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn edrych ar y—os bydd hynny’n gostwng. Gwn eu bod yn aros am ffigurau pren mis Mehefin cyn rhoi gwybodaeth fwy cadarn inni ynglŷn â hynny.
Yr hyn sy'n bwysig iawn, yn fy marn i, yw ein bod yn gweithio gyda hwy i sicrhau bod ganddynt hyblygrwydd mewn perthynas â’u cyllidebau. Felly, dyma'r brif eitem ar yr agenda yfory. Ond ar hyn o bryd, gyda'r ffordd rydym wedi gorfod darparu arian ar gyfer yr ymateb i bandemig COVID-19, mae arnaf ofn na allaf edrych ar y toriad hwnnw yn y gyllideb yn y ffordd y byddech yn dymuno. Ond fel rwy'n dweud, mae pob un ohonom wedi gorfod gwneud hyn, ac mae'n rhaid i bawb ddeall, gyda phandemig COVID-19, na fydd yr un lefel o gyllid ar gael ag y byddai wedi bod ar gael.
Rwy'n deall y pwynt a wnewch, ond wrth gwrs, rydym yn wynebu mwy nag un argyfwng ar hyn o bryd, a chredaf fod angen cofio hynny hefyd.
Mae yna un mater arall buaswn i'n hoffi ei godi gyda chi, os caf i, Weinidog, a hynny yw, wrth gwrs, y clwstwr o achosion COVID-19 rŷn ni wedi'i weld mewn ffatrïoedd prosesu cig yng Nghymru, a hynny'n adlewyrchu, wrth gwrs, yr hyn rŷn ni'n ei weld mewn gwledydd eraill fel yr Unol Daleithiau a'r Almaen ac yn y blaen. A'r hyn dwi eisiau gwybod yw beth ŷch chi fel Gweinidog a beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ymateb yn rhagweithiol i'r sefyllfaoedd yma. Hynny yw, yn lle aros i achosion ymddangos, oni ddylid bod yn datblygu nawr rhaglen brofi wedi'i thargedu'n benodol ar ffatrïoedd prosesu fel hyn er mwyn, wrth gwrs, inni allu dal yr achosion yma yn gynnar a wedyn lleihau'r risg bod hynny wedyn yn lledu i'r gymuned?
Diolch. Gofynnais i fy swyddogion wneud gwaith cyflym ar hyn. Rydym wedi’i alw'n asesiad risg cychwynnol o ddwysedd ac amgylchedd, nid yn unig ar gyfer safleoedd prosesu cig a lladd-dai, ond hefyd ar gyfer ein holl fusnesau bwyd. Mae'r gwaith hwnnw'n mynd rhagddo'n dda—rwy’n disgwyl adroddiad cychwynnol erbyn diwedd y dydd heddiw—gan y credaf ei bod yn bwysig ein bod yn edrych ar yr hyn sydd wedi digwydd yn rhyngwladol. Fe sonioch chi am America a'r Almaen, sydd wedi cael achosion a chlystyrau tebyg. Mae'n bwysig iawn ein bod yn dysgu gwersi. Mae hefyd yn bwysig ein bod yn dysgu gwersi o'n safleoedd prosesu cig ein hunain. Felly, os ydych yn meddwl am—wel, am bob un ohonynt yn ôl pob tebyg, mae ganddynt chwaer-gwmnïau mewn gwledydd eraill. Gwn eu bod hwy—felly, Kepak, 2 Sisters, Dunbia—i gyd yn edrych ar eu sefydliadau eu hunain ac yn darparu gwybodaeth i fy swyddogion ar hyn. Felly, mae hwn yn waith sy’n cael ei wneud yn gyflym, fel rwy'n dweud, a byddaf yn cael yr adroddiad heddiw, gan y credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn parhau i weithio'n agos iawn gyda'n gilydd.
Felly, yn amlwg, rwyf wedi bod yn cael trafodaethau gyda'r Gweinidog iechyd. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn chwarae rhan fawr hefyd wrth gwrs, a'r awdurdodau lleol a'r byrddau iechyd, ac rwy'n credu bod ein cynllun profi, olrhain, diogelu, wedi cael ei brofi’n drylwyr ac mae'n llwyddo. Ond yn amlwg, mae angen i ni gadw llygad barcud ar hyn.
Llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies.
Diolch, Lywydd. Weinidog, os caf sôn am y pwynt a godwyd gennych mewn ymateb i gwestiwn diwethaf Llyr, a fyddwch yn sicrhau bod yr adroddiad hwnnw ar gael i'r Aelodau ei weld? Oherwydd credaf fod cryn dipyn o ddiddordeb cyhoeddus yn hyn ar yr adeg hon, a byddai'n bwysig deall pa gasgliadau y daethpwyd iddynt yn yr adroddiad a gomisiynwyd gennych. Ac yn ail, yn yr adroddiad hwnnw, a fydd yn nodi unrhyw fannau problemus ar y safle? Oherwydd fel rhywun sy'n gyfarwydd â safleoedd sy'n prosesu bwyd yn y ffordd hon, yn aml iawn, mae'r amodau oer yn y gaeaf yn aml i'w cael ar yr ochr brosesu, yn hytrach na’r llociau neu’r lladd-dy. Felly, a yw'r lefel honno o waith rydych yn ei wneud, neu'n wir, y mae’r Gweinidog iechyd yn ei wneud, yn benodol ar gyfer ceisio dod o hyd i'r rhan o'r safle sy'n agored i feirws COVID-19? Ond yn bwysicach fyth, a fydd yr adroddiad cyffredinol ar gael i'r Aelodau ei weld?
Yr asesiad hwn y gofynnais i swyddogion—yn fy is-adran fwyd—edrych arno, ac rydym yn ei wneud yn agos iawn gydag Arloesi Bwyd Cymru—. Mae'r Athro David Lloyd a Martin Jardine—fe fyddwch yn ymwybodol iawn o'r ddau ohonynt—yn arwain ar y gwaith hwn. A chan fy mod am iddo gael ei gwblhau’n gyflym iawn, roedd yn bwysig iawn inni ofyn am gymorth.
A fyddaf yn ei gyhoeddi? Mae yno i'n helpu fel Gweinidogion a Llywodraeth Cymru i ddarparu canllawiau i'r cwmnïau hyn. Nid wyf yn gwybod beth sydd—. Pe bai unrhyw beth i ddweud na allaf ei gyhoeddi—ond fel y gwyddoch, rwy'n Weinidog tryloyw iawn, ac os gallaf ei wneud yn gyhoeddus, rwy’n fwy na pharod i wneud hynny. Credaf ei bod yn bwysig iawn fod—y pwyntiau a godwch. Felly, gwyddom y gall y feirws fyw’n llawer hwy ar ddur gwrthstaen oer, er enghraifft, nag y gall yn yr awyr agored. Felly, yn amlwg, i'r rheini ohonom sydd wedi bod yn y mathau hynny o sefydliadau a lleoedd, gwyddom eu bod yn oer iawn. Yr wythnos diwethaf, dywedwyd wrthym y gall sŵn gael effaith. Felly, unwaith eto, mae rhai o'r lleoedd hyn yn swnllyd iawn, felly gallai hynny fod yn cael effaith hefyd.
Yn amlwg, mae'r pellter 2m, mewn rhai mannau—rydym wedi gweld llinellau cynhyrchu—yn anodd iawn, a gwn fod cwmnïau wedi bod yn drylwyr iawn wrth geisio cadw at hynny, ond yn amlwg, mae llawer o faterion yn codi, a’r syniad wrth gael yr adolygiad cyflym hwn oedd gweld beth oedd yno a beth y gallem gynorthwyo gydag ef, a soniais yn fy ateb i Llyr fod llawer o arferion gorau, ac wrth gwrs, mae cwmnïau a sefydliadau’n gystadleuol, ond gwn fod pawb yn awyddus iawn i rannu’r arferion gorau hynny.
Wel, rwy’n gwerthfawrogi eich tryloywder, Weinidog, a hoffwn eich annog i sicrhau bod yr adroddiad hwnnw ar gael os nad oes unrhyw beth yn eich rhwystro rhag gwneud hynny. Efallai y bydd rhai cyfyngiadau cyfreithiol nad wyf yn ymwybodol ohonynt, ond pe gellid sicrhau ei fod ar gael, credaf y byddai'n cael ei werthfawrogi.
Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon becyn cymorth gwerth £25 miliwn i amaethyddiaeth mewn perthynas ag argyfwng COVID-19. Mae Llywodraeth Gweriniaeth Iwerddon wedi rhoi pecyn cymorth gwerth £45 miliwn ar waith ar gyfer y diwydiant amaeth. A ydych wedi cael trafodaethau gyda'r Gweinidog cyllid, o ystyried y cyllid canlyniadol sydd wedi’i ddarparu a'r mesurau cadernid economaidd ychwanegol sydd wedi bod ar gael i sectorau eraill yn economi Cymru—a ydych wedi cael sgwrs gyda'r Gweinidog cyllid i weld a ellir rhoi lefel debyg o gefnogaeth ar waith i gefnogi'r diwydiant amaeth, sydd mewn rhai amgylchiadau wedi profi gostyngiadau yn y prisiau o 15 i 20 y cant o ran maint yr elw y gallant ei wneud wrth werthu eu cynnyrch, ac i mewn i sector sydd wedi cau'n llwyr yn aml iawn, megis y sector gwasanaeth?
Mae'n ddrwg gennyf. Rhewodd fy nghyfrifiadur am ychydig, ond rwy'n credu fy mod wedi deall byrdwn eich cwestiwn, Andrew. Rwy'n cael llawer o sgyrsiau gyda'r Gweinidog cyllid, fel y byddwch yn deall, rwy’n siŵr, ynglŷn â gwahanol agweddau ar fy mhortffolio. Dywedais yn glir iawn ar y dechrau y byddem yn ystyried pob achos yn unigol pe bai unrhyw rannau o'r sector amaethyddol yn dod ataf am gyllid, ac roedd hynny'n amlwg—. Y sector llaeth a ddaeth yn gyntaf. Felly, roedd y ffaith bod y cyllid gennym i gael cynllun ar gyfer y sector llaeth yn ganlyniad i lawer o sgyrsiau gyda’r Gweinidog cyllid a chyd-Weinidogion eraill, ac roedd hynny, yn amlwg, oherwydd amgylchiadau penodol y farchnad mewn perthynas â chynnyrch llaeth, nad wyf yn credu eu bod yn bodoli mewn rhannau eraill o'r sector amaethyddol ar hyn o bryd.
Felly, nid oes gennyf gyllid ar gael i wneud yr hyn rydych newydd ddweud bod Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon wedi'i wneud, ond yn amlwg, byddem yn edrych arno ar sail achosion unigol. Rwy'n cyfarfod bob pythefnos gydag undebau'r ffermwyr yn awr a gwn mai hwy fydd y cyntaf i ddweud wrthyf os ydynt yn teimlo bod yna faes amaethyddol y dylem fod yn edrych arno.
Credaf fy mod wedi deall o'ch ateb, Weinidog, nad ydych wedi gwneud cais o'r fath i'r Gweinidog cyllid. Gydag arian o'r fath yn mynd i'n cystadleuwyr yng Ngogledd Iwerddon a'r Weriniaeth, hoffwn nodi y bydd hyn yn y tymor canolig i'r tymor hir yn rhoi’r sector amaethyddol o dan anfantais ddifrifol.
Yr wythnos diwethaf, fe wnaethoch gyhoeddi ymgynghoriad ar werthu cŵn bach gan drydydd parti, ac yn amlwg, mae'r ymgyrch mewn perthynas â chyfraith Lucy wedi ysgogi llawer o Aelodau ar draws y Siambr o bob plaid wleidyddol. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae disgwyl i'r ymgynghoriad hwnnw ddod i ben ganol mis Awst. Os cewch gyfle yn yr amserlen ddeddfwriaethol, pryd y disgwyliwch iddo gael ei gyflwyno i’r Cynulliad fel y gallwn drafod sut y gellir bwrw ymlaen â'r mater? Oherwydd, gyda’r diddymu ar 31 Mawrth, mae pwysau enfawr i geisio cael hyn ar y llyfr statud cyn y dyddiad hwnnw wrth gwrs. A allwch roi hyder inni y byddwch chi, fel Gweinidog, yn sicrhau y bydd hyn ar y llyfr statud erbyn y diddymu ar 31 Mawrth?
Yn sicr, dyna fy mwriad, ac roeddwn yn ddiolchgar i'r Aelod a holl aelodau’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig am eu hymrwymiad i fy helpu i wneud hynny. Rwyf wedi cynnal yr ymgynghoriad byrraf y gallwn ei gynnal. Rydym wedi cynnal ymgynghoriadau o'r blaen, ond yn amlwg, mae'n rhaid i ni fynd drwy'r broses. Ond rwy'n sicr yn gobeithio y byddaf mewn sefyllfa yn gynnar yn 2021 i roi hynny ar y llyfr statud.
Cwestiwn 3—Dawn Bowden.
Iawn, rwy'n credu ein bod yn gallu eich clywed yn awr.
Iawn. Diolch yn fawr, Lywydd. Roeddwn yn cael trafferth i agor fy microffon. Rwy'n ymddiheuro.
3. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith adfer o ran llifogydd ym Merthyr Tudful a Rhymni? OQ55315
Mewn ymateb i lifogydd a achoswyd gan storm Dennis, mae awdurdodau lleol wedi gwneud cryn dipyn o waith ledled Merthyr Tudful a Rhymni i asesu'r difrod a achoswyd ac i atgyweirio asedau lliniaru llifogydd. Mae archwiliadau a gwaith cynnal a chadw cynyddol wedi'i wneud ar asedau lliniaru llifogydd hefyd er mwyn lleihau'r risg o lifogydd yn y dyfodol.
Diolch am eich ymateb, Weinidog. Yn gyntaf, a gaf fi ymuno ag eraill drwy gydymdeimlo â’r bobl yr effeithiwyd arnynt eto gan lifogydd yn y dyddiau diwethaf? Mewn rhannau o fy etholaeth, nid llifogydd o afonydd yw’r unig broblem, ond mae'n ymwneud hefyd â gallu systemau draenio a chwlfertau lleol, sy’n dyddio o oes Fictoria i raddau helaeth, i ymdopi â'r tywydd eithafol sydd bellach yn ymddangos yn eithaf cyffredin. Fodd bynnag, rwy’n ategu'r pwynt a wnaethoch, ac rwy’n falch iawn o weld peth o'r dystiolaeth yn fy etholaeth o'r gwaith adfer ar ôl difrod y stormydd yn gynharach yn y flwyddyn. Ond ymddengys i mi fod gwir angen ôl-addasu rhai o'r hen systemau hyn, a buddsoddi o'r newydd mewn seilwaith draenio cynaliadwy. Felly, pa le pellach sydd yna i weithredu lleol wedi'i dargedu i ategu'r cynlluniau mwy sy'n cael eu hariannu ar hyn o bryd?
Diolch, Dawn Bowden, ac yn sicr, mae cryn dipyn o le i wneud hynny, a gwn fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn caffael ymgynghorwyr i ddatblygu pum cynllun, a nodwyd fel yr amddiffynfeydd rhag llifogydd sy'n wynebu'r risg fwyaf, ond maent hefyd wedi cwblhau'r gwaith o adnewyddu cwlfert toredig y gwyddys ei fod wedi arwain at lifogydd mewn 10 eiddo yn ardal Ynysowen. Felly, mae'n dda iawn gweld y math hwnnw o waith rhagweithiol gan y cyngor, ac maent hefyd wedi ymgysylltu ag ymgynghorwyr i ddechrau gwaith datblygu ar waith cyfalaf lle cafwyd llifogydd mewn 170 eiddo yn ystod storm Dennis. Ond rwy'n cytuno'n llwyr â chi, roedd y llifogydd a welsom yr wythnos diwethaf yn gwbl dorcalonnus, ac yn enwedig mewn ardal fel Pentre, nad yw yn eich etholaeth chi, rwy'n gwybod, ond fe gawsant lifogydd, a gwn fod tai yn eich etholaeth chi wedi dioddef llifogydd sawl gwaith hefyd. Felly, mae'n bwysig iawn ein bod yn parhau i gael y cynlluniau, gan fod y cyfalaf ar gael gennym ar gyfer y cynlluniau hynny, ac rwyf bellach yn ariannu'r math o waith paratoi 100 y cant, gan y credaf fod awdurdodau lleol wedi dweud wrthym y gallai hynny fod yn rhwystr, felly rydym yn ariannu'r holl waith paratoi hwnnw 100 y cant bellach, felly anogwch yr awdurdod lleol i gysylltu. Ni chredaf ein bod wedi cael unrhyw gynigion gan Ferthyr Tudful mewn perthynas â'r cymorth ariannol a gynigiwyd gennym drwy'r rhaglen rheoli perygl llifogydd, ond rwy'n dal yn agored i ystyried ceisiadau o'r fath.
4. Pa drafodaethau mae'r Gweinidog wedi eu cael gyda Llywodraeth y DU am y Bil Amaeth? OQ55321
Diolch. Rwyf wedi cael trafodaethau rheolaidd gyda Llywodraeth y DU drwy gydol datblygiad y Bil Amaethyddiaeth. Mae pwerau Gweinidogion Cymru wedi'u cynnwys ar fy nghais, ac mae swyddogion yn craffu'n ofalus ar ddarpariaethau drafft.
Diolch yn fawr iawn i chi. Roedd hi'n siomedig iawn, iawn bod Aelodau Seneddol Ceidwadol sy'n cynrychioli seddi gwledig yng Nghymru, yn cynnwys Ynys Môn, wedi pleidleisio'n ddiweddar yn erbyn gwelliant i'r Bil Amaeth oedd yn ceisio gwarchod buddiannau ffermwyr Cymru, a pwrpas y gwelliant oedd mynnu bod cynnyrch amaethyddol fyddai'n cael ei fewnforio yn y dyfodol dan gytundebau masnach post Brexit yn gorfod cadw at yr un safonau amgylcheddol a llesiant â ffermwyr yma, a heb y sicrwydd yna, mae ffermwyr a chwsmeriaid yn cael eu tanseilio. A gaf i ofyn i'r Gweinidog wthio eto, felly, am sicrwydd gan Lywodraeth Prydain y bydd yn rhaid i bob cynnyrch amaethyddol gaiff ei werthu yma gadw at safonau uchel ein ffermwyr ni? Mae'n amlwg bod Boris Johnson a'i Aelodau fo yng Nghymru yn barod i aberthu yr economi wledig, ond mae'n rhaid i ni yng Nghymru, y sector ffermwyr, yr undebau, y gwleidyddion, wneud popeth i drio gwrthsefyll hynny.
Rwy'n cytuno'n llwyr â Rhun ap Iorwerth, ac rwy'n ei sicrhau fy mod yn parhau i wthio hynny. Gwn fod fy nghyd-Weinidog, Eluned Morgan, sy'n arwain ar y polisi masnach ar ran Llywodraeth Cymru, yn gwneud yr un peth, oherwydd yn amlwg, mae hyn yn perthyn i faes y polisi masnach hefyd. Mae fy nghyfarfod pedairochrog DEFRA nesaf yr wythnos nesaf, a byddaf yn parhau—. Ac rwyf hefyd wedi ysgrifennu at George Eustace; oddeutu 12 Mehefin, rwy’n credu. Nid wyf wedi cael ymateb i'r llythyr hwnnw eto, ond byddaf yn parhau i wthio a byddaf yn ei godi yn y cyfarfod yr wythnos nesaf.
Weinidog, bydd gan Fil Amaethyddiaeth y DU sy'n mynd drwy Senedd y DU oblygiadau i ffermwyr ledled y DU wrth gwrs, a deallaf eich bod yn bwriadu cyhoeddi Papur Gwyn tuag at ddiwedd y flwyddyn a fydd yn nodi'r cyd-destun ar gyfer dyfodol ffermio yng Nghymru ac yn paratoi'r ffordd ar gyfer Bil amaethyddiaeth Cymru. A allwch roi'r newyddion diweddaraf i ni, felly, ar hynt y Papur Gwyn hwnnw, a phryd rydym yn debygol o'i weld yn cael ei gyhoeddi? Ac a allech roi'r wybodaeth ddiweddaraf hefyd am y trafodaethau rydych wedi'u cael hyd yn hyn gyda chymuned ffermio Cymru mewn perthynas â'r Papur Gwyn penodol hwnnw?
Diolch. Fel y dywedwch, rwyf wedi ymrwymo i gyhoeddi Papur Gwyn erbyn diwedd y flwyddyn. Cafodd y gwaith ei oedi, am gwpl o fisoedd yn ôl pob tebyg, ar ddechrau pandemig COVID-19, pan fu'n rhaid i swyddogion weithio ar hynny wrth gwrs, ond rydym bellach yn ôl i'n capasiti llawn mewn perthynas â’r gwaith hwnnw. Felly, fe fyddwch yn ymwybodol ein bod wedi cael dau ymgynghoriad trylwyr, sy'n amlwg wedi ein cynorthwyo i baratoi’r papur hwn. Unwaith eto, fel rhan o'r Papur Gwyn, roeddem yn edrych ar ffurf ein cynlluniau. Nid ydym wedi gallu cael yr ymweliadau wyneb yn wyneb y byddem wedi dymuno’u cael, ond yn sicr, rydym yn gallu ei wneud ar-lein. Felly, bydd y papur hwnnw'n cael ei gyhoeddi erbyn diwedd y flwyddyn. Mae'r gwaith bellach yn ôl i'r lefel roeddem ei eisiau; yn amlwg, cafwyd bwlch wrth i’r swyddogion fynd i'r afael â phandemig COVID-19. Credaf ei bod yn deg dweud ei fod yn destun sgwrs bob tro y byddaf yn cyfarfod ag undebau’r ffermwyr, a soniais mewn ateb cynharach fy mod yn cyfarfod ag undebau’r ffermwyr yn llawer amlach yn ystod y pandemig. Buom yn cyfarfod yn wythnosol am gyfnod, ond rydym bellach mewn rhythm o gyfarfod bob pythefnos, ond mae'n rhywbeth sy'n cael ei drafod bob amser. Mae hefyd yn rhywbeth sy'n cael ei drafod yn y cyfarfod bwrdd crwn ar drefniadau pontio'r UE rwy’n ei gynnal gyda rhanddeiliaid, ac unwaith eto, caiff ei drafod yn drylwyr, nid yn unig gan undebau’r ffermwyr, ond gan eraill sydd â diddordeb, gan gynnwys y sefydliadau amgylcheddol anllywodraethol.
Rwy'n cytuno â phawb—gyda Rhun yn enwedig—fod yn rhaid i'r Bil Amaethyddiaeth gynnwys gwarantau cyfreithiol na fydd safonau amgylcheddol lles anifeiliaid yn cael eu torri mewn cytundebau masnach ar ôl Brexit gyda'r UDA, nac unrhyw un arall o ran hynny.
Mae pob un ohonom wedi gweld y penawdau am gyw iâr wedi'i glorineiddio, ond mae gennym broblemau gyda ffermydd cyw iâr yng Nghymru, yn benodol ym Mhowys, gyda'r cyngor yn rhoi caniatâd i bedair fferm arall, ac yn dweud na fydd moratoriwm ar geisiadau cynllunio. Mae'n peri pryder mawr i mi mai un swyddog cynllunio yn unig, ym mis Ionawr, fydd yn penderfynu ar bob cais cynllunio sydd angen asesiad o'r effaith amgylcheddol ym Mhowys, nid pwyllgor cynllunio'r cyngor. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi mynegi pryderon eisoes am effaith amgylcheddol gronnol ffermydd cyw iâr ar goetiroedd hynafol a dŵr daear, ac rwyf wedi codi'r mater hwn sawl tro fy hun. Felly, a gaf fi ofyn i chi, Weinidog, a wnewch chi edrych ar y sefyllfa ym Mhowys ac asesu'r angen i geisiadau cynllunio ystyried y ffermydd presennol a'r baich ar yr amgylchedd lleol a'r gymuned?
Diolch, Joyce Watson. Os caf ddweud un peth am gyw iâr wedi'i glorineiddio, gan fod hyn yn rhywbeth y mae llawer o bobl wedi ysgrifennu ataf yn ei gylch. Ar hyn o bryd, mae wedi'i wahardd yn yr UE ac nid yw Llywodraeth Cymru yn derbyn y dylai'r sefyllfa honno newid. Felly, mae'n gyfle i mi ddweud hynny wrth inni ddechrau datblygu cysylltiadau masnach â gwledydd eraill y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd.
Mewn ymateb i'ch cwestiwn ynghylch ffermydd dofednod, lle mae angen caniatâd cynllunio ar gyfer siediau dofednod newydd, mae'n rhaid iddynt ystyried manteision economaidd ac effeithiau amgylcheddol y cynigion, ac mae hynny'n cynnwys effaith gronnol cynyddu nifer y datblygiadau. Rydym yn edrych ar sut y mae awdurdodau cynllunio lleol yn cynllunio ar gyfer datblygiadau dofednod newydd, ac rydym wedi cynnull gweithgor cynllunio gwlad a thref ar ffermio dwys i gynghori ar sut y dylid paratoi polisïau cynlluniau datblygu a'r ystyriaethau perthnasol sy'n gysylltiedig â phenderfynu ar geisiadau cynllunio. Nid yw'r system gynllunio'n gweithredu ar ei phen ei hun, a bydd cyfundrefnau rheoleiddiol eraill, megis trwyddedu amgylcheddol a niwsans statudol, yn rheoli effaith y datblygiadau hyn ar yr ardaloedd lleol hefyd.
5. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am bolisïau Llywodraeth Cymru ar gyfer cefnogi ffermwyr yn ystod y pandemig COVID-19? OQ55326
Diolch. Mae ein polisïau’n cynnwys y cynllun cymorth i ffermwyr godro Cymru, a agorodd yr wythnos diwethaf ac a fydd yn cefnogi’r ffermwyr sydd wedi’u taro galetaf gan COVID-19 yn sgil cau’r sectorau gwasanaeth bwyd a lletygarwch. Mae ein gwasanaeth cymorth a chyngor unigryw, Cyswllt Ffermio, wedi parhau drwy weminarau wythnosol, flogiau, podlediadau a fideogynadledda, yn ogystal ag e-byst, galwadau ffôn a negeseuon testun.
Diolch, Weinidog, ac rydych wedi achub y blaen ar fy nghwestiwn atodol, sy’n ymwneud â’r cynllun i achub ffermwyr godro a'r effaith ar ffermwyr godro ar hyn o bryd—mater byw iawn yn fy ardal i o Gymru, ac mae nifer o Aelodau wedi gofyn i chi yn ei gylch.
Fe ddywedoch—wrth ateb Angela Burns, rwy’n credu, ac Andrew R.T. Davies yn wir—y bydd yna enillwyr a chollwyr bob amser mewn cynllun, a bod adnoddau'n dynn ar hyn o bryd, ac rwy'n deall hynny’n iawn. A fyddech yn cytuno mai'r broblem gyda'r effaith ar y diwydiant llaeth yw ei bod yn ergyd ddwbl, os mynnwch, i ardaloedd gwledig? Oherwydd yn gyntaf oll wrth gwrs, mae gennych effaith y cyfyngiadau symud ar y diwydiant lletygarwch, sy'n sector allweddol o'r economi yng nghefn gwlad Cymru, wedyn mae'r sgil-effaith ar ffermwyr, nad oes ganddynt gymaint o laeth i'w werthu, yn effeithio ar yr economi wledig mewn ail don.
Felly, o ran eich cynllun i achub ffermwyr godro, beth rydych yn ei wneud i edrych ar effaith gyffredinol yr effaith ar ffermwyr godro ar gymunedau gwledig, a sut rydych yn cynorthwyo ffermwyr godro i arallgyfeirio ar yr adeg hon, fel y gallwn liniaru'r holl effaith ganlyniadol ar ein hardaloedd gwledig?
Diolch, a chredaf fy mod wedi rhoi atebion trylwyr mewn perthynas â’r cynllun cymorth i ffermwyr godro. Rwy’n falch iawn ein bod yn dosbarthu’r symiau cyntaf o arian yr wythnos hon, gan y credaf fod hynny’n bwysig iawn hefyd. Rydych yn llygad eich lle am yr ardaloedd gwledig. Fel sy'n digwydd yn aml, yr ardal wledig sy'n dioddef, ac yn amlwg, mae pandemig COVID-19 wedi cael effaith enfawr ar dwristiaeth, yn ogystal ag ar y sector amaethyddol. Felly, pan edrychwn ar adferiad—fel rydym yn ei wneud, wrth gwrs, fel Llywodraeth Cymru—credaf ei bod yn wirioneddol bwysig ein bod yn edrych ar yr effaith ar yr ardaloedd gwledig a'r hyn y gallai fod ei angen er mwyn eu cefnogi. Rwy'n ystyried cynnull—. Syniadau cynnar iawn yw’r rhain, ac nid wyf hyd yn oed wedi eu trafod â swyddogion eto, ond credaf efallai y bydd angen grŵp penodol arnom i edrych ar adferiad mewn perthynas â’n hardaloedd gwledig.
6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gamau Llywodraeth Cymru i adfer ac atal llifogydd yn Rhondda Cynon Taf? OQ55309
Diolch. Darparodd Llywodraeth Cymru gyllid brys o £3 miliwn i’n hawdurdodau rheoli perygl llifogydd erbyn dechrau mis Ebrill. Mae hyn yn cynnwys £549,500 i Rondda Cynon Taf, sef y swm llawn y gwnaethant gais amdano. Cawsant £1.7 miliwn hefyd drwy'r cynllun cymorth ariannol brys i ariannu eu hymateb cychwynnol.
Diolch am eich ateb, Weinidog, ac am eich sylwadau cynharach ar fater y llifogydd. Mae'r llifogydd pellach a gafwyd yn ddiweddar mewn rhannau o Rondda Cynon Taf ychydig wythnosau'n ôl yn rhybudd i bob un ohonom. Oni bai am yr ymateb rhagweithiol gan Rondda Cynon Taf a Dŵr Cymru, gallai pethau fod wedi bod yn llawer gwaeth mewn gwirionedd, a hyd yn oed yn fwy helaeth. Roedd y rhan fwyaf o'r llifogydd yn fy etholaeth y tro hwn o amgylch ardaloedd Nantgarw a Rhydyfelin, ac roedd yn ymwneud â materion fel draeniau wedi blocio a'u siltio, ond mae'n amlwg fod angen buddsoddiad ar frys yn ein seilwaith lleol i amddiffyn rhag llifogydd.
Nawr, bydd y Gweinidog yn ymwybodol fy mod wedi ysgrifennu ati yn gofyn am adolygiad cyffredinol o fesurau lliniaru llifogydd yn Nhaf Elái. Ond a wnewch chi gadarnhau y bydd y gwaith atal llifogydd angenrheidiol a nodwyd hyd yma yn mynd rhagddo, a hynny heb oedi? A allwch hefyd amlinellu'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd, ar y cyd â chyrff eraill, i sicrhau y byddwn wedi gwneud popeth yn ein gallu y gaeaf hwn i sicrhau na fydd y llifogydd trychinebus a darodd Bontypridd a Thaf Elái a rhannau eraill o dde Cymru yn gynharach eleni yn digwydd eto?
Diolch yn fawr, Mick. Credaf mai chi oedd y person cyntaf i fy rhybuddio am y llifogydd yr wythnos diwethaf. Fel y dywedais, rwy’n cydymdeimlo â phawb yr effeithiwyd arnynt. Rydych yn llygad eich lle: daeth yr asiantaethau at ei gilydd. Felly, roedd yr awdurdod lleol, Dŵr Cymru a CNC allan yno’n syth bin. Roeddwn yn ddiolchgar iawn fod pawb wedi ymateb yn gyflym iawn. Gwn i Rondda Cynon Taf ofyn am bympiau ar unwaith; fe gyrhaeddon nhw yno ar unwaith. Ond mae'n bwysig iawn ein bod yn edrych ar y gwersi a ddysgwyd ar ôl llifogydd mis Chwefror. Cawsom rai safbwyntiau cychwynnol. Rwyf wedi eu bwydo i'r strategaeth newydd rydym wedi'i lansio ar gyfer llifogydd ac erydu arfordirol. Ond credaf fod angen inni gael golwg—. Rwy'n ymwybodol o'ch gohebiaeth, nad wyf wedi ymateb iddi eto. Credaf ei bod yn bwysig iawn inni edrych ar yr asedau cyfredol a beth arall y gallai fod ei angen. Fel y soniais mewn ateb cynharach, mae'r cyllid cyfalaf ar gael. Rwy'n sicrhau bod Llywodraeth Cymru'n talu'n llawn am y gwaith paratoi—fod y gost honno’n cael ei thalu'n llawn—ac rwy'n fwy na pharod i weithio gyda phob awdurdod lleol i ystyried yr holl geisiadau a gyflwynir.
Credaf fod Llyr wedi sôn eisoes ein bod yn wynebu sawl argyfwng ar hyn o bryd, ac yn amlwg, yr argyfwng hinsawdd, os yw hwnnw’n dweud unrhyw beth wrthym, gwyddom ein bod ynghanol yr argyfwng hinsawdd hwnnw nawr.
Ar ôl y llifogydd ym mis Chwefror, cafodd pobl yn y Rhondda £500 gan y cyngor lleol, £500 gan Lywodraeth Cymru, a mwy os nad oedd ganddynt yswiriant, mwy os oeddent yn fusnes, a mwy fyth drwy ymdrechion lleol i godi arian. Yr hyn na chawsant oedd amddiffynfeydd i atal hyn rhag digwydd eto. Felly, a wnewch chi ymrwymo i ddarparu llifddorau i bob cartref sydd eu hangen? Ac a wnewch chi amlinellu pa gymorth ariannol a allai fod ar gael i bobl a ddioddefodd lifogydd y tro hwn? Ac yn olaf, Weinidog, a ydych yn cefnogi ymchwiliad annibynnol, dan arweiniad arbenigwyr, i'r hyn a ddigwyddodd, ac i roi argymhellion i ni ar gyfer mesurau lliniaru yn y dyfodol?
Roedd tri chwestiwn yno. Unwaith eto, mae angen inni edrych ar beth yn union yw'r asesiad, beth sydd ei angen yn ein hamddiffynfeydd rhag llifogydd. Felly, llifddorau ar gyfer pob eiddo—nid yw hynny wedi croesi fy nesg eto, ond pe bai hynny'n codi, mae'n rhywbeth y gallem ei asesu.
Fe gyfeirioch chi at y £500 gan Lywodraeth Cymru a roddwyd i breswylwyr yn ôl ym mis Chwefror, ac mae hynny'n sicr yn rhywbeth rydym yn edrych arno ar hyn o bryd, yn dilyn y llifogydd yr wythnos diwethaf.
Credaf ei bod yn bwysig inni adael i'r holl ymchwiliadau fynd rhagddynt. Gellir eu cynnal yn llawer cyflymach nag ymholiad annibynnol, a dyna rwy'n aros amdano.
Yn olaf, David Melding.
Diolch yn fawr, Lywydd. Weinidog, mae topograffi cymoedd Morgannwg a Gwent bob amser wedi golygu eu bod yn agored iawn i lifogydd, fflachlifoedd yn aml, ac mae'r system gynllunio, felly, yn bwysig tu hwnt wrth adeiladu gallu i wrthsefyll llifogydd. Nid yw rhai o'r dulliau traddodiadol a ddefnyddir mewn rhannau eraill o'r wlad, fel byndio, yn ymarferol. Mae'n rhaid i ni feddwl o ddifrif ynglŷn â sut rydym yn rheoli'r cyrsiau dŵr cyflym hyn. Hyd yma, rydym yn clywed yr un hen straeon unwaith eto am gwlfertau’n blocio a gweddillion mewn cyrsiau afonydd. Mae’n rhaid edrych ar hyn yn gyson a'i drin a'i gynnal.
Diolch. Mae'n debyg y dylwn fod wedi dweud ar ryw bwynt, mewn perthynas â llifogydd yr wythnos diwethaf, nad oedd yr adroddiadau cychwynnol a gefais yn nodi bod cwlfertau wedi'u blocio; trymder y glaw yn unig a nodwyd. Roedd yn lawiad enfawr mewn cyfnod byr iawn—21mm o fewn tua 20 munud, rwy’n credu. Felly, credaf fod yr adroddiadau cychwynnol—. Ond yn amlwg, mae angen inni weld a oedd cwlfertau wedi'u blocio ar yr achlysur hwn hefyd.
Credaf fod angen inni edrych ar gynlluniau rheoli llifogydd naturiol, gan y gallai hynny helpu i liniaru dŵr ffo cyflym mewn ardaloedd trefol. Felly, unwaith eto, rydym yn darparu cyllid 100 y cant ar gyfer y gwaith paratoi hwnnw. Ond mae hwn yn faes y mae Llywodraeth Cymru wedi canolbwyntio'n fanwl iawn arno, ac mae cryn dipyn o arian wedi’i ddarparu ar gyfer cynlluniau lliniaru llifogydd dros dymor y Llywodraeth hon.
Diolch i'r Gweinidog. Fe wnawn ni dorri i ginio nawr.
Fe wnawn ni ailymgynnull am 2 o'r gloch—egwyl ginio fyrrach na'r un a ragwelwyd oherwydd fy haelioni yn galw ar gymaint â phosibl ohonoch chi, fel Aelodau. Felly, fe wnawn ni ailymgynnull am 2 p.m.
Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 13:19.
Ailymgynullodd y Senedd am 14:00, gyda'r Dirprwy Lywydd (Ann Jones) yn y Gadair.
Croeso nôl i'r Cyfarfod Llawn.
Rydym yn parhau â'n hagenda ar gyfer eitem 4, sef cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol. Cwestiwn 1 yw Helen Mary Jones.
1. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gydag awdurdodau lleol am y rôl y gallant ei chwarae i fynd i'r afael â thlodi plant ar ôl yr argyfwng COVID-19? OQ55324
Diolch am y cwestiwn, Helen Mary. Rwyf wedi gweithio'n agos iawn gydag awdurdodau lleol drwy gydol yr argyfwng. Maent wedi chwarae rhan ganolog yn y gwaith o ddiwallu anghenion hanfodol plant, pobl ifanc a'u teuluoedd. Byddwn yn parhau i gydweithio dros y misoedd nesaf er mwyn sicrhau bod trechu tlodi plant yn rhan annatod o'r broses o gynllunio adferiad Cymru gyfan.
Diolch i chi am eich ateb, Weinidog. Rwy'n siŵr y byddech yn cytuno bod llawer o ffactorau yn yr argyfwng sydd, mewn gwirionedd, mewn perygl o waethygu'r hyn sydd eisoes yn argyfwng tlodi plant difrifol iawn yma yng Nghymru, ac roedd hynny'n wir cyn COVID, ac mae'r rheini'n cynnwys pethau fel problemau o ran cael gafael ar ofal plant pan na fydd menywod yn gallu dychwelyd i'r gwaith o bosibl os nad yw ysgolion ar agor ar sail amser llawn—popeth o hynny i blant sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol rhag addysg o bell. A gaf fi ofyn i chi heddiw, Weinidog, i barhau i weithio gydag awdurdodau lleol ac i ail-bwysleisio iddynt y dylent roi trechu tlodi plant a chodi plant allan o dlodi wrth wraidd eu hagendâu wrth iddynt ddechrau cynllunio ar gyfer adeiladu nôl yn well ar ôl yr argyfwng COVID?
Ie, diolch, Helen Mary. Rwy'n hapus iawn i gadarnhau ein bod yn gwneud hynny; rwy'n hapus i wneud hynny eto. Fel rhan o gynlluniau canolog y Llywodraeth, rydym yn chwilio am adferiad sy'n seiliedig ar werthoedd ac sy'n gwneud yn siŵr nad yw'r rhai sy'n cael eu taro galetaf gan gyni ac argyfyngau blaenorol yn cael eu taro am yr eildro, os mynnwch, gan yr argyfwng hwn. Felly, rydym yn ymwybodol iawn o hynny. Rydym wedi bod yn gwneud nifer o bethau i sicrhau bod pobl yn cael eu diogelu cymaint ag y gallwn. Felly, rydym wedi ychwanegu £11 miliwn at y gronfa cymorth dewisol, fel y gall gefnogi galwadau am gymorth ariannol gan bobl ledled Cymru yn ystod y pandemig. Rydym wedi cefnogi mudiadau trydydd sector yr effeithiwyd arnynt gan yr argyfwng gyda chronfa gwerth £24 miliwn i alluogi mudiadau gwirfoddol i barhau ac ehangu eu gwaith yn ystod yr argyfwng—sy'n bwysig iawn yn ôl rhai o'r pethau y gwn eich bod wedi bod yn gweithio arnynt drwy gydol y cyfnod hwn.
Fis diwethaf, cyfarfûm â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a'r comisiynydd plant i drafod gwella canlyniadau i blant sy'n byw mewn tlodi, gan edrych ar beth yn rhagor y gellid ei ddysgu am yr hyn sy'n gweithio'n dda ac ystyried cyfleoedd i rannu arferion da ar draws awdurdodau lleol.
Hoffwn ddweud mai un o fanteision bach yr argyfwng fu'r gallu i weithio ar wahanol lwyfannau digidol gydag arweinwyr ar draws llywodraeth leol. Mae hynny wedi dod â ni at ein gilydd mewn ffordd nad ydym wedi ei wneud o'r blaen o bosibl. Felly, rydym wedi cael cyswllt llawer gwell a mwy cynhwysfawr. Rwy'n gobeithio'n fawr y gallwn ledaenu arferion da yn y ffordd honno, gan weithio gyda'n gilydd yn agos fel tîm yn y dyfodol. Felly, rwy'n hapus iawn gydag awdurdodau lleol, yn y ffordd rydym wedi gweithio gyda'n gilydd. Mae'n teimlo, rwy'n credu, iddynt hwy ac i mi, yn fwy fel tîm nag o'r blaen.
Yn amlwg mae gennym ymrwymiad £40 miliwn i sicrhau bod disgyblion yn cael prydau ysgol am ddim a'u bod yn cael eu bwydo nid yn unig yn ystod y tymor, ond drwy gydol gwyliau'r haf. Rwy'n falch iawn ein bod wedi gwneud hynny; nid oedd angen i bêl-droediwr ddweud wrthym wneud hynny, er fy mod yn falch iawn ei fod wedi llwyddo i sicrhau hynny i blant ledled Lloegr hefyd. Mae'n bwynt pwysig iawn mewn perthynas â threchu tlodi plant.
Rwyf hefyd eisiau sôn am y ffaith ein bod yn parhau i fynd i'r afael â thlodi mislif, ac rydym yn gweithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i sicrhau y gall awdurdodau lleol reoli'r gwaith o ddosbarthu nwyddau ochr yn ochr â phrydau ysgol am ddim. Felly, mae hynny'n bwysig iawn ac yn fy marn i, mae'n cael ei anwybyddu weithiau fel rhan o'r hyn y gall profiad o dlodi ei olygu, yn enwedig os ydych yn fenyw ifanc yn yr ysgol.
Diolch. Rhianon Passmore.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Weinidog, mae dadansoddiad a gyhoeddwyd gan y gynghrair Dileu Tlodi Plant yn gynharach yn y pandemig hwn wedi dangos, ar draws Cymru gyfan—gan adrodd rhwng 2015 a 2019—fod tlodi plant wedi gostwng ychydig bach. Yn ystod y pandemig hwn, mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb i'r argyfwng gyda buddsoddiad ychwanegol a sylweddol iawn i gronfa cymorth dewisol ar gyfer Cymru'n unig, cronfa rydych newydd ei chrybwyll, sy'n rhoi cymorth i'r rhai sy'n wynebu argyfwng ariannol enbyd, yn ogystal â chaniatáu mwy o hyblygrwydd i'r rhai sy'n defnyddio'r gronfa cymorth dewisol, ac yn ychwanegol at y cyhoeddiad am y gronfa galedi leol, ac yn amlwg, y gronfa fawr a phwysig, cronfa cadernid economaidd Cymru.
Weinidog, gan ein bod yn gwybod, mewn economi gyfalafol, fod yr incwm a enillir, ynghyd â lefelau budd-dal lles y DU i deuluoedd, sydd bellach wedi'u torri, yn dylanwadu'n drwm ar dlodi plant, pa gymorth y mae ein partneriaid mewn llywodraeth leol wedi gofyn amdano, a pha gymorth ychwanegol y gall Llywodraeth Lafur Cymru ei roi i rwystro ac atal melltith tlodi plant?
Ie, Rhianon, rydych yn disgrifio gwir felltith tlodi ym mywyd person ifanc, ac ymhell cyn yr argyfwng hwn, yn y misoedd yn arwain at yr argyfwng mewn gwirionedd—er nad oeddem yn gwybod eu bod yn arwain at yr argyfwng ar y pryd—comisiynais adolygiad i archwilio beth arall y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud i leihau costau a hybu incwm i deuluoedd ledled Cymru. Roedd yr adolygiad hefyd yn edrych ar fuddsoddi mewn rhaglenni a gwasanaethau sy'n trechu tlodi plant a phobl ifanc, er mwyn sicrhau eu bod, cyn belled ag y bo modd, yn gwella'r canlyniadau i bobl sy'n byw mewn tlodi. Yn anffodus, mae effaith y pandemig coronafeirws ar lefelau tlodi, gan gynnwys tlodi plant, yn y tymor byr i ganolig, yn debygol o fod yn sylweddol. Yn erbyn y cefndir hwnnw ac ar y cyd â chynlluniau adfer yr aethpwyd ati i nodi'r argymhellion yn sgil yr adolygiad a'u trafod gan y Cabinet wedyn. Bydd manylion y camau y cytunwyd arnynt, ynghyd â chanfyddiadau allweddol yr adolygiad, yn cael eu cyhoeddi cyn diwedd mis Gorffennaf.
Mae awdurdodau lleol o bob cwr o Gymru wedi cyfrannu tystiolaeth werthfawr i'r adolygiad hwnnw drwy amrywiaeth o weithgareddau ymgysylltu, ac mae'n amlwg eu bod yn bartner allweddol wrth inni ddechrau gweithredu'r argymhellion. Mae'r rhain yn cynnwys camau ymarferol y gallwn eu cymryd i gynyddu incwm a lleihau costau byw hanfodol i deuluoedd sy'n byw mewn tlodi ledled Cymru.
2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddefnyddio rheoliadau cynllunio er mwyn cynorthwyo busnesau i ddod allan o'r cyfnod cloi presennol? OQ55319
Llyr, rwy'n credu fy mod wedi deall byrdwn y cwestiwn, ond nid oedd fy nghyfieithiad yn gweithio, felly rwyf am wneud fy ngorau, ond rwy'n gobeithio y bydd yn gweithio erbyn eich cwestiwn atodol.
Felly, diolch am y cwestiwn. Ein blaenoriaeth yw cael awdurdodau cynllunio lleol i weithio eto, fel y gall busnesau sicrhau bod unrhyw gynigion datblygu sydd angen caniatâd cynllunio yn gallu symud ymlaen drwy'r system gynllunio. I gynorthwyo gyda hyn, gwnaed rheoliadau ar 19 Mai i alluogi datblygwyr i fwrw ymlaen â cheisiadau cynllunio ar gyfer datblygiadau mawr.
Wel, diolch i chi am eich ateb. Dwi'n gobeithio bod yr offer cyfieithu'n gweithio erbyn hyn. Dŷn ni i gyd yn ymwybodol—. Na, dydy e ddim.
Mae'n ddrwg gennyf, Llyr. Nid wyf yn cael unrhyw gyfieithiad.
Ie, mae'n ddrwg gennyf.
Rydym yn ymwybodol iawn fod gofynion cadw pellter cymdeithasol, boed yn 2m neu'n 1m, yn achosi cryn dipyn o broblemau i lawer o fusnesau sydd naill ai wedi ailagor neu, wrth gwrs, yn gobeithio ailagor yn fuan. Nawr, rwy'n siŵr ein bod i gyd yn gwybod am enghreifftiau lle gellid gwneud defnydd o balmentydd llydan y tu allan i gaffis a siopau coffi. Ceir mannau parcio y gellid eu defnyddio i flaenoriaethu anghenion y busnesau hynny dros draffig, a cheir sgwariau trefi a phentrefi y gallai caffis a siopau coffi wneud defnydd ohonynt yn ystod y dydd ac o bosibl wedyn, gallai bwytai, a thafarndai pan ddaw'r amser, wneud defnydd ohonynt gyda'r nos. Felly, hoffwn ddeall, mewn gwirionedd, beth rydych chi'n ei wneud o ran gweithio gydag awdurdodau lleol nid yn unig i sicrhau eu bod yn gallu bod mor greadigol ac mor hyblyg â phosibl wrth ganiatáu peth o hyn i ddigwydd, ond i'w hannog, mewn gwirionedd, yn rhagweithiol, i wneud yn siŵr ei fod yn digwydd.
Cwestiwn da iawn. Rydym wedi bod yn gwrando ar fusnesau, a chyhoeddais ganllawiau ganol mis Mawrth mewn ymateb i bryderon a fynegwyd bryd hynny gan y sector bwyd a diod a oedd yn gofyn am hyblygrwydd o ran amseroedd darparu ac oriau agor. Pan fu'n rhaid cau bwytai, tafarndai a chaffis, roeddem yn ffodus fod rheoliadau cynllunio yng Nghymru eisoes yn caniatáu i fusnesau weithredu fel siopau cludfwyd os oeddent yn dymuno, felly nid oedd yn rhaid inni fynd ati'n rhagweithiol i wneud hynny; roedd hynny eisoes yn cael ei ganiatáu.
Mae rhan o'r hyn rydych newydd ei drafod yn ymwneud â rheoliadau trwyddedu yn hytrach na rheoliadau cynllunio, ond rydym yn gweithio'n galed iawn gyda'r awdurdodau lleol—mae fy nghyd-Aelod, Hannah Blythyn, wedi bod yn gweithio'n galed iawn mewn perthynas â chanol trefi, yn arbennig—i ddeall yr hyn sydd ei angen, ochr yn ochr â'r awdurdodau lleol. Rydym newydd gyhoeddi canllawiau ar gyfer mannau cyhoeddus mwy diogel, sy'n amlinellu sut y gall tafarndai, bwytai, caffis a mannau eraill, ddefnyddio mannau awyr agored mewn ffordd dda, tra'n sicrhau bod yr holl ffactorau anabledd a chydraddoldeb yn cael eu hystyried, oherwydd, yn amlwg, os oes gennych nam ar eich golwg neu os ydych yn dibynnu'n helaeth ar arwyddion eraill, mae'n bwysig gwneud yn siŵr nad yw'n cael ei rwystro a bod gan bobl lwybrau clir ac ati.
Rydym wedi bod yn gweithio'n galed iawn gyda'r diwydiant, ac amrywiol gynrychiolwyr y diwydiant, a chydag awdurdodau lleol i wneud y gorau o hynny, ac rydym yn edrych i weld pa gyfuniad o reoliadau cenedlaethol a lleol y mae angen i ni eu rhoi ar waith i alluogi hynny, ar sail dros dro ac ar gyfer ffactorau'n ymwneud â gwyrddu ar sail fwy parhaol yn ein trefi a'n dinasoedd wrth i ni gefnu ar yr argyfwng hwn gyda'n gilydd.
Hoffwn roi gwybod i bawb fod y cysylltiad cyfieithu wedi methu, felly rydym yn archwilio'r trefniadau wrth gefn. Felly, nid wyf yn credu bod gennym gyfieithiad am y tro. Huw Irranca-Davies.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ychwanegu at yr hyn roedd Llyr yn ei ddweud? Mae'n wych gweld bod rhai o'r siopau ym Mhen-coed, Pontycymer a Maesteg wedi ailagor yn ofalus dros yr ychydig ddyddiau diwethaf, a bod pobl yn dod allan yn ofalus i wario arian ar ein strydoedd mawr lleol. Ond mae'r palmentydd gorlawn yn broblem wirioneddol, ac rwy'n meddwl pa drafodaethau rydych chi a'r Dirprwy Weinidog yn eu cael, nid yn unig gydag awdurdodau lleol, ond gyda chynghorau tref a chymuned—mawr a bach—oherwydd yn aml iawn hwy sydd yn y sefyllfa orau i ddeall yr amgylchedd lleol. Nawr, gallent fwydo i mewn i'r gwaith sy'n cael ei wneud gan awdurdodau lleol i ailadeiladu mewn ffordd wahanol tuag at y normal newydd yn ein canolfannau a rhoi busnesau hyfyw—a lleihau'r risg o ledaenu'r feirws hefyd.
Ie, rwy'n cytuno'n llwyr â chi, Huw. Rwyf fi a Hannah wedi bod yn gweithio'n galed iawn gyda'r diwydiant, gydag awdurdodau lleol a chynghorau tref a chymuned a chyda rhanddeiliaid eraill yn y diwydiant bwyd a diod, ac mewn perthynas ag adfywio, i ddod â nifer o elfennau at ei gilydd i sicrhau 'normal' gwell pan ddown allan o'r pandemig yn y pen draw. Rydym yn ceisio cyflawni nifer o bethau. Mae'n amlwg ein bod eisiau i'n diwydiant lletygarwch allu gweithredu mewn ffordd ddiogel sy'n caniatáu iddynt gyflawni eu busnes, a ffordd sy'n caniatáu i bawb ohonom mewn gwirionedd fynd allan a gweld ein ffrindiau a'n teuluoedd mewn lleoliad hwyliog tra'n sicrhau ein bod i gyd yn aros yn ddiogel.
Ond roedd rhai agweddau ar adfywio canol ein trefi a'n trefi marchnad bach a phentrefi bach yn anodd eisoes, ac mae'n ymwneud â dod â'r pethau hynny at ei gilydd. Felly, mae fy nghyd-Aelod, Hannah Blythyn, yn arwain ar hynny, ond rydym wedi bod yn gweithio'n galed iawn ar draws nifer o sectorau a chyda nifer o randdeiliaid i wneud hynny. Ar hyn o bryd, mae'n cymryd rhan mewn adolygiad cyflym o hynny, o bopeth sy'n dod â hynny at ei gilydd. Rwy'n siŵr y bydd yn fwy na pharod i ateb cwestiynau ar hynny rywbryd eto. Mae wedi bod yn gweithio'n galed iawn arno.
Prynhawn da, Weinidog. Fe fyddwch yn ymwybodol fod gofyn i lawer o ddatblygiadau sydd wedi cael caniatâd cynllunio ddechrau o fewn amserlen benodol oherwydd amodau penodol y caniatâd neu drwy amodau cyffredinol. Fel arfer mae ganddynt nifer o flynyddoedd cyn bod yn rhaid iddynt ddechrau. Ac fe fyddwch yn gwybod os na fydd y gwaith yn dechrau, y bydd y caniatâd yn darfod. Mae gwneud cais am ganiatâd cynllunio o'r newydd yn gostus ac yn cymryd amser. Un opsiwn i ddatrys y broblem hon fyddai i Lywodraeth Cymru gyflwyno hawl datblygu a ganiateir newydd er mwyn gallu cario caniatâd cynllunio ymlaen am gyfnod penodol. Credaf ei fod o fewn y cymhwysedd, ac roeddwn yn meddwl tybed a wnewch chi adolygu'r mater hwn, oherwydd mae'n arbennig o bwysig cadw datblygiadau tai ar y trywydd cywir. Nid wyf yn credu bod y mater hwn wedi ei gynnwys yn eich llythyr dyddiedig 27 Mawrth at awdurdodau lleol, nac yn y canllawiau i awdurdodau cynllunio—nid yn ôl yr hyn rwy'n ei ddeall, beth bynnag.
Na, nid wyf yn credu hynny, ond rydym wedi bod yn gweithio'n galed iawn gydag awdurdodau lleol i ddeall sut y gallai hynny edrych, a faint o gynlluniau a allai gael eu cynnwys yn hynny. Nid ydym eisiau hawl datblygu a ganiateir cyffredinol ar draws Cymru ar gyfer mathau penodol o ddatblygiad, ond yn hytrach rydym eisiau gweithio gydag awdurdodau lleol a'u cynlluniau datblygu lleol ar safleoedd tai a nodwyd i weld pa hawliau datblygu sydd angen eu rhoi ar waith, naill ai er mwyn cadw caniatâd cynllunio neu i'w gyflwyno'n gyflym, oherwydd fel y gwyddoch, rydym yn awyddus iawn i gael adferiad wedi'i arwain gan dai gwyrdd yn hynny o beth.
Felly, rydym yn gweithio'n galed iawn gyda hwy, ond ar sail materion sy'n ymwneud â safleoedd penodol yn hytrach nag yn gyffredinol ledled Cymru, oherwydd mae'n gwbl amhosibl rheoli hynny. Felly, oes, mae gennym nifer o gronfeydd a safleoedd rydym yn edrych arnynt, a phan fyddwn wedi cwblhau yr hyn rydym yn ei wneud, byddwn yn barod i gyhoeddi datganiad ac yna byddaf yn hapus iawn i rannu. Ond mewn gwirionedd, Angela, os oes gennych unrhyw safleoedd penodol dan sylw, mae gennym ddiddordeb mawr mewn edrych arnynt, felly os ydych am roi gwybod i mi beth ydynt, byddwn yn hapus iawn i rannu hynny gyda chi.
Diolch. Trown yn awr at gwestiynau'r llefarwyr, a Mark Isherwood yw'r cyntaf y prynhawn yma.
Diolch. Ddydd Sul diwethaf, derbyniodd pob Aelod o'r Senedd e-bost gan un o drigolion Sir y Fflint yr oedd ei gŵyn yn erbyn cyngor Sir y Fflint ynghylch datblygiad yn Sir y Fflint wedi cael ei chadarnhau gan ombwdsmon Cymru, ond dywedodd fod angen cynnal ymchwiliad i'r broses o gymeradwyo'r datblygiad hwn, a bod yn rhaid dwyn y swyddogion dan sylw i gyfrif. Rwyf wedi derbyn nifer o gwynion tebyg ynghylch datblygiadau a gymeradwywyd yn Sir y Fflint.
Sut rydych chi'n ymateb felly i breswylydd arall yn Sir y Fflint a ddywedodd fod adrannau cynllunio neuadd y sir yn aml yn ei chael hi'n anodd amddiffyn y broses o bennu ffiniau blaenoriaethau rhwystr glas sy'n bodoli eisoes wrth wynebu galwadau gan hap-ddatblygwyr ystadau mawr—[Anghlywadwy.]—llu yn rhagor eto o dai preifat hawdd eu hadeiladu yn ein hardaloedd gwledig ac ar ein caeau gwerthfawr? Wrth inni golli mwy a mwy o'n tir rhwystr glas cyfyngedig, pa fesurau y gall y Gweinidog eu rhoi ar waith a fydd yn rhoi mandad brys i sicrhau bod polisi cynllunio Cymru yn cadarnhau y dylai'r holl fannau agored a'r holl rwystrau glas diffiniedig sydd eisoes yn bodoli gael eu gwarchod yn gadarn?
Diolch, Mark. Nid wyf am wneud sylw ar y mater penodol, oherwydd rydym yn gwybod ei fod yn destun cyfres o gwynion, ac yn y blaen. Felly, nid wyf am wneud sylw ar hynny am resymau amlwg. Ond o ran y sylwadau mwy cyffredinol ynghylch diogelu mannau gwyrdd ac yn y blaen, rydym yn gweithio gydag awdurdodau ledled Cymru, i roi eu hadrannau cynllunio ar waith a sicrhau ein bod yn cynnal archwiliad priodol o sgiliau ledled Cymru. Mae llawer o awdurdodau lleol wedi cael eu gorfodi oherwydd cyni i gyfyngu ar yr hyn a elwir, mewn dyfynodau, yn wasanaethau dianghenraid, er y gwelir eu bod yn hanfodol yn y pen draw wrth gwrs. Felly rydym yn awyddus iawn i gryfhau hynny ar sail ranbarthol a lleol, ac i sicrhau bod swyddogion Llywodraeth Cymru yn gallu helpu i ailsgilio, neu helpu i ddatganoli cyfrifoldeb dros brinder sgiliau i'r rhanbarthau yn y meysydd hynny.
Fe fyddwch yn gwybod bod y fersiwn ddiweddaraf o 'Polisi Cynllunio Cymru' yn rhoi pwyslais canolog ar leoedd a chymunedau, ac mae'r seilwaith gwyrdd rydych yn sôn amdano yn ganolog i hwnnw—nid y llain las yn unig, ond seilwaith gwyrdd yn ein datblygiadau cynllunio a'n trefi drwyddi draw. Felly, rwy'n hapus iawn ein bod wedi gwneud hynny ar y lefel honno. Rydym ar fin cyhoeddi'r fframwaith datblygu cenedlaethol. Mae rywfaint ar ei hôl hi oherwydd y pandemig, felly rwy'n gobeithio y caiff hwnnw ei gyhoeddi'n fuan iawn, ac yna, byddwn yn gweithio gydag awdurdodau lleol ar lunio cynlluniau strategol rhanbarthol i wneud yn union yr hyn a ddywedoch chi, sef diogelu—sicrhau bod gennym y cynlluniau cywir yn y lle cywir, y datblygiad cywir yn y lle cywir, a diogelu'r ardaloedd gwledig lle mae'r cynllun datblygu lleol a'r cynllun rhanbarthol yn nodi hynny.
Diolch. Ym mis Tachwedd 2017 ac eto ym mis Mai 2019, fe ysgrifennoch chi at gyngor Sir y Fflint yn dweud eich bod yn siomedig dros ben fod yr awdurdod hwnnw wedi cyflwyno cais pellach i ymestyn yr amser a gymer i baratoi ei gynllun datblygu lleol, yn enwedig yng ngoleuni sicrwydd blaenorol, a bod hyn yn arbennig o berthnasol gan fod yr awdurdod hwnnw'n parhau i ddioddef pwysau hapgeisiadau cynllunio yn y caeau oherwydd na fabwysiadwyd cynllun datblygu. A pho hwyaf y byddai'r sefyllfa'n parhau, byddai hynny'n achosi mwy o niwed i gymunedau lleol ac i enw da'r system gynllunio. Dyna ddiwedd eich dyfyniad.
Cyflwynodd Deddf Coronafeirws 2020 hyblygrwydd i gynghorau gyflawni eu trefniadau o ran democratiaeth a llywodraethu yn wahanol ac yn gymesur, o ystyried yr heriau a oedd yn eu hwynebu, ond fel y gwyddoch, nid lleihau llais cymunedau na gwanhau atebolrwydd a chynrychiolaeth ddemocrataidd oedd y nod. Sut, felly, y gwnewch chi sicrhau nad yw cynghorau heb gynlluniau datblygu lleol yn mynd ar drywydd defnydd heriol o'r gweithdrefnau argyfwng i sicrhau cymeradwyaeth?
Rydym wedi bod yn gweithio'n galed iawn gyda chynghorau lleol ledled Cymru, gyda chynlluniau datblygu lleol a hebddynt, yn enwedig y rhai sydd yng nghamau ffurfiannol y cynllun datblygu lleol, i sicrhau eu bod yn gyntaf oll yn gallu gweithredu o gwbl—ac mae hynny'n wir am bob awdurdod cynllunio ledled Cymru. Mae cyfres o reoliadau wedi'u sefydlu er mwyn caniatáu i bwyllgorau cynllunio allu cael cyfarfodydd rhithwir, ymweliadau rhithwir â safleoedd, a'r holl bethau hynny, gweithdrefnau hysbysu gwahanol, ac yn y blaen, ac ar lefel cynlluniau datblygu lleol, i ddeall ganddynt pa effaith roedd y pandemig yn ei gael ar yr amserlen ac i roi cynlluniau gwell ar waith i sicrhau bod hynny'n digwydd yn gynt. Mae'r gwaith hwnnw ar y gweill ac wrth i ni lacio'r cyfyngiadau symud, rydym yn gweithio gyda phob awdurdod lleol i wneud yn siŵr ein bod yn cael cynllun wedi ei adolygu a chyda'r adnoddau priodol ar gyfer cael eu cynlluniau datblygu lleol ar waith. A'r rheswm am hynny, Mark, yw'r y gwnaethoch chi dynnu sylw ato: fod awdurdodau nad oes ganddynt gynllun ar waith yn tueddu i weld hapddatblygiadau y maent yn ei chael yn anos eu hosgoi, oherwydd nad oes ganddynt gynllun wedi'i fabwysiadu. Felly rydym wedi bod yn gweithio'n galed iawn gyda hwy i wneud hynny. Nid Sir y Fflint yw'r unig awdurdod yn y sefyllfa honno, felly rydym yn gweithio gyda nifer o awdurdodau ledled Cymru i gyrraedd y pwynt hwnnw.
Ac ar yr un pryd, rydym yn eu hannog i gydweithio â phartneriaid ar draws gogledd Cymru neu'r rhanbarth penodol y mae'r awdurdod yn digwydd bod ynddo, i roi cynllun strategol ar waith, oherwydd lle bydd cynllun strategol ar waith, byddwn yn gweithio gyda hwy ar yr hyn rydym yn dechrau ei alw'n weithdrefnau 'CDLl ysgafn', fel nad ydynt yn cael eu dyblygu o'r cynllun strategol. Rydym yn gobeithio'n fawr y bydd Sir y Fflint, ynghyd â nifer o awdurdodau eraill, yn ymuno â ni ar y daith honno.
Wel, daeth rheoliadau newydd i rym yng Nghymru y mis diwethaf mewn perthynas â'r ymgynghoriad cyn ymgeisio ar gyfer datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol yn ystod y pandemig hwn. Er bod y rhain yn honni eu bod yn cyflwyno mesurau diogelwch i warantu bod y broses ddiwygiedig mor gynhwysol â phosibl, mynegwyd pryderon wrthyf y byddant yn caniatáu i ymgeiswyr gynnal ymgynghoriad rhithwir, ac o ystyried effaith bosibl datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol ar gymunedau a'r angen i'r cyhoedd ddeall agweddau technegol ar y rhain, nad yw ymgynghoriadau rhithwir yn ymgynghoriadau ystyrlon a'u bod yn groes i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Sut rydych yn ymateb felly i bryderon fod ymgeiswyr y mae eu hymgynghoriadau ffisegol wedi cael eu gohirio yn y gorffennol yn awr yn cyhoeddi ymgynghoriadau rhithwir o bell, gan osgoi'r angen am ryngweithio wyneb yn wyneb, a bod hyn yn gwahaniaethu yn erbyn pobl hŷn ac anabl nad oes ganddynt fynediad at y rhyngrwyd, neu nad ydynt yn gymwys neu'n hyderus ar y ffôn o bosibl?
Yn amlwg, mae'r rhain yn bethau y mae'n rhaid eu pwyso a'u mesur, ac felly roeddem yn ymwybodol iawn fod nifer o bethau nad oeddem yn gallu eu datblygu a oedd yn rhan annatod o ddatblygu seilwaith mewn ardaloedd penodol ac roedd angen inni eu cyflwyno. Ac ar yr un pryd, roeddem eisiau gwneud yn siŵr fod pobl yn cael y cyfle gorau i gael eu holi ac i gyflwyno eu barn ar hynny. Felly, cyflwynwyd nifer o feysydd lle gallech wneud ymgynghoriad rhithwir. Fodd bynnag, dywedasom hefyd fod yn rhaid i awdurdodau lleol hwyluso'r broses o gael cynlluniau ar bapur, a'i gwneud yn haws i bobl weld y rheini os oeddent yn dymuno.
Fi fyddai'r gyntaf i ddweud, Mark, nad yw honno'n system berffaith, ond roedd angen inni wneud rhywbeth er mwyn gallu sicrhau bod y pethau hyn yn dal i ddigwydd, ac nad oeddent wedi dod i stop yn llwyr oherwydd, fel y gwyddoch, rydym yn debygol o wynebu dirywiad economaidd ar ddiwedd y pandemig hwn, a phe baem wedi atal pob datblygiad yn llwyr yn ystod y cyfnod hwn, byddem wedi bod mewn sefyllfa waeth byth. Felly, mae'n ymwneud â cheisio sicrhau'r cyfaddawd cywir rhwng cael ymgysylltiad democrataidd â'r broses gynllunio, rhywbeth rwyf wedi ymrwymo iddo drwy gydol fy ngyrfa, nid fel Aelod o'r Senedd yn unig ond fel cyfreithiwr yn y maes hwnnw—mae'n rhywbeth rwyf wedi ymrwymo'n llwyr iddo. Felly, roedd yn ymwneud â cheisio sicrhau'r cydbwysedd cywir rhwng caniatáu iddo fynd rhagddo a pharhau i sicrhau ymgysylltiad democrataidd.
Os oes gennych unrhyw enghreifftiau penodol lle rydych yn meddwl nad yw hynny'n gweithio, neu os ydych yn credu bod pobl wedi cael eu difreinio'n benodol, rwy'n hapus iawn i edrych ar y manylion. Yn amlwg, nid wyf yn ymwybodol ohonynt ar hyn o bryd.
A llefarydd Plaid Cymru, Delyth Jewell.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Weinidog, wrth inni godi'r cyfyngiadau symud, mae perygl y gwelwn achosion lleol—
Mae'n ddrwg gennyf, Delyth, ni allaf eich clywed o gwbl.
A allwch chi fy nghlywed os wyf fi'n siarad fan hyn, Weinidog?
A ydych chi'n gwisgo'ch clustffonau?
Na. A allwch chi fy nghlywed i nawr?
Mae hynny'n well nawr, ydi.
Iawn, fe symudaf yn agosach at y—. Felly, Weinidog, wrth inni godi'r cyfyngiadau symud, mae perygl o weld achosion lleol yn dod i'r amlwg, fel sydd wedi digwydd ar Ynys Môn; efallai nad oes opsiwn heblaw gosod cyfyngiadau symud lleol. Rwyf am ofyn pa gymorth penodol rydych chi'n ei roi i Ynys Môn i'w helpu gyda'r sefyllfa bresennol y maent yn ei hwynebu ac yn fwy cyffredinol, a fydd polisi o ddarparu cymorth ychwanegol i awdurdodau lleol sy'n wynebu achosion tebyg yn y dyfodol. Os oes angen gweithredu cyfyngiadau symud lleol, gallai hynny olygu bod angen cynlluniau ffyrlo lleol a chymorth ychwanegol.
Ydym, rydym yn gweithio'n galed iawn gydag Ynys Môn. Rwyf wedi bod mewn cysylltiad â Llinos, yr arweinydd yno, sydd wedi bod yn gweithio'n galed iawn o dan amgylchiadau anodd. Siaradais â Llinos ddydd Sul, cawsom gyfarfod gyda hi fore Llun a byddaf yn cael un arall yn nes ymlaen heddiw ac un arall yfory i wneud yn siŵr fod y sefyllfa dan reolaeth, a bod yr awdurdod lleol yn cael y gefnogaeth y maent ei hangen. Ceir cyfres o gyfarfodydd ar lefel swyddogol sy'n cynnwys cyfarfodydd y grŵp rheoli strategol, fel y'i gelwir, ac ystod o gyfarfodydd eraill sy'n digwydd yn rhan o strwythur y drefn reoli aur er mwyn gwneud yn siŵr fod popeth yn ei le fel y dylai fod. Rwy'n falch o ddweud bod y cynllun profi olrhain diogelu i'w weld fel pe bai wedi bod yn gweithio'n dda iawn, yn amlwg, wedi'i staffio gan staff Ynys Môn. Rydym wedi'i wneud fel menter gyhoeddus yma yng Nghymru ac mae hynny i'w weld yn gweithio'n dda.
Mae olrhain cysylltiadau wedi gweithio'n dda ac rydym wedi llwyddo i gysylltu â'r mwyafrif helaeth o bobl sydd wedi dod i gysylltiad â'r feirws. Rydym yn gweithio'n galed—. Mae rhai o'r pethau y sonioch chi amdanynt, wrth gwrs, yn nwylo Llywodraeth y DU—nid ydym yn gallu rhoi cynllun ffyrlo ar waith—ond deallaf fod Prif Weinidog y DU wedi dweud eu bod yn gweithio ar gynlluniau cyfyngiadau symud lleol yn awr wrth i Loegr gefnu ar ei gweithdrefn ar gyfer llacio. Felly, byddwn yn cydweithio gyda hwy ar y pethau rydym yn dibynnu ar Lywodraeth y DU ar eu cyfer, ac yn y cyfamser, rydym yn rhoi cyfres o reoliadau ar waith yma sy'n caniatáu i bethau penodol ddigwydd mewn ardaloedd penodol, os oes angen gwneud hynny. Hoffwn bwysleisio nad ydym yn meddwl bod angen ar hyn o bryd, ond yn amlwg, rydym yn cadw llygad gofalus ar y sefyllfa.
Felly, ar hyn o bryd yng Nghymru, deallaf fod gennym ddau glwstwr ac un digwyddiad, sy'n seiliedig ar lefel yr haint sydd gennym, ond mae'r awdurdodau lleol dan sylw i gyd yn gweithio'n dda iawn gyda ni a'r timau ar lawr gwlad i sicrhau ein bod yn cyfyngu ar ledaeniad y feirws. Mae'r iaith hon yn newydd i bob un ohonom, ond fy nealltwriaeth i yw bod hynny i gyd ar waith. Fel y dywedais, mae Vaughan Gething a minnau'n cyfarfod â Llinos a'i thîm am bump o'r gloch heddiw.
Iawn, diolch, Weinidog. Rwy'n croesawu'r hyn rydych newydd ei ddweud. Fel y crybwylloch chi yn eich ateb yn y fan honno, mae awdurdodau lleol yn chwarae rhan allweddol yn y system profi, olrhain, diogelu, ond mae rhai wedi nodi y dylid ychwanegu elfen arall at y cynllun hwnnw, sef 'cymorth'. Mae'n amlwg bod cyflogau isel, gwaith ansicr a—wel, y methiannau yn y system les, wedi tanseilio effeithiolrwydd hunanynysu fel mesur iechyd y cyhoedd yn sylweddol. Nawr, mae'n bosibl fod llawer o weithwyr ledled Cymru a ddylai fod yn hunanynysu yn teimlo o dan bwysau gan gyflogwyr gwael, neu oherwydd pwysau ariannol, i barhau i weithio yn lle hynny. A gaf fi ofyn pa waith rydych yn ei wneud gyda Gweinidog yr economi i sicrhau y gellid teilwra pecyn cymorth llawn ar gyfer unrhyw un y gofynnir iddynt hunanynysu, gan y bydd hynny, yn anochel, yn lleihau'r baich ar awdurdodau lleol sy'n cydlynu cymaint o'r system olrhain cysylltiadau?
Ie, rydym yn ymwybodol iawn o rai o'r anawsterau, ac mae'n amlwg fod y clwstwr arbennig hwn yn gysylltiedig â ffatri pacio cig, ac fe fyddwch yn ymwybodol fod hynny i'w weld yn nodwedd o'r diwydiant braidd; rydym wedi cael un neu ddau o glystyrau eraill ar y cyfandir ac yn y blaen. Felly, mae adolygiad y mae fy nghyd-Aelod Lesley Griffiths yn ei gynnal yma yng Nghymru, ond ar y cyd â Gweinidogion eraill o bob rhan o Brydain, a chyfandir Ewrop mewn gwirionedd, i ddeall beth yw manylion penodol y diwydiant hwnnw sy'n peri hynny. Mae'n bosibl dyfalu—mae'n oer ac mae'n llaith ac mae llawer o arwynebau metel ac yn y blaen—ond mae angen inni ddeall beth yn union sydd wedi digwydd yn y digwyddiad penodol hwn, ac mae angen inni ddeall hefyd beth yw'r patrwm cyflogaeth, fel y dywedwch, a'r hyn sy'n digwydd i bobl y gofynnir iddynt hunanynysu, yn enwedig am ein bod eisiau i'r diwydiant oroesi, ac nid ydym eisiau iddo roi'r gorau iddi oherwydd nad oes ganddo weithlu, ond rydym hefyd eisiau i'r gweithlu fod yn ddiogel a sicrhau eu bod yn gallu hunanynysu fel y gallwn reoli'r digwyddiad. Felly, rydych yn llygad eich lle i nodi hynny.
Rwy'n cytuno'n llwyr y dylid rhoi rhai o'r mesurau a awgrymwyd gennych ar waith, ond yn amlwg nid ydynt o fewn ein cymhwysedd datganoledig. Felly, rydym wedi bod yn siarad â Llywodraeth y DU ynglŷn â gwneud yn siŵr fod pobl yn gallu cael gafael ar gredyd cynhwysol yn gyflym. Rydym yn eu lobïo'n gyson ar y cyfnod aros o bum wythnos, er enghraifft, sy'n amlwg yn anodd iawn yn yr amgylchiadau hynny, ac rydym yn gwneud y mwyaf o fynediad pobl at incwm a systemau cymorth eraill; mae amrywiaeth o bethau y gall yr awdurdodau lleol eu gwneud i sicrhau hynny. Mae pob digwyddiad yn debygol o fod yn wahanol, felly rydym yn ceisio sicrhau nad ydym yn ceisio cynnig un ateb sy'n addas i bawb hefyd oherwydd ei fod yn dibynnu ar natur y gweithlu ac amodau byw pobl ac yn y blaen. Yn yr achos hwn, deallaf fod nifer o'r gweithwyr yn y ffatrïoedd yn byw mewn tai amlfeddiannaeth ac yn y blaen, sy'n creu problemau penodol. Felly, rydym yn gweithio ar y canllawiau hynny, ochr yn ochr â'r awdurdodau lleol, er mwyn rhoi'r hyn a allwn ar waith, ac mae fy nghyd-Aelod, Hannah Blythyn, wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU sawl gwaith mewn perthynas â'r diwygiadau lles y byddem eu hangen, ac rydym yn gwneud yn siŵr ein bod yn parhau i bwyso arnynt hefyd.
Diolch. Yn olaf, Weinidog, mae awdurdodau lleol yn gweithio gyda byrddau iechyd i gydgysylltu rhaglenni prawf gwrthgyrff ar gyfer athrawon a staff y GIG. Nid oes unrhyw breswylwyr na staff cartrefi gofal wedi cael y profion gwrthgyrff hynny hyd yma. Nawr, yn ôl yr hyn a ddeallaf, yng Ngwent, mae achosion o COVID-19 mewn ysbytai wedi gostwng yn sylweddol, ond yn yr wythnos ddiwethaf roedd achosion newydd mewn 29 o gartrefi gofal. Nawr, mae'n ddigon posibl fod rheswm da dros beidio â darparu'r profion hyn, ond gan fod y sector gofal wedi teimlo eu bod wedi cael eu bradychu mor aml yn ystod y pandemig, ac wedi talu'n ddrud oherwydd hynny, a allech chi egluro pam nad ydych yn gofyn i awdurdodau lleol ddarparu profion gwrthgyrff i staff cartrefi gofal ar hyn o bryd, gan y gallai canlyniadau'r profion hynny ein helpu i ddeall lefelau'r cysylltiad â'r feirws y mae cartrefi gofal wedi bod yn eu hwynebu dros yr wythnosau diwethaf?
Iawn. Nid yw hynny'n rhan o fy mhortffolio o gwbl; mae'n amlwg yn gwestiwn i fy nghyd-Aelod, Vaughan Gething, ac ni allaf esgus mewn unrhyw ffordd fy mod yn arbenigwr ar y gwahanol drefniadau profi na'r canrannau nac unrhyw beth arall. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, nid yw'r profion hynny'n arbennig o ddefnyddiol i unigolion; maent yn fwy defnyddiol i'r Llywodraeth, er mwyn iddi allu deall lle mae'r feirws wedi bod a sut y gallai fod wedi lledaenu. Maent yn brofion eithaf ymwthiol; maent yn golygu cymryd ffiol o waed gan bobl ac yn y blaen, yn hytrach na phigo bys neu swabio'ch boch, ac nid yw'n rhoi'r darlun llawn i'r unigolyn oherwydd, hyd yn hyn, yn ôl yr hyn a ddeallaf, nid ydym yn gwybod, os ydych wedi cael y clefyd, p'un a oes gennych imiwnedd o reidrwydd nac am ba hyd y mae'n para ac yn y blaen.
Rwy'n deall bod dogfen yn mynd allan i staff ysgolion am y prawf, yn egluro beth y mae'n ei wneud a pham y dylai neu pam na ddylai pobl gael y prawf ac yn y blaen, ac nid wyf yn gweld unrhyw reswm pam na allwn rannu honno gydag Aelodau'r Cynulliad—mae'n ddrwg gennyf, Aelodau o'r Senedd. Ac felly fe wnaf yn siŵr fod hynny'n digwydd, Delyth, oherwydd ni allaf esgus fy mod yn arbenigwr ar hynny.
3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae digartrefedd wedi'i leihau ers dechrau'r pandemig Covid-19? OQ55304
Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am yr ymateb hwnnw. Hoffwn ganmol yn gyhoeddus hefyd y rhai sy'n cael eu cyflogi gan awdurdodau lleol a'r trydydd sector sydd wedi gweithio ar ddigartrefedd, i sicrhau nad oes rhaid i'r rhai nad ydynt am gysgu ar y stryd wneud hynny. Rwy'n—Rwy'n siŵr fod y Gweinidog—yn pryderu bod rhai, er gwaethaf holl ymdrechion gorau awdurdodau lleol a sefydliadau'r trydydd sector, wedi penderfynu parhau i gysgu ar y strydoedd. A yw'r Gweinidog yn cytuno na allwn, ar ddiwedd y pandemig hwn, ddychwelyd at y lefel o ddigartrefedd ar y stryd a welwyd cyn y pandemig, a bod angen inni sicrhau y rhoddir camau ar waith ymhell cyn i bobl ddod yn ddigartref a gorfod byw ar y stryd?
Ydw, Mike, rwy'n hapus iawn i gytuno â chi ar hynny. Rydym wedi bod yn gweithio'n galed iawn, ar draws pob sector yng Nghymru, i sicrhau, fel y dywedaf, fod dros 800 o bobl wedi cael eu cartrefu yn ystod camau cychwynnol y pandemig. Mae gennym nifer uchel iawn o bobl hefyd yn cyrraedd drysau awdurdodau lleol bob wythnos ers i'r pandemig ddechrau, ac mae'n cyflymu ychydig ar hyn o bryd, wrth i'r cyfyngiadau ddechrau llacio. Mae fy niolch yn fawr i bartneriaid awdurdodau lleol, partneriaid yn y trydydd sector, pawb, mewn gwirionedd, ar lawr gwlad, sydd wedi cyd-dynnu mewn ffordd gydweithredol, a dylem fod yn falch iawn o hynny.
Ddoe ddiwethaf cyfarfûm â'r holl aelodau cabinet ar gyfer tai o bob rhan o Gymru. Cawsom drafodaeth dda iawn am y sefyllfa rydym ynddi hyd yma, pa fesurau a roddwyd ar waith i sicrhau pawb dan do—fel y mae'r slogan argyfwng yn ei roi—ac yna beth y gallwn ei wneud i symud i gam 2, i sicrhau bod gan bobl y math cywir o lety yn y dyfodol, ac yn llawer pwysicach, mewn gwirionedd, wedi eu hamgylchynu gan y mathau cywir o wasanaethau. Oherwydd mae'r argyfwng hwn wedi caniatáu i ni gyrraedd pobl nad oedd modd eu cyrraedd fel arall, gyda'r gwasanaethau roeddent eu hangen yn ddirfawr, i'w cael mewn cysylltiad â'r gwasanaethau hynny, ac i'w cael i ymddiried yn y bobl sy'n darparu'r gwasanaethau. Felly, mae wedi rhoi cyfle i ni gysylltu â phobl y byddai wedi cymryd misoedd lawer fel arall i'w cael i mewn i'r gwasanaethau hynny. Ac felly rydym yn benderfynol o adeiladu ar hynny, ac adeiladu ar y dull hyb ar gyfer y gwasanaethau hynny, a'r ffordd gydweithredol y mae awdurdodau lleol, byrddau iechyd a phartneriaid yn y trydydd sector wedi gweithio gyda'i gilydd.
Mae hyn yn hawdd ei ddweud ac yn anodd iawn ei gyflawni fodd bynnag. Felly, rydym yn gweithio'n galed iawn gydag awdurdodau lleol ar eu dull cam 2, sy'n gymysgedd go iawn o bethau, gan gynnwys adeiladu o'r newydd, symud tai rhent o'r sector preifat i'r sector cymdeithasol, cynlluniau buddsoddi, sicrhau bod eiddo gwag yn cael ei droi'n llety mor gyflym â phosibl, a defnyddio pob llwybr sydd gennym o'n blaenau i sicrhau nad ydynt yn dychwelyd i'r strydoedd.
Rwy'n falch iawn o nodi'r cynnydd sydd wedi'i wneud yn y maes yng Nghymru, ac yn wir, yn Lloegr. Nawr, yn Lloegr, ddoe, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y bydd £105 miliwn o arian ychwanegol ar gael, y rhan fwyaf ohono'n arian newydd, fel y gellir ymestyn y cynllun i helpu'r rhai sy'n cysgu allan. Ac mae'r BBC wedi adrodd y bydd swm canlyniadol yn deillio o'r penderfyniad hwn yn Lloegr, lle maent yn gobeithio anelu llawer o'r cymorth ychwanegol hwnnw at y math o ofal a chymorth cofleidiol y mae pobl sy'n cysgu allan ei angen yn aml er mwyn iddynt allu cynnal tenantiaeth o ryw fath. A allwch roi sicrwydd inni y byddwch yn defnyddio'r cyllid canlyniadol hwnnw sy'n debygol o ddod i Lywodraeth Cymru mewn modd tebyg?
Wel, David, fel y gwyddoch, rydym ychydig yn nerfus am symiau canlyniadol hyd nes y byddwn wedi eu cael yn ein dwylo. Clywais y cyhoeddiad yn llawen iawn, a gofynnais ar unwaith i fy swyddogion ddechrau'r broses o sicrhau ein bod yn cael gafael ar yr arian. Felly, rydym yn gwneud hynny—hoffem yn fawr gael yr arian hwnnw. Ond yn y cyfamser, fe fyddwch yn gwybod ein bod eisoes wedi rhoi £20 miliwn tuag ato, ac mae gennym £10 miliwn o gyfalaf ar hynny hefyd, ac mae gennym gyfres o ddulliau sy'n adlewyrchu'r—wel, mewn gwirionedd, rwy'n credu bod y system yn Lloegr yn adlewyrchu ein hun ni, ar draws Cymru. Hefyd clywais y Fonesig Louise Casey yn siarad ar raglen radio am ei rôl ynddi. Roeddwn yn falch iawn o weld bod yr holl fesurau roedd hi'n eu trafod yn bethau roeddem eisoes wedi'u rhoi ar waith yma yng Nghymru. A'r rheswm roeddem yn gallu gwneud hynny yw bod gennym y grŵp gweithredu ar ddigartrefedd a gadeiriwyd ar ein rhan gan Jon Sparkes. Roeddent yn gweithio'n draws-sector yng Nghymru, gan edrych ar yr arferion gorau yn hyn o beth, ac rydym wedi gallu derbyn a gweithredu pob un o'u hargymhellion. Felly, rwy'n ddiolchgar iawn i'r grŵp o bobl a weithiodd mor galed i ni ar hynny hefyd. Rydym wedi derbyn holl argymhellion y grŵp gweithredu mewn egwyddor, ac rydym yn parhau'n ymrwymedig i sicrhau ein bod yn gweithredu yr un mor gyflym a chyda'r un egni.
Felly, rwy'n mawr obeithio y cawn y swm canlyniadol, ac y gallwn ei ddefnyddio, ond rydym yn bwrw ymlaen yn dda gyda'r cynllunio. Yn fwyaf arbennig, hoffwn gymeradwyo'r awdurdodau lleol sydd eisoes wedi siarad â ni am gynlluniau cam 2. Yn benodol, cafwyd nifer o gyflwyniadau gan awdurdodau lleol am eu syniadau, ac rwy'n fwy na pharod i'w rhannu gydag Aelodau o'r Senedd cyn gynted ag y byddant ar gael, oherwydd rwy'n gwybod, David, y byddai gennych chi, yn arbennig, ddiddordeb mawr mewn gweld y rheini wrth iddynt ddatblygu.
Weinidog, fel rwyf wedi'i ddweud sawl gwaith o'r blaen, un o'r pethau da sydd wedi ymddangos o'r pandemig hwn yw'r ysgogiad i'r Llywodraeth roi diwedd ar felltith digartrefedd. A ddoe mynychais gyfarfod rhithwir gyda Chyngor Abertawe, a hoffwn longyfarch yr arweinydd a chynghorwyr Cyngor Abertawe am sicrhau llety i lawer o bobl heb gartrefi, yn ogystal â darparu gwasanaeth cofleidiol pwysig i'r rhai sydd â phroblemau eraill yn ogystal.
Yn anffodus, nid yw effeithiau economaidd y pandemig wedi dangos eu nerth yn llawn eto, ac yn anffodus, mae hyn yn mynd i gael mwy o effaith ar bobl ifanc, sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd dod o hyd i waith. Weinidog, a ydych yn cytuno y bydd eich targedau tai cymdeithasol presennol yn annigonol yn y dyfodol, ac a wnewch chi amlinellu pa gamau rydych yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r prinder anochel o dai cymdeithasol? Diolch.
Gwnaf, Caroline, rwy'n hapus iawn i ymuno â chi i ganmol Cyngor Abertawe. Fel y dywedais, mae cynghorau ledled Cymru wedi gweithio'n galed iawn, ond yn enwedig y cynghorau lle mae problem digartrefedd ar ei gwaethaf, ac mae Abertawe, Caerdydd, Casnewydd a Wrecsam wedi dioddef yn arbennig o galed. Nid yw hynny'n golygu nad yw cynghorau eraill wedi cael llawer o fewnbwn a'u problemau eu hunain ac yn y blaen, ond maent wedi cael eu taro'n arbennig o galed fel dinasoedd. Ac mae Abertawe wedi gwneud gwaith rhyfeddol yn cartrefu nifer fawr o bobl ag anghenion cymhleth. Rwy'n canmol y staff ar lawr gwlad sy'n gwneud y gwaith hwnnw, oherwydd ei fod yn anodd i'w wneud ac maent wedi gwneud gwaith gwych.
Ac rydych chi'n llygad eich lle mai rhan o'r ymateb i hyn, ac i wneud yn siŵr nad yw pobl yn mynd yn ôl ar y strydoedd, yw adeiladu digon o dai cymdeithasol i wneud yn siŵr fod pobl yn gallu cael y tai sydd eu hangen arnynt. Rydym yn falch iawn, felly, o ddweud bod gennym nifer fawr o'r hyn a elwir yn ffatrïoedd 'dulliau modern o adeiladu' ledled Cymru. Bydd Aelodau o'r Senedd, yn cael fideo bach o fy adran yn eu mewnflychau, ynghyd â 'ffeithiau hanfodol', sy'n dweud popeth wrthych am ddulliau adeiladu modern a beth yw eu manteision yn hytrach na'r dulliau traddodiadol o adeiladu. Ac un o wir fanteision y rhain yw pa mor gyflym y cânt eu codi. Felly, mae tai'n cael eu hadeiladu mewn ffatri ar y gwastad, mewn cynhesrwydd; gallant gyflogi nifer fawr o bobl ac maent yn gallu cadw pellter cymdeithasol—maent wedi bod yn gweithio drwy gydol yr argyfwng. Roeddem yn gallu ymestyn y ffatrïoedd hynny'n eithaf cyflym. Maent wedi'u lleoli'n ddaearyddol ledled Cymru. Felly, rydym yn gallu cyflogi pobl leol i wneud hynny, mae gennym gadwyni cyflenwi ar eu cyfer sydd at ei gilydd yn rhai Cymreig, ac rydym yn gweithio ar sicrhau bod y cadwyni cyflenwi i gyd yn rhai Cymreig, a gallwn eu codi'n gyflym ar safleoedd garejys, yng nghefn datblygiadau, ac ar leiniau bach anghysbell ledled Cymru, lle mae gwasanaethau eisoes, ac mae'r amser adeiladu rywle oddeutu 16 i 18 wythnos, felly mae'n eithaf syfrdanol.
Felly, bydd hynny'n rhan bwysig iawn o'r hyn rydym yn ei wneud, yn ogystal â chyflymu'r gwaith adeiladu tai cymdeithasol 'normal'—os caf ei roi mewn dyfynodau—sydd gennym ar y gweill, a cheisio defnyddio unrhyw arian y gallaf ei ganfod i gyflymu'r datblygiadau cyfalaf yno wedyn, gan gynnwys amrywiaeth o bethau rwyf am i'r Aelodau fod yn ymwybodol ohonynt, oherwydd rwyf am iddynt allu eu gwthio yn eu hetholaethau eu hunain. Felly, rydym yn ystyried symud cartrefi sector preifat i mewn i'r sector cymdeithasol, gan gynnig o leiaf bum mlynedd o'r rhent lwfans tai lleol i bobl, i gynnal safon y cartref ar bob cam a'i drosglwyddo'n ôl i'r landlord mewn cyflwr da ar y diwedd. Felly, nid oes unrhyw bryderon ynghylch unedau gwag na rheolaeth nac unrhyw beth arall. Mae'n fargen dda iawn—pum mlynedd neu fwy fel y gallwn roi llety diogel i bobl yn yr adeiladau hynny, gan ddod â llety gwag yn y sector preifat yn ôl i ddefnydd fel tai cymdeithasol, a gweithio gyda grŵp o fuddsoddwyr i wneud hynny, oherwydd, fel y gwyddoch, mae yna lawer o bobl nad ydynt yn cael llawer o elw ar eu harian yn eistedd mewn cyfrif banc, ond mae hon yn ffordd dda o gael elw ar eich arian, os mai dyna rydych chi eisiau. Rwy'n cydnabod yn llwyr fod gennym nifer fawr o landlordiaid da ledled Cymru nad oes ganddynt ond un neu ddau o dai a allai fod yn falch iawn o weithio gyda ni yn y ffordd gymdeithasol hon i helpu pobl, ond hefyd i gael incwm rheolaidd iddynt eu hunain heb boeni, oherwydd gwn mai dyna maent ei eisiau.
Felly, rydym yn barod i edrych ar unrhyw gynllun a gyflwynir. Os yw Aelodau'n ymwybodol o unrhyw beth yn eu hardal eu hunain, byddwn yn falch iawn o glywed gennych.
4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am berthynas Llywodraeth Cymru ag awdurdodau lleol yn ystod y pandemig Covid-19? OQ55311
Gyda phleser mawr, Paul. Rwy'n ddiolchgar iawn i arweinwyr awdurdodau lleol am y berthynas waith agos rhyngof a Gweinidogion eraill yn ystod y pandemig COVID-19. Mae'r ddeialog reolaidd wedi ein galluogi i fynd i'r afael â phroblemau ar y cyd ac ymdrin â materion brys i ddiogelu a chynorthwyo'r cyhoedd yn ystod y cyfnod anodd hwn.
Rwy'n ddiolchgar am yr ymateb hwnnw, Weinidog. Cefais gyfarfod yn ddiweddar gyda Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a Chymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro, a gwnaethant yn glir fod cynnydd da iawn wedi'i wneud ar weinyddu cyllid grant drwy awdurdodau lleol i gyrff gwirfoddol yng ngoleuni'r pandemig COVID-19. Deallaf fod cyllid wedi cyrraedd sefydliadau'n gyflym iawn, heb fawr o fiwrocratiaeth, ac felly mae'n hanfodol fod yr arfer da hwn yn parhau ar ôl y pandemig. Weinidog, pa wersi y mae Llywodraeth Cymru yn eu dysgu am y cynnydd da a wnaed gan awdurdodau lleol wrth weinyddu grantiau? Ac a wnewch chi ymrwymo i barhau â'r cynnydd da hwn ar gyfer y dyfodol?
Yn sicr. Rwy'n credu i mi ddweud mewn ateb cynharach fod ein gweld yn dod at ein gilydd fel tîm yn y ffordd yma wedi bod yn brofiad gwych. Roedd y dechnoleg hon ar gael o'r blaen, ond nid oeddem yn ei defnyddio. Roeddem yn teithio i ddod at ein gilydd ac o ganlyniad, nid oeddem yn gweld ein gilydd mor aml, ac anaml iawn y gwelem bob un o'r 22 arweinydd mewn un lle, am bob math o resymau cymhleth. Ond mae hyn wedi ein galluogi i gyfarfod o leiaf unwaith, a weithiau ddwywaith, tair, pedair gwaith yr wythnos, pan oedd yr argyfwng ar ei anterth, a rhannu arferion da a dysgu oddi wrth ein gilydd a datrys problemau ac yn y blaen. Felly, rwy'n awyddus iawn i gadw hynny i fynd.
Rwyf wedi ymrwymo i'r arweinwyr y byddaf yn parhau i gyfarfod â hwy yn y fforwm hwnnw bob wythnos—o leiaf bob wythnos—yn y dyfodol y gellir ei ragweld, ac mae hynny'n ategu'r holl drefniadau ffurfiol sydd gennym drwy'r cyngor partneriaeth ac yn y blaen. Mae swyddogion wedi gallu gwneud hynny hefyd, ac felly rydym yn gallu casglu arferion da o bob rhan o Gymru a'u lledaenu, sef yr hyn roeddem ei eisiau, ac mae arweinwyr yr awdurdodau lleol wedi bod yn wych, mewn gwirionedd. Rydym wedi gweithio gyda'n gilydd yn dda fel tîm. Felly, rwy'n hapus iawn i ymrwymo i wneud hynny, Paul, oherwydd rwy'n credu mai lledaenu'r math hwnnw o arfer da yw'r union beth rydym ei eisiau.
Mae cwestiynau 5, 7 ac 8 wedi'u grwpio. Felly, cwestiwn 5, Nick Ramsay.
5. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr adnoddau ychwanegol a fydd ar gael i awdurdodau lleol i ymdrin â'r pwysau presennol? OQ55327
7. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r pwysau ariannol ychwanegol sy'n wynebu llywodraeth leol oherwydd y pandemig Covid-19? OQ55328
8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cymorth a roddir i gynghorau sir, tref a chymuned yn ystod y pandemig Covid-19? OQ55317
Diolch, Russell.
Nick.
Nick sydd yno, nid Russell.
Mae'n ddrwg gennyf, Nick. Mae'n ddrwg iawn gennyf.
Rydym yn swnio'n debyg iawn.
Nac ydych. Ond yn anffodus, ni ddeuthum â fy sbectol gyda fi o Abertawe— [Chwerthin.]—
Nid oes Churchill y tu ôl i mi.
A gawn ni symud ymlaen at yr ateb?
Dylwn fod wedi gweld hynny. Mae’n ddrwg gennyf. Ymddiheuriadau, Nick. O waelod calon. Mae'r pandemig wedi rhoi pwysau ariannol ychwanegol ar awdurdodau lleol yn deillio o gyfrifoldebau newydd, costau ychwanegol a cholli incwm. Rydym yn darparu cyllid o £188 miliwn i gefnogi'r rhain ac yn gweithio'n agos gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i barhau i asesu ac ymateb i effeithiau'r pandemig.
Diolch, Weinidog. Ac rydym eisoes wedi clywed gan Aelodau eraill am y pwysau ychwanegol y mae awdurdodau lleol yn ei wynebu ar hyn o bryd. Maent yn amlwg yn wynebu colli llawer iawn o incwm ac wedi bod yn gwneud hynny ers rhai misoedd bellach, ond hefyd maent yn wynebu'r pwysau ychwanegol, wrth inni symud ymlaen, o addasu canol trefi ac ati i ganiatáu ar gyfer cadw pellter cymdeithasol. Hefyd, bydd y system gynllunio o dan straen, a mwy na thebyg bod cryn dipyn o ôl-groniad yn datblygu yn y system gynllunio. Felly, y materion hyn i gyd—. Pa gefnogaeth rydych chi wedi'i rhoi i awdurdodau lleol? A pha drafodaethau a gawsoch gyda CLlLC i sicrhau, wrth inni gefnu ar y pandemig, fod awdurdodau lleol mewn sefyllfa i ymateb i'r heriau sydd o'n blaenau, heb fynd i wynebu problemau mwy sylweddol yn y dyfodol na’r hyn sydd ganddynt ar hyn o bryd?
Yn hollol. Maent wedi wynebu llawer iawn o bwysau ac anawsterau wrth golli incwm, fel y dywedwch, a cholli incwm o ystod o bethau, gan gynnwys ffioedd a thaliadau o bethau syml fel meysydd parcio a chanolfannau hamdden, i golli incwm ardrethi annomestig, incwm y dreth gyngor—mwy o bobl yn hawlio arian cynllun rhyddhad y dreth gyngor, er enghraifft—ac nid ydym eto wedi gweld beth sy'n digwydd i gyfraddau casglu’r dreth gyngor. Felly, buom yn gweithio'n agos iawn gydag awdurdodau lleol ar lefel swyddogol, a minnau gyda'r arweinwyr, a hefyd gyda CLlLC. Rwy'n cael cyfarfodydd mynych iawn gyda CLlLC a'i harweinwyr a'i swyddogion i wneud hynny. Felly, er enghraifft, ar hyn o bryd, rydym yn gwneud gwaith i geisio deall beth yw effaith y galw cynyddol ar gronfa rhyddhad y dreth gyngor a beth fydd y cyfraddau casglu er mwyn inni allu dechrau rhoi mesurau ar waith i ddiogelu yn erbyn rhai o oblygiadau hynny.
Ar ddechrau'r pandemig, gwnaethom gyflwyno taliadau grant cymorth refeniw mis Mai a mis Mehefin yn gynt, sef cyfanswm o £526 miliwn i mewn i fis Ebrill, i gefnogi llif arian awdurdodau lleol yng nghamau cychwynnol y pandemig, a gwnaethant gamu i'r adwy, oherwydd nid oeddem eisiau iddynt boeni am lif arian wrth iddynt wneud y peth iawn, ac maent wedi camu i'r adwy yn bendant iawn.
Mae'r gronfa caledi yn darparu £110 miliwn ar gyfer y costau ychwanegol, a £78 miliwn arall yn benodol ar gyfer incwm a gollir. Ac rydym wedi bod yn darparu sawl math arall o gyllid i awdurdodau lleol ar gyfer rhai o'r mentrau y sonioch chi amdanynt, ac wrth gwrs, mae ganddynt yr holl grantiau trafnidiaeth a'r gweddill a oedd ganddynt yn y gorffennol.
Felly, rydym wedi bod yn gweithio'n dda iawn fel tîm ar draws ystod o ffactorau sy’n creu pwysau i ddeall beth ydynt ac i allu datrys y rheini wrth iddynt ymddangos, a gweithio gydag awdurdodau lleol yn arbennig am eu bod wedi ymgymryd â phethau fel profi, olrhain a diogelu ar ein rhan, ac fel y gwyddoch, maent yn gweinyddu'r cynllun bocs bwyd ar gyfer unigolion a warchodir ar ein rhan. Ac mae angen inni ddeall sut y mae'r pethau gwych y maent wedi’u gwneud yn dda iawn yn cael eu staffio'n llawnach wrth inni ddechrau hwyluso'r broses o lacio’r cyfyngiadau, ac wrth i staff ddychwelyd at eu dyletswyddau arferol. Mae angen i ni ddeall effaith hynny. Felly, rydym wedi gweithio'n agos iawn ar hynny yr holl ffordd drwodd.
Weinidog, rwyf wedi dweud wrthych o'r blaen fy mod yn credu bod awdurdodau lleol wedi bod yn rhagorol yn eu hymateb i argyfwng COVID, ac rwy'n ddiolchgar iawn i gyngor Torfaen am bopeth y maent wedi'i wneud. Ond rwy’n glir iawn eu bod o dan bwysau ariannol aruthrol nawr, ac yn enwedig mewn gofal cymdeithasol. Rwy’n croesawu’n fawr y £40 miliwn ychwanegol a gyhoeddwyd i awdurdodau lleol ar gyfer gofal cymdeithasol, ond hyd yn hyn dim ond peth o’r arian hwnnw y maent wedi’i weld, a chredaf ei bod yn hanfodol nawr fod awdurdodau lleol yn gweld yr arian ar gledr eu llaw. A gaf fi ofyn a fyddwch yn trafod hyn gyda'r Dirprwy Weinidog i weld pa gamau y gall y Llywodraeth eu cymryd i sicrhau bod cymaint o arian â phosibl yn cyrraedd y rheng flaen cyn gynted â phosibl? Diolch.
Diolch, Lynne. Rwy'n cael cyfarfodydd rheolaidd gyda'r Gweinidog iechyd a'r Dirprwy Weinidog iechyd, ac mewn gwirionedd cawsom un neithiwr ddiwethaf i drafod yr union fater hwn. Mae'r system hyd yma wedi bod ar sail hawliadau. Nid yw’r arian yn cael ei ddosbarthu yn yr un ffordd yn hollol ag y byddech chi fel arfer yn ei weld. Felly, rydym wedi bod yn gofyn i awdurdodau lleol hawlio treuliau ychwanegol o ganlyniad i gynyddu cyfraddau comisiynu neu helpu i gynorthwyo gyda lleoedd gwag neu gynorthwyo gyda chostau ychwanegol sydd gan ddarparwyr amrywiol, yn fewnol ac yn allanol. Ac yn wir, neithiwr, roeddem yn trafod symud ymlaen, beth a wnawn gyda chyfran arall o arian y gobeithiwn ei chael er mwyn parhau i gefnogi cartrefi gofal wrth i ni weithio trwy'r pandemig, oherwydd mae'n gwbl hanfodol nid yn unig fod gennym y gofal gorau yn ein cartrefi gofal, ond eu bod yn gallu goroesi’n ariannol a dal i fod yno yr ochr draw i'r pandemig, fel nad ydym yn tarfu ar bobl am ddim rheswm. Felly, dyna sgwrs barhaus rhyngof fi a'r Gweinidogion, a rhyngom ni ac awdurdodau lleol a'r sector gofal. A gallaf ddweud wrthych ein bod yn ei drafod yn rheolaidd iawn wir.
Weinidog, rydych chi’n cael cwestiwn gennyf fi yn awr. [Chwerthin.] Diolch. Weinidog, rydych wedi amlinellu cymorth i awdurdodau lleol, ond rwyf wedi cael nifer o gynghorau tref a chymuned yn cysylltu â mi, ac rwy'n ymwybodol fod rhai o'r cynghorau hynny’n dioddef yn sylweddol—rhai yn fwy nag eraill efallai. Felly, os caf sôn am Gyngor Tref y Trallwng, er enghraifft, fe ddioddefodd golledion incwm trwy ei ganolfan ddydd, cau'r ganolfan wybodaeth i dwristiaid, y farchnad, a thrwy roi ei chyfleusterau cymunedol ar osod. Felly, mae'n ddigon posibl y bydd y colledion incwm yn gannoedd o filoedd o bunnoedd i'r cyngor tref penodol hwn. Rwy'n derbyn y bydd pob cyngor tref a chymuned yn wahanol, ond pa gyllid a chymorth penodol a allai fod ar gael ar gyfer yr haen benodol hon o lywodraeth?
Y cynghorau cymuned—gallaf gadarnhau bod y rhai sy'n wynebu'r caledi ariannol mwyaf trwy golledion incwm yn gymwys i gael arian o’r gronfa caledi. Felly, mae honno ar gael iddynt
Ond fel ar gyfer prif gynghorau, rydym yn disgwyl i gynghorau tref a chymuned sy'n profi colledion incwm edrych, yn y lle cyntaf, ar ba gymorth y gallant ei gael ar unwaith: felly, pethau fel y cynllun ffyrlo, cynllun cadw swyddi, grant Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi lle bo hynny'n briodol, defnyddio cronfeydd wrth gefn, gwneud cais i'r prif gynghorau i gael rhandaliadau praesept yn gynt er mwyn lleddfu problemau llif arian ac ati—felly, dyna'r un set o reolau yn union ag sy’n berthnasol i'r prif gynghorau—ac yna dod atom ni gyda thaenlen benodol, os mynnwch, o beth yw'r incwm a gollwyd a pha drefniadau lliniaru a roddwyd ar waith ganddynt, beth y maent wedi gallu ei wneud, fel y gallwn ei ystyried yn rhan o'r system hawliadau sydd gennym ar gyfer y gronfa caledi. Felly, cânt eu trin yr un fath yn union â'r prif gynghorau yn hynny o beth.
Diolch. Dychwelwn at y cwestiynau ar y papur trefn. Cwestiwn 6—Jack Sargeant.
6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer adfer canol trefi yn Sir y Fflint ar ôl Covid-19? OQ55305
Diolch. Mae trawsnewid trefi ledled Cymru a'u helpu i ffynnu, nid goroesi yn unig, yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Mae hyn, wrth gwrs, yn fwy perthnasol nag erioed yn yr amgylchiadau presennol. Bydd grŵp gweithredu gweinidogol ar ganol trefi, wedi'i ategu gan grwpiau rhanbarthol, yn mynd i'r afael ag effaith COVID-19 ac yn llywio camau gweithredu i gefnogi’r gwaith o adfer trefi, gan gynnwys trefi ledled Sir y Fflint.
Diolch am yr ateb hwnnw, Ddirprwy Weinidog. Roedd canol trefi, fel Bwcle yn fy etholaeth fy hun, yn ei chael hi'n anodd cyn y coronafeirws. Nawr, rhan allweddol o ganol tref ffyniannus yw banc, ac fel y gwyddoch, mae Bwcle wedi colli ei holl fanciau yn anffodus. Nawr, rwyf wedi bod yn ymgyrchu dros fanc cymunedol i angori canol y dref hon, ac mae effaith COVID yn gwneud hyn hyd yn oed yn fwy pwysig. A wnaiff y Dirprwy Weinidog ymgysylltu â mi a’r gymuned leol i weld pa arian sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod Bwcle yn ffynnu eto?
Yn bendant. Rwy'n gwybod bod y banc cymunedol ym Mwcle yn fater y mae'r Aelod wedi bod yn ymgyrchu'n frwd arno ers nifer o fisoedd bellach. Gallwn weld yr effaith y byddai’n ei chael nid yn unig o ran lliniaru yn erbyn yr heriau economaidd y gallem eu hwynebu ar ôl COVID-19, ond o ran sut rydym yn adfywio ac yn dod ag ymwelwyr yn ôl i ganol ein trefi. Wrth inni fwrw ymlaen ag egwyddor canol y dref yn gyntaf, bydd cyd-leoli gwasanaethau yn ganolog i wireddu hynny ac edrych ar y ffordd orau o ddefnyddio canol ein trefi a sut i wella’r profiad a chael pobl yn ôl i mewn i drefi.
Rwy'n credu ei bod yn werth i'r Aelod nodi bod buddsoddiad wedi’i dargedu, yn rhan o’n rhaglen gyfalaf trawsnewid trefi, at nifer o drefi â blaenoriaeth a nodwyd gan awdurdodau lleol, ac mae awdurdodau lleol ledled gogledd Cymru wedi nodi’r trefi hynny’n flaenorol ac wedi edrych ar drefi tebyg i Dreffynnon a Shotton yn Sir y Fflint, ond cyn bo hir bydd cyfle i awdurdodau lleol ailflaenoriaethu trefi os dymunant—felly, hoffwn annog yr Aelod efallai i gael y sgyrsiau hynny gyda'r awdurdod lleol a chynrychiolwyr eraill.
Ac rwy'n cofio—un pwynt olaf—i mi addo o'r blaen i'r Aelod y byddwn yn ymweld â Bwcle, ac rwy'n siŵr, os yw’r amgylchiadau'n caniatáu, y gallwn aildrefnu'r ymweliad hwnnw, oherwydd rwy'n awyddus i’r gwaith hwn sicrhau yn awr ein bod yn dod o hyd i ffyrdd gwell o gynnwys pobl, sefydliadau a busnesau mewn cymunedau er mwyn eu galluogi a'u grymuso yn y ffordd orau i gael mwy o gyfran a llais yn eu llwyddiant yn y dyfodol.
Diolch, Lywydd.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i'r Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau amserol ac mae'r cwestiwn cyntaf i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a'r cwestiwn i'w gael ei ofyn gan Rhun ap Iorwerth.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr achosion o Covid-19 yn deillio o ffatri 2 Sisters yn Llangefni? TQ449
Diolch am y cwestiwn. Heddiw rwyf wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig am y ddau glwstwr o achosion a gafwyd yn ddiweddar mewn safleoedd prosesu cig a bwyd yng ngogledd Cymru. Rydym yn cadw'r ddau ddigwyddiad dan oruchwyliaeth a rheolaeth agos. Mae'r holl gamau sy'n angenrheidiol i ddiogelu'r cyhoedd yn cael eu cymryd a byddant yn parhau i gael eu cymryd.
Diolch yn fawr iawn i chi. Dwi'n ddiolchgar am y datganiadau yna. Mae yna bryder, yn amlwg, yn lleol yn dilyn digwyddiadau'r wythnos diwethaf. Mae'r Llywodraeth yn dweud eu bod nhw rŵan yn edrych i mewn i ddiogelwch y sector cynhyrchu bwyd—mae'n beth da. Gaf i ofyn pam na fu'r math yma o asesu'n digwydd cyn hyn, ac ydy'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch o bosib wedi bod yn ddigon effeithiol yng ngolwg y Gweinidog? A fydd yna gyngor gwahanol iawn rŵan ar sut y dylai'r safleoedd hyn weithredu? Achos all y gwaith yma ddim ailagor eto heb sicrwydd bod staff yn ddiogel—mae mor syml a hynny.
O ran y gymuned ehangach, gaf i ofyn pa mor hyderus ydy'r Gweinidog bod yr early warning system, os liciwch chi, yr holl system profi ac olrhain, yn mynd i allu adnabod arwyddion o drosglwyddo cymunedol eang yn ddigon buan fel bod unrhyw benderfyniadau allai fod eu hangen o ran tynhau cyfyngiadau ac ati'n cael eu gwneud mewn da bryd? Mae yna gydweithio da iawn yn rhanbarthol o ran y gwaith olrhain ond mae yna rai aelodau staff wedi aros dyddiau lawer am ganlyniadau eu profion, er enghraifft, sy'n tanseilio hyder yn y system. Ac yn olaf, a gaf i droi at yr angen i gydymffurfio efo gofynion hunan-ynysu? Mi oedd yn bwysig iawn cael cadarnhad bod y cwmni yn mynd i fod yn talu staff yn llawn drwy'r cyfnod yma, ond pa gamau pellach fydd y Llywodraeth yn eu cymryd i sicrhau bod negeseuon yn cael eu clywed, a chefnogaeth yn cael ei chynnig i wneud yn siŵr bod y cydymffurfiaeth hollbwysig yna yn uchel?
Diolch am y gyfres o gwestiynau. Ar y pwynt ehangach ynglŷn â chyngor o fewn y sector, fel gyda phob sector arall yn yr economi, byddai'r rheini a fyddai wedi parhau i weithredu wedi gorfod ystyried sut y gallent barhau i gydymffurfio â rheoliadau COVID. Cafwyd sgyrsiau gyda'r Asiantaeth Safonau Bwyd am eu rôl mewn hylendid bwyd a'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ynglŷn â'r ffordd roedd y ffatrïoedd yn gweithredu, ynghyd â'r rhannau hynny o lafur y ffatri a oedd o dan drefniadau undeb.
Rydym yn edrych eto ar hynny oherwydd y realiti yw ein bod wedi cael y tri digwyddiad yma. Mae yna ddigwyddiad ym Merthyr Tudful, sy'n wahanol i'r ddau glwstwr yng ngogledd Cymru, ond byddai'n beth rhyfedd pe na baem yn manteisio ar y cyfle ar y pwynt hwn i adolygu a diwygio'r canllawiau rydym yn eu darparu, oherwydd mae enghreifftiau o arfer da o fewn y sector yma yng Nghymru. Felly, ar draws y sector, byddwn yn adeiladu ar yr adolygiad y cyfeiriodd fy nghyd-Aelod Lesley Griffiths ato mewn cwestiynau iddi yn gynharach heddiw; byddwn yn cymryd gwaith gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac yna'n darparu'r arweiniad cyflym diwygiedig hwnnw yn ôl i'r sector cyn diwedd yr wythnos hon. Siaradais â'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ddoe; mae yna eglurder yn eu rolau ac maent yn ymwneud â threfniadau goruchwylio rheoli achosion yn y ddau safle yng ngogledd Cymru. Maent yn gysylltiedig â'r gwaith rydym ni'n ei wneud, a byddwn hefyd yn ymgynghori'n fyr â hwy cyn inni gyhoeddi'r canllawiau.
Ar fater profi, olrhain, diogelu, credaf fod y materion y cyfeiriwch atynt yn bwysig i bob unigolyn sydd wedi wynebu oedi, ond mewn gwirionedd, rydym yn gallu sicrhau bod canlyniadau profion yn dod yn ôl yn gyflym, felly mae dros 97 y cant o'r bobl yn Llangefni, er enghraifft, wedi cael canlyniadau eu profion yn ôl o fewn diwrnod. Ond ym mhob achos lle bu oedi, mae cyfle i ddysgu a gwella, ac nid wyf yn ceisio—[Anghlywadwy.]—rhag hynny, ond mewn gwirionedd, mae 97 y cant o fewn diwrnod yn berfformiad o safon uchel iawn.
Ac ar y pwynt ehangach am ynysu, mae hyn yn anodd oherwydd, fel y mae Aelodau eraill wedi dweud yn flaenorol, pan fyddwch ar gyflog cymharol isel, fel y dywedais ddoe yn fy natganiad mewn cynhadledd i'r wasg, a phobl yn gwneud dewisiadau ynghylch tâl salwch statudol ac o bosibl, heb fod yn cael cyflog, mae hynny'n anodd ac mae gennym brofiad anecdotaidd yn y treialon profi, olrhain a diogelu cynnar hefyd. Bydd hynny'n rhan o'r sgwrs gyda'r sector yn fwy cyffredinol, y byddaf yn ei chael yn ddiweddarach yr wythnos hon gyda chyflogwyr ac ochr yr undebau llafur, ond mae profi, olrhain, diogelu wedi bod yn ffactor pwysig iawn yn y broses o gyfyngu ar yr achosion hyd yma.
Pe na bai gennym y system brofi, olrhain, diogelu, byddem bron yn sicr o fod wedi gweld llawer mwy o drosglwyddiad, nid yn unig o fewn y gweithlu, ond o fewn y gymuned hefyd, rhywbeth nad ydym wedi'i weld hyd yma. Mae hefyd wedi bod yn stori lwyddiant genedlaethol, oherwydd mae'r tîm olrhain cysylltiadau ar Ynys Môn, er enghraifft, wedi cael cymorth gan y tîm olrhain cysylltiadau ym mae Abertawe yn enwedig; ac mae'r un peth yn wir gyda chydweithwyr yn Wrecsam, sydd wedi cael llawer o gefnogaeth gan Cwm Taf Morgannwg a Chaerdydd a'r Fro. Felly, cafwyd defnydd gwirioneddol genedlaethol o egni ac adnoddau i sicrhau ein bod yn cadw pobl mor ddiogel ac iach â phosibl, ac rwy'n falch iawn, yn y prawf cyntaf ond anodd iawn hwn o'n gallu i barhau i olrhain cysylltiadau'n llwyddiannus a rhoi cyngor a chefnogaeth i bobl, fod profi, olrhain, diogelu wedi bod yn rhan allweddol o'n hymateb.
A gaf fi ddiolch i chi am hynny, Weinidog, a diolch am sôn am Ferthyr Tudful yn eich ymateb i Rhun ap Iorwerth? Oherwydd roeddwn yn bryderus iawn, ond nid oeddwn yn synnu wrth glywed adroddiadau dros y penwythnos am niferoedd sylweddol o bobl yn profi'n bositif am COVID-19 yng ngwaith prosesu cig Kepak ym Merthyr Tudful, a chefais fy mrawychu mwy fyth o bosibl wrth ddeall bod hyn wedi bod yn digwydd ers tua mis Ebrill mewn gwirionedd. Fe fyddwch yn ymwybodol fy mod wedi bod yn bryderus ers peth amser am lefelau heintiau COVID yn ardal Merthyr Tudful, sydd wedi bod yn ofidus o uchel, hyd yn oed pan oedd lefelau heintiau mewn rhannau eraill o Gymru yn disgyn, ac rwyf wedi bod yn gofyn pa waith y mae epidemiolegwyr wedi bod yn ei wneud ar nodi'r achosion. Rwyf bob amser wedi bod yn bryderus ynghylch Kepak oherwydd eu harferion gweithio, diffyg trefniadau cadw pellter cymdeithasol a sut roeddent yn mynd i sicrhau diogelwch gweithwyr a oedd yn gweithio'n agos at ei gilydd ac mewn amodau lle roedd y feirws yn ffynnu. Ac ysgrifennodd Gerald Jones AS a minnau at y cwmni ynglŷn â hyn ar ddechrau'r cyfyngiadau symud, ac er inni gael sicrwydd gan y cwmni, roedd yr undebau a'r staff yno'n parhau i fod yn bryderus ynglŷn â'r hyn oedd yn digwydd. Rwy'n ymwybodol fod Iechyd Cyhoeddus Cymru, cyngor Merthyr Tudful a'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch wedi cyfarfod ddoe i drafod heintiau COVID sy'n gysylltiedig â Kepak, ond yr hyn y bydd fy etholwyr am ei wybod yw a yw'r lefelau uchel o heintiau ar draws yr ardal yn gysylltiedig mewn unrhyw ffordd â'r ffatri hon, ac os felly, pa gamau a gymerir yn awr i gau'r gwaith, ynysu'r staff a sicrhau nad oes unrhyw ledaeniad pellach y tu hwnt i'r bobl a gyflogir yno.
Diolch am y cwestiwn gan Dawn Bowden, ac i fod yn deg, mae Dawn wedi mynegi pryderon cyson dros gyfnod o amser am gyfradd y trosglwyddiad cymunedol ehangach ym Merthyr Tudful. Yr anhawster a wynebwn gyda Merthyr Tudful yw bod y raddfa a'r lledaeniad yn wahanol i'r ddau safle yng ngogledd Cymru. Mae'r niferoedd yn wahanol ac rydym yn glir eu bod yn deillio o, neu'n gysylltiedig â'r ddau safle yng ngogledd Cymru; nid yw mor glir ym Merthyr Tudful. Cafwyd 33 o brofion ers mis Ebrill sydd wedi bod yn gysylltiedig mewn rhyw fodd â safle Kepak ym Merthyr Tudful, ac un o'r pethau y mae'r tîm digwyddiadau'n ceisio ei ddeall yn gyflym yw a yw hynny'n ymwneud â gwaith y safle neu a yw'n ymwneud â chymuned neu a yw'n gymysgedd o'r ddau. Bydd yna ymweliad â'r safle, ac unwaith eto, dyna enghraifft o'r awdurdod lleol yn gweithio gydag asiantaethau iechyd, ond hefyd yn gweithio gyda'r Asiantaeth Safonau Bwyd a'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, a dylem wybod llawer mwy nid yn unig am yr ymweliad hwnnw, ond y gwersi i'w dysgu o hynny—beth arall y mae angen inni ei wneud o fewn y sector i gadw'r gwaith mor ddiogel ag sy'n bosibl.
Yn achos unrhyw safle mewn unrhyw ran o Gymru, un o'r opsiynau wrth gwrs yw cau'r safle hwnnw ar sail iechyd cyhoeddus. Yn Llangefni gwnaeth y cyflogwr y penderfyniad i gau'r safle. Mae trafodaethau'n mynd rhagddynt a bydd asesiad parhaus i weld a ddylai busnes barhau i weithredu ac a all weithredu'n ddiogel. Felly, nid wyf am geisio gwneud unrhyw awgrymiadau na gosod unrhyw ddisgwyliadau, ond ni fyddwn yn diystyru unrhyw fesurau i'w cymryd i ddiogelu'r cyhoedd yn ehangach, nid dim ond y gweithlu ond y cyhoedd yn gyffredinol. Felly, pan fydd gennym y ddealltwriaeth honno o'r hyn y mae angen inni ei wneud, ac os bydd angen mesurau ehangach yn y gweithle neu'r gymuned, yn sicr ni fyddaf yn ofni rhoi'r mesurau hynny ar waith, ond os bydd pobl yn dilyn y cyngor a roddir iddynt drwy brofi, olrhain a diogelu, fe gawn gyfyngiadau doeth ar yr holl bobl sy'n uniongyrchol gysylltiedig a'u cysylltiadau ar eu haelwydydd.
Mae'n ddealledig, fel y gwyddoch, fod 200 o staff yn ffatri 2 Sisters yn Llangefni bellach wedi cael prawf positif a 97 yn Rowan Foods, ychydig i lawr y ffordd oddi wrthyf yn Wrecsam. Sut rydych yn ymateb i'r datganiad gan AS Ynys Môn, Virginia Crosbie, er bod cau ffatri'r 2 Sisters am bythefnos yn y lle cyntaf yn hanfodol i—? Yn ogystal â'r cau yn y lle cyntaf, dywedodd ei bod yn hanfodol er diogelwch y gweithlu a'u teuluoedd, ynghyd â diogelwch cymunedau, fod y gwaith yn dal ar gau hyd nes y cynhelir archwiliad iechyd a diogelwch annibynnol a bod yr holl fesurau diogelwch a argymhellir wedi'u gweithredu. Sut y byddech yn disgwyl i'r achosion hyn effeithio'n ehangach, lle roedd gwasanaethau cymdeithasol Ynys Môn, er enghraifft, i fod i gael asesiad gofal cartref yfory, gan ddweud na fydd yr adran yn gallu cadarnhau canlyniad unrhyw gais am wasanaethau hyd nes y cwblheir yr asesiad? Mae staff yn rheoli ymweliadau o'r fath gyda defnydd priodol o gyfarpar diogelu personol, ond pan gysylltodd yr etholwr â Llywodraeth Cymru, cafodd yr ateb, 'Oni bai eu bod yn darparu gofal hanfodol ar eich cyfer chi, rydym yn cynghori pawb i ddefnyddio'r ffôn neu'r rhyngrwyd lle bynnag y bo modd.'
Ar yr ail bwynt, nid wyf yn credu bod yna wrthdaro, oherwydd mae'r pwynt yno am y bobl sy'n rhedeg y gwasanaeth hwnnw'n uniongyrchol ac yn ei ddarparu gan feddwl am yr addasiadau sydd angen iddynt eu gwneud er mwyn i'r asesiadau hynny barhau, ac mae hynny mewn gwirionedd yn rhywbeth y mae'r teulu llywodraeth leol, â bod yn deg, wedi'i reoli trwy gydol cyfnod y pandemig. Ac mae mwy o'r gweithgarwch hwnnw'n digwydd gan fod mwy o hyder oherwydd y cyfraddau trosglwyddo is a'r nifer is o achosion, ond hefyd wrth gwrs oherwydd ein bod ers peth amser bellach wedi llwyddo i sefydlogi ein cyflenwadau o gyfarpar diogelu personol i'r sector gofal cymdeithasol ehangach.
Ar eich pwynt cyntaf, mae perthynas yma rhwng cyfrifoldebau datganoledig a rhai nad ydynt wedi'u datganoli. Felly, nid yw iechyd a diogelwch yn gyfrifoldeb a ddatganolwyd. Mae'n dangos, fodd bynnag, fod perthynas ymarferol iawn rhwng ein cyfrifoldebau ni yma a'r ffordd rydym yn rhyngweithio ag asiantaethau'r DU. Felly, mae'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn ymwneud â'r ddau dîm rheoli achosion ac mae ganddynt berthynas â'r digwyddiad ym Merthyr Tudful, a dyna'n union fel y dylai fod.
Ar y brif alwad am archwiliad, wel, mae angen inni weld ai dyna'r peth iawn i'w wneud ai peidio. Mae angen inni ddeall y cyfrifoldebau iechyd cyhoeddus a ble rydym arni o ran rheoli a rhedeg y digwyddiad ei hun, er mwyn diogelu pobl sy'n gysylltiedig â'r gymuned ehangach yn ogystal â'r gweithlu yn Llangefni. Fel y dywedais wrth Dawn Bowden, ni fyddwn yn diystyru unrhyw gamau ar hyn o bryd. Byddwn yn parhau i wneud penderfyniadau sy'n diogelu pobl yma yng Nghymru mewn cymunedau lleol a thu hwnt, a dyna fydd yn ein harwain. Nid wyf yn meddwl ei bod yn ddefnyddiol, fodd bynnag, i geisio ymateb i awgrym unigol nad yw'n ymddangos bod iddo sylfaen dystiolaeth briodol mai dyna'r peth cywir i'w wneud. Dyna'n union pam fod gennym dimau rheoli achosion sy'n dod â'r holl randdeiliaid lleol hynny at ei gilydd.
A gaf fi ddiolch i'r Aelod dros Ynys Môn am ofyn y cwestiwn pwysig hwn heddiw? Weinidog, fe fyddwch yn gwybod bod gan y cwmni safle yn Sandycroft yn fy etholaeth i hefyd, ac rwyf wedi mynegi fy mhryderon yn uniongyrchol wrthynt hwy. Ond beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i sicrhau bod y cwmni'n gweithredu'r mesurau diogelwch angenrheidiol i sicrhau eu bod yn diogelu'r gweithlu lleol a'r gymuned leol yn Alun a Glannau Dyfrdwy?
Rwy'n ymwybodol iawn fod yna safle 2 Sisters arall yn eich etholaeth. Mae wedi bod yn rhan o'n sgyrsiau gyda swyddogion ar ochr yr undebau llafur, a rhan o'r rheswm pam ei bod hi'n bwysig i mi gael sgwrs gyda'r sector, gan gynnwys cyflogwyr wrth gwrs. Felly, Lesley Griffiths, gyda'i chyfrifoldebau gweinidogol, a minnau fydd yn ymgymryd â'r gwaith hwnnw. Mae'n adeiladu ar yr adolygiad y mae wedi'i orchymyn drwy Arloesi Bwyd Cymru a'r canllawiau y byddaf yn eu cyhoeddi yr wythnos hon, i egluro'r pethau na ddylai ddigwydd a'r ymyriadau y gellid ac y dylid eu gwneud, ond hefyd i dynnu sylw at y ffaith bod yna arferion da o fewn y sector.
Roedd ochr yr undebau llafur yn awyddus iawn i bwysleisio eu bod yn credu bod yna gyflogwyr da yn y maes, a'i bod yn bosibl gweithredu gyda lefel isel iawn o risg. Fodd bynnag, mae hyn yn bendant yn dangos nad yw COVID wedi diflannu, a bod yna ganlyniadau real os nad yw pobl yn dilyn y canllawiau a ddarparwn. Felly, rwy'n gobeithio bod neges ehangach yno i'r cyhoedd i gyd, ac nid i bobl sy'n gweithio yn yr un sector hwn o'r economi yn unig. Os ydych yn teimlo'n sâl a bod gennych un o'r symptomau, gofynnwch am brawf a sicrhewch eich bod yn hunanynysu nes eich bod yn gwybod canlyniad y prawf hwnnw, a gwnewch yn siŵr fod y bobl ar yr un aelwyd â chi'n gwneud yr un peth hefyd.
Diolch i'r Gweinidog. Mae'r cwestiwn amserol nesaf i'w ateb gan y Gweinidog Addysg, ac i'w ofyn gan Siân Gwenllian.
2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch trefniadau ar gyfer ailagor yr ysgolion am bedair wythnos cyn toriad yr haf? TQ453
Lywydd, bydd ysgolion yn cynyddu gweithgaredd o ddydd Llun ymlaen i ailgydio, dal i fyny a pharatoi ar gyfer yr haf a mis Medi. Gan weithio gyda'i gilydd, mae penaethiaid, staff addysg, undebau a chynghorau wedi sicrhau mai ni yw'r unig wlad yn y Deyrnas Unedig lle bydd pob disgybl yn cael cyfle i ddychwelyd i'r ysgol cyn gwyliau'r haf.
Rhaid canmol penaethiaid a staff ein hysgolion am fynd ati yn drefnus a gofalus i gynllunio ar gyfer ailagor ysgolion o ddydd Llun ymlaen. Ond, yn hwyr iawn yn y dydd, fe ddaeth y newydd fod yna ddryswch mawr ynglŷn â'r bedwaredd wythnos. Oni ddylech chi fod wedi sicrhau cytundeb pawb, yn cynnwys pob undeb, cyn gosod y disgwyliad i ysgolion agor am bedair wythnos? Ac, yn wyneb y ffaith bod yr anghytuno yn parhau—fe ymddengys—onid eich dyletswydd chi ydy rhoi'r arweiniad cenedlaethol ynglŷn â'r bedwaredd wythnos?
Chi ddylai arwain, yn hytrach na rhoi pwysau ar yr awdurdodau lleol ac ysgolion unigol i wneud penderfyniadau anodd, a fydd ond yn creu dryswch a drwgdeimlad pellach. Dydy'r sefyllfa sydd wedi codi ddim yn deg ar yr ysgolion, ac yn sicr dydy hi ddim yn deg ar y disgyblion sy'n cael eu dal yng nghanol y ffrae.
Lywydd, mae Siân Gwenllian yn gwbl gywir i gydnabod gwaith caled penaethiaid ar hyd a lled Cymru sydd wedi cynllunio mor ddiwyd gyda'u staff i ddarparu'r cyfleoedd hyn. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol fy mod wedi argymell y dylai tymor yr haf gael ei ymestyn am wythnos ychwanegol ac i staff sy'n gweithio'r wythnos ychwanegol honno, y dylid ymestyn hanner tymor mis Hydref am un wythnos. Ond fel y bydd Siân yn gwybod, nid Llywodraeth Cymru a minnau yw'r cyflogwyr yn y sefyllfa hon. Y cyflogwyr yw'r awdurdodau lleol. Mater o ffaith yw hynny. Os oes gan Blaid Cymru ffordd wahanol o drefnu addysg Cymru yn y dyfodol wrth gwrs, bydd modd iddynt gyflwyno'r achos hwnnw. Cafodd rôl Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ei chydnabod yn glir yn eu datganiad a oedd yn croesawu fy argymhellion.
Yn amlwg, mae awdurdodau lleol unigol, ar sail amgylchiadau lleol unigol, wedi dod i'r casgliad y byddant yn cynnig tair wythnos. Rwy'n parhau i feddwl y dylem wneud y gorau o bethau a manteisio ar gyfle misoedd yr haf i gynyddu a darparu cymaint â phosibl o gyswllt wyneb yn wyneb rhwng plant a'u hysgolion ar yr adeg hon. Ond mae'n rhaid i mi gydnabod y bydd awdurdodau lleol wedi gwneud penderfyniadau unigol. Fodd bynnag, credaf y dylem ystyried y materion—. Fel y dywedais, mae penaethiaid unigol ac aelodau unigol o staff, a staff cymorth yn wir, wedi bod yn hynod o hyblyg yn ystod y pandemig hwn, gan weithio dros wyliau'r Pasg, gwyliau hanner tymor, penwythnosau, gwyliau banc i ddarparu gofal a chymorth i'n plant ar yr adeg hon, ac mae llawer yn barod i fynd y tu hwnt i'r hyn sy'n ddisgwyliedig, fel erioed, i ddarparu cefnogaeth i blant.
Suzy—ie, Suzy Davies.
Diolch, Lywydd, a diolch i chi hefyd, Weinidog. Pan gyhoeddwyd bod yr ysgolion yn ailagor yn raddol, gofynnais pam ei bod yn haws i'r undebau gytuno ar wythnos ychwanegol ym mis Gorffennaf yn hytrach na dod yn ôl ddiwedd mis Awst, a bryd hynny nid oedd neb yn gallu ateb y cwestiwn hwnnw. Mae'n ymddangos bellach nad oedd neb yn chwilio o ddifrif am ateb. Er nad oes gennyf unrhyw amheuaeth efallai nad oes gan rai undebau ddiddordeb arbennig mewn annog eu haelodau yn ôl cyn mis Medi, mae Siân Gwenllian yn llygad ei lle—mater i chi yw polisi, ac mae gennych bob hawl i symud ymlaen hyd yn oed os na allwch fynd â phawb gyda chi. Mae angen i chi fynd â rhai pobl gyda chi, fodd bynnag, ac mae'n eithaf amlwg fod arweinwyr ysgolion wedi cymryd yr hyn a ddywedoch chi ac wedi bod yn paratoi ar gyfer dychwelyd am bedair wythnos. Fe fyddwch yn gwybod bod staff a theuluoedd a hyd yn oed cyfarwyddwyr addysg yn teimlo'n flin ac yn rhwystredig, a hynny'n briodol, oherwydd yr hyn sydd bellach yn ddisgwyliadau a chwalwyd.
Rydych chi'n iawn—mae yna staff a theuluoedd sydd eisoes wedi mynd y filltir ychwanegol ac yn haeddu ein diolch diamod, ond sy'n cydnabod, rwy'n credu, fel rydych chi, fod lles plant drwy ailgydio, dal i fyny a pharatoi yn hanfodol. Nid wyf yn cofio bod awdurdodau lleol ar y pryd yn anghytuno â'ch safbwyntiau chi, y tu hwnt i bryderon ymarferol am bethau fel cludiant, hylendid a chadw pellter.
Felly, fy nghwestiwn cyntaf yw: pryd oedd y cyfarwyddwyr addysg ac athrawon yn arbennig yn gwybod bod hyn yn ddewisol, oherwydd nid oedd unrhyw beth yn eich cyhoeddiad gwreiddiol i awgrymu mai hwn oedd y cynllun gwreiddiol? A allwch ddweud wrthym hefyd, erbyn 3 Mehefin, pan wnaethoch eich cyhoeddiad, a wnaeth undebau llafur ddweud wrthych cyn y dyddiad hwnnw y byddent yn annog aelodau rhag cytuno i'r bedwaredd wythnos? A wnaeth y cynghorau ddweud wrthych cyn y dyddiad hwnnw y byddent yn cyfarwyddo arweinwyr ysgolion i beidio ag agor am bedwaredd wythnos? Ac a oeddent yn derbyn eich dadl mai dychwelyd am bedair wythnos oedd y ffordd orau o sicrhau lles plant? A allwch ddweud wrthym am unrhyw sgyrsiau dilynol gyda'r undebau? Rydym yn dal i fod yn awyddus iawn i wybod pam fod cymaint o gynghorau wedi methu eich cefnogi. Ac yna, yn olaf, a allwch gadarnhau, os oes gan unrhyw arweinydd ysgol staff a mesurau diogelwch ar waith ar gyfer y bedwaredd wythnos, y gallant agor eu hysgol beth bynnag fo barn y cyngor? Beth yw statws cyfarwyddyd gan y cyngor ac a allwch chi ei wrthod yn achos ysgolion unigol, a phob ysgol hyd yn oed? Diolch.
A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei chwestiynau? Cyn cyhoeddi fy nghynigion ar gyfer ymestyn tymor yr haf am wythnos, roeddem wedi sicrhau cytundeb Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, a chymeradwywyd y cynnig hwnnw gan bob un o'r 22 arweinydd a'r cyfarwyddwyr addysg. Roeddwn yn glir iawn—credaf i mi gael gweminar gydag undebau'r athrawon y noswaith honno—y byddai'r bedwaredd wythnos yn wythnos wirfoddol. Mae'n mynd y tu hwnt i delerau ac amodau arferol pobl. Roeddem yn awyddus i drin pobl yn deg, a thrwy hynny gynnig yr amser yn gyfnewid am amser yn ystod hanner tymor mis Hydref, a byddai'n digwydd ar sail wirfoddol. Roedd llawer o staff a gweithwyr cymorth, yn ogystal â phenaethiaid, yn barod i fanteisio i'r eithaf ar y cyfle i blant. Fodd bynnag, ar ddyddiad diweddarach, mynegodd awdurdodau lleol eu pryderon nad oeddent yn teimlo eu bod yn gallu cynnig pedwaredd wythnos.
O ran yr undebau, yn ddigon dealladwy, mynegodd yr undebau eu pryderon wrthyf, nid am y bedwaredd wythnos, er eu bod am inni fod yn glir mai dim ond ar sail wirfoddol y gellid gwneud hynny ac ni allem orfodi pobl i'w wneud, ac roeddwn yn ddigon bodlon i gydnabod hynny. Prif ffynhonnell pryderon yr undebau yw'r penderfyniad i ddychwelyd i'r ysgol cyn mis Medi. Mae llawer o arweinwyr undebau wedi mynegi eu dymuniad na ddylai ysgolion ailagor tan fis Medi, ac rwyf wedi dweud yn glir iawn y byddai hynny'n gadael bwlch mor sylweddol a llawer iawn o amser heb i blant fod yn yr ysgol, nes ei fod yn destun pryder enfawr i mi. Ac o ystyried y cyngor gwyddonol ei bod hi'n ddiogel i ddychwelyd i'r ysgol cyn mis Medi, teimlwn ei bod yn gwbl angenrheidiol inni achub ar y cyfle hwnnw ac os yn bosibl, i fanteisio i'r eithaf ar y cyfle i blant gael amser gyda'r staff.
Weinidog, hoffwn gofnodi fy niolch personol i chi am yr ymdrech gwbl ardderchog rydych wedi'i gwneud i sicrhau cymaint o amser â phosibl i blant yn yr ysgol yr haf hwn ac yn hollbwysig, am roi plant yn gyntaf drwy hyn i gyd.
Mae ysgol Garnteg yn fy etholaeth wedi bod yn wirioneddol rhagorol yn ystod y cyfyngiadau symud, ond gwyddom fod yr amrywiaeth yn yr hyn y mae plant wedi bod yn ei gael ledled Cymru wedi bod yn aruthrol. Hoffwn ddarllen rhai geiriau i'r Aelodau a ysgrifennodd fy etholwraig, Florence, sy'n wyth oed, yn ddiweddar, pan enwebodd ei hathrawon yn ysgol Garnteg fel ei hararwyr COVID:
Mae Mrs Lewis yn dal i osod gwaith i ni ac yn ein helpu i ddysgu. Rwy'n hoffi Mrs Lewis oherwydd pryd bynnag y bydd angen help arnaf, gallaf ddweud wrthi. Mae ganddi ferch fach o'r enw Lily ac ymunodd â ni ar yr alwad fideo. Ar yr alwad fideo, dangosais fy nghi, Pippa, iddi a dywedais wrth Mrs Lewis pryd oedd pen-blwydd Pippa. Roedd hi'n hoffi fy nghi. Ar un alwad fideo, darllenodd Mrs Lewis ran y dosbarth o stori, ac roedd yn hyfryd clywed ei llais.
Pe bai gennyf amser, byddwn yn darllen traethawd cyfan Florence am ei fod yn cyfleu'n llawer gwell nag y gallwn i pam y mae'r cysylltiad personol ag athrawon yn wirioneddol bwysig i blant. Ond yn anffodus, nid oes digon o blant wedi cael cyswllt o safon uchel gydag athrawon yn ystod y cyfyngiadau symud. Weinidog, gwn eich bod yn gwneud popeth yn eich gallu i sicrhau bod plant yn cael mwy o amser yn yr ysgol. Pan gaeodd yr ysgolion ym mis Mawrth, roedd yna argyfwng. Nid yw'n argyfwng yn awr ac ni fydd yn argyfwng ym mis Medi. Beth arall y gallwn ei wneud i sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn cael cyswllt personol o ansawdd uchel â'u hathrawon, wrth symud ymlaen?
Diolch, Lynne, a diolch i chi am fanteisio ar y cyfle i dynnu sylw at yr arfer da yn Garnteg. Mae'n rhaid i mi ddweud fy mod wedi rhyfeddu at yr arferion rhagorol a welwyd gan ysgolion drwy gydol y cyfnod hwn, gan gynnwys yr hyblygrwydd anhygoel sydd wedi'i ddangos gan bob aelod o'r gweithlu addysg a staff cymorth mewn ysgolion yn ystod yr amser hwn. Lynne, rwy'n credu eich bod yn iawn—mae adborth gan blant yn dangos eu bod yn gwerthfawrogi rhyngweithio byw gyda staff yn fawr, ac yn bendant, byddent yn hoffi mwy ohono wrth symud ymlaen.
Wrth i'n sylw droi yn awr at y flwyddyn academaidd newydd ym mis Medi, rwyf fi, fy swyddogion, awdurdodau addysg lleol ac ysgolion yn gweithio'n galed i gynyddu'r cyswllt wyneb yn wyneb a lleihau'r tarfu ar gwrs arferol addysg plentyn. Rhaid inni gynllunio'n briodol, fel y dywedwch, ar gyfer amrywiaeth o senarios y gallem eu hwynebu yn nhymor yr hydref. Ond mae gosod disgwyliad cenedlaethol y gall plant a'u rhieni ei gael o ran rhyngweithio byw, mewn sefyllfa lle mae plant yn gorfod treulio amser gartref o ganlyniad i'r feirws, yn rhan bwysig iawn o'r gwaith hwnnw, oherwydd gwyddom ei fod yn cael ei werthfawrogi'n fawr gan blant a phobl ifanc.
Diolch i'r Gweinidog.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r ddadl ar y gyllideb atodol gyntaf ar gyfer 2020-21, a dwi'n galw ar y Gweinidog Cyllid i wneud y cynnig—Rebecca Evans.
Cynnig NDM7335 Rebecca Evans
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer y flwyddyn ariannol 2020-21, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ddydd Iau 28 Mai 2020.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Lywydd. Mae'r gyllideb atodol gyntaf ar gyfer y flwyddyn ariannol hon yn nodi sut rydym wedi ail-lunio ein cyllideb yn y lle cyntaf i ymateb i'r pandemig coronafeirws. Fel rheol, mae cyllidebau atodol yn gymharol fach, yn ddigwyddiadau technegol yn bennaf, sy'n ymdrin ag addasiadau bach i'n cyllidebau i adlewyrchu effaith gwariant Llywodraeth y DU ar Gymru. Fodd bynnag, mae'r ymateb sy'n esblygu i'r pandemig coronafeirws yn galw am lefelau o fuddsoddiad gan y Llywodraeth na welwyd mo'u tebyg o ran cyflymder a maint yn y cyfnod ar ôl y rhyfel.
Mae'r gyllideb atodol hon yn sicrhau cynnydd o £2.1 biliwn i adnoddau cyffredinol Cymru. Mae hyn 10 y cant yn fwy na'r hyn a nodwyd yn y gyllideb derfynol gwta bedwar mis yn ôl. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i'r Pwyllgor Cyllid am ystyried y gyllideb hon ac am gyhoeddi eu hadroddiad. Er y byddaf yn rhoi ymateb manwl maes o law, rwy'n bwriadu derbyn yr argymhellion.
Rwy'n croesawu'r ffaith bod y pwyllgor yn cydnabod y gwaith parhaus sydd ei angen gyda Llywodraeth y DU, o ran cyllid ychwanegol a'r gallu i wneud y defnydd gorau posibl o hyblygrwydd ariannol. Rwy'n parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i roi mwy o hyblygrwydd ariannol i'n helpu i ymdopi yn y cyfnod digynsail hwn. Galwn am fynediad llawn at yr adnoddau yn y cronfeydd wrth gefn eleni, os oes angen, a'r gallu i gario mwy o adnoddau a chyfalaf ymlaen ar ddiwedd y flwyddyn ariannol.
Mae'r penderfyniadau a wnaed gennym wedi arwain at newidiadau digynsail i'n cynlluniau gwariant, ac mae'r gyllideb atodol yn cadarnhau bod dros £2.4 biliwn yn cael ei neilltuo i ymateb Llywodraeth Cymru i'r coronafeirws. Daw o dair prif ffynhonnell: cyllid sy'n dod i Gymru o ganlyniad i wariant a addawyd ar gyfer mesurau yn Lloegr, cronfa wrth gefn Cymru ar gyfer y coronafeirws a grewyd gennyf drwy ailflaenoriaethu cyllidebau ar fyrder ar draws Llywodraeth Cymru, ac o arian yr Undeb Ewropeaidd wedi'u addasu at ddibenion gwahanol.
Ein blaenoriaeth gyntaf oedd sicrhau bod ein system gofal iechyd yn gallu ymdopi â'r straen ddigynsail y mae'r pandemig yn ei gosod arni, ac rydym wedi darparu cyllid ychwanegol i gynyddu ein capasiti arferol. Mae cyllid o £166 miliwn wedi'i ddarparu i agor ysbytai maes ledled Cymru, rhan hanfodol o'n strategaeth i ymateb i argyfwng COVID-19. Mae £30 miliwn wedi'i ddyrannu at ddefnydd pob un o'r chwe ysbyty preifat yng Nghymru a £6 miliwn pellach yn cael ei ddyrannu i ddarparu capasiti ychwanegol i gleifion mewnol iechyd meddwl.
Rydym wedi gorfod cynyddu adnoddau staff o fewn y GIG ar frys i ymdopi â'r galw ychwanegol. Mae £91 miliwn wedi'i neilltuo i wneud yn fawr o'r cyfraniad y gall myfyrwyr gofal iechyd a'r rhai sy'n dychwelyd at y gwasanaeth ei wneud. Rydym hefyd wedi dyrannu £100 miliwn i ddarparu'r cyfarpar diogelu personol sydd ei angen ar ein staff iechyd a gofal cymdeithasol i gyflawni eu gwaith yn ddiogel, iddynt hwy eu hunain ac i'w cleifion. Mae profi yn rhan hanfodol o'n cynllun i leihau niwed COVID-19 ac i helpu'r cyhoedd a gweithwyr proffesiynol i ddychwelyd at eu bywydau bob dydd. Mae £57 miliwn wedi'i ddyrannu i gynnal ein strategaeth profi, olrhain, diogelu.
Mae hefyd wedi ariannu camau gweithredu hanfodol i helpu'r rheini sydd ei angen fwyaf, oherwydd mae'n amlwg fod yr argyfwng yn cael mwy o effaith ar y rheini sydd eisoes yn agored i niwed—pobl sy'n byw mewn tai gwael neu sy'n ddigartref, neu sy'n ei chael hi'n anodd ymdopi ar incwm isel ac sy'n fwyaf tebygol o fod wedi gweld yr incwm hwnnw'n cael ei gwtogi ymhellach fyth. Mae ein hymateb i bandemig y coronafeirws a'r arian ychwanegol rydym wedi'i ddarparu yn ymateb uniongyrchol i'r niwed uniongyrchol i iechyd a achosir gan y pandemig ei hun, ond bwriedir iddo liniaru'r effeithiau ehangach a achosir gan y mesurau cymdeithasol ac economaidd digynsail rydym wedi'u rhoi ar waith fel Llywodraeth i ddiogelu bywydau pobl a lleihau lledaeniad coronafeirws.
Ni oedd y rhan gyntaf o'r DU i ymestyn prydau ysgol am ddim drwy gydol cyfnod y Pasg a thros wyliau'r haf. Rydym wedi ymrwymo £40 miliwn i roi taliad ychwanegol o £500 i weithwyr gofal cymdeithasol rheng flaen. Er gwaethaf y pandemig, mae ein hawdurdodau lleol yn parhau i ddarparu gofal cymdeithasol, addysg a gwasanaethau cyhoeddus hanfodol eraill ac maent yn chwarae eu rhan wrth weithio ar frys i ddiogelu eu gwasanaethau lleol hanfodol o fewn y gymuned. Ar yr un pryd, mae'n anorfod y bydd costau uwch ac incwm yn cael ei golli o ganlyniad i'r camau angenrheidiol y mae'n rhaid inni eu cymryd i ddiogelu iechyd y cyhoedd.
Rydym wedi darparu £188.5 miliwn drwy ein cronfa galedi i awdurdodau lleol i gydnabod eu rôl ehangach yn y gymuned yn ystod yr argyfwng hwn. Ac rydym wedi rhoi blaenoriaeth i ddiogelu economi Cymru, gan ddarparu'r pecyn cymorth busnes mwyaf hael yn unrhyw le yn y DU, gyda chymorth i fusnesau nad ydynt yn gymwys i gael mathau eraill o gymorth gan y Llywodraeth. Rydym wedi darparu mwy na £1 biliwn y mae llywodraeth leol yn ei ddosbarthu ar ein rhan mewn rhyddhad ardrethi annomestig a grantiau cysylltiedig i fusnesau yn y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch. Hyd yma, mae awdurdodau lleol wedi cyhoeddi dros 50,700 o grantiau ardrethi busnes, sy'n werth dros £625 miliwn.
Mae ein cronfa cadernid economaidd gwerth £500 miliwn eisoes wedi darparu grantiau i fwy na 6,000 o fusnesau bach a chanolig a benthyciadau i 1,000 yn rhagor, gan roi cymorth hanfodol i fusnesau, yn enwedig microfusnesau, a busnesau bach a chanolig eu maint sy'n galon ein heconomi, yn ogystal ag elusennau a mentrau cymdeithasol. Er bod y symiau o arian rydym yn sôn amdanynt yn fawr, mae maint yr her hefyd yn fawr. Mae cael y cymorth cywir i'n gwasanaethau cyhoeddus, ein busnesau a'n cymunedau wedi golygu cydbwyso penderfyniadau anodd bob dydd. Rydym wedi cael ein harwain, a byddwn yn parhau i gael ein harwain gan ystyriaeth o'r hyn sy'n deg pan fydd cyllid cyhoeddus yn wynebu pwysau mor enfawr.
Rydym hefyd wedi cymryd camau brys i ymateb i'r effaith anghymesur gynyddol a gaiff y pandemig hwn ar rai o'r bobl fwyaf difreintiedig yng Nghymru, gyda dyraniadau cyllid, gan gynnwys £15 miliwn cychwynnol ar gyfer cynllun cyflenwi bwyd yn uniongyrchol i'r rhai a warchodir oherwydd bod ganddynt gyflyrau meddygol sy'n eu gwneud yn agored iawn i COVID-19, ac sydd heb ffordd arall o gael cyflenwadau angenrheidiol, a chronfa ymateb gwerth £24 miliwn i'r trydydd sector i gefnogi'r sector gwirfoddol yng Nghymru.
Mae'r ddadl hon yn canolbwyntio ar y penderfyniadau a wnaed gennym eisoes ac a adlewyrchir yn y gyllideb atodol gyntaf. Bydd cyfle ar 15 Gorffennaf i drafod y dewisiadau anodd y bydd angen i ni eu gwneud ar gyfer ein blaenoriaethau cyllidebol sydd i ddod ar gyfer 2021-22. Mae'r rhain yn gysylltiedig ag adferiad o'r pandemig, a sut y gallai fod angen i ni ymateb i'r risg y bydd y DU yn gadael yr UE heb gytundeb masnach, yn ogystal â'r dewisiadau anodd y byddwn yn parhau i'w gwneud yn ein cynlluniau yn 2021, a byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr ymarfer i ailflaenoriaethu gwariant cyfalaf ar y cyfle cyntaf.
Dros y misoedd nesaf, byddaf yn monitro ac yn rheoli ein sefyllfa ariannol yn ofalus wrth gwrs a bwriadaf gyflwyno ail gyllideb atodol yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Felly, Lywydd, gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r cynnig hwn.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid i siarad, Llyr Gruffydd.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Mae'n bleser gennyf siarad yn y ddadl yma ar ran y Pwyllgor Cyllid. Gwnaeth y pwyllgor gyfarfod i ystyried y gyllideb atodol yma ar 4 Mehefin, ac dwi'n nodi sylwadau cadarnhaol, cychwynnol, beth bynnag y Gweinidog i'r argymhellion yn yr adroddiad, ac rŷm ni'n edrych ymlaen at dderbyn yr ymateb ffurfiol.
Ond fel mae'r Gweinidog yn dweud, mae'r gyllideb atodol hon yn cael ei chyflwyno yn ystod cyfnod digynsail. Mi oedd y Senedd yma eisoes wedi pasio’r gyllideb derfynol ar gyfer 2020-21 cyn i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gyflwyno ei chyllideb hithau, felly roeddem ni yn disgwyl i'r gyllideb atodol yma nodi cyllid canlyniadol. Ond wnaeth neb erioed ragweld newidiadau mor sylweddol fel y rhai rŷm ni wedi eu gweld yn sgil y pandemig COVID-19.
Mae'r gyllideb atodol gyntaf hon yn cynyddu adnoddau cyllidol Llywodraeth Cymru £2.3 biliwn, ac mae'r rhan fwyaf o hynny’n deillio o gyllid canlyniadol sy'n gysylltiedig â’r penderfyniadau polisi a wnaed gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ymateb i COVID-19. Mae ein hadroddiad ni'n cynnwys nifer o argymhellion, ac fe wnaf i gyfeirio’n gryno at y prif feysydd rheini heddiw.
Mae llawer o'n hargymhellion ni yn ymwneud â'r trefniadau gweithio rhwng Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru. Fel pwyllgor, rŷm ni’n credu bod yn rhaid i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ymgysylltu â Llywodraeth Cymru yn gynharach ynghylch penderfyniadau mawr sy'n effeithio ar Gymru, a rhoi mwy o sicrwydd o ran y cyllid fydd yn cael ei ddarparu. Mae'r pwyllgor hefyd yn annog Llywodraeth Cymru i ystyried a chyflwyno achos i'r Trysorlys ynghylch a yw’r fformiwla ariannu yn adlewyrchu’n ddigonol effaith COVID-19 ar Gymru o'i chymharu â gwledydd eraill y Deyrnas Unedig.
Fe drafododd y pwyllgor yr ysgogiadau, neu'r levers ariannol sydd ar gael i Lywodraeth Cymru, ac fe ddywedodd y Gweinidog wrth yr Aelodau ei bod wedi cysylltu â Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ofyn am bwerau i drosglwyddo cyfalaf presennol i refeniw, ac i ganiatáu mwy o hyblygrwydd o ran y terfynau blynyddol ar gronfa wrth gefn Cymru ac o fewn y terfynau cyffredinol ar fenthyca cyfalaf. Mae'r pwyllgor yn cefnogi'r Gweinidog yn y ceisiadau hyn. Nawr, mi fydd y pwyllgor yn cael tystiolaeth gan yr Ysgrifennydd Gwladol ym mis Gorffennaf ac, wrth gwrs, rydym ni'n edrych ymlaen at fynd i'r afael, gydag ef, a rhai o'r materion yma hefyd.
Wrth ymateb i’r pandemig COVID-19, mae Llywodraeth Cymru wedi mynd ati i ailddyrannu cyllid, gyda £256 miliwn yn cael ei ddychwelyd i'r gronfa ganolog. Mae hyn yn cynnwys y sefyllfaoedd hynny lle na fu’n bosib defnyddio cyllid a oedd wedi'i gynllunio, yn ogystal â’r gostyngiad mewn cyllid ar gyfer rhai cyrff, fel Cyfoeth Naturiol Cymru—ac rŷm ni wedi clywed hynny'n cael ei grybwyll yn gynharach y prynhawn yma—a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru. Er bod y pwyllgor yn derbyn y bu’n rhaid gwneud penderfyniadau anodd yn sgil yr ymateb i COVID-19, mae'r pwyllgor yn awyddus i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn cynnal deialog barhaus gyda sefydliadau sy’n wynebu gostyngiadau yn eu cyllid.
Mae'r gyllideb atodol yn gwneud nifer o ddyraniadau newydd, hefyd, yn enwedig i iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, llywodraeth leol a'r economi. Mae'r pwyllgor yn sylweddoli y bydd angen gwneud rhagor o ddyraniadau yn ystod y flwyddyn i ymateb i COVID-19, felly mae wedi gwneud nifer o argymhellion ym maes iechyd, gan gynnwys ynghylch datgomisiynu ysbytai maes, darparu’r strategaeth profi, olrhain a diogelu a'r costau ychwanegol gwirioneddol a rhagamcanol ar gyfer byrddau iechyd lleol o ganlyniad i COVID-19.
Wrth edrych i’r dyfodol at y cyfnod adfer o'r pandemig, mae'n amlwg y bydd angen cefnogi'r economi ac rŷm ni, fel pwyllgor, yn awyddus i ddeall sut y gall Llywodraeth Cymru gyflymu gwaith yn y maes hwn a rhoi ffocws ar gefnogi canol trefi. Mae gan y pwyllgor ddiddordeb hefyd mewn gwybod sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y cyllid a ddarperir i gynorthwyo'r broses adfer o COVID-19 yn canolbwyntio ar adferiad gwyrdd. Er enghraifft, sut mae Llywodraeth Cymru yn rhagweld y bydd modd adeiladu ar y newidiadau cadarnhaol i drafnidiaeth sydd wedi deillio o'r pandemig? Rŷm ni hefyd eisiau deall mwy am y modd y mae rôl y Cwnsler Cyffredinol yn y broses adfer yn cyd-fynd â rôl y Gweinidog cyllid.
Yn olaf, fe wnaethom ni ystyried cyfnod pontio'r Undeb Ewropeaidd. Wrth gwrs, mae'n hawdd colli golwg ar y dyddiad cau sydd ar y gorwel a ninnau wedi canolbwyntio gymaint ar COVID-19, ac mae'n amlwg bod angen mynd i'r afael â hyn yn ogystal. Mae'r pwyllgor yn pryderu bod y pandemig COVID-19 yn cyfyngu'n ddifrifol ar staff Llywodraeth Cymru a’r adnoddau ariannol sydd ar gael i baratoi at ddiwedd cyfnod pontio'r Undeb Ewropeaidd, a'i gallu i gefnogi’r sector amaethyddiaeth, i gefnogi busnesau a dinasyddion gyda’r newidiadau posib. Er bod y Gweinidog wedi dweud wrthym ni fod ganddi gyllid wrth gefn yn ystod y flwyddyn wedi’i ddal yn ôl hyd nes ceir rhagor o eglurder, mi fyddem ni'n croesawu rhagor o fanylion am y senarios cynllunio sy'n cael eu hystyried a'r cyllid sydd ei angen. Gyda hynny o sylwadau, gaf i ddiolch i'r Senedd am ei gwrandawiad?
Rwy'n falch o gyfrannu at y ddadl y prynhawn yma. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi bod yn galw ers tro am gyllideb atodol frys i ddarparu tryloywder ac eglurder o ran gwario arian ar yr adeg anodd hon. Ac wrth gwrs, rydym yn cydnabod yr heriau y mae'r pandemig yn ei gyflwyno i holl Lywodraethau'r DU, ac mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn dymuno bod yn wrthblaid adeiladol ar yr adeg hon.
Ers i gyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-21 gael ei chymeradwyo ar 3 Mawrth, mae ei chyllideb wedi cynyddu mwy na 10 y cant. Roedd cyhoeddi cyllideb atodol Llywodraeth Cymru felly yn gyfle i Lywodraeth Cymru newid gêr yn llwyr yn y ffordd y mae'n blaenoriaethu ei chyllid, felly mae'n peri pryder i weld cyn lleied o ailflaenoriaethu ymarferol, yng ngoleuni'r cynnydd enfawr yn y cyllid ar gyfer ei chyllideb.
Nawr, a gaf fi yn gyntaf groesawu peth o'r ailflaenoriaethu sydd wedi digwydd ar raddfa lai, ac rwyf wedi trafod hyn gyda'r Gweinidog cyllid, pethau megis trosglwyddo arian o'r gronfa digwyddiadau mawr? Mae hwn yn gam cwbl synhwyrol. Mae'n cael ei groesawu. Mae'n eithaf amlwg eleni, ar hyn o bryd, nad oes llawer o ddigwyddiadau mawr yn digwydd, felly mae ailflaenoriaethu o'r fath yn rhywbeth y gallwn ei gefnogi. Lle mae ailflaenoriaethu wedi digwydd, gwelwyd hynny at ei gilydd yn y portffolio iechyd a gwasanaethau cymdeithasol sydd wedi addasu cyfanswm o £114 miliwn at ddibenion gwahanol, sy'n ddealladwy o gofio bod pandemig COVID-19 wedi bod yn argyfwng iechyd nas gwelwyd ei debyg erioed o'r blaen yng Nghymru. Fodd bynnag, siom oedd gweld bod llawer llai o addasu wedi digwydd mewn meysydd portffolio eraill, er enghraifft, portffolios yr economi a thrafnidiaeth, y neilltuwyd cyfanswm o £50 miliwn a £46.6 miliwn ar eu cyfer, nad yw'n gymaint o ailflaenoriaethu ag y mae'r gyllideb iechyd wedi'i weld, ar wahân i'r rhaglenni y soniodd y Gweinidog amdanynt sydd i'w croesawu, megis y gronfa cadernid economaidd.
Bydd y Gweinidog yn ymwybodol o'r setliad heriol iawn sy'n wynebu llywodraeth leol ar hyn o bryd er gwaethaf symiau canlyniadol Barnett gan Lywodraeth y DU. Ac rwy'n derbyn bod Llywodraeth Cymru wedi dyrannu arian i gefnogi llywodraeth leol, ond mae cynghorau ledled Cymru yn dal i orfod gwneud penderfyniadau anodd. Mae hyn yn gadael cynghorau lleol gyda mwy o gwestiynau nag atebion, ac yn dal i orfod gwneud penderfyniadau anodd. Er bod rhai dyraniadau wedi cael eu gwneud, mae effaith COVID-19 wedi bod yn llethol ar gymunedau lleol. Mae angen cydnabod hyn a'u cefnogi ymhellach, yn enwedig wrth lacio'r cyfyngiadau symud.
Nid yw'r gyllideb atodol y tro hwn yn debyg i'r gyllideb dechnegol rydym wedi arfer ei gweld yn y gorffennol, fel y dywedodd y Gweinidog yn hollol gywir. Mewn sawl ffordd, mae'n gyllideb argyfwng ac yn un roeddem am ei gweld. Ond roedd yn gyfle i anfon neges at bobl Cymru fod Llywodraeth Cymru yn ailflaenoriaethu arian yn fforensig ar bob lefel i liniaru effaith COVID-19 ar ein cymunedau. Ond faint o ailflaenoriaethu go iawn sydd wedi digwydd mewn gwirionedd? Dywedodd y Gweinidog wrth y Pwyllgor Cyllid, ac rwy'n dyfynnu, 'Cyfarfûm â phob Gweinidog a Dirprwy Weinidog i gwestiynu eu cyllidebau'. Wel, rwy'n credu bod hynny'n wych cyn belled ag y mae'n mynd, a gwrandewais ar yr hyn a oedd gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid i'w ddweud yn flaenorol, ond credaf fod angen cwestiynu ymhellach, yn enwedig os ydym yn edrych ar ail gyllideb atodol yn y dyfodol agos.
Felly, rhai cwestiynau. Sut y mae'r Gweinidog yn asesu bod pob ceiniog bosibl yn cael ei gwario i wrthbwyso effaith COVID-19 yng Nghymru ac yn paratoi'r ffordd ar gyfer ein hadferiad yn sgil COVID-19? A yw'r Gweinidog o ddifrif yn ffyddiog y gall roi cyfrif am bob gwariant gan adrannau'r Llywodraeth, a bod pob dim posibl wedi'i wneud i ailflaenoriaethu arian? Ac a all y Gweinidog roi ymrwymiad pendant i bobl Cymru heddiw fod rhaglenni cyllido nad ydynt o fudd uniongyrchol i les iechyd cyhoeddus ac economaidd y wlad wedi cael eu dargyfeirio i sicrhau y caiff gwasanaethau rheng flaen eu cefnogi'n llawn?
Mae Cymru ar groesffordd yn awr. Wrth i'n polisïau ddechrau dilyn llwybr gwahanol i'r hyn sy'n digwydd yn Lloegr, mae'n siŵr y bydd bwlch yn lefelau'r symiau canlyniadol a dderbynnir, ac mae modelau a rhagolygon ariannol Llywodraeth Cymru yn gwbl hanfodol wrth symud ymlaen. Pe bai polisïau'n parhau i ddilyn llwybr gwahanol, bydd yn rhaid i Lywodraeth Cymru lenwi'r bylchau yn y cyllid a gollir gan Lywodraeth y DU—dewis gwleidyddol gyda chost ariannol, gallech ddweud. Weinidog, pa drafodaethau brys rydych yn eu cael gyda'ch cyd-Weinidogion ynglŷn â'r modd y bydd polisïau gwahanol yn effeithio ar gyllidebau adrannol ac yn bwysicach, pa drafodaethau rydych wedi dechrau eu cael ynglŷn â llenwi rhai o'r bylchau hynny o bosibl?
Mae o wedi cael ei ddweud gan eraill, mi wnaf innau ddweud hefyd: dwi'n sylweddoli bod y gyllideb atodol yma yn cael ei chyhoeddi mewn amgylchiadau cwbl digynsail. Mae yna dros £2 biliwn o arian ychwanegol wedi dod i mewn i Gymru yn arian canlyniadol oherwydd yr ymateb i COVID-19 ar lefel Brydeinig. Mi fyddai swm ychwanegol o'r math hwnnw fel arfer yn cynnig bob mathau o opsiynau ar gyfer gwariant ond, wrth gwrs, y gwir amdani ydy bod yr arian hwnnw wedi bod at bwrpas penodol iawn yn yr achos yma—yr ymateb uniongyrchol a'r ymateb acíwt, wrth gwrs, i'r pandemig, ac mi fydd angen rhagor hefyd yn y misoedd i ddod.
O ran yr arian sydd wedi dod, rwyf innau'n nodi mai dim ond arian canlyniadol o brif amcangyfrifon sydd wedi cael ei gynnwys yn y gyllideb atodol yma, a bod gwariant arall yn Lloegr y tu allan i'r prif amcangyfrifon hynny wedi cael ei adael allan. Dwi'n gweld bod tîm ymchwil fiscal Canolfan Llywodraethiant Cymru yn amcangyfrif y gallai fod cymaint â £400 miliwn yn ychwanegol i ddod, felly mi gawn ni edrych ymlaen at gyllideb atodol arall i weld yr arian hwnnw yn cael ei ddyrannu.
Mae yna gwestiynau pwysig iawn, dwi'n meddwl, yn codi yma o ran sut y cyrhaeddwyd at y ffigurau o ran arian canlyniadol i Gymru. Mae yna gwestiynau, fel rydyn wedi clywed gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, ynglŷn â natur y drafodaeth rhwng Llywodraethau Cymru â'r Deyrnas Unedig ynglŷn â lefel y gefnogaeth sydd ei angen ar Gymru, efo pobl hŷn yn gyffredinol dlotach, ac o ystyried y grwpiau sydd wedi bod fwyaf agored i newid yn y pandemig yma, mae angen gofyn pa fesur sydd yna wedi bod o wir anghenion Cymru.
Ond dwi yn derbyn, fel y dywedais, fod rhelyw'r arian sydd wedi dod wedi mynd ar bethau—wedi gorfod mynd ar bethau adweithiol, angenrheidiol. Ond hyd yn oed ar yr amser yma, fy apêl i ydy hyn: mae angen inni allu gweld arwyddion gan Lywodraeth Cymru o arian yn cael ei wario mewn ffordd ragweithiol wrth inni edrych ymlaen i'r cyfnod ar ôl COVID, ac mi fydd yna waith i ymateb i broblemau sy'n cronni o ran iechyd y cyhoedd, problemau iechyd meddwl, oherwydd ffactorau llesiant, a'r heriau sydd wedi codi o ran hynny. Hefyd, wrth reswm, bydd y gwaith enwog yna o ailadeiladu economi, creu cyfleon swyddi newydd i'r rhai sydd wedi teimlo'r ergyd economaidd galetaf. Rydyn ni angen pecynnau wedi cael eu teilwra yn ofalus iawn i'r anghenion fydd gennym ni. A hefyd dwi'n cytuno efo'r pwynt gafodd ei wneud gan Llyr Gruffydd y bydd angen gwneud yn siŵr bod yna fuddsoddiad priodol yn mynd i mewn i sicrhau bod yr adferiad yn un gwyrdd, sydd wedi bod yn thema dwi wedi bod yn falch iawn o'i gweld yn cael ei hamlygu dros y misoedd diwethaf.
Dwi am symud ymlaen drwy gyfeirio at yr angen i edrych o'r newydd ar rai o elfennau sylfaenol y berthynas fiscal rhwng Cymru a'r Deyrnas Unedig, a'r ddadl gryfach nag erioed rŵan, dwi'n meddwl, i roi llawer mwy o hyblygrwydd i'r rheolau hynny, a dwi'n gwybod bod y Gweinidog yn cytuno efo fi ar lawer o hyn. Mae yna bwysau o ran cyllidebau ar draws holl adrannau'r Llywodraeth ar hyn o bryd, ond mae yna arian wrth gefn—heb ei ddyrannu, wrth gwrs—a dwi'n cytuno efo'r angen i alluogi Llywodraeth Cymru i gael mwy o fynediad at yr arian hwnnw. Un o'r pethau rydyn ni angen gweld cynnydd yn y gwariant arno fo yn y misoedd i ddod ydy ar waith olrhain gan lywodraeth leol. Mae'r cynghorau wedi gwneud gwyrthiau hyd yma yn tynnu staff i mewn ar draws eu gweithlu i wneud gwaith olrhain, ond gall hynny ddim para'n hir iawn. Pan fydd staff yn gorfod mynd yn ôl i'w swyddi arferol nhw, mi fydd cynghorau angen arian ychwanegol sylweddol i gyflogi staff proffesiynol i wneud y gwaith olrhain. Mae angen llacio rheolau benthyg hefyd. Er enghraifft, mi fyddwn ni am i Lywodraeth Cymru fanteisio ar hawliau benthyg llawer ehangach. Mae'n amser da iawn i fenthyg, i fuddsoddi ymhob agwedd ar isadeiledd cenedlaethol Cymru, ac rydyn ni angen yr hwb yna beth bynnag, neu mi oedden ni ei angen o cyn hyn—mae o'n fwy allweddol fyth rŵan i wneud y buddsoddiad yna yn ein dyfodol ni. A dwi'n meddwl bod eisiau llacio'r rheolau ar ganiatáu defnyddio'r cyllidebau cyfalaf ar gyfer gwariant refeniw hefyd. Mae yna sawl elfen i hyn.
Felly, i gloi, mi ddechreuais i drwy ddweud bod y rhain yn ddyddiau digynsail, a beth sydd ei angen ar adegau felly, fel arfer, ydy arloesedd a pharodrwydd i newid. Dwi'n gwybod bod y Llywodraeth yn cytuno efo fi ar lawer o hynny. Ymatal fyddwn ni ar y gyllideb atodol, ar y bleidlais ei hun, ond mi fyddwn ni'n cefnogi, yn sicr, y Llywodraeth yn ei hymdrechion i fynd ar ôl y math o newidiadau i reolau fiscal y mae'r Gweinidog yn eu cefnogi, ac mi fyddwn ni'n annog y Llywodraeth hefyd i fod yn ddewr ac i fynd ymhellach a chwilio am gyfleon newydd i ailosod y berthynas yna rhwng Llywodraeth Cymru â Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn hynny o beth.
Byddwn ni yn y grŵp Brexit hefyd yn ymatal ar y gyllideb atodol yn hytrach na phleidleisio yn erbyn. Yn gyffredinol, fel y dywedodd y Gweinidog, newidiadau bach technegol a mân ydynt, ond mae'n unrhyw beth ond hynny y tro hwn. Hynny yw, y ffigurau'n unig: £2.1 biliwn—mae ychwanegu 10 y cant at y gyllideb mewn ychydig fisoedd yn unig yn gwbl eithriadol.
Rwyf am ystyried yr hyn y credaf ei fod yn wahaniaeth pwysig rhwng y ffordd rydym yn cyllidebu yng Nghymru a'r modd y caiff ei wneud ar lefel y DU, yn enwedig mewn argyfwng fel hwn. Mae'n fy nharo i fod Llywodraeth y DU wedi ystyried ac wedi gwneud ei phenderfyniadau ynglŷn â pha wariant y mae'n ei ystyried yn angenrheidiol—weithiau ar draws y DU, ac efallai'n amlach ar gyfer Lloegr. Ac yna, ar ôl gwneud y penderfyniad hwnnw, mae'n benthyca wedyn neu'n sicrhau bod pa arian bynnag sydd ei angen yn cael ei argraffu. Ond yr hyn y mae hynny'n ei wneud yw sicrhau mai'r asesiad o'r gwariant angenrheidiol sy'n llywio'r penderfyniad ynglŷn â faint sy'n cael ei wario. Ond yng Nghymru, rwy'n credu bod rhywfaint o ailflaenoriaethu wedi bod, ac rwy'n cefnogi llawer o'r hyn sydd wedi digwydd. Ond mae llawer o'r hyn rydym wedi'i wneud wedi bod yn adwaith i symiau canlyniadol, felly yn hytrach na phenderfynu pa arian y mae angen inni ei wario, ac yna sut i'w gyllido, rydym yn aros i weld faint o arian y mae Llywodraeth y DU yn penderfynu sydd angen ei wario yn Lloegr, a chawn swm canlyniadol wedyn, a byddwn yn edrych ar wario hwnnw. Felly, mae'n groes i'r ffordd y caiff y broses ei gwneud. A tybed: a oes perygl yn y broses honno, yn enwedig pan fyddwn yn dyrannu cymaint o wariant canlyniadol mor gyflym o'i gymharu â'r hyn rydym wedi arfer ag ef, nad oes gennym yr un graddau o reolaeth a ffocws ar werth am arian ag y byddai gennym fel arall. Rwy'n credu efallai fod hynny'n ddealladwy o dan yr amgylchiadau, ond efallai hefyd fod yna rywbeth am ein proses a'n gwaith craffu nad yw wedi'i sefydlu cystal ar gyfer newidiadau gwariant o'r maint hwn na'r hyn a fyddai gennym fel arfer. Ac ar y Pwyllgor Cyllid, credaf ein bod wedi derbyn yr agwedd bragmatig y mae'r Gweinidog wedi'i mabwysiadu a'i pharodrwydd i ymgysylltu. Ac fel hithau, rwy'n croesawu'r ddadl a gawn ar 15 Gorffennaf, gan edrych ymlaen at weld beth fydd y blaenoriaethau gwario, ac rwy'n gobeithio y bydd siarad nid yn unig am y pethau yr hoffem eu gweld, ond hefyd am y cyfaddawdu anochel sy'n gysylltiedig â hynny.
Rwy'n credu ei bod yn hawdd i ni fel ACau unigol fynd at y Gweinidog a chynrychioli etholwyr penodol neu sectorau penodol sy'n dod atom a dweud, 'Wel, mae hyn a'r llall wedi cael help, ond nid oes ganddynt gymaint yn y maes hwn—oni ddylai mwy gael ei wneud?' A phenllanw'r ymagweddau hynny yw llawer mwy o wario. A chefais fy nghalonogi'n fawr gan beth o'r hyn a ddywedodd Mark Drakeford yn gynharach wrth ymateb i Suzy Davies. Yr enghraifft benodol oedd parciau carafannau, ond gallai fod wedi bod yn bob math o wahanol feysydd. Ac yn blwmp ac yn blaen, os yw Llywodraeth Cymru yn defnyddio cofrestru ar gyfer TAW fel ffordd o sicrhau o leiaf rywfaint o reolaeth ariannol a rheolaeth archwilio ar wariant, mae hynny'n rhywbeth y byddwn yn ei groesawu. O safbwynt archwilio, mae'n her i ddod o hyd i fesurau ffwrdd-â-hi ond defnyddiol er hynny. Ac efallai ein bod yn derbyn y bydd cryn dipyn o arian, mewn rhyw ffordd o leiaf—pan fydd y cyfan yno o hyd, hyd yn oed yn y fan honno, mae'n cefnogi pobl sydd angen y cymorth hwnnw, hyd yn oed os nad ydynt yn gallu ei ddefnyddio i gynnal eu busnes yn llwyddiannus yn y pen draw. Ond rwy'n tybio, ar ôl hyn, y byddwn yn edrych yn ôl ac yn dod o hyd i enghreifftiau eithaf sylweddol a mawr, nid yn unig o'r math hwnnw o wariant, ond hefyd o wariant sydd o leiaf, gellir dadlau, yn dwyllodrus. Ac rwy'n credu bod angen inni barhau i ddisgwyl i Lywodraeth Cymru gael rhyw raddau o oruchwyliaeth a rhywfaint o sicrwydd, a gwneud y penderfyniadau gorau y gall eu gwneud ynglŷn â sut i wneud hynny mewn sefyllfa sy'n newid yn gyflym.
A gaf fi ofyn ar yr ochr iechyd—nid wyf yn credu y byddai neb yn beirniadu'r Gweinidogion na'r byrddau iechyd am y gwariant a welsom ar yr ysbytai Nightingale fel y'u gelwir—y mwyaf yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd—a'r ffordd, i bob pwrpas, nad ydynt wedi cael eu defnyddio i raddau helaeth. Ond wrth edrych yn ôl ar hynny, a oes gwersi y gellir eu dysgu'n fuddiol o hyd i'w cymhwyso ar yr adeg hon yn yr argyfwng, yn hytrach na rhywbeth ar gyfer ymchwiliad yn nes ymlaen? Soniodd y Gweinidog am £57 miliwn, rwy'n credu, ar gyfer profi, olrhain a diogelu. Credaf fod elfennau o hynny wedi bod yn eithaf da yng Nghymru—defnyddio staff y sector cyhoeddus, rwy'n credu, o gymharu â chyflogi pobl nad ydynt wedi cael cymaint o hyfforddiant o'r sector preifat yn y tymor byr, fel sydd wedi digwydd yn Lloegr gyda Llywodraeth y DU. Efallai fod hynny'n gweithio'n fwy effeithiol, er yr hoffwn astudio hynny ymhellach. Ar y llaw arall, yn gynharach yn y broses, faint o arian a wariwyd ar brofi, a'r ffocws ar Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gwneud y profi hwnnw—byddwn yn cwestiynu a oedd hynny'n dangos gwerth da am arian. Gwelsom lawer llai o brofi nag yn Lloegr, ac rwy'n credu ein bod wedi gwario llawer mwy o arian hefyd, heb fawr o effaith, neu heb yr effaith y byddem wedi'i hoffi o ran profi, oherwydd roeddem yn ceisio cynhyrchu hynny i gyd yn fewnol, o fewn y sector cyhoeddus, yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn hytrach na mynd at y sector preifat a'r sector prifysgolion yn gynharach.
Yn olaf, hoffwn nodi bod yna rai newidiadau o ran cyfraddau treth incwm Cymru a threth trafodiadau tir, ond rwy'n amau a yw'r rheini'n ddigonol, o ystyried maint y cyfyngiadau symud a'u parhad yng Nghymru, ac yn arbennig ar ochr y dreth trafodiadau tir. Soniais yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog, er bod rhai pobl yn dweud bod y farchnad dai yn ailagor yng Nghymru chwe wythnos ar ôl Lloegr, mewn perthynas â dangos tai o leiaf, mae hynny'n dal i olygu eiddo gwag yn unig. A yw'r Gweinidog wedi ystyried hyd yn oed yn awr pa leihad pellach y gallem eu gweld yn y dreth trafodiadau tir ac yng nghyfraddau treth incwm Cymru oherwydd yr hyn rydym yn ei wneud? Ac yn y pen draw, fel y dywedodd Nick Ramsay ar ddiwedd ei araith, sut rydym yn mynd i dalu amdano wedyn? Mae'r Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan wedi datganoli pŵer, nid yn unig i dorri 10 y cant oddi ar y dreth incwm, ond i'w chodi heb unrhyw gyfyngiad o gwbl, ac rwy'n poeni nad ydym yn cysylltu goblygiadau ein penderfyniadau â'r hyn fydd y canlyniadau ariannol yn nes ymlaen. Diolch.
Hoffwn gyfrannu fel Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau. Ac fel pwyllgorau eraill, ar hyn o bryd rydym yn cynnal ymchwiliad i effaith COVID-19 ar ein meysydd cyfrifoldeb. Ac mae'n amlwg fod ymateb yn rhoi pwysau ariannol sylweddol ar y sefydliadau sy'n gweithredu yn y meysydd o fewn ein cylch gwaith, a gallu'r sefydliadau hynny i ymateb yn y ffordd fwyaf effeithiol i'r heriau parhaus.
Wrth gwrs, mae awdurdodau lleol yn y rheng flaen wrth ymateb i'r argyfwng hwn ac mae wedi dod ar adeg pan yw'r gwasanaethau hanfodol hynny y maent yn eu darparu eisoes o dan bwysau ariannol sylweddol a chyfyngiadau cyllidebol. Sylwaf fod y gyllideb atodol hon wedi sicrhau bod £180 miliwn o arian caledi ar gael i awdurdodau lleol, gan gynnwys £78 miliwn ar gyfer colledion incwm oherwydd yr argyfwng hwn. Ac mae'r awdurdodau lleol wedi cael mynediad cynnar at eu taliadau setliad mis Mai a mis Mehefin i'w helpu gyda'u hymateb, ac mae'r camau cychwynnol hynny i'w croesawu'n fawr. Fodd bynnag, bydd yn hanfodol sicrhau bod ein cynghorau'n parhau i gael cymorth o'r fath dros y misoedd nesaf, a blynyddoedd yn wir, er mwyn cynnal gwasanaethau presennol ac ailddechrau'r rheini sydd ar stop ar hyn o bryd. Yn wir, fel y pwysleisiodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wrthym yn y pwyllgor, yr effaith ariannol hirdymor sy'n peri pryder, felly bydd yn hollbwysig sicrhau bod setliadau ariannol yn y dyfodol yn deg ac yn cydnabod yr effaith hon.
Gan symud ymlaen at faterion eraill, mae'r achosion cynyddol o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yng nghyfnod COVID-19 yn peri cryn dipyn o bryder i'n pwyllgor. Roedd y dystiolaeth gan Cymorth i Fenywod Cymru yn tynnu sylw at ba mor bwysig yw sicrhau bod cyllid ar gyfer gwasanaethau cymorth yn cyrraedd y rheng flaen. Sylwaf fod y gyllideb atodol yn cynnwys £200,000 o arian cyfalaf ar gyfer y grant i ddarparwyr llochesi, ac mae hynny i'w groesawu, ond hoffwn bwysleisio pa mor bwysig yw sicrhau bod arian yn cyrraedd gwasanaethau cymorth rheng flaen. Mae'n hanfodol fod digon o arian yn cyrraedd y rheng flaen er mwyn galluogi darparwyr i'w ddefnyddio yn y ffordd orau i newid a chefnogi'r gwaith o ddarparu gwasanaethau. Ydy, mae cyllid cyfalaf yn bwysig, ond nid yw'n helpu i fynd i'r afael â phroblemau incwm a gollir neu gost defnyddio staff asiantaeth i lenwi pan fo staff parhaol yn absennol.
Dywedodd Cymorth i Fenywod Cymru wrthym fod canlyniadau arolwg a gynhaliwyd yn dangos bod 90 y cant o wasanaethau yn wynebu costau uwch o ganlyniad uniongyrchol i'r pandemig, yn cynnwys costau cyfarpar diogelu personol a phrinder staff. Felly, mae'n hanfodol fod cymorth ariannol ar gael ar gyfer y rhain, yn ogystal â chyllid cyfalaf. Mae Cymorth i Fenywod Cymru wedi galw am arian wedi'i glustnodi ar gyfer gwasanaethau arbenigol sydd o leiaf yr un faint â'r cyllid sy'n cael ei fuddsoddi mewn mannau eraill yn y DU. Hoffai weld cynllun clir i sicrhau arian yn lle'r cyllid sydd wedi ei ailgyfeirio tuag at liniaru effaith COVID-19 a chyllid y gellir ei ddefnyddio'n hyblyg ar gyfer costau refeniw a chymorth. Cefnogwn y galwadau hyn, a hoffwn ofyn i'r Gweinidog ystyried sicrhau bod cyllid o'r fath ar gael fel mater o flaenoriaeth. Diolch yn fawr.
Mike Hedges.
Diolch, Lywydd. Roeddwn i'n ceisio darganfod ble roedd y botwm i agor y meic ar y sgrin. A gaf fi ddweud, cyn i mi ddechrau rhoi sylw i'r gyllideb atodol gyntaf, hoffwn wneud dau bwynt byr iawn, ond rwy'n credu eu bod yn bwysig iawn? Yn gyntaf, credaf mai pennu cyllideb gychwynnol a chyllideb atodol yw'r pethau pwysicaf y mae'r Senedd yn eu gwneud gyda'i gilydd. Heb y penderfyniadau hyn, ni fyddai gan y Llywodraeth yr un geiniog i'w gwario. Ac eto, mae'r amser a neilltuir ar gyfer y gyllideb atodol yr un faint ag a roddir i ddadleuon y gwrthbleidiau, a bydd yr amser siarad yr un fath. Wrth inni weld y Senedd yn aeddfedu, does bosibl nad yw proses y gyllideb yn deilwng o ddadl brynhawn ac o leiaf 10 munud ar gyfer areithiau.
Yr ail bwynt cyflym yw hwn: darperir y cyllid canlyniadol o gynnydd mewn gwariant yn Lloegr mewn meysydd sydd wedi'u datganoli i Gymru. Er nad y Cyfarfod Llawn yw'r lle cywir i adrodd ar hyn yn fanwl, credaf y dylai adroddiad ar bob cynnydd canlyniadol mewn cyllid, gan gynnwys y cyfrifiadau y maent yn seiliedig arnynt, gael ei ddarparu'n ysgrifenedig i'r Pwyllgor Cyllid.
Rwy'n credu—ac rwyf wedi ysgrifennu hyn o'r blaen—fod y Trysorlys, yn rhy aml, yn ein trin fel adran wario arall yn San Steffan, yn hytrach nag fel Llywodraeth ddatganoledig, sy'n fy arwain at dri argymhelliad cyntaf y Pwyllgor Cyllid, sy'n argymell
'bod Llywodraeth Cymru yn parhau i fonitro ac archwilio a yw cyllid canlyniadol a geir drwy fformiwla Barnett yn adlewyrchu anghenion Cymru'.
'Os na fydd cyllid canlyniadol yn adlewyrchu anghenion Cymru yn ddigonol yn sgil COVID-19, mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn cadarnhau gyda Llywodraeth y DU opsiynau ariannu eraill ar frys.'
Ac rwy'n gwybod bod Llyr Grufydd wedi manylu ar hynny'n gynharach, felly nid wyf am ei ailadrodd. Ac mae'r pwyllgor yn argymell:
'bod Llywodraeth Cymru yn mynnu bod Llywodraeth y DU yn rhoi cymaint o wybodaeth... â phosibl, am unrhyw gyhoeddiad gan Lywodraeth y DU sy’n effeithio ar Gymru, ei thrigolion a/neu’r busnesau sy’n gweithredu yma.'
Nid wyf yn mynd i barhau dadl rwyf wedi'i chael gyda'r Gweinidog dros gryn dipyn o amser, ynglŷn ag a ydym yn cael digon o arian o'r newidiadau cyllid a wnaethpwyd wrth dalu dyledion byrddau iechyd yn Lloegr a'r Llywodraeth yn San Steffan yn dangos rhywfaint o ddiddordeb ariannol yn y cwmnïau cysylltiedig, pan oeddent yn gwmnïau cyhoeddus i ddechrau mewn gwirionedd. Nid wyf yn mynd i drafod hynny heddiw, dim ond ei gofnodi.
A gaf fi droi yn awr at brif ran y gyllideb atodol gyntaf? Fel y dywedodd y Gweinidog, mae hyn yn wahanol iawn i'r mân newidiadau a fu yn y blynyddoedd blaenorol, newidiadau rydym wedi arfer â hwy. Fel arfer, mae cyllidebau atodol yn ddigwyddiadau technegol, dyraniadau wedi'u rheoleiddio, maent yn symud rhywfaint o arian o gwmpas, yn rhoi arian ychwanegol i bobl sydd wedi llwyddo i ymbil mewn ffordd arbennig, ond dim ond symiau bach sy'n symud o gwmpas. Mae hyn yn wahanol iawn i hynny. Mae bron yn 15 y cant o'r gyllideb gyfan—14 y cant o'r gyllideb gyfan, rhywbeth fel hynny. Mae'n newid mawr.
Ac mae'r pandemig wedi—. Ceir lefelau digyffelyb o fuddsoddiad gan y Llywodraeth yn ei sgil. Mae llawer o arian wedi'i wario. Ac fel John Griffiths, rwy'n pryderu—a fydd llywodraeth leol yn cael ad-daliad llawn o'r arian y mae wedi'i wario er mwyn ein cael ni allan o'r llanast hwn? Ac a gaf fi ddweud, unwaith eto, er mwyn iddo gael ei gofnodi, rwy'n credu bod llywodraeth leol wedi bod yn wych? Gan anwybyddu rheolaeth wleidyddol y gwahanol gynghorau, mae'r cynghorau wedi ysgwyddo eu cyfrifoldeb. A byddem mewn sefyllfa lawer gwell pe bai un neu ddau o sefydliadau cenedlaethol wedi gwneud yr un fath.
Ar fanylion y gyllideb, mae gennyf bryderon difrifol am y gostyngiadau i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ac i CNC, gan fod y ddau'n ymwneud â meysydd sy'n wynebu heriau sylweddol yn y tymor byr a chanolig. Er bod y ffrydiau gwaith a fyddai wedi'u cynnwys wedi diflannu, felly nid oes angen arian arnynt ar gyfer hynny, mae angen yr arian ar CCAUC, oherwydd mae addysg uwch yn bwysig iawn i'r economi. Soniwn am yr economi sylfaenol; sylfaen yr economi mewn nifer o leoedd—Aberystwyth, Llanbedr Pont Steffan, Abertawe, ymysg eraill—yw'r brifysgol. Heb y brifysgol, byddwch yn colli sylfaen yr economi honno. A chyda Cyfoeth Naturiol Cymru—. Rwy'n credu mai camgymeriad oedd CNC—rhoi'r cyfan at ei gilydd—ond mae ganddo broblemau ariannol, ac mae angen inni sicrhau ei fod yn cael ei ariannu'n ddelfrydol. Roeddem ni, fel Pwyllgor Cyllid, o'r farn nad oedd wedi'i ariannu cystal ag y gallai fod wedi cael ei ariannu yn y lle cyntaf. Nid oeddem ni, fel pwyllgor newid hinsawdd yn credu ei fod yn cael ei ariannu cystal ag y gellid bod wedi'i wneud, ac maent bellach wedi mynd â mwy o arian oddi wrtho. Ac mae gennyf bryderon difrifol ynglŷn â hynny.
O ran yr arian a ddyrannwyd, dywedaf eto ar gyfer y cofnod fy mod yn credu bod rhoi rhyddhad ardrethi i siopau sydd wedi bod ar agor—mae rhai ohonynt wedi bod yn gwerthu bwyd a diod ac wedi bod yn cael Nadolig bob wythnos—yn gamgymeriad sylfaenol yn fy marn i. Ac rwy'n gwybod bod y Gweinidog wedi dweud y byddai'n fwy cymhleth. Rwy'n meddwl y byddai holiadur syml: 'A ydych chi'n gwerthu bwyd a diod? A ydych chi'n agored?'—os mai'r ateb i'r ddau gwestiwn yw 'ydym', ni ddylent fod wedi cael rhyddhad ardrethi, oherwydd credaf fod hynny wedi rhoi arian i bobl nad oedd ei angen arnynt, a'r cyfan y mae wedi'i wneud yw bwydo eu helw net.
Nid yw'n hawdd rhagweld beth sy'n mynd i ddigwydd yn y dyfodol. Rwy'n credu bod mwy o weithio gartref yn mynd i barhau—faint, nid wyf yn gwybod. Ac rwy'n credu—. Faint o bobl fydd yn parhau i siopa ar-lein—mae pobl wedi arfer â hynny nawr—a pha effaith a gâi hynny ar ganol dinasoedd? Rwy'n meddwl efallai fod angen i ni dreulio ychydig o amser yn meddwl am y dyfodol, ond gan sylweddoli na fyddwn yn gwybod hyd nes y bydd pethau'n digwydd.
Yn olaf, nid yw cynhesu byd-eang wedi diflannu, felly mae angen ffyrdd mwy cynaliadwy o weithio.
Ac yn olaf, os caf ddweud, byddwn yn gwerthfawrogi'n fawr pe bai Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr yn cyflwyno cyllidebau amgen, ac yn cyflwyno cyllidebau atodol amgen, yn dweud ar beth y byddent yn gwario mwy ac ar beth y byddent yn gwario llai, yna gallwn gael dadl, yn hytrach na dweud, 'Wel, fe fyddwn yn ymatal ein pleidlais neu byddwn yn pleidleisio yn ei erbyn, ond nid ydym yn hollol siŵr beth nad ydym yn ei hoffi.' Cynhyrchwch eich cyllidebau eich hunain os gwelwch yn dda, neu eich newidiadau eich hunain. Rwy'n aml yn gwneud hynny, ac nid oes gennyf y fantais o gael plaid gyfan y tu ôl i mi. Diolch.
Rwy'n credu ein bod i gyd yn cydnabod y gwaith caled sydd wedi cael ei wneud gan y Gweinidog Cyllid a'i chyd-Aelodau ar yr adeg hynod amhosibl hon. Rwy'n credu y byddem i gyd yn cytuno bod Llywodraeth Cymru wedi ymateb yn gyflym ac yn ystwyth i'r argyfwng wrth iddo ddatblygu dros y misoedd diwethaf, ac mae'r cyllid wedi'i ddarparu'n uniongyrchol i'r rheng flaen. Credaf ein bod i gyd yn cydnabod hynny yn y dyraniadau rydym yn eu trafod y prynhawn yma. Credaf y dylem hefyd gydnabod bod Llywodraeth y DU, at ei gilydd o leiaf, wedi gallu darparu cymorth ychwanegol i gynnal swyddi a chyflogaeth. Ac mae hyn oll i'w groesawu yn fy marn i.
Mae dau bwynt yr hoffwn eu gwneud yn y ddadl y prynhawn yma, Lywydd: yn gyntaf, ynglŷn â'r strwythurau cyllid sydd ar gael i Lywodraeth Cymru, ac yn ail, y flaenoriaeth a roddir yn y flwyddyn ariannol hon gan Lywodraeth Cymru i'r galwadau cynyddol am y cyllid hwnnw.
Mae llawer o adroddiad y Pwyllgor Cyllid, a llawer o'r argymhellion hyn, fel sydd eisoes wedi cael ei ddisgrifio gan yr Aelodau yn y ddadl hon, yn disgrifio'r polisïau, y strwythurau a'r trefniadau cyllido sy'n bodoli rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraethau'r Deyrnas Unedig. Roedd yn dda clywed y Gweinidog yn ei sylwadau agoriadol yn dweud ei bod yn derbyn yr argymhellion y mae'r pwyllgor wedi'u gwneud ar y materion hyn.
Mae'n amlwg i mi fod yr argyfwng hwn wedi profi'r trefniadau annigonol hyn i'r eithaf. Mae wedi bod yn wirionedd sylfaenol ers tro nad yw'r strwythurau ar gyfer dosbarthu cyllid ledled y Deyrnas Unedig yn gweithio'n deg i bawb. Ni fydd y fframwaith ariannol a gytunwyd gyda Llywodraeth y DU yn gynharach yn y Senedd hon yn darparu sail gadarn i allu sicrhau tegwch ar draws gwahanol wledydd y DU, ac nid yw chwaith yn rhoi'r hyblygrwydd sydd ei angen ar Lywodraeth Cymru i ymateb i'r her sy'n ein hwynebu, ac rwy'n credu bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn hyn eisoes.
Felly, yn gryno, mae arnom angen setliad newydd, setliad sy'n seiliedig ar anghenion a chydraddoldeb. Mae arnom angen strwythurau ar lefel y DU a pholisïau ariannu ar lefel y DU a gytunir rhwng ein gwahanol Lywodraethau ac a gyflwynir yn annibynnol ar Lywodraeth y DU. Mae Llywodraeth y DU yn chwaraewr yn y materion hyn; ni all weithredu fel canolwr hefyd. Felly, ar ôl derbyn yr argymhellion, byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog amlinellu sut y mae'n bwriadu bwrw ymlaen â'r materion hyn dros y flwyddyn sydd i ddod.
Fy ail bwynt, Lywydd, yw blaenoriaethau cymharol Llywodraeth Cymru yn darparu dyraniadau cyllid. Rydym i gyd yn cydnabod pwysigrwydd dybryd sicrhau bod y GIG a gwasanaethau rheng flaen yn cael eu hariannu'n llawn i ymateb i argyfwng coronafeirws. Ond wrth inni symud ymlaen dros weddill y flwyddyn ariannol hon, bydd angen hefyd inni weld cryn dipyn yn fwy o fuddsoddi mewn cymorth economaidd. Rwyf am weld ffocws clir a manwl gan Lywodraeth Cymru ar swyddi. Nodwyd eisoes fod etholaethau fel fy un i ym Mlaenau Gwent mewn perygl difrifol yn sgil colli cyflogaeth wrth i ni weld effaith lawn y coronafeirws ar ein heconomi. Er mwyn mynd i'r afael â hyn, rhaid i ymateb Llywodraeth Cymru gynnwys sicrhau bod cronfeydd yn cael eu dyrannu i ddarparu gwasanaethau craidd, yn ogystal â buddsoddi i ddiogelu swyddi'r 7,000 o bobl sydd ar hyn o bryd ar ffyrlo ym Mlaenau Gwent. Rydym yn gwybod bod 300,000 o bobl ar ffyrlo ledled Cymru. Mae angen inni ddiogelu'r swyddi hyn ar gyfer y dyfodol. Yn fy etholaeth fy hun, Weinidog, rwy'n arbennig o awyddus i weld symud ar raglen y Cymoedd Technoleg. Lansiwyd y cynllun gennyf fi a Gweinidog yr economi bron i dair blynedd yn ôl. Mae'n amlwg nad yw'r cynnydd wedi bod hanner mor gyflym ag y dylai fod, ac a dweud y gwir, rwy'n credu bod y Llywodraeth yn cydnabod hynny. Mae angen inni weld y cynnydd hwnnw'n awr os ydym i wrthsefyll y pwysau ychwanegol a achosir gan yr argyfwng coronafeirws.
Rwy'n cydnabod yr hyn sydd wedi cael ei ddweud gan Aelodau eraill yn y ddadl hon ac rwy'n cydnabod y bydd gan bob un ohonom ein rhestr ein hunain o flaenoriaethau, ond i mi, rhaid mai'r strwythurau rydym yn gweithredu o'u mewn a dyrannu arian i ddiogelu swyddi yw'r blaenoriaethau allweddol i'r Llywodraeth hon am weddill y flwyddyn ariannol hon. Diolch.
Galwaf yn awr ar y Gweinidog i ymateb i'r ddadl—Rebecca Evans.
Diolch i bawb am eu cyfraniadau yn y ddadl y prynhawn yma. Mae'r gyllideb atodol gyntaf yn rhan bwysig o broses y gyllideb, i ganiatáu i'r newidiadau sydd wedi'u gwneud gael eu hadrodd i'r Senedd a chael eu craffu ganddi.
Fel yr amlinellais yn fy natganiad agoriadol ac fel y mae pob un o'r cyd-Aelodau wedi cydnabod rwy'n credu, nid yw hon yn debyg mewn unrhyw fodd i'r math mwy arferol o gyllideb atodol cymharol fach a welsom yn ddiweddar. I gefnogi economi Cymru a sicrhau bod ein gwasanaethau cyhoeddus wedi'u harfogi i ymdopi â'r pandemig coronafeirws, rydym wedi gweithredu'n gyflym yn y gyllideb atodol gyntaf hon i ddyrannu'r cyllid hwn, ynghyd ag addasu ein cyllidebau presennol at ddibenion gwahanol ac ailalinio arian Ewropeaidd, a dywedaf wrth gyd-Aelodau mai'r hyn a welwch yn y gyllideb atodol o ran ailddyrannu cyllid yw'r arian a nodwyd o fewn cyllidebau Gweinidogion ac a ddychwelwyd i gronfa wrth gefn COVID. Ochr yn ochr â hynny, fodd bynnag, fe welwch Weinidogion yn gwneud penderfyniadau o fewn y cyllidebau sydd ganddynt ar ôl sydd hefyd yn ymateb i'r argyfwng COVID, o ran yr ymateb aciwt uniongyrchol, ond gydag un lygad ar yr adferiad wedyn hefyd.
Felly, wrth edrych ymlaen at yr amser y byddwn yn cefnu ar y pandemig, gwyddom ein bod yn wynebu cyfnod o ddirwasgiad, ac mae hynny'n creu risgiau difrifol i'n cyllid cyhoeddus. Fel y gwyddoch, rwy'n gweithio gyda'r Cwnsler Cyffredinol, sydd wedi cael y cyfrifoldeb o oruchwylio cydlyniad y gwaith yn Llywodraeth Cymru i ymateb i argyfwng COVID-19, ac rydym yn defnyddio arbenigedd a phrofiad o'r tu allan i'r Llywodraeth i sicrhau bod y paratoadau ar gyfer yr adferiad yn y dyfodol yn greadigol ac yn gynhwysfawr.
Bydd y dewisiadau a'r cyfleoedd a gawn wrth symud o'r cyfyngiadau i'r adferiad yn dibynnu i raddau helaeth ar y dewisiadau ariannol a wnawn yn awr a'n gallu i gael mwy o arian i'r rheng flaen, a gyfyngir ar hyn o bryd gan y rheolau ariannol caeth a orfodir ar Lywodraeth Cymru gan Lywodraeth y DU, ac mae hynny'n fy arwain at rai o'r cyfraniadau a wnaed yn y ddadl.
O ran fformiwla Barnett, yn amlwg nid yw'n seiliedig ar angen, er bod elfen o angen, sy'n rhoi'r 5 y cant ychwanegol i Lywodraeth Cymru. Ond yn fy nghyfarfod cyntaf â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys ar ddechrau'r argyfwng, pwysleisiais y dylid cael elfen o gyllid sy'n seiliedig ar anghenion ar ben hynny, yng nghyswllt yr heriau penodol sy'n ein hwynebu yng Nghymru. Un enghraifft a roddais oedd ein poblogaeth hŷn, a'n dibyniaeth fwy ar y sector gweithgynhyrchu. Ar ben hynny, wrth gwrs, mae gennym sector twristiaeth mwy o faint yma yng Nghymru a chyfran uwch o fusnesau bach. Felly, mae goblygiadau i'r holl ffactorau gwahanol yn hynny o beth.
Cyn i'r argyfwng ddechrau, byddwch wedi fy nghlywed yn sôn am y gwaith rydym yn ei wneud i geisio sicrhau hynny a bwrw ymlaen â'r adolygiad o'r polisi datganiad cyllid, ac mae hynny'n cysylltu â rhai o'r cysylltiadau rhynglywodraethol y soniwyd amdanynt yn y ddadl heddiw. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn fod gennym broses apelio neu gymrodeddwr annibynnol lle gellir trafod pethau y mae'r gwledydd datganoledig a Llywodraeth y DU yn anghytuno yn eu cylch, ac ymhlith yr enghreifftiau y byddwn wedi hoffi eu cyflwyno i gymrodeddwr annibynnol, er enghraifft, fyddai effaith penderfyniad Llywodraeth y DU ynglŷn â phensiynau athrawon, a gafodd effaith ganlyniadol ar gyllideb Llywodraeth Cymru, a'r cyllid ychwanegol ar gyfer Gogledd Iwerddon wrth gwrs, nad ydym yn ei edliw o gwbl, ond byddem wedi dymuno gweld ein cyfran deg o'r arian hwnnw hefyd. Felly, dyna rai enghreifftiau o bethau y credaf y byddai proses apelio annibynnol yn ddefnyddiol i'w datrys.
Mae'r pwyllgor wedi argymell yn ddefnyddiol y dylai Llywodraeth y DU rannu gwybodaeth yn well, ac rwy'n cytuno'n llwyr â hynny ac yn cymeradwyo'r argymhelliad hwnnw gan ei bod yn anodd iawn cynllunio cyllideb, yn enwedig mewn blwyddyn fel hon, pan nad oes gennych olwg lawn ar ba gyllid canlyniadol a allai ddod i chi yn ystod y flwyddyn honno, felly mae yna risg, onid oes, eich bod yn colli cyfleoedd o bosibl am nad ydych wedi eich argyhoeddi y byddwch yn gallu eu fforddio, neu eich bod yn bwrw ymlaen er gwaethaf y risg ac yn gwneud pethau y credwch eu bod yn hanfodol bwysig, ond wrth wneud hynny, nid ydych yn hyderus y cewch chi'r arian ar gyfer hynny.
Soniwyd ein bod ond wedi cynnwys yr £1.8 biliwn gan Lywodraeth y DU, a oedd yn y prif amcangyfrifon, ac mae'r rheswm dros hynny eto'n ymwneud â hyder, oherwydd byddwch yn cofio inni gael y sefyllfa honno ar ddiwedd y flwyddyn ariannol ddiwethaf pan osododd Llywodraeth y DU swm canlyniadol negyddol o dan fformiwla Barnett, a olygai fod gostyngiad o £100 miliwn o gyfalaf a £100 miliwn o gyfalaf trafodion ariannol. Felly, fel y nododd Julie James mewn cwestiynau y prynhawn yma rwy'n credu, rhaid inni fod yn gwbl hyderus fod y cyllid hwnnw'n dod i ni, a dyna pam mai'r hyn a adlewyrchwyd yn y prif amcangyfrifon yn unig a welwch yn y gyllideb atodol.
Wedyn, os caf roi sylwadau byr iawn, Lywydd, ar bwysigrwydd sicrwydd wrth wneud penderfyniadau, oherwydd rydym yn gweithio mewn sefyllfa lle mae'n rhaid gwneud penderfyniadau'n gyflym, ond ar yr un pryd mae'n rhaid inni gynnal mesurau diogelwch hanfodol wrth ofalu am arian cyhoeddus yn briodol. Mae'r argyfwng presennol yn golygu bod angen inni gynyddu ein parodrwydd i dderbyn risg yn ddetholus, ac er ein bod yn anelu at fod mor hyblyg a chyflym ac ymatebol ag y gallwn, mae'n rhaid inni ddal i fod yn ymwybodol o'n cyfrifoldebau i ddiogelu pwrs y wlad. Mae'r dyraniadau cyllid o gronfa wrth gefn COVID i gyd wedi'u hystyried yng nghyd-destun parodrwydd i dderbyn risg, risgiau allweddol a chamau lliniaru, a chânt eu cymeradwyo pan gaf sicrwydd fod y risgiau wedi cael eu hystyried yn rhesymol, a lle bo angen, pan fydd trefniadau priodol wedi'u rhoi ar waith i reoli'r risgiau hynny.
Roeddwn am gyfeirio'n fyr iawn at drethiant. Cyfeiriwyd at gyfraddau treth incwm Cymru yn ystod y ddadl ac wrth gwrs, mae refeniw 2020-21 o gyfraddau treth incwm Cymru a'r addasiadau cysylltiedig i'r grant bloc yn sefydlog at ddibenion cyllidebol, ac mae hynny'n golygu y bydd angen i unrhyw daliad cysoni a allai fod yn ofynnol ar ôl i'r wybodaeth alldro ddod ar gael yn haf 2022 gael ei chymhwyso i gyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24. Felly, bydd hwn yn faes diddordeb parhaus, rwy'n credu, i Weinidogion cyllid am y blynyddoedd i ddod. A bydd yr argyfwng COVID hefyd yn effeithio ar y trethi sydd wedi'u datganoli'n llawn, sef y dreth trafodiadau tir a'r dreth gwarediadau tirlenwi. Er hynny, disgwylir i ostyngiadau yn 2021 gael eu lliniaru'n bennaf gan ostyngiadau yn yr addasiadau i'r grant bloc, a fydd yn cael eu diwygio gan ddefnyddio rhagolygon y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, a gyhoeddir ochr yn ochr â chyllideb yr hydref Llywodraeth y DU eleni, oherwydd mae'r ffordd y mae'r system yn gweithio yn golygu, wrth gwrs, ein bod yn cael ein diogelu i ryw raddau gan yr ysgytiadau i'r economi ar draws y DU.
Felly, i gloi, Lywydd, mae'r gyllideb atodol yn darparu sylfaen gadarn ar gyfer cefnogi'r amrywiaeth o ymyriadau i ymateb i effaith yr argyfwng a'i liniaru, ac roedd llawer o'r cyfraniadau y prynhawn yma yn edrych i raddau helaeth ar yr adferiad, felly mae'n amlwg nad dyma yw diwedd y stori o bell ffordd a bydd angen inni barhau i fonitro'n ofalus ac asesu sut y mae'r sefyllfa'n datblygu yng Nghymru. Ac fel y dywedais, byddaf yn dod ag ail gyllideb atodol gerbron y Senedd yn ddiweddarach yn y flwyddyn, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at y ddadl ar 15 Gorffennaf pan fyddwn yn gallu archwilio blaenoriaethau a syniadau ar gyfer yr adferiad ac ar gyfer symud ymlaen. Ac felly, i gloi, Lywydd, rwy'n gwneud y cynnig.
Y cwestiwn, felly, yw a ddylid derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Rwy'n gweld gwrthwynebiad ac felly gohiriaf y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Yr eitem nesaf yw'r ddadl ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Cyllid. Galwaf ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i gyflwyno'r cynnig. Lesley Griffiths.
Cynnig NDM7336 Lesley Griffiths
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6 yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Cyllid i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Lywydd. Rwy'n gwneud y cynnig ac rwy'n falch o allu cyflwyno'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn ar gyfer Bil Cyllid Llywodraeth y DU. Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad a'r Pwyllgor Cyllid am graffu ar y memorandwm.
Daeth y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad i'r casgliad y dylwn ofyn am ganiatâd y Senedd, o ystyried bod y darpariaethau'n ymwneud â diben sydd o fewn ei chymhwysedd deddfwriaethol. Roedd y Pwyllgor Cyllid yn fodlon, ac nid oedd yn dymuno codi unrhyw faterion yn ymwneud â chyflwyno adroddiadau. Mae cymal 93 o'r Bil Cyllid yn ymwneud â dyrannu a chodi tâl am lwfansau o dan gynllun masnachu allyriadau. Rwy'n credu bod y darpariaethau yng nghymal 93 yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd, i'r graddau eu bod yn ymwneud â diogelu'r amgylchedd a newid hinsawdd. Fodd bynnag, rwyf o'r farn y dylai'r darpariaethau hyn gael eu gwneud mewn Bil ar gyfer y DU, gan y bydd hyn yn sicrhau ein bod yn bodloni'r amserlen sydd ei hangen i weithredu cynllun masnachu allyriadau'r DU ar 1 Ionawr 2021.
Bydd codi tâl am lwfansau drwy system arwerthu yn galluogi cynllun masnachu allyriadau'r DU—polisi datgarboneiddio aruthrol o bwysig—i bennu pris carbon ar gyfer ein hallyrwyr mwyaf pan fyddwn yn gadael cynllun masnachu allyriadau'r UE. Bydd cynllun masnachu allyriadau'r DU yn cymell allyrwyr carbon mwyaf Cymru i ddatgarboneiddio eu gweithgarwch gan sicrhau tegwch ar draws y DU. Bydd trosglwyddo i sylfaen ddiwydiannol Cymru yn hollbwysig os ydym am gyflawni ein huchelgeisiau hinsawdd mewn ffordd sy'n gymdeithasol gyfiawn. Felly, rwy'n cymeradwyo'r cynnig i'r Siambr.
Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mick Antoniw. Mick Antoniw, nid yw eich microffon ar agor. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch, Lywydd.
Dyna chi.
Fe wnaethom ystyried y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer y Bil Cyllid yn ein cyfarfod ar 8 Mehefin 2020. Fe wnaethom osod adroddiad byr gerbron y Senedd ar 18 Mehefin, ac felly bydd fy nghyfraniad i'r ddadl hon y prynhawn yma yn fyr.
Fel y dywedodd y Gweinidog, mae'r allyrwyr nwyon tŷ gwydr mwyaf yng Nghymru ar hyn o bryd yn rhan o gynllun masnachu allyriadau'r Undeb Ewropeaidd. Bydd angen polisi newydd o fewn y DU ar ddiwedd y cyfnod pontio er mwyn osgoi bwlch. Mae'r memorandwm cydsyniad deddfwriaethol yn nodi, o gofio bod bwriad ar draws y DU i sefydlu fframwaith ar gyfer y DU gyfan,
'ac iddo reolau cyffredin ar gyfer pawb ar draws y DU a fydd yn rhan o’r
cynllun'—
cred Llywodraeth Cymru ei bod hi'n—
'briodol bod y darpariaethau hyn yn cael eu gwneud mewn Bil ar lefel y DU'—
ar gyfer Cymru, ac mae ein hadroddiad yn nodi'r ffaith hon.
Ar y pwynt hwn, hoffwn roi rhywfaint o gyd-destun ehangach i'r ddadl y prynhawn yma. Mae'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad yn monitro adroddiadau Llywodraeth y DU ar Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 a fframweithiau cyffredin, a gynhyrchir ar gyfer Senedd y DU bob tri mis. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol fod yr adroddiadau'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y defnydd o bwerau rhewi fel y'u gelwir o dan y Ddeddf ymadael â'r UE, ond mae'r adroddiadau hefyd yn nodi'r cynnydd a wnaed ar ddatblygu fframweithiau cyffredin. Mae'r seithfed adroddiad ar gyfer y cyfnod rhwng Rhagfyr 2019 a Mawrth 2020 yn nodi bod y fframwaith systemau masnachu allyriadau wedi mynd drwy'r gweithdai rhynglywodraethol ac ymgysylltiad â rhanddeiliaid, a'i fod wedi cwblhau cam 2 o'r broses pedwar cam. Rwy'n ymwybodol fod Llywodraeth y DU a'r Llywodraethau datganoledig hefyd wedi cyhoeddi cynigion yn awr ar y cynllun masnachu allyriadau newydd ar gyfer y DU.
Nawr, i symud ymlaen, a chan gyfeirio at gymal 93 o'r Bil—fel y gwnaeth y Gweinidog hefyd—mae'n caniatáu i Lywodraeth y DU wneud rheoliadau sy'n darparu ar gyfer dyrannu lwfansau allyriadau yn gyfnewid am dâl, o dan unrhyw gynllun masnachu allyriadau ar lefel y DU yn y dyfodol. Er bod Llywodraeth Cymru o'r farn fod angen cydsyniad y Senedd ar gyfer y cymal hwn, nid yw Llywodraeth y DU yn cytuno. Fel pwyllgor, rydym yn cytuno â barn Llywodraeth Cymru. Yn ein barn ni, mae darpariaethau perthnasol cymal 93 yn ymwneud â diben sydd o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd yn unol ag adran 108A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, ac felly ceisir caniatâd y Senedd yn y modd cywir. Diolch.
Nid oes gennym siaradwyr eraill, ac felly gofynnaf i'r Gweinidog ymateb os yw'n dymuno.
Diolch, Lywydd, a hoffwn ddiolch i Mick Antoniw am ei gyfraniad. Fel y dywedais, mae'n bolisi hynod o bwysig os ydym am gael sylfaen ddiwydiannol lwyddiannus wedi'i datgarboneiddio yn y dyfodol. Ac rwy'n meddwl hefyd, wrth inni edrych ar adfer yn sgil COVID-19, ei bod yn bwysig iawn ein bod yn darparu eglurder ar gyfer ein busnesau. Felly, diolch.
Y cwestiwn felly yw a ddylid derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na, ni welaf unrhyw wrthwynebiad, ac felly derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Y cynnig nesaf yw diwygio Rheol Sefydlog 34, a galwaf ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig.
Cynnig NDM7338 Elin Jones
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:
1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, 'Pleidleisio o Bell' a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Mehefin 2020.
2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 34, fel y nodir yn Atodiad A o adroddiad y Pwyllgor Busnes.
3. Yn nodi bod y newidiadau hyn yn rhai dros dro, ac y byddant yn peidio â chael effaith pan gaiff y Senedd hon ei diddymu, neu pan fydd y Senedd yn penderfynu felly, pa un bynnag sydd gyntaf.
Cynigiwyd y cynnig.
Rwy'n cynnig.
Mae wedi'i gynnig. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly gohiriaf y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar effaith argyfwng COVID-19 ar y sector celfyddydau. Dwi'n galw ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig, Helen Mary Jones.
Cynnig NDM7337 Helen Mary Jones
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar effaith argyfwng COVID-19 ar y sector celfyddydau, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Mehefin 2020.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr, Lywydd. A gaf fi ddechrau fy nghyfraniad i'r ddadl hon y prynhawn yma drwy ddiolch i staff ein pwyllgor, y tystion a gyfrannodd at yr ymchwiliad byr hwn, a fy nghyd-aelodau o'r pwyllgor? Rwy'n credu y byddai pob un ohonynt yn dymuno i mi ddweud bod y staff wedi bod yn rhagorol yn ystod y cyfnod hynod anodd hwn. Pan fydd hanes yr amser hwn yn cael ei ysgrifennu, credaf y bydd gwaith rhagorol a chlodwiw staff y Senedd i sicrhau bod ein democratiaeth yn parhau ar yr adeg anodd hon yn haeddu pennod ei hun fan lleiaf.
Mae gan y Llywodraeth beth amser cyn y bydd yn ofynnol iddi ymateb i'n hadroddiad wrth gwrs, ac rydym yn ddiolchgar eisoes i'r Dirprwy Weinidog am y ffordd y mae wedi ymgysylltu â'r pwyllgor a'r wybodaeth y mae wedi'i darparu. Ond roeddem am gyflwyno'r cynnig hwn i'w drafod heddiw oherwydd natur frys yr argyfwng a wynebir gan y sector celfyddydau.
Gwyddom, er enghraifft, fod Canolfan Mileniwm Cymru eisoes wedi cyhoeddi y bydd yn aros ar gau tan fis Ionawr, gan roi 250 o swyddi mewn perygl o bosibl. Ac er bod y cymorth a ddarparwyd eisoes gan gyngor y celfyddydau wedi'i groesawu, a bod rhai lleoliadau wedi gallu manteisio ar ffynonellau cymorth eraill fel y cynllun cadw swyddi, mae'n amlwg y bydd hi'n beth amser cyn y gall pob lleoliad agor, a phan allant wneud hynny, gallai fod yn anodd iddynt wneud hynny'n broffidiol oherwydd mesurau cadw pellter cymdeithasol.
Rydym yn glir y bydd angen cymorth cyhoeddus mwy hirdymor ar y celfyddydau a'r sector diwylliannol, a dyna pam ein bod wedi argymell bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod ei bod hi'n bosibl na fydd ein prif sefydliadau celfyddydol yn hyfyw yn ariannol am flynyddoedd lawer ac y dylai'r Llywodraeth fod yn barod i ymestyn yr arian cyhoeddus angenrheidiol i sicrhau eu bod yn goroesi.
Dyna pam ein bod wedi argymell hefyd fod Llywodraeth Cymru yn annog y Trysorlys i adolygu'r cynllun incwm i'r hunangyflogedig fel nad yw gweithwyr llawrydd, sef asgwrn cefn digamsyniol y sector celfyddydau, yn disgyn drwy unrhyw fylchau o ran cymhwysedd, a bod Llywodraeth Cymru yn lobïo San Steffan i barhau â'r cynllun cadw swyddi a'r cynllun cymorth incwm i'r hunangyflogedig y tu hwnt i fis Hydref ar gyfer rhai sectorau lle na fydd pobl yn gallu dychwelyd i'r gwaith yn ddiogel. Ni all ein sector celfyddydau fforddio colli'r bobl greadigol ac arloesol sy'n ei wneud yr hyn ydyw.
Mae'n bosibl na fydd lleoliadau'n gallu agor am beth amser, ond mae angen iddynt gynllunio yn awr ar gyfer yr adeg y gallant wneud hynny. A dyma pam rydym wedi argymell bod Llywodraeth Cymru yn darparu canllawiau ar ailagor erbyn 1 Awst, er mwyn rhoi amser i leoliadau wneud unrhyw addasiadau i safleoedd ac arferion gwaith mewn modd amserol. Rydym hefyd wedi argymell bod Llywodraeth Cymru yn sefydlu gweithgor adloniant a digwyddiadau i wella cydweithredu a chydweithio rhwng y Llywodraeth a'r sector.
Ac yn olaf, Lywydd, ym maes y celfyddydau, fel ar draws y gymdeithas, mae'r argyfwng yn gyfle i ni fel cenedl ailfeddwl ac ailgyfeirio. Rydym wedi gweld gwerth cymdeithasol y celfyddydau drwy gydol yr argyfwng hwn, o berfformiadau ar-lein arloesol gan gwmnïau ac unigolion dawnus—er nad yw'r perfformiadau'n creu unrhyw refeniw, wrth gwrs, am na ellir codi tâl am y rhan fwyaf o'r rhain—i'r corau ysbyty sy'n codi ysbryd gweithwyr rheng-flaen, i enfysau'r plant sy'n addurno ffenestri ein cymdogion. Nawr yw'r adeg inni ailddatgan ein hymrwymiad i'r celfyddydau, nid yn unig oherwydd eu pwysigrwydd i'r economi, er bod hynny'n bwysig iawn wrth gwrs, ond hefyd oherwydd eu gwerth yn ein galluogi i archwilio pwy ydym fel unigolion a chymunedau ac fel cenedl, ac i archwilio'r hyn sy'n bwysig i ni.
Ac mae hi hefyd yn bryd inni fyfyrio ar yr angen i'r celfyddydau adlewyrchu ein gwlad yn ei holl amrywiaeth. Mae ymgyrch Black Lives Matter wedi arwain pob un ohonom i fyfyrio ar y ffaith nad oes cynrychiolaeth ddigonol i bobl dduon a lleiafrifoedd ethnig yn ein bywyd diwylliannol, a rhaid rhoi sylw i hyn. Nawr yw'r amser inni feddwl, edrych ymlaen, a chynllunio, a dyna pam ein bod wedi argymell y dylai'r Dirprwy Weinidog weithio gyda'r sector i osod cyfeiriad polisi hirdymor sy'n gynaliadwy, yn gynhwysol, ac yn hygyrch.
Bydd arnom angen sector celfyddydau bywiog, amrywiol a chynhwysol wrth inni ymadfer fel unigolion a chymunedau ac fel cenedl o'r sioc ddigynsail hon, ac ni ellir cynnal y sector hwnnw ar yr adeg hon heb gymorth sector cyhoeddus hirdymor ac ymarferol.
Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.
Rwy'n ddiolchgar iawn ein bod wedi gallu cyflwyno'r adroddiad hwn heddiw, Ddirprwy Lywydd. Edrychwn ymlaen yn fawr at gyfraniadau'r Aelodau, ac edrychaf ymlaen at ymateb i'r ddadl yn nes ymlaen. Diolch yn fawr.
Diolch. David Melding.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf fi ddiolch i Helen Mary Jones am ei holl waith fel Cadeirydd dros dro ac anfon fy nymuniadau da at Bethan? Nid wyf yn meddwl ei fod yn adlewyrchiad ar waith Helen ar hyn o bryd y byddwn yn croesawu dychweliad Bethan hefyd, ond yn y cyfamser, mae'r arweiniad a roddodd Helen i'r pwyllgor wedi bod yn allweddol i ni allu parhau â'n gwaith a chynhyrchu adroddiad mor bwysig y prynhawn yma.
Ond rwyf hefyd am ychwanegu fy niolch i holl dîm y pwyllgor, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n credu ein bod i gyd fel Aelodau o'r Senedd wedi cael ein plesio'n fawr gan y ffordd y mae staff y Comisiwn wedi gweithio i sicrhau y gall cymaint o'r hyn a wnawn barhau fel deddfwrfa, yma yn y Cyfarfod Llawn ond hefyd ein gwaith pwyllgor, ac rwy'n ddiolchgar iawn iddynt am ein galluogi i barhau i weithio.
Rwy'n credu bod hwn yn faes hynod bwysig i ni edrych arno. Mae Helen Mary wedi amlinellu ein hargymhellion yn eu hanfod, ac rwy'n cytuno'n llwyr â hwy. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn eu gwthio ymlaen a'n bod yn gweld gweithredu gan Lywodraeth Cymru, ond hefyd gan Lywodraeth y DU, pan fyddwn yn edrych ar gynlluniau cadw swyddi a sut rydym yn mynd i gynnal holl strwythur y sector celfyddydau yng Nghymru ond hefyd ledled y Deyrnas Unedig.
Un o'r darnau o dystiolaeth mwyaf treiddgar yn fy marn i yw mai llawer o'r cyrff sydd dan y pwysau mwyaf ar hyn o bryd wrth i'w modelau busnes gael eu tanseilio yw'r rheini, dros y 10 mlynedd diwethaf, sydd wedi arallgyfeirio, wedi cynyddu eu hincwm masnachol, wedi cynyddu masnachu, ac wedi bod yn hynod lwyddiannus ac wedi caniatáu mwy o le i arian cyhoeddus gael ei neilltuo i feysydd eraill o'r gymuned artistig sy'n wirioneddol bwysig ond nad ydynt yn cynhyrchu cymaint o incwm. Cyfeiriodd Helen Mary at rai o'r rheini o ran y gwaith mewn gwasanaethau cyhoeddus fel ysbytai. Credaf fod honno'n neges hynod bwysig inni ei datblygu, fod yn rhaid inni gael partneriaeth sy'n caniatáu inni allu cadw cyhyrau cof ein mentrau artistig gwych, ac mae'r rhai sydd wedi gwneud cymaint i beidio â dibynnu ar arian cyhoeddus yn awr yn troi atom ni.
Fel y clywsom, nid oes unrhyw obaith y bydd cynulleidfaoedd yn dychwelyd i'r graddau sydd eu hangen i gadw canolfan y mileniwm i fynd, na nifer o leoliadau theatr eraill chwaith. Efallai y bydd modd darparu 25 y cant, 30 y cant, efallai, o gapasiti cynulleidfaol a chadw pellter cymdeithasol, ond ni fydd yn agos at y lefel sy'n angenrheidiol o ran gwerthiannau tocynnau o dri chwarter neu fwy i sicrhau y gall cynyrchiadau fantoli'r cyfrifon a chynhyrchu arian o ran darparu elw ar gyfer buddsoddi yn y dyfodol. Felly, mae hwn yn gyfnod pwysig iawn i ni.
A hefyd, holl sgil-effaith y nifer fawr o bobl sy'n hunangyflogedig ond sy'n darparu gwasanaethau i'r gymuned artistig—y rhai sy'n ymwneud â chynyrchiadau theatr, ond hefyd, wrth edrych ar agweddau eraill ar y diwydiant creadigol, mewn teledu a ffilm ac mewn meysydd eraill. Felly, dylem gofio bod llawer o ddarparwyr bach allan yno sy'n ei chael yn anodd iawn cael mynediad at gynlluniau ar hyn o bryd a hwy yw'r rhai sy'n wynebu'r perygl mwyaf o bosibl—ymhlith y rhai sy'n wynebu'r perygl mwyaf, beth bynnag—mewn cymdeithas o ran diogelwch swyddi.
Ac unwaith eto, o ran adrodd hanes y genedl ac ailddychmygu'r gorffennol a'r hyn y mae'n ei olygu i ni, sut rydym yn dysgu gwersi ohono, a sut rydym yn archwilio'r meysydd mwy anghyfforddus, ond hefyd yn dathlu'r dreftadaeth fawr sydd gennym yn ogystal, fel ein bod yn mwynhau bywyd yn y dyfodol, wyddoch chi, rwy'n credu bod COVID wedi ein hatgoffa o'r pethau sylfaenol sy'n bwysig o ran gwerth bywyd, ac mae'r celfyddydau mor ganolog i hynny. Ac rwy'n credu y byddai'n eithaf brawychus pe na baem yn gwneud y buddsoddiad hwnnw yn awr er mwyn inni allu sicrhau bod y sector yn ffynnu eto pan fyddwn wedi cefnu ar y cyfnod ofnadwy ac anodd hwn ymhen blwyddyn neu fwy, pan fydd yna ateb hirdymor iddo, neu o leiaf ffordd o fyw gyda'r clefyd heb yr effeithiau marwol. Os na chawn hynny, byddwn yn llawer gwaeth ein byd. A gadewch inni gofio bod Cymru wedi gweld y diwydiannau creadigol yn ffynnu'n fawr. Mae'n sicr yn un o'n meysydd twf ardderchog, a byddwn am iddo fod yn greiddiol i'n dyfodol economaidd unwaith eto a hefyd y ffordd rydym yn mwynhau bywyd. Felly, rwy'n cymeradwyo'r adroddiad hwn gyda brwdfrydedd mawr, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n edrych ymlaen at ymateb Llywodraeth Cymru. Rwy'n siŵr y cawn weld y celfyddydau'n ffynnu eto, fel y maent wedi gwneud yn y gorffennol, os gwnawn y buddsoddiad hollbwysig hwn yn awr.
Bydd yr Aelodau o'r Senedd yn gwybod fy mod innau hefyd yn benderfynol o hyrwyddo'r sector celfyddydau yng Nghymru a ledled Cymru, ac rwyf wedi dadlau ers tro yn y lle hwn a thu hwnt y dylai Llywodraeth Cymru ddefnyddio mesurau gweithredol i sefydlogi iechyd y sector celfyddydau, yn dilyn degawd o fesurau cyni Llywodraeth y DU. Dyna'r dirwedd roeddem ynddi. Ers i argyfwng COVID-19 fwrw ei lid ar y ddynoliaeth, rydym mewn lle gwahanol eto. Felly, rwy'n croesawu'n llawn y gwaith pwysig ac amserol gan y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu. Mae ei adroddiad ar effaith yr argyfwng COVID-19 ar y sector celfyddydau yng Nghymru yn creu problemau allweddol iawn inni yma yng Nghymru, problemau y tynnwyd sylw atynt gan eraill, gan gynnwys UK Music. Pan fydd gwledydd yn agored i bandemig cenedlaethol ac argyfwng ar y raddfa hon, mae'n briodol mai dyletswydd gyntaf un y Llywodraeth yw diogelu ei dinasyddion, ac rwy'n cymeradwyo camau gweithredu Llywodraeth Cymru. Ond nid yw'n ormodiaith pan fyddaf yn dweud wrthych ar gyfer y cofnod fod y sector celfyddydau bellach yn wynebu'r perygl mwyaf difrifol a wynebodd erioed, ac rwyf am roi camau anarferol ar waith fel yr Aelod Llafur a Chydweithredol dros Islwyn, a dyfynnu'n fyr o erthygl olygyddol yn ddiweddar yn The Times yn Llundain. Nododd ar 15 Mehefin:
Mewn cyfnod o berygl ac o ddathlu, mae cerddoriaeth gerddorfaol fyw yn darparu cysur ac yn meithrin gobaith. Ac eto mae'r pandemig byd-eang yn bygwth gwneud difrod terfynol i gerddorfeydd Prydain. Mewn llythyr at The Times heddiw, mae rhai o arweinyddion cerddorfeydd amlycaf y byd yn rhybuddio y gallai fod rhaid i sefydliadau cerddorol Prydain gau wrth i'r economi fethu oni bai eu bod yn cael chwistrelliad sylweddol o arian. Mae'r galwadau ar gyllid cyhoeddus yn fawr, ac eto mae cymorth brys yn yr achos hwn nid yn unig yn gyfiawn, ond fel y dywedwyd, mae'n hanfodol er lles enaid y genedl.
Felly, does bosibl fod neb yma yn y Senedd hon nad yw'n cytuno'n llwyr ag argymhellion cyntaf adroddiad Senedd Cymru, sef y dylai Llywodraeth Cymru lobïo Llywodraeth y DU i'w hannog i barhau'r cynllun cymorth incwm i'r hunangyflogedig y tu hwnt i fis Mai 2020, a bod y cynllun cadw swyddi'n parhau y tu hwnt i fis Hydref 2020, a bod y cynllun cymorth incwm i'r hunangyflogedig yn cael ei ddiwygio hefyd i sicrhau nad oes unrhyw weithwyr llawrydd yn disgyn drwy'r bylchau o ran eu cymhwysedd ar gyfer y cynllun hwnnw.
Yn 2008, achubwyd y banciau gan Lywodraeth Lafur y DU drwy roi chwistrelliad enfawr o gyfalaf iddynt. Yn 2020, mae'r sector celfyddydau yng Nghymru a'r DU yn gofyn am chwistrelliad cyfalaf ar raddfa fawr o arian Llywodraeth y DU yn bennaf, gyda chefnogaeth gref Llywodraeth Cymru a chyfeiriad strategol clir i ddilyn. Ac rwy'n dweud nad fy marn i—sosialydd o Islwyn sy'n dwli ar y celfyddydau a cherddoriaeth—yn unig yw hon. Dyma farn arweinyddion cerddorfeydd blaenllaw a meddylwyr diwylliannol, cerddorion rhyngwladol fel Nicola Benedetti a Syr Karl Jenkins a Sheku Kanneh-Mason, a gefnogodd yr adroddiad a gomisiynais, 'Gwlad y Gân'.
Wrth gloi, mae The Times yn nodi:
Bydd angen cynllunio'r economeg yn ofalus, ond mae'n rhaid rhoi lle i sefydliadau anadlu a cheisio gwneud i hyn weithio. Os byddant yn cau, bydd y golled ddiwylliannol yn anadferadwy, ac ni fydd cenedlaethau'r dyfodol yn debygol o faddau i'r rhai a adawodd i hynny ddigwydd.
Ddirprwy Lywydd, mae Cymru, gwlad y gân sy'n enwog am ei diwylliant, ei threftadaeth a'i cherddoriaeth, yn wynebu bygythiad diwylliannol fel nas gwelwyd erioed o'r blaen. Bydd cenedlaethau'r dyfodol yn edrych arnom fel unigolion yma a chyda'n gilydd yn y Senedd hon ar yr adeg hon mewn hanes, ac yn gofyn, yn briodol, 'Beth a wnaethant i ddiogelu treftadaeth ddiwylliannol werthfawr ein cenedl?' Diolch.
Dwi'n credu bod angen ailasesu cefnogaeth y gall Llywodraeth Cymru ei chynnig i'r sector celfyddydau yng Nghymru. Dwi'n derbyn beth mae'r siaradwyr wedi'i ddweud ynglŷn ag ymestyn y cyfnod ffyrlo ac ymestyn y cyfnod ar gyfer rhoi cymorth i'r hunangyflogedig. Ond, dwi hefyd yn credu bod yna fwy y gallai Llywodraeth Cymru fod yn ei wneud. Rydyn ni'n dal i ddisgwyl cyhoeddiad gan Lywodraeth San Steffan ynglŷn â chymorth ariannol. Mae'n amlwg nad ydy llais y Gweinidog diwylliant yn fanno—y Gweinidog diwylliant Torïaidd—ddim yn cael ei glywed gan ei Gabinet ei hun. Felly, yn lle disgwyl am gyhoeddiad—efallai cyhoeddiad na ddaw ddim—ac wedyn yr arian dilynol, dwi'n credu bod angen i Lywodraeth Cymru ddyfeisio pecyn cefnogaeth penodol. Mi fyddwn i'n dadlau y dylai hwnnw gael ei weld fel buddsoddiad, ac y dylai'r celfyddydau fod yn rhan gwbl ganolog o'r fframwaith ar gyfer adfer o COVID sy'n cael ei lunio gan y Llywodraeth ar hyn o bryd.
Mae'r celfyddydau perfformiadol a theatrau yn dioddef yn sylweddol, efo'r incwm o'r perfformiadau byw wedi diflannu, ac mae hyn yn wir am sefydliadau cenedlaethol a chymunedol fel ei gilydd. Mae celfyddydau yn rhan allweddol o fywyd Cymru, o enaid Cymru, nid yn unig yn hanesyddol ac yn ddiwylliannol, ond yn ein bywydau bob dydd. Mae celfyddydau wedi chwarae rhan hollbwysig wrth helpu pobl i ymdopi â'r pwysau sylweddol sydd yn dod yn sgil y cyfnod cloi, ac mi fedran nhw barhau i chwarae rhan ganolog yn ein bywydau ni. Mi fedran nhw ein helpu ni i brosesu ac i fynegi'r hyn rydyn ni'n mynd drwyddo fo yn y cyfnod digyffelyb yma.
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn cyfeirio at dystiolaeth sy'n dangos fod gwerthfawrogi'r celfyddydau a chreadigrwydd yn fuddiol ar gyfer ein lles economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol. Beth am gymryd y cyfle yn sgil yr argyfwng i wreiddio'r celfyddydau yn gadarn fel rhan o bob agwedd o'n bywydau ni, gan werthfawrogi yn llawn fod yna werth ataliol yn dod yn sgil y celfyddydau, gwerth adferol, gwerth economaidd, gwerth cymdeithasol, ac ysbrydol? Felly, mi fyddwn i'n mynd ymhellach na'r hyn sydd yn yr adroddiad. Mi fyddwn i heddiw yn galw i'r celfyddydau gael cefnogaeth fel rhan o'n cynllun positif ni o symud ymlaen allan o'r cyfnod COVID yma, fel bod y celfyddydau yn gallu chwarae rhan gwbl greiddiol yn y cyfnod yma, fel ffordd i'r sector oroesi, ond hefyd er mwyn i'r celfyddydau, i'r sector greadigol, ein helpu ni i ddeall y sefyllfa rydyn ni ynddi hi a bod yn rhan ganolog o'r broses o'n tywys ni allan o'r pandemig yma.
Diolch. Rhaid i mi alw'r Gweinidog yn awr, ac rwy'n ymddiheuro i'r bobl y nodwyd eu bod am siarad, ond dadl 30 munud yn unig yw hon. Felly, rwy'n ymddiheuro. Rwy'n mynd i alw ar y Gweinidog i ymateb yn awr. Na, mae'n ddrwg gennyf—nid i ymateb i'r ddadl; adroddiad pwyllgor yw hwn. Mae'n ddrwg gennyf, Helen. Galwaf ar y Gweinidog i gymryd rhan yn y ddadl—Dafydd Elis-Thomas.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Gaf i yn gyntaf ddiolch am y cyfle yma i ymateb i ddadl am bwysigrwydd celfyddyd yng nghanol argyfwng, safbwynt yr wyf i, wrth gwrs, yn ei gymeradwyo ac yn ei gefnogi yn llwyr?
Dwi yn derbyn bod angen i ni fel Llywodraeth ddeall bod y celfyddydau yn fwy na rhan arall o wasanaeth Llywodraeth, ond bod yna bosibilrwydd i ddefnyddio diwylliant a’r celfyddydau, yn enwedig, o bosib, y celfyddydau perfformio, cerddoriaeth, y celfyddydau drama, ac yn y blaen, fel ffordd i adfywio bywyd pobl yn yr amgylchiadau anodd yma. Dŷn ni’n gwybod o hanes theatr ar hyd y blynyddoedd a cherddoriaeth ar hyd y blynyddoedd fod hyn yn gallu digwydd.
Dwi’n cytuno hefyd gyda’r dadleuon sydd wedi cael eu gwneud am y pwysigrwydd inni alw ar y Trysorlys. Rydym ni wedi gwneud hynny’n barod. Dwi wedi ysgrifennu at y Trysorlys ar y mater yma. Ond, a gaf i ddweud, dydw i ddim yn ystyried fy hun yn lobïo’r Trysorlys, oherwydd Llywodraeth ydym ni yng Nghymru. Dydyn ni ddim yn lobïo Llywodraeth San Steffan; rydym ni’n gofyn iddyn nhw, fel hawl, ein bod ni’n cael ein cydnabod fel Llywodraeth, beth ddylai ddigwydd.
Dwi hefyd yn derbyn bod yna werth cymunedol a chenedlaethol i gelfyddyd, ac felly bod y posibiliadau o symud ymlaen drwy ddefnyddio celfyddyd yn allweddol. Dwi ddim yn cytuno bod yn rhaid inni gael grŵp gweithio penodol i wneud hyn, oherwydd dwi’n meddwl bod gyda ni o fewn y sefydliadau cenedlaethol, yng nghyngor y celfyddydau ac yn y cyrff celfyddydol eraill, y capasiti i wneud hyn, a dwi’n addo ar ôl y ddadl yma y byddaf i, unwaith eto, yn edrych ar y blaenoriaethau dŷn ni wedi eu gosod iddyn nhw.
A gaf i ddweud mor falch ydw i o glywed siarad cadarn am y gymuned ddu a lleiafrifol yng Nghymru? Dŷn ni i gyd yn lleiafrifol yn ein gwahanol ffyrdd, a dwi’n meddwl nad ydym ni wedi deall digon yn y gorffennol fod y lleiafrif du ac ethnig yn ein cenedl ni mor bwysig i ni—os caf i siarad fel hyn yn hollol blaen—â’r siaradwyr Cymraeg fel lleiafrif. Mae hynny’n rhywbeth rydw i wedi ei gredu ar hyd y blynyddoedd, a rŵan dwi’n ei ddweud o fel Gweinidog diwylliant, a dwi’n bwriadu ceisio gweithredu arno fo inni ddeall o’r gwersi ynglŷn â chydraddoldeb ieithyddol fod yn rhaid inni hefyd gael yr un fath o genadwri ynglŷn â chydraddoldeb hiliol. Ac rydym ni ymhell o wneud hyn ar hyn o bryd.
A gaf i ddiolch i David Melding eto am ei sylwadau a dweud ein bod ni’n deall pwysigrwydd partneriaeth gyhoeddus a phreifat yn y celfyddydau? Dwi ddim am wneud unrhyw ddatganiad yn y ddadl fer yma am ddyfodol Theatr Clwyd na chanolfan y mileniwm, ond a gaf i ddweud ein bod ni’n gweithio’n galed fel Llywodraeth—nid oes gen i’r gyllideb yn fy adran i, ond rydym ni’n gweithio’n galed fel Llywodraeth i sicrhau ein bod ni’n gallu gofalu am y ddau sefydliad cenedlaethol yma, de a gogledd.
Mae Rhianon Passmore, fel bob amser, yn fy ysbrydoli gyda'i chariad at gerddoriaeth a'i hymrwymiad llwyr i gerddoriaeth, ac rwy'n ddiolchgar iawn i chi unwaith eto am bwysleisio'r ffaith bod angen i ni yn Llywodraeth Cymru sefyll yn gadarn yn y sefyllfa hon a dweud yn glir wrth Lywodraeth y DU ein bod yn cefnogi cerddoriaeth fyw a'n bod yn cefnogi cerddoriaeth gerddorfaol yn enwedig, sef y cyflawniad uchaf, yn amlwg, yn y sector cerddorol.
Ac yna, Siân Gwenllian yn olaf. Diolch yn fawr am y gofyniad i ailasesu cefnogaeth Llywodraeth Cymru i gelfyddyd. Dwi’n cymryd hwnna o ddifrif hefyd, ac mi geisiaf i ymateb iddo fo yn ystod y misoedd nesaf sydd yn weddill i mi yn y swydd yma. Dwi hefyd yn derbyn bod perfformiadau byw yn allweddol, nid jest o ran incwm i fudiadau, ond hefyd o ran profiad i bobl, a bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod cyfrifoldeb arnom ni fel Llywodraeth heddiw i weithredu o blaid y celfyddydau. Diolch yn fawr.
Diolch. Cyn i mi alw ar Helen Mary i ymateb i'r ddadl, rwyf wedi cael hysbysiad o ymyriad, a chan mai dadl yw hon, fe wnaf dderbyn yr ymyriad hwnnw. Huw Irranca-Davies.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch yn fawr am hyn. Nid wyf wedi arfer gwneud ymyriadau ar y pwynt hwn mewn dadl, ond mae'n bwynt byr iawn y byddaf yn gofyn i'r Gweinidog ei ystyried. Ar dudalen 22 yr adroddiad a groesawaf yn fawr, a diolch i Helen Mary a'i chyd-aelodau o'r pwyllgor amdano, mae Liam Evans-Ford, cyfarwyddwr gweithredol Theatr Clwyd, yn galw am gyfraniad gan y bobl sy'n rhedeg y lleoliadau a'r cwmnïau i ddatblygu'r cynllun gweithredol, wrth symud ymlaen, yn hytrach na bod cyrff anweithredol yn cyflwyno fframwaith. Awgrymaf i'r Gweinidog, a minnau'n gyn-reolwr yn y celfyddydau fy hun, mai dyna'n union pwy sydd angen iddo ymwneud â hwy a gwrando arnynt, gan gynnwys pobl fel Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, sy'n sefydliad nid-er-elw ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ac sy'n rhedeg lleoliadau mawr a bach, ond nid lledaenu'r celfyddydau a diwylliant yn unig yw eu hamcan, ond gwneud bywydau pobl yn well. Os gwelwch yn dda, gwrandewch ar y rhai ar hyd a lled y wlad, oherwydd hwy yw'r rhai sy'n democrateiddio diwylliant mewn un cyfuniad mawr. Diolch yn fawr iawn, Dafydd.
Diolch. Galwaf ar Helen Mary Jones i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i bob Aelod am eu cyfraniadau i'r ddadl hon. Un peth rwy'n ei wybod i sicrwydd yw bod llawer o bobl sy'n gweithio yn y sector yn poeni'n fawr ac yn teimlo dan lawer o bwysau ar hyn o bryd, a byddant wedi cael cysur mawr o glywed y gefnogaeth a chryfder y teimlad ynglŷn â phwysigrwydd y celfyddydau ar draws y Siambr heddiw.
Nid yw amser yn caniatáu imi ymateb i bawb, ond rwyf am wneud ychydig o ymatebion. Hoffwn ddiolch i David Melding am ei eiriau caredig am fy ngwaith yn cadeirio. Ni allai fod amser gwaeth, mewn rhai ffyrdd, i ddechrau cadeirio pwyllgor, ond yn sicr cefais gefnogaeth ryfeddol gan y staff a chan fy nghyd-Aelodau. Rwy'n credu bod pwynt David ynglŷn â phwysigrwydd cynnal cyhyrau cof y sector yn rhywbeth a ddeilliodd yn glir iawn o'n tystiolaeth. Os collwn y sector fel y mae gennym yn awr, bydd yn cymryd degawdau i'w ailadeiladu, os oes modd ei ailadeiladu o gwbl, ac mae'n bwysig cofio, wrth gwrs, fod gweithlu'r celfyddydau yn rhyngwladol, mae'n hyblyg iawn, ac os na allwn gadw pobl yma, efallai y bydd llawer o'n talentau gorau yn dewis mynd i rywle arall.
Mae angerdd Rhianon, yn enwedig at gerddoriaeth, bob amser yn ysbrydoli. Rwy'n cytuno'n llwyr â'r cyfan a ddywed am ddifrifoldeb y sefyllfa, ac rwyf hefyd yn cytuno y bydd arnom angen buddsoddiad gan Lywodraeth y DU a chan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ein sector celfyddydau yn goroesi wrth iddo fynd yn ei flaen.
Roedd pwyntiau Siân Gwenllian am yr angen i ailasesu yn rhai da iawn, a dyna pam y mae'r pwyllgor wedi gofyn am gynllun cenedlaethol newydd, ffordd newydd ymlaen, wedi'i datblygu gyda'r sector, ac rwy'n cefnogi'r hyn y mae Huw Irranca-Davies yn ei ddweud am gynnwys y sector yn yr ymateb uniongyrchol a sut rydym yn adeiladu nôl yn well, ond hefyd gan edrych ymlaen at yr hyn y gallai ein celfyddydau a'n diwylliant ei olygu i ni. Wrth gwrs, fel y dywed Siân, mae arwyddocâd y celfyddydau yn ein helpu i ddeall yr hyn rydym i gyd wedi bod drwyddo ac yn ein helpu i ymadfer fel unigolion, fel cymunedau ac fel cenedl, yn rhywbeth na ddylem golli golwg arno. Rydym ni fel pwyllgor yn cefnogi'n gryf yr alwad ar Lywodraeth Cymru i weithredu a buddsoddi, a'r pwynt a wnaeth hefyd am bwysigrwydd y ffaith nad y sefydliadau cenedlaethol mawr yn unig yw'r rhain, ond hefyd y grwpiau cymunedol lleol y cyfeiriodd llawer o'r Aelodau atynt sy'n dod â ni i gysylltiad â'n celfyddydau yn ein bywydau bob dydd.
A gaf fi ddiolch yn fawr iawn i'r Dirprwy Weinidog am ei ymateb cadarnhaol cyffredinol? Mae'n gywir i ddweud bod y celfyddydau yn ganolog i'n bywydau, hyd yn oed yng nghanol yr argyfwng ofnadwy hwn. Rhaid i mi ymddiheuro am ein defnydd o'r gair 'lobïo'; rwy'n cymryd cyfrifoldeb llawn am hynny. Nid ydym yn disgwyl i'n Gweinidogion lobïo Llywodraeth San Steffan, rydym yn disgwyl iddynt gael trafodaethau gyda hwy. Rwy'n cymryd cyfrifoldeb llawn am y gair anghywir, ond rwy'n siŵr ei fod yn gwybod beth a olygwn. Ac rwy'n siŵr ei fod hefyd yn deall y brys am y trafodaethau hynny, a'r brys i'r sector wybod rhywbeth am yr hyn sy'n mynd i ddigwydd, oherwydd wrth i fis Awst nesáu a bod disgwyl i fusnesau a sefydliadau gyfrannu tuag at gost ffyrlo, y gwir amdani yw na fydd sefydliadau heb incwm yn gallu gwneud hynny, ac felly mae ein sector celfyddydau ar ymyl y dibyn yn ariannol ac rwy'n siŵr ei fod yn gwybod hynny.
Rwy'n parchu safbwynt y Gweinidog nad yw'n teimlo'r angen i sefydlu grŵp ar wahân. Wrth gwrs, byddai'n disgwyl i mi ddweud y byddwn yn craffu ar ei waith wrth iddo symud ymlaen a'i gydweithrediad â'r sector, a gwn y bydd yn croesawu'r ffaith ein bod yn gwneud hynny.
Ddirprwy Lywydd, rwyf am ddod â fy sylwadau i ben drwy ddweud unwaith eto cymaint y gwn y bydd y sector wedi gwerthfawrogi cywair cadarnhaol, optimistaidd ac ymroddedig y ddadl hon. Edrychwn ymlaen at ymateb ffurfiol y Llywodraeth i ni maes o law, ac rwy'n ddiolchgar iawn i'r Gweinidog ei fod wedi dynodi rhai pethau cychwynnol, ond ni fyddem wedi disgwyl ymateb llawn heddiw. Ac roeddwn am wneud sylw am yr hyn a ddywedodd am bwysigrwydd perfformiadau byw—fod hyn yn rhywbeth y mae pobl yn cymryd rhan ynddo yn ogystal â gwylio, ac mae'n anodd iawn cael hynny o sgrin. Ac rwy'n ddiolchgar iawn iddo hefyd am dderbyn y pwyntiau a wnaethom am yr angen i edrych eto ar amrywiaeth, ac i sicrhau bod ein dinasyddion du ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn cael eu hadlewyrchu'n briodol wrth galon ein bywyd diwylliannol.
Felly, gyda'r ychydig sylwadau hynny, Ddirprwy Lywydd, hoffwn gymeradwyo'r adroddiad hwn a'r cynnig hwn i'r Senedd, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda'r sector i sicrhau bod ein bywyd diwylliannol yn cryfhau ar ôl yr argyfwng erchyll hwn.
Diolch. Y cwestiwn yw a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nid wyf yn gweld gwrthwynebiad. Felly, mae adroddiad y pwyllgor wedi'i nodi yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Neil McEvoy.
Symudwn ymlaen yn awr at eitem 10 ar ein hagenda y prynhawn yma, sef y ddadl gan Blaid Brexit ar godi—. Mae'n ddrwg gennyf, mae fy sgrin newydd rewi arna i; fe wnaf ganiatáu i David Rowlands ddweud wrthym beth yw'r cynnig, oherwydd rwy'n siŵr ei fod yn mynd i'w gynnig. David Rowlands.
Cynnig NDM7334 Caroline Jones
Cynnig bod y Senedd:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru:
a) i gyflymu'r gwaith o godi mesurau'r cyfyngiadau symud;
b) gweithio gyda Llywodraeth y DU i gefnogi dull gweithredu ar gyfer y DU gyfan;
c) hwyluso ail-agor economi Cymru yn gyflymach;
d) diystyru codi cyfraddau treth incwm Cymru i dalu costau ymestyn y cyfyngiadau symud.
Cynigiwyd y cynnig.
Iawn. Mae'n ymwneud â chodi'r cyfyngiadau symud, mewn gwirionedd, Ddirprwy Lywydd. Diolch, Ddirprwy Lywydd.
Nid oes amheuaeth nad yw diogelu iechyd y cyhoedd mewn ymateb i COVID-19 yn creu heriau economaidd eithriadol. Mae Llywodraeth y DU wedi ceisio rhewi'r economi drwy ddefnyddio'r cynllun cadw swyddi, benthyciadau busnes hael a mathau amrywiol o gymorth. Ond rhewi'r economi yw'r rhan hawdd. Yn union fel nad ydym wedi meistroli'r ail gam mewn cryogeneg—y rhan ddadrewi—ni wyddom sut i ddadrewi economi'n llwyddiannus. Mae'r ddwy'n systemau cymhleth na ellir eu diffodd a'u hailgynnau'n syml. Mae'r creithio economaidd eisoes wedi dechrau. Mae miloedd o fusnesau'n cau, gan danseilio capasiti cynhyrchu economi Cymru. Collwyd llawer o swyddi eisoes. Ni fydd nifer o'r rhai sy'n colli eu swyddi yn ystod dirwasgiad byth yn dod o hyd i waith eto. Gallai pobl ifanc sy'n ceisio dod yn rhan o'r gweithlu golli enillion yn hirdymor.
Deilliodd costau cyllidol eithriadol o gloi'r economi hefyd, gan arwain at ychwanegu biliynau at ddyled Llywodraeth y DU. Er bod cyfiawnhad dros hyn i atal cwymp economaidd llwyr, nid yw cynnal lefelau o'r fath o wariant Llywodraeth yn hirdymor yn gynaliadwy o gwbl. Nid oes amheuaeth fod cydbwyso iechyd y cyhoedd yn erbyn yr angen dybryd bellach i ddatgloi'r economi yn orchwyl anodd a bregus iawn. Ond rydym ni ym mhlaid Brexit bellach yn credu bod rhaid ei wneud yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach. Rydym yn nesáu'n gyflym at sefyllfa lle na fydd llawer o fusnesau a mentrau a fu'n llewyrchus yn gallu cynnal eu hunain mwyach. Bydd colli busnesau ar raddfa fawr yn y modd hwn yn sicr o arwain at ganlyniadau iechyd a allai fod yn waeth na'r rhai a gyflwynir gan COVID-19. Arweiniodd cwymp economaidd 2008 at 10,000 hunanladdiad. Nid oes gennyf ffigurau'n ymwneud â materion iechyd meddwl ar gyfer y pandemig penodol hwn, ond rhagwelir yn gyffredinol, hyd yn oed pe baem yn agor yr economi ar unwaith, y bydd cynnydd sylweddol eisoes mewn problemau iechyd meddwl.
Mae'r Prif Weinidog yn bendant na welwn unrhyw lacio ar y cyfyngiadau hyd nes ei fod yn sicr na fyddwn yn dychwelyd at y cyfraddau marwolaethau blaenorol o'r coronafeirws. Felly, rwy'n teimlo y dylem ddadansoddi rhai o'r ystadegau y mae'r Prif Weinidog yn dibynnu arnynt. Cofnodwyd 1,483 o farwolaethau a oedd yn gysylltiedig â'r coronafeirws yng Nghymru ers dechrau'r epidemig. Fodd bynnag, mae llawer o dystiolaeth anecdotaidd yn dod i'r amlwg sy'n awgrymu, lle cofnodwyd coronafeirws fel achos marwolaeth, mai'r achos gwirioneddol oedd salwch hirdymor sy'n peryglu bywyd megis canser a chlefyd y galon, ac er bod coronafeirws yn bresennol, ni ellid dweud mai dyna oedd gwir achos y farwolaeth.
Mae pob marwolaeth, wrth gwrs, yn drasiedi i'r rhai a oedd yn adnabod ac yn caru'r rhai a fu farw. Ond mae'n rhaid inni gofio bod miloedd o farwolaethau yn digwydd dros yr un cyfnod bob blwyddyn, ac y byddai modd osgoi rhai ohonynt pe bai'r camau cywir wedi cael eu cymryd ar yr adeg iawn. Yn wir, faint o bobl fydd yn marw am eu bod yn ofni gofyn am help meddygol tra bu'r pandemig hwn yn bresennol?
Rhaid inni dderbyn mai dyma natur pethau. Rhaid inni hefyd ystyried faint o bobl ifanc, heini ac iach sydd wedi marw yng Nghymru o ganlyniad uniongyrchol i COVID-19. Y gwir yw mai ychydig iawn o farwolaethau o'r fath a gafwyd. Eto, er bod pob un yn drychineb ynddo'i hun, rhaid inni fod yn ddigon dewr i ofyn y cwestiwn: 'A yw'n cyfiawnhau cau'r economi gyfan a rhoi miloedd o bobl ifanc allan o waith, a hynny am gyfnod hir o bosibl?' Gellir dadlau y dylem gadw'r un cyfyngiadau ar gyfer y rheini y nodwyd eu bod yn fregus am beth amser yn hwy, ond mae'r ddadl dros orfodi cyfyngiadau symud ar bawb yn prysur golli ei hygrededd.
Gadewch imi droi'n fyr at y busnesau sy'n dioddef fwyaf o'r cyfyngiadau—y sector gwasanaeth, ac yn enwedig tafarndai, bwytai a'r diwydiant hamdden yn gyffredinol, gan gynnwys gwestai, gwersylloedd a pharciau gwyliau. O gael mesurau rheoli da a threfniadau cadw pellter cymdeithasol ar waith, rwy'n siŵr y gellid agor llawer o'r sector hwn, fel sydd wedi digwydd yn y fasnach fodurol. Gwnaeth fideo a anfonwyd ataf gan Andy Sinclair, o Sinclair Group, argraff arbennig arnaf: roedd yn amlinellu eu strategaeth ar gyfer ailagor, ac rwy'n siŵr y bydd nifer o werthwyr ceir eraill yn cyflwyno mesurau tebyg. Byddai'r risg o heintio gyda strategaethau o'r fath ar waith yn fach iawn. Gallai llawer o fusnesau eraill sy'n parhau o dan gyfyngiadau weithredu'r un math o fesurau â'r fasnach fodurol.
Yn y ddadl hon, Ddirprwy Lywydd, nid ydym yn difrïo nac yn beirniadu'r Prif Weinidog na'i Lywodraeth am eu gweithredoedd yn ystod yr epidemig coronafeirws hwn. Yn wir, hoffem eu llongyfarch ar eu hymyriadau economaidd cadarn, ac at ei gilydd, am y ffordd y mae'r ymyriadau hyn wedi'u cyflawni. Oni bai am eu gweithredoedd, a gweithredoedd Llywodraeth y DU, nid oes amheuaeth y byddai'r mwyafrif helaeth o fusnesau Cymru mewn sefyllfa fregus iawn. Pwrpas y ddadl hon yw gofyn i'r Llywodraeth gyflymu'r broses o agor yr economi. Os na wnawn ni weithredu, mae'r amser yn prysur agosáu pan allai gymryd llawer iawn o flynyddoedd i'r economi ymadfer—yn wir, efallai na fyddai byth yn ymadfer. Clywsom mai'r ardaloedd mwyaf difreintiedig sy'n cael eu taro waethaf gan y cyfyngiadau. Efallai y bydd trefi'r Cymoedd, sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd, yn colli llawer mwy o siopau os yw'n parhau. Rydym ni ym Mhont-y-pŵl newydd glywed na fydd un manwerthwr mawr yn ailagor. Mae hyd yn oed un golled o'r fath yn allweddol i ganol ein trefi. Pa mor aml y caiff hyn ei ailadrodd ar draws ein trefi yn y Cymoedd os bydd y cyfyngiadau'n parhau?
Oes, Brif Weinidog, mae yna risgiau, ond rydym yn peryglu ein bywydau bob tro y byddwn yn gyrru car, felly rydym yn cymryd gofal i osgoi damweiniau, ac rydym yn dibynnu ar filoedd, miliynau yn wir, i wneud yr un peth. Yn drasig, mae pobl yn marw ar ein ffyrdd bob blwyddyn, ond nid ydym yn atal pobl rhag gyrru oherwydd hyn. Yn y pen draw, Brif Weinidog, ymarfer asesu risg yw'r ffordd y down allan o'r cyfyngiadau. Credwn fod yr elfen risg bellach yn cael ei gwrthbwyso gan yr anghenraid i sicrhau bod yr economi'n gweithio eto. Mae llawer o bobl yn y gymuned fusnes yn daer am gael ailagor—mae eu harian wedi dod i ben, mae perygl i'w hiechyd a'u lles. Brif Weinidog, mae'r Cymry wedi dioddef digon. Galwn arnoch i gyflymu'r broses o lacio'r cyfyngiadau. Mae canlyniadau peidio â gwneud hynny'n enbyd, a gallant fod yn waeth na COVID-19 ei hun.
Diolch. Rwyf wedi dethol gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Neil McEvoy. Nid yw'r Aelod yn bresennol i gynnig y gwelliant. A oes unrhyw Aelod yn dymuno cynnig y gwelliant hwnnw'n ffurfiol? Na. Felly, mae'r gwelliant yn methu. Galwaf ar Darren Millar.
Ni chynigiwyd gwelliant 1.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Heddiw, byddwn yn cefnogi'r cynnig penodol hwn gan alw am lacio'r cyfyngiadau symud ymhellach, fel y gallwn gynorthwyo pobl Cymru i adfer mwy o'u rhyddid personol. Mae pobl ledled y wlad, wrth gwrs, wedi aberthu'n fawr yn ystod y cyfyngiadau er mwyn helpu i ddiogelu'r rhai mwyaf agored i niwed, i alluogi gweithwyr allweddol i helpu ein gwlad i ymateb i'r pandemig, ac i leihau trosglwyddiad y feirws—aberth fel colli angladd aelod o'r teulu, methu gweld anwyliaid, neu hyd yn oed bartner, am fisoedd lawer, a byw dan y tramgwydd mwyaf gormesol ar ryddid sifil yn hanes y wlad hon a bod yn onest.
Nawr, rydym yn derbyn y bu'n rhaid eu cyflwyno er mwyn diogelu bywydau pobl. Ond ni wnaeth pobl aberthu yn y fath fodd i achub bywydau er mwyn dioddef rhagor o golli bywydau drwy ganlyniadau hirdymor anfwriadol posibl yn sgil ymestyn y cyfyngiadau am gyfnod estynedig. Gwyddom fod cysylltiadau rhwng tlodi a disgwyliad oes gwael a chlefydau cronig. Ac wrth gwrs, os na fyddwn yn codi'r cyfyngiadau'n ddigon cyflym, mae'n bosibl iawn y byddwn yn dioddef effeithiau hirdymor i iechyd y cyhoedd o ganlyniad i hynny.
Mae diffyg rhyngweithio cymdeithasol ac unigrwydd yn ystod y misoedd diwethaf bellach yn dechrau effeithio ar iechyd meddwl pobl. Mae Andrew Goodall, Prif Weithredwr y gwasanaeth iechyd gwladol yng Nghymru, wedi nodi cynnydd yn nifer y cleifion sy'n dangos arwyddion o orbryder a thrallod emosiynol, ac sy'n dod i ysbytai yn hwyrach nag y dylent cyn gofyn am y cymorth sydd ei hangen arnynt. A dyna pam ein bod wedi gweld gostyngiadau sylweddol, wrth gwrs, yn y nifer sy'n mynychu ein hadrannau achosion brys ledled y wlad. Nawr, er y gallech ddisgwyl llai o anafiadau wedi'u hachosi gan alcohol ar benwythnosau, mae'r math hwn o ostyngiad i'w weld yn awgrymu bod llawer o gleifion yn ofni mynd i'r ysbyty oherwydd y canfyddiad o risg o ddod i gysylltiad â'r coronafeirws.
Nawr, mae pawb ohonom eisiau i'r cyhoedd fod yn wyliadwrus wrth gwrs, ond rwy'n credu bod gormod o ofal wrth lacio'r rheolau yn creu perygl o golli mwy o fywydau. Rydym yn cydnabod nad oes atebion di-risg yma, ond er y bwriadau gorau, rydym yn credu bod dull Llywodraeth Cymru o weithredu ar ei hôl hi bellach o gymharu â'r hyn sy'n ymddangos fel dull cyffredin o fynd ati, neu ddull tebyg iawn, yn yr Alban, Gogledd Iwerddon ac yn wir yn Lloegr gyda Llywodraeth y DU, ac rwy'n credu bod angen inni edrych ar geisio mabwysiadu dull ar gyfer y pedair gwlad wrth symud ymlaen.
Rydym wedi trafod yn faith yn y sesiynau hyn dros yr wythnosau diwethaf y rheol 5 milltir greulon, y credwn fod angen cael gwared arni ar unwaith. Ac rwy'n credu ei bod yn drueni mawr na chafodd y rheol honno ei llacio ar sail dosturiol mewn pryd ar gyfer Sul y Tadau, a ddathlwyd dros y penwythnos. Nawr, roeddem yn croesawu'r cyhoeddiad am ailagor siopau nwyddau dianghenraid ddydd Llun, ond wrth gwrs, mae terfynau i'r hyn y gall cwsmeriaid lleol ei wneud i gefnogi busnesau lleol, ac yn aml iawn, mae llawer o fusnesau yn ein trefi ar draws y wlad a phentrefi ar draws y wlad yn dibynnu ar lawer mwy na chwsmeriaid lleol i allu goroesi.
Nawr, rhan o'r allwedd i ailagor ein heconomi yw ailagor ein hysgolion. Gwyddom fod Llywodraeth Cymru wedi gwneud cyhoeddiad y byddai pob ysgol ar agor am bedair wythnos o 29 Mehefin ymlaen. Wrth gwrs, maent wedi rhoi awdurdodau lleol mewn sefyllfa anodd drwy ofyn iddynt benderfynu a ddylent ymestyn y tymor am un wythnos, a chredaf mai camgymeriad oedd hynny, ac yn fy marn i, mae'n codi cwestiwn ynglŷn â phwy sy'n rheoli'r system addysg yng Nghymru—ai'r undebau ynteu'r Gweinidog addysg? Ac yn sicr, mae'n edrych, o'n safbwynt ni ar hyn o bryd, fel pe bai'r undebau yn drech na'r Gweinidog yn hyn o beth.
Rydym yn pryderu'n fawr, wrth gwrs, oherwydd bod astudiaethau annibynnol o addysg wedi dod i'r casgliad bod llai o addysg yn y cartref yn digwydd yng Nghymru nag sy'n digwydd yng ngwledydd eraill y DU, ac mae'n debyg fod hynny'n deillio o'r diffyg cysondeb ar draws y wlad. Felly, mae'r diffyg cysondeb diweddaraf hwn o ran faint o wythnosau y bydd ein plant yn cael eu haddysgu yn ystod yr wythnosau nesaf yn peri llawer iawn o bryder.
Felly, i grynhoi, Ddirprwy Lywydd, rwyf am ddweud ein bod yn cefnogi'r galwadau am ddull pedair gwlad o weithredu. Credwn ei bod hi'n ddryslyd cael dulliau gwahanol yng ngwledydd y DU. Mae Cymru bellach ar ei hôl hi—rwy'n credu bod hynny'n glir iawn, yn enwedig o ystyried y cyhoeddiadau yn yr Alban heddiw. Gwyddom fod yr epidemig hwn yn mynd i fod gyda ni am beth amser, ond rhaid inni sicrhau yn awr fod Llywodraeth Cymru yn mabwysiadu polisi 'bywydau a bywoliaeth' fel y gallwn warchod bywydau pobl yn y tymor hwy a galluogi pobl i ddefnyddio eu synnwyr cyffredin, gan eu hysbysu am y peryglon, wrth inni ailagor ein heconomi a symud ymlaen.
Nid yw'r byd wedi profi bygythiad o'r fath gan elfen fiolegol ers 1918. Ysgubodd ffliw Sbaen drwy'r byd, gan adael marwolaeth a dinistr yn ei sgil, ac ymhell ar ôl i'r meirw gael eu claddu, teimlwyd yr effeithiau economaidd. Credai llawer fod ffliw Sbaen wedi arwain at y Dirwasgiad Mawr. Roedd lledaeniad coronafeirws anadlol aciwt difrifol hefyd yn bygwth bod yn argyfwng tebyg i ffliw 1918, ond am fod y byd wedi gweithredu'n bendant, nid ydym wedi gweld degau o filiynau o bobl yn marw. Mae'n wir fod y ffigurau marwolaeth yn dal yn erchyll—mae dros 2,000 o bobl wedi marw yng Nghymru, a miloedd ledled y DU a bron 500,000 o bobl ledled y byd.
Mae cyfradd marwolaethau'r clefyd hwn yn uchel ymhlith pobl sâl a'r henoed. Ac er mwyn diogelu'r rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas, fe wnaethom roi ein gwlad gyfan mewn cwarantin, a dyna oedd y peth iawn i'w wneud. Roeddem yn druenus o amharod ar gyfer y feirws hwn, felly er mwyn sicrhau nad oedd ein system gofal iechyd yn cael ei threchu, fe wnaethom osod cyfyngiadau symud ar bawb—pobl sâl a'r rhai iach, yr ifanc a'r hen. A diolch byth, fe wnaeth ein GIG ymdopi, ac mae aberth pawb, ynghyd â gwaith caled ac ymroddiad ein gweithwyr allweddol, wedi golygu ein bod wedi gwastatáu'r gromlin yn llwyddiannus. Ond mae'n rhaid i ni gydbwyso ochr arall y glorian yn awr.
Mae brechlyn posibl o leiaf un i ddwy flynedd i ffwrdd. Ni allwn gadw pawb dan gyfyngiadau symud cyhyd â hynny. Mae'n rhaid i ni adfer rhyddid pobl er mwyn atal niwed anuniongyrchol. Mae'r cyfyngiadau eisoes wedi cael effaith fawr ar iechyd meddwl pobl ac rydym wedi gweld cynnydd aruthrol mewn unigrwydd ac arwahanrwydd: parau sydd wedi bod ar wahân ers canol mis Mawrth, teuluoedd sy'n methu ymweld â'i gilydd a ffrindiau sy'n cael eu hatal rhag dod at ei gilydd, oni bai eu bod yn ffodus i fyw'n agos at ei gilydd. Mae cadw pellter cymdeithasol wedi arwain at arwahanrwydd cymdeithasol, ac mae ei effeithiau wedi cael eu teimlo'n fawr gan y rhai sydd eisoes yn dioddef o afiechyd meddwl.
Mae rhai o brif seicolegwyr y DU wedi rhybuddio bod cyfyngiadau'n effeithio'n fawr ar iechyd meddwl pobl ifanc. Eto i gyd, nid yw rhai cynghorau yng Nghymru ond yn caniatáu iddynt fynd i'r ysgol am ychydig o oriau bob ychydig wythnosau. Mae risg enfawr y bydd hyn yn niweidio eu datblygiad, heb sôn am yr effaith y mae'n ei chael ar eu haddysg.
Nid iechyd meddwl yn unig sy'n cael ei effeithio, mae ein GIG wedi rhoi'r gorau i gynnig llawdriniaethau ar gyfer popeth heblaw rhai gwasanaethau hanfodol. Gennym ni y mae'r cyfraddau goroesi canser gwaethaf yn hemisffer y gorllewin yn barod, ac eto rydym wedi atal pob gwasanaeth sgrinio. Nid yw pobl wedi stopio mynd yn sâl oherwydd COVID-19, a fy mhryder yw y bydd atal gwasanaethau iechyd yn gwneud niwed parhaol i lawer o bobl. Prin y gallai ein GIG ymdopi cyn y pandemig hwn. Pwy a ŵyr pa effaith a gaiff yr oedi hwn ar gleifion.
Yr hyn a wyddom am y feirws yw'r effaith y mae'n ei chael ar ein cymunedau tlotaf. Mae'r pandemig wedi effeithio'n anghymesur ar Gasnewydd a Rhondda Cynon Taf. Mae cyfraddau heintio yn y cymunedau hyn ymhlith yr uchaf yn y DU. Roedd newyddion yr wythnos diwethaf hefyd yn tynnu sylw at y ffaith mai Cymru, o blith gwledydd y DU, sydd wedi gweld y cynnydd mwyaf mewn anweithgarwch economaidd. Gallai canlyniadau economaidd ein hymateb i'r pandemig gael eu teimlo am genedlaethau.
Rydym yn nesáu at y pwynt lle mae'r iachâd yn waeth na'r clefyd. Nid yw coronafeirws wedi diflannu, ond rydym yn barod amdano erbyn hyn. Mae angen inni roi'r gorau i roi pobl iach mewn cwarantin a symud tuag at ynysu'r rhai sy'n sâl neu'n agored i niwed. Mae COVID-19 yma i aros, ond ni ddylem ladd y claf er mwyn gwella'r clefyd. Ni allwn atal pobl rhag dal y feirws, ond gallwn atal rhag ei ledaenu'n ddigyfyngiad drwy eu hynysu hwy ac nid pawb arall. Oni chyflymwn y broses o godi'r cyfyngiadau symud, byddwn yn gwneud mwy a mwy o niwed parhaol yn y pen draw, ac rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi ein cynnig.
Diolch am y cyfle i ymateb i'r ddadl. Does yna ddim byd yn fy synnu, dwi ddim yn meddwl, am y cynnig yma gan y Brexit Party. Mae'n blaid sydd wedi bod ag Aelodau yn gwadu pob math o bethau yn y gorffennol: effaith dyn ar newid amgylcheddol; effaith ysmygu ar ganser, hyd yn oed. Felly, er dwi'n siŵr nad dyma'u bwriad, mae yna beryg iddyn nhw gael eu gweld yn fan hyn fel petaent yn gwadu'r peryg gwirioneddol sydd yna o hyd yn deillio o'r feirws yma.
Mi ddechreuaf efo lle dwi yn cytuno efo nhw—dwi yn reit hyderus bod pawb yn cytuno mewn gwirionedd—sef ein bod ni eisiau symud allan o'r cyfyngiadau presennol. Dyna le rydyn ni gyd yn dymuno mynd. Ac, yn wir, dwi fy hun wedi galw ar y Llywodraeth i wthio a herio eu tystiolaeth eu hunain drwy'r amser i wneud yn siŵr nad oes yna ddim pethau y gallem ni fod yn eu gwneud yn ddiogel i roi rhyddid yn ôl i bobl, caniatáu gweithgaredd economaidd sydd ddim yn cael eu caniatáu ar hyn o bryd—ond y gair 'diogel' ydy'r un allweddol yn y fan yna. A beth sy'n gyfan gwbl ar goll o'r cynnig yma ydy unrhyw gyfeiriad at ddiogelwch ac iechyd y cyhoedd.
Fel dywedais i, rydyn ni ym Mhlaid Cymru eisiau codi cyfyngiadau hefyd. Rydyn ni'n sylweddoli faint o straen ar lesiant pobl mae hyn wedi bod ac yn parhau i fod, faint o straen economaidd, a ddylai cyfyngiadau ddim aros yn hirach na sy'n rhaid iddyn nhw. Ond mae galw am gyflymu heb gyfeirio at y cwestiwn o, 'A ydy hynny'n ddiogel?' yn hollol anghyfrifol. Beth fuaswn i'n ei ddweud ydy bod eisiau symud mor gyflym ag sy'n bosib, cyn belled â bod hynny yn ddiogel.
Beth dwi'n sicr yn meddwl sydd ei angen gan Lywodraeth Cymru ydy llawer mwy o gynllunio ymlaen a llawer mwy o dryloywder ynglŷn â beth ydy eu gweledigaeth nhw a'r map o'n blaenau ni. Rydym ni'n dilyn patrwm tair wythnos, a dwi ddim yn credu bod hynny'n ddigon. Dwi'n meddwl dylai y Llywodraeth fod wedi cynnig rhaglen mwy phased, fel mae Llywodraeth Gweriniaeth Iwerddon wedi'i wneud, er enghraifft, yn nodi beth fyddai'r Llywodraeth yn gobeithio gallu ei wneud o ran codi cyfyngiadau a chaniatáu ailgydio mewn gweithgarwch economaidd dros gyfnod o fisoedd, efo cafeat mawr y gallai pethau newid.
Dwi'n siarad efo busnesau yn fy etholaeth i drwy'r amser, a'r ansicrwydd sydd efallai wedi bod fwyaf anodd iddyn nhw mewn llawer ffordd. Enghraifft i chi o heddiw: mae Llywodraeth yr Alban wedi cyhoeddi heddiw y bydd tafarndai a bwytai yn cael agor—y tu allan yn gyntaf—ar 3 Orffennaf, os dwi'n cofio'n iawn, ac yna i agor o dan do rhyw 10 diwrnod wedyn. Mi fuaswn i wrth fy modd pe bai Llywodraeth Cymru yn ystyried amserlen debyg hefyd, a chyhoeddi hynny cyn gynted â phosib. Ond y gwahaniaeth rhwng fy safbwynt i a safbwynt y Brexit Party ydy dwi dim ond eisiau iddo fo ddigwydd os ydy'r Llywodraeth yn gallu cael ei hargyhoeddi bod o'n ddiogel, a hefyd i egluro os dydyn nhw ddim yn credu ei bod nhw'n gallu cymryd y cam hwnnw, ac i osod amserlen amgen cyn gynted â phosib. Mae eglurder o'r math yna yn allweddol.
Wrth i ni, gobeithio, symud at godi cyfyngiadau, mae yna nifer o bethau sy'n rhaid eu rhoi mewn lle. Eto, dwi'n meddwl bod y Brexit Party yn anghyfrifol wrth beidio â chyfeirio atyn nhw. Y mesur mwyaf allweddol ydy cael cyfundrefn profi ac olrhain cadarn er mwyn gwarchod y cyhoedd a gosod seiliau ar gyfer codi cyfyngiadau. Dwi'n bryderus mai yn nyddiau cynnar y profi ac olrhain ydym ni. Mi ddylai hyn wedi bod yn rhan ganolog o'r strategaeth i frwydo yn erbyn COVID-19 drwy gydol yr amser, yn unol ag argymhellion Sefydliad Iechyd y Byd.
Dwi am orffen drwy gyfeirio at y gymhariaeth wnaeth David Rowlands wrth agor y ddadl yma. Rydym ni'n cymryd risg wrth yrru car, meddai fo, ond dydym ni ddim yn stopio pobl rhag gyrru. Nac ydym, ond mi ydych chi'n trio gwneud ceir yn fwy diogel, rydych chi'n gosod cyfyngiadau ar gyflymder, rydych chi'n gosod rheolau ffordd fawr, ac rydych chi'n gorfod pasio'ch prawf cyn gallu mynd tu ôl i'r llyw. Ac, ar hyn o bryd, rydym ni i gyd yn dal i ddysgu. Dwi'n meddwl bod y math yna o agwedd gan y Blaid Brexit yn crynhoi mor ffwrdd-â-hi ydyn nhw efo'r cynnig yma.
Dwi'n feirniadol o'r Llywodraeth mewn sawl ffordd—am ddiffyg eglurder ac am symud yn rhy araf mewn rhai meysydd, yn cynnwys bod yn rhy araf yn mynd i mewn i lockdown yn y lle cyntaf. Ond dwi hefyd yn feirniadol ryfeddol o Lywodraeth Lloegr am deyrnasu dros drychineb o ran cyfraddau marwolaethau uchel, a sut y buasai Aelodau o'r Brexit Party a'r Ceidwadwyr eisiau dweud mai'r flaenoriaeth rywsut ydy i fod yr un fath â Lloegr—dwi'n methu cweit â deall hynny, ac mae'n awgrymu i fi bod ideoleg unoliaethol, o bosib, yn bwysicach nag iechyd y cyhoedd iddyn nhw.
Rhun, rydych chi a minnau yn smygu, felly rydym ein dau'n euog yn hynny o beth.
Rydym wedi bod o dan gyfyngiadau symud yn awr ers dros 13 wythnos. Dywedwyd wrthym mai er mwyn diogelu'r GIG a gwastatáu'r gromlin y gwnaed hyn. Rwy'n credu ein bod i gyd wedi deall bod amseriad y cyfyngiadau'n gorfod bod yn berffaith, ond rwy'n amheus a wnaeth unrhyw un gydsynio i gael eu rhyddid wedi ei gwtogi am gymaint o amser. Ac yn awr dyma ni 13 wythnos yn ddiweddarach. Mae'r gromlin wedi'i gwastatáu, mae'r GIG wedi ymdopi—gyda COVID o leiaf. Pam ein bod ni'n dal o dan gyfyngiadau symud? Pryd yn union oedd dyddiad y newid i iachâd neu frechlyn neu ddiddymu? Pryd y digwyddodd hynny? A dyma fi yma yn ailadrodd yr un cwestiynau a ofynnais ychydig wythnosau'n ôl na chafodd eu cydnabod hyd yn oed gan y Prif Weinidog, heb sôn am eu hateb, felly byddwn yn gwerthfawrogi atebion heddiw, os gwelwch yn dda.
Mae Cymru'n dal i fod dan gyfyngiadau symud mewn ffyrdd sy'n greulon, yn niweidiol iawn o ran enw da a risgiau, ac yn fy marn i, rydych yn crynhoi llawer o broblemau amrywiol nad ydynt yn ymwneud â COVID a fydd yn bwysau ar y GIG eto ac yn peryglu bywydau a bywoliaeth pobl dro ar ôl tro. Mae eich negeseuon wedi bod yn annealladwy. Ni wnaethoch fynegi barn am brotestiadau torfol tan ar ôl iddynt ddigwydd, ac oedd, roedd llawer o fy etholwyr yn cytuno â mi ei fod yn slap yn wyneb pawb a oedd yn dilyn eich rheolau'n ffyddlon.
Erbyn hyn mae gennym reol 5 milltir sy'n rheol, a hefyd yn synnwyr cyffredin, a hefyd yn arweiniad ac yn fater o farn. Ni all fod yn bob un o'r rhain ac yn orfodadwy yn y llysoedd neu mewn cyfraith. Ein hetholwyr yw ein llygaid a'n clustiau, ac maent yn dweud wrthyf fod canolfannau profi o'u hamgylch yn wag i raddau helaeth. Felly, ble rydych chi arni gyda phrofi? A ydych chi'n cyrraedd eich targedau?
Ac i ddilyn hynny, mae'r gyfradd R yng Nghymru yn isel, sef 0.5 yr wythnos diwethaf, ac rwy'n meddwl bod angen i mi eich llongyfarch ar hynny, ond does bosibl nad yw'r ffigur hwnnw'n ddibynnol ar brofi. Os nad ydym yn gwybod faint sydd â COVID neu wedi cael COVID, onid yw'r gyfradd R yn gwbl ddiystyr? Hoffwn nodi hefyd, er bod cyfyngiadau symud wedi bod ar waith, ceir dau glwstwr COVID sy'n peri pryder mawr, ar Ynys Môn ac yn Wrecsam.
Rwy'n wirioneddol falch fod ysbytai maes wedi'u creu'n gyflym eithriadol ac nad oedd mo'u hangen. Mae hyn yn beth da. Fodd bynnag, rwy'n pryderu'n fawr am nifer y marwolaethau a gofnodwyd yn swyddogol fel rhai COVID. Rwy'n clywed gan rai etholwyr fod marwolaethau eu hanwyliaid wedi'u cofnodi fel rhai'n deillio o COVID pan na chynhaliwyd unrhyw brofion mewn gwirionedd ac nid oedd unrhyw symptomau'n bresennol. Mae eraill yn sôn am gyflyrau difrifol sy'n bodoli eisoes fel canser, lle mae'r farwolaeth wedi'i chofnodi fel COVID. Mae gwahaniaeth enfawr rhwng 'marw o COVID' a 'marw gyda COVID': mae hyd yn oed y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn defnyddio'r ymadrodd 'cysylltiedig â COVID'. Sut y gall y cyhoedd yng Nghymru fod yn hyderus fod cyfanswm y nifer o farwolaethau a gofnodwyd yn gywir mewn gwirionedd?
Yr wythnos diwethaf, llofnododd eich dirprwy brif swyddog meddygol ostyngiad yn lefel y rhybudd i 3, datblygiad a oedd i'w groesawu'n fawr, ac eto ar hyn o bryd, cyfyngiadau symud Cymru yw'r rhai mwyaf caeth yn y DU gyfan. Pam? Mae'r adolygiadau tair wythnos wedi bod yn ddiddiwedd i'r rhai sy'n ymladd yn llythrennol i gadw eu busnesau'n fyw, ac er fy mod yn croesawu rhywfaint o eglurder i fusnesau twristiaeth, beth y credwch y mae perchnogion busnesau'n ei wneud yn ystod yr wythnosau diwethaf hyn? Nid ydynt yn aros i chi ddweud, 'Treuliwch y tair wythnos nesaf yn paratoi' fel y gwnaethoch chi gyda siopau nwyddau dianghenraid, a'r tro diwethaf, siopau trin gwallt: maent wedi paratoi ac maent yn barod. Maent wedi bod yn barod ers wythnosau. Efallai y bydd yn syndod i chi, ond gellir ymddiried mewn busnesau i wneud yr hyn sy'n iawn i gadw eu hunain, eu staff a'u cwsmeriaid yn ddiogel, a gall y rhan fwyaf o unigolion gymryd y camau sydd eu hangen i gadw eu hunain a'u ffrindiau a'u hanwyliaid yn ddiogel hefyd. Nid oes angen i'n bywydau na'n busnesau gael eu microreoli gan Lywodraeth Cymru.
O'r hyn a welaf yn fy mewnflwch, roedd Cymru'n hapus i ymddiried yn Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar y dechrau, ond mae'r ymddiriedaeth honno bellach yn lleihau, ac mewn llawer achos mae wedi diflannu. Rwy'n meddwl ei bod hi'n bryd rhoi diwedd ar y cyfyngiadau symud. Dangoswch ymddiriedaeth ynom ni, y cyhoedd yng Nghymru, i ddefnyddio ein crebwyll ac i fyw ein bywydau a gofalu amdanom ein hunain a'n gilydd. Diolch.
Diolch i Blaid Brexit am gyflwyno'r ddadl heddiw. Rwy'n credu ei bod yn un amserol, oherwydd unwaith eto rydym yn gweld gwahaniaethau pwysig rhwng ymateb Llywodraeth y DU i'r argyfwng ar y naill law ac ymateb Llywodraeth Cymru ar y llaw arall. Pam y mae gennym y gwahaniaethau hyn? Mae'r Prif Weinidog a'i gyd-Weinidogion yn y Cabinet, yn enwedig y Gweinidog iechyd, yn dal i ddweud wrthym eu bod yn 'dilyn y wyddoniaeth'. Beth ar y ddaear y mae hyn yn ei olygu mewn gwirionedd? Nonsens ffuantus ydyw. Nid yw eu gwyddoniaeth yn wahanol i wyddoniaeth Llywodraeth y DU, ond maent yn dod i gasgliadau cwbl wahanol. A gaf fi ddweud wrth Mark Drakeford: peidiwch â'n twyllo bod hyn i gyd yn ymwneud â gwyddoniaeth? Nid plant yw'r Cymry, felly beth am fod yn onest gyda ni? Penderfyniad gwleidyddol yw hwn, oherwydd eich bod eisiau i Gymru aros dan gyfyngiadau'n hwy na Lloegr. Mae Mark Drakeford eisiau mynd at y cyhoedd yng Nghymru a dweud, 'Edrychwch beth y mae Llywodraeth y DU wedi'i wneud yn Lloegr; maent yn peryglu bywydau pobl.' Yn anffodus, mae'r ddadl hon yn methu pan ystyriwn fod Mark Drakeford a Vaughan Gething eu hunain wedi bod yn euog o greu argyfyngau iechyd y cyhoedd drwy eu rheolaeth gwbl anfedrus ar y gwasanaeth iechyd yng Nghymru. Dywedant eu bod mor benderfynol o ddiogelu iechyd y cyhoedd, ond mae Vaughan Gething yn mynd allan am bicnic teuluol ar fainc yn y parc gan herio'r rheolau y mae ef ei hun wedi'u cyflwyno. Mae Mark Drakeford yn gwneud datganiadau sy'n aml fel pe baent yn dangos nad yw hyd yn oed yn gwybod beth yw rheolau ei Lywodraeth ei hun. Mae angen mwy o gydgysylltu â Llywodraeth y DU. Mae Mark Drakeford yn gwrthod gwneud hyn. Dywedodd heddiw ei fod yn aros am dystiolaeth gan Lywodraeth y DU, fel pe bai San Steffan wedi bod yn esgeulus rywsut drwy beidio â rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf iddo. Ond rydym yn gwybod na wnaeth Mark Drakeford fynychu cyfarfodydd COBRA am sawl wythnos, pan oedd yn gallu gwneud hynny.
Ymddengys i mi fod y diffyg hwn yn rhan o strategaeth fwriadol: mae'r Prif Weinidog am aros y tu allan i gylch San Steffan fel y gall wthio ei bolisïau ei hun a mynnu nad yw'n gwybod beth y mae Llywodraeth y DU yn ei feddwl. Mae hyn yn caniatáu iddo barhau i ddilyn ei bolisïau ei hun yng Nghymru a fydd yn drychinebus yn economaidd. Hoffwn ofyn i'r Prif Weinidog: pwy sy'n mynd i dalu am y cyfyngiadau estynedig hyn yma yng Nghymru? Mae'n awyddus i fusnesau aros ar gau am gyfnod hwy, gan gostio mwy mewn swyddi a bywoliaeth. Yna, mewn byr amser, bydd yn mynd i San Steffan gyda'i gap cardota yn ei law i ofyn am fwy o arian i Gymru. Brif Weinidog, beth y credwch y bydd Llywodraeth y DU yn ei wneud gyda'ch cap pan fyddwch wedi penderfynu gwneud pethau'n wahanol yng Nghymru? Yn ôl pob tebyg, byddant yn taflu'r cap yn ôl i'ch wyneb, a bydd Llywodraeth Lafur Cymru yn y pen draw yn gorfod defnyddio'i phwerau treth incwm y flwyddyn nesaf i geisio mantoli'r cyfrifon, sy'n golygu y bydd y Cymry'n talu mwy o drethi na'r Saeson. Onid yw cael Cynulliad Cymru'n wirioneddol wych i bobl Cymru? Mae mwy a mwy o bobl yn dod i'r casgliad y bydd angen inni ddiddymu'r Cynulliad yn y pen draw. Diolch yn fawr iawn.
Rwy'n cefnogi'r cynnig hwn yn fawr, oherwydd yr hyn sydd fwyaf amlwg am ein profiad o coronafeirws yw'r diffyg tystiolaeth fod unrhyw ddiben defnyddiol i'r cyfyngiadau didrugaredd o gwbl. Roedd yn seiliedig yn wreiddiol ar ragfynegiadau gan yr Athro Neil Ferguson o Goleg Imperial yn Llundain y profwyd eu bod yn gwbl hurt fel mae'n digwydd, a chafodd Llywodraeth Sweden astudiaethau yn seiliedig ar fodel yr Athro Ferguson pe na baent yn cyflwyno cyfyngiadau, ac roedd y model hwnnw'n rhagweld y byddai eu galw am ofal critigol yn Sweden yn cyrraedd uchafbwynt o fwy na 16,000 neu hyd yn oed 20,000 y dydd, ond mewn gwirionedd, y realiti fel digwyddodd hi oedd 500 y dydd. Nid gwyddoniaeth yw gwahaniaeth o'r fath. Ystumio ystadegau ydyw; gwyddoniaeth sothach.
Yr hyn a wyddom am y coronafeirws yw nad oes gan 98 y cant o'r bobl sy'n ei ddal unrhyw symptomau o gwbl, neu'n sicr nid oes ganddynt symptomau difrifol neu gritigol. Mae'n effeithio'n ddifrifol ar 2 y cant o'r rhai sy'n ei ddal, a'r hyn a wyddom hefyd am y marwolaethau o coronafeirws yw bod 80 y cant ohonynt wedi bod yn bobl dros 80 oed. Nid yw'r feirws yn ymosod ar bobl sy'n rhan o'r boblogaeth sy'n gweithio ar y cyfan. Nid oes neb sy'n economaidd weithgar yng Nghymru, y tu hwnt i nifer fach iawn, yn debygol o fod mewn perygl wrth lacio'r cyfyngiadau. Mae llawer mwy o berygl o'i barhau nag sydd o'i lacio.
Ni all neb brofi'r proffwydoliaethau hyn wrth gwrs; ni allwch brofi'r dyfodol. Ond yr hyn y gallwn ei wneud yw edrych ar y gorffennol, gweld beth sydd wedi digwydd, a gweld sut y mae'n cymharu â'r hyn a ragwelwyd cyn cyflwyno'r mesurau hyn, a'r realiti yw nad yw'r mesurau'n rhai y gellid dweud eu bod yn werth chweil; a dweud y gwir, maent wedi bod yn gwbl wrthgynhyrchiol. Pan edrychwch ar brofiad gwledydd sydd wedi llacio eu cyfyngiadau neu heb eu cael o gwbl, fel Sweden, gwelwn fod y gyfradd heintio yn y Deyrnas Unedig yn llawer uwch yn y lle cyntaf, a hefyd roedd cyfradd marwolaeth y Deyrnas Unedig yn llawer uwch. Am bob 1 filiwn o bobl yn y DU, mae 4,500 ohonynt wedi cael coronafeirws, ac mae'r gyfradd farwolaethau wedi bod yn 632 y filiwn. Yn Sweden, ceir cyfradd heintio uwch sef 6,000 y miliwn, ond cyfradd farwolaethau is o ddim ond 500 y filiwn. Yn Awstria, cyfradd heintio lawer is o dan 2,000, a bron ddim marwolaethau o gwbl—dim ond 77 yn yr holl wlad, yn ôl gwefan Worldometer heddiw. Yr Almaen, yn yr un modd: hanner y gyfradd heintio a gawsom yn y wlad hon gyda dim ond 100 o farwolaethau, yn hytrach na'r 632 o farwolaethau y filiwn sydd gennym ni.
Felly, o'r bobl sy'n marw o'r feirws, gwyddom hefyd fod 90 y cant ohonynt â chyflwr sy'n bodoli eisoes—90 y cant o'r achosion. Roedd gan 20 y cant o'r bobl a fu farw o coronafeirws ddementia neu glefyd Alzheimer; nid yw'r rhain yn bobl sy'n rhan o'r boblogaeth sy'n gweithio ac mae angen eu diogelu rhag eu hanghyfgyfrifoldebau personol eu hunain. Trasiedi fawr y coronafeirws yw bod y Llywodraeth wedi dilyn y trywydd cwbl anghywir o'r cychwyn cyntaf ar gyfer datrys yr argyfwng. Mae wedi canolbwyntio ar osod cyfyngiadau symud ar yr economi gyfan, heb ddiogelu'r bobl a oedd yn wynebu'r perygl mwyaf mewn cartrefi nyrsio a chartrefi gofal. Mae fel mynd i'r ysbyty i gael llawdriniaeth ar y galon i ganfod bod eich llawfeddyg wedi dod i mewn i'r theatr lawdriniaethau'n cario llif gadwyn yn hytrach na chasgliad o gyllyll llawfeddygol.
Nawr, nid yw'r feirws—. Mae'n ddrwg gennyf. Nid yw'r gyfradd R, sef cyfradd trosglwyddo'r feirws, y mae'r Llywodraeth yn seilio ei pholisi arni, ond yn gyfartaledd o'r hyn y credant y gallai fod, ac mewn gwirionedd mae'n celu realiti coronafeirws, sef mai'r hyn a wyddom yw bod cyfran helaeth o'r achosion difrifol a ddatblygodd, ac nid ym Mhrydain yn unig, mae hyn drwy'r byd i gyd, wedi dod o nifer fach iawn o uwch-ledaenwyr. Mae 80 y cant o'r achosion yn Hong Kong wedi dod o 20 y cant o'r achosion cychwynnol. Felly, mae'r gyfradd R yn ffigur chwedlonol na ellir ei gyfrifo beth bynnag gan nad ydym yn gwybod pa gyfran o'r boblogaeth sydd ag unrhyw fath o imiwnedd naturiol. Rydym i gyd wedi caffael rhyw fath o imiwnedd rhag coronafeirws gan ein bod ni i gyd wedi cael annwyd cyffredin. Nid oes neb yn gwybod, mewn gwirionedd, pa mor amddiffynnol yw'r imiwneddau hyn, ond gwyddom o amgylchiadau eraill fod trawsimiwnedd o'r fath yn bodoli.
A ydych chi'n cofio'r llong fordeithiau Diamond Princess ar ddechrau'r argyfwng? Amgylchedd bychan, cyfyng, lle caniatawyd i'r clefyd redeg yn rhemp am wythnosau cyn iddo gael ei gydnabod fel problem fawr. Dim ond 19 y cant o'r teithwyr ar y llong honno a ddaliodd y coronafeirws mewn gwirionedd. Mae'r athro Sunetra Gupta, athro epidemioleg ddamcaniaethol ym Mhrifysgol Rhydychen, yn dweud bod y coronafeirws wedi dilyn yr un patrwm ledled y byd, ni waeth beth fo polisïau cyfyngiadau symud y gwahanol Lywodraethau. Mae'r athro Yonathan Freund, athro meddygaeth frys ym Mhrifysgol Sorbonne, yn dweud y gallwn ddiystyru ail don yn llwyr o'r hyn a wyddom am epidemioleg y clefyd. Felly, pan fydd Rhup ap Iorwerth yn dweud bod angen inni brofi ein hachos, rwy'n seilio'r hyn a ddywedaf ar y wyddoniaeth ac ar y gwyddonwyr, nid ar fodelwyr ystadegol, oherwydd nid gwyddoniaeth yw modelu ystadegol.
Ffactor arall sy'n gysylltiedig â'r coronafeirws hefyd, a phob feirws mewn gwirionedd, yw nad ydym yn gwybod digon amdanynt i wybod am ddatblygiad clefydau a pham y maent yn ymddwyn yn y ffordd y maent yn ei wneud. Mae llawer o feirysau'n diflannu fel y gwnaeth SARS, am reswm nad yw'n amlwg o gwbl. Chwe mis ar ôl i SARS ymddangos ar y blaned, fe ddiflannodd. Mae'r Athro David Heymann, athro mewn epidemioleg clefydau heintus yn ysgol iechyd trofannol a meddygaeth drofannol Llundain, a arweiniodd yr ymateb byd-eang i SARS yn Sefydliad Iechyd y Byd, wedi tynnu sylw at y ffaith bod SARS wedi ymledu'n hawdd ac wedi lladd un o bob deg o'r rhai a heintiwyd, ond ei fod wedi diflannu o fewn chwe mis.
A gaf fi ofyn i'r Gweinidog—mae'n ddrwg gennyf, i'r Aelod—ddirwyn i ben, os gwelwch yn dda?
Iawn, rwyf wedi dod at ddiwedd yr hyn rwy'n bwriadu ei ddweud. Felly, ar sail yr hyn a wyddom am y wyddoniaeth, a ffeithiau'r hyn a wyddom am y ffordd y mae'r epidemig hwn wedi datblygu dros yr ychydig fisoedd diwethaf, credaf fod achos anorchfygol dros lacio'r cyfyngiadau mor gyflym â phosibl.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd, Rebecca Evans?
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae Llywodraeth Cymru yn gwrthod y cynnig hwn, a byddaf yn rhoi sylw i bob un o bedair elfen y cynnig gwreiddiol yn eu tro.
Yn gyntaf, yng Nghymru, rydym wedi mynd ati'n fwriadol i edrych yn ofalus ac yn seiliedig ar dystiolaeth ar lacio'r cyfyngiadau, a'n prif nod bob amser yw cadw Cymru'n ddiogel. Rydym wedi esbonio sut rydym yn gwneud hyn yn 'Arwain Cymru allan o'r pandemig coronafeirws: fframwaith ar gyfer adferiad', ac yn 'Llacio'r cyfyngiadau ar ein cymdeithas a'n heconomi: dal i drafod'. Rydym yn llacio cyfyngiadau pan fyddwn yn fodlon na fydd newidiadau'n bygwth iechyd y cyhoedd. Mae'r gyfraith yng Nghymru yn mynnu bod y cyfyngiadau hynny'n cael eu hadolygu'n barhaus er mwyn sicrhau eu bod yn gymesur.
Daeth yr adolygiad diweddaraf i ben ar 18 Mehefin, ac roedd cyngor gwyddonol yn caniatáu i Lywodraeth Cymru geisio lleihau cyfyngiadau yn sylweddol dros y tair wythnos nesaf. Mae hyn yn cynnwys galluogi busnesau manwerthu nwyddau dianghenraid i ailagor yr wythnos hon lle gallant roi camau rhesymol ar waith i gydymffurfio â dyletswyddau cadw pellter corfforol. Gall gofal plant ailgychwyn a bydd ysgolion yn cynyddu eu gweithgarwch o'r wythnos nesaf. Mae angen parhau i ofyn i bobl aros yn eu hardal leol oni bai fod ganddynt esgus rhesymol dros deithio ymhellach, ond byddwn yn ceisio codi'r cyfyngiad hwn ar 6 Gorffennaf os yw'r amodau'n caniatáu hynny.
Yn ail, rydym yn parhau i ddadlau dros gydweithio'n agos â Llywodraeth y DU drwy ddull pedair gwlad o weithredu. Ond gadewch i mi fod yn glir: mae angen i'r pedair Llywodraeth weithredu fel partneriaid cyfartal, gyda pharch tuag at gyfrifoldebau ei gilydd. Rhaid i Lywodraeth Cymru gymryd camau sy'n adlewyrchu'r amgylchiadau a'r gofynion yng Nghymru. Ac fel y mae'r Prif Weinidog yn ei roi, nid Lloegr yw'r templed ar gyfer gweddill y DU.
Yn nyddiau cynnar y pandemig, bu'n rhaid inni ddibynnu ar beirianwaith ymateb mewn argyfwng dan COBRA. Roedd yr ymgysylltiad hwn yn gadarnhaol ar y cyfan. Er enghraifft, fe wnaethom weithio'n agos ac yn gyflym eithriadol i gynhyrchu Deddf Coronafeirws 2020 a rhoi'r cyfyngiadau ar waith. Fodd bynnag, ymddengys bod Llywodraeth y DU bellach, yn anffodus, yn tynnu'n ôl o'r dull pedair gwlad o weithredu. Mae angen inni gytuno ar y cyd ar fecanweithiau rhynglywodraethol sy'n sicrhau y gallwn weithio gyda'n gilydd yn effeithiol yng ngham nesaf yr adferiad yn sgil COVID-19.
Mewn perthynas â thrydedd elfen y cynnig, rydym yn cydnabod bod angen cael economi Cymru i symud, ond dim ond lle mae gweithleoedd mor ddiogel ag y gellir gwneud hynny'n rhesymol. O'r herwydd, Cymru yw'r unig ran o'r DU i gynnwys gofynion i gadw pellter cymdeithasol o 2m ar gyfer gweithleoedd mewn rheoliadau. Rydym wedi rhoi pecyn cymorth ar waith i fusnesau sy'n fwy hael nag unrhyw le arall yn y DU: cyfanswm o £1.7 biliwn o gymorth sy'n cyfateb i 2.7 y cant o'n cynnyrch mewnwladol crynswth. Mae hyn yn cynnwys mwy na 56,000 o ddyfarniadau grant ledled Cymru drwy ein pecyn ar gyfer ardrethi, gyda £680 miliwn o gymorth. At hynny, mae ein cronfa cadernid economaidd gwerth £500 miliwn wedi helpu bron 8,000 o fusnesau hyd yma gyda mwy na £200 miliwn o gymorth.
Fel y nodwyd yn y gyllideb atodol gyntaf a drafodwyd yn gynharach heddiw, gwnaethom symud yn gyflym i addasu cyllid yr UE at ddibenion gwahanol er mwyn manteisio i'r eithaf ar y cymorth a gynigir i fusnesau yn seiliedig ar yr anghenion sy'n bodoli yng Nghymru. Ac ni fydd yn bosibl darparu'r lefel hon o gymorth cyflym yn y dyfodol os bydd Llywodraeth y DU yn cyfyngu ar ein pwerau mewn perthynas â chronfeydd i olynu rhai'r UE.
Nododd arolwg barn a gynhaliwyd yn ddiweddar gan Survation y byddai pobl yng Nghymru yn hoffi gweld Llywodraeth Cymru'n datblygu ei strategaeth economaidd ei hun ar gyfer adferiad, ac rwy'n credu bod hyn yn adlewyrchiad o'r ymddiriedaeth sydd gan bobl yn y Llywodraeth hon i sicrhau adferiad sy'n gweithio i Gymru.
Yn olaf, roedd ein maniffesto'n cadarnhau'r bwriad i beidio â chynyddu treth incwm yn ystod tymor y Cynulliad hwn, a bwriadaf gadw at y penderfyniad hwnnw. Cytunodd y Senedd ar y cyfraddau ar gyfer eleni ar 3 Mawrth wrth gwrs, a mater i Lywodraeth Cymru yn y dyfodol fydd ystyried cyfraddau treth Cymru yn y dyfodol, a mater i'r Senedd fydd pleidleisio arnynt, ac nid dadl gan yr wrthblaid yw'r lle i fod yn gosod polisi treth ar gyfer y dyfodol.
Ddirprwy Lywydd, bydd canlyniadau da o ran iechyd y cyhoedd yn sylfaen ar gyfer adferiad economaidd sy'n para. Dyna pam y byddwn yn parhau i seilio ein dull o weithredu ar y dystiolaeth ac yn gweithio mewn partneriaeth er mwyn llacio'r cyfyngiadau ac ailadeiladu. Diolch.
Diolch. Cyn i mi alw ar Mark Reckless i ymateb i'r ddadl, a oes un o'r Aelodau angen ymyriad? Na. Felly, galwaf ar Mark Reckless i ymateb i'r ddadl. Mark.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Rydym yn bendant yn cael llai o ymyriadau gyda'r dull hwn o weithredu. Nid wyf yn gwybod a yw hynny'n gwella ansawdd y ddadl ai peidio.
Ond a gaf fi ddechrau drwy ddiolch i David Rowlands am ei gyflwyniad ardderchog i'n cynnig? Pwysleisiodd David effaith hirdymor y cyfyngiadau hyn ar yr economi, y canlyniadau iechyd nad ydynt yn rhai COVID, a'r effaith benodol y mae'r cyfyngiadau yn ei chael ar bobl ifanc, a dyna oedd y sail i'w gasgliad fod angen llacio'r cyfyngiadau yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach.
Yna cawsom gyfraniad gan Darren Millar, a hoffwn ddiolch i'r Ceidwadwyr am gefnogi ein cynnig, a diolch yn arbennig i Darren am beidio â chynnig gwelliant hyd yn oed i wneud newidiadau bach i'n cynnig y tro hwn. Mae'n dda ein bod ni'n unfryd ar hyn.
Cyfeiriodd, hefyd, at yr effaith nad yw'n effaith COVID ar iechyd a'r risg y byddai hynny'n arwain at golli rhagor o fywydau nag unrhyw fywydau a fyddai'n cael eu hachub drwy barhau'r cyfyngiadau. Rwy'n credu bod hwnnw'n bwynt cryf iawn, a phan fydd y Gweinidog ac eraill yn annog pwyll, byddwn yn ymateb bod pwyll yn gweithio'r ddwy ffordd ac fel y credaf fod rhai o'r Aelodau'n cydnabod, nid oes modd osgoi risg yn y penderfyniadau a wnawn.
Rwy'n credu bod Darren wedi gwneud y pwynt hefyd, rwy'n credu, yn gwbl briodol, nad cymhariaeth â Lloegr yn unig oedd Cymru, ond ein bod yn llusgo ar ôl yr Alban a Gogledd Iwerddon a'r DU yn gyffredinol mewn dull pedair gwlad o weithredu, neu ddiffyg un. Hynny yw, efallai ei fod ychydig yn llai cadarn, gyda'r pwyslais ar roi diwedd ar y rheol bum milltir greulon y clywsom gymaint amdani gan y Ceidwadwyr. Clywsom amdani yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog fel dadl ychydig yn ddryslyd, oherwydd roedd y Prif Weinidog yn gwrthwynebu'n hallt fod Paul Davies wedi ei disgrifio fel rheol, ond dywedodd wrthym wedyn y byddai'n cadw'r rheol am bythefnos arall.
Wedyn cawsom Caroline Jones o grŵp Plaid Brexit yn rhoi cyfraniad ardderchog i ni. Ac ar y dechrau, pan na chawsom gyfle i bleidleisio ar y rheoliadau tan yn llawer diweddarach, roedd yn gwneud synnwyr i roi'r wlad i gyd mewn cwarantin er mwyn amddiffyn y rhai sy'n agored i niwed, am fod y wlad mor druenus o amharod fel nad oedd profi nac olrhain, na'r hyn a ddisgrifiwyd ar y pryd fel 'lapio'r rhai agored i niwed mewn cocŵn', yn debygol o weithio. Ond pwrpas yr hyn a wnaethom oedd gwastatáu'r gromlin, a buom yn llwyddiannus o fewn hynny, ac eto mae'r cyfyngiadau wedi parhau. Gall cadw pellter cymdeithasol droi'n arwahanrwydd cymdeithasol yn gyflym, meddai wrthym, ac mae hynny'n cael effaith benodol ar iechyd meddwl pobl. Rwy'n credu mai'r gorau y gallwn ei wneud yn awr yw rhoi diwedd ar gynnydd digyfyngiad y feirws yn hytrach na disgwyl i'r feirws gael ei ddileu, er, wrth gwrs, byddai hynny'n dda iawn, a gallai ddigwydd am resymau heb gysylltiad o gwbl ag unrhyw ymyrraeth y gallem ni ei rhoi ar waith.
Clywsom wedyn gan Rhun ap Iorwerth. Cefais fy nrysu braidd gan ei sylwadau cychwynnol ynglŷn ag a oedd cysylltiadau rhwng smygu a chanser. Hynny yw, mae hynny wedi bod yn glir ers astudiaethau Doll ar ddechrau'r 1950au fan lleiaf. Roedd yn pwysleisio diogelwch, ond eto, mae hynny'n gweithio'r ddwy ffordd. Unwaith eto, roedd ei ymosodiad olaf ar Blaid Brexit am beidio â chynnwys cyfeiriad at brofi ac olrhain cadarn yn ein cynnig yn peri penbleth i mi. Yn wir, dyna pam y byddem wedi bod yn hapus i bleidleisio dros welliant Neil McEvoy. Os oedd Rhun mor awyddus i'w gael yn y cynnig, y cyfan oedd angen iddo ei wneud oedd cyflwyno'r cynnig gan Neil McEvoy. Ond oherwydd yr her y gallai'r Welsh National Party fod yn ei chreu i Blaid Cymru, gwn nad oedd hynny'n rhywbeth y dymunai ei wneud.
Clywsom wedyn gan Mandy Jones, a siaradodd, unwaith eto, am yr angen i wastatáu'r gromlin, fel y dywedwyd wrthym y byddai hyn yn ei wneud, a pha bryd y newidiwyd hynny? Nid ydym wedi cael ateb i hynny. A heb ateb i hynny, bydd y cyfyngiadau'n gohirio marwolaethau COVID o bosibl, ond ni fydd yn eu dileu, neu ddim yn sylweddol, a bydd yn creu llawer mwy o farwolaethau nad ydynt yn rhai COVID yn ogystal â dinistrio'r economi a lles pobl. Felly, dyna pam ein bod yn dweud ei bod hi'n bryd codi'r cyfyngiadau hyn.
Yna cyfeiriodd Gareth Bennett at wahaniaethau rhwng y DU a Chymru a sut roedd y Prif Weinidog a Llywodraeth Cymru i'w gweld fel pe baent yn creu gwahaniaethau er eu mwyn eu hunain yn hytrach nag adlewyrchu'r wyddoniaeth. Dywedodd wedyn, yn debyg iawn, unwaith eto, i gwestiwn a ofynnais i'r Prif Weinidog yn gynharach: pwy sy'n mynd i dalu am hyn yn y pen draw? Byddant yn ceisio beio Llywodraeth y DU, ond pan fo gennym bethau'n wahanol yng Nghymru am ein bod yn mynnu hynny, pam y byddai Llywodraeth y DU yn camu i mewn a thalu am ganlyniadau hynny? Felly, yn y pen draw, mae cyfraddau treth incwm Cymru'n mynd i godi. Ac eto, fel y mae Gareth efallai wedi'i weld yn gynharach, os codwch chi hynny gyda'r Prif Weinidog, fe'ch cyhuddir o fod eisiau byw mewn gwlad arall, fel pe na bai pobl yn gallu gwrthwynebu'r hyn y mae'r Senedd yn ei wneud, yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud, heb i bobl gwestiynu eu presenoldeb yn y wladwriaeth Gymreig. Ac yn y casgliad y daeth Gareth iddo, fe ddaeth i ben, rwy'n meddwl, drwy ddweud bod mwy a mwy o bobl yn dod i'r casgliad, 'Diddymwch y Cynulliad', ac rwy'n cymryd mai cyfeiriad oedd hwnnw at ei gyhoeddiad cyffrous yn gynharach heddiw, er na chyfeiriodd ato'n benodol.
Yna cawsom Neil Hamilton, a ddywedodd mai cyfyngiadau oedd yr ateb anghywir ac mewn gwirionedd, dylem fod yn diogelu'r rhai sy'n agored i niwed. Ac unwaith eto, dylai'r baich prawf ar hyn fod ar gyfer y rhai sy'n cefnogi cyfyngu ar ryddid pobl a cheisio cadw pobl dan gyfyngiadau symud. Pan gaiff y mesurau hyn eu codi mewn gwahanol wledydd, ni fu cysylltiad clir iawn rhwng graddau'r cyfyngiadau a nifer yr achosion o'r clefyd.
Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am ei sylwadau. Mae hi'n cyfeirio at y ffaith ei bod hi'n ochelgar, ond mewn gwirionedd, ochr arall y geiniog i hynny yw'r gwrthwyneb i'r economi, a hefyd i iechyd pobl, o bosibl, o safbwynt ffactorau heblaw COVID. Rwyf mewn penbleth braidd ei bod wedi dweud wedyn fod hyn i gyd yn broblem gyda Llywodraeth y DU yn tynnu'n ôl a ddim yn cynnal cyfarfodydd nac yn cydweithredu â Llywodraeth Cymru. Rwy'n cofio mai'r Prif Weinidog a wnaeth foicotio cyfarfod â Michael Gove, rwy'n credu, a'u bod wedi achub y blaen arno ar Brexit neu rywbeth tebyg. Ond mae'n amlwg ein bod yn mynd i anghytuno â'r Llywodraeth ar hyn.
Rydym yn falch o gael cefnogaeth y Ceidwadwyr, er eu bod wedi pleidleisio dros roi pellter cymdeithasol o 2m mewn cyfraith, a dyna un o'r pethau sy'n dal yr economi yn ôl. Ond mae angen inni ddechrau arni, mae angen inni ddatrys hyn, mae angen inni sicrhau bod yr economi yn ailddechrau ac mae'r cydbwysedd risg y ffordd arall bellach mewn perthynas â'r cyfyngiadau hyn, fel bod angen inni eu codi cyn gynted ag sy'n bosibl nid yn unig i gael yr economi i symud, ond hefyd i ddiogelu ein hiechyd yn gyffredinol.
Diolch. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwrthwynebu. Diolch. Felly, gohiriwn y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Rebecca Evans, a gwelliannau 2 a 3 yn enw Siân Gwenllian. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Symudwn ymlaen yn awr at eitem 11 ar ein hagenda y prynhawn yma, sef dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar COVID a'r economi, a galwaf ar Paul Davies i gyflwyno eu cynnig. Paul.
Cynnig NDM7339 Darren Millar
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod bod y pandemig coronafeirws yn argyfwng iechyd cyhoeddus ac yn argyfwng economaidd.
2. Yn croesawu'r manteision economaidd a ddaw i Gymru yn sgil bod yn rhan o'r Deyrnas Unedig yn ystod y pandemig, gan gynnwys cyllid ar gyfer:
a) y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws sy'n gwarchod 316,500 o fywoliaethau yng Nghymru; a
b) y Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig sy'n helpu 102,000 o bobl yng Nghymru.
3. Yn nodi â phryder adroddiad y 'Centre for Towns', sef 'Covid and our Towns' sy'n awgrymu y bydd economïau trefi'r Cymoedd ac arfordir gogledd Cymru ymhlith y rhai a fydd yn ddioddef waethaf yn sgîl y pandemig.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu Cronfa Adfer Cymunedol Covid i ddarparu cymorth economaidd wedi'i dargedu ar gyfer y cymunedau hynny y bydd y pandemig wedi cael yr effaith fwyaf arnynt.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n gwneud y cynnig a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod Darren Millar. Mae effaith COVID-19 ar gymunedau a sectorau ledled Cymru wedi bod yn wahanol i unrhyw beth a welsom, ac er bod yn rhaid inni dderbyn bod y pandemig wedi bod yn argyfwng iechyd cyhoeddus, mae hefyd wedi bod yn argyfwng economaidd. Mae holl natur y feirws wedi atal y rhyngweithio arferol rhyngom oll o ddydd i ddydd ac yn ei thro, mae ein heconomi wedi dod i stop i raddau helaeth.
Am y rheswm hwnnw, rydym yn croesawu'r buddion economaidd a gynigiwyd i Gymru, o ganlyniad i fod yn rhan o'r Deyrnas Unedig, yn ystod y pandemig. Er enghraifft, rydym yn gwybod bod y cynllun cadw swyddi trwy gyfnod y coronafeirws wedi helpu i ddiogelu dros 316,000 o swyddi yng Nghymru, ac mae'r cynllun cymorth incwm i'r hunangyflogedig yn parhau i helpu dros 100,000 o bobl yng Nghymru—mae'r ymyriadau hyn i'w croesawu ac yn gwneud cyfraniad pwysig at gefnogi pobl yng Nghymru. Dyna pam y bûm yn awyddus i hybu mwy o gydweithio rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru fel ein bod yn gwneud popeth a allwn i helpu ein pobl drwy gyfnod y pandemig.
Wrth gwrs, mae'n dal i fod yn anodd iawn mesur yr effaith y mae'r feirws wedi ei chael ac yn parhau i'w chael ar ein heconomi. Ym mis Ebrill yn unig, crebachodd economi'r DU 20 y cant. Yn yr un mis, gwelwyd bod diweithdra yng Nghymru bron â bod wedi dyblu. Mae bron i draean o'r boblogaeth o oedran gweithio yng Nghymru wedi bod ar ffyrlo. Yn wir, canfu ymchwil a gynhaliwyd gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith ym mis Ebrill fod 250,000 o swyddi yng Nghymru mewn sectorau a gaewyd, ac mae hynny'n cyfateb i bron un o bob pum swydd ar draws y wlad. Yn ôl yr ymchwil, os mai dim ond un o bob pedwar o'r gweithwyr hyn a gollodd eu swyddi, gallai diweithdra fod yn uwch na'r lefelau a welwyd yn y dirwasgiad diwethaf, ac mae hynny'n dal i fod yn ofn sy'n rhaid inni ei wynebu, hyd yn oed wrth i Lywodraeth Cymru ddechrau caniatáu i sectorau manwerthu nwyddau dianghenraid ailagor.
Nawr, roedd datganiad y Prif Weinidog ddydd Gwener diwethaf yn un i'w groesawu. Mae dirfawr angen i Gymru weld gweithgarwch economaidd yn ailddechrau, ac felly mae'n dda gweld bod rhai busnesau bellach yn ailddechrau gweithredu ac yn masnachu unwaith eto. Fodd bynnag, mae'n rhaid inni gofio nad yw hyn yn golygu bod busnesau ar y stryd fawr neu yng nghanol ein trefi yn cael eu hachub yn wyrthiol. Mae nifer yn ysgwyddo dyledion sylweddol o hyd, bydd llawer yn methu cyflogi eu staff blaenorol, a bydd rhai'n ei chael hi'n anodd dal i fynd. Mae agor rhai busnesau yn gam ymlaen, ond erbyn hyn yr her yw cadw'r busnesau hynny'n fyw.
Mae adroddiad Centre For Towns ar COVID-19 a'i effaith ar ein trefi yn tynnu sylw'n briodol at y ffaith bod nifer o heriau'n wynebu busnesau yng Nghymru, yn y tymor byr ac yn y tymor canolig ac yn hirdymor. Gwyddom fod yr argyfwng tymor byr a ddaw yn sgil cau rhannau helaeth o'r economi wedi effeithio'n anghymesur ar drefi arfordirol bach a chanolig eu maint, ond mae problem sylweddol hefyd i fusnesau yn y tymor canolig ac yn hirdymor. Wrth gwrs, mae'r ffaith bod y sector lletygarwch yn parhau wedi cau yn golygu bod miloedd o swyddi ledled Cymru yn dal i fod mewn perygl, ac mae busnesau'n agored i niwed o hyd. Mae trefi fel Abertyleri ac Aberystwyth ymhlith rhai o'r lleoedd yn y DU sydd â'r ganran uchaf o bobl yn cael eu cyflogi mewn tafarndai a bwytai. Heb ymyrraeth ar frys, bydd parhau i gadw'r sector hwn ar gau yn arwain at fwy o ansefydlogrwydd i'r busnesau hynny, colli rhagor o swyddi, a gallai'r dirwedd leol gael ei thrawsnewid yn ddifrifol yn y dyfodol y gellir ei ragweld.
Mae busnesau bach fel llawer o dafarndai a bwytai ledled y wlad wedi bod yn gweithio'n galed i addasu eu modelau busnes. Maent wedi arloesi ac maent wedi cyfrannu'n sylweddol i'w cymunedau lleol. Felly, wrth symud ymlaen, rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yn gwneud popeth yn eu gallu i gaffael nwyddau a gwasanaethau'n lleol, a lle gallant, yn defnyddio busnesau bach a chanolig i helpu i feithrin cryfder mewn cymunedau lleol. Mae'n bryd canolbwyntio ar ein harferion caffael yng Nghymru yn awr er mwyn cefnogi'r busnesau hynny yn y ffordd orau a helpu i gefnogi eu hadferiad.
Mae adroddiad Centre for Towns hefyd yn tynnu sylw at y ffaith bod effaith COVID-19 ar gymunedau Cymru wedi'i gwaethygu gan yr anghydraddoldebau strwythurol sy'n bodoli'n barod nad yw Llywodraeth Cymru wedi mynd i'r afael â hwy. Dengys yr adroddiad fod cymunedau'r Cymoedd a threfi glan y môr yng Nghymru, megis y Rhyl, Glynebwy a Maesteg, ymysg y rhai mwyaf agored i'r dirywiad economaidd a achoswyd gan COVID-19. Wrth gwrs, mae llawer o'r lleoedd hyn yn dal i fod heb ymadfer o'r newid macroeconomaidd o economi ddiwydiannol i un sydd wedi'i dominyddu gan gyflogaeth sgiliau uchel, coler wen neu fanwerthu. Fel y gwyddom eisoes, roedd angen buddsoddi'n sylweddol mewn rhai o'r trefi cyn-ddiwydiannol ac arfordirol hyn eisoes, cyn argyfwng y feirws, ac mae angen buddsoddiad allweddol yn awr yn fwy nag erioed.
Nawr, roedd datganiad yr wythnos diwethaf hefyd yn cyflwyno argymhellion petrus ar gyfer ailagor rhannau o'r diwydiant twristiaeth, ac roedd y cyhoeddiad yn cadarnhau y gall darparwyr llety hunangynhwysol ddechrau paratoi ar gyfer ailagor yn yr wythnosau nesaf. Fodd bynnag, yr adborth a gefais gan weithredwyr twristiaeth yn Sir Benfro yw y bydd hon yn her fawr mewn gwrionedd. Bydd angen i fusnesau twristiaeth baratoi asesiadau risg, a phe bai gwestai, er enghraifft, yn datblygu symptomau COVID-19 tra byddant ar wyliau, bydd yn rhaid i'r darparwr ganiatáu i'r gwestai aros a hunanynysu. Mae hyn, wrth gwrs, yn arwain at fwy o gwestiynau nag atebion i rai gweithredwyr—er enghraifft, pwy sy'n talu am arhosiad estynedig rhywun yn ynysu mewn fflat neu fwthyn hunanarlwyo? Pwy sy'n digolledu'r gwesteion na fydd yn gallu archebu o ganlyniad i arhosiad estynedig?
Mae'r diwydiant twristiaeth yng Nghymru yn werth £3 biliwn i'n heconomi, ac mae angen datrys y mathau hyn o gwestiynau a llawer mwy cyn y gall gweithredwyr fod yn hyderus y gallant agor eu drysau. Mae'r cwestiynau hyn i ddarparwyr llety hunangynhwysol a'r diffyg cefnogaeth ac eglurder i gynifer o bobl sy'n gweithredu yn y sector twristiaeth yn parhau i beri pryder mawr. Felly, wrth ymateb i'n dadl y prynhawn yma, efallai y gall y Gweinidog ymrwymo i gyhoeddi strategaeth benodol ar gyfer y sector twristiaeth yn y tymor byr, canolig a hir, gyda gwybodaeth glir, dyraniadau cyllid clir a manylion clir ynglŷn â sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r busnesau hynny wrth symud ymlaen.
Nawr, rwyf wedi mynychu cyfres o fforymau busnes ar-lein i drafod yr heriau cyffredinol sy'n wynebu busnesau yn fy ardal fy hun, ac rwyf wedi mynychu cyfres o fforymau busnes ar-lein yn arbennig ar gyfer busnesau twristiaeth yn fy etholaeth. Mae canlyniad y trafodaethau hynny'n glir: mae angen mwy o gefnogaeth, mae angen mwy o gyfathrebu a mwy o eglurder. Ac nid busnesau twristiaeth yn unig sy'n ei chael hi'n anodd, ac sy'n teimlo eu bod yn cael eu gadael ar ôl, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n parhau i gael gohebiaeth gan gwmnïau cyfyngedig un cyfarwyddwr sy'n teimlo nad yw Llywodraeth Cymru hyd yn oed yn eu cydnabod, heb sôn am eu cefnogi. Rwyf hefyd wedi derbyn gohebiaeth gan bartneriaethau busnes sydd, unwaith eto, yn dweud wrthyf nad yw Llywodraeth Cymru yn eu cydnabod nac yn gweithio gyda hwy. Swyddi pobl, eu hincymau a'u bywoliaeth yw'r rhain, felly y lleiaf y maent yn ei haeddu yw gwrandawiad go iawn a chael cynnig rhywfaint o gymorth i helpu eu busnesau i oroesi.
Bydd yr Aelodau'n ymwybodol ein bod wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cronfa adfer ar gyfer y meysydd yr effeithir arnynt fwyaf gan COVID-19 yn economaidd, ac rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried hyn. Mae angen i Lywodraeth Cymru anfon datganiad clir i'r cymunedau hyn eu bod yn cael eu blaenoriaethu a bod y cymorth hwnnw ar y ffordd. Rydym hefyd wedi galw ar y Llywodraeth i greu parthau heb ardrethi busnes yn y cymunedau hyn ac i gael gwared ar ardrethi busnes i bob busnes yn y parthau hynny, ni waeth beth fo'u gwerth, er mwyn hybu cyflogaeth ar ôl y pandemig. Rwy'n annog y Llywodraeth felly i ystyried rhinweddau hyn hefyd. Cryfheir adferiad Cymru ar ôl COVID-19 os gall Llywodraeth Cymru weithio gyda phob plaid, ac nid yw ein cymunedau'n haeddu llai na hynny.
Mae'r pwynt olaf yr hoffwn gyffwrdd arno yn ymwneud â thrafnidiaeth gyhoeddus. Nid oedd cyhoeddiad y Prif Weinidog yr wythnos diwethaf yn dweud unrhyw beth am effaith y newidiadau a gyhoeddwyd ar ddarparwyr trafnidiaeth gyhoeddus, ac felly byddwn yn annog Llywodraeth Cymru i gynnal trafodaethau ar frys gyda darparwyr trafnidiaeth gyhoeddus i ganfod sut y bydd angen i wasanaethau newid yn sgil ailagor rhai busnesau ac ysgolion, o gofio y bydd angen i bobl gyrraedd rhai o'r busnesau hyn, a bydd angen i blant gyrraedd ysgolion. Rwy'n sylweddoli bod rhywfaint o arian wedi'i roi i awdurdodau lleol i gyflwyno mesurau i wella diogelwch ac amodau ar gyfer moddau teithio cynaliadwy a llesol yn eu hardaloedd mewn ymateb i argyfwng COVID-19, ond oherwydd yr angen i gydymffurfio â chanllawiau cadw pellter cymdeithasol a diffyg cymorth pellach i'r diwydiant bysiau, bydd yn anodd iawn i ddarparwyr ddarparu gwasanaethau ychwanegol. Felly, rwy'n gobeithio y ceir ymrwymiad pellach i'r diwydiant bysiau er mwyn i ddarparwyr allu dechrau cynllunio gwasanaethau ar gyfer y dyfodol a sicrhau bod modd cludo defnyddwyr yn effeithiol ac yn effeithlon.
Felly, wrth gloi, Ddirprwy Lywydd, gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried rhai o'r pryderon sy'n dal i fod gan fusnesau ledled Cymru, ac yn sefydlu dulliau cyfathrebu ac arweiniad cliriach i'r diwydiant busnes fel y gall Cymru ddechrau ailadeiladu ei heconomi unwaith eto. Diolch.
Diolch. Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. A gaf fi ofyn i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans, yn ffurfiol?
Gwelliant 1—Rebecca Evans
Dileu pwyntiau 3 a 4 a rhoi yn eu lle:
Yn croesawu Cronfa Cadernid Economaidd Llywodraeth Cymru sydd werth £500m. Mae’r Gronfa hon yn rhan o becyn gwerth £1.7 biliwn o gymorth ar gyfer busnesau yng Nghymru mewn ymateb i’r pandemig. Dyma’r pecyn mwyaf hael mewn unrhyw wlad yn y DU.
Yn nodi’r ffaith bod cyllid yr UE wedi helpu Llywodraeth Cymru i ymateb i bandemig COVID-19 a hefyd yn nodi na fydd Llywodraeth Cymru, heb gyllid olynol, yn gallu ymateb i unrhyw argyfwng yn y dyfodol i’r un graddau.
Yn nodi adroddiad y Centre for Towns ‘Covid and our Towns’ ac yn croesawu’r mesurau trawslywodraethol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cyflwyno drwy ei Grŵp Gweithredu ynghylch Canol Trefi a’r agenda ‘Trawsnewid Trefi’ ar draws Cymru.
Yn cydnabod swyddogaeth bwysig cynghorau tref ac Ardaloedd Gwella Busnes creadigol a deinamig o safbwynt helpu canol trefi i adfer ar ôl effeithiau economaidd y Coronafeirws.
Yn croesawu’r gwaith arbrofol sy’n cael ei gyflawni drwy Gronfa Her yr Economi Sylfaenol o safbwynt ystyried dulliau newydd o sicrhau bod trefi a chymunedau ar draws Cymru yn fwy cydnerth. Bydd hyn yn cefnogi ein hymateb i bandemig COVID-19.
Yn croesawu galwadau gan sefydliadau sy’n cynnwys Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, FSB Cymru, TUC Cymru, y Sefydliad Astudiaethau Cyllid a Chanolfan Llywodraethiant Cymru i Lywodraeth y DU waredu ar frys y cyfyngiadau cyllid sy’n cyfyngu’n sylweddol ar allu Llywodraeth Cymru i wario er mwyn gallu ymateb yn effeithiol i’r pandemig.
Yn galw eto ar Lywodraeth y DU i ddatblygu pecyn sylweddol ar gyfer sbarduno’r economi, gan gefnogi gwaith Llywodraeth Cymru tuag at adfer trefi a chymunedau ar draws Cymru mewn modd gwyrdd a phriodol yn sgil y pandemig.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Yn ffurfiol.
Diolch. A gaf fi alw ar Helen Mary Jones i gynnig gwelliannau 2 a 3, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian? Helen.
Gwelliant 2—Siân Gwenllian
Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu Cronfa Adnewyddu Cymru Gyfan i ymdrin ag effeithiau'r pandemig, a fyddai'n trawsnewid y sectorau a nodwyd fel y rhai fyddai'n cael eu taro waethaf gan Covid-19, yn adeiladu Cymru gynaliadwy drwy baratoi'r ffordd i genedl ddi-garbon erbyn 2030 a datblygu ymdeimlad newydd o 'leoliaeth' sy'n gwerthfawrogi gwasanaethau cyhoeddus.
Gwelliant 3—Siân Gwenllian
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu mai nawr yw'r amser i Lywodraeth y DU ddatganoli rhagor o bwerau ariannol i Lywodraeth Cymru fel y gall ofalu'n well am bobl Cymru yng ngoleuni'r pandemig Covid-19.
Cynigiwyd gwelliannau 2 a 3.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar i'r grŵp Ceidwadol am gyflwyno'r cynnig pwysig hwn heddiw. Wrth gwrs, wrth inni symud allan, efallai, heibio i gam argyfwng iechyd cyntaf yr argyfwng sy'n ein hwynebu ni i gyd, mae Paul Davies yn llygad ei le pan ddywed y bydd mwy o bwyslais ar yr argyfwng economaidd, ac rwy'n siŵr y byddwn yn parhau i drafod hyn ac i graffu ar y Gweinidog wrth i'r ymateb i godi'r cyfyngiadau fynd rhagddo.
Mae yna lawer y gallwn gytuno ag ef fel grŵp yng nghynnig y Ceidwadwyr, a chredaf ei bod yn iawn i fod yn deg â Llywodraeth y DU—mae'r cynllun ffyrlo, y cynllun cadw swyddi, er enghraifft, wedi gwneud gwahaniaeth aruthrol. Nid yw'n berffaith, fel y gwn fod y Gweinidog yn gwybod, a hoffwn annog cyd-Aelodau Ceidwadol i ddefnyddio'r dylanwad sydd ganddynt gyda'r Trysorlys i edrych ar rai o'r bylchau yn y cynllun hwnnw: y dechreuwyr newydd na chawsant gymorth ac y gellid eu helpu yn awr, a rhywfaint o hyblygrwydd yn y cynllun, ac efallai y byddai'n dda ei ymestyn ar gyfer y sectorau na allant fynd yn ôl i'r gwaith ar unwaith. fel roeddem yn ei drafod yn y ddadl gynharach ar y celfyddydau.
Nid yw'r syniad o gronfa adfer COVID yn un y byddem yn ei wrthwynebu, ond fel y nodwyd yn ein dadl bythefnos yn ôl—ac nid wyf yn bwriadu cyflwyno'r dadleuon hynny eto, Ddirprwy Lywydd; cefais gyfle i wneud hynny yn y ddadl honno—teimlwn fod angen inni fynd ymhellach na hynny, gan nad yw hyn yn ymwneud ag adfer, nid yw hyn yn ymwneud â mynd yn ôl i'r fan lle roeddem o'r blaen. Fel y nododd Paul Davies yn briodol yn ei araith, roedd cymaint o'i le ar ein heconomi o'r blaen i gynifer o gymunedau a chynifer o bobl. Nid yw economi sy'n gadael traean o'n plant yn byw mewn tlodi yn un rydym am ei hadfer. I ni, mae hyn yn golygu adnewyddu, trawsnewid, gwneud pethau'n well, symud ymhellach, a dyna'r rheswm dros ein hail welliant, a fyddai'n gosod ein cais am gronfa adnewyddu ar gyfer Cymru gyfan yn lle'r alwad am gynllun adfer COVID—cronfa a fyddai'n debyg o ran bwriad, rwy'n credu, ond yn fwy uchelgeisiol am ei bod yn mynd ymhellach.
Rydym hefyd yn credu bod angen i Lywodraeth Cymru allu cymryd y camau angenrheidiol ei hun, a dyma pam rydym wedi argymell ein trydydd gwelliant, yn gofyn am fwy o ymreolaeth ariannol i Gymru ar yr adeg hon. Byddaf yn cyfeirio mewn munud at welliant y Llywodraeth, ond credaf ein bod yn camgymryd os credwn y gallwn ddibynnu ar Lywodraeth San Steffan i wneud hyn drosom ni. Ac os na wnânt hynny, rhaid iddynt ryddhau dwylo Llywodraeth Cymru i weithredu.
Mewn perthynas â gwelliant y Llywodraeth, byddem yn cytuno, wrth gwrs, â'r pwynt am yr Undeb Ewropeaidd, ac mae pethau eraill yn y fan honno y gallem eu croesawu, ond dychwelaf at y pwynt ynglŷn ag a allwn ddibynnu ar Lywodraeth y DU i'n tynnu allan o'r twll hwn. Nid ydym yn siŵr o gwbl y gallwn. Credwn mai dyma'r amser i gael mwy o bŵer yn ein dwylo ni yma yng Nghymru i'n galluogi i ailadeiladu.
Nawr, Ddirprwy Lywydd, pe bawn i'n dymuno bod yn anfoesgar, gallwn ddweud nad oeddwn yn awyddus iawn i gael gwersi ar yr economi gan y Blaid Lafur na'r Blaid Geidwadol. O ran y Blaid Geidwadol, mae eu degawd o gyni wedi gwanhau ein cymunedau a'n heconomi yn sylfaenol—gallech ddweud eu bod yn cael eu dal o dan wyneb y dŵr—ac mae angen iddynt addef peth cyfrifoldeb am rai o'r problemau y mae Paul Davies wedi'u hamlinellu. Ac o ran y Blaid Lafur, wrth gwrs, wel, gallent fod wedi diwygio fformiwla Barnett ddegawdau'n ôl pan oedd ganddynt bŵer i wneud hynny ac fe wnaethant ddewis peidio, ac maent wedi bod yn rhedeg economi Cymru ar eu pen eu hunain neu gydag eraill ers 20 mlynedd. Ond boed hynny fel y bo, nid dyma'r amser i feirniadu, a chefais lawer i'w gefnogi yng nghyfraniad Paul Davies. Mae hwn yn gyfnod pan fo pawb ohonom eisiau ac angen i Lywodraeth Cymru lwyddo. Credaf ein bod i gyd, ar draws y Siambr hon, yn unedig ar hynny. Y cwestiwn yw sut i wneud hynny yn y ffordd orau. Ni allwn ymateb yn effeithiol i'r argyfwng hwn, a chreu economi sydd nid yn unig yn fwy gwyrdd ac yn fwy teg, ond sydd hefyd yn wyrdd ac yn deg, heb allu benthyca i fuddsoddi a chael y pwerau yn ein dwylo ein hunain i wneud hynny'n bosibl.
Diolch. Janet Finch-Saunders.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Mae COVID-19 yn argyfwng iechyd. Mae hefyd yn argyfwng economaidd. Mae nifer y bobl sy'n hawlio budd-daliadau sy'n gysylltiedig â diweithdra yng Nghymru bron â bod wedi dyblu i 103,869 ym mis Ebrill. Dyna 6.8 y cant o weithlu Cymru, sy'n waeth na chyfartaledd y DU, sef 5.8 y cant. Nid yw Aberconwy wedi osgoi'r argyfwng hwn. Yn wir, cawsom ein taro'n ddifrifol o bob cyfeiriad. Ac fel y gwyddoch, mae twristiaeth yn werth oddeutu £3 biliwn a mwy i economi Cymru, ac mae'r budd economaidd yma yng Nghonwy yn £900 miliwn.
Mae'r sefyllfa anodd sy'n ein hwynebu yn cael ei hategu gan y Gymdeithas Frenhinol er Hybu'r Celfyddydau, Gweithgynhyrchion a Masnach, a ganfu mai Conwy yw'r ardal sydd ar y brig yng Nghymru ac un o'r 20 ardal ar y brig yn y DU lle ceir y ganran uchaf o swyddi mewn perygl. Y gwir amdani yw y gallem golli 13,000 o swyddi a phrin bod hyn yn newyddion. Ysgrifennais at Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru ynglŷn â'r argyfwng ar 1 Mai gan gymryd rhan mewn cyfarfod rhithwir ar ôl hynny. Fodd bynnag, ni welaf unrhyw weithredu ar unrhyw gynigion y dylid llunio strategaeth i helpu Conwy. Mae'r pwerau gennych, mae'r dulliau gennych; dim ond eich ewyllys sydd ei angen arnom.
Nawr, nid wyf ar fy mhen fy hun yn fy niolch enfawr i Lywodraeth Geidwadol y DU am y cymorth ariannol aruthrol y mae wedi'i ddarparu i chi fel Llywodraeth i gefnogi ein busnesau. Mae'r cynllun cadw swyddi drwy gyfnod y coronafeirws yn gwarchod 316,500 o swyddi yng Nghymru, gan gynnwys 7,200 yn Aberconwy. Mae'r cynllun cymorth incwm i'r hunangyflogedig yn darparu cymorth i 102,000 o bobl yng Nghymru ac mae'n werth £273 miliwn i'r rhai sy'n hunangyflogedig, gyda £6.3 miliwn ohono'n dod i Aberconwy.
Er mwyn i ymdrechion Llywodraeth y DU i gynorthwyo Cymru ac Aberconwy gael y canlyniad gorau posibl, mae angen i Lywodraeth Cymru alluogi'r ddraig economaidd i ruo eto. Mewn gwirionedd, mae 77 y cant o ymatebwyr yn cefnogi'r datganiad y dylai Llywodraeth Cymru ddatblygu cynllun adferiad economaidd newydd ar gyfer Cymru sy'n rhoi cefnogi busnesau bach a chanolig a buddsoddiad busnes wrth wraidd eu cynlluniau adfer.
Fel rwyf eisoes wedi profi, mae yna angen yn Aberconwy ond hefyd yng Nghymru gyfan. Canfu adroddiad Centre for Towns fod 28 y cant o'r gweithwyr mewn trefi arfordirol mewn sectorau sydd wedi cau. Cymru yw'r ardal sy'n perfformio waethaf yn y DU o ran ei lles economaidd, gyda sgôr o -0.77. Ac mae gennym gyfran uwch o weithwyr yn cael eu cyflogi yn y diwydiannau yr effeithir arnynt fwyaf gan y cyfyngiadau symud o gymharu â Lloegr a Gogledd Iwerddon. Felly, er bod Llywodraeth y DU wedi rhoi dros £2.2 biliwn i Lywodraeth Cymru i drechu COVID-19, rwy'n synnu mai dim ond gwerth £1.81 biliwn o symiau canlyniadol y mae'r gyllideb atodol wedi'u dyrannu.
Felly, rwy'n gofyn: ble mae gweddill yr arian hwn? Dylech fod yn gwneud mwy i sefydlu cronfa adfer cymunedol COVID i ddarparu cymorth economaidd wedi'i dargedu. Dylech fod yn diwygio'r gronfa cadernid economaidd er mwyn i fusnesau sy'n parhau i ddisgyn drwy'r rhwyd allu cyflwyno achos ar gyfer cymorth dewisol. Dylech ganiatáu yn ddiymdroi i fusnesau gwely a brecwast sy'n talu'r dreth gyngor gael cymorth grant, a rhaid i chi greu parthau heb ardrethi busnes lle bydd pob busnes yn rhydd rhag talu ardrethi busnes am hyd at dair blynedd. Dylech gael gwared ar ardrethi busnes ar gyfer busnesau o dan £15,000 y tu allan i'r parthau heb ardrethi busnes. Rhaid i chi roi arweiniad clir i'r sector twristiaeth ynglŷn â sut y gall llety ailagor yn ddiogel, ac fe all wneud hynny.
Dylech ymateb yn gadarnhaol i alwadau gan ein harweinwyr busnes yma yng ngogledd Cymru am gronfa danio gwerth £700,000 i helpu i aildanio economi'r rhanbarth. Mae cynnig y gronfa danio yn ddiddorol iawn gan y gallai arwain at weithwyr llawrydd, busnesau hunangyflogedig a microfusnesau yn cydweithio i ddatblygu a chynnig cynhyrchion a gwasanaethau newydd, yn ogystal â helpu i gyflymu buddsoddiadau cyfalaf mawr newydd yma yng ngogledd Cymru. Yn amlwg, gallwch weithredu i helpu'r economi heb orfod dilyn awgrym Plaid Cymru ynghylch datganoli rhagor o bwerau cyllidol. Rwy'n erfyn arnoch, Weinidog, i ystyried ein cynnig yn ofalus, a'r gronfa danio, a fyddai'n sicrhau bod cymorth yn cyrraedd y cymunedau yr effeithiwyd arnynt fwyaf gan yr argyfwng COVID-19. Diolch yn fawr.
Diolch. Jenny Rathbone.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Yn sicr, nid dyma'r amser i ddatod y cysylltiadau â Llywodraeth y DU, oherwydd nid oes unrhyw ffordd y gallai Llywodraeth Cymru fod wedi fforddio'r gronfa cadw swyddi drwy gyfnod y coronafeirws, neu'n wir, y gronfa i'r hunangyflogedig, y cyfeiriodd Janet Finch-Saunders ati. Felly, ni fyddaf yn cefnogi cynigion Plaid Cymru. Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn canolbwyntio ar yr hyn y gallwn ei wneud, ac mae angen inni wneud hynny mewn ffordd sy'n cefnogi'r wyddoniaeth, y cyngor gwyddonol diogel ar gyfer datgloi ein heconomi heb weld ail don, a fyddai, ynddo'i hun, yn gwbl drychinebus i'n heconomi.
Felly, o edrych ar adroddiad Centre for Towns, sydd yng nghynnig y Ceidwadwyr, rwy'n cytuno bod angen inni ymgysylltu â chlybiau diwylliannol, hamdden a chwaraeon lleol i ddeall yr hyn y bydd ei angen arnynt i ddechrau gweithredu'n ddiogel eto. Mewn llawer o achosion, rwy'n cytuno mai'r sefydliadau hyn yw conglfaen llawer o'n trefi, a gwyddom fod prosiectau diwylliannol lleol yn ffyrdd effeithiol o ddod â phobl yn ôl i ganol trefi yn hytrach na mynd i siopa y tu allan i'r dref. Dyna'n sicr fu profiad llefydd fel Castell-nedd, gyda'i gwyliau cerddorol dros y tair blynedd diwethaf. Ac yn sicr, fel cynrychiolydd o Gaerdydd, rwy'n gwbl ymwybodol fod digwyddiadau mawr iawn fel Pride Caerdydd, ein digwyddiadau chwaraeon mawr, y cyngherddau gan grwpiau enwog yn y Motorpoint Arena fel arfer yn denu pobl i'n prifddinas o weddill Cymru ac ymhell y tu hwnt i hynny. Ac nid wyf dan unrhyw gamargraff o gwbl mai nawr yw'r amser i ailddechrau'r mathau hynny o weithgareddau hyd nes y bydd gennym frechlyn. Felly, mae'n rhaid i ni wneud pethau'n wahanol.
Mae dinas Caerdydd yn enwog am ei sector cerddoriaeth annibynnol, nid dim ond Clwb Ifor Bach a busnesau eraill o gwmpas Stryd Womanby, ond y Globe, y Gate, y Tramshed, a hyd at 18 mis yn ôl, Gwdihŵ, a gafodd eu troi allan o Gilgant Guildford ar ôl degawd o gerddoriaeth wych er mwyn gwneud lle i ddatblygwyr. Ac rwy'n ofni ei bod yn anochel y bydd y fwlturiaid yn hofran yn awr yn barod i bigo ar fusnesau bregus er mwyn eu hysgubo ymaith a rhoi datblygiadau di-wyneb yn eu lle. Felly, rhaid inni fod yn effro i hynny a diogelu canol y dref.
Neithiwr, euthum ar y beic i ganol y ddinas i weld y gwaith gwych sy'n mynd rhagddo gan Gyngor Caerdydd o amgylch Castell Caerdydd i'w baratoi fel canolfan ddiwylliannol yr haf hwn ar gyfer cerddoriaeth, bwyta allan, rhannu diod a chael sgwrs â ffrindiau. Ac mae defnyddio castell sy'n agos at ganol y ddinas yn rhywbeth rwy'n meddwl y gallai Caerffili a Chonwy ei ystyried fel model, gan fod gan y ddau le gestyll hardd yng nghanol eu trefi, y gellid eu defnyddio mewn ffordd debyg. Felly, gallwn weld sut y bydd hyn yn gweithio'n dda ar gyfer perfformiadau cerddoriaeth, sy'n gymharol hawdd i'w cynnal yn yr awyr agored, ond ni allwn anghofio'r celfyddydau ehangach.
Beth am y clybiau comedi a'r theatrau sydd angen mannau awyr agored addas er mwyn perfformio? Llwyddodd y Rhufeiniaid a'r Elisabethiaid i berfformio eu dramâu yn yr awyr agored; a allai ein stadia pêl-droed weithredu fel mannau ar gyfer y celfyddydau perfformio hefyd? A allem ddefnyddio eu meysydd parcio sylweddol fel sinemâu gyrru i mewn? Mae pob un o'n sefydliadau diwylliannol dan fygythiad, ac ofnaf fod yr adroddiad ar ganol y dref braidd yn hunanfodlon wrth ddweud mai'r sefydliadau mwyaf sydd â'r adnoddau gorau i alw am gymorth, ac felly, y dylem ganolbwyntio'n unig ar y clybiau llai a'r cyfleusterau celfyddydol sy'n cael eu gadael ar ôl. Gwyddom fod ein heiconau diwylliannol cenedlaethol, fel Canolfan Mileniwm Cymru, mewn perygl hefyd, oherwydd yn y wlad hon, ledled y DU, dibynnwn ar sefydliadau diwylliannol i gael y rhan fwyaf o'u cyllid drwy werthu tocynnau. Daw 85 y cant o refeniw Canolfan Mileniwm Cymru o werthiant tocynnau, a rhagwelir y bydd yn colli £15 miliwn o werthiannau tocynnau, a £5 miliwn arall o nawdd masnachol a gwerthiannau. Felly, ni allaf ddychmygu sut y cawn y math hwnnw o arian gan Lywodraeth Cymru; rydym yn mynd i fod yn ddibynnol ar sicrhau bod Llywodraeth y DU yn gwybod beth yw gwerth ein diwylliant, ac nid y gost yn unig.
Felly rwy'n gobeithio y gallwn uno i sicrhau bod ein sefydliadau diwylliannol yn cael eu diogelu, ac nad ydym yn gweld ymdrechion i ddefnyddio hyn fel cyfle i sicrhau bod sefydliadau diwylliannol yn cael eu gorfodi i leihau eu maint, fel y gwelsom gyda'r BBC, lle mae toriadau eisoes yn cael eu trafod mewn perthynas â thros 60 o staff BBC Cymru Wales. Mae gwir angen i ganol ein trefi fod yn ganolfannau bywiog ar gyfer diwylliant a dod at ei gilydd, yn ogystal â siopa.
Rwy'n falch o gymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma. Lywydd, fe aethom i mewn i'r cyfyngiadau symud fel Teyrnas Unedig ac fel pedair gwlad, ac rwy'n credu ei bod yn niweidiol iawn i economi Cymru, yn anffodus, ein bod ni'n llacio'r cyfyngiadau mewn ffordd ranedig. Ddoe, gwelsom Brif Weinidog y DU yn cyhoeddi ei fod yn llacio canllawiau ar gyfer cadw pellter cymdeithasol ac yn ailagor y sector lletygarwch. Wrth gwrs, ar gyfer Lloegr oedd hynny. A bydd hyn yn caniatáu i rannau o'n heconomi, mewn rhannau o'r Deyrnas Unedig, ailagor mewn ffordd bwyllog a gofalus.
Yn ddiddorol iawn, roedd pob un o brif swyddogion meddygol y DU yn unfryd eu barn y dylid gostwng lefel y rhybudd COVID-19. Nawr, nid wyf am un eiliad yn awgrymu bod rhai o'r penderfyniadau y mae'n rhaid i Lywodraethau eu gwneud yn hawdd—dim o bell ffordd. Ond rwy'n credu'n gryf fod angen adolygiad o'r rheol 2m, ac ymddiried yn ein cymuned fusnes a'r cyhoedd i weithredu'n gyfrifol, gyda synnwyr cyffredin. Felly rwy'n credu mai fy neges yw: gadewch i ni ymddiried yn ein busnesau. Ac mae'r adborth a gaf gan fy etholwyr, mewn etholaeth ar y ffin fel Sir Drefaldwyn, yn dangos bod pobl yn galw'n daer am ddull unedig a chydgysylltiedig o godi cyfyngiadau economaidd ledled y DU.
Un o sectorau allweddol economi canolbarth Cymru, wrth gwrs, yw lletygarwch a'r diwydiant hwnnw. Sylwaf fod adroddiad gan Sefydliad Bevan yn dangos bod cefn gwlad Cymru ymhlith y rhannau o Gymru lle mae nifer uwch o fusnesau wedi'u cau oherwydd COVID-19. Felly, rwy'n meddwl bod angen uchelgais a gobaith ar fusnesau, ac maent yn daer eisiau rhywbeth, ac rwy'n credu bod angen i Lywodraeth Cymru roi arweiniad a gobaith i lawer o'n busnesau llai yn arbennig. Mae llawer o fusnesau lletygarwch a thwristiaeth yn barod i gyflwyno mesurau cadw pellter priodol ac ailagor eu safleoedd, ond rwy'n credu bod yr ansicrwydd a'r dryswch yn gwthio ein diwydiant lletygarwch at ymyl y dibyn, yn anffodus. Un enghraifft yw'r newyddion trist fod Castell Howell, un o'n cwmnïau bwyd mwyaf yng Nghymru, wedi cyhoeddi efallai y bydd yn rhaid iddo ddiswyddo hyd at 700 o bobl os nad yw Llywodraeth Cymru yn darparu eglurder a chynllun clir cyn gynted â phosibl.
Rwy'n credu ei bod hefyd yn bwysig i mi grybwyll y farchnad dai—mater a gafodd ei ddwyn i fy sylw gan werthwyr tai. Unwaith eto, mae llawer o'r gwerthwyr tai sy'n gweithredu yn fy etholaeth yn gweithio ar draws y ffin, yng Nghymru ac yn Lloegr. Ac mae gwerthwyr tai, yn ddealladwy, yn mynnu bod gennym ddull gweithredu ar lefel y DU, gan nad yw pobl yng Nghymru yn gallu mynd i mewn i eiddo oni bai ei fod yn wag. Ac nid wyf yn siŵr pam na allem fod wedi symud i gynnal ymweliadau dangos tai yn y ffordd honno mewn modd unedig. Nid yw perchnogion tai yng Nghymru yn gallu gwerthu, ac mae gan werthwyr yn Lloegr fantais.
Un arall a ddioddefodd yn ystod y pandemig, yn anffodus, yw Laura Ashley yng nghanolbarth Cymru, sydd wedi bod yn rhan eiconig o economi canolbarth Cymru am yn agos at 60 mlynedd. Dechreuodd Laura Ashley a'i gŵr y busnes hwnnw ychydig i fyny'r ffordd o'r fan lle cefais fy magu yng Ngharno, a chyflogai 550 o staff ffyddlon a medrus iawn bellach, neu roedd hynny'n wir ar ddechrau'r flwyddyn.
Rwy'n falch iawn fod y Gweinidog wedi cyflwyno datganiad ar hyn yn gynharach y prynhawn yma, felly efallai fod hynny'n rhoi cyfle i'r Gweinidog roi sylw i'r ffordd y mae'n credu y gall rhai o'r bobl sydd wedi colli eu swyddi yn ystod yr wythnosau diwethaf gael eu cefnogi gan Lywodraeth Cymru. Mae'n rhaid i mi ddweud nad wyf yn credu mai'r pandemig ynddo'i hun sydd i gyfrif am ddiwedd y cwmni hwnnw; rwy'n credu bod problemau eraill yno hefyd, ond rwy'n siŵr fod yr hyder economaidd yng Nghymru, sydd wedi cael ei niweidio gan y pandemig, wedi gosod pwysau sy'n tanseilio gallu prif swyddogion gweithredol Laura Ashley i ddod o hyd i gefnogwr ariannol yn ystod y cyfnod economaidd ansicr hwn. Ac rwy'n credu y bydd sgil-effeithiau COVID-19 i'w teimlo ym mhob rhan o Gymru am beth amser i ddod.
Wrth i mi ddirwyn fy sylwadau i ben, Ddirprwy Lywydd, gwrandewais ar gyfraniad Helen Mary, ac mae'n ddrwg gennyf na all Plaid Cymru gefnogi ein cronfa adfer, ond clywais lawer o'r hyn a ddywedodd Helen Mary—roedd yna lawer y gallwn gytuno arno yn fy marn i. Ni all ein gwlad fforddio syrthio ymhellach ar ôl gweddill y DU, felly hoffwn annog Llywodraeth Cymru yn daer i beidio â microreoli'r economi. Rhaid inni fod yn ddigon dewr i ailagor ein heconomi mewn ffordd bwyllog a gofalus. Ac rwyf am orffen gyda brawddeg a ddywedodd Michael Plaut wrth Meirion Morgan yn eu hadroddiad diweddar ar ran Gorwel:
Nid yw dyfodol Cymru yn eiddo i'r gwangalon, mae'n eiddo i'r dewrion.
Diolch, Ddirprwy Lywydd.
Rydym yn nodi â phryder adroddiad Centre for Towns, 'The effect of the COVID-19 pandemic on our towns and cities', sy'n awgrymu mai economïau'r trefi yn y Cymoedd ac ar arfordir gogledd Cymru fydd y rhai sy'n mynd i ddioddef waethaf yn sgil y pandemig. Fel y crybwyllwyd yn fy anerchiad yn ystod dadl Plaid Brexit, mae'r bygythiad i'n trefi yn y Cymoedd yn sgil y cyfyngiadau yn real iawn. Os na weithredwn ymyriadau ar ôl y coronafeirws, am flynyddoedd i ddod efallai, mae'n bosibl na fydd llawer o'r trefi hyn byth yn ymadfer.
Ceir tystiolaeth fod llawer o fanciau wedi defnyddio'r argyfwng hwn i gyflymu'r defnydd o weithio o bell, sy'n golygu y gallant fod mewn sefyllfa i gau mwy fyth o'u canghennau. Maent wedi dangos nad oes ganddynt gydwybod cymdeithasol mewn perthynas â chau'r canghennau hyn, felly byddant yn seilio eu penderfyniadau ar economeg bur. Gan eu bod yn gatalydd pwysig i ddod ag ymwelwyr i ganol trefi, bydd effaith ganlyniadol y cau parhaus ar ein trefi yn sylweddol. Mae'n amlwg mai dim ond ymyriadau Llywodraeth, yn enwedig ar gyfer yr economi sylfaenol, fydd yn achub y cymunedau bregus hyn. Ond mae'n rhaid inni weithredu yn awr—mae'n rhy hwyr i aros. Yn ei ymateb i'r ddadl hon, a allai'r Gweinidog nodi unrhyw ymyriadau hirdymor a gynllunnir gan ei Lywodraeth?
Yn ystod y misoedd diwethaf hyn, mae'r ymdrechion wedi bod yn canolbwyntio'n briodol ar effeithiau'r pandemig ar iechyd, ond rydym mewn sefyllfa bellach lle mae hefyd yn briodol fod ffocws manwl, arweiniad clir a chymorth cyllidol yn cael eu rhoi i ysgogi economi Cymru. Wrth inni geisio llacio rhai o'r agweddau mwy caeth ar y cyfyngiadau, mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru nid yn unig yn darparu cymorth effeithiol i danio ein heconomi, ond ei bod hefyd yn adolygu ein cynllun economaidd ac yn ymrwymo i ddiogelu Cymru ar gyfer y dyfodol o safbwynt datblygu'r sector diwydiant. Felly, hoffwn ganolbwyntio yn fy nghyfraniad ar ddau sector sy'n hanfodol i sicrhau ffyniant fy etholaeth a rhannau cyfagos o dde-orllewin Cymru, heddiw ac yn y dyfodol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi sôn am bwysigrwydd adeiladu economi werdd newydd, a fydd yn canolbwyntio ar ynni adnewyddadwy, busnesau cynaliadwy, ac adeiladu ar y gostyngiad mewn allyriadau carbon, sydd wedi bod yn un o'r ychydig ganlyniadau sydd i'w croesawu yn sgil y cyfyngiadau. Mae angen mwy na siarad. Mae datblygu economi werdd yn hanfodol i'n planed, yn hanfodol ar gyfer ein ffyniant cyffredin a dylai adeiladu ar ddealltwriaeth a derbyniad ehangach i'r agenda hon gan y rhan fwyaf o bobl. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn dweud hyn ers i mi gael fy ethol gyntaf. Rwy'n cofio Jane Davidson a'i hadroddiad ar swyddi gwyrdd, a ysgrifennwyd gan was sifil unig yn rhywle yn Cathays. Mae angen inni weld ymrwymiad i adeiladu economi werdd ac mae gorllewin Cymru mewn sefyllfa unigryw i fanteisio ar y cyfle hwn.
Yn ystod yr wythnosau diwethaf, rwyf wedi siarad â nifer o fusnesau sy'n ceisio datblygu technoleg newydd ac sy'n gweithio law yn llaw â rhai o'r busnesau ynni cynaliadwy mwy sefydledig sydd wedi'u lleoli ar hyd Dyfrffordd y Ddau Gleddau. Busnesau fel Seawind, cwmni sy'n datblygu tyrbin gwynt dau lafn unigryw y gellir ei leoli ymhell allan yn y môr, tyrbin gwynt a gaiff ei gynhyrchu a'i gydosod yng Nghymru gobeithio. Byddai Seawind yn ymuno â chwmnïau arloesol eraill, fel Bombora, Tidal Energy Ltd, Marine Power Systems—ac mae llawer o rai eraill—sy'n awyddus i ddatblygu cysyniadau a phrosiectau peilot yn ardal arddangos tonnau de Sir Benfro. Fodd bynnag, Weinidog, mewn maes sy'n cystadlu, gyda'r galw am gymorth busnes ar y lefelau uchaf erioed, rwy'n poeni na fydd y cwmnïau hyn yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i weithgynhyrchu nac yn cael eu cefnogi gyda'u gwaith ymchwil a datblygu.
Rydych wedi dweud eich bod yn dymuno creu economi fwy gwyrdd, ond os ydych am gadw eich gair, pan ddaw'n fater o greu economi fwy gwyrdd, bydd angen i chi wneud penderfyniadau anodd, mentro'n ofalus wrth gefnogi busnesau sy'n cychwyn, buddsoddi mewn technolegau newydd a darparu'r adnoddau a'r mynediad at y cymorth y bydd y cwmnïau hynny eu hangen. A fyddech yn barod i fynychu digwyddiad bwrdd crwn gyda chwmnïau ynni adnewyddadwy yn fy etholaeth, cwmnïau newydd a rhai sefydledig, i drafod pa gymorth sydd ei angen arnynt i brif ffrydio eu cynnyrch a'i ymgorffori yn economi Cymru?
Ac os mai gwyrdd yw'r dyfodol, Weinidog, y diwydiannau lletygarwch yw'r presennol, a chyda chefnogaeth, byddant yn cadarnhau enw da Cymru am farchnata cyrchfannau yn y dyfodol. Dyma ddiwydiant a gafodd ergyd arbennig o galed gan y pandemig hwn ac un sydd wedi teimlo effaith uniongyrchol diffyg gweithredu ar ran Llywodraeth Cymru o ran llacio cyfyngiadau symud i ganiatáu i fusnesau ailagor. Gan fod misoedd yr haf yn allweddol i ddiwydiant tymhorol fel twristiaeth, mae perygl y bydd diffyg sicrwydd ynghylch ailagor a chau ffiniau Cymru, i bob pwrpas, i ymwelwyr o wledydd eraill ac ymwelwyr o Gymru yn cael effaith ddinistriol ar dwristiaeth, yn enwedig yn y sector microdwristiaeth llai sy'n ymgorffori profiadau marchnata cyrchfannau llwyddiannus. Gall llawer ohonynt lynu at reolau cadw pellter cymdeithasol a darparu dihangfa fawr ei hangen i ymwelwyr yng Nghymru.
Fodd bynnag, mae'r gwahaniaeth rhwng Cymru a Lloegr o ran cyflymdra agor yn gorfodi cwsmeriaid i droi at fannau eraill. Mae 80 y cant o'r gwesteion blynyddol a ddaw i Gymru wedi bod yma o'r blaen. Bydd agor yn hwyrach na chyrchfannau eraill yn cymell ymwelwyr i gynefinoedd newydd—arferion, nid cynefinoedd, ond mae hefyd yn gynefin, mae'n debyg—yn eu gorfodi i roi cynnig ar gyrchfannau newydd na fyddent fel arall yn eu hystyried. Felly mae colli gwesteion am un tymor yn debygol iawn o droi'n golli gwesteion ffyddlon, a arferai ddod i Gymru, yn barhaol i gyrchfannau eraill, gan effeithio ymhellach ar lwybr tuag at adferiad sydd eisoes yn heriol i'r sector.
Mae gweithredwyr twristiaeth o bob maint wedi bod yn pryderu hefyd am y cyngor roeddent yn ei gael gan Croeso Cymru. Clywais am y ffordd y câi busnesau eu hannog i beidio â hyrwyddo'u hunain ar y cyfryngau cymdeithasol yn ystod y cyfyngiadau, gan y gallai hynny annog ymwelwyr i fod eisiau torri'r rheolau ac ymweld â'r ardal. Weinidog, dyma'r gangen o Lywodraeth Cymru sydd â'r gwaith o hyrwyddo Cymru a chefnogi'r sector twristiaeth a lletygarwch. Mae rhoi cyngor i beidio â pharhau i ymgysylltu a datblygu perthynas ag ymwelwyr yn safiad anhygoel. Dylai Cymru fod wedi bod yn dweud, 'Gohiriwch eich ymweliad', nid 'Peidiwch â dod yma'.
Bydd effaith arafwch Llywodraeth Cymru i weithredu yn effeithio ar fwy na'r diwydiant twristiaeth, bydd hefyd yn effeithio ar hyfywedd y cymunedau lleol a'r busnesau manwerthu cyfagos. Gyda llawer o bobl yn osgoi teithio rhyngwladol eleni, nid ydym erioed wedi cael cyfle gwell i annog pobl i gael gwyliau yn y wlad hon, i hyrwyddo Cymru fel cyrchfan ac i hyrwyddo'r agwedd ecogyfeillgar ar wyliau yng Nghymru.
Weinidog, rydym am weithio gyda'n gilydd i helpu Cymru i ddod allan o'r argyfwng yn gryfach. Rydym yn cydnabod gwerth twristiaeth cefn gwlad Cymru i economi Cymru ac mae'n rhaid inni sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl. Mae gennym fusnesau gwych yng Nghymru—mae llwyth ohonynt yn fy etholaeth i—ac mae gennym botensial i ddatblygu mwy ar draws pob sector. Rwy'n eich annog i gefnogi ein cynnig heddiw ac i ddangos i bobl Cymru y gallwn ffynnu fel cenedl yn y blynyddoedd i ddod drwy weithio gyda'n gilydd.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates?
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy ddweud bod Llywodraeth Cymru yn croesawu'r ddadl hon gan y Ceidwadwyr Cymreig yn fawr iawn? Ac yn amlwg, er ein bod yn cydnabod bod y pandemig coronafeirws yn argyfwng iechyd cyhoeddus ac yn argyfwng economaidd wrth gwrs, mae iechyd y cyhoedd, yn ddi-os, yn dod gyntaf. Nid yw'r argyfwng iechyd cyhoeddus hwn ar ben eto. Fel y mae'r Prif Weinidog wedi dweud, drwy ymdrechion rhyfeddol y cyhoedd, rydym wedi llwyddo i gael tân y coronafeirws o dan reolaeth. Ond Ddirprwy Lywydd, yn sicr, nid yw'r tân hwnnw wedi'i ddiffodd, a'r peth gwaethaf a allai ddigwydd i economi Cymru a'r DU yw ail don, a dyna pam y mae'n rhaid i unrhyw ddull rhesymegol o weithredu fod yn bwyllog. Ac rydym wedi gweld cynnydd sydyn sy'n peri pryder mawr mewn llefydd fel Florida a'r Almaen yr wythnos hon, ac wrth gwrs, y prynhawn yma, cyhoeddodd Efrog Newydd y bydd yn cyflwyno cwarantin i bobl o rannau o'r Unol Daleithiau lle mae problem sylweddol o hyd gyda coronafeirws.
Felly, fel rwyf wedi dweud droeon, Ddirprwy Lywydd, roeddem yn croesawu'n gryf y cynlluniau cymorth y mae Llywodraeth y DU wedi'u cyflwyno yn ystod yr argyfwng hwn. Mae Cymru'n rhan o'r Deyrnas Unedig, ac mae'n briodol ein bod yn cael cyfran deg o gymorth ar gyfer y mater hwn sydd heb ei ddatganoli. Ac fe wnaethom geisio gweithio'n agos iawn gyda Thrysorlys y DU a chyda'r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, yn ogystal â chyda'r Alban a Gogledd Iwerddon, drwy gydol yr argyfwng economaidd hwn i elwa ar gryfderau bod yn rhan o'r cyfan cyfunol hwnnw. Ond rhaid i Lywodraeth y DU—rhaid iddi—osgoi ymyl clogwyn wrth ddod â'r cynllun ffyrlo a'r cynllun i'r hunangyflogedig i ben, a chredaf ein bod i gyd yn derbyn na fydd yr effaith lawn i'w gweld tan yr hydref, pan fwriedir dirwyn y rhain i ben.
Nawr, rydym yn gwneud popeth a allwn i liniaru'r effeithiau, ac mae ein pecyn cymorth £1.7 biliwn yn golygu bod busnesau yng Nghymru yn gallu manteisio ar y cymorth mwyaf hael a helaeth i fusnesau yn unrhyw le yn y Deyrnas Unedig. Yn ogystal â'r sectorau hynny a'r mathau o fusnesau sydd wedi cael cymorth hyd yma, byddwn yn lansio bwrsari dechrau busnes yn fuan. Hyd yma, mae dros 60,000 o grantiau eisoes wedi'u talu i fusnesau yng Nghymru, ac mae cyfleuster benthyca Banc Datblygu Cymru, a grëwyd i helpu i ymdrin ag effaith y feirws, eisoes wedi dyrannu bron £100 miliwn i fwy na 1,200 o fusnesau. Hefyd, Ddirprwy Lywydd, mae ail gam ein cronfa cadernid economaidd ar gyfer Cymru'n unig yn agor i geisiadau ddydd Llun. Dylwn nodi hefyd, yma yng Nghymru, fod busnesau bach sydd â safleoedd â gwerth ardrethol o lai na £12,000 eisoes yn cael rhyddhad ardrethi i fusnesau bach. Maent wedi bod yn achubiaeth hanfodol sydd wedi diogelu miloedd o swyddi.
Ond wedi dweud hynny, mae angen inni ychwanegu at ein pecyn cymorth i fusnesau drwy ddarparu cymorth hanfodol i bobl a allai fod wedi colli eu swyddi neu gyfleoedd hyfforddi oherwydd y pandemig. Mae hyn yn arbennig o berthnasol heddiw, o gofio'r datganiad ysgrifenedig a gyhoeddais ynglŷn â Laura Ashley yng nghanolbarth Cymru, ac wrth gwrs, byddwn yn cynnig pob cymorth sydd ar gael i'r gweithlu yr effeithiwyd arno yno.
Nawr, fel y cyhoeddais yr wythnos diwethaf, rydym wedi cymryd camau i helpu pobl sy'n wynebu colli swyddi drwy gynnig pecyn cynhwysfawr o gymorth a fydd yn caniatáu i bobl uwchsgilio a dod o hyd i waith newydd, fel y gallwn ddiogelu cenhedlaeth, ac yn arbennig y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, rhag creithiau posibl diweithdra, a byddwn yn defnyddio £40 miliwn o'n cronfa cadernid economaidd i gyflawni hyn. Ond mae angen inni sicrhau hefyd, Ddirprwy Lywydd, fod y pecyn hwn yn cydweddu ag unrhyw fentrau y gallai Llywodraeth y DU eu cyflwyno, ac mae angen i ni osgoi unrhyw ddyblygu, os oes modd.
Felly, mae'n gwbl hanfodol fod Llywodraeth y DU hefyd yn darparu cymorth bellach i bobl sydd ar ffyrlo ar hyn o bryd a'r rhai sydd mewn perygl o golli eu swyddi. A byddwn yn gwylio'n ofalus iawn pan fydd Canghellor y Trysorlys yn cyflwyno ei ddatganiad disgwyliedig cyn i'r Senedd orffen y mis nesaf.
Nawr, mae ein capasiti a'n gallu i gael arian i'r rheng flaen wedi cael ei gyfyngu gan y rheolau ariannol anhyblyg a osodwyd gan Lywodraeth y DU, fel y nododd Helen Mary Jones. Ceir cyfyngiadau llym ar faint o arian y gallwn ei gario ymlaen o un flwyddyn i'r llall, ac mae gennym uchafswm o arian wrth gefn o £350 miliwn yn unig. At hynny, daw tua £700 miliwn i Gymru o'r UE yn awr, ac er bod Llywodraeth y DU wedi rhoi sicrwydd tymor byr ynghylch agweddau arno, mae angen inni warchod ein buddiannau yn y penderfyniadau cyllido tymor hwy, yn enwedig mewn perthynas â chronfa ffyniant gyffredin bosibl a chyllid amaethyddol a datblygu gwledig yn y dyfodol. Yn wir, mae mwy na £0.25 biliwn o'r cronfeydd strwythurol a buddsoddi Ewropeaidd wedi cael ei ailgyfeirio i ariannu ymyriadau argyfwng iechyd yn ystod y pandemig hwn.
Nawr, mae'r risg y bydd y DU yn gadael y cyfnod pontio heb gytundeb ar ein perthynas â'r UE yn y dyfodol yn real iawn. Mae pob tystiolaeth gredadwy yn awgrymu y bydd yna ganlyniadau economaidd andwyol sylweddol yn sgil newid sydyn ac eithafol o'r fath i'n perthynas fasnachu â'r UE. Felly, byddwn yn dal Llywodraeth y DU at addewidion a wnaed na fydd Cymru geiniog yn waeth ei byd o ganlyniad i adael yr UE ac y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn gyfrifol am drefnu'r cronfeydd hyn yng Nghymru.
Nawr, wrth inni ddal i aros i glywed am y cyllid penodol hwnnw, mae ein hagenda trawsnewid trefi yn symud ymlaen ar gyflymder llawn ac yn gynharach eleni, gwnaethom nodi pecyn pellach o gymorth i ganol trefi a oedd yn werth bron i £90 miliwn. Credaf fod y cymorth hwn yn bwysicach nag erioed o'r blaen. Y mis diwethaf, addawsom gymorth i ardaloedd gwella busnes yng Nghymru hefyd i gynnal eu costau rhedeg yn ystod y pandemig coronafeirws.
Ac yng nghyd-destun ailagor canol trefi ar ôl COVID, mae arian trawsnewid trefi eisoes yn darparu cynlluniau seilwaith gwyrdd. Byddant yn werth tua £9 miliwn i gyd ar draws Cymru pan fyddant wedi'u cwblhau. Mae'r cyllid hefyd yn cefnogi ein cymunedau arfordirol drwy rownd ddiweddaraf y gronfa cymunedau arfordirol, a agorwyd yr wythnos diwethaf. Mae'r gronfa honno'n darparu arbenigedd sy'n arwain y diwydiant a chyllid i awdurdodau lleol fynd i'r afael â phroblem yr eiddo gwag neu eiddo wedi'i esgeuluso sy'n difetha ein strydoedd mawr. Y penwythnos diwethaf, cyhoeddwyd ein bod yn rhoi £15.4 miliwn ychwanegol tuag at deithio diogel rhag COVID, gan ei gwneud yn fwy diogel ac yn haws i bobl symud o amgylch eu trefi lleol.
Mae trefi ledled Cymru—ym mhob rhan o Gymru—yn elwa o'r amrywiaeth o raglenni trawsnewid trefi, gan gynnwys arfordir gogledd Cymru, rhaid i mi ddweud. Mae Bae Colwyn yn elwa o dros £3 miliwn o fuddsoddiad adfywio, mae'r Rhyl yn gweld buddsoddiad enfawr o tua £20 miliwn ac yng Nghaergybi, mae prosiect gwerth mwy na £4 miliwn wedi trawsnewid y neuadd farchnad hanesyddol. Yn ogystal, yng Nghymoedd de Cymru, mae'r tasglu a gadeirir gan y Dirprwy Weinidog wedi cyfarfod yn rheolaidd ers dechrau argyfwng COVID-19, ac mae'n adolygu blaenoriaethau ar hyn o bryd yng ngoleuni'r pandemig hwn.
Bydd rhaglenni fel y cynllun grant cartrefi gwag a chronfa her yr economi sylfaenol yn chwarae rhan allweddol yn y misoedd a'r blynyddoedd i ddod a byddwn yn dysgu o'r prosiectau hyn i lywio meddylfryd polisi yn y dyfodol a hefyd i fwydo i mewn i flaenoriaethau adfer.
Nawr, mae effaith coronafeirws yn enfawr ac yn bellgyrhaeddol, ond gallai fod yn foment ar gyfer newid sylfaenol yn ein heconomi fel y gallwn, fel y dywedais ar sawl achlysur, adeiladu nôl yn well er mwyn sicrhau bod ein dyfodol yn fwy teg, yn fwy cynhwysol ac yn fwy cynaliadwy.
Diolch. Cyn i mi alw ar Mark Isherwood i ymateb i'r ddadl, a oes Aelod sy'n dymuno cael ymyriad byr? Na. Felly, galwaf ar Mark Isherwood i ymateb i'r ddadl. Mark Isherwood.
Agorodd Paul Davies i ni drwy bwysleisio bod y pandemig coronafeirws yn argyfwng iechyd cyhoeddus ac yn argyfwng economaidd, gyda niferoedd uchel o weithwyr ar ffyrlo yng Nghymru, y bygythiad i swyddi a'r angen i ddeall yr heriau sy'n wynebu busnesau, yn enwedig busnesau bach a chanolig. Soniodd am yr anghydraddoldebau strwythurol yng Nghymru nad yw Llywodraeth Cymru wedi mynd i'r afael â hwy dros gyfnod o fwy na dau ddegawd. Soniodd am y diffyg eglurder o ran y gefnogaeth i'r sector twristiaeth a galwodd am gytuno ar gynllun adfer gyda'r sector twristiaeth a chyda darparwyr trafnidiaeth gyhoeddus.
Dywedodd Helen Mary Jones nad yw Plaid Cymru yn gwrthwynebu ein galwad am gronfa adfer cymunedol COVID ac yna dywedodd ei fod yn ymwneud â mwy na mynd yn ôl i ble roeddem o'r blaen, ac rydym yn cytuno, ac felly, gobeithio y gallwch gefnogi ein cynnig. Hefyd, gwaetha'r modd, fe ddangosodd pam na ddylem gymryd unrhyw wersi ar yr economi gan Blaid Cymru.
Soniodd Janet Finch-Saunders fod y niferoedd sy'n hawlio budd-dal diweithdra wedi dyblu yn ystod yr argyfwng hwn. Conwy sydd â'r ganran uchaf o swyddi mewn perygl yng Nghymru. Roedd yn ddiolchgar i Lywodraeth y DU am y cymorth ariannol y mae'n ei roi i fusnesau Cymru a dywedodd fod angen galluogi draig economaidd Cymru i ruo eto.
Soniodd Jenny Rathbone nad dyma'r amser i fynd i ddatod y cysylltiadau â Llywodraeth y DU, am yr angen i ddod â phobl yn ôl i ganol trefi a diogelu busnesau sy'n agored i niwed a chyfleusterau celfyddydol a diwylliannol. Siaradodd Russell George am y difrod a achoswyd gan ymagwedd ranedig Llywodraeth Cymru tuag at lacio'r cyfyngiadau, o werthwyr tai i Laura Ashley. Dywedodd na all Cymru fforddio syrthio'n bellach ar ôl gweddill y DU, a daeth i'r casgliad bod dyfodol Cymru yn eiddo i'r dewrion. Soniodd David Rowlands am y bygythiad i drefi'r Cymoedd, Angela Burns am yr angen am ffocws ac arweiniad clir wrth inni symud ymlaen, a'r angen am weithredu go iawn gan Lywodraeth Cymru ar adeiladu economi werdd yn lle'r blynyddoedd o rethreg, a dywedodd, os mai gwyrdd yw'r dyfodol, mai busnesau lletygarwch yw'r presennol. Tynnodd Gweinidog yr economi, Ken Skates, sylw at y ffaith nad yw'r argyfwng iechyd cyhoeddus ar ben eto—heb amheuaeth. Croesawodd gynlluniau cymorth Llywodraeth y DU, ond soniodd am yr angen iddynt osgoi dyblygu cynlluniau Llywodraeth Cymru, er mai Llywodraeth Cymru a ddylai osgoi dyblygu cynlluniau'r DU mewn gwirionedd. Yna rhoddodd y rhestr hir arferol i ni o gynlluniau Llywodraeth Cymru yn y gorffennol, y presennol ac o bosibl yn y dyfodol.
Mae'r oedi gan Lywodraeth Cymru cyn ailagor yr economi wedi bod yn niweidiol i economi fregus Cymru. Cymerwch drafnidiaeth teithwyr, lle cyflwynodd y diwydiant gynnig i Lywodraeth Cymru ar 15 Mai a fyddai'n galluogi gweithredwyr i wella gwasanaethau bws, cynnig wedi'i gostio'n llawn, ond maent yn dal i ddisgwyl am ymateb swyddogol ystyriol ac erbyn hyn Cymru yw'r unig wlad yn y DU sydd heb gytuno ar gyllid i weithredwyr trafnidiaeth i ddechrau gwella gwasanaethau er mwyn gallu talu am wasanaethau ychwanegol.
Cymerwch ein sector gwely a brecwast: yn Lloegr a'r Alban, mae grantiau ar gael i weithredwyr gwely a brecwast nad oeddent yn gymwys ar gyfer unrhyw gynlluniau cymorth grantiau COVID-19 eraill. Yng Nghymru, fodd bynnag, nid yw busnesau gwely a brecwast cyfreithlon yn gymwys i gael grantiau cyfatebol. Fel y gofynnodd un busnes yr effeithiwyd arno i mi heddiw: 'Dyma oedd ein prif incwm a'n hunig incwm. A wnewch chi ddweud wrth Ken Skates, Mark Drakeford a Gweinidogion eraill yn Llywodraeth Lafur Cymru ein bod bellach wedi cyrraedd pen ein tennyn, yn gorfforol, yn feddyliol ac yn emosiynol?' Mae hyn yn warthus.
Cymerwch ein marchnad dai hanfodol: mae Llywodraeth Cymru wedi methu agor y farchnad dai yng Nghymru ar y cyd â gweddill y DU, lle mae gweddill y DU yn rhoi rhagofalon synhwyrol ar waith i ddiogelu pawb. Cymerwch ymarferwyr deintyddol: yn Lloegr, maent wedi ailagor gyda rheolau caeth, ond yng Nghymru, maent wedi dweud wrthyf mai'r unig air i ddisgrifio ymateb ysgrifenedig y Gweinidog iechyd i mi yr wythnos diwethaf yw sbin, a bod y rhan fwyaf o ddatganiadau Llywodraeth Cymru yr wythnos diwethaf wedi'u dadwneud yn gyflym dros y penwythnos drwy ddatganiadau pellach yn camu nôl o'r datganiadau gwreiddiol ac yn newid y broses.
Cymerwch fusnesau sy'n gosod tai gwyliau: mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y gallai busnesau hunanarlwyo ailagor ar 13 Gorffennaf, cyn belled â'u bod yn cadw at ganllawiau'r Llywodraeth. Bydd penderfyniad yn cael ei wneud ynglŷn â hyn ar 9 Gorffennaf, a dywedodd Gweinidog yr economi, Ken Skates, wrth y cyfryngau yng ngogledd Cymru fod canllawiau cynhwysfawr wedi cael eu rhoi ar waith ar gyfer y sector twristiaeth a lletygarwch er mwyn sicrhau bod modd ailagor y sector mewn ffordd ddiogel. Ond mae busnesau hunanarlwyo yn dweud wrthyf, 'Rwyf newydd siarad â'n cyngor ac nid yw'r canllawiau ganddynt,' ac yn gofyn, 'Beth yw'r canllawiau a ble y gallaf ddod o hyd iddynt?'
Ac yn olaf, cymerwch ganol trefi. Canfu'r Centre for Towns mai Cymru yw'r rhan sy'n perfformio waethaf yn y DU o ran ei lles economaidd, ac y bydd cymunedau penodol, yn cynnwys hen drefi diwydiannol mewn rhannau o Gymru, angen mecanwaith cymorth effeithiol ar lefel leol i gynorthwyo busnesau i gynllunio eu strategaethau adfer, gan adleisio gwaith Ymddiriedolaeth Carnegie.
O ystyried hyn i gyd gyda'i gilydd, rwy'n cymeradwyo'r cynnig hwn ac yn annog pawb i'w gefnogi, gan gydnabod bod y pandemig hwn yn argyfwng iechyd cyhoeddus ac yn argyfwng economaidd. Diolch yn fawr.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Y cwestiwn, felly, yw a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. [Gwrthwynebiad.] Mae yna wrthwynebiad, a byddwn yn gohirio pleidleisio ar hyn tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Cyn i ni symud at y bleidlais, galwaf ar Neil Hamilton i siarad am bwynt o drefn a gododd o'r bleidlais yr wythnos diwethaf. Neil Hamilton.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd, ac rwy'n ddiolchgar iawn i chi am fy ngwahodd i wneud y pwynt o drefn hwn heddiw. Yr wythnos diwethaf, yn ystod y pleidleisiau ar y coronafeirws, dywedais fy mod yn pleidleisio yn erbyn, ond oherwydd bod fy microffon yn y lle anghywir, ni allech glywed fy llais ac felly fe gymeroch chi nad oeddwn yn bresennol, ac felly ni chofnodwyd fy mod yn pleidleisio, ac rwy'n ddiolchgar i chi, felly, am ganiatáu i mi egluro'r sefyllfa heddiw.
Diolch, Neil Hamilton.
Symudwn yn awr at y bleidlais heddiw.
Ac fel sydd wedi ei nodi ar eich agenda chi, mae pleidleisiau heddiw yn cael eu cynnal yn unol â Rheol Sefydlog 34.11. Caiff pob grŵp gwleidyddol enwebu un aelod o'r grŵp i fod â'r un nifer o bleidleisiau ag sydd o aelodau'r grŵp. Yn achos grŵp gwleidyddol sydd â rôl Weithredol, bydd gan yr enwebai yr un nifer o bleidleisiau ag sydd o aelodau'r grŵp hwnnw, ynghyd ag unrhyw Aelodau eraill o'r Llywodraeth. Bydd Aelodau nad ydynt yn perthyn i grŵp neu grwpiad yn pleidleisio drostynt eu hunain. Byddaf yn cynnal y pleidleisio, felly, drwy alw cofrestr.
Y bleidlais gyntaf ar y gyllideb atodol gyntaf, ac mae'r cynnig wedi'i gyflwyno yn enw Rebecca Evans. Felly, ar ran y grŵp Llafur a'r Llywodraeth, Huw Irranca-Davies, sut ydych chi'n bwrw'ch 30 pleidlais?
O blaid.
Ar ran Plaid y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar, sut ydych chi'n bwrw'ch 10 pleidlais?
Ymatal.
Ar ran Plaid Cymru, Siân Gwenllian, sut ydych chi'n bwrw'ch naw pleidlais?
Ymatal.
Ar ran Plaid Brexit, Mark Reckless, sut ydych chi'n bwrw'ch pedair pleidlais?
Ymatal.
Gareth Bennett.
Yn erbyn.
Neil Hamilton.
Ymatal.
Canlyniad y bleidlais felly yw bod 30 o blaid, 24 yn ymatal, un yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi'i gymeradwyo.
Cynhaliwyd y bleidlais ar NDM7335 yn unol â Rheol Sefydlog 34.11.
Huw Irranca-Davies ar ran Grŵp Llafur a’r Llywodraeth: O blaid (30)
Darren Millar ar ran Grŵp y Ceidwadwyr: Ymatal (10)
Siân Gwenllian ar ran Grŵp Plaid Cymru: Ymatal (9)
Mark Reckless ar ran Grŵp Plaid Brexit: Ymatal (4)
Gareth Bennett – Annibynnol: Yn erbyn
Neil Hamilton – Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig: Ymatal
Derbyniwyd y cynnig.
Mae'r bleidlais nesaf ar y cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 34, a'r cynnig wedi'i gyflwyno yn fy enw i. Ar ran grŵp Llafur a'r Llywodraeth, Huw Irranca-Davies, sut ydych chi'n bwrw'ch 30 pleidlais?
O blaid, Lywydd.
Darren Millar, ar ran y Ceidwadwyr, sut ydych chi'n bwrw'r 10 pleidlais?
O blaid.
Plaid Cymru, Siân Gwenllian, sut ydych chi'n bwrw'r naw pleidlais?
O blaid.
Plaid Brexit, Mark Reckless, sut ydych chi'n bwrw'r pedair pleidlais?
O blaid.
Gareth Bennett.
Ymatal.
Neil Hamilton.
O blaid.
Canlyniad y bleidlais felly yw bod 54 o blaid, un yn ymatal, neb yn erbyn, ac felly mae'r cynnig yna wedi'i gymeradwyo.
Cynhaliwyd y bleidlais ar NDM7338 yn unol â Rheol Sefydlog 34.11.
Huw Irranca-Davies ar ran Grŵp Llafur a'r Llywodraeth: O blaid (30)
Darren Millar ar ran Grŵp y Ceidwadwyr: O blaid (10)
Siân Gwenllian ar ran Grŵp Plaid Cymru: O blaid (9)
Mark Reckless ar ran Grŵp Plaid Brexit: O blaid (4)
Gareth Bennett – Annibynnol: Ymatal
Neil Hamilton – Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig: O blaid
Derbyniwyd y cynnig.
Mae'r bleidlais nesaf ar ddadl Plaid Brexit ar godi cyfyngiadau symud, y cynnig a gyflwynwyd yn enw Caroline Jones. Ar ran grŵp Llafur a'r Llywodraeth, Huw-Irranca Davies, sut ydych chi'n bwrw'ch 30 pleidlais?
Yn erbyn y cynnig gwreiddiol. Mae'n ddrwg gennyf, ai pleidlais ar y gwelliant yw hon?
Na, mae'r bleidlais hon ar y cynnig yn enw Caroline Jones.
Yn erbyn.
Iawn. Nawr, mae i'w weld yn anghywir ar fy rhan i. Rwy'n edrych am—. Rhowch ddwy eiliad i mi. Ie, pleidlais ar y cynnig gwreiddiol yw hi. Rwy'n cofio nawr beth ddigwyddodd, ie. [Chwerthin.] Pleidlais ar y cynnig gwreiddiol yw hi, ac mae yn enw Caroline Jones. Cafodd y 30 o bleidleisiau gan Huw Irranca-Davies eu bwrw yn erbyn y cynnig, i'w gadarnhau. Do. Felly, symudaf ymlaen at Darren Millar, a'r 10 pleidlais ar ran y Ceidwadwyr.
O blaid.
A Phlaid Cymru, y naw bleidlais—Siân Gwenllian.
Yn erbyn.
Plaid Brexit, Mark Reckless—pedair pleidlais.
O blaid.
Gareth Bennett.
O blaid.
Neil Hamilton.
O blaid.
Y canlyniad felly yw bod 16 o blaid y cynnig, neb yn ymatal, 39 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi'i wrthod.
Cynhaliwyd y bleidlais ar NDM7334 yn unol â Rheol Sefydlog 34.11.
Huw Irranca-Davies ar ran Grŵp Llafur a’r Llywodraeth: Yn erbyn (30)
Darren Millar ar ran Grŵp y Ceidwadwyr: O blaid (10)
Siân Gwenllian ar ran Grŵp Plaid Cymru: Yn erbyn (9)
Mark Reckless ar ran Grŵp Plaid Brexit: O blaid (4)
Gareth Bennett – Annibynnol: O blaid
Neil Hamilton – Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig: O blaid
Gwrthodwyd y cynnig.
Mae'r bleidlais nesaf ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig, ac ar welliant 1. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Felly, mae'r bleidlais gyntaf y tro yma ar welliant 1, yn enw Rebecca Evans. Ar ran y grŵp Llafur a'r Llywodraeth, felly, Huw Irranca-Davies, sut ydych chi'n bwrw'r 30 pleidlais?
O blaid, Lywydd.
Ar ran Plaid y Ceidwadwyr, Darren Millar, sut ydych chi'n bwrw'r 10 pleidlais?
Mae'n ddrwg gennyf, Lywydd, a gaf fi wirio, onid ydym i fod i bleidleisio ar y cynnig yn gyntaf, fel cynnig heb ei ddiwygio yn gyntaf?
Na, rydym yn pleidleisio ar y gwelliannau yn gyntaf, ac yna byddwn yn pleidleisio ar y cynnig os caiff ei ddiwygio neu os na chaiff ei ddiwygio ar y diwedd.
Nid dyna—. Lywydd, nid dyna rydym ni newydd ei wneud gyda'r ddadl flaenorol, ac nid dyna rydym ni fel arfer yn ei wneud gyda dadleuon y gwrthbleidiau.
Ni chafwyd gwelliant ar y ddadl flaenorol.
Fe gafwyd, gyda phob parch, Lywydd. [Torri ar draws.]
Ni chafodd ei alw.
Ni chafodd ei gynnig.
Ni chafodd ei gynnig. Ni chafodd y gwelliant ei gynnig. Fe gafodd—
Er bod Gareth wedi ceisio ei gynnig.
Roedd yn enw Neil McEvoy.
Rwy'n ymddiheuro. Mae'n newid o'n harfer arferol yn y Cyfarfod Llawn ar ddydd Mercher, ond rwy'n pleidleisio yn erbyn gwelliant 1 ar ran y grŵp Ceidwadol.
O'r gorau. Fe wnaf adolygu hyn. Nid yw hyn yn hawdd gyda thri pheiriant gwahanol a dim ond dwy law—[Chwerthin.]
Rwy'n deall.
—ac yn eistedd ar soffa yn Aberaeron. [Chwerthin.]
A gaf fi wneud pwynt o drefn?
Cewch. David Melding.
Mae'n ddrwg gennyf, oherwydd mae llawer o rannau symudol yma. [Chwerthin.] Ond ein traddodiad fel arfer yw pleidleisio ar gynigion y gwrthbleidiau heb eu diwygio yn gyntaf. Os gwrthodir y cynnig hwnnw, byddwn yn pleidleisio wedyn ar y gwelliannau i'r cynnig.
O'r gorau. Gallaf glywed Ann Jones yn cytuno hefyd. Mae eich microffon ar agor, Ann. [Chwerthin.] Ond gan fy mod yn cael cyngor gan David Melding ac Ann Jones a Darren Millar, rwy'n teimlo efallai fod y sgript sydd gennyf o fy mlaen yn anghywir. Rwy'n chwilio am gyngor ar WhatsApp hefyd, ac rwyf newydd ei dderbyn. Felly, mae pawb yn gytûn y dylwn alw pleidlais yn gyntaf ar y cynnig heb ei ddiwygio. Felly, galwaf am y bleidlais honno, ac mae'r cynnig heb ei ddiwygio yn enw—yn eich enw chi, Darren Millar?
Mae hynny'n gywir. [Chwerthin.]
Felly, y grŵp Llafur a'r Llywodraeth, Huw Irranca-Davies, sut rydych yn cynnig eich 30 pleidlais?
Mae hyn yn teimlo fel yr Eurovision, Lywydd, ond mae fy 30 o bleidleisiau yn mynd yn erbyn y cynnig gwreiddiol.
Nid oes gennyf syniad sut y caiff y bleidlais hon ei chyfrif. Rwy'n gobeithio bod rhywun yn ei wneud yn rhywle ac yn ei anfon ar WhatsApp i mi ar ryw bwynt. Rwy'n ymddiheuro am hyn i gyd. Darren Millar, ar ran y grŵp Ceidwadol, sut rydych chi'n bwrw eich 10 pleidlais?
Rwy'n pleidleisio o blaid y cynnig a gyflwynwyd yn fy enw i. [Chwerthin.]
Plaid Cymru, y naw bleidlais, Siân Gwenllian.
Byddwn ni yn pleidleisio yn erbyn y cynnig.
A Phlaid Brexit, Mark Reckless.
Sut rydych chi'n bwrw eich pedair pleidlais?
O blaid.
Gareth Bennett.
Ymatal.
Neil Hamilton.
O blaid.
Y canlyniad felly, yw bod 15 wedi pleidleisio o blaid, un wedi ymatal, ac roedd 39 yn erbyn. Felly gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cynhaliwyd y bleidlais ar NDM7339 yn unol â Rheol Sefydlog 34.11.
Huw Irranca-Davies ar ran Grŵp Llafur a’r Llywodraeth: Yn erbyn (30)
Darren Millar ar ran Grŵp y Ceidwadwyr: O blaid (10)
Siân Gwenllian ar ran Grŵp Plaid Cymru: Yn erbyn (9)
Mark Reckless ar ran Grŵp Plaid Brexit: O blaid (4)
Gareth Bennett – Annibynnol: Ymatal
Neil Hamilton – Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig: O blaid
Gwrthodwyd y cynnig.
Felly, symudwn at y gwelliant cyntaf yn enw Siân Gwenllian.
Na. [Chwerthin.] Gallwn deimlo bod hynny'n anghywir. [Chwerthin.] Rwy'n darllen yr hyn sydd gennyf o fy mlaen; dyna yw fy amddiffyniad ar y pwynt hwn. Mae'r gwelliant cyntaf yn enw Rebecca Evans. Os derbynnir y gwelliant cyntaf, bydd gwelliant 2 yn enw Siân Gwenllian yn methu. Ar ran y grŵp Llafur a'r Llywodraeth, Huw Irranca-Davies, sut rydych yn bwrw eich 30 pleidlais ar welliant 1 yn enw Rebecca Evans?
O blaid, Lywydd.
Ar ran y Ceidwadwyr, Darren Millar, sut rydych chi'n bwrw eich 10 pleidlais?
Yn erbyn.
Plaid Cymru, Siân Gwenllian, eich naw pleidlais chi.
Yn erbyn.
Plaid Brexit, Mark Reckless, eich pedair pleidlais chi.
Yn erbyn.
Gareth Bennett.
Yn erbyn.
Neil Hamilton.
Yn erbyn.
Y canlyniad yw bod 30 Aelod o blaid, nid oedd neb ymatal, roedd 25 yn erbyn. Felly, derbyniwyd y gwelliant. Rwy'n credu fy mod yn gywir i ddweud bod gwelliant 2 yn enw Siân Gwenllian yn methu.
Cynhaliwyd y bleidlais ar welliant 1 i NDM7339 yn unol â Rheol Sefydlog 34.11.
Huw Irranca-Davies ar ran Grŵp Llafur a’r Llywodraeth: O blaid (30)
Darren Millar ar ran Grŵp y Ceidwadwyr: Yn erbyn (10)
Siân Gwenllian ar ran Grŵp Plaid Cymru: Yn erbyn (9)
Mark Reckless ar ran Grŵp Plaid Brexit: Yn erbyn (4)
Gareth Bennett – Annibynnol: Yn erbyn
Neil Hamilton – Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig: Yn erbyn
Derbyniwyd y gwelliant.
Cafodd gwelliant 2 ei ddad-dethol.
Gwelliant 3 yn enw Siân Gwenllian yw'r bleidlais nesaf, a galwaf am bleidlais ar welliant 3 yn enw Siân Gwenllian. Y grŵp Llafur a'r Llywodraeth, Huw Irranca-Davies, sut rydych yn bwrw'r 30 pleidlais?
O blaid.
Y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar, eich 10 pleidlais chi.
Yn erbyn.
Siân Gwenllian, eich naw pleidlais chi.
O blaid.
Mark Reckless, eich pedair pleidlais chi.
Yn erbyn.
Gareth Bennett.
Yn erbyn.
Neil Hamilton.
Yn erbyn.
Canlyniad y bleidlais, felly, yw bod 39 o blaid, nid oedd neb yn ymatal, roedd 16 yn erbyn, a derbyniwyd y gwelliant hwnnw.
Cynhaliwyd y bleidlais ar welliant 3 i NDM7339 yn unol â Rheol Sefydlog 34.11.
Huw Irranca Davies ar ran Grŵp Llafur a’r Llywodraeth: O blaid (30)
Darren Millar ar ran Grŵp y Ceidwadwyr: Yn erbyn (10)
Siân Gwenllian ar ran Grŵp Plaid Cymru: O blaid (9)
Mark Reckless ar ran Grŵp Plaid Brexit: Yn erbyn (4)
Gareth Bennett – Annibynnol: Yn erbyn
Neil Hamilton – Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig: Yn erbyn
Derbyniwyd y gwelliant.
Yn olaf, felly, a diolch i chi am eich amynedd, galwaf am bleidlais ar y cynnig fel y'i diwygiwyd.
Cynnig NDM7339 fel y'i diwygiwyd:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod bod y pandemig coronafeirws yn argyfwng iechyd cyhoeddus ac yn argyfwng economaidd.
2. Yn croesawu'r manteision economaidd a ddaw i Gymru yn sgil bod yn rhan o'r Deyrnas Unedig yn ystod y pandemig, gan gynnwys cyllid ar gyfer:
a) y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws sy'n gwarchod 316,500 o fywoliaethau yng Nghymru; a
b) y Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig sy'n helpu 102,000 o bobl yng Nghymru.
3. Yn croesawu Cronfa Cadernid Economaidd Llywodraeth Cymru sydd werth £500m. Mae’r Gronfa hon yn rhan o becyn gwerth £1.7 biliwn o gymorth ar gyfer busnesau yng Nghymru mewn ymateb i’r pandemig. Dyma’r pecyn mwyaf hael mewn unrhyw wlad yn y DU.
4. Yn nodi’r ffaith bod cyllid yr UE wedi helpu Llywodraeth Cymru i ymateb i bandemig COVID-19 a hefyd yn nodi na fydd Llywodraeth Cymru, heb gyllid olynol, yn gallu ymateb i unrhyw argyfwng yn y dyfodol i’r un graddau.
5. Yn nodi adroddiad y Centre for Towns ‘Covid and our Towns’ ac yn croesawu’r mesurau trawslywodraethol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cyflwyno drwy ei Grŵp Gweithredu ynghylch Canol Trefi a’r agenda ‘Trawsnewid Trefi’ ar draws Cymru.
6. Yn cydnabod swyddogaeth bwysig cynghorau tref ac Ardaloedd Gwella Busnes creadigol a deinamig o safbwynt helpu canol trefi i adfer ar ôl effeithiau economaidd y Coronafeirws.
7. Yn croesawu’r gwaith arbrofol sy’n cael ei gyflawni drwy Gronfa Her yr Economi Sylfaenol o safbwynt ystyried dulliau newydd o sicrhau bod trefi a chymunedau ar draws Cymru yn fwy cydnerth. Bydd hyn yn cefnogi ein hymateb i bandemig COVID-19.
8. Yn croesawu galwadau gan sefydliadau sy’n cynnwys Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, FSB Cymru, TUC Cymru, y Sefydliad Astudiaethau Cyllid a Chanolfan Llywodraethiant Cymru i Lywodraeth y DU waredu ar frys y cyfyngiadau cyllid sy’n cyfyngu’n sylweddol ar allu Llywodraeth Cymru i wario er mwyn gallu ymateb yn effeithiol i’r pandemig.
9. Yn galw eto ar Lywodraeth y DU i ddatblygu pecyn sylweddol ar gyfer sbarduno’r economi, gan gefnogi gwaith Llywodraeth Cymru tuag at adfer trefi a chymunedau ar draws Cymru mewn modd gwyrdd a phriodol yn sgil y pandemig.
10. Yn credu mai nawr yw'r amser i Lywodraeth y DU ddatganoli rhagor o bwerau ariannol i Lywodraeth Cymru fel y gall ofalu'n well am bobl Cymru yng ngoleuni'r pandemig Covid-19.
Huw Irranca-Davies, sut rydych yn bwrw'r pleidleisiau ar ran Llafur a'r Llywodraeth, 30 o bleidleisiau?
O blaid, Lywydd.
Y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar, sut rydych chi'n bwrw eich 10 pleidlais chi?
Yn erbyn.
Plaid Cymru, Siân Gwenllian, y naw pleidlais.
Yn erbyn.
Grŵp Brexit, Mark Reckless, sut rydych chi'n bwrw eich pedair pleidlais chi?
Yn erbyn.
Gareth Bennett.
Yn erbyn.
Neil Hamilton.
Yn erbyn.
Canlyniad y bleidlais honno, felly, yw bod 30 o blaid y cynnig fel y'i diwygiwyd, nid oedd neb yn ymatal, ac roedd 25 yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd.
Cynhaliwyd y bleidlais ar NDM7339 wedi'i ddiwygio yn unol â Rheol Sefydlog 34.11.
Huw Irranca Davies ar ran Grŵp Llafur a’r Llywodraeth: O blaid (30)
Darren Millar ar ran Grŵp y Ceidwadwyr: Yn erbyn (10)
Siân Gwenllian ar ran Grŵp Plaid Cymru: Yn erbyn (9)
Mark Reckless ar ran Grŵp Plaid Brexit: Yn erbyn (4)
Gareth Bennett – Annibynnol: Yn erbyn
Neil Hamilton – Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig: Yn erbyn
Derbyniwyd y cynnig wedi'i ddiwygio.
Fel y dywedais, diolch am eich amynedd. Edrychaf ymlaen at y diwrnod pan fyddwn yn cyflwyno pleidleisio electronig unigol. Mae'n ddigon anodd gyda phleidleisiau wedi'u pwysoli. Pan fyddwn yn newid i bleidleisio electronig unigol, byddwn yn mynd i'r lefel nesaf.
Ond, am y dydd, prynhawn da.
Prynhawn da i bawb ohonoch. Diolch yn fawr.
Daeth y cyfarfod i ben am 18:46.