Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Plenary - Fifth Senedd
13/05/2020Cynnwys
Contents
Cyfarfu'r Senedd drwy gynhadledd fideo am 13:33 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, dwi eisiau nodi ychydig o bwyntiau. Mae'r Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y Cyfarfod Llawn heddiw; mae'r rhain wedi'u nodi ar eich agenda chi.
A hoffwn atgoffa'r Aelodau fod Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â threfn yn y Cyfarfod Llawn yn gymwys i'r cyfarfod yma a'r cyfyngiadau amser o ran hyd cwestiynau a gaiff eu cymhwyso i'r cyfarfod hwn, fel sydd wedi eu cyfleu i'r Aelodau.
Yr eitem gyntaf felly'r prynhawn yma yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hwnnw. Rebecca Evans.
Diolch, Llywydd. Does dim newidiadau i agenda'r wythnos hon. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi ei nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w gweld ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
Diolch i'r Trefnydd.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan y Prif Weinidog ar y coronafeirws. Dwi'n galw ar y Prif Weinidog i wneud ei ddatganiad. Mark Drakeford.
Diolch yn fawr, Llywydd. Yn fy natganiad heddiw, byddaf yn rhoi gwybodaeth i Aelodau'r Senedd ar y camau diweddaraf yn y gwaith o ymateb i'r argyfwng coronafeirws. Yn ôl Deddf Coronafeirws 2020, mae'n rhaid i Weinidogion Cymru adolygu'r rheoliadau bob tair wythnos. Daeth y cyfnod hwnnw i ben ddydd Iau diwethaf, ac ar ddydd Gwener cyhoeddais ein penderfyniadau yn sgil yr arolwg hwnnw. Byddaf yn gosod allan ein penderfyniadau fel Llywodraeth a'r dystiolaeth y tu ôl iddynt. Byddwn yn cadw llygad gofalus ar y dystiolaeth o hyn ymlaen er mwyn dal ati i warchod iechyd pobl Cymru.
Llywydd, unwaith eto, fe roddaf yr wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Senedd am y camau diweddaraf yn ein hymateb i argyfwng y coronafeirws. Fel yn yr wythnosau blaenorol, byddaf yn canolbwyntio ar faterion nad ydyn nhw'n cael sylw yn y datganiadau sy'n dilyn gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd, a Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig.
Cyn i mi wneud hynny, hoffwn ddechrau drwy fyfyrio ar ddathliadau diwrnod VE ddydd Gwener yr wythnos diwethaf. Yn amlwg, newidiodd coronafeirws y ffordd y gwnaethom ni nodi'r pen-blwydd pwysig hwn, ond nid oedd yn llai teimladwy na thrawiadol o'r herwydd. Cefais y fraint o siarad â nifer o gyn-filwyr ar Zoom a thros y ffôn, ac ymunais â degau o filoedd o bobl ledled Cymru yn y ddau funud o dawelwch o risiau adeilad Llywodraeth Cymru yng Nghaerdydd. Hyd yn oed yn yr oes llawn argyfyngau sydd ohoni, roedd yn gwbl briodol dod o hyd i'r foment honno a chydnabod yr aberth a wnaed.
Llywydd, yr wythnos diwethaf rhoddais ddiweddariad i'r Aelodau ar gynnydd y clefyd. Yn drist iawn, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi dweud bod mwy na 1,100 o bobl wedi marw yng Nghymru. Mae person a theulu sy'n galaru y tu ôl i bob rhif, ac mae'r rhain yn ein hatgoffa o'r angen am wyliadwriaeth barhaus a'n hymrwymiad cyffredin i barhau i wneud yr holl bethau hynny sy'n ein helpu ni i achub bywydau. Ac oherwydd yr ymdrechion hynny y mae'r nifer o achosion newydd o goronafeirws a gadarnheir y mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn eu cyhoeddi bob dydd wedi parhau i ostwng. Mae tua un o bob 10 o bobl sydd yn yr ysbyty yn cael triniaeth ar gyfer coronafeirws ar hyn o bryd, a phobl sydd â'r clefyd sydd mewn tua un o bob pum gwely gofal critigol, ac mae hyn i lawr o uchafbwynt o 42 y cant yng nghanol mis Ebrill. Wrth gwrs, rwy'n falch iawn o adrodd bod mwy na 3,000 o bobl yng Nghymru wedi gwella o coronafeirws ac wedi gadael yr ysbyty.
Llywydd, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ymateb i effeithiau'r cyfyngiadau symud ar ddinasyddion agored i niwed, fel y dywedais yr wythnos diwethaf. Rydym ni'n gwybod nad yw'r cartref yn lle diogel i rai pobl, ac mae'n hanfodol bod y rhai sydd angen cymorth yn gallu parhau i'w gael er gwaethaf y cyfyngiadau presennol. Mae'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip wedi lansio ymgyrch newydd i wneud yn siŵr bod dioddefwyr a goroeswyr cam-drin domestig yn gwybod sut y gallan nhw gael gafael ar gymorth. Mae'n annog pobl sy'n agos iddyn nhw adnabod arwyddion cam-drin domestig a cheisio cymorth i'r rhai nad ydyn nhw'n gallu helpu eu hunain.
Ac yn hyn i gyd, Llywydd, mae gwaith gwirfoddolwyr yn yr argyfwng presennol wir yn ysbrydoli. Mae miloedd o bobl wedi cynnig eu gwasanaethau. Diolch i'r strwythur partneriaeth cryf sydd gennym ni yng Nghymru, cymerodd cynghorau gwirfoddol sirol ac awdurdodau lleol gamau cyflym i baru gwirfoddolwyr gyda'r bobl sydd angen eu cymorth, i ddarparu cymorth ar unwaith ac yn yr hirdymor. Yn Sir Gaerfyrddin, er enghraifft, ymatebodd mwy na 360 o bobl i alwad am gymorth gan yr awdurdod lleol i drefnu dodrefn ac offer yn ysbytai maes y sir o fewn 24 awr i gychwyn yr apêl.
A Llywydd, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gydnabod swyddogaeth hollbwysig y trydydd sector. Yr wythnos diwethaf, cyhoeddwyd gennym ni y bydd miloedd o elusennau bach yn y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch yn cael grant cymorth busnes o £10,000 i'w helpu i ymateb i heriau ariannol COVID-19. Bydd y pecyn £26 miliwn newydd hwn yn cefnogi 2,600 o eiddo ychwanegol â gwerth ardrethol o £12,000 neu is, ac mae hynny'n cynnwys siopau sy'n cael eu rhedeg gan elusennau, safleoedd chwaraeon a chanolfannau cymunedol, nad ydyn nhw, tan nawr, wedi bod yn gymwys ar gyfer y math hwn o gymorth.
Llywydd, trof nawr at yr adolygiad tair wythnos statudol o'r rheoliadau cyfyngiadau symud yng Nghymru, a gwblhawyd gan Lywodraeth Cymru yr wythnos diwethaf. Hwn oedd yr ail adolygiad i gael ei gynnal, a defnyddiodd y cyngor diweddaraf gan Grŵp Cynghori Gwyddonol y DU ar gyfer Argyfyngau a chyngor Prif Swyddog Meddygol Cymru.
Er ein bod ni wedi mynd heibio uchafbwynt cychwynnol yr haint, a bod cyfraddau'n parhau i ddisgyn, y cyngor clir gan yr arbenigwyr yw ei bod hi'n rhy gynnar i'r cyfyngiadau gael eu codi. Felly, rydym ni wedi cadw'r rheoliadau aros gartref ar waith ac wedi gwneud tri addasiad bach, a daeth yr addasiadau hyn i rym ddydd Llun. Rydym ni wedi cael gwared ar y cyfyngiad ymarfer corff unwaith y dydd—bydd angen i ymarfer corff ddechrau a gorffen gartref a bod yn lleol; rydym ni wedi caniatáu i ganolfannau garddio agor, os ydyn nhw'n gallu cydymffurfio â'r ddyletswydd cadw pellter corfforol; ac rydym ni wedi galluogi awdurdodau lleol i ddechrau cynllunio ar gyfer ailagor llyfrgelloedd a chanolfannau ailgylchu cynghorau.
Y dystiolaeth a oedd yn sail i'n penderfyniad oedd bod cyfradd atgynhyrchu—cyfradd R—y feirws yn parhau i ostwng. Mae'n is nag 1, ond pe byddai'n dechrau ymgripio uwchlaw 1 unwaith eto, byddem ni'n gweld y perygl o dwf cyflymach. Nawr, os cânt eu cynnal, bydd yr amodau hyn yn caniatáu i ni gymryd camau cynyddol dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf i lacio'r cyfyngiadau ymhellach, ond dim ond pan fydd hi'n ddiogel i hynny ddigwydd y byddwn ni'n gwneud hynny. Byddwn yn adolygu'r rheoliadau'n gyson er mwyn caniatáu i ni ymateb i'r dystiolaeth ddiweddaraf am y modd y mae'r feirws yn ymddwyn, effeithiolrwydd y cyfyngiadau a'r lefelau cydymffurfio.
Yn hyn i gyd, Llywydd, rydym ni'n parhau i gefnogi ymateb pedair gwlad i godi'r cyfyngiadau symud, ac yn parhau i weithio gyda phob rhan arall o'r Deyrnas Unedig. Ond, bydd y camau yr ydym ni'n eu cymryd ac amseriad y newidiadau yn cael eu penderfynu gan amodau yma yng Nghymru. Wrth ymateb i'r feirws, rydym ni wedi adeiladu ar ein seilwaith unigryw i Gymru. Mae ein Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru a'n perthynas â busnesau Cymru wedi ein helpu i sicrhau cyflenwadau o gyfarpar diogelu personol o ffynonellau domestig a rhyngwladol. Ond, lle ceir trefniadau ar sail y DU a all weithio'n dda i ni, byddwn yn rhan o'r rheini hefyd. Ddydd Sul, cyhoeddodd Prif Weinidog y DU ganolfan bioddiogelwch newydd ar y cyd i gynghori'r pedwar prif swyddog meddygol ar lefel yr haint ar draws y DU. Rydym ni mewn trafodaethau gyda Llywodraeth y DU a gweinyddiaethau datganoledig eraill ynghylch sut y gall hyn weithredu'n fwyaf effeithiol ledled y Deyrnas Unedig, a byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd wrth i'r prosiect ddatblygu.
Yn ddiweddarach yr wythnos hon, byddwn yn darparu mwy o fanylion am ein cynlluniau ar gyfer yr wythnosau nesaf. Mae'r rhain yn cael eu datblygu gyda'n partneriaid yn yr undebau llafur, mewn busnesau, mewn llywodraeth leol, yn y GIG ac mewn gwasanaethau cyhoeddus eraill. Rydym ni'n cynllunio ar gyfer y dyfodol, a phan fydd gwasanaethau yng Nghymru yn agor, gall y cyhoedd fod yn ffyddiog y bydd y trefniadau yn ddiogel ac yn ymarferol.
Llywydd, mae'r argyfwng coronafeirws yn bell iawn o fod drosodd. Mae datblygiad y clefyd yn gofyn am ymateb parhaus â phwyslais dwys iawn. Byddaf yn parhau i adrodd bob wythnos i'r Senedd ar y camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru. Diolch yn fawr.
Diolch i'r Prif Weinidog. Arweinydd yr wrthblaid, Paul Davies.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, rwy'n falch o weld bod Llywodraeth Cymru wedi dechrau cyhoeddi erbyn hyn y cyngor gwyddonol a thechnegol y mae Llywodraeth Cymru yn ei dderbyn i helpu i hysbysu ei pholisïau ac i ymateb i COVID-19 yma yng Nghymru. Fel y gwyddoch, mae hyn yn rhywbeth yr wyf i wedi bod yn gofyn amdano ers cryn amser bellach, ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig bod y wybodaeth honno'n cael ei chyhoeddi fel y gall pobl Cymru fod â ffydd yn y penderfyniadau sy'n cael eu gwneud gan Lywodraeth Cymru. Nawr, yn yr un ysbryd hwnnw o dryloywder a bod yn agored gyda'r cyhoedd, mae'n bwysig bod Llywodraeth Cymru yn cyflwyno map ffordd a chynllun eglur ar gyfer codi'r cyfyngiadau symud yng Nghymru.
Roedd arweinydd Plaid Lafur y DU, Keir Starmer, yn iawn i alw am strategaeth codi cyfyngiadau symud yn San Steffan, ac mae Prif Weinidog y DU wedi cyflwyno cynlluniau Llywodraeth y DU erbyn hyn. Yma yng Nghymru, rydych chi eisoes wedi dweud bod Llywodraeth Cymru yn datblygu ei fframwaith i lunio map ffordd mwy manwl, felly a allwch chi ddweud wrthym ni pryd yn union y gall pobl Cymru ddisgwyl gweld y map ffordd hwnnw'n cael ei gyhoeddi, ynghyd â chyfres o amserlenni eglur? A wnewch chi hefyd gadarnhau y byddwch chi'n cyhoeddi'r cyngor gwyddonol sy'n sail i'r strategaeth codi cyfyngiadau honno?
Llywydd, hoffwn ddiolch i Paul Davies am y pwyntiau yna. Rwy'n falch iawn ein bod ni'n cyhoeddi'r cyngor gwyddonol a thechnegol. Rwy'n cytuno'n llwyr â Paul Davies ei bod hi'n bwysig bod y cyhoedd yn gallu gweld y dystiolaeth sylfaenol yr ydym ni'n ei defnyddio wrth wneud y penderfyniadau anodd hyn. Fy ngobaith i yw y byddwn ni'n gallu llunio ein cynllun codi cyfyngiadau, fel y'i galwyd ganddo, yn gyhoeddus ddydd Gwener yr wythnos hon. Mae gwaith yn dal i gael ei wneud arno o hyd. Rwyf i eisiau iddo fod yn eglur ac rwyf i eisiau iddo allu cael ei ddeall yn hawdd gan ddarllenwyr y cyhoedd yng Cymru. Felly, dyna fy uchelgais—y byddwn ni'n ei gyhoeddi ddydd Gwener ac yn gwneud hynny mewn ffordd sy'n gwneud y gwaith y cyfeiriodd Paul Davies ato: helpu ein cyd-ddinasyddion yng Nghymru i fod yn eglur am gynlluniau Llywodraeth Cymru ac i ddeall ar ba sail y maen nhw'n cael eu llunio.
Prif Weinidog, rwy'n gofyn am gynllun codi cyfyngiadau symud oherwydd bod pobl Cymru angen yr eglurder hwnnw, ac ar hyn o bryd, mae digon o ddryswch ynglŷn â rheoliadau a chanllawiau Llywodraeth Cymru. Ac fe ddywedaf wrthych chi pam mae dryswch: oherwydd eich bod chi eich hun wedi dweud y gallai dau o bobl o wahanol aelwydydd gyfarfod mewn parc os ydyn nhw'n cadw at ganllawiau cadw pellter cymdeithasol, ac yna fe'n hysbysir nad dyma yw cyngor Llywodraeth Cymru ac nad yw aelodau gwahanol aelwydydd yn cael cyfarfod mewn parciau; mae eich Gweinidog addysg wedi dweud bod ysgolion yng Nghymru ar gau tan 1 Mehefin, tra bod eich Cwnsler Cyffredinol yn credu y byddan nhw'n bendant ar gau drwy gydol mis Mehefin; ac mae'r Aelod dros Ben-y-bont ar Ogwr wedi dweud ei bod hi'n iawn i bobl yng Nghymru ddechrau pysgota, ar sail ymateb honedig a gafodd gennych chi, ac eto, mewn ymateb i gwestiwn ysgrifenedig a gyflwynwyd gan fy nghyd-Aelod yr Aelod dros Orllewin Clwyd fe'i gwnaed yn benodol eglur gennych chi na ddylai pobl fynd i bysgota tra bod y cyfyngiadau'n weithredol. A nawr, mae'n ymddangos bod hyd yn oed eich Gweinidog iechyd wedi drysu ynghylch pa un a gaiff eistedd ar fainc mewn parc a chael picnic gyda'i deulu ai peidio.
Prif Weinidog, sut mae pobl Cymru i fod i gael unrhyw synnwyr o eglurder yng nghanllawiau Llywodraeth Cymru pan nad yw'n ymddangos bod eich Gweinidogion eich hun yn deall y rheolau eu hunain? Efallai fod angen i Lywodraeth Cymru ailfeddwl ei strategaeth gyfathrebu fel bod pobl Cymru yn cael y negeseuon cywir.
Wel, Llywydd, nid wyf i'n gwybod pwy wnaeth gynghori arweinydd yr wrthblaid i ddefnyddio hynny fel pwnc cwestiynu, ond pe byddwn i wedi bod yn arweinydd y Blaid Geidwadol yng Nghymru, byddwn yn sicr wedi dweud wrthyn nhw am ailfeddwl. Oherwydd, pe byddai angen cyngor ar eglurder a sut i beidio â drysu'r cyhoedd arnaf i, yn sicr ni fyddwn i'n ei gymryd gan blaid a wnaeth bopeth a allai yr wythnos diwethaf i wneud yn siŵr nad oedd pobl yng Nghymru yn eglur ynghylch sut y byddai'r gyfraith yng Nghymru yn gweithredu.
O ran yr holl bwyntiau y mae'r Aelod wedi eu crybwyll, rwy'n credu bod eglurder yno. Ceir creu helynt—mae pobl yn barod iawn, rwy'n canfod, i geisio cymryd ystyr o eiriau nad yw yno. Pan atebais i gwestiwn am bobl yn cyfarfod, dyna'n union a ddywedais. Rwy'n gweld nad yw pobl yn mynd allan i gyfarfod â phobl eraill—ni chaniateir hynny o dan ein rheoliadau—ond mae pobl sy'n cerdded o'u drws ffrynt eu hunain i lawr eu palmant eu hunain ac yn gweld rhywun arall sydd, ar hap, hefyd yn cerdded ar yr un stryd, ac maen nhw'n gallu dim ond—. Does dim byd yn gwahardd pobl sy'n cyfarfod ar hap yn y modd hwnnw rhag cyfnewid ychydig eiriau â'i gilydd os ydyn nhw ar bellter cymdeithasol oddi wrth ei gilydd. Mae hynny'n hollol wahanol i bobl yn cynllunio'n bwrpasol i adael eu cartrefi i gymryd rhan mewn cyfarfyddiadau o'r fath. Felly, y cwbl rwyf i'n ei wneud yw adlewyrchu gwirioneddau beunyddiol pobl yma yng Nghymru.
Cyn belled ag y caniateir pysgota, fe'i caniateir o dan ein rheoliadau presennol, y rhai a basiwyd i'r gyfraith ddydd Llun, ond mae'n rhaid ei wneud yn lleol ac mae'n rhaid i bobl gadw pellter cymdeithasol. Yma yng Nghymru, rydym ni'n annog pobl i aros gartref. Dyna'r ffordd orau y gallwn ni helpu ein gilydd i oresgyn yr argyfwng hwn. Dyna pam yr ydym ni i gyd yn gwneud yr aberth yr ydym ni'n ei wneud. Ond mae pobl yn cael gadael eu cartrefi fwy nag unwaith y dydd ar gyfer ymarfer corff erbyn hyn, ac os mai eich ffordd chi o ymarfer corff yw cerdded o'ch cartref i afon ac eistedd yno, nid yn agos at bobl eraill, ac i fynd i bysgota, yna caniateir hynny o dan y rheolau yng Nghymru. Ond mae'n rhaid iddo fod yn lleol ac mae'n rhaid gwneud hynny mewn ffordd sy'n cadw pellter cymdeithasol.
A gadewch i mi orffen drwy wneud y pwynt hwnnw unwaith eto. Y cwestiwn y dylai pobl yng Nghymru ofyn iddyn nhw eu hunain yw: a yw fy nhaith oddi wrth fy nrws ffrynt fy hun yn angenrheidiol? Os yw'n angenrheidiol, yna rydych chi'n cael gwneud hynny yn unol â thelerau ein rheoliadau. Ond y cyngor gorau i bob un ohonom ni yw sicrhau cyn lleied a phosibl o gyswllt â phobl eraill, oherwydd wrth wneud hynny, gellir atal cylchrediad y feirws a gall pob un ohonom ni fynd ati i sicrhau diogelwch ein hunain a diogelwch pobl eraill.
Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch, Llywydd. Cyn troi at fy nghwestiwn, hoffwn wneud pwynt o drefn ar ddiwedd y datganiad yma, os wnewch chi ganiatáu hynny, ar y ffaith i'r Llywodraeth rannu ei strategaeth arbrofi ac olrhain cysylltiadau wyth munud union cyn dechrau'r sesiwn graffu yma, a heb friffio’r gwrthbleidiau o flaen llaw, fel yr addawyd i mi'r bore yma.
Bythefnos yn ôl, Prif Weinidog, pan ofynnwyd iddo gan Andy Davies o Channel 4 yn y gynhadledd feunyddiol i'r wasg, a oedd gan Lywodraeth Cymru ynau yn ei stoc pandemig pan gyrhaeddodd coronafeirws y DU, cadarnhaodd y Gweinidog iechyd bod hynny'n wir. A oedd hynny'n gywir mewn gwirionedd?
Wel, Llywydd, nid wyf i'n—. Rhoddodd y Gweinidog iechyd yr ateb hwnnw; rwy'n siŵr ei fod yn tynnu ar yr wybodaeth orau a oedd ganddo ar y pryd. Nid yw manylion pob eitem a oedd mewn storfa ar ddiwrnod penodol gen i o fy mlaen, ac ni fyddai'n rhesymol disgwyl i mi fod â nhw o fy mlaen. Os oedd yr Aelod eisiau cael y wybodaeth honno, gallai fod wedi cyflwyno un o'i gwestiynau ysgrifenedig niferus i mi a chael yr wybodaeth.
Prif Weinidog, ysgrifenasoch ataf yr wythnos diwethaf mewn ymateb i lythyr a ysgrifennais atoch, yn cadarnhau nad oedd, mewn gwirionedd, yn groes i'r hyn a honnodd y Gweinidog iechyd, unrhyw ynau yn y stoc pandemig rhwng Mehefin 2016 a Chwefror 2020.
Nawr, ym mis Mehefin y llynedd, argymhellodd y grŵp cynghori ar fygythiadau feirws anadlol newydd a rhai sy'n dod i'r amlwg, y pwyllgor sy'n cynghori Llywodraeth y DU ar y stoc pandemig, yn benodol y dylai gynau, a fu'n un o'r prif feysydd a oedd yn peri problemau o ran cyfarpar diogelu personol, yn cael eu hychwanegu ato. Nawr, pan godais yr adroddiad hwnnw gyda chi yn flaenorol, dywedasoch y byddech chi'n mynd i ffwrdd ac yn edrych arno. A allwch chi gadarnhau felly bod rhywun o fewn Llywodraeth Cymru wedi gweld yr argymhelliad hwnnw, ac a allwch chi ddweud pryd y digwyddodd hynny? Neu a wnaeth Llywodraeth y DU fethu â rhannu'r wybodaeth hon a allai fod wedi achub bywydau?
Wel, Llywydd, ni allaf ateb y math hwnnw o gwestiwn manwl yn y fan yma y prynhawn yma. Rwy'n berffaith fodlon i ateb y math hwnnw o gwestiwn manwl, ond nid yw'n un yr wyf i'n credu y gellir ei ateb o dan yr amgylchiadau yr ydym ni ynddyn nhw ar hyn o bryd. Byddaf yn mynd ar drywydd y pwyntiau a wnaeth yr Aelod ac yn ei ateb.
O ran gynau, gadewch i ni fod yn eglur: rydym ni wedi llwyddo i ymdrin â'r pandemig yng Nghymru heb orfod dweud o gwbl wrth y GIG yng Nghymru nad oedd cyflenwad o'r gynau yr oedd eu hangen. O ganlyniad i gyswllt gan GIG Cymru a chan Lywodraeth Cymru, rydym ni wedi gallu dod â hanner biliwn—mae'n ddrwg gen i, hanner miliwn—0.5 miliwn o ynau drwy Faes Awyr Caerdydd, yr ydym ni wedi gallu helpu i gyflenwi rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig â nhw i ymdrin â'r hyn sydd, yn wir, yn eitem brin yn ystod argyfwng y coronafeirws. Ond nid ydym ni erioed wedi methu â gallu cyflenwi'r rheini i'r GIG yng Nghymru, ac o ganlyniad i'r ymdrechion yr ydym ni wedi eu gwneud, mae gennym ni gyflenwad yn ein storfeydd bellach a fydd yn ddigonol ar gyfer yr wythnosau i ddod wrth i ni barhau i fynd ar drywydd ffynonellau cyflenwi eraill, yn ddomestig ac yn rhyngwladol.
Arweinydd Plaid Brexit, Mark Reckless.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, a ydych chi wedi darllen Animal Farm? Pam, pan fyddwch chi'n beicio drwy Bontcanna i'ch rhandir, oeddech chi'n meddwl ei bod hi'n iawn i bobl gymdeithasu â rhywun o'r tu allan i'w haelwyd—ac ni ddywedasoch ar eu palmant eu hunain, ond yn y parc? Onid ydych chi'n deall, er efallai fod gwahardd pobl rhag gyrru i ymarfer corff yn iawn i Bontcanna, ond nid ydyw i lawer sy'n byw mewn mannau eraill? A ydych chi wedi meddwl pa neges y mae'n ei hanfon pan fo'ch Gweinidog iechyd yn ymlacio ar fainc yn yr haul, gyda'i deulu, yn bwyta tecawê, pan fo'r heddlu wedi ymdrin ag eraill a oedd yn gwneud hynny?
Pa Weinidog oedd yn meddwl bod cymaint o frys i newid y rheolau y diwrnod wedyn fel ei fod wedi osgoi pleidlais ymlaen llaw yn Senedd Cymru? Yn hytrach na bod pawb yn ymdrechu gyda'i gilydd ar adeg o argyfwng cenedlaethol, mae'n ymddangos bod rhai sy'n fwy cyfartal nag eraill. Yn hytrach na gweithio gyda Llywodraeth y DU i gydgysylltu strategaeth gydlynol, mae'n ymddangos eich bod chi'n ymfalchïo mewn chwarae gyda rheolau dim ond i wneud Cymru ychydig yn wahanol. Sut mae wedi'i seilio ar werthoedd unigryw i Gymru i fynnu bwlch o ddeuddydd rhwng pryd y gall canolfannau garddio agor yng Nghymru a Lloegr?
Yn fwy arwyddocaol, rydym ni'n gweld y farchnad eiddo'n ailagor yn llawn yn Lloegr heddiw, ond yng Nghymru, mae'n dal i fod ar gau am gyfnod amhenodol. Os yw hynny'n golygu nad ydym ni'n codi'r trethi yng Nghymru y maen nhw'n ei wneud yn Lloegr, sut ydym ni'n mynd i godi'r arian ar gyfer ein GIG? A fyddwch chi'n gofyn i Lywodraeth y DU am gymorth?
Yn Lloegr, mae'r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion ddiddymu cyfyngiadau cyn gynted ag y maen nhw'n credu nad oes eu hangen nhw i reoli heintiau. Yng Nghymru, rydych chi newydd gael gwared ar y gofyniad cyfreithiol hwnnw. Yn hytrach, gall Gweinidogion gadw cyfyngiadau am hyd at chwe mis, yn honedig, o dan eich polisi, os ydyn nhw'n cael effaith uchel, gadarnhaol ar gydraddoldeb ac yn cynnig unrhyw gyfleoedd i ehangu cyfranogiad a chymdeithas fwy cynhwysol. Prif Weinidog, onid yw'n bryd i chi gael eich dwyn i gyfrif gan gyfraith sylfaenol y DU sy'n ei gwneud yn ofynnol i bob cyfyngiad fod yn rhesymol a chymesur?
Wel, Llywydd, mae'r Aelod yn gwbl anghywir yn meddwl nad yw'r gyfraith honno'n berthnasol yng Nghymru. Mae hi yn berthnasol yng Nghymru; mae'n parhau i fod yn berthnasol yng Nghymru.
Rwy'n gwybod. Yn wir, ydy, mae—
Wel, rwy'n credu eich bod chi newydd ddweud eiliad yn ôl—a byddai'n well gennyf i chi beidio â thorri ar fy nhraws, a dweud y gwir. Rwy'n credu eich bod chi wedi dweud—
Ewch ymlaen, Prif Weinidog.
—eiliad yn ôl nad oedd Gweinidogion Cymru bellach wedi'u rhwymo gan yr angen i ddileu cyfyngiadau os canfyddir nad ydyn nhw'n gymesur â'r angen i ymdrin â'r argyfwng. Llywydd, nid yw hynny'n wir. Mae Gweinidogion Cymru wedi eu rhwymo'n llwyr gan y gofyniad hwnnw a bydd hynny'n parhau i fod yn wir.
Nid oeddwn i'n deall yn llwyr y pwyntiau a wnaeth yr aelod ar ddechrau ei gwestiynau niferus, ac rwy'n credu fy mod i wedi ymdrin â nifer ohonyn nhw eisoes. O ran y pwynt a wnaeth am symud yn unol â'r Deyrnas Unedig, doedd dim byd o gwbl yn atal cydweithwyr yn Lloegr rhag penderfynu caniatáu mynediad i ganolfannau garddio ddydd Llun yr wythnos hon pe bydden nhw wedi dewis gwneud hynny. Roeddem ni eisoes wedi cyhoeddi y byddai ein newidiadau yn dechrau o ddydd Llun. Pe bydden nhw wedi dymuno cael dull o ymdrin â hynny ar draws y Deyrnas Unedig gyfan, gallen nhw fod wedi gwneud yr un peth. Mae'n bosibl—gwn fod Mr Reckless yn cael trafferth gyda'r syniad hwn—i bobl yn Lloegr gyd-fynd â'r hyn sy'n digwydd yng Nghymru, nid y ffordd arall yn unig.
O ran y farchnad eiddo, dydym ni ddim yn bwriadu gwneud yr hyn a gyhoeddwyd yn Lloegr. Dim ond nifer gyfyngedig o fesurau, Llywydd, yr wyf i'n credu sy'n ddoeth i Lywodraeth eu cymryd os nad yw'n peryglu ailgylchrediad y feirws a chynnydd i'r gwerth R. Y cyngor a gawsom yn arwain at y newidiadau a wnaed gennym oedd y tri pheth cymedrol hynny, ac roedden nhw'n ddigonol i gadw'r R i lawr yng Nghymru gan gynnig mwy o ryddid i ddinasyddion Cymru. Bob tro y byddwch chi'n ychwanegu pwnc arall i'r repertoire hwnnw, rydych chi'n cynyddu'r risg y bydd R yn codi eto. Cymerwyd y farn gennym ni bod caniatáu i bobl gerdded o gwmpas tai pobl eraill er mwyn agor y farchnad eiddo—nad hwn oedd y pwynt cywir yn y cylch i wneud hynny yng Nghymru. Dyna yw ein barn ni o hyd. Rydym ni'n adolygu hynny, yn ogystal â phopeth arall, yn barhaus gan ein bod ni wedi'n rhwymo, yn dra gwahanol i'r hyn a awgrymodd yr Aelod, i godi cyfyngiadau pan nad ydyn nhw'n gymesur â natur yr argyfwng yr ydym ni'n ei wynebu.
Prif Weinidog, mae fy etholwyr wedi croesawu'n gynnes y penderfyniad a wnaethoch yr wythnos diwethaf i ymestyn y cyfyngiadau symud ac i gadw'r neges 'Aros Gartref' yng Nghymru, ac rwyf innau hefyd yn croesawu'n gynnes y camau a gymerasoch. Mae fy nghwestiynau'n ymwneud â therfynau’r penderfyniadau hynny. Mae rhai o'm hetholwyr yn bryderus iawn am y penderfyniad i agor canolfannau garddio pan ellir prynu'r eitemau hynny'n gyffredin yn yr archfarchnad, er enghraifft.
Roeddwn i hefyd eisiau gofyn pa asesiadau effaith a gynhaliwyd ar y penderfyniadau yr ydych chi'n eu gwneud ynglŷn â llacio'r cyfyngiadau symud. Yn arbennig, rwy'n pryderu am y cyhoeddiad ddoe y bydd clybiau golff yn ailagor, ac rwy'n credu ei bod hi'n anodd deall hynny ar adeg pan fo plant yn wynebu cymaint o gyfyngiadau. Rydym ni hefyd yn gwybod bod ynysu cymdeithasol yn cael effaith enfawr ar iechyd meddwl pobl, yn enwedig y rhai mwyaf agored i niwed a difreintiedig, nad ydyn nhw'n gallu cael gafael ar bethau fel Skype. Felly, fy nghwestiwn i yw: pa asesiadau o'r effaith ar hawliau plant a gynhaliwyd ar y penderfyniadau hyn yr ydych chi'n eu gwneud, a hefyd pa asesiadau effaith ar gydraddoldeb ehangach sy'n cael eu cynnal? Diolch yn fawr.
Llywydd, hoffwn ddiolch i Lynne Neagle am y cwestiynau yna. Rwy'n credu ei bod hi'n iawn—mae ei phrofiad yn Nhorfaen yn cael ei adlewyrchu ledled Cymru. Cafwyd cefnogaeth i safbwynt Llywodraeth Cymru o ran bod yn barod i symud allan o gyfyngiadau symud yn y modd mwyaf gofalus a gwyliadwrus.
Rwy'n credu bod y penderfyniad ar ganolfannau garddio mewn gwirionedd wedi cael ei groesawu'n eang hefyd. Mae canolfannau garddio yn gweithredu, ar y cyfan, yn yr awyr agored. Rydym ni'n gwybod bod cylchrediad y feirws yn llawer llai ffyrnig mewn amgylchiadau awyr agored, a, lle mae canolfannau garddio'n gallu agor ac agor yn ddiogel—oherwydd bod yn rhaid iddyn nhw allu ei wneud yn y ffordd honno hefyd—yna'r cyngor a gawsom oedd y dylem ni ganiatáu i hynny ddigwydd a bod manteision eraill i lesiant ac iechyd meddwl o ganlyniad i'r ffaith fod pobl yn gallu defnyddio'r cyfleusterau hynny ac yna defnyddio cynhyrchion canolfannau garddio yn eu cartrefi eu hunain. A gwerthuswyd pob un o'r mesurau, Llywydd—pob un o'r mesurau—yr ydym ni wedi eu hystyried yn erbyn y profion a nodwyd gennym ni yn ein dogfen fframwaith, a gyhoeddwyd dros bythefnos yn ôl, a ddangosodd sut y byddem ni'n asesu'r ddadl o blaid ac yn erbyn unrhyw gamau penodol o'r math a gyhoeddwyd gennym ni ddydd Llun.
Rwy'n credu bod y pwynt y mae Lynne Neagle yn ei wneud am ynysu cymdeithasol a phlant yn un pwysig iawn. Nid yw'r cyfyngiadau symud yn dod heb eu costau. Rydym ni'n gwneud hyn oherwydd bod y gwobrau'n fwy, oherwydd ei fod yn achub bywydau yn y presennol, ac rydym ni wedi gweld sut y mae'r golled bywyd honno'n cael effaith mor anghyfartal ar wahanol gymunedau a gwahanol rannau o'r gymuned. Felly, mae'n gwbl briodol ein bod ni'n ei wneud, ond mae hefyd yn briodol, yn y ffordd y mae Lynne Neagle wedi awgrymu, nad ydym ni'n colli golwg ar yr effaith y mae hynny'n ei chael ar fywydau pobl ac ar fywydau plant yn arbennig. Dyna pam y cyhoeddodd fy nghyd-Weinidog Kirsty Williams ychydig dros wythnos yn ôl, gronfa i gynorthwyo'r bobl ifanc hynny nad ydyn nhw'n gallu cael gafael ar y mathau o gyfleusterau y soniodd Lynne amdanyn nhw, fel y gallan nhw o leiaf fanteisio ar y mathau o ddulliau cyfathrebu electronig at ddibenion addysg, ond hefyd, fel yr ydym ni'n ei wneud, i gadw mewn cysylltiad â theulu a chyfeillion o bell, fel y mae'n rhaid i ni ei wneud. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gadw llygad barcud ar effaith y mesurau hyn ar blant a gwn y bydd Lynne yn ymwybodol y cyhoeddwyd gwybodaeth gennym dim ond yr wythnos hon am y modd yr ydym ni'n casglu safbwyntiau plant yng Nghymru yn uniongyrchol ar sut brofiad fu bod yn blentyn yn ystod argyfwng y coronafeirws, yr effaith y mae wedi ei chael arnyn nhw, a'r hyn y gallwn ni fel Llywodraeth Cymru ac fel cymdeithas ehangach yng Nghymru ei wneud i'w cynorthwyo nhw wrth i ni ddechrau dod allan o'r argyfwng ei hun.
Prif Weinidog, diben gadael y cartref yw i ymarfer corff. Nid ystyrir bod mynd am dro ac yna cael picnic neu dreulio cyfnod hir ar fainc parc, er enghraifft, yn ymarfer corff, ac ni ystyrir ei fod yn esgus rhesymol. Dyna oedd eich canllawiau a oedd yn weithredol ddydd Sadwrn diwethaf. Pe byddai unigolyn yn prynu bwyd, yn ei fwyta ar fainc gyhoeddus, byddai'n amlwg yn torri'r rheolau. A ddylai ymddiheuro?
Llywydd, nid wyf i'n mynd i gael fy nhynnu i mewn i'r math hwn o ddull lladd ar bersonoliaeth o ymdrin â'r feirws. [Torri ar draws.] Gallaf glywed—. Clywais yn iawn yr hyn a ofynasoch i mi, diolch yn fawr iawn, ac rwy'n dweud wrthych chi nad wyf i'n mynd i gael fy nhynnu i mewn i'r math hwnnw o gwestiwn, sydd wedi'i gynllunio'n syml i ymosod ar unigolyn a oedd allan gyda'i deulu, sydd â'r hawl, byddwn i'n dweud, i rywfaint o breifatrwydd yn y ffordd yr oedd yn gwneud pethau, ac a fydd yn siarad drosto'i hun.
Mae hi'n dair wythnos ers i feddygon teulu ar draws Cymru erfyn arnoch chi i wahardd y defnydd o ail gartrefi ac i dynhau pwerau gorfodi er mwyn amddiffyn iechyd y cyhoedd, ond dydych chi ddim wedi gweithredu hyd yma. Does bosib, erbyn hyn, fod angen gweithredu, a ninnau ar drothwy'r Sulgwyn ac yn sgil y newidiadau i'r rheolau a'r pwyslais yn Lloegr. Felly hoffwn i ofyn pa fesurau pellach y byddwch chi'n eu rhoi ar waith i sicrhau bod rheoliadau Cymru yn cael eu parchu. A hoffwn i wybod hefyd beth ydy'ch penderfyniad yn sgil y trafodaethau rydych chi'n eu cael efo'r heddlu a'r awdurdodau lleol—gwnaethoch chi sôn am hynny y tro diwethaf i mi bwyso arnoch chi am orfodaeth lymach. A ydych chi yn cytuno efo'r pedwar llu heddlu fod angen cynyddu'r dirwyon sy'n cael eu gosod am deithio diangen?
Wel, diolch i Siân Gwenllian am y cwestiynau ac am fynd ar ôl y pwnc mae hi wedi ei godi unwaith eto y prynhawn yma. Wrth gwrs, rŷn ni'n cymryd beth mae pobl leol yn ei ddweud wrthym ni o ddifrif. Dyna pam roedden ni wedi cael trafodaethau unwaith eto gyda'r awdurdodau lleol a gyda'r heddlu. Fel esboniais i y tro diwethaf, mae nifer o bethau pwysig i'w cymryd i mewn i unrhyw benderfyniad—mae hawliau dynol gyda phobl ac mae'n rhaid inni feddwl am hynny. Y dystiolaeth—mae'n rhaid inni gael y dystiolaeth hefyd o faint o bobl sydd wedi—[Torri ar draws.] Wel, mae'n rhaid inni gael y dystiolaeth; mae'n rhaid inni wybod nifer y bobl sydd wedi dod i Gymru ac sydd yn eu hail gartrefi ar hyn o bryd. Fel esboniais i yn yr ateb i Mark Reckless, rŷn ni'n dal i fod, yng Nghymru, dan y gyfraith sy'n dweud, unrhyw beth rŷn ni'n ei wneud, mae'n rhaid i hwnna fod yn proportionate, a thrwy'r sgyrsiau gyda'r awdurdodau lleol, y casgliad i fi oedd doeddwn i ddim yn ddigon siŵr bod y broblem yn un lle rŷn ni'n dweud wrth bobl, sy'n aros yn eu tai nhw, fod yn rhaid iddyn nhw fynd adref. Nawr, wrth gwrs dŷn ni ddim eisiau i bobl wneud pethau fel yna; rŷn ni'n dweud bob tro wrth bobl i beidio â gwneud hynny.
Yn y sefyllfa nawr, lle mae pobl yn Lloegr yn gallu mynd yn y car i unrhyw le maen nhw ei eisiau yn Lloegr, mae hynny wedi creu mater newydd inni, ac rŷn ni wedi bod yn trefnu hynny gyda'r heddlu yr wythnos yma, ac wrth gwrs rwy'n fodlon siarad â nhw am a yw'r pwerau gyda nhw, a yw'r gosb sydd gyda nhw, o ran pobl sydd ddim yn gwneud beth sy'n angenrheidiol iddyn nhw—os oes rhaid inni wneud mwy. Rŷn ni'n defnyddio lot o bethau ar hyn o bryd. Rŷn ni'n defnyddio'r arwyddion sydd gyda ni ar yr M4 ac yn y gogledd i roi'r neges i bobl sy'n teithio i mewn i Gymru i beidio â gwneud hynny. Rŷn ni'n trio cael pethau yn y papurau lleol yn Lloegr i esbonio i bobl pam rŷn ni'n gwneud beth rŷn ni'n ei wneud yma yng Nghymru. So, rŷn ni'n trio gwneud popeth gallwn ni feddwl i'w wneud ac rŷn ni'n dal i sgwrsio gyda'r heddlu, gyda'r awdurdodau lleol, ac, os yw'r sefyllfa yn newid ac mae'r achos yn cryfhau i wneud pethau eraill, rŷn ni'n hollol agored i wneud hynny.
Prif Weinidog, yn ystod eich cynhadledd i'r wasg ddydd Llun, ac eto yn eich datganiad heddiw, rydych chi wedi crybwyll rhai o'r ffactorau pwysig a helpodd i benderfynu eich proses o wneud penderfyniadau yng Nghymru, gan gynnwys yr anghydraddoldebau iechyd yn ein poblogaeth. Nawr rwy'n gwybod bod rhai pobl yn gweld cyfle i newid yn ein hamgylchiadau presennol, felly, er enghraifft, cyflawni cynlluniau teithio llesol neu fwy o arddio i gynhyrchu eich ffrwythau a'ch llysiau eich hunan, ac ni fyddwn i'n anghytuno â dim o hynny, ond rwy'n credu bod perygl gwirioneddol y bydd y feirws hwn yn creu mwy o anghydraddoldebau iechyd, wedi eu hachosi gan dlodi a dyled sydd wedi ymwreiddio'n ddyfnach fyth, heb gamau parhaus gan Lywodraethau Cymru a'r DU. Felly, a gaf i ofyn i chi, Prif Weinidog, a yw'r pryderon hyn yn rhan o feddylfryd a gwaith cynllunio'r Llywodraeth ynglŷn â'r dyfodol, a beth ydych chi'n ei gredu fydd y camau ôl-COVID cyntaf y bydd eu hangen i ddechrau mynd i'r afael â rhai o'r anghydraddoldebau hyn?
Wel, Llywydd, rwy'n cytuno'n llwyr â Dawn Bowden. Yr holl dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg yw bod hwn yn feirws sy'n ymosod ar y bobl hynny yn ein cymdeithas sydd fwyaf agored i niwed, ac mae tlodi yn rhywbeth sylfaenol sy'n gwneud pobl yn agored i niwed gan fod pobl dlawd yn tueddu i fyw'n agosach at ei gilydd, ac mae'r feirws yn cylchredeg lle mae pobl mewn ardaloedd mwy poblog. Os ydych chi'n dlawd, rydych chi'n fwy tebygol o fod â chyflyrau iechyd isorweddol, ac mae'n feirws sy'n ymosod ar bobl sydd â chyflyrau iechyd isorweddol. Ac nid oes gennych chi'r adnoddau y mae pobl eraill yn ddigon lwcus i allu manteisio arnyn nhw i amddiffyn eich hun rhag yr argyfwng yr ydym yn ei wynebu.
Felly, mae Dawn Bowden yn llygad ei lle i dynnu sylw at y ffordd y mae'r feirws yn dwysáu anghydraddoldebau iechyd sylfaenol. A phan ddown i allan o hyn i gyd, hoffwn adleisio rhywbeth a ddywedodd y cyn Brif Weinidog wrthyf i yn y sesiwn yr wythnos diwethaf: ni allwn ni ddychwelyd yn syml i'r ffordd yr oedd pethau o'r blaen, lle'r ydym ni'n gwerthfawrogi'n ormodol cyfraniad rhai pobl yn ein cymdeithas nad yw wedi bod o unrhyw ddefnydd ymarferol i ni yn yr argyfwng hwn, ac yn tanbrisio cyfraniad pobl eraill, sef y rhai â'r cyflogau lleiaf yn aml a'r rhai â'r lleiaf o adnoddau.
Felly, mae'n ddyletswydd arnom ni yn Llywodraeth Cymru, yn sicr. Dyna pam yr ydym ni wedi rhoi, fel y gwyddoch, er enghraifft, £11 miliwn yn fwy i mewn i'n cronfa cymorth dewisol i gael cymorth i bobl yn uniongyrchol—11,000 o daliadau a wnaed eisoes yn uniongyrchol at ddibenion yn gysylltiedig â COVID o'r gronfa cymorth dewisol; talwyd mwy na £670,000 i'r teuluoedd tlotaf yng Nghymru. A bydd angen i Lywodraeth y DU ddarparu arian sy'n cyfateb i hynny hefyd. Mae'n peri pryder mawr, onid yw, clywed adroddiadau yn y papurau newydd heddiw ynghylch y ffaith fod Llywodraeth y DU yn bwriadu ymdrin â chanlyniadau coronafeirws drwy rewi cyflogau ymhlith gweithwyr y sector cyhoeddus—yr union weithwyr hynny yr ydym ni wedi dibynnu arnyn nhw i'n harwain ni drwy'r argyfwng hwn. Nid dyna'r ffordd i ymateb a, phe byddem ni'n gwneud pethau yn y modd hwnnw, yna bydd yr holl anghydraddoldebau y mae Dawn wedi cyfeirio atyn nhw yn cael eu gwaethygu yn hytrach na'u herydu, fel yr ydym ni'n benderfynol o geisio ei wneud yng Nghymru.
Prif Weinidog, soniasoch yn eich datganiad am bobl nad ydyn nhw'n teimlo'n arbennig o ddiogel gartref drwy'r amser, ac mae fy nghwestiwn i'n cael ei gymell gan fy mhryderon amdanyn nhw a nifer gynyddol o etholwyr sy'n cysylltu â mi ynglŷn â'u hiechyd meddwl, a chwestiynau sy'n codi o ganllawiau Llywodraeth Cymru ynghylch aros gartref. Dim ond i fod yn eglur, nid yw hyn yn ymwneud â gwahaniaethau rhwng Cymru a Lloegr ond canllawiau Llywodraeth Cymru ei hun, a adlewyrchwyd, a dweud y gwir, yn eich sylwadau dryslyd a wnaed ychydig ddyddiau yn ôl.
Pan fyddwch chi'n ei chyhoeddi ddydd Gwener, a fydd y dystiolaeth wyddonol yr ydych chi'n dibynnu arni'n llwyr yn tynnu sylw penodol at y dystiolaeth sy'n ategu'r ffaith bod cynulliad o ddau o bobl o wahanol aelwydydd yn ddiogel, neu ei bod yn ddiogel i ddau o bobl o wahanol aelwydydd ddigwydd gweld ei gilydd mewn llyfrgell, ond nid i ddau o bobl o wahanol aelwydydd, lle na fu unrhyw symptomau ers wythnosau, fynd am dro gyda'i gilydd yn fwriadol gan gadw pellter cymdeithasol, yn hytrach na'r cyfarfod ar hap y cyfeiriasoch ato'n gynharach?
Ac a fydd hefyd yn tynnu sylw at y dystiolaeth sy'n dweud ei bod hi'n ddiogel i yrru a chyfarfod gydag unrhyw un mewn canolfan arddio, yn amodol ar gadw pellter cymdeithasol, ond nad yw'n ddiogel gyrru—cewch gerdded neu feicio, ond nid gyrru—i'ch llyn neu'ch traeth agosaf i fynd i bysgota ar eich pen eich hun? Neu a allwch chi gadarnhau mai ystyr 'lleol' mewn gwirionedd yw 'agosaf' o dan yr amgylchiadau hynny?
Wel, Llywydd, mae 'lleol' yn golygu'r ddealltwriaeth gyffredin a phob dydd o'r hyn yw 'lleol'. Ein cyngor ni i bobl yng Nghymru yw aros gartref: aros gartref, diogelu'r GIG ac achub bywydau. Dyna fu ein neges dros y chwe wythnos diwethaf a dyna yw ein neges ni nawr. Felly, os ydych chi'n gadael eich cartref i ymarfer corff neu at ddibenion eraill, arhoswch yn lleol, oherwydd drwy aros yn lleol rydych chi'n cadw'n ddiogel. Nid yw'n wahoddiad i neidio i'ch car a gyrru i rywle arall i wneud pethau y gallech chi eu gwneud yr un mor hawdd ar droed ac o gartref.
Felly, nid yw rhai pethau'n cael eu gwneud mor hawdd yn y ffordd honno, ac efallai y bydd yn rhaid i chi fod yn eich car os oes yn rhaid i chi fod, ond dim ond pan fydd yn rhaid i chi fod, nid oherwydd ei fod yn rhywbeth a fyddai'n gyfleus i chi neu'n rywbeth difyr i'w wneud. Po fwyaf y byddwch chi'n teithio, po fwyaf y byddwn ni'n mynd o gwmpas, y mwyaf y bydd y feirws yn lledaenu. A chynlluniwyd yr holl ymdrechion a wnaed gennym i atal hynny rhag digwydd, ac rydym ni wedi llwyddo i wneud hynny. Felly, yr hyn nad ydym ni eisiau ei wneud yw peryglu hynny drwy annog pobl i wneud pethau sy'n ychwanegu at y lefelau risg.
Fe wnaethom benderfyniad wedi'i bwyso a'i fesur yn ofalus i wneud tri pheth yr oeddem ni'n meddwl y gallem ni eu rhoi ar gael i bobl yng Nghymru gan barhau i aros islaw'r lefel y bydd y gwerth R yn codi ac y bydd y feirws yn dechrau cylchredeg eto. Dyna'r lens y dylai pobl fod yn ei defnyddio i feddwl am unrhyw un o'r penderfyniadau hyn. Po fwyaf y byddwn ni'n ei wneud y tu allan i'r cartref, ac yn enwedig pan na fyddwn ni'n ei wneud yn lleol, y mwyaf fydd y risgiau y byddwn ni'n eu hachosi i'n gilydd, ac mae cyngor Llywodraeth Cymru a'r cyngor gwyddonol yr ydym ni'n ei ddefnyddio i gyd yn eglur ynghylch hynny. Does dim rhaid iddo ddrysu neb. Ac nid yw'n ddefnyddiol, yn fy marn i, i geisio byth a beunydd dod o hyd i ffyrdd y gallwch chi dynnu brawddegau i un cyfeiriad neu'r llall er mwyn achosi ychydig o ddryswch. Mae'r sefyllfa yng Nghymru yn syml: arhoswch gartref, arhoswch yn lleol a chadwch yn ddiogel.
Mae gofalwyr wedi cael eu talu a'u gwerthfawrogi'n druenus o annigonol ers amser maith, ac mae eich polisi i roi £500 i ofalwyr i'w groesawu, ond nid yw'n mynd yn ddigon pell. Dylai fod gan bob gweithiwr cartref gofal, gan gynnwys cogyddion a glanhawyr, hawl i gael y taliad hwnnw gan eu bod hwythau mewn perygl hefyd. Mae gofalwyr di-dâl yn haeddu cael eu cydnabod hefyd, yn fy marn i. Felly, a wnewch chi ymrwymo i gydnabod pawb sy'n ofalwr, neu sy'n gweithio mewn cartref gofal, gyda'r taliad untro hwn? A chan nad yw'r taliad untro hwn yn mynd i'r afael â chyflog isel parhaus gofalwyr, a wnewch chi gytuno i wneud yr un fath ag y gwnaeth Llywodraeth yr SNP yn yr Alban, a rhoi codiad cyflog o 3.3 y cant ar unwaith i'r holl staff gofal cymdeithasol?
Wel, diolchaf i Leanne Wood am hynna, a hoffwn ymuno â hi i gydnabod y gwaith y mae gofalwyr, gofalwyr anffurfiol, a'r bobl sy'n gwneud swyddi mor bwysig yn y sector gofal yn ei wneud. Roedd ein penderfyniad i gynnig £500 i'r holl bobl hynny sy'n darparu gofal personol uniongyrchol mewn lleoliadau cartref a phreswyl yn un a oedd yn cydbwyso ein dymuniad i ddarparu'r gydnabyddiaeth honno yn erbyn y cyfyngiadau ariannol presennol yr ydym ni'n eu hwynebu. Felly, yr hyn yr wyf i'n hapus iawn i'w ddweud yw ein bod ni'n parhau i edrych ar hynny. Os oes cyfle i wneud mwy, byddem ni wir yn hoffi gwneud mwy. Nid yw'n ymwneud â dibrisio cyfraniad pobl eraill nad ydyn nhw'n darparu gofal personol uniongyrchol ond sy'n darparu gwasanaethau pwysig eraill yn y sector, ond os ydych chi'n llunio cynllun, mae'n rhaid i chi gael rhai meini prawf y gall y cynllun weithredu yn unol â nhw, ac mae'n rhaid i chi allu ei ddarparu gyda'r gyllideb sydd ar gael i Lywodraeth Cymru. Mae'n mynd i gostio £32 miliwn i ddarparu ar gyfer y 64,000 o bobl sydd wedi'u cynnwys yn y cynllun fel y'i cyhoeddwyd, a byddwn yn parhau i adolygu hynny'n ofalus iawn a gweld a yw'n bosibl gwneud mwy yn y dyfodol.
Rydym ni wedi dewis ei wneud yn y modd hwnnw yn hytrach na'r ffordd y mae Llywodraeth yr Alban wedi ei wneud, a cheir rhai manteision, rwy'n credu, i'n £500 ni, gan ei fod yn fesur blaengar. Rydym ni'n ei gynnig i bob gweithiwr gofal sy'n darparu gofal personol, faint bynnag o oriau maen nhw'n eu gweithio. Felly, mae'n gwneud y gwahaniaeth mwyaf i'r rhai sydd â'r lleiaf. A chan feddwl am y cwestiwn yr oedd Dawn Bowden yn ei ofyn am anghydraddoldeb a'n gallu i geisio cael rhywfaint o effaith ar hynny, mae ein cynllun wedi ei gynllunio gyda rhai agweddau bwriadol arno i wneud yn siŵr bod y cymorth yn cael ei deimlo fwyaf gan y rhai sydd fwyaf angen cymorth.
Rwy'n croesawu'n fawr iawn y £500 yr ydym ni wedi ei roi i weithwyr gofal, oherwydd maen nhw'n sicr ar y rheng flaen o ran risg, yn gofalu am y bobl fwyaf agored i niwed yn byw mewn amgylchiadau agos iawn. Rwyf i hefyd yn croesawu'n fawr yr unedau profi symudol a lansiwyd i alluogi preswylwyr a staff mewn cartrefi gofal i gael eu profi, i weld a yw'r feirws ganddyn nhw. Ond rwy'n siŵr y gwnewch chi gydnabod nad yw un uned brofi symudol ar gyfer Caerdydd a'r Fro gyfan yn ddigonol ar gyfer yr holl gartrefi gofal a'r holl bobl hŷn agored i niwed hynny y mae angen i ni eu diogelu. Felly roeddwn i eisiau eich holi am eich cynlluniau ar gyfer ein galluogi i gynyddu yn enfawr nifer yr unedau profi. Mae un adroddiad yn sôn am 94 o dimau yn gweithio saith diwrnod yr wythnos. Mae'n ymddangos na allwn ni ddibynnu ar bersonél iechyd oni bai ein bod ni eisiau gweld yr holl ymyraethau iechyd pwysig eraill y maen nhw'n eu darparu yn cael eu rhoi o'r neilltu, ac ni fyddwn i eisiau gweld hynny. Felly, roeddwn i'n meddwl tybed pa ystyriaeth a roddwyd i recriwtio pobl eraill. Yn eich datganiad, fe wnaethoch chi dalu teyrnged i'r sector gwirfoddol, ac rwy'n ymwybodol, yn Sheffield, yr arweiniwyd yr arbrawf ar gyfer profi ac olrhain gan gyfarwyddwr iechyd y cyhoedd sydd wedi ymddeol; mae hefyd yn cynnwys gwirfoddolwyr yn cynorthwyo'r agwedd olrhain ar y broses.
A gaf i gwestiwn gan Jenny Rathbone nawr?
Felly, roeddwn i'n meddwl tybed beth allai strategaeth y Llywodraeth ar gyfer cynnwys byddin gyfan o bobl newydd, gan gynnwys gwirfoddolwyr, yn yr ymgyrch profi torfol sydd ei hangen i gymryd rheolaeth dros ymlediad COVID-19 fod.
Diolchaf i Jenny Rathbone am y cwestiwn yna. Wrth gwrs, mae gennym ni gynlluniau i ehangu'n sylweddol nifer y profion y byddwn ni'n gallu eu darparu yng Nghymru pan fyddwn ni'n symud i mewn i'r byd newydd o brofi, olrhain a diogelu. A bydd hynny'n golygu ffyrdd newydd o ddarparu profion yn uniongyrchol i ble mae pobl yn byw—trefn profion cartref ehangach—yn ogystal â'r unedau profi symudol sydd gennym ni ar hyn o bryd. Ac wrth gwrs, mae Jenny Rathbone yn iawn wrth ddweud y bydd angen llawer mwy o bobl i gymryd rhan mewn gwaith olrhain cyswllt pan fyddwn ni'n symud i'r system honno sy'n fwy seiliedig ar y gymuned. Ac mae hi'n iawn hefyd na allwn ni gymryd y bobl hynny o swyddi iechyd pwysig y maen nhw'n eu gwneud ar hyn o bryd.
Nawr, bydd fy nghyd-Aelod Vaughan Gething yn ateb cwestiynau ar hyn yn ddiweddarach y prynhawn yma, Llywydd, a gwn nad ydych chi eisiau i ni drafod pethau y bydd y ddau ohonom ni'n rhoi sylw iddyn nhw. Ond yn y ddogfen profi, olrhain, diogelu yr ydym ni wedi ei chyhoeddi yn gynharach heddiw, mae'n dweud ein bod ni'n chwilio am tua 1,000 o bobl yn y lle cyntaf pan fydd y system yn cychwyn. Ac rydym ni'n credu y bydd y rhan fwyaf o'r bobl hynny'n dod o awdurdodau lleol—pobl nad ydyn nhw'n gallu gwneud y swyddi y bydden nhw'n eu gwneud fel rheol, ond sy'n cael eu talu gan awdurdodau lleol ac y gellir eu rhoi ar waith wedyn yn y ffordd newydd hon. Mae'r gwirfoddolwyr wedi gwneud gwaith gwych ledled Cymru yn argyfwng y coronafeirws—rydym ni wedi cael 7,000 o bobl yn ymgymryd â gweithgareddau yn ymwneud â coronafeirws ledled Cymru—ond bydd angen y 1,000 hynny o bobl bob wythnos am wythnosau lawer i ddod, ac mae amgylchiadau gwirfoddolwyr yn anochel yn gyfnewidiol braidd—efallai y byddan nhw eu hunain yn dychwelyd i'r gwaith, efallai y bydd ganddyn nhw bethau eraill y maen nhw angen eu gwneud. Felly, ein teimladau cyntaf ar hyn o bryd yw mai recriwtio'r 1,000 o bobl hynny yn bennaf drwy ein hawdurdodau lleol, fel bod pobl yn cael eu talu am y gwaith y maen nhw'n ei wneud ac yn gallu neilltuo eu hwythnos waith i'w wneud, fydd y ffordd y byddwn ni'n mynd ati i recriwtio'r staff y bydd eu hangen arnom ni.
Ar y cychwyn, y rheswm am gyflwyno'r cyfyngiadau llym ar ryddid dynol a hawl pobl i weithio oedd amddiffyn y GIG rhag cael ei lethu. Mae'n ymddangos bellach ei fod wedi newid i atal y ffactor R, ffactor atgynhyrchu'r clefyd, rhag codi uwchlaw 1. Ond onid yw'r Prif Weinidog yn deall mai ffolineb yw hyn?
Ysgrifennodd yr Athro Giesecke, prif gynghorydd Llywodraeth Sweden ar y coronafeirws, erthygl yn The Lancet yr wythnos diwethaf, pryd y dywedodd bod y clefyd yn lledaenu bron bob amser o bobl iau heb unrhyw symptomau neu symptomau gwan i bobl eraill a fydd hefyd â symptomau ysgafn. Ychydig iawn y gallwn ni ei wneud i atal lledaeniad hwn. Efallai y bydd cyfyngiadau symud yn oedi achosion difrifol am gyfnod, ond ar ôl i'r cyfyngiadau gael eu llacio, bydd achosion yn ailymddangos. Rwy'n disgwyl, os byddwn ni'n cyfrif nifer y marwolaethau o COVID ym mhob gwlad flwyddyn o nawr, y bydd y ffigurau'n debyg, waeth beth fo'r mesurau a gymerwyd. Dywedodd y Prif Weinidog yn gynharach, yn gwbl briodol, bod y cyfyngiadau symud yn gynhyrchydd mawr o dlodi ac anghydraddoldeb, felly mae'n rhaid i ni godi'r cyfyngiadau mor gyflym ag sy'n gyson â rhwystro'r gwasanaeth iechyd rhag cael ei lethu yn ei allu i drin achosion difrifol.
Yn Sweden, mae cyfradd heintio'r clefyd yn llai nag yma ym Mhrydain mewn gwirionedd. Ac yn sir Stockholm, mae chwarter y boblogaeth wedi cael yr haint hwn erbyn hyn, ond nid yw'r cyfraddau marwolaeth yn Sweden, er eu bod yn uwch na'u cymdogion, yn wahanol iawn i'r cyfraddau marwolaeth yng ngwledydd eraill gorllewin Ewrop. Felly, onid yw e'n gweld bod buddiannau gorau cyffredinol pobl y wlad hon yn deillio o fod yn feiddgar, yn hytrach na bod yn betrus, sef yr hyn y mae'n ymddangos bod Llywodraeth Cymru eisiau ei wneud?
Llywydd, ymddiheuriadau fy mod i wedi ei chael hi'n anodd clywed ychydig o'r hyn yr oedd yr Aelod yn ei ddweud, ond rwy'n credu mai byrdwn ei ddadl yw ein bod ni'n 'ffôl', rwy'n credu oedd y gair a ddefnyddiodd, i ganolbwyntio ar y gwerth R ac y dylem ni fod yn feiddgar. Wel, gadewch i mi ddweud wrtho beth fyddai bod yn feiddgar yn ei olygu: rydym ni'n credu mai 0.8 yw'r gwerth R yng Nghymru ar hyn o bryd, a hyd yn oed ar 0.8 mae'n rhaid i ni ragweld y bydd 800 o ddinasyddion ychwanegol yng Nghymru yn marw oherwydd y feirws dros y tri mis nesaf. Pe byddai'r rhif R yn codi i 1.1—felly mae hynny'n nifer fach iawn o ddegfed rhan o un—pe byddai'n cynyddu i 1.1, byddai nifer y marwolaethau dros y cyfnod hwnnw o dri mis yn 7,200. Felly pris bod yn feiddgar yw marwolaeth 6,500 o bobl yng Nghymru.
Rwy'n gweld nad yw'r Aelod yn cytuno, ond nid fi sy'n dweud hyn. Rwyf i'n rhoi iddo'r ffigurau gorau posibl y mae ein epidemiolegwyr a'n meddygon iechyd cyhoeddus yn eu cynnig. Ac mae hwn yn ffigur y cytunir arno ar draws y Deyrnas Unedig. Ar 0.8, gallai 800 o bobl, yn anffodus dros ben, farw dros y tri mis nesaf. Ar 1.1—dim ond y cynnydd bach iawn hwnnw—mae'n 7,200. Mae'n hawdd eistedd yn y fan yma a bod yn feiddgar. Nid wyf i'n barod i fod yn feiddgar pan fyddai'n rhaid i 6,500 o'n cyd-ddinasyddion ddwyn baich y beiddgarwch hwnnw.
Cyn i mi alw ar Huw Irranca-Davies, a gaf i wneud yn siŵr bod yr Aelodau yn rhoi eu meicroffonau yn agos at eu cegau pan eu bod nhw'n siarad? Dim ond newydd sylwi wyf i efallai nad oedd hynny'n wir am feicroffon Neil Hamilton y tro yna, ond roedd hi fwy neu lai yn bosibl clywed. Felly, dim ond i atgoffa yr holl Aelodau, a—phwy ddywedais i? Ie, Huw Irranca-Davies.
Diolch, Llywydd. Gobeithio eich bod yn gallu fy nghlywed i.
A gaf i ofyn i chi, Prif Weinidog, am eich syniadau sy'n dod i'r amlwg am y gwaith sy'n cael ei wneud gan y Cwnsler Cyffredinol ar ailadeiladu ar ôl COVID-19, a'r gwaith tebyg sy'n cael ei ddatblygu gan rai o feiri'r dinasoedd mawr yn Lloegr ar y thema 'adeiladu'n ôl yn well'? Yn y drychineb barhaus ofnadwy hon o coronafeirws, mae pobl hefyd wedi gweld, yn uniongyrchol, fanteision aer glanach, llai o draffig, a strydoedd a chymunedau haws byw ynddyn nhw mewn mannau a oedd wedi eu tagu gan lygredd a thagfeydd gynt. Ac o dan y cyfyngiadau symud, mae pobl wedi gweld drostyn nhw eu hunain fanteision ansawdd bywyd mannau gwyrdd, bywiog, o'u cymharu â tharmac a choncrid, a mwy o le a rhyddid i gerdded a beicio yn hytrach na gyrru. Felly, Prif Weinidog, a gaf i ofyn pa fesurau y gellir eu rhoi ar waith nawr, ac yn y dyfodol wrth i'r cyfyngiadau gael eu llacio, i alluogi mwy a mwy o bobl i fynd o le i le ar gyfer gwaith a hamdden trwy gerdded a beicio, yn enwedig tra bo capasiti cludiant cyhoeddus yn parhau i fod yn gyfyngedig, fel y gallwn ni osgoi dychweliad trychinebus i dagfeydd traffig, llygredd aer a sŵn a'r effeithiau iechyd cysylltiedig, ac fel y gallwn ni ymateb i argyfwng sylfaenol gwirioneddol y newid yn yr hinsawdd?
Llywydd, diolchaf i Huw Irranca-Davies am hynna. A gaf i ddechrau drwy edmygu'r deyrnged y gallaf i ei gweld y tu ôl iddo i bobl o gwm Llynfi a gollodd eu bywydau wrth ymladd ffasgiaeth yn ystod y 1930au?
Bydd wedi gweld y datganiad a gyhoeddwyd gan fy nghydweithiwr Lee Waters yr wythnos diwethaf, yn gwahodd datganiadau o ddiddordeb erbyn 21 Mai gan bob awdurdod lleol i fanteisio ar y ffaith nad yw ffyrdd yn agos at fod mor brysur ag y bydden nhw fel arall i geisio cadw rhai o'r manteision y mae Huw Irranca-Davies wedi cyfeirio atyn nhw. Rydym ni i gyd o leiaf wedi elwa yn ystod yr argyfwng hwn ar y gostyngiadau i lygredd aer a llygredd sŵn, a dydym ni wir ddim eisiau mynd yn ôl i ail-greu'r holl anawsterau hynny os gallwn ni eu hosgoi, oherwydd yr effeithiau ar iechyd a'r effaith ar y newid yn yr hinsawdd yr oeddem ni'n gwybod yr oedden nhw'n eu cael.
Yn yr alwad honno am ddatganiadau o ddiddordeb gan awdurdodau lleol, gyda chefnogaeth arian gan Lywodraeth Cymru, rydym ni'n disgwyl i awdurdodau lleol gyflwyno cynigion ar gyfer lledu llwybrau troed, lonydd beicio dros dro, cyfyngiadau cyflymder, gwelliannau i seilwaith bysiau a phethau eraill a bod awdurdodau lleol, mewn modd llawn dychymyg, fel y mae'r galwad am gynigion yn ei wneud yn eglur, yn defnyddio'r ennyd sydd gennym ni i geisio cynnwys yn barhaol yn ein seilwaith rai o'r manteision yr ydym ni wedi eu gweld o gael gostyngiad mawr i draffig yn ystod yr wythnosau diwethaf, gyda'r manteision yr ydym ni'n eu cael ohono nawr ac yn dymuno gallu parhau i weld y manteision hynny yn y dyfodol.
A gaf i ofyn, Prif Weinidog—? Gwrandewais yn astud iawn ar eich ateb i Andrew R.T. Davies yn gynharach, ond, mae'n rhaid i mi ddweud, nid wyf yn fodlon iawn ag ef. Mae'n amlwg iawn, o'r canllawiau a oedd ar waith yma yng Nghymru ddydd Sadwrn na ellir ystyried bod mynd am dro a chael picnic yn ymarfer corff ac na fwriedir iddo fod yn esgus rhesymol. Newidiwyd y canllawiau gennych chi ddydd Llun, a bydd llawer o bobl yn meddwl efallai mai'r rheswm am hynny yw'r ffaith y tynnwyd llun y Gweinidog iechyd yn eistedd ar fainc y parc yn cael picnic gyda'i deulu dros y penwythnos.
Nawr, mae'n edrych i'r cyhoedd fel bod un rheol i'r Gweinidog iechyd a rheol arall iddyn nhw. Felly, onid ydych chi'n cytuno â mi bod Vaughan Gething wedi cael ei tsips? A phryd ydych chi'n mynd i'w dynnu oddi ar y fainc yn y parc a'i roi ar fainc yr eilyddion, lle y dylai fod?
Llywydd, rwyf i eisoes wedi dweud, nid wyf i'n mynd i gael fy nhynnu i mewn i'r math hwnnw o ymosodiad personol di-chwaeth ar neb. Nid picnic yw saib byr i ganiatáu i blentyn fwyta yn iaith neb, a dim ond iddo gael gwybod, cyn iddo geisio lledaenu'r math o sarhad a geisiodd yn ei gwestiwn, gwnaed y penderfyniadau a wnaeth Llywodraeth Cymru ar y mesurau yr oeddem ni'n mynd i'w newid ddydd Iau yr wythnos diwethaf. Fe'u gwnaed mewn cyfarfod Cabinet a gofnodwyd yn briodol ac yn swyddogol; nid oedd a wnelo dim ag unrhyw ddigwyddiad y mae e'n cyfeirio ato a dylai roi'r gorau i geisio awgrymu hynny.
Rwy'n siŵr y bydd y Prif Weinidog yn cytuno â mi, er bod yr estyniad i'r cynllun cadw swyddi, y cynllun ffyrlo, i'w groesawu, ei bod hi'n wirioneddol anffodus bod gennym ni tua 22,000 o ddinasyddion Cymru o hyd a ddylai fod wedi gallu cael eu helpu gan y cynllun hwnnw nad ydyn nhw'n cael eu helpu, oherwydd eu bod nhw'n newid swydd ar adeg cyflwyno'r cynllun.
A gaf i ofyn i'r Prif Weinidog am ddau beth y prynhawn yma? A wnaiff ef ymrwymo i barhau, fel y gwn fod Gweinidog yr economi eisoes wedi ei wneud, i eirioli i Lywodraeth y DU ar ran y dinasyddion hynny yng Nghymru sydd wedi cael eu heithrio o'r cynllun yn anfwriadol, rwy'n credu, ond yn annheg iawn? Ac a wnaiff ef hefyd gael trafodaethau gyda Gweinidog Cymru dros yr economi i weld a oes unrhyw bosibilrwydd, os bydd y Canghellor yn parhau i fod yn ddi-ildio ar y mater hwn, y gallai Llywodraeth Cymru roi rhywfaint o gymorth i'r dinasyddion hynny sydd wedi cael eu siomi? Dylwn fod yn eglur yn y fan yma, Llywydd, nid wyf i'n awgrymu y byddai Llywodraeth Cymru yn gallu fforddio disodli ffyrlo, ond efallai y bydd rhyw fath o gymorth arall y gellir ei ddarparu os na ellir perswadio'r Canghellor i gynnwys y bobl hyn.
Llywydd, a gaf i ddiolch i Helen Mary Jones am yr awgrymiadau adeiladol iawn yna? Rwyf yn rhannu gyda hi ein bod ni'n croesawu'r cynllun ffyrlo a'n bod ni'n croesawu ei estyniad, ac rwy'n credu ei bod hi'n iawn hefyd. Ond nid oedd yr annhegwch ynddo, yn enwedig i'r bobl hynny a oedd yn newid swydd ar y pryd, yn annhegwch bwriadol, ond mae'n annhegwch gwirioneddol ym mywydau'r unigolion hynny, ac rydym a byddwn yn parhau i wneud y pwyntiau hynny yn uniongyrchol i Lywodraeth y DU wrth i dystiolaeth o rai o agweddau anfwriadol y cynlluniau a roddwyd ar waith gan Lywodraeth y DU ddod yn fwy amlwg.
Bydd Helen Mary Jones yn gwybod ein bod ni wedi rhewi ein cronfa cadernid economaidd ein hunain er mwyn ei phwyso a'i mesur, i weld a oes unrhyw fireinio y gallem ni ei wneud er mwyn gallu llenwi rhai bylchau ychwanegol yn y ddarpariaeth a wnaed gan Lywodraeth y DU. Rydym ni'n gweithio'n galed y tu mewn i Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd i weld a oes unrhyw ffyrdd eraill y gallem ni gasglu rhywfaint o arian gyda'i gilydd i gryfhau'r gronfa honno ymhellach fyth. A byddaf yn sicr yn gwneud yn siŵr fy mod i'n trafod gyda Ken Skates trafferthion y bobl y mae Helen Mary Jones wedi tynnu sylw atyn nhw y prynhawn yma.
Prif Weinidog, wrth i ni fynd drwy'r pandemig hwn, mae'n dod yn fwyfwy amlwg bod mwy o achosion o'r clefyd yn ein cymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig. Gwn fod gwaith yn mynd rhagddo ar lefel Cymru ac ar lefel y DU i geisio deall y rhesymau am hynny, a mynd i'r afael â hynny mewn modd mor effeithiol â phosibl. Ond, wrth i ni symud allan o'r cyfyngiadau symud, Prif Weinidog, ac efallai ein bod yn symud tuag at brofi, olrhain a diogelu, rwy'n credu y bydd angen cryfach eto i sicrhau bod ymgysylltu â'n cymunedau lleiafrifoedd ethnig, cyfathrebu a chyfleu negeseuon yn bopeth y mae angen iddo fod, o ystyried gwahaniaethau iaith a diwylliannol. Felly, tybed a fydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu ei hymdrechion i sicrhau ein bod yn deall ac yn ymgysylltu â'n cymunedau lleiafrifoedd ethnig yn fwy effeithiol fyth o ystyried y bygythiad arbennig y mae'r feirws ofnadwy hwn yn ei achosi iddyn nhw.
Llywydd, a gaf i ddiolch i John Griffiths am y cwestiynau pwysig yna? Rwy'n credu fy mod wedi dweud yr wythnos diwethaf wrth ateb cwestiynau fy mod i'n mynd, yn ystod gweddill y prynhawn, i fod yn bresennol yn rhan o gyfarfod y grŵp cynghori yr ydym ni wedi'i sefydlu o gymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig. Ac fe wnes i hynny yn wir, ac rwy'n edrych ymlaen at rai o'r argymhellion o'r gwaith sy'n cael ei gadeirio gan y Barnwr Ray Singh ac sy'n cynnwys pobl o amrywiaeth eang o gymunedau perthnasol yng Nghymru.
Adleisiwyd y pwynt a mae John Griffiths wedi ei wneud y prynhawn yma yn y rhan honno o'r sgwrs y llwyddais i wrando arni, sef y bydd angen dull gweithredu gwahanol ar gyfer ymgysylltu ar lefel y gymuned, ac wrth i ni symud tuag at brofi, olrhain a diogelu, bydd llawer o'r hyn y bydd hynny'n dibynnu arno yn seiliedig ar y we ac ar y ffôn, ond bydd angen i ni gael rhywfaint o gapasiti o bobl sy'n gallu cerdded o gwmpas mewn cymunedau a chyfathrebu â phobl yn y ffordd honno. Felly, rydym ni'n ystyried hynny, rydym ni'n ystyried y pwyntiau a wnaeth John am iaith a llythrennedd, a sut yr ydym ni'n trosglwyddo negeseuon i gymunedau nad ydyn nhw'n debygol o gael eu gwybodaeth na'u cyngor o gyfryngau mwy confensiynol. Felly, diolchaf iddo am godi'r pwyntiau hynny. Hoffwn ei sicrhau eu bod yn cael eu trafod mewn ffordd fywiog yn y grŵp cynghori a bod yr elfen honno o'u meddylfryd yn gwneud gwahaniaeth i'r ffordd y bydd cynllunio ymarferol ar gyfer y gwasanaeth profi, olrhain a diogelu yn cael ei ddylunio a'i ddarparu yng Nghymru.
Brif Weinidog, mae Animal Farm wedi ei grybwyll, ac rwy'n siŵr bod Mark Reckless yn gwneud dynwarediad da yn y fan yna o fod y Boxer i Napoleon Nigel Farage. Rwyf yn gobeithio, wrth gwrs, na fydd yn y pen draw yn cael ei gymryd i ffwrdd, ac ni fyddwn eisiau i hynny ddigwydd chwaith.
Daniel Kawczynski yw'r cymeriad Snowball, efallai, onid e—yr AS Ceidwadol dros Amwythig sydd, mewn ymateb i fethu â mynd i'r traeth, am ddiddymu Llywodraeth a Senedd y wlad lle mae'r traeth hwnnw wedi ei leoli, ac a bod yn deg, mae aelodau o'i blaid ei hun wedi ei gondemnio am hynny. Rwy'n siŵr hefyd y bydd yn ymuno â mi i gondemnio cydweithiwr seneddol Darren Millar, sef David Jones, sydd ar yr union eiliad hwn ar Twitter yn defnyddio'r hashnod #StayAlert ac sy'n defnyddio is-bennawd Llywodraeth arall. Rwy'n gwybod ei fod yn aml yn ceisio esgus ei fod yn byw yn Lloegr, ond mae hwn yn gamgymeriad arall o safbwynt ei etholwyr. Rwy'n siŵr iawn y bydd Darren Millar yn ymuno yn y condemniad hwnnw.
Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno â mi bod yr hyn yr ydym ni wedi ei glywed heddiw ynghylch y Gweinidog iechyd yn gamarweiniol iawn? Mae gennym ni sefyllfa yn y fan yma lle mae rhywun yn mynd allan am dro, i ymarfer corff gyda'i deulu, gan gynnwys plentyn pum mlwydd oed. Yna, maen nhw'n cael bwyd am fod y plentyn pum mlwydd oed yn llwglyd, ac yn eistedd i lawr a'i fwyta. Wel, mae'n ddrwg gen i, ond ni fyddai neb teg, rhesymol nac yn wir cymesur mewn unrhyw ffordd yn gweld hynny fel bod unrhyw beth heb fod yn iawn. Ac rwy'n amheus am hyn oherwydd ddydd Gwener, cawsom y cyhoeddiad am yr hyn a oedd yn digwydd yng Nghymru a dydd Sul yn Lloegr. Nid yw'r Sun fel arfer yn cymryd unrhyw ddiddordeb o gwbl yng Nghymru. Tybed a yw'r Prif Weinidog yn gwybod, efallai, a wnaeth rhywun ofyn i'r Sun wneud hyn ac mae'r ffaith ei fod wedi ei ddefnyddio heddiw yn achosi peth pryder i mi.
Yn olaf, Prif Weinidog, a gaf i ofyn hyn i chi—? Rydych chi wedi bod o gymorth mawr i egluro'r sefyllfa o ran golff a physgota yn arbennig, ac rydych chi wedi dweud—ac mae'n ymddangos yn eithaf clir i mi—mai'r sefyllfa ddiofyn yw aros gartref ond, wrth gwrs, mae yna eithriadau. Un eithriad yw gwneud rhywbeth angenrheidiol—mynd, efallai, i'r archfarchnad lle mae angen gyrru i'r archfarchnad agosaf. Mae cymaint â hynny, rwy'n credu, yn amlwg i'r cyhoedd. Ond rydych chi hefyd wedi dweud, wrth gwrs, bod ymarfer corff yn rheswm arall. Nid yw ymarfer corff yn angenrheidiol, ond serch hynny, mae'n cael ei ganiatáu. A'r hyn sy'n glir yw bod rheolau llymach, gydag ymarfer corff, yn yr ystyr na ddylai pobl yrru i wneud ymarfer corff. Nid oes angen gwneud hynny beth bynnag; nid yw hynny'n hanfodol nac yn angenrheidiol. Ond, wrth gwrs, yr hyn yr ydych chi wedi ei wneud heddiw yw egluro'r sefyllfa o ran rhai chwaraeon a gweithgareddau hamdden. O ran golff, rwy'n credu ei bod hi'n iawn, mae'n debyg, i ddweud, onid yw hi, na ddylai clybiau golff agor mewn gwirionedd, ond y gellid agor cyrsiau golff drwy ddefnyddio'r mesurau diogelu priodol a dilyn y rheolau priodol? Pan ddaw'n fater o bysgota, wrth gwrs—
A gaf i ofyn i Carwyn Jones ddod at ei gwestiwn, os gwelwch yn dda?
Rwyf yn dod ato. Rwy'n gwybod fy mod yn trethu eich amynedd, Llywydd. A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am roi'r eglurder eto am bysgota? Ar hyn o bryd, nid yw'n dywydd da i bysgota, mae'n rhaid i mi ddweud—
Does dim angen i ni wybod sut mae'r tywydd. Rydym ni i gyd yn gwybod bod y tywydd yn dda. A gawn ni ddod at y cwestiwn?
Roeddwn i'n mynd i ddweud yn syml: a gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am yr eglurder y mae wedi ei roi ynglŷn â golff a physgota yn enwedig ac, wrth gwrs, yr eglurder y mae wedi ei ddarparu ar gyfer y cyfan o'r wythnosau diwethaf yn wahanol i'r hyn yr ydym wedi ei weld weithiau dros y ffin yn Lloegr?
Prif Weinidog.
Wel, diolch i Carwyn Jones am y pwyntiau yna. Rwy'n credu bod y sefyllfa yng Nghymru yn glir. Y cyngor yw, 'Arhoswch gartref'. Rydych chi'n gadael cartref drwy eithriad, a phan eich bod yn ymwneud ag un o'r eithriadau, yna byddwch yn aros mor lleol ag sy'n bosibl ar gyfer yr eithriadau hynny, oherwydd dyna sut yr ydym ni'n helpu i achub bywydau.
Rwy'n cytuno'n llwyr â'r pwyntiau a wnaeth fy nghyd-Aelod, Carwyn Jones, am Vaughan Gething a'i deulu. Rwy'n ofni nad wyf yn darllen papur newydd y Sun, felly dydw i ddim yn gallu helpu'r cyn Brif Weinidog yn hynny o beth.
Gadewch i mi fynd at y pwyntiau mawr a wnaeth ar ddechrau ei gyfraniad. Rwyf eisiau bod yn glir, Llywydd, fod Llywodraeth Cymru yn credu mewn dull pedair gwlad. Rydym ni'n credu bod gennym ni ddull pedair gwlad o hyd, oherwydd bod pob un o bedair rhan y Deyrnas Unedig yn dal i symud i'r un cyfeiriad yn yr un ffordd ofalus a gwyliadwrus. Yr hyn nad ydych chi eisiau ei wneud yw troi'r defnydd cyfreithlon o bwerau'r Senedd, er mwyn mireinio'r pethau hynny fel eu bod yn addas i Gymru, yn rhywbeth sy'n ymrannu fel yr oedd yr Aelod Seneddol dros yr Amwythig mor amlwg yn fwriadol yn ei wneud, neu, yn wir, yn ddryslyd. Mae'r cyngor yng Nghymru yn glir: arhoswch gartref, amddiffynnwch y GIG, achubwch fywydau. Dylai pob Aelod Seneddol fod yn dweud wrth ddinasyddion Cymru beth yw'r sefyllfa yma yng Nghymru, ac nid yw'n ddim ond dryslyd pan fo pobl yn ceisio gwneud rhywbeth gwahanol.
Yn olaf, Jack Sargeant.
[Anhyglyw.]—rhwng Cymru a Lloegr yn Alun a Glannau Dyfrdwy. Fodd bynnag, mae stryd yn fy etholaeth i o'r enw Boundary Lane, ac mae trigolion ar bob ochr i'r stryd honno yn y naill wlad neu'r llall. I'r trigolion, roedd datganiad y Prif Weinidog ddydd Sul yn achosi dryswch gwirioneddol, yn enwedig ym maes gwaith. Mae trigolion sy'n gweithio yng Nghymru yn cael eu hamddiffyn gan ddeddfau cadw pellter cymdeithasol yn y gweithle a gyflwynwyd gan eich Llywodraeth chi; nid yw hynny'n wir am y rhai hynny sy'n gweithio yn Lloegr. A wnewch chi ymuno â mi, Prif Weinidog, i alw ar Boris Johnson a Llywodraeth y DU i gyflwyno cyfreithiau a rheolau tebyg i amddiffyn fy etholwyr sy'n gweithio dros y ffin yn Lloegr?
Diolch i Jack Sargeant am hynna. Llywydd, fe wnaethom ni roi'r rheol 2 fetr yn y rheoliadau yng Nghymru i roi hyder i weithwyr, pe bydden nhw'n mynd i'r gwaith, y byddai eu cyflogwyr wedi cymryd pob cam rhesymol i warchod eu hiechyd a'u lles, ac mae'r mwyafrif helaeth o gyflogwyr yng Nghymru yn gwneud yn union hynny. Rwy'n credu bod y ffaith y bu gennym y rheol honno yn y gyfraith yma yng Nghymru dros y wythnosau diwethaf yn rhoi dechrau da i ni o ran cael pobl i fynd yn ôl i weithio gyda'r hyder sydd ei angen arnyn nhw i ddiogelu eu hiechyd a'u lles. Felly, rwy'n credu ein bod ni wedi gwneud y peth iawn. Rwy'n credu ei fod wedi helpu. Rwy'n credu y byddai'n helpu mewn rhannau eraill hefyd i gael y rheol honno yn y gyfraith, oherwydd mae'n un peth i annog pobl i wneud rhywbeth, a pheth arall i roi hyder iddyn nhw, mewn cyfnod pan fo pobl yn ofnus am eu diogelwch eu hunain a diogelwch eu teuluoedd, y gallan nhw wneud y pethau y maen nhw'n cael eu hannog i'w gwneud mewn ffordd nad yw'n eu rhoi nhw mewn perygl. Rydym ni wedi gweithio'n galed iawn yma yng Nghymru gyda'n hundebau llafur, gyda'n cyflogwyr a'n sefydliadau cyflogwyr, ac rwy'n credu bod hynny'n talu ar ei ganfed wrth alluogi dinasyddion Cymru i ddychwelyd i'r gwaith gan wybod eu bod yn ddiogel, a bod gan bobl sy'n byw yng Nghymru ac sy'n gweithio ar ochr arall ein ffin hawl i gael lefel gyfartal o sicrwydd.
Diolch i'r Prif Weinidog. Pwynt o drefn gan arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch, Llywydd. Yn gynharach heddiw, cyhoeddodd y Llywodraeth 'Profi Olrhain Diogelu', sydd, mae'n debyg, mewn gwirionedd, yn un o'r dogfennau pwysicaf y mae wedi'i chyhoeddi hyd yn hyn yn rhan o'i pholisi ynghylch y feirws. Fe'i cyhoeddwyd am 13:22, felly ni fydd yr Aelodau wedi cael y cyfle, yn amlwg, i astudio'r ddogfen—wyth tudalen o hyd—yn y manylder angenrheidiol. Hwn fydd ein hunig gyfle heddiw i graffu ar y Llywodraeth a gofyn cwestiynau i'r Gweinidog ynghylch y strategaeth hon am y saith diwrnod nesaf, felly tybed a fyddech yn ystyried, Llywydd, defnyddio'r pŵer sydd gennych chi o dan adran 12.18 o'r Rheolau Sefydlog i alw am seibiant byr o hanner awr er mwyn i Aelodau gael cyfle i ddarllen y ddogfen cyn ymateb i ddatganiad y Gweinidog Iechyd, neu, fel arall, gan ddefnyddio'r pŵer sydd gennych o dan adran 12.17, newid trefn y datganiadau heddiw fel y cawn ni ddatganiad y Gweinidog iechyd yn nes ymlaen yn y prynhawn, gan roi cyfle unwaith eto i Aelodau ddarllen y ddogfen strategaeth yn gyntaf, fel y gallan nhw ofyn cwestiynau am bolisi'r Llywodraeth gyda'r wybodaeth lawn yn eu meddiant.
Diolch am y pwynt o drefn yna. Fel y gŵyr yr Aelodau, mae hi yn arfer da dosbarthu datganiadau cyn eu cyflwyno, ac rwy'n sylweddoli bod hwn yn ddatganiad pwysig yr ydym ar fin ei glywed, ond nid wyf yn credu ei bod hi'n briodol ar hyn o bryd i ohirio'r datganiad hwnnw, felly gobeithiaf y tynnwyd sylw'r holl Aelodau gan Adam Price at y ddogfen a ddosbarthwyd am 13:22, ac rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog iechyd yn cyfeirio at hynny yn ystod y datganiad. Ond, fel y dywedais, arfer da yw rhoi cymaint o amser â phosib i Aelodau ystyried gwybodaeth bwysig.
Am y tro, felly, symudwn ymlaen at yr eitem o gwestiynau amserol, ond ni ddewiswyd cwestiynau amserol ar gyfer heddiw.
Ac yna down at yr eitem a'r datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghlych y coronafeirws, a gofynnaf i'r Gweinidog Iechyd wneud ei ddatganiad. Vaughan Gething.
Diolch, Llywydd. Bydd yr Aelodau'n gwybod fy mod wedi ymrwymo i roi diweddariadau rheolaidd am ddatblygiadau COVID-19 yma yng Nghymru. Gallwn weld o'r data, diolch byth, fod derbyniadau i'r ysbyty, nifer y bobl sydd mewn gofal critigol a nifer y bobl sydd, yn anffodus, yn dal i golli eu bywydau i'r feirws, wedi bod yn gostwng. Nid ydym ni eto'n ddigon pell ar hyd y gromlin i allu codi'r cyfyngiadau ymhellach y tu hwnt i'r camau cymedrol a gochelgar a gyhoeddodd y Prif Weinidog i'r cyhoedd ddydd Gwener, 8 Mai. Fel y clywsoch chi, cytunodd y Cabinet ar y mesurau hynny yn ddiweddarach ar ddydd Iau y seithfed.
Rhaid i ni barhau i fod yn wyliadwrus ac yn ddisgybledig o ran cefnogi'r cyfyngiadau symud fel y gallwn ni barhau i ddiogelu'r GIG a chadw pobl yn ddiogel. Rydym ni wedi bod yn glir yng Nghymru bod yn rhaid i ni adeiladu ar y gwaith da sydd wedi'i wneud hyd yma, gan aelodau o'r cyhoedd ac wrth gwrs gan ein GIG a staff gofal cymdeithasol. Mae'r neges 'Aros gartref. Diogelu’r GIG. Achub bywydau' yn dal i fod yn ganolog i'n strategaeth a'n hymagwedd ni yma yng Nghymru, a bydd yn parhau felly am y tair wythnos nesaf, o leiaf. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod bod angen cael cydbwysedd rhwng faint o niwed y mae COVID-19 yn ei achosi i ni yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol.
Cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig yr wythnos diwethaf i dynnu sylw'r Aelodau at y fframwaith gweithredu newydd a gyhoeddais i gynorthwyo sefydliadau'r GIG i ganolbwyntio a chynllunio yn chwarter 1. Disgrifiodd y fframwaith bedair lefel o niwed: niwed gan COVID-19 yn uniongyrchol ei hun; niwed yn sgil llethu'r GIG a'r system gofal cymdeithasol; niwed yn sgil lleihad mewn gweithgarwch nad yw'n gysylltiedig â COVID; a niwed yn sgil camau gweithredu cymdeithasol ehangach a allai ddeillio o'r cyfyngiadau symud.
Nawr, rwyf eisiau sôn mwy am y niwed a achosir gan leihad mewn gweithgarwch nad yw'n gysylltiedig â COVID. Mae llawer o bobl yn dal i fyw â chyflyrau difrifol ac mae angen diagnosis, triniaeth a gofal parhaus arnynt. Mae angen inni sicrhau bod gan y bobl hyn y ffydd y gallan nhw gael eu trin yn ddiogel. Mae angen iddyn nhw wybod y byddant yn parhau i gael yr un gofal ac arbenigedd ar gyfer triniaeth frys, a'i bod hi'n ddiogel dod i mewn ar gyfer triniaethau a chael diagnosis. Yn y pen draw, fodd bynnag, mae hyn yn ymwneud â thrafodaethau rhwng cleifion a'r clinigwyr a fydd yn eu trin, gyda sgyrsiau gonest ynghylch a oes materion penodol i'w hystyried. Ac, wedi gwneud hyn i gyd, gall y claf ddewis dilyn, wrth gwrs, neu beidio â dilyn y cyngor a roddir. Y gwir amdani yw bod yn rhaid taro'r cydbwysedd rhwng gofalu am bobl â COVID arnyn nhw a'r rhai nad oes COVID arnyn nhw gyda'r gofal mwyaf. Ond mae'r neges yn glir: mae'r GIG yno i chi ac mae'n parhau i gynnig gwasanaeth.
Rwyf eisiau cydnabod yn benodol y niwed a achosir gan leihad mewn gweithgarwch nad yw'n ymwneud â COVID i'r bobl hynny y mae arnyn nhw angen cymorth gan ein gwasanaethau iechyd meddwl yn ystod y pandemig. Yn ystod y cyfnod digyffelyb hwn, rhaid inni sicrhau ein bod yn trin y gwasanaethau iechyd corfforol a meddyliol yn gyfartal. Gwn fod y cyfnod o gyfyngiadau symud yn anodd i lawer o bobl, ond i rai pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl gall fod yn arbennig o heriol. I rai, bydd wedi achosi i'w cyflwr ddirywio ar adeg pan fônt wedi'u gwahanu oddi wrth eu rhwydweithiau cymorth arferol— teulu, ffrindiau ac o bosib, gwaith hefyd—a phan nad yw hi'n bosib defnyddio gwasanaethau nad ydynt yn rhai brys yn ôl yr arfer. Mewn ymateb, rydym ni wedi gweithio gyda'n partneriaid i gyflwyno amrywiaeth o fesurau i gefnogi'r rhai y gallai fod angen cymorth a sicrwydd arnyn nhw. Mae hynny'n cynnwys gwybodaeth ar-lein wedi'i theilwra a chymorth ar y ffôn.
Mae offeryn monitro iechyd meddwl yn ystod y cyfnod COVID-19 wedi cael ei ddatblygu yn y gwasanaeth er mwyn sicrhau ein bod yn cael sicrwydd yn y Llywodraeth bod gwasanaethau iechyd meddwl yn gweithredu'n ddiogel ac yn ymateb yn briodol. Mae'n ofynnol i fyrddau iechyd gyflwyno gwybodaeth fonitro bob wythnos, a chaiff hyn ei hystyried gan ein grŵp digwyddiadau iechyd meddwl. Mae'r wybodaeth yn rhoi darlun byw o gapasiti gwasanaethau iechyd meddwl i'n galluogi i weld lle mae angen cymorth, cyngor neu arweiniad ychwanegol. Er y bydd modelau gwasanaeth wedi addasu yn ystod y pandemig, mae byrddau iechyd a phartneriaid wedi dweud eu bod wedi parhau i ddiwallu anghenion iechyd meddwl yn ystod y cyfnod hwn.
Bydd sefydliadau'r GIG yn cyflwyno eu cynlluniau chwarter 1 yr wythnos nesaf, gan amlinellu sut y gallant ymgymryd â gweithgarwch nad yw'n ymwneud â COVID-19. Er mwyn cefnogi'r gwaith hwnnw, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru a'r GIG ehangach i ddatblygu cyngor sy'n seiliedig ar dair colofn gref: yr angen i ddeall lefel bresennol yr haint a chyfraddau trosglwyddo'r coronafeirws yng Nghymru; egwyddorion sy'n seiliedig ar dystiolaeth wyddonol ac sy'n mynd i'r afael â'r effeithiau cymdeithasol ac economaidd ehangach; a'r angen i brofi, olrhain a diogelu. Mae'n bleser gennyf gyhoeddi fy mod yn gynharach heddiw wedi cyhoeddi ein strategaeth 'Profi Olrhain Diogelu'. Mae'n amlinellu, dros saith tudalen a hanner, sut y byddwn yn cydweithio'n agos ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, byrddau iechyd ac awdurdodau lleol i gyflawni un o'r ymyriadau mwyaf o ran iechyd y cyhoedd mewn cenhedlaeth.
Drwy weithio gyda'n gilydd, byddwn yn gwella gwyliadwriaeth iechyd yn y gymuned, yn cynnal systemau olrhain cyswllt effeithiol ac eang, ac yn cynorthwyo pobl i ynysu eu hunain lle bo angen. I gefnogi'r gweithgarwch hwn, bydd angen rhaglen brofi ar raddfa wahanol. Rydym wedi ehangu'n sylweddol ein gallu i brofi yng Nghymru yn ystod yr wythnos ddiwethaf, gyda labordai bellach yn gallu prosesu dros 5,000 o brofion y dydd, a chyda chanolfannau profi ar agor o amgylch y wlad erbyn hyn. Byddwn yn parhau i gynyddu'r gallu hwn yng Nghymru dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf, o fewn yr ystod o 10,000 o brofion y dydd. Bydd hynny'n ein galluogi i brofi mwy o bobl sy'n aros mewn ysbytai a lleoliadau gofal, ynghyd â gweithwyr mewn lleoliadau eraill sy'n weithwyr hanfodol.
I gefnogi ein hymgyrch i brofi cyfraddau sylweddol o'r boblogaeth, byddwn yn defnyddio'r rhaglen brofi sydd ar waith ledled y DU. Nawr, mae NWIS, sef Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru, yn gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru a NHSx—sef yr uned ar y cyd sy'n dod â thimau o'r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn Llywodraeth y DU a GIG Lloegr a NHS Improvement i helpu i ddarparu gwasanaethau trawsnewid a gofal digidol yn Lloegr; nhw sy'n gyfrifol am ddatblygiad yr ap y mae pobl wedi clywed amdano ar Ynys Wyth. Gan weithio gyda Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, maen nhw'n datblygu datrysiad data fel y caiff canlyniadau profion eu hadrodd yn ôl yn electronig i Gymru bob awr, a bellach mae hynny'n golygu y gallwn ni gymryd ein cyfran o'r boblogaeth o raglen brofi'r Deyrnas Unedig. Mae'n hanfodol ein bod yn gallu integreiddio'r cofnod prawf hwn yn uniongyrchol i systemau cofnodion clinigol Cymru. Bydd cymryd rhan yn rhaglen y DU yn cynyddu nifer y profion sydd ar gael yn sylweddol ac yn caniatáu i bobl gael profion wedi eu danfon i'w cartref er mwyn iddyn nhw brofi eu hunain.
At ei gilydd, gallem ofyn am gynifer â 20,000 o brofion y dydd i gefnogi diagnosis a thriniaeth, gwyliadwriaeth iechyd y boblogaeth, olrhain cyswllt a pharhad busnesau. Bydd hynny, wrth gwrs, yn galluogi gweithwyr allweddol i ddychwelyd i'r gwaith yn gynt ac yn fwy diogel. Bydd hefyd, wrth gwrs, yn dibynnu ar hynt, nid yn unig y coronafeirws ond ar y broses o godi'r cyfyngiadau symud yn raddol a gweithgarwch pellach i aelodau'r cyhoedd. Ond mae'r nifer hwn yn dibynnu'n fawr ar ledaeniad y clefyd, cyffredinolrwydd y symptomau a'r dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg ynglŷn â sut orau y gellir defnyddio'r profion i atal heintiau pellach. Byddwn yn parhau i adolygu'r dystiolaeth honno ac addasu ein hamcangyfrifon o angen yn unol â hynny. Mae cyfuno ein capasiti ein hunain yma yng Nghymru ag un y DU yn ein rhoi mewn sefyllfa gref i brofi yn ôl yr angen.
Rhaid inni ddysgu byw gyda'r feirws sy'n cylchredeg yn ein cymunedau am fisoedd lawer i ddod. Mae mabwysiadu'r dull hwn yn ffordd i bobl gael gwybod yn gyflym bod y feirws arnyn nhw fel y gallan nhw, yn eu tro, gyfyngu ar eu cysylltiad ag eraill. Bydd hyn yn ein helpu i atal heintiau ac olrhain y feirws wrth i gyfyngiadau symud gael eu lliniaru.
Yn olaf, pobl Cymru yw ein partneriaid pwysicaf. Dim ond drwy eu parodrwydd i wneud y peth iawn—rhoi gwybod am eu symptomau, dweud â phwy y maen nhw wedi dod i gysylltiad a chymryd sylw o'r cyngor pan ddywedir wrthyn nhw i hunanynysu—y gallwn ni dorri'r gadwyn drosglwyddo. Hoffwn ddiolch i'r cyhoedd am barhau i gefnogi trefniadau'r cyfyngiadau symud. Mae ymateb y rhai o fewn y GIG, gofal cymdeithasol, plismona ac, yn wir, y cyhoedd yn gyffredinol wedi tawelu fy meddwl. Maen nhw'n cefnogi'r agwedd bwyllog a realistig yr ydym ni'n ei chymryd, ac mae wedi cael croeso eang.
Dydw i ddim yn amau am eiliad, fodd bynnag, nad yw hi'n anodd parhau â'r cyfyngiadau sydd wedi cael eu gosod. Fodd bynnag, cadw'r mesurau eithriadol hyn yn eu lle, ynghyd â'r gefnogaeth gyhoeddus eang sydd iddynt, yw'r ffactor pwysicaf o hyd o ran amddiffyn y GIG a chadw ein teulu, ein ffrindiau a'n hanwyliaid yn ddiogel. Yn fwy na hynny, mae'n gwneud y gwahaniaeth mwyaf o ran cadw pobl yn ddiogel na fyddwn ni fyth efallai yn eu hadnabod ac na chawn ni fyth efallai mo'r cyfle i'w hadnabod.
Diolch. Rwy'n hapus i gymryd cwestiynau ar y datganiad, Llywydd.
Gweinidog, hoffwn groesawu'r datganiad, ac rwyf yn falch o weld cyhoeddi'r fenter profi, olrhain a diogelu heddiw. Fodd bynnag, mae gennyf bryderon. Fel y gwyddoch chi, buaswn innau wedi sefydlu tîm penodol gydag arweinydd amlwg iawn, a byddwn yn ddiolchgar iawn pe baech yn dweud wrthyf a oes gennych chi adran neu grŵp cyfan sy'n canolbwyntio'n llythrennol ar hyn, gan ei bod hi mor bwysig ein bod ni'n profi'n briodol i sicrhau y gall bawb elwa ar hynny, i sicrhau y caiff canlyniadau profion eu darparu'n brydlon, i ddangos bod gan bawb yr un uchelgais a thargedau.
Fel y clywsom ni o'r dystiolaeth anhrefnus iawn a roddwyd i ni gan bennaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru, roedd gwahaniaeth pendant rhwng targedau Llywodraeth Cymru ac uchelgais Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae angen i ni sicrhau bod gallu priodol gan y labordai i sicrhau y rhoddir y data a'r canlyniadau i'r bobl gywir. Ac mae angen hyn i gyd arnom ni oherwydd mae angen i ni godi'r cyfyngiadau symud yn ddiogel. Felly, a ydych chi'n ffyddiog y gall Iechyd Cyhoeddus Cymru reoli'r rhaglen profi, olrhain a diogelu?
Eich uchelgais i gael 10,000 o brofion—dydych chi ddim yn dweud erbyn pryd; nid yw ond yn dweud 'dros wythnosau a misoedd'. A yw hyn yn darged gwirioneddol, ac a yw'n darged y mae'r holl bobl sy'n gweithio yn y gwasanaethau iechyd yn ymgyrraedd tuag ato?
O ran y gwaith y mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ei wneud i gadw golwg ar iechyd bobl, a ydych chi'n ffyddiog y bydd modd gwneud hyn mewn ffordd gywir o ystyried y problemau a gawsom ni dros yr wythnosau diwethaf gyda'r data y mae byrddau iechyd wedi bod yn eu rhyddhau?
O ran yr elfen olrhain cyswllt, a ydych chi wedi meddwl mwy am faint o bobl y byddai eu hangen i wneud hyn? Rydych chi'n sôn am 1,000 a sylwaf fod yr Alban eisiau tua 2,000 ar gyfer poblogaeth o 5.5 miliwn o'i gymharu â'n 3 miliwn ni. Ai ar hyn yr ydych chi yn ei seilio? Byddai gennyf ddiddordeb gwybod hynny, oherwydd gwyddom mor anodd yw cael pobl i'r swyddogaethau cywir.
Ac a ydych chi'n wirioneddol ffyddiog y gall Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru, nid o reidrwydd y sefydliad gorau yn y byd, ddarparu un cyfrwng digidol ar gyfer olrhain cyswllt yn yr amser sydd ei angen? A allwch chi ddweud wrthym ni nawr, ar ôl ichi ddechrau olrhain agosatrwydd, y bydd y dilyniant ar ôl yr olrhain agosatrwydd yr un fath?
Ac yn olaf, yn y gyfres hon o gwestiynau, a gaf i ofyn am yr elfen ddiogelu? Rydych chi'n sôn am bobl yn gorfod hunanynysu efallai sawl gwaith. Rwy'n deall hynny'n llwyr a'r rhesymau pam, ond pa gymorth a fydd ar gael ar gyfer y bobl hynny, oherwydd os oes ganddyn nhw gyfrifoldebau gofalu, plant yn ceisio mynd i'r ysgol, os ydyn nhw'n byw mewn amgylchedd fel bloc mawr o fflatiau, efallai y gofynnir iddyn nhw yn gyson i hunanynysu, a bydd hyn yn niweidio eu hiechyd meddwl yn fwy eto?
Diolch i Angela Burns am y gyfres o gwestiynau. Ceisiaf eu hateb i gyd yn fyr. Oes, mae gennym ni gyfarwyddwr, uwch was sifil, sydd â'r grym i oruchwylio, nid yn unig o fewn y Llywodraeth ond mae angen i Lywodraeth Cymru gydlynu ac arwain y system i sicrhau bod y rhaglen profi, olrhain, diogelu yn gweithio mewn gwirionedd a bod pawb yn ymrwymo iddi ac yn deall y swyddogaethau a'r cyfrifoldebau amrywiol a fydd gan wahanol rannau ein system.
Felly, mae hynny'n mynd i ddwyn ynghyd nid yn unig Iechyd Cyhoeddus Cymru, ond ein hymddiriedolaethau eraill, ein byrddau iechyd a llywodraeth leol, ac mae hynny'n gweithio'n dda. Rwyf wedi fy nghalonogi'n fawr gan y ffordd y mae byrddau iechyd a llywodraeth leol wedi bod yn gweithio gyda'i gilydd ar y cam cynllunio ar gyfer symud ymlaen a chyflawni'r rhaglen hon. Ond ni fydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rheoli'r rhaglen gyfan. Maen nhw wedi darparu llawer o'r syniadau a pheth o'r trosolwg clinigol. Maen nhw wedi darparu'r dystiolaeth o ran iechyd y cyhoedd am yr hyn y mae angen i ni ei wneud yn gyffredinol. Dyma'r agwedd weithredol nawr, ac nid nhw fydd yn arwain agwedd weithredol y system. Dyna eto pam yr ydym wedi gofyn i uwch was sifil arwain hynny, i fod yn gyfrifol am hynny ac, wrth gwrs, fi yn y pendraw sy'n goruchwylio yr hyn sy'n digwydd.
O ran yr oddeutu 10,000 o brofion yr ydym yn disgwyl eu cael, rwyf eisiau i'r rheini fod ar gael erbyn diwedd mis Mai. Mae hynny wedi'i nodi yn y ddogfen 'Profi Olrhain Diogelu'. Dyna pryd yr wyf eisiau i ni gael y math hwnnw o allu. Fel y dywedaf, mae hynny'n gyfuniad o'r gallu sydd gennym ni eisoes yng Nghymru ynghyd â chyfran o'r trefniadau ar gyfer y DU gyfan. Felly, rwy'n bur ffyddiog y bydd hynny ar waith erbyn diwedd mis Mai, pan fyddwn ni eisiau cyflwyno hyn ar sail ehangach.
Ond bydd ein defnydd o'r profion hynny, wrth gwrs, yn dibynnu ar le yr ydym ni arni o ran faint y mae'r cyhoedd yn symud o gwmpas. Os oes llacio pellach ar y cyfyngiadau symud a phobl yn symud yn fwy rhydd, mae'n bosib y bydd mwy o gyswllt, hyd yn oed gyda'r rheolau cadw pellter cymdeithasol ar waith. Felly, ar bob cam, efallai y bydd angen mwy o brofion arnom ni, ac yn enwedig wrth inni gyrraedd cyfnod yr hydref pan fydd y ffliw ac annwyd a mathau eraill o salwch sy'n aml yn debyg i symptomau coronafeirws yn cylchredeg yn ehangach hefyd. Dyna pryd y mae'n rhaid i ni ragdybio a rhagweld newid yn y galw.
Daw hynny'n ôl at eich sylw am staff hefyd, oherwydd mae'r ffigur cychwynnol yn y ddogfen o 1,000 o staff yn dod o gynlluniau y mae byrddau iechyd a llywodraeth leol eisoes yn cydweithio arnynt, ac rwy'n ddiolchgar iawn am y ffordd y mae'r awdurdodau lleol ar draws Cymru, o wahanol deyrngarwch gwleidyddol, wedi gweithio gyda byrddau iechyd ar gynllunio ar gyfer hyn. Rydym ni'n defnyddio'r adnoddau sy'n bodoli mewn llywodraeth leol—y staff nad ydyn nhw o anghenraid yn gweithio. Mae rhai ohonyn nhw eisiau mwy o bethau i'w gwneud ac mae hwn yn faes lle gallwn ni helpu'r bobl hynny i weithio, a chynnwys pobl yn eu cartrefi eu hunain yn dibynnu ar yr ateb digidol.
Felly, dyna'r sylw cychwynnol, ond, unwaith eto, efallai na fydd angen 1,000 o bobl yn aros am alwadau ar 1 Mehefin arnom ni, ond dyna'r ffigur yr ydym wedi ei nodi gyda'r math o niferoedd staff y bydd eu hangen arnom ni. Ac rydych chi'n iawn—mae'n amcan bras o'r niferoedd yn yr Alban, ond bydd yn rhaid i ni farnu'r dystiolaeth ar hyd a lled y rhaglen a'r hyn y byddwn ni ei angen a pha un a oes angen mwy o bobl arnom ni. Mae honno'n sgwrs weithredol y mae llywodraeth leol, y gwasanaeth iechyd ac, yn wir, fy swyddogion yn ei chael.
O ran eich sylw am Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru, nid yw'r gwasanaeth yn bwriadu adeiladu ei systemau ei hun o fewn ychydig wythnosau; mae'n ymwneud mewn gwirionedd â'r hyn y maen nhw'n ei gaffael a'r gwaith y maen nhw'n helpu i arwain arno, ond i sicrhau bod y system ddigidol honno'n gweithio ac yn gallu integreiddio â systemau eraill sydd gennym ni yng Nghymru. Felly, mae ganddyn nhw swyddogaeth bwysig iawn yn ein helpu i wneud hynny'n iawn.
Mae hi hefyd yn bwysig, rwy'n credu, i gydnabod yr hyn a ddywedais yn gynharach am raglen brofi Llywodraeth y DU. Rydym ni bellach mewn sefyllfa lle mae'r materion trosglwyddo data yn cael eu datrys, ac mae hynny'n rhoi llawer mwy o gysur i mi, oherwydd o'r blaen gallem fod wedi cael profion ond heb ddeall beth oedd y canlyniadau, felly bydden nhw wedi bod yn gyfyngedig iawn, iawn o ran eu defnyddioldeb. Rydym ni bellach mewn sefyllfa well o lawer, ac felly bydd hynny'n ddefnyddiol.
Mae gennym yr un problemau gyda'r ap NHSX sy'n cael ei ddatblygu hefyd, oherwydd os yw'n gweithio, os byddwn yn datrys yr holl faterion preifatrwydd ynglŷn â phwy sy'n berchen ar y data a sut y caiff hynny ei ddatrys—ac rwy'n credu ein bod yn weddol agos ati yn hynny o beth, yna, byddwn eisiau i Gymru allu manteisio ar hynny, ond, unwaith eto, sicrhau y caiff y problemau trosglwyddo data hynny eu datrys.
O ran y sgwrs â llywodraeth leol a'r sector gwirfoddol ehangach am gefnogi pobl, mae honno yn sgwrs yr ydym yn ei dechrau. Rwyf wedi cael cyfres adeiladol iawn o sgyrsiau cyflym—ac mae hwn yn ddatblygiad polisi cyflym iawn, ynghyd â'r gwaith o'i roi ar waith, yr ydym yn ymdrin ag ef—ond maen nhw yn cydnabod, fel y gwnawn ni, os bydd gennym ni grŵp o bobl sy'n cael eu cefnogi nawr, a'u bod yn cylchredeg yn ehangach, yn gwneud mwy o bethau yn y dyfodol, os byddwn ni wedyn yn gofyn iddyn nhw hunanynysu eto, bydd angen eu cefnogi. Bydd angen i ni gael timau symudol i gynorthwyo'r bobl hynny y gall fod angen iddyn nhw ynysu fwy nag unwaith. Ond mae diben hyn yn wirioneddol bwysig. Mae niwed yn cael ei achosi drwy'r cyfyngiadau symud, a bydd niwed posib yn cael ei achosi os byddwn yn gofyn i bobl hunanynysu eto yn y dyfodol. Ond mae a wnelo hynny â chydbwyso'r niwed hwnnw, ac fel y clywsoch chi yn natganiad a chwestiynau'r Prif Weinidog wedyn, os aiff y gwerth R i fyny i 1.1 dros gyfnod o dri mis, dyna filoedd o farwolaethau ychwanegol a fydd yn digwydd yng Nghymru, a rhaid inni gadw mewn cof y cydbwysedd anodd y mae'n rhaid i ni ei tharo. Ond yn sicr, ni fyddaf yn cymryd agwedd ddi-hid a allai beryglu bywydau miloedd o ddinasyddion Cymru, a byddaf wrth gwrs yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau.
Diolch am hynna. Felly, dim ond er mwyn eglurder, rwyf eisiau cadarnhau mai'r nifer yw 10,000 o brofion erbyn diwedd Mai, oherwydd dywed eich dogfen:
Byddwn yn parhau i gynyddu'r gallu hwn dros yr wythnosau a'r misoedd i ddod, o bosibl i gynifer â 10,000 o brofion y dydd,
ac rwy'n credu bod angen yr eglurder hwnnw arnom ni, o ystyried y llanast yr ydym ni wedi'i weld dros yr wythnosau diwethaf.
Hoffwn droi yn gyflym at achosion o niwed nad ydynt yn gysylltiedig â COVID, ac yn enwedig at ddiagnosis a thrin cyflyrau critigol fel canser. Rydych chi'n sôn am achosion o niwed nad ydynt yn gysylltiedig â COVID yn eich datganiad. Nawr, roeddem ni eisoes ar ei hôl hi ar gynifer o agweddau cyn y pandemig. Mae pobl yn cysylltu â mi oherwydd bod angen triniaeth ymchwiliol arnyn nhw, ni allan nhw ei chael, maen nhw'n meddwl bod canser arnyn nhw, neu maen nhw wedi cael gwybod efallai bod canser arnyn nhw. Maen nhw'n poeni'n fawr, ac maen nhw'n gweld bod ysbytai dan lai o bwysau nag yr oeddem ni i gyd yn credu y bydden nhw, ac felly mae'r bobl hyn yn dioddef poen meddwl dirdynnol, ddim yn siŵr beth sy'n digwydd a phryd y gallan nhw gael y driniaeth honno.
Deallaf fod y byrddau iechyd yn gweithio ar hyn, ond pryd fydd y gwasanaethau'n dechrau? A allwch chi roi amserlen fras inni? A ydym yn siarad am ychydig wythnosau neu ychydig o fisoedd? Ac a allwn ni ailgychwyn y rhaglen sgrinio, megis ar gyfer canser y fron, gan nad yw hynny'n digwydd mewn ysbytai—uned symudol yw honno? A allwn ni ddefnyddio unedau symudol sefydliadau fel Tenovus i roi a gweinyddu triniaethau mewn gwirionedd? Oherwydd, unwaith eto, dylai'r mathau hynny o feysydd fod yn hawdd eu cadw fel parthau gwyrdd. Pa gynlluniau sydd gennych chi i ymdopi â'r gwaith sydd wedi cronni, a sut ydych chi'n bwriadu ymgysylltu â'r cyhoedd i sicrhau eu bod yn dychwelyd at y gwasanaethau hanfodol hyn i gael y driniaeth y mae ei hangen yn ddirfawr arnyn nhw?
Ie. Diolch am y cwestiynau dilynol. O ran canser, a dweud y gwir, roedd gennym ni amseroedd aros gwell o'u cymharu â Lloegr cyn cyflwyno'r cyfyngiadau symud, ac, wrth gwrs, byddem ni hefyd wedi cyflwyno'r llwybr canser sengl newydd, sy'n fesur mwy gonest o'r amseroedd aros yn y system, ac fe groesawyd hynny yn eang gan glinigwyr a'r trydydd sector fu'n ymgyrchu am hynny. Felly, mewn gwirionedd, o ran canser, rydym ni mewn gwell sefyllfa, mewn cymhariaeth, mewn llawer o ffyrdd na thros y ffin yn Lloegr, yn enwedig o ystyried y ffaith, fel gwlad dlotach gyda mwy o bobl oedrannus, y byddech fel arfer yn disgwyl i ganlyniadau canser fod yn dra gwahanol ac yn fwy anffafriol yng Nghymru. Felly, mewn gwirionedd, roeddem ni mewn gwell sefyllfa ar y dechrau, ond nid wyf eisiau colli golwg ar y ffaith bod rhai pobl nad ydyn nhw yn dod i'n gwasanaethau canser, hyd yn oed pan fo angen dybryd. Nid yw gwasanaethau canser byth yn dod i ben. Nid yw'r angen brys byth yn peidio. Yr hyn yr ydym ni wedi'i weld, fodd bynnag, yw gostyngiad mewn rhai o'r atgyfeiriadau a gostyngiad yn nifer y bobl sy'n mynychu, ac mae hynny'n ddewis y mae pobl yn ei wneud. Rwyf wedi cael sgyrsiau gyda chadeiryddion a phrif weithredwyr y GIG, ac mae eu clinigwyr wedi mynd ati i siarad â phobl i geisio tawelu eu meddyliau drwy bwysleisio bod y system yn ddiogel i'w trin nhw, ond mae pobl yn dal i ofni ac yn oedi neu'n gohirio eu triniaethau eu hunain. Nawr, mae hynny'n rhan o'r sylw ynglŷn â bod eisiau parhau i dawelu meddyliau'r cyhoedd ein bod yn gwneud y gwaith hwn, rydym ni eisiau i bobl ddod, ac, wrth ailgychwyn ein system yn ehangach, gan gynnwys y gwasanaeth sgrinio y mae ystyriaeth ddwys i'w ailgychwyn ar hyn o bryd, mae pethau yr wyf yn chwilio amdanynt, yn union fel y mae'r Aelodau hefyd, oherwydd yr anghenion gofal brys hynny sydd wedi eu gohirio dros gyfnod o amser, wel, mae hynny'n creu'r angen nad yw'n cilio ohono'i hun.
Dyna pam y bydd y cynlluniau gweithredu ar gyfer y chwarter cyntaf yn bwysig, ac rwy'n llwyr ddisgwyl rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr a'r pwyllgor eto am y cynlluniau hynny wrth iddynt gael eu datblygu, oherwydd, o ran cydbwysedd y niwed, rhai o'r pethau yr wyf wedi bod yn arbennig o ymwybodol ohonyn nhw ac yn pryderu amdanyn nhw dros yr wythnosau diwethaf yw'r ffigurau a'r wybodaeth a welsom ni.
Felly, gallaf eich sicrhau'n glir iawn nad yw gwasanaethau gofal canser brys wedi dod i ben; maen nhw'n dal ar gael heddiw. Rydym ni eisiau i bobl eu defnyddio, ond mae angen inni feithrin hyder y cyhoedd i'w defnyddio, sef sylw olaf Angela Burns rwy'n credu, a dyna pam yr wyf yn credu y bydd datganiadau gennyf fi, gan Brif Weithredwr GIG Cymru ac, yn wir, gan glinigwyr ledled y wlad yn annog pobl i ddefnyddio ein gwasanaethau, yn bwysig iawn mewn ffordd gyson i ailennyn hyder y cyhoedd, i wneud yn siŵr y gall y driniaeth hon wneud gwahaniaeth mewn gwirionedd o ran cyfyngu ar niwed yn y dyfodol, a bod gan bobl yr hyder i ddod i'w defnyddio, oherwydd mae'r GIG, fel y dywedais yn fy natganiad, yn parhau i weithredu.
Hoffwn ddechrau gyda'r ddogfen 'Profi Olrhain Diogelu' a diolch i'r Gweinidog am ei chyhoeddi. Mae'n ddefnyddiol gan ei bod yn ychwanegu at ein gwybodaeth am yr hyn y mae'r Llywodraeth yn ceisio ei gyflawni, ond rwy'n credu ei bod hi'n hen bryd cael cynllun manwl ar gyfer profi, olrhain ac ynysu, ac rwy'n credu ei bod fel yna o hyd, yn anffodus. Yr hyn sydd gennym ni yn y fan yma yn bennaf yw datganiad o egwyddor na fyddai llawer yn anghytuno ag ef, mewn gwirionedd: bod cael strategaeth profi ac olrhain yn hanfodol yn y frwydr yn erbyn y coronafeirws ac y bydd angen dod â llawer o wahanol bartneriaid at ei gilydd i'w chyflawni.
Rydym ni i gyd, siawns, yn gobeithio gallu dechrau symud tuag at godi'r cyfyngiadau'n sylweddol yn y dyfodol gweddol agos. Dyna'r hyn yr ydym ni i gyd yn gobeithio amdano, ond ni allwn ni ddechrau meddwl am godi'r cyfyngiadau symud cyn bod gennym ni gynllun profi ac olrhain cadarn, a dydw i ddim yn credu y gellir disgrifio hwn fel dim byd tebyg i gynllun cadarn, cynhwysfawr na manwl, felly rydym ni'n aros am hwnnw.
Mae'r ddogfen yn sôn, fel y clywsom ni, o bosib, am yr angen am 10,000 o brofion y dydd—mae'n glir ynghylch hynny—ddwywaith y gallu presennol y gwyddom ei fod wedi cymryd amser maith i'w gyrraedd, ac eto mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn awgrymu bod ystod y nifer o bobl â symptomau y mae'n bosib y bydd yn rhaid i chi eu profi rhwng 7,500 a 17,000. Heb os nac oni bai at hynny y dylem ni fod yn anelu. Mae cyfeiriad at 20,000 yn ddiweddarach yn y papur, ond mae'n aneglur iawn o'r ddogfen at beth y mae hynny'n cyfeirio. Rwy'n credu efallai i chi wneud hynny ychydig yn gliriach yn eich datganiad llafar, ond, o ran y ddogfen ei hun, mae'n aneglur iawn.
Nid yw'n ymwneud â'r niferoedd yn unig, mae'n ymwneud â sut yr ydych chi'n prosesu'r profion hynny ac yn mynd ati i olrhain. Rydych chi'n sôn am y gallu i gael prawf yn gyflym ac yn rhwydd. Pa mor gyflym—pa mor gyflym y mae angen iddo fod er mwyn bod yn effeithiol? Pa mor hawdd fydd hi i'n holl gymunedau elwa ar hyn, o gofio mai dim ond nifer penodol o ganolfannau profi torfol sydd gennym ni?
Nid yw strategaeth, yn y pen draw, ond cystal â'r cynllun gweithredu y mae angen inni ei roi ar waith, ac nid oes cynllun manwl yma y gallaf ei weld i roi'r egwyddorion sydd eisoes yn cael eu derbyn yn gyffredinol ar waith. Felly, pryd y gallwn ni ddisgwyl y strategaeth honno y mae'n rhaid inni ei throi yn rhywbeth a all ein paratoi ni i godi cyfyngiadau mewn gwirionedd, nid dim ond siarad am hynny mewn termau haniaethol?
O ran y ddogfen strategaeth, mae'n debyg i'r ddogfen strategaeth a gyhoeddwyd gan yr Alban, yn yr ystyr ei bod yn ddogfen strategaeth i'r cyhoedd i roi esboniad o'r strategaeth y byddwn yn ei dilyn, ynglŷn â beth yr ydym yn ei ofyn gan y cyhoedd a sut y mae ein system gyfan yn paratoi i gyflawni hynny. Wrth gwrs, bydd cynllun gweithredol manwl sy'n cael ei ddatblygu rhwng gwahanol rannau o'n gwasanaeth, a byddwn yn dysgu mwy am hynny oherwydd, ar ryw adeg yn ystod yr wythnos nesaf, bydd gennym ni fyrddau iechyd a rhai o'u hawdurdodau lleol partner yn awyddus i arbrofi gyda rhywfaint o elfen olrhain cyswllt y cynllun, gan ganolbwyntio'n benodol ar y sector cartrefi gofal. Bydd llawer i'w ddysgu o hynny. Rwy'n disgwyl cael cadarnhad o'r ardaloedd arbrofi penodol, os mynnwch chi, mewn gwahanol rannau o'r wlad sy'n mynd i symud ymlaen. Daw hynny eto o'r gwaith y mae'r byrddau iechyd a'r awdurdodau lleol yn ei wneud eu hunain. Bydd llawer o ddysgu dros y cyfnod prawf hwnnw cyn inni gyrraedd diwedd mis Mai, nid yn unig yn yr ardaloedd arbrofi hynny, ond i rannu'n fwriadol ar draws gweddill y wlad.
Felly, yn wir, mewn cyfnod byr iawn o amser, rydym ni wedi cael llawer iawn o ddatblygu, a chynnydd gwirioneddol. Bydd gennym ni arbrawf a fydd yn dechrau mewn gwahanol ardaloedd yr wythnos nesaf, byddwn yn dysgu o hynny, ac, wrth gwrs, rwy'n disgwyl y bydd hynny'n wir nid yn unig o ran cadarnhau pwy sy'n cynnal arbrofion, ond wedyn dysgu o'r rheini wrth inni baratoi tuag at weithredu'r cynllun gweithredol mwy manwl hwnnw—felly, yr holl fanylion am y sgriptiau y bydd angen i'r olrheinwyr eu defnyddio, a'r manylion y gallwch chi ddisgwyl eu gweld yn y dogfennau hynny sydd ar gael yn y gwasanaeth i fynd gyda'r hyfforddiant i bobl. Fodd bynnag, mae'r ddogfen hon yn ddogfen gyhoeddus sy'n dweud, 'Dyma fydd ein strategaeth. Dyma'r dull gweithredu. Dyma fwy o'r manylion yn dilyn yr adroddiad drafft a ddatgelwyd yn answyddogol a drafodwyd gan bobl. Mae gennym ni bellach fwy o ddealltwriaeth a gwybodaeth ymhob rhan o'n system gyfan o'r hyn sydd ei angen a sut y byddwn yn mynd ati i wneud hynny.'
O ran eich sylw am fynediad lleol, dyna pam y mae gennym ni unedau profi symudol a dyna pam hefyd mae ein gallu nawr i wneud defnydd priodol o'r gwasanaeth profi cartrefi yn bwysig iawn. Mae'n cael ei arwain gan y DU, ond mae pob gwlad yn y DU wedi cytuno i ddefnyddio'r gwasanaeth profi yn y cartref hwnnw, a bydd hynny'n golygu y bydd gennym ni mwy o bresenoldeb mewn ardaloedd anghysbell o'r wlad—ac maen nhw'n bodoli yn y Gymru wledig, lled-wledig a threfol hefyd. Felly, mae hynny'n gam pwysig iawn ymlaen, ac, unwaith eto, mae'r sylw a wneuthum yn fy natganiad yn wirioneddol bwysig—bydd bod â'r gallu i drosglwyddo canlyniadau'r bobl hynny i'r cofnod clinigol er mwyn gwneud y defnydd gorau ohono rwy'n credu yn wirioneddol bwysig. Wrth gwrs, bydd hynny'n gwneud mwy o wahaniaeth pan fydd gennym ni brawf gwrthgyrff dibynadwy a'n bod ni'n gallu defnyddio hwnnw yn ein system.
Dwi'n falch bod y Gweinidog wedi crybwyll y sector gofal yn fanna, a dwi am droi rŵan at gartrefi gofal. Mae'n bryder gwirioneddol gen i nad oes camau cryfach yn cael eu cymryd i warchod y sector yma, sydd wrth gwrs yn wynebu risg mor uchel. Mi fydd y Gweinidog yn gwybod fy mod i o'r farn bod angen i'r Llywodraeth gael cynllun i ymestyn profi asymptomatig i gynnwys pob cartref gofal, beth bynnag ei faint. Mae'r dystiolaeth yn gryf iawn ar hynny.
Ond mae eisiau edrych ar sut i gau'r drws i'r feirws gyrraedd y cartrefi yn y lle cyntaf, dwi'n meddwl. Dwi'n dal i gael pobl yn dweud wrthyf i yn y sector gofal eu bod nhw'n hynod bryderus am bobl sy'n cael eu rhyddhau o'r ysbyty ar ôl triniaeth i gartref gofal, efo'r posibilrwydd, wrth gwrs, o ddod â'r feirws efo nhw. Mae yna dynhau ar y profi sy'n digwydd. Mae'n rhyfeddol nad oes yna brofi awtomatig o'r dechrau ar bobl oedd yn cael eu rhyddhau o ysbytai i gartref, ond mae eisiau mwy na hynny. Fyddai'r Gweinidog yn cytuno â fi fod angen rhoi camau mewn lle er mwyn sicrhau mur, cwarantin os liciwch chi, rhwng yr ardal honno a allai fod yn risg, sef ysbyty, a'r cartref gofal—o bosibl rhoi saith diwrnod o gwarantin i berson cyn mynd yn ôl i'r cartref gofal, mewn rhan werdd o ysbyty, mewn gwesty hyd yn oed, er mwyn gwneud yn siŵr ein bod ni'n cau'r drws gymaint ag y gallwn ni i'r risg o'r feirws yn cyrraedd cartref gofal, achos rydym ni'n gwybod yn iawn beth ydy'r peryglon unwaith mae hynny'n digwydd?
Diolch. Fel y dywedais o'r blaen, ac mae'n debyg y bydd gennyf gyfle i ddweud hyn ar bob un achlysur pan ddof yma, pan fydd y dystiolaeth yn newid, os bydd y cyngor yn newid, mae'r Llywodraeth yn hapus i ailystyried ei safbwynt ar unrhyw un o'r meysydd gweithgaredd yr ydym yn ymgymryd â nhw. Mae hynny'n cynnwys y sylfaen dystiolaeth sy'n datblygu ar brofi pobl heb symptomau mewn cartrefi gofal. Fe gofiwch i ni newid ein polisi ar brofi yn y maes cartrefi gofal yn ei gyfanrwydd rai wythnosau yn ôl ar gyfer ardaloedd lle'r oedd achos wedi ei gadarnhau neu achos tybiedig lle'r oedd symptomau gan rywun, felly byddwn yn dysgu mwy o hynny am brofi pobl heb symptomau, yr achosion tebygol a hefyd y gwerth yn y ffordd yr ydym yn defnyddio ein hadnodd profi, a'r gwerth yr ydym yn disgwyl ei gael o hynny. Mae'n bwysig iawn deall sut yr ydym yn defnyddio hynny yn y ffordd orau i gadw cymaint o bobl yn ddiogel, yn iach ac yn fyw ag y bo modd. Felly, unwaith eto, os yw'r dystiolaeth yn newid, yna rwy'n fodlon newid pethau, ac yn sicr nid fy mwriad yw bod yn ystyfnig a gwrthod ildio ar unrhyw un o'r materion hyn, oherwydd mae'n rhaid i'r cyfan ymwneud â'r flaenoriaeth a'r diben mawr, sy'n ymwneud â chadw pobl yn fyw ac yn iach.
O ran rhyddhau cleifion o'r ysbyty, rydym ni wedi cyflwyno polisi lle y dylid profi cleifion yn yr ysbyty cyn eu rhyddhau i gartref gofal. Os yw Aelodau unrhyw grŵp yn ymwybodol o rywle lle credant nad yw hynny'n digwydd, neu fod ganddyn nhw achosion o bobl sydd wedi dod atyn nhw, dylen nhw drafod hynny gyda'r bwrdd iechyd i ddechrau, ond os nad oes yna ymateb priodol, yna ar bob cyfrif cysylltwch â'm swyddfa i, oherwydd byddwn eisiau gwybod os nad yw'r materion hynny'n cael sylw yn unol â'r penderfyniad gweinidogol ar hyn yr wyf eisoes wedi'i wneud a'i gyfleu.
Mae'r sylwadau am gwarantîn braidd yn anoddach oherwydd, unwaith eto, mae arnom ni angen sylfaen dystiolaeth ynghylch beth yw gwerth hynny. Bydd yr aelod ac eraill yn gwybod nad yw'r ymadrodd 'cwarantîn' yn ddefnyddiol, yn ôl pob tebyg, ond deallaf yr hyn y mae'r Aelod yn ceisio'i gyfleu. Ond os ydych chi'n mynd i gadw pobl yn rhywle, lle fydd hynny? A ydych yn dal i wneud yn siŵr bod pobl yn cael symud, oherwydd fe achosir niwed gwirioneddol pan gaiff pobl eu cadw mewn amgylchedd amhriodol, lle nad yw ysbyty bellach yn lle priodol i rywun, yn enwedig pobl hŷn, yna gellir achosi niwed gwirioneddol, nid yn unig heintiau a ddelir wrth gael gofal iechyd ond hefyd y broses o ddatgyflyru corfforol.
Pan fyddwn yn sôn am y niwed sy'n cael ei achosi, yr hyn nad ydym ni eisiau ei wneud yw anwybyddu'r niwed y gellir ei achosi mewn gwirionedd a'r niwed cymdeithasol ehangach a all gael ei achosi gan bobl yn datgyflyru'n gorfforol ac yn colli eu hannibyniaeth hefyd. Yr hyn nad wyf eisiau ei wneud yw llenwi pob un o'n hysbytai maes fel canolfannau lle caiff pobl eu cadw cyn mynd yn ôl i'r sector cartrefi gofal. Rydym ni wedi cael sgwrs genedlaethol drwyadl ynghylch sut yr ydym yn defnyddio'r gallu hwnnw. Yr hyn na fyddwn i eisiau ei weld yw cynnydd pellach o bosib yn y coronafeirws ym mis Medi, gyda'n hysbytai maes yn llawn o bobl bryd hynny a allai ac a ddylai fod mewn cartrefi gofal.
Mae angen inni ddeall y dystiolaeth, mae angen inni gael sgwrs gyda phob rhan o'n system, ac mae hynny'n cynnwys llywodraeth leol a phobl fel Fforwm Gofal Cymru, sy'n cynrychioli llawer o bobl yn y sector cartrefi gofal, er mwyn deall beth yw'r ateb cywir, sut yr ydym yn magu ffydd yn y system, sut yr ydym yn deall y gwahanol niwed y gellir ei achosi drwy wneud dewisiadau gwahanol. Felly, nid ymateb drws caeedig mohono, ond rwy'n credu bod yn rhaid i ni feddwl ynghylch beth fydd natur y dystiolaeth honno, ac rwyf eisoes wedi gofyn i'r maes iechyd ac i lywodraeth leol ddod at ei gilydd i drafod, ac yna i gynnwys ein cydweithwyr yn Fforwm Gofal Cymru i ddeall beth fydd union natur hynny.
Gweinidog, nos Lun, gwyliodd llawer ohonom ni weithredoedd arwrol staff yr uned gofal dwys yn Ysbyty Brenhinol Gwent wrth iddyn nhw ymladd i achub bywydau'r rhai a heintiwyd â COVID-19. Roedd yn wirioneddol dorcalonnus ac yn codi'r galon ar yr un pryd. Roedd yn amlygu erchylldra llwyr y clefyd a thynnodd sylw at gymaint yw gofal a thosturi'r holl staff sy'n gweithio yn ein hadrannau gofal critigol. Ni allwn ni ddiolch digon iddyn nhw. Aethant drwy uffern i achub bywydau, a'r lleiaf y gallwn ni ei wneud nawr fel corff cyhoeddus yw glynu wrth reolau cadw pellter cymdeithasol. Gweinidog, diolch byth, mae'n ymddangos ein bod ni dros y gwaethaf o'r achosion ac, yn ôl y diweddariad modelu a ddarparwyd gan y gell ymgynghorol dechnegol, mae nifer yr achosion yn haneru bob 10 diwrnod neu fwy. Fodd bynnag, mae hanes yn dweud wrthym ni fod achosion o pandemig yn dod mewn tonnau. Gweinidog, roeddem yn druenus o amharod ar gyfer y don gyntaf. Nid bai neb oedd hynny, ond mae'n rhaid inni ddysgu gwersi. Felly beth ydych chi'n ei wneud i sicrhau ein bod yn gwbl barod ar gyfer achosion o'r pandemig hwn neu unrhyw bandemig arall yn y dyfodol?
Rhaid inni sicrhau hefyd nad ydym yn ymestyn yr achosion presennol. Cysylltodd etholwr â mi ddoe y cafodd ei fam oedrannus ei hanfon adref ar ôl cael gwybod ei bod hi'n debygol bod ganddi coronafeirws. Anfonwyd y wraig hon adref i ledaenu'r haint i'w theulu a'i gofalwyr. Mae fy etholwr yn dal yn sâl iawn ac yn 79 oed. Gweinidog, pam nad ydym yn profi pawb sy'n gadael yr ysbyty i sicrhau nad ydym yn ychwanegu at gyfraddau heintio?
Gweinidog, mae tystiolaeth yn dod i'r amlwg o gydberthynas gref rhwng diffyg fitamin D a chyfraddau marwolaeth COVID-19. O ystyried hyn, a'r dystiolaeth bod y peryg o ledaenu'r feirws yn llawer llai yn yr awyr agored, oni ddylem ni fod yn annog pobl i dreulio mwy o amser yn yr awyr agored, ar yr amod eu bod yn glynu wrth y rheolau cadw pellter cymdeithasol, gan gofio nad oes gan bob teulu ardd i blant chwarae ynddi, a chan gydnabod ar yr un pryd y cynnydd yn nifer yr achosion yn yr Almaen ar ôl llacio rhai o'r cyfyngiadau.
Gweinidog, rhaid inni fynd ati mewn modd sy'n hollol gytbwys, ac mae'n rhaid rhoi'r niwed a ddaw yn sgil y coronafeirws yn y glorian gyda'r niwed a ddaw yn sgil gorchmynion caeth i aros gartref. Felly, a allwch chi roi sicrwydd i ni y bydd mynd i'r afael â'r niwed sy'n gysylltiedig ag unigrwydd a theimlo'n ynysig yn ffactor allweddol yn null Llywodraeth Cymru o weithredu, wrth symud ymlaen? A wnewch chi hefyd amlinellu amserlen ar gyfer pryd y bydd ein GIG yn cynnig gwasanaeth i bob claf, ac nid y rhai â salwch sy'n bygwth bywyd yn unig?
Ac, fel erioed, diolch i chi a'ch adran am yr holl ymdrechion yn y frwydr yn erbyn y coronafeirws. Diolch yn fawr.
Diolch am y cwestiynau. Ceisiaf eu hateb mor gyflym ag y gallaf, Llywydd. O ran paratoadau ar gyfer pandemig, bydd gennym ni lawer o wersi i'w dysgu yn sgil hyn. Roedd ein paratoadau sylfaenol ar gyfer pandemig ar batrwm y ffliw, ond mae hwn yn fath ychydig yn wahanol o bandemig. Bydd gennym ni lawer o wersi i'w dysgu. Rydym ni'n dysgu wrth i ni ymateb i'r sefyllfa, ac mae'r ffordd yr ydym ni nid yn unig yn stocio ond yn ailstocio ein storfeydd cyfarpar diogelu personol yn rhan o'r hyn yr ydym ni'n ei wneud nawr, ond yn sicr bydd angen i ni werthuso ein hymateb. Ac fel yr wyf wedi'i ddweud o'r blaen, rwy'n siŵr, ym mhob Senedd ar draws y Deyrnas Unedig, y bydd awydd ym mhob plaid i edrych yn ôl ar yr hyn sydd wedi digwydd pan fyddwn yn cyrraedd pen draw hyn o'r diwedd i ddysgu gwersi, i ddeall yr hyn a wnaethom ni, ond yn hollbwysig, i ddeall yr hyn y mae angen inni ei wneud ar gyfer y dyfodol. Rwy'n gobeithio y gall yr ymchwiliad hwnnw ddigwydd cyn gynted ag sy'n bosib, oherwydd byddai hynny'n golygu ein bod ar ddiwedd pandemig y coronafeirws, ond rwyf yn sylweddoli y bydd yn rhaid i hynny aros nes y byddwn ni mewn gwirionedd wedi cyrraedd yr adeg honno.
O ran y sylw am brofi pob preswylydd yn yr ysbyty, rwy'n credu, o'r enghraifft a roesoch chi, os oedden nhw'n symptomatig, fel yr ydych chi'n awgrymu, dyna'r math o beth y dylem ni fod wedi cael barn glinigol arno a chynnig prawf, os oedd hynny'n briodol, cyn iddyn nhw adael. Ac unwaith eto, rwy'n credu mai dyma'r math o beth i'w godi gyda'r bwrdd iechyd yn uniongyrchol, ac os na chewch ymateb boddhaol yna dewch yn ôl ataf. Fel y dywedais wrth ymateb i Rhun ap Iorwerth, rydym yn parhau i adolygu'r dystiolaeth ar yr hyn y dylem ni ei wneud, ac mae'n bosib iawn y bydd hynny'n newid yr hyn y mae angen inni ei wneud o ran profi cleifion mewn ysbytai ond hefyd ein staff ym maes iechyd a gofal cymdeithasol hefyd.
O ran treulio mwy o amser yn yr awyr agored, fe wnaethom ni newid y rheoliadau yng Nghymru. Un agwedd ar y lliniaru cymedrol a gochelgar a wnaethom ni i'r rheoliadau a'r dull gweithredu yma yng Nghymru oedd dweud y gallai pobl fynd allan i ymarfer corff fwy nag unwaith, gan fod y dystiolaeth y cyfeiriodd y Prif Weinidog ati yn ymwneud â'r ffaith bod hanner oes coronafeirws yn cael ei lleihau'n sylweddol y tu allan ac yng ngolau'r haul. Felly, dyna newid yr ydym ni wedi'i wneud i annog mwy o bobl i fynd allan fwy nag unwaith y dydd i wneud ymarfer corff.
Ac o ran eich sylw ynglŷn ag unigrwydd a theimlo'n ynysig, bu hynny'n rhywbeth y bu Gweinidogion yn ei ystyried ar bob cam yn y newidiadau yr ydym yn eu gwneud, ac mae'n fater sy'n peri pryder gwirioneddol. Gwn fod gan lawer o Aelodau yn y Siambr, fel sydd gen innau, rieni hŷn y maen nhw'n gofalu amdanyn nhw i bob pwrpas, ac mae'n rhywbeth sy'n fy mhoeni am fy nheulu fy hun, ac rwy'n gwybod bod aelodau eraill yn cymryd hynny o ddifrif hefyd. Felly, mae'r strategaeth ar gyfer unigrwydd a theimlo'n ynysig yn rhan o'r cymorth yr ydym ni wedi'i roi ar waith ac y bu inni ei ariannu'n arbennig gyda'r trydydd sector i ddarparu cymorth. Dyna fydd un o'r prif ffactorau y mae angen inni eu hystyried o ran codi'r cyfyngiadau symud a'r llwybr yn y pen draw at adferiad ac y tu hwnt i hynny.
Ac o ran amserlen ar gyfer gweithgarwch pellach gan y GIG, dylwn i fod mewn sefyllfa i ddarparu gwell syniad am hynny wrth imi gael y cynlluniau ar chwarter 1, ac fel y dywedais, rwy'n credu mewn ymateb i Angela Burns, rwy'n bwriadu cyflwyno datganiad pellach i roi mwy o fanylion am hynny. Ac rwy'n credu y cefais y pleser o gael gwahoddiad gan Dr Lloyd i ddychwelyd i'r Pwyllgor Iechyd yn ystod yr wythnosau nesaf hefyd. Felly, bydd cyfleoedd imi amlinellu lle mae'r GIG arni a wynebu cwestiynau gan Aelodau ynglŷn â hynny.
[Anhyglyw] Clefydau llidiol yn ymwneud â COVID-19 sy'n effeithio ar blant yn y DU ac, yn wir, mewn rhannau eraill o'r byd. A wnaiff y Gweinidog asesu'r risg i blant a phobl ifanc yng Nghymru, a rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am unrhyw beth y mae GIG Cymru wedi ei wneud yn hynny o beth? Ac a wnewch chi hefyd gadarnhau y caiff unrhyw dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg mewn cysylltiad â pheryglon iechyd COVID-19 sy'n benodol i blant ei chynnwys yn y broses o wneud penderfyniadau o ran ailagor ysgolion?
Ac a wnewch chi hefyd roi sylwadau ar adroddiadau bod Llywodraeth y DU, yn Lloegr, yn recriwtio gwirfoddolwyr di-dâl, gan weithio ochr yn ochr â gweithwyr cyflogedig, i gynnal profion COVID-19? A ydych yn cytuno â mi a chyda'r undeb llafur Unsain bod hyn mewn gwirionedd yn mynd â'r syniad o wirfoddoli yn rhy bell? Felly, a wnewch chi gadarnhau ar ran Llywodraeth Cymru bod y rhai sydd o dan gontract i gynnal profion yng Nghymru yn cael eu hyfforddi'n briodol, y rhoddir y cyfarpar diogelu priodol iddyn nhw ac y cânt eu talu'n briodol wrth wneud y gwaith hwn?
Diolch, Mick, ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig cydnabod y gall Aelodau fod wedi gweld adroddiadau am gwest a agorodd heddiw ynghylch plentyn ifanc iawn a fu farw ar ôl i'w fam farw, gyda COVID-19 rwy'n credu yn brif achos marwolaeth y fam. Er nad dyna brif achos marwolaeth y plentyn ifanc iawn, rwy'n credu bod y plentyn ychydig ddyddiau oed. Y dystiolaeth gyffredinol yw, er gwaethaf yr amgylchiadau trasig y mae'r crwner yn ceisio eu datrys, y ddealltwriaeth gyffredinol yw bod plant iau yn ymateb yn wahanol a'u bod yn llawer llai tebygol o gael niwed. Nid yw hynny'n golygu, fodd bynnag, y dylem ni fod yn ddi-hid ynghylch ein hymagwedd tuag at blant ifanc a'u gofal a'u triniaeth, a dyna pam y mae'r Llywodraeth hon yn cymryd agwedd bwyllog tuag at agor ysgolion, gan nad ydym ni'n deall yr holl dystiolaeth am drosglwyddo rhwng plant, a rhwng plant ac oedolion y feirws arbennig hwn, oherwydd roedd pryder gwirioneddol ar ddechrau hyn y gallech chi gael plant o bosib yn cymysgu â neiniau a theidiau hŷn, lle gallai pobl mewn grŵp risg is fod yn cymysgu â phobl mewn grŵp risg uwch ac y gallech chi drosglwyddo niwed yn y pen draw. Ac un o'r rhannau anodd iawn yn hyn, rwy'n gwybod, yw bod yna neiniau a theidiau na allan nhw weld eu hwyrion. Gwn fod neiniau a theidiau yn y Cynulliad a bod gan bob un ohonom ni etholwyr sy'n teimlo rhywfaint o'r boen a'r anhawster gwirioneddol hwnnw o beidio â gallu gweld eu teuluoedd.
Ond wrth i ysgolion ailagor bydd angen ystyried y dystiolaeth ddatblygol a'r ddealltwriaeth ddatblygol sydd gennym ni o'r effaith ar blant, ond yn hollbwysig, ynglŷn ag ymddygiad oedolion ynghylch ailagor ysgolion hefyd, oherwydd, mewn gwirionedd, os yw'r plant eu hunain yn llai tebygol o gael niwed, mae'n rhaid i chi feddwl am y staff a sut mae'r staff yn cymysgu os ydynt yn mynd yn ôl i ysgol sydd wedi'i hailagor. Mae angen i chi hefyd ystyried rhieni'n danfon ac yn casglu, yn enwedig mewn amgylchedd ysgol gynradd, o amgylch gatiau'r ysgol. Felly, mae'n rhaid i ni ystyried sut y gallai hynny i gyd weithio. Nid ydym wedi cyrraedd y pwynt lle mae'r penderfyniad hwnnw'n cael ei wneud yng Nghymru, ond gallaf roi'r sicrwydd yr ydych chi'n chwilio amdano, y bydd y dystiolaeth yn sicr yn arwain at, ac yn sail i'r dewis y bydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud. A phan wneir y dewis hwnnw, byddwch yn clywed gan ein gweinidog addysg yn gyntaf.
O ran eich sylw am wirfoddolwyr a'r rhaglen brofi, rwy'n hapus i gadarnhau nad ein dull yng Nghymru yw gofyn i bobl wneud gwaith gwirfoddol i naill ai weinyddu profion neu, yn wir, ymgymryd â'r olrhain cyswllt yr ydym ni wedi bod yn ei drafod yn gynharach heddiw. Lle bo'n waith â thâl, dylid eu talu, a rhaid cadw at yr amodau priodol ar gyfer y gyflogaeth honno, gan gynnwys a oes angen gwisgo cyfarpar diogelu personol. Felly, nid dyna'r ffordd yr ydym ni'n bwriadu cyflwyno'r gwasanaeth yma, a lle Lloegr yw egluro'r hyn y maen nhw'n ei wneud yn Lloegr, ond o ran y ffordd yr ydym ni'n mynd ati yma yng Nghymru, fe allwch chi ddisgwyl staff sy'n cael eu talu ac sydd â thelerau ac amodau priodol i wneud y gwaith hwnnw.
Ddoe, dywedodd neges e-bost gan Lywodraeth Cymru a oedd yn nodi'r meini prawf ar gyfer y £40 miliwn ychwanegol ar gyfer gofal cymdeithasol i oedolion, a gyhoeddwyd ar 14 Ebrill, fod cymhwysedd yn gyfyngedig i ofal a gomisiynir gan awdurdod lleol yn unig. Felly, rwy'n cwestiynu pam mae cartrefi gofal gyda chleientiaid GIG neu gleientiaid a ariennir yn breifat wedi'u gwahardd. Nawr, oherwydd yr arweiniad diwygiedig hwn, a gyhoeddwyd drwy e-bost yn unig ac na chyhoeddwyd, fel y crybwyllwyd, gan Lywodraeth Cymru, mae un awdurdod lleol newydd ofyn i'w gartrefi nyrsio egluro pa rai o'u cyfarpar diogelu personol sy'n cael eu defnyddio ar gyfer gofal cymdeithasol a pha rai sy'n cael eu defnyddio at ddibenion nyrsio. Rwy'n credu bod hynny'n warthus, Gweinidog.
Ac, yn ystod y cyfarfod llawn yr wythnos diwethaf, gwadodd y Prif Weinidog fy honiad nad oedd awdurdodau lleol yn gwybod dim eto am y bonws o £500 i ofalwyr a gyhoeddwyd ar 1 Mai, a sut y byddai'n cael ei ddosbarthu. Rwyf wedi cael cadarnhad pendant iawn yr wythnos hon nad oes unrhyw feini prawf nac arweiniad wedi'u cyhoeddi. Felly, pryd fydd hyn yn digwydd, a phryd y bydd yr arian hwn mewn gwirionedd yn cyrraedd pocedi ein holl weithwyr gofal cymdeithasol gwerthfawr? Diolch.
Iawn. O ran y £40 miliwn, fe'i dosbarthwyd i lywodraeth leol i gefnogi'r sector gofal cymdeithasol. Byddwn yn disgwyl y bydd y bobl hynny sydd â gofal a gomisiynir drwy'r gwasanaeth iechyd gwladol yn gweld eu bod yn cael y cymorth priodol ar gyfer eu busnesau hefyd. Rwy'n fodlon i gael sgwrs bellach gyda hi. Gwn fod ein cyfarwyddwr arweiniol yma ar ofal cymdeithasol ac integreiddio'n cael y sgwrs uniongyrchol honno gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, gyda Chymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol, a disgwyliaf y bydd honno'n sgwrs a ddylai ddod i gasgliad priodol. Rwyf hefyd yn trafod yn rheolaidd gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ac wrth gwrs, yn rheolaidd—deirgwaith yr wythnos, mi gredaf—mae trafodaeth arweinwyr gyda phob un o'r 22 arweinydd yn cyfarfod o bell gyda'r Gweinidog Llywodraeth Leol, ac mae cyfleoedd i gael y sgyrsiau hynny i ddeall sut yr ydym yn defnyddio'r arian hwnnw. Rwy'n credu hefyd ei bod hi'n bwysig iawn cydnabod nad un ergyd yw hon. Rydym ni'n mynd i fod yn yr amgylchiadau eithriadol hyn am fisoedd i ddod, ac mae angen i ni wneud yn siŵr mai'r sgyrsiau tawel, rhesymegol ac, ar adegau, ymchwilgar y mae angen i ni eu cael yw'r ffordd yr ydym ni'n ymdrin â hyn yn hytrach na gwneud honiadau tipyn yn fwy anghyffredin.
O ran cyfarpar diogelu personol, dydw i ddim yn siŵr fy mod wedi deall yn iawn y sylw yr oedd yr Aelod yn ei wneud; roedd yn ymddangos bod a wnelo'r sylw â dryswch ynghylch a yw cynghorau lleol yn gofyn sut y mae cyfarpar diogelu personol yn cael ei ddefnyddio mewn gofal sy'n gysylltiedig â nyrsio a gofal nad yw'n gysylltiedig â nyrsio, neu a yw'n ymwneud â'r ddarpariaeth. Ond, yn y pen draw, mae'r Llywodraeth yn talu am hynny i gyd. Rydym ni'n talu am y cyfarpar diogelu personol sy'n cael ei ddosbarthu i gartrefi nyrsio. Rydym ni'n talu am gyfarpar diogelu personol, p'un a yw pobl yn derbyn gofal nyrsio ai peidio. Ar adegau arferol, ni fyddem yn gwneud hynny, felly mae'n ddynodiad arall o'r cyfnod eithriadol yr ydym ni ynddo—y ffaith bod y Llywodraeth yn darparu'r gofal hwnnw i gyflogwyr sydd â chyfrifoldebau cyfreithiol am gyfarpar diogelu personol. Ond dyma'r unig ffordd o wneud yn siŵr bod cyfarpar diogelu personol digonol yn cyrraedd ein haelodau staff rheng flaen lle maen nhw'n darparu gofal i'n hetholwyr mewn gwirionedd.
O ran y taliad o £500, ceir sgyrsiau a thrafodaethau parhaus ynghylch sut y gwneir y taliad hwnnw i bobl sy'n darparu gofal cymdeithasol rheng flaen. Ac rwy'n croesawu'r ffaith bod yr Aelod eisiau gweld pobl yn cael hynny yn eu pocedi; rwy'n gobeithio y bydd yn ymuno â ni i ofyn i Lywodraeth y Deyrnas Unedig sicrhau y darperir hynny am ddim. Byddai hynny'n fonws i'w groesawu i'r aelodau staff hyn sy'n cael eu talu'n gymharol isel. Ac rwy'n gobeithio y bydd hi a'i grŵp yn lobïo'r Canghellor a Llywodraeth y DU i wneud yn siŵr bod hynny'n digwydd, yn hytrach na gweld rhywfaint o'r arian hwnnw'n cael ei fachu ar ffurf treth ac Yswiriant Gwladol. Ond mae'n sgwrs weithredol rhwng cyflogwyr, undebau llafur a'r Llywodraeth ynghylch sut y dylid gweithio ar fanylion hynny, er enghraifft, i wneud yn siŵr nad yw taliad untro yn effeithio ar daliadau budd-dal mewn gwaith i rai o'r aelodau staff hyn. Ni fyddwn i eisiau gweld y bobl hyn yn cael eu cosbi oherwydd arwydd gwirioneddol o gydnabyddiaeth o'r cyfnod eithriadol y mae'r aelodau staff hyn yn byw ynddo, a'r gofal y maen nhw'n ei ddarparu ym mhob un o'n cymunedau.
Weinidog, rhestrir y gweithwyr llywodraeth leol a chenedlaethol yn glir fel gweithwyr allweddol gan Lywodraeth Cymru gogyfer polisi profi Llywodraeth Cymru. Serch hynny, rydym ni wedi clywed am enghreifftiau o weithwyr yr Adran Gwaith a Phensiynau yng Nghymru yn cael eu gwrthod rhag derbyn profion COVID. Mae yna adroddiadau bod y DWP ei hunan yn dweud wrth ei staff sydd yn gweithio yma yng Nghymru i fynd i Fryste i gael prawf. Felly, all y Gweinidog gadarnhau y bydd yn sicrhau bod gweithwyr allweddol sydd angen prawf COVID yn gallu cael un yma yng Nghymru, gan gynnwys y sawl yma yng Nghymru sy'n gweithio i adrannau Llywodraeth sydd heb eto gael eu datganoli i'r Senedd hon?
Wel, wnaf i ddim ymateb i'r gwahoddiad y mae'r Aelod wedi'i roi i gymryd rhan yn y drafodaeth gyfansoddiadol ehangach ynghylch pa adrannau sydd wedi'u datganoli, ond rwy'n ymwybodol o'r mater yn yr Adran Gwaith a Phensiynau a hefyd yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau, ac rydym yn mynd i'r afael â'r materion hynny. Os oes gan yr Aelod bobl yn dal i ddod ato tua diwedd yr wythnos hon sy'n dweud nad yw'r mater wedi cael ei ddatrys, yna byddwn yn gofyn iddo ysgrifennu ataf, oherwydd mae'n fater, fel y dywedais, yr wyf yn ymwybodol ohono ac mae yn cael ei drafod gyda'r bwrdd iechyd lleol ac yn wir Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Yn fy nhrafodaethau gyda chyrff iechyd cyhoeddus, mae 3,000 o staff wedi cael eu dynodi i wneud i'r system olrhain weithio. Y ffigurau diweddaraf a roddwyd i mi yw, ar gyfer pob un y canfyddir fod y feirws arno yn ystod y broses olrhain, y byddai angen olrhain rhwng 20 a 30 o bobl eraill. Rydych chi wedi dweud y bydd y staff sy'n olrhain yn dod o awdurdodau lleol yn bennaf. Felly a gaf i ofyn, o ba fath o swyddi y dylai'r staff sy'n gwneud y gwaith hwn gael eu rhyddhau? Pa hyfforddiant ac arbenigedd fydd eu hangen arnyn nhw, a phwy fydd yn cynllunio ac yn darparu'r hyfforddiant hwn? Ac a ydych chi'n ffyddiog y gellir dod o hyd i'r staff mewn niferoedd digonol?
Iawn. Diolch. O ran y niferoedd, rydym wedi diweddaru'r niferoedd ers y drafft cychwynnol a ddarparwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Dyna pam ein bod yn cyrraedd y ffigur o 1,000 a gyhoeddwyd gennym ni heddiw; dyna'r rheswm. Ond fel yr eglurais yn gynharach, gallwch ddisgwyl i'r rhif newid. Ac mae hynny'n rhan o'r her yn y fan yma, oherwydd pan fyddwn ni'n dechrau—os ydym ni'n mynd i ddechrau o 1 Mehefin, er enghraifft—efallai nad oes angen pawb arnom ni a'r 1,000 yn llawn bryd hynny. Mae angen i ni gael digon o bobl wedi'u hyfforddi er mwyn sicrhau bod y system yn gadarn. Ac, mewn gwirionedd, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio gyda gweddill y system ar yr hyfforddiant ar gyfer yr hyn y bydd angen i bobl allu ei wneud, beth fydd y drefn a'r sgriptiau y bydd yn rhaid iddyn nhw eu defnyddio, ac yna sut y bydd angen iddyn nhw gofnodi'r wybodaeth honno. Mae hynny i gyd ar y gweill. A byddwch yn gweld yr arbrofi gyda hynny—rhywfaint o'r arbrofi hynny, o leiaf—yr wythnos nesaf, a fydd yn helpu i lywio ac rwy'n credu i ddatblygu ymhellach y gwaith hwnnw.
O ran nid yn unig y niferoedd, ond o le maen nhw'n dod, mae llywodraeth leol wedi bod yn awyddus iawn i chwarae rhan weithredol yn hyn, oherwydd bod ganddyn nhw eisoes bobl sydd â sgiliau TG, sydd wedi arfer defnyddio TG yn rhan reolaidd o'u swydd, ac sy'n awyddus i gael gwaith. Maen nhw'n weision cyhoeddus ymroddedig iawn, hyd yn oed yn eu maes gwaith penodol yr oeddent yn ei wneud cyn y cyfyngiadau symud, ac oherwydd y cyfyngiadau symud, nid yw rhai o'r gweithgareddau hynny yn digwydd chwaith. Felly, mae yna bobl sydd eisiau cael eu hadleoli, sydd eisiau gweithio yn y maes hwn. Nawr, mae hynny'n golygu bod gennym ni grŵp o staff. Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, a'r arweinyddiaeth wleidyddol wahanol o bob lliw, unwaith eto, mewn gwahanol rannau o'r wlad, yn dweud bod digon o staff i gwrdd â'r angen a fydd gennym ni, os mynnwch chi, ar gyfer y tîm olrhain cyswllt hwnnw. Felly, rydym ni'n dibynnu ar y sgyrsiau manwl sy'n cael eu cynnal.
Ond bydd her wedyn, os gallwn ni godi'r cyfyngiadau mewn meysydd gweithgarwch pellach dros gyfnod o fisoedd yn llwyddiannus, o ran yr hyn y bydd hynny'n ei olygu o ran y pwysau ariannol, ond hefyd wedyn, os bydd meysydd gweithgarwch eraill yn dychwelyd, mae'n ymwneud â sut y byddwn yn sicrhau nad ydym yn sydyn yn colli staff sy'n gweithio fel hyn, ond i wneud yn siŵr bod y system gyfan yn dal yn gadarn ac yn gallu gweithio'n effeithiol. Ac mae'r rhain yn bethau yr ydym yn parhau i weithio drwyddyn nhw gyda llywodraeth leol. Ond rwy'n credu mewn gwirionedd, ar gyfer y cam cyntaf o olrhain cyswllt, mai adnodd o lywodraeth leol fydd yn gwneud hynny yn y bôn, mewn partneriaeth â'u byrddau iechyd lleol. Mae gennyf lawer o ffydd y bydd gennym ni ddigon o staff i wneud i hyn weithio a bydd angen i ni, wrth gwrs, fynd i'r afael ag amrywiaeth o heriau er mwyn sicrhau bod y staff hynny yn dal yn eu lle yn y niferoedd priodol yn y misoedd i ddod, oherwydd ein bod yn sôn am lawer iawn o fisoedd o system olrhain cyswllt ar waith pan fydd yn rhaid i'r model profi, olrhain, diogelu fod yn weithredol ledled Cymru.
Gweinidog, a allech chi ddweud wrthyf pa brofion sy'n cael eu cynnal yng Nghymru ar garcharorion cyn eu rhyddhau'n ôl i'r gymuned, os gwelwch yn dda?
Byddai hynny'n dibynnu ar yr atgyfeiriadau y mae'r gwasanaeth carchardai yn eu gwneud. Mae'n anodd, oherwydd pan fyddan nhw o fewn y gwasanaeth carchardai, maen nhw mewn gwasanaeth sydd heb ei ddatganoli ac yna, os ydyn nhw'n mynd i adael, byddan nhw'n dod i gysylltiad yn gyflym iawn â gwasanaethau datganoledig, yn y mwyafrif helaeth o achosion, boed yn gymorth tai neu yn wir anghenion gofal cymdeithasol, sydd gan nifer o bobl. Os ydych chi'n meddwl am y carchar ym Mrynbuga, mae llawer o bobl yno mewn gwirionedd yn eithaf hen ac mae ganddyn nhw amrywiaeth o anghenion gofal a chymorth. Ond dylai'r profion fod yn unol â'n polisi profion ehangach, pa un ai a oes gan bobl symptomau ai peidio, ac, wrth gwrs, mae hynny'n wir am staff hefyd.
A gaf i ofyn i chi, Gweinidog, un o'r materion yr aethom i'r afael ag ef cyn y pandemig hwn oedd hwnnw a oedd ar agenda llawer o fyrddau iechyd lleol sef y posibilrwydd o ad-drefnu rhai o'u gwasanaethau'n sylweddol? Yn amlwg bellach, oherwydd yr argyfwng penodol hwn, mae llawer o fyrddau iechyd wedi gohirio eu cynlluniau ac nid ydynt yn bwrw ymlaen â nhw, a hynny'n ddealladwy, ond efallai eich bod yn ymwybodol bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i fod i ystyried ei wasanaethau fasgwlaidd—roedd i fod i gael papur yn ei gyfarfod bwrdd iechyd yr wythnos hon. Rwy'n falch ei fod wedi gohirio ystyried y papur hwnnw, gan na chafodd ei gyhoeddi o fewn digon o amser i gwrdd â gofynion y Llywodraeth ar gyfer y bwrdd—hynny yw, saith diwrnod cyn y cyfarfod. Ond a wnewch chi ddweud wrthym ni: a wnewch chi roi sicrwydd i'r cyhoedd na fydd unrhyw ad-drefnu sylweddol ar wasanaethau yn y cefndir wrth inni ymdrin â'r argyfwng hwn, fel y gall y gwasanaeth iechyd ganolbwyntio ei holl egni yn llwyr ar ymdrin â'r hyn yw'r brif her ar hyn o bryd, sef COVID-19?
Wel, mae'r gwasanaeth iechyd wedi cael ei aildrefnu, i bob pwrpas, i ymdrin â'r her fawr hon. Buom yn siarad yn gynharach am rai o'r heriau o ran niwed nad yw'n gysylltiedig â COVID a ddigwyddodd oherwydd ein bod wedi gorfod ail-ganolbwyntio ein gwasanaeth cyfan yn y ffordd yr ydym yn cynyddu gwahanol rannau o'r gwasanaeth, o greu ysbyty maes i'r gallu gofal critigol ychwanegol sydd gennym ni. Felly, mae'n amlwg bod yr agenda ddiwygio ehangach y sonnir amdani yn 'Cymru Iachach' wedi cael ei gohirio i raddau helaeth.
Ond wrth i bethau ddechrau prysuro eto, byddwn yn dal i orfod ystyried sut yr ydym yn gweithredu gwasanaethau effeithiol yn y sefyllfa wahanol hon a beth mae hynny'n ei olygu ar gyfer y dyfodol. Ond ni fyddwn yn disgwyl y byddem yn cyflwyno cynnig newydd a sylfaenol wahanol—mae'n anodd iawn ymgysylltu â'n staff ein hunain ynghylch yr agweddau hynny neu'n wir y cyhoedd. Yr amod rwy'n credu sydd ei angen arnom ni fodd bynnag, ac mae angen i ni i gyd fod yn aeddfed ynghylch hyn, yw efallai y bydd yn rhaid addasu rhai gwasanaethau o safbwynt diogelwch cleifion, a'r hyn na fyddwn i eisiau ei wneud yw dweud na allai hynny ddigwydd oherwydd y pandemig ehangach. Ond os oes unrhyw syniad y newidir pethau'n llechwraidd neu yn ddiarwybod i bobl, nid yw hynny'n mynd i ddigwydd. Ond yn fwy na hynny, fodd bynnag, bydd angen inni feddwl sut y byddwn yn bwrw ymlaen â rhai o'r pethau sydd wedi digwydd, felly, er enghraifft, y newidiadau o ran defnyddio mwy o dechnoleg a'r cyfle i ddiwygio gofal cleifion allanol. Bydd amryw o bethau y byddwn ni eisiau eu gwneud yn hytrach na dychwelyd, ym mhob agwedd, at y ffordd yr oedd pethau o'r blaen. Ond o ran gwasanaethau fasgwlaidd, er enghraifft, yn sicr nid wyf yn rhagweld y bydd newid mawr, ond mater i'r bwrdd fyddai hynny, gyda'r papur y maen nhw'n ei ystyried a'r adolygiad y maen nhw eisoes wedi'i sefydlu a'i roi ar waith.
Mae ymchwil a gyhoeddwyd yr wythnos hon gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod pobl sy'n byw mewn tlodi yn fwy tueddol o ddal COVID-19, yn ddi-os am amryw o resymau'n ymwneud â thai gwael a'r tebygrwydd y byddan nhw mewn swyddi lle nad yw cadw pellter cymdeithasol yn bosib. Mae pobl sy'n byw mewn tlodi hefyd yn fwy tebygol o gael cyflyrau meddygol sy'n gwneud y feirws yn fwy difrifol. Nawr, rwy'n cynrychioli ardal lle mae tlodi yn arbennig o rhemp, felly roedd y niferoedd hyn yn sobreiddiol iawn.
Gweinidog, nid oedd yr un o'r ffactorau sydd wedi arwain at y tlodi hwn yn anochel; maen nhw'n gynnyrch dewisiadau gwleidyddol llywodraethau sydd wedi condemnio rhai carfannau o gymdeithas i fwy o risg. Pe cai tlodi ei drin gyda difrifoldeb bygythiad diogelwch cenedlaethol, ni fyddid wedi caniatáu iddo ymledu. Ond mae yn tanseilio ein bioddiogelwch, felly gofynnwn i chi, Gweinidog, beth yw eich asesiad o'r cysylltiad hwn rhwng tlodi a'r marwolaethau yn sgil y feirws, a beth fydd y Llywodraeth yn ei wneud i wrthweithio'r pla hwn o dlodi sydd wedi codi dros yr 20 mlynedd diwethaf? Beth fyddwch chi'n ei wneud i leihau'r gyfradd R mewn ardaloedd tlotach?
Diolch. Wel, nid yw'n syndod i mi mai'r bobl leiaf cefnog yn ein gwlad ni sydd â'r risgiau mwyaf o ran eu hiechyd. Mae perthynas uniongyrchol rhwng iechyd gwael a chanlyniadau economaidd gwael hefyd nad ydyn nhw'n cyfateb i'r dalent sy'n bodoli yn y cymunedau hynny, ac rwy'n gweld hynny yn fy etholaeth fy hun yr wyf yn falch o'i chynrychioli ac mae'n fraint i wneud hynny. Mae'n ddarlun y bydd llawer ohonom ni yn y Cynulliad yn ei gydnabod.
Yr her pan fo gennych chi ganlyniadau afiechyd gwaeth i ddechrau ac yna lledaeniad cymunedol eang o COVID-19 ac yna rydych yn cael y troshaenau o ran pa mor agos y mae pobl yn byw gyda'i gilydd, anallu pobl, o bosibl, i deithio i'r gwaith yn eu car eu hunain—. Rwy'n cynrychioli un o'r rhannau o'r wlad sydd ag un o'r lefelau isaf o berchenogaeth ceir; mae heriau gwahanol y mae pobl yn eu hwynebu o ran sut y maen nhw'n byw eu bywydau. Ond mae hefyd yn ailadrodd pwysigrwydd y cynllun profi, olrhain a diogelu y byddwn ni'n ei gyflwyno ledled y wlad. Mae'n ymwneud ag amddiffyn pobl rhag y niwed hwnnw a fyddai'n digwydd fel arall. Pwysigrwydd y rheolau cadw pellter cymdeithasol. Po fwyaf y bydd pobl yn cadw at y canllawiau hynny a'r rheolau hynny, y mwyaf tebygol yr ydym o atal niwed rhag digwydd mewn unrhyw deulu neu unrhyw gymuned.
A gallaf ddweud yn onest ac yn llwyr, i'r Llywodraeth hon, fod sicrhau cyfiawnder cymdeithasol wedi ein hysgogi ni a'r meincwyr cefn sy'n cefnogi'r Llywodraeth i mewn i wleidyddiaeth yn y lle cyntaf. Dyma'r rheswm y rhoddais y gorau i fy swydd arall er mwyn sefyll mewn etholiad; dyma'r rheswm yr ymunais â'm plaid wleidyddol; ac mae wrth wraidd y rheswm am fodolaeth y Llywodraeth hon dan arweiniad Llafur Cymru. Rwy'n falch ei fod.
Bydd gennym lawer iawn mwy i'w wneud ar ddiwedd y pandemig coronafeirws, fodd bynnag, oherwydd byddwn yn gweld niwed a fydd wedi'i ddosbarthu'n anghyfartal ar draws ein gwlad, a dyna pam y mae'n rhaid i'r llwybr at adferiad ystyried hynny a meddwl sut yr ydym yn ailadeiladu ac ailfodelu, nid yn unig ein heconomi, ond y gwerthoedd sy'n ysgogi ein dewisiadau. Er enghraifft, y gwerth yr ydym yn ei roi ar weithwyr gofal cymdeithasol, y byddwn ni i gyd yn eu cymeradwyo ar nos Iau, ond wedyn i ystyried faint yr ydym yn barod i'w talu, yr hyn yr ydym yn disgwyl iddyn nhw ei wneud wrth ofalu am rai o'n dinasyddion sy'n agored i niwed a pha fath o gymdeithas yr ydym ni eisiau ei datblygu i wneud y dewisiadau hynny'n bosibl.
Gweinidog, yn gynharach yr wythnos hon, fe wnaeth BBC One Wales ddarlledu'r rhaglen Critical: Coronavirus in Intensive Care. Fe'i ffilmiwyd gan y staff eu hunain yn Ysbyty Brenhinol Gwent yn fy etholaeth i gan eu dangos yn gweithio gyda'i gilydd mewn amgylchiadau eithafol gydag ymroddiad, caredigrwydd a hiwmor, gan ofalu'n fedrus am gleifion â thosturi. Roedd y brwydrau a'r heriau yno i bawb eu gweld: gweithio sifftiau hir mewn PPE llawn, methu â gweld mynegiant wyneb y rhai yr ydych chi'n gweithio gyda nhw a gweld cymaint o bobl nad ydyn nhw'n gallu gwella. Mae'n anodd ei wylio, ond mae'r cyfeillgarwch a'r ysbryd a ddangoswyd gan staff anhygoel y GIG yn gwbl ryfeddol ac rydym yn ddiolchgar iawn iddyn nhw. Nid yw'r staff dan unrhyw gamargraff yn y cyfnod anodd hwn y bydd yn dod i ben yn fuan.
Tra bo'r niferoedd ar unedau gofal dwys yn ôl o fewn eu capasiti arferol yn Ysbyty Brenhinol Gwent a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn fwy cyffredinol, yn sicr ceir pryder ynghylch unrhyw gynnydd pellach mewn achosion yno. Pa gymorth ac arweiniad y gall Llywodraeth Cymru eu rhoi i'r rheini sydd wedi bod yn rheng flaen y pandemig hwn am dros dri mis i sicrhau bod ganddyn nhw amser i adfer a'u bod yn barod am beth bynnag a ddaw nesaf? A pha asesiadau ydych chi wedi'u gwneud o anghenion y gweithlu dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf? A sut y gall cynllunio'r gweithlu adlewyrchu hyn?
Diolch. Rwy'n credu ei fod yn—[Anhyglyw.] Yn amlwg, rwyf wedi ymweld ag Ysbyty Brenhinol Gwent gyda Jayne Bryant yn ei hetholaeth ar sawl achlysur, ac mae yna bobl yr wyf yn eu hadnabod ac wedi'u cyfarfod ar sawl achlysur sy'n gweithio yno, ac nid wyf yn synnu o gwbl i weld tosturi, gofal a chyfeillgarwch yn cael eu hadlewyrchu yn y rhaglen a ddarlledwyd.
O ran yr hyn yr ydym ni'n ei wneud, rydym yn gweithio gyda Fforwm Partneriaeth Cymru sy'n dod â'r cyflogwyr ac, yn wir, y staff yn y gwasanaeth iechyd at ei gilydd i edrych ar beth fydd yn digwydd yn y dyfodol. Mae'n nodwedd reolaidd, un yr wyf yn falch iawn ohoni. Rydym ni'n buddsoddi llawer o amser, egni ac ymdrech yn y cydberthnasau hynny yn y gweithle yma yng Nghymru, ac yn arbennig yn ein gwasanaeth iechyd.
Rwyf mewn gwirionedd wedi cytuno i ddarparu rhagor o gyllid i'r gwasanaeth iechyd ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol. Rydym wedi treialu hwnnw ac rydym wedi'i gyflwyno'n fwy cyson felly mae mwy o gymorth ymarferol i staff y gwn fod rhai o'r heriau y maen nhw wedi'u hwynebu ar ran pob un ohonom wedi bod yn anodd iddyn nhw. Ac ni ddylem geisio esgus bod y bobl hyn yn gallu parhau i weithio am y cyfnod o amser y maen nhw yn ei weithio gyda'r holl heriau a'r anawsterau gwirioneddol y maen nhw yn eu gweld hefyd. Felly, nid yw cynyddu capasiti gofal critigol yn dod heb gost—mae cost i'n staff y maen nhw wedi'i thalu hefyd.
Ac i mi, mewn cynifer o ffyrdd, mae'n ail-bwysleisio pwysigrwydd ein neges 'aros gartref, aros yn ddiogel, aros yn lleol', oherwydd y peth gorau y gallwn ni ei wneud i gefnogi'r staff hynny yw dilyn y rheolau. Nid rheolau gwirion yw'r rhain sydd wedi eu llunio yn fympwyol gan Lywodraeth sy'n gwneud rhywbeth oherwydd ei bod yn gallu; mae'r rhain yn rheolau difrifol i helpu i ddiogelu'r cyhoedd ac i gadw mwy ohonom yn fyw. A dyna pam yr ydym ni yn y sefyllfa hon yn awr, gyda brig y gwnaethom ni ei gyrraedd yn gynharach na'r disgwyl, a llai o bobl wedi dioddef niwed go iawn ac anochel a pharhaol, gan gynnwys marwolaethau, oherwydd y rheolau y mae'r cyhoedd wedi'u dilyn.
A bydd hynny'n bwysig iawn wrth inni ddirwyn y cyfyngiadau symud i ben—bod pobl yn dal i gofio hynny, oherwydd mae angen seibiant ar y staff hynny. A phan fyddwn ni'n dod at fwy o gamau o fynd heibio i'r cyfyngiadau symud, ni ddylai pobl ymddwyn fel pe bai'r byd yn gallu bod yn normal eto ac anwybyddu rheolau cadw pellter cymdeithasol pan fyddan nhw ar waith. Oherwydd bydd hynny'n gweld mwy o bobl yn mynd i mewn i'r unedau gofal dwys hynny a mwy o bwysau ar ein staff. Ac rwy'n gobeithio y bydd pobl yn ystyried hynny, nid dim ond ar ddydd Iau pan fyddwn ni allan yn clapio ac yn cymeradwyo'r GIG a gweithwyr allweddol, ond pan fyddwn yn mynd o gwmpas ein busnes o ddydd i ddydd hefyd.
Pa gefnogaeth ychwanegol fedrwch chi ei chynnig i wyddonwyr ym Mhrifysgol Bangor sy'n ymchwilio i lefelau o'r feirws yn y rhwydwaith carthffosiaeth? Er nad ydy'r feirws yn heintus ar y pwynt hwnnw, mae modd defnyddio'r dull yma i fesur faint o'r COVID-19 sydd mewn dinas neu dref gyfan. Ac ydych chi'n cytuno y gall yr ymchwil a'r dull yma o fesur lefelau COVID fod yn ddefnyddiol iawn ar gyfer monitro lledaeniad y feirws ar lefel leol, ac felly helpu i greu ymateb lleol wrth i amgylchiadau newid?
Ydw, a dyna pam y tynnais sylw ato yn fy nghynhadledd i'r wasg ddoe. Rwyf wedi sôn yn benodol am yr ymchwil y mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Bangor yn ei harwain. Ac er nad ydym o reidrwydd yn hoffi meddwl am beth sy'n digwydd gyda'n carthffosiaeth bob dydd o'r wythnos, mae'n ffordd ddiddorol a defnyddiol iawn o gael gwybod—ac o bosibl ar gam cynharach o lawer, fel y sonioch chi—beth sy'n digwydd ym mhob cymuned leol, ym mhob system leol, i roi rhybudd cynnar o le mae coronafeirws ar gynnydd, ond hefyd i roi gwell syniad i ni, yn hanfodol hefyd, a oes yna ostyngiad cyson wedi bod hefyd. Felly, ni fyddech fel rheol yn cyffroi am gynnal profion ar garthffosiaeth, ond mae hwn yn faes ymchwil hollbwysig i ni, ac os gallwn ni ei ddeall ar raddfa fwy, yna gall fod yn ddefnyddiol iawn, nid yn unig yng Nghymru, ond ledled y DU, ac rwy'n falch iawn o'r gwaith y mae'r gwyddonwyr hynny ym Mangor yn ei wneud gyda Dŵr Cymru ac United Utilities.
Gweinidog, un neu ddau o bwyntiau. Yn eich dogfen, 'Profi Olrhain Diogelu', mae'n tynnu sylw at y 10,000 sydd eisoes wedi'u crybwyll ac o bosibl hyd at 20,000, ond mae disgwyl yn y ddogfen honno y bydd rhywfaint o'r bwlch yn cael ei lenwi gan brofion tebyg i Lywodraeth y DU. Soniwyd o'r blaen mai dau swab yw'r profion yn Lloegr ac un swab yw'r profion yng Nghymru, ac felly, nid ydynt o reidrwydd yn gydnaws o ran sut y maen nhw'n cael y data i mewn i system GIG Cymru. A ydych chi yn awr yn ffyddiog bod y gwahaniaeth hwnnw wedi'i ddatrys ac, os ydych chi'n defnyddio sylfaen brawf y DU, y bydd y data'n gallu dod i Gymru a gweithio gyda GIG Cymru? Mae hynny'n un mater.
O ran cartrefi gofal, a wnewch chi sicrhau, os gwelwch yn dda, fod y cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gyson â'r canllawiau gan Lywodraeth Cymru? Rwyf wedi gweld tystiolaeth gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dweud wrth gartref gofal, er eu bod wedi bod â COVID-19 yn eu cartref, bod honno'n hen sefyllfa ac nad yw'n gyfredol, ac felly na fydden nhw'n cael eu profi. Nawr, ar ôl rhai dadleuon, i bob pwrpas, llwyddom i gael y profion yn y cartref hwnnw a phrofi'r staff, ond mae ganddyn nhw gartref arall cysylltiedig yn yr un dref nad yw'n cael ei brofi a bydd staff yn trosglwyddo rhwng y ddau. Unwaith eto, mae'r canllawiau gan Lywodraeth Cymru yn dweud bod hynny'n bosibl. A wnewch chi sicrhau bod Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru ac yn rhoi'r wybodaeth honno i'r cartrefi gofal? Oherwydd mae'n ddryslyd i'r cartrefi gofal pan fyddwn ni'n dweud wrthyn nhw am eich canllawiau chi ond nad yw Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gwneud hynny, ac mae'n bwysig, felly, bod staff yn cael eu profi.
Diolch. O ran y ddau bwynt, os caf i ddelio â—rwy'n credu bod tri phwynt, os caf i. Oherwydd, ar y trosglwyddo data, fel y dywedais yn gynharach, y pwynt cyntaf hwnnw, mae hynny wedi bod yn ffactor allweddol o ran gallu datgloi'r capasiti hwnnw yn y DU a'r system honno i ddod i Gymru, oherwydd yn flaenorol, byddai wedi bod o werth llawer mwy cyfyngedig, ond rwy'n credu y gallwn ni yn awr wneud defnydd priodol ohono.
Y gwahaniaeth rhwng y prawf dau swab a'r prawf un swab yw'r capasiti yr ydym wedi'i greu yma yng Nghymru gan ddefnyddio'r prawf un swab y byddwn ni yn dal i'w ddefnyddio, ond byddwn hefyd yn gallu defnyddio capasiti profi y DU. Y cyfan sydd angen i ni ei wneud yw sicrhau ei fod yn mynd i'r labordy cywir. Felly, er enghraifft, bydd y gwasanaeth danfon i'r cartref yn manteisio ar drefniadau'r DU gyfan ac yn cymryd rhan ynddyn nhw. Mae hynny'n golygu y bydd y bobl hynny dim ond yn cael prawf dau swab i'w hunan-weinyddu, ei ddychwelyd, ac yna caiff hwnnw ei brofi yn y labordy priodol i wneud yn siŵr ein bod yn cael y canlyniad cywir. Felly, rwy'n gadarnhaol am y ffaith nad ydym yn mynd i weld problem sylweddol yn y ffordd y mae hynny'n cael ei weinyddu, ond mae'n bwynt teg, ac fel y dywedais, i mi, y mater mwy yw trosglwyddo data.
Ynghylch y pwynt a wnaethoch chi am gartrefi gofal, siaradais heddiw â chadeiryddion a phrif weithredwyr y GIG ac euthum drwy bob un o'r byrddau iechyd, y sefyllfa y maen nhw ynddi o ran profi cartrefi gofal yn benodol, ac rwyf wedi gofyn i bob bwrdd iechyd sicrhau, o fewn eu hardal leol, ynghyd â llywodraeth leol a'r sector cartrefi gofal, eu bod yn rhoi un neges yn y system leol honno ynghylch pa brofion sydd ar gael a sut i gael gafael arnyn nhw ac â phwy i gysylltu er mwyn sicrhau eglurder ym mhob rhan o'r wlad. Oherwydd, nid yw'n fater sy'n rhoi pleser mawr imi ddeall bod gwahaniaethau anecdotaidd mewn gwahanol rannau o'r wlad.
Gwn fod Aelodau'n eu codi oherwydd eu bod yn bryderon sy'n cael eu codi gyda nhw, ond rwyf yn fwy cadarnhaol, wrth inni eistedd yn awr, fod cynnydd gwirioneddol wedi'i wneud yn ystod yr wythnos diwethaf a bod y mân broblemau yr wyf yn cydnabod eu bod yn dal i fodoli mewn rhannau eraill o'r wlad yn mynd i gael eu datrys. Ac ni allwn fod wedi bod yn gliriach ynglŷn â'm disgwyliadau i, ond dylai'r eglurder yn y neges honno, rwy'n credu, dawelu eich meddyliau chi eich hun ac Aelodau eraill ar draws y pleidiau sydd eisiau clywed y neges gyson honno, ac yna, wrth gwrs, ei gweithredu'n gyson hefyd.
Gweinidog, roeddwn i'n falch iawn o weld y pwyslais cryf ar iechyd meddwl yn eich datganiad. Byddwch chi'n ymwybodol bod sefydliadau fel Hafal, Mind ac, yn wir, cynghorydd atal hunanladdiad y Llywodraeth ei hun, yr Athro Ann John, wedi codi pryderon am effaith y pandemig ar iechyd meddwl.
Rwy'n falch o weld y bydd yna offeryn monitro iechyd meddwl COVID ar gael. A gaf i ofyn ichi am ragor o fanylion am hynny? Sut, er enghraifft, y bydd camau'n cael eu cymryd os oes unrhyw ddiffygion neu broblemau penodol yn cael eu nodi? Pa sicrwydd y gallwch chi ei roi y rhoddir blaenoriaeth i gymorth i'r rhai sy'n hunan-niweidio, sydd mewn perygl o gyflawni hunanladdiad neu sydd mewn argyfwng iechyd meddwl? Ac wrth i ni ddod allan o'r pandemig hwn, rwy'n hyderus y bydd y goblygiadau o ran iechyd meddwl yn sylweddol, ac ar y sail honno, mae'n rhaid i iechyd meddwl fod â blaenoriaeth gydag iechyd corfforol, wrth i ni gynllunio i ddod drwy'r pandemig hwn. Pa sicrwydd y gallwch chi ei roi y bydd iechyd meddwl yn gymaint o ystyriaeth ganolog wrth inni geisio gwneud y cynlluniau ymadael hynny?
Iawn, efallai ar y manylion, rwy'n credu y gallai fod yn ddefnyddiol—. Oherwydd, rwy'n credu y byddwch chi eisiau mwy o fanylion nag ateb 30 eiliad, felly efallai os gwnaiff yr Aelod ysgrifennu ataf, byddaf yn barod iawn i ysgrifennu yn ôl at yr Aelod a rhannu'r ohebiaeth honno ag aelodau eraill hefyd ar y manylion sydd gennych chi. Rwy'n gwybod bod hynny hefyd yn golygu fy mod yn gofyn am rywbeth oherwydd ni fyddwn yn synnu pe byddech chi'n llwyddo i ychwanegu mwy o gwestiynau i'r llythyr, ond i roi rhywbeth ysgrifenedig, i roi'r lefel o eglurder a manylder y gwn eich bod eisiau chwilio amdani, oherwydd i fod yn deg, pan aethom drwy rywfaint o hyn yn y pwyllgor plant a phobl ifanc o ran iechyd meddwl plant a phobl ifanc yn benodol, rwy'n gwybod ei fod yn faes diddordeb cyson i chi a'r pwyllgor cyfan. Felly, hoffwn allu rhoi ateb mwy cynhwysfawr i chi y gellir ei rannu a'i wneud yn gyhoeddus.
Ac yna mae'n rhaid i hynny arwain at y gwaith parhaus yr ydym ni wedi'i wneud dros gyfnod o flynyddoedd i sicrhau bod iechyd meddwl yn flaenoriaeth. Nid mater o setliad y gyllideb yn unig yw hynny, lle'r ydym yn rhoi mwy o arian i mewn, ond y busnes anorffenedig o barhau i ddelio â'r stigma sy'n dal i fodoli yn y wlad ynglŷn ag iechyd meddwl, salwch meddwl, ond hefyd wedyn y gwaith yr ydym ni'n ei wneud o ran parch cydradd yn y ffordd y mae'r gwasanaeth iechyd yn ei weld hefyd ac yna'n cydnabod sut y mae iechyd meddwl ac iechyd corfforol weithiau'n gysylltiedig. Felly, rwy'n benderfynol iawn, pan ddown ni allan o hyn, pan fyddwn ni'n gwybod y bydd mwy o niwed corfforol i ddelio ag ef, nad yw'n cael ei ystyried yn fwy o flaenoriaeth nag iechyd meddwl, ond, mewn gwirionedd, mae'n rhaid cael gwir gydraddoldeb a dealltwriaeth o sut yr ydym ni'n mynd i'r afael â'r pryderon gwirioneddol hynny. Fel yr wyf yn ei ddweud, mae'n debyg y gall pob un ohonom ni bwyntio at feysydd yn ein profiad ein hunain lle mae gennym bryderon am bobl yr ydym ni'n eu hadnabod, ac mae hynny'n wir iawn o ran yr etholwyr yr ydym ni'n eu cynrychioli hefyd, felly rwyf yn fwy na pharod i roi'r sicrwydd hwnnw ac edrychaf ymlaen at gael eich llythyr.
Yn olaf, Dawn Bowden.
A gaf i ddilyn ymlaen o gwestiwn a ofynnwyd yn gynharach gan Angela Burns? Oherwydd yr wythnos hon, bu gennyf reswm i ddefnyddio cyfleuster GIG fy hun, ar fater nad oedd yn ymwneud â COVID, ac, ar ôl ymgynghori o bell â'm meddyg teulu, llwyddais i gael pelydr-x ar unwaith, gwasanaeth sydd wedi'i drosglwyddo yn fy ardal i erbyn hyn o Ysbyty'r Tywysog Siarl i Ysbyty Cwm Cynon ar gyfer materion nad ydynt yn gysylltiedig â COVID, ac efallai y dylwn i achub ar y cyfle hwn i ddweud diolch yn fawr wrth y staff yno, a'm croesawodd i, ac fe wnaethon nhw fy nhrin â'r urddas a'r parch, yn fy marn i, sydd wedi dod yn nodwedd o'n gweithlu yn y GIG. Fodd bynnag, mae'n rhaid imi ddweud mai'r hyn a'm synnodd i oedd pa mor wag oedd yr ysbyty. Ac rwy'n siŵr bod yna bobl ar y wardiau, ond roeddwn i'n disgwyl gweld amrywiaeth o bobl mewn mannau aros yr oedd angen pelydr-x arnyn nhw a thriniaethau safonol eraill, ond doedd hynny ddim yn wir. A gwn eich bod wedi pwysleisio'r angen i ailafael mewn amrywiaeth o wasanaethau arferol, ac rydych chi wedi delio â'r materion sy'n ymwneud â chanser yn eich atebion i Angela Burns, ond a gaf i ofyn pa gynnydd ymarferol sy'n cael ei wneud i gael cleifion yn ôl i'r GIG yng Nghymru fel mater o drefn fel nad ydym yn gweld yr ôl-groniad hwn o salwch ac afiechyd? Oherwydd, er gwaethaf y negeseuon yn dweud bod y GIG ar agor, os yw fy mhrofiad i yn YCC yn arwydd o'r hyn sy'n digwydd yr wythnos hon, yn sicr nid yw'n ymddangos eu bod yn cyrraedd y bobl.
Gweinidog. Meicroffon y Gweinidog. Gallaf.
Mewn gwrthdroad ffawd. Gwych. [Chwerthin.] Rwy'n rhannu'r pryderon sydd gennych, oherwydd, pan fyddaf i'n edrych ar y ffigurau, a phan allaf weld y gostyngiad mewn gweithgarwch ar gyfer meysydd sy'n dal i fod ar agor ar gyfer busnes, nid ydym o hyd yn ôl i weithgarwch arferol, hyd yn oed yn ein gwasanaethau drws ffrynt fel yr adran ddamweiniau ac achosion brys. Rydym ni'n dal i weld pobl yn dewis peidio â dod i mewn, ac mae'r pryder hwnnw sy'n peri bod y dewisiadau hynny'n cael eu gwneud yn rhywbeth sydd—mewn ymateb i gwestiynau Lynne Neagle ynglŷn â chydnabod y niwed i iechyd meddwl sy'n gallu cael ei achosi gan y cyfyngiadau symud, wrth gwrs bod niwed corfforol o bosibl pan nad yw pobl yn dod i mewn ar gyfer yr anghenion gofal brys hynny. Nid wyf yn credu bod nifer y bobl a fyddai wedi cael strôc yn ystod y ddeufis diwethaf wedi disgyn, ond, mewn gwirionedd, nid yw ein gweithgarwch dros y ddeufis diwethaf yr hyn y byddem ni'n ei ddisgwyl fel arfer ar yr adeg hon o'r flwyddyn; yr un fath o ran mathau eraill o niwed.
Felly, rwy'n awyddus iawn—a dyna pam yr wyf eisiau dod yn ôl â datganiad arall y byddwn ni'n ei drefnu pan fyddaf wedi cael y cynlluniau gweithredol hynny ar gyfer y chwarter gan y byrddau iechyd—i allu nodi'r hyn y gallai ac y dylai fod yn 'fwy arferol', er mwyn helpu i ailddatblygu ffydd y cyhoedd i ddefnyddio'r gwasanaethau hynny, oherwydd rwy'n credu, heb ailddatgan hynny'n rheolaidd, nad ydym yn mynd i ddychwelyd at ffydd yn y math o driniaeth y byddai pob un ohonom ni eisiau ei gael ar gyfer ein hetholwyr ac, yn wir, ni ein hunain.
Ac os caf i, ar y diwedd, Llywydd, rwy'n gobeithio nad dim ond profiad da y cafodd y Gweinidog, ond rwy'n gobeithio bod yr Aelod bellach yn ffit ac yn iach eto yn dilyn ei hymddangosiad diweddar fel siopwr nad oedd mor gudd â hynny yn y gwasanaeth iechyd gwladol.
Diolch, Gweinidog, a diolch ichi, Aelodau. Fe fyddwn ni'n cymryd seibiant byr, 10 munud yn awr, ac felly fe fyddwn ni'n oedi'r darllediad.
Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 16:04.
Ailymgynullodd y Senedd am 16:16 gyda'r Dirprwy Lywydd (Ann Jones) yn y Gadair.
Iawn. Fe wnawn ni ailafael ynddi felly ag eitem 5 ar ein hagenda y prynhawn yma, sy'n ddatganiad gan y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd—y goblygiadau cyllidol i Gymru yn sgil effaith COVID-19 a'r ymateb iddo. A galwaf ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd, Rebecca Evans.
Diolch. Ar 3 Mawrth pasiwyd cyllideb derfynol 2020-21 gan y Senedd, ac mae cymaint wedi digwydd yn y 10 wythnos ers hynny. Roeddem ni eisoes wedi wynebu amgylchiadau na welsom ni erioed mo'u tebyg wrth bennu ein cynlluniau ar gyfer cyllideb 2020-21 a hynny ar adeg o gyni parhaus yn y DU, ansicrwydd parhaus Brexit ac effeithiau dinistriol y llifogydd diweddar. Roedd cyllideb hwyr Llywodraeth y DU ar 11 Mawrth hefyd yn golygu newidiadau pellach i'n setliad. Bydd yr Aelodau'n cofio fy mod, o ganlyniad, wedi ymrwymo i wneud datganiad i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y rhagolygon ac unrhyw newidiadau eraill o ran cyllid ar gyfer Cymru. Rwy'n darparu'r manylion hynny heddiw, ond yn amlwg rydym ni nawr mewn sefyllfa wahanol iawn.
Rydym ni nawr yn ymateb i effeithiau datblygol a dinistriol pandemig y coronafeirws, sy'n gofyn am wario digyffelyb gan y Llywodraeth yn ddi-oed ac ar raddfa fawr a heb ei debyg ers y rhyfel. Felly, byddaf yn canolbwyntio heddiw ar yr ymdrechion eithriadol y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud i ddefnyddio ein cyllideb yn y ffordd orau bosibl i ymateb i argyfwng y coronafeirws, ac i ddangos sut y mae'r penderfyniadau yr ydym wedi'u gwneud yn adlewyrchu ein gwerthoedd fel Llywodraeth.
Mae'r rhagolygon ar gyfer cyllid cyhoeddus yn llwm. Yn ôl y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, gallai diffyg ariannol y DU fod yn £273 biliwn eleni. Mae hynny bum gwaith yn uwch na'r disgwyl ddeufis yn unig yn ôl adeg cyllideb y DU, ac yn sylweddol uwch nag yr oedd ar anterth y benthyca yn ystod yr argyfwng ariannol ddegawd yn ôl. Bydd y cynnydd hwn yn deillio'n rhannol o wariant cyhoeddus uwch i ymdrin â'r argyfwng presennol, ond hefyd oherwydd llawer llai o dderbyniadau treth, yn sgil y gostyngiad mewn gweithgarwch economaidd. Bydd y cyfyngiadau symud yn effeithio ar refeniw treth datganoledig yn yr un modd â threthi eraill; gallwn ddisgwyl ergyd sylweddol. Fodd bynnag, mae'r fframwaith cyllidol yn diogelu ein cyllideb rhag ergydion economaidd ledled y DU. O ganlyniad, dylai effaith net llai o weithgarwch economaidd a derbyniadau treth ar ein cyllideb eleni fod yn fach, ond byddwn, wrth gwrs, yn cadw golwg fanwl ar y sefyllfa hon.
O ran y cyd-destun economaidd ehangach, mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol a Banc Lloegr wedi cydnabod ei bod hi bron yn sicr y bydd yr epidemig, a'r mesurau angenrheidiol a roddir ar waith i geisio atal ei ledaeniad, yn arwain at leihau gweithgarwch economaidd yn syth i raddau digyffelyb o fewn cof.
Bydd diweithdra yng Nghymru yn sicr yn codi'n gyflym, er gwaethaf y mesurau sydd wedi'u rhoi ar waith gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Y rhai mwyaf difreintiedig—y rhai sydd ar gyflog isel, mewn cyflogaeth ansicr, a phobl ag iechyd gwael—fydd y rhai mwyaf tebygol o wynebu'r risg. Bydd pobl ifanc sy'n ymuno â'r farchnad lafur yn wynebu cyfnod arbennig o anodd, ac mae'r dystiolaeth o gyfnodau blaenorol o ddirwasgiad yn dangos y gallai hyn arwain at effeithiau negyddol parhaol ar eu hincwm, iechyd, lles a hyd yn oed disgwyliad oes.
Er mwyn ariannu'r camau gweithredu a gymerwyd gennym, rydym ni wedi cael cynnydd yn ein cyllideb ar ffurf symiau canlyniadol o wariant gan Lywodraeth y DU ar fesurau yn Lloegr. Hyd yn hyn, rydym yn disgwyl dros £2.1 biliwn sydd ymhell dros 10 y cant o'n cyllideb arfaethedig.
Er mwyn amddiffyn y GIG ac achub bywydau, bu angen i ni wneud penderfyniadau anodd i ariannu gweithgareddau sy'n ein paratoi am y gwaethaf yn y gobaith na fydd eu hangen yn llawn. Rydym ni hefyd wedi cymryd camau pendant i ryddhau, drwy ailflaenoriaethu ac addasu at ddibenion gwahanol, mwy na £0.5 biliwn o'n cyllideb ein hunain a chyllid Ewropeaidd i gefnogi economi Cymru a sicrhau bod ein gwasanaethau cyhoeddus wedi'u harfogi i ymdopi â'r pandemig coronafeirws.
O'r gronfa wrth gefn hon i ymateb i'r coronafeirws, rydym ni eisoes wedi rhoi dros £300 miliwn i'r GIG i gefnogi blaenoriaethau gan gynnwys cyflenwi cyfarpar diogelu personol, darpariaeth ysbyty maes, buddsoddi mewn profi ac olrhain, a recriwtio i'r GIG.
Rydym ni hefyd yn cymryd camau pendant i amddiffyn y bobl fwyaf difreintiedig mewn cymdeithas. Rydym ni wedi darparu £11 miliwn ychwanegol o gymorth ar unwaith ar gyfer y rhai sy'n wynebu caledi o ganlyniad i'r pandemig, £15 miliwn i sefydlu parseli bwyd wythnosol i'r rhai a warchodir, a £24 miliwn ar gyfer cronfa ymateb Covid-19 y trydydd sector, yn targedu'r pwysau y mae elusennau a'r trydydd sector yn eu hwynebu. Rydym ni hefyd wedi cyhoeddi cymorth ychwanegol o hyd at £6.3 miliwn ar gyfer hosbisau yng Nghymru.
Ynghyd â'r camau gweithredu hyn, rydym ni hefyd yn rhoi £500 yn ychwanegol i bawb sy'n gweithio ar y rheng flaen mewn gofal cymdeithasol, gan gydnabod nad yw cyfradd y farchnad ar gyfer y swydd yn adlewyrchu pwysigrwydd enfawr y gwaith a wnânt mewn unrhyw ffordd.
Rydym ni wedi gweithredu i ddiogelu'r gwasanaethau cyhoeddus hanfodol a ddarperir gan ein hawdurdodau lleol drwy gronfa galedi awdurdodau lleol o £110 miliwn, ac mae hyn yn cynnwys £40 miliwn i gael bwyd i deuluoedd sydd â'r hawl i gael prydau ysgol am ddim tra bo ysgolion wedi cau, £40 miliwn i gefnogi'r costau ychwanegol y mae gwasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion yn eu hwynebu nawr, yn ychwanegol at y taliad o £500 yr wyf newydd gyfeirio ato, a £10 miliwn i helpu cynghorau i weithredu ar unwaith i amddiffyn y digartref a'r rhai sy'n cysgu allan.
Rydym ni hefyd wedi defnyddio pecyn digyffelyb o fesurau i gefnogi'r economi ac amddiffyn swyddi. Rydym ni'n buddsoddi £1.7 biliwn yn ogystal â mesurau hanfodol a lansiwyd gan Lywodraeth y DU, fel y cynllun cadw swyddi. Mae ein cefnogaeth yn cynnwys mwy na £1 biliwn y mae Llywodraeth Leol yn ei ddosbarthu ar ein rhan drwy ryddhad ardrethi busnes a grantiau cysylltiedig i fusnesau yn y sectorau lletygarwch, hamdden a thwristiaeth.
Rydym ni hefyd wedi sefydlu cronfa cadernid economaidd o £500 miliwn i gynnig cymorth hanfodol i fusnesau, elusennau a mentrau cymdeithasol, yn ychwanegol at yr hyn sydd ar gael yn Lloegr. O'r £500 miliwn, mae cronfa benthyciadau Banc Datblygu Cymru o £100 miliwn eisoes wedi cymeradwyo dros 1,300 o fenthyciadau, gyda chyfanswm o dros £100 miliwn, sy'n diogelu 15,000 o swyddi.
Mae'r gronfa grant £400 miliwn sy'n weddill yn cynnig cymorth yn arbennig i'r cwmnïau bach a chanolig eu maint sy'n hanfodol i economi Cymru, ochr yn ochr â'n helusennau a'n mentrau cymdeithasol. Gwelodd y broses ymgeisio ar gyfer y gronfa hon y swm anhygoel o 9,500 o hawliadau yn cael eu cyflwyno mewn ychydig mwy nag wythnos. Heddiw mae £70 miliwn o gymorth o'r gronfa hon eisoes wedi'i gynnig i fwy na 5,000 o fusnesau, elusennau a mentrau cymdeithasol ac mae'n dechrau mynd i gyfrifon banc ledled Cymru. O ganlyniad i'r camau a gymerwyd gennym ni, gall busnesau Cymru, elusennau a mentrau cymdeithasol fanteisio ar y cymorth busnes mwyaf hael yn y DU gyfan.
Pwysodd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth a minnau ar Lywodraeth y DU i ymestyn y cynllun cadw swyddi, ac rwy'n croesawu'r cyhoeddiad a wnaethpwyd gan y Canghellor ddoe. Dim ond Llywodraeth y DU sydd â'r gallu ariannol i weithredu'r cynlluniau mawr y mae eu hangen arnom ni i amddiffyn pobl a busnesau rhag eithafion gwaethaf yr argyfwng.
Fel sy'n wir am wledydd datganoledig eraill, mae hyn yn golygu y byddai'r cyllid mawr a gaiff ei ddefnyddio gennym ni fel Llywodraeth Cymru yn cael ei danseilio'n ddifrifol pe bai'r cynllun cadw swyddi'n cael ei wanhau neu ei derfynu ar yr adeg anghywir. Ni wnaeth Trysorlys y DU ymgynghori â'r gwledydd datganoledig ar y penderfyniad diweddaraf, ond gall y Canghellor wella ar hyn a gweithio nawr i ymgysylltu â ni cyn i benderfyniadau mawr gael eu gwneud yn yr wythnosau nesaf.
Byddaf yn cyhoeddi cyllideb atodol ar 27 Mai, yn rhoi mwy o eglurder ynglŷn â'r newidiadau i'n cyllideb ers mis Mawrth, a fydd yn canolbwyntio ar roi mwy o fanylion am y camau yr ydym ni wedi'u cymryd i ymateb i'r coronafeirws.
Wrth i'n sylw ni symud oddi wrth effeithiau uniongyrchol yr argyfwng hwn i adferiad, mae llawer o ansicrwydd o'n blaenau. Efallai y bydd angen inni ddod o hyd i fwy o gyllid i ymdrin â'r argyfwng uniongyrchol a chyllido ymdrechion i ailgychwyn ac adfer, ac rydym ni hefyd yn wynebu'r risg o newidiadau pellach i'n cyllideb gan Lywodraeth y DU yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Byddaf hefyd yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i ddarparu mwy o hyblygrwydd ariannol i'n helpu i ymdopi yn y cyfnod hwn na welwyd ei debyg o'r blaen. Yn benodol, rwy'n ceisio cael mwy o fynediad i gronfa wrth gefn Cymru eleni, llacio ein terfynau benthyca, a mwy o gyfle i newid rhwng cyllidebau refeniw a chyfalaf. Mae'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid annibynnol hefyd wedi dadlau'n ddiweddar dros wneud newidiadau o'r fath i helpu Cymru i ymateb i'r argyfwng.
I gloi, bob dydd, rydym yn wynebu dewisiadau anodd ynglŷn â defnyddio ein hadnoddau prin a chyfyngedig. Er y bydd yr amgylchiadau hyn yn parhau i ofyn am benderfyniadau anodd ychwanegol, byddwn yn parhau i wneud y dewisiadau cywir, yn seiliedig ar y dystiolaeth orau, ac ar ein gwerthoedd. Diolch yn fawr iawn.
Diolch. Nick Ramsay.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i chi, Gweinidog, am eich datganiad y prynhawn yma. Mae'n amlwg bod y rhain yn ddyddiau tywyll i'r economi gan ei bod yn anochel bod y cyfyngiadau symud yn achosi'r gostyngiad mewn twf economaidd a chynnyrch domestig gros a amlinellwyd gennych chi. Felly, mae'r rhan y mae Llywodraeth Cymru yn ei chwarae o ran cefnogi busnesau a pharatoi ar gyfer y dyfodol ar yr adeg hon, yn wir, yn hanfodol.
O gofio hyn, byddwch yn ymwybodol y bu pryder mawr, yn ystod yr ychydig ddyddiau diwethaf, ynghylch y cyhoeddiad gan Debenhams y bydd yn rhaid cau pob un o'i bump siop yng Nghymru, gan gynnwys y siopau blaenllaw yng Nghasnewydd a Chaerdydd, os na fydd Llywodraeth Cymru yn gwrthdroi ei phenderfyniad i roi uchafswm ar ryddhad ardrethi busnes. Rwy'n credu bod hwn yn arwydd clir o rybudd. Os na fydd y siopau hyn yn ailagor ar ôl y pandemig, bydd effeithiau sylweddol i'r economi o ganlyniad. Mae llawer o'm hetholwyr yn dibynnu ar siop Casnewydd—darperir swyddi yno, mae cwsmeriaid yn mynd yno. Nawr, rwy'n deall eich bod yn cwrdd â Debenhams, neu efallai eich bod eisoes wedi cael trafodaethau gyda nhw a'u penaethiaid. Tybed a allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am unrhyw drafodaethau, ac a wnewch chi wrando arnyn nhw ac adolygu eich penderfyniad i eithrio siopau sydd â gwerth ardrethol dros £500,000 rhag gallu cael gafael ar gymorth? Gwn eich bod wedi dweud yn y gorffennol bod y polisi hwnnw yn caniatáu i chi gefnogi busnesau eraill, ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn bod busnesau mwy yn cael eu cefnogi hefyd.
Yn ail, a gaf i ofyn i chi—rydych chi wedi sôn am y gyllideb atodol rydych chi'n bwriadu ei chyflwyno—sut ydych chi'n ail-flaenoriaethu gwariant Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd? A allwch chi ddweud ychydig mwy am eich cyllideb atodol? Mae fy mhlaid wedi galw am gyllideb frys lawn fwy tryloyw, lle bydd mwy o gyfle i graffu ar benderfyniadau gwariant Llywodraeth Cymru ar yr adeg hon.
Ac yn olaf a gaf i ofyn i chi am y goblygiadau o ran polisi treth? Rydych chi wedi dweud o'r blaen nad ydych chi'n rhagweld newidiadau i gyfraddau treth cyn etholiadau nesaf y Senedd. Ai dyna yw polisi'r Llywodraeth o hyd, yn enwedig os oes newidiadau ar lefel treth y DU yn ddiweddarach eleni? Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn bod y cyhoedd a'n hetholwyr yn cael eglurder ar benderfyniadau cyllidebol ar yr adeg hon.
Rwy'n ddiolchgar am y gyfres yna o gwestiynau, ac mae Nick Ramsay yn iawn, fe gefais gyfle i gyfarfod â chadeirydd Debenhams ddoe. Ond, i roi cefndir yr hyn oedd y tu ôl i benderfyniad Llywodraeth Cymru i gyfyngu rhyddhad ardrethi i'r busnesau hynny sydd â gwerth ardrethol o dan £500,000, gwnaethom hynny oherwydd ein bod ni'n awyddus iawn i sicrhau y gellid defnyddio'r cyllid hwnnw, a oedd yn rhyddhau £100 miliwn o gyllid, i gefnogi busnesau bach a chanolig ledled Cymru, sef asgwrn cefn ein heconomi. Felly, rydym ni'n gallu cefnogi, er enghraifft, 2,000 o fusnesau gyda grantiau o hyd at £50,000 o ganlyniad i'r penderfyniad hwnnw. Ond, fel y dywedais wrth gadeirydd Debenhams ddoe, mae Llywodraeth Cymru wir eisiau i Debenhams lwyddo. Mae'n wirioneddol bwysig o ran cefnogi rhai o'n strydoedd mawr yn arbennig, fel un o'r siopau angor hynny. Felly, rwyf wedi dweud y byddaf yn myfyrio ar y trafodaethau a gawsom ni ddoe. Dydw i ddim yn credu y byddai'n deg ar Debenhams pe bawn i'n rhoi gormod o fanylion y trafodaethau hynny, ond rwy'n sicr wedi addo ysgrifennu atyn nhw yn ystod yr ychydig ddyddiau nesaf, yn dilyn y trafodaethau hynny.
Dywedaf hefyd ar fater y gyllideb atodol, mai fy mwriad yw cyhoeddi hynny ddiwedd y mis hwn, ond byddaf yn sicr yn darparu mwy o fanylder. Fel y gŵyr Nick Ramsay, mae cyllidebau atodol fel arfer yn ymarferion eithaf technegol, sef manylu ar gyllid wrth iddo symud rhwng neu o fewn y prif grwpiau gwariant a'r cyllid a ddaw gan Lywodraeth y DU ac ati, ond mae maint y newid y tro hwn wedi bod yn rhyfeddol. Felly, dywedais ar y dechrau ein bod wedi cael dyraniad hyd yn hyn, neu'n disgwyl dyraniad o dros £2 biliwn sef tua 10 y cant o'n cyllideb. Felly, byddaf yn darparu mwy o fanylder gyda'r gyllideb atodol nag y byddem yn ei wneud fel arfer, gan ddisgrifio'n fanylach y dyraniadau yr ydym wedi'u gwneud, ond hefyd y meysydd hynny lle yr ydym wedi gorfod rhyddhau'r cyllid hwnnw lle na fydd gweithgarwch yn digwydd mwyach, oherwydd credaf ei bod hi'n bwysig rhoi'r math hwnnw o eglurder hefyd.
Gwnaethom y gwaith hwnnw drwy drafod gyda chydweithwyr ym mhob rhan o'r Llywodraeth fesul prif grŵp gwariant, gan edrych drwy bob llinell o'u cyllideb i weld beth y gellid ei ryddhau i ddechrau. Ond fe ddywedaf wrthych chi yr hyn yr wyf wedi'i ddweud wrth fy nghydweithwyr, sef mae'n debyg nad dyma'r tro cyntaf y bydd yn rhaid i ni wneud yr ymarfer hwnnw. Rwy'n credu y bydd yn rhaid i ni ei ailadrodd eto er mwyn archwilio pa gyllid ychwanegol y gellid ei ryddhau wrth ymateb i COVID ac ar gyfer adferiad.
Ac ar fater cyfraddau treth incwm Cymru, ein bwriad o hyd yw peidio â chodi cyfraddau treth incwm Cymru yn ystod y Cynulliad hwn, ac, wrth gwrs, fe wnaethom ni bleidleisio ar ein cyfraddau treth incwm yng Nghymru am y flwyddyn ariannol hon ychydig wythnosau yn ôl, ac nid yw'n fwriad newid hynny. Rwy'n credu bod pobl yn cael amser caled fel y mae hi ar hyn o bryd, felly dydw i ddim yn credu y byddem yn ystyried gofyn iddyn nhw gyfrannu mwy mewn cyfnod mor anodd.
Diolch, Gweinidog, ac fel y dywedwch chi, rwyf wedi arfer â materion technegol y cyllidebau atodol, ond bydd hwn yn bwysicach nag erioed, am resymau amlwg, felly edrychwn ymlaen at hynny.
O ran yr ateb ynghylch y trethi busnes yr ydych chi newydd ei roi hefyd, fel y dywedaf, rwy'n sylweddoli bod rhesymau penodol dros y polisi, ond credaf fod dadleuon cryf iawn dros roi'r gefnogaeth honno i gwmnïau mwy fel Debenhams i wneud yn siŵr bod y siopau angori mawr hynny'n dal yno ar ddiwedd hyn i ddarparu'r effeithiau canlyniadol ar gyfer gweddill yr economi—yr effeithiau canlyniadol cadarnhaol yr ydym ni wedi arfer eu cael ganddyn nhw.
O ran benthyca a threthu, fe wnaethoch chi grybwyll benthyca yn eich datganiad, a chredaf ichi ddweud bod y diffyg presennol a ragwelir yn y gyllideb, ledled y DU, oddeutu £263 biliwn. Mae hynny tua £100 biliwn yn fwy, rwy'n credu, na'r diffyg yn y gyllideb adeg anterth yr argyfwng ariannol dros 10 mlynedd yn ôl. Felly, gan fod hynny eisoes yn golygu swm sylweddol o fenthyca, pa mor realistig yw mentro popeth ar geisio hyblygrwydd enfawr o ran pwerau benthyca Llywodraeth Cymru, o gofio y bydd arian yn amlwg yn brin dros y flwyddyn nesaf?
Yn ail, o ran trethiant, rwyf wedi trafod trethiant incwm. Wrth gwrs, y trethi mawr eraill o dan gylch gwaith Llywodraeth Cymru—treth gwarediadau tirlenwi, treth stamp—o ran treth gwarediadau tirlenwi, dychmygaf fod y refeniw yna wedi gostwng yn sylweddol. Nid yw'n cynnwys tipio anghyfreithlon, sy'n digwydd ar raddfa eithaf eang mewn rhai ardaloedd, fel y gwyddom ni. O ran y dreth stamp, mae'r farchnad dai wedi arafu'n llwyr. Gwn fod ymdrechion yn y DU i geisio rhoi hwb i'r farchnad dai, felly credaf y byddai'n dda pe gallem ni edrych ar ffyrdd i gefnogi hynny a'r gwerthwyr tai yma. A fyddai'n syniad da inni gael datganiad pwrpasol, efallai, ar y trethi datganoledig yng Nghymru a faint o refeniw y disgwylir inni ei golli, fel y gallwn ni gynllunio ar gyfer y dyfodol?
Yn olaf un, ar adroddiad cenedlaethau'r dyfodol—dogfen swmpus iawn yr wyf newydd bori drwyddi yma—mae llawer o bethau yn y fan yna yr wyf yn siŵr y byddwch yn eu hystyried wrth inni ddod allan o'r pandemig. Sonnir am gaffael yn y fan honno a'r posibilrwydd o ganiatáu mwy o sefydlogrwydd, efallai contractau pum tymor ar gyfer cyrff pan fydd Llywodraeth Cymru yn ystyried caffael yn y dyfodol. A ydych yn edrych ar bob un o'r agweddau hyn i sicrhau y bydd gan fusnesau yn y dyfodol gymaint o sefydlogrwydd â phosib i roi arian yn ôl i mewn i'r economi a chael pethau i symud eto?
Diolch am y cwestiynau yna. Roedd y cyntaf yn ymwneud â benthyca, ac wrth gwrs mae gan Lywodraeth Cymru bwerau benthyca cyfyngedig iawn beth bynnag, felly y math o hyblygrwydd yr ydym yn gofyn i Lywodraeth y DU ei ystyried fyddai cynyddu ein benthyca ar y sail flynyddol honno yn unig—felly, o bosibl heb hyd yn oed ystyried cynnydd cyfanredol yn ein benthyca, sef £1 biliwn, ond dim ond i roi ychydig mwy o hyblygrwydd inni ymateb mewn ffordd hyblyg ac ar fyrder drwy fenthyca petai angen i ni wneud hynny. Hefyd, rydym yn chwilio am fwy o hyblygrwydd i ddefnyddio cronfa wrth gefn Cymru eleni, felly, gallu defnyddio popeth sydd yn y gronfa wrth gefn os bydd angen. Credaf fod hynny'n gais rhesymol o dan yr amgylchiadau. Ac rydym ni hefyd yn ceisio cael rhywfaint o gytundeb gyda Llywodraeth y DU i newid cyfalaf i refeniw, oherwydd wrth gwrs nid yw hynny'n newid maint cyffredinol cyllideb Llywodraeth Cymru. Felly, mae hynny'n rhywbeth yr wyf yn gobeithio y bydd Llywodraeth y DU yn ei ystyried yn ffafriol yn y trafodaethau y byddwn yn eu cael. Gwn fod cyd-Aelodau ar draws y gweinyddiaethau datganoledig eraill hefyd yn cael y trafodaethau hynny ac yn rhoi'r ystyriaeth honno i'r math o hyblygrwydd y byddent yn dymuno'i weld.
O ran y trethi cwbl ddatganoledig, mae hi'n anochel rwy'n credu, y bydd yr argyfwng COVID yn effeithio ar y dreth trafodiadau tir a'r dreth gwarediadau tirlenwi. Fodd bynnag, mae'r graddau y mae'n effeithio ar ein cyllideb yn dibynnu ar yr addasiad i'r grant bloc, felly mae'n dibynnu a fydd y sefyllfa'n newid yng Nghymru ac ar draws y DU mewn ffordd debyg, a bydd hynny'n dangos a oes bwlch ai peidio. O ran cyfraddau treth incwm Cymru, wrth gwrs, bydd yr argyfwng presennol yn effeithio ar refeniw o gyfraddau treth incwm Cymru a'r addasiad i'r grant bloc. Rydym yn disgwyl y bydd yn fach ar hyn o bryd, ond rwy'n credu bod angen i ni gadw llygad ar yr hyn sy'n digwydd o ran yr economi; os bydd yn effeithio'n fwy arnom ni nag ar ardaloedd eraill, er enghraifft, gallai hynny fod yn arwyddocaol. Ond, wrth gwrs, dim ond yn haf 2022 y cawn yr wybodaeth am yr alldro, felly bydd hwn yn sicr yn fater a fydd yn peri pryder parhaus i mi ac o bosibl i Weinidogion cyllid yn y dyfodol hefyd.
Ynglŷn â'r sylw olaf, ynglŷn ag adroddiad comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol—mae'n sicr yn ddogfen drylwyr a chynhwysfawr—a'r mater o gontractau tymor hwy a chyllidebau tymor hwy, rwyf wastad yn fodlon ystyried hynny ond, fel y gwyddoch chi, dim ond cyllideb un flwyddyn sydd gennym ni ar hyn o bryd, ac roeddem yn disgwyl yr adolygiad cynhwysfawr hwnnw o wariant yn ddiweddarach eleni. Nawr, i ba raddau y gallwn ni warantu neu ddibynnu ar hynny, cawn weld, rwy'n credu.
Gan mai dyma'r tro cyntaf i mi gael holi'r Gweinidog ar lafar yn ystod yr argyfwng yma, dwi am fynd ar ôl ambell fater sylfaenol. Gwnaf ofyn yn gyntaf am ychydig bach mwy o wybodaeth am y mater y gwnaethoch chi ei grybwyll yn y fan yna o ran ceisio cael y Trysorlys i fod yn barod i edrych yn wahanol ar sut y gall Llywodraeth Cymru ddefnyddio pwerau benthyg. Dwi yn gwerthfawrogi'r eglurhad o'r hyn rydych chi yn chwilio amdano fo fel Llywodraeth, ond gaf i ofyn oes yna arwydd wedi dod gan y Trysorlys o ba mor barod maen nhw'n debyg o fod i ymateb yn bositif i'r cais yma sydd wedi dod gan Lywodraeth Cymru er mwyn trio mesur lle ydyn ni ar hyn o bryd?
Mae yna elfennau eraill, dwi'n meddwl, o hyblygrwydd sydd eu hangen hefyd. Dwi'n cyd-fynd efo'r Gweinidog yn dweud bod angen hyblygrwydd ar hyn o bryd. Fformiwla Barnett ydy'r llall—mae'n fformiwla, wrth gwrs, sy'n gwbl anaddas ac mae wedi cael ei beirniadu am ddegawdau erbyn hyn am fethu â bod yn fformiwla sydd yn ymateb i angen. Os edrychwn ni ar sawl ffactor yma yng Nghymru, rydyn ni'n gwybod bod COVID-19 yn taro'r hŷn yn fwy na'r ifanc. Mae'n poblogaeth ni yng Nghymru yn hŷn na'r cyfartaledd drwy'r Deyrnas Unedig. Mae'n feirws sy'n taro pobl lai breintiedig yn economaidd. Mae mwy o gyfran o'r boblogaeth yma yn y categori hwnnw. Felly, pa drafodaethau sydd wedi bod ar gyflwyno system newydd ar yr amser yma? Mae'n amser eithriadol ac felly mae angen trefniadau cyllidol eithriadol hefyd. Mi allem ni gael pocedi dwys o achosion o COVID-19, un ai yng Nghymru neu mewn rhannau o Loegr, neu beth bynnag, ac mi fydd angen hyblygrwydd mewn system, yn cynnwys drwy'r prosesau cyllido, er mwyn sicrhau llif o arian.
Rwy'n cael trafodaethau rheolaidd gyda'm cymheiriaid yn y gwledydd datganoledig eraill ac yna hefyd yn y cyfarfodydd pedairochrog gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys, ac yn ein cyfarfod diweddaraf buom i gyd yn sôn am bwysigrwydd hyblygrwydd, a chytunodd y Prif Ysgrifennydd y byddai'n ystyried o ddifrif y cynigion a gyflwynwyd gennym. Felly rydym ni'n cael y trafodaethau hynny rhwng y tair gwlad. Nawr, o ystyried ein sefyllfaoedd gwahanol a'r gwahanol setliadau sydd gennym ni, byddwn ni'n chwilio am wahanol fathau o hyblygrwydd, ond serch hynny rydym wedi ymrwymo i weithio gyda'n gilydd oherwydd bod hwn yn fater pwysig i'r DU gyfan. Mae'r trafodaethau hynny'n mynd rhagddynt ar hyn o bryd. Rwy'n gobeithio y byddant yn arwain at rai canlyniadau llwyddiannus. Dydw i ddim yn credu bod yr hyn yr ydym ni'n gofyn amdano yn afresymol o bell ffordd ac rwy'n credu, mewn gwirionedd, y bydd rhywfaint ohono yn helpu Llywodraeth y DU o ran rheoli ei chyllid gan mai'r hyn nad ydym yn gofyn amdano yw mwy, dim ond gofyn am fwy o hyblygrwydd i allu defnyddio yr hyn sydd gennym ni eisoes a'r hyn yr ydym yn cynllunio i'w gael hefyd.
Mae'r sylw am fformiwla Barnett yn briodol iawn. Rydym yn cytuno'n llwyr nad yw'n seiliedig ar angen. Yn y drafodaeth gyntaf a gefais gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys ar ddechrau'r argyfwng hwn, roeddwn yn awyddus iawn i grybwyll yr agweddau y mae Rhun ap Iorwerth newydd sôn amdanynt o ran bod gan ein poblogaeth fwy o angen: y pwynt hwnnw fod gennym ni boblogaeth sy'n hŷn yn gyffredinol neu gyfran fwy o bobl hŷn o fewn ein poblogaeth yng Nghymru; a'r pwynt hwnnw am y feirws yn cael effaith yn y cymunedau sy'n llai ffyniannus. Ond, hefyd, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig cydnabod bod rhesymau economaidd hefyd pam y dylai'r ymateb fod yn seiliedig ar angen, ac mae un ohonyn nhw yn ymwneud â'n heconomi: mae gennym ni gyfran uwch o fusnesau bach a chanolig; mae gennym ni gyfran fwy o ddiwydiannau gweithgynhyrchu, sydd, unwaith eto, wedi cael ergyd galed; ac, wrth gwrs, mae'r diwydiant twristiaeth yn gyfran fwy o'n heconomi yma yng Nghymru hefyd. Felly, mae'r holl ffactorau hyn yn dangos bod angen cydnabod angen a chydnabod y ffaith nad yw Barnett yn ddigonol yn yr achos hwn.
Mae'r rhain yn ddadleuon yr ydym yn parhau i'w cyflwyno. Ni fu unrhyw newid ar y sylfaen o ddefnyddio Barnett fel man cychwyn ar gyfer hyn, ond rwy'n teimlo'n fwy gobeithiol ynghylch cael rhywfaint o newid ar fater hyblygrwydd.
Mae hynny yn newyddion da, dwi'n meddwl. Dylwn i fod wedi crybwyll y ffigurau gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru. Dwi'n meddwl yr oedden nhw'n amcangyfrif fis yn ôl fod yr arian ychwanegol sydd i ddod i Gymru drwy Barnett rhyw £500 miliwn yn llai na faint y mae coronafeirws wedi ei gostio i Gymru, felly mae hynny'n rhoi rhyw fath o gyd-destun i ni. Yn ychwanegol at hynny, mae yna bethau eraill y gallwn ni edrych am hyblygrwydd gan y Trysorlys arnyn nhw. Gaf i ofyn pa drafodaethau mae'r Gweinidog wedi eu cael efo Trysorlys Prydain ar roi eglurder ar y shared prosperity fund, er enghraifft, fydd yn allweddol wrth inni symud ymlaen, a hefyd i sicrhau llif arian ar gyfer y bargeinion dinesig yn gyflymach? Bargen y gogledd: dyma ichi faes lle y buasai symud cyflym gan Lywodraethau Cymru a Phrydain yn fuddiol iawn rŵan. Ond, wrth gwrs, o fewn cynlluniau gwariant uniongyrchol Llywodraeth Cymru, mae angen i arian fod yn llifo'n gyflym drwy'r system hefyd. Gaf i ofyn pa gynlluniau sydd ar waith i gyflymu'r prosesau cyllido arferol i wneud yn siŵr bod llywodraeth leol, er enghraifft, yn derbyn arian yn brydlon er mwyn iddyn nhw allu ymdopi efo'r pwysau aruthrol sydd arnyn nhw ar yr amser yma?
Bydd y gronfa ffyniant gyffredin a'r fargen ddinesig—y ddwy fargen ddinesig—yn hollbwysig o ran yr adferiad wrth inni adfer o effeithiau uniongyrchol yr argyfwng, ac mae'r trafodaethau hynny wrth gwrs yn parhau. Cyhoeddodd y Ffederasiwn Busnesau Bach ddogfen bwysig heddiw ynghylch sut y gallwn ni gefnogi busnesau bach, ac maen nhw'n cydnabod potensial enfawr y gronfa ffyniant gyffredin hefyd. Rydym ni'n cael y trafodaethau hynny gyda Llywodraeth y DU, neu o leiaf yn ceisio eu cael. Nid yw'n ymddangos bod gennym ni unrhyw eglurder o ran gwybodaeth, ond rydym yn sicr yn cyflwyno'r achosion yr ydym ni wedi'u trafod droeon o'r blaen, a hefyd yn parhau â'r trafodaethau hynny ac yn parhau i wrando ar randdeiliaid, sy'n gweld y gronfa ffyniant gyffredin fel arf pwysig ar gyfer y dyfodol hefyd.
O ran llywodraeth leol, rydym yn ymwybodol iawn bod llif arian yn broblem benodol iddyn nhw, felly mae'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi bod yn darparu taliadau uwch a thaliadau cynnar i awdurdodau lleol i'w helpu gyda rhywfaint o'r problemau llif arian sy'n eu hwynebu. Rydym ni hefyd wedi sefydlu cronfa galedi o £110 miliwn ar gyfer awdurdodau lleol, a byddant yn defnyddio'r arian hwnnw wrth iddyn nhw ei wario, ond mae'n rhoi hyder i'r awdurdodau lleol hynny i wario yn yr ardaloedd hynny lle mae prydau ysgol am ddim ar gael, er enghraifft, arian ychwanegol ar gyfer gofal cymdeithasol a'r meysydd eraill lle yr ydym ni wedi cytuno ar gyllid, fel y gallant gael yr hyder a'r rhyddid i wneud y penderfyniadau y mae angen iddyn nhw eu gwneud heb orfod gwneud gwaith papur beichus cyn cael y cyllid hwnnw.
Rwyf eisiau gwneud tri phwynt cyflym iawn ar fformiwla Barnett a symiau canlyniadol Barnett. Wrth gwrs, swm canlyniadol Barnett yw'r isafswm y mae'n rhaid inni ei gael; does dim rheswm pam na allwn ni gael mwy na fformiwla Barnett, a gwyddom fod Gogledd Iwerddon yn cael mwy na fformiwla Barnett yn eithaf rheolaidd. O ran symiau canlyniadol gwariant Lloegr yn unig mewn meysydd datganoledig, lle nad yw'r arian wedi dod o'r meysydd datganoledig, a yw'r Gweinidog wedi sicrhau bod ei swyddogion wedi gwneud y cyfrifiadau i sicrhau ein bod yn cael y swm cywir? Ac os af ymlaen i un sefyllfa benodol, mae Lloegr wedi dileu gwariant y bwrdd iechyd sydd dros 10 y cant o gyfanswm eu gwariant am y flwyddyn. A all y Gweinidog egluro sut y cyflawnwyd hynny heb sbarduno cynnydd canlyniadol Barnett i Gymru?
Felly, y cwestiynau yna, rwy'n cytuno'n llwyr â Mike mai symiau canlyniadol Barnett yw'r lleiafswm ac nid oes rheswm pam na ddylem ni gael cyllid ychwanegol, ac roedd cydnabyddiaeth lwyr, fe gredaf, i hynny yn y ffaith bod Llywodraeth y DU wedi dweud y bydd yn darparu arian ychwanegol i'n helpu i ymdrin â'r llifogydd ym mis Chwefror, er enghraifft. Felly, mae hynny'n cydnabod y bydd amgylchiadau arbennig mewn rhannau o'r Deyrnas Unedig ble mae angen mwy o arian na symiau canlyniadol Barnett. Ac, unwaith eto, mae'r cynsail yn bodoli y dylai'r cyllid fod yn seiliedig ar angen; felly, roedd yr arian ar gyfer llifogydd yn sicr mewn ymateb i angen. Felly, credaf y gallwn ni barhau i wthio'r dadleuon hynny.
Ac yn amlwg, cyn i haint y coronafeirws fynd ar led, roeddem yn dechrau gwneud ychydig o gynnydd o ran y fframwaith cyllidol ac archwilio sut y gall weithio'n well, a sut y gall y datganiad o bolisi ariannu weithio'n well i Gymru ynghyd â'r gwledydd datganoledig eraill. Ac rwy'n gobeithio y bydd y gwaith yn ail ddechrau cyn gynted ag y gallwn ni a chyn gynted ag y bo'n briodol i fwrw ymlaen â hynny.
Roeddwn yn llawn cyffro hefyd pan glywais am ddileu'r cyllid yn Llywodraeth y DU, ond gwnaeth swyddogion rai ymholiadau'n gyflym iawn a chanfod bod y cyllid hwnnw wedi'i gyfrifo o fewn cyllidebau'r adran iechyd mewn blynyddoedd blaenorol. Felly, yn anffodus, nid oedd arian ychwanegol ar ein cyfer ni ar yr achlysur hwnnw.
Diolch ichi am eich datganiad, Gweinidog, ac mae'n dda eich gweld ac yn dda i—. Rydym yn eich gweld eto ar 27 Mai ar gyfer y gyllideb atodol. A gaf i ofyn yn y cyfamser—? Roeddech yn pwysleisio, yn sicr gyda'r £500 miliwn ar gyfer y gronfa cadernid economaidd, fod gwariant yng Nghymru yn fwy na'r hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei wario yn Lloegr. Rydym yn gwybod eich bod yn gallu ariannu tua £100 miliwn o hynny drwy eithrio'r manwerthwyr mwyaf o'r ardrethi busnes. A allwch chi roi unrhyw syniad imi beth yw'r £400 miliwn arall o ran yr hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud yn Lloegr i ymdrin â'r argyfwng hwn nad ydych chi yn ei wneud yng Nghymru, beth bynnag yw'r rheswm pam yr ydym ni wedi gwneud y dewisiadau hynny?
A gaf i hefyd ofyn i chi am y cynllun ffyrlo? Gwelais ffigurau'n gynharach yn dweud bod 74 y cant o fusnesau Cymru wedi'i hawlio o'i gymharu â 67 y cant yn Lloegr, ac fe wnaethoch chi sôn am rai o'r gwahaniaethau sectoraidd hefyd. Rwy'n bryderus efallai erbyn canol Gorffennaf, o gofio bod Canghellor y DU yn chwilio am arian i gyfrannu at y cynllun ffyrlo hwnnw, efallai 20 y cant o gost y cyflogau o ddechrau mis Awst, a bod angen ymgynghori os yw busnesau'n mynd i ddileu swyddi, a ydych chi'n rhannu fy mhryder y gallai fod diswyddiadau sylweddol ac y gallen nhw fod yn fwy yng Nghymru o ganol Gorffennaf ymlaen, gan fod hynny i'w ddisgwyl? Ac a yw'n anochel y bydd hynny'n digwydd ar ryw adeg? Rwy'n credu bod cost y cynllun hwn yn fwy na'r gost o ariannu'r GIG, a bydd hyd yn oed Llywodraeth y DU yn ei chael hi'n anodd ariannu hynny'n hir iawn. Nid wyf yn gwybod beth yw disgwyliadau'r Gweinidog o ran sut yr ymdrinnir â'r diffyg mawr hwnnw o tua £270 biliwn. Yn ôl pob tebyg, nid yw'n dymuno gweld cyni o'r newydd. A yw hi'n rhagweld cynnydd sylweddol yn y dreth ar draws y DU, neu a yw hi'n credu ei bod yn fwy tebygol y bydd y ddyled a benthyca yn chwyddo wrth i arian gael ei argraffu? Bydd y dewis hwnnw'n gwneud cryn wahaniaeth i'n cyllid ni yng Nghymru.
Ac, yn olaf, a gaf i ofyn ynghylch treth trafodiadau tir yn benodol? Mae hi'n dweud ein bod ni'n cael ein diogelu rhag ergydion ar draws y DU fel hyn, ond yn sicr, os ydym yn dewis yng Nghymru i gadw'r farchnad eiddo ynghau, er eu bod yn ailagor yn Lloegr heddiw, ac mae canlyniadau cyllidol yn sgil hynny, a yw'n dweud y dylai Llywodraeth y DU ddigolledu Cymru am y penderfyniad hwnnw, neu a yw hi'n disgwyl gorfod dod o hyd i arian ychwanegol yn ei chyllideb i wneud iawn am y dreth trafodiadau tir na fyddwn yn ei chael am gyfnod?
Diolch am y cwestiynau yna. Mae bob amser yn braf eich gweld hefyd, Mark Reckless. Cafodd y gwariant o £500 miliwn a gyflwynwyd gennym ar gyfer y gronfa cadernid economaidd ei ddwyn ynghyd fel pecyn o gyllid o wahanol rannau o'r Llywodraeth. Felly, roedd yn cynnwys cyfalaf trafodion ariannol, er enghraifft—£100 miliwn o hynny. Roedd hefyd yn cynnwys cyllid yr oeddem yn gallu ei ryddhau o rywle arall yn y Llywodraeth, felly nid wyf yn ymwybodol bod yna lawer iawn y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud i gefnogi busnesau nad yw Llywodraeth Cymru yn ei wneud. Fodd bynnag, byddwn i'n awyddus archwilio hynny.
Un peth yr ydym ni wedi bod yn ceisio ei wneud yw defnyddio ein cyllid ychwanegol i gau'r bylchau yn y cymorth. Felly, mae rhai bylchau sylweddol mewn cymorth i fusnes gan Lywodraeth y DU, ac mae'r gronfa cadernid economaidd yn ceisio gwneud hynny. Rwy'n ymwybodol iawn bod bylchau'n parhau, a dyna pam mae'r gronfa wedi cael ei rhewi dros dro, fel y gallwn ni ystyried sut y gallwn ni lenwi rhai o'r bylchau sy'n bodoli, gan ystyried hefyd sut y gallwn ni ganolbwyntio rhywfaint o'r arian ychwanegol hwnnw ar yr adferiad hefyd.
O ran y cynllun ffyrlo, ysgrifennodd Llywodraeth Cymru yn gynharach yr wythnos hon, a dweud y gwir, at y Canghellor ynghylch y mater o ffyrlo, ac rydym yn croesawu'n fawr y ffaith bod y cynllun wedi cael ei ymestyn. Yr hyn sy'n ein poeni mewn gwirionedd yw na ddylai'r cynllun leihau'r cymorth i fusnesau na allant agor yn gyfreithlon. Felly, gallai fod adeg pan na all busnesau mewn rhai sectorau agor o hyd. Felly, credaf y dylai'r busnesau hynny barhau i gael eu diogelu. A dylai'r cynllun barhau i gynnig yr un faint o gefnogaeth ddwys i fusnesau twristiaeth, rwy'n credu, yn benodol, gan fod gennym ni gyfran fwy ohonyn nhw yma yng Nghymru. Mae'n amlwg eu bod wedi cael eu taro'n galed ac maen nhw'n dweud wrthym eu bod yn wynebu'r hyn sy'n debyg i dri gaeaf i bob pwrpas, un ar ôl y llall, o ran y math o elw y byddant yn gallu ei wneud.
Rydym ni hefyd yn awyddus bod y cynllun cadw swyddi yn y dyfodol yn cynnwys mwy o hyblygrwydd. Felly, mae TUC Cymru wedi gofyn am yr hawl i fusnesau o bosib hawlio wrth i weithwyr ddod yn ôl yn rhan-amser, ac ati. Felly, mae'r holl bethau hynny, rwy'n credu, yn ystyriaethau pwysig. Mae Llywodraeth y DU wedi cytuno y bydd yn trafod camau nesaf y cynllun gyda'r gwledydd datganoledig, a deallaf fod cyfarfod â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys yn cael ei drefnu ar gyfer yr wythnos nesaf, felly edrychaf ymlaen at barhau â'r trafodaethau hynny.
O ran sut y telir am hynni gyd, credaf y bydd hynny'n her wirioneddol i'r Canghellor mewn gwirionedd, wrth gloriannu gwahanol ddewisiadau, wrth gwrs, o ran a yw'n golygu cyfnod o gyni hir a pharhaus. Gwelsom yr adroddiad a ddatgelwyd yn gynharach heddiw. Felly, rwy'n credu mai'r peth pwysicaf—yn wir, sy'n gorfod ein harwain—yw sicrhau nad y bobl sydd ar y cyflogau lleiaf a'r bobl dlotaf fydd yn parhau i ysgwyddo'r baich hwn. Mae'n ymddangos yn rhywbeth anghyson iawn pe byddech yn ceisio rhewi cyflogau'r sector cyhoeddus ar adeg pan rydym ni i gyd yn dathlu pa mor bwysig yw ein gweithwyr sector cyhoeddus i ni, a dyma'r bobl sy'n ein cadw i fynd ar hyn o bryd. O na fyddai gennyf bêl risial, ond credaf y bydd heriau anodd iawn yn ein hwynebu, a chyfnodau anodd i'r economi, fel yr ydym ni wedi'i weld mewn nifer o'r sylwadau a'r rhagamcanion sydd wedi'u cyhoeddi.
O ran treth trafodiadau tir, nid wyf yn credu y gwelwn ni wahaniaethu mawr. Rwyf wedi gofyn i swyddogion yn ddiweddar, mewn gwirionedd, i ystyried sut y gallwn ni ailagor y farchnad dai yn ddiogel yma yng Nghymru, ond yn amlwg ni fyddwn yn ymgymryd â'r camau hynny nes ein bod yn ffyddiog ei bod yn ddiogel i ni wneud hynny yma. Ond, dyma un o nodweddion y fframwaith cyllidol sydd gennym ni. Mae'n bosib y gallem weld addasiad negyddol pe baem yn cael effaith fwy ar hynny yma yng Nghymru, ond byddwn yn parhau i adolygu hynny'n fanwl.
Er bod y grant busnes atodol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU ar gyfer Lloegr yn cynnwys grantiau i fusnesau gwely a brecwast sy'n talu ardrethi domestig yn hytrach nag ardrethi busnes, hepgorodd Llywodraeth Cymru hyn pan estynnodd ei chynllun grant COVID-19. Felly, sut ydych chi'n ymateb i berchnogion busnesau gwely a brecwast yn y gogledd sydd wedi gofyn imi ddweud wrthych, os na fyddant yn cael y grant, y bydd eu busnesau'n rhoi'r gorau i fasnachu y mis hwn?
Ac mae Llywodraeth Cymru yn cael £35 miliwn o'r £750 miliwn o gymorth elusennol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU, gan gynnwys £1.7 miliwn o'r £76 miliwn ychwanegol a gyhoeddwyd i gefnogi goroeswyr cam-drin domestig, trais rhywiol a chaethwasiaeth fodern, a sicrhau bod plant a phobl ifanc sy'n agored i niwed yn cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw, ac yn cael £12 miliwn o ganlyniad i'r £200 miliwn ar gyfer hosbisau yn Lloegr—llawer mwy na'r £6.3 miliwn a gyhoeddwyd ar gyfer hosbisau yng Nghymru. Felly faint o hyn fydd y darparwyr sector gwirfoddol yng Nghymru sy'n darparu'r gwasanaethau arbenigol hyn, gan dynnu pwysau oddi ar wasanaethau iechyd a gofal statudol, yn ei gael?
Dechreuaf gyda mater hosbisau yng Nghymru, a ddisgrifiwyd gennych chi. Rydych chi'n gywir bod y swm yr ydym ni wedi'i ddyrannu i hosbisau yng Nghymru yn llai na'r swm a gawsom ni fel arian canlyniadol Barnett, ond dim ond adlewyrchu'r ffaith bod gennym ni lai o hosbisau yma yng Nghymru y mae hynny. Felly, rydym ni wedi gweithio'n agos, mewn gwirionedd, â'r hosbisau i ganfod ffordd y gallwn ni wneud iawn am yr incwm na allant ei gynhyrchu ar hyn o bryd drwy eu hamrywiol weithgareddau, ac ati. Ond, fel rwy'n dweud, rydym ni wedi gweithio gyda'r sector hwnnw, ac rwy'n credu ein bod ni wedi darparu setliad sy'n eu galluogi i barhau i wneud y gwaith hanfodol y maen nhw'n ei wneud ar hyn o bryd. Nid wyf wedi clywed nad yw'r cyllid wedi bod yn ddigonol ar gyfer hynny, ond yn sicr os oes gan Mark Isherwood dystiolaeth neu sylwadau i'w gwneud ar hynny byddwn i'n fodlon, wrth gwrs, gwrando arnyn nhw.
Roedd y cyllid a gyhoeddwyd gennym ni yn gynnar iawn yn fwy na'r cyllid a ddaeth wedyn gan Lywodraeth y DU ar gyfer y trydydd sector. Ond mae'n rhaid i mi fod yn glir yma nad dim ond rhyw adran ddosbarthu ar gyfer cyllid Llywodraeth y DU ydym ni, yn gwneud dim mwy na'i weinyddu ar gyfer yr un prosiectau; byddwn yn gwneud penderfyniadau ar sail anghenion ein cymdeithas a'n heconomi ni. Felly, ni fydd yn wir bob amser bod yr un swm o arian yn union yn mynd i'r un prosiect neu grŵp o randdeiliaid yn union, oherwydd natur datganoli a'n gallu i fod yn fwy ymatebol i'r anghenion penodol sydd gennym ni yma.
Ar fater busnesau gwely a brecwast, rwy'n ymwybodol iawn nad oes cymorth ar gael iddyn nhw ar hyn o bryd, a dywedais fod y gronfa cadernid economaidd wedi'i rhewi ar hyn o bryd er mwyn inni barhau i ystyried lle mae'r bylchau o hyd o ran y cymorth y gall pobl ei gael ar hyn o bryd, a hefyd i ystyried y modd yr ydym ni wedi ceisio cael cydbwysedd rhwng ran parhau i ymateb i'r argyfwng disyfyd, ond yna hefyd i droi ein sylw at adferiad ac ailagor yr economi. Felly mae'r gwaith yna'n parhau o ran cam nesaf y gronfa cadernid economaidd, a gwn fod fy nghyd-Aelod, Ken Skates, yn edrych ymlaen at wneud cyhoeddiad cyn gynted ag y bydd yn gallu gwneud hynny.
Gweinidog, mae adroddiad mewnol y Trysorlys a ddatgelwyd yn cynnwys cyfeiriad at rewi cyflog y sector cyhoeddus am ddwy flynedd fel un mesur sy'n cael ei ystyried yn ymateb i'r gwariant ar y coronafeirws. Byddai hynny'n bradychu'r aberth a wnaed gan weision cyhoeddus ymroddedig yn ystod yr argyfwng—sylw a wnaethpwyd gan gadeirydd Ffederasiwn yr Heddlu heddiw. Ac os oes un wers y dylem ni ei dysgu o'r pandemig, honno yw bod cyni wedi ein gadael ni yn llai na hanner parod i ymdrin ag argyfwng mor fawr â hyn. Gweinidog, nid ydym yn gwybod yn sicr eto beth yw cynlluniau Llywodraeth y DU, felly dyfalu yn unig yw hyn ar hyn o bryd. Ond hoffwn ofyn i chi, a ydych yn cytuno y dylid diystyru mwy o gyni fel ymateb i'r pandemig, ac, os felly, pa ysgogiadau economaidd ac ariannol y mae Llywodraeth Cymru yn credu y dylid eu datganoli er mwyn i ni yng Nghymru gael y dewis i ddilyn llwybr ariannol gwahanol i Loegr?
Yn anffodus, collais ddechrau eich cwestiwn, Delyth—yn wir, dim ond o 'ystyried' ymlaen a glywais. Rwy'n credu y cafwyd problem gyda'r sain. Ond os ydych chi'n gofyn a ydw i'n credu y dylid osgoi mwy o gyni a'i fod yn beth drwg, yna yn bendant, byddwn i'n cytuno â chi ynghylch hynny.
O ran yr hyn y dylid ei ddatganoli ymhellach, wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru wedi cael y rhaglen waith honno a ofynnodd i bobl Cymru beth fydden nhw'n hoffi ei weld o ran pwerau ychwanegol i godi trethi i Gymru, gan i ni nodi'r trethi y byddem yn ceisio eu hystyried yn y lle cyntaf. Rwy'n credu efallai, wrth i ni fynd drwy'r argyfwng, mae'n debyg y bydd yn rhoi munud i feddwl inni o ran dyfodol y trethi hynny a'r meysydd hynny yr hoffem ni ganolbwyntio arnyn nhw. Felly, ar hyn o bryd, yn y Llywodraeth, rydym ni wedi gohirio dros dro y gwaith ar ddatblygu'r syniadau treth hynny a mynd ar drywydd y syniadau treth hynny. Mae'r staff a oedd yn ymwneud â hynny bellach yn gweithio ar ymateb i'r coronafeirws. Felly, rwy'n credu, nad oes gennyf i ateb i Delyth ynghylch hyn heddiw, ond mae hi'n gwneud sylw pwysig bod hwn yn faes lle, rwy'n credu, y bydd angen meddwl o'r newydd yn ei gylch yn sgil y coronafeirws a phopeth y mae wedi ei ddysgu i ni.
Diolch ichi am eich adroddiad, Gweinidog, ond yn sicr mae angen i Lywodraeth y DU feddwl o'r newydd, oherwydd yr hyn a ddangosodd yr adroddiad a ddatgelwyd oedd mai un o'u ffyrdd cyntaf o feddwl oedd rhewi cyflogau'r sector cyhoeddus am ddwy flynedd, ar yr un pryd, codi treth incwm yn gyffredinol, yn ôl pob golwg, o 1 y cant. Felly, rydym ni wedi mynd yn ôl i'r un lle yn union a'n harweiniodd ni i'r argyfwng hwn, fel rydych chi wedi'i ddweud yn barod. Gadawodd y cyni hwnnw ni'n llai na hanner parod ond yn fwy na hynny, rydym ni wedi gweld gweithwyr y sector cyhoeddus yn y sector gofal, mewn nyrsio, yn rhoi eu bywydau eu hunain a bywyd eu teuluoedd, mewn perygl er mwyn pawb arall, ac rydym ni wedi gweld pobl, yn gwbl briodol, y tu allan i'w cartrefi am 8 o'r gloch bob nos Iau yn talu teyrnged drwy guro dwylo i barchu eu haberth. Felly, gobeithiaf y byddwch yn argymell y Canghellor o ddifrif pan siaradwch ag ef nesaf, y byddai'r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru, o leiaf, yn gweld hynny'n gwbl warthus—pe bydden nhw'n cymryd y cyflog hwnnw oddi ar y bobl sydd wedi rhoi cymaint i'r wlad hon.
Gallaf sicrhau Joyce yn bendant—mai dyna fydd natur y trafodaethau pan gaf y cyfle i siarad â'r Canghellor neu'r Prif Ysgrifennydd yn fuan iawn.
Gallaf ddychmygu ei bod hi'n dorcalonnus iawn i bobl yn y sector cyhoeddus ar hyn o bryd, sy'n rhoi popeth i ymateb yn rhagorol i'r coronafeirws, clywed mai dyna'r lle cyntaf y byddai'r Llywodraeth yn ystyried troi ato i dalu am y mesurau a gymerwyd o anghenraid. Felly, gwnaf, fe roddaf ymrwymiad i Joyce mai fi fydd y llais hwnnw ar ran ein gweithwyr yn y sector cyhoeddus yma yng Nghymru yn y trafodaethau hynny.