Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

01/04/2020

Cyfarfu’r Cynulliad drwy gynhadledd fideo am 14:01 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn rhithwir cyntaf. Cyn dechrau, dwi eisiau ychwanegu ambell i bwynt. Mae'r Cyfarfod Llawn a gynhelir ar ffurf cynhadledd fideo yn unol â Rheolau Sefydlog y Cynulliad Cenedlaethol yn gyfystyr â thrafodion y Cynulliad at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006.

Ar ôl ymgynghori â'r Pwyllgor Busnes, bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y Cyfarfod Llawn heddiw. Er nad ydym yn disgwyl pleidlais heddiw, rwyf wedi penderfynu mai'r cworwm i unrhyw bleidlais fod yn ddilys fydd pedwar Aelod, yn unol â Rheol Sefydlog 34.10. Yn unol â Rheol Sefydlog 34.11, pleidlais wedi ei phwysoli fydd yn cael ei defnyddio, a chaiff y gofynion ar gyfer cwestiynau llafar eu datgymhwyso, yn unol â Rheol Sefydlog 34.18. Rwyf wedi rhoi hysbysiad hefyd, yn unol â Rheol Sefydlog 34.17, nad yw'n ymarferol i'n cyfarfod gael ei ddarlledu'n fyw. Bydd recordiad ar gael ar Senedd.tv cyn gynted â phosib ar ôl i'r cyfarfod ddod i ben, a chyhoeddir Cofnod o'r trafodion yn y ffordd arferol.

Hoffwn atgoffa’r Aelodau fod Rheolau Sefydlog yn ymwneud â threfn a threfniadau busnes yn y Cyfarfod Llawn yn gymwys i’r cyfarfod yma. 

1. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Felly, yr eitem gyntaf o fusnes y prynhawn yma yw'r datganiad busnes a dwi'n galw ar y Prif Weinidog i wneud y datganiad busnes.

Lywydd, mae dau ddatganiad ychwanegol wedi'u hychwanegu at yr agenda heddiw: y cyntaf gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r ail gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru.

Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith papurau'r cyfarfodydd sydd ar gael i'r Aelodau'n electronig.

2. Datganiad gan y Prif Weinidog: Coronafeirws (COVID-19)

Yr eitem nesaf yw datganiad gan y Prif Weinidog ar goronafeirws a galwaf ar y Prif Weinidog, Mark Drakeford, i wneud ei ddatganiad.

Llywydd, yn y datganiad hwn byddaf yn rhoi gwybodaeth i Aelodau am y camau rydym ni wedi eu cymryd mewn ymateb i'r argyfwng coronafeirws ers cyfarfod diwethaf y Senedd.

Mewn un wythnos, mae Llywodraeth Cymru wedi gweithredu i roi mesurau mewn lle i atal pobl rhag cwrdd â’i gilydd ac felly i arafu lledaeniad y feirws. Ar yr un pryd, rydym yn gweithio'n ddyfal, ar draws y Llywodraeth, i helpu pobl a busnesau wynebu newidiadau sylfaenol sy'n effeithio ar bob rhan o'n cymdeithas. Rydym yn gwneud popeth posibl i gefnogi'r gwasanaeth iechyd a'r holl wasanaethau cyhoeddus eraill sy'n cefnogi pobl. Mae'r newidiadau hyn yn anodd ond maent yn angenrheidiol. Maen nhw'n achub bywydau.

Lywydd, mae lledaeniad coronafeirws yng Nghymru yn parhau i gyflymu. Dros yr wythnos ddiwethaf gwelwyd cynnydd sylweddol yn nifer y bobl sydd angen triniaeth ysbyty, a chynnydd pellach yn nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig â'r clefyd. Ac eto, mae'n ffaith anochel ein bod yn dal i sefyll wrth odre'r mynydd sy'n ein hwynebu. Bydd y mesurau a roddwyd ar waith dros y pythefnos diwethaf yn arafu cyflymder y feirws, ond ni theimlir yr effaith honno ar unwaith. Bydd nifer y bobl yr effeithir arnynt a nifer y marwolaethau yn cynyddu ymhellach. Y peth allweddol o hyd yw y bydd popeth a wnawn gyda'n gilydd i arafu ac yna i wrthdroi'r duedd honno yn achub bywydau. Heddiw, rwyf am ganolbwyntio ar y materion sydd heb eu cynnwys yn y datganiadau sydd i'w gwneud gan fy nghyd-Aelodau, Vaughan Gething a Ken Skates.

Lywydd, yng Nghymru, mae grŵp COVID y Cabinet yn cyfarfod bob bore Mercher. Mae'n cael adroddiadau am y datblygiadau diweddaraf gan y prif swyddog meddygol, prif weithredwr GIG Cymru, y ganolfan cydgysylltu argyfyngau a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Er mwyn cydnabod y sefyllfa eithriadol o ddifrifol rydym yn ei hwynebu, rwyf wedi gwahodd arweinwyr y Ceidwadwyr Cymreig a Phlaid Cymru i ymuno â'r grŵp hwnnw. Rwy'n ddiolchgar iawn i Paul Davies ac i Adam Price am dderbyn y gwahoddiad. 

Mae gwaith trawsweinyddol yr wythnos hon wedi arwain hefyd at gytundeb ffurfiol drwy'r mecanwaith cymorth milwrol i awdurdodau sifil er mwyn i gymorth cynllunio logisteg gael ei ddarparu yng Nghymru. O ganlyniad, mae cymorth y lluoedd arfog bellach ar gael i'n canolfan cydgysylltu argyfyngau ac i wasanaethau cyhoeddus yn eu hymdrechion i ymladd y clefyd. Rwy'n ddiolchgar iawn am gyflymder a graddfa'r cymorth a roddir gan y lluoedd arfog yn awr.

Lywydd, pan gyfarfuom ddiwethaf, darparodd y Senedd gydsyniad deddfwriaethol i'r Bil Coronafeirws Brys. Ers hynny mae wedi cwblhau ei daith drwy ddau Dŷ'r Senedd ac wedi cael Cydsyniad Brenhinol ar 25 Mawrth. Gwnaethom dynnu sylw yn ein memorandwm cydsyniad deddfwriaethol at welliannau y rhagwelem y byddent yn cael eu gosod. Gallaf gadarnhau bod y gwelliannau hyn wedi'u cynnwys yn y Bil terfynol.  

Ddydd Sul diwethaf, ar gyngor y prif swyddog meddygol fod coronafeirws yn fygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd cyhoeddus yng Nghymru, gwneuthum ddatganiad ffurfiol i'r perwyl hwnnw er mwyn sbarduno pwerau dan Atodlen 22 o'r Ddeddf Coronafeirws. Mae'r pwerau hynny'n caniatáu cyhoeddi cyfarwyddiadau i gyfyngu ar ddigwyddiadau, y modd y mae pobl yn ymgynnull a'u lleoliad, a'r defnydd o bwerau i gau safleoedd neu gyfyngu ar fynediad trwy gyfarwyddiadau. Nid yw gwneud cyfarwyddyd yn galw am ddefnyddio ei bwerau, ond mae'n sicrhau, os bydd yr angen yn codi i wneud hynny, y byddwn eisoes wedi cymryd y camau rhagarweiniol sydd eu hangen i alluogi hynny i ddigwydd. Gwneuthum y datganiad ar y sail ragofalus honno.  

Lywydd, mae pwerau'r Ddeddf yn caniatáu i systemau gwneud penderfyniadau arferol gael eu haddasu ar gyfer yr amgylchiadau presennol. Ddydd Gwener diwethaf, cymeradwyais y cyfarwyddyd ymarfer a gyhoeddwyd ar y cyd ers hynny gan lywydd Tribiwnlysoedd Cymru a llywydd Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru. Mae cyfarwyddyd ymarfer yn caniatáu i'r tribiwnlys hwnnw barhau â'i waith hyd yn oed pan nad yw'n bosibl cynnal gwrandawiadau wyneb yn wyneb neu lle mae'r aelodau sydd ar gael yn brin. Yn ystod yr wythnos ddiwethaf, mae rheoliadau wedi'u pasio yng Nghymru i roi grym cyfreithiol i benderfyniadau a wneir i gau safleoedd gwyliau a gwersylla, hawliau tramwy cyhoeddus a mynediad i dir. Rydym hefyd wedi rhoi grym llawn i'r mesurau llawn a gyhoeddwyd ddydd Llun, 23 Mawrth.

Ar draws Llywodraeth Cymru, mae fy nghyd-Aelodau'n parhau i wneud y penderfyniadau ac i ddarparu'r cyngor sydd ei angen i gynorthwyo ein cyd-ddinasyddion ar yr adeg hynod anodd hon. Ar 26 Mawrth, ysgrifennodd Eluned Morgan at bob Aelod yn amlinellu'r camau a gymerwyd gan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad i gynorthwyo gwladolion y DU sy'n dal i fod dramor. Rydym yn parhau i dynnu sylw at achosion dinasyddion Cymru mewn amgylchiadau heriol o'r fath.

Ddydd Gwener diwethaf, cyhoeddodd Julie Morgan ganllawiau newydd ar gyfer y rheini sy'n darparu gwasanaethau Teuluoedd yn Gyntaf a Dechrau'n Deg yn ystod y pandemig. Hyd yn oed yn yr amgylchiadau a wynebwn, ein nod o hyd yw cefnogi'r rhai sy'n wynebu'r risg fwyaf ac sy'n fwyaf agored i niwed drwy ba bynnag ddulliau diogel y gellir eu defnyddio. Ddydd Gwener hefyd, cyhoeddodd Jane Hutt gyllid newydd i gefnogi gwirfoddolwyr a grwpiau trydydd sector. Mae hynny'n cynnwys £24 miliwn ar gyfer sector gwirfoddol Cymru a £50 miliwn ar gyfer cynllun danfon bwyd yn uniongyrchol yng Nghymru ar gyfer y bobl fwyaf agored i niwed yng Nghymru. Mae dros 30,000 o wirfoddolwyr COVID-19 yng Nghymru ac rwy'n hynod ddiolchgar i Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a'r cynghorau gwirfoddol sirol am bopeth y maent yn ei wneud yn eu partneriaeth â'n hawdurdodau lleol i gysylltu'r ymchwydd o wirfoddolwyr â'r tasgau sydd angen eu cyflawni.

O ran addysg, ers y penderfyniad i gau ysgolion a chanslo arholiadau'r haf hwn, rydym wedi gweithio'n gyflym i ddarparu gwybodaeth y gall fod ei hangen ar fyfyrwyr. Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Kirsty Williams na fydd gofyn i fyfyrwyr blwyddyn 10 a 12, a oedd i fod i sefyll arholiadau yr haf hwn, sefyll yr arholiadau hynny yn nes ymlaen ac y bydd eu cymwysterau llawn yn cael eu darparu yn 2021. Mae dros 800 o ysgolion ledled Cymru wedi aros ar agor i gefnogi ein dysgwyr mwyaf agored i niwed a phlant gweithwyr hanfodol. Diolch i staff ysgolion am y gwaith y maent wedi'i wneud hyd yn hyn ac am y ffaith y bydd y mwyafrif o'r ysgolion hyn yn aros ar agor dros wyliau'r Pasg.

Lywydd, mae'r galwadau ar ein gwasanaethau cyhoeddus, ein busnesau a'n dinasyddion yng Nghymru yn enfawr. Fodd bynnag, y dasg gyffredin rydym oll yn gweithio arni yw achub bywydau. Rydym yn cyhoeddi ffigurau bob dydd bellach o farwolaethau o coronafeirws yng Nghymru, ond mae pob un o'r ffigurau hynny yn fab neu'n ferch i rywun, yn rhiant, neu'n nain neu daid i rywun. Gofynnir i bob un ohonom wneud yr hyn rydym yn ei wneud er mwyn lleihau'r golled honno a'r dioddefaint hwnnw, ac mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ganolbwyntio'n gyfan gwbl ac yn llwyr ar y dasg honno.

14:10

[Anghlywadwy.]—ymuno â grŵp craidd COVID-19 y bore yma. Fel y dywedais wrth dderbyn y gwahoddiad, rwy'n hapus i gymryd rhan yn y trafodaethau hyn wrth gwrs ond fel y byddwch yn deall, rwy'n siŵr, os byddant yn ymyrryd â'r gwaith o graffu ar waith y Llywodraeth, bydd rhaid i mi ailystyried fy rôl yn eu mynychu.

Nawr, yr wythnos diwethaf, fe ofynnais i chi am ymdrechion Llywodraeth Cymru i ail-flaenoriaethu ei chyllid a chyhoeddi cyllideb frys yn dangos pa newidiadau ariannol oedd wedi cael eu gwneud yng ngoleuni'r argyfwng COVID-19. Gwnaethoch nodi y byddai Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cyllideb atodol a bod Gweinidogion yn gwneud dadansoddiad o'u portffolios i ganfod ym mhle y gellid dargyfeirio gwariant i ymateb i coronafeirws.

Nawr, nid yw cyhoeddiad Llywodraeth Cymru am yr £1.1 biliwn yn gynharach yr wythnos hon ond yn cynnwys 25 y cant o'i harian ei hun, gan fod y gweddill yn dod o gyllid Ewropeaidd a Thrysorlys y DU, ac felly, er mwyn argyhoeddi pobl Cymru fod Llywodraeth Cymru o ddifrif yn ail-flaenoriaethu ei chyllid mewn ymateb i'r argyfwng, mae angen inni weld mwy na 'busnes fel arfer' yn unig.

Fel rwyf wedi'i ddweud o'r blaen, mae hefyd yn hanfodol i Lywodraeth Cymru ailddosbarthu ei chyllid i sefydliadau trydydd sector lle gall wneud hynny fel bod y rhai sy'n ymateb i'r argyfwng ar flaen y ciw mewn gwirionedd pan ddaw'n fater o dderbyn cyllid gan y Llywodraeth. Felly, Brif Weinidog, a allwch ddweud wrthym pryd y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno'r gyllideb atodol?

A gaf fi wneud yn siŵr nad yw Paul Davies wedi cwblhau ei gwestiynau?

Mae'n ddrwg gennyf. A allwch chi fy nghlywed i yn awr?

O'r gorau. Iawn. Felly, fel roeddwn yn dweud, Brif Weinidog, a allwch ddweud wrthym felly pryd y byddwch yn cyflwyno'r gyllideb atodol hon? A yw Gweinidogion wedi cynnal yr adolygiadau ariannol hynny o'u portffolios i ganfod lle gellid blaenoriaethu cyllid yn well? Ac mewn perthynas ag arian grant y trydydd sector, a allwch gadarnhau bod y dyraniadau cyllid presennol, y cyfeirioch chi atynt yn eich datganiad y prynhawn yma, yn cael eu blaenoriaethu i adlewyrchu effaith yr argyfwng coronafeirws, fel bod y cynlluniau a'r gwasanaethau sy'n darparu cymorth hanfodol yn cael yr adnoddau priodol i gyflawni eu gwaith?

Diolch i Paul Davies am y cwestiynau hynny a diolch iddo am ymuno â grŵp coronafeirws y Cabinet y bore yma. Rwy'n gobeithio y bydd cael y wybodaeth ddiweddaraf sydd ar gael yn ein cynorthwyo i graffu ar weithgarwch y Llywodraeth, ac rwy'n fwy na pharod i barhau i drafod gydag arweinydd yr wrthblaid ynglŷn â sut y gall y fforwm hwnnw weithredu yn y ffordd y byddai ef a minnau'n hoffi iddo barhau i wneud.  

Mae'n iawn i ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi dechrau ar gyfres o adolygiadau o'r cyllidebau presennol drwy gydol yr wythnos diwethaf. Nid wyf yn credu'n bersonol ei bod hi'n deg disgrifio £1.1 biliwn a ryddhawyd o ymrwymiadau eraill fel 'busnes fel arfer'. Mae wedi galw am benderfyniadau anodd ym mhob rhan o'r Llywodraeth, ac mae hwnnw'n ymarfer rwyf wedi rhybuddio fy nghyd-Aelodau o'r Cabinet y bydd yn rhaid inni ei ailadrodd sawl gwaith yn ystod yr argyfwng coronafeirws.

Yr wythnos diwethaf, canolbwyntiwyd ar refeniw er mwyn rhyddhau cymaint o refeniw ag y gallem at ddibenion coronafeirws. Byddwn yn cynnal ymarfer cyfochrog mewn perthynas â gwariant cyfalaf ar draws Llywodraeth Cymru. Unwaith eto, y nod yw rhyddhau cyfalaf o raglenni na allant fynd rhagddynt bellach yn y ffordd a fwriadwyd yn wreiddiol, a gallu ailgymhwyso'r adnodd hwnnw er mwyn ymateb i'r heriau rydym yn eu hwynebu.

Mae'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd yn bwriadu cwblhau'r rowndiau cyntaf hyn o drafodaethau dros yr wythnos neu ddwy nesaf, wedyn gallwn gynghori'r Pwyllgor Busnes ar yr amserlen y gobeithiwn ei dilyn mewn perthynas â dychwelyd i'r Cynulliad i reoleiddio'r materion hyn drwy gyllideb atodol gyntaf.

Bydd yr Aelodau wedi gweld, fel y dywedais, fod £24 miliwn eisoes wedi'i glustnodi ar gyfer y sector gwirfoddol a'r trydydd sector. Gwneir hynny er mwyn cydnabod yn llawn y rhan y maent yn ei chwarae, fel y dywedodd Paul Davies, yn symud i flaen yr ymateb ledled Cymru i'r argyfwng coronafeirws, o ran yr ymdrech wirfoddol drwy ryddhau pobl ar gyfer dyletswyddau newydd a thrwy gryfhau'r ymateb y gallant ei wneud ar lefel gymunedol, a bwriadwn barhau i gefnogi'r sector yn y gwaith hwnnw.

14:15

Brif Weinidog, yn ogystal ag ail-flaenoriaethu cyllid y Llywodraeth, mae'n gwbl hanfodol fod y Llywodraeth yn mynd i'r afael ar frys â'r ffordd orau o gefnogi ac amddiffyn y mwyaf agored i niwed yng Nghymru rhag bygythiad coronafeirws. Gwn fod eich datganiad yn cyfeirio at gymorth i bobl sy'n agored i niwed, ac rwy'n falch fod rhywfaint o gynnydd yn cael ei wneud, ond a allwch ddweud wrthym pa waith y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud i ganiatáu i bobl gofrestru eu hunain ar gyfer cael cymorth ychwanegol yng Nghymru, a sut y mae'r cynllun hwnnw'n cael ei hyrwyddo, fel bod unrhyw un sy'n teimlo bod angen cymorth ychwanegol arnynt yn gallu hysbysu'r awdurdodau priodol?

Nawr, mae yna bryderon hefyd y gall yr argyfwng coronafeirws arwain at bandemig o gam-drin domestig yn ôl sylfaenydd y sefydliad Stand Up to Domestic Abuse. Deallaf fod Llywodraeth Cymru yn edrych ar hyn, ond a allech ddweud ychydig mwy wrthym am y negeseuon a'r ymgyrchu cyhoeddus y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried i dynnu sylw at y cymorth sydd ar gael i'r rheini sy'n byw gyda cham-drin domestig yn ystod y cyfnod hwn, a pha wersi a ddysgwyd o'r ffordd y mae gwledydd eraill ar draws y byd yn mynd i'r afael â cham-drin domestig ar hyn o bryd?

Bythefnos yn ôl, gofynnais i chi ynglŷn â'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod y bobl sy'n hunanynysu yn awr yn gallu cael yr eitemau hanfodol y maent eu hangen yn rheolaidd, ac fe ddywedoch chi fod Gweinidogion y Llywodraeth yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr yn yr awdurdodau lleol a chydweithwyr yn y trydydd sector. Mae hefyd yn hanfodol fod mwy yn cael ei wneud i annog gwirfoddolwyr i gamu i'r adwy a helpu i gefnogi'r GIG a chyrff eraill i wneud eu gwaith, yn ogystal â chwarae rhan bwysig yn danfon cyflenwadau hanfodol yn y gymuned. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae nifer y gwirfoddolwyr fesul y pen o'r boblogaeth yn is nag yn Lloegr, ac er y bu rhywfaint o ddryswch, mae'n bwysicach nag erioed fod ymdrechion yn cael eu gwneud i gynyddu'r niferoedd yma yng Nghymru.

Felly, a allwch ddweud wrthym pa drafodaethau brys y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gydag awdurdodau lleol ledled Cymru i ganfod faint o bobl sydd mewn perygl o beidio â chael y cyflenwadau hanfodol sydd eu hangen arnynt? A pha gamau pellach y mae Llywodraeth Cymru yn eu rhoi ar waith i helpu i gynyddu nifer y gwirfoddolwyr ledled Cymru er mwyn sicrhau y gallant helpu i gynorthwyo'r GIG a helpu i ddanfon cyflenwadau hanfodol i'r rhai sydd eu hangen?

Unwaith eto, diolch i Paul Davies am y rheini. O ran trais yn y cartref, mae'n iawn, wrth gwrs, fod y dystiolaeth sobreiddiol o fannau eraill a wynebodd yr argyfwng coronafeirws yn gynharach na ni yn dangos, pan fo pobl wedi'u cyfyngu i'w cartrefi eu hunain, nad yw gartref yn lle diogel i bawb ac i rai pobl, mae'n fan lle mae pobl yn wynebu risg wirioneddol. Heddiw, cyhoeddodd fy nghyd-Aelod Jane Hutt gyngor a chanllawiau newydd i'r sector sy'n dangos sut y gallwn wella gallu gwasanaethau sydd yno eisoes i ymateb, a cheisio eu teilwra i'r amgylchiadau y mae pobl yn eu hwynebu nawr.

Gwn fod ein cydweithwyr yn y gwasanaeth heddlu'n arbennig o effro i hyn i gyd. Roeddwn yn siarad gyda phrif gwnstabl yn gynharach y bore yma ynglŷn â'r mesurau y maent yn eu rhoi ar waith i geisio gwneud yn siŵr, lle mae troseddau'n cael eu cyflawni—ac mae gweithred o drais yn y cartref yn drosedd—y bydd yr heddlu'n ei thrin yn y ffordd honno'n union ac yn ymateb yn y ffordd y byddem yn ei ddisgwyl.

Fel y bydd yr Aelodau'n cydnabod, pan fydd pobl wedi'u cyfyngu i'w cartrefi am resymau da'n ymwneud â coronafeirws, yr her yw nad yw rhai o'r ffyrdd y gallant dynnu sylw eraill at bethau sy'n digwydd yn eu bywydau ar gael iddynt mwyach, ac rydym yn edrych i weld beth sydd wedi digwydd mewn mannau eraill i weld a oes unrhyw wersi y gallwn eu dysgu wrth barhau i wneud y gwasanaethau sydd gennym eisoes ar lawr gwlad mor effeithiol ag y gallant fod o dan yr amgylchiadau anodd hyn.

Roeddwn am gymryd y cwestiwn ynglŷn â'r rhai sy'n agored i niwed a'r rhai sy'n hunanynysu gyda'i gilydd, oherwydd mae'n wirioneddol bwysig inni fod yn glir fod yna ddau gategori gwahanol o bobl yma. Mae'r prif swyddog meddygol wedi ysgrifennu at 81,000 o bobl i ddweud bod eu cyflwr iechyd mor sylweddol fel y dylent aros yn eu cartrefi am 12 i 16 wythnos, ac na ddylent fynd allan o gwbl ac y dylent fod wedi'u hynysu'n wirioneddol oddi wrth eraill a allai beri niwed iddynt fel arall.

Dyna'r bobl rydym yn cynnig danfon bwyd at garreg eu drws, lle nad oes ganddynt unrhyw ffordd arall lle gellir dod â bwyd iddynt. Bydd gan y rhan fwyaf o'r bobl hyn deuluoedd a chyfeillion yn barod, ac maent yn debygol o fod yn defnyddio gwasanaethau presennol, a byddant yn gallu dibynnu ar y rhwydweithiau hynny i'w cynorthwyo. Ond i'r rhai na allant wneud hynny, rydym wedi rhoi system ar waith i fynd â bwyd i ddrysau pobl—lle mae'n iawn inni wneud hynny—i'w cynnal drwy'r wythnosau i ddod. Nid yw'r system honno'n addas i bawb. Mae rhai pobl yn rhy agored i niwed i allu codi'r bocs bwyd o garreg eu drws hyd yn oed. Yn yr amgylchiadau hynny, rydym yn trefnu, drwy ein cydweithwyr yn yr awdurdodau lleol, i fwyd gael ei gludo o'u canolfannau gan wirfoddolwyr i bobl sydd angen gwasanaeth mewn gwahanol fath o ffordd.

Wrth gwrs, ceir grŵp llawer mwy o bobl sy'n agored i niwed: pobl dros 70 oed, menywod beichiog, pobl sydd â chyflyrau sy'n bodoli eisoes, ac yn y blaen. Nid yw'n ofynnol iddynt aros gartref yn yr un ffordd yn union. Bydd llawer o'r rheini'n bobl a all ymweld â'r siop eu hunain i gael cyflenwadau bwyd, ond rydym yn gweithio gydag archfarchnadoedd, o ran y gwasanaethau a ddarparant, y gwasanaethau sy'n danfon nwyddau i gartrefi pobl, i weld sut y gallem nodi pobl yn y grŵp hwnnw hefyd, pan fyddwn wedi gorffen ymdrin â'r grŵp diogelu, er mwyn rhoi rhywfaint o flaenoriaeth iddynt hwy o ran gwasanaethau sy'n danfon nwyddau i'r cartref. Ceir rhai heriau data yn gysylltiedig â sicrhau bod gwybodaeth bersonol pobl ar gael i archfarchnadoedd yn y ffordd honno, ond mae atebion i hynny'n cael eu dyfeisio.

O ran gwirfoddolwyr, wrth gwrs, roeddem yn dechrau o sylfaen lawer uwch yng Nghymru. Mae Cymru bob amser wedi meddu ar nifer uwch a mwy cadarn o wirfoddolwyr na rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Mae gennym 30,000 o bobl ychwanegol sydd wedi camu i'r adwy yn yr argyfwng coronafeirws. Maent yn dod drwy Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, maent yn dod drwy'r cynghorau gwirfoddol, ac mae gwaith broceriaeth i'w wneud er mwyn sicrhau bod eu cynigion o gymorth yn cael eu cysylltu â'r rhai sydd ei angen. Wrth gwrs, rydym yn awyddus i ragor o bobl gamu i'r adwy oherwydd, wrth i'r clefyd waethygu, bydd hyd yn oed pobl sydd wedi gwirfoddoli—bydd nifer o'r bobl hynny eu hunain yn methu cyflawni'r dyletswyddau gwirfoddoli hynny. Felly, y cyngor gorau i bobl sy'n dymuno gwirfoddoli yng Nghymru yw mynd i wefan CGGC. Mae'n broses syml iawn: gallwch gofrestru eich parodrwydd i helpu, ac fe gewch eich cysylltu yn eich ardal â'r bobl sydd angen yr help hwnnw.

14:20

A gaf i ddechrau trwy estyn cydymdeimladau dwys i'r rhai sydd wedi colli aelodau o'r teulu a chyfeillion yn ystod yr wythnosau diwethaf, ac estyn dymuniadau gorau i'r rhai sy'n sâl ar hyn o bryd, a diolch i bawb sydd yn gofalu amdanon ni i gyd yn y cyfnod hynod anodd yma? A gaf i ddiolch hefyd i chi, Brif Weinidog, am estyn gwahoddiad i fi ymuno gyda'r grŵp COVID cenedlaethol rŷch chi wedi cyfeirio ato fe ynghynt?

A gaf fi ddechrau drwy ofyn rhai cwestiynau ynglŷn â phrofion? A all y Prif Weinidog gadarnhau, yn groes i beth y mae'r cwmni sy'n gysylltiedig â'r cytundeb a chwalodd yn ddiweddar, sef Roche, yn ei honni o leiaf, fod cytundeb ysgrifenedig wedi'i gadarnhau gyda Llywodraeth Cymru i ddarparu 5,000 o brofion y dydd? Ai'r hyn a ddeallwch yw mai'r catalydd a  barodd i'r cytundeb fethu oedd cytundeb tebyg gyda Public Health England? Os yw hynny'n wir, pa hyder sydd gennych yn Public Health England—sydd, rwy'n credu, wedi cyflawni lefel is o brofi hyd yma na Chymru, pro rata—i gaffael ar ein rhan yn awr? A fyddwn yn dal i gyrchu ein capasiti ein hunain yn annibynnol o ran profion, yn ychwanegol at unrhyw beth a wneir ar sail gydgysylltiedig yn y pedair gwlad? A yw'r Llywodraeth, er enghraifft, wedi cysylltu â phrifysgolion Cymru, neu a yw prifysgolion Cymru wedi cysylltu â'r Llywodraeth, i weld a ellid defnyddio eu capasiti labordy i gynyddu lefelau profion yng Nghymru?

O ran cyfarpar diogelu personol, a allwch gadarnhau y bydd y llinell gymorth frys rydych wedi'i chreu ar gyfer pobl sy'n pryderu ynglŷn â chael cyfarpar diogelu personol ar gael i'r cyhoedd ar gyfer gweithwyr gofal a nyrsys unigol ac aelodau eraill o staff, fel y mae yn Lloegr? Dywedir wrthyf fod awdurdodau lleol sydd â phryderon ynglŷn â chyflenwad cyfarpar diogelu personol yn cael cyngor ar hyn o bryd i beidio â chaffael eu stociau eu hunain o gyfarpar diogelu personol. A allwch gadarnhau, serch hynny, eu bod yn rhydd i wneud hynny os dymunant? Yn achos gweithwyr gofal sy'n mynd i mewn i gartrefi pobl, oni ddylid eu cynghori i wisgo cyfarpar diogelu personol fel mater o drefn i ddiogelu eu hunain, ond hefyd er mwyn osgoi trosglwyddo'r feirws i'r henoed a grwpiau eraill sy'n agored i niwed?

Yn olaf, Brif Weinidog, ar waith adeiladu, mae Llywodraeth yr Alban wedi cyhoeddi cyfarwyddiadau ar gyfer dod â'r holl waith adeiladu nad yw'n hanfodol i ben ar hyn o bryd. Mae gennych bŵer i wneud yr un peth yma yng Nghymru, pam nad ydych chi wedi gwneud hynny?  

14:25

A gaf i ddweud, i ddechrau, fy mod i'n cytuno â beth ddywedodd Adam Price pan oedd e'n cydymdeimlo â phobl sydd wedi colli pobl oherwydd coronafeirws? Rŷm ni gyd, heddiw, yn meddwl am y cyn-Aelod Cynulliad Bill Powell a'i deulu ef hefyd.

Bydd Vaughan Gething yn ymdrin yn fanylach â materion sy'n ymwneud â'r gwasanaeth iechyd, Lywydd, ond o ran y profion, a gaf fi ddweud fy mod yn credu bod ymagwedd gydgysylltiedig ar draws pedair gwlad y Deyrnas Unedig yn ymagwedd synhwyrol yma? Nid ydym am gystadlu â'n gilydd am adnoddau prin. Mae Adam Price yn iawn i ddweud ein bod wedi gweld lefel uwch o brofi yng Nghymru nag ar draws y ffin yn ddiweddar. Ond mae gweithio gyda chydweithwyr yn yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr, yn sicrhau rhywfaint o gadernid yn y system. Nid yw'n ein hatal rhag chwilio am gyflenwadau ein hunain, ond mae hyn yn gystadleuol iawn, fel y bydd yr Aelodau'n deall. Credaf fod gweithio gyda'n gilydd o fudd i Gymru a'n cyfeillion a'n cydweithwyr mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig hefyd.

O ran cyfarpar diogelu personol, yn sicr gall awdurdodau lleol sicrhau cyflenwadau eu hunain os mai dyna y credant eu bod eisiau ei wneud. Ond unwaith eto, ni fyddent eisiau cystadlu yn erbyn ei gilydd mewn marchnad, oherwydd bydd hynny'n sicr yn gyrru'r farchnad i gyfeiriad y cyflenwyr yn hytrach na'r bobl sydd ei hangen.

Nid wyf yn meddwl ein bod yn cynllunio, ar hyn o bryd, i wneud y rhif hwnnw'n rhif cyhoeddus. Yr hyn y dylai rhywun yn y gwasanaeth iechyd neu ofal cymdeithasol sydd â phryderon am gyfarpar diogelu personol ei wneud yw rhoi gwybod am hynny drwy eu sefydliad ac i'r sefydliad ddefnyddio'r rhif hwnnw. Pe bai'r rhif ar gael i bawb, rwy'n credu mai'r risg yw y byddai'n ein rhwystro rhag sicrhau bod cyfarpar diogelu personol yn cyrraedd y mannau lle mae ei angen fwyaf, yn hytrach na'r system sydd gennym, lle mae pobl sy'n gallu gweld rhwystrau ar lawr gwlad yn rhoi gwybod i'w sefydliad, ac yna mae'r sefydliad yn datrys y broblem drwy fod mewn cysylltiad drwy'r llinell.

O ran gwaith adeiladu, rwy'n deall bod Llywodraeth yr Alban wedi cyhoeddi canllawiau. Nid cyfarwyddyd ydyw, ond arweiniad. Roeddem mewn trafodaethau gyda Llywodraeth yr Alban ar hyn ddoe a byddwn yn cynnal trafodaethau â hwy eto yfory. Credaf mai'r hyn rydym yn ymgodymu ag ef yw dod o hyd i ffordd o ymdrin â safleoedd adeiladu lle nad yw'r ymarfer yn ddiogel, lle nad yw pobl 2 fetr ar wahân, gan sicrhau ar yr un pryd nad ydym yn rhwystro gwaith adeiladu hanfodol sydd ei angen arnom at ddibenion cyhoeddus: datblygiad Ysbyty Athrofaol y Grange; y gwaith sy'n digwydd yn Sir Gaerfyrddin mewn perthynas â pharatoi canolfannau hamdden; y gwaith sy'n mynd rhagddo yn Rhondda Cynon Taf a Chonwy i ymateb i bobl sydd wedi dioddef lifogydd yn eu cartrefi; a gwneud yn siŵr fod gwaith yn cael ei wneud i atal llifogydd yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Mae dod o hyd i ffordd gyfreithiol o nodi'r pethau rydym eisiau eu parhau a'r pethau nad ydym eisiau eu parhau wedi bod yn heriol—rydym yn trafod hyn gyda Llywodraeth yr Alban i weld a allwn gydweithio ar y mater.  

14:30

Pan fo rhywbeth yn gyfrinachol, yn amlwg mae hynny'n gwneud craffu ac atebolrwydd yn anos ac rwy'n credu ei fod hefyd yn erydu ymddiriedaeth y cyhoedd os nad oes gennych dryloywder llwyr. Felly, o ystyried bod y Llywodraeth wedi dewis dweud wrthym am y cytundeb yn chwalu gyda'r cyflenwr hwn, a gaf fi ofyn i'r Prif Weinidog unwaith eto, a ydych yn barod i gadarnhau mai Roche yw'r cwmni, ac os nad Roche yw'r cwmni, pwy arall ydyw? Ac yn benodol, a allwch chi ateb yr awgrym a glywais gan sawl ffynhonnell yng Nghymru, a sawl ffynhonnell y tu allan i Gymru, mai un o'r rhesymau pam y chwalodd y cytundeb gyda Llywodraeth Cymru oedd oherwydd cytundeb cyfochrog gyda Public Health England? Nawr, naill ai mae hynny'n wir neu nid yw'n wir, ac mae'n achosi llawer o bryder a rhywfaint o ddicter mewn rhai mannau. Os nad yw'n wir, dylech roi diwedd ar y sïon hynny yn awr, Brif Weinidog, drwy ddweud hynny, neu o leiaf ddweud wrthym beth rydych yn ei wybod ynglŷn â pham y chwalodd y cytundeb.

Lywydd, mae gennym gytundeb; roeddem yn credu mai'r cytundeb oedd un a oedd gennym—. Mae'n ddrwg gennyf, rwyf newydd gael gwybod na wnaethoch glywed dechrau'r cyfraniad hwnnw. Felly, roedd gennym gytundeb; roedd yn gytundeb a oedd gennym; roedd y cytundeb gyda Roche. Rydym o'r farn ei fod yn gytundeb y dylid bod wedi'i anrhydeddu. Bellach, mae gennym fynediad at gyflenwad o brofion gan gonsortiwm o gyflenwyr a fydd yn rhoi cynnydd sylweddol inni yn nifer y profion a gynhelir yma yng Nghymru. A bod yn onest, rwy'n credu mai'r hyn y mae cleifion ei eisiau yw sicrwydd y bydd profion ar gael, y bydd staff yn gallu cael eu profi a mynd yn ôl i'r gwaith, ac nid wyf yn credu mai'r peth pwysicaf i'r rheini sydd angen cael eu profi yw'r manylion ynglŷn â sut y daeth hynny i fod. Maent eisiau gwybod ei fod yno a'i fod ar gael, ac ar gael mewn niferoedd mwy, a gallwn fod yn hyderus o hynny.

Diolch am eich datganiad, Brif Weinidog, a fy nghydymdeimlad hefyd â phawb sydd wedi colli anwyliaid i'r clefyd dychrynllyd hwn. Mae'r newyddion hefyd mai bachgen 13 oed heb unrhyw broblemau iechyd amlwg yw'r ieuengaf i farw o'r clefyd hwn yn ategu difrifoldeb y pandemig. Bob dydd gwelwn pa mor gyflym y mae'r sefyllfa'n newid, ac yn wir, ers eich diweddariad diwethaf i'r Siambr mae nifer y bobl sydd wedi'u heintio'n fyd-eang wedi dyblu. Yma yng Nghymru, er gwaethaf mesurau llym, mae'r clefyd yn parhau i ledaenu'n eang. Rwy'n ddiolchgar am y gwaith sy'n cael ei wneud gan eich Llywodraeth i gadw pob un ohonom yn ddiogel, ac i ddarparu diweddariadau rheolaidd i ni a'n hetholwyr.

Felly, Brif Weinidog, mae ein staff yn y GIG sydd ar y rheng flaen yn y frwydr yn erbyn COVID-19 yn haeddu ein diolch diffuant, a hynny'n gwbl briodol, ac ar ôl inni ddod allan o'r argyfwng hwn, mae'n rhaid inni edrych ar opsiynau i'w gwobrwyo am eu anhunanoldeb wrth ein gwarchod ni ac achub bywydau. Fodd bynnag, nid staff y GIG yw'r unig rai sy'n haeddu ein canmoliaeth a'n cefnogaeth. Mae staff mewn cartrefi gofal hefyd ar y rheng flaen, ac maent hwythau hefyd yn wynebu prinder o gyfarpar diogelu personol. Mae hefyd wedi'i ddarlledu y bore yma nad yw cartrefi gofal bellach yn gallu cael nwyddau wedi'u danfon ar gyfer y bobl yn y cartrefi gofal hynny, sydd unwaith eto yn golygu bod staff yn gorfod mynd allan i siopa gan eu rhoi mewn perygl o ddal COVID-19. Felly, Brif Weinidog, pa sicrwydd y gallwch ei roi i'r sector gofal cymdeithasol y byddant yn cael y cyfarpar diogelu personol sydd ei angen i gefnogi staff? Ac o ran cydnabyddiaeth, rwy'n croesawu'r ffaith bod staff y GIG yn cael teithio am ddim ar drafnidiaeth gyhoeddus. Brif Weinidog, a yw hyn hefyd yn cynnwys staff gofal cymdeithasol?

Yn ychwanegol at staff iechyd a gofal cymdeithasol, mae'n rhaid i ni gydnabod yr ymdrechion a wneir gan swyddogion yr heddlu, diffoddwyr tân, staff carchardai, yn ogystal â'r rhai sy'n gwirfoddoli eu gwasanaethau i'r sector cyhoeddus cyfan. Ond nid y sector cyhoeddus yn unig; gwneir pob ymdrech ar draws y sector preifat i sicrhau bod gennym ffordd o gael hanfodion bywyd. Felly, yn anffodus, er gwaethaf eu hymdrechion gorau, nid yw pawb yn gallu cael nwyddau wedi'u danfon gan archfarchnadoedd, fel y nodais.

Ac mae nifer o etholwyr nad yw'r GIG yn ystyried eu bod yn eithriadol o agored i niwed wedi cysylltu â mi, ac eto, oherwydd anableddau amrywiol, nid ydynt yn gallu mynd i siopa drostynt eu hunain. Felly, cyn yr argyfwng, roedd yr etholwyr hyn yn dibynnu'n llwyr ar gael nwyddau wedi'u danfon gan archfarchnadoedd. Felly, gan fod y slotiau danfon nwyddau bellach yn cael eu cadw gan etholwyr, mae fy etholwyr yn wynebu dewis anodd rhwng llwgu neu chwarae rwlét Rwsiaidd gyda feirws hynod heintus. Brif Weinidog, pa drafodaethau a gawsoch gyda Llywodraeth y DU? Sylwaf eich bod wedi cael trafodaeth gyda Llywodraeth y DU am bersonél milwrol, ond rwy'n gofyn a yw hynny'n cynnwys danfon nwyddau i bobl fel y rhain? Po hwyaf y bydd yr argyfwng yn parhau, y mwyaf o effaith a gaiff ar y rhai mwyaf agored i niwed yn y gymdeithas.

Pa asesiad a wnaethpwyd o effeithiolrwydd y mesurau rheoli presennol, ac a yw'r model y mae Llywodraeth Cymru yn dibynnu arno yn gwneud unrhyw asesiad i weld a fyddai mesurau rheoli byrrach a mwy caeth yn well na mesurau rheoli llacach a mwy hirdymor?

Ac yn olaf, Brif Weinidog, rydym yn mynd i mewn i gam mwyaf tyngedfennol y pandemig hwn, sy'n rhoi straen aruthrol ar bawb sy'n ymwneud â diogelu'r cyhoedd. Fodd bynnag, rhaid i ni sicrhau ein bod yn blaen-gynllunio, yn hytrach nag ymateb yn unig i ddigwyddiadau wrth iddynt ddatblygu. Brif Weinidog, a allwch chi amlinellu'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i olrhain cysylltiadau pan fydd gennym ddigon o gapasiti i gynnal profion yn y system? Credir bod GIG Lloegr yn gweithio ar ap i helpu gydag olrhain cysylltiadau. Byddai'r ap yn olrhain lleoliadau a chysylltiadau ac yn ei gwneud hi'n bosibl rhybuddio ar unwaith, pe bai rhywun rydych wedi bod mewn cysylltiad â hwy yn datblygu symptomau COVID-19. Brif Weinidog, pa rôl y mae Llywodraeth Cymru yn ei chwarae yn cynllunio'r cam hwn, a pha gamau rydych yn eu cymryd i sicrhau na fydd pethau o'r fath yn tarfu ar ein hawliau sifil?

Diolch unwaith eto, Brif Weinidog, ac os gwnaiff pawb ohonom wrando ar y cyngor meddygol, dylem drechu'r clefyd hwn yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach. Diolch. Diolch yn fawr.

14:35

Diolch yn fawr. Diolch i Caroline Jones am y cwestiynau hynny; fe geisiaf eu hateb mor gyflym ag y gallaf. O ran cyfarpar diogelu personol ar gyfer staff gofal, maent yn rhan o'r trefniadau cyflenwi ar gyfer cyfarpar diogelu personol, a chafodd cryn dipyn o gyfarpar diogelu personol ei ryddhau i gartrefi gofal yng Nghymru ddydd Llun a dydd Mawrth yr wythnos hon—pecyn o gyfarpar diogelu personol yn mynd yn uniongyrchol i bob cartref gofal preswyl yng Nghymru. Os oes cartrefi gofal yn ei chael hi'n anodd cael bwyd, mae Menter a Busnes, sefydliad cynghori sydd gennym yng Nghymru, yn cysylltu â chartrefi gofal i roi cymorth iddynt gyda hynny.

Nid yw teithio am ddim ar drafnidiaeth gyhoeddus yn cynnwys staff gofal cymdeithasol, a hynny am resymau ymarferol yn unig: mewn trafodaethau â'r sector, teimlwyd bod yr anhawster i adnabod pobl wrth iddynt fynd ar fws, a'r cyfrifoldeb y byddai hynny'n ei roi ar yrrwr y bws i wneud y mathau hynny o benderfyniadau, yn rhy drwm ac ni allem wneud hynny.

O ran darparu cyflenwadau o nwyddau ar gyfer pobl nad ydynt yn cael eu gwarchod ond sydd er hynny yn agored i niwed, rwy'n sicr yn gobeithio nad yw'r math o ddewis a awgrymodd Caroline Jones, ac rydym yn cynghori pobl sydd yn y sefyllfa honno i gysylltu â hyb eu hawdurdod lleol, oherwydd dyma'n union y math o beth rydym yn gobeithio y gallai'r gwirfoddolwyr rydym wedi'u nodi gynorthwyo ag ef.

Ar y gwaith modelu, yn sicr, mae gallu gan y gwaith modelu i gyferbynnu effaith gwahanol gyfnodau o amser ar ba gyfyngiadau ar fywydau normal pobl y byddai angen eu rhoi ar waith. Mae'r Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau'n cyfarfod yn rheolaidd—bydd yn cyfarfod eto yr wythnos hon—i edrych ar y modelau hynny ac i roi cyngor i ni.

Ar olrhain cysylltiadau, mae'r cyfyng-gyngor yn union fel y cyfeiriodd Caroline Jones ati ar ddiwedd ei chyfraniad, sef ein bod eisiau gallu olrhain cysylltiadau, ond nid ydym eisiau gwneud hynny yn y ffordd y mae wedi cael ei wneud mewn rhai gwledydd eraill, lle mae'n orfodol, a lle mae eich symudiadau a'ch ymddygiad personol yn cael eu casglu gan y wladwriaeth a'u defnyddio yn y ffordd honno. Byddai'n rhaid iddo fod ar gael i bobl sy'n dewis cyfrannu eu data yn y ffordd honno, a'i ddefnyddio wedyn er eu diogelwch eu hunain. Ond yn y math o gymdeithas ydym ni a'r math o gymdeithas rydym ni'n dymuno bod, y person sy'n berchen ar y data a fyddai'n penderfynu yn ei gylch ar y pwynt hwn; hynny yw, chi, fi a phob un ohonom yn unigol, yn hytrach na bod hynny'n cael ei wneud ar sail orfodol, wedi'i drefnu drwy'r Llywodraeth.

14:40

A gaf fi ddechrau drwy gofnodi fy niolch diffuant i staff y GIG yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a staff yr awdurdod lleol? Bydd yr Aelodau wedi gweld ein bod wedi bod ynghanol yr argyfwng yng Nghymru, ac rwy'n wirioneddol ddiolchgar i bawb, ac rwy'n cynnwys pobl fel ein gweithwyr siopau, sy'n cefnogi pawb yn y gymuned.

Mae gennyf ychydig o gwestiynau i'r Prif Weinidog, roedd y cyntaf yn ymwneud â mynediad at siopa ar-lein. Fel y gŵyr y Prif Weinidog, mae etholwyr wedi codi hyn gyda mi droeon oherwydd y penderfyniad i fwrw ymlaen ar sail Lloegr yn unig â chynllun cofrestru ar gyfer siopwyr sy'n agored i niwed. Clywais yr hyn a ddywedoch chi mewn ymateb i Paul Davies am y camau sy'n cael eu cymryd i ddatrys hyn. Rwy'n credu ei bod hi'n hanfodol fod y mater yn cael ei ddatrys, oherwydd, er mor ddefnyddiol yw parseli bwyd, bydd llawer o bobl eisiau gwneud eu siopa eu hunain ar-lein. Felly, a allwch chi roi rhyw fath o amserlen ar gyfer pryd rydych yn disgwyl y bydd system debyg i'r hyn sy'n digwydd yn Lloegr ar hyn o bryd ar waith yng Nghymru?

Hoffwn egluro—rydych wedi cyfeirio at hybiau'r awdurdodau lleol—os oes pobl nad ydynt yn y grŵp sy'n agored iawn i niwed, ond na allant, am ryw reswm, ddod o hyd i rywun i'w helpu i siopa ac efallai eu bod yn aros adref gyda symptomau neu beth bynnag, a ydych yn disgwyl y bydd awdurdodau lleol yn rhoi cymorth i'r bobl hynny os nad ydynt ar y rhestr ar gyfer parseli bwyd?

Wedyn, roeddwn eisiau gofyn ychydig o gwestiynau am blant a phobl ifanc agored i niwed. Rwy'n sôn am blant a phobl ifanc agored i niwed yn yr ystyr ehangach, p'un a ydynt yn yr ysgol, p'un a ydynt yn agored i niwed oherwydd materion diogelu neu oherwydd problemau iechyd. Hoffwn ofyn pa gamau rydych yn eu cymryd i sicrhau bod anghenion plant agored i niwed yn cael eu monitro'n ofalus drwy gydol y broses hon. Rydym yn gwybod nad yw gartref yn lloches i rai plant, ac mae angen i ni wneud yn siŵr nad yw'r plant hyn yn llithro drwy'r rhwyd.

Ac yna mae fy nghwestiwn olaf i'r Prif Weinidog yn ymwneud â'r gwaith rhagorol sy'n parhau i gefnogi teuluoedd gweithwyr allweddol a rhai o'n plant agored i niwed mewn safleoedd ysgol. Unwaith eto, diolch i'r holl bobl sy'n helpu gyda hynny. A gaf fi ofyn i'r Prif Weinidog am rywfaint o sicrwydd ynglŷn â pha mor gynaliadwy fydd y trefniadau hynny wrth symud ymlaen, yn enwedig wrth i'r epidemig gyrraedd ei anterth? Diolch.

[Anghlywadwy.]—am ein cydweithwyr yng Ngwent yn y gwasanaeth iechyd a'r gwasanaethau cyhoeddus ehangach yno am bopeth y maent yn ei wneud, ac maent ar flaen y gad yn yr epidemig yng Nghymru. Rydym yn meddwl llawer amdanynt.

O ran siopa ar-lein, rydym yn trafod gydag archfarchnadoedd. Mae Lesley Griffiths, fy nghyd-Aelod, wedi cael trafodaethau gyda hwy yr wythnos hon ac rydym yn mynd i barhau i wneud hynny. Y peth cyntaf y dylid ei wneud yw sicrhau bod unigolion sy'n cael eu gwarchod, nad ydynt yn gallu ac na ddylent adael eu cartrefi eu hunain am gyfnod estynedig, yn dod yn gyntaf. Os oes pobl y tu allan i'r grŵp hwnnw mewn sefyllfa debyg, lle nad oes ganddynt deulu na ffrindiau na rhwydweithiau eraill y gallant ddibynnu arnynt, yna defnyddio hyb yr awdurdod lleol fel system glirio i roi gwirfoddolwyr mewn cysylltiad â hwy yw'r cam nesaf iddynt.

A gaf fi adleisio'r hyn a ddywedodd Lynne Neagle am blant agored i niwed? Ceir sbectrwm eang iawn o bobl sy'n agored i niwed, fel y dywedodd, o ymdrechion sinistr ac ofnadwy iawn gan bobl sy'n camfanteisio ar blant i ddefnyddio'r argyfwng hwn fel ffordd o gyflawni eu ffyrdd o ymddwyn, i blant y mae eu teuluoedd yn cael trafferth gofalu amdanynt yn y ffordd yr hoffent ei wneud. Felly, dywedais yn fy natganiad fod Julie Morgan wedi bod yn trafod gyda gwasanaethau Dechrau'n Deg a Teuluoedd yn Gyntaf ac wedi rhoi canllawiau newydd iddynt er mwyn sicrhau ein bod yn defnyddio'r holl ddulliau diogel y gallwn eu defnyddio i sicrhau bod y teuluoedd hynny'n parhau i gael gwasanaeth, hyd yn oed yn ystod y cyfnod hynod anodd hwn.

Mae'r ysgol yn parhau i fod yn fan lle gall plant agored i niwed gael cymorth. Fel y gwn y bydd Lynne yn ei gofio, roedd ofn dros un penwythnos y byddai niferoedd mawr o blant yn mynd i'r ysgol, ac mewn gwirionedd tua 1 y cant o'r boblogaeth ysgol sydd yn yr ysgol heddiw. Nawr, mae'n rhaid i ni baratoi ar gyfer amgylchiadau a allai fod yn wahanol ar ôl y Pasg, lle bydd mwy o bobl yn sâl a mwy o bobl yn dibynnu ar y gwasanaeth hwnnw. Dyna pam ein bod yn cael trafodaethau gydag undebau athrawon a chydag awdurdodau lleol—gan werthfawrogi'r ymdrechion y maent eisoes yn eu gwneud yn fawr, ond mae'n rhaid i ni fod yn barod ar gyfer y ffordd y gallai fod angen addasu'r gwasanaeth ar ôl y Pasg os ydym yn wynebu amgylchiadau mwy heriol byth.  

14:45

Rwyf eisoes wedi ymestyn yr amser ar gyfer y datganiad hwn, ond rwyf am alw ar un neu ddau o siaradwyr eraill. Os gallaf gael cwestiynau ac atebion cryno, byddai hynny'n ddefnyddiol. Er mwyn tawelu meddyliau pawb, bydd pawb sy'n bresennol yn y Cyfarfod Llawn yn cael eu galw ar un pwynt yn ystod y prynhawn, ond nid o reidrwydd ar gyfer yr holl ddatganiadau y maent wedi gofyn am gael siarad amdanynt. Angela Burns.

Diolch, Lywydd. Prynhawn da, Brif Weinidog. Mae gennyf ychydig o gwestiynau cyflym i'w gofyn i chi am eich datganiad. Rydych yn sôn wrth gwrs am y Ddeddf Coronafeirws a gwahanol Atodlenni iddi sy'n cael eu rhoi mewn grym, sef 8, 15, 10, rhannau amrywiol. A allech chi egluro sut rydych yn lledaenu hynny drwy awdurdodau lleol a thrwy gyrff priodol eraill a sicrhau y caiff darpariaethau newydd y Ddeddf eu cymhwyso'n briodol ar yr adeg gywir ac yn y modd cywir, heb fod yn rhy drwm, ond eto'n gwneud yr hyn sydd angen ei wneud, a sut rydych yn cael hynny allan?  

Roeddwn yn ddiolchgar iawn am eich ymyrraeth ar gyfer gorllewin Cymru yn enwedig, ond gwn fod gogledd Cymru wedi cael trafferthion gyda safleoedd gwersylla a charafanio a'r problemau a ddigwyddodd gyda phenwythnos gŵyl y banc. A allech chi amlinellu a oes gennych unrhyw offer yn eich arfogaeth i allu mynd i'r afael â bythynnod hunanddarpar, oherwydd mae nifer enfawr o dai gwyliau o hyd, yn enwedig yng ngorllewin Cymru, lle rydym yn dal i weld pobl yn dod am wyliau neu i hunanynysu?

Fy nhrydydd cwestiwn, a'r olaf, yw hwn: gan eich bod bellach wedi gweld y cyfan yn ei gyfanrwydd a'ch bod yn edrych ar draws holl ddeiliaid y portffolios a'r gwaith y maent yn ei wneud, a allwch chi roi syniad i ni lle credwch y gallai Cymru fod mewn perygl mawr o hyd, naill ai o ran diffyg cyfleusterau, diffyg offer, prinder staff—a oes unrhyw feysydd penodol y mae gennych bryderon penodol yn eu cylch?

Ac ar ddiwedd eich datganiad, Brif Weinidog, roeddech yn iawn i'n hatgoffa ni i gyd fod pob bywyd a gollir yn deulu sydd wedi torri a chalonnau sydd wedi torri, ac roeddwn eisiau rhannu gyda chi hefyd ac ategu eich cydymdeimlad â hwy. Mae fy meddyliau hefyd gyda phawb sy'n sâl, ac rwy'n hynod ddiolchgar i bawb sydd wedi dod ynghyd, o'r bobl rydym yn meddwl amdanynt ar unwaith, sef ein GIG a'n staff gofal cymdeithasol, ond hefyd yr arwyr di-glod, y cymunedau sydd wedi dod at ei gilydd, y gwasanaethau brys, y gyrwyr sy'n danfon nwyddau, y gweithwyr sy'n stacio silffoedd, y bobl sy'n cadw pethau i fynd. Bendith Duw arnynt, ac rwy'n talu teyrnged i bob un ohonynt.  

Lywydd, diolch i Angela Burns am ei chyfraniad, yn enwedig yr hyn a ddywedodd ar y diwedd. Roeddwn yn ymwybodol iawn yn fy natganiad ein bod yn defnyddio llawer o ffigurau, onid ydym? Rydym bob amser yn gofyn am ganrannau hyn a niferoedd y llall, ac rydym yn olrhain y ffigurau bob dydd, ond o ran y bobl sydd ar ben gwaethaf coronafeirws, mae pob un o'r bobl hynny'n rhywun a oedd yn bwysig iawn i rywun arall, ac ni ddylem golli golwg ar y gost ddynol honno wrth inni barhau i fynd i'r afael â'r holl heriau y mae'r clefyd hwn yn eu cyflwyno inni.  

Ar y Ddeddf, mae Angela Burns yn iawn; mae'n rhoi mathau gwahanol o bwerau i wahanol fathau o awdurdodau—mae gan Lywodraeth Cymru bwerau, mae gan awdurdodau lleol bwerau, mae gan yr heddlu, wrth gwrs, bwerau gorfodi, ac rwyf wedi cael trafodaethau y bore yma gyda phrif gwnstabl arweiniol Cymru yn y maes hwn, ac rwy'n llwyr gefnogi'r ffordd y mae heddluoedd yng Nghymru yn defnyddio'u pwerau. Maent yn eu defnyddio i addysgu a pherswadio, ac ni fyddant ond yn defnyddio eu pwerau gorfodi pan na fydd y pethau hynny'n gweithio. Ond lle mae gorfodaeth yn angenrheidiol, yna, yn yr un modd, rwy'n llwyr gefnogi ein gwasanaeth heddlu yn eu defnydd o'r pwerau hynny. Mae'r rhan helaethaf o'n cyd-ddinasyddion yn ymateb yn wych i'r hyn a ddisgwylir gennym. Pan fo ambell un yn methu ac yn rhoi pobl eraill mewn perygl, rydym yn dibynnu ar ein gwasanaethau heddlu i gadw'r gweddill ohonom yn ddiogel, ac rwy'n awyddus iawn i wneud yn siŵr eu bod yn gwybod bod ganddynt gefnogaeth Llywodraeth Cymru yn y gwaith anodd iawn y maent yn ei wneud.  

Mae rhan o hynny, wrth gwrs, yn ymwneud â llety hunanddarpar, a gofynnais am adroddiadau penodol dros y penwythnos, gan Heddlu Gogledd Cymru a thrwy Heddlu Dyfed-Powys, ynglŷn ag a oedd y gwasanaeth heddlu yn credu bod yna fewnlif pellach o bobl i'r ardaloedd hynny. Ar y cyfan, eu barn hwy yw bod y niferoedd yn isel, a'u bod yn troi rhai pobl yn ôl. A gadewch i ni fod yn glir iawn gyda phobl: nid yw taith i lety hunanddarpar yn daith hanfodol ac felly ni ddylai pobl fod yn gwneud hynny. Mae problem wahanol gyda phobl sydd yno'n barod a pha gamau y dylent eu cymryd, ond ni ddylai unrhyw bobl newydd feddwl bod hwn yn benwythnos da i ymweld â gogledd neu orllewin Cymru; nid dyna'r ffordd y llwyddwn i drechu'r feirws.  

O ran cwestiwn olaf Angela Burns, credaf mai'r pethau sy'n ein poeni yw'r pethau sy'n poeni gweddill y Deyrnas Unedig: lefelau salwch a hunanynysu ymysg staff allweddol ac a allwn lwyddo i gael cynifer â phosibl o'r bobl hynny yn ôl i'r rheng flaen; a oes gennym y cyflenwad o beiriannau anadlu y gallem fod eu hangen ar yr adeg y bydd fwyaf o'u hangen. Wrth i ni ddefnyddio ein stociau o gyfarpar diogelu personol—nid yw'n stoc ddiddiwedd; pa mor gyflym y gallwn ailstocio fel bod gennym fwy yno ar gyfer y dyfodol? Nid wyf yn credu mai mannau gwan yng Nghymru'n unig yw'r rheini. Rydym wedi dweud droeon, onid ydym, fod y Cynulliad wedi'i greu ar gyfer atebion Cymreig i broblemau Cymreig, ac nid yw coronafeirws yn broblem Gymreig; mae'n broblem fyd-eang. Yn ein cyd-destun ni, mae'n broblem i'r DU, ac mae'r pethau a wynebwn yn bethau a wynebir yn gyffredin ar draws ein gwlad yn ehangach.  

14:50

A gaf fi gytuno ag Angela Burns? Rwy'n credu bod Angela wedi dweud y cyfan dros bob un ohonom: rydym i gyd yn teimlo'r un peth, yn ddiolchgar i'r bobl sy'n gweithio a hefyd yn cydymdeimlo â'r rhai sy'n colli anwyliaid.

Fe fyddaf yn gryno iawn, oherwydd rwy'n gobeithio dod i mewn ar gwestiynau eraill i Weinidogion eraill. Yn gyntaf, prydau ysgol am ddim, Brif Weinidog. Gofynnais yr wythnos diwethaf am brydau ysgol am ddim, oherwydd mae llawer o unigolion sydd mewn amgylchiadau anodd yn awr, ac roeddent yn wreiddiol—neu efallai nad oedd eu plant yn cael prydau ysgol am ddim yn wreiddiol, ond oherwydd y sefyllfa, maent bellach wedi colli gwaith, maent bellach yn ddi-waith, ac felly byddant mewn sefyllfa bellach lle gallai eu plant fod â hawl i gael prydau ysgol am ddim. Ond nid yw'n glir eto pwy fydd yn awdurdodi'r sefyllfa honno. A allwch chi gadarnhau p'un ai'r penaethiaid a fydd â'r awdurdod i nodi'r plant ar gyfer prydau ysgol am ddim mewn amgylchiadau penodol, fel nad oes neb ar eu colled? Mae'r plant hynny mewn teuluoedd sydd mewn sefyllfaoedd anodd yn awr o ganlyniad i golli gwaith, diweithdra a diffyg arian, oherwydd efallai nad ydynt yn cael 80 y cant o'u cyflogau arferol. Mae gennyf etholwr a ddechreuodd ei waith ar 6 Mawrth, ar ôl rhoi'r gorau i'w swydd flaenorol ar 3 Mawrth. Gan nad oedd yn ei swydd bresennol ar 28 Chwefror, nid oes ganddo hawl i seibiant 80 y cant. Felly, mae gennym sefyllfaoedd amrywiol o ganlyniad. Mae angen inni wybod pwy fydd â'r awdurdod i edrych ar brydau ysgol am ddim ac i awdurdodi hynny.

O ran y sefyllfa mewn perthynas â seibiannau, pa drafodaethau rydych yn eu cael gyda'r Trysorlys i sicrhau na fydd neb yn cwympo drwy'r bwlch hwnnw? Oherwydd bydd yna unigolion, drwy'r pecyn rydych wedi'i gyhoeddi yr wythnos hon ar gyfer gweithwyr hunangyflogedig hefyd, ond mae yna bobl a allai fod wedi mynd yn hunangyflogedig yn y 12 mis diwethaf a fydd yn awr yn cwympo drwy'r bwlch ac yn edrych am ffyrdd o gael incwm—pobl, fel trydanwyr, sy'n gwneud gwaith mewn tai ac sy'n methu mynd i'r tai hynny i wneud y gwaith hwnnw bellach. Felly, sut rydym yn cael trafodaethau gyda'r Trysorlys i roi sylw i'r rhai sy'n cwympo drwy'r bylchau sy'n dal i fod yno ac a fydd felly'n wynebu sefyllfaoedd ariannol anodd? Mae gennyf lawer iawn o etholwyr yn y sefyllfa honno.

Ac yn olaf, rwyf am ofyn cwestiwn i chi am y gwaith dur—mae'n ddiwydiant pwysig, ymysg llawer o ddiwydiannau pwysig eraill yng Nghymru—a'r gadwyn gyflenwi i'r gwaith dur. Ni allwn fforddio cau'r ffwrneisi chwyth oherwydd, wedi iddynt gau, mae'n debyg na fydd y pen trwm yn ailgychwyn, a buasai honno'n ergyd enfawr i'n diwydiant. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod diwydiannau fel y gwaith dur yn gallu cynnal eu hunain yn ystod y cyfnod anodd hwn er mwyn sicrhau, pan ddaw hyn i gyd i ben, y byddant hwy a'u cadwyni cyflenwi yn dal yn weithredol ac yn hyfyw fel y gall economïau'r ardaloedd lleol hynny barhau i dyfu?  

14:55

Wel, Lywydd, diolch i David Rees am yr holl gwestiynau hynny. Ar brydau ysgol am ddim, mae'n iawn, mae'n hawl, ac yn fy marn i, dylai awdurdodau lleol ddefnyddio'r llwybrau arferol. Mae gan blant hawl i gael prydau ysgol am ddim bob amser mewn amgylchiadau arferol yn ystod y flwyddyn, a bydd gan bob awdurdod lleol broses ar gyfer gwirio amgylchiadau'r plant hynny a sicrhau eu bod cael yr hyn y mae ganddynt hawl iddo, a dylent ddefnyddio'r ffyrdd arferol y byddent yn trin unrhyw blentyn arall mewn unrhyw amgylchiadau eraill.

O ran rhoi gwybod i'r Trysorlys am y ffordd y mae'r cymorth y maent wedi'i gyhoeddi hyd yn hyn yn cael ei ddarparu ar lawr gwlad, mae yna gyfres o gyfleoedd i wneud hynny. Mae is-bwyllgorau COBRA yn cyfarfod bob dydd. Mynychais un ddoe, a rhan o'r cyfarfod hwnnw oedd cyfle i bobl adrodd yn ôl ar y ffordd y mae'r cynlluniau y mae'r Trysorlys wedi'u cyhoeddi yn gweithio ar lawr gwlad a lle mae bylchau'n ymddangos. Nid yw hynny, am un eiliad, yn gwarantu y bydd y Trysorlys yn ymateb i hynny i gyd, ond cwestiwn David Rees oedd, 'Beth rydym yn ei wneud i sicrhau eu bod yn gwybod amdanynt?', ac rydym yn defnyddio'r gwahanol gyfleoedd sydd gennym, ac mae gwybodaeth gan Aelodau'r Cynulliad yn arbennig o werthfawr i ni o ran gallu gwneud hynny'n rhan o'r ymarfer adborth.

Wrth gwrs, fel yr Aelod lleol dros Aberafan, mae'n gwbl ddealladwy y byddai David eisiau tynnu sylw at drafferthion y diwydiant dur. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru mewn trafodaethau parhaus gyda Tata ynghylch y ffwrnais chwyth, ynghylch yr heriau sy'n wynebu'r cwmni, a disgwylir y bydd fy nghyd-Aelod, Ken Skates, yn siarad ag uwch swyddogion gweithredol Tata ddydd Llun nesaf. Drwy gadw mewn cysylltiad mor agos ag y gallwn â'r cwmni, gan sicrhau eu bod yn ymwybodol o'r gwahanol ffynonellau cymorth sydd ar gael iddynt, ond hefyd yr heriau y maent yn eu hwynebu, byddwn eisiau gwneud yr hyn rydym bob amser eisiau ei wneud fel Llywodraeth, sef cefnogi ein diwydiant dur yng Nghymru.

Diolch i'r Prif Weinidog am ei ddatganiad a'r atebion y prynhawn yma.

3. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Coronafeirws (COVID-19)

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud ei ddatganiad—Vaughan Gething. 

Diolch ichi, Lywydd. Yn ôl y disgwyl, rydym yn parhau i weld cynnydd yn nifer yr achosion o coronafeirws sydd wedi eu cadarnhau yng Nghymru. Yn anffodus, rydym hefyd wedi gweld mwy o farwolaethau. Rwy'n cydymdeimlo'n ddwys â'r teuluoedd sydd wedi colli anwyliaid ac â'r rhai sy'n ddifrifol wael o hyd.

Mae hwn yn gyfnod gwirioneddol eithriadol. Fodd bynnag, mae'r ymateb o bob rhan o'n gwasanaethau cyhoeddus wedi bod yn wirioneddol eithriadol hefyd—eithriadol wrth helpu i ddiogelu ein cymunedau ac achub bywydau. Mae pobl yn gweithio'n ddiflino i ymateb i'r argyfwng iechyd cyhoeddus hwn. Mae'r gwaith hwnnw'n bwysig ar gyfer heddiw, yfory a'n paratoadau ar gyfer yr wythnosau nesaf. Rwy'n ddiolchgar ac yn teimlo'n wirioneddol wylaidd wrth weld cyfraniad pob un o'r bobl hynny i'r ymdrech genedlaethol hon.

Mae gan Lywodraeth Cymru, y GIG a sefydliadau'r gwasanaethau cymdeithasol gynlluniau ar waith eisoes ar gyfer pandemig ffliw posibl. Mae'r cynllun hwnnw'n rhoi sylfaen gadarn inni adeiladu arni, ac mae'r cynlluniau hynny'n cael eu rhoi ar waith yn gyflym yn awr. Mae sefydliadau'r GIG yn gweithio i gynyddu capasiti gwasanaethau lleol, gwelyau ac argaeledd gweithlu. I roi hyn yn ei gyd-destun ac i ddangos maint y gwaith hwn, bydd ein byrddau iechyd wedi creu'r hyn sy'n cyfateb i hyd at 7,000 o welyau ychwanegol gyda'r cynlluniau sydd ganddynt ar waith ar gyfer ysbytai maes neu ysbytai Nightingale—gofal cam-i-fyny a cham-i-lawr yn y bôn. Mae hynny, i bob pwrpas, yn ddwbl nifer gwelyau presennol y GIG. Mae hynny'n eithriadol o dan unrhyw amgylchiadau ac mae wedi digwydd dros nifer o ddyddiau.

Mae cyhoeddiadau pwysig wedi'u gwneud yn ystod yr wythnos ddiwethaf, fel y gŵyr yr Aelodau. Er enghraifft, cymeradwyais £8 miliwn i alluogi Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro i weithio gyda phartneriaid, gan gynnwys Undeb Rygbi Cymru, i droi Stadiwm Principality yn ysbyty maes gyda hyd at 2,000 o welyau—mae hynny'n ddwywaith maint Ysbyty Athrofaol Cymru yma yng Nghaerdydd. Mae hynny'n ychwanegol at y capasiti ychwanegol sy'n cael ei greu ar safleoedd ysbytai presennol y bwrdd iechyd.

Mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda gynlluniau datblygedig ar ystod o safleoedd, gan gynnwys Parc y Scarlets—fel y gwelsom ar newyddion ITV Cymru neithiwr—ystod o ganolfannau hamdden ledled Sir Gaerfyrddin, a Bluestone yn Sir Benfro. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, gyda'i ddau awdurdod lleol, wedi nodi canolfannau hamdden a Bay Studios yn Llandarcy. Mae'r rhain oll yn ychwanegol at y 350 o welyau a fydd ar gael yn Ysbyty Athrofaol y Grange o fis Ebrill ymlaen. A gwyddom fod gogledd Cymru eisoes wedi nodi Venue Cymru fel un o'i safleoedd, gyda mwy i'w cadarnhau yn y dyddiau nesaf. Felly, mae pob bwrdd iechyd yn datblygu manylebau a chynlluniau capasiti cyfatebol ar gyfer model gwasgaredig o gapasiti gwelyau ychwanegol ledled Cymru.

Ar ofal critigol, rydym eisoes wedi mwy na dyblu nifer y gwelyau yng Nghymru i 313. Ddoe, roedd y defnydd o unedau gofal critigol oddeutu 40 y cant. Mae 69 y cant o'r bobl mewn gwelyau naill ai'n achosion posibl neu'n achosion a gadarnhawyd o COVID-19. Byddwn yn parhau i gynyddu niferoedd gwelyau gofal critigol yn gyflym, a chefnogir hynny drwy brynu dros 965 o beiriannau anadlu ychwanegol, gydag opsiynau pellach i brynu neu weithgynhyrchu peiriannau anadlu'n cael eu harchwilio ar frys.

Gwn fod pryderon parhaus, yn hollol ddealladwy, ynghylch argaeledd cyfarpar diogelu personol. Dros y penwythnos, darparwyd mwy na 600,000 o fasgiau anadlu FFP3 ychwanegol i fyrddau iechyd i'w trosglwyddo ymlaen i safleoedd gofal sylfaenol, cymunedol ac ysbytai, yn ogystal â gwasanaethau a gomisiynwyd, megis ysbytai iechyd meddwl annibynnol a hosbisau. Darparwyd rhagor o gyfarpar diogelu personol ddydd Llun a dydd Mawrth yr wythnos hon i storfeydd cyfarpar cymunedol ar y cyd awdurdodau lleol i gyfarwyddwyr gwasanaethau cymdeithasol eu dosbarthu yn y sector gofal cymdeithasol. Rydym bellach wedi darparu, o stociau pandemig Llywodraeth Cymru, mwy na phum miliwn o eitemau cyfarpar diogelu personol i'w defnyddio yn ein system iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae'r hyn a ddarparwyd i'r storfeydd ar y cyd yn ddigonol i ddarparu digon o gyfarpar diogelu personol i alluogi pob un o’r 600 a mwy o gartrefi gofal yng Nghymru i gyflawni 200 o ymyriadau unigol. Mae cyswllt ffôn ac e-bost wedi'i sefydlu i'r GIG a'r gwasanaethau cymdeithasol ei ddefnyddio mewn argyfwng os terfir ar gyflenwadau cyfarpar diogelu personol, neu os bydd cynnydd nas rhagwelwyd neu nas cynlluniwyd yn eu defnydd. Dyma'r pwynt y cyfeiriodd y Prif Weinidog ato mewn cwestiynau yn gynharach.

Er ein bod yn wynebu amser digyffelyb a galw cynyddol ar ein gwasanaethau iechyd a gofal, mae'r ymateb gan ein gweithlu wedi bod yn aruthrol. Rydym wedi, a byddwn yn parhau i arloesi wrth fynd ati i ddiwallu’r galwadau arnom yn y frwydr yn erbyn COVID-19. Wythnos yn ôl, gofynasom i'n nyrsys a'n meddygon sydd newydd ymddeol ddychwelyd i'r GIG, ac maent wedi ymateb yn eu heidiau. Eisoes, mae dros 1,300 o weithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol wedi ymateb i'r alwad i ddychwelyd ac i wasanaethu'r wlad.

Mae ein myfyrwyr hefyd yn awyddus i'n cefnogi. Rydym yn archwilio ffyrdd o harneisio egni ac ymrwymiad hyd at 3,760 o fyfyrwyr meddygol, nyrsio, bydwreigiaeth, gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, parafeddygol a gwyddonwyr iechyd hefyd. Gan weithio'n agos gyda Phartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru, rydym wedi gallu gwneud cynnydd yn yr amser digyffelyb hwn. A bydd pob un o'r myfyrwyr sy'n ymgymryd â chynnig yn cael eu talu yn unol â'u hamser—ni fyddwn yn chwilio am wasanaeth gwirfoddol gan y bobl hynny.

Mae gennym fwy na 1,200 o feddygon teulu ar ein cofrestr locwm yng Nghymru, a byddwn yn gofyn i bob meddyg teulu ystyried pa amser a chapasiti pellach sydd ganddynt i'w gynnig. Dyna pam rydym yn gofyn i bob meddyg teulu locwm ystyried contract dros dro gyda'u bwrdd iechyd. Gall eu harbenigedd helpu mewn cymaint o ffyrdd ym maes gofal cymunedol a sylfaenol.

Mae hwn yn amser anghyffredin sydd wedi galw am fesurau anghyffredin, ond mae ein dull unigryw yng Nghymru o weithio mewn partneriaeth yn ein helpu i wneud gwahaniaeth. Bydd hyb COVID Cymru yn cael ei ryddhau yn ddiweddarach yr wythnos hon i gefnogi ein hatebion recriwtio estynedig ac esblygol ar draws y gwasanaeth iechyd.

Er mwyn sicrhau bod ein gwasanaethau gofal sylfaenol yn parhau i fod mor wydn â phosibl drwy'r galw cynyddol arnynt, rydym wedi gwneud newidiadau sylweddol i'r ffordd y mae meddygon teulu a'u timau aml-broffesiynol, timau fferylliaeth, deintyddion ac optometryddion yn darparu gofal i gleifion ledled Cymru. Mae'r newidiadau rwyf wedi cytuno arnynt wedi'u cynllunio i ymateb i bobl sydd â'r anghenion mwyaf taer, p'un a ydynt yn gysylltiedig â COVID-19 ai peidio, ac wrth gwrs, i leihau lledaeniad COVID-19.

Rydym yn gofyn i ddarparwyr weithio'n gyfunol yn eu cymunedau i ymdrin â'r sefyllfa hon, ac rwy'n falch fod ein rhanddeiliaid yn cefnogi'r dull hwn o weithredu. Rwy’n annog pawb i ddilyn y cyngor a gyhoeddwyd ar sut i gael mynediad at wasanaethau yn ystod y cyfnod hwn. Rwy'n ddiolchgar i'n darparwyr gofal sylfaenol a gofal cymdeithasol am eu hymdrechion parhaus yn ystod y sefyllfa hon.

Nodwyd bod oddeutu 81,000 o bobl yng Nghymru yn wynebu risg uchel iawn o salwch difrifol yn sgil COVID-19. Yr wythnos hon, bydd pob unigolyn wedi cael llythyr gan brif swyddog meddygol Cymru. Efallai na fydd wedi cyrraedd eto; rydym yn aros tan ddiwedd yr wythnos i'r holl lythyrau hynny gyrraedd. Mae'r llythyr yn cynnwys cyngor clir i aros gartref am o leiaf 12 wythnos. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu £15 miliwn arall i sicrhau y bydd pobl yng Nghymru nad ydynt yn gallu gadael eu cartrefi yn cael bwyd ac eitemau hanfodol eraill wedi’u danfon yn uniongyrchol at eu drysau, ac roedd hwnnw'n bwynt a grybwyllwyd yn natganiad y Prif Weinidog a’r cwestiynau dilynol.

Mae fy nghyd-Aelod o’r Cabinet, Lesley Griffiths, wedi arwain ein sgyrsiau ag archfarchnadoedd a chyflenwyr cyfanwerthol i gytuno ar drefniadau cyflenwi a danfon ar gyfer y grŵp hwn o bobl sy’n cael eu gwarchod mewn cyfnod byr iawn o amser. Mae Julie James, fel y byddech yn ei ddisgwyl, mewn cysylltiad dyddiol â'n hawdurdodau lleol. Ac rwy'n wirioneddol ddiolchgar i'r teulu llywodraeth leol am y ffordd y maent wedi ymateb i arwain a chydgysylltu ymdrechion cymunedol er mwyn cefnogi pobl yn eu cartrefi eu hunain.

Felly, mae cynnydd sylweddol eisoes wedi’i wneud ar draws ein system iechyd a gofal. Byddai'n hawdd anghofio bod hyn oll wedi'i gyflawni o fewn ychydig wythnosau yn unig, a dyddiau'n unig mewn rhai achosion. Mae gwaith ein gweision cyhoeddus a'n gwirfoddolwyr yn wirioneddol ysbrydoledig yn fy marn i. Mae'n hanfodol bwysig ein bod yn defnyddio'r wythnosau i ddod i roi paratoadau pellach ar waith. Ond ni fydd y rhain ond mor effeithiol ag y gallent ac y dylent fod os bydd pob un ohonom yn cadw at y mesurau cadw pellter cymdeithasol rydym wedi'u cyflwyno. Arhoswch gartref, diogelwch ein GIG, ac achubwch fywydau.

15:05

Weinidog, diolch am eich datganiad. Mewn gwirionedd, credaf fod hwnnw'n bwynt da iawn i’n hatgoffa amdano ar y diwedd. Ar 1 Mawrth, pwy oedd ag unrhyw syniad y byddem yn y sefyllfa rydym ynddi heddiw? Felly, rwy'n awyddus iawn i ychwanegu fy niolch a fy llongyfarchiadau am y 7,000 o welyau ychwanegol sydd wedi'u creu yn y GIG. Credaf fod hynny'n waith rhagorol ar ran neu gan y GIG a chan yr holl sefydliadau partner hynny, o'r awdurdodau lleol i'r nifer o sefydliadau sydd wedi cefnogi ac wedi cynnig lleoedd. Credaf fod 7,000 yn rhif cyflym a hawdd iawn i'w ddweud, ond brensiach, pan ystyriwch y logisteg y tu ôl i hynny, rwy'n llongyfarch pob un ohonynt yn fawr iawn am lwyddo i wneud hynny.

Yn eich datganiad, Weinidog, rydych yn sôn am gyfarpar diogelu personol, a bydd yn rhaid imi ddychwelyd at y mater hwn, oherwydd mae'n debyg mai hwn yw'r mater—neu un o'r materion—y mae pobl yn cysylltu â mi fwyaf yn ei gylch. Yn y dyddiau cynnar, nid wyf yn credu i ni weld cyfathrebu clir i bobl ynglŷn â phryd a phwy ddylai ddefnyddio cyfarpar diogelu personol, a chredaf fod y sefyllfa bellach yn fwy niwlog byth. Rwy'n deall y cyngor gwyddonol, sef os ydych yn trin rhywun sydd â symptomau COVID-19, rydych yn gwisgo cyfarpar diogelu personol, a bydd y math o gyfarpar diogelu personol y byddwch yn ei wisgo yn dibynnu ar eich lle yn y gadwyn o bobl sy'n trin rhywun sy'n sâl â COVID-19.

Ond credaf mai'r broblem, Weinidog, yw bod hwn yn glefyd brawychus; fod pobl yn barod i roi eu hunain mewn perygl i helpu'r gweddill ohonom; ein bod yn gwybod na fydd 30 y cant o'r bobl sydd â COVID-19 yn dangos unrhyw arwydd o fod â symptomau; a gwyddom y bydd oddeutu 80 y cant o boblogaeth Cymru yn cael COVID-19 ar ryw adeg neu'i gilydd. Felly, rwy’n deall pryderon nyrsys ardal, y bydwragedd, y trefnwyr angladdau, yn ogystal â phryderon y bobl sydd ar y rheng flaen fel rydym yn adnabod y rheng flaen, sef y wardiau acíwt mewn geiriau eraill.

Felly, a allwch ddweud wrthym, efallai, sut rydym am gael gafael ar y cyfarpar diogelu personol hwn? Pryd y bydd ar gael? Pa mor glir yw’r canllawiau y byddwch yn gallu eu darparu fel bod pobl yn deall pwy ddylai ei ddefnyddio? Ac a ydych yn rhagweld sefyllfa lle rydym yn derbyn, os ydych yn ymdrin â'r cyhoedd, y bydd angen i chi gael rhyw fath o gyfarpar diogelu personol, ni waeth ar ba ffurf?

Felly, er enghraifft, gall gweithiwr gofal cartref fod yn gofalu am 10 o bobl fregus iawn, ac wrth iddynt deithio i ofalu am y 10 o bobl hynny, gallent fod yn lledaenu'r afiechyd yn ddiarwybod, gan na wyddom sut y mae'n amlygu ei hun ym mhawb. Felly, ar fater cyfarpar diogelu personol, mae hwn yn fater nad ydym wedi cyrraedd ei wraidd eto. A allwch ddweud wrthym faint o gyfarpar diogelu personol sydd ei angen arnom, faint o gyfarpar diogelu personol sydd gennym, ac a fyddwch yn gallu ei gyrchu ar yr adegau priodol i allu ymdopi â’r sefyllfa hon?

Hoffwn ofyn dau gwestiwn arall hefyd, Lywydd. Y cyntaf yw: gan fod gennym ddull caffael ar gyfer y DU gyfan, a allwch ddweud wrthym pa fath o ddata y mae angen i Lywodraeth Cymru ei fwydo i Lywodraeth y DU? A oes gennych syniad clir o’r angen a ragwelir am offer fel peiriannau anadlu, cyfarpar diogelu personol a chitiau profi? Ac a allwch rannu'r niferoedd clir o ran ein sefyllfa yn awr a’r sefyllfa y mae angen inni ei chyrraedd?

Yn olaf, Weinidog, deallaf fod canllawiau moesegol yn cael eu llunio i helpu meddygon i flaenoriaethu cleifion ar gyfer eu derbyn a'u trin yn yr ysbyty. Rwy'n deall ac yn cydymdeimlo'n fawr â'r meddygon hynny, gan fod y rhain yn benderfyniadau anodd i feddygon eu gwneud wrth weithio mewn amgylchiadau anodd, ond maent yn benderfyniadau sy'n rhaid eu gwneud yn deg. A allwch gadarnhau, Weinidog, pryd y bydd y canllawiau hynny ar gael? Ac a allwch gadarnhau bod Llywodraeth Cymru wedi clywed y datganiad hawliau a gyhoeddwyd gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Age UK, Age Cymru, Age Northern Ireland, a Chomisiynydd Pobl Hŷn Gogledd Iwerddon, ymhlith pobl eraill?

Oherwydd rwy'n credu o ddifrif na ddylid defnyddio'r ffaith bod rhywun angen gofal a chymorth ac mewn cartref gofal neu yn eu cartref eu hunain ar hyn o bryd fel procsi ar gyfer eu statws iechyd. A ydych yn cytuno y byddai gwneud penderfyniadau o'r fath heb ystyried anghenion pobl hŷn na'u gallu i elwa o driniaeth mewn ysbyty yn wahaniaethol ac yn annheg? Ac a wnewch chi sicrhau bod sgyrsiau hanfodol ynghylch gofal lliniarol diwedd oes a gorchmynion peidiwch â dadebru ac na cheisier dadebru cardio-anadlol yn cael eu cynnal mewn modd parchus, tosturiol a gwybodus?

A wnewch chi ymrwymo i ddarparu arweiniad ar y mater hwn? Oherwydd mae llawer o bobl hŷn a grwpiau anabl wedi cysylltu â mi gan ddweud eu bod yn teimlo dan bwysau aruthrol i gytuno i bethau nad ydynt wedi cael sgyrsiau amdanynt ac nad ydynt am gytuno iddynt. Mae gan bawb hawliau, ac mae pawb am geisio trechu’r afiechyd ofnadwy hwn.

15:10

Diolch am eich cwestiynau. O ran y 7,000 o welyau ychwanegol, rwy'n falch iawn fod y gwasanaeth iechyd wedi gallu ymgymryd â'r gwaith hwn o dan yr amgylchiadau anoddaf, a'r ymateb gan bartneriaid hefyd. Credaf ei bod yn gwbl briodol fod Angela Burns wedi croesawu a chydnabod hynny hefyd—teulu’r awdurdodau lleol, partneriaid ehangach, ac wrth gwrs, y gefnogaeth y mae’r fyddin wedi'i darparu inni bellach dros y dyddiau diwethaf hefyd. Felly, mae'n ymdrech wirioneddol genedlaethol, ac mae'n dangos yr hyn y gall ein gweision cyhoeddus ymroddedig ei wneud mewn argyfwng.

Fe wnaf ymdrin â'ch pwyntiau ar gyfarpar diogelu personol. O ran ein stociau, rydym yn rhyddhau’r stociau pandemig rydym wedi'u cronni. Mae'r angen am faint o gyfarpar y bydd angen ei ailgyflenwi yn dibynnu i raddau ar nifer yr achosion, a chan na allwn ragweld yn gywir pryd y daw'r argyfwng i ben, ni allwn ragweld yn gywir faint o gyfarpar y bydd ei angen arnom. Ond gwyddom y bydd angen inni ailgyflenwi ar sawl pwynt arall, ac rwyf wedi cael sgyrsiau gyda'r Gweinidogion Cabinet eraill dros iechyd yn nhair Llywodraeth genedlaethol arall y DU. Buom yn siarad ddydd Gwener ac eto ddoe, a byddwn yn siarad eto yfory. Ond ar bob pwynt, mae pob un ohonom wedi gwneud pwyntiau am yr angen i gael mecanwaith DU gyfan i gaffael a dod â chyflenwad o gyfarpar diogelu personol i'r DU, ac yna i’w ddosbarthu’n deg a phriodol i bob un o'r pedair gwlad, a cheir cytundeb ar wneud hynny. Mae hwnnw’n bwynt arall rwyf fi, Jeane Freeman a Robin Swann wedi'i wneud ac rwy'n falch o ddweud bod Matt Hancock wedi cadarnhau ei fod yn cytuno mai dyna'n union a ddylai ddigwydd.

O ran y canllawiau y sonioch chi amdanynt, mae her wirioneddol yma, ac rwy'n cydnabod y pwynt a wnaethoch ynglŷn â’r ffaith bod pobl yn poeni. Mae pobl yn poeni p'un a ydynt yn gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ai peidio. Mae mater yn codi hefyd ynglŷn â'r ymddiriedaeth yn y canllawiau. Rhan o'n hanhawster yw bod cryn alw wedi bod am gyfarpar diogelu personol mewn unrhyw leoliad, a’r canllawiau diwygiedig sy'n cael eu llunio, mae’r canllawiau’n cael eu hadolygu’n gyflym, felly mae pob un o'r prif swyddogion meddygol ledled y DU yn edrych arnynt, cafwyd ystod o—. Mae pob un o'r colegau brenhinol meddygol wedi cyfrannu, a staff y rheng flaen hefyd, ac mae hynny wedi bod yn bwysig, gan ei bod yn edrych fel pe bai pobl wedi colli hyder yn y canllawiau a'r ffordd roedd y canllawiau'n cael eu rhoi ar waith. Rwy'n disgwyl i'r adolygiad cyflym hwnnw fod ar gael cyn bo hir, a phan fydd ar gael, y pwynt pwysig i Lywodraethau yw gallu cadarnhau nid yn unig beth yw'r canllawiau hynny i staff, ond pwy sydd angen cyfarpar diogelu personol a pha fath o gyfarpar diogelu personol, ond hefyd ar gyfer y bobl nad oes arnynt ei angen. Ac mae'n bwysig iawn i'r canllawiau hynny ymdrin nid yn unig â'r lleoliadau a'r tasgau sydd gan bobl ar gyfer cyfarpar diogelu personol priodol, a dyna ble dylid ei ddarparu, yn hytrach na phwy bynnag sy'n digwydd eu cyflogi, a'n tasg ninnau wedyn fydd sicrhau bod y cyflenwad yn cyfateb i'r canllawiau hynny.

Ar beiriannau anadlu a chitiau phrofi, rwyf wedi rhoi diweddariad o'r niferoedd yn y datganiad hwn. Unwaith eto, rydym yn cymryd rhan mewn mecanweithiau caffael ar gyfer y DU gyfan yn ogystal â rhywfaint o'n caffael ein hunain hefyd. A’r her, unwaith eto, o ran yr hyn sydd ei angen arnom, bydd honno'n ymwneud yn rhannol â chynnydd y pandemig, ond rwy’n fwy na pharod i barhau i roi diweddariadau nid yn unig yn y sgyrsiau a gaf gyda llefarwyr iechyd, ond yn gyhoeddus hefyd, ac i'r Senedd fach wrth iddi gyfarfod, a phobl Cymru.

Ac o ran eich pwynt olaf ar ganllawiau moesegol, rwy’n cytuno â chi fod yn rhaid cael fframwaith addas ar gyfer gwneud penderfyniadau i helpu ein staff i wneud dewisiadau anodd iawn, ac ni all hynny olygu dweud wrth bobl fod angen i chi fynd o'r ffordd am nad ydych yn werthfawr mwyach; dyna'n union na ddylai ddigwydd. Rwy’n falch o ddweud, heddiw, fod Coleg Brenhinol y Meddygon wedi cyhoeddi canllawiau i feddygon edrych arnynt a’u hystyried, a gwnaed hynny gyda 14 coleg brenhinol arall a chyfadrannau meddygol eraill hefyd. Felly, mae’r canllawiau hynny wedi’u cyhoeddi a byddwn yn eu hailddarparu i sicrhau bod pobl yn eu cael, ac rwy’n fwy na pharod i sicrhau eu bod yn cael eu dosbarthu i'r holl Aelodau eu gweld hefyd.

15:15

Diolch i'r Prif Weinidog am gadarnhau pa gwmni oedd yn rhan o'r cytundeb a fethodd. Tybed, Weinidog, a fyddech yn ymateb i’r datganiad, felly, a gyhoeddwyd gan Roche neithiwr nad oes ganddynt, ac nad ydynt erioed wedi cael contract na chytundeb yn uniongyrchol â Chymru i gyflenwi profion ar gyfer COVID-19? A ydych o’r farn, felly, nad yw'r datganiad hwnnw'n wir, y byddent wedi gwybod nad oedd yn wir, a’u bod yn dweud celwydd i bob pwrpas?

Gwyddom bellach yr ateb i’r cwestiwn 'pwy' mewn perthynas â'r cytundeb hwn a fethodd, ond rydym yn dal ychydig yn ddryslyd ynglŷn â 'pham', felly tybed a allech ddweud mwy am hynny, eich dealltwriaeth o'r rheswm pam y methodd y cytundeb, ac yn arbennig yr awgrym eang ei fod, i bob pwrpas, wedi ei drechu gan gytundeb cyffelyb â Public Health England y rhoddwyd blaenoriaeth iddo gan y cwmni ar draul y cytundeb â Llywodraeth Cymru.

Mewn perthynas â'r trefniant pedair gwlad newydd ar gyfer caffael profion, dywedwyd bod Cymru yn derbyn cyfran o’r profion ar sail ei phoblogaeth, yn ôl yr hyn a ddeallaf. Ond oni ddylai hynny fod yn uwch o ystyried demograffeg benodol Cymru, sy’n rhywbeth rydych chi, Weinidog, wedi cyfeirio ato o'r blaen, a'r epidemioleg hefyd, y ffaith bod gan Gymru 4.7 y cant o boblogaeth y DU, ond 8 y cant, rwy'n credu, o’r achosion a gadarnhawyd hyd yn hyn, felly oni ddylem fod yn cael 8 y cant o'r profion?

A fyddwch yn cyhoeddi ffigur dyddiol ar gyfer nifer y profion a gynhelir fel y mae'r Alban yn ei wneud, fel y gallwn olrhain cynnydd wrth inni symud ymlaen? A hefyd, tybed a allech ateb y cwestiwn a ofynnais i'r Prif Weinidog: a yw Llywodraeth Cymru wedi cysylltu â phrifysgolion Cymru neu a yw'r prifysgolion wedi cysylltu â Llywodraeth Cymru i weld a allwn ddefnyddio'r arbenigedd gwyddonol yn ein labordai yno i wella ein capasiti profi ein hunain yng Nghymru? Ac a oes gennym ffigur—? Credaf fod gennym ffigur ar gyfer nifer y profion a gynhaliwyd gyda staff y GIG. A oes gennym unrhyw ffigurau ynghylch nifer yr achosion a gadarnhawyd o ganlyniad i'r profion hynny? Sut y mae hynny'n cymharu â'r boblogaeth gyffredinol?

Gan symud ymlaen at gyfarpar diogelu personol, rydych yn cyfeirio at rai o'r niferoedd o eitemau sydd wedi'u cyrchu a'u cyflenwi. A oes gennych syniad o gyfanswm y bobl rydych yn eu cynghori ar hyn o bryd fod angen cyfarpar diogelu personol arnynt? Byddai'n ddiddorol gweld, os oes gennych ffigurau, i gael rhywfaint o syniad ynglŷn â hynny. Sylwais fod y cwmni cydweithredol o Wlad y Basg, Mondragon, newydd gyhoeddi llinell gynhyrchu newydd i gynhyrchu 0.5 miliwn o fasgiau y dydd. A fyddwch yn cysylltu â gwneuthurwyr yng Nghymru i weld a allem wneud yr un peth yma yng Nghymru er mwyn gwella lefel ein cyflenwad ein hunain?

Yn olaf, ar y mater a grybwyllais hefyd ynghylch awdurdodau lleol, deallaf mai’r cyngor i awdurdodau lleol yw peidio â chaffael eu cyfarpar diogelu personol eu hunain yn annibynnol, ond maent yn rhydd i wneud hynny os ydynt yn teimlo bod hynny'n angenrheidiol?

15:20

Iawn, os caf droi at y pwynt olaf yn gyntaf, nid oes unrhyw waharddiad cyfreithiol ar awdurdod lleol rhag caffael ffynhonnell amgen o gyfarpar diogelu personol. Ond rydym yn ceisio sicrhau dull cydgysylltiedig o gaffael cyfarpar diogelu personol a’i drosglwyddo ledled Cymru wedyn.

O ran cynhyrchu a chyflenwi nid yn unig cyfarpar diogelu personol ond eitemau eraill a fydd yn ddefnyddiol yn yr ymateb, rydym wedi cael cryn dipyn o ymholiadau, cynigion o gymorth a diddordeb, ac mae hynny bellach yn cael ei sianelu drwy dîm cyson yn Llywodraeth Cymru. Mae swyddogion Ken Skates a fy swyddogion innau’n cydweithredu i sicrhau ein bod yn cyrraedd y bobl iawn i gefnogi busnesau yng Nghymru, ond hefyd i ddeall y problemau posibl mewn perthynas â chaffael. Nawr, mae rhan o hynny’n ymwneud â deall gwerth y cynnig a wnaed, gan y byddwch yn deall, er y gall llawer o bobl gynnig cefnogaeth sydd, ar yr wyneb, yn edrych yn dda, mae angen inni sicrhau bod pobl yn gallu cyflawni'r hyn y dywedant y gallant ei gyflawni a bod hynny'n mynd i fod yn effeithiol.

Ar eich pwynt am y galw am gyfarpar diogelu personol, wel, bydd hynny'n dibynnu mewn gwirionedd ar y canllawiau diwygiedig ynglŷn â faint o gyfarpar diogelu personol sydd ei angen arnom. Os bydd y canllawiau'n newid, naill ai o ran y math o gyfarpar diogelu personol y dylid ei wisgo neu'r amrywiaeth o leoliadau a thasgau y dylid ei wisgo ar eu cyfer, yn amlwg, bydd angen inni gaffael mwy o gyfarpar diogelu personol. Bydd angen i faint o gyfarpar diogelu personol rydym yn ei gaffael adlewyrchu'r hyn sydd yn y canllawiau, fel y dywedais mewn ymateb i Angela Burns.

O safbwynt y cytundeb ysgrifenedig a gawsom, ni chredaf ei bod yn ddefnyddiol o gwbl i mi fynd i gecru gyda chwmni, gan mai fy ngwaith, rwy'n credu, yw sicrhau ein bod yn arallgyfeirio ein cyflenwad a'n capasiti ar gyfer cynnal profion, a gwneud y defnydd gorau o hynny i ddarparu'r budd mwyaf. Dyna rwy'n canolbwyntio arno, felly nid wyf am gael fy nhynnu i mewn i faterion y byddwn, rwy'n siŵr, yn y misoedd i ddod, wedi i ni ddod drwy hyn, yn awyddus i edrych arnynt mewn mwy o lawer o fanylder.

Dyna pam y bu modd i mi gyhoeddi ar y penwythnos ein bod wedi arallgyfeirio ein capasiti i'w gynyddu yr wythnos hon, ac yn ystod y ddwy i dair wythnos nesaf, i'w gynyddu i oddeutu 5,000 o brofion yma yng Nghymru, heb ddibynnu ar unrhyw gyfran o'r trefniadau a fydd ar waith ledled y DU. Wrth arallgyfeirio cyflenwad a chapasiti yn fwriadol, rydym wedi bod yn cael sgyrsiau, wrth gwrs, gyda phrifysgolion ers peth amser ynglŷn â ble y gallent helpu i ddarparu hynny.

O ran yr hyn sy'n gyfran deg o'r darlun ledled y DU, gwnaethom ymrwymo i drefniadau, fel y gwnaeth Llywodraeth yr Alban a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon yn wir, i geisio caffael y capasiti mwyaf posibl ledled y DU. Nawr, efallai y byddwn yn dechrau o gyfran o'r boblogaeth, ond pan edrychwch ar beth sy'n gyfran deg a beth sy'n gapasiti, rwy'n hyderus y byddwn yn ymestyn hynny fel sy'n ofynnol ledled y DU. Efallai y bydd Cymru a'n cyfran a'n hangen heddiw yn wahanol iawn ymhen tair wythnos, pan fydd gan rannau eraill o'r DU fwy o angen o bosibl, a dyna'r pwynt—sut y mae gennym ein gallu ledled y DU i ddarparu mwy o gapasiti ac i ddiwallu anghenion pobl ledled y DU, a sicrhau ein bod yn cael ein cyfran deg o hynny.

O ran eich pwynt ehangach ynglŷn â niferoedd wedi'u diweddaru ar gyfer cynnal profion a staff, byddwn yn darparu niferoedd wedi'u diweddaru drwy gydol yr wythnosau ar niferoedd ein staff rheng flaen sydd wedi cael profion a'r rhai sydd wedi gallu dychwelyd i'r gwaith, a’r rhai a gadarnhawyd. Nid yw’r niferoedd gennyf, felly nid wyf am geisio eu dyfalu i chi, ond byddwn yn darparu mwy o eglurder ynglŷn â'r hyn y mae ein cyfundrefn brofi wedi'i gynhyrchu.

Rydym yn amlwg mewn gwell sefyllfa na rhannau eraill o'r DU gan ein bod wedi dechrau cynnal profion ar staff rheng flaen ar bwynt cynharach. Felly, mae rhai o'n haelodau staff rheng flaen eisoes wedi dychwelyd i'r gwaith yn brydlon gan eu bod wedi cael y diagnosis cywir, a byddwn yn parhau i wneud hynny. Byddwn yn agored gyda'r cyhoedd ynglŷn â nifer y bobl sy'n gwneud hynny a beth y mae hynny'n ei olygu i'n gwasanaethau cyhoeddus.

Diolch am eich datganiad, Weinidog. Mae llawer o feirniadaeth wedi bod am y diffyg profi yng Nghymru, ac mae cymariaethau'n cael eu gwneud â gwledydd eraill. Nid wyf am ailadrodd y dadleuon ynghylch methiant y cytundeb i sicrhau profion ychwanegol i Gymru, ond pa sicrwydd a gawsoch gan Lywodraeth y DU, a'r gwledydd cartref eraill, nad ydym yn cystadlu am yr un cyflenwad cyfyngedig?

Mae’r cyfryngau’n cyfeirio at Dde Korea fel enghraifft y dylem fod yn ei dilyn. Ond nid oedd De Korea yn dechrau o'u hunfan gan fod ganddynt eisoes gryn dipyn o gyfleusterau profi cyn yr argyfwng hwn oherwydd problemau parhaus gyda'r Syndrom Anadlol Acíwt Difrifol (SARS). Weinidog, a ydych wedi trafod gyda gwledydd y tu hwnt i'r DU, fel De Korea, y ffordd orau o ddwysáu ein cyfundrefn brofi? Hefyd mae gwledydd eraill, fel yr Almaen, mor bell ar y blaen gan fod ganddynt gapasiti labordai, a dyna pam fod y prawf ar gyfer y coronafeirws newydd hwn, a ddatblygwyd yn labordai'r Almaen, yn cael ei ddefnyddio ym mhob rhan o'r byd. Weinidog, rwy’n derbyn nad mater o brynu stoc o adweithyddion yn unig yw cynyddu nifer y profion a gynhelir: mae angen personél arnom i gasglu samplau; rhwydwaith logistaidd helaeth i symud y samplau; technegwyr labordai hyfforddedig i gynnal y prawf; a seilwaith TG i goladu'r canlyniadau. Rydym yn bell iawn o ble mae angen i ni fod. Weinidog, a allwch amlinellu'r trafodaethau rydych wedi'u cael gyda'r sector fferyllol yng Nghymru ynghylch eu rôl yn cefnogi'r frwydr yn erbyn y coronafeirws, ac a allwch hefyd amlinellu'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau y gallwn ddiwallu nid yn unig yr anghenion profi ar hyn o bryd, ond y galw yn y dyfodol hefyd? Mae hwn yn bandemig byd-eang, ac rydym yn wynebu feirws newydd, anghyfarwydd, felly mae angen ymateb byd-eang arnom. A allwch chi amlinellu sut y mae ymchwilwyr a swyddogion iechyd y cyhoedd yng Nghymru yn gweithio gyda gwledydd eraill i fynd i'r afael â'r bygythiad newydd hwn?

Weinidog, mae pob un ohonom wedi cael llythyr gan Gymdeithas Feddygol Prydain ynghylch materion sy’n ymwneud â'r rhestrau o gleifion sy'n agored i niwed. Ddoe, cysylltodd etholwr sy'n agored i niwed â mi, ond nid ydynt ar y rhestr o bobl eithriadol o agored i niwed, hyd y gwyddant. Mae'r etholwr hwn, ers blynyddoedd lawer, wedi dibynnu ar fwyd a meddyginiaeth yn cael eu danfon iddynt, ond ni all hynny ddigwydd bellach gan nad ydynt ar restr Llywodraeth Cymru. Yn ôl Cymdeithas Feddygol Prydain, ni all meddygon teulu gynorthwyo cleifion gan nad oes ganddynt fynediad at y rhestrau o gleifion. Felly, Weinidog, pa gamau rydych yn eu cymryd i sicrhau nad yw ein hetholwyr yn wynebu dewis rhwng llwgu a dal y clefyd o bosibl, clefyd a allai'n hawdd fod yn angheuol oherwydd eu cyflyrau iechyd?

Mae ysbytai'n cael eu codi mewn dyddiau ac mae pobl yn paratoi i helpu mewn unrhyw ffordd y gallant, ond mae rhywfaint o ddryswch wedi bod ynghylch ffyrdd o wirfoddoli yng Nghymru yn dilyn y cyhoeddusrwydd ynghylch lansiad GoodSAM yn Lloegr. Felly, pa gamau rydych yn eu cymryd i sicrhau y gall pawb yng Nghymru sy’n awyddus i helpu yn y frwydr yn erbyn y clefyd hwn wneud hynny?

Hefyd, yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae prifysgolion, y diwydiant, a chymuned y gwneuthurwyr wedi bod yn datblygu dulliau newydd o gynhyrchu popeth o sgriniau wyneb i beiriannau anadlu, ac mae peiriannau CPAP newydd wedi'u datblygu a masgiau falf awtomataidd wedi cael eu treialu i sicrhau y gellir cadw peiriannau anadlu ar gyfer yr achosion mwy difrifol. Felly, pa drafodaethau rydych wedi'u cael gyda’r diwydiant a'r sector addysg uwch yng Nghymru ynglŷn â chynyddu cyflenwad Cymru o beiriannau anadlu? Diolch yn fawr.

15:25

A bod yn deg, Lywydd, credaf fy mod wedi ateb y pwynt ynglŷn â pheiriannau anadlu, o ran cyflenwi a gweithgynhyrchu, mewn ymateb i'r cwestiynau a ofynnodd Adam Price, a hefyd Angela Burns ar y cydweithrediad rhwng swyddogion yn fy adran i, adran Ken Skates, a phobl sy’n eu gwneud ac yn eu cynhyrchu yma yng Nghymru.

Ar y pwynt ynglŷn â gwirfoddoli, rydym wedi cael ymateb sylweddol iawn gan bobl yng Nghymru, felly er y bu rhywfaint o ddryswch ynglŷn â'r prif negeseuon sy'n cael eu cyfleu, mae llawer o bobl yng Nghymru wedi dod o hyd i ffyrdd o allu gwirfoddoli yn eu cymunedau lleol, naill ai mewn grwpiau llai sydd wedi'u sefydlu, ond hefyd drwy borth cenedlaethol Gwirfoddoli Cymru. Felly, mae gennym dros 30,000 o bobl wedi cofrestru fel gwirfoddolwyr, ac yn yr wythnos ddiwethaf, rydym wedi cael cyfradd o 1,000 o bobl y dydd yn cofrestru i fod yn wirfoddolwyr i gefnogi pobl yn eu cymuned leol. Roedd rhan o'r her, yn fy marn i, yn ymwneud â’r ffaith y bu camddealltwriaeth yn y ffordd y lansiwyd y cynllun ar gyfer Lloegr yn unig. Nid oedd rhai o'n cyd-gynrychiolwyr etholedig yng Nghymru yn deall bod y cynllun yn gynllun ar gyfer Lloegr yn unig, yn hytrach na chynllun a oedd wedi’i lunio a'i gyflenwi gan y pedair Llywodraeth ledled y DU. Felly, rydym wedi cael ymateb da yn barod, ac mae’r trydydd sector a llywodraeth leol yn gweithio gyda'i gilydd i'w roi ar waith.

O safbwynt mynediad meddygon teulu at y rhestr o bobl agored i niwed, rydym wedi bod yn agored iawn wrth ddatblygu'r rhestrau a'r meini prawf ar gyfer y bobl yn y grŵp o 81,000 o bobl sy’n cael eu gwarchod. Felly, rydym wedi gweithio gyda Chymdeithas Feddygol Prydain a choleg brenhinol yr ymarferwyr cyffredinol, ac ers 2 o’r gloch heddiw fan bellaf, bydd y rhestr honno wedi bod ar gael yn y porth meddygon teulu i bob practis meddyg teulu adolygu’r grwpiau o’u cleifion ar y rhestr honno fel y gallant arfer eu barn a'u gwybodaeth am eu grŵp o gleifion os ydynt yn credu bod pobl eraill a ddylai fod yn y grŵp hwnnw o bobl sy’n cael eu gwarchod. Byddwn yn parhau i ddatblygu ein hymateb yn cefnogi'r grŵp ehangach o bobl agored i niwed dros y dyddiau nesaf, fel rwy'n dweud, gan weithio ar y cyd, rwy'n siŵr, â llywodraeth leol a'r trydydd sector.

Ac ar eich pwyntiau ehangach ynglŷn â phrofi a dysgu gyda gwledydd eraill, wel, mae'n deg dweud bod De Korea, er enghraifft, mewn lle gwahanol oherwydd eu profiad o gael eu heffeithio’n waeth o lawer gan SARS yn y gorffennol. Nawr, bydd gwersi inni eu dysgu yn awr, ac mae Iechyd Cyhoeddus Cymru mewn cysylltiad rheolaidd â sefydliadau iechyd y cyhoedd mewn gwledydd yn Ewrop a'r byd ehangach, gan drafod cymorth a chyngor ar yr adeg hon.

Felly, er enghraifft, rydym wedi dysgu gwersi o'r Eidal, yn sicr; dyna pam rydym wedi rhoi cymaint o egni ac ymdrech i greu capasiti ysbytai maes ar y fath gyflymder, gan fod hynny'n ymwneud â symud pobl allan o'r ysbyty pan nad oes angen iddynt fod yno mwyach. Ac mae hynny hyd yn oed yn fwy hanfodol yn awr, gan fod pobl sy'n methu mynd i ysbyty mewn pryd yn bobl a allai fod angen gofal i achub eu bywydau. Felly, dyna un o'r gwersi rydym wedi'u dysgu eisoes, ac rydym yn sôn am wersi wrth iddi ddod i'r amlwg y bydd rhai o'r mesurau cadw pellter cymdeithasol yn dechrau cael eu llacio. Mae hynny'n bwysig iawn i ni o ran ein hymateb i'r pandemig yma yng Nghymru a gweddill y DU. Ond yn yr un modd, bydd y sgwrs honno'n parhau.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru mewn sefyllfa dda iawn yn y gymuned iechyd cyhoeddus yn fyd-eang, ac yn sicr yn rhanbarth Ewropeaidd Sefydliad Iechyd y Byd, o ran y parch a ddangosir i ni, y gallu sydd gennym i rannu dysgu ar amrywiaeth o bynciau gwahanol, a bydd hynny'n bwysig iawn—edrych yn ôl ar yr hyn sydd wedi digwydd i ddysgu gwersi lle credwn y gallem fod wedi gwneud dewisiadau gwahanol a gwell yn ystod y pandemig hwn, ond hefyd ar gyfer y dyfodol. A bydd honno’n sgwrs ar gyfer y gymdeithas gyfan, oherwydd os ydym am gael capasiti ychwanegol ar waith ar gyfer pandemig yn y dyfodol, mae angen inni ariannu hynny a chreu’r capasiti hwnnw a sicrhau ei fod yn barod ac ar gael. Ac mae hwnnw'n fath gwahanol o ddewis inni ei wneud am y ffordd rydym yn cefnogi gwasanaethau cyhoeddus.

15:30

Mae rhai o fy nghwestiynau wedi'u hateb, ond hoffwn ddychwelyd at fater y llythyrau gwarchod, gan y credaf fod hynny'n anhygoel o bwysig. Oherwydd i lawer o bobl, bydd hynny'n datgloi'r gefnogaeth a fydd yn eu galluogi i aros gartref am dri mis. Rwyf wedi bod yn cynghori pobl i gysylltu â'u meddyg teulu os nad ydynt wedi cael llythyr ac yn credu y dylent gael eu gwarchod. Croesawaf yr hyn y mae’r Gweinidog newydd ei ddweud am bawb yn cael mynediad at y rhestr honno heddiw, ond mae meddygon teulu bellach yn dweud wrthyf yn lleol nad oes ganddynt gapasiti i ymdrin â nifer yr ymholiadau y maent yn rhagweld eu cael gan bobl sy’n credu y dylent gael eu gwarchod. Felly, hoffwn gael sylwadau'r Gweinidog ar hynny—pa sicrwydd y gallwch ei roi y bydd pobl y dylid eu gwarchod yn gallu dod ar y rhestr honno mewn pryd i gael y gefnogaeth sydd ar gael?

Yn yr un modd, gan nodi problemau gyda fferylliaeth hefyd, mae pobl sâl sydd bob amser wedi cael eu presgripsiynau wedi’u danfon iddynt yn poeni am nad ydynt ar y rhestr warchod bellach, ac na fydd modd iddynt gael eu presgripsiynau wedi'u danfon iddynt. Felly, eich ymateb ar hynny hefyd, os oes modd, os gwelwch yn dda.

Gwn eich bod wedi rhoi sylw i fater y peiriannau anadlu a godwyd gan Angela Burns a Caroline Jones, ond rwyf wedi cyfeirio nifer o gwmnïau sydd wedi cynnig cymorth at y Llywodraeth. Rwy'n deall bod proses i'w dilyn, ond a allwch ddweud mwy ynglŷn â sut y mae Llywodraeth Cymru yn mynd ati mor gyflym â phosibl i ymdrin â chynigion o gymorth gan gwmnïau gweithgynhyrchu mewn perthynas â pheiriannau anadlu?

[Anghlywadwy.]—cefnogaeth. Efallai y bydd hynny'n codi eto mewn cwestiynau gyda Ken Skates, gan fod ei adran ef, o ran y gefnogaeth fusnes i'r bobl hynny, yn wirioneddol bwysig i sicrhau eu bod yn cael cymorth i gynhyrchu. Felly, mae mwy nag un cyfle posibl i gynhyrchu peiriannau CPAP, sydd lefel yn is na chymorth anadlu mewnwthiol, ond a all fod yn ddefnyddiol. Mae'r gyfadran ofal dwys wedi cynhyrchu rhywfaint o ganllawiau ynghylch y defnydd cynyddol o'r peiriannau hynny. Felly, rydym yn cefnogi ystod o gwmnïau ac yn gweithio ochr yn ochr â hwy i gynorthwyo i’w gweithgynhyrchu ar yr adeg hon. Gwn fod penawdau'r DU yn gyffrous iawn fod tîm Fformiwla 1 Mercedes yn gwneud rhywbeth, ond mae gennym ystod o enghreifftiau yma yng Nghymru lle rydym yn gweithgynhyrchu'r peiriannau hynny hefyd.

Felly, mae'n gyfrifoldeb i dîm canolog yma yn y Llywodraeth ddeall yr hyn sydd ar gael, ac yna i ddeall manylebau technegol yr hyn a allai fod ar gael, ac yna, os oes angen cymorth busnes, dyna ble y daw tîm Ken i mewn. Mae gennym broses ganolog, felly nid yw'n mynd i dri neu bedwar o bobl wahanol, rydym yn deall pa grŵp o swyddogion sydd i fod i ymdrin â hynny, darparu'r gefnogaeth a hefyd o fewn amserlen resymol.

Ar eich pwynt ynglŷn â llythyrau gwarchod at bobl sydd i gael eu gwarchod, mae'r 81,000 o bobl wedi'u dethol ar sail meini prawf clinigol. Nawr, mae grŵp ehangach o bobl y tu hwnt i hynny rydym hefyd wedi cynghori y dylent fod yn aros gartref os yw hynny'n bosibl—felly, er enghraifft, menywod beichiog a phobl dros 70 oed. Ni fydd pob unigolyn beichiog, ni fydd pob unigolyn dros 70 oed yn cael llythyr gwarchod; ni ddylent ddisgwyl cael un. Credaf fod rhywfaint o ddryswch yn hynny o beth, ond mae'n bwysig inni ddweud yn glir wrth ein hetholwyr, os ydych dros 70 oed, nid yw hynny'n golygu y byddwch yn cael llythyr gwarchod yn awtomatig, ac i fod â rhywfaint o amynedd ac i ofyn i bobl beidio â ffonio meddygon teulu, gan y byddant yn cael eu gorlethu fel arall.

Nawr, mae'r gwaith rydym yn parhau i'w wneud gyda'r trydydd sector ac awdurdodau lleol, ac yn wir y sector cyflenwi bwyd, yn ymwneud yn y lle cyntaf â sicrhau cefnogaeth i bobl yn y grŵp mwyaf agored i niwed hwnnw—yr 81,000—nad oes ganddynt fecanwaith eisoes i gael cyflenwadau eu hunain, boed hynny'n fwyd neu'n feddyginiaeth neu nwyddau eraill, ac yna gweithio ar gefnogaeth i'r grŵp ehangach hwnnw o bobl. Nawr, mae rhai awdurdodau lleol eisoes mewn sefyllfa i allu gwneud hynny. Rydym yn gobeithio gallu darparu rhywfaint o eglurder yn genedlaethol ynglŷn â sut y mae'r grŵp ehangach hwnnw o bobl yn parhau i dderbyn cefnogaeth i allu aros gartref. Dyna pam fod y rhwydwaith ehangach o wirfoddolwyr mor bwysig i ni, i helpu'r grŵp ehangaf o bobl y gallwn.

O ran danfon presgripsiynau, rwyf wedi ceisio dweud yn glir sawl gwaith, ac rwy'n fwy na pharod i wneud hynny eto, os yw pobl yn gallu casglu eu presgripsiynau eu hunain—os na allant, os ydynt i fod i aros gartref, eu ffrindiau, teulu neu bobl ddibynadwy sy'n gallu mynd i gasglu’r presgripsiynau ar eu rhan—dylent wneud hynny. Os ydynt yn dibynnu ar gael presgripsiynau wedi’u danfon ac os nad oes ganddynt unrhyw ffordd arall o’u cael, dylai eu fferyllfa eu danfon. Cawsom ddigwyddiad yr wythnos diwethaf lle cafwyd heriau lleol gyda chwmni fferyllol adnabyddus, a chefais gysylltiad uniongyrchol â'r cwmni hwnnw yng Nghymru ar yr hyn sydd i fod i ddigwydd. Nid oedd hynny o fudd i bobl a oedd mewn sefyllfa lle nad oedd y cyflenwadau’n cael eu danfon at eu drysau fel y dylent allu ei ddisgwyl, ond roedd yn ddefnyddiol yn yr ystyr ei fod yn golygu bod y grŵp hwnnw wedi mynd allan a dweud wrth reolwyr eu holl siopau am y canllawiau roeddent wedi'u rhoi ar waith i sicrhau, os na all pobl gasglu eu presgripsiynau eu hunain, eu bod yn cael eu danfon iddynt, ac na ddylid codi tâl am ddanfon drwy gydol cyfnod y pandemig COVID-19. Rwy'n gobeithio bod hynny'n ddefnyddiol.

15:35

Dau fater byr iawn yr hoffwn eu codi gyda chi, Weinidog—yn gyntaf oll, rwy'n siŵr y byddwch wedi gweld y pryderon neithiwr yn y cyfryngau gan elusen canser Tenovus, sy'n hynod bryderus y gallai cannoedd o gleifion canser yng Nghymru farw yn sgil oedi triniaethau a sgrinio o ganlyniad i'r argyfwng coronafeirws. Wrth gwrs, rwy'n deall angen y Llywodraeth i fynd i'r afael â lledaeniad coronafeirws yn uniongyrchol. Fodd bynnag, bydd hyn heb os yn arwain at lawer o bryder a rhwystredigaeth i lawer o gleifion sy'n byw gyda chanser a'u teuluoedd. Yn wir, mae etholwyr wedi cysylltu â mi gyda chwestiynau ynglŷn â gofal canser yn ystod yr argyfwng hwn. Felly, a allwch ddweud wrthym, Weinidog, beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn benodol i gefnogi'r rheini sy'n byw gyda chanser yng Nghymru yn ystod yr argyfwng COVID-19, ac a fyddwch yn cyflwyno strategaeth ganser benodol ar hyn o bryd?

Yn ail, Weinidog, mae ein dyled yn fawr i staff rheng flaen wrth gwrs, gan gynnwys fferyllwyr cymunedol Cymru y cyfeirioch chi atynt heddiw. Fodd bynnag, mae parchu cadw pellter cymdeithasol yn anodd mewn llawer o fferyllfeydd ledled Cymru oherwydd eu cynllun. Yn y bôn, ni allwch gadw pellter o 2m, er enghraifft, mewn llawer o'n fferyllfeydd. Felly, a allwch ddweud wrthym pa ganllawiau a chefnogaeth ychwanegol y mae Llywodraeth Cymru yn eu rhoi i fferyllwyr i'w helpu i fynd i'r afael â rhai o'r heriau sylweddol y maent yn eu hwynebu ar hyn o bryd, ac a yw'r Llywodraeth yn cynllunio arweiniad pellach i fferyllwyr a'u staff, o gofio eu bod yn teimlo'n agored i niwed yn yr amgylchiadau hyn?

Yn dilyn cwestiwn Lynne Neagle, deallaf fod y rheolau ynghylch dosbarthu presgripsiynau amlroddadwy wedi cael eu llacio, ond gallai hyn effeithio ar gyflenwadau o feddyginiaethau. Felly, pa gamau rydych chi a Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod fferyllwyr yn gallu cael mynediad at gyflenwadau digonol ar yr adeg hon, a pha drafodaethau a gawsoch gyda'r cwmnïau fferyllol ynghylch cyflenwi meddyginiaethau a thriniaethau?

15:40

Iawn. Diolch am eich cwestiynau. Ar ofal canser, gwelais yr hyn a ddywedodd Tenovus ddoe, a'n disgwyliad yw y gallwn gynnal gofal brys ar draws y gwasanaeth iechyd cyn belled ag y bo modd. Ond ein her yw—a dyma pam, ym mhob un o'r dewisiadau y mae ein clinigwyr yn eu gwneud ac y cânt eu cefnogi i'w gwneud—nid oes ystod o ddewisiadau hawdd, ac mae hon yn enghraifft dda ohonynt. Felly, mewn rhai meysydd lle gall wneud gwahaniaeth a yw rhywun yn goroesi ai peidio, byddem yn disgwyl i'r driniaeth honno fynd yn ei blaen os yw hynny'n bosibl o gwbl, ond os ydym yn gwybod, fel rydym yn gwybod, y bydd mwy a mwy o bobl yn dod i mewn i'n system ysbytai, ac rydym yn sôn am nifer fawr o bobl yn byw neu'n marw oherwydd y dewisiadau a wnawn ar draws y system gyfan, rhaid i ni gydbwyso pob un o'r dewisiadau hynny. Ond er enghraifft, yn sicr, nid ydym yn dweud bod pobl sydd angen gofal ar frys, p'un a yw'n argyfwng, neu'n wir yn ofal canser neu gyflyrau hirdymor neu gyflyrau eraill sy'n peryglu bywydau—nid ydym yn dweud bod yn rhaid i’r holl driniaethau hynny ddod i ben; ddim o gwbl.

Ond rydym yn gweld ymateb cyhoeddus i'r ffordd y maent yn defnyddio'r gwasanaeth iechyd. Fe gofiwch o'r sgwrs y bore yma y bu gostyngiad sylweddol yn nifer y bobl sy'n dod i'n hadrannau brys, gan y byddai cyfradd presenoldeb uwch o lawer fel arall—tair neu bedair gwaith yn uwch, rwy’n credu, na’r hyn a welwn ar hyn o bryd. Felly, mae'r ymateb cyhoeddus hwnnw'n helpu i ddiogelu ein capasiti, ac fel y soniais yn fy natganiad agoriadol, o'r holl bobl sydd mewn gwelyau gofal dwys ar hyn o bryd, mae 69 y cant ohonynt yn achosion o COVID neu'n achosion posibl o COVID. Mae hynny'n golygu nad yw, neu na chredir bod dros 30 y cant o'r bobl hynny yn achosion o COVID. Felly, mae gennym eisoes nifer o bobl mewn gofal dwys, ac mae'n dangos bod ein system yn parhau i drin pobl eraill. Byddaf yn parhau i wrando ar yr hyn y mae ein clinigwyr yn ei ddweud am eu capasiti i wneud eu gwaith, ac efallai y bydd yn rhaid inni wneud dewisiadau ar gyfer y system gyfan wedyn. Os gwnawn hynny, rwy’n fwy na pharod i fod yn agored gyda'r cyhoedd a'r Aelodau ynglŷn ag unrhyw ddewisiadau o'r fath.

Ar fferyllfeydd, rwy'n cydnabod ei bod hi'n anodd os nad yn amhosibl i staff gadw pellter o 2 fetr oherwydd cynllun rhai o'r rhain. Nawr, y cyngor rydym wedi'i roi yw cadw cymaint o bellter ag y bo modd, ond o ystyried y rôl allweddol y mae fferyllfeydd yn ei chwarae, rydym am i fferyllfeydd cymunedol aros ar agor i ddarparu meddyginiaethau i bobl a chynorthwyo pobl i reoli eu hystod o gyflyrau gofal iechyd. Mae'n bwysig fod y cyhoedd yn ymddwyn yn y ffordd honno. Gwyddom inni weld rhai achosion annerbyniol o ymddygiad tuag at staff ein fferyllfeydd dros yr wythnosau diwethaf, ac ymddengys bod hynny wedi gwella bellach. Rwyf hefyd wedi gwneud dewisiadau ynglŷn â'r ffordd y mae fferyllfeydd yn gweithredu i'w galluogi i sicrhau eu bod mewn sefyllfa i barhau i ddarparu gwasanaeth i'r cyhoedd ehangach. Mae fy swyddogion a minnau, wrth gwrs, yn fwy na pharod i ddal ati i wrando ar fferylliaeth gymunedol os oes angen inni wneud mwy i'w galluogi i wneud eu gwaith ar yr adeg hynod bwysig hon, ond nid wyf wedi clywed cais pellach eto gan naill ai’r Gymdeithas Fferyllol Frenhinol neu'n wir gan Fferylliaeth Gymunedol Cymru ar gamau pellach y mae'n rhaid inni eu cymryd i ganiatáu i fferyllwyr cymunedol gyflawni eu rôl yn cefnogi'r cyhoedd.

Ac o ran y cyflenwad o feddyginiaethau, mae'n fater a drafodais ddoe gyda chyd-Weinidogion Iechyd Cabinetau o bob rhan o'r DU, ac nid ydym yn gweld problem ar hyn o bryd gyda'r cyflenwad o feddyginiaethau, ond mae'n ffaith bod yn rhaid i’r gwasanaeth iechyd gwladol yn y pedair gwlad ymdrin â materion yn ymwneud â'r cyflenwad o bryd i'w gilydd. Mae honno'n her reolaidd, ac nid yw'r rhan fwyaf o bobl yn sylwi ei fod wedi digwydd. Ar hyn o bryd, nid wyf yn ymwybodol o broblem benodol gydag ailgyflenwi meddyginiaethau, ond yn amlwg, mae hynny'n rhywbeth y byddwn yn ei drafod ar draws y pedair gwlad—mae gennym ddulliau o wneud penderfyniadau sy'n cael eu harfer yn dda ar draws y pedair gwlad, sydd, os mynnwch, yn ganlyniad cadarnhaol i'n paratoadau ar gyfer Brexit heb gytundeb; roedd yn rhaid inni feddwl am ffyrdd o ymdopi â phroblemau posibl gyda'r cyflenwad o feddyginiaethau. Mae'r trefniadau hynny'n dal i fod ar waith i sicrhau tegwch yn y cyflenwad ar draws pob un o'r pedair gwlad.

Weinidog, rwy'n gweld datgysylltiad yma rhwng y realiti ar lawr gwlad a'r hyn a glywaf gennych. Y gwir amdani yw nad oes gan nyrsys rheng flaen gyfarpar diogelu. Y gwir amdani yw nad oes gan gwmnïau gofal gyfarpar diogelu. Felly, y penwythnos hwn, rwyf wedi ymdrin ag etholwyr, etholwyr anabl, a chanddynt symptomau, na ellid gofalu amdanynt, ac a adawyd ar eu pen eu hunain. Cynhaliais gyfweliad gydag Ashley Morgan, dyn ifanc yng Nghaerau, sy'n meddu ar argraffydd 3D, ac mae wedi creu ei fasgiau ei hun o ansawdd eithriadol o dda, ac mae bellach yn cyflenwi ysbyty'r Waun ac ardaloedd eraill. Mae ciwiau o staff meddygol y tu allan i'w gartref, bron â bod. Felly, mae gennym fyddin, bron, o bobl—yn llythrennol, mae rhai ohonynt yn gweithio yn eu hystafelloedd byw eu hunain, yn eu hystafelloedd cefn eu hunain—yn cynhyrchu cyfarpar diogelu o safon. Gallai Ashley greu miloedd yr wythnos pe bai'n cael cefnogaeth. Felly, yn gyntaf oll, rhan gyntaf hyn yw bod cronfa o bobl allan yno sy’n barod i helpu. Credaf fod y cadwyni cyflenwi mawr wedi gwneud tro gwael â ni. Beth y gallwn ei wneud i rymuso’r bobl hynny? Pwy allant gysylltu â hwy? Pryd y gallant gysylltu â hwy? A sut a phryd y gellir eu cefnogi?

Yr ail beth yr hoffwn sôn amdano yw profion. Cawsoch e-bost ar 19 Mawrth—fe'i hanfonwyd at y Prif Weinidog hefyd—yn cynnig citiau profi, a oedd eisoes wedi'u dilysu, yn ôl yr hyn a ddywedir wrthyf, ac ni ymatebodd neb i'r cwmni hwnnw. Yn yr un modd, cysylltwyd ag Iechyd Cyhoeddus Cymru wedyn, ac ni chafwyd unrhyw gyswllt â'r cyflenwr hwnnw hyd nes i mi ymyrryd. Nododd y cyswllt, yn y bôn—gwelais yr e-bost, dywedai y byddai rhywun yn cysylltu â hwy, efallai, yn ôl yr angen. Wel, mae'r angen yma. Nid ydym yn dilyn cyngor Sefydliad Iechyd y Byd, rwy'n gwybod hynny, ond credaf fod pob un ohonom yn cytuno ein bod angen mwy o brofion beth bynnag.

Mae yna'n dal i fod staff meddygol, sydd â theuluoedd yn dangos symptomau, na ellir eu profi ac sy’n ynysu’n ddiangen. Felly, fy nghwestiwn i chi yw hwn: sut a phryd y byddwn yn galluogi pobl i gael eu profi? Dylem fod yn profi pawb yr amheuir eu bod yn dioddef o’r coronafeirws. Credaf ei bod yn wirioneddol hanfodol inni sylweddoli ei bod yn argyfwng go iawn ar lawr gwlad, lle nad yw pobl yn ddiogel yn gwneud eu gwaith bob dydd gan nad yw'r cyfarpar ganddynt.

A chan ddychwelyd at y gofalwr, os oes gan ofalwr y feirws ac nad oes ganddynt unrhyw symptomau a'u bod yn ymweld â phobl agored i niwed yn ddyddiol, byddant yn rhoi'r feirws iddynt os nad ydynt yn gwisgo cyfarpar diogelu—menyg, masgiau. Nid wyf yn deall pam fod pethau mor brin ar y rheng flaen ar hyn o bryd. Felly, fy nghwestiwn, mewn gwirionedd, yw: gyda phwy y dylai'r bobl hyn gysylltu, a sut a phryd?

15:45

Diolch am eich cwestiynau. Os gwnaf ateb eich pwynt ynglŷn â gweithgynhyrchu, gan mai dyna'r union bwynt a drafodais mewn cwestiwn cynharach. P'un a ydynt yn wneuthurwyr peiriannau anadlu neu’n wneuthurwyr cyfarpar diogelu personol, mae'r cyfleoedd yno i gael eu cefnogi i gyflawni hynny. Mae gennym hefyd allu i ddilysu ansawdd y cyflenwadau gyda'r cyfleuster sydd gennym yma yng Nghymru.

Rwyf hefyd wedi gweld y Bathdy Brenhinol, er enghraifft, yn cynhyrchu fisorau ar gyfer staff rheng flaen sydd eu hangen. Datblygu'r hen ganllawiau ar yr hyn roeddem yn ei ddisgwyl ar gyfer pandemig ffliw yw hynny o bosibl. Rwy'n disgwyl i'r canllawiau diwygiedig newydd ddweud mwy am sbectolau diogelwch, a dyna pam y gwnaethom ddosbarthu ystod o sbectolau diogelwch yn gynharach nag y byddem wedi'i ddisgwyl fel arall.

Rwy'n fwy na pharod i bwy bynnag sy'n credu bod ganddynt allu i helpu i gynhyrchu rhywbeth yn ôl manyleb gywir gysylltu â'r Llywodraeth. Gallant gysylltu â fy nghyfeiriad gweinidogol ac fe wnaf yn siŵr ei fod yn cyrraedd y lle iawn i gael ei adolygu, fel yr eglurais yn gynharach ar y pwynt ynglŷn â gweithgynhyrchu peiriannau anadlu hefyd.

O ran y cynigion o gitiau profi, mae pob un ohonynt yn cael eu hadolygu gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Nawr, rydym wedi cael ymateb sylweddol gyda phobl yn dod i mewn ac yn gwneud cynigion, a'r pwynt a wneuthum yn gynharach mewn ymateb i Adam Price oedd bod angen inni ddeall gwerth y cynnig a wneir, effeithiolrwydd unrhyw un o'r llwybrau profi posibl a gynigir, a'r gwerth y maent yn ei ddarparu wedyn. Mae'n rhaid inni allu gwneud hynny, oherwydd fel arall, byddwn o bosibl yn gwastraffu adnoddau ar gitiau nad ydynt yn effeithiol. Nawr, nid wyf am drafod achosion unigol, oherwydd fel y gwyddoch, nid wyf yn darllen pob e-bost â fy enw arno, ond rwy'n sicrhau eu bod yn cael sylw ac atebion.

Ar eich pwynt ynglŷn â chyfarpar diogelu personol, rwyf wedi ymateb i gwestiynau, nid yn unig heddiw ond mewn amrywiaeth eang o fforymau—wrth siarad ag undebau llafur, wrth siarad ag arweinwyr awdurdodau lleol, wrth siarad â phrif weithredwyr a chadeiryddion byrddau iechyd, wrth siarad â staff—ac mae pob un ohonynt yn cydnabod bod heriau mewn rhai rhannau o'n system o ran cyfarpar diogelu personol yn cyrraedd pobl ar y rheng flaen. Nid yw'n wir fod ein holl staff yn cael eu gadael heb gyfarpar diogelu personol; ond mae'n wir i rai o'n staff ar hyn o bryd. Os ydym yn darparu'r cyfarpar diogelu personol i 98 y cant o'n staff, nid yw hynny'n golygu nad ydym yn poeni am y 2 y cant nad ydynt yn ei gael.

Rwy'n wirioneddol bryderus nad oes gan staff rheng flaen sydd angen cyfarpar diogelu personol gyflenwadau digonol o'r cyfarpar diogelu personol cywir iddynt ei ddefnyddio. Mae hyn wedi cymryd cryn dipyn o fy amser a fy egni, a dyna pam ein bod wedi darparu cymaint o gyfarpar diogelu personol—fel y dywedais yn fy natganiad, dros bum miliwn o eitemau. Nid cyflawniad bach nac ymylol mo hwn, ac mae'r Llywodraeth yn gwbl ymwybodol o faint yr argyfwng sy'n ein hwynebu. Mae'n argyfwng na welodd neb ohonom erioed mo’i debyg yn ein bywydau mewn gwasanaeth cyhoeddus, ac nid oedd yr un ohonom yn disgwyl ei weld.

Felly, byddwn yn parhau i weithio yn unol â'r canllawiau y gwn eu bod yn cael eu hadolygu, ac y gwyddoch chithau eu bod yn cael eu hadolygu o fy natganiad cynharach ac mewn atebion i'r holl gwestiynau, a byddwn yn ystyried ein cyfrifoldebau i gaffael y cyfarpar diogelu personol cywir yn unol â'r canllawiau diwygiedig hynny.

15:50

Diolch, Lywydd. Mae'r mwyafrif o fy nghwestiynau wedi'u hateb gan y Gweinidog, ac rwy'n falch iawn o glywed am y capasiti ychwanegol o 965 ar gyfer peiriannau anadlu a bod y pum miliwn a mwy o eitemau cyfarpar diogelu personol wedi'u dosbarthu. Ond mae'n rhaid imi gytuno bod cryn bryder o hyd ynghylch faint o gyfarpar diogelu personol sydd ar gael, yn enwedig ar gyfer y rheng flaen mewn ysbytai a hefyd i'r gweithwyr gofal cymdeithasol hynny. Mae gennyf lawer o etholwyr sydd wedi mynegi cryn bryder ynghylch gofalwyr yn dod i'w cartrefi, pan fyddant hwy eu hunain yn agored i niwed neu pan fydd eu partneriaid yn agored i niwed, ac efallai'n dod â'r afiechyd i'w cartrefi. Felly, credaf fod hwnnw’n faes rydym eto i fynd i'r afael ag ef.

Nawr, gwn i chi sôn am y canllawiau newydd, ac fe’ch cofiaf yn dweud ar y penwythnos eich bod yn disgwyl i hynny ddigwydd ddydd Llun. Ddoe, yn eich cynhadledd i’r wasg, fe ddywedoch chi eich bod yn gobeithio y byddent ar gael ddoe. Heddiw, fe ddywedoch ei fod yn esblygu'n gyflym. Credaf ei bod yn bwysig fod gennym amserlen o ran pryd y bydd y canllawiau newydd hynny ar waith, fel ein bod yn gwybod pa gyfarpar diogelu personol fydd yn briodol ar gyfer pwy ac ym mha sefyllfa, fel y gallwn sicrhau bod y cyfarpar diogelu personol yn cyrraedd y bobl iawn yn y lle iawn ar yr amser iawn. Mae yna gryn bryder, yn y proffesiynau eu hunain ac ymhlith yr etholwyr sy'n derbyn y gofal, ynghylch argaeledd cyfarpar diogelu personol.

A gaf fi ofyn hefyd—? Rwy’n cefnogi cwestiwn Paul Davies ar ganser, gan fod llawer o etholwyr yn poeni’n fawr am yr oedi. Mae eu hapwyntiadau ar gyfer llawdriniaethau wedi cael eu canslo oherwydd sefyllfa'r coronafeirws. Mae pob un ohonom yn deall y gofynion sy’n wynebu’r GIG, ond pan fyddwch yn wynebu sefyllfa lle mae gennych ganser y fron ac mae gennych apwyntiad i gael llawdriniaeth a'i bod yn cael ei chanslo wedyn, mae'n amlwg fod yna bryderon mawr. Felly, mae angen inni edrych ar fyrddau iechyd a sut y maent yn amserlennu llawdriniaethau o'r fath i sicrhau nad yw pobl â chyflyrau eraill sy'n peryglu eu bywydau yn mynd i fod dan anfantais drwy beidio â chael y llawdriniaethau pan fydd eu hangen. Felly, a wnewch chi edrych ar yr agwedd honno a sicrhau bod byrddau iechyd yn cyflwyno'r mathau hynny o fanylion i Lywodraeth Cymru ac i ninnau er mwyn gwybod hynny?

O ran yr ysbytai maes, dywedwyd heddiw y gallai NHS Nightingale alw am 16,000 o staff i gyflawni hynny. Nawr, os oes gennych 7,000 o welyau ychwanegol, a oes gennych gapasiti i staffio'r math hwnnw o nifer ychwanegol o welyau? Oherwydd rydym eisoes yn deall y gallai fod rhywfaint o leihad mewn capasiti gan y gall y staff eu hunain gael y feirws. Beth yw ein sefyllfa o ran sicrhau, os ydym yn creu'r ysbytai maes hyn, y bydd digon o staff ac adnoddau i ddarparu'r gofal yn yr ysbytai maes hynny?

Ac yn olaf, efallai eich bod yn ymwybodol o lythyr a anfonwyd gan feddyg teulu, nid yn fy etholaeth i, ond mae rhai o fy etholwyr wedi derbyn y llythyr hwnnw, yn gofyn iddynt a oeddent am gael eu hystyried yn gleifion 'peidiwch â dadebru' pe byddent yn cael y feirws. Byddaf yn cysylltu â phob bwrdd iechyd ar frys i sicrhau nad oes unrhyw lythyr o'r fath yn cael ei anfon eto gan bractis meddyg teulu arall, gan fod bywyd pob claf yn werthfawr iawn. Nid yw'n rhywbeth y dylent fod yn gofyn: 'A ydych am i nodyn 'peidiwch â dadebru' gael ei roi ar eich nodiadau?' A allwch ddychmygu claf yn cael y llythyr hwnnw, sy’n dweud, 'Os ydych yn cael y feirws, arhoswch gartref. Byddwn yn gofalu amdanoch, ond ni fyddwn yn eich nodi fel rhywun y mae angen eu dadebru. Ni fyddwn yn mynd â chi i'r ysbyty fel claf brys'? Nid yw'n dderbyniol—rwy’n siŵr eich bod yn cytuno â hynny. A wnewch chi sicrhau bod pob bwrdd iechyd yn dweud wrth eu meddygfeydd nad dyna'r ffordd ymlaen? Diolch.

Diolch. Rwyf bellach yn disgwyl i'r canllawiau ar gyfarpar diogelu personol gael eu darparu yfory. Rwy'n darparu'r holl amserlenni hyn yn ddidwyll, ond maent yn amserlenni nad wyf yn eu rheoli, gan fod y canllawiau’n cael eu darparu gan ystod o wahanol gynghorwyr arbenigol—mae’r prif swyddogion meddygol yn gweithio gyda'i gilydd ac rydym yn edrych ar y dystiolaeth wyddonol. Gallaf ddweud yn onest, 'Gorau po gyntaf,' fodd bynnag, gan y gwn y byddaf yn parhau i wynebu cwestiynau hyd yn oed ar ôl i'r canllawiau gael eu cynhyrchu. Ond pan fydd mwy o sicrwydd ac eglurder ynglŷn â phwy sydd angen cyfarpar diogelu personol a phwy na fydd ei angen, bydd hynny'n helpu i wella'r sefyllfa ac yna gallwn sicrhau ein bod yn caffael y cyfarpar diogelu personol hwnnw yn unol â'r canllawiau. Felly, rwy’n cydnabod y pryder a’r rhwystredigaeth y byddwch chi ac Aelodau eraill sydd yma, ac a fydd yn gwylio’r recordiad diweddarach, yn ei nodi, gan fod hynny’n bryder i staff rheng flaen hefyd.

O ran canser a chyflyrau eraill sy'n peryglu bywydau, fel y nodais wrth Paul Davies, byddwn yn edrych ar sut y mae'r gwasanaeth iechyd yn parhau i ddarparu gofal i'r bobl hynny wrth gwrs. Ond ni allwch osgoi'r gwirionedd na all y gwasanaeth iechyd gwladol esgus y gall barhau fel arfer ym mhob agwedd arall gyda'r her sylweddol y mae COVID-19 yn ei chreu. Bydd y ffordd rwyf eisoes wedi cau rhannau sylweddol o weithgarwch y GIG i ganiatáu i bobl baratoi ar ei gyfer yn arwain at rai canlyniadau i'r ffordd rydym yn darparu mathau eraill o driniaethau.

Y pwynt pwysig yw bod pobl yn cael sgyrsiau â’r clinigwyr sy'n eu trin ynglŷn â’r hyn sy'n digwydd, ac os yw llawdriniaeth yn cael ei gohirio neu ei symud ymlaen, fod ganddynt ffordd o ddeall pam fod hynny wedi digwydd a beth y mae hynny'n ei olygu. Oherwydd mae nifer o'n cleifion, er enghraifft, yn awyddus i beidio â chael triniaeth os oes posibilrwydd y byddant yn mynd i ardal glinigol lle gallai fod pobl â COVID-19. Felly, mae rhai pobl yn awyddus i ohirio eu triniaeth beth bynnag. Gwn fod galwadau’n digwydd rhwng clinigwyr, eu timau, a'r bobl y maent yn gofalu amdanynt.

Ac mae'r pwynt hwnnw am beidio â pharhau fel arfer yn gysylltiedig â'ch pwynt ynglŷn â'r 7,000 o welyau ychwanegol a'r gallu i'w staffio. Dyna pam rydym yn chwilio am bobl i ddychwelyd i’r gwasanaeth; dyna pam ein bod yn ceisio recriwtio pobl i'r gwasanaeth; dyna pam hefyd ein bod yn llwyddo i berswadio rhai o'r dros 3,700 o israddedigion sy'n astudio ar gyfer graddau meddygol a graddau iechyd proffesiynol eraill i weithio yn y gwasanaeth.

Bydd yn ffordd wahanol o weithio, ac fel rwyf wedi’i ddweud sawl tro eisoes, bydd y ffordd rydym yn gweithio ar hyn o bryd, neu'r ffordd y byddem wedi gweithio, dyweder ar 1 Mawrth, yn wahanol iawn i'r ffordd y byddwn yn gweithio yn y gwasanaeth iechyd ac yn darparu gofal am gyfnod o amser i ddod. Ond rwy'n deall, mae'n fater a godais heddiw yn fy ngalwad â phrif weithredwyr a chadeiryddion sefydliadau’r gwasanaeth iechyd gwladol yng Nghymru i sicrhau nad gwelyau mewn ystafelloedd sy'n cael eu hanghofio yw'r capasiti gwelyau ychwanegol rydym yn ei greu, ond y gallwn eu staffio'n ddigonol. Felly, rwy’n fwy na pharod nid yn unig i fynd ar drywydd hynny ond i sicrhau fy mod yn gallu rhoi mwy o sicrwydd i'r cyhoedd ar y mater staffio.

Ac o ran y llythyr meddyg teulu, rwy'n ymwybodol o'r mater. Dywedodd yr Aelod etholaeth Huw Irranca-Davies wrthyf am yr her a'r sgyrsiau roedd eisoes yn eu cael gyda'r practis a'r bwrdd iechyd. Ac rwyf wedi cael sicrwydd, cyn y bore yma, fod sgwrs wedi digwydd am y llythyr ei hun; mae'r practis meddyg teulu yn cysylltu â phobl i geisio gwella'r sefyllfa; a gwn eu bod wedi cyhoeddi ymddiheuriad.

Mae'n anodd cael sgwrs am rybudd 'peidiwch â dadebru' ar unrhyw adeg, mae trafod gofal diwedd oes bob amser yn anodd yn y parth cyhoeddus, ac mae'n sgwrs sy'n galw am sensitifrwydd. Rwy'n hyderus, ar ôl y digwyddiad hwn, na welwn lythyrau tebyg gan feddygfeydd i'w cleifion, ac y bydd gwir sensitifrwydd ac urddas yn y sgwrs rhwng meddygon teulu a'u cleifion. A chan ystyried pwynt cynharach Angela Burns am y ffordd y mae pobl yn gwneud dewisiadau anodd iawn, bydd fframwaith moesegol ar gyfer gwneud hynny ar gael i gynorthwyo ein staff i roi'r gofal gorau posibl i bawb, ni waeth beth yw eu hoedran, ledled y wlad.

15:55

Diolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad a'i atebion. Fel y bydd yr Aelodau wedi sylweddoli, rwyf wedi ymestyn yr amser a neilltuwyd ar gyfer y ddau ddatganiad blaenorol yn sylweddol er mwyn cynorthwyo gyda chraffu, ond byddaf yn deall os bydd angen i Aelodau neu Weinidogion adael y cyfarfod ar unrhyw adeg yn awr oherwydd ymrwymiadau yn eu dyddiaduron.

4. Datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Ymateb economaidd i COVID-19

Symudwn ymlaen yn awr at yr eitem olaf, y datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru ar yr ymateb economaidd i COVID-19, a galwaf ar y Gweinidog i wneud ei ddatganiad—Ken Skates.

Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i gyd-Aelodau ar draws y Siambr am eu cefnogaeth, eu syniadau a'u cyngor dros yr wythnosau diwethaf. Mae wedi bod yn un o'r cyfnodau mwyaf heriol y gall unrhyw un ohonom ei gofio, ac wrth fynd i’r afael â’r cwymp economaidd yn sgil COVID-19, rwyf wedi gwerthfawrogi'r nifer o sgyrsiau a gefais gydag Aelodau o bob plaid ynglŷn â'r ffordd orau inni gefnogi economi Cymru a'n gwasanaethau cyhoeddus drwy'r cyfnod aruthrol o anodd hwn.

Mae'r ysbryd dwybleidiol hwnnw yn rhywbeth sydd wedi bod yn nodwedd o’n hymagwedd drwy gydol yr argyfwng hwn. Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio’n adeiladol gyda phartneriaid yn Llywodraethau’r DU, yr Alban a Gogledd Iwerddon i helpu holl economïau’r DU drwy’r heriau sy’n ein hwynebu yn sgil COVID-19. Er bod llawer iawn i'w wneud o hyd, rwy'n gobeithio y gall Aelodau ddechrau gweld fframwaith sylfaenol o gefnogaeth yn dod i'r amlwg a all helpu busnesau, sefydliadau a gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru i ganfod ffordd drwy'r heriau sy'n eu hwynebu.

Mae cynllun cadw swyddi drwy gyfnod coronafeirws Llywodraeth y DU yn helpu i gryfhau cymorth i fusnesau drwy liniaru pwysau sylweddol ar gostau sefydlog, ac mae'r cynllun cymhorthdal incwm i'r hunangyflogedig yn galluogi llawer o unig fasnachwyr a gweithwyr llawrydd i ymdopi â'r argyfwng gyda'r cymorth ariannol sydd ei angen arnynt yn ddirfawr. Dim ond Llywodraeth y DU, gyda'i hadnoddau, a allai fod wedi chwarae'r rôl hon, ac rwy'n croesawu'r hyn y maent wedi'i wneud. Nawr, gyda'r cynlluniau hynny wedi'u cyhoeddi, mae wedi caniatáu i ni, fel Llywodraeth Cymru, dargedu'r cyllid mwy cyfyngedig sydd gennym i gefnogi'r busnesau hynny yng Nghymru sy'n disgyn drwy'r bylchau.

Cyhoeddwyd elfen gyntaf ein cymorth gyda phecyn llawn yn ôl ar ddechrau mis Mawrth, ar 18 Mawrth. Roedd y cyhoeddiad hwnnw'n cynnwys mwy na £350 miliwn i helpu busnesau gyda'u biliau ardrethi annomestig, ac rwy'n falch o ddweud wrth yr Aelodau y bydd y rhyddhad ardrethi newydd ar gael o heddiw ymlaen. Roedd hefyd yn cynnwys grantiau busnesau bach awtomatig o £10,000 i fusnesau ar draws pob sector sy'n meddiannu eiddo â gwerth ardrethol o £12,000 a llai, a £25,000 ar gyfer busnesau manwerthu, lletygarwch a hamdden sy'n meddiannu safleoedd â gwerth ardrethol rhwng £12,001 a £51,000. Rwy'n hynod ddiolchgar i awdurdodau lleol a fydd yn dosbarthu'r grantiau hyn ar ein rhan. Rydym yn gobeithio y bydd busnesau'n dechrau derbyn y grantiau hyn yr wythnos hon.

Ddydd Llun, fe wnaethom gyhoeddi ein cronfa cydnerthedd economaidd £500 miliwn newydd, sy'n ceisio llenwi'r bylchau yn y cynlluniau cymorth a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU. Bydd y gronfa hon sydd ar gyfer Cymru'n unig yn cefnogi cwmnïau o bob maint, gan gynnwys mentrau cymdeithasol, gyda ffocws ar y rheini nad ydynt wedi elwa ar y grantiau coronafeirws a gyhoeddwyd eisoes gan Lywodraeth Cymru. Nawr, mae'r gronfa'n cynnwys dwy brif elfen. Yn gyntaf, cynllun benthyciadau busnes newydd Banc Datblygu Cymru sy'n werth £100 miliwn. Ac yn ail, pot grantiau argyfwng sy'n werth £400 miliwn. Gyda'i gilydd, rydym wedi ymrwymo mwy na £1.7 biliwn tuag at liniaru effaith COVID-19 ar ein heconomi.

Nawr, mae Banc Datblygu Cymru eisoes wedi derbyn dros 500 o geisiadau am fenthyciadau. Byddaf yn cyfarfod â banciau'r stryd fawr eto yfory, a byddaf yn tynnu eu sylw at yr angen i fod yn fwy hyblyg ac yn fwy ystyriol wrth ymateb i gleientiaid, yn enwedig i'r rheini sy'n hunangyflogedig neu sydd angen cymorth pontio rhwng nawr a mis Mehefin.

Ar y pwynt hwn hoffwn dalu teyrnged i staff Banc Datblygu Cymru a Busnes Cymru, a hefyd fy swyddogion sydd wedi bod yn gweithio ddydd a nos i ddatblygu'r cynlluniau. Mae llinell gymorth Busnes Cymru bellach wedi ymdrin â bron 4,000 o ymholiadau ers 9 Mawrth. Hoffwn hefyd roi teyrnged i'r nifer fawr o gwmnïau a phrifysgolion yng Nghymru sydd bellach yn mynd ati'n uniongyrchol i ateb heriau penodol. Mae hyn yn cynnwys cryn weithgarwch yn cynhyrchu peiriannau anadlu, sgriniau wyneb, cyfarpar diogelu personol, gwelyau, matresi a gorchuddion. Nid dibynnu ar lwybrau cyflenwi presennol yn unig a wnawn, ond adeiladu atebion amgen lle na ellir diwallu'r galw.

Hoffwn gyfeirio'n fyr at ein hymateb ar wasanaethau trên, bws ac awyr. Uchelgais Llywodraeth Cymru o hyd yw creu rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus integredig gynaliadwy, gan gynnwys trafnidiaeth gymunedol ledled Cymru, ac rwyf wedi gwneud cyfres o benderfyniadau i helpu i ddiogelu trafnidiaeth gyhoeddus ledled Cymru. Cyhoeddwyd y rhain yn fy natganiad ysgrifenedig ddoe ddiwethaf. Rwyf wedi cytuno i becyn cymorth gwerth hyd at £40 miliwn ar gyfer Trafnidiaeth Cymru dros y misoedd nesaf er mwyn inni allu rhoi sicrwydd i deithwyr rheilffyrdd yng Nghymru. Yn ogystal ag argymell bod awdurdodau lleol yn parhau i dalu o leiaf 75 y cant o werth y contract ar gyfer gwasanaethau ysgol a gwasanaethau contract i deithwyr lleol eraill, rwyf bellach wedi chwistrellu £29 miliwn o grantiau i helpu gweithredwyr bysiau drwy ansicrwydd anochel y tri mis nesaf. Ac yn olaf, ar ôl trafodaethau gydag Eastern Airways, rwyf wedi atal y gwasanaeth awyr rhwymedigaeth gwasanaeth cyhoeddus rhwng Caerdydd ac Ynys Môn am gyfnod cychwynnol o dri mis.

Felly, i gloi, mae fy neges allweddol i fusnesau ac i weithwyr yn glir iawn: os oedd gennych fusnes da yn 2019, rydym am eich cynorthwyo i gael busnes da yn 2021; ac os oedd gennych swydd dda yn 2019, rydym am eich cynorthwyo i gael swydd dda yn 2021. Rhaid inni weithio gyda'n gilydd gyda thosturi, brys a gofal i oresgyn yr heriau sylweddol sy'n ein hwynebu a dod allan ar y pen arall i'r economi decach, fwy cyfartal a mwy caredig y credaf fod pawb ohonom am ei gweld.

16:05

A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma. Credaf fod ei eiriau olaf, ynglŷn â thosturi, brys a gofal, yn rhai da. Weinidog, rydych wedi cydnabod y rhai sy'n rhedeg ein busnesau bach, a chredaf, yn yr un modd ag y canmolwn y rhai sydd wedi bod yn gweithio yn y GIG a'r diwydiant gofal, y dylem hefyd roi teyrnged i'r rheini sy'n rhedeg ein busnesau ar hyn o bryd ac sy'n ceisio parhau mewn cyfnod anodd iawn.

Os caf yn gyntaf grybwyll mater a godwyd gan arweinydd yr wrthblaid mewn cwestiynau i'r Prif Weinidog yn gynharach, mae'n fater i'r Gweinidog cyllid mewn gwirionedd, ond mae'n cyffwrdd â'ch briff chi hefyd, sef yr arian ychwanegol hwn. Rwy'n credu mai tua £1 biliwn a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog ar gyfer swyddi a chefnogi swyddi. Rwy'n deall bod cyfran dda o'r arian hwnnw'n dod o'r UE, o gronfeydd yr UE a glustnodwyd yn wreiddiol ar gyfer cefnogi swyddi presennol, ond mae hwnnw yn awr yn mynd i gael ei ailgyfeirio i—. Mae'n ddrwg gennyf, roedd hwnnw'n cefnogi swyddi newydd yn wreiddiol; mae'n mynd i gael ei ailgyfeirio yn awr i gefnogi swyddi sy'n bodoli'n barod. Roeddwn yn meddwl tybed—. Rwy'n credu bod hwnnw'n syniad da, gyda llaw. Rwy'n meddwl tybed, yn nes ymlaen, beth fydd y sefyllfa o ran naill ai talu'r arian hwnnw yn ôl neu ddadlau'n llwyddiannus o blaid ei ddefnyddio yn y ffordd gywir, felly mae'n debyg fod honno'n drafodaeth y bydd yn rhaid i chi ei chael gyda'r Gweinidog cyllid. Mae'n ymddangos i mi ar hyn o bryd ei bod yn ddoeth ailgyfeirio cyllid gymaint â phosibl i gynnal cyflogaeth, fel y bydd swyddi yno pan ddown allan o hyn a busnesau bach a chanolig sy'n gallu cyflawni'r gwaith o ailadeiladu'r economi.

Fe sonioch chi am gefnogaeth, fframwaith ar gyfer cefnogi busnesau. Yn amlwg, mae hynny'n hynod o bwysig. Nid yn unig y mae'n bwysig fod gennym fframwaith ar gyfer cefnogi busnesau, mae hefyd yn bwysig fod gennym fframwaith y mae busnesau'n ymwybodol ohono ac yn gallu ei ddefnyddio'n hawdd. Rwy'n siŵr nad wyf ar fy mhen fy hun—gydag Aelodau Cynulliad eraill, a gallaf eu gweld yn ysgwyd eu pennau, Weinidog—nid wyf ar fy mhen fy hun yn meddwl hynny. Mae nifer o fusnesau wedi cysylltu â mi ac nid ydynt wedi bod yn ymwybodol yn y lle cyntaf o ble y gellir dod o hyd i'r cymorth hwnnw. Yn y sefyllfa hon yn fwy na'r un arall, mae'n sefyllfa sy'n newid yn gyflym iawn, felly mae angen iddynt wybod yn union ble mae'r llwybrau cymorth hynny mor gyflym â phosibl, felly os gallwch ddweud wrthym beth rydych chi'n ei wneud i sicrhau bod y fframwaith hwnnw'n cael ei gyfleu i fusnesau a'u bod yn gwybod yn union ble mae'r pwyntiau cyswllt hynny ar y cyfle cyntaf, fel bod modd cael gafael ar y cymorth.

Rydych chi wedi sôn—wel, soniwyd am archfarchnadoedd wrth y Gweinidog iechyd, ond rwy'n tybio ei fod yn rhan o'ch cylch gorchwyl chi hefyd. Cefais ddau e-bost gan etholwyr heddiw yn holi am sefyllfa unigolion sy'n cael eu gwarchod a'r ffaith nad oes cofrestr debyg yng Nghymru i'r un sydd ar gael ar lefel y DU ar gyfer cofrestru gydag archfarchnadoedd i wneud yn siŵr fod nwyddau'n cael eu darparu i'w cartrefi. Mae pobl yn poeni am hynny. Gwn fod y Prif Weinidog wedi sôn amdano'n gynharach a bod y Gweinidog iechyd wedi sôn amdano, felly tybed a hoffech chi ddweud rhywbeth hefyd am unrhyw drafodaethau a gawsoch gydag archfarchnadoedd—maent yn rhan fawr o'n heconomi—am yr hyn y gellir ei wneud i sicrhau bod unigolion sy'n cael eu gwarchod a theuluoedd sy'n cael eu gwarchod yn cael gofal yn y ffordd orau sy'n bosibl.

Os caf droi at ail ran eich datganiad, roedd yr ail ran yn ymwneud â thrafnidiaeth. Mae gennyf gwestiynau i chi am y diwydiant bysiau. Rydych wedi gofyn i awdurdodau lleol barhau i dalu o leiaf 75 y cant o werth y contract ar gyfer gwasanaethau ysgol a gwasanaethau contract eraill i deithwyr lleol. A allwch gadarnhau nad oes unrhyw rwymedigaeth gyfreithiol ar awdurdodau lleol i wneud hynny? Ac a ydych chi'n ymwybodol o unrhyw rai nad ydynt yn bwriadu dilyn eich cyngor a'ch arweiniad? Rwy'n credu mai'r hyn sydd angen i ni ei osgoi yw loteri cod post ledled Cymru, ac rwy'n deall nad yw rhai awdurdodau lleol o leiaf yn chwarae eu rhan yn hyn o beth a'u bod yn dweud, pan fo'n anodd, os nad yw'n ddyletswydd statudol i ddarparu'r cymorth hwnnw ar y cychwyn, a oes angen iddynt wneud hynny?

Rydych chi'n gofyn i'r diwydiant bysiau, yn rhesymol, i adrodd yn wythnosol, gan ddangos sut y mae pob bws wedi cyflawni ei rwymedigaethau o ran terfynau ar nifer teithwyr, cadw pellter cymdeithasol ac yn y blaen. Rwy'n deall hynny'n llwyr ac yn meddwl bod hwnnw'n syniad da. Fodd bynnag, unwaith eto, deallaf fod rhai awdurdodau lleol yn gofyn am fanylion personol ymlaen llaw cyn i'r cyllid gael ei ryddhau. Nid wyf yn credu bod hynny yn ysbryd y datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd gennych ddoe, felly tybed a allech roi rhywfaint o eglurhad ynglŷn â sut yn union y bwriadwch i'r broses adrodd honno ddigwydd.

Yn olaf, gyda bysiau, mae'n ymddangos bod yr Adran Drafnidiaeth yn Lloegr yn mynd i ddarparu cymorth ychwanegol i'r diwydiant bysiau yno—o leiaf dyna fy nealltwriaeth i. A ydych wedi cael unrhyw drafodaethau neu a allech gael unrhyw drafodaethau gyda'ch cymheiriaid yn Lloegr, ac yn wir y Gweinidog cyllid, i weld a fydd unrhyw symiau canlyniadol dan fformiwla Barnett i Gymru os yw'r arian hwnnw ar gael yn Lloegr. Mae honno'n elfen bwysig inni ei deall yma. Hefyd, a fyddech yn bwriadu i hynny fynd tuag at drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru?

Yn olaf un, fe sonioch chi ar ddiwedd eich datganiad, Weinidog, ein bod mewn cyfnod digynsail, ac fe sonioch chi am hedfan a maes awyr Caerdydd. Felly, os caf wisgo fy het Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus am ychydig, roedd eich datganiad ysgrifenedig ddoe yn cyfeirio at atal y cyswllt awyr rhwng Caerdydd ac Ynys Môn. Beth yw eich asesiad o'r effaith ar deithwyr a Maes Awyr Caerdydd, o ystyried bod y rhwymedigaeth gwasanaeth cyhoeddus wedi'i hatal am dri mis? Rwy'n meddwl yn arbennig am deithwyr y soniwn amdanynt sydd angen teithio o'r gogledd i'r de i wneud gwaith hanfodol. Tybed a oes gennych unrhyw ffigurau mewn perthynas â'r rheini? Rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth y byddwn yn amlwg yn edrych arno yn y tymor hwy, a chyda'r diwydiant awyrennau yn y sefyllfa y mae ynddi, efallai fod hyn yn is i lawr ar eich rhestr o flaenoriaethau ar hyn o bryd. Ond fel rwy'n dweud, gan fod hyn yn rhywbeth rydym wedi edrych arno yn y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, mae gennyf ddiddordeb mewn gwybod beth yw'r sefyllfa gyda Maes Awyr Caerdydd a pha asesiad a wnaethoch.

Yn olaf oll, fe sonioch chi am y £40 miliwn ar gyfer y diwydiant rheilffyrdd yng Nghymru, ac mae hynny i'w groesawu. A ydych wedi cael unrhyw drafodaethau gyda darparwr y fasnachfraint reilffyrdd ynglŷn â ble y gallai'r arian hwnnw fynd i gefnogi'r diwydiant yn y tymor byr? Yn amlwg, nid yw cadw pellter cymdeithasol yn rhywbeth y gellir ei wneud yn hawdd ar drafnidiaeth gyhoeddus, felly rwy'n credu ein bod i gyd yn deall bod anawsterau ar hyn o bryd gyda thrafnidiaeth gyhoeddus. Ond rwy'n siŵr ein bod i gyd yn cytuno â chi, pan ddown allan o'r argyfwng hwn, ein bod am sicrhau bod ein sector trafnidiaeth gyhoeddus, a'n heconomi ehangach yn wir, ar y sail orau bosibl i oresgyn yr heriau a dod allan o hyn, fel bod yr economi ar sylfaen gadarnach o lawer nag y mae i'w gweld arni heddiw oherwydd yr holl bwysau dealladwy sydd arni.

16:10

Gwych. A gaf fi ddiolch i Nick Ramsay am y sylwadau caredig iawn a wnaeth ar y dechrau ac am ei gwestiynau? A gaf fi hefyd gofnodi fy niolch am ymdrechion rhyfeddol gweithwyr gofal cymdeithasol, gweithwyr y GIG a gweithwyr allweddol eraill, am y ffordd y maent wedi ymateb i COVID-19, a dweud, Lywydd, ei bod yn dda eich gweld chi'n gwella mor dda o'r feirws hwn? Mae yna ofn a phryder mawr iawn ym mhobman ar hyn o bryd, felly bydd gweld rhywun yn eich sefyllfa chi yn gwella ohono yn rhoi rhywfaint o obaith ac optimistiaeth i bobl.

Mae Nick Ramsay yn codi nifer o bwyntiau pwysig yn ei gyfraniad, yn gyntaf ac yn bennaf, addasu arian Llywodraeth Cymru a chronfeydd yr UE at ddibenion gwahanol. Mae'n iawn, mater i'r Gweinidog cyllid yw hwn, ond mae her COVID-19 yn broblem y mae Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru yn ei chydnabod. Mae'n fwy na dim a wynebwyd gennym yn y degawdau diwethaf, ers yr ail ryfel byd mae'n debyg, ac felly caniateir hyblygrwydd o ran sut rydym yn cyflwyno'r arian hwnnw i'w ddefnyddio er mwyn cynnal cyflogaeth.

O ran y fframwaith a ddatblygwyd gennym, rwy'n credu ein bod bellach wedi llenwi pob bwlch fwy neu lai ac wedi darparu rhwyd ddiogelwch ar gyfer bron bob busnes a'r hunangyflogedig. Dywedais yn gynharach os oedd gennych fusnes da yn 2019, y byddwn yno i'ch cynorthwyo i gael busnes da yn 2021. Mae'r meini prawf ar gyfer busnes da wedi'u nodi'n glir yn y contract economaidd sydd gennym: mae gennych botensial i dyfu, rydych yn gofalu am eich gweithlu drwy gymhwyso egwyddorion gwaith teg, drwy wella iechyd ac iechyd meddwl gweithwyr, rydych hefyd yn sicrhau eich bod yn cyfrannu at yr ymdrech ddatgarboneiddio sydd gennym. Felly, rwy'n credu ein bod ni bellach wedi creu'r fframwaith hwnnw i gefnogi pob busnes da.

Gwefan Busnes Cymru yw'r pwynt cyswllt cyntaf y byddwn yn annog busnesau i fynd iddo; mae gwefan Busnes Cymru bellach wedi'i haddasu i ddarparu gwybodaeth gynhwysfawr am gymorth i fusnesau drwy gydol y cyfnod hwn. Mae'n cynnwys dolenni i gymorth a noddir gan Lywodraeth y DU, i Fanc Lloegr, Banc Datblygu Cymru, Banc Busnes Prydain ac awdurdodau lleol, gan sicrhau mai dyna yw'r siop un stop ar gyfer pob ymholiad busnes.

O ran archfarchnadoedd, trafododd fy nghyd-Aelod, Lesley Griffiths, y materion a gododd Nick Ramsay. Credaf iddynt gael eu trafod ddoe gyda'r holl archfarchnadoedd. Rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn ysgrifennu at yr Aelodau yn fuan neu'n darparu datganiad ysgrifenedig ynglŷn â'r trafodaethau sydd wedi'u cynnal. Ond hoffwn ddweud un peth: gwelais weithwyr siopau'n wynebu camdriniaeth â fy llygaid fy hun. Mae'n gwbl annerbyniol ar yr adegau gorau, ac mae'n gyfan gwbl waradwyddus ar yr adeg hon, ac rwyf am annog holl gwsmeriaid pob siop i fod yn amyneddgar ac i ddangos parch at weithwyr siopau. Maent yn gwneud swyddi hanfodol ar hyn o bryd ac maent yn haeddu ein diolch.

O ran y cwestiwn a ofynnodd Nick Ramsay ynglŷn â chymorth i fysiau a 75 y cant o werth y contract, mae'n rhaid i mi ddweud hyn: ni fyddwn yn ymateb yn hapus o gwbl pe bai awdurdodau lleol yn dewis peidio â chefnogi gwasanaethau bws hanfodol a chwmnïau bysiau ar yr adeg hon. Mae'r grant cymorth i wasanaethau bysiau a ffrydiau ariannu eraill wedi'u cynllunio i gefnogi gwasanaethau bysiau a dylid eu defnyddio i gynnal gwasanaethau bws—hyd yn oed os yw'n wasanaeth sgerbwd ar hyn o bryd—nes gallwn gyflwyno atebion ar gyfer y tymor canolig a'r tymor hir. Ac rydym yn trafod y posibilrwydd o gymorth pellach gan yr Adran Drafnidiaeth. Yn amlwg, byddwn yn awyddus i sicrhau y gellid defnyddio unrhyw gymorth ychwanegol i wella ac ymestyn trafnidiaeth gyhoeddus yn y tymor canolig ac yn fwy hirdymor, a deallaf y gallai cyhoeddiad ddod yn fuan iawn gan yr Adran Drafnidiaeth.

O ran maes awyr rhyngwladol Caerdydd, bydd y maes awyr yn aros ar agor. Rhaid iddo aros yn agored i fodloni gofynion rheoliadol, fel y gall gyflymu gweithgarwch yn syth ar ôl inni fynd drwy'r cyfnod anodd hwn. O ran y gwasanaeth rhwng y gogledd a'r de, rwy'n credu fy mod wedi cyhoeddi datganiad a oedd yn tynnu sylw at y gostyngiad o 90 y cant yn nifer y teithwyr. Nid oedd y gwasanaeth yn cael ei ddefnyddio. Nid oedd yn gwneud unrhyw synnwyr i barhau gwasanaeth a oedd yn llyncu refeniw y gellid ei ddefnyddio mewn mannau eraill. Ond wrth gwrs, ar ôl i ni fynd heibio i'r cyfnod anodd hwn, byddwn yn adfer y gwasanaeth cyn gynted ag y gallwn. Bûm mewn trafodaethau hefyd gyda nifer o Weinidogion Llywodraeth y DU a chyda Gweinidogion o weinyddiaethau datganoledig eraill ynglŷn â chefnogaeth nid yn unig i feysydd awyr, ond i'n porthladdoedd hefyd. Yn fwyaf diweddar, siaradais â fy swyddog cyfatebol yng Ngogledd Iwerddon ddoe am y sefyllfa y mae busnesau fferi a phorthladdoedd yn ei hwynebu.

Ac yn olaf, mewn perthynas â'r £40 miliwn a fydd ar gael i gefnogi'r fasnachfraint reilffyrdd, bydd y cymorth refeniw hwn yn cadw trenau i redeg yn y tymor byr tra byddwn yn trafod atebion mwy hirdymor ar gyfer y fasnachfraint a'r rhwydwaith rheilffyrdd. Dylwn ddweud hefyd ein bod wedi bod mewn cysylltiad rheolaidd ag undebau'r rheilffyrdd ynghylch yr amodau gwaith anodd y mae rhai o'u haelodau'n eu hwynebu. Ac unwaith eto, clywsom adroddiadau am aelodau o undebau sy'n gweithio, yn enwedig mewn gorsafoedd, yn dioddef amodau na fyddai'n briodol ar unrhyw adeg, lle mae cwsmeriaid yn camu i'w gofod personol ac yn methu dangos parch. Felly, unwaith eto, Lywydd, hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i annog pawb sy'n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i barchu'r bobl sy'n cynnal gwasanaethau hanfodol ar yr adeg hon.

16:15

Diolch yn fawr iawn i'r Gweinidog am ei ddatganiad heddiw, a hefyd am ei gynnig o sgwrs wythnosol gyda phrif lefarwyr y pleidiau, lle cawn gyfle pellach ar sail barhaus i dynnu ei sylw at ein pryderon. Dywedodd yn ei ddatganiad gymaint y mae'n gwerthfawrogi'r agwedd amhleidiol honno a gwn ein bod yn dymuno gweithio gydag ef i sicrhau, yn y cyfnod hynod anodd hwn, fod bywydau'n cael eu hachub a bywoliaethau'n cael eu cynnal.

Mae gennyf nifer o gwestiynau penodol. I ddechrau, yn sgil ymateb y Gweinidog i Nick Ramsay ynglŷn â gwybodaeth am gymorth i fusnesau, rwy'n sicr y bydd y Gweinidog yn cydnabod ei fod yn ddarlun eithaf cymhleth o hyd i fusnesau ddeall yr hyn a allai fod yn gymorth priodol ar eu cyfer.

Wrth i'r set o becynnau ddod at ei gilydd, pecynnau'r DU a phecynnau Llywodraeth Cymru, tybed a allai'r Gweinidog ystyried cysylltu â busnesau'n uniongyrchol—yn union fel y mae'r Llywodraeth wedi gwneud ymdrech eithriadol o galed i gysylltu â'r 81,000 o bobl y credwn eu bod yn agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod yn diogelu eu hunain, a fyddai'n ystyried cysylltu'n uniongyrchol â busnesau. Oherwydd mae busnesau'n sicr yn cysylltu â mi i ddweud, 'Nid wyf yn hollol siŵr os yw hyn neu'r llall yn berthnasol i ni.' Felly, pan fyddwn yn gwybod beth yn union sy'n digwydd—ac efallai y bydd yn cymryd ychydig ddyddiau eto i hynny ddigwydd—rwy'n credu y byddai'n ddefnyddiol iawn pe bai'r Gweinidog yn ystyried ysgrifennu at fusnesau'n uniongyrchol, oherwydd efallai y bydd nifer ohonynt yn rhagdybio nad ydynt yn gymwys i gael cymorth, er ei bod yn ddigon posibl eu bod.

Mae busnesau'n dweud wrthyf hefyd y byddent yn gwerthfawrogi rhagor o ganllawiau—a chyfarwyddyd mewn rhai achosion—ynghylch yr hyn y dylid ei ystyried yn waith hanfodol neu beidio. Soniodd Adam Price wrth y Prif Weinidog am waith adeiladu nad yw'n hanfodol, ac rwyf wedi crybwyll hyn o'r blaen, fod hwn yn faes anodd iawn i bobl gadw pellter cymdeithasol priodol, er enghraifft. Felly, a wnaiff y Gweinidog roi ystyriaeth bellach i edrych ar y pwerau sydd ganddo, gan fod y ddeddfwriaeth frys yn ei lle bellach, i ystyried rhoi cyfarwyddiadau clir, lle bo hynny'n briodol, i fusnesau ynghylch yr hyn sy'n hanfodol neu fel arall? Er enghraifft, gallai alluogi gwaith adeiladu nad yw'n hanfodol i ddod i ben os cânt gyfarwyddyd i roi'r gorau iddi, ond os mai dewis gwneud hynny y maent, gallai olygu eu bod yn torri rhwymedigaethau cytundebol ac arwain at anawsterau ariannol iddynt. Felly, tybed a wnaiff y Gweinidog hynny.

Tybed a allai hefyd gael sgyrsiau pellach gyda'r Gweinidog iechyd am y canllawiau sydd ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Daeth un busnes i gysylltiad â mi i ddweud eu bod yn chwilio am gyngor ac nad oeddent yn teimlo bod digon yno i ddweud wrthynt sut y dylent gadw pellter cymdeithasol yn ddiogel. Nawr, fy nealltwriaeth i yw bod cyngor llawer mwy manwl ar gael ar wefan Public Health England, ac mae'n bosibl ein bod ni yn y broses o ddal i fyny â hynny. Ond os ydym yn disgwyl i'n busnesau weithredu'n gyfrifol yn ystod y cyfnod anodd hwn, mae angen inni sicrhau—rwy'n siŵr y byddai'r Gweinidog yn cytuno â mi—fod y cyngor a'r cymorth priodol ar gael iddynt fel eu bod yn gwybod yn union beth i'w wneud yn yr hyn sydd, wrth gwrs, fel y dywedodd y Gweinidog, yn gyfnod digyffelyb.

Nawr, rydym hefyd yn gwybod, Lywydd, fod yna lawer o fusnesau sy'n ymddwyn mewn ffordd gwbl ragorol ar yr adeg hon, busnesau sy'n rhoi pobl o flaen elw ac sy'n darparu gwasanaeth cwbl ragorol ac yn cefnogi eu staff. Ond yn anffodus, rydym hefyd yn gwybod bod yna rai busnesau nad ydynt yn gwneud hynny. Mae gennyf nifer o enghreifftiau o fusnesau, er enghraifft, sy'n pwyso ar staff i weithio pan ddylent fod yn ynysu'n gymdeithasol, er enghraifft, os nad ydynt yn anhwylus eu hunain ond bod aelod o'r teulu'n sâl neu'n agored i niwed; busnesau lle disgwylir i bobl weithio mewn amgylchiadau lle nad oes unrhyw gamau i gadw pellter cymdeithasol priodol, lle na allant wisgo a dadwisgo iwnifform yn effeithiol. Nawr, dylwn bwysleisio, Lywydd, mai lleiafrif o fusnesau yw'r rhain, ond mae'r hyn y maent yn ei wneud—rwy'n siŵr y byddai'r Gweinidog yn cytuno â mi—yn gwbl annerbyniol.

Fel dinasyddion unigol, gofynnwyd inni ildio llawer o'n rhyddid personol ar yr adeg hon, ac rydym wedi gwneud hynny'n falch o chwarae ein rhan. Ond lle mae busnesau'n gwrthod ymateb i gyngor ac arweiniad, a wnaiff y Gweinidog ystyried pa bwerau sydd ganddo i orfodi cydymffurfiaeth ac a wnaiff ystyried defnyddio'r pwerau hynny? Os daw i'r casgliad nad oes ganddo'r pwerau hynny ei hun, a allai gael trafodaethau pellach gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod cosbau i fusnesau sy'n gwrthod cydymffurfio? Rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn cytuno â mi ein bod ni, fel cymuned wleidyddol yng Nghymru, ac yn bwysicach, y cyhoedd yng Nghymru, yn gwylio perfformiad busnesau a diwydiant ar hyn o bryd, a byddwn yn cofio'r cwmnïau rhagorol sydd wedi ymddwyn yn dda iawn a byddwn hefyd yn cofio am y rhai sydd heb wneud hynny.

O ran busnesau gwledig, rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn cytuno â mi eu bod yn wynebu heriau ac anawsterau penodol. Mae cwestiynau'n codi ynghylch yr hyn sy'n deithio hanfodol a'r hyn nad yw'n deithio hanfodol, er enghraifft. Nawr, rwy'n ymwybodol fod ei gyd-Aelod, Lesley Griffiths, wedi cyhoeddi datganiad o ryw fath—nid wyf yn gwybod a yw'n ddatganiad i'r wasg neu'n ddatganiad ysgrifenedig i'r Cynulliad—am gefnogaeth i'r diwydiant ffermio, ond tybed a wnaiff y Gweinidog ystyried gyda'i gyd-Aelod y posibilrwydd o gyflwyno datganiad ar yr adeg briodol i'r Senedd rithwir hon fel y gallwn graffu ar y cymorth y mae'r Llywodraeth yn ei ddarparu i fusnesau gwledig yn fwy eang, ond yn benodol i fusnesau ffermio? Rwy'n gwybod y bydd y Gweinidog yn cytuno â mi mai'r busnesau yw asgwrn cefn ein cymunedau llai, ac mae angen i ni sicrhau eu bod yn cael eu diogelu.

Yn olaf, mae'r Gweinidog yn ei ddatganiad yn cyfeirio at y grantiau brys a allai fod ar y ffordd, ac mae hwn yn fater a godwyd gan David Rees yn ei gwestiynau i'r Prif Weinidog. Gwyddom nad yw rhai o'r pecynnau cymorth yn cynnwys pob un o'r rheini yr effeithir arnynt. Rwy'n credu bod David Rees wedi sôn, ac rwyf am ailadrodd hyn, am y bobl hunangyflogedig hynny, er enghraifft, nad ydynt wedi bod yn hunangyflogedig ers dros flwyddyn, ac felly nid oes ganddynt y gwaith papur sydd ei angen ar gyfer cynllun Llywodraeth y DU. A wnaiff y Gweinidog ystyried pa gymorth pellach y gellir ei roi i'r dinasyddion hynny, ac yn y tymor byr a wnaiff ystyried cyflwyno cynllun incwm sylfaenol brys i bobl yng Nghymru sy'n syrthio drwy'r bylchau? Yn yr ysbryd amhleidiol hwnnw, rydym ni ym Mhlaid Cymru wedi gwneud rhywfaint o ymchwil ynglŷn â sut y gallai cynllun o'r fath weithredu yn y tymor byr, a byddwn yn hapus iawn i rannu'r gwaith rhagarweiniol hwnnw gyda'r Gweinidog a'i swyddogion, oherwydd rwy'n siŵr y byddai'n cytuno â mi yn yr amser anodd hwn ein bod am sicrhau nad oes unrhyw ddinesydd yn cael ei adael ar ôl.

16:25

A gaf fi ddiolch i Helen Mary Jones am ymateb mewn ffordd mor adeiladol a chydweithredol, fel sydd bob amser yn wir mewn gwirionedd gyda llefarydd Plaid Cymru ar yr economi? Mae'r awgrymiadau y mae Helen Mary Jones wedi'u gwneud yn rhai i'w croesawu'n fawr, a byddwn yn ddiolchgar iawn pe bai modd trosglwyddo'r darn hwnnw o ymchwil ynglŷn â'r posibilrwydd o gael cynllun incwm sylfaenol brys. Rydym wedi rhedeg rhai ffigurau ein hunain ac wedi canfod y byddai'n sylweddol iawn yn wir a byddai'n rhywbeth y byddai'n rhaid i Lywodraeth y DU ei weithredu. Yn wir, rydym wedi galw am gyflwyno cynllun incwm sylfaenol cyffredinol ar gyfer y cyfnod hwn. Credaf y byddai'n brawf priodol ar gynllun o'r fath hefyd, er mwyn iddo allu cael ei gyflwyno ar gyfer y tymor hir.

Yn wir, yn achos unigolion nad ydynt ond wedi bod yn hunangyflogedig am gyfnod byr, mae yna gryn bryder, ac mae pob un o'r meddyliau mawr yn y Trysorlys, Llywodraeth Cymru, rydym oll wedi ystyried sut y gallem gefnogi unigolion sydd wedi'u cynnwys yn y garfan benodol hon. Rydym yn edrych ar opsiynau amrywiol, gan gynnwys y posibilrwydd o ddefnyddio'r gronfa cymorth dewisol fel ffordd o allu eu cefnogi dros y tri mis nesaf. Rydym yn cydnabod bod angen gwneud rhagor o waith, ac rydym yn gweithio gyda Thrysorlys y DU, ac yn wir gyda'r gweinyddiaethau datganoledig eraill, i geisio dod o hyd i ddull cyson o weithredu ar gyfer grŵp allweddol o unigolion o fewn y gweithlu.

Gwnaeth Helen Mary Jones nifer o bwyntiau pwysig am ddarparu gwybodaeth a hygyrchedd gwybodaeth bwysig. Rydym eisoes wedi dechrau cyfathrebu'n uniongyrchol â degau o filoedd o fusnesau sydd wedi'u cynnwys yng nghronfa ddata Busnes Cymru, a byddwn yn annog pob busnes i gofrestru ar y gronfa ddata honno. Mae rheolwyr datblygu busnes yn Llywodraeth Cymru yn cysylltu'n rheolaidd iawn â chwmnïau mwy o faint—cwmnïau angori fel y'u gelwir—ac mae ein timau ymateb rhanbarthol hefyd mewn cysylltiad â hwy'n rheolaidd iawn hefyd. Byddwn hefyd yn annog unrhyw fusnesau sydd ag unrhyw syniadau—. Fe wnaethom siarad yn gynharach—siaradodd Vaughan Gething yn arbennig ag Aelodau yn gynharach—am yr ymdrech genedlaethol i gynhyrchu peiriannau anadlu ac offer pwysig arall. Mae cyfeiriad e-bost penodol ar gael bellach i fusnesau allu rhannu syniadau gyda ni ar sut y gallwn ddod atom ein hunain, sut y gallwn wella'r ymdrech genedlaethol, sef business.covid-19@gov.wales.

Ac o ran egluro'r hyn y mae 'gwaith hanfodol' yn ei olygu mewn gwirionedd, cafodd hyn ei drafod heddiw yn ein cyfarfod pedairochrog â'r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol a Gweinidogion economi eraill ledled y DU. Roeddem i gyd yn awyddus iawn i ddweud bod angen gweithredu mewn ffordd mor gyson â phosibl, o gofio bod y swm helaeth o wybodaeth sy'n llifo i fusnesau yng Nghymru yn dod o gyfryngau'r DU mewn gwirionedd. Felly, byddai'n ddefnyddiol iawn yn wir os gallwn gael dull gweithredu cyson ledled y DU. Rwyf fi a'r Gweinidog Hepburn o'r Alban hefyd wedi pwysleisio'r angen i wneud hyn yn gyflym, ar frys.

Rwy'n sicr yn derbyn y pwynt a wnaeth Helen Mary Jones am y cyngor a geir ar ein llwyfannau digidol. Ceir cyngor Iechyd Cyhoeddus Cymru, a cheir cyngor coronafeirws Llyw.Cymru i fusnesau hefyd. Fe af oddi yma heddiw ac edrych ar y cyngor a gafwyd ar y ddau blatfform i weld a yw'n gyson, ac i weld a allwn ychwanegu gwybodaeth at y naill neu'r llall, neu'r ddau, yn wir.  

O ran arferion busnes gwael, nid oes amheuaeth o gwbl fod y mwyafrif helaeth o fusnesau Cymru'n ymddwyn yn gyfrifol iawn—yn cefnogi gweithwyr, yn cyfathrebu â gweithwyr, ac mae llawer yn camu i'r adwy i helpu'r GIG a chartrefi gofal hefyd—ond nid oes amheuaeth fod yna rai busnesau lle na welir arferion da'n cael eu harddangos, ac mae Helen Mary Jones yn llygad ei lle y bydd gennym gof hir am y cyfnod hwn.  

Mewn perthynas â gorfodaeth, rydym yn edrych ar y cwestiynau y mae Helen Mary Jones wedi eu codi gyda Llywodraeth y DU a chydag awdurdodau lleol hefyd, ond gallaf ddweud wrth yr Aelodau heddiw y bydd y meini prawf ar gyfer cymorth gan Lywodraeth Cymru—y grantiau rydym wedi'u cyhoeddi y byddwn yn eu gweinyddu ac y bydd Busnes Cymru yn eu gweinyddu—yn cynnwys llinell ychwanegol i'r contract economaidd. Mae'r contract economaidd yn syml iawn, dim ond pedwar pwynt sydd iddo: datgarboneiddio; gwaith teg; ymrwymiad i sgiliau, iechyd ac iechyd meddwl yn y gweithle; a photensial i dyfu. Byddwn yn cynnwys elfen coronafeirws benodol yn y contract yn awr, a bydd unrhyw fusnes y canfyddir ei fod wedi methu cydymffurfio â chadw pellter cymdeithasol yn cael ei eithrio rhag cael ein cymorth, neu bydd cymorth yn cael ei hawlio'n ôl. Felly, byddwn yn defnyddio'r offeryn pwysig hwnnw i sicrhau bod cynifer o fusnesau ag sy'n bosibl yn ymddwyn yn gyfrifol.  

O ran busnesau gwledig a'r diwydiant ffermio yn arbennig, cefais drafodaeth dda iawn gyda llywydd Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr, ynghyd â Lesley Griffiths, yr wythnos diwethaf i sôn am y pwysau y mae'r gymuned ffermio yn ei wynebu. Rwy'n credu bod datganiad gan Lesley Griffiths yn yr arfaeth o bosibl ar gyfer y Cyfarfod Llawn rhithwir yr wythnos nesaf. Felly, rwy'n siŵr y bydd hi'n ymdrin â'r holl faterion rydych wedi tynnu sylw atynt pan fydd hi'n rhoi'r datganiad hwnnw.  

16:30

Rwyf newydd gael fy nad-dawelu. Diolch yn fawr, Lywydd. A gaf fi hefyd ategu fy niolch i'r bobl sy'n gweithio yn y rhan hanfodol o'n heconomi? Soniwn yn aml am ran sylfaen ein heconomi; rydym yn awr yn darganfod beth yw'r rhan hanfodol o'n heconomi. Gobeithio y byddwn yn defnyddio'r term hwnnw'n amlach o lawer. 

Mae etholwyr wedi dwyn llawer o faterion i fy sylw yr hoffwn eu codi gyda'r Gweinidog. Mae'r un cyntaf yn ymwneud â bragdai bach. Gall y bragwyr mawr symud o gynhyrchu casgenni i ganiau a photeli i'w hanfon i fannau manwerthu. Nid yw'n bosibl i gynhyrchwyr llai, sydd wedi arfer cyflenwi i dafarndai, clybiau a bwytai, wneud yr un peth yn union. Nid oes ganddynt y capasiti i newid popeth ar gyfer caniau a photeli. Mae'r sector hwn, fel y gŵyr y Gweinidog, yn sector twf yn economi Cymru, yn enwedig yn Abertawe. Pa gyngor neu gymorth y gall y Gweinidog ei roi iddynt?

Mae'r ail bwynt yn ymwneud ag unedau gweithgynhyrchu bach a chanolig eu maint a chanolfannau galwadau sy'n aros ar agor lle nad yw cadw pellter cymdeithasol yn bosibl a lle mae cyfleusterau'n cael eu rhannu. A oes bwriad i gau cyfleusterau gweithgynhyrchu a chanolfannau galwadau nad ydynt yn hanfodol? Oherwydd gan nad ydynt wedi gorfod cau'n swyddogol, mae nifer ohonynt yn aros ar agor.

Dau bwynt olaf. Beth yw clwb rygbi? A yw'n dafarn, a yw'n gyfleuster hamdden, ynteu a yw'n fenter gymdeithasol? Bydd yn cael ei ddehongli'n wahanol yn ôl y deddfau cyffredinol sy'n ei ddiffinio. Mae yna lawer iawn o glybiau rygbi yng Nghymru a oedd yn dymuno gwerthu llawer o gwrw yn ystod y gêm rygbi ryngwladol ddiwethaf na wnaeth hynny, ac nid ydynt yn siŵr iawn ble maent yn sefyll yn y sefyllfa hon.

Yn olaf, rhywbeth sydd wedi dod i fy sylw y prynhawn yma. Mae rhai siopau bellach yn dweud wrth bobl na allant fynd â'u plant i mewn i'r siopau gyda hwy. Nawr, i famau sengl, os na allant fynd â'u plant i mewn i siopa am fwyd, nid ydynt yn gallu siopa am fwyd. Felly, a ydych yn ymwybodol o hynny? Fel rwy'n dweud, dim ond y prynhawn yma y tynnwyd fy sylw at hyn. Os ydych, a ydych chi'n gwneud rhywbeth? Os nad ydych, a allwch chi wneud rhywbeth felly? Oherwydd ni fydd y bobl hyn yn gallu cael gafael ar fwyd os nad ydynt yn gallu mynd i'r archfarchnadoedd a siopau eraill sy'n dweud wrthynt bellach, 'ni chewch ddod i mewn gyda'ch plant.' Wel, os yw eu plant yn bedair neu'n bump oed, nid oes unrhyw ddewis arall ganddynt.  

A gaf fi ddiolch i Mike Hedges am ei gwestiynau? O ran bragwyr bach, rwyf wedi bod mewn cysylltiad â nifer o fragwyr bach sy'n wynebu nifer o heriau. Rydych chi'n iawn, un ohonynt yw na allant gystadlu â'r bragdai mwy sy'n gallu troi'n sydyn at botelu neu ganio eu cynnyrch. Yr ail her sy'n eu hwynebu yw bod llawer iawn o dafarndai annibynnol sydd â bragdai annibynnol ynghlwm wrthynt, bragdai gyda chyfleusterau ffatri, ac felly mewn rhai ardaloedd maent wedi cael eu heithrio o'r cymorth busnes a gyhoeddwyd gennym yn ystod camau cychwynnol ein hymdrech i frwydro yn erbyn COVID-19, ond maent wedi cael eu cynnwys ers hynny yng nghyhoeddiad dydd Llun.

Rwy'n credu bod cwestiwn i'w ofyn ynghylch a allwn ni helpu bragwyr llai i gyflenwi archfarchnadoedd dros y misoedd nesaf, a pha mor gyflym y gellid trefnu rhyw fath o gonsortiwm. Byddwn yn sicr yn edrych ar hyn. Nid yw wedi bod yn flaenoriaeth frys yn ystod wythnosau cyntaf ein hymdrechion, fel y gallwch ddychmygu, ond mae'n sicr yn rhywbeth rydym yn ei gydnabod. Yr hyn yr hoffem ei weld yn digwydd wrth i ni ddod trwy argyfwng coronafeirws yw i'r sector bragdai gael ei hybu, nid ei niweidio. Byddem yn dymuno gweld mwy o ficrofragdai'n cael eu sefydlu. Hoffem weld mwy o dafarndai annibynnol yn datblygu. Nid ydym yn dymuno gweld colli tafarnau neu fragdai annibynnol o safon o gwbl, felly byddwn yn sicr yn eu cefnogi mewn unrhyw ffordd y gallwn.

Mae'r pwynt a wnaeth Mike Hedges am gyfleusterau gweithgynhyrchu a chanolfannau galwadau nad ydynt yn hanfodol yn mynd yn ôl at y diffiniad a'r pwyntiau a godwyd gan Helen Mary Jones. Ond byddwn yn dweud un peth: mae'n bwysig i fusnes ofyn dau gwestiwn. Yn gyntaf oll, a ydynt yn rhan o'r ymdrech hanfodol i frwydro yn erbyn COVID-19? Os nad ydynt, a allant weithio mewn ffordd sy'n caniatáu ar gyfer cadw pellter cymdeithasol bob amser? Os mai 'gallant' yw'r ateb, yna gall y gwaith barhau, ond os mai 'na allant' yw'r ateb, yna mae'n amlwg na ddylid peryglu eu gweithwyr. Ac os yw hynny'n golygu gaeafgysgu dros gyfnod y coronafeirws, boed hynny fel y bo. Rydym wedi rhoi'r mecanweithiau cymorth ar waith, a Llywodraeth y DU yn yr un modd, i alluogi gaeafgysgu lle nad oes unrhyw ddewis arall.

O ran clybiau rygbi, nid wyf yn credu y dylai clybiau rygbi fod ar agor ar hyn o bryd. Nid yw cyfleusterau chwaraeon eraill ar agor ar hyn o bryd, a beth bynnag yw'r diffiniad o glwb rygbi, os yw'n lleoliad lle gall pobl ymgynnull yn agos, nid wyf yn credu y dylai hynny ddigwydd. Gallaf weld Mike Hedges yn ysgwyd ei ben. Os yw'r cwestiwn wedi ei gamddehongli mewn unrhyw ffordd, yna rwy'n sicr yn hapus i ymateb iddo yn ysgrifenedig. Fe wnaf hynny, a byddaf yn cylchlythyru fy ymateb i'r holl Aelodau hefyd fel y gellir dosbarthu unrhyw ganllawiau i bob clwb rygbi yng Nghymru.

Nid wyf yn ymwybodol o unrhyw archfarchnadoedd sy'n dweud wrth gwsmeriaid na chaniateir iddynt ddod i mewn i'r safle gyda phlant. Yn sicr, ni fyddai hynny'n dderbyniol o gwbl. Fodd bynnag, os yw plant yn cael eu hebrwng i unrhyw siop, afraid dweud ei bod yn bwysig i rieni allu cadw eu plant mor agos atynt ag y bo modd, oherwydd mae bron bob archfarchnad, o'r hyn a welaf bellach, wedi cyflwyno mesurau cadw pellter cymdeithasol y mae'n rhaid cadw atynt.

16:35

Cyn i mi alw ar y siaradwr nesaf, a gaf fi atgoffa'r Aelodau mai sesiwn ffurfiol o'r Cynulliad Cenedlaethol yw hon ac na chaniateir i chi dderbyn galwadau ffôn yn ystod sesiwn ffurfiol? Felly, nid yw i ddigwydd eto. Neil Hamilton.

Amcan pennaf yr holl gyfyngiadau ar weithgarwch economaidd, wrth gwrs, yw achub bywydau, ac rydym i gyd yn cytuno â'r amcan hwnnw, ond a yw'r Gweinidog yn cytuno na ddylem gael gwared yn llwyr ar gwestiynau ynghylch cymesuredd yr ymateb? Caniateir i archfarchnadoedd aros ar agor oherwydd, yn amlwg, mae dosbarthu bwyd yn wasanaeth hanfodol, ond ceir busnesau eraill o fathau tebyg sy'n gweithredu yn yr awyr agored nad ydynt ar agor oherwydd cyfyngiadau'r Llywodraeth. Rwy'n meddwl yn benodol am yr anawsterau y mae meithrinfeydd planhigion, canolfannau garddio ac ati yn eu hwynebu ar hyn o bryd, ac rwy'n meddwl tybed a fyddai'n bosibl cadw llygad ar hyn er mwyn codi'r cyfyngiadau cyn gynted â phosibl. Oherwydd, ar yr adeg hon o'r flwyddyn, gydag eginblanhigion ac ati, sy'n cael eu hystyried yn nwyddau darfodus, bydd busnesau'n colli symiau sylweddol iawn o arian drwy beidio â gallu masnachu. Os yw cadw pellter cymdeithasol yn bosibl o dan yr amgylchiadau hyn, ni allaf weld unrhyw reswm pam na ddylent barhau i fasnachu. Felly, tybed a fyddai'r Gweinidog yn cytuno—yn amlwg, ar y cyfnod hwn yn y pandemig, mae'n bosibl fod cwestiynau ynghylch cymesuredd yn llai pwysig—wrth i ni symud trwy'r argyfwng hwn, y dylid codi'r cyfyngiadau hyn cyn gynted ag y bo modd?

16:40

Byddwn yn cytuno â Neil Hamilton y dylid codi'r cyfyngiadau cyn gynted ag y gallwn eu codi. Yr hyn y byddwn yn ei ddweud yw nad ydym eisiau lladd yr economi, nid ydym am wneud hynny o gwbl; yr hyn rydym eisiau ei wneud yw ei diogelu ar gyfer y tymor hir. Y neges roeddwn yn ei rhoi i'r sector twristiaeth pan welwyd bod llawer o bobl yn dod i Gymru ac yn dod o rannau o Gymru i'r rhannau mwy anghysbell o'r wlad gwta bythefnos yn ôl oedd: 'Os ydych chi'n ceisio achub y tymor twristiaeth yn 2020, rydych chi'n peryglu tymor twristiaeth 2021.' Ni allwn fforddio gweld coronafeirws yn dychwelyd ac felly, er y byddem yn dymuno gweld y cyfyngiadau'n cael eu codi cyn gynted â phosibl, mae'n hanfodol mai dim ond pan fydd hi'n ddiogel i wneud hynny y dylai hynny ddigwydd.

Byddwn yn cytuno bod canolfannau garddio yn aml yn fannau lle gellir cadw pellter cymdeithasol. Wrth gwrs, byddem yn barod i ystyried a ellid eu hagor. Ond mewn gwirionedd, mae nifer dda o ganolfannau garddio eisoes yn arloesi yn y sefyllfa sydd ohoni ac yn gwerthu mwy ar-lein. Byddem yn eu hannog i wneud hynny'n gyntaf oll yn ystod y cyfnod hwn. Ond gallaf sicrhau canolfannau garddio y byddwn yn gwneud hynny cyn gynted ag y gallwn eu hailagor mewn ffordd ddiogel ac ymarferol.

Diolch, Weinidog, a diolch i'r holl Aelodau a'r Gweinidogion. Rwy'n mynd i ddirwyn y cyfarfod pur eithriadol hwn o'n Senedd i ben yn awr a diolch i'r holl Aelodau a'r Gweinidogion am gymryd rhan. Yn anarferol, hoffwn hefyd fanteisio ar y cyfle heddiw i ddiolch i'r swyddogion sydd wedi gweithio y tu ôl i'r llenni i wneud y cyfarfod hwn yn bosibl dan yr amgylchiadau mwyaf anghyffredin, a hynny mewn cyfnod byr iawn. Mae atebolrwydd democrataidd yn bwysig, ac mae'n parhau'n bwysig hyd yn oed yn y cyfnod hynod anodd hwn. Felly, hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan heddiw i sicrhau bod democratiaeth yn fyw ac yn iach yng Nghymru, a byddwn yn ceisio ailadrodd hyn cyhyd ag y bydd angen i ni wneud hynny. Diolch i bawb ohonoch, a chadwch yn ddiogel. Daw hyn â'n trafodion i ben.

Daeth y cyfarfod i ben am 16:42.