Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Plenary - Fifth Senedd
10/03/2020Cynnwys
Contents
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:00 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Galw'r Aelodau i drefn.
Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Michelle Brown, ond nid yw Michelle Brown yma, felly cwestiwn 2 fydd y cwestiwn cyntaf—Alun Davies.
Ni ofynnwyd cwestiwn 1 [OAQ55239].
2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddatblygiad gwasanaethau cyhoeddus yn y dyfodol? OAQ55193

Cyni cyllidol yw'r grym sy'n dal i siapio ein gwasanaethau cyhoeddus, yn sbarduno galw ac yn lleihau ein gallu i ymateb. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod wedi ymrwymo i wasanaethau cyhoeddus sy'n cael eu hariannu'n gyhoeddus ac yn cael eu darparu'n gyhoeddus gan staff sy'n cael eu cymell gan synnwyr grymus o wasanaeth cyhoeddus.
Rwy'n ddiolchgar i'r Prif Weinidog am hynna. Rwy'n credu bod llawer o Aelodau, fel finnau, yn falch iawn o glywed y Gweinidog cyllid yn gwneud datganiad y mis diwethaf ar sut y bydd Cymru ddigidol yn symud ymlaen. Roedd gen i ddiddordeb arbennig, wrth gwrs, yn ei barn y bydd academi sgiliau digidol yn cael ei lleoli yng Nglynebwy, yn fy etholaeth i, ac y byddwn yn buddsoddi mewn prif swyddogion digidol ar draws pob rhan o wasanaethau cyhoeddus Cymru, gan greu clwstwr o ragoriaeth gwirioneddol iawn lle y gallwn ysgogi newid digidol. Bydd y Prif Weinidog yn ymwybodol bod Gweinidog yr economi a'r Gweinidog addysg ill dau wedi ymweld â Thales yng Nglynebwy yn ystod yr wythnosau diwethaf i lansio'r presenoldeb seiber-ddiogelwch yno, sy'n rhan o fenter y Cymoedd Technoleg. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu, felly, sut y mae'n gweld y clwstwr yng Nglynebwy, ond yr ymgyrch ehangach i greu gwasanaethau cyhoeddus digidol yng Nghymru, yn symud ymlaen yn ystod y misoedd nesaf, a sut y gallwn ni sicrhau bod y clwstwr hwn o ragoriaeth yr ydym ni'n ei weld yn cael ei ddatblygu yng Nglynebwy yn sail ac yn sylfaen i dwf economaidd pellach a rhagoriaeth mewn gwasanaethau cyhoeddus?

A gaf i ddiolch i Alun Davies am hynna ac am dynnu sylw at y ffaith ein bod ni ar fin recriwtio prif swyddog digidol newydd ar gyfer Llywodraeth Cymru? Y prif swyddog digidol presennol, Llywydd, hoffwn dalu teyrnged i'w chyfnod yn y swydd a dymuno'n dda iddi yn ei hymddeoliad. Byddwn yn cryfhau'r swydd honno sy'n ymwneud â'r Llywodraeth gyfan gyda phrif swyddogion digidol mewn llywodraeth leol ac ym maes iechyd, a bydd hynny i gyd yn cael ei roi ar waith ochr yn ochr â bwrdd digidol trawslywodraethol y gweinidogion sy'n cael ei gadeirio gan y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd.
Mae digideiddio gwasanaethau cyhoeddus yn un o'r ffyrdd allweddol yr ydym ni'n gwybod y gallwn ni barhau i wireddu ein penderfyniad bod gwasanaethau cyhoeddus ar gael yn briodol i ddinasyddion ledled Cymru gyfan mewn ffordd sy'n cyfateb i'w profiad cyfoes. Y synnwyr hwnnw o fod ar flaen y gad o ran datblygu digideiddio yw'r union beth sy'n digwydd yng Nglynebwy a thrwy ranbarth y Cymoedd Technoleg, gyda gwaith Thales, gyda'r academi sgiliau, gyda'r ganolfan gwasanaethau cyhoeddus digidol, a fydd yn weithredol yng Nglynebwy o fis Ebrill 2020 ymlaen, a chan ddwyn ynghyd yno, Llywydd, y seilwaith sydd ei angen arnom ni i gefnogi'r datblygiadau hynny ond, yn bwysig iawn, creu'r sgiliau sy'n golygu y bydd y gweithlu yn y rhan honno o Gymru mewn sefyllfa dda i fod ar flaen y gad o ran y datblygiadau hyn.
Hoffwn ofyn i'r Prif Weinidog pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i wasgaru ffyniant ar draws y wlad trwy ddatblygu gwasanaethau cyhoeddus. Rwy'n credu bod angen i ni wrando ar y rhai sy'n teimlo ein bod ni mewn perygl o efelychu camgymeriad Lloegr o or-ganoli grym a datblygiad economaidd mewn un rhan o'r wlad. Nawr, un o'r syniadau y mae Plaid Cymru wedi ei gyflwyno, ac rwyf i'n siŵr bod y Prif Weinidog yn ymwybodol ohono, yw Deddf adnewyddu rhanbarthol i ddatganoli grym, gan sicrhau bod pob rhan o'r wlad yn cael ei chyfran deg o fuddsoddiad a bod cyrff cyhoeddus yn cael eu sefydlu mewn rhannau o'r wlad sydd wir angen swyddi newydd. Ceir rhannau o'm rhanbarth i yn y de-ddwyrain sydd wedi dioddef diboblogi a dirywiad economaidd ac maen nhw wir angen cymorth Llywodraeth Cymru—ardaloedd fel Tredegar, fel Merthyr ac fel Glynebwy. Mae cysylltiadau trafnidiaeth yn yr ardaloedd hynny mor wael ac mae'r economi sylfaenol yn crefu am fuddsoddiad. Felly, Prif Weinidog, hoffwn ofyn sut yr ydych chi'n meddwl y gall y Llywodraeth helpu i wella gwasanaethau cyhoeddus mewn ardaloedd fel hyn fel y gellir eu codi i fyny unwaith eto a'u gwneud yn ddeniadol i fusnesau gael eu sefydlu yno yn y dyfodol, yn ogystal â denu amwynderau lleol newydd a allai roi hwb i'r cymunedau hynny.

Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. Mae effaith ranbarthol yr economi yn rhywbeth sy'n gwbl flaenllaw yn y modd y mae Gweinidog yr economi yn llunio ei bolisi a'i adran i ddarparu yn y modd rhanbarthol deg hwnnw, er, fel y dangosodd cwestiwn yr Aelod, Llywydd, mae anghydraddoldebau o fewn rhanbarthau yn fwy amlwg nag anghydraddoldebau rhwng rhanbarthau yng Nghymru.
Felly, gan wneud yn siŵr, mewn rhanbarth fel y de-ddwyrain, sydd â rhai rhannau llewyrchus iawn ohono a rhai rhannau sy'n sylfaenol i economi Cymru—sut ydym ni'n gwneud yn siŵr bod ffrwyth y datblygiad hwnnw'n cael ei deimlo ym mhob man? Dyna sydd wrth wraidd yr agenda gwaith teg, mae wrth wraidd y Bil partneriaethau cymdeithasol y byddwn ni'n ei gyflwyno gerbron y Cynulliad hwn ac, i ddychwelyd at bwynt Alun Davies, mae'n rhaid edrych ar wasanaethau digidol drwy'r lens anghydraddoldeb honno hefyd.
Yn y modd hwnnw, rwy'n credu y gellir gwahaniaethu rhwng y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â'r pethau hyn a'r ffordd yr aethpwyd i'r afael â'r materion hyn mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig. Fel y dywed Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, rydym ni eisiau creu Cymru sy'n fwy cyfartal, a bod y Gymru fwy cyfartal honno wedi ei gwreiddio mewn cyfle cyfartal yn yr economi.
Prif Weinidog, roedd eich addewid ym maniffesto 2016, a dyfynnaf, 'Ein nod fydd creu awdurdodau lleol mwy a chryfach', gan fod Llafur Cymru yn cydnabod yn ôl pob golwg y swyddogaeth hanfodol y mae awdurdodau lleol yn ei chwarae ym mywydau pawb—. A allwch chi roi diweddariad, os gwelwch yn dda, ar eich diwygiad o lywodraeth leol, neu a yw'r addewid hwn yn mynd i fynd i'r un bin â ffordd liniaru'r M4?

Wel, Llywydd, mae Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) yn cael ei gyflwyno yn y Cynulliad hwn. Bydd yn dangos y ffordd y byddwn ni'n creu awdurdodau lleol sy'n gadarn ar gyfer y dyfodol, gan gadw'r 22 o bresenoldebau lleol, gyda drws ffrynt y mae pobl wedi dod yn gyfarwydd ag ef erbyn hyn dros bron i 30 mlynedd, ac eto gwneud cydweithredu ar sail ranbarthol yn ofynnol ar gyfer gwasanaethau a gweithgareddau llywodraeth leol craidd. Yn y ffordd honno, rwy'n credu y byddwn ni'n cyfuno'r manteision o gael awdurdodau lleol sy'n ddigon agos i boblogaethau i bobl deimlo eu bod nhw'n berchen arnyn nhw, a synnwyr o atebolrwydd i'r poblogaethau hynny, gyda'r manteision y bydd gweithio rhanbarthol at ddibenion allweddol yn eu cynnig. Bydd y Bil hwnnw gerbron y Cynulliad Cenedlaethol hwn, a bydd yr Aelod yn cael pob cyfle i gyfrannu at ei ddadlau a'i ddatblygu.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd yr wrthblaid, Paul Davies.

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, mae nifer yr achosion o coronafeirws yng Nghymru a gadarnhawyd wedi codi i chwech erbyn hyn a disgwylir i hynny godi eto. Felly, mae'n gwbl hanfodol bod unrhyw ymgyrch gwybodaeth gyhoeddus yn cyrraedd pob rhan o Gymru nawr fel bod y cyhoedd yn gwbl ymwybodol o'r camau y gallan nhw eu cymryd i amddiffyn eu hunain a'u teuluoedd ac i gyfyngu lledaeniad y feirws hwn. Pa gamau eraill all Llywodraeth Cymru eu cymryd i sicrhau bod unrhyw ymgyrchoedd gwybodaeth gyhoeddus yng Nghymru yn cael cymaint o sylw â phosibl? Pa gamau ychwanegol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod pobl Cymru yn adnabod symptomau'r feirws yn gyflym a'u bod nhw'n cael eu cyfeirio'n gywir at y cyngor a'r driniaeth briodol?

Diolchaf i Paul Davies am y cwestiwn pwysig yna. Mae'n iawn i ddweud bod chwe achos wedi eu cadarnhau yng Nghymru ar hyn o bryd, ond mae'r holl dystiolaeth a'r cyngor arbenigol sydd gennym ni'n dweud y bydd y nifer honno'n codi. Mae hyn yn rhoi cyfle i ni wneud yn siŵr bod y negeseuon cyhoeddus yr ydym ni'n eu cynnig yn eglur, yn gryno ac yn ddealladwy i bobl.
Yng nghyfarfod pwyllgor COBRA ddoe, dan gadeiryddiaeth Prif Weinidog y DU, cytunasom ei bod hi'n bwysig y dylai'r negeseuon hynny gael eu cyfleu ledled y DU. Felly, mae llawer o bobl yng Nghymru, fel y mae arweinydd yr wrthblaid yn gwybod, yn cael y rhan fwyaf o'u newyddion o fannau y tu allan i Gymru. Felly, mae cysondeb negeseuon ar draws y Deyrnas Unedig yn dod yn arbennig o bwysig yn yr achos hwn, rwy'n credu, a byddwn yn gweithio'n agos gyda Llywodraethau eraill y DU i wneud yn siŵr nad oes unrhyw ddryswch o ran negeseuon rhwng gwahanol rannau o'r Deyrnas Unedig. Yma yng Nghymru, mae gwiriwr symptomau effeithiol iawn, yn fy marn i, ar gael drwy wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru eisoes, lle, os bydd unrhyw un yn teimlo ei fod angen gwirio'r hyn y mae'n ei ddioddef yn erbyn symptomau coronafeirws, mae'n ei dywys trwy gyfres o gamau syml iawn ac yn rhoi cyngor iddo ar ddiwedd y broses. Mae'r system 111 bellach yn rhoi cyngor am ddim ar draws Cymru gyfan i bobl ym maes coronafeirws, a byddwn yn parhau i ddefnyddio ffynonellau cyngor dibynadwy drwy'r GIG a thrwy Iechyd Cyhoeddus Cymru i sicrhau, pan fydd negeseuon cyhoeddus yn cael eu darparu, eu bod yn cyrraedd cymaint o bobl a phosibl mor gyflym â phosibl.
Prif Weinidog, rwy'n deall erbyn hyn bod Llywodraeth y DU wedi sefydlu arweinwyr gweinidogol ar coronafeirws ar draws adrannau'r Llywodraeth, ac efallai y gallech chi ddweud wrthym ni a yw Llywodraeth Cymru yn gwneud hynny hefyd i ymchwilio i'r holl broblemau ac effeithiau y gallai'r feirws eu creu. Er enghraifft, prin iawn yw'r cyfarwyddyd neu wybodaeth am y rhwydwaith cludiant cyhoeddus, yn enwedig o ystyried bod gwaith ymchwil a gyhoeddwyd yn BMC Infectious Diseases wedi canfod bod y rhai sy'n defnyddio cludiant cyhoeddus yn ystod achosion o'r ffliw hyd at chwe gwaith yn fwy tebygol o ddal haint anadlol acíwt. Wrth gwrs, ceir rhai pryderon dilys iawn ynghylch cludiant cyhoeddus gan fod nifer fawr o bobl yn aml yn teithio mewn cerbydau trên gorlawn, gall fod awyru gwael a diffyg cyfleusterau hylendid ar y trên hefyd. Ac eto mae teithio ar y rhwydwaith cludiant cyhoeddus yn dal yn hanfodol i lawer o bobl ledled Cymru. Felly, a allwch chi ddweud wrthym ni pa ymchwil y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud i lefel y bygythiad sy'n cael ei beri drwy ddefnyddio'r rhwydwaith cludiant cyhoeddus yn ei gyflwr presennol? A allwch chi ddweud wrthym ni hefyd pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cael gyda chwmnïau cludiant cyhoeddus ledled Cymru ynghylch sut y gallan nhw sicrhau bod teithwyr mor ddiogel â phosibl wrth deithio? A pha adnoddau ychwanegol sy'n cael eu cynnig i gwmnïau cludiant cyhoeddus i sicrhau bod ganddyn nhw'r hyn sydd ei angen arnyn nhw i sicrhau bod eu cerbydau a'u gorsafoedd mor lân a diogel â phosibl?

Diolchaf i arweinydd yr wrthblaid am y cwestiynau yna.
Yn Llywodraeth Cymru, mae'r Cabinet yn trafod materion coronafeirws yn ein holl gyfarfodydd erbyn hyn, ac rydym ni wedi sefydlu grŵp gweinidogol craidd a fydd yn cyfarfod rhwng cyfarfodydd rheolaidd y Cabinet i wneud yn siŵr ein bod ni mewn sefyllfa i ymateb ar frys ac ar unwaith pan fo angen ymateb o'r fath. Mae'r pwyllgor COBRA gweinidogol yn cyfarfod ddwywaith yr wythnos hefyd, ac mae Gweinidogion Cymru wedi eu cynrychioli yn y cyfarfodydd hynny bob amser.
Y cyngor gorau sydd gennym ni ar hyn o bryd gan brif wyddonwyr a chan brif swyddogion meddygol yw y dylai pobl barhau i ddefnyddio cludiant cyhoeddus fel y bydden nhw ar unrhyw adeg arall, ac nad oes unrhyw anawsterau ar hyn o bryd i bobl wneud hynny. Ond mae hwn yn glefyd y mae'r dystiolaeth yn dweud wrthym ni ei fod yn mynd i ddatblygu ymhellach, y gallai ddatblygu'n gyflym fel yr ydym ni wedi ei weld mewn mannau eraill yn y byd, ac i ddychwelyd at y pwynt cyntaf a wnaeth Paul Davies, Llywydd, mae'n bwysig iawn felly bod cyngor sy'n newid ar gael i aelodau'r cyhoedd, oherwydd wrth i'r clefyd ddatblygu, bydd y sefyllfa o ran cyngor ar gludiant cyhoeddus yn datblygu ochr yn ochr â hynny.
Rydym ni'n gweithredu, yn yr unig ffordd y gallwn ni rwy'n credu, ar sail y cyngor gorau y gallwn ni ei gael, ac rydym ni'n gwneud hynny ar sail DU gyfan a rennir gan ddefnyddio'r grŵp cynghori gwyddonol, y prif wyddonydd a'r pedwar prif swyddog meddygol. Mae cyd-aelodau unigol yn y Cabinet yn cymryd camau i gysylltu â'r sectorau y maen nhw'n gyfrifol amdanyn nhw i wneud yn siŵr bod y sectorau hynny'n gwneud paratoadau ar gyfer yr hyn y gallai fod angen ei wynebu wrth i'r clefyd ddatblygu, boed hynny'n golygu gallu darparu gwasanaeth â llai o staff, oherwydd bydd mwy o bobl yn sâl a bydd llai o bobl yn y gwaith, neu'n golygu ymateb i faterion seilwaith ffisegol o'r math y cyfeiriodd Paul Davies atyn nhw yng nghyswllt cludiant cyhoeddus.
Prif Weinidog, wrth gwrs, rwy'n falch bod Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wedi cydweithio ar ddeddfwriaeth i gryfhau pwerau Llywodraeth Cymru ar faterion fel cwarantinio a chrynoadau torfol, ac fel yr ydych chi eisoes yn gwybod, mae rhai ysgolion yng Nghymru a ledled y DU wedi cau eu drysau i fyfyrwyr sydd mewn perygl o coronafeirws. Wrth gwrs, mae ysgolion yn broblem benodol o ran atal lledaeniad y feirws, ac felly mae'n bwysig bod dulliau ar waith i Lywodraeth Cymru gau ysgolion, os bydd angen iddi wneud hynny.
Gan fod y bygythiad o ledaenu'r feirws yn dal yn uchel, pa baratoadau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu gwneud ar gyfer yr effaith y gallai hyn ei chael ar ysgolion, colegau a phrifysgolion ledled Cymru ar hyn o bryd? Pa drafodaethau sydd wedi eu cynnal gyda Gweinidogion ledled y DU am ddatblygu cynlluniau wrth gefn ar gyfer y sector addysg ac, yn wir, y gwasanaeth iechyd, pe byddai cynnydd sylweddol i nifer y plant a phobl ifanc sy'n cael eu heffeithio? A pha drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cael gyda'r sector meithrin a blynyddoedd cynnar, o gofio bod plant o dan bump oed, ac yn enwedig y rhai o dan ddwyflwydd oed, mewn mwy o berygl oherwydd eu bod yn llai gwydn?

Unwaith eto, diolchaf i'r Aelod am y cwestiynau pwysig yna. Mewn gwirionedd, rydym ni wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth y DU ar Fil brys sy'n debygol o gael ei gyflwyno yn Nhŷ'r Cyffredin, ac rydym ni'n dod i gytundebau gyda gweinyddiaethau eraill ledled y Deyrnas Unedig ar bwerau y mae angen iddyn nhw ddod i Gymru i ymdrin â gwasanaethau datganoledig, gan gynnwys y sector addysg.
Rydym ni'n ymwybodol iawn, Llywydd, y bydd—yn yr hyn a fydd yn weithdrefn frys—angen i ni weithio gyda'r Comisiwn i wneud yn siŵr bod cyfleoedd i'r Senedd graffu ar y cynigion hynny o ran sut maen nhw'n effeithio ar Gymru, ynghyd ag unrhyw femorandwm o gydsyniad deddfwriaethol y bydd y Llywodraeth yn ei gyflwyno ar lawr y Siambr. Bydd y Bil yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru o ran addysg, a bydd angen i'r pwerau hynny gael eu defnyddio ar yr adeg y maen nhw fwyaf effeithiol.
Ac os caf wneud yr un pwynt hwn, Llywydd: yng nghyfarfod COBRA ddoe, y pwynt yr oedd y prif wyddonwyr a'r prif swyddogion meddygol yn fwyaf awyddus i'w wneud oedd bod angen defnyddio'r pwerau y bydd y Bil brys yn eu darparu ar yr adeg pan fyddan nhw'n gwneud y gwahaniaeth mwyaf, ac na ddylid eu defnyddio'n rhy gynnar. Oherwydd os byddwch chi'n eu defnyddio'n rhy gynnar ac yna angen eu defnyddio nhw eto, mae lefel cydymffurfiad y cyhoedd â'r mesurau hynny yn debygol o ostwng. Felly, os ydych chi'n mynd i ddefnyddio pwerau sy'n arwyddocaol, mae'n rhaid i chi eu hamseru nhw'n iawn, a byddwn yn gweithredu ar y cyngor gorau a gawn ni gan yr awdurdodau hynny ynglŷn ag amseru.
Yn y cyfamser, mae cynlluniau wrth gefn yn cael eu datblygu, wrth gwrs, ac mae Paul Davies yn iawn i dynnu sylw at sector y blynyddoedd cynnar. Dim ond i roi un enghraifft o'r meddylfryd sy'n mynd ymlaen: ceir rheoliadau, fel y bydd yr Aelod yn gwybod, bod cymhareb oedolion i blant yn y lleoliad gofal plant, ac mae'r gymhareb honno wedi'i phennu mewn rheoliadau. Nawr, os oes llai o bobl i weithio oherwydd dyfodiad coronafeirws, efallai y bydd angen i ni fod yn fwy hyblyg yn y gymhareb reoleiddiol honno, a dyna yw ein meddylfryd ac mae'r math hwnnw o waith yn cael ei wneud eisoes.
A bydd hefyd, yn olaf, Llywydd, yn ymwybodol bod hwn yn sector sy'n arbennig o agored i niwed yn economaidd oherwydd ei fod yn dibynnu ar y ffioedd y mae'n eu cael gan rieni sy'n talu. Yr hyn nad ydym ni eisiau ei weld—rydym ni wedi bod mewn trafodaethau gyda Llywodraeth y DU heddiw cyn y gyllideb yfory ar y pwynt hwn—yw busnesau hyfyw a phwysig yng Nghymru yn mynd i'r wal oherwydd effaith fyrdymor, er ei bod yn effaith fyrdymor ddifrifol, o'r cyflwr hwn. Byddwn yn disgwyl i Lywodraeth y DU gynorthwyo i wneud yn siŵr y gellir helpu'r busnesau hynny trwy gyfnod anodd, oherwydd byddwn ni eu hangen pan fydd coronafeirws wedi dod i ben.
Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, rwy'n credu y cadarnhawyd bod pob achos o coronafeirws a gadarnhawyd yng Nghymru wedi dychwelyd yn ddiweddar o'r Eidal. Pa fesurau ydych chi wedi eu cymryd fel Llywodraeth i nodi trigolion Cymru sydd wedi dychwelyd o'r Eidal ers dyfodiad y feirws, a pha ragofalon ychwanegol sydd ar waith i sicrhau bod y clefyd yn cael ei gyfyngu cymaint â phosibl?
A hefyd, roeddwn i'n meddwl tybed a allech chi ymateb i rai o'r sylwadau a wnaed gan Ganghellor yr wrthblaid ddoe pan feirniadodd gyflymder y gweithredu yn yr ymateb gan Lywodraeth y DU a'r arafwch ar ran y Canghellor gan alw ar Lywodraeth y DU i gael gafael ar bethau. I ryw raddau, adleisiwyd y sylwadau hyn gan y cyn-Weinidog Rory Stewart. A ydych chi'n credu bod y sylwadau hyn yn bryderon dilys mewn unrhyw ffordd ar hyn o bryd?

Llywydd, ar y pwynt cyntaf, nid wyf i’n credu bod dull defnyddiadwy y gall unrhyw Lywodraeth ei ddilyn i olrhain pobl sy'n dychwelyd i'r wlad hon o lawer o rannau o'r byd, nid dim ond gogledd yr Eidal, ac eithrio drwy'r camau y mae Llywodraeth y DU wedi eu rhoi ar waith drwy'r porthladdoedd a'r meysydd awyr. Rydym ni'n parhau i weithio ar lefel Cymru lle mae gennym ni rywfaint o gyfrifoldeb cyffredin yn hynny o beth.
Mae'r cyngor i bobl sydd wedi dychwelyd o rannau eraill o'r byd lle mae coronafeirws yn mynd o gwmpas yn eglur iawn: ni ddylen nhw fynd i feddygfa meddyg teulu nac i wasanaeth damweiniau ac achosion brys, dylen nhw ffonio yn gyntaf, dylen nhw gael cyngor. Mae'r Aelod, rwy'n gwybod, yn ymwybodol ein bod ni yng Nghymru wedi rhoi pwyslais arbennig ar brofi pobl yn eu cartrefi. Rydym ni'n mynd â'r prawf i'r person, fel nad oes perygl iddo ddod i gysylltiad â phobl a allai gael eu heintio ganddo wedyn.
Rydym ni'n credu bod y chwe achos a nodwyd gennym ni yng Nghymru hyd yma yn bobl sydd wedi bod mewn cysylltiad ag eraill o ran arall o'r byd. Nid ydym ni'n credu bod gennym ni, ar hyn o bryd, ledaeniad cymunedol yng Nghymru, ond y cyngor yw mai mater o amser yw hynny. Felly, tra byddwn ni'n dal i fod yn y cyfnod cyfyngu, bydd hynny'n datblygu'n gyfres o gamau oedi ar yr adeg briodol.
Ac mae hynny'n dod â mi at yr ail bwynt a godwyd gan Adam Price, sef y pwynt a wneuthum wrth ateb Paul Davies am gyflymder. Y cyngor yr oeddem ni'n ei gael ddoe, Llywydd, oedd bod amseru camau gweithredu yn bwysig iawn. Os symudwn ni, er enghraifft, heddiw, at drefn lle gofynnwyd i unrhyw un a oedd â'r arwyddion cyntaf o annwyd ymneilltuo, mae bron yn sicr mai annwyd yw'r hyn y bydden nhw'n ymneilltuo ag ef, oherwydd mae annwyd yn mynd o gwmpas, ac nid yw coronafeirws. Felly, bydden nhw'n aros gartref am saith diwrnod, gyda'r holl anghyfleustra y mae hynny'n ei achosi, heb fod unrhyw ddiben mewn gwneud hynny. Pe byddai coronafeirws yn mynd o gwmpas ymhen 10 diwrnod, a ninnau'n gofyn iddyn nhw wneud hynny eto, mae'r modelu ymddygiadol yn dweud wrthym ni y byddai pobl yn fwy cyndyn o wneud hynny eilwaith, ar ôl bod drwy'r cwbl unwaith a chanfod nad oedd yn cyflawni unrhyw ddiben defnyddiol.
Felly, er fy mod i'n credu bod pob hawl i seneddwyr herio'r Llywodraeth, i ofyn y cwestiynau hynny, i fod yn feirniadol pan eu bod nhw'n credu y gellir cyfiawnhau beirniadaeth, byddwn ni'n gweithio ar sail y dystiolaeth orau sydd gennym ni ac, ar hyn o bryd, rydym ni'n credu bod trefn y camau y mae'n debygol y bydd yn rhaid i ni eu gofyn i ddinasyddion Cymru eu dilyn ar y pwynt cywir ar hyn o bryd, ac y byddwn ni'n amseru unrhyw bethau eraill y byddwn ni'n eu gofyn ganddyn nhw fel y bydd y gofynion hynny'n digwydd ar yr adeg y byddai'r camau hynny'n cael yr effaith fwyaf i arafu lledaeniad y feirws.
Yn amlwg, mae coronafeirws yn rhoi pwysau ar y GIG ym mhob un o'r pedair gwlad. Gofynnodd llefarydd iechyd y blaid Lafur, Jon Ashworth, ddoe i'r Ysgrifennydd iechyd yn Lloegr am adnoddau ychwanegol gan fod gwelyau gofal critigol yn Lloegr wedi cyrraedd 81 y cant o'r capasiti yn ystod yr wythnos yr oedd y ffigurau coronafeirws diweddaraf ar gael. Dywedodd grŵp gorchwyl a gorffen Llywodraeth Cymru ei hun:
Mae gan GIG Cymru lai o welyau gofal critigol ar gyfer maint y boblogaeth na gweddill y DU.
Yn amlwg, mae angen i nifer y gwelyau sydd ar gael yn y GIG gynyddu'n sylweddol, o gofio bod ysbytai wedi bod yn gweithredu uwchlaw'r lefel ddiogel o 85 y cant o welyau llawn ers bron i 10 mlynedd. O dan yr amgylchiadau sy'n ein hwynebu ni nawr, a ydych chi eisoes wedi nodi sut y byddech chi'n sicrhau gwelyau gofal critigol ychwanegol? Ac os felly, faint ohonyn nhw?

Llywydd, rydym ni'n disgwyl i Lywodraeth y DU ddarparu adnoddau ychwanegol i gynorthwyo'r GIG ac i gynorthwyo'r economi. Byddwn yn edrych ar y gyllideb yfory i weld bod y sicrwydd a roddwyd gan y Canghellor yn cael ei droi'n ffigurau mwy penodol i ni yfory. Mae mwy o welyau gofal dwys yng Nghymru o ganlyniad i gamau'r Llywodraeth hon. Bydd llawer ohonom ni yn y fan yma yn cofio'r ddadl ynghylch y Bil rhoi organau a'r angen i gynyddu capasiti gofal critigol i sicrhau bod y Ddeddf honno'n llwyddo.
Ond hoffwn geisio dweud wrth yr Aelodau yn y modd mwyaf cymedrol y gallaf, Llywydd, pe byddai sefyllfa waethaf bosibl realistig yn cael ei gwireddu pryd y byddai 80 y cant o'r boblogaeth yn dal coronafeirws a 25 y cant o'r boblogaeth yn ei ddal mewn ffordd sy'n gofyn am ymyrraeth feddygol sylweddol, mae hynny'n mynd i roi straen enfawr ar ein holl wasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys y gwasanaeth iechyd, oherwydd bydd y feirws yn cael yr un effaith ar bobl sy'n gweithio yn y gwasanaeth iechyd. Felly, byddwn yn wynebu sefyllfa lle bydd llawer mwy o alw a straen gwirioneddol ar y bobl sydd ar ôl i'w fodloni.
Felly, rydym ni'n gweithio gyda'r gwasanaeth iechyd, wrth gwrs, i nodi'r cynlluniau y gellir eu rhoi ar waith, yr adnoddau y gellir eu darparu; ond nid dim ond gwelyau fydd yr adnoddau hyn, byddan nhw'n bobl i ddarparu'r gwasanaethau sydd eu hangen. Ac mewn sefyllfa pan fo 25 y cant o'r boblogaeth yn ddifrifol wael, bydd hynny'n effeithio ar y bobl hynny hefyd. Rydym ni'n gwybod y bydd hon yn effaith a fydd yn cael ei theimlo dros lawer o wythnosau, a bydd gwydnwch y bobl yr ydym ni'n dibynnu arnyn nhw i ddod i mewn ac ymateb mewn argyfwng yn anodd ei gynnal wythnos ar ôl wythnos dros y cyfnod estynedig hwnnw.
Yn amlwg, nid yw sefyllfa sydd ar fin troi'n bandemig byd-eang o bosibl yn amser pan fyddai unrhyw un eisiau ystyried cau cyfleusterau yn y GIG. Bum wythnos yn ôl, pan ofynnwyd a fyddech chi'n ymyrryd i gadw gwasanaethau damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, dywedasoch nad ydym ni'n agos o gwbl at y pwynt hwnnw eto. Yn ystod y pythefnos nesaf, bydd y bwrdd iechyd yn gwneud penderfyniad terfynol. A ydym ni wedi cyrraedd y pwynt hwnnw? Ac os felly, a wnewch chi ymyrryd heddiw?

Llywydd, ceir proses sydd wedi'i chyflwyno'n eglur iawn ac sy'n angenrheidiol yn gyfreithiol a ddilynir fel bod penderfyniad yn cyrraedd ar ddesg un o Weinidogion Cymru. Mae honno'n broses lle mai'r sefydliadau hynny sydd â hawl gyfreithiol i gyfeirio mater at ddesg y Gweinidog yw'r bobl sy'n gorfod gwneud hynny, os ydyn nhw'n dewis gwneud hynny. Dydyn ni ddim ar y pwynt hwnnw. Bydd yn rhaid i'r bwrdd iechyd wneud ei benderfyniad, ac yna byddai'n rhaid i sefydliad, fel cyngor iechyd cymuned, a all gyfeirio'r mater hwnnw at Weinidog i'w benderfynu, benderfynu gwneud hynny. Dyna sut mae'r broses yn gweithio. Dyna sut y mae'n rhaid i'r broses weithio i fod yn gyfreithiol anatebadwy. A dydyn ni ddim wedi cyrraedd y pwynt hwnnw. Efallai na fyddwn ni'n cyrraedd y pwynt hwnnw, oherwydd mae'n rhaid i'r penderfyniad gael ei atgyfeirio er mwyn i Weinidog wneud penderfyniad. Ond, os bydd yn digwydd, mae gan Weinidogion gyfrifoldebau cyfreithiol. A dyna pam mae wedi bod mor bwysig, yn hynny i gyd, nad yw Gweinidogion yn rhagfarnu sefyllfa lle byddai unrhyw benderfyniad y maen nhw'n ei wneud wedyn yn agored i her.
Arweinydd Plaid Brexit, Mark Reckless.

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, os caf i droi at lifogydd, mae'r gymdeithas diwydiant ar gyfer busnesau coedwigaeth, Confor, yn dweud bod dehongliad Llywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn atal newidiadau i unrhyw dirwedd lle nad yw'r cynefin neu'r dynodiad ar gyfer coetir. O gofio manteision plannu coed ar ucheldir i liniaru rhag llifogydd, a'r cyfleoedd i ddatgarboneiddio sydd yno hefyd, a ydych chi'n cytuno bod y canllawiau ar gyfer dehongli'r Ddeddf yn rhy hen erbyn hyn?
Yn 2017, edrychodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ar rwystrau i blannu coed. Roedd Confor a Tilhill Forestry ymhlith y rhai a roddodd dystiolaeth, a dywedasant fod yr asesiadau o'r effaith amgylcheddol yn rhwystr enfawr i blannu coed. Ers yr adroddiad hwnnw, nid yw'r rheoliadau asesu effaith amgylcheddol wedi newid. A fyddech chi'n cytuno ei bod hi'n bryd i ni wneud mwy i alluogi plannu coed, o ystyried yr argyfwng hinsawdd a ddatganwyd, a'r llifogydd dinistriol yr ydym ni wedi eu gweld yn ddiweddar, ac a ddylai hyn gynnwys diweddaru rheoliadau a chanllawiau Deddf yr amgylchedd i gael gwared ar rwystrau i blannu coed?

Llywydd, gadewch i mi ddechrau drwy gytuno â'r hyn y mae'r Aelod wedi ei ddweud am yr effaith lesol y gall plannu coed ei chael o ran atal llifogydd. Mae cynyddu gorchudd coedwigoedd mewn dalgylchoedd afonydd yn cynyddu anweddiad canopi, yn gwella storfeydd dŵr daear, yn gwella strwythur a gwydnwch y pridd, ac, yn bwysig iawn, yn arafu llif dŵr. Felly, ceir achos cryf y mae'r Aelod wedi cyfeirio ato fod gan blannu coed ychwanegol ran i'w chwarae mewn amddiffynfeydd rhag llifogydd.
Mae angen taro cydbwysedd rhwng plannu coetiroedd ychwanegol a'r effaith ar fioamrywiaeth. Nawr, gan fod yn rhaid cael y cydbwysedd hwnnw, mae gennym ni drefn yng Nghymru lle, os cynigir plannu coetiroedd dros bum hectar, yna mae'n rhaid cynnal asesiad o'r effaith amgylcheddol i wneud yn siŵr nad yw'r plannu coed ychwanegol, gyda'i fanteision, yn atal amcanion pwysig eraill yn y maes amgylcheddol. Gwn fod y Gweinidog yn ystyried ar hyn o bryd a yw'r trothwy pum hectar hwnnw'n rhy isel, ac a ellid ei godi. Byddai hynny'n fuddiol o ran ei gwneud yn haws plannu coed, ond byddai'n rhaid i ni fod yn ffyddiog na fyddai'n arwain at golled sylweddol o ran bioamrywiaeth, a allai, ar ei ben ei hun, wrthbwyso'r manteision a fyddai'n dod yn sgil plannu coed.
Croesawaf y ffaith fod y Gweinidog yn ailystyried yn y modd hwnnw. Fodd bynnag, cyfeiriodd Confor hefyd at y mater o ble mae tirwedd wedi'i dynodi mewn rhyw ffordd arall, math o rostir ucheldirol dywedwch, eu bod nhw'n canfod bod rhagdybiaeth yn erbyn plannu coed yn yr ardaloedd hynny. A gallan nhw fod yn ardaloedd llawer rhatach, £1,000 yr hectar dywedwch, yn hytrach na sawl mil, gan wneud y plannu'n llawer mwy economaidd ac yn debygol o fynd rhagddo. Oni ddylem ni edrych hefyd ar y dynodiadau hynny, a chaniatáu mwy o hyblygrwydd ar gyfer plannu coed?
Nawr, mae cyfarwyddeb fframwaith dŵr yr UE yn effeithio ar benderfyniadau ynghylch carthu, ac rydym ni'n gwybod bod y defnydd o garthu wedi lleihau'n sylweddol tua'r adeg y cafodd y gyfarwyddeb honno ei phasio a'i gweithredu. Nawr, rydym ni'n gwybod na fyddai mwy o garthu yn lliniaru'r holl lifogydd, ond efallai y byddai wedi gwneud gwahaniaeth mewn rhai achosion, er enghraifft, afon Conwy, lle y clywsom ni gan Janet Finch-Saunders. Gwnaeth Vikki Howells, o'ch meinciau chi eich hun, bwynt tebyg yr wythnos diwethaf o safbwynt Cymoedd y De. Yn y cyfamser, mae'n ymddangos bod ailddechrau carthu Gwastadeddau Gwlad yr Haf wedi bod o gymorth yn yr ardal honno. O'i gyplysu â rheoliadau sy'n annog plannu coed ar yr ucheldir, oni allai mwy o garthu liniaru perygl llifogydd yn y dyfodol? Gan ein bod ni wedi gadael yr UE erbyn hyn, oni ddylem ni ddatblygu ein harferion a'n fframweithiau cartref ar gyfer carthu ac amddiffyn rhag llifogydd? Ac a ydych chi'n cytuno y dylai'r rhain annog plannu coed ar yr ucheldir a'i gwneud yn haws ymgymryd â gwaith carthu priodol?

Wel, o ran y mater cyntaf o ddynodiad, Llywydd, mae dynodiad yno am reswm; mae ar gyfer mathau eraill o amddiffyniadau. Ond, mewn byd ôl-Brexit, mae'r cynllun y mae fy nghyd-Weinidog, Lesley Griffiths wedi bod yn bwrw ymlaen ag ef fel 'Brexit a'n tir' ac sydd bellach yn 'Ffermio Cynaliadwy a'n Tir', yn tynnu sylw at y ffaith y bydd y cyhoedd, yn y dyfodol, yn fodlon talu ffermwyr i wneud pethau sydd â budd cyhoeddus uniongyrchol, ac mae'n bosibl iawn y gallai plannu coed ychwanegol fod yn rhan o un elfen yn y repertoire o bethau y bydd y cyhoedd yn fodlon talu amdanyn nhw, am y rhesymau y mae'r Aelod yn eu hamlinellu, a gallai hynny arwain at oblygiadau o ran dynodi.
O ran carthu, yn ein gwaith casglu tystiolaeth gan awdurdodau lleol, wrth i ni ddechrau symud, gobeithio, i'r cyfnod adfer ar ôl y llifogydd diweddar, un o'r pethau y byddwn ni'n eu trafod gyda'r awdurdodau lleol hynny yw pa un a fyddai carthu, carthu ychwanegol, wedi cael effaith ar y llifogydd a gafwyd. Felly, mae'n cael ei ystyried yn weithredol yn y ffordd seiliedig ar dystiolaeth honno, ond byddwn eisiau clywed gan bob awdurdod lleol am eu hamgylchiadau penodol. Mewn rhai mannau—mae'n debyg bod fy nisgwyliad yn anghywir—ond o'r hyn yr wyf i wedi ei weld hyd yma, fy nisgwyliad yw y bydd rhai achosion lle y byddai carthu ychwanegol yn gwneud gwahaniaeth, ond efallai na fydd yn ateb a fydd yn cael effaith lesol ym mhobman.
3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i brosiectau cynhyrchu ynni lleol a chymunedol o amgylch Cymru? OAQ55191

Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi prosiectau ynni adnewyddadwy lleol a chymunedol yn llwyddiannus ers 2010, ac yn parhau i wneud hynny trwy wasanaeth ynni Llywodraeth Cymru. Rydym ni wedi gosod targedau perchenogaeth leol heriol i sicrhau ein bod ni'n cadw cyfoeth ac yn cynnig budd i gymunedau ledled Cymru.
Diolchaf i'r Prif Weinidog am ei ateb. Rwy'n credu mai un o'r pethau nad ydym ni ei eisiau yw bod ein hadnoddau naturiol yn cael eu troi'n gyfoeth mewn lle arall yn hytrach na Chymru.
Mae trosglwyddo ynni wedi newid o orsaf bŵer i ddefnyddiwr terfynol, gyda llawer o gynhyrchu lleol yn mynd i'r grid erbyn hyn. Rwy'n cofio'r diagram a oedd yn dangos gorsaf bŵer mewn un lle, llinellau'n mynd yr holl ffordd, ac yn dod i ben mewn ffatrïoedd a thai. Nid dyna sy'n digwydd erbyn hyn, gan y gall cynhyrchu lleol fynd i mewn i'r grid. Ond ceir dwy broblem sy'n bodoli. Un yw: pa gynnydd sy'n cael ei wneud o ran mynediad at y grid? Oherwydd rwy'n deall, mewn rhai ardaloedd, yn enwedig yn y canolbarth, bod anhawster mawr o ran cael mynediad at y grid, a bod gan rai ardaloedd fynediad at y grid gan fod hen orsafoedd pŵer wedi cau, ac felly mae mwy o gapasiti yn y grid. A hefyd, storio a defnyddio'n lleol. Mae pobl wedi fy nghlywed i'n sôn yn aml am fatris, a'r angen i wneud datblygiadau enfawr o ran batris. Oherwydd, yn hytrach na defnyddio'r grid, pe gallai pobl gynhyrchu trydan yn lleol a'i ddefnyddio'n lleol, yna byddai hynny o fudd i bawb.

Diolchaf i'r Aelod am y ddau gwestiwn pwysig yna. Llywydd, rwy'n rhannu rhywfaint o'r rhwystredigaeth yr wyf i'n ei glywed gan gynhyrchwyr lleol, am yr anhawster mewn cael cysylltiadau â'r Grid Cenedlaethol. A siaradais am hyn gyda phrif weithredwr newydd Ofgem, mewn sgwrs gydag ef ddydd Gwener, ac edrychaf ymlaen at ei weld yn dod i Gymru i barhau'r sgwrs honno. Ac mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn cyfarfod â'r Grid Cenedlaethol a gweithredwyr y rhwydwaith dosbarthu heddiw. Oherwydd mae angen buddsoddiad arnom ni ar lefel y DU, mewn arloesi a lleihau costau ar gyfer storio, ac ar gyfer cysylltu â'r grid. Ac mewn rhai rhannau o Gymru, mae ein cyfleoedd i fanteisio ar y nifer fawr o asedau naturiol sydd gan Gymru ar gyfer cynhyrchu ynni adnewyddadwy—boed hynny'n wynt ar y tir neu'n forol—mae'r ddau yn cael eu dal yn ôl gan y diffyg buddsoddiad yn seilwaith y Grid Cenedlaethol yma yng Nghymru. Felly, mae'r Aelod yn gwneud pwynt pwysig iawn am hynny, ac am yr angen i'r Grid Cenedlaethol roi sylw priodol i anghenion Cymru.
O ran storio mewn batris, ac arloesi o'r math hwnnw, mae Llywodraeth Cymru eisiau chwarae ein rhan i gynorthwyo diwydiannau sy'n datblygu technolegau newydd yn y maes hwnnw. Mae fy nghyd-Weinidog, Ken Skates, wedi cefnogi datblygiad pwysig yn ardal Castell-nedd Port Talbot sy'n ymwneud â storio mewn batris a'r technolegau a fydd yn caniatáu'r math hwnnw o storio lleol y bydd yr uchelgeisiau sydd gennym ni ar gyfer cynhyrchu ynni adnewyddadwy yma yng Nghymru yn dibynnu arno.
Rwyf i'n mynd yn ôl i'r dyddiau pan oedd y portffolio hwn gan John Griffiths, a geisiodd codi'r union bwynt hwn am gysylltiad â'r grid, a'r ffordd y mae'n dal yn ôl y defnydd o ynni adnewyddadwy yma yng Nghymru. Ac yn wir, pan ddaw i ddefnyddio batris, ceir moratoriwm yn ne Cymru tan 2026, ar unrhyw ddefnydd masnachol o fatris. Felly, mae'r Prif Weinidog yn gwneud pwynt da am swyddogaeth Ofgem. Mae'n ffaith nad oes gennym ni aelod o Gymru ar fwrdd Ofgem, ac, yn aml iawn, pan fyddwch chi'n rhyngweithio ag Ofgem, maen nhw'n cyfeirio at y Llywodraeth fel y Llywodraeth yn San Steffan yn hytrach na'r Llywodraethau datganoledig. Mae llawer o'r cyfrifoldebau ynni yn cael eu cyflawni yma, yn enwedig caniatâd cynllunio, ac ati. Mae'n hanfodol bod gan y cyfnod rheoli y mae Ofgem yn gweithio yn unol ag ef pan fydd yn sybsideiddio datblygiad seilwaith agwedd Gymreig iddo. A ydych chi'n cefnogi Ofgem yn gwneud lle i benodi aelod o'r bwrdd o Gymru, fel y gellir clywed llais Cymru pan fydd y penderfyniadau hyn yn cael eu gwneud?

Diolchaf i Andrew R.T. Davies am hynna. Wrth gwrs, rydym ni eisiau gwella atebolrwydd Ofgem i fuddiannau Cymru, a gallu Ofgem ei hun i ddeall a chydnabod amgylchiadau sy'n benodol i Gymru. Felly a ddylwn i ddweud i mi gael fy nghalonogi gan y ffaith bod y prif weithredwr newydd wedi gofyn am alwad ffôn yn gynnar iawn yn ei gyfnod yn y swydd, i siarad am yr hyn y maen nhw'n bwriadu ei wneud i wella'r gwasanaeth y maen nhw'n ei ddarparu i Gymru? Rwyf wedi fy nghalonogi gan y ffaith ei fod wedi ymrwymo i dalu ymweliad cynnar â Chymru fel y gall gyfarfod ag amrywiaeth ehangach o fuddiannau yng Nghymru. A phe byddai aelod o'r bwrdd o Gymru o gymorth i wneud yn siŵr ein bod ni'n cael gwell gwasanaeth o'r system yn y dyfodol yna, wrth gwrs, byddaf yn hapus iawn i drafod hynny gydag ef.
4. A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar ddarpariaeth gwasanaethau iechyd meddwl yng Ngogledd Cymru? OAQ55222

Diolch i Llyr Gruffydd am y cwestiwn. Mae cynnydd yn parhau mewn sawl maes gofal iechyd meddwl yn y gogledd. Hoffwn longyfarch staff yn Ysbyty Gwynedd ac mewn ysbytai cymunedol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr am gael eu cydnabod fel rhai sy'n deall dementia. Mae'r bwrdd yn rhoi blaenoriaeth i atal ac ymyrryd yn gynnar wrth roi gofal i gleifion ar draws gwasanaethau iechyd meddwl.
Tra bod yna, wrth gwrs, straeon da, fel rŷch chi wedi cyfeirio atyn nhw, o safbwynt peth o'r gofal, rŷm ni yn ymwybodol, wrth gwrs, mai un o'r rhesymau y rhoddwyd y bwrdd iechyd mewn i fesurau arbennig oedd oherwydd methiannau pan mae'n dod i wasanaethau iechyd meddwl. Nawr, mi roedd hi'n siom darllen adroddiad llynedd, oedd yn adolygiad o therapïau seicolegol yng ngogledd Cymru, oedd yn rhestru llith o fethiannau. Roedd e'n sôn am gleifion yn gorfod aros am gyfnodau annerbyniol o hir; diffyg datblygu gweithlu strategol ac integredig; a diffyg data sylweddol yn arwain at agendor mawr wrth wneud penderfyniadau yn seiliedig ar dystiolaeth. A dim ond yn nadl Plaid Cymru wythnos diwethaf ar y pwnc yma, roeddem ni'n clywed sut mae yna gleifion o Gymru, wrth gwrs, wedi cael eu lleoli mewn sefydliadau yn Lloegr sydd wedi cael eu dangos gan yr awdurdodau fanna i beidio â bod yn cwrdd â'r safonau y byddem ni'n gobeithio y maen nhw.
Nawr, wrth gwrs, mae yna bum mlynedd, bron iawn, ers i'r bwrdd fynd i mewn i fesurau arbennig, ond mae llawer o'r methiannau hynny'n parhau. Felly, y cwestiwn yw, wrth gwrs: pryd ŷch chi, fel Llywodraeth, yn mynd i gymryd cyfrifoldeb am y rhestr yma o faterion sy'n dal yn ddiffygiol? Yn wir, pryd welwn ni Lywodraeth Cymru yn cael ei rhoi i mewn i fesurau arbennig ar y mater yma?

Wel, Llywydd, wrth gwrs, dwi'n cydnabod roedd y ffaith bod problemau yn y gwasanaethau iechyd meddwl yn rhan o'r penderfyniad i roi bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr i mewn i fesurau arbennig yn y lle cyntaf, ond mae lot o bethau wedi gwella yn y maes iechyd meddwl dros y blynyddoedd ers cael ei roi i mewn i fesurau arbennig.
O ran therapïau seicolegol, fel y bydd yr Aelod yn gwybod, adroddiad a gomisiynwyd gan y bwrdd ei hun oedd hwn. Bydd yn mynd i bwyllgor ansawdd a diogelwch y bwrdd ar 17 Mawrth. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu dros £1 filiwn o fuddsoddiad ychwanegol yn uniongyrchol i'r bwrdd i weithredu ar argymhellion yr adroddiad, a gomisiynwyd ganddo ef ei hun. Ac, er bod llawer o faterion y mae'r adroddiad hwnnw'n eu hamlygu y mae angen i'r bwrdd roi sylw iddyn nhw, cyfeiriodd yr adroddiad hwnnw hefyd at lawer o enghreifftiau lle mae camau arloesol, llawn dychymyg ac ymroddgar yn cael eu cymryd gan dimau sy'n darparu therapïau seicolegol yn y gogledd.
A chyn belled ag y mae cleifion sy'n cael eu lleoli y tu allan i Gymru yn y cwestiwn, ceir gostyngiad parhaus i nifer y cleifion sy'n cael eu lleoli yn y modd hwnnw. Yn 2018, lleolwyd 130 o gleifion o bob cwr o Gymru mewn gwasanaethau yn Lloegr, a'r llynedd, yn 2019, roedd hynny wedi gostwng i 96, ac mae hynny o ganlyniad i ymdrechion cyfunol y mae byrddau ledled Cymru yn eu gwneud i ailwladoli gwasanaethau a dod â chleifion yn nes adref, ac rwy'n credu mai dyna'r peth cwbl gywir iddyn nhw ei wneud.
Pan fo'n rhaid lleoli cleifion dros y ffin—a bydd enghreifftiau o angen penodol iawn bob amser—yna mae gennym ni ein tîm sicrwydd ein hunain sy'n ymweld â phobl yn y lleoedd hynny, sy'n sicrhau hyd yn oed os yw'r gwasanaeth, yn ei gyfanrwydd, yn destun craffu, bod y gwasanaeth a ddarperir i'r claf hwnnw o Gymru o safon y byddem ni'n barod i'w chydnabod. Ac os nad yw hynny'n wir—ac ni ddylem ni anghofio, yn yr enghraifft ddiweddar o ysbyty St Andrews, mai oherwydd ymweliad gan arolygydd o Gymru y codwyd pryderon—yna nid ydym yn lleoli cleifion yno mwyach ac rydym ni'n gwneud trefniadau eraill pan fo hynny'n angenrheidiol.
Ar 22 Ionawr, ysgrifennodd cyngor iechyd cymuned gogledd Cymru at eich Gweinidog iechyd, gan dynnu ei sylw at yr adroddiad y cyfeiriwyd ato—yr adolygiad annibynnol o therapïau seicolegol yn y gogledd, a gynhaliwyd yn annibynnol gan yr ymgynghoriaeth gydweithredol TogetherBetter—a thynnu ei sylw at ei ganfyddiadau o ddiffyg gweledigaeth gyffredin, eglurder a goruchwyliaeth strategol ar lefel bwrdd iechyd a lefel is-adrannol, diffyg datblygiad gweithlu strategol ac integredig, a llawer mwy, a dywedodd, ar ôl bron i bum mlynedd yn destun mesurau arbennig, bod llawer ohono'n ymwneud â gwasanaethau iechyd meddwl—bod y canfyddiadau hyn yn hynod siomedig. Dywedasant wrthyf hefyd bod ymateb eithaf di-ddim y Gweinidog yn siomedig hefyd. Sut ydych chi'n ymateb i gynnwys y llythyr yr wyf i wedi ei gael gan athro seiciatreg a adawodd Betsi Cadwaladr ar 31 Ionawr, ac a ddywedodd fod y problemau'n ymwneud â'r newidiadau a gynigiwyd gan reolwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ar ôl cymryd cyfrifoldeb am y gwasanaethau yn y gogledd-orllewin—nad oes yr un o'r staff meddygol na'r staff nyrsio yno yn ei gefnogi?

Nid wyf i wedi gweld y llythyr hwnnw, Llywydd, felly nid wyf i mewn sefyllfa i ymateb iddo. Roeddwn i'n ymwybodol o'r llythyr gan y cyngor iechyd cymuned ar 22 Ionawr. Cyfeiriodd ymateb y Gweinidog ar y pryd at y ffaith bod hwnnw'n adroddiad y disgwyliwyd iddo gael ei ystyried gan y bwrdd, ac mai cyfrifoldeb y bwrdd, fel comisiynydd yr adroddiad hwnnw, oedd rhoi'r ystyriaeth gyntaf iddo. Fel y dywedais yn fy ateb i Llyr Gruffydd, mae'r adroddiad yn mynd i bwyllgor ansawdd a diogelwch y bwrdd ar 17 Mawrth a gwn y bydd y Gweinidog eisiau clywed gan y bwrdd y cynllun y bydd yn ei roi ar waith i ymateb i argymhellion yr adroddiad yr oedd ef ei hun wedi ei gomisiynu.
5. Pa gamau pellach y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i weithio gyda Chyngor Dinas Casnewydd a phartneriaid eraill i adfywio canol Dinas Casnewydd? OAQ55231

Diolchaf i John Griffiths am y cwestiwn yna, Llywydd. Mae bron i £23 miliwn o gyllid grant adfywio a benthyciadau wedi ei gymeradwyo ar gyfer prosiectau yn ardal Cyngor Dinas Casnewydd ers 2014. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gydweithio â chyngor y ddinas i sicrhau bod ei brosiectau adfywio yn y presennol a'r dyfodol yn cael eu cyflawni'n llwyddiannus.
Diolch am hynna, Prif Weinidog. Rwy'n credu bod y bartneriaeth gref honno rhwng Llywodraeth Cymru, Cyngor Dinas Casnewydd, busnesau, landlordiaid cymdeithasol ac eraill wedi dwyn ffrwyth sylweddol ac wedi helpu i ymateb i'r heriau o ddod o hyd i ffyrdd eraill o ddefnyddio canol ein dinas. Ac yn fuan bydd enghraifft arall o hynny pan fydd gwesty pedair seren sylweddol yn agor yng nghanol dinas Casnewydd, yn agos at ganolfan siopa Friars Walk, a oedd ei hun, wrth gwrs, yn ganlyniad o'r bartneriaeth honno dim ond ychydig flynyddoedd yn ôl. Ond serch hynny, Prif Weinidog, ceir heriau parhaus, gan fod maes manwerthu yn newid mor gyflym, gyda chymaint o siopa ar-lein ac yn y blaen, felly bydd angen parhau a chryfhau'r bartneriaeth honno, rwy'n credu, ac rwy'n meddwl tybed a wnewch chi fanteisio ar y cyfle heddiw i ymrwymo i adeiladu ar y cynnydd a wnaed hyd yma drwy gryfhau ymhellach y cydweithio hwnnw rhwng Llywodraeth Cymru, Cyngor Dinas Casnewydd, busnesau a landlordiaid cymdeithasol yn y ddinas.

Llywydd, rwy'n falch iawn o wneud yr ymrwymiad hwnnw, oherwydd rwy'n credu bod Cyngor Dinas Casnewydd yn enghraifft wirioneddol o awdurdod lleol sydd ag uchelgais ar gyfer adfywio canol ei ddinas, a pharodrwydd i weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, lle'r ydym ni'n gallu rhoi cymorth iddyn nhw i wneud hynny. Ceir llawer o enghreifftiau o'r hyn y mae John Griffiths wedi cyfeirio atyn nhw, o ganolfan gymunedol Ringland yn ei etholaeth ef ei hun—yr ymwelodd fy nghyd-Weinidog Hannah Blythyn â hi'n ddiweddar—i raglen gwerth £17 miliwn Connecting Commercial Street. Ac fel y dywedais yn fy ateb gwreiddiol, Llywydd, ceir cyfres o fuddsoddiadau pellach posibl yng Nghasnewydd, boed hynny'n fuddsoddiad Cartrefi Tirion ar hen safle gwaith dur Whiteheads—ac rwy'n falch iawn o weld cais gan gyngor y ddinas i gronfa Llywodraeth Cymru o £5 miliwn ar gyfer seilwaith gwyrdd a bioamrywiaeth mewn ardaloedd trefol, ac yn edrych ymlaen yn arbennig at weithio gyda chyngor y ddinas ar y fenter a gyhoeddwyd rai wythnosau yn ôl gan Lywodraeth Cymru, pan oedd rhaid i ni ddarparu pwerau newydd i awdurdodau lleol a chronfa ymladd o £13.6 miliwn i fynd i'r afael â malltod sy'n cael ei achosi gan adeiladau segur mewn trefi a dinasoedd ledled Cymru. A gwn fod cyngor Casnewydd wedi cyflwyno nifer o adeiladau lle maen nhw'n meddwl y bydd defnyddio'r pwerau a'r cyllid yn caniatáu iddyn nhw ailwampio'r adeiladau hynny, i atal y malltod y maen nhw'n ei achosi ar hyn o bryd i'r ardaloedd o'u cwmpas, ac i ddod â nhw yn ôl i ddefnydd gwirioneddol fuddiol.
Prif Weinidog, mae gwaith ymchwil gan y Local Data Company yn dangos bod gan Gymru y cyfraddau cau siopau uchaf yn y Deyrnas Unedig. Yn hanner cyntaf y flwyddyn ddiwethaf, gostyngodd nifer y siopau yng Nghasnewydd gan 3.5 y cant. Mae Consortiwm Manwerthu Cymru yn nodi bod manwerthu yn gyfrifol am dros chwarter yr ardrethi busnes sy'n cael eu talu yng Nghymru. Er bod rhyddhad ardrethi i fusnesau bach a rhyddhad ardrethi trosiannol yn gydnabyddiaeth i'w chroesawu o'r angen i gadw costau i lawr i gwmnïau, mae tri chwarter y gyflogaeth fanwerthu gyda chwmnïau nad ydyn nhw'n gymwys ar gyfer hyn. Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno bod bodolaeth cynlluniau rhyddhad o'r fath yn dangos yr angen dybryd i ddiwygio ardrethi busnes yng Nghymru er mwyn helpu i adfywio canol dinasoedd fel Casnewydd?

Llywydd, rwy'n cytuno bod dadl dros ddiwygio'r system ardrethi busnes. Dyna pam y byddwn ni'n cyflwyno cynigion i ddiwygio'r system apeliadau. Dyna pam yr ydym ni wedi cytuno i gyflwyno'r ymarfer ailsgorio ar gyfer eiddo busnes flwyddyn yn gynharach. Ond os deallais awgrym yr Aelod yn iawn, ni fyddwn yn cytuno mai'r hyn y mae angen i ni ei wneud yw diwygio'r cymorth yr ydym ni'n ei gynnig i fusnesau bach yng Nghymru er mwyn seiffno cymorth oddi wrthyn nhw a'i roi i siopau manwerthu amlwladol mawr.
Mae natur y stryd fawr manwerthu yn newid, ac mae'n sicr yn newid yng Nghasnewydd, ac ni fydd hen ffyrdd o geisio gwneud i'r model blaenorol weithio'n gyflymach yn cynnal manwerthu i'r dyfodol. Rydym ni eisiau gweithio gyda'r sector i fod yn rhan o'r diwygio angenrheidiol. Rydym ni eisiau defnyddio'r miliynau ar filiynau o bunnoedd yr ydym ni'n eu buddsoddi mewn cynlluniau rhyddhad ardrethi i greu busnesau manwerthu cynaliadwy ar gyfer y dyfodol.
6. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cymunedau o ran ymdrin â chostau'r llifogydd diweddar? OAQ55190

Llywydd, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi pecyn cymorth ar waith i unigolion, busnesau ac awdurdodau lleol yn ystod y cyfnod ymateb uniongyrchol i'r llifogydd. Byddwn yn ystyried pa gymorth pellach y gallwn ni ei roi wrth i fwy o wybodaeth ddod ar gael, ac wrth i bethau symud i'r cyfnod adfer.
Diolch am eich ymateb, Prif Weinidog, a diolch, yn bwysicach, am y gwaith rhagweithiol yr ydych chi a'ch Llywodraeth wedi ei wneud. Mae maint y difrod a achoswyd i'r seilwaith gan y llifogydd diweddar yn dod yn llawer rhy amlwg, ac, er enghraifft, yn Rhondda Cynon Taf yn unig, mae'n rhaid disodli naw o bontydd, yn ogystal â difrod i ffyrdd, cwlfertau a waliau afonydd, gydag amcangyfrif o gost i'm hawdurdod lleol i o £44 miliwn ac yn cynyddu. Nawr, mae Llywodraeth y DU wedi cydnabod ei chyfrifoldeb, felly onid yw'n bryd i'r Prif Weinidog roi ei arian ar ei air? A wnewch chi godi gyda Llywodraeth y DU yr angen iddyn nhw roi cymorth ariannol digonol i sicrhau y gallwn ni drwsio'r difrod i seilwaith yn iawn?

Llywydd, wrth gwrs, mae'n galonogol clywed Prif Weinidog y DU yn dweud yn Nhŷ'r cyffredin y bydd arian yn sicr yn cael ei basportio i Gymru i helpu yn y cyfnod adfer. Cododd fy nghyd-Weinidog Rebecca Evans hyn yn uniongyrchol gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys yn Llundain yn gynharach heddiw, ac rydym ni'n edrych ymlaen—yn y gyllideb yfory, os yw'n bosibl, ond os nad bryd hynny, cyn gynted ag y gellir ar ôl hynny—i gael mwy na sicrwydd, ond rhywfaint o arian pendant. Oherwydd, fel y dywedodd Vikki Howells, Llywydd, er bod Llywodraeth Cymru wedi gallu dod o hyd i gymorth i unigolion, busnesau a'r awdurdodau lleol, a'i ariannu o'n hadnoddau, i ymdrin ag effaith uniongyrchol y llifogydd, pan ddaw i bontydd sydd wedi cael eu golchi i ffwrdd neu y mae angen eu dymchwel, ffyrdd y bydd angen eu hailadeiladu, ac amddiffynfeydd rhag llifogydd y bydd yn rhaid ailedrych arnyn nhw a'u hail-gryfhau, buddsoddiad cyfalaf ar y raddfa honno yw'r hyn y mae'r Deyrnas Unedig yno i helpu i'w ddarparu. Edrychwn ymlaen at sicrwydd Prif Weinidog y DU yn troi'n gymorth y mae ei angen ar awdurdodau lleol yng Nghymru.
Prif Weinidog, byddwch yn ymwybodol, wrth gwrs, bod nifer o fusnesau yn Llanrwst wedi dioddef llifogydd ar 9 Chwefror o ganlyniad i storm Ciara, ac eto dim ond ar 4 Mawrth 2020 y cyhoeddodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru gymorth ariannol ar gyfer busnesau yn uniongyrchol. Roedd hynny bron i fis ar ôl y digwyddiad. Mae rhai wedi rhoi'r gorau i fasnachu, mae rhai yn aros am daliadau yswiriant, a bu'n rhaid i rai droi at gynilion i barhau i weithredu mewn mannau eraill. Er ein bod i gyd wedi croesawu'r cymorth o £2.5 miliwn ar y diwrnod y cyhoeddwyd y cyllid, esboniodd eich Llywodraeth Cymru y
'Bydd rhagor o fanylion ynghylch sut i wneud cais am y gronfa ar gael [gan] Busnes Cymru yn y dyddiau nesaf.'
Mae hyn yn annerbyniol, ac felly hefyd y mae'r ffaith bod Busnes Cymru, ddoe ddiwethaf, yn dal i gynghori nad yw'r ffurflenni cais ar gyfer y cyllid ar gael. A wnewch—[Torri ar draws.] A fyddai wahaniaeth gennych chi?
Gofynnwch y—. Mae angen i chi ofyn cwestiwn, Janet Finch-Saunders.
A wnewch chi esbonio, Prif Weinidog, pam yr ydych chi wedi bradychu'r busnesau yn Llanrwst, pam y bu'n rhaid iddyn nhw aros am fis ac nad ydyn nhw byth wedi gweld ceiniog, a pha fesurau fydd yn cael eu cymryd i wella'r mynediad hwn at gyllid y mae angen mawr amdano? Mae'n warth.

Wel, Llywydd, mae'r Aelod yn gadael ei hun i lawr, fel y mae hi yn ei wneud am yr eildro mewn wythnos. Mae hi'n gadael ei hun i lawr pan fydd hi'n defnyddio iaith o'r fath a ddefnyddiodd wrthyf i wrth ofyn y cwestiwn yna. Bydd cymorth i fusnesau yn ei hetholaeth hi gan Lywodraeth Cymru. Dim un geiniog gan ei Llywodraeth hi. Mae hi'n sôn am fis yn ddiweddarach. Ble'r oedd ei Llywodraeth hi? O ble'r oedd yr arian yn dod ganddi hi—? Dim un geiniog. Gadewch i mi ddweud hynny wrthych chi. Myfyriwch ar hynny, efallai, pan fyddwch chi'n gwneud y cyhuddiadau hyn yn y dyfodol.
Mae £2.5 miliwn yr wyf i'n falch iawn yn wir—yn falch iawn yn wir, Llywydd—a fydd ar gael i fusnesau yn etholaeth yr Aelod. Maen nhw'n gwybod beth y mae'n rhaid iddyn nhw ei wneud; mae'n rhaid iddyn nhw gysylltu â Busnes Cymru. Ac arian cyhoeddus yw hwn, Llywydd. Mae'n hollol iawn bod yn rhaid i Busnes Cymru gynnal nifer ofynnol o wiriadau priodol i wneud yn siŵr bod yr arian yn mynd i'r bobl iawn mewn ffordd a fyddai'n gwrthsefyll craffu. Wrth gwrs bod hynny'n iawn. I roi enghraifft i chi, Llywydd, o ba mor gyflym y gellir rhoi cymorth ar gael drwy'r gronfa cymorth dewisol: rydym ni wedi cael cannoedd ar gannoedd o daliadau eisoes erbyn hyn, a channoedd o filoedd o bunnoedd yn nwylo deiliaid tai yr oedd angen y cymorth hwnnw arnyn nhw. Byddwn yn gwneud yr un fath gyda'r cymorth yr ydym ni'n ei roi i fusnesau, a byddan nhw'n gwybod bod y cymorth hwnnw wedi dod iddyn nhw o ganlyniad i'r penderfyniadau a wnaed gan y Llywodraeth hon yng Nghymru, tra nad yw ei Llywodraeth hi wedi gwneud dim byd o gwbl.
Rwy'n siŵr mai'r peth olaf y mae pobl sydd wedi cael eu heffeithio gan lifogydd eisiau ei weld yw gornest weiddi yn y Siambr hon.
Rwy'n croesawu'r £500 ychwanegol y mae'r Llywodraeth wedi ei gyhoeddi i bobl nad oes ganddyn nhw yswiriant cartref ar gyfer difrod llifogydd. Rwyf i hefyd yn ddiolchgar am yr arian ychwanegol a roddwyd yn hael gan bobl i'r gwahanol gronfeydd apêl. Bydd arian a godwyd ym mhob rhan o'r Rhondda gan unigolion a grwpiau yn mynd yn uniongyrchol i'r rhai a gafodd eu heffeithio, ac mae'n wych fy mod i'n gallu dweud wrthych chi y prynhawn yma bod Trade Centre Wales wedi rhoi £50,000 i'r gronfa a sefydlwyd gan Blaid Cymru yn y Rhondda, a fydd yn amlwg yn gallu cyflawni llawer.
Fodd bynnag, mae gwahaniaeth rhwng yr hyn y mae gan bobl yng Nghymru hawl iddo o'i gymharu â'r hyn y gall pobl sydd wedi dioddef llifogydd yn Lloegr ddisgwyl ei gael. Yno, mae ganddyn nhw gynllun cydnerthedd llifogydd eiddo sy'n caniatáu i gartrefi a busnesau sy'n dioddef llifogydd wneud cais am hyd at £5,000 i'w helpu i wrthsefyll llifogydd yn y dyfodol. Byddai hyn mor ddefnyddiol mewn llawer o achosion yr wyf i wedi dod ar eu traws, yn enwedig i rai trigolion yn ardal Britannia y Porth, y mae waliau cefn rhai ohonyn nhw wedi cael eu golchi ymaith. Lle'r oedd ganddyn nhw amddiffyniad rhag yr afon o'r blaen, nawr maen nhw'n agored erbyn hyn, eu gerddi a'u hisloriau, i ruthr Afon Rhondda. Fel y mae pethau ar hyn o bryd, y perchenogion cartrefi hynny sy'n gyfrifol ac nid oes gan breswylwyr hawl, hyd y gwn i, i unrhyw gymorth i gywiro hyn ac i ddiogelu eu hunain. Gan fod y ddau ohonom ni'n cytuno ar yr angen i ddiogelu cymunedau rhag llifogydd o'r math hwn yn y dyfodol, a wnewch chi ystyried rhoi cynllun tebyg ar gael yng Nghymru?

Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna ac, yn wir, am y dôn a ddefnyddiwyd i'w ofyn, am ei chydnabyddiaeth o'r cymorth sydd wedi ei ddarparu. Hoffwn gysylltu fy hun yn llwyr â'r hyn a ddywedodd am yr ymateb cymunedol hael dros ben a fu i bobl mewn trallod.
Bu'r cyllid yr ydym ni wedi ei ddarparu ar hyn o bryd, Llywydd, i ymdrin ag effaith uniongyrchol y llifogydd—pobl y mae eu nwyddau wedi eu dinistrio ac a oedd angen chwistrelliad ariannol ar unwaith i allu ymdrin â'r effaith honno. Wrth i ni symud i'r cyfnod adfer yna wrth gwrs byddwn ni'n edrych i weld pa fathau eraill o gymorth a allai fod ar gael. Rwy'n hapus iawn i astudio'r enghraifft y mae'r Aelod wedi tynnu sylw ati y prynhawn yma i weld a oes modd sefydlu rhywbeth o'r fath yma yng Nghymru.
Prif Weinidog, a gaf i ddiolch i chi yn gyntaf am ba mor gyflym y daethoch chi i Drefforest yn sgil y llifogydd? Nawr, mae Parc Diwydiannol Trefforest yn ardal sydd wedi dioddef yn aruthrol: llawer iawn o fusnesau, degau o filiynau o bunnoedd o ddifrod, ac mae cannoedd lawer o swyddi yn y fantol yn hynny o beth. Y peth cyntaf y byddwn i'n ei ddweud yw bod y credyd ardrethi busnes tri mis y mae busnesau'n mynd i'w gael os ydyn nhw wedi eu heffeithio yn cael ei werthfawrogi'n fawr iawn. Gwn mai Llywodraeth Cymru sy'n ariannu hynny, ond hoffwn wneud y pwynt wrth gwrs y bydd rhai busnesau yn cymryd llawer mwy o amser i allu dod yn weithredol eto a tybed a oes lle i hyblygrwydd lle mae'r rhai sy'n cael anawsterau arbennig o ran dod yn weithredol yn gallu ei gael, estyniadau pellach i hynny, efallai. Tybed a yw hynny'n rhywbeth y gwnewch chi roi rhywfaint o gefnogaeth iddo.
Y pwynt arall y byddwn i'n ei wneud yw hyn: mae cannoedd o swyddi yn y fantol yn llythrennol yn ardal ddiwydiannol Trefforest ac yn enwedig yn yr hinsawdd arbennig o anodd hwn yr ydym ni'n byw ynddo. Pe bydden nhw i gyd wedi'u crynhoi mewn un ffatri, byddai pecynnau cymorth ar gael ar unwaith. Wrth gwrs, gyda llawer o fusnesau bach, mae'n sefyllfa fwy cymhleth o lawer. Tybed a allwch chi neilltuo amser i ymweld â'r ystâd ddiwydiannol yn y fan honno i gyfarfod â rhai o'r busnesau i drafod eu hanghenion penodol, y cymorth a roddwyd, ond hefyd yr hyn y gallai fod angen ei wneud er mwyn sicrhau bod yr ystâd honno'n weithredol ac i ddiogelu'r cannoedd o swyddi hynny?

Llywydd, a gaf i gydnabod yr effaith benodol iawn y mae llifogydd wedi ei chael ar ystâd ddiwydiannol Trefforest? Unwaith eto, roedd y gwyliau tri mis o ardrethi busnes y bydd Llywodraeth Cymru yn eu hariannu yn rhan o'r pecyn ymateb uniongyrchol hwnnw. Byddaf yn cyfarfod ag arweinydd cyngor Rhondda Cynon Taf ddydd Iau yr wythnos hon i drafod y cyfnod adfer gydag ef, gan gynnwys y gwaith adfer sy'n angenrheidiol yn Nhrefforest, a byddaf wrth gwrs yn trafod ag ef pa bynnag syniadau sydd ganddo ac sydd gan bobl eraill i allu ymateb i'r anhawster parhaus y mae busnesau yn y rhan honno o Gymru yn ei wynebu.
Ac yn olaf, cwestiwn 7. Jenny Rathbone.
7. Beth yw strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer gwrthdroi colledion bioamrywiaeth yng Nghymru? OAQ55214

A gaf i ddiolch i'r Aelod am hynna, Llywydd? Mae ein strategaeth ar gyfer gwrthdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth yn cwmpasu prosiectau mawr ar raddfa'r dirwedd fel y goedwig genedlaethol, yn ogystal â chymorth i'r pethau llai y gall pob cymuned a sefydliad eu darparu'n lleol, fel y camau a gefnogir gan ein cynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, a lansiwyd fis diwethaf.
Diolch am hynna, Prif Weinidog. Rwy'n llwyr glodfori'r cynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, ond yn gyntaf oll hoffwn dynnu sylw at waith WWF, yn plannu morwellt ar arfordir sir Benfro, sy'n mynd i gyfateb i ddau faes pêl-droed ac sy'n newyddion hynod o dda i tua 100,000 o bysgod a 1.5 miliwn o infertebratau, oherwydd y modd y mae ganddo gapasiti adferol ar gyfer ein cefnforoedd. Ond rwy'n ofni nad oes gen i unrhyw arfordir yn fy etholaeth i, felly gan edrych ar—[Torri ar draws.] Eto. [Chwerthin.] Felly, gan edrych ar fenter Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, sy'n wirioneddol wych yn fy marn i ac, yn amlwg, byddaf yn awyddus i weithio gyda'm cymuned, er mwyn ceisio troi ardaloedd jyngl concrid ardaloedd mewnol iawn fy ninasoedd yn wyrdd, yn ogystal â chael mwy o goed ffrwythau a ffrwythau a llysiau wedi'u plannu ar draws yr etholaeth, tybed a allwch chi ddweud ychydig mwy am y modd y mae'r cynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, a reolir gan Cadwch Gymru'n Daclus, yn mynd i weithredu, oherwydd roeddwn i'n synnu braidd o weld bod y dyddiad terfyn ar gyfer y rownd gyntaf o geisiadau ddydd Gwener diwethaf, a oedd yn sicr yn fy synnu i ac nad yw wir yn rhoi digon o amser i bobl gyffredin lunio cynnig, o gofio mai dim ond ddiwedd y mis diwethaf y cafodd ei gyhoeddi.

Diolch i Jenny Rathbone am hynna, Llywydd. Fe wnaethom ni dreulio rhan gynharach o gwestiynau heddiw yn sôn am goedwigoedd a choetiroedd, a'r cyfraniad y gall hynny ei wneud i effeithiau newid yn yr hinsawdd, ac mae'r datblygiad morwellt heddiw yn enghraifft dda iawn arall o ymatebion naturiol i'r hyn yr ydym ni'n ei weld yn digwydd o'n cwmpas. Bydd gennyf ddiddordeb mawr mewn gweld sut y bydd hynny'n datblygu o gwmpas sir Benfro.
O ran y cynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, hoffwn i dalu teyrnged i Cadwch Gymru'n Daclus am y gwaith y maen nhw'n ei wneud gyda ni ar hyn. Bydd 800 o becynnau cychwynnol ar gael drwy Cadwch Gymru'n Daclus, Llywydd. Byddan nhw'n darparu popeth y gallai fod ei angen ar grŵp cymunedol lleol neu gyngor cymuned—offer, bylbiau, cyngor ac ati—er mwyn caniatáu i gymuned greu eu gerddi gloÿnnod byw, ffrwythau neu fywyd gwyllt ei hunan. Bydd nifer gyfartal o becynnau ar gael ar gyfer y tri pheth hynny.
Ac rwy'n gwybod—gwelais yn ddiweddar fod yr Aelod wedi bod allan ym Mhlasnewydd yn ei hetholaeth hi ei hun yn cynnal archwiliad stryd o'r seilwaith gwyrdd yn y rhan boblog iawn honno yng nghanol dinas Caerdydd. Union fwriad y cynllun lleoedd lleol hwn yw cynorthwyo'r grwpiau hynny sydd eisiau gwneud y pethau bychain hynny sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fioamrywiaeth.
Y rheswm yr aeth Cadwch Gymru'n Daclus am alwad gyntaf gynnar yw oherwydd eu bod nhw a'n bod ninnau yn awyddus iawn i gael yr arian hwn allan yna yn gwneud pethau da. Nid hon fydd yr unig alwad y byddan nhw'n ei gwneud ond roeddem ni eisiau i'r sefydliadau hynny a oedd yn barod i fynd a chanddynt gynlluniau ar waith i gael yr arian mor gyflym ag yr oeddem ni'n gallu ac yna ysbrydoli eraill i wneud mwy fyth.
Diolch i'r Prif Weinidog.
Yr eitem nesaf oedd i fod y cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol. Mae'r rheini wedi cael eu gohirio tan yfory.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes.
Cyn i mi ofyn i'r Gweinidog, y Trefnydd, ddarparu ei datganiad, dim ond i ddweud bod gennyf i lawer o Aelodau Cynulliad sydd eisiau gofyn cwestiwn. Rwy'n annog pob un ohonoch chi, os ydych chi eisiau gwella cyfle eich cyd-Aelodau i gael eu galw y prynhawn yma, i fod yn gryno yn eich cwestiynau. Roeddwn i'n arbennig o hir yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog y prynhawn yma, felly rwyf i eisiau cadw hyn at ddatganiad 30 munud, os yw hynny'n bosibl, yng ngoleuni'r hyn sydd gennym ni o'n blaenau ni ar gyfer heddiw.
Felly, ar hynny, Mohammad Asghar.
Diolch yn fawr, Llywydd. A gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog iechyd ynghylch mesurau i fynd i'r afael â diabetes yng Nghymru? Mae diabetes yng Nghymru yn argyfwng iechyd erbyn hyn, gyda nifer y bobl sy'n dioddef o'r clefyd wedi dyblu yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf. Yng Nghymru y mae'r nifer fwyaf o achosion o ddiabetes yn y Deyrnas Unedig, ac mae GIG Cymru yn amcangyfrif y bydd gan 11 y cant o'n poblogaeth sy'n oedolion y cyflwr hwn erbyn 2030. Mae Diabetes UK Cymru wedi croesawu'r mesurau a gafodd eu cyflwyno yn strategaeth gordewdra Llywodraeth Cymru, 'Pwysau Iach: Cymru Iach', ond mae'n dweud bod angen gweithredu parhaus arnom ni os ydym ni eisiau cynorthwyo pobl i fyw bywydau iachach, creu amgylchedd iachach a llunio cenedl iachach. Gweinidog, gan mai Cymru yw'r unig wlad yn y Deyrnas Unedig nad oes ganddi raglen atal diabetes, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog os gwelwch yn dda ynghylch pa gamau y bydd ef yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r argyfwng iechyd hwn yng Nghymru? Diolch.

Cyn i mi ymateb i Mohammad Asghar, mae'n debyg y dylwn i nodi bod nifer o newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Mae cwestiynau llafar yr wythnos hon—
Mae'n ddrwg gen i, anghofiais eich galw chi, Trefnydd. [Chwerthin.]
Mae hynny'n iawn. Bydd cwestiynau llafar yr wythnos hon i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd o ran ei gyfrifoldebau swyddog y gyfraith yn cael eu cynnal yfory. Bydd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gwneud datganiad yn fuan ar yr wybodaeth ddiweddaraf ynghylch coronafeirws, COVID-19. O ganlyniad, bydd y datganiad ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod yn cael ei gyhoeddi fel datganiad ysgrifenedig. Yn olaf, o ganlyniad i nifer y gwelliannau a gyflwynwyd a'u grwpiau, rwyf i wedi ymestyn yr amser sydd wedi ei neilltuo i drafodion Cyfnod 3 y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru). Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi ei nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau'n electronig.
O ran y cais am ddatganiad a wnaeth Mohammad Asghar, mi wn fod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol newydd wneud datganiad i'r Cynulliad yn ddiweddar ar y rhaglen 'Pwysau Iach: Cymru Iach', a oedd yn crynhoi rhai o'r pryderon y mae Mohammad Asghar wedi eu codi y prynhawn yma. Ond byddwn i'n ei annog i ysgrifennu hefyd at y Gweinidog iechyd gyda'i bryderon penodol am ddiabetes er mwyn iddyn nhw gael sylw drwy ohebiaeth.
Rwy'n gwybod bod cryn dipyn o amser wedi ei roi yn y Senedd i ddadlau a chraffu ar waith cynllunio a chraffu y Llywodraeth o ran y llifogydd, ond mae gennyf i nifer o faterion nad ydyn nhw wedi cael sylw o fy etholaeth i sydd wedi'u dal yn ôl hyd yn hyn. Mae gennyf i achos o breswylydd yn Nhreorci sydd wedi gweld y llifogydd yn ei gegin chwech, saith, efallai wyth gwaith bellach ers i'r glaw trwm ddechrau ychydig wythnosau yn ôl. Mae dŵr yn rhuthro i'w ardd a thrwy waliau ei gegin. Mae e'n credu bod draen wedi dymchwel o dan y brif ffordd y tu allan i'w gartref, ac eto mae'r cyngor yn dweud, mai ef sy'n gyfrifol am hynny, ar ei dir ei hun. Rwy'n meddwl tybed a oes gan y Llywodraeth unrhyw gyfle i ymyrryd mewn achosion fel hyn.
Mae gennyf i achos arall lle nad oes gan breswylydd yswiriant. Cafodd ei do ei chwythu ymaith yn storm Ciara ac yna cafodd ei ddifrodi ymhellach yn ystod storm Dennis. Dywedodd y Llywodraeth o'r blaen ei bod eisiau helpu pobl sydd wedi cael eu heffeithio gan y ddwy storm, ac eto mae'r cyngor wedi penderfynu nad yw'r teulu hwn yn gymwys i gael cyllid gan y cyngor, sydd wedyn yn eu hatal rhag cael arian gan Lywodraeth Cymru a'r gefnogaeth y dylen nhw fod yn gallu eu cael am nad oes ganddyn nhw yswiriant. A wnaiff Llywodraeth Cymru gytuno i ystyried achosion fel hyn sydd wedi eu gwrthod er mwyn sicrhau'r hyblygrwydd mwyaf posibl o fewn y system i ddal achosion fel hyn?
Mae gennyf i lawer o faterion eraill yr hoffwn i eu codi, ond rwy'n ymwybodol o amser, Llywydd. Os caf i godi dim ond un pwynt terfynol, ac mae hynny'n ymwneud â chwlfertau sydd wedi blocio yn gyffredinol. Mae hyn yn broblem enfawr ledled y Rhondda erbyn hyn. Nid yw'n ymddangos bod gan y cyngor y gallu i glirio a thrwsio'r holl gwlfertau a dyfrffyrdd ac, mewn rhai achosion, mae angen ailadeiladu'r systemau draenio hyn. Mae Pentre a Blaenllechau yn ddwy enghraifft dda o'r mannau lle mae difrod yn y draeniau wedi achosi llifogydd yng nghartrefi pobl, ond hefyd mae tŷ yn Llwynypia sydd wedi dioddef llifogydd o gwlfert yn gorlifo, roedd stryd yn Ystrad dan ddŵr neithiwr, ac mae pobl mewn cartrefi yn Ynyshir yn ofnus oherwydd bod y system ddraenio cwlfertau wedi gorlifo yno eto neithiwr. Nawr, os nad oes gan y cyngor y gallu i fynd i'r afael â hyn i gyd, a fyddai modd ystyried dod â llafur a chymorth o rywle arall? Er enghraifft, a fyddai modd gofyn i grwpiau gwirfoddol neu hyd yn oed y fyddin helpu mewn sefyllfaoedd fel hyn? Mae angen cynllun arnom ni ar gyfer ein dyfrffyrdd a'n dŵr sy'n rhedeg oddi ar y mynyddoedd; nid yw'n ymddangos bod gennym ni un ar hyn o bryd sy'n ennyn hyder y trigolion yr wyf i'n siarad â nhw sy'n ei chael hi'n amhosibl ymlacio, bob tro y mae hi'n bwrw glaw.
Diolch i Leanne Wood am godi'r materion penodol yna o waith achos y mae hi wedi ei gael gan bobl yr effeithiwyd arnynt yn uniongyrchol gan y llifogydd, ac yna'r pryder cyffredinol hwnnw ynglŷn â chwlfertau wedi blocio. Fe wnaf i ofyn i swyddogion Llywodraeth Cymru siarad â Chyngor Rhondda Cynon Taf ynghylch y materion hynny yr ydych chi wedi eu codi, oherwydd, yn y lle cyntaf, materion i'r cyngor ydyn nhw, ond byddai'n bwysig iawn i Lywodraeth Cymru ddeall yn fwy manwl y pryderon yr ydych chi wedi'u codi. Felly, byddaf i'n sicrhau bod y sgyrsiau hynny'n digwydd.
Trefnydd, a allwn ni gael datganiad am weithdrefnau cynllunio yng Nghymru? Efallai eich bod chi wedi gweld rhai o luniau dramatig o dŷ fy etholwr Mr Lee Evans yn eistedd yn ansefydlog ar lan yr afon yr wythnos hon. Digwyddodd hynny ar ôl i lan yr afon erydu rhyw 30 troedfedd yn ystod storm Dennis. Mae ei eiddo ef yn un o ddau yn y sefyllfa hon, y ddau ohonyn nhw yn rhan o ddatblygiad tai Redrow yn Carnegie Court ym Masaleg. Cafodd caniatâd cynllunio ei wrthod gan Gyngor Dinas Casnewydd a chan yr arolygydd cynllunio. Fodd bynnag, cafodd y penderfyniad hwn ei wrthdroi yn y pen draw yn 2007. Er bod gweithdrefnau wedi newid ers hynny, yn dilyn digwyddiadau diweddar, roedd cwestiynau'n amlwg yn cael eu gofyn am ddilysrwydd y broses hon, a byddwn i'n croesawu datganiad yn nodi pam y cafodd y penderfyniad hwn ei wneud ar y pryd, ac, yng ngoleuni'r hyn yr ydym ni'n ei wybod erbyn hyn, a fydd adolygiad i sut y mae penderfyniadau ynghylch adeiladau newydd yn cael eu gwneud o ran peryglon llifogydd posibl?
Yn ail, hoffwn i ofyn am ddatganiad arall. Roeddwn i'n falch o weld Gweinidog yr amgylchedd yn darparu datganiad ysgrifenedig am fridio cŵn yr wythnos diwethaf. Rwyf i a llawer o fy etholwyr yn awyddus i weld diwedd ar y modd gofidus ac echrydus y mae rhai cŵn yn cael eu trin ar ffermydd cŵn bach, ac mae angen gwneud hyn ar frys. A gawn ni ddatganiad ac amserlen ynghylch pryd y gallai'r camau gweithredu hynny fod yn digwydd?
Diolch i Jayne Bryant am godi pryderon penodol ei hetholwr ynglŷn â'r achos o ganiatâd cynllunio yr ydych chi wedi ei ddisgrifio, a'r materion sy'n effeithio'n benodol ar adeiladau newydd. Roedd y Gweinidog â chyfrifoldeb am gynllunio yma i glywed y pryderon hynny, a byddai'n ddefnyddiol pe gallech chi ysgrifennu at y Gweinidog gyda rhagor o fanylion am yr achos penodol yr ydych chi'n cyfeirio ato er mwyn rhoi mwy o ystyriaeth i'r pryderon yr ydych wedi gallu siarad yn eu cylch y prynhawn yma yn y Siambr.
O ran y ffyrdd ymlaen ar gyfer bridio cŵn, rwy'n gwybod mai bwriad y Gweinidog yw cyflwyno'r newidiadau angenrheidiol cyn gynted â phosibl. Mae hi hefyd wedi nodi y byddai'n ystyried deddfu yn ystod tymor y Cynulliad hwn ar werthu cŵn bach hefyd. Felly, rwy'n credu bod camau pwysig o'n blaenau o ran gwella lles anifeiliaid, ac yn enwedig lles cŵn yng Nghymru, ond byddaf yn gofyn am fwy o eglurder ynghylch yr amserlen honno.
Drwyddoch chi, Trefnydd, a gaf i ofyn i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru am ddatganiad ynghylch y trefniadau sy'n cael eu rhoi ar waith o ran coronafeirws ar gludiant cyhoeddus? Mae cludiant sy'n cael ei ariannu gan y cyhoedd fel y teithiau rhwng Caerdydd ac Ynys Môn, bysiau TrawsCymru a threnau Trafnidiaeth Cymru, wrth gwrs, yn lleoedd lle mae cyfran sylweddol o bobl mewn ardal gaeedig am gyfnodau hir. Er enghraifft, des i i lawr ar y trên gydag Aelod Cynulliad arall ddoe. Fe wnaeth fy mhrofiad o hynny achosi cryn bryder i mi. Yn ystod y pedair awr, fe wnaeth nifer o bobl fynd a dod— rwy'n tueddu i ddefnyddio bwrdd er mwyn i mi allu gweithio ar fy ffordd i lawr—ni chafodd y byrddau eu sychu unwaith, ac nid oedd y trên, mewn gwirionedd, yn lân iawn. Yn nes ymlaen, aeth fy nghyd-Aelod yn y Cynulliad i'r ystafell ymolchi a dywedwyd wrthyf nad oedd dŵr poeth na sebon ar gael ar y trên. Nawr, rydych chi'n ymwybodol, fel yr wyf innau, mai'r negeseuon cryf sy'n dod gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ac, yn wir, Llywodraethau ar bob lefel yw'r angen i allu golchi ein dwylo a chynnal lefelau hylendid personol llym. A wnewch chi ofyn i'r Gweinidog am y datganiad hwnnw? Oherwydd, rwyf i'n credu bod ganddo ran i'w chwarae o ran rhoi cyngor da i'n gweithredwyr trafnidiaeth, fel y gallan nhw a'u staff ac, yn wir, y rhai sy'n teithio ar gludiant cyhoeddus yng Nghymru deimlo'n ffyddiog bod y mater hwn wir yn cael ei gymryd o ddifrif.
O, ac mae gennyf i ddatganiad arall—[Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gen i.
Ewch ymlaen, Trefnydd. Na—rydych chi wedi ildio i'r Trefnydd. Bydd y Trefnydd yn ateb.
Iawn. Felly, mae hwn yn fater pwysig y cafodd arweinydd yr wrthblaid gyfle hefyd i holi'r Prif Weinidog amdano yn ystod cwestiynau i'r Prif Weinidog y prynhawn yma, ond byddaf i'n siŵr o gael y drafodaeth hon gyda fy nghyd-Weinidog, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, oherwydd mae'r ymateb i coronafeirws yn sicr yn ymateb trawslywodraethol, ac yn yr un modd, mae'n rhywbeth y mae gan bob unigolyn yng Nghymru ei ran i chwarae ynddo hefyd.
Fel cysgod Weinidog ar faterion rhyngwladol y Blaid, dwi wedi derbyn hanes pêl-droediwr ifanc yma yng Nghymru. A gaf i ofyn a wnaiff y Llywodraeth ddatganiad ar sefyllfa Rolando Bertrand, dyn 21 mlwydd oed a phêl-droediwr i glwb pêl-droed Bellevue yn Wrecsam, a symudodd i Gymru flwyddyn yn ôl gyda'i deulu, ond sydd nawr mewn peryg o gael ei alltudio i Nicaragua? Chwaraeodd e a'i deulu ran mewn protestiadau gwrthlywodraethol, ac o ganlyniad maent o'r farn eu bod wedi cael eu 'blacklist-io' gan Lywodraeth Nicaragua. Felly, drwy fynd yn ôl yno, mae'n debyg y byddai'n rhoi ei fywyd mewn peryg. Felly, a allaf i ddiolch ymlaen llaw i'r Llywodraeth am edrych i mewn i'r sefyllfa ddyrys yma? Diolch yn fawr.
Unwaith eto, diolch i Dai Lloyd am godi'r mater penodol hwn. Byddaf i'n sicr yn ei archwilio fy hun i ddeall y mater yn well. Rwy'n gwybod y byddwch chi hefyd yn cyflwyno'r sylwadau pwysig hynny i'r Swyddfa Gartref o ran eu prosesau allgludo ac yn y blaen, ond byddaf i yn sicr yn casglu rhywfaint o wybodaeth ychwanegol.
Trefnydd, tybed a allwch chi drefnu i gael datganiad gan y Llywodraeth ynghylch y camau sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru o ran yswirio eiddo a busnesau mewn ardaloedd sydd wedi dioddef llifogydd. Mae tai a oedd wedi eu hyswirio, rhai nad oedden nhw wedi eu hyswirio, ni fydd rhai yn gallu cael yswiriant nac yn gallu fforddio yswiriant. Mae'r un peth yn wir am fusnesau. Ar hyn o bryd, mae'n bosibl bod rhai ohonyn nhw yn cael anhawster i gael yswiriant neu i allu fforddio yswiriant, a fydd yn amlwg yn effeithio ar hyfywedd busnesau a chadw swyddi. Rwy'n gwerthfawrogi bod llawer o'r maes sy'n ymwneud ag yswiriant yn fater nad yw wedi ei ddatganoli, ond mae'n ymddangos, wrth weithio ledled y DU a gyda Cymdeithas Yswirwyr Prydain a rhai eraill â budd, bod gwir angen adolygu'r trefniadau yswiriant a'r cynlluniau yswiriant sy'n bodoli i ddiogelu busnesau ac eiddo preswyl ar gyfer y dyfodol.
Fel y nododd y Prif Weinidog yn ystod cwestiynau'r Prif Weinidog yn gynharach, mae ein camau cyntaf ni wedi ymwneud ag ymateb yn gychwynnol ac yn uniongyrchol i'r aelwydydd, busnesau a chymunedau yr effeithiwyd arnyn nhw. Ond, wrth i ni edrych ymlaen a chael y cyfle i fyfyrio ar y llifogydd, bydd y cwestiynau ehangach hyn y bydd angen i ni eu harchwilio. O ran yswiriant, mae cynllun o'r enw Flood Re, sy'n bartneriaeth rhwng Llywodraeth y DU a diwydiant, ar gael i roi y cyfle i aelwydydd sydd wedi dioddef llifogydd yn y gorffennol neu sydd mewn perygl o lifogydd i drefnu yswiriant fforddiadwy. Rwy'n credu bod hwnnw'n gynllun da a allai o bosibl gael ei hyrwyddo'n dda i'r aelwydydd hynny y mae'r llifogydd diweddar wedi effeithio arnyn nhw, a'r busnesau hynny, er mwyn ceisio rhoi rhywfaint o gysur iddyn nhw y bydd cyfle i gael yswiriant yn y dyfodol.
A gaf i alw am ddau ddatganiad? Yn gyntaf, ar raddau delweddu cyseinedd magnetig y prostad cyn biopsi ledled Cymru. Mae Prostate Cancer UK wedi rhannu ei ddata cais rhyddid gwybodaeth diweddaraf sy'n dangos faint o MRI Prostate a gynhelir cyn biopsi ar draws Cymru. Canfu hyn nad yw tri o'r saith Bwrdd Iechyd ledled Cymru hyd yma'n darparu'r sganiau i'r safonau a gafodd eu gosod gan y treial PROMIS ac a argymhellwyd gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal. Mae dau arall yn cynnig MRI deubarametrig, fersiwn symlach o'r sganiau, er eu bod yn dweud bod cynlluniau ar y gweill i gwblhau'r broses o sicrhau bod pob ardal yn darparu mynediad i MRI amlbarametig llawn erbyn 1 Ebrill, dim ond ychydig wythnosau i ffwrdd. Fe wnaethon nhw hefyd ddarganfod bod meini prawf cymhwysedd cyfyngol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf, ac nid oedd y cynnydd yng ngallu MRI y prostad yn ystod y 12 mis diwethaf yn hysbys ym myrddau iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Phrifysgol Cwm Taf.
Felly, mae Prostate Cancer UK yn galw am i unedau radioleg gael yr adnoddau sydd eu hangen arnyn nhw i sicrhau bod pob dyn a allai elwa yn cael mynediad nawr, ac maen nhw wedi datblygu offeryn cynllunio i helpu darparwyr iechyd i gyfrifo'r cynnydd mewn adnoddau y bydd angen iddyn nhw ei gynllunio ar eu cyfer yn eu hardaloedd. Rwy'n galw am ddatganiad yn unol â hynny, nid i feirniadu, ond i geisio ffordd o gau'r gofod, sy'n ofod llai, ond mae angen gweithredu o hyd er hynny.
Yn ail ac yn olaf, a gaf i alw am ddatganiad ar goedwigaeth a bioamrywiaeth? Clywsom sylwadau gan y Prif Weinidog yn gynharach, ond, fel y gwyddoch chi, mae Llywodraeth Cymru eisiau i orchudd coetiroedd yng Nghymru gynyddu gan o leiaf 2,000 hectar y flwyddyn. Pan oedwn i'n bresennol yn uwchgynhadledd y gylfinir yn 10 Stryd Downing fel hyrwyddwr rhywogaethau Cymru ar gyfer y gylfinir fis Gorffennaf diwethaf, clywsom fod plannu coed conwydd ar raddfa eang mewn ucheldiroedd wedi arwain at golli cynefinoedd enfawr, ac nid y tir a gafodd ei blannu yn unig a ddinistriodd yr adar, ond mewn ardal fawr o amgylch y goedwig, peidiodd y tir â bod yn gynefin cynaliadwy i adar sy'n nythu ar y ddaear gan fod y goedwig yn darparu gorchudd delfrydol i ysglyfaethwyr, llwynogod, brain tyddyn a moch daear yn bennaf. Mae angen i ni wybod, felly, yng nghyd-destun y nod clodwiw o gynyddu coedwigaeth a choetiroedd yng Nghymru, sut yr ydym ni'n mynd i sicrhau bod gennym ni'r coed cywir yn y mannau cywir i wir ddiogelu bioamrywiaeth.
Rwy'n ddiolchgar i Mark Isherwood am godi'r materion yna. Y cyntaf oedd mater canser y prostad a'r profion MRI hynny. Rwy'n gwybod bod y Gweinidog Iechyd yn bwriadu cyflwyno datganiad maes o law ar y strategaeth canser, a bydd cyfle hefyd i godi materion yfory gyda'r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn ystod y ddadl ar ganser. Felly, bydd sawl cyfle yn y dyfodol agos i archwilio'r materion hynny.
O ran gorchudd coetiroedd, rwy'n gwybod bod darnau penodol o waith yn mynd ymlaen ledled y Llywodraeth, ond yr un arbennig o ddiddorol a chyffrous, rwy'n credu, yw'r gwaith sy'n mynd ymlaen o ran coedwig cenedlaethol Cymru. Rwy'n gwybod y bydd y Gweinidog yn gwneud datganiad yn fuan iawn—rwy'n credu mai'r bwriad yw lansio yr wythnos hon.
Dwi'n falch bod y Gweinidog amaeth yn ei sedd hefyd, jest i nodi'r hyn dwi eisiau ei godi. Mae'r Gweinidog wedi datgan y bydd y rheoliadau newydd ar ansawdd dŵr yn cael eu gosod o fewn yr ychydig wythnosau nesaf. Dwi ddim yn gweld yn y datganiad busnes unrhyw gyfeiriad at ddatganiad llafar i gyd-fynd â gosod y rheoliadau hynny yn ystod y tair wythnos nesaf o fusnes. Byddwch chi'n gwybod, wrth gwrs, bod y rheoliadau yma wedi bod yn hynod ddadleuol. Maen nhw wedi bod yn destun codi pwyntiau fan hyn yn y Siambr, ac yn sicr wedi bod yn cynhyrchu llawer iawn o ohebiaeth i fi a nifer o Aelodau eraill yn y Siambr yma. Maen nhw'n cyflwyno newidiadau pellgyrhaeddol, a byddwn i'n teimlo y dylem ni ddisgwyl dim byd llai ond datganiad llafar i gyd-fynd â gosod y rheoliadau newydd yma, er mwyn sicrhau'r tryloywder, y cyfle i graffu, a'r atebolrwydd a ddylai fod yn cyd-fynd â datganiad o'r fath. Felly, gaf i ofyn i chi gadarnhau, os wnewch chi, Trefnydd, y bydd yna ddatganiad llafar yn cyd-fynd ag unrhyw osod rheoliadau newydd ar ansawdd dŵr, pryd bynnag y daw'r rheini ymlaen?
Llywydd, yn amlwg mae'r Gweinidog yma i glywed eich cais y prynhawn yma. Dim ond yr wybodaeth o ran yr hyn sydd wedi'i osod ar y datganiad a chyhoeddiad busnes heddiw sydd gennyf i, ond byddwn ni yn sicr yn gwrando ar y cais yr ydych chi wedi ei wneud y prynhawn yma.
Rwy'n gwerthfawrogi bod amser yn brin, felly byddaf yn gryno. Yn gyntaf oll, mater a gafodd ei godi gan nifer o Aelodau yn y Siambr hon heddiw: sef llifogydd. A gaf i gytuno â'r sylwadau blaenorol hynny o ran cefnogaeth sydd ar gael i fusnesau a chartrefi, yn wir, ledled Cymru? Yn enwedig y cartrefi hynny nad ydyn nhw'n gallu cael yswiriant llifogydd confensiynol. Fe wnes i ymweld ag un cartref yn sir Fynwy, yn nhref Trefynwy ei hun, lle mae problem gyda'r socedi trydan, er enghraifft, ac mae peth cost ynghlwm wrth adleoli'r rheini. Efallai y gallai fod rhyw fath o grant ar gael i'r rhai nad oes ganddyn nhw yswiriant y mae llifogydd yn effeithio arnyn nhw.
Yn ail, mater yr wyf i wedi ei godi droeon: ffyrdd, a ffordd osgoi Cas-gwent. Tybed a allem ni gael yr wybodaeth ddiweddaraf rywbryd yn ystod y cyfnod cyn y Pasg gan y Gweinidog trafnidiaeth ynghylch symud ymlaen â'r ffordd osgoi yng Nghas-gwent, ac unrhyw drafodaethau a allai fod wedi eu cynnal rhwng naill ai ef a'i swyddog cyfatebol yn San Steffan, neu yn wir y swyddogion perthnasol, i geisio datblygu'r prosiect pwysig hwnnw.
Unwaith eto, rwy'n tynnu sylw at botensial pwysig Flood Re fel ffordd bosibl ymlaen i bobl sydd wedi ei chael hi'n anodd cael yswiriant llifogydd oherwydd eu bod naill ai wedi dioddef llifogydd yn y gorffennol ac na fydd yr yswirwyr yn eu derbyn, neu oherwydd eu bod mewn eiddo sy'n cael ei ystyried i fod mewn perygl o lifogydd. Mae'n bartneriaeth rhwng y Llywodraeth a'r diwydiant er mwyn cyflawni hynny, er mwyn sicrhau bod pobl yn gallu cael yswiriant fforddiadwy o dan yr amgylchiadau hynny. Felly, byddwn i'n argymell hynny i'r Aelodau, i'w archwilio ymhellach o ran pa un a yw'n rhywbeth y gallan nhw ei archwilio gyda'u hetholwyr.
Ac wrth gwrs, byddaf i'n siarad â'm cydweithiwr, y Gweinidog trafnidiaeth, ynghylch y cais am yr wybodaeth ddiweddaraf o ran ffordd osgoi Cas-gwent.
Ddeufis yn ôl, gofynnais am ddatganiad gan y Llywodraeth ynghylch cynllunio'r gweithlu ym maes iechyd, oherwydd fy mod i'n pryderu bod nifer o feddygfeydd teulu yn fy rhanbarth i mewn perygl o gau. Cafodd cynghorwyr lleol a gododd y mater hefyd eu cyhuddo o godi bwganod, ond yr wythnos diwethaf cawsom ni gadarnhad y bydd tair meddygfa yn cau yn y Gilfach, Parc Lansbury a Phenyrheol, a reolir gan Fwrdd Iechyd Aneurin Bevan a phob un ohonyn nhw yn ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Rwy'n bryderus iawn y bydd y meddygfeydd a fydd yn gorfod cymryd miloedd o gleifion newydd erbyn hyn yn sgil y ffaith bod rhai eraill yn cau yn cael trafferth i ymdopi â'r galw ychwanegol, ac y bydd yn rhaid i rai pobl deithio i leoedd pell iawn os nad oes ganddyn nhw eu cludiant eu hunain. Efallai y byddan nhw'n cael trafferth ailgofrestru a defnyddio'r meddygfeydd newydd. Roeddwn i allan yn siarad â thrigolion Parc Lansbury yr wythnos diwethaf, a dywedodd un etholwraig wrth fy nghyd-Aelod nad oedd ddim ond prin yn gallu cerdded i'r feddygfa rownd y gornel, ond nid oedd yn gwybod sut yr oedd hi'n mynd i allu cyrraedd rhywle a oedd lawer ymhellach i ffwrdd.
Rwyf i wedi sôn o'r blaen fod dadansoddiad map gwres meddygon teulu Cymdeithas Feddygon Prydain yn dangos bod 32 o feddygfeydd mewn perygl o gau yn ardal Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan. Mae tair o'r rhain bellach wedi cau, neu ar fin cau, sy'n golygu y gallai 29 arall fod mewn perygl o hyd.
Ni wrandawyd ar fy nghais blaenorol am ddatganiad, mae arna i ofn. Felly, hoffwn i ofyn eto am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru yn nodi pa gymorth fydd ar gael i gleifion, fferyllfeydd a meddygfeydd a fydd yn gorfod ymdopi â sefyllfa newydd y meddygfeydd hyn yn cau? Yn ail, pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd ar unwaith i atal rhagor o feddygfeydd rhag cau yn eu rhanbarth drwy recriwtio'n brydlon? Ac yn olaf, sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwyrdroi'r methiant trychinebus hwn i gynllunio ei weithlu meddygon teulu yn y dyfodol yn wyneb y galw cynyddol? Diolch, Trefnydd.
Mae'r byrddau iechyd yn gweithio gyda phartneriaid drwy'r clystyrau i fabwysiadu ac addasu'r model gofal sylfaenol i Gymru, gan ganolbwyntio ar gymorth ar gyfer hunanofal a darparu gwasanaeth di-dor 24/7 sy'n rhoi blaenoriaeth i'r bobl waelaf eu hiechyd, gan wneud defnydd effeithiol o'r gweithlu amlbroffesiwn. Ac wrth gwrs, eleni, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £10 miliwn ychwanegol er mwyn i glystyrau benderfynu sut i fuddsoddi i gefnogi'r model gofal sylfaenol i Gymru.
O ran y practisau meddygon teulu penodol yr ydych chi'n cyfeirio atyn nhw, gwn fod y Gweinidog wedi cael rhai trafodaethau gyda'r Aelodau lleol, a bod y bwrdd iechyd yn cynnig pecyn o gymorth erbyn hyn i bob un o'r practisau hynny sy'n debygol o weld cynnydd yn nifer y cleifion. Wrth gwrs, mae gwaith aruthrol yn digwydd, onid oes, i geisio annog pobl i weithio yng Nghymru, ac mewn gwirionedd, mae hwnnw'n llwyddiannus o ran recriwtio meddygon teulu newydd i'r rhaglenni hyfforddiant hefyd. Ond mae'r Gweinidog wedi clywed eich cais chi am ddatganiad. Mae'n anodd iawn cynnwys pob datganiad; rydym yn cael tua 20 o geisiadau bob wythnos, a dim ond nifer fechan o slotiau i ymateb iddyn nhw. Ond gwnawn ein gorau glas i geisio darparu ar gyfer pethau gymaint ag y gallwn ni.
Diolch i'r Trefnydd.
Mae'r eitem nesaf, sef y datganiad ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, wedi'i gyflwyno fel eitem ysgrifenedig.
Ac, felly'r eitem nesaf yw'r datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar yr wybodaeth ddiweddaraf am coronafeirws. Galwaf ar y Gweinidog i wneud ei ddatganiad—Vaughan Gething.

Diolch, Llywydd. Mae'r sefyllfa yng Nghymru yn parhau i esblygu ac erbyn hyn mae gennym chwe achos pendant. Fe fydd mwy o achosion yn cael eu cadarnhau yma ac mewn mannau eraill yn y DU yn ystod y dyddiau nesaf. Mewn ymateb i'r sefyllfa gyfnewidiol, rydym wedi datblygu cynllun gweithredu ar y cyd â Llywodraeth y DU a'r llywodraethau datganoledig cenedlaethol eraill. Mae hyn yn adeiladu ar ein profiad o drin clefydau heintus ac ar ein cynlluniau ni ar gyfer ffliw pandemig.
Mae'r cynllun gweithredu yn ymdrin â'r hyn a wyddom ni am y feirws ar hyn o bryd ac am y clefydau a achosir ganddo; sut rydym ni wedi cynllunio ar gyfer achosion o glefydau heintus fel coronafeirws; y camau a gymerwyd gennym hyd yn hyn wrth ymateb i'r achosion presennol; yr hyn y bwriadwn ei wneud nesaf, gan ddibynnu ar gyfeiriad yr achosion presennol; ac, wrth gwrs, yr hyn y gall y cyhoedd ei wneud i gefnogi'r ymateb hwn, yn awr ac yn y dyfodol.
Rwyf wedi gofyn i brif weithredwr GIG Cymru sefydlu tîm cynllunio ac ymateb o blith GIG Cymru a'r gwasanaethau cymdeithasol i ddefnyddio'r arbenigedd priodol a bod yn y sefyllfa orau i fynd i'r afael â phroblemau ymateb wrth inni symud drwy gamau'r achosion hyn. Fe fydd y tîm hwn yn rhoi cymorth parhaus, yn cydgysylltu ac yn integreiddio'r ymateb o ran y gwasanaethau iechyd a chymdeithasol. Fe fyddan nhw'n cydgysylltu eu gwaith nhw â chylch gwaith ehangach Canolfan Cydgysylltu Argyfyngau Llywodraeth Cymru. Fe geisiwyd sicrwydd ar unwaith ac fe gafwyd cadarnhad gan bob bwrdd iechyd sydd ag ysbytai acíwt eu bod nhw'n barod i dderbyn cleifion i'w cyfleusterau ynysu.
Y penwythnos hwn, fe roddais i ganiatâd i gyflenwi cyfarpar diogelu personol i bob practis meddyg teulu ledled Cymru. Fe gaiff cyflenwadau o offer amddiffynnol personol i fferyllfeydd cymunedol eu hanfon yn nes ymlaen yr wythnos hon. Rydym yn rhoi ein cyflenwadau pandemig ni ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol ar waith, fel bod y stôr hon yn barod i gael ei dosbarthu yn ôl yr angen.
Rydym yn parhau i gymryd camau i ganfod achosion cynnar, a mynd ar drywydd cysylltiadau agos, ac atal y clefyd rhag ymsefydlu yn y wlad hon am gyhyd ag sy'n bosibl yn ymarferol. Pe byddai'r clefyd yn ymsefydlu yn y DU ac yng Nghymru, fe fyddai angen inni ystyried mesurau pellach i leihau cyfradd a maint ei ledaeniad.
Fe fyddwn ni felly'n ceisio ennill pwerau newydd i Gymru drwy Fil Coronafeirws y DU gyfan sydd i'w gyflwyno yn Nhŷ'r Cyffredin, i helpu systemau a gwasanaethau i weithio'n fwy effeithiol wrth fynd i'r afael â'r achosion. Fe fydd y Bil yn cryfhau pwerau o ran cwarantin a thorfeydd o bobl, ac fe fydd yn caniatáu i ysgolion a cholegau gau, pe byddai angen, i gyfyngu ar ledaeniad coronafeirws. Mae pob un o'r pedair Llywodraeth ledled y DU wedi cytuno mai un darn o ddeddfwriaeth ar gyfer y DU gyfan yw'r dull cywir. Serch hynny, rwy'n awyddus i ailadrodd y pwynt, yn yr un darn hwnnw o ddeddfwriaeth i'r DU gyfan, y bydd disgwyliad clir bod yr holl bwerau hynny sydd wedi eu datganoli ar hyn o bryd yn parhau i fod yn gyfrifoldebau i Weinidogion mewn Llywodraethau cenedlaethol datganoledig.
Fe fydd yn rhaid i'n GIG ni yma wneud rhai newidiadau i'r ffordd y mae'n gweithredu. Mae hynny'n cynnwys gofal a chyngor dros y ffôn a thechnoleg gwybodaeth. Rwyf wedi penderfynu y bydd system feddalwedd newydd ar gael ledled Cymru i alluogi pobl i ymgynghori â'u meddygon teulu drwy gyfrwng fideo. Rydym eisoes wedi cyflwyno gwiriwr symptomau ar-lein, y gellir ei ddefnyddio ar ein gwefan ni, Galw Iechyd Cymru. Wrth gwrs, mae'r wybodaeth ddiweddaraf bob dydd ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd. Fe ddylai hyn helpu i leihau'r pwysau ar y staff rheng flaen, a chefnogi pobl drwy roi mwy o wybodaeth a chyngor iddynt.
Rydym eisiau gweld cydbwysedd rhwng cadw pobl yn ddiogel a lleihau'r effeithiau cymdeithasol ac economaidd. Fe fydd ein penderfyniadau ni'n adlewyrchu'r dystiolaeth wyddonol, ac yn ystyried y cyfaddawdu sy'n gysylltiedig â hynny. Mae'r camau y byddwn ni'n eu hystyried yn cynnwys annog mwy o bobl i weithio gartref, ymatal rhag defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a mesurau ymddygiadol eraill y gall pobl eu cymryd yn wirfoddol i arafu ymlediad y clefyd. Fe fyddwn ni'n ystyried a ddylai'r rhai sydd â symptomau llai amlwg eu hynysu eu hunain, ond fe gaiff hyn ei lywio gan gyngor arbenigol ar epidemioleg yr achos, ac nid ydym wedi cyrraedd y sefyllfa honno heddiw.
Mae'n werth inni atgoffa ein hunain a'r cyhoedd, er hynny, na ddylai pobl sydd â symptomau tebyg i'r ffliw fynd i'r gwaith, na mynd i weld eu meddyg teulu, na mynd i adrannau damweiniau ac argyfwng. Nid cyngor newydd yw hwnnw—dyna'r cyngor cyfredol ar hyd y flwyddyn.
Mae rhai digwyddiadau cyhoeddus mawr y tu allan i Gymru, fel y gwelsom ni, wedi cael eu canslo neu eu gohirio er mwyn cyfyngu ar y perygl o drosglwyddo coronafeirws. Mae nifer o ysgolion wedi cau mewn gwledydd eraill am resymau tebyg. Mae'r rhain yn ddewisiadau a fydd yn bosibl i ninnau hefyd yn y dyfodol. Eto i gyd, nid ydym yn y sefyllfa honno ar hyn o bryd. Fe ddylai'r ysgolion aros ar agor, ac nid oes sail resymegol i ganslo digwyddiadau chwaraeon mawr ar hyn o bryd.
Ond mae rhai o'r mesurau mwyaf effeithiol yn cynnwys pob un ohonom ni—nid y Llywodraeth neu'r GIG yn unig. Er enghraifft, fe all gweithdrefnau hylendid personol syml gyfyngu'n sylweddol ar ledaeniad y feirws, fel y gall hunan ynysu darbodus i'r rhai sy'n wynebu risg arbennig. Fe all cyflogwyr gefnogi eu staff i gymryd camau o'r fath, ac fe ddylen nhw wneud hynny, heb godi braw yn ormodol. I liniaru'r effaith ar fusnesau, mae Llywodraeth Cymru wedi cofrestru COVID-19 yn glefyd hysbysadwy. Fe fydd hyn yn helpu cwmnïau i geisio iawndal drwy eu polisïau yswiriant os bydd yn rhaid iddyn nhw ganslo unrhyw beth o ganlyniad i ymlediad y feirws.
Rydym yn symud tuag at drefniadau monitro gwell ym maes awyr rhyngwladol Caerdydd. Fe fydd hyn yn golygu y bydd angen i bob awyren sy'n glanio yma o ranbarth a nodir gan ddiffiniad yr achos, ddatgan unrhyw deithwyr sy'n arddangos symptomau gerbron timau iechyd porthladdoedd Iechyd Cyhoeddus Cymru cyn iddyn nhw ddod oddi ar yr awyren.
Y tu allan i'r DU, mae'r risg yn newid yn feunyddiol. Mae'r Swyddfa Dramor a Chymanwlad yn diweddaru ei chyngor i deithwyr yn rheolaidd hefyd. Ac fe ddylai pobl sy'n bwriadu teithio dramor edrych ar wefan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad am y cyngor diweddaraf o ran teithio cyn iddyn nhw fynd dramor. Y cyngor diweddaraf i deithwyr sy'n dychwelyd o'r rhannau o'r byd sydd â'r risg uchaf yw aros yn y tŷ, ac osgoi dod i gysylltiad â phobl eraill, a ffonio 111. Mae hynny'n wir hyd yn oed os nad oes symptomau ganddyn nhw. A'r ardaloedd hynny yw: Iran, talaith Hubei yn Tsieina a'r Eidal. I deithwyr sy'n dychwelyd o ardaloedd a ystyrir yn llai o risg, y cyngor yw aros yn y tŷ ac osgoi cysylltiad â phobl eraill os ydych chi'n datblygu symptomau. Bellach, mae hyn yn cynnwys yr Eidal gyfan y tu allan i'r ardaloedd dan glo yr wyf i wedi eu crybwyll nhw eisoes.
Mae rhagor o gyngor ar gael gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru ar gyfer pobl nad ydyn nhw wedi teithio ond sydd, serch hynny, yn bryderus. Fe fydd hwnnw'n newid hefyd wrth i batrwm yr achosion newid ac wrth i'n dealltwriaeth ninnau dyfu. Ond mae dilyn cyngor o'r fath yn well bob amser na gwrando ar sibrydion a dyfalu sy'n aml yn anwybodus. Yn arbennig, fe fyddwn i'n annog pobl i edrych ar y cyngor sydd ar gael cyn mynd i geisio diagnosis, sydd, wrth gwrs, yn achosi'r risg o wastraffu adnoddau cyfyngedig y GIG. Rydym yn parhau i gynnig profion cymunedol i bobl yn eu cartrefi nhw eu hunain. Yn ogystal â hynny, mae 111 ar gael ledled Cymru erbyn hyn i gael cyngor ar y coronafeirws.
Mae'r Prif Weinidog a minnau'n parhau i fynd i gyfarfodydd COBRA. Fe fyddwn ni'n parhau i weithio gyda Gweinidogion y DU, llywodraethau'r Alban a Gogledd Iwerddon, ein prif swyddogion meddygol ni, ac asiantaethau iechyd cyhoeddus, ledled y pedair gwlad.
Ni ddylai unrhyw un fod dan unrhyw gamargraff am y bygythiad y mae'r coronafeirws yn ei ymgorffori. Mae risgiau amlwg a difrifol i iechyd pobl, gan gynnwys, yn enwedig, bobl sydd eisoes yn agored i niwed. Ac mae achosion ehangach hefyd yn achosi'r risg o amharu ar gymdeithas a'r economi ar raddfa fawr.
Ni fydd yr achosion hyn yn diflannu yn gyflym ac fe fydd y sefyllfa'n gwaethygu cyn iddo wella. Ond, ar yr un pryd, rydym wedi hen baratoi ar gyfer achosion fel hyn, ac rydym yn dysgu mwy am y feirws penodol hwn bob dydd. Mae'r wybodaeth honno, ynghyd ag ymroddiad ein gweithwyr iechyd proffesiynol ni ac eraill ar draws y gwasanaethau cyhoeddus a'r sector annibynnol, yn ein galluogi i leihau'r risgiau gymaint ag y gallwn ni. Fe fyddaf i, wrth gwrs, yn parhau i roi'r wybodaeth lawn i'r Aelodau a phobl Cymru am unrhyw gamau y byddwn ni'n eu cymryd yma yn y Llywodraeth.
Diolch yn fawr iawn am eich datganiad, Gweinidog, ac am fod mor barod i roi diweddariadau i mi, ar ran y Ceidwadwyr Cymreig, yn ystod y sefyllfa sydd ohoni. Gan fynd trwy eich datganiad chi, mae gennyf i nifer o gwestiynau. A wnewch chi gadarnhau ar ba lefel y bydd aelodau'r GIG yng Nghymru a thimau cynllunio ac ymateb y gwasanaethau cymdeithasol—mewn geiriau eraill, a oes ganddyn nhw'r awdurdod i sicrhau y bydd pethau'n digwydd yn y GIG? A wnewch chi gadarnhau nifer y gwelyau ynysu a fydd ar gael inni ar hyn o bryd drwy'r GIG yn ei gyfanrwydd? Oherwydd rwy'n tybio bod ynysu yn bur wahanol i ofal dwys, gan mai nhw yw'r rhai sydd o fewn y muriau gwydr, felly roeddwn i eisiau eglurhad ar hynny.
Roeddwn i'n falch iawn o weld y cyfarpar diogelu personol yn cael ei ddosbarthu i feddygfeydd a fferyllfeydd. Tybed pa bryd y gallech chi ystyried eu rhoi nhw i weithwyr gofal cartref a gweithwyr gofal mewn cartrefi preswyl, a pha gyngor a fyddech chi'n ei roi i berchnogion cartrefi preifat o ran pa ragofalon y dylen nhw fod yn eu cymryd.
Roeddech chi'n sôn am y dechnoleg i ategu hyn, ac mae'n rhaid imi ddweud bod y gwiriwr symptomau yn un da iawn, oherwydd fe roddais i gynnig ar ei ddefnyddio, ac rwy'n credu ei fod yn glir iawn ac rwy'n eich cymeradwyo chi ar hynny. Wrth gwrs, ni fydd gan lawer iawn o bobl hŷn o reidrwydd y modd i ddefnyddio technoleg gwybodaeth na'r gallu i'w ddefnyddio, felly tybed beth y gallech chi ei roi ar waith, neu pa gyfarwyddiadau y byddech chi'n eu rhoi i bobl hŷn nad ydyn nhw'n gallu defnyddio'r gwiriwr symptomau a'r hyn y dylen nhw ei wneud. Rwy'n tybio y byddwch chi'n dweud '111' wrthyf i, ac, unwaith eto, hoffwn i gael rhywfaint o eglurhad yn hynny o beth. Fe fues i mewn cyfarfod o staff Ysbyty Wrecsam Maelor yr wythnos diwethaf, a chyfarfod ag un neu ddau o bractisau meddygon teulu hefyd, ac roedden eu neges nhw i mi am effeithlonrwydd 111 yn y Gogledd yn un eithaf amwys. Fe ddywedodd rhai fod y rhif 0845 yn cael ei ddargyfeirio ac nad oedden nhw'n argyhoeddedig bod 111 ar gael yn gyffredinol. Felly, efallai y gallech chi gadarnhau hynny, er mwyn inni allu symud ymlaen gyda'r mater hwnnw.
Ac, unwaith eto, wrth inni sôn am bobl hŷn, rwy'n sylweddoli nad rhywbeth ar gyfer nawr yw hyn, ond yn ystod yr wythnosau nesaf, a wnewch chi siarad gyda sefydliadau fel arweinyddion archfarchnadoedd neu a ydych chi wedi cynnal unrhyw drafodaethau â nhw o bosibl i sefydlu rhyw fath o ffordd i bobl hŷn, sy'n gorfod aros gartref oherwydd bod ganddyn nhw risgiau iechyd difrifol fel clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint, neu oherwydd eu bod nhw'n boblogaeth risg uwch, i allu archebu nwyddau o'r archfarchnad dros y ffôn a'u cael wedi'u hanfon atyn nhw? Oherwydd, unwaith eto, gwn fod nifer sylweddol o bobl hŷn yn fy etholaethau i nad ydyn nhw'n gallu defnyddio offer technoleg gwybodaeth i archebu o un o'n hoff archfarchnadoedd ni.
Mae gen i gwestiwn penodol yr hoffwn ei ofyn ynglŷn â'r gweithlu. Mewn datganiad blaenorol, fe wnaethoch chi ddweud eich bod yn bwriadu defnyddio gwirfoddolwyr a staff sydd wedi gadael y GIG yn ddiweddar. Felly, fe fydd ganddyn nhw wybodaeth sy'n gyfredol. A wnewch chi gadarnhau y bydd meddygon locwm yn cael cynnig contractau a fydd yn eu hamddiffyn nhw a'u teuluoedd pe bai yna salwch difrifol neu hyd yn oed farwolaeth pe byddent yn digwydd marw wrth roi gwasanaeth fel hyn? A fyddwch chi'n rhoi ystyriaeth i hynny wrth symud ymlaen? Un peth yw gofyn i feddyg teulu sydd wedi ymddeol neu ymgynghorydd sydd wedi ymddeol neu nyrs sydd newydd ymddeol ddod yn ôl i mewn i weithio shifft, ac fe fyddem yn gallu cael tystysgrif addasrwydd i ymarfer iddyn nhw'n gyflym—rwy'n deall hynny i gyd ac fe fydd hynny yn digwydd, mae'n siŵr—ond hefyd mae angen inni eu hamddiffyn pe bai'r gwaethaf yn digwydd. Felly, a wnewch chi gadarnhau y byddwch chi efallai'n ystyried y maes hwn?
Rydych chi hefyd wedi siarad am y cyfle i bobl ymgynghori drwy fideo, sy'n gam pwysig iawn ymlaen yn fy marn i. Ond, unwaith eto, a ydych chi'n rhoi rhywfaint o ystyriaeth i ba gynlluniau a allai fod ar waith ar gyfer yr ardaloedd hynny lle nad oes cysylltedd fideo, oherwydd nad yw'r seilwaith ar gael, ac a gaf i roi rhestr i chi o sawl man gwan yn fy etholaeth i lle na fyddai hynny'n bosibl mewn gwirionedd?
Mae llawer o gwestiynau i'w holi ynglŷn â'r coronafeirws, ac nid wyf yn mynd i gymryd llawer mwy o'ch amser chi. Fy nghwestiwn olaf i yw, wrth gwrs, fod De Korea o'r farn fod y gwaethaf drosodd iddyn nhw, a'u bod nhw am weld gostyngiad nawr; maen nhw'n dawel hyderus. Maen nhw wedi bod yn effeithiol iawn yn y ffordd y maen nhw wedi ymdrin â'r sefyllfa. Mae ganddyn nhw strwythur cymdeithasol sy'n wahanol, a diwylliant sy'n wahanol, ond un o'r pethau a wnaethant oedd defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol i helpu i olrhain cleifion y nodwyd bod ganddynt y coronafeirws. Yn amlwg, nid wyf yn gwybod—rwy'n cymryd eu bod wedi cael caniatâd—ond roeddent yn olrhain eu hynt nhw, ac yna gallent geisio defnyddio'r math hwnnw o dechnoleg i ganfod pwy arall a allai fod mewn perygl. A wnewch chi ddweud wrthym a oes gennych unrhyw syniadau neu beidio yn yr wythnosau nesaf? Fel y dywedaf i, nid nawr—rwy'n sylweddoli nad yw hyn ar waith ar hyn o bryd—ond rydym i gyd yn cydnabod y bydd y feirws hwn yn ymledu. Fe fydd y sefyllfa'n gwaethygu ac mae'r pethau a grybwyllais i'n bethau y gallem ni eu gwneud efallai i helpu i olrhain neu liniaru, ac roeddwn i'n meddwl tybed a oeddech chi wedi bod yn edrych ar rywle fel De Korea, sy'n credu bod y gwaethaf drosodd iddyn nhw, er mwyn dysgu'r arfer gorau ar gyfer ein helpu ni i reoli'r sefyllfa, neu o leiaf i sefydlogi'r sefyllfa, yn ein gwlad ni.
Diolch am y gyfres o sylwadau a chwestiynau. Eich pwynt cyntaf chi ynglŷn â'r tîm newydd yr wyf i wedi cyfeirio ato o fewn y Llywodraeth: y ffaith fy mod i wedi cyfarwyddo prif weithredwr GIG Cymru i sefydlu hwn, fe ddylai fod yno ddigon o statws uchel o fewn staff y GIG i wneud yn siŵr bod pobl yn ymateb gyda lefel briodol o awdurdod. Mae'n ymwneud â chydlynu'r gwaith o fewn y Llywodraeth yn ogystal â'r rhyngwyneb â'r gwasanaeth iechyd. Ac ynglŷn â'ch pwynt chi am fesurau ynysu, gan fynd yn ôl at rai o'r pwyntiau a wnaeth y Prif Weinidog mewn cwestiynau hefyd, mae hyn mewn gwirionedd yn ymwneud â sut y dylem ni gynyddu ein capasiti i gwrdd â phobl, ond mae angen inni drin pobl mewn modd gwahanol hefyd. Y bobl a fyddai fel arfer yn dod i mewn i ysbyty i gael eu gofal—efallai y bydd angen inni drin mwy o'r bobl hynny yn eu cartrefi eu hunain mewn modd gwahanol. Felly, mewn gwirionedd, nid wyf i'n credu y dylem fod ag obsesiwn o ran nifer y gwelyau sydd gennym ni ar hyn o bryd ond o ran ein gallu ni ar draws y system gyfan, mewn gwirionedd, i allu trin mwy o bobl, a beth y mae hynny yn ei olygu, a'r dewisiadau amrywiol o ran triniaethau y bydd angen inni eu darparu, a'r hyn y bydd angen inni ei wneud wedyn mewn gwirionedd, er enghraifft, ynghyd â rheoleiddwyr a cholegau brenhinol hefyd.
O ran y cyfarpar diogelwch personol ar gyfer meddygfeydd teulu a fferyllfeydd, a'r hyn y gallai hynny ei olygu i bobl eraill sydd mewn cysylltiad uniongyrchol â grwpiau risg—mae hynny'n rhan o'r sgyrsiau yr ydym yn eu cael, nid yn unig gyda'r staff sy'n gweithio mewn gofal cartref a gofal preswyl, ond hefyd yn un o'ch pwyntiau diweddarach chi am y gwaith gydag archfarchnadoedd. Rwyf wedi cyfarwyddo swyddogion eisoes i gael y sgyrsiau hynny ynglŷn â chael nwyddau i bobl a allai fod yn eu cartrefi eu hunain am gyfnod maith, ond mae'n ymwneud hefyd â'r gwaith y bydd angen i lywodraeth leol yn benodol ei wneud, o ran cynllunio ar gyfer newid yn y ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu, ynglŷn â'r ffordd y maen nhw'n darparu gwasanaethau yng nghartrefi pobl eisoes, naill ai oherwydd eu bod nhw'n darparu'r gofal hwnnw'n uniongyrchol, neu'n comisiynu gofal, a sut y bydd angen iddyn nhw gynllunio ar gyfer dull arall o ddarparu gwasanaethau—unwaith eto, gyda llai o staff o bosib rywdro, ond o bosibl hefyd gyda chynnydd yn y galw a ddaw drwy eu drysau nhw hefyd.
O ran eich pwynt chi ynglŷn â defnyddio TG, mae'r camau a gymerwyd gennym i ddarparu darn o feddalwedd sy'n gyson ledled y system yn gam mawr ymlaen, ond nid yw hynny'n golygu bod pawb yn gallu ei ddefnyddio. Rydych chi'n iawn i nodi bod yna rai pobl sydd naill ai heb offer TG neu nad ydynt yn gallu ei ddefnyddio'n effeithiol am nifer o resymau. Felly, mae pethau hefyd—[Anghlywadwy.]—pobl eraill hefyd. Ac eto, her yw honno sydd nid yn unig yn wynebu'r gwasanaeth iechyd, ond yn wynebu amrywiaeth o wasanaethau cyhoeddus eraill hefyd.
Ac o ran eich pwynt chi ynglŷn â gallu defnyddio'r gwiriwr symptomau, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi darparu amrywiaeth o bosteri eisoes sy'n rhoi cyngor ac yn sôn am y symptomau, felly nid fforwm ar-lein yn unig yw hyn. Rwyf wedi gweld ar fy nhaith ddiweddar i'r gogledd yr hyn y mae hynny'n ei olygu, ac ym Maes Awyr Caerdydd—lle maen nhw'n weladwy; credaf eu bod nhw'n glir iawn—ond mae amrywiaeth o fusnesau wedi defnyddio'r un posteri gwybodaeth hefyd. Ac mae hynny'n mynd yn ôl at y pwyntiau a wnaed yn flaenorol ynglŷn â chyngor clir a chyson wrth ddefnyddio cyngor o ffynhonnell wybodaeth y gellir ymddiried ynddi. Felly rwyf i wedi fy nghalonogi'n fawr gan y ffordd y mae'r cyngor syml a chlir iawn hwnnw'n cael ei ddefnyddio mewn ystod eang o feysydd.
Ac rwy'n hapus i ailadrodd y pwynt ynglŷn ag 111. Gwasanaeth i Gymru gyfan yw hwn—gwasanaeth i Gymru gyfan ar gyfer coronafeirws. Felly, os yw pobl yn gofidio, fe allan nhw ffonio'r rhif hwnnw o unrhyw ran o Gymru i gael cyngor ac arweiniad.
O ran yr adroddiad am indemniad ar gyfer pobl sy'n staff locwm, rwy'n hapus i archwilio'r maes hwnnw ymhellach i weld a oes angen newid unrhyw un o'n trefniadau presennol ni ar gyfer sicrhau bod y niferoedd iawn o staff gennym yn y mannau iawn i ddarparu gofal a thriniaeth a hefyd i roi sicrwydd i bobl.
Ac o ran eich pwynt olaf chi ynglŷn â dysgu oddi wrth wledydd eraill, nid oddi wrth Dde Korea yn unig, ond drwy'r holl fyd—roedd hynny'n rhan o'r drafodaeth yn COBRA yr wythnos hon. Mae'n rhan o'r trafodaethau yr wyf i wedi eu cael yn rheolaidd gyda'r prif swyddog meddygol, gan fod cyngor, a ymddengys yn amrywio ychydig, yn cael ei roi mewn gwahanol rannau o'r byd, ond mae'n golygu dysgu oddi wrth bobl hefyd am wahanol gamau'r achosion. Yn wir, fe fydd gwaith Sefydliad Iechyd y Byd yn bwysig iawn yn hyn o beth. Ond yn sicr rydym am gael ein cysylltu â'r cyngor gorau posib, nid yn unig ledled y DU, ond yn rhyngwladol hefyd, ynglŷn â gwersi y gallwn ni eu dysgu—ac rydym ychydig ar ei hôl hi o'i gymharu â rhannau eraill o'r byd gyda'r achosion hyn—i geisio gwneud yn siŵr ein bod yn gwneud dewisiadau gwell yma, neu y gallwn ni ddeall yn well y dewisiadau y byddwn ni'n anochel yn eu hwynebu. Felly, ydy, mae hyn yn bwysig yn y sefyllfa sydd ohoni nawr. Fe fydd yn bwysig wedi hynny hefyd. Felly, pan fydd yr achosion o'r coronafeirws wedi cyrraedd ei anterth yn y DU ac ar draws y byd, mae angen inni ddysgu o'r hyn sydd wedi digwydd a deall beth fydd angen ei wneud yn well yn y dyfodol.
Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.
Gaf i ddiolch i'r Gweinidog am y datganiad a diolch am y briffio sy'n cael ei roi i fi a llefaryddion eraill yn ystod y mater yma?
Gaf i ddweud hanesyn wrthoch chi am feddyg wnaeth gysylltu efo fy swyddfa i i gwyno ynglŷn â llinell 111, oherwydd ei bod hi wedi delio efo claf a oedd wedi gorfod talu £10 i ffonio'r rhif 0845 achos bod 111 ddim yn gweithio, a doedd y claf ddim yn gallu defnyddio ffôn landline ar y pryd? Mi oedd y claf arbennig yma a'i gŵr wedi dod yn ôl o'r Eidal yn ddiweddar, lle'r oedden nhw wedi bod ar wyliau efo cyfeillion. Ar ôl dod adref, mi wnaeth y cyfeillion hynny, a oedd yn byw yn Lloegr, gael eu profi a'u profi'n negyddol am COVID-19. Mi gafodd y cleifion yng Nghymru wedyn annwyd a chur pen a ffonio'r rhif 0845, ond mi ddywedwyd wrthyn nhw nad oedden nhw yn debygol o fod mewn risg ac nad oedd angen iddyn nhw gael eu profi. Ond oherwydd bod y cyfeillion yn Essex wedi cael eu profi, mi deimlon nhw y dylen nhw gymryd camau pellach eu hunain. Mi benderfynon nhw yrru i Ysbyty Gwynedd, siarad efo nyrs yn y fan honno a wnaeth roi triage iddyn nhw ar y ffôn. Mi wnaeth y meddyg wedyn wisgo ffedog a menig a mynd allan i'r car i sicrhau bod profion neu ddiagnosis yn gallu cael ei roi iddyn nhw. A beth rydyn ni wedi'i glywed oedd bod yna ddiffyg dealltwriaeth hyd yn oed ymhlith staff mewn ysbyty, mewn gofal meddygol y tu allan i oriau, er enghraifft, ynglŷn â beth yn union i'w wneud mewn achosion fel hyn. Mae hynny'n fater o bryder, wrth gwrs, os ydy'r staff eu hunain ar y llinell flaen yn teimlo nad ydy'r cyngor ganddyn nhw i'w roi i bobl, na chwaith y dillad addas i'w hamddiffyn eu hunain, er dwi'n nodi, ac yn ddiolchgar, o'r datganiad fod meddygfeydd teulu yn cael dillad addas erbyn rŵan.
Mae yna nifer o gwestiynau yn codi o'r mater yma i fi. Yn gyntaf, os ydy pobl yn methu â ffonio 111 am ryw reswm, ac yn methu â fforddio talu wedyn i ffonio'r rhif 0845, oes yna beryg ein bod ni'n methu rhai achosion? Beth ydy'r camau fydd yn cael eu gwneud er mwyn cryfhau'r ddarpariaeth 111 yna ymhellach?
Os ydy staff mewn ysbytai yn teimlo nad oes ganddyn nhw'r offer angenrheidiol i'w gwarchod eu hunain, oes yna ddisgwyliad y byddan nhw'n cael y dillad yna? Hefyd, pa gamau sydd yn cael eu gwneud i gryfhau'r ddarpariaeth mewn ysbytai ar gyfer y bobl hynny sydd yn mynd yn groes i'r cyngor sy'n cael ei roi iddyn nhw ac yn mynd i'r ysbyty beth bynnag? Oherwydd mae pobl yn mynd i wneud hynny, yn anffodus. Gobeithio mai ychydig iawn fydd yn gwneud, ond mae o'n mynd i ddigwydd. Beth fydd yn cael ei wneud i sicrhau bod ysbytai yn barod am hynny?
Os caf i hefyd wneud apêl am y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â chapasiti gofal mwy dwys. Mae'n allweddol, dwi'n meddwl, ein bod ni ar y pwynt yma mewn amser yn sicrhau bod y capasiti yna ar gyfer gwelyau gofal mwy dwys yn cael eu darparu mewn ysbytai. Dwi'n meddwl ei bod hi'n deg i ddweud bod ein profiad ni o wledydd eraill, o edrych ar yr hyn sy'n digwydd mewn gwledydd eraill, yn dweud wrthym ni fod y math o ofal sy'n cael ei roi i bobl ar y pwynt lle mae eu hafiechyd nhw'n troi'n ddifrifol, p'un ai ydy'r gofal yn briodol iddyn nhw ac yn ddigon da iddyn nhw ar y pryd, yn gallu gwneud y gwahaniaeth pan mae'n dod at ydyn nhw'n mynd i oroesi yr afiechyd yma. Felly, beth sydd yn cael ei wneud rŵan i sicrhau bod y capasiti yna yn cael ei adeiladu ar gyfer yr anghenion allai godi yn yr wythnosau a'r misoedd nesaf ar gyfer gofal dwys yn yr ysbyty?
Fe hoffwn i ddiolch i chi am y sylwadau a'r cwestiynau. Rwy'n credu bod eich stori chi am brofiad gwirioneddol yn y gorffennol diweddar yn ystyrlon i bob un ohonom. Ynglŷn â 0845, yr hen rif 0845, mae honno'n gost y mae'r darparwyr ffôn eu hunain yn ei chodi ac nid ydym ni'n rheoli hynny. Mae'n rhwystredig iawn, ond rydym wedi cymryd y cam i gael gwasanaeth 111 ledled Cymru er mwyn iddo fod yn rhif sy'n gyson, fel nad ydym yn gofyn i bobl mewn gwahanol rannau o Gymru orfod gwirio pa rif y dylen nhw fod yn ei ddefnyddio. Rwy'n credu bod y pwyntiau hynny am eglurder a chysondeb yn bwysig iawn yn y neges sydd gennym ni.
Rwy'n hollol glir, os oes angen mwy o adnoddau arnyn nhw, fe fyddwn ni'n dod o hyd i fwy o adnoddau fel bod ganddynt fwy o gapasiti i ymdrin â phobl. Mae yna rywbeth wedyn am ein system GIG gyfan ni yn deall beth i'w wneud, o ran a oes angen iddyn nhw ddefnyddio dillad neu gyfarpar amddiffynnol, ond i sicrhau bod pobl hefyd yn deall eu hunain, yn syml a chlir, sut y dylent ymddwyn gyda'r cyhoedd. Rwy'n credu bod eich pwynt chi ynglŷn â'r ffaith eu bod nhw wedi gorfod gyrru i'r ysbyty pan rydym yn gofyn i bobl beidio â gwneud hynny, a'n her ni wrth bwysleisio y dylai pobl ddilyn y cyngor i'w cadw nhw ac eraill yn ddiogel—mae'n ymwneud â'u cadw nhw'n ddiogel, eu teuluoedd nhw, eu hanwyliaid nhw, ond pobl nad ydyn nhw wedi cyfarfod â nhw erioed hefyd. Mae hon yn sefyllfa ddifrifol iawn.
Mae'n bosib iawn mai'r dewisiadau y byddwn ni'n eu hwynebu fydd dewisiadau sy'n amherffaith, yn yr ystyr ein bod ni efallai'n gwneud dewisiadau ynghylch gohirio gweithgarwch yn y gwasanaeth iechyd er mwyn blaenoriaethu'r gweithgarwch mwyaf difrifol; efallai y byddwn yn gofyn i bobl ddarparu triniaeth mewn ffordd na fyddech yn ei disgwyl nawr oherwydd y capasiti ac oherwydd y galw y byddwn o bosib yn ei weld yn dod drwy ein drysau ni. Fe ddylai'r sefyllfa yn yr Eidal ddweud rhywbeth wrthym am y dewisiadau y gallen ni fod yn eu hwynebu.
Nid gwlad sy'n datblygu yw'r Eidal. Mae ganddi system iechyd dda yn y byd datblygedig, ac eto mae ei system gofal iechyd yn cael ei gorlethu ar hyn o bryd. Mae'r holl gapasiti gofal dwys wedi ei orlethu, gan gynnwys yr uwchraddio a wnaed drwy adleoli staff, ac mae'n gorfod gwneud rhai o'r dewisiadau a ddisgrifiodd y Prif Weinidog hefyd. Maen nhw'n siarad am drin pobl mewn ysbytai, nid yn y math o sefyllfa y bydden nhw wedi dymuno i'r bobl hynny fod ynddi fel arall, mewn gwely gofal dwys, ond efallai nad yw'r gwelyau hynny ar gael oherwydd eu bod nhw'n llawn; maen nhw'n sôn am bobl y gallai fod angen cymorth anadlu arnyn nhw, ac nid ydyn nhw'n cael hynny, maen nhw'n meddwl am ddewisiadau eraill. Fel y dywedais i sawl gwaith, efallai y byddwn ni'n trin pobl yn eu cartrefi eu hunain pan fyddem ni'n dweud heddiw, yn bendant, 'Fe ddylai'r unigolyn hwn fod mewn ysbyty, mewn gwely gyda lefel benodol o gynnydd yn ei driniaeth feddygol.' Nid dewisiadau dibwys yw'r rhain yr ydym yn ystyried gorfod eu gwneud.
Hyd yn oed os byddwn ni'n defnyddio ein holl gapasiti ni, os byddwn ni'n atal meysydd eraill o weithgarwch, os byddwn ni'n adleoli ein holl staff ni, mae'n bosib o hyd, os na fyddwn ni'n cymryd camau, os na fyddwn ni'n cymryd mesurau effeithiol, y gallem gael ein gorlethu. Mae'n bosib hefyd, o wneud popeth o fewn ein gallu dynol, gyda chyflwr newydd nad oes gennym ni frechlyn ar ei gyfer, nad oes gennym ni driniaeth gwrthfeirws effeithiol ar ei gyfer—mae'n bosib pan edrychwch ar y sefyllfa waethaf posib, y gallai amrywiaeth o'n gwasanaethau ni gael eu gorlethu. Dyna'r her sy'n ein hwynebu ni, felly mae difrifoldeb yr holl ddewisiadau a wnawn yn rhai gwirioneddol. Fel y dywedaf, mai graddfa'r hyn sy'n digwydd yn yr Eidal nawr yn atgyfnerthu hynny, nid dim ond y cynnydd yn nifer y marwolaethau, ond yn nifer y bobl sy'n ddifrifol wael hefyd ar hyn o bryd yn yr Eidal heddiw ac maen nhw'n gorfod gofalu amdanynt.
Felly, fe fyddaf yn fodlon ymdrin â'r holl bwyntiau hynny wrth inni ddod atyn nhw a gorfod gwneud dewisiadau, ynghylch y dewisiadau yr ydym ni'n eu gwneud, ynghylch newid yn y ffordd y mae'r gwasanaeth iechyd yn gweithio, ond hefyd ynghylch y dewisiadau yr ydym yn dweud nad oes angen inni eu gwneud. Unwaith eto, rydym yn gofyn i'r cyhoedd ddilyn y cyngor yr ydym yn ei roi a ddaw o ffynonellau y gellir ymddiried ynddyn nhw, sef y Llywodraeth a'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, a gwneud yn siŵr ein bod ni'n dilyn y cyngor hwnnw ac nid y cyngor arall sy'n dod gan sylwebwyr eraill sy'n dweud eu dweud ar y cyfryngau cymdeithasol a'r newyddion a gaiff eu darlledu. Fe welais i gyfweliad â Rory Stewart—cyn-Weinidog yn y Cabinet—ac roedd ef yn awgrymu y dylai'r Llywodraeth anwybyddu'r cyngor gwyddonol a gweithredu'n gynnar, a hynny cyn yr hyn y mae'r wyddoniaeth yn ei ddweud wrthym ni. Nid dyna'r peth iawn i'w wneud. Roeddwn i'n siomedig iawn oherwydd roedd yn anghyfrifol iawn dweud hyn, ac felly fe fydd y Llywodraeth hon yn gwneud dewisiadau hyd yn oed os ydynt yn ymddangos yn groes i'r graen. Rwy'n mynegi'r sicrwydd eto ein bod ni'n bendant, yn bendant yn gwrando ar y pedwar prif swyddog meddygol ledled y DU ac rydym yn bendant yn edrych ar y cyngor gwyddonol gorau sydd gennym i seilio ein penderfyniadau arno.
Rwy'n credu bod ein meddyliau ni i gyd yn y Siambr hon ac mewn mannau eraill gyda phawb sy'n dioddef ar hyn o bryd oherwydd y feirws hwn a'r rhai sy'n credu y gallen nhw fod ond sy'n aros am ddiagnosis efallai, yn ogystal â theuluoedd y rhai a fu farw eisoes. Rwyf i o'r farn mai hwn yw un o'r bygythiadau mwyaf dychrynllyd inni ei weld i bobl ac i'r gymdeithas, yn sicr yn fy oes i. Ni allaf gofio unrhyw achlysur y bu clefyd fel hwn yn ymledu ar draws y byd ac yn heintio cynifer o bobl ac yn achosi cymaint o ddioddefaint mewn cymdeithasau ledled y byd hwn yn ei gyfanrwydd.
Rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru yn gwrando ar arbenigwyr, ac rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru yn dilyn y cyngor y mae ein gwyddonwyr a'n meddygon yn ei roi i ni. Mae'n gwbl hanfodol ein bod ni, wrth ymateb i'r argyfwng hwn, yn dilyn y cyngor a'r dadansoddiad gwyddonol gorau sydd ar gael ar ein cyfer ni. Rwy'n falch iawn hefyd o weld bod Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda'r llywodraethau eraill ledled y Deyrnas Unedig i sicrhau ein bod ni'n cael y math o ymateb holistaidd sydd ei angen arnom ni. Fe fyddwn i'n dweud fy mod i o'r farn mai Llywodraeth Cymru yw'r unig weinyddiaeth, os hoffech chi, yn y wlad hon a all gydlynu'r holl ymatebion sy'n ofynnol ar draws ein holl wasanaethau cyhoeddus ni ac ar draws yr holl wahanol wasanaethau y bydd eu hangen nhw arnom ni fel gwlad i ddod drwy'r feirws hwn. Rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog—ni wnaeth sôn am hyn yn ei ymateb cychwynnol, ond rwy'n hyderu bod y Gweinidog yn gweithio'n agos gyda'i gydweithiwr sy'n eistedd wrth ei ymyl, y Gweinidog, rwy'n credu, sy'n gyfrifol am argyfyngau sifil, ac efallai y byddai ef yn egluro'r strwythurau y mae Llywodraeth Cymru yn eu rhoi ar waith i sicrhau'r ymateb wrth gefn llawn, sifil y bydd ei angen arnom ni.
Ond rwy'n credu y bydd llawer ohonom yn meddwl am y bobl hynny sy'n gweithio yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a fydd yn dwyn baich y feirws hwn a chanlyniadau hyn i bobl. Mae llawer ohonom wedi bod yn gweld ac yn clywed ac yn darllen am yr effaith y mae hyn yn ei chael ar y gwasanaeth meddygol a'r gwasanaeth iechyd yn yr Eidal a'r effaith y mae'n ei chael ar y bobl sy'n gweithio yn y gwasanaeth iechyd yn yr Eidal sy'n gorfod gwneud penderfyniadau ar fywyd a marwolaeth, sy'n gweithio oriau hir dan bwysau anghyffredin i ymdrin ag effaith y feirws ar bobl. Yn fy mhrofiad i, un o'r argyfyngau sifil anoddaf yr ydym ni wedi ymdrin ag ef ledled y Deyrnas Unedig oedd hwnnw yn Salisbury, a'r gwenwyno a ddigwyddodd yno rai blynyddoedd yn ôl. Un o'r gwersi a ddysgwyd yno oedd yr effaith ddofn a'r dylanwad a gaiff ymateb i'r argyfyngau hyn ar bobl dros gyfnod estynedig o amser. Yn amlwg, roedd y digwyddiad yng Salisbury yn ddigwyddiad unigol, ynysig; mae hyn yn rhywbeth sy'n mynd i ddigwydd ym mhob cymuned yn y wlad hon am gyfnod estynedig o amser.
Rwy'n gobeithio—. Ac efallai y bydd y Gweinidog yn egluro wrthym y math o fesurau y mae'r Llywodraeth yn eu rhoi ar waith i amddiffyn gweithwyr y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a sicrhau y gallwn ni gefnogi pobl sy'n gweithio yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol i wneud yn siŵr eu bod yn cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw, ond i edrych hefyd y tu allan i'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol i wneud yn siŵr bod y gofal ar gael i bobl sy'n agored i niwed, i bobl a allai fod yn byw ar eu pennau eu hunain, i bobl a allai fod yn byw gyda chyflyrau sy'n cyfyngu ar fywyd ar hyn o bryd, ar gyfer sicrhau eu bod nhw'n cael eu cadw'n ddiogel yn eu cartrefi ac yn eu cymunedau, ond cymorth i fusnesau bach hefyd. Mae hyn yn ymestyn y tu hwnt, efallai, i gyfrifoldebau'r Gweinidog hwn, ond mae'n haws i gwmni rhyngwladol wrthsefyll hyn na'r siop gornel, ac mae angen i ni sicrhau bod busnesau bach y wlad hon yn cael eu gwarchod hefyd. Mae hynny'n ein harwain ni at sicrhau bod ein gwasanaethau cyhoeddus yn cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw hefyd. Fe fydd Llywodraeth Leol, ymysg eraill, gydag addysg ac mewn mannau eraill, ar y rheng flaen o ran ymdrin â llawer o effaith y feirws hwn, ac mae angen sicrhau bod ein gwasanaethau cyhoeddus ni'n cael y cymorth a'r cydgysylltu sydd ei angen arnyn nhw hefyd.
Yn olaf, Gweinidog, yn eich datganiad chi, roeddech chi'n amlinellu deddfwriaeth pedair gwlad sy'n mynd i gael ei phasio gan San Steffan i ddarparu'r pwerau i Weinidogion yn y fan hon sydd eu hangen arnoch chi i ymdrin â hyn, ac rwy'n croesawu hynny'n fawr. Ond a wnewch chi ein sicrhau ni y bydd y pwerau y byddwch yn eu cael yn ddarostyngedig i gymalau machlud fel na fydd y pwerau hyn yn aros ar y llyfr statud ar ddiwedd yr argyfwng hwn, fel na fyddwn ni, bron ar hap, yn rhoi pwerau parhaol i'r Llywodraeth i reoli ein bywydau ni wedi i'r argyfwng hwn redeg ei gwrs?
Diolch i chi am y gyfres o gwestiynau. Rwy'n credu y byddaf i'n dechrau gyda rhai o'ch pwyntiau cynnar chi—fe fyddaf yn ceisio eu cymryd nhw yn eu trefn. Nid wyf i'n cytuno â Matt Hancock bob amser, ac yn sicr nid wyf i'n cytuno â Boris Johnson bob amser, ond yn ystod ein galwadau COBRA, fe gafwyd ymgais wirioneddol ddifrifol ac aeddfed i ymdrin â'r materion ac i ddod i gytundeb ynghylch canfod y ffordd orau ymlaen. Yn wir, mae'r Prif Weinidog wedi dweud, ac rwy'n cytuno ag ef yn hyn o beth, mai'r perygl mwyaf yw panig ac ymateb amhriodol ac fe gaiff hynny ei ysgogi'n aml gan alwadau gwleidyddol sy'n groes i wyddoniaeth a thystiolaeth. Felly, mae ein hymateb ni'n seiliedig ar yr wyddoniaeth ac ar y dystiolaeth.
O ran y gwaith yr ydym ni'n ei wneud ar draws y Llywodraeth, rwyf wedi cyfarfod eisoes â Julie James ar ddechrau'r cyfarfodydd COBRA sy'n rheolaidd iawn erbyn hyn. Rydym wedi cael sgwrs, ac rwyf wedi cwrdd â'i swyddog arweiniol hi sy'n cydlynu llawer o'r gwaith argyfyngau sifil. Rydym ni, fel y dywedodd y Prif Weinidog, wedi ffurfio grŵp gweinidogol craidd hefyd—os mynnwch chi, grŵp o Weinidogion COBRA Cymru—ac rydym yn cyfarfod bob wythnos. Fi oedd cadeirydd cyfarfod cyntaf y grŵp hwnnw'r wythnos diwethaf. Rydym yn cyfarfod eto yfory, felly fe fydd sgyrsiau rheolaidd yn digwydd rhwng Gweinidogion fel y caiff Gweinidogion eu hysbysu am wahanol ddewisiadau sy'n cael eu gwneud, ond, yn yr un modd, fel y gall Gweinidogion gydgysylltu dewisiadau o fewn meysydd eu portffolios eu hunain, gan fod pob grŵp o'r rhanddeiliaid sy'n gweithio i bob grŵp o Weinidogion yn cael eu heffeithio gan hyn mewn rhyw ffordd, fel yr ydych chi wedi dweud.
Ac nid y dewisiadau hyn yw'r unig beth yr ydym ni'n ei wneud yno, oherwydd mae eich dewisiadau penodol chi ynghylch busnesau bach, rwy'n credu, yn bwysig iawn. Gan fod yna amrywiaeth o fesurau y gallai Llywodraeth Cymru eu cymryd, ond, mewn gwirionedd, gyda llawer mwy o'r rhain, mae camau y bydd angen i Lywodraeth y DU eu cymryd ar sail y DU gyfan. Rwy'n gobeithio y bydd y gyllideb yfory'n nodi rhai o'r rhain. Dyna pam roedd y Gweinidog cyllid yn Llundain ar ddechrau'r dydd i gael y sgwrs honno. Daeth hynny, unwaith eto, yn sgil cyfarfod blaenorol COBRA, lle cafwyd cytundeb y dylid cynnal y cyfarfod hwnnw gyda Gweinidogion cyllid ym mhob un o'r Llywodraethau cenedlaethol datganoledig.
Yna, fe fydd angen inni weld pa fesurau gaiff eu cymryd yfory, ond wrth i'r achosion o'r feirws ddatblygu bydd angen sicrhau bod y Llywodraeth yn ymateb yn y fan a'r lle ledled y DU hefyd. Yn amlwg, mae Gweinidog yr economi wedi gofyn eisoes i'w swyddogion edrych ar y mesurau y gallem ni eu cymryd yma i gefnogi busnesau bach yn benodol. Fe allai hynny, o bosib, fod o ganlyniad i'r cyngor a roddwn ni ar iechyd y cyhoedd. Os gofynnwn i bobl aros gartref—os gofynnwn ni i fwy o bobl aros gartref—fe allai hynny effeithio naill ai ar weithgarwch cyffredinol y busnesau, ond ar y bobl sy'n mynd allan i weithio eu hunain hefyd. Gyda busnes bach sydd â phump o weithwyr, dyweder—wel, os gofynnir i ddau o'r bobl hynny aros gartref, fe all hynny wneud gwahaniaeth mawr iawn i'r ffordd y caiff y busnes hwnnw ei redeg.
Mae eich pwynt chi ynglŷn ag effaith hyn ar bobl, rwy'n credu, yn bwysig iawn hefyd, oherwydd rydym yn trafod gyda'r Colegau Brenhinol a'r rheoleiddwyr am effeithiau posibl gwneud gwahanol ddewisiadau a gwneud pobl yn atebol i safonau ar y pryd. Ond mae yna effaith ar bobl, os yw pobl yn gweld niferoedd mawr o bobl sâl iawn, yn peidio â gwneud dewisiadau y bydden nhw'n eu gwneud fel arall, ac yn teimlo na allan nhw fod mewn rheolaeth, fel y bydden nhw fel arfer yn disgwyl bod yn y gwaith o ddarparu iechyd a gofal. Mae hynny'n rhywbeth y gwnaethom ni ei ganfod yn y fforwm partneriaeth, yn fforwm partneriaeth y GIG, rhwng y Llywodraeth, y cyflogwyr a'r undebau llafur ddydd Iau yn y gogledd, pan oeddwn i yno.
Unwaith eto, rydym yn ceisio gweithio drwy gyngor cyson, felly ni fyddwn ni'n gweld dull sy'n amrywio'n fawr iawn yn cael ei fabwysiadu gan wahanol sefydliadau'r GIG yma yng Nghymru. Mae yna bwynt ehangach ynglŷn â gwasanaethau cyhoeddus hefyd, oherwydd nid dim ond gweithwyr y GIG fydd yn cael eu hunain mewn sefyllfa anodd iawn, fel yr ydych chi'n ei nodi. Mae hwnnw'n fater a drafodais i gyda chydweithwyr gofal cymdeithasol o lywodraeth leol yn y Cabinet ddoe. Felly, ar draws pob plaid, maen nhw'n cydnabod bod angen iddyn nhw ystyried sut maen nhw'n rhedeg eu gwasanaethau nhw, ac, yn amlwg, fe fydd angen i arweinyddion pob sefydliad llywodraeth leol roi ystyriaeth i hynny hefyd.
Rwy'n falch eich bod chi wedi gwneud y pwynt am ynysu cymdeithasol—os ydym yn gofyn i bobl aros gartref, a'r hyn y mae hynny'n ei olygu, beth bynnag fyddo'r proffil oedran. Rydym yn deall bod ynysu cymdeithasol ac unigrwydd yn her wirioneddol i lawer o bobl. Ond os ydym wedyn yn gofyn i'r bobl hynny beidio â chael y rhyngweithio cymdeithasol hwnnw, yna mae dewis eto gan y Llywodraeth, y gwasanaeth iechyd, ond hefyd llywodraeth leol, ynghylch pa fath o ryngweithio cymdeithasol y gall y bobl hynny ei gael i sicrhau eu bod nhw'n dal i gael cysylltiad â phobl ac nid yn cael eu hanwybyddu. Rydym y gofyn i bobl osgoi'r hyn a fyddai fel arall yn gyswllt cymdeithasol arferol sy'n helpu pobl i gadw'n ddedwydd ac yn iach. Felly, nid yw'n fater syml o ddweud, 'Cymerwch un cam ac fe fydd hynny'n cadw pawb yn ddiogel.'
Y pwynt olaf yr wyf yn ei wneud yw rhoi tawelwch meddwl i chi am y Bil pwerau brys. Mae pob Gweinidog yn ymwybodol o'r ffaith, wrth ofyn i'r deddfwrfeydd ledled y DU ymddiried mewn Gweinidogion sydd â phwerau, y dylid cael rhai camau diogelwch, ac mae hynny'n bendant yn cynnwys cymalau machlud i'r pwerau. Felly, gydag unrhyw ddeddfwriaeth, fe fyddech chi'n disgwyl gweld cymalau machlud ynghylch nid yn unig sut y caiff pwerau eu deddfu ond sut y caiff pwerau eu terfynu wedyn hefyd, oherwydd rwy'n cydnabod y pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud yn llwyr.
Diolch i chi am eich diweddariad diweddaraf, Gweinidog, ac rwy'n croesawu'r camau y mae Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a'n staff GIG rhagorol ni'n eu cymryd i'n hamddiffyn ni rhag lledaeniad firws COV-2 SARS. Fe fydd rhai o'r mesurau, fel y feddalwedd newydd i alluogi pobl i ymgynghori drwy fideo, yn gwella ein gwasanaeth iechyd ni y tu hwnt i'r argyfwng hwn, ac mae'n rhaid inni fanteisio ar y gwasanaeth hwn sydd, yn yr achos hwn, yn disodli'r angen am gyfarfod wyneb yn wyneb ac yn gwbl angenrheidiol ar yr adeg hon.
Ar hyn o bryd, mae'n bwysig pwysleisio i'r cyhoedd fod yn rhaid i bob un ohonom ni geisio bod mor ddigynnwrf ag y bo modd, ac er ei bod yn briodol inni baratoi ar gyfer pob posibilrwydd, nid oes angen i'r cyhoedd newid y ffordd y maen nhw'n mynd o gwmpas eu gweithgareddau o ddydd i ddydd, ar wahân i ochel rhag afiechydon anadlol, gan olchi dwylo'n rheolaidd a pheidio â chyffwrdd eich wyneb â dwylo heb eu golchi. Ond fe ddylai'r canllawiau hyn fod yn arfer cyffredin, ac mae'n rhaid nodi bod y ffliw yn lladd dros 0.5 biliwn o bobl y flwyddyn, felly mae'n bwysig cadw hynny mewn golwg.
Mae'n bwysig hefyd gwirio'r wybodaeth sydd ar gael yn hawdd i'r cyhoedd a sicrhau y caiff ei diweddaru, a sicrhau hefyd y bydd y rhai sydd fwyaf agored i niwed yn y gymdeithas yn gallu cael yr holl wybodaeth hon ac y bydd ein cymunedau anghysbell yn ei chael hi'n haws hefyd, fel y gallan nhw ryngweithio a chael gwybodaeth am y feirws hwn.
Mae chwe unigolyn hyd yn hyn wedi cael eu heintio â SARS COV-2, ac mae hynny'n golygu 0.0001 y cant o boblogaeth Cymru: chwech o bobl allan o 3.2 miliwn. Felly, mae'n galonogol nodi, ledled y DU, mai tua 320 o achosion sydd wedi bod o gyfanswm poblogaeth o 70 miliwn. Mae'n bwysig nodi hefyd ein bod ni'n cadw ein pennau, yn paratoi ond nid yn gorymateb, a'r bygythiad mwyaf gydag unrhyw achos o feirws yw'r panig ymhlith y cyhoedd. Sibrydion yw ein gelyn pennaf ni ar hyn o bryd ac mae'r cyfryngau cymdeithasol yn rhemp gydag achosion ffug a meddyginiaethau ffug, a phopeth o yfed dŵr cannu hyd at sniffian cocên. Mae hyn wedi arwain at brynu ar banig, ac wedi arwain at brinder yn y byrdymor wrth i'r archfarchnadoedd ailstocio, gan ychwanegu ymhellach at y sibrydion.
Felly, Gweinidog, pa drafodaethau a gawsoch chi gyda Llywodraeth y DU a'r cyfryngau cymdeithasol ynghylch y ffordd orau o fynd i'r afael â lledaenu camwybodaeth, a sut i hyrwyddo gwybodaeth o ffynonellau y gellir ymddiried ynddyn nhw megis Iechyd Cyhoeddus Cymru? Hoffwn i ddiolch ichi unwaith eto am y dull gweithredu doeth gan Lywodraeth Cymru wrth baratoi ar gyfer effeithiau achosion o COVID-19.
Mae gen i un neu ddau gwestiwn yn unig am y paratoadau yma yng Nghymru. Gweinidog, y llynedd, fe wnaeth Llywodraeth Cymru baratoadau ar gyfer Brexit 'heb gytundeb' drwy sicrhau lle mewn ystordai a chadw stôr o rai meddyginiaethau. Gweinidog, pa ran, os o gwbl, fydd gan y mesurau hynny wrth baratoi ar gyfer achosion ar raddfa ehangach?
Ac, yn olaf, Gweinidog, fe gafwyd adroddiadau y bydd feirws COV-2 SARS yn effeithio ar y cynhwysion fferyllol a fydd ar gael o India. Mae'r gadwyn gyflenwi hon yn hanfodol i'r fasnach meddyginiaethau generig. Felly pa drafodaethau yr ydych chi wedi'u cael â'r diwydiant fferyllol ynghylch y ffyrdd gorau o liniaru unrhyw fygythiadau a gaiff y feirws hwn ar gyflenwad cynhyrchion fferyllol? Diolch.
Diolch am y sylwadau a'r cwestiynau. Ynglŷn â'ch cwestiynau chi, mae tîm o'r GIG eisoes yn cymryd—. Fe gafwyd cyhoeddiad—efallai eich bod chi wedi gweld cyhoeddusrwydd ynglŷn â hyn ddoe—o ran rhai o'r pwyntiau am chwilotwyr a pha dermau a ddaw ar frig y canlyniadau a'r chwiliadau hynny i sicrhau eu bod nhw'n tarddu o ffynonellau y gellir ymddiried ynddyn nhw, ond hefyd o ran ceisio gwrthbrofi ar y cyfryngau cymdeithasol rai o'r theorïau cynllwyn mwy cynhyrfus ond yr amrywiaeth o wybodaeth a chamwybodaeth sydd ar gael i'r cyhoedd, ac mae honno'n broblem wirioneddol i ni.
Fe fydd ein paratoadau 'heb gytundeb' ni'n ein rhoi ni mewn sefyllfa gymharol dda, o ran rhanddeiliaid sydd ag ystod o fesurau ganddyn nhw i ymdrin ag ymyriadau yn eu cyflenwad nhw, ond hefyd y stôr yr oeddech chi'n sôn amdani. Fe wnaethom ni brynu hynny mewn gwirionedd, ac felly mae gennym ni rywfaint o gydnerthedd ychwanegol. Ond mae'r her yn dod, fel yr oeddech chi'n dweud yn eich cwestiwn chi, o ran meddyginiaeth generig. Mae angen inni fod yn agored am yr hyn y gallwn ni ei wneud, ond hefyd, os oes camau na allwn ni eu cymryd, mae angen inni fod yn glir hefyd na allwn ni gymryd y camau hynny. Felly, rydym ni'n ceisio gwybodaeth gan y diwydiant fferyllol ei hun, sy'n cynhyrchu ac yn mewnforio'r meddyginiaethau hynny, er mwyn deall a oes unrhyw risgiau i'w cyflenwad ac a oes unrhyw ddewisiadau eraill neu beidio.
Ac rwy'n credu mai'r pwynt olaf y byddwn i'n ei wneud yw, gyda'r ffliw lefel isel sy'n mynd o amgylch yma, gyda'r lefel isel o bobl sydd â'r coronafeirws yng Nghymru heddiw, rydym ni'n disgwyl y bydd mwy o bobl yn cael diagnosis o'r coronafeirws yn ystod y dyddiau nesaf. Felly, ni ddylid cymryd y nifer cymharol isel o achosion heddiw fel arwydd bod dim gennym i boeni amdano ac nad oes angen gwneud unrhyw beth yn ei gylch. Mae hwn yn bryder gwirioneddol. Mae trosglwyddo cymunedol eisoes yn digwydd mewn rhai rhannau o Loegr; fe fydd hynny'n digwydd mewn rhannau eraill o'r wlad.
Felly, mae'n rhaid inni ddeall yn glir y bydd gennym fwy o achosion o'r coronafeirws yng Nghymru; fe fydd pobl yn mynd yn sâl. Yr hyn na allwn ei ragweld yn union yw nifer y bobl hynny a'r effaith ar ein gwasanaethau ni. Nid yw hwn yn dymor ffliw ysgafn arall sy'n digwydd y tu allan i'r gaeaf. Nid oes gennym frechlyn ar gyfer y coronafeirws, COVID-19; nid oes gennym driniaeth wrthfeirysol effeithiol iddo. Felly, os aiff hwn ar gerdded yn eang, fe fydd yn cael effaith wirioneddol ar iechyd llawer iawn o bobl sydd eisoes yn agored i niwed. Dyna pam yr ydym ni'n rhoi ystyriaeth mor ddifrifol i hyn; dyna pam rydym ni'n cymryd camau eithriadol; dyna pam y mae cymaint o gydweithredu rhwng pedair Llywodraeth a fyddai, fel arall, â digon o bethau i anghytuno arnynt ar frig eu hagendâu.
Diolch yn fawr, Gweinidog.
Eitem 6: Rheoliadau Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 a Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Diwygiadau Amrywiol) 2020, ac eitem 7: Rheoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (Pennu Gweithwyr Gofal Cymdeithasol) (Cofrestru) (Diwygio) 2020. Cynigiaf, oni bai bod unrhyw Aelod yn gwrthwynebu, yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, fod y ddau gynnig a ganlyn wedi'u grwpio ar gyfer dadl.
Felly, galwaf ar y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gynnig y cynigion—Julie Morgan.
Cynnig NDM7292 Rebecca Evans
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 a Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Diwygiadau Amrywiol) 2020 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Chwefror 2020.
Cynnig NDM7293 Rebecca Evans
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (Pennu Gweithwyr Gofal Cymdeithasol) (Cofrestru) (Diwygio) 2020 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Chwefror 2020.
Cynigiwyd y cynigion.

Diolch, Dirprwy Lywydd, a rhoddaf y cynigion gerbron. Mae'r ddau offeryn statudol sydd ger eich bron heddiw yn diwygio Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, ac mae nifer o reoliadau yn deillio o'r Ddeddf honno. Y bwriad yw bod y rheoliadau diwygiedig hyn yn dod i rym ar 1 Ebrill. Mae'r ddwy set o reoliadau'n gam pwysig tuag at wireddu ein nod o broffesiynoli'r gweithlu gofal cymdeithasol, parhau i wella ansawdd gofal, a sicrhau bod gweithwyr yn cael y cymorth a'r gydnabyddiaeth y maen nhw yn eu haeddu.
Mae'r rheoliadau gwelliannau amrywiol yn cyflawni sawl newid allweddol. Yn gyntaf, maen nhw'n diwygio'r rheoliadau ynghylch cofrestru gwasanaethau sy'n galluogi'r rheoleiddiwr gwasanaeth, Arolygiaeth Gofal Cymru, i ofyn am wybodaeth ychwanegol gan unigolion sy'n ffurfio corff llywodraethu sefydliad sy'n cofrestru i fod yn ddarparwr gwasanaeth. Mae hyn yn cynnwys, er enghraifft, yr unigolion ar fwrdd y cyfarwyddwyr neu'r ymddiriedolwyr. Yna gall y rheoleiddiwr gwasanaeth ystyried yr wybodaeth hon wrth asesu addasrwydd y darparwr gwasanaeth.
Yn ail, mae'r rheoliadau hefyd yn darparu eglurder ychwanegol ynglŷn â'r hysbysiadau y mae'n rhaid i ddarparwyr eu gwneud i reoleiddiwr y gwasanaeth. Maen nhw'n ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr roi hysbysiad pan fydd unrhyw newid yn cael ei wneud i benderfynwyr allweddol y sefydliad, waeth beth fo'i endid cyfreithiol.
Yn drydydd, maen nhw hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau cymorth cartref, cartrefi gofal i blant, a gwasanaethau llety diogel gyflogi yr unigolion hynny yn unig sydd wedi'u cofrestru gyda'r rheoleiddiwr gweithlu, Gofal Cymdeithasol Cymru, o fewn chwe mis i ddechrau cyflogaeth. Bydd hyn yn berthnasol hefyd i unrhyw un sydd dan gontract â'r darparwyr gwasanaeth hyn, gan gynnwys gweithwyr asiantaeth.
Mae'r rheoliadau cofrestru gweithwyr gofal cymdeithasol yn galluogi Gofal Cymdeithasol Cymru i agor y gofrestr i unigolion sy'n gweithio mewn cartrefi gofal sy'n gyfan gwbl neu'n bennaf ar gyfer oedolion, ac mewn gwasanaethau canolfannau preswyl i deuluoedd, a all ymuno â'r gofrestr yn wirfoddol o Ebrill 2020. Mae hyn yn rhoi cyfnod arweiniol o ddwy flynedd i'r gweithwyr hyn, lle gall y rheoleiddiwr gweithlu, gweithwyr gofal a'u cyflogwyr weithio gyda'i gilydd i baratoi ar gyfer cofrestru gorfodol, yr ydym yn bwriadu ei gyflwyno yn 2022.
Mae cofrestru'n cydnabod cyfrifoldeb proffesiynol gweithwyr gofal sy'n darparu gofal a chymorth cwbl hanfodol i bobl ag anghenion cynyddol gymhleth. Bydd yn helpu i sicrhau bod gweithwyr yn meddu ar y cymwysterau a'r hyfforddiant priodol ar gyfer y gwaith a wnânt. Bydd yn rhoi mynediad i'r gweithwyr hynny at gymorth ac adnoddau ychwanegol gan Gofal Cymdeithasol Cymru. Mae cofrestru hefyd yn darparu mesurau diogelu ychwanegol i'r cyhoedd, felly os bydd damwain yn digwydd, gall y rheoleiddiwr gweithlu ddal gweithwyr i gyfrif. Diolch.
Diolch. Nid oes gennyf unrhyw siaradwyr. Rhaid inni gymryd y pleidleisiau ar wahân. Felly, y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 6? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Diolch. Felly, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36, derbynnir y cynnig.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Ac, unwaith eto, yn yr un modd, y cynnig yw cytuno ar y cynnig o dan eitem 7. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, unwaith eto, mae'r cynnig o dan eitem 7 wedi'i dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Symudwn ymlaen yn awr at eitem 8, sef dadl ar setliad yr heddlu ar gyfer 2020-21, a galwaf ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i gynnig y cynnig—Julie James.
Cynnig NDM7291 Rebecca Evans
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn cymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 2) 2020-21 (Setliad Terfynol—Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu). Gosodwyd copi o'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Ionawr 2020.
Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Heddiw, rwy'n cyflwyno i'r Senedd ar gyfer ei chymeradwyaeth fanylion cyfraniad Llywodraeth Cymru at y cyllid refeniw craidd ar gyfer y pedwar comisiynydd heddlu a throseddu yng Nghymru ar gyfer 2020-21.
Cyn i mi wneud hynny, Llywydd, yn enwedig o ystyried y digwyddiadau diweddar, hoffwn ddiolch ar goedd i holl wasanaethau brys Cymru am eu dycnwch a'u dewrder, ac rwy'n siŵr bod y Siambr hon a holl drigolion Cymru yn ategu'r sylwadau hyn. Mae'r rhai sy'n gwasanaethu yn ein heddluoedd ledled Cymru nid yn unig yn cadw ein cymunedau'n ddiogel, maen nhw'n cynnal y safonau uchaf o ran dyletswydd, ymroddiad ac, ar brydiau, dewrder. Dangoswyd hyn yn fwyaf diweddar pan oeddent yn gweithio gydag eraill i ddiogelu ac achub rhai o'n cymunedau o'r stormydd diweddar. Rwy'n cydnabod pwysigrwydd heddluoedd Cymru a'u swyddogaeth hanfodol yn gwarchod a gwasanaethu ein cymunedau yma. Mae gwasanaeth yr heddlu yng Nghymru yn enghraifft gadarnhaol o'r modd y gall gwasanaethau sydd wedi'u datganoli a heb eu datganoli gydweithio'n effeithiol â'i gilydd.
Bydd yr Aelodau'n ymwybodol y caiff yr arian craidd ar gyfer yr heddlu yng Nghymru ei ddarparu drwy drefniant tair ffordd sy'n cynnwys y Swyddfa Gartref, Llywodraeth Cymru a'r dreth gyngor. Gan nad yw polisïau plismona a materion gweithredol wedi eu datganoli, y Swyddfa Gartref sy'n pennu ac yn llywio'r darlun ariannu cyffredinol. Bu'r dull sefydledig o bennu a dosbarthu cydran Llywodraeth Cymru, felly, yn seiliedig ar egwyddor o sicrhau cysondeb a thegwch ledled Cymru a Lloegr.
Hoffwn ddiolch hefyd i'r comisiynwyr am eu hamynedd eleni. Oherwydd yr anhrefn a'r ansicrwydd o du San Steffan sydd, yn anffodus, yn beth rheolaidd erbyn hyn, ni chafodd y comisiynwyr setliad dros dro ar gyfer yr heddlu eleni. Gydag oedi ar ôl oedi o ran cyllideb y DU, oherwydd yr etholiad cyffredinol, ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, a Changhellor newydd nawr i ychwanegu at yr ansicrwydd parhaus, bu'n rhaid i'r comisiynwyr roi gwybod i'w panelau heddlu a throseddu am y newid arfaethedig mewn praesept llai na phythefnos ar ôl cael gwybod am eu dyraniadau cyllid. Hyd yn hyn, nid yw Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ei chyllideb ar gyfer 2020-21, gan arwain at ansicrwydd parhaus i'n gwasanaethau cyhoeddus, ein busnesau ac unigolion.
Fel yr amlinellwyd yng nghyhoeddiad terfynol setliad yr heddlu ar 22 Ionawr, mae cyfanswm y cymorth refeniw heb ei neilltuo ar gyfer y gwasanaeth heddlu yng Nghymru ar gyfer 2020-21 yn cyfateb i £384 miliwn. Mae cyfraniad Llywodraeth Cymru i'r swm hwn, drwy grant cynnal refeniw ac ardrethi annomestig wedi'u hailddosbarthu, yn £143.4 miliwn—a'r arian hwn y gofynnir i chi ei gymeradwyo heddiw.
Fel mewn blynyddoedd blaenorol, mae'r Swyddfa Gartref wedi penderfynu cael system waelodol ar gyfer y fformiwla sy'n seiliedig ar anghenion. Mae hyn yn golygu, ar gyfer 2020-21, y caiff comisiynwyr heddlu a throseddu ledled Cymru a Lloegr i gyd gynnydd o 7.5 y cant mewn cyllid o'i gymharu â 2019-20. Bydd y Swyddfa Gartref yn darparu grant ychwanegol gwerth £14.4 miliwn i sicrhau bod Heddlu Dyfed-Powys a Heddlu Gogledd Cymru yn cyrraedd y lefel gwaelodol.
Mae'r Swyddfa Gartref yn dweud bod y setliad hwn yn cynnwys yr arian i recriwtio 6,000 o heddweision ychwanegol i'w rannu ymysg y 43 o heddluoedd yng Nghymru a Lloegr. Mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol o gryfhau'r economi a chreu cyfleoedd cyflogaeth ledled y wlad. Rwy'n croesawu'r cyfle i bobl ledled Cymru ystyried gyrfa yn yr heddluoedd. Mae Prif Weinidog y DU wedi ymrwymo i darged o 20,000 o swyddogion newydd dros y tair blynedd nesaf. Fodd bynnag, er mwyn i hyn ddigwydd, pwysaf ar Lywodraeth y DU i addo darparu'r cyllid cysylltiedig i'n comisiynwyr heddlu a throseddu ar gyfer y dyfodol.
Fel yn 2019-20, bydd y Swyddfa Gartref yn parhau i ddarparu grant penodol i gomisiynwyr yr heddlu a throseddu yn 2020-21 i ariannu'r pwysau ychwanegol o ganlyniad i newidiadau gan Lywodraeth y DU i'r cyfraddau cyfraniadau pensiwn. Mae'r Swyddfa Gartref wedi cadw gwerth y grant ar £143 miliwn yn 2020-21, gyda £7.3 miliwn o'r arian hwn yn cael ei ddyrannu i gomisiynwyr yng Nghymru. Mae gan gomisiynwyr yr heddlu a throseddu y gallu hefyd i godi arian ychwanegol drwy eu praesept treth gyngor. Mae Llywodraeth y DU wedi gosod y terfyn praesept uchaf ar gyfer comisiynwyr yn Lloegr i £10 yn 2020-21, gan amcangyfrif y bydd hyn yn codi £250 miliwn yn ychwanegol. Yn wahanol i'r terfynau sy'n berthnasol yn Lloegr, mae gan gomisiynwyr heddlu a throseddu Cymru y rhyddid i wneud eu penderfyniadau eu hunain ynghylch cynnydd yn y dreth gyngor. Mae pennu'r praesept yn rhan allweddol o swyddogaeth y comisiynydd heddlu a throseddu, sy'n dangos atebolrwydd i'r etholwyr lleol.
Rydym yn sylweddoli bod angen gwneud penderfyniadau anodd wrth ddatblygu cynlluniau ar gyfer y blynyddoedd i ddod gyda chyllideb un flwyddyn yn unig. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithio gyda'r comisiynwyr a'r prif gwnstabliaid i sicrhau y caiff heriau ariannu eu rheoli mewn ffyrdd sy'n lleihau'r effaith ar ddiogelwch cymunedol yng Nghymru. Yn rhan o hyn, mae Llywodraeth Cymru yn ei chyllideb ar gyfer 2020-21 wedi parhau i ariannu'r 500 o swyddogion cymorth cymunedol a recriwtiwyd o dan raglen flaenorol ymrwymiad y llywodraeth. Mae Llywodraeth Cymru wedi neilltuo'r un maint o gyllid ar gyfer cyflawni'r ymrwymiad hwn ag a wnaeth yn 2019-20, gydag £16.8 miliwn wedi ei gytuno yn y gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf. Un o'r prif gymhellion sy'n sail i'r prosiect hwn oedd gwneud yr heddlu'n fwy gweladwy ar ein strydoedd ar adeg pan fo Llywodraeth y DU yn cwtogi ar gyllid yr heddlu. Bu'r cyflenwad llawn o swyddogion ar waith ers mis Hydref 2013, ac maen nhw'n gwneud cyfraniad cadarnhaol i ddiogelwch y cyhoedd ledled Cymru. Byddant yn parhau i weithio gyda chymunedau lleol a phartneriaid i wella canlyniadau i'r rheini y mae troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn effeithio arnynt.
I ddychwelyd at ddiben dadl heddiw, y cynnig yw cytuno ar yr adroddiad cyllid llywodraeth leol ar gyfer comisiynwyr yr heddlu a throseddu sydd wedi'i gyflwyno gerbron y Cynulliad. Os caiff ei gymeradwyo, bydd hyn yn caniatáu i'r comisiynwyr gadarnhau eu cyllidebau ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Gofynnaf felly i Aelodau'r Cynulliad gefnogi'r cynnig hwn heddiw. Diolch.
Yn 2010 roedd datganiad cyllideb y DU, a luniwyd gan y Blaid Lafur, yn lleihau'r rhagolwg twf, yn lleihau benthyca, ac yn dweud fod graddfa'r diffyg yn golygu nad oedd gan y DU ddigon o arian. O ganlyniad, cyhoeddodd hefyd £545 miliwn o doriadau i'r heddlu i'w gwneud erbyn 2014. Ers 2015, mae Llywodraeth y DU wedi cynyddu ei chyfraniad at gyllid cyffredinol yr heddlu yn unol â chwyddiant, gan gynnwys meysydd penodol fel seiber-droseddu, gwrthderfysgaeth, a mynd i'r afael â chamfanteisio'n rhywiol ar blant. Mae Llywodraeth y DU bellach wedi cyhoeddi cynnydd o £1.12 biliwn yn 2020-21, gan fynd â chyfanswm y setliad ar gyfer plismona i £15.2 biliwn. Mae hyn yn cynnwys £700 miliwn ar gyfer 6,000 o swyddogion ychwanegol erbyn diwedd mis Mawrth 2021. Fel y dywedodd y Gweinidog, nod Llywodraeth y DU yw recriwtio 20,000 o swyddogion newydd ledled y DU.
Mae'r rhan fwyaf o'r cyllid ar gyfer comisiynwyr yr heddlu a throseddu yn dod yn uniongyrchol o grantiau'r Llywodraeth ganolog, fel y clywsom ni—o Lundain a Chaerdydd—ac mae tua thraean yn dod o braesept treth gyngor yr heddlu, sy'n cynyddu 6.82 y cant eleni, £273 y flwyddyn, yng Ngwent; 5.9 y cant, £273 y flwyddyn, yn ne Cymru; 4.83 y cant, £261 y flwyddyn, yn Nyfed-Powys; a 4.5 y cant, £291 y flwyddyn, yng ngogledd Cymru. Er i Ffederasiwn Heddlu De Cymru ddatgan yn 2016 fod y bwlch praesept treth gyngor gyda'r heddluoedd eraill yng Nghymru wedi'i gau erbyn hyn, mae'n amlwg, er mai yn y gogledd y mae'r cynnydd canrannol isaf, fod talwyr y dreth gyngor yno yn dal i dalu mwy na rhanbarthau Cymru sy'n wynebu'r cynnydd canrannol mwyaf.
Yn dilyn gostyngiad hirdymor, mae lefelau troseddu wedi aros yn gymharol sefydlog yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Er na fu unrhyw newid yn lefelau cyffredinol troseddu yn y flwyddyn ddiweddaraf, mae hyn yn cuddio'r amrywiadau a welir mewn mathau unigol o droseddau. Ac eithrio twyll, mae'r ffigurau diweddaraf o arolwg troseddu Cymru a Lloegr yn dangos nad oedd unrhyw newid yn y prif fathau o droseddau. Fel y dywedodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol:
Er bod nifer y troseddau sy'n ymwneud â chyllell wedi parhau i gynyddu, ceir darlun cymysg rhwng y gwahanol heddluoedd ac mae lefelau trais cyffredinol yn parhau'n gyson.
Bydd y cynnydd yn y gyllideb yn y gogledd yn ariannu 10 yn rhagor o swyddogion ar gyfer yr uned troseddau mawr, 20 o heddweision cynorthwyol newydd, 16 o swyddogion ymateb ychwanegol, a phump yn rhagor o swyddogion cymorth cymunedol, gan gynnwys tri ar gyfer y tîm troseddau gwledig. Y penwythnos hwn, ymunodd yr Ysgrifennydd Cartref ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru â Heddlu Gogledd Cymru i weld sut maen nhw'n mynd i'r afael â phroblem llinellau cyffuriau yn y rhanbarth. Yn ogystal â chyhoeddi eu cynlluniau i recriwtio swyddogion heddlu newydd, cadarnhaodd y Swyddfa Gartref hefyd y byddant yn darparu bron i £150,000 i Heddlu Gogledd Cymru ei fuddsoddi mewn 167 o ddyfeisiau taser newydd, rhan o £576,000 ar draws pedwar heddlu Cymru. Daw hyn yn rhan o gynnydd ledled y DU a fydd yn gweld £6.5 miliwn wedi'i rannu rhwng 41 o heddluoedd. Wrth siarad yn y gogledd, dywedodd yr Ysgrifennydd Cartref:
Rwyf wedi ymrwymo i roi i heddluoedd ledled Cymru y grymoedd, yr adnoddau a'r offer sydd eu hangen arnynt i'w cadw eu hunain a'r cyhoedd yn ddiogel.
Dywedodd hefyd ei bod yn ymgynghori ar gyfamod heddlu Llywodraeth y DU, y galwyd amdano gan ffederasiwn yr heddlu, gan gydnabod gwasanaeth ac aberth swyddogion yr heddlu, ac a fyddai'n ymgorffori eu hawliau yn y gyfraith. Tynnwyd sylw at bethau eraill a wnaeth y Swyddfa Gartref yn ddiweddar, gan gynnwys ehangu pwerau stopio a chwilio, a chynlluniau i gynyddu'r ddedfryd uchaf ar gyfer ymosod ar weithwyr gwasanaethau brys.
Ym mis Ionawr, ymwelais â Titan, Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol y Gogledd-orllewin, i gael cyflwyniad defnyddiol ar eu swyddogaeth a'u gallu i atal a diogelu, gan ymdrin â materion fel troseddu difrifol a threfnedig, rheoli cyffuriau, llinellau cyffuriau, troseddau economaidd a seiber-droseddu. Sefydlwyd Titan yn 2009 fel cydweithrediad rhwng y chwe heddlu yng Ngogledd Cymru, Swydd Gaer, Glannau Mersi, Manceinion fwyaf, Swydd Gaerhirfryn a Cumbria, i fynd i'r afael â throseddau cyfundrefnol difrifol sy'n croesi ffiniau siroedd yn y rhanbarth. Dywedwyd wrthyf fod tua 95 y cant neu fwy o droseddu yng ngogledd Cymru yn gweithredu ar sail drawsffiniol, o'r dwyrain i'r gorllewin, a bron dim ar sail Cymru gyfan, a chadarnhaodd cynrychiolydd Heddlu Gogledd Cymru a oedd yn bresennol hefyd fod eu holl waith cynllunio ar gyfer argyfwng yng ngogledd Cymru yn cael ei wneud gyda'u partneriaid yng ngogledd-orllewin Lloegr, ac nad ydyn nhw'n cydweithio'n sylweddol gyda heddluoedd eraill yng Nghymru.
Mae Llafur a Phlaid Cymru, wrth gwrs, yn cynnig datganoli cyfiawnder a phlismona a'u rheoli o Gaerdydd, tra byddai Llywodraeth Geidwadol yng Nghymru yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i ddarparu gwasanaethau plismona a rheoli troseddwyr yng Nghymru sy'n adlewyrchu ein cyfrifoldebau datganoledig. Byddem yn cefnogi'r mwyafrif distaw, diwyd sy'n ufudd i'r gyfraith; peidio â rhoi pleidlais i garcharorion a garcharwyd am droseddau rhywiol a hiliol, fel y mae Llafur a Phlaid Cymru yn ei gynnig. Diolch yn fawr.
Mae'n ymddangos bod Llywodraeth Prydain wedi cydnabod y niwed y maent wedi'i wneud gyda 10 mlynedd o doriadau i blismona. Fodd bynnag, ni fydd un flwyddyn, neu hyd yn oed ddau gynnydd yn y gyllideb, yn ddigon o bell ffordd i wrthdroi'r niwed a wnaed. Felly, mae'n rhaid mai'r cynnydd hwn mewn cyllid yw'r cam cyntaf i fynd i'r afael â'r diffyg cyllid dybryd sy'n dal i fodoli. I fynd i'r afael â'r problemau cronig y mae heddluoedd Cymru'n eu hwynebu, mae'n rhaid diwygio'r fformiwla ariannu, yn ein barn ni.
Mae'r fformiwla bresennol yn gwahaniaethu yn erbyn talwyr y dreth gyngor yng Nghymru. Nid yw'r fformiwla'n addasu i anghenion trefol a gwledig, ac nid yw'r potensial ar gyfer recriwtio o'r ardoll prentisiaethau yn cael ei ddefnyddio. Nid yw'r cynlluniau i ariannu 20,000 o heddweision yn talu am yr hyn a gollwyd ers 2010. Felly, mae Plaid Cymru eisiau gweld fformiwla ariannu ar gyfer heddluoedd Cymru sy'n seiliedig ar boblogaeth ac angen, yn hytrach na fformiwla wallus Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Mae gan Lywodraeth Cymru ran i'w chwarae hefyd i sicrhau yr ymdrinnir â'r cyllid i fynd i'r afael ag achosion sylfaenol troseddu. Mae gwasanaethau ieuenctid yng Nghymru wedi cael gostyngiad o 38 y cant yn eu cyllid, sy'n golygu colled o £19 miliwn ers 2010, sy'n anochel yn gwneud gwaith swyddogion yr heddlu yn llawer anoddach. Byddai cyllid priodol a digonol ar gyfer gwasanaethau eraill, megis, er enghraifft, cymorth iechyd meddwl, hefyd yn ddefnyddiol iawn i'r heddlu.
Er gwaethaf yr amrywiol gyfyngiadau, mae comisiynwyr heddlu a throseddu Plaid Cymru wedi lansio cronfa ymyrraeth gynnar tair blynedd gwerth £800,000 i fynd i'r afael â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, fel rhan o ymgais i fynd i'r afael ag achosion sylfaenol troseddu. Mae Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr wedi defnyddio Gogledd Cymru fel astudiaeth achos ar gyfer mynd i'r afael â throseddau gwledig. Mae Heddlu Dyfed Powys wedi creu cynlluniau fel Gwarchod Ffermydd i ddarparu cyngor ar atal troseddau, ac maent wedi lansio Checkpoint Cymru, sy'n dargyfeirio'r rhai a gyflawnodd droseddau bychain o'r system cyfiawnder troseddol. Gellir defnyddio'r egwyddorion hyn mewn mannau eraill. Dychmygwch yr hyn y gallai'r comisiynwyr heddlu a throseddu hynny ei wneud gyda chyllid sicr nad yw'n gysylltiedig ag agenda San Steffan. Diolch
Diolch, Dirprwy Lywydd. Pan oedd Mark Isherwood yn gwneud ei araith, roedd yn fy atgoffa ychydig o rai o'r adroddiadau economaidd Sofietaidd y caech chi ar un adeg—roedd y cynllun pum mlynedd diwethaf yn wirioneddol wych, ond nid cystal â'r cynllun pum mlynedd nesaf. Mae arnaf ofn bod perygl gwirioneddol pan ydych chi'n dechrau bod mor ddetholus o ran y ffigurau a ddefnyddiwch chi mewn gwirionedd. Ac rwy'n credu bod angen inni edrych ar y sefyllfa yr ydym ni ynddi. Pan drafodasom hyn y tro diwethaf, y sefyllfa oedd cynnydd o 18 y cant mewn troseddu treisgar, cynnydd o 14 y cant mewn troseddau cyllyll yn y de, cynnydd o 25 y cant yng Nghymru, 84,000 o droseddau heb eu datrys, ac, ers 2010, mae gennym ni bellach—wel, wedyn roedd gennym ni 682 yn llai o heddweision. Nawr, mae'r ffigurau hynny'n mynd law yn llaw. Beth yw'r sefyllfa nawr? Y sefyllfa nawr yw bod gennym ni tua 762 yn llai o heddweision nag a oedd gennym ni yn 2010. Mae troseddau a throseddau treisgar difrifol yn cynyddu. Rydym ni wedi dod yn ddibynnol iawn ar y 500 o swyddogion heddlu a chymorth cymunedol ychwanegol y mae Llywodraeth Cymru yn eu hariannu o'n cronfeydd ni ein hunain—nid arian a ddylai gael ei ddyrannu gan Lywodraeth y DU ar gyfer hynny. Ac yn wir, pan edrychwn ni ar y ffigurau o ran swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu ledled y DU, rydym ni wedi colli tua 6,680 o heddweision a swyddogion cymorth cymunedol ledled y DU, gydag, yn amlwg, yr effaith ganlyniadol yng Nghymru, a dyna pam mae'r cyllid o Gymru yn hyn o beth mor gwbl bwysig.
Ac mae Leanne yn hollol iawn i godi mater y meysydd ariannu hynny ar gyfer y gwaith y mae'r heddlu yn ei wneud nad yw'n ymwneud â dal troseddwyr yn unig, ond yn ymwneud â chymdeithas, boed yn iechyd meddwl, yn gyllid yn ymwneud â maes cyffuriau ac alcohol, yn adsefydlu, ac ati—y pethau hynny sy'n bartneriaeth, sy'n effeithio ar blismona ac sy'n cael effaith ar sefydlogrwydd cymdeithasol ein cymdeithas a lles ein cymunedau. A'r gwir amdani yw, gyda'r ffaith ein bod yn cael cynnydd cymedrol mewn termau real eleni, ni allwn osgoi'r ffaith, mewn gwirionedd, dros y pum mlynedd nesaf, mewn gwirionedd mae angen—os ydym yn mynd i ddad-wneud toriadau'r Torïaid ers 2010—i recriwtio 53,000 o heddweision, pan ydych yn ystyried yr ymddeoliadau. Nawr, mae hyn yr un fath—. Mae Mark yn euog o'r un cam-ystumio ffigurau a wnaed pan oeddem yn trafod niferoedd nyrsys, ac ati blaen—pan ydych chi'n ystyried recriwtio, a'r angen am recriwtio parhaus, mae'r darlun a gyflwynir yn wahanol iawn.
Nawr, i unrhyw un sy'n siarad â Ffederasiwn yr Heddlu, â swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu ac â chomisiynwyr yr heddlu a throseddu, daw sawl pwynt pwysig iawn i'r amlwg, ac un ohonyn nhw yw, hyd yn oed gyda recriwtio'r niferoedd hynny ar gyfer yr heddlu—pe baem yn gallu cyflawni hynny—yr hyn yr ydym ni wedi'i golli, a fydd yn cymryd degawd i'w hadfer, yw'r sgiliau a'r ansawdd plismona a gyflawnwyd. Oherwydd y buom yn colli rhai o'r swyddogion heddlu mwyaf cymwys a phrofiadol. A'r pwynt arall a wnânt yw nid yn unig y bydd hi'n cymryd amser hir i unioni'r niwed a wnaeth y Torïaid i blismona, ond ar hyn o bryd, nad oes llawer wedi newid. A dyna'r gorau y gallwch chi ei ddweud am record y Torïaid ar blismona—nad oes llawer wedi newid, mae'r difrod a wnaethant ers 2010 yn dal i fodoli, a bydd yn cymryd degawdau i wella. Mae'r setliad cymedrol sydd gennym yn ddim ond dechrau bach iawn, iawn, sy'n crafu'r wyneb.
Hoffwn ddechrau drwy adleisio diolch y Gweinidog i swyddogion heddlu ledled y wlad am y gwaith y maent yn ei wneud i'n cadw'n ddiogel yn ein cymunedau. Maen nhw wedi bod o dan bwysau enfawr dros yr ychydig wythnosau a misoedd diwethaf, ac rwy'n credu yr hoffai pob un ohonom ni ymuno â'n gilydd a chydnabod sut maen nhw wedi ymateb i'r pwysau hynny. Ac maen nhw wedi gwneud hynny ar ôl dioddef toriadau o flwyddyn i flwyddyn dros y ddegawd ddiwethaf. Nid yw cyni wedi bod yn garedig i'n heddluoedd. A dweud y gwir, mae Llywodraeth y DU—y Swyddfa Gartref—yn gwario llai mewn termau arian parod eleni nag yr oeddent yn ei wario ddegawd yn ôl. Ac er ein bod yn clywed gan y Torïaid eu bod eisiau rhoi mwy o adnoddau i'r heddlu, yr hyn y byddwn i'n ei ddweud wrthyn nhw yw, 'Pam nad ydych chi'n dechrau lle dechreuoch chi nôl yn 2010, pan ddechreuoch chi ymosod ar yr heddlu?' Ac mae angen i ni sicrhau bod gennym ni yr adnoddau i sicrhau bod ein heddlu yn gallu ein cadw ni'n ddiogel.
Ond nid yn unig y mae'r Torïaid wedi torri'n ôl ar gyfanswm y gwariant sydd ar gael i'r heddlu, maen nhw hefyd wedi trosglwyddo cyllid oddi wrth yr heddlu. Dywedodd Mark Isherwood fod traean y cyllid yn dod o'r dreth gyngor. Yn wir, yn 2010-11, doi 33 y cant—roedd yn gywir, doi 33 y cant—o'r arian o'r dreth gyngor. Heddiw, mae'r ffigur hwnnw'n 47 y cant—mae bron yn cael hanner ei arian drwy'r dreth gyngor. Ac mae cyllid y Swyddfa Gartref, a oedd yn 40 y cant yn 2010-11, yn 32 y cant heddiw. Felly, mae'r cyfrifoldeb am ariannu'r heddlu wedi cael ei drosglwyddo mewn gwirionedd o'r Swyddfa Gartref, o Lywodraeth y Deyrnas Unedig i Gymru, i Lywodraeth Cymru ac i dalwyr y dreth gyngor. Caiff y mwyafrif helaeth o gyllid yr heddlu heddiw ei godi yma yng Nghymru. Mae bron i 70 y cant o holl gyllid yr heddlu yng Nghymru heddiw yn dod o ffynonellau yng Nghymru, ac mae hynny'n golygu bod arnom ni angen y strwythurau sydd ar gael inni, nid dim ond y cyllidebau, ond y strwythurau hefyd.
Mae pobl Blaenau Gwent yn poeni am yr hyn y maen nhw'n ei weld yn rhy aml: ymddygiad gwrthgymdeithasol, p'un a yw'n daflu cerrig at fysiau neu ddefnyddio cyffuriau ar y strydoedd. Maen nhw eisiau teimlo'n ddiogel yn eu cartrefi ac yn ddiogel ar ein strydoedd. Ond maen nhw hefyd yn cydnabod ac yn deall nad yw'r ymateb plismona i'r heriau hyn yn ddim ond rhan o'r cwestiwn, yn ddim ond rhan o'r ateb, gan fod yn rhaid i'r heddlu weithio law yn llaw â llywodraeth leol, y gwasanaethau addysg, iechyd, yn enwedig o ran ymdrin â rhai o'r materion enfawr yn ymwneud ag iechyd meddwl a chyffuriau sy'n ein hwynebu heddiw. Rhaid iddyn nhw weithio gyda'r gwasanaethau cymdeithasol; rhaid iddyn nhw weithio ar draws yr ystod gyfan o wasanaethau er mwyn darparu ymateb cynhwysfawr i'r heriau yr ydym yn eu hwynebu yn ein cymunedau. Mae pobl yn deall hynny. Nid wyf yn deall pam nad yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn deall hynny.
Gobeithiaf, Gweinidog, wrth ymateb i'r ddadl hon, y gallwch chi gadarnhau y byddwch yn bwrw ymlaen â gwaith comisiwn Thomas ar ddatganoli'r heddlu, fel bod gennym ni, yn y dyfodol, nid yn unig heddlu wedi'i ariannu'n briodol, lle mae gan swyddogion yr heddlu yr adnoddau sydd ar gael iddynt i amddiffyn ein cymunedau, i amddiffyn ein pobl, i'n cadw ni'n ddiogel, fel na fyddant yn cael eu gorymestyn yn barhaus, o dan lawer gormod o bwysau fel swyddogion unigol, ond eu bod hefyd wedi'u lleoli ac yn rhan o deulu gwasanaethau cyhoeddus Cymru, yn gweithio gyda'i gilydd yn ein cymunedau er lles ein cymunedau i gyd. Rwy'n ildio i'r Aelod dros Ben-y-bont ar Ogwr.
Rwy'n ddiolchgar i'm cyd-Aelod, Alun Davies. A yw'n rhannu fy anghrediniaeth ynghylch y ddadl, gan fod troseddu'n drawsffiniol rhwng Cymru a Lloegr, fel pe bai hynny'n sefyllfa unigryw, ei bod yn golygu bod yn rhaid i'r wlad fwy, felly, reoli plismona'r wlad lai hefyd? Onid yw hynny'n golygu y dylai Gweriniaeth Iwerddon, yn synhwyrol, fod yn rheoli plismona ar draws holl ynys Iwerddon? Dyna resymeg y ddadl honno. Ac a yw hefyd yn cytuno â mi, er bod troseddu'n drawsffiniol, ei bod yn gwbl bosib i'r heddlu barhau i gydweithio, fel sy'n digwydd rhwng y Weriniaeth a'r Gogledd, rhwng Lloegr a'r Alban, ac nid oes unrhyw reswm pam na all pobl Cymru gael rheolaeth dros eu heddluoedd eu hunain?
Rwyf yn cytuno'n fawr iawn â'r hyn y mae'r Aelod dros Ben-y-bont ar Ogwr wedi ei ddweud. Ac, wrth gwrs, yr hyn y mae'r Ceidwadwyr yn drysu yn eu cylch yw canfod trosedd a datrys y problemau sy'n deillio o droseddu a dod o hyd i atebion i droseddau. Ac rwy'n gwrando ar Weinidogion Ceidwadol sy'n hapus iawn i ddatganoli cyfrifoldebau i rannau o Loegr, i Fanceinion ac i Lundain, wrth gwrs, ond nid yw Cymru'n ddigon da i'r Torïaid. Nid yw'r Torïaid byth yn credu bod gennym ni'r gallu i reoli'r materion hyn ein hunain.
Ac mae'r Aelod dros Ben-y-bont ar Ogwr yn gwneud pwynt pwysig iawn, ac wrth edrych ar faterion ehangach cyfiawnder troseddol, ni allaf gredu y byddai unrhyw Lywodraeth Cymru o unrhyw liw, o gwbl, wedi caniatáu i sefyllfa godi lle nad oes cyfleusterau i fenywod yn ein system cyfiawnder troseddol yn ein gwlad. Mae hynny'n destun cywilydd ac yn warth ac yn rhywbeth y mae'n rhaid i Lywodraeth y Deyrnas Unedig dderbyn cyfrifoldeb amdano.
Diolch. A gaf i alw nawr ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i ymateb i'r ddadl? Julie James.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r Aelodau am eu diddordeb a'u cyfraniadau heddiw a diolch unwaith yn rhagor i'r gwasanaeth heddlu ledled Cymru, yn enwedig yng ngoleuni eu hymdrechion yn ystod y llifogydd diweddar.
Nid wyf yn rhy siŵr beth oedd trywydd dadl y cyfrannwr cyntaf, Mark Isherwood, pan ddechreuodd, ond roedd hi'n gwbl amlwg ei fod yn ceisio rhoi'r bai ar eraill am ddewis gwael ei Lywodraeth wrth dorri cyllid i'r heddlu, dewis gwael sy'n dal i atseinio hyd heddiw, fel y cydnabu'r holl gyfranwyr eraill.
Mae diogelwch cymunedol yn un o brif flaenoriaethau'r Llywodraeth hon, ac er bod y setliad hwn yn well nag y mae rhai wedi'i ddisgwyl, nid ydym yn twyllo ein hunain fod un setliad gwell yn gwneud iawn am y 10 mlynedd flaenorol o dan agenda cyni Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Yn wir, mae rhai comisiynwyr heddlu a throseddau wedi mynegi pryder, er bod arian ychwanegol wedi'i ddarparu i rai swyddogion newydd, nad oes digon o arian ar gyfer y cyflenwad presennol. Mae hyn, wrth gwrs, yn fater i'r Swyddfa Gartref ac rydym yn eu hannog i fynd i'r afael ag ef fel blaenoriaeth frys.
Rydym ni wedi ymrwymo i weithio gyda'r comisiynwyr a'r prif gwnstabliaid i sicrhau y caiff yr heriau hyn eu rheoli mewn ffyrdd sy'n cyfyngu ar yr effaith ar ddiogelwch cymunedol a phlismona rheng flaen yng Nghymru. Mae parhau i weithio mewn partneriaeth i ganfod a datblygu cyfleoedd yn bwysig, fel y dangosir gan y defnydd llwyddiannus o'r 500 swyddog cymorth cymunedol.
Rydym ni hefyd, wrth gwrs, yn parhau i bwyso am ddatganoli cyfiawnder troseddol a phlismona yn unol ag argymhelliad comisiwn Thomas. Ni allwn gytuno mwy â sylwadau gwahanol gyfranwyr o amgylch y Siambr: nid yw'n gwneud synnwyr o gwbl nad yw plismona wedi'i ddatganoli pan fo'r holl wasanaethau golau glas eraill wedi eu datganoli, ac mae'n eithaf amlwg y byddai'n well pe baem yn cydlynu'r peth yn gyfan gwbl o safbwynt datganoledig. Rwy'n cymeradwyo'n llawn yr holl gyfraniadau ynglŷn â hyn, ac yn enwedig crynodeb ardderchog Carwyn Jones o ba mor chwerthinllyd yw'r wrth-ddadl mewn gwirionedd.
A minnau wedi cymeradwyo hynny'n drwyadl, Dirprwy Lywydd, cymeradwyaf y setliad hwn i'r Senedd.
Diolch. Y cynnig yw cytuno ar y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig wedi'i dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Darren Millar, a gwelliannau 2 a 3 yn enw Caroline Jones.
Symudaf yn awr i eitem 9, sef dadl ar Faes Awyr Caerdydd, a galwaf ar Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru i gynnig y cynnig—Ken Skates.
Cynnig NDM7290 Rebecca Evans
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd economaidd a chymdeithasol Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd i Gymru.
2. Yn croesawu’r ffaith bod Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd bellach yn gyfrifol am weithredu cyfleuster terfynfa Maes Awyr Ynys Môn ac yn cydnabod y cyswllt awyr rhanbarthol pwysig rhwng gogledd a de Cymru.
3. Yn cydnabod bod dros 1700 o bobl yn cael eu cyflogi ym Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd a’r £250m o werth ychwanegol gros y mae’n ei gyfrannu at economi Cymru.
4. Yn cytuno ei bod yn allweddol cefnogi Maes Awyr Caerdydd er budd economi fasnach Cymru ar ôl Brexit, a hynny fel rhan o system trafnidiaeth gyhoeddus carbon isel, integredig ac o’r radd flaenaf yng Nghymru.
5. Yn nodi dull Llywodraeth y DU o ymyrryd er mwyn achub cwmni Flybe ond yn galw ar Lywodraeth y DU i fynd gam ymhellach er mwyn gwella cystadleurwydd, drwy gefnogi cost rheoleiddio ym meysydd awyr llai y DU, fel sy’n digwydd ar draws Ewrop.
6. Yn galw ar Lywodraeth newydd y DU i gytuno o’r diwedd i ddatganoli’n llawn y Doll Teithwyr Awyr i Gymru.
Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch o'r hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud i gefnogi Maes Awyr Caerdydd, sy'n rhan hanfodol o seilwaith economaidd a thrafnidiaeth Cymru, a hoffwn ddechrau fy nghyfraniad heddiw drwy wneud un pwynt clir iawn. Yn 2013, byddai'r maes awyr, pe bai wedi parhau o dan y rheolaeth fasnachol ar y pryd, wedi cau. Byddai wedi cau. Byddai swyddi wedi cael eu colli. Byddem wedi colli'r brif ffordd o hedfan i dde Cymru, a byddai busnesau, allforwyr a theithwyr wedi colli'r cyfle i ddefnyddio maes awyr yn nes at eu cartrefi a'u hadeiladau na Bryste a Heathrow, a llawer o feysydd awyr eraill.
Ers i Lywodraeth Cymru gamu i'r adwy i achub y maes awyr, rydym ni wedi buddsoddi ynddo, ac wedi cyflawni gwelliannau i gyfleusterau adeilad y derfynfa a'r rhedfa. Mae'r diwydiant awyrennau wedi cydnabod y buddsoddiad hwnnw ac mae hynny wedi arwain at gyfres o gwmnïau hedfan yn sefydlu llwybrau newydd o Faes Awyr Caerdydd i gyrchfannau ledled y byd.
Mae Maes Awyr Caerdydd bellach yn cefnogi dros 2,000 o swyddi yn uniongyrchol ac yn 2018 cyfrannodd bron i £0.25 biliwn o werth ychwanegol crynswth i'n heconomi. Ond mae effaith gatalytig y maes awyr hyd yn oed yn fwy arwyddocaol, gyda dadansoddiad economaidd yn awgrymu bod Maes Awyr Caerdydd yn werth hyd at £2.4 biliwn i economi'r DU. Mae'n cyfrannu at 5,500 o swyddi yn y gadwyn gyflenwi a chyfanswm o 52,000 o swyddi yn yr economi ehangach. Felly, dyma'r amser, rwy'n credu, beth bynnag yw ein safbwyntiau gwleidyddol, i ddod ynghyd i gefnogi'r ased economaidd hanfodol a'r darn strategol hwn o seilwaith trafnidiaeth.
Nawr, yn oriau mân dydd Mercher diwethaf, cyhoeddwyd y newyddion trychinebus bod Flybe wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr. Mae'n wir y bydd Flybe yn effeithio ar Faes Awyr Caerdydd o ran nifer y teithwyr. Ond rwyf eisiau llongyfarch y tîm maes awyr am fynd ati'n gyflym i sicrhau llwybr o Gaerdydd i Gaeredin gyda Loganair. Ac rwy'n falch o ddweud, Dirprwy Lywydd, bod trafodaethau'n mynd rhagddynt gyda chwmnïau awyrennau eraill, a'r wythnos diwethaf cefais drafodaethau gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru a Gweinidog hedfan y DU. Rwyf wedi siarad ar sawl achlysur â Phrif Weithredwr a Chadeirydd y maes awyr i drafod sut y gallwn ni gefnogi trafodaethau ar y niferoedd sy'n hedfan ar y gwahanol lwybrau; yn fwyaf diweddar, brynhawn ddoe. Ac er colli Flybe, mae'r effaith ariannol yn ymwneud ag ychydig o dan 6 y cant o drosiant y maes awyr. Mae hyn yn dyst i'r cynllunio a'r rheoli rhagorol yn y maes awyr.
Dirprwy Lywydd, rwy'n croesawu craffu. Mae'n addas a phriodol bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn craffu ar Lywodraeth Cymru. Mae'n addas a phriodol hefyd y creffir arnom ninnau o ran ein stiwardiaeth o arian cyhoeddus a'r amgylchedd. Mae hefyd yn addas a phriodol ein bod yn trafod dyfodol y maes awyr. Fodd bynnag, Dirprwy Lywydd, nid yw'n addas na phriodol bychanu'r maes awyr. A gaf i egluro nad ydym yn gwastraffu miliynau o bunnau o arian trethdalwyr? Rydym ni'n buddsoddi yn nyfodol tymor hir y maes awyr i ddarparu benthyciad masnachol sydd angen ei ad-dalu, gyda llog, i'r trethdalwr. Arferwyd diwydrwydd dyladwy ac mae'r cymorth yn unol â rheolau'r UE ar gymorth gwladwriaethol. Ac rwyf eisiau cydweithio â'r Aelodau i gefnogi Maes Awyr Caerdydd, a hoffwn ofyn i'r Aelodau ystyried y cynnig hwn wrth i'r ddadl hon barhau. Nick Ramsey.
Diolch, Gweinidog, am dderbyn yr ymyriad. Fel y gwyddoch chi, a minnau'n Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, sydd wedi bod yn ystyried y mater hwn yn ddiweddar, yn sicr nid oes gennym ni fel pwyllgor ddim diddordeb mewn bychanu Cymru na bod yn negyddol er mwyn bod yn negyddol. Byddwch yn gwybod, fodd bynnag, ein bod wedi gofyn i swyddogion, o ran y benthyciadau hynny a'r benthyciadau ad-daladwy hynny—rydym yn derbyn bod angen benthyciadau, ond mae'n bwysig bod eglurder o ran pryd y dechreuir talu'r benthyciadau hynny'n ôl a diwedd y broses honno hefyd. Felly, a ydych chi'n derbyn bod problem yn y fan yma y mae angen mynd i'r afael â hi, ac, ydych, rydych chi'n gwneud yn iawn wrth fuddsoddi yn y maes awyr, ond a ydych chi'n cytuno bod angen i'r cyhoedd fod yn ffyddiog nad yw'r broses honno, mewn gwirionedd, yn siec wag?
Yn sicr, ydw. Yn sicr, ydw, ac fe fyddwn i'n dweud wrth yr Aelod hefyd, rwy'n croesawu diddordeb y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn y maes awyr. Ac o ran pryd y dylai'r benthyciadau hynny ddechrau cael eu had-dalu, mae'n amlwg mai lle'r maes awyr yw barnu beth sydd o fudd ariannol gorau iddo, ac mae'r ateb hwn wedi'i roi, yn sicr, i Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau.
Nawr, cyn siarad ymhellach am fanylion Maes Awyr Caerdydd ei hun, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod yn rhoi'r ddadl hon yn y cyd-destun cywir y mae'n ei haeddu. A Dirprwy Lywydd, rydym ni yn wynebu heriau ar raddfa fyd-eang: mae ein hinsawdd yn newid yn gyflym; rydym ni'n gweld yr effaith nawr y mae'r coronafeirws yn ei gael ar yr economi ac ar bobl y byd hwn; mae Brexit yn ail-lunio ein cysylltiadau masnachu ac allanol mewn modd sylfaenol iawn; ac yn ddiweddar rydym ni wedi gweld gwrthod tri darn mawr o waith ehangu ym meysydd awyr Heathrow, Stansted a Bryste—i gyd ar sail amgylcheddol. Felly, mae hyn oll yn creu nid yn unig amodau heriol i'r farchnad ar gyfer hedfan, fel y dangosodd cwymp diweddar Flybe, ond yn codi cwestiynau pwysig am swyddogaeth polisi hedfan yng Nghymru. Ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig mynd i'r afael â hyn yn uniongyrchol, i ddatblygu ein dealltwriaeth o'r sail dystiolaeth ynghylch allyriadau carbon y maes awyr, i edrych ar sut y gallai Maes Awyr Caerdydd ddod yn ganolfan ragoriaeth ar gyfer hedfan carbon isel, ac, wrth gwrs, i ddeall swyddogaeth a photensial Maes Awyr Caerdydd yn ein bodolaeth ar ôl Brexit.
Mae uwch gynllun Maes Awyr Caerdydd ar gyfer 2040 yn cynnig cyfle i fynd i'r afael â'r holl heriau hyn, gan gynnwys y potensial ar gyfer creu cyfnewidfa drafnidiaeth gynaliadwy a hefyd ynni cynaliadwy mewn perchnogaeth leol. Mae bod yn berchen ar y maes awyr yn rhoi cyfle unigryw i Lywodraeth Cymru arwain y ffordd o ran datblygu atebion carbon isel a thechnolegol i'r diwydiant. Ac rydym yn cynnal trafodaethau, rwy'n falch o ddweud, gyda phrifysgolion a phartneriaid yn y diwydiant sy'n awyddus i ddefnyddio'r maes awyr yn gyfrwng arbrofi cyffrous.
Mae pwysigrwydd cymdeithasol strategol Maes Awyr Caerdydd i'w weld fwyaf yn y cyswllt sy'n cael ei greu rhwng gogledd a de Cymru. Mae'r cyswllt hwn yn bwysig i'r cysylltiadau cymdeithasol ac economaidd rhwng gogledd a de ein gwlad. Ac mae'r ehediad, rwy'n falch o ddweud, wedi gweld cynnydd yn nifer y teithwyr o dan Eastern Airways, a gafodd y contract yn ddiweddar am bedair blynedd arall. Hefyd, mae Maes Awyr Caerdydd bellach yn gyfrifol am weithredu cyfleuster terfynfa teithwyr Maes Awyr Ynys Môn.
Ond wrth droi'n ôl at Flybe, hoffwn ddweud ein bod yn cydymdeimlo â'r gweithwyr a'r teithwyr sydd wedi dioddef yn sgil ei gwymp. Rydym yn gresynu bod methiant Llywodraeth y DU i ymyrryd yn sefyllfa Flybe wedi arwain at ganlyniadau mor ddinistriol. Credwn fod hyn yn nodweddiadol o'r polisi negyddol sydd ganddi mewn perthynas â meysydd awyr rhanbarthol a chysylltedd rhanbarthol ledled y Deyrnas Unedig. Mae rhyddid gan Lywodraeth y DU i amrywio'i dehongliad o reolau cymorth gwladwriaethol i gyd-fynd â gweddill Ewrop, ac i gael gwared ar y costau rheoleiddio sy'n faich ar feysydd awyr rhanbarthol llai. Felly, unwaith eto, galwaf ar Lywodraeth y DU i ddatganoli toll teithwyr awyr i Gymru, fel y mae wedi gwneud ar gyfer yr Alban ac ar gyfer Gogledd Iwerddon. Mae'r maes awyr yn ased cenedlaethol gwerthfawr, strategol ac yn un y dylem i gyd fod yn eithriadol o falch ohono.
Diolch. Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i'r cynnig, a galwaf ar Russell George i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Russell.
Gwelliant 1—Darren Millar
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r newyddion bod Flybe wedi galw'r gweinyddwyr ac yn mynegi pryder ynghylch yr effaith andwyol bosibl a gaiff hyn ar ddyfodol Maes Awyr Caerdydd.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi strategaeth gynhwysfawr ar gyfer Maes Awyr Caerdydd gyda'r nod o'i dychwelyd i'r sector masnachol ar y cyfle cyntaf ac ar elw i drethdalwyr Cymru, ac y dylai'r strategaeth gynnwys cynlluniau i:
a) buddsoddi yn seilwaith cyfalaf y maes awyr er mwyn galluogi'r maes awyr i arallgyfeirio a chynhyrchu ffynonellau refeniw newydd;
b) cefnogi'r broses o ddatblygu llwybrau, gan flaenoriaethu cyswllt hedfan uniongyrchol ag UDA ac un i Fanceinion o ystyried ei statws fel prif ganolfan yng ngogledd Lloegr sy'n gwasanaethu gogledd Cymru;
c) datblygu strategaeth farchnata newydd ar gyfer y maes awyr;
d) gweithio gyda Llywodraeth y DU i ddatganoli a dileu'r doll teithwyr awyr;
e) gwella cysylltiadau trafnidiaeth i'r maes awyr er mwyn gwneud y maes awyr yn fwy hygyrch drwy fuddsoddi mewn cysylltiadau gwell o ran ffyrdd, rheilffyrdd a thrafnidiaeth gyhoeddus.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i'r Llywodraeth am ddod â'r ddadl hon gerbron heddiw? Rwy'n credu bod hon yn ddadl briodol i'w chael, ac rwyf hefyd yn gwerthfawrogi, pan gyflwynodd y Llywodraeth y ddadl hon, bryd hynny, nad oedd Flybe wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr, sy'n golygu, wrth gwrs, ei bod hi'n bwysicach fyth ein bod yn cael y ddadl hon heddiw. Ac fel y dywedodd y Gweinidog, mae hi hefyd yn briodol talu teyrnged i staff ymroddgar Flybe, a hefyd i'r cwsmeriaid ffyddlon, wrth gwrs. Ac rwy'n gwerthfawrogi bod llawer o bryder a llawer o waith i'w wneud o hyd, ac rwy'n falch bod y Gweinidog wedi amlinellu nifer o gyfarfodydd a gafodd yr wythnos diwethaf o ran y gefnogaeth ar gyfer rhagor o ehediadau i'r maes awyr ac oddi yno. Rwy'n credu bod hynny i'w groesawu.
Rwy'n sicr yn gobeithio y caiff ein gwelliannau ni, y Ceidwadwyr Cymreig, i'r ddadl hon heddiw eu hystyried yn rhai adeiladol. Rwyf yn credu eu bod felly. Dyma ein cynllun ni o'r meinciau hyn o ran yr hyn y credwn y dylai'r maes awyr fod yn ei wneud. Wrth wneud hynny, dylwn hefyd, Dirprwy Lywydd, gynnig ein gwelliannau, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar.
Ond rwy'n credu bod llawer y gallwn ni gytuno arno rhwng meinciau'r Llywodraeth a'n meinciau ni, ac mewn gwirionedd rhwng Aelodau eraill hefyd. Rwy'n credu bod gennym ni i gyd yr un dyheadau hirdymor ar gyfer y maes awyr. Dywedodd y Gweinidog yn ei sylwadau agoriadol, beth bynnag yw ein barn benodol, bod arnom ni eisiau cefnogi'r maes awyr, ac rwy'n cytuno â hynny. Mae llawer y gallwn ni gytuno yn ei gylch. Rwy'n credu mai'r hyn yr ydym ni efallai'n anghytuno arno yw sut yr ydym yn cyflawni'r amcanion yr ydym ni ein dau eisiau eu gweld.
Dywedaf ar goedd, wrth gwrs, mai ein barn ni yw y dylid dychwelyd Maes Awyr Caerdydd i berchnogaeth breifat. Wrth ddweud hynny hefyd, byddai'n fuddiol efallai cael rhywfaint o eglurhad o safbwynt y Llywodraeth ynghylch hynny, oherwydd mae'n sicr—a chywirwch fi ar bob cyfrif—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Mewn munud, gwnaf. Cywirwch fi ar bob cyfrif, ond yn sicr roedd y Prif Weinidog blaenorol, yn ôl yr hyn a ddeallais, yn gweld Maes Awyr Caerdydd yn cael ei ddychwelyd i berchnogaeth breifat, ond nid wyf yn siŵr beth yw safbwynt y Llywodraeth nawr.
Mae dau ymyriad nawr. Ildiaf i Mick yn gyntaf.
Diolch am dderbyn yr ymyriad ynglŷn â'ch barn ideolegol, yn llythrennol, am breifateiddio. Ond a fyddech yn cytuno y bu preifateiddio'r maes awyr yn 1995 yn drychineb llwyr?
Rwy'n hapus i dderbyn ymyriad gan Carwyn Jones hefyd. [Chwerthin.] Fe wnaf i ateb hynny.
Rwy'n ddiolchgar. Dau bwynt byr. Yn gyntaf oll, i'ch atgoffa wrth gwrs fod maer Ceidwadol Dyffryn Tees wedi prynu maes awyr Teeside ac wedi'i frandio fel maes awyr i'r bobl. Tybed sut y mae hynny'n cyd-fynd â'i ddadl. Yn ail, dim ond fel mater o wybodaeth, yr hyn a ddywedais pan oeddwn yn