Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Plenary - Fifth Senedd
26/02/2020Cynnwys
Contents
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Galw'r Aelodau i drefn.
Cyn cychwyn, dwi eisiau hysbysu'r Cynulliad fod y Bil Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru), yn unol â Rheol Sefydlog 26.75 wedi cael Cydsyniad Brenhinol heddiw.
Yr eitem gyntaf, felly, sy'n dilyn ar ein hagenda ni yw'r cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru. A'r cwestiwn cyntaf gan Angela Burns.
Diolch, Lywydd. Prynhawn da, Weinidog.
1. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella cysylltedd trafnidiaeth gyhoeddus yng ngorllewin Cymru? OAQ55126
Gan weithio gyda Trafnidiaeth Cymru a chydag awdurdodau lleol, rydym yn buddsoddi mewn gwella gwasanaethau rheilffyrdd, bysiau a chludiant cymunedol, ac yn y gwaith o ddatblygu ein cynigion ar gyfer y metro yn rhanbarth y de-orllewin.
Weinidog, rwyf yma i ofyn heb unrhyw gywilydd i Lywodraeth Cymru gefnogi cais gorsaf drenau Sanclêr i Network Rail i ailagor gorsaf drenau yn Sanclêr. Fe’i caewyd ym 1964, ac mae’r ymgyrch i’w hailagor wedi bod ar waith dros y degawd diwethaf. Mae Sanclêr yn dref sy’n tyfu. Mae absenoldeb yr orsaf drenau honno’n fwlch amlwg yn rhwydwaith gorllewin Cymru. Mae llawer iawn o dai modern, nid yn unig yn Sanclêr, ond yn y pentrefi cyfagos, ac mae'n rhaid i chi naill ai fynd i Gaerfyrddin neu Hendy-gwyn ar Daf, ac nid oes yr un ohonynt, mewn gwirionedd, yn ddigon mawr i ymdrin â rhai o'r problemau fel parcio ac ati; mae Hendy-gwyn ar Daf yn hunllef llwyr, fel y gwyddoch yn iawn.
Yn ôl yr hyn a ddeallaf, rydych wedi bwrw ymlaen â thrydydd cam yr ymgynghoriad. Mae deiseb ar waith, a chredwn fod gan Gaerdydd, gyda Melin Elái, gryn dipyn o orsafoedd ym mhob rhan o Gaerdydd eisoes. Rydym yn deall bod gan Garno a Glannau Dyfrdwy achosion cryf, ond mae Sanclêr eisoes ar brif reilffordd. Byddai'n hawdd iawn i'w wneud, a byddai o gymorth mawr gyda phethau fel cynhwysiant cymdeithasol, a sicrhau nad is-dref bell yn unig yw hi, ond rhan o holl rwydwaith Caerfyrddin ac Abertawe, ac rydym o ddifrif yn dibynnu ar eich cefnogaeth.
Gallaf roi sicrwydd i'r Aelod fy mod yn cefnogi'r cais ar gyfer gorsaf Sanclêr. Mae'n un o bedwar sydd ar y rhestr fer ledled Cymru am asesiad pellach ac enwebiad posibl fel blaenoriaeth ar gyfer buddsoddiad gan Lywodraeth y DU. Credaf y byddai o gymorth pe bai Llywodraeth y DU yn dangos ei bod yn barod i fuddsoddi mwy yn y seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru, ac felly mae'r prosiect yn cael ei ddatblygu o dan raglen metro'r de-orllewin.
2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith cau ffyrdd a rheilffyrdd yn ddiweddar yn Nyffryn Conwy? OAQ55118
Lywydd, a gaf fi ddweud fy mod yn cydymdeimlo'n llwyr â'r cymunedau yr effeithir arnynt yn etholaeth Janet Finch-Saunders? O ystyried faint o law a gawsom, diolch byth, ni chafwyd llawer iawn o darfu ar y rhwydwaith cefnffyrdd yng Nghonwy, gyda dim ond dau achos o gau ar yr A470. Fodd bynnag, mae rheilffordd Dyffryn Conwy yn dal i fod ar gau, gyda gwasanaeth bws yn lle trenau yn gweithredu rhwng Cyffordd Llandudno a Blaenau Ffestiniog.
Diolch yn fawr, a gwerthfawrogir eich cydymdeimlad yn fawr iawn. Mae llifogydd diweddar, wrth gwrs, fel y dywedoch chi, wedi difrodi’r rheilffordd yn ddifrifol, ac mae hynny’n wirioneddol drist o gofio bod buddsoddiad o £7.5 miliwn wedi’i wneud ynddi yn ddiweddar. Ond mae'r rheilffordd hon yn wynebu problemau gyda hyd yn oed y glaw ysgafnaf. Felly, pan gawn lifogydd, mae wythnosau lawer cyn ein bod mewn sefyllfa lle nad yw pobl yn gorfod defnyddio gwasanaethau bysiau yn lle trenau. Ond rydym hefyd wedi gweld yr A470 ar gau i'r gogledd o Lanrwst ormod o weithiau. Mor ddiweddar â dydd Sadwrn, roedd yn eithriadol o anodd mynd i mewn i Lanrwst o gwbl. Felly, er bod Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mewn gwelliannau rhwng Penllwyn a Than Lan ac ym Maenan, mae'r ffordd yn dal i gau. Mae traffig yn cael ei orfodi oddi ar y gefnffordd i’r ddrysfa o lonydd a reolir gan yr awdurdod lleol ym Maenan. Ac er mwyn i mi gyrraedd Llanrwst ddydd Sadwrn, bu’n rhaid i mi fynd dros y bryn drwy Eglwys-bach a Llanddoged. Yn syml, ni all y ffyrdd hyn ymdopi ag unrhyw draffig sylweddol sy'n mynd i'r ddau gyfeiriad.
Pa gamau y byddwch yn eu cymryd i helpu i greu llwybr dichonadwy i unigolion sydd angen teithio i fyny ac i lawr dwyrain Dyffryn Conwy yn ystod yr hyn sy'n edrych yn debygol iawn bellach o fod yn llifogydd difrifol dro ar ôl tro yn y dyfodol?
A gaf fi ddiolch i Janet Finch-Saunders am ei chwestiwn, a dweud, er fy mod yn cydymdeimlo’n llwyr â'r cymunedau yr amharwyd arnynt o ganlyniad i'r llifogydd, fy mod hefyd yn ddiolchgar iawn am eu hamynedd? A hoffwn ddiolch hefyd i staff ar draws y rhwydwaith trafnidiaeth cyfan sydd wedi gweithio mor ddiflino ers i'r llifogydd ddechrau i gynorthwyo'r cyhoedd sy'n teithio. Hoffwn gofnodi fy niolch hefyd i Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru sydd wedi gweithio’n ddiflino i gynorthwyo pobl ac i gefnogi’r awdurdodau trafnidiaeth hefyd.
Nawr, caewyd cefnffordd yr A470, fel y nododd yr Aelod, mewn dau fan yn ystod y stormydd diweddar, gan gynnwys yn Llanrwst. Cafodd ei chau am oddeutu 0900 ddydd Sul 9 Chwefror a chafodd ei hailagor am oddeutu 0800 y bore canlynol. Nawr, credaf fod yr Aelod yn iawn fod achosion o lifogydd ar y rhwydwaith cefnffyrdd yn debygol o ddigwydd yn amlach, o ystyried y newid yn yr hinsawdd, a dyna pam fod Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mewn cronfa cydnerthedd ffyrdd, yn benodol ar gyfer buddsoddi mewn ffyrdd sy'n debygol o gael llifogydd, a buaswn yn dychmygu y byddai'r A470 yn y ddau le’n gwneud cais da ar gyfer buddsoddi.
Ond a gaf fi hefyd rannu tristwch a siom yr Aelod gyda’r hyn sydd wedi digwydd ar reilffordd Conwy? Roeddwn yno'r llynedd yn ymweld â'r gwaith a oedd yn mynd rhagddo gan Network Rail. Roedd yn ymdrech enfawr, ac mae'n wirioneddol dorcalonnus ein bod, mor fuan ar ôl i'r gwaith hwnnw gael ei gwblhau, wedi gweld rhagor o ddifrod gan stormydd.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Helen Mary Jones.
Diolch, Lywydd. Ddoe, yn ei ddatganiad ar drafnidiaeth, nododd y Gweinidog rai dyheadau lefel uchel iawn. Soniodd am fwy o ffocws ar gysylltedd, datgarboneiddio ac integreiddio mewn perthynas â’r metro, ac rwy'n siŵr fod y rhain yn ddyheadau y byddai pawb yn y Siambr hon yn eu cefnogi.
Fodd bynnag, Lywydd, rwy’n parhau i boeni am rai o’r bylchau rhwng dyheadau a’u cyflawniad, ac os caf atgoffa’r Gweinidog, yn gyntaf oll, o rai sgyrsiau a gawsom ddoe, bydd y Gweinidog yn cofio’r ymrwymiad a wnaeth, gyda’r cytundeb rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru, y byddai'r astudiaeth ddichonoldeb ar fetro'r de-orllewin yn cynnwys cymoedd y gorllewin, gan gynnwys cwm Aman a chwm Gwendraeth. Nawr, mewn ymateb ysgrifenedig i Dr Dai Lloyd, ar 20 Medi y llynedd, atebodd y Gweinidog fod astudiaeth ddichonoldeb wedi’i chynnal, ond nad oedd, bryd hynny, yn cynnwys cymoedd y gorllewin. Roedd hynny yn yr ateb ysgrifenedig. Bydd y Gweinidog yn cofio i dri gwahanol llefarydd Plaid Cymru ofyn iddo deirgwaith ddoe a oedd yr ymrwymiad hwnnw wedi’i gyflawni ai peidio. Ni roddodd ateb i Dai Lloyd, ni roddodd ateb i mi ac ni roddodd ateb i Adam Price. Felly, rwy'n awyddus iawn i ofyn i'r Gweinidog heddiw, a yw'r astudiaeth ddichonoldeb honno wedi'i chwblhau? Os nad yw wedi’i chwblhau, pryd y mae'n disgwyl iddi gael ei chwblhau? A yw’n cynnwys—a gadewch inni fod yn wirioneddol benodol—cwm Aman a chwm Gwendraeth ai peidio? A phryd y bydd y Gweinidog yn gallu rhannu'r astudiaeth ddichonoldeb honno gyda'r Aelodau, gan dderbyn, wrth gwrs, y gallai fod rhywfaint o oedi, oherwydd materion sy’n ymwneud â chyfrinachedd masnachol?
Wel, fel y dywedais ddoe mewn ymateb i gwestiynau, rydym wedi ariannu'r pedwar awdurdod lleol, sy'n cael eu harwain yn yr achos hwn gan Gyngor Dinas a Sir Abertawe, sydd wedi cynnal yr astudiaeth ddichonoldeb gychwynnol i'r system fetro. Bydd Trafnidiaeth Cymru yn bwrw ymlaen â'r gwaith yn awr. Bydd y gwaith hwnnw'n fwy helaeth ac eang a bydd yn ystyried pob rhan o'r rhanbarth a sut y gellid gwella neu ymestyn y system fetro honno, o ran ei gweledigaeth ac o ran sut y gallwn ei chyflenwi.
Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei ateb. Nid yw'n dweud wrthyf o hyd pryd y byddwn yn gwybod mewn gwirionedd a yw'n cynnwys cwm Aman a chwm Gwendraeth ai peidio, ac rwy'n ei wahodd i weld a yw am allu rhoi syniad ychydig yn well inni am hynny nawr.
Ond os caf sôn am ymrwymiad arall a wnaed ganddo fel rhan o gytundeb gyda'n plaid, bydd yn cofio, yn y cytundeb cyllideb terfynol â Llywodraeth Cymru, inni gytuno i beidio â gwrthwynebu'r gyllideb, ac un o amodau hynny oedd bod £2 filiwn i'w ddyrannu tuag at wella pwyntiau gwefru cerbydau trydan ledled Cymru. Nawr, rwy'n siŵr y bydd yn ymwybodol fod mwyafrif awdurdodau lleol de Cymru, ym mis Hydref 2019, yn yr 20 y cant isaf o awdurdodau lleol ledled y DU yn ôl y ffigurau. Er enghraifft, un o'r awdurdodau a raddiwyd isaf oedd Rhondda Cynon Taf, gyda thri phwynt gwefru cyhoeddus yn unig i bob 100,000 o bobl; dim ond pedwar oedd gan Gaerffili ar y pryd; a Bro Morgannwg, dim ond pump i bob 100,000 o bobl.
Roedd hwn yn ymrwymiad i fuddsoddi'n sylweddol, a tybed a all y Gweinidog ddweud wrthym heddiw beth sydd wedi'i wneud gyda'r buddsoddiad hwnnw, a sut y mae'n egluro’r ffaith bod gennym ffigurau mor isel yn rhai o'r cymunedau sydd ei angen fwyaf? Credaf y byddai pob un ohonom yn rhannu dyheadau'r Gweinidog i sicrhau bod mwy a mwy o bobl yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, ond bydd llawer o bobl yn parhau i fod eisiau neu angen defnyddio cerbydau preifat, ac mae angen inni sicrhau eu bod yn defnyddio cerbydau trydan lle bynnag y bo modd.
A gaf fi ddiolch i Helen Mary Jones am y cwestiwn ynghylch pwyntiau gwefru trydan? Credaf fod yr esboniad yn syml iawn: mae'r farchnad wedi methu hyd yma ledled y rhan fwyaf o'r DU, gan gynnwys rhannau helaeth o Gymru. Er mwyn mynd i'r afael â hynny, gallai'r Llywodraeth—unrhyw Lywodraeth—wneud un o ddau beth: (1) aros i'r farchnad ymateb i'r galw cynyddol, ac rydym yn gweld cynnydd sylweddol yn nifer y pwyntiau gwefru; neu (2) buddsoddi.
Nawr, os yw Llywodraeth yn mynd i fuddsoddi, mae opsiynau eraill i'w cael. Un ohonynt yw taflu'r arian i mewn i'r systemau gwefru presennol a defnyddio arian y trethdalwr i dalu am y seilwaith angenrheidiol, neu ddefnyddio'r arian i gymell y farchnad. Dyna'n union rydym yn ei wneud gyda'r £2 filiwn y cytunwyd arno gyda Phlaid Cymru, gan weithio gyda Banc Datblygu Cymru, a darparwyr pwyntiau gwefru trydan, fel nad ydym yn cael gwerth £2 filiwn o bwyntiau seilwaith yn unig, ond ein bod yn cael miliynau lawer yn fwy ohonynt, ac yn cynyddu'r ffigur gryn dipyn wrth wneud hynny o ran faint o bwyntiau gwefru sydd gennym ledled Cymru.
Gallaf ddeall dyheadau'r Gweinidog i wneud i'r £2 filiwn fynd ymhellach—mae hynny'n gwneud rhywfaint o synnwyr, ond mae'n codi cwestiwn ynglŷn ag amser a phryd y caiff hyn ei gyflawni mewn gwirionedd. Mae'r Gweinidog yn iawn, wrth gwrs, i dynnu sylw at y problemau sy'n ymwneud â methiant y farchnad. Mae'n debygol y bydd methiant y farchnad yn parhau i ddigwydd, yn rhai o'n cymunedau tlotaf ac o bosibl yn rhai o'n cymunedau gwledig mwy anghysbell. Mae wedi bod yn ddiddorol gweld, wrth gwrs, fod Gwynedd wedi gallu gwneud yn well na rhai awdurdodau lleol eraill yn hyn o beth. Felly, pryd y mae'r Gweinidog yn teimlo y bydd yn gallu rhoi dadansoddiad i'r Cynulliad hwn o sut yn union y mae, neu y bydd, y £2 filiwn hwnnw'n cael ei wario? Ac a fydd yn gallu dangos i ni ymhle y mae'r pwyntiau gwefru newydd hynny wedi’u gosod, gan y buaswn yn cytuno ag ef na fyddem yn awyddus i weld buddsoddiad cyhoeddus yn cael ei roi ar waith yn lle buddsoddiad y sector preifat lle gallai'r farchnad gyflawni?
Wel, gallaf roi sicrwydd i'r Aelod ein bod wedi ymrwymo i ddatblygu strategaeth gwefru cerbydau trydan i Gymru. Mae honno'n strategaeth a fydd yn cael ei chyhoeddi eleni. Mae'n cwmpasu'r cyd-destun ar gyfer ymyrraeth bellach gan Lywodraeth Cymru uwchlaw a thu hwnt i'r £2 filiwn ar ddarparu seilwaith gwefru cerbydau trydan. A gallaf roi sicrwydd i'r Aelod hefyd y bydd llythyr cylch gwaith Trafnidiaeth Cymru ar gyfer y flwyddyn i ddod yn cynnwys eu comisiynu i gefnogi'r ymarfer hwn er mwyn inni allu cyflwyno, cyn gynted â phosibl, seilwaith newydd gwell ar gyfer gwefru ceir yn gyflym.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Russell George.
Diolch, Lywydd. Weinidog, o dan eich goruchwyliaeth chi, faint o gynlluniau trafnidiaeth mawr sydd wedi costio cryn dipyn yn fwy ac wedi cymryd mwy o amser i'w cwblhau na'r disgwyl?
Wel, ni chredaf fod y ffigur yn agos at nifer y prosiectau trafnidiaeth y mae Llywodraeth y DU wedi bod yn gyfrifol am eu darparu, yn enwedig ar y rheilffyrdd. Nid oes angen i ni ond edrych ar HS2 fel enghraifft o'r ffordd y mae costau wedi cynyddu allan o reolaeth, neu Crossrail, neu unrhyw un o'r prosiectau ffyrdd sy'n cael eu cyflenwi gan Highways England.
Buaswn yn dweud wrth yr Aelod, er hynny, ei bod yn siomedig bob tro y bydd prosiect ffordd, neu brosiect rheilffordd o ran hynny, yn cael ei gyflawni y tu hwnt i'r amserlen a addawyd, neu'n cael ei gyflawni dros gyllideb. Fodd bynnag, ceir rhai amgylchiadau lle mae prosiectau wedi cael eu cyflawni, naill ai o dan y gyllideb neu o fewn y gyllideb ac o fewn yr amserlen a ragwelwyd yn wreiddiol, gan gynnwys y prosiect ffordd mawr yn etholaeth yr Aelod, ffordd osgoi'r Drenewydd.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Wrth gwrs, roedd fy nghwestiwn yn ymwneud â chynlluniau trafnidiaeth yma yng Nghymru, a dyma fy ngwaith—craffu ar eich perfformiad yma yn y Senedd hon. A gaf fi ofyn, Weinidog, neu wneud y pwynt nad yw perfformiad Llywodraeth Cymru ar gyflawni prosiectau seilwaith ffyrdd mawr wedi bod yn dda o gwbl? Ac rwy'n gwerthfawrogi eich bod yn derbyn y rhwystredigaeth pan fydd hynny'n digwydd.
Yr wythnos diwethaf, amlygodd adroddiad yr archwilydd cyffredinol i adran 2 o'r A465 fod tarfu, oedi a gorwariant o £100 miliwn wedi bod o gymharu â'r amcangyfrif cychwynnol yn 2014. Roedd i fod i gael ei chwblhau yn 2018 ac yna fe'i gwthiwyd ymlaen i 2019, ac mae bellach i fod i gael ei chwblhau yn 2021. A ydych yn ffyddiog na fydd rhagor o oedi a chynnydd yn y costau, gan nad yw'r archwilydd cyffredinol, yn anffodus, wedi'i argyhoeddi ynglŷn â hynny, ac a dweud y gwir, mae wedi dod i'r casgliad fod y gost derfynol yn dal i fod yn ansicr?
HS2.
Yn sicr. Mae'r Aelod yn llygad ei le—HS2 yw'r enghraifft orau o brosiectau sy'n gallu chwyddo y tu hwnt i reolaeth.
Ond edrychwch, mae'r Aelod yn llygad ei le: mae yma i graffu arnaf, ac mae deuoli adran 2 o'r A465 yn rhaglen hynod o bwysig, ac rwy'n amlwg yn siomedig iawn gyda'r oedi pellach i'r prosiect arbennig hwn. Fodd bynnag, gallaf gadarnhau, Lywydd, fod cyllideb y cynllun yn dal i fod yr un fath â'r hyn ydoedd yn fy natganiad ym mis Ebrill y llynedd. Mae'r gyllideb yn dal i fod yr un fath: dim cynnydd pellach, er gwaethaf yr oedi a gyhoeddwyd yn ddiweddar iawn. Mae'n werth ystyried hefyd fod y prosiect penodol hwn bellach dros 85 y cant yn gyflawn, gyda dros 7.5 milltir o waliau cynnal wedi'u hadeiladu; oddeutu 1.3 miliwn metr ciwbig o ddeunydd wedi'i gloddio, ac 16,000 metr ciwbig o goncrit wedi'i osod; plannwyd 30,000 o goed ac adeiladwyd 15 o bontydd. Mae'n ymdrech enfawr. Er fy mod yn gresynu at y cynnydd yn y gyllideb gyffredinol ers iddi gael ei rhaglennu'n wreiddiol, a'r oedi cyn ei chwblhau, nid oes unrhyw amheuaeth o gwbl na fydd y cynllun cymhleth ond hynod uchelgeisiol hwn yn wirioneddol drawsnewidiol i Flaenau'r Cymoedd.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Credaf y bydd yn ddefnyddiol hefyd i'r trigolion allu gwrando ar eich rhwystredigaeth chi nad yw'r prosiect wedi'i gyflawni mewn pryd. Rwy'n awyddus i symud ymlaen at bwynt mwy cadarnhaol yma, ond wrth gwrs, nid dyma'r prosiect cyntaf na'r unig un i gael ei gamreoli; hoffwn fanylu ar ambell un cyn dod at fy nghwestiwn olaf. Flwyddyn yn ôl, roeddech yn falch iawn o nodi dechrau cyfnod adeiladu cynllun ffordd osgoi'r A487 rhwng Caernarfon a Bontnewydd, ac fe ddywedoch chi wrth y Senedd hon y byddai'n cael ei gwblhau yn 2021. Ar hyn o bryd, mae trosolwg y prosiect ar wefan Llywodraeth Cymru yn nodi mai 2022 yw'r dyddiad cwblhau. Ac yna, y gwaith o adeiladu ffordd osgoi Llandeilo, a oedd i fod i ddechrau y llynedd—y mis diwethaf, fe ddywedoch chi wrth y pwyllgor newid hinsawdd a materion gwledig nad oedd wedi'i gynnwys yn y gyllideb nesaf hon, ac nid yw'r gwaith wedi dechrau eto.
Felly, rwyf am symud ymlaen i bwynt mwy cadarnhaol yma: pryd y bydd gwersi'n cael eu dysgu o'r camgymeriadau hyn? Pryd y gellir rhoi gwybod i'r Senedd hon ac i bobl ledled Cymru am brosiect sy'n mynd i gael ei reoli'n briodol, fel y caiff ei gyflawni'n brydlon ac mewn ffordd gosteffeithiol, fel y nodwyd yn yr amcangyfrifon gwreiddiol? Beth sydd angen newid, drwy arferion caffael ac arferion contractio, er mwyn sicrhau y gall hynny ddigwydd?
Gallaf roi sicrwydd i'r Aelod ein bod eisoes yn cyflawni prosiectau, prosiectau ffyrdd, o fewn cyllidebau, ac o fewn yr amserlenni a gyhoeddir, gan gynnwys, fel y nodais yn gynharach, ffordd osgoi'r Drenewydd. Tynnwyd sylw at ddau brosiect yng nghwestiwn yr Aelod: mae un yn ymwneud â ffordd osgoi'r A487 Caernarfon a Bontnewydd, a bydd yr Aelod yn ymwybodol fod darganfyddiadau archaeolegol pwysig wedi'u gwneud wrth gloddio tir yn y prosiect hwn, ac wrth gwrs, mae hynny'n arwain at oedi. O ran ffordd osgoi Llandeilo, tybiaf y bydd yr Aelod yn ymwybodol hefyd o bryderon a fynegwyd gan Sustrans y credaf eu bod yn galw am sylw priodol.
Wrth gwrs, mae bias amser a chost wedi'i gynnwys yn rhan o brosiectau o'r maint hwn. Fodd bynnag, mae gwersi'n cael eu dysgu, nid yn unig o brosiectau yma yng Nghymru, ond rydym hefyd yn gweithio mor agos ag y gallwn gyda Highways England, gan nad yw hon yn broblem anghyffredin. Mae dod o hyd i ddarganfyddiadau archaeolegol yn rhywbeth na allwch ei ragweld yn aml—yn syml, ni allwch ei ragweld. O ran cloddio tir a dod o hyd i olion eraill megis bomiau sydd heb ffrwydro, neu diroedd na allech eu gweld, ac na allech eu hasesu cyn i'r gwaith ddechrau, mae angen mynd i'r afael â hynny, a gall hynny ychwanegu amser a gall ychwanegu cost, ond rydym yn gweithio gyda Highways England a chydag eraill i ddysgu gwersi ac i sicrhau ein bod yn cyflawni prosiectau mor agos â phosibl at y gyllideb, neu'n wir, yn achos ffordd osgoi'r Drenewydd, o fewn y gyllideb a gyhoeddwyd.
Llefarydd Plaid Brexit, David Rowlands.
Diolch, Lywydd. A allai'r Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr economi sylfaenol yng Nghymru, os gwelwch yn dda?
Yn sicr. Mae'n waith cyffrous sy'n cael ei arwain gan fy nghyd-Aelod, Lee Waters. Yn ddiweddar, cafodd y gronfa her ei chyhoeddi, gyda nifer sylweddol iawn o geisiadau. O ganlyniad i'r brwdfrydedd mewn perthynas â'r gronfa benodol honno, gwnaethom dreblu faint o adnoddau sydd ar gael, ac rydym wedi gallu ariannu nifer fawr o brosiectau ledled Cymru.
Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Dywedodd Gerald Holtham, wrth roi darlith Hodge, nad oedd ganddo unrhyw syniad sut y mae economi Cymru am ddatblygu dros y degawd nesaf. Gwnaeth y pwynt y dylai Cymru edrych mwy tuag at yr economi sylfaenol er mwyn gwarchod safonau byw. Ond dywedodd, hyd yn oed os yw economi Cymru'n tyfu i wneud y rhan fwyaf o bobl Cymru yn gyfoethocach, nad oedd lleoedd fel Merthyr Tudful byth yn mynd i ddal i fyny â Phen-y-bont ar Ogwr, Abertawe, Cas-gwent—a dylai fod wedi ychwanegu Caerdydd wrth gwrs. A yw'r Gweinidog yn credu bod y dadansoddiad hwn yn gywir?
Rwy'n siŵr y gallem dreulio'r prynhawn cyfan yn trafod y maes pryder pwysig hwn. Mae gan y cynllun gweithredu ar yr economi ddiben deuol i leihau anghydraddoldeb mewn rhanbarthau ac ar draws rhanbarthau, ond hefyd i wella cynhyrchiant. Mae ein ffocws ar yr economi sylfaenol yn newydd, ac mae egni aruthrol ynghlwm wrth hynny gan ein bod yn cydnabod bod yn rhaid inni sicrhau ein bod yn diogelu safonau byw a'n bod yn rhoi cyfleoedd i'r cymunedau hynny sydd wedi teimlo'n bell iawn o ardaloedd sydd wedi elwa o dwf economaidd yn ddiweddar. Ond yn yr un modd, rydym wedi ymrwymo i ddatblygu swyddi o'r safon uchaf posibl ym mhob rhan o Gymru. Dyna, er enghraifft, y mae prosiect y Cymoedd Technoleg yn ceisio'i gyflawni. Dyna mae ein hymyriadau ar draws tasglu'r Cymoedd yn ceisio'i gyflawni. Dyna mae ein hymyrraeth mewn prosiectau fel y Ganolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch yn ceisio'i gyflawni. Ac os edrychwn ar ganlyniadau ein buddsoddiadau strategol dros y blynyddoedd diwethaf, gallwn fod yn falch. Mae cyfraddau diweithdra ar y lefel isaf erioed—y lefelau isaf ers dechrau cadw cofnodion. Rydym yn gweld gwerth ychwanegol gros yn codi'n gyflymach na'r rhan fwyaf o rannau eraill y DU, ac mae enillion aelwydydd hefyd wedi bod yn cynyddu'n gyflymach na'r cyfartaledd yn y DU. Mae'r rhain oll yn arwyddion ein bod wedi bod yn buddsoddi'n graff, yn glyfar ac yn y meysydd cywir.
3. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch penderfyniad y DVSA i gau'r ganolfan prawf gyrru yng Nghaernarfon? OAQ55113
Wel, ni chawsom wybod am y penderfyniad hwn gan Lywodraeth y DU. Fodd bynnag, rwyf wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth i ofyn am eglurhad brys ynglŷn â'u cynigion, ac mae fy swyddogion wedi cysylltu â'r Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau. Mae Llywodraeth Cymru yn barod i roi cymorth lle bo modd i'r rheini y bydd y newyddion hwn yn effeithio arnynt.
Diolch yn fawr iawn am yr ymateb yna, ond mae eisiau mynd ymhellach na hynny. Mae eisiau sicrhau bod y penderfyniad yma yn cael ei wyrdroi, achos allwn ni ddim fforddio colli'r ganolfan yma. Dwi'n sôn am ganolfan sydd yn etholaeth fy nghyd-weithwraig Siân Gwenllian, ac, wrth gwrs, mae'n ganolfan sy'n gwasanaethu ardal eang o'r gogledd. Dim ond fis Awst y llynedd, yn dilyn pryderon a gafodd eu codi efo fi gan Huw Williams o gwmni hyfforddi gyrwyr HGV a bysus ac yn y blaen, sef Huw Williams o Ynys Môn, mi ysgrifennais at y DVSA, yn pwyntio allan iddyn nhw bod ganddyn nhw ddiffyg capasiti yng Nghaernarfon fel y mae hi. Rydym ni angen gyrwyr lori ac rydym ni angen gyrwyr bysus ar gyfer ein heconomi a'n cymdeithas ni.
Yr hyn yr oedd Huw Williams—a dwi'n gwybod bod hyn yn wir am gwmnïau eraill—wedi ffeindio oedd eu bod nhw'n methu â chael digon o slots yn y ganolfan yng Nghaernarfon er mwyn profi'r bobl yr oedden nhw'n eu hyfforddi. Mae hynny'n dweud wrthyf fi mai tyfu ac atgyfnerthu'r ganolfan sydd ei eisiau. Felly, mi allwch chi ddychmygu fy siom enfawr i, a braw Huw Williams, o glywed wedyn—yn answyddogol yn gyntaf—mai'r bwriad rŵan ydy cau'r ganolfan.
Mi gadarnhawyd hynny efo ni maes o law. Mi roddwyd awgrym y bydden nhw'n chwilio, o bosib, am safle arall yng Nghaernarfon ar ôl cau'r safle presennol. Nid dyna'r ffordd y dylai pethau cael eu gwneud. Os yw'r DVSA yn cytuno bod yna le i gael canolfan yng Nghaernarfon, mae'n rhaid iddyn nhw ddod o hyd i le newydd yng Nghaernarfon neu'r ardal honno rŵan, nid ar ôl cau. A gawn ni sicrwydd gan y Llywodraeth y byddwch chi'n gwneud popeth i wthio'r Llywodraeth i newid y penderfyniad yma, achos allwn ni ddim fforddio colli'r ganolfan yma?
A gaf fi ddiolch i Rhun am ei gwestiwn? Lywydd, credaf y byddai'n ddefnyddiol pe bawn yn rhyddhau'r llythyr a anfonais at yr Ysgrifennydd Gwladol, gan y credaf y bydd yn dangos pa mor ddifrifol rydym ni wrth fynnu bod safle yng Nghaernarfon yn cael ei ddiogelu. Rwy'n deall y sefyllfa anodd y mae hyfforddwyr cludwyr ynddi mewn perthynas â'r penderfyniad hwn, a'r effaith y gallai ei chael ar eu busnes, yn enwedig y rheini sydd wedi buddsoddi gyda phob ewyllys da ac yn y gred y byddai canolfan brawf yn cael ei chadw yn yr ardal.
Ein dealltwriaeth ni yw bod yr Adran Drafnidiaeth yn dal i archwilio opsiynau ar gyfer canolfan brawf arall yn ardal Caernarfon neu'r cyffiniau. Rydym wedi dweud wrth Lywodraeth y DU ein bod yn credu y dylai fod yng Nghaernarfon, a deallaf hefyd fod safle prawf presennol Caernarfon yn cael ei osod ar brydles gan gyngor sir Gwynedd. Ein dealltwriaeth yw nad ydynt wedi cael eu hysbysu'n ffurfiol eto ynghylch unrhyw ddyddiad i adael y safle. Fel y dywedaf, rydym yn benderfynol o weld y penderfyniad yn cael ei wrthdroi ac i weld safle parhaol yng Nghaernarfon.
Fel y nodwch, mae'r Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau wedi bod yn negodi am leoliad arall yng Nghaernarfon, ar ystâd ddiwydiannol Cibyn. Ar ôl hynny, dywedasant fod symud i Wrecsam, 90 milltir o Gaernarfon, yn gynllun wrth gefn, ac mae swyddogion yn parhau i chwilio am safleoedd eraill, fel y nodwch, yng Nghaernarfon, ar ôl methu dod o hyd i'r hyn a ddisgrifiant fel lleoliad, ac y dylid archebu profion gyrru ar y safle presennol hyd nes y ceir rhybudd pellach. Pa gymorth, os o gwbl, y gall Llywodraeth Cymru ei ddarparu, nid yn unig i ddeall pam yr ystyrir fod y safle ar ystâd ddiwydiannol Cibyn yn anaddas, ac a ellir unioni hynny, ond hefyd efallai o ran nodi, neu helpu i nodi, safleoedd addas eraill er mwyn cadw'r ganolfan yng Nghaernarfon neu'r cyffiniau?
Mae ein tîm rhanbarthol yng ngogledd Cymru yn barod i gynorthwyo'r Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau i ganfod safle arall yng Nghaernarfon. Mae Busnes Cymru hefyd yn barod i wneud hynny, ac rwyf wedi gofyn i fy swyddogion weithio gyda chyngor sir Gwynedd i asesu'r rhesymau pam fod yr Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau wedi penderfynu nad yw'n safle addas o bosibl, yr un sydd ganddynt ar hyn o bryd, a chanfod beth yn union y byddent yn dymuno'i gael mewn safle arall newydd yng Nghaernarfon.
4. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r awdurdodau perthnasol ynghylch cynyddu capasiti trenau ar brif reilffordd de Cymru? OAQ55129
Rwy'n parhau i gael trafodaethau gyda Trafnidiaeth Cymru ynglŷn â'r gwasanaethau presennol ar brif reilffordd de Cymru a'r rheilffyrdd lleol a wasanaethir ganddi, a byddaf hefyd yn parhau i drafod gyda Network Rail, sy'n berchen ar brif reilffordd de Cymru, ynglŷn â buddsoddiadau yn y dyfodol.
Diolch. Wrth gwrs, mae cynyddu gwasanaethau ac ehangu'r rhwydwaith yn rhywbeth y gwn ei fod wedi ei drafod ddoe yn y datganiad ar gynlluniau metro rhanbarthol de Cymru, ac adlewyrchwyd y nod hwnnw mewn cyfarfod a gefais gyda Trafnidiaeth Cymru yn ddiweddar. Rwyf wedi siarad â llawer o bobl sy'n dweud wrthyf am y problemau capasiti, a gwn eich bod wedi sôn am Network Rail, ond yn benodol, yn lleol, mae llawer o bobl wedi dweud wrthyf eu bod am i drenau stopio'n amlach mewn lleoedd fel Pencoed, Baglan, Llandarcy a gorsafoedd tebyg eraill. Sut y gallwch hwyluso hyn, a pha benderfyniadau a wnaed ynghylch dolenni ar y brif reilffordd ar gyfer lleoliadau strategol? Ac ail ran y cwestiwn yw: beth rydych wedi'i wneud i drafod croesfan reilffordd Pencoed gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr? Gwyddom fod y groesfan reilffordd yn effeithio ar drigolion yr ardal, ac wedi llesteirio cynnydd dros y blynyddoedd. Mae'n mynd i fod yn rhwystr i ehangu, ac mae eisoes wedi creu llawer o broblemau traffig. Felly, ar y ddau fater, a allwch ddweud wrthyf pa gynnydd a wnaed, os gwelwch yn dda?
Gallaf, wrth gwrs. Mae fframwaith estynadwyedd yn cael ei sefydlu ar hyn o bryd ar gyfer metro de Cymru. Rwy'n edrych ar goridorau y gellir eu gwella yn y dyfodol. Wrth gwrs, nid oes gwir angen imi ailadrodd y ffigurau—11 y cant o'r trac, 11 y cant o orsafoedd, 20 y cant o groesfannau rheilffordd yng Nghymru ar lwybr Cymru, ond serch hynny, oddeutu 2 y cant yn unig o fuddsoddiad a gawsom gan Lywodraeth y DU. Yn amlwg, os ydym am wella cyflymderau a lleihau amseroedd teithio, a gwella rheoleidd-dra gwasanaethau, nid yn unig ar reilffyrdd a gwasanaethau de Cymru, ond hefyd mewn mannau eraill yng Nghymru, mae angen rhagor o fuddsoddiad arnom.
Cyfarfûm yn ddiweddar iawn ag arweinydd cyngor Pen-y-bont ar Ogwr i drafod Pencoed. Daeth yr Aelod lleol gyda mi, ac rydym wedi gofyn i'r cyngor gyflwyno cynigion y byddwn yn gallu eu hyrwyddo yn eu tro i Lywodraeth y DU ar gyfer buddsoddi. Credaf ei bod yn werth dweud mai un rhan o'r jig-so yw'r ymrwymiad sydd gan Trafnidiaeth Cymru i gynyddu capasiti. Er mwyn cynyddu a gwella capasiti, mae arnom angen buddsoddiad hefyd yn y rheilffyrdd, y trac a'r signalau, a all alluogi mwy o gapasiti ar y rhwydwaith ar unrhyw adeg benodol.
Mae'n amlwg fod y gwaith o drydaneiddio prif reilffordd y Great Western wedi bod yn fantais fawr ac y bydd yn fantais fawr i economi Cymru, de Cymru.
[Anghlywadwy.]
Fel y dywedodd Bethan Jenkins—mae'n ddrwg gennyf, Bethan Sayed—yn gynt, mae'n gweithio fel rhan o jig-so y metro, ac rwyf am gymhwyso fy nghwestiwn i chi drwy ddweud fy mod yn deall nad dewin ydych chi, ac na allwch chi chwifio ffon hud a—[Torri ar draws.] Ac ni allwch chwifio ffon hud—[Torri ar draws.] Na. Ac ni allwch chwifio ffon hud a gwneud i’r pethau hyn i gyd ddigwydd yfory, ond o ran dechrau ar y rhannau mwy gwledig a gwahanol o'r rhwydwaith metro, fel Sir Fynwy, fel y crybwyllais wrthych o'r blaen, beth allwch chi ei wneud i sicrhau bod y rhannau hynny o jig-so y metro yn cael eu cysylltu cyn gynted â phosibl? Rwy'n sylweddoli na all ddigwydd yfory, ond mae pobl yn fy ardal yn meddwl bod y metro yn syniad gwych yn ymarferol, ond pryd y daw i bwynt lle bydd yn eu helpu yn eu bywydau?
Wel, rydym wedi gofyn—. Fel y dywedais yn y ddadl ddoe, rydym wedi gofyn i Trafnidiaeth Cymru—rydym wedi eu cyfarwyddo yn y flwyddyn ariannol nesaf—i edrych ar bob un o'r prosiectau metro, gan gynnwys estynadwyedd. Mae'r gwaith hwnnw'n helaeth wrth gwrs, ond mae angen i unigolion yn ardaloedd mwy anghysbell pob un o ardaloedd y metro ddeall y bydd buddsoddiad yn dod iddynt yn y dyfodol ac y byddant yn cael cysylltedd gwell.
Hoffwn fynegi fy niolch i Network Rail a Trafnidiaeth Cymru. Mae cynrychiolwyr o swyddfa’r Ysgrifennydd Gwladol hefyd wedi bod yn rhan o’r cyfarfodydd a drefnwyd gyda Chyngor Tref Pencoed, Chris Elmore yr AS a minnau er mwyn cyflwyno’r achos ac er mwyn cyrraedd y pwynt lle rydym bellach wedi cwblhau astudiaeth cam cyntaf arweiniad arfarnu trafnidiaeth Cymru ar y groesfan, ond hefyd y gwelliannau sydd eu hangen ar groesfan pont Pencoed. Ond a yw’n derbyn, er mwyn bwrw ymlaen â hyn, nid yn unig gydag arweiniad ar arfarnu trafnidiaeth Cymru 2, ond i wneud yr achos am yr arian—a diolch i'r Gweinidog am y cyfarfod a gynhaliodd yn ddiweddar gyda Huw David o Ben-y-bont ar Ogwr a ninnau—bydd yn rhaid i ni gael pob chwaraewr o amgylch y bwrdd. Bydd yn rhaid cael yr awdurdod lleol o ran priffyrdd a strwythur trefol o amgylch y rheilffordd os byddwn yn cau'r groesfan, ond bydd angen buddsoddiad mawr gan Adran Drafnidiaeth y DU hefyd. Ac mae'n dda ein bod wedi cael yr Ysgrifennydd Gwladol fel sylwedydd yn y cyfarfodydd hyn, ond rydym bron â chyrraedd pwynt lle bydd yn rhaid iddynt ystyried rhoi eu dwylo yn eu pocedi.
A gaf fi ofyn hefyd, os gwelwch yn dda, o ran gwneud hyn, ynglŷn â phwysigrwydd cynyddu amlder gwasanaeth yr holl ffordd—? Mae Maesteg, Sarn, Ton-du, Pont-y-clun, Pencoed, Llanharan i gyd yn dibynnu ar hyn. Ond a gaf fi ofyn iddo: a fydd yn parhau i annog y gwaith o gynyddu amlder y gwasanaeth ar lein Maesteg i Cheltenham hefyd? Oherwydd, yn yr un modd—os gallwn ddatgloi Pencoed, gall hynny ddigwydd hefyd.
Ni allaf anghytuno ag unrhyw un o'r pwyntiau a godwyd gan yr Aelod, ac rwy'n ei sicrhau y byddaf yn hyrwyddo'r gwasanaethau hynny a'r prosiectau seilwaith hynny yn ei etholaeth a'r cyffiniau gyda’r Adran Drafnidiaeth, gyda chydweithwyr Trafnidiaeth Cymru, a chyda fy nghyd-Aelodau yn y Llywodraeth. Mae'n gwbl hanfodol, fel y dywedodd yr Aelod, fod gennym ddull tîm unedig o fynd ati ar y prosiectau hyn, a dyna'r hyn rydym yn ceisio'i gyflawni ar gyfer ardal Maesteg.
5. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i arallgyfeirio economi Gorllewin De Cymru? OAQ55127
Mae blaenoriaethau Llywodraeth Cymru wedi'u nodi yn y cynllun gweithredu ar yr economi. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio gydag ystod eang o bartneriaid yn y rhanbarth ar y fframwaith economaidd rhanbarthol sydd ar y gweill, yn ogystal â chefnogi bargen ddinesig bae Abertawe.
Diolch, Weinidog. Mae ein dibyniaeth yn y gorffennol ar lond llaw o gyflogwyr mawr wedi gadael economi Gorllewin De Cymru yn agored i niwed. Byddai cau gwaith dur Port Talbot yn ddinistriol i'r rhanbarth, ac rydym yn wynebu heriau enfawr o ran arallgyfeirio. Ond gallwn hefyd fanteisio ar y cyfleoedd os gallwn edrych i’r dyfodol. Yr heriau mwyaf sy'n ein hwynebu fel cenedl yw datgarboneiddio, sydd hefyd yn cynnig cyfleoedd gwych i ni. Gellir defnyddio'r ffwrneisi arc trydan i ailgylchu'r tunelli o geir a fydd yn cael eu sgrapio o ganlyniad i drydaneiddio. Mae’n rhaid dod o hyd i ffynonellau tanwydd newydd ar gyfer cludo nwyddau trwm, ac mae datblygiadau addawol wedi bod mewn celloedd tanwydd amonia a throi carbon deuocsid yn fethanol. Ond er mwyn manteisio ar y cyfleoedd, mae'n rhaid i ni fuddsoddi mewn ymchwil a datblygu. Weinidog, a wnaiff eich Llywodraeth ymrwymo i fuddsoddi mewn gwaith ymchwil a datblygu tanwydd amgen a gweithio gydag addysg uwch i sicrhau bod Cymru’n arwain y ffordd? Wedi'r cyfan, Abertawe oedd man geni'r gell tanwydd hydrogen. Diolch.
A gaf fi ddiolch i Caroline Jones am ei chwestiwn? Gallaf sicrhau ein bod eisoes yn buddsoddi'n helaeth mewn ymchwil a datblygu a'n bod yn gweithio gyda sefydliadau addysg uwch yn y rhanbarth. Mae Prifysgol Abertawe wedi cymryd yr awenau mewn sawl ffordd mewn perthynas â datrysiadau ynni diwydiannol, ac rydym yn gwbl benderfynol o fynd ar ôl pob ceiniog a gynigir drwy gronfa trawsnewid ynni diwydiannol Llywodraeth y DU a’r gronfa dur glân. Maent yn darparu oddeutu £500 miliwn o fuddsoddiad dros sawl blwyddyn, ond mae arnaf ofn bod y buddsoddiad hwnnw’n ymddangos yn ddibwys wrth ymyl y £5 biliwn o fuddsoddiad blynyddol y mae’r Iseldiroedd yn ei wneud ym maes datgarboneiddio.
Mae datgarboneiddio yn cynnig cyfle enfawr i fusnesau yng Nghymru, i sefydliadau ymchwil a datblygu, i sefydliadau addysg uwch, ac rwy'n awyddus i sicrhau, yn ne Cymru, fod y clwstwr diwydiannol sydd wedi'i sefydlu yn cael ei ddefnyddio fel llwybr i ddenu cymaint o arian strategaeth ddiwydiannol y DU â phosibl, ond hefyd i gael mynediad at gyllid Llywodraeth Cymru. Iawn, mae’n bosibl fod ein bagiau arian yn llai na rhai Llywodraeth y DU, ond serch hynny, rydym yn gallu gwneud buddsoddiadau strategol sy'n cynorthwyo busnesau i ddatgarboneiddio, a gallwn nodi nifer yn rhanbarth yr Aelod, fel Keytree, lle roeddent wedi gallu cael £0.5 miliwn a chreu 38 o swyddi medrus iawn mewn hyb meddalwedd yn y rhanbarth. Mae tua 33 y cant o'n galwadau i weithredu arian wedi mynd i brosiectau sy'n ymwneud yn uniongyrchol â rhaglenni datgarboneiddio, ac o ganlyniad i hynny, mae’r gyfradd gyflogaeth yng nghanolbarth a de-orllewin Cymru wedi cynyddu 7.1 y cant rhwng 2011-19. Ond rydym yn benderfynol o adeiladu ar hynny drwy fuddsoddi yn niwydiannau yfory ac yn amlwg, mae datgarboneiddio yn gwbl ganolog i ddiwydiannau'r dyfodol.
Weinidog, mae bargen ddinesig bae Abertawe, wrth gwrs, wedi'i seilio ar fasnacheiddio arloesedd, a datgarboneiddio ffynonellau ynni i'r gorllewin o fy rhanbarth yn anad dim, ond rwy'n falch o'r cynnydd yn fy rhanbarth. Rwyf wedi codi’r posibilrwydd o greu canolfan arloesi dur genedlaethol gyda chi o'r blaen, felly rwy'n falch o glywed bod prosiectau Castell-nedd Port Talbot ar gyfer hynny a mynd i'r afael â newid hinsawdd bellach wedi'u cymeradwyo gan y cyd-fwrdd—bydd croeso i unrhyw swyddi newydd, er bod mwy o ffactorau na hynny’n unig. Ond rwy'n parhau i fod yn nerfus ynghylch oedi yn y system a welsom gan y ddwy Lywodraeth wrth archwilio prosiectau blaenorol. A allwch chi ddweud wrthyf beth rydych wedi'i ddysgu o'r prosesau hynny wrth brofi hyfywedd prosiectau a ddygwyd ger eich bron yn barod sy'n eich helpu i gyflymu'r broses o benderfynu pryd y gellir rhyddhau arian?
Rwy'n credu ei bod yn deg dweud mai'r wers allweddol rydym wedi'i dysgu o hanes diweddar mewn perthynas â'r fargen a'r prosiectau sy’n rhan ohoni yw bod angen i Lywodraethau chwarae mwy o ran yn cynorthwyo datblygiad prosiectau i sicrhau eu bod yn gallu cyrraedd y pwynt cymeradwyo yn gynt. Mae yna brosiectau uchelgeisiol iawn wedi'u cynnwys yn y fargen. Rydym yn dymuno gweld y fargen yn dod yn llwyddiant mawr, ond mae'n rhaid i ni fod yn drylwyr wrth archwilio pob prosiect sy’n rhan ohoni. Nid yn unig fod angen i hynny fod yn heriol mewn ffordd feirniadol, fel y dywedais, rwy’n credu y gallwn gynorthwyo’n fwy rhagweithiol hefyd i sicrhau y gall y prosiectau hynny ddod i gasgliadau—casgliadau cadarnhaol—yn gynt.
I ddilyn cwestiwn Suzy Davies am y ganolfan arloesi ddur genedlaethol a chanolfan dechnoleg bae Abertawe ym mharc ynni Baglan, a gaf fi eich gwthio ymhellach ar y pwynt ynglŷn â chyllid ac a allwch chi amlinellu pryd yn union y mae Llywodraeth Cymru yn debygol o wneud penderfyniad ar y cais cyllido pwysig hwn? At hynny, a ydych hefyd yn cydnabod nad yw’r ddarpariaeth band eang gyfredol ym mharc ynni Baglan gystal ag y gallai fod, gyda llawer o fusnesau'n cwyno am gysylltedd yn lleol? Felly, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i unioni’r sefyllfa honno, gan gofio y gallai'r prosiect allweddol hwn yn y fargen ddinesig gael ei ddatblygu yn yr union leoliad hwnnw?
A gaf fi ddiolch i Dai Lloyd am ei gwestiynau? Yn y mater sy'n ymwneud â darpariaeth band eang ym Maglan, byddaf yn gofyn i fy nghyd-Aelod, Lee Waters, ymateb yn ysgrifenedig iddo. Os oes problemau yno, yn amlwg mae angen i ni fynd i'r afael â hwy.FootnoteLink
O ran y prosiectau eraill sydd wedi'u cynnwys yn y fargen, byddwn yn eu cymeradwyo cyn gynted ag y byddwn yn gwbl fodlon bod yna ddiwydrwydd dyladwy a’u bod yn cyflawni yn ôl eu bwriadau.
Roeddwn am sôn am y sector prifysgolion. Mae gennym ddwy brifysgol ragorol yn ninas-ranbarth bae Abertawe a'r gallu i'w defnyddio er mwyn tyfu diwydiannau newydd o bwys ac adeiladu ar rai o'r rheini sy'n deillio ohono. Mae gennych ddewis, mewn gwirionedd, gyda pholisi economaidd, i flaenoriaethu ardaloedd cyflog isel i geisio dod ag is-ffatrïoedd i mewn, ond gan ddatblygu yn eich ardal eich hun, a meithrin sgiliau eich pobl eich hun, nad ydynt yn mynd i fod â'u traed yn gwbl rydd, fel y mae Dawn Bowden wedi’i ddarganfod gyda rhai o'r cwmnïau a ddaeth i mewn i'w hardal hi, mae gennych obaith o'u cadw; byddant yn tyfu yn eich ardal chi. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i weithio gyda phrifysgolion i gael mwy o lwyddiant o'r pethau hyn sy'n ymddangos? Rwy'n gwybod bod enw drwg i 'technium', ond y rheswm am hynny yw bod Llywodraeth Cymru wedi’i ddefnyddio i frandio—fe roesant yr enw i bob is-ffatri a agorwyd ganddynt yng Nghymru. Mae technium, y syniad o ddeillio o brifysgolion a datblygu sgiliau a gwneud eu ffordd i mewn i gwmnïau o ansawdd uchel a gwerth uchel, yn rhywbeth a all weithio, yn rhywbeth sydd wedi dechrau gweithio yn Abertawe, ond beth arall y gellir ei wneud?
Rwy'n siŵr bod llawer o wersi wedi cael eu dysgu o’r cynlluniau technium, a llwyddwyd i gymhwyso sawl un o'r gwersi hynny wrth ddatblygu'r hybiau menter sy'n hynod lwyddiannus ledled Cymru—chwe hyb menter sy'n rhoi hwb i ragolygon entrepreneuriaid ifanc ac sy'n arwain at lawer o fusnesau newydd yn ffynnu'n gynt nag y byddent wedi’i wneud pe bai’n rhaid iddynt oroesi ar eu pen eu hunain. Nawr, rydym wedi darparu—. Rwy'n credu bod yr Aelod yn gwbl gywir fod gan addysg uwch rôl hanfodol yn sicrhau ein ffyniant hirdymor. Mae sgiliau addysg bellach yn cynnig adnoddau technegol hynod bwysig, ac mae addysg uwch yn cynnig yr adnoddau strategol i gael y cyfle gorau posibl mewn byd cystadleuol. Ac felly, rydym wedi bod yn buddsoddi'n helaeth yng ngwaith ymchwil a datblygu sefydliadau addysg uwch. Er enghraifft, gwnaethom ddarparu £3 miliwn i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru y llynedd yn unig a £5 miliwn arall eleni i ddatblygu prentisiaethau lefel gradd, a fydd yn gwneud cyfraniad sylweddol, rwy'n credu, i ddatblygiad y sgiliau lefel uwch sydd eu hangen ar ein heconomi.
Hyd yn hyn, mae gwaith wedi mynd rhagddo mewn perthynas â’r maes digidol a pheirianneg a hefyd ym maes gweithgynhyrchu uwch, ac rwy'n aros am ganlyniadau'r cynlluniau peilot hynny gyda diddordeb mawr. Mae'n werth dweud hefyd, Lywydd, fod cronfeydd strwythurol Ewropeaidd wedi helpu prifysgolion i chwarae rhan bwysig iawn yn helpu i ddiwallu anghenion sgiliau lefel uwch diwydiant Cymru dros nifer o flynyddoedd, gyda mwy na £70 miliwn o gronfeydd yr UE wedi’i ddefnyddio yn ystod y cyfnod rhwng 2014 a 2020.
6. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i ysgogi'r economi yng Ngogledd Cymru? OAQ55128
Wel, rydym yn ysgogi economi gogledd Cymru mewn sawl ffordd. Rydym yn parhau i fuddsoddi mewn pobl, lleoedd, busnesau a seilwaith, fel yr amlinellwyd yn y cynllun gweithredu ar yr economi. Mae fy rôl fel Gweinidog gogledd Cymru hefyd yn sicrhau bod gan y rhanbarth lais cryf yn y Llywodraeth ac yn y Cabinet.
Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Mae gadael yr UE yn golygu y gallwn agor porthladdoedd rhydd newydd a all gynnig y buddion trethi a thollau a gysylltir yn draddodiadol â phorthladdoedd o'r fath. O dan reolau cymorth gwladwriaethol yr UE, ataliwyd porthladdoedd rhydd newydd rhag cynnig manteision o'r fath, gan eu gwneud yn rhydd mewn enw'n unig i bob pwrpas. Mae'n ymddangos bod Llywodraeth San Steffan yn awyddus i sefydlu nifer o borthladdoedd rhydd newydd yn y DU gan ein bod wedi gadael yr UE. A ydych yn cytuno â mi y gallai porthladd rhydd yng ngogledd Cymru ddod ag adfywiad economaidd a chyflogaeth sy'n fawr eu hangen i’r ardal, ac a wnewch chi alw ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod o leiaf un o’r porthladdoedd rhydd newydd yng ngogledd Cymru?
Rydym yn parhau i fod â meddwl agored am borthladdoedd rhydd, ond gadewch imi fod yn hollol glir, wrth ateb yr Aelod, ynglŷn â’r hyn na ddylai porthladdoedd rhydd fod yn ein barn ni. Ni ddylent fod yn fodd o ostwng safonau o ran cyflogaeth, iechyd na'r amgylchedd—ddim o gwbl. Ni ddylid eu defnyddio ychwaith mewn ffordd sy'n symud gweithgarwch o borthladdoedd ac ardaloedd menter presennol. Nawr, mae'r Aelod yn ymwybodol iawn y gallai porthladd Caergybi, ardal ddiwydiannol Glannau Dyfrdwy a llawer o ganolfannau gweithgarwch yng ngogledd Cymru gael eu bygwth yn sgil sefydlu porthladd rhydd pe na bai'n cael ei wneud yn y modd cywir. Ac felly, er ein bod yn parhau i fod â meddwl agored, byddai'n rhaid i mi ddweud wrth yr Aelod na ddylid eu croesawu fel syniad heb roi ystyriaeth ofalus iawn iddynt yn gyntaf.
Un mater sy'n parhau i gael ei godi gyda mi gan fusnesau yn Aberconwy yw'r prinder sgiliau. Mae hon yn broblem ledled Cymru, gyda 92 y cant o uwch arweinwyr busnes yn nodi anawsterau i gyflogi gweithwyr sydd â'r sgiliau gofynnol. Felly, i ysgogi twf sgiliau, rwyf wedi galw yn y gorffennol am greu athrofa dechnoleg yng ngogledd Cymru. Er bod Llywodraeth y DU eisoes wedi ymrwymo i sefydlu 12 athrofa dechnoleg ledled Lloegr, nododd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y canlynol wrth y North Wales Weekly News: mae capasiti yn yr ystâd addysg bellach bresennol i ddarparu dysgu rhagorol mewn pynciau fel peirianneg a'r maes digidol yn agos at gartrefi pobl yn y gogledd. Felly, o ystyried y gwrthwynebiad ymddangosiadol i greu athrofa, buaswn yn ddiolchgar pe gallech egluro lle mae'r 'capasiti' hwn y cyfeiriwyd ato a pha gamau rydych yn eu cymryd i adeiladu ar hynny. Diolch.
A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei chwestiwn? Mae'n ymwneud yn bennaf â chyfrifoldebau'r Gweinidog addysg, oherwydd mae'n trafod sefydliadau addysg bellach, wrth gwrs. Fodd bynnag, ar sgiliau yn gyffredinol, buaswn yn dweud nifer o bethau. Yn gyntaf, bydd prinder sgiliau yn gwaethygu mewn rhai meysydd o ganlyniad i'r ffaith ein bod yn gadael yr UE; dyna'n bendant yw'r hyn y mae busnesau yn ei ddweud wrthyf. Yn ail, mae Grŵp Llandrillo Menai'n gwneud gwaith anhygoel fel un o'n darparwyr sgiliau pwysicaf yng Nghymru, yn diwallu anghenion yr economi leol. Ac yn drydydd, mewn perthynas â'r syniad o greu athrofa dechnoleg yn benodol, buaswn yn falch o ystyried creu athrofa dechnoleg ar gyfer gogledd Cymru. Credaf fod hwn yn fater sydd wedi'i drafod eisoes. Os caiff cynigion eu cyflwyno i'r Llywodraeth, byddem yn ceisio cefnogi'r broses o ddatblygu achos busnes.
Weinidog, mae'r meiri metro Steve Rotheram ac Andy Burnham yn ystyried defnyddio eu cyllidebau i hybu twf diwydiant yn eu hardaloedd. Rydym angen yr hyblygrwydd yng ngogledd Cymru i fod yn rhan o'r ymgyrch hon a denu prosiectau fel hybiau logisteg Heathrow ac ail Ganolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch i Alun a Glannau Dyfrdwy. Weinidog, pryd y bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cyllidebau rhanbarthol a fydd yn rhoi inni'r arian, yr hyblygrwydd a'r pŵer i gaffael prosiectau o'r fath ac i'n galluogi i weithio ar y cyd ac yn uniongyrchol gyda gogledd-orllewin Lloegr? Ac yn olaf, Weinidog, a ydych yn cytuno â mi y bydd datganoli pŵer ac arian i ogledd Cymru yn dechrau mynd i'r afael â'r rhaniad rhwng y gogledd a'r de a deimlir mor aml gan fy etholwyr yn Alun a Glannau Dyfrdwy?
A gaf fi ddiolch i Jack Sargeant am ei gwestiynau a dweud, boed yn real neu'n ganfyddedig, fod y rhaniad rhwng y gogledd a'r de yn fater rwy'n benderfynol o fynd i'r afael ag ef? O ran y berthynas sydd gennym â gogledd-orllewin Lloegr, a gaf fi gofnodi cymaint o argraff y mae'r meiri metro Steve Rotheram ac Andy Burnham wedi'i wneud arnaf yn ystod y blynyddoedd diwethaf? Mae eu hymgysylltiad â Llywodraeth Cymru wedi bod yn eithaf syfrdanol. Mae penderfyniad y ddau ohonynt wrth wella'r rhagolygon ar gyfer eu dinasyddion, i'w edmygu'n fawr, ac rwy'n dymuno pob lwc iddynt yn yr etholiadau eleni.
O ran y buddsoddiad a fydd yn cael ei wneud drwy gyllidebau dangosol rhanbarthol, gallaf sicrhau'r Aelod y byddaf yn gwneud datganiad o gwmpas 10 Mawrth eleni ynghylch cyllidebau dangosol rhanbarthol, a chredaf ei bod yn gwbl briodol fod gennym dryloywder o ran ariannu a buddsoddi. Bydd hynny, yn ei dro, yn helpu i fynd i'r afael â'r rhaniad gwirioneddol neu ganfyddedig rhwng y gogledd a'r de.
Yn y cyfamser, gallaf hefyd sicrhau'r Aelod ein bod yn bwrw ymlaen â'r £1 biliwn o fuddsoddiadau trafnidiaeth yng ngogledd Cymru. Rydym eisoes wedi sefydlu'r Ganolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch, ac rydym bellach yn bwriadu sefydlu'r ail Sefydliad Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch yng Nglannau Dyfrdwy. Rydym yn bwrw ymlaen â phrosiect porth Wrecsam. Byddwn yn gwella pob gorsaf yng ngogledd Cymru. Ac o ganlyniad i'n hymdrechion dros y blynyddoedd diwethaf, mae'r gyfradd ddiweithdra yng ngogledd Cymru yn is nag erioed, ac yn is na chyfartaledd Cymru a'r DU.
7. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cynyddu ffyniant economaidd ledled Cymru? OAQ55112
Mae Llywodraeth Cymru yn helpu i gynyddu ffyniant economaidd ledled Cymru drwy'r cynllun gweithredu ar yr economi. Yn 2020, byddwn yn cyflawni twf cynhwysol drwy ganolbwyntio ar ddatblygiad economaidd rhanbarthol a byddwn yn annog ymdeimlad o fudiad cenedlaethol y tu ôl i economi decach, fwy cyfrifol, sy'n addas ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Tybed a gaf fi ofyn i'r Gweinidog pa rôl y mae'n credu y mae'r sector addysg bellach yn ei chwarae yn datblygu'r sgiliau a all fod yn sail i dwf ffyniant economaidd i bawb, yn enwedig yn rhai o'r cymunedau mwyaf difreintiedig. Nid oes gennym brifysgol yn ein hardal gyfagos yn Ogwr a Phen-y-bont ar Ogwr, ond mae gennym goleg addysg bellach gwych—mae'n digwydd bod wedi cael gradd ragorol ddwbl gan Estyn, mae wedi ennill gwobrau, mae'n gynhwysol, ac mae Times Educational Supplement 2019 wedi dyfarnu gwobr coleg y flwyddyn iddo—ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Yn ddiweddar, euthum i weld y gwaith anhygoel sy'n cael ei wneud gan bedair myfyrwraig ifanc yng nghystadleuaeth model Nemesis Inferno F1. Maent wedi ennill rowndiau'r DU—maent wedi gwneud yn well na phob tîm arall, nid yn unig ym maes peirianneg, ond hefyd mewn menter, sy'n rhan ohono yn ogystal—ac maent yn mynd ymlaen yn awr i gystadlaethau Ewrop. Mae'n gyfuniad o gydweithrediad rhwng Ysgol Gyfun Pencoed, rhwng y coleg addysg bellach ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ac amrywiaeth o bartneriaid a noddwyr o'r diwydiant yn ogystal. Onid yw hyn yn arddangosiad da o'r cyfraniad y mae addysg bellach, ac addysg chweched dosbarth o safon, gan weithio gyda phartneriaid, yn ei wneud i gynyddu ein cynhyrchiant economaidd?
A gaf fi ddiolch i Huw Irranca-Davies am ei gwestiwn? Mae'r sefydliadau addysg bellach rydym yn ffodus i'w cael yng Nghymru yn rhagorol o ran y ffordd y maent yn ymateb i anghenion cyflogwyr a sut y maent yn dod â chyfleoedd bywyd i gynifer o bobl ifanc, ac mae hynny'n cynnwys Coleg Penybont. Rwyf wedi gweld drosof fy hun sut y mae Coleg Penybont wedi cynyddu eu hymgysylltiad a'u cyfranogiad mewn cystadlaethau sgiliau. Drwy ymwneud â phrosiect Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru, mae'r Coleg wedi gallu cael unigolyn ar secondiad i'r prosiect, ac mae hynny wedi bod yn aruthrol o bwysig i ddysgwyr. Rwy'n credu ei bod yn werth dweud hefyd fod gan y coleg gysylltiadau hynod gryf yn draddodiadol â chyflogwyr mawr, gan gynnwys Ford a Sony, ond mae hefyd wedi bod yn ymatebol iawn i fusnesau bach a chanolig a microfusnesau yn ogystal.
Ac yn olaf, cwestiwn 8, Gareth Bennett.
8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol gwasanaethau bysiau yng Nghanol De Cymru? OAQ55125
Gwnaf, wrth gwrs. Mae Trafnidiaeth Cymru yn helpu Llywodraeth Cymru i adolygu sut y gellid gwella gwasanaethau bysiau yn y dyfodol er mwyn sicrhau bod cymunedau ledled Cymru yn elwa ar wasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus integredig a modern.
Diolch. Fel y bydd y Gweinidog yn gwybod, mae'r tâl tagfeydd ar gyfer Caerdydd yn destun ymgynghoriad; mae'r cyngor yn cyflwyno hwnnw fel cynnig. Gwn fod y Gweinidog wedi ymgynghori â hwy, sy'n beth da. Nawr, mae problem fawr gyda diffyg hyder y cyhoedd yn y system drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghaerdydd a'r cyffiniau, yn enwedig gan nad ydym wedi cael gorsaf fysiau yng Nghaerdydd ers pum mlynedd. A allwch chi gynnig unrhyw sicrwydd y bydd y ddarpariaeth o wasanaethau bysiau yng Nghaerdydd ei hun, ac i mewn i Gaerdydd, yn gwella?
O ganlyniad i gyfres o ddiwygiadau a mesurau, gallaf gynnig y sicrwydd hwnnw, yn gyntaf oll. Er ein bod wedi cael 10 mlynedd o gyni, rydym wedi gallu parhau i gynnal y grant cynnal gwasanaethau bysiau gwerth £25 miliwn ers 2013. Os yw cyni yn dod i ben mewn gwirionedd, mae'n amlwg y bydd cyfleoedd i gynyddu'r swm o gyllid a ddyrennir i gefnogi gwasanaethau bysiau ledled Cymru, gan gynnwys yng Nghaerdydd a'r cyffiniau.
Yn ail, rydym yn cyflwyno cynigion i'r Siambr hon i ddeddfu ar gyfer ailgyflwyno masnachfreinio er mwyn caniatáu i awdurdodau lleol redeg cwmnïau bysiau, er mwyn sicrhau bod data agored gwell a ffyrdd gwell o gasglu data fel y gallwn integreiddio amserlenni'n well ar gyfer gwasanaethau trenau a bysiau. A byddwn yn cyflwyno partneriaethau ansawdd estynedig er mwyn sicrhau bod profiadau teithwyr yn cael eu gwella a bod y seilwaith sydd ar gael i gefnogi gwasanaethau bysiau yn cael ei wella hefyd. Mae hwn yn faes gwaith hynod gyffrous. Mae'n gyffrous oherwydd bydd y gwaith y mae'r Llywodraeth Lafur Gymreig hon yn ei wneud yn mynd i'r afael, o'r diwedd, â methiant dadreoleiddio yn yr 1980au.
Diolch i'r Gweinidog.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Mike Hedges.
1. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi'r wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw femorandwm cydsyniad deddfwriaethol sydd ar y gweill a ddisgwylir o ganlyniad i ymadawiad y DU â'r UE? OAQ55108
Rwy'n falch o gadarnhau bod y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer Bil Amgylchedd y DU wedi'i osod heddiw. Mae hwn yn dilyn memoranda diweddar ar bedwar Bil sy'n ymwneud ag ymadael â'r UE: y Bil Cytundeb Ymadael, y Bil Taliadau Uniongyrchol, y Bil Amaethyddiaeth a'r Bil Pysgodfeydd. Byddwn yn parhau i adolygu'r angen am femoranda tebyg mewn perthynas â Biliau y gallai Llywodraeth y DU eu cyflwyno yn y dyfodol.
A gaf fi ddiolch i'r Cwnsler Cyffredinol am yr ateb hwnnw? Rwy'n derbyn mai ewyllys pobl Prydain yw gadael yr Undeb Ewropeaidd ac rwyf wedi derbyn hynny ers 2016. Er mai ewyllys y bobl yw gadael yr UE, nid wyf yn credu bod y bobl eisiau dychwelyd at afonydd de Cymru yn y 1960au, heb unrhyw bysgod, lefelau llygredd uchel, a lliw'r dŵr yn amrywio rhwng coch a du, gyda rhai ohonynt yn gallu mynd ar dân mewn gwirionedd. Rwyf am bwysleisio pwysigrwydd diogelu'r amgylchedd a hoffwn ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf ar unrhyw drafodaethau ar y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol mewn perthynas â'r amgylchedd.
Mae'r memorandwm cydsyniad deddfwriaethol mewn perthynas â hynny wedi'i osod heddiw. Rwy'n cytuno â'r Aelod o ran y pwyslais y mae'n ei roi ar ddiogelu'r amgylchedd yng Nghymru ac rydym wedi elwa o hynny yn ystod ein haelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd. Rydym wedi bod yn glir iawn mai'r hyn rydym eisiau ei weld yw aliniad parhaus â rheoliadau buddiol yr UE rydym wedi gweld eu manteision yng Nghymru dros ddegawdau lawer, ac rwy'n gobeithio y gallwn berswadio Llywodraeth y DU, maes o law, i barhau i weithredu'r safonau hynny yn y dyfodol.
2. Pa asesiad diweddar y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o effaith ymadawiad y DU â'r UE ar drefniadau masnach a thollau yng Nghymru? OAQ55116
Yn ystod y cyfnod pontio, bydd y DU yn aros yn yr undeb tollau a'r farchnad sengl, sy'n golygu y bydd tariffau a threfniadau tollau yn aros yr un peth am y cyfnod hwnnw. Mae'n amlwg y bydd hyn yn newid yn sylweddol ar ddiwedd y cyfnod pontio, gyda chynnydd gwirioneddol mewn rhwystrau di-dariff, gan gynnwys gofynion ar gyfer dogfennaeth tollau, a thariffau o bosibl hefyd.
Fe fyddwch yn gwybod fy mod wedi mynegi pryderon gan Undeb Cenedlaethol y Gweithwyr Rheilffordd, Morwrol a Thrafnidiaeth ar sawl achlysur am effaith trefniadau a newidiadau tollau posibl, yn enwedig mewn perthynas â'r effaith ar forgludiant, yr effaith ar gystadleuaeth o fewn morgludiant, yr effaith ar y cytundebau ar y cyd sy'n cael eu dal ar hyn o bryd gan undebau llafur i ddiogelu telerau ac amodau cyflogaeth, a hefyd y goblygiadau o ran torri telerau ac amodau cludo nwyddau, tandalu'r isafswm cyflog, yn ogystal â'r holl faterion allanol, ehangach sy'n ymwneud â pheidio â thalu'r isafswm cyflog cenedlaethol. Tybed pa gamau y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd, a pha drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cael i geisio sicrhau ein bod yn cadw argymhellion y Comisiwn Gwaith Teg ac yn diogelu hawliau a buddiannau gweithwyr ym maes mordeithio a chludo nwyddau, a hefyd o ran y materion sy'n codi mewn perthynas â statws porthladd Aberdaugleddau yn y dyfodol.
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn pwysig hwnnw ac mae ei bwynt yn taflu goleuni ar un agwedd nad yw wedi cael ei harchwilio'n ddigon manwl, sef rhai o effeithiau rhwystrau di-dariff yn arbennig. Gallaf ei sicrhau ein bod yn parhau i fanteisio ar bob cyfle i bwysleisio wrth Lywodraeth y DU yn eu negodiadau pa mor bwysig yw cynnal cyn lleied o rwystrau â phosibl i fasnach, gan gynnwys y math o lwybrau cludo nwyddau a ddisgrifiodd yn ei gwestiwn. Mae hynny'n rhan o ymrwymiad ehangach, a gwn yn iawn ei fod yn rhannu'r ymrwymiad hwnnw, i sicrhau bod safonau llafur yn cael eu cynnal yn y dyfodol. Yn amlwg, rydym eisiau gweld cae chwarae gwastad yn parhau yn ein perthynas â'r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol, a ninnau bellach y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd. Mae rhan o hynny, a rhan hanfodol ohono, yn ymwneud â safonau llafur ac yn sicr rydym ni yng Nghymru wedi ymrwymo i gynnal y rheini.
Cwestiynau nawr lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Darren Millar.
Diolch, Lywydd. Weinidog, a allwch chi ddweud wrthym pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynyddu nifer dinasyddion yr UE sy'n gwneud cais am statws preswylio'n sefydlog o dan y cynllun?
Yn sicr. Cynllun Llywodraeth y DU yw'r cynllun hwnnw; nid yw'n gynllun y byddem wedi'i gynllunio pe baem wedi bod yn rheoli'r ffordd y mae'n gweithio, ond rydym yn cydnabod mai dyna'r cynllun sydd ar gael. O ganlyniad, rydym wedi rhoi nifer o gamau ar waith er mwyn cynorthwyo dinasyddion yr UE sy'n byw yng Nghymru i wneud cais i'r cynllun. Rwy'n credu ein bod wedi ymrwymo tua £2 filiwn yn fwyaf diweddar mewn perthynas â chyllido gwasanaethau cynghori. Mae rhywfaint o hwnnw drwy sefydliadau megis Cyngor ar Bopeth; mae rhywfaint ohono o natur lawer mwy technegol drwy gwmni cyfraith mewnfudo. Rydym wedi ariannu awdurdodau lleol i gefnogi eu cymunedau eu hunain yn lleol; ac mae gennym strategaeth gyfathrebu, gan gynnwys strategaeth gyfathrebiadau digidol, i gynyddu'r niferoedd sy'n ymgeisio. Rydym yn manteisio ar bob cyfle, gan fy nghynnwys i, yr wythnos hon, gyda swyddogion y Swyddfa Gartref, i'w hargyhoeddi o'r angen i sicrhau bod cyfathrebiadau ar draws y DU yn gwneud popeth y gellir ei wneud i annog cymaint o bobl ag y bo modd i ymgeisio.
Diolch ichi am yr ateb hwnnw. Gwn eich bod chi a minnau eisiau gweld cynifer â phosibl o ddinasyddion yr UE, sydd wedi dewis byw yng Nghymru, yn aros yma yng Nghymru. Ond credaf mai'r hyn sy'n peri pryder yw bod ffigurau a ryddhawyd gan Lyfrgell Tŷ’r Cyffredin yn dangos, hyd at fis diwethaf, mai dim ond 71 y cant o ddinasyddion yr UE sy'n byw yma yng Nghymru sydd wedi gwneud cais i gynllun preswylio'n sefydlog yr UE mewn gwirionedd, ac mae hynny o'i gymharu â 93 y cant mewn ardaloedd eraill o'r DU. Felly, yn amlwg, mae gwahaniaeth sylweddol o ran nifer y bobl sy'n manteisio ar y cynllun o Gymru, ac rwyf eisiau deall pam. A ydych wedi gwneud unrhyw waith dadansoddi fel Llywodraeth i weld pam y gallai pobl fod yn ei chael hi'n anos cael mynediad at y cynllun, neu pam fod llai o bobl yn manteisio ar y cynllun yma yng Nghymru o gymharu â rhannau eraill o'r DU?
Mae ffigurau diweddaraf y Swyddfa Gartref yn dangos mewn gwirionedd mai Cymru yw’r ail o bedair gwlad y DU o ran nifer y ceisiadau. Yn amlwg, rydym am weld 100 y cant o ddinasyddion cymwys yn ymgeisio, a byddem yn gobeithio ac yn disgwyl i Lywodraeth y DU rannu'r uchelgais hwnnw hefyd. Credwn fod rhan o'r mater yn ymwneud â'r strategaeth gyfathrebu ledled y DU, sydd wedi canolbwyntio ar ddinasoedd, ac wrth gwrs, mae mwy o ddinasoedd â phoblogaethau mwy o ddinasyddion yr UE yn Lloegr nag sydd yng Nghymru, lle mae'r poblogaethau'n fwy gwasgaredig. Credwn fod honno’n un agwedd ar y sefyllfa. Yr agwedd arall efallai yw nifer y dinasyddion o Iwerddon o fewn y garfan gyffredinol honno o ddinasyddion yr UE. Yn amlwg, nid oes angen i ddinasyddion Iwerddon sy'n byw yng Nghymru wneud cais i'r cynllun, ac rydym o'r farn y gallai hynny fod yn rhan o'r ffactor hefyd. Ond rydym yn hollol glir, er mai cynllun wedi’i gadw'n ôl yw hwn, nid cynllun datganoledig, rydym yn rhoi cyllideb Llywodraeth Cymru tuag at sicrhau bod cynifer o bobl ag sy’n bosibl yn gwneud cais.
Rydym wedi gweithio'n llwyddiannus i berswadio Llywodraeth y DU, er enghraifft, i gynyddu nifer y canolfannau digidol yng Nghymru, o un i saith ar hyn o bryd rwy'n credu, ac iddynt gael eu gwasgaru ledled Cymru. Rydym wedi gweithio'n galed i sicrhau bod hynny'n digwydd ac i gynyddu nifer y canolfannau cymorth yn gyffredinol. Ond gwn y bydd yn rhannu fy uchelgais i sicrhau bod 100 y cant o’r rhai sy’n gwneud cais yng Nghymru yn gallu gwneud hynny a llwyddo yn eu ceisiadau.
Nodaf yr hyn a ddywedoch ynghylch gwelliannau diweddar yn y ffigurau hyn, ac o'r wybodaeth sydd gennyf, mae'n awgrymu ein bod, o fis Rhagfyr i fis Ionawr, wedi gweld cynnydd o 8 y cant yn nifer y bobl sy'n gwneud cais am y cynllun yma yng Nghymru. Er hynny, y cyfartaledd ledled y DU yw 93 y cant o ddinasyddion yn hytrach na’r 71 y cant yma yn y ffigurau a gyhoeddwyd yn fwyaf diweddar. Nawr, rwy'n croesawu peth o'r gwaith a wnaed. Fe gyfeiriwch yn gywir at y ffaith bod Llywodraeth y DU wedi canolbwyntio ar gyfathrebiadau mewn dinasoedd, a bod angen ychwanegu at hynny yma oherwydd natur wahanol y boblogaeth a wasgarwyd ledled Cymru. Ond yn amlwg, rwy'n credu ei fod yn destun pryder mai dim ond 71 y cant o bobl sydd wedi manteisio ar y cynllun hyd yn hyn.
A gaf fi ofyn pa gyfathrebiadau neu drafodaethau a gafodd Llywodraeth Cymru gydag awdurdodau lleol ynghylch rhoi hwb penodol i'w rôl yn estyn allan at y cymunedau alltud yn eu hardaloedd, oherwydd, yn amlwg, mae ganddynt rôl allweddol, rwy'n credu, o ystyried eu cysylltiad â’r cymunedau hyn ar lawr gwlad? Ac o ystyried pa mor gyfyngedig yw adnoddau rhai awdurdodau lleol, a oes mwy y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud i’w cynorthwyo?
Wel, roedd y cyfarfod a gefais yn gynharach yr wythnos hon gydag ystod o randdeiliaid ledled Cymru, a swyddogion y Swyddfa Gartref, yn cynnwys cynrychiolaeth o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Yn fwyaf diweddar, rydym wedi sicrhau bod cyllid ar gael i bob awdurdod lleol i gefnogi eu hymdrechion yn ychwanegol at yr ymdrechion rydym yn eu gwneud ledled Cymru, fel bod gan awdurdodau lleol allu i'w wneud eu hunain yn eu hardaloedd lleol. Un o nodweddion y ffigurau hyn yw ei bod yn ymddangos bod mwy o obaith o gael statws preswylydd sefydlog yng Nghymru yn hytrach na statws preswylydd cyn-sefydlog na mewn rhannau eraill o'r DU. Un o'r ffynonellau pryder mawr i'r rhan fwyaf o ddinasyddion yr UE sy'n gwneud cais i'r cynllun yw'r nifer uchel iawn o bobl sy’n cael statws preswylydd cyn-sefydlog mewn amgylchiadau lle byddem yn disgwyl gweld statws preswylydd sefydlog yn cael ei roi. Ac rwy’n credu ei bod hi'n anodd gorddatgan y math o bryder sy'n deillio o hynny. I lawer o bobl, ymwneud â'r math hwn o fiwrocratiaeth polisi ymfudo yw'r tro cyntaf iddynt orfod gwneud hynny erioed. Ac felly, mae'n ddyletswydd ar Lywodraeth y DU i’w wneud yn syml, a rhoi cymaint o gefnogaeth ag y bo modd, a chynyddu gobaith y rhai sy'n gymwys i gael eu statws preswylwyr sefydlog a gwarchod eu hawliau yma.
Llefarydd Plaid Cymru, Dai Lloyd.
Diolch yn fawr, Lywydd. Weinidog, yn amlwg, mae angen cydweithredu rhyngwladol parhaus ar gyfer masnachu cynnyrch iechyd yn ddirwystr ar draws ffiniau'r DU-UE yn y dyfodol, ar ôl Brexit. Nawr, mae tua 45 miliwn o becynnau cleifion o feddyginiaethau yn cael eu cyflenwi o'r DU i wledydd yr UE a’r ardal economaidd Ewropeaidd bob mis, ac mae dros 37 miliwn o becynnau cleifion o feddyginiaethau yn dod o'r UE i'r DU bob mis. Ac eto, heb unrhyw gysoni rheoliadol yn y dyfodol, fel y cyhoeddodd y Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan, a gaf fi ofyn i chi: beth yn y byd allai fynd o’i le?
Mae'n nodi enghraifft fyw iawn, mae'n ymddangos i mi, o rai o'r problemau y gallem yn sicr eu hwynebu oni fydd y negodiadau â'r Undeb Ewropeaidd yn dod i ben gyda'r math o gytundeb sy'n lleihau'r rhwystrau i fasnachu a chludo nwyddau'n rhyngwladol, sydd mor bwysig i sawl agwedd ar ein bywyd economaidd, ond fel y mae ei gwestiwn hefyd yn ei ddangos, i fywyd ein dinasyddion mewn ffordd uniongyrchol iawn, o ran gwasanaethau cyhoeddus. Gallaf ei sicrhau ein bod yn manteisio ar bob cyfle—wedi manteisio ar bob cyfle—i bwyso ar Lywodraeth y DU, nid yn unig i geisio lleihau tariffau a chwotâu yn eu negodiadau, ond hefyd y math o rwystrau di-dariff, sy'n broblem sylweddol, fel y mae ei gwestiwn yn nodi.
A gaf fi ddiolch i chi am yr ateb hwnnw? Gan symud ymlaen at fater arall cysylltiedig, mae cyfran sylweddol o gyfraith cyflogaeth y DU, fel y clywsom eisoes, yn tarddu o'r UE, gan gynnwys y gyfarwyddeb oriau gwaith Ewropeaidd. Dyna a ataliodd feddygon rhag gweithio 120 awr bob wythnos i lawr i tua 58 awr dros y blynyddoedd. Felly, a gaf fi ofyn: pa drafodaethau rydych chi'n eu cael ynglŷn â diogelu hawliau cyflogaeth i weithwyr yng Nghymru ar ôl Brexit?
Wel, roedd y datganiad gwleidyddol, fel y bydd yr Aelod yn cofio o bosibl, yn glir fod y ddau barti—Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ar y pwynt hwnnw, a'r Undeb Ewropeaidd—yn ymrwymo i gynnal safonau, o ran hawliau'r gweithle ac yn y blaen, a oedd ar waith ar ddiwedd y cyfnod pontio. Roedd hynny'n un o nodweddion y datganiad gwleidyddol.
Rwy'n siŵr y bydd yn rhannu fy mhryder ynghylch darllen hap-geisiadau ac mewn areithiau gan y Prif Weinidog ac eraill, ynghylch y potensial, fel y byddent yn ei ddisgrifio—a byddai ef a minnau'n ei ddisgrifio fel anfantais—gwanhau rheoliadau llafur o ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd. Nid yw'r mathau hynny o uchelgeisiau ac amcanion yn rhai rydym yn eu rhannu yn y Llywodraeth hon ac ni fyddent yn cael eu rhannu'n eang ar draws y Siambr hon. Credwn fod y math o berthynas y bydd pobl yng Nghymru yn ei disgwyl yn y dyfodol yn un sy'n ein galluogi i gynnal y safonau llafur hynny, yng Nghymru ac yn y DU, ac i gael ymrwymiad i wneud hynny fel y gallwn fanteisio ar y lefel honno o gysoni i gefnogi ein heconomi i'r dyfodol.
Diolch. Ac i droi at faes arall, bydd unrhyw un sydd wedi mynychu'r Gwobrau Gofal Cymdeithasol Cenedlaethol yma yng Nghaerdydd yn gwybod bod gofal cymdeithasol yn broffesiwn medrus. Yn wir, mae'r enghreifftiau sy'n cael eu harddangos bob blwyddyn yn y seremoni wobrwyo honno'n dangos lefel uchel iawn o sgiliau. Ond yn amlwg, mae cyflogau isel yn bla ym maes gofal cymdeithasol ac o ganlyniad, mae'n methu cydymffurfio â system fewnfudo Llywodraeth y DU sy'n seiliedig ar bwyntiau. Nawr, mae Cymru'n dibynnu ar weithwyr gofal cymdeithasol proffesiynol o'r UE fel y mae mewn system sydd eisoes o dan bwysau. Felly, pa sylwadau rydych yn eu cyflwyno ar ofal cymdeithasol yng Nghymru ar ôl Brexit?
Wel, diolch i'r Aelod am dynnu sylw at y pwynt hwnnw. Pan gyfarfûm â chadeirydd y Pwyllgor Cynghori ar Ymfudo, roedd y sector gofal cymdeithasol yn un o'r sectorau y dywedais wrtho eu bod yn wynebu risg o'r mathau o bolisïau ymfudo a oedd yn cael eu crybwyll gan Lywodraeth y DU ar y pwynt hwnnw ac a gadarnhawyd yn y cyhoeddiad diweddaraf. Roeddem wedi gobeithio, fel Llywodraeth, y byddai Llywodraeth y DU yn cael ei pherswadio i gyflwyno set o bolisïau ymfudo a fyddai'n cefnogi'r economi a gwasanaethau cyhoeddus ledled y DU. Nid felly y bu, ac o ganlyniad i'r trothwy cyflogau a'r trothwy sgiliau, ymysg pethau eraill, bydd sectorau fel y sector gofal cymdeithasol, ac eraill, yn wir, ym maes cynhyrchu bwyd, logisteg a rhai rhannau o'r sectorau gweithgynhyrchu, yn pryderu am eu gallu i staffio eu gwasanaethau a'u busnesau yn y dyfodol.
Ac rwyf am wneud un pwynt mewn perthynas â'r sylw ar ddechrau cwestiwn yr Aelod. Ni fydd ef na minnau, na llawer o rai eraill yn y Siambr, os nad pawb, ysywaeth, yn cydnabod y term 'sgiliau isel' yng nghyd-destun y sector gofal. Bydd unrhyw un sydd wedi dod i gysylltiad â'r mathau o gymorth a chefnogaeth fedrus y mae llawer o'n pobl sy'n derbyn gofal yn eu cael yn cydnabod bod y rheini'n rolau medrus iawn yn wir.
3. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o safbwynt negodi'r UE yn ystod y trafodaethau presennol ar y gytundeb fasnach? OAQ55133
Mae mandad negodi drafft yr UE yn adlewyrchu i raddau helaeth y datganiad gwleidyddol y cytunwyd arno rhwng y DU a'r UE ym mis Hydref y llynedd. Gwnaethom ni, fel Llywodraeth, nodi ein safbwynt ar y datganiad gwleidyddol yn 'Y berthynas rhwng y DU a'r UE yn y dyfodol: blaenoriaethau negodi i Gymru' ym mis Ionawr eleni.
Diolch ichi am yr ateb hwnnw, Weinidog. Mae'n edrych fel pe gallai'r UE geisio mynnu bod parhau i fod yn ddarostyngedig i Lys Cyfiawnder Ewrop yn rhagofyniad i unrhyw gytundeb masnach. Yn eich barn chi, a ddylai llysoedd y DU, neu lysoedd Cymru pe bai ein barnwriaeth yn cael ei datganoli, barhau i fod yn ddarostyngedig i Lys Cyfiawnder Ewrop pan ddaw cyfnod pontio Brexit i ben?
Wel, nid wyf yn deall y cysyniad o 'ddarostyngedig'. Mae gennym Lywodraeth y DU ar hyn o bryd sy'n ymddangos fel pe bai'n benderfynol o gwestiynu rôl y farnwriaeth ym mywyd cyhoeddus Prydain. Credaf fod risgiau sylweddol i roi gormod o bwyslais ar hyn, sef yr hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud. Mae'n sicr yn faes lle dylid mabwysiadu agwedd fwy pragmatig. Er enghraifft, ceir llawer o enghreifftiau o lywodraethu ar sail yr UE yn ei gyfanrwydd: mae Canolfan Atal a Rheoli Clefydau Ewrop yn un a allai fod ym meddyliau'r Aelodau, o ystyried yr amgylchiadau rydym yn eu hwynebu ar hyn o bryd, lle gallai rhywfaint o lywodraethu ar sail Ewrop gyfan, gan gynnwys, mewn rhai achosion, awdurdodaeth y llys, fod yn gam synhwyrol i'w gytuno er mwyn diogelu buddiannau ehangach.
Credaf fod canolbwyntio ar un agwedd yn unig, fel y mae cwestiwn yr Aelod yn ei wneud, yn dangos methiant i fynd i'r afael â'r effaith a gaiff hynny ar nifer o feysydd eraill, gan gyffwrdd, er enghraifft, ar ddiogelwch dinasyddion Prydain, ac rwy'n siŵr y byddai pob un o'n hetholwyr yn cymryd hynny'n ganiataol.
Rwy'n credu ei bod yn bwysig deall bod Llywodraeth y DU yn ymddangos yn barod i dderbyn darpariaethau caeau chwarae gwastad o'r math a gynhwyswyd yng nghytuniadau Canada a De Korea gan yr UE, a'r confensiynau cyffredinol i beidio â chaniatáu dirywiad a'r confensiynau rhyngwladol y cyfeiriwyd atynt yn y cytuniadau hynny. Yr hyn y mae'r UE yn ei ddweud, serch hynny, yw y dylem, yn wir, fod yn ddarostyngedig i'r UE ar sail barhaus drwy ufuddhau i'w rheolau yn y meysydd hyn, beth bynnag ydynt, heb unrhyw fewnbwn democrataidd ac yna fod Llys Cyfiawnder Ewrop yn penderfynu sut y dehonglir y rolau hynny. Nawr, a yw Llywodraeth Cymru yn cefnogi safbwynt y DU neu'r UE?
Mae gallu'r Aelod i lunio gwawdlun yn ddi-ben-draw. Nid dyna yw safbwynt yr UE. Yr hyn a ddywedodd y datganiad gwleidyddol, a lofnodwyd—a gytunwyd—gan yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth y DU yw y dylai'r safonau sy'n gymwys yn y ddau ar ddiwedd y cyfnod pontio, gan gynnwys yng nghyd-destun y cae chwarae gwastad, barhau i fod yn gymwys. Nid yw'n wir y gallwch gymharu'n syml â chytundeb masnach rydd Canada. Mae Llywodraeth y DU yn ceisio cytundeb dim tariff, dim cwota. Nid dyna gytundeb Canada—cymerodd saith mlynedd i'w negodi. Mae'n cynrychioli degfed ran o'r fasnach sydd gan y DU â'r Undeb Ewropeaidd, ac mae 5,000 km i ffwrdd. Nid oes unrhyw gymhariaeth mewn perthynas â masnach. A ffantasi yn fy marn i yw disgwyl i'r un darpariaethau fod yn gymwys mewn cytundeb â'ch cymydog agosaf, gyda 10 y cant yn fwy o fasnach, na'r hyn a osodwch ar bartner masnachu llawer llai sylweddol o ran cyfaint ar yr ochr arall i'r byd.
Gwnsler Cyffredinol, yn amlwg, ddoe, cadarnhaodd y cyngor cyffredinol fandad negodi'r UE—[Anghlywadwy.] Mae ychydig yn llymach na'r drafft gwreiddiol, gan nodi'n glir safbwyntiau cryf ar y cae chwarae gwastad hwn. Yfory, byddwn yn gweld symudiad agoriadol Llywodraeth y DU, gan ein bod eto i gael hynny wedi'i ddiffinio'n glir. Ond yr hyn sy'n bwysig mewn gwirionedd yw economi Cymru a sut i sicrhau na chaiff economi Cymru ei niweidio gan negodiadau'r UE a'r DU yn y dyfodol.
Nawr, o ran hynny, pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cael gydag ochr yr UE i sicrhau bod ei safbwynt—ei heconomi a'r materion sy'n bwysig i Gymru—yn cael eu hadlewyrchu a'u trafod yn Ewrop, yn ogystal ag yn y DU? Oherwydd yn aml iawn, gwyddom yn y DU—. A gwyddom fod Boris Johnson a Dominic Cummings—cyflwyno eu safbwynt eu hunain yn unig a wnânt; nid ydynt yn cyflwyno barn rhannau eraill o'u plaid hyd yn oed. A wnewch chi sicrhau y caiff safbwynt Cymru ei gyflwyno ar bob ochr a phob llwybr fel y gallwn gael cyfran deg o hyn?
Wel, rydym yn parhau i wneud hynny. Roedd y Gweinidog cysylltiadau rhyngwladol ym Mrwsel yn ddiweddar, bydd y Prif Weinidog yno cyn bo hir. Rydym yn manteisio ar bob cyfle i sicrhau bod yr hyn sydd er budd economi Cymru yn cael ei ddeall gan bawb o'n cyd-siaradwyr.
Ond hoffwn ddweud wrth yr Aelod mai sefydliadau Ewropeaidd a Llywodraeth Prydain fydd y partïon i'r negodiadau yn y cyfnod o negodi sydd o’n blaenau. Nid oes set gyfochrog o negodiadau na thrafodaethau y gallai neu y dylai Llywodraeth Cymru eu cael yn y cyd-destun hwnnw. Ein disgwyliad, ein gweledigaeth, o sut y dylai hyn weithio’n ymarferol yw y dylai Llywodraeth y DU gytuno i'r Llywodraethau datganoledig chwarae rôl yn y trafodaethau hynny wrth osod safbwynt DU gyfan mewn perthynas â materion sydd wedi'u datganoli.
Fel y bydd yn gwybod, hyd yma nid yw honno'n egwyddor y mae Llywodraeth y DU wedi'i chytuno mewn ffordd sy'n dderbyniol yn ein barn ni. Mae gallu Llywodraeth Cymru i adlewyrchu buddiannau Cymru, ac i adlewyrchu cymwyseddau datganoledig y sefydliad hwn a Llywodraeth Cymru, yn rhywbeth y mae'n rhaid i Lywodraeth y DU ei gydnabod er mwyn amddiffyn buddiannau Cymru drwy'r cyfnod hwnnw.
4. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei gynnig i awdurdodau lleol i gefnogi'r broses o roi cynllun Llywodraeth y DU, Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE ar waith? OAQ55135
Yn fwyaf diweddar, rydym wedi darparu £224,000 o gyllid ychwanegol i awdurdodau lleol allu darparu cymorth i ddinasyddion yr UE sy'n gwneud cais i'r cynllun preswylio’n sefydlog i ddinasyddion yr UE. Mae'r cyllid yn hyblyg, er mwyn galluogi awdurdodau lleol i ddarparu cymorth wedi'i deilwra i'w cymunedau lleol. Mae hyn yn rhan o ystod o gymorth rydym wedi'i darparu i gynorthwyo dinasyddion yr UE yng Nghymru i wneud cais.
Diolch. Fel y dywedoch chi ar 13 Chwefror, rydych wedi cyfrannu mwy na £220,000 i gynorthwyo cynghorau ledled Cymru, ac mae hwnnw’n mynd i gynyddu allgymorth lleol i oresgyn rhwystrau i helpu’r rhai nad ydynt yn ymwybodol o hyd o’r angen i wneud cais neu sy’n ei chael hi'n anodd gwneud cais. Weinidog, yn benodol, beth fydd y cyllid i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, a sut y gall Llywodraeth Cymru gynorthwyo a chefnogi'r awdurdod i’w gwneud yn haws i ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd sy'n byw mewn cymunedau ledled Islwyn i wneud cais i ymgartrefu yn y Deyrnas Unedig?
Yn ogystal, Weinidog, gyda’r holl ddinasyddion o'r Undeb Ewropeaidd a'u teuluoedd sy'n byw yng Nghymru yn gorfod gwneud cais yn awr i gynllun y Swyddfa Gartref erbyn 30 Mehefin 2021, er mwyn amddiffyn eu hawliau ac i barhau i fyw a gweithio yma, beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i sicrhau, er bod cynghorau'n rhydd i ddewis y ffordd orau o gefnogi preswylwyr, ein bod yn gweld yr ymarfer gorau ar waith yn gyson ledled Cymru?
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Mae arnaf ofn nad oes gennyf yr union ffigur ar gyfer cyngor Caerffili, ond rwy’n hapus i ysgrifennu ati mewn perthynas â hynny. Rhan o'r amcan wrth ddarparu'r cyllid yw caniatáu rhywfaint o hyblygrwydd o ran sut y mae hyn yn gweithio ar lawr gwlad, gan gydnabod y bydd gan wahanol gymunedau lleol mewn rhannau o Gymru anghenion gwahanol. Ond rydym hefyd yn darparu pecyn hyfforddi pwrpasol ledled Cymru ar gyfer holl staff awdurdodau lleol sy'n ymwneud â'r cyhoedd ynghylch hawliau dinasyddion yr UE yng Nghymru, ac mae hynny'n cynnwys eu cymhwysedd i gael gwasanaethau cyhoeddus. Rydym yn gwneud hynny trwy brosiect hawliau dinasyddion yr UE, sydd wedi'i gynllunio i gynyddu ymwybyddiaeth ac i gynorthwyo awdurdodau i gydnabod anghenion cymorth dinasyddion unigol yr UE ledled Cymru. Bwriedir iddo fod yn becyn hyfforddi sy'n cael ei yrru gan ymarfer gorau, a bydd ar gael, fel rwy'n dweud, i awdurdodau ledled Cymru.
5. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch polisi mewnfudo yn y dyfodol ar ôl Brexit? OAQ55131
6. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael yn ddiweddar gyda Llywodraeth y DU ynghylch polisi mewnfudo ar ôl i'r DU ymadael â'r UE? OAQ55111
Lywydd, credaf eich bod wedi rhoi eich caniatâd i'r cwestiwn hwn gael ei grwpio â chwestiwn 6.
Roeddwn yn siomedig na wnaeth Llywodraeth y DU rannu eu hargymhellion â ni cyn iddynt gael eu cyhoeddi i'r cyfryngau. Er nad yw mewnfudo wedi'i ddatganoli wrth gwrs, mae polisi ymfudo yn y dyfodol yn hynod o bwysig a bydd yn cael effeithiau sylweddol ar ein heconomi a'n cymunedau. Rhaid i ddiwygio ystyried anghenion Cymru.
Diolch i'r Gweinidog am yr ateb hwnnw. A yw’n ymwybodol fod mewnfudo—ymfudo net—wedi bod yn 330,000 y flwyddyn ar gyfartaledd ers 2014? A fyddai’n cytuno â mi nad oes angen inni ychwanegu dinas o faint Caerdydd at boblogaeth y DU bob blwyddyn yn sgil mewnfudo yn unig er mwyn llenwi bylchau mewn iechyd a gofal cymdeithasol, i ddychwelyd at ei ateb cynharach? Pleidleisiodd y Blaid Lafur yn ei chynhadledd ddiwethaf yn 2019 dros gyfres o gynigion sydd i bob pwrpas yn ymrwymo ei blaid i fewnfudo drws agored, a diwedd ar bob rheolaeth fewnfudo yn y bôn. Tybed ai dyna’r rheswm dros ganlyniadau truenus Llafur yn yr etholiad cyffredinol yn ddiweddar? Oherwydd mae’n amlwg nad oes cysylltiad o gwbl rhyngddynt a barn y mwyafrif o bobl gyffredin ar y pwnc hwn, ac mae'r ffaith bod Plaid Cymru yn rhannu'r farn hon yn dangos y diffyg cysylltiad rhwng dwy ran o dair o Aelodau'r lle hwn a phobl gyffredin yng Nghymru. Onid yw hynny'n rheswm arall eto am y dirywiad yn enw da'r sefydliad hwn flwyddyn ar ôl blwyddyn?
Rwy'n siŵr nad yw'r un o'r rheini'n gwestiynau rhethregol, ond i fod yn glir, buaswn yn disgwyl i'r Aelod gefnogi polisi ymfudo sy'n sefyll dros, ac yn adlewyrchu buddiannau pobl Cymru a gwasanaethau cyhoeddus Cymru, ac economïau a chyflogwyr Cymru. Mae arnaf ofn nad dyna y mae'r cynigion diweddaraf gan Lywodraeth y DU wedi'i wneud. Yn sicr nid ydynt yn adlewyrchu anghenion y gweithlu na gwasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru, a beth bynnag y byddai pobl wedi pleidleisio drosto yn y gorffennol, ni chredaf eu bod wedi pleidleisio dros wneud gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn llai cadarn, a'i gwneud yn anos i fusnesau Cymru dyfu a chyflogi pobl.
Huw Irranca-Davies.
Diolch, Lywydd. A gaf fi ofyn—a oes angen i mi ddarllen fy nghwestiwn neu—
Nac oes. Gofynnwch gwestiwn dyna i gyd.
Diolch yn fawr iawn. Weinidog, gwelwyd dicter real a dealladwy ynghylch y label bras, 'sgiliau isel', y mae Llywodraeth y DU bellach yn ei ddefnyddio i gyfeirio at bobl fel gweithwyr cymdeithasol pan wyddom nad lefel eu sgiliau sy'n isel, ond lefel eu cyflogau, ac ni allwch roi gwerth ar rinweddau dynol gwerthfawr fel tosturi a gofal. Sut y byddai'n ymateb i Dr Moira Fraser-Pearce, cyfarwyddwr polisi Cymorth Canser Macmillan, sydd wedi ysgrifennu hyn:
Mae cynllun y Llywodraeth ar gyfer system fewnfudo ar sail pwyntiau’n cynnig darlun sy’n peri gofid o system iechyd a gofal sydd eisoes dan bwysau gwaeth nag erioed...Rhaid i'r Llywodraeth greu llwybr ymfudo ar wahân ar gyfer gofal cymdeithasol yn ogystal ag egluro pa fesurau penodol a gaiff eu rhoi ar waith i amddiffyn gweithlu'r GIG er mwyn sicrhau bod pobl â chanser yn cael y gefnogaeth gywir pan fydd ei angen arnynt. Gallai unrhyw ddiwygiadau ymfudo,
meddai,
sy’n atal gweithwyr gofal cymdeithasol rhag gweithio yn y DU olygu mai rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed, gan gynnwys y rhai sy'n byw gyda chanser, sy’n dioddef y canlyniadau.
Sut y byddai'n ymateb i hynny, a pha sylwadau y bydd yn eu cyflwyno i Lywodraeth y DU?
Wel, rwy'n credu ei fod yn disgrifio mewn ffordd fyw iawn ychydig o'r pwysau a'r heriau a'r effeithiau real iawn y bydd pobl yng Nghymru yn eu dioddef, ac rwy'n credu bod ei gwestiwn yn ymateb i'r cwestiwn a ofynnodd Neil Hamilton yn gynharach. Rwy’n cytuno ag ef, fel y bydd wedi fy nghlywed yn dweud wrth Dai Lloyd yn gynharach, fod pobl sy’n gweithio yn y sector gofal, yn enwedig efallai, yn y ffordd y mae wedi’i ddisgrifio heddiw, yn gwneud gwaith sy’n galw am sgiliau helaeth, ac rydym wedi hyrwyddo safbwynt yng Nghymru dros bolisi ymfudo sy'n adlewyrchu'r gwahanol setiau o sgiliau a lefelau cyflog er mwyn i hynny weithio er budd gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, ond hefyd er budd pobl Cymru, sydd angen y math o gefnogaeth y mae'n ei disgrifio. Mae'n wir fod miloedd lawer o bobl o'r Undeb Ewropeaidd yn gweithio yn ein sector gofal naill ai fel darparwyr gofal neu nyrsys mewn gwahanol leoliadau. Rydym am iddynt aros a pharhau i ddarparu'r gwasanaethau hynny, ond nid ydym ychwaith eisiau rhoi rhwystrau artiffisial yn ffordd mwy o bobl rhag dod i gymryd eu lle i ateb angen real iawn.
7. Pa gyfleoedd y mae Llywodraeth Cymru wedi'u nodi ar gyfer Cymru o ganlyniad i ymadawiad y DU â'r UE? OAQ55122
Bydd manteision cyfleoedd newydd yn cael eu gorbwyso gan yr anfanteision sy'n debygol o ddeillio o'r telerau a argymhellwyd gan Lywodraeth y DU ar gyfer ein perthynas â'r Undeb Ewropeaidd. Ond mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddefnyddio cyfleoedd mewn perthynas â chefnogi'r economi wledig, ymagwedd newydd tuag at ddatblygu rhanbarthol a'n strategaeth ryngwladol newydd, er enghraifft, er budd gorau Cymru.
Canfu arolwg prif weithredwr PwC y mis diwethaf fod prif weithredwyr Ewropeaidd yn ystyried y DU fel marchnad allweddol ar gyfer twf a buddsoddi, y tu ôl i'r Unol Daleithiau, Tsieina a'r Almaen yn unig ar y llwyfan rhyngwladol. Ar ddiwrnod Brexit, adroddodd ITV Wales am fusnesau a oedd wedi siarad am y cyfleoedd a allai godi y tu allan i'r UE, gan ddyfynnu cwmnïau yn y sector awyrofod a’r sector amaethyddol yng Nghymru. Cymru sydd â'r lefelau ffyniant isaf y pen o hyd ymhlith gwledydd y DU, a gall Brexit roi cyfle i helpu i fynd i'r afael â hyn. Fodd bynnag, mae twf yn sector bwyd a diod Cymru, er enghraifft, wedi eithrio marchnadoedd y tu allan i'r UE. Pa dystiolaeth sydd gennych, felly, i rannu â ni o gamau cadarnhaol, ymarferol gan Lywodraeth Cymru i gynyddu ffyniant Cymru drwy fynd â ni o fod yn allforiwr dibynnol ar y UE i fod yn llwyddiant masnachol byd-eang, sy'n cynnwys yr UE, ond sy'n ceisio twf yn fyd-eang gyda'r partneriaid masnachu newydd rydym i gyd yn gobeithio'u cael?
Wel, buaswn yn ei gyfeirio at y strategaeth ryngwladol a'r cynllun gweithredu economaidd fel ymyriadau'r Llywodraeth er mwyn sicrhau ffyniant Cymru. Rwy'n ofni ei fod ef a minnau'n anghytuno. Nid wyf yn credu bod aelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd wedi bod yn rhwystr mewn unrhyw ffordd i unrhyw un o'r cyfleoedd y mae'n eu disgrifio yn ei gwestiwn. Nid oes unrhyw amheuaeth na all busnesau Cymru barhau i allforio'n rhyngwladol fel aelodau o'r Undeb Ewropeaidd lawn cystal ag yn y cyfnod ar ôl i'n haelodaeth ddod i ben. Nid dyna'r her. Mae arnaf ofn fod myth wedi datblygu fod aelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd yn rhwystr i hynny mewn rhyw fodd. Nid yw hynny'n wir. Ond rwy'n credu bod angen inni fod yn realistig ac yn glir ynglŷn â hyn. Hyd yn oed ar sail ffigurau Llywodraeth y DU ei hun, mae'r cyfraniad y mae'r strategaeth masnach rydd y maent yn mynd ar ei thrywydd gyda thrydydd gwledydd—mae'r cyfraniad y gall hynny ei wneud i economi'r DU ar y ffigurau cyfredol yn gwbl ymylol o gymharu â chynnal y cyfleoedd masnach sydd gennym gydag un o'r blociau masnachu mwyaf yn y byd.
Ac yn olaf, cwestiwn 8, Joyce Watson.
8. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y trafodaethau diweddaraf y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch ymadawiad y DU â'r UE? OAQ55136
Ar 28 Ionawr, croesawodd y Prif Weinidog Gydbwyllgor y Gweinidogion ar negodiadau'r UE yng Nghaerdydd; dyma'r ail dro yn unig iddo ddigwydd y tu allan i Lundain. Canolbwyntiodd y cyfarfod ar y dewisiadau strategol y mae angen eu gwneud wrth bennu safbwynt negodi agoriadol a rôl y Llywodraethau datganoledig yn y negodiadau.
Cyflwynwyd cynlluniau yn ddiweddar gan Lywodraeth y DU—a chrybwyllwyd hyn sawl gwaith heddiw—ar gyflwyno'r system fewnfudo ar sail pwyntiau o 2021. Ac unwaith eto, rwy'n mynd i ailadrodd, y diwydiant a fydd yn cael ei effeithio yn fwyaf negyddol—a'r bobl—o ganlyniad i'r newidiadau yw'r sector gofal cymdeithasol. Nid wyf yn credu ei bod hi'n bosibl inni dreulio gormod o amser yma'n cyfleu'r neges hon, ac mae Unsain wedi rhybuddio y bydd y cynlluniau gan Lywodraeth y DU yn drychineb i'r sector. Maent wedi dweud na all cwmnïau a chynghorau recriwtio digon o staff o'r DU ar hyn o bryd, ac mae'n rhaid iddynt ddibynnu ar weithwyr gofal o fannau eraill eisoes. Felly, bydd rhoi terfyn ar y cyflenwad hwn o lafur yn sydyn yn achosi problemau enfawr ar draws y wlad. Nodaf fod Neil Hamilton wedi diflannu bellach, ond nid yw'n ymddangos ei fod yn meddwl bod hynny'n wir. Ond dyma lle bydd angen gofal ar bobl, ac ni fydd digon o bobl yno i'w ddarparu, ac mae eraill wedi dweud hynny yma eisoes heddiw. Felly, Weinidog, pa asesiad rydych chi, Lywodraeth Cymru, wedi'i wneud o'r effaith y gall y newidiadau hyn ei chael ar y sector gofal cymdeithasol yma yng Nghymru?
Wel, rwy'n credu bod yr effaith bosibl yn sylweddol iawn. Rwy'n meddwl bod nyrsys mewn lleoliadau gofal—rwy'n credu bod tua 17 y cant yn ddinasyddion yr UE sy'n gweithio ac yn byw yng Nghymru. A darparwyr gofal yn fwy cyffredinol—credaf fod y ffigurau canrannol oddeutu 6 neu 7 y cant, sy'n ffigur uchel. Mae'r rhesymau y mae'n eu hamlinellu yn ei chwestiwn am ei phryder yn union yr un fath â'r rhesymau sy'n sail i fy mhryder i, a dyna pam rwyf fi ac eraill yn y Llywodraeth wedi cyflwyno'r sylwadau hyn yn uniongyrchol i'r Pwyllgor Cynghori ar Ymfudo.
Roeddem wedi gobeithio y byddai'r fersiwn o'r polisi mewnfudo y mae Llywodraeth y DU wedi ei gyflwyno yn rhoi mwy o ystyriaeth i'r effaith ar ein gwasanaethau cyhoeddus, yng Nghymru ac ar draws y DU fel mae'n digwydd. Nid yw'n fater sy'n unigryw i Gymru—caiff ei deimlo ledled y DU. Yn anffodus, nid felly y bu. Yn niffyg system ar gyfer y DU gyfan sy'n adlewyrchu anghenion ein gwasanaethau cyhoeddus a'n heconomi yng Nghymru, rydym wedi dweud y byddwn yn dymuno edrych ar yr achos dros wahaniaethu gofodol—er enghraifft, mewn perthynas â phwyntiau ychwanegol i bobl sy'n dymuno gweithio y tu allan i Lundain a de-ddwyrain Lloegr neu sy'n dymuno gweithio mewn rhannau penodol o'r DU neu fel arall, fersiwn o'r rhestr o alwedigaethau lle ceir prinder. Bydd hi'n gwybod bod y Pwyllgor Cynghori ar Ymfudo eisoes wedi argymell hynny mewn egwyddor i Gymru, ac felly rwy'n credu bod achos dros archwilio hynny.
Diolch i'r Gweinidog.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau amserol. Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol mewn cyfarfod COBRA ar hyn o bryd gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig, Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth Gogledd Iwerddon ynghylch coronafeirws. Dwi wedi cytuno felly i'r cwestiwn amserol ar coronafeirws gael ei ofyn fel yr eitem olaf o fusnes cyn y cyfnod pleidleisio heddiw. Felly, mae'r cwestiwn amserol nesaf gan Dawn Bowden.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cyhoeddiad gan KASAI y bydd yn cau ei ffatri ym Merthyr Tudful yn 2021? 397
Gwnaf. Mae Kasai wedi dechrau cyfnod ymgynghori ffurfiol o 90 diwrnod gyda'r staff. Yn amlwg, mae hyn yn newyddion siomedig dros ben ac rwy'n cydymdeimlo â phawb yr effeithir arnynt yn uniongyrchol gan yr ansicrwydd hwn. Ymwelodd fy swyddogion â'r cwmni yn gynharach yr wythnos hon a byddwn yn parhau i gynnig cymorth fel y bo'n briodol.
Diolch yn fawr, Weinidog. Yn amlwg, mae'r cyhoeddiad gan Kasai am y broses ymgynghori statudol gyda'u gweithwyr yn siomedig, yn enwedig ar ôl y cyhoeddiadau diweddar ynghylch colli swyddi a chau ym Merthyr Tudful yn Hoover a Triumph. Credaf fod y cyhoeddiad penodol hwn yn adlewyrchu'r pwysau parhaus ar y sector gweithgynhyrchu modurol ar hyn o bryd, yn enwedig o gofio'r cysylltiadau rhwng y ffatri hon a ffatri Honda yn Swindon. Nodaf, fodd bynnag, y bydd angen parhau i gynhyrchu yn ffatri Merthyr Tudful dros y misoedd nesaf i gefnogi contract Honda, ond gallai oddeutu 180 o weithwyr ffyddlon a gweithgar gael eu heffeithio ym Merthyr Tudful. Gyda Gerald Jones AS, byddaf yn cyfarfod â'r gweithwyr yn y dyfodol agos i drafod y camau nesaf. Felly, a allwch roi sicrwydd imi, pan fydd y gweithdrefnau statudol wedi'u cwblhau, y bydd Llywodraeth Cymru, ynghyd â phartneriaid lleol, yn gwneud popeth a allwch i ystyried yr holl opsiynau ar gyfer y gweithlu ac ar gyfer y safle hwn? Yn ychwanegol at hynny, beth yw asesiad diweddaraf Llywodraeth Cymru o iechyd y sector gweithgynhyrchu modurol yng Nghymoedd de Cymru, ac a yw hyn yn golygu bod angen inni ailasesu'r mathau o fusnesau a chwmnïau a gaiff eu cefnogi gennym i sicrhau ymrwymiadau mwy hirdymor i'n cymunedau yn y Cymoedd?
A gaf fi ddiolch i Dawn Bowden am ei chwestiynau a rhoi sicrwydd iddi, nid yn unig drwy Lywodraeth Cymru, ond ein partneriaid yn fforwm moduro Cymru, ein bod yn asesu pob cyfle i fusnesau modurol sy'n bodoli eisoes ac i fusnesau newydd yn y diwydiant modurol a'r sector symudedd a moduro? Yn yr hydref y llynedd, cynhaliais uwchgynhadledd fodurol, a fu'n edrych ar gyfleoedd i Gymru. Cafwyd presenoldeb anhygoel o dda yno, a byddwn yn adeiladu ar hynny drwy gynnal yr uwchgynhadledd weithgynhyrchu ar 2 Ebrill yn Venue Cymru. Bydd y sector modurol yn bresennol, a byddwn yn edrych ar y cyfleoedd diweddaraf, ac yn wir, y bygythiadau i'r sector yng Nghymru a ledled y DU.
Mae'n werth dweud, dros y pum mlynedd diwethaf, fod cwmnïau modurol yng Nghymru, gan gynnwys y rheini sy'n cefnogi'r gadwyn gyflenwi, wedi cael cymorth o £200 miliwn i gefnogi eu twf ac i gefnogi'r 12,000 o swyddi yn y sector. Mae'n deg dweud hefyd y bu adfywiad ym maes cynhyrchu ceir yn y DU tan yn ddiweddar iawn. Am amrywiaeth o resymau, mae'r sector yn wynebu anawsterau a thrawsnewid sylweddol ar hyn o bryd. Rydym yn cynorthwyo gyda'r trawsnewid drwy ganolbwyntio ein hadnoddau ar y cwmnïau modurol hynny y mae'n amlwg fod ganddynt y rhagolygon gorau i lwyddo wrth newid i gerbydau allyriadau isel a di-allyriadau. Ac mae gennym hanes hynod o gryf o ddenu buddsoddiad, gan gynnwys gan Ineos Automotive yn fwyaf diweddar. Fel rhan o'r gefnogaeth roeddem yn ei rhoi i Kasai, drwy fforwm moduro Cymru, fe gyflwynasom y cwmni i Ineos ac i Aston Martin Lagonda ac i eraill yn y gobaith y gellid sicrhau gwaith arall er mwyn osgoi cau. Yn anffodus, roedd y bont rhwng cau Honda a'r gwaith a fyddai'n dod gan weithgynhyrchwyr eraill mor fawr nes bod angen gwneud y cyhoeddiad a wnaed yn ddiweddar. Fodd bynnag, nid yw'r cwmni i fod i gau, os yw'n penderfynu bwrw ymlaen â hynny, tan fis Gorffennaf 2021. Mae hyn yn rhoi cryn dipyn o amser inni allu cynorthwyo pob unigolyn a allai gael eu heffeithio drwy ein timau ymateb rhanbarthol, drwy Gyrfa Cymru ac ati. Ond hefyd mae'n rhoi cyfle i ni ddweud wrth y cwmni unwaith eto, yn ystod y cyfnod ymgynghori, 'Ailystyriwch y cyhoeddiad. Os gwelwch yn dda, cadwch eich gwaith ym Merthyr Tudful os oes unrhyw fodd o wneud hynny.'
Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.
Weinidog, mae'r newyddion y bydd oddeutu 180 o swyddi'n cael eu colli am fod ffatri Kasai ym Merthyr Tudful yn mynd i gau yn ergyd drom i'r gweithwyr a'u teuluoedd. Rwy'n cydymdeimlo â hwy ar yr adeg anodd hon. Mae Kasai yn darparu swyddi crefftus iawn yn cynhyrchu cydrannau mewnol i Honda, Jaguar, Land Rover a Nissan. Mae'n golled wirioneddol i Ferthyr Tudful, a ddaeth ar waelod tabl yn ddiweddar a raddiai gystadleurwydd economaidd yn y Deyrnas Unedig. Felly, a gaf fi ofyn, Weinidog, pa gymorth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei roi i'r gweithwyr hyn fel y gallant ddod o hyd i swyddi newydd? Ac a allwch gadarnhau hefyd y bydd camau'n cael eu cymryd ar unwaith i helpu'r rhai yr effeithir arnynt er mwyn sicrhau nad yw eu sgiliau a'u talentau'n cael eu colli, ond y gellir eu hailgyfeirio i gyfrannu at dyfu economi Merthyr Tudful? Ac yn olaf, Weinidog, pa gamau a roddir ar waith i gynorthwyo'r gweithwyr sy'n gallu adleoli i ddod o hyd i swyddi y tu allan i Ferthyr Tudful a thu allan i Gymru?
A gaf fi ddiolch i Mohammad Asghar am ei gwestiynau a dweud, yn gyntaf oll, y byddem yn gobeithio gallu sicrhau swyddi eraill i'r gweithwyr yr effeithir arnynt yn ardal Merthyr Tudful? Nid wyf yn gweld pam y dylai pobl orfod symud o'u cymuned er mwyn cael gwaith os ydynt yn dymuno aros lle maent yn byw. Ac felly byddwn yn gwneud popeth a allwn i nodi cyfleoedd swyddi yn ardal Merthyr Tudful. Byddwn yn defnyddio gwasanaethau cymorth, gan gynnwys cynghorwyr Gyrfa Cymru a ReAct, cyn gynted â phosibl i gynnal archwiliad o'r sgiliau sydd i'w cael yn y busnes ac i baru'r sgiliau hynny â chyfleoedd gwaith yn yr ardal. Er enghraifft, bydd talebau ar gael ar gyfer hyfforddiant sgiliau os bydd angen i unrhyw un uwchsgilio er mwyn manteisio ar gyfle gwaith newydd.
Fodd bynnag, credaf ei bod yn werth cydnabod, Ddirprwy Lywydd, fod y bobl sy'n gweithio ar y safle yn anhygoel o ffyddlon ac yn hynod fedrus, ac roedd hyn yn rhywbeth a ddywedodd y Prif Weinidog wrth y cwmni pan ymwelodd â'r pencadlys busnes yn Siapan ym mis Medi 2019, pan ailadroddodd ymrwymiad Llywodraeth Cymru i'w cefnogi'n llawn. Mae'r cymorth hwnnw, sy'n dal i fod ar gael, yn cael ei gynnig yng nghyd-destun problemau enfawr i'r busnes gan eu bod mor ddibynnol ar Honda yn Swindon. Fel y dywedais mewn ymateb i Dawn Bowden, rydym wedi dihysbyddu llawer o gyfleoedd roeddem wedi gobeithio y byddent yn darparu ffynonellau gwaith eraill ar gyfer Kasai, gan gynnwys Aston Martin Lagonda ac Ineos Automotive, a chwmnïau modurol eraill yng Nghymru a dros y ffin hefyd. Ond rydym yn barod i barhau i chwilio am waith arall i gadw'r bobl ffyddlon a medrus hynny yn y gweithle.
Hoffwn gydymdeimlo'n llwyr â'r holl staff diwyd yn Kasai sy'n mynd i wynebu colli eu swyddi heb fod unrhyw fai arnynt hwy ar ôl blynyddoedd lawer o wasanaeth ymroddedig. Gwn y bydd hwn yn gyfnod anodd iawn iddynt hwy a'u teuluoedd. Hoffwn gynnig cymorth fy swyddfa; mewn unrhyw ffordd y gallwn helpu, rydym yn awyddus i allu gwneud hynny. Nawr, fel y nodwyd, roeddem yn gwybod bod perygl y byddai'r safle'n cau ers i Honda gyhoeddi y byddai eu ffatri yn Swindon yn cau flwyddyn yn ôl i'r wythnos hon, ac roedd adroddiadau yn y cyfryngau ar y pryd yn rhybuddio am yr effaith ganlyniadol y byddai hynny'n ei chael ar Kasai, a chodais y mater gyda'r Gweinidog Brexit yn y Siambr ym mis Mai y llynedd.
Nawr, rwyf wedi gwrando gyda diddordeb ar yr hyn a ddywedoch chi, Weinidog, ynglŷn â beth fydd eich rhaglen ReAct yn ei gynnig i'r gweithwyr a fydd, o bosibl, yn gorfod dod o hyd i waith newydd, ond a allech ddweud wrthym ar y pwynt hwn, os gwelwch yn dda, pryd rydych chi'n disgwyl i gynllun Cymorth Gwaith Cymru fod ar waith? Cefais fy siomi wrth glywed yn ddiweddar fod y rhaglen gyflogaeth bwysig hon wedi methu cychwyn am yr eildro oherwydd her i'r broses dendro. Nawr, mae arnaf ofn fy mod yn ei chael hi'n anodd deall sut y mae Llafur, ar ôl 20 mlynedd o arwain Llywodraeth Cymru, yn methu cwblhau proses dendro lwyddiannus. Felly, buaswn yn gwerthfawrogi rhywfaint o wybodaeth ynglŷn â phryd y gallwn ddisgwyl i hyn symud ymlaen fel y gellir darparu cymorth pellach i helpu gweithwyr â hyfforddiant sgiliau pan fydd hynny ar gael.
Nawr, yn olaf, hoffwn ofyn am eich cynlluniau ar gyfer cynllunio economaidd yn y dyfodol, Weinidog. Ar hyn o bryd, mae gennym bobl â sgiliau gwerthfawr sy'n colli eu swyddi yn y diwydiant gweithgynhyrchu, ac mae taer angen creu economi ynni a thrafnidiaeth werdd newydd. Mae i'w weld yn amlwg y dylai'r rhain fod yn gysylltiedig ac y dylai Llywodraeth Cymru arwain y ffordd o ran adeiladu a chymell diwydiannau fel cerbydau trydan a rhwydweithiau trafnidiaeth a fyddai'n helpu gyda'r agenda werdd ond a fyddai hefyd yn darparu swyddi newydd a chyflogau da i bobl a chanddynt sgiliau gwerthfawr i'w cyfrannu.
Nawr, nid wyf yn dweud mewn unrhyw ffordd y bydd y Llywodraeth yn rhoi'r gorau i gefnogi gweithlu Kasai yn eu swyddi presennol, ond ochr yn ochr â hyn, Weinidog, a allech ddweud wrthym a oes gennych unrhyw gynlluniau i gryfhau ein diwydiant gweithgynhyrchu gwyrdd i ddiogelu'r economi at y dyfodol ac i ddarparu swyddi newydd i bobl sy'n cael eu diswyddo ar hyn o bryd yn sgil cau gweithfeydd cynhyrchu ceir traddodiadol a'u cyflenwyr?
A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei chwestiynau a'i gwahodd yn gyntaf i groesawu llwyddiant Llywodraeth Cymru yn denu gweithgynhyrchwyr sydd ar flaen y gad o ran defnyddio systemau gyriant allyriadau isel a di-allyriadau mewn ceir—er enghraifft, y llwyddiant a gawsom wrth ddenu Aston Martin Lagonda i Gymru? Mae Aston Martin Lagonda wedi gwneud Cymru'n gartref i gerbydau trydan; yn yr un modd, Ineos Automotive, sy'n edrych ar ddefnyddio hydrogen ar gyfer systemau pŵer yn y dyfodol yn eu cerbydau. Felly, rydym eisoes yn buddsoddi'n sylweddol iawn yn y diwydiannau hynny a fydd yn dod mor bwysig yn fyd-eang yn y blynyddoedd i ddod.
Nawr, o ran y syniad fod cau'r safle ar y gweill pan wnaed y cyhoeddiad am Honda, sefydlwyd tasglu Honda yn syth ar ôl y cyhoeddiad, gan y cydnabuwyd y byddai llawer o fusnesau yn y gadwyn gyflenwi yn cael eu heffeithio'n andwyol. Mae llawer o fusnesau yng Nghymru'n dibynnu ar Honda am waith, ond roedd Kasai ymhlith y rheini a oedd yn dibynnu fwyaf ar yr un gweithgynhyrchwr hwnnw, a dyna pam fod y cwmni yn y sefyllfa y mae ynddi heddiw. Fodd bynnag, byddwn yn parhau i chwilio am gyfleoedd ar gyfer y busnes yn ystod y cyfnod ymgynghori 90 diwrnod gan obeithio y gellir gwrthdroi'r penderfyniad—y cyhoeddiad, yn hytrach—ac y gwneir penderfyniad i aros ar agor. Os na fydd hynny'n digwydd, byddwn yn defnyddio'r holl wasanaethau cymorth sy'n bodoli eisoes ac a fydd yn cael eu sefydlu fel rhan o wasanaeth cyfannol Cymorth Gwaith Cymru—bydd pob gwasanaeth cyflogaeth sy'n bodoli ar hyn o bryd yn parhau ar gyfer y bobl yr effeithir arnynt yn Kasai ac unrhyw un arall y mae diweithdra yng Nghymru yn effeithio arnynt.
Heddiw, mae gennym y gyfradd ddiweithdra isaf erioed, sef 2.9 y cant yn unig, a'r rheswm am hynny yw bod Llywodraeth Cymru yn benderfynol o sicrhau bod pobl yn aros mewn gwaith gwerthfawr, a phan fyddant yn colli eu gwaith, ein bod yn dod o hyd i gyfleoedd iddynt mewn mannau eraill i fynd yn ôl ar yr ysgol gyflogaeth.
Diolch yn fawr, Weinidog.
Eitem 4 ar yr agenda y prynhawn yma yw'r datganiadau 90 eiliad. Yn gyntaf y prynhawn yma mae Darren Millar.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Heddiw, mae'n 30 mlynedd ers llifogydd Towyn, a gallaf gofio'r digwyddiad yn glir, er mai dim ond 13 oed oeddwn i ar y pryd. Roeddwn yn eistedd mewn ystafell ddosbarth, yn aros i'r athro Saesneg gyrraedd. Roeddwn ymhlith grŵp bach o ddisgyblion a oedd yn rhythu ar yr olygfa tuag at Dowyn drwy'r ffenestr. Gwelsom donnau anferth, 40 troedfedd o uchder, yn taro'r morglawdd, ac roedd yn olygfa anhygoel. Ond yr hyn nad oeddem yn sylweddoli oedd bod y tonnau hynny'n torri twll 400m yn yr amddiffynfeydd môr a bod y llanw'n llifo i mewn. O fewn 20 munud, roedd 400 o gartrefi o dan ddŵr, ac awr yn ddiweddarach, roedd y nifer yn filoedd. Daeth y dŵr ddwy filltir i mewn i'r tir, ac fe effeithiodd ar gymunedau dros bum milltir ar hyd yr arfordir. Cafodd ein cartref—byngalo—ei foddi. Collwyd ein holl eiddo, a dinistriwyd eitemau amhrisiadwy fel lluniau'r teulu a chofroddion gan berthnasau. Gyda 6,000 o bobl eraill, cawsom ein symud oddi yno: yr achos mwyaf o symud pobl ers yr ail ryfel byd. Aeth chwe mis heibio cyn i ni symud yn ôl i'n cartref a chael ein bywydau yn ôl o'r diwedd, a chymerodd hyd yn oed yn hirach i deuluoedd eraill allu gneud hynny.
Heddiw, mae Towyn a Bae Cinmel yn dal i ffynnu fel trefi glan môr. Maent bob amser wedi ffynnu, ac mae'n siŵr y byddant bob amser yn ffynnu, ond caiff ein bywydau bob dydd eu tarfu'n rheolaidd gan rybuddion llifogydd pan geir rhagolygon o dywydd garw a llanw uchel, a hyd yn oed yn awr, 30 mlynedd yn ddiweddarach, mae ein hamddiffynfeydd môr yn dal i fod yn fregus ac mae angen buddsoddiad pellach arnynt. Mae stormydd Ciara a Dennis wedi atgoffa pob un ohonom o rym y dŵr. Gadewch iddynt hwy a'r hyn a ddigwyddodd 30 mlynedd yn ôl yn Nhowyn fod yn rhybudd i bob un ohonom wneud yr hyn a allwn i gydweithio i atal y dinistr y gall llifogydd ei achosi.
Rai blynyddoedd yn ôl, cyfarfûm â Carolyn, menyw wirioneddol ysbrydoledig a ddywedodd wrthyf ei bod yn SWAN. A minnau wedi synnu braidd, gofynnais iddi esbonio hynny, a dyna pryd y dechreuais ddeall yr heriau sy'n wynebu pobl sydd â chlefydau prin a chyflyrau heb eu diagnosio, a elwir yn syndromau heb enw—'syndromes without a name', neu SWAN.
Mae codi ymwybyddiaeth o glefydau prin yn bwysig, gan y bydd un o bob 20 o bobl yn byw gyda chlefyd prin ar ryw adeg yn ystod eu bywyd. Er hyn, mae nifer sylweddol o glefydau prin heb eu diagnosio, ac mae cyfran sylweddol ohonynt yn rhai na ellir eu gwella neu gael triniaethau effeithiol i arafu datblygiad y cyflwr.
Mae dydd Sadwrn nesaf, 29 Chwefror, yn ddiwrnod prin, mae'n anomaledd, ac mae Diwrnod Clefydau Prin wedi'i gynnal ar ddiwrnod olaf mis Chwefror ers 2007 gyda'r nod penodol o godi ymwybyddiaeth am glefydau prin a'r effeithiau ar fywydau cleifion. Dathlwyd y diwrnod yma gennym ddoe mewn derbyniad yn y Neuadd.
Ond hoffwn achub ar y cyfle hwn heddiw i dalu teyrnged i'r rheini sy'n gweithio mor galed yn ymchwilio i'r clefydau hyn, ac i Lywodraeth Cymru am y cyllid y maent yn ei ddarparu ar gyfer yr ymchwil hwn: Dr Graham Shortland, sy'n arwain y grŵp gweithredu ar glefydau prin, a'r Athro Keir Lewis, pennaeth Wales Orphan and Rare Lung Disease—rwy'n gwisgo eu bathodyn heddiw—yw'r prif feddygon sydd ar y rheng flaen gyda'r driniaeth hon a'r ymchwil i glefydau prin, ac mae'r cleifion y maent yn ymdrin â hwy yn meddwl y byd ohonynt ac yn eu gwerthfawrogi'n fawr. Rydym yn lwcus iawn eu bod yn gweithio i ni yn y GIG yng Nghymru.
Ddydd Sadwrn—Diwrnod Clefydau Prin—rhowch funud i feddwl am y rheini â chlefydau prin a chyflyrau heb eu diagnosio. Mae angen iddynt wybod nad ydynt ar eu pennau eu hunain.
Ddydd Sadwrn diwethaf, gwireddwyd sawl blwyddyn o gynlluniau uchelgeisiol wrth i barc coetir ac ardal chwarae Pantside yn Nhrecelyn agor yn swyddogol i'r cyhoedd. Mae'r parc yn cynnwys maes chwarae i blant hyd at chwe blwydd oed, ardal chwarae iau, a man chwarae amlddefnydd ar gyfer chwaraeon fel pêl-droed a phêl-fasged. Mae'n dyst i gymuned falch Pantside, sydd wedi gweithio, drwy Gymdeithas Trigolion a Thenantiaid Pantside, ers saith mlynedd i sicrhau'r ased gwerthfawr hwn i'w cymuned. Gyda diffyg cyfleusterau i bobl ifanc ar yr ystâd, cydweithiodd y trigolion a'r tenantiaid i sicrhau £0.25 miliwn gan gronfa'r Loteri Genedlaethol i sefydlu'r parc hwn. Yn yr agoriad ddydd Sadwrn, roedd yn hyfryd iawn gweld cynifer o blant—ac roedd llawer iawn o blant yno—o fy nghymuned yn mwynhau'r cyfleusterau hyn. Ac fel merch o Drecelyn a aned yn Pantside, roedd i'r agoriad arwyddocâd ychwanegol i mi.
Felly, hoffwn gofnodi fy niolch diffuant i bawb a fu'n gysylltiedig â hyn dros y blynyddoedd i helpu i ddod â'r cyfleuster gwych hwn i Pantside: y Cynghorydd lleol Gary Johnston a'r Cynghorwyr Leeroy Jeremiah ac Adrian Hussey, a chymdeithas y trigolion, sef Gwyneth, Julie, Jean, Amy, Sue, a llawer o bobl eraill, sydd wedi gyrru'r gwaith hwn yn ei flaen.
Mae meysydd chwarae'n asedau gwirioneddol hanfodol i'n cymunedau a all helpu i roi cyfle i blant o bob cefndir chwarae, dysgu a gwneud ffrindiau. Gwn y bydd y cynllun hwn yn hwb enfawr i'r gymuned, ond dim ond y dechrau yw hyn. Mae'r trigolion bellach yn gobeithio ychwanegu parc sgrialu, awditoriwm awyr agored, ac ystafelloedd dosbarth awyr agored ar y tir a arferai fod yn safle segur, a hoffwn longyfarch eu hymdrechion cyfunol.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Rebecca Evans, a gwelliannau 2, 3, 4, 5, 6 a 7 yn enw Siân Gwenllian. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2, 3, 4, 5, 6 a 7 eu dad-ddethol.
Eitem 5 ar yr agenda yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar ffyrdd, a galwaf ar Russell George i gyflwyno'r cynnig.
Cynnig NDM7274 Darren Millar
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd ffyrdd fel rhydwelïau economaidd hanfodol sy'n hyrwyddo ffyniant.
2. Yn cydnabod yr effaith economaidd ac amgylcheddol andwyol sy'n deillio o gysylltedd gwael a thagfeydd ffyrdd.
3. Yn gresynu bod y Prif Weinidog wedi gwneud y penderfyniad unochrog i beidio â bwrw ymlaen â ffordd liniaru'r M4 er gwaethaf y gefnogaeth a gynigir gan Lywodraeth y DU.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) gweithio gyda Llywodraeth y DU i ddarparu ffordd liniaru'r M4 cyn gynted â phosibl;
b) datblygu cynigion ar gyfer gwaith i uwchraddio cefnffordd yr A55 yn sylweddol a deuoli'r A40 i Abergwaun;
c) ymgysylltu â Llywodraeth y DU i fwrw ymlaen â chyflenwi ffordd osgoi Pant/Llanymynech.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn gyflwyno'r cynnig ar gyfer ein dadl heddiw, a restrir yn enw Darren Millar, ac wrth wneud hynny, hoffwn ddweud hefyd na fyddwn, wrth gwrs, yn cefnogi gwelliant 'Dileu popeth' arferol y Llywodraeth, ond byddwn yn cefnogi gwelliannau 2 a 7 gan Blaid Cymru.
Hoffwn feddwl y gall pob un ohonom yn y Siambr hon gytuno bod rhwydwaith ffyrdd addas i'r diben yn hanfodol i gefnogi datblygiad cymdeithasol ac economaidd mwy hirdymor ein gwlad. Mae ein rhwydwaith trafnidiaeth ffyrdd yn hanfodol, wrth gwrs, ar gyfer cynhyrchiant yn y dyfodol, er mwyn sicrhau ein bod yn gystadleuol. Mae'n cefnogi marchnadoedd llafur cynhyrchiol ac mae'n darparu rhydwelïau ar gyfer masnach yn y wlad hon ac yn rhyngwladol. Credaf y gall pob un ohonom gytuno ar hynny.
Ond buaswn yn awgrymu bod economi Cymru bellach, yn fwy nag erioed o'r blaen, angen cefnogaeth rhwydwaith ffyrdd effeithiol a dibynadwy er mwyn cefnogi twf economaidd Cymru yn y tymor hir ac er mwyn lleihau effaith amgylcheddol cysylltedd ffyrdd gwael a thagfeydd. Mae cyflwr presennol y rhwydwaith ffyrdd yng Nghymru yn golygu nad yw Cymru'n gallu ysgogi na manteisio ar yr hyn sy'n sbarduno gweithgarwch economaidd. Mae tagfeydd ar ffyrdd Cymru yn atal Cymru'n uniongyrchol rhag cyflawni newid sylweddol yn ei lefelau cynhyrchiant, sydd yn ei dro'n llesteirio twf yng nghyflogau ac allbwn Cymru. Rwy'n siŵr y byddai pob un ohonom am honni nad ydym am weld hynny.
Nid oes gennym rwydwaith ffyrdd da ac effeithiol yng Nghymru, a phan gyflwynir cynlluniau, yn aml iawn ni chânt eu rheoli'n dda. Bydd yr Aelodau a oedd yn y Siambr hon yn gynharach heddiw wedi fy nghlywed yn holi'r Gweinidog ynghylch nifer o gynlluniau ffyrdd sydd ar ei hôl hi ac sydd dros gyllideb o ganlyniad i gaffael gwael a rheolaeth wael ar y cynlluniau cyflenwi ffyrdd hynny. Rydym mewn sefyllfa lle nad yw ein system drafnidiaeth ffyrdd bresennol yn gallu ymdopi â'r lefel bresennol o alw.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf, yn sicr.
Diolch am ildio, Russell. Mae'n bleser gennyf fod, gyda chi, yn aelod o'r grŵp hollbleidiol ar deithio llesol, ac rwy'n ymwybodol o'ch ymrwymiad i deithio cynaliadwy hefyd. Os yw ef, fel fi, yn cytuno â hierarchaeth trafnidiaeth gynaliadwy, hierarchaeth wirioneddol ynghylch pwy ddylai fod yn defnyddio ein ffyrdd, a soniodd am bwysigrwydd cludo nwyddau—cytunaf yn llwyr ag ef ynghylch cludo nwyddau—sut y dylai hynny fod yn berthnasol i'n rhwydwaith ffyrdd a'r penderfyniadau a wnawn?
Wel, nid oes raid i'r un ohonynt beidio ag ategu'r llall. Rwy’n cynrychioli etholaeth yng nghanolbarth Cymru, ac mae'n rhaid i mi ddweud, mae'n wahanol iawn i'ch etholaeth chi, gyda phob parch. Ni allwch—nid yw'r drafnidiaeth gyhoeddus yno. Yn anffodus, i gyrraedd eich ysgol agosaf, rydych 10 milltir i ffwrdd. Mae’n rhaid ichi gael seilwaith ffyrdd effeithiol. Ond nid wyf yn anghytuno â chi o gwbl; credaf fod y ddau beth yn gydnaws â’i gilydd ac mae'r ddau'n bwysig. Clywsom gwestiwn yn gynharach heddiw gan Helen Mary Jones ynglŷn â phwyntiau gwefru cerbydau trydan a seilwaith hefyd, ac mae angen inni gael seilwaith ffyrdd ar gyfer cynyddu’r defnydd o gerbydau trydan hefyd.
Efallai y caf dynnu sylw at rai o'r materion a godais heddiw yn fy nghwestiynau i'r Gweinidog. Mae'r oedi a'r gorwario sy'n gysylltiedig â heol yr A465 Blaenau'r Cymoedd, mae arnaf ofn, yn amlygu hanes gwael Llywodraeth Cymru yn berffaith o ran rheoli a chyflawni cynlluniau penodol i wella ffyrdd. Soniais am ambell un arall hefyd. Efallai y bydd gan y Gweinidog fwy o amser yn yr ymateb hwn i fynd i’r afael, efallai, â sut y gall caffael a chytundebau contractiol newid fel nad ydym yn gweld y mathau hyn o gynlluniau a reolir yn wael yn y dyfodol.
Un o'r enghreifftiau gwaethaf sy’n peri’r gofid mwyaf, yn fy marn i, o reolaeth wael Llywodraeth Cymru ar y rhwydwaith ffyrdd yng Nghymru, wrth gwrs, yw'r tagfeydd parhaus ar draffordd yr M4—ffordd strategol sydd wedi dioddef lefelau enfawr o dagfeydd traffig ers blynyddoedd lawer, ond serch hynny, ni all Llywodraeth Cymru roi ateb digonol i'r broblem honno. Tra bu Llywodraeth Cymru'n tin-droi ac yn cael gwared ar unrhyw gynlluniau ystyrlon, mae’r traffig ar yr M4 yn cynyddu.
Er mawr siom i mi, mae’r Prif Weinidog—ac rwy’n falch ei fod yma i wrando ar y ddadl hon y prynhawn yma; rwy'n ddiolchgar am hynny—wedi gwneud y penderfyniad i beidio â bwrw ymlaen â ffordd liniaru'r M4, er gwaethaf y gefnogaeth a gynigiwyd gan Lywodraeth y DU a chefnogaeth gan fusnesau ledled Cymru a chefnogaeth gan Aelodau yn y Siambr hon, gan gynnwys o feinciau'r Llywodraeth hefyd, ac wrth gwrs, o ganlyniad i'r ymchwiliad annibynnol drud iawn, a ddaeth i'r casgliad y dylid adeiladu ffordd liniaru'r M4.
Canfu adroddiad yr Arolygiaeth Gynllunio fod honiad Llywodraeth Cymru y byddai'n anghyson â'i datganiad o argyfwng hinsawdd yn anghywir. Canfu'r adroddiad
'y byddai’r cynllun yn arbed tua 4,324 o dunelli o garbon a allyrrir gan ddefnyddwyr ar rwydwaith ffyrdd Cymru bob blwyddyn, ac y byddai’r arbedion yn cynyddu yn y dyfodol.'
Yn ychwanegol at hynny, wrth gwrs, mae manteision economaidd ffordd liniaru'r M4 yn glir. Gyda manteision economaidd adeiladu ffordd liniaru'r M4 yn gorbwyso'r costau, byddai'r cynllun wedi bod yn gynllun da o ran gwerth am arian. Yn lle hynny wrth gwrs, gwastraffodd Llywodraeth Cymru £144 miliwn ar yr ymchwiliad, dim ond i wrthod ei ganfyddiadau am nad oeddent yn plesio'r Prif Weinidog.
A wnewch chi ildio?
Gwnaf, yn sicr.
Diolch, a chytunaf â rhai o'r pwyntiau a wnaethoch. Bydd y dadleuon o blaid ac yn erbyn ehangu ffyrdd yn parhau, nid yn unig mewn perthynas â'r M4, ond Llansawel fydd nesaf, oherwydd—. Y cwestiwn i ni fel cefnogwyr trafnidiaeth gynaliadwy yw: i ba raddau rydym yn dadlau dros gael gwared â theithiau diangen oddi ar y darn cyfan o ffordd? Felly, rydym yn caniatáu i faniau gwyn gludo'r nwyddau dros yr ychydig filltiroedd olaf. Felly, rydym yn caniatáu'r rheini nad oes ganddynt unrhyw ddewis arall. Oherwydd nid am y Gymru wledig rydym yn sôn bellach; rydym yn sôn am y Gymru drefol.
Mae'n ddrwg gennyf, clywais y rhan fwyaf o'ch pwyntiau, ond ni allwn glywed rhai o'ch pwyntiau am fod fy ochr i'n siarad. [Chwerthin.]
Roedd yn eich heclo. [Chwerthin.]
Nid oeddent yn fy heclo. [Chwerthin.]
Credaf fod rhai o'ch pwyntiau a glywais yn bwyntiau teg; nid wyf yn anghytuno, Huw, dim o gwbl. Ond credaf mai fy ymateb fyddai—. Wel, dyfynnaf Weinidog yr economi a thrafnidiaeth ei hun, a ddywedodd:
'dros y cyfnod arfarnu o 60 mlynedd, fod mwy na £2 o fudd am bob punt a werir ar y cynllun, heb gyffwrdd ar y manteision economaidd ehangach sy’n debygol o ddeillio o’r cynllun, megis canfyddiad cryfach o Gymru fel lle i fuddsoddi, rhywbeth na ellir ei fesur.'
Felly, buaswn yn dadlau yn erbyn yr hyn a ddywedwch drwy ddweud hynny, sef barn y Gweinidog. A bod yn deg, credaf ei fod, yn ôl pob tebyg, yn dal i gytuno â'r farn honno heddiw. Efallai y gall roi gwybod inni ar y diwedd.
Yn ychwanegol at hynny, mae Llywodraeth y DU wedi rhoi'r dulliau sydd eu hangen ar Lywodraeth Cymru i fwrw ymlaen â'r prosiect, yn ogystal â sicrhau bod y gyllideb gyfalaf wedi cynyddu dros 45 y cant yn ystod cyfnod yr adolygiad presennol o wariant. Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi ymrwymo i barhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru ar sut i gryfhau economi Cymru yn ogystal â darparu mwy o gysylltedd. [Torri ar draws.] Gallaf glywed y Prif Weinidog yn siarad hefyd, ond buaswn yn dweud wrth y Prif Weinidog heddiw, sydd fel pe bai'n cymryd rhan yn y ddadl hon heddiw, galwaf arno i ailfeddwl ei gynlluniau a darparu ffordd liniaru'r M4 cyn gynted â phosibl, er na chredaf y bydd yn newid ei safbwynt o ganlyniad i'r ddadl heddiw, yn anffodus.
Mae cynlluniau ffyrdd mawr eraill yng Nghymru wedi methu cael y gwelliannau sydd eu hangen arnynt i sicrhau eu bod yn gallu bodloni gofynion defnyddwyr ffyrdd Cymru yn well: mae'r A55 yng ngogledd Cymru yn enghraifft sydd wedi dioddef yn hir yn sgil tanfuddsoddi ers amser maith; yr A40, sydd hefyd wedi dioddef yn sgil diffyg gwaith uwchraddio effeithiol dros yr 20 mlynedd diwethaf; ac rydym hefyd yn galw am ddatblygu cynigion ar gyfer gwaith uwchraddio sylweddol ar gefnffordd yr A55; ac wrth gwrs, mae'n rhaid i mi grybwyll—clywaf Paul Davies yn siarad ar y chwith i mi—ffordd yr A40 i Abergwaun, y mae Paul Davies yn sôn amdani mor aml.
Wrth gwrs, buaswn ar fai pe na bawn yn sôn am ffordd osgoi Pant-Llanymynech yn fy etholaeth i, yn ogystal â chanolbwyntio ar gysylltiadau gogledd a de eraill â Chymru. O ran ffordd osgoi Pant-Llanymynech, gallaf weld bod Llywodraeth Cymru wedi ymgysylltu'n gadarnhaol â Llywodraeth y DU ar hynny yn y gorffennol, felly rwy'n gobeithio am gyfraniad cadarnhaol yn hynny o beth. Ond mae angen i ni gael —. Mae Huw Irranca wedi gwneud sylwadau ar sawl achlysur yn y ddadl hon heddiw; nid wyf yn anghytuno â'r hyn sydd ganddo i'w ddweud. Credaf fod hyn yn ymwneud â chael cynlluniau ffyrdd effeithiol yn ogystal â thrafnidiaeth gyhoeddus effeithiol a theithio llesol. Maent wedi'u cyfuno. Nid ydynt yn cystadlu yn erbyn ei gilydd.
Mae angen inni gael rhwydwaith ffyrdd sy'n addas er mwyn sicrhau bod ffyniant economaidd Cymru'n tyfu. Er mwyn parhau i fod yn Gymru gystadleuol, mae angen i ni sefydlu strwythur rhwydwaith ffyrdd effeithlon. Edrychaf ymlaen at gyfraniadau'r Aelodau i'r ddadl hon, a chymeradwyaf ein cynnig i'r Senedd.
Diolch. Rwyf wedi dethol saith gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2, 3, 4, 5, 6 a 7 eu dad-ddethol. Galwaf ar Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans, yn ffurfiol.
Gwelliant 1—Rebecca Evans
Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod yr argyfwng hinsawdd a’r consensws rhwng y pleidiau dros leihau allyriadau i ddim, gan gynnwys trwy ddatgarboneiddio ffyrdd a rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus Cymru a sicrhau newid moddol.
2. Yn cydnabod cyd-ddibyniaeth y seilwaith ffyrdd a rheilffyrdd a phwysigrwydd gwasanaeth rheilffyrdd £5bn Llywodraeth Cymru, ei chynllun datreoleiddio bysiau a’i buddsoddiad mwyaf erioed mewn teithio llesol o ran darparu rhwydwaith trafnidiaeth aml-foddol a charbon isel a fydd yn chwarae rhan i liniaru’r tagfeydd ar y ffyrdd.
3. Yn gresynu bod diffyg ariannu o £1bn gan Lywodraeth y DU yn y seilwaith trafnidiaeth yng Nghymru a’i methiant i drydaneiddio prif leiniau’r Gogledd a’r De wedi gwaethygu’r tagfeydd ar y ffyrdd, gan arwain at ragor o draffig ar ein cefnffyrdd.
4. Yn gresynu hefyd fod y degawd o gynni gan Lywodraeth y DU wedi cael effaith uniongyrchol ar waith cynnal rhwydwaith ffyrdd y DU.
5. Yn galw ar Lywodraeth y DU i:
a) wneud ymrwymiad tebyg i’r hwnnw gan Lywodraeth Cymru i ariannu pecyn cynhwysfawr o brosiectau ffyrdd a thrafnidiaeth ar y ffin i wella’r priffyrdd strategol i Gymru gan gynnwys Coridor Brychdyn o gwmpas Caer; yr A5 trwy Amwythig i Gymru ac yn y Pant/Llanymynech;
b) helpu i liniaru’r tagfeydd ar y rhwydwaith ffyrdd trwy addo £1bn i drydaneiddio’r brif lein o Crewe i Gaergybi, buddsoddi i uwchraddio’r lein o Wrecsam i orsaf Lime Street yn Lerpwl a thrydaneiddio prif lein y De yn ei chyfanrwydd.
6. Yn nodi penderfyniad a datganiad llafar y Prif Weinidog ddydd Mawrth 4 Mehefin 2019 ynghylch prosiect coridor yr M4 o gwmpas Casnewydd a’r gwaith arwyddocaol sy’n cael ei wneud gan Gomisiwn Trafnidiaeth y De-ddwyrain i ddatblygu atebion cynaliadwy ac effeithiol i broblem tagfeydd yng Nghasnewydd ac yng ngweddill y rhanbarth.
7. Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i leihau tagfeydd traffig ar y ffyrdd, gan gynnwys y pecyn digynsail o £1bn i wella seilwaith ffyrdd a thrafnidiaeth y Gogledd, gan gynnwys y gwaith uwchraddio mawr ar yr A55 a’r A483, cynlluniau teithio llesol a Metro’r Gogledd.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Cynigiwyd.
Diolch. Galwaf ar Helen Mary Jones i gynnig gwelliannau 2, 3, 4, 5, 6 a 7 a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian.
Gwelliant 2—Siân Gwenllian
Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 2 ac ail-rifo yn unol â hynny:
Yn cydnabod pwysigrwydd buddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus werdd i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a lleddfu tagfeydd ar y ffyrdd.
Gwelliant 3—Siân Gwenllian
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn cadarnhau’r egwyddor y dylai Llywodraeth Cymru fod yn atebol i etholwyr Cymru a’r Senedd hon o ran blaenoriaethau seilwaith ffyrdd a thrafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru.
Gwelliant 4—Siân Gwenllian
Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 3 ac ail-rifo yn unol â hynny:
Yn gwrthod unrhyw ymgais gan Lywodraeth y DU i benderfynu ar flaenoriaethau gwariant a seilwaith ffyrdd a thrafnidiaeth gyhoeddus y Senedd hon ar ei rhan.
Gwelliant 5—Siân Gwenllian
Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 3 ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn gresynu wrth fethiant Llywodraeth Geidwadol y DU a Llywodraeth Lafur Cymru i gyflawni pecyn o fuddsoddiad seilwaith yn y rhwydwaith ffyrdd a thrafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer Cymru gyfan.
Gwelliant 6—Siân Gwenllian
Ym mhwynt 4, dileu is-bwynt (a) a rhoi yn ei le:
'sicrhau datblygiad cyflym gweledigaeth hirdymor ar gyfer rhwydwaith ffyrdd a thrafnidiaeth gyhoeddus integredig gwyrdd a chynaliadwy ar gyfer Cymru, sy’n cynnwys rhoi blaenoriaeth i fynd i’r afael â’r trafferthion tagfeydd o amgylch Casnewydd.'
Gwelliant 7—Siân Gwenllian
Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 4:
'gwella cysylltedd trafnidiaeth rhwng gogledd a de Cymru.'
Cynigiwyd gwelliannau 2, 3, 4, 5, 6 a 7.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar, mae'n rhaid i mi ddweud i gychwyn, i Russell George am gytuno i dderbyn, credaf iddo ddweud, ein gwelliant 2 a'n gwelliant 7, gan fod y cynnig fel y mae yn swnio braidd fel rhywbeth y gallai rhywun fod wedi'i weld yn y 1980au, sy'n awgrymu y gallwn ddatrys ein holl broblemau economaidd drwy adeiladu mwy o ffyrdd. Rwy'n siŵr, o'r hyn y mae Russell George wedi'i ddweud yn ei ymatebion i Huw Irranca-Davies, nad dyna a olygai. Ond mae'n rhaid i mi nodi, Ddirprwy Lywydd, mai dyna mae'r cynnig yn ei ddweud.
Nid oes unrhyw un yn gwadu am eiliad y bydd angen inni barhau i fuddsoddi yn ein rhwydweithiau ffyrdd. Credaf fod y pwyntiau a wnaed gan Russell George ynglŷn â phwysigrwydd hynny mewn cymunedau gwledig, lle mae'n ddigon posibl na all rhai ohonynt byth gael eu gwasanaethu'n effeithiol gan rwydweithiau trafnidiaeth gyhoeddus—. Ac ar y meinciau hyn, mae'n bwysig iawn i ni fod y cymunedau hynny'n cael eu cefnogi a'u cynnal, oherwydd ymhlith pethau eraill, mae llawer o'r cymunedau hynny’n gymunedau lle mae'r Gymraeg yn dal i fod yn iaith frodorol, lle mae'n dal i gael ei siarad yn ddyddiol. Ac felly, bydd angen i ni barhau i fuddsoddi yn ein ffyrdd. Nid oes unrhyw un ar y meinciau hyn yn gwadu hynny.
Ond nid dyna'r ateb cyfan. A chredaf fod hynny wedi cael ei gydnabod. A gwyddom—ac rwy'n cymeradwyo'r un neu ddwy o astudiaethau academaidd da iawn ar hyn, yn arbennig mewn perthynas â’r hyn a ddywedwyd heddiw am ffordd liniaru arfaethedig yr M4—mai’r gwir yw eich bod, dros amser, yn adeiladu ffordd ac yna mae'n llenwi. Rwyf am ddyfynnu dwy o'r astudiaethau. Ysgrifennwyd 'Demystifying Induced Travel Demand' gan Roger Gorham ar gyfer Gweinyddiaeth Cyllid yr Almaen, a 'The Fundamental Law of Road Congestion: Evidence from US Cities' gan Duranton a Turner ar gyfer yr 'American Economic Review'. A'r hyn y maent yn ei ddangos yw na allwch, yn y tymor hir, leddfu'r problemau hyn drwy orchuddio mwy o gefn gwlad â choncrit.
Nawr, nid yw hynny'n golygu am eiliad nad oes angen gwneud rhywbeth am y problemau o amgylch Casnewydd. Credaf fod pawb yn y Siambr hon—. Mae pob un ohonom, mae'n debyg, wedi gyrru ar hyd y ffordd honno neu wedi teithio ar y ffordd honno ar ryw adeg, a gŵyr pob un ohonom beth sy'n digwydd yn nhwneli Bryn-glas. Ond ni chredwn am eiliad y bydd gorchuddio safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig gyda mwy o goncrit yn datrys y broblem honno yn y tymor hir. Mae'n wir dweud bod 43 y cant o'r siwrneiau ar y rhan honno o'r M4 yn deithiau o dan 20 milltir, ac mae llawer o'r rheini'n deithiau na fyddai pobl, gydag atebion trafnidiaeth gyhoeddus addas, yn dewis eu gwneud mewn car. Deg y cant o'r traffig ar y darn hwnnw o ffordd sy’n arwain at y tagfeydd. Felly, pe gallem fynd â hanner y 43 y cant hwnnw o bobl oddi ar y ffordd honno—a dywedaf 'pobl' yn fwriadol, gan mai pobl mewn cerbydau gwag ydynt, dim ond nhw ac un unigolyn arall lawer o'r amser—gallem ymdrin â phroblem y tagfeydd hynny.
Nawr, y mater arall, wrth gwrs, gyda ffordd liniaru’r M4 yw y byddai'n cymryd saith mlynedd i'w hadeiladu. Hyd yn oed pe baem yn penderfynu ei hadeiladu, byddai'n cymryd saith mlynedd. Ac yn y cyfamser, byddai diflastod twneli Bryn-glas yn parhau i fod yn realiti o ddydd i ddydd.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Rwy'n fwy na pharod i dderbyn ymyriad.
Diolch am ildio, Helen Mary. Clywaf yr hyn a ddywedwch am dynnu mwy o geir oddi ar y ffyrdd, a gobeithiaf y bydd hynny'n helpu i leddfu'r tagfeydd, a chlywaf hefyd nad ydych yn cefnogi llwybr du'r M4 dros wastadeddau Gwent. Ond a ydych yn derbyn bod angen rhyw fath o welliant i'r seilwaith o ran y ffordd ei hun? Mae safon y ffordd bresennol wedi dyddio'n eithriadol; nid yw wedi bod yn addas i'r diben ers blynyddoedd. Mae angen rhyw welliant, beth bynnag fo'r ateb hwnnw.
Rwy'n derbyn yr hyn a ddywed Nick Ramsay am hynny'n llwyr—y gallai rhywfaint o seilwaith ffyrdd ychwanegol fod yn rhan o'r ateb, ond nid dyna'r stori gyfan.
Nawr, ni chredaf ei bod yn deg cyhuddo Llywodraeth Cymru o ruthro i wneud penderfyniad ynglŷn â ffordd liniaru'r M4. Credaf fod rhai ohonom yn meddwl y byddem wedi ymddeol erbyn i'r penderfyniad gael ei wneud. Ac fe wnaeth y Prif Weinidog ystyried, ac fe wnaeth, pan gyflwynodd y penderfyniad, ystyried bod yno ffactorau cytbwys. Credaf ei bod yn bwysig iawn fod Llywodraeth Cymru, wrth wneud y penderfyniad hwnnw, wedi dewis gwrando ar ein comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol. Nid oes unrhyw bwynt o gwbl i Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol os byddwn yn dewis anwybyddu'r unigolyn sy'n gyfrifol am ei gweithredu bob tro y bydd yn dweud rhywbeth wrthym sy'n anghyfleus i ni.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Yn sydyn, ond rwy'n ymwybodol fod gennyf rai pwyntiau eraill y mae angen imi eu gwneud.
Yn yr un modd, onid yw'n bwysig, pan fyddwn yn cael adroddiad ac ymchwiliad gan arolygydd annibynnol, fod yr egwyddor hefyd yn berthnasol yn hynny o beth?
Wel, credaf fod hwnnw'n bwynt dadleuol, ac mae'n bwynt dilys, ond mae'n ymwneud hefyd â'r ffactorau y caiff yr arolygiaethau hynny eu sefydlu i edrych arnynt. Fy marn bersonol i—ac nid wyf yn siarad ar ran fy mhlaid—yw y credaf fod angen diweddaru rhai o'r meini prawf hynny yng ngoleuni Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Felly, nid wyf yn dadlau ynghylch yr hyn a ganfu'r arolygiaeth, ond efallai fy mod yn dadlau'n rhannol ynglŷn â'r hyn roedd yr arolygiaeth yn chwilio amdano.
Hoffwn droi—. Felly, nid ydym yn derbyn y pwyntiau am yr angen i adeiladu—[Anghlywadwy.] Ond hoffwn droi'n gyflym at ein gwelliannau, a'r cwestiwn ynglŷn â ble y dylid gwneud y penderfyniadau hyn. Mae rhai ohonom wedi bod yn dadlau ynghylch manylion datganoli ers amser maith, ac un peth sy'n gwbl glir i mi yw na ddylai unrhyw sefydliad gwleidyddol, unrhyw unigolyn sy'n dweud eu bod yn parchu datganoli ar ben arall coridor yr M4 ddweud wrth Lywodraeth Cymru, 'Gallwch gael y buddsoddiad hwn ar yr amod eich bod yn ei wario'n union fel y dywedwn ni.' Os felly, waeth i ni i gyd fynd adref.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Os gwnaiff y Llywydd ganiatáu hynny.
Yn fyr. Rwy'n caniatáu'r ymyriad.
Mae'n ymwneud â'r pwynt ynglŷn â pheidio â bod eisiau cyfarwyddo Llywodraeth Cymru sut i wario arian. Rwyf wedi eich clywed yn dadlau ar sawl achlysur y dylem gyfarwyddo awdurdodau lleol sut i wario eu harian hwy. Felly, dylai'r hyn sy'n iawn mewn un achos fod yn iawn yn yr achos arall hefyd. Yn sicr, os oes prosiectau o bwysigrwydd cenedlaethol, fel ffordd liniaru'r M4, a bod Llywodraeth y DU am eu symud yn eu blaen—
Mae'n ddrwg gennyf, Darren, mae'n rhaid i mi dorri ar eich traws, gan fod amser yn brin. Credaf fy mod yn deall eich pwynt. Ond rwy'n anghytuno. Rwy'n credu yn egwyddor sybsidiaredd—[Torri ar draws.] Darren, rwyf wedi derbyn eich ymyriad, a fyddwch yn ddigon caredig i wrando ar fy ymateb? Rwy'n credu yn egwyddor sybsidiaredd, sy'n dweud y dylid gwneud penderfyniad ar y lefel fwyaf lleol sy'n briodol, ac mae adegau pan fydd yn briodol i Lywodraeth Cymru gyfarwyddo awdurdodau lleol ac adegau pan na fydd hynny'n briodol. Yr hyn sy'n gwbl glir i mi, mewn materion datganoledig, yw nad yw'n briodol i Lywodraeth y DU fod yn cyfarwyddo ac nad yw chwaith yn briodol i Lywodraeth y DU flacmelio Llywodraeth Cymru, i bob pwrpas.
Nawr, ar bob cyfrif, buddsoddiad ychwanegol. Rwyf wrth fy modd â'r sôn a gawn gan Boris Johnson ynglŷn â chodi lefelau. Buaswn wrth fy modd yn gweld rhywfaint o godi lefelau, fel y byddai llawer o deuluoedd un rhiant yn fy etholaeth wrth eu boddau'n gweld rhywfaint o godi lefelau. Ond yr egwyddor yw bod y rhain yn faterion—mae'r rhain yn faterion datganoledig. Nawr, mae'n gwbl briodol i'r Blaid Geidwadol yma ac i'r Blaid Geidwadol yn San Steffan anghytuno â'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn penderfynu ei wneud. Ond nid lle—nid lle—Gweinidogion na chawsant eu hethol gan bobl y wlad hon yw cyfarwyddo Llywodraeth etholedig y wlad hon sut i wario ei hadnoddau mewn meysydd datganoledig.
Rwy'n cynnig ein gwelliannau, Ddirprwy Lywydd.
Mae'n bleser mawr gennyf siarad yn y ddadl hon y prynhawn yma. Dwyrain De Cymru yw'r porth i Gymru. Diben y porth yw caniatáu i nwyddau a gwasanaethau fynd i mewn ac allan. Mae'n gwneud synnwyr, felly, fod cysylltiadau trafnidiaeth da yn hanfodol wrth ehangu economi sy'n tyfu ac yn ffynnu. Yr M4 yw porth strategol Cymru i weddill y Deyrnas Unedig ac i Ewrop. Dyma'r brif rydweli sy'n pwmpio gwaed economi Cymru, ond mae'r rhydweli hon, yn rhy aml, yn cael ei gorlenwi a’i thagu. Y gwir amdani yw ein bod yn cael ein gwasanaethu gan ffordd ddeuol is-safonol nad yw’n bodloni safonau traffordd fodern. Mae tagfeydd ar yr M4 yn effeithio’n andwyol ar ein trefi a'n dinasoedd mawr. Mae ein heconomi yn unig—. Mae Caerdydd ar ei cholled o £134 miliwn y flwyddyn; Abertawe, £62 miliwn; a Chasnewydd, £44 miliwn y flwyddyn.
Yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf, gorfodwyd y darn hwn o ffordd i gau dros 100 o weithiau. Mae can mil o gerbydau yn teithio ar yr M4 o amgylch Casnewydd bob dydd. Mae hyn yn cynyddu pan fydd digwyddiadau mawr, fel cyngherddau, rygbi, pêl-droed neu griced yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd, Casnewydd neu Abertawe. Wedi'i gyfyngu gan y twneli traffordd hynaf yn y Deyrnas Unedig, mae'r darn hwn o ffordd yn achosi mwy o allyriadau gan gerbydau, ansawdd aer gwael a damweiniau.
Argymhellwyd ffordd liniaru’r M4 am y tro cyntaf yn ôl ym 1991. Mae'r achos dros ffordd liniaru ar gyfer yr M4 o amgylch Casnewydd hyd yn oed yn gryfach nag erioed o'r blaen. Treuliodd arolygydd cynllunio’r Cynulliad Cenedlaethol fwy na blwyddyn yn ystyried yr achos dros lwybr M4 newydd i’r de o Gasnewydd. Mae'n rhoi cefnogaeth gyfan gwbl i'r cynnig. Yn ei adroddiad, mae'n manylu ar fuddion economaidd, amgylcheddol ac iechyd y prosiect. Dywedodd y byddai prosiect yr M4 yn darparu—a dyma’i ddyfyniad—
'cyfradd adennill iach ar gyfer y buddsoddiad o gyllid cyhoeddus.'
Am bob punt a fuddsoddir, byddai Cymru’n derbyn £1.50 yn ôl, ond serch hynny, gwrthodwyd ei argymhelliad gan y Prif Weinidog—penderfyniad a wnaed yn unochrog. Rwy'n gobeithio y bydd yn ateb rhyw ddydd beth oedd y gwir reswm dros wrthod y cyfle gwych hwn a fydd, o ddydd i ddydd, nid yn unig yn cynyddu cost y draffordd, ond mae rhesymau eraill hefyd, ac rwyf am sôn amdanynt yn awr. Arweiniodd y gwrthodiad hwn at siom, dicter a rhwystredigaeth ym myd diwydiant a grwpiau busnes yng Nghymru. Llofnododd 90 o fusnesau a sefydliadau, gan gynnwys Admiral, Tata ac SA Brain ddatganiad ar y cyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i adeiladu ffordd liniaru’r M4. Dywedodd CBI Cymru,
Mae hwn yn ddiwrnod tywyll i economi Cymru...Ni all tagfeydd a llygredd ffyrdd o amgylch Casnewydd ond cynyddu. Bydd twf economaidd yn cael ei fygu, bydd hyder yn y rhanbarth yn gwanhau a bydd cost ffordd liniaru yn y pen draw yn codi.
Dywedodd y Sefydliad Trafnidiaeth Cludo Nwyddau hefyd,
Mae'r M4 yn ddarn hanfodol o seilwaith sydd â phwysigrwydd economaidd rhyngwladol, ond mae tagfeydd trwm yn ei ddifetha.
Y seilwaith a'r cyfle i ddarparu’r buddsoddiad hanfodol hwn yn ne Cymru sydd wedi eu colli. Ni all y sefyllfa hon ond gwaethygu, Lywydd. Mae Llywodraeth Cymru’n derbyn bod problemau gweithredol difrifol ar gyffyrdd o amgylch Casnewydd, yn enwedig rhwng cyffyrdd 23 a 28. Mae cael gwared ar dollau pont Hafren, er y bydd hynny’n darparu chwistrelliad o dros £100 miliwn o weithgarwch economaidd i Gymru, wedi cynyddu tagfeydd yn aruthrol. Rhwng 2011 a 2016, cynyddodd y traffig ar yr M4 dros 12 y cant. Mae rhagamcanion gan yr Adran Drafnidiaeth yn dangos y bydd traffig yn unig ar yr M4 yn cynyddu bron i 38 y cant dros y 30 mlynedd nesaf. Nid yw peidio â gweithredu yn opsiwn, Lywydd. Mae pobl Cymru wedi aros yn ddigon hir i'r broblem hon gael sylw. Tra bo Llywodraeth Cymru'n tin-droi ac yn oedi, mae'r traffig yn cynyddu ac mae'r sefyllfa'n gwaethygu. Mae angen gweithredu ar unwaith. Galwaf ar Lywodraeth Cymru i ddarparu ffordd liniaru’r M4 ar frys. Diolch.
Byddai hyn yn teimlo fel pe bai wedi digwydd droeon o'r blaen pe na bai’n digwydd yng nghyd-destun y stormydd a'r llifogydd trychinebus rydym wedi’u cael dros yr wythnosau diwethaf, sy'n gwneud i mi ryfeddu ein bod yn trafod a ddylid buddsoddi mewn rhagor o ffyrdd ai peidio, pan fo'n gwbl amlwg fod yr argyfwng hinsawdd yn ei gwneud yn ofynnol inni ddod o hyd i atebion gwahanol i'r problemau tagfeydd sydd gennym.
O dystiolaeth y Llywodraeth ei hun i'r ymchwiliad cynllunio, gwyddom mai effaith buddsoddi £1.5 biliwn mewn 14 milltir o ffordd fyddai cynyddu'r traffig ar yr M4 a'i symud ymhellach ar hyd y ffordd honno. Nid yw hyn yn ddefnydd da o arian cyhoeddus o gwbl, ac fe wnaeth y Prif Weinidog y penderfyniad cywir.
Rwy’n rhyfeddu bod y Ceidwadwyr yn dadlau y byddai ateb sy’n symud y tagfeydd ymhellach i lawr y ffordd a dod â mwy o bobl i Gaerdydd a Chasnewydd mewn ceir yn ateb y dylem ei ystyried. Nid yw'n gyson â galwad y Ceidwadwyr Cymreig am Ddeddf aer glân, oherwydd yr argymhelliad yn y cynnig hwn fyddai gwneud y broblem yn waeth o lawer.
Mae datgan argyfwng hinsawdd yn arwain at ganlyniadau, a chredaf fod angen i'r Ceidwadwyr ddechrau dal i fyny â'r angen i wneud pethau'n wahanol yn hytrach na hyrwyddo mwy o'r polisïau sy'n canolbwyntio ar geir sydd wedi ein harwain at y sefyllfa druenus ac anghynaliadwy rydym ynddi ar hyn o bryd, lle rydym yn anrheithio adnoddau'r byd. Ni allwn barhau fel hyn. Hoffwn weld y Ceidwadwyr Cymreig yn canolbwyntio ar sicrhau bod Llywodraeth y DU yn unioni tangyllido hanesyddol ein system reilffyrdd, sef y rheswm pam fod 43 y cant o'r bobl sy'n defnyddio'r M4 yn cymudo i’r gwaith. Nid yw gyrru car i'r gwaith, ei barcio am wyth awr cyn ei yrru oddi yno wedyn yn ddefnydd da o gar. Mae’n rhaid inni gael gwell system drafnidiaeth gyhoeddus. Gallwn yn sicr gytuno ar hynny.
Ond fel y dywedodd Gweinidog yr economi mewn cwestiwn cynharach y prynhawn yma, rhaid inni ystyried bod gan Gymru 11 y cant o'r gorsafoedd a'r signalau ar draws Cymru a Lloegr, ond ni chaiff ond 2 y cant o'r cyllid. Felly, mae'n amlwg fod digon o arian o gwmpas pan wneir penderfyniadau ynglŷn â phrosiectau sy'n canolbwyntio ar Lundain. Nid wyf wedi fy argyhoeddi eto y bydd HS2 yn arwain at unrhyw fudd i Gymru, ond gallaf weld y gallai, pe bai'n arwain at drydaneiddio ac ymestyn y rheilffordd gyflym i Gaergybi. Ond—
A wnewch chi dderbyn ymyriad? Diolch yn fawr iawn, Jenny. O ran gwella'r seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru, beth yw eich barn am yr ardaloedd y tu allan i ganolfannau trefol de Cymru a gogledd Cymru? Nid oes gan y rhan fwyaf o Gymru system reilffyrdd sy'n werth siarad amdani.
Rwy'n cytuno â chi. Rydym yn cael gwared ar ffyrdd yn gyson ac mae ardaloedd o Gymru lle nad oes gennym reilffyrdd bellach, ac felly gwyddom y bydd angen i bobl y mae'n rhaid iddynt fynd i weithio o bentrefi anghysbell ddefnyddio car, o leiaf er mwyn cyrraedd y bysiau a allai fynd â hwy i'r dref lle maent yn mynd i weithio. Felly, nid wyf yn dweud na ddylid cynnal unrhyw ffyrdd o gwbl, dim ond dweud mai'r hyn sy'n fy ngwylltio yw'r ffocws parhaus yn y cynnig hwn ar fynd yn ôl at y penderfyniad a wnaed ym mis Mehefin y llynedd ynglŷn â pheidio â bwrw ymlaen â chynigion hynod gostus ac aneffeithiol i wella ffyrdd. Mae gwir angen inni uwchraddio ein system reilffyrdd, yn ogystal â gwella'r system drafnidiaeth integredig y mae'n rhaid inni ei chael er mwyn cael economi fodern, fel y bydd y trenau a'r bysiau'n cael eu cydgysylltu'n eithaf cyflym, fel y gall pobl gyflawni pa daith bynnag y mae angen iddynt ei chyflawni.
Felly, credaf fod yn rhaid i ni gael newid moddol o ddefnyddio ceir ar gyfer pethau fel cymudo i'r gwaith a'r ysgol. Credaf y dylem ddadlau fod angen datganoli gwariant ar y seilwaith rheilffyrdd, neu fod angen inni wneud rhywbeth am y fargen wael y mae Cymru'n ei chael ar hyn o bryd i gael gwasanaeth rheilffyrdd gwell i Gymru. Nid ydym yn mynd i gael unrhyw beth, hyd y gwelaf, o wario £16 biliwn ar HS2, ac nid ydym yn mynd i gael y rheilffordd i Abertawe wedi'i thrydaneiddio hyd yn oed oni bai fod rhywbeth yn y gyllideb nad ydym yn gwybod amdano eto, na hyd yn oed uwchraddio'r pedair rheilffordd rhwng Caerdydd a Chasnewydd a thu hwnt, y gellid defnyddio dwy ohonynt fel gwasanaethau rheilffyrdd maestrefol i gysylltu poblogaeth Sir Fynwy â Chaerdydd a Chasnewydd.
Dyma'r mathau o fuddsoddiadau sydd eu hangen arnom yn daer, ond buaswn yn cytuno â'r angen i fynd i'r afael â'r tagfeydd ar yr M4, gan y gall pob un ohonom gytuno eu bod yn anghynaliadwy, ac mae angen inni fynd ati ar frys i ryddhau Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru i ddarparu atebion cynaliadwy ac effeithiol i ymdrin â thagfeydd yng Nghasnewydd a'r rhanbarth ehangach.
A wnewch chi ddirwyn i ben, os gwelwch yn dda?
Mae gan y comisiwn flynyddoedd o arbenigedd ym maes trafnidiaeth ymhlith ei aelodau: faint o amser sydd ei angen arnynt i feddwl am yr atebion y mae'n rhaid eu bod ganddynt yn barod? Nid oes angen inni fod yn arbenigwyr ar drafnidiaeth i sylweddoli y bydd angen inni archebu bysiau yn y tymor byr fel ateb dros dro hyd nes y cawn y llwybrau metro, tram a threnau newydd y bydd angen amser i'w hadeiladu.
Diolch i Jenny am roi'r ymyriad hwnnw i mi hefyd. Mae'n rhaid i mi ddechrau, fodd bynnag, drwy ddweud pa mor siomedig rwyf fi wrth weld cynnig arall eto gan y gwrthbleidiau'n cael ei ddileu'n gyfan gwbl gan Lywodraeth Cymru a'i ddisodli gan ei chynnig ei hun. Bob wythnos, mae gan y Llywodraeth ddiwrnod cyfan i gyflwyno dadleuon o'i dewis ei hun, ond gan fod hyn yn dod yn batrwm sefydlog gan Lywodraeth Cymru wrth ymateb i'n dadleuon ni yn arbennig, Ddirprwy Lywydd, tybed a fyddech chi neu'r Llywydd bellach yn ystyried adolygu defnydd y Llywodraeth o'r gwelliant 'dileu popeth'. Lle'r Llywodraeth yw ateb y Senedd hon, nid gweiddi drosti gyda gwelliannau fel hyn, neu'n wir, wrthod craffu am nad yw'n hoffi cywair yr hyn a ddywedwn.
Ac os mai eich blaenoriaeth chi, Weinidog, yw dwyn Llywodraeth y DU i gyfrif fel yr ymddengys eich bod yn ei wneud yn eich gwelliant, peidiwch â defnyddio ein hamser ni fel gwrthblaid i wneud hynny: dewch yn AS a defnyddiwch amser eich gwrthblaid eich hun i wneud hynny yn y Senedd. A gawn ni ychydig mwy am Lywodraeth Cymru, ac ychydig llai o 'nid ni, syr'?
Credaf fod y pwyntiau ynghylch y newid yn yr hinsawdd a godwyd yn y ddadl hon eisoes yn ychwanegiadau defnyddiol iawn i'r cynnig hwn. Maent yn bwysig ac roeddent yn teimlo'n arbennig o fyw imi ddoe wrth imi eistedd, gyda llawer o bobl sy'n gweithio yn y sefydliad hwn, mewn tagfa o gyffordd 33 enwog yr M4. Cymerodd awr i mi gyrraedd Croes Cwrlwys, heb allu troi fy rheiddiadur ymlaen oherwydd mygdarth. Efallai ei bod yn ddiwrnod arbennig o wael ddoe, ond yn y naw mlynedd y bûm yma, mae fy nhaith o Abertawe yn y bore yn cymryd o leiaf hanner awr yn hirach nag yr arferai gymryd, a'r rheswm am hynny yw bod gennym ffyrdd na allant ymdopi â'r angen mwyfwy mynych i gau lonydd. Ac i ystyried pwynt Huw Irranca-Davies, ac yn wir, pwynt Jenny—ni allaf feicio o Abertawe i Gaerdydd i gyrraedd yma yn y bore, Jenny. [Torri ar draws.] Felly, pam na ddaliaf y trên? Wel, pe bai'n un o'r trenau newydd cyflym iawn hynny y mae Llywodraeth y DU wedi buddsoddi ynddynt, ac a fyddai'n cyflymu'r siwrneiau hynny'n llawer mwy nag y byddai trydaneiddio wedi'i wneud, buaswn yn ystyried hynny. Ond mewn gwirionedd, mae cyrraedd yma ar drên yn dal i gymryd mwy o amser na gyrru mewn tagfeydd traffig, a chyda pherfformiad Cymru ar hyn o bryd, nid wyf yn gweld hynny ynddo'i hun yn ddewis cynaliadwy. [Torri ar draws.] Nid wyf yn dod o'r un lle â chi ar y trên hwn, Huw.
A gaf fi dynnu sylw at un peth amlwg, mewn gwirionedd, sef bod bysiau, sy'n rhan fawr o'r hyn y mae'r Llywodraeth yn ei ystyried, yn defnyddio ffyrdd? Nid y car yn unig sydd dan sylw yma. Felly, oni bai eich bod yn meddwl am drên un gledren, Weinidog, credaf fod lladd y cynnig hwn yn rhywbeth arall sy'n tynnu sylw oddi wrth wirionedd anodd iawn, rydym wedi ceisio—
A wnewch chi dderbyn ymyriad byr?
O'r gorau.
A cherbydau trydan hefyd, gan fod angen ffyrdd ar gerbydau trydan yn ogystal â bysiau, wrth gwrs.
Rydych yn achub y blaen ar fy mhwynt, Mr George. Roeddwn yn ceisio cyrraedd y pwynt fod hwn yn gwestiwn anodd. Nid yw'n ymwneud yn syml â cheir yn hytrach na threnau yn hytrach na beth bynnag. Mae gennym ffyrdd sydd mewn cyflwr peryglus, nad oes ganddynt ddigon o gapasiti ar hyn o bryd i ymdopi â'r tagfeydd rydym wedi'u creu am nifer o resymau, ac nid ydynt wedi'u cynllunio i flaenoriaethu trafnidiaeth gyhoeddus. Gyda ffyrdd newydd, pan fyddant yn newydd sbon, dylem ystyried eu cynllunio i gynnwys dewis amgen deniadol teithio llesol sy'n cysylltu cymunedau yn economaidd yn ogystal ag yn gymdeithasol, ond ni all hynny fod yn wir am bob ffordd, gan gynnwys yr un a ddefnyddiaf yn y bore.
O ran trafnidiaeth werdd—wel, mae tramiau'n rhannu lle ar y ffyrdd â cherbydau modur, a boed honno'n drafnidiaeth gyhoeddus werdd neu'n dacsis hydrogen—gadewch i ni gael y rheini hefyd—byddant yn dal i ddefnyddio ffyrdd. A dadl am hynny yw hon—codi cwestiwn difrifol ynglŷn â diben ffyrdd ar hyn o bryd ac yn y dyfodol, fel y nodir yn nau bwynt cyntaf ein cynnig. Felly, nid yw'n dychwelyd i'r 1980au.
Mae ffyrdd mawr bron bob amser yn ddadleuol, er eu bod yn destun cyfaddawdu mor aml. Gall cyfaddawdu gael ei lywio gan arbedion cost nad ydynt bob amser yn cael eu gwireddu, ac ymddengys i mi nad oes gan yr un o'n Llywodraethau straeon gwych iawn i'w hadrodd am gost seilwaith strategol. Ond y gwahaniaeth rhwng y gwaith ar yr A465 a HS2 yw bod y cyntaf wedi bod yn rhan o fy mywyd, fwy neu lai, ers i mi adael y brifysgol. Dim ond basilica'r Sagrada Familia sy'n cymryd mwy o amser i'w gwblhau, ac mae cyflawniad gwael ar y seilwaith strategol hwn yn mynd yn groes i egwyddorion Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol lawn cymaint ag y byddai plastro'r wlad mewn concrit.
Gall cyfaddawdu fod yn gyfle a gollwyd hefyd. Mae rhesymau pam nad yw'r ffordd ddosbarthu i'r de o Bort Talbot yn cymryd lle'r darn uchel o'r M4—ni fyddai hwnnw byth wedi cael ei adeiladu heddiw—ond y cyfan y mae cyfyngiadau cyflymder is ar y darn hwn yn ei wneud yw symud tagfeydd i fyny'r ffordd i Llandarcy. Mae'r cynnydd mwyaf mewn traffig yn fy rhanbarth i ar y pum cyffordd i'r gorllewin o Bort Talbot. Arbrofion gyda chyffordd 41—nid yw'r rhain yn hysbysebion da i'r rheini rydym yn ceisio'u denu i'r dinas-ranbarth, yn enwedig Aberdaugleddau, na'r rheini rydym yn ceisio eu perswadio i gynnal pont dir yn ne Cymru ar gyfer masnach rhwng Iwerddon a gweddill yr UE.
I gloi, Ddirprwy Lywydd, ni waeth faint y mae hyn yn ei gostio i'r economi, mae'n gwneud ein holl gynlluniau datblygu lleol yn destun sbort hefyd. Mae'r cynnydd mwyaf mewn traffig yn fy rhanbarth i ar gyffordd 47 ger Penlle'r-gaer, sydd wedi neidio 78 y cant yn y 17 mlynedd diwethaf, a dyfalwch ble mae'r CDLl yn bwriadu adeiladu'r rhan fwyaf o'i ystadau tai?
Weinidog, yn eich ymateb, rwy'n mawr obeithio y byddwch yn ymateb i'r ddadl hon am yr hyn yr ydyw—apêl ddiffuant am rywfaint o feddwl strategol am ein seilwaith y mae ei angen yn daer er mwyn codi lefel Cymru.
Hoffwn gyfyngu fy sylwadau i'r ddwy brif ffordd yng Nghymru, a'r broses o ariannu unrhyw welliannau a allai ddigwydd, pa fath bynnag o welliannau y penderfynir arnynt. Y ddwy brif ffordd yw'r A55 yn y gogledd a'r M4 yn y de. Dynodwyd statws traffyrdd E i'r ddwy ffordd gan yr Undeb Ewropeaidd—yn achos yr A55, E22, a'r M4, E30. Golyga hyn eu bod yn rhan o'r rhwydwaith ffyrdd pan-Ewropeaidd a luniwyd i gysylltu gwledydd yr Undeb Ewropeaidd.
Fel y gŵyr pob un ohonom, nid ydym ni yn y DU yn perthyn i'r undeb hwnnw mwyach, ond mae ein cymydog, Iwerddon, yn perthyn iddo. Mae'r ddwy brif draffordd hon yn hanfodol i gysylltedd Iwerddon nid yn unig â rhannau o'r DU, ond hefyd â gwledydd yr Undeb Ewropeaidd. Felly, mae'n gwbl dderbyniol, os nad yn ddymunol, iddynt gyfrannu at wella'r traffyrdd hyn. Wrth gwrs, byddai'n fantais fawr i fusnesau cludo nwyddau Iwerddon pe bai tagfeydd ar ffyrdd—megis pont Menai a'r twnnel ym Mryn-glas—yn diflannu. Mae hefyd yn gwbl ddichonadwy y gallent geisio am arian gan yr Undeb Ewropeaidd i alluogi gwelliannau o'r fath, o gofio bod yr UE wedi ymrwymo i sicrhau bod pob un o'i gwledydd yr un mor hygyrch. Felly, ailadroddaf fy ngalwad ar y cyn Brif Weinidog i sicrhau bod y Gweinidog presennol yn cychwyn trafodaethau gyda'i swyddog cyfatebol yn Iwerddon i drafod y posibilrwydd hwn.
Rwyf ond yn codi i wneud cyfraniad byr iawn yn y ddadl hon, dadl rwyf wedi'i mwynhau'n fawr iawn mewn gwirionedd. Yr hyn y mae wedi tynnu fy sylw ato, fel y rhagwelais, yw'r gwrthdaro gwirioneddol hwn rydym yn brwydro ag ef—nid yn unig fel Senedd yma, ond hefyd ymhlith y cyhoedd yn gyffredinol—rhwng ein dyhead i fod yn eistedd mewn car cynnes, ar ein pen ein hunain, gyda'r radio ymlaen, gyda'r gwresogydd ymlaen, yn gyrru i ble bynnag y dymunwn, a'r sylweddoliad nad yw'r bobl dlotaf mewn cymdeithas yn dibynnu ar geir o gwbl. Yr hyn y maent yn dibynnu arno yw trafnidiaeth gyhoeddus dda. Nid yw cael car yn opsiwn iddynt, hyd yn oed i gyrraedd swydd sy'n talu'r lleiafswm cyflog. Felly, dyna ble mae'r pyramid trafnidiaeth gynaliadwy yn effeithiol iawn. Os derbyniwn yn y Senedd hon, fel y gwnaethom—[Torri ar draws.] Gwnaf mewn munud—mewn munud. Os derbyniwn, fel y gwnaethom pan gyflwynasom Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, a Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 hefyd, a oedd yn rhagweld Cymru'n dod yn genedl lle byddai'n naturiol cerdded a beicio'n gyntaf—a dyna frig y pyramid; y cerdded a'r beicio—ac yna rydych yn gweithio'ch ffordd i lawr, ac rydych yn gweithio'ch ffordd drwy drafnidiaeth gyhoeddus a systemau trafnidiaeth dorfol, drwy rannu ceir a rhannu tacsis, drwy bethau fel mentrau cludiant cymunedol ac ati. Ac yna rydych yn cyrraedd y cwestiwn digamsyniol y bydd rhai pobl na allant wneud unrhyw beth ond defnyddio eu car eu hunain gyda'r dechnoleg sydd gennym ar hyn o bryd. Ac mae'n rhaid inni dderbyn hynny. Ond does bosibl nad oes yn rhaid inni weithio drwy'r lleill yn gyntaf, a'r hyn y mae'r ddadl hon yn ei fethu weithiau yw'r syniadau ehangach ynglŷn â sut y symudwn bethau i fyny'r pyramid hwnnw i'w gwneud yn haws, yn llawer mwy deniadol, yn llawer mwy fforddiadwy, fel bod Suzy hefyd, nid fi'n unig, gan y gallaf daro i'r orsaf drenau—[Torri ar draws.] Hoffwn ddweud wrthych, gyda llaw, ers imi deithio mwy a mwy ar y trên, er gwaethaf y problemau a gawsom yn ddiweddar drwy fis Rhagfyr gyda thrên 06:44 yn y bore—er gwaethaf hynny, pan oeddwn yn teithio mewn car, roeddwn yn sownd yn llawer amlach mewn tagfeydd, mewn traffig, mewn damweiniau, dro ar ôl tro ar ôl tro, na'r ambell drên achlysurol sy'n cael ei ganslo. Ond fe ildiaf.
Rwy'n ddiolchgar iawn i Huw Irranca-Davies am dderbyn yr ymyriad. Rwy'n derbyn eich pwynt am dlodi yn llwyr, ond rwy'n adnabod pobl yn y rhanbarth a gynrychiolaf lle mae mam y teulu'n bwyta bara a the ar ddiwedd yr wythnos gan fod yn rhaid iddi roi petrol yn ei char i gyrraedd ei gwaith sy'n talu'r isafswm cyflog mewn ardal wledig. Felly, gadewch inni beidio â chymryd nad yw pobl o dan anfantais economaidd ond yn byw mewn cymunedau lle mae angen mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus dda arnynt, wrth gwrs, oherwydd ni fydd rhai o'r teuluoedd hynny, os ydynt yn mynd i aros yn eu cymunedau, byth yn gallu cael y rhwydwaith o fysiau a threnau, a bydd angen mynediad arnynt at ddulliau teithio preifat sy'n fforddiadwy.
Rwy'n cytuno'n llwyr, ac mae hynny'n gwbl wir ar hyn o bryd, ond ni chredaf y dylem roi'r gorau i geisio cael trafnidiaeth gyhoeddus dda, fforddiadwy, hygyrch, dibynadwy ac aml mewn ardaloedd gwledig hefyd. Mae'n fesur o ba mor bell y mae'n rhaid inni newid y patrwm hwn i ddweud y dylem fod yn buddsoddi yn hynny.
Un o’r ofnau mwyaf i seneddwyr San Steffan pan oedd gennym y cymal bondigrybwyll ar brisiau petrol—a gynlluniwyd i’ch annog i beidio â llenwi eich tanc yn rheolaidd ac ati—oedd bod gennym wrthwynebiad torfol i hynny, dan arweiniad Top Gear a chyflwynwyr eraill, a fyddai'n gorymdeithio i'r Senedd gan ddweud, 'Mae hyn yn warthus.' Rydych yn llygad eich lle, o ran ein sefyllfa ar hyn o bryd, fod yn rhaid derbyn nad oes modd i rai pobl osgoi hynny.
Ond o ran peth o'r drafodaeth rydym wedi’i chael heddiw am rai o'r prif rwydweithiau trafnidiaeth, yn enwedig ar goridor de Cymru, yr holl ffordd o Gasnewydd, yr holl ffordd o Fryste, a dweud y gwir, yr holl ffordd i wasanaethau Pont Abraham—mae rheini bellach wedi dod, i bob pwrpas, yn rhwydwaith trafnidiaeth leol mewn ffaith hefyd, gyda phobl yn dod i mewn ac allan yno. Nawr, does bosibl, mae'n rhaid inni wneud, ar un ystyr, yr hyn y mae Caerdydd—rwy'n falch fod Caerdydd wedi lansio'r ddadl hon, nid yn unig ynghylch codi tâl am dagfeydd, sydd wedi achosi llawer o ddicter a dadlau ac yn y blaen, ond rwy'n falch eu bod wedi lansio'r ddadl honno, mae'n rhaid imi ddweud. Ond mae hefyd yn ymwneud â rhannu ceir, gan fod fy mrawd yng nghyfraith, sydd wedi gweithio yng Nghaerdydd ers 30 mlynedd, yn rhannu car gyda phedwar o bobl eraill, ac maent yn casglu pobl ar y ffordd ac yn teithio i fanc Lloyd’s, ac maent wedi gwneud hynny flwyddyn ar ôl blwyddyn. Os gallant hwy wneud hynny, pam na all eraill? Gwn am gartref gofal yn fy etholaeth lle mae gweithwyr arlwyo’n gwneud yr un peth yn union. Mae hyn yn fy etholaeth i. Ac maent yn teithio ar hyd yr M4 ac maent wedi penderfynu na allant ddioddef yr hyn sy'n digwydd yno, felly maent wedi dod at ei gilydd—yn rhannol o ran y gost, i gadw'r costau i lawr, gan fod pob un ohonynt mewn swyddi sy’n talu’r isafswm cyflog, ond maent wedi dod at ei gilydd i rannu car. Nawr, mae’r opsiynau hynny ar goll yn y ddadl hon weithiau.
Fodd bynnag, mae’n rhaid inni dderbyn bod angen rhywfaint o fuddsoddi mewn ffyrdd. Ceir rhai ffyrdd nad ydynt yn addas at y diben; ceir rhai y mae angen eu gwella a'u cynnal. Rwyf wrth fy modd fod Llywodraeth Cymru wedi rhoi—rwy'n credu—oddeutu £2 filiwn i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Rwy'n gobeithio y byddant yn ei ddefnyddio i atgyweirio lleoedd fel Ffordd Tonna. Mae angen gwneud gwaith sylweddol i roi wyneb newydd arni, nid llenwi tyllau yn unig. Felly, bydd angen y math hwnnw o arian o hyd. Mae’n rhaid inni dderbyn na fydd gan rai pobl unrhyw ddewis ond defnyddio trafnidiaeth breifat, ond gadewch inni beidio ag esgus bod angen inni wneud unrhyw beth ond troi'r patrwm ar ei ben a dechrau buddsoddi mewn trafnidiaeth dorfol ac yna'r car fel ychwanegiad, nid y ffordd arall, fel rydym wedi'i wneud ers 50 mlynedd.
Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ystyried ymrwymiadau trafnidiaeth Llywodraeth Cymru yn ei rhaglen lywodraethu, sy'n ymrwymo'r Llywodraeth i wella'r A40 yng ngorllewin Cymru.
Nawr, bydd y Gweinidog yn gwybod mai un o fy hoff bynciau yw siarad am yr A40 yn Sir Benfro, ac ni fydd ef nac eraill yn synnu y byddaf yn parhau i alw ar Lywodraeth Cymru i ddeuoli'r A40 yn fy etholaeth, a fyddai, yn fy marn i, yn cael effaith fuddiol iawn ar gymunedau lleol a byddai'n gweddnewid yr economi leol. Nawr, fel y gŵyr yr Aelodau, mae'r porthladdoedd yn fy etholaeth yn borth pwysig ar gyfer masnach ryngwladol, ac mae'n bwysicach nag erioed fod Llywodraeth Cymru yn buddsoddi yn y rhwydwaith trafnidiaeth lleol i sicrhau bod y porthladdoedd hyn yn parhau i fod yn gystadleuol yn y dyfodol. Yn wir, mae porthladdoedd Abergwaun ac Aberdaugleddau wedi galw am y datblygiad seilwaith hwn ers rhai blynyddoedd bellach, ac felly, wrth ymateb i'r ddadl hon, efallai y gall y Gweinidog gadarnhau, mewn egwyddor, fod Llywodraeth Cymru o blaid deuoli'r ffordd hon yn y tymor hir. Ac rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn cytuno nad yw deuoli'r ffordd erioed wedi bod yn fater gwleidyddol ac os gofynnwch i aelodau o bob plaid, rwy'n siŵr ei fod yn un o'r ychydig faterion seilwaith y gall gwleidyddion o bob plaid gytuno arno, ac felly mae'n hen bryd i'r prosiect hwn gael ei gymryd o ddifrif.
Er bod Llywodraeth Cymru yn parhau i fwrw ymlaen â chynlluniau trafnidiaeth mewn rhannau eraill o Gymru, megis ffordd Blaenau'r Cymoedd, sy'n eithriadol o bwysig, mae'n hanfodol hefyd fod anghenion seilwaith gorllewin Cymru yn cael eu diwallu. Rydym wedi clywed ymrwymiadau yn y gorffennol ynghylch astudiaethau dichonoldeb ac addewidion o welliannau drwy gydol y Cynulliad hwn, ond mewn gwirionedd, ychydig sy'n cael ei wneud i weddnewid y ffordd hon ac agor gorllewin Cymru i weddill y wlad. Yn wir, roedd yn siomedig darllen yn adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar oblygiadau Brexit i borthladdoedd Cymru nad oedd Cymru wedi manteisio'n llawn ar yr arian a oedd yn gysylltiedig â'r rhwydwaith trafnidiaeth traws-Ewropeaidd. Yn ystod yr ymchwiliad hwnnw, dywedodd Ian Davies o borthladdoedd Stena Line wrth y pwyllgor mai ychydig o gyllid yn unig a gafwyd ond dim byd arwyddocaol iawn dros y 15 mlynedd diwethaf. Wel, nid yw hynny'n dderbyniol ac mae'n drist clywed bod cyfleoedd wedi'u colli yn y gorffennol i gael cyllid hanfodol ac o ganlyniad, nid ydym wedi gwneud unrhyw gynnydd. Felly, rwy'n gobeithio'n fawr y bydd y Gweinidog yn ailedrych ar y prosiect hwn ac yn rhoi ymrwymiad ystyrlon i gymunedau yng ngorllewin Cymru i ddeuoli'r ffordd hon yn y dyfodol.
Wrth gwrs, mae'n ymwneud â mwy na phrosiectau ar raddfa fwy'n unig; mae heriau sylweddol yn wynebu'r rhwydwaith ffyrdd lleol ledled Cymru, ac mae hynny hefyd yn cael effaith ar gymunedau lleol. O fy ymgysylltiad fy hun â phobl leol yng Nghwm Abergwaun, er enghraifft, pa mor niweidiol y gall seilwaith ffyrdd gwael fod. Yn yr achos arbennig hwn, mae cerbydau mawr sy'n teithio drwy Gwm Abergwaun wedi mynd yn sownd, yn llythrennol, rhwng eiddo, gan achosi difrod a pherygl i gerddwyr. Bydd y Gweinidog yn ymwybodol fy mod wedi galw am osod pont droed i gynorthwyo cerddwyr yn well ar yr A487 yng Nghwm Abergwaun, ond yn anffodus mae'r galwadau hynny'n dal i syrthio ar glustiau byddar. Nawr, rwy'n derbyn bod system rybuddio'n cael ei datblygu ar hyn o bryd i rybuddio cerbydau mwy sy'n teithio ar y ffordd hon, ac rwy'n croesawu hynny'n ofalus, ond mae'n gwbl hanfodol fod y system hon yn ymarferol ac yn dderbyniol i'r gymuned leol. Dyna pam rwyf wedi estyn gwahoddiad i'r Gweinidog ymweld â'r ardal iddo ef ei hun gael gweld y problemau yn uniongyrchol, ac felly efallai y gall gadarnhau, wrth ymateb i'r ddadl hon, a fydd yn derbyn y gwahoddiad hwnnw ai peidio.
Nawr, mae'r ffaith bod seilwaith da ar gael yn amlwg yn cael dylanwad uniongyrchol ar gynaliadwyedd busnesau ledled Cymru, a dyna pam ei bod yn bwysicach nag erioed fod Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod ei pholisïau trafnidiaeth yn addas ar gyfer ardaloedd gwledig a bod buddsoddiad yn cyrraedd pob rhan o'r wlad. Mae'n rhaid cofio bod cyfaint y traffig ar y ffyrdd yn cynyddu, ac felly mae'n hanfodol ein bod yn sicrhau bod cyflwr y ffyrdd hynny o safon weddus ac yn ddiogel i'w defnyddwyr. Yn 2018, teithiodd cerbydau modur yng Nghymru 29.4 biliwn cilomedr cerbyd. Mae'r ffigur hwn 4.63 biliwn cilomedr cerbyd yn fwy nag yn 2000. Fodd bynnag, yn ôl yr hyn a ddeallaf, er bod cyfaint y ceir a thacsis wedi cynyddu 2.74 biliwn cilomedr cerbyd ers 2000, mae nifer y bysiau a choetsys wedi gostwng 0.8 biliwn yn yr un cyfnod.
Rwy'n credu ei bod yn bwysig, fel y dywedwyd eisoes, inni gydnabod bod bysiau fel bysiau Sir Benfro yn wasanaethau gwerthfawr hollbwysig i gynifer o bobl allu cyrraedd eu gwaith a chyfleusterau cymunedol, a hyd yn oed yn y frwydr yn erbyn unigrwydd ac arwahanrwydd. Felly, fan lleiaf, rwy'n credu bod gan Lywodraeth Cymru ddyletswydd i'r bobl hynny, i sicrhau bod ein rhwydwaith ffyrdd cyhoeddus yn ddigonol ac yn gallu cludo pobl yn gyfforddus o un lle i'r llall, ac efallai y bydd Bil bysiau Llywodraeth Cymru sydd ar y ffordd yn edrych nid yn unig ar y math o wasanaethau sydd ar gael, ond ar sut y caiff y gwasanaethau hynny eu darparu ar ein seilwaith ffyrdd.
Felly, i gloi, Ddirprwy Lywydd, bydd Sir Benfro yn gartref i filoedd o ymwelwyr cyn bo hir, ac eto, er mwyn gallu manteisio'n llawn ar yr hyn sydd gan Sir Benfro i'w gynnig, bydd angen rhwydwaith trafnidiaeth cryf ar waith. Felly, rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi ein cynnig.
A gaf fi alw yn awr ar Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates?
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar iawn yn wir am y cyfle i ymateb i'r ddadl hon y prynhawn yma. Ni welaf unrhyw reswm pam y gallai Aelodau ar unrhyw ochr o'r Siambr hon fethu cefnogi'r datganiad o argyfwng hinsawdd, methu cefnogi na chydnabod gwasanaeth rheilffyrdd £5 biliwn Llywodraeth Cymru, methu gresynu at yr £1 biliwn o danariannu gan Lywodraeth y DU ar seilwaith trafnidiaeth Cymru yn y pum mlynedd diwethaf—pam na allai unrhyw Aelod yn y Siambr hon resynu at ddegawd o gyni neu gefnogi ein galwad am gyllid ar gyfer pecyn cynhwysfawr o brosiectau ffyrdd a thrafnidiaeth ar y gororau, Ddirprwy Lywydd. Ac ni allaf weld unrhyw reswm ychwaith pam y byddai unrhyw Aelod yn gwrthod galw ar Lywodraeth y DU i fuddsoddi £1 biliwn yn seilwaith rheilffyrdd gogledd Cymru neu i nodi penderfyniad—dim ond nodi penderfyniad—y Prif Weinidog, neu wrth gwrs, i groesawu'r gwariant o £1 biliwn gan Lywodraeth Cymru ar drafnidiaeth yng ngogledd Cymru. Ni allaf ond casglu nad yw unrhyw Aelod sy'n gwrthod cefnogi ein gwelliant yn cefnogi'r pecyn £1 biliwn o welliannau yng ngogledd Cymru na'n galwad am £1 biliwn i unioni lladrad mawr trenau Cymru drwy—[Torri ar draws.] Rwy'n hapus i ildio.
Roeddwn yn edrych ar ein cynnig, ac yn meddwl tybed pam nad oes rheswm i resynu na allwch gytuno eich bod yn cydnabod pwysigrwydd ffyrdd fel rhydwelïau economaidd hollbwysig sy'n hyrwyddo ffyniant, neu gydnabod effaith economaidd ac amgylcheddol andwyol cysylltedd ffyrdd gwael. Gallwn fynd ymlaen, ond nid ydych yn cydnabod yr un o'r pethau hynny. Os ydych yn cydnabod hynny, pam eich bod yn ei ddileu?
Ddirprwy Lywydd, ni allaf dderbyn y dylem weithio gyda Llywodraeth y DU i ddarparu ffordd liniaru'r M4. Mae'r penderfyniad hwnnw wedi'i wneud. Ac os caf ddechrau gyda'r M4, yn gyntaf oll, mae'r Prif Weinidog wedi gwneud sylwadau dro ar ôl tro yn y Siambr hon ac wedi rhoi ei resymeg dros beidio â bwrw ymlaen â phrosiect coridor yr M4 o amgylch Casnewydd. A gallaf sicrhau pob Aelod ein bod yn cydnabod bod tagfeydd ar yr M4 yn her y mae'n rhaid mynd i'r afael â hi. Peidiwch â meddwl nad yw'n opsiwn, nid ar yr ochr hon i'r ffin nac ar ochr Lloegr i'r ffin.
Yma, rydym yn ddiolchgar am y gwaith y mae'r Arglwydd Burns eisoes wedi'i gwblhau gyda Chomisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru yn eu hadroddiad ym mis Rhagfyr. Dim ond dechrau gwaith y comisiwn yw'r adroddiad hwnnw, ac edrychaf ymlaen at dderbyn diweddariadau pellach eleni. Rydym hefyd wedi pwysleisio'n eglur fod y prosiect penodol hwn yn gwbl unigryw o ran y raddfa ac o ran yr effaith ar y safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig, ac felly bod yn rhaid ei ystyried yn ei hawl ei hun.
Nawr, yn ystod y blynyddoedd diwethaf rydym wedi cwblhau nifer o brosiectau ffyrdd proffil uchel, gan gynnwys ffordd osgoi'r Drenewydd, sydd, rwy'n credu, yn enghraifft wych o sut y mae buddsoddiad ac ymrwymiad Llywodraeth Cymru yn cyflawni dros bobl Cymru. Ac fe'i cyflawnwyd, fel y dywedais yn gynharach, yn gynt na'r disgwyl ac fe'i cwblhawyd, rwy'n credu, i'r safon uchaf un y gallai'r cynllun ei chyflawni. Mae'n cynnig newid gwirioneddol o ran sut y mae pobl yn teithio yn yr ardal, yn ogystal ag i'r Drenewydd a thu hwnt. Nawr, mewn cyferbyniad, erbyn mis Gorffennaf 2018, roedd cynlluniau ffyrdd Llywodraeth y DU tua £2.8 biliwn dros y gyllideb a bu oedi gyda 85 o'r 112 o gynlluniau ffyrdd, a gadewch i ni beidio ag anghofio ychwaith am y trasiedïau a achoswyd gan brosiect trychinebus y traffyrdd clyfar, fel y'u gelwid gan Lywodraeth y DU, wedi i Panorama eu disgrifio yn ddiweddar fel ffyrdd sy'n lladd. Nid oes cynlluniau o'r fath yma yng Nghymru.
Ddirprwy Lywydd, fel y nodwyd yn ein gwelliant, mae Llywodraeth Cymru yn darparu £1 biliwn o welliannau i'r seilwaith ffyrdd a thrafnidiaeth yng ngogledd Cymru, gan gynnwys gwelliannau mawr i'r A55 a'r A483, cynlluniau teithio llesol a metro gogledd Cymru, a hyn er bod Llywodraeth y DU yn galw am £200 miliwn o arian yn ôl gennym gyda chwe wythnos yn unig o'r flwyddyn ariannol i fynd.
Nawr, rydym yn llwyr gydnabod pwysigrwydd cysylltedd trawsffiniol, ac yn ystod y misoedd diwethaf, bu swyddogion yn gweithio'n agos gyda swyddogion o Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru i nodi cynlluniau posibl y gallwn eu datblygu, ac rwy'n ddiolchgar am y cydweithrediad hwnnw. Mae swyddogion wedi nodi dau brosiect mawr y gellid rhoi blaenoriaeth i'w datblygu a'u hadeiladu dros y blynyddoedd nesaf. Y cyntaf yw cynllun ffordd A483 y Pant i Lanymynech, a'r ail yw cynllun yr A5/A483 o'r Amwythig i Wrecsam. Er mwyn manteisio i'r eithaf ar y manteision economaidd a ddaw yn sgil gwelliannau o'r fath i Gymru, bydd angen i'r ddwy Lywodraeth neilltuo adnoddau, ac mae Llywodraeth Cymru yn barod i ddyrannu arian os gall Llywodraeth y DU wneud yr un peth drwy'r strategaeth fuddsoddi mewn ffyrdd.
Nawr, mae ein cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol yn tynnu sylw at ein hymrwymiadau i wella'r rhwydwaith traffyrdd a chefnffyrdd yng Nghymru, er gwaethaf y degawd o gyni rydym wedi'i ddioddef. Mae Llywodraeth Cymru, nad yw'n cael ei hariannu i wneud hynny, hefyd wedi buddsoddi yn ein seilwaith rheilffyrdd, gan ddewis cysylltu cymunedau drwy ailagor rheilffyrdd a gorsafoedd newydd, gan roi blaenoriaeth i gynyddu capasiti i ddarparu gwasanaethau gwerthfawr a phoblogaidd, a chau croesfannau i wella diogelwch ac amseroedd teithio. Roedd fy natganiad llafar ddoe yn hysbysu'r Aelodau ynglŷn â'r angen i berchnogaeth ar y seilwaith rheilffyrdd a'r gwaith o'i ariannu fod yn nwylo pobl Cymru. Rydym wedi bod yn isel ar restr blaenoriaethau San Steffan ar gyfer gwella'r rhwydwaith rheilffyrdd ers gormod o amser. Gallai hynny ddod i ben gyda datganoli cyfrifoldebau a chyllid.
Erbyn diwedd y flwyddyn ariannol nesaf, byddwn hefyd wedi cyflawni cyfran sylweddol o'r gwaith o drawsnewid metro de Cymru, gan ailgadarnhau ein hymrwymiad i leihau allyriadau carbon. Nawr, bydd datgarboneiddio trafnidiaeth yn thema allweddol yn strategaeth drafnidiaeth newydd Llywodraeth Cymru, sydd i'w chyhoeddi eleni, ac yn y flwyddyn ariannol nesaf, rydym wedi dyrannu £74 miliwn ychwanegol ar gyfer mesurau datgarboneiddio trafnidiaeth.
Nawr, fel y dywedais yn fy ateb i gwestiynau yn gynharach heddiw, mae £2 filiwn yn cael ei fuddsoddi i greu mannau gwefru cyflym ledled Cymru er mwyn galluogi teithiau hwy a hyrwyddo'r newid o geir petrol a diesel, ac mae hyn yn cefnogi ein huchelgais i sicrhau na fydd unrhyw allyriadau o bibellau mwg ein fflyd o dacsis a bysiau erbyn 2028.
Ddirprwy Lywydd, mae'n rhaid imi fanteisio ar y cyfle hwn i roi sicrwydd i Suzy Davies a Paul Davies ein bod, ym mhenderfyniad y Llywodraeth hon i godi lefelau yng Nghymru, yn datblygu prosiectau ledled y wlad, gan gynnwys lliniaru tagfeydd ar gyffordd 47 yr M4 a dau brosiect mawr ar yr A40. Er hynny, yn amlwg, pe bai Prif Weinidog y DU yn penderfynu rhoi'r gorau i'w syniad £15 biliwn o adeiladu pont rhwng yr Alban a Gogledd Iwerddon, nid yn unig gallai wneud iawn am ladrad mawr y trenau gwerth £1 biliwn, gallai fod â digon o arian ar ôl hefyd i fuddsoddi yn y gwaith o ddeuoli'r A40.
Ddirprwy Lywydd, mae uchelgais y Llywodraeth hon i weld Cymru fwy ffyniannus, mwy gwyrdd a mwy cyfartal drwy gysylltedd trafnidiaeth gwell yn un y gobeithiaf y bydd pawb yn dyheu amdani yn y Siambr hon, ac fe all ac fe ddylai Llywodraeth y DU roi cyfran decach o gyllid i Gymru er mwyn i hynny allu digwydd.
Diolch. A gaf fi alw ar Nick Ramsay i ymateb i'r ddadl?
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae'n bleser cael crynhoi'r ddadl hon heddiw, ar bwnc sydd, gadewch inni wynebu'r peth, yn bwysig iawn i'r Siambr hon, i bobl Cymru. Roedd pobl yn arfer dweud bod y diweddar Arglwydd Wyn Roberts wedi adeiladu mwy o ffyrdd yng Nghymru na'r Rhufeiniaid, ac fe adeiladodd gryn dipyn ohonynt, mae'n wir, gan gynnwys, wrth gwrs, yr A470, prosiect seilwaith mawr, ac ni allwch ddychmygu Cymru heb y ffordd honno yn awr.
Nid ffyrdd yw'r ateb i'n problemau trafnidiaeth—i'n holl broblemau trafnidiaeth—ond maent yn rhan hanfodol bwysig o seilwaith trafnidiaeth cyffredinol y wlad hon. Ac wrth gwrs, hyd yn oed os ydych yn frwd eich cefnogaeth i drafnidiaeth gyhoeddus—mae bysiau, wrth gwrs, yn allweddol i anghenion trafnidiaeth y wlad hon—mae bysiau angen ffyrdd i deithio arnynt, mae bysiau angen tarmac. Felly, mae hyd yn oed y bobl fwyaf brwd eu cefnogaeth i drafnidiaeth gyhoeddus yn gorfod derbyn bod gan ffyrdd ran hanfodol i'w chwarae. Wrth gwrs, nid bysiau yn unig ydyw, mae'n cynnwys tramiau hefyd, neu hyd yn oed trolibysiau, fel yr arferai fod gennym. Gallaf weld Dave Rowlands yn gwenu wrth i mi grybwyll y trolibysiau a oedd gennym sawl blwyddyn yn ôl.
Felly, nid yw'n ymwneud â cheir yn unig, ond mae ceir yn parhau, fel y dywedodd Russ George yn gynharach, i fod yn fath pwysig o drafnidiaeth; a byddant yn parhau i fod yn bwysig yn y dyfodol, hyd yn oed os byddant yn geir trydanol. Rydym yn symud oddi wrth danwyddau ffosil, ond nid yw hynny o reidrwydd yn golygu symud oddi wrth geir yn llwyr, o fath personol o drafnidiaeth, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, lle nad yw gwasanaethau bysiau'n wych, wrth gwrs. Er gwaethaf yr holl sylwadau a wneir gan y Gweinidog a Llywodraeth Cymru am ymdrechion i wella trafnidiaeth mewn ardaloedd gwledig, nid yw bysiau'n darparu gwasanaeth cyflawn fel yr hoffem ei weld.
Nawr, i droi at rai o'r cyfraniadau a wnaed yn ystod y ddadl hon, ac fel y dywedodd Russ George wrth agor y ddadl, mae ein rhwydwaith ffyrdd yn hanfodol. Fe sonioch chi hefyd am ffordd liniaru'r M4, Russ, a'r angen am ateb i'r problemau tagfeydd o amgylch Caerdydd. Fel y dywed ein cynnig, rydym yn ceisio datrys y rheini. Gwariwyd llawer iawn o arian ar yr ymchwiliad cyhoeddus, ond ni chafwyd unrhyw ateb i'r tagfeydd. Mae'n anodd gweld—. Fel y dywedais mewn ymateb i sylw Helen Mary Jones yn gynharach, er fy mod yn deall rhai o'r gwrthwynebiadau i darmacio cefn gwlad ac ardaloedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig, nid yw'n bosibl ymdrin â phroblemau fel y rhai o gwmpas Casnewydd heb ryw fath o ateb seilwaith, ac mae ein cynnig yn mynd i'r afael â hynny.
Efallai y gallem gael y wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog am y comisiwn a sefydlwyd i edrych ar y problemau o gwmpas Casnewydd. Credaf y byddai hynny'n amserol. Gwyddom ei fod wedi bod yn gweithio ers cryn amser bellach, ac roedd camau gwahanol i'r comisiwn hwnnw.
Helen Mary Jones, roedd eich awgrym fod ein cynnig yn ceisio troi'r cloc yn ôl i'r 1980au yn un difyr. Wel, nid dyna'r bwriad yn sicr, Helen Mary, nid ydym ond yn dweud na allwch ddatrys yr holl broblemau hyn, yn sicr yn y tymor canolig, drwy geisio symud yr holl draffig ar drafnidiaeth gyhoeddus. Mae'n rhaid cael rhyw fath o gydbwysedd. Russ.
Roeddwn am ddweud, ac rwy'n credu ei fod wedi cael ei ddweud ychydig o weithiau yn ystod y ddadl, ond nid yw ein cynnig yn dweud ein bod eisiau adeiladu mwy o ffyrdd, mae'n sôn am ddiweddaru'r seilwaith presennol sydd yno eisoes. Rwy'n credu bod hwnnw'n wahaniaeth pwysig y mae angen ei egluro yn ein cynnig.
Pan fydd rhywun o'ch ochr chi eich hun yn ymyrryd, mae bob amser yn dda cytuno â hwy. Felly, rwy'n teimlo, Russ, eich bod wedi gwneud pwynt pwysig. Yn rhy aml heddiw, mae rhai Aelodau wedi dweud, 'Pam rydych chi'n sôn am ffyrdd?' Wel, mae'n rhaid siarad am ffyrdd; maent yn rhan hanfodol o'r cymysgedd cyffredinol, a dyna pam ein bod wedi cyflwyno'r cynnig hwn yma heddiw.
Fel y dywedodd Mohammad Asghar, mae'r M4 yn un o'r rhydwelïau hanfodol o amgylch Casnewydd; mae'n rhydweli hen ffasiwn sydd angen ei gwella. Ac fel y dywedodd Suzy Davies, mae'n ymddangos ein bod yn aros yn hir am y pethau hyn i gyd; ni allaf gofio'r union anecdot a ddefnyddioch chi, Suzy, ond roedd yn un cofiadwy iawn. Dave Rowlands, rydych chi, unwaith eto, wedi dweud y dylai Iwerddon, rwy'n credu, Gweriniaeth Iwerddon, gyfrannu tuag at wella ein rhwydwaith ffyrdd yng Nghymru; mae'n eithaf eironig, mewn gwirionedd, o gofio ein bod wedi gadael Ewrop, ein bod yn disgwyl i wlad arall wneud hynny. Gwyddom fod cyllid ar gael gan Lywodraeth y DU, a bod y cyllid hwnnw'n hollbwysig, a bod angen defnyddio'r cyllid hwnnw i wella ein rhwydwaith ffyrdd. Rwyf wedi anghofio rhif y llwybr Ewropeaidd roeddech yn sôn amdano, ond rwy'n credu bod yr M4 yn rhan o'r llwybr Ewropeaidd hwnnw, y llwybr traws-Ewropeaidd, fel yr A40 yn Sir Benfro, a grybwyllwyd gan Paul Davies—apêl dreuliedig am ddeuoli'r A40. Flynyddoedd lawer yn ôl, roeddwn yn rhan o'r pwyllgor SO25 a oedd yn edrych ar ffordd osgoi Robeston Wathen ac a ddylai honno gael ei deuoli neu a ddylai fod yn dair lôn; yn y diwedd, tair lôn ydoedd.
Ond i gloi, Ddirprwy Lywydd, mae'r materion hyn yn rhai pwysig iawn ac rwy'n falch ein bod yn eu trafod yn y Siambr hon heddiw. Oes, mae angen gwella trafnidiaeth gyhoeddus. Oes, mae angen i'r metro gael ei gyflawni. Oes, mae angen trydaneiddio, sy'n digwydd ar hyd rheilffordd y Great Western. Mae'r pethau hyn i gyd yn wir. Ond yn y pen draw, bydd angen buddsoddi yn ein rhwydwaith ffyrdd hefyd, oherwydd yr unig reswm pam nad yw Cymru wedi dod i stop cyn hyn yw oherwydd ffyrdd fel yr A470 heddiw. Felly, gadewch i ni sicrhau, wrth symud ymlaen, fod pob agwedd ar y seilwaith trafnidiaeth yn cael eu hariannu'n briodol gan Lywodraeth Cymru.
Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Diolch. Felly, fe bleidleisiwn ar yr eitem hon yn ystod y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1, 2 a 3 yn enw Darren Millar.
Eitem 6 ar yr agenda y prynhawn yma yw dadl Plaid Cymru ar ddatgarboneiddio, a galwaf ar Rhun ap Iorwerth i gyflwyno'r cynnig.
Cynnig NDM7277 Siân Gwenllian
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r angen i leihau ein hôl troed carbon ac yn nodi potensial hydrogen fel un ffurf i’n helpu i ddatgarboneiddio.
2. Yn croesawu sefydlu Cymdeithas Masnach Hydrogen Cymru.
3. Yn nodi fod gan Gymru, gyda'i hadnoddau naturiol helaeth, gyfle i ymuno â'r arloeswyr trwy symud y defnydd o hydrogen ymlaen yn gyflym er mwyn cael manteision amgylcheddol, iechyd ac economaidd.
4. Yn cydnabod yr astudiaeth sydd eisoes yn cael ei gynnal i ddefnyddio Ynys Môn fel ardal peilot ar gyfer cynlluniau hydrogen, yn ogystal a chynlluniau ar y gweill mewn sawl ardal arall o Gymru.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i lunio strategaeth Gymreig ar hydrogen.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Rydym ni ar drobwynt fel cymdeithas, ac mae'r ddadl yma heddiw yn un o'r rheini rydym ni'n gorfod ei chael wrth i ni drosi o'r byd yr oeddem ni arfer byw ynddo fo i'r byd newydd o'n blaenau ni: byd sydd yn gorfod sylweddoli mor fregus ydy o, o ran yr amgylchedd, ac sydd hefyd yn ddigyfaddawd yn ei benderfynoldeb i arloesi yn wyneb y sefyllfa honno.
Rwy'n cyflwyno'r cynnig hwn heddiw ar yr un diwrnod ag y caiff sefydliad newydd ei lansio'n swyddogol, sefydliad y mae'n bleser gennyf gymeradwyo ei nodau a'i amcanion. Mae lansiad Cymdeithas Masnach Hydrogen Cymru yn adlewyrchu'r ffaith bod y byd wedi deffro, rwy'n credu, i botensial enfawr hydrogen fel arf yn erbyn newid hinsawdd. Bydd datblygiadau sy'n gysylltiedig â hydrogen yn ein helpu, nid yn unig i gyflawni ein nodau datgarboneiddio, ond hefyd i lanhau'r aer yn ein hardaloedd trefol. Llygredd aer oedd testun un o ddadleuon diweddaraf Plaid Cymru yma ychydig wythnosau yn ôl.
Gobeithio y bydd rhai ohonoch wedi cael tro ar y beic hydrogen oedd yn cael ei arddangos y tu allan i'r Senedd amser cinio heddiw, lle'r oedd ynni hydrogen yn tynnu'r straen oddi ar ein coesau. Mae'r posibiliadau ar gyfer hydrogen yn ddiddiwedd o ran diwallu ein hanghenion ynni. Byddwch wedi fy nghlywed lawer gwaith yn y Siambr hon yn hyrwyddo manteision amgylcheddol symud tuag at gerbydau trydan, ac yn sicr, pŵer trydan uniongyrchol yw'r dechnoleg fwyaf blaenllaw ar gyfer ceir preifat allyriadau isel ar hyn o bryd, ond mae hydrogen yn cynnig potensial yn hynny o beth hefyd. Mae gennym ein cwmni ceir hydrogen ein hunain yma yng Nghymru, sef Riversimple. Pe baem yn gallu defnyddio hydrogen yn eang fel tanwydd ar gyfer ceir yn y dyfodol, rydym eisoes yn ei weld yn cael ei ddefnyddio mewn ffyrdd mwy datblygedig mewn trafnidiaeth fasnachol fwy o faint—lorïau, bysiau, llongau, trenau—ychwanegwch at hynny y ffaith y gellid rhedeg systemau gwresogi, a gorsafoedd pŵer cyfan hyd yn oed, ar danwydd nad yw'n allyrru unrhyw beth ar wahân i ddŵr, ac o gofio y gellir cynhyrchu hydrogen drwy ddefnyddio pŵer hollol adnewyddadwy, gallwch ddechrau gweld y darlun llawn.
Credaf fod 19 o sefydliadau'n ffurfio rhan o Gymdeithas Masnach Hydrogen Cymru, sef cymdeithas newydd o gwmnïau cynhyrchu a dosbarthu ynni i gwmnïau adeiladu, cyfleustodau, Riversimple, y soniais amdanynt yn gynharach, llu o gyrff sydd â rôl neu ddiddordeb—yn fasnachol, yn amgylcheddol neu'n wir, yn gymdeithasol—i gefnogi buddsoddiad mewn hydrogen yng Nghymru yn y dyfodol. Yr hyn y maent wedi'i weld yw mai nawr yw'r amser i Gymru wneud datganiad ein bod eisiau bod yn rhan o'r don fawr gyntaf yn y chwyldro ynni newydd hwn.
Yr hyn rwy'n chwilio amdano, i bob pwrpas, o gyflwyno'r cynnig hwn, yw i'r Senedd hon fynegi ei chefnogaeth i hynny, i fynegi ein bod yn gweld bod hydrogen yn faes lle ceir manteision enfawr yn economaidd ac o ran iechyd yr amgylchedd. Ac wrth gwrs, byddaf yn gwrando'n astud ar y Gweinidog, nid yn unig am eiriau o gefnogaeth, ond am dystiolaeth o gamau pendant y mae Llywodraeth Cymru yn barod i'w cymryd a'u cymryd yn gyflym. Er enghraifft, mae'n wych fod y Llywodraeth wedi cyflwyno dogfen dendro yn ddiweddar yn chwilio am ddarparwr i
roi cymorth i Lywodraeth Cymru...i helpu i gyflwyno llwybr cymorth arfaethedig a datblygu cynigion sydd ar y gweill
ym maes hydrogen ac mewn perthynas â datblygu hydrogen. Mae'n waith a fydd yn cymryd dwy flynedd i'w gwblhau, ond rwy'n gobeithio y byddwn yn gweld prosiectau'n dechrau cael eu datblygu yn awr ochr yn ochr â'r astudiaeth honno. Mae yna astudiaeth yn yr Alban, er enghraifft, a fydd yn adrodd ymhen pedwar mis, erbyn mis Mai eleni, ac ni allwn fforddio colli'r cwch hwn sy'n cael ei danio gan hydrogen. Ac wrth sôn am gychod, rwy'n arbennig o gyffrous am botensial hydrogen i ddod â manteision i fy etholaeth a phorthladd Caergybi; gall sicrhau bod traffig ar draws môr Iwerddon yn troi at danwydd hydrogen fod yn rhan bwysig iawn o hynny.
Mae'r cynnig yn cyfeirio'n benodol at y potensial ar gyfer datblygiadau hydrogen ar Ynys Môn. Dychmygwch y cyfle i ddefnyddio ynni adnewyddadwy dros ben o'r môr a'r gwynt a gynhyrchir o amgylch Ynys Môn gyda'r nos, dyweder, i gynhyrchu hydrogen mewn ffatri yng ngogledd yr ynys, lle mae gwir angen swyddi arnom, a defnyddio hwnnw i bweru cerbydau ffyrdd, trenau, a llongau i ac o Ynys Môn. Dychmygwch botensial defnyddio hen biblinell olew crai Shell sy'n rhedeg o ogledd yr ynys yn uniongyrchol i ogledd orllewin Lloegr, gan greu diwydiant allforio newydd, arloesol yn amgylcheddol, i allforio hydrogen. Dychmygwch droi hynny, wedyn, yn fenter gymdeithasol, hyd yn oed.
Rydym ni'n gwybod am Morlais, y fenter gymunedol sy'n rhan o Menter Môn, sy'n datblygu prosiect ynni môr yn y parth arddangos oddi ar arfordir gorllewinol yr ynys. Ond mae Menter Môn hefyd wedi bod yn arwain darn o waith yn edrych ar botensial y diwydiant hydrogen ar Ynys Môn: gweithredu yn lleol er budd y gymuned ac er mwyn yr amgylchedd. Maen nhw, fel fi, yn gweld ein bod ni yn edrych ar rywbeth yn fan hyn a all ddod â budd mawr inni ar gymaint o haenau gwahanol, o'r lleol i'r cenedlaethol, ac yn wir yn fyd-eang.
Mae Llywodraeth yr Almaen wedi'i chyffroi am hydrogen. Maen nhw'n cyhoeddi strategaeth hydrogen genedlaethol yn y gwanwyn yma. Yn ôl Llywodraeth ffederal yr Almaen, hydrogen ydy'r olew newydd. Roeddwn yn darllen yn gynharach flogs ac erthyglau gwahanol sy'n cyfeirio at sut y mae hydrogen, er enghraifft, yn mynd i drawsnewid cadwyni cyflenwi byd-eang a sut y mae o'n mynd i fod yn gwbl allweddol mewn datgarboneiddio ein cartrefi ni, a'r ffordd y maen nhw'n cael eu cynhesu yn arbennig.
Mae yna brosiectau ar waith yng Nghymru yn barod. Rydw i wedi cyfeirio at y tendr yna gan y Llywodraeth ac at ymchwil Menter Môn ar gyfer Ynys Môn fel ynys hydrogen. Mi wnâi gyfeirio hefyd at y cynllun Milford Haven Energy Kingdom yn Aberdaugleddau, sy'n trio arloesi yn y symudiad o danwydd ffosil a nwy tanwydd ffosil i hydrogen. Mae'r rhain i gyd yn bethau i'w croesawu.
Ond, gadewch inni heddiw wneud datganiad clir iawn bod Cymru am fod yn arloeswr hydrogen. Ac fel arwydd o'n difrifoldeb ni mewn helpu i arwain y frwydr yn erbyn newid hinsawdd, ac i newid i fath cwbl newydd o ddiwydiant hefyd, a ddaw â budd ar gymaint o lefelau, mae Cymru, medd ein datganiad ni heddiw, am fod yn rhan o'r chwyldro hwnnw.
Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i'r cynnig. Galwaf ar Andrew Davies i gynnig gwelliannau 1, 2 a 3, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar.
Gwelliant 1—Darren Millar
Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 1 ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn nodi buddsoddiad Llywodraeth y DU yn y sector ynni hydrogen, gan gynnwys buddsoddiad diweddar o £28 miliwn i brosiectau cynhyrchu hydrogen carbon isel ledled y DU fel rhan o'r Rhaglen Cyflenwi Hydrogen.
Gwelliant 2—Darren Millar
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn seilwaith trafnidiaeth di-allyriadau, fel trafnidiaeth gyhoeddus wedi'i phweru gan hydrogen, a gyflwynwyd mewn rhannau eraill o'r DU, fel rhan o strategaeth ehangach i fynd i'r afael â llygredd aer ac allyriadau carbon.
Gwelliant 3—Darren Millar
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i ymgysylltu'n adeiladol â Llywodraeth y DU i ddatblygu sector ynni hydrogen Cymru, a gweithio gyda phrifysgolion a busnesau o fewn y sector i sicrhau bod Cymru ar flaen y gad o ran y dechnoleg newydd hon.
Cynigiwyd gwelliannau 1, 2 a 3.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Cynigiaf y gwelliannau yn enw Darren Millar—1, 2 a 3—sydd ynghlwm wrth y cynnig. Diolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl, yn enwedig ar yr un diwrnod ag y lansiwyd Cymdeithas Masnach Hydrogen Cymru yma yn y Senedd, datblygiad rwy'n ei groesawu. Fel y disgrifiodd Rhun, a agorodd y ddadl, rwy'n credu bod prosiectau cyffrous yn digwydd ar draws y Deyrnas Unedig. Dyna pam ein bod yn credu ei bod yn bwysig i ni wneud mwy na gweithio ar sail Cymru'n unig, ac yn lle hynny, ein bod yn edrych ar draws y Deyrnas Unedig ar brosiectau sydd ar y gweill i weld pa gyllid ymchwil y gallwn ei ddenu i Gymru.
Yn wir, o asesiad Llywodraeth y DU ei hun o hyn, ac yn enwedig mewn perthynas â chreu marchnad ynni lân, mae'n ddiddorol nodi fod potensial ar gyfer 2 filiwn o swyddi a gwerth £170 biliwn o allforion blynyddol erbyn 2030. Mae'r rhaglen drafnidiaeth hydrogen, er enghraifft, sydd newydd sicrhau £23 miliwn o gyllid, a lansiwyd yn 2017, wedi helpu i gyflymu'r gwaith o gyflwyno'r cerbydau hydrogen hyn a mwy o seilwaith hydrogen, gan gynnwys gorsafoedd ail-lenwi, cyn gwaharddiad y DU ar geir diesel a phetrol erbyn 2030.
Os edrychwn ar draws ac i fyny i'r Alban, er enghraifft, mae rhai datblygiadau cyffrous wedi bod yno: prosiect HySpirits yn ynysoedd Orkney yn yr Alban, sy'n archwilio'r posibilrwydd o drawsnewid distyllfa jin crefft, i ddefnyddio hydrogen yn hytrach na nwy petrolewm hylifedig, i wneud y broses yn fwy ecogyfeillgar; a'r gronfa £100 miliwn ar gyfer prosiectau ynni hydrogen carbon isel i ddefnyddio capasiti cynhyrchu hydrogen carbon isel i alluogi mwy o ddefnydd o hydrogen fel opsiwn datgarboneiddio o fewn y sector ynni.
Dyna pam ei bod yn bwysig iawn, buaswn yn awgrymu, ein bod hefyd yn cysylltu ein sector prifysgolion—a dyna pam fod gwelliant 3 yn galw am weithio gyda'r sylfaen ymchwil o fewn y sector prifysgolion yma yng Nghymru i ddatblygu'r cyfleoedd hynny. Pan fyddwch yn sôn am drafnidiaeth, er enghraifft, mae Transport for London yn ceisio cyflwyno 20 o fysiau deulawr yn cael eu pweru gan hydrogen ledled Llundain. Hefyd, mae Green Tomato Cars, fel y cânt eu galw, sef cwmni tacsis yn Llundain, hefyd wedi cyflwyno tacsis sy'n cael eu pweru gan hydrogen fel rhan o'u fflyd. Ond pe baech yn dweud wrth gwsmeriaid cyffredin ar y stryd am ynni hydrogen a'r potensial ar gyfer ynni hydrogen yn ein cymysgedd ynni, byddai llawer yn edrych arnoch heb ddeall am beth rydych chi'n sôn.
Felly, bydd y ddadl hon yn ddechrau pwysig yn y sgwrs honno. Bydd y gynghrair a lansiwyd heddiw yn helpu, gobeithio, i hysbysu llawer o bobl am y cyfleoedd cyffrous sydd ar gael, pe bai'r dechnoleg hon yn cael ei defnyddio'n fwy helaeth. Ond mae'n hanfodol ein bod yn cysylltu'r dotiau i sicrhau bod gennym gysylltiad rhwng yr ymchwil sy'n mynd rhagddo ar draws y Deyrnas Unedig, fod Llywodraeth Cymru yn datblygu'r gallu ymchwil yma yng Nghymru gyda rhywfaint o arian sefydlu, ond hefyd ein bod yn gweithio i ddenu arian—yr arian sylweddol, buaswn yn awgrymu—sydd ar gael gan Lywodraethau eraill y Deyrnas Unedig i wneud yn siŵr fod y dechnoleg hon yn ddewis amgen difrifol ac yn chwaraewr hyfyw yn y broses o ddatgarboneiddio ein heconomi yn gyffredinol.
O edrych arno o'r hyn rwyf wedi'i ddeall dros yr wythnosau diwethaf, fel y cyfryw, wrth edrych ar y pwnc hwn, fe wnaeth y Sefydliad Materion Cymreig gyffwrdd â hyn yn eu papur polisi 'Re-energising Wales', ond roedd yn galw am fwy o ymchwil yn y sector hwn, ac arloesedd, yn enwedig mewn perthynas â datblygu prosiectau carbon isel a di-garbon newydd. Rwy'n sylweddoli nad oes gennyf ond tri munud—dadl hanner awr yw hon, ac nid yw hynny, yn ôl pob tebyg, yn gwneud cyfiawnder â'r pwnc. Ond rwyf am ddod â fy nghyfraniad i ben ac rwy'n gobeithio y bydd ein gwelliannau'n cael cefnogaeth yn y ddadl y prynhawn yma.
Fel rwy'n siŵr bod pawb yn gwerthfawrogi, nod y ddadl yma yw rhoi chwyddwydr go iawn ar y potensial sydd gan hydrogen o safbwynt nid yn unig effaith amgylcheddol yng Nghymru, ond yn sicr yr effaith cymdeithasol ac economaidd y gallwn ni fod yn ei fwynhau ac yn manteisio arno fe petai'r sector yma yn cael y gefnogaeth a'r cyfle i dyfu y mae yn ei haeddu. Rŷn ni'n meddwl, yn aml iawn, ein bod ni ar flaen y gad yn trio rhyw wahanol bethau, ond fel rŷn ni wedi clywed gan Rhun, mae yna wledydd sydd eisoes yn rhoi'r dechnoleg yma ar waith, hyd yn oed yn y Deyrnas Unedig—mae yna fysys hydrogen mewn llefydd fel Aberdeen a Birmingham, ac mae Llundain yn buddsoddi mewn bysys hydrogen. Mi fues i'n reidio beic hydrogen y tu allan i'r Senedd fan hyn rhyw awr yn ôl. Felly, mae'r dechnoleg gyda ni, ond yr hyn sydd eisiau ei wneud, wrth gwrs, yw ei roi ar waith ar sgêl sy'n mynd i wneud i'r sector yma fod yn hyfyw a chaniatáu iddo fe dyfu, ond ar y un pryd, sicrhau bod Cymru yn y lôn gyflym pan mae'n dod i'r cyfleoedd arloesol sydd yna o gwmpas y maes yma. Dyna, wrth gwrs, yw ffocws y ddadl yma heddiw.
Dwy flynedd yn ôl, fe gomisiynodd Plaid Cymru ddogfen ymchwil a oedd yn edrych ar botensial hydrogen o safbwynt datgarboneiddio trafnidiaeth yng Nghymru, ac un o'r pethau amlwg yw bod angen ffynhonnell gyllid penodol, pwrpasol ar gyfer cynlluniau cludo hydrogen. Mae yna lawer mwy y gallem ni fod yn ei wneud i ddefnyddio'r cyfle sy'n cael ei gyflwyno gan fasnachfraint rheilffyrdd Cymru a'r gororau, y metros arfaethedig, a newid y fflyd bysiau—mae angen symud yn gynt yn y cyfeiriad yna. Roedd cyfeiriad at dendr sydd allan gyda'r Llywodraeth ar hyn o bryd, ac yn sicr, mae angen tîm penodol i gael ei dynnu at ei gilydd o brifysgolion, awdurdodau lleol a'r Llywodraeth er mwyn gyrru'r agenda yma yn ei blaen, a phobl sydd yn mynd i lunio cynigion penodol i adnabod ffynonellau cyllid, i fod yn rhagweithiol, i wneud i bethau digwydd, yn hytrach na jest rhyw ddrifft lle rŷch chi'n gobeithio rhyw ddydd, rhywbryd, mi ddaw popeth at ei gilydd. Os ydyn ni eisiau fe i ddigwydd, mae'n rhaid inni wneud iddo fe ddigwydd, ac yn amlwg, mae pobl yn edrych i gyfeiriad y Llywodraeth am yr arweiniad yna.
Mae angen gwneud mwy i sicrhau bod sefydliadau sector gyhoeddus a phreifat mawr yn datgarboneiddio eu fflydoedd ac yn symud, er enghraifft, i hydrogen, ac yn y blaen, ac yn y blaen—mae yna ddigon y gallwn i ei ddweud yn y maes yna. Mae Rhun wedi cyfeirio at Riversimple. Ces i'r fraint o ymweld â'r cwmni'r llynedd, yn Llandrindod, ac maen nhw wedi datblygu prototeip o gar o'r enw Rasa. Mae yn gar eco-coupé—dyna eu disgrifiad nhw o'r car—a'r model cyntaf fydd yn mynd ar y ffyrdd, gobeithio, yn y gwanwyn yma, gyda'r gefnogaeth iawn, a dyma'r her fan hyn i'r Llywodraeth. Gall fod ceir yn dod oddi ar y production line o fewn dwy flynedd, sy'n ysgafn, sy'n hynod effeithlon, ac sy'n lân—sydd ddim yn creu'r llygredd rŷn ni'n arfer ei weld.
Mae'r Llywodraeth yn barod i fuddsoddi mewn cwmnïau fel Aston Martin, a'r combustion engine, ac mae rhywun yn cydnabod bod yna le i'r rheini ar y foment, ond technoleg ddoe yw hwnnw, i bob pwrpas. Beth am roi £18 miliwn i rywun fel Riversimple, a buddsoddi yn nhechnoleg yfory? Yn fanna mae'r arloesi; yn fanna mae'r cyfleoedd, ac i'r cyfeiriad yna yr ŷn ni'n symud. Felly, fy mhle i yw bod angen i'r Llywodraeth osod sat nav gwleidyddol i sicrhau ein bod ni'n symud i'r cyfeiriad iawn, ac mae hydrogen yn rhan o'r cyfeiriad hwnnw.
Rwy'n falch iawn o gael siarad yn y ddadl hon y prynhawn yma. Nid oeddwn yn sylweddoli mai tair munud oedd gennyf—roeddwn i'n meddwl bod gennyf ychydig mwy, felly mae angen i mi gyflymu ychydig yn awr.
Rwy'n credu ei fod wedi cael ei nodi, ac rwy'n ymddiheuro am fethu lansiad y beic hydrogen, oherwydd roeddwn yn cadeirio'r grŵp trawsbleidiol ar ganser ar y pryd ac ni allwn fod yno. Ond mae'n bwysig inni gofio ambell beth. Pŵer oedd i gyfrif am 17 y cant o allyriadau'r DU yn 2016, a hynny yn ôl y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd. Mae angen i'r ffigurau hyn leihau'n sylweddol—rydym i gyd yn cytuno ar hynny, ac nid wyf yn credu y byddai neb yn y Siambr hon yn anghytuno—er mwyn gallu cyrraedd ein targedau ar gyfer 2050. Nawr, mae allyriadau trafnidiaeth ac allyriadau diwydiannol yn ddau brif achos dros y cynnydd mewn allyriadau carbon yn y wlad, ac mae angen inni fynd i'r afael â'r rhain.
Mae'r rhan fwyaf o bobl eisoes wedi canolbwyntio ar yr agenda drafnidiaeth, felly efallai y caf edrych ar y diwydiant trwm sy'n gyfrifol am 40 y cant o allyriadau carbon deuocsid yng Nghymru. Ond mae troi'r allyriadau hyn yn gemegau arbenigol gwerth uchel a chynhyrchion bwyd yn troi'r gwastraff hwn yn adnodd pwysig. Gall newid diwydiant o ddefnyddio tanwyddau hydrocarbon i ddefnyddio hydrogen a gynhyrchir o ffynonellau trydan gwyrdd leihau allyriadau diwydiannol a lleihau costau ynni ar yr un pryd i greu economi ranbarthol sy'n fwy cystadleuol. Nawr, gallai defnyddio hydrogen ar gyfer gwresogi a thrafnidiaeth fod yn un o'r ffyrdd hynny. Gall hydrogen fod yn hyblyg iawn. Crybwyllwyd y gellir ei gludo drwy biblinell, gellir ei gludo ar y ffordd mewn tanceri fel nwy cywasgedig, neu ei gynhyrchu'n lleol mewn system ddatganoledig. Felly, mae iddo lawer o ddefnyddiau posibl mewn system ynni gyffredinol.
Nawr, gallwn wneud cyfraniad pwysig i ddatgarboneiddio hirdymor, wedi'i gyfuno ag effeithlonrwydd ynni da, cynhyrchu pŵer carbon isel rhad, trafnidiaeth wedi'i thrydaneiddio a systemau pwmp gwres hybrid newydd. Roedd adroddiad gan y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd, 'Hydrogen in a low-carbon economy', yn cydnabod potensial hydrogen fel ffynhonnell ynni ddi-garbon. Felly, mae wedi cael ei gydnabod ac nid oes gwahaniaeth ynddo, ond gallai gymryd lle nwy naturiol. Rwy'n cofio dyddiau nwy glo, ac fe newidiwyd i nwy naturiol, ac yn awr rydym yn sôn am hydrogen yn cymryd lle nwy naturiol, ac felly, mae'n bosibl. Nid oedd yn bosibl flynyddoedd lawer yn ôl, gan ei fod yn cael ei ystyried yn ddrud. Ond heddiw, mae'n opsiwn mwy realistig i helpu i ddatgarboneiddio'r DU, gan fod y costau'n gostwng. Ac felly, mae'n bwysig ein bod yn cael ymrwymiad gan y Llywodraeth i wella cymorth i ddatblygu gallu diwydiannol y DU yn y maes hwn.
Ac mae gan Gymru nifer o fanteision y gellir eu defnyddio wrth newid i economi hydrogen. Mae gennym ffynonellau adnewyddadwy helaeth i roi cyfle i gael system ynni lanach. Fodd bynnag, un pwynt—[Anghlywadwy.]—yn seiliedig ar olew, rwyf wedi siarad am yr ynni, y drafnidiaeth—fe adawaf hynny i chi; fe adawaf hynny i bobl eraill siarad amdano.
Mae gennym brosiectau gwych yn y wlad hon, ac mae gwelliant 3 gan y Ceidwadwyr yn tynnu sylw at y ffaith y dylai Cymru wneud mwy â'r prifysgolion. Wel, rwyf am gofnodi fy ngwerthfawrogiad o'r hyn y maent yn ei wneud eisoes gyda phrifysgolion ar rai o'r prosiectau. Mae gennym systemau ynni integredig hyblyg (FLEXIS), ac mae gennym gynlluniau lleihau allyriadau carbon diwydiannol (REIS). Mae'r ddau yn brosiectau gwych. Ac rwyf hefyd yn falch o'r ffaith bod dwy ganolfan ymchwil yn fy etholaeth—parc ynni bae Baglan ac yn ail gampws y brifysgol. Maent yn gwneud gwaith gwych. A gadewch i mi nodi sut y maent yn gweithio gyda diwydiant a Tata yn arbennig—fe fyddaf yn gyflym iawn, Ddirprwy Lywydd: defnyddio hydrogen i edrych ar sut y gallwn ddefnyddio gwres gwastraff yn Tata, a'i droi'n ynni defnyddiadwy, fel ein bod yn lleihau ein hallyriadau. Mae defnyddio hydrogen wedi dod yn ffordd rad ac effeithiol o gynhyrchu trydan—unwaith eto, o nwyon gwastraff Tata ac ynni adnewyddadwy. Oherwydd os gallant gael ynni i mewn i ddŵr, hollti'r dŵr yn hydrogen ac ocsigen, daw hydrogen yn ynni a gellir defnyddio ocsigen i lanhau dŵr mewn gweithfeydd trin dŵr, sydd hefyd wedi'u lleoli yn Tata, gyda llaw. Felly, dyna opsiwn arall yno. Felly, gallwn—
A wnewch chi ddirwyn i ben, os gwelwch yn dda?
Gallwn ei ddefnyddio. Mae angen inni edrych yn ofalus iawn. Rwy'n sylweddoli cymaint o waith sy'n cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru, ond mae angen i bawb ohonom ei gefnogi yn awr; mae angen inni wneud yn siŵr ei fod yn mynd o ymchwil i ddiwydiant, ac yna i ddatblygu ar draws y DU.
Diolch. Galwaf yn awr ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths.
[Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf. Aeth i lawr y ffordd anghywir—mae'n ddrwg gennyf. Mae hwn wedi bod yn gyfle defnyddiol iawn i dynnu sylw at rôl bosibl hydrogen mewn system ynni ddi-garbon. Mae datgarboneiddio'n sbarduno newid byd-eang yn y byd ynni ac mae'r ffiniau rhwng trafnidiaeth, trydan a gwres yn mynd yn aneglur, gydag ynni'n cael ei droi'n ffurfiau gwahanol er mwyn diwallu ystod o anghenion.
Mae'r gallu i storio ynni a'i ddefnyddio pan a lle bo'i angen yn hanfodol ar gyfer system effeithlon sy'n seiliedig ar ynni adnewyddadwy. Bydd angen i'r system integreiddio cynhyrchiant adnewyddadwy â storio a gwasanaethau eraill i leihau'r angen am gynhyrchiant newydd a sicrhau hyblygrwydd i ddiwallu'r galw ar adegau prysur. Mae angen systemau a chyfarpar mwy clyfar i reoli'r system gynyddol gymhleth hon.
Rydym yn disgwyl gweld nwy carbon isel yn chwarae mwy o ran. Nid yw'n glir eto a fydd hynny'n digwydd ar ffurf biomethan, hydrogen, neu nwyon synthetig eraill. Efallai y bydd gan nwyon megis hydrogen rôl i'w chwarae hefyd yn ein helpu i storio trydan a gynhyrchir o ffynonellau adnewyddadwy yn ystod cyfnodau o alw isel. Yna, gellir troi'r nwy nôl yn drydan drwy hylosgi, neu ei ddefnyddio fel tanwydd gwresogi neu danwydd trafnidiaeth. Bydd targedu buddsoddiad mewn system aml-fector yn ein helpu i ddod o hyd i'r atebion mwyaf effeithiol i ateb galw brig. Rydym wedi ymrwymo i'r dull system gyfan hwn o newid ynni sy'n sail i'n gwaith ar ddatgarboneiddio. Mae hydrogen yn fector ynni naturiol i'w ystyried, gan fod iddo hyblygrwydd i ddarparu gwres, pŵer, tanwydd cynaliadwy ar gyfer trafnidiaeth ac mae'n gyfrwng ar gyfer ei storio. Mae'r hyblygrwydd y gallai hydrogen ei ddarparu o werth i'r sector ynni drwyddo draw.
Mae'r potensial ar gyfer datblygu hyn yn cael ei archwilio drwy ein gwaith Byw yn Glyfar yn ogystal â'r rhaglen FLEXIS ac er ein bod hefyd yn cymryd rhan mewn grwpiau yn y DU i gydlynu gwaith ar hydrogen, mae Llywodraeth Cymru eisoes yn dod â'r sector cyhoeddus, busnesau ac academyddion at ei gilydd drwy ei arddangoswyr Byw yn Glyfar. Mae edrych ar sut rydym yn trawsnewid y swyddi yng ngorllewin Cymru o ynni ffosil i ynni carbon isel yn hanfodol i sicrhau Cymru carbon isel lewyrchus. Enghraifft allweddol yw'r cydweithio a gydlynwyd gennym ar gynnig teyrnas ynni Aberdaugleddau, a gafodd gyfran o £21 miliwn o arian arloesi'r DU i ddatblygu cynllun manwl i ddod ag ef yn nes at allu ei ddefnyddio.
Llwyddiant arall yw'r Rasa, y car cell tanwydd hydrogen Cymreig, a gefnogir gan arian Llywodraeth Cymru ac Ewrop ac sydd bellach yn gweithio ar brosiect peilot i sicrhau defnydd dyddiol o geir hydrogen. Mae'r rhaglen FLEXIS a leolir yng Nghymru yn edrych ar amrywiaeth o gynlluniau arloesol, gyda llawer ohonynt yn cynnwys hydrogen. Un enghraifft yw profi sut y gallai mwy o hydrogen yn y cyflenwad nwy effeithio ar offer domestig. Gallai deall yr effeithiau hyn arwain at greu swyddi newydd yn y diwydiant gweithgynhyrchu.
Ceir cyfleoedd i Gymru adeiladu ar y cynlluniau peilot hyn a datblygu prosiectau cynhyrchu hydrogen lleol a mwy o faint, ar raddfa ddiwydiannol ac fel dewis amgen yn lle nwy naturiol mewn ardaloedd gwledig. Fodd bynnag, bydd sicrhau manteision i Gymru yn dibynnu ar gynnal prosiectau arddangos llwyddiannus yma. Mae hefyd yn galw am fuddsoddiad mawr i leihau costau gweithgynhyrchu a storio hydrogen. Mae arnom angen system ynni carbon isel, ond nid ar unrhyw gost. Hyd yn oed gyda chost ariannol isel nwy naturiol ar hyn o bryd, mae gennym bobl sy'n byw mewn tlodi tanwydd. Mae angen inni adeiladu ar y profiad o wneud ffynonellau adnewyddadwy, megis gwynt ar y tir a solar, yn ffynonellau ynni isaf eu cost, gan ddefnyddio'r gwersi hyn i leihau cost hyblygrwydd a storio.
Rwy'n gobeithio y bydd brwdfrydedd yr Aelodau Torïaidd yn y ddadl Senedd hon heddiw yn cael ei droi'n ymrwymiad gwirioneddol gan eu cymheiriaid yn San Steffan i ddarparu'r cyllid ychwanegol sydd ei angen i helpu mwy o dechnolegau adnewyddadwy i ddod yn wirioneddol gystadleuol o ran pris. Mae'n hen bryd cael nifer o gyhoeddiadau ynni mawr gan Lywodraeth y DU ac rwy'n gobeithio, pan wneir y cyhoeddiadau hyn yn y pen draw, y byddant yn egluro nid yn unig sut y byddant yn cefnogi datblygiad y technolegau hyn ond lle nad yw'r cyfrifoldebau wedi'u datganoli, sut y byddant yn cefnogi datblygiad y technolegau yma yng Nghymru.
Mae hyblygrwydd nwyon fel hydrogen yn golygu bod angen inni edrych yn fanylach ar y system ynni. Mae system integredig yn debygol o fod yn rhatach i ddinasyddion yn y tymor hir ac yn help hefyd i ni ddiogelu cyflenwadau ynni, hyd yn oed ar adegau pan fo'r galw ar ei uchaf. Mae Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol y DU o'r farn y gallai'r arbedion hyn fod cymaint ag £8 biliwn y flwyddyn i ddefnyddwyr ynni ledled y DU erbyn 2030. Rwy'n cefnogi'r cynnig at ei gilydd, a'r gwelliannau sydd, yn fy marn i, yn awgrymu'r angen i ddwyn ynghyd ac ychwanegu ffocws strategol pellach ar y cyfoeth o weithgarwch sydd eisoes ar y gweill yng Nghymru. Nid oes un ateb yn mynd i allu rhoi i Gymru y dyfodol carbon isel y mae ei angen ac yn ei haeddu. Mae angen inni ystyried y system ynni yn ei chyfanrwydd. Fy mwriad yw sicrhau bod ein syniadau ar rôl hydrogen a thechnolegau cysylltiedig ledled Cymru yn gydgysylltiedig ac yn strategol. Dyna pam y bydd strategaeth hydrogen i Gymru yn elfen integredig o gynllun cyflenwi carbon isel nesaf Cymru ar gyfer 2021-25.
Diolch. Galwaf ar Rhun ap Iorwerth i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr iawn. Dim ond dwy funud fach sydd gen i ar ôl. Gwnaf i ddim crynhoi popeth sydd wedi cael ei ddweud, ond diolch yn fawr iawn am y cyfraniadau rydym ni wedi eu cael—Andrew R.T. Davies yn nodi bod yntau'n gobeithio bod heddiw a lansiad y grŵp Cymreig newydd a'r ddadl yma yn ddechrau, o bosib, ar ryw gyfnod newydd o intensity, os liciwch chi, o drafodaeth ar hydrogen. Bu i Llyr Gruffydd sôn am yr angen i fod yn wirioneddol ragweithiol, a dyna dwi'n meddwl sy'n bwysig o hyn ymlaen. Diolch hefyd i Dai Rees am ganolbwyntio ar yr elfen o a ydy hydrogen yn hybu ac yn gyrru diwydiant yng Nghymru, sydd mor bwysig. Rydyn ni angen datgarboneiddio ein diwydiant ni ac, wrth gwrs, mae yna ddiwydiannau sydd yn drwm iawn eu defnydd o ynni yn eich etholaeth chi.
O ran beth glywsom ni gan y Gweinidog, fe glywsom ni grynodeb o'r gwahanol elfennau o ddefnydd sydd yna i hydrogen. Roedd yn sôn am beth mae'r Llywodraeth wedi bod yn ei wneud yn barod; dwi'n meddwl fy mod i wedi crynhoi llawer o hynny. Dwi ddim yn meddwl fy mod i wedi cweit glywed yr urgency o beth dwi'n chwilio amdano fo o ran beth sy'n digwydd nesaf, ond, wrth gwrs, mae'r Gweinidog yn iawn i ddweud bod rhaid dechrau wrth ein traed, adeiladu ar y gwaith sydd yn cael ei wneud rŵan, a dwi'n excited am hydrogen o ddifrif. Dwi'n meddwl y byddwn ni i gyd rŵan yn cadw llygad barcud ar beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i symud yr agenda ymlaen yn fan hyn. Fy meirniadaeth i o'r Llywodraeth Lafur yma yn aml iawn yw dim ei bod hi'n gwneud dim byd, ond ei bod hi ddim yn gwneud digon neu ddim yn ei wneud o efo urgency.
Wel, efo hyn, does gennym ni ddim dewis rŵan ond cymryd camau breision ymlaen, neu mi fydd Cymru yn cael ei gadael ar ei hôl hi, yn hytrach na beth y gallem ni fod yn ei wneud, sef cadw ar flaen y don yma, sydd dwi'n meddwl yn mynd i chwyldroi ynni, o ran cynhyrchu ynni a'r defnydd o ynni yn fyd-eang.
Diolch. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na— [Gwrthwynebiad.] Mewn pryd o drwch blewyn. Mawredd. Lwcus fy mod i wedi pendroni. Iawn, o'r gorau. Fe bleidleisiwn ar yr eitem honno yn y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1, 3, 4 a 5 yn enw Darren Millar, a gwelliant 2 yn enw Rebecca Evans. Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol.
Eitem 7 ar yr agenda y prynhawn yma yw dadl Plaid Cymru ar dywydd garw a difrod stormydd, a galwaf ar Leanne Wood i gyflwyno'r cynnig. Leanne.
Cynnig NDM7278 Siân Gwenllian
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r difrod a'r dinistr a achoswyd i gymunedau ledled Cymru o ganlyniad i Storm Ciara a Storm Dennis.
2. Yn talu teyrnged i ymdrechion arwrol gweithwyr gwasanaethau cyhoeddus a gwirfoddolwyr cymunedol wrth ymateb i effeithiau tywydd garw a difrod stormydd yn ystod yr wythnosau diwethaf.
3. Yn cydnabod y bydd newid yn yr hinsawdd yn gwneud digwyddiadau tywydd garw, gan gynnwys achosion o lifogydd difrifol, yn fwy tebygol yn y dyfodol.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) cychwyn ymchwiliad annibynnol llawn i achosion llifogydd diweddar, yn ogystal â chynnal adolygiad o ddigonolrwydd ei chynlluniau atal tywydd niweidiol yn gyffredinol;
b) sicrhau bod cefnogaeth ychwanegol ar gael i'r rhai sy'n profi trawma seicolegol o ganlyniad i'r dinistr diweddar, yn enwedig plant;
c) sicrhau bod y gronfa galedi ar gyfer yr unigolion hynny y mae tywydd garw a difrod storm yn effeithio arnynt yn sicrhau cydraddoldeb i fusnesau a pherchnogion tai, yn enwedig y rhai heb yswiriant;
d) esbonio statws y cymorth grant sydd ar gael ar gyfer adfer tir;
e) archwilio'r posibilrwydd o gyflwyno cynllun yswiriant cymdeithasol cost isel gyda'r nod o sicrhau yswiriant fforddiadwy ar gyfer eiddo bobman yng Nghymru;
f) gofyn am asesiad cynhwysfawr gan Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru o'r mesurau y byddai eu hangen i leihau'r risg flynyddol o lifogydd yng Nghymru i 1 y cant, 0.5 y cant a 0.1 y cant ac i gynyddu gwariant i'r perwyl hwn.
Cynigiwyd y cynnig.
Rwyf am ddefnyddio'r cyfle hwn a ddaw yn sgil y ddadl hon gan Blaid Cymru i ddilyn ymlaen o'r datganiad am lifogydd ddoe. Codais nifer o faterion yn natganiad y Gweinidog ddoe nad ymdriniwyd â hwy yn ei hymateb dilynol. Felly, rwyf am ddychwelyd at y materion hynny heddiw a chodi rhagor o faterion nad oedd amser ar gael ar eu cyfer ddoe.
Mae'r mater cyntaf yn ymwneud â Cyfoeth Naturiol Cymru a chwestiwn atebolrwydd. Roedd hyn yn broblem arbennig ym Mhentre, lle roeddwn eto y bore yma gyda chynghorwyr lleol ac arweinydd Plaid Cymru, ond nid yw wedi ei chyfyngu i'r dref honno yn unig. Roedd y tunelli o rwbel a olchwyd oddi ar y mynyddoedd a oedd yn blocio'r brif ffos ym Mhentre yn ffactor mewn cymunedau eraill hefyd, megis Ynys-hir a Blaenllechau. Hoffwn wahodd y Gweinidog i ymweld â chymunedau fel Pentre, Blaenllechau, Treorci, Ynys-hir, Ystrad, Porth a Threhafod i weld canlyniadau'r llifogydd, ac i weld maint yr hyn y mae pobl yn ei wynebu er mwyn cael eu traed tanynt eto.
Y tro nesaf y dowch i'r Rhondda, Weinidog, os dowch chi gyda mi, fe wnaf sicrhau eich bod yn siarad â phobl sy'n gallu esbonio'n glir iawn wrthych beth yw effaith yr hyn y credant sy'n weithredu neu'n ddiffyg gweithredu ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru ar eu bywydau. Efallai y gallech ddod â chynrychiolwyr Cyfoeth Naturiol Cymru gyda chi hefyd. Bydd ymweliad o'r fath yn eich helpu chi a swyddogion i weld pam fod arnom angen ymchwiliad annibynnol i achosion y llifogydd ar draws y Rhondda ac ymhellach i lawr y cwm. Ni fydd adolygiad mewnol gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn ddigon da.
Mae cymunedau'r Rhondda yn mynnu bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn cydnabod eu camgymeriadau yn gadael cymaint o ddeunydd ar y mynydd, ac mewn rhai mannau yn newid cyrsiau dŵr drwy ddefnyddio peiriannau trwm ar y mynyddoedd heb wneud gwaith adfer wedyn. Er mwyn i breswylwyr gael cyfiawnder, mae angen i Cyfoeth Naturiol Cymru gyfaddef eu bod yn atebol. Maent hefyd am i chi gydnabod nad yw'r canllawiau y mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn eu dilyn mewn perthynas â chwympo coed yn addas at y diben mwyach. Mae angen ailedrych arnynt eto, ac os ydych yn cytuno â mi ar y pwynt hwnnw, Weinidog, hoffwn glywed gennych pa mor gyflym y credwch y gellid cynnal adolygiad o'r fath.
Fel y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros Cyfoeth Naturiol Cymru, a wnewch chi gefnogi camau i ddechrau'r broses hon? Tra bo pobl yn ei chael yn anodd cael eu traed tanynt eto, ni ellir oedi'n hir ar unrhyw ran o'r broses hon. Felly, rwy'n gofyn i chi weithredu'n gyflym o ran derbyn atebolrwydd, sefydlu ymchwiliad cyhoeddus annibynnol ac adolygu canllawiau Cyfoeth Naturiol Cymru ar gwympo coed. Rhaid dysgu gwersi fel na all hyn byth ddigwydd eto. Pan fo coed yn cael eu cwympo, ni ddylid gadael cymaint o bren yn gorwedd ar y mynydd. Rhaid adfer cyrsiau dŵr os amherir arnynt drwy weithgarwch torri coed.
Gwelais enghraifft wych o hyn ym Mlaenllechau lle roedd nant yn mynd i mewn i'r eiddo drwy'r drws cefn ac yn gadael drwy lifo allan drwy'r drws blaen. Dywedodd y fenyw a oedd yn byw yno wrthyf fod y cyrsiau dŵr uwchben ei chartref wedi'u newid o ganlyniad i weithgarwch cwympo coed o'r fath. Yn naturiol, mae'n pryderu y bydd llif dŵr drwy ei chartref yn dod yn norm mewn glaw trwm o hyn ymlaen nes y gwneir gwaith i unioni pethau.
Felly, ar ran y fenyw hon a llawer o breswylwyr eraill, a wnewch chi, Weinidog, sicrhau bod y newidiadau hyn yn cael eu gweithredu cyn gynted ag y bo modd a bod gwaith yn cael ei wneud i adfer pa ddifrod bynnag a achoswyd i gyrsiau dŵr ar fryniau ac ar fynyddoedd? Nid yn unig y mae'n rhaid inni unioni pethau a ddifrodwyd neu a newidiwyd, ond mae'n rhaid inni hefyd ddiogelu ein cymunedau rhag llifogydd pellach yn y dyfodol. Mae'r argyfwng hinsawdd yn golygu bod yn rhaid i ni ailaddasu ac ailgalibradu popeth yr arferem feddwl eu bod yn normal. Mae gwyddonwyr yn dweud wrthym y bydd digwyddiadau tywydd eithafol fel stormydd mawr yn dilyn ei gilydd yn gyflym yn dod yn fwy cyffredin. Mae'n rhaid i ni fod yn fwy parod y tro nesaf.
Felly, sut y gallwn amddiffyn ein cymunedau a'n pobl? Rhaid inni ddechrau drwy edrych ar raglen o blannu coed ar yr ucheldir, yn enwedig ar dir sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru. Os yw'r tir mewn dwylo preifat, mae angen cymell tirfeddianwyr i blannu a thyfu coed brodorol. Rhaid inni hefyd fynd ati o ddifrif i gwestiynu polisi cynllunio sy'n caniatáu i dai gael eu hadeiladu ar dir a all fod yn allweddol yn y frwydr i atal llifogydd. Rhaid inni hefyd gael rhaglen gynhwysfawr a rheolaidd i lanhau draeniau a cheuffosydd.
Fe wnaeth y llifogydd ddifrodi cartrefi, ac fe wnaeth ddifrodi cerbydau hefyd, ac nid yw yswiriant pawb yn cynnwys difrod llifogydd. Mae hyn yn niweidiol i bawb, ond yn enwedig i bobl a oedd yn dibynnu ar eu cerbydau at ddibenion cyflogaeth. Yng ngoleuni hynny, a wnewch chi ystyried caniatáu i bobl yr effeithiwyd arnynt gan hyn i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus am ddim, ymestyn y tocyn bws am ddim efallai i gynnwys y rhai yr effeithiwyd arnynt? Mae pobl wedi dioddef digon; ni ddylent orfod talu'n ychwanegol i fynd yn ôl ac ymlaen i'r gwaith.
Hefyd, mae angen ystyried y bobl sydd wedi colli eu cerbydau gwaith os ydynt yn fasnachwyr hunangyflogedig. Mae'r bobl hyn nid yn unig wedi colli eu cartrefi, maent hefyd wedi colli eu bywoliaeth, a bydd rhai wedi colli eu hoffer o ganlyniad i'r llifogydd. Felly, hoffwn eich annog i ystyried y ffordd orau o helpu pobl yn y sefyllfa honno.
Gofynnais nifer o gwestiynau eraill ddoe na roddwyd ateb digonol iddynt. Holais ynglŷn â chymorth gyda biliau ynni a phecynnau cymorth yn debyg i'r hyn sydd ar gael mewn mannau eraill. Felly, rwy'n gobeithio'n fawr y bydd y pwyntiau hyn yn cael eu hateb yn ystod y ddadl hon y prynhawn yma. Weinidog, mae pob un o'r materion hyn yn bethau y gallwch chi neu eich Llywodraeth eu rhoi. Rwy'n gobeithio y rhowch sylw iddynt, ac y byddwch yn gweithredu'r camau angenrheidiol y mae ein cymunedau yn eu mynnu ac yn eu disgwyl.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Rydw i wedi dethol y pump gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 2, bydd gwelliant 3 yn cael ei ddad-ddethol. Rydw i'n galw ar Andrew R.T. Davies i gynnig gwelliannau 1, 3, 4 a 5, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Andrew R.T. Davies.
Gwelliant 1—Darren Millar
Ym mhwynt 2, ar ôl 'arwrol' mewnosoder 'y gwasanaethau brys, staff asiantaeth,'.
Gwelliant 3—Darren Millar
Ym mhwynt 4, cynnwys is-bwynt newydd ar ôl is-bwynt (c) ac ailrifo yn unol â hynny:
'sefydlu cynllun rhyddhad ardrethi i helpu busnesau i wella yn dilyn llifogydd; '
Gwelliant 4—Darren Millar
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda rhanddeiliaid i sicrhau bod cymunedau a busnesau lleol yn cael cymorth parhaus y tu hwnt i'r gwaith glanhau cychwynnol i'w helpu i wella yn y tymor hir, ac i deall y camau sydd angen eu cymryd i liniaru llifogydd yn y dyfodol.
Gwelliant 5—Darren Millar
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i ddiweddaru canllawiau cynllunio drwy sefydlu lleiniau na ddylid datblygu arnynt mewn ardaloedd lle mae perygl o lifogydd, megis gorlifdiroedd naturiol, i rwystro datblygiadau amhriodol a lleihau'r perygl o ddifrod i gartrefi a busnesau.
Cynigiwyd gwelliannau 1, 3, 4 a 5.
Diolch yn fawr, Lywydd. Mae'n bleser cynnig y gwelliannau yn enw Darren Millar: 1, 4, 5 a 3 yn y ddadl y prynhawn yma.
Hoffwn ddechrau gyda'r pwynt fy mod yn sylweddoli, yn y trefniadau cyflwyno, fod gennych hawl i gyflwyno dadleuon 30 munud, a chytunaf â'r holl sylwadau a wnaeth y sawl a agorodd y ddadl y prynhawn yma, ond rwy'n credu bod mater mor ddifrifol yn teilyngu dadl lawn yn y Senedd yma. Mae perffaith hawl gan blaid i gyflwyno dadl 30 munud, ond mae braidd yn anodd cyfleu'r holl bwyntiau perthnasol iawn a wnaeth y sawl a agorodd y ddadl hon y prynhawn yma.
Felly, yn y gwelliannau rydym wedi'u cyflwyno heddiw, hoffwn ddweud ein bod yn sefyll ochr yn ochr â'r cymunedau yr effeithiwyd arnynt, yng ngogledd Cymru a de Cymru, oherwydd mae hwn yn fater i Gymru gyfan sy'n galw am ymateb digonol gan y ddwy Lywodraeth ac awdurdodau lleol hefyd. Ac mae'r gwasanaethau sydd wedi bod ar gael i gymunedau ar hyd a lled Cymru wedi dangos ysbryd Cymru ar ei orau, ac felly mae ein gwelliant Rhif 1, gobeithio, yn cryfhau'r pwynt a wneir yn y prif gynnig.
Credaf ei bod yn hollbwysig, yng ngwelliant 3, fod busnesau'n cael cynnig y cymorth i gasglu'r arian y bydd ei angen arnynt i'w cael drwy gyfnod anodd iawn yn ariannol, yn enwedig dros y misoedd nesaf tra byddant yn aros am y taliadau yswiriant, tra byddant yn disgwyl costau ailadeiladu, ac ailddatblygu peth o'r capasiti busnes y maent wedi'i golli oherwydd y llifogydd. Ac rwy'n gobeithio y bydd y Llywodraeth yn cyflwyno cynllun rhyddhad ardrethi a fydd yn cydnabod yr heriau y mae llawer o'r busnesau yn y cymunedau hyn sydd wedi cael eu taro—ac mae ystâd ddiwydiannol Trefforest yn enghraifft dda—lle bu difrod enfawr, a llawer o ardaloedd eraill ledled Cymru. Gall y Llywodraeth gyflwyno cynigion o'r fath. Felly, rwy'n mawr obeithio y bydd cefnogaeth i welliant 3.
Rwy'n gobeithio y bydd gwelliant 4 yn llwyddo heddiw hefyd, oherwydd credaf ei bod yn hanfodol, tra bo meddwl pawb yn briodol ar ganlyniadau uniongyrchol y llifogydd a'r effaith ddinistriol ar dai, busnesau a chymunedau, fod hyn yn mynd i fod yn ymdrech eithriadol o hir ac anodd i'r cymunedau hynny a'r unigolion yr effeithiwyd arnynt—gyda llawer o bobl yn wynebu chwech, wyth, 12 mis allan o'u cartrefi. Mae'n debygol y bydd busnesau'n wynebu cyfnod llawer hwy yn ailadeiladu'r busnesau hynny. Ac nid yw'n rhywbeth y gellir ei gau ymaith am ein bod wedi cael wythnos—wedi cael 10 diwrnod, wedi cael mis o ffocws arno. Bydd hyn yn cymryd misoedd lawer, sawl blwyddyn o ffocws, ac rwy'n gobeithio y bydd gwelliant 4 yn cael cefnogaeth y Cynulliad, oherwydd bydd yn ei gwneud yn ofynnol i'r Llywodraeth gymryd yr awenau, gan weithio gyda'i phartneriaid mewn llywodraeth leol a'r byrddau iechyd ac asiantaethau eraill, i wneud yn siŵr, ymhen tri mis, ymhen chwe mis, ymhen wyth mis, ymhen 12 mis, fod y cymorth hwnnw'n bendant iawn yno ac yn cael sylw penodol.
A hoffwn ofyn hefyd i'r Gweinidog ganolbwyntio rhai o ymdrechion y Llywodraeth ar ochel rhag y sgamiau y soniwyd amdanynt heddiw. Lle mae arian yn llifo i mewn i gymunedau, yn enwedig symiau mawr ohono, ac mewn sefyllfaoedd nad yw rhai cymunedau, unigolion, yn gyfarwydd â hwy, ysywaeth, yn ein cymdeithas, mae yna bobl sy'n barod i fanteisio ar wendid o'r fath. Ac rwy'n derbyn nad yw'n gyfrifoldeb uniongyrchol i'r Llywodraeth, ond gan weithio gyda phartneriaid—tynnu sylw at y prosesau na fydd llawer o bobl erioed wedi gorfod ymdrin â hwy o'r blaen a bod yn ymwybodol o bobl sydd ond yn mynd yno i geisio camfanteisio ar bobl.
A gwelliant 5—ac rwy'n sylweddoli bod fy nhri munud ar ben, ond gwelliant 5—
Diolch am dynnu fy sylw at hynny. [Chwerthin.]
Mae'n datgan yr hyn sy'n gwbl amlwg, a'r pwynt a wnaeth y sawl a agorodd y ddadl, Leanne Wood—ni ddylech adeiladu ar orlifdir, a bod yn onest. Dylid defnyddio gorlifdiroedd i'r union bwrpas y cawsant eu dynodi, sef i helpu i ddal dŵr, nid i adeiladu tai arnynt. Mae cynllunio'n gyfrifoldeb sydd wedi'i ddatganoli'n llwyr; mae'n rhywbeth na ddylem ganiatáu iddo ddigwydd. Ac rwy'n gobeithio'n fawr y bydd y Gweinidog yn rhoi sylw arbennig i hynny oherwydd mae'n rhywbeth sydd o fewn gallu Llywodraeth Cymru i'w wneud a gall ei atal yfory. Diolch.
Galwaf ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i gynnig yn ffurfiol welliant 2.
Gwelliant 2—Rebecca Evans
Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) sicrhau bod yr ymchwiliadau sy’n cael eu cynnal i achos llifogydd yn cael eu cyhoeddi a bod y cymunedau yr effeithiwyd arnynt, y Senedd a’r awdurdodau annibynnol, gan gynnwys y Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol, yn cael craffu arnynt;
b) darparu cymorth ariannol ac ymarferol ychwanegol i’r unigolion a’r busnesau yr effeithiodd y llifogydd arnynt;
c) darparu arian ychwanegol i awdurdodau lleol er mwyn iddynt allu gwneud gwaith trwsio brys ar amddiffynfeydd rhag llifogydd a seilwaith hanfodol arall;
d) cyhoeddi polisi cynllunio newydd a mapiau llifogydd eleni i wneud safiad cryfach ar ddatblygu ar y gorlifdir ac i adlewyrchu’r risgiau cynyddol a ddaw yn sgil y newid yn yr hinsawdd;
e) cyhoeddi Asesiad Perygl Llifogydd newydd i Gymru ochr yn ochr â Strategaeth Llifogydd ac Arfordirol newydd eleni a’i ddefnyddio i flaenoriaethu cynlluniau amddiffyn rhag llifogydd sy’n diogelu’r cymunedau sy’n wynebu’r risg mwyaf o lifogydd o bob ffynhonnell – arfordirol, afonydd a dŵr arwyneb;
f) cynyddu’r cymorth ariannol ac ymarferol i awdurdodau lleol er mwyn iddynt allu datblygu cynlluniau amddiffyn rhag llifogydd newydd yn gynt.
Cynigiwyd gwelliant 2.
Yn ffurfiol.
Delyth Jewell.
Diolch, Lywydd. Nid oes llawer o bethau sy'n fwy brawychus na gweld eich cartref yn cael ei ddifrodi pan nad oes gennych unrhyw rym i'w atal. Yr wythnos diwethaf, dihunodd trigolion ar draws fy rhanbarth i weld dinistr difrod llifogydd ac maent wedi bod yn gwneud popeth yn eu gallu i ailadeiladu eu bywydau. Nawr, yn amlwg, mae ymdrechion yn canolbwyntio ar hyn o bryd ar y glanhau uniongyrchol, ond ar ôl clirio'r llanast, bydd cwestiynau'n aros, er enghraifft pam na ragwelwyd y digwyddiadau hyn gan y rhai sydd mewn grym. Nawr, honnwyd yn y Siambr hon nad oedd modd rhagweld y llifogydd hyn. Buaswn i'n anghytuno â hynny. Datganodd y Llywodraeth hon argyfwng hinsawdd y llynedd. Roedd hynny'n gydnabyddiaeth fod tymheredd uwch yn gwneud stormydd o'r fath yn fwy tebygol. Roedd y stormydd yn rhagweladwy. Pam na wnaed mwy o waith ar atal y dinistr, a pha wersi a gaiff eu dysgu?
Nawr, rwy'n deall bod Comisiwn Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd yn 2010 yn rhoi cyngor i Weinidogion ar yr angen i wario arian ar addasiadau i atal llifogydd. Diddymwyd y comisiwn yn 2013, ac mae gennyf dystiolaeth anecdotaidd fod y Llywodraeth wedi anwybyddu peth o'r cyngor a roddwyd. Felly, hoffwn ofyn i'r Gweinidog a ddilynwyd y cyngor arbenigol a roddwyd, a oes yna lwybr papur, ac os oes, a gaem weld y cyngor hwnnw. Hoffwn ofyn cwestiwn arall: pam mai'r bobl sydd â'r lleiaf o fodd yn aml yw'r bobl sy'n dioddef fwyaf yn yr amgylchiadau hyn?
Rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi cynnig £500 yn ychwanegol i gartrefi heb yswiriant ar gynnwys aelwydydd, ond mae hynny fel diferyn mewn llifddwr disymud. Gadewch i ni fod yn onest—nid oedd y bobl heb yswiriant wedi esgeuluso'r angen i gael yswiriant, gwrthodwyd yswiriant iddynt oherwydd llifogydd blaenorol, neu dywedwyd wrthynt fod y premiymau'n rhy uchel iddynt allu eu fforddio. Felly, pa sgyrsiau y mae eich Llywodraeth yn eu cael gyda'u cymheiriaid yn Llywodraeth y DU i roi pwysau ar y diwydiant yswiriant i beidio â gwrthod yswiriant i'r bobl sydd ei angen fwyaf? Ac mae'r cynllun Flood Re sy'n bodoli i'w groesawu, ond pam fod cyn lleied o bobl yn gwybod amdano?
Hoffwn ofyn rhai pethau penodol i dawelu meddyliau trigolion. Yn Islwyn, cwympodd y geuffos ar safle Navigation, gan roi marc cwestiwn dros fisoedd o waith adfywio y gwn fod Llywodraeth Cymru yn awyddus i'w gefnogi. Pa gefnogaeth y gellir ei rhoi i gyfeillion y Navigation i unioni hyn ac atal llifogydd mewn ardaloedd preswyl cyfagos? Yng Nghrymlyn, mae'n rhaid newid y seilwaith draenio priffyrdd neu bydd llifogydd i eiddo eto. Felly, os na ellir gwneud newidiadau, a fyddai'r Llywodraeth yn ystyried prynu'r eiddo yr effeithir arnynt?
Yn olaf, mae trigolion yn y Fenni yn pryderu y bydd cynlluniau i israddio eu hadran damweiniau ac achosion brys yn eu rhoi mewn perygl yn y dyfodol gan fod y brif ffordd i'r adran damweiniau ac achosion brys agosaf yng Nghwmbrân wedi cau yn ystod y llifogydd. Nawr, mae llifogydd fel hyn yn debygol o ddigwydd eto, felly pa ystyriaeth fydd y Llywodraeth yn ei rhoi i'r materion hyn wrth benderfynu a ddylid atal yr adran honno rhag cau?
Lywydd, nid oes neb yn honni bod cynghorau na'r Llywodraeth wedi methu gweithredu i helpu pobl yr effeithiwyd arnynt gan y llifogydd drwy falais. Nid oedd unrhyw falais, ond roedd yna elfen o esgeulustod, methiant i ragweld y rhagweladwy. Mae pobl am gael sicrwydd y bydd y Llywodraeth yn barod amdani y tro nesaf. Weinidog, a allwn ni roi'r sicrwydd hwnnw iddynt?
Weinidog, o gofio'r amser cyfyngedig, rwy'n mynd i ganolbwyntio ar ychydig o gwestiynau ac ati a materion sy'n codi o ganlyniad i'r cynnig hwn. Yr un cyntaf yw fy mod yn credu y byddai'n ddefnyddiol iawn cael dadansoddiad iechyd cyhoeddus yn sgil y digwyddiadau hyn, nid yn unig mewn perthynas â'r trawma seicolegol a ddioddefwyd, ond gwyddom fod llawer o bobl wrth glirio eu cartrefi wedi gorfod cael brechiadau tetanws ychwanegol a hefyd wedi cael eu rhoi ar gyfres o wrthfiotigau. Rydym wedi gweld pobl yn cael llid ar eu croen mewn mannau lle cawsant gytiau o ganlyniad i'r broses hon. Nawr, mae hyn yn eithaf arwyddocaol ac rwy'n credu ei fod yn rhywbeth sy'n werth cynnal gwerthusiad iechyd y cyhoedd arno.
Y mater arall a godwyd, wrth gwrs, yw amddiffynfeydd rhag llifogydd. Gwn fod Llywodraeth Cymru, yn Ilan, gydag arian Ewropeaidd, wedi buddsoddi'n sylweddol mewn pyllau cyfyngu ar gyfer dŵr sy'n rhedeg oddi ar y bryniau uwchben Rhydfelen, ac mae hynny, mewn gwirionedd, wedi gweithio'n effeithiol iawn. Fe weithiodd yr amddiffynfeydd rhag llifogydd, ond daeth dŵr dros eu pennau mewn rhai mannau ac roedd rhai mannau lle gellid bod wedi rhoi rhai camau ar waith a fyddai wedi cyfyngu ar y llifogydd a ddigwyddodd—yn sicr nid ar raddfa a welwyd erioed o'r blaen, oherwydd roedd yn ardal a welai lifogydd yn rheolaidd.
Y mater arall, wrth gwrs, mewn ardaloedd o gwmpas yr A470—mae draeniad ceuffosydd, clirio ceuffosydd, yn amlwg yn rhywbeth sydd wedi bod yn broblem braidd. Rwyf wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru ynglŷn â hyn ar adeg arall. Ond yn amlwg, roedd yna gartrefi a ddioddefodd lifogydd yno, nid o ganlyniad i'r ffaith bod Afon Taf yn gorlifo, ond o ganlyniad i'r ceuffosydd hynny'n gorlifo, a hynny, rwy'n tybio, o ganlyniad i ddiffyg gwaith cynnal a chadw.
Maes arall sy'n rhaid mynd i'r afael ag ef, mae'n ymddangos i mi, yw'r modd y lleolir cynwysyddion mawr a mathau tebyg o wrthrychau mewn ardaloedd sy'n agored i lifogydd. Oherwydd os yw'r cynwysyddion hyn yn llifo i lawr yr afon, gan daro pontydd, mae'n dyblu ac yn cynyddu'r difrod yn aruthrol. Mae'n ymddangos i mi fod angen inni edrych ar y trefniadau cynllunio neu'r trefniadau trwyddedu eu hunain, neu'r trefniadau sy'n bodoli i bobl gael gosod gwrthrychau o'r fath yno.
Ac yna, yn olaf, rwyf wedi ysgrifennu am hyn eto ar adeg arall, ac rwy'n credu bod angen moratoriwm ar ddatblygiadau cynllunio arfaethedig ar orlifdiroedd, gydag angen i adolygu'r hyn rydym yn ei ddeall wrth 'orlifdir'. Oherwydd, yn ddigon amlwg, ceir ardaloedd sy'n cael eu datblygu ond ychydig bach y tu allan i orlifdiroedd, ond yng ngoleuni'r hyn a wyddom bellach ac a welwn bellach, mae gwir angen eu hailasesu. Felly, mae angen inni gael moratoriwm ar ddatblygiadau, oherwydd mae datblygiadau a all ddigwydd yn ystod y flwyddyn neu ddwy nesaf—mae'n rhy hwyr mewn gwirionedd o ran y canlyniadau a all ddeillio o hynny. Felly, rwy'n gofyn efallai mai un o'r pethau sydd angen inni ei wneud yw ystyried natur cynllunio a natur yr hyn yr arferem ei ddeall yn flaenorol fel gorlifdir, ac adolygu hynny.
Ni wnaf ailadrodd y dadleuon ynglŷn â pham y mae angen inni weithredu ar hyn. Mae newid hinsawdd yn realiti a byddwn yn gweld mwy o'r digwyddiadau digyffelyb hyn yn y dyfodol. Ond mae fy rhanbarth i, fel llawer o rai eraill, wedi cael ei effeithio a bûm yn siarad â phobl ers dydd Sul sydd wedi cael eu heffeithio'n ddifrifol ynglŷn â sut y newidiodd hyn eu bywydau dros nos.
O ran y materion lleol yn unig, rwy'n credu—rwyf yma'n aml yn beirniadu awdurdodau lleol, ond rwy'n credu bod llawer yn fy rhanbarth wedi ymateb yn dda iawn a chlywsom adroddiadau am dimau o'r awdurdodau lleol a oedd allan yn gweithio sifftiau dwbl neu'n hirach na hynny hyd yn oed. Mae un cydlynydd lleol yn ardal Castell-nedd, o'r enw Emma, wedi bod allan yn Aberdulais ac nid yw wedi stopio ers dros wythnos ac mae hi'n cydlynu ymdrech enfawr yn y gymuned ac erbyn hyn mae hi'n un o bileri'r gymuned. Y bobl hyn ledled Cymru, boed yn weithwyr cyngor neu'n wirfoddolwyr—dim ond mewn argyfwng y gallwch wybod beth y byddech yn ei wneud ac rydym wedi gweld gweithgarwch anhygoel gan bobl ledled Cymru, rwy'n credu, sydd wedi camu ymlaen a thorchi eu llewys a bwrw iddi. Nid wyf wedi bod yn un ohonynt, ac rwyf wedi cael fy meirniadu am ymffrostio mewn rhinweddau am na allaf fynd allan yno. Ond credwch fi, pe na bawn i bron naw mis yn feichiog, buaswn allan yno ac fe fuaswn yn helpu, fel pawb arall yma yng Nghymru.
Yn Aberdulais—Ochr y Gamlas, mae gennyf lawer o ffrindiau sy'n byw yno. Maent wrth ymyl y gamlas. Maent wedi dioddef llifogydd dro ar ôl tro, a'r tro hwn, mae carthion wedi dod i mewn i gefn eu tai. Ac maent yn siomedig nad ydynt yn sicr pam fod hynny wedi digwydd, ac nid yw Dŵr Cymru wedi egluro iddynt yn union pam y mae'r carthion wedi dod i mewn i'w cartrefi. Mae llawer o'r trigolion hynny wedi mynd yn sâl o ganlyniad, fel y dywedodd Mick Antoniw.
A phe bawn i'n sgrialu o gwmpas fel AC, yn ceisio darganfod—. Roedd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rhoi gwybodaeth i mi; roedd CNC yn rhoi gwybodaeth i mi; Dŵr Cymru—. Yr unig beth y maent am ei wybod yw beth y mae'n rhaid iddynt ei wneud mewn sefyllfa o argyfwng. Nid ydynt am ddarllen dogfennau mawr ynglŷn â sut i lanhau carthion. Maent am gael cyngor, ac maent am gael rhywun wrth law sy'n meddu ar yr arbenigedd, fel y dywedodd y Prif Weinidog sy'n digwydd; ni welais hynny yn fy rhanbarth i.
Dywedodd Ochr y Gamlas wrthym hefyd, y tro diwethaf iddynt gael llifogydd yno, fod cyfarfod brys yn y Lleng Brydeinig—ni chefais wahoddiad iddo—a'u bod wedi addo cael amddiffynfeydd cryfach rhag llifogydd yno. Rwyf am weld cyfarfod brys arall o'r fath yn cael ei drefnu gyda'r holl ACau, yr holl gynrychiolwyr, yno, fel y gallwn ddeall yn union sut y gallwn adeiladu ar yr amddiffynfeydd rhag llifogydd yn yr ardal honno, gan edrych ar sut y gellir eu gwella fel y gallwn oll geisio gwneud yn well y tro nesaf y bydd yn digwydd.
Credaf fod y diffyg gwybodaeth yn allweddol iddynt. Nid oeddent yn gwybod pa bryd i adael eu tai. Ac os edrychwch ar y bagiau tywod, o'u cymharu â rhai ardaloedd eraill yng Nghymru, roedd yn eithaf truenus. Ni wnaethant fawr ddim i helpu yn hynny o beth. Roedd mater arall yn fy rhanbarth yn ymwneud â Canal View Café yn Resolfen. Mae bellach wedi cau o ganlyniad i ddifrod ac rwy'n ceisio eu helpu i ddod o hyd i ffyrdd y gallant ailadeiladu eu caffi ac ailagor. Felly, hoffwn apelio, fel y mae ACau eraill wedi gwneud yma nawr, ar bobl i helpu yn hynny o beth a rhoi cefnogaeth iddynt.
Felly, wrth gwrs, mae'n rhaid inni drafod yr elfennau ymarferol, ond yn y tymor hir, credaf ein bod i gyd am weld atebion ac rydym i gyd yn awyddus i fod yn rhan adeiladol o'r drafodaeth hon, oherwydd nid ar Gastell-nedd Port Talbot, Ystalyfera, y Rhondda, Cwmbrân yn unig y bydd llifogydd yn effeithio, byddant yn effeithio ar bob ardal. Oherwydd dyna mae newid hinsawdd yn ei wneud. Nid yw'n gwahaniaethu ar sail y plwyfoldeb a allai fod gennym yma yng Nghymru. Ni fydd yn gwahaniaethu ar y sail honno. Bydd yn amharu ar ein bywydau a bydd yn effeithio arnom mewn llawer o wahanol ffyrdd. Felly, os gallwn weithio gyda'n gilydd ar hynny, buaswn yn gobeithio y byddwn yn llwyddiannus.
Galwaf ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig nawr i gyfrannu—Lesley Griffiths.
Diolch, Lywydd. Croesawaf y ddadl heddiw ynglŷn â'r llifogydd a brofwyd gan gymunedau ledled Cymru yn ddiweddar o ganlyniad i stormydd Ciara a Dennis. Rwy'n credu ei bod yn gyfle arall i ni ddiolch eto am waith diflino ein gwasanaethau brys, awdurdodau lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru a gwirfoddolwyr yn eu hymateb i'r stormydd. Rydym wedi cael ein profi'n ddifrifol yn ein cymunedau dros yr ychydig wythnosau diwethaf, ond rwy'n credu bod pobl Cymru wedi dangos gwytnwch eithriadol.
Fel y gŵyr yr Aelodau, mae'r Prif Weinidog a minnau wedi ymweld â nifer o gymunedau y mae llifogydd wedi effeithio arnynt, ac wedi gweld drosom ein hunain y dinistr y mae llifogydd yn ei achosi i deuluoedd a pherchnogion busnes. Fel y mae eraill wedi'i ddweud, mae gweld eich cartref neu eich busnes yn llawn o lifddwr yn drawmatig iawn, ac rwy'n cydymdeimlo'n ddiffuant â phawb y mae'r llifogydd diweddar wedi effeithio arnynt. Bydd fy nghyd-Weinidogion a minnau'n parhau i ymweld â chymunedau yr effeithiwyd arnynt yr wythnos hon a thros yr wythnosau a'r misoedd nesaf. Credaf fod y ffordd y mae'r cymunedau hynny wedi dod at ei gilydd yn wyneb y digwyddiadau dinistriol hyn yn adlewyrchiad clir iawn o'r math o ymateb y maent yn ei ddisgwyl gennym i gyd.
A wnaiff y Gweinidog dderbyn ymyriad?
Na, ychydig iawn o amser sydd gennyf.
Fel y cydnabu eraill, mae maint y bygythiad i gymunedau Cymru yn sgil yr argyfwng hinsawdd yn glir iawn, ac mae amlder a dwyster stormydd fel Ciara a Dennis yn cynyddu, felly mae'n hanfodol ein bod yn ysgogi ymateb cyflymach a mwy cynhwysfawr i'r argyfwng hinsawdd. Mae gwelliant y Llywodraeth i gynnig Plaid Cymru yn adlewyrchu ymrwymiad y gobeithiaf y bydd y Senedd hon yn ei rannu. Rhaid inni gynnig rhyddhad gwirioneddol, penodol a buan i bobl ar yr un pryd â sicrhau ein bod yn rhoi mesurau ar waith ar frys i amddiffyn ein cymunedau yn fwy hirdymor.
Os caf edrych ar bwynt 4—a chredaf fod hyn mewn ymateb, yn gyntaf, i Leanne Wood—bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod awdurdodau lleol yn cyflawni eu dyletswydd i ymchwilio i achosion y llifogydd diweddar. Rhaid cyhoeddi'r adroddiadau hynny a sicrhau eu bod ar gael i'r cyhoedd graffu arnynt nid yn unig gan y cymunedau yr effeithiwyd arnynt ac arbenigwyr annibynnol, ond gan Aelodau'r Senedd hon. Fel y gŵyr Leanne, mae CNC yn gweithio'n agos gyda RhCT i ymchwilio a dwyn ynghyd eu canfyddiadau. Rwy'n credu y dylid caniatáu iddynt wneud hynny, ac rwy'n rhoi fy ymrwymiad i chi y byddaf yn dod ar ymweliad gyda chi a byddaf yn sicrhau bod CNC yn dod gyda mi ar yr adeg briodol.
O ran cefnogi pobl, rydym wedi dod o hyd i arian, fel y gŵyr yr Aelodau, ar unwaith i helpu pobl yr effeithiwyd arnynt, ac wedi rhoi cymorth ychwanegol i'r rhai sydd heb yswiriant. Llwyddasom i sicrhau bod system ar waith yn gyflym iawn i gael yr arian hwnnw drwy'r drws i'r rhai yr effeithiwyd arnynt. Gwn fod pobl eisoes wedi dechrau derbyn y taliadau hynny o £500 a £1,000. Mae Aelodau'n gwneud pwyntiau pwysig iawn ynglŷn ag yswiriant: mae cynllun Flood Re Llywodraeth y DU wedi ei gwneud yn bosibl i lawer o bobl na fyddent wedi gallu gwneud hynny ychydig flynyddoedd yn ôl i gael yswiriant rhag difrod llifogydd. Ond ni chredaf fod digon o bobl yn gwybod am hwnnw, felly rwy'n credu ei fod yn faes y mae angen i ni weithio gyda'r gymdeithas yswiriant i'w hyrwyddo.
O ran y tymor hwy, rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol mewn perthynas â maint y difrod oherwydd unwaith eto, rydym yn mynd i gyflwyno arian ychwanegol yn y tymor byrrach ac yn y tymor hwy. Ond fel y dywedais ddoe, bydd yn rhaid i bobl fod yn amyneddgar, oherwydd gallai gymryd misoedd lawer i ganfod y swm terfynol o gyllid sydd ei angen. Rydym hefyd wedi gwahodd awdurdodau lleol i wneud cais am arian i gyflawni gwaith atgyweirio brys i asedau llifogydd. Rydym wedi dweud y byddwn yn ariannu'r rheini 100 y cant, ac mae fy swyddogion hefyd yn adolygu'r ceisiadau a ddaw i law, a byddant yn rhyddhau cyllid cyn gynted ag sy'n bosibl i awdurdodau lleol a CNC.
Mae sawl Aelod wedi mynegi pryderon ynglŷn â rheolau cynllunio a sut y dylid eu cryfhau fel bod mwy o allu i wrthsefyll llifogydd yn cael ei gynllunio ym mhob datblygiad newydd, yn enwedig o ystyried yr argyfwng hinsawdd. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol ein bod wedi cael ymgynghoriad yn ddiweddar ar nodyn cyngor technegol 15, a bydd hwnnw'n cyflwyno'r newidiadau sy'n angenrheidiol yn ein barn ni er mwyn cyflawni hynny. Byddwn hefyd yn cyhoeddi strategaeth genedlaethol newydd ar gyfer rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol. Bydd honno'n nodi ein dull o weithredu yng Nghymru dros y degawd nesaf, gan ategu cyngor cynllunio newydd a chysoni â'n polisi adnoddau naturiol, annog dulliau o weithredu ar sail dalgylchoedd ehangach a darparu gwell gwybodaeth i'r cyhoedd. Roedd rhywun arall—rwy'n credu mai Bethan Sayed a wnaeth y pwynt ynghylch gwell gwybodaeth i'r cyhoedd. Eleni byddwn hefyd yn cyhoeddi asesiad newydd o berygl llifogydd ar gyfer Cymru i lywio ein penderfyniadau gan ddefnyddio'r data diweddaraf, a blaenoriaethu buddsoddiad i'r cymunedau sy'n wynebu'r risg fwyaf.
Mae eisoes yn amlwg fod ein buddsoddiad mewn amddiffynfeydd rhag llifogydd yn y blynyddoedd diwethaf wedi diogelu 73,000 o gartrefi ledled Cymru—9,000 o gartrefi ar Afon Taf yn unig. Rwyf am roi mwy o gymorth ariannol ac ymarferol i awdurdodau lleol fel y gallwn gyflymu'r gwaith o ddatblygu cynlluniau amddiffyn rhag llifogydd a phrosiectau lliniaru naturiol newydd. Mae angen inni weithio gyda'n hawdurdodau lleol hefyd a CNC i edrych ar yr amddiffynfeydd rhag llifogydd. Llwyddodd pob amddiffyniad rhag llifogydd i ddal ei dir, ond dim ond o drwch blewyn yn achos rhai, ac mae angen inni ailedrych a sicrhau, os oes angen gwneud unrhyw waith, ein bod yn gwneud hynny'n gyflym iawn.
Gwnaeth Andrew R.T. Davies, rwy'n credu, bwynt pwysig iawn am sgamiau, oherwydd rydym wedi gweld hyn, onid ydym, mewn sefyllfaoedd eraill, efallai pan fydd pobl wedi colli eu swyddi ac wedi cael arian diswyddo sylweddol, er enghraifft—rydym wedi bod yn ymwybodol fod sgamiau wedi digwydd, felly rwy'n credu bod hwnnw'n bwynt da iawn i'w wneud. [Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf—mae fy amser yn dod i ben.
Felly, mae'n ymwneud â phawb yn gweithio gyda'i gilydd. Rwy'n siŵr y bydd pawb yn y Senedd hon am wneud hynny, oherwydd gwyddom fod yr wythnosau diwethaf wedi bod yn gyfnod anodd iawn ledled Cymru. Rwyf am dawelu meddwl pobl yr effeithiwyd arnynt gan lifogydd y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i wneud popeth yn ein gallu i'w helpu i adfer eu cymunedau.
Llyr Gruffydd i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr, Llywydd. Ie, mae hanner awr yn gyfnod byr ar gyfer dadl fel hyn. Wrth gwrs, dyw e ddim yr unig un byddwn ni'n ei chael, ac mi ddefnyddiwyd yr hanner awr arall, wrth gwrs, i bwyntio at un ffordd o geisio mynd i'r afael â newid hinsawdd—yr un thema greiddiol sydd i'r ddwy ddadl, i bob pwrpas, sef bod yr argyfwng hinsawdd yn realiti. Dyna'r neges sy'n dod drwyddo yn glir i bob un ohonom ni, dwi'n siŵr, o'r dadleuon yma. Hynny yw, mae achosion llifogydd fel hyn, yn anffodus, yn mynd i ddod yn fwy cyffredin; mae yna lefydd sydd ddim wedi gorlifo yn y gorffennol sy'n mynd i fod o dan fwy o fygythiad yn y blynyddoedd i ddod. Felly, mae angen ymatebion ar frys. Dwi'n meddwl bod yna dueddiad wedi bod inni feddwl gallwn ni ffeindio ymatebion erbyn fory. Wel, mae fory wedi dod, bobl. Mae'n rhaid inni ffeindio'r ymatebon yma heddiw. Felly, mae yna angen ymatebion yn syth, immediate, ac mae'r rheini yn cael eu rhestru yn ein cynnig ni, wrth gwrs, sef ymchwiliad annibynnol, bod angen adolygu cynlluniau i atal tywydd niweidiol, atebion ynglŷn â'r gronfa galedi, delio gyda issues yswiriant a'r holl bwyntiau sydd wedi cael eu codi yn y ddadl yma, plus yr atebion mwy hirdymor, wrth gwrs: seilwaith caled a meddal, mwy o resilience yn y system, a delio gyda materion yn y maes cynllunio.
Mae gen i stâd o dai yn agos i lle dwi'n byw sydd wedi cael eu codi yn y blynyddoedd diwethaf ar gae o'r enw 'cae samwn'. A'r rheswm mae'n cael ei alw'n 'cae salmwn' yw am fod y caeau'n gorlifo bob blwyddyn, ac roedd y trigolion lleol yn mynd i lawr i'r cae i hel y samwn mas o'r pyllau pan oedd y dŵr yn cilio. Mae yna stâd o dai yno. A dŷch chi'n gwybod beth? Mi orlifodd y stâd yna ychydig flynyddoedd yn ôl. Wel, mae hynny'n dweud y cyfan sydd angen i ni ei wybod. Mae yna wersi i'w dysgu, ac yn amlwg dydyn ni ddim wedi'u dysgu nhw'n ddigonol.
Yn y sylwadau agoriadol i'r ddadl hon, pan glywsom am yr angen i ddiogelu ar gyfer y dyfodol, glynodd rhai geiriau yn fy meddwl: mae angen i ni 'ailaddasu' ac mae angen i ni 'ailgalibradu'. Fel cymdeithas, mae angen i ni ailaddasu ac mae angen i ni ailgalibradu. Mae angen i'r economi ailaddasu ac ailgalibradu. Mae gwir angen i'n cymunedau, a phawb ohonom fel unigolion, ailaddasu ac ailgalibradu. A rhaid i'r Llywodraeth fod yn gatalydd sy'n hwyluso ac yn arwain y newid hwnnw. Rhaid inni ddysgu o'r gofid a ddioddefodd cynifer o bobl yn ystod yr wythnosau diwethaf, a rhaid inni leihau'r achosion o unrhyw brofiadau tebyg yn y dyfodol.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Dwi'n gohirio, felly, y bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Neil McEvoy, gwelliant 2 yn enw Rebecca Evans, gwelliant 3 yn enw Siân Gwenllian, gwelliant 5 yn enw Darren Millar, a gwelliannau 5 a 6 yn enw Neil Hamilton. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2, 3 a 4 eu dad-ddethol. Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliannau 3 a 4 eu dad-ddethol. Os derbynnir gwelliant 3, caiff gwelliant 4 ei ddad-ddethol.
Mae'n dod â ni at yr eitem nesaf, sef dadl gan Blaid Brexit, a dwi'n galw ar Mark Reckless i wneud y cynnig—Mark Reckless.
Cynnig NDM7276 Caroline Jones
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn gresynu wrth fethiant datganoli yng Nghymru hyd yma.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Lywydd. Rwy'n cynnig yn ffurfiol. Disgrifiodd Ron Davies ddatganoli fel proses, nid digwyddiad. Mae 'proses sy'n esblygu' yn ffordd arall o ddweud 'dim trefniant sefydlog'. Caiff ein trefniadau cyfansoddiadol eu herio'n gyson a chredwn fod hynny'n fethiant. Gall Llywodraeth Cymru honni yn ei gwelliant mai ein sefydliadau datganoledig presennol yw ewyllys sefydlog pobl Cymru, ond dyna'r cyfan ydyw: honiad. Os yw'r sefydliadau hyn wedi cael cefnogaeth mor sefydlog, pam y mae Llywodraeth Cymru bob amser yn ysu i newid y sefydlogrwydd tybiedig hwnnw?
Wrth gwrs, drwy hanes, mae pobl a sefydliadau'n ysu am arian a phŵer. Mae Llywodraeth Cymru yn y Cynulliad hwn yn mynnu mwy o arian a mwy o bŵer, ac yn honni y caiff ei wario neu ei arfer yn well na Llywodraeth y DU. Ond beth a gyflawnwyd? O ran addysg, mae Cymru'n dal i fod ar waelod y tabl yn y DU o hyd ac yn is na chyfartaledd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd mewn mathemateg, darllen a gwyddoniaeth ar ganlyniadau PISA. O ran iechyd, mae gennym niferoedd uwch nag erioed yn aros dros 12 awr mewn adran damweiniau ac achosion brys—ddwy waith a hanner yn fwy nag yn Lloegr—ac mae gennym fwrdd iechyd sy'n gaeth i fesurau arbennig am dymor Cynulliad cyfan. Yn y cyfamser, mae'r cyflog wythnosol gros yng Nghymru £50 yn is na chyfartaledd y DU, bwlch sydd wedi tyfu'n aruthrol yn ystod datganoli. A lle mae gan Lywodraeth Cymru ddulliau o wella ein perfformiad economaidd, mae'n methu eu defnyddio'n effeithiol. Gwelwn y costau'n cynyddu o hyd ar ffordd Blaenau'r Cymoedd, sydd ymhell o fod wedi'i chwblhau, tra gwariwyd £114 miliwn ar ffordd liniaru'r M4 a addawyd, ond sydd wedi ei chanslo bellach, gan dorri de Cymru oddi wrth ffynonellau allweddol o dwf economaidd. Gallwch edrych ymlaen at glywed gan fy nghyd-Aelod Mandy Jones am ogledd Cymru.
Felly, ai ewyllys sefydlog pobl Cymru mewn gwirionedd yw y dylai Llywodraeth y DU gael ei hamddifadu o bŵer, sylwedd ac awdurdod am byth er budd Llywodraeth a Chynulliad Cymru? Nid wyf yn credu hynny. Pleidleisiodd Cymru 4:1 yn erbyn datganoli yn 1979, ac o ffracsiwn o ganran dros fodel cyfyngedig—gan ddatganoli pwerau Gweithredol a gweinyddol Swyddfa Cymru—yn 1997. A dylem wynebu'r ffaith bod llwybr datganoli yng Nghymru wedi digwydd yn sgilwynt yr Alban. Wrth gwrs, ceir llawer o arolygon barn y gallwn sôn amdanynt, ond ar unrhyw fesur, mae'r galw am hunanlywodraeth, ymreolaeth neu annibyniaeth yng Nghymru yn llai nag yn yr Alban. Ond mae Llywodraeth Cymru yn hoffi cael mwy o bŵer, felly dywed fod yn rhaid i ni gael yr un peth â'r Alban. Mae hunan-les sefydliadau a gwleidyddion datganoledig yn gweithredu i gynyddu rhaniad a phwysleisio gwahaniaeth rhwng Cymru a Lloegr. A yw pobl eisiau hynny, ac a yw strwythur datganoli'n gynaliadwy?
Mae'r pwerau mwy sydd gan Lywodraeth a Senedd yr Alban—y rhai a roddwyd drwy'r addewid drwgenwog—yn adlewyrchu ofn gwleidyddion y DU y byddai'r Alban fel arall yn pleidleisio dros annibyniaeth. Nid yw'r un peth yn wir mewn perthynas â Chymru. Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a—medd y papur trefn wrthym bellach—Gogledd Cymru yn ysgrifennu llythyrau bygythiol i San Steffan, yn mynnu datganoli'r rheilffyrdd yn llawn, doed a ddelo. Mae'n dweud wrth ASau San Steffan fod yn rhaid ei wneud er mwyn achub yr undeb, o ystyried bod yna symudiad cynyddol dros annibyniaeth i Gymru. Mae arnaf ofn, ar y mater hwn, nad yw'n cael ei gymryd o ddifrif.
Mae'r Prif Weinidog, o leiaf, o ddifrif ynghylch diffyg ariannol Cymru. Yn ôl Canolfan Llywodraethiant Cymru, roedd cyfanswm gwariant y Llywodraeth yng Nghymru yn 2019 yn £13.7 biliwn yn fwy na'r trethi ac incwm arall y Llywodraeth a godwyd yng Nghymru. Mae'r diffyg ariannol hwnnw'n gyfwerth â 19.4 y cant o gynnyrch domestig gros Cymru, o'i gymharu â thua 7 y cant yn yr Alban. Dyma ddadl gref y Prif Weinidog yn erbyn annibyniaeth; galwad Plaid Cymru fod Lloegr yn mynd â £1 o bob £5 a werir yng Nghymru. Eto i gyd, mae Llywodraeth Cymru yn fodlon cuddio y tu ôl i'r alwad honno, wrth iddi ysu am fwy a mwy o ddatganoli. Yr alwad ddiweddaraf, a fynegwyd mewn adroddiad hir a pharchus a gomisiynwyd gan y cyn-Brif Weinidog, yw datganoli cyfiawnder a phlismona. Gan fod y llysoedd a'r heddlu'n cydgysylltu â gwasanaethau cyhoeddus sydd wedi'u datganoli, dywedir wrthym fod yn rhaid eu datganoli hwythau hefyd, er y gall y rhesymeg honno weithio'r ddwy ffordd wrth gwrs. Yn yr un modd, dywedir wrthym ei bod yn afresymegol i ddeddfwrfa beidio â chael ei hawdurdodaeth ei hun, ac felly fod yn rhaid i Gymru gael ei hawdurdodaeth gyfreithiol, ar wahân i gyfraith Lloegr a chyfraith Seisnig. Unwaith eto, gall y rhesymeg honno weithio'r ddwy ffordd.
Beth a wnawn os bydd pleidleiswyr yn Lloegr yn penderfynu eu bod wedi cael digon ar y gost y mae datganoli'n ei achosi iddynt hwy wrth i'r llywodraethu sy'n gyffredin rhyngom erydu? Mae nifer, gan gynnwys yn y Siambr hon, yn cydnabod pa mor galed yw hi i gysoni datganoli yn y DU â rhesymeg systemau gwleidyddol a welwn mewn mannau eraill yn y byd. Ddydd Sadwrn, yn Newcastle, clywais y cyn-Brif Weinidog yn amlinellu ei weledigaeth o DU ffederal. Clywais David Melding yn datblygu ei syniadau yn y maes hwn ar sawl achlysur. Yn wir, clywsom ddoe fod ei gyd-Aelod, Darren Millar, yn ochri ag ef bellach, er nad wyf yn gwybod a yw hynny wedi digwydd drwy rym rhesymeg neu o'i ailadrodd yn ddigon aml. Nid wyf wedi fy mherswadio gan eu hachos. Y rheswm am hynny yw, er fy mod yn pwysleisio'r hyn sy'n gyffredin rhwng Cymru a Lloegr, mae'r gwahaniaethau'n fwy na'r rheini rhwng rhanbarthau Loegr. Ac fel y gwelsom mewn refferendwm yng ngogledd-ddwyrain Lloegr, nid oes llawer o awydd yno i gael Cynulliadau ar wahân. Y dewis arall yn lle hynny, mewn system ffederal, yw Senedd i Loegr. Yn ogystal â'r tebygolrwydd y byddai'n creu haen arall o wleidyddion nad oes galw amdani, byddai pŵer, maint a chyllideb sefydliad o'r fath, a'i Lywodraeth gysylltiedig yn ôl pob tebyg, yn awgrymu goruchafiaeth a fyddai ynddi'i hun yn tueddu i danseilio sefydliadau a fyddai'n parhau ar sail y DU.
Mae nifer o'r Aelodau a bleidleisiodd dros aros yn yr UE, ac sy'n teimlo bod y DU yn cael ei lleihau drwy adael yr UE, yn ofni y bydd hyn yn arwain at uno Iwerddon ac annibyniaeth yr Alban. [Torri ar draws.] Rwy'n ildio i'r Aelod dros Fynwy.
Diolch am ildio, Mark. Rwy'n cofio pan ddywedodd Dafydd Elis-Thomas wrthyf unwaith, neu pan ddywedodd wrth y Siambr hon rai blynyddoedd yn ôl—neu credaf mai ar y radio ydoedd a dweud y gwir, Dafydd—mai'r Wyddfa oedd y copa uchaf yng Nghymru, a chan nad oedd dim yn uwch yn Lloegr, dyna oedd y copa uchaf yn Lloegr hefyd. Rwy'n cofio hynny'n dda. Rydych yn llygad eich lle yn dweud bod Cymru a Lloegr yn wahanol.
Er hynny, onid yw'n werth edrych ar y system ffederal hon? Oherwydd mae'n ymddangos i mi, ac i fy nghyd-Aelodau ar y fainc flaen yma, yn ffordd i ni allu symud ymlaen i ddiogelu'r DU; ond ar yr un pryd i roi'r math o lais annibynnol i Gymru sydd ei angen arni o fewn y strwythur.
Ie, yr Wyddfa yw'r mynydd uchaf yng Nghymru a Lloegr, yn sicr—[Torri ar draws.] Y mynydd uchaf yng Nghymru hefyd. Mae hynny'n wir hefyd. Nid wyf yn meddwl mai dyna'r mynydd uchaf yn Lloegr, beth bynnag a ddywedodd Dafydd Elis-Thomas yn flaenorol.
Rwyf wedi rhoi sylw difrifol i'r dadleuon. Mae gan lawer o wledydd yn y byd systemau ffederal, ac un o atyniadau posibl system ffederal yw bod llawer, os nad y rhan fwyaf ohonynt, yn sefydlog. Felly, yn hytrach na chael y broses hon o ddatganoli mwy fyth a'r llethr llithrig hwn, mae'n bosibl y gallem roi system sefydlog yn ei lle.
A wnewch chi ildio?
Ildiaf i David, a fydd yn fy addysgu ymhellach ar y pwynt hwn.
Mantais ffederaliaeth yw ei bod yn rhoi llyfr rheolau i chi, ond mae'n bargeinio'n gyson rhwng y lefel y wladwriaeth a lefel yr is-wladwriaeth. Gwelwch hyn yn yr Unol Daleithiau, lle credid bod lefel y dalaith—h.y. yr is-wladwriaeth yn America—yn dirywio, ac ysgrifennwyd llyfrau ar ddiwedd ffederaliaeth. Nawr, rydym yn gweld ei fod yn hollol groes i hynny, gyda Califfornia yn arwain polisi amgylcheddol ar ran y wlad gyfan.
Rwy'n cytuno y bu rhywfaint o lanw a thrai yng ngrym a dylanwad y taleithiau ac yn arbennig, lle bydd talaith yn cyflwyno syniad polisi da ac yn gwneud pethau'n well na thaleithiau eraill, yn aml bydd y taleithiau eraill hynny'n eu mabwysiadu, neu o bosibl bydd y Llywodraeth ffederal yn ceisio ei roi ar waith. Ac oes, mae yna densiynau mewn ffederaliaeth, ac mae'n rhoi grym i oruchaf lys, ond buaswn i'n cynnig, yn yr Unol Daleithiau neu yn yr Almaen, fod systemau ffederal wedi bod yn llawer mwy sefydlog na'r system o ddatganoli a gawsom, a welodd lif cyson o bwerau un ffordd tuag at fwy o ddatganoli.
Nid wyf yn gwybod a fyddwch yn siarad yn nes ymlaen, ond ni chlywaf ateb i'r cwestiwn ynglŷn â beth sy'n digwydd gyda Lloegr. Ymddengys bod y dadleuon am ffederaliaeth yn fwy diddorol ac yn cael mwy o sylw o lawer yng Nghymru, yr Alban, ac efallai i raddau yng Ngogledd Iwerddon, nag yn Lloegr, ac mae problemau sylweddol ynghlwm wrth y naill neu'r llall o'r modelau hynny o Gynulliad rhanbarthol neu Senedd i Loegr. Rwy'n ei chael yn anodd gweld trefn lywodraethol gynaliadwy yn y DU lle mae gennych Senedd a Llywodraeth Lloegr ar wahân gyda'r fath bŵer, dylanwad a maint o'u cymharu â Llywodraeth y DU. Ac er y byddaf yn gwrando ar gyfraniadau, boed yma neu yn rhywle arall, nid wyf eto wedi gweld ateb i hynny.
Roeddwn yn sôn am y nifer fawr o Aelodau a bleidleisiodd dros aros yn yr UE ac sy'n ystyried bod gadael yr UE yn lleihau'r DU. Rwyf fi, wrth gwrs, yn ei weld yn wahanol. Credaf fod gadael yr UE yn gwella'r DU, felly efallai nad wyf yn rhoi'r pwyslais y bydd eraill yn ei roi ar y risg y bydd yr Alban yn dod yn annibynnol neu Iwerddon yn ailuno. Ond os ydych chi'n disgwyl i'r Alban a Gogledd Iwerddon i fynd yn eu ffordd eu hunain, bydd datganoli i Gymru yn fater byw iawn, a heb fod yn sefydlog, fel y mae gwelliant y Llywodraeth yn honni.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf.
Fe geisiaf wneud ambell bwynt. Dyddiau cynnar datganoli yw'r rhain i raddau helaeth. Rydym yn y broses o sefydlogi, os mynnwch. Ac os edrychwn ar y berthynas rhwng y gwledydd yn yr undeb—dyma un maes y cytunwn arno efallai—yn union fel y credwch chi y bydd y DU yn gryfach o fod wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd, rwy'n credu y gallem fod yn gryfach fel gwledydd ar yr ynysoedd hyn drwy ddod yn wledydd annibynnol, gan gytuno ar ddull o gydweithio.
Rhun, rwy'n ymwybodol o'ch barn; nid wyf yn credu bod llawer yn ei rhannu dyna i gyd. Pe na bai Lloegr yn cefnogi parhad y system ddatganoledig bresennol, nid oes gennyf fawr o amheuaeth y byddai Cymru, mewn pleidlais dan orfodaeth, yn dewis y status quo blaenorol neu Lywodraeth bron yn unedig rhwng Cymru a Lloegr, yn hytrach nag annibyniaeth. Credaf, fodd bynnag, fod yna anfanteision sylweddol i'r system cyn-1999 honno, ac mae Llywodraethau Cymru wedi ymwahanu'n eithaf amlwg oddi wrth Loegr, ond heb gyfeirio fawr ddim at bobl Cymru yn ddemocrataidd. Yn ymarferol, roedd Swyddfa Cymru'n gweithredu trefn weddol hunangynhwysol o dan Ysgrifenyddion Gwladol olynol, ar adegau gyda phwyslais polisi gwahanol iawn i weddill Llywodraeth San Steffan. Fodd bynnag, roedd agwedd John Redwood yn dra gwahanol i agwedd Nicholas Edwards, Peter Walker, David Hunt. Prin yw'r rhai a fyddai'n awgrymu bod ei benodiad yn adlewyrchu unrhyw newid democrataidd i'r dde yng nghymdeithas Cymru.
Fy nghynnig i, felly, yw ein bod yn ystyried system lle mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn ddatganoledig ond gyda Phrif Weinidog wedi'i ethol yn uniongyrchol ac yn atebol i bobl Cymru, a'r fframwaith deddfwriaethol wedi'i wreiddio yn San Steffan. Byddai hyn yn rhoi diwedd ar ein llwybr llithrig presennol, lle mae datganoli yn broses sydd ond yn digwydd i un cyfeiriad yn unig, gyda mwy a mwy o bwerau'n cael eu datganoli a llai a llai yn cael ei wneud ar lefel y DU. [Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf, Carwyn, ni allaf ildio am nad oes gennyf amser.
Ni fyddai gan Aelodau Seneddol a etholwyd yng Nghymru ond sydd wedi'u sefydlu yn San Steffan ein cymhelliad sefydliadol i fynnu mwy a mwy o rym iddynt eu hunain, gan wasgu'r brêc ar y grymoedd allgyrchol sy'n effeithio ar y DU. Yn hytrach nag anelu at wthio rhaglen ddeddfwriaethol fawr drwodd bob blwyddyn i wneud cyfreithiau Cymru yn fwy gwahanol i gyfreithiau Lloegr, gallai Gweinidogion Cymru gyflwyno eu hachos i uwch-bwyllgor Cymreig gwell lle bydd ganddynt yr achos cryfaf dros ddeddfwriaeth wahanol bellach. Gallai Prif Weinidog etholedig benodi'r gorau a'r disgleiriaf o bob rhan o gymdeithas yng Nghymru fel Gweinidogion Cymru, yn hytrach na mynd â'r deddfwyr oddi wrth eu priod waith, sef craffu. Mae'n bosibl na fyddai hynny, wrth gwrs, yn gweddu i fuddiannau'r holl Aelodau a'r Gweinidogion yma, ond efallai mai dyna'r ffordd iawn ymlaen i Gymru.
Rwyf wedi dethol y chwe gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2, 3 a 4 eu dad-ddethol. Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliannau 3 a 4 eu dad-ddethol. Os derbynnir gwelliant 3, caiff gwelliant 4 ei ddad-ddethol. Dwi'n galw ar Neil McEvoy i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn ei enw. Neil McEvoy.
Gwelliant 1—Neil McEvoy
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu bod datganoli yng Nghymru wedi cael ei lesteirio hyd yma gan y methiant i ddatganoli rhagor o bwerau.
2. Yn galw am gryfhau datganoli yng Nghymru drwy:
a) datganoli'r doll teithwyr awyr; a
b) datganoli deddfwriaeth y system gyfiawnder yn llawn a chadw sefydliadau cyfiawnder annibynnol Cymru.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Diolch, Lywydd. Mae gormod o bobl yn bychanu Cymru. Rwyf fi yma i ganmol ein gwlad; i siarad am ein potensial, i siarad am fyw mewn man lle gall y freuddwyd Gymreig ddod yn realiti. Nawr, mae gan y Welsh National Party weledigaeth o'n breuddwyd Gymreig. Gallwn fyw mewn cenedl lle ceir tai o ansawdd da i bawb, lle mae pobl yn berchen ar eu cartrefi eu hunain, Cymru lle gall pobl â syniadau da greu busnesau a swyddi, lle gallwn fod yn wlad sy'n edrych tuag allan, wedi'i chysylltu â'r byd.
Arferai Caerdydd fod yn ail borthladd mwyaf y byd. Gall ein porthladdoedd Cymreig ffynnu eto, gan gludo cynnyrch Cymreig o'r safon uchaf i bob cwr o’r byd. Ond ni fydd y realiti hwn i Gymru yn digwydd tra bod ein gallu i wneud ein penderfyniadau ein hunain mor gyfyngedig. Rwy’n gresynu at fethiannau Llywodraethau Llafur olynol yng Nghymru, ond yr hyn rwy’n gresynu fwyaf yn ei gylch yw ein bod ni fel cenedl yn dal i gael ein hamddifadu o’r cyfle i lywodraethu ein hunain. Llywodraeth gan y bobl: hen gysyniad o'r enw democratiaeth, dyna ydyw.
Ceir dau faes penodol y dylem fod wedi cael rheolaeth drostynt eisoes, sef ffocws fy ngwelliant, ac mae ganddynt reolaeth dros y ddau faes eisoes yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, ond caiff ei wrthod i ni yng Nghymru. Yn gyntaf, y doll teithwyr awyr. Mae'n hurt fod Llundain yn dal i’w reoli. Y rheswm pam nad oes gennym reolaeth dros y dreth hon yw nad yw Maes Awyr Bryste yn hoffi hynny; nid ydynt yn hoffi'r syniad y gallai maes awyr yng Nghymru fod yn fwy cystadleuol, felly gwrthodir rheolaeth i genedl gyfan dros doll teithwyr awyr oherwydd nad yw un ddinas ganolig ei maint y tu allan i Gymru yn ei hoffi. Mae'n sefyllfa anhygoel.
Cyfiawnder yng Nghymru. Rwy'n ei chael hi'n anhygoel, unwaith eto, nad yw cyfiawnder wedi'i ddatganoli i ni, yn enwedig pan ydym yn talu 40 y cant o'r bil. Mae ceisio bod yn gyfiawn a cheisio sicrhau cyfiawnder yn ganolog i’r hyn y dylai unrhyw Lywodraeth ei wneud, ond nid oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw reolaeth dros gyfiawnder. Gallwn wneud deddfau Cymreig yn y lle hwn, ond nid oes gennym awdurdodaeth gyfreithiol Gymreig; ni allwn gysoni ein hanghenion cymdeithasol a’n hanghenion iechyd â chyfiawnder. Rydym yn cyrraedd sefyllfaoedd rhyfedd lle ceir cyfraddau uwch o garchariadau ymhlith y Cymry nag unrhyw wlad arall yng Ngorllewin Ewrop. Mae gennym uwch garchardai hefyd lle mae'n rhaid i ni fewnforio carcharorion o'r tu allan i Gymru i lenwi'r lleoedd, ond os ydych chi'n fenyw, mae'n amhosibl mynd i'r carchar yng Nghymru oherwydd nad oes carchardai menywod yma, a golyga hynny y cewch eich gyrru y tu allan i'ch gwlad lle mae'n rhaid i'ch teulu deithio'n bell i ymweld â chi.
Felly, dyma’r hyn rwy’n gresynu ato go iawn, a gallai Llywodraeth Cymru wneud yn llawer iawn gwell, ond caiff buddiannau hirdymor ein cenedl eu sicrhau trwy sofraniaeth Gymreig—sofraniaeth i'r unigolyn, y gymuned, a sofraniaeth genedlaethol. Cymru lle mae gan bobl bŵer dros eu bywydau eu hunain, lle gall cymunedau benderfynu beth sy'n digwydd ym mhob cymuned a lle rydym yn penderfynu fel cenedl sut rydym yn byw.
Nawr, mae yna bobl yn galw am ddiddymu'r lle hwn, ond mater i bobl sy'n byw yng Nghymru yw'r ffordd y cawn ein llywodraethu. Rwy’n dweud wrth Neil Hamilton yma ar y dde i mi, sy'n cynnig y gwelliant i ddileu Cynulliad Cymru: pe cynhelid refferendwm, ni fyddech yn cael pleidleisio hyd yn oed oherwydd eich bod yn byw yn Lloegr.
Gallwn brynu tŷ.
Mae croeso mawr i chi brynu tŷ.
Gallwn adael fy ngwraig.
Mae yna Gymru y mae'n rhaid i ni ei chreu. Mae yna Gymru y gallwn ei hadeiladu. Felly, gadewch i ni wneud hynny. Diolch yn fawr.
Galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol i gynnig yn ffurfiol gwelliant 2.
Gwelliant 2—Rebecca Evans
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn croesawu’r cyfraniadau cyfunol sydd wedi’u gwneud gan bleidiau gwleidyddol ar bob ochr a chan y gymdeithas sifig yn ehangach i sicrhau mai datganoli yw ewyllys sefydlog pobl Cymru.
Cynigiwyd gwelliant 2.
Yn ffurfiol.
Galwaf ar Dai Lloyd i gynnig gwelliant 3, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian.
Gwelliant 3—Siân Gwenllian
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu wrth hanes anobeithiol Llywodraeth Lafur Cymru sydd wedi bod mewn grym yn barhaus ers dechrau datganoli.
2. Yn credu bod Llywodraethau olynol y DU—o dan Lafur a’r Ceidwadwyr—wedi llywyddu dros dlodi sy’n pontio’r cenedlaethau a thanfuddsoddi yng Nghymru.
3. Yn credu y dylai penderfyniadau am ddyfodol Cymru gael eu gwneud gan y rhai sy’n byw ac yn gweithio yma.
4. Yn credu mai meddu ar ysgogiadau economaidd a chyllidol gwlad annibynnol yw’r allwedd i ffyniant Cymru yn y dyfodol.
5. Yn cytuno mai cynrychiolwyr etholedig pobl Cymru ddylai fod â’r grym i alw refferendwm ar annibyniaeth yn y dyfodol, heb unrhyw feto gan San Steffan.
Cynigiwyd gwelliant 3.
Diolch yn fawr, Llywydd. Ac ie, dwi yma yn symud gwelliant 3 yn enw Siân Gwenllian, a jest i ddyfynnu, rydym
'yn gresynu wrth hanes anobeithiol Llywodraeth Lafur Cymru sydd wedi bod mewn grym yn barhaus ers dechrau datganoli.'
Yn bellach, rydym
'yn credu bod Llywodraethau olynol y DU—o dan Lafur a’r Ceidwadwyr—wedi llywyddu dros dlodi sy’n pontio’r cenedlaethau a thanfuddsoddi yng Nghymru.'
Yn bellach, rydym
'yn credu y dylai penderfyniadau am ddyfodol Cymru gael eu gwneud gan y rhai sy’n byw ac yn gweithio yma.'
Hefyd, rydym
'yn credu mai meddu ar ysgogiadau economaidd a chyllidol gwlad annibynnol yw’r allwedd i ffyniant Cymru yn y dyfodol.'
A hefyd, rydym
'yn cytuno mai cynrychiolwyr etholedig pobl Cymru ddylai fod â’r grym i alw refferendwm ar annibyniaeth yn y dyfodol, heb unrhyw feto gan San Steffan.'
A wnewch chi dderbyn ymyriad ar y pwynt hwnnw? Pam ei fod wedi cael gwared ar ei amser yn y Llywodraeth o'r hanes yn ei gynnig?
Nid wyf yn cofio i mi fod yn y Llywodraeth, diolch, Hefin.
Eich plaid, mae'n ddrwg gennyf.
I ateb y cynnig, yn sylfaenol, y Llywodraeth yma sydd yn tanberfformio ac yn methu, nid y sefydliad. Gyda llaw, dŷn ni'n cytuno efo gwelliant Neil McEvoy ond dŷn ni ddim yn gallu pleidleisio drosto fo achos bydd hynny yn disodli ein gwelliant ni.
Wedi dweud hynny i gyd, mae yna ambell lwyddiant wedi bod yn y Senedd yma ers datganoli dros y blynyddoedd. Dŷn ni wedi gweld y gwaharddiad ar ysmygu—yn y fan hyn dechreuodd hynny 19 o flynyddoedd yn ôl, byddwn ni’n dal i aros pe baem ni’n aros am San Steffan; prescriptions am ddim; ysgol feddygol yn Abertawe—roedden ni wedi trio am genhedlaeth am hynny, a datganoli sydd wedi dod â hynny, y Senedd yma sydd wedi dod â hynny; codi tâl am fagiau plastig flynyddoedd cyn Lloegr; newid system o roi organau bron i bum mlynedd yn ôl rŵan; ac isafswm pris alcohol.
Mae rhai pethau wedi cael eu cyflawni yn fan hyn, ond dylai fod wedi cyflawni lawer mwy mewn 20 mlynedd. A gyda Llywodraeth sydd yn tanberfformio, y ffordd ymlaen, yn naturiol, ydy pleidleisio yn eu herbyn nhw pan mae yna etholiad cyffredinol yng Nghymru'r flwyddyn nesaf—pleidleisio i newid y Llywodraeth. Wedi’r cwbl, pan mae Llywodraeth San Steffan yn gwneud llanast o bethau ac yn tanberfformio, clochdar am etholiad cyffredinol mae pobl, nid galw am ddiddymu San Steffan. Newid y Llywodraeth ydy’r ateb, nid cael gwared ar yr holl sefydliad i fyny'n fanna.
Ac mae yna ddigon o sôn wedi bod am barchu canlyniad y refferendwm yn 2016. Dwi’n sylwi gwnaeth Mark Reckless ddim talu unrhyw sylw i’r refferendwm yn fan hyn yn 2011, achos mae’n rhaid i fi ddweud, mae angen parchu canlyniad pob refferendwm, gan gynnwys refferendwm 2011 hefyd.
A yw'n cofio'r geiriad ar y papur pleidleisio lle dywedai, 'ni all y Cynulliad ddeddfu ar drethiant, beth bynnag fydd canlyniad y bleidlais hon', ac onid yw'n credu y dylid parchu hynny?
Af i â chi yn ôl i 2011, gan, wrth gwrs, doedd Mark Reckless ddim yma ar y pryd, ac yn refferendwm 2011, gwnaeth pobl Cymru ddweud yn glir—64 y cant ohonyn nhw yn dweud ‘ie’; dweud yn glir bod angen mwy o bwerau ar y Senedd yma i wneud ei gwaith yn iawn. Dŷn ni’n dal i aros am wireddu'r ddyhead yna. Mwy o bwerau fan hyn i’w wneud e i weithio yn iawn. Mae angen parchu penderfyniad refferendwm 2011, ac angen parchu’r penderfyniad yna. A hefyd, yn bellach na hynny, cefnogi gwelliant 3 yn enw Siân Gwenllian. Diolch yn fawr.
Galwaf ar Darren Millar i gynnig gwelliant 4.
Gwelliant 4—Darren Millar
Dileu 'datganoli yng Nghymru' a rhoi yn ei le 'Llywodraethau olynol Cymru'.
Cynigiwyd gwelliant 4.
Diolch, Lywydd. Syndod braidd oedd y cyfraniad agoriadol i'r ddadl hon oherwydd, wrth gwrs, mae'r cynnig ar y papur trefn yn sôn am fethiant datganoli yng Nghymru ac eto, fe aethoch ymlaen i siarad yn llawer ehangach am ddatganoli ar draws y Deyrnas Unedig a'r heriau amrywiol a allai ei wynebu hynny pe bai system ffederal, i bob pwrpas, yn cael ei chyflwyno.
Mae ein gwelliant, wrth gwrs, wedi'i gynllunio i ddeall yn iawn beth yw'r broblem sylfaenol a wynebwyd gennym yng Nghymru ers dyfodiad datganoli, sef ein bod wedi cael Cynulliad Cenedlaethol sydd wedi'i ddominyddu gan un blaid wleidyddol, a'r blaid wleidyddol honno yw'r Blaid Lafur ac mae wedi bod yn Llywodraeth mewn un ffordd neu'r llall ers 1999. Camgymeriad yw cysylltu methiannau'r Llywodraeth honno â datganoli a dod i'r casgliad anghywir yn sgil hynny, rwy’n credu, nad yw datganoli’n gweithio oherwydd methiannau’r Llywodraeth honno. Credwn fod gan ddatganoli lawer iawn o botensial i drawsnewid y genedl hon yn bwerdy o’r math y credwn y gall fod. Credwn hefyd mai'r ffordd o wneud hynny, wrth gwrs, yw pleidleisio dros y Ceidwadwyr Cymreig yn etholiadau nesaf Senedd Cymru er mwyn i ni gael Llywodraeth fwyafrifol Geidwadol.
Rwy'n credu bod gan Blaid Cymru wyneb braidd i fod yn feirniadol o Lywodraethau olynol dan arweiniad Llafur yn ei chynnig a hithau wedi bod yn rhan o un o'r Llywodraethau hynny am gyfnod o bedair blynedd. A gwn eu bod yn hoffi cael neu’n ymddangos fel pe baent oll wedi anghofio’r pedair blynedd hynny, a hoffem ninnau eu hanghofio hefyd, a dweud y gwir—[Torri ar draws.] Iawn, rwy’n hapus i dderbyn ymyriad.
Rwy'n credu y cofiwch chi yng nghyfraniad Dai Lloyd ei fod yn glir iawn fod datganoli wedi cyflawni rhai pethau da. Cyflwynwyd llawer o'r pethau hynny gan Weinidogion Llywodraeth Plaid Cymru, cyflawnwyd rhai ohonynt gan Weinidogion Llafur neu Ddemocratiaid Rhyddfrydol. Nid ydym yn dweud ei fod yn fethiant llwyr, ond rydym yn dweud nad yw wedi cyrraedd ei botensial ac ar hyn, rwy'n credu y byddem yn cytuno.
Buaswn yn cytuno’n llwyr â chi y bu rhai cyflawniadau yng Nghymru dros gyfnod datganoli a chyfeiriodd Dai at rai ohonynt: yr ardoll ar fagiau plastig a gynigiwyd gennym ni ar y meinciau hyn, er enghraifft; amddiffyn caeau chwarae ysgolion, a oedd hefyd yn rhywbeth a gynigiwyd gennym ni; gweithredu deddfwriaeth newydd ar iechyd meddwl—rhywbeth a ddaeth o'r meinciau hyn hefyd—rhywbeth yr hoffwn ei ddathlu; ac yn wir, y gwaith cydweithredol a wnaethom i gyd ar gyflwyno gwaharddiad ar ysmygu mewn mannau cyhoeddus. Felly, cafwyd rhai cyflawniadau arwyddocaol, rwy'n credu, dros y blynyddoedd diwethaf, ond wrth gwrs rhaid inni beidio ag anghofio chwaith y bu rhai methiannau sylweddol hefyd ar ran y Llywodraeth Lafur, a dyna yw ffocws ein cynnig wrth gwrs.
Felly, credwn ei bod yn destun gofid mawr mai ein system addysg yw'r waethaf yn y Deyrnas Unedig. Mae hynny oherwydd dewisiadau a wnaed gan y Blaid Lafur a chynorthwywyr y Blaid Lafur dros y blynyddoedd o ran eu penderfyniadau polisi, a roddwyd ar waith. Credwn ei bod yn destun gofid mawr fod ein gwasanaeth iechyd yn llusgo ar ôl ar gymaint o fesurau o gymharu â gwasanaethau iechyd eraill mewn rhannau o'r Deyrnas Unedig hefyd. Credwn hefyd ei fod yn destun gofid mawr fod ein heconomi yn dal i fod yn un o'r economïau tlotaf yn Ewrop, er ein bod wedi derbyn symiau sylweddol o gymorth yr UE, a’r cyfan wedi'i reoli gan Lywodraethau Llafur Cymru dros yr 20 mlynedd diwethaf.
Dyna pam y credwn ei bod hi'n bwysig tynnu sylw at y gwahaniaeth rhwng datganoli a pherfformiad y Llywodraeth yma a dyna yw diben ein cynnig. Rwy’n mawr obeithio y bydd pobl yn ei gefnogi pan ddaw’r cyfnod pleidleisio yn ddiweddarach y prynhawn yma.
Galwaf ar Neil Hamilton i gynnig gwelliannau 5 a 6, a gyflwynwyd yn ei enw.
Gwelliant 5—Neil Hamilton
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y dylid diddymu Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gwelliant 6—Neil Hamilton
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu bod dewisiadau ymarferol eraill yn lle datganoli, yn absenoldeb Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn cynnwys democrateiddio'r GIG a rhoi mwy o bwerau i riant-lywodraethwyr i benderfynu ar bolisi addysg ysgolion.
Cynigiwyd gwelliannau 5 a 6.
Diolch, Lywydd, ac rwy’n cynnig y gwelliannau a gyflwynwyd yn fy enw. Rwy'n cytuno â Darren Millar nad yw hyn o reidrwydd yn golygu y gallai datganoli fod wedi llwyddo a'i fod oherwydd ein bod wedi cael Llywodraeth Lafur, wedi’i chynnal gan Blaid Cymru, am oes gyfan y Cynulliad hwn mewn rhyw ddull neu fodd—naill ai ar ffurf clymblaid â hi neu ar ddechrau'r Cynulliad hwn, wrth gwrs, roeddent yn allweddol wrth bleidleisio dros adael i’r Llywodraeth Lafur ddychwelyd i rym o dan y cyn Brif Weinidog, felly mae Plaid Cymru yr un mor gyfrifol am fethiannau'r Llywodraeth Lafur.
Dywedodd Dai Lloyd yn ei araith y dylem barchu canlyniad refferendwm 2011, sy’n codi chwerthin ymhlith y rhai nad oedd am barchu canlyniad y refferendwm yn 2016 ac a oedd am wyrdroi penderfyniad pobl Prydain a Chymru cyn iddo gael ei weithredu hyd yn oed. Cymerodd 41 mlynedd i ni o 1975 ymlaen i gael refferendwm arall ar yr UE. Mae wedi bod yn genhedlaeth ers y refferendwm cyntaf i sefydlu Cynulliad yng Nghymru a chredaf, ar ôl 25 mlynedd o fethiant, methiant di-ildio gan Lywodraeth Lafur barhaol, ei bod yn bryd caniatáu i bobl Cymru fynegi eu barn unwaith eto. Yn bersonol, ni fuaswn yn gwrthwynebu cael refferendwm ar annibyniaeth fel rhan o hynny. Ni welaf unrhyw reswm pam na ddylid rhoi hynny gerbron pobl Cymru hefyd. Felly gobeithio y bydd Plaid Cymru yn cefnogi fy ngalwad am refferendwm ar yr opsiynau amrywiol y gall pobl Cymru benderfynu rhyngddynt.
Nid oes amheuaeth fod dadrithiad sylweddol wedi tyfu yng Nghymru, o ddau ben y sbectrwm yma, yn y blynyddoedd diwethaf. Yn ôl yr arolwg barn diweddaraf gan YouGov, ym mis Ionawr, roedd 21 y cant o'r rhai a ymatebodd yn ffafrio annibyniaeth, ond roedd 24 y cant am gael gwared ar y lle hwn. Dyna 46 y cant y naill ffordd neu'r llall sy'n mynegi ffurf eithafol ar anfodlonrwydd â pherfformiad y Cynulliad. Hyd nes y dechreuodd Gareth Bennett godi'r mater beth amser yn ôl, nid oedd neb yn y Cynulliad yn rhoi llais i'r lleiafrif sylweddol iawn sydd bellach am weld y lle hwn yn cael ei ddiddymu. Rwy'n falch o weld Plaid Brexit yn dilyn yn ein sgilwynt, ond nid wyf yn siŵr a yw perchennog Plaid Brexit yn gwybod am y newid polisi sydd wedi'i fabwysiadu. Efallai y cawn wybod am hynny yn nes ymlaen.
Ceir dadleuon o blaid datganoli, wrth gwrs—yn wir, rwyf wedi eu gwneud fy hun yn y Cynulliad hwn, yn gynharach. Gwelais yr hyn y gallai datganoli fod wedi'i wneud mewn rhannau eraill o'r byd, a phe bai gennym Lywodraeth a oedd yn barod i gyflwyno polisïau a allai ddechrau datrys rhai o'r problemau y tynnwyd sylw atynt yn y ddadl hon hyd yma, gallwn ei gefnogi—[Torri ar draws.]
Diolch am ildio, Neil. Rydych chi wedi gwneud cyfraniad diddorol iawn. Rwy'n credu ei bod yn ddadl sy'n ysgogi'r meddwl. A fyddech yn cytuno, fel y dywedodd Darren Millar yn gynharach, fod yn rhaid inni wahaniaethu rhwng datganoli a Llywodraeth Cymru? Yn rhy aml, nid yw pobl yn gwneud hynny. Er enghraifft, pe baech chi'n Brif Weinidog eich hun, efallai y byddech chi'n edrych ychydig yn fwy cydymdeimladol ar ddatganoli.
Wel, dyna syniad diddorol.
Ond dyna'r broblem, ein bod ni yng Nghymru wedi byw dan wladwriaeth un blaid barhaol. Ac oherwydd fy mod i'n ystyried hynny'n wendid na ellir ei wella yn y system y deuthum i'r casgliad nid yn unig fod datganoli wedi methu, ond bydd bob amser yn methu oherwydd bod y diwylliant gwleidyddol yn golygu nad yw unrhyw un sydd i'r dde o'r canol byth yn mynd i gael Llywodraeth y byddant yn fodlon â hi. Ac rwy’n meddwl mai dyna'r gwendid gyda gwelliant y Ceidwadwyr hefyd. [Torri ar draws.] Nid wyf yn siŵr fod gennyf amser. Wel, fe ildiaf i'r cyn Brif Weinidog.
Rwy'n ddiolchgar i chi am ildio. Dim ond dau bwynt: yn gyntaf, mae gan genhedloedd seneddau. Pe na bai gan Gymru unrhyw fath o sefydliad democrataidd fel hwn ond fod gan yr Alban un, fod gan Ogledd Iwerddon un a bod un yn San Steffan, ni fyddem yn genedl, byddem mewn sefyllfa i bob pwrpas lle byddem yn llai pwysig mewn gwirionedd na Manceinion neu Lundain, sydd â sefydliadau democrataidd. Yn ail, yr hyn y mae'n ei ddadlau yw bod pobl yng Nghymru yn rhy dwp i bleidleisio dros ei fath ef o wleidyddiaeth, felly dylid diddymu'r sefydliad hwn o ganlyniad. Nawr mae'n dadlau mai democratiaeth yw'r broblem go iawn, nid y Cynulliad.
Na. Y cyfan rwy'n ei ddweud yw bod y sefydliadau democrataidd sy'n llywodraethu Cymru'n eithrio barn cyfran sylweddol iawn o'r boblogaeth yn barhaol, ac mae hynny'n wendid mawr yn y system. Pan oeddwn yn San Steffan, gwelais yr ochr arall i'r geiniog hon, a arweiniodd at Senedd yr Alban. Oherwydd câi pobl yr Alban eu cynrychioli'n barhaol yn San Steffan gan blaid nad oeddent yn ei chymeradwyo. Ni allem ddweud hynny yma yng Nghymru, neu i'r un graddau o leiaf.
Mae catalog methiannau Llywodraeth Cymru yn niferus iawn. Rydym yn dihoeni ar waelod y tablau incwm yn y Deyrnas Unedig o gryn dipyn. Mae ein hincwm yma yng Nghymru oddeutu 75 y cant o incwm cyfartalog y DU. Ceir pob math o broblemau tlodi yng Nghymru nad yw Llywodraeth Lafur Cymru wedi mynd i'r afael â hwy—tlodi tanwydd, er enghraifft, sydd wedi'i wneud hyd yn oed yn waeth gan eu polisi o godi prisiau ynni. Mae cymaint o bethau eraill hefyd, nad oes gennyf amser i'w trafod yn awr, yn anffodus.
Ond y broblem fawr yw mai Llywodraeth y DU sydd â'r arian. Mae'r diffyg ariannol sydd gennym yng Nghymru, fel y nodwyd, yn gyfran sylweddol iawn o'n cynnyrch domestig gros, ac ni ellir ei dalu heb arian a ddaw gan drethdalwyr Lloegr. Felly, os yw Cymru am gael unrhyw obaith o newid cyflwr truenus economi Cymru a safonau byw pobl Cymru, ni ellir gwneud hynny heblaw drwy'r pŵer mwy sydd gan Lywodraeth y DU.
Y rheswm y dechreuais ymhél yn weithredol â gwleidyddiaeth oedd oherwydd colli grym a rheolaeth yn ddiddiwedd i Frwsel. Rwy'n rhywun sy'n credu y dylai pŵer fod mor agos â phosibl at y bobl. Credaf fod llywodraeth, ac y dylai fod bob amser, yn was i'r bobl ac nid yn feistr.
Gadewch inni edrych ar realiti. Bydd rhai pobl yng Nghymru yn wynebu gaeaf caled yn byw ar y strydoedd. Mae staff y GIG yn ymdrin â'r anhrefn a ddaw'n anochel gyda'r gaeaf. Bydd yr henoed a'r tlawd yn dewis rhwng gwresogi a bwyta, ac mae gennym bwerau ychwanegol a allai fod yn drawsnewidiol i gyrraedd y Cynulliad o ganlyniad i adael yr UE. Er mawr rwystredigaeth a siom i mi, mae'r sefydliad hwn yn treulio ein hamser, amser pobl Cymru yn wir, yn trafod beth rydym am alw ein hunain a beth rydym am alw'r sefydliad hwn. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth fod y teimladau hyn yn cael eu hadleisio ar draws fy rhanbarth. Ni fydd newid enw'r sefydliad hwn neu newid ein teitlau'n mynd i'r afael ag unrhyw rai o'r materion hynny. Ni fydd newid ein teitl o 'Aelod Cynulliad' i 'Aelod Senedd' neu hyd yn oed 'Seneddwr' yn helpu unrhyw etholwr. Dylai ein hamser fod wedi cael ei dreulio'n gwella bywydau ein hetholwyr, nid ein curriculum vitae.
Mae'r trethdalwr yng Nghymru eisoes yn talu am ormod o wleidyddion. Mae tua dwywaith cymaint o bobl yn byw yn yr Alban nag yng Nghymru ond mae ganddynt lai o gynghorwyr. Eisteddais yn y Siambr hon pan siaradodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus am yr angen i ddiwygio llywodraeth leol, ond mae'r Llywodraeth hon bellach yn cefnu ar hynny am na allant wneud unrhyw benderfyniadau anodd. Yn ystod etholiad diwethaf y Cynulliad, fel y rhan fwyaf o'r Aelodau yn y Siambr hon, mynychais hustyngau gydag etholwyr lle roeddent yn mynegi pryderon ynghylch pethau fel Betsi Cadwaladr a'r GIG yng ngogledd Cymru. Y gwir trist yw y bydd y bwrdd iechyd yn dal i fod dan fesurau arbennig yn yr etholiad nesaf, er gwaethaf yr addewidion gan bleidiau o gwmpas y Siambr hon. Mae hyn yn fethiant ar ran y Llywodraeth Lafur a'r sefydliad hwn yn ei gyfanrwydd.
Mae'r A55 yn ffordd hanfodol sy'n cysylltu gogledd Cymru. Mae'r diffyg buddsoddiad yn y ffordd honno'n cael effaith negyddol ar economi gogledd Cymru. Mae cerbydau llonydd mewn traffig hefyd yn effeithio ar ein hamgylchedd. Mae hyn hefyd yn fethiant ar ran y Llywodraeth Lafur a'r sefydliad hwn yn ei gyfanrwydd. Mae'r diffyg buddsoddi mewn gwasanaethau rheilffordd a bws yng ngogledd Cymru, y seilwaith ffyrdd sy'n dadfeilio, y diffyg cysylltiad ffôn a rhyngrwyd oll yn fethiannau ar ran y Llywodraeth Lafur a'r sefydliad hwn yn ei gyfanrwydd. Nid yw'n gweithio, ac rwy'n annog pob Aelod i gefnogi ein cynnig heddiw heb ei diwygio.
A gaf fi wneud ymyriad byr iawn? Diolch. A oeddech chi yma pan gawsom ddadl am Betsi Cadwaladr ychydig wythnosau yn ôl? A oeddech chi yma pan gawsom ddadl ar yr A55 yn gynharach y prynhawn yma? A oeddech chi yma pan drafodasom gysylltiad band eang ychydig fisoedd yn ôl? Oherwydd mae'n ymddangos i mi eich bod chi'n hollol anymwybodol o'r hyn sy'n digwydd yn y lle hwn.
Nid oes dim ohono'n gweithio.
Lywydd, nid oeddwn yn bwriadu siarad, ond ar ôl gwrando ar y cyfraniadau, meddyliais y dylwn. Un o'r materion nad eir i'r afael ag ef byth gan y bobl sydd am weld diddymu'r Cynulliad yw'r hyn y mae'n ei olygu i weddill y DU, yr Alban a Gogledd Iwerddon, a pham na ddylai Cymru, yn unig mae'n ymddangos, gael ei llais ei hun. Pam na ddylai Cymru'n unig—cymharwch ni â'r Alban, Gogledd Iwerddon, Lloegr, Ynys Manaw, Jersey, Guernsey, dewiswch chi, Gibraltar—gael ein hawdurdodaeth gyfreithiol ein hunain? Pam, ymhen dwy flynedd, y bydd modd cael eich arestio am drosedd yn Lloegr nad yw'n drosedd yn Lloegr? Hynny yw, os ydych yn taro plentyn, ni allwch ddefnyddio cosb resymol yn amddiffyniad. Bydd modd i chi gael eich arestio yn Newcastle am drosedd nad yw'n drosedd yn Newcastle. Nonsens cyfreithiol yw hynny. Lol llwyr. Nid yw'n gwneud synnwyr o gwbl. Ac nid yw mater awdurdodaeth mor radical ag y mae pobl yn ei feddwl. Mae'n normal, mewn gwirionedd. Dyma'r sefyllfa annormal lle nad oes gan Senedd awdurdodaeth.
Gwrandewais ar ddadleuon Mark Reckless. Fe'u cyflwynodd mewn digwyddiad a fynychwyd gennym ein dau yn Newcastle. Rhaid imi ei atgoffa na wnaethom geisio pwerau i amrywio'r dreth incwm. Fe'u gorfodwyd arnom, i bob pwrpas, gan Lywodraeth Geidwadol. Dyna beth a ddigwyddodd. Felly nid yw fel pe baem wedi twyllo pobl Cymru yn 2011. Penderfynodd Llywodraeth Geidwadol fod arnom angen—ac nid wyf o reidrwydd yn anghytuno â'r rhesymeg—cael pwerau codi refeniw er mwyn gallu benthyca. Ond nid oedd yn rhywbeth roeddem yn ei geisio'n benodol, oherwydd nid oedd gan Ogledd Iwerddon bwerau codi refeniw, ond roedd ganddynt allu i fenthyca.
A wyf yn credu y dylai Cymru fod yn gyfartal â'r Alban a Gogledd Iwerddon? Ydw. Ac fe'i clywais ddydd Sadwrn yn dweud gyda balchder fod ei daid yn Fianna Fáil TD, felly, yn aelod o'r lluoedd gwrth-gytuniad yn rhyfel cartref Iwerddon. Ond onid yw honno'n wers i ni? Pe bai Iwerddon wedi cael ymreolaeth—ac fe wyddom fod y rhyfel byd cyntaf wedi tarfu ar hynny—efallai na fyddai Iwerddon yn annibynnol heddiw. Diffyg anhyblygrwydd system San Steffan a arweiniodd at dorri un rhan o'r DU oddi ar y gweddill yn ôl yn 1921, oherwydd nid yw'r DU, cofiwch, yn 100 oed hyd yn oed gyda'i ffiniau presennol. Fy nadl i fyddai—ac rwy'n gwrando ar yr hyn y mae'n ei ddweud ynglŷn â ble y daw hyn i ben, mai proses yw datganoli nid digwyddiad, ble mae'n dod i ben—i mi, mae'n dod i ben gyda strwythur sy'n gwneud popeth yn glir. Mae eraill yn y Siambr am gael annibyniaeth. Nid wyf fi eisiau hynny; i mi, mae'n bedair tiriogaeth gyda'u pwerau eu hunain a senedd ffederal, beth bynnag rydych chi am ei alw, ar y brig.
Nid yw'n golygu mwy o wleidyddion. Nid oes angen 600 o ASau mewn senedd ffederal. Ychydig iawn o wasanaethau y mae Llywodraeth y DU yn eu darparu ar draws y DU i gyd, ychydig iawn: rheoli ffiniau, arian cyfred, polisi cyllidol, a dyna ni fwy neu lai. Mae trwyddedu cerbydau hyd yn oed wedi'u datganoli yng Ngogledd Iwerddon, ac ni wneir hynny gan—. [Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf? Amddiffyn. Roeddwn i'n gwybod fy mod wedi methu un. Nid wyf yn dymuno datganoli amddiffyn. Ac felly, mae hynny'n rhywbeth y mae angen i ni ei ystyried. Ni fyddai angen ichi gael Senedd fawr yn y DU er mwyn craffu ar Lywodraeth y DU o dan yr amgylchiadau hynny.
Ac mae'n rhaid i mi ddweud, mae'r syniad hwn mai bai sefydliad ydyw—. Nawr, mae'n gwbl ddemocrataidd, wrth gwrs, i eraill yn y Siambr feirniadu Llywodraeth Cymru. Nid wyf yn cytuno â'r hyn y maent wedi'i ddweud, ond dyna yw diben y Siambr, i gael dadleuon o'r fath, a phe na bai'r Siambr hon yma, ni fyddai'r dadleuon hynny'n digwydd. Mewn gwirionedd, ni fyddai gan yr un ohonom yn y Siambr hon lais. Ni fyddai unrhyw ddadl o gwbl. A dyna rywbeth y mae'n rhaid i ni ei gofio oherwydd gallwn ddadlau mai grym maleisus oedd San Steffan yn yr 1980au yng Nghymru. Dinistriodd y diwydiant glo. Dinistriodd y diwydiant dur. Gallwn ddadlau, 'Wel, y broblem yw San Steffan, gadewch inni ddiddymu San Steffan.' Yn yr un modd, gallech ddadlau mai democratiaeth yw'r broblem: 'Gadewch inni gael gwared ar ddemocratiaeth oherwydd y broblem yw bod pobl yng Nghymru yn pleidleisio dros y pleidiau anghywir.' Ac nid yw'n deg nad oes llais gan y dde-ganol—wel, mae'n galw ei hun yn dde-ganol, Neil Hamilton—yng Nghymru. Enillwch etholiadau.
Nid wyf am sefyll yma ac ymddiheuro bod fy mhlaid wedi bod yn llwyddiannus dros yr 20 mlynedd diwethaf. Rwy'n gwybod ei bod yn mynd yn anos gyda phob etholiad—wrth gwrs ei fod. Mae pobl yn dweud, 'Wel, rydych chi mewn grym ers tro byd', ac rwy'n gwybod bod hynny'n rhywbeth y mae'n rhaid i chi weithio'n galed i'w ymladd. Ond mae dweud bod pobl yng Nghymru yn rhy dwp i bob pwrpas i bleidleisio dros y math iawn o wleidyddiaeth a bod hynny'n rheswm dros ddiddymu'r sefydliad a grewyd ganddynt hwy eu hunain yn 1997, ac y penderfynasant hwy eu hunain yn 2011 drwy fwyafrif o bron i ddau i un—a byddai wedi bod yn uwch pe na bai'r arolygon barn wedi dangos y byddai'n fuddugoliaeth glir. Penderfynasant o ddau i un yn 2011, naw mlynedd yn ôl yn unig, y dylem gael pwerau sylfaenol yma yng Nghymru. Roedd hi'n amlwg dros beth y pleidleisiodd pobl ac roedd pobl yn ei wneud fel mater o falchder a chafwyd ymgyrch drawsbleidiol, a bod yn deg, a oedd yn cefnogi hynny.
Ac yn olaf, rwyf am ddweud hyn: fel y dywedais yn gynharach, ni allwch esgus bod yn unrhyw fath o genedl os nad oes gennych unrhyw strwythur gwleidyddol, yn enwedig mewn gwlad fel y DU lle byddai Senedd gan yr Alban, Cynulliad gan Ogledd Iwerddon, Manceinion, Llundain, Senedd San Steffan, a dim gan Gymru. Mae gan Gernyw hyd yn oed gyngor sir. Ac mae'r syniad rywsut fod ASau Cymreig mor brin o waith fel y gallant graffu ar faer Cymreig—yr unig ffordd y gallaf ei ddisgrifio—ffantasi lwyr yw honno. Rwy'n siŵr eu bod yn cael eu llethu gan waith fel y mae. Ac wrth gwrs, mae'n methu mynd i'r afael â'r cwestiwn: a yw hynny'n golygu felly y gallai'r 40 o ASau Cymreig gychwyn eu deddfwriaeth eu hunain? Oherwydd os nad yw hynny'n wir, mae hynny'n mynd yn uniongyrchol groes i ganlyniad y refferendwm yn 2011 pan benderfynodd pobl Cymru o fwyafrif helaeth mai dyma lle byddai deddfwriaeth sylfaenol yn cael ei drafftio a'i phasio mewn meysydd datganoledig.
Rwyf wedi bod wrthi am fwy o amser nag y bwriadwn, Lywydd, ond does bosibl, ar draws y DU i gyd, nad yw'r amser wedi dod i gael setliad cyfansoddiadol sefydlog er budd pawb.
Rwyf wedi gwrando ar y cyfraniadau. Rwy'n credu eu bod yn feddylgar ac yn ddifyr a gwamal. Nid wyf am gynnig disgrifiad o bob siaradwr. Ond rwy'n meddwl mewn unrhyw system newydd o Lywodraeth, fod angen i chi edrych ar y sefydliadau, ac mae'r Llywodraeth yn sefydliad pwysig ond mae'r ddeddfwrfa o leiaf yr un mor bwysig. Mewn gwirionedd, o'r ddeddfwrfa y caiff y Weithrediaeth ei hawdurdod. Mewn adolygiad o'r hyn a wnaethom dros yr 20 mlynedd diwethaf, rwyf am sôn am yr hyn yr ystyriaf eu bod yn rhai o'r pethau rydym wedi arwain arnynt yn y DU. Cafodd bron bob un—yn wir, cafodd pob un o'r rhain gefnogaeth drawsbleidiol, hyd y cofiaf.
Y comisiynydd plant. Dyna oedd ein hymateb i'r adroddiad, 'Ar Goll Mewn Gofal'. Rydym yn dal i weld yr effeithiau 20 mlynedd yn ddiweddarach ynghylch safbwynt gwahanol iawn ynglŷn â beth yw hawliau plant a'r rhai sydd yng ngofal y wladwriaeth. Mae pob awdurdodaeth arall yn y DU wedi ei efelychu.
Y cyfnod sylfaen—a oes unrhyw un yn ei gofio—a ddilynodd adolygiad Caergrawnt, adolygiad gan Lywodraeth y DU, neu Gymru a Lloegr—adolygiad gan Lywodraeth y DU ar gyfer Cymru a Lloegr? Gwrthodwyd adolygiad Caergrawnt yn gadarn yn nyddiau olaf Llywodraeth Blair, rwy'n credu; efallai mai Mr Brown ydoedd. A bod yn deg, bwriodd y Blaid Lafur yma ymlaen â hyn. Nawr, hyd y gwn, mae addysg blynyddoedd cynnar, sy'n seiliedig ar chwarae, yn cael ei derbyn ledled y DU, ac fe'i derbyniais yn ôl bryd hynny. Mae'n debyg mai fi oedd yr unig Geidwadwr, ond efallai fod gennyf gynghreiriaid eraill bryd hynny.
Crybwyllwyd y Mesur iechyd meddwl gan Darren ac fe'i cynigiwyd gan Jonathan Morgan. Mae'r Ddeddf teithio llesol—un o'r darnau gorau i—. Er i'r Llywodraeth ei fabwysiadu, fe ddeilliodd o'r sector dinesig, o dan arweiniad fy nghyfaill mawr Lee Waters a Sustrans ar y pryd. Y Ddeddf meinweoedd dynol, neu ganiatâd tybiedig, yr anghytunais â hi gyda llaw, ond byddai unrhyw un a wyliodd y ffordd yr aeth y Gweinidog iechyd, sef ein Prif Weinidog bellach, â'r ddeddfwriaeth honno drwy ei chyfnodau, gyda'r holl ddoethineb a sensitifrwydd y gallai calonnau hael fod â safbwyntiau gwahanol iawn yn ei chylch, gallech ddangos hynny mewn unrhyw seminar o gwmpas y byd ynglŷn â sut y dylai deddfwrfa weithredu. Wedyn, un arall—Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Rwy'n credu mai nodwedd fawr o lwyddiant honno yw ei bod yn gwneud mwy i ddal y Llywodraeth a'i pasiodd i gyfrif nag y credaf eu bod wedi sylweddoli ar y pryd, mae'n debyg. Ond efallai y gwnewch chi ganiatáu imi wneud y sylw braidd yn bigog hwnnw.
Y cwestiwn yw: a yw ymreolaeth wleidyddol Gymreig wedi dod yn ewyllys sefydlog? Wel, sut bynnag y gwnewch ei gyflwyno, ac mae'n rhaid i chi weithio'n eithaf caled, gallwch gael tua 20 y cant o'r boblogaeth i ddweud eu bod am i'r Cynulliad gael ei ddiddymu. Nawr, mae ceisio ychwanegu at y ffigur hwnnw y 25 y cant sydd bellach yn credu mewn annibyniaeth braidd yn dwyllodrus yn fy marn i, oherwydd credaf fod yn rhaid ichi ddweud bod o leiaf 80 y cant o'r bobl am gael ymreolaeth wleidyddol, ac mae rhai am ei gweld i'r fath raddau fel y byddai'n gyfystyr ag annibyniaeth. Mae'r arolygon barn yn nodi hyn yn gyson. Nawr, mae rhywfaint o wirionedd ein bod wedi gorfod gweithio ar hyn. Rwyf wedi dweud mewn rhai areithiau a wneuthum yn y gorffennol, yn enwedig i fyfyrwyr o dramor, fod gennym gonfensiwn gwleidyddol hir, oherwydd ein bod wedi dechrau gyda model rhyfedd iawn. A bod yn deg, efallai mai dyna oedd yr unig fodel yn 1997 a allai fod wedi pasio mewn refferendwm. Nid wyf yn beirniadu barn bragmatig y Llywodraeth Lafur bryd hynny. Ond cawsom ryw fath o fersiwn 101 o ymreolaeth wleidyddol, a bu'n rhaid inni weithio arno. A'r canlyniad oedd llwyddiant hynod y refferendwm yn 2011. A chwaraeais ran fach iawn yn egluro wrth David Cameron beth y byddai'n ei olygu pe bai dwy ran o dair o'r lle hwn, o dan Ddeddf 2006, yn pleidleisio o blaid refferendwm, a bod y Senedd wedyn yn gwadu hynny drwy bleidlais syml. A dywedodd 'O, un funud fach, am beth rydym yn sôn—y byddem yn pleidleisio yn y Senedd i ddweud bod y Cynulliad yn anghywir ar ôl pleidlais o ddwy ran o dair i ofyn i bobl Cymru a oeddent am gael pwerau deddfu llawn?' Ac er tegwch iddo, gwelodd gymaint o nonsens oedd hynny. Ac fel y dywed yn ei hunangofiant, roedd ganddo waith i'w wneud wedyn i argyhoeddi rhai yn y gymuned wleidyddol o'r realiti hwnnw. Ac rwy'n falch ei fod wedi gwneud hynny.
Yn fy marn i, bydd angen mwy o fecanweithiau ffederal. Rwy'n credu, yn Lloegr, mai mater i'r Saeson yw pa sefydliadau gwleidyddol y maent am eu cael. Mae perygl, os ceir Llywodraeth Seisnig, fel Lloegr gyfan, gallai fod yn drech na Llywodraeth Brydeinig. Rwy'n credu bod hwnnw'n berygl gwirioneddol, a dyna pam y mae'n well gennyf y math o uwch-ddinasoliaeth rydym yn ei weld bellach. A gadewch i ni beidio ag anghofio—mae gan Loegr sefydliad datganoledig, sef Cynulliad Llundain.
Felly, rwy'n credu y gallwn edrych ar y cyflawniad hwn fel un gwych, wedi'i wneud yn hael gan bron bob plaid, beth bynnag, i wneud llywodraethu gwleidyddol yng Nghymru yn endid llawer mwy cydlynol. Ac yn awr y cyfan sydd gennym ar ôl sy'n hurtrwydd go iawn yw'r awdurdodaeth gyfreithiol nad ydym yn meddu arni, fel bod deddfau a wneir yn y Senedd hon yn ymestyn i gynnwys Cymru a Lloegr, ond yng Nghymru yn unig y cânt eu cymhwyso. Os gallwch siarad unrhyw synnwyr ynghylch yr egwyddor honno, buaswn yn falch o'ch clywed. Ond Lywydd, rwy'n credu y dylem gofio bod llwyddiannau mawr wedi bod. Yr heriau, y camgymeriadau, maent i gyd yno hefyd, ond mewn gwirionedd, mae datganoli wedi gweithio.
Lywydd, roeddwn wedi meddwl ddwywaith ynglŷn â chymryd rhan yn y ddadl, oherwydd, yng ngoleuni popeth sy'n digwydd, roedd y cyfan yn ymddangos braidd yn anamserol, ond hefyd yn un lle mae'n dod gan blaid sydd heb unrhyw fandad democrataidd yn y Siambr hon. Mae'n gynnig a gyflwynir gan blaid nad yw erioed wedi'i hethol i'r Cynulliad hwn; ni fu erioed etholiad Cynulliad lle mae Plaid Brexit wedi ymddangos ar unrhyw bapur pleidleisio; nid ydynt erioed wedi cael cefnogaeth unrhyw faniffesto neu gynnig polisi yng Nghynulliad Cymru; ac i bob pwrpas, mae eu presenoldeb yn y Siambr hon yn ganlyniad annisgwyl system etholiadol a fwriadwyd i ehangu cynrychiolaeth ddemocrataidd, ond sydd, yn fy marn i, wedi cael ei chamddefnyddio i danseilio ei gwir amcan democrataidd.
Ac mae'n rhaid ichi ofyn beth yw gwir bwrpas y cynnig hwn. Wel, rwy'n credu ei fod yn ymgais fanteisgar i ymelwa ar leiafrif o boblyddiaeth wrth-wleidyddol, yn y gobaith y bydd yn rhoi rhywfaint o sail etholiadol iddynt yn ystod etholiadau nesaf y Cynulliad pan fyddant yn dymuno dychwelyd i'r Siambr hon. Yn fy marn i, mae'n gynnig sy'n ymgais sinigaidd a digywilydd i hybu buddiannau breintiedig a goroesiad gwleidyddol. A daw un o'r gwelliannau gan Aelod na all hyd yn oed drafferthu byw yng Nghymru. Mewn gwledydd eraill, mae'r gêm hon o newid pleidiau, ailenwi, ail-greu, yn ôl mympwyon a hunan-fudd yr unigolion dan sylw, yn annemocrataidd, ac rwy'n ei ystyried yn annemocrataidd—wel, yn sicr mewn gwledydd eraill, byddai'n cael ei ystyried yn annemocrataidd. Ac mae creu'r Cynulliad hwn—y Senedd hon bellach—yn ganlyniad i fandadau amryw o etholiadau cyffredinol a refferenda, ac mae mandad democrataidd clir o'i blaid.
Mae datganoli i mi yn ymwneud â grymuso, mae'n ymwneud â datganoli grym a'i ddwyn mor agos at y bobl ag y bo modd. Mae'n wir fod llawer iawn o hyder wedi'i golli yn ein system wleidyddol ddemocrataidd, a bod y rhaniadau dwfn yn ein cymdeithas ynglŷn â Brexit wedi cyfrannu at hyn, yn ddiau, a rhaid inni fynd i'r afael â hyn. Ond mae'n rhaid i ni barhau i edrych ar ffyrdd o rymuso cymunedau fwyfwy, ac atgyfnerthu llywodraeth leol a chymunedau, a sicrhau bod y rhain yn digwydd o fewn fframwaith o werthoedd cyffredin. Ac ni ddylem anwybyddu'r hyn y gallasom ei gyflawni hyd yma drwy ddatganoli grym i bobl Cymru, fel y mae datganoli wedi ein galluogi i'w gyflawni.
Mae'r rheini ohonom a gafodd eu magu yn ystod y cyfnod cyn datganoli, yn enwedig cyfnod Thatcher, yn ymwybodol iawn o fethiannau'r system wleidyddol ganolog, unbenaethol, o'r brig i lawr roeddem yn ddarostyngedig iddi. Ac ers hynny, gyda datganoli, rydym wedi atal preifateiddio'r GIG, er enghraifft, fel sy'n digwydd yn Lloegr. Rydym wedi gwrthsefyll y preifateiddio a'r darnio sy'n digwydd yno ym myd addysg. Rydym wedi gwrthwynebu ymdrechion i gyflwyno systemau addysg detholus fel sy'n digwydd yn Lloegr. Ac rydym wedi gwarchod gweithwyr amaethyddol yng Nghymru, hawliau gweithwyr y sector cyhoeddus yng Nghymru. Rydym wedi arwain y ffordd ym maes partneriaeth gymdeithasol, trawsblannu organau, hawliau tenantiaid, ac yn economaidd mae lefelau cyflogaeth yn uwch nag a welwyd ers degawdau—lefelau cyflogaeth na fyddem ond wedi breuddwydio amdanynt ddegawdau'n ôl. Yng Nghymru mae gennym y rhaglen adeiladu ysgolion fwyaf yn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig, ac rydym yn darparu meddyginiaeth am ddim yng Nghymru, yn wahanol i Loegr. Ac rydym bellach yn ymestyn ein hawl ddemocrataidd i bleidleisio i gynnwys pobl ifanc 16 oed.
Felly, rydym wedi cyflawni hyn, ac rydym wedi cyflawni llawer mwy, mewn degawd o gyni gan y Torïaid, sydd wedi ein hamddifadu o biliynau o bunnoedd o arian cyhoeddus. Ac wrth gwrs mae ffordd bell i fynd, a llawer i'w wneud, ac mae yna fethiannau, ac mae yna bethau sy'n mynd o chwith. Ond ar hynny, fe ddywedaf hyn, a dywedaf wrth y rhai na chawsant eu magu yn ystod y cyfnod cyn datganoli: pan soniwn am y camgymeriadau a wnaethom, a'r pethau sy'n mynd o chwith, wel, mae hynny'n digwydd am ein bod yn gwybod amdanynt, gallwn eu trafod, gallwn ddwyn y Llywodraeth i gyfrif. Yn y cyfnod cyn datganoli, ni allem byth wneud hynny—nid oeddem yn gwybod amdanynt, ac roeddent wedi'u cuddio. Dyna'r math o ddemocratiaeth a oedd gennym bryd hynny, a dyna pam fod datganoli grym mor bwysig, a pham fod datganoli mor bwysig. Gallwn yn awr ddwyn ein gwleidyddion a'n sefydliadau gwleidyddol i gyfrif mewn ffordd na allem byth mo'i wneud o'r blaen.
Mae'r cynnig hwn, Lywydd, yn negyddol, mae'n gynnig dinistriol, o'r math rydym wedi dysgu ei ddisgwyl gan y dde eithafol. Nid yw'n cyfrannu dim at yr heriau sy'n wynebu Cymru, a dylid ei wrthod yn llwyr.
Rwy'n ddiolchgar iawn eich bod wedi caniatáu i mi ddod i mewn ar ddiwedd y ddadl hon. Nid oeddwn yn bwriadu siarad, ond mewn gwirionedd, rwy'n teimlo bod ei chynnwys yn peri pryder mawr i mi.
Rwy'n gwrthod yn llwyr yr holl syniad y dylid cyfyngu ar ddatganoli mewn unrhyw fodd. Yr hyn y mae angen inni ei wneud—ac nid wyf am sefyll yma chwaith i ddweud mai'r hyn sydd angen inni ei wneud yw hollti'r gwahaniaeth rhwng y Cynulliad a'r Senedd, a wyddoch chi, Llywodraeth ofnadwy Cymru. Oherwydd, mewn gwirionedd, mae angen i ni i gyd edrych ar ein hunain, oherwydd nid ydym wedi bod yn ddewr, ac rydym yn y sefyllfa hon heddiw oherwydd nad ydym wedi bod yn ddewr. Nid ydym wedi pleidleisio dros fwy o Aelodau Cynulliad, ac mae eu hangen arnom. Pam y mae eu hangen arnom? Mae eu hangen arnom, mewn gwirionedd, oherwydd eich bod chi wedi bod mewn grym ers amser maith, a phe bai gennych aelodau rhydd ar y meinciau cefn, pe bai gennych fwy o Aelodau Cynulliad, gallech gael y dadansoddiad beirniadol hwnnw a'r craffu beirniadol hwnnw sydd mor bwysig o—[Torri ar draws.] Na, rydych yn ei wneud yn awr, ond mae rhyddid ynghlwm wrth niferoedd. Mae mwy o ryddid gyda niferoedd yn y gwrthbleidiau hefyd. Mae angen inni gael system bwyllgorau well. Mae angen i ni ystyried sut y gallwn ddiwygio deddfwriaeth yn y dyfodol. Yr hyn y mae angen inni ei wneud yw cael Senedd gadarn ac effeithiol yma. Mae angen inni ymgorffori gwelliannau, nid ceisio lleihau a thynnu nôl. Oherwydd rwyf fi gyda Carwyn yn llwyr ar hyn, ac rwy'n siarad fel rhywun a gafodd ei geni yn Lloegr, ac a fu'n byw am y rhan fwyaf o fy mywyd yn y dwyrain pell, ac fe ddeuthum yma 20 mlynedd yn ôl. Mae fy mhlant yn Gymry, rwy'n hawlio Cymreictod, rwy'n dwli ar y Senedd hon, rwy'n wirioneddol falch ohoni, ac nid wyf yn deall yn iawn pam na ddylai pobl Cymru gael yr un hawliau'n union â fy ngŵr annwyl sy'n Albanwr, neu fy ffrindiau yn Senedd Iwerddon. Felly, yn bendant—mae'n rhaid i ni fod yn gyfartal. Sut y gallwn gael gwared ar y tensiwn a'r cydbwysedd hwnnw â Lloegr—unwaith eto, gwlad rwy'n ei charu, yn ei pharchu ac yn ei hedmygu, ond grym gwleidyddol sy'n llawer mwy na ni—nid wyf yn gwybod. A dyna'r pethau y mae angen inni weithio arnynt.
Ond gadewch inni edrych arnom ein hunain yn gyntaf, oherwydd sawl gwaith y mae pobl yn absennol mewn pwyllgorau? Sawl gwaith nad yw pobl yn darllen y papurau? Sawl gwaith na fydd pobl yn trafferthu gwneud gwaith craffu cywir? Sawl gwaith na fydd pobl yn trafferthu darllen deddfwriaeth a gwneud yr holl welliannau hynny? Rydym am fod yn Senedd dda yma. Rhaid inni wneud yn well, ac yna cawn ddechrau dadlau am y gweddill. Ond peidiwch—peidiwch—â gadael i fethiannau fod yn rheswm pam y dylai pobl ddweud 'na' wrth Senedd Cymru.
Dwi'n galw ar y Cwnsler Cyffredinol i gyfrannu, Jeremy Miles.
Diolch, Lywydd. Mae hwn yn gynnig i chwilio am bennawd gan blaid sy'n chwilio am bwrpas. Mae'n ymgais eithaf amrwd gan Blaid Brexit—ac mae'r cliw yn yr enw—i ddod o hyd i darged newydd i ymosod arno gan na allant feio'r Undeb Ewropeaidd mwyach am yr holl drafferthion. Pwy sydd nesaf ar y rhestr o dargedau? Yr union sefydliad y maent yn dewis eistedd ynddo. Ond Lywydd, mae'n ymddangos i mi fod yna wrth-ddweud sylfaenol wrth wraidd ymgais Plaid Brexit i newid ei ffocws o achos sydd wedi ei ennill i un rwy'n mawr obeithio ac yn disgwyl ei fod yn un na allant ei ennill.
Roedd eu hymgyrch yn erbyn yr UE wedi'i seilio ar bryderon pobl mewn cymunedau ledled y DU fod penderfyniadau allweddol yn cael eu gwneud yn rhy bell o'u cymunedau. Eu targed newydd yw'r Senedd hon. A beth bynnag arall a gaiff ei ddweud amdanom, ar y cyfan, rydym wedi ymwreiddio yn ein cymunedau ac yn hapus iawn i gael ein dwyn i gyfrif gan ein hetholwyr.
Felly, beth y mae 'adfer rheolaeth' yn ei olygu mewn gwirionedd? Pan anfonodd yr etholwyr neges eu bod yn teimlo'n analluog i ddylanwadu ar y penderfyniad tyngedfennol yn eu bywydau, a ydym mewn difrif i gredu mai'r hyn roeddent am ei weld mewn gwirionedd oedd canoli'r holl bŵer hwnnw mewn milltir sgwâr o amgylch San Steffan, unbennaeth etholedig gan Lywodraeth y DU, sydd â mwyafrif mawr, a all sathru ar unrhyw un o'r ffynonellau eraill o gyfreithlondeb yn y DU, boed yn sefydliadau datganoledig, llywodraeth leol neu'r farnwriaeth? Nid wyf yn credu hynny.
Lywydd, mae'r Senedd hon yn dal yn gymharol ifanc—byddwn yn cyrraedd ein pen-blwydd yn un ar hugain oed cyn bo hir—ac nid yw datganoli yng Nghymru wedi bod yn statig mewn unrhyw fodd. Rydym wedi newid o fod yn gorff corfforaethol i fod yn Senedd, o fod yn llunwyr is-ddeddfwriaeth i fod yn ddeddfwrfa deddfwriaeth sylfaenol, gyda phwerau treth cynyddol ac awydd i gael rhagor o ddatganoli. Erbyn hyn, mae gennym allu i wneud dewisiadau sy'n well ac yn wahanol ac sy'n gweddu'n well i bobl Cymru. Ac rwy'n credu ei fod yn gyflawniad gwirioneddol, er bod y model datganoli wedi newid, fod egwyddor datganoli wedi dod yn ewyllys bendant pobl Cymru erbyn hyn, ac mae'r clod am y cyflawniad hwnnw i'w rannu gan bob un o'r pleidiau prif ffrwd a gynrychiolir yn y Siambr hon. Felly, gadewch i ni wrthod y cynnig am yr hyn ydyw—ymgais i danseilio ewyllys pobl Cymru gan blaid sydd ar ei gwely angau.
Trof at y gwelliannau. Mae gwelliant Plaid Cymru, fel y dywedodd Hefin David, yn ymosod ar Lywodraethau olynol yng Nghymru, er eu bod yn rhan o'r hyn y dywedwn i, o leiaf, ei bod yn Llywodraeth glymblaid lwyddiannus rhwng 2007 a 2011. Mae gwelliant 1 yn un nad ydym yn anghytuno â'i sylwedd o gwbl, ond rydym am allu pleidleisio ar y gwelliant a osodwyd gennym, sy'n cyfleu natur drawsbleidiol a dinesig y setliad datganoli yma yng Nghymru. Clywais gyfraniadau gwych o feinciau'r Ceidwadwyr yng nghyswllt datganoli. Nid oedd y gwelliant, yn fy marn i, yn cyfleu hynny. Roeddwn wedi meddwl efallai eich bod yn disgwyl am gyfeiriad o San Steffan; credaf efallai fod hynny'n annheg, o ystyried y cyfraniadau a gafwyd yn y ddadl. Ac fel dyn a achubwyd o ebargofiant gwleidyddol gan ddatganoli, credwn fod Neil Hamilton wedi gwneud cyfraniad arbennig o anniolchgar wrth gynnig ei welliant, am ei fod yn synhwyro ei dranc gwleidyddol yn y lle hwn efallai, ac yn troi ei olygon at swydd etholedig ar fwrdd iechyd yn rhywle yn y dyfodol, efallai.
Ond o ddifrif, Lywydd, mewn byd rhyngddibynnol cymhleth a rhwydweithiol yn fyd-eang, lle na ellir ymdrin â rhai problemau—fel newid hinsawdd—ac eithrio ar draws awdurdodaethau, rhaid teilwra eraill—fel gofal cymdeithasol neu addysg— o ran yr atebion iddynt, yn ôl angen lleol. Yr hyn sydd ei angen arnom yn y math hwnnw o fyd yw model gwasgaredig o bŵer a democratiaeth a gwneud penderfyniadau, sy'n cydnabod ac yn dathlu rôl sefydliadau datganoledig fel y Senedd hon, a all greu seneddwyr sydd wedi rhoi areithiau heddiw fel Carwyn Jones, David Melding, Angela Burns ac eraill, a dylem ymfalchïo yn y cyfraniad y mae'r sefydliad hwn yn ei wneud i Gymru ac i ddemocratiaeth Cymru, a pheidio â'i fychanu. Felly, Lywydd, gofynnaf i'r Aelodau wrthod y cynnig a chefnogi gwelliant y Llywodraeth.
Mark Reckless i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Lywydd. A gaf fi ddiolch i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau? Rwy'n gresynu braidd at gywair y ddau gyfraniad diweddaraf oddi ar feinciau Llafur, oherwydd roeddwn yn meddwl bod llawer o'r cyfraniadau cyn hynny yn feddylgar iawn ac roeddem yn cael dadl dda. Ac a gaf fi atgoffa'r Gweinidog, yn arbennig, pan fydd yn siarad am danseilio democratiaeth, fod Cymru wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd. Nawr, efallai fod Mick Antoniw'n hoff o ddweud bod y farn honno, neu ein statws, a'r hyn a ddywedwn, fod yn rhaid bod hynny wedi'i barchu, yn mynd yn groes i ddemocratiaeth rywsut neu'n un eithafol—[Torri ar draws.] Nid oes gennyf amser i dderbyn ymyriad. Mae'n ddrwg gennyf.
Ond fe ddywedoch chi y byddech yn parchu'r refferendwm hwnnw, ond wedyn fe dreulioch chi dair blynedd a hanner yn ceisio ei danseilio. Diolch byth, fe golloch chi, ond ceir canlyniadau i'r tair blynedd a hanner honno o ran sut y mae pobl yng Nghymru'n teimlo am y sefydliad hwn a'ch Llywodraeth. Nawr, mae Dai Lloyd yn siarad am y gwahaniaeth rhwng Llywodraeth Cymru a'r sefydliad hwn—a siaradodd eraill am hynny hefyd—ond wrth gwrs, i ddechrau, am nifer o flynyddoedd, yr un endid oeddent, ac mae'r iaith honno'n dal i barhau. Ond fe welwn, pan soniwn am yr hyn a ddywed Plaid Cymru, na fu unrhyw newid grym yn y lle hwn. Ac mae'r Ceidwadwyr yn dweud pa mor wych y gallai datganoli fod pe bai gennym Lywodraeth Geidwadol, ond sut y bydd hynny byth yn digwydd pan ddywed Plaid Cymru na fyddant byth yn gweithio gyda chi? Os na fyddwch yn gweithio i gyflwyno Llywodraeth amgen, ni cheir newid grym, a chyfeirir anhapusrwydd a siom pobl ynglŷn â gwleidyddiaeth yn naturiol at y sefydliad, wedi'i ychwanegu at y tair blynedd a hanner o geisio atal Brexit.
Ac rydym yn clywed o hyd am refferendwm 2011, ond yr hyn a ddywedodd oedd: pŵer deddfu llawn mewn 20 maes datganoledig. Ac roedd y system a'i rhagflaenai'n eithaf hurt ac nid oedd yn gwneud unrhyw synnwyr i neb. Do, fe bleidleisiodd Cymru o blaid hynny, ond wedyn fe newidioch chi hynny i fod yn fodel pwerau a gadwyd yn ôl, gan ddatganoli'r holl bwerau ac eithrio mewn meysydd a gadwyd yn ôl i San Steffan, ac yn benodol, roedd gennych ddatganiad ar y papur pleidleisio a ddywedai na all y Cynulliad ddeddfu ar drethi beth bynnag fyddai canlyniad y bleidlais hon. Yn 2014, roeddwn yn AS a bleidleisiodd eto yn San Steffan i ddeddfu ar gyfer hynny. Ond yn 2017, ar ôl sefyll yn 2015 a 2016 ar faniffesto o barchu hynny, fe wnaethoch ei wrthdroi, ni chawsoch y refferendwm, a gorfodwyd pwerau codi trethi ar Gymru. Rwy'n credu bod pris i'w dalu am hynny.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? Oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Dwi'n gohirio'r bleidlais, felly, ar yr eitem, tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Ac felly, dyma ni'n cyrraedd yr ail gwestiwn amserol: y cwestiwn i'w ateb gan y Gweinidog iechyd ac i'w ofyn gan Andrew R.T. Davies.
2. Yng ngoleuni'r cynnydd diweddar yn y coronafeirws ar draws Ewrop, a wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cyngor iechyd cyhoeddus diweddaraf i bobl yng Nghymru? 398
Mae'r cyngor iechyd cyhoeddus diweddaraf ar gyfer teithwyr sy'n dychwelyd wedi cael ei ddiweddaru ac mae ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd yn cyhoeddi diweddariad dyddiol ar eu gwefan am 3 p.m. Ni ddylai unrhyw un a allai fod wedi'i effeithio gan newid yn y cyngor fynychu eu meddygfa na mynd i adrannau achosion brys ysbytai, ond dylent ffonio Galw Iechyd Cymru ar 0845 46 47 neu 111 Cymru. Mae'r cyngor hwnnw, wrth gwrs, yn berthnasol i bobl sy'n dychwelyd o wledydd penodol yn Ewrop a'r byd ehangach.
Diolch am y diweddariad hwnnw, Weinidog. Rwy'n deall eich bod wedi cael trafodaethau gyda chydweithwyr eraill o amgylch gweddill y DU y prynhawn yma. O'r trafodaethau hynny, adroddwyd yn y wasg heddiw, yn sicr mewn rhai rhannau o'r DU, y bydd sgrinio ar hap yn digwydd yn awr ar gyfer coronafeirws mewn meddygfeydd ac ysbytai. Nid yw'n ymddangos bod y rhestr a welais yn cynnwys unrhyw ysbytai na chanolfannau meddygon teulu yng Nghymru. A ydych mewn sefyllfa i gadarnhau a yw Cymru wrthi'n ystyried sgrinio ar hap ar gyfer coronafeirws, fel yr adroddwyd yn y cyfryngau heddiw?
A allwch roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am yr hyn y gallai teithwyr Cymru ei wynebu ar draws y cyfandir, o gofio bod rhai ardaloedd wedi'u cau a chyfnod ynysu wedi'i osod? A allwch gadarnhau, os gwelwn achosion o'r coronafeirws yma yng Nghymru, y byddem yn gweld camau tebyg i'r hyn a welsom yn yr Eidal neu rannau eraill o'r byd wrth ymdrin â'r achosion, pe bai hynny'n digwydd, a'r effaith y mae hynny'n debygol o'i chael ar wasanaethau yn fwy cyffredinol, megis y gwasanaeth iechyd o ran ei waith o ddydd i ddydd?
Wel, edrychwch, credaf fod tri chwestiwn penodol yn y fan honno, ac i ymdrin â'r mater sy'n ymwneud â gwladolion o Brydain, y gallai rhai ohonynt fod yn drigolion o Gymru, ac yn wir, trigolion o Gymru nad ydynt yn wladolion Prydeinig a allai fod wedi'u dal yn yr ardaloedd ynysu cwarantîn posibl a welwyd mewn nifer o rannau o Ewrop lle maent yn ceisio ffrwyno lledaeniad coronafeirws, ceir sgwrs reolaidd ac adeiladol rhwng pedair Llywodraeth y DU, yn enwedig â'r Swyddfa Dramor a Chymanwlad, ynglŷn â faint o Brydeinwyr yr effeithiwyd arnynt, ble maent a'r cymorth a ddarperir iddynt. Mae hon, wrth gwrs, yn sefyllfa sy'n datblygu ac nid ni sy'n gyfrifol am ble mae awdurdodau eraill yn gwneud dewisiadau ynglŷn ag ynysu unigolion neu gymunedau.
Ar y pwynt a wnaethoch am sgrinio ar hap, buaswn yn cynghori'r Aelod i ddychwelyd at y cyngor a ddarperir, nid yn unig gennyf fi yn y datganiad wythnosol a ddarparaf, ond gan Brif Swyddog Meddygol Cymru yn ei ddatganiad wythnosol a'r cyngor dyddiol ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Nid ydym yn gweithredu sgrinio ar hap ar unrhyw bwynt yn ein system. Rydym yn edrych ar ddull wedi'i dargedu o ymdrin â phobl sy'n wynebu risg ac fel y dywedaf, yn y cyngor a roddwyd, lle mae pobl yn dychwelyd ar ôl bod yn teithio mewn rhannau penodol o'r byd, o fewn amserlen benodol, os oes ganddynt symptomau—peswch, dolur gwddf, annwyd neu symptomau tebyg i ffliw—dylent hunanynysu a chysylltu â'r gwasanaeth iechyd gwladol a chânt gyngor ac arweiniad ganddynt. Dyna'r peth iawn i'w wneud. Os bydd y cyngor yn newid am fod newid yn y ffordd y caiff ei drosglwyddo, byddwn yn gwneud hynny'n gwbl glir.
Rwy'n meddwl mai'r hyn sy'n ddefnyddiol am hyn, ac mae hyn yn ymwneud â'ch pwynt ehangach ynglŷn â'r posibilrwydd o drosglwyddo'n fwy eang—ac nid wyf am roi cyfres o'r hyn a allai fod yn ddamcaniaethu di-fudd, ond er mwyn bod yn glir iawn, mae pedair Llywodraeth y DU yn gweithio gyda'i gilydd. Mae'n bwysig iawn fod hynny wedi ei ategu gan ymdrech ar y cyd rhwng y pedwar prif swyddog meddygol ar draws y Deyrnas Unedig yn rhoi cyngor i Lywodraethau'r Deyrnas Unedig am yr hyn y gallem ac y dylem ei wneud i ddiogelu ac amddiffyn iechyd y cyhoedd yn briodol. Yn amlwg, os ceir newidiadau, nid mewn diweddariad wythnosol yn unig y byddant yn ymddangos, ond os bydd angen rhagor o newidiadau brys byddaf yn fwy na pharod i adrodd nid yn unig i'r lle hwn ond i'r cyhoedd yn ehangach hefyd.
Dim ond ychydig o gwestiynau—rwy'n ddiolchgar am y canllawiau diweddaraf a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru heddiw, ac rwy'n gofyn i chi egluro hyd yn oed yn gliriach i unigolion sy'n cysylltu â ni fel eu Haelodau etholedig ar rai materion. O ran hunanynysu, gofynnir i bobl hunanynysu wrth ddychwelyd o wledydd neu ranbarthau a enwyd. A wnewch chi gadarnhau bod hunanynysu yn golygu (a) ynysu eich hun p'un a ydych yn dangos symptomau ai peidio—symptomau tebyg i ffliw—a (b) fod hunanynysu yn golygu ynysu llwyr, os mynnwch, yn eich cartref eich hun, nid aros ymaith o'ch gweithle neu eich lle addysg yn unig a pharhau rywsut â'ch bywyd o ddydd i ddydd fel arall?
Yn ail, a fydd Llywodraeth Cymru yn cynnig canllawiau neu o leiaf yn apelio ar gyflogwyr i fod yn gydymdeimladol ac yn gefnogol i'w gweithwyr, er enghraifft i hwyluso gweithio o adref—ar gyflog llawn, wrth gwrs, lle bo hynny'n bosibl, fel y gallai'r sefydliad hwn ei wneud, er enghraifft? I rywun sy'n gweithio mewn ffatri neu siop, gallai hynny fod yn anodd a gallai pobl wynebu trafferthion ariannol yn gynnar iawn pe baent yn cael eu gorfodi, mewn rhyw ffordd, i fynd heb dâl. Felly, bydd arnom angen y canllawiau hynny i gyflogwyr ynglŷn â sut y gallant fod yn gefnogol i'w gweithwyr.
Ie. Edrychwch, rwy'n cydnabod yr ail bwynt yn llwyr ynglŷn â bod eisiau darparu arweiniad a nodi rhai disgwyliadau ynglŷn â sut y dylai busnesau ymddwyn. Ond wrth gwrs, nid oes gennym bwerau penodol i orfodi busnesau i wneud hynny, ac mae hon yn sgwrs weithredol rhwng pedair Llywodraeth y DU yn ogystal â'r awydd i sicrhau ymagwedd mor gyson â phosibl o ran y cyngor a'r arweiniad a roddwn.
Ar y pwynt am hunanynysu, credaf mai'r peth mwyaf defnyddiol i'w wneud yw ailadrodd y cyngor a roddwyd—fod hunanynysu yn golygu aros i mewn ac osgoi cysylltiad â phobl eraill, fel y byddech yn ei wneud pe bai'r ffliw arnoch, a negeseuon syml ynglŷn ag 'ei ddal, ei daflu, ei ddifa' i'w gwneud yn glir nad ydych yn rhoi cyfle i'w drosglwyddo, yn yr union ffordd yn union ag y gwnawn gyda'r ymgyrch ffliw dymhorol bob blwyddyn, i ymddwyn fel pe baech wedi dal y ffliw—ac mae'r pwynt hwnnw, rwy'n credu, wedi'i wneud yn dda—ac i gysylltu o bell a pheidio â mynd i gyfleuster gwasanaeth iechyd gwladol os oes gennych symptomau a'ch bod chi wedi dychwelyd o un o'r ardaloedd teithio penodol. Ac o fewn hynny, mae'r cyngor yn amrywio, ac felly rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn i bobl sy'n pryderu edrych ar y cyngor sydd ar gael. Os ydych chi wedi dychwelyd o ran benodol o'r byd—. Os ydych wedi dychwelyd o rai gwledydd o fewn y 14 diwrnod diwethaf—ers 19 Chwefror, o ardaloedd penodol—hyd yn oed os nad oes symptomau gan bobl, gofynnir iddynt hunanynysu. Ond mae hynny'n benodol iawn: mae'n ymwneud ag Iran a threfi penodol lle gosodwyd cyfyngiadau ar fynediad yng ngogledd yr Eidal a pharthau gofal arbennig yn Ne Korea—yn yr amgylchiadau hynny, dylech hunanynysu. Ond mewn ardaloedd eraill, os ydych wedi dychwelyd ac yn cael symptomau, dylech wneud yn siŵr eich bod yn hunanynysu, ond nid oes angen hunanynysu os ydych chi wedi bod yn teithio drwy Fietnam er enghraifft, ond nad oes gennych symptomau.
Felly, mae'n bwysig edrych ar y cyngor a'i ddilyn, a dyna'r ffordd orau i bobl ymddwyn er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn gwneud popeth y gallem ac y dylem ei wneud i ddiogelu iechyd y cyhoedd yn briodol mewn cyfnod lle rydym yn dal i edrych ar y posibilrwydd o gyfyngu ar y coronafeirws. Pe bai hynny'n newid, sef y pwynt olaf a wnaeth Andrew R.T. Davies, byddwn yn rhoi cyngor ac arweiniad pellach i bobl yng Nghymru, ond wrth gwrs, byddwn yn ceisio sicrhau bod neges gyson ar draws y Deyrnas Unedig.
Diolch i'r Gweinidog.
Dyma ni'n cyrraedd nawr, felly, at y cyfnod pleidleisio, ac os nad oes yna dri Aelod sy'n dymuno i fi ganu'r gloch, dwi'n symud i'r bleidlais gyntaf. Mae'r bleidlais honno ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar ffyrdd. Galwaf am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 14, neb yn ymatal, 37 yn erbyn, felly mae'r cynnig yn cael ei wrthod.
NDM7274 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 14, Yn erbyn: 37, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y cynnig
Mae'r bleidlais nesaf ar welliant 1 ac, os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2, 3, 4, 5, 6 a 7 yn cael eu dad-ddethol. Dwi'n galw am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 27, neb yn ymatal, 24 yn erbyn, ac felly derbyniwyd gwelliant 1. Mae gweddill y gwelliannau'n cael eu dad-ddethol.
NDM7274 - Gwelliant 1: O blaid: 27, Yn erbyn: 24, Ymatal: 0
Derbyniwyd y gwelliant
Cafodd gwelliannau 2, 3, 4, 5, 6 a 7 eu dad-ddethol.
Sy'n dod â ni at bleidlais ar y cynnig wedi'i ddiwygio.
Cynnig NDM7274 fel y'i diwygiwyd:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod yr argyfwng hinsawdd a’r consensws rhwng y pleidiau dros leihau allyriadau i ddim, gan gynnwys trwy ddatgarboneiddio ffyrdd a rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus Cymru a sicrhau newid moddol.
2. Yn cydnabod cyd-ddibyniaeth y seilwaith ffyrdd a rheilffyrdd a phwysigrwydd gwasanaeth rheilffyrdd £5bn Llywodraeth Cymru, ei chynllun datreoleiddio bysiau a’i buddsoddiad mwyaf erioed mewn teithio llesol o ran darparu rhwydwaith trafnidiaeth aml-foddol a charbon isel a fydd yn chwarae rhan i liniaru’r tagfeydd ar y ffyrdd.
3. Yn gresynu bod diffyg ariannu o £1bn gan Lywodraeth y DU yn y seilwaith trafnidiaeth yng Nghymru a’i methiant i drydaneiddio prif leiniau’r Gogledd a’r De wedi gwaethygu’r tagfeydd ar y ffyrdd, gan arwain at ragor o draffig ar ein cefnffyrdd.
4. Yn gresynu hefyd fod y degawd o gynni gan Lywodraeth y DU wedi cael effaith uniongyrchol ar waith cynnal rhwydwaith ffyrdd y DU.
5. Yn galw ar Lywodraeth y DU i:
a) wneud ymrwymiad tebyg i’r hwnnw gan Lywodraeth Cymru i ariannu pecyn cynhwysfawr o brosiectau ffyrdd a thrafnidiaeth ar y ffin i wella’r priffyrdd strategol i Gymru gan gynnwys Coridor Brychdyn o gwmpas Caer; yr A5 trwy Amwythig i Gymru ac yn y Pant/Llanymynech;
b) helpu i liniaru’r tagfeydd ar y rhwydwaith ffyrdd trwy addo £1bn i drydaneiddio’r brif lein o Crewe i Gaergybi, buddsoddi i uwchraddio’r lein o Wrecsam i orsaf Lime Street yn Lerpwl a thrydaneiddio prif lein y De yn ei chyfanrwydd.
6. Yn nodi penderfyniad a datganiad llafar y Prif Weinidog ddydd Mawrth 4 Mehefin 2019 ynghylch prosiect coridor yr M4 o gwmpas Casnewydd a’r gwaith arwyddocaol sy’n cael ei wneud gan Gomisiwn Trafnidiaeth y De-ddwyrain i ddatblygu atebion cynaliadwy ac effeithiol i broblem tagfeydd yng Nghasnewydd ac yng ngweddill y rhanbarth.
7. Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i leihau tagfeydd traffig ar y ffyrdd, gan gynnwys y pecyn digynsail o £1bn i wella seilwaith ffyrdd a thrafnidiaeth y Gogledd, gan gynnwys y gwaith uwchraddio mawr ar yr A55 a’r A483, cynlluniau teithio llesol a Metro’r Gogledd.
Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 27, pedwar yn ymatal, 20 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi'i ddiwygio wedi'i dderbyn.
NDM7274 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 27, Yn erbyn: 20, Ymatal: 4
Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd
Mae'r bleidlais nesaf ar ddadl Plaid Cymru ar ddadgarboneiddio. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 43, tri yn ymatal, pump yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi'i dderbyn.
NDM7277 - Dadl y Plaid Cymru - Datgarboneiddio - Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 43, Yn erbyn: 5, Ymatal: 3
Derbyniwyd y cynnig
Rydym ni'n symud, felly, i bleidlais ar ddadl Plaid Cymru ar dywydd andwyol a niwed stormydd. Felly, mae'r bleidlais nesaf ar y cynnig nesaf, sef cynnig a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 20, tri yn ymatal, 28 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei wrthod.
NDM7278 - Dadl Plaid Cymru - Tywydd garw a difrod stormydd - Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 20, Yn erbyn: 28, Ymatal: 3
Gwrthodwyd y cynnig
Rwy'n galw am bleidlais, felly, ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 49, dau yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, derbyniwyd y gwelliant.
NDM7278 - Gwelliant 1: O blaid: 49, Yn erbyn: 0, Ymatal: 2
Derbyniwyd y gwelliant
Mae'r bleidlais nesaf ar welliant 2, ac os derbynnir gwelliant 2, bydd gwelliant 3 yn cael ei ddad-ddethol. Dwi'n galw am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 30, un yn ymatal, 19 yn erbyn. Ac felly, mae gwelliant 2 wedi'i dderbyn, a gwelliant 3 wedi'i ddad-ddethol.
NDM7278 - Gwelliant 2: O blaid: 30, Yn erbyn: 19, Ymatal: 1
Derbyniwyd y gwelliant
Cafodd gwelliant 3 ei ddad-ddethol.
Gwelliant 4 yw'r gwelliant nesaf, a'r gwelliant hwnnw wedi'i gyflwyno gan Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 50, neb yn ymatal, un yn erbyn. Derbyniwyd gwelliant 4.
NDM7278 - Gwelliant 4: O blaid: 50, Yn erbyn: 1, Ymatal: 0
Derbyniwyd y gwelliant
Gwelliant 5 yw'r gwelliant nesaf. Pleidlais, felly, ar welliant 5, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Ac felly, mae'r gwelliant wedi'i wrthod.
NDM7278 - Gwelliant 5: O blaid: 24, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Rwy'n galw am bleidlais nawr ar y cynnig wedi'i ddiwygio.
Cynnig NDM7278 fel y’i diwygiwyd:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r difrod a'r dinistr a achoswyd i gymunedau ledled Cymru o ganlyniad i Storm Ciara a Storm Dennis.
2. Yn talu teyrnged i ymdrechion arwrol y gwasanaethau brys, staff asiantaeth, gweithwyr gwasanaethau cyhoeddus a gwirfoddolwyr cymunedol wrth ymateb i effeithiau tywydd garw a difrod stormydd yn ystod yr wythnosau diwethaf.
3. Yn cydnabod y bydd newid yn yr hinsawdd yn gwneud digwyddiadau tywydd garw, gan gynnwys achosion o lifogydd difrifol, yn fwy tebygol yn y dyfodol.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) sicrhau bod yr ymchwiliadau sy’n cael eu cynnal i achos llifogydd yn cael eu cyhoeddi a bod y cymunedau yr effeithiwyd arnynt, y Senedd a’r awdurdodau annibynnol, gan gynnwys y Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol, yn cael craffu arnynt;
b) darparu cymorth ariannol ac ymarferol ychwanegol i’r unigolion a’r busnesau yr effeithiodd y llifogydd arnynt;
c) darparu arian ychwanegol i awdurdodau lleol er mwyn iddynt allu gwneud gwaith trwsio brys ar amddiffynfeydd rhag llifogydd a seilwaith hanfodol arall;
d) cyhoeddi polisi cynllunio newydd a mapiau llifogydd eleni i wneud safiad cryfach ar ddatblygu ar y gorlifdir ac i adlewyrchu’r risgiau cynyddol a ddaw yn sgil y newid yn yr hinsawdd;
e) cyhoeddi Asesiad Perygl Llifogydd newydd i Gymru ochr yn ochr â Strategaeth Llifogydd ac Arfordirol newydd eleni a’i ddefnyddio i flaenoriaethu cynlluniau amddiffyn rhag llifogydd sy’n diogelu’r cymunedau sy’n wynebu’r risg mwyaf o lifogydd o bob ffynhonnell – arfordirol, afonydd a dŵr arwyneb;
f) cynyddu’r cymorth ariannol ac ymarferol i awdurdodau lleol er mwyn iddynt allu datblygu cynlluniau amddiffyn rhag llifogydd newydd yn gynt.
5. Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda rhanddeiliaid i sicrhau bod cymunedau a busnesau lleol yn cael cymorth parhaus y tu hwnt i'r gwaith glanhau cychwynnol i'w helpu i wella yn y tymor hir, ac i deall y camau sydd angen eu cymryd i liniaru llifogydd yn y dyfodol.
Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 49, un yn ymatal, un yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i ddiwygio wedi'i dderbyn.
NDM7278 - Dadl Plaid Cymru - Tywydd garw a difrod stormydd - Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 49, Yn erbyn: 1, Ymatal: 1
Derbyniwyd y cynnig fel y'i ddiwygiwyd
Mae'r bleidlais nesaf ar ddadl Plaid Brexit ar ddatganoli. Rwy'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Caroline Jones. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid pump, neb yn ymatal, 46 yn erbyn. Ac felly, mae'r cynnig wedi'i wrthod.
NDM7276 - Dadl Plaid Brexit - Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 5, Yn erbyn: 46, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y cynnig
Gwelliant 1 sydd nesaf. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2, 3 a 4 eu dad-ddethol. Rwy'n galw am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Neil McEvoy. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid un, neb yn ymatal, 50 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 1 wedi'i wrthod.
NDM7276 - Gwelliant 1: O blaid: 1, Yn erbyn: 50, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Gwelliant 2 sydd nesaf. Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliannau 3 a 4 eu dad-ddethol. Dwi'n galw am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 27, neb yn ymatal, 24 yn erbyn. Ac felly, mae'r gwelliant wedi'i dderbyn, a gwelliant 3 a gwelliant 4 yn cael eu dad-ddethol.
NDM7276 - Gwelliant 2: O blaid: 27, Yn erbyn: 24, Ymatal: 0
Derbyniwyd y gwelliant
Cafodd gwelliannau 3 a 4 eu dad-ddethol.
Dwi'n galw am bleidlais ar welliant 5, a gyflwynwyd yn enw Neil Hamilton. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid dau, neb yn ymatal, 46 yn erbyn. Felly, mae'r gwelliant wedi'i wrthod.
NDM7276 - Gwelliant 5: O blaid: 2, Yn erbyn: 46, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Gwelliant 6 yw'r gwelliant nesaf, a'r gwelliant hwnnw wedi'i gyflwyno gan Neil Hamilton. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid pump, neb yn ymatal, 46 yn erbyn. Ac felly, mae gwelliant 6 wedi'i wrthod.
NDM7276 - Gwelliant 6: O blaid: 5, Yn erbyn: 46, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Pleidlais nawr yn derfynol ar y cynnig wedi'i ddiwygio.
Cynnig NDM7276 fel y’i diwygiwyd:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn croesawu'r cyfraniadau cyfunol sydd wedi'u gwneud gan bleidiau gwleidyddol ar bob ochr a chan y gymdeithas sifig yn ehangach i sicrhau mai datganoli yw ewyllys sefydlog pobl Cymru.
Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 35, naw yn ymatal, saith yn erbyn. Ac felly, mae'r cynnig wedi'i ddiwygio wedi'i dderbyn.
NDM7276 - Dadl Plaid Brexit - Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 35, Yn erbyn: 7, Ymatal: 9
Derbyniwyd y cynnig fel y'i ddiwygiwyd
Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.
Symudwn ymlaen at y ddadl fer. Os ydych yn gadael y Siambr, a allwch wneud hynny'n gyflym, yn dawel? Dylai pob un ohonoch wybod mai dyna rwy'n mynd i alw amdano yn awr. Iawn, symudwn at y ddadl fer, a galwaf ar David Rowlands i siarad am y pwnc a ddewiswyd ganddo. David.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Felly, mae Brexit wedi'i wneud. Nid yw'r DU yn aelod-wladwriaeth o'r Undeb Ewropeaidd mwyach. Yn yr ystyr honno, o leiaf, ystyr arwyddocaol iawn os nad un hanesyddol, mae canlyniad refferendwm 2016 wedi'i anrhydeddu o'r diwedd. Ond faint o wneud a wnaed? A beth sy'n digwydd nesaf? Er nad yw Brexit hyd yma wedi bod yn daith hawdd, mae llawer o'r gwaith go iawn a'r penderfyniadau caled o'n blaenau.
Yn y lle cyntaf, ceir negodiadau ynghylch ein perthynas newydd â'n partneriaid Ewropeaidd. Bydd hyn yn anochel yn golygu cyfaddawdu gan Lywodraeth y DU, ond hefyd yr UE. A gadewch inni roi clod lle mae'n ddyledus, mae'r Llywodraeth hon wedi mynd ymhellach i gryfhau ei safbwynt negodi na'r weinyddiaeth flaenorol. Os yw negodiadau'n mynd i fod yn llwyddiannus, rhaid gwneud i negodwyr Ewrop, gan gynnwys Macron, ddeall bod masnach rydd gyda'r DU yr un mor bwysig iddynt hwy, efallai'n fwy felly nag ydyw i'r DU. Mae'r DU yn masnachu ar ddiffyg o tua £70 biliwn gyda'r UE, sy'n golygu, wrth gwrs, bod gan economïau Ewrop yn gyffredinol fwy i'w golli mewn rhyfel masnach na'r DU. Wrth gwrs, bydd negodiadau'n digwydd yng nghyd-destun economïau'r UE sy'n methu. Crebachodd economïau Ffrainc a'r Eidal yn ystod tri mis olaf 2019, fel y gwnaeth economïau ardal yr ewro yn ei chyfanrwydd. Ar y llaw arall, tyfodd economi'r DU dros y cyfnod hwn, er gwaethaf yr ansicrwydd ynghylch Brexit.
Mae Ffrainc ei hun yng ngafael aflonyddwch diwydiannol a achoswyd gan ymgais Macron i ddod â system pensiwn Ffrainc—42 cynllun pensiwn gwahanol—dan reolaeth a chodi oedran pensiwn y wladwriaeth. Nid oes amheuaeth nad yw'r DU wedi bod yn sybsideiddio pensiynau gor-hael y wladwriaeth Ffrengig ers blynyddoedd lawer. Mewn cyferbyniad, mae pobl Prydain wedi derbyn, i raddau helaeth, fod oedran pensiwn yn codi, gan sylweddoli bod yr oedran y telir pensiynau ar hyn o bryd yn anghynaliadwy yn hirdymor. Mae'n sicr y byddai ein presenoldeb parhaus yn yr UE wedi golygu cynnydd yn ein cyfraniadau net, gan helpu'n anochel i sybsideiddio'r fath haelioni gan wledydd Ewrop. Er enghraifft, mae Sbaen yn talu i'w phensiynwyr fynd ar eu gwyliau am dair wythnos bob blwyddyn, tra bod ein pensiynwyr ni yn llythrennol yn marw oherwydd tlodi tanwydd.
Bydd mwyafrif cadarn y Llywodraeth yn rhoi diwedd ar y sefyllfa ddeddfwriaethol annatrys yn y ddwy flynedd a hanner diwethaf, a gallai cam 2 o broses Brexit fod yn llai llafurus yn San Steffan na cham 1. Ond rhaid peidio byth ag anghofio bod rhaniadau yn y DU a achoswyd wrth i'r chwith gwleidyddol gynghreirio â'u gelyn traddodiadol, yr elît a'r cyfoethog, i rwystro proses Brexit. Heb amheuaeth, gadawodd hyn flas cas yng nghegau eu cefnogwyr a fu mor ffyddlon yn flaenorol, fel y mynegwyd yn huawdl yng nghanlyniadau'r etholiad cyffredinol diweddaraf.
Brexit neu beidio, byddwn yn parhau i fod yn gymydog agos i Undeb Ewropeaidd nad yw ei ddyfodol yn glir o bell ffordd. Er y bydd Brexit yn peidio â bod yn eitem bwysig ar yr agenda ym Mrwsel, fel sydd eisoes wedi digwydd, mae'r UE yn wynebu trafferthion ei hun wrth ymdrin â phroblemau sy'n amrywio o'r modd y caiff ei ariannu yn y dyfodol i ymfudo ac ardal yr ewro.
Nid ydym ni yn y DU erioed wedi bod yn ymynyswyr. Rydym wedi bod, a bob amser yn mynd i fod yn wlad sy'n masnachu'n fyd-eang. Mae Brexit yn golygu y byddwn yn awr yn gallu masnachu â gweddill y byd o dan ein telerau ein hunain, nid rhai Brwsel. Masnach rydd yw un o'r cyfryngau mwyaf grymus wrth frwydro yn erbyn tlodi a newyn ym mhob rhan o'r byd. Roedd tariffau, cymorthdaliadau, rheoliadau cyfnewid a chysoni rheoleiddiol, fel y caent eu harfer gan yr UE, oll yn tanseilio masnach rydd.
Yn ddiau, collodd y DU filoedd o swyddi i wledydd Ewropeaidd eraill drwy ymyriadau grantiau rhanbarthol yr UE: ffatri geir Skoda newydd sbon a adeiladwyd yn y Weriniaeth Tsiec ar gyfer y cwmni moduron Almaenig Volkswagen â chyllid rhanbarthol yr UE, tra bod y ffatri geir Rover wedi'i gadael i gau, a'r eironi yw mai arian y DU, drwy gyfraniad net Prydain i'r UE, a helpodd i adeiladu'r ffatri yn y Weriniaeth Tsiec. Yn nes at adref, symudwyd ffatri Bosch ym Meisgyn i Hwngari—unwaith eto, gyda chefnogaeth cymorth Ewropeaidd.
Dylid gwneud i gwmnïau sy'n masnachu ac yn gwneud elw enfawr yn y DU dalu treth ar eu nwyddau a'u gwasanaethau i Drysorlys y DU, nid i Drysorlys Iwerddon, sydd bellach yn digwydd gan ddefnyddio'r system gam o osgoi treth—system y dywedir ei bod yn cael ei defnyddio gan Amazon, Dell, Google, Starbucks, Facebook ac eraill i fanteisio ar gyfraddau treth gorfforaeth is Iwerddon. Felly, er bod yr elw enfawr a wneir gan y cwmnïau hyn yn cael ei gynhyrchu yn y DU, Iwerddon sy'n elwa o ran treth. Bydd y DU yn awr yn rhydd i wneud ei hymyriadau ei hun i liniaru'r broblem.
Felly, gadewch i ni ganolbwyntio mwy ar Gymru. Mae gwleidyddiaeth fel rydym yn ei hadnabod yn ailffurfio. Mae ideolegau y credid eu bod wedi hen farw yn ailymddangos. Ceir anhoffter cynyddol o'n gwleidyddion a'n sefydliadau. Ysgrifennwyd miliynau o eiriau yn cwyno am ansicrwydd yr amseroedd hyn, ond rydym ni ym Mhlaid Brexit yn credu bod cyfleoedd yn dod gydag ansicrwydd, yn enwedig i'r rheini sy'n barod i hyrwyddo gweledigaeth argyhoeddiadol a chadarnhaol. Credwn mai rôl Llywodraeth yw diogelu a hwyluso'r rhyddid i ffynnu, i ddarparu'r sylfaen a fydd yn rhyddhau'r sgiliau entrepreneuraidd y gwyddom eu bod yn bodoli—ac mae hynny'n cynnwys Llywodraeth Cymru. Mae'r pwerau sydd hyd yma wedi'u lleoli ym Mrwsel ac a fydd yn cael eu dychwelyd i Lywodraeth y DU cyn bo hir, ac y dylid eu trosglwyddo i Lywodraeth Cymru lle maent mewn meysydd sydd wedi'u datganoli—meysydd datganoledig fel pysgota, amaethyddiaeth a pholisi economaidd yng gyffredinol—gallai'r pwerau newydd hyn, o'u defnyddio'n ddoeth, helpu i ysgogi economi ddeinamig yng Nghymru.
Mae'n bryd i'r DU a Chymru fanteisio ar farchnadoedd y byd, yn enwedig gwledydd y mae eu heconomïau'n tyfu'n gyflym—India, Tsieina a gweddill y dwyrain pell—yn ogystal â Chanada, UDA ac Awstralia. Rydym wedi dibynnu'n rhy hir ar farchnadoedd Ewropeaidd, sy'n crebachu ac nid yn ehangu. Mae'r ddeddfwriaeth sy'n tagu busnesau a weithredwyd gan Frwsel dros y degawdau diwethaf bellach yn gadael ei hôl. Mae economïau Ewrop yn farwaidd. Dywedir bod y broses o gychwyn busnesau newydd yn Ewrop yn fiwrocrataidd dros ben, sy'n golygu bod y sector busnesau bach a chanolig eu maint mewn gwledydd fel yr Almaen yn gyfran sylweddol lai o'r economi nag yn y DU. Mae hyn yn gwneud economi'r Almaen yn llawer mwy agored i newidiadau yn yr economi fyd-eang, oherwydd ei bod yn llawer mwy dibynnol ar allforion gan ei chwmnïau diwydiannol byd-eang mawr, yn enwedig ei chwmnïau cynhyrchu ceir.
Mae'r orddibyniaeth hon ar gwmnïau mawr hefyd yn golygu na all llawer o economïau Ewropeaidd ymateb i dueddiadau economaidd sy'n newid yn yr un ffordd ag y gall gwledydd mwy hyblyg, megis y DU, sydd â llawer iawn o fusnesau bach a chanolig. Mae Cymru mewn sefyllfa dda iawn o ran BBaCh, gan ein bod yn llawer llai dibynnol ar sylfaen weithgynhyrchu cwmnïau mawr, yn enwedig gyda diflaniad diwydiannau traddodiadol fel glo a dur, er ei bod yn wir dweud bod dur yn chwarae rhan sylweddol yn economi Cymru a bod diwydiannau fel Airbus yn arbennig o bwysig i gefnogi miloedd o swyddi medrus iawn. Y sector sgiliau uchel hwn a ddylai fod yn ganolbwynt i ehangiad diwydiannol Cymru: dylai cwmnïau uwch-dechnoleg, brodorol yn ddelfrydol, fod yn ffocws i Lywodraeth Cymru, ac yma rwy'n cydnabod ei bod yn ymdrechu'n ddygn i symud i'r cyfeiriad hwnnw. Rydym ni ym Mhlaid Brexit bob amser wedi gwerthfawrogi cefnogaeth Llywodraeth Cymru i gwmnïau fel Aston Martin Lagonda. Heb ddenu cwmnïau eiconig o'r fath, megis Aston Martin, ni allwn obeithio ehangu'r sector technoleg uwch yng Nghymru.
Mae'n wir, yn y tymor byr, y gall fod heriau sylweddol i rannau o economi Cymru. Efallai y bydd amaethyddiaeth yn gweld caledi o'r fath hyd nes y sefydlir marchnadoedd amgen ar gyfer eu cynnyrch. Mater i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yw cefnogi'r sector amaeth a diwydiannau eraill yn ddigonol drwy'r cyfnod pontio hwn. Fodd bynnag, rhaid inni beidio â synied yn rhy isel am y potensial enfawr y mae marchnadoedd fel Tsieina a'r dwyrain pell yn gyffredinol yn ei gynnig ar gyfer y cynnyrch o safon uchel y mae diwydiant ffermio Cymru yn ei gynhyrchu. Rwy'n hyderus y bydd Ewrop, ymhen ychydig flynyddoedd, yn cael ei ystyried yn farchnad gymharol fach i gynnyrch Cymru yn gyffredinol.
Mae cyfran yr UE o gynnyrch domestig gros y byd wedi gostwng yn sylweddol dros yr ychydig ddegawdau diwethaf, i lawr o 30 y cant yn 1980 i 16 y cant yn unig heddiw, er bod 18 gwlad arall wedi ymuno â'r UE yn ystod y cyfnod hwnnw. Wrth gwrs, bydd colli'r DU, ail economi fwyaf yr UE, yn newid y ganran yn sylweddol hyd yn oed ymhellach. Mae'n bryd i ni ailymuno â gwledydd y Gymanwlad y gwnaethom gefnu arnynt i bob pwrpas dros 40 mlynedd yn ôl. Mae diaspora'r DU o gwmpas y byd yn enfawr. Mae'r fantais o gael Saesneg fel yr iaith a siaredir fwyaf yn y byd yn ddi-ben-draw. Mae'r farchnad yma i nwyddau'r DU; mater i'r gymuned fusnes yn ei chyfanrwydd, gyda chymorth sylweddol gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, yw manteisio'n llawn ar y cyfle hwn. Mae'r byd yn llythrennol yn agor o'n blaenau wedi inni ddiosg hualau'r Undeb Ewropeaidd.
Diolch. A gaf fi alw ar Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru i ymateb i'r ddadl? Ken Skates.
Ie. Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i David Rowlands am gyflwyno'r ddadl fer hon, ac rwy'n croesawu'r cyfle hwn yn fawr iawn i ymateb. Byddaf yn canolbwyntio, os caf, ar y meysydd lle mae gan Lywodraeth Cymru y cyfleoedd gorau i ddylanwadu ar ein rhagolygon economaidd yn y dyfodol.
Fel y mae'r Aelodau yn y Siambr yn amlwg yn gwybod, mae'r DU bellach mewn cyfnod o bontio tan fis Rhagfyr 2020, a chytunwyd ar y cyfnod pontio i ganiatáu i'r DU a'r UE gytuno ar gytundeb ar gyfer eu perthynas yn y dyfodol. Yn ystod y cyfnod hwn, mae'r rhan fwyaf o reolau cyfredol a threfniadau masnachu yr UE yn parhau i fod ar waith, heb unrhyw newidiadau sylweddol yn y rhan fwyaf o feysydd. Bydd y rheolau presennol ar fasnachu â'r UE yn parhau, fel y bydd yr hawl i deithio heb fisâu i wledydd eraill yr UE. Yn ddiau, bydd negodiadau â'r UE yn cael effaith wirioneddol ar swyddi a safonau byw pobl a'n gallu i ddenu buddsoddiad. Mae arnom angen canlyniad nad yw'n niweidio Cymru'n ddiangen, ond sy'n fanteisiol i Gymru mewn gwirionedd.
Mae'r Llywodraeth wedi gweithio'n galed ar alluogi Cymru i fod yn un o'r rhannau o'r DU sy'n tyfu gyflymaf ers dirwasgiad 2008, gyda'r gyfradd uchaf o fusnesau newydd ym mhedair gwlad y DU, y nifer uchaf erioed o fusnesau mewn bodolaeth, ac mae'r gyfradd gyflogaeth yng Nghymru bellach yn uwch nag erioed, sef 76.2 y cant. Mae diweithdra, fel y gŵyr yr Aelodau, ar ei lefel isaf erioed, sef 2.9 y cant yn unig. Fel rhanbarth technoleg newydd, gan Gymru hefyd y mae'r economi ddigidol sy'n tyfu gyflymaf y tu allan i Lundain. Ac fel y nododd David Rowlands—ac rwy'n ddiolchgar iddo am wneud hynny—ymladdwyd yn galed dros Aston Martin Lagonda, a llwyddodd Llywodraeth Cymru i'w denu, ynghyd â busnesau eraill megis INEOS Automotive a CAF. A byddwn yn parhau i ddenu swyddi o ansawdd uchel i Gymru, wrth inni ddwysáu ein hymdrechion i dyfu ein busnesau ein hunain yma yng Nghymru.
Rydym yn parhau i fod yn rhagweithiol yn ein gweithredoedd mewn nifer o feysydd er mwyn cefnogi'r economi yn awr yn ystod y cyfnod pontio a thu hwnt i hynny, a byddwn yn parhau i wneud mwy. Mae ein cynllun gweithredu ar yr economi yn canolbwyntio ar gyfoeth a lles ac ar bwysigrwydd lle, ynghyd â busnesau, pobl a seilwaith fel ysgogiadau economaidd. Mae'r symudiad hwn tuag at fusnesau sy'n fwy cyfrifol yn gymdeithasol a thwf cynhwysol yn lleihau anghydraddoldebau ar draws ein gwlad, ond rhaid i'r gwaith hwnnw barhau.
Rydym hefyd yn canolbwyntio ein hegni ar ddiwydiannau sy'n datblygu ac a fydd yn ffynnu yng Nghymru yn y dyfodol—diwydiannau sy'n cynnwys gweithgynhyrchu gwerth uchel, fel lled-ddargludyddion cyfansawdd, gwasanaethau fel technoleg ariannol, seiberddiogelwch ac ynni gwyrdd. Ac rydym wrthi'n datblygu maniffesto gweithgynhyrchu newydd i ddangos sut y byddwn yn diogelu'r diwydiant hwn ar gyfer y dyfodol. Byddwn yn parhau i fuddsoddi a chefnogi'r economi sylfaenol, sy'n darparu'r nwyddau a'r gwasanaethau sy'n diwallu ein hanghenion bob dydd. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol fy mod wedi sefydlu cronfa her yr economi sylfaenol, a gynyddodd i £4.5 miliwn ar ôl gwrando ar fusnesau ac entrepreneuriaid, ac mae'r gronfa hon yn cefnogi mwy na 50 o brosiectau arloesol ledled Cymru ac yn gweithio i ledaenu manteision gwario lleol yn yr economi leol. Byddwn yn gweithio gyda'r busnesau hyn i ledaenu arferion da ac i sicrhau bod gwersi a ddysgir yn cael eu lledaenu ar draws y wlad, a bydd y gwersi hyn yn ein helpu i newid a gwella'r ffordd y mae'r economi sylfaenol yn gweithio.
Sefydlwyd Banc Datblygu Cymru i ddarparu mynediad at gyllid i helpu ein busnesau yng Nghymru i ffynnu, ac mae bellach yn rheoli mwy na £500 miliwn o gymorth i fusnesau, gan helpu entrepreneuriaid i ffynnu. Gwn ei fod yn rhywbeth, unwaith eto, y mae David Rowlands yn ei gefnogi, ac rwy'n ddiolchgar am hynny. Mae ein gwasanaeth Busnes Cymru wedi helpu i greu mwy na 1,040 o fentrau newydd yn ystod 2018 yn unig, a chanfu ymchwiliad diweddar i effaith y gwasanaeth hwn fod y gyfradd o fusnesau craidd a rhai a gynorthwywyd i dyfu sydd wedi goroesi am bedair blynedd yn 85 y cant o'i gymharu â dim ond 41 y cant ar gyfer sampl cyfatebol o fusnesau na chafodd gymorth. Mae hynny'n sicr yn dangos gwerth Busnes Cymru yn sicrhau bod busnesau'n goroesi dros adeg allweddol yn eu bodolaeth. Mae'n wir hefyd fod y busnesau hyn yn fwy tebygol o fod yn y categori risg credyd sefydlog a diogel na busnesau cyfatebol nad ydynt yn cael cymorth yn y grŵp poblogaeth ehangach o fusnesau yng Nghymru.
Nawr, mae heriau newydd fel datblygiad cyflym technoleg, sy'n newid y ffordd rydym yn gweithio yn sylfaenol, effaith newid hinsawdd, sy'n canolbwyntio ein sylw ar ffordd fwy cymdeithasol gyfrifol o weithio, ac wrth gwrs, newid pŵer economaidd byd-eang tuag at yr E7, a fydd yn effeithio ar ein cysylltiadau masnachu yn y dyfodol, yn heriau ochr yn ochr â'r rhai y gallai'r DU eu hwynebu wrth adael yr UE. Nid dyna'r unig beth sy'n digwydd, ac felly, byddwn ni fel Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio'n galed i gefnogi economi Cymru drwy'r cyfnod hwn o ansefydlogrwydd yn sgil ffactorau amrywiol a'r cyfnod hwn o newid dramatig, ac rydym yn gwneud popeth yn ein gallu i sicrhau bod Cymru'n fan lle gall pawb ffynnu, ac i wella ein gwlad ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Diolch yn fawr iawn. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben.
Daeth y cyfarfod i ben am 18:52.