Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

25/02/2020

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Mohammad Asghar.

Lles Anifeiliaid Fferm

1. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i wella lles anifeiliaid fferm yng Nghymru? OAQ55109

Llywydd, diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. Mae cynnal lefelau uchel o iechyd a lles anifeiliaid fferm wedi bod yn flaenoriaeth allweddol erioed i Lywodraethau Cymru olynol. Nawr bod y Deyrnas Unedig wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd, rydym ni'n benderfynol o sicrhau ein bod ni'n dal i gynnal y safonau uchel hyn yng Nghymru.

Diolch yn fawr iawn, Prif Weinidog, am yr ateb. Mae teledu cylch cyfyng wedi bod yn orfodol ym mhob lladd-dy ym mhob ardal yn Lloegr lle cedwir anifeiliaid byw i'w lladd ers 2018. Cyhoeddodd yr Alban gynlluniau ar gyfer deddfau newydd tebyg y llynedd. Fodd bynnag, yng Nghymru, nid oes gan 14 o 24 o ladd-dai gamerâu, er bod Llywodraeth Cymru wedi darparu arian ar gyfer eu gosod. Mae RSPCA Cymru ac Animal Aid fel ei gilydd yn cefnogi teledu cylch cyfyng gorfodol i atal camdriniaeth ac i helpu milfeddygon gyda rheoleiddio a monitro. Prif Weinidog, pryd fydd eich Llywodraeth yn gwneud teledu cylch cyfyng mewn lladd-dai yn orfodol yng Nghymru, os gwelwch yn dda?

Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn dilynol yna. Mae'n gwneud nifer o bwyntiau pwysig yn y fan yna. Bydd yr Aelod yn ymwybodol, rwy'n siŵr, o'r  cynllun buddsoddi mewn busnesau bwyd gwerth £1.1 miliwn yr ydym ni'n ei redeg fel Llywodraeth Cymru. Mae'r rownd ddiweddaraf o geisiadau i'r gronfa honno'n cael eu hasesu ar hyn o bryd. Maen nhw'n cynnwys cyfres o geisiadau gan ladd-dai yng Nghymru i osod, uwchraddio neu wella cyfleusterau teledu cylch cyfyng yn y lladd-dai hynny. Pan fydd y ceisiadau hynny wedi eu hasesu, bydd y Gweinidog yn penderfynu ar ba un a oes gennym ni ddarpariaeth ddigonol o deledu cylch cyfyng mewn lladd-dai yng Nghymru, i osgoi'r angen am gynllun gorfodol. Ond, os daw hi i'r casgliad nad ydym ni wedi gwneud y cynnydd yr oeddem ni eisiau ei weld ar y sail wirfoddol, pan fo'r trethdalwr yn talu am osod teledu cylch cyfyng, yna bydd hi'n meddwl am ba un ai gorfodi yw'r ffordd iawn ymlaen.

Mi fydd unrhyw un a wyliodd Ffermio ar S4C neithiwr yn gwybod bod y cyfnod wyna ar ein pennau ni erbyn hyn, ac mae'n fater dwi wedi codi'n gyson yn y Siambr yma, wrth gwrs, sef y gofid ynglŷn ag ymosodiadau gan gŵn ar ddefaid, ac wŷn wrth gwrs ar yr adeg yma o'r flwyddyn. Dwi wedi codi'n flaenorol yr angen i fynd i'r afael â hyn, a'r ateb dwi wedi cael nôl yw bod y Llywodraeth yn gwneud mwy er mwyn hyrwyddo ymwybyddiaeth ymhlith perchnogion cŵn ynglŷn â'r hyn sydd angen ei wneud. Allwch chi felly ein diweddaru ni, gan ein bod ni'n dod i gyfnod allweddol nawr, lle mae llawer o wŷn newydd-anedig yn wynebu'r risg o gael ymosodiadau gan gŵn, beth yn union y mae'r Llywodraeth yn gwneud i godi'r ymwybyddiaeth yna i berchnogion cŵn ynglŷn â'u cyfrifoldebau yn y maes yma?

Diolch i Llyr am y cwestiwn yna. Wrth gwrs, mae'r cyfrifoldeb cyfreithiol dal gyda'r person sy'n berchen ar y ci. Dyna beth mae Deddf 1953 yn dweud, ac yn dweud yn gryf.

Fel Llywodraeth, rydym ni'n gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol, gyda'r RSPCA ac eraill i wneud yn siŵr nad oes gan berchenogion cŵn unrhyw amheuaeth ynghylch y cyfrifoldeb sydd arnyn nhw i sicrhau eu bod nhw'n cadw rheolaeth ar anifeiliaid os ydyn nhw'n mynd â nhw i gefn gwlad. Mae'n drosedd caniatáu i gŵn aflonyddu ar anifeiliaid fferm yn y ffordd honno. Braint yw bod yn berchen ar gi, nid hawl, ac rydym ni'n gweithio gydag eraill i wneud yn siŵr bod y codau ymarfer yr ydym ni wedi eu darparu, mewn partneriaeth â'r diwydiant, yn atgoffa perchnogion o'u rhwymedigaethau i reoli eu hanifeiliaid anwes yn yr amgylchiadau hynny.

Prif Weinidog, rydym ni i gyd yn pryderu am les anifeiliaid, ac rwyf i wedi codi'r cwestiwn hwn yn y Siambr o'r blaen am fy mhryderon am allforion anifeiliaid byw. Nawr bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi dweud y bydd yn atal allforion anifeiliaid byw, a'n bod ni'n gadael yr UE o'r diwedd, a wnaiff Llywodraeth Cymru ymrwymo heddiw y bydd yn gwneud hynny hefyd?

Fe wnaethom ni gefnogi galwad Llywodraeth y DU am dystiolaeth ar waharddiad ar draws y DU gyfan o ran allforio anifeiliaid byw i'w lladd dramor. Felly, rwy'n meddwl y gall yr Aelod ei gymryd o hynny—ein bod ni wedi cefnogi Llywodraeth y DU yn y galwad hwnnw am dystiolaeth ar waharddiad DU gyfan—y byddem ni'n parhau i'w gefnogi yn y ffordd honno. Rydym ni'n gweithio gyda DEFRA a Llywodraeth yr Alban i benderfynu ar y camau nesaf nawr bod yr ymgynghoriad hwnnw wedi dod i ben. Yn y cyfamser, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i orfodi'r rheolau sy'n llywodraethu cludo anifeiliaid byw ar siwrneiau hir: cyfnodau gorffwys, bod digon o fwyd a dŵr ar gael iddyn nhw. Ond os bydd gwaharddiad, ac os yw'n mynd i fod yn waharddiad ar draws y DU gyfan, yna byddwn yn cefnogi hynny.

13:35
Llifogydd

2. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn ymateb i effeithiau'r llifogydd diweddar ar ardaloedd gwarchodedig o'r amgylchedd naturiol yng Ngorllewin De Cymru? OAQ55121

Diolchaf i'r Aelod am hynna. Er yr adroddwyd am rai llifogydd lleol, nid yw Cyfoeth Naturiol Cymru o'r farn bod digwyddiadau llifogydd diweddar wedi effeithio ar ecoleg ardaloedd gwarchodedig. Fodd bynnag, mae'r gwaith o arolygu a monitro tir ac asedau yn parhau, felly gallai gwybodaeth newydd ddod i'r amlwg wrth i'r gwaith hwn fynd rhagddo. Ar hyn o bryd, blaenoriaeth Cyfoeth Naturiol Cymru o hyd yw'r gwaith adfer a chymorth y mae'n ei wneud mewn cymunedau sydd wedi dioddef llifogydd.

Diolch am yr ateb yna. Rwyf i wedi codi mater gwarchodfa natur Cynffig a'i thwyni gyda chi o'r blaen, ac mae honno wedi cael ei tharo gan y tywydd a llifogydd, nid yn ystod y pythefnos diwethaf yn unig, ond ers y Nadolig. Ac rydych chi'n iawn, mae pob llygad ar gartrefi a busnesau ar hyn o bryd, ac yn sicr nid wyf i eisiau bychanu hynny, ond rwy'n synnu braidd o glywed bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi dilyn y trywydd y mae wedi ei ddilyn. Onid ydyn nhw wedi cysylltu â chi, neu a yw perchnogion y safle hwnnw wedi cysylltu â Llywodraeth Cymru, am unrhyw gymorth tuag at liniaru effeithiau'r llifogydd hynny?

Nid wyf i'n ymwybodol o unrhyw gysylltiad uniongyrchol, ac fe wnes i ofyn am i wiriad gael ei wneud yn uniongyrchol gyda Cyfoeth Naturiol Cymru ddoe, ac nid oedd unrhyw adroddiad yn yr wybodaeth a welais yn ôl o gysylltiad yn y ffordd honno ychwaith. Wrth gwrs, byddaf yn gofyn am i wiriad pellach gael ei wneud, i weld a oes unrhyw gais wedi ei dderbyn. Roedd y nodyn a gefais gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadarnhau y bu rhywfaint o lifogydd lleol yng ngwarchodfa natur Cynffig, ac er y gallai'r llifogydd fod wedi rhwystro mynediad i'r cyhoedd at y safle am gyfnod, nid oedd Cyfoeth Naturiol Cymru yn credu bryd hynny bod ecoleg y safle wedi ei difrodi. Yn wir, eu cyngor i mi oedd nad yw'n anarferol, fel safle gwlyptir, gweld rhywfaint o ddŵr yn gorlifo yn ystod tywydd garw, a bod yr ardaloedd hyn yn gallu gwrthsefyll effeithiau tywydd garw yn gynhenid, ac nad yw Cyfoeth Naturiol Cymru yn credu, ar yr adeg hon yn eu gallu i asesu'r sefyllfa, y bydd angen unrhyw amddiffyniad pellach rhag llifogydd, o safbwynt ecolegol, yng ngwarchodfa natur Cynffig.FootnoteLink

Yn anffodus, mewn rhai ardaloedd, mae'r llifogydd naill ai wedi cael eu hachosi neu eu gwaethygu gan gwlfertau wedi eu blocio neu sydd wedi torri. Yn Ystalyfera, yng nghwm Tawe, deallaf fod cais cyfalaf eisoes wedi ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot, fel y gellir gwneud gwaith adfer i gwlfert sydd wedi torri ar dir sy'n cael ei brynu gan yr awdurdod lleol at y diben hwn. A allwch chi roi sicrwydd y bydd y mathau hyn o geisiadau am arian cyfalaf yn cael eu cyflymu nawr i geisio sicrhau cyn lleied â phosibl o risgiau yn y dyfodol, ac a wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf o ran y trafodaethau yr ydych chi'n eu cael gyda Chyngor Castell-nedd Port Talbot ynghylch ei anghenion cyllid cyfalaf cyffredinol?

Ac mewn awdurdod cyfagos, yng Ngorseinon yn ninas a sir Abertawe, dywedir wrthyf fod deiliaid tai sydd wedi dioddef llifogydd wedi cael gwybod y bydd y cyngor yn codi tâl arnyn nhw i gasglu eitemau cartref a gafodd eu difetha gan y llifogydd. Does bosib nad ydych chi'n cytuno bod hyn yn ymddangos yn hynod annheg, ac a wnewch chi geisio sicrhau nad oes yr un cyngor yn codi tâl ar ddeiliaid tai yn y sefyllfa hon?

Llywydd, mae cwestiynau ar y papur trefn i mi heddiw am effaith gyffredinol llifogydd. Byddaf yn ceisio ateb un neu ddau o'r pwyntiau a godwyd gan Dr Lloyd, ond nid wyf i'n credu bod yr un ohonyn nhw'n cyfeirio at ardaloedd gwarchodedig o'r amgylchedd naturiol, fel y nodwyd yn y cwestiwn a ofynnodd Suzy Davies.

Ond i ateb cwestiwn penodol Dr Lloyd am gyfalaf ar gyfer atgyweirio cwlfertau, mae hynny wedi ei gwmpasu gan gyhoeddiadau y mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi eu gwneud am gymorth brys i awdurdodau lleol, ac rwy'n ymwybodol o awdurdodau lleol eraill yng Nghymru sydd wedi cymryd camau uniongyrchol iawn ac, yn fy marn i, cadarnhaol iawn, i wneud yn siŵr, pan fo aelwydydd wedi dioddef llifogydd, bod sgipiau ar gael iddyn nhw mewn modd mor rhwydd â phosibl, er enghraifft, yn ddi-dâl, heb fod angen darparu trwyddedau, fel nad yw pobl sydd yn y sefyllfa ofnadwy honno o orfod clirio sbwriel o'u cartrefi yn wynebu anhawster arall ar eu ffordd.

13:40
Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd yr wrthblaid, Paul Davies.  

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, mae cymunedau ledled Cymru wedi cael eu distrywio gan storm Ciara a storm Dennis dros yr wythnosau diwethaf, a hoffwn achub ar y cyfle i ddiolch i'r gwasanaethau brys a'r cymunedau ar hyd a lled Cymru sydd wedi gweithio'n ddiflino i gynorthwyo’r rhai yr effeithiwyd arnyn nhw.

Nawr, rwy'n sylweddoli y bydd y Gweinidog yn gwneud datganiad ar y mater hwn yn ddiweddarach heddiw, ond a ydych chi'n ffyddiog fod Llywodraeth Cymru wedi gwneud, ac yn gwneud, popeth o fewn ei gallu i ddiogelu a chynorthwyo'r rhai sydd wedi cael eu heffeithio gan lifogydd ledled Cymru gyfan?

Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. A gaf i ategu'r hyn a ddywedodd? Ym mhobman yr euthum i iddyn nhw yr wythnos diwethaf, Llywydd, gan gyfarfod â phobl o dan yr amgylchiadau anoddaf, y peth cyntaf yr oedden nhw eisiau ei ddweud wrthyf i oedd cymaint yr oedden nhw'n gwerthfawrogi'r ymdrechion a wnaed gan y gwasanaethau brys, weithiau i'w hachub yn uniongyrchol o sefyllfaoedd a oedd yn peryglu eu bywydau. Felly, hyd yn oed pan yr oedden nhw eu hunain mewn helyntion ofnadwy, y peth cyntaf yr oedden nhw eisiau ei wneud oedd talu teyrnged i eraill, ac rwy'n awyddus i ategu ei eiriau ef yn hynny o beth.

Ac mae yn llygad ei le yn yr hyn a ddywedodd am weithgarwch cymunedol hefyd. Treuliais ran helaeth o un noson yng nghlwb rygbi Ffynnon Taf ar gyrion Caerdydd, a'r holl amser yr oeddwn i yno, roedd rhesi o bobl yn dod i'r clwb gyda nwyddau, gan ofyn beth arall y gallen nhw ei wneud, gan wirfoddoli i fod yn rhan o'r ymdrech yr oedd y ganolfan honno'n ei gwneud i ymateb i anghenion pobl o dan yr amgylchiadau anodd iawn hynny. Ac mae'r synnwyr hwnnw o ymdrech gymunedol mewn argyfwng, yn fy marn i, wedi bod yn nodweddiadol iawn o ymatebion ledled Cymru dros y pythefnos diwethaf.  

Mae Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio, ar hyn o bryd, ar y gwasanaethau y gallwn ni eu darparu i helpu unigolion ac aelwydydd, busnesau ac awdurdodau lleol i ymdrin â chanlyniadau uniongyrchol yr argyfwng, ac rydym ni wedi rhoi cyfres o fesurau ar waith i'w cynorthwyo i wneud hynny. Bydd taith llawer hwy yn wynebu llawer o ddeiliaid tai a busnesau, ac yn wir awdurdodau lleol o ran atgyweirio pontydd, trwsio ffyrdd sydd wedi eu difrodi, archwilio amddiffynfeydd rhag llifogydd i wneud yn siŵr y gellir eu gwneud yn gydnerth ar gyfer y tro nesaf y gwelir digwyddiad o'r math hwn; ac, yn hynny o beth, byddwn yn ceisio cymorth Llywodraeth y DU, gan fod costau hynny ymhell y tu hwnt i'r hyn y gellid disgwyl i Lywodraeth Cymru ei hun eu hysgwyddo, mewn argyfwng o'r math hwn.  

Prif Weinidog, er bod rhai camau wedi eu cymryd yn briodol a bod cynnydd sylweddol wedi ei wneud, gwn yn bersonol o'r sgyrsiau yr wyf i wedi eu cael gyda rhai o'r rheini sydd wedi cael eu heffeithio hefyd eu bod nhw'n teimlo y gellid ac y dylid bod wedi gwneud mwy yn gynharach, ac felly mae'n amlwg bod gwersi i'w dysgu a chwestiynau i'w hateb o hyd.

Nawr, yn gam neu'n gymwys, mae rhai wedi mynegi pryderon ynghylch cydgysylltiad yr ymatebion i rai o'r digwyddiadau hyn, ac rwy'n credu bod hynny'n golygu bod angen i lywodraethau ar bob lefel weithio gyda'i gilydd a chydweithredu'n fwy effeithiol nag yr ydym ni wedi ei weld o'r blaen mewn gwirionedd.

Nawr, efallai eich bod chi'n ymwybodol o bryderon a godwyd gan Mari Arthur, cadeirydd panel cynghori annibynnol Dŵr Cymru, a ddywedodd:

Nid yw'r arweinyddiaeth gennym ni ar y brig, rwy'n teimlo, i ddod â hynny at ei gilydd. Dyna pam nad yw pethau'n digwydd.

Nawr, yn ogystal â hynny, deallaf fod 10 mlynedd wedi mynd heibio hefyd ers cyhoeddi'r strategaeth rheoli perygl llifogydd ddiwethaf ac, er bod y Llywodraeth wedi ymgynghori, nid ydym ni wedi gweld strategaeth wedi'i diweddaru eto, a fydd, siawns, yn helpu i wneud yn siŵr bod ymatebion yn cael eu cydgysylltu'n well yn y dyfodol.

Prif Weinidog, a ydych chi'n derbyn bod yr oedi cyn cyhoeddi strategaeth benodol wedi'i diweddaru ar gyfer rheoli perygl llifogydd yng Nghymru wedi gwneud i rai cymunedau deimlo nad yw llifogydd yn flaenoriaeth o gwbl? A sut ydych chi'n ymateb i farn rhai yn y sector ei bod yn bryd, yn y dyfodol, i arweinyddiaeth mwy effeithiol gael ei dangos o ran y mater hwn?

Hoffwn ddechrau trwy gytuno â'r pwynt y mae'r Aelod wedi ei wneud bod gwersi i'w dysgu. Mae'n sicr y bydd gwersi i'w dysgu, onid yw? Ac mae'n bwysig iawn, pan fydd yr argyfwng uniongyrchol ar ben, bod pawb a fu â rhan i'w chwarae mewn ymateb iddo yn cymryd yr amser i weld a ddarparwyd popeth a oedd yno yn y cynllun ar lawr gwlad yn y ffordd a fwriadwyd.

Rwy'n credu y gwnaed ymdrechion gwirioneddol i gydgysylltu'r ymateb ledled Cymru. Roedd y ganolfan cydgysylltu argyfyngau y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhedeg ar agor drwy gydol penwythnos storm Dennis. Roedd strwythur gorchymyn y gwasanaethau brys yn weithredol drwy gydol y penwythnos hwnnw ac wedi bod yn ymateb i storm Ciara yn y gogledd hefyd. Roedd yn brawf pwysig o'r strwythur gorchymyn hwnnw, a phan gyfarfûm ag un o'r prif gwnstabliaid yng Nghymru, dywedodd wrthyf ei fod yn teimlo bod yr ymarferion a gynhaliwyd gennym ni yma yng Nghymru dros y misoedd diwethaf i baratoi ar gyfer ymadawiad 'heb gytundeb' o'r Undeb Ewropeaidd ac o ran coronafeirws wedi bod o fudd mawr iddyn nhw o ran gallu rhoi'r trefniadau hynny ar waith. Nid yw hynny'n golygu nad oes gwersi y gallwn ni fanteisio arnyn nhw pan fyddwn ni'n sefyll yn ôl oddi wrth hyn i gyd, ond rwy'n credu bod ymdrechion gwirioneddol wedi eu gwneud i gydgysylltu ac i ddefnyddio'r strwythurau a roddwyd ar waith i ymateb i amgylchiadau brys.

Cyn belled ag y mae'r strategaeth yn y cwestiwn, yna oedd, roedd y strategaeth yn destun ymgynghoriad yn gynharach y llynedd. Daeth i ben yn yr hydref, ac mae'r Gweinidog yn bwriadu cyhoeddi'r strategaeth wedi'i diweddaru yn ystod y misoedd nesaf. Rwy’n amau'n fawr iawn fy hun, Llywydd, bod cymunedau a ganfu eu hunain yng nghanol achosion o lifogydd yn poeni am gyhoeddi strategaeth ar yr adeg yr oedden nhw'n ymdopi â'r argyfwng, ond mae paratoadau ar gyfer y strategaeth honno wedi datblygu'n dda. Bydd yn cael ei chyhoeddi'n fuan a bydd yn helpu i ddatblygu cydnerthedd a blaenoriaethu buddsoddiad yn y dyfodol mewn cymunedau sydd yn y mwyaf o berygl.

13:45

Wel, rwyf i'n dweud wrth y Prif Weinidog, ei bod hi'n bwysig cael strategaeth wedi'i diweddaru fel y gallwn ni osgoi, efallai, rhai o'r digwyddiadau hyn yn y dyfodol. Ac efallai bod angen i ni ailfeddwl hefyd sut yr ydym ni'n mynd i'r afael â llifogydd yn y dyfodol, yn enwedig o ystyried yr arwyddion rhybudd a gafwyd ar ddechrau'r Cynulliad hwn. Yn 2016, er enghraifft, adroddodd Swyddfa Archwilio Cymru bod diffyg capasiti o fewn Llywodraeth Cymru a chynghorau wedi oedi cynnydd ac wedi bygwth tanseilio'r dull hirdymor o reoli risgiau llifogydd ac erydu arfordirol.

Wel, efallai ein bod ni'n teimlo effeithiau hynny nawr, Prif Weinidog, a heb strategaeth rheoli risg wedi'i diweddaru, mae'n anodd gweld sut y gallwn ni wneud cynnydd digonol a phriodol yn y byrdymor. Felly, yng ngoleuni'r effaith y mae'r stormydd diweddar wedi ei chael ledled Cymru, pa wersi mae eich Llywodraeth wedi eu dysgu am y ffordd y caiff llifogydd eu blaenoriaethu gan eich Llywodraeth? Ac a wnewch chi hefyd ymrwymo i ddarparu dadansoddiad llawn o sut y bydd Llywodraeth Cymru yn dyrannu ei hadnoddau ar gyfer rheoli'r perygl o lifogydd fel y gall cymunedau ledled Cymru weld lefel y buddsoddiad y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn eu hardaloedd?

Diolchaf i'r Aelod am hynna. Rwy'n cytuno y bydd yn rhaid i ni feddwl yn wahanol am y dyfodol. Nid wyf i'n dod i'r un casgliadau yn union ag y mae e'n dod iddyn nhw, gan fy mod i'n credu y bydd y ffigurau'n dangos pan fo'r digwyddiadau hyn ar ben bod 73,000 o aelwydydd ledled Cymru, o leiaf, a amddiffynnwyd rhag effeithiau'r digwyddiad tywydd eithafol hwn oherwydd y cynlluniau atal llifogydd a weithredwyd yng Nghymru yn y cyfnod diweddar. Felly, nid wyf i'n credu y bydd y syniad nad oedd pethau wedi cael eu gwneud yn gwrthsefyll craffu.

Yr hyn y mae'n iawn yn ei gylch, rwy'n meddwl, yw bod y cynlluniau sydd wedi bod ar waith wedi cael eu llunio er mwyn gallu gwrthsefyll y mathau o ddigwyddiadau tywydd yr ydym ni wedi eu gweld dros yr 50 mlynedd diwethaf. Ac mae'n ddigon posibl—mae gwyddor hinsawdd yn dweud wrthym ni fod y mathau o ddigwyddiadau a welsom ni dros y pythefnos diwethaf yn debygol o ddod yn amlach ac yn fwy dwys yn y dyfodol, ac felly, bydd yn rhaid i'r prawf yr ydym ni'n barnu cynlluniau atal llifogydd yn ei erbyn fod yn wahanol er mwyn bodloni'r dwysedd newydd hwnnw o risg, ac yn yr ystyr hwnnw, bydd yn rhaid i'r dyfodol fod yn wahanol i'r gorffennol.

Trafodais hyn ddoe gyda'r Ysgrifennydd Gwladol yn y cyfarfod a gyd-gadeiriwyd gennym ni ar domenni glo yng Nghymru. Mae tomenni glo sy'n peri risg yn cael eu harchwilio'n aml iawn gan awdurdodau lleol, gan yr awdurdod glo a chan Cyfoeth Naturiol Cymru. Maen nhw'n eu harchwilio yn erbyn y math o risg y byddai gaeaf yn ei hachosi. Os yw'r risgiau hynny'n mynd i fod yn wahanol, yna bydd angen i'r safonau archwilio fod yn wahanol, ac, felly, bydd yn rhaid i'r dyfodol, fel y dywedodd Paul Davies, bellach fodloni'r amgylchiadau newydd hynny.

O ran cyhoeddi gwariant gan Lywodraeth Cymru o dan y rhaglen rheoli perygl llifogydd ac arfordiroedd, rydym ni'n gwneud hynny drwy'r amser. Pryd bynnag y caiff cynllun ei gytuno—£44 miliwn yn y de-orllewin yn ddiweddar—yna rydym ni'n cyhoeddi'r cynlluniau hynny ac yn cyhoeddi'r symiau o arian sy'n gysylltiedig â nhw, gan ein bod ni'n awyddus iawn i bobl yng Nghymru allu gweld sut mae'r £350 miliwn sy'n cael ei wario yn ystod y tymor Cynulliad hwn yn cael ei ddefnyddio i'w hamddiffyn rhag effeithiau llifogydd afonol ac arfordirol.

13:50

Diolch. Yr wythnos diwethaf, gwelais drosof fy hun, yn uniongyrchol, yr ymdeimlad dwfn o ysbryd cymunedol y cyfeiriodd y Prif Weinidog ato hefyd, a byddaf yn ymweld â thrigolion Pentre unwaith eto yfory. Nid yw hwn yn amser i gerdded heibio ar yr ochr arall i'r ffordd, pan fo pobl yn wynebu'r fath galedi a thrallod, neu, yn achos Boris Johnson, peidio â throi i fyny o gwbl, wrth gwrs.

Nawr, gallai'r bil atgyweiriadau—rwyf i wedi gweld un amcangyfrif—fod hyd at £180 miliwn yn Rhondda Cynon Taf yn unig, ac rwy'n gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi darparu £10 miliwn o ryddhad caledi ar unwaith. A allai'r Prif Weinidog ddweud a oes gennych chi ffigur eto ar gyfer y swm yr ydych chi'n gofyn i Lywodraeth y DU ei ddarparu? Os na fyddan nhw'n fodlon gwneud iawn am y diffyg, a oes gan Lywodraeth Cymru ei hun ddigon o gronfeydd wrth gefn ar gyfer maint yr her sy'n ein hwynebu?

Diolchaf i Adam Price am y cwestiynau yna. Mae'n iawn wrth ddweud mai'r hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud yw canolbwyntio ar ganlyniad uniongyrchol y llifogydd i wneud yn siŵr ein bod yn darparu cyllid i ddeiliaid tai unigol sydd wedi eu heffeithio'n uniongyrchol, i dalu am gostau glanhau awdurdodau lleol, i allu dechrau helpu busnesau i godi yn ôl ar eu traed. Gallwn dalu'r costau hynny o'n cyllidebau ein hunain, trwy reolaeth ofalus iawn a chan ddwyn ynghyd arian o wahanol rannau o'r Llywodraeth. Ond y tu hwnt i'r effaith uniongyrchol, pan fydd gan awdurdodau lleol atgyweiriadau seilwaith mawr i'w gwneud, yna ni fydd hynny'n £10 miliwn, mae hynny'n mynd i fod yn ddegau a degau o filiynau o bunnoedd. Ysgrifennodd fy nghyd-Aelod, Rebecca Evans, at y Trysorlys ddoe, gan nodi'n ffurfiol y ffaith y byddwn ni'n disgwyl i'r Trysorlys ein cynorthwyo gyda'r bil hwnnw.

Nid yw'n bosibl, ar hyn o bryd, Llywydd, rhoi union ffigur ar faint fydd hynny, gan fod rhywfaint o'r difrod y bydd angen ei drwsio yn dal i fod o dan ddŵr yn llythrennol, felly ni fu'n bosibl cael peirianwyr i lawr i edrych ar faint y difrod ac i roi asesiad i ni o'r hyn y bydd yn ei gostio i'w drwsio. Yn fy marn i, nid yw'r ffigur y mae Adam Price wedi cyfeirio ato, sy'n dod gan Rhondda Cynon Taf, yn amcangyfrif afresymol o'r difrod a allai fod yn y sir honno, a cheir difrod mewn llawer o rannau eraill o Gymru hefyd.

Wrth i'r gwaith glanhau ddechrau, wrth gwrs, bydd angen rhoi sylw i gwestiynau am yr hyn y gellid bod wedi ei wneud yn wahanol—y gwersi a ddysgwyd y cyfeiriodd y Prif Weinidog atyn nhw. Roeddwn i'n meddwl tybed a allai roi sylw i rai o'r pryderon cychwynnol hynny. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru eisoes wedi cyfaddef, yn ôl yr hyn a ddeallaf, bod gweddillion a adawyd gan weithrediadau torri â thrin coed ar y mynydd uwchlaw Pentre wedi cyfrannu at lifogydd yn y fan honno. Ceir pryderon difrifol hefyd nad oes gan Cyfoeth Naturiol Cymru y capasiti i ymdopi â gwaith y mae angen ei wneud ar frys. Yn Nhrehafod, mae Dŵr Cymru wedi gwneud taliad o £1,000 i 40 o aelwydydd heb dderbyn atebolrwydd gan nad oedd yr orsaf bwmpio yno yn gweithio. Felly, a allwch chi, fel mater o frys, edrych ar gyllideb Cyfoeth Naturiol Cymru i sicrhau ei fod wedi ei ariannu'n ddigonol i ymdrin â thrychinebau ar y raddfa hon a hefyd sefydlu ymchwiliad i'r rhan neu'r cyfraniad a wnaed drwy unrhyw gamau gan naill ai gorff statudol neu'r cyfleustod i rywfaint o'r difrod llifogydd?

13:55

Wel, dim ond i ailadrodd yr hyn a ddywedais wrth Paul Davies, Llywydd: wrth gwrs, bydd angen dysgu gwersi. O ran gwaith torri a thrin coed Cyfoeth Naturiol Cymru ym Mhentre, fy nealltwriaeth i yw bod Cyfoeth Naturiol Cymru, trwy glirio coed llarwydd heintiedig o ran fach o'r goedwig yn y fan honno, wedi gwneud yr hyn y byddai'r canllawiau presennol yn awgrymu y dylen nhw ei wneud, sef gadael rhai o'r gweddillion llai yr ydych chi'n eu cael pan fo coed yn cael eu cwympo ar y ddaear, oherwydd dyna sut yr ydych chi'n diogelu pridd rhag erydu pan fydd coed yn cael eu torri, a dyna sut yr ydych chi'n diogelu lles bioamrywiaeth. Felly, roedden nhw'n gweithredu'n unol â'r llyfr rheolau fel y mae wedi ei lunio ar hyn o bryd. Mae'n rhaid gofyn y cwestiwn nawr: a yw'r llyfr rheolau yn addas ar gyfer y mathau hyn o ddigwyddiadau, a ddylen nhw ddigwydd yn y dyfodol? Dyna un enghraifft yn unig o wersi a ddysgwyd.

Fe wnaeth yr uwchgynhadledd a gynhaliwyd gennym yr wythnos diwethaf, Llywydd, ei gorau i ddenu pawb a oedd â rhan i'w chwarae wrth ymateb i'r llifogydd o amgylch un bwrdd. Roedd hynny'n cynnwys Dŵr Cymru, a hefyd yn cynnwys y trydydd sector a'r sector gwirfoddol yn rhan o'r ymateb hwnnw i'r llifogydd y cyfeiriodd Adam Price atyn nhw. Byddwn yn edrych i weld sut y mae'r holl sefydliadau hynny'n meddwl am y rhan a chwaraewyd ganddynt ac a oes pethau y bydden nhw eisiau eu gwneud yn wahanol yn y dyfodol.

Bu'n rhaid graddoli cyllideb Cyfoeth Naturiol Cymru, fel cyllideb pob gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru, yn erbyn effaith 10 mlynedd o gyni cyllidol. Mae'n debyg y dylwn i fod wedi dweud, wrth ateb cwestiwn cyntaf Adam Price, am effaith y llifogydd ar wariant cyfalaf yn y dyfodol. Rhan o'r rheswm pam mae'n rhaid i ni ofyn i Lywodraeth y DU am gymorth yw oherwydd, gyda chwe wythnos o'r flwyddyn ariannol hon yn weddill, ysgrifennodd y Trysorlys atom yn gofyn i ni ad-dalu £100 miliwn o gyfalaf trafodion ariannol iddyn nhw, a £100 miliwn o gyfalaf confensiynol, cyn diwedd y flwyddyn ariannol hon. Dywedasant eu bod nhw wedi ail-gyfrifo symiau canlyniadol Barnett, a bod angen i'r arian hwnnw gael ei ddychwelyd iddyn nhw. Pan fyddaf yn dweud wrth y Prif Weinidog fy mod i eisiau arian i'n helpu ni gydag effaith llifogydd yma yng Nghymru, gofyn yr wyf i, yn y bôn, iddo ddychwelyd arian i ni a gymerodd oddi wrthym yn ystod yr wythnosau diwethaf.

Pan gafodd Swydd Efrog ei tharo gan lifogydd difrifol ym mis Gorffennaf ac ym mis Tachwedd y llynedd, ac eto y mis hwn, anfonwyd lluoedd arfog y DU i helpu. Yn yr hydref, galwyd hofrenyddion Chinook yr Awyrlu Brenhinol i mewn i gynorthwyo gorsaf bwmpio ger Doncaster yn dilyn glaw trwm. Byddai'r adnodd hwn—y lefel hon o ymateb—wedi gallu bod yn amhrisiadwy yn achos Trehafod ac mewn mannau eraill. Er nad oes unedau milwrol wedi'u lleoli yng Nghymru—mae Bataliwn Cyntaf y Reifflau wedi'i leoli, er enghraifft, ychydig dros y ffin, ger Cas-Gwent—mae dynion a menywod o Gymru yn gwasanaethau'n deyrngar yn y lluoedd a bydden nhw, heb amheuaeth, wedi gwneud cyfraniad gwerthfawr wrth wasanaethu cymunedau Cymru yn ystod yr argyfwng pe gofynnwyd iddyn nhw wneud hynny. A wnaethoch chi ofyn i Lywodraeth y DU, Prif Weinidog, am gymorth y fyddin? Os naddo, pam felly, ac a wnewch chi yn y dyfodol pe byddai'r angen yn codi?

Wel, trafodwyd y cwestiwn o ba un a ddylid ceisio cymorth gan y lluoedd arfog ai peidio yn frwd iawn gan strwythur gorchymyn y gwasanaethau brys. Eu penderfyniad dros y penwythnos hwnnw oedd peidio â gwneud cais o'r fath gan fod yr amgylchiadau mor anodd a pheryglus, fel mai dim ond pobl a hyfforddwyd yn benodol i allu ymdopi â nhw yr ystyriwyd y gellid eu defnyddio yn ddiogel. Dyna'r cyngor a roesant, ac roeddwn i'n meddwl ei bod hi'n ddoeth dilyn eu cyngor.

Roedden nhw'n credu na fyddai tynnu'r lluoedd arfog i mewn ar yr adeg honno wedi bod yn beth buddiol i'w wneud gan eich bod chi angen yr union alluoedd a hyfforddiant arbenigol iawn hynny i allu ymdopi â'r mathau o dywydd eithafol a welsom, Llywydd. Ar anterth y storm honno, roedd 900 metr ciwbig o ddŵr yn dod i lawr afon Taf bob eiliad, ac os ydych chi'n ceisio gweithredu o dan yr amgylchiadau hynny, yna nid oes angen hyfforddiant cyffredinol y fyddin arnoch chi i wybod beth i'w wneud, mae angen i chi fod wedi eich hyfforddi yn y ffordd y mae ein gwasanaethau brys wedi eu hyfforddi, i wybod beth sy'n ddiogel i'w wneud. Nawr, pe byddai hynny'n newid, a phe byddai asesiad y bobl hynny sy'n fwy cymwys nag yr ydym ni yn yr ystafell hon, rwy'n credu, i wybod a fyddai cymorth gan y lluoedd arfog yn gyfraniad defnyddiol, yna wrth gwrs byddem ni'n ei ystyried. Ond o dan amgylchiadau'r penwythnos hwnnw, asesiad y rhai sydd fwyaf cymwys i wneud yr asesiad oedd nad dyna'r adeg iawn i ofyn am gymorth o'r fath.

14:00

Prif Weinidog, wrth ymateb i Paul Davies, dywedasoch fod llywodraeth leol, awdurdodau glo a Cyfoeth Naturiol Cymru i gyd wedi archwilio tomenni glo. Tybed a allech chi fyfyrio ar ba un a yw eu cyfrifoldebau yn y maes hwnnw wedi eu nodi'n ddigon eglur neu a ydyn nhw'n gorgyffwrdd, gydag unrhyw botensial cysylltiedig ar gyfer dryswch. A gaf i hefyd ofyn i chi, Prif Weinidog, pa un a ydych chi'n credu bod newidiadau i gyllidebau amddiffyn rhag llifogydd, yn enwedig y toriad sylweddol yr wyf i'n ei gofio, o leiaf i ddechrau, yn cael ei gyhoeddi yn 2016, wedi effeithio ar y sefyllfa bresennol mewn unrhyw ffordd? Rwy'n casglu o'r llythyr cais am gyllid gan wleidyddion Rhondda Cynon Taf i Lywodraeth y DU bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi hyn, ac rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth y DU yn cytuno iddo. A ydych chi'n credu y gallai'r llythyr hwn, y cais hwn am gymorth ariannol y tu allan i'r grant bloc, ddarparu templed ar gyfer cydweithredu rhwng Llywodraethau Cymru a'r DU yn y dyfodol?

Diolchaf i'r Aelod am y cwestiynau yna. Nid wyf i'n credu mai'r gyllideb o ran atal llifogydd fu'r broblem dros y ddau benwythnos diwethaf. Gan feddwl am wersi a ddysgwyd, un o'r pethau yr wyf i'n meddwl y bydd angen i ni edrych arnyn nhw'n ofalus iawn o hyn ymlaen yw'r nifer fawr o amddiffynfeydd rhag llifogydd yng Nghymru a fu'n llwyddiannus, ond a oedd yn agos iawn at gael eu trechu—yn Nhrefynwy, er enghraifft, lle mae'r amddiffynfa rhag llifogydd wedi ei hadeiladu i allu ymdopi â chynnydd o 4.3 medr i lifddwr, a chododd yr afon 4.2 medr mewn gwirionedd. Felly roedd o fewn centimedr o lifo dros ben yr amddiffynfeydd rhag llifogydd hynny. Nawr, ni chawsant eu llethu, yn union fel na chawsant eu llethu yng Nghaerdydd, ac ni chawsant eu llethu yn Abertawe, ond mewn llawer o leoedd roedd y bwlch rhwng dal a methu â dal yn fach, ac mewn gwersi a ddysgir ar gyfer y dyfodol mae angen i ni weld a oes angen i ni wneud unrhyw beth i gryfhau'r rheini ymhellach.

Cyn belled ag y mae cymorth gan y Trysorlys yn y cwestiwn, rwy'n credu ein bod ni eisoes yn gweithredu mewn ffordd sy'n gyson â rheolau sydd wedi eu sefydlu dros nifer o flynyddoedd. Pan fydd digwyddiad hollol anrhagweladwy yn digwydd, a'i fod yn digwydd ar y raddfa o'r fath a welsom dros y penwythnos hwn—ac nid wyf i'n credu bod unrhyw un yn credu bod modd rhagweld ffyrnigrwydd y storm a darodd de Cymru— [Torri ar draws.]

Rydych chi'n ateb arweinydd Plaid Brexit, ac nid yr Aelod Cynulliad lleol.

Nid wyf i'n credu bod modd rhagweld digwyddiad y penwythnos hwnnw, a phan fydd digwyddiadau anrhagweladwy yn digwydd a bod costau yn gymesur o uchel, mae'r gallu i fynd at y Trysorlys am gymorth o gronfeydd wrth gefn yn un yr ydym ni wedi ei ddefnyddio o'r blaen, ac rydym ni'n ei ddefnyddio eto yn y fan yma.

Prif Weinidog, torrwyd ar eich traws, ond hoffwn eich atgoffa hefyd am y pwynt ynglŷn â rhannu cyfrifoldebau rhwng llywodraeth leol a Cyfoeth Naturiol Cymru a'r awdurdodau glo o ran yr archwiliadau hynny.

Fe'm trawyd gan un peth am y llythyrau Rhondda Cynon Taf: roedd yn gais am gyllid atodol uwchlaw'r grant bloc mewn maes datganoledig, ac felly gallai gynrychioli newid o fformiwla Barnett. Os ydym ni eisiau ystyried hynny fel templed ar gyfer cydweithredu rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn y dyfodol, a fyddai Llywodraeth Cymru yn ystyried ysgrifennu llythyr o'r math hwnnw, efallai i gymryd cyfalaf o'r gronfa ffyniant gyffredin ar gyfer prosiectau seilwaith, fel gwelliannau i'r A55 yn y gogledd neu hyd yn oed ffordd liniaru'r M4 yr oeddech chi wedi addo ei hadeiladu? Hefyd, mae gan Gymru ddiffyg cyllidol cyffredinol eleni o £13.7 miliwn, neu 19 y cant o gynnyrch domestig gros, ac rydym ni'n gofyn i Lywodraeth y DU am gyllid ychwanegol y tu hwnt i hynny. Onid yw hynny'n dangos y perygl o fynnu mwy a mwy o bwerau a datganoli drwy'r amser a gwahanu Cymru oddi wrth y DU?

Nid wyf i'n dod i'r casgliad hwnnw o gwbl, Llywydd. Rwy'n credu'n syml mai'r ddadl dros geisio cymorth gan Lywodraeth y DU yw'r ddadl dros yr undeb. Mae'r undeb yn gynllun yswiriant cydfuddiannol lle'r ydym ni i gyd yn talu i mewn, ac rydym ni i gyd yn gallu codi arian o dan amgylchiadau pan fo angen cymorth. Dyna pam yr wyf i wedi bod yn gefnogwr o'r Deyrnas Unedig erioed, gan fy mod i'n credu bod y system yswiriant cydfuddiannol honno wedi bod o fudd i Gymru erioed. Dyna pam rwy'n gobeithio y bydd Prif Weinidog y DU—sydd wedi rhoi'r teitl Gweinidog yr Undeb iddo'i hun—yn gweld bod y cais yr ydym ni wedi ei wneud am gymorth yn un lle gall ef ddangos bod yr undeb wir yn gweithio i Gymru.

14:05
Metro Bae Abertawe a Chymoedd y Gorllewin

3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddatblygu metro bae Abertawe a Chymoedd y gorllewin? OAQ55138

Diolch i Dai Lloyd am y cwestiwn. Mae £432,000 wedi cael eu rhoi i Ddinas a Sir Abertawe yn y flwyddyn ariannol hon i ddatblygu'r achosion busnes rheilffordd a bws ar gyfer metro'r de-orllewin. Bydd gwasanaethau newydd yn helpu i gwtogi amser teithio ar draws y rhanbarth.

Diolch am yr ateb yna. Felly, a ydych chi'n gwbl hyderus bod yr holl arian gennych chi y gallwch chi ei roi tuag at ddatblygu metro bae Abertawe, ac a wnewch chi sicrhau, ar ben hynny, nad yw cymunedau'r Cymoedd yn y gorllewin yn cael eu hesgeuluso yn rhan o'r datblygiad hwn?

Llywydd, bydd fy nghyd-Weinidog Ken Skates yn gwneud datganiad ar hyn i gyd yn ddiweddarach y prynhawn yma. Fel yr esboniais yn fy ateb cyntaf, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid i Ddinas a Sir Abertawe i'w caniatáu i wneud y gwaith rhagarweiniol angenrheidiol i ddatblygu metro de Cymru. Mae Cam 1 wedi'i gwblhau, bydd Cam 2 yn cael ei gwblhau yn fuan, ac edrychwn ymlaen at weithio gydag awdurdodau lleol—nid yn unig yn Abertawe, ond, fel y dywedodd Dr Lloyd, yn yr ardaloedd cyfagos—i wneud yn siŵr bod y dull aml-fodd hwnnw o adeiladu metro, gwasanaethau bysiau a threnau, ein bod ni'n gallu rhoi hynny ar waith er budd trigolion lleol.

Rwy'n cefnogi system metro ar gyfer dinas-ranbarth Abertawe yn frwd. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno mai'r cam cyntaf ddylai fod cael cyfnewidfeydd bws/rheilffordd mewn gorsafoedd rheilffordd presennol gydag amserlenni cyson a bysiau yn aros mor agos â phosibl i'r orsaf drenau? Yn Llansamlet, er enghraifft, nid yw pob un o'r arosfannau bws y tu allan i orsaf Llansamlet ac mae un ohonyn nhw ar ôl i chi droi'r gornel i lawr ffordd arall, y mae'n debyg, pe na byddech chi'n adnabod yr ardal, y byddech chi'n cael anhawster mawr i'w ganfod. Ac a gaf i hefyd wneud fy nghais rheolaidd am ailagor gorsaf Glandŵr?

Diolchaf i'r Aelod am y pwyntiau pwysig yna ar ran ei etholwyr, ac wrth gwrs mae'n iawn bod integreiddio gwasanaethau bysiau a threnau yn ganolog i gysyniad y metro—system drafnidiaeth integredig.

Bydd y ddeddfwriaeth bysiau yr ydym ni'n gobeithio ei chyflwyno gerbron y Cynulliad Cenedlaethol hwn yn rhoi i awdurdodau lleol y pwerau sydd eu hangen arnynt i allu gwneud synnwyr ymarferol o'r ffordd y mae gwasanaethau bysiau a threnau yn cael eu trefnu fel eu bod wedi eu hintegreiddio'n wirioneddol yn y modd hwnnw. A gwn y bydd Mike Hedges wedi croesawu'r cynllun i wella gwasanaethau bysiau, yn enwedig ar hyd y coridor rhwng Ystradgynlais a'r Mwmbwls, sy'n edrych yn benodol ar sut y gellir dod ag amserlenni bysiau ac amserlenni rheilffyrdd at ei gilydd fel bod gwasanaethau bysiau yn gweithredu mewn ffyrdd sy'n ddibynadwy, yn ddeniadol, yn aml ac felly'n fwy defnyddiol i drigolion.

Storm Dennis

4. A wnaiff Llywodraeth Cymru amlinellu pa gymorth y mae'n yn ei roi i gymunedau y mae storm Dennis wedi effeithio arnynt? OAQ55117

7. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cymunedau sydd wedi dioddef llifogydd yng Nghymru? OAQ55141

Llywydd, rwy'n deall eich bod chi wedi rhoi caniatâd i gwestiynau 4 a 7 gael eu grwpio gyda'i gilydd. Yn dilyn yr uwchgynhadledd llifogydd brys aml-asiantaeth yr wythnos diwethaf, rydym ni wedi bod yn gweithio'n galed i roi cymorth ymarferol ac ariannol ar waith ar gyfer aelwydydd, busnesau ac awdurdodau lleol yr effeithiwyd arnyn nhw gan y llifogydd o storm Ciara a storm Dennis.

Prif Weinidog, hoffwn gofnodi fy niolch i chi, i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, ac i holl Lywodraeth Cymru am eich ymdrechion i gynorthwyo'r rhai y mae eu cartrefi a'u busnesau wedi eu difetha gan storm Dennis. Mae'r cymorth ariannol yr ydych chi'n ei roi ar waith yn cael ei werthfawrogi'n fawr gan etholwyr yr wyf i wedi siarad â nhw, ac ynghyd â chymorth gan gyngor Rhondda Cynon Taf, bydd yn helpu'r rhai sydd wedi colli popeth. Gwerthfawrogir eich presenoldeb amlwg iawn chi eich hun a Gweinidog yr amgylchedd hefyd. Fe wnaeth y ddau ohonoch ymweld ag ardaloedd a oedd yn dioddef llifogydd yn Rhondda Cynon Taf sawl gwaith yn ystod yr wythnos ddiwethaf, gan gynnwys ddydd Mercher pan ymwelodd Gweinidog yr amgylchedd ag Aberpennar gyda mi. Mae hyn yn gwrthgyferbynnu'n llwyr, Prif Weinidog, â Llywodraeth y DU lle nad yw Boris Johnson wedi ymweld ag unrhyw gymuned y mae llifogydd wedi effeithio arni, nac wedi cynnig cymorth ariannol, er gwaethaf ceisiadau ysgrifenedig gennyf i ac ACau ac ASau eraill yn Rhondda Cynon Taf. A ydych chi'n cytuno â mi, Prif Weinidog, bod dyletswydd ar Lywodraeth y DU i helpu, yn foesol ac yn gyfreithiol?

14:10

Diolchaf i Vikki Howells am hynna, a gadewch i minnau dalu'r un deyrnged i'r camau y mae Aelodau lleol ar draws y Siambr wedi eu cymryd yn eu hetholaethau lleol i ymateb i'r anawsterau y mae trigolion lleol wedi eu hwynebu. Gwn fod yr Aelodau yn y fan yma wedi bod yn gweithio'n galed dros y pythefnos diwethaf yn y gogledd a'r de i sicrhau bod trigolion lleol yn gwybod bod y Cynulliad Cenedlaethol hwn, y Senedd hon, yn rhoi ystyriaeth ddifrifol iawn i'r cyfyng-gyngor y maen nhw wedi ei wynebu—fy nghyd-Aelod Lesley Griffiths yn Llangollen a Llanrwst, a Ken Skates fel Gweinidog gogledd Cymru yn y gogledd, yn ogystal â'r ymweliadau y mae Vikki Howells wedi cyfeirio atyn nhw.

O ran Llywodraeth y DU, nid ymweliadau yw'r cymorth yr wyf i ei eisiau ganddyn nhw o reidrwydd, ond cymorth mwy pendant arian parod—yr arian y bydd ei angen arnom ni, yr arian a gymerwyd oddi wrthym ni dros yr wythnosau diwethaf, fel y soniais eiliad yn ôl, mae angen i'r arian hwnnw gael ei roi yn ôl fel y gallwn wneud yn siŵr bod y sefydliadau hynny ar lawr gwlad, boed hynny yn ein hawdurdodau lleol sydd dan bwysau mawr, neu boed yn Cyfoeth Naturiol Cymru fel y clywsom yn gynharach, yn cael yr arian sydd ei angen arnyn nhw i allu ymdrin nid yn unig â digwyddiadau'r wythnosau diwethaf, ond y digwyddiadau yn y misoedd i ddod i gymunedau sydd wedi eu heffeithio.

Yn gyntaf oll, hoffwn ychwanegu fy nghydymdeimlad dwys â phawb sydd wedi cael eu heffeithio gan y llifogydd ledled Cymru, a thalu teyrnged i'r gwasanaethau brys a'r ymdrechion cymunedol rhagorol. Mae'r ymateb gennych chi, Prif Weinidog, a Gweinidog yr amgylchedd wedi bod yn ardderchog ac i'w groesawu'n fawr. Fodd bynnag, bydd effaith y llifogydd hyn yn cael ei theimlo am fisoedd, a hyd yn oed am flynyddoedd i ddod, ac rwy'n awyddus i weld y momentwm a'r cymorth hwnnw'n parhau. Mae angen dysgu gwersi ac mae angen cryfhau mannau gwan posibl yn ein hamddiffynfeydd.

Er na welodd Casnewydd y lefelau o ddinistr gan lifogydd a welwyd mewn rhannau eraill o Gymru, ymwelais â rhai o'r rhannau gwaethaf yn fy etholaeth i yr effeithiwyd arnyn nhw gan lifogydd. Roedd afon Ebwy ar lefelau a oedd yn achosi pryder yn Nyffryn ac ym Masaleg, a thra'r oedd yr amddiffynfeydd yn gadarn ar y cyfan, roedd hyn yn fater o gentimetrau mewn sawl man. Mae'r trigolion yn ddiolchgar ac maen nhw'n cydymdeimlo'n fawr â'r ardaloedd gwaethaf ledled Cymru, ond mae'n amlwg eu bod nhw'n ofnus ynghylch y dyfodol. Maen nhw wedi gofyn am asesiadau o'r amddiffynfeydd presennol a pha grantiau cymorth y gellir eu rhoi ar gael i amddiffyn eu cartrefi'n well.

Mae busnesau hefyd wedi cael eu taro'n galed iawn. Mae'r Parc Fferm Cefn Mably poblogaidd wedi ei ddistrywio, ac maen nhw'n edrych ar fisoedd o fod ar gau o ganlyniad. Bydd hyn nid yn unig yn effeithio ar y busnes a'i gwsmeriaid, ond ar y gweithwyr a'u teuluoedd. Pa gymorth allwn ni ei ddarparu i sicrhau bod busnesau'n codi yn ôl ar eu traed cyn gynted â phosibl?

Diolchaf i Jayne Bryant am hynna, Llywydd. Hoffwn ganolbwyntio, os caf, ar ran olaf y cwestiwn atodol hwnnw yn unig—y cymorth sydd ar gael i fusnesau. Fe'i gwnaed yn eglur gennym yr wythnos diwethaf yn yr uwchgynhadledd y gall cynghorau ddefnyddio eu pwerau disgresiwn i atal rhwymedigaethau treth gyngor ac ardrethi annomestig ar eiddo sydd wedi dioddef llifogydd, ac y bydd Llywodraeth Cymru yn ad-dalu'r costau hynny i awdurdodau lleol o dan y cynllun cymorth ariannol brys. Felly, mae hwnnw'n gymorth ar unwaith ac uniongyrchol, ac mae awdurdodau lleol bellach yn gwybod y gallan nhw gynnig y cymorth hwnnw ac na fyddan nhw'n ysgwyddo'r gost; byddan nhw'n cael eu talu trwy gynllun cymorth ariannol brys Llywodraeth Cymru.  

Mae Busnes Cymru wedi bod yn weithgar iawn dros yr wythnos ddiwethaf. Ceir llinell gymorth y gall busnesau ei defnyddio i gysylltu'n uniongyrchol â desg gymorth y mae Busnes Cymru yn ei darparu, gan wneud yn siŵr bod busnesau'n cael y cyngor sydd ei angen arnyn nhw i ymdrin â phroblemau llif arian, problemau hylifedd. Cynhaliwyd cymhorthfa ym Mhontypridd ddydd Gwener yr wythnos diwethaf y cymerodd Busnes Cymru ran ynddi, ynghyd â Mick Antoniw, yr Aelod lleol. Cafodd ei ailadrodd ddydd Llun yng Ngholeg y Cymoedd, gan sicrhau unwaith eto bod busnesau'n cael y cymorth hwnnw yn uniongyrchol. Mae Banc Datblygu Cymru yn targedu busnesau llai a allai elwa ar eu benthyciad carlam o £25,000, unwaith eto i geisio gwneud yn siŵr, lle mae busnesau angen cymorth brys, ein bod ni'n defnyddio'r llwybr hwnnw i'w cynorthwyo, ac mae fy nghyd-Weinidog Ken Skates wedi nodi ei fod yn edrych yn y cyllidebau sydd ganddo, a ddarparwyd yn wreiddiol i gynorthwyo busnesau pe byddai Brexit 'heb gytundeb', i weld a allem ni arallgyfeirio rhywfaint o'r arian hwnnw i gynorthwyo busnesau sy'n canfod eu hunain yn yr amgylchiadau a nodwyd gan Jayne Bryant.

14:15

A gaf i uniaethu â'r teimladau sy'n cael eu mynegi ar draws y Siambr o blaid y cymorth y mae pob ochr yn ei roi, boed hynny y gwirfoddolwyr, y gwasanaethau brys, neu gymunedau eu hunain yn dod at ei gilydd ar gyfer y rhai sydd wedi dioddef oherwydd y llifogydd yn fy rhanbarth etholiadol i ond hefyd ledled Cymru, gan fod hyn wedi effeithio ar Gymru gyfan?

Hoffwn fynd yn ôl at y pwynt a godwyd gan arweinydd yr wrthblaid gyda chi ynglŷn â'r strategaeth rheoli perygl llifogydd. Ddwy flynedd yn ôl, cymerodd pwyllgor yr amgylchedd dystiolaeth ar hyn yn ei waith craffu cyn y gyllideb a dywedwyd wrtho bod hon yn ddogfen a oedd yn cael ei pharatoi ac y byddai ar gael yn fuan. Mewn ymateb i'r cwestiwn hwnnw heddiw, Prif Weinidog, dywedasoch y byddai gyda ni ymhen ychydig fisoedd. Yn wir, Prif Weinidog, tua dwy flynedd yn ddiweddarach, mae'r teitl yn dweud y cyfan. Dyma'r strategaeth rheoli perygl llifogydd a fyddai'n cyfarwyddo'r llyfr rheolau y gwnaethoch chi gyfeirio ato y mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio'n unol ag ef ar hyn o bryd a llawer o elfennau eraill sy'n cael eu rhoi ar waith i geisio lliniaru rhywfaint ar y llifogydd hyn sy'n digwydd yn sgil y newid yn yr hinsawdd yr ydym ni'n ei weld ar hyn o bryd. Rwy'n sylweddoli na fyddech chi'n gallu atal yr holl lifogydd, ond os oes gennych chi strategaeth benodol ar gyfer lliniaru'r perygl o lifogydd, siawns y dylai'r ddogfen honno fod yn fyw ac ar gael yn hytrach nag, unwaith eto y prynhawn yma, clywed gennych chi y bydd hi'n fis neu ddau arall eto cyn bod y ddogfen honno ar gael. A allwch chi ddweud yn fwy manwl pryd bydd y ddogfen honno ar gael, ac yn bwysig, a fydd y ddogfen honno'n cynnwys yr ystyriaethau cyllidebol y bydd eu hangen i roi'r mesurau ar waith?

Wel, Llywydd, gadewch i mi ddweud unwaith eto bod y strategaeth genedlaethol ddrafft ar gael. Bydd unrhyw un a ymatebodd i'r ymgynghoriad wedi ei gweld, ac roedd ymateb da i'r ymgynghoriad, ac ni ddaeth hwnnw i ben tan yr hydref. Felly, gwnaed gwaith i sicrhau bod y sylwadau a gyfrannodd pobl yn rhan o'r ymgynghoriad yn cael eu hystyried o ddifrif ac yn gwneud gwahaniaeth i'r strategaeth derfynol yr ydym ni'n bwriadu ei chyhoeddi yn ddiweddarach yn y gwanwyn. Felly, nid ydym ni'n ei gohirio'n ormodol. Bydd yn ddogfen bwysig. Rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedodd Andrew R.T. Davies a Paul Davies am bwysigrwydd y strategaeth honno, oherwydd bydd yn dangos sut y mae'r buddsoddiad o £350 miliwn y mae'r Llywodraeth hon yn ei wneud o ran peryglon llifogydd ac erydu arfordirol yn cael ei ddefnyddio yn y ffordd orau bosibl.

Ac i ddychwelyd at thema a drafodwyd yn gynharach y prynhawn yma unwaith eto, Llywydd, o ran gwersi a ddysgwyd, un o'r pethau y byddwn ni'n rhoi sylw iddyn nhw yn y strategaeth honno fydd yr angen i geisio symud rhywfaint o'r gwariant ar reoli llifogydd o atebion sy'n seiliedig ar goncrit tuag at amddiffynfeydd rhag llifogydd mwy naturiol, lle gallwn ddefnyddio dosbarthiad naturiol, er enghraifft, fel ffordd o liniaru perygl llifogydd ymhellach i lawr yr afon. Felly, mae'r strategaeth yn bwysig, bydd yn ein helpu i ddysgu'r gwersi nid yn unig o'r wythnosau diwethaf ond o'r tymor Cynulliad cyfan hwn, a bydd yn sail i'r swm sylweddol iawn o wariant sydd eisoes wedi ei ymrwymo yn y maes hwn.

Mae'r lefelau uchel o law wedi achosi trallod llwyr i gannoedd o bobl yn y Rhondda, ac mae'n rhaid gweld i gredu pan ddaw i'r llanast sydd wedi cael ei adael ar ôl yng nghartrefi a gerddi pobl ac ar y strydoedd. Rydym ni i gyd yn ddiolchgar am un peth, fodd bynnag, sef na chollodd neb ei fywyd yn y Rhondda.

Rwyf i wedi galw am adolygiad brys o sefydlogrwydd yr holl domenni glo a adawyd ar ôl o ganlyniad i'n gorffennol diwydiannol. Mae'r tirlithriad sy'n peri pryder yn Nhylorstown yn un y bydd llawer o bobl wedi ei weld, ond bu tirlithriadau yng Nghlydach a Phontygwaith hefyd, ac rydym ni i gyd yn gwybod pa mor ddinistriol a dychrynllyd y gall tomen lo sy'n symud fod. Ysgrifennais atoch yr wythnos diwethaf ynglŷn â'r tomenni glo hyn, ac mae'n dda gweld y bu rhywfaint o weithredu ar hyn ers hynny. Ond tybed a allwch chi ddweud wrthyf i beth yw'r amserlen ar gyfer archwilio'r holl domenni glo yn y Rhondda? A yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi bod angen i ni ailystyried yr hyn yr oeddem ni'n feddwl oedd yn ddiogel ar un adeg, oherwydd y tywydd garw sy'n dod yn fwyfwy cyffredin oherwydd yr argyfwng hinsawdd? A wnaiff ef hefyd dderbyn na all y normal newydd hwn fod yn dderbyniol? Dylem ni fod wedi gwybod bod hyn yn dod; rydym ni yn gwybod y bydd yn digwydd eto.

Ac yn olaf am nawr, a wnaiff y Prif Weinidog ystyried ailgyflwyno cynllun adfer tir ar gyfer safleoedd tir llwyd a gafodd ei ddiddymu ychydig flynyddoedd yn unig yn ôl, gan y byddai hyn yn gwneud cryn dipyn i sicrhau nad yw'r hen domenni glo nid yn unig yn cael eu dychwelyd i ddefnydd economaidd ond eu bod hefyd yn cael eu gwneud yn ddiogel?

14:20

Diolchaf i'r Aelod am y cwestiynau hynny ac rwy'n cytuno â hi'n llwyr bod ymweld a gweld a sgwrsio â phobl y mae eu cartrefi wedi cael eu distrywio gan y llifogydd yn brofiad sobreiddiol iawn. Ac mae lefel y trallod dynol a achoswyd yn y cartrefi hynny yn amlwg pan ewch chi yno. Ac fel y dywedodd pobl wrthyf i pan yr oeddwn i'n ymweld â nhw, yn y pen draw gallwch chi brynu soffa newydd, ond yr hyn na allwch chi ei wneud yw cael pethau yn lle y rhai yr ydych chi wedi eu hel at ei gilydd, ar ôl magu teulu, ar ôl byw mewn cartref am ddegawdau, nid blynyddoedd, y mae eich holl atgofion wedi eu buddsoddi ynddo, ac ni ellir byth adfer y pethau hynny yn y ffordd honno. Gwnaed yr un pwynt i mi ganddyn nhw ag y mae Leanne Wood wedi ei wneud y prynhawn yma, sef, er hynny, ni chollodd neb ei fywyd ac y gellir cael atgofion yn ôl a phrynu soffas newydd, ond ni ellir dod â phobl yn ôl. Ac roedd teimlad gwirioneddol o'r ymdrech yr oedd y gwasanaethau brys wedi ei gwneud i atal y gwaethaf oll rhag digwydd.

O ran tomenni glo, yr hyn a ganfuwyd trwy gyfarfod ddoe oedd bod gan Cyfoeth Naturiol Cymru, yr awdurdod glo a'r awdurdod lleol ddull gweithredu ar y cyd, sef nodi ar raddfa y tomenni glo hynny sy'n achosi'r pryder mwyaf iddyn nhw. A chawsom ni sicrwydd ddoe y bydd yr holl domenni glo hynny sydd ar frig y rhestr honno wedi cael eu harchwilio erbyn diwedd yr wythnos hon. Mae'r rhan fwyaf ohonyn nhw wedi cael eu harchwilio eisoes, a chafwyd sicrwydd gan beirianwyr nad ydyn nhw'n peri risg i fywyd ac eiddo.

Ond cafwyd trafodaeth bwysig iawn sy'n cysylltu â phwynt Leanne Wood am y normal newydd, sef bod yr asesiadau hynny'n cael eu gwneud yn erbyn y safonau sydd wedi eu defnyddio dros y degawdau diwethaf, ac efallai na fydd y safonau hynny'n foddhaol ar gyfer y blynyddoedd i ddod. Felly, byddwn ni'n sicr yn dychwelyd at y drafodaeth honno gyda'r awdurdodau hynny a chyda'r arbenigwyr y maen nhw'n yn eu defnyddio ar lawr gwlad. Roedd syniadau diddorol yn cael eu harchwilio ddoe ynglŷn â gwell posibiliadau monitro ar gyfer y tomenni hynny—technolegau newydd nad oedden nhw ar gael yn y 1980au efallai y gallem ni eu defnyddio heddiw. A bydd yr ymdrech honno'n parhau. Bydd y grŵp a gyfarfu ddoe yn cyfarfod eto i dderbyn adroddiadau pellach, i edrych ymlaen ac i wneud yn siŵr bod modd cynnig y sicrwydd y mae gan bobl bob hawl i'w ddisgwyl, ac os bydd angen cymryd camau pellach, byddan nhw'n cael eu cymryd, a bod y safonau y mae'r gwahanol awdurdodau cyhoeddus yn cyflawni eu cyfrifoldebau yn unol â nhw i ddarparu'r sicrwydd hwnnw yn addas ar gyfer y dyfodol.

Gwasanaethau Fasciwlar

5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddiogelwch y gwasanaethau fasciwlar yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ers iddyn nhw gael eu had-drefnu? OAQ55124

Diolch i Siân Gwenllian am y cwestiwn. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wrthi'n cynnal adolygiad o'r gwasanaeth rhwydwaith fasciwlar, a sefydlwyd fis Ebrill 2019. Mae disgwyl i'r adroddiad gael ei drafod yn eu cyfarfod bwrdd ar ddiwedd mis Mawrth.

Diolch am gadarnhau bod y bwrdd yn mynd i gynnal adolygiad mewnol i'r problemau dyrys a phryderus sydd wedi codi yn sgil ad-drefnu'r gwasanaethau fasciwlar. Ond, Prif Weinidog, dydy adolygiad mewnol ddim digon da. Mae pobl yn y gogledd wedi colli pob ffydd yn rheolwyr Betsi Cadwaladr, er, wrth gwrs, yn gwerthfawrogi gwaith y staff ar y rheng flaen yn fawr iawn. Felly, dwi'n siomedig iawn nad ydy'ch Llywodraeth chi am gynnal ymchwiliad annibynnol yn sgil yr holl gwynion sydd wedi dod i'r fei drwy waith y cyngor iechyd cymunedol. Pam na wnewch chi dderbyn y darlun du iawn sydd yn ymddangos erbyn hyn, a pham na wnewch chi ddim cynnal adolygiad annibynnol, a hynny ar frys?

14:25

Wel, Llywydd, dwi ddim yn meddwl ei fod e'n deg jest i gyfeirio at y gwaith mae Betsi Cadwaladr yn ei wneud fel rhywbeth jest mewnol, achos maen nhw'n defnyddio pobl tu fas i'r bwrdd i gynghori ar y gwaith sydd yn mynd ymlaen. Ac mae'r ymgynghoriad maen nhw'n ei gael gyda phobl sydd yn arbenigwyr yn y maes, ac maen nhw'n annibynnol ar y bwrdd hefyd. Dyna pam mae'r Athro John Brennan, sy'n gweithio yn Lerprwl—a consultant vascular surgeon—yn rhan o'r broses o edrych yn ôl at y gwasanaeth, sydd wedi bod yno am lai na blwyddyn ar hyn o bryd. A hefyd maen nhw'n defnyddio—. Yn y gwaith mae Betsi Cadwaladr wedi rhoi ar waith, maen nhw'n defnyddio data cenedlaethol newydd, sydd wedi dod atom ni, i gymharu'r gwasanaeth sydd ar gael nawr yng ngogledd Cymru—i gymharu beth sy'n mynd ymlaen yn Betsi Cadwaladr gyda beth sy'n ymlaen mewn gwasanaethau eraill o'r un fath mewn llefydd eraill yn y Deyrnas Unedig. Does neb fan hyn wedi gweld yr adroddiad eto. Dwi'n fodlon aros i weld beth mae'r adroddiad yn ei ddweud, i weld beth mae pobl annibynnol sydd wedi bod yn rhan o'r gwaith yn ei ddweud yn yr adroddiad yna, ac i weld os bydd yn rhaid inni wneud rhywbeth arall ar ben y top.

Gwariant Llywodraeth Cymru

6. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o werth am arian ac effeithiolrwydd gwariant Llywodraeth Cymru? OAQ55140

Llywydd, rydym ni'n defnyddio amrywiaeth eang o ganllawiau a thystiolaeth i helpu i asesu ein penderfyniadau buddsoddi, gan gynnwys yr egwyddorion lefel uchel a nodir yn Llyfr Gwyrdd Trysorlys ei Mawrhydi, a saith nod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. A yw e'n cytuno â mi mai un o fethiannau lu datganoli yw bod Cymru, dros yr 20 mlynedd diwethaf, wedi syrthio i waelod tabl incwm y gwledydd cartref a rhanbarthau Lloegr, ac un o fethiannau mwyaf Llywodraethau Llafur a Phlaid Cymru yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf fu'r methiant i ddenu gwaith â chyflogau uwch i Gymru? Mae'r Llywodraeth wedi bod yn gadarn o ran mapiau ffordd a strategaethau, ond yn wael iawn o ran cyflawni. Rydym ni wedi cael parthau menter sydd wedi gwario tua £250 miliwn yn ystod y degawd diwethaf, am gost o tua £20,000 y swydd, ond dim ond wedi crafu'r wyneb mae hynny. Yn achos yr ardal o gwmpas Glynebwy, gwrthododd y Llywodraeth y cyfle i gael gwerth £450 miliwn o fuddsoddiad preifat ar gyfer Cylchffordd Cymru i'w disodli gyda £100 miliwn a addawyd o arian trethdalwyr yn 2018, a hyd yn hyn, nid oes unrhyw sylfeini wedi'u gosod ar gyfer yr adeiladau a addawyd i ni, ac, wrth gwrs, nid oes unrhyw swyddi wedi eu creu. Yn y cyfamser, mae ffordd Blaenau'r Cymoedd—y rhan rhwng Gilwern a Bryn-mawr—£100 miliwn dros y gyllideb, ac wedi ei hoedi'n sylweddol. Yr hyn a welwn ni yn y fan yma yw Llywodraeth nad yw wedi mynd i'r afael â phroblemau economaidd mawr Cymru. A oes unrhyw ryfedd, felly, bod mwy a mwy o bobl yn meddwl bod y lle hwn yn ddibwrpas ac y dylid cael gwared ar y Cynulliad?

Rwy'n meddwl bod yr Aelod mewn perygl mawr o ddrysu safbwyntiau'r sefydliad gyda safbwyntiau unigolion sy'n digwydd bod yma. Felly, mae'n ddrych, yn hytrach na dadansoddiad, y mae ef—a fyddai'n ei arwain ef at y casgliad gorau.

Edrychwch, rwy'n anghytuno'n llwyr â'r hyn sydd ganddo i'w ddweud, Llywydd. Mae'n gwbl ddiobaith ei farn ynghylch Cymru ac ynghylch pobl Cymru. Bydd pobl a oedd yma ym 1999 yn cofio pe byddem ni wedi dweud bryd hynny y byddai gan Gymru, o fewn 20 mlynedd, lefelau anweithgarwch economaidd yr un fath â chyfartaledd y DU neu'n is, pan yr oeddem ni mor bell ar ei hôl hi 20 mlynedd yn ôl, ac yn mynd ymhellach ar ei hôl hi—. Pe byddech chi, o fewn 20 mlynedd, wedi meddwl y byddai'r bwlch hwnnw nid yn unig wedi ei leihau, ond wedi ei gau'n llwyr, byddai pobl wedi dweud wrthych chi eich bod chi'n wirion o optimistaidd ynghylch yr hyn y gellid ei gyflawni mewn cyfnod o 20 mlynedd. Pe byddech chi wedi dweud bryd hynny bod y ffigurau diweithdra diweddaraf yn dangos diweithdra yng Nghymru nid yn unig ar lefel cyfartaledd y DU ond yn is na chyfartaledd y DU, byddai pobl wedi meddwl eich bod chi'n fwy uchelgeisiol na'r hyn y byddai'n bosibl ei gyflawni yn ystod y cyfnod hwnnw. Pe byddech chi wedi dweud wrth bobl bryd hynny y byddai cyfradd twf busnes yng Nghymru yn gyflymach na chyfartaledd y DU, y byddai cyfraddau goroesi busnesau ar ddiwedd blwyddyn yn uwch na chyfartaledd y DU, byddai pobl wedi meddwl eich bod chi'n disgrifio dyfodol economaidd a oedd y tu hwnt i'n gafael. Dyna wirionedd economi Cymru. Mae mor bell i ffwrdd, mae mor bell i ffwrdd o'r hyn y mae'r Aelod yn gobeithio gallu ei ddisgrifio mewn ffordd i achub ei ddyfodol ei hun yn y fan yma. Nid oes gan hyn ddim o gwbl i'w wneud â dyfodol Cymru.

14:30
Asiantaeth y Swyddfa Brisio

8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gytundeb lefel gwasanaeth Llywodraeth Cymru gydag Asiantaeth y Swyddfa Brisio? OAQ55119

Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Mae Llywodraeth Cymru yn cwblhau cytundeb lefel gwasanaeth blynyddol gydag Asiantaeth y Swyddfa Brisio. Mae'n gosod targedau perfformiad y mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i Asiantaeth y Swyddfa Brisio eu bodloni. Caiff penderfyniadau Asiantaeth y Swyddfa Brisio eu gwneud gan yr asiantaeth honno, ac maen nhw'n gwbl annibynnol ar Lywodraeth Cymru.

Mae'n ddrwg gen i, Prif Weinidog, 'taflu'r baich' wyf i'n galw hynna. Yn ystod Cyfarfod Llawn fis Tachwedd diwethaf, codais y ffaith bod gan eich Llywodraeth Cymru chi CLG £9 miliwn o arian trethdalwyr gydag Asiantaeth y Swyddfa Brisio. Mae rhai o fy musnesau i yn Aberconwy yn dal i aros dros ddwy flynedd i weld cynnydd yn eu hapeliadau ardrethi busnes, gan adael llawer o fusnesau â thrafferthion ariannol ac, mewn gwirionedd, wedi eu distrywio'n ariannol. Nawr, cytunodd y Cwnsler Cyffredinol, wrth gwrs, i ystyried hyn fis Tachwedd diwethaf. Dyna beth yw gwastraff amser, oherwydd mewn ymateb i gwestiwn ysgrifenedig Cynulliad diweddar, dywedodd y Cwnsler Cyffredinol:

'Gan fod y darpariaethau yn y cytundeb lefel gwasanaeth yn cael eu bodloni'

Dydyn nhw ddim yn cael eu bodloni. Eich geiriau chi yw'r rheini.

'a bod y cytundeb ei hun yn cael ei fonitro, nid wyf wedi nodi'r angen i weithredu ymhellach.'

Wel, byddwn naill ai'n eich gwahodd chi neu chi, Prif Weinidog, i ddod i siarad â rhai o fy musnesau i sy'n dal i aros nawr am eu hapêl ardrethi busnes. Pan fyddaf i'n caffael rhywbeth i mi neu i fy nheulu, mae gen i lais o ran ansawdd y gwasanaeth hwnnw sy'n cael ei ddarparu. Chi yw Prif Weinidog Cymru, mae gennych chi lais o ran ansawdd y gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio. Nid oes modd ei osgoi. Felly, hoffwn wybod sut yr ydych chi'n mynd i adolygu'r targedau y disgwylir i Asiantaeth y Swyddfa Brisio eu bodloni, a sut yr ydych chi'n craffu mewn gwirionedd ar y defnydd o arian trethdalwyr a'r gwasanaeth diffygiol hwn yma yng Nghymru? Diolch.

Diolchaf i'r aelod. Hoffwn gytuno â hi nad yw perfformiad Asiantaeth y Swyddfa Brisio mewn achosion penodol o'r broses apelio bresennol yn foddhaol. Ond mae angen i'r Aelod gydnabod bod hon, yn gwbl briodol, yn gangen hollol annibynnol o Lywodraeth, ac mae'n rhaid iddi fod. Mae'n iawn ei bod. Gofynnais i'm swyddogion ddoe i weld a allai Asiantaeth y Swyddfa Brisio roi unrhyw ddiweddariadau pellach i mi o ran y ddau achos y mae'r Aelod wedi ysgrifennu ataf i yn eu cylch yn ystod y misoedd diwethaf, ac maen nhw wedi gwrthod darparu'r manylion hynny. Fe wnaethon nhw wrthod darparu'r manylion gan eu bod yn dweud na fyddai'n briodol iddyn nhw ddatgelu i'r Llywodraeth y materion cyfrinachol y mae'n rhaid iddyn nhw wneud penderfyniadau yn eu cylch gyda'r bobl sy'n defnyddio eu gwasanaeth. Ac, o fyfyrio, rwy'n credu eu bod nhw'n iawn. Dyna pam mae gennym ni sefydliadau hyd braich, fel nad yw Llywodraethau yn gwneud y penderfyniadau hyn; Asiantaeth y Swyddfa Brisio sy'n eu gwneud. 

Nawr, os nad yw Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn cyflawni ei chytundeb lefel gwasanaeth gyda ni, yna mae angen i ni unioni hynny. Ond mae'n debyg bod fy ffordd i o unioni'r sefyllfa yn wahanol i ffordd yr Aelod, oherwydd rwyf i eisiau i ni newid y system apelio yng Nghymru yn gyfan gwbl. Nid yw'r system apelio yn addas i'w diben. Mae hi wedi cael ei newid yn Lloegr ac wedi mynd i drafferthion enfawr yn y fan honno. Yr hyn yr ydym ni wedi ei ddweud yw ein bod wedi dod â'r ailbrisiad ymlaen o 2022 i 2021, ar yr amod bod Llywodraeth y DU yn cadw at hynny—roedd yn ddiddorol gweld nad oedd ganddyn nhw ddim yn Araith y Frenhines i roi'r ymrwymiad hwnnw ar y llyfr statud, ond mae'n ymrwymiad y maen nhw wedi ei roi yn y gorffennol. Os byddan nhw'n ei anrhydeddu, yna rydym ni eisiau newid y system apelio yma yng Nghymru, ochr yn ochr â'r ailbrisiad hwnnw, oherwydd yn y cyfnod yn arwain at ailbrisiad ac yn syth ar ei ôl, Llywydd, y mae'r apeliadau yn dod. Rydym ni eisiau system newydd y tro nesaf, a bydd hynny'n ein galluogi, rwy'n credu, i osgoi rhai o'r anawsterau yr ydym ni wedi eu gweld gyda'r system bresennol.

14:35
Coronavirus

9. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru i sefydliadau addysg uwch yr effeithir arnynt gan gamau i atal lledaenu coronafeirws? OAQ55114

Diolch i Rhun ap Iorwerth am y cwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu a chyhoeddi canllawiau gyda Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gyfer holl ysgolion a sefydliadau addysg Cymru. Mae'r rhain yn rhoi cyngor ar y camau i'w cymryd i atal y coronafeirws rhag lledu.

Diolch am yr ymateb yna. Mae coronafeirws, wrth gwrs, yn fygythiad yn barod i symudedd pobl ar draws y byd, a'r budd sy'n dod o ran y symudedd hwnnw. Mae fy mhrifysgol leol i, Prifysgol Bangor, yn un o'r rheini sydd wedi dod i ddibynnu mwy a mwy ar ei gallu i recriwtio myfyrwyr o dramor. Mae myfyrwyr o Tsieina yn dod i Fangor, er enghraifft, mewn niferoedd sylweddol. A allaf i ofyn pa ystyriaeth y mae'r Llywodraeth wedi dechrau ei roi i sut, efallai, y byddai angen rhoi cefnogaeth i sefydliadau fel Prifysgol Bangor pe bai hi'n dod yn fwy anodd i alluogi myfyrwyr o wledydd fel Tsieina i ddod yno i astudio? Rydyn ni'n gobeithio, wrth gwrs, na fydd hi'n dod i hynny, ond mae angen gwneud y gwaith paratoi rŵan, rhag ofn.

Diolch i Rhun ap Iorwerth am y cwestiwn yna. Mae'n wir i ddweud bod effaith coronafeirws yn mynd i gael effaith ar ein prifysgolion ni, ac mae'r effaith yna wedi digwydd yn barod, achos mae myfyrwyr gan rai o'n prifysgolion ni draw yn Tsieina ac maen nhw wedi eu casglu nhw nôl. Mae aelodau o'r staff lawr i fynd draw i Tsieina, a'r gwledydd eraill yn y rhan yna o'r byd, a dydyn nhw ddim yn gallu mynd ar hyn o bryd. Dwi wedi gweld adroddiad manwl gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, sy'n tynnu gwybodaeth at ei gilydd o bob prifysgol yng Nghymru, sy'n setio allan y sefyllfa ar hyn o bryd, edrych ymlaen ar yr heriau bydd yna os bydd coronafeirws yn parhau drwy'r flwyddyn yma, a'r effaith y mae hwnna yn mynd i'w gael ar recriwtio myfyrwyr i fewn i Gymru. Ac fe allaf i ofyn i'r Gweinidog Addysg i weld a allwn ni rannu'r wybodaeth sydd gyda ni ar hyn o bryd ar Fangor gyda Rhun ap Iorwerth, neu â'r Aelodau eraill sydd â phrifysgolion yn eu hardaloedd nhw.

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Y datganiad a chyhoeddiad busnes sydd nesaf. Dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hynny, Rebecca Evans.

Diolch, Lywydd. Mae nifer o newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Yn syth ar ôl y datganiad busnes hwn, bydd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig yn gwneud datganiad i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ynghylch yr uwchgynhadledd frys ar lifogydd. Yn ddiweddarach y prynhawn yma, bydd y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit yn gwneud datganiad ar ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â gadael yr Undeb Ewropeaidd. Er mwyn darparu ar gyfer y datganiadau hyn, rwyf i wedi gohirio'r datganiad ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr tan yr wythnos nesaf, 3 Mawrth, a chynnydd ar y llwybr canser sengl tan 17 Mawrth. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi ei nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith papurau'r cyfarfodydd sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.

Gweinidog, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Addysg ynghylch y tarfu ar ddysgu disgyblion a ddigwyddodd yn sgil y streic gan athrawon yn Ysgol Uwchradd Llanwern ac Ysgol Gyfun Caerllion yng Nghasnewydd? Mae undebau'r athrawon yn dweud mai'r hyn sydd wedi ysgogi gweithredu diwydiannol yw adolygu'r cwricwlwm yng Nghymru. Mae Ysgrifennydd Cyffredinol dros dro Cymdeithas Genedlaethol yr Ysgolfeistri ac Undeb yr Athrawesau yn dweud nad yw'r Undeb wedi clywed unrhyw ddadl argyhoeddiadol dros pam mae angen yr ailstrwythuro arfaethedig hwn. Mae Undeb Cenedlaethol Addysg Cymru yn dweud bod Ysgol Gyfun Caerllion wedi dioddef tanariannu hanesyddol a thoreithiog a bod y staff wedi gorfod dioddef  ailstrwythuro a gweithdrefnau diswyddo yn rheolaidd am nifer o flynyddoedd. Maen nhw'n ofni gostyngiad yn y lefelau staffio, a'r cymorth  ar gyfer plant ag anghenion arbennig yn cael ei ddiddymu. A gawn ni datganiad gan y Gweinidog ynghylch y camau y mae hi'n eu cymryd i dawelu ofnau undebau athrawon, fel bod modd osgoi tarfu ar addysg disgyblion yn y ddwy ysgol hyn yng Nghasnewydd? Diolch.

14:40

Diolch i Mohammad Asghar am godi ei bryderon ynghylch dwy ysgol benodol yng Nghasnewydd, ond efallai ar yr achlysur hwn, yn sicr yn y lle cyntaf, byddwn i'n ei wahodd i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg yn nodi'r pryderon hynny, fel y gall hi ystyried ymateb priodol i chi.

Mae'r mater yr wyf i'n dymuno ei godi heddiw yn ymwneud â Christopher Kapessa, bachgen du 13 oed y cafodd ei gorff ei ddarganfod yn Afon Cynon ger Fernhill y llynedd. Soniais am liw croen Christopher oherwydd bod ei deulu'n credu'n gryf ei fod yn ffactor ym mhenderfyniad Gwasanaeth Erlyn y Goron i beidio â dwyn erlyniad mewn cysylltiad â'i farwolaeth.

Daeth y penderfyniad er gwaethaf haeriad Gwasanaeth Erlyn y Goron bod, gan ddefnyddio eu geiriau eu hunain, 'digon o dystiolaeth' fod Christopher wedi ei wthio i'r afon. Mae teulu trallodus Christopher yn dweud ei bod hi'n ddigon posibl y byddai mwy o dystiolaeth i gyflwyno achos cryfach, pe byddai'r heddlu wedi cyfweld â mwy na dim ond pedwar o'r 14 o bobl a oedd yn y fan a'r lle pan fu farw. Mae'n anodd dadlau â honiad mam Christopher, Alina, pan ei bod hi'n dweud:

Pe byddai hyn wedi bod yn 14 o bobl ifanc du a dioddefwr gwyn nid oes gennym ni unrhyw amheuaeth y byddai agwedd yr heddlu a'r canlyniad wedi bod yn wahanol. 

Gan fod cyfiawnder troseddol yn parhau i fod yn fater a gadwyd yn ôl, mae cyfyngiadau ar yr hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud. Fodd bynnag, ar adeg y digwyddiad, fe wnes i gyfleu pryderon y teulu gan annog, er yn anffurfiol, bod Llywodraeth Cymru yn ymchwilio i'r mater, oherwydd bod cydlyniant cymunedol wedi ei ddatganoli, ac felly mae hwn yn achos a ddylai fod yn destun pryder i chi o'r safbwynt hwnnw.

Felly, pa sylwadau y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu codi ar y mater hwn? Ac a wnaiff y Llywodraeth hon anfon datganiad clir bod pawb yng Nghymru yn gyfartal, y dylen nhw gael eu trin yn gyfartal, beth bynnag yw eu rhyw, eu tueddiad rhywiol a lliw eu croen, a bod pawb yn haeddu deall bod bywydau duon yn wirioneddol bwysig?

Diolch i Leanne Wood am godi'r hyn sy'n achos arbennig o erchyll a gofidus. Rwy'n cofio darllen am Christopher a theimlo bod y stori gyfan yr oeddwn i'n ei darllen yn gwbl arswydus ac erchyll.

Mae Leanne Wood yn iawn bod cyfiawnder troseddol yn parhau i fod yn fater a gadwyd yn ôl, ond mae gan Lywodraeth Cymru, a gwn fod gan y Senedd hon yn ei chyfanrwydd, ddiddordeb cryf iawn mewn sicrhau ein bod yn hyrwyddo cydraddoldeb a pharch a Chymru gref ac amrywiol yma yn ein gwlad.

Felly, byddaf yn gofyn i'r Gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros gysylltiadau â'r heddlu, a'r Gweinidog sydd hefyd yn gyfrifol am gydraddoldebau a chydlyniant cymunedol, roi rhywfaint o ystyriaeth i'ch sylwadau y prynhawn yma o ran beth yn rhagor y gallwn ni ei wneud i hyrwyddo Cymru gref, gydlynus a sicrhau bod pawb yng Nghymru yn gyfartal, a beth arall allwn ni ei wneud i wthio'r neges honno ymlaen bod pawb yn haeddu cael eu trin yn gwbl gyfartal.

A gaf i ofyn am ddau ddatganiad? Byddai un datganiad gan Weinidogion Llywodraeth Cymru ar fater erydiad tir y tu ôl i derasau'r Cymoedd lle y ceir hen lonydd heb eu mabwysiadu ochr yn ochr â chyrsiau dŵr, sy'n bygwth erydu nid yn unig y lonydd ond gerddi cefn eiddo preifat.

Felly, yng Nghaerau yn fy etholaeth i, mae gennym ni res o dai teras â'u cefnau tuag at gwrs dŵr o'r fath a lôn heb ei mabwysiadu; y math o lonydd yr oedd hen wagenni’r cyngor, yn nyddiau'r wagenni bach hynny, yn mynd yn ôl ac ymlaen arnynt i fynd â'r biniau galfanedig i ffwrdd ac yn y blaen. Nid ydyn nhw'n eu defnyddio mwyach. Nid ydyn nhw wedi cael eu mabwysiadu. Nid ydyn nhw'n eiddo i neb, mae'n ymddangos yn awr, ond eto mae'r afon yn erydu. Yn ystod y stormydd diweddar, maen nhw wedi eu herydu fwyfwy tuag at gerddi cefn yr eiddo hyn. Mae'n dir y dadleir amdano, mae'n dir neb, nid oes neb eisiau gwneud unrhyw beth amdano, ond eto mae perchenogion y cartrefi yn poeni'n fawr.

Felly, a allem ni gael datganiad ynghylch yr hyn sy'n digwydd i'r tir neb hwn, mewn gwirionedd, o lonydd heb eu mabwysiadu ar gefnau eiddo lle mae nentydd, yn y mathau hyn o law trwm yr ydym ni wedi'i weld, bellach yn cael eu herydu ymaith a'r effaith ar eiddo? Neu efallai y gallai'r Gweinidog gwrdd â mi i drafod hyn, oherwydd rwy'n amau ei fod yn rhywbeth sy'n gyffredin ar draws ardal de Cymru.  

A gaf i ofyn hefyd am ddatganiad ar fater croesfannau diogel ar ffyrdd A? Nawr, mae ffyrdd A, wrth gwrs, yn brif ffyrdd, mae'r traffig yn drwm arnyn nhw, dyna pam maen nhw'n ffyrdd A, maen nhw'n dramwyfeydd mawr. Ond yr anhawster yw, yn rhai o'n cymoedd, gan gynnwys fy un i yn y Llynfi, ond hefyd yn nwyrain fy etholaeth, dyma'r unig ffordd sy'n mynd i fyny'r Cwm hwnnw. Os nad yw pobl yn gallu croesi o un ochr lle maen nhw'n byw i fynd i'r siopau neu'r ysgol ar yr ochr arall oherwydd—. Yr esboniad sy'n cael ei roi yw nad yw'r canllawiau, fel arfer, yn caniatáu croesfannau diogel ar draws prif ffyrdd. Wel, byddai'n ddefnyddiol cael eglurder ar hynny. Os na chaf hynny, efallai y cawn i gyfarfod â'r Gweinidog, pe gallai'r rheolwr busnes, y Trefnydd, fy helpu i; cyfarfod â'r Gweinidog, trafod y broblem hon, a gofyn am eglurhad ar y canllawiau ar groesfannau ffordd diogel i gerddwyr ac eraill ar ffyrdd A yn y Cymoedd.

14:45

Diolch i Huw Irranca-Davies am godi'r ddau fater hyn. Roedd y cyntaf yn ymwneud â lonydd heb eu mabwysiadu, ac, wrth gwrs, mae'r Gweinidog, Ken Skates, yn gwneud darn o waith ar hyn o bryd sy'n ystyried ffyrdd heb eu mabwysiadu, ac rwyf yn siŵr y bydd llawer o'r gwersi y byddwn ni'n eu dysgu o'r darn penodol hwnnw o waith yr un mor berthnasol i'r mater o lonydd heb eu mabwysiadu.

Rydym ni wedi clywed llawer gan y Prif Weinidog heddiw ynghylch ein hymateb cyflym i'r llifogydd diweddar, ond y darn nesaf o waith, wrth i ni symud ymlaen o'r angen i ymateb ar unwaith i sefyllfa frys, fydd edrych ar y materion tymor hwy hynny. Wrth gwrs, cyfeiriodd y Prif Weinidog at strategaeth llifogydd Llywodraeth Cymru sydd ar y ffordd, a bydd hynny yn annog rhaglenni dalgylch ehangach a rheoli llifogydd mewn modd mwy naturiol, gan gydnabod y rhan y mae hynny'n ei chwarae wrth leihau llif dŵr ffo a llifoedd brig mewn afonydd ac ati. Felly, yn fy marn i, bydd rhywfaint o hynny hefyd yn berthnasol i'ch pryderon chi heddiw.

Ond, byddaf yn sicr yn ceisio trefnu cyfarfod gyda'r Gweinidog i sicrhau'r eglurder hwnnw yr hoffech chi ei gael o ran croesfannau ar brif ffyrdd, ac rwy'n siŵr y bydd ef yn cysylltu â chi yn fuan i drefnu hynny.

Trefnydd, a gaf i ofyn am ddatganiad, os gwelwch yn dda, gan Weinidog yr economi ynglŷn â pharc menter Sain Tathan, a'r maes glanio, yn arbennig? Roedd gan Lywodraeth Cymru gontract gyda Serco i ddarparu gwasanaeth rheoli traffig awyr bob dydd o'r wythnos fel y gallai gweithredwyr ddefnyddio'r maes awyr ar sail saith diwrnod yr wythnos. O'r hyn yr wyf i'n ei ddeall, mae problem wedi codi wrth recriwtio rheolwyr traffig awyr sydd â chymwysterau addas, ac, felly, mae hynny wedi cyfyngu ar y defnydd o'r maes awyr, ac yn arbennig, colled o fusnes i rai o'r gweithredwyr sy'n gweithredu o'r cyfleusterau yno.

O 1 Ebrill ymlaen, mae Maes Awyr Caerdydd yn cymryd drosodd y rheolaeth, yn ôl yr hyn a ddeallaf i, o'r gweithrediad penodol hwn a'r maes glanio ei hun, ac rwy'n gobeithio y byddech chi'n cytuno â mi, o gofio nad yw'r cyntaf o Ebrill ddim ond mis i ffwrdd erbyn hyn, y byddai'n amserol cyflwyno datganiad yn amlinellu pa iawndal, os o gwbl, sydd wedi ei dalu i weithredwyr ar y maes glanio oherwydd y diffyg darpariaeth saith diwrnod yr wythnos, pa arian sydd wedi ei adennill oddi wrth Serco oherwydd nad ydyn nhw wedi cyflawni eu contract, a pha welliannau a allai gael eu rhoi ar waith ar ôl i Faes Awyr Caerdydd gymryd cyfrifoldeb dros y gweithrediad, fel y gellid dwyn ymlaen y defnydd saith diwrnod yr wythnos o'r maes glanio.

Mae gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru gwestiynau yfory yn y Senedd, felly efallai y byddai hwnnw'n gyfle da i godi'r pryderon penodol hynny ynghylch maes glanio Sain Tathan, ond, os na fydd hynny'n digwydd, byddaf yn sicr yn gwneud yn siŵr bod y Gweinidog yn ymwybodol o'ch cais am ddatganiad llawnach.

Hoffwn i ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru yn ymwneud â pha gymorth a fydd ar gael i blant sydd wedi eu heffeithio gan y llifogydd diweddar. Mae hyn wedi effeithio ar gymunedau ledled fy rhanbarth i, yn Nhrefynwy, yn Nhrecelyn, yn Llanbradach a llawer o leoedd eraill.

Yr wythnos diwethaf, ymwelais â thrigolion yn Stryd Edward yn Ystrad Mynach, a gafodd eu deffro am 2.30 a.m. gan gymydog a oedd yn digwydd bod ar ddihun i'w rhybuddio bod eu stryd yn gorlifo. Fe wnaethon nhw lwyddo i wneud yr hyn y gallen nhw, ond, yn amlwg, cafodd llawer iawn o ddifrod ei wneud i'w heiddo, a bydd yn cymryd misoedd i wneud y gwaith atgyweirio. Ond, ar wahân i'r difrod ffisegol a gafodd ei wneud i'r tai, yr hyn a oedd yn peri'r pryder mwyaf i'r trigolion oedd yr effaith a gafodd hyn ar eu plant—plant a oedd newydd gael eu trawmateiddio wrth weld eu cartrefi'n cael eu troi wyneb i waered; a gollodd deganau; sy'n gorfod aros i ffwrdd gyda pherthnasau a ffrindiau; plant a gollodd wisgoedd ysgol; ac nad oes ganddynt unman i wneud eu gwaith cartref nawr bod yr ysgolion wedi ail-ddechrau ar ôl y gwyliau. Ar un adeg, roedd un preswylydd yn ei dagrau yn dweud wrthyf i fod ei phlant yn aros gyda'u mam-gu a'u tad-cu ar hyn o bryd, ond eu bod nhw ofn dod adref o gwbl, oherwydd eu bod yn siŵr y bydd y llifogydd yn digwydd eto yng nghanol y nos.

Felly, rwy'n gofyn pa waith y gallai'r Llywodraeth ei wneud i weithio gyda chynghorau, gydag ysgolion ledled y rhanbarth i gydgysylltu unrhyw gymorth a chefnogaeth y byddai modd eu cynnig. Ond rwyf i hefyd yn gofyn beth allai Llywodraeth Cymru ei wneud, pe bydden nhw'n ystyried sicrhau bod gwasanaethau cwnsela ar gael i blant nad ydyn nhw o oedran ysgol sydd wedi eu heffeithio gan y llifogydd, na fyddan nhw'n gallu manteisio o gwbl ar wasanaethau cymorth sydd ar gael mewn ysgolion, ond sydd,  er hynny, angen gofal a thosturi, oherwydd pa mor ofnus a dryslyd y maen nhw. Bydd yr hyn sydd wedi digwydd wedi bod yn ergyd drom i bawb y mae'r llifogydd wedi effeithio arnyn nhw, ond mae'n rhaid ei fod yn arbennig o frawychus i blant. Byddwn i'n croesawu unrhyw gyfle i gwrdd â rhywun o'r Llywodraeth i drafod hyn. Diolch.

Diolch i Delyth Jewell am godi agwedd wirioneddol bwysig ar y llifogydd diweddar, a hynny yw y trallod y bydd yn ei achosi yn arbennig i blant ac i bobl ifanc hefyd, a allai, am yr holl resymau yr ydych chi wedi eu disgrifio, ei chael hi'n anodd  i fynd adref a theimlo'n ddiogel yn y cartref. Felly, cafodd y pwyntiau a wnaethpwyd gennych eu gwneud yn dda iawn, ac mae gennym ni ddatganiad nesaf y prynhawn yma gan Weinidog yr amgylchedd. Er mai ymateb trawslywodraethol yw hwn i raddau helaeth, bydd y Gweinidog y prynhawn yma yn amlinellu rhai o'r pethau yr ydym ni wedi eu gwneud ym mhob rhan o'r Llywodraeth. Wrth gwrs, byddwn yn rhoi ystyriaeth i'ch pwyntiau chi wrth i ni symud ymlaen ar hyn.

14:50

A gaf fi ofyn am ddau ddatganiad, Gweinidog? Ddoe, cawsom ni'r newyddion gwych bod 100 o swyddi yn cael eu neilltuo yn William Hare yn Rhisga mewn gwaith dur ffabrigedig. Ond, mewn cyfweliad â'r darlledwyr newyddion, nododd y rheolwr gyfarwyddwr fod gweithfeydd Port Talbot yn rhan hanfodol o ddyfodol y diwydiant dur, nid yn unig yng Nghymru ond yn y DU. Nawr, rwy'n deall bod Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cael cyfarfod ar y cyngor dur gyda'r Ysgrifennydd Gwladol blaenorol. Ond, a gawn ni ddiweddariad o ran yr hyn a ddigwyddodd yn y cyfarfod cyngor dur hwnnw?

A allwch chi hefyd gynnwys yn y diweddariad hwnnw pa gynnydd sy'n cael ei wneud mewn trafodaethau gyda'r Ysgrifennydd Gwladol newydd i sicrhau, wrth i ni symud ymlaen, fod y gyllideb sydd ar ddod ymhen ychydig wythnosau mewn gwirionedd yn adlewyrchu ar y costau ynni uchel y mae diwydiannau fel y diwydiant dur yn eu hwynebu, a rhywbeth y gall Llywodraeth y DU ei wneud i sicrhau bod gan y diwydiant dur ddyfodol cryf yma yn y DU?

Yr ail un, mae gennyf i etholwr sydd wedi cwrdd â mi'n ddiweddar ynghylch mater anghydfod ffin. Mewn gwirionedd, fe ysgrifennodd at Ysgrifennydd Gwladol Cymru, ac fe nododd ymateb gan swyddog—a'r geiriau oedd—bod anghydfodau ffin bellach yn gyfrifoldeb y cenhedloedd datganoledig. Nawr, nid wyf i'n ymwybodol o hynny, ond a gawn ni eglurder ynglŷn â swyddogaeth Llywodraeth Cymru mewn anghydfodau ffin, byddai hynny'n ddefnyddiol, fel fy mod i'n gallu mynd i'r afael â'r pwyntiau hynny pan ddaw materion i'm sylw. Roedd hynny o swyddfa Gweinidog y DU.

Diolch yn fawr i David Rees. Byddaf i'n sicr yn gwneud yn siŵr fy mod yn cysylltu â'm cydweithwyr i roi atebion manwl i chi i'r ddau bwynt hynny. O ran y cyntaf, sef cyfarfod y diwydiant dur, byddaf yn sicrhau eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf ynghylch canlyniadau hwnnw a'r trafodaethau sydd wedi eu cynnal yn dilyn y cyfarfod penodol hwnnw. Wrth gwrs, mae gan Ken Skates gwestiynau yfory eto, felly gallai fod cyfleoedd i godi'r mater hwnnw gydag ef.

O ran mater y ffiniau hefyd, rwy'n gwybod y bydd y bod hi wedi trefnu sesiwn briffio manwl ar gyfer aelodau'r Cynulliad o'r arolygiaeth gynllunio, felly gallai hynny fod yn gyfle defnyddiol i ymchwilio i rai o'r materion hyn hefyd.

Hoffwn i ofyn am ddatganiad ar gydnerthedd dŵr. Efallai eich bod chi'n gweld  hynny'n beth rhyfedd i mi ei ofyn, o gofio llifogydd y cyfnod diweddar, felly efallai y dylwn i ddweud: cydnerthedd dŵr yfed ledled Cymru. Rwy'n gwybod bod gennym ni ddatganiad ynghylch yr uwchgynhadledd frys ar lifogydd yn syth ar ôl y datganiad hwn. Rwy'n credu bod hwn yn fater a allai godi neu na allai godi yn ystod y datganiad hwnnw, Gweinidog, ond mae'n fater ar wahân y mae angen edrych arno.

Bu problem go fawr gyda gwaith trin dŵr Mayhill yn Nhrefynwy yr wythnos diwethaf, ac rwy'n gwybod bod y Gweinidog yn ymwybodol ohoni. Gorlifodd y  llifogydd i'r gwaith trin dŵr. Nid oedd Dŵr Cymru yn gallu mynd i mewn i'r gwaith trin dŵr i'w drwsio, ac felly, yn y pen draw, bu'n rhaid iddyn nhw ddefnyddio tanceri eraill. Fe wnaethon nhw waith anhygoel o dda, a dweud y gwir, er gwaethaf y ffaith fod llawer o'r ffyrdd dan ddŵr, a bod y sefyllfa waethaf bosibl wedi ei hatal.

Fodd bynnag, tybed a allai'r Gweinidog, ar hyn o bryd, neu ar ôl i'r llifogydd leihau, edrych ar gydnerthedd dŵr yfed ledled Cymru i sicrhau, yn y dyfodol, bod modd ymdrin ag unrhyw fannau gwan yn y system fel gorsaf driniaeth Mayhill, fel bod pobl ledled Cymru yn gallu bod yn siŵr, pan fydd gennym ni achosion yn y dyfodol—fel y byddwn ni'n siŵr o'u cael, wrth i'r newid yn yr hinsawdd gynyddu—fel y llifogydd diweddar, bydd y system ddŵr yn gallu ymdopi.

Wel, rwy'n falch iawn bod y materion sy'n ymwneud â'r gwaith trin dŵr yr ydych chi wedi eu disgrifio wedi eu datrys erbyn hyn ond, wrth gwrs, mae'r Gweinidog wedi bod yma i glywed eich cais am ddatganiad ar gydnerthedd dŵr yfed yn ehangach.

Roedd y datganiad cyntaf yr oeddwn i eisiau gofyn amdano gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, mewn gwirionedd, yn ymwneud â'r sīon yr ydym ni'n eu clywed gan Lywodraeth y DU y gall fod newidiadau i ffi trwydded y BBC, ac y gallai, efallai, newid i fod yn wasanaeth tanysgrifio. Rwy'n gwybod nad yw hyn i gyd wedi'i gadarnhau, ond wrth gwrs bydd gan hyn oblygiadau i Gymru o ran BBC Cymru a hefyd S4C, y bydd eu ffrwd ariannu gyfan yn cael ei symud yn fuan i ffi'r drwydded. A allwn ni gael datganiad ynglŷn â pha sgyrsiau y mae'r Dirprwy Weinidog wedi eu cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â hyn, ac yna, efallai, ynghylch sut y gallen nhw fod yn ystyried dewisiadau eraill o ran sut y gallai Cymru a darlledu yn gyffredinol fod yn edrych ar gyfer y dyfodol yma yng Nghymru.

Mae fy ail gais am ddatganiad yn ymwneud â chais i Weinidog yr amgylchedd am ddatganiad ar adfer safleoedd mwyngloddio brig. Rwy'n gofyn hyn oherwydd, yn yr wythnos ddiwethaf, nid yw'n ymwneud yn uniongyrchol â llifogydd, ond y gwagle ym Mynydd Cynffig yr oedd Celtic Energy wedi'i adael—mae'n ddŵr sydd crynhoi oherwydd bod Celtic Energy wedi gadael heb adfer yr holl safle. Mae Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr wedi dweud nad ydyn nhw'n gallu fforddio ei adfer yn llawn, ac maen nhw wedi dweud, yng ngoleuni'r llifogydd, ei fod yn ddiogel, ac rwyf i wedi ysgrifennu at Cyfoeth Naturiol Cymru i gadarnhau hynny, ond y pwynt ehangach yw bod angen i ni sicrhau bod yr holl safleoedd mwyngloddio brig hyn yn cael eu hadfer, ac nid yw hynny'n digwydd, a byddwn i'n annog y Llywodraeth i roi datganiad i ni ynglŷn â pha gynllunio sydd ganddyn nhw mewn golwg ar gyfer y dyfodol i helpu i sicrhau bod yr ardaloedd hyn yn cael eu gwneud yn naturiol unwaith eto fel nad ydyn ni'n cael ein gadael gyda'r tyllau mawr hyn yn y ddaear.

14:55

Diolch am grybwyll y ddau fater yna. Mae ffi drwydded y BBC yn fater sy'n codi ei ben yn gyson, ac rwy'n gwybod fod y Dirprwy Weinidog yn ymwybodol iawn o'r trafodaethau a'r materion cysylltiedig. Rwy'n gwybod, maes o law, os oes diweddariad i'w roi ichi, y byddwn yn sicr yn awyddus i wneud hynny. Clywodd Gweinidog yr Amgylchedd eich cais am ddatganiad ynglŷn ag ail-ddechrau cloddio glo brig, ac mae hi'n dweud, fel cam cyntaf, a fyddech chi gystal ag ysgrifennu ati er mwyn iddi ymateb yn llawn i'r pryderon penodol hynny yr ydych chi wedi'u crybwyll.

3. Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Y Diweddaraf am yr Uwchgynhadledd Argyfwng am y Llifogydd

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ar y diweddaraf am yr uwchgynhadledd argyfwng am y llifogydd, ac dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud ei datganiad, Lesley Griffiths.

Diolch, Llywydd. Dros y pythefnos diwethaf, mae llawer o gymunedau ledled Cymru wedi dioddef effeithiau dinistriol yn sgil stormydd Ciara a Dennis. Rwyf eisiau dweud eto bod fy meddyliau i, a rhai fy nghyd-Aelodau yn y Cabinet, gyda phawb yr effeithiwyd arnynt.

Mae'r ddwy storm hyn yn ddau o'r achosion llifogydd mwyaf difrifol ac eang a welsom ni yng Nghymru ers blynyddoedd lawer. Ar anterth storm Dennis, cafwyd 61 hysbysiad o berygl llifogydd, 89 o rybuddion llifogydd a dau rybudd o lifogydd difrifol. Mae hyn yn fwy nag y mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi'i gyhoeddi erioed. Cyrhaeddodd afonydd Taf ac Wysg eu lefelau uchaf mewn mwy na deugain mlynedd ac, ar ei anterth, roedd 900 o dunelli o ddŵr yr eiliad yn llifo i lawr Afon Taf.

O ganlyniad i'r ddwy storm hyn, rydym ni wedi gweld llifogydd difrifol ac eang mewn cymunedau yn y gogledd, yn y canolbarth ac yn y de. Cadarnhawyd bod mwy na 1,000 o gartrefi wedi dioddef llifogydd mewnol ac effeithwyd ar fwy na 300 o fusnesau'n uniongyrchol. Nid yw'r bygythiad wedi mynd heibio eto. Ddoe, cyhoeddwyd rhybudd llifogydd difrifol ym Mangor-is-y-coed  a gwelsom lifogydd yn datblygu'n gyflym yn Nolgellau dros y penwythnos yn dilyn mwy o law trwm. Nid ydym yn gwybod hyd a lled y difrod yn llawn eto. Mae timau ar lawr gwlad yn parhau i wirio difrod a chost debygol gwaith trwsio wrth iddyn nhw ddechrau glanhau. Mae Llywodraeth Cymru eisiau diolch i bawb a fu'n gysylltiedig â'r ymateb i'r llifogydd, o'r ymateb brys i'r gwaith adfer sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd. Mae'r gwasanaethau brys, awdurdodau lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru a gwirfoddolwyr wedi gweithio bob awr o'r dydd a'r nos i fynd i'r afael ag effaith uniongyrchol y llifogydd.

Rwyf wedi gweld drosof fy hun rywfaint o'r dinistr a achoswyd wrth imi ymweld â chymunedau ledled Cymru, yn Llanrwst, Tylorstown, Pontypridd, Llanhiledd, Crucywel ac Aberpennar. Ond mae hyn wedi effeithio ar lawer mwy o gymunedau. Rwyf wedi siarad â phobl a welodd drostynt eu hunain yr ymateb anhygoel gan eu cymuned leol wrth i ysgolion, neuaddau a chanolfannau agor eu drysau i helpu'r rhai mewn angen. Roedd yna weithredoedd anhygoel o garedigrwydd a haelioni, wrth i bobl ddod at ei gilydd i helpu ac roedd y cydnerthedd yn rymus ac yn gwneud i rywun deimlo'n wylaidd iawn. Un enghraifft, Sefydliad Glowyr Llanhiledd ym Mlaenau Gwent, a ddarparodd loches, cyngor a thri phryd y dydd i bawb oedd angen hynny arnynt.

Mae'r llifogydd hyn wedi cael effaith sylweddol ac ariannol ar gynghorau, busnesau ac unigolion. Yr wythnos diwethaf, cadeiriodd y Prif Weinidog uwchgynhadledd frys, gan gyhoeddi cronfa o £10 miliwn i helpu i dalu costau'r ymateb cychwynnol, gan gynnwys cymorth i'r rhai y mae'r llifogydd wedi effeithio arnynt. Fodd bynnag, ni fydd hyn wrth gwrs yn ddigon i dalu'r costau llawn i drwsio'r difrod a achoswyd gan stormydd Ciara a Dennis.

Mae'r cynllun cymorth llifogydd brys bellach ar gael. Gall aelwydydd yr effeithiodd y llifogydd arnynt hawlio £500 yr un gyda thaliad pellach o £500 ar gael i'r rhai sydd heb yswiriant llifogydd. Bydd cymorth hefyd ar gael i fusnesau a strydoedd mawr. Mae Busnes Cymru yn barod i gefnogi busnesau yr effeithir arnynt. Dylai unrhyw fusnes yr effeithiwyd arno gysylltu â'r llinell gymorth, lle gellir cael cyngor ymarferol, gan gynnwys cymorth gyda chynlluniau adfer.

Rwyf wedi clywed gan lawer o berchnogion cartrefi a gollodd bopeth ac y gwrthodwyd yswiriant llifogydd iddynt yn y gorffennol. Ers 2016, mae cynllun 'Flood Re' wedi bod ar waith i alluogi perchnogion cartrefi i gael yswiriant fforddiadwy, ond mae diffyg ymwybyddiaeth o'r cynllun. Rwyf eisiau gweithio gyda'r sector yswiriant i sicrhau y caiff 'Flood Re' gyhoeddusrwydd mwy effeithiol.

Roedd arian brys i drwsio'r seilwaith llifogydd ar gael ar unwaith ar ôl storm Ciara, ac ymestynwyd hynny i gynnwys storm Dennis. Caiff gwaith brys i asedau, gan gynnwys amddiffynfeydd a cheuffosydd, ei ariannu 100 y cant gan Lywodraeth Cymru. Mae hyn yn berthnasol i Cyfoeth Naturiol Cymru ac awdurdodau lleol.

Mae nifer yr eiddo yr effeithiwyd arnynt a'r niwed a achoswyd wedi bod yn ddinistriol. Ond gwyddom y gallai hyn fod wedi bod yn llawer gwaeth heb y rhwydwaith o amddiffynfeydd rhag llifogydd. Ar draws Cymru, roedd mwy na 73,000 o gartrefi wedi'u diogelu rhag llifogydd gan y rhwydwaith hwn o amddiffynfeydd rhag llifogydd. Mae hyn yn adlewyrchiad o'r £350 miliwn yr ydym ni wedi ei fuddsoddi mewn rheoli perygl llifogydd ers 2016. Wrth symud ymlaen, byddwn yn gweithio gydag awdurdodau lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru i weld a fydd angen rhagor o gynlluniau i leihau risg ymhellach. Rwyf hefyd eisiau rhoi mwy o gymorth ariannol ac ymarferol i awdurdodau lleol i gyflymu'r gwaith o ddatblygu prosiectau llifogydd newydd.

Mae fy swyddogion yn archwilio ffyrdd o roi gwell cefnogaeth i ddatblygu cynlluniau newydd a gwaith cynnal a chadw, gan gynnwys darparu cyllid o 100 y cant ar gyfer yr holl waith paratoadol cyn y gwaith adeiladu. Byddai hyn yn cynnwys holl gostau modelu a dylunio. Byddwn hefyd yn archwilio ffyrdd ymarferol o ddatblygu atebion mwy naturiol, a rheoli dalgylchoedd yn fwy eang i leihau swm a chyfradd dŵr ffo, i leihau llifoedd brig ac i helpu i fynd i'r afael â'r cynnydd sydyn mewn llifogydd.

Mae'r stormydd hyn unwaith eto wedi codi'r mater o ddiogelwch tomenni glo ar gyfer cymunedau sy'n byw yn eu cysgod. Bydd llawer ohonom ni wedi gweld lluniau o'r tirlithriad syfrdanol yn Tylorstown. Mae mwy na 1,200 o'r tomenni hyn ar draws hen ardaloedd glofaol y de. Maent yn waddol o'n gorffennol diwydiannol. Gadawyd llawer o'r tomenni hyn dros ganrif yn ôl, ac rydym ni wedi bod yn gweithio ers datganoli i fynd i'r afael â'r tomenni hyn, a bu gwaith ar rai safleoedd i'w trawsnewid. Cyfarfu'r Prif Weinidog ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru ddoe i drafod diogelwch y rhain. Fel blaenoriaeth, rydym ni'n gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU a phartneriaid—gan gynnwys yr Awdurdod Glo, Cyfoeth Naturiol Cymru ac awdurdodau lleol—i sicrhau bod gennym ddarlun llawn o'r systemau gwirio a monitro sydd ar waith ar hyn o bryd.

Mae'r holl dystiolaeth yn awgrymu y byddwn yn gweld mwy o stormydd o ganlyniad i'r newid yn yr hinsawdd. Yn ddiweddarach eleni, byddaf yn cyhoeddi ein strategaeth genedlaethol newydd ar gyfer llifogydd ac erydu arfordirol, sy'n nodi sut y byddwn yn rheoli'r risg dros y degawd nesaf. Ond mae rheoli'r perygl o lifogydd yn fwy na dim ond adeiladu amddiffynfeydd uwch a chryfach. Ni allwn ni atal pob llifogydd. Mae angen i ni fod yn fwy cydnerth, mae angen i ni atal llifogydd ac mae angen i ni fod yn well wrth godi ymwybyddiaeth o berygl llifogydd fel y gellir gwneud penderfyniadau gwell.

Rydym yn hyrwyddo prosiectau dalgylch ehangach, mesurau addasu i ymateb i newid yn yr hinsawdd, darparu gwybodaeth well i gymunedau a rhannu syniadau i wneud pethau'n well. Byddwn yn parhau i helpu pobl i ddechrau ar y gwaith adfer ar ôl y stormydd hyn a'r llifogydd a achoswyd ganddynt. Rwy'n cymeradwyo ac yn gwerthfawrogi'n ddiffuant gwaith pawb sy'n parhau i weithio ar yr ymdrech i adfer y sefyllfa, gan gefnogi pobl, busnesau a chymunedau fel ei gilydd.

15:00

Diolch, Gweinidog, am eich datganiad, ac rwy'n sylweddoli y bydd rhywfaint o orgyffwrdd, yn amlwg, gyda'r sylwadau yr ymdriniodd y Prif Weinidog â nhw yn ystod ei gwestiynau, ond mae hi'n briodol iawn eu bod wedi cael lle mor flaenllaw yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog yn rhan o fusnes heddiw.

Hoffwn innau hefyd ategu'r sylwadau yr ydych chi wedi uniaethu â nhw a'u hategu o ran diolch i'r gwasanaethau brys, i'r gwirfoddolwyr, ac i'r unigolion eu hunain, sydd, yn wyneb y dinistr llwyr o fywydau cyfan yn cael eu golchi ymaith, wedi bod yn rhyfeddol yn eu dewrder a'u cydnerthedd yn y ffordd y maen nhw wedi wynebu—boed hynny yn yr wythnos gyntaf o stormydd, neu boed hynny yn yr ail wythnos o stormydd. Wrth edrych ar y tywydd y bore yma, mae ysbaid arall o law, ysywaeth, wedi ei ddarogan ar gyfer diwedd yr wythnos hon eto. Ac mae gweld bod y cydnerthedd hwnnw yn ein cymunedau mewn gwirionedd yn dangos beth yw hanfod bod yn Gymro neu Gymraes, ac yn y pen draw, sefyll ysgwydd wrth ysgwydd â'i gilydd yn y cyfnod mwyaf anghenus.

Hoffwn grybwyll meysydd penodol, os caf i, oherwydd rwy'n gwybod, dim ond o'n meinciau ni, bod gennym ni chwe chyfraniad at y datganiad arbennig hwn, ac felly hoffwn fod yn eithaf manwl yn yr hyn rwy'n ei ofyn i chi, ac rwy'n siŵr y bydd Aelodau eraill yn ymdrin â'r pwyntiau hynny yn y datganiad.

Mae'r tomenni glo y gwnaethoch chi gyfeirio atyn nhw yn faes pryder gwirioneddol bwysig mewn llawer o gymunedau, ond yn benodol yn fy ward etholiadol fy hun, oherwydd mae'n debyg mai dyna oedd un o'r lluniau yr oedd pobl yn ei weld yn cael ei chwarae noson ar ôl noson ar y clipiau newyddion. Ac fel rydych chi wedi dweud yn eich datganiad, mae tua 1,200 o domenni o ryw ffurf neu'i gilydd ar draws Cymru ac, fel rwy'n ei ddeall, mae traean yma yn y categori uchaf, categori D. Yn ei ateb, soniodd y Prif Weinidog am dri awdurdod sy'n gyfrifol am arolygu'r tomenni hynny—Yr Awdurdod Glo, Cyfoeth Naturiol Cymru a chynghorau. A wnewch chi gadarnhau bod ganddynt broses arolygu gydgysylltiedig, a phan fydd pob awdurdod yn arolygu, y caiff yr wybodaeth honno ei rhannu gyda'r awdurdodau eraill, fel bod hyder llwyr nad yw pethau'n cael eu hanghofio, a phan gyfyd problemau neu beidio, y canfyddir fod un sefydliad yn gwybod amdano ond nid y llall? A hefyd, a wnewch chi ddweud pa fath o fesurau y gallai'r Llywodraeth fod yn eu hystyried i symud ymlaen i sicrhau y gweithredir ar unrhyw gyngor a roddir, oherwydd, yn bwysicach na dim, yn amlwg, mae hyn yn mynd i gostio?

Clywais yr hyn y gwnaethoch chi ei ddweud am y cyfarfod gyda'r Prif Weinidog a'r Ysgrifennydd Gwladol. Hyd yn hyn heddiw, rwyf wedi clywed tri swm gwahanol o'r hyn y mae pobl yn ei gredu byddai cost posib y clirio. Fe wnaethoch chi eich hun ddweud yn eich cynhadledd i'r wasg—nid beirniadaeth mo hyn—crybwyllwyd y bore 'ma y swm o ddegau o filiynau. Crybwyllodd y Prif Weinidog yn ei ddarllediad radio £100 miliwn a chredaf yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog y dywedodd aelod y byddai'r gost yn £180 miliwn yn Rhondda Cynon Taf yn unig. Felly, mae'n bwysig iawn ein bod yn deall sut y gall Llywodraeth Cymru, gan weithio gyda'i sefydliadau partner a Llywodraeth y DU, roi ffigur terfynol ar yr hyn y gallai fod ei angen i gefnogi cymunedau a chefnogi awdurdodau lleol ac asiantaethau cyhoeddus eraill, a busnesau hefyd, wrth geisio'r arian hwnnw gan y Trysorlys. Gan fy mod yn credu er tegwch i Lywodraeth Cymru, pe cyflwynid gofynion rif y gwlith, byddent eisiau gwybod faint y gofynnir iddynt amdano, a chredaf ei bod hi'n hanfodol ein bod yn deall sut y mae'r Llywodraeth yn gweithio i bennu ffigur terfynol, er mwyn i ni allu deall swm a sylwedd yr hyn sydd ei angen yma.

Hoffwn hefyd ddeall yn union sut mae'r pwyntiau seilwaith yn cael eu datblygu o fewn y Llywodraeth. Cyfeiriodd fy nghyd-Aelod Nick Ramsay o Drefynwy at y sefyllfa o ran dŵr yfed glân yn Sir Fynwy, ond mae materion eraill yn ymwneud â seilwaith wedi amlygu eu hunain yn hyn o beth. O feddwl am Cyfoeth Naturiol Cymru a mater y geuffos ym Mhentre yn y Rhondda, mae llawer o faterion yn codi ynghylch sut y rheolir y seilwaith hwn a sut y caiff ei gynnal yn rheolaidd ac, yn bwysig, os canfyddir diffygion, yr amserlen a roddir ar waith i gywiro'r diffygion a ganfyddir. A wnewch chi ddweud sut y mae eich adran yn rhyngweithio â Cyfoeth Naturiol Cymru, awdurdodau lleol a chyrff partner eraill sy'n gyfrifol, megis Dŵr Cymru, i sicrhau, pan fydd angen rhaglenni cynnal a chadw, y gwneir y gwaith cynnal a chadw hwnnw ar y seilwaith pwysig hwnnw?

Hoffwn hefyd ddeall sut yr ydych chi'n gweithio gyda Llywodraeth y DU o ran yswiriant. Rwy'n sylweddoli bod yn rhaid i'r diwydiant yswiriant ysgwyddo cyfrifoldeb ac, i fod yn deg, mewn sawl achos rwyf wedi clywed am aseswyr yswiriant yn gwneud llawer mwy na'r disgwyl i gael ceisiadau wedi'u prosesu ac archwilio eiddo fel y gall pobl fod yn dawel eu byd bod y ceisiadau arolygu hynny'n cael eu prosesu mewn modd amserol. Ond mae hi yn bwysig y delir ati i brosesu ac asesu'n gyflym, ac wrth inni symud ymhellach ac ymhellach o ddyddiad y llifogydd eu hunain, gallwn ddeall y gallai fod rhai yn llaesu dwylo yn hyn o beth. Ni ellir caniatáu hynny ac mae'n rhaid i chi yn y Llywodraeth ac, yn enwedig, drwy gydweithio â Llywodraeth y DU, sicrhau bod y sector yswiriant yn ysgwyddo cyfrifoldeb yn hyn o beth.

Byddwn eto'n ailadrodd mor bwysig yw hi inni gael y strategaeth rheoli perygl llifogydd cyn gynted ag y bo modd. Bu hwn yn ddarn o waith y bu Llywodraeth Cymru yn gweithio arno ers cryn amser, a chan ei fod yn ddarn o waith mor hanfodol i hysbysu'r Llywodraeth a chyrff cyhoeddus eraill o beth fydd y cyfrifoldebau, mae clywed y bydd ar gael inni mewn rhyw ddau fis yn gadael, mewn difrif calon, rai cwestiynau i'w hateb. Os wnewch chi fod yn fwy penodol, gan mai eich adran chi sy'n ymdrin â hyn, o ran rhoi amserlen i ni yr ydym yn gweithio iddi yn hyn o beth ac, yn bwysig, yr hyn y credwch chi fydd goblygiadau cyllidebol y gwaith datblygu cyfredol, yna byddai hynny'n tawelu meddyliau rhywun a dweud y lleiaf, wrth symud ymlaen.

Gyda'r cwestiynau hynny, edrychaf ymlaen at yr atebion y gallwch chi eu rhoi ond, unwaith eto, hoffwn ddiolch ar goedd i bawb a weithiodd mor ddygn ac a aeth yr ail filltir honno i roi tawelwch meddwl yn ystod dyddiau llwm iawn. 

15:05

Diolch, Andrew R.T. Davies, am y sylwadau a'r cwestiynau yna. Nid wyf yn credu y gallwn ni ddiolch digon i'r gwasanaethau brys, awdurdodau lleol, y gwirfoddolwyr a sefydliadau'r trydydd sector fel Cyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru. Rwy'n credu bod angen i ni barhau i wneud hynny dros y dyddiau a'r wythnosau nesaf.

Fe wnaethoch chi ddechrau eich cwestiynau gyda'r tomenni glo, ac rwy'n credu eich bod yn iawn, y darlun trawiadol iawn hwnnw o'r dŵr yn pistyllio yn Tylorstown, roedd hynny'n rhywbeth, fel y dywedwch chi, a ddangoswyd droeon. Ymwelodd y Prif Weinidog a minnau â Thylorstown ddydd Mawrth diwethaf—rwy'n credu—i'w weld drosom ein hunain, ac roeddwn yn falch iawn o weld bod awdurdod lleol Rhondda Cynon Taf, sydd, mi gredaf, wedi bod yn rhagorol wrth ymwneud â thrigolion, wedi mynd i drafferth i sicrhau eu bod yn siarad â thrigolion a oedd yn amlwg yn bryderus pan ddigwyddodd hynny. Mae hyn yn amlwg yn flaenoriaeth o ran y gwaith parhaus y mae angen ei wneud mewn cysylltiad â'r tomenni glo ac, fel y dywedwch chi, cyfarfu'r Prif Weinidog â'r Ysgrifennydd Gwladol ddoe a deallaf y cynhelir cyfarfod arall, swyddogol, rwy'n credu, yr wythnos nesaf. Mae amrywiaeth o sefydliadau yn berchen ar y tomenni hyn, ac mae hyd yn oed rhai ohonyn nhw mewn dwylo preifat. Felly, mae'n hanfodol bod yr Awdurdod Glo, Cyfoeth Naturiol Cymru, ac awdurdodau lleol yn gweithio yn y modd cydgysylltiedig hwnnw yn y dyfodol.

O ran eich cwestiynau ynghylch yswiriant, credaf fod hwnnw'n bwynt gwirioneddol dda. Fe'ch clywais yn dweud eich bod wedi gwrando ar y sesiwn friffio i'r lobi y bore yma. Es i drafferth i ddweud bod cynrychiolydd y gymdeithas yswiriant a fu yn yr uwchgynhadledd llifogydd yr wythnos diwethaf wedi dweud y byddai'r aseswyr yn ymweld mor gyflym â phosib. Roedden nhw wedi dyblu eu hymdrechion i wneud yn siŵr bod hynny'n digwydd oherwydd, rwy'n credu, yn sicr yn y sesiwn friffio i'r lobi y bore yma, roedd newyddiadurwyr yn sôn wrthyf am eu pryder bod cwmnïau yswiriant yn ceisio peidio â thalu os gallen nhw, sef—nid dyna'r ddealltwriaeth a gawsom ni gan y cynrychiolydd a oedd yno, ac y byddai'r aseswyr hyn yn ymweld. Yn wir, roedd y Prif Weinidog a minnau mewn cyfarfod o grŵp Rhondda Cynon Taf a ddygwyd ynghyd ganddyn nhw o ran y gwaith sy'n mynd rhagddo yn dilyn y llifogydd, ac roedd unigolyn yno a oedd yn berchen ar eiddo ar Ystâd Ddiwydiannol Trefforest yr effeithiwyd yn arbennig o ddrwg arno, a'r bore hwnnw roedd ei asesydd wedi bod yno. Felly, yn sicr o fewn 48 awr, roedd yr asesydd yswiriant wedi ymweld. Felly, credaf y dylem ni dalu teyrnged i'r rhai sy'n gwneud hynny.

Fe wnaethoch chi ofyn am ffigur terfynol. Rwy'n ofni y bydd yn rhaid i chi fod yn amyneddgar iawn. Nid ydym yn mynd i allu rhoi ffigur terfynol ynglŷn â'r holl gost am gyfnod hir. Felly, os ydych chi'n meddwl am Rondda Cynon Taf, er enghraifft, gwyddom fod sawl pont wedi'u difrodi, ond nid yw'n ddiogel i ddeifwyr fynd i'r dŵr eto i weld pa ddifrod a fu. Felly, mae'n mynd i fod yn broses hir ac nid ydym yn mynd i allu rhoi ffigur terfynol. Felly, clywsoch fi'n dweud degau o filiynau, y Prif Weinidog yr un fath, a chlywais rywun yn dweud £180 miliwn. Nid wyf wedi clywed y ffigur penodol hwnnw o £180 miliwn, ond gallaf eich sicrhau y bydd yn ddegau o filiynau o bunnau. Roeddwn yn Aberpennar gyda Vikki Howells yr wythnos diwethaf, a dim ond o weld y deunydd ar y strydoedd a ysgubwyd oddi ar y mynydd, mae'n anhygoel na chafodd neb ei ladd. Mae hynny i gyd yn mynd i gymryd llawer o arian, llawer o amser, a llawer o adnoddau.

O ran y strategaeth, fe'ch clywais yn dweud yn eich cwestiwn i'r Prif Weinidog ein bod wedi cael addewid o hyn ddwy flynedd yn ôl. Wel, dim ond yn yr hydref y llynedd y gwnaethom gau'r ymgynghoriad, a bydd y strategaeth yn amlinellu ein cyfeiriad strategol law yn llaw ag amcanion a mesurau diwygiedig ar gyfer cyflawni dros y degawd nesaf. Rwy'n credu y bu hi o fudd mawr i'r ymgynghoriad hwnnw ac i'r adborth, y gweithdai, y gweithgorau agos yr ydym wedi'u cael, y gwaith yr ydym ni wedi'i wneud gyda'n rhanddeiliaid yn dilyn yr ymatebion, a byddaf yn ei gyhoeddi'n ddiweddarach eleni.

15:10

Hoffwn ddiolch ar goedd i'r gwasanaethau brys, fel y mae eraill wedi ei wneud hefyd, ond rwyf eisiau diolch yn arbennig i'r gwirfoddolwyr cymunedol oherwydd, ar y dechrau, ni welodd rhai pobl unrhyw un swyddogol o gwbl, ac roedd y timau gwirfoddol hyn yn achubiaeth i bobl.

Mae'n rhaid i mi ddweud hefyd bod yr wythnos ddiwethaf yn un o'r wythnosau anoddaf rwyf wedi gorfod eu hwynebu fel Aelod Cynulliad sy'n cynrychioli'r cymunedau lle cefais fy magu. Mae wedi bod yn gwbl dorcalonnus gweld sut mae bywydau pobl wedi cael eu rhwygo'n ddarnau yn ystod dim ond un penwythnos. Rwyf wedi siarad â llawer iawn iawn o bobl yr effeithiwyd arnyn nhw, a throdd y sioc gychwynnol yn ddicter yn bur gyflym a rhwystredigaeth ynghylch yr hyn a ddigwyddodd a'r diffyg cefnogaeth gan rai asiantaethau yn y digwyddiadau a arweiniodd at y llifogydd, digwyddiadau a oedd, yng ngolwg llawer o bobl, wedi gwaethygu'r llifogydd. Felly, ar ran yr holl bobl hynny, mae gennyf rai cwestiynau i'r Gweinidog ac i'r Llywodraeth hon.

Cafodd llawer o geuffosydd ac afonydd eu rhwystro o ganlyniad i gannoedd o dunelli o rwbel a adawyd ar ôl yn sgil gwaith cwympo coed gael ei olchi i lawr y mynyddoedd. Nid oedd gan y rhwydwaith draenio unrhyw siawns. Roedd hyn yn arbennig o amlwg ym Mhentre, lle bu llifogydd ar rai strydoedd na welodd y dref erioed eu tebyg. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru, sy'n gyfrifol am dorri coed a gadael y deunydd ar ôl, wedi cyfaddef bod y malurion wedi cyfrannu at y llifogydd ac wedi addo adolygu eu polisïau'n fewnol. Gweinidog, nid yw hyn yn ddigon da, yn enwedig gan fod Pleasant Street ym Mhentre wedi dioddef llifogydd am yr eildro. Nawr, fel y Gweinidog sy'n gyfrifol am Cyfoeth Naturiol Cymru, a fyddwch chi'n mynnu ymchwiliad llawn ac annibynnol i'r hyn a ddigwyddodd? Ac os yw'r ymchwiliad hwnnw'n barnu bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn atebol am y llifogydd, a wnewch chi sicrhau y caiff pobl eu had-dalu'n llawn am y difrod, yn llawn, heb unrhyw effaith o gwbl ar eu polisïau yswiriant cartref neu gar?

O ran cadw dyfrffyrdd yn glir, aeth rhai trigolion â materion i'w dwylo eu hunain—gorfodwyd nhw i wneud hynny am nad oedd cymorth ar ei ffordd. Yn Ynyshir, roedd pobl yn gostwng eu hunain o dan bont ffordd ac yn defnyddio llifiau i dorri toreth o goesau coed, brigau a mwd oedd wedi ffurfio argae ac wedi rhwystro'r afon o dan y bont. Digwyddodd hyn mewn sawl lle. Felly, a fydd ymdrechion glew yn cael eu gwneud i sicrhau y caiff pob ceuffos a dyfrffordd eu clirio fel mater o frys?

Fel rhan o unrhyw adolygiad o'r llifogydd, a wnewch chi edrych hefyd ar sut y mae gwledydd eraill yn ymdopi â llifogydd er mwyn dysgu'r arferion gorau? Mae'n rhaid bod yr Iseldiroedd yn enghraifft amlwg; mae pobl yno'n byw islaw lefel y môr heb y problemau yr ydym ni wedi'u gweld yma.

Wrth i bobl geisio ailadeiladu eu bywydau, mae angen cymorth gyda chost biliau cyfleustodau. Ar ôl ysgubo dŵr a baw allan, y cam nesaf yw sychu'r holl rannau o'r eiddo yr effeithiwyd arnyn nhw, a defnyddir dadleithyddion a gwresogyddion diwydiannol. Ond, wrth gwrs, maen nhw'n defnyddio llawer o ynni ac yn ddrud iawn i'w rhedeg, sy'n golygu y gallai pobl gael eu gorfodi i ddioddef tlodi tanwydd drwy ddim ond sychu eu cartref. Yn absenoldeb cwmni ynni yng Nghymru sydd mewn perchenogaeth gyhoeddus ac sy'n rhoi blaenoriaeth i bobl ac nid elw, fel yr un a gynigir gan Blaid Cymru, a wnewch chi edrych ar ffyrdd y gellir darparu cymorth i aelwydydd sy'n cael trafferth ymdopi ag ôl-effeithiau llifogydd o ran costau ynni?

Rwyf hefyd yn pryderu am y niwed seicolegol y mae'r llifogydd wedi'i achosi i bobl, yn enwedig, ond nid yn unig, i blant sy'n aml yn llai profiadol ac felly'n llai cydnerth i ymdrin â thrawma fel hyn. Tynnodd y gymuned ynghyd yn y Rhondda yr wythnos diwethaf i gynnal diwrnod hwyl i'r plant yr effeithiwyd arnynt, a oedd yn wych, ond mae angen cefnogaeth broffesiynol. Mae ysgolion yn wych, ond pa ymdrechion ychwanegol a wneir i sicrhau bod cymorth a chwnsela iechyd meddwl ar gael i blant yn ogystal ag i oedolion er mwyn dygymod â chanlyniad y dinistr hwn?

Ac yn olaf am nawr, a wnaiff y Llywodraeth hefyd ystyried sicrhau bod pobl yng Nghymru yn cael yr un driniaeth â phobl yn Lloegr o ran lliniaru llifogydd? Sylwaf fod cynllun gwrthsefyll llifogydd yn Lloegr sy'n cynnig hyd at £5,000 o gartrefi i ddiogelu eu hunain rhag llifogydd. Byddai hynny'n cael ei groesawu gan lawer, ynghyd â'r hyn sydd i'w weld yn gymorth ychwanegol yn Lloegr i fusnesau a gawsant eu dal yn y llifogydd hefyd. A allwn ni ddisgwyl i bobl yng Nghymru weld rhywbeth tebyg?

15:15

Hoffwn ddechrau drwy adleisio sylwadau Leanne Wood am y gwirfoddolwyr cymunedol, a soniais am wirfoddolwyr, y trydydd sector a'r cymunedau yn fy natganiad hefyd. Yn sicr, gwelais hynny ledled Cymru dros y pythefnos diwethaf, a'r ffaith bod cymunedau'n dod ynghyd.

Rwy'n cytuno â chi, rwy'n credu y bu'r wythnos diwethaf yn un o'r wythnosau anoddaf yr wyf wedi'u cael yn gynrychiolydd etholedig, i weld y dinistr a'r trawma, ac nid wyf yn credu bod 'trawma' yn air rhy gryf i'w ddefnyddio gyda phobl sydd, fel y dywedwch chi, wedi colli popeth. Ac rwy'n ailadrodd eto, rwy'n credu y buom ni'n ffodus iawn na chafodd neb ei ladd. Mae'n ddrwg gennyf glywed ichi weld dicter, rhwystredigaeth a bai, oherwydd yn sicr ni welais i ddim. Yr wythnos diwethaf, ni ddywedodd neb y gair hwnnw wrthyf; roedd pawb yn ddiolchgar tu hwnt. Rwy'n sylweddoli mai dyddiau cynnar iawn yw hi a bod ffordd bell i fynd. Ac os oedd pedair troedfedd o ddŵr yn eich tŷ—. Y ddwy stryd yr oeddwn i arnynt ym Mlaenau Gwent, nad oedd erioed wedi cael llifogydd o'r blaen, aethant o chwe modfedd i bedair troedfedd o ddŵr am 3 o'r gloch y bore mewn 20 munud. Mae hynny mor drawmatig, a byddwn yn sicr wedi deall pe baent yn ddig wrthyf, ond yr hyn a gefais yn y strydoedd hynny oedd, 'Gadewch imi fynd i fyny'r grisiau a gwneud paned o de i chi a'ch tîm, gan eich bod yn oer iawn ac yn wlyb.' Felly, ni ddes ar draws hynny. Yn sicr, byddwn yn deall petawn i wedi dod ar draws hynny, ond rwy'n credu bod pobl yn ddiolchgar tu hwnt. Ac fe glywsoch y Prif Weinidog yn dweud yn ei atebion mai dyna'r peth cyntaf yr oedden nhw eisiau ei rannu—eu diolch am y gefnogaeth a'r cymorth a gawsant.

O ran y rhwydwaith draenio, rwy'n gwybod, dros y penwythnos—. Ar y Sul, siaradais ag Andrew Morgan, arweinydd Rhondda Cynon Taf, ac roedd rhai ceuffosydd a gliriwyd ganddynt dair gwaith. O nos Wener, o wybod bod y storm yn dod, fe'u cliriwyd dair gwaith, ond, bob tro, roedd malurion yn dod oddi ar y mynydd neu o'r afonydd neu o'r strydoedd. Felly, rydym yn darparu 100 y cant o gyllid ar gyfer clirio gridiau a cheuffosydd wrth symud ymlaen i gynorthwyo awdurdodau lleol i wneud hynny'n gyflym iawn.

Fe wnaethoch chi sôn am ddysgu o wledydd eraill, ac, wrth gwrs, dylid rhannu arferion gorau bob amser, a byddwn yn hapus iawn pe bai gan unrhyw aelodau unrhyw enghreifftiau o arferion gorau, ond, yn sicr, credaf fod yn rhaid inni edrych ar wledydd eraill i weld sut maen nhw'n gwneud hynny, yn y ffordd y mae gwledydd eraill yn edrych, er enghraifft, ar domenni glo. Rydym ni'n arbenigwyr rhyngwladol yn y maes hwnnw; mae gennym bobl o bob cwr o'r byd yn dod i'r wlad hon i edrych ar hynny.

O ran yr agwedd seicolegol—ac fe wnaethoch chi sôn am blant yn benodol, ac rwy'n gwybod bod Delyth Jewell wedi codi hynny gyda'r Trefnydd yn ei datganiad. Byddwch wedi clywed mai ymateb trawslywodraethol i'r llifogydd yw hyn yn llwyr, ac, yn amlwg, mae hwn yn fater y gallwn ni ei ddwyn i sylw'r Gweinidog Iechyd a'r Gweinidog Addysg—mae'r ddau ohonyn nhw yma i glywed eich cwestiwn ynghylch hynny. 

O ran cost ynni, mae'n amlwg y bydd hyn yn parhau yn rhan o'r costau wrth symud ymlaen. Nid yw'n ymwneud â seilwaith yn unig; mae'n ymwneud â phethau megis trefnu bod pobl yn cael y dadleithyddion hynny yn y tai. Ond dyma—. Fel y dywedais, bydd hyn yn ddull gweithredu tymor hir; gallai fod yn fisoedd cyn y gall pobl ddychwelyd i'w cartrefi, er enghraifft, felly mae angen inni edrych ar hynny yn rhan o'n hymateb parhaus.

15:20

Gweinidog, rwy'n mynd i ganolbwyntio'n bennaf ar y trychinebau a darodd Rhondda Cynon Taf, oherwydd bod y dilyw yno mor ddrwg a sylweddol, ond a gaf i yn gyntaf oll ddiolch i chi am ddod i'm hetholaeth? A gaf i hefyd ddiolch i'r Prif Weinidog am ddod i ymweld yn syth wedyn? A gaf i ddiolch i Jeremy Corbyn? A gaf i ddiolch i Adam Price, a Thywysog Cymru, a ddaeth i ymweld hefyd? Oherwydd mae'r ymweliadau hynny'n bwysig, am eu bod yn weithred o undod â chymunedau sydd wedi'u taro'n galed. Maen nhw hefyd yn codi ysbryd, ac yn dangos ein bod yn poeni a'n bod yn gwrando. Felly, diolchaf i bawb a ddaeth i ymweld—ac am y croeso a roddwyd iddyn nhw gan bobl a oedd yn glanhau eu tai ar yr union adeg y cynhaliwyd yr ymweliadau hynny—a hoffwn hefyd ddiolch eto nid yn unig i'r sector cyhoeddus a gweithwyr y gwasanaethau brys, ond i'r gwirfoddolwyr, y mae llawer ohonynt yn dal i fod, ar hyn o bryd, yn gweithio, yn helpu yn eu cymunedau. A diolch yn arbennig i arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf, Andrew Morgan, oherwydd credaf y bu bron i bawb dderbyn y bu'r ymateb gan Rondda Cynon Taf o'r dechrau'n deg bron yn rhagorol ac yn wych ac mae wedi bod yn anrhydedd gweithio gydag ef a'i gydweithwyr a chyda'r holl weithwyr sector cyhoeddus hynny yn Rhondda Cynon Taf.

Os caf i wneud sylw hefyd o ran maint y difrod, sef, fel sy'n amlwg i gynifer o bobl, y rheini—rhai o'r cymunedau yn fy etholaeth i, rhai o'r rhai hynny a oedd â'r lleiaf sydd wedi colli popeth. A pha mor bwysig yw'r grantiau, y cyfraniadau a wnaed, y rhoddion a wnaed i gronfa a sefydlwyd gennyf i a'r AS Alex Davies-Jones a, a oedd, o fewn ychydig ddyddiau, wedi codi tua £30,000, a'r holl gronfeydd eraill a sefydlwyd i wneud hynny.

Siaradais ag arweinydd y cyngor y bore yma am union faint y difrod—mae'n bwysig cofnodi hyn—yn Rhondda Cynon Taf. Mae naw pont wedi'u cau—mae difrod difrifol i'r pontydd hynny ac efallai fod angen eu hadnewyddu i gyd. Mae'r Cyngor wedi arolygu 199 o bontydd; mae 32 ar ôl i'w harchwilio. Mae dwsinau a dwsinau o furiau afonydd wedi dymchwel a cheuffosydd wedi dymchwel, wedi'u difrodi, ac mae'n rhaid ymdrin â phob un ohonynt. Archwiliwyd 43 o domenni glo categori C a D. Mae rhestr sylweddol yn cael ei llunio ynglŷn â'r gwaith sydd angen ei wneud o ran archwilio priffyrdd ac atgyweirio priffyrdd.

Mae gennym ni 557 o gartrefi sydd wedi dioddef llifogydd yn Rhondda Cynon Taf—25 y cant o gyfanswm y DU. Mae gennym ni 500 o eiddo busnes a ddifrodwyd gan lifogydd, ac mae amcangyfrif bod y difrod a wnaed i fusnesau mewn dim ond un ardal o Drefforest, lle mae'n bosibl yr effeithiwyd ar tua 90 y cant o'r busnesau, oddeutu £100 miliwn i £150 miliwn. Felly, mae'r dyfalbris a gafwyd gan y cyngor—a dim ond dyfalbris y gall e fod ar y cam hwn— tua £30 miliwn i £40 miliwn o ddifrod, ond tybiaf y bydd yn fwy o lawer unwaith y caiff yr arolygiadau hynny eu cwblhau, ac rwy'n gwybod bod arweinydd y Cyngor eisiau diolch ar goedd am y gefnogaeth. Mae wedi cael cerbydau ac offer gan awdurdodau lleol eraill o gwmpas Cymru, ac mae'r ysbryd cymunedol hwnnw ledled Cymru yn rhywbeth rwy'n credu, fel gwlad ac fel cymuned, y gallwn fod mor falch ohono.

A gaf i ddweud un peth hefyd, o ran yr arian sydd ei angen mewn gwirionedd? Nid ydym yn gofyn am arian datganoli ychwanegol. Rydym yn rhan o'r Deyrnas Unedig, rydym yn cyfrannu'n ariannol at y Deyrnas Unedig. Mae Prif Weinidog Prydain yn Weinidog yr Undeb, ac mae'n ddyletswydd ar unrhyw undeb i helpu'r ardaloedd hynny pan fydd trychineb yn taro. Nid yw'r hyn y gofynnir amdano'n ddim mwy nag y gallai unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig—Cymru, Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon—ofyn amdano ac, yn y gorffennol, maen nhw wedi ei gael mewn gwirionedd.

A gaf i ofyn am un peth arbennig y credaf y mae angen ei wneud, sef, yn gyntaf, sicrhau pawb bod Pontypridd ar agor ar gyfer busnes? Oherwydd mae'r busnesau hynny ar agor, er gwaethaf rhywfaint o'r difrod sydd ganddynt o hyd, ac mae hynny wedi bod yn ymdrech ryfeddol. A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd Gwladol Cymru o ran y gweithredu cyflym ynglŷn â'r rhanddirymiad mewn cysylltiad â'r Adran Nawdd Cymdeithasol?

Ac a gaf i wedyn ofyn un peth arall, sef: mae angen i ni edrych yn benodol ar gyngor arbenigol a roddir i'n cymunedau mewn cysylltiad â mater yswiriant. Mae gan lawer o bobl yswiriant, mae'r diwydiant yswiriant yn chwarae pob math o gemau— 'ai difrod llifogydd ydyw? Ai difrod stormydd?' neu beth bynnag. Y gwir amdani yw, rwy'n credu bod hwn yn fater lle mae gwir angen i Gymdeithas Yswirwyr Prydain dynnu'r ffrwyn a chymryd rheolaeth dros y sefyllfa, trafod â'r Llywodraeth a llywodraeth leol, a sicrhau, yn gyntaf, bod y bobl hynny sydd ag yswiriant yn cael eu digolledu'n briodol o dan eu polisïau yswiriant. Ac yna ailadroddaf bopeth a ddywedodd y Prif Weinidog, sef bod angen inni edrych ar y trefniadau presennol a allai fod ar gael o ran yswiriant ac, o bosib, sut y gallwn ni hyd yn oed ddyfeisio a gwella trefniant penodol ar gyfer Cymru, er mwyn sicrhau nad yw ein pobl yn dioddef. Diolch yn fawr, Gweinidog.

15:25

Diolch, Mick. Credaf fod yr ystadegau a'r ffigurau a gyflwynwyd gennych yn dangos yn glir iawn fod yr effaith ar awdurdod lleol Rhondda Cynon Taf mor ddifrifol. Roeddwn hefyd yn mynd i ddweud fy mod yn gwybod, drwy fy nhrafodaethau gydag Andrew Morgan ac yn yr uwchgynhadledd hefyd, pa mor ddiolchgar ydoedd i awdurdodau lleol cyfagos am eu cymorth.

I gyfeirio at ychydig o bwyntiau penodol yr ydych chi'n eu crybwyll—yn sicr, mae Pontypridd ar agor ar gyfer busnes. Rwy'n credu ei bod hi'n destun gwyleidd-dra mawr gweld y ffordd y mae busnesau'n agor eto. Roeddwn yn Llanrwst wythnos i ddydd Iau diwethaf, yn dilyn storm Ciara, ac roedd y busnesau yno'n clirio. Roedd yn wych gweld mai'r un siop a oedd ar waith un diwrnod cyn dydd Sant Ffolant oedd y gwerthwr blodau—roedd ganddi ei holl flodau a'i balwnau y tu allan, a chredais fod hynny'n wych, i weld y math hwnnw o gydnerthedd gan ein busnesau, felly rwy'n hapus iawn i ddweud hynny ar goedd.

O ran yswiriant, mae'n bwynt pwysig iawn, oherwydd rwy'n credu bod angen i ni wneud mwy i hyrwyddo'r cynllun 'Flood Re'. Dydw i ddim yn credu bod digon o bobl yn ymwybodol ohono, felly os oes pobl y gwrthodwyd eu ceisiadau am yswiriant llifogydd—hyd yn oed os yw hynny wedi digwydd, bydd 'Flood Re' yn gallu darparu rhywfaint o gymorth. Felly, yn sicr, roedd y trafodaethau a gawsom ni gyda chynrychiolydd cymdeithas yr yswirwyr yn yr uwchgynhadledd llifogydd—dyna un maes lle rwy'n credu bod angen i ni wneud mwy. Felly, i unrhyw un sydd nawr yn gwrando, y peth i'w wneud, os nad ydych yn gwybod am y cynllun, yw ffonio eich cwmni yswiriant—eich cwmni presennol—a gofyn iddyn nhw edrych ar hynny i chi.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Hoffwn hefyd ategu a hoffwn ddiolch i'r holl wasanaethau brys a'r pentrefi lleol, ar ran fy mhlaid, am y gwaith y maen nhw wedi ei wneud dros y penwythnosau diwethaf a'u gwaith parhaus o ran dod yn ôl i drefn.

Un peth y gallwn ei ddysgu o'r ychydig wythnosau diwethaf yw bod angen adolygu'r gefnogaeth gan y sefydliad hwn a Llywodraeth Cymru nawr. Gweinidog, mae llawer o etholwyr wedi bod yn anfon negeseuon e-bost ataf ynglŷn â'r diffyg cefnogaeth gan awdurdodau lleol yn ystod y llifogydd. A fydd Llywodraeth Cymru nawr yn adolygu cynlluniau gweithredu a chanllawiau ar gyfer atal llifogydd? Oherwydd un peth y gallwn fod yn sicr ohono yw y gallwn ni, ac y  byddwn ni, yn gweld glaw o'r math hwn eto.

Gweinidog, cytunaf fod rheoli'r perygl o lifogydd yn fwy na dim ond adeiladu amddiffynfeydd uwch a chryfach, ond rhaid gwella hefyd y modd yr ydym yn darparu cymorth, a sut y rhoddir gwybod i drigolion a busnesau am y cymorth sydd ar gael. Siaradais â nifer o ffermwyr sy'n meddwl tybed a allai Cyfoeth Naturiol Cymru edrych ar y ffordd y rhoddir rhybuddion llifogydd i'w helpu, oherwydd cafodd llifogydd effaith enfawr ar eu busnesau. Fe wnaethoch chi sôn hefyd am gynlluniau'r dyfodol yn eich datganiad. A wnewch chi gadarnhau, os gwelwch yn dda, y bydd gan ardaloedd gwledig gynllun i helpu awdurdodau lleol yn yr ardaloedd hyn ledled Cymru, os gwelwch yn dda?

Yn fy mhentref fy hun, llifodd dŵr i gartrefi a busnesau pan, mewn gwirionedd, ymunodd nant fechan a oedd yn rhedeg drwy'r pentref â'r llifddyfroedd a ddoi i lawr o'r mynyddoedd. Rhuthrodd y dŵr i'r pentref. Nid yw'r Cyngor Sir—fe wnes i gysylltu â nhw ar ran y pentrefi cyn hynny, oherwydd gallem weld y dŵr yn codi—wedi rhoi bagiau tywod i drigolion dros y blynyddoedd diwethaf, Cyngor Sir Ddinbych, ac nid oedd ganddynt ddiddordeb mewn gwirionedd, er imi ofyn amdanynt ar gyfer y pentrefi, gan fod y dŵr yn llifo i'r tai a'r busnesau lleol.

Cafodd fy nau bentref, y naill ochr a'r llall i'r lle rwy'n byw, eu hynysu'n llwyr. Pe na bai'r bobl leol wedi cyd-dynnu, byddai wedi bod yn llawer gwaeth i'r holl drigolion yno. Rwyf wedi gyrru ar hyd y ffyrdd hynny ers 1986, ac nid wyf wedi gweld dŵr fel hwnnw fy hun. Cafodd y ceunentydd eu clirio'n gynharach eleni, ond cyn pen dim o dro roeddent yn llawn oherwydd y rwbel a'r creigiau a oedd yn llifo o'r ffyrdd mynydd.

Mae'r Afon Ddyfrdwy wedi llifo dros yr holl gaeau hyd at y priffyrdd rhwng y pentrefi a thu hwnt dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae diffyg carthu gwely'r afon yn bendant yn cael ei feio am hyn. A allwn ni ailgychwyn carthu afonydd cyn gynted â phosib, gan fod hyn yn hanfodol os yw ein hafonydd i lifo'n ddwfn ac yn llyfn, a fydd yn helpu i liniaru llifogydd yn y dyfodol os gwneir hynny'n rheolaidd? Diolch.  

15:30

Diolch. Credaf y bydd gwersi i'w dysgu o'r ddwy storm hyn, ond credaf fod yn rhaid inni dderbyn—fe wnaethoch chi ddweud nad oeddech wedi gweld glaw tebyg—cawsom fis o law mewn llai na 24 awr. Felly, rwy'n credu bod angen i ni gofio hynny.

O ran cynlluniau atal llifogydd a lliniaru llifogydd yn y dyfodol, mae tua 25 ar y gweill, ac mae hynny ledled Cymru. Yr awdurdodau lleol sy'n gorfod cyflwyno gwaith paratoadol mewn cysylltiad ag achosion busnes ar gyfer cynlluniau o'r fath. Mae gennyf 25 ar y gweill, ac ychydig cyn y ddwy storm hyn, roeddwn i wedi gofyn am adolygiad cyflym o'r cynlluniau hynny i weld pa rai y gallem ni eu cyflwyno. Mae'n hynod bwysig, yn amlwg, bod gan awdurdodau lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru y gallu i gyflawni'r cynlluniau hyn yn ystod blwyddyn y cyllid a ddarperir.

Roeddech yn beirniadu Cyngor Sir Ddinbych. Awgrymaf eich bod yn ysgrifennu atynt. Os ydych eisiau fy nghynnwys yn yr ohebiaeth, gallaf rannu hynny â nhw.

Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am y diweddariad hwn, a manteisio ar y cyfle hwn hefyd i grybwyll mater y cyllid a addawyd ar gyfer y rhai a ddioddefodd o achos y llifogydd. Mae gennym ni sefyllfa argyfyngus yn Aberconwy o hyd. Yn ystod storm Ciara, effeithiwyd ar tua 10 eiddo ym Metws-y-coed a 60 yn Llanrwst, ar 9 Chwefror. Yna cawsom storm Dennis, ac mae'n rhaid i mi fod yn onest, y gymuned yn dod ynghyd yn wyneb hynny a rwystrodd fwy o ddinistr yn hynny o beth, a'r gwasanaethau brys. Ond eto, y penwythnos hwn, gwelsom ffyrdd yn diflannu dan ddŵr a Llanrwst yn teimlo bron yn ynysig.

Nawr, byddwch yn ymwybodol, Gweinidog, fy mod wedi gofyn i chi, ar 11 Chwefror, pa gyllid a fyddai ar gael i'r awdurdod lleol a'r trigolion i helpu gyda'r gwaith glanhau, ac ysgrifennais hefyd at y Gweinidog Cyllid am gymorth ariannol brys ar 14 Chwefror. Eto i gyd, cymerodd y Prif Weinidog tan 18 Chwefror i gyhoeddi y byddai cynllun cefnogaeth o arian brys yn cael ei greu. A dim ond ddoe roedd modd ymgeisio am hynny. Dim ond ddoe roedd ffurflenni ar gael.

Felly, gallwch ddeall bod fy nhrigolion yn Aberconwy yn teimlo'n rhwystredig iawn gan ei bod yn ymddangos bod y Prif Weinidog—ac fe wnaf i ddweud ymddangos, neu ei fod fel pe bai—wedi dewis aros tan ar ôl storm Dennis i wneud unrhyw beth. Ar ran fy—[Torri ar draws.] Felly, pam mai dim ond ddoe yr oedd y ffurflenni ar gael? I'm hetholwyr i, mae hynny'n golygu y buont yn aros dros 15 diwrnod am gymorth ariannol brys. I rai heb yswiriant, mae hynny dros bythefnos cyn gellid hyd yn oed dechrau mynd i'r afael â—[Torri ar draws.] Gallwch weiddi faint fynnoch chi, dyna'n union sydd wedi digwydd.

Dim ond glanhau heb unrhyw gemegau sydd wedi digwydd ar rai ystadau sydd wedi dioddef llifogydd. Mae gennyf i blant yn fy etholaeth i y mae'n rhaid iddyn nhw fyw i fyny'r grisiau o hyd gan mai dim ond golchiad syml efo peiriant chwistrellu dŵr y maen nhw wedi ei gael, ond roedd llaid carthion yn rhedeg drwy'r cartrefi hynny. Mae o leiaf dri busnes heb yswiriant bellach wedi rhoi'r gorau i fasnachu, ac mae eraill yn parhau i frwydro am eu dyfodol. Mae llawer o etholwyr wedi bod yn ymdrechu'n daer i gael gafael ar unrhyw gymorth ariannol a addawyd.

Ond mae ymateb y gymuned i'w ple wedi bod yn eithriadol. Mae llawer ohonom ni wedi gwneud ymdrech i fod wrth law, i helpu lle y gallwn ni, boed hynny drwy gysylltu â'r awdurdod lleol—. Ac mae'n rhaid i mi roi clod i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy am eu hymdrechion mawr yn ystod storm Dennis, i sicrhau nad effeithiwyd eto ar y rhai yr effeithiwyd arnyn nhw eisoes.

Er fy mod yn ddiolchgar am y ffaith y bydd pob cartref yr effeithiwyd arnynt gan lifogydd ledled Cymru yn cael £500 yn dechnegol, £1,000 o bosib, ar gyfer y rheini sydd heb yswiriant tŷ, dim ond diferyn yn y môr ydyw. Roedd gennyf breswylydd ar y ffôn ddoe, mae hi wedi colli ei busnes, ei chartref, a'i char. Nid oes ganddi ddim byd ar ôl, wrth inni siarad heddiw.

Felly, Gweinidog, pam y cymerodd hi tan ar ôl storm Dennis i'r Prif Weinidog gyhoeddi cymorth ariannol i unigolion a effeithiwyd gan storm Ciara? A ellir ystyried cynyddu faint o gymorth ariannol sydd ar gael mewn amgylchiadau eithriadol? Pa gymorth brys fydd ar gael i'n ffermydd a ddioddefodd lifogydd, a gollodd eu da byw? Nid oes sôn am hynny yn eich datganiad. Ac a fydd arian ar gael i helpu dadwneud difrod i'n hadeiladau rhestredig, gwerthfawr, hanesyddol? Ac fe wyddoch chi at beth rwy'n cyfeirio wrth ddweud hyn: Castell a gerddi Gwydir. Mae'r annhegwch a achoswyd iddynt yn anferthol.

Mae'n hysbys fy mod eisiau gweld ymchwiliad annibynnol i fesurau lliniaru llifogydd yn Aberconwy, oherwydd cawsom ein boddi ym mis Rhagfyr 2015, fis Mawrth y llynedd, storm Ciara, a mwy o effeithiau o storm Dennis. Dywedodd Llywodraeth Cymru—. Fe wnaethoch chi ddweud yn ymateb i'm cwestiwn, 'dim adolygiadau pellach'. Mae pobl yn Llanrwst yn teimlo nad oes gennych chi ddiddordeb, Gweinidog. [Torri ar draws.] Rwyf wedi gofyn pedwar cwestiwn.

Gofynnaf nawr: a wnewch chi weithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i ailasesu'r posibiliadau a gynigiwyd yn flaenorol ac a wrthodwyd? Ac ategaf yr hyn y mae Mandy Jones wedi'i ddweud draw yn y fan yna: mae pobl yn credu y dylai afon Conwy, na fu erioed mor uchel, gael cynllun lliniaru perygl llifogydd sy'n cael ei roi ar waith o ran carthu'r gwely, neu ryw fath o gefnogaeth i'r afon honno. Diolch.

15:35

Nid wyf yn hoffi cywair datganiad Janet Finch-Saunders o gwbl. Roeddwn yn Llanrwst ar 13 Chwefror— [Torri ar draws.] Ydych chi eisiau gwrando ai peidio? Ydych chi eisiau gwrando? Rwy'n gwrthwynebu'n llwyr. Roeddwn yn Llanrwst ar 13 Chwefror, yn ymweld â thai yn eich etholaeth, a siaradais â llawer o'r trigolion. Ni siaradodd yr un ohonyn nhw fel yr ydych chi'n ei wneud—dim un ohonynt. Felly, fe wnaf i ddweud wrthych chi pam y mae'n cymryd sawl diwrnod—a dyna'r cyfan, sawl diwrnod—i sefydlu—[Torri ar draws.]

A wnewch chi adael i'r Gweinidog siarad? Mae gennyf i 10 arall o siaradwyr ar ôl hyn, ac mae gennym ni 20 munud, felly ni fydd pob un o'r 10 yn gallu dweud ei bwt. Gweinidog.

Fe wnaf i ddweud wrthych chi pam y mae hi'n cymryd sawl diwrnod i sefydlu cynllun: mae'n arian cyhoeddus. Ac mae'n rhaid rhoi cyfrif am yr arian cyhoeddus hwnnw. Mae'n rhaid iddo gael ei archwilio. Rhaid ichi gael system i allu darparu'r cyllid hwnnw. Ydych chi eisiau gwrando ai peidio? Felly, mae gan bob tŷ lle bu llifogydd mewnol—. Gallwch grechwenu, Janet Finch-Saunders; dydw i ddim hyd yn oed yn mynd i edrych arnoch chi, oherwydd eich bod chi—. Mewn gwirionedd, Dirprwy Lywydd, nid wyf yn credu ei bod hi'n deilwng o ateb.

15:40

Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch yn fawr, Gweinidog. Hoffwn ategu eto'r diolchiadau gan lawer o Aelodau o bob rhan o'r Siambr hon am yr ymdrech a wnaed gan arwyr di-rif i helpu'r rheini yr effeithiwyd arnynt gan y llifogydd diweddar, ac i ategu hefyd fy niolch i chi am ymweld â busnesau a thrigolion Aberpennar gyda mi yr wythnos diwethaf. Roedd yr arweiniad gweladwy gennych chi a'r Prif Weinidog i'w groesawu.

Fy nghwestiynau. Gobeithio y byddwch wedi gweld y llythyr a anfonwyd ar y cyd at Ganghellor y Trysorlys gan gynrychiolwyr Rhondda Cynon Taf, ac rwy'n cydnabod eich sylwadau ynglŷn â gweithio gyda Llywodraeth y DU. A wnewch chi gyflwyno sylwadau i sicrhau bod Rhondda Cynon Taf yn cael y cymorth sydd ei angen, lle mae dyletswydd ar Lywodraeth y DU, megis cyllid ar gyfer seilwaith, y dreth gyngor a rhyddhad ardrethi?

Rwy'n cydnabod hefyd eich sylwadau ynglŷn â llifogydd ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn, fel y mae Aelodau eraill wedi'i ddweud a chithau, i sicrhau bod pobl yn gwybod sut y gallant gael gafael ar yr yswiriant fforddiadwy hwnnw. Ond rwy'n pryderu am ddiffyg eglurder yn y maes hwn. Rwyf wedi cyfarfod â nifer o bobl sydd wedi bod yn ofidus iawn o ddarganfod nad ydyn nhw wedi'u hyswirio rhag difrod llifogydd. Felly, hoffwn ofyn yn arbennig beth y gallwn ni ei wneud i sicrhau bod yr wybodaeth honno'n glir a bod cwmnïau yswiriant yn cael eu gorfodi i wneud yr wybodaeth honno'n llawer cliriach nag ydyw ar hyn o bryd?

Ac yn olaf, hoffwn gloi drwy ategu eto y sylwadau a wnaed gan Aelodau eraill yn y Siambr hon am yr angen am gefnogaeth oherwydd effaith emosiynol llifogydd hefyd. Mae cymorth ariannol i helpu pobl i ailadeiladu eu bywydau yn bwysig iawn, ond bydd y creithiau seicolegol hirdymor hynny'n dod i'r amlwg dros amser. Rwyf wedi cwrdd â phobl yn Ynysybwl a gafodd eu taro gan don saith troedfedd o ddŵr yn rhuthro drwy eu heiddo. Felly, hoffwn ofyn ar goedd, os gwelwch yn dda, am rywfaint o gymorth gyda gwasanaethau cwnsela i'r rhai sydd ei angen.    

Rwy'n credu bod y rhan fwyaf o'r pwyntiau y mae Vikki Howells yn eu crybwyll, y tu hwnt i'r hyn y mae Aelodau eraill wedi'i grybwyll, yn ymwneud mewn gwirionedd â'r dull trawslywodraethol yr ydym ni'n ei gymryd mewn perthynas â'r llifogydd. Felly, byddwch yn ymwybodol bod fy nghyd-Aelod, y Gweinidog Cyllid, wedi ysgrifennu at y Trysorlys ynglŷn â hyn. Yn amlwg, mae'r Prif Weinidog wedi cael trafodaethau ynghylch cyllid, oherwydd—credaf i Mick Antoniw wneud y sylw—nid cyllid datganoli ydyw. Mae hwn yn arian y mae ei angen arnom ni ac mae'n arian y dylem ei gael gan Lywodraeth y DU.

Ac mae'r un peth yn ymwneud â'r effaith emosiynol. Atebais Leanne Wood o'r blaen, yn amlwg, bydd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Gweinidog Addysg yn sicrhau bod y gefnogaeth honno ar gael yn ystod yr wythnosau a'r misoedd a hyd yn oed y blynyddoedd nesaf. Oherwydd rwy'n credu eich bod yn gywir; fe ddigwyddodd y mwyafrif o'r difrod, yn enwedig o ran storm Dennis, a storm Ciara hefyd, yn y nos. Mae pethau bob amser yn llawer gwaeth yn y tywyllwch ac yn ystod y nos ac mae mynd—fel y dywedaf, y tai yr ymwelais â nhw ym Mlaenau Gwent—o chwe modfedd o ddŵr i bedwar troedfedd o ddŵr mewn dim ond 20 munud yn frawychus iawn. Yn yr un modd: ymwelais â Chrucywel yn etholaeth Kirsty Williams ddydd Iau, ac eto roedd hi yn ystod y nos arnyn nhw yn amlwg yn cael yr ymchwydd hwn o ddŵr yn eu cartrefi.

Credaf eich bod yn gwneud pwynt perthnasol iawn ynglŷn ag yswiriant a sicrhau bod pobl wedi'u hyswirio'n ddigonol. Mae Flood Re ar gael ar gyfer cartrefi. Nid yw ar gael i fusnesau, ond mae ar gael ar gyfer cartrefi. Ac rwy'n credu bod rhywbeth i'w ddweud o ran sicrhau ei fod yn cael ei ddarparu i fusnesau efallai, ac mae hwn yn fater i Lywodraeth y DU, ond mae'n rhywbeth y byddaf yn ysgrifennu at y Gweinidog priodol yn ei gylch.

A gaf innau ategu y diolch a'r teyrngedau sydd wedi cael eu talu i'r gwasanaethau arbennig, i'r gweithwyr cyngor, i weithwyr Cyfoeth Naturiol Cymru, y gwirfoddolwyr a'r cymunedau sydd wedi dod at ei gilydd yn wyneb y darluniau eithriadol rydym ni wedi gweld dros yr wythnosau diwethaf?  

A gaf i ofyn yn gyntaf, Weinidog, sut ydych chi'n ymateb i ddau o arweinyddion cynghorau'r gogledd, yn sir Ddinbych a sir Conwy, sydd wedi beirniadu arafwch ymateb y Llywodraeth? Hynny yw, doedd yna ddim sôn am £500 o daliad i drigolion gafodd eu heffeithio yn Llanrwst, yn Llanfair Talhaearn ac yn y blaen. Ond, wrth gwrs, ar ôl y digwyddiadau yn Rhondda Cynon Taf, wedyn mi roedd yna gyhoeddiad mawr fod yna arian yn dod, a bod yna £10 miliwn i gychwyn ac mi fyddai yna ragor. Dwi'n gwybod bod y scale yn wahanol, ond mae'n rhaid inni gofio roedd yna dros 100 o gartrefi wedi cael eu heffeithio yn y gogledd, a dwsinau lawer o fusnesau hefyd. Felly, sut ŷch chi'n ymateb i'r awgrym efallai bod y Llywodraeth ddim wedi ymateb fel y dylen nhw i'r sefyllfa yn y gogledd tan i'r hyn ddigwyddodd yn y de ddigwydd?

Mae'r cyngor yn y Rhondda, wrth gwrs, yn cynnig arian ychwanegol—y £500 ychwanegol yma. Mae yna sylwadau wedi cael eu gwneud hefyd sy'n gresynu at y ffaith nad yw, er enghraifft, cyngor Conwy yn cynnig £500 o daliad ychwanegol i drigolion sydd wedi cael eu heffeithio mewn llefydd fel Llanrwst, ac mi fyddwn i yn licio clywed gennych chi. Achos yr un yw'r difrod, yr un yw'r effaith mae'r llifogydd yma yn ei gael, ble bynnag rŷch chi'n byw, ond mae'n dechrau edrych fel petasai yna ryw fath o loteri cod post: os ŷch chi'n byw yn y Rhondda, gewch chi £500 ychwanegol; os ŷch chi'n byw yng Nghonwy, gewch chi ddim. Byddwn i eisiau gwybod: onid yw cysondeb yn bwysig? Onid yw tegwch yn bwysig? Ac onid yw'r un mynediad i gefnogaeth, ble bynnag ŷch chi'n byw, yn bwysig? Mi fyddwn i'n awyddus i glywed eich ymateb chi i hynny. 

Dwi wedi codi gyda chi, ac rŷch chi'n gwybod, yn y pwyllgor a fan hyn ac mewn fforymau eraill, gofidiau ynglŷn ag adnoddau Cyfoeth Naturiol Cymru—y dyletswyddau ychwanegol, y cyfrifoldebau ychwanegol, ond ar yr un pryd, adnoddau yn crebachu. Nawr, wrth gwrs, mi fydd yna waith ychwanegol yn deillio i ymateb i'r hyn sydd wedi digwydd, nid yn unig yr ymateb uniongyrchol o ddelio gyda'r gyflafan, ond, wrth gwrs, mi fydd yna asesiadau ychwanegol angen eu gwneud i is-adeiledd ac mi fydd ymchwiliadau cyhoeddus, o bosib, y bydd angen eu harwain neu gyfrannu atyn nhw. A wnewch chi ymrwymo, felly, i sicrhau os oes yna unrhyw waith ychwanegol yn sgil hyn yn dod i gyfeiriad Cyfoeth Naturiol Cymru, yna y byddan nhw'n derbyn yr adnoddau angenrheidiol i ddelio â hynny?

Ac wrth gwrs, nid dim ond Cyfoeth Naturiol Cymru; mae awdurdodau lleol yn yr un sefyllfa, ac wrth gwrs mae yna ystod ehangach o gyrff efallai dŷn ni ddim yn sôn amdanyn nhw. Mae Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru, er enghraifft, sy'n gyfrifol am y gullies ar y gefnffordd drwy Lanrwst. Ie, dwi'n gweld y Gweinidog yn dechrau gwrando nawr, ar ôl clywed y term yna. Wel, mae eisiau bod yn glir bod gan yr holl ystod o gyrff perthnasol yr adnoddau angenrheidiol, a tra'i bod hi'n angenrheidiol i ni ffocysu ar y darlun mawr a'r cynlluniau is-adeiledd mawr, mae'n rhaid cofio mai gwaith caib a rhaw, yn llythrennol, sy'n bwysig hefyd o safbwynt glanhau ffosydd, culverts, gullies, ac yn y blaen. Felly, dwi eisiau gwybod pa asesiad nawr fyddwch chi fel Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau bod gan yr ystod yma o gyrff y capasiti angenrheidiol ar gyfer y gwaith caib a rhaw yna? Yn benodol, mi fyddwn i'n licio clywed hynny gennych chi.

Mae yna nifer o bwyntiau o safbwynt y system gynllunio y byddai'n well cyfeirio at y Gweinidog perthnasol ac mi fydd yna gyfle i wneud hynny rywbryd eto, ond byddai ateb i'r tri neu bedwar yna—mi fyddwn i'n ddiolchgar amdano.

15:45

Diolch. Rydych chi'n gwneud pwynt pwysig iawn am drafnidiaeth a ffyrdd, a chredaf, unwaith eto, y dylem ni ddiolch ar goedd yn ddiffuant i staff ym mhob rhan o'r sector trafnidiaeth o ran y rheini ohonom ni o'r gogledd sydd wedi gorfod dod i lawr eto'r wythnos hon. Roedd hi yr un mor wael â'r wythnos diwethaf, ond rwy'n gwybod y buont yn gweithio'n ddiflino ers i'r llifogydd ddechrau bron i bythefnos yn ôl i gefnogi'r cyhoedd sy'n teithio ac i sicrhau ein bod yn ailagor ein rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus a ffyrdd cyn gynted â phosib.

Rydych chi'n gofyn eto am yr arian cyhoeddus a oedd yn cael ei ddarparu, felly crybwyllais fy mod wedi ymweld â Llanrwst ar y dydd Iau; roeddwn yn fy etholaeth ar y dydd Gwener. Fe wnes i geisio teithio i Gaerdydd ar y dydd Sadwrn pan fu inni sylweddoli beth oedd effaith storm Dennis, ac nid oeddwn yn gallu gwneud hynny oherwydd y rhwydwaith trenau. Roeddwn eisoes wedi dechrau cael sgyrsiau gyda'r Prif Weinidog ynghylch pa gefnogaeth y gallem ei rhoi i bobl oedd wedi dioddef llifogydd, ac fel y dywedais yn fy ateb i Janet Finch-Saunders, mae'n cymryd amser i sefydlu'r cynllun hwnnw, ond yr hyn a wnaeth y Prif Weinidog ar unwaith—ond ni chafodd hyn ei wneud yn gyhoeddus, oherwydd yn amlwg, rydych chi'n ei wneud ar y cyd fel Llywodraeth—oedd ein bod ni wedi dynodi'r arian. Felly, roedd y Prif Weinidog, yn y cyfarfod cyntaf a gefais gydag ef fore Llun—roedd yn bendant y byddid yn dod o hyd i'r arian hwnnw. Yna daethom o hyd i'r dull i sicrhau bod yr arian hwnnw'n cyrraedd y cyhoedd cyn gynted â phosib, felly agorodd y gronfa ddoe. Fe wnaeth hyn gymryd ychydig ddyddiau, ond fel rwy'n dweud, mae'n rhaid i chi sicrhau bod modd rhoi cyfrif am arian cyhoeddus yn y ffordd gywir.

Mater i Rhondda Cynon Taf yw'r ffaith bod awdurdod lleol Rhondda Cynon Taf yn rhoi £500 ychwanegol i'w drigolion. Os yw Cyngor Conwy yn dewis peidio â gwneud hynny, eu dewis nhw yw hynny. Gwyddoch mai'r gyllideb a gaiff awdurdodau lleol—mater iddyn nhw yw sut y maen nhw'n ei wario gyda'u poblogaeth leol, felly mae angen ichi godi'r mater hwnnw gyda Chonwy a Sir Ddinbych. Yr un fydd yr arian yr ydym ni, Llywodraeth Cymru, yn ei roi. Ar gyfer tŷ sydd wedi dioddef llifogydd, bydd yn £500. Ar gyfer tŷ sydd wedi dioddef llifogydd nad oes ganddo yswiriant, bydd yn £1,000. Mae arian busnes ar gael hefyd drwy—a dylai pobl gysylltu â—Busnes Cymru. Roedd cwestiwn cynharach ynghylch ffermydd: busnesau ydyn nhw, ac mae'n rhaid i mi ddweud, mae yswiriant gan y rhan fwyaf o'r ffermwyr yr wyf wedi siarad â nhw, ond yn amlwg, mae'r cyllid hwnnw ar gael iddyn nhw fel busnes gymaint ag y mae i unrhyw fath arall o fusnes. Soniais mewn ateb cynharach y byddwn yn rhoi cyllid o 100 y cant ar gyfer clirio ceuffosydd a gridiau.

O ran eich cwestiynau ynghylch Cyfoeth Naturiol Cymru, mae'n amlwg bod llawer o gwestiynau ynghylch Cyfoeth Naturiol Cymru a'r hyn y maen nhw wedi gorfod ymdrin ag ef yn ystod y pythefnos diwethaf. Rwy'n cyfarfod â'r Cadeirydd a'r Prif Weithredwr—wythnos nesaf rwy'n credu—ac yn amlwg, dyma fydd ar frig yr agenda. Ond, yr hyn yr wyf wedi ei ddweud wrthynt yw—. Rwyf wedi gofyn y cwestiwn penodol: a oes ganddyn nhw'r adnoddau—a'r adnoddau dynol yn ogystal â'r rhai ariannol—i allu ymdrin â hynny? Felly, gallaf roi ymrwymiad ichi y byddaf yn amlwg yn edrych ar unrhyw beth y byddant yn ei gynnig. Ond, eto, rwy'n credu ei bod hi braidd yn gynnar i ateb y cwestiwn hwnnw'n fanwl.

15:50

Diolch. Mae gen i saith siaradwr ac wyth munud ar ôl. Felly, a gaf i ofyn i'r siaradwyr sy'n weddill nawr: a wnân nhw ofyn cwestiwn yn unig i'r Gweinidog, yn hytrach na—? Rwy'n gwybod ein bod i gyd eisiau diolch ar goedd o'n hardaloedd penodol, ond credaf fod y diolchiadau hynny'n hysbys iawn bellach, felly pe gallem ni ofyn rhai cwestiynau'n syth i'r Gweinidog. Russell George.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, rwy'n mynd i ofyn cwestiwn yr wyf wedi gofyn ichi sawl gwaith o'r blaen, ac mae a wnelo hwn â rheoli cronfeydd dŵr Clywedog a Llyn Efyrnwy. Mae lluniau'n dangos ar y cyfryngau cymdeithasol, a deunydd fideo, rannau helaeth o'r canolbarth o dan ddŵr, gan gynnwys ffyrdd B a chefnffyrdd ac eiddo sy'n rhannol dan y dŵr hefyd. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth, hyd yn oed pe cai'r cronfeydd dŵr hynny eu rheoli mewn ffordd y byddwn yn hoffi eu gweld yn cael eu rheoli ac mewn ffordd y mae pobl y canolbarth eisiau eu gweld yn cael eu rheoli, y byddem yn gweld tarfu sylweddol o hyd oherwydd lefel y glaw a syrthiodd mewn cyfnod mor fyr o amser. Ond, nid oes gennyf amheuaeth hefyd, pe cai'r cronfeydd dŵr hynny eu rheoli'n well, y byddem yn gweld gostyngiad llai o lawer.

Yr hyn a welwn ni, am ddyddiau lawer, yw dŵr yn llifo dros ben y ddwy gronfa. Mae synnwyr cyffredin yn dweud wrthych eich bod wedi colli rheolaeth ar y gronfa ddŵr pan fo hynny'n digwydd. Mae angen inni wagio mwy ar y dŵr, byddwn yn awgrymu, yn ystod cyfnodau sych yn y ddwy gronfa ddŵr. Rwy'n gwybod eich bod yn ymwybodol o reolau gweithredu adran 20; credaf fod angen eu hadolygu ar frys. Rwy'n derbyn nad eich cyfrifoldeb chi yn unig yw hyn; mae'n gyfrifoldeb ar y cyd rhyngoch chi, Cyfoeth Naturiol Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd a'r cwmnïau dŵr—rwy'n derbyn hynny'n llwyr. Ond, a gaf i ofyn i chi gynnull cyfarfodydd gyda pheth brys er mwyn adolygu a newid y rheol weithredu hon, a gofyn i chi a'ch swyddogion arwain ar y maes penodol hwnnw?

Mae'n debyg mai 'cewch' yw'r ateb byr. Byddaf yn hapus iawn i ystyried hynny, ac efallai y gallaf roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelod maes o law.

Hoffwn dalu teyrnged i'r cymunedau hynny yr effeithiwyd arnynt fwyaf yn fy etholaeth i, sef Machen, Bedwas, Llanbradach, Ystrad Mynach, Tredomen, Nelson a Phenpedairheol; y rhai â busnesau masnachol a busnesau preswyl. Effeithiwyd yn fawr ar Glwb Rygbi Bedwas ar Gae'r Bont ac mae wedi elwa ar gyllido torfol. Mae'n cael trafferth goroesi, mae'n rhaid dweud, ar hyn o bryd, ac rwy'n gwneud popeth a allaf i'w helpu.

Ddydd Iau 20 Chwefror, cyhoeddodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili gronfa o £250,000 i gefnogi busnesau a thrigolion cymuned Caerffili. Rhaid imi ddweud bod Cyngor Caerffili wedi bod yn gweithio bob awr o'r dydd a'r nos drwy'r broses hon, ac rwy'n eu canmol. A all hi gadarnhau bod cyllid Llywodraeth Cymru yn gwbl ar wahân i hynny, ac y caiff unrhyw gais ei ystyried ar wahân i unrhyw gais i gronfa Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili?

Yr unig gwestiwn arall sydd gen i—. Rwyf wedi cael e-bost heddiw gan breswylydd a geisiodd wneud cais i gronfa Llywodraeth Cymru drwy'r ddolen a anfonais atynt i'r cyngor. Dilynodd y ddolen a anfonais, a dywedodd, ar ôl ffonio'r rhif, y cafodd ei chysylltu â switsfwrdd y Cyngor, a ddywedodd nad oeddent yn gwybod am ran Llywodraeth Cymru, ac y ceisiwyd ei chyfeirio at y taliad cymorth dewisol. Felly, os yw unrhyw rai o'ch gweision sifil yn gwrando ar yr adeg hon, a fyddech cystal â sicrhau bod awdurdodau lleol yn ymwybodol iawn o'r system ar gyfer cael arian gan Lywodraeth Cymru? Cyngor Caerffili: rwyf wedi ysgrifennu at y Prif Weithredwr a'r arweinydd i egluro'r anhawster hwn. Gorau po gyntaf y caiff hynny ei ddatrys.

Diolch. Gallaf gadarnhau bod cyllid Llywodraeth Cymru yn gwbl ar wahân i unrhyw beth y mae Cyngor Caerffili eisiau ei wneud yn yr un modd ag y mae Rhondda Cynon Taf yn ei wneud hefyd. Rwy'n bryderus o glywed eich sylw olaf. Cyn gynted ag y byddaf yn gorffen fy natganiad, byddaf yn mynd i fyny'r grisiau ac yn gwneud yn siŵr y caiff hynny ei gywiro cyn gynted â phosib. Yn amlwg, y gronfa cymorth dewisol sy'n gwneud y cynllun ar ein cyfer. Rwy'n gwybod eu bod wedi cael 200 o geisiadau, dim ond yr wythnos diwethaf, am arian arferol y gronfa cymorth dewisol, a chredaf iddynt roi cyllid sylweddol. Mae naill ai yn £50 neu'n £100. Felly, mae'r ddau gynllun hynny yn gwbl ar wahân hefyd. Ond, Dirprwy Lywydd, fe af i fyny'r grisiau i wneud hynny, a gobeithio, erbyn imi ddychwelyd i lawr, y byddaf yn gallu rhoi ateb i Hefin David.

15:55

A gaf i gydymdeimlo â phawb yr effeithiwyd arnynt yn rhanbarth Canol De Cymru yn y digwyddiad hynod drallodus hwn a'r profiadau a ddilynodd o weld eich cartrefi'n dioddef llifogydd? Mae'n digwydd mor gyflym—rwy'n credu eich bod wedi cyfeirio at hynny. Mae'n syfrdanol. Yn fy 21 mlynedd yn y Siambr, pan wyf wedi siarad â dioddefwyr llifogydd, y cyflymder yw'r hyn a ddywedant, sy'n golygu bod angen y systemau rhybuddio mwyaf effeithiol posib arnom ni.

A gaf i ganmol y gwaith ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU? Rwy'n gwybod y cyfeiriwyd at ambell broblem yn y Siambr heddiw, ond mewn gwirionedd, mae'r ddwy ochr fel pe baent wedi cydweithredu'n dda iawn, ac mae angen i chi barhau â hyn. Rwyf yn cymeradwyo'r ffaith bod yr Ysgrifennydd Gwladol, Simon Hart, wedi ymweld â Rhondda Cynon Taf ddydd Gwener.

Fy mhrif bwynt yw bod angen inni, oherwydd newid yn yr hinsawdd, edrych ar hydroleg gyfan dalgylch y de. Mae gennym ni afonydd sy'n llifo'n gyflym iawn. Maen nhw'n afonydd byrion. Mae'r egni sydd ganddynt yn syfrdanol, ac i fod yn onest, nid yw rhai o'r ceuffosydd yn addas i'r diben ar gyfer cyflymder llif y dŵr. Mae angen inni edrych ar y cyrsiau dŵr hyn a'u harchwilio yn rhan o'r system gyfan, ystyried yr hyn y gellir ei wneud i'w dyfnhau a'u cryfhau a symud y dŵr hwnnw o'r ardaloedd lle ceir y risg mwyaf yng nghyffiniau busnesau a chartrefi.

Diolch. Ydw, rwy'n credu bod y pwynt olaf yn bwysig iawn. Soniais mewn ateb cynharach fy mod, ar y dydd Sul, wedi siarad ag Andrew Morgan, arweinydd Rhondda Cynon Taf, ac anfonodd ataf rai lluniau o geuffos a gafodd ei chlirio deirgwaith. Cafodd ei dinistrio'n llwyr oherwydd cyflymder y dŵr, y cyfeiriwch ato. Mae'n debyg y bydd angen gwaith aruthrol ar y seilwaith dros y misoedd a'r blynyddoedd i ddod.

Ond yn amlwg, mae mwy o frys am rai pethau nag eraill, ac wrth inni weithio drwy—wrth i bob awdurdod lleol gwblhau'r gwaith glanhau a dod yn ôl â'r hyn sy'n ofynnol, dyna pryd y mae angen inni edrych ar bethau penodol ac unigol y mae angen eu hatgyweirio ar unwaith, a beth sydd angen ei wneud yn y tymor hirach.

Rwy'n credu bod fy holl drafodaethau â'r Gweinidog yn ystod y pedair blynedd diwethaf ynghylch llifogydd wedi cynnwys llifogydd arfordirol. Tybed a fyddai hi'n cytuno â mi fod angen nawr inni roi llawer mwy o sylw a blaenoriaeth i ymdrin â chanlyniadau llifogydd mewndirol hefyd. Ni allai neb fethu â chael eu plesio gan stori Mick Antoniw o wae yn Rhondda Cynon Taf yn gynharach, a chytunaf yn llwyr â'r hyn a ddywedodd a'r hyn a ddywedodd y Prif Weinidog yn gynharach—sef ei bod hi'n gyfrifoldeb mawr ar Lywodraeth y DU i wneud cyfraniad priodol tuag at liniaru'r problemau sydd wedi'u creu erbyn hyn. Mae'n rhan o'r pris yr ydym yn ei dalu, os oes pris o gwbl, am fod yn rhan o'r Deyrnas Unedig, a dyna sut y gallwn ni helpu i asio'r gwahanol rannau ohoni gyda'i gilydd.

Dywedodd Chris Bryant ddoe yn Nhŷ'r cyffredin fod yn rhaid i lawer o'i etholwyr ddewis rhwng rhoi bwyd ar y bwrdd neu dalu am yswiriant rhag trychinebau o'r math hwn, ac rwy'n siŵr y byddai'r Gweinidog yn cytuno â mi nad yw hynny mewn gwirionedd yn sefyllfa dderbyniol i bobl fod ynddi yn yr unfed ganrif ar hugain yn un o wledydd cyfoethocaf y byd. Yr hyn sydd wedi digwydd yma yw trychineb dyngarol yn yr un modd â'r math o ddifrod llifogydd a welwn ni mewn rhannau eraill o'r byd, y mae ein cyllideb cymorth tramor wedi'i gynllunio i ymdopi ag ef. Dim ond 14 y cant o'r gyllideb cymorth dramor honno sy'n mynd tuag at ymdrin â thrallodion o'r math hwn mewn gwirionedd. Felly tybed a yw hi'n cytuno â mi, os bydd Llywodraeth Prydain yn cyflwyno'r hen esgus nad oes ganddynt ddigon o arian i roi i ni, y rhan dlotaf o'r Deyrnas Unedig, yn un o'r ardaloedd tlotaf yng Nghymru, yr arian sydd ei angen i helpu i liniaru'r anawsterau hyn yn sylweddol, yna dylai'r gyllideb honno, sydd wedi'i chlustnodi ar hyn o bryd ar gyfer gwahanol brosiectau hurt fel prosiect £6 miliwn i berswadio gwragedd tŷ yn Tsieina i ddefnyddio llai o halen wrth goginio, a ariennir gan Yr Adran dros Ddatblygu Rhyngwladol, y dylid dargyfeirio'r arian hwnnw i Gymru—ac yn wir ar gyfer digwyddiadau fel hyn yn y dyfodol—fel na chawn ni ein rhoi mewn sefyllfa lle'r ydym yn ymbalfalu am yr arian y mae ei angen i ddatrys mor gyflym â phosib y problemau gwirioneddol, real iawn, y mae pobl yn awr yn eu dioddef.  

Wel, nid oes gennyf yr wybodaeth fewnol sydd gan Neil Hamilton yn ôl pob golwg o'r drefn a'r ffordd y mae'r Adran dros Ddatblygu Rhyngwladol yn didoli arian, ond yr hyn yr wyf yn ei wybod yw'r union beth a ddywedodd Chris Bryant. Mae llawer o resymau pam nad oes gan bobl yswiriant, a phan oeddwn yn ymweld â phobl yr wythnos diwethaf, fe wnaethom ni drafod rhai o'r rhesymau hynny. Roedd rhai ohonyn nhw oherwydd eu bod wedi dioddef llifogydd o'r blaen ac na allent gael yswiriant. Rhai eraill oedd—roedd y gost yn rhwystr. Yn amlwg, mae angen inni sicrhau bod pobl yn gallu cael yswiriant fforddiadwy.

Cyn imi fynd ymlaen at y cwestiynau nesaf, Dirprwy Lywydd, mae swyddogion newydd anfon e-bost at Ken Skates mewn ymateb i'r cwestiwn a godwyd gan Hefin David, i ddweud bod y ddolen yn gywir—mae'n estyniad o'r gronfa cymorth dewisol. Felly, efallai, os wnewch chi drosglwyddo'r neges honno. Ac eto, os oes unrhyw drafferthion eraill, fe fyddwn i'n hapus iawn i ymchwilio iddyn nhw.

16:00

Diolch. Mae gen i dri siaradwr ar ôl. Cyn belled â'u bod yn addo i mi bod ganddyn nhw gwestiwn, dim ond un cwestiwn yr un, yna gallwn eu clywed i gyd. Dawn Bowden.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i mi ddweud ar goedd fy mod yn cydymdeimlo â thrigolion fy etholaeth, lle na welsom ni lifogydd tebyg i'r hyn a welwyd yn Rhondda Cynon Taf, ond gwelsom lifogydd yn Nhroedyrhiw, Pentrebach, Aberfan, Mynwent y Crynwyr, Pontsticill, Heolgerrig, Tir-Phil a'r Deri, ac nid rhywbeth dibwys oedd hynny i'r unigolion hynny yr effeithiwyd arnynt, fel rwy'n siŵr eich bod yn sylweddoli. 

Mae'r rhan fwyaf o'r cwestiynau a'r pwyntiau yr oeddwn eisiau eu crybwyll, Gweinidog, wedi'u crybwyll bellach, ond mae un peth yr oeddwn eisiau ei grybwyll. Byddwch yn sylweddoli bod hanes ingol a phoenus iawn i dirlithriadau yn fy etholaeth i, ac rydych chi wedi sôn am y gwaith sy'n cael ei wneud ar domenni glo, ac rwy'n gwerthfawrogi hynny'n llwyr. Ond roedd gennyf gymuned gyfan yn Nhroedyrhiw y bu'n rhaid iddynt adael y pentref oherwydd tirlithriadau yn Nhroedyrhiw, ond nid oeddent mewn gwirionedd yn ymwneud â thomenni glo; roedd a wnelo hynny yn llythrennol â thopograffi'r Cwm. Ceir bryniau serth iawn sy'n rhedeg yr holl ffordd drwy ein cymoedd—rhai ohonynt heb fod yn gysylltiedig â thomenni glo. Ond roedd y bryniau hynny, llethrau'r mynyddoedd hynny, mor wlyb, ac mae ganddyn nhw nentydd ac afonydd yn rhedeg drwyddyn nhw, fel na allent ddygymod â chyfaint y dŵr, a llithrodd y tir, a bu raid i ni symud llawer o drigolion o'u cartrefi yn Nhroedyrhiw. Felly, fy nghwestiwn i chi, Gweinidog, yw, yn ogystal â'r hyn sy'n cael ei wneud ynghylch tomenni glo, beth allwn ni ei wneud i edrych ar dopograffeg gyffredinol a sefydlogrwydd y bryniau, gan nad eithriad yw hyn? Mae hyn yn mynd i ddigwydd eto, ac mae angen inni ddod o hyd i ryw ffordd o sicrhau bod y llethrau serth hynny mor ddiogel ag y gallan nhw fod pan fydd y glaw trwm yn dod eto.

Diolch, Dawn Bowden. Crybwyllais yn fy ateb cynharach—nid wyf yn siŵr ai i Vikki ynteu i rywun arall—ond ynghylch pan oeddwn yn Aberpennar gyda Vikki Howells, ac roedd gweld maint y clogfeini a oedd wedi dod i lawr o'r mynydd yn wirioneddol erchyll. Felly, yn amlwg, roedd yn ganlyniad ac yn gyfuniad—. Mae'n debyg ein bod wedi cael un o'r gaeafau gwlypaf a gawsom ni ers tro byd a hydref gwlyb hefyd. Felly, mae angen i ni edrych ar y mater hwn gyda phopeth arall, oherwydd rwy'n ymwybodol iawn y bu tirlithriadau, fel y dywedwch chi, nid mewn cysylltiad â'r tomenni gwastraff y gwnaethoch chi gyfeirio atyn nhw yn wreiddiol.

Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am y datganiad hwn. A gaf i ofyn cwestiwn i'r Gweinidog am gynllunio wrth gefn ar gyfer llifogydd gan Lywodraeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru? Yr wythnos diwethaf, cysylltwyd â mi gan grŵp ym Mwrdeistref Brent yn Llundain sy'n darparu cymorth mewn sefyllfaoedd brys, megis y rhai a gollodd gartrefi yn y tân yn Nhŵr Grenfell. Fe wnaethon nhw gynnig darparu llawer iawn o gymorth i ddioddefwyr llifogydd yn ne-ddwyrain Cymru ar ffurf bwyd, blancedi, deunyddiau glanhau a hanfodion eraill yn y cartref. Yn anffodus, ar ôl cysylltu â llawer o ganolfannau cymunedol, ni allwn ddod o hyd i unrhyw le na lleoliad o gwbl a oedd ar gael ac yn ddigon mawr i storio'r holl nwyddau a gynigiwyd i ni yn gymorth. Os gwelwch yn dda, Gweinidog, os bydd llifogydd o'r fath yn digwydd yn y dyfodol, a ellid ystyried sefydlu man canolog lle y gellir cludo deunydd cymorth cyn eu trosglwyddo i'r rhai sy'n dioddef gan y llifogydd? A dau gwestiwn arall: cydlynu ymhlith y cynghorau sir lleol presennol; ac, yn olaf, rhaid i'r cyfryngau fynd ati i sicrhau bod gwefan cymorth i ddioddefwyr llifogydd ar gael ar unwaith i helpu pobl y wlad. Diolch.

Wel, nid hynny oedd fy mhrofiad i yn sicr. Soniais yn fy natganiad am Sefydliad Glowyr Llanhiledd ym Mlaenau Gwent, lle yr oedd pobl yn dod gyda rhoddion yn barhaus. Ac fe'i gwelais mewn man arall, yn Aberpennar—fe wnaethom ni ymweld â chanolfan gymunedol yn etholaeth Vikki Howells, lle yr oedd archfarchnad leol wedi dod â mopiau a channydd a diheintydd. Felly, nid dyna fy mhrofiad i o'r sefyllfa o gwbl, yn anffodus. Felly, dydw i ddim yn credu y gallaf i ychwanegu unrhyw beth arall mewn gwirionedd.

16:05

Diolch. A minnau wedi byw drwy brofiad llifogydd personol yn y llifogydd yn Nhywyn 30 mlynedd yn ôl yr wythnos hon, rwy'n cydymdeimlo o waelod calon â phawb sydd wedi gweld dinistr llifogydd yn eu cartrefi a'u busnesau dros y pythefnos diwethaf gyda storm Ciara a storm Dennis. Rwy'n gwybod hefyd ei fod yn tynnu'r gorau o bobl hefyd, ac rwy'n gwybod y bydd pob un ohonom ni sydd wedi ymweld â chymuned yn ystod yr wythnosau diwethaf wedi gweld y ffordd y mae cymunedau wedi dod at ei gilydd ac wedi tyfu gyda'i gilydd drwy'r profiadau ofnadwy y maen nhw wedi'u cael.

Dychmygwch, felly, fod mewn sefyllfa, fel yr un y mae rhai o'm trigolion yng nghymuned Llanfair Talhaearn ynddi, lle mae llifogydd wedi effeithio arni deirgwaith yn yr wyth mlynedd diwethaf. Dair gwaith yn yr wyth mlynedd diwethaf, cael yr adeiladwyr i mewn, rhwygo popeth allan, ceisio rhoi popeth yn ôl at ei gilydd ac i ail-lunio eich bywyd. Mae wedi bod yn hollol erchyll. A byddwn yn gofyn ichi, Gweinidog: a allwch chi sicrhau bod cymunedau fel Llanfair TH, fel Llanrwst ac eraill, y mae llifogydd wedi effeithio arnyn nhw'n aml yn ystod y blynyddoedd diwethaf, yn cael y mymryn bach lleiaf hwnnw o flaenoriaeth ychwanegol oherwydd credaf fod arnynt angen hynny a'u bod yn haeddu hynny? Nid yw hynny'n diystyru effaith ofnadwy llifogydd mewn mannau eraill, sydd hefyd angen sylw, ond, yn amlwg, mae rhywbeth difrifol o'i le pan fydd cymuned y dywedir wrthi fod ganddi siawns o gael llifogydd oddeutu unwaith bod 50 mlynedd, yn cael ei tharo deirgwaith mewn wyth mlynedd. Mae rhywbeth yn anghywir gyda'r modelu, ac mae angen mynd i'r afael ag ef.

Bu ichi gyfeirio hefyd, Gweinidog, yn gynharach, a chredaf i Llyr Gruffydd gyfeirio at hyn, at allu rhai cynghorau i ymateb drwy gynnig cymorth a chefnogaeth ychwanegol yn yr un modd ag y gallodd Rhondda Cynon Taf, gyda thaliadau ariannol i'r rhai a fu heb yswiriant, ac efallai hyd yn oed y rhai hynny oedd â rhywfaint o yswiriant. Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, fel y gwyddoch chi, un o'r setliadau lleiaf eleni gyda'i grant cynnal refeniw, ac nid oes ganddo'r un gallu â rhai o'r awdurdodau lleol eraill hyn i gefnogi trigolion yn ei gymunedau y mae llifogydd wedi effeithio arnynt. A gaf i ofyn pa gefnogaeth y gallech ei darparu i gynghorau gyda phwysau ariannol sylweddol, fel Conwy, fel y gall y cyngor hwnnw ymateb mewn ffordd wahanol efallai i'r heriau y mae trigolion yn y gymuned honno'n eu hwynebu?

Ac yn olaf, un trychineb a osgowyd o drwch blewyn yn ystod y stormydd diweddar oedd ar yr arfordir ym Mae Cinmel, yng Nghymuned Sandy Cove. Fel y dywedais ar ddechrau fy sylwadau ar y datganiad hwn, roedd hi 30 mlynedd yn ôl i'r wythnos hon pan fu i'r gymuned honno ddioddef o'r llifogydd enbyd yn Nhywyn, ynghyd â chymunedau eraill ar hyd arfordir y gogledd, fel mae'r Dirprwy Lywydd yn aml yn awyddus iawn i'm hatgoffa. Ond, yn amlwg, mae dianc o drwch blewyn mewn cymuned a ddioddefodd y fath ddistryw yn y gorffennol hefyd yn bryder. Felly, pa gymorth gallwch chi ei ddarparu cyn gynted â phosib i gymunedau ar yr arfordir yn Nhywyn a Bae Cinmel er mwyn sicrhau bod eu hamddiffynfeydd rhag llifogydd yn gadarn ac yn y cyflwr y dylent fod, fel y gallant osgoi'r math o ddinistr y mae pobl yn Rhondda Cynon Taf ac mewn mannau eraill wedi ei ddioddef yn yr wythnosau diwethaf?

A minnau'n ogleddwraig, rwy'n cofio'n dda iawn ymweld â Thywyn 30 mlynedd yn ôl; mae'n anhygoel meddwl ei bod hi mor bell yn ôl â hynny, roedd hi mor ddinistriol. Rydych chi'n iawn; y bobl y cyfarfûm â nhw ym Mlaenau Gwent, dyma'r tro cyntaf i'r ddwy stryd yma ddioddef llifogydd. Caead draen a ddaeth yn rhydd a achosodd y llifogydd yn y fan yna—nid oedden nhw erioed wedi dioddef llifogydd o'r blaen—ond gall y dinistr llwyr a'r ffaith bod uchder y dŵr wedi codi o chwe modfedd i bedair troedfedd mewn 20 munud ddweud wrthych chi pa mor drawmatig oedd y profiad hwnnw.

O ran Llanfair TH, pan oeddwn yn Llanrwst, cyfarfûm â Chyngor Conwy yn amlwg, a soniais am yr hyn y gallem ni ei wneud yn y fan yna, ac yn amlwg mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhoi cynllun llifogydd ar waith yn y fan yna. Rwyf wedi gofyn am gyflymu hynny, felly mae hynny mewn cysylltiad â Llanfair TH. Rwy'n credu fy mod i wedi ateb hyn eisoes; rwyf eisoes wedi gofyn am adolygiad brys o'r cynlluniau sydd ar y gweill ar hyn o bryd i weld eto beth y gallwn ni ei wneud ynghynt yn hynny o beth.

O ran awdurdodau lleol, mater i awdurdod lleol yw sut y mae'n gwario ei gyllid. Mae Rhondda Cynon Taf wedi dewis gwneud yr hyn y maen nhw wedi dewis ei wneud. Dewis Conwy—a soniais am Sir Ddinbych yn fy ateb cynharach i Llyr Huws Gruffydd—yw pa un a ydyn nhw eisiau rhoi arian ai peidio. Mae ganddyn nhw i gyd gronfeydd wrth gefn ar gyfer diwrnod glawog; wel, dydych chi ddim yn cael llawer o ddiwrnodau mwy glawog na hyn, nac ydych? Felly, os ydyn nhw'n dewis defnyddio eu cyllid yn y ffordd honno, eu dewis nhw yw hynny.

Ac, eto, ynglŷn â'r—. Bu ond y dim iddi fod yn waeth mewn llawer lle. Hynny yw, fe weithiodd ein cynlluniau lliniaru llifogydd ledled Cymru, ond roedd rhai yn llythrennol o fewn centimetrau i orlifo, ac rwy'n ddiolchgar am hynny, wrth gwrs, ond, unwaith eto, mae angen inni fynd yn ôl, rwy'n credu, ac ailedrych ar y cynlluniau hynny i weld beth yn rhagor y mae angen inni ei wneud oherwydd, yn amlwg, pe baem ni wedi bod yn gweithio ar sefyllfaoedd un-mewn-can-mlynedd ac fe wnaethoch chi sôn am dair gwaith mewn wyth mlynedd, nid wyf yn dweud mai cynllun llifogydd oedd hwnnw, ond mae angen inni geisio sicrhau bod ein cynlluniau lliniaru llifogydd ledled Cymru'n addas i'r diben. Diolch.

16:10
4. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
5. Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Ail-ddychmygu adeiladu tai cymdeithasol yng Nghymru—Strategaeth dulliau modern o adeiladu ar gyfer Cymru

Felly, eitem 5 yw datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Ail-ddychmygu adeiladu tai cymdeithasol yng Nghymru—Strategaeth dulliau modern o adeiladu ar gyfer Cymru. Dyna ni. Felly, rwy'n galw ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i symud y datganiad. Julie James.

Diolch yn fawr i chi, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am strategaeth Llywodraeth Cymru o ran dulliau modern o adeiladu, 'Ail-ddychmygu adeiladu tai cymdeithasol yng Nghymru', a sut y bydd y strategaeth hon yn cefnogi ein huchelgais i ddarparu mwy o dai cymdeithasol a fforddiadwy o ansawdd uchel ledled Cymru.

Yn wahanol i rannau eraill o'r DU, mae'r Llywodraeth hon wedi parhau i fuddsoddi mewn tai fforddiadwy, gan ddarparu gwerth £2 biliwn o arian yn ei thymor cyfredol, ond rydym yn awyddus i adeiladu mwy ac rydym yn awyddus i adeiladu'n well. Fe fydd cartrefi cymdeithasol Cymru yn cael eu hadeiladu i safonau uchel o ran lle a harddwch, yn anwesu egwyddorion cadarn o ran creu cynefin, ac, wrth gwrs, braidd dim allyriadau o garbon. Fe fydd adeiladu cartrefi gan ddefnyddio dulliau adeiladu modern yn chwarae rhan hanfodol wrth wireddu hyn.

Fe gafodd y strategaeth yr wyf i'n ei rhannu â chi heddiw ei chynhyrchu mewn ymateb i argymhellion yn dilyn yr adolygiad o gyflenwad tai fforddiadwy, a oedd yn nodi dulliau modern o adeiladu, neu MMC (modern methods of construction) fel y'i gelwir, yn ffordd o gynyddu'r cyflenwad tai yn gyflymach. Dros y flwyddyn ddiwethaf, fe wnaethom ni ymgysylltu ag amrywiaeth o randdeiliaid allweddol ac arbenigwyr blaenllaw yn y sector tai, y diwydiant adeiladu a'r byd academaidd i gydgynhyrchu a phrofi dull gweithredu ein strategaeth MMC. Fe gawsom ni gefnogaeth aruthrol i'n cyfeiriad arfaethedig ni a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu. Mae eich cyfraniad amhrisiadwy chi wedi helpu i sicrhau bod ein strategaeth ni'n un gadarn, gyda chefnogaeth dda iddi a'i bod yn rhoi'r cyfle gorau inni fanteisio i'r eithaf ar y cyfle a gyflwynir gan MMC i adeiladu tai cymdeithasol ac i'n heconomi ni yng Nghymru.

Er mai megis dechrau y mae hyn, mae yna gydnabyddiaeth yng Nghymru a ledled y DU y gall defnyddio MMC ein helpu ni i adeiladu cartrefi o ansawdd gwell yn fwy cyflym na'r dulliau traddodiadol i ddiwallu'r angen am dai. Rydym ni'n ystyried MMC yn derm trosfwaol sy'n cynnwys dulliau adeiladu amrywiol, o ddeunyddiau a thechnolegau newydd hyd at weithgynhyrchu oddi ar y safle, sydd naill ai'n disodli neu'n ategu dulliau adeiladu traddodiadol.

Er y gallai rhai mathau o MMC fod yn fwy datblygedig na rhai eraill, yr hyn sy'n amlwg yw bod arloesedd yn y maes hwn wedi cynyddu'n ddirfawr dros y blynyddoedd. Rydym yn sicr wedi symud oddi wrth dai parod i dai hollol wych. Fe ddaeth y dyddiau i ben o ymhél â thai parod dros dro o ansawdd gwael; erbyn hyn, mae MMC yn adeiladu cartrefi fforddiadwy o safon uchel, sy'n ddymunol ac sy'n defnyddio ynni'n effeithlon ac mae tenantiaid yn gallu ymfalchïo ynddyn nhw.

Mae ein dull ni o weithredu MMC yn cyd-fynd yn uniongyrchol â'r argymhellion eraill yn yr adolygiad o dai fforddiadwy. Fe fydd yn helpu cynghorau i adeiladu ar raddfa fawr ac ar gyflymder. Fe fydd ein system grantiau ni'n sicrhau nad yw cynlluniau MMC o dan anfantais o'u cymharu â rhai traddodiadol, ac mae safonau newydd arfaethedig o ran creu lleoedd yn sicrhau bod adeiladau traddodiadol ac MMC yn cael eu trin yn gydradd â'i gilydd.

Rydym yn cydnabod yr angen i feithrin dull cyson o fabwysiadu MMC gyda'n cymdogion. Mae hyn yn cynnwys alinio â dull y DU gyfan o warantau ac achredu cartrefi MMC ar gyfer rhoi hwb i hyder benthycwyr a defnyddwyr a defnyddio diffiniadau cydnabyddedig.

Mae cyfleoedd MMC yn mynd y tu hwnt i adeiladu tai. Mae'r strategaeth yn cefnogi ein huchelgais ni i symud tuag at economi gylchol, oherwydd fe allai adeiladu gan ddefnyddio MMC leihau gwastraff adeiladu gymaint â 70 i 90 y cant. Mae lleihau allyriadau o'r sector tai yn elfen allweddol o'n hymgais ni i liniaru newid hinsawdd ar frys.

Rydym yn ystyried y ffordd orau o nodi'r sgiliau newydd sydd eu hangen i wneud mwy o ddefnydd o MMC, sy'n cynrychioli newid sylweddol yn y diwydiant adeiladu. Mae angen sicrhau bod gan y gweithlu adeiladu presennol y sgiliau angenrheidiol i gyflawni ein huchelgeisiau ni, a denu pobl newydd ac amrywiol a grwpiau ar y cyrion fel troseddwyr, i archwilio cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant.

Mae ein cynlluniau'n rhoi cyfle gwirioneddol i gynhyrchwyr MMC Cymru, y mae llawer ohonyn nhw'n fusnesau bach a chanolig ac yn rhai sy'n cael eu rhedeg gan deuluoedd, gan gefnogi busnesau Cymru wrth ddod o hyd i ddatrysiad o Gymru a chryfhau cyflenwyr Cymru. Yn gysylltiedig â hyn mae defnyddio pren o Gymru yn yr hirdymor i adeiladu tai. 

Yn rhan o'r dull hwn o weithredu, rydym wedi dechrau ymarfer i ymgysylltu â holl ddarparwyr MMC Cymru er mwyn deall eu gallu, eu harbenigedd a'u cyfraniad nhw i'n nodau ni o ran tai cymdeithasol yng Nghymru. Rydym ni'n ffodus fod gennym  gyfoeth o gynhyrchwyr MMC profiadol yng Nghymru sydd eisoes yn cyflenwi cynnyrch o ansawdd uchel i gartrefi a datblygiadau masnachol ledled y DU. Mae'r cyfuniad o'u cynnyrch nhw, eu gweithlu profiadol nhw a'u cadwyn gyflenwi gynhenid nhw'n golygu eu bod ni mewn sefyllfa ddelfrydol ac yn barod i ymateb i'r cynnydd yn y galw am dai MMC.  Rydym eisiau cefnogi'r busnesau hyn i elwa ar fwy o archebion ar eu llyfrau nhw a manteisio ar y buddion economaidd a chymdeithasol a ddaw yn sgil cynhyrchu MMC. Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i hyrwyddo'r defnydd o MMC mewn tai cymdeithasol, a'r mis nesaf rydym yn cynnal uwch-gynhadledd i ddod â chynhyrchwyr MMC a landlordiaid cymdeithasol at ei gilydd ledled Cymru ar gyfer rhannu gwybodaeth a meithrin perthynas a chyfleoedd newydd rhwng pobl a'i gilydd.

Ar lawer ystyr, rydym ar flaen y gad yn barod o ganlyniad i lwyddiant ein rhaglen dai arloesol gwerth £90 miliwn sy'n cynnwys nifer o brosiectau MMC sydd ar y gweill eisoes. Er hynny, i gyflymu'r rhaglen eto, rwyf i am sicrhau y bydd £20 miliwn ar gael ar gyfer busnesau MMC a fydd, mewn partneriaeth â landlordiaid cymdeithasol Cymru, yn adeiladu'r genhedlaeth nesaf o dai cymdeithasol. Rwyf i am sicrhau y bydd £25 miliwn arall ar gael ar gyfer rownd 4 y Rhaglen Tai Arloesol, sy'n canolbwyntio ar yr MMC yn arbennig.

Nid yw trosi'r strategaeth i fuddion gweladwy yn ymwneud yn unig â buddsoddiad ariannol. Dros y misoedd nesaf, fe fyddwn ni'n llunio'r nodau hyn mewn cynllun gweithredu a fydd yn darparu mwy o fanylion ynglŷn â'r modd y byddwn ni'n cyflawni amcanion y strategaeth MMC. Fe fyddaf i'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau cyn toriad yr haf, ond mae gwaith wedi dechrau o ddifrif eisoes. Mae mabwysiadu MMC ymhellach yn peri rhai heriau, ond nid yw'r rhain yn anorchfygol, ac rwy'n hyderus ein bod ni wedi dod o hyd i'r dull iawn a'r partneriaid iawn i fynd i'r afael â nhw. Mae'r strategaeth hon yn ein cadw ni ar flaen y gad o ran datblygiadau newydd ac arloesol, gan sicrhau bod tai cymdeithasol yn arwain y ffordd wrth godi safonau ar gyfer tai Cymru yn eu cyfanrwydd. Diolch.

16:15

A gaf i groesawu'r datganiad hwn ar ddulliau modern o adeiladu—MMC o hyn ymlaen? Mae Plaid Geidwadol Cymru drwy gydol y tymor Seneddol hwn wedi hybu'r math hwn o adeiladu, ac yn ein papurau gwyn ni ar ddylunio trefol ac ar dai, roeddem ni'n hyrwyddo'r syniad o ddefnyddio mwy ar MMC. Mae hwn yn llwybr yr ydym yn ei ffafrio yn hytrach nag yn un sy'n cael ei ysgogi gan anghenraid neu brinder, fel y bu yn y gorffennol. Mae hyn mewn gwirionedd, fel yr ydych chi wedi dweud, ar flaen y gad o ran adeiladu tai mewn dull modern. Felly, mae hwn yn rhywbeth y mae angen inni ganolbwyntio arno, ac rwyf i o'r farn, fel yr ydych chi wedi dweud, ei fod yn rhoi cyfleoedd i fusnesau bach a chanolig a chwmnïau eraill fanteisio ar hyn. Rwyf i wedi ymweld â ffatri hefyd—yn y Pîl yr oedd hynny; rwy'n credu i chi ymweld ag un yng Nghastell-nedd—ond mae'n bwysig i weld y cyfleoedd sydd ar gael yno, ac fel yr ydych chi wedi dweud, mae'n cynnig manteision a chyfleoedd arbennig i ddiwydiant coed Cymru yn yr hirdymor.

Rwy'n credu bod MMC yn gofyn am hyfforddiant ac uwchsgilio, ond fe all hyn olygu dewis mwy deniadol o ran gyrfa—yn un peth, mae'r rhan fwyaf o'ch gwaith chi'n cael ei wneud dan do. Rwy'n credu mai'r anfantais yn hyn o beth—ac fe fydd yn denu pobl sy'n awyddus i gael y gyrfaoedd gorau o ran crefft oherwydd natur y gwaith—fel y nododd Cymdeithas Yswirwyr Prydain, mae angen gwaith manwl iawn, yn ystod y gweithgynhyrchu ac yna ar safle adeiladu cartrefi CCM, ac o ran y manteision, yn enwedig o ran effeithlonrwydd ynni ac yna unrhyw waith atgyweirio sy'n cael ei wneud yn ystod oes y tai—gallwn golli llawer iawn o'r manteision. Felly, mae yna faterion gwirioneddol yn codi ynghylch hyfforddiant.

Mae gennyf ychydig o gwestiynau oherwydd, fel y dywedais i, rwy'n credu ein bod ni'n gytûn yn hyn o beth i raddau helaeth iawn. Yn ôl fy nghyfrifiad i, mae'r Gweinidog yn cyhoeddi buddsoddiad o £45 miliwn mewn MMC, ond a wnaiff hi gadarnhau hynny? Nid wyf i'n credu bod yna unrhyw orgyffwrdd rhwng y £20 miliwn yr ydych chi'n ei roi ar gyfer busnesau MMC ac yna'r rhan arall o rownd 4 y rhaglen tai arloesol, a fydd i'r MMC yn arbennig, fel y mynegwyd gennych chi'n glir iawn. Ond a wnewch chi gadarnhau hynny?

O ran y strategaeth sy'n cael ei chyflwyno, rwy'n edrych ymlaen at y datganiad pellach yn nhymor yr haf. A wnewch chi ein sicrhau ni eich bod chi wedi bod yn gweithio gyda—yn ogystal â'r gweithgynhyrchwyr a rhanddeiliaid eraill—Chymdeithas Yswirwyr Prydain? Maen nhw'n croesawu'r math hwn o adeiladu, ond maen nhw'n ymwybodol o'r risgiau yswiriant os nad yw'n cael ei wneud mewn modd sy'n gyflawn a phriodol. Efallai eich bod chi wedi gweld y nodyn a gyflwynwyd ganddyn nhw i'r Aelodau heddiw, a chredaf nad dim ond achos o bledio arbennig yw hyn; maen nhw'n gwneud pwyntiau pwysig iawn, ac rwy'n credu y dylem ni roi'r diwydrwydd dyladwy. Ond rwy'n cloi drwy groesawu'r datganiad.

Diolch yn fawr iawn am y sylwadau yna, David Melding. O ran y pwynt ynghylch yswiriant, fe wnes i'r pwynt yn fyr iawn yn y datganiad ein bod ni'n cydweithredu â chyfres o grwpiau diddordeb arbennig ledled y DU, a bod yswirwyr yn un o'r grwpiau hynny, oherwydd mae'n bwysig iawn mewn gwirionedd y gall pobl gael morgeisi a bod y gwarantau yn briodol. Ac mae yna broblem fawr gyda safonau'r Sefydliad Rhyngwladol ar gyfer Safoni (ISO) a'r angen i'w diweddaru ar gyfer dulliau modern o adeiladu. Felly, fe gafodd rhai o safonau'r ISO eu gwneud yn ôl yn y 1970au, pan nad oedd y pethau hyn yn bodoli. Ac, mewn gwirionedd, nid yw'r elfennau carbon-niwtral sydd yn hyn yn cydymffurfio â safonau'r ISO yn aml, am bob math o resymau da iawn. Felly, mae cryn dipyn o waith eto i'w wneud. A dyna pam y bydd strategaeth weithredu i ddilyn a bydd angen inni sicrhau ein bod ni yn y sefyllfa iawn ar gyfer hynny, ac, yn ddigon amlwg, fe fyddem ni'n dymuno i bobl allu gweithio ledled y DU—ac, mewn gwirionedd, ledled Ewrop ac ati—o sylfaen weithgynhyrchu yng Nghymru. Ac felly mae'n bwysig iawn sicrhau ein bod ni'n gosod y safonau sy'n addas ar gyfer y sector. Felly, nid wyf i'n anghytuno â dim o hynny.

Rwy'n derbyn y pwynt am y gwaith manwl ynglŷn â chydosod ac adeiladu, ond un o'r pethau a wnaeth fy nharo i pan ymwelais â Hale Construction yn etholaeth Jeremy Miles ddoe—rwyf i wedi ymweld â nifer o'r ffatrïoedd hyn ac mae'r un peth ym mhob un ohonyn nhw—oedd, wrth gwrs, y ceir goruchwyliaeth lawer dwysach ar bob cam o'r adeiladu wrth iddo fynd yn ei flaen. Ac, yn anffodus, rydym wedi gweld, gyda dulliau traddodiadol o adeiladu a'r holl risgiau tân yr ydym ni wedi eu trafod sawl gwaith yn y Siambr hon, nad yw'r oruchwyliaeth honno'n bodoli ar y safle adeiladu traddodiadol—am bob math o resymau da, ond nid yw yno—ac felly, mewn gwirionedd, daeth llawer o namau yn amlwg wedyn, tra bod y broses hon mewn gwirionedd yn tynnu sylw at y namau hynny ar unwaith. Dangoswyd inni ddoe chwistrelliad o inswleiddio i mewn i banel, er enghraifft, ac mae'n amlwg iawn bod gwneud hynny dan do, lle mae'n sych, gan ddefnyddio system chwistrellu, yn golygu ei fod yn mynd i mewn i bob twll a chornel ac yn cael gwared â'r holl aer a phopeth arall, ond nid yw hynny'n wir pan mae'n cael ei wneud â system chwistrellu allan ar y safle. Felly, ceir llawer o fanteision. Ond ceir ambell i anfantais hefyd, siŵr o fod.

Y peth arall oedd ei bod hi'n tywallt y glaw bore ddoe, ac roedd—. Roedd y tywydd yn arw ofnadwy, fel y clywsom yn ystod y rhan gyntaf o fusnes y prynhawn yma, ac roedd y ffatri'n gweithredu'n llawn. Roeddwn i wedi mynd heibio sawl safle adeiladu ar y ffordd i'r ymweliad, a gwn fod tai cymdeithasol yn cael eu hadeiladu arnyn nhw, ac roedd pob un ohonyn nhw ar stop, oherwydd bod y tywydd yn drybeilig ac na allai dim ddigwydd yno. Ond roedd y ffatri hon yn gweithredu'n llawn, ac roedd pob aelod staff yno'n gynnes ac yn sych ac yn gwneud ei waith fel arfer. Felly, mewn gwirionedd, nid peth dibwys mo hynny mewn argyfwng hinsawdd ac mewn gwlad fel ein gwlad ni. Dangoswyd inni ddoe hefyd fod rhan helaeth o'r adeiladwaith yn dal dŵr ar unwaith. Felly, hyd yn oed os ydych chi'n ei gydosod ar y safle, mae'n parhau i ddal dŵr—mae'r paneli'n dal dŵr, ac yn y blaen. Felly, ceir llawer o fanteision i wlad fel hon.

A'r peth olaf y dymunaf ei groesawu yw eich bod wedi dweud bod cyfle i ddiwydiant coed Cymru, oherwydd credaf fod hwn yn bwynt pwysig o ran y broblem gyda llifogydd a oedd gennym ni'n gynharach. Mae'n amlwg bod angen plannu llawer mwy o goed—coed sy'n amsugno dŵr; mae angen eu plannu nhw ar flaenau dyfrffosydd ac yn y blaen. Maen nhw'n amsugno dŵr, maen nhw'n atal llawer o'r llifogydd hyn, maen nhw'n dal y pridd yn ei le, maen nhw'n atal mynyddoedd rhag symud ac yn y blaen. Ond fe allwch chi gynaeafu'r coed hynny hefyd oherwydd, os ydych chi'n gwneud hyn yn iawn, nid ydych chi'n torri'r cyfan i lawr—yr hyn yr ydych chi'n ei wneud yw dethol rhywogaethau o goed i'w torri o goedwig sy'n bodoli eisoes, heb effeithio ar ddŵr ffo nac erydiad y pridd ac yn y blaen. Y cyfan sydd angen inni ei wneud yw bod yn llawer callach o ran sut y defnyddiwn ein coedwigoedd fel eu bod yn parhau i fod yn goedwigoedd, ond yn gnwd adnewyddadwy hefyd i'n diwydiant coed ni yng Nghymru. Fe fyddai hynny'n gynhaliaeth i lawer mwy o bobl oddi ar yr erwau hynny o dir na'r hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd.

16:20

Mae yna gonsensws wedi bod yn y Siambr hon fod angen inni gynyddu nifer y tai fforddiadwy yn sylweddol, er y bu llai o gonsensws ynghylch a yw hi'n deg ystyried tai a werthwyd am dros £150,000 drwy Gymorth i Brynu yn dai fforddiadwy. Am y rheswm hwnnw, mae Plaid Cymru wedi dewis defnyddio'r term 'tai cymdeithasol' wrth sôn yn benodol am ein nodau ni ein hunain ar gyfer adeiladu tai, ac yn y fan honno, wrth gwrs, y ceir y brif broblem ynglŷn â chyflenwad. Felly, rydym yn croesawu'r strategaeth hon fel cam i'r cyfeiriad cywir, ac rydym yn cytuno y gall tai parod o'r math y tynnwyd sylw atynt yn y cyfryngau heddiw fod yn rhan ddefnyddiol o ddarpariaeth hynny, gyda'r rhybuddion arferol ynglŷn â rheoli ansawdd ac ati.

Felly, mae gennyf un neu ddau o gwestiynau i chi, Gweinidog. Yn gyntaf, a ydych chi mewn sefyllfa i roi rhai ffigurau inni o ran y niferoedd yr ydych chi am eu gweld yn cael eu cyflenwi? Nawr, mae'r adroddiadau yn y cyfryngau, wrth gwrs, yn defnyddio'r ffigur o 20,000 o gartrefi fforddiadwy, ond fe wyddom ni fod y nod hwnnw'n cynnwys cartrefi nad ydyn nhw, mewn gwirionedd, yn fforddiadwy, fel yr ydym ni wedi ei drafod o'r blaen, ac nad oes nod penodol ynddo ar gyfer tai cymdeithasol. Felly, pe gallech roi syniad inni faint o dai cymdeithasol yr hoffech chi eu gweld yn cael eu cyflenwi yn sgil hyn, yna fe fyddai hynny'n ddefnyddiol iawn. Ac, yn ail, ar hyn o bryd mae'r system gynllunio'n cael trafferth yn barod i gyrraedd y lefel o dai fforddiadwy a ddylai drwy ddatblygiadau. Weithiau, mae hyn yn digwydd oherwydd bod datblygwyr yn dibynnu ar yr arolygydd cynllunio i wanhau ymrwymiadau tai fforddiadwy i warantu bod datblygiad yn dal i fod yn broffidiol, ac mae hwnnw'n rhywbeth nad yw'n bodoli mewn unrhyw ddiwydiant arall, ac yn rhywbeth y dylem ni roi ystyriaeth wirioneddol iddo. Ond dro arall, y rheswm syml yw nad yw adrannau cynllunio yn cyd-drafod yn dda iawn, neu eu bod nhw'n derbyn taliadau arian parod sy'n annigonol. Rwy'n ymwybodol o un datblygiad lle'r oedd y taliadau arian parod yn cyfateb i tua £50,000 fesul cartref, yr oedden nhw'n honni eu bod nhw'n gallu ei adeiladu, sy'n annigonol, yn amlwg.

Nawr, wrth gwrs, un fantais o dai parod yw bod y gost am bob uned yn llawer llai, ond, yn amlwg, yr hyn nad ydym ni'n ei ddymuno yw bod datblygwyr yn manteisio ar hynny ac yn lleihau eu taliadau arian parod nhw yn unol â hynny. Felly, yn lle'r sefyllfa honno, Gweinidog, a wnewch chi gryfhau'r system gynllunio fel ei bod yn ofynnol y bydd mwy o dai fforddiadwy yn cael eu cynnwys mewn datblygiadau i adlewyrchu'r ffaith y bydd hyn yn costio llai?

16:25

Mae'r ddau bwynt yna'n rhai da iawn. Ni cheir nod ar gyfer hyn ar yr adeg hon, gan ein bod ni'n parhau i fynd trwy'r ystadegau yn y rhaglen tai arloesol. Holl ddiben y rhaglen tai arloesol yw profi'r hyn y mae'r gweithgynhyrchwyr yn ei honni am y tai, a gwneud yn siŵr eu bod nhw mewn gwirionedd yn cynhyrchu'r hyn y maen nhw'n ei honni. Felly, mae pob un ohonyn nhw'n dweud wrthych eu bod yn lleihau biliau gan faint a fynnir o gannoedd o bunnoedd a bod y gost o'u hadeiladu nhw'n is ac yn y blaen, ond eu bod nhw'n brosiectau newydd ac arloesol iawn i gyd. Felly, yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yw eu monitro nhw dros flynyddoedd y prosiect, felly y rhai ym mlwyddyn 1, er enghraifft, o'r tair blynedd o fonitro.

Y gwir amdani yw bod llawer ohonyn nhw wedi cyflawni'r hyn y dywedasant y byddent yn ei wneud, ond nid yw eraill wedi gwneud hynny. Felly, rydym yn ceisio gwneud yn siŵr ein bod yn defnyddio'r rhai sy'n gwneud fel y dywedasant ar y raddfa iawn, a bod y lleill yn cael cyfle i nodi'r hyn aeth o'i le a'i gywiro a rhoi hynny ar waith. Felly, nid wyf i'n barod i osod targed ar hynny, oherwydd rydym yn awyddus i wneud hyn yn iawn. Mae gwneud hyn yn iawn yn bwysig.

O ran y system gynllunio, nid strategaeth heddiw yw honno, ond mae'n amlwg yn bwynt cysylltiedig, ac rydym yn gweithio'n galed iawn gydag awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i sefydlu rhywfaint o gynllunio a gymeradwyir ymlaen llaw. Yn fuan iawn, byddaf yn cyhoeddi rhai cynlluniau hunan-adeiladu yr ydym yn eu hystyried hefyd, ac yn y bôn, yr hyn yr ydym yn ei ddweud yw y bydd yr awdurdod lleol yn rhoi'r cynllun ar waith cyn i'r tir gael ei ryddhau, ac yna fe fyddan nhw'n chwilio am ddatblygwyr partner neu Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig i ddatblygu'r tir. Felly, mae hynny'n goresgyn y broblem honno. Mae honno'n strategaeth gysylltiedig, ond nid y strategaeth hon heddiw mohoni.

A'r ail beth yw: fe fyddwch yn gwybod, rydych wedi fy nghlywed i'n siarad yn y Siambr hon yn aml am symud y math hwn o gynllunio i lefel cynllunio strategol ar bwynt rhanbarthol, ac mae hynny ar gyfer gwneud dau beth. Mae ar gyfer sicrhau ein bod ni'n lledaenu'r arbenigedd prin, fel bod awdurdodau sy'n negodi gyda'r sector preifat ar gyfer darnau mawr o dir yn gallu cael gafael ar arbenigedd priodol, oherwydd yn aml dyna'r unig dro y byddan nhw'n erioed yn gwneud hynny, ac fe fyddan nhw'n ennill sgiliau ac yna'n eu colli eto—felly, mae rhannu'r arbenigedd hwnnw mewn awdurdodau lleol yn bwysig iawn. Hefyd, fe fydd yn eu galluogi nhw i roi'r cynllun seilwaith strategol ar waith, fel y byddan nhw'n gwybod, pan fydd adeiladwr sector preifat yn dod yn ei flaen, pa seilwaith y disgwylir iddyn nhw gyfrannu ato, yn hytrach na swm mympwyol o arian yn seiliedig ar fforddiadwyedd y cynllun dan sylw. Felly, mae llawer o bethau eraill i'w gwneud.

Yr hyn y mae'r strategaeth yn ei wneud, serch hynny, yw caniatáu inni adeiladu'n gyflymach o lawer y math o dai y mae pobl yn awyddus i fyw ynddyn nhw. Fe wnaf i rannu un stori gyda chi o—o Rydaman, mewn gwirionedd, lle y gwnes i gyfarfod â Mr a Mrs Potter. Efallai eich bod chi wedi gweld fideo byr ar-lein gan Mr a Mrs Potter, a oedd wrth eu bodd yn y tŷ yr oedden nhw'n byw ynddo, a ddatblygwyd gan Coastal, landlord cymdeithasol cofrestredig. Dywedodd Mrs Potter wrthyf, ac mae hyn wedi aros gyda mi, 'Fe welsom ni'r hen garej yn cael ei dymchwel a'r tai'n cael eu codi ac roeddem ni'n meddwl, "O, datblygiad crand arall ar gyfer pobl grand. Rwy'n byw o hyd yn y fflat ofnadwy a neilltuwyd imi ac mae gan fy mab i bob math o broblemau". Ac yna fe ddywedodd, 'Fe gnociodd rhywun o'r Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig y drws a dweud, "A hoffech ddod i weld y tŷ yr ydym ni'n ystyried ei neilltuo i chi?", ac fe aethon nhw â fi i'r datblygiad crand hwn yr oeddwn i wedi bod yn lladd arno yn y siop leol gan nad oedd ar gyfer ein siort ni, a dyma ni nawr, yn byw ynddo.'

Dyna'r pwynt. Y rhain yw'r tai gorau yng Nghymru, nid y gwaethaf. Dyma'r tai y mae'r rhan fwyaf o bobl yn dymuno byw ynddyn nhw. Maen nhw'n dai o ddewis, nid tai o anghenraid, a chredaf mai dyna'r peth mwyaf hynod.

Rwy'n croesawu datganiad y Gweinidog. Rwy'n falch bod y Llywodraeth hon wedi ymrwymo i barhau i fuddsoddi mewn tai fforddiadwy, gan ddarparu £2 biliwn o gyllid yn y tymor Seneddol hwn, a'i hymrwymiad i adeiladu mwy ac adeiladu'n well.

Mae'n debyg eich bod chi wedi fy nghlywed i—rwy'n credu bod pawb arall wedi fy nghlywed i—yn sôn am bwysigrwydd adeiladu mwy o dai cyngor, ac ydw, rwy'n cytuno â'r hyn y mae'r Gweinidog newydd ei ddweud: rydym ni'n dymuno gweld adeiladau o ansawdd. Er ei bod hi'n debygol ein bod ni'n rhy ifanc i gofio, ond mae rhai ohonom wedi darllen am Parker Morris, ond tai cyngor oedd y rheini a oedd yn cael eu hadeiladu i safon y gallai pobl ei gael.

Rwyf wedi ymweld hefyd â datblygiad lle'r oedd y tai a adeiladwyd ar gyfer y landlord cymdeithasol cofrestredig yn fwy o faint ac o ansawdd uwch na'r rhai a werthwyd i'r sector preifat. Nid oes dim o'i le ar hynny. Rwy'n credu y dylem ddweud, 'Nid y mantra yw y dylai'r sector cyhoeddus fod o ansawdd is. Fe ddylai'r sector cyhoeddus fod cystal o leiaf, ond yn well os oes modd.'

Serch hynny, mae gennyf fy amheuon ond gellir fy argyhoeddi bod dulliau adeiladu modern yn ffordd o gynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy yn gyflym.

Fel y gŵyr y Gweinidog, ni wnaeth y dulliau adeiladu newydd yn y 1960au droi allan yn dda: tai dur yn Abertawe; sment â chyfradd uchel o alwmina yn Ysgol Olchfa; Ronan Point; tai anhraddodiadol yn Abertawe yn cael eu dymchwel ym Mlaen-y-Maes a'r Clâs a'u disodli gan dai a adeiladwyd yn draddodiadol gan landlord cymdeithasol cofrestredig; a'r tenement hefyd, a oedd yn fwy cyffredin yn yr Alban, ond roedd gennym ni ychydig ohonyn nhw yng Nghymru, ac roedd un yn Abertawe. Ni welwch hwnnw erbyn hyn ychwaith, gan iddo gael ei ddymchwel.

Mae llawer iawn o'r datblygiadau arloesol, modern iawn hyn yn y 1960au wedi diflannu. Felly, pam mae'r Gweinidog wedi ei darbwyllo na fydd problemau'n codi gyda'r genhedlaeth hon o dai a gaiff eu hadeiladu mewn ffordd anhraddodiadol? Oherwydd mae gan dai traddodiadol un fantais fawr: maen nhw'n sefyll am amser maith iawn.

16:30

Fel arfer, mae Mike Hedges yn gwneud pwynt da iawn yn gryno iawn, er hynny, fe ddywedaf i air o ganmoliaeth o ran y tai dur. Roedd fy mam-gu'n byw yn un o'r tai dur, fel y gŵyr ef—pedwar tŷ y tu allan i'm hetholaeth i, yn ei etholaeth ef. Ar y pryd, y tai hynny oedd y tai mwyaf ysblennydd yn Abertawe o bell ffordd. Unwaith eto, ni allai hi gredu ei bod yn byw yn un ohonyn nhw. Er nad yw'r cladin dur wedi sefyll prawf amser, mae'r tŷ'n parhau i fod yno, ac yn parhau i fod yn hardd ac yn parhau i fod yn helaeth, mewn gwirionedd. Felly, mae hyn yn bosibl.

Y rheswm pam rwyf i'n gwbl argyhoeddedig o'r dulliau hyn, serch hynny, yw oherwydd y rhaglen tai arloesol ac, fel roeddwn i'n dweud wrth ymateb i Delyth Jewell, ein bod ni'n rhoi prawf arni. Rydym yn cael ceisiadau gan y gweithgynhyrchwyr ac wedyn rydym yn eu gwthio nhw drwy raglen brofi i wneud yn siŵr bod yr honiadau yn cael eu gwireddu. Felly, mewn gwirionedd, nid ydym yn cyflwyno rhywbeth ar raddfa a chyflymder a fydd, rydym yn gobeithio, yn gweithio; rydym yn cyflwyno pethau yr ydym ni'n gwybod eu bod nhw'n mynd i weithio ac sy'n cyflawni'r hyn y dywedwyd eu bod yn gallu ei gyflawni. Mae hwn yn bwynt pwysig iawn oherwydd nid ydym eisiau gwneud y camgymeriadau a wnaed yn y gorffennol.

O ran dylunio, rwy'n gwbl gytûn ag ef ynglŷn â mater dylunio. Rydym eisiau cael tai hardd, a gafodd eu dylunio'n hardd, sy'n dai am oes. Felly, ar gyfer y tai hyn, rydym yn chwilio am ddyluniadau a fydd yn caniatáu i rywun eu prynu fel cartref cychwynnol am y tro cyntaf, ac yna'n aros yn y tŷ hwnnw am weddill eu hoes, gan ychwanegu ystafelloedd gwely a hyd yn oed gael gwared ar ystafelloedd gwely. Felly, gall y tŷ dyfu gyda chi ac yna leihau gyda chi dros amser, gyda drysau llydan ar gyfer cadeiriau olwyn, pramiau a bygis, grisiau llydan, ystafelloedd ymolchi priodol ar y llawr gwaelod—yr holl bethau y mae eu hangen arnoch i gael profiad oes mewn un tŷ.

Mae'r dulliau adeiladu hyn yn caniatáu ichi wneud yn union hynny. Felly, nid yw pobl yn cael eu rhwygo o'u cynefin os oes ganddyn nhw anabledd yn y teulu, neu os oes ganddyn nhw unigolyn sy'n hŷn, neu os oes ganddyn nhw gyfrifoldebau gofalu. Fe all y tai gael eu haddasu yn y fan a'r lle.

Diolch i chi am eich datganiad, Gweinidog. Fel y gwyddoch chi'n iawn, rwyf wedi dadlau ers amser maith o blaid tai parod a modwlar i ateb y diffyg sydd gennym o ran tai cymdeithasol ac wedi bod yn dadlau o blaid y dull hwn ers imi gael fy ethol gyntaf. Fel rhywun a fagwyd mewn tŷ parod, mae gennyf i lawer o atgofion melys o'm cartref tŷ parod. Rwy'n sylweddoli na fyddai tai parod y gorffennol yn bodloni safonau modern, ond wedyn nid oes unrhyw un o'r cartrefi a godwyd yn yr adeg honno'n gwneud hynny.

Rwy'n croesawu strategaeth newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer tai cymdeithasol, sy'n derbyn na all dulliau adeiladu traddodiadol fynd i'r afael â'r angen dirfawr am dai cymdeithasol. Fel yr amlinellodd y Gweinidog yn ei datganiad hi, fe fydd dulliau modern o adeiladu ac adeiladu oddi ar y safle yn mynd i'r afael â'n prinder ni o gartrefi cymdeithasol drwy adeiladu mwy ohonyn nhw, a hynny'n gyflymach. Gweinidog, rwyf i'n cefnogi'r dull hwn yn llwyr ac yn gobeithio gweld ei ganlyniadau yn fuan iawn.

Fe ddywedwch chi y gallai adeiladu gan ddefnyddio MMC leihau gwastraff adeiladu hyd at 90 y cant. Ni ellir gorbwysleisio'r angen i ddatgarboneiddio'r diwydiant adeiladu. Gweinidog, o gofio bod Llywodraeth Cymru wedi methu â chyrraedd ei thargedau o ran plannu coed, a fydd digon o gyflenwadau pren cynaliadwy ar gael i fodloni gofynion MMC yn y dyfodol? Gweinidog, sut ydych chi am sicrhau mai dim ond deunyddiau a ddaw o Gymru a ddefnyddir mewn cynhyrchion adeiladu yn y dyfodol?

Mae eich strategaeth chi'n nodi y bydd MMC a gweithgynhyrchu oddi ar y safle yn helpu i leihau biliau ynni. Felly, pa ystyriaeth a roddwyd i liniaru'r angen am oeri gweithredol wrth i'n hinsawdd ni gynhesu a mynd yn wlypach? Rydym wedi gweld y dinistr yn sgil effeithiau'r tywydd garw yn ystod yr wythnosau diwethaf. Gweinidog, a wnewch chi gadarnhau y bydd cartrefi newydd sy'n cael eu hadeiladu gan ddefnyddio MMC, boed ar y safle ai peidio, yn cynnwys amddiffyniadau rhag llifogydd, megis falfiau unffordd a rhwystrau rhag llifogydd? 

Ac yn olaf, Gweinidog, un o fanteision mwyaf cael fy magu mewn tŷ parod oedd bod â gardd a chymuned o'ch cwmpas. A wnewch chi sicrhau y bydd gardd i bob cartref cymdeithasol a gaiff ei adeiladu drwy MMC a gweithgynhyrchu oddi ar y safle? Mae bod â gardd yn hanfodol i deuluoedd a phlant, ond i bobl oedrannus hefyd, gan ei bod yn eu galluogi nhw i gadw anifeiliaid anwes. Felly, Gweinidog, a wnewch chi sicrhau y bydd tenantiaid cymdeithasol yn y cartrefi newydd hyn yn gallu cadw anifeiliaid anwes er mwyn helpu i fynd i'r afael ag unigedd ac unigrwydd? Diolch.

16:35

Diolch i chi am y gyfres yna o gwestiynau a sylwadau. O ran cyflenwadau o goed, fel roeddwn i'n dweud wrth ymateb i David Melding, mae hyn yn gwbl gysylltiedig â thwf y diwydiant coed yng Nghymru. Felly, yn sicr nid oes gennym ddigon o bren o'r math cywir ar hyn o bryd; mae angen i ni blannu, ac mae angen i ni blannu hynny mewn ffordd sy'n sicrhau coedwig fioamrywiol. Felly, fe fydd hi'n goedwig sy'n edrych fel coedwig—i'r rhai ohonom ni a fyddai'n gwneud darlun o goedwig, fe fyddai'n edrych fel yna—ond mae'n bosibl ei thocio hi, a dyna'r pwynt. Felly, nid ydych chi'n ei thocio hi'n llwyr. Nid cnwd yn unig mohoni, ond coedwig. Ond fe allwch ei thocio hi mewn ffordd sy'n golygu bod y goedwig yn aros, ond mae gennych chi gnydau o un rhywogaeth o wahanol fathau yn rhedeg drwyddi. Dyna'r ffordd orau o wneud hyn. Fe wneir fel hyn mewn llawer man yn y byd ac nid oes unrhyw reswm pam na allwn ni wneud fel hyn yng Nghymru.

Ar hyn o bryd, yn anffodus, ni allaf ddweud mai dim ond deunyddiau o Gymru a ddefnyddir i hyn oherwydd ni fyddai hynny'n bosibl. Ond yn sicr y nod sydd gennym yw gwneud hynny. Rydym yn gweithio gyda'r holl weithgynhyrchwyr yn y maes hwn, ochr yn ochr â'r cynghorwyr busnes sydd gan Ken a Busnes Cymru, i edrych ar eu cadwyni cyflenwi a gweld beth allwn ni ei wneud ynghylch sicrhau eu bod nhw'n defnyddio, lle bo hynny'n bosibl, gynhyrchion o Gymru, a lle ceir bwlch yn y gadwyn gyflenwi, beth allwn ni ei wneud i ysgogi rhywun i ddod i'r adwy a sicrhau bod cynnyrch o Gymru ar gael. Felly, mae hynny'n wir yn mynd rhagddo, ac mae fy nghydweithiwr i, Lee Waters, gyda'r darn Swyddi Gwell yn nes at Gartref a'r darn economi sylfaenol, wedi bod yn gwneud yr un peth gyda ni, ynglŷn â gwneud yn siŵr bod y gadwyn gyflenwi yn dod at ei gilydd.

O ran diogelu rhag effeithiau'r tywydd, nid yw pob un o'r systemau modwlar a'r dulliau modern o adeiladu—nid modiwlau yw'r cyfan ohonyn nhw, mae'n rhaid imi ddweud—yn cael eu diogelu rhag llifogydd yn llwyr, oherwydd ni fwriedir i bob un ohonyn nhw gael eu hadeiladu ar orlifdir. Ond rydym yn rhoi ystyriaeth i'r hyn y gallwn ni ei wneud ar gyfer tai sy'n cael eu hadeiladu ar orlifdiroedd. A dweud y gwir, yr ateb gorau i hynny yw peidio â'u hadeiladu ar orlifdir yn y lle cyntaf. Ond fe fyddwn ni'n sicr yn rhoi ystyriaeth i'r hyn y gallwn ni ei wneud o ran diogelu rhag effeithiau'r tywydd. O ran gwres ac oeri, mae hynny'n gwbl annatod. Felly, mae pympiau sy'n tarddu o'r awyr a gwres o'r ddaear yn oeri ac yn cynhesu'r tŷ, yn dibynnu ar y tymheredd amgylchynol y tu allan, ac mae hwnnw'n bwynt pwysig iawn.

O ran gardd, fe fydd y safonau o ran gofod yn pennu gardd mewn rhai amgylchiadau, ond nid ym mhob un amgylchiad. Er enghraifft, weithiau fe fydd yn ddymunol ac yn wir yn hanfodol, oherwydd y boblogaeth sy'n tyfu, i gael adeiladau sy'n uchel ac o ddwysedd uchel. Nid yw hynny'n golygu diffyg ansawdd na ddiffyg dyluniad na ddiffyg manyleb. Ond wrth gwrs, os ydych chi ar y pumed llawr, ni fydd gennych ardd yn rhan o'ch fflat chi at eich defnydd chi eich hun. Yr hyn y gallwch ei gael yw seilwaith gwyrdd da o amgylch yr adeilad dwysedd uchel, ac mae hynny'n bwysig iawn hefyd, cael seilwaith gwyrdd yn ein dinasoedd ni, a sicrhau bod dyluniad yr adeiladau preswyl dwysedd uchel yn addas, fel bod gan bobl fan awyr agored hanfodol i fynd iddo. Rwy'n cytuno â hynny. Ond nid yw hyn mor syml â dweud bod gan bobl ardd; mae'n llawer mwy cymhleth na hynny.

Y peth olaf rwyf eisiau ei ddweud yw—ac rwy'n ymddiheuro oherwydd dylwn fod wedi gwneud hyn mewn ymateb i sawl un—ydy, mae'r arian yn gronnol, ond nid yw'n hollol fodiwlaidd. Felly, nid yw dulliau modern o adeiladu yn fodiwlaidd i gyd, ac mae peth o'r stwff Rhaglen Tai Arloesol yn ymwneud â dulliau adeiladu modern nad ydyn nhw o reidrwydd yn cynhyrchu oddi ar y safle. Felly, nid yw mor syml â dweud bod £45 miliwn ar gyfer hynny, ond mae'r cyfan yn ymwneud â dulliau modern o adeiladu. Mae rhywfaint o'r Rhaglen Tai Arloesol yn ymdrin â'r dulliau o brofi'r hyn a gaiff ei honni hefyd; fe fydd rhywfaint o'r arian yn cael ei ddefnyddio i hynny.

A'r peth olaf yr wyf am ei ddweud wrth ymateb i Caroline Jones a nifer o bobl eraill a gododd hyn yw mai system yw hon a gaiff ei seilio ar gost oes yr adeilad i raddau helaeth. Felly, nid yw'n ymwneud â gostwng cost ymlaen llaw'r adeiladu hyd at yr enwadur cyffredin isaf—fe gododd Delyth y pwynt hwn gyda mi hefyd—mae hyn yn ymwneud â sicrhau, pan fydd yr awdurdod cynllunio a'r awdurdod lleol yn edrych ar gost y tŷ, y byddan nhw'n edrych ar gost oes y tŷ, gan gynnwys y gost o fyw ynddo ac ati, nid cost ei adeiladu yn y lle cyntaf yn unig.

Rwy'n cytuno gyda phopeth bron sydd wedi cael ei ddweud, felly rwyf am ganolbwyntio ar rai agweddau pellach. Fe hoffwn i ganolbwyntio ar y gair 'harddwch' yn eich datganiad chi, oherwydd rwyf i o'r farn fod honno'n uchelgais pwysig iawn. Pam rydym ni'n dymuno adeiladu adeiladau hyll? Mae cost enfawr i adeiladau hyll na ddylem ni fod yn ei chaniatáu.

Fe wnes i ymweld yn ddiweddar â Llys Ewenni yn Nhrelái, sydd yn etholaeth y Prif Weinidog, i weld y naw cartref sydd ag un neu ddwy ystafell wely y byddai unrhyw un yn falch o fod yn byw ynddyn nhw, oherwydd maen nhw'n bodloni'r meini prawf o ran harddwch yn ogystal â'r meini prawf ar gyfer creu lleoedd. Yn ymchwiliad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i gynllunio yr ydym yn ei gynnal, rwyf wedi dod ar draws adroddiad y Comisiwn Building Better, Building Beautiful a gynhyrchwyd tua mis yn ôl, sydd â thri gofyniad ynddo, sef gofyn am harddwch, ymwrthod â hagrwch, a hyrwyddo stiwardiaeth. Mae hyn yn adleisio uchelgeisiau'r Gweinidog o ran creu lleoedd. Yn yr adroddiad hwnnw, maen nhw'n dyfynnu uwch arbenigwr adeiladu sy'n dweud:

Mae rhai adeiladwyr tai ... yn credu y gallan nhw adeiladu unrhyw hen sothach a'i werthu beth bynnag.

Ac rwy'n siŵr bod hynny'n wir. Tybed beth allwn ni ei wneud i wahardd sbwriel sy'n costio symiau mawr i unioni'r broblem, a sicrhau bod gennym nid yn unig yr un safonau o ansawdd uchel ar gyfer tai preifat ag sydd gennym ni ar gyfer tai cymdeithasol, yn ogystal â sicrhau bod gan yr awdurdodau cynllunio y dewrder a'r gallu i wrthod cynigion gwael, sy'n gost i'r gymdeithas. Os byddwn ni'n codi adeiladau tila, yna mae'n rhaid eu rhwygo i lawr neu eu hailgodi nhw.

Felly, tybed a wnewch chi ymgorffori hynny yn eich adolygiad chi o'r rheoliadau adeiladu, yn ogystal ag yn eich cyfarwyddiadau chi i awdurdodau cynllunio, i wrthod cynigion adeiladu yn hollol nad ydyn nhw o safon a heb eu hintegreiddio yn llawn yn yr uchelgeisiau o ran creu lleoedd sydd gennym ni yn sgil y datganiad hwn.

16:40

Byddwn, fe fyddwn i'n cytuno â hynny, mae'n debyg. Y broblem gyda'r gair 'harddwch' yw mai rhywbeth goddrychol yw hynny, yn amlwg. Felly, yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yw ein bod ni'n ei ddefnyddio fel gair byrdymor am 'adeiladwyd yn ôl safonau da iawn a manwl iawn'. Efallai na fyddech chi'n edrych ar dŷ ac yn meddwl, 'Wel, am hardd', ond efallai y byddai unigolyn arall yn gwneud hynny; ond yr hyn y gallech ei ddweud yw, 'Fe gafodd hwn ei adeiladu i safon uchel, gydag ystafelloedd o faint da, golau da, a ffynonellau da o bopeth arall', ac ni fyddai'r ffaith nad ydych chi'n ei hoffi oherwydd ei fod yn binc neu'n las yn bwysig.

A dweud y gwir, un o'r pethau yr ydym ni'n ystyried eu gwneud gydag awdurdodau lleol sy'n datblygu rhan o hyn gyda ni yw cael llyfrau o batrymau, fel y gallan nhw gymeradwyo ceisiadau cynllunio o flaen llaw am setiau arbennig o dai sydd yn amlwg yn cydymffurfio â'r gofynion ansawdd dylunio uchaf—y DQR, fel y'u gelwir—ond maen nhw'n edrych yn wahanol i'w gilydd, mae'n amlwg. Oherwydd mae gan bobl wahanol syniadau ynglŷn â'r hyn y mae harddwch yn ei olygu. Ystyr harddwch i ni yw hardd o ran maint, lle, effeithlonrwydd ynni, a sut le ydyw i fyw ynddo, ac yna os ydych chi'n meddwl mai gwyrdd neu binc y dylai fod ar y tu allan, wel mater i chi ac i weddill y datblygiad fyddai hynny. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig gwneud y pwynt hwnnw.

Ond rydym ni'n cynnwys hynny yn y dylunio, ac rydym ni'n prysur symud—yn ein hymgynghoriad ni ar Ran L a'r Papur Gwyn a fydd yn dilyn—tuag at fod â'r un safonau o ran lle a'r un safonau o ran harddwch ledled Cymru ar gyfer pob math o dai, ac nid yn wahaniaethol fel y maen nhw ar hyn o bryd. Fe ddywedodd Mike Hedges, rwy'n credu, ar hyn o bryd, os oes gennych chi dŷ cymdeithasol yng Nghymru, mae'n debyg eich bod chi mewn cartref o safon well na phe baech chi wedi prynu un yn ddiweddar. Ni wn a yw pawb yn gwybod hynny, ac nid oes gennyf i broblem â hynny o safbwynt tai cymdeithasol, ond mae gennyf broblem â hynny o ran cynaliadwyedd y sector preifat. Felly, rydym ni'n prysur anelu at gael yr un safonau drwyddi draw.

Roeddwn i'n hapus iawn o gael fy neffro'r bore yma gan eich llais hyfryd ar y teledu, yn cyhoeddi gyda gwên siriol eich bod chi am adeiladu mwy o dai yng Nghymru. A minnau'n gadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar adeiladu, newyddion da iawn yw hynny.

Ond ar gyfer llwyddo wrth gyflawni'r uchelgais a nodir yn y strategaeth, wrth gwrs, mae'n rhaid i ni fynd â llawer o bobl gyda ni ar y daith honno. Mae Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu a'r diwydiant ei hun yn awyddus i gefnogi'r strategaeth a gweithio gyda ni i gyflawni'r canlyniadau, ac fe fyddai'n arbennig o dda ganddyn nhw gael clywed rhagor o fanylion ynghylch nifer y cartrefi, yr amserlen arfaethedig ar gyfer datblygu, a chyfran y tai fforddiadwy i'w hadeiladu gan ddefnyddio gweithgynhyrchu oddi ar safle.

Mae diddordeb ganddyn nhw—ac rwy'n siŵr fod gan bawb arall yn y fan hon—yn yr eglurder sydd ei angen i helpu i ddatblygu dull y sector o fuddsoddi yn y mathau newydd hyn o dechnolegau, ac felly'r sgiliau sydd eu hangen i'w bodloni. Felly, Gweinidog, maen nhw'n gobeithio am wybodaeth weddol fanwl a hawdd ei chael yn y dyfodol agos. Mae'n bwysig cydnabod y bydd y gofynion sgiliau ar gyfer darparu mwy o dai cymdeithasol drwy dechnolegau modern ychydig yn wahanol i'r sgiliau sydd eu hangen ar hyn o bryd, ac fe fydd Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu, y cyflogwyr a'r colegau yn dymuno eich helpu chi i gyflawni'r canlyniad a ddymunir gennych. 

Gyda hynny mewn golwg, fe fydden nhw'n hoffi deall sut yr ydym ni'n bwriadu dysgu'r sgiliau hynny, ac a fyddem ni'n ystyried dysgu'r dulliau modern o adeiladu drwy gyfrwng yr wyth cymhwyster newydd a gaiff eu cyflwyno yn 2021, ac efallai gynnwys TGAU newydd, Lefel AS a Lefel A mewn adeiladu a'r amgylchedd adeiledig o fewn y cynnig hwnnw. Felly, byddai'n ddiddorol iawn cael gwybod a yw hynny'n rhan o'n hystyriaeth ni.

Ac yn olaf o'm rhan i, rwyf i ac eraill wedi gofyn, a byddai'n dda iawn gennym wybod, o ble y daw'r deunydd crai—y pren, mewn geiriau eraill. Ac fe wn i eich bod wedi ateb y cwestiwn hwnnw sawl gwaith heddiw, ond yr hyn yr wyf i'n arbennig o awyddus i'w gael gennych chi, Gweinidog, yw sicrwydd llwyr na fyddwn ni, yn ein huchelgais i adeiladu tai da ar gyfer rhai pobl, yn dinistrio cartrefi pobl eraill, oherwydd fe fyddai honno rywsut yn sefyllfa hurt iawn.  

16:45

Diolch yn fawr iawn am hynny, Joyce Watson. O ran y pwynt ynghylch pren, hoffwn ei ailadrodd, oherwydd bod gwerth ei ailadrodd yn fy marn i. Nod y strategaeth yw creu marchnad ddomestig gref i goed Cymru, ac mae'n cysylltu â'n dyhead i fod yn genedl goedwig. Ac nid ydynt yn gwrthwynebu ei gilydd o gwbl. Ein huchelgais yw datblygu'r diwydiant coed ffyniannus hwnnw, ac mae hynny'n gofyn am ddull gweithredu cenedlaethol meddylgar o blannu a chynaeafu coed yn fasnachol. Felly, fel y dywedais, nid ydych yn clirio ochrau mynydd cnydau gan arwain at golled ddinistriol i'r pridd, a phopeth arall; rydych yn llunio strategaethau plannu a thyfu cnydau yn ofalus mewn coedwig fioamrywiol gynaliadwy. Mae hynny'n berffaith bosibl ac mae'n digwydd mewn llawer o leoedd yn y byd, ac nid oes unrhyw reswm pam na allwn ni wneud hynny. Bydd angen i hynny harneisio ein hasedau naturiol a bydd yn helpu ein heconomi, a bydd yn helpu ein canlyniadau amgylcheddol ar gyfer hynny.

Ac yna, holl bwynt y rhaglen IHP—y rhaglen tai arloesol—yw treialu hynny er mwyn inni wybod beth fydd yn gweithio, er mwyn inni wybod ble i'w plannu, er mwyn inni wybod o ble mae'r pren yn dod ar hyn o bryd, a'n bod yn gweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a'n cynghorau i wneud yn sicr bod y pren yn dod o ffynonellau mewn modd cyfrifol. Fel y dywedais wrth ymateb i Caroline Jones, ni allwn wneud hynny i gyd o Gymru ar hyn o bryd, ond rydym yn gweithio'n galed iawn i blannu'r coed nawr a fydd yn ein galluogi i wneud hynny yn y dyfodol. Felly, rwy'n credu bod hynny'n bwynt da iawn wedi ei wneud yn dda; mae angen inni bwysleisio hynny. Nid yw'r ffaith eich bod yn defnyddio diwydiant coed yn golygu eich bod yn datgoedwigo, oherwydd yn bendant nid ydym yn awyddus i wneud hynny.

O ran y diwydiant adeiladu, rydym wedi bod yn gweithio'n agos iawn gyda'r sector adeiladu. Rydym yn sicr yn croesawu eu hymateb i fod eisiau gweithio gyda ni i'n cynorthwyo i ddatblygu sgiliau, ac yn y blaen. Soniais yn y datganiad y byddwn yn datblygu cynllun gweithredu ar gyfer y strategaeth. Ac yn rhan o'r cynllun gweithredu, byddwn yn sicr yn mynd i'r afael â'r sylfaen sgiliau sydd ei hangen yn y gweithlu, a sut yr ydym yn bwriadu integreiddio hynny â'r cymwysterau ac, yn wir, y rhaglen brentisiaeth y mae fy nghyd-Aelod Ken Skates yn ei hystyried ynghyd â'r cymwysterau newydd, Joyce, yr ydych chi eisoes wedi eu crybwyll.

Ac yna, y peth olaf i'w ddweud yn unig o ran blaenoriaethu, rydym yn awyddus iawn bod grwpiau agored i niwed yn cael cyflogaeth drwy'r llwybr hwnnw. Fe wnes i ddweud yn fyr yn y datganiad y byddwn yn edrych ar grwpiau fel carcharorion, ond rydym hefyd yn edrych ar bobl ddi-waith yn y tymor hir. Gall y ffatrïoedd hyn fod yn eithaf bach yn wir, felly gallan nhw fod yn lleol yn y man lle mae'r tai yn cael eu hadeiladu. Nid oes gennych chi un ffynhonnell fawr—ffatri enfawr yn defnyddio llawer iawn o dir yn rhywle ac yn dosbarthu pethau ar lori; mae gennych ffatrïoedd bach lleol sy'n adeiladu tai lleol ar gyfer pobl leol, trwy ddefnyddio cyflogaeth leol. Felly, mae'n creu cyflogaeth leol trwy ddefnyddio pobl leol.

Felly, mae llawer o enillion i bawb yn y strategaeth hon, ac rwy'n credu y byddwn yn gweithio arnyn nhw gyda'r diwydiant adeiladu a'r adeiladwyr tai BBaCh, yn benodol, i fwrw ymlaen â hynny.

6. Datganiad gan Weinidog yr Economi, Thrafnidiaeth a Gogledd Cymru: Prosiectau Metro yng Nghymru

Eitem 6 ar yr agenda y prynhawn yma yw datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: prosiectau'r metro yng Nghymru, a galwaf ar Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n gobeithio y bydd uchelgais y Llywodraeth hon i weld Cymru fwy ffyniannus, yn fwy gwyrdd ac yn fwy cyfartal yn un y mae pob un ohonom yn ceisio ei wireddu yn y Senedd hon. Byddwn i hefyd yn disgwyl i bawb rannu ein huchelgais am system drafnidiaeth fodern yng Nghymru, system drafnidiaeth sy'n chwarae ei rhan i gyfrannu at dri uchelgais: cyflawni twf economaidd mewn ardaloedd gwledig a threfol; annog pobl i ddefnyddio dulliau mwy cynaliadwy o deithio er mwyn lleihau'r effeithiau amgylcheddol; a darparu teithiau effeithlon a fforddiadwy sy'n hygyrch i bawb.

Fel y gwyddom, mae ein seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru wedi ei amddifadu'n barhaus ac yn systematig o fuddsoddiad. O ganlyniad, nid yw'n syndod bod gan Gymru rai o'r cyflymderau rheilffordd inter-city arafaf yn y DU, y lefel isaf o bobl yn defnyddio'r rheilffyrdd, a'r ganran uchaf o deithiau mewn ceir. Yn syml, nid yw hyn yn gynaliadwy.

Bydd ein rhaglenni metro yn y de-ddwyrain, yn y de-orllewin, ac yn y gogledd yn cyflawni'r newidiadau angenrheidiol drwy rwydwaith amlfoddol, cynaliadwy, hygyrch, integredig, sy'n canolbwyntio ar y cwsmer ar draws pob rhanbarth. Bydd trenau, bysiau a'r rhwydwaith teithio llesol yn gweithio gyda'i gilydd i gysylltu pobl a lleoedd yn effeithlon ac yn effeithiol ar gyfer gwaith, bywyd a hamdden.

Fodd bynnag, er mwyn cyflawni hyn mae'n ofynnol i Lywodraeth Cymru fod â rheolaeth ar yr holl ysgogiadau sydd eu hangen i ddarparu system drafnidiaeth gwbl integredig. Er gwaethaf cyfyngiadau'r ecosystem reilffyrdd bresennol, lle mae Llywodraeth y DU yn diffinio blaenoriaethau ac yn dyrannu buddsoddiad yn ôl ei blaenoriaethau ei hun, mae Llywodraeth Cymru, serch hynny, wedi ariannu a datblygu'r rhaglen Metro De Cymru uchelgeisiol i gynyddu'r economi a chefnogi adfywiad ar draws prifddinas-ranbarth Caerdydd.

A heddiw, hoffwn i ailddatgan ein hymrwymiad i'n metros a nodi ein cynlluniau i ddatblygu rhaglenni sydd yr un mor uchelgeisiol ar gyfer y de-orllewin a Bae Abertawe, y gogledd, ac ehangu pellach ym mhrifddinas-ranbarth Caerdydd. Bydd y rhain yn adeiladu ar egwyddorion presennol y metro, ond â phwyslais mwy hyd yn oed erbyn hyn ar gysylltedd, datgarboneiddio, ac integreiddio wrth inni ddatblygu cyfnodau yn y dyfodol.

Yn dilyn y broses ddiweddar o drosglwyddo perchenogaeth a chyfrifoldeb dros reilffyrdd craidd y Cymoedd, bydd cam nesaf y prosiect uchelgeisiol hwn yn cyflenwi trydaneiddio, trenau newydd, gwasanaethau cyflymach ac amlach, ac yn darparu'r sylfaen ar gyfer rhagor o ehangu sy'n angenrheidiol. Mae'r rhaglen uchelgeisiol hon i fynd i'r afael â newid hinsawdd, gwella ansawdd aer, a lliniaru tagfeydd yn dangos yn glir yr hyn sy'n bosibl pan gaiff pwerau a chyllid eu datganoli.

Nawr, nes bod rheilffyrdd wedi eu datganoli'n llawn, mae angen i Lywodraeth y DU wella gallu, capasiti a chydnerthedd y rhwydwaith ehangach gan gynnwys uwchraddio ein prif linellau i alluogi gwasanaethau cyflymach, amlach a mwy dibynadwy, ynghyd â mesurau i fynd i'r afael â thagfeydd ar y rhwydwaith megis yng Nglynebwy a'r gyffordd rhwng Wrecsam a Chaer, Gorllewin Caerdydd, a gorsaf Abertawe.

Nawr, bydd asgwrn cefn ein metro yn y gogledd yn uwchraddio rheilffordd y Gororau yn sylweddol i gynnig gwasanaethau cyrraedd a mynd o Wrecsam a, thrwy weithio gyda Merseytravel, darparu gwasanaethau yr holl ffordd i Lerpwl. Byddwn yn datblygu ein hybiau allweddol, er enghraifft yn Shotton, i ddarparu cyfnewidfa rhwng gwasanaethau rheilffordd, yn ogystal â gwasanaethau bws integredig ar draws ein hybiau rhanbarthol. Er mwyn darparu'n effeithiol y gwasanaethau integredig a deniadol ar draws arfordir y gogledd a llinell y Gororau, mae angen gwasanaethau cymudwyr pob gorsaf newydd i ategu gwasanaethau pellter hir cyflymach sy'n rhedeg ar brif lein wedi'i thrydaneiddio ac wedi'i huwchraddio.

Yn y gorllewin a Bae Abertawe, mae Trafnidiaeth Cymru wedi gweithio gyda'r rhanbarth i ddatblygu pecyn cychwynnol o fesurau, gan gynnwys gwasanaethau rheilffordd metro pell a lleol newydd ar hyd Llinell Bwrdeistref Abertawe, sydd wedi'i thanddefnyddio ar hyn o bryd, sy'n cynnig llai o siwrnai gwaith o'r gorllewin i Abertawe, Caerdydd, a thros y ffin.

Byddai'r gwasanaethau metro newydd, drwy seilwaith rheilffyrdd newydd, a nifer o orsafoedd newydd a safleoedd parcio a theithio strategol, yn cysylltu ardaloedd trefol Abertawe a Chastell-nedd yn uniongyrchol â gorsafoedd Stryd Fawr Abertawe a Chastell-nedd, gan annog datblygiadau pellach yn y lleoliadau hynny. Nawr, rydym hefyd wedi datblygu gwaith i wella ac ehangu gwasanaethau bysiau yn rhanbarth Bae Abertawe, a fydd yn cael ei integreiddio â'r rhaglen reilffyrdd hon. Yn amodol ar ragor o ddatblygu achosion busnes, bydd hon yn rhaglen dreigl a fydd yn dechrau cyflawni buddion ar draws y rhanbarth o fewn y ddwy flynedd nesaf.

Cyn unrhyw newidiadau i'r setliad datganoli mewn cysylltiad â'r seilwaith rheilffyrdd, hoffwn i Lywodraeth y DU weithio gyda ni i gyflymu'r rhaglen hon. Rydym yn awyddus i ymchwilio i ddulliau mwy arloesol o weithredu safonau rheilffyrdd traddodiadol er mwyn asesu'r potensial ar gyfer llinellau newydd a/neu ailagor llinellau.

Bydd ein deddfwriaeth bysiau sydd ar ddod yn cynnig cyfleoedd inni wella ac ehangu ein gwasanaethau bysiau yn sylweddol, gan lenwi'r bylchau presennol yn ein rhwydwaith rheilffyrdd a chynnig gwasanaethau amlach, integreiddio a chyflymder i'n hybiau rhanbarthol. Byddwn yn asesu'r potensial ar gyfer ffyrdd bysiau ar wahân a mesurau blaenoriaeth i drafnidiaeth gyhoeddus er mwyn cefnogi'r gwaith o ehangu'r rhwydwaith ymhellach. Bydd y rhwydweithiau trafnidiaeth gyhoeddus hyn yn hanfodol i gefnogi datblygiad ac adfywiad economaidd rhanbarthol a lleol. Bydd hefyd yn ein galluogi i ddatblygu lleoedd wedi'u cynllunio o amgylch cymunedau.

Mae ein rhwymedigaethau newid hinsawdd yn mynnu ein bod yn datblygu'r cynigion uchelgeisiol hyn. Mae angen sicrhau bod y penderfyniadau a wneir ynghylch metros yng Nghymru yn gwbl integredig, wrth gwrs, gyda chynllunio rhanbarthol a gyda buddsoddiad ehangach mewn seilwaith a darparu gwasanaethau. Bydd y gwaith parhaus o ddatblygu a chymhwyso trafnidiaeth soffistigedig, defnydd tir a modelau economaidd sy'n cwmpasu Cymru gyfan yn darparu'r sylfaen ddadansoddol angenrheidiol ar gyfer y datblygiadau hyn. Byddan nhw hefyd yn cefnogi ein hymyriadau economaidd ac adfywio yn y cyfnewidfeydd allweddol ac mewn hybiau cymunedol llai ledled y wlad. Wrth wneud hynny, rydym yn awyddus i weithio gydag awdurdodau lleol i leoli mwy o'n gwasanaethau a'n gweithrediadau cyhoeddus mewn hybiau sy'n gysylltiedig â'r rhwydweithiau hyn.

Rydym eisoes yn gweithio ar gynigion i gydleoli mwy o weithgareddau ger Wrecsam Cyffredinol, a bydd ein cynlluniau ar gyfer gorsaf Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy yn cynnig opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus hyfyw i gymudwyr. Gallai'r dull gweithredu hwn gael effaith fawr hefyd yng Nghasnewydd ac Abertawe lle mae cymudo'n cyfrannu at dagfeydd dyddiol yn ystod yr oriau brig ar yr M4.

Nawr, rydym hefyd yn gweithio i ymwreiddio'r gwaith o ddatblygu a chyflawni metros ledled y wlad i ddatblygu cadwyni cyflenwi lleol, i amrywio arbenigedd, ac ehangu sgiliau. Rwyf wedi gofyn i Trafnidiaeth Cymru wneud ymdrech uniongyrchol i ddatblygu a chyflawni ein metros a bydd yn rhannu rhagor o fanylion am y cynnydd ag Aelodau'r Cynulliad.

Yn olaf, Dirprwy Lywydd, i fod yn glir, er mwyn darparu'r rhaglenni hyn ac er mwyn mynd i'r afael â degawdau o danfuddsoddi gan Lywodraeth y DU yn ein rhwydwaith rheilffyrdd, mae angen perchenogaeth arnom ni o'r seilwaith rheilffyrdd a chyllid ar ei gyfer. Ers gormod o amser, mae Cymru wedi bod yn isel ar restr blaenoriaethau San Steffan ar gyfer gwella'r rhwydwaith rheilffyrdd yn Lloegr ac yng Nghymru. Bydd datganoli rheilffyrdd yn ein galluogi i unioni'r sefyllfa, gan adeiladu ar y dyfarniad masnachfraint rheilffyrdd diweddar a pherchnogaeth o'r seilwaith, sydd eisoes yn sicrhau canlyniadau. Edrychwn ymlaen at adolygiad Williams sydd ar y gorwel a'r Papur Gwyn i'n galluogi i ddiwygio ein rheilffyrdd ac i greu'r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus cwbl integredig y mae Cymru'n ei haeddu'n llwyr. Mae effeithiau degawd o gyni wedi cael effaith ar draws pob rhanbarth a sector. Mae cynlluniau Llywodraeth y DU i gynyddu'r gwariant ar seilwaith yn y Senedd hon i'w croesawu'n fawr, a bydd cyfran Cymru o hyn yn cyfateb i ryw £3.7 biliwn. Gyda'r arian hwn, a chyfran deg o wariant HS2 yn ystod y 10 mlynedd nesaf, byddwn yn cyflawni ein cynlluniau i weddnewid cysylltedd trefol ac inter-city yng Nghymru.

16:55

A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad ac am y copi ymlaen llaw hefyd? A gaf fi ateb y cwestiwn cyntaf efallai? Rwy'n credu bod angen mawr am system fetro i ysgogi twf economaidd yn y de-orllewin a'r gogledd, ac rydym ni ar y meinciau hyn yn croesawu'r prosiectau hynny a'r uchelgais yr ydych wedi ei nodi.

Rwy'n credu ei bod hefyd yn gywir dweud bod Llywodraeth y DU yn buddsoddi'r swm uchaf erioed yn seilwaith rheilffyrdd Cymru, a bydd buddsoddiad Network Rail yn llwybr Cymru ar gyfer cyfnod rheoli 6 gwerth dros £1.5 biliwn. A gaf i ddweud hefyd—ac rwy'n gwybod hyn—bod Llywodraeth y DU yn cefnogi seilwaith rheilffyrdd, ac y bydd yn ei gefnogi, gan gynnwys gorsafoedd newydd sydd ag achos busnes cryf i'w cefnogi? Ac wrth gwrs, cadarnhawyd y bydd swm ychwanegol yn sgil Barnett yn deillio o'r cyhoeddiad diweddar am fysiau, ac rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn croesawu hynny.

Gweinidog, o ran y system metro, a gaf i eich tywys chi'n ôl i ddatganiad ym mis Mawrth 2017, o dan y teitl 'Symud Gogledd Cymru Ymlaen'? Fe wnaethoch restru prosiectau cyffrous sy'n cael eu datblygu, gan gynnwys cynlluniau rheilffyrdd a thrafnidiaeth integredig. Bron i dair blynedd yn ddiweddarach, rwy'n awyddus i weld pa gynnydd sydd wedi ei wneud. Bu pryderon ynghylch diffyg gweithredu, felly a wnewch chi ddarparu amserlen o ba bryd yn union y bydd yr hybiau trafnidiaeth integredig hyn yn cael eu cyflwyno, a chyfanswm y cyllid sy'n cael ei neilltuo ar gyfer y prosiect?

Yn ystod proses graffu Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar drafnidiaeth yn gyffredinol ychydig yn llai na phythefnos yn ôl, fe wnaeth aelodau'r pwyllgor eich holi ynghylch y sefyllfa ddiweddaraf o ran pob un o'r prosiectau metro a'r trefniadau llywodraethu yn eu cylch. Nid oedd yn eglur i mi ba sefydliad oedd yn darparu'r cyfeiriad strategol cyffredinol ar gyfer pob un o'r tri phrosiect. Nawr, er bod eich datganiad chi heddiw yn awgrymu bod bwriad i roi cylch gwaith i Trafnidiaeth Cymru ac iddyn nhw sicrhau cyfeiriad strategol cyffredinol ar gyfer pob un o'r prosiectau, mae yn ymddangos, ac mae wedi ymddangos bod y gwaith yn dameidiog ar hyn o bryd, wrth i wahanol randdeiliaid, gan gynnwys Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol, weithio gyda'i gilydd hyd at y pwynt hwn. Felly—ac efallai ers sesiwn y pwyllgor—tybed pa drafodaethau yr ydych wedi eu cael efallai gyda Trafnidiaeth Cymru ynglŷn â threfniadau llywodraethu ac ariannu pob un o'r prosiectau. A wnewch chi gyflwyno'r wybodaeth hon i'r cyhoedd, ac a ydych yn hyderus bod gan Trafnidiaeth Cymru y gallu i gyflawni'r cynlluniau o fewn yr amserlen ac o fewn y gyllideb, ac a wnewch chi nodi map ffordd clir ar gyfer cyflawni'r prosiectau hyn?

Mae eich gweledigaeth ar gyfer 2017 yn nodi'n gywir, Gweinidog, fod cysylltiadau cryf rhwng economi gogledd-ddwyrain Cymru a gogledd-orllewin Lloegr, ac rwy'n gobeithio y gallwch chi gytuno â mi bod y cyhoeddiad gan Lywodraeth y DU ynglŷn ag HS2 i'w groesawu, gan ei fod yn cynnwys llawer iawn o botensial i gefnogi twf economaidd a hybu sgiliau a hyrwyddo adfywiad ar draws y gogledd-ddwyrain. Bydd teithwyr sy'n teithio o'r gogledd yn elwa'n uniongyrchol ar ryng-gysylltu ag HS2 yn Crewe, a lleihad sylweddol yn yr amseroedd teithio yn Lloegr. Tybed hefyd—a fyddech yn cytuno â mi, Gweinidog, nad yw'n ymwneud yn unig â lle y caiff arian a datblygiad ei wario, ond ei bod yn ymwneud hefyd â phwy sy'n elwa ar y gwariant a'r datblygiad hwnnw?

O ran trosglwyddo llinellau craidd y Cymoedd i berchnogaeth Llywodraeth Cymru er mwyn caniatáu i waith ar Fetro De-ddwyrain Cymru fynd yn ei flaen, rydych wedi datgan yn flaenorol y byddai'r trosglwyddo yn digwydd ym mis Medi 2019, ac, yn ystod sesiwn y pwyllgor ar 29 Ionawr, dywedodd Trafnidiaeth Cymru eu bod yn disgwyl i'r trosglwyddo gael ei gwblhau erbyn diwedd mis Mawrth 2020. Felly, a wnewch chi roi eglurhad am yr oedi, ac a fydd y broses drosglwyddo yn cael ei chwblhau erbyn diwedd mis Mawrth eleni?

17:00

A gaf i ddiolch i Russell George am ei gwestiynau, a hefyd am y gefnogaeth a ddangosodd i'n huchelgeisiau ar gyfer systemau'r Metro ledled Cymru?

A gaf i ymdrin â'r pwynt cyntaf un a wnaeth Russell George ynghylch buddsoddi yn y seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru yng nghyfnod rheoli 6? Bydd yr holl fuddsoddi hwnnw yn ystod cyfnod rheoli 6 ar gyfer gwaith cynnal a chadw'r rhwydwaith rheilffyrdd—gwaith cynnal a chadw. Nid oes dim arian yn cael ei ddyrannu er mwyn gwella'r rheilffyrdd. Mae hynny'n golygu, i bob pwrpas, oherwydd tanfuddsoddi dros y degawd diwethaf, ein bod yn gweld Llywodraeth y DU yn deffro o'r diwedd i'r ffaith bod angen swm anhygoel o arian ar gyfer gwaith cynnal a chadw a ohiriwyd. Ac o ganlyniad i'r gohirio hwnnw yn y gwaith cynnal a chadw, y dull anghyfrifol hwnnw o gynnal a chadw'r rhwydwaith rheilffyrdd ar hyd llwybr Cymru, mae Llywodraeth y DU bellach wedi gorfod twrio'n ddwfn er mwyn dwyn ymlaen y buddsoddiad ar gyfer gwaith cynnal a chadw. Hoffem weld cynnig mor hael â hynny ar gyfer gwella'r rheilffyrdd.

Rwy'n croesawu unrhyw swm canlyniadol a fyddai'n dod yn sgil cyhoeddiad y Prif Weinidog ynghylch gwasanaethau bysiau a theithio llesol—y gronfa gwerth £5 biliwn. Gallai hynny gyfateb i ryw £50 miliwn y flwyddyn dros bum mlynedd, a byddai'n sicr yn caniatáu inni gynyddu'r grant cymorth i wasanaethau bysiau, felly, rwy'n croesawu swm canlyniadol o'r gronfa benodol honno. Ond, os ydym yn bwriadu cyflawni'r cynlluniau uchelgeisiol chwyldroadol ar gyfer ein systemau metro, mae angen rhagor o fuddsoddiad arnom gan Lywodraeth y DU. Er enghraifft, rwyf wedi sôn am wasanaeth pedwar trên yr awr o Wrecsam i Lerpwl. I wneud hynny bydd angen, fel y bydd yr Aelodau yn gwybod o'r llythyr a anfonais gyda maer metro Lerpwl, Steve Rotherham, ryw £150 miliwn o fuddsoddiad gan Lywodraeth y DU. Mae hwnnw'n swm bach, bach iawn o arian o ystyried ein bod, dros y pum mlynedd diwethaf, wedi gweld rhyw £1 biliwn o danfuddsoddi—arian a dynnwyd i ffwrdd o Gymru, arian a ddylai fod wedi cael ei wario ar lwybr Cymru.

Nawr, yn wir, mae gan HS2 y potensial i drawsnewid llawer o'r cymunedau a fydd yn cael eu gwasanaethu ganddo. Ond er mwyn i Gymru elwa ar HS2, mae'n rhaid bodloni amodau penodol. Mae'n rhaid inni gael y canlyniad cywir yn Crewe, mae'n rhaid datblygu a darparu'r hyb iawn yn Crewe. Mae'n rhaid hefyd i brif reilffordd y gogledd gael ei thrydaneiddio, ac mae'n rhaid trydaneiddio'r rheilffordd rhwng Crewe a Chaer. Byddai hynny wedyn yn galluogi trenau cyflym yn y dyfodol i deithio yr holl ffordd i Gaergybi. Mae hynny'n gwbl hanfodol. Amcangyfrifir mai rhyw £1 miliwn yw'r gost ar gyfer y gwaith hwnnw, ac unwaith eto, o'i gymharu â'r amcangyfrif o £1.6 biliwn ar gyfer HS2, nid yw hwn yn swm enfawr i'w fuddsoddi, ac yna byddwn i'n cytuno y gallai HS2 sicrhau manteision sylweddol i'r gogledd.

O ran sicrhau rhagor o fanteision i'r de, oherwydd gallai fod effaith andwyol net ar economi'r de, hoffem weld yr achosion busnes hynny a addawyd gan Lywodraeth y DU yn cael eu dwyn ymlaen i'r cam nesaf. Roedd yr achosion busnes hynny, pan gafodd y cynllun i drydaneiddio prif linell y de ei ganslo, yn cynnwys yr addewid i ystyried gwella cyflymder ar brif linell y de. Mae'n rhaid i hynny ddigwydd. Mae'n rhaid inni weld gwelliannau ar brif linell y de fel mater o frys.

Rwy'n derbyn y pwynt a wnaeth yr Aelod ynglŷn â'r cyfeiriad strategol, ac mae wedi bod yn wahanol ym mhob un o ardaloedd y metro lle'r ydym, er enghraifft, yn ardal Bae Abertawe, wedi bod yn gweithio llawer iawn gyda'r pedwar awdurdod lleol. Yn y gogledd, bu'r pwyslais i raddau helaeth ar gydweithrediad rhwng Llywodraeth Cymru a chyngor Sir y Fflint, oherwydd bod cysyniad y metro yn dechrau yng Nglannau Dyfrdwy. Fodd bynnag, mae Trafnidiaeth Cymru wedi cael cylch gwaith ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod i gynnwys cyfeiriad strategol yn eu cyfrifoldebau ac i sicrhau bod rhaglenni ar draws y tair ardal metro yn cael eu cyflymu gymaint â phosibl. Ond, unwaith eto, gofynnodd Russell George am allu Trafnidiaeth Cymru i gostio'r gwaith. Wel, bydd Trafnidiaeth Cymru yn dibynnu ar gyllid gan Lywodraeth y DU i fwrw ymlaen â'r rhaglenni.

Mae ased trosglwyddo rheilffyrdd craidd y cymoedd wedi ei gychwyn erbyn hyn, a bydd wedi'i gwblhau erbyn diwedd mis Mawrth. Bu oedi oherwydd trafodaethau, ond rwy'n falch ei fod wedi ei gychwyn erbyn hyn, ac rwy'n edrych ymlaen at gael rheolaeth o'r darn mawr hwnnw o seilwaith er mwyn gallu buddsoddi £0.75 biliwn ym metro trawsnewidiol de-ddwyrain Cymru.

17:05

Gaf i hefyd ddiolch i'r Gweinidog am y datganiad?

Diolch yn fawr iawn i chi am y datganiad ac am y copi ymlaen llaw. Yn yr un modd â Russell George, rwy'n hapus iawn i roi ymrwymiad y meinciau hyn i gefnogi'r egwyddorion sy'n sail i ddatblygiadau'r systemau metro hyn. Rydym ni i gyd, wrth gwrs, yn awyddus i weld Cymru sy'n fwy ffyniannus, yn fwy gwyrdd ac yn fwy cyfartal. Rwy'n synnu braidd, yn natganiad y Gweinidog, ei fod yn sôn am roi hyd yn oed mwy o bwyslais ar gysylltedd, datgarboneiddio ac integreiddio, oherwydd roeddwn i'n credu mai hynny oedd diben y systemau metro yn y lle cyntaf, ond, serch hynny, efallai fod hynny braidd yn anfoesgar.

Os caf i, hoffwn i godi un neu ddau o bwyntiau cyffredinol gyda'r Gweinidog ac yna mae gennyf ychydig o faterion manylach yr hoffwn eu codi. I ddechrau, hoffwn ategu popeth a ddywedodd am danfuddsoddi hanesyddol gan Lywodraethau'r DU yn ein strwythur rheilffyrdd. Wrth gwrs, nid yw hyn yn rhywbeth a ddechreuodd 10 mlynedd yn ôl, a byddwn i'n dweud nad hon yw'r enghraifft orau o undod y DU, ni waeth pa blaid sy'n rheoli yn San Steffan, fel y mae'r Prif Weinidog bob amser yn awyddus i'n hatgoffa.

Ond, ni waeth am hynny, rwy'n falch iawn o weld bod Llywodraeth Cymru wedi dechrau cytuno â syniadaeth Plaid Cymru o ran datganoli'r rheilffyrdd i'r Senedd hon. Rydym wedi argymell y symudiad hwn ers amser maith, a da yw gweld bod y Gweinidog wedi cyrraedd yr un pwynt â ni. Ond, o ran a yw hyn yn mynd i ddigwydd ai peidio, a gaf i ofyn i'r Gweinidog pa drafodaethau y mae wedi gallu eu cael yn ddiweddar gyda Llywodraeth y DU? Rwy'n gwerthfawrogi'n llwyr y gallai fod wedi bod yn anodd gwneud hynny oherwydd bod gennym ni'r ad-drefnu, ac efallai fod gennych chi bobl newydd wrth y llyw, ond a wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am eu meddylfryd o ran datganoli llawn, a fyddai wrth gwrs yn galw am ddatganoli'n llawn yr holl gyllid angenrheidiol hefyd? Ac, a gaf i ofyn i'r Gweinidog: os na fydd Llywodraeth y DU yn gwneud yr hyn y mae'n gofyn iddyn nhw ei wneud, beth yw'r sefyllfa wrth gefn? Os na fyddan nhw naill ai'n datganoli neu'n gwneud y buddsoddiad y mae'n gofyn amdano, pa fath o gynlluniau wrth gefn sydd ganddo i'w gwneud yn ofynnol i'r rhai sy'n datblygu'r systemau metro eu hadeiladu, fel y gallwn ni wneud rhai camau tuag at y nodau canmoladwy hyn, hyd yn oed os nad oes gennym yr adnoddau sydd eu hangen arnom?

Rwyf hefyd yn falch iawn o weld bod Llywodraeth Cymru wedi dod draw i'n hochr ni o'r ddadl ynglŷn â sicrhau bod Cymru yn cael ei chyfran deg o wariant HS2. Efallai y bydd y Gweinidog yn cofio, neu efallai ddim, lefarydd o Lywodraeth Cymru yn dweud rai blynyddoedd yn ôl—ac rwy'n dyfynnu—pan oeddem yn sôn am swm canlyniadol Barnett: Mae hyn yn rwtsh i beri embaras i Blaid Cymru. Maen nhw'n gwbl anghywir ynglŷn â HS2. Yn hytrach na chyfaddef eu camgymeriad, mae Plaid yn cloddio twll dyfnach a dyfnach. Nid oeddwn i yno, felly nid wyf i'n gallu bod yn hollol siŵr pa dwll oedd hynny. Yna cawsom ein cyhuddo o ddiffyg gostyngeiddrwydd. Rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn awyddus erbyn hyn i ddatgysylltu ei hun oddi wrth y datganiad blaenorol hwnnw a bod yn gwbl barod i ddweud ein bod yn iawn ar hyd yr amser.

Os caf i droi at rai pethau penodol, o ran Metro Gogledd Cymru, mae'n dda gweld rhywfaint o gynnydd yn hyn o beth. Ond, yn y cyd-destun hwnnw, mae'n peri cryn bryder, ac efallai ei fod yn wrthreddfol, mai dim ond £20 miliwn o'r buddsoddiad o £2 biliwn ychwanegol mewn trafnidiaeth y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wneud yn ei chyllideb, sydd i'w groesawu'n fawr, sydd wedi'i ddyrannu i'r gogledd. A fyddai'n derbyn, fel y mae pethau ar hyn o bryd, fod cynllun y gogledd-ddwyrain yn dibynnu'n fawr iawn ar wella'r gwasanaethau presennol yn hytrach na cheisio gweddnewid gwasanaethau, ac a yw'n credu bod hynny'n ddigon da?

Nid yw'n syndod fy mod i'n anghytuno â Russell George ynglŷn â maint y buddsoddiad i gysylltu gogledd Cymru â gogledd Lloegr. Mae hynny, wrth gwrs, yn bwysig i'w wneud, ond mae angen hefyd inni feithrin cysylltiadau cryfach rhwng gogledd a de Cymru ac, yn wir, rhwng gogledd-ddwyrain a gogledd-orllewin Cymru. Rwy'n credu bod angen cael cydbwysedd, a byddai'n ddiddorol clywed gan y Gweinidog beth yw ei ddealltwriaeth ef, pan fydd yn sôn am y buddsoddiad ar gyfer y cyswllt hwnnw â Lerpwl, o faint o'r buddsoddiad hwnnw y mae ef yn disgwyl i gael ei wario yng Nghymru a faint y mae'n disgwyl i gael ei wario yn Lloegr.

Unwaith eto, rwy'n falch iawn o groesawu'r hyn y mae wedi ei ddweud am y metro yn Abertawe, ond rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn cytuno â mi ei bod yn bwysig iawn nad yw Metro Abertawe—wel, Abertawe a'r de-orllewin, yn wir—yn cysylltu'r dwyrain a'r gorllewin yn unig ar hyd y rheilffordd sy'n cyfateb i goridor yr M4, ond ei fod hefyd yn cynnwys cysylltiadau gogledd-de a fydd yn galluogi cymunedau'r Cymoedd, i ychwanegu at y cwestiwn a ofynnodd fy nghyd-Aelod Dai Lloyd yn gynharach, i wneud defnydd dibynadwy o'r gwasanaethau rheilffordd, rheilffordd ysgafn a bysiau hynny. Yn amlwg, mae hynny'n bwysig iawn er mwyn i bobl allu cael mynediad i gyfleoedd am swyddi o ansawdd da.

O ran y ddeddfwriaeth bysiau sydd ar ddod y mae'r Gweinidog yn sôn amdani, bydd yn cofio inni godi rhai pryderon yn y pwyllgor ynglŷn â'r pwyslais yn y ddeddfwriaeth ar rymuso llywodraeth leol, ac wrth gwrs rwy'n siŵr y byddem ni i gyd yn croesawu hynny'n fawr, ond rydym yn pryderu, fel rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn ei gofio, ynghylch a yw'r ddeddfwriaeth hon yn darparu'r cyfrwng cywir ar gyfer cydgysylltu cenedlaethol a rhanbarthol. Rwy'n deall ac yn derbyn yr hyn a ddywedodd y Gweinidog wrth y pwyllgor ynglŷn â chydgysylltu rhanbarthol, ond nid wyf i'n gweld o hyd ymhle y bydd y ddeddfwriaeth hon yn cefnogi'r cydgysylltu cenedlaethol y mae ei angen arnom er mwyn i'r datblygiadau metro weithio'n wirioneddol.

O ran arweinyddiaeth a chyfeiriad strategol, mewn ymateb i Russell George, fe wnaeth y Gweinidog egluro ychydig yn fwy am swyddogaeth Trafnidiaeth Cymru, ond nid wyf i'n glir o hyd ymhle y bydd yr atebolrwydd a'r arweinyddiaeth yn gorffwys ar gyfer hyn. Yn amlwg, o ran ein gwaith craffu fel Aelodau o'r Senedd hon, byddwn yn craffu ar waith y Gweinidog, ond mae angen inni wybod hefyd i bwy y mae'r Gweinidog yn gofyn cwestiynau o ran y cyfeiriad strategol ehangach hwn. Byddwn i'n ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog ddweud ychydig mwy wrthym am hynny, a sut y bydd yr atebolrwydd hwnnw yn cydbwyso â'r pwyslais llawer mwy lleol a rhanbarthol ar wasanaethau bysiau.

Hoffwn i gam-drin fy mraint yn fyr a gwneud pwynt rhanbarthol. Mae'r Gweinidog yn crybwyll yn ei ddatganiad leoliadau hyb, ysbyty cyffredinol Wrecsam—mae'r cyfan i'w groesawu yn fawr. Tybed a wnaiff y Gweinidog ymrwymo heddiw i ganiatáu i'w swyddogion drafod gyda bwrdd iechyd Hywel dda y potensial i gael trafnidiaeth gyhoeddus o amgylch safle arfaethedig yr ysbyty newydd. Yn amlwg, mae'r ysbyty newydd arfaethedig hwnnw yn bell iawn o gael ei gwblhau, ac rwy'n gwybod nad yw'r achos busnes wedi ei gwblhau. Ond, mewn trafodaethau yr ydym ni wedi eu cael ar yr ochr hon o'r tŷ gyda Hywel Dda, maen nhw'n awyddus iawn, o'r dechrau, y dylai'r hyb hwnnw fod yn hyb y gellir ei gefnogi gan drafnidiaeth gyhoeddus hynod effeithiol, oherwydd fel arall bydd hynny dim ond yn cynyddu'r pwysau ar y ffyrdd yn yr ardal honno. A tybed a fydd y Gweinidog yn barod i ymrwymo heddiw i'w swyddogion sy'n gweithio ar y cyfnod cynnar hwn gyda Hywel Dda i alluogi hynny i fod yn hyb, o bosibl, yn rhan o Metro'r De-orllewin.

Yn olaf, mae'r Gweinidog yn sôn am y seilwaith, y swm canlyniadol Barnett yr ydym yn ei ddisgwyl o £3.7 biliwn. A ydym i gymryd o'i ddatganiad heddiw ei fod yn disgwyl i hynny i gyd gael ei wario ar drafnidiaeth, neu a yw hynny'n fater i'w drafod ymhellach? Oherwydd ar hyn o bryd, os bydd rhywun yn darllen ei ddatganiad, dyna y byddai'n ei feddwl.

Mae gennyf un sylw olaf yn hytrach na chwestiwn: mae'r Gweinidog yn sôn am weddnewid cysylltedd trefol ac inter-city yng Nghymru. Wrth gwrs, mae gennym ni lawer o gymunedau yng Nghymru nad oes ganddyn nhw braidd dim trafnidiaeth gyhoeddus o gwbl. Felly, byddwn i'n annog y Gweinidog, wrth iddo ganolbwyntio ar yr angen, ac nid ydym yn anghytuno â'r angen am y cysylltedd trefol a'r Cymoedd ac inter-city hyn, nad ydym yn anghofio am y cymunedau hynny—ac rwy'n meddwl yn arbennig am rai yng Ngwynedd, rhai yn Sir Benfro—nad oes ganddyn nhw fynediad at drafnidiaeth gyhoeddus o gwbl. Rwy'n gofyn am rywfaint o sicrwydd gan y Gweinidog nad yw hyn yn fater o naill ai/neu.

17:15

A gaf i ddiolch i Helen Mary Jones am ei chwestiynau a'i sicrhau bod yr un pwyslais hwnnw ar gymunedau gwledig ag sydd ar gymunedau trefol? Dyna pam yr ydym wedi buddsoddi cymaint mewn gwasanaethau drwy rwydwaith TrawsCymru. Dyna pam yr ydym ni o'r farn bod y diwygiadau i wasanaethau bysiau lleol drwy ddeddfwriaeth a fydd yn cael ei chyflwyno i'r Siambr hon mor hanfodol bwysig, ac rydym wedi ymrwymo'n llwyr i wella cysylltedd ledled Cymru gyfan, mewn ardaloedd gwledig a threfol.

Wrth gwrs, bydd y swm canlyniadol o £3.7 biliwn yn cael ei wario ar flaenoriaethau Llywodraeth Cymru, ac mae trafnidiaeth yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru. Rydym yn gwybod beth yw cost gwelliannau i'r seilwaith rheilffyrdd. Gallai'r £3.7 miliwn hwnnw dalu am lawer o brosiectau a fyddai'n gwella'r seilwaith metro yn y gogledd a'r de.

Nawr, rwyf am fynd yn ôl at y pwyntiau cyntaf a wnaeth Helen Mary Jones, a diolch iddi am y gefnogaeth i egwyddorion y prosiectau metro. Rwy'n credu bod y gefnogaeth honno yn gyson â chefnogaeth arall a gynigiwyd ar draws y Siambr hon i ddull Llywodraeth Cymru o ymdrin â seilwaith rheilffyrdd, ac yn benodol i'n cyflwyniad i Williams. Yn ei hanfod, y broblem sydd gennym o ran buddsoddi mewn seilwaith yn y DU yw bod yr achos busnes yn cael ei osod yn erbyn rheolau Llyfr Gwyrdd y Trysorlys, a bydd hynny bob amser yn gogwyddo buddsoddiad tuag at ardaloedd sydd eisoes wedi elwa'n sylweddol ar fuddsoddiad—ardaloedd lle mae cysylltedd da eisoes yn bodoli ac ardaloedd lle mae crynodiad uchel o gyfoeth eisoes. Mae angen rhwygo'r rheolau hynny. Cefais fy nghalonogi gan sesiynau briffio a gynhaliwyd dros gyfnod y Nadolig naill ai gan Weinidogion neu gynghorwyr Llywodraeth y DU i'r wasg bod Gweinidogion yn ystyried rhwygo'r rheolau hynny. Nid ydym ni wedi gweld unrhyw bapur yn cael ei rwygo ers hynny, ond rwy'n gobeithio y byddan nhw'n defnyddio dull gwahanol gan fod ganddyn nhw Brif Weinidog gwahanol erbyn hyn, ac y byddan nhw'n ategu eu honiadau o fod eisiau ailgydbwyso economi'r DU drwy weithredu rheolau newydd ar gyfer buddsoddiad.

O ran y cwestiynau ynglŷn â datganoli seilwaith rheilffyrdd, ac a allai fod cynllun B, yn syml nid ydym yn gwybod beth y bydd Keith Williams yn ei argymell pan gaiff ei adroddiad ei gyhoeddi o'r diwedd. Felly, nid ydym yn gwybod beth y gellid ei gynnwys gyda'r Papur Gwyn ar reilffyrdd. Rwyf wedi cwrdd ag Ysgrifenyddion Gwladol ar sawl achlysur, nid yn unig o fewn trafnidiaeth, ond hefyd yn Swyddfa Cymru, ac wedi pwysleisio'r achos dros ddatganoli llawn a setliad teg i gyd-fynd ag ef. Rwy'n credu ein bod wedi gwneud achos pwerus ac unedig dros ddatganoli—achos unedig sydd wedi cael cefnogaeth gan bob un blaid yn y Siambr hon, ac felly rwy'n parhau i fod yn optimistaidd. Fodd bynnag, os penderfynir na fydd datganoli'n digwydd, yna byddem yn disgwyl dull sydd wedi ei ystyried yn ofalus o fuddsoddi yr hyn yr ydym yn ei haeddu yng Nghymru, ac mewn ffordd sy'n rhoi rheolaeth i ni dros welliannau.

Nawr, o ran HS2, nid wyf yn hollol sicr beth yw safbwynt Plaid Cymru ynglŷn â HS2, a dweud y gwir. Rwy'n credu mai gwrthwynebu HS2 y maen nhw hyd yn oed os bydd yn dod â £50 miliwn o fudd blynyddol i'r gogledd. Mae'n ymddangos mai safbwynt Plaid Cymru yw gwrthwynebu HS2, a byddwn i'n gwahodd Plaid Cymru i gadarnhau a fyddent yn gwrthwynebu HS2 ai peidio pe baem ni'n llwyddo i drydaneiddio'r rheilffordd o Crewe i Gaergybi. [Torri ar draws.] Iawn, felly rydym wedi cael yr ateb. Rydym wedi cael yr ateb. Ni fydd Plaid Cymru yn cefnogi cysylltedd gwell ar draws y gogledd ac i Lundain ac i Ganolbarth Lloegr ac i'r gogledd-orllewin gyda HS2 o dan unrhyw amgylchiadau. Dyna yw ei safbwynt—y bydd y gogledd ar ei cholled o dan Blaid Cymru. Pe baent yn bwrw ymlaen â'u cynigion nhw, ni fyddem byth yn gweld gwasanaethau HS2 wedi eu trydaneiddio i'r gogledd o'n gwlad. Mae hynny'n safbwynt gwbl annerbyniol i'w arddel, oherwydd rydym yn gwybod, er enghraifft, bod 25,000 o bobl, fwy neu lai, yn croesi'r ffin o Gymru i Loegr bob dydd. Nid ydyn nhw'n gallu cyrraedd eu swyddi ar drenau ar hyn o bryd nac ar drafnidiaeth gyhoeddus—mae'n rhaid iddyn nhw ddefnyddio cerbydau modur. Dyna pam ein bod wedi canolbwyntio o'r cychwyn ar wella cysylltedd yn ystad ddiwydiannol Glannau Dyfrdwy ac o'i hamgylch.

Mae nifer tebyg o bobl yn croesi'r ffin y ffordd arall i gael gwaith, gan gyfrannu'n aruthrol at allyriadau carbon, a dyna pam, fel Llywodraeth gyfrifol sy'n benderfynol o gyflawni ei rhwymedigaethau yn yr argyfwng hinsawdd, ein bod yn buddsoddi yn y metro yn yr ardal honno. A dyma hefyd pam yr wyf i'n credu y gallai HS2 fod yn fuddiol i'r gogledd—[Torri ar draws.]—ond dim ond os yw'r opsiwn cywir ar gyfer Crewe yn cael ei gyflawni a'n bod yn cael y buddsoddiad hwnnw o £1 biliwn o Crewe i Gaergybi. [Torri ar draws.] Mae'r Aelod yn gweiddi, 'Nid yw hynny ar y bwrdd.' Dyna'n union y mae Prif Weinidog Cymru wedi dweud wrth Brif Weinidog y DU y mae ei angen. Nid ydym wedi cael ymateb gan y Prif Weinidog hyd yn hyn, ond mae'n hysbys iawn erbyn hyn, gyda'r rhaglen TEN-T, gyda'r rhwymedigaeth ar Lywodraeth y DU i gyflwyno trydaneiddio—os bydd hynny'n digwydd, y gallem weld gwasanaethau Avanti, gwasanaethau HS, gwasanaethau cyflym iawn yn teithio trwy'r gogledd yn y dyfodol. Pam fyddai Plaid Cymru yn gwrthwynebu HS2 yn cyflawni ar gyfer y gogledd? Mae'n safbwynt rhyfedd i'w arddel.

Nawr, mae'r £20 miliwn sy'n cael ei neilltuo ar gyfer gwelliannau i'r metro yn arian y gellir ei wario yn y flwyddyn ariannol y mae'n cael ei ddyrannu ynddi—arian a fydd yn sicrhau gwelliannau ar draws y gogledd, nid dim ond o fewn ardal gyfagos parc menter Glannau Dyfrdwy. Ac mae'n rhan o'n cynlluniau i wario £1 biliwn ar gynlluniau trafnidiaeth yn y gogledd—£1 biliwn. Byddem yn gobeithio y byddai Llywodraeth y DU yn cyfateb ein buddsoddiad ag £1 biliwn i drydaneiddio'r brif reilffordd hefyd.

O ran atebolrwydd ar gyfer cynlluniau metro, ar gyfer gwasanaethau bysiau ac yn y blaen—wel, wrth gwrs, mae'n gorffwys gyda Gweinidogion Cymru cyn belled ag y mae cyfrifoldebau Llywodraeth Cymru yn y cwestiwn. Ond gyda'r cydbwyllgorau corfforaethol, drwy eu harweinwyr cyngor—byddai'r cyfrifoldeb a'r atebolrwydd yn gorffwys gyda nhw.

Gallaf addo i'r Aelod ein bod ni eisoes yn gweithio gyda'r bwrdd iechyd yng nghyswllt Hywel Dda ac yn sicrhau bod gennym ni gysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus da â'r darn penodol hwnnw o seilwaith cymdeithasol. Mae'n gwbl hanfodol bod pobl yn gallu cael mynediad i ysbytai ar drafnidiaeth gyhoeddus, a dyna'n union y byddwn yn sicrhau ein bod yn ei wneud gyda Hywel Dda.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

17:20

A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma? Rydym ni, wrth gwrs, yn rhannu eich uchelgais o weld Cymru fwy ffyniannus. Efallai y byddwn ni'n anghytuno weithiau ynghylch sut i gyflawni hynny, ond rwy'n credu ei bod yn deg dweud ein bod ni fel plaid, at ei gilydd, wedi cefnogi eich ymdrechion i adfywio'r economi gydag ymagwedd sy'n fwy ystyriol o fusnesau, gyda'r gwelliannau mewn seilwaith yn ffurfio rhan fawr o'ch cefnogaeth ar gyfer yr economi busnes preifat yng Nghymru. Fodd bynnag, yn dilyn sylwadau Russell George, gan ystyried ei ddechrau simsan, a ydych chi'n dal i gredu bod gan Trafnidiaeth Cymru yr arbenigedd a'r adnoddau i gyflawni eich uchelgeisiau?

Rydym ni i gyd yn deall, os nad y prif alluogydd, bod system drafnidiaeth sy'n mynd â phobl a nwyddau o amgylch y wlad yn y modd mwyaf effeithlon, a hynny, gobeithio, mor gyfforddus â phosibl, yn un sy'n cael effaith fawr ar dwf yr economi. Mae cwmnïau, er enghraifft, erbyn hyn, yn defnyddio'r dulliau gweithredu 'dim ond mewn pryd', lle nad ydyn nhw'n dal stociau mawr o gydrannau, ond yn dibynnu ar nifer o gyflenwyr i'w darparu'n gyflym ac yn effeithlon. Felly, mae systemau trafnidiaeth cyflym, effeithlon yn hanfodol i'r gweithgynhyrchwyr hyn, gan benderfynu yn aml ynghylch ble y mae cwmnïau'n ymsefydlu. A gaf i ofyn i'r Gweinidog: a yw wedi ymgynghori i'r eithaf â chwmnïau ynghylch y mathau hyn o weithrediadau?

Rydym ni i gyd yn deall, Gweinidog, fod cael pobl allan o'u ceir ac ar drenau a bysiau'n her fawr. Fel yr ydych chi'n amlinellu yn eich datganiad, mae Cymru wedi dioddef tanfuddsoddiad gan Lywodraeth y DU am gyfnod rhy hir o lawer, ac rydym ni'n gwerthfawrogi'r cyfyngiadau ariannol a gweithredol yr ydych chi'n gweithredu y tu mewn iddyn nhw. Rydym ni felly yn cefnogi'n llwyr eich galwad am ddatganoli prosiectau a gweithrediadau seilwaith rheilffyrdd i Gymru. Roeddwn i'n mynd i ofyn i chi pa fath o bwysau yr oeddech chi'n ei roi ar Lywodraeth y DU i gyflawni'r cymwyseddau hynny, ond rwy'n credu eich bod, mewn ymateb i gwestiynau cynharach, wedi rhoi ateb cynhwysfawr i hynny.

Rydym ni hefyd yn cefnogi eich uchelgeisiau cysylltedd o ran ehangu egwyddorion y metro i ogledd a gorllewin Cymru. Mae'n rhaid i system drafnidiaeth, boed ar fws neu drên, sy'n cysylltu Cymru gyfan fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. A ydych chi'n rhagweld y bydd cwmnïau bysiau awdurdodau lleol yn chwarae rhan fawr yng nghysylltedd y rhanbarthau mwy anghysbell hyn?

Gweinidog, yn y gorffennol, roedd diwydiannau'n cysylltu â, ac yn lleoli ar hyd, llinellau trafnidiaeth. Yn eich datganiad, rydych chi'n cyfeirio at gydleoli gweithgareddau ochr yn ochr â rhwydweithiau rheilffyrdd. Byddem ni'n cytuno â'r strategaeth hon, oherwydd ei bod nid yn unig yn ei gwneud yn haws o lawer i gael mynediad at y farchnad ond byddai hefyd yn galluogi cymudwyr i ddefnydd trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy, gan leihau traffig yn gyffredinol ar ein ffyrdd.

I gloi, Gweinidog, rydym i'n croesawu ac yn cefnogi'r uchelgeisiau a gafodd eu nodi yn eich datganiad. Rydym ni'n cydnabod, os yw Cymru eisiau dringo'r tabl cynghrair economaidd a darparu gwell swyddi, ac yn dilyn hynny, bywydau gwell i bobl Cymru, fod system drafnidiaeth gyflym, effeithlon, gyda chysylltiadau da, yn elfen hanfodol er mwyn sicrhau bod hyn yn bosibl. Ond os gwelwch yn dda, Gweinidog, cyn gynted ag y bo modd.

17:25

A gaf i ddiolch i David Rowlands am ei gyfraniad a chydnabod unwaith eto y gefnogaeth glir a ddaw gan ei blaid i'n safbwynt ar ddatganoli rheilffyrdd? Hoffwn ddiolch i David Rowlands am gydnabod pwysigrwydd y sector preifat i'n ffyniant ni yng Nghymru, ac mae hynny'n hanfodol bwysig, yn enwedig ar hyn o bryd pan rydym ni'n dal i wynebu ansicrwydd ynghylch Brexit. Er bod gennym y diweithdra isaf erioed, rydym ni eisiau datblygu gwlad sydd â chyfleoedd swyddi o ansawdd uwch ar gyfer ei dinasyddion.

Ac rydym ni wedi ymgysylltu'n eithaf helaeth â'r gymuned fusnes drwy gynghorau busnes wrth ddatblygu cynigion trafnidiaeth. Er enghraifft, wrth ddatblygu ein gweledigaeth ar gyfer y metro yn y gogledd, fe wnaethom ni ymgysylltu ac ymgynghori â gweithwyr proffesiynol Glannau Dyfrdwy. Rydym ni hefyd wedi ymgysylltu â Siambr Fasnach Gorllewin Swydd Gaer a Gogledd Cymru. Rydym ni wedi ymgysylltu â chyngor busnes gogledd Cymru hefyd, gan sicrhau bod anghenion busnesau ledled y rhanbarth yn cael eu cydnabod wrth i ni ddatblygu ein cynlluniau.

Mae cysylltiadau trafnidiaeth cyflym ac effeithlon yn gwbl hanfodol i dyfu busnesau ac i ddenu mewnfuddsoddiad, yn enwedig mewn ardaloedd o Gymru sy'n agos at y ffin. Mae'n rhy hawdd weithiau caniatáu i'n cystadleuwyr gymryd swyddi a chyfleoedd drwy beidio â buddsoddi mewn seilwaith, a dyna pam mae'n hanfodol bwysig bod Llywodraeth y DU yn cymryd camau ac yn buddsoddi gyda chyfalaf mewn trafnidiaeth rheilffyrdd.

O ran cwmnïau bysiau'r awdurdodau lleol, dim ond un o'r darpariaethau yw hyn—os mynnwch chi, un o'r dulliau—a fydd ar gael yn y ddeddfwriaeth a fydd yn cael ei chyflwyno, ac mae gallu cynghorau i gynnal eu cwmnïau bysiau eu hunain yn un peth y byddai'n bosibl ei ystyried mewn ardaloedd gwledig lle nad oes cystadleuaeth, neu yn yr un modd,  lle nad oes darpariaeth. Ac un yn unig yw hwnnw o'r dulliau y byddwn ni yn darparu ar eu cyfer yn y ddeddfwriaeth a gaiff ei chyflwyno yn y Siambr hon yn y gwanwyn.

Byddwn yn cytuno hefyd â'r Aelod o ran yr hyn a ddywedodd am gydleoli gwasanaethau. Mae'n cyd-fynd yn daclus iawn â'n dull gweithredu canol-y-dref-yn-gyntaf o fuddsoddi cyhoeddus a hynny i'r sector cyhoeddus sy'n lleoli mewn ardaloedd lle y gall gynhyrchu incwm yng nghanol y dref i berchenogion siopau a darparwyr gwasanaethau. Ac enghraifft dda o sut yr ydym ni'n ystyried cyd-leoli gwasanaethau yw yn Wrecsam, gyda gweledigaeth porth Wrecsam, lle byddwn ni'n buddsoddi yng ngorsaf Gyffredinol Wrecsam, ond lle rwy'n falch o ddweud y byddwn ni'n prynu tir ben y Kop yng Nghae Ras Wrecsam. Mae'n foment hynod o falch i Lywodraeth Cymru fod mewn sefyllfa i allu gwneud hynny, oherwydd gallai arwain at weddnewid yr ardaloedd penodol hynny, sef ardal y porth honno yn Wrecsam, gan gyflwyno mwy o wasanaethau ar safle hanesyddol.

17:30

Gweinidog, mae'n bwysig bod metro gogledd Cymru yn cyflawni am genedlaethau i ddod, a dyma'r rhwydwaith trafnidiaeth y mae trigolion gogledd Cymru yn ei haeddu. I breswylwyr yn Alun a Glannau Dyfrdwy, mae hyn yn ymwneud â darparu coridor Sir y Fflint i weithredu fel asgwrn cefn metro gogledd Cymru. Mae'n ymwneud hefyd â chreu canolfannau trafnidiaeth allweddol i sicrhau system aml-ddull, gwbl integredig, ac rwyf yn croesawu yn eich datganiad, Gweinidog, eich bod wedi cydnabod Shotton yn un o'r prif ganolfannau.

Fodd bynnag, bydd angen mwy o ganolfannau arnom i sicrhau bod pob ardal, gan gynnwys ein cymunedau gwledig, yn elwa. Bydd yn rhaid i hyn gynnwys lleoedd fel Bwcle a Brychdyn, i ganiatáu i'r ardaloedd gwledig hynny a'r cyffiniau gael eu cysylltu'n gywir. Gweinidog, mae angen inni hefyd ddarparu gorsaf ar gyfer parc diwydiannol Glannau Dyfrdwy, ac rwy'n croesawu eich ymrwymiad i'r orsaf honno, a fydd yn cysylltu pobl o bob rhan o'r Gogledd a thros y ffin i ogledd-orllewin Lloegr â'u mannau gwaith. Felly, Gweinidog, pa waith y mae modd ei wneud i sicrhau y gall pob un o'r cymunedau hyn elwa ar fetro, yn enwedig yn ein hardaloedd gwledig?

Ac os caf i, Gweinidog, ddod â chi yn ôl i'ch datganiad lle'r oeddech chi'n hollol gywir i sôn am y blynyddoedd o dan-fuddsoddi gan Lywodraeth Geidwadol y DU, Llywodraeth sy'n gwario dros £100 biliwn ar HS2 yn Lloegr yn unig. Gweinidog, pa neges yr ydych chi'n ei chyfleu i Lywodraeth y DU ac eraill sy'n gwrthod rhoi i bobl y Gogledd yr hyn y mae ganddyn nhw'r hawl iddo?

Yn hollol. A gaf i ddiolch i Jack Sargeant am ei gwestiynau a'r pwyntiau y mae ef wedi'u gwneud? Gallai HS2 fod â'r potensial i drawsnewid gogledd Cymru. Mae'n gwbl hanfodol, felly, ein bod ni'n cael yr ateb iawn, fel y dywedais wrth lawer o'r Aelodau nawr, yn Crewe ac yng ngogledd Cymru, sef trydaneiddio'r prif reilffordd. Os digwydd hynny, gallai fod yn hynod fuddiol i'r Gogledd. Rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y dylai pob plaid fod yn brwydro drosto, dros ogledd Cymru, nid yn unig ar gyfer rhannau o Gymru, ond ar gyfer y gogledd a phob rhan o Gymru.

O ran y gwaith sy'n cael ei ddatblygu yn ardal Glannau Dyfrdwy, gallaf roi gwybod i Jack fod Trafnidiaeth Cymru wedi cael ei gomisiynu i ddatblygu cynlluniau ar gyfer gorsaf integredig Shotton a hefyd gorsaf newydd Glannau Dyfrdwy Parcffordd, gan weithio mewn partneriaeth â Network Rail a Chyngor Sir y Fflint. Bydd y gwaith hwn, yn ei dro, yn ategu'r £12 miliwn o gyllid yn ystod y tair blynedd ariannol ddiwethaf i wella cynlluniau bysiau ar hyd yr A548 a'r B5129 ac ym mharc diwydiannol Glannau Dyfrdwy.

Cododd Jack Sargeant y posibilrwydd o gael gorsafoedd ym Mrychdyn ac yn agosach at ganol y dref ym Mwcle. Mae'r ddau brosiect yn haeddu sylw pellach, yn fy marn i. Rwy'n credu y byddai gan orsaf ger Airbus ym Mrychdyn, yn benodol, botensial enfawr i ddileu'r angen i 6,000 o bobl yrru i'r gwaith.

O ran cynllun coridor Sir y Fflint, mae hyn yn arbennig o gyffrous. Byddai'r cynllun £300 miliwn hwn yn ein galluogi i ddarparu lonydd bysiau pwrpasol a systemau trafnidiaeth cyflym penodol ar gyfer bysiau. Byddem yn gallu creu, yn ei dro, y coridor bws hiraf yn ymestyn o barc diwydiannol Glannau Dyfrdwy ar hyd yr A55 i'r Rhyl ac o bosibl y tu hwnt, gan gysylltu gogledd- orllewin Cymru a gogledd-ddwyrain Cymru  â'i gilydd drwy gludiant bysiau ar yr A55, yn ogystal â thrwy brif reilffordd gogledd Cymru, yr wyf eto'n gobeithio a fydd, rywbryd yn y dyfodol, yn cael ei thrydaneiddio, gyda gwasanaethau cyflym yn rhedeg ar ei hyd.

Mae ein hamser ni ar y datganiad hwn bron ar ben, ac mae gennyf lawer o siaradwyr sydd eisiau cyfrannu. Fe wnaf i ei ymestyn ychydig gan alw o leiaf tri siaradwr arall, ond byddaf i eisiau i bob un ohonoch fod mor gryno â phosibl fel y gallaf  alw cynifer o siaradwyr—ac yn gryno gan y Gweinidog hefyd, os gwelwch yn dda. Mark Isherwood.

Diolch, Llywydd. Rwy'n croesawu eich cydnabyddiaeth o'r ymchwil sy'n dangos y bydd yr HS2, os caiff ei gysylltu drwy ganolfan briodol Crewe, yn cael effaith economaidd fuddiol i ogledd Cymru a'r rhanbarth ehangach.

Ym mis Mawrth 2016, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei chynnig ar y fargen dwf i ogledd Cymru a Llywodraeth Cymru. Y mis canlynol, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei chynigion ar gyfer metro gogledd Cymru, ac rwy'n credu mai'r tro cyntaf i chi ei grybwyll yn y Siambr hon ar ôl etholiad 2016 oedd mewn ymateb i gwestiwn gennyf i am gynnig bargen twf Gogledd Cymru. Fe sonioch chi am gyngor busnes gogledd Cymru ac, rwy'n credu, y siambr fasnach, ond pa fewnbwn uniongyrchol y mae bwrdd twf ac uchelgais economaidd gogledd Cymru wedi ei gael i'r gwaith o ddylunio a darparu metro Gogledd Cymru sy'n datblygu?

Rydych yn dweud y byddwch yn datblygu canolbwyntiau allweddol, rydych yn cyfeirio at Shotton fel enghraifft, i ddarparu gwasanaethau bysiau integredig. Dywedodd eich datganiad ysgrifenedig ar fetro gogledd Cymru fis Hydref diwethaf eich bod yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Sir y Fflint a chwmnïau bysiau i ddarparu partneriaeth fysiau o safon yn cynnwys gwasanaethau. A allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y bartneriaeth honno, bedwar mis yn ddiweddarach? A pha fewnbwn uniongyrchol, unwaith eto, o gofio'r diddordeb a fynegwyd ynddo, y mae'r gweithredwyr trafnidiaeth gymunedol yn y gogledd-ddwyrain wedi ei gael i'r gwaith o ddylunio a darparu metro gogledd Cymru?

Roeddech chi wedi dweud fis Hydref diwethaf yn eich datganiad, ar ôl canolbwyntio i ddechrau ar ddarparu canolbwynt trafnidiaeth integredig y metro yng Nglannau Dyfrdwy, eich bod yn bwriadu cyflwyno'r cysyniad i ganolfannau cyflogaeth allweddol eraill, gan gynnwys Wrecsam, y Rhyl, Prestatyn, Llanelwy, Abergele, Bae Colwyn, Conwy, Llandudno ac ardal Menai, ac fe wnaethoch gyfeiriad at hyn yn gynharach. Yn realistig, pa amserlenni yr ydych chi'n eu hystyried, er gwaethaf cloc gwleidyddol yn y dyfodol, i alluogi hynny i ddigwydd?

Ac yn olaf, rydych yn cyfeirio at fyw o ganolbwyntio eto ar gysylltedd, datgarboneiddio ac integreiddio—rhywbeth y cyfeiriodd Helen Mary Jones ato'n gynharach—ac rydych yn dweud y bydd eich cynlluniau ar gyfer Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy yn cynnig opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus hyfyw i gymudwyr. Yn eich datganiad ysgrifenedig fis Hydref diwethaf, roeddech wedi sôn hefyd am y safle parcio a theithio newydd a'r llwybrau teithio llesol ym mharc diwydiannol Glannau Dyfrdwy. Fodd bynnag, rwy'n deall bod methiant cysylltedd wedi bod. Er enghraifft, dim ond dau wefrydd dwbl sy'n cael eu gosod ar gyfer y 240 o fannau parcio ar y safle parcio a theithio hwnnw, ac roedd hynny dim ond wedi digwydd ar ôl ymyrraeth y sector â'r cyngor. Felly, sut y byddwch chi'n sicrhau bod technoleg datgarboneiddio yn cael ei hintegreiddio'n well wrth inni fwrw ymlaen â hyn?

17:35

A gaf i ddiolch i Mark Isherwood am ei gwestiynau? O ran y cynllun codi tâl sydd gennym ym mharc diwydiannol Glannau Dyfrdwy, rydym yn disgwyl i'r farchnad, yn anad dim, fuddsoddi yn y cynlluniau hyn, ac yna, pan fydd methiant yn y farchnad, byddwn yn defnyddio buddsoddiad gwerthfawr trethdalwyr i fuddsoddi yn y cynlluniau hyn. Ond mae'r arwyddion i gyd yn awgrymu, mewn lleoedd fel parc diwydiannol Glannau Dyfrdwy ac yn ein gorsafoedd rheilffordd, bod y sector preifat yn barod i fuddsoddi. A dyna pam mae Trafnidiaeth Cymru, wedi cael y gwaith o weithio ar strategaeth i ddefnyddio'r ystad gyhoeddus i ddenu buddsoddiad gan y sector preifat.

O ran HS2, rwy'n mynd yn ôl at y pwynt a wnes i'n gynharach: fe fyddai mantais o £50 miliwn i economi gogledd-ddwyrain Cymru, ond mae'n ddibynnol ar y ganolfan gywir yn cael ei datblygu yn Crewe. Ond gallai'r manteision fod gymaint yn fwy, cymaint yn fwy, petai £1 biliwn ychwanegol yn cael ei wario ar drydaneiddio o Crewe i Gaer ac yna draw i Gaergybi; £1 biliwn o'i gymharu â'r £1 biliwn a gafodd ei ddwyn oddi arnom yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Yn y bôn, mae hyn ond yn gwireddu dyledion, os yw Llywodraeth y DU yn penderfynu buddsoddi. Ac yn erbyn gwariant cyffredinol o £106 biliwn, nid yw £1 biliwn o fuddsoddiad yng Ngogledd Cymru yn ormod i'w ofyn oddi wrth Lywodraeth y DU.

O ran ymgysylltu â Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru o ran ein gweledigaeth, rydym wedi cysylltu ac ymgysylltu ag arweinwyr cynghorau, arweinwyr addysg uwch, arweinwyr addysg bellach a chynrychiolwyr sefydliadau busnes. Mae llawer o'r gwaith yn deillio o argymhellion Growth Track 360, sef yr adroddiad sy'n rhoi fframwaith ar gyfer buddsoddi mewn gwasanaethau rheilffyrdd a seilwaith rheilffyrdd i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. A bydd yr Aelod yn ymwybodol bod Growth Trac 360 yn dod o waith Cynghrair Mersi Dyfrdwy, sy'n cynnwys arweinwyr cynghorau sydd hefyd yn eistedd ar fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru.

Nawr, mae Mark Isherwood yn iawn i gwestiynu'r buddsoddiad a phryd y bydd yn arwain at welliannau yn y canolfannau hynny yr oeddwn i wedi cyfeirio atynt yn fy natganiad. Rwy'n falch o ddweud y bydd y £20 miliwn o arian ychwanegol ar gyfer metro gogledd Cymru yn cael ei ddefnyddio ar gyfer rhai o'r canolfannau hynny. Ni phenderfynwyd hyd yn hyn a oes modd ei ymestyn ar draws pob un ohonyn nhw, a fyddai'n cael effaith fawr, ond rydym yn mynd i ddefnyddio'r £20 miliwn hwnnw ar gyfer y canolfannau hynny mewn mannau eraill yng ngogledd Cymru, yn hytrach na chanolbwyntio ar Lannau Dyfrdwy yn unig, lle mae cryn dipyn o fuddsoddiad eisoes.

17:40

Diolch, Llywydd, am y cyfle, yn gyntaf, i bwyntio mas bod Plaid Cymru wedi gwrthwynebu HS2 oherwydd ei effaith negyddol ar Gymru ers dros ddegawd, pan oedd y syniad wedi codi'i ben yn gyntaf o dan y Llywodraeth Lafur diwethaf. Rwy'n gwybod hynny achos fi oedd y llefarydd trafnidiaeth yn San Steffan ar y pryd. Felly, o leiaf rydym ni wedi bod yn gyson, ac rydym ni wedi bod yn gyson iawn ar y pwnc yma.

Roeddwn i eisiau holi ynglŷn â Chymoedd y gorllewin eto. Rwy'n dweud 'eto' achos roedd Dai Lloyd wedi codi'r peth gyda'r Prif Weinidog—chafodd e ddim ateb. Roedd Helen Mary wedi codi'r peth gyda chi nawr—dal heb gael ateb. Felly, tri chynnig ar gyfer Cymoedd y gorllewin.

Mi oedd yna gytundeb dair blynedd yn ôl, fel rhan o gytundeb y gyllideb rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Lafur, eich bod chi'n mynd i ariannu gwaith datblygol ar metro i fae Abertawe a Chymoedd y gorllewin—gan gynnwys cymoedd Aman, Gwendraeth, Dulais, Tawe a Nedd—oherwydd y pwysigrwydd o sicrhau bod yr ardaloedd ôl-ddiwydiannol hynny ddim yn cael eu heithrio o'r metro.

Ac eto, does dim gair nawr am y cymoedd hynny yn eich datganiad chi heddiw, a dwi wedi cael ateb nôl gyda chi sydd yn cadarnhau doedd yr astudiaeth dichonoldeb oedd wedi cael ei hariannu yn sgil y cytundeb rhyngom ni ddim wedi edrych ar Gymoedd y gorllewin o gwbl. Pam ydych chi wedi cefnu ar y cytundeb rhyngom ni, a pham ddylai unrhyw un yng Nghymoedd y gorllewin gredu gair rŷch chi a'ch Llywodraeth yn ei ddweud?

Yn gyntaf oll, a gaf i godi pwynt HS2 eto? Os wyf yn dehongli safbwynt Plaid Cymru yn gywir, mae Plaid yn gwrthwynebu HS2, o dan bob amgylchiad; mae hynny'n cynnwys pe bai HS2 yn cael ei ymestyn i ogledd Cymru. Dyna yw safbwynt Plaid Cymru. Rwy'n credu ei bod yn gwbl briodol bod pobl yn y gogledd yn gwybod y byddai Plaid Cymru yn gwrthwynebu gwasanaethau rheilffordd cyflym i'r gogledd. Mae'n gwbl hanfodol bod pobl yn deall hynny.

O ran gorllewin Cymru a'r gwaith datblygu, mae'r gwaith datblygu hwnnw wedi'i gyflawni. Rydym hefyd wedi ariannu gwaith datblygu gan y pedwar cyngor yn ne-orllewin Cymru. Rhaid i gynllun metro ddechrau, yn bennaf oll, gydag asesiad o'r hyn yr ydyn ni'n ceisio'i ddatrys, pa broblemau yr ydym ni'n ceisio'u goresgyn. Dyna'n union beth sy'n digwydd gydag astudiaethau Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru. Dyna'n union sy'n digwydd gyda phrosiectau fframwaith gwella'r metro i asesu cyfleoedd coridorau, ac yna i wneud gwaith pellach er mwyn darganfod ai'r peth gorau fyddai defnyddio datrysiadau sy'n seiliedig ar reilffyrdd neu ddatrysiadau bysiau. Mae hynny'n gyson â gwaith ledled Cymru, boed hynny yng Nghymoedd y de-orllewin, neu yn y gogledd, neu yn y de-ddwyrain wrth inni wella'r metro yn y de-ddwyrain hefyd.

Gweinidog, hoffwn i godi ychydig o bwyntiau ynglŷn â'ch adroddiad a'ch cyfeiriadau at fetro de-ddwyrain Cymru. Fel y gwyddoch, yn ardal Taf Elái, cafwyd adfywiad economaidd sylweddol wrth ddatblygu'r metro. Mae wedi cael effaith enfawr ar Bontypridd ei hun. Ond wrth gwrs, dim ond ychydig wythnosau yn ôl fe wnaethom ni weld yr holl gyhoeddusrwydd am gyhoeddiad gan y Prif Weinidog o £500 miliwn ar gyfer agor llinellau newydd. Cafodd gryn sylw.

Ac eto, ers nifer o flynyddoedd bellach, rydym wedi bod yn trafod ac yn cynnal trafodaethau—trafodaethau eithaf datblygedig erbyn hyn—rhwng cyngor Rhondda Cynon Taf a Chaerdydd, ac wrth gwrs, mae amrywiaeth o sylwadau wedi'u gwneud, y mae Llywodraeth Cymru yn ymwneud â nhw, a hynny ar gyfer ailagor rheilffordd o Gaerdydd i ffordd gangen Beddau, trwodd i Lantrisant, Pont-y-clun, a fyddai'n cysylltu â'i gilydd. Mae tua 85 y cant i 90 y cant o'r rheilffordd honno'n dal i fodoli. Ac wrth gwrs, yn ystod y ddegawd nesaf, mae'n ardal lle bydd 20,000 o gartrefi newydd yn cael eu codi. Felly, mae'n ardal lle mae'r boblogaeth yn ehangu'n aruthrol a dim capasiti ar y ffyrdd ac ati.  

Nawr, fel y gwyddoch, Gweinidog, mae adroddiad, cynllun busnes, yn cael ei baratoi—cafodd ei ariannu gan y cynghorau, ac ati—mae i'w gyhoeddi cyn bo hir, rwy'n credu. Nid oes neb wedi'i weld, ac nid wyf yn hollol siŵr a yw wedi'i gwblhau eto. Tybed a allech roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am statws yr adroddiad hwnnw erbyn hyn a beth fydd y camau nesaf yn debygol o fod gyda phrosiect a allai fod yn un cyffrous iawn, yn fy marn i, sef ailagor hen reilffordd mewn ardal sydd â llawer o dagfeydd—twf economaidd enfawr—a lle mae materion amgylcheddol mawr y gellid eu datrys gan hynny.

17:45

A gaf i ddiolch i Mick Antoniw am ei gwestiynau? Mae'n cyflwyno achos grymus iawn dros ailagor rheilffyrdd yn ei etholaeth, yn y rhanbarth a ledled Cymru. Gallai arwain at adfywio a chreu cyfleoedd i bobl gael swyddi da, parhaol.

Ni fydd cronfa gwrthdroi Beeching, sy'n cyfateb i £500 miliwn, yn darparu'r math o seilwaith newydd, ni fydd yn sicrhau'r nifer o orsafoedd wedi'u hailagor yr wyf i'n credu y byddai llawer o bobl yn gobeithio y gellid eu darparu drwy raglen o'r fath. Ni fyddai pum can miliwn o bunnau yn cyflawni'r holl waith o ailagor y rheilffordd rhwng Caerfyrddin ac Aber. Ni fyddai'n cyflawni prosiectau mawr y mae angen buddsoddiad sylweddol ynddyn nhw. Fy nealltwriaeth i o'r gronfa benodol honno yw bod yn rhaid i unrhyw brosiect a gaiff ei hybu i'w ystyried gael ei hybu gan Aelod Seneddol a bod yn rhaid i'r gwaith hwnnw gael ei wneud yn fuan. Yn anffodus, nid wyf yn credu y bydd yr adroddiad y mae Mick Antoniw yn cyfeirio ato yn barod i Aelodau Seneddol sy'n cynrychioli etholaethau yn y rhanbarth ei gyflwyno i'r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth, ac, felly, fel Llywodraeth, wedi i'r adroddiad hwnnw gael ei gwblhau, ar ôl i ni gael ein dwylo arno, byddwn yn cyflwyno'r achos i Lywodraeth y DU am fuddsoddiad ar hyd y darn penodol hwnnw.

Rwy'n credu ei bod yn gwbl briodol ein bod ni'n ystyried pob cyfle i ymestyn metro'r de-ddwyrain. Mae'r fframweithiau ar waith gennym erbyn hyn ar gyfer archwilio pob un o'r coridorau teithio a allai elwa ar fuddsoddiad, ond, yn y pen draw, mae'n dal yn fater o'i gwneud yn ofynnol i Lywodraeth y DU fuddsoddi mewn seilwaith.

7. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cynnydd ar y Llwybr Canser Sengl
8. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit: Deddfwriaeth yn ymwneud â gadael yr UE

Ac felly eitem 8 yw'r eitem nesaf i'w trafod a honno'n ddatganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit ar ddeddfwriaeth yn ymwneud â gadael yr Undeb Ewropeaidd. Rwy'n galw ar y Gweinidog felly i wneud ei ddathganiad—Jeremy Miles.

Diolch, Llywydd. Roeddwn i'n meddwl y byddai'n ddefnyddiol rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y datblygiadau diweddar a'r rhagolygon o ran deddfwriaeth sy'n deillio o ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. 

I ddechrau, byddaf yn ystyried mater Deddf yr Undeb Ewropeaidd (y Cytundeb Ymadael) 2020 a'r goblygiadau i Gonfensiwn Sewel. Bydd yr Aelodau'n cofio, ar yr unfed ar hugain o fis diwethaf, bod y Senedd wedi dilyn argymhelliad Llywodraeth Cymru i wrthod cydsyniad ar gyfer y ddeddfwriaeth honno. Fel yr adroddwyd eisoes yn y Senedd, roedd y rhesymau am hyn yn gyfansoddiadol yn bennaf—y bygythiad y mae'r ddeddfwriaeth hon yn ei achosi i gymhwysedd y Senedd a gallu Llywodraeth Cymru i ddylanwadu ar y negodiadau sydd i ddod a fydd â chanlyniadau difrifol i feysydd polisi datganoledig.

Fe wnaethom bopeth a allem i wella'r Bil, cyn ei gyflwyno ac yna gan weithio'n agos gydag Aelodau Tŷ’r Arglwyddi i gyflwyno gwelliannau a fyddai wedi ei wneud yn dderbyniol o safbwynt datganoli, ond, yn y pen draw, ni allem ddarbwyllo Llywodraeth y DU.

Roedd ein penderfyniad ni yma yn y Senedd yn adlewyrchu pleidleisiau tebyg yng Nghynulliad Gogledd Iwerddon ac yn Senedd yr Alban—y tro cyntaf i'r tair deddfwrfa wrthod rhoi cydsyniad ar gyfer un darn o ddeddfwriaeth seneddol y DU. Er gwaethaf hyn, gwthiodd Llywodraeth y DU y Bil i Gydsyniad Brenhinol a'r Senedd yn anwybyddu barn y tair deddfwrfa. Gallai hyn fod wedi datblygu'n argyfwng cyfansoddiadol o bwys, gan fygwth sylfeini datganoli. Fodd bynnag, mewn gohebiaeth, disgrifiodd Ysgrifennydd Gwladol yr Adran dros Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd yr amgylchiadau fel rhai unigol, penodol ac eithriadol, ac fe wnaeth  Canghellor Dugiaeth Caerhirfryn eu disgrifio fel rhai unigryw. Cafwyd sylwadau tebyg gan Arglwydd Callanan, Gweinidog Gwladol yn yr Adran dros Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, yn y Trydydd Darlleniad yn Nhŷ'r Arglwyddi ac mewn datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd gan Ganghellor Dugiaeth Caerhirfryn.

Ysgrifennais wedyn at Stephen Barclay a Michael Gove, gan gydnabod yr arwyddion calonogol hyn fod Llywodraeth y DU yn cydnabod difrifoldeb y cam hwn ac yn dehongli 'nid fel arfer' Sewel fel 'dim ond o dan yr amgylchiadau mwyaf eithriadol'. Ar y sail hon, fe atgoffais i nhw ein bod wedi galw, yn 'Diwygio ein Hundeb', am godeiddio'r confensiwn drwy nodi'r amgylchiadau a'r meini prawf y gallai Llywodraeth y DU, mewn cyfyngder, fwrw ymlaen â'i deddfwriaeth, er gwaethaf diffyg cydsyniad deddfwriaethol datganoledig, a galwyd ar Lywodraeth y DU i gymryd rhan mewn rhagor o drafodaethau ar hyn. Felly, er bod penderfyniad Llywodraeth y DU i fwrw ymlaen â'r Bil cytundeb ymadael heb gydsyniad y deddfwrfeydd datganoledig yn peri pryder sylweddol, mae'n ymddangos bod Llywodraeth y DU a ninnau'n credu y dylid ei neilltuo fel achos arbennig, ac mae angen i ni adeiladu ar hynny yn awr.

Gan symud ymlaen, bydd yr Aelodau'n ymwybodol bod bron pob un o gyfreithiau'r UE yn parhau i fod yn gymwys yn y DU yn ystod y cyfnod pontio, ond mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ystyried pa un a yw pwerau i gadw i fyny â deddfwriaeth yr UE y tu hwnt i'r cyfnod pontio yn ymarferol ac yn angenrheidiol. Ar hyn o bryd, nid ydym yn gweld bod angen taer i ni gyflwyno Bil Senedd sy'n cynnwys pwerau i gadw i fyny â deddfwriaeth yr UE ar y cam hwn. Mae nifer o resymau am hyn.  

Y prif reswm, o bosibl, yw bod gennym bryderon o ran a fyddai’n dderbyniol i’r Senedd hon, pe bai Gweinidogion Cymru yn cael pwerau eang, i gadw gyda deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd o fewn cymhwysedd datganoledig drwy Fil hollgynhwysfawr. Ni fyddai hynny’n gyson â’r safbwyntiau y mae Aelodau wedi’u mynegi yn y gorffennol, felly byddai’r bar ar gyfer cynnig gweithred o’r fath yn cael ei osod yn uchel.

Mae yna hefyd ffyrdd eraill o alluogi Cymru i gadw gyda datblygiadau pan fyddwn ni'n gweld yr angen. Yn gyntaf, mae gan Weinidogion Cymru eisoes bwerau i gadw gydag addasiadau technegol i ddeddfwriaeth drydyddol yr Undeb Ewropeaidd drwy swyddogaethau a gafodd eu creu gan yr offerynnau statudol ar gyfer ymadael â’r Undeb Ewropeaidd fel rhan o’r rhaglen gywiriadau, neu drwy bwerau domestig sydd eisoes yn bodoli. Byddai angen mynd ati i ddadansoddi pa bwerau sydd eisoes ar gael er mwyn ymateb i gynigion deddfwriaethol penodol yn yr Undeb Ewropeaidd wrth iddyn nhw gael eu datblygu.

Ar gyfer deddfwriaeth fwy sylweddol yn yr Undeb Ewropeaidd, byddai eu proses ddeddfwriaethol nhw yn darparu mwy na digon o amser i alluogi Senedd Cymru i gyflwyno a phasio Bil pe bai angen.

Mae cyd-destun hyn oll yn bwysig. Mae Llywodraeth Cymru yn dal i fod wedi’i hymrwymo i broses y fframweithiau cyffredin. Rydyn ni’n credu y dylai’r broses honno alluogi a rheoli gwahaniaethau mewn polisi rhwng Llywodraeth y Deyrnas Unedig a’r Llywodraethau datganoledig, neu yn wir rhwng y Llywodraethau datganoledig eu hunain. Rŷn ni’n bwriadu dilyn proses y fframweithiau cyffredin hyd at ei diwedd cyn penderfynu ble y gall fod angen inni ddilyn datblygiadau yn neddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol. Serch hynny, hoffwn i sicrhau Aelodau y byddwn ni'n parhau i gadw'r sefyllfa o dan drosolwg.

Yn olaf, dylai Aelodau fod yn ymwybodol y bydd angen corff sylweddol o is-ddeddfwriaeth eleni. Ni allwn ni ddweud ar hyn o bryd faint fydd ei angen cyn gwybod beth fydd hynt y negodiadau â’r Undeb Ewropeaidd, ac yn wir â thrydydd gwledydd eraill. Beth bynnag, bydd galw yn codi o’r gwaith arferol i weithredu cyfraith yr Undeb Ewropeaidd sy’n dod i rym eleni; yr offerynnau statudol cywiro pellach sy’n angenrheidiol i sicrhau bod cyfraith yr Undeb Ewropeaidd a ddargedwir yn gweithio yng nghyd-destun diwedd y cyfnod pontio; a’r is-ddeddfwriaeth fydd ei hangen i weithredu’r systemau newydd sy’n cael eu sefydlu gan Filiau’r Deyrnas Unedig a Deddf y cytundeb ymadael ei hun.

Mae’r gwaith wedi hen ddechrau i benderfynu faint o ddeddfwriaeth fydd yn angenrheidiol, cymaint ag y gallwn ei benderfynu ar hyn o bryd, a byddaf i, wrth gwrs, yn parhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau o bryd i'w gilydd.

17:50

A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am gopi ymlaen llaw o'r datganiad a rannodd gyda mi y prynhawn yma? Rwy'n ddiolchgar iawn am y datganiad. Rwy'n credu ei fod yn cyflwyno math gwahanol iawn o iaith a thôn na rhai o'r datganiadau a gawsom yn y gorffennol yn y Siambr hon ynglŷn â threfniadau ar ôl Brexit, ac rwy'n croesawu hynny'n fawr. Rwy'n credu ei bod yn gwbl eglur eich bod wedi ystyried yn fanwl y trefniadau deddfwriaethol yn y dyfodol a allai godi ac rydych yn amlwg yn bwrw ymlaen ag unrhyw waith y gallai fod ei angen wrth i ni symud ymlaen.

Nodaf eich bod wedi penderfynu peidio â bwrw ymlaen â Bil cyfuno ar hyn o bryd, ac rwy'n credu bod hynny'n ddoeth iawn. Nid wyf yn credu bod llawer o archwaeth am y math hwnnw o ddull yn y Siambr hon, ac rwy'n credu eich bod chi'n cydnabod hynny, hefyd, yn eich datganiad, ac rwy'n croesawu hynny'n fawr iawn. Nid yw'n golygu, wrth gwrs, y byddem ni'n dymuno derbyn yr holl newidiadau deddfwriaethol a allai ddigwydd yn y cyfnod hwn rhwng nawr a 31 Rhagfyr. Nawr, rwy'n cydnabod y ffaith, er enghraifft, y bydd rhai darnau o ddeddfwriaeth a fydd yn mynd drwy Senedd Ewrop ond na fydd, o bosibl, yn cael effaith tan ar ôl 31 Rhagfyr, er enghraifft. Tybed sut ydych chi'n gwahaniaethu rhwng y newidiadau deddfwriaethol y gallai fod angen i chi gadw i fyny â nhw oherwydd eu bod yn cael eu rhoi ar waith yn ystod y cyfnod pontio, o'u cymharu â'r rhai na fydd efallai angen i chi eu rhoi ar waith o reidrwydd gan y byddan nhw y tu hwnt i'r amserlen 31 Rhagfyr honno.

Fel yr ydych chi wedi ei ddweud yn gwbl gywir, mae pwerau sylweddol eisoes ar gael i Weinidogion Cymru i allu gweithredu a gwneud rhai newidiadau technegol i'r trefniadau drwy ddeddfwriaeth drydyddol ac, yn wir, bydd rhai pwerau is-ddeddfwriaeth hefyd, y gallwch chi o bosibl eu defnyddio i addasu'r rheoliadau presennol sy'n berthnasol yma yng Nghymru. Rwy'n credu y byddai'n ddefnyddiol, efallai, pe gellid cael rhyw fath o gyfuno'r pwerau hynny mewn un ddogfen fel y gallwn benderfynu ym mha le y gallai'r pwerau hynny fod o ran yr ysgogiadau hynny y gallwch chi eu defnyddio heb orfod troi at ddeddfwriaeth sylfaenol er mwyn gwneud rhai newidiadau. Felly efallai fod yna ryw grynodeb o wybodaeth y byddai'n ddefnyddiol i Lywodraeth Cymru ei gyflwyno i'r Siambr er mwyn cynorthwyo'r Cynulliad Cenedlaethol hefyd, rwy'n credu, o ran y swyddogaeth graffu sydd gennym fel Aelodau Cynulliad.

Rwy'n falch iawn eich bod yn cydnabod pwysigrwydd fframweithiau cyffredin ledled y Deyrnas Unedig a'ch bod yn ceisio gweithio'n adeiladol gyda Llywodraeth y DU er mwyn eu cyflawni. Rwy'n cydnabod y bydd dadl iach, weithiau, ynghylch sut y gallai'r fframweithiau a'r trefniadau cyffredin hynny weithio a'i bod yn amlwg bod angen i ni bennu'r systemau a fydd yn llywodraethu'r trefniadau hynny yn y dyfodol er mwyn sicrhau bod llais y deddfwrfeydd datganoledig a llais Llywodraethau datganoledig yn gallu dylanwadu'n gryf a dylanwadu'n briodol yn y ffordd y datblygir y fframweithiau hynny. Yn amlwg, rydych chi wedi gwneud nifer o ddatganiadau yn y gorffennol ynglŷn â sut y dylai'r undeb weithredu, wrth symud ymlaen, ac rwy'n cydnabod bod angen gwneud newidiadau hefyd. Rwy'n credu fy mod wedi rhoi ar gofnod yn y gorffennol fy mod i'n cydnabod y dylai trefniant yn y dyfodol fod yn drefniant ffederal, ac rwy'n fwy na pharod i gael deialog gyda phobl mewn unrhyw blaid wleidyddol yn y Siambr hon er mwyn ceisio sefydlu trefniadau o'r fath, wrth symud ymlaen. Ond rwy'n credu bod angen i ni gael rhywfaint o eglurder, mewn gwirionedd, ar y pwerau hynny sydd gennych eisoes, felly os gallech chi ddod â hynny i ni, byddai hynny'n ddefnyddiol iawn yn wir.

Efallai y gallwch chi ddweud wrthym ni hefyd pa drafodaethau yr ydych chi wedi bod yn eu cael gyda Llywodraeth y DU hyd yma ynglŷn â'r fframweithiau cyffredin hynny. Rwy'n gwybod y bydd trafodaethau'n cael eu cynnal yn y dyfodol hefyd, ond efallai y gallwch chi ein diweddaru ni o ran y gwaith a allai fod yn cael ei wneud rhwng eich swyddogion chi a swyddogion Llywodraeth y DU yn hynny o beth.

Pryder arall sydd gennyf yw hwnnw yn ymwneud â chapasiti Llywodraeth Cymru, o ystyried y galwadau deddfwriaethol sylweddol sydd eisoes ar y Senedd hon rhwng nawr a'r etholiadau nesaf i Senedd Cymru ym mis Mai y flwyddyn nesaf. Beth yw capasiti Llywodraeth Cymru i gyflwyno rhagor o ddarnau sylweddol o ddeddfwriaeth y gallai fod yn ofynnol, os oes darnau sylweddol o waith y gallai fod angen eu gwneud?

17:55

Diolch i Darren Millar am ei gwestiynau ac am y ffordd adeiladol y mae wedi eu cyflwyno. Rwy'n credu o ran is-ddeddfwriaeth a'r drafodaeth ynghylch fframweithiau cyffredin—y cyfeiriodd atyn nhw, yn amlwg, yn ei gwestiwn—dyna'r rhai sydd wedi bod, mae'n debyg o'r holl feysydd ymgysylltu, y rhai lle bu'r berthynas fwyaf cynhyrchiol, ac rydym bob amser wedi ceisio fel Llywodraeth i gyfeirio at y rheini fel enghreifftiau o'r modd y mae'r holl Lywodraethau yn y DU yn ymwneud â'i gilydd yn adeiladol, fel yr ydym ni bob amser wedi ceisio ei wneud ar y meinciau hyn, yna gellir cymryd camau ymlaen. Bydd ef yn gwybod o'n trafodaethau blaenorol nad ydym bob amser wedi argyhoeddi Llywodraeth y DU o'r ymagwedd honno, sy'n destun gofid. 

Serch hynny, ar y cwestiwn am grynodeb o bwerau, rwy'n credu bod y cwestiwn o ba un a fydd y math o bwerau y mae angen eu defnyddio i ymdrin ag agweddau unigol ar gadw'n gyfredol ar gael, os caf ei roi felly, yn dibynnu, wrth gwrs, ar y math o ddeddfwriaeth a gyflwynir. Mae gennym ni rai o'r pwerau hynny eisoes drwy gyfuniad o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael). Mae rhai o'r rhain gennym o dan y setliad datganoli sydd eisoes yn bodoli, ac yna bydd angen cyfres o ddadansoddiadau yn y dyfodol wrth i ddeddfwriaeth gael ei chyflwyno i ganfod pa un a yw'r gallu i gadw'n gyfredol â'r rheini yn dod o fewn y pwerau sydd gennym eisoes, efallai drwy'r setliad datganoli. Ni allwn asesu beth yn union ydyn nhw ar hyn o bryd, oherwydd bydd y penderfyniadau hynny'n cael eu gwneud yn y dyfodol.

Mae categori o is-ddeddfwriaeth a fydd yn deillio o Filiau sy'n cael eu pasio gan Senedd y DU yng nghyd-destun ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. Unwaith eto, gallwn nodi rhai o'r rheini ar hyn o bryd, ond mae llawer ohonyn nhw na allwn ni eu nodi. Felly, wrth i ni sefyll yn y fan yma heddiw, yn anffodus nid wyf i mewn sefyllfa i ddweud wrthych chi ein bod ni'n deall graddau llawn hynny, oherwydd nid yw'r penderfyniadau sy'n llywodraethu'r dadansoddiad hwnnw wedi eu gwneud eto. Hoffem fod mewn sefyllfa o lawer mwy o sicrwydd, ond mae hynny, yn amlwg, y tu hwnt i'n rheolaeth. 

Fe wnaethoch chi ofyn yn benodol am y cwestiwn ynghylch fframweithiau cyffredin. Ein hamcan o hyd yw cyrraedd sefyllfa erbyn diwedd eleni pryd y byddwn ni wedi gwneud cynnydd sylweddol yn gysylltiedig â'r rheini. Ceir bwrdd rhaglen ffurfiol bob mis, rwy'n credu, rhwng swyddogion sy'n cadw golwg ar hynny. Rydym ni'n glir iawn ein bod ni'n dymuno bod mewn sefyllfa, cyn gynted ag y gallwn ddod i gytundeb, i roi'r rheini mewn sefyllfa lle y gall rhanddeiliaid a deddfwrfeydd ledled y DU graffu arnyn nhw, ac rydym yn parhau i bwyso am gynnydd yn gysylltiedig â hynny.

O ran deddfwriaeth sylfaenol, wrth i ni sefyll yn y fan yma heddiw, nid ydym yn rhagweld eitemau penodol yn cael eu cyflwyno ond, unwaith eto, mae hynny'n dibynnu ar gyfres o amgylchiadau sy'n gyfnewidiol iawn a newidiol iawn, yn anffodus, sydd, am resymau nad oes angen i ni eu hailadrodd yma heddiw, yn sicr y tu hwnt i'n rheolaeth ni fel Llywodraeth. Rwy'n credu y byddem ni i gyd yn gresynu at y ffaith bod cryn dipyn o ansicrwydd yn parhau yn y dirwedd honno.

18:00

A allaf i ddiolch i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit am ei ddatganiad ar y ddeddfwriaeth yn ymwneud ag ymadael â'r Undeb Ewropeaidd? A gaf i ddiolch yn benodol iddo fo am ei ddadansoddiad manwl o'r sefyllfa ddeddfwriaethol astrus ac anodd braidd rydym ni'n ei hwynebu wrth ymadael â'r Undeb Ewropeaidd? Nawr, rydych chi'n sôn am fframweithiau, ac mae fframweithiau cyffredin yn golygu, fel rydych chi wedi crybwyll sawl tro yn y Siambr yma, rhannu llywodraethiant ac, wrth gwrs, yn golygu parch rhwng gwahanol Lywodraethau. Dylai fod dim rhagor o Senedd San Steffan yn penderfynu a phob Senedd arall yn yr ynysoedd hyn i fod i ddilyn yn slafaidd ufudd, er wedi dweud hynny, nid yw'r rhagolygon yn addawol, fel rydych chi wedi olrhain yn y datganiad yma o'r hanes diweddar.

Gwrthododd y Senedd hon roi ei chydsyniad deddfwriaethol i'r Ddeddf cytundeb ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, yn union fel yr Alban—fe wnaethant hwy wrthod hefyd—a Gogledd Iwerddon—fe wnaethant hwy wrthod hefyd—ac eto, ymlaen aeth Senedd San Steffan efo'r Ddeddf ymadael, gan lwyr anwybyddu holl Senedd-dai eraill yr ynysoedd yma. Nawr, dydy hynna ddim yn swnio fel rhannu llywodraethiant i fi, na pharchu barn Senedd-dai eraill yr ynysoedd yma, ond dwi'n gweld o'ch datganiad eich bod chi wedi symud ymlaen eisoes.

Rydych chi wedi cytuno ag aelodau Llywodraeth San Steffan taw achos eithriadol neu achos unigryw oedd anwybyddu barn ein Senedd-dai datganoledig. Ond ar ba sail, allaf i ofyn? Ar ba sail sydd gennych chi i gredu na all hyn ddigwydd eto, neu bob tro yn y dyfodol y byddwn ni'n gweld colli pwerau neu o dan fygythiad colli pwerau, neu y byddwn yn cael ein hanwybyddu eto, fel rydych chi wedi cyfaddef eich bod chi wedi cael eich anwybyddu dros y tair blynedd diwethaf, rhywbryd yn y dyfodol pan fyddwn ni eto yn cwyno, na fydd y diffiniad o achos eithriadol yna yn cael ei ddefnyddio eto? Pa sicrwydd a allwn ni ei gael na fydd hyn yn digwydd dro ar ôl tro a phob tro y bydd y Senedd yma yn cael ei hanwybyddu ei fod o'n mynd i fod yn achos eithriadol, unigryw arall? Pa sicrwydd ydych chi wedi'i dderbyn ar y pwynt yna?

Nawr, wrth gwrs, mae yna gryn dipyn o ddeddfwriaeth sydd angen ei phasio, fel rydych chi wedi crybwyll, a llawer ohoni mewn meysydd sydd wedi'u datganoli, fel pysgodfeydd, amaeth, yr amgylchedd—wedi'u datganoli i fan hyn ers 20 mlynedd. Pa ddylanwad, felly, sydd gennych chi, neu a fydd gennych chi, ar y broses o ddeddfu o hyn ymlaen yn y meysydd datganoledig yma? Wrth adael Ewrop, dydyn ni dim eisiau colli unrhyw bwerau rydym ni'n draddodiadol wedi eu harddel yn y Siambr yma ers 20 mlynedd. Ie, wrth gwrs, o dan adain Ewrop yn wreiddiol a nawr o dan adain y Deyrnas Unedig, ond dydyn ni ddim eisiau gweld crebachu pwerau o fan hyn mewn meysydd sydd wedi'u datganoli i fan hyn ers 20 mlynedd.

Ac, yn olaf, cawsoch chi'r drafodaeth hefyd ynglŷn â'r ddeddfwriaeth eilradd sydd yn deillio o'r prosesau yma. Mae'n anodd iawn, fel rydych chi wedi darogan eisoes, rhagweld faint yn union o hynna sydd yn mynd i ddigwydd, ond sut fyddwch chi'n gallu sicrhau gwella craffu ar ran y Senedd yma o'ch gwaith chi yn y Llywodraeth, wrth basio deddfwriaeth eilradd—SICMs ac ati? Achos rydym ni wedi cael cryn anhawster fel deddfwrfa i allu craffu ar beth sydd yn digwydd efo ystod eang o SICMs ac ati. A fydd y drefn yn dal yn ddibynnol ar Aelodau cyffredin meinciau cefn yn y lle yma i wthio am drafodaeth ar SICMs—ar y cydsyniadau deddfwriaeth eilradd yma—neu a fydd Llywodraeth Cymru yn fwy parod ac yn fwy rhagweithiol o hyn ymlaen nag y maent wedi bod i fyny at nawr i hwyluso dadleuon ar faterion eilradd deddfwriaethol heb ddefnyddio'r esgus oesol bod amser yn brin neu fod baich pwysau gwaith yn ormodol? Diolch yn fawr.

18:05

Diolch i Dai Lloyd am y cwestiynau hynny. Rwy'n cytuno ag e bod angen dangos parch at Lywodraethau datganoledig gan Lywodraeth San Steffan, rŷm ni, fel Llywodraeth, wastad wedi cymryd pob cyfle i ddadlau achos Cymru—sefyll i fyny dros fuddiannau Cymru—ac i fod, hyd y gallwn ni, yn adeiladol. Dyna fydd ein bwriad ni yn y dyfodol, ac mae disgwyl i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ymateb yn yr un ffordd.

Fe wnaeth e grybwyll y cwestiwn o gonfensiwn Sewel—hynny yw, pa sicrwydd sydd gyda ni fod hyn yn sefyllfa unigryw. Wel, y peth cyntaf buaswn i'n ei ddweud yw: rwy'n gobeithio y buasai e'n cytuno â ni fod hon yn sefyllfa unigryw. Rwy'n gwybod ei fod wedi darllen y ddogfen, 'Diwygio ein Hundeb', sydd yn disgrifio, mewn manylder, y camau rŷm ni'n credu sydd angen eu cymryd i ddiwygio'r confensiwn, i ddiwygio'r setliad. Hynny yw, dŷn ni ddim yn credu bod y sefyllfa bresennol yn ddigonol; rŷm ni'n credu bod angen ei diwygio hi. Rŷm ni wedi esbonio bod angen codeiddio a disgrifio'n fanwl sut y gall disgresiwn cael ei ddefnyddio i symud yn eu blaenau heb gydsyniad y Seneddau datganoledig. Rŷm ni wedi hefyd sôn am gyfle i'r Senedd yn San Steffan i gymryd hynny o dan ystyriaeth wrth gymryd y cam hwnnw. Felly, rŷm ni'n bell o'r sefyllfa o gredu bod y sefyllfa sydd ohoni yn ddelfrydol. Ond, wedi dweud hynny, mae'n sicr hefyd yn bwysig i danlinellu'r ffaith bod yr amgylchiadau hyn wedi bod yn amgylchiadau unigryw iawn.

Gwnaeth e sôn am ehangu ein pwerau ni a sicrhau bod y setliad datganoledig yn parhau i gael ei barchu. Wel, dyna'n union a lwyddon ni ei wneud fel Llywodraeth drwy'r cytundeb rhynglywodraethol yn amser y Mesur ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. Yn sgil y cytundeb hwnnw, gwnaethom ni sicrhau ehangu y pwerau sy'n cael eu defnyddio gan Lywodraeth Cymru a'r Senedd hon, ac mae hynny'n enghraifft o beth sy'n gallu digwydd pan rŷm ni fel Llywodraeth yn dodi cynigion ger bron ac yn dadlau ein hachos ar sail tystiolaeth ac ati.

Yn olaf, gwnaeth e sôn am gwestiynau ynglŷn â chraffu ar waith y Llywodraeth. Mae trafodaeth gyson, wrth gwrs, wedi bod gyda'r pwyllgorau ynglŷn â sut orau i wneud hynny. O'r cychwyn cyntaf, gwnaeth y Llywodraeth sicrhau ein bod ni yn cydymffurfio â'r mesurau a gytunwyd o ran craffu. Hynny yw, datganiadau ysgrifenedig yn esbonio'r camau rŷm ni wedi eu cymryd, a hefyd y cwestiwn o SICMs. Mae e, wrth gwrs, yn agored i unrhyw Aelod ddod â'r cwestiwn o SICM i lawr y Senedd. Mae hynny wedi digwydd yn llwyddiannus pan wnaeth Suzy Davies ddod â hynny o'n blaenau ni. Felly, mae'n fater i unrhyw Aelod, fel y dylai fod, i allu gwneud hynny, ac rwy'n sicr, o drafodaethau rydw i wedi eu cael gyda'r pwyllgor, fod Aelodau'n hapus bod ganddyn nhw'r capasiti a'r wybodaeth a'r access at y dogfennau priodol i allu gwneud hynny, a gwelsom ni hynny'n llwyddo yn yr enghraifft wnes i sôn amdani jest nawr.

18:10

A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad? Pan welais y teitl 'deddfwriaeth yn ymwneud ag ymadael â'r UE', roeddwn wedi tybio y byddai'n canolbwyntio ar lif offerynnau statudol a'r dull gweithredu yr oeddem ni'n ei ddilyn ar gyfer y rheini, felly hoffwn ddiolch yn arbennig iddo am y ddau baragraff olaf sy'n ymdrin â'r mater hwnnw. Ac os caf ystyried y tôn a gawsom gan Darren Millar yn ei ymateb—rwy'n cofio nifer o gyfraniadau tebyg yn y gorffennol â thôn wahanol iawn.

Ond yng ngoleuni hynny, a gaf i gyfeirio at yr hyn y mae'r Gweinidog yn ei ddweud am Gonfensiwn Sewel? Mae'n dweud y gallai hyn fod wedi datblygu'n argyfwng cyfansoddiadol mawr sy'n bygwth sylfeini datganoli, ac yna mae'n cyfeirio at nifer o bethau y mae Llywodraeth y DU wedi eu gwneud neu wedi awgrymu nad yw hyn yn arwain at y llall. Ond mae ochr arall i hynny, ac rwy'n credu bod hynny'n adlewyrchu sefyllfa Llywodraeth Cymru sy'n ceisio lleihau'r tymheredd ar hyn a dod o hyd i dir cyffredin gyda Llywodraeth y DU a dehongli'r hyn y maen nhw yn ei wneud mewn modd sy'n lleihau'r graddau y maen nhw yn ystyried hynny yn doriad, ac rwy'n credu bod hynny'n ffordd gall a phriodol o symud ymlaen a rhoi hyn y tu ôl iddyn nhw.

Rwy'n credu, fodd bynnag, fod cynsail y toriad hwnnw i Sewel yn dal i fod yno, ac mae'r Gweinidog yn cyfeirio at dair neu bedair dogfen neu areithiau gan Lywodraeth y DU sy'n golygu bod cynsail yn cyfrif am lai yn ei feddwl ef nag a fyddai fel arall yn wir. A gaf i godi un ar yr ochr arall, ac mae hynny'n ymwneud â'r sylwadau y mae'r Gweinidog yn eu gwneud am ein penderfyniad ni yma yn y Senedd yn adlewyrchu pleidleisiau tebyg yn senedd Gogledd Iwerddon a senedd yr Alban, a'r cyfeiriad at Lywodraeth y DU yn anwybyddu barn y tair Deddfwrfa? Wrth gwrs, roedd y ddwy ddeddfwrfa arall yn mynegi barn ac yn cynrychioli eu hetholwyr a oedd wedi pleidleisio i aros. Yn y fan yma, pleidleisiodd pobl Cymru i ymadael, ac eto, unwaith eto, gyda'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn, gwelsom gamau gweithredu a oedd o leiaf yn agored i'r dehongliad o fod yn ddarn â thair blynedd a hanner o geisio defnyddio pwerau o'r fath sydd gennym i rwystro Brexit.

Ac mae'r Gweinidog yn cyfeirio at gapasiti Llywodraeth Cymru i ddylanwadu ar y trafodaethau sydd ar y gweill. Onid y peth allweddol sy'n lleihau'r gallu hwnnw yw'r ffaith fod Llywodraeth Cymru, ynghyd â Phlaid Cymru, wedi mabwysiadu polisi Brexit mewn enw yn unig, ac wedyn pan wnaeth Theresa May, yn y pen draw, gynnig hynny iddyn nhw yn y bôn, gan gynnwys Undeb Tollau—a dywedodd y Gweinidog ei fod yn hapus â'r cytundeb ymadael ac efallai dim ond ychydig o bwyntiau am y datganiad gwleidyddol—pan ddaeth i'r pen, newidiodd Llywodraeth Cymru ei meddwl, a chefnogi'r hyn a wnaeth Llafur Cymru a Llafur y DU a pheidio â chefnogi'r polisi BRINO hwnnw—gydag eithriad clodwiw, efallai, Stephen Kinnock ac un neu ddau arall—ond yn hytrach yn dweud, 'Wel, fe wnaethom ni ddweud hynny o'r blaen, ond nid ydym ni'n mynd i lynu at hynny, a byddai'n well gennym ni gael ail refferendwm a gamblo ar atal Brexit yn gyfan gwbl, er ein bod ni wedi dweud y byddem yn parchu'r refferendwm yn flaenorol'? Onid dyna pam nad oes gennych chi'r dylanwad y byddech chi'n dymuno ei gael wrth i Lywodraeth y DU arwain y trafodaethau masnach hyn gyda mwyafrif o 80?

Yn olaf, a gaf i sôn am yr hyn y mae'r Gweinidog yn ei ddweud am gadw'n gyfredol â deddfwriaeth yr UE? Ymddengys ei fod yn siarad fel pe byddai gobaith am gyfochri dynamig â safonau a rheoliadau'r UE drwy gytundeb masnach. A gaf i atgyfnerthu gydag ef, neu o leiaf bwysleisio safbwynt Llywodraeth y DU, na fydd unrhyw gyfochri dynamig o'r fath. Hyderwn y byddan nhw'n cadw at eu haddewidion. Os gwnân nhw hynny, siawns na fydd yn ofynnol i ni gadw'n gyfredol â deddfwriaeth yr UE yn y modd hwn, ac os, fel y dywed, bod dulliau eraill ar gael i alluogi Cymru i gadw'n gyfredol pan ystyriwn fod angen hynny, onid yw hynny'n awgrymu y byddwn ni, mewn llawer o feysydd, yn gwyro oddi wrth ddeddfwriaeth y DU sy'n berthnasol yn Lloegr, mewn modd a fydd yn gwneud busnes yng Nghymru yn fwy anodd ac yn llai deniadol?

18:15

Rwy'n credu fy mod i wedi clywed dau gwestiwn yn y cyfraniad yna. Mae un yn ymwneud â gweithredoedd y Senedd hon ynghylch pleidleisio i wrthod rhoi cydsyniad i'r Bil cytundeb ymadael. Hoffwn achub ar y cyfle unwaith eto i ddweud, gan ein bod ni'n mynd dros diriogaeth eithaf hen ar hyn o bryd, mai'r rheswm yr ataliodd y Cynulliad hwn ei gydsyniad oedd oherwydd bod y darpariaethau yn y Mesur, a argymhellwyd gan y Llywodraeth i'r Cynulliad, yn bygwth sefyllfa'r sefydliad hwn yn rhan o'r setliad datganoli. Nid oedd yn fater o beidio ag adlewyrchu ewyllys pobl Cymru. Mae pobl Cymru wedi pleidleisio ddwywaith i'r sefydliad hwn gael pwerau penodol, ac nid oedd y ddeddfwriaeth honno'n parchu'r rheini, a dyna pam yr ataliodd y Senedd ei chydsyniad.

O ran y cwestiwn o gyfochri dynamig, mae'n destun gofid i ni fel Llywodraeth nad yw Llywodraeth y DU wedi penderfynu ceisio sicrhau cyfochri dynamig, ond rydym ni wedi bod yn glir iawn nad ydym eisiau gweld safonau'n cael eu datganoli o ran safonau cymdeithasol ac amgylcheddol a llafur yr ydym wedi eu hystyried yn gaffaeliad yma yng Nghymru, ac felly'r union bwrpas o geisio cadw i fyny â'r rheoliadau yn y dyfodol yw parhau i allu mynegi ein gwerthoedd yma yng Nghymru er mwyn amddiffyn yr hawliau a'r safonau hynny yn y dyfodol. Hoffem fod mewn sefyllfa lle mae Llywodraeth y DU—fel pob Llywodraeth yn y DU—yn teimlo mai'r cytundeb gorau i'r DU yw sicrhau bod y safonau hynny'n cael eu cynnal yn y dyfodol. Yn sicr, dyna'r cytundeb gorau i fusnesau ledled y DU a gweithwyr ledled y DU, a'r rhai hynny ohonom sydd wedi mwynhau'r safonau hynny yn rhan o'n bywyd bob dydd, ond nid yw Llywodraeth y DU wedi'i hargyhoeddi o hynny, ac rwy'n credu bod hynny'n destun gofid.

A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma, ac rwy'n croesawu'r hyn y mae wedi ei ddweud. Mae'n amlwg yn bwysig ein bod yn awr yn mynd i'r afael â rhai o faterion deddfwriaethol Brexit, oherwydd mae pobl yn dal i gredu bod Brexit wedi ei wneud, ond rydym ni gyd yn gwybod nad yw Brexit wedi ei wneud eto. Mae llawer o bethau o'n blaenau, ac rydym ni'n wynebu cyfnod heriol.

Fe wnaethoch chi nodi yn eich datganiad y cwestiwn ynglŷn â Sewel a'r ffaith bod y tair deddfwrfa wedi dweud 'na' i'r Bil, ac fe amlygaf fy safbwynt i: pleidleisiais yn erbyn y Bil am ei fod mewn gwirionedd yn Fil gwael. Nid oedd yn rhoi'r hyn a ddylai fod wedi'i roi: hawliau pwyllgorau yn y sefydliad hwn i graffu ar weithredoedd y Llywodraeth yn y trafodaethau hyn yn y dyfodol rhwng yr UE a'r DU. Teimlaf fod hynny'n rhywbeth a ddylai fod wedi digwydd, ac fe'i tynnwyd allan gan Lywodraeth y DU, ac felly roeddwn i'n teimlo nad oedd y Bil, mewn gwirionedd, yn briodol ar gyfer y sefydliad hwn.

Ond fe wnaethoch chi nodi hefyd eich bod wedi danfon ymateb at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd—nad yw bellach yn Ysgrifennydd Gwladol dros Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, oherwydd mae hynny wedi mynd—ond hefyd Canghellor Dugiaeth Caerhirfryn, felly Stephen Barclay a Michael Gove. Ydych chi wedi cael ymateb gan yr un o'r ddau hynny i'ch llythyr? Oherwydd fe wnaethoch chi nodi eich bod yn cydnabod ei fod, fel y dywedason nhw, yn unigryw, yn benodol, yn arbennig. A ydyn nhw wedi cytuno â chi ei fod yn unigryw, yn benodol ac yn arbennig, ac felly na fyddai'n cael ei ailadrodd eto? Felly, byddai'n braf gwybod a ydych chi wedi cael ymateb.

Rydych chi'n sôn am fframweithiau cyffredin. A ydych chi'n dadansoddi cyfarwyddebau a deddfwriaeth gyfredol yr UE, a allai effeithio erbyn hyn ar y fframweithiau hynny? Ac, felly, pan fyddwch chi'n cynnal y trafodaethau, rydych chi'n mynd i sicrhau bod y fframweithiau cyffredin yn gallu adlewyrchu popeth yn iawn, yn enwedig o ran yr adolygiad rhynglywodraethol yr ydym ni'n dal i aros amdano; nid ydym ni'n gwybod beth mae hynny'n ei olygu, na pha effaith y bydd hynny'n ei chael ar y fframweithiau cyffredin. Hefyd, mewn ymateb i adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar fframweithiau cyffredin, dywedasoch na fyddech mewn sefyllfa i drafod materion polisi, oherwydd bod trafodaethau'n parhau o hyd, ac roeddech yn disgwyl, efallai—30 Mawrth oedd un o'r dyddiadau a roddwyd. Ble'r ydym ni ynghylch hynny, ac a allwn ni ddisgwyl ymateb erbyn 30 Mawrth, neu a oes mwy o oedi, oherwydd, fel y dywedasoch, rydym ni'n agosáu at 31 Rhagfyr po fwyaf yr awn ymlaen, ac ar 31 Rhagfyr, yn ôl Llywodraeth bresennol y DU, mae'r cyfnod pontio yn dod i ben gyda neu heb gytundeb? Ac mae hynny'n bryder mawr. Efallai eich bod wedi paratoi ar gyfer sefyllfa 'dim cytundeb' yn flaenorol. Efallai y bydd angen o hyd i chi baratoi ar gyfer sefyllfa 'dim cytundeb' ar 31 Rhagfyr hefyd.

Pa drafodaethau ydych chi wedi eu cael gyda Senedd Ewrop ar ddeddfwriaeth yr UE a fydd yn dod ger ei bron mewn gwirionedd, oherwydd rydych chi wedi sôn yn eich datganiad eich bod yn disgwyl i'r broses ddeddfu yn Senedd Ewrop fod yn hir? Byddwn yn tybio, felly, eu bod yn gwybod beth sy'n dod yn ystod y 12 mis nesaf. Felly, a ydych chi wedi cael trafodaethau gyda Senedd Ewrop i ddweud beth sy'n mynd i ddod ger eu bron yn y 12 mis nesaf? A oes pethau y dylem ni fod yn ymwybodol ohonyn nhw, ac y byddwn efallai yn dymuno eu hystyried yn y Siambr hon, oherwydd mae'n bwysig i ni fyfyrio ar hynny?

A beth am gyflwyno deddfwriaeth a fydd yn galw ar Lywodraethau Cymru yn y dyfodol i gyflwyno mewn gwirionedd y rhesymau pam nad ydyn nhw o bosibl eisiau cyflwyno unrhyw ddeddfwriaeth yr UE yng Nghymru gerbron y Cynulliad, neu'r Senedd, fel y bydd bryd hynny? Oherwydd rydych chi'n dweud ble y bydd neu na fydd, ond pryd y byddwn ni'n gwybod amdano? Pryd fyddwch chi'n dweud wrthym, fel aelodau o'r Senedd, ac yn dweud mewn gwirionedd, 'Wel, nid ydym ni'n credu bod y ddeddfwriaeth UE hon yn briodol i Gymru'? Ac a wnewch chi roi hynny ar waith i sicrhau y bydd Llywodraethau'r dyfodol yn gwneud yr un peth hefyd, fel na all unrhyw un yn y bôn anwybyddu'r hyn sy'n digwydd yn Ewrop a'n gadael ni heb gyfle i'w drafod ac ystyried pa un a yw'n briodol i Gymru ai peidio?

O ran yr offerynnau statudol, faint o waith sydd gennym ni i'w wneud o hyd? Mae'n anodd i chi—[Anhyglywadwy.] Byddai'n braf gwybod faint o waith sydd gennym o hyd i'w wneud oherwydd, fel y dywedodd Darren Millar, mae gennym raglen ddeddfwriaethol eithaf llawn rhwng yn awr a diwedd y Cynulliad hwn. Felly, faint sydd ar ôl, a faint ydych chi'n eu rhagweld o ganlyniad i'r cyfnod pontio, oherwydd mae'n debygol y bydd gennym ni gytundeb gwan, nid y cytundeb llawn y mae'r DU yn ei ddisgwyl? Rydym ni bellach yn gwybod beth yw safbwynt negodi'r UE; maen nhw wedi cadarnhau hynny heddiw, ac maen nhw wedi cadarnhau y byddan nhw'n cryfhau eu safbwynt o ran chwarae teg. Felly, gwyddom hefyd y bydd sefyllfa'r DU yn cael ei chadarnhau ddydd Iau. Felly, mae'n bwysig ein bod ni'n deall pa offerynnau statudol fydd ar waith, pa offerynnau statudol a allai fod ar waith o ganlyniad i gytundeb gwan, pa offerynnau statudol a allai fod yn angenrheidiol o ganlyniad i ddim cytundeb, ac felly ein bod yn gwybod y math o amserlenni yr ydym yn rhoi yn y sefydliad hwn.

Mae angen i ni wybod am y sefyllfa 'dim cytundeb' oherwydd rwy'n dal i ofni ei fod yn bosibilrwydd, a'r hyn y mae Sefydliad Masnach y Byd yn ei feddwl am hynny—. A ddoe, clywodd y pwyllgor dystiolaeth y gallai hynny fod yn drychinebus i ni pe byddem ni'n cyrraedd y cam hwnnw. Ac ni fydd cytundeb gwan yn dda iawn i ni, ond mae angen i ni baratoi a bod yn barod ar gyfer y rhain. Mae'r Bil mewnfudo, neu'r system pwyntiau mewnfudo newydd gael ei gyhoeddi. Bydd y Bil amaethyddiaeth yn mynd trwodd; mae pysgodfeydd yn dod trwodd. Rydym yn gwybod bod pysgodfeydd yn mynd i fod yn fater pwysig yn y trafodaethau hyn—mae'r Ffrancwyr eisoes wedi gwneud hynny'n gwbl glir. Felly, ble yr ydym ni'n paratoi yn ein proses ddeddfu, rhwng yn awr a diwedd y Cynulliad hwn, i sicrhau bod Cymru'n barod i wynebu'r math nesaf o berthynas a fydd gan y DU gyda'r UE?

18:20

Diolchaf i David Rees am yr ystod yna o gwestiynau pwysig. O ran cyfnewid gohebiaeth â Llywodraeth y DU, yn eu llythyrau ataf i, maen nhw wedi cyfeirio at yr amgylchiadau fel rhai unigryw, eithriadol. Felly, dyna iaith sydd wedi dod o ohebiaeth y maen nhw wedi ei hanfon atom ni, ac rwyf yn siŵr y byddai ef yn ymuno â mi i obeithio bod yr amgylchiadau hynny'n wirioneddol unigryw, fel y cânt eu disgrifio.

Gallaf ei sicrhau, yng nghyd-destun y ddeddfwriaeth sy'n cael ei hystyried yn ystod y cyfnod pontio, ein bod yn gwbl ymwybodol o'r datblygiadau yn hynny o beth. Roedd y pwynt yr oeddwn yn ei wneud am ddatblygiadau yn y dyfodol yn ymwneud â deddfwriaeth tymor hwy, felly, fel y bydd prosesau Senedd Ewrop, yn symud ymlaen, bydd hynny yn rhoi digon o amser i ni allu nodi os bydd unrhyw fylchau yn y dyfodol yn y pwerau y byddai eu hangen arnom i allu adlewyrchu'r cyfreithiau hynny yng nghyfraith Cymru a chymryd camau yn y Senedd i ddeddfu yn unol â'r gofynion hynny. Felly, mae honno'n amserlen ychydig yn hwy.

Cododd y cwestiwn ynghylch y fframweithiau cyffredin, ac yn bendant, ein bwriad yw ymateb i'r pwyllgor o fewn yr amserlen yr ydym wedi ei gosod gerbron y pwyllgor, sef diwedd mis Mawrth. Fel y crybwyllais yn fyr yn yr ymateb cynharach, cynhelir cyfarfodydd rheolaidd rhwng swyddogion ar draws pob Llywodraeth ar fater fframweithiau cyffredin, ac felly byddwn mewn sefyllfa i roi diweddariad o fewn y cyfnod hwnnw o amser.

O ran y mathau o faterion sydd o bosibl ddim yn rhan o'r cwmpas ar gyfer cadw'n gyfredol, pethau y gallem, am wn i, ddewis peidio â chadw'n gyfredol â nhw—mae deddfwriaeth yr UE, fel y gŵyr ef yn dda iawn, yn cwmpasu amrywiaeth o feysydd. Mae rhai ohonyn nhw yn ddaearyddol benodol, mae rhai ohonyn nhw wedi eu clymu mor agos at beirianwaith aelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd fel nad ydyn nhw'n briodol i ni, mae rhai deddfau Ewropeaidd yn darparu ystod o ffyrdd i'r aelod wladwriaethau eu hunain allu rhoi grym y gyfraith i'r cyfarwyddiadau hynny ac yn y blaen. Felly, mae amrywiaeth o sefyllfaoedd lle efallai na fydd cadw'n gyfredol yn berthnasol, os mynnwch chi, y bydd angen i ni gadw golwg arnyn nhw.

Mae gennyf rywfaint o gydymdeimlad ag ef ynghylch ei gwestiwn olaf. Mae'n gofyn braidd yn ddolefus faint o offerynnau statudol yr ydym ni'n eu hystyried. Nid wyf i mewn sefyllfa, yn anffodus, i ddweud wrthych chi heddiw beth yw'r nifer hwnnw. Bydd rhai ohonyn nhw yn ymwneud â gweithredu deddfwriaeth sy'n mynd drwy'r Senedd ar hyn o bryd, bydd rhai ohonyn nhw yn ymwneud â cywiro newidiadau sy'n codi o'r newid yn y dyddiad y bydd cyfraith yr UE yn peidio â bod yn gymwys, felly diwedd eleni. Bydd rhywfaint ohono'n ymwneud â gweithredu rhwymedigaethau ar sail barhaus drwy gydol y cyfnod pontio, a bydd rhywfaint ohono'n ymwneud â gweithredu canlyniadau unrhyw gytundebau gyda'r Undeb Ewropeaidd ac, yn wir, gyda trydydd gwledydd. A dim ond drwy ddisgrifio'r rhestr, rwy'n gwybod y byddwch chi'n gwerthfawrogi ei bod heddiw yn amhosibl meintioli gydag unrhyw fanylder beth fydd nifer y rheini. Ond yn sicr ceir sefyllfaoedd lle gallai hynny fod yn fwy na nifer yr offerynnau statudol y mae'n rhaid i ni eu deddfu er mwyn ystyried ymadawiad 'dim cytundeb', a gwn ei fod yn ymwybodol o'r dasg anferthol yr oedd hynny yn ei olygu.  

18:25

A gaf fi ychwanegu fy nghefnogaeth i'r Cwnsler Cyffredinol o ran yr agwedd y mae wedi ei mabwysiadu? Rwy'n credu ei bod yn deg i ddweud, er gwaethaf ein hanghytundebau achlysurol, bod Llywodraeth Cymru, wrth geisio cryfhau'r cyfansoddiad Prydeinig o dan ddatganoli, fel arfer yn diweddu yn y lle iawn. Rwyf weithiau'n cael dadleuon ynglŷn â sut y gwnaethoch chi gyrraedd yn y pen draw, ond rwy'n credu bod y gwaith yr ydych chi wedi'i wneud gyda chonfensiwn Sewel yn bwysig, o gofio ei fod yn amlwg wedi'i dorri, oherwydd nad oedd amgylchiadau normal. Ac nid wyf i erioed wedi meddwl bod y gair 'normal' yn ddefnyddiol iawn, ac o leiaf mae gennym iaith yn awr gan Lywodraeth y DU—'hynod' ac 'eithriadol', a chredaf i chi ddefnyddio ansoddair arall hefyd—sy'n ddefnyddiol yn fy marn i.

Ond yr hyn yr wyf i yn ei gefnogi yw ein bod yn symud i ryw fath o gonfensiwn ehangedig neu'n codeiddio rywsut o gwmpas y geirio a ddewisoch, o ran y byddai ddim ond yn cael ei wrthod o dan yr amgylchiadau mwyaf eithriadol. Rwyf i yn credu y byddai hynny'n ddisgrifiad gwell o'r sefyllfa yr ydym ni ynddi lle mae'n rhaid i ni gydnabod sofraniaeth y Senedd yn San Steffan, ond yn amlwg mae datganoli yn troi mewn i ffars lwyr os yw Sewel yn cael ei anwybyddu mewn modd mor ddidaro. Felly, rwy'n credu bod hynny'n bwysig.

Rwy'n credu eich bod yn iawn: nid yw'n ymddangos bod angen Bil Senedd i gadw'n gyfredol gyda deddfwriaeth yr UE yn y cyfnod pontio. Rwy'n gwbl fodlon y gallwch chi wneud hynny drwy'r gwahanol bwerau technegol sydd gennych a, pe byddai rhywbeth mawr yn codi, yna'r peth iawn i'w wneud yw cyflwyno Bil. Ni allaf weld unrhyw un yn anghytuno â hynny.

Os gwnewch chi ganiatáu'r goddefgarwch, Llywydd, hoffwn longyfarch fy nghyd-Aelod Darren Millar ar ei dröedigaeth neu ei addefiad nawr i ffederaliaeth. [Chwerthin.] Mae'n rhaid i mi ddweud ei bod wedi bod yn unig—[Torri ar draws.]—mae wedi bod yn unig—[Torri ar draws.] Rwy'n ymddiheuro, mae'n rhaid ei fod wedi sibrwd a wnes i ddim ei glywed. [Chwerthin.] Ond rwyf wrth fy modd i gael cynghreiriad mor nodedig. Rwy'n argymell i chi, Darren, ac yn wir i'r Cwnsler Cyffredinol, os nad ydych chi wedi ei ddarllen eisoes, mae fy e-lyfr ar gael yn y Sefydliad Materion Cymreig, The Reformed Union—. Nawr, ble clywsom ni'r ymadrodd hwnnw? Pwy wnaeth ddwyn hwnnw'n ddiweddarach? The Reformed Union: The UK as a Federation.

18:30

Wel, mae'r dyfyniadau ar Twitter o lyfr David Melding ar ddyfodol y cyfansoddiad wedi fy nghyffroi yn fawr, ac rwy'n ei gymeradwyo i bob aelod. O ran cadw'n gyfredol, byddwn yn dal i adolygu i weld a oes angen dwyn hynny ymlaen. Ein hasesiad ni heddiw yw nad oes angen hynny, ond byddwn yn cadw golwg ar hynny. Petai'r dadansoddiad hwnnw'n newid, yna gallai'r argymhelliad newid hefyd.

Yn fyr iawn, o ran confensiwn Sewel, credaf mai ei bwynt yw bod angen diwygio hyn, ac mae yna lwyfan o drafodaethau y mae'n rhaid inni adeiladu arno'n awr er mwyn diwygio hynny. Fel y crybwyllais yn fy natganiad, mae 'Diwygio ein Hundeb' yn amlinellu hynny'n fanwl. Ac, a minnau'n gyfreithiwr, rwy'n cael fy nenu i edrych ar y fformwleiddiadau mwy manwl gywir ar gyfer hynny, ond mae achos hefyd dros drafod a ddylem ni symud o 'ddim fel arfer' i 'ddim'.

9. Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Terfynau Rhagnodedig ar gyfer Taliadau Diffygdaliad) (Cymru) 2020

Felly, yr eitem nesaf yw Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Terfynau Rhagnodedig ar gyfer Taliadau Diffygdaliad) (Cymru) 2020. Rwy'n galw ar y Gweinidog tai i wneud y cynnig. Julie James. 

Cynnig NDM7273 Julie James

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o’r Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Terfynau Rhagnodedig ar gyfer Taliadau Diffygdaliad) (Cymru) 2020 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Ionawr 2020.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Llywydd. Dyma'r pedwerydd offeryn statudol i'w wneud o dan y Ddeddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019. Mae'r Ddeddf yn ei gwneud hi'n drosedd i landlord neu asiant gosod fynnu taliadau penodol yn gydnabyddiaeth am ganiatáu, adnewyddu neu barhau â chontract meddiannaeth safonol. Gwaherddir talu unrhyw arian oni chaniateir hynny o dan adran 4(1)(a) neu os yw'n daliad a ganiateir yn rhinwedd Atodlen 1 y Ddeddf.

Mae paragraff 6 o Atodlen 1 y Ddeddf yn disgrifio y caiff rheoliadau ragnodi terfyn ar ddiffygdaliad mewn cysylltiad â methiant deiliad y contract i dalu rhent erbyn y dyddiad dyledus a nodi unrhyw ddisgrifiad ychwanegol o ddiffygdaliad. Mewn achosion o'r fath pan fo deiliad y contract ar fai, mae'n bosib y bydd y landlord yn gofyn i ddeiliad y contract wneud diffygdaliad. Mae'r rheoliadau hyn yn pennu terfynau rhagnodedig ar gyfer mathau penodol o daliadau sy'n ofynnol mewn achos o ddiffygdaliad gan ddeiliad contract meddiannaeth safonol mewn cysylltiad â rhent hwyr a chost newid, ychwanegu neu dynnu clo ac amnewid allwedd neu ddyfais ddiogelwch arall. Yn dilyn ein hymgynghoriad cyhoeddus, roedd yn amlwg bod y rhain ymhlith y diffygdaliadau a godir amlaf ac, fel yr awgrymodd rhanddeiliaid wrth graffu ar y Bil, y rhai sydd fwyaf tebygol o gael eu camddefnyddio.

O ran rhent hwyr, penderfynir ar y terfyn a ragnodir drwy reoliad ar gyfradd llog sylfaenol Banc Lloegr yn ogystal â 3 y cant fel cyfradd ganrannol flynyddol, neu APR, ar y swm cyffredinol sy'n ddyledus, saith diwrnod ar ôl y diwrnod pan oedd y rhent yn ddyledus. Bydd hyn yn atal landlord neu asiant rhag codi taliadau rhy uchel am dalu rhent yn hwyr, sy'n gallu creu cylch o ddyled a thanseilio gallu deiliad y contract i gynnal y denantiaeth.

O ran y gost o newid, ychwanegu neu dynnu clo ac amnewid allwedd neu ddyfais ddiogelwch arall, bydd y rheoliadau'n sicrhau na fydd yn rhaid i landlordiaid dalu'r costau hyn pan fydd deiliad y contract ar fai a chodir tâl sy'n adlewyrchu'r gost wirioneddol yn unig ar ddeiliad y contract. Bwriadaf gadw golwg ar effaith y rheoliadau hyn ynghyd â'r Ddeddf yn gyffredinol; bydd hyn o gymorth wrth benderfynu a oes angen gosod terfynau ar ddiffygdaliadau eraill yn y dyfodol. Diolch.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Diolch. Nid oes gennyf unrhyw siaradwyr. Felly, y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

10. Cynnig i amrywio trefn ystyried gwelliannau Cyfnod 3 i'r Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru)

Eitem 10 yw cynnig i amrywio trefn ystyried gwelliannau Cyfnod 3 i'r Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru). Galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gynnig y cynnig. Vaughan Gething.

Cynnig NDM7272 Rebecca Evans

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36: 

Yn cytuno i waredu’r adrannau a’r atodlenni i’r Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) yng Nghyfnod 3 yn y drefn ganlynol:

a) Adrannau 2 - 12;

b) Atodlen 1;

c) Adrannau 13 - 21;

d) Atodlen 2;

e) Adrannau 22 - 25;

f) Atodlen 3;

g) Adrannau 26 - 28;

h) Adran 1;

i) Teitl hir.

Cynigiwyd y cynnig.

Cynnig yn ffurfiol.

Cynnig yn ffurfiol, diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

11. Dadl: Adolygiad Blynyddol Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar gyfer 2018-19

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Siân Gwenllian. 

Eitem 11 ar ein hagenda y prynhawn yma yw dadl ar adolygiad blynyddol 2018-19 o gydraddoldeb a hawliau dynol. Galwaf ar y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip i gynnig y cynnig. Jane Hutt.

Cynnig NDM7271 Rebecca Evans

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad blynyddol Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru, Adroddiad Effaith Cymru 2018-19.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Croesawaf y cyfle heddiw i gael dadl ar adroddiad blynyddol diweddaraf Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru, 'Adroddiad Effaith Cymru 2018-19'. Mae'r ddadl flynyddol ar waith eithriadol y comisiwn yma yng Nghymru bob amser yn rhoi cyfle i fyfyrio a thrafod sut mae Cymru yn perfformio o ran cydraddoldeb a hawliau dynol. Mae hefyd yn rhoi cyfle i ystyried beth arall y gellir ei wneud i hyrwyddo a gwella cydraddoldeb a hawliau dynol ymhellach. Dros y blynyddoedd, rwyf wedi cyfarfod yn rheolaidd â chadeirydd a phennaeth y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru, yn ogystal â'm cyd-Weinidogion, i drafod y sefyllfa o ran cydraddoldeb yng Nghymru ac i gryfhau ein hymrwymiad i weithio gyda'n gilydd i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau dwfn a hirsefydlog. 

Ers ei sefydlu yn 2007, mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu perthynas ragorol a gwerthfawr iawn â'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yma yng Nghymru. Ac, er bod gan y comisiwn gyfrifoldeb fel rheoleiddiwr, mae hefyd yn chwarae rhan amhrisiadwy y cyfaill beirniadol. Bydd y berthynas werthfawr hon yn arbennig o bwysig dros y tair blynedd nesaf, o ystyried faint o waith yr ydym eisiau ei gyflawni. Rydym yn ceisio cydweithio'n well â holl gymdeithas sifil Cymru o ran llawer o'r meysydd gwaith yr ydym yn ymdrin â nhw i ddiogelu a gwella cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru. Bydd y comisiwn yn ganolog i hyn.

Trof at 'Adroddiad Effaith Cymru 2018-19', sy'n dangos yn glir ehangder gwaith caled ac ymroddiad y comisiwn yng Nghymru i roi cydraddoldeb a hawliau dynol wrth galon bywyd yng Nghymru. Roedd eu gwaith yn ystod 2018-19 yn cynnwys yr adroddiad 'A yw Cymru'n Decach?', a oedd yn edrych ar bob agwedd ar fywyd yng Nghymru a gafwyd yn ffynhonnell werthfawr a hanfodol o dystiolaeth i'n helpu i sicrhau bod ein penderfyniadau yn gadarn a bod ein polisïau a'n gwasanaethau yn ystyried anghenion pobl ac yn hygyrch i bawb. Mae swyddogion ar draws Llywodraeth Cymru wedi bod yn defnyddio'r canfyddiadau, y dystiolaeth a'r argymhellion i lunio'r cynllun gweithredu a fydd yn cyd-fynd â'r gyfres derfynol o amcanion cydraddoldeb yng Nghynllun Cydraddoldeb Strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020 i 2024, a gaiff ei gyhoeddi ddiwedd mis Mawrth.

Ymgymerodd y comisiwn ag ymarfer helaeth i fonitro lefelau cydymffurfio â gofynion statudol dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus—PSED yn fyr—ac i gasglu tystiolaeth a gwybodaeth ynghylch pa waith a wnaed ar draws y gwahanol sectorau i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau allweddol. Yn dilyn yr ymarfer monitro, mae'r comisiwn wedi cyfarfod â mwyafrif prif weithredwyr y cyrff cyhoeddus a restrwyd i drafod eu canfyddiadau, a chynhyrchwyd briffiau sectoraidd o ganlyniad i'r canfyddiadau. Bwriedir i'r papurau briffio gael eu defnyddio i wella amcanion cydraddoldeb cyrff cyhoeddus a hefyd i lywio'r adolygiad o'r dyletswyddau, y mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo iddynt. Bydd yr adolygiad yn ystyried sut y gallwn ni wella'r dyletswyddau penodol i Gymru i'w gwneud hi'n ofynnol i gyrff cyhoeddus yng Nghymru gymryd camau i fynd i'r afael â gwahaniaethau o ran cyflogau a chyflogaeth, adrodd ar gynnydd a chyhoeddi data ar y bwlch cyflog.

Y llynedd, trefnodd y comisiwn a Llywodraeth Cymru ddigwyddiad symposiwm ar y cyd i gasglu syniadau am yr adolygiad er mwyn sicrhau ei fod yn cael yr effaith fwyaf posibl. Bydd y dull hwn yn helpu i sicrhau bod unrhyw newidiadau i'r PSED yn cyfrannu at waith ehangach Llywodraeth Cymru ar hybu a chryfhau cydraddoldeb a hawliau dynol. Dangosodd gwaith cyfreithiol y comisiwn sut y mae'r comisiwn yn gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl—er enghraifft, drwy helpu i egluro'r gyfraith er mwyn sicrhau bod tenantiaid anabl yn gallu gwneud addasiadau rhesymol i'w cartrefi, gan eu galluogi nhw i fyw'n annibynnol. Mae ei adroddiad ar anabledd a thai yn edrych ar y ddarpariaeth bresennol o dai hygyrch a hyblyg i bobl anabl ac yn gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru, ac mae hyn wedi helpu i lunio ein fframwaith newydd, 'Gweithredu ar Anabledd: yr Hawl i Fyw'n Annibynnol ', a lansiais fis Medi diwethaf. Mae'r fframwaith yn nodi sut yr ydym yn cyflawni ein rhwymedigaethau o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau, yr UNCRPD, ac mae hefyd yn tynnu sylw at swyddogaeth deddfwriaeth allweddol, gan gynnwys Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Mae'r model cymdeithasol o anabledd wrth wraidd Confensiwn y Cenhedloedd Unedig a'n fframwaith newydd ac ymrwymais i hyrwyddo'r model cymdeithasol drwy ein fframwaith newydd. Rydym yn gweithio'n ddiwyd i hyrwyddo'r model o fewn Llywodraeth Cymru ac yn ehangach.

Amlygodd waith y comisiwn ar aflonyddu yn y gweithle a'r ymchwiliad i aflonyddu hiliol mewn addysg uwch driniaeth annerbyniol na ddylid ac na ellir ei goddef yng Nghymru nac yn unman arall yn y byd. Yn y rhagair i adroddiad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, 'A yw Cymru'n Decach?', galwodd cyn Gomisiynydd Cymru June Milligan, yr wyf yn talu teyrnged iddi am ei hamser yn y swyddogaeth honno, ar Lywodraeth Cymru i droi'r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol yn ddeddf. Felly, fel y mae'r Aelodau yn llwyr ymwybodol, bwriad y Llywodraeth hon yw cychwyn y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol, gan ei gwneud hi'n ofynnol i gyrff cyhoeddus penodol ystyried yr anghydraddoldebau a achosir gan eu penderfyniadau strategol, ac mae'r comisiwn wedi bod o gymorth mawr wrth sicrhau, ar ôl dod i rym, fod y ddyletswydd yn cyflawni'r effaith a fwriadwyd.

Yn dilyn y refferendwm ar ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, roedd pedwar corff statudol y DU ar gyfer hawliau dynol a chydraddoldeb yn unedig yn eu hymrwymiad i ddiogelu a gwella safonau cydraddoldeb a hawliau dynol ledled y DU, gan bryderu'n arbennig am golli'r amddiffyniadau o fewn siarter hawliau sylfaenol yr UE a fyddai'n arwain at leihau hawliau, megis hawliau cyflogaeth, hawliau menywod, gwarchod iechyd a diogelwch ac ati. Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru gynnwys mwy o gytuniadau'r Cenhedloedd Unedig, gan gynnwys confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau pobl anabl, a deddfu, lle bo hynny'n bosibl, i wneud iawn am y bylchau o ran hawliau yn y gyfraith ddomestig o ganlyniad i golli siarter yr UE.

Roeddwn yn falch o gyhoeddi yn fy nghwestiynau llafar ar 28 Ionawr fod ymchwil wedi'i gomisiynu ar bosibiliadau ehangach i gryfhau a hybu cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru, a chynhelir yr ymchwil gan gonsortiwm dan arweiniad Prifysgol Abertawe. Ymhlith pethau eraill, bydd yr ymchwil yn ystyried y posibilrwydd o ymgorffori confensiynau'r Cenhedloedd Unedig yng nghyfraith Cymru a pha un a fyddai o bosib angen deddfwriaeth newydd, megis Bil hawliau dynol i Gymru. Bydd yn ystyried sut y byddai camau gweithredu o'r fath yn cydblethu â'r fframwaith presennol a ddarperir gan Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Bydd hefyd yn ystyried a fydd mwy o integreiddio yn cryfhau ac yn gwella'r broses o hybu cydraddoldeb. Disgwylir adroddiad ar yr ymchwil hwn erbyn diwedd y flwyddyn, 2020. Mae'r gwaith hwn yn cyd-fynd â'r gwelliant a gyflwynwyd i'r ddadl hon, y byddwn yn ei chefnogi.

I oruchwylio a darparu cyfeiriad strategol i'r gwaith hwn, rwyf wedi cynull grŵp llywio sy'n cynnwys rhanddeiliaid allweddol, yr wyf yn ei gadeirio. Mae'r grŵp hefyd yn goruchwylio'r broses o weithredu argymhellion cam 2 o'n hadolygiad cydraddoldeb rhywiol, a chychwyn y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol. Rwy'n falch o gael y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn aelodau o'r grŵp hwn.

Bu gwaith y comisiwn ar brentisiaethau a'r rhan y buont yn ei chwarae yn y grŵp gorchwyl a gorffen prentisiaethau cynhwysol o gymorth i siapio'r cynllun gweithredu i gynyddu faint o bobl anabl sy'n cymryd rhan mewn prentisiaethau yng Nghymru.

Wrth gwrs, mae meysydd gwaith eraill sydd yr un mor bwysig. Er gwaethaf llawer o newidiadau cadarnhaol yn y ffordd y mae pobl anabl, pobl LGBT+, menywod a chymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig yn cael eu trin, nid yw ein gwlad eto yn lle teg a mwy cyfartal i bawb. Mae gwaith y comisiwn wedi tynnu sylw at hyn, ac mae ei gyngor a'i argymhellion i ni a'r sector cyhoeddus ehangach wedi sbarduno a dylanwadu ar benderfyniadau polisi a chamau gweithredu parhaus i gyflawni ein gweledigaeth o Gymru fwy cyfartal. Mae mwy i'w wneud ac mae mwy y byddwn yn ei wneud. Diolch.

18:40

Diolch. Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig a galwaf ar Helen Mary Jones i gynnig y gwelliant hwnnw, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian.

Gwelliant 1—Siân Gwenllian

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu strategaeth gynhwysfawr ar gyfer diogelu hawliau dynol mewn ffordd gadarn ac ystyrlon nawr bod y DU wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o gynnig y gwelliant hwn, gan siarad yn lle fy nghydweithiwr Leanne Wood, nad yw'n gallu bod gyda ni y prynhawn yma. Hoffwn ddechrau drwy ddweud fy mod yn ddiolchgar iawn i'r Gweinidog am dderbyn ein gwelliant, a gyflwynwyd yn yr ysbryd o obaith y byddai'n gwneud hynny.

Rwyf eisiau ategu'r holl bethau cadarnhaol y mae'r Gweinidog wedi'u dweud am waith y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yma yng Nghymru. Fy nghred i yw eu bod yn gwneud llawer iawn o waith gydag adnoddau cymharol brin a gwn fod y gwaith hwnnw yn cael effaith, fel y mae'r Gweinidog wedi dweud, a gwn y bydd yn parhau i wneud hynny.

Fodd bynnag, hoffwn godi rhai pryderon, nid am y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, ond am yr amgylchedd y gallai fod yn gweithio ynddo. Gwyddom fod gan y Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan, sy'n gyfrifol am ariannu a rheoli'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, o dan ddeddfwriaeth y DU sy'n rheoli cyfraith cydraddoldeb yma yng Nghymru ar hyn o bryd, ymrwymiad hirdymor i ddiddymu a disodli'r ddeddfwriaeth hon. Fel y dywedodd y Gweinidog yn ei haraith, rwy'n pryderu'n fawr am yr hyn y gallai'r newid hwnnw ei olygu.

Mae hon yn Llywodraeth sydd ag ymrwymiad cryf i ddadreoleiddio—Llywodraeth yn San Steffan sydd ag ymrwymiad cryf i ddadreoleiddio—a gwyddom, oni wyddom, Dirprwy Lywydd, fod dadreoleiddio'n aml yn golygu dileu amddiffyniadau'r rhai mwyaf agored i niwed, boed hynny'n amddiffyniadau pobl sy'n gweithio mewn amgylcheddau peryglus o ran iechyd a diogelwch, neu, yn yr achos hwn, ai dyma'r amddiffyniadau, er enghraifft, i fenywod a merched i gael eu hawliau wedi'u diogelu yn y gwaith os oes angen iddynt gymryd absenoldeb mamolaeth.

Rwy'n falch iawn o glywed y Gweinidog yn dweud ei bod yn bwriadu, fel y dywedodd o'r blaen, gwneud y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol yn ddeddf a byddwn yn ddiolchgar pe byddai'n dweud wrthym y prynhawn yma o fewn pa fath o amserlen y mae hi'n bwriadu gwneud hyn. Oherwydd ein haeriad ar y meinciau hyn yw bod y traddodiad o gefnogaeth i hybu cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol, sydd wedi cael ei rannu, rwy'n credu, yn weddol eang ar draws sawl rhan o'r Cynulliad hwn, bellach o dan fygythiad gan yr amgylchedd sy'n newid yn San Steffan. Credaf fod angen inni wneud rhywfaint o'r gwaith y mae'r Gweinidog eisoes wedi'i amlinellu ar fyrder.

Roeddwn yn falch iawn o'i chlywed yn dweud yn gynharach ei bod wedi ymrwymo i'r ymchwil, sydd eisoes wedi'i grybwyll wrthym, i edrych ar ba fath o fframwaith cyfreithiol y bydd angen inni ei gael yma yng Nghymru i ddiogelu hawliau ein dinasyddion yn y dyfodol. Roeddwn hefyd yn falch o'i chlywed yn dweud bod y gwaith hwnnw'n cynnwys edrych ar y posibilrwydd o ymgorffori confensiynau'r Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Dynol yn fwy cyffredinol yng nghyfraith Cymru.

Teimlaf ei bod yn bryd, a chredwn ei bod yn bryd bellach, ystyried mynd ymhellach na hynny a cheisio datganoli cyfrifoldebau cydraddoldeb yn glir ac yn syml i'r Senedd hon, oherwydd fy nghred gadarn yw y byddwn yn gallu datblygu consensws ynghylch y math o agwedd at gydraddoldeb a hawliau dynol efallai na fydd yn bosibl ei chyflawni yn San Steffan. A'm pryder i yw y gall y gwaith cadarnhaol y mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn ei wneud yn awr fod yn amhosibl os ydynt yn gweithio mewn amgylchedd lle mae Llywodraeth y DU—yn gweithio ar lefel Prydain Fawr yn yr achos hwn, wrth gwrs, oherwydd bod y trefniadau yng Ngogledd Iwerddon yn wahanol—yn wrthwynebus i'w waith.

Efallai y bydd y Gweinidog yn cofio, gan fynd yn ôl yn bell iawn, iawn i'r 1980au a dechrau'r 1990au, y bu'n rhaid gwneud llawer o'r gwaith da a wnaethpwyd wedyn gan y Comisiwn Cyfle Cyfartal yng Nghymru, dan arweiniad ein diweddar gyd-Aelod Val Feld, er gwaethaf polisi canolog y Llywodraeth ganolog ar y pryd. Nid wyf yn credu y gallwn ddisgwyl i'n Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol weithredu felly 30 mlynedd yn ddiweddarach, gan wneud gwaith cadarnhaol fel—. Er enghraifft, bydd y Dirprwy Weinidog yn cofio creu Chwarae Teg, sy'n sefydliad pwysig iawn yng Nghymru nawr, y bu'n rhaid gwneud hynny er gwaethaf y Comisiwn Cyfle Cyfartal ar y pryd yn hytrach na gyda'i gefnogaeth yn ganolog.

Felly, byddwn yn gofyn i'r Gweinidog, yn ei hymateb i'r ddadl hon—ac ni fyddaf yn ailadrodd y pethau cadarnhaol y mae wedi'u dweud am y darnau penodol o waith y mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi'u gwneud eleni—i gyflymu'r gwaith hwn i ryw raddau, oherwydd teimlaf y gall yr amgylchedd newid yn gyflymach nag yr ydym yn ei ddisgwyl, ac efallai y cawn ragor o waith i'w wneud os nad ydym, er enghraifft, yn creu fframwaith deddfwriaethol ar gyfer Cymru i ddiogelu hawliau dynol ein cyd-ddinasyddion a hybu'r gymdeithas fwy cyfartal yr wyf yn gwybod bod y Dirprwy Weinidog—a chaiff ein cefnogaeth lawn—yn ceisio'i hybu.

Felly, nid wyf yn anghytuno o gwbl, Dirprwy Lywydd, gydag unrhyw beth y mae'r Gweinidog wedi'i ddweud—byddwn yn cefnogi'r cyfan—ond yr hyn yr wyf yn pryderu yn ei gylch yw'r amgylchedd hwnnw'n newid a'r angen i gyflymu'r gwaith hwn, fel nad ydym yn cael ein hunain, er enghraifft, â Chomisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru sydd wedi colli cymaint o adnoddau fel mai prin yw ei allu i wneud ei waith. Diolch yn fawr.  

18:45

Rwy'n falch o gael siarad yn y ddadl hon yn rhinwedd fy swyddogaeth yn Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau. Rwyf yn credu bod 'Adroddiad Effaith' y comisiwn yn rhestru ystod eang o weithgareddau ar draws bron pob maes cyfrifoldeb datganoledig, ac felly mae'n fater pwysig iawn i'w drafod yn hyn o beth. Wrth gwrs, mae'r comisiwn yn gweithredu fel ffynhonnell bwysig o arbenigedd, i'r Cynulliad ac, yn wir, i'r Llywodraeth.

Un o gyflawniadau mawr y cyfnod adrodd hwn oedd cyhoeddi 'A yw Cymru'n Decach?' yn 2018, ac rwy'n credu bod hwnnw'n adroddiad cynhwysfawr ac, yn wir, yn ddadlennol, sy'n nodi'r heriau a wynebwn wrth wneud Cymru'n fwy cyfartal a theg, a hefyd o ran y gyfres o 42 o argymhellion eang a allai helpu i sicrhau newid gwirioneddol a pharhaol pe bai'n cael ei weithredu.

Mewn gwirionedd, mae llawer o'r argymhellion hynny'n cyd-fynd â chanfyddiadau ein pwyllgor, ac yn arbennig hoffwn dynnu sylw at y rheini sy'n ymwneud â diogelu cydraddoldeb a hawliau dynol ar ôl Brexit: gwella casglu data ar ddigartrefedd; annog mwy o gyflogwyr yng Nghymru, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, i gynnig gweithio hyblyg o'r diwrnod cyntaf; mynd i'r afael â gwahaniaethu beichiogrwydd a mamolaeth; gwella dyletswyddau cydraddoldeb y sector cyhoeddus; sicrhau bod y Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 yn cael ei rhoi ar waith yn llawn; a lleihau rhwystrau i sicrhau bod yr ystod ehangaf o bobl yn cymryd rhan ym mywyd gwleidyddol Cymru.

Rydym ar hyn o bryd, fel pwyllgor, yn rhoi sylw i'r materion hyn yn ein gwaith craffu presennol—neu byddwn yn ceisio gwneud hynny yn ystod misoedd olaf y Cynulliad. A hoffwn, Dirprwy Lywydd, ofyn i'r Dirprwy Weinidog a wnaiff hi amlinellu a gaiff argymhelliad 25, sy'n galw ar Lywodraeth Cymru i bennu targedau cyraeddadwy a chyfrwymol ar gyfer lleihau tlodi ac adrodd ar gynnydd bob blwyddyn, ei weithredu; ac, os felly, pryd y caiff y targedau hyn eu gosod.

Gan symud ymlaen i feysydd eraill o waith y comisiwn dros gyfnod yr adroddiad, mae ein pwyllgor wedi elwa ar eu harbenigedd yn ein gwaith, yn benodol: pan roddodd dystiolaeth i'n hymchwiliad i rianta, cyflogaeth a mamolaeth ym mis Gorffennaf 2018; ac fel rhan o'n gwaith ar y cyd â'r pwyllgorau cyllid a phlant, pobl ifanc ac addysg ym mis Tachwedd 2018, pan fu inni edrych ar effeithiolrwydd asesiadau o effaith cyllideb Llywodraeth Cymru; a'u gwaith ar effaith gronnol diwygiadau treth a lles ar wariant cyhoeddus, a oedd yn ddefnyddiol iawn o ran ein hystyriaeth o'r posibilrwydd o ddatganoli'r budd-daliadau hynny.

Yn ogystal â hynny, dylanwadwyd yn uniongyrchol ar ein pwyllgor gan yr 'Adroddiad Effaith' a'i arwyddion o ran ehangder gwaith y comisiwn. Mae hynny, wrth gwrs—o ran ein dealltwriaeth a'n gwerthfawrogiad o'u gwaith—yn cynnwys yn bendant y ffordd y maen nhw wedi cefnogi achosion cyfreithiol unigol ar faterion pwysig, megis gallu cael addysg ac addasu cartrefi yn y sector rhentu. Ac, wrth gwrs, mae eu hadroddiad hefyd yn bwysig o ran amlygu eu nodau ar gyfer 2019 i 2022, y gallwn gytuno eu bod i gyd yn bwysig ac yn amcanion clodwiw: sicrhau nad yw cyfleoedd bywyd pobl yn cael eu llesteirio gan rwystrau; sicrhau bod gennym ni seiliau cadarn i adeiladu cymdeithas fwy cyfartal sy'n parchu hawliau; ac amddiffyn hawliau pobl yn y sefyllfaoedd mwyaf bregus.

Felly, o ystyried yr holl waith pwysig ac arwyddocaol hwnnw, Dirprwy Lywydd, edrychaf ymlaen at weld sut y caiff y nodau hyn eu cyflawni drwy waith y comisiwn yn y flwyddyn sydd i ddod. Ac, i gloi, hoffwn gymeradwyo'r 'Adroddiad Effaith' i'r Cynulliad a'r gwaith pwysig iawn y mae'r comisiwn yn parhau i'w wneud.

18:50

Fel y dywed yr 'Adroddiad Effaith Cymru' blynyddol hwn, amcanion y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yw:

sicrhau nad yw cyfleoedd bywyd pobl yn cael eu llesteirio gan rwystrau,

—mewn geiriau eraill, y model cymdeithasol—

sicrhau bod gennym seiliau cadarn i adeiladu cymdeithas fwy cyfartal ac sy'n parchu hawliau

ac i

amddiffyn hawliau pobl yn y sefyllfaoedd mwyaf bregus.

Mae'n cyfeirio at lansio eu hadroddiad 'Tai a phobl anabl: argyfwng cudd Cymru'. Cadeiriais gyfarfod o'r grŵp trawsbleidiol ar anabledd, lle y siaradodd y comisiwn am hyn. Mynegwyd pryder ganddynt ynghylch y canlynol: diffyg data sydd gan awdurdodau lleol am ofynion tai pobl anabl a gwybodaeth am y stoc y maen nhw yn ei chadw; pryder mai dim ond 55 y cant o awdurdodau lleol a ddywedodd eu bod yn cynnal asesiadau cydraddoldeb ac effaith ar eu cynlluniau datblygu lleol; ac roeddent yn briodol yn pwysleisio pwysigrwydd gwrando ar bobl anabl.

Canfu'r adroddiad fod prinder sylweddol o gartrefi hygyrch. Nid yw pobl anabl yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i fyw'n annibynnol. Nid oedd targed ar gyfer cartrefi hygyrch yn nharged 20,000 o dai fforddiadwy Llywodraeth Cymru erbyn 2021. Dim ond un o'r 22 o awdurdodau lleol sydd wedi gosod targed canrannol ar gyfer cartrefi hygyrch a fforddiadwy, a dim ond 15 y cant o awdurdodau lleol yng Nghymru a ddywedodd fod yr wybodaeth a oedd ganddynt am ofynion tai pobl anabl yn dda.

Drafftiwyd y confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol gan Gyngor Ewrop, nid yr Undeb Ewropeaidd. Fel llofnodwr, byddai'r DU yn torri cyfraith ryngwladol pe bai'n methu â pharchu'r hawliau yn y confensiwn. Mae maniffesto 2019 Ceidwadwyr y DU yn datgan y bydd Llywodraeth y DU

yn diweddaru'r Ddeddf Hawliau Dynol

a sefydlu

Comisiwn Cyfansoddiad, Democratiaeth a Hawliau a fydd yn archwilio'r materion hyn yn fanwl.

Rwy'n cymryd y bydd y comisiwn yn ymwneud â hyn. Mae hefyd yn nodi

y bu'r DU ar flaen y gad o ran rhyddid a hawliau dynol ers tro byd—a bydd yn parhau felly.

Mae'r 'Adroddiad Effaith' hwn yn cyfeirio at adroddiad y comisiwn yn 2019, 'A yw Cymru'n Decach?', ac mae'r comisiwn yn awyddus i Lywodraeth Cymru ddarparu tystiolaeth wirioneddol yn egluro'n fanwl sut y mae'n bwrw ymlaen â'i hargymhellion penodol. Gobeithiaf y bydd y Gweinidog yn ymateb i hynny.

Gan dynnu sylw at yr anawsterau y mae pobl anabl yn eu cael wrth ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, argymhellodd y dylai Trafnidiaeth Cymru weithio gyda Network Rail a'r contractwr rheilffyrdd KeolisAmey i wella hygyrchedd y seilwaith rheilffyrdd presennol ar draws Nghymru, ac y dylai darparwyr a rheoleiddwyr trafnidiaeth gyhoeddus ddarparu hyfforddiant i sicrhau bod gan bob aelod o staff yr wybodaeth a'r sgiliau i helpu i ddiwallu anghenion teithwyr anabl.

Er bod Llywodraeth Cymru wedi datgan ei bod yn ystyried ymgorffori mwy o hawliau dynol yn y gyfraith yng Nghymru, pleidleisiodd yn erbyn cynnig Darren Millar i ymgorffori egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer pobl hŷn yng nghyfraith Cymru. Felly, mae angen iddi nawr amlinellu ei chynigion penodol.

Clywaf yn rheolaidd gan bobl anabl y gwahaniaethwyd yn eu herbyn ac, felly, mae angen i'r comisiwn gefnogi achosion cyfreithiol strategol sy'n sefydlu cynsail cyfreithiol. Felly, croesawaf yr achosion a gefnogwyd gan y comisiwn a arweiniodd at ddyfarniad Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru bod ysgol yn y gogledd wedi gwahaniaethu ar sail anabledd yn anghyfreithlon—mae'n swnio'n union yr un fath ag achos yr oeddwn i yn gysylltiedig ag ef, yn ymwneud â disgybl awtistig—ac mewn dyfarniad clywsom fod yn rhaid i landlordiaid ganiatáu i lesddeiliaid anabl wneud newidiadau sy'n rhesymol ac yn angenrheidiol.

Rwyf wedi siarad o'r blaen yn y fan yma i gefnogi Bil arfaethedig i ymgorffori confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau pobl anabl yng nghyfraith Cymru, a gelwais ar Lywodraeth Cymru i weithredu i fynd i'r afael â methiant asiantaethau cyhoeddus i gyflawni eu dyletswyddau a'u cyfrifoldebau i bobl anabl, gan nodi bod Deddf Cydraddoldeb 2010 yn ei gwneud hi'n ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau feddwl ymlaen llaw a mynd i'r afael â rhwystrau sy'n llesteirio pobl anabl. Mae'r 'Adroddiad Effaith' hwn yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i adolygu dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yng Nghymru, yn unol ag argymhellion y comisiwn.

Rwyf am gloi felly drwy gyfeirio at ddim ond tair enghraifft ddiweddar ymhlith llawer lle mae hyn yn cael ei anwybyddu ar lawr gwlad: pryd dywedodd awdurdod addysg lleol wrth rieni merch ifanc na ddylai fynd i'w hysgol gynradd leol oherwydd eu bod nhw'n ystyried bod yr addasiadau ar gyfer ei chadair olwyn yn rhy ddrud heb ymgynghori â nhw—mae hynny'n gyfredol; pryd dywedodd yr ymgyrchydd Kim Edwards o Changing Places yn Sir y Fflint, 'Ar hyn o bryd, mae pobl sydd ag anableddau dwys yn cael eu cadw draw o'u trefi lleol am na ellir hyd yn oed ddiwallu eu hanghenion dynol sylfaenol, dim ond i ddefnyddio tŷ bach hyd yn oed'; a phryd methodd y gwasanaethau cymdeithasol â sefydlu a diwallu anghenion cyfathrebu a phrosesu plentyn awtistig pan fuont yn ei holi hi, a phenderfynu wedyn nad oedd hi mewn perygl o gael ei cham-drin gan ei thramgwyddwr—yn ffodus, gwelodd y llys drwy hyn yn gynharach y mis hwn.  

18:55

Roeddwn eisiau dechrau gyda hawliau plant, mewn gwirionedd, i siarad am hyn, oherwydd ceir diffygion difrifol o ran y sefyllfa yng Nghymru. Mae hon yn enghraifft bendant: pan fo plentyn mewn gofal yn honni ei fod yn cael ei gam-drin, ni fydd y plentyn yn cael eiriolwr fel y dylai—mae ganddo hawl i gael eiriolwr, fel y cadarnhawyd gan y comisiynydd plant yn ddiweddar; ni chaiff ei gludo i fan diogel—neu, efallai o dan rhai amgylchiadau ni chaiff ei gludo i fan diogel; ac mae'n bosib na fydd arbenigwr amddiffyn plant yn siarad ag ef. Felly, rydym yn trafod cydraddoldeb a hawliau ac ati yma heddiw, ond mae hyn yn digwydd ar hyn o bryd. Mae wedi digwydd, ac mae gwir angen mynd i'r afael ag ef. Mae'n gwbl annerbyniol bod pobl ifanc yn cael eu hamddifadu o'u hawliau ac nad oes neb yn gwrando ar eu llais.

Hoffwn siarad hefyd am y cynnydd sydd angen ei wneud o ran hawliau mamolaeth a hefyd hawliau tadolaeth i dadau. Rwy'n credu ein bod ni'n dal ymhell ar ei hôl hi o ran dynion yn dioddef achosion o gam-drin domestig, oherwydd gwryw yw un o bob tri dioddefwr erbyn hyn, ac mae diffyg darpariaeth enbyd mewn gwirionedd. Rwy'n cofio pan soniais am hyn gyntaf yma yn y Cynulliad, y dywedwyd wrthyf imi gael fy ffeithiau'n gywir—mae'n ddrwg gennyf, nid i gael fy ffeithiau'n gywir, ond i gael fy mlaenoriaethau'n gywir. Dyna'r gair—'blaenoriaethau'. A meddyliais, 'waw, rwyf i yma yn rhywun sydd wedi bod drwy hynny, mewn gwirionedd', flynyddoedd yn ôl ac nid oedd unman i fynd—nid oedd unman i droi. Ac rwy'n cofio, o'm profiad, yn dweud wrth bobl fy mod wedi dechrau cymryd rhan mewn bocsio coler wen, gan fy mod yn teimlo cywilydd oherwydd cyflwr fy wyneb. Rwy'n gweld unigolyn ar ôl unigolyn yn fy swyddfa a does dim llawer o gefnogaeth ar gael iddyn nhw.

Ym mis Rhagfyr, traddodais ddarlith ar gydraddoldeb ym Mhrifysgol Bradford—traddodais ddarlith goffa Rosa Parks. Roeddwn i wir yn credu ein bod ni flynyddoedd maith ar ei hôl hi yng Nghymru o ran cydraddoldeb. Mae gennym ni brifddinas amlddiwylliannol iawn, ond nid yw'n cael ei hadlewyrchu yn amgylchedd y Cynulliad hwn o ran staff proffesiynol. Rwy'n credu bod problem fawr. Mae naill ai'n hiliaeth anymwybodol neu efallai'n hiliaeth glyfar, ymwybodol mewn llawer rhan o'r gymdeithas yng Nghymru, ac wrth siarad â phobl groenliw yr un yw'r sgwrs, oherwydd pan fyddwn ni'n credu ein bod yn siarad yn bendant, rydym ni bob amser yn cael ein galw'n 'ymosodol'; pan fyddwn ni'n credu ein bod ni'n angerddol, rydym yn cael ein galw'n ddig; pan fyddwn ni'n ceisio gwneud y gorau gallwn ni, rydym ni'n cael ein galw'n lletchwith ac nid yn rhan o'r tîm. Ac yn ddiweddar, rwyf wedi cael llond bol, mewn gwirionedd, oherwydd bod llawer o'r merched croenliw huawdl, disglair a deallus yr wyf yn eu cyfarfod sy'n cael eu galw'n 'ddig' yn awtomatig am eu bod yn arddel eu personoliaeth eu hunain ac eisiau bod yn nhw eu hunain, ac maen nhw'n mynnu bod yn nhw eu hunain ac maen nhw'n achub eu cam eu hunain ac oherwydd hyn, maen nhw'n 'ddig' ac yn 'ymosodol'. Rwy'n credu bod llawer iawn o hiliaeth isymwybodol mewn cymdeithas y mae angen i ni, yn gyntaf oll, gyfaddef ei fod yn bodoli. Yr hyn oedd yn wych am y ddarlith a roddais: gofynnais y cwestiwn ar y dechrau, 'pwy sy'n rhagfarnllyd?', a chododd pawb eu dwylo. Gallwn fod wedi gofyn yr un cwestiwn hwnnw mewn llawer lle ac ni fyddai unrhyw ddwylo wedi codi o gwbl.

Rwyf eisiau gorffen, yn olaf, gyda dosbarth, oherwydd rwy'n credu mai'r anghydraddoldeb mwyaf sy'n ein hwynebu yw anghydraddoldeb dosbarth ac yn enwedig tai. Mae cymaint o bobl ifanc a phobl dosbarth gweithiol yn methu â phrynu eu heiddo eu hunain nawr, ac maen nhw'n talu swm aruthrol o arian mewn rhent i gynghorau ac i gymdeithasau tai ac mae eu teuluoedd yn colli'r arian hwnnw. Ond yn achos pobl dosbarth canol sy'n berchen ar eiddo neu sawl eiddo, yna bydd eu plant yn etifeddu'r rheini—etifeddiaeth o ecwiti—ac mae'r hyn a wnaeth y Cynulliad hwn wrth basio deddfau i atal pobl rhag gallu prynu tai cymdeithasol wedi atgyfnerthu anghydraddoldeb—[Torri ar draws.] Ie.

19:00

Mae hwnnw'n bwynt pwysig, ond y prif reswm dros hyn yw diffyg cyflenwad tai—dyna sydd wedi cynyddu prisiau tai a chynnal rhan o gymdeithas sydd â diddordeb mewn gweld prisiau tai'n aros yn uchel. Ac mae'n rhaid i mi ddweud mai'r sawl sy'n dadlau'n gyson yn erbyn rhagor o adeiladu tai yn y Siambr hon yw chi.

Na, rydych chi'n anghywir yn y fan yna. Yr hyn yr wyf i'n dadlau'n gyson yn ei erbyn yw adeiladu ar safleoedd tir glas. Er enghraifft, ar hyn o bryd yng Nghaerdydd, mae 1,300 o eiddo gwag yn sefyll, heb eu defnyddio. Dylid eu hadnewyddu a dylem roi pobl yn ôl ynddyn nhw. Yr hyn yr wyf i'n sôn amdano mewn gwirionedd yw anallu pobl i gynilo i gael blaendal enfawr a phrynu eiddo. Mae'n atgyfnerthu anghydraddoldeb. A hyd nes ein bod yn galluogi pobl i brynu eu tai eu hunain a galluogi pobl i fod yn annibynnol yn eu bywydau eu hunain yn y ffordd yna—gan fynnu eu sofraniaeth bersonol eu hunain—yna ni fyddwn yn mynd i'r afael â'r broblem o anghydraddoldeb dosbarth mewn gwirionedd. Diolch.

A gaf i, cyn imi ddechrau, ddweud mor falch yr wyf o wasanaethu ar y pwyllgor dan stiwardiaeth John Griffiths? Rwy'n cytuno â llawer o'r sylwadau a wnaeth o ran y dystiolaeth amrywiol yr ydym wedi'i gweld mewn amryw o ymchwiliadau yn y cyfnod yr wyf wedi bod ar y pwyllgor a chyn hynny hefyd. Ac rwy'n croesawu'n fawr ddatganiad y Gweinidog mewn ymateb i adroddiad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol a'r gwaith y mae'r comisiwn yn ei wneud. Rwy'n credu bod ein gwlad ni yn sicr wedi arwain y ffordd. Mae wedi adeiladu ar y cynnydd da iawn a wnaed gennym yn ystod y degawd diwethaf a mwy ar sail y DU, ond mae wedi torri ei chwys ei hun o ran cydraddoldeb a hawliau dynol hefyd.

Ond rwyf eisiau canolbwyntio ar un maes yn unig, oherwydd heddiw rwyf wedi bod yn cnoi cil dros adroddiad sy'n ymdrin ag un maes penodol o anghydraddoldeb, sef y maes sy'n ymwneud ag anghydraddoldeb iechyd. Rwy'n credu nad oes unrhyw beth yn fwy trawiadol na'r wybodaeth y bydd y lle y cewch eich geni, y sefyllfa a'r amgylchiadau y ganwyd chi iddyn nhw, yn effeithio'n sylweddol ar hyd eich bywyd ac ansawdd y bywyd hwnnw. Mae adroddiad Marmot wedi cael ei gyflwyno yn ystod y diwrnodau diwethaf—adroddiad awdurdodol iawn. Mae'r Llywodraeth ei hun wedi croesawu'r adroddiad, ond rwy'n credu y bydd yn cael anhawster wrth ymdrin â rhai o'i gasgliadau. Rwyf wedi bod yn edrych serch hynny, Dirprwy Lywydd, drwy rai o'r siartiau, oherwydd mae'n fy helpu'n aml iawn pan fyddaf yn edrych ar rywfaint o'r dystiolaeth ddarluniadol sydd o'n blaenau, pan welwn y siartiau sy'n dangos bod disgwyliad oes yn gostwng nawr ymhlith y bobl dlotaf mewn rhai rhanbarthau yn Lloegr. Gyda llaw, mae'n dweud bod goblygiadau yng Nghymru hefyd, a dof at hynny yn y man.

Yn ystod y degawd diwethaf, roedd traean o blant Lloegr yn byw mewn tlodi am dair blynedd yn olynol, ac mae'r niferoedd hynny'n codi. Os edrychwn ni ar rai o'r rhai allweddol eraill, yr wyf wedi'u hargraffu heddiw, dechreuodd y cynnydd mewn disgwyliad oes adeg geni yn Lloegr arafu ar ôl 2010, a rhagwelir y bydd hyn yn parhau. Erbyn hyn mae gan y DU gyfran uwch o blant yn byw mewn tlodi na Gwlad Pwyl, Iwerddon a chyfartaledd yr OECD, ac os yw'r Aelodau eisiau gwybod beth yw cyfartaledd yr OECD, mae 13.1 y cant yn byw mewn tlodi, ac yn y DU, mae'n 17.5 y cant erbyn hyn. Mae'r holl ddangosyddion yn Lloegr yn mynd i'r cyfeiriad anghywir, ond maen nhw'n mynd i'r cyfeiriad anghywir ar draws Lloegr hefyd. Felly, sut wnaethom ni gyrraedd y sefyllfa hon? A chyda llaw, mae'r cwbl yn pwyntio i fan gadael penodol pan ddechreuodd pethau fynd o chwith.

Wel, yr hyn a welwn yn awr yw bod disgwyliad oes bellach wedi bod yr un fath yn y DU am y tro cyntaf ers dros gant o flynyddoedd, ac mae wedi lleihau i rai grwpiau, gan gynnwys lleiafrifoedd ethnig, a hefyd y menywod mwyaf difreintiedig mewn cymdeithas. Mae'r adroddiad a gyhoeddwyd, adroddiad Marmot, sy'n awdurdodol, y bu arbenigwyr yn gweithio arno ac sy'n eang ei gwmpas ac yn fanwl yn ei ymchwil arbenigol, wedi priodoli hynny yn bennaf i effaith toriadau sydd wedi dod yn uniongyrchol o bolisïau cyni. Nid fi sy'n dweud hyn—yr adroddiad sy'n dweud hyn. Yn wir, dywedodd Marmot, sef Cyfarwyddwr Sefydliad Ecwiti Iechyd yr UCL, a dyfynnaf yn uniongyrchol:

'Mae'r DU'—yn flaenorol—

'wedi cael ei gweld fel arweinydd byd o ran adnabod a mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd ond mae rhywbeth syfrdanol yn digwydd. Mae'r adroddiad hwn yn ymwneud â Lloegr, ond yn yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon, mae'r niwed i iechyd a lles yn agos at fod yn ddigynsail hefyd.'

Ac mae'n mynd ymlaen i ddweud bod

'cyni wedi cael effaith sylweddol ar degwch ac ar iechyd, ac mae'n debygol o barhau i wneud hynny'.

Mae'n gyfrifol am y disgwyliad oes yn aros yn ei unfan, am iechyd pobl yn dirywio ac am anghydraddoldeb iechyd yn lledu. Ac os caf fynd ychydig ymhellach, mewn rhagair i'r adroddiad dywed Marmot,

'O dlodi plant sy'n cynyddu a chau canolfannau plant'—

Cofiwch ei fod yn siarad am Loegr, ond mae effaith cyni wedi cyrraedd yn bell, oherwydd dywed ei fod hefyd yn berthnasol i Gymru a'r Alban hefyd.

'O dlodi plant sy'n cynyddu a chau canolfannau plant, i ddirywiad mewn cyllid addysg, cynnydd mewn gwaith ansicr a chontractau dim oriau, i argyfwng o ran fforddiadwyedd tai a chynnydd mewn digartrefedd, i bobl heb ddigon o arian i fyw bywyd iach ac sy'n troi at fanciau bwyd yn eu niferoedd, i gymunedau sy'n cael eu hanwybyddu ac mewn cyflwr gwael gydag ychydig iawn o resymau dros fod yn obeithiol.'

Bydd cyni, meddai,

'yn bwrw cysgod sylweddol dros fywydau plant a anwyd ac a gaiff eu magu dan ei effeithiau.'

Mae'n ei ddisgrifio fel 10 mlynedd goll, a bydd y genhedlaeth sydd wedi mynd drwy'r 10 mlynedd hynny'n ysgwyddo baich y 10 mlynedd goll hynny, y plant sy'n cael eu geni ynddi.

19:05

Diolch. A gaf i nawr alw ar y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip i ymateb i'r ddadl? Jane Hutt.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i Aelodau'r Cynulliad am eu cyfraniadau o bob rhan o'r Siambr, a hoffwn hefyd fanteisio ar y cyfle i ddiolch i bwyllgor Cymru y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, a chredaf fod llawer o'r aelodau yma heddiw. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Helen Mary Jones am ei phwyntiau perthnasol iawn am yr heriau a wynebwn, ac yn gwbl briodol am gydnabod gwaith y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn ein holi ynghylch sut yr ydym yn cyflawni ac yn mynd i'r afael â'r heriau hynny, a gweithio gyda'r comisiwn o ran y cyfleoedd.

Wrth gwrs, y cyfle yr ydym ni wedi'i gymryd yw gwneud y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol yn ddeddf. Fel y dywedais, yn amlwg roedd galw am hyn yn 'A yw Cymru'n Decach?' a bydd yn berthnasol i gyrff cyhoeddus, cymwys, perthnasol, a bydd hynny'n cynnwys, wrth gwrs, Gweinidogion Cymru, byrddau iechyd lleol, ymddiriedolaethau'r GIG, awdurdodau iechyd arbennig Cymru, awdurdodau lleol, gwasanaethau tân a gwasanaethau achub, Awdurdod Cyllid Cymru ac awdurdodau parciau cenedlaethol—felly, cyrff cyhoeddus allweddol o dan Ddeddf 2010. Ac rydym yn bwriadu iddi ddod i rym ar 1 Ebrill 2020. Rydym wedi cael yr ymgynghoriad, a lansiwyd y llynedd, ac fe gawsom ni amrywiaeth eang o safbwyntiau gan Aelodau'r cyhoedd o'r digwyddiadau a gynhaliwyd gennym, ac roedd yr adborth yn gadarnhaol ar y cyfan o ran croesawu'r ddyletswydd.

Ond, fel y soniais ynghylch y dull cyd-gynhyrchiol o lunio polisïau, rydym yn mynd i ymgysylltu â phartneriaid o ran datblygu'r canllawiau er mwyn sicrhau bod y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol yn gweithio i gyrff cyhoeddus y mae'n berthnasol iddynt, ac yn cyflawni ar gyfer pobl Cymru. Wrth gwrs, byddwn yn ceisio hynny, a bydd yn mynd i'r afael â llawer o'r pwyntiau a wnaed gan Aelodau ynghylch mynd i'r afael ag anghydraddoldeb economaidd-gymdeithasol.

Wrth gwrs, galwyd sawl gwaith yn ystod y blynyddoedd diwethaf ar i Lywodraeth Cymru gymryd camau deddfwriaethol i gryfhau a hybu cydraddoldeb a hawliau dynol yma yng Nghymru, ac mae dechrau'r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn mynd i sicrhau ein bod yn ystyried effaith penderfyniadau strategol ar y bobl a'r grwpiau tlotaf yng Nghymru. Ond yn amlwg, mae adolygu'r dyletswyddau sy'n benodol i'r Gymru o dan ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn hanfodol er mwyn sicrhau eu bod yn gyfredol, yn gymesur ac yn effeithiol, a diolchaf i Mark Isherwood am roi enghreifftiau pendant er mwyn i gyrff cyhoeddus ac, wrth gwrs, y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, wrth wrando ar hyn, weld ble yn wir mae angen i ni gynnal adolygiad trwyadl o'r PSED a sut yr ydym yn cyflawni hynny.

Wrth gwrs, rydym yn gweithio'n agos gyda'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i adolygu monitro a gwella'r trefniadau adrodd fel bod adroddiadau data cydraddoldeb gan gyrff cyhoeddus Cymru yn hawdd eu canfod a'u deall. Mae'n amlwg iawn os ydym yn mynd i ddatblygu a chreu cymdeithas decach lle caiff amrywiaeth ei gwerthfawrogi a'i pharchu, lle nad yw pobl yn wynebu gwahaniaethu a rhagfarn, cymdeithas lle gall pobl gymryd rhan, ffynnu a chael cyfle i gyflawni eu hamcanion—. Felly, byddwn, yn amlwg, yn bwrw ymlaen â hynny o ran ein cyfrifoldebau gyda'n hamcanion cydraddoldeb ar gyfer y pedair blynedd nesaf.

Rwy'n ddiolchgar i John Griffiths am eich pwyntiau hefyd o ran ymateb i 'A yw Cymru'n Decach?' ac am y gwaith gwerthfawr yr ydych yn ei wneud wrth arwain eich pwyllgor. Ac, wrth gwrs, rydych chi'n hollol iawn o ran mynd i'r afael â thlodi, a bydd yr alwad honno am fynd i'r afael â'r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol yn un rhan o'r ymateb i hynny. Ond nid yw Llywodraeth Cymru yn meddu ar yr holl ddulliau ysgogi sydd eu hangen i wneud y gwahaniaeth hwnnw i'r prif ffigur ar gyfer tlodi yng Nghymru, ac mae'n rhaid i ni gydnabod ymchwil y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i effaith diwygiadau treth a lles Llywodraeth y DU. Fe wnaethoch chi sôn am effaith gronnol diwygiadau treth a lles, a'r ffaith bod aelwydydd anabl a'r rhai sydd â phlant mewn perygl arbennig. Felly, mae'r gwaith yr ydym yn ei wneud i fynd i'r afael â hyn yn hollbwysig, nid yn unig o ran y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol, ond yn enwedig o ran gallu defnyddio trafnidiaeth a gorfodi'r gyfraith, a dyna lle, wrth gwrs, mae ein fframwaith, 'Gweithredu ar Anabledd: Yr Hawl i Fyw'n Annibynnol' mor bwysig.

Felly, rwy'n credu, hefyd, dim ond o ran ymateb i'n cyfrifoldebau, roeddwn yn falch iawn o ddod gerbron y pwyllgor er mwyn iddo gael craffu ar ein cynnydd gyda'r ddeddfwriaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, a'r cynnydd yr ydym yn ei wneud o ran cyflawni, pum mlynedd ers rhoi'r ddeddfwriaeth arloesol honno ar waith, ac rydym yn cynnal digwyddiad yn y gogledd i ddatblygu strategaeth ar gyfer y pum mlynedd nesaf. Canfu Swyddfa Archwilio Cymru fod y Ddeddf yn gweddnewid gwasanaethau, ac mae tystiolaeth o gydweithio da mewn rhannau o Gymru. Ond mae hefyd yn ymwneud ag atal a sicrhau ein bod yn gweithio nid yn unig o ran y tramgwyddwyr, ond gydag addysg, gyda phlant a phobl ifanc.

Hoffwn ddiolch i Huw Irranca am siarad am bwysigrwydd mynd i'r afael ag anghydraddoldeb iechyd hefyd. Wrth gwrs, gan gydnabod gwaith arloesol ac ysbrydoledig yr Athro Marmot, mae'n amlwg mai'r anghydraddoldebau iechyd yw'r rhai y mae angen i ni fynd i'r afael â nhw.

Ynghylch diffygion data, diolch, Mark, am grybwyll hynny hefyd. Mae diffygion amlwg yn y data yng Nghymru sy'n ei gwneud hi'n anodd deall profiadau pobl sy'n rhannu'r holl nodweddion gwarchodedig, ond yfory byddaf yn cyfarfod â'r dirprwy ystadegydd gwladol i drafod y cyfrifiad a'r ffyrdd inni edrych ar yr ystadegau a gweithio, yn wir, gyda Llywodraeth y DU i archwilio a ellir goresgyn cyfyngiadau drwy gysylltu data.

Mae gweithredu ar y fframwaith anabledd yn flaenoriaeth gwbl allweddol i Lywodraeth Cymru, gan ddefnyddio'r model cymdeithasol o anabledd ac ymgysylltu, fel rydym eisoes yn ei wneud o ran mynediad ac anghydraddoldeb mewn cysylltiad â thrafnidiaeth.

Hoffwn gloi drwy gydnabod bod y sefyllfa o ran cydraddoldeb a hawliau dynol dros y misoedd a'r blynyddoedd nesaf yn heriol. Mae presenoldeb ac ymroddiad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i weithio gyda ni ar yr agenda hon yn hanfodol. Mae'n amlwg bod gennym ni gyfleoedd i gryfhau ein penderfyniad, i geisio'r canlyniadau cadarnhaol a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau'r bobl yr ydym yn eu gwasanaethu yn ein gwlad amrywiol iawn.    

19:15

Diolch. Y cynnig yw derbyn gwelliant 1. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly gohiriwn y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Bwriadaf symud yn awr i'r cyfnod pleidleisio, oni bai bod tri aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu. Na. Iawn, felly.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

12. Cyfnod Pleidleisio

Byddwn yn pleidleisio ar y ddadl ar adolygiad blynyddol cydraddoldeb a hawliau dynol ar gyfer 2018-19. Galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 32, 10 yn ymatal, 1 yn erbyn. Felly, derbynnir y gwelliant.

NDM7271 - Gwelliant 1: O blaid: 32, Yn erbyn: 1, Ymatal: 10

Derbyniwyd y gwelliant

Galwaf yn awr am bleidlais ar y cynnig fel y'i diwygiwyd, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans.

Cynnig NDM7271 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi adroddiad blynyddol Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru, Adroddiad Effaith Cymru 2018-19.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu strategaeth gynhwysfawr ar gyfer diogelu hawliau dynol mewn ffordd gadarn ac ystyrlon nawr bod y DU wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig fel y'i diwygiwyd 43, 1 yn ymatal, 1 yn erbyn. Felly, derbynnir y cynnig fel y'i diwygiwyd.

Cynnig NDM7271 fel y'i diwygiwyd: O blaid: 43, Yn erbyn: 1, Ymatal: 1

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Daeth y cyfarfod i ben am 19:17.