Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Plenary - Fifth Senedd
29/01/2020Cynnwys
Contents
Cyfarfu'r Cynulliad am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Galw'r Aelodau i drefn.
Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw'r cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig. Ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Mark Isherwood.
1. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am strategaeth tlodi tanwydd Llywodraeth Cymru? OAQ54981

Rwy'n disgwyl i'r cynllun newydd ar gyfer trechu tlodi tanwydd yng Nghymru gael ei gyhoeddi ar gyfer ymgynghori ym mis Chwefror. Bydd yn cael ei lywio gan yr adolygiad tirwedd ar dlodi tanwydd a gyhoeddwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru ar 3 Hydref.
Diolch. Fel y gwyddoch, roeddem yn edrych ymlaen at gyhoeddi ymgynghoriad y strategaeth tlodi tanwydd y mis hwn, a'r cynllun terfynol y mis nesaf. Yr wythnos diwethaf, rhoddodd y Gymdeithas Landlordiaid Preswyl dystiolaeth i ymchwiliad Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig y Cynulliad i dlodi tanwydd, gan alw, dyfynnaf, 'am ddull mwy cyfannol', gan ddweud mai eiddo yn rhai o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig yn unig y mae’r strategaeth gyfredol wedi mynd i'r afael â hwy hyd yn hyn, a bod llawer o feddianwyr sy'n dlawd o ran tanwydd yn byw mewn cartrefi mewn ardaloedd mwy cyfoethog hefyd. Ac ymhlith galwadau eraill, fe wnaethant alw am dargedu’r cartrefi lleiaf effeithlon o ran tanwydd yn gyntaf, megis eiddo â sgôr effeithlonrwydd ynni isel, gan gynnwys y rheini yn y sector rhentu preifat, a chymorth i denantiaid.
Fis Hydref y llynedd, canfu adroddiad Sefydliad Bevan yn y maes hwn mai'r aelwydydd cyfoethocaf sy’n elwa fwyaf o'r strategaeth tlodi tanwydd gyfredol neu strategaethau tlodi tanwydd blaenorol, lle roedd nifer yr aelwydydd cyfoethocach mewn tlodi tanwydd wedi gostwng 75 y cant, ond 25 y cant yn unig ymhlith yr aelwydydd tlotaf, ac roeddent yn dweud bod hynny'n arwydd pam fod Llywodraeth Cymru wedi methu cyrraedd ei tharged i drechu tlodi tanwydd.
Er y gostyngiad cyffredinol yn nifer yr eiddo mewn tlodi tanwydd, mae hyn yn dangos efallai fod angen ffocws newydd penodol. Sut y bydd eich strategaeth newydd yn mynd i'r afael â'r pryderon hyn, a phryd y disgwyliwch i'r cynllun gael ei gyhoeddi?
Credaf eich bod yn llygad eich lle: mae angen i ni sicrhau ein bod yn mynd i'r afael â'r cartrefi mwyaf difreintiedig yn gyntaf, yn fy marn i, ac yn sicr, pe bai gennym fwy o arian, gallem ei ledaenu'n llawer ehangach. Rydym wedi gwneud cynnydd gwirioneddol dros y 10, 11 mlynedd diwethaf, ac rydym wedi gwella effeithlonrwydd ynni mewn mwy na 50,000 o gartrefi, ac rydym hefyd wedi gallu cefnogi dros 129,000 o bobl, ond mae gormod o lawer o bobl yn dal i fyw mewn tlodi tanwydd yng Nghymru.
Yn amlwg, fel rhan o'r strategaeth newydd, gallwn edrych ar gael y ffocws newydd hwnnw, a buaswn yn falch iawn o gael unrhyw dystiolaeth a roddwyd, ac rwy'n ymwybodol iawn o adroddiad y pwyllgor newid hinsawdd ar dlodi tanwydd, ac maent yn casglu tystiolaeth lafar ar hyn o bryd. Ac er y bydd eu hadroddiad yn cael ei gyhoeddi'n rhy hwyr yn ôl pob tebyg i gael effaith ar y strategaeth y byddwn yn ei chyhoeddi fis nesaf, rwy'n siŵr y bydd yn ein helpu wrth i ni fwrw ymlaen â'r polisi.
Rwy'n siŵr, Weinidog, y byddech yn cytuno â mi mai un elfen allweddol o drechu tlodi tanwydd yw sicrhau bod pobl yn gallu cael y cyngor cywir i newid defnyddwyr, o bosibl—rhywbeth y mae pobl hŷn, yn enwedig, yn ei chael hi'n anodd ei wneud—a hefyd i weld pa gynlluniau grant, pa gymorth a allai fod ar gael. Fe fyddwch yn ymwybodol y bydd Llywodraeth Cymru, yn y flwyddyn ariannol newydd, yn gwneud newidiadau eithaf sylweddol i'r gwasanaethau cynghori, strwythurau'r gwasanaethau cynghori y maent yn eu hariannu, a tybed a fyddech cystal â siarad â’r Gweinidogion perthnasol ynglŷn â’r newidiadau arfaethedig hynny er mwyn sicrhau bod pobl, yn enwedig y rheini yn ein cymunedau tlotaf, ac yn enwedig dinasyddion oedrannus, yn gallu cael mynediad at gyngor amserol, a chyngor yn eu cymunedau eu hunain, ac wrth gwrs, lle bo hynny'n briodol, drwy gyfrwng y Gymraeg.
Yn sicr, ac rwy'n fwy na pharod i gael y trafodaethau hynny gyda fy nghyd-Aelodau perthnasol. Credaf ei fod hefyd yn rhywbeth y mae angen i ni edrych arno yn ein gwasanaeth ynni, gan na chredaf fod pobl yn tueddu i newid defnyddwyr. Os meddyliaf am fy hun, mae'n debyg y dylwn wneud hynny; dylem wneud hynny’n rheolaidd yn fy marn i, ac yn sicr, dylem edrych ar yr arbedion y gellid eu gwneud. Ond nid oes gan lawer ohonom amser i wneud hynny; nid yw rhai pobl yn gwybod sut i wneud hynny. Rydych wedi cyfeirio at bobl oedrannus; ni chredaf y byddent yn gwybod i ble y dylent fynd am y cyngor hwnnw. Felly, credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn edrych ar yr hyn y mae gwasanaethau cynghori’n ei wneud yn y maes hwn. Felly, ydw, rwy’n fwy na pharod i gael y trafodaethau hynny.
Weinidog, y ffigurau a ddyfynnwyd gennych yn gynharach—129,000 o bobl yn cael cymorth, 50,000 o gartrefi—yn newyddion da ledled Cymru. Ond wrth gwrs, roedd y rhaglenni hynny'n seiliedig yn aml iawn ar warant a gynigiwyd gan yr Asiantaeth Gwarantau Inswleiddio Waliau Dwbl. Nawr, pan fo rhywbeth wedi mynd o’i le gyda’r datblygwyr hynny—naill ai rydym wedi cael datblygwr amheus, neu rydym wedi cael deunyddiau diffygiol, ac o ganlyniad, mae'r cartrefi wedi cael trafferth â lleithder ac yn broblemus—mae'n bwysig, felly, y gallant ddibynnu ar y warant honno i sicrhau bod y camgymeriadau hynny'n cael eu cywiro. Mae gennyf etholwyr o hyd sy'n lleisio pryderon eu bod yn ei chael hi’n anodd cael y gwarantau wedi'u sicrhau a'u cyflawni. A wnewch chi edrych eto ar y rhaglen hon er mwyn sicrhau bod y gwarantau yno i bobl, fel y gallant ddibynnu arnynt pan fydd pethau'n mynd o chwith a pheidio â gorfod gwario miloedd o bunnoedd i gywiro camgymeriadau, na ddylent orfod ei wneud?
Mae'r Aelod yn codi pwynt pwysig iawn, ac mae'n amlwg fod rhai enghreifftiau lle mae pobl sydd wedi elwa o gynlluniau Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru a gynlluniwyd i wella effeithlonrwydd ynni yn eu cartref—maent wedi cael problemau, yn enwedig gyda lleithder, a phroblemau eraill cysylltiedig. Gwn ei fod yn achos pryder i lawer o Aelodau, ar draws y Siambr—ddoe ddiwethaf, cyfarfûm â'n cyd-Aelod, Dawn Bowden, sydd â phryderon yn ei hetholaeth. Pan fydd y pethau hyn yn cael eu gosod a'u cynnal yn gywir, gwyddom y gallant wella ansawdd bywyd pobl yn sylweddol a lleddfu tlodi yn y ffordd y trafodwyd gennym. Felly rwy'n parhau i weithio gyda chontractwyr; mae fy swyddogion yn parhau i weithio gyda chyrff perthnasol hefyd, ac rwy’n fwy na pharod i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau pan fydd gennyf ragor i'w rhoi.
2. Pa gamau pellach y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddatblygu ei pholisi ar gyfer rheoli adnoddau naturiol mewn trefi a dinasoedd? OAQ54997
Diolch. Disgwylir i 'Gweithredu'r Polisi Adnoddau Naturiol: ciplun' gael ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru y mis nesaf. Bydd datganiadau ardal Cyfoeth Naturiol Cymru yn chwarae rhan allweddol yn datblygu dulliau sy’n seiliedig ar le i helpu i weithredu'r blaenoriaethau a'r cyfleoedd yn y polisi adnoddau naturiol.
Diolch, Weinidog. Mae'r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru yn byw mewn ardaloedd trefol, ac yn ein hardaloedd trefol mewnol, ceir llawer o broblemau sy’n ymwneud ag ansawdd aer a diffyg mannau gwyrdd yn gyffredinol. Felly, credaf y byddai gwella'r amgylcheddau trefol mewnol hynny yn cysylltu pobl yn gryfach â'r byd naturiol, a buaswn yn gobeithio y byddai hynny’n arwain at well ymddygiad amgylcheddol—boed hynny drwy gymryd rhan fwy effeithiol mewn cynlluniau ailgylchu, neu’n gyffredinol drwy gefnogi'r awyr agored gwych sydd gennym yng Nghymru. Felly mae gennyf ddiddordeb, Weinidog, mewn cynlluniau fel Cynefin, a gyflawnwyd gan Lywodraeth Cymru, ac a fu’n effeithiol iawn yn fy ardal i yn Nwyrain Casnewydd, er enghraifft. Ac yn ardal Maendy ar hyn o bryd, mae gennym grŵp yn llyfrgell Maendy—grŵp o wirfoddolwyr, grwpiau cymunedol—a chanddynt syniadau i wyrddu'r amgylchedd naturiol yn yr ardal, ac mae ganddynt gryn ddiddordeb yng nghefnogaeth a chymorth Llywodraeth Cymru i'r math hwnnw o waith. Felly byddai gennyf ddiddordeb mewn clywed pa gamau pellach y gallai Llywodraeth Cymru eu cymryd i gefnogi grwpiau o'r fath ac i sicrhau ein bod yn cael amgylchedd o safon yn ein hardaloedd trefol mewnol.
Cytunaf yn llwyr â chi yn eich arfarniad o Cynefin. Credaf ei fod yn gynllun a fu'n gweithredu—. Yr egwyddorion oedd polisïau a blaenoriaethau a oedd yn canolbwyntio ar le, a chredaf ei fod wedi hwyluso llawer iawn o’r gwaith partneriaeth hwnnw y cyfeirioch chi ato. Ers i ni gael Cynefin, rydym hefyd wedi cyflwyno'r grant galluogi adnoddau naturiol a lles, cynllun cymunedau y dreth gwarediadau tirlenwi, a ddoe ddiwethaf, byddwch wedi clywed fy nghyd-Aelod, Hannah Blythyn, yn lansio'r rhaglen seilwaith gwyrdd a bioamrywiaeth ar gyfer canol trefi. Bydd y rhaglen honno’n cefnogi’r broses o roi cynlluniau amgylchedd ar waith, ac mae’n adlewyrchu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, drwy gyflwyno seilwaith gwyrdd yn gynaliadwy i ganol trefi, fel nad manteision amgylcheddol yn unig a geir, ond manteision cymdeithasol ac economaidd i gymunedau lleol hefyd. Bydd gan awdurdodau lleol gyllid ar gyfer hynny, felly, os oes diddordeb gan unrhyw un sy’n gwrando heddiw, gallant ddarganfod sut y gallant gymryd rhan drwy gysylltu â'u hawdurdod lleol.
Weinidog, yn ein strategaeth adnewyddu trefol, 'Dinasoedd Byw', gwnaeth y Ceidwadwyr Cymreig addewid i sicrhau bod o leiaf 20 y cant o frigdwf trefol yng Nghymru erbyn 2030. Fe welwch fod y mudiad trefi a dinasoedd gwyrdd bellach yn mynd o nerth i nerth ledled y byd, a gallem fod yn rhan o hynny hefyd mewn gwirionedd, ac yn ei arwain. Rwyf am weld y dydd pan fydd rhai o'r priffyrdd mwyaf drwy ein dinasoedd ar hyn o bryd yn cael eu gwyrddu ar gyfer beicwyr a cherddwyr. Ac ar hyn o bryd, mae taer angen inni ddechrau meddwl mewn ffordd wahanol.
Rwyf wedi bod yn cael trafodaethau gyda Hannah Blythyn a Ken Skates ynghylch y mater hwn. Credaf eich bod yn llygad eich lle; gallwn arwain yn hyn o beth. Rwyf ar fin lansio—ym mis Ebrill mae'n debyg—y cynllun twf amgylcheddol, a oedd yn un o ymrwymiadau maniffesto'r Prif Weinidog. Ac yn sicr, byddwn yn nodi cyllid ar gyfer yr union fathau hynny o bolisïau, lle gall pobl gymryd rhan wrth edrych arno o garreg eu drws. Felly yn sicr, credaf y bydd hyn yn ein helpu i symud i'r cyfeiriad cywir.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Andrew R.T. Davies.
Diolch, Lywydd. Weinidog, rydych chi a minnau wedi cael llawer o drafodaethau yn y Siambr hon ynglŷn â pharthau perygl nitradau, ac yn amlwg, y rheoliadau amgylcheddol rydych yn awyddus i'w cyflwyno i reoli llygredd amaethyddol, fel rydych chi'n ei weld. A allwch roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am yr hyn a ddywedoch chi wrthym ym mis Rhagfyr, pan gawsoch saib yn y broses ac fe fuoch yn ailfeddwl ac yn ail-ymgysylltu â'r sector i weld sut olwg fyddai ar y rheoliadau yn y pen draw?
Y tro diwethaf i ni drafod hyn yn y Siambr—. Wel, mae dau beth i'w dweud: nid llygredd amaethyddol ymddangosiadol mohono—credaf ein bod yn ymwybodol o'r nifer o achosion o hynny sydd gennym—a dywedais wrthych y buaswn yn cael cyngor cyn diwedd mis Ionawr. Cefais y cyngor hwnnw ddydd Llun. Fel y gallwch ddychmygu, mae'n ffolder fawr iawn o gyngor gweinidogol, ac rwyf wrthi'n ei darllen, a byddaf yn gwneud cyhoeddiad, buaswn yn sicr yn gobeithio, rhwng dechrau'r mis nesaf a chanol y mis nesaf.
O'r ateb hwnnw, credaf y gallwn edrych ymlaen at gyhoeddiad ryw bryd ym mis Chwefror—
Gallwch.
—felly. A fyddwch yn sicrhau, cyn y cyhoeddiad hwnnw, fod yr asesiad effaith rheoleiddiol ar gael, gan ei bod hanfodol ein bod yn deall union gostau hyn, y goblygiadau i'r diwydiant, yn enwedig i rai o'r sectorau da byw, y sector cig eidion a defaid yn benodol? Ac yn ôl yr hyn a ddeallaf, er bod nifer yr achosion o lygredd wedi gostwng mewn gwirionedd yn 2019, a rhwng 2001 a 2018, ac nad oes gwahaniaeth amlwg rhwng y blynyddoedd o ran llygredd amaethyddol, pam eich bod yn credu ei bod yn angenrheidiol cyflwyno mesurau mor llym, pan fo'r gweithgor, yn amlwg—[Torri ar draws.]—y gweithgor a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru wedi trafod ac edrych ar gyflwyno cynnig gwirfoddol y cytunodd y rheoleiddiwr a'r sector y byddai o fudd i leihau llygredd yn y sector amaethyddol?
Wel, yn sicr, ni chredaf eu bod yn llym. Os edrychwch ar fesurau mewn rhannau eraill o'r DU, buaswn yn dweud yn sicr nad ydym yn cyflwyno mesurau llym, o gymharu â rhannau eraill o'r DU. Ond nid yw hynny'n fater i mi. A rhoddaf rai ffigurau i chi fel y gallwch ddeall nad yw'r hyn rydych wedi'i ddweud—credaf i mi eich clywed yn iawn—yn gywir.
Felly, ar hyn o bryd, nifer yr achosion o lygredd amaethyddol yn 2019 oedd 157. Nid yw'r ffigur hwnnw wedi'i gadarnhau, gan nad yw'r holl ffigurau ar gyfer 2019 yn derfynol eto. Mae'r ffigur hwnnw o 157 eisoes yn uwch na'r cyfartaledd ar gyfer y 10 mlynedd diwethaf, sef 151. Mae'n uwch nag yn 2015, mae'n uwch nag yn 2016, ac mae'n uwch nag yn 2017. Y ffigur ar gyfer 2018 yw'r uchaf a gawsom yn y cyfnod ers 2001. Felly, mewn 17 mlynedd, y ffigur ar gyfer 2018 oedd yr uchaf, sef 195 o achosion. Rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno â mi fod hyn yn achos cryn bryder. Mae'n annerbyniol—mae'r sector amaethyddol yn cydnabod ei fod yn annerbyniol—ac mae'n rhaid inni wneud rhywbeth yn ei gylch. Ac mae'n rhaid i chi feddwl hefyd am effaith gronnol yr achosion hyn.
Rwy'n cytuno â chi. Mae un achos yn un achos yn ormod, ac yn y pen draw, mae'r diwydiant amaethyddol yn awyddus i wneud popeth yn ei allu i leihau nifer yr achosion hyn o lygredd. Ond fe ddywedoch eich hun fod 190 o achosion wedi'u hadrodd yn 2018. Credaf mai'r ffigur a roesoch ar gyfer 2019 oedd 157, sy'n dangos tuedd ar i lawr. Ac a yw'n iawn ymateb i'r niferoedd hyn drwy efelychu, i bob pwrpas, y parthau perygl nitradau a roddwyd ar waith mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig? Does bosibl nad oes ffordd well o wneud hyn, gan weithio ar y cyd â'r sector i sicrhau ein bod yn cadw'r achosion hyn dan reolaeth—oherwydd fel y dywedais, mae un achos yn un achos yn ormod; rwy'n derbyn hynny—ac yn anad dim, rhoi cyllid cyfalaf ar waith, felly, ni waeth pa fesurau a gyflwynwch drwy'r rheoliadau, gall y sector wneud cais am gyllid cyfalaf i wneud rhai o'r gwelliannau a fydd yn ofynnol o dan y rheoliadau. Felly, a allwch gadarnhau heddiw, ochr yn ochr â'r hyn rydych yn edrych arno gyda'r rheoliadau, eich bod yn edrych ar argaeledd cyllid cyfalaf ac unrhyw arian a allai fod yn weddill yn y cynllun datblygu gwledig, neu unrhyw arian y gallech ei gael gan y Gweinidog cyllid, sy'n bresennol y prynhawn yma?
Fe ddechreuwn ni gyda'r cyllid cyfalaf. Felly, rwyf wedi dweud ers y cychwyn y byddwn yn gallu darparu cyllid cyfalaf ychwanegol mewn perthynas â hyn, ond nid er mwyn sicrhau bod ffermydd yn cyrraedd y safon gyfreithiol yn awr, oherwydd ar hyn o bryd, mae gennym ddata a gasglwyd gan swyddog llaeth Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n ymweld â'r ffermydd, ac mae'r data'n dangos nad oes gan oddeutu 60 y cant o ffermydd llaeth storfeydd slyri digonol ar hyn o bryd. Felly, nid wyf am ddarparu cyllid ychwanegol er mwyn sicrhau bod y capasiti cyfreithiol ar y ffermydd hynny. Fodd bynnag, rwyf wedi dweud ers y cychwyn, yn y Siambr hon a thu allan, y byddwn yn ceisio darparu rhywfaint o arian cyfalaf ychwanegol.
Dychwelaf at yr hyn roeddwn yn ei ddweud am 2019: mae'n 157, ond nid y ffigur hwnnw yw'r ffigur terfynol, gan fod rhai achosion yn dal i gael eu hadolygu. Felly, ni chredaf mai hwnnw yw'r ffigur terfynol ar gyfer 2019. Unwaith eto, rwyf wedi siarad am hyn lawer gwaith gyda rhanddeiliaid, gydag undebau'r ffermwyr. Rwyf am weithio ar y cyd â hwy. Rydym wedi cael y dull gwirfoddol, ac nid yw wedi gweithio yn y ffordd roeddem yn dymuno. Un o'r rhesymau—. Fe ddywedasom y byddem yn cyhoeddi hyn ddechrau mis Ionawr, ond gan ein bod yn cael mwy a mwy o dystiolaeth—. Fe gyfeirioch chi at y ffaith i ni gael saib, ond nid saib ydoedd, roeddwn yn awyddus i sicrhau fy mod yn cael y cyngor mwyaf trylwyr y gallem ei gael.
Llefarydd Plaid Cymru, Llyr Gruffydd.
Rydych newydd ddweud wrthym y bu 157 o achosion yn 2019. Ydy, mae 157 achos o lygredd yn 157 achos yn ormod. Wrth gwrs, nid oes unrhyw sôn am y 30,000 achos o lygredd carthion yn 2018. Felly, credaf fod angen ychydig o bersbectif arnom wrth drafod y materion hyn.
Nawr, dywedasoch eich bod yn awyddus i weithio ar y cyd. Buaswn yn cymeradwyo hynny. Efallai yr hoffech weithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru, a ddywedodd wrthym nad yw 92 y cant o dir amaethyddol Cymru mewn perygl o achosi llygredd nitradau, a'u cyngor yw ein bod yn cynyddu'r 2.3 y cant o Gymru sy'n barthau perygl nitradau dynodedig ar hyn o bryd i 8 y cant.
Nawr, dau opsiwn yn unig a ystyriwyd yn eich asesiad effaith rheoleiddiol, neu'r asesiad effaith rheoleiddiol drafft: un oedd yr opsiwn 'gwneud dim byd', nad oes unrhyw un, hyd yn oed undebau'r ffermwyr, o'i blaid; a'r llall oedd defnyddio mesurau i fynd i'r afael â llygredd amaethyddol ledled Cymru gyfan. Felly, pam fod eich asesiad effaith rheoleiddiol wedi canolbwyntio ar y ddau eithaf yn unig, yn enwedig gan nad oedd un ohonynt erioed yn opsiwn realistig yn y lle cyntaf?
Y rheswm pam y cefais saib, neu gyfnod o oedi, wrth gyflwyno'r rheoliadau hyn yw fy mod yn awyddus i edrych, fel y dywedais, ar gymaint o dystiolaeth ag a oedd ar gael i ni. Yn sicr, gwelais ddrafft cyntaf yr asesiad effaith rheoleiddiol. Rwyf bellach yn dod—. Yn fy ffolder fawr iawn, credaf mai dogfen 18 yw'r asesiad effaith rheoleiddiol. Rwy'n dod ato. Byddaf yn gweld pa wahaniaeth sydd rhwng hwnnw a'r drafft, os o gwbl, ond nid wyf mewn sefyllfa i ateb y cwestiwn penodol hwnnw ar hyn o bryd, gan fy mod yn adolygu'r holl dystiolaeth sydd gennym.
Rydych yn llygad eich lle: rydym yn gweld llygredd ledled Cymru ar wahanol ffurfiau. Mae llygredd gwasgaredig yr un mor bwysig. Ac unwaith eto, cynhaliodd CNC eu hymgynghoriad 'Heriau a Dewisiadau' yn 2019. Unwaith eto, nododd yr ymgynghoriad hwnnw mai llygredd gwasgaredig o'r sector amaethyddol oedd y rheswm pam fod 113 o gyrff dŵr ledled Cymru wedi methu cyflawni statws da. Felly, mae angen inni edrych ar lawer o faterion sy'n ymwneud â llygredd, gan ei bod yn hanfodol ein bod yn datrys y broblem hon ar unwaith.
Ond y ffaith amdani yw nad yw CNC yn cefnogi'r cynnig i wneud Cymru gyfan yn barth perygl nitradau, ac er bod achosion y mae angen mynd i'r afael â hwy, mae'n amlwg eu bod yn teimlo y byddai gwneud hynny ar draws 8 y cant o Gymru yn ddigonol i fynd i'r afael â'r mater. Mae pob un ohonom yn edrych ymlaen at weld yr asesiad effaith rheoleiddiol, gan mai dogfen 20 tudalen yn unig oedd y drafft, ac am newid mor sylweddol â hwn, mae gwir angen rhywbeth ychydig yn fwy cadarn na hynny. Fe'i gadawaf yn y fan yna.
Ond wrth gwrs, os ydych am fabwysiadu ymagwedd tiriogaeth gyfan, mae angen i ni fod yn sicr mai dyna'r ffordd orau ymlaen. Nid wyf yn sicr, ac nid wyf wedi gweld tystiolaeth sy'n dweud wrthym y bydd parth perygl nitradau tiriogaeth gyfan yn effeithiol o ran lleihau llygredd amaethyddol. Oherwydd nid yw'r wybodaeth a gafwyd, eto gan Gyfoeth Naturiol Cymru, yn darparu unrhyw dystiolaeth sylweddol o effeithiolrwydd rhaglen weithredu'r parthau perygl nitradau yn lleihau llygredd amaethyddol, er bod y dynodiadau'n dyddio'n ôl i 2002. Rydym wedi gweld nifer o bapurau ymchwil gwyddonol sy'n ystyried effeithiolrwydd parthau perygl nitradau, neu fel arall, a dywedant wrthym nad yw'r dull yn cael fawr o effaith, os o gwbl, gyda rhai'n tynnu sylw at effeithiau niweidiol hefyd. Canfu un astudiaeth, a dyfynnaf:
na chafwyd unrhyw welliant sylweddol mewn 69% o barthau perygl nitradau mewn crynodiadau dŵr wyneb hyd yn oed ar ôl 15 mlynedd. O gymharu â dalgylch rheoli, cafwyd gwelliant sylweddol mewn 29% o barthau perygl nitradau—
mae hynny'n gadarnhaol—
ond cafwyd gwaethygiad sylweddol mewn 31% ohonynt.
Felly, ble mae eich tystiolaeth y bydd dull parth perygl nitradau tiriogaeth gyfan yn cael yr effaith y mae cymaint ohonom am ei gweld?
Fel y dywedais, ar hyn o bryd, rwyf—. Nid oes digon o oriau wedi bod pan wyf wedi bod yn effro a heb fod yn gweithio i gael amser i ddarllen, fel y dywedaf, y corff mawr iawn hwn o dystiolaeth, a hoffwn roi fy ystyriaeth lawn iddo.
Cawsom ymgynghoriad ar hyn yn ôl yn 2016. Nid yw hyn yn rhywbeth rydym yn rhuthro tuag ato. Mae hon wedi bod yn broses hir iawn. Byddai rhai yn dweud ei bod wedi bod yn rhy hir. Ond mae'n bwysig iawn ein bod yn gwneud hyn yn iawn, a byddaf yn cyhoeddi cymaint ag y gallaf i ddangos sut y mae'r polisi hwnnw wedi'i lunio.
Mae'n gofyn y cwestiwn: faint o ystyriaeth roeddech wedi'i rhoi i iteriadau blaenorol o'r cynigion hyn, neu a fuoch yn rhan ohonynt o gwbl? Oherwydd rydych yn swnio fel pe baech yn diystyru'r hyn rydym wedi'i gael hyd yn hyn, gan nad ydych wedi cael cyfle i edrych ar y ffeil a ddarparwyd i chi. Felly, credaf fod cwestiynau mawr i'w gofyn ynglŷn â phwy sy'n gwneud penderfyniadau neu'n cyflwyno awgrymiadau ynglŷn â hyn.
Nawr, rwyf wedi awgrymu eisoes y gallai fod canlyniadau negyddol annisgwyl—neu ddisgwyliedig, efallai—yn sgil eich dull blaenorol o fynd ati. Nawr, nid yn unig y gwyddom fod cynnydd enfawr mewn lefelau nitradau yn yr ardaloedd hynny lle rydym wedi gweld, yn y gorffennol, cyfnodau gwaharddedig—cynnydd mewn nitradau yn union cyn y cyfnod gwaharddedig ac yn syth ar ei ôl, am resymau amlwg—ond hefyd, ceir pryder y gallai ffermydd Cymru golli gwartheg, a gostyngiad dilynol o ran pori cymysg ar ucheldir Cymru.
Nawr, nid yw ffermydd ag 20 neu 30 o fuchod sugno yn mynd i fuddsoddi degau o filoedd o bunnoedd mewn seilwaith newydd i fodloni gofynion y rheoliadau newydd hyn, gan fod hynny'n gwbl anghymesur â'r lefelau isel o stoc y maent yn eu cadw. Dywedant wrthyf mai'r dewis iddynt hwy, felly, yw rhoi'r gorau i ffermio gwartheg, a bydd hynny, wrth gwrs, yn arwain at ganlyniadau dilynol i fioamrywiaeth a chynefinoedd yr ucheldir, ond hefyd i'r sector cig eidion ehangach yma yng Nghymru.
Mae sefydliadau amgylcheddol yn poeni am y canlyniad posibl hwnnw. Mae Hybu Cig Cymru hefyd yn pryderu am y canlyniad posibl i'r sector cig eidion ehangach. Nid oes unrhyw un yma yn dweud, 'Peidiwch â gwneud unrhyw beth'—mae angen i bawb ddeall a chlywed hynny—ond o'm rhan i, hyd yn hyn, mae'r Llywodraeth yn amlwg wedi methu dadlau'r achos dros eich cynigion, neu ddarparu tystiolaeth sy'n cyfiawnhau'r dull rydych yn awyddus i'w fabwysiadu yn ôl pob golwg.
Felly, hoffwn ofyn i chi ailedrych ar y cynigion hyn, ac os gwelwch yn dda, i edrych ar y 45 o argymhellion a gafwyd gan yr is-grŵp llygredd amaethyddol, a ddylai fod wedi cael eu hystyried yn briodol fel rhan o'r asesiad effaith rheoleiddiol sydd wedi bod ar gael ar ffurf drafft.
Gan ddechrau gyda'ch pwynt cyntaf, yn sicr nid wyf yn diystyru unrhyw beth. Rwyf wedi chwarae rhan fawr yn hyn ers i mi fod â'r portffolio hwn. Soniais am yr ymgynghoriad a gynhaliwyd cyn i mi gael y portffolio; roedd yn un o'r pethau cyntaf ar fy nesg. Yr hyn a ddaeth ohono oedd ymagwedd wirfoddol: gweithio gydag undebau'r ffermwyr yn arbennig, a rhanddeiliaid eraill. Efallai eich bod yn ymwybodol o gynllun a gyflwynwyd gan ddau ffermwr o Sir Benfro; gweithiais gydag undebau'r ffermwyr i sicrhau bod y cynllun gwirfoddol yn cael amser i weithio. Gallwch weld o nifer yr achosion ei bod yn amlwg nad yw'n gweithio. Dyna pam fod yn rhaid i ni wneud rhywbeth ar unwaith. Dyna pam fod yn rhaid i ni symud tuag at reoleiddio. Felly, dyna'r ateb i'ch pwynt cyntaf. Y cyngor a roddwyd i mi yr wythnos hon yw'r cyngor rwyf wedi bod yn aros amdano ynghylch rheoleiddio, ac yn sicr, rwyf wedi rhoi amser ac ystyriaeth drylwyr iawn iddo, oherwydd fel y dywedaf, mae angen i ni gael hyn yn hollol iawn.
O ran eich ail bwynt, mae pob fferm yn wahanol, felly nid oes modd nodi'n union pa fesurau a fyddai'n berthnasol i fferm fynydd, er enghraifft. Rydych yn sôn am filoedd ar filoedd o bunnoedd pan nad ydym yn gwybod beth fydd ei angen ar bob fferm. Rwyf wedi dweud yn glir iawn y byddwn yn darparu rhywfaint o arian cyfalaf ychwanegol, ond nid er mwyn sicrhau bod ffermydd yn bodloni gofynion cyfreithiol. Felly, byddaf yn gwneud cyhoeddiad, yn sicr erbyn canol mis Chwefror, ac yn amlwg, yr Aelodau fydd y cyntaf i glywed.
3. A wnaiff y Gweinidog amlinellu ymateb Llywodraeth Cymru i'r argymhellion a nodwyd yn yr adolygiad brys o Reoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014 a gomisiynwyd ym mis Hydref 2019? OAQ54980
5. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd tuag at weithredu Deddf Lucy i reoleiddio ffermio cŵn bach yng Nghymru? OAQ54979
Diolch. Lywydd, deallaf eich bod wedi rhoi caniatâd i gwestiynau 3 a 5 gael eu grwpio. Byddaf yn gwneud datganiad ac yn cyhoeddi adroddiad y grŵp fframwaith iechyd a lles anifeiliaid yn dilyn toriad mis Chwefror. Mae'r argymhellion yn gynhwysfawr ac yn cynnwys gorfodi, hyfforddi milfeddygon a swyddogion awdurdodau lleol, diwygiadau i amodau trwyddedau, yn ogystal ag ystyried deddfwriaeth arall sy'n gysylltiedig â bridio a gwerthu cŵn.
Diolch, Weinidog, a diolch hefyd am eich ymateb blaenorol i fy nghwestiynau ysgrifenedig yn gynharach yn y mis. Mae hyn yn bwysig iawn fel cam tuag at gyflwyno deddf Lucy i wahardd gwerthiannau cŵn a chathod bach gan drydydd parti. Mae'r canfyddiad o ddiffyg cynnydd yn peri pryder ymhlith ymgyrchwyr, gydag ofnau y bydd Cymru, ar ôl i Loegr gyflwyno eu deddf Lucy eu hunain ym mis Ebrill, yn dod, ac rwy'n dyfynnu, yn 'Siop ar gyfer anifeiliaid anwes sâl ac anafus.' Weinidog, a allwch roi sicrwydd cadarn i mi na fyddwch yn gadael i hyn ddigwydd, ac y bydd deddf Lucy yn cael ei chyflwyno yng Nghymru cyn diwedd tymor y Cynulliad hwn? Pryd y gallwn ni, a'r llu o bobl ledled Cymru sy'n dilyn hyn mor agos, ddisgwyl amserlen fanwl ar gyfer y camau nesaf tuag at gyflawni'r nod hwn?
Diolch i Vikki Howells am ei chwestiwn, ac rwy'n bendant yn rhoi'r sicrwydd hwnnw i chi. Mae hyn yn gryn dipyn o waith, a gwn faint o ymgyrchwyr sy'n sicr yn bryderus iawn am hynny, gan fod fy mewnflwch yn dangos hynny i mi—fel Aelod Cynulliad ac fel y Gweinidog. Mae'r ddau beth yn mynd law yn llaw mewn ffordd; mae cysylltiad agos iawn rhyngddynt. Yr hyn yr hoffwn ei sicrhau yw—. Rwyf wedi dweud y byddwn yn cyflwyno deddf Lucy, nid wyf mewn sefyllfa ar hyn o bryd i roi'r amserlen i chi, ond rwy'n sicr yn gobeithio gwneud hynny o fewn y mis neu ddau nesaf.
Derbyniais yr adroddiad a gomisiynais cyn diwedd mis Rhagfyr oddeutu 10 diwrnod yn ôl, efallai ychydig yn llai, a rhoddais flas i chi o'r hyn sydd ynddo yn fy ateb agoriadol. Felly, credaf mai'r peth mawr i mi yw—. Mae yna bob amser frys i ddeddfu; mae'n ymwneud â chael y ddeddfwriaeth honno'n iawn, ond mae'n ymwneud â dysgu beth nad yw'n gweithio yn y ddeddfwriaeth bresennol. Oherwydd yn amlwg, ceir rhai rhwystrau ar hyn o bryd y mae angen i ni eu goresgyn. Felly, os yw hynny'n golygu rhwystrau rhag gorfodi, er enghraifft, rwy'n siŵr y bydd yr awdurdodau lleol a'r cyfarfod a gafodd y prif swyddog milfeddygol ar hynny yn mynd i'r afael â'r mater hwnnw.
Felly, mae cysylltiad agos iawn rhwng y ddau, ac rwy'n sicr yn fwy na pharod i roi'r newyddion diweddaraf ar hynny. Ond rwy'n rhoi fy sicrwydd pendant i chi y byddwn yn edrych ar y ddeddfwriaeth sydd ar waith ar hyn o bryd o ran bridio, yn ogystal â'r hyn y mae angen i ni ei gyflwyno mewn perthynas â deddf Lucy.
Y broblem yn sicr, Weinidog, yw na fyddwch yn cael eich cyhuddo o ruthro i ddeddfu ar y mater hwn. Nid yw rhoi sicrwydd pendant eich bod yn mynd i ddarllen adroddiad yn rhoi llawer o hyder i'r Aelodau yma. Rydym wedi clywed y sicrwydd hwnnw o'r blaen, ac rydym wedi cael ein siomi. Credaf ein bod wedi cyrraedd pwynt bellach, gydag ychydig dros flwyddyn ar ôl yn y Senedd hon, lle rydym am weld camau gweithredu, ac rydym am weld yr addewidion yn cael eu gwireddu. Ni chredaf mai rhestr ddarllen yw'r hyn y mae pobl ar bob ochr i'r Siambr am ei gweld, ond yn hytrach, ymrwymiad i wneud hyn ac i gyflawni hyn. Credaf ein bod yn gwneud tro gwael â phobl, ledled y wlad, ac mae pobl yn dweud eu bod am weld y cam hwn yn cael ei gwblhau. Credaf fod Aelodau ar bob ochr i'r Siambr yn awyddus i weld gweithredu ac nid geiriau.
Mae'n ddrwg gennyf, mae'n rhaid bod yr Aelod wedi fy ngham-glywed. Rhoddais y sicrwydd pendant hwnnw i Vikki Howells y byddaf yn gwneud datganiad ar ôl toriad mis Chwefror, yn dilyn yr adroddiad a gefais gan y grŵp fframwaith iechyd a lles anifeiliaid, a hefyd ar y trafodaethau a gafodd y prif swyddog milfeddygol gyda phob un—wel, 21—o'r awdurdodau lleol, ni fynychodd un ohonynt, i weld beth yw'r rhwystrau rhag gorfodi, a hefyd gyda Chymdeithas Milfeddygon Prydain ynglŷn â pha hyfforddiant pellach y gallwn ei roi i filfeddygon. Oherwydd, yn dilyn y rhaglen gan y BBC, a arweiniodd at lawer o'r ohebiaeth hon, roedd yn amlwg fod sawl mater angen sylw. Ni ellir rhuthro deddfwriaeth—mae'r Aelod yn gwybod hynny—ond yn sicr, rwy'n rhoi sicrwydd cadarn y bydd y ddeddfwriaeth honno yn ei lle yn y tymor hwn.
Mae Lloegr, wrth gwrs, yn cyflwyno deddf Lucy ym mis Ebrill. Mae de Iwerddon yn cyflwyno rheoliadau tebyg y mis nesaf. Nid oes gan Gymru, cartref y fferm fridio y cafodd Lucy ei hachub ohoni, ddyddiad ar gyfer cyflwyno'r ddeddf.
Mae cryn ddiddordeb cenedlaethol yn hyn, ac mae gan y Pwyllgor Deisebau ddeiseb wedi’i llofnodi gan 11,195 o bobl yn galw am wahardd gwerthu cŵn bach gan siopau anifeiliaid anwes a phob deliwr masnachol trydydd parti yng Nghymru. Y mis diwethaf, nododd Llywodraeth Cymru fod angen iddi gael dealltwriaeth drylwyr o'r rhwystrau rhag gorfodi o fewn y ddeddfwriaeth bresennol fel y gallech fynd i'r afael â'r broblem yn effeithiol. Pa rwystrau a nodwyd gennych, ac erbyn pryd y bwriadwch eu goresgyn?
Rwy'n ymwybodol o'r ddeiseb yn y pwyllgor ac nid yw'n syndod i mi ei bod wedi cael cymaint o lofnodion—rydym yn wlad sy'n caru anifeiliaid. Cyfeiriais at y cyfarfod a gafodd y prif swyddog milfeddygol a'i swyddogion gydag awdurdodau lleol, felly mae'n debyg mai dyna'r maes cyntaf lle gwelsom rwystrau mewn perthynas â gallu'r awdurdodau lleol, efallai, i ymweld â'r bridwyr gymaint ag yr hoffent. Yn amlwg, mae awdurdodau lleol, ar ôl degawd o gyni, wedi cael toriadau i'w cyllideb. Yn anffodus, ymddengys efallai fod swyddogion mewn meysydd sy'n ymwneud â lles anifeiliaid wedi'u torri'n ôl i'r niferoedd lleiaf posibl.
Felly, rydym yn edrych—ac mae'n rhaid i mi ddweud, mae awdurdodau lleol yn awyddus iawn i wneud hyn—ar rannu arbenigedd. Felly, mae gennych rywle fel Torfaen, er enghraifft, sydd ag un bridiwr trwyddedig, rwy'n credu, ac mae gennych ardaloedd fel Sir Gaerfyrddin a Cheredigion sydd â nifer o fridwyr—cannoedd, rwy'n credu, mewn un neu ddwy ohonynt.
Felly, mae'n ymwneud â sicrhau bod gennym gapasiti i fynd i'r afael â Chymru gyfan, ac efallai i gydweithio, mewn ffordd. Credaf fod hynny'n un rhwystr pwysig iawn a welsom o ran pam nad yw'r ddeddfwriaeth bresennol sydd gennym yn cael ei gorfodi. Felly, ni chredaf y byddai newid y ddeddfwriaeth yn unig yn rhoi terfyn ar yr hyn yn y ffordd y mae pob un ohonom yn dymuno'i gweld.
O’r meinciau hyn yn bendant, gallaf roi sicrwydd i chi, Weinidog, y byddem yn cefnogi unrhyw ddeddfwriaeth a gyflwynir i ddeddfu cyfraith Lucy, a chlywaf y sylwadau o’r meinciau cefn Llafur yn arbennig. Rwy'n credu bod consensws o amgylch y Siambr hon y gellir bwrw ymlaen â deddfwriaeth yn gyflym pan fydd y consensws hwnnw'n cael ei weithredu'n effeithiol. A buaswn yn erfyn arnoch i sicrhau, os byddwch yn dilyn y llwybr rheoleiddio gyda'ch datganiad ym mis Chwefror, fod gennych y mesurau gorfodi ar waith, oherwydd nid oes llawer o bwrpas, os o gwbl, mewn rhoi rheoliadau—neu ddeddfwriaeth yn wir—yn ei lle os nad yw'r orfodaeth yno. Mae'n braf clywed bod y prif swyddog milfeddygol wedi ymgysylltu ag awdurdodau lleol i fesur lefel y gefnogaeth y bydd ei hangen arnynt. A wnewch chi ymrwymo heddiw i sicrhau, os ydych yn cyflwyno rheoliadau neu ddeddfwriaeth, fod y gefnogaeth honno ar gael i awdurdodau lleol fel y gellir gweithredu'r agweddau ar gyfraith Lucy i roi diwedd ar yr arfer ffiaidd hwn yma yng Nghymru?
Yn sicr mae hwnnw'n rhywbeth y mae'n rhaid inni edrych arno oherwydd mae'n amlwg iawn, ar ôl yr un cyfarfod hwnnw a gafodd y prif swyddog milfeddygol gydag awdurdodau lleol—. Roeddwn yn falch iawn fod 21 o'r 22 awdurdod lleol wedi anfon cynrychiolydd i'r cyfarfod hwnnw. Felly, rwy'n credu ei fod yn dangos bod consensws ar draws pob lefel o Lywodraeth yn y maes hwn. Yn amlwg, a chyfeiriais at hyn yn fy ateb i Janet Finch-Saunders, bydd cyllid yn destun pryder i lawer ohonynt. Nid oes gennyf bot diderfyn o arian, ond yn dibynnu ar yr hyn a wnawn wrth edrych ar y rheoliadau a'r rhwystrau, a ph’un a ydym yn ailagor y rheoliadau a'r ddeddfwriaeth y bydd yn rhaid i ni ei chyflwyno, rwy'n derbyn y bydd angen cyllid pellach yn ddi-os. Felly, ni allaf roi ymrwymiad i chi y byddaf yn ei roi na faint y byddaf yn ei roi ond yn sicr, rwy'n cydnabod ei fod yn fater sy'n codi.
4. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y bwriad i gyflwyno parthau perygl nitradau yng Nghymru? OAQ54992
Ar hyn o bryd rwy'n ystyried cyngor ar fesurau i fynd i'r afael â llygredd amaethyddol ledled Cymru. Mae llygredd amaethyddol yn achosi cryn niwed i'r amgylchedd ac mae’n niweidiol i iechyd y cyhoedd. Nid yw'n gyfyngedig i barthau perygl nitradau. Mae nifer y digwyddiadau llygredd amaethyddol ledled Cymru yn 2019 yn annerbyniol o uchel.
Diolch, Weinidog.
Bydd y rheoliadau newydd arfaethedig ynghylch parthau perygl nitradau yn effeithio ar bob fferm, pob sector a phob ardal yng Nghymru. Fe fyddwch yn ymwybodol, Weinidog, fod Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru wedi mynegi pryderon ynghylch yr effaith y mae hyn yn ei chael ar y gymuned ffermio, gan honni bod ffermwyr yn profi lefelau uwch fyth o straen a phryder. Ni roddodd gwybodaeth a ddarparwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru fel rhan o'r adolygiad nitradau yn 2016 unrhyw gyfiawnhad dros gyflwyno parthau perygl nitradau ledled Cymru. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod datgelu’r cyngor a’r dystiolaeth yn ymwneud â’r rheoliadau arfaethedig a gafodd gan Cyfoeth Naturiol Cymru o dan gais rhyddid gwybodaeth. O ystyried pwysigrwydd, cost a goblygiadau posibl y rheoliadau hyn, Weinidog, a wnewch chi gyhoeddi'r cyngor a'r dystiolaeth a gafwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru er budd diogelwch a thryloywder yn yr achos hwn?
Nid wyf yn siŵr a oedd yr Aelod yn y Siambr, Lywydd, pan atebais gwestiwn tebyg iawn gan Llyr Huws Gruffydd ac Andrew R.T. Davies ond fel y dywedaf, ni wrthodwyd datgelu unrhyw dystiolaeth; ddydd Llun yn unig y’i cefais. A phan fyddaf yn gwneud fy nghyhoeddiad, erbyn canol mis Chwefror mae'n debyg, bydd yr hyn y gellir ei gyhoeddi yn cael ei gyhoeddi.
Rwy'n credu bod y Gweinidog yn gwneud pwynt pwysig iawn. Os yw'r Aelodau'n bresennol ar gyfer cwestiynau a ofynnwyd ac a atebwyd yn gynt, gofynnaf i'r holl Aelodau wrando ar yr hyn sy'n digwydd yn ystod y sesiwn gwestiynau fel y gallant ofyn eu cwestiynau ac ymateb i atebion y Gweinidog fel y cawsant eu rhoi. Mae hynny wedi digwydd sawl gwaith y prynhawn yma. Joyce Watson. Dyna her i chi, Joyce.
Nid wyf am ailadrodd unrhyw beth. Rwyf am ofyn cwestiwn penodol iawn ar barthau perygl nitradau. Tynnwyd fy sylw at y ffaith ei bod yn anos mynd i’r afael â chrynodiad nitradau ar ffermydd ieir oherwydd ei fod, yn syml, yn aros ar waelod y cwrs dŵr. Felly, yn eich trafodaethau ar barthau perygl nitradau, a gaf fi ofyn i chi edrych ar y mater penodol rwyf newydd ei grybwyll?
Buaswn yn hapus iawn i wneud hynny. Mae Joyce Watson newydd fy atgoffa o rywbeth na ddywedais wrth Mohammed Asghar. Dywedodd y bydd yn effeithio ar bob fferm ledled Cymru. Efallai nad yw hynny'n wir, ac yn sicr, mewn perthynas â nifer y digwyddiadau llygredd amaethyddol—ac rwy'n awyddus iawn i ddweud hyn—nid yw’r rhan fwyaf o ffermwyr yn llygru, a chredaf y dylem gydnabod hynny'n llwyr, ond yn yr un modd, mae pob fferm yn wahanol. Ond nid yw hynny'n wir. Ond yn sicr, i ateb Joyce Watson, buaswn yn hapus iawn i edrych ar y pwynt penodol hwnnw.
Weinidog, rwy’n croesawu’r sylw hwnnw nad yw pob fferm yn llygru ac rwyf wedi cael sylwadau gan ffermwyr yn fy etholaeth fy hun, sydd, fel y gwyddoch, yn cynnwys ffermydd teuluol llai o faint yn bennaf gyda chymysgedd o ddefaid a da byw a rhywfaint o dir âr, a nodwedd arall arnynt yw'r fioamrywiaeth ehangach sy'n perthyn i ffermydd cymysg llai o faint. Nawr, maent yn rhannu dyhead Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â gorddefnyddio a thrwytholchi nitradau—a halogion eraill, gyda llaw—mewn perthynas â ffermio, sy'n gallu diraddio pridd, ac ynghyd ag arferion ffermio gwael, gallant wenwyno cyrsiau dŵr ac amgylcheddau morol. Maent yn gwybod bod ganddynt ran i'w chwarae, ond nid yw'r rhain yn ffermydd llaeth mawr. Maent wedi clywed sicrwydd y Gweinidog heddiw ac mewn mannau eraill na fydd y cynigion yn effeithio ar fwyafrif y ffermydd teulu llai o faint, o ran cost neu fiwrocratiaeth, ond mae’n rhaid i mi ddweud, nid ydynt yn argyhoeddedig ar lawr gwlad pan fyddaf yn siarad â hwy.
Felly, beth all y Gweinidog ei ddweud i roi sicrwydd i'r ffermydd teuluol llai o faint a'r teuluoedd hynny? Ac a fyddai ar ryw adeg yn y dyfodol agos yn barod i ddod gyda mi i ymweld ag un o'r ffermydd yn fy etholaeth i drafod y cynigion? Mae gwir angen inni fynd i’r afael â’r broblem hon, ond mae angen inni ddod â’r gymuned ffermio gyda ni, gan gynnwys y ffermydd teuluol llai hynny, sy’n rhan annatod o’n cymunedau byw ac sy'n rhan annatod o'r heriau ehangach sy'n ein hwynebu o ran bioamrywiaeth a newid hinsawdd. Mae angen i bawb ohonynt fod ar ein hochr ni.
Rwy'n cytuno'n llwyr, ac rwy’n gobeithio bod yr Aelodau'n cydnabod fy mod wedi ceisio gwneud hynny am y tair blynedd a hanner diwethaf, os nad ychydig yn hwy, drwy fabwysiadu dull gwirfoddol, drwy fynychu sawl cyflwyniad ar gynllun y cyfeiriais ato mewn ateb cynharach a luniwyd gan ddau ffermwr o Sir Benfro. Rwyf wedi cael llawer o argymhellion. Hynny yw, roedd un o'r adroddiadau diwethaf a gefais gan y sector, rwy’n credu, heb i mi fynd i edrych, yn cynnwys oddeutu 35 o argymhellion; nid oedd yr un ohonynt ar gyfer y sector amaethyddol, roeddent i gyd ar gyfer y Llywodraeth. Wel, yn yr un modd, mae'n rhaid iddo weithio'r ddwy ffordd. Mae'n rhaid inni ei wneud mewn partneriaeth. Ond buaswn yn hapus iawn—. Hynny yw, rwyf wedi ymweld â llawer o ffermydd ac wedi trafod hyn dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, ac nid yw'n rhywbeth rwyf eisiau rhoi'r gorau i'w wneud.
6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fonitro ansawdd aer yn y Gogledd? OAQ54990
Mae Deddf yr Amgylchedd 1995 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ledled Cymru fonitro, asesu a datblygu camau i wella ansawdd aer yn eu hardal. Mae 178 o fonitorau ansawdd aer wedi'u lleoli ledled gogledd Cymru. Mae ein hymgynghoriad ar gynllun aer glân i Gymru yn cynnwys cynigion ar gyfer gwella’r gwaith o fonitro ac asesu ansawdd aer.
O ystyried y tân diweddar yn ffatri Kronospan yn y Waun a'r llygredd dilynol a effeithiodd ar yr ardal—dywedir wrthyf mai hwn yw'r ail dân ar bymtheg mewn 18 mlynedd, er bod nifer o drigolion yno'n honni eu bod yn digwydd yn llawer mwy rheolaidd na hynny mewn gwirionedd—a allwch ddweud wrthyf pa mor fodlon ydych chi ynghylch lefel y gwaith monitro a wneir gan Cyfoeth Naturiol Cymru a chyngor Wrecsam yn y Waun yn arbennig? Oherwydd mae preswylwyr bellach yn cynnal protestiadau wythnosol o ganlyniad i’r tân diweddaraf hwn, ac rwy’n rhannu eu pryderon nad yw’r cyrff sy’n gyfrifol am sicrhau eu diogelwch yn darparu'r sicrwydd y maent ei angen, o ystyried hanes y ffatri. A fyddech yn cytuno i gynnal ymchwiliad annibynnol i ddigwyddiadau diweddar yno gyda chynrychiolaeth gymunedol yn rhan o'r ymchwiliad hwnnw, a hefyd i sicrhau bod gwaith monitro ansawdd aer parhaol, annibynnol yn mynd rhagddo ar y safle, neu o amgylch y safle fan lleiaf, fel y gall y gymuned yno gael y sicrwydd y maent yn ei haeddu?
Diolch. Fe fyddwch yn ymwybodol fod y tân a ddigwyddodd yn Kronospan yn gynharach y mis hwn yn yr iard foncyffion. Roedd y drwydded ar gyfer yr ardal honno yn dod o dan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, felly hwnnw yw'r rheolydd perthnasol ar gyfer y mater hwn ac rwy'n aros am wybodaeth bellach ganddynt mewn perthynas â hynny.
Mewn perthynas â Cyfoeth Naturiol Cymru, ar hyn o bryd maent yn adolygu'r drwydded bresennol a ddelir gan Kronospan mewn perthynas â throsglwyddo pwerau o Gyngor Bwrdeistref Sir Wrecsam i Cyfoeth Naturiol Cymru, a gwn fod y trafodaethau hynny'n parhau. Felly, yn sicr bydd gennyf ddiddordeb mawr mewn gweld canlyniad hynny oherwydd rwyf eisiau sicrwydd ei fod yn hollol gywir. Fy nealltwriaeth i, ar hyn o bryd, yw ei fod yn gywir, ond rwy'n siŵr y caf ragor o wybodaeth dros yr ychydig wythnosau nesaf yn enwedig.
Nid wyf yn credu bod angen ymchwiliad annibynnol ar hyn o bryd, ond rwy'n cydnabod yn llwyr fod angen rhywfaint o sicrwydd ar bobl y Waun, a byddaf yn gweithio'n agos iawn—. Byddaf yn cael cyfarfod gyda Cyfoeth Naturiol Cymru o fewn yr wythnos neu ddwy nesaf, a byddaf yn codi’r mater eto, a buaswn yn hapus iawn i ysgrifennu at yr Aelod i roi'r wybodaeth ddiweddaraf iddo yn dilyn y cyfarfod hwnnw.
7. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau safonau lles uchel mewn sefydliadau bridio yng Nghymru? OAQ55004
Diolch. Mae swyddogion yn gweithio gydag awdurdodau lleol i archwilio cyfleoedd i sicrhau bod yr holl sefydliadau bridio trwyddedig ledled Cymru yn cael eu trin gyda chysondeb. Bydd y gwaith hwn, i edrych ar ffyrdd o gyfuno adnoddau ac arbenigedd a gwella hyfforddiant ar gyfer swyddogion awdurdodau lleol, yn helpu i dargedu gorfodaeth yn fwy cyson ac effeithiol.
Diolch am yr ateb hwnnw. Ond cafwyd adroddiad yn ddiweddar gan Gyngor Sir Caerfyrddin am fridio cŵn yn y sir, ac mae 85 o fridwyr cŵn trwyddedig yn Sir Gaerfyrddin. Mae hwnnw’n un o'r ffigurau uchaf yng Nghymru a Lloegr, ac mae gan oddeutu 10 o'r bridwyr dros 100 o gŵn. A’r hyn a’m trawodd yn arbennig yn yr adroddiad yw’r ffaith nad yw swyddogion, mewn rhai achosion, ond yn cynnal archwiliadau bob dwy flynedd yn hytrach nag arolygiadau sefydliadol blynyddol, ac nid wyf yn credu bod hynny'n dderbyniol o gwbl mewn unrhyw ffordd. Mae'n codi rhai cwestiynau difrifol ynghylch pam fod y cyngor yn parhau i roi trwyddedau pan nad oes ganddynt nifer ddigonol o staff i gynnal arolygiadau blynyddol, ac mae'n amlwg bod y llwyth gwaith yn rhy uchel i'r ddau swyddog a gyflogir.
Y mater arall sy'n weddol amlwg wrth edrych ar safonau sefydliadau bridio yw ei bod yn hollol dderbyniol ar hyn o bryd i nodi unrhyw beth, mae'n ymddangos i mi—sied nad yw o reidrwydd yn cael ei chynhesu a lle nad oes dŵr ar gael—ar gyfer bridio anifeiliaid. A soniodd rhan o'r adroddiad fod angen i ffermwyr arallgyfeirio. Nid wyf yn credu eu bod yn rhoi gwybodaeth ddigonol i ffermwyr sydd eisiau arallgyfeirio os nad ydynt yn ehangu'r cyfleoedd a'r wybodaeth sydd ar gael ac yn dilyn y trywydd hwn.
Rwyf angen cwestiwn gennych yn awr, Joyce Watson.
Felly fy nghwestiwn yw: a fyddech yn ystyried adolygu nifer y trwyddedau y gall awdurdod lleol eu rhoi i gyd-fynd â'r gymhareb o arolygwyr sydd ganddynt ar hyn o bryd?
Gwn fod Joyce Watson yn y Siambr i glywed fy atebion cynharach ynghylch bridio cŵn, ac mae hwn yn amlwg yn un o'r meysydd y mae'r prif swyddog milfeddygol, yn ei thrafodaethau ag awdurdodau lleol, wedi dod ar eu traws. Felly, mae angen inni edrych ar y rhwystrau hynny eto, gan sicrhau bod y ddeddfwriaeth sydd gennym ar hyn o bryd yn cael ei gorfodi ac archwilio cyfleoedd i wneud y defnydd gorau o'r adnoddau presennol. Felly, fel y dywedais mewn ateb cynharach, mae'n ymwneud â sicrhau bod gennym y gwasgariad hwnnw ledled Cymru lle mae gennym awdurdodau lleol sydd ag un yn unig. Fel y dywedaf, un sydd gan Dorfaen, rwy'n credu, ac mae gennych chi ardaloedd fel y rhai rydych wedi cyfeirio atynt yn Sir Gaerfyrddin sydd â thrwyddedau niferus.
Rwy'n credu bod cymhareb safleoedd bridio ar draws awdurdodau lleol yn gwbl anghymesur, ac mae'n golygu bod rhai awdurdodau lleol yn ei chael hi'n anodd ymdopi â gofynion. Felly, mae’r gwaith hwn yn ymwneud ag edrych ar ffordd o rannu'r arbenigedd a’r adnoddau hynny, a chredaf y bydd hynny'n targedu gorfodaeth yn llawer mwy effeithiol.

Weinidog, yn ddiweddar, cyfarfûm â fy etholwyr David ac Elaine Williams a’u ci Cindy, a gafodd ei hachub o fferm cŵn bach, i ddysgu mwy ynglŷn â sut i atal yr arfer creulon drwy gyfraith Lucy. Gwn fod hwn yn rhywbeth sydd wedi ennyn cefnogaeth drawsbleidiol, ac mae'n hanfodol yn awr, wrth i gyfraith Lucy ddod i rym yn Lloegr ym mis Ebrill, nad yw Cymru, wrth gwrs, yn cael ei gadael ar ôl.
Fodd bynnag, yn y cyfamser, ac yn dilyn ymlaen o gwestiwn Joyce Watson, pa drafodaethau rydych chi a'ch swyddogion wedi’u cael gydag awdurdodau lleol ynglŷn â ffyrdd y gallant fynd ati i drwyddedu ffermydd cŵn bach yng Nghymru yn well, a sut y mae Llywodraeth Cymru yn mynd ati’n rhagweithiol i annog pobl sy’n hoffi cŵn i'w prynu gan fridwyr cyfrifol?
Mae'n ddrwg gennyf, Lywydd, nid wyf yn credu bod Paul Davies yn y Siambr i glywed fy atebion cynharach am y gwaith rydym yn ei wneud mewn perthynas â chyfraith Lucy. Crybwyllais fod y prif swyddog milfeddygol wedi cyfarfod â phawb—wel, ar wahân i un awdurdod lleol, 21 o awdurdodau lleol ynglŷn â'r mater penodol hwn, i sicrhau ein bod yn deall beth yw'r rhwystrau i orfodi'r ddeddfwriaeth bresennol. Nid wyf yn credu y byddai cyflwyno cyfraith Lucy yn cael gwared ar yr arfer o ffermio cŵn bach yn anghyfreithlon yr hoffai pawb ohonom weld diwedd arno.
Er hynny, rydych yn gwneud pwynt pwysig iawn ar y diwedd am unigolion. Mater i'r unigolyn sy'n prynu'r ci yw a ydynt yn ei brynu gan fridiwr cyfrifol—cawsom ymgyrch yn y cyfnod cyn y Nadolig i annog hynny—ac i unigolion ofyn cwestiynau a gofyn efallai, os cânt eu harwain i gegin, efallai, am gael gweld y cŵn bach, am gael gweld rhannau eraill o eiddo'r bridiwr. Felly, mae'n ymwneud â dod â'r cyfan at ei gilydd. Rydym eisoes wedi cael y sgyrsiau hynny sydd wedi dechrau gydag awdurdodau lleol. Byddaf yn gwneud datganiad ar ôl toriad mis Chwefror.
8. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am raglen ddileu TB Llywodraeth Cymru? OAQ55003
Diolch. Gwnaethom adnewyddu'r rhaglen dileu TB yng Nghymru ym mis Hydref 2017, ac rydym yn awr yn gweld rhai tueddiadau hirdymor ar i lawr mewn dangosyddion TB allweddol, megis nifer a mynychder yr achosion. Ymrwymais i ddarparu datganiad ar y rhaglen bob blwyddyn, a byddaf yn gwneud hynny nesaf ym mis Ebrill.
Diolch i'r Gweinidog am yr ateb hwnnw. Yn y 12 mis hyd at fis Hydref 2019, lladdwyd 12,742 o wartheg. Dyna'r ffigur uchaf a gofnodwyd; mae'n cymharu â 917 yn unig yn ôl yn 1996. Clywais y Prif Weinidog, ychydig ddyddiau'n ôl, yn honni bod y cynnydd hwn yn nifer y gwartheg sy'n cael eu lladd yn arwydd mewn gwirionedd fod polisi'r Llywodraeth yn llwyddo. Yn bersonol, nid wyf yn gweld bod rhoi sylw i fethiannau'r gorffennol yn arwydd o lwyddiant, er bod hwnnw'n ddatblygiad pwysig. Rwy'n cydnabod bod rhywfaint o gynnydd wedi'i wneud, ond rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn cytuno nad oes digon wedi'i wneud a bod llawer i'w wneud eto.
Mae polisi'r Llywodraeth wedi canolbwyntio bron yn gyfan gwbl ar arferion ffermydd a chyfyngiadau ar ffermwyr a symudiadau gwartheg, ac mae wedi anwybyddu un elfen bwysig arall yn y jig-so, sef nifer yr achosion o TB mewn bywyd gwyllt fel fector haint. Hyd nes y bydd y Llywodraeth yn cydnabod bod hyn yn un rhan o'r ateb i'r broblem, ni fyddwn byth yn cyflawni'r hyn rydym i gyd eisiau ei gyflawni, sef dileu TB yn llwyr yng Nghymru. Mae'r Gweinidog yn dweud yn aml ei bod am seilio ei pholisi ar dystiolaeth, ac mae hynny'n beth da iawn, ond o ystyried ei bod hi a'i chyd-Aelodau, mewn penderfyniadau blaenorol, wedi gwneud y gwrthwyneb—cafodd y gwaharddiad saethu a gyflwynwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru ei wneud yn erbyn eu tystiolaeth eu hunain; mae codi ffermydd gwynt fel yr Hendy wedi'i wneud yn erbyn argymhelliad arolygydd a benodwyd gan y Gweinidog ei hun; cafodd y gwaharddiad ar ysmygu roeddem yn ei drafod yr wythnos hon—
Fel Joyce Watson, mae angen i chi gyrraedd eich cwestiwn hefyd, Neil Hamilton.
—ei gyflwyno er gwaethaf canlyniadau ymgynghoriad y Llywodraeth ei hun. Felly, fy nghwestiwn i'r Gweinidog yw hwn: sut y gall Cymru wledig gael unrhyw ffydd yn y Llywodraeth hon y bydd, mewn gwirionedd, yn seilio ei pholisi ar dystiolaeth pan fydd yr holl dystiolaeth sydd gennym yn dangos ei bod yn gwneud y gwrthwyneb?
Wel, yn sicr, rwy'n seilio unrhyw bolisi rwy'n ei gyflwyno ar wyddoniaeth a thystiolaeth, a chredaf fod Neil Hamilton yn dewis a dethol braidd, oherwydd os edrychwch ar y dangosfwrdd TB, os edrychwch ar y tymor byr, er enghraifft yn y 12 mis hyd at fis Hydref 2019, cofnodwyd 666 o achosion newydd mewn buchesi yng Nghymru—gormod, rwy'n cytuno, ac rwyf eisiau pwysleisio hynny'n bendant iawn—ond roedd yn ostyngiad o 12 y cant ar y 12 mis blaenorol, felly rydym yn gweld gwelliant. Yn y tymor hwy, gwelsom ostyngiad o 37 y cant mewn digwyddiadau newydd rhwng 2019 a 2018. Gwelsom ostyngiad o 4 y cant yn nifer yr anifeiliaid a laddwyd rhwng 2009 a 2018.
Rwy'n credu mai'r pwynt roedd y Prif Weinidog yn ei wneud oedd bod profion mwy soffistigedig yn ein galluogi i ddod o hyd i'r TB yn gynharach nag o'r blaen. Nid ydym yn anwybyddu unrhyw elfen o'r sefyllfa TB, a gallaf sicrhau'r Aelod, yn ein cynlluniau gweithredu pwrpasol, er enghraifft, fod pob elfen yn cael ei hystyried.
Yn olaf, Russell George.
Diolch, Lywydd. Weinidog, mae nifer yr unedau pesgi cymeradwy yng Nghymru gryn dipyn yn is pro rata nag yn Lloegr, yn ôl yr hyn a ddywedwyd wrthyf. Ac mae hyn, wrth gwrs, yn cyfyngu ar y cyfleoedd i ffermwyr sydd â TB ar eu ffermydd werthu eu lloi er mwyn atal gorstocio ar eu ffermydd. Rwy'n meddwl tybed beth rydych yn bwriadu ei wneud, Weinidog, i annog sefydlu mwy o unedau pesgi cymeradwy yng Nghymru, a hefyd a wnewch chi ymrwymo eich swyddogion i edrych ar symleiddio'r rheoliadau sydd ynghlwm wrthynt?
Rwy'n sicr yn hapus i edrych ar symleiddio unrhyw beth. Rwy'n casáu biwrocratiaeth ac os gellir ei symleiddio mewn unrhyw ffordd—. Rwy'n gwybod bod swyddogion yn gweithio gyda ffermwyr unigol lle mae ganddynt achosion o TB, yn enwedig os oes ganddynt bocedi gwahanol o dir y gellid eu datgan yn rhydd rhag TB neu sy'n rhydd rhag TB, i wneud hynny. Ond ydw, rwy'n sicr yn hapus i ymrwymo swyddogion i wneud hynny.
Diolch i'r Gweinidog.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Mark Isherwood.
1. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael ynghylch gweithrediadau Swyddfa'r Post yng Nghymru? OAQ54982

Rwy'n cydnabod y gwasanaethau gwerthfawr y mae swyddfeydd post lleol yn eu darparu i'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu ledled Cymru. Mae Llywodraeth Cymru yn cysylltu'n rheolaidd â Swyddfa'r Post Cyf er mwyn sicrhau ein bod yn ymwybodol o unrhyw faterion sy'n effeithio ar gymunedau yng Nghymru a'n bod yn gallu dwyn unrhyw broblemau i'w sylw.
Mae swyddfeydd post yn dal i fod yn ganolog i'n cymunedau, yn enwedig lle mae'r gangen olaf o fanc wedi cau. Yn ystod blynyddoedd rhaglen Llywodraeth y DU i gau swyddfeydd post rhwng 2007 a 2009, dywedwyd wrthym dro ar ôl tro yma—a hynny'n gwbl briodol—fod yn rhaid i swyddfeydd post fod yn gynaliadwy a bod hynny'n cynnwys datblygu gwasanaethau ariannol.
Fis Hydref diwethaf, cyhoeddwyd bod Swyddfa'r Post wedi cytuno ar fframwaith bancio newydd gyda 28 o fanciau'r DU, gan sicrhau bod cwsmeriaid banciau'n parhau i gael mynediad am ddim at wasanaethau bancio bob dydd ym mhob cwr o Gymru. Roedd hefyd yn sicrhau cydnabyddiaeth ariannol deg a chynaliadwy i is-bostfeistri. Sut y mae Llywodraeth Cymru felly yn ymgysylltu â Swyddfa'r Post yng nghyd-destun y cytundeb fframwaith bancio hwn, er mwyn sicrhau nad yw ei chynigion ar gyfer banc cymunedol yn cystadlu â'r gwasanaethau hynny sydd ond yn llenwi'r bwlch, fel y gallwn sicrhau bod ein rhwydwaith swyddfeydd post yma yfory a'r wythnos nesaf, y flwyddyn nesaf a chenedlaethau'r dyfodol?
Diolch. Fel y mae'r ddau ohonom—. Rwy'n credu y bydd pawb yma yn cytuno ar y rôl y mae swyddfeydd post yn ei chwarae yn ein cymunedau ac yng nghalonnau ein trefi ledled y wlad yn ogystal, gan gyflawni swyddogaeth a rôl ymarferol yn ogystal â swyddogaeth gymdeithasol hefyd. Er nad yw materion yn ymwneud â swyddfeydd post wedi'u datganoli i Weinidogion Cymru, mae'n amlwg fod gennym rôl i'w chwarae yn y ffordd y mae'r materion hynny'n effeithio ar ddinasyddion Cymru.
Cafodd swyddogion eu cyfarfod diweddaraf â Swyddfa'r Post Cyf yn gynharach y mis hwn ac mewn gwirionedd roedd codi ymwybyddiaeth o'r ymrwymiad a'r fframwaith bancio yn uchel ar yr agenda, o ran sut y gallwn weithio gyda hwy, gyda'r gwaith rydym yn ei wneud ar draws y Llywodraeth i sicrhau bod dinasyddion Cymru'n gallu cael gafael ar y gwasanaethau y maent eu hangen.
2. Pa asesiad mae'r Gweinidog wedi ei wneud o'r berthynas rhwng rhagamcanion poblogaeth a chynlluniau datblygu lleol? OAQ54991

Ie. Mae'r amcanestyniadau aelwydydd, yr asesiadau o'r farchnad dai leol a'r cynlluniau llesiant yn rhannau hanfodol o'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer cynlluniau datblygu lleol. Mater i awdurdodau cynllunio lleol yw penderfynu ar raddfa twf tai, gan adlewyrchu'r materion y maent wedi'u nodi.
Mi gafodd cynllun datblygu lleol Wrecsam, wrth gwrs, yn fy rhanbarth i, ei wrthod nôl yn 2013 gan yr arolygwyr cynllunio oherwydd nad oedd digon o dir, medden nhw, wedi’i glustnodi ar gyfer tai, a hynny oherwydd bod rhagamcanion poblogaeth y sir yn dweud y byddai yna 20 y cant o gynnydd yn y boblogaeth—yr ail gynnydd mwyaf drwy Gymru gyfan; yn ail yn unig i Gaerdydd mae'n debyg. Ond, wrth gwrs, mae'r gwirionedd yn dra gwahanol.
Dros y bum mlynedd ddiwethaf mae'r cynnydd yn y boblogaeth wedi bod yn sylweddol is na'r rhagamcanion. Er hynny, mae'n ymddangos bod yr Arolygiaeth Gynllunio yn dal ddim yn gwrando oherwydd maen nhw'n parhau i herio cyngor Wrecsam. Mae'r cyngor yn edrych i darged o ryw 8,500 o dai yn eu cynllun datblygu lleol tra bod yr Arolygiaeth Gynllunio nawr yn mynnu bod angen bron i 12,000 o dai yn y cynllun hwnnw. Mae hynny, wrth gwrs, yn mynd i olygu codi mwy o dai ar feysydd gwyrdd, mae'n mynd i greu rhyw fath o urban sprawl sy'n mynd i ddinistrio cymunedau unigryw yr ardal.
Felly, fy nghwestiwn i ichi, Gweinidog, yw: ble mae'r Llywodraeth yn sefyll ar y mater yma? A ydych chi o blaid cyfundrefn sy'n gorfodi codi tai diangen, neu a ydych chi o blaid amddiffyn ein hamgylchedd ac amddiffyn ein cymunedau ni?
Wel, diolch am hynny. Fel y gŵyr Llyr Gruffydd, mae'n llawer mwy cymhleth na hynny. Mae'n hollol iawn i ddweud bod cynllun datblygu lleol gwreiddiol Wrecsam wedi cael ei wrthod o ganlyniad i'r ffordd y lluniwyd eu polisi dyrannu tir ar gyfer tai. Er bod gan y cyngor gynllun datblygu unedol cyfredol ar waith, mae wedi dod i ben at ddibenion cyfrifo'r cyflenwad pum mlynedd o dir ar gyfer tai. Fel y gŵyr, mae'r awdurdod wedi bod, a bydd yn parhau i fod yn agored i hap-ddatblygu hyd nes y caiff y cynllun datblygu lleol ei fabwysiadu. Mae'r cynllun datblygu lleol ar y cam archwilio ar hyn o bryd.
Mae'r arolygwyr wedi codi pryderon ynghylch lefel y tai a argymhellir yn y cynllun, gan holi'n benodol a yw'n ddigon uchelgeisiol. Mae lefel y tai a argymhellir gan y cyngor yn cyd-fynd â'r amrywiolyn ymfudo 10 mlynedd a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2014, sef gofyniad am 7,750 o gartrefi. Mae swyddogion wedi cyflwyno sylwadau cyhoeddus i gefnogi'r lefel o dai yng nghynllun datblygu lleol Wrecsam, ac nid ydynt yn credu y dylid ei chynyddu ymhellach.
Mae lefel y tai yn cyd-fynd yn fras â'r cyfraddau cyflenwi ar gyfer y 10 mlynedd blaenorol. Mae'r arolygwyr wedi gofyn i'r cyngor ddarparu eglurhad ychwanegol ar y mater hwn, a'r dyddiad ar gyfer darparu hwnnw yw 31 Ionawr. Cynhelir sesiwn wrando ychwanegol ar 11 Mawrth i ystyried materion tai ymhellach. Felly, rwy'n credu y gallwch weld bod ein swyddogion yn cytuno'n fras â'r hyn rydych yn ei ddweud, sef, o ystyried y rhagamcanion cyfredol a'r hyn y mae Wrecsam yn ei ragweld yn y cynllun datblygu lleol, fod ein swyddogion wedi cyflwyno sylwadau yn dweud ein bod yn credu bod Wrecsam yn eithaf agos ati.
Mae bob amser yn gydbwysedd anodd i gynghorau gan mai rhagamcanion yn unig ydynt. Nid ydynt yn bolisïau sy'n seiliedig ar gynllun. Maent wedi'u seilio ar dueddiadau rhagamcanol yn y boblogaeth, ond nid ydynt yn ystyried unrhyw ddatblygiad economaidd na thwristiaeth nac unrhyw ddyheadau eraill a allai fod gan y cyngor, ac ni fwriedir iddynt fod yn darged mewn unrhyw ffordd. Nid ydynt ond yn un rhan o set o dystiolaeth y mae'n rhaid i'r awdurdod ei hystyried pan fydd yn gosod ei darged tai lleol.
Er enghraifft, mewn ardal awdurdod lleol, os yw nifer yr aelwydydd sy'n cael eu creu yn fwy na lefel y cynnydd yn y boblogaeth oherwydd bod niferoedd cynyddol o bobl sydd eisiau byw ar eu pen eu hunain, er enghraifft, gallai'r targed tai fod yn uwch na'r cynnydd yn y boblogaeth a'r rhagolwg. Felly, mae'n fater llawer mwy cymhleth na hynny. Ond rwy'n credu mai'r ateb syml i'ch cwestiwn yw bod ein swyddogion yn cytuno bod y cynllun yn eithaf agos at lle dylai fod a'u bod wedi cyflwyno sylwadau i'r perwyl hwnnw yn y system.
Weinidog, cytunaf yn llwyr â chi ei fod yn ddarlun cymhleth sy'n cael ei beintio bob tro y mae cynllun datblygu lleol dan ystyriaeth, a'r cymysgedd o dai sydd eu hangen hefyd, o aelwydydd meddiannaeth unigol i aelwydydd amlfeddiannaeth. Ond mae'n ffaith, yn amlwg, pan fydd cynghorau'n cyflwyno eu cynlluniau datblygu lleol, fod yn rhaid iddynt roi sylw dyledus i ragolygon poblogaeth.
Un peth sy'n codi dro ar ôl tro yw bod rhagolygon poblogaeth yn llywio nifer yr unedau sydd i'w hadeiladu ond yn aml iawn, nid yw'r rhagolygon poblogaeth hynny'n bwydo i mewn i'r broses o ddarparu meddygfeydd, cyfleusterau addysg ac ati. A allwch chi roi hyder i mi y bydd mwy o bwyslais yn cael ei roi ar y gwasanaethau sy'n ofynnol i gynnal y datblygiadau y mae pawb ohonom yn derbyn ein bod eu hangen? Gwyddom fod yna argyfwng tai, a gwyddom y gellir dwyn perswâd ar y rhan fwyaf o bobl os gellir eu sicrhau bod yr ystyriaethau trafnidiaeth yn cael eu hystyried, fod darpariaeth gwasanaethau'n cael ei hystyried, yn hytrach na dim ond nifer y tai sydd angen eu hadeiladu.
Ie, a'r ateb i'ch cwestiwn yw edrych ar y set gymhleth o gyfarwyddiadau y mae'n rhaid i awdurdodau lleol eu dilyn wrth bennu'r gwahanol bethau. Felly, gallwn edrych ar y rhagamcanion o niferoedd tai, er enghraifft, ac mae'n rhaid i'r cynllun datblygu lleol roi sylw i nifer o bethau wrth ystyried ei gyflenwad o dir ar gyfer tai a gwneud hynny, fel rwyf newydd ei ddweud wrth Llyr. Ond mae gennym ni hefyd, er enghraifft—. Rydym wrthi'n ymgynghori ar y fframwaith datblygu cenedlaethol, sy'n cynnwys rhai pethau seilwaith mawr. Fel y gwyddoch, rydym wrthi'n rhoi fframwaith ar waith, drwy Fil Etholiadau Llywodraeth Leol (Cymru), i hwyluso'r trefniadau cynllunio strategol rhanbarthol ar gyfer awdurdodau lleol, a ddylai roi'r trefniadau cynllunio rhanbarthol ar waith ar gyfer y mathau hynny o seilwaith. Felly, yn gyffredinol, bydd y set o gynlluniau a fydd gennym ar waith maes o law yn gwneud yn union hynny.
Y ffordd rwyf wedi bod yn ei esbonio, gan ein bod wedi bod yn cynnal nifer o gyfarfodydd i randdeiliaid, yw y dylech allu dweud, drwy osod cynllun cyffredinol ar gyfer Cymru, 'Wel, dyma'r cefnffyrdd, dyma'r ysbytai, dyma'r ysgolion presennol, dyma lle mae'r tai, dyma lle dylai'r ysgol newydd fod', ac yn y blaen, ac yna pan fydd y cyngor yn trafod gyda'r cwmni adeiladu tai ynglŷn â'u cyfraniad i seilwaith lleol, byddai llawer mwy o sicrwydd ynghylch sut y dylai'r seilwaith hwnnw edrych ymlaen llaw, felly pan fydd rhywun yn cynllunio i gyflwyno darn o dir, byddant yn gwybod ei bod yn debygol y bydd yn rhaid iddynt gyfrannu at yr ysgol neu at yr ysbyty neu beth bynnag sydd gerllaw.
Nid ydym wedi dechrau hyn yn y lle gorau posibl. Rydym wedi dechrau arni ar y gwaelod, a byddai wedi bod yn well gennyf ddechrau ar y brig. Ond dechreuodd fy nghyd-Aelod Lesley Griffiths y broses ychydig cyn i mi gael y portffolio, ac yn fuan iawn, byddwn mewn sefyllfa lle mae gennym yr holl gynlluniau hynny ar waith, a byddwn yn gallu gwneud yn union fel rydych yn ei awgrymu.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Mark Isherwood.
Diolch, Lywydd. Ar 10 Ionawr, anfonwyd llythyr atoch gan, neu wedi'i arwyddo gan, arweinwyr pob un o chwe chyngor sir gogledd Cymru ynghylch y setliad llywodraeth leol ar gyfer 2020-21. Ac roedd yn dweud, 'Hyd yn oed gyda setliad cadarnhaol eleni, byddwn i gyd yn edrych ar leihau rhai gwasanaethau a chynnydd uwch na chwyddiant yn y dreth gyngor. Yng ngoleuni'r heriau parhaus, rydym yn dymuno gofyn i chi am gyllid gwaelodol o 4 y cant yn y setliad ariannol i lywodraeth leol, i'w dalu o gronfeydd wrth gefn Llywodraeth Cymru.' Ac roeddent yn dweud mai'r rheswm pennaf am hyn oedd bod pedwar o'r pum cyngor sydd ar y gwaelod yn y setliad dros dro ar gyfer 2020-21 yng ngogledd Cymru, a heb gyllid gwaelodol, bydd y rhan fwyaf o gynghorau gogledd Cymru yn wynebu'r her fwyaf o ran edrych am doriadau i wasanaethau, tra bydd cyllid gwaelodol yn helpu i ddiogelu gwasanaethau a gweithio yn erbyn cynnydd uwch na chwyddiant yn y dreth gyngor yn y chwe chyngor sydd ar y gwaelod. Sut y byddwch yn ymateb i'r cais hwn y credaf ei fod hefyd wedi'i rannu â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru?
Rydym wedi gofyn am fwy o dystiolaeth ynglŷn â'r caledi a fyddai'n dod yn sgil y cynnydd mwyaf mewn unrhyw setliad llywodraeth leol a gawsant erioed. A gallwch glywed o'r ffordd rwyf wedi ateb eich cwestiwn fy mod ychydig yn amheus ynglŷn â hynny. Diben cyllid gwaelodol, yn amlwg, yw atal pobl rhag gorfod gwneud toriadau enfawr mewn gwasanaethau y byddent wedi gorfod eu gwneud fel arall oherwydd newidiadau mewn amcanestyniadau poblogaeth, neu ryw broblem arall yn ymwneud â'r fformiwla ddosbarthu sy'n effeithio'n anghymesur ar gyngor penodol, a lle byddai gostyngiad annisgwyl o filiynau o bunnoedd o ran cymorth yn golygu newidiadau sydyn i wasanaethau.
Yn yr achos hwn, ni fydd yr un cyngor yng Nghymru'n cael llai na 3 y cant o gynnydd. Mae'r rhan fwyaf o'r cynghorau rydych yn sôn amdanynt rywle rhwng 3 a 4 y cant. A'r hyn rydym yn sôn amdano yw gofyn am gyllid gwaelodol i'w codi i 4.7, rwy'n credu mai dyna a ddywedasant—gallai fod yn 6 neu 8; ni allaf gofio—y cant. Nid wyf yn credu bod y pwynt hwnnw yr un fath, ac er fy mod yn deall eu dadl fod yna gyfartaledd, ac y dylai rhai ddod i lawr er mwyn i eraill fynd i fyny, nid ydynt yn wynebu'r math o doriadau i wasanaethau roeddent yn eu hwynebu yn ystod y naw mlynedd flaenorol o gyni gorfodol. Felly, mae'n anodd iawn deall yn iawn beth yw'r rhesymeg dros hynny. Mae'r setliad hwn yn uwch nag y gallai unrhyw un ohonynt fod wedi'i ragweld, ac mae'n anodd iawn gweld sut y byddent yn wynebu toriadau heb eu cynllunio i wasanaethau o ganlyniad i hynny.
Ond wedi dweud hynny i gyd, os ydynt eisiau cyflwyno tystiolaeth ynglŷn â hynny, rwy'n hapus iawn i edrych arno. Ond unwaith eto, rwyf am bwysleisio, pan fyddwn yn ystyried rhoi mwy o arian tuag at y math hwnnw o setliad, rydym yn ystyried o ble i'w gymryd. Felly, byddai'n rhaid inni hefyd ystyried faint y byddai cyllid gwaelodol o'r fath yn ei gostio, ac o ble y dôi'r arian hwnnw.
Wel, fel y dywedais—nid wyf am fynd ar drywydd cyni—dywedasant 'hyd yn oed gyda'r setliad cadarnhaol eleni'—felly maent yn cydnabod hynny, ac mae llofnodion trawsbleidiol ar y llythyr hwn—er mwyn ymateb i'r pwysau ar wasanaethau blaenoriaethol a arweinir gan y galw fel gwasanaethau gofal cymdeithasol a gwasanaethau plant, maent yn dweud y byddant yn wynebu toriadau heb gyllid gwaelodol o 4 y cant; gofynnai'r llythyr hwn am 4 y cant.
Fodd bynnag, gan symud ymlaen at y gronfa gofal integredig, lluniwyd eich adroddiad blynyddol ar 16 Ionawr, ac roedd yn dweud:
'Erbyn hyn mae yna dimau amlddisgyblaeth niferus o weithwyr proffesiynol iechyd, gofal cymdeithasol, tai a thrydydd sector sy’n gweithio gyda’i gilydd i ddatblygu ymyriadau wedi’u teilwra'.
Ac fe ddywedoch chi fod,
'gwell defnydd o adnoddau drwy gydweithio a thrwy symud oddi wrth ffyrdd traddodiadol o weithio'
wedi'u nodi, ond roeddech yn cydnabod bod yn rhaid i'r gronfa
'ddangos y defnydd gorau o arian cyhoeddus hefyd a bod angen darparu tystiolaeth glir o’i heffaith.'
ac y byddech yn mynd i'r afael ag argymhellion adolygiad Swyddfa Archwilio Cymru o'r gronfa. Roedd adolygiad Swyddfa Archwilio Cymru yn dweud:
'Un o brif nodau’r gronfa yw hybu cydweithio rhwng cyrff statudol a sefydliadau’r trydydd sector'
ond
'cyfeiriodd cynrychiolwyr y trydydd sector a fu’n siarad â ni at ystod o heriau sydd wedi effeithio ar eu gallu i gael gafael ar arian o’r gronfa.'
a bod y
'trydydd sector yn dal i fod wedi’i ddatgysylltu o’r rhaglen ehangach lle gallai wneud cyfraniadau yr un mor ddilys at rai o’r prosiectau mwy.'
Roedd eu hadroddiad penodol ar ogledd Cymru yn peri mwy o bryder byth yn y cyd-destun hwn, lle dywed fod
'y ffordd y cafodd y gronfa ei rheoli ar lefel genedlaethol, lefel ranbarthol a lefel prosiectau wedi cyfyngu ar ei photensial hyd yma...ni cheir llawer o dystiolaeth bod prosiectau llwyddiannus yn cael eu prif-ffrydio a’u hariannu'
a dywedai'n benodol:
'Dywedodd cynrychiolwyr y trydydd sector wrthym nad ydynt yn teimlo eu bod yn cael mynediad digonol at y gronfa a’u bod yn elwa’n bennaf pan fydd y gwariant ar brosiectau eraill yn llithro.'
a galwai am
'ffyrdd o sicrhau bod y trydydd sector yn cael mynediad teg at y Gronfa Gofal Integredig.'
Mae hyn yn ailadrodd y pryderon a godwyd gyda mi yn ystod yr wythnos ddiwethaf—dadl yma yr wythnos diwethaf ar gyllid i elusennau cymorth profedigaeth. Rwyf wedi cael llythyr yr wythnos hon gan elusennau sy'n cefnogi pobl sydd â nam ar eu golwg a'u clyw. Rydym i gyd yn derbyn gohebiaeth gan y rhwydwaith o gyrff trydydd sector sy'n darparu cymorth sy'n gysylltiedig â thai, ac fe ddylai, ac fe allai, pob un ohonynt leihau'r pwysau sylweddol ar wasanaethau statudol am gyfrannau cymharol fach o gyllidebau cyffredinol. Felly, sut yr ymatebwch yn benodol i'r pryderon a godwyd gan yr archwilydd cyffredinol ynglŷn â'r angen i integreiddio'r trydydd sector yn well, nid yn unig o ran y gyfran o gyllid, sy'n allweddol, ond hefyd o ran gwneud penderfyniadau a llunio gwasanaethau wrth iddynt fwrw ymlaen?
Rwy'n credu ei fod yn bwynt teg, a dweud y gwir. Mae'n ddyddiau cynnar, mewn rhai ffyrdd, ar y gronfa gofal integredig, ac rydym eisiau sicrhau ein bod yn cael y mathau o brosiectau uchelgeisiol a gaiff eu cyflwyno. Ac er mwyn gwneud hynny, rydym angen trawsweithio da ar draws sectorau i wneud yn siŵr ein bod yn taro'r holl bethau cywir rydym eisiau i'r gronfa gofal integredig eu gwneud. Ac mae hynny'n eithaf cymhleth, oherwydd, fel y mae Mark Isherwood yn ei nodi'n gywir, mae'n rhyngweithio â chyfres gyfan o bethau eraill rydym hefyd yn eu hariannu. Felly, rwy'n credu ei fod yn bwynt teg. Rwy'n hapus iawn i edrych eto ar argymhellion yr adroddiad, a gweld sut y gallwn integreiddio partneriaid y trydydd sector yn well wrth gynllunio ar gyfer hynny. Fe fyddwch yn gwybod ein bod wedi rhoi tai fel partneriaid statudol ar y byrddau cynllunio rhanbarthol yn ddiweddar—byrddau partneriaeth rhanbarthol, mae'n ddrwg gennyf; dylem roi'r gorau i roi'r un acronym tair llythyren i bethau, er budd Gweinidogion sy'n stryffaglu—y byrddau partneriaeth rhanbarthol, dylwn ddweud. A'r rheswm am hynny oedd ein bod eisiau cael mewnbwn ehangach i'r ffordd yr edrychir ar y cronfeydd hynny. Felly, rwy'n hapus iawn i edrych ar hynny. Os hoffech ysgrifennu ataf gan roi mwy o fanylion am rai o'r materion a gafodd eu dwyn i'ch sylw, rwy'n fwy na pharod i edrych ar hynny.
Iawn. Os caf symud ymlaen at gyngor penodol, mae bron i ddau ddegawd bellach ers i reolwr archwilio mewnol Sir y Fflint lwyddo yn ei achos yn erbyn y cyngor, ac roedd gwrthod mynediad at ddogfennau a methiant i ymateb i ohebiaeth yn nodwedd ganolog o'i gwynion. Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, cawsom y sgandal cynnal a chadw tai, lle nodwyd problemau tebyg gan PricewaterhouseCoopers ac adroddiad annibynnol Roots. Gadawodd llu o bobl y cyngor, gyda chytundebau peidio â datgelu yn ôl y sôn. Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, cawsom sgandal AD Waste, patrwm tebyg—unwaith eto, dau aelod o staff yn gadael yr awdurdod, ond unwaith eto, yr heddlu'n dweud na allent erlyn oherwydd y diffyg dogfennaeth.
Yn 2018, cafodd cyngor Sir y Fflint ddadl a galwyd am gamau gweithredu ar ôl i gynghorydd enwi a chodi cywilydd ar swyddogion nad oedd yn ymateb i alwadau a negeseuon e-bost, a galwodd am gamau pellach. Ac yn awr mae gennym, y mis hwn, adroddiad ombwdsmon gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i Gyngor Sir y Fflint a ganfu, er eu bod wedi nodi niwsans statudol yn 2014, nad oedd y cyngor wedi agor ffeil achos briodol tan 18 mis yn ddiweddarach. Roedd y cyngor yn ymwybodol ers o leiaf 2012 nad oedd ganddynt ganiatâd cynllunio priodol, ond nad oedd y nesaf peth i ddim cofnodion cynllunio cyn mis Awst 2018, fod methiannau o ran cyfathrebu a chydweithredu rhyngadrannol, prinder cofnodion, fod y cyngor wedi methu ymateb i'r cwynion yn briodol, fod diffyg perchnogaeth eglur wedi'i sefydlu ar lefelau uwch yn y cyngor, ffactor a waethygwyd gan hyd yr amser y parhaodd y methiannau, a diffyg ystyriaeth i'r anawsterau a wynebwyd. Mae'r adroddiadau hyn, sy'n mynd yn ôl 10 mlynedd, ac 20 mlynedd, i gyd yn nodi'r un problemau, waeth beth fo'r arweiniad gwleidyddol wrth iddo fynd a dod. Beth y bwriadwch ei wneud yn ei gylch? Oherwydd y tro diwethaf i mi godi hyn gyda chi, fe ddywedoch chi mai mater i'r cyngor ydyw, ac mae eich rhagflaenwyr dros y blynyddoedd bob amser wedi dweud mai mater i'r cyngor yn unig ydyw. Ond does bosibl y gall hyn barhau heb ei herio a'i archwilio, pan fo'r un problemau yn parhau i godi.
Mater i'r cyngor ydyw, ond rwy'n deall eich pryder. Nid wyf yn gwybod hyn—oherwydd fe fyddwch yn gwybod nad wyf wedi bod yn y gwaith am yr wythnos ddiwethaf, ond nid wyf yn gwybod a yw'r ombwdsmon gwasanaethau cyhoeddus wedi codi unrhyw beth o ganlyniad i'r adroddiadau gyda'r Llywodraeth. Felly, byddaf yn edrych ar hynny. Os oedd yna batrwm amlwg yn ymddangos a oedd yn peri pryder i'r ombwdsmon, byddem yn disgwyl i'r ombwdsmon dynnu ein sylw at hynny. Felly, byddaf yn edrych i weld. Ac rwy'n fwy na pharod i gael cyfarfod â chi am eich pryderon ehangach mewn perthynas â hyn, os mynnwch. Felly, ymddiheuriadau—nid wyf wedi gweld yr adroddiad hwnnw, gan fy mod wedi bod i ffwrdd o'r gwaith, ond fe edrychaf i mewn iddo.
Fodd bynnag, mae hi bob amser yn demtasiwn dod o hyd i batrwm mewn digwyddiadau dros 10 mlynedd pan mai digwyddiadau yn unig ydynt mewn gwirionedd. Felly, rwy'n hapus i edrych arno gyda meddwl agored, ond nid wyf yn argyhoeddedig fod cyfres o ddigwyddiadau unigol, dros 10 mlynedd, o reidrwydd yn brawf o batrwm o ddiwylliant mewn awdurdod. Ond rwy'n fwy na pharod i edrych arno gyda chi, Mark, a gweld a oes rhywbeth sy'n peri pryder yn ymddangos.
Llefarydd Plaid Cymru, Delyth Jewell.
Diolch, Lywydd. A all y Gweinidog egluro pam fod Llywodraeth Cymru yn dal i gyfrif y 7,129 o gartrefi a werthwyd drwy Cymorth i Brynu ers 2016 fel rhai sy'n cyfrif tuag at ei tharged o 20,000 o gartrefi fforddiadwy yr honnoch chi fod 13,143 ohonynt wedi'u darparu eisoes?
Gallaf. Oherwydd bod Cymorth i Brynu wedi helpu pobl i brynu tŷ na fyddent, fel arall, wedi gallu ei brynu drwy eu cynorthwyo gyda chynllun blaendal na fyddent wedi cael mynediad ato fel arall. Ac rydym yn cyfrif cartrefi fforddiadwy yn yr ystyr ehangach hwnnw fel cartrefi sydd ar gael i bobl na fyddent wedi cael mynediad atynt oni bai eu bod wedi cael cymorth gan y Llywodraeth. Felly, dyna'r esboniad byr.
Diolch i chi am hynny, Weinidog. Mae'n ymddangos i mi mai craidd y broblem gyda'r term 'fforddiadwy' yw bod ei ddiffiniad mor gymharol. Felly, gwerthwyd 78 y cant, sy'n syfrdanol, o gartrefi, sef 5,564 a werthwyd drwy Cymorth i Brynu, am bris o dros £150,000. Cafodd dros 1,000 o gartrefi rydych yn eu cyfrif yn yr ystadegau fel rhai fforddiadwy eu gwerthu am dros £250,000. Nid wyf yn gallu gweld sut y gall unrhyw berson rhesymol gyfrif y cartrefi hyn fel rhai fforddiadwy. Onid yw hynny'n ystumio ystadegau ar raddfa enfawr?
Nid wyf yn anghytuno o gwbl fod y diffiniad o 'fforddiadwy' yn ddi-fudd ac yn fwy hyblyg nag y byddem yn ei hoffi o ran yr hyn rydym yn ceisio ei wneud. Ac rydym wedi bod yn agored iawn ynglŷn â'r niferoedd mewn perthynas â hynny, oherwydd nid wyf yn anghytuno â'r hyn rydych yn ei ddweud yn sylfaenol, sef y dylem adeiladu tai cymdeithasol neu gartrefi sydd o fewn ystod gallu pobl i brynu heb orfod cael cymorth gan y Llywodraeth. Ond os ydych wedi cael cymorth gan y Llywodraeth i allu prynu eich tŷ, y diffiniad cyfredol yw ei fod yn gartref fforddiadwy. Felly, nid wyf am ddadlau gyda chi; nid wyf yn anghytuno â'ch gosodiad sylfaenol. Ond roedd y targed a osodwyd gennym yn cynnwys y diffiniad hwnnw ac felly mae'n cael ei gyfrif yn erbyn y diffiniad hwnnw.
Yn bwysicach na dim, rydym yn mynd ati yn awr i geisio rhyddhau tir ac adnoddau fel y gallwn adeiladu tai cymdeithasol. Hynny yw, tai ar gyfer rhentu cymdeithasol, a hynny naill ai drwy ein cynghorau sy'n awdurdodau sy'n dal stoc dai—yr 11 cyngor sy'n awdurdodau sy'n dal stoc dai o hyd—neu drwy ein cymdeithasau tai lleol, neu'r ddau mewn rhai ardaloedd. Felly, mae rhai awdurdodau sy'n dal stoc dai yn gweithio law yn llaw â'r gymdeithas dai leol i gyflwyno tai rhent cymdeithasol ar gyfer cydberchnogaeth neu ranberchnogaeth, ac mewn awdurdodau eraill nad ydynt yn dal stoc dai, maent yn gweithio gyda'u cymdeithasau tai lleol i'w cyflwyno. Ac mae'n mynd o nerth i nerth.
Felly, o ddechrau araf—os cofiwch, nid oedd cynghorau'n cael defnyddio'r arian a gawsant o werthiannau hawl i brynu er mwyn gwneud hyn, ac roedd capiau ar y cyfrifon refeniw tai ac yn y blaen. Felly, o hynny i'r Llywodraeth Geidwadol yn gweld synnwyr o'r diwedd a dileu'r capiau, rydym wedi llwyddo i gyflymu'n eithaf sylweddol, ac rwy'n gobeithio'n fawr y bydd eleni'n gweld twf cyflym arall yn nifer y tai rhent cymdeithasol, sef y math o ddeiliadaeth sydd fwyaf o'i angen yn economi Cymru.
Diolch yn fawr, Weinidog. Rwy'n croesawu'r cywair a ddefnyddiwch wrth siarad â ni. Rwy'n falch eich bod yn cytuno â byrdwn cyffredinol yr hyn rydym yn ei ddweud yma. Felly, er mwyn ei gofnodi felly, pe baem yn bwrw golwg fwy rhesymol ar gyflawniad y Llywodraeth yn darparu tai fforddiadwy yn ôl y diffiniad yn yr ystyr ehangach o'r hyn y dylai ei olygu, a chredaf eich bod yn cytuno â ni ar hynny, byddai angen inni gael gwared ar y cartrefi a oedd y tu hwnt i gyrraedd cynifer o bobl, a thynnu'r 5,500 o gartrefi anfforddiadwy allan, a byddai hynny, mewn gwirionedd, yn golygu bod y Llywodraeth wedi darparu 7,579 ac felly rydych ar y trywydd cywir i fethu cyrraedd y targed hwnnw. Felly, buaswn yn croesawu eich—
Iawn, fy ateb i hynny, fodd bynnag, yw bod y targed wedi'i osod yng ngoleuni'r diffiniad a oedd ar gael—
Nid wyf yn credu bod yr Aelod wedi gorffen ei chwestiwn, os nad oes ots gennych. Rwy'n gwybod eich bod yn awyddus, Weinidog, ond os gwnewch chi ganiatáu iddi orffen ei chwestiwn.
Ymddiheuriadau mawr.
Na, diolch i chi am gytuno â mi ar hynny. Arhosaf i glywed eich ateb yn llawnach. Ond fel roeddech yn sôn am dai cymdeithasol, rwyf innau hefyd yn credu mai dyna lle mae gwir angen inni ganolbwyntio ar gyflawni. Unwaith eto, rwy'n croesawu'r hyn rydych wedi bod yn ei ddweud am hynny. Mae'r ffigurau'n dangos, ers 2016, mai dim ond 4,397 o gartrefi sydd wedi'u cwblhau ar gyfer y sector tai cymdeithasol, ac mae hynny tua hanner y gyfradd rydym ei hangen i gyrraedd y targed yn ôl y rhan fwyaf o amcangyfrifon. Felly, o ystyried hyn, a'r canfyddiadau nad yw tua hanner y cartrefi fforddiadwy a addawyd drwy rwymedigaethau cynllunio dros y degawd diwethaf wedi'u darparu, oherwydd bod datblygwyr yn manteisio ar ein system gynllunio ddiffygiol, pa bryd y credwch y gwelwn y newidiadau radical a grybwyllwyd gennych i'r dref gynllunio?
Iawn. Fel roeddwn yn ei ddweud, nid wyf yn credu ei bod yn deg dweud nad ydym yn cyrraedd y targed, gan fod y targed wedi'i osod yn ôl y diffiniad o dai fforddiadwy a oedd yn bodoli ar y pryd, ac fe gafodd y targed ei osod yn y goleuni hwnnw. Felly, os ydych yn mynd i dynnu'r tai Cymorth i Brynu allan o hwnnw, byddech o anghenraid yn gostwng y targed, oherwydd ni fyddem byth wedi'i osod yn y ffordd honno pe na baem yn cynnwys y tai hynny. Felly, er fy mod yn derbyn y pwynt rydych yn ceisio ei wneud, rwy'n credu eich bod yn ein beirniadu'n ddiangen, gawn ni ddweud? Mae yna bethau eraill y gallwch ein beirniadu yn eu cylch yn fwy haeddiannol o bosibl.
Un o'r problemau mwyaf rydym wedi'u cael wrth gyflawni'r elfen cartrefi fforddiadwy mewn ceisiadau cynllunio yn y sector preifat yw bod sylfaen sgôr cynghorau wedi cael ei dinistrio mewn gwirionedd. Ac felly wrth drafod y 106 o gytundebau, nid yw cynghorau o reidrwydd wedi gallu cadw at y safbwynt y byddent wedi hoffi ei arddel yn erbyn datblygwyr ac adeiladwyr y tai yn y trafodaethau hynny. Felly, rhan fawr o'r Bil llywodraeth leol roeddem yn ei drafod yn y pwyllgor gyda'n gilydd y bore yma yw gwneud y trefniadau rhanbarthol hynny fel y gallwn gyfuno'r sgiliau sy'n angenrheidiol i alluogi cynghorau i wrthsefyll sgyrsiau o'r fath.
Ond ar yr un pryd, mae yna gyfres gyfan o bethau eraill y mae angen inni eu gwneud. Mewn gwirionedd, rwy'n credu ein bod wedi gwneud yn eithaf da o ystyried lefel y cyfyngiadau sydd wedi bod ar adeiladu tai cymdeithasol dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Ond fe welwch newid enfawr o ran graddfa a chyflymder gan fod y capiau wedi'u tynnu bellach a'n bod wedi newid y ffordd rydym yn dal tir sector cyhoeddus.
Felly, i atgoffa'r Siambr, Lywydd, rydym wedi newid y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn dal tir. Mae wedi'i ganoli yn yr is-adran tir cyhoeddus gyda fy nghyd-Aelod, Rebecca Evans, a'u cyfarwyddyd yw y bydd 50 y cant o'r tai a adeiladir ar yr holl dir sydd gyfer tai ac sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru yn dai rhent cymdeithasol a bydd elfen fforddiadwy ar ben hynny wedyn. Ac mae'r cyflenwad tir hwnnw'n gwneud gwahaniaeth enfawr i gyflymder y ffordd rydym yn adeiladu tai cymdeithasol.
Ar hyn o bryd, rydym yn sgwrsio â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a'r byrddau iechyd a phethau eraill i werthu'r tir sector cyhoeddus o dan gynllun tebyg, oherwydd y broblem fwyaf o ran adeiladu cartrefi cymdeithasol yw caffael y tir, nid adeiladu'r tai. Felly, rydym yn camu i'r adwy'n bendant iawn ar hynny, ac rwy'n credu y gwelwch newid sylweddol yn y niferoedd wrth i'r gwaith adeiladu newydd gyflymu. Yr hyn rydych yn ei weld ar hyn o bryd yw cwblhau'r tai y dechreuwyd eu hadeiladu o dan yr hen system, a oedd yn amlwg yn llawer mwy cyfyngol.
3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y camau sydd ar gael i lywodraeth leol i atal cofrestru ail gartrefi fel busnesau? OAQ55010
Os yw eiddo yn ail gartref, fe'i hystyrir yn annedd ddomestig. Nid yw cofrestru busnesau ynddo'i hun wedi'i ddatganoli.
Roeddwn yn Rhosneigr mewn bore coffi yn ddiweddar, a dywedodd grŵp o fenywod a oedd yn brysur yn gwneud paned i mi ar y pryd, 'A allwn ni gael cyfarfod cyhoeddus i drafod mater y biniau coch?' Nid oeddwn yn siŵr beth roeddent yn ei olygu, felly fe wnaethant esbonio: 'O, wyddoch chi, pan fydd pobl yn cofrestru eu cartrefi gwyliau fel busnesau, mae eu biniau domestig yn cael eu newid am rai busnes, rhai coch. Mae mwy a mwy ohonynt yn y pentref, ac mae'n anghywir, nid ydynt yn talu eu trethi.'
Nawr, ym mis Tachwedd 2018, dywedodd y cyn Brif Weinidog wrthyf nad oedd yn credu bod bwlch yn y gyfraith yma. Dywedodd y Gweinidog cyllid, Rebecca Evans, hefyd, 'Nid wyf yn siŵr a fyddwn yn cytuno bod yna fwlch yn y gyfraith'. Gadewch i ni edrych ar ddiffiniadau o 'loophole'.
Mae geiriadur Caergrawnt yn ei alw'n gamgymeriad bach mewn cytundeb neu yn y gyfraith sy'n rhoi cyfle i rywun osgoi gorfod gwneud rhywbeth.
Mae geiriadur Collins yn dweud mai
camgymeriad bach yw 'loophole' yn y gyfraith sy'n caniatáu i bobl wneud rhywbeth a fyddai fel arall yn anghyfreithlon.
A dyna'r pwynt yma. Yn sicr, dylai fod yn anghyfreithlon i brynu ail gartref a gallu osgoi talu'r trethi y mae'n rhaid i ddinasyddion amser llawn eraill yn yr un gymuned eu talu, a dal i ddisgwyl cael yr un gwasanaethau. Yr hyn y mae stori'r biniau coch yn ei ddweud wrthym yw bod hyn yn dod yn fwy a mwy gweladwy a bod pobl yn mynd yn fwyfwy dig am y peth.
Nawr, os na wnaiff y Llywodraeth gytuno bod bwlch yn y gyfraith yma, a ydych yn cytuno bod camgymeriad bach yn y ddeddfwriaeth ar hyn o bryd sydd â chanlyniadau a allai fod yn anfwriadol, ond bod yn rhaid rhoi sylw i hynny yn enw tegwch ac yn enw darparu refeniw mawr ei angen i awdurdodau lleol, refeniw a gollir fel arall?
Rwy'n derbyn y pwynt y mae'r Aelod yn ceisio ei wneud, ond nid wyf yn credu ei fod yn fwlch yn y gyfraith yn ôl unrhyw un o'r diffiniadau rydych newydd eu rhoi, ac mae hynny oherwydd ei fod yn fwriadol. Mae bwlch yn y gyfraith yn ganlyniad anfwriadol, ac mewn gwirionedd, mae hwn yn ganlyniad bwriadol.
Hoffwn egluro sut y mae'n gweithio, oherwydd rwy'n credu bod llawer o gamddealltwriaeth ymysg pobl ynglŷn â sut yn union y mae hyn yn gweithio: pan fydd rhywun yn caffael eiddo, mae'n rhaid iddynt nodi a yw'n annedd neu'n fusnes. Os ydynt yn nodi mai annedd ydyw, yna mae'n ail gartref os nad yw wedi'i feddiannu drwy'r amser, ac mae'n ddarostyngedig i system dreth gyngor yr awdurdod hwnnw.
Mae rhai awdurdodau wedi dyblu'r dreth gyngor ar ail gartrefi, tra bo eraill wedi'i haneru mewn gwirionedd, yn dibynnu ar eu hamgylchiadau lleol a'r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni. Mater o ddisgresiwn lleol yw hynny a gallant wneud fel y dymunant.
Yr hyn rydych yn ei ddisgrifio yw sefyllfa lle mae rhywun yn caffael eiddo ac yna'n dweud nad yw'n eiddo domestig ond yn hytrach ei fod yn rhan o fusnes ac maent yn ei osod fel llety hunan-arlwyo neu beth bynnag. Ceir rheolau caeth ynglŷn â'r hyn y mae'n rhaid iddynt ei wneud i allu gwneud hynny, ac mae'n rhaid iddynt wneud cais drwy'r swyddfa brisio, mae'n rhaid iddynt lenwi'r ffurflenni a darparu tystiolaeth ddogfennol i ddangos bod yr eiddo wedi bodloni'r meini prawf ar gyfer gosod, ac mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn adolygu'r dystiolaeth cyn newid y rhestrau, ac yna bydd yn fusnes cofrestredig. Dau eiddo yn unig a ganiateir i bob busnes cofrestredig iddo gael ei gyfrif fel busnes bach. Felly, os ydych yn fusnes bach, ni allwch gael mwy na dau eiddo. Ac os ydych yn fusnes bach sydd â dau eiddo, gallwch wneud cais am ryddhad ardrethi i fusnesau bach.
Cartref gwyliau.
Wel, mae cartref gwyliau yr un peth—mae'n dal i fod yn fusnes, beth bynnag rydych yn ei alw.
Na, nid yw'n—[Anghlywadwy.]
Mae'r Gweinidog yn ceisio rhoi ateb i chi, Rhun ap Iorwerth.
Felly, os nad yw'n cael ei osod a'i fod yn cael ei ddosbarthu fel busnes bach, yr hyn rydych yn ei ddweud yw, 'Nid yw hwn yn cael ei osod, mae'n cael ei ddefnyddio fel ail gartref', ac mae'r person wedi gwneud hynny—mae hynny'n dwyll. Felly, mae honno'n drosedd a byddai'r person yn cael ei erlyn. Rydym wedi gofyn—o ganlyniad i rywbeth y gofynnodd Siân Gwenllian i mi ei wneud—i'r holl awdurdodau yng Nghymru am unrhyw dystiolaeth o hynny, ac nid ydym wedi cael unrhyw dystiolaeth. Ac rydym wedi gofyn i'r swyddfa brisio gynnal archwiliad o'r rhai y maent yn ymwybodol ohonynt, ac nid ydynt wedi cyflwyno un sydd heb fod yn newid cyfreithlon ac nid ydynt wedi gallu darparu'r dystiolaeth angenrheidiol i gynnal hynny.
Nawr, rwy'n dweud eto: os oes gennych dystiolaeth fod hynny'n digwydd, gadewch i ni ei gweld, a byddaf yn gwneud rhywbeth am y peth. Ond hyd yn hyn, ar hyn o bryd, nid oes gennym unrhyw—. Mae gennym anecdotau o bob math, gan gynnwys yn fy awdurdod i ac ym mhobman arall, ond nid oes gennym unrhyw dystiolaeth o gwbl fod hynny'n digwydd mewn gwirionedd.
Rwy'n cydnabod y pryderon y tu ôl i'r cwestiwn hwn, ond mae'r ffiniau rhwng prif gartref, ail gartrefi, tai amlfeddiannaeth ac unrhyw endid busnes wedi bod yn niwlog ers dyfodiad Airbnb a chwmnïau llety cyfradd ddyddiol tebyg. Os ydych yn cefnogi egwyddor o atal yr hyn y mae Plaid Cymru yn ei ystyried yn ail gartref—nad yw ond wedi'i feddiannu o bryd i'w gilydd gan ymwelwyr nad ydynt yn byw yno yn barhaol—rhag cael ei gofrestru fel busnes, sut y gallech ddisgwyl casglu unrhyw dreth dwristiaeth ganddynt? Rwy'n credu bod hwnnw'n rheswm gwirioneddol dda dros beidio â hyd yn oed ystyried y dreth honno ymhellach.
Rwy'n gwneud yr un pwynt: os oes gennym unrhyw dystiolaeth o gwbl fod eiddo wedi cael eu rhestru'n anghywir fel busnesau yn hytrach nag eiddo domestig, gadewch i ni ei gweld, ac fe edrychwn arni a gwneud rhywbeth yn ei gylch. Os yw preswylfa'n breswylfa ddomestig, wedi'i rhestru'n breswylfa ddomestig ar gyfer meddiannaeth achlysurol, neu fel preswylfa na fydd byth yn cael ei meddiannu—ac nid oes unrhyw beth i'ch atal rhag prynu ail gartref heb fynd iddo byth—cyhyd â'i fod wedi'i gofrestru fel annedd ddomestig, bydd yn talu beth bynnag yw'r dreth gyngor berthnasol ar gyfer preswylfa nad yw'n brif gartref yn yr ardal honno.
Mae'n rhaid i chi gysylltu â'r swyddfa brisio a dweud eich bod eisiau cofrestru'r eiddo yn eiddo dibreswyl at ddefnydd busnes er mwyn cael eich cynnwys yn y cynllun hwn. Ni allwch gael mwy na dau eiddo o'r fath i fod yn gymwys fel busnes bach a chael y rhyddhad ardrethi. Os oes gennych fwy na hynny, fe fyddwch yn talu ardrethi annomestig arno yn lle'r dreth gyngor, nad yw o reidrwydd yn well, efallai y bydd yn fwy.
Wedyn y peth arall i'w ddweud yw, mewn perthynas â dyblu'r tâl am ail gartrefi mewn nifer o ardaloedd yng Nghymru, ni fwriadwyd iddo fod yn drefniant codi refeniw mewn unrhyw ffordd—ond yn hytrach yn drefniant i newid ymddygiad—ond mae wedi codi symiau sylweddol iawn o arian ledled Cymru mewn gwirionedd. Llawer mwy nag a fyddai wedi'i golli pe bai bwlch o'r fath wedi bodoli yn y gyfraith, ac rwy'n pwysleisio nad yw hynny'n wir.

A yw'r Gweinidog yn rhannu fy rhwystredigaeth nad yw'n glir a yw Plaid Cymru yn cwyno am dwyll neu'n cwyno am y gyfraith? Ai'r broblem yw bod perchenogion ail gartrefi'n eu hailddosbarthu fel cartrefi gwyliau ond yn dal i fyw ynddynt eu hunain yn rhan-amser yn hytrach na'u gosod ar rent? Os felly, twyll yw hynny. Ai'r broblem yw'r ffaith nad ydynt yn eu gosod ar rent yn aml ac felly nid ydynt yn cyrraedd y trothwy 10 wythnos y flwyddyn? Os felly, a ddylem gymryd camau pellach i orfodi'r gyfraith? Neu a oes dadl, os ydynt yn mynd i elwa o beidio â gorfod talu'r dreth gyngor yn y modd hwn, y dylent fod yn eu gosod ar rent am fwy na 10 wythnos y flwyddyn? Os felly, pam nad ydym yn troi at ddiffiniad Cyllid a Thollau ei Mawrhydi a'i gwneud yn ofynnol i gartrefi gwyliau â dodrefn gael eu gosod ar rent am 15 wythnos y flwyddyn o leiaf, ac ar gael am isafswm o 30 wythnos y flwyddyn?
Mae hwnnw'n ddadansoddiad rhesymol. Ein dadansoddiad ni o'r holl waith rydym wedi'i wneud ar hyn yw bod hyd y cyfnod gosod ar y lefel gywir, oherwydd mae economïau twristiaeth yn bwysig iawn ledled Cymru mewn lleoedd bach iawn. Felly, mater o sicrhau cydbwysedd yw hyn rhwng caniatáu i eiddo gael ei ddefnyddio yn ein diwydiant twristiaeth hollbwysig, a sicrhau nad yw pobl yn manteisio ar ryw fwlch yn y gyfraith. Ond nid yw'n fwlch os oes rhaid i chi ddangos tystiolaeth ohono yn y ffordd iawn. Felly, os oes gennych dystiolaeth nad yw pobl yn gosod eu llety yn y ffordd gywir, gadewch inni ei gweld. Rwyf wedi dweud dro ar ôl tro yn y Siambr, ac rwyf am ei ddweud unwaith eto: rwy'n fwy na pharod i edrych ar unrhyw dystiolaeth o gwbl fod hynny'n digwydd, ond ar hyn o bryd nid oes gennyf dystiolaeth.
4. Pa asesiad mae'r Gweinidog wedi ei wneud o effaith canran uchel o ail gartrefi ar yr angen am dai o fewn cymunedau? OAQ55005
Rwy'n cydnabod bod pris ac argaeledd cartrefi i bobl leol mewn rhannau o Gymru'n cael eu heffeithio gan berchnogaeth ar ail gartrefi. Er mwyn deall yr effaith hon yn eu hardaloedd, mae'n ofynnol i awdurdodau lleol gynnal asesiadau o'r farchnad dai leol a defnyddio strategaethau i fodloni gofynion eu cymunedau.
Mae yna faterion ehangach na'r sgil effaith yma sydd yn digwydd yn y system dreth, wrth gwrs. Ond mae angen datrys hwnnw, ac mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn cytuno efo ni mai addasu adran 66 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 ydy'r ffordd ymlaen. Felly, dim jest ni ar y meinciau yma sydd yn sôn am hyn; mae'r gymdeithas llywodraeth leol, sy'n cynrychioli holl gynghorau Cymru, yn dweud bod angen addasu adran 66 ar fyrder. Ond dydych chi ddim am fynd lawr y llwybr yna; dwi ddim cweit yn deall pam.
Ond mae yna faterion ehangach, wrth gwrs, onid oes? O'r tai a gafodd eu gwerthu yng Ngwynedd yn ddiweddar, roedd 40 y cant ohonyn nhw yn cael eu gwerthu fel ail gartrefi. Rŵan, mae hwnna'n ffigur anferth ac mae'r math yna o newid cymdeithasol ac economaidd yn gadael ein cymunedau ni yn leoedd llwm iawn, iawn y rhan fwyaf o adeg y flwyddyn.
Felly, pa waith cyffredinol mae'ch Llywodraeth chi wedi'i wneud i ystyried hyn i gyd? Er enghraifft, ydy hi wedi dod yn amser rŵan i ni ei gwneud hi'n ofynnol i unrhyw un sydd yn dymuno trosi tŷ annedd yn ail gartref—yn enwedig yn yr ardaloedd yma lle mae yna nifer uchel iawn o ail gartrefi— bod nhw angen caniatâd cynllunio cyn gwneud hynny?
Mae yna newidiadau cynllunio eraill y gellid eu hystyried. Mae rhannau eraill—mae Cernyw, mae Ardal y Llynnoedd, wedi mynd i'r afael â hyn.
Mae angen cwestiwn, i ddod â'r cwestiwn yma i ben.
Dwi yn teimlo yn angerddol am hwn, fel rydych chi'n gwybod, ond y cwestiwn ydy: pa newidiadau eraill, heblaw yr ochr drethiannol, fedr eich Llywodraeth chi eu hystyried a mynd i'r afael â nhw er mwyn datrys y broblem yma?
Rwy'n gobeithio bod Siân Gwenllian yn gwybod fy mod innau hefyd yn cydymdeimlo'n fawr â'r broblem, ac rwy'n llwyr gydnabod ei bod yn bodoli. Rydym wedi edrych ar bethau fel ceisio ei rheoli drwy'r system gynllunio, ond pan fydd rhywun yn gwerthu tŷ preifat i unigolyn preifat neu i gwmni, byddai'n anodd iawn dweud, ar y pwynt hwnnw, na allai'r gwerthiant barhau pan fyddai'n dod yn hysbys pwy yw'r perchennog a'u bod wedi datgan ei fod yn ail gartref.
Ceir pob math o broblemau eraill hefyd a allai ymddangos yn ddibwys ond sy'n wirioneddol broblemus mewn system gyfreithiol. Felly, rwy'n prynu'r tŷ fel fy mhrif dŷ, ac yna rwy'n priodi rhywun sy'n byw yn Llundain ac nid wyf ond yn dychwelyd ar benwythnosau, felly a wyf wedi'i droi'n ail gartref yn sydyn ac wedi torri'r rheol gynllunio? Ceir llawer o broblemau anodd. Nid yw hynny'n golygu nad wyf yn cydymdeimlo â'r broblem; rwy'n credu bod nifer o bethau y gallwn eu gwneud.
Gwyddom fod gan ardaloedd gwledig heriau arbennig o fawr mewn perthynas â hyn, ac mae gan rannau prydferth iawn o'r wlad broblemau penodol. Rydych yn llygad eich lle yn nodi Gwynedd. Mae canran Gwynedd yn 9.9 y cant, ac yn bedwerydd yn y rhestr o awdurdodau sydd ag ail gartrefi ym Mhrydain. Felly, rydych yn llygad eich lle ei bod yn broblem enfawr i ni. Ond rwy'n credu bod angen i ni fynd i'r afael â hi mewn nifer o ffyrdd.
Mae gennym grŵp strategol gwledig sy'n cynnwys swyddogion galluogi tai gwledig—cymdeithasau tai, awdurdodau lleol, Cartrefi Cymunedol Cymru a CLlLC—sy'n cyfarfod bob chwarter. Mae gennym fforwm da i annog a phrofi syniadau ynglŷn â'r hyn y gellir ei wneud. Rydym yn annog pethau fel defnyddio premiymau'r dreth gyngor. Rwy'n fodlon ystyried a ddylem gynyddu'r rheini eto fyth os yw prisiau tai—. Mae tŷ yn fy mhentref newydd werthu am £2.8 miliwn i gwpl o Lundain ac nid wyf yn credu eu bod yn bwriadu byw yno'n barhaol. Ni fydd fy mhlant byth yn byw mewn pentref lle mae tai'n gwerthu am brisiau felly; mae gennyf lawer o gydymdeimlad â'ch safbwynt.
Felly, credaf mai'r hyn sydd angen inni ei wneud yw nodi tir, yn enwedig mewn cymunedau gwledig, Cymraeg eu hiaith, lle mae plant y pentrefi eisiau byw, a nodi tai y gallwn eu hadeiladu naill ai ar gyfer rhent cymdeithasol gydag elfen leol ynghlwm wrth hynny, neu ar gyfer ecwiti cymysg—felly trefniadau ecwiti a rennir gyda chymdeithasau tai lleol neu gyda'r cyngor lleol—neu drefniadau eraill fel hunanadeiladu gyda gofynion preswylio o ganlyniad i'r grant, ac amryw o bethau eraill y gallwn eu gwneud i annog adeiladu'r math cywir o dai, fel y gellir annog pobl leol, a phobl ifanc yn arbennig, i aros yn ein cymunedau.
Felly, mae gennyf lawer o gydymdeimlad â hynny, ond nid wyf yn credu mai'r system gynllunio yw'r ffordd gywir o'i wneud. Yr hyn sy'n rhaid i ni ei wneud yw dod o hyd i arf sy'n gweithio. Felly, rwy'n fwy na pharod i'ch gwahodd i un o'r sesiynau ynghylch trefniadau'r swyddogion galluogi tai gwledig, ac rydym yn hapus iawn i edrych ar unrhyw syniadau da eraill ar draws y Siambr, Lywydd, gan fy mod yn gwybod bod gan nifer fawr o bobl y problemau hyn yn eu hetholaethau a'u rhanbarthau, er mwyn gweld beth y gallwn ei wneud a fyddai'n gweithio heb gael ein cynnwys mewn anghydfodau cyfreithiol diddiwedd wrth werthu gwahanol dai ledled Cymru.
Weinidog, rwy'n cofio Dafydd Wigley yn codi'r mater hwn yn y Cynulliad cyntaf ac yn sôn am ble mae ganddynt farchnadoedd tai rheoledig, fel Ynysoedd y Sianel—y cadarnle sosialaidd hwnnw yn y Sianel. Y peth yw, mae gennym ddiwylliant ehangach ym Mhrydain o berchentyaeth ail gartrefi a marchnad rydd, ac rwy'n parchu hynny, ond mae llawer o'r bobl hynny hefyd yn cael eu temtio weithiau i brynu yn Sbaen, yn yr Eidal, yn Ffrainc, lle ceir diboblogi gwledig dwys a phentrefi gwag yn aml. Ac mae'r sefyllfa rydym yn ei hwynebu ychydig yn wahanol, a dweud y lleiaf, ac mae arnom angen ystod o strategaethau: treth gyngor uwch lle mae llawer o angen am dai ond mae ail gartrefi'n cael eu prynu; strategaethau cartrefi gwag; ac adeiladu cymedrol ond angenrheidiol mewn pentrefi. Nawr, mae cael pentref tlws yn un peth, ond nid yw'n dlws iawn i'r bobl ifanc leol os na allant fforddio byw yno a magu teuluoedd. Felly, dylai fod angen datblygu priodol, yn union fel y mae ein hynafiaid wedi'i wneud ers cenedlaethau.
Rwy'n cytuno'n llwyr â chi. Nid ydym yn gwrthwynebu hynny mewn unrhyw ffordd. Mae'n ymwneud â sicrhau ein bod yn cael y tai iawn yn y lleoedd iawn ar gyfer y bobl iawn. Ond mae'n rhaid inni warchod hefyd rhag canlyniadau anfwriadol. Nid wyf yn gwybod a ydych yn ymwybodol, ond yn ddiweddar, cafodd St Ives brofiad lle rhoesant gyfyngiadau ar godi tai i brynwyr o'r tu allan ac o ganlyniad, ni chodwyd unrhyw dai o gwbl, gan nad oedd yn ddichonol gwneud hynny. Felly, mae gennych ganlyniadau anfwriadol yn sgil hynny. Nid dyna roeddent ei eisiau, ond dyna a gawsant. Felly, yr hyn rydym yn awyddus iawn i'w wneud yw nodi'r ysgogiadau cywir i wneud hynny, er mwyn caniatáu i amlen y pentref gynyddu ychydig gyda'r math cywir o dai a phopeth arall.
Pwysleisiaf hefyd, wrth gwrs, gan fod ein set o reolau cynllunio, Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a'r Ddeddf cynllunio a'r Gymraeg yn rhyngweithio â'i gilydd, fod y Gymraeg yn rhan fawr iawn o hyn hefyd. Felly, rydym yn awyddus i warchod ein cymunedau Cymraeg eu hiaith a sicrhau nad ydynt yn cael eu boddi ar hyn o bryd gan nifer fawr o bobl na fyddent yn gallu dysgu'r iaith o fewn amser priodol ar gyfer yr ysgol leol ac ati. Felly, mae disgwyl i awdurdodau cynllunio lleol yng Nghymru gadw nifer fawr o ystyriaethau mewn cof wrth edrych ar hyn. Rwy'n fwy na pharod i weithio gyda grwpiau o ACau a chyda'n pobl galluogi gwledig ac ati i edrych ar unrhyw syniadau o gwbl a all annog adeiladu'r math cywir o dai yn y math cywir o leoedd.
Fel y dywedodd David Melding yn gwbl gywir, nid oes gennym y mathau o broblemau sydd ganddynt yn Sbaen a Phortiwgal mewn rhai ardaloedd, ond mewn rhannau bach o Gymru, fel Gwynedd a pheth o arfordir Sir Benfro, mae gennym broblem go iawn sy'n gwaethygu.
5. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynigion Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â phlastigau untro? OAQ54986

Yn ddiweddar, lansiais ein strategaeth economi gylchol, 'Mwy Nag Ailgylchu', sy'n cynnwys cael gwared ar blastig untro yn raddol fel un o'r prif gamau gweithredu. Ynghyd â hyn, rydym yn gweithio ar ddiwygiadau arloesol fel cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr ar gyfer deunydd pacio, cynllun dychwelyd ernes a gwaharddiad ar rai mathau o blastig untro.
Mae hynny'n newyddion da iawn i'w glywed. Mae'n rhaid fod y Gweinidog yn teimlo mor rhwystredig â minnau pan awn i'r archfarchnadoedd sy'n brolio am yr holl waith da a wnânt ar leihau'r defnydd o blastig ac rydym yn dal i weld eiliau ffrwythau a llysiau yn llawn ffrwythau a llysiau wedi'u pecynnu mewn plastig. Mae'n ddiddorol nodi heddiw fy mod newydd weld sefydliad o'r enw Plastic Expiry, sy'n gweithredu'n uniongyrchol mewn modd heddychlon drwy roi sticeri ar y cynhyrchion plastig sy'n dweud, 'dyddiad dod i ben y plastig yw 24 Ionawr 2499'. Mae'r defnyddwyr yn arwain y ffordd drwy brotestio'n heddychlon.
Ond cawsom ddadl wych yma fis Hydref y llynedd, cefnogaeth drawsbleidiol, cynnig a dderbyniwyd gan y Tŷ—gan wthio, annog a gweithio gyda'r Gweinidog i ddweud, 'Dewch i ni fod yn genedl sy'n arwain y byd o ran defnydd cynaliadwy a lleihau gwastraff plastig a phlastigau untro yn enwedig'. A gaf fi ofyn iddi: a ydym yn gwneud popeth a allwn, gan gynnwys pethau fel trethi ac ardollau priodol, gwaharddiadau ar blastigau untro priodol a phenodol? Ac a fydd yn parhau i weithio gyda'r holl sefydliadau ymgyrchu, gan gynnwys y Gymdeithas Cadwraeth Forol, Cadwch Gymru'n Daclus a Chyfeillion y Ddaear—diolch am gyfarfod â ni y diwrnod o'r blaen—ond hefyd y bobl eraill sy'n dymuno gwneud y newid hwn gan y gwyddom fod y llanw o lygredd plastig yn codi ac mae'n rhaid i ni ei atal?
Credaf mai'r ateb byr yw 'yn sicr'. Rwy'n hynod falch o'n rôl a'n cyflawniad fel arweinydd byd-eang a'r gydnabyddiaeth rydym eisoes wedi'i chael i hynny mewn lleoedd mor bell i ffwrdd ag Awstralia. Ond rydym wedi amlinellu ein huchelgais i wneud mwy ac i fynd â hynny ymhellach, a sbarduno newid yn y dyfodol.
Ac fe sonioch chi am rai o'r unigolion a'r sefydliadau sy'n mynd i'r afael â hyn eu hunain, ac o ran y labelu, credaf fod hynny'n greadigol iawn. Ac yn fy etholaeth i, cynhaliwyd Maximum Wraps, lle mae pobl wedi bod yn siopa, ac mae tîm o wirfoddolwyr yno'n cael gwared ar yr holl blastig gormodol nad yw'n angenrheidiol. Rydych yn llygad eich lle ynglŷn ag ewyllys y defnyddwyr a'r egni hwn yn ein cymunedau i wneud rhywbeth, ac mae gwir angen inni harneisio hynny fel Llywodraeth ac ar draws ein cymunedau hefyd.
Felly, dyna pam fod un o'r elfennau allweddol i mi yn yr ymgynghoriad hwn, y mae'n well o lawer gennyf ei alw'n sgwrs gan y credaf mai dyna ddylai fod, yn ymwneud â sut rydym yn galluogi busnesau i gymryd rhan yn hynny o beth, ond yn bwysicach fyth, ein bod yn grymuso cymunedau hefyd. Felly, fel rhan o hynny, rwy'n ymweld â phob rhanbarth yng Nghymru, yn siarad â busnesau, yn siarad â grwpiau cymunedol, ac mae swyddogion yn gwneud yr un peth, i sicrhau eu bod hwythau'n cymryd rhan yn hynny hefyd ac yn dylanwadu ar y newid. Oherwydd gwyddom eu bod yn dymuno gweld hyn yn digwydd, ac mae pethau y gallwn eu gwneud fel Llywodraeth o ran deddfwriaeth a pholisi, ond mae angen newid diwylliannol o'r fath arnom hefyd, a chredaf fod angen i bobl fod yn rhan o hynny. Felly, yn sicr, rwy'n awyddus iawn i barhau â hynny a pharhau â'r sgwrs gyda phawb sy'n dymuno bod yn rhan ohoni.
Ddirprwy Weinidog, yn gynharach yr wythnos hon, cyfarfûm â disgyblion o Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Aeddan Sant yng Nghas-wis ger Hwlffordd yn fy etholaeth, sydd wedi cychwyn deiseb i wahardd poteli llaeth plastig untro mewn ysgolion ledled Cymru. Rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno â mi ei bod yn wych gweld plant a phobl ifanc yn ymgysylltu â'n proses ddeisebau ac yn cymryd camau ar rai o'n problemau mwyaf. O dan yr amgylchiadau, pa gefnogaeth y gall Llywodraeth Cymru ei chynnig i ddisgyblion Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Aeddan Sant, a pha drafodaethau penodol a gawsoch gydag awdurdodau lleol ynghylch gwahardd poteli llaeth plastig untro mewn ysgolion ledled Cymru?
Diolch. Rydych yn amlwg yn cyfeirio at y rôl y mae pobl ifanc yn ei chwarae, yn enwedig mewn ysgolion, yn sbarduno'r newid hwn, a grym plagio, gan na chredaf fod teyrngarwch i oedolion nac i rieni, mae'n debyg, pan nad ydynt yn gwneud hyn. Rwy'n cofio mewn un ysgol, roeddem yn sôn am yr hyn rydych yn ei ailgylchu a pham, ac i ble mae'n mynd, a rhoddodd un ferch fach ei llaw i fyny a dweud, 'Nid yw fy mam yn gwneud hynny.' Felly, credaf fod angen inni sicrhau ein bod yn eu cefnogi yn hynny o beth.
Ni fyddwch yn synnu clywed bod ysgolion eraill wedi bod mewn cysylltiad gan fynegi'r un pryderon ynghylch y poteli llaeth plastig a gwellt plastig. Gwn fod rhai cynlluniau peilot wedi'u cynnal mewn ysgolion mewn rhai ardaloedd awdurdodau lleol i weld beth y gallant ei wneud i yrru hynny yn ei flaen. Ac rwy'n awyddus, os hoffech ofyn i'r ysgol ysgrifennu ataf am yr hyn y maent yn ei wneud, buaswn yn fwy na pharod i ymgysylltu â hwy.
A hefyd, fel rhan o'r hyn a wnaethom wrth gyhoeddi'r ymgynghoriad 'Mwy Nag Ailgylchu', gwnaethom hefyd gyhoeddi cronfa economi gylchol newydd gwerth £6.5 miliwn. Mae'n wahanol i'r un flaenorol, er ei bod yn swnio'r un peth, mae hi mewn gwirionedd ar gyfer awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill, felly gall ysgolion a sefydliadau eraill fod yn rhan o hynny os ydynt yn dymuno. Oherwydd yr hyn a wnaethom o'r blaen oedd gweld pobl ifanc yn sbarduno ymgyrchoedd dros newid, ond mewn gwirionedd, nid yw'r seilwaith yno lle maent hwy i sbarduno'r newid a'r penderfyniadau ymarferol hynny. Felly, edrych mewn gwirionedd ar y ffyrdd gorau y gallwn alluogi a grymuso hynny. Ond os hoffech ysgrifennu ataf ar ran yr ysgol, neu wahodd y plant i ysgrifennu ataf, rwy'n fwy na pharod i ymgysylltu â hwy.
Diolch i'r Dirprwy Weinidog a'r Gweinidog am yr atebion a'r sesiwn gwestiynau yna. Ac felly—[Torri ar draws.]
Iawn. Pwynt o drefn, Mandy Jones.
Diolch. Fe geisiais godi hyn gyda'ch swyddfa yn gynharach, felly diolch am dderbyn y pwynt hwn gennyf.
Cafodd fy swyddfa wybod gan eich swyddfa chi am fwriad i godi pwynt o drefn ychydig funudau cyn i mi adael i ddod i lawr i'r Siambr. Nid wyf wedi cael cyfle i'w adolygu eto, ac rwy’n bwriadu dweud wrthych, ar ôl i chi godi eich pwynt o drefn yma yn gyflym iawn, y byddaf yn ei adolygu wedyn. Rwy'n eistedd yma gyda fy ffôn symudol, ni allaf edrych ar drafodion digwyddiadau'r wythnos diwethaf.
Iawn, ond diolch am dderbyn hyn, Lywydd.
A allech wneud dyfarniad ar Reolau Sefydlog 13.94 a 13.95 ynglŷn ag a oedd ymddygiad Alun Davies yr wythnos diwethaf yn y Siambr yn anghwrtais ac yn amharu ar urddas y lle hwn? Gwaeddodd Alun ar draws y Siambr, 'Rydych chi'n hiliol'. Nawr, yng Nghofnod y Trafodion, mae'r sylw hwn yn dilyn fy enw'n cael ei alw gennych chi, ac nid oeddwn yn rhan o'r sgwrs honno hyd yn oed ar y pryd. Mae hyn yn annerbyniol i mi. Dylai'r Aelodau yma allu gwneud eu pwynt heb fod yn destun bwlio a galw enwau, ac os gwelwch yn dda, hoffwn i sylw Alun gael ei dynnu o'r Cofnod a hoffwn wybod beth yw'r sefyllfa o ran y math hwn o alw enwau.
Diolch am y pwynt o drefn, a gwnaf, fe wnaf ddyfarniad arno ar ôl i mi adolygu Cofnod y Trafodion ar gyfer trafodion yr wythnos diwethaf. Felly, os gwnewch chi ganiatáu i mi wneud hynny—. Fel y dywedais yn gynharach, ni allaf ei adolygu ar fy ffôn symudol yn y Siambr, er fy mod yn defnyddio cryn dipyn ar fy ffôn symudol weithiau, fel y gŵyr rhai ohonoch sy'n anfon negeseuon testun i mi, ond nid i adolygu trafodion yr wythnos diwethaf. Felly, byddaf yn ystyried hynny maes o law.
Diolch.
Cwestiynau amserol.
Mae'r cwestiwn amserol cyntaf, felly, yn cael ei ofyn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ac mae'r cwestiwn gan Caroline Jones.
1. A wnaiff y Gweinidog amlinellu'r camau y mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a GIG Cymru yn eu cymryd i amddiffyn y cyhoedd rhag coronafeirws? 387

Gwnaf. Mae gan GIG Cymru gynlluniau ar waith i amddiffyn iechyd y cyhoedd. Mae canllawiau penodol ar adnabod, ynysu a chynnal profion ar y firws hwn wedi eu darparu i'n holl staff rheng flaen. Mae Gweinidogion iechyd y DU, prif swyddogion meddygol ac asiantaethau iechyd cyhoeddus o'r pedair gwlad yn cydgysylltu camau gweithredu gyda'i gilydd.
Diolch, Weinidog. Mae'r bygythiad sy'n ein hwynebu yn sgil y math newydd hwn o coronafirws yn achos cryn bryder, ac rwy'n ddiolchgar eich bod wedi amlinellu'r camau y mae eich Llywodraeth yn eu cymryd i'n cadw'n ddiogel. Mae'n achos pryder y credir bod dros 5 miliwn o bobl wedi gadael Wuhan cyn i'r cwarantin gael ei roi ar waith. Yn anffodus, yn ystod yr wythnosau canlynol, rydym wedi gweld yr achos hwn o coronafirws yn lledaenu, ac mae cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus Lloegr wedi dweud ei bod yn debygol fod y firws angheuol hwn eisoes wedi cyrraedd y DU. Mae'n rhaid inni wneud popeth a allwn i gyfyngu ar ei effaith ar ein GIG sydd eisoes o dan bwysau. Weinidog, er nad oes gennym unrhyw hediadau uniongyrchol o Tsieina i Gaerdydd, mae cwmnïau hedfan KLM a Qatar yn cynnig hediadau. Pa sicrwydd a gawsoch gan Lywodraethau'r Iseldiroedd a Qatar y byddant yn sgrinio'r holl deithwyr sy'n teithio ymlaen?
Yn anffodus, mae gan y coronafirws hwn gyfnod magu hir, felly bydd gwir raddfa'r bygythiad yn dod yn fwy amlwg dros yr wythnosau nesaf. Weinidog, a wnewch chi ymrwymo i roi'r newyddion diweddaraf ar lafar yn rheolaidd i'r Siambr, a thrwy hynny, i'r cyhoedd yn ehangach wrth i'r sefyllfa ddatblygu? Diolch.
Ar y pwynt olaf, rwy'n fwy na pharod i gadarnhau, wrth gwrs, y bydd diweddariadau rheolaidd yn cael eu darparu, gennyf fi pan fo angen, ond darperir diweddariadau rheolaidd drwy adran y prif swyddog meddygol ynglŷn â'r camau a gymerir.
O ran pobl yn dod i mewn i'r Deyrnas Unedig, credaf fod y rheini'n faterion sydd y tu hwnt i reolaeth y Llywodraeth hon. Fe fyddwch wedi gweld bod y Swyddfa Dramor a Chymanwlad yn trefnu hediadau uniongyrchol fel y gall gwladolion Prydain ddychwelyd i Lundain ac y bydd y bobl hynny—gair ofnadwy, hen-ffasiwn—yn cael eu rhoi mewn cwarantin; byddant yn cael eu cadw am gyfnod i weld a ydynt yn dangos symptomau. Ac rydym yn ceisio nodi gyda'r Swyddfa Dramor a Chymanwlad faint o wladolion Cymru a fydd ar yr hediad hwnnw.
O ran y pwyntiau ehangach ynghylch pyrth mynediad, unwaith eto, cytunwyd ar y camau gweithredu, drwy ymgysylltiad blaenorol Ystafell Friffio Swyddfa'r Cabinet Llywodraeth y DU ar byrth mynediad.
Ond hoffwn drafod eich pwynt cyntaf, sy'n ymwneud â'r coronafirws yn y lle cyntaf. Yn amlwg, ceir pryderon dealladwy. Fodd bynnag, credaf y dylai pob un ohonom fod yn ofalus wrth ddisgrifio'r firws penodol hwn; mae'n llai difrifol na'r achosion blaenorol o syndrom anadlu acíwt difrifol, ac roedd llawer o bryderon ynghylch y marwolaethau posibl yn sgil hwnnw. Dyna ein dealltwriaeth ar hyn o bryd. Ar hyn o bryd, asesir bod y risg i'r DU yn isel. Ond mae'r camau sy'n cael eu cymryd yn gamau rhagflaenorol i geisio rhoi sicrwydd i'n staff, ond hefyd i'r cyhoedd yn ehangach. Yn sicr, nid wyf am ychwanegu at yr argraff fod perygl mwy sylweddol i iechyd ar ei ffordd na'r hyn sy'n debygol.
Er y gwyddom fod y ffliw'n gwneud pobl yn ddifrifol wael ac yn lladd pobl bob blwyddyn, serch hynny mae'n werth ystyried, er enghraifft, ein bod yn dal i fethu perswadio pobl sydd mewn categori lle gallant gael brechlyn am ddim gan y GIG i wneud hynny yn y niferoedd y byddem yn dymuno'u gweld. Felly, gadewch i ni gael rhywfaint o bersbectif ar y mater. Fe fyddwn yn bwyllog, yn sicr ni fyddwn yn hunanfodlon, a bydd yr ymgysylltu rhwng Gweinidogion iechyd pedair Llywodraeth y DU yn parhau yn y ffordd y byddai pob un ohonoch yn ei disgwyl, yn union fel y bydd y cyswllt rheolaidd rhwng ein pedwar prif swyddog meddygol yn parhau hefyd.
Diolch yn fawr iawn, Weinidog. A dweud y gwir, rydych wedi ateb y rhan fwyaf o'r cwestiynau roeddwn am eu gofyn. Cyfarfûm â'r Ysgrifennydd Gwladol yr wythnos diwethaf a dywedodd yn glir iawn fod cryn dipyn o waith ar y cyd yn mynd rhagddo a'i fod yn mynd yn dda iawn. Fy unig gwestiwn fyddai: a oes gan Gymru unrhyw gynlluniau ar waith ar gyfer canolfan driniaeth frys, rhag ofn i ni gyrraedd sefyllfa lle mae hyn yn datblygu ymhellach? A buaswn yn ymuno â chi i annog pobl i beidio â chynhyrfu gormod am hyn gan nad ydym am godi bwganod.
Ie, o ran y rhan fwyaf o'r driniaeth, mae hynny'n rhan o rwydwaith o waith ledled y DU, yng Nghymru a thu hwnt, lle byddai pobl yn cael eu trin pe baent yn cael canlyniad positif. Mae'n werth nodi hefyd fod pob unigolyn a brofwyd yn y Deyrnas Unedig hyd yma wedi cael canlyniad negyddol. Felly, nid oes gennym achos wedi'i gadarnhau yn unman yn y Deyrnas Unedig, ond o ran y sicrwydd, oes, mae gennym drefniadau ar waith ar gyfer triniaeth pe baem yn gweld canlyniad positif, waeth ble fyddai'r unigolyn yn y DU, ac mae Cymru'n sicr yn rhan o'r trefniadau hynny. Mewn gwirionedd, mae hynny'n rhan o'r sgwrs a gafodd ein prif swyddog meddygol ac yn rhan o'r sgwrs roedd Gweinidogion y DU am gael sicrwydd yn ei chylch yn yr alwad COBRA ddiwethaf y cymerais ran ynddi yr wythnos diwethaf.
Dwi’n croesawu eich apêl ar i bawb gael rhywfaint o bersbectif ynglŷn â’r mater yma. Wrth gwrs bod eisiau ei gymryd o ddifri, ond hefyd fod yn realistig ynglŷn â lefel y perygl. Mi wnaf ofyn hyn: ydy hi’n amser da rŵan i atgoffa pobl ac o bosib i roi rhywfaint o adnoddau i mewn i agweddau cyffredinol ar lendid personol a rheolaeth infections ac ati? A hynny nid yn unig mewn ysbytai ond mewn sefydliadau eraill, ac nid dim ond fel paratoad ar gyfer os ydy coronavirus yn dod yma, ond yn gyffredinol mae o’n arfer da. Wedi’r cyfan, mae’r annwyd cyffredin yn cael ei ledaenu mewn ffordd debyg ac yn gallu arwain at gymhlethdodau difrifol ar rai adegau.
Mae yna gysylltiad rhwng Wuhan a Chymru hefyd, wrth gwrs, ers rhyw 150 o flynyddoedd ers i’r cennad Griffith John fynd i Wuhan a sefydlu'r ysbyty yno—yr Wuhan Union Hospital—sy’n un o ysbytai mwyaf Tsieina, efo 5,000 o welyau yn trin dros 3 miliwn o bobl yn flynyddol. Mae hynny’n golygu wrth gwrs fod yna draffig i Abertawe, dinas lle'r oedd Griffith John yn hanu ohono fo. Mae yna draffig o Tsieina i’r fan honno oherwydd y cysylltiad uniongyrchol efo Wuhan. Felly, dwi yn croesawu’r hyn rydych chi’n ei ddweud ynglŷn â’r angen i fod yn gweithio ar draws Prydain, i fod â chamau priodol mewn lle mewn meysydd awyr.
O ran porthladdoedd, cwestiwn sydd wedi’i godi efo fi gan y BMA—fe wnaf i ei basio fo ymlaen atoch chi—maen nhw’n gofyn tybed a oes yna oblygiadau sydd angen eu hystyried oherwydd ein hymadawiad ni o’r Undeb Ewropeaidd y gallai fod yna newidiadau i ddisgwyliadau o ran rheolaeth ffiniau, a newidiadau o bosib yn y disgwyliadau ar Lywodraeth Cymru dan y drefn newydd wrth adael yr Undeb Ewropeaidd, o ran sicrhau gwarchodaeth iechyd i’r cyhoedd yng Nghymru. Ydy hynny’n rhywbeth y mae’r Llywodraeth wedi rhoi ystyriaeth iddo fo?
Dwi’n meddwl bod hynny’n cwblhau’r cwestiynau am rŵan ond, fel dwi’n dweud, mae’n bwysig cael persbectif wrth baratoi, wrth gwrs, yn y cefndir rhag ofn i bethau gamu fyny yn fwy difrifol nag yr ydyn ni’n meddwl y gwnân nhw ar hyn o bryd.
Diolch am y sylwadau a'r cwestiynau. Mae'r gallu i gyfathrebu rhwng gwledydd Ewropeaidd ar faterion iechyd cyhoeddus yn rhywbeth y soniwyd amdano yn ystod y tair blynedd diwethaf a bydd angen i ni weithio o hyd i ganfod sut y byddwn yn cynnal y system orau bosibl ar gyfer amddiffyn y cyhoedd. Mae heriau i'w cael mewn perthynas â hynny.
Heddiw, fodd bynnag, ac ar gyfer y sefyllfa bresennol, mae'n ffaith ein bod yn dal i allu cydweithredu a rhannu gwybodaeth mewn ffordd sydd o fudd i ni. Credaf fod y pwynt ynglŷn â'r ffaith bod rhywfaint o draffig rhwng Cymru a Wuhan wedi’i gydnabod. Mewn gwirionedd, gwelsom adroddiadau yn y cyfryngau am ddinasyddion o Gymru sydd allan yno ac sy'n awyddus i gael lle ar yr awyren y soniais amdani.
Ond y cyngor sy'n cael ei roi nid yn unig ledled Cymru, ond ledled y DU, yw y dylai unrhyw un sydd wedi dychwelyd o Wuhan yn y 14 diwrnod diwethaf aros dan do ac osgoi dod i gysylltiad â phobl eraill, fel y byddech yn ei wneud gyda firysau ffliw eraill; i gysylltu â Galw Iechyd Cymru neu 111 Cymru, os yw ar gael yn eich ardal chi—mae 111 Cymru ar gael ym myrddau iechyd Hywel Dda, Powys, Aneurin Bevan a Bae Abertawe—i roi gwybod iddynt am eich taith ddiweddar; ac i ddilyn y cyngor hwnnw hyd yn oed os nad oes gennych symptomau ar hyn o bryd, ac unwaith eto, os oes unrhyw un yn datblygu twymyn, trafferth anadlu neu beswch, i barhau i ddilyn y cyngor hwnnw a pheidio â gadael eu cartref tan eu bod wedi cael cyngor i wneud hynny gan glinigydd.
Felly, rydym yn mabwysiadu ymagwedd briodol o ragofalus. Mae hynny'n dangos ein bod o ddifrif ynglŷn â'r mater, ond nad ydym am fynd i banig nad yw'r sefyllfa ar hyn o bryd yn ei gyfiawnhau, a rhoi'r sicrwydd y bydd gwybodaeth yn cael ei darparu. Mewn gwirionedd, mae prif swyddog meddygol Lloegr yn cyhoeddi gwybodaeth bob dydd yn rheolaidd ar ran pob un o'r pedwar prif swyddog meddygol ar y sefyllfa bresennol. Credaf ei bod yn bwysig fod Llywodraethau'r DU mor agored â phosibl ynghylch y sefyllfa bresennol, fel nad yw pobl yn poeni mewn gwactod, sy'n aml yn arwain at ymateb anffodus gan y cyhoedd.
Rwy'n bryderus iawn, fel rhai o fy etholwyr, am y coronafirws. Mae'r nifer o farwolaethau wedi codi i 106, ac mae nifer yr heintiau bellach yn fwy na 4,500, ac mae'r firws wedi lledu ar draws Tsieina ac i o leiaf 16 gwlad. Nawr, rwy'n deall y teimlad ynglŷn â pheidio â mynd i panig, ond yr un peth sy'n rhaid i mi fod yn sicr ohono yw bod gennym gynlluniau wrth gefn yn eu lle. Yn ystod y pryderon diwethaf ynghylch ffliw moch a'r epidemig hwnnw, gwn fod yna rai pryderon lle bu'n rhaid i Lywodraeth Cymru ddibynnu'n fawr ar gefnogaeth gan Lywodraeth y DU. Mewn gwirionedd, ni fuaswn yn bychanu risg y firws SARS, lle gwn yn bersonol am bobl a fu farw oherwydd y firws hwnnw ac a fu bron â marw oherwydd y firws hwnnw. Felly, rydym yn trafod pethau difrifol yma heddiw.
Mae hwn bron â bod yn argyfwng byd-eang. Mae 47 o achosion wedi'u cadarnhau y tu allan i Tsieina, gyda thri o'r rhain yn Ffrainc. Yr wythnos diwethaf, pan ddechreuais bryderu'n fawr yn nghanol yr wythnos, cyflwynais gwestiwn ysgrifenedig y Cynulliad i chi—a hoffwn ddiolch i Caroline Jones am godi hyn heddiw, oherwydd fel sefydliad, dylem fod yn dadlau ac yn trafod hyn—yn gofyn pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd mewn ymateb i ymlediad y coronafirws. Nid wyf wedi derbyn ymateb eto. Gwn fod Rhun wedi sôn am feysydd awyr. Gwn fod y lleoliadau gofal sylfaenol ac eilaidd wedi cael eu crybwyll—
Nid oes angen i chi ddarparu crynodeb o'r hyn a ofynnwyd eisoes, Janet Finch-Saunders. Gofynnwch eich cwestiynau.
Fy mhryderon, Weinidog, yw ei bod yn ymddangos bod y firws yn lledu fel ffliw arferol yn ystod ei gyfnod magu a chyn i unrhyw symptomau ymddangos. Felly, sut y credwch y gallwn helpu gweithwyr meddygol proffesiynol a'r cyhoedd i ddod yn ymwybodol o hyn pan geir y symptomau cynharaf? Os a phan fydd yr achos cyntaf yn y DU yn cael ei gadarnhau, bydd prif swyddog meddygol y wlad yr effeithir arni yn cyhoeddi hynny cyn gynted â phosibl, a bydd datganiad gan brif swyddog meddygol Lloegr yn dilyn hynny. Felly, hoffwn glywed eto eich bod chi'n bersonol yn cael trafodaethau cyson iawn ynglŷn â hyn gyda Llywodraeth y DU.
Yn olaf, efallai eich bod yn ymwybodol fod digwyddiad i ddathlu'r flwyddyn newydd Tsieineaidd yn Abertawe wedi'i ganslo oherwydd ofnau ynglŷn â'r coronafirws. Felly, a wnewch chi ymuno â mi i anfon neges o gefnogaeth i bobl Tsieina a phobl Tsieineaidd yng Nghymru, a Tsieina yn fyd-eang, ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru, os nad Llywodraeth Cymru?
Wel, credaf ei bod yn bwysig cadw synnwyr o bersbectif. Rydym o ddifrif ynglŷn â hyn, nid ydym yn hunanfodlon, ond nid ydym am gael ymateb sy'n gwneud i bobl fynd i banig. Rydym wedi rhoi mesurau penodol ar waith gyda'n gilydd ar draws pedair Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Fel y dywedais, nid oes ochr wleidyddol i hyn. Mae'r pedair Llywodraeth yn gweithredu mor gyfrifol ag y dylem ar ran y cyhoedd rydym yn eu gwasanaethu.
Felly, rydym wedi mynd ati'n rhagweithiol i ddarparu gwybodaeth mewn meysydd awyr rhyngwladol a phrif borthladdoedd. Mae set o wybodaeth ar bosteri, er enghraifft, a osodir mewn sefydliadau addysg uwch. Daw llawer o'r traffig sydd gennym drwy fyfyrwyr a staff yn y sector addysg uwch. Felly, rydym yn edrych yn benodol ar ardaloedd lle gallwn gael yr effaith fwyaf heb boeni'r cyhoedd mewn ffordd sy'n anghymesur â'r risg. Mae yna risg wirioneddol, ac nid wyf yn awgrymu fel arall. Mae yna risg wirioneddol, ond gadewch i ni beidio ag ymateb mewn ffordd a fydd yn ychwanegu mwy o danwydd at y tân a phryderon diangen.
Fel y dywedais mewn ymateb i Rhun ap Iorwerth, rhoddwyd cyngor ynglŷn â sut y dylai pobl ymddwyn: osgoi cyswllt os ydynt wedi dychwelyd o Wuhan yn ystod y 14 diwrnod diwethaf, a chysylltu â Galw Iechyd Cymru neu 111. Mae dilyn y cyngor hwnnw, hyd yn oed os nad oes ganddynt symptomau, yn bwysig iawn. Nid mater i wladolion Tsieina sy'n byw yng Nghymru yn unig yw hwn. Mae'n fater i bob un ohonom, o ran y cyswllt a gawn. Bydd y GIG yng Nghymru yn parhau i wneud yr hyn y dylai ei wneud, a bydd y Llywodraeth yn parhau i weithredu ar y cyd â'r tair Llywodraeth arall ledled y DU i wneud popeth y gallem ac y dylem ei wneud ar ran pobl yma yng Nghymru a thu hwnt.
Diolch i'r Gweinidog am yr ateb i'r cwestiwn amserol yna.
Felly, yr ail gwestiwn amserol, eto i'r un Gweinidog, a'r cwestiwn hynny gan Leanne Wood.
2. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ateb y galw am wasanaethau damweiniau ac achosion brys yn y Rhondda a thu hwnt os caiff gwasanaethau 24 awr yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg eu gostwng? 386
Diolch am eich cwestiwn. Fel y gwyddoch, mae'r bwrdd iechyd yn gyfrifol am ddarparu gofal iechyd diogel a chynaliadwy ar gyfer ei boblogaeth leol, gan gynnwys mynediad amserol at wasanaethau gofal brys i'r rhai sydd eu hangen.
Yr wythnos diwethaf, cawsom y newyddion fod y rhaglen de Cymru ofnadwy yn cael ei hatgyfodi ar ôl chwe blynedd, o ran cyfluniad adrannau damweiniau ac achosion brys. Golyga hyn yr argymhellir cael gwared ar wasanaethau dan arweiniad meddygon ymgynghorol o Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant. Yn ystod yr un sesiwn friffio, dywedwyd wrthym mai Ysbyty Brenhinol Morgannwg sydd â'r adran damweiniau ac achosion brys brysuraf o'r tri ysbyty cyffredinol dosbarth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.
Bydd yr adran damweiniau ac achosion brys yn colli ei meddyg ymgynghorol olaf ddiwedd mis Mawrth; ar ôl hynny, bydd yn gwbl ddibynnol ar feddygon ymgynghorol locwm. Mewn cyferbyniad, mae gan Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr wyth meddyg ymgynghorol yn yr adran damweiniau ac achosion brys, ac mae gan Ysbyty'r Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful yr hyn sy'n gyfwerth â phedwar meddyg ymgynghorol a hanner yn yr adran damweiniau ac achosion brys. Mae llawer o bobl yn cwestiynu sut a pham y caniatawyd i'r gwahaniaeth hwn ddatblygu. Mae pobl hefyd yn cwestiynu a fyddant yn gallu cyrraedd ysbyty mewn pryd mewn argyfwng. Rwyf wedi clywed gan bobl yr wythnos hon sy'n dweud y byddent wedi marw, neu'n waeth byth—y byddai eu plentyn wedi marw—pe baent wedi cael eu gorfodi i deithio ymhellach nag Ysbyty Brenhinol Morgannwg.
Canfu arolwg ychydig flynyddoedd yn ôl mai llai na hanner y bobl a holwyd yng Nghymru a oedd yn gwybod bod iechyd yn faes sydd wedi'i ddatganoli. Felly, nid oes llawer o bobl yn gwybod mai Llafur sy'n gyfrifol am y GIG yng Nghymru, ac wedi bod yn gyfrifol amdano ers dechrau datganoli ym 1999. Gan fod gennych gyfrifoldeb am iechyd yng Nghymru, a'ch bod yn aelod o'r blaid wleidyddol sydd wedi bod yn gyfrifol am iechyd yng Nghymru ers degawdau, beth allwch chi ei ddweud wrth y bobl yn y Rhondda sy'n credu y bydd y penderfyniad hwn yn costio mewn bywydau? A wnewch chi ysgwyddo'r cyfrifoldeb amdano, a sut rydych yn cyfiawnhau gwneud i bobl deithio ymhellach mewn sefyllfa lle mae bywyd yn y fantol?
Wel, credaf ei bod yn bwysig nodi mai diogelwch y gwasanaeth yw'r flaenoriaeth gyntaf i'r bobl sy'n gweithio yn y gwasanaeth, yn ei weithredu a'i ddarparu ac yn gyfrifol amdano—o fi i'r prif weithredwr, i'r cyfarwyddwr meddygol, i'r staff rheng flaen. Ac mae’r papur y bydd y bwrdd yn ei ystyried yfory, yn enw’r cyfarwyddwr meddygol, yn nodi’r risgiau sy’n bodoli, ac mai’r risg, mewn gwirionedd, yw bod llawer mwy o risg o ran diogelwch ac ansawdd y gwasanaeth wrth barhau i geisio cynnal gwasanaeth heb unrhyw feddygon ymgynghorol parhaol ar waith.
Ac o ran nifer y meddygon ymgynghorol a ble maent wedi'u lleoli ar hyn o bryd—mae pobl yn gwneud dewisiadau ynglŷn â ble maent yn gweithio, ac ni allwn orfodi pobl i symud o un adran i'r llall. Nid oes a wnelo hyn â'r bwrdd iechyd yn gwrthod ceisio recriwtio i Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Nid oes a wnelo hyn â bod digon o feddygon yn barod i weithio. Mewn gwirionedd, mae'r her yn ymwneud â nifer y staff sydd gennym, a gall meddygon ymgynghorol adrannau achosion brys symud i swyddi mewn gwahanol rannau o Gymru a thu hwnt, ac fel y gwelsom mewn rhannau eraill o'r DU, mae pobl yn gwneud y dewisiadau gweithredol hynny. Yr her yw: a ydym yn barod i gynnal ein gwasanaeth iechyd ar y sail mai diogelwch ac ansawdd yw'r prif ystyriaethau, neu a ydym yn gosod premiwm gwahanol ar leoliad gwasanaethau?
Ac o ran yr enghreifftiau a roesoch lle byddai pobl yn dweud y gallent golli eu bywydau—dyna'r math o iaith y mae pobl yn ei defnyddio pan fydd pobl yn pryderu, ac mae hynny'n gwbl ddealladwy, ond ni chredaf fod hynny o reidrwydd yn arwain at ddadl resymegol, oherwydd pe bai rhywun mewn perygl gwirioneddol o golli eu bywyd, dylent fod o dan amodau golau glas i fynd i'r man mwyaf priodol ar gyfer eu gofal, ni waeth pa mor agos neu bell yw hynny, boed hynny mewn hofrennydd neu ar y ffordd.
Ein her yw sut i gael patrwm rheolaidd o wasanaethau sy'n gynaliadwy, yn wirioneddol ddiogel ac a fydd yn para i'r dyfodol ac yn recriwtio staff i mewn iddo. Ac yn y pedwar opsiwn a gyhoeddwyd yn adroddiad y cyfarwyddwr meddygol gweithredol, nodir dau opsiwn y dywed y cyfarwyddwr meddygol nad ydynt yn ymarferol nac yn gynaliadwy. Mae'n nodi'r heriau a oedd yn bodoli pan gytunwyd ar raglen de Cymru—[Anghlywadwy.]—wedi gwaethygu, ac mae'n nodi dau opsiwn y maent yn argymell bod y bwrdd yn eu hystyried er mwyn ymgysylltu'n briodol â'r cyhoedd a rhanddeiliaid ehangach, gan gynnwys cynrychiolwyr etholedig. Dyna rwy'n ei ddisgwyl gan y bwrdd iechyd: eu bod o ddifrif ynglŷn â'u cyfrifoldebau, yn wynebu'r heriau sy'n cael effaith wirioneddol ar ddiogelwch cleifion heb eu hosgoi, yn ymgysylltu'n briodol â'r cyhoedd a rhanddeiliaid ehangach ynghylch beth y mae pob un o'r pethau hynny yn ei olygu, a beth y byddwch yn ei gael mewn gwirionedd o ran ble mae gwasanaethau wedi'u lleoli, a'r ansawdd y byddai pob un ohonom yn ei ddisgwyl i ni ein hunain a'n teuluoedd.
Rwy'n sylweddoli bod heriau ar draws y bwrdd iechyd ond o ran staffio yn arbennig. Ond yr hyn sy'n wirioneddol bwysig yma, yn amlwg, yw bod y penderfyniadau sydd wedi'u gwneud ar ddarpariaeth damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn seiliedig ar raglen de Cymru. Lleolir Ysbyty Brenhinol Morgannwg mewn ardal â dwysedd poblogaeth uchel, gyda phoblogaeth sy'n tyfu a galw cynyddol. Nawr, rwy'n cymryd mai'r bwrdd iechyd sydd â'r swyddogaeth o ddydd i ddydd o weithredu gwasanaethau iechyd yn ei ardal, ond yn amlwg, chi fel Gweinidog a'ch swyddogion ym Mharc Cathays sy'n gosod strategaeth a chyfeiriad y gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru. Yn seiliedig ar raglen de Cymru, ni fyddai unrhyw feddyg ymgynghorol wedi mynd i Ysbyty Brenhinol Morgannwg ar y sail fod y gwasanaeth yn mynd i gael ei israddio.
Weinidog, a gaf fi ofyn i chi ymyrryd yn bersonol fel y Gweinidog sy'n gyfrifol am gyfeiriad strategol y gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru, a mynnu bod y bwrdd iechyd yn ailwerthuso eu hargymhellion ac yn cadw darpariaeth damweiniau ac achosion brys 24 awr yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, oherwydd mae pob dangosydd yn dynodi bod honno'n ardal lle ceir galw cynyddol am y gwasanaeth hwnnw, a byddai dileu gwasanaeth o'r fath yn drychinebus i'r ardal y mae'n ei gwasanaethu? Gallwch wneud hynny, Weinidog. Os dewiswch beidio, rwy'n parchu hynny, ond byddwch yn troi eich cefn ar y cymunedau sy'n byw yn yr ardal honno ac yn dibynnu ar Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Ac mae'n bryd bellach i'r bwrdd iechyd yn yr ardal honno ailwerthuso'r opsiynau sydd ar gael iddo, ac yn arbennig y penderfyniadau a wnaeth ynghylch rhaglen de Cymru, y buaswn yn awgrymu eu bod wedi dyddio erbyn heddiw, gan iddynt gael eu gwneud chwe blynedd yn ôl.
Wel, diolch am y cwestiynau, ond y gwir yw, os ydych chi wedi darllen drwy'r papur gan y cyfarwyddwr meddygol gweithredol am yr heriau y maent yn eu hwynebu, mae'n nodi, os rhywbeth, fod y rhesymau a'r sail resymegol wrth wraidd y rhaglen wedi tyfu yn eu nifer yn hytrach na lleihau. Ac nid wyf yn derbyn bod pob dangosydd yn awgrymu y bydd newid ôl-troed gwasanaethau yn yr ysbyty hwn yn cael y canlyniadau enbyd a nodwyd gennych—ddim o bell ffordd. Mae'r cyfarwyddwr meddygol gweithredol yn nodi'r angen a'r sail resymegol ar gyfer mynd i'r afael â'r mater.
Nawr, nid ydym yn sôn am eich barn chi na fy marn i fel gwleidydd. Rydym yn sôn am y cyfarwyddwr meddygol gweithredol sydd â chyfrifoldeb uniongyrchol ar lawr gwlad, a'r gallu iddo ef a'r tîm cyfan o fewn y bwrdd iechyd hwnnw i wneud y peth iawn ac i wneud dewisiadau yn seiliedig ar y gwasanaeth cywir, ac i ddarparu'r ansawdd cywir a'r diogelwch ar gyfer y gwasanaeth hwnnw. Ac rwy'n credu ei bod hi'n gwbl anghywir i wleidyddion yma, yn fy sedd i neu unrhyw sedd arall geisio mynnu bod y bwrdd iechyd yn parhau i weithredu gwasanaeth, lle maent yn glir iawn y bydd diogelwch y gwasanaeth hwnnw'n cael ei beryglu os nad ydynt yn gwneud newidiadau.
Weinidog, yn ystod rhaglen de Cymru, bûm yn ymgyrchu gydag Aelodau Cynulliad eraill ac Aelodau Seneddol i gadw gwasanaeth damweiniau ac achosion brys yn llwyddiannus yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Felly, chwe blynedd yn ddiweddarach, rwyf unwaith eto'n rhannu'r pryder cyffredinol ynghylch yr argymhellion newydd hyn i ystyried nifer o opsiynau, gan gynnwys y posibilrwydd o israddio neu gael gwared ar wasanaethau damweiniau ac achosion brys.
Nawr, gallai fod yn angenrheidiol ac yn briodol i wneud addasiadau tymor byr i'r ddarpariaeth o wasanaethau iechyd er mwyn cadw cleifion yn ddiogel wrth gwrs, ond yn yr achos hwn, credaf ei bod yn hanfodol i Ysbyty Brenhinol Morgannwg barhau i gynnig gwasanaeth damweiniau ac achosion brys cadarn ymhell i'r dyfodol. Nawr, er ei bod yn bwysig nodi bod yr adolygiad hwn yn cael ei hyrwyddo gan glinigwyr, ac nad yw'n ymwneud ag arian, mae chwe blynedd bellach ers rhaglen de Cymru, sef y man cychwyn ar gyfer adolygiad y bwrdd iechyd, ac mae llawer wedi newid ers hynny. Erbyn hyn ceir nifer gymhleth o ffactorau, ac mae angen eu deall yn llawn, gan gynnwys yr her o recriwtio meddygon ymgynghorol, y galw cynyddol ar wasanaethau golau glas a'r cynnydd sylweddol yn y galw am wasanaethau damweiniau ac achosion brys, a'r cynnydd enfawr yn nifer y tai a'r twf yn y boblogaeth yn yr ardal gyfagos.
Felly, rwy'n mynd i ofyn eto i'r Gweinidog ymyrryd ar frys yn y mater hwn i ymrwymo i gefnogi adolygiad llawn o raglen de Cymru cyn ystyried unrhyw newidiadau i'r ddarpariaeth damweiniau ac achosion brys.
Rwy'n cydnabod y pwynt y mae Aelodau ar draws y pleidiau'n ei wneud, ac rwy'n ailadrodd mai'r her yma yw deall sut y mae gennym wasanaeth gwirioneddol ddiogel sydd ar gael i etholwyr ledled y wlad, a beth y mae hynny'n ei olygu o ran naill ai ceisio newid model gwasanaeth, lle mae pobl yn dweud yn rheolaidd eu bod yn pryderu am ddiogelwch newid y model hwnnw, ond i'r un graddau, yr her o geisio cynnal model gwasanaeth os na allwch ei staffio a'i weithredu'n ddiogel. Ac yn y newidiadau ers hynny, mae adroddiad y cyfarwyddwr meddygol gweithredol y bydd y bwrdd yn ei ystyried yfory yn nodi ystod o'r ffactorau y cyfeirioch chi atynt ynghylch y cyd-destun cyfnewidiol y darparwyd gofal iechyd o'i fewn, ynghylch y newidiadau yn y ffordd y mae'r bwrdd iechyd wedi darparu rhai gwasanaethau, ac yn y pedwar opsiwn a nodir yn y papur hwnnw i'r bwrdd eu hystyried.
Nawr, unwaith eto, nid fy lle i fel gwleidydd yn y sefyllfa hon yw ceisio newid y dystiolaeth weithredol a'r ddealltwriaeth o'r hyn sy'n digwydd, a rhaid iddo fod yn ymgysylltiad priodol â'r cyhoedd yn ehangach a rhanddeiliaid, gan gynnwys chi a chynrychiolwyr etholedig eraill, am y gwahanol ffactorau y byddwch am weld y bwrdd iechyd yn rhoi sylw iddynt. Mae hynny'n cynnwys y gallu i recriwtio a chadw staff yn unrhyw rai o'r modelau arfaethedig, gan gynnwys y gallu i geisio cadw hynny yn y model presennol—mae'r bwrdd iechyd eu hunain yn dweud nad ydynt yn meddwl y gallant wneud hynny—beth y mae hynny'n ei olygu i bobl, sut y mae pobl yn cael gofal, a pha ofal a fydd ar waith ac yn dal i fod ar gael ar safle Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Mae'r rhain i gyd yn faterion rwy'n disgwyl i'r bwrdd iechyd eu nodi yn ei ymgynghoriad, a nodi'n eglur sut y mae'n bwriadu gwneud y dewisiadau hynny pan fydd yn rhaid iddo ddychwelyd, o gofio y bydd y meddyg ymgynghorol parhaol olaf yn gadael ei swydd ddiwedd mis Mawrth. Mae brys gwirioneddol i hyn, ac nid yw'n rhywbeth y gellid neu y dylid ei ohirio; rwy'n disgwyl i'r bwrdd iechyd wneud ei waith yn iawn, gyda'r cyhoedd a'i staff, a darparu ateb ar gyfer y dyfodol.
Weinidog, mae hwn yn fater sy'n peri pryder mawr i fy etholwyr. Mae'r rhai sy'n byw yng Nghilfynydd, Glyn-coch ac Ynys-y-bŵl yn dibynnu'n uniongyrchol ar y cyfleusterau damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, tra bod gweddill fy etholwyr, sy'n dibynnu ar ddarpariaeth damweiniau ac achosion brys Ysbyty'r Tywysog Siarl, yn poeni'n briodol am y pwysau ychwanegol a allai fod ar gyfleusterau yno pe bai’r adran damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn cael ei chau neu ei hisraddio. Mewn cyfarfod o Aelodau'r Cynulliad, ASau ac arweinwyr cynghorau ddydd Gwener diwethaf, siaradodd y bwrdd iechyd yn onest iawn am y problemau y maent yn eu hwynebu gyda chynaliadwyedd gwasanaethau yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, gyda'r adran damweiniau ac achosion brys yno’n cael ei chynnal, fel y dywedoch chi, gan un meddyg ymgynghorol parhaol a thri locwm, a bod un meddyg ymgynghorol bellach yn mynd i fod yn ymddeol yn gynt, gan adael y gwasanaeth mewn cyflwr a allai fod yn anghynaladwy.
Cawsom ein sicrhau gan y bwrdd iechyd iddynt fod yn rhan o broses recriwtio agored a pharhaus ers sawl blwyddyn, ond eu bod, er hynny, wedi methu recriwtio meddyg ymgynghorol arall. Pa gymorth y gallech chi fel Gweinidog iechyd ei roi i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg i helpu i gryfhau eu hymgyrch recriwtio ac annog meddygon ymgynghorol i ymgymryd â'r swyddi gwag hyn yn yr ysbyty? Pa adnoddau y gellid eu darparu i Ysbyty'r Tywysog Siarl ym Merthyr, ac Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr, i helpu i sicrhau bod eu hadrannau damweiniau ac achosion brys yn gallu ateb y galw ychwanegol a fyddai arnynt pe bai’r adran damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn cael ei chau neu ei hisraddio?
Ac yn olaf, rydym i gyd yn gwybod y gallai rhai pobl sy'n cyrraedd adrannau damweiniau ac achosion brys gael eu trin yn well mewn uned fân anafiadau, a all wneud cymaint mwy na thrin mân anafiadau—megis trin esgyrn sydd wedi torri, er enghraifft. Ond mae cau unedau mân anafiadau, neu leihau oriau fel y gwelsom yn digwydd yn rhai ohonynt, fel Ysbyty Cwm Cynon yn fy etholaeth i, yn gadael cleifion heb fawr o ddewis ond mynd i'r adran damweiniau ac achosion brys. Felly fel rhan o'r cynigion hyn ar gyfer Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Weinidog, a wnewch chi ymrwymo i weithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, i archwilio'r posibilrwydd o gryfhau unedau mân anafiadau mewn ysbytai cymunedol fel Ysbyty Cwm Cynon ac Ysbyty Cwm Rhondda, a thrwy hynny ddod â gwasanaethau iechyd yn agosach at y bobl a lleddfu pwysau ar adrannau damweiniau ac achosion brys?
Diolch am y cwestiynau hynny. Rwy'n credu bod her ynghlwm wrth y model gwasanaeth y mae'r bwrdd iechyd yn ei argymell ac y byddant yn mynd ati i’w ystyried gyda rhanddeiliaid. Oherwydd mae un o'r opsiynau posibl y maent yn ei nodi yn ymwneud â llai o wasanaeth gan feddygon ymgynghorol, ond cael darpariaeth mân anafiadau yn lle hynny. Ac mae’n her sy'n ymwneud â sicrhau bod y cyhoedd yn deall yr ystod o wasanaethau mân anafiadau sydd ar gael—yn fy ymweliad diweddar ag Ysbyty Castell-nedd Port Talbot gyda David Rees, gwelais wasanaeth rhagorol dan arweiniad nyrs, dan arweiniad nyrs ymgynghorol, ac ystod eang o weithgaredd y byddech, heb fod yn hir iawn yn ôl, wedi disgwyl iddo gael ei ddarparu mewn uned achosion brys dan arweiniad meddyg.
Felly mae yna her yn codi mewn perthynas â dealltwriaeth y cyhoedd, ond yn yr un modd ynglŷn â sut y mae'r gwasanaeth iechyd yn helpu pobl i gyrraedd y lle iawn. Ac os ydych chi yng nghefn ambiwlans, nid oes angen i chi boeni i ble rydych chi'n cael eich cludo am mai gwaith y gwasanaeth yw mynd â chi i'r lle iawn i gael y gofal sydd ei angen arnoch. Ac mae'n ymwneud wedyn â sut rydym yn helpu'r cyhoedd i wneud eu dewisiadau eu hunain, os ydynt yn mynd i gyrraedd safle ysbyty eu hunain. Ond yr ysgogiad ar gyfer hyn yw'r newid yn y staff, a beth y mae hynny'n ei olygu i'r gwasanaeth. Ac rwy'n dychwelyd eto—ym mhapur y cyfarwyddwr meddygol, mae'n tynnu sylw at y ffaith ei bod yn fwyfwy anghynaladwy, ac na ellir cynnal gwasanaethau diogel y tu hwnt i'r tymor byr uniongyrchol heb risgiau annerbyniol i ddiogelwch cleifion. Ac nid wyf yn credu y gall unrhyw wleidydd, mewn unrhyw blaid—yn y Llywodraeth neu'r tu allan iddi—anwybyddu'r rhybudd uniongyrchol a roddir gan y cyfarwyddwr meddygol sydd â goruchwyliaeth dros y ddarpariaeth feddygol trwy'r bwrdd iechyd. Felly, yr her yw sut y maent yn ystyried y pwyntiau a wnewch yn awr am y gwahanol gwestiynau, am y gwasanaethau a ddarperir, ble y'u darperir a sut y'u darperir, ac os bydd newid ar safle Ysbyty Brenhinol Morgannwg, beth y mae hynny'n ei olygu nid yn unig i'r ddau ysbyty yn yr un bwrdd iechyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Merthyr, ond hefyd yr hyn y mae'n ei olygu o bosibl yn y llif i lawr i Gaerdydd hefyd.
Felly, mae yna her sy'n un resymol nad yw'n ymwneud â'r bwrdd iechyd yn unig, ac rwy'n disgwyl iddynt ei hegluro'n agored ac yn dryloyw. Ac rwy'n credu y bydd yr ymgysylltiad â staff, yn ogystal â'r cyhoedd, yn bwysig iawn o fewn hynny, oherwydd bydd gan staff safbwyntiau clir iawn am ddiogelwch a chynaliadwyedd eu gwasanaeth, ac mae hynny'n aml yn ddefnyddiol wrth ddylanwadu ar y ffordd y dylai, ac na ddylai newid i'r gwasanaeth ddigwydd. Nid yw'n ymwneud ag arian, nid yw'n ymwneud ag ewyllys gwleidyddol i gynnal y gwasanaethau presennol—mae'n ymwneud mewn gwirionedd â beth yw'r gwasanaeth cywir i'w ddarparu a sut rydych chi'n darparu'r math o ofal rwyf fi ei eisiau ar gyfer fy nheulu ac y mae pob un ohonom ei eisiau ar gyfer ein teuluoedd a'n hetholwyr.
Yn olaf, Huw Irranca-Davies.
Diolch, Lywydd. Mae Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn gwasanaethu fy etholwyr o ardaloedd Llanharan a Gilfach Goch ac Evanstown, er bod Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr, sydd hefyd o fewn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg bellach, yn hanfodol bwysig i'r rheini ac i etholwyr eraill. Felly, er na all yr un ohonom, fel Aelodau cyfrifol o’r Senedd, anwybyddu goblygiadau ymddeoliad yr unig feddyg ymgynghorol parhaol yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg sydd ar fin digwydd yn gynharach na'r disgwyl, a'r ddibyniaeth yn sgil hynny ar feddygon locwm, mae gan fy etholwyr gwestiynau sy'n haeddu atebion gonest.
Sut y cyraeddasom sefyllfa lle nad oes ond un meddyg ymgynghorol parhaol yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg? A pham nad yw'r bwrdd iechyd wedi gallu recriwtio meddygon ymgynghorol ychwanegol dros gyfnod hir? Nid yw hyn yn gwbl annisgwyl. Mae'r goblygiadau i Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn sylweddol ac yn uniongyrchol, gan ei bod yn ymddangos bod gweithredu adran damweiniau ac achosion brys sy'n gweithredu'n llawn gyda'r radd a'r dyfnder priodol o arbenigedd ar ddarpariaeth locwm yn unig yn anghynaliadwy. Mae meddygon locwm yn rhan hanfodol o adrannau damweiniau ac achosion brys, ond mae dyfnder ac ehangder yr arbenigedd sydd ei angen mewn adrannau damweiniau ac achosion brys modern yn galw am nifer o feddygon ymgynghorol arbenigol amser llawn. Felly, a gaf fi ofyn ar ran fy etholwyr, a wnaed ymdrechion i ddod o hyd i feddygon ymgynghorol damweiniau ac achosion brys ychwanegol ar draws ardal y bwrdd iechyd ehangach, neu hyd yn oed mewn byrddau iechyd cyfagos i gynnal y gwasanaeth yno dros dro, tra bod ymdrechion pellach i recriwtio yn parhau?
Ac wrth gwrs, yn llechu yn y cefndir mae'r rhaglen de Cymru wreiddiol ar gyfer damweiniau ac achosion brys, rhaglen a gynlluniwyd rai blynyddoedd yn ôl bellach, ac na fu erioed yn weithredol. Felly, a gaf fi ofyn a yw hyn, trwy ddamwain neu gynllun, yn ymgais i roi rhaglen de Cymru ar waith yn hwyr yn y dydd, ac os felly, a yw'r cynigion yn y cynllun hwnnw'n gyfredol ar gyfer ystyried y pwysau cyfredol yn y system a phwysau yn y dyfodol, gan gynnwys datblygu miloedd—miloedd—o gartrefi newydd yn nwyrain fy etholaeth, yn ogystal â miloedd yn rhagor yn ardal Pontypridd, i'r gorllewin o Gaerdydd? A yw'r rhaglen honno'n rhan o hyn mewn unrhyw ffordd? Ac os felly, onid yw'n wir na fydd rhai o'r cyfrifiadau hynny’n gyfredol bellach? Ac ar y sail honno, pa asesiad a wneir o effaith y cynigion newydd nid yn unig ar Ysbyty Brenhinol Morgannwg, ond ar Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac Ysbyty Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful, sydd â'u hadrannau damweiniau ac achosion brys eu hunain, sydd o dan bwysau enfawr ar hyn o bryd wrth gwrs?
Ac yn olaf, Weinidog, a allwch chi annog y bwrdd iechyd i barhau â'u hymgysylltiad—ymgysylltiad gonest, didwyll ac agored—â'r cyhoedd, nid yn unig ag arweinwyr etholedig, i fynd trwy hyn? Efallai eu bod bellach mewn sefyllfa annymunol, ond yr unig ffordd trwy hyn yw bod yn onest ac yn agored ac ymgysylltu'n barhaus ag etholwyr, sydd ag ofnau go iawn ynglŷn â’r hyn a allai ddod.
Rwy'n sicr yn cydnabod y pwynt olaf a wnaethoch. Mae yna bobl sy'n wirioneddol ofnus ynghylch newid arfaethedig o'r math hwn, ac mae'n bwysig fod y bwrdd iechyd yn gwbl agored a gonest ynglŷn â'r hyn y maent yn ei argymell a pham, a bod y bobl sy'n ymwneud â darparu'r gwasanaeth yn rhan weithredol o’r sgwrs honno gyda'i gilydd, gydag arweinwyr a rheolwyr eu bwrdd iechyd, a'r cyhoedd hefyd.
Ac rwy'n credu ein bod yn dychwelyd at bwyntiau a nodwyd yn y papur, ac unwaith eto, mae'r cyfarwyddwr meddygol, nad oedd o gwmpas adeg rhaglen de Cymru ond sydd wedi edrych yn ei bapur ar yr hyn a ddywedai rhaglen de Cymru, yn nodi bod y sefyllfa a ddisgrifiwyd gan raglen de Cymru wedi dod yn un fwy argyfyngus erbyn hyn ag ystyried yr heriau o ran y pwysau ar y gwasanaeth. Ond hefyd yn y papur hwnnw, mae’n rhoi sylw i’r ffaith bod datblygiad preswyl eisoes wedi digwydd ac yn digwydd yn awr—felly, mewn perthynas â’r boblogaeth a natur y ddemograffeg.
A phe bai ymgais wedi bod i fynd i'r afael â'r mater hwn yn rhagweithiol yn gynharach a gwneud newidiadau, rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud y byddai pryderon real iawn wedi bodoli bob amser ynghyd â’r rhai y clywn amdanynt heddiw. Ac eto, rwy'n credu ei bod hi'n debygol, pe bai'r mater hwn wedi'i ddeall yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach, byddem mewn sefyllfa wahanol. Oherwydd rhan o'r her o gael staff yn dod i mewn i wasanaeth yw'r pwynt o gael model mwy hirdymor y mae pobl yn cytuno ag ef, yn barod i ymrwymo iddo, ac am weld eu gyrfaoedd yn rhan ohono.
Ond o ran cynnal y model, mae'r bwrdd iechyd, nid yn unig o fewn ei staff presennol—rwy'n deall ei fod eisoes yn siarad â phartneriaid am gynnal gwasanaeth tra'u bod yn dod at fodel gweithredu newydd. Ond nid wyf yn meddwl ei bod hi'n synhwyrol ceisio dwyn perswâd ar feddygon ymgynghorol sydd ar hyn o bryd yn gweithio ym Merthyr Tudful ac Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr, i gynnal darpariaeth meddyg ymgynghorol ar y model presennol yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg.
Ac os edrychwch ar batrymau recriwtio ac ymddygiad meddygon ymgynghorol ac i ble mae meddygon ymgynghorol wedi mynd, rwy'n credu mai dyna'n union y math o her a fyddai, pe bai'n cael ei chyflwyno neu ei gwneud yn ofynnol, yn arwain at wneud i'r bobl hynny chwilio am waith yn rhywle arall. Gall meddygon ymgynghorol adrannau achosion brys gael gwaith yn unrhyw ran o'r wlad fwy neu lai. Maent yn griw o bobl y mae galw mawr amdanynt.
Mae'n ymwneud â diogelu'r grŵp sydd gennym ar hyn o bryd, gwneud yn siŵr eu bod yn aros yn ein system, a chael model gofal a fydd yn gweithio i'r boblogaeth leol ac a fydd yn gweithio i'r gwasanaeth iechyd mewn ffordd barhaus. Ac i wneud hynny, i ddod yn ôl at eich pwynt olaf, rhaid i'r bwrdd iechyd fod yn agored ac yn dryloyw ynghylch yr hyn y maent yn ei wneud a pham, a sut y maent yn ystyried y negeseuon a gânt gan aelodau o'r cyhoedd, cynrychiolwyr etholiadol a'u staff eu hunain, gan gynnwys mynd i'r afael â'r pryderon gwirioneddol sydd gan aelodau'r cyhoedd.
Diolch i'r Gweinidog.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiadau 90 eiliad, ac mae'r datganiad cyntaf heddiw gan Lynne Neagle.
Diolch, Lywydd. Trefnir y gwobrau Ysbrydoli! tiwtoriaid gan Dysgu a Gwaith Cymru ac maent yn dathlu gwaith tiwtoriaid a mentoriaid ymroddedig sydd wedi annog pobl o bob cefndir ac oedran i gyflawni eu potensial. Y tu ôl i bob oedolyn sy'n ddysgwr llwyddiannus, ceir tiwtor neu fentor sy'n ysbrydoli.
Mae Daniel Dyboski-Bryant o Grŵp Llandrillo Menai wedi bod yn addysgu ffoaduriaid ac ymfudwyr, gan arloesi gyda'r defnydd o rith-wirionedd. Mae Mary Murray wedi bod ar genhadaeth i ysbrydoli oedolion yn Nhorfaen i ddysgu mathemateg, mae ei dosbarthiadau bob amser yn llawn ac mae nifer ohonynt wedi pasio TGAU. Mae Laura Wheeler yng Nghaerdydd yn darparu addysg a chefnogaeth i bobl ifanc yn rhaglen Dysgu i Fyw Llamau, ac mae wedi creu gofod lle maent yn teimlo'n ddiogel ac yn gallu mynd i'r afael â'r materion sy'n effeithio ar eu bywydau. Dysgodd Philippa Gibson Gymraeg fel oedolyn, ac mae wedi datblygu ei sgiliau i fod yn diwtor Cymraeg talentog yn Aberteifi a de Ceredigion. Disgrifiwyd Rameh O'Sullivan o Brifysgol Metropolitan Caerdydd fel rhywun aruthrol gyda llawer o'i myfyrwyr yn ffoaduriaid a cheiswyr lloches sy'n dioddef trawma, ac mae Rameh yn rhoi gobaith iddynt symud ymlaen. Ac mae Suzanne McCabe yn darparu hyfforddiant a chymorth i oedolion ag awtistiaeth yn ne Cymru, ac i fusnesau i gefnogi gweithwyr a chwsmeriaid sydd ag awtistiaeth.
Dyma ein cyfle i longyfarch pob un o'r rhai a enillodd wobrau a thiwtoriaid ledled Cymru sy'n parhau i newid bywydau. Diolch.
Llongyfarchiadau mawr i Dreorci ar ennill teitl y stryd fawr orau yn y DU. Mae'n wych fod y gwaith caled yn y dref hon yn y Rhondda wedi cael ei gydnabod, ac rwy'n falch o allu ei gydnabod yma yn y Senedd hefyd.
Daeth masnachwyr lleol at ei gilydd gyda chynghorwyr lleol a ffigurau cymunedol eraill i wneud i bethau ddigwydd drostynt eu hunain. Mae'r siambr fasnach leol yn ffynnu mewn tref lle mae 80 y cant o'r busnesau yn annibynnol. Mae pobl Treorci wedi rhoi eu ffydd yn yr hen ddihareb Gymraeg, Mewn undod mae nerth, mae canol y dref yn cael cefnogaeth dda iawn. Mae pobl o bob cwr o'r Rhondda a'r tu hwnt yn defnyddio canol y dref ar gyfer siopa a hamdden, gan alluogi Treorci i ddod yn ganolfan fasnach ffyniannus.
Mae absenoldeb tra-arglwyddiaeth y cadwyni mawr wedi cyfrannu'n fawr at lwyddiant y dref. Mae'n anodd gwadu'r effaith andwyol y gall siopau cadwyn mawr ei chael ar fusnesau bach a chanol trefi. Mae Treorci wedi dangos beth sy'n bosibl i ganol trefi sy'n wynebu anawsterau ledled Cymru. Rwy'n mawr obeithio y gall trefi eraill yn y Rhondda a thu hwnt ddysgu'r gwersi hynny a ffynnu yn union fel y mae Treorci yn ei wneud. Diolch yn fawr.