Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

28/01/2020

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Galw Aelodau i drefn. Cyn cychwyn y prynhawn yma, hoffwn i groesawu'r ddirprwyaeth seneddol o'r Maldives, sy'n ymweld â'r Senedd heddiw. Felly, croeso i chi o'r Maldives. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Cwestiynau i'r Prif Weinidog yw'r eitem gyntaf, felly, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Angela Burns. 

Ysmygu

1. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i leihau nifer y bobl sy'n smygu yng Nghymru? OAQ55018

Diolchaf i Angela Burns am y cwestiwn yna, Llywydd.

Rydym ni'n dal i fod wedi ymrwymo i ostwng y ganran o boblogaeth Cymru sy'n smygu i 16 y cant erbyn diwedd y flwyddyn galendr hon. Mae cynllun rheoli tybaco ar ôl 2020 yn cael ei baratoi, gan ddefnyddio'r holl dechnegau seiliedig ar dystiolaeth i helpu i sicrhau Cymru ddi-dybaco.

Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Ac nid oes amheuaeth bod Cymru wedi arwain y DU trwy wahardd smygu mewn mannau cyhoeddus, sydd i'w groesawu'n fawr. Fodd bynnag, 13 mlynedd yn ddiweddarach, mae'r ffigurau diweddaraf yn dal i ddangos ein bod ni'n methu â mynd i'r afael â smygu ymhlith pobl ifanc a mamau beichiog. Ledled Cymru, mae 9 y cant o bobl ifanc 15 i 16 oed yn smygu, ac mae 30 y cant o famau yn eu harddegau yn smygu. Mae tri deg y cant o famau rhwng 16 a 19 oed yn smygwyr pan fydd ar adeg geni eu babanod. Nawr, mae hyn yn amlwg yn cael effaith hirdymor arnyn nhw, ac, wrth gwrs, ar eu plentyn. Ac un o'r pethau yr wyf i wedi eu darganfod yw nad oes gan bob gwasanaeth mamolaeth wasanaethau rhoi'r gorau i smygu penodol. Mae'r rhai sydd â gwasanaethau o'r fath wedi dangos cyfraddau llwyddiant uchel iawn. Ac mae'n rhaid i ni gydnabod bod mamau yn eu harddegau yn arbennig yn agored iawn i bwysau fel delwedd y corff, maen nhw eisiau cael babi bach iawn, mae diffyg esiampl, ac, wrth gwrs, mae'r ddemograffeg yn brwydro yn eu herbyn weithiau. Ac rydym ni hefyd yn gwybod os yw plant yn gweld pobl yn smygu o'u cwmpas, eu bod nhw'n llawer mwy tebygol o ddechrau smygu.

Felly, roeddwn i'n meddwl tybed a allech chi amlinellu i mi yr hyn y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud i sicrhau bod yr arfer gorau sy'n bodoli lle ceir gwasanaeth rhoi'r gorau i smygu dan arweiniad bydwragedd mewn uned fydwreigiaeth yn cael ei ledaenu ar draws Cymru, ac y gallwn ni gael mwy o fydwragedd sy'n gallu arwain y math hwn o arfer er mwyn ceisio gostwng cyfraddau smygu ymhlith pobl ifanc yn eu harddegau.

Llywydd, hoffwn ddiolch i Angela Burns am y cwestiynau atodol yna. Mae hi'n iawn bod her barhaus i leihau'r gyfran o fenywod ifanc sy'n beichiogi ac yn parhau i smygu. Mae'n rhaid trin y ffigurau gyda dim ond rhyw fymryn o bwyll, oherwydd mae'r ganran yn ffactor o'r ffaith bod nifer y merched yn eu harddegau sy'n beichiogi wedi gostwng mor gyflym yn ystod y cyfnod datganoli. Felly, yn y flwyddyn 2000, roedd 495 o fenywod ifanc dan 16 oed a ddaeth yn feichiog yng Nghymru, ac yn 2017, y flwyddyn ddiwethaf y mae gennym ni ffigurau ar ei chyfer, roedd i lawr i 144. Ac mae hwnnw'n ostyngiad dramatig. Ac ymhlith y 144, ceir crynhoad o bobl ifanc sydd ag anawsterau a heriau penodol, wedyn, o ran perswadio pobl i roi'r gorau i smygu.

Ond mae'r amrywiaeth o wasanaethau sydd ar gael yn y GIG wedi'u cynllunio i geisio gwneud yn siŵr nad un dull yn unig sydd ar gael. Mae gwasanaethau yn yr ysbyty yn gweithio'n dda iawn i rai pobl ifanc, ond mae'n well gan bobl ifanc eraill yn bendant, fe wyddom, ddefnyddio gwasanaethau fferyllol, yn rhannol gan y gall hynny fod yn fwy anhysbys; byddai'n well gennych chi fynd lle nad oeddech chi mor weladwy i bobl eraill. Mae gan fydwragedd sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig ran bwysig i'w chwarae o ran gweithio gyda phobl ifanc yn arbennig, ac yna mae gweithio'n uniongyrchol gyda phobl ifanc yn bwysig hefyd. Felly, yn Sir Benfro, yn ardal yr Aelod ei hun, mae Hywel Dda yn gwneud darn penodol o waith gyda phobl ifanc sy'n smygu, gan geisio dysgu ganddyn nhw am y pethau a fyddai fwyaf effeithiol iddyn nhw fel dulliau ymyrraeth i'w galluogi i roi'r gorau i smygu, ac mae'r gwaith hwnnw'n mynd rhagddo ochr yn ochr â chlystyrau gofal sylfaenol a bydwragedd arbenigol.

Yn ffodus, rydym ni wedi gwneud cynnydd o ran lleihau'r niferoedd sy'n smygu yng Nghymru, Prif Weinidog, ond mae'n dal i gael effaith ofnadwy ar iechyd yng Nghymru, ac yn enwedig o ran pobl sy'n byw mewn tlodi. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n ei gwneud yn fwyfwy annerbyniol yn gymdeithasol i smygu yng Nghymru, ac mae'r gwaharddiad ar smygu mewn mannau cyhoeddus caeedig wedi bod yn rhan fawr o hynny. Dangosodd arolwg Action on Smoking and Health diweddar bod 59 y cant o ymatebwyr o blaid gwahardd smygu yng nghanol dinasoedd a threfi. A yw hynny'n rhywbeth y byddai Llywodraeth Cymru yn ei ystyried o ran gwneud cynnydd pellach?

Diolchaf i John Griffiths am hynna, ac rwy'n cytuno'n llwyr ag ef—roedd yn bwynt a wnaed gan Angela Burns hefyd—bod y ffaith fod smygu yn dderbyniol yn gymdeithasol yn arwain at bobl ifanc, yn arbennig, yn dod yn smygwyr. Rydym ni wedi gweld newid diwylliannol enfawr yn yr 20 neu'r 30 mlynedd diwethaf o ran yr hyn sy'n dderbyniol yn gymdeithasol. Bydd fy nghyd-Weinidog, Vaughan Gething, yn cyflwyno rheoliadau eleni i orfodi gwaharddiad statudol ar smygu ar dir ysbytai, meysydd chwarae ysgolion, mannau chware y tu allan i ysgolion, ac adeiladau agored mewn cyfleusterau gofal plant. Ac yna byddwn yn symud ymlaen i gam nesaf ein penderfyniad i wneud smygu yn rhywbeth yr ydym ni'n rhoi pwysau arno, yr ydym ni'n ei leihau, ac yr ydym yn atal pobl ifanc rhag meddwl ei fod yn ffordd arferol o dyfu i fyny. Ac mae safleoedd agored, yng nghanol trefi a dinasoedd, yn un o'r pethau y byddwn ni'n sicr yn cymryd camau i weithredu arnyn nhw nesaf.

13:35
Datganoli Trethi

2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddatganoli trethi ymhellach, yn unol ag argymhelliad Comisiwn Silk? OAQ54983

Diolchaf i Mike Hedges am hynna. Llywydd, er bod treth trosglwyddo tir, treth gwarediadau tirlenwi a chyfraddau treth incwm Cymru wedi cael eu hamsugno'n llwyddiannus fel cyfrifoldebau sydd wedi eu datganoli i Gymru, mae Llywodraeth y DU yn parhau i wrthod argymhelliad Silk o ran toll teithwyr awyr, er gwaethaf yr holl dystiolaeth sy'n cefnogi ei datganoli.

Roeddwn i eisiau siarad am y doll teithwyr awyr a'r ardoll agregau. Mae'r rheswm pam na allem ni gael datganoli'r ardoll agregau yn dod i ben am un eiliad wedi 11 p.m. ddydd Gwener. Felly, a allwn ni ddisgwyl, am ddau eiliad wedi 11 p.m., i'r ardoll agregau gael ei datganoli? Ac a ydych chi wedi cael unrhyw drafodaeth bellach ynghylch datganoli'r doll teithwyr awyr?

Diolchaf i Mike am y ddwy enghraifft yna, a chafodd y ddwy eu hystyried gan Gomisiwn Silk. Fel y mae Mike Hedges yn gwybod, ac wedi cyfeirio ato, Llywydd, roedd yr ardoll agregau yn destun ymgyfreitha helaeth ar lefelau Ewropeaidd a domestig. Cafodd hynny i gyd ei ddatrys ym mis Chwefror y llynedd, a chyhoeddodd Llywodraeth y DU adolygiad o'r ardoll agregau, a disgwyliwyd i hwnnw gael ei gyhoeddi yn yr hydref. Ni chafodd ei gyhoeddi oherwydd yr etholiad cyffredinol; rydym ni'n disgwyl erbyn hyn y bydd yr adolygiad hwnnw'n cael ei gyhoeddi ochr yn ochr â'r gyllideb ar 11 Mawrth. Ceir synergedd cryf rhwng y cyfrifoldebau amgylcheddol a gyflawnir yma yng Nghymru a'r ardoll agregau, sydd, wedi'r cyfan, yn dreth amgylcheddol, a byddai gosod y ddwy gyfres o gyfrifoldebau gyda'i gilydd yn gwneud synnwyr da iawn. Ceir rhai cymhlethdodau yr ydym ni'n disgwyl i'r adolygiad roi sylw iddyn nhw. Mae'n dreth sy'n lleihau, ac mae'n bosibl y bydd cyfran Cymru o agregau'r DU yn lleihau hefyd. Mae problemau sylweddol o ran data yn gysylltiedig â hi, ac, wrth gwrs, ni fydd yn dod â mwy o arian i Gymru, oherwydd byddai unrhyw arian y byddem ni'n ei gael trwy ardoll agregau yn destun gostyngiad i'r grant bloc. Serch hynny, mae'r ddadl o'i phlaid yn un gref, ac edrychwn ymlaen at gyhoeddiad yr adolygiad.

Cyn belled ag y mae'r doll teithwyr awyr yn y cwestiwn, mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi adolygiad o honno hefyd, yn rhan o'i gweithgareddau Flybe, a disgwylir i hwnnw gael ei gyhoeddi ochr yn ochr â chyllideb mis Mawrth hefyd. Nid oes dim o hynny'n gofyn am ragor o gyfiawnhad dros ddatganoli'r doll teithwyr awyr i Gymru. Dadleuwyd yr achos yn drylwyr yn Silk, ac fe'i dadleuwyd yn drylwyr yn adroddiad y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig, dan gadeiryddiaeth David T.C. Davies, y Dirprwy Weinidog yn Swyddfa Cymru erbyn hyn. Rydym ni'n edrych ymlaen at weld Llywodraeth y DU yn rhoi i Gymru yr hyn sydd eisoes wedi ei ddatganoli i'r Alban a Gogledd Iwerddon; nid oes unrhyw esgus dros beidio â dod â'r dreth honno i Gymru, fel yr argymhellodd comisiwn Silk.

Prif Weinidog, prin y mae eich adain chi o'r Blaid Lafur yn adnabyddus am dorri trethi. A dweud y gwir, rydych chi'n cael eich ystyried yn fwy fel unigolyn a allai fod eisiau eu codi. Pa sicrwydd allwch chi eu rhoi i bobl sy'n gweithio'n galed yng Nghymru, ac, yn wir, y busnesau hynny ledled Cymru, os caiff trethi pellach eu datganoli i Gymru, nad yw eich Llywodraeth yn mynd i'w codi yn hytrach na thorri'r baich i bobl fwrw ymlaen â'u bywydau?

Rhoddaf y sicrwydd hwn, Llywydd, y bydd unrhyw drethi sy'n dod i Gymru yn cael eu hystyried yn ofalus, ac y bydd unrhyw benderfyniadau yn cael eu gwneud yn y fan yma, ar lawr y Cynulliad Cenedlaethol—na fyddan nhw'n cael eu gwneud gan y Llywodraeth, y byddan nhw'n yn cael eu gwneud gan y Cynulliad Cenedlaethol. A phan ddaeth i'r dreth ar drosglwyddo tir, wrth gwrs, torrwyd y dreth honno gennym ar gyfer mwyafrif helaeth yr achosion o brynu tai yma yng Nghymru. Torrwyd elfen fusnes y dreth ar drosglwyddo tir gennym, fel bod y mwyafrif llethol o fusnesau bach yn talu cyfradd dreth is yma yng Nghymru nag yr oedden nhw pan oedd ei Lywodraeth ef yn gyfrifol amdani. Bydd pobl yn edrych ar yr hyn a wnaethom, yn hytrach na'r hyn y mae'r Aelod yn ei honni, ac yn canfod bod llawer mwy o sylwedd i'n gweithredoedd ni na'i eiriau ef.

13:40

Rwy'n siŵr y bydd y Prif Weinidog yn cytuno â mi ei bod hi braidd yn rhyfedd bod y Blaid Geidwadol bob amser yn siarad am dreth fel pe byddai'n rhywbeth ofnadwy. Pe na byddem ni'n talu trethi ni fyddai gennym ni wasanaethau cyhoeddus. Rydym ni i gyd yn gwybod bod angen buddsoddi yn ein gwasanaethau cyhoeddus yn y dyfodol.

Mewn ymateb i Mike Hedges, soniodd y Prif Weinidog am y doll teithwyr awyr a'r ardoll agregau. Gwn y bydd y Prif Weinidog, fel minnau, yn gresynu'r hyn sy'n mynd i ddigwydd nos Wener yr wythnos hon, ond mae'n mynd i ddigwydd. A gaf i awgrymu i'r Prif Weinidog y gallai hwn fod yn gyfle i edrych ar rai trethi eraill y gallem ni fod eisiau ceisio eu datganoli, y tu hwnt i Silk? Rwy'n meddwl yn benodol efallai am y gallu i amrywio'r dreth gorfforaeth, na fyddai wedi bod yn bosibl o fewn yr Undeb Ewropeaidd; gan geisio y gallu i amrywio TAW o bosibl, a allai helpu i dyfu rhai o'n busnesau lleol a chynhenid ein hunain.

Rwy'n sylweddoli, wrth gwrs, Llywydd, bod y Prif Weinidog yn yr ystyr hwn ar drugaredd y Llywodraeth Geidwadol yn Llundain. Ond tybed a fyddai'n cytuno â mi y dylem ni, yn ystod cyfnod sy'n siŵr o fod yn anodd yn economaidd i Gymru, fod yn uchelgeisiol ynghylch ceisio'r ysgogiadau y bydd eu hangen arnom ni i ddiogelu ein heconomi rhag rhai o'r effeithiau negyddol posibl.

Diolchaf i Helen Mary Jones am hynna, ac wrth gwrs rwy'n cytuno â'i chyfraniad cyntaf. Y trethi yr ydym ni'n eu talu yw'r tâl mynediad i gymdeithas wâr. Pe na byddai gennym ni drethi ac nad oeddem ni'n eu talu yna ni fyddai gennym ni'r gwasanaethau yr ydym ni'n siarad amdanyn nhw drwy'r amser ar lawr y Cynulliad hwn, ac y mae'r Aelodau gyferbyn yn annog rhagor o fuddsoddiadau a mwy o wariant arnyn nhw yn barhaus, gan ddyfeisio cynlluniau ar yr un pryd i'n hamddifadu ni o'r hyn sydd ei angen arnom er mwyn gallu gwneud hynny.

Gwn y bydd o ddiddordeb i Helen Mary Jones wybod bod swyddogion Trysorlys Cymru wedi cynnal cyfarfod yma yng Nghaerdydd yn gynharach y mis hwn a oedd yn cynnwys y Trysorlys, Llywodraeth yr Alban a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon, a oedd yn weithdy i edrych ar ffyrdd cyffredin newydd y gallai trethi newydd gael eu datganoli o fewn y Deyrnas Unedig. Ac roedd y drafodaeth honno'n un gynhyrchiol, a bydd yn helpu mewn rhai ffyrdd ymarferol eraill lle y gall cyfleoedd newydd a allai ddod i'n rhan yn y dyfodol gael eu llywio drwy beirianwaith y Deyrnas Unedig.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price. 

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, ni ellir dechrau dychmygu galar rhieni sy'n colli plentyn. Fel yr adroddwyd gan BBC Wales Investigates neithiwr, canfu cwest bod y gofal iechyd a roddwyd i Sarah Handy wedi cyfrannu at farwolaeth ei babi yn 2017. Mae ei hachos hi yn un o 140 sy'n cael eu hadolygu i ganfod pa un a gafodd mamau a babanod eu niweidio tra eu bod yn derbyn gofal yn unedau mamolaeth Cwm Taf Morgannwg. Galwodd Rebecca Long-Bailey, ymgeisydd am arweinyddiaeth Llafur, am ymchwiliad cyhoeddus i fethiannau mamolaeth yn y bwrdd iechyd, dim ond i dynnu ei sylwadau'n ôl yn ddiweddarach. Mae arweinydd Llafur Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn dweud ei bod yn 'sgandal llwyr' nad oes unrhyw un ar y bwrdd iechyd wedi ei ddwyn i gyfrif. Mae'n cefnogi galwad Mrs Handy am ymchwiliad troseddol. A ydych chi?

Wel, Llywydd, rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedodd Adam Price ar y dechrau, sef na ellir dychmygu colli plentyn o dan unrhyw amgylchiadau, a hyd yn oed yn fwy felly o dan amgylchiadau y gellid bod wedi eu hosgoi, o ran yr effaith y mae hynny'n ei chael ar fywydau teuluoedd.

Rwyf i wedi clywed galwadau am ymchwiliad troseddol. Mater i'r heddlu yn llwyr fydd hynny, nid mater i mi, ac ni fyddaf yn dweud dim ar y pwnc hwnnw y prynhawn yma y gellid ei ddehongli mewn unrhyw ffordd fel un sy'n niweidio gallu'r heddlu i gyflawni eu cyfrifoldebau.

Yn y rhaglen neithiwr, dywedodd Andrew Morgan hefyd, pan oedd galwadau am i brif weithredwr Cwm Taf ymddiswyddo, y gofynnwyd iddo beidio â siarad yn gyhoeddus. A ydych chi'n cytuno bod unrhyw ymgais i gau ceg cynrychiolydd etholedig yn gwbl annerbyniol? Ac a wnaiff ef lansio ei ymchwiliad ei hun i weld a yw'r honiadau a wnaeth Mr Morgan am y bwrdd iechyd yn wir?

Nid Cwm Taf yw'r unig fwrdd iechyd lle y ceir cwestiynau difrifol. Wrth gwrs, mae Betsi Cadwaladr bellach yn ei bumed flwyddyn o fesurau arbennig, ac mae ganddo gyfradd frawychus o ddigwyddiadau'n ymwneud â diogelwch cleifion. Rhwng Tachwedd 2017 a Rhagfyr 2019, cafwyd 520 o ddigwyddiadau ym mwrdd Betsi a arweiniodd at farwolaeth neu niwed difrifol. Mae'r cyfanswm hwnnw'n uwch na'r holl fyrddau iechyd eraill yng Nghymru gyda'i gilydd. Nawr, mae naill ai problem sylfaenol ddifrifol o fewn Betsi neu mae hysbysu annigonol difrifol mewn mannau eraill yng Nghymru. Pa un sy'n wir?

13:45

Llywydd, rwy'n credu bod arweinydd Rhondda Cynon Taf yn gallu siarad drosto'i hun. Rwy'n ei adnabod yn dda iawn ac mae gen i barch mawr tuag ato. Nid yw wedi gwneud unrhyw gais i mi, ac rwy'n siŵr ei fod yn fwy na digon galluog i wneud hynny drosto'i hun, pe byddai'n dymuno gwneud hynny.

Credaf fod y ffigurau yn Betsi Cadwaladr yn arwydd o fwrdd iechyd lle mae hysbysu am ddigwyddiadau a dysgu oddi wrthyn nhw wedi dod yn rhan o'i ddiwylliant, ac mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni eisiau ei weld ym mhobman yng Nghymru. Rydym ni'n cael y drafodaeth hon yn rheolaidd ar lawr y Cynulliad, pryd yr ydym ni'n dweud ein bod ni eisiau diwylliant o ddysgu, rydym ni'n dweud ein bod ni eisiau diwylliant mewn byrddau iechyd lle nad yw pobl yn ofni lleisio eu barn a chofnodi pethau, ac wedyn pan fydd hynny'n digwydd, rydym ni'n cael cwestiynau sy'n dweud, 'O, mae'n rhaid bod popeth yn ofnadwy, edrychwch ar y digwyddiadau sy'n cael eu cyhoeddi.' Nid wyf i'n credu y gallwn ni ei chael hi'r ddwy ffordd. Rwy'n credu bod y ffaith bod ffigurau ar gael ym mwrdd Betsi Cadwaladr sy'n dangos bod staff yn barod i hysbysu am bethau yn dangos bod diwylliant yno nawr sydd eisiau dysgu o'r ffordd y mae pethau'n cael eu gwneud, ac efallai nad oedd hynny'n wir yn y fan honno ddim llawer o flynyddoedd yn ôl.

Rhwng Rhagfyr 2018 a Rhagfyr 2019—cyhoeddwyd y ffigurau heddiw ddiwethaf—cofrestrwyd 41 o ddigwyddiadau a arweiniodd at farwolaeth yn Betsi. Mae hynny'n gyfanswm o 53 y cant o'r holl farwolaethau o'r fath a gofnodwyd gan fyrddau iechyd Cymru. Mae hynny'n amlwg yn anghymesur o uchel pan ystyriwch chi fod y bwrdd iechyd yn gyfrifol am tua 20 y cant yn unig o boblogaeth Cymru.

Os wyf i wedi deall y Prif Weinidog yn iawn, yr hyn y mae'n ei ddweud—ond gall ymateb i gadarnhau a yw fy nealltwriaeth yn gywir—yw, mewn ymateb i fy nghwestiwn, mae'n ymddangos ei fod o'r farn bod diffyg hysbysu am ddigwyddiadau difrifol yng ngweddill Cymru a bod, mae'n debyg, marwolaethau o ganlyniad i ddigwyddiadau nad ydyn nhw'n cael eu hysbysu yng ngweddill Cymru, sef, wrth gwrs, yn un o'r cyhuddiadau mwyaf difrifol yn yr adroddiad ar wasanaethau mamolaeth yng Nghwm Taf.

Felly, a yw'r Prif Weinidog yn dweud nawr bod y methiant allweddol, y diffyg hysbysu am ddigwyddiadau difrifol a oedd wrth wraidd y broblem yng Nghwm Taf, mewn gwirionedd yn broblem gyffredinol mewn byrddau iechyd eraill, ac eithrio Betsi, ledled Cymru?

Mae'n rhaid i mi ddweud, Llywydd, fy mod i'n meddwl bod hynna'n gybolfa lwyr. Mae'n fater syml o adeiladu un math o haeriad di-sail ar ben y llall. Ni ddywedais i ddim o'r fath beth, ac ni fyddwn i'n gwneud hynny. Yr hyn yr wyf i yn ei ddweud yn y fan yma yw ein bod ni eisiau diwylliant yn y GIG yng Nghymru lle mae pobl, pan fydd pethau'n mynd o chwith, yn teimlo wedi eu grymuso i leisio eu barn, bod pethau'n cael eu hadrodd, a bod pethau'n cael eu dysgu o ganlyniad i wneud yr adroddiadau hynny. Rwyf i eisiau gweld hynny ym mhob rhan o Gymru. Ac nid yw ymgais yr Aelod i geisio llusgo'r GIG drwy'r mwd unwaith eto y prynhawn yma—oherwydd dyna mae'n ei wneud, ac mae'n gwneud hynny mor rheolaidd yn y fan yma, mae'n gwneud hynny'n rheolaidd iawn yn y fan yma, fe wnaeth hynny eto y prynhawn yma—yn gwneud unrhyw les iddo, ac yn sicr nid yw'n gwneud unrhyw les i gleifion yng ngwasanaeth iechyd Cymru.

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, adroddwyd yr wythnos diwethaf bod ffordd Blaenau'r Cymoedd yr A465 yn wynebu oediadau pellach posibl, ac fel y gwyddoch, mae eisoes dros y gyllideb yn sylweddol. Roedd disgwyl i'r ffordd honno gael ei gorffen ddiwedd y llynedd. A allech chi ddweud wrthym ni pryd y bydd ffordd Blaenau'r Cymoedd yn cael ei chwblhau, ac a allwch chi hefyd gadarnhau pa un a fydd Llywodraeth Cymru yn gwario unrhyw adnoddau ychwanegol y tu draw i'r gyllideb bresennol i sicrhau bod y ffordd yn cael ei chwblhau o'r diwedd?

Llywydd, mae'r amserlenni ar gyfer cwblhau'r ffordd yn dal i fod fel y'u nodwyd yn y datganiad a wnaed gan fy nghyd-Weinidog Ken Skates y tro diwethaf iddo adrodd am y mater hwn i lawr y Cynulliad Cenedlaethol. Nid yw'r amserlenni hynny wedi newid. Bydd y Gweinidog yn gwneud datganiad arall ar hynt y gwaith o gwblhau'r rhan honno o ffordd Blaenau'r Cymoedd.

Mae'r gyllideb ar gyfer cwblhau'r gwaith y tu hwnt i'r hyn a ragwelwyd yn wreiddiol. Caiff hynny ei esbonio'n rhannol gan y topograffi heriol y mae'r adeiladwyr wedi ei wynebu wrth iddyn nhw wneud eu ffordd drwy un o'r ceunentydd mwyaf yr ydym ni erioed wedi adeiladu ffordd o'r math hwn drwyddo yng Nghymru. Cafwyd anghydfod rhwng Llywodraeth Cymru a'r contractwr ynghylch rhai o'r costau eraill a godwyd gyda ni, ac maen nhw'n dal i fod yn destun cymrodeddu parhaus rhwng y partïon.

13:50

Prif Weinidog, dim ond un enghraifft o lawer yw'r rhan benodol hon o ffordd o'r rhwystredigaethau y mae cymunedau ledled Cymru wedi eu cael gyda'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi ymdrin â phrosiectau seilwaith ffyrdd. Ddiwedd y llynedd, fe'i gwnaed yn eglur gan Gynghrair Seilwaith Cymru yn eu hadroddiad bod angen buddsoddiad sylweddol yn rhwydwaith cefnffyrdd Cymru a bod angen mwy o sicrwydd ynglŷn ag amserlenni cyflawni'r cynlluniau a nodir yn y cynllun trafnidiaeth cenedlaethol—ac mae hynny'n hollol wir, Prif Weinidog. Yn y gorllewin, mae'r galwadau parhaus i ddeuoli'r A40 wedi cael eu hanwybyddu'n llwyr. Ac, wrth gwrs, mae'r penderfyniad i beidio â bwrw ymlaen ag ateb i'r M4 unwaith eto wedi gadael cymunedau ar hyd y coridor hwnnw'n rhwystredig ac yn ddig.

Yn 2011, canfu Swyddfa Archwilio Cymru bod prosiectau trafnidiaeth mawr wedi costio llawer mwy ac wedi cymryd mwy o amser i'w cwblhau na'r disgwyl, gyda chyfanswm gorwariant o £226 miliwn. Digwyddodd hyn o dan Lywodraeth Lafur. Prif Weinidog, a ydych chi'n derbyn nad yw gwersi wedi cael eu dysgu o'r adroddiad damniol hwnnw, ac a ydych chi'n cydnabod yr effaith ofidus iawn y mae camreolaeth eich Llywodraeth o brosiectau ffyrdd yn ei chael ar fywydau pobl ledled Cymru?

Llywydd, pe bawn i'n meddwl am eiliad bod gwers i'w dysgu gan y blaid a oedd yn gyfrifol am reilffordd HS2 a'r biliynau—. Mae'n siarad â mi am £226 miliwn; prin fod hynny'n orwariant o wythnos yn ymdriniaeth ei Lywodraeth ef o HS2, lle ceir biliynau—biliynau a biliynau o bunnoedd. Mae hwnnw'n brosiect a luniwyd gan ei blaid ef, a chyfrifoldeb ei blaid ef yn llwyr. Mae'n credu y gall ddod i'r fan yma a'n beirniadu ni am y ffordd yr ydym ni'n gwneud pethau pan fo'i blaid ef yn sgandal ar draws Ewrop gyfan am y ffordd y mae wedi ymddwyn o ran y rhaglen drafnidiaeth honno.

Mae'n dyfynnu adroddiad i mi o 2011. Yn 2011, roeddem ni ar gychwyn cyntaf y cwtogi o flwyddyn i flwyddyn drwy raglen gyfalaf y Llywodraeth Lafur hon gan ei Lywodraeth ef yn San Steffan. Pe byddai gennym ni'r gyllideb heddiw yr oedd gennym ni bryd hynny, byddem ni'n gallu gwneud mwy mewn amrywiaeth eang o fuddsoddiadau cyfalaf yma yng Nghymru.

Nid wyf i'n ymddiheuro am hanes Llywodraeth Cymru: ffordd osgoi'r Drenewydd, a gwblhawyd yn unol â'r gyllideb ac yn brydlon; y gwaith yr ydym ni'n ei wneud yng nghymunedau'r Cymoedd na fyddai ei blaid ef yn gwbl sicr yn ystyried ei wario. Ym mhob rhan o Gymru, mae'r Llywodraeth hon yn buddsoddi i'r graddau llawnaf posibl, er gwaethaf holl galedi'r cyni cyllidol y mae ei blaid ef wedi ei orfodi arnom ni. A gwerthfawrogir y pethau hynny—ymhell o'i achwyn ynghylch y ffordd y mae pethau'n digwydd—gwerthfawrogir y pethau hynny ym mhob rhan o Gymru hefyd.

Wel, fe ddylech chi ymddiheuro, Prif Weinidog, am gamreoli'r prosiect penodol hwn, a dylech chi fod yn ymddiheuro i bobl Cymru am brosiectau eraill y mae eich Llywodraeth wedi eu camreoli. Mae'n ffaith bod cymunedau'n teimlo'n rhwystredig gyda dull Llywodraeth Cymru o ymdrin â seilwaith ffyrdd yma yng Nghymru, ac mae'n ymddangos i mi mai prin yw'r atebolrwydd gan Weinidogion am gamreolaeth eich Llywodraeth.

Nawr, Prif Weinidog, byddwch yn ymwybodol o gynlluniau gan Gyngor Caerdydd i gyflwyno tâl atal tagfeydd—neu dreth y Cymoedd, fel y mae eich Aelodau eich hun wedi ei alw—i godi tâl ar y rhai nad ydyn nhw yn drigolion i deithio i mewn ac allan o Gaerdydd. Nawr, mae'r cynlluniau hynny wedi cael eu beirniadu gan eich cyd-Aelod, yr Aelod dros Gaerffili, sydd wedi ei gwneud yn eglur na ddylid cyflwyno'r tâl oni bai bod dewisiadau eglur eraill yn hytrach na defnyddio ceir, ac y dylai'r tâl gael ei godi ar drigolion Caerdydd hefyd. Mae'r Aelod dros Flaenau Gwent wedi ei alw'n dreth y Cymoedd, a hynny'n briodol.

Nawr, mae'n ffaith bod y cynllun hwn angen cymeradwyaeth Llywodraeth Cymru cyn y gellir ei weithredu. Felly, Prif Weinidog, a yw'n fwriad gan eich Llywodraeth i gefnogi Cyngor Caerdydd a chymeradwyo'r dreth hon ar y Cymoedd? A ydych chi'n credu o ddifrif y gallai system trafnidiaeth gyhoeddus Caerdydd ymdopi â'r cynnydd sylweddol i alw a allai ddod o ganlyniad i'r cynnig hwn? Ac os byddwch chi'n cymeradwyo'r cynnig hwn, sut y gwnewch chi osgoi creu amgylchedd 'ni a nhw' rhwng y Cymoedd a'r brifddinas?

13:55

Llywydd, pregethau gan yr Aelod ar drafnidiaeth gyhoeddus, gan y blaid a wnaeth ganslo trydaneiddio'r brif reilffordd yma yng Nghymru—ydych chi'n cofio hynny? Tybed a yw'r Aelod yn cofio. Na, nid wyf i'n credu ei fod ef. Mae wedi anghofio bod ei blaid wedi addo trydaneiddio'r brif reilffordd yr holl ffordd i Abertawe, dim ond i gefnu wedyn ar yr addewid yr oedd wedi ei wneud i bobl Cymru. Mae eisiau fy holi i am drafnidiaeth gyhoeddus. Gadewch i ni edrych ar ei hanes ef, ar hanes ei blaid ef, am funud.

O ran cynigion Cyngor Caerdydd, rwy'n falch bod cyngor dinas Caerdydd yn ymateb mewn ffordd benderfynol a llawn dychymyg i effaith y newid yn yr hinsawdd ac effaith ansawdd aer yma yn ein prifddinas—y brifddinas lle ceir y gyfradd gymudo fwyaf yn unman yn y Deyrnas Unedig. Felly, nid wyf i'n credu ei bod hi'n iawn i ddiystyru'r cynigion y mae'r Cyngor wedi eu cyflwyno, oherwydd maen nhw'n ymateb difrifol i gyfres ddifrifol o broblemau.

Ond mae'r Aelod yn iawn i ddweud bod cyfrifoldeb ar Lywodraeth Cymru, wrth gwrs, i gwestiynu'r cynigion hynny mewn cyd-destun rhanbarthol. Dyna'n union a ddywedodd y Gweinidog trafnidiaeth pan gyhoeddwyd y cynlluniau hynny. Dyna pam yr ydym ni fel Llywodraeth Cymru wedi sefydlu ymchwiliad i reoli galw, nid yn unig yng Nghaerdydd, ond yn y rhanbarth ehangach, a bydd yr astudiaeth yn ystyried manteision a heriau gwahanol ddulliau rheoli galw, a byddwn yn defnyddio hynny i lywio polisi cenedlaethol a rhanbarthol. Rydym ni'n haeddu, mae pobl yng Nghaerdydd a phobl o gwmpas Caerdydd yn haeddu, cael edrych ar gynigion difrifol o ddifrif, i edrych ar ddewisiadau eraill a allai fod yno, ac i wneud hynny yng nghyd-destun yr argyfwng newid yn yr hinsawdd sy'n wynebu pob un ohonom ni. Bwriedir i gynigion Caerdydd fod yn ymateb difrifol i'r sefyllfa honno.

A gaf i ddymuno diwrnod Brexit hapus i'r holl Aelodau ddydd Gwener? Yn enwedig arweinydd Plaid Cymru, yr wyf yn ei ganmol ar yr agwedd gadarnhaol y mae wedi ei mabwysiadu yr wythnos hon.

Prif Weinidog, a ydych chi'n cefnogi'r dull mwy cadarnhaol fyth sy'n cael ei fabwysiadu gan y Bathdy Brenhinol yn Llantrisant? Am bythefnos, maen nhw'n cynnig teithiau Brexit pwrpasol. Rwy'n edrych ymlaen at fynd â'm plant i fathu eu darnau 50c Brexit eu hunain, gan ddymuno 'Heddwch, llewyrch a chyfeillgarwch gyda phob cenedl'. Ar ddiwrnod Brexit, mae'r Bathdy Brenhinol hyd yn oed yn agor drwy'r nos, gyda theithiau cyhoeddus bob 15 munud. Wrth i Nathan Gill ddod i Lantrisant ddydd Gwener i weithredu'r wasg darnau arian fel ei ymrwymiad olaf fel ASE, a gaf i ofyn i'r Prif Weinidog beth fyddwch chi'n ei wneud i ddathlu diwrnod Brexit?

Llywydd, byddaf yn cadeirio cyfarfod y Cydbwyllgor Gweinidogion (Negodiadau Ewropeaidd) yma yng Nghaerdydd yn ddiweddarach y prynhawn yma. Bydd yn cynnwys Prif Weinidog a Dirprwy Brif Weinidog Gogledd Iwerddon. Roeddwn i'n falch iawn o'u croesawu nhw i Gymru y bore yma, eu hymrwymiad cyntaf o'r math hwn ers ailsefydlu'r Weithrediaeth. Bydd Michael Gove yn cynrychioli Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn y cyfarfod y prynhawn yma. Yno, ni fyddwn yn cael taith o amgylch atyniad i dwristiaid ond byddwn yn mynd i'r afael o ddifrif â'r materion sy'n ein hwynebu fel Teyrnas Unedig wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd. Byddwn yn trafod y blaenoriaethau strategol ar gyfer trafodaethau gyda'r Undeb Ewropeaidd. Byddwn yn trafod y modd y gellir cynnwys gweinyddiaethau datganoledig yn y broses o bennu mandadau a'u cyflawni mewn trafodaethau. Dyna'r hyn y byddaf i a Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio arno yr wythnos hon ac yn ystod yr wythnosau a'r misoedd i ddod.

14:00

Da iawn. Rwy'n credu bod y Prif Weinidog wedi cyhoeddi ei fod yn mynd i fod yn gwneud araith ddydd Gwener, ond hoffwn ei longyfarch ar y cyfarfod y mae wedi ei gael heddiw, gan fy mod i'n credu tra bod Llywodraeth y DU wedi bod yn canolbwyntio ar bethau eraill, a hynny'n ddealladwy, pan nad oedd Llywodraeth yng Ngogledd Iwerddon, a phan fo Llywodraeth yr Alban yn elyniaethus, rwy'n credu bod Llywodraeth Cymru wedi cymryd yr awenau o ran rhoi ystyriaeth i rai o'r materion  ar ôl Brexit hyn a beth ddylai'r bensaernïaeth briodol fod i'n cysylltiadau rhyng-lywodraeth yn y DU.

Roeddwn i'n falch o gyfarfod â Simon Hart yn Nhŷ Hywel yn gynharach, a gobeithio y bydd yntau hefyd yn cydnabod yr arweiniad cryf y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ei roi yn y maes hwn. A wnaiff y Prif Weinidog, fodd bynnag, addewid nawr hefyd i weithio gydag arweinydd yr wrthblaid a chyda'r Aelodau gyferbyn i ddefnyddio eu dylanwad ar Weinidogion Llywodraeth y DU i helpu i fwrw ymlaen â rhai o'r syniadau y mae ei Lywodraeth wedi eu datblygu, ac y mae pob un ohonom ni'n cytuno â nhw?

Ac a gaf i hefyd ofyn, mewn ymdrech i ddod o hyd i dir cyffredin, a allai ailystyried yr agwedd 'dileu a disodli popeth' at gynnig Brexit y Ceidwadwyr yfory? Mae'n cyfeirio at y manteision posibl Brexit i Gymru yn unig, ac, wrth geisio dod o hyd i dir cyffredin, mae'n siarad yn gymharol ddi-dadleuol am gytundebau masnach rydd newydd, system fewnfudo nad yw'n gwahaniaethu yn erbyn y tu allan i'r UE, a dull newydd ar gyfer buddsoddi rhanbarthol. Mae hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgysylltu'n gadarnhaol â Llywodraeth y DU. Felly, tybed a allai'r Prif Weinidog ddod o hyd i'w ffordd i'w gefnogi?

Diolchaf i'r Aelod. Bydd Ysgrifenyddion Gwladol Cymru, Gogledd Iwerddon a'r Alban i gyd yn bresennol yn y Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Negodiadau’r UE) y prynhawn yma. Diolchaf i'r Aelod am yr hyn a ddywedodd am y cynigion y mae Cymru wedi eu gwneud i gryfhau'r ffordd y gall y Deyrnas Unedig weithredu yr ochr arall i Brexit. Roeddwn i'n falch o allu trafod y rheini yn uniongyrchol gydag Arlene Foster a Michelle O'Neill y bore yma, a byddant yn rhan o drafodaeth barhaus am beirianwaith rhynglywodraethol sy'n cael ei weithredu yn y Cyd-bwyllgor.

Rwyf i wedi bod yn ddiolchgar i arweinydd yr wrthblaid yma am nifer o gyfleoedd i gyfarfod i siarad am faterion yn ymwneud â Brexit, dyfodol y Deyrnas Unedig a materion polisi cyhoeddus pwysig eraill. Safbwynt y meinciau hyn erioed—yn sicr o dan fy rhagflaenydd—oedd  pa le bynnag y bo syniadau adeiladol y mae pobl eisiau eu cyfrannu at y dadleuon cyhoeddus pwysig hyn, wrth gwrs, rydym ni'n agored i'w clywed ac i'w trafod, ac rwyf i yn sicr eisiau parhau i wneud hynny yn y dyfodol. Rwy'n siŵr y bydd digonedd o amser ar lawr y Cynulliad yn y ddadl yfory, Llywydd, i bobl fynegi eu barn.

Cefnogi Pobl ag Awtistiaeth

3. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i gefnogi pobl ag awtistiaeth yng Ngorllewin De Cymru? OAQ55009

Diolch, Llywydd. A gaf i ddechrau drwy ddymuno'n dda i'r Aelod yn ei gwellhad parhaus o'i salwch diweddar? Mae'r gwasanaeth awtistiaeth integredig ar gael ym mhob rhanbarth yng Nghymru erbyn hyn, gyda chefnogaeth buddsoddiad blynyddol parhaus Llywodraeth Cymru o £3 miliwn. Byddwn yn ymgynghori ar y cod ymarfer statudol drafft ar gyfer awtistiaeth ym mis Ebrill eleni.

Diolch am eich geiriau caredig, Gweinidog, a diolch am eich ateb i'm cwestiwn. Mewn cyfarfod ddydd Gwener diwethaf, er gwaethaf y mesurau a amlinellwyd gennych, mae fy etholwyr yn dal i'w chael yn anodd cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw. Mae'n ddigon drwg i deuluoedd sy'n chwilio am gymorth i'r plant ag awtistiaeth, ond maen nhw wedi tynnu sylw at y ffaith y gall fod yr un mor drawmatig i oedolion sydd heb gael diagnosis o'r blaen. Felly, Prif Weinidog, pa fesurau ychwanegol allwch chi eu cymryd i wella cymorth i oedolion ar y sbectrwm awtistiaeth a hefyd i gyflymu'r diagnosis i oedolion sydd heb gael diagnosis pendant? Diolch.

Diolchaf i'r Aelod am hynna, ac rwy'n cydnabod y pwyntiau y mae'n eu codi am bobl a oedd, pan oedden nhw yn eu plentyndod, efallai nad oedd awtistiaeth yn cael ei gydnabod yn y ffordd y mae heddiw. Ac i rai pobl, mae'n eithaf hwyr yn eu bywyd fel oedolion cyn bod y pethau sy'n bwysig iddyn nhw bellach yn cael eu cydnabod yn rhan o gyflwr ehangach. Felly, mae ein gwasanaeth awtistiaeth integredig ar gael ledled Cymru erbyn hyn, ac fel y dywedais yn fy ateb gwreiddiol, Llywydd, cadarnhaodd y Gweinidog iechyd yn ddiweddar y bydd y buddsoddiad o £3 miliwn a wnaed gennym ni yn wreiddiol i helpu i sefydlu'r gwasanaeth hwnnw bellach yn rhan barhaol o'i gyllid. Felly bydd hynny, rwy'n credu, yn helpu. Bydd rhywfaint o'r gwaith yr ydym ni wedi ei wneud i helpu gyda hyfforddi clinigwyr gofal sylfaenol rheng flaen i gydnabod y sbectrwm awtistiaeth a'r bobl y gallai fod angen cymorth arnyn nhw arno, rwy'n credu y bydd hynny'n parhau i helpu pobl yn y sefyllfa honno. Ac mae'r cod ymarfer statudol ar awtistiaeth, y byddwn ni'n ei gyhoeddi ym mis Ebrill ac y byddwn ni'n ei gwblhau cyn diwedd y tymor Cynulliad hwn, yn canolbwyntio ar asesu, ymwybyddiaeth, mynediad, cynllunio a monitro, ac mae'r holl bethau hynny wedi eu cynllunio i atgyfnerthu'r gwasanaeth fel y gall oedolion a phobl ifanc fod yn ffyddiog bod eu hanghenion yn cael eu cydnabod ac yr ymatebir iddyn nhw yng Nghymru.

14:05

Prif Weinidog, ni fydd pob plentyn yn fy rhanbarth i sydd â chyflwr sbectrwm awtistig angen cymorth anghenion addysgol arbennig neu anghenion dysgu ychwanegol llawn, ond mae llawer angen y cymorth hwnnw ac, mewn rhai achosion, cymorth eithaf sylweddol. Mae hefyd yn wir y bydd rhai o'r plant hynny yn dioddef iechyd meddwl gwael, pa un a yw hynny heb gysylltiad â'u hawtistiaeth neu o ganlyniad i'r heriau dyddiol y maen nhw'n eu hwynebu oherwydd eu hawtistiaeth. Mae'r Gweinidog addysg wedi addo £7 miliwn tuag at fodloni'r galw am gymorth addysg yn y system bresennol, ac mae £5 miliwn ychwanegol yn mynd i mewn o feysydd iechyd ac addysg ar gyfer y dull ysgol gyfan, a chroesewir hyn i gyd. Ond a allwch chi ddweud wrthyf i sut y bydd y £3 miliwn y cyfeiriasoch ato yn eich ateb i Caroline Jones yn cael ei ddefnyddio i ddiwallu anghenion plant awtistig sydd ag iechyd meddwl gwael ar bob lefel yn y GIG, nid ym maes gofal sylfaenol yn unig? Ac a allwch chi roi sicrwydd i mi na fydd unrhyw blentyn â chyflwr sbectrwm awtistig yn cael ei wrthod gan ofal iechyd meddwl sylfaenol oherwydd diffyg arbenigedd neu hyfforddiant gan weithwyr iechyd meddwl proffesiynol?

Diolch am y cwestiynau ychwanegol yna ac am gydnabod y buddsoddiad sy'n mynd i wahanol rannau o'r gwasanaeth. Mae hynny'n ychwanegol i'r £20 miliwn sy'n cael ei fuddsoddi yn y broses o weithredu Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018. Rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn y mae Suzy Davies yn ei ddweud na fydd angen yr un math o ymateb ar bob plentyn ar y sbectrwm anhwylderau.

Dros y tair neu bedair blynedd diwethaf, rydym ni wedi datblygu'r gwasanaeth penodol ar gyfer pobl ifanc ag anawsterau niwroddatblygiadol. Rydym ni'n cynnal adolygiad capasiti a galw o'r gwasanaeth hwnnw oherwydd, mewn ffordd yr wyf i'n credu y gallwch chi ei rhagweld, pan fyddwch chi'n creu gwasanaeth newydd yna mae cyfres o ofynion cudd yn codi i'r wyneb. Felly, ariannwyd y gwasanaeth o'r cychwyn i ymdrin â'r bobl ifanc yr oeddem ni'n gwybod eu bod nhw'n dod i mewn i'r system eisoes; rydym ni'n darparu gwasanaeth newydd, ac yna mae nifer fawr o bobl ifanc eraill nad oedden nhw wedi cael ei nodi cyn hynny yn dod i'r wyneb ac angen cymorth, a dyna pam mae'r adolygiad o alw a chapasiti yn cael ei gynnal.

Rhwng hwnnw, rhwng y pethau yr ydym ni'n eu gwneud o ran gwasanaethau iechyd meddwl i bobl ifanc mewn ysgolion, ar y cyd â'r hyn yr ydym ni'n ei wneud o ran y Ddeddf anghenion dysgu ychwanegol, rydym ni'n creu gwe o wasanaethau yr wyf i'n credu sydd yno i greu rhwyd diogelwch cryf i bobl ifanc ar hyd y sbectrwm hwnnw, fel nad oes neb yn syrthio rhwng y craciau a bod pawb yn gallu dod o hyd i wasanaeth sy'n diwallu eu hanghenion penodol.

Tyfu'r Economi Ymwelwyr yn Islwyn

4. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer tyfu'r economi ymwelwyr yn Islwyn? OAQ55020

Diolchaf i'r Aelod am hynna.

Lansiwyd y cynllun gweithredu ar dwristiaeth ar gyfer 2020-25 yr wythnos diwethaf. Bydd ei uchelgais i ymestyn y sector twristiaeth a chyrhaeddiad daearyddol y diwydiant yn rhoi hwb newydd i'r llu o atyniadau sydd gan Islwyn i'w cynnig.

Prif Weinidog, diolch. Yr wythnos diwethaf, datgelwyd dyfodol cyffrous i'r economi ymwelwyr yng Nghymru gennych chi a'r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yr Arglwydd Elis-Thomas. Cefnogir y cynllun pum mlynedd newydd, 'Croeso i Gymru: Blaenoriaethau i'r Economi Ymwelwyr 2020-25', gan gronfa newydd o £10 miliwn, y pethau pwysig, i gefnogi'r seilwaith twristiaeth hollbwysig a fydd yn ategu cronfa buddsoddi mewn twristiaeth Cymru gwerth £50 miliwn, gan ganolbwyntio ar gynhyrchion o ansawdd uchel sy'n gwella enw da.

Prif Weinidog, mae'r economi ymwelwyr, fel y gwyddoch, yn hanfodol i lesiant a dyfodol cymunedau yn fy etholaeth i yn Islwyn ac, oherwydd hynny, cefais gyfarfod yr wythnos diwethaf gyda'r Dirprwy Weinidogion, Lee Waters a Hannah Blythyn, pryd y trafodasom, ymhlith pethau eraill, lle diwylliant ac ymrwymiad Llywodraeth Cymru i daith yrru golygfeydd coedwig Cwmcarn yn Islwyn, a ddynodwyd yn borth darganfod yn rhan o borth darganfod Parc Rhanbarthol y Cymoedd Llywodraeth Cymru.

Prif Weinidog, mae Llywodraeth Lafur Cymru yn cefnogi ei geiriau gyda gweithredoedd, ac ym mis Tachwedd, addawyd £450,000 i sicrhau y bydd taith yrru golygfeydd coedwig Cwmcarn yn ailagor yn llwyr yn 2020, gan ganiatáu mynediad i bob cenhedlaeth gael profiad o un o ryfeddodau naturiol Cymru. Felly, Prif Weinidog, a wnewch chi a'r Dirprwy Weinidog, Lee Waters, dderbyn fy ngwahoddiad i ymuno â phobl Islwyn yn nhaith yrru golygfeydd coedwig Cwmcarn, a hefyd, a wnewch chi a Llywodraeth Cymru wneud popeth y gallwch ei wneud i sicrhau bod Cymru a'r byd yn gwybod bod taith yrru coedwig Cwmcarn ar agor yn llawn unwaith eto ar gyfer busnes?

14:10

Wel, Llywydd, diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn treiddgar yna ar ran ei hetholwyr yn Islwyn. Mwynheais yn fawr y cyfle i fod gyda Dafydd Elis-Thomas yn lansiad y cynllun gweithredu ar dwristiaeth ym Mhorthcawl yr wythnos diwethaf. Mae'n cyflwyno ein huchelgeisiau ar gyfer y diwydiant twristiaeth yma yng Nghymru. Mae'r Aelod yn gwbl gywir i dynnu sylw at daith yrru golygfeydd coedwig Cwmcarn fel enghraifft o'r buddsoddiad y mae'r Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru yn ei wneud mewn cyrchfannau twristiaeth ym mhob rhan o Gymru.

Pan oedd fy mhlant i yn tyfu i fyny, Llywydd, roeddem ni'n ymwelwyr rheolaidd iawn â Chwmcarn oherwydd y ffordd y mae'n cynnig cymaint o amrywiaeth o gyfleoedd i bobl ifanc fwynhau'r golygfeydd bendigedig sydd yno ond hefyd yr holl gyfleoedd eraill hynny y mae'r daith yrru olygfaol yn eu cynnig. Mae'r holl lwybrau beicio mynydd yng Nghwmcarn wedi eu hailagor erbyn hyn. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyflwyno ceisiadau cynllunio ar gyfer pob un o'r wyth ardal hamdden ar hyd y daith yrru. Pan fydd y rheini wedi'u sefydlu hefyd, ochr yn ochr â'r ganolfan ymwelwyr newydd, bydd hyd yn oed mwy o resymau i bobl ddod i Islwyn a mwynhau'r hyn sydd gan Cwmcarn i'w gynnig.

Cynhwysiant Ariannol

5. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gamau gweithredu Llywodraeth Cymru i hyrwyddo cynhwysiant ariannol yng Nghymru? OAQ55014

Llywydd, mae ein hymrwymiad i hybu cynhwysiant ariannol yn cael ei adlewyrchu yn y cyllid o £19 miliwn yr ydym ni'n ei ddarparu i gynnig mynediad i bobl at wasanaethau ariannol fforddiadwy a gwybodaeth a chyngor y mae eu hansawdd wedi'i sicrhau. Mae hyn yn golygu bod pobl yn gallu gwneud penderfyniadau ariannol mwy cytbwys a rheoli eu cyllid yn well.

Diolch, Prif Weinidog, ac a gaf i groesawu'r amrywiaeth o gamau gweithredu a gyflwynwyd gennych chi yn y fan yna, y gwn eu bod o gymorth i lawer o'm hetholwyr ym Merthyr Tudful a Rhymni? Mae llawer ohonom ni ar yr ochr hon i'r Siambr hefyd yn cofio gweithredoedd Llywodraeth Lafur ddiwethaf y DU o ran sefydlu cronfeydd ymddiriedolaeth plant, ac, wrth gwrs, y gefnogaeth ychwanegol i hyn a ddarparwyd gan Lywodraeth Lafur Cymru. Mae cronfeydd ymddiriedolaeth yn bodoli, Prif Weinidog, fel y gwyddoch, i helpu pobl ifanc gyda chynilion i'w cynorthwyo wrth symud i fywyd fel oedolyn—cymorth a ddiddymwyd gan Lywodraeth Dorïaidd y DU. Ers hynny, mae Gweinidogion Torïaidd wedi methu â chysylltu pobl â'u cyfrifon, sy'n golygu y gallai miliynau fynd heb eu hawlio pan fydd pob plentyn yng Nghymru a anwyd yn 2002 yn gymwys i gael eu cynilion ym mis Medi. Pa sylwadau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu gwneud i Lywodraeth y DU i sicrhau bod pobl ifanc yn cael eu haduno â'u cynilion?

Wel, diolchaf i Dawn Bowden am gyfeirio at un o arbrofion polisi cymdeithasol mawr y ganrif hon. Gresynaf yn fawr y ffaith bod y gronfa ymddiriedolaeth plant, a lansiwyd gan y Blaid Lafur yn 2002 wedi cael ei diddymu gan y Llywodraeth glymblaid a ddaeth i rym yn 2010, gan fod y cynllun hwnnw'n cynnig cyfle i bobl ifanc ac yn enwedig pobl o gymunedau difreintiedig ddechrau ar eu bywyd fel oedolion gydag ased y tu ôl iddyn nhw, ac mewn lles sy'n seiliedig ar asedau, y ddamcaniaeth yw bod asedau'n newid bywydau; os oes gennych chi swm o arian y gallwch chi ddibynnu arno, rydych chi'n gwneud gwahanol fathau o benderfyniadau am eich dyfodol. Nawr, mae gennym ni'r arbrawf naturiol mawr hwn oherwydd bod gennym ni'r cohortau hyn o bobl ifanc a anwyd rhwng 1 Medi 2002 a 2011 a bydd y genhedlaeth gyntaf o'r plant hynny yn troi'n 18 oed ym mis Medi eleni. Roedd 273,000 o bobl ifanc yng Nghymru yr agorwyd cyfrifon cronfa ymddiriedolaeth plant ar eu cyfer a bydd rhai Aelodau yn y fan yma yn cofio fy nghyd-Aelod, Brian Gibbons, yn cyflwyno ychwanegiad yng Nghymru at y cronfeydd ymddiriedolaeth plant hynny, fel bod plant yng Nghymru, pan roedden nhw'n cyrraedd oed ysgol gynradd, ychwanegwyd £50 at gyfrif pob plentyn; ychwanegwyd £100 at gyfrif pob plentyn o deulu difreintiedig.

Pan sefydlwyd y gronfa ymddiriedolaeth plant, Llywydd, y syniad oedd nid yn unig rhoi arian i mewn i gyfrif plentyn, ond y byddai'r plentyn hwnnw'n gallu olrhain y cyfrif hwnnw drwy gydol ei aeddfedrwydd—y byddai ganddo, bob blwyddyn, gyfriflen yn dweud wrtho faint oedd yn cael ei gadw ar ei gyfer. Erbyn yr adeg y bydden nhw'n 16 oed, roedden nhw i fod i allu gwneud penderfyniadau drostynt eu hunain ynghylch ble y byddai'r gronfa honno'n cael ei buddsoddi. A, phan ddiddymwyd y gronfa, diddymwyd hynny i gyd hefyd yn anffodus.

Dyna pam yr ydym ni'n bryderus, fel y mae Dawn Bowden wedi ei ddweud, y gallai fod miloedd o bobl ifanc yng Nghymru ym mis Medi eleni y buddsoddwyd arian ar eu rhan a allai roi llwyfan iddyn nhw wrth iddyn nhw fynd ymlaen i fywyd fel oedolion, na fyddan nhw'n gwybod dim am y peth. Dyna pam yr ysgrifennodd fy nghyd-Aelod Rebecca Evans at Weinidogion y Trysorlys ar 22 Ionawr, yn eu hannog i gymryd camau newydd, fel y bydd y bobl ifanc hynny yng Nghymru sydd â chyfle i fanteisio ar eu cronfa ymddiriedolaeth plant yn cael eu nodi ac y gallwn fod yn ffyddiog y bydd y cyfle hwn ar gael yn wirioneddol, i'r bobl ifanc hynny o leiaf.  

14:15
Tasglu Ford Pen-y-bont ar Ogwr

6. A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad am gyfarfod diweddaraf Tasglu Ford Pen-y-bont ar Ogwr? OAQ54985

Llywydd, cyfarfu'r tasglu ddiwethaf ar 20 Ionawr. Roedd Gweinidog yr economi, Ken Skates, a Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn bresennol. Adolygodd y cyfarfod y cynnydd a wnaed hyd yma a chytunwyd ar y camau nesaf yn y gwaith o sicrhau dull rhanbarthol ar gyfer cau gwaith Ford.

Sylwaf, yn y datganiad i'r wasg a oedd yn atodi'r diweddariad hwnnw yr wythnos diwethaf, ei fod yn sôn y bydd yn symud ymlaen, yn y cam nesaf, i ganolbwyntio ar y dull rhanbarthol. Bu llawer o'r pwyslais ar hyn o bryd ar y safle ei hun, yr etifeddiaeth, y gronfa gymunedol a fydd ar ôl, a ddylai, mae'n rhaid i mi ddweud—rwy'n siŵr y bydd fy nghyd-Aelod Carwyn a minnau yn cytuno—fod mor fawr ag unrhyw gronfa gymunedol a adawyd yn unman arall pan fo Ford wedi gadael cymuned. Ond, o ran y dull rhanbarthol hwnnw, a wnaiff ef bwysleisio i'r cadeirydd ac aelodau'r tasglu bod angen gweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar rai o'u cynlluniau rhanbarthol hwythau hefyd, a byddai'r rheini'n cynnwys rhai fel canolfannau economaidd yng nghymoedd Garw ac Ogwr a datblygu safleoedd gwag neu segur, fel safle Heol Ewenni hefyd? Rwy'n credu bod cyfle gwirioneddol yn y fan yma, Prif Weinidog, i'r tasglu weithio ar draws y rhanbarth gyda rhai cynlluniau eithaf cyffrous sydd eisoes ar y gweill, a dyna sut y byddwn ni'n sicrhau bod yr adfywiad gyda'r tasglu hwn yn brathu'n ddwfn iawn.

A gaf i ddiolch i Huw Irranca-Davies am hynna, Llywydd, a chytuno ag ef yn llwyr bod cau gwaith fel Pen-y-bont ar Ogwr yn cael effaith ranbarthol yn ogystal â lleol? Bydd llawer o Aelodau Cynulliad yn y fan yma, i'r dwyrain ac i'r gorllewin o Ben-y-bont ar Ogwr, sydd ag etholwyr sy'n gweithio, sydd wedi bod yn gweithio, yn Ford, ac nid yn yr ardal leol yn unig y bydd effaith cau'r gwaith yn cael ei theimlo, ond ar draws y rhanbarth cyfan. Dyna pam y cytunodd y tasglu yn ei gyfarfod diwethaf ar bwyslais rhanbarthol ar gyfer cam nesaf ei waith.

Yn sicr, bydd eisiau gweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i sicrhau y gall gwaith y tasglu gefnogi rhai o'i uchelgeisiau ehangach. Dyna pam, pan ddaethpwyd ag Ineos, er enghraifft, i Ben-y-bont ar Ogwr ei hun, bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi pwyslais gwirioneddol ar gyfleoedd yn y gadwyn gyflenwi, oherwydd bydd y cwmnïau y bydd Ineos yn eu contractio yn cael effaith ranbarthol y tu hwnt i Ben-y-bont ar Ogwr hefyd, ac mae'r tasglu, rwy'n gwybod, yn mynd i ganolbwyntio'n benodol yn ei gyfnod nesaf ar yr effaith ehangach honno—y pethau y gallwn ni eu gwneud y tu hwnt i Ben-y-bont ar Ogwr fel tref—i wneud yn siŵr bod effaith cau'r gwaith yn cael ei hystyried yn ei holl wahanol ddimensiynau.

Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip

Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Mohammad Asghar.

Troseddau Casineb

1. A wnaiff y Dirprwy Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fesurau i fynd i'r afael â throseddau casineb yng Nghymru? OAQ54993

Rydym ni wedi cynyddu ein buddsoddiad mewn mynd i'r afael â throseddau casineb yn sylweddol yn ystod y misoedd diwethaf i roi sylw i'r cynnydd mewn naratifau atgas. A byddaf yn arwain dadl ym mis Mawrth yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau i fynd i'r afael â throseddau casineb gyda'n partneriaid yng Nghymru.

Diolch am yr ateb, Gweinidog. Cofnododd heddluoedd Cymru bron i 4,000 o droseddau casineb yn 2018-19. Roedd un ar ddeg y cant o'r digwyddiadau hyn yn droseddau casineb ar sail anabledd—sy'n gywilyddus. Mae'r elusen anabledd dysgu United Response wedi galw am i fesurau gael eu cymryd ledled y wlad a chan yr awdurdodau i wneud y broses o adrodd ac euogfarnu troseddau casineb ar sail anabledd yn fwy hygyrch ac yn llai brawychus i ddioddefwyr. Aethant ymlaen i ddweud eu bod nhw'n teimlo bod y broses yn rhwystr sylweddol ar hyn o bryd i droseddwyr gael y gosb y maen nhw'n ei haeddu, yn enwedig yng nghyd-destun y cynnydd sylweddol i nifer y troseddwyr mynych. Gweinidog, a wnewch chi gymryd camau i ddiwallu anghenion penodol pobl anabl o ran hysbysu am droseddau casineb yng Nghymru, os gwelwch yn dda?

14:20

Diolch yn fawr iawn i chi am y cwestiwn yna, Oscar, oherwydd mae'n wir bod y cynnydd i nifer y troseddau casineb ar sail anabledd yn ystadegyn brawychus y llynedd. Rydym ni wedi neilltuo mwy o gyllid i'n canolfan adrodd a chymorth cenedlaethol ar droseddau casineb dros y ddwy flynedd nesaf, ac mae hynny hefyd yn ogystal â chyllid blynyddol yr ydym ni'n ei roi. Ac rydym ni hefyd yn datblygu ymgyrch yn erbyn troseddau casineb o ran cyfathrebu, ac rydym ni'n mynd i ganolbwyntio'n benodol ar droseddau casineb sy'n effeithio ar bobl anabl, a dysgu, er enghraifft, gan y sefydliad Pobl yn Gyntaf—byddwch chi'n ymwybodol o'r sefydliadau Pobl yn Gyntaf ledled Cymru—fel y gall pobl ag anableddau dysgu gyfrannu at yr ymgyrch gyfathrebu honno o ran mynd i'r afael â throseddau casineb pobl anabl, sydd, yn anffodus, wedi bod ar gynnydd.

Gweinidog, a ydych chi'n cytuno â mi bod yn rhaid trin troseddau casineb yn erbyn y gymuned Sipsiwn/Teithwyr gyda'r un difrifoldeb â throseddau casineb yn erbyn unrhyw gymuned neu leiafrif arall yng Nghymru? Cefais gyfarfod yn ddiweddar gydag aelodau lleol o'm cymuned Sipsiwn/Teithwyr, ac maen nhw'n teimlo'n gryf iawn, yn rhy aml, nad yw hynny'n wir. Rhoesant enghreifftiau o negeseuon cyfryngau cymdeithasol, er enghraifft, a oedd yn wahaniaethol, yn rhagfarnllyd ac yn amlwg yn droseddau casineb, ond pan geisiwyd camau effeithiol ganddynt, fe welsant fod hynny yn anodd dros ben. Eu ple, mewn gwirionedd, oedd bod yn rhaid i droseddau casineb yn erbyn eu cymuned nhw gael eu trin gyda'r un difrifoldeb ag unrhyw drosedd casineb arall.

Unwaith eto, diolchaf i John Griffiths am y cwestiwn pwysig yna ac, yn wir, mae'n rhaid i ni drin troseddau casineb yn erbyn cymunedau Sipsiwn/Teithwyr/Roma gyda'r un egni, ag yr ydym ni yn ei wneud yn erbyn troseddau casineb ar sail anabledd, troseddau casineb hiliol, troseddau casineb LGBT, yr holl droseddau casineb sydd yn ein plith yn anffodus. Ac, wrth gwrs, rwy'n falch ein bod ni'n buddsoddi nid yn unig yn ein cronfa Teithio Ymlaen o ran sicrhau bod gennym ni safleoedd Sipsiwn ledled Cymru, ond hefyd yn gweithio gydag awdurdodau lleol a'r mudiadau trydydd sector hynny yr ydym ni'n gweithio â nhw i gefnogi'r gymuned Sipsiwn/Teithwyr/Roma. Ac a gaf i ddweud hefyd ei bod hi'n bwysig iawn bod gennym ni grŵp hollbleidiol i roi sylw i'r materion hyn? Rwy'n cyfarfod yn rheolaidd gydag Isaac Blake o'r Cwmni Diwylliannol a Chelfyddydol Romani Sipsiwn/Teithwyr, ac rydym ni'n eu hariannu nhw o ran mynd i'r afael â'r materion hyn.

Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus

2. Pa strategaethau sydd gan Lywodraeth Cymru i wneud y mwyaf o fanteision byrddau gwasanaethau cyhoeddus fel y'u sefydlwyd gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015? OAQ55016

Mae gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus ddiben a rhwymedigaeth gyfunol i wella llesiant yn eu hardaloedd drwy eu cynlluniau llesiant lleol. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu amrywiaeth o gymorth i'w galluogi i wneud eu gwaith mor effeithiol â phosibl.

Diolch. Mae'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn craffu ar hyn o bryd ar waith y Llywodraeth ar ddileu tlodi tanwydd yng Nghymru—mae'n bwysig o'r safbwynt cyfiawnder cymdeithasol yn ogystal â'n hangen i ddileu allyriadau carbon mor gyflym â phosibl. Mae'n un o'r materion heriol hynny sy'n galw am ddull gweithredu cydgysylltiedig gan yr holl randdeiliaid, o gwmnïau ynni i bob gwasanaeth cyhoeddus yn ogystal â dinasyddion. Pwnc delfrydol, byddech wedi meddwl, i fyrddau gwasanaethau cyhoeddus, ond nid ydym wedi cael unrhyw dystiolaeth hyd yn hyn bod y byrddau gwasanaethau cyhoeddus yn cael y dasg o gydgysylltu'r bylchau rhwng y gwahanol wasanaethau hyn. Felly, beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod byrddau gwasanaethau cyhoeddus yn mynd i'r afael â materion cymhleth fel tlodi tanwydd er mwyn cyflawni'r ffyrdd o weithio ac amcanion, fel yn Neddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol?

Wel, diolchaf i chi, Jenny Rathbone, am y cwestiwn yna, ac mae'n dda iawn clywed bod y pwyllgor newid hinsawdd yn cynnal yr ymchwiliad hwn i fynd i'r afael â thlodi tanwydd. Yr hyn sy'n hollbwysig yw bod yn rhaid i fyrddau gwasanaethau cyhoeddus gael eu dwyn i gyfrif am y gwaith y maen nhw'n ei wneud ac, yn wir, maen nhw'n destun y craffu hwnnw trwy bwyllgor craffu awdurdod lleol, sy'n adolygu trefniadau llywodraethu'r bwrdd gwasanaethau cyhoeddus a'i benderfyniadau. Ac, yn wir, mae gan Lywodraeth Cymru gynrychiolydd ar bob un o'r byrddau gwasanaethau cyhoeddus i wneud yn siŵr bod cysylltiad rhwng cyd-destun lleol a chenedlaethol. Wrth edrych ar faterion polisi, mae'n hanfodol bod BGCau yn deall materion cymhleth ac yn mynd i'r afael â nhw.

Ond, rwy'n credu bod rhai adroddiadau calonogol o'r hyn y mae'r byrddau yn ei wneud o ran gwneud tlodi tanwydd yn flaenoriaeth i'w hardal. Hoffwn sôn am Gwm Taf, sydd, yn ôl a ddeallaf, yn mynd i'r afael â thlodi tanwydd drwy hyrwyddo'r rhaglen Cartrefi Cynnes, cynlluniau ynni cymunedol ac inswleiddio cartrefi. Mae gan Fro Morgannwg, fy etholaeth i fy hun, mae'n rhaid i mi ddweud, nod hirdymor o ddatblygu dull cydgysylltiedig o fynd i'r afael â thlodi tanwydd, ac maen nhw'n ymgysylltu ag arbenigedd a chyfraniad landlordiaid cymdeithasol cofrestredig.

Yng Nghaerdydd, mae gan eich bwrdd gwasanaethau cyhoeddus gamau penodol i helpu pobl allan o dlodi, gyda thlodi tanwydd yn ddangosydd canlyniadau, y maen nhw'n mynd i'w defnyddio i fesur effaith byrddau gwasanaethau cyhoeddus. Felly, mae hwnnw'n gyfle gwirioneddol i weld a all Caerdydd brofi effaith cyfraniad pwysig y byrddau gwasanaethau cyhoeddus o ran mynd i'r afael â thlodi tanwydd.

14:25

Yr hydref diwethaf, canfu'r archwilydd cyffredinol bod y ffordd y mae byrddau gwasanaethau cyhoeddus yn gweithredu ar hyn o bryd yn llesteirio eu gallu i wella llesiant eu cymunedau. Nododd ei adroddiad wendidau fel anaddasrwydd atebolrwydd a threfniadau goruchwylio, diffyg adroddiadau cyhoeddus a dyblygu gweithgarwch BGC gyda phartneriaethau eraill. Nawr, ceir gwahaniaeth sylweddol rhwng y fan yma a Lloegr. Yma, mae polisi Llywodraeth Cymru ar gyfer BGCau yn hyrwyddo ymateb dan arweiniad y sector cyhoeddus i fynd i'r afael â llawer o heriau, ac nid yw'r sector preifat yn cael ei nodi fel aelod craidd o'r BGC. Pa ystyriaeth wnewch chi ei rhoi i annog BGCau i ystyried manteision cynnwys cynrychiolwyr o'r sector preifat sydd eisoes yn dangos dylanwadau sylweddol mewn meysydd eraill?

Wel, mae'n bwysig ein bod ni'n asesu effaith byrddau gwasanaethau cyhoeddus—yn hollbwysig, yn rhan o arfau'r ddeddfwriaeth llesiant cenedlaethau'r dyfodol, ac yn amlwg o ddiddordeb mawr i'r comisiynydd. Wrth gwrs, rydym ni'n ceisio cefnogi BGCau, i sicrhau eu bod nhw'n cael mwy o effaith o ran cyflawni. Mae hynny'n cynnwys partneriaid ymgysylltu, ac nid y gymuned yn unig, sy'n hollbwysig, ond hefyd, yn amlwg, partneriaid y sector preifat pan fo hynny'n briodol. Er enghraifft, mae rhai byrddau gwasanaethau cyhoeddus yn edrych ar y blaenoriaethau hynny fel maes polisi'r blynyddoedd cynnar, yr wyf yn gwybod y byddech chi'n ei groesawu, a hefyd yr economi sylfaenol. Ond, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig bod yn rhaid i fyrddau gwasanaethau cyhoeddus gyhoeddi adroddiadau blynyddol sy'n gwneud eu gwaith yn dryloyw, gan wella llesiant yn eu hardaloedd, felly mae'n bwynt ar gyfer craffu, ac i gymryd eu gwaith i ystyriaeth.

Gwrth-semitiaeth

3. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â gwrth-semitiaeth? OAQ55000

Mae Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu diffiniad Cynghrair Rhyngwladol Cofio'r Holocost o wrth-semitiaeth yn llawn ac yn ddiamod. Rydym ni'n benderfynol o gael gwared ar anoddefgarwch o'n cymunedau, a byddaf yn darparu datganiad llawn y prynhawn yma ar waith yr ydym ni'n ei wneud i fynd i'r afael â gwrth-semitiaeth ac i goffáu'r Holocost.

Diolch am hynna, ac rwy'n edrych ymlaen at eich datganiad, ac rwy'n gobeithio gofyn gwahanol gwestiwn i chi ar sail hwnnw. Ond, am nawr, hoffwn eich holi am addysg ac, yng ngoleuni'r cwricwlwm newydd, a wnewch chi ystyried gwaith mudiad March of the Living. Rhaglen addysgol flynyddol yw hon sy'n dod â myfyrwyr o bedwar ban byd i wlad Pwyl, lle maen nhw'n archwilio olion yr Holocost ac yn gorymdeithio'n dawel o Auschwitz i Birkenau.

Mae'n rhaid i mi ddweud bod ymweld â'r gwersylloedd wir yn newid pobl. Mae gweld yn gyfystyr â chredu, ac yn sicr teimlo. Os yw addysg wrth wraidd cael gwared ar gasineb, a fyddech cystal â gweithio gyda'r Gweinidog addysg i sicrhau'n llwyr nad yw'r Holocost yn disgyn allan o'r cwricwlwm, a bod cymaint o bobl ifanc â phosibl yn cael y cyfle i weld y gwersylloedd hyn drostynt eu hunain?

Wel, diolch yn fawr iawn i Suzy Davies am y cwestiwn yna, ac rwy'n sylweddoli bod hyn yn dilyn eich ymweliad, a'ch bod yn rhan o ddirprwyaeth, rwy'n deall, i Auschwitz. Rwy'n siŵr y byddwn ni'n clywed mwy am hynny yn nes ymlaen y prynhawn yma, pan fyddaf yn gwneud fy natganiad. Gwn y bydd y Gweinidog addysg yn fodlon edrych ar fudiad March of the Living, yn enwedig, gan eich bod wedi ei godi heddiw, ond byddwch yn gwybod ein bod ni hefyd yn darparu grant blynyddol o £119,000 i Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost i ddarparu'r prosiect Gwersi o Auschwitz. A hefyd, a byddwn yn siarad mwy am hyn y prynhawn yma, rwy'n siŵr, rydym ni wedi darparu £40,500 o gyllid, cyllid pontio'r UE, a dweud y gwir, i Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio'r Holocost i wneud llawer o waith yn cynnwys ysgolion yng Nghymru yn rhan o ddigwyddiadau coffáu eleni.

A dweud y gwir, ddoe, cymerodd pobl ifanc ran yn y gwasanaeth cenedlaethol yn Neuadd y Ddinas, a oedd yn rymus iawn, rwy'n gwybod, a hefyd neithiwr mewn digwyddiad yn Nhŷ Cwrdd y Cyfeillion, pryd y darllenodd dau o bobl ifanc weddi am yr Holocost yn y Gymraeg a'r Saesneg. Ac rwy'n credu bod y ffaith ein bod ni'n cefnogi Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost yn golygu, mewn gwirionedd, y llynedd, y cynhaliwyd ymweliad. Nawr bod gen i'r cyfle i ddweud: cymerodd 186 o gyfranogwyr ran yn yr ymweliad hwnnw ag Auschwitz, gan gynnwys 154 o ddisgyblion o 66 o ysgolion, dosbarthiadau chwech a cholegau, 19 o athrawon, 13 arall, gan gynnwys hwyluswyr a chynrychiolwyr y wasg. A bydd y rhaglen honno'n cael ei chynnal eto yng Nghymru o fis Ionawr—sy'n hollbwysig i alluogi pobl ifanc i ymgysylltu. Ond, yn amlwg, byddwn hefyd yn edrych ar y mudiadau, mudiad March of the Living hefyd.

14:30

Roedd hi'n saith deg pump mlynedd ddoe ers rhyddhau gwersyll marwolaeth Auschwitz. Amcangyfrifir bod dros filiwn o bobl a oedd yn Iddewon yn bennaf wedi dioddef marwolaeth arswydus yno. Ac roedd hynny'n cynnwys dynion, menywod a phlant o bob oed. Ac yn sicr, byddwn i gyd yn cytuno, un o'r cyfnodau tywyllaf yn ein hanes dynol. Gweinidog, a ydych chi'n cytuno â mi bod yn rhaid i ni gofio bob amser yr erchyllterau a ddigwyddodd yn Auschwitz, fel eu bod yn ein hatgoffa'n eglur o'r hyn a ddigwyddodd a'r hyn a all ddigwydd pan fydd pobl yn ysgogi casineb tuag at eraill?

Diolchaf i Joyce Watson am y cwestiwn yna. Gyda'n gilydd, mae'n rhaid i ni sicrhau bod yr Holocost yn aros yn ein cof cyfunol fel rhybudd o sut y gall naratifau atgas a rhwygol achosi'r niwed annychmygol hwnnw. A dyna pam yr ydym ni wedi ariannu Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio'r Holocost ac Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost i ymgymryd â gweithgareddau yng Nghymru. Ond credaf y bydd llawer o Aelodau yn y fan yma o bob rhan o'r Siambr wedi clywed goroeswyr—yn wir, clywsom oroeswr yn gynharach eleni mewn digwyddiad a drefnwyd gyda Darren Millar a Jenny Rathbone ac eraill. Ond ddoe clywodd rhai ohonom ni hefyd y goroeswr Dr Martin Stern. Rydym ni'n gwybod bod straeon y goroeswyr—mae'n anodd credu eu bod nhw wedi goroesi, ond maen nhw mor ymroddgar, yn aml ar ôl ymddeol, ac mae'n rhaid i ni wrando ar y goroeswyr hynny am yr hyn y maen nhw wedi ei ddioddef. Ond, rwy'n credu mai diben Diwrnod Cofio'r Holocost, fel y maen nhw'n dweud, yw dysgu gwersi o'r gorffennol i greu dyfodol mwy diogel a gwell, a byddwn yn siarad mwy am hyn yn ddiweddarach y prynhawn yma.

Gwarchod Hawliau Dynol

4. Sut mae Llywodraeth Cymru am sicrhau fod hawliau dynol cyfredol yn cael eu gwarchod pan fydd y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd? OAQ55008

Rwyf wedi comisiynu gwaith ymchwil i'r opsiynau i gryfhau cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru, a'u datblygu. Bydd yn ystyried confensiynau'r Cenhedloedd Unedig, deddfwriaeth bresennol Cymru, a bydd hefyd yn pwyso a mesur yr angen am Fil hawliau dynol ar gyfer Cymru.

Da iawn. Dwi'n falch iawn o glywed hynny, a'ch bod chi wedi comisiynu'r gwaith, ac y bydd hynny, yn wir, yn cynnwys gwaith deddfwriaethol, oherwydd beth rydyn ni'n gwybod ydy bod yna botensial real y byddwn ni'n colli llawer o'r hawliau—hawliau gweithwyr, hawliau menywod, hawliau pobl anabl ac yn y blaen—wrth adael yr Undeb Ewropeaidd. A dwi'n credu, yn yr haf, mi wnaeth y Cwnsler Cyffredinol, Jeremy Miles, godi y pwnc yma, y mater yma, ynglŷn â chael Deddf. A dwi'n credu i Steffan Lewis, y diweddar Steffan Lewis, a minnau, grybwyll hyn dro yn ôl hefyd, a'r enw roedden ni'n ei gynnig oedd Deddf hawliau'r bobl. Felly, dwi'n falch iawn o glywed bod yna symudiad yn digwydd tuag at hyn. Fedrwch chi roi rhyw fath o amserlen, os gwelwch yn dda?

14:35

Diolch yn fawr, Siân. Rwy'n credu bod darlith Jeremy Miles yn yr Eisteddfod, a Steffan Lewis, wrth gwrs—ac roeddwn i'n falch o fod yn rhannu gofod pwyllgor gydag ef. Pan fyddai'r cyfle'n codi, byddwn i bob amser yn codi hawliau dynol, a gwn i fod Aelodau'n gwneud hynny ar bwyllgor David. Ond mae'n bwysig iawn ein bod ni wedi dyfarnu contract ar gyfer yr ymchwil, o ran yr amserlen. Mae'n gonsortiwm wedi'i arwain gan Brifysgol Abertawe, sy'n mynd i ymchwilio i'r dewisiadau ehangach hyn, o ran—. Mae'r Comisiwn yn ymwneud â chryfhau a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru. Mae gennym ni hefyd grŵp llywio, sy'n cyfarfod yfory am y tro cyntaf, ac rydym yn disgwyl cyflwyno adroddiad erbyn diwedd y flwyddyn. Ond bydd yn edrych ar effaith tynnu—colli siarter hawliau sylfaenol yr Undeb Ewropeaidd. A gwyddom fod hawliau dynol wedi'u cysylltu'n annatod â'n DNA, nid yn unig yn gyfreithiol, drwy'r darpariaethau yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006, ond hefyd yn ddiwylliannol a thrwy ein hanes balch yng Nghymru o ymdrechu dros degwch a chynwysoldeb.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Gwn i am eich ymrwymiad personol i hawliau dynol, Gweinidog, ac rwy'n falch iawn bod Llywodraeth Cymru o leiaf yn siarad am geisio bwrw ymlaen â rhywbeth, er mwyn pwysleisio a thanlinellu'r ymrwymiad drwy ddeddfwriaeth yma yng Nghymru. Fel y gwyddoch chi, cyflwynais Fil ar gyfer pobl hŷn, a gafodd ei wrthod, i bob pwrpas, gan y Llywodraeth, oherwydd eich bwriad i gyflwyno deddfwriaeth. Rwy'n bryderus iawn, fodd bynnag, na fydd yr amserlen yn caniatáu ar gyfer darn o ddeddfwriaeth i fynd drwy'r Senedd hon erbyn yr adeg y byddwn ni'n codi ac yn mynd i gyfnod ein diddymiad, cyn etholiadau nesaf y Cynulliad Cenedlaethol. A byddwn i'n ddiolchgar iawn pe gallech roi syniad ynghylch sefyllfa'r Llywodraeth, ac a ydych chi'n teimlo y bydd deddfwriaeth yn cael ei chyflawni o fewn yr amserlen dynn sydd gennym ni. Ac os nad yw'n mynd i gael ei gyflawni, pa gamau eraill yr ydych chi'n mynd i'w cymryd, er mwyn amddiffyn yr hawliau hyn?

Diolch am y cwestiwn hwnnw, Darren Millar. Ac mae'n bwysig i mi adrodd yn ôl, ac fe wnaf hynny, o ran y cynnydd gyda'r gwaith pwysig hwn. Mae'r grŵp llywio yn cyfarfod yfory—fe'i gelwir yn llywio cryfhau a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru—ac rydym hefyd mewn gwirionedd yn gwneud cynnydd o ran dechrau'r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol yn Rhan 1 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Rydych chi'n ymwybodol ein bod ni newydd gwblhau ymgynghoriad. Rydym hefyd yn adolygu'r dyletswyddau sy'n benodol i'r Gymraeg, o dan ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus. Felly, mae'r rhain yn offer pwysig i gryfhau a diwallu'r anghenion hynny, o ran hawliau dynol. Ond rydym ni'n edrych ar y dewisiadau ehangach hynny, o ran y posibilrwydd o ymgorffori confensiynau'r Cenhedloedd Unedig yng nghyfraith Cymru. Ac, wrth gwrs, mae hynny'n rhywbeth y gwnaeth Helen Mary Jones ei godi hefyd, o ran y gobaith am gyfle deddfwriaethol posibl. Byddwn ni, wrth gwrs—. Rydym ni'n ymgymryd—rydym wedi comisiynu'r ymchwil hon er mwyn sicrhau ein bod yn cael hyn yn gywir, a gwn y bydd pobl, ar draws y Siambr, yn derbyn mai dyna'r ffordd gywir ymlaen. Ond, wrth gwrs, bydd yn ein galluogi i ystyried—ac rwy'n siŵr y bydd pob plaid eisiau ystyried hynny—a oes angen deddfwriaeth newydd, fel Bil hawliau dynol i Gymru.

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Eitem 2 ar yr agenda yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes. A galwaf ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd, Rebecca Evans.

Nid oes unrhyw newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith papurau'r cyfarfodydd sydd ar gael i'r Aelodau'n electronig.

Trefnydd, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar wasanaethau iechyd meddwl yn y Gogledd, os gwelwch yn dda? Mae wedi bod dros bedair blynedd a hanner ers i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gael ei roi mewn mesurau arbennig, am, ymhlith pethau eraill, heriau sylweddol o ran llywodraethu, a gwasanaethau iechyd meddwl. Dywedir wrthym dro ar ôl tro yn y Siambr hon fod pethau'n gwella, bod cynnydd cyson yn cael ei gyflawni, ac eto, yr wythnos diwethaf, daeth adroddiad i'r amlwg sy'n awgrymu darlun hollol wahanol o wasanaethau yn y Gogledd, yn enwedig o ran therapïau seicolegol. Roedd adroddiad a oedd yn nodi, a dweud y gwir, fethiannau difrifol, gan gynnwys rhestrau aros annerbyniol o hir, diffyg datblygu gweithlu yn strategol ac integredig, gwasanaeth heb ddigon o adnoddau, nad yw'n addas i'r diben, ymdeimlad o ddigalondid ymhlith y staff. Nawr, a dweud y gwir, roeddwn i'n synnu'n fawr fod yr adroddiad hwn, mae'n debyg, wedi'i gyhoeddi'n gynharach y llynedd—tua mis Awst/Medi—ac eto nid yw'n ymddangos bod unrhyw drafodaeth ynghylch yr adroddiad hwn, dim adroddiad i Aelodau'r Cynulliad am yr adroddiad hwn, ac nid yw'n ymddangos bod y bwrdd ei hun wedi'i drafod yn unrhyw un o'i bapurau bwrdd Felly, rwy'n credu, o ystyried y canfyddiadau difrifol yn yr adroddiad hwnnw, fod angen diweddariad brys gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y sefyllfa bresennol.

A gaf i hefyd alw am ddatganiad ar reoleiddio ysgolion annibynnol? Bydd y Gweinidog addysg yn ymwybodol o'r diddordeb sylweddol sydd wedi bod yn gyhoeddus o ganlyniad i'r adroddiadau yn y cyfryngau ar rai materion diogelu yn Ysgol Rhuthun yn fy etholaeth i. Ac rwy'n credu bod angen inni ystyried y rheoliadau ynghylch ysgolion annibynnol er mwyn cryfhau'r trefniadau diogelu, ond, yn fwy na hynny, i ystyried hefyd swyddogaeth Cyngor y Gweithlu Addysg, ac a allai fod yn briodol cael categori cofrestru ar wahân, yn enwedig ar gyfer uwch arweinwyr yn ein hysgolion annibynnol, er mwyn sicrhau eu bod yn briodol? Yn amlwg, mae llawer o ddicter ynglŷn â rhai o'r adroddiadau, sydd wedi'u darllen, o ran yr hyn sydd wedi bod yn digwydd yn yr ysgol honno yn y Gogledd, ac yn sicr yn fy etholaeth i, a chredaf y byddai'n ddefnyddiol bod datganiad ysgrifenedig neu lafar ar hynny cyn gynted â phosibl.

Ac yn olaf, o ran parthau twristiaeth, byddwch chi'n ymwybodol i Lywodraeth y DU gyhoeddi ym mis Mehefin y llynedd y bydd nifer o barthau twristiaeth ledled y wlad, a fydd yn cael eu dynodi—[Torri ar draws.]—a, nage, nid Lloegr yn unig, mewn gwirionedd, mae'n brosiect ledled y DU. Roeddwn i'n siomedig iawn na fu unrhyw ddiweddariadau i'r Siambr hon am unrhyw obaith, o ran Cymru mewn gwirionedd yn cael ei dynodi'n barth, neu hyd yn oed Ogledd Cymru'n cael ei dynodi'n barth. Mae'n eithaf clir gan Lywodraeth y DU fod hyn ar gael  ar gyfer y Deyrnas Unedig gyfan, ac nid Lloegr yn unig, fel y mae'r Gweinidog sy'n gyfrifol am dwristiaeth ar eich meinciau chi wedi'i haeru. Byddwn i'n ddiolchgar felly pe bai modd inni gael datganiad brys ar y mater hwn er mwyn i ni allu manteisio ar y cyfle hwn i gael buddsoddiad i Gymru a'r budd mwyaf i'n diwydiant twristiaeth.

14:40

Felly, o ran y mater cyntaf, a oedd yn gais am ddiweddariad ynglŷn â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, gallaf  gadarnhau y bydd diweddariad o'r fath yn dod i law ar 25 Chwefror. Mae hynny ar y datganiad busnes, sydd wedi'i gyhoeddi heddiw.

O ran yr ail fater, ynghylch ysgol Rhuthun, mae Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o'r canfyddiadau difrifol hynny yn adroddiad Arolygiaeth Gofal Cymru, ac mae swyddogion, ynghyd ag arolygwyr Estyn, yn ystyried cynllun gweithredu gan yr ysgol, sydd wedi cael ei gyflwyno yn dilyn cais gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y cynllun gweithredu. Ond mae'r Gweinidog wedi dweud y byddai'n hapus i roi diweddariad pellach, a gwn i eich bod hefyd wedi cyflwyno cyfres o gwestiynau ysgrifenedig, a fydd hefyd yn cael ateb.

Ac ar y trydydd mater, mae'r Gweinidog sy'n gyfrifol am dwristiaeth yma i glywed eich cais am ragor o wybodaeth ynghylch hynny. Ac mae'n bwysig, lle mae hynny'n bosibl, fod Llywodraeth Cymru yn manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd i weithio gyda Llywodraeth y DU. Ond mae'n ddyletswydd ar Lywodraeth y DU i gydnabod bod twristiaeth wedi'i datganoli i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac mae'n ddyletswydd arnyn nhw i gynnal trafodaethau gyda'n Gweinidog i ymchwilio i sut y gallem ni weithio ar y cyd er lles Cymru.

Mae Adref yn elusen sydd wedi bod yn cefnogi pobl sy'n agored i niwed ac yn brwydro yn erbyn digartrefedd yn fy ardal i ers tri degawd. Nawr mae bygythiad i gau'r elusen, gan fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi dyfarnu'r contract i ddarparu gwasanaethau hostel lleol i sefydliad arall, sefydliad heb fawr o brofiad, os o gwbl, o'r sefyllfa yn Rhondda Cynon Taf a Merthyr. Bydd hyn yn golygu colli rhai swyddi. Bydd yn golygu colli gwybodaeth leol arbenigol am y sefyllfa o ran digartrefedd yn ein hardal a bydd yn golygu colli byddin fach o wirfoddolwyr. Bydd gwaith cymunedol sylweddol Adref, fel yr apêl hamper Nadolig y mae fy swyddfa i wedi'i chefnogi ers blynyddoedd lawer, yn annhebygol o gael ei ailadrodd, ac ni allwch roi pris ar waith cymunedol fel yna.

Felly, Trefnydd, a gawn ni ddatganiad gan y Llywodraeth am egwyddorion caffael lleol ar gyfer contractau'r trydydd sector? A wnewch chi ymuno â mi i annog Cyngor Rhondda Cynon Taf a chyngor Merthyr i ailystyried y mater hwn ac i gydnabod y gwaith gwych y mae'r elusen hon wedi'i wneud ers iddi gael ei sefydlu gan swyddogion prawf a nododd angen lleol yn ôl yn 1987?

Mae penaethiaid iechyd o Gwm Taf yn argymell tynnu'n ôl y gwasanaethau damweiniau ac achosion brys dan arweiniad meddyg ymgynghorol ar ryw ffurf neu'i gilydd o Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Mae gan hyn oblygiadau difrifol i'r lle yr wyf i'n ei gynrychioli, y Rhondda, ac mae pobl yn grac, a hynny'n haeddiannol, ynghylch y posibilrwydd o orfod teithio ymhellach mewn argyfwng a allai fygwth eu bywyd.

Nid oes neb eto wedi gallu ateb y pryderon ynghylch amseroedd ymateb ambiwlansys, na'r ffaith nad oes gan nifer sylweddol o bobl sy'n byw yn y Rhondda gar. Ac mae hynny, yn fy marn i, yn warthus. Nid oes gan bobl fawr o ffydd y bydd eu pryderon dilys yn cael eu hystyried ar ôl yr ymgynghoriad ffuantus a gafodd ei gynnal yn 2014, lle dywedodd 60,000 o bobl nad oedden nhw eisiau i'r newidiadau fynd rhagddynt, ac anwybyddwyd y lleisiau hynny.

Mewn sawl ffordd, mae'r problemau yr ydym ni'n eu hwynebu ar hyn o bryd yn deillio'n bennaf o ddiffyg cynllunio'r gweithlu gan olyniaeth o Weinidogion Iechyd Llafur. Cyflwynodd Plaid Cymru gynllun chwe blynedd yn ôl i fynd i'r afael â'r gymhareb frawychus o isel o feddygon i bobl sydd gennym ni yn y wlad hon, a chafodd ein cynlluniau eu gwatwar gan yr union bobl a oedd â'r pŵer neu'r cyfrifoldeb i wneud rhywbeth yn ei gylch.

Byddaf yn mesur teimladau pobl y Rhondda mewn cyfarfod agored sydd wedi'i drefnu gan Blaid Cymru ddydd Llun nesaf yng nghlwb rygbi Harlequins Porth. Mae croeso i bawb ddod. Efallai yr hoffai Gweinidogion ddod i glywed cryfder y teimladau gan bobl y Rhondda ar y mater hwn. Byddai croeso ichi fod yn bresennol os hoffech chi dderbyn y cynnig hwnnw.

Ond hoffwn i ofyn: a ydych chi'n gresynu at y diffyg gweithredu i fynd i'r afael â'r prinder meddygon ymgynghorol yng Nghymru gan eich cyd-Aelodau yn y Cabinet? A wnaiff y Llywodraeth ddatganiad ynghylch ei chynlluniau i fynd i'r afael ag achosion o gadw ysbytai cyffredinol dosbarth, a gwasanaethau brys yn benodol, sy'n broblem nid yn unig yn y Rhondda, ond ledled ein gwlad gyfan?

14:45

O ran y mater cyntaf, nid wyf i'n credu ei bod yn briodol i Lywodraeth Cymru roi pwysau ar awdurdodau lleol o ran y penderfyniadau y maen nhw'n eu gwneud o ran dyfarnu contractau. Fodd bynnag, byddwn i'n annog yr Aelod i roi gwybod i gynghorau Rhondda Cynon Taf a Merthyr am ei phryderon ynglŷn â'r caffael lleol. Byddaf i'n hapus, wrth gwrs, i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddull Llywodraeth Cymru o gefnogi caffael lleol a'r gwaith yr ydym ni'n ei wneud, yn enwedig drwy ddull yr economi sylfaenol, y mae fy nghydweithiwr,  Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yn arwain arno.

O ran yr ail fater, wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru yn ymwybodol bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi bod yn adolygu'r broses o weithredu'r elfennau sy'n weddill yn rhaglen de Cymru sy'n cynnwys dyfodol meddygaeth frys, a bydd y dewisiadau arfaethedig yn cael eu trafod yn ei gyfarfod bwrdd cyhoeddus ar 30 Ionawr. Yn amlwg, byddai'n amhriodol ac anaddas i mi wneud sylwadau neu achub y blaen ar y trafodaethau hynny, ond byddem ni'n disgwyl i'r bwrdd fod yn gweithio gyda rhanddeiliaid i ystyried opsiynau ac yna gytuno ar fodel gofal cynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Gwn i y bydd yr Aelod yn gwneud ei sylwadau fel rhan o'r broses briodol honno.

Gweinidog, yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ei fod yn mynd i rewi'r recriwtio i swyddi gwag o ganlyniad i'r sefyllfa ariannol y mae'n ei hwynebu, fel ffordd o leihau'r sefyllfa ariannol a'r diffyg. Bydd hyn yn effeithio ar fy etholwyr, fel y bydd yn effeithio ar eich etholwyr chi, a llawer o rai eraill sy'n cynrychioli etholaethau yn ardaloedd Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.

A gaf i ddatganiad gan Lywodraeth Cymru yn nodi a yw'n credu bod hyn yn ffordd ymlaen o ran lleihau pwysau ariannol ar fyrddau iechyd? Gallai hyn roi gofal cleifion yn y fantol, oherwydd mae pob un o'r swyddi hynny, boed yn aelod o'r tîm gweinyddol, yn dîm clercio, yn aelod o'r ffisiotherapi, radiotherapi, radiograffig—unrhyw aelod o dîm. Ni soniwyd am nyrsys a meddygon, gyda llaw; fe wnaethon nhw ddweud fod y rheini'n ddiogel. Ond mae aelodau eraill yn hanfodol i ofalu am gleifion.

A gawn ni felly ddatganiad gan y Gweinidog ynghylch y sefyllfa honno, ac efallai y ffordd y mae Llywodraeth Cymru eisiau gweithio gyda byrddau iechyd i sicrhau nad ydyn nhw'n cael eu hunain mewn sefyllfa lle maen nhw'n rhewi swyddi, yn atal pobl rhag cael eu recriwtio, ac felly'n cael effaith ar ofal?

Mae'r materion yr ydych chi'n eu disgrifio o ran staffio, yn y lle cyntaf, yn faterion gweithredol i'r bwrdd iechyd, ond maen nhw wedi bod yn glir iawn o ran sicrhau nad yw'r camau hynny'n effeithio ar ofal cleifion nac ar ansawdd y gwasanaeth, a dyna yw diddordeb clir Llywodraeth Cymru yn hyn.

Mae sefydliadau iechyd yng Nghymru, fel y rhai ar draws y DU, yn gorfod gwneud arbedion blynyddol bob blwyddyn i wella effeithlonrwydd a rheoli o fewn yr adnoddau hynny a ddyrannwyd. Maen nhw'n cael eu hadrodd yn fisol fel rhan o'r cyfrifon blynyddol, ac yn wir mae pwyllgorau'r Cynulliad wedi craffu arnyn nhw yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys y pwyllgorau hynny sydd wedi beirniadu, mewn gwirionedd, pan fo'r cyllidebau hynny wedi gorwario neu'r arbedion hynny heb eu gwneud.

Mae'n werth cydnabod, wrth gwrs, fod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi dros £0.5 biliwn yn ychwanegol yn y GIG eleni, ac rydym wedi gweld gostyngiad o 35 y cant yn y diffyg sylfaenol yn y GIG rhwng 2016-17 a 2018-19. Rydym yn disgwyl gweld gwelliannau pellach eleni, gan ddangos gwell rheolaeth ariannol. Ond ni all dim o hynny ddod ar draul gofal cleifion nac ansawdd y gwasanaeth.

14:50

Gweinidog, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ar yr oedi parhaus i gwblhau gwaith i ddeuoli ffordd A465 Blaenau'r Cymoedd? Roedd y gwaith hwn yn wreiddiol i fod i orffen erbyn diwedd y llynedd. Clywn nawr fod y dyddiad cwblhau ar gyfer y prosiect hwn yn cael ei adolygu eto. At hynny, mae anghydfod rhwng y contractwr a Llywodraeth Cymru ynghylch costau'r cynllun, sydd eisoes yn £54 miliwn dros y gyllideb.

Gweinidog, a gawn ni ddatganiad ar sut y mae'r sefyllfa hon wedi digwydd, pwy sy'n gyfrifol am yr wybodaeth am ddyluniad y ffordd, beth fydd y gost i'r trethdalwr, a pha bryd y gall defnyddwyr dioddefgar y ffordd hon ddisgwyl iddi gael ei chwblhau? Mewn gwirionedd, mae'n anodd iawn i'r bobl sy'n byw ym Mrynmawr a'r Fenni deithio ar y ffordd honno, oherwydd nid yn unig mae'n cymryd amser, ond mae'n rhwystredig iawn i lawer o ddefnyddwyr brys. Diolch.

Byddwn i'n dweud, gyda phob parch, fod y Prif Weinidog wedi ymateb i'r pryder hwnnw yn ystod cwestiynau i'r Prif Weinidog mewn ymateb i gwestiynau arweinydd y Blaid Geidwadol, ond gwn mai bwriad Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yw rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Cynulliad cyn gynted ag y gall wneud hynny a chyn gynted ag y bydd mwy o newyddion am yr anghydfod hwnnw, a gobeithiwn y caiff ei ddatrys.

Hoffwn i gael datganiad ar lafar gan y Gweinidog iechyd ynglŷn â beth sy'n digwydd nawr gyda'r fframwaith anhwylderau bwyta yn sgil y ffaith fod yr adolygiad hynny wedi digwydd. Gwnaethom ni gael cyfarfod y grŵp trawsbleidiol yr wythnos diwethaf, ac mae yna gonsyrn ynglŷn â faint o arian sydd yn mynd i fynd at y newidiadau, beth mae'r byrddau iechyd penodol yn mynd i allu ei wneud, ac ydyn nhw'n mynd i gael capasiti yn y system i allu rhoi mwy o staffio i mewn i waith anhwylderau bwyta. Dwi'n gwybod fod yna bobl sydd â diddordeb mawr yn y maes yma sydd eisiau gweithio gyda'r byrddau iechyd i wneud i hyn ddigwydd.

Hoffwn i gael rhywbeth ar lafar gan fy mod i wedi gofyn cynifer o weithiau, a dim ond datganiad ar ffurf e-bost dŷn ni wedi'i gael. Dwi'n credu bod y mater yma mor, mor bwysig i gymaint o bobl yng Nghymru y byddem ni'n gwerthfawrogi cael datganiad ar lafar gan y Gweinidog iechyd.

Mae'n debyg bod yr ail fater yr hoffwn i ei godi yn fwy yn rhinwedd fy swydd fel Cadeirydd y pwyllgor diwylliant. Ddoe, efallai eich bod wedi gweld yr Ymddiriedolaeth Lleoliadau Cerddoriaeth wedi dweud y bydd rhyddhad o 50 y cant i ardrethi busnes i fusnesau bach a chanolig eu maint sy'n lleoliadau cerddoriaeth ledled Cymru a Lloegr. Yn eu datganiad, maen nhw wedi dweud y bydd 230 o leoliadau ar lawr gwlad ledled Cymru a Lloegr yn cael y rhyddhad hwnnw. Rwyf i wedi cael gwybod drwy fy nhîm pwyllgor, gyda Llywodraeth Cymru, nad yw hynny o reidrwydd yn mynd i ddod i Gymru. Bydd yn golygu efallai y bydd swm canlyniadol drwy Barnett, ond nid ydym yn siŵr a fydd hynny'n digwydd.

Mae pobl wedi eu drysu, mae pobl eisiau ei groesawu, mae pobl eisiau iddo ddigwydd yma yng Nghymru, maen nhw eisiau gweld y rhyddhad ardrethi busnes hwnnw, ond nid ydym yn gwybod a fydd hynny'n digwydd. Felly, byddwn i'n gofyn am ddatganiad, ar ba ffurf bynnag o ran hyn, i ddod gan Lywodraeth Cymru i weld yr hyn y mae'r Trysorlys yn bwriadu ei wneud. A ydym ni'n mynd i gael y rhyddhad ardrethi busnes hwnnw, a phryd? Ac a allwch chi wneud datganiad i'r cyhoedd, oherwydd mae llawer o ddryswch ynghylch y sefyllfa bresennol?

Felly, ar fater cyntaf y fframwaith anhwylderau bwyta, byddaf i wrth gwrs yn siarad â'r Gweinidog iechyd ac yn ei wneud yn ymwybodol o'ch cais am y datganiad hwnnw, y gwn y bydd yn amlwg yn ei ystyried.FootnoteLink

O ran yr ail fater, gallaf i ddweud nad ydym ni'n gwybod eto, pa symiau canlyniadol Barnett, os o gwbl, a allai ddod i Gymru o ganlyniad i benderfyniad Llywodraeth y DU ynghylch ardrethi busnes. Ond mae gennym ni eisoes yng Nghymru gynllun rhyddhad ardrethi'r stryd fawr, sydd wedi bod ar waith ers 2017, ac mae hynny'n unigryw i Gymru. Mae'n darparu cymorth, sydd ar gael i dafarndai a bwytai, ac yn y blaen, felly mae'n ehangach na'r hyn y gallem ni ei ystyried yn fanwerthwyr y stryd fawr yn benodol eu hunain. Fe wnes i ddatganiad ysgrifenedig yn ddiweddar yn nodi ein bod yn ymestyn y cymorth hwnnw i 2020-21, ond byddwn i'n fwy na pharod i rannu hynny eto gyda'r Aelodau.

14:55

Arweinydd y Tŷ, a gawn ni ddatganiad, os gwelwch yn dda, gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ynglŷn ag adroddiad gan y Llywodraeth a luniwyd gan y rhwydwaith dysgu a gwella tai ynghylch cartrefi gofal a darparu cartrefi gofal? Mae'r adroddiad hwn yn tynnu sylw at y ffaith y bydd erbyn 2035 brinder o bron 30,000 o leoedd ledled Cymru o ddarpariaeth ar gyfer y math hwn o ofal.

Mae llawer o awdurdodau lleol ar hyn o bryd yn ystyried ad-drefnu eu darpariaeth cartrefi gofal; mae Rhondda Cynon Taf, er enghraifft, allan ar hyn o bryd, a bydd y cabinet yn cyfarfod fis nesaf. Rwy'n credu ei bod yn bwysig deall, pan fydd Llywodraeth Cymru yn comisiynu'r math hwn o waith, sut mae hynny'n cael ei gyflwyno i'w sefydliadau partner, llywodraeth leol yn yr achos hwn, a sut mae'r wybodaeth honno'n cael ei rhannu pan fyddan nhw'n meithrin gallu. Mae hwn yn fater eithaf byw, a dweud y lleiaf, yn ardal Rhondda Cynon Taf, gyda llawer o bobl eisiau cadw'r cartrefi gofal presennol yn yr ardal benodol honno. Ond mae'n ymddangos i mi fod yr adroddiad penodol hwn wedi ei lunio ar ran Llywodraeth Cymru, ond heb ei rannu ag asiantaethau partner.

Felly, a gawn ni ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog i ddeall (a) y broses gomisiynu (b) beth yw ei barn ynghylch yr adroddiad ei hun a'i argymhellion ac (c) sut y bydd yn gweithio gyda sefydliadau sy'n cefnogi Llywodraeth Cymru i gyflawni gofal cymdeithasol ledled Cymru i wneud yn siŵr bod yr argymhellion yn cael eu cyflawni ar lawr gwlad?

Byddwn i'n fwy na pharod i fynd ar drywydd eich cais gyda'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol. Ar drywydd arall, mae gennym ddiweddariad ar y grŵp rhyng-weinidogol ar dalu am ofal cymdeithasol ar yr agenda ar gyfer yr wythnos nesaf, sydd, rwy'n gwybod, yn rhan o'r broblem ehangach yr ydym yn ei hwynebu o ran sicrhau bod gennym wasanaeth cartrefi gofal cynaliadwy yma yng Nghymru ar gyfer y dyfodol. Ond o ran y mater penodol hwnnw yn yr adroddiad, ceisiaf fynd ar drywydd hynny gyda'r Dirprwy Weinidog ar eich rhan.FootnoteLink

Yn sgîl y prosesau cyllidebol sydd yn mynd ymlaen ar hyn o bryd mewn awdurdodau lleol ledled Cymru a'r bygythiad pellach i gludiant i ddysgwyr ôl-16 yn y cyllidebau hynny, a fedrwn ni gael diweddariad, os gwelwch yn dda, ynghylch yr adolygiad o deithio gan ddysgwyr ôl-16, yr adolygiad a gafodd ei gyhoeddi ar 13 Tachwedd? A fedrwch chi hefyd ofyn i'r Gweinidog neu'r Dirprwy Weinidog sy'n gyfrifol am y maes yma i amlinellu'r rhesymeg dros oedi'r broses o adolygu'r canllawiau ar deithio gan ddysgwyr nes y bydd canfyddiadau'r adolygiad o deithio gan ddysgwyr ôl-16 yn glir? Achos mae'r materion yma angen sylw brys. Er enghraifft, mae materion yn codi o hyn i gyd yn ymwneud â chludiant i addysg cyfrwng Cymraeg, ac mae'r sefyllfa yn creu ansicrwydd a dryswch. Mi fuaswn i'n licio trio deall ychydig bach o resymeg yr oedi a beth ydy'r sefyllfa gyfredol. 

Nid oes gennyf i ddyddiad eto o ran yr wybodaeth ddiweddaraf ynghylch yr adolygiad o'r Bil teithio gan ddysgwyr. Gan mai dim ond ym mis Tachwedd y cyhoeddwyd hynny, tybiaf y gallai fod ychydig amser cyn i'r adolygiad hwnnw ddod i ben. Ond byddwn i'n eich annog i ysgrifennu at Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth gyda'ch cwestiynau penodol ynghylch pam y gohiriwyd y penderfyniad i adolygu'r canllawiau, oherwydd credaf i mai dyna fyddai'r ffordd fwyaf priodol a chyflymaf o gael ateb, yn ôl pob tebyg ar y cwestiwn penodol hwnnw.

Roeddwn i'n mynd i alw am ddatganiad yn diweddaru'r sefyllfa ym mwrdd Betsi Cadwaladr; sylwaf fod Darren Millar, fy nghyd-Aelod, wedi gwneud hynny eisoes. Fe wnaethoch chi ddweud y bydd y Gweinidog iechyd yn gwneud datganiad ar 25 Chwefror. A allaf i ofyn ichi ei wahodd i sicrhau bod hynny'n ymdrin â'r adroddiad y cyfeiriodd Darren Millar ato, ar yr adolygiad o therapïau seicolegol yn y Gogledd gan yr ymgynghoriaeth gydweithredol TogetherBetter, sef adroddiad annibynnol? Oherwydd, yn ogystal â'r canfyddiadau y tynnodd Darren sylw atynt, mae'n sôn am ddiffyg gweledigaeth gyffredin ynglŷn â'r hyn yr ydych chi'n ceisio ei gyflawni, diffyg eglurder a goruchwyliaeth strategol ar lefelau byrddau iechyd ac is-adrannol, a diffyg data enfawr. Ac, yn anffodus, fel y dywedodd Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru, ar ôl bron pum mlynedd mewn mesurau arbennig, roedd llawer ohono'n ymwneud â materion iechyd meddwl, mae'r canfyddiadau hyn yn hynod siomedig. Dylid bod wedi mynd i'r afael â'r argymhellion allweddol yn 2015-16 pan gafodd y Bwrdd Iechyd ei gymryd i fesurau arbennig gyntaf. Mae'n anfoddhaol clywed bod y materion sylfaenol hyn heb eu datrys bron i bum mlynedd ar ôl hynny.

A allech chi hefyd ofyn i'r Gweinidog iechyd gynnwys cyfeiriad penodol at wasanaethau fasgwlaidd yn y Gogledd sy'n ymwneud â chlefydau'r pibellau gwaed, y rhydwelïau a'r gwythiennau a system gylchredol y corff? Mae ein cyngor iechyd yn y Gogledd wedi cynnal pedwar allan o'r 11 digwyddiad lleoliad-diogel ledled y rhanbarth, ac maen nhw'n clywed yn glir bod ymddiriedaeth y cyhoedd yng ngwasanaeth fasgwlaidd y Gogledd wedi cael ei gyfaddawdu'n ddifrifol. Dywedant fod llawer o bobl wedi dweud eu bod wedi ysgrifennu at y bwrdd iechyd yn gofyn am wybodaeth o dan ryddid gwybodaeth, ond heb gael unrhyw beth yn ôl. Y farn yw pe bai'r ffigurau'n gadarnhaol, byddai'r bwrdd iechyd yn awyddus i'w rhyddhau, a bod y cyngor iechyd cymuned eu hunain wedi ysgrifennu yn gofyn am ddata perfformiad a bod y cyngor iechyd cymuned wedi cael ei wrthod hefyd ar sail y ffaith y bydd yn cael ei ddarparu yn y pen draw fel rhan o adolygiad y gwasanaethau fasgwlaidd, sydd, yn eu tyb hwy, yn gwbl groes i'r ddeddfwriaeth a'r rheoliadau sy'n ymwneud â hawliau cynghorau iechyd cymuned i gael gwybodaeth. Mae gweithrediaeth Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru wedi ystyried y mater hwn ac yn argymell yn gryf y dylid cyflwyno rhywfaint o allanoldeb nawr i'r adolygiad fasgwlaidd sy'n adlewyrchu hyn.

Dyma ddau o'r materion allweddol sy'n codi ledled y rhanbarth, ac un ohonyn nhw oedd y trobwynt tyngedfennol o ran mesurau arbennig. Mae'n annerbyniol dros ben y dylem ni, bum mlynedd yn ddiweddarach, fod yn clywed adroddiadau fel hyn, a gobeithio y cytunwch chi felly i ofyn i'ch cyd-Weinidog fynd i'r afael â'r rhain yn benodol ynghyd â'r materion ehangach y gall ef ddewis eu cyflwyno inni ar 25 Chwefror.

15:00

Gallaf sicrhau fy nghyd-Aelodau fy mod bob amser yn tynnu sylw'r Gweinidogion at unrhyw gyfraniadau y mae'r Aelodau yn eu gwneud o ran eu portffolios yn ystod y datganiad busnes, a byddaf i'n sicr o wneud hynny ynghylch eich pryderon penodol am wasanaethau afiechyd meddwl a gwasanaethau fasgwlaidd yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Ac yn amlwg, bydd y Gweinidog yn gwneud datganiad llafar, felly bydd cyfle i gwestiynu'r materion hynny yn ddyfnach yn ystod y datganiad hwnnw.

Hoffwn i ofyn i'r Trefnydd am ddau ddatganiad heddiw. Yn gyntaf, o ran y materion sydd heb eu datrys ynglŷn â'r cyfrifiad. Gwn fod Llywodraeth Cymru yn rhannu'r pryderon ar y meinciau hyn y dylai dinasyddion Cymru allu nodi eu hunain fel Cymry duon a lleiafrifoedd ethnig heb orfod mynd drwy'r anghyfleustra o orfod ysgrifennu â llaw mewn rhan ar wahân o'r ffurflen.

Hoffwn i ofyn am ddatganiad diweddar gan y Llywodraeth ynghylch ei sefyllfa bresennol o ran hyn ac unrhyw sgyrsiau a gafwyd â'r Swyddfa Ystadegau Gwladol. Roedd cydweithwyr o Gyngor Gwynedd wedi cwrdd â'r ONS ddoe a chawsant ymateb eithaf ffafriol mewn gwirionedd, ac roedd y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn gofyn am dystiolaeth. Rwy'n siŵr y bydd Gweinidogion Cymru yn ymwybodol bod Gwynedd ac awdurdodau eraill y Gogledd wedi canfod yn eu systemau monitro eu hunain ffyrdd y gall dinasyddion du a lleiafrifoedd ethnig gofrestru eu hunain fel Cymry yn y ffordd y byddem ni'n ceisio i'r Cyfrifiad ei wneud. Felly, byddwn i'n ddiolchgar iawn pe gallwn ni gael datganiad pellach gan y Llywodraeth ynghylch—datganiad ysgrifenedig, efallai—y sefyllfa ddiweddaraf yn hyn o beth, oherwydd bod amser yn mynd yn brin a bydd yr ONS yn cynnal rhagor o waith treialu yn fuan gyda'r ffurflenni y maen nhw'n bwriadu eu defnyddio, ac rwy'n ofni, ar ôl i'r ffurflenni hynny gael eu defnyddio yn y cynlluniau peilot, y bydd yn fwy anodd eu newid.

Bydd Gweinidogion Cymru hefyd yn ymwybodol bod Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cyrraedd sefyllfa lle bu'n rhaid iddyn nhw dynnu'n ôl eu cais cynllunio am y safle arfaethedig presennol ar gyfer ysgol newydd Dewi Sant. Mae hyn yn destun gofid mawr i mi ac yn bwysicach byth i fy etholwyr ac i'r plant sy'n cael eu haddysgu dan y fath amodau, pe baent yn weithwyr ffatri, y byddai'r ffatri'n cael ei chau am nad yw'n ddiogel. Nawr, yn amlwg, roedd hwn yn benderfyniad a wnaeth yr awdurdod lleol; yn sicr, nid yw hwn yn fater i'r Gweinidog Addysg, a gwn ei bod wedi mynegi parodrwydd yn y dyfodol i ystyried cais pellach am arian os caiff ei gyflwyno. Ond hoffwn i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros gynllunio, oherwydd y rheswm pam y bu'n rhaid tynnu'n ôl yw bod y sir wedi gwario dros £0.5 miliwn yn ceisio ymateb i ofynion y broses galw i mewn. Maen nhw wedi cyrraedd y pwynt lle maen nhw'n teimlo eu bod yn gorfod symud i ffwrdd o'r safle hwnnw, er, o'r naw safle a ystyriwyd yn yr ymgynghoriad cyhoeddus blaenorol, hwn oedd y safle a ffafriwyd. Felly, hoffwn i ofyn i'r Gweinidog sy'n gyfrifol am gynllunio i adolygu'r broses galw i mewn, yn enwedig o ran adeiladau cyhoeddus, i sicrhau y caiff ei warchod yn well yn y dyfodol rhag ymyrraeth pleidiau gwleidyddol, sydd wedi bod wrth wraidd y mater i ysgol Dewi Sant.

15:05

O ran y mater cyntaf, a oedd yn gofyn am ddiweddariad ar y trafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda'r Swyddfa Ystadegau Gwladol ynghylch y cyfrifiad a gallu pobl i uniaethu â bod yn aelod o leiafrif ethnig a hefyd yn Gymry ar yr un pryd, roedd modd imi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'ch cydweithiwr Bethan Sayed yr wythnos diwethaf yn y datganiad busnes. Nid oes gennyf i ddiweddariad pellach y tu hwnt i hynny ar hyn o bryd. Ond cefais i gyfarfod da iawn gyda'r dirprwy brif ystadegydd, ac fel gyda'r cyfarfod yr oeddech chi wedi'i ddisgrifio yng Ngwynedd, roedd yr ONS yn arbennig o agored i gael y trafodaethau hyn, ac yn awyddus, fel ni, i ddod o hyd i ffordd briodol ymlaen. A chyn gynted ag y bydd gennyf i rywbeth pellach byddaf i, yn amlwg, yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'm cyd-Aelodau ynghylch hynny.

O ran eich pryder ynghylch y broses galw i mewn, a gaf i ofyn ichi ysgrifennu at y Gweinidog dros gynllunio, Julie James, yn amlinellu'r astudiaeth achos benodol yr ydych chi wedi'i disgrifio'r prynhawn yma? Ac yna, yn amlwg, bydd cyfle iddi ymateb.

Hoffwn i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog iechyd am recriwtio meddygon teulu ym mwrdd iechyd Aneurin Bevan. Dywedwyd wrthyf fod y bwrdd iechyd wedi methu â chynllunio ymlaen llaw ar gyfer ymddeoliad meddyg teulu sy'n gwasanaethu Parc Lansbury a meddygfa Penyrheol yn fy rhanbarth i. Mae'r ddau bractis hynny'n hollbwysig yn eu cymunedau lleol, fel y gallwch chi ddychmygu, ac maen nhw'n darparu amrywiaeth o wasanaethau hanfodol i filoedd o gartrefi cyfagos ac yn darparu busnes i fferyllwyr lleol hefyd, ac nid oes gan y naill na'r llall ddewisiadau eraill, gan fod yr holl feddygfeydd eraill yn llawn. Rwy'n pryderu y byddai'r cynllun i logi locwm, yn hytrach na phenodiad hirdymor i gynnwys y ddwy feddygfa, yn peryglu eu cynaliadwyedd hirdymor, ac rwyf hefyd yn pryderu ynghylch y darlun cyffredinol yn y bwrdd iechyd, o gofio bod map gwres Cymdeithas Feddygol Prydain wedi nodi y gallai hyd at 32 o bractisau fod mewn perygl o fewn ardal y bwrdd iechyd.

Trefnydd, hoffwn i ofyn am y datganiad hwn gan y Gweinidog i egluro sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwyrdroi'r methiant hwn i gynllunio ymlaen llaw ar gyfer y gweithlu, sut mae'n bwriadu ateb y galw cynyddol, a pha sicrwydd y gall y Gweinidog ei gynnig i gleifion yn fy rhanbarth i y bydd y meddygfeydd y maen nhw'n dibynnu arnyn nhw'n cael eu gosod ar sail gynaliadwy cyn gynted â phosibl.

O ran mater ehangach cynllunio'r gweithlu, unwaith eto byddaf i'n siarad â'm cydweithiwr, y Gweinidog iechyd, i'w wneud yn ymwybodol o'ch cais ar gyfer y datganiad. Ond, o ran eich pryder penodol ynghylch y feddygfa meddyg teulu sy'n gwasanaethu Parc Lansbury a'r cyffiniau, os gallech chi, unwaith eto, roi hynny mewn llythyr at y Gweinidog iechyd, gwn i y bydd yn gallu codi hynny'n uniongyrchol â'r Bwrdd iechyd ar eich rhan.

Hoffwn i gael datganiad gan y Llywodraeth—neu efallai rhywfaint o gyngor, mewn gwirionedd. Rwyf wedi nodi sawl gwaith bod plentyn ag anawsterau dysgu wedi honni iddo gael ei gam-drin mewn gofal—[torri ar draws.] Nid oes syniad gennyf pam mae sŵn sarcastig yn dod o'r dde, gan Aelod Cynulliad Llafur. Dywedaf eto: roedd plentyn ag anawsterau dysgu wedi honni iddo gael ei gam-drin mewn gofal. Mae fy ngwybodaeth fel a ganlyn: ni chafodd ei ddwyn i fan diogel; ni chafodd eiriolwr; ni siaradodd swyddog amddiffyn plant, arbenigwr amddiffyn plant, ag ef; dywedwyd y drefn wrtho. Mae'r cofnod ysgrifenedig a welais yn dweud y dywedwyd y drefn wrtho. Mae'r cofnod ysgrifenedig a welais hefyd yn dweud na wnaeth y plentyn newid ei feddwl am yr hyn a oedd wedi digwydd.

Ddydd Gwener, ysgrifennais at y comisiynydd plant, ysgrifennais at brif gwnstabl Heddlu De Cymru, ysgrifennais at gyngor sir Caerdydd ac ysgrifennais at yr ombwdsmon gwasanaethau cyhoeddus, oherwydd, pan enwais i'r cwmni ar y cyfryngau cymdeithasol, fe wnaeth un sy'n oedolyn bellach, ac a arferai fod yn blentyn yng ngofal yr un cwmni, honiad o ymosodiad arno—dywedodd ef ei fod wedi bod yn dyst i ddau ymosodiad arall, un yr honnir iddo gael ei gyflawni gan y pedoffeil a gafwyd yn euog, Liam Brown. Y pwynt yw, yr oedd y plant hyn oll, yn ôl pob sôn, yng ngofal Priority Child Care Ltd. Rwyf wedi ysgrifennu at Heddlu De Cymru, rwyf wedi ysgrifennu at y comisiynydd plant, rwyf wedi ysgrifennu at y cyngor, rwyf wedi ysgrifennu at yr ombwdsmon, rwyf wedi'i godi yma sawl gwaith i'r pwynt o ebychiad, bron, yn dod i'r dde ohonof, o anghymeradwyaeth.

Felly, rwyf eisiau cael datganiad gan y Llywodraeth oherwydd hoffwn wybod beth ddylwn i ei wneud? Beth mae teulu'r plentyn hwn i fod ei wneud? Pwy sy'n gwrando? Y cyfan yr wyf wedi'i gael gan Heddlu De Cymru—mewn gwirionedd, dim; rwyf wedi ysgrifennu atyn nhw ddwywaith. Y comisiynydd plant, cefais gydnabyddiaeth. Yr ombwdsmon, rwyf newydd gael cydnabyddiaeth sydd fel petai wedi ymddangos ar fy sgrin nawr. Mae hwn yn fater gwirioneddol ddifrifol. Hon yw ein Senedd genedlaethol, yn ôl pob sôn. Rwy'n ei godi yma. Beth ar y ddaear sy'n digwydd?

15:10

Wel, mae'r mater y mae Neil McEvoy yn ei ddisgrifio, yn glir, yn un difrifol iawn, a dylai'r unigolyn a ddatgelodd ar y cyfryngau cymdeithasol ei fod wedi dioddef camdriniaeth yn sicr wneud y pryderon hynny'n hysbys i'r heddlu yn y lle cyntaf, a gwelaf i fod Neil McEvoy wedi gwneud y pryderon hynny yn hysbys i'r heddlu, sy'n amlwg yn gam cyntaf priodol.

Cododd Neil McEvoy rai cwestiynau tebyg am ddiogelu plant mewn datganiad busnes diweddar, a dywedais i y byddai'r Gweinidog â chyfrifoldeb dros wasanaethau cymdeithasol yn ysgrifennu, yn nodi'r dull o ddiogelu, a gwnaf i'n siŵr bod eich sylwadau y prynhawn yma yn cael eu hystyried wrth i'r ymateb hwnnw gael ei baratoi.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Mi hoffwn i ddatganiad gan y Llywodraeth ynglŷn â pha amodau mae Llywodraeth Cymru yn eu gosod ar gyllid sy’n cael ei ddarparu ganddi ar gyfer busnesau er mwyn gwarchod gweithwyr a chyflogaeth yng Nghymru.

Rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru wedi gallu cefnogi Stena Line gyda nifer o fuddsoddiadau yng Nghaergybi, ond rwyf i eisiau apelio ar y Llywodraeth i sicrhau, wrth ddarparu cymorth, ei bod yn gallu dylanwadu ar gyflogwyr lleol pwysig fel Stena hefyd. Er enghraifft, tybed a oedd y Llywodraeth yn ymwybodol o benderfyniad Stena i ail-gofrestru ei fferi newydd sbon o Gaergybi i Ddulyn, Estrid. Mae'n wych gweld buddsoddiad yn y llong newydd hardd honno, ond rwy'n poeni am y ffaith, yn Algeciras, yn ystod dosbarthiad o Tsieina yn ddiweddar, i'w chofrestriad gael ei newid o Gymru i Cyprus. Cafodd Estrid Caerdydd ei hail-gofrestru a'i hail-enwi'n llythrennol yn Estrid Limassol. Nawr, mae awgrym bod hyn yn cael ei yrru gan ddyhead i barhau i fod yn gofrestredig â'r UE.

Nawr, rwyf wedi cwrdd ag aelodau o griw'r llong, nad ydyn nhw bellach, o ganlyniad, yn talu cyfraniadau yswiriant gwladol y DU yn uniongyrchol, ac maen nhw'n poeni am oblygiadau hynny. Ond mae ganddyn nhw hefyd bryderon tymor hwy y gallai ei hail-gofrestru o dan faner gyfleus fod yn llethr llithrig tuag at danseilio hawliau gweithwyr a hyd yn oed danseilio polisi blaenorol, a pholisi cyfredol Stena, sydd, wrth gwrs, yn hanfodol yn fy etholaeth i, o recriwtio criwiau lleol yn hytrach nag yn rhyngwladol.

Felly, yn ogystal â darparu datganiad, gobeithio, a gaf i ofyn i'r Llywodraeth, fel y gwnaf, ysgrifennu at Stena i ofyn am sicrwydd y bydd hawliau a swyddi gweithwyr yn cael eu diogelu, ac wrth wneud hynny, bod Llywodraeth Cymru yn defnyddio ei dylanwad fel rhan o gyllidwr gwahanol brosiectau Stena?

Wel, cefais gyfarfod yn ddiweddar gydag Undeb Cenedlaethol y Gweithwyr Rheilffordd, Morwrol a Thrafnidiaeth i drafod yr union fater hwn, er nad oedd hynny yn arbennig yng nghyd-destun Stena Line; roedd yn fwy yng nghyd-destun yr hyn y gallwn ni ei wneud i gefnogi morwyr Cymru sy'n gweithio mewn pob math o rannau o'r diwydiant morwrol. A'r pryderon a godwyd yno oedd pan fo cwmnïau yn manteisio ar gyfleoedd amrywiol sydd yno iddyn nhw yn gyfreithiol, yna mae'n golygu y gall rhai gweithwyr yng Nghymru fod yn rhy ddrud a gall gweithwyr o fannau eraill yn y byd beidio â chael eu talu cystal ag y dylen nhw a bod ganddyn nhw hawliau cyflogaeth gwael hefyd. Felly, mae rhai o'r pryderon yr ydych wedi'u disgrifio yn fawr iawn, a byddwn yn hapus i ofyn i'r Gweinidog dros drafnidiaeth roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddull gweithredu Llywodraeth Cymru ar hynny, a rhai sylwadau ar y cyfleoedd a allai fod i newid y gyfraith, er y byddai'n rhaid gwneud hynny ar sail y DU, rwy'n credu.

Cynigion i Ethol Aelodau i Bwyllgorau

Yr eitem nesaf ar yr agenda yw cynigion i ethol Aelodau i'r pwyllgorau, ac yn unol â Rheolau Sefydlog 12.24 a 12.40, rwy'n cynnig bod y cynigion i ethol Aelodau i bwyllgorau yn cael eu grwpio ar gyfer dadl ac ar gyfer pleidleisio. Felly, os nad oes gwrthwynebiad, a gaf i alw ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynigion yn ffurfiol—Trefnydd?

15:15

Cynnig NDM7248 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Dai Lloyd (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol yn lle Delyth Jewell (Plaid Cymru).

Cynnig NDM7249 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Dai Lloyd (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad yn lle Delyth Jewell (Plaid Cymru).

Cynnig NDM7250 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Delyth Jewell (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn lle Adam Price (Plaid Cymru).

Cynnig NDM7251 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn lle Helen Mary Jones (Plaid Cymru).

Cynnig NDM7252 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Sian Gwenllian (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Cyllid yn lle Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru).

Cynnig NDM7253 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Helen Mary Jones (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau yn lle Bethan Sayed (Plaid Cymru).

Cynnig NDM7254 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Delyth Jewell (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn lle Leanne Wood (Plaid Cymru).

Cynnig NDM7255 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yn lle Helen Mary Jones (Plaid Cymru).

Cynnig NDM7256 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Helen Mary Jones (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu yn lle Delyth Jewell (Plaid Cymru).

Cynnig NDM7257 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Sian Gwenllian (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Busnes yn lle Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru).

Cynigiwyd y cynigion.

Yn ffurfiol. Diolch. Nid oes gennyf i unrhyw siaradwyr, felly y cynnig yw cytuno ar y cynigion. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynigion yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynigion yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

3. Datganiad gan y Gweinidog Addysg: Fframwaith Cwricwlwm Cymru

Eitem 3 ar yr agenda yw datganiad gan y Gweinidog Addysg ar fframwaith cwricwlwm Cymru. Rwy'n galw ar y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Heddiw, rwy'n cyhoeddi'r canllawiau diwygiedig i Gwricwlwm Cymru. Mae'r rhain yn nodi: canllawiau i bob ysgol ar gyfer datblygu eu cwricwlwm nhw; disgwyliadau ynghylch trefniadau asesu i gefnogi hynt y dysgwyr; a'r gofynion deddfwriaethol arfaethedig i sicrhau dull gweithredu cyson ar gyfer dysgwyr ledled y wlad.

Gwella addysg yw ein cenhadaeth genedlaethol ni. Nid oes dim mor hanfodol â bod y profiadau, yr wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen ar ein pobl ifanc ar gael yn gyffredinol ar gyfer cyflogaeth, dysgu gydol oes a dinasyddiaeth weithgar. Mae ein canllawiau newydd ni'n ddatganiad clir o'r hyn sy'n bwysig o ran darparu cwricwlwm ac addysg eang a chytbwys. Y pedwar diben yw'r weledigaeth a'r dyheadau a rennir ar gyfer pob plentyn ac unigolyn ifanc. Ac, wrth gyflawni'r rhain, rydym ni'n disgwyl llawer oddi wrth bawb, yn hyrwyddo llesiant unigol a chenedlaethol, yn mynd i'r afael ag anwybodaeth a chamwybodaeth, ac yn annog ymgysylltiad sy'n feirniadol ac yn ymwybodol o ddinasyddiaeth.

Mae ein canllawiau ni'n gynnyrch proses faith o gydlunio, sy'n cynnwys ymarferwyr o ysgolion ledled Cymru. Fe hoffwn i achub ar y cyfle hwn i ddiolch i'r ymarferwyr hynny am eu hymroddiad dros y tair blynedd diwethaf wrth ddrafftio'r canllawiau hyn ar y cyd. Fe hoffwn i ddiolch hefyd i'r unigolion a'r sefydliadau a fu'n ymwneud â'r cyfnod adborth y llynedd, ar ôl i'r canllawiau drafft gael eu cyhoeddi. Mae ansawdd a manylder y cyfraniadau hyn wedi helpu i wneud gwelliannau sylweddol. Yn yr hydref, fe gyhoeddais i ddadansoddiad o'r adborth hwn; heddiw, rwy'n cyhoeddi ymateb i'r adborth hwnnw hefyd, ynghyd â'r canllawiau.

Yn ystod yr hydref, mae ymarferwyr a swyddogion wedi gweithio i ddiwygio'r canllawiau gan ymateb i'r adborth hwnnw, ac yn benodol i: symleiddio a lleihau maint y canllawiau; egluro pa rannau o'r fframwaith cwricwlwm newydd fydd yn orfodol i sicrhau tegwch yn yr holl ysgolion; a rhoi mwy o eglurder a manylder lle mae angen mwy o gymorth ar ymarferwyr, gan roi arweiniad iddyn nhw ar gynllunio eu cwricwlwm eu hunain. Mae'r adborth hwn, ynghyd â'r broses o gydlunio wedi bod yn allweddol: arweiniad a gynhyrchwyd gan ymarferwyr, ar gyfer ymarferwyr, drwy ddeialog barhaus â'n system addysg ni yn ei chyfanrwydd.

Mae gweld pob ymarferwr yn ddyluniwr cwricwlwm yn golygu newid sylfaenol i addysg yng Nghymru. Nid yw'r canllawiau newydd yn pennu rhaglen ragnodol y gellir ei chyflwyno'n syml. Yn hytrach, maen nhw'n ymwneud â grymuso ymarferwyr i benderfynu beth fydd yn helpu eu dysgwyr nhw i fod yn uchelgeisiol ac yn fedrus, yn foesol a gwybodus, yn fentrus ac yn greadigol, ac yn iach ac yn hyderus.

Mae'r canllawiau newydd yn canolbwyntio ar ddull mwy integredig o ddysgu. Mae'r chwe maes dysgu a phrofiad yn tynnu disgyblaethau cyfarwydd ynghyd ac yn annog cysylltiadau cryf ac ystyrlon rhyngddynt. Er bod y disgyblaethau yn parhau i fod yn bwysig, mae'r dull newydd hwn yn helpu dysgwyr i feithrin cysylltiadau gydol eu haddysg, gan eu helpu nhw i ddeall nid yn unig yr hyn y maen nhw'n ei ddysgu, ond pam mae hynny'n cael ei ddysgu iddyn nhw.

Mae ein canllawiau newydd yn rhoi lle canolog i hynt dysgwyr hefyd, ac mae asesu yn chwarae rhan sylfaenol yn y broses o gefnogi hyn. Mae'r canllawiau wedi cael eu seilio'n llwyr ar dystiolaeth ryngwladol ar gyfer hynt yr addysg. Bydd hyn yn galluogi pob dysgwr i ddod yn ei flaen drwy gydol ei addysg, ym mhob maes a disgyblaeth, yn hytrach na dim ond dysgu torreth o ffeithiau. Mae'r cyhoeddiad heddiw yn cynnwys canllawiau penodol hefyd ar ddatblygu trefniadau asesu i gefnogi hynt dysgwyr a galluogi pob dysgwr i wneud cynnydd drwy sicrhau ei fod yn cael ei gefnogi a'i herio.

Y tu hwnt i'r pwyslais ar gydlunio, mae'r newidiadau hyn yn wahanol i lawer o'r mathau tebyg o ddiwygiadau a welwn ni mewn tair ffordd allweddol. Mae'r canlyniadau dysgu yn ein canllawiau ni'n seiliedig ar dystiolaeth a methodoleg gadarn i gynnal dysgu dros gyfnodau o dair blynedd. Mae canlyniadau mewn mannau eraill yn gul neu'n amwys iawn yn aml, gan roi cyfarwyddyd annigonol i ymarferwyr. Mae ein harweiniad ni'n canolbwyntio ar ysgolion yn cynllunio eu cwricwlwm nhw eu hunain. Mae diwygiadau mewn mannau eraill yn aml yn ystyried hyn yn gyfan gwbl ymhlyg. Fe fydd yr adran 'Cynllunio eich Cwricwlwm' yn helpu ymarferwyr i ddatblygu cwricwlwm o ansawdd uchel.

Ac rydym ni'n gweithio gyda'n partneriaid i sicrhau bod ysgolion yn cael y gefnogaeth lawn i wireddu'r cwricwlwm yn eu hysgol nhw o fewn y fframwaith a roddwn ni. Mae tystiolaeth ryngwladol yn ei gwneud hi'n glir mai'r cam nesaf hwn—gweithredu ar ein diwygiadau ni—yw'r her fwyaf un. Wedi'r Pasg, byddaf yn cyhoeddi ein cynllun gweithredu cwricwlwm ni sy'n seiliedig ar y mannau y dylai ysgolion ganolbwyntio eu hymdrechion arnyn nhw ar wahanol bwyntiau hyd at 2022, a sut y byddwn ni a'r haen ganol yn eu cefnogi nhw yn y broses honno.

Roedd y cam adborth yn ei gwneud yn glir y bydd angen canllawiau penodol, ychwanegol i gefnogi ymarferwyr mewn meysydd arbennig. I'r perwyl hwn, Dirprwy Lywydd, yn ystod y 18 mis nesaf fe fyddaf i'n cyhoeddi fframwaith hefyd ar gyfer crefydd, gwerthoedd a moeseg i lywio datblygiad y meysydd llafur a gytunwyd ym mhob awdurdod lleol; canllawiau ar gyfer addysg cydberthynas a rhywioldeb; canllawiau ar yrfaoedd a phrofiadau sy'n gysylltiedig â gwaith; galluogi camau i gefnogi dysgwyr ar ddechrau'r continwwm dysgu; cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin nas cynhelir a ariennir i'w fabwysiadu; ac arweiniad ar ddatblygu cwricwlwm ar gyfer unedau cyfeirio disgyblion ac ar gyfer y rhai sy'n gyfrifol am ddarparu addysg heb fod mewn ysgol.

Mae'n hanfodol nawr bod y Llywodraeth, consortia rhanbarthol, Estyn ac awdurdodau lleol yn gweithio gyda'i gilydd i gynorthwyo pob ysgol, lleoliad ac ymarferwr i ddeall y cwricwlwm newydd a'i gyflawni. Yn ogystal â'r ymrwymiadau a wnes i ynglŷn â dysgu proffesiynol, mae swyddogion yn gweithio gyda chonsortia rhanbarthol ac Estyn i sefydlu rhwydweithiau cenedlaethol o ymarferwyr ac arbenigwyr i rannu arbenigedd ac addysg, a nodi blaenoriaethau ar gyfer cefnogi'r proffesiwn i fod yn barod. Mae swyddogion yn gweithio gydag ymarferwyr i nodi blaenoriaethau ar gyfer datblygu adnoddau, i sicrhau bod ystod o ddeunyddiau ategol ar gael erbyn 2022 i helpu ymarferwyr i ddatblygu eu cwricwlwm eu hunain. Mae swyddogion yn gweithio'n agos hefyd gyda Cymwysterau Cymru wrth iddo ystyried sut y gallai fod angen i gymwysterau newid ar gyfer cyd-fynd â'r cwricwlwm newydd a rhoi cefnogaeth iddo. Mae hwn yn gyfle newydd i ystyried natur a swyddogaeth cymwysterau ar gyfer pobl ifanc 14 i 16 oed.

Gadewch imi fod yn glir: dim ond y cam nesaf o gydlunio yw cyhoeddi'r canllawiau hyn ar gyfer y cwricwlwm. Bydd y Llywodraeth yn parhau i weithio'n agos gyda'r proffesiwn i sicrhau y bydd hyn yn llwyddiant. Ond mae'n bryd nawr i bob ymarferwr ymgysylltu yn llawn â'r hyn a gyhoeddwyd. Fe ddylai'r ysgolion gymryd y gofod a'r amser i ddeall model y cwricwlwm a dechrau trafod sut y bydd eu gweledigaeth a'u gwerthoedd nhw'n llywio eu cwricwlwm eu hunain yn y pen draw. Ni ddylent ruthro i geisio ei gynllunio neu ei weithredu ar unwaith.

Mae'r cwricwlwm newydd hwn yn cynrychioli ymdrechion gorau'r proffesiwn addysg. Y cam nesaf yn ein taith ddiwygio yw paratoi'r proffesiwn i'w wireddu ym mhob ystafell ddosbarth ac ar gyfer pob dysgwr yn ein cenedl ni.

15:20

Diolch yn fawr iawn, Gweinidog, am ddatganiad cynhwysfawr iawn ar y daith hyd yn hyn. A gaf i fynegi fy niolch i bawb arall sydd wedi bod â rhan yn yr hyn sy'n edrych, yn sicr, fel cryn dipyn o waith caled? Rwyf wedi egluro o'r blaen fod y Ceidwadwyr Cymreig wedi dadlau ers tro y dylem adael llonydd i athrawon ddysgu, ac rydym eisoes yn cefnogi rhai o'r newidiadau mewn egwyddor. Mae hynny'n mynd law yn llaw â'n craffter ni, os hoffech chi, o ran chwilio am fwy o wybodaeth ynghylch sut beth fydd y craffu o ran atebolrwydd a'r dull o fesur y dyfodol—agweddau yr wyf i'n siŵr y byddwn yn dychwelyd atyn nhw ryw ddiwrnod eto.

Yn bersonol, rwy'n gobeithio ein bod ni'n symud oddi wrth yr awyrgylch hon o orfod sefyll 13 neu 14 o bynciau TGAU, neu o leiaf arholiadau blwyddyn 11, er mwyn profi eich gallu. Fe ddaw yn fater o ofyn gormod ohonoch chi, o'i ystyried felly. Os ydym am osgoi addysg ar gyfer arholiadau'n unig, ac rwy'n gobeithio ein bod ni i gyd o'r un farn yn hyn o beth, bydd angen dod o hyd i ffordd y gall disgyblion ddangos eu cyflawniadau ar draws y cwricwlwm ehangach hwn, ac eto, rwy'n amau'n gryf y bydd hynny'n rhywbeth y byddwn yn ei drafod eto.

Mae fy nghwestiwn cyntaf yn ymwneud â'r pwynt a wnaethoch chi, Gweinidog, ynglŷn â gweithredu—sut y caiff hynny ei gyflawni a sut mae pethau ar y cam datblygu hwn. Rydym yn gorfod aros am ryw 18 mis i gael rhai fframweithiau cwbl allweddol ar ganllawiau, yn anad dim ar feysydd mwy sensitif y cwricwlwm, nad ydyn nhw'n rhoi'r amser i ymarferwyr na'r amrywiaeth o gydlunwyr—mae'n well gennyf i o hyd eu galw nhw'n 'gydgynhyrchwyr'—i fynd i'r afael â hyn erbyn y byddwn ni wedi cyrraedd 2022. Felly, tybed a wnewch chi roi rhyw amcan inni ynghylch pam ydych chi'n credu, o gofio'r gwaith aruthrol sydd wedi ei wneud eisoes ar hyn, y bydd yn rhaid inni aros cyhyd am fframweithiau a chanllawiau manwl ar y meysydd mwy sensitif hynny.

Wrth gwrs, mae llenwi'r cwricwlwm â deunydd yn parhau i fod yn her graidd ar yr adeg hon yn y datblygiad. Mae'r canllawiau, fel ag y maen nhw, yn ddefnyddiol, ac nid wyf yn honni nad ydyn nhw ddim. Ond yn anochel rwy'n amau y bydd athrawon presennol yn parhau i ddibynnu ar y corff sylweddol o wybodaeth sydd ganddyn nhw, a hyd yn oed ar rai o'r adnoddau sydd ganddyn nhw eisoes, i benderfynu ar yr hyn y maen nhw'n mynd i'w wneud pan fyddan nhw'n mynd i'r ysgol ar fore Llun ac yn gorfod sefyll o flaen dosbarth o blant blwyddyn 7. Rwy'n credu, o'r hyn a glywaf i, mai'r ysgolion uwchradd sy'n mynd i weld yr her fwyaf yn y newid hwn, os caf ei roi felly.

Felly, wrth edrych ar y £39 miliwn yr ydych chi wedi ei ddyrannu eisoes, dros sawl blwyddyn, i sicrhau bod athrawon yn barod ar gyfer y cwricwlwm newydd hwn, a wnewch chi roi rhyw amcan inni o faint o hynny fydd yn mynd i roi amser i'r rhai sy'n dylunio'r cwricwlwm—o fewn yr ysgolion ac ymysg ysgolion hefyd? Beth mae'r athrawon wedi ei ddweud wrthych chi hyd yn hyn ynghylch sut y byddan nhw'n gallu rheoli'r absenoldebau hyn neu'r angen am absenoldebau, sut i greu'r amser digyswllt hwnnw o fewn y diwrnod ysgol? Roeddwn i'n clywed eich anogaeth i beidio â bwrw ymlaen yn rhy gyflym yn hyn o beth, ond mewn gwirionedd, mae'r amser wedi mynd yn brin—nid yw 2022 mor bell i ffwrdd â hynny. Ac wrth gwrs, fe fyddwn ni'n edrych ar ddeddfwriaeth yn fuan iawn, sy'n fy ngwneud i braidd yn bryderus gan fod peth o'r gwaith ar yr elfen allweddol hon o gyflawni gweithrediad, os mynnwch chi, heb ei gwblhau eto, ac felly mae'n rhaid i mi ofyn: beth fydd wedi cael ei gwblhau erbyn inni gyrraedd y cam y cawn wahoddiad i gyflwyno gwelliannau i'ch deddfwriaeth chi?

Rydych chi'n sôn llawer yn eich datganiad am gyd-lunio ac am ymarferwyr, ac o ran addysgeg rwy'n gweld pwrpas hynny'n amlwg, ond nid oeddech yn sôn dim am gymunedau a theuluoedd yn y darlun hwn o gyd-lunio. Rwyf i o'r farn y bydd hyn yn hanfodol, yn enwedig ar gyfer y meysydd mwy sensitif a gorfodol yn y cwricwlwm os ydyn nhw am weithio, ac i osgoi teuluoedd gofidus yn dewis addysg yn y cartref i'w plant fel protest yn erbyn yr hyn a ymddengys yn golled o'r hawl i dynnu'n ôl.

A wnewch chi roi rhyw syniad i ni ar y cam hwn, er enghraifft, o'ch ffydd chi, BAME, rwy'n credu y gelwir hyn yn 'grŵp cynnwys cymunedau', os wyf i'n iawn, a fydd hwnnw'n fforwm canolog ynteu a fydd yna fersiynau lleol o hynny? Oherwydd rwy'n awyddus iawn i ddeall beth fydd swyddogaeth y gymuned ar lefel leol wrth lunio'r cwricwlwm lleol hwnnw. Os bydd y gymuned yn cyfrannu'n lleol, a theuluoedd yn enwedig, pwy fydd yn gyfrifol am dynnu'r holl waith lleol hwnnw ynghyd os nad yw hyn, gobeithio, yn ymwneud ag ymarferwyr yn unig? Beth fydd swyddogaeth y consortia yn y darn arbennig hwnnw o waith? Ac efallai unwaith eto, i fod yn graff—nid wyf i'n disgwyl ichi allu ateb hynny heddiw—ond tybed a allwch chi roi rhyw syniad inni o faint o dynnu'n ôl sydd wedi bod ac efallai ar ba sail y bu hynny, dros y pum mlynedd diwethaf, dyweder, fel y gallwn ni gael rhywfaint o ddealltwriaeth gynnar am y broblem a allai godi o ganlyniad i ddileu hawliau rhieni i dynnu'n ôl.

A wnewch chi roi syniad inni o'r modd y mae plant sydd eisoes yn cael eu haddysg yn y cartref oherwydd dewis y rhieni, ond hefyd y plant sy'n cael addysg heb fod mewn ysgol am resymau eraill, sut y bydden nhw'n cael mynediad i'r cwricwlwm newydd hwn, yn arbennig gan fod llawer ohonyn nhw'n dibynnu ar gymorth allanol annibynnol ar gyfer yr addysg a gynigir i'r plant? Rwy'n credu fy mod i wedi codi pryderon gyda chi eisoes ynghylch pwy all gael mynediad i blatfform Hwb, ac ar hyn o bryd, ni fydd ysgolion annibynnol yn cael gwneud hynny. Ond fe hoffwn i gael rhyw arwydd o sut yr ydych chi'n credu y gallai darparwyr addysg annibynnol, ar wahân i ysgolion annibynnol, wneud hynny i sicrhau nad yw'r plant nad ydyn nhw mewn ysgol yn cael eu rhoi dan anfantais.

Ac yna, ar fater rhagnodi, fe wn i'n hollol eich safbwynt chi yn hyn o beth. Gwn nad ydych chi'n dymuno gweld hynny. Rwy'n eich canmol chi—mae'n rhaid imi ddweud hyn—am gyfeirio o leiaf at sgiliau achub bywyd brys yn y canllawiau. Ond tybed a yw hynny'n gofyn ychydig bach yn ormod. Pe gallech chi ei wthio ychydig ymhellach drwy ofyn i ysgolion roi rhesymau pam nad ydyn nhw'n ei gynnwys yn hytrach na chaniatáu iddyn nhw ei gynnwys, oherwydd nid yw hynny mewn gwirionedd yn symud pethau ymlaen o'n sefyllfa bresennol ni. Mae yna gymaint o ddarparwyr a sefydliadau sy'n barod i wneud y gwaith hwn, nid yw fel pe na allai ysgolion fodloni'r galw'n hawdd, ac nid wyf yn awyddus i'w gweld yn dod o hyd i resymau i beidio â gwneud hyn.

Fe roddaf gyfle i eraill—gan fy mod i'n siŵr y bydd hyn yn digwydd—godi mater statws a phresenoldeb yr hyn yr ydych chi'n ei alw yn 'ddimensiwn Cymreig' yn y cwricwlwm. Rwyf am adael hynny i rywun arall.

Ond mae yna un peth mwy penodol yr hoffwn i ei ofyn i chi, Gweinidog. Yr wythnos hon, wrth gwrs, rydym ni'n cofio am  erchyllterau'r Holocost. Nid hanes yn unig yw hyn ac nid rhywbeth sy'n cael ei ddarlunio fel enghraifft ynghylch hil-laddiad neu gydraddoldeb; yn fy marn i, mae hyn yn rhywbeth y mae'n rhaid ei ymgorffori yn ein DNA cyfunol. Nid yn unig oherwydd y Pwyliaid a'r Iddewon a'r Roma a'r bobl anabl a'r bobl Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol a ddioddefodd, ond am ei fod yn rhywbeth sy'n wir annirnadwy. Does dim angen atal addysgu am yr Holocost, ac rwy'n derbyn popeth a glywsom ni gan y Dirprwy Weinidog yn gynharach, ond a fyddech chi'n ystyried rhoi lle blaenllaw i'r Holocost o fewn y canllawiau pan fyddant yn mynd allan i ymgynghoriad pellach? Diolch.

15:30

A gaf i ddechrau drwy ddiolch i Suzy Davies am y pwyntiau a godwyd ganddi a'r cwestiwn a ofynnodd hi? Yn gyntaf, fe soniodd am weithredu. Ac fel y dywedais yn fy natganiad, fe fyddwn ni'n cyhoeddi cynllun gweithredu yn ddiweddarach y tymor hwn. Rwy'n awyddus i ymarferwyr a phartïon â diddordeb allu treulio'r wythnos neu ddwy nesaf yn darllen dogfen helaeth iawn, gan ddechrau rhoi meddwl ar waith cyn bod rhaid iddyn nhw, yn sydyn iawn, gael cynllun gweithredu hefyd gan y Llywodraeth. Rwy'n dymuno eu gweld yn ymgysylltu â'r ddogfen hon, ac ystyried yr hyn a ysgrifenwyd ynddi, a dechrau rhoi'r meddwl ar waith. Ond mae'n amlwg y bydd angen wedyn inni nodi cyfres o bwyntiau a darnau o waith y bydd angen i ysgolion unigol eu cyflawni rhwng nawr a mis Medi 2022, i sicrhau bod pawb yn y lle iawn, ac yn symud ymlaen o ran eu parodrwydd.

Yr hyn y soniais i amdano o ran canllawiau ychwanegol, cafwyd galwad clir gan bobl am ryw gymaint o gymorth ychwanegol yn y maes hwn. Er y byddwch wedi gweld o'r hyn a gyhoeddwyd gennym heddiw, rydym wedi bod yn fanwl iawn ym mhob maes dysgu a phrofiad, gyda phob datganiad o'r 'hyn sy'n bwysig' oddi tano, a'r camau o ran cynnydd. Yr hyn y byddwn ni'n ei ddarparu o ran canllawiau fydd gwybodaeth ychwanegol dros ben hynny, yn ogystal â'r hyn sydd eisoes yn arweiniad cynhwysfawr iawn ynghylch yr hyn y dylid ei gynnwys yn y meysydd hynny. Ond, yn amlwg, wrth feddwl am bynciau y mae pobl, yn ddealladwy iawn, yn teimlo'n gryf iawn yn eu cylch, ynglŷn â chrefydd, gwerthoedd a moeseg, ac addysg cydberthynas, oherwydd eu pryderon am yr hyn y gallai hynny ei gynnwys, rydym eisiau bod yn eglur iawn ynghylch yr hyn y mae'n ei olygu, ac efallai yn bwysicach, yr hyn nad ydyw'n ei olygu. Ac mae'n rhaid imi ddweud, rwyf wedi bod braidd yn bryderus ynglŷn â rhywfaint o'r ohebiaeth a ddaeth i law dros yr wythnos ddiwethaf, lle mae yna gamddealltwriaeth fawr ynglŷn â'r hyn a ddysgir mewn ysgolion ar hyn o bryd, a'r hyn yr ydym ni'n disgwyl y bydd ysgolion yn ei ddysgu yn y dyfodol. Felly, i dawelu meddyliau rhieni a chymunedau ynghylch yr hyn y disgwyliwn i athrawon eu plant ei ddysgu iddyn nhw, rydym ni'n dymuno bod yn fwy penodol er mwyn rhoi'r hyder hwnnw ynghylch materion sydd, yn ddealladwy, yn sensitif, ac mae pobl yn awyddus i gael sicrwydd.

I'r perwyl hwnnw, fe fydd y grŵp dan sylw yn eistedd ochr yn ochr â'n grŵp ni o lunwyr a fydd yn edrych ar y canllawiau hynny, yn enwedig o ran addysg am gydberthynas. Ond fe fyddwch chi wedi gweld yn y ddogfen a gyflwynais i heddiw ein bod ni wedi bod yn eglur iawn ynglŷn â'r hyn yr ydym yn ei ragweld fydd yr egwyddorion a fydd yn sail i'r canllawiau ynghylch addysg cydberthynas. Maen nhw'n seiliedig ar egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar yr hyn sy'n gymwys fel arfer gorau wrth ddysgu'r pynciau hyn i blant a phobl ifanc.

Gwn fod yr Aelod yn rhannu fy mhryder, wrth ystyried y meysydd hyn, fod gennym ni gyfrifoldeb i sicrhau bod ein plant ni'n ddiogel. Mae ein plant ni'n aeddfedu mewn byd sy'n eithriadol wahanol, Dirprwy Lywydd, o ran y mynediad i wybodaeth am berthnasoedd a rhywioldeb. Mae'r dyddiau wedi hen ddiflannu pan oeddem ni'n pasio copi o Judy Blume o amgylch y dosbarth er mwyn inni gael dysgu mwy am y mislif. A phan oeddem ni ychydig yn hŷn, fe ddiflanodd y dyddiau pan oedd gennym ni nofel gan Jackie Collins, yr oeddem ni'n ei phasio hi o gwmpas yr ystafell ddosbarth eto, a dyna sut y cawsom ni'r wybodaeth yna. Diniwed tu hwnt erbyn hyn, onid e? Ond mae ein plant ni yn llythrennol glic neu ddau yn unig oddi wrth luniau brawychus. Fe welsom ni rai lluniau anweddus o bobl ifanc yn ddiweddar gan arbenigwyr yn y maes—y gyfran o'r pethau sydd mewn gwirionedd yn cael eu rhoi yno gan y bobl ifanc eu hunain, heb fod yn ymwybodol o'r niwed a'r perygl y gallan nhw fod yn eu rhoi eu hunain ynddo. Rwyf i o'r farn fod gennym gyfrifoldeb i addysgu ein plant ni ar gyfer eu cadw nhw'n ddiogel, a'r egwyddorion a fydd yn sail i'n haddysg ni yn y maes hwn yw egwyddorion arfer gorau gan y Cenhedloedd Unedig.

O ran dysgu proffesiynol, fe fyddwch chi'n ymwybodol bod y mwyafrif helaeth o'r arian hwnnw'n cael ei drosglwyddo i benaethiaid ac arweinwyr ysgolion yn uniongyrchol, gan mai y nhw sy'n deall anghenion dysgu proffesiynol eu staff. Ac nid oes modd inni wybod am hynny i gyd yn ganolog. Rydym yn ymddiried yn arweinwyr yr ysgolion hynny i allu cynllunio rhaglen ddysgu broffesiynol sy'n diwallu anghenion eu staff arbennig nhw, ac y gall dysgu proffesiynol ddigwydd mewn llawer o wahanol ffyrdd. Daeth galwad gan yr undebau i barhau â'r cyllid hwnnw. Oherwydd fe fyddwch chi'n ymwybodol fod yna gyllid yn ystod y ddwy flynedd flaenorol; roedd gweithwyr proffesiynol yn pryderu y byddai'r cyllid hwnnw'n dod i ben, ac rwy'n falch iawn ein bod ni wedi gallu gwneud ymrwymiad i ariannu ar gyfer y flwyddyn ariannol newydd. Bydd yn ofynnol i bob ysgol gyhoeddi ei chynllun dysgu proffesiynol, fel y gallwn ni weld— neu y gall unrhyw un sydd â diddordeb weld—sut mae'r arian hwnnw'n cael ei ddefnyddio ar gyfer dysgu proffesiynol i'r staff yn y ffordd neilltuol honno.

Ymhellach—rwy'n credu bod yr Aelod wedi cyfeirio at ymgynghori pellach. Dyma fersiwn derfynol y ddogfen hon—nid oes ymgynghoriad pellach i fod ar yr hyn sy'n cael ei gyhoeddi heddiw. Dyma hi, felly ni fyddwn yn mynd yn ôl allan i holi ynglŷn â hyn. O ran y ddeddfwriaeth—fe fydd y ddeddfwriaeth honno, a gaiff ei chyhoeddi ar ôl toriad y Pasg, yn ddarostyngol i'r broses graffu arferol yn y fan hon. Mae'r ddogfen hon yn amlinellu sut y byddwn ni'n defnyddio deddfwriaeth—y Bil cwricwlwm ac asesu—o ran deddfu ar gyfer y pedwar diben, y meysydd dysgu a phrofiad, a'n bwriad i gael cod o ran datganiadau o'r 'hyn sy'n bwysig'. Fe fyddwch chi'n ymwybodol hefyd y bydd angen inni sicrhau wedyn bod y ddeddfwriaeth yn ystyried anghenion a disgwyliadau'r cwricwlwm ar gyfer unedau cyfeirio disgyblion hefyd, ac yn wir ar gyfer yr addysg a gaiff plant sydd heb fod mewn ysgol. Ac fe fydd y Bil cwricwlwm ac asesu yn nodi ein disgwyliadau ni'n eglur yn hynny o beth, gan gydnabod rhai elfennau craidd y bydd yn rhaid i bob darparwr eu cynhyrchu, ond gan gydnabod, mewn rhai achosion, er budd gorau'r plant, na chaniateir rhai agweddau ar y cwricwlwm, oherwydd bod hynny er budd mwyaf y dysgwr penodol hwnnw.

Fe ddechreuodd yr Aelod ei chyfraniad drwy siarad am blant yn sefyll 12 neu 13 o wahanol TGAU. Fel y dywedais i yn fy natganiad, mae Cymwysterau Cymru ynghanol rhan gyntaf ei ymgynghoriad ar ddyfodol cymwysterau. Ac rwy'n siŵr y bydd y cynnwys ond hefyd y dymuniad neu'r angen i sefyll 12 neu 13 TGAU yn rhan o gyfansoddiad yr archwiliad hwnnw, oherwydd mae hon yn her, yn sicr. Ond gwaith pellach i'w wneud eto yw hwnnw.

15:35

Hoffwn i y prynhawn yma fynd ar ôl dau fater penodol—fydd y materion yma ddim yn newydd i chi; dwi wedi eu codi nhw o'r blaen—yn gyntaf, gweithredu'r cwricwlwm newydd. Mae'ch datganiad chi heddiw yn cydnabod, wrth gwrs, mai gweithredu'r diwygiadau ydy'r her fawr, a bod yna dystiolaeth ryngwladol yn dangos bod hynny wedi bod yn glir mewn sefyllfaoedd eraill. A'r ail bwynt dwi am ei wyntyllu ychydig bach ymhellach ydy sut ydych chi'n cysoni gwneud rhai materion yn statudol, tra'n neilltuo rhai eraill o'r ddeddfwriaeth?

Does yna ddim dwywaith bod cyflwyno'r cwricwlwm newydd yn mynd i fod yn newid anferth i'r byd addysg yng Nghymru, a meddech chi heddiw y dylai ysgolion gymryd amser i ddeall model y cwricwlwm. Ac felly hoffwn i ofyn i chi'n gyntaf: ydych chi'n cytuno y bydd hyn, y bydd deall model y cwricwlwm newydd, yn fwy o her i'r sector uwchradd nag i'r sector cynradd? Ydy'r sector cynradd, yn enwedig o gofio datblygiad y cyfnod sylfaen, yn fwy parod, efallai, ar gyfer y weledigaeth newydd yma ar gyfer deall model y cwricwlwm?

Rydych chi'n sôn am yr angen i ysgolion gyd-gynllunio. I gyd-gynllunio, mae angen i ysgolion gael y gofod i ddod at ei gilydd. Ac eto, meddech chi yn eich datganiad heddiw, mae angen i ysgolion greu gofod ac amser i ddeall model y cwricwlwm, a pheidio â rhuthro'r broses o weithredu'r cwricwlwm newydd. Dwi'n cytuno yn llwyr efo hynny, ond mae creu'r gofod yn costio. Mae angen cyflogi athrawon llanw ac yn y blaen. Sut ydych chi'n gweld hwnna'n gweithio yn ymarferol? Ac ydych chi eto yn credu y bydd hi'n haws i greu'r gofod yma ar gyfer y cyd-gynllunio yn y cynradd, lle mae yna lai o blant, i ddechrau, mewn ysgolion cynradd o gymharu efo'r uwchradd? Ac i fynd yn ôl at y dystiolaeth ryngwladol roeddwn i'n cyfeirio ati ar y cychwyn, pa wersi sydd yna i'w dysgu o'r dystiolaeth yma wrth feddwl am wreiddio a gweithredu'r cwricwlwm yn y sector uwchradd yn benodol? 

Wrth gwrs, mi fyddwch chi'n ateb ac mi fyddwch chi'n sôn am y dyddiau hyfforddiant mewn swydd a bod hynny yn mynd i helpu i ganiatáu i ysgolion gael y gofod yma, ond dim ond i raddau mae hynny yn mynd i helpu. A byddwch chi'n sôn am y £39 miliwn ychwanegol hefyd sy'n cael ei glustnodi tuag at hyfforddiant mewn swydd, ond a ydy hynny yn ddigon? Hyn ydy fy mhryder i. Dwi'n credu, os ydy hwn yn mynd i lwyddo, ac rydyn ni i gyd eisiau ei weld o'n llwyddo, mae angen chwistrelliad sylweddol o arian i gefnogi gweithrediad y cwricwlwm. Mae'r ysgolion ar eu cluniau'n barod ac mae yna beryg i gyflwyno newid mor anferth ar gyfnod o gynni ariannol—mae yna beryg iddo fo fethu yn llwyr.

Ac felly, mi fyddwn yn gofyn i chi, ac i'r Llywodraeth yn fwy nag i chi fel y Gweinidog Addysg—dwi'n gwybod eich bod chi'n dadlau dros fwy o arian i addysg, ond mae hwn yn gwestiwn i'r Llywodraeth mewn gwirionedd. Onid oes angen i'r Llywodraeth gael bach o reality check yn fan hyn a sylweddoli bod angen cannoedd o filoedd yn fwy o bres er mwyn creu llwyddiant o'r cwricwlwm newydd—ddim y symiau cymharol fechan sydd dan sylw ar hyn o bryd? Mae eisiau chwistrelliad sylweddol i greu'r llwyddiant rydyn ni ei angen.

A jest i drafod yr ail bwynt yma—rydyn wedi ei drafod o o'r blaen, ond dwi'n dal i geisio deall sut ydych chi'n cysoni gwneud rhai materion yn rhan statudol o'r cwricwlwm, ond wedyn yn neilltuo rhannau eraill o'r ddeddfwriaeth. Dwi'n credu eich bod chi'n hollol iawn i gynnwys addysg rhyw, addysg perthnasoedd iach ac addysg crefydd, neu beth bynnag ydy'r enw newydd ar hwnnw rŵan. Dwi'n meddwl ei fod yn bwysig iawn bod y rheini yn rhan statudol o brofiad pob person. Ond wedyn sut mae cysoni cynnwys y rheini, ond wedyn ddim cynnwys dwy awr o addysg gorfforol, materion yn ymwneud efo addysg lles meddyliol, hanes Cymru a Chymreictod? Dyw'r rheini ddim yn mynd i orfod bod yn rhan hanfodol o'r cwricwlwm. Lle mae'r cysondeb mewn gwneud un elfen yn hanfodol, ac elfennau eraill ddim?

Rŵan, rydyn wedi cael y sgwrs yma sawl tro o'r blaen, a dwi'n gwybod y cawn ni'r ateb rydych yn ei roi fel arfer. Ond tybed—. Rydyn yn cytuno bod y materion yma'n bwysig. Dwi'n gwybod eich bod chi'n credu bod Cymreictod a hanes Cymru neu hanesion Cymru yn bwysig. Oes yna ffordd arall, felly? Yn hytrach na'u bod nhw yn y cwricwlwm, oes yna ffordd arall o sicrhau eu bod nhw yn cael eu dysgu ymhob ysgol heb rym Deddf tu ôl i hynny? Dyna ydy'r cwestiwn allweddol, mae'n debyg, gan ein bod ni'n cytuno bod angen i'r rhain gael eu dysgu. Sut ydyn ni yn mynd i wneud hynny os nad ydyn ni'n eu cynnwys nhw yn y ddeddfwriaeth?

15:40

Diolch yn fawr i Siân am ei chyfraniad hi. Yn gyntaf, fe fuom ni'n siarad am y gofod a'r amser i baratoi. Mae'r rhain yn ystyriaethau pwysig. Dyna pam y gwnes i benderfyniad i ohirio cyflwyno'r cwricwlwm, yn gyntaf, i roi mwy o amser inni, ac fe wnes i'r penderfyniad i newid y ffordd y byddai'r cwricwlwm yn cael ei roi ar waith drwy gyflwyno dull gweithredu fesul cam yn y sector uwchradd, yn hytrach na gwneud pob dim ar unwaith, sef y cyngor a gefais yn wreiddiol. Oherwydd mae Siân Gwenllian yn iawn: mae symud i'r cwricwlwm newydd yn golygu, mewn sawl ffordd, fwy o her i'n cydweithwyr ni yn y sector uwchradd nag a wna yn y sector cynradd, lle mae'r hyn yr ydym ni'n ei weld yn estyniad naturiol i lawer o'r egwyddorion sydd wedi bod yn sail i'n cyfnod sylfaen ni. Dyna pam, felly, yr oedd hi'n neilltuol bwysig i allu cyflwyno hyn yn y sector uwchradd fesul cam, i ganiatáu mwy o amser i addasu a dysgu proffesiynol a bod yn barod.

Mae Siân Gwenllian yn gywir i ddweud fy mod i'n mynd i sôn am y diwrnod HMS ychwanegol; pe byddai wedi gweld rhai o'r ymatebion i'r ymgynghoriad ar y diwrnod HMS hwnnw, byddai wedi gweld, mewn rhai sectorau, nad rhywbeth poblogaidd i'w wneud oedd hynny. Ond mae'n rhywbeth sy'n angenrheidiol i'w wneud er mwyn cynyddu, unwaith eto, yr amser sydd ar gael i ysgolion. Rydym wedi bod yn glir iawn yn y ddogfen a gyhoeddwyd heddiw ynghylch yr angen i gydweithio nid yn unig mewn ysgol, ond gyda rhwydweithiau o ysgolion, boed hynny mewn ardal leol, boed hynny ar draws cyfnod, o ran cynradd yn siarad ag uwchradd yn siarad â cholegau addysg bellach, neu a oes angen i hynny fod mewn arbenigedd pwnc neu arbenigedd maes dysgu a phrofiad.

Wrth gwrs, nid y diwrnod ychwanegol hwnnw a roddwyd gennym dros nifer o flynyddoedd yw'r unig ddiwrnod sydd gan yr ysgolion; mae ganddyn nhw'r darpariaethau HMS presennol y gallan nhw eu defnyddio i roi hyn ar waith. Ac wrth gwrs, mae rhywfaint o'n dysgu proffesiynol gorau ni'n digwydd pan fydd plant yn yr ysgol, felly mae angen dull cymysg. Dyna pam rydym ni'n datganoli'r adnoddau sydd gennym ar gyfer dysgu proffesiynol.

Mae'r arian sydd wedi cael ei ddarparu ar gyfer y ddwy flynedd ddiwethaf, ac a fydd ar gael eto, yn golygu'r buddsoddiad unigol mwyaf yn y proffesiwn addysgu ers i ddatganoli ddechrau, ac mae hynny'n briodol, Dirprwy Lywydd—mae hynny'n briodol. Mae'r adnoddau hynny yn cael eu hategu hefyd gan fuddsoddiad gan y Llywodraeth hon mewn rhwydweithiau cenedlaethol newydd i gefnogi addysgeg ac arferion, ac mae hynny'n dod ar adeg pan fo gwasgfa nid ansylweddol yn parhau ar gyllideb Llywodraeth Cymru, ond rydym wedi llwyddo i sicrhau cynnydd i'n hawdurdodau lleol. Rwy'n gobeithio y bydd yr awdurdodau lleol hynny'n cadw at eu gair o ran eu hymrwymiadau i mi, y Gweinidog Cyllid a'r Gweinidog Llywodraeth Leol, lle maen nhw i gyd yn awyddus i flaenoriaethu gwariant ar addysg.

Roeddwn wrth fy modd y bore yma i fod yn Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Pen y Fai ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, a chlywed gan arweinydd Pen-y-bont ar Ogwr ei fwriad ef i ddefnyddio'r arian ychwanegol ar gael i flaenoriaethu gwariant ar addysg. Rwy'n croesawu'r ymrwymiad hwnnw ganddo ef yn fawr iawn yn wir. Mae hynny'n dod ar ben y cynnydd yn y gyllideb addysg, sydd, fel y dywedais i, yn ariannu amrywiaeth o fentrau i gefnogi gweithrediad y cynllun. Ond nid wyf i'n osgoi'r angen i archwilio'n gyfreithiol lefel y gwariant ar addysg yng Nghymru, a gwneud hynny ar sail annibynnol. Fe fydd Luke Sibieta yn adrodd cyn diwedd tymor yr haf, ac mae hynny'n bwysig iawn.

Ond byddwn i'n dweud wrth Siân Gwenllian: fe hoffwn innau hefyd fod â channoedd o filiynau o bunnoedd yn ychwanegol i'w gwario ar addysg, ond wrth alw am hynny mae'n rhaid ichi ddweud wrthyf lle y dylem ni beidio â gwario arian, oherwydd dyna ganlyniad y sefyllfa yr ydym ynddi—naill ai lle y dylem ni beidio â gwario arian neu lle ydych chi'n dymuno codi'r refeniw ychwanegol hwnnw.

O ran yr hyn sy'n statudol a'r hyn nad yw'n statudol, y rhesymeg y tu ôl i'r hyn yr ydym ni wedi ei gyhoeddi heddiw, yn y lle cyntaf, yw ei fod yn dal yn ffyddlon i'r egwyddorion a'r argymhellion yn yr adroddiad 'Dyfodol Llwyddiannus' gwreiddiol. Ategir hyn hefyd gan argymhelliad gan y grŵp arbenigol a ddaeth at ei gilydd ar addysg cydberthynas a wnaeth argymhelliad clir iawn i mi y dylai hyn hefyd fod yn rhan statudol o'r cwricwlwm. Ac fe fyddai'n rhaid imi ddweud wrth yr Aelod: ymhle yn y ddogfen hon y gall hi weld diffyg ymrwymiad ar fy rhan i neu Lywodraeth Cymru o ran mater iechyd meddwl a llesiant?

Un o'r agweddau pwysicaf ar y broses hon o ddiwygio'r cwricwlwm yw cynnwys maes dysgu a phrofiad sy'n ymroddedig i iechyd a llesiant ein plant ni. Mae hynny'n newydd o'i gymharu â'r hyn oedd gennym yn y gorffennol. A phe byddech chi'n darllen y datganiadau o'r 'hyn sy'n bwysig' a phe byddech chi'n darllen y camau dilyniant, fe welwch chi'n eglur iawn bwyslais cryf ar sicrhau bod plant yn dysgu am emosiynau, yn dysgu am sut y gall yr emosiynau hynny effeithio ar eu llesiant nhw, sut gallan nhw ofyn am gymorth pan maen nhw'n teimlo eu bod nhw'n cael eu gorlethu, a sut y gallan nhw ddatblygu i fod yn fwy cydnerth.

O ran hanesion Cymru, ac rwy'n falch iddi ddefnyddio'r gair 'hanesion' Cymru—ymddengys ei bod hi'n iawn i rai ohonom ddefnyddio'r term hwnnw ac efallai nid eraill. Ond rwy'n cytuno â hi fod angen dysgu hanesion mewn dull lluosog. Pe byddai hi'n troi at dudalen 23 o'r ddogfen a gyhoeddwyd heddiw am y canllawiau yr ydym ni'n eu rhoi i ysgolion ar sut y byddan nhw'n datblygu eu cynllun cwricwlwm eu hunain, mae'n dweud, ac rwy'n dyfynnu:

Fe ddylai fod gan ysgolion ac ymarferwyr weledigaeth i ddatblygu cwricwlwm sydd: yn cyfrannu at y dysgwyr yn gwireddu'r pedwar diben ac yn caffael y sgiliau annatod sy'n sail iddynt; ac yn cefnogi datblygiad synnwyr hunaniaeth eu dysgwyr yng Nghymru.

Mae'n mynd ymlaen, ar dudalen 30, i roi arweiniad clir ar 'Gynllunio Cwricwlwm yng Nghymru ac ar gyfer Cymru'. Ac rwy'n dyfynnu eto:

Mae'r Fframwaith yn adlewyrchu Cymru, ei threftadaeth ddiwylliannol a'i hamrywiaeth, ei hieithoedd a'i gwerthoedd, ei hanes a thraddodiadau ei chymunedau a'i holl bobl. Mae meithrin dysgwyr gydag angerdd a balchder ynddynt eu hunain, eu cymunedau a'u gwlad yn ganolog i'r pedwar diben.

Rydym yn gwbl eglur. Ac mae'n rhaid imi ddweud, fe fyddai cyfyngu hynny i wersi hanes Cymru yn amddifadu'r cyfle a nodir yn glir yn y ddogfen hon a'r disgwyliad bod angen i gynllunio cwricwlwm yng Nghymru ac ar gyfer Cymru gynnwys pob un maes dysgu a phrofiad. Os gall hi ddangos i mi yn y ddogfen hon unrhyw ddiffyg ymrwymiad yn hynny o beth, yna fe hoffwn i ei weld ef.

15:50

Diolch. Rwy'n gwybod ei fod yn bwnc pwysig iawn, ond mae gennym ni lai na 10 munud ar ôl ac mae gennym dri i siarad. Felly, os caf i ofyn i'r Aelodau roi ystyriaeth i hynny. Jenny Rathbone.

Diolch. Rwy'n llwyr gefnogi eich agwedd chi tuag at addysg cydberthynas a rhywioldeb, gan ei wneud yn beth gorfodol, oherwydd yng nghyd-destun yr ysgol uwchradd fwyaf breintiedig, leiaf difreintiedig yn fy etholaeth i, mae'r ffonau hyn yn broblem fawr. Mae'r heddlu yno bob yr wythnos yn ceisio egluro i bobl ifanc, os ydyn nhw'n rhannu ffotograffau sy'n peryglu eu henw da ar eu ffonau, yna fe ddaw hynny'n ôl i'w bwrw nhw, naill ai'n ariannol neu byddan nhw'n cael eu hecsbloetio yn rhywiol. Oni bai fod pawb yn deall hynny, mae gennym ni broblem enfawr.

Gwyddom hefyd ei bod hi'n gwbl hanfodol bod pobl ifanc yn cael canllawiau anfeirniadol ar ystyr cydberthnas iach, fel bod plentyn y gofynnir iddo wneud pethau amhriodol yn cael ei rymuso i wrthod a'i fod yn gwybod ble i fynd. Credaf ei fod yn  rhagrithiol fod sefydliadau sydd wedi methu â diogelu plant a phobl ifanc yn ddigonol rhag oedolion anrheithgar ar flaen y gad wedyn yn dweud y dylid gadael hynny i'r rhieni. Yn yr un modd, mae'n annerbyniol nad oes gan blentyn naw mlwydd oed syniad pam ei bod yn gwaedu rhwng ei choesau gan nad oes neb wedi mynd i'r drafferth o ddweud wrthi am y mislif.

Yn yr un modd, rwy'n teimlo bod cymdeithas y dyneiddwyr yn anghywir i ddweud bod addysg grefyddol fel rhan greiddiol o'r cwricwlwm yn stwffio crefydd i lawr corn gyddfau'r plant. Oherwydd mae'n rhaid i ni ddadadeiladu gwerthoedd a moeseg crefyddol i wahanol feysydd dysgu ac addysgu fel bod pob plentyn yn gwybod am hanes crefydd, sydd wedi'r cyfan wedi bod yn achos mwy o ryfeloedd nag unrhyw beth arall bron, ac mae rhyfeloedd yn dal i gael eu hymladd yn enw crefydd. Felly, mae angen inni ddeall y cyfan o hynny. Ac mewn byd amlddiwylliannol, amlboblogaeth, amlethnig, nid ydym yn mynd i fynd  ymhell iawn o ran dysgu pobl ifanc i barchu gwahaniaeth os na allwn sicrhau bod pobl ifanc yn deall bod gwahanol gredoau gan bobl, a sicrhau bod gennym ni werthoedd a moeseg craidd, gonestrwydd, trugaredd, caredigrwydd a chydymdeimlad.

Fe soniodd Suzy Davies am y gwersi a ddysgwyd o'r Holocost. Wel, roedd Dr Martin Stern, a siaradodd yn neuadd y ddinas ddoe, yn gwbl glir mai'r hyn sydd gennym ni i'w ddysgu o'r 50 hil-laddiad sydd wedi digwydd ers yr ail ryfel byd yw dealltwriaeth o'r ffaith y gall pobl gyffredin ddatblygu i fod yn fwystfilod. Soniodd am ei gyfaill o Bosnia a gafodd ei holi gan ei gyn athro gwyddoniaeth, a oedd wedi trawsnewid o fod yn addysgwr i fod yn llofrudd. Felly, y pethau hyn i gyd; mae'n hanfodol ein bod ni'n llunio'r cwricwlwm craidd i sicrhau bod gennym ni gymdeithas wâr y mae pawb yn ei deall.

A gaf i ddiolch i Jenny Rathbone am ei chefnogaeth o ran y ddwy ran bwysig hyn o'r cwricwlwm?  Fe hoffwn i dynnu sylw pob Aelod at dudalen 38 y ddogfen, lle'r ydym yn egluro gyda pheth manylder:

Mae plant yn dechrau dysgu am gydberthynas ymhell cyn iddynt ddechrau yn yr ysgol. Cyn gynted ag y byddant yn ymuno â'r byd cymdeithasol, byddant yn dod ar draws ac yn rhyngweithio â negeseuon sy'n aml yn gymhleth a gwrthgyferbyniol.

Meddyliwch am y negeseuon y mae dynion a menywod ifanc fel ei gilydd yn cael eu llethu â nhw o ran sut y dylen nhw edrych, sut y dylen nhw ymddwyn mewn cydberthynas. Rwy'n credu mai'r wythnos ddiwethaf neu'r wythnos flaenorol y cawsom ni ddadl rymus iawn yn y Siambr hon am drais rhywiol ac achosion o drais rhywiol. Mae'n gwbl hanfodol ein bod ni'n dysgu pob un o'n plant am egwyddorion cydsynio a sut i fod yn bartner cariadus a pharchus mewn cydberthynas.

Rydym wedi bod yn trafod melltith trais domestig yn ein cymdeithas ers amser maith. Unwaith eto, mae angen inni addysgu ein plant am gydberthynas iach. Mae'r Llywodraeth hon yn gwneud llawer o waith gyda'i hymgyrch 'Nid Cariad yw hyn', ond mae'n gondemniad damniol ohonom ni fel cymdeithas fod angen inni wneud felly. Os ydym yn dymuno newid yn eu hanfod rai o'r materion hyn sy'n wynebu menywod a dynion yn ein cymuned  yna ein gobaith gorau o wneud hynny yw drwy addysg, a sicrhau bod ein plant, o oedran cynnar, yn deall eu rhan nhw, eu hawliau a'u cyfrifoldebau mewn cydberthynas.

Nawr, yn amlwg, mae'n rhaid gwneud hynny mewn ffordd sy'n briodol i oedran y plentyn. Mae sut y byddwch chi'n siarad am y materion hyn gyda phlentyn ysgol gynradd yn wahanol iawn i'r ffordd y byddwch chi'n siarad am y materion hyn gyda phlentyn 16 oed. Ond os na wnawn ni hynny, ac os na fyddwn ni'n rhoi'r lle hwn a'r cyfle hwn i bobl ifanc, fe fyddan nhw'n dod o hyd i ffyrdd eraill o ddod o hyd i'r wybodaeth hon—neu fe ddylwn i ddweud ffyrdd eraill o ddod o hyd i wybodaeth gamarweiniol; gwybodaeth sy'n gallu eu dychryn nhw a'u drysu nhw, gwybodaeth sy'n gallu gwneud iddyn nhw deimlo'n anniogel ac yn annheilwng. Fel y dyn ifanc a siaradodd gyda mi am ei gaethiwed i bornograffi a sut roedd hynny'n gwneud iddo deimlo fel dyn ifanc a'r hyn yr oedd ef yn credu oedd yn ddisgwyliedig ohono fel dyn ifanc. Os ydym yn poeni am iechyd meddwl ein plant, os ydym ni'n poeni am lesiant ein plant, yna mae'n rhaid inni gael y gwersi hyn. Ac mae gan bob plentyn yr hawl sylfaenol i gael y cwricwlwm llawn, ac rwy'n credu hynny'n gryf iawn.

Nawr, rydych chi'n iawn: rydym yn newid o astudiaethau crefyddol i grefydd, gwerthoedd a moeseg, i adlewyrchu natur y rhan honno o'r cwricwlwm yn well. Ond os ydym eisiau gweld dinasyddion moesol a deallus yn y byd, sut allwn ni beidio â dysgu plant am grefydd? Sut na allwn ni eu dysgu nhw am yr hawl i arddel barn grefyddol a pharchu hynny, hyd yn oed os yw eich barn chi'n un wahanol? Mae'r Aelod yn gwneud pwynt da iawn, mae arswyd yr Holocost ac arswyd Srebrenica yn enghreifftiau perffaith o sut y gallwn ni weithio ar draws y cwricwlwm. Nid dysgu am hynny yn syml mewn gwers hanes, ond ei ddysgu mewn gwers am grefydd, gwerthoedd a moeseg; dysgu am hynny mewn llenyddiaeth yn ogystal ag yn y dyniaethau; mynegi arswyd hynny drwy ein celfyddydau mynegiannol: drama, dawns, a chelf ei hun. Mae'r pynciau hynny'n alluogwyr a symbolau perffaith ac yn bwyntiau pwysig yn hanes y byd lle gallwn atgyfnerthu pwysigrwydd hynny o ran hawliau, hawliau dynol a pharch, sydd unwaith eto'n rhedeg trwy'r cwricwlwm cyfan.

15:55

A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am y ffordd y mae hi wedi ceisio rhoi sicrwydd i rieni, ac addysgwyr yn wir, am y dull y mae hi'n awyddus i'w ddilyn yn y cwricwlwm newydd hwn, yn enwedig o ran addysg rhyw a chydberthnasedd, ac yn wir addysg grefyddol? Rwy'n siarad fel crediniwr sydd â diddordeb mewn ffydd ac sy'n bartner i grwpiau ffydd o bob math ar bob math o wahanol faterion, a gwn y bydd y rhain yn cyd-weld yn llwyr â llawer o'r hyn a ddywedasoch.

Ond, wrth gwrs, mae yna un her, os mynnwch chi, sydd wedi ei rhoi i Lywodraeth Cymru gan y bobl hynny sy'n credu'n sylfaenol mai cyfrifoldeb rhiant yw addysgu ei blentyn. Ac, fel y byddwch chi'n gwybod ac yn ymwybodol ohono, mae gan y rhiant yr hawl, os dymuna hynny, i dynnu ei blentyn allan o system addysg y wladwriaeth yn gyfan gwbl ac addysgu ei blant yn y cartref, oherwydd y sefyllfa sylfaenol honno, sef mai gan y rhiant mae'r prif gyfrifoldeb am yr addysg. Felly, rwy'n credu bod y pryderon a fynegwyd am ddirymu hawliau rhieni i allu cymryd plentyn allan o'r ystafell ddosbarth ar gyfer rhai elfennau o addysg y mae pobl yn teimlo'n anghyfforddus yn eu cylch, y gallai rhieni deimlo'n anghyfforddus yn eu cylch, yn hawl bwysig sydd, yn fy marn i, wedi cael ei gwerthfawrogi gan rieni ers blynyddoedd lawer, ac roedd eich ymrwymiadau blaenorol chi i gynnal yr hawl honno yn cael eu gwerthfawrogi yn fawr iawn.

Rwyf i wedi clywed eich sicrwydd chi, rwy'n deall eich sicrwydd chi, ac fe wn i y bydd yn cael ei dderbyn gan lawer iawn o rieni ledled y wlad. Rwy'n credu'n gryf bod y ffordd sensitif yr ydych yn ceisio mapio dyfodol y pynciau pwysig hyn i'w chanmol. Ond credaf y dylai'r cyfle i dynnu plentyn allan o unrhyw ran o'r cwricwlwm barhau i fod ar gael i rieni, ac fe fyddwn i'n eich annog chi i ailystyried eich safbwynt ar hynny a sut y gallech chi alluogi rhieni i dynnu eu plant o elfennau o'r wers lle mae yna fwriad clir i addysgu am bynciau penodol. Rwy'n siŵr fod yna ffyrdd y gellir gwneud y pethau hyn a ffyrdd o weithio o'u hamgylch, ac rwy'n gofyn hynny'n unig—. Rydych wedi bod yn gwrando'n astud wrth greu'r cwricwlwm hwn, ac rwy'n gofyn i chi barhau i wrando, yn enwedig ar bryderon rhieni, o ran dileu'r hawl hon i dynnu plant yn ôl yn y dyfodol.

16:00

A gaf i ddiolch i Darren Millar am y pwyntiau a wnaeth ef? Rwy'n derbyn y pwynt yn llwyr am hawliau rhieni i addysgu eu plant, ac nid oes unrhyw beth yr ydym ni'n ei gynnig yn y fan hon yn tynnu dim oddi ar hynny. Rwy'n siŵr y byddai pob un ohonom yn cytuno bod y mwyafrif helaeth o rieni mewn sefyllfa i wneud hynny'n llwyddiannus, ond nid yw pob un o'n plant ni mor ffodus, Darren; nid yw pob un o'n plant ni mor ffodus o gael rhieni sy'n gallu gwneud hyn iddyn nhw am amrywiaeth o resymau.

Darren, rydych chi wedi treulio llawer iawn o amser yn sôn am hawliau rhieni, ac nid wyf i'n dymuno eu tanseilio nhw. Ond mae fy safbwynt i'n deillio o hawliau'r plentyn; hawl plentyn i gael addysg eang a chytbwys a'r gallu i gael addysg o bob rhan o'r cwricwlwm. Rwy'n deall natur sensitif hyn ac yn aml maen nhw'n dod—. Rwy'n deall.

Rydym wedi ymrwymo i weithio'n galed dros y ddwy flynedd a hanner nesaf cyn y bydd yna newidiadau i'r hawl i dynnu'n ôl ar gyfer tawelu meddyliau rhieni a chymunedau ynghylch natur y cwricwlwm. Ac fel y dywedais i'n gynharach, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn bod pob plentyn, wrth feddwl am addysg cydberthynas a rhywioldeb, yn cael gwersi o ran hawliau a thegwch, dysgu am berthnasoedd, dysgu am ryw a rhywedd, dysgu am gyrff a delwedd gorfforol, yn ogystal ag iechyd a llesiant rhywiol, a thrais, diogelwch a chefnogaeth. A'r rhain fydd yr egwyddorion sy'n sail i'n dull ni o ymdrin ag addysg rhyw a pherthnasedd, ac nid wyf i'n ymwybodol o unrhyw blentyn nad oes angen iddo ddysgu am y pethau hyn os yw am dyfu i gyflawni un o ddibenion ein cwricwlwm, sef bod yn unigolyn hapus a hyderus. Mae perthnasedd yn hanfodol i ni fel bodau dynol, ac mae angen sicrhau bod ein plant ni'n cael eu haddysgu fel y gallant ffurfio perthynas lwyddiannus a hapus.

Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i chi, Gweinidog, am eich datganiad, ac ategaf fy niolch i chi, eich swyddogion a'r llu o bobl sydd, ar lawr gwlad, wedi gweithio'n galed iawn i gyflawni hyn?

Roeddwn i mewn cynhadledd ddoe yn edrych ar y dull ysgol gyfan, lle'r oedd rhai athrawon yn rhoi cyflwyniadau ar faes dysgu a phrofiad iechyd a llesiant. Mae'r brwdfrydedd sydd gan athrawon am hyn yn amlwg ar lawr gwlad, ac mae hynny i'w groesawu yn fawr.

Rwy'n dymuno rhoi croeso cynnes iawn hefyd i'ch penderfyniad chi i ddileu hawl y rhieni i dynnu'n ôl. Rwyf newydd ddod o grŵp trawsbleidiol nawr ar atal hunanladdiad lle cawsom gyflwyniad ar yr adolygiad o farwolaethau pobl ifanc yn sgil hunanladdiad, ac roedd cyfran sylweddol o'r marwolaethau hynny'n gysylltiedig â chamdriniaeth rywiol. Felly, tybed a fyddech chi'n cytuno â mi ei bod hi'n gwbl hanfodol i bob unigolyn ifanc gael addysg cydberthynas sy'n eu dysgu nhw am gydsyniad. Hefyd, o ran materion cydraddoldeb, tybed a fyddech chi'n cytuno â mi mai'r bobl ifanc y mae arnynt angen yr addysg cydberthynas yn seiliedig ar gydraddoldeb yw'r union bobl ifanc hynny nad ydyn nhw'n cael yr addysg honno gartref. Mae hyn, fel y dywedwch chi, yn fater o iechyd meddwl sylfaenol ond hefyd, yn gyfan gwbl, yn fater o hawliau plant.

16:05

Diolch i Lynne Neagle am ei sylwadau, ac rwy'n falch iawn o glywed fod yna ymarferwyr ddoe yn siarad mor wresog am y maes dysgu a phrofiad iechyd a lles. Roeddech chi a minnau yn y grŵp gorchwyl a gorffen gweinidogol ddoe, a chlywsom gan y cynrychiolydd penaethiaid ysgolion cynradd am y cyfle y mae'r cwricwlwm newydd yn ei roi iddyn nhw, ac roedd hi yn llawn cyffro yn ei gylch.

Diben y maes dysgu a phrofiad iechyd a lles, yn benodol o ran yr hyn sy'n bwysig, yw datblygu dealltwriaeth plant bod buddion gydol-oes i iechyd a lles corfforol; bod sut yr ydym ni'n prosesu ac yn ymateb i brofiadau yn effeithio ar ein hiechyd meddwl a'n lles emosiynol; a hefyd bod ein penderfyniadau emosiynol yn effeithio ar ansawdd ein bywydau ac ar fywydau pobl eraill; a bod sut yr ydym ni'n ymateb i ddylanwadau cymdeithasol yn llunio pwy ydym ni ac yn effeithio ar ein hiechyd a'n lles; ac, yn olaf, bod perthynas iach ag eraill yn sylfaenol i'n lles fel bodau dynol.

Y rheini yw'r datganiadau 'yr hyn sy'n bwysig' sy'n sail i'n maes dysgu a phrofiad iechyd a lles, ac maent yn cyd-fynd yn union â'r angen i bob plentyn allu dysgu yn eu cylch er mwyn sicrhau iechyd meddwl a lles da yn y ffordd yr ydych chi newydd ei disgrifio, Lynne. Mae cael cyfartaledd rhwng hyn â phynciau traddodiadol addysg yn rhoi cyfle gwirioneddol inni fynd i'r afael â rhai o'r problemau cymdeithasol y mae'r Senedd hon yn treulio llawer o amser yn siarad amdanynt, ac yn ymateb i'r hyn y mae plant a phobl ifanc yn galw amdanynt eu hunain.

4. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol: Adroddiad Blynyddol 2018-19 ar Cymraeg 2050

Eitem 4 ar yr agenda y prynhawn yma yw datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol: Adroddiad Blynyddol 2018-19 ar Cymraeg 2050. Galwaf ar Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol—Eluned Morgan.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Member
Eluned Morgan 16:07:20
Minister for International Relations and the Welsh Language

Diolch yn fawr.

Mae'n fraint i gyflwyno ein hadroddiad ar y daith i filiwn o siaradwyr. Rŷm ni wedi bod yn brysur. Fel dwi'n dweud yn y rhagymadrodd i'r adroddiad, mae'n gallu teimlo fel bod lot o amser wedi pasio ers lansio Cymraeg 2050, achos mae'r daith i filiwn o siaradwyr wirioneddol wedi dal dychymyg pobl ar draws Cymru a thu hwnt. 

Ond, cofiwch mai jest dros ddwy flynedd sydd wedi bod ers ei chyhoeddi, ac rŷm ni'n dal yn y dyddiau cynnar. Amser o osod y sylfeini yw hwn ond, er hynny, fe welwch chi fod arwyddion cadarnhaol o gynnydd ym maes y blynyddoedd cynnar, mwy o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg, a mwy yn dysgu Cymraeg fel oedolion, boed hynny drwy’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol neu drwy ffyrdd eraill.

Ond, mae newid mawr yn galw am weithredu mawr, ac mae ein gwaith ar draws amrywiaeth o feysydd yn gwneud gwahaniaeth. Beth sydd gyda ni yn yr adroddiad yma yw ciplun, neu snapshot o gyfnod mewn amser—rhwng Ebrill 2018 a Mawrth 2019. Ond, rŷm ni wedi parhau gyda’r gwaith ac wedi cyflawni lot fawr y tu hwnt i’r cyfnod dan sylw. Er enghraifft, rŷm ni wedi cyflwyno rheoliadau sy'n gosod targedau am y tro cyntaf i bob sir o ran eu cyfraniad i gynyddu addysg Gymraeg, ac fe ddaeth Rheoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (Cymru) 2019 i rym ar 1 Ionawr eleni.

Mae cynyddu nifer yr athrawon i addysgu'n plant yn rhywbeth rŷm ni'n ei gymryd o ddifri. Ym mis Tachwedd, fe wnaethon ni gynnal y cyfrifiad blynyddol cyntaf o’r gweithlu ysgolion i ddod i wybod mwy am sgiliau Cymraeg athrawon ar draws Cymru. Mae hyn yn cefnogi rhaglenni sydd eisoes ar waith, fel rhaglenni hyfforddiant ac addysg cychwynnol athrawon; cymhelliant ariannol, Iaith Athrawon Yfory; y cynllun sabothol iaith Gymraeg; gwaith gyda’r consortia rhanbarthol; a'r rhaglen e-sgol, a fydd yn cefnogi argaeledd pynciau a dewis teg.

Mae cael disgyblion i symud gyda’r Gymraeg o un cyfnod addysg i'r llall hefyd yn bwysig. Yn ogystal â hyn, rŷm ni wedi cytuno i ddyrannu £145,000 yn 2019-20 i gael mwy o ddysgwyr i wneud y Gymraeg ar lefel safon uwch ac yn y brifysgol.

O ran cynyddu defnydd, y llynedd, cafodd memorandwm cyd-ddealltwriaeth ei lofnodi rhwng Llywodraeth Cymru a Chomisiynydd y Gymraeg. Mae’r holl waith sy’n cael ei wneud gan ein partneriaid grant yn ein cymunedau yn parhau i roi cyfleoedd i bobl o bob gallu i ddefnyddio’r Gymraeg. Ac mae Llywodraeth Cymru yn datblygu strategaeth fewnol er mwyn iddi hi hefyd fod yn sefydliad dwyieithog erbyn 2050. Ac o ran seilwaith, rŷn ni i gyd yn gwybod pa mor bwysig yw gosod sylfaen dechnolegol ar gyfer unrhyw iaith, ac rŷn ni wedi bod yn cymryd camau o dan y cynllun gweithredu technoleg Cymraeg a lansiwyd ym mis Hydref 2018.

O ddarllen yr adroddiad, fe welwch chi fod y gwaith yn eang iawn, ac yn cyffwrdd â phortffolios ar draws y Llywodraeth. Gan wisgo fy het fel y Gweinidog cysylltiadau rhyngwladol, dwi o hyd yn edrych am gyfleoedd cyffrous i gydweithio rhwng y Gymraeg a’r portffolio rhyngwladol. Byddwch wedi clywed am ein gwaith i ddathlu Blwyddyn Ryngwladol Ieithoedd Brodorol UNESCO y llynedd, ac am y gynhadledd wych Gŵyl Ein Llais yn y Byd a gafodd ei chynnal fis Tachwedd yn Aberystwyth.  

Dw i am i Gymru gael ei gweld fel gwlad sy'n arwain ar gynllunio ieithyddol, gan adeiladu ar yr enw da sydd eisoes gyda ni yn rhyngwladol, a dyna ddiben sefydlu Prosiect 2050. Ac mae yna dipyn o gydweithio rhwng Cymru a gwledydd eraill sy'n hybu ieithoedd. Rŷn ni'n aelodau o rwydwaith amrywiaeth ieithyddol Ewrop, ac yn arwain grŵp ieithoedd y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig.

Drwy deithio tramor a chael gweld yr hyn rŷn ni’n ei wneud yng Nghymru drwy lygaid eraill, mae’n dod yn amlwg ein bod yn dueddol, yn gyffredinol, o feddwl mewn ffordd negyddol am yr hyn rŷn ni’n ei wneud o safbwynt y Gymraeg yma yng Nghymru. Mae yna dueddiad gan rai i sôn am 'warchod' a 'cholled' a 'thranc yn hytrach na 'dathlu', 'tyfu a 'chynllunio’ Dwi yn meddwl ei bod yn bwysig ein bod ni'n edrych i fyny ac yn codi'n golygon.

Beth dwi'n gweld, o siarad ag eraill, yw bod Cymru a'r Gymraeg yn ysbrydoliaeth i siaradwyr ieithoedd eraill, a'u bod nhw yn parhau i ddysgu am ein cynlluniau ni ar gyfer caffael yr iaith a hybu ei defnydd. Wrth gwrs, mae gyda ni hefyd wersi i'w dysgu gan Iwerddon a’r Alban a Gwlad y Basg wrth i ni gnoi cil ar sut rŷn ni am gyfleu ein hunain i'n cyd-Gymry ac i'r byd.

Gall stori'r Gymraeg mor hawdd fod yn un o hwyl, positifrwydd, undod a chefnogaeth lle rŷn ni’n gweithio gyda'n gilydd i gyrraedd miliwn o siaradwyr. Edrychwch ar y ffordd y mae aelodau o dîm merched y gymdeithas bêl-droed yn dysgu Cymraeg gyda'i gilydd ac yn rhannu eu taith nhw ar y cyfryngau cymdeithasol. A dwi'n edrych ymlaen at weld y Gymraeg yn flaenllaw eto yn yr Ewros yr haf nesaf, fel oedd hi yn 2016.

Does dim amheuaeth bod yna fwy allwn ni ei wneud i greu amodau ffafriol er mwyn annog pobl i ddefnyddio’r Gymraeg. Gwnaeth ymchwil rai blynyddoedd yn ôl awgrymu bod rhai pobl oedd yn dweud eu bod yn ddi-hyder yn eu Cymraeg yn ofni cael eu beirniadu—er nad oeddent efallai wedi cael y profiad hynny eu hunain. Felly mae yna rywbeth yn eu dal nhw nôl, ac mae hynny'n fy siomi i. Mae’r Gymraeg yn iaith i bawb yng Nghymru ac mae'n rhaid i ni edych arnom ni’n hunain weithiau, a gwneud pob ymdrech i dorri lawr unrhyw rwystr sy'n atal pobl rhag cyfranogi. Mae angen troi y 'nhw' yn 'ni'. 

Rŷn ni'n datblygu'n dealltwriaeth o ymddygiad ieithyddol pobl, o'r math o negeseuon sy’n cymell pobl ac yn hwyluso defnyddio’r Gymraeg—yn gymdeithasol, yn y teulu, yn y gymuned ysgol neu yn y gweithle. Bydd cyrraedd miliwn o siaradwyr yn golygu creu siaradwyr newydd. Ac mae gyda ni drac record da yng Nghymru o groesawu pobl i'r Gymraeg. Mae ein canolfannau trochi hwyrddyfodiaid i addysg Gymraeg wedi torri tir newydd ac yn drysor cenedlaethol. Ac os awn ni yn ôl i'r tro diwethaf i ni gael tua miliwn o siaradwyr, ddechrau’r ugeinfed ganrif, chwaraeodd ein cymunedau ni rôl bwysig yn cymhathu pobl a symudodd i Gymru. Daeth nifer ohonyn nhw i fod yn gefnogwyr brwd i’r iaith. Ac mae hon yn neges bwysig i ni ei chofio wrth inni feddwl am sut rŷn ni’n trin a thrafod y Gymraeg. 

Dwi am roi Cymru a’r Gymraeg ar y map fel gwlad ac iaith fodern, groesawgar a hyfyw. Gall ein dwyieithrwydd fod yn fantais wirioneddol yn economaidd. Mae gennym ni weithlu dwyieithog, diwylliant unigryw a stori i'w hadrodd. Dyma pam dwi’n cyflwyno’r adroddiad blynyddol hwn i chi, ac yn ymfalchïo yn yr hyn rŷn ni wedi'i gyflawni. A dwi jest eisiau talu teyrnged hefyd i'r Gweinidog a oedd yna o fy mlaen ac a oedd yn rhannol gyfrifol am y cyfnod yma. Nid jest am y cyfnod adrodd yma rŷn ni'n edrych, ond ers hynny, gyda’n cynlluniau ni ar gyfer y dyfodol hefyd. Mae pobl ifanc—a phob un ohonom ni, mewn gwirionedd—yn uniaethu gyda llwyddiant, gyda gobaith am ddyfodol llewyrchus, a rhaid inni ddangos iddyn nhw fod y Gymraeg yn un o'r storïau llwyddiannus hynny.

16:15

Gan fod y nod o 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg yn cael ei gefnogi gan bawb, neu bron pawb, anyway, rwy'n fwy na bodlon i gydnabod y gwaith sy'n cael ei wneud gan y Llywodraeth rydych chi wedi sôn amdano yn y datganiad heddiw. Hoffwn ddweud rôn i'n arbennig o falch o weld y geiriau yn yr adroddiad ei hun ynglŷn â Chymraeg y tu hwnt i'n ffiniau hefyd. Dwi ddim yn gwybod os oes gyda chi ddigon o amser i siarad tipyn bach mwy am hynny, a hefyd TAN 20, achos dwi ddim yn siŵr os yw'r awdurdodau cynllunio i gyd yn agored i'r syniad o weld hyn fel cyfle i'r iaith, yn arbennig o safbwynt addysg, yn lle rhywbeth negatif. Fel pob strategaeth, wrth gwrs, mae angen moron a ffyn, ond mae'n anodd iawn—wel, dyw hi ddim yn bosibl yn fy marn i—i orfodi pobl yn gyffredinol i dderbyn cymorth neu i ddefnyddio'r Gymraeg yn eu bywydau dyddiol. Hoffwn i wybod tipyn bach mwy am y moron rŷch chi'n ei ystyried cyn yr adroddiad nesaf.

Rwy'n croesawu'r gwaith ym maes addysg y blynyddoedd cynnar, yn arbennig drwy'r prentisiaethau. Allaf i ofyn pa mor galed yw hi i ffeindio cyflogwyr sy'n gallu cynnig prentisiaethau drwy'r Gymraeg mewn meysydd eraill, ac yn benodol yn y sector preifat? Rwy'n meddwl am letygarwch a manwerthu yn benodol—swyddi sy'n wynebu'r cyhoedd ac sy'n rhan amlwg o bresenoldeb y Gymraeg ar ein strydoedd ac yn ein bywydau dyddiol. Dwi ddim yn credu taw safonau yw'r ymateb i'r her hon, ond mae'n werth ystyried pa fath o foronen fyddai'n addas.

Efallai y gallaf i ofyn hefyd am yr elfennau Cymraeg mewn prentisiaethau neu gyrsiau coleg neu'r ysgol drwy gyfrwng Saesneg, achos dwi'n gwybod bod rhai elfennau Cymraeg ar rai cyrsiau, ond dwi ddim yn gwybod lot amdanyn nhw. A beth yw'r safon? Ydyn nhw'n gadarn, fel rhan o'r cyrsiau yna?

Ynglŷn â nifer yr athrawon, er gwaethaf y camau roeddech chi'n sôn amdanynt, mae'n glir ei bod yn dal yn broblem perswadio pobl ifanc i chwilio am hyfforddiant, nid dim ond yn y Gymraeg, ond i ddysgu Cymraeg fel pwnc. Pam ydych chi'n credu bod hyn yn parhau? Beth ydych chi wedi bod yn ei drafod gyda Chyngor y Gweithlu Addysg a Cymwysterau Cymru am sut mae dysgu Cymraeg yn mynd i edrych ar gyfer y sector uwchradd yn arbennig, gyda chwricwlwm newydd ar y gorwel, achos mae'r newidiadau yna'n mynd i fod yn bwysig iawn? Hoffwn wybod hefyd sut y mae hyn yn mynd i gael ei ddarparu i bobl ifanc sy'n cael eu haddysgu tu allan i'r ysgol—EOTAS—a sut gallan nhw gysylltu â beth sydd ar gael ar gyfer cynyddu'r defnydd o'r Gymraeg.

O safbwynt Cymraeg yn y gweithle, rydw i wedi codi hyn o'r blaen. Rydych wedi ymateb gyda rhai manylion am y llinell gymorth, er enghraifft, ac unigolion sy'n gweithio gyda chwmnïau mawr a bychain, ac, wrth gwrs, drwy Gymraeg i oedolion lle mae'r prif ffocws ar y sector cyhoeddus. Rwy'n deall pam—mae safonau yn esgus i wneud hyn, wrth gwrs—ond a ydych chi eto mewn sefyllfa i rannu rhai o ganlyniadau ansoddol y rhaglenni hyn, nid dim ond nifer y bobl sy'n cael eu cydio ganddynt, ond faint o bobl sydd wedi gweld eu Cymraeg yn gwella neu sy'n defnyddio'r iaith yn fwy hyderus neu yn fwy aml, er enghraifft?

Rwy'n cytuno 100 y cant, mae'n rhaid i mi ddweud, Weinidog, am y pwyntiau am bobl sydd ddim yn hyderus yn eu hiaith Gymraeg. Mae'n fater personol iawn, ein dewis cyfathrebu, ac rydych chi fel Gweinidog—. Mae'n signal da iawn i ddod oddi wrthych chi, rwy'n credu, i ddweud does yna ddim angen i bawb fod yn berffaith yn eu Cymraeg ond, wrth gwrs, dwi ddim yn dadlau dros drio tanseilio cynnydd mewn safon ac ansawdd. Ond os ydym ni'n ystyried bod yna ganran enfawr o ddysgwyr ffurfiol, neu sy'n dod o gefndiroedd Cymraeg ond sydd ddim yn siarad Cymraeg yn aml, dydyn ni ddim yn gallu fforddio eu colli nhw fel craidd y strategaeth yma. Hoffwn i glywed dipyn bach mwy oddi wrthych chi ar hynny.

Jest yn olaf, rwy'n croesawu targedau yn y cynlluniau addysg nawr; rwy'n falch o weld y rhain. Beth fyddech chi'n wneud pe bai cynghorau'n methu gyda'r targedau newydd? Beth mae'n mynd i gymryd i chi ailystyried fod angen deddfwriaeth newydd? A oes yna ryw siawns i ni gael deddfwriaeth i'n helpu ni pe bai'r cynghorau yn methu'r targedau, er enghraifft? Mae mwy i ddeddfwriaeth na hynny, rwy'n gwybod. Diolch yn fawr

16:20

Diolch yn fawr; roedd lot o gwestiynau fanna. 

Yn gyntaf i gyd, a gaf i ddweud pa mor galonogol yw hi ein bod ni'n gweithredu nawr yn drawsbleidiol tuag at y targed yma o 1 miliwn o siaradwyr? Dwi yn meddwl bod hynny yn rhoi neges glir tu fewn i Gymru a thu hwnt, ac mae hon yn neges rŷm ni'n ceisio ei dangos i Ogledd Iwerddon, er enghraifft, i ddangos bod yna daith a siwrnai rydych chi'n gallu mynd arni fel gwlad gyda phwnc efallai a oedd yn sensitif, ond yn rhywbeth nawr sydd wedi dod yn rhywbeth sydd wedi cael ei dderbyn gan gymdeithas yn gyffredinol.

Dwi yn meddwl bod yna gyfle i ni sôn am y Gymraeg tu hwnt i'n ffiniau a dwi'n eithaf bodlon siarad mwy am hynny rhywbryd, ond jest i roi syniad i chi: yn ddiweddar, fues i yn UNESCO yn siarad â nhw ynglŷn â sut y gallant efallai ein defnyddio ni fel model o beth rŷm ni'n gallu ei wneud, beth rydym ni wedi ei wneud, ac yn arbennig mewn meysydd fel technoleg. Roedd lot o ddiddordeb gyda nhw i glywed mwy am hynny.

Rydym ni wedi cael ymateb, dwi'n meddwl, cadarnhaol o ran y WESPs ac wedi bod yn cydweithredu yn agos iawn gyda chynghorau lleol. Dwi'n meddwl beth sy'n bwysig yw ein bod ni'n dod â chynghorau lleol a'u poblogaeth nhw ar y siwrnai gyda ni. Mae hwn yn rhywbeth lle mae'n anodd iawn ceisio 'force-o' rhywun i gymryd y Gymraeg fel pwnc ac i gymryd hi fel ffordd maen nhw eisiau Cymraeg llawn amser yn eu hysgolion nhw. Felly, mae'n rhaid i ni ddarbwyllo pobl. Rydym ni wedi gwneud hynny, dwi'n meddwl, ond mae'r WESPs ac mae'r ffaith bod gennym ni 10 mlynedd nawr i gynllunio yn help aruthrol, dwi'n meddwl. Felly, dwi'n cytuno mai darbwyllo pobl, nid gorfodi, yw'r ffordd orau i symud hyn ymlaen.

Mae yna lot o bethau y gallem eu gwneud o ran defnydd iaith. Mae yna, yn sicr, ffyrdd gwahanol o ddefnyddio'r moron. Un enghraifft o hyn oedd yr enghraifft gyda'r arian cyfalaf ddefnyddiom ni i geisio annog rhai o'r awdurdodau i fynd ymhellach gyda'u cynlluniau nhw. Felly, roedd £30 miliwn ychwanegol wedi cael ei roi yn uniongyrchol i'r llywodraethau lleol hynny oedd yn fodlon agor ysgolion Cymraeg newydd. Felly, mae yna foronen mewn lle.

O ran y prentisiaethau, eisoes mae tua 12 y cant o'r prentisiaethau a'r bobl sydd yn gwneud gwaith yn ein cymunedau ni ac yn ein colegau ni—mae tua 12 y cant o'r rheini'n cynnwys elfen o'r Gymraeg. Ac mae'n wir i ddweud bod cael prentisiaethau ym meysydd gofal a gofal plant, er enghraifft, lot yn haws nag, efallai, yn y sector breifat. Dwi yn meddwl bod yna fwy o waith i'w wneud yn rhai o'r ardaloedd yna roeddech chi'n sôn amdanynt—lletygarwch a manwerthu—ond dyna pam beth rŷn ni'n trio gwneud yw codi ymwybyddiaeth pobl am ddefnydd o'r iaith drwy gynlluniau fel Cymraeg Gwaith: sicrhau bod pobl yn gweld mantais o ddefnyddio'r Gymraeg ac efallai wedyn cymryd rhywun sydd eisiau gwneud prentisiaeth ymlaen fel rhan o'u datblygiad nhw.

O ran dysgu Cymraeg fel pwnc, wel, mae hwn yn rhywbeth rŷn ni'n ceisio annog pobl i wneud fel lefel A. Dŷch chi wedi gweld ein bod ni wedi rhoi £150,000 yn ychwanegol i geisio annog pobl yn y maes yma i fynd o wneud TGAU i wneud lefel A ac hefyd ymlaen i'r brifysgol. Mae Saesneg hefyd yn cael trafferth. Mae pobl yn cael trafferth i wneud Saesneg hefyd. Felly, nid mater yn unig i'r Gymraeg yw hi.

O ran defnydd y Gymraeg, rŷn ni wedi bod yn rhoi pwysau ar bobl fel y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i sicrhau eu bod nhw'n gwneud, efallai, mwy yn y maes cymdeithasol ac ati, ac mae pethau fel Dydd Miwsig Cymru gyda ni'n dod i fyny cyn bo hir, ac mae hwnna'n gyfle i bobl i sicrhau bod yna gyfle i gymdeithasu drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae yna waith i'w wneud ar drosglwyddo iaith ac mae yna gynllun gyda ni rŷn ni'n ei baratoi ar hyn o bryd, a bydd hwnna'n dod allan cyn bo hir. Ond rŷn ni'n ymwybodol bod yn rhaid i ni weld beth yw'r pethau yna sy'n cael pobl i ddefnyddio'r iaith—i switsio o ddefnyddio'r Saesneg i'r Gymraeg yn y meysydd cymdeithasol.

O ran safon y Gymraeg, dwi yn meddwl ei fod e'n really bwysig ein bod ni'n codi hyder pobl sy'n gwneud ymgais i siarad Cymraeg. Mae'n bwysig bod ni ddim yn beirniadu ac mae'n bwysig ein bod ni'n trio ymdawelu'r plismyn iaith. Felly, dwi yn gobeithio bod y neges yna wedi mynd mas yn glir. Wrth gwrs bod yn rhaid i ni gael safonau hefyd, ond mae'n rhaid i ni gael y balans yna'n iawn.

16:25

Diolch yn fawr am y datganiad. Drwy hyn i gyd, un cwestiwn penodol sydd yn codi yn fy meddwl i, a hynny ydy cwestiwn ynglŷn ag arian: sut ydych chi'n gallu cysoni cyllideb y Llywodraeth bresennol ar gyfer y Gymraeg ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf efo'r uchelgais yn y strategaeth 2050? Er mae yna groes-ddweud wedi bod gan wahanol Weinidogion, yn ôl beth rydym ni'n ddeall, fe fydd y Llywodraeth hon yn gwario llai ar yr iaith Gymraeg yn 2020-21 nag y mae'n gwneud yn y flwyddyn ariannol bresennol. Rydw i yn deall bod fy nghydweithiwr Llyr Gruffydd, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, wedi ysgrifennu atoch chi yn gofyn am eglurder am hyn ond does yna ddim ateb wedi dod. Ein dealltwriaeth ni, felly, ydy bod y setliad ar gyfer cyllideb y Gymraeg yn un fflat, yn llai na chwyddiant, ac yn llai na'r cynnydd cyfartalog yn y gyllideb yn gyffredinol.

Mae'r diffyg ariannu yma'n dechrau amlygu ei hun yn barod, ac rydw i am sôn am ddwy enghraifft sydd wedi dod i'm sylw i'r prynhawn yma. Yn gyntaf, mi fydd yna doriadau i'r gyllideb Cymraeg i oedolion. Yn ôl gwybodaeth rydw i wedi'i chael yn lleol, rydw i'n deall y bydd y Ganolfan Dysgu Cymraeg i Oedolion ym Mangor yn colli hyd at £100,000 y flwyddyn nesaf. Llai o bres i Gymraeg i oedolion; llai, felly, o gyfleon i oedolion ddysgu Cymraeg. Rŵan, sut yn y byd mae cysoni hynny efo strategaeth 'Cymraeg 2050'? Onid ydy cynyddu'r nifer o oedolion sy'n dysgu Cymraeg yn greiddiol i lwyddiant y nod o greu 1 miliwn o siaradwyr? 

Ac yn ail, hoffwn i gymryd y cyfle i'ch holi chi heddiw am gyllideb yr Eisteddfod Genedlaethol. Yn ôl beth roeddwn i'n ei ddeall, roedd bwriad i glustnodi arian ar gyfer Eisteddfod Ceredigion ac Eisteddfod Llŷn er mwyn i'r trefnwyr allu cynnig gostyngiad ar docynnau mynediad—syniad gwych—ac mi gofiwch chi gyd fod hyn wedi digwydd yn llwyddiannus yn Eisteddfod Caerdydd, eisteddfod lle doedd dim rhaid talu dim byd o gwbl, eisteddfod ddi-ffin. Ac yn Eisteddfod Llanrwst, hefyd—dwi'n credu ar y dydd Sul roeddech chi'n cael mynd i mewn am ddim. A dwi'n meddwl mai'r bwriad gwreiddiol oedd galluogi Eisteddfod Ceredigion ac Eisteddfod Llŷn i roi trefniadau ar waith er mwyn gallu gostwng pris tocynnau er mwyn estyn allan, denu eisteddfodwyr newydd, codi hyder yn yr iaith Gymraeg, fel rydyn ni wedi bod yn ei drafod yn fan hyn. Felly, a wnewch chi gadarnhau nad dyna ydy'r bwriad bellach, a bod y gyllideb oedd wedi'i chynllunio yn wreiddiol ar gyfer yr Eisteddfod hefyd yn destun toriadau? A sut mae cysoni'r tro pedol yma eto efo'ch awydd chi i weld mwy o bobl yn defnyddio'r Gymraeg ac i wneud y Gymraeg yn fwy hygyrch i fwy o bobl? Sut mae o'n cyd-fynd â strategaeth 2050 a'r weledigaeth 1 miliwn o siaradwyr?

Ac, yn olaf, hoffwn i wybod ydy'r arbedion yn y ddau faes yma dwi wedi sôn amdanyn nhw y prynhawn yma—ac efallai bod yna arbedion yn digwydd mewn meysydd eraill yn ymwneud â'r Gymraeg hefyd—ydy'r arbedion yma ar gyfer blaenoriaethau eraill, a beth ydy'r blaenoriaethau eraill rydych chi'n eu hystyried, ac a ydy'r blaenoriaethau eraill yma o fewn portffolio'r Gymraeg, ynteu a ydyn nhw'n flaenoriaethau sydd yn ymwneud â'ch gwaith chi mewn rhannau eraill o'r portffolio—er enghraifft, ar gyfer y strategaeth ryngwladol? Mae eisiau eglurder ar hyn i gyd, os gwelwch yn dda. 

Dau gwestiwn bach cyflym i gloi: mae yna £14 miliwn yn ychwanegol yn 2020-1 i golegau addysg bellach. Faint o'r gyllideb ychwanegol fydd yn mynd i addysg cyfrwng Cymraeg? Ac wedyn, o ganlyniad i arian ychwanegol i addysg uwch a phrentisiaethau cyffredinol y flwyddyn nesaf, faint o arian ychwanegol fydd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol er mwyn ehangu addysg a phrentisiaethau cyfrwng Cymraeg? Cwestiynau byddai'n braf iawn cael eglurder pellach yn eu cylch nhw y prynhawn yma.

Diwedd y gân yw'r geiniog—efo'r gyllideb ar gyfer y Gymraeg yn crebachu, sut ydyn ni i fod i gredu bod eich Llywodraeth chi wirioneddol o ddifri ynglŷn â chreu 1 miliwn o siaradwyr, a sut fedrwn ni fod yn wirioneddol yn rhoi sylw teg i'r adroddiad ar y strategaeth 2050, pan ydyn ni'n gwybod bod ymdrechion yn digwydd i danseilio cyllideb y Gymraeg?

16:30

Wel, gaf i ddechrau trwy ei wneud yn glir: does dim toriad wedi bod yng nghyllideb y Gymraeg? Fe fydd yna ddim toriad yng nghyllideb y Gymraeg. Dwi ddim yn siŵr faint o weithiau gallaf i ddweud hynny. Mwy na hynny, mae £6.5 miliwn y cytunodd Plaid Cymru arno yn y gyllideb ddiwethaf—rŷn ni wedi cadw'r arian yna, felly mae'r arian yna wedi mynd tuag at y gyllideb. Yn ogystal â hynny, dwi yn meddwl ei bod hi'n bwysig bod pobl yn cydnabod mai jest rhan o'r gyllideb ar gyfer y Gymraeg yw'r gyllideb dwi'n edrych ar ei hôl hi—mae yna gyllidebau ar draws y Llywodraeth sydd yn cyffwrdd â'r Gymraeg. Os ydych chi jest yn meddwl am y ffaith y llynedd inni wario £30 miliwn ar gyfalaf ar gyfer adeiladu ysgolion Cymraeg, £15 miliwn ar gyfer adeiladu llefydd lle oedd plant ifanc yn gallu dysgu'r Gymraeg, roedd arian—miliynau ychwanegol—wedi mynd i Langrannog a Glan-llyn—does neb byth yn sôn am yr arian ychwanegol yna sydd wedi mynd mewn i'r Gymraeg. Felly, dwi yn meddwl bod hynny'n bwysig.

Roeddwn i eisiau edrych ar Gymraeg i oedolion yn fanwl—maen nhw'n cael £13 miliwn ac maen nhw'n dysgu tua 12,000 o bobl. Dwi jest eisiau cael golwg ar hynny, ac mae'n cymryd eithaf lot o arian y gyllideb; dwi eisiau sicrhau eu bod nhw'n gwario'r arian yna yn gywir—dwi'n siŵr y byddech chi eisiau imi wneud hynny. Ac mae'n werth, efallai, jest edrych ar y ffaith nad dim ond nhw sy’n darparu ar gyfer dysgu oedolion yng Nghymru. Mae Say Something in Welsh yn dweud eu bod nhw'n dysgu 50,000 o bobl. Mae Duolingo yn dweud bod miliwn o bobl gyda nhw ar eu llyfrau nhw, a dŷn nhw ddim yn cael ceiniog o'r Llywodraeth. Felly, dwi yn meddwl ei fod e'n bwysig ein bod ni yn gweld hyn yn ei gyfanrwydd. Ond, wrth gwrs, mae'r gwaith mae Cymraeg i oedolion a'r gwaith maen nhw yn ei wneud yn y ganolfan yn eithriadol o bwysig.

Ond dwi ddim wedi gwneud unrhyw benderfyniad eto ynglŷn â beth rŷn ni'n mynd i wneud am hynny, achos dwi eisiau cael edrych yn fanwl ar beth rŷn ni'n gallu ei wneud i sicrhau bod hwnna'n cyd-fynd â'n blaenoriaethau ni ar gyfer Cymraeg 2050. Ond gallaf i fod yn hollol siŵr a sicr gyda chi na fydd dim arian yn mynd o'r portffolio. Os bydd arian yn mynd o hynny o gwbl, mi fydd e'n mynd at rywle arall yn y portffolio Cymraeg.

Does dim tro pedol wedi cael ei wneud ar yr Eisteddfod. Mae'r sefyllfa yr un peth ag yr oedd hi yn y gorffennol, felly dwi ddim yn gwybod o ble mae hwnna wedi dod.

O ran y coleg Cymraeg, mae prentisiaethau, fel roeddwn i'n ei ddweud—mae tua 12 y cant o bobl yn gwneud rhywfaint o'u gwaith nhw o ran prentisiaethau trwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae'n bwysig ein bod ni'n cynyddu'r posibilrwydd i bobl wneud mwy o'u cwrs nhw trwy gyfrwng y Gymraeg yn y dyfodol.

16:35

Gweinidog, rwy'n credu, i ddweud yr hyn sy'n amlwg, mewn gwirionedd, mae heriau penodol mewn gwahanol rannau o Gymru o ran hyrwyddo a chynyddu'r defnydd o'r Gymraeg. Yng Nghasnewydd, roedd ffwlbri hanesyddol, am gyfnod hir, o ran nad oedd Sir Fynwy yn rhan o Gymru na Lloegr, ond ei bod mewn rhyw sefyllfa amwys ryfedd. Diolch byth, daeth tro ar fyd ers y dyddiau hynny, a chredaf fod ymdeimlad llawer cryfach o hunaniaeth Gymreig yng Nghasnewydd nawr. Ac, yn wir, mae llawer o bobl yn gresynu'n fawr at yr hyn y gwelant fel y cyfleoedd y dylent fod wedi'u cael ond na chawsant i ddysgu a defnyddio'r Gymraeg. Yn ffodus i bobl iau erbyn hyn, mae pethau gymaint gwell drwy dwf addysg Gymraeg. Ac mae agweddau cadarnhaol eraill hefyd, hyd yn oed pethau eithaf sylfaenol, syml fel arwyddion dwyieithog, cyhoeddiadau dwyieithog, ac, yn wir, mae rhai grwpiau oedolion bellach yn cyfarfod mewn caffis a mannau eraill lle yr ydych yn clywed Cymraeg yn cael ei siarad yn y gymuned. Ond mae'n dal yn weddol gyfyngedig, rwy'n credu, mae'n deg dweud.

Felly, byddai gennyf ddiddordeb clywed sut y gallai Llywodraeth Cymru barhau â'r cynnydd hwnnw, gan gryfhau ymhellach yr iaith nid yn unig yng Nghasnewydd ond mewn ardaloedd tebyg ledled Cymru. Fel y dywedais, maent yn amlwg yn cyflwyno heriau penodol, o ystyried natur leiafrifol yr iaith. Byddai'n wych clywed Cymraeg yn cael ei siarad yn fwy cyffredin, yn fwy aml yn y gymuned yng Nghasnewydd, ac rwy'n credu bod y grwpiau oedolion cyfyngedig hynny'n dangos ei bod hi'n debygol bod angen mwy o gefnogaeth i hyrwyddo defnydd cymdeithasol o'r iaith. Nid yw llawer o'r bobl ifanc hynny sy'n gadael addysg cyfrwng Cymraeg yn defnyddio'r iaith yn y strydoedd, yn y gymuned yng Nghasnewydd, a byddai gennyf ddiddordeb yn eich syniadau o ran sut y gellid datblygu, hybu a chryfhau'r defnydd cymunedol hwnnw.

Diolch yn fawr. Dwi yn meddwl bod—. Dwi'n mynd i siarad yn Gymraeg, John, achos dwi'n ymwybodol bod dy Gymraeg di yn arbennig o dda—dwi'n siŵr bod dim eisiau hynny arnoch chi, ond cawn ni weld—jest i ddweud fy mod i'n hapus iawn gyda faint o frwdfrydedd sydd yn codi nawr yn ardal Casnewydd a thu hwnt o ran y Gymraeg, ac mae'n dda i weld nawr y bydd ysgol newydd yn dod i'r ardal. Mae'r ysgolion sydd yna'n llawn dop yn barod, felly mae yna gyfleoedd i bobl sicrhau bod yna ddigon o bobl yn siarad. A'r pwynt nesaf, wedyn, yw sicrhau eu bod nhw yn ei siarad tu fas i'r ysgol, a dyna ble mae'r—. Mae yna ddwy nod gyda ni: un yw cynyddu'r nifer sy'n gallu, ond yr ail yw bod pobl actually yn defnyddio'r Gymraeg, ac mae'n rhaid inni ddyblu faint sy'n defnyddio'r Gymraeg. Mae'n rhaid inni sicrhau bod yna gyfleoedd cymdeithasol. Dyna pam rŷn ni'n gwneud pethau fel Dydd Miwsig Cymru. Dwi'n siŵr bod yna bethau sy'n digwydd ar Ddydd Miwsig Cymru yn ardal Casnewydd, a byddai'n grêt pe gallech chi roi gwybod i bobl am y cyfleoedd hynny.

Mae yna gyfleoedd hefyd i ddysgwyr ddod at ei gilydd drwy bethau fel Siarad, sy'n brosiect ychwanegol rŷn ni wedi'i ddechrau gyda'r ganolfan Gymraeg. Felly, dwi yn meddwl bod yn rhaid inni edrych ar beth yw'r cyfleoedd yma i ddefnyddio'r Gymraeg unwaith rŷn ni wedi dysgu pobl, ac yn arbennig efallai yr oedolion, pan fyddant yn gallu ei defnyddio, fel nad yw'n iaith artiffisial, fel mae rhai pobl wedi ei gweld.

Un o'r pethau sy'n bwysig i fi yw inni ailgodi'r ymwybyddiaeth yn yr ardal honno. Cwpl o wythnosau yn ôl, es i am dro i ardal Llanthony, sydd jest ar y ffin â Lloegr. Mae gymaint o arwyddion Cymraeg yn yr ardal. Rŷch chi'n anghofio, ar un adeg, roedd yr holl ardal honno yn eithaf Cymreig. Mae'n rhaid inni jest ailgodi'r ymwybyddiaeth yma—mai dyma o ble mae'r bobl yna'n dod.

16:40

Gaf innau hefyd ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad, a chroesawu'r cynnwys, yn naturiol, a pharhau i longyfarch y Gweinidog ar ei huchelgais yn y maes yma, a thra ein bod ni wrthi, gydnabod hefyd waith arloesol Alun Davies pan oedd yn Weinidog—arloesol a phellgyrhaeddol yn y maes yma—i wneud yn siŵr ein bod ni'n anelu am filiwn o siaradwyr Cymraeg?

Wrth gwrs, fel rŷch chi wedi ei grybwyll eisoes, adennill y tir y byddwn ni. Pan rydym yn sôn am filiwn o siaradwyr Cymraeg, mi oedd yna, fel rŷch chi'n dweud, filiwn o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru rhyw 120 o flynyddoedd yn ôl. Hefyd, fel rŷch chi wedi ei ddweud yn y datganiad, mae'r ffaith bod yr iaith Gymraeg yn dal i fyw a bod, ac yn ffynnu, yn rhyfeddol ynddo'i hun ac yn destun dathliad, o gofio ein hanes o ormes, yn naturiol. Yn naturiol, dim ond un hanes o nifer o hanesion Cymru ydy hynna, ond mae e wedi digwydd serch hynny.

Yn wyneb y realiti bod ieithoedd lleiafrifol dros y byd i gyd yn crebachu ac yn diflannu o wyneb y tir pan mae yna iaith gref iawn ochr yn ochr efo nhw—. Ond, wrth gwrs, mae'r Gymraeg, felly, wedi llwyddo i droi'r gornel yna, ac mae hynna yn destun rhyfeddod a dathlu. Dim ond tair iaith yn unig, allan o dros 7,000 o ieithoedd sydd ar wyneb y ddaear yma, sydd wedi llwyddo i wneud hynny—i droi cornel, i stopio mynd allan a diflannu. Tair iaith yn unig sydd wedi troi'r gornel yna, i stopio diflannu, troi rownd a thyfu. Mae'r Gymraeg yn un o'r tair iaith yna.

Felly, mae yna ewyllys da tuag at yr iaith ym mhobman. Ond, wrth gwrs, yn wastadol, ewyllys da—nid da lle gellir gwell. Nawr, nid yw Cyngor Castell Nedd Port Talbot, er enghraifft, wedi agor yr un ysgol gynradd Gymraeg newydd yn ei hanes, ers sefydlu'r sir yn 1996. Mae hyn mewn sir â chymunedau sydd dal yn naturiol Gymraeg eu hiaith. Dwi'n clodfori beth mae John Griffiths newydd ei ddweud am Gasnewydd, a sefyllfaoedd tebyg, ond, wrth gwrs, mae yna ardaloedd naturiol Gymraeg eu hiaith sydd heb ysgolion cyfrwng Cymraeg, ac erioed wedi cael y cyfle i anfon eu plant—. Mae'n rhaid iddyn nhw eu hanfon nhw filltiroedd i ffwrdd. Dyna realiti Castell-nedd Port Talbot heddiw, ac mae o'n destun siom.

Mae Cyngor Dinas a Sir Abertawe newydd gau Ysgol Gynradd Gymraeg Felindre yn y Parsel Mawr—unig ardal naturiol Gymraeg Abertawe, ar lethrau'r ucheldiroedd yng ngogledd y sir. Nawr, gyda 600 o blant yr un mewn ysgolion cynradd cyfagos Cymraeg, fel Pontybrenin, a 600 arall yn Ysgol Gynradd Gymraeg Lôn Las, a thros 400 yn Nhirdeunaw, sydd ddim yn bell i ffwrdd, roedd lle i gydweithio a rhannu adnoddau, newid dalgylch hyd yn oed, yn lle jest colli'r ysgol yn gyfan gwbl fel adnodd cymunedol i gymuned Gymraeg ei hiaith. A Chomisiynydd y Gymraeg heb y grymoedd i atal gwerthu'r ysgol—gwerthu ysgol Felindre mewn ocsiwn yn Llundain mewn rhyw bythefnos. Rhyfedd o beth.

Trof at un peth arall cyn imi orffen. Mae'r gofyniad ieithyddol yn nhermau gwasgedd ar y Gymraeg, yn naturiol, wrth adeiladu ystadau o dai newydd—mae hynny'n her sylweddol a chynyddol. Dwi ddim yn mynd i olrhain yr holl hanesion, na'r holl heriau, ond a allaf i jest ofyn, pa berswâd ydych chi fel Gweinidog yn ei ddwyn ar adrannau cynllunio llywodraeth leol i gymryd o ddifri gofynion y Gymraeg a'r pwysau ar y Gymraeg, ac o leiaf deall bod angen cael gofyniad am y Gymraeg?

Ac i orffen, a fyddech chi'n cytuno—

16:45

Roeddwn i'n meddwl dy fod ti wedi gorffen, Dai, fanna. Allet ti ofyn dy gwestiwn olaf, os allet ti?

Diolch, Llywydd. Hwn yw'r cwestiwn olaf, byddwch chi'n falch clywed: fyddech chi'n cytuno, Weinidog, bod gochel a hybu ein hardaloedd naturiol Gymraeg yn annatod i lwyddiant y bwriad o gael 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050? Diolch yn fawr.  

Diolch, Dai. A gaf i ddweud ei bod hi'n bwysig tanlinellu bod iaith yn marw yn y byd bob yn ail wythnos? Felly, dwi yn gobeithio bod pobl yn gallu edrych arnom ni ac yn gallu dysgu wrthym ni. Ond dwi yn meddwl ei bod hi'n bwysig ein bod ni ddim yn sôn drwy'r amser am y tranc ac am 'Ry'n ni yma o hyd' a phethau. Mae'n rhaid i ni newid yr iaith. Rŷm ni'n dathlu, rŷm ni'n edrych i'r dyfodol. Mae'n rili bwysig ein bod ni'n gwneud yr holl bethau yma yn gadarnhaol, yn edrych i'r dyfodol, nid i'r gorffennol. Sut ydym ni'n mynd i ysbrydoli pobl i ddod at yr iaith os nad ydym ni'n siarad gyda'r math o eirfa yna?

Dwi'n siŵr y byddwch chi'n blês i glywed fy mod i'n mynd i gael sgwrs gyda chyngor Castell-nedd yfory ynglŷn â'r sefyllfa gyda'r iaith Gymraeg, ond hefyd byddaf i yn mynd i ymweld ag ysgol Bro Dur, wrth gwrs, ac mae hon yn ysgol newydd sydd wedi agor yn yr ardal. Wrth gwrs, mae yna le i drafod ymhellach, ond dwi'n meddwl, o ran Abertawe, maen nhw wedi symud yn bell yn y maes yma. Dwi'n gwybod bod Felindre wedi cau, ond dim ond 14 o ddisgyblion oedd yn yr ysgol, ac roeddwn i'n meddwl bod pobl yn deall y byddai'n gwneud mwy o synnwyr. Mae symud ysgol Tan-y-lan i sefyllfa newydd yn golygu bod 420 o lefydd newydd. Mae ysgolion newydd Tirdeunaw a Pontybrenin. Mae'r rheini i gyd yn ysgolion newydd sydd wedi agor yn Abertawe. Felly, dwi yn meddwl bod rhaid i roi clod i Abertawe am y tir maen nhw wedi symud yn y maes yma.

O ran y WESPs, mae gyda ni gynlluniau nawr ar gyfer 10 mlynedd. Mae pob cyngor wedi cael targed o ran beth ddylen nhw fod yn cyrraedd yn ystod y 10 mlynedd nesaf. Felly, mae'r cynllunio yna dros y tymor hirach nawr, gobeithio, mewn lle.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd, am dderbyn fy nghais i ofyn cwestiwn neu ddau. Dau gwestiwn ynglŷn ag addysg sydd gen i—addysg ysgolion yn gyntaf. Rydym ni'n sôn am y targed 1 miliwn o siaradwyr erbyn 2050, ac mae'n dda gweld pawb yn gweithio gyda'i gilydd tuag at y nod hwnnw. Mae pawb yn croesawu'r targed. Mi ddylem ni allu ei gyrraedd oherwydd bod rôl ysgolion mor bwysig, ac mae dwy genhedlaeth gyfan o blant ysgol yn mynd i basio trwy ein hysgolion ni rhwng rŵan a 2050.

Ydych chi fel Gweinidog yn cytuno efo fi, yn fy etholaeth i, y dylai pob un plentyn sy'n cael ei fagu yn Ynys Môn gael sicrwydd y bydd o neu hi yn gwbl rugl yn y Gymraeg erbyn gadael addysg? Pa bynnag ysgol y mae'r plentyn yna yn ei mynychu, a p'un ai yw'n mynychu ysgol ar yr ynys neu ar y tir mawr. Achos dydy hi wir ddim yn deg ar blentyn i'w rhoi nhw drwy system addysg sydd ddim yn galluogi iddyn nhw chwarae rhan yn gwbl lawn mewn cymdeithas sydd yn ddwyieithog.

A'r ail gwestiwn, ynglŷn ag addysg i oedolion—yn ategu pwynt a gafodd ei wneud gan Siân Gwenllian. Mae yna 405, fel dwi'n deall, o ddysgwyr a ddysgwragedd yn Ynys Môn ar hyn o bryd yn derbyn addysg Gymraeg i oedolion gan y ganolfan dysgu Cymraeg yn y gogledd orllewin ym Mhrifysgol Bangor. Maen nhw'n bryderus am yr awgrym y gallech chi fod yn ystyried torri, o bosib, £0.5 miliwn oddi ar gyllideb y ganolfan Cymraeg i oedolion yn genedlaethol.

Mae'n hollol iawn, fel rydych chi'n dweud, eich bod chi'n edrych ar sut mae'r arian yn cael ei wario, a sicrhau ei fod o'n cael ei wario yn synhwyrol. Ond mi fyddai torri ryw £0.5 miliwn, os mai dyna ydych chi'n dal yn ystyried, yn golygu, mae'n siŵr, £80,000 oddi ar gyllideb y ganolfan yn y gogledd orllewin, yn cyfateb, mae'n siŵr, i ddwy swydd. A does yna ddim amheuaeth y byddai hynny'n cael effaith uniongyrchol ar gapasiti i ddysgu'r bobl hynny ar draws y gogledd orllewin, a'r rhai dwi'n poeni fwyaf amdanyn nhw—os gwnewch chi faddau i mi—y rhai yn Ynys Môn.

Mewn ardal fel Ynys Môn, lle mae yna lawer o fewnfudo gan bobl sy'n dod i fyw ar yr ynys am resymau cwbl, cwbl ddealladwy, mae'n hanfodol fod cyfleon yn cael eu cynnig ar eu cyfer nhw i ddysgu Cymraeg, i ddeall pwysigrwydd yr iaith mewn cymdeithas ddwyieithog, a bod y capasiti yna wedyn er mwyn rhoi y cyfleon dysgu iddyn nhw. Felly, pa bryd fyddwch chi'n dod i'ch penderfyniad er mwyn, gobeithio, gallu rhoi sicrwydd i'r ganolfan ynglŷn â'r ffordd ymlaen?

16:50

Diolch. O ran addysg, dwi'n meddwl beth sy'n bwysig yw ein bod ni'n trio dwyn perswâd ar rieni i anfon eu plant nhw i ysgolion Cymraeg lle bo hynny'n bosibl. Felly, dyna pam dwi'n meddwl beth sy'n bwysig yw ein bod ni'n dechrau ar y dechrau gydag ysgolion meithrin. Dyna pam bod y £1 miliwn ychwanegol yna a aeth i mewn i agor mwy o ysgolion meithrin mor bwysig.

Wrth gwrs, mae targed gyda sir Fôn, mae targed gyda Gwynedd, o ran ble y dylen nhw fod yn cyrraedd o ran gweld ehangu yn nifer y bobl sy'n siarad Cymraeg yn eu hardaloedd nhw. Felly, mae'n rhaid i hyn, dwi'n meddwl, fod yn rhywbeth rŷn ni'n ei drafod gyda nhw, yn hytrach na rhywbeth rŷn ni'n gofyn iddyn nhw ei wneud heb ein bod ni'n cael y drafodaeth yna. Dyna pam mae'r broses yna'n mynd yn ei blaen ar hyn o bryd. Mae'r drafodaeth yna ar ble y dylai'r WESPs fod yn y tymor hir. Mae 10 mlynedd gyda ni nawr i sicrhau ein bod ni yn y lle iawn. Mae'r cynllunio 10 mlynedd yna, mae'r trafodaethau yna yn mynd yn eu blaen ar hyn o bryd.

O ran y sefyllfa gyda Cymraeg i oedolion, dwi yn meddwl bod lot o arian yn mynd mewn i hyn. Dwi eisiau sicrhau ei fod e'n cael ei wario'n iawn. Dwi hefyd eisiau sicrhau bod yna gyfle i ddysgwyr ddefnyddio'r Gymraeg unwaith eu bod nhw wedi gorffen eu cyrsiau nhw. Felly, os rhywbeth, beth dwi eisiau gwneud yw edrych a ydyn ni gyda'r balans yn y lle cywir i sicrhau bod yna gyfleoedd y tu fas, unwaith maen nhw wedi gorffen dysgu, i sicrhau eu bod nhw yn cael cyfle i'w defnyddio. Dwi heb wneud penderfyniad. Mi fyddaf i'n gwneud penderfyniad yn ystod y mis nesaf, fel eu bod nhw yn cael y sicrwydd yna.

5. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip: Diwrnod Cofio'r Holocost

Felly, rŷn ni'n cyrraedd yr eitem nesaf, sef y datganiad gan y Dirprwy Weinidog ar Ddiwrnod Cofio'r Holocost. Rwy'n galw ar y Dirprwy Weinidog i wneud ei datganiad—Jane Hutt.

Diolch, Llywydd. Ddoe oedd Diwrnod Cofio'r Holocost 2020, a oedd eleni yn nodi saith deg pump o flynyddoedd ers rhyddhau carcharorion Auschwitz-Birkenau.

Mae'r Holocost yn dal o fewn cof rhai sy'n fyw ac rydym yn parhau'n hynod ddiolchgar i'r goroeswyr sy'n teithio o amgylch y DU yn rhannu eu profiadau personol o'r cyfnod tywyll hwn o hanes. Ddoe, siaradodd y goroeswr Dr Martin Stern MBE yn nigwyddiad Diwrnod Cofio'r Holocost yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd gyda'r Prif Weinidog, ac yn nigwyddiad a gynhaliwyd gan y Sefydliad Diwylliannol Mwslimaidd Cymreig neithiwr, ac roeddwn yn bresennol yno hefyd gyda'r Prif Weinidog. Roedd llawer o'r Aelodau'n bresennol yn nigwyddiad Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost yn y Senedd ar 14 Ionawr, lle adroddodd y goroeswr Mala Tribich ei hanes personol, a siaradodd Isaac Blake am brofiadau Roma a Sinti a ddioddefodd yn ystod yr Holocost.

Y thema ar gyfer Diwrnod Cofio'r Holocost 2020 yw Safwn Gyda'n Gilydd. Mae Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio'r Holocost wedi annog pobl i ystyried beth all rannu cymunedau. Fel y dywedodd yr Ymddiriedolaeth:

Nawr yn fwy nag erioed, mae angen i ni sefyll ynghyd gydag eraill yn ein cymunedau er mwyn atal ymrannu ac ymledu gelyniaeth sy'n seiliedig ar hunaniaeth yn ein cymdeithas.

Roedd yn anrhydedd i'r Prif Weinidog a minnau hefyd gymryd rhan yn nefod goleuo'r canhwyllau ar wythfed noson Hanukkah. Roeddem yn ddiolchgar i Synagog Ddiwygiedig Caerdydd am ein gwahodd i Insole Court yng Nghaerdydd i ymuno yn y dathliadau. Yn anffodus, yn ystod Gŵyl Hanukkah, cafodd graffiti gwrthsemitaidd ei baentio â chwistrell ar synagog a sawl siop yng Ngogledd Llundain. Ar ddechrau mis Ionawr, adroddwyd bod bachgen 13 oed wedi dioddef ymosodiad corfforol a chamdriniaeth gwrthsemitaidd wrth deithio ar fws yn Llundain. Mae'r digwyddiadau hyn yn y DU yn dilyn cyfres o ymosodiadau gwrthsemitaidd yn Efrog Newydd drwy gydol mis Rhagfyr.

Mae Llywodraeth Cymru yn sefyll gyda chymunedau Iddewig ac yn erbyn gwrthsemitiaeth yng Nghymru a ledled y byd. Yn dilyn yr ymosodiad erchyll ar y synagog yn Halle, yn nwyrain yr Almaen, ar 9 Hydref 2019, a arweiniodd at farwolaeth dau o bobl, ysgrifennais at rabïaid yng Nghymru i atgoffa cymunedau ein bod yn llwyr gefnogol iddynt. 

Ym mis Mai 2017, mabwysiadodd Llywodraeth Cymru ddiffiniad Cynghrair Rhyngwladol Cofio'r Holocost o wrthsemitiaeth yn llawn ac yn ddiamod. Rydym ni hefyd wedi darparu £40,500 o arian pontio'r UE i Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio'r Holocost i wneud gwaith yng Nghymru yn rhan o'r digwyddiadau coffáu eleni.

Aeth y cyllid tuag at dair elfen: prosiect fflamau coffa 75, lle roedd grwpiau cymunedol ledled y DU yn creu eu darnau eu hunain o waith celf i gofio am bawb a gollodd eu bywydau yn ystod yr Holocost. Cafodd naw o'r fflamau coffa hyn eu datblygu gan grwpiau yng Nghymru, gan gynnwys cynigion gan grŵp celf Carchar EM Caerdydd, llyfrgell ganolog Merthyr Tudful a Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam. Mae Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio'r Holocost yn bwriadu dod ag arddangosfa o bob un o'r 75 o fflamau coffa i Gaerdydd ym mis Chwefror, ond gallwch weld enghreifftiau o'r fflamau coffa yma yn y Senedd tan 29 Ionawr; gwefan Sefyll Gyda'n Gilydd sy'n dangos enw unigolyn a laddwyd yn yr Holocost ac sy'n annog defnyddwyr y wefan i rannu manylion yr unigolyn hwn ar gyfryngau cymdeithasol er mwyn helpu i godi ymwybyddiaeth o'r straeon unigol y tu ôl i'r hil-laddiad dirdynnol; ac yn olaf, cyflogi gweithiwr cymorth i annog gweithgaredd yng Nghymru ynglŷn â Diwrnod Coffáu'r Holocost 2020.

Mae'n hanfodol bod plant a phobl ifanc yn deall y rhesymau y tu ôl i'r Holocost a chanlyniadau dad-ddyneiddio rhannau o gymdeithas. Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi £119,000 i Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost i gyflwyno'r prosiect Gwersi o Auschwitz yng Nghymru. Mae'r rhaglen yn agored i fyfyrwyr 16 i 18 oed sydd mewn addysg ôl-16, ac mae'n rhoi cyfle i fyfyrwyr glywed tystiolaeth goroeswr yr Holocost a hefyd i gymryd rhan mewn ymweliad ag Auschwitz-Birkenau. Yna, daw myfyrwyr yn llysgenhadon Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost yn eu cymunedau eu hunain, a defnyddiant eu profiadau i ledaenu ymwybyddiaeth a herio hiliaeth a rhagfarn.

Yn ychwanegol at ein gwaith i fynd i'r afael â gwrthsemitiaeth a choffáu'r Holocost, rydym wedi atgyfnerthu ein rhaglenni presennol sy'n atal casineb, yn hyrwyddo cynnwys cymunedau amrywiol, ac yn gwella cefnogaeth i ddioddefwyr. Rydym ni wedi ehangu ein cefnogaeth i'r Ganolfan Genedlaethol Adrodd am Droseddau Casineb a Chymorth, y mae Cymorth i Ddioddefwyr Cymru yn ei gweithredu ar ein rhan. Mae gan y ganolfan bellach fwy o allu i godi ymwybyddiaeth o droseddau casineb, datblygu partneriaethau gyda sefydliadau cymorth cymunedol, a sicrhau y gellir cynnig cymorth i bawb sydd wedi dioddef trosedd casineb.

Yn ddiweddar, rydym ni wedi datblygu'r grant cymunedau lleiafrifol i fynd i’r afael â throseddau casineb, sy'n ariannu wyth o sefydliadau'r trydydd sector i godi ymwybyddiaeth o droseddau casineb a sut i roi gwybod amdanynt, ceisio hyrwyddo dealltwriaeth o amrywiaeth mewn cymunedau, ac arbrofi gyda dulliau arloesol o fynd i'r afael â throseddau casineb a chefnogi dioddefwyr. Bydd y prosiect Troseddau Casineb mewn Ysgolion yn darparu hyfforddiant sgiliau meddwl beirniadol i blant mewn tua 100 o ysgolion ledled Cymru, gan arfogi ein pobl ifanc â'r sgiliau i adnabod casineb a chamwybodaeth, i'w galluogi nhw i osgoi cyflawni'r cyfryw droseddau yn y dyfodol a herio ymddygiad negyddol lle mae'n digwydd.

Mae ein rhaglen cydraddoldeb a chynhwysiant yn cefnogi cymunedau lleiafrifol i sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed ac yn herio anghydraddoldebau. Mae'r gweithgaredd hwn yn cynnwys grwpiau yr effeithiwyd arnynt gan erledigaeth a hil-laddiad, fel Sipsiwn, Roma a Theithwyr, ffoaduriaid a cheiswyr lloches, a phobl lesbiaidd, hoyw, ddeurywiol a thrawsrywiol. Yn ddiweddarach eleni, byddwn yn lansio ymgyrch yn erbyn troseddau casineb i geisio atal y llif o rethreg gynhennus sy'n cael ei lledaenu. Rydym yn cynnwys rhanddeiliaid er mwyn gwneud yr ymgyrch mor effeithiol â phosib.

Yn drasig, mae achosion eraill o hil-laddiad wedi dilyn yr Holocost. Mae Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio'r Holocost yn ein hannog i gofio'r holl bobl a laddwyd mewn hil-laddiadau, fel yng Nghambodia, Rwanda, Bosnia a Darfur. Mae eleni hefyd yn bum mlynedd ar hugain ers y gyflafan yn Srebrenica, a gaiff ei choffáu ym mis Gorffennaf mewn digwyddiad yn y Senedd.

Mae'n ddyletswydd arnom i gofio'r rhai a gollodd eu bywydau yn ystod yr Holocost, ac i gofio pawb o bob cefndir a ddioddefodd: pobl Iddewig; pobl Roma; pobl anabl; pobl lesbiaidd, hoyw, ddeurywiol a thrawsrywiol, a llawer o grwpiau eraill a wynebodd erledigaeth annirnadwy yn ystod y cyfnod hwn, ac a gollodd eu bywydau yn y pen draw gan fod casineb a rhagfarn wedi dod yn dderbyniol. Drwy nodi'r dyddiau hyn o gofio, gallwn sicrhau nad aiff y troseddau erchyll hyn yn erbyn dynoliaeth byth yn angof a symudwn y byd i sefyllfa lle nad yw'n cael ei ailadrodd byth eto.

17:00

Wel, rydych chi'n gorffen, fel rydych chi newydd orffen, drwy ddweud:

Drwy nodi'r dyddiau hyn o gofio, gallwn sicrhau nad aiff y troseddau erchyll hyn yn erbyn dynoliaeth byth yn angof a symudwn y byd i sefyllfa lle nad yw'n cael ei ailadrodd byth eto.

Ac rwy'n ategu'ch teimladau'n llwyr, gant y cant yn hynny o beth. Yn anffodus, ni fydd nodi'r dyddiau cofio ar ei ben ei hun yn sicrhau hynny, a gwyddom i gyd pan fyddwn yn troi'r teledu ymlaen yn y nos ac yn gwylio'r newyddion neu'r rhaglenni dogfen, gwelwn boblogaethau yn cael eu herlid ar draws y byd oherwydd ystyrir eu bod yn wahanol i'r Llywodraeth sydd mewn grym neu'r system gred neu grefydd gryfaf yn yr ardal lle maen nhw'n byw. 

Felly, sut ydych chi'n credu y gallwn ni, mewn modd mwy grymus—ar lefel Cymru a'r DU o leiaf—arwain dealltwriaeth fyd-eang a gweithredu ar yr agenda hon sy'n mynd y tu hwnt i'r digwyddiadau cofio a choffáu tyngedfennol hynny ar ddyddiadau penodol bob blwyddyn ac a fydd, gobeithio, yn dod yn fwy diwylliannol? Mae'r rhai a fu'n byw drwy'r ail ryfel byd; y rhai a fagwyd yn ystod y blynyddoedd hynny wedi byw gyda'r atgof hwnnw, ond erbyn hyn mae gennym ni genedlaethau, fel y gwyddoch chi, sy'n gweld hyn fel hen hanes.

Ddydd Gwener diwethaf, siaradais yn nigwyddiad Diwrnod Cofio'r Holocost yn Wrecsam. Roedd yn wych gweld cynifer o bobl yno, yn enwedig pobl ifanc—pobl ifanc o'r colegau lleol a rhai o ysgolion lleol, a oedd eisiau deall, ymwneud a sicrhau na fydd y pethau erchyll hyn byth yn digwydd eto. Fel rydych chi wedi dweud, roeddem yn coffáu 75 mlynedd ers rhyddhau Auschwitz-Birkenau yn ogystal â phum mlynedd ar hugain ers yr hil-laddiad yn Bosnia. Hefyd, ym mis Ebrill, fe fydd hi'n 75 mlynedd ers rhyddhau gwersyll crynhoi Bergen-Belsen gan luoedd Prydain. Ac eleni hefyd mae hi'n ugain mlynedd ers mabwysiadu datganiad Stockholm, a sefydlodd yr hyn a adwaenir bellach fel Cynghrair Rhyngwladol Cofio'r Holocost, a phymtheg mlynedd ers mabwysiadu 27 Ionawr fel Diwrnod Rhyngwladol Cofio'r Holocost gan Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig.

Bûm i, fel chithau, yn y digwyddiad yn y Senedd bythefnos yn ôl gyda Mala Tribich ac Isaac Blake. Sut ydych chi'n teimlo neu'n ymateb i'r e-bost yr wyf wedi'i gael ac nad wyf yn amau nad yw llawer o Aelodau eraill wedi'i gael heddiw gan yr Israel Britain Alliance, sy'n nodi cynnydd sylweddol yn nifer y digwyddiadau gwrthsemitig yn y DU, a dywedant yn anffodus, nad oes unrhyw ran o'n gwlad, maen nhw'n cyfeirio at y DU wrth ddweud hynny, wedi bod yn ddiogel rhag casineb hynaf y byd?

Rydych chi'n dweud—ac rydym yn ychwanegu'r Ceidwadwyr Cymreig at hyn, a phawb yn y Siambr hon, rwy'n gwybod—rydym yn sefyll gyda chymunedau Iddewig yn erbyn gwrthsemitiaeth yng Nghymru a ledled y byd. Rydych chi'n sôn am y ffaith ei bod hi'n hanfodol bod plant a phobl ifanc yn deall y rhesymau ac fe wnaethoch chi gyfeirio at raglen a oedd yn cynnwys myfyrwyr 16 i 18 oed. Yn wir, aeth fy mhlant i Ysgol Uwchradd Castell Alun yn Sir y Fflint, a manteisiodd y rhan fwyaf ohonynt ar ymweliad ag Auschwitz-Birkenau gyda'u hysgol, ac roedd yr argraff a wnaed arnynt yn aruthrol, gan roi gwers hanfodol a fydd yn aros gyda nhw ar hyd eu hoes. Maen nhw'n digwydd bod yn un o'r ysgolion hynny sydd wedi cydnabod pa mor bwysig yw hi i roi sylw i hyn, ond mae llawer o rai eraill, efallai, nad ydynt yn rhoi'r sylw hwnnw. Sut gallwn ni sicrhau bod hyn yn ymwreiddio i'r brif ffrwd, nid yn unig yn yr ysgolion hynny sydd ar flaen y gad yn hyn o beth, ond y rhai y mae angen, efallai, eu helpu ymhellach ar hyd y ffordd?

Ymwelais, gyda chydweithwyr yn y Cynulliad yn 2017, â Yad Vashem, Canolfan Ryngwladol Cofio'r Holocost, ac yn neuadd yr enwau, gwelsom wedi eu llingerfio ar y llawr mosäig, enwau 22 o'r safleoedd llofruddio Natsïaidd mwyaf ffiaidd, ac wedi eu claddu o dan y rhain, fel y gwnaethom ni ddeall a dysgu, mae lludw'r dioddefwyr. Ac fel y dywedodd Churchill, po bellaf yn ôl y gallwch chi edrych, y pellaf ymlaen yr ydych chi'n debygol o weld oherwydd bod y Natsïaid yn deall ei bod hi'n llawer haws uno pobl yn erbyn rhywbeth yn hytrach nag o blaid rhywbeth, ac fe droesant yn erbyn y lleiafrifoedd yn eu plith.

Targedodd awdurdodau'r Almaen hefyd, fel y gwyddoch chi, grwpiau eraill oherwydd eu gwahaniaeth canfyddedig—eu hisraddoldeb hiliol a biolegol fel y'i hystyriwyd, gan gynnwys plant—Sipsiwn Roma a Sinti; Almaenwyr anabl; pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol; a rhai pobloedd Slafig, yn enwedig Pwyliaid a Rwsiaid. Ni cheir unrhyw ddogfen o adeg y rhyfel a luniwyd gan y Natsïaid yn nodi faint o bobl a laddwyd mewn gwirionedd, ond mae Amgueddfa Coffáu'r Holocost yr UD yn amcangyfrif 6 miliwn ac 11 miliwn o rai eraill, sy'n 17 miliwn, gan gynnwys—ar amcangyfrif ceidwadol—0.5 miliwn o Sipsiwn Roma a Sinti Ewropeaidd. Yn wir, mae'r gymuned ei hun yn nodi cynifer â 1.5 miliwn.

Unwaith eto, sut byddech chi'n ymateb i'r e-bost a gefais heddiw gan Sipsiwn/Teithwyr sydd fel rwy'n gwybod yn byw ger Conwy, sy'n dweud, 'Rydym yn caru Iddewon fel y mae Duw yn eu caru, ond wrth wylio'r teledu, ni welwn ni unrhyw beth am Sipsiwn yn cael eu lladd gan y Natsïaid a'u cynghreiriaid. Os gwelwch yn dda, bobl, cofiwch hyn. Cofiwch 26 Tachwedd 1935, pan ddiweddarwyd cyfreithiau Nuremburg i gynnwys cadw Sipsiwn, a gafodd eu gwneud yn elynion y wladwriaeth?' Ac, wrth gwrs, maen nhw'n sôn am hil-laddiad; maen nhw'n ei alw—gadewch i ni gael hyn yn iawn—yn Porajmos, neu'r hil-laddiad. Ac maen nhw'n dweud, 'Gall dim ond ychydig o erledigaeth, mymryn o ragfarn na chaiff ei herio gynnau dinistr. Gweddïwn dros ein cefndryd pell a'n cyfeillion Iddewig na fydd hyn byth yn digwydd eto.' Ac, wrth gwrs, yn 1939, dechreuwyd lladd oedolion a phlant anabl—cafodd Almaenwyr eu gwenwyno â nwy yn rhan o arbrofion mewn canolfannau lladd yn Brandenburg, a lladdwyd miloedd o gleifion anabl mewn siambrau nwy neu ystafelloedd cawod, gan greu'r model a gafodd ei gyflwyno wedyn yng ngwersylloedd crynhoi a gwersylloedd lladd y Natsïaid megis Auschwitz-Birkenau. Unwaith eto, yn ôl amcangyfrif ceidwadol, cafodd 250,000 o bobl anabl, llawer ohonynt yn blant—syndrom Down, parlys yr ymennydd a llawer mwy—eu lladd yn y ffordd ofnadwy honno.

Ac, mewn gwirionedd, nid oes llawer—. Nid wyf yn credu bod yn rhaid i chi ateb mewn gwirionedd; rwy'n credu ein bod yn gytûn ynghylch hyn. Wrth wraidd hynny i gyd mae'r cwestiwn sut yr ydym yn newid hyn o fod yn ddigwyddiad blynyddol neu rywbeth yr ydym yn sôn amdano o bryd i'w gilydd, a'i wreiddio drwy ein cymdeithas ac arwain yn fyd-eang wrth wneud hynny, fel na fydd cenedlaethau'r dyfodol yn gwneud yr un camgymeriadau ag y mae cenedlaethau heddiw yn dal i'w gwneud ac fel y gwnaeth cenedlaethau'r gorffennol eu hunain. Diolch.

17:05

Wel, diolch yn fawr iawn ichi, Mark Isherwood, a diolch ichi am yr holl sylwadau a wnaethoch chi a'r cwestiynau yr ydych chi wedi eu holi y prynhawn yma. Unwaith eto, rhaid inni ailadrodd: ni ddylid byth anghofio'r Holocost, ac nid ar Ddiwrnod Cofio'r Holocost yn unig y mae cofio. Mae'n bwysig bod hyn yn treiddio drwy ein polisi a bydd y ffordd y byddaf yn ymateb i'ch cwestiynau gobeithio yn dangos hynny.

Byth eto i'w ailadrodd—mae hynny'n rhan o addysg. Roedd honno'n neges gref iawn gan y goroeswr Dr Martin Stern ddoe, sef bod a wnelo hyn ag addysg. Ac mae angen inni sicrhau bod hynny'n digwydd, nid yn unig drwy rai prosiectau rhagorol iawn yr ydym yn eu hariannu drwy Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost, ond mewn gwirionedd drwy fynd â hyn ymhellach—ac rydym yn dilyn datganiad pwysig iawn y prynhawn yma gan y Gweinidog Addysg—pan fyddwn yn edrych ar y cwricwlwm, byddwn yn edrych ar y dibenion. Un o'r pedwar diben yn ein cwricwlwm newydd yng Nghymru o 2022 yw bod pob plentyn a pherson ifanc yn datblygu'n ddinasyddion egwyddorol, gwybodus o Gymru a'r byd, yn wybodus am eu diwylliant, eu cymunedau a'u cymdeithas, gan barchu anghenion a hawliau pobl eraill yn aelodau o gymdeithas amrywiol. Wrth gwrs, gwelwn hynny yn ein hysgolion, ac rydym yn gweld manteision hynny, ond mae hyn yn egwyddor gref iawn yn y cwricwlwm newydd.

Mae'n bwysig ein bod yn ariannu Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost ac yn annog mwy o ysgolion i ymwneud â hyn. Bydd yn cael ei gynnal ym mis Chwefror, a gwyddom fod pobl ifanc—ac rwy'n siŵr y gwelsoch chi hyn yn nigwyddiad Wrecsam—eisiau ymwneud, a dônt yn llysgenhadon grymus a bydd yn newid eu bywydau. Ac rydym ni wedi clywed am raglenni eraill y byddwn yn edrych arnynt, rwy'n siŵr, yn nes ymlaen. Ond rwy'n credu ei fod yn ymwneud â sut rydym ni'n sicrhau y caiff hyn ei ystyried drwy'r cwricwlwm i gyd ac ym mhob un o'n hysgolion. Rwy'n credu eich bod yn gwneud sylw pwysig iawn ynghylch Sipsiwn/Roma/Teithwyr a hoffwn ymateb i'r neges a gawsoch chi gan eich cyfeillion yng Nghonwy, gan y Sipsiwn a'r Teithwyr, o ran eu profiad. Wrth gwrs, clywsom gan Issac Blake yn y digwyddiad yn y Senedd yn ddiweddar, ac os gallaf ddweud ar goedd eto heddiw bod yn rhaid inni gofio i nifer fawr o Sipsiwn a Roma ddioddef yn hil-laddiad y Natsïaid ac ni ddylid anghofio eu dioddefaint. Yn amlwg mae'n rhan o'r datganiad heddiw a'n hymateb o bob rhan Siambr hon, rwy'n siŵr. Sgwrsio cyhoeddus negyddol yng nghyswllt yr aelodau hyn o'n cymunedau—soniodd John Griffiths am hyn yn gynharach, ac rwy'n falch y gallan nhw roi gwybod i ni, Aelodau'r Cynulliad, am y profiadau neu deimladau anffafriol hyn nad ydyn nhw wedi cael cydnabyddiaeth na sylw. Mae'n hanfodol ein bod yn sefyll gyda'n gilydd—neges Diwrnod Cofio'r Holocost—yn erbyn hiliaeth ac anoddefgarwch o'r fath.

Ond rwy'n credu bod y ffaith ein bod yn dyfarnu symiau sylweddol o gyllid—£529,500 i brosiect Teithio Ymlaen TGP Cymru—yn bwysig gan fod hynny'n ymwneud â darparu cyngor a chymorth eiriolaeth i gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr. Mae hynny'n ymwneud â chael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl drwy gefnogi aelodau o'r gymuned, ond hefyd ynghylch yr agweddau ar eu bywydau sy'n bwysig iawn o ran cael cyfle cyfartal, hyfforddiant, addysg a dylanwadu ar y broses o wneud penderfyniadau. Felly, mae hynny'n rhan bwysig iawn o'm hymateb heddiw.

Ond o ran sut rydym ni'n mynd i'r afael â gwrthsemitiaeth, rydym yn sefyll, Llywodraeth Cymru, gyda'r gymuned Iddewig yng Nghymru ac ar draws y byd. Rydym yn ystyried ymosodiadau gwrthsemitaidd yn ymosodiad ar y gwerthoedd Cymreig o gynhwysiant, rhyddid a pharch. Felly, dyna pam mae gweithio gyda chymunedau ffydd mor bwysig i hyrwyddo'r gwerthoedd hynny a'r ddealltwriaeth honno yr ydym ni'n eu rhannu yng Nghymru. Byddwn yn gweithio i sicrhau bod Cymru yn parhau i fod yn wlad lle nad yw gwrthsemitiaeth a phob math o gasineb yn bodoli.

17:10

Diolch i'r Dirprwy Weinidog am ei datganiad. Mae hi mor bwysig ein bod yn defnyddio Diwrnod Cofio'r Holocost i gofio am y rhai a gollodd eu bywydau, y bobl Iddewig, pobl Roma, pobl anabl, pobl lesbiaidd, hoyw, ddeurywiol a thrawsrywiol—unrhyw un nad oedd yn gweddu i ddelfryd y Natsïaid. Mae'n rhaid nodi'r dyddiad hwn o ryddhau Auschwitz-Birkenau bob blwyddyn i gofio, fel yr ydych chi wedi dweud, ac er mwyn dysgu oddi wrth un o'r enghreifftiau mwyaf o annynoldeb a welwyd erioed ar wyneb y ddaear hon.

Dirprwy Weinidog, rwy'n adleisio eich geiriau yn canmol Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost a'r gwaith hollbwysig y maen nhw'n ei wneud i addysgu pobl ifanc am yr erchyllterau hyn a'r gwaith allgymorth y maen nhw'n ei wneud gyda goroeswyr. Nifer o flynyddoedd yn ôl, cyfarfûm â Zigi Shipper, goroeswr o Auschwitz-Birkenau. Roedd ei stori a'i awch am fywyd, ar yr un pryd, yn bywiocáu ac yn dorcalonnus. Torcalonnus oherwydd mor ymwybodol yr oeddem ni i gyd yn yr ystafell honno o'r holl straeon na ellid eu hadrodd gan nad oedd y plant hynny wedi goroesi i'w byw nhw. Mae Zigi bellach yn 90 oed—rwy'n credu ei fod newydd gael ei ben-blwydd. Wrth i oroeswyr yr Holocost heneiddio, daw'r amser cyn hir pan na fydd neb yn dal yn fyw a aeth drwy erchyllterau'r cyfnod hwnnw.

Ni ddigwyddodd yr Holocost dros nos. Dechreuodd yn araf gydag erydiad graddol o hawliau a phedlera naratif, ni yn eu herbyn nhw—y lleill. Wrth gwrs, ymhlith yr erchyllterau roedd straeon o obaith, megis Kindertransport Syr Nicholas Winton, cynllun a sicrhaodd fod plant a allai fel arall fod wedi marw yn yr Holocost yn cael eu cludo i'r DU. Gallai Llywodraeth y cyfnod fod wedi gwneud mwy, ond diolch i Dduw fod y fenter honno a anwyd o garedigrwydd dynol a thosturi wedi achub y bywydau hynny.

Rwy'n siŵr bod y Dirprwy Weinidog yn rhannu fy mhryder bod Llywodraeth bresennol y DU wedi gwrthod derbyn gwelliant yn San Steffan yn ddiweddar a fyddai wedi gorfodi'r DU i barhau i ganiatáu i blant ar eu pen eu hunain o fewn yr UE i wneud cais am aduniad teuluol cyfreithiol yma. Rwy'n derbyn nad yw hyn yn ymwneud yn uniongyrchol â'r Holocost. Ni fyddwn yn cymharu, a dweud bod hynny yr un fath â'r Holocost, ond nid ydym erioed wedi bod yn edifar am eiliadau o garedigrwydd yn ein gorffennol, gadewch i ni barhau â'r traddodiad balch hwn. Dyna'r cyfan rwy'n ei ddweud ynghylch hynny. 

Felly, ar hynny, a gaf i ofyn pa asesiad y byddai Llywodraeth Cymru yn ei wneud o effaith y cynllun 'Kindertransport ' yng Nghymru heddiw? A pha sgyrsiau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cael gyda Llywodraeth y DU i erfyn arnyn nhw i sicrhau y bydd plant mudol, yn y dyfodol, yn cael ceisio lloches yma?

Dirprwy Weinidog, hefyd, mae'r datganiad yn sôn am nifer o brosiectau mewn ysgolion sydd â'r nod o fynd i'r afael â rhagfarn, ac rwy'n croesawu hynny. Ond a wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried galwadau i ddysgu am yr Holocost fod yn elfen orfodol o'r cwricwlwm newydd? Mae'n rhywbeth a grybwyllwyd ambell waith yn y Siambr heddiw. Mae yna gerdd gan Primo Levi sy'n mynegi'n llawer mwy huawdl nag y gallwn i, pam y dylem ni wneud hyn. Dywed:

'Meditate that this came about: / I commend these words to you. / Carve them in your hearts / …Repeat them to your children, / Or may your house fall apart, / … May your children turn their faces from you.'

Mae'n berthnasol, rwy'n credu, dweud y bu farw Primo Levi ym 1987 a dyfarnodd y crwner mai hunanladdiad oedd ei farwolaeth. Mae ei fywgraffwyr yn priodoli'r iselder a bwysodd yn drwm arno yn ddiweddarach mewn bywyd i'r atgofion trawmatig o'i brofiadau. Dywedodd yr enillydd gwobr Nobel a goroeswr yr Holocost, Elie Wiesel ar y pryd:

Bu farw Primo Levi yn Auschwitz 40 mlynedd yn ddiweddarach.

Nid yw digwyddiadau fel yr Holocost yn cael eu rhewi mewn amser. Mae eu heffeithiau trychinebus yn parhau ac yn ymdonni drwy'r cenedlaethau. Dirprwy Weinidog, a ydych yn cytuno bod arnom ni ddyled i blant yr Holocost, Primo Leviau, Zigi Shipperau'r byd hwn, ac i genedlaethau'r dyfodol, i sicrhau na chaniateir byth i'r digwyddiadau hyn bylu yn niwl amser; na chânt fyth gilio i'r pellter, stori arswyd a ddigwyddodd i bobl wahanol mewn adeg wahanol, pan oedd pethau'n wahanol?

Mae gan Hugo Rifkind flog a gyhoeddodd yn 2015 lle mae'n dweud:

Digwyddodd yma, yn Ewrop. Yn nhiroedd soddgrythau, teis a beiciau.

Nid oedd yn bell bryd hynny, nid yw'n bell oddi wrthym nawr. O ran dyled iddyn nhw, siawns, mae'n rhaid i ni osgoi'r hen ddywediad hwnnw, y posibilrwydd ofnadwy hwnnw, fod y rhai sy'n anghofio hanes wedi eu tynghedu i'w ailadrodd.

17:15

Diolch, Delyth Jewell. Rwy'n falch eich bod wedi canolbwyntio ar y gwersi a ddysgwyd a sut y gall hynny ddylanwadu, gan fynd yn ôl at sylw Mark Isherwood, ar y cyfan o'n gwaith, ein holl waith o lunio a gweithredu polisïau. Ac yn arbennig, rwy'n credu, roedd hi'n dda y cawsom ni ddatganiad ar y cwricwlwm newydd y prynhawn yma, i weld bod cyfleoedd, oherwydd rwy'n gwybod y bydd yr holl ysgolion a fydd yn ymwneud â hyn, a'r rhan fwyaf o ysgolion—rwy'n credu mai ychydig iawn o ysgolion na fyddant bellach yn cymryd rhan yn Niwrnod Cenedlaethol Cofio'r Holocost—wedi dysgu a mynd â hyn yn ei flaen, ac ni fydd yn nodwedd flynyddol yn unig, ond yn nodwedd o'r cwricwlwm, o'u byw a'u dysgu, i greu'r gymdeithas honno y gwyddom ei bod yn iawn ar gyfer eu cyfleoedd, eu gwerthoedd a'u moeseg.

Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn gweld, o ran y cyfleoedd gyda'r fflamau y byddwch yn eu gweld o gwmpas y wlad, a gobeithio y byddwch yn eu gweld yn y Senedd heddiw, mewn gwirionedd, bod Ymddiriedolaeth Addysg yr Holocost hefyd yn cynnal cwrs Gwersi o Auschwitz, ac rydym ni'n galluogi ysgolion ac athrawon i elwa ar hwnnw. Ac un o'r ysgolion a wnaeth elwa ar ein cyllid eleni oedd ysgol uwchradd Woodlands yng Nghaerdydd, a oedd hefyd yn gallu cynhyrchu a chael ei chydnabod am rannu'r fflam.

Roedd yn ddiddorol neithiwr clywed gan Dr Martin Stern am gynnydd graddol y mudiad Natsïaidd a dylanwad Adolf Hitler yn yr Almaen—yr Almaen, ei wlad yr oedd yn ei charu ac y bu'n rhaid iddo ei gadael. Mewn gwirionedd goroesodd yr Holocost yn fachgen ifanc iawn, ac rydym i gyd wedi clywed am y straeon dros y deuddydd diwethaf, ond mae'n benderfynol y dylid rhannu ei stori gyda'r ieuengaf o blant yn ein cymdeithas.

Rwy'n credu, yn bwysig ddoe hefyd, dywedodd y Prif Weinidog:

Mae heddiw'n ddiwrnod poenus a diolch i Dr Stern am ddefnyddio ei stori deimladwy i'n hatgoffa ni i gyd am rym goddefgarwch ... Mae'n rhaid inni sefyll gyda'n gilydd. Mae'n rhaid inni ddathlu ein gwahaniaethau. Ac mae'n rhaid i ni gredu bod mwy sy'n ein huno nag sy'n ein gwahanu. Dyma'r unig ffordd i sicrhau bod y digwyddiadau truenus hyn yn aros yn union yn y lle y maen nhw'n perthyn—yn y llyfrau hanes.

Ysgrifennodd Julie Morgan - y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithaso,  a minnau at yr Ysgrifennydd Cartref am bwysigrwydd sicrhau bod gennym ni gyfle i gefnogi ailuno ffoaduriaid sy'n blant gyda'u teuluoedd. Ac, mewn gwirionedd, fe wnes i gydnabod yr Arglwydd Alf Dubs, pan gawsom ein digwyddiad ar y pedwerydd ar ddeg, pan oeddem yn paentio negeseuon ar gerrig, a chredaf fod gan lawer o bobl neges i ddiolch iddo am yr hyn y mae wedi'i wneud i ffoaduriaid sy'n blant oherwydd bu yntau yn ffoadur ei hun yn blentyn. Ac rwy'n gwybod y byddwn ni yn ysgrifennu i ganfod sut y mae Llywodraeth y DU yn bwriadu cefnogi ailuno ffoaduriaid sy'n blant gyda'u teuluoedd, sef yr hyn y maen nhw wedi'i ddweud. Felly, byddwn yn mynd ar drywydd hynny yn dilyn ein datganiad yr wythnos diwethaf.

Yn olaf, mae'n rhaid imi ddweud bod hwn yn gyfle i ni yn y Cynulliad hwn i uno ym mhob rhan o'r Siambr, i sefyll, gan sicrhau ein bod yn ymateb i neges sefyll gyda'n gilydd mudiad cenedlaethol yr Holocost, a phwysigrwydd Diwrnod Cofio'r Holocost.

17:20

Er fy mod yn derbyn bod protocol yn mynnu fy mod yn holi'r Dirprwy Weinidog am ei datganiad heddiw, teimlaf nad oes lle i feirniadu nac i ychwanegu o ran cynnwys a chyflawnder y datganiad. Teimlaf hefyd y byddai gwneud rhywfaint o enillion gwleidyddol o'r achlysur neu'r camau a amlinellwyd yn y datganiad yn gwbl amhriodol.

Hoffwn ddweud felly, ar ôl bod yn bresennol yn nigwyddiad Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost yn y Senedd ar y pedwerydd ar ddeg o'r mis hwn, cefais fy nghyffwrdd yn llwyr ac yn gyfan gwbl gan ddewrder Mala Tribich wrth iddi roi ei thystiolaeth, yn enwedig pan ddisgrifiodd y foment pan aeth hi a'i chefnder ifanc i wersyll enwog Belsen. Roedd teimlo fy mod ym mhresenoldeb rhywun yr oedd ei llygaid wedi syllu ar erchyllterau'r gwersyll hwnnw wedi fy ngwneud yn fwy ymwybodol nag erioed o'r blaen o greulondeb llwyr y cyfnod hwnnw. Na foed inni byth ag anghofio bod y troseddau erchyll hyn wedi'u cyflawni gan genedl a oedd i fod yn genedl wâr. Mae'r digwyddiadau a ddigwyddodd yn Cambodia, Rwanda a Darfur, ac yn llawer agosach at adref yn Bosnia, yn enwedig yn Srebrenica, yn ein hatgoffa o bosibilrwydd cyson annynoldeb dyn tuag at ei gyd-ddyn.

Mae un sylw yn unig yr hoffwn ei wneud ynghylch yr adroddiad hwn, Dirprwy Weinidog, a hynny yw bod llawer wedi'u llofruddio gan y Natsïaid dim ond am eu bod yn anabl. Rwy'n gwybod fod Mark wedi crybwyll hyn hefyd. Dylid dweud yn y fan yma fod y rhan fwyaf o droseddau casineb wedi'u hanelu at y rhai sy'n anabl mewn rhyw ffordd. Os ydym ni am addysgu pobl am oddefgarwch at eu cyd-ddyn, dylai'r agwedd hon o gael eich erlid oherwydd eich bod yn wahanol hefyd gael ei phwysleisio mewn unrhyw brosiect sydd â'r nod o ddileu rhagfarn.

Diolch yn fawr i David Rowlands am y cyfraniad yna y prynhawn yma. Rwy'n credu bod hyn yn dangos y gallwn ni ddod at ein gilydd yn y Siambr hon a gobeithio y bydd hyn hefyd—. O ran eich sylwadau olaf ynghylch mynd i'r afael â throseddau casineb, rydym ni wedi siarad am hyn yn gynharach—cododd Mark Isherwood fater ynghylch troseddau casineb y mae pobl anabl yn ei hwynebu—ond gwyddom fod troseddau casineb ar sail hil hefyd yn nodwedd bwysig ar yr ystadegau hynny, ac mae'n rhaid inni weithio gyda'n gilydd i wynebu hyn a'i oresgyn. Felly, rwy'n gobeithio y cawn ni ymateb cadarnhaol i'r ddadl ar droseddau casineb y byddaf yn ei harwain yn amser y Llywodraeth maes o law.

Roedd y BBC ar ei orau neithiwr gyda dramateiddiad gwirioneddol rymus o stori The Windermere Children a gwaith Leonard Montefiore yn brwydro yn erbyn biwrocratiaeth i gael y plant hyn i ddod o wersylloedd crynhoi a gawsant eu rhyddhau ar ôl dioddef erchyllterau rhyfel. Tynnodd sylw pobl hefyd, os mynnwch chi, at y rhagfarn a fodolai o hyd yr adeg honno yn y wlad hon, ac sy'n dal i fodoli heddiw. Roedd yn ddramateiddiad diflewyn-ar-dafod o stori'r bobl ifanc hynny. Yna, aeth ymlaen, yn ddiweddarach, i gyfweld y plant hynny fel y maen nhw heddiw, yn eu 80au. Ac felly, roedd yn brofiad anhygoel i gael deall yn union yr hyn a ddioddefodd y rhain.

Felly, credaf fod yn rhaid inni gofio bod Llywodraeth y DU wedi gwrthwynebu'n chwyrn dod â phobl draw drwy gyfrwng y kindertransport cyn y rhyfel, ac felly bu farw llawer o'r plant hynny yn y gwersylloedd crynhoi, ond hefyd roeddent yn gwrthwynebu dod ag unrhyw un o'r plant hyn yma o gwbl. Dim ond oherwydd dyfalbarhad y gŵr hwn â'i weledigaeth y llwyddodd i negodi gyda Llywodraeth y DU a chyda'r Groes Goch i'w perswadio i adael i'r bobl hyn ddod i Ardal y Llynnoedd i brofi rhyw fath o adferiad cyn iddynt orfod ailintegreiddio i fywyd arferol.

Roedd yn wych gweld Mala Tribich, seren y sioe yn ddi-os yn ein digwyddiad ni yma yn y Senedd ar 14 Ionawr, ond hi hefyd oedd y cymeriad canolog yn Neuadd Ganolog San Steffan, oherwydd ei stori hi a grybwyllwyd gan Brif Weinidog y DU; hi roddodd ef ar ben ffordd ynglŷn â beth i'w ddweud. Rwy'n credu mai un o'r pethau mwyaf calonogol am y digwyddiad ddoe yn Neuadd y Ddinas oedd clywed Dr Martin Stern yn dweud mor eglur nad yw'n ymwneud â'r un digwyddiad hanesyddol hwn yn unig, ond ynghylch y 50 o'r holocostau eraill sydd wedi digwydd ers hynny; yr holl hil-laddiadau sydd wedi digwydd ers hynny. Roeddwn i eisiau dweud hefyd fy mod i'n credu bod menter 'Sefyll Gyda'n Gilydd' wrth gofio'r Holocost eleni yn bwysig iawn, gan ei bod wedi dechrau adrodd hanes yr holl bobl eraill a lofruddiwyd gan y Natsïaid fel bod—. Ar fy nghadair roedd enw rhywun a elwid yn Ewald Förster a lofruddiwyd gan y Natsïaid am fod yn hoyw, a hefyd Sophie Blaschke a lofruddiwyd gan y Natsïaid am fod yn anabl.

Ond yn yr un modd, roeddwn eisiau dychwelyd at yr hyn a grybwyllwyd gan Mark Isherwood, sef hefyd, dinistrio a llofruddio y Roma a'r Sinti, a grybwyllwyd gan Isaac Blake. Croesawodd y prosiect cerrig coffa a ddaeth hefyd i'r Senedd bythefnos yn ôl, a threfnwyd i ysgolion gymryd rhan yn y prosiect creadigol hwnnw fel y gallent fod yn rhan o'r gofeb barhaol yn San Steffan. Dywedodd wrthyf ddoe fod nifer o ysgolion wedi gwrthod y cyfle i ganiatáu i'w disgyblion wneud carreg goffa ar y sail nad oedd ganddyn nhw unrhyw Sipsiwn na Theithwyr ymhlith eu disgyblion, fel pe bai hyn yn rhywbeth oedd dim ond yn effeithio ar fathau arbennig o bobl, sy'n eithaf rhyfeddol.

Ond roeddwn eisiau dychwelyd at y ffordd yr ydym ni wedi esgeuluso, hyd yn hyn, yr arswyd a ddioddefodd y Roma a'r Sinti dan y Natsïaid. Oherwydd mae hi'n werth nodi bod y bobl Iddewig wedi cael iawndal gan yr Almaen am eu troseddau Holocost, ond yn Nuremberg, ni thrafodwyd unrhyw iawndal ar gyfer y gymuned Roma a Sinti na neb arall, hyd y gwn i. Ac rwy'n credu mai un o'r pethau pwysicaf a ddysgais o'r digwyddiad yma yn y Senedd oedd, er ein bod yn gwybod—ac rwy'n credu bod pawb yn y Siambr hon yn gwybod y cafodd 6 miliwn o Iddewon eu llofruddio gan y Natsïaid—nid ydym yn gwybod faint o Roma a Sinti a lofruddiwyd gan y Natsïaid, er eu bod yn dra gofalus wrth gofnodi popeth a wnaethent. Rydym yn gwybod bod y nifer yn fawr, ond nid oes gennym ni unrhyw syniad pa mor fawr. Mae'r rhan fwyaf o amcangyfrifon yn nodi rhwng 220,000 a 500,000, ond mae rhai ysgolheigion yn dweud ei fod cymaint â 1.5 miliwn. Tybed a oes unrhyw beth y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud i gefnogi'r ymchwil sydd ei hangen i gadarnhau'n union faint o Roma a Sinti a lofruddiwyd gan y Natsïaid oherwydd rwy'n credu ei fod yn rhan bwysig o gofnodi'r boen a'r dioddefaint a dioddefodd pobl oedd yn bennaf yn anllythrennog, ac na fu iddyn nhw felly gofnodi pethau yn y ffordd y gwnaeth y rhan fwyaf o bobl Iddewig. Felly, tybed a oes unrhyw beth y gellid ei wneud i gywiro hynny, i helpu i gefnogi rhagor o ymchwil i geisio cael syniad llawer mwy manwl o faint o bobl eraill, ar wahân i Iddewon, a lofruddiwyd gan y Natsïaid.

17:25

Diolch yn fawr iawn, Jenny Rathbone, a diolch ichi am dynnu sylw at y darllediadau a'r digwyddiadau niferus eraill a gynhaliwyd ddoe. Rwy'n credu y byddai gennych chi ddiddordeb gwybod bod Dr Martin Stern yn gwneud ymweliadau drwy'r wythnos—mae'n 80 a cherddodd draw i Dŷ Cwrdd y Crynwyr neithiwr a rhoddodd araith am awr heb unrhyw bapurau o'i flaen. Roedd yn rhyfeddol. Heddiw mae'n siarad â 280 o ddisgyblion o flwyddyn 9 yn Ysgol Uwchradd Fitzalan; mae'n mynd i Ysgol Uwchradd y Dwyrain, mae'n siarad â myfyrwyr, mae'n mynd i gwrdd â chyngor yr ysgol; mae'n siarad â 130 o ddisgyblion chweched dosbarth a staff o Gaerdydd a chanol de Cymru; mae'n mynd i Abertawe; mae'n mynd ar hyd a lled Cymru, yn y de—eich holl etholaethau, fe welwch y bydd yno. Mae wedi bod i'r gogledd, dywed wrthyf, sawl gwaith. Ond mae'n eithaf rhyfeddol, dylanwad goroeswyr. Mae'n feddyg wedi ymddeol, ac mae'n dweud, 'Dyma'r hyn rwy'n ei wneud', a siaradodd neithiwr am y ffaith na allai siarad amdano, ni allai wneud hyn, nes yr oedd wedi ymddeol. Ac mae llawer o oroeswyr eraill wedi bod yn y sefyllfa hon, a diolch i chi am grybwyll Mala Tribich a'r hyn a wnaeth.

Nawr, rwyf eisiau dweud yn olaf, mewn ymateb i'ch dau sylw, ydy, mae'n bwysig bod Sefyll Gyda'n Gilydd mewn gwirionedd yn adlewyrchu'r hyn yr ydym yn ceisio ei wneud o ran cryfhau cydraddoldeb a chynhwysiant a hawliau dynol yng Nghymru, a rhaid inni gydnabod hynny o ran pobl lesbiaidd, hoyw, ddeurywiol a thrawsrywiol a'r hyn yr ydym ni'n ei wneud i fynd i'r afael â throseddau casineb, eithrio a gwahaniaethu. Ac fe af ar drywydd hyn gydag Issac Blake. Rydym yn ariannu, yn cefnogi, fel y dywedais, sefydliadau sy'n cefnogi Sipsiwn a Theithwyr, ond hefyd cymuned gelfyddydau y Romani y mae Issac yn ei chefnogi. Gan ei fod yn dylanwadu ar ysgolion ar draws Cymru, o Gasnewydd, o Billgwenlli, i Gaerfyrddin, i Sir Benfro, a'r plant, nad ydynt—yn amlwg, nid yw'r rhain i gyd yn ysgolion amrywiol, ond ysgolion sy'n dysgu am hyn, a byddwn yn edrych ar sut y gallwn ni ehangu ein gwybodaeth, gan y bydd hynny'n bwysig i'r myfyrwyr a'r plant, a fydd yn elwa.  

17:30

Rwyf eisiau gallu galw dau gyfraniad arall, felly os gall cyfranwyr fod yn weddol gryno, a'r Gweinidog wrth ymateb hefyd. Suzy Davies.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd, am y cyfle hwn. Dirprwy Weinidog, a gaf i ddweud 'diolch' am eich atebion cynharach, ac am y cyfraniadau heddiw? Roeddech yn iawn: fe wnes i fynd i ymweld ag Auschwitz-Birkenau yr adeg yma yr wythnos diwethaf. Nid wyf yn bwriadu siarad am hynny'n benodol, ac eithrio un elfen benodol, yr ydym ni wedi'i chrybwyll eisoes, a dyna'r rheidrwydd i'n pobl iau fynd yno. Mae'n 75 mlynedd ers iddo gael ei ryddhau, fel y gwyddom ni. Mae amser wedi mynd heibio. Ni chafodd y cenedlaethau a ddaeth o flaen y bobl ifanc sydd gennym ni heddiw—fy nghenhedlaeth i o leiaf, a aned lai nag 20 mlynedd ar ôl yr ail ryfel byd—eu hysbysu am erchyllterau'r Holocost ac, yn wir, fel y clywsom ni gan Norma Glass, aelod o'r gymuned Iddewig yn Abertawe, a oedd yn nigwyddiad Pentrehafod yn gynharach yr wythnos hon—menyw hŷn yw hon—ni chafodd wybod am y digwyddiadau ychwaith, oherwydd ni allai pobl ddarbwyllo eu hunain i siarad am y peth. Dyna pam yr wyf innau hefyd yn falch o waith Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost, ac, wrth gwrs, parodrwydd goroeswyr i siarad â ni.

Yn ogystal â'm hanogaeth i gael cynifer o bobl ifanc i fynd i Auschwitz cyn gynted â phosib, rwy'n credu bod yn rhaid i ni gydnabod, oherwydd bod amser wedi mynd heibio, ein bod ni bellach yn cael straeon am unigolion—a phwysleisiaf mai unigolion ydyn nhw—sy'n meddwl ei bod yn hollol briodol, ar ôl gweld rhai o'r arddangosion erchyll, ac ar ôl gweld y ffyrnau lle bu pobl fel nhw'n llosgi pobl fel nhw, eu bod nhw'n gallu sefyll o flaen y wal farwolaeth, lle cafodd pobl fel nhw eu saethu gan bobl fel nhw, i dynnu hun-luniau a gwneud—. Gweithgareddau llawn hwyl hurt, a tybed: a ydyn nhw'n gweld eu hunain yn wrthsemitaidd pan fyddan nhw'n gwneud hynny? Oherwydd dyna'r hyn yr oeddwn am eich holi yn ei gylch. Mae rhan o'r anogiad Sefyll Gyda'n Gilydd hwn yn ymwneud â gweithredoedd yn hytrach na geiriau yn unig, ac fel rhan o'm hymweliad yr wythnos diwethaf—. Yn amlwg, cawsom gynhadledd ochr yn ochr â'r ymweliad, a gynhaliwyd gan Gymdeithas Iddewig Ewrop, sef y gymdeithas fwyaf o sefydliadau Iddewig ledled Ewrop, yn yr UE a thu hwnt, ac yn y gynhadledd, clywsom gan Weinidogion gwladol o'r holl wledydd Ewropeaidd y gallaf feddwl amdanynt, a gwahoddwyd pob un ohonom ni i ystyried deddfwriaeth bellach yn ein gwledydd—a dyma lle mae gweithredu yn hytrach na dim ond geiriau yn rhan o'r hyn yr wyf ar fin ei ddweud—i fynd i'r afael â gwrthsemitiaeth.

Nid oes gennym y cymhwysedd ar gyfer pob un o'r rhain, a byddaf yn mynd drwyddynt cyn gynted â phosib, ond yr un cyntaf oedd gofyn a oedd gwladwriaethau yn barod i gosbi sefydliadau neu unigolion sy'n ymwneud â stereoteipio gwrthsemitaidd yn gyhoeddus. Awgrymwyd i ni y dylai cyrff addysg cenedlaethol ein holl wledydd benodi cynrychiolydd arbennig gyda'r cyfrifoldeb o gysylltu â chynrychiolwyr cymunedau Iddewig dynodedig sydd ag arbenigedd ym maes addysg i sicrhau bod adnoddau addysgu yn gywir, bod yr Holocost yn cael ei weld fel darlun mwy o'r genedl Iddewig a hanes yr Iddewon, ac y gellir cydnabod yn ddigonol gyfraniad Iddewon i fywyd cyhoeddus—sy'n arbennig o bwysig yng Nghymru, lle mae'r boblogaeth Iddewig yn fach, ac, fel y crybwyllwyd gan Jenny, nid yw ymchwil addysg ehangach i'r Holocost, hyd y gallaf ddweud, beth bynnag, wedi datblygu cymaint ag y mae yn yr Alban a Lloegr. Rwy'n argymell papur Dr Andy Pearce ar yr Holocost a chwricwlwm cenedlaethol Lloegr ar ôl 25 mlynedd. Nid yw unrhyw un o'r cynigion hyn yn rhwystro gweithredu tebyg i fynd i'r afael â mathau eraill o wahaniaethu hiliol neu grefyddol, wrth gwrs.

Yna, yn drydydd, fe alwon nhw am waharddiad llwyr ar fasnach gofiannau'r Natsïaid am elw personol neu oherwydd diddordeb dychrynllyd, gan eithrio haneswyr a sefydliadau cyfreithlon, wrth gwrs. Uchafbwynt y digwyddiad i mi oedd cwrdd ag Abdallah Chatila, y Cristion o Libanus a wariodd €600,000 o'i arian ei hun i gymryd nifer o eiddo personol Hitler oddi ar y farchnad, ac maen nhw nawr ar eu ffordd i Yad Vashem. Nid oes gennym y cymhwysedd ar gyfer hyn i gyd, ond os yw Sefyll Gyda'n Gilydd yn golygu gweithredu yn hytrach na geiriau, tybed a fyddech yn barod i gyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU—mae'n ddrwg gennyf fod gwelliant Dubs wedi codi yn y cyd-destun hwn; nid wyf yn credu bod hynny'n briodol—ond i feddwl hefyd am yr hyn y gallwn ni ei wneud yma gyda'r pwerau sydd gennym ni, boed hynny drwy bolisi neu drwy ddeddfwriaeth. Diolch, Llywydd.

17:35

Diolch yn fawr iawn, Suzy Davies, a diolch i chi am rannu â ni yr hyn a gawsoch chi ac a ddysgoch chi o'ch ymweliad nid yn unig ag Auschwitz-Birkenau ond hefyd yn y gynhadledd ar gyfer y Gymdeithas Iddewig Ewropeaidd. Hoffwn i chi—rydych chi wedi rhoi rhai o'r argymhellion i ni; hoffwn i chi ysgrifennu ataf a'u hanfon ataf. Ond fel y dywedwch chi, rydych chi wedi dychwelyd o'r gynhadledd honno, wedi gofyn cwestiwn i mi ar unwaith, a oedd yn beth da iawn, y prynhawn yma, ac rwyf wedi croesawu hynny yn fy nghwestiynau llafar.

Ond mae a wnelo hyd â gweithredu yn hytrach na geiriau. Rwyf hefyd yn cydnabod bod ffyrdd lle rydym ni'n gweithio gyda'n gilydd ar draws Cymru gyfan. Roeddech chi'n sôn am Norma Glass, er enghraifft; fe wnes i gyfarfod â hi a'r Prif Weinidog yn yr haf, a dydd Sadwrn diwethaf yn bresennol ar ddechrau agoriad canolfan ddiwylliannol a digidol y gymuned pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn Abertawe yn Theatr y Grand, lle roedd wrth gwrs Iddewon, Mwslimiaid—pob ffydd, pob cymuned yno yn cael eu cynrychioli.

Ond yn gyflym iawn, dim ond i ddweud o ran yr hyn y mae Llywodraeth Cymru eisoes yn ei wneud i gyflawni ein hymrwymiad i ddiffiniad Cynghrair Rhyngwladol Cofio'r Holocost o wrthsemitiaeth—rydym ni wedi trefnu hyfforddiant ar wrthsemitiaeth ar gyfer swyddogion Llywodraeth Cymru, ac rydym ni hefyd wedi cynnig hynny i randdeiliaid allanol, gan gynnwys pwyslais ar ddiffiniad y Cynghrair o wrthsemitiaeth. Rydym ni wedi trefnu i oroeswyr yr Holocost sydd â chysylltiadau Cymreig i roi sgyrsiau, rydym yn gweithio gydag Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost, ac, wrth gwrs, rwyf wedi siarad am ein camau gweithredu cydgysylltiedig clir o ran mynd i'r afael â throseddau casineb. Ond hefyd, dim ond i ddweud fod gennym fwrdd cyfiawnder troseddol Cymru ar gyfer troseddau casineb, sydd wedi cael trafodaeth lawn ar droseddau casineb gwrthsemitaidd, ac yn gweithio gyda Cymorth i Ddioddefwyr Cymru i sicrhau bod gennym ni system gofnodi i dynnu sylw at droseddau casineb a digwyddiadau gwrthsemitaidd. Felly, rwy'n credu y byddai'n ddefnyddiol i mi ymateb i'ch llythyr er mwyn tynnu sylw at yr hyn yr ydym ni eisoes yn ceisio ei wneud.

Nawr yn fwy nag erioed dylem atgoffa ein hunain y bydd pob math o gasineb a dad-ddynoli'r Llall, o'u gadael yn ddiwrthwynebiad, yn tanseilio gwerthoedd democrataidd a hawliau dynol, a byddant yn bwydo eithafiaeth dreisgar. Ni allwn ni fforddio byw mewn cymdeithasau lle mae pobl yn poeni am eu diogelwch ac yn dioddef gwahaniaethu a lle gwedir eu hawliau iddynt bob dydd, am ddim rheswm arall heblaw eu hunaniaeth a'u hargyhoeddiadau. Rhaid i awdurdodau'r wladwriaeth, personoliaethau cyhoeddus, y cyfryngau a phob un ohonom ni gondemnio a mynd i'r afael â gweithredoedd gwrthsemitaidd, senoffobig ac ymdrechion eraill i ddifrïo Llall. Mae gan arweinwyr gwleidyddol y ddyletswydd i atal anoddefgarwch a chaseiriau rhag dod yn rhan o wleidyddiaeth prif ffrwd, i helpu cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol i ddeall beth sy'n digwydd pan ganiateir i ragfarn a chasineb ffynnu. Rhaid i ni ddod yn fwy llafar, gweladwy ac effeithiol yn erbyn y rhai sy'n ennyn casineb.

Mae diwrnodau cofio yn bwysig ar gyfer oedi a myfyrio, ond mae'r frwydr yn erbyn casineb yn her y mae'n rhaid ei hwynebu bob dydd, nid unwaith y flwyddyn. Wrth i nifer y rhai a oroesodd yr Holocost edwino, rhaid inni gynnal eu fflam a helpu i gadw'r cof amdanynt yn fyw. Rhaid i'w tynged drasig aros yn weladwy a'n harwain tuag at gymdeithas fwy cyfiawn a chynhwysol, yn rhydd o gasineb. A yw'r Dirprwy Weinidog yn cytuno â'r datganiad hwn a gyhoeddwyd yr wythnos hon i nodi digwyddiadau coffáu'r Holocost gan Gyngor Ewrop, ac a yw hi'n cytuno bod hyn yn fodd amserol o'n hatgoffa o sut yr ydym ni, waeth beth fo'r cysylltiadau ffurfiol neu beidio, yn y pen draw yn gryfach gyda'n gilydd fel partneriaid a chyfeillion yn Ewrop, wedi ein huno gan werthoedd goddefgarwch a dealltwriaeth, ac wrth gofio gwersi poenus y gorffennol diweddar, i'n hatal ni rhag eu hailadrodd yn y dyfodol?

17:40

Diolch, Huw Irranca-Davies, a diolch am ddarllen y datganiad yna gan Gyngor Ewrop. Gobeithio yn ystod yr wythnos hon y gallwn ni fyfyrio ar y datganiad hwnnw. Yn amlwg, o'r cyfraniadau sydd wedi'u gwneud y prynhawn yma, mae ymrwymiad cryf i'r datganiad hwnnw. Rhaid inni gadw hynny wrth wraidd yr hyn a wnawn o ran Llywodraeth a chraffu, yn ogystal â'n gwaith o lunio polisïau.

Ac rwy'n credu bod yn rhaid i ni orffen drwy ddweud, fel yr ydych chi ac eraill wedi dweud, mae'r neges o gyd-sefyll yn bwysig iawn ar gyfer heddiw. Mae'n dweud:

Sefwch ar y cyd ag eraill yn ein cymunedau er mwyn atal rhaniadau ac ymlediad gelyniaeth sy'n seiliedig ar hunaniaeth yn ein cymdeithas.

Dyna beth mae Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio'r Holocost wedi ein hannog i'w wneud: safwn gyda'n gilydd. Diolch yn fawr.

6. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol: Cefnogi Canol ein Trefi

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol ar gefnogi canol ein trefi. Galwaf ar y Dirprwy Weinidog i wneud ei datganiad—Hannah Blythyn. 

Diolch, Llywydd. Dwi'n hapus iawn i siarad efo chi heddiw am drefi Cymru, a dwi'n hapus iawn i siarad am fwy o gefnogaeth i'n trefi ni. Dwi eisiau trawsnewid trefi Cymru. 

Llywydd, rwy'n hapus i gyhoeddi pecyn arall o gymorth ar gyfer canol trefi gwerth bron i £90 miliwn yn rhan o'n hagenda trawsnewid trefi. Mae hyn yn adeiladu ar y buddsoddiad £800 miliwn rhagamcanol yn ein trefi o ganlyniad i'n rhaglenni adfywio ers 2014. Mae'r pecyn trawsnewid trefi yn cynnwys cymorth i orfodi'r gyfraith mewn cysylltiad ag eiddo gwag a dadfeiliedig yng nghanol ein trefi, cronfa seilwaith gwyrdd newydd a dull o ymdrin â datblygiadau newydd sy'n rhoi'r ystyriaeth gyntaf i ganol y dref.

Bydd y mesurau hyn yn cyfrannu'n sylweddol at iechyd canol ein trefi. Rydym ni i gyd yn cytuno bod trefi'n eithriadol o bwysig i Gymru, a bydd gan y mwyafrif helaeth ohonom ni gysylltiad naturiol ag o leiaf un dref—lleoedd sydd wedi ein llunio, lleoedd sydd â chyswllt creiddiol â chyfeillion a theulu, lleoedd sydd gymaint yn fwy na dim ond casgliad o adeiladau. Mae gan drefi ar draws y wlad asedau unigryw, treftadaeth falch a hanes sy'n ysbrydoli.

Ond rwyf eisiau i'n trefi gael dyfodol gwych yn ogystal â gorffennol gwych, ac mae rhai yn wynebu heriau. Mae'r sector manwerthu wedi newid wrth i'r ffordd yr ydym yn siopa, yn gweithio ac yn byw newid. Mae swyddogaeth trefi yn newid ac mae angen i drefi ail-greu eu hunain i addasu. Dyna pam y buom ni'n buddsoddi i ddod â bywyd i ganol trefi drwy gyfrwng tai, swyddfeydd a lleoedd i sefydlu busnesau newydd, a gwasanaethau hamdden a chyhoeddus. Mae gennym ni nifer o gronfeydd adfywio sy'n canolbwyntio ar ganol trefi ond nad ydynt wedi'u hyrwyddo'n benodol felly. O hyn ymlaen, bydd ein buddsoddiadau yn rhan annatod o'n hagenda trawsnewid trefi a hoffwn egluro a symleiddio'r prosesau sy'n ymwneud â chronfeydd.

Mae'r pecyn trawsnewid trefi yn cynnwys ymestyn ein rhaglen ariannu grant cyfalaf am flwyddyn arall i fis Mawrth 2022. Bydd buddsoddiad Llywodraeth Cymru o £36 miliwn yn galluogi ychwanegol gwerth bron £58 miliwn i gael eu cyflawni. Rwyf hefyd yn rhoi £10 miliwn o arian benthyca ychwanegol i sicrhau bod adeiladau gwag a dadfeiliedig yng nghanol trefi yn cael eu defnyddio unwaith eto. Ac rwyf wedi sefydlu cronfa seilwaith gwyrdd a bioamrywiaeth £5 miliwn ar gyfer prosiectau gwyrdd, a fydd yn dod â manteision amgylcheddol yn ogystal â helpu i wneud canol trefi yn lleoedd mwy deniadol i ymweld â nhw.

Mae trefi arfordirol fel y Rhyl, Bae Colwyn, Aberteifi a'r Barri eisoes yn elwa ar ein rhaglenni presennol, a byddant yn parhau i wneud hynny. Er hynny, rwyf wedi clustnodi cyllid yn benodol i gefnogi prosiectau yn ardaloedd y trefi arfordirol. Bydd y £2 miliwn hwn o arian yn cyflawni prosiectau gwerth tua £3 miliwn ac yn cynnwys elfen o refeniw yn ogystal â chyllid cyfalaf.

Yn fwy cyffredinol, rwyf hefyd yn darparu £0.5 miliwn o arian refeniw i alluogi awdurdodau lleol i ddatblygu prif gynlluniau, prosiectau a darpariaethau ar gyfer canol trefi, gan gynnwys datblygu digidol a gwella ymgysylltiad cymunedau a rhanddeiliaid. Mae ymgysylltu â'r gymuned a rhanddeiliaid yn allweddol i fywiogrwydd tref. Rwyf eisiau cefnogi cymunedau a rhanddeiliaid i berchnogi eu trefi a llunio'u dyfodol. A bwriadaf heddiw ymweld â threfi ar draws y wlad i glywed beth sydd gan bobl i'w ddweud a sut y maen nhw eisiau llunio, trawsnewid, eu trefi eu hunain a'r mannau lle maen nhw'n byw ac yn gweithio. Rydym ni hefyd wedi rhoi £539,000 i gefnogi datblygiad 22 o ardaloedd gwella busnes.

Fel rhan o roi'r offer i gymunedau a busnesau wneud y gwaith, gydag Ymddiriedolaeth Carnegie, fe wnaethom ni ariannu'r gwaith o greu'r offeryn data deall lleoedd Cymru. Rydym ni bellach yn ariannu'r gwaith o ddatblygu'r adnodd ymhellach, sy'n helpu defnyddwyr i ddeall yn well y mannau lle maen nhw'n byw ac yn gweithio, er mwyn gwneud newidiadau cadarnhaol.

Er fy mod yn awyddus i rymuso a herio cymunedau i gymryd perchenogaeth ac ysgogi newid o lawr gwlad i fyny, rwy'n cydnabod bod gan y Llywodraeth ran strategol, allweddol yn hyn. Rwyf eisiau defnyddio pob grym sydd ar gael inni i wneud gwahaniaeth gwirioneddol a pharhaol i ganol ein trefi. Dyna pam mae'r Llywodraeth hon, ynghyd â'n partneriaid yng Nghymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, wedi mabwysiadu egwyddor o roi canol trefi yn gyntaf. Bydd hyn yn golygu mai lleoliadau canol tref fydd yr ystyriaeth gyntaf ar gyfer unrhyw ddatblygiadau newydd yr ydym yn rhan ohonynt. Bydd yr egwyddor yn greiddiol i'n strategaeth ystadau ar gyfer y dyfodol a byddwn yn cefnogi ac yn annog ein partneriaid yn gryf i wneud yr un peth.

P'un a yw hi'n dref wledig fach neu'n un drefol fawr, boed yn fy swyddfa etholaeth yng nghanol tref y Fflint, neu ym mhencadlys Trafnidiaeth Cymru ym Mhontypridd, gall penderfyniadau o ran lleoliad roi hwb i dref. Ymwelais yn ddiweddar â phencadlys newydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ym Mae Colwyn a gwelais drosof fy hun yr effaith gadarnhaol ar ganol y dref—mwy o bobl yn y dref, llai o swyddi gwag a gwelliant amlwg ym mherfformiad a hyder busnesau. Mae lleoliadau canol tref hefyd yn dod â manteision amgylcheddol mawr, fel lleihau teithiau car untro, cadw safleoedd meysydd glas, cyfleoedd i gyflwyno seilwaith gwyrdd, a mwy o gydleoli asiantaethau cyhoeddus.

Un o'r heriau allweddol wrth drawsnewid ein trefi yw mynd i'r afael ag eiddo neu dir gwag neu ddiffaith—yr eiddo sydd wedi difetha gormod o'n strydoedd mawr yn rhy hir. Mae'n bryd rhoi terfyn ar hyn. Rwy'n galluogi awdurdodau lleol i fanteisio ar arbenigedd a chronfa ddatrys £13.6 miliwn i'w galluogi nhw i fod yn dân cyson ar groen y perchenogion hynny nad ydynt yn gwneud eu rhan neu sydd dim ond yn gwneud y lleiaf posibl. Gyda'n partneriaid awdurdod lleol, rydym ni wedi rhoi blaenoriaeth i 66 eiddo ledled Cymru i weithredu yn eu cylch. Felly, fy neges i berchnogion eiddo gwag yng nghanol trefi yw: gweithiwch gyda ni a byddwn yn eich helpu chi er mwyn i'ch eiddo gwag gael ei ddefnyddio unwaith eto. Ond, os byddwch yn gwrthod cydweithredu, ni fyddwn yn ofni gweithredu'n gadarn a therfynol.

Mae Llywodraeth Cymru o ddifrif ynglŷn â rhoi bywyd a phwyslais o'r newydd o ran sut yr ydym ni'n rhoi sylw â chefnogaeth i ganol trefi, a bydd y mesurau hyn yn gwneud cyfraniad sylweddol. Hefyd, mae fy swyddogion yn ymchwilio i ddichonoldeb cronfa sydd â'r nod o ryddhau safleoedd segur strategol yng Nghymru lle mae modd codi nifer sylweddol o dai. Mae hyn yn cysylltu ag argymhellion yn yr adolygiad tai fforddiadwy ac wrth adlewyrchu ein pwyslais ar ganol trefi, bydd yn blaenoriaethu safleoedd a fyddai o fudd uniongyrchol i ganol trefi.

Llywydd, dim ond dechrau trawsnewid trefi yw'r pecyn hwn ac yn bendant nid y diwedd. Gyda'n gilydd, gallwn wneud yn siŵr bod trefi ar draws y wlad nid yn unig yn goroesi ond yn ffynnu. Diolch yn fawr.  

17:45

Rydych chi'n dechrau eich datganiad gyda'r cyhoeddiad, y cawsom ni, wrth gwrs, ein hysbysu'n gyhoeddus amdano ymlaen llaw drwy'r cyfryngau, am becyn pellach o gefnogaeth i ganol trefi gwerth bron i £90 miliwn yn rhan o'ch agenda trawsnewid trefi. Beth yw'r amserlen y mae'r £90 miliwn hwnnw yn berthnasol iddi? Ai blwyddyn yw hi, neu ai'r bwriad yw parhau â hi yn y tymor Senedd nesaf? Ar ôl arwain dadl dair wythnos yn ôl yma, yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu cronfa trefi glan môr a threfi marchnad i gefnogi adfywio mewn cymunedau ledled Cymru, a chyhoeddi mai dyna'n union y byddai'r Ceidwadwyr Cymreig yn ei wneud, gallwn ddweud mai dynwared yw'r math mwyaf diffuant o edmygedd, er nid wyf yn amau na fyddwch wrth gwrs yn gwadu'n llwyr fod gan hyn unrhyw beth i'w wneud ag ef. Fodd bynnag, roedd ein cynigion yn cynnwys y datganiad y bydd hyn yn galluogi cymunedau i benderfynu sut y caiff y gronfa ei buddsoddi yn eu hardal leol—mewn geiriau eraill, nid dim ond cyrff cyhoeddus a busnesau. Fel y mae Sefydliad Bevan wedi dweud, os yw pobl yn teimlo bod polisïau'n cael eu gorfodi arnynt, nid yw'r polisïau'n gweithio, ac mae angen inni felly gynhyrchu rhaglenni gyda'r cymunedau eu hunain.

Y bore yma, fe wnaethoch chi gyhoeddi eich egwyddor o roi canol trefi Cymru'n gyntaf, a daeth hyn i ben gyda'r datganiad y dylai penderfyniadau cymesur a gwerth gorau gynnwys ystyried pwysigrwydd cefnogi canol trefi yn unol â gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Ac, wrth gwrs, mae'r pum ffordd o weithio ar gyfer cyrff cyhoeddus o fewn y Ddeddf honno yn cynnwys cydweithio, gweithio gydag eraill, gan gynnwys cyrff trydydd sector a chymunedau, i helpu i gyflawni nodau sydd wedi'u penderfynu ar y cyd, a chynnwys mor gynnar â phosibl y bobl y bydd gwasanaethau neu weithgareddau o fudd iddynt neu'n effeithio arnynt. Sut fydd eich cynigion, felly, yn mynd i'r afael â hynny, oherwydd nid yw'r datganiadau a welais hyd yma wedi cyfeirio'n benodol at hyn, a ddylai fod yn amlwg yn greiddiol, nid yn unig oherwydd deddfwriaeth, ond hefyd oherwydd, os ydych yn mynd i fuddsoddi arian, dyma'r ffordd orau i gael y canlyniadau y mae bob un ohonom ni eisiau eu gweld?

Rydych chi'n cyfeirio at 22 o ardaloedd gwella busnes ac yn dweud:

Mae ymgysylltu â'r gymuned a rhanddeiliaid yn allweddol i fywiogrwydd tref.

Pan es i chwilio am wybodaeth am ardaloedd gwella busnes, dywed gwefan Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd mai dim ond 24 o'r rhain sy'n bodoli neu sy'n cael eu datblygu, y daw'r cymorth hwnnw i ben ym mis Mawrth eleni ac mai dim ond hyd at £30,000 o gyllid sydd ar gael ar gyfer pob ardal. Felly, tybed a wnewch chi ymhelaethu—a yw hynny'n dal i fod yn wir neu a fydd yr ardaloedd gwella busnes yr ydych chi'n cyfeirio atyn nhw yn y fan yma yn parhau y tu hwnt i fis Mawrth ac a allai alluogi ardaloedd gwella busnes i fynd y tu hwnt i'r £30,000 y cyfeirir ato.

Rydych chi'n cyfeirio at Ymddiriedolaeth Carnegie yn gweithio gyda chi i greu offeryn data deall lleoedd Cymru, ac, wrth gwrs, fel y mae Ymddiriedolaeth Carnegie eu hunain yn datgan, mae cael data cadarn yn ofyniad sylfaenol ar gyfer cefnogi adfywio, ac felly, wrth gwrs, rydym yn croesawu hyn. Ond pa ystyriaeth ydych chi hefyd wedi ei rhoi i'r gwaith helaeth a wnaed gan Ymddiriedolaeth Carnegie ar weddnewid trefi ac ar y wladwriaeth alluogol? Maen nhw'n dweud yn eu hadroddiadau niferus, gan gynnwys 'Turnaround Towns' bod:

dyfodol ein trefi'n ymwneud â mwy na'r stryd fawr yn unig, mae hefyd yn ymwneud â sut all trigolion newid pethau a'u gallu i ddylanwadu ar benderfyniadau lleol.

Ac maent yn dweud bod dull y wladwriaeth alluogol yn ymwneud â:

ein symud ni o sefyllfa lle mae'r wladwriaeth yn ddarparwr lles tuag at ddull mwy galluogol o lywodraethu. Yng nghyd-destun newid yn y berthynas rhwng dinasyddion, y gymuned a'r wladwriaeth

yn awgrymu:

dylai'r Llywodraeth, ynghyd â hybu perfformiad gwasanaethau cyhoeddus, alluogi cymunedau i wneud yr hyn a wnânt orau

lle mae cymunedau:

yn y sefyllfa orau i ddod â chyfoeth o wybodaeth leol ac egni ar y cyd i'r penderfyniadau sy'n effeithio arnynt.

Dau gwestiwn arall. Byddwch yn ymwybodol bod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi £3.6 biliwn ar gyfer ei chronfa drefi i gefnogi trefi ledled Lloegr i adeiladu dyfodol llewyrchus, rhoi mwy o lais i gymunedau yn eu dyfodol ar ôl Brexit, wedi'i dargedu at leoedd nad ydynt wedi rhannu yn y manteision twf yn yr un ffordd â rhannau mwy llewyrchus o'r wlad. Felly, faint, os o gwbl—ac nid wyf yn gwybod a yw hyn yn arian a gaiff ei ddyrannu o dan fformiwla Barnett—o'r £3.6 biliwn a fydd yn canfod ei ffordd neu sydd wedi canfod ei ffordd i Gymru? Os yw'n dod i Gymru nawr neu yn y dyfodol—ac rwy'n sylweddoli bod hyn yn mynd y tu hwnt i 2021—a fydd Llywodraeth Cymru'n dyrannu hynny'n llawn i weddnewid trefi yng Nghymru ai peidio?

Ac, yn olaf, mewn ymateb i'ch sylw i drawsnewid trefi yn y cyfryngau, dywedodd Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru, sy'n cefnogi busnesau, ei bod hi'n bryd dechrau ailfeddwl ynghylch sut olwg fydd ar y stryd fawr. Felly, sut ydych chi'n ymateb i'w hymchwil sy'n adnabod y tueddiadau sylweddol allweddol sy'n effeithio ar drefi yng Nghymru a'r awgrymiadau a wnaethant, gan gynnwys cyhoeddi strategaethau tref ym mhob tref, gan sicrhau perchenogaeth leol a bod busnesau a'r sectorau gwirfoddol a chyhoeddus yn cael eu cynnwys; ystyried sefydlu cofrestr eiddo lle mae ymyriadau yn aml yn methu gyda landlordiaid absennol neu rai na ellir eu hadnabod, meithrin sail ar gyfer ymgysylltu; ac ailystyried swyddogaeth ardrethi busnes mewn trefi, gan efelychu'r gostyngiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn Lloegr i fusnesau'r stryd fawr, a fydd, yn eu barn nhw, yn ddechrau da, ond, yn y tymor hwy, bydd angen rhoi gwell ystyriaeth i effaith trethi yn ein trefi? Diolch.

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

17:50

Os cymeraf y cwestiwn am y pecyn arian £90 miliwn ac amserlenni hwn yn gyntaf, wel, mae'n rhaid ei ddadelfennu, gan fod y £90 miliwn yn cwmpasu sawl elfen wahanol, a'r rhan fwyaf ohonynt yw'r gronfa buddsoddi adfywio wedi'i thargedu, estyniad tan 2022 o £57.6 miliwn, a fydd ar gael i awdurdodau lleol ganfod prosiectau mewn trefi blaenoriaeth. Mae hefyd yn cynnwys y gronfa seilwaith gwyrdd £5 miliwn, a £10 miliwn ychwanegol ar gyfer y benthyciadau ar gyfer canol trefi. Ond efallai y byddai'n well i mi ddarparu'r dadansoddiad hwnnw i Aelodau yn ysgrifenedig, er mwyn iddynt allu dadansoddi hynny ymhellach ac esbonio'r amserlenni ar gyfer hynny er mwyn i chi eu lledaenu yn eich etholaethau a'ch cymunedau hefyd.FootnoteLink

Byddai'r Aelod yn disgwyl imi ddweud hyn, ac mae'n gas gennyf eich siomi, ond fe wnaethoch chi ddweud mai dynwared yw'r math mwyaf diffuant o edmygedd. Gallaf eich sicrhau ei bod hi'n debygol bod y cyhoeddiad hwn gennym eisoes ar y gweill pan gawsom y ddadl honno ychydig wythnosau'n ôl. Ond rwy'n falch iawn pryd gallwch ddod o hyd i feysydd lle ceir consensws, oherwydd ein bod ni i gyd yn cytuno bod ein trefi mor bwysig i ni, ac mae'n bwysig eu cefnogi nhw hefyd. Nid wyf yn anghytuno mewn unrhyw ffordd—ac fe ddywedais yn fy natganiad—ei bod hi'n eithriadol o bwysig, wrth inni fwrw iddi gyda'r gwaith adfywio hwn, ac yn enwedig y pwyslais ar ganol trefi, fod cymunedau'n ymwneud â hynny. Oherwydd gallwch fuddsoddi arian mewn tref, ond er mwyn sicrhau ei bod yn gweithio yn y tymor hir, rhaid i hynny gael cefnogaeth rhanddeiliaid, pa un a ydynt yn fusnesau, pa un a ydynt yn aelodau o grwpiau cymunedol. Felly, rwy'n awyddus i edrych ar ffyrdd eraill y gallwn ni eu defnyddio i hwyluso hynny, yn y dyfodol, ac os oes gan unrhyw Aelodau yn y Siambr hon unrhyw awgrymiadau, byddwn yn fwy na pharod i wrando arnynt.

Un o'r pethau yr ydym yn ei wneud yn rhan o'r pecyn hwn yw ystyried sut y gallwn ni gyfathrebu mwy gyda chymunedau, i weithio gyda nhw, i siarad mewn gwirionedd am y gefnogaeth yr ydym yn sôn amdani a chael eu barn, a sefydlu trefn i bobl allu tynnu sylw at broblemau a chyflwyno awgrymiadau. Ac rwy'n awyddus i edrych ar sut y gallwn ni gynnwys cynghorau tref a chymuned yn fwy o lawer yn hynny hefyd, oherwydd, o'm profiad i, nhw yn aml yw'r bobl sydd ar flaen y gad yn y gymuned, yn gweld beth yw'r heriau ac yn chwilio am yr atebion hynny.

O ran cyhoeddiad Llywodraeth y DU ynghylch y £3.6 biliwn, nid oes dim o'r arian ychwanegol yr wyf wedi'i gyhoeddi'r wythnos hon yn deillio o symiau canlyniadol Fformiwla Barnett o gronfa trefi Llywodraeth y DU. Nid ydym ni wedi cael gwybod am unrhyw gyllid canlyniadol yn sgil hynny, ac efallai y gallwn annog yr Aelod efallai i holi ei gyd-Aelodau yn San Steffan ac efallai lobïo ar ran Cymru i sicrhau, os bydd unrhyw swm canlyniadol, yna y dylem ei gael.

17:55

Diolch i'r Dirprwy Weinidog am ei datganiad. Mae llawer i'w groesawu ynddo. Mae pobl yn sylweddoli fwyfwy bod trefi wedi cael eu hesgeuluso oherwydd diffyg gweithredu gan Lywodraethau yn y fan yma ac yn San Steffan, ac mae yna sylweddoliad hefyd, rwy'n credu, fod angen newid hynny oherwydd bod canol trefi mor bwysig i fusnesau, i iechyd yr economi leol, ac wrth gwrs—yn bwysicaf oll, efallai—i'r bobl sy'n byw ynddynt.

Byddwn i gyd yn gyfarwydd â'r profiad o ymweld â chanolfannau trefi hanesyddol a strategol bwysig yng Nghymru a chael ein siomi o weld adfeilion a siopau â gorchuddion haearn dros eu mynedfeydd. Ond, Dirprwy Weinidog, mae yna hadau gobaith yng Nghymru hefyd, ac rwy'n credu y byddem i gyd yn hoffi manteisio ar y cyfle hwn i longyfarch Treorci am ennill gwobr y stryd fawr orau yn y DU. Felly, beth mae Treorci yn ei wneud yn iawn? Mae tua 100 o siopau ar y stryd fawr, a'r mwyafrif helaeth ohonyn nhw yn cael eu rhedeg yn annibynnol, ac mae'r raddfa feddiannaeth yn syfrdanol ar 96 y cant, sy'n rhyfeddol. Dyma'r hyn y dylem ni fod yn anelu ato ym mhob cwr o Gymru. Felly, byddwn yn croesawu clywed beth fydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddysgu o'u profiadau yn y fan yna—yn enwedig y ffaith bod 60 y cant o'r siopau annibynnol, yn ôl y BBC, yn cael eu rhedeg gan fenywod, sy'n dangos sut y gall economi leol ddod â manteision pendant mewn cydraddoldeb economaidd.

Nawr, llwyddiant arall sy'n raddol amlygu ei hun yw Llanelli, lle mae'r awdurdod lleol wedi gwneud defnydd rhagorol o ffrydiau ariannu, gan gynnwys y cynllun benthyca ar gyfer canol trefi. Felly, a allai'r Dirprwy Weinidog gadarnhau y bydd y cyllid hwn yn parhau i fod ar gael i awdurdodau lleol sy'n awyddus i ddefnyddio'r holl ddulliau sydd ar gael iddynt i weddnewid canol eu trefi? Nawr, byddwn yn cytuno bod y gronfa £10 miliwn ar gyfer adfer eiddo adfeiliedig ar gyfer eu defnyddio unwaith eto yn briodol fel cam cyntaf tuag at fynd i'r afael â'r broblem honno. Ond y gŵyn a glywn gan fusnesau dro ar ôl tro yw na allant gael deupen llinyn ynghyd oherwydd baich andwyol ardrethi busnes, sy'n uchel yng Nghymru i fusnesau bach a chanolig, fel y gwyddoch chi. Felly, er fy mod yn croesawu'r geiriau di-lol yr ydych chi wedi'u dweud, pan ddywedwch y byddwch yn grymuso awdurdodau lleol i weithredu'n gadarn a therfynol yn erbyn perchenogion eiddo gwag sy'n gwrthod cydweithredu, mae angen inni weithredu hefyd i atal yr eiddo hyn rhag dadfeilio a chael eu gadael yn wag yn y lle cyntaf. Felly, rwy'n eich annog i berswadio Gweinidog yr economi i edrych ar sut y gellir codi baich ardrethi busnes fel blaenoriaeth, fel y gellir ategu eich geiriau cadarn gyda gweithredu cadarn yn hynny o beth hefyd.

Yn wir, mae llawer o'r problemau y mae canol trefi'n eu hwynebu yn tarddu—gan fod y pethau hyn oll yn gysylltiedig, byddant yn deillio o bortffolios yr economi a thrafnidiaeth: diffyg gwasanaethau bws fforddiadwy o fewn a rhwng trefi sy'n ei gwneud hi'n anodd i'r cyhoedd defnyddio trafnidiaeth i deithio o gwmpas, a chostau parcio afresymol, sy'n golygu nad yw teithio mewn car yn ddymunol i gynifer o bobl.

Synnais braidd o weld cyfeiriad at wasanaethau lleol, megis canolfannau hamdden, yn datgan eu bod yn hanfodol i ganol trefi. Wrth gwrs fy mod yn cytuno â'r egwyddor honno, ond bu'n rhaid i ymgyrchwyr yn fy rhanbarth i frwydro nerth eu deng ewin i atal cau adnodd lleol gwerthfawr, sef Canolfan Hamdden Pontllanfraith. Unwaith eto, nid wyf yn amau didwylledd y bwriad yma, ond teimlaf y byddai mwy o weithio rhwng adrannau o fudd i'r Llywodraeth yma hefyd, oherwydd mae toriadau i lywodraeth leol yn anochel yn golygu toriadau i wasanaethau lleol, a byddai mynd ati fel un llywodraeth yn rhywbeth y byddai croeso brwd iawn iddo yn hynny o beth.

Ac yn olaf, hoffwn ddiolch i'r Dirprwy Weinidog am y nodyn a ddosbarthwyd ganddi cyn y datganiad am yr egwyddor o ystyried canol trefi yn gyntaf. Mae hyn yn rhywbeth y mae Plaid Cymru yn ei gefnogi'n llwyr fel ffordd o gynyddu nifer yr ymwelwyr yng nghanol ein trefi, ac unwaith eto, gobeithiaf y caiff yr uchelgais ei wireddu gyda gweithredu. Soniwyd yn y nodyn na fydd pob gwasanaeth cyhoeddus a chyfleusterau yn addas ar gyfer canol y dref, felly, a fyddech cystal â nodi pa wasanaethau a chyfleusterau nad ydych yn rhagweld y byddant yn addas ar gyfer canol trefi? Ond eto, mae llawer i'w groesawu yn y fan yma ac rwy'n edrych ymlaen at graffu gyda diddordeb ar y modd y cyflawnir y cynlluniau.

18:00

Diolch. Diolch i'r Aelod am ei chyfraniad. Yn gyntaf oll ac yn bennaf, rwy'n ategu eich llongyfarchiadau i Dreorci ar ei buddugoliaeth wych a'r gydnabyddiaeth y mae'n ei haeddu. Nid oeddwn yn ymwybodol o'r sylw hwnnw a wnaethoch chi fod tua 60 y cant o'r siopau annibynnol yn cael eu rhedeg gan fenywod, sy'n wych. Mewn gwirionedd, pan fyddaf yn meddwl am y trefi yn fy nghymuned fy hun, mae hynny'n wir wrth inni symud ymlaen nawr. Yn amlwg, mae gennym ni lawer i'w ddysgu. Rydym yn siarad am yr heriau, ond rwy'n credu weithiau bod yn rhaid i ni feddwl yn nhermau'r gwydr hanner llawn a gweld yr hyn y gallwn ni ei ddysgu oddi wrth y trefi hynny sy'n gwneud yn dda ac sydd efallai'n mynd yn groes i'r duedd.

Felly, rwy'n credu bod yn rhaid inni ddysgu mwy am yr hyn sydd wedi digwydd yn Nhreorci a sut maen nhw wedi cyflawni hynny, ac efallai sut y gallan nhw rannu'r arferion gorau hynny gyda threfi eraill o faint a natur debyg hefyd. Ond cydnabod bod hynny yn ymwneud â dod o hyd i'r pwynt gwerthu unigryw hwnnw ar gyfer tref a sut yr ydych chi'n croesawu hynny a'i ddefnyddio, yn hytrach na cheisio bod fel rhywle arall neu geisio cystadlu â thref gyfagos, ac efallai ategu hynny.

Fe wnaethoch chi sôn am Lanelli, rwy'n credu ei bod hi beth amser yn ôl, y llynedd, pan lwyddais i ymweld a gweld rhywfaint o'r gwaith sydd wedi'i wneud yno i geisio ail-greu canol y dref ac efallai ei ailstrwythuro a'i ddwyn ynghyd a'i gyfnerthu. Yn sicr, gwelais yr hadau o welliannau'n cael eu hau yno.

Disgwylir i'r benthyciadau i ganol trefi barhau ac mae gwerth £10 miliwn ychwanegol o gyllid ar gyfer hynny, oherwydd gwn ei fod wedi gwneud gwahaniaeth gydag awdurdodau lleol yn gallu hwyluso'r benthyciadau hynny a chyflwyno buddsoddiad preifat. Felly, mae hynny'n wirioneddol lesol i rai o'n cymunedau.

Mae'r gronfa orfodi ar gyfer eiddo adfeiliedig mewn gwirionedd yn £13.6 miliwn. Rydym ni eisoes wedi gweithio gydag awdurdodau lleol ar hyn i weld sut y gallan nhw nodi—. Maen nhw eisoes wedi nodi tri adeilad. Rydym ni i gyd yn gwybod am y rhai y mae pawb yn sôn amdanynt ac mae pawb yn cwyno amdanynt. Mae a wnelo hyn yn awr â sicrhau eu bod wedi nodi'r adeiladau cywir—y rhai sy'n gallu cyfleu y neges honno. Gallwch ymdrin ag un neu ddau a defnyddio hynny fel erfyn yn y dyfodol.

O ran swyddogaeth ac ardrethi busnes y Gweinidog Cyllid, mae hon yn drafodaeth yr ydym ni'n ei chael yn rheolaidd, ac rwy'n falch iawn bod y cynllun rhyddhad ardrethi ar gyfer y stryd fawr wedi cael ei ymestyn yn ddiweddar. Rydw i wedi clywed drosof fy hun fod hynny wedi gwneud gwahaniaeth i bobl. Yn amlwg, yn y dyfodol, mae gwaith yn mynd rhagddo o ran trethiant lleol yn ei gyfanrwydd a sut rydym ni'n credu—. Rydych chi'n iawn: mae yna ffordd gynhwysfawr o wneud i hyn weithio, ac mae trafnidiaeth yn allweddol. Oherwydd does dim diben i ni ailddatblygu canol ein trefi os na allwn ni eu defnyddio. Felly, rwy'n credu, yn y dyfodol, bod yn rhaid i'r Bil trafnidiaeth gyhoeddus ac elfennau o hynny gydweithio. Gallaf eich sicrhau bod gan hyn ymrwymiad a chefnogaeth draws-lywodraethol i wneud i hyn weithio yn y dyfodol. 

Fel eraill y prynhawn yma, Dirprwy Weinidog, fe hoffwn innau hefyd groesawu'r datganiad yr ydych chi wedi'i wneud. Rwy'n credu, ym mhob rhan o'r Siambr, er gwaethaf llawer o wahaniaethau, y byddem i gyd yn croesawu'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn meddwl yn strwythuredig nawr ynglŷn â dyfodol canol ein trefi. Mae hyn yn rhywbeth sy'n effeithio nid yn unig ar economi lleoedd unigol, ond mae hefyd yn effeithio'n fawr ar ganfyddiadau pobl ohonynt eu hunain. Mae'n fater sydd wrth wraidd pwy ydym ni fel cymunedau a phwy rydym ni eisiau bod yn y lleoedd yr ydym yn byw ynddynt. Rwy'n croesawu'n fawr y ffordd gynhwysfawr hon sy'n cael ei mabwysiadu.

Ond os caf i, hoffwn eich annog i fynd ychydig ymhellach, Dirprwy Weinidog, i fod ychydig yn fwy cynhwysfawr hefyd. Os ystyriaf y cymunedau yr wyf i yn eu cynrychioli: dyna ichi Lynebwy, er enghraifft. Pan fyddaf yn siarad â phobl sy'n fanwerthwyr ac yn berchnogion siopau yno, byddant yn dweud wrthyf mai un o'r heriau mwyaf y maen nhw'n eu hwynebu yw diffyg gwasanaethau bws priodol i ganol y dref, a dywedir yr un peth mewn rhannau eraill o'm hetholaeth. Nawr, rydych chi'n rhoi £90 miliwn, sy'n amlwg yn dderbyniol iawn, ond mae adran arall yn cwtogi'r grant gwasanaethau bysiau. Rwy'n credu bod angen i ni weld ffordd fwy cysylltiedig o weithio rhwng gwahanol adrannau'r Llywodraeth, fel bod y gwaith yr ydych yn ei wneud yn eich adran chi yn cael ei gefnogi gan y gwaith sy'n cael ei wneud gan eich cydweithwyr mewn adrannau eraill ac nad yw'n cael ei danseilio—er fy mod yn derbyn ei fod yn anfwriadol. Ar yr un pryd, mae angen inni sicrhau ein bod yn cynllunio mewn modd a fydd yn galluogi canol trefi i ffynnu ac nid bod yn ddim mwy na getos, fel sydd wedi digwydd mewn llawer o leoedd.

Wedi dweud hynny, rwyf yn croesawu'n fawr iawn mewn gwirionedd y pwyslais newydd, fel yr wyf fi'n ei weld, ar y seilwaith gwyrdd. Rwy'n credu mai dyna un o'r materion mwyaf allweddol. Pan edrychwch chi yn fanwl ar leoedd lle rydych chi'n hoffi bod—canol trefi a chanolfannau cymunedol sy'n ddeniadol, sy'n teimlo'n gyfforddus, lle mae pobl eisiau treulio amser ynddynt—maen nhw hefyd yn ardaloedd sy'n ddeniadol i'r llygad. Mae angen inni sicrhau ein bod yn gallu buddsoddi yn yr amgylchedd adeiledig, ond hefyd yn y seilwaith gwyrdd, a fydd, rwy'n credu, yn cael effaith fawr ar ganfyddiadau pobl o ble y maen nhw.

Gofynnaf ichi fynd ychydig ymhellach, Gweinidog, o ran sut y caiff hyn ei gyflawni. Fe wnaethoch chi ddweud, yn eich datganiad a hefyd mewn ateb i gwestiynau cynharach, eich bod eisiau gweithio gyda rhanddeiliaid eraill ac ati. Credaf fod hynny i gyd yn ganmoladwy iawn, a byddai'n fwy o syndod pe na baech yn dweud hynny. Ond mae diffyg adnoddau, rwy'n credu, gan lywodraethau lleol ac mewn meysydd eraill i alluogi'r math hwn o ddatblygiad strwythuredig i ddigwydd. Hoffwn weld Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mewn mwy o adnoddau, boed yn rheolwyr canol trefi neu yr hyn sy'n gyfwerth â datblygu dull strwythuredig o sicrhau ein bod yn gweld y meysydd polisi gwahanol hyn yn cael eu dwyn ynghyd er mwyn cyflawni newid mewn cymuned benodol.

Hoffwn ofyn ichi hefyd pa waith yr ydych chi'n ei wneud i sicrhau bod y ddeddfwriaeth a basiwyd yn y fan yma ar ddiwedd y Cynulliad diwethaf—credaf mai Deddf yr amgylchedd adeiledig oedd hi—yn cael ei gweithredu er mwyn sicrhau bod rhywfaint o'r bensaernïaeth yr ydym ni eisiau ei gwarchod mewn gwahanol rannau o'n cymunedau, a hefyd yr amgylchedd adeiledig ei hun, yn cael eu cynnal ac y caiff y gyfraith honno ei defnyddio i'r eithaf. Nid wyf yn argyhoeddedig ar hyn o bryd y caiff ei defnyddio i'r graddau y dylai fod yn cael ei defnyddio er mwyn amddiffyn rhai o'n hamgylcheddau mwyaf gwerthfawr.

Ond rwy'n gobeithio hefyd—ac rwyf am orffen gyda hyn, Dirprwy Lywydd—y bydd Llywodraeth Cymru yn gallu sicrhau nad ydym yn mynd drwy broses arall o fuddsoddi mewn prosiectau unigol, ond ein bod mewn gwirionedd yn buddsoddi mewn lleoedd cyfan.

18:05

I ddechrau lle gwnaethoch chi orffen, y ffordd rwy'n ymdrin â hyn a'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn ymdrin â hyn yw: nid yw'n ymwneud â'r prosiectau yn unig, mae'n ymwneud â'r lleoedd a'r bobl sy'n ffurfio'r lleoedd hynny. Fel y dywedwn ni, fe wnaethoch chi sôn am roi hwb i economi'r lle unigol, mae hyn mewn gwirionedd yn ymwneud â'r ymdeimlad o'r lle hefyd, a'r ymdeimlad hwnnw fod pobl yn teimlo bod eu tref enedigol wedi dirywio a'r ymdeimlad hwnnw o falchder dinesig sy'n mynd gyda'r lle. Rwy'n credu mai dyna pam mae angen i ni fynd ati—rydych chi yn llygad eich lle—yn y ffordd gynhwysfawr honno, gan sicrhau bod pethau'n gydgysylltiedig ac nad oes unrhyw effeithiau anfwriadol mewn mannau eraill. Fel y dywedais o'r blaen, mae'n ymwneud â gallu cyrraedd trefi mewn gwirionedd, yn ogystal â chael tref braf a lle braf i fynd iddo a chael y profiad hwnnw yno hefyd.

Yn benodol o ran seilwaith gwyrdd ac edrych ar y manteision a ddaw yn ei sgil. Ydy, mae'r brics a'r morter yn bwysig, ond am gyfnod rhy hir dyna'r cyfan yr ydym ni wedi canolbwyntio arno. Pan fyddwn ni wedi edrych ar beth yw'r amgylchfyd cyhoeddus neu'r gofod cyhoeddus, yn aml mae'n ychydig o goncrit neu rai cerrig palmant neu ychydig o blanhigion pot, yn hytrach dylem feddwl amdano mewn ffordd llawer ehangach a mwy buddiol. Er bod y gronfa seilwaith gwyrdd yn £5 miliwn fel cronfa ar wahân, byddwn yn annog awdurdodau lleol ac eraill, wrth iddynt ystyried prosiectau adfywio eraill, i ddefnyddio'r meini prawf y byddwn yn eu hystyried yn y dyfodol a rhoi sylw i'r rheini mewn gwirionedd yn rhan o hynny hefyd. Rydym ni eisiau i hynny fod yn rhan o'r prosiectau hynny sy'n cael eu cyflwyno gan awdurdodau lleol a rhanddeiliaid eraill.

Rwy'n cydnabod yr hyn sydd wedi cael ei ddweud yn y fan yma o ran gwneud yn siŵr bod cefnogaeth i awdurdodau lleol yn y ffordd gynhwysfawr honno, a chydnabyddiaeth bod cyllidebau'n dynn ar ôl degawd o gyni. Ond rydym ni'n gwneud yr hyn a allwn ni o fewn hyn. Rydym yn bwrw ymlaen â hyn nawr, gyda chymorth o fannau eraill o bob rhan o'r Llywodraeth, ac rwy'n falch iawn ein bod yn gallu cynnig cyllid refeniw i awdurdodau lleol i ddechrau edrych ar yr hyn y bydd ei angen arnynt i fwrw ymlaen â hyn hefyd, boed hynny'n golygu cynllunio manwl neu gymorth digidol neu ymgysylltu â'r gymuned.

18:10

Diolch am eich datganiad, Dirprwy Weinidog, ac rwy'n croesawu ymrwymiad newydd Llywodraeth Cymru i ganol ein trefi. Mae siopau gwag yn annog siopwyr posibl i gadw draw a, phan fyddant yn wag, gellir eu fandaleiddio, yn enwedig yn hwyr yn y nos, gan wneud y dref yn ardal lle nad yw'n bosibl cerdded drwyddi. Mae llawer o siopau gwag yng nghanol ein trefi ledled Cymru, ac felly rwy'n croesawu'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn rhoi pwyslais ar ganol trefi.

Fel cyn-adwerthwr, mae gennyf ddiddordeb arbennig yn y gwaith o adfywio canol ein trefi gyda gwasanaethau bws rheolaidd i annog siopwyr, oherwydd mae diffyg gwasanaethau o'r fath a gostyngiad parhaus mewn gwasanaethau o'r fath yn cael effaith negyddol ar y dref. Ac er fy mod yn derbyn na fydd pob eiddo gwag yn cael ei lenwi gan siop, mae'n rhaid i ni geisio annog manwerthwyr annibynnol bach i sefydlu siop, fel petai.

Mae cyfran uwch o lawer o refeniw yn cael ei hailgylchu yn y gymuned leol drwy fusnesau bach na thrwy siopau mwy o faint. Heb siopau bach, annibynnol, mae'r stryd fawr mewn perygl o fod naill ai'n llefydd marw neu'n fersiynau llai o'n parciau manwerthu ar gyrion trefi. Ac os ydym ni eisiau cadw cymeriad ein strydoedd mawr, o Ben-y-bont ar Ogwr i Fangor, o Gei Connah i'r Bont-faen, yna mae'n rhaid i ni weithredu nawr.

Mae un o bob wyth uned fanwerthu yn wag ar hyn o bryd ac mae economi Cymru ar ei hôl hi o'i chymharu â gwledydd eraill y DU, ac nid yw'r rhagolygon ar gyfer y stryd fawr yn edrych yn dda. Mae manwerthwyr y stryd fawr yn cael trafferth gyda rhenti ac ardrethi busnes cynyddol, ar yr un pryd ag wynebu cystadleuaeth gynyddol gan fanwerthwyr ar-lein ac ar gyrion trefi, sydd â chostau is yn aml, yn ogystal â pharcio am ddim. Felly, Dirprwy Weinidog, a allwch chi amlinellu sut yr ydych chi'n gweithio gyda Gweinidog yr Economi a'r Gweinidog Cyllid i fynd i'r afael â'r costau cynyddol sy'n ymwneud â masnachu?

Rydych chi wedi dweud yn eich datganiad y byddwch yn gweithredu'n gadarn a therfynol yn erbyn perchnogion eiddo gwag sy'n gwrthod cydweithredu. Felly, a wnewch chi amlinellu sut beth fydd y gweithredu hwnnw? Gall fod sawl rheswm, fel y gwyddom ni, dros eiddo gwag, Dirprwy Weinidog. Gan fod Llywodraeth Cymru yn llym gyda pherchnogion busnesau preifat, a wnewch chi wneud yn ogystal â dweud a sicrhau y defnyddir unwaith eto yr holl eiddo gwag hynny sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru?

Yn olaf, Dirprwy Weinidog, y fenter hon yw'r mesur diweddaraf gan eich Llywodraeth sydd â'r nod o wella canol ein trefi, felly pa sicrwydd allwch chi ei roi i'm hetholwyr na fydd problemau cynlluniau cynharach yn dod i'w ran, cynlluniau a oedd yn gweithredu ar eu pen eu hunain ac nad oeddent yn destun craffu? Sut gall pobl fy rhanbarth fod yn sicr y bydd trefi fel Castell-nedd, Pontardawe a Phen-y-bont ar Ogwr yn cael cymorth gwirioneddol? Diolch.

Rwy'n credu bod yr Aelod wedi plesio Jack Sargeant pan wnaethoch chi grybwyll Cei Connah yn eich araith gynnau. O ran y sylwadau am yr heriau sy'n wynebu ein strydoedd mawr, mae llawer o heriau tebyg, nid yn unig yng Nghymru, ond ledled y DU. Rydych chi yn llygad eich lle bod angen i ni weithio fel Llywodraeth gyfan gyda'r Gweinidog Cyllid a Gweinidog yr economi, oherwydd nid yw hynny'n digwydd ar wahân, mae angen ei wneud gan gynnwys pawb.

Fe wnaethoch chi sôn am sicrwydd i breswylwyr a manwerthwyr yn eich etholaeth a'ch rhanbarth. Credaf mai'r hyn sy'n bwysig yw bod gan y cymunedau ran mewn unrhyw ddatblygiadau, a dyna pam, fel yr wyf wedi pwysleisio heddiw, fod angen i'r gymuned gefnogi hynny ac i'r syniadau fod yn rhai a gaiff eu sbarduno ar lawr gwlad, yn hytrach na rhywbeth sy'n digwydd i bobl a lleoedd. Felly, dyna sut y gallwn ni helpu awdurdodau lleol a chynghorau tref a chymuned i wneud hynny.

Mae'n ymwneud mewn gwirionedd â nodi prosiectau i'w cyflwyno; mae'n fater i awdurdodau lleol i geisio nodi prosiectau, ond byddwn eisiau cynnwys cynifer o randdeiliaid â phosibl a sicrhau bod gennym ni fodd i'r gymuned fynegi barn ynghylch hynny. Fel y dywedais, gallwch roi adnoddau neu grantiau neu gyllid ar gyfer benthyciadau, ond er mwyn cynnal llwyddiant cymuned neu ganol tref mae angen nid yn unig i fanwerthwyr gymryd rhan yn hynny a'i gofleidio, ond i'r trigolion, cynghorwyr tref, a phawb cysylltiedig wneud hynny fel ei fod yn llwyddiannus ymhell i'r dyfodol.

18:15

Diolch.

Mae gennyf nifer o siaradwyr ac rwy'n edrych ar yr amser, felly crynoder nawr. Rydym ni wedi cael y prif siaradwyr o bob un o'r pleidiau, felly a gaf i ofyn am grynoder gan y gyfres nesaf o siaradwyr hefyd. Jack Sargeant.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Dechreuaf drwy ddiolch i Caroline Jones am sôn am Gei Connah. Nid yn aml iawn mae aelodau o'r de yn sôn am drefi yn y gogledd, felly rwy'n croesawu hynny'n fawr iawn. [Chwerthin.]

Gweinidog, mae'r stryd fawr yn newid, ac os yw strydoedd mawr fel Bwcle yn fy etholaeth i yn mynd i ffynnu, yna mae'n rhaid inni sicrhau bod y seilwaith yn caniatáu iddyn nhw wneud hynny. Yn gyntaf, fel y mae llawer o bobl wedi dweud yn y Siambr, mae'n ymwneud â chael ffordd ddibynadwy a fforddiadwy o gyrraedd y fan honno. Felly, gallai metro'r gogledd, i mi, chwarae rhan allweddol wrth ddatrys y mater hwn a chreu canolfan drafnidiaeth. Mewn tref fel Bwcle, byddai'n galluogi preswylwyr i fynd i'r stryd fawr gan adael y car gartref, ond mae hefyd â'r gallu i gysylltu ein cymunedau gwledig â'u strydoedd mawr a chanol eu trefi agosaf.  

Nawr, Gweinidog, rwyf wedi sôn llawer wrthych chi am bwysigrwydd seilwaith bancio hefyd, a'r hyn y gall hynny ei olygu i'r stryd fawr, sy'n dal heb ei wireddu. Rydym yn colli cymaint o fanciau'n gyflym. Mae'r gwahaniaeth o gael banc cymunedol a'r hyn y gallai hynny ei olygu i'r bobl yn y trefi hyn yn enfawr. Mae gallu defnyddio gwasanaethau bancio wyneb yn wyneb a chodi arian parod am ddim yn cadw'r arian yn yr economi leol. Felly, a gaf i ofyn i chi, Gweinidog: pa sgyrsiau ydych chi wedi'u cael gyda Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ynghylch creu canolfannau trafnidiaeth mewn trefi fel Bwcle, ond hefyd creu banciau cymunedol mewn trefi fel Bwcle hefyd?

Yn olaf, os caf i—rwy'n gwybod bod amser yn prysur gario'r dydd, Dirprwy Lywydd—ond hoffwn siarad yn rhinwedd fy swyddogaeth yn gadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar gwrw a thafarndai yng Nghymru. Nawr, mae angen i ni gadw ein mannau cymunedol unigryw mewn trefi. Mewn mannau eraill, mae rheolau cynllunio yn cyfyngu ar droi tafarndai yn fentrau masnachol eraill fel siopau, er enghraifft, heb fod angen caniatâd gan yr awdurdod lleol. Nawr, rwy'n deall bod gan Lywodraeth Cymru gynigion yn yr arfaeth i ddiwygio'r ddeddfwriaeth yng Nghymru, ond a wnewch chi bwysleisio'r angen i fwrw ymlaen â hyn ar fyrder gyda'ch cydweithwyr yn Llywodraeth Cymru? Diolch  

Diolch i Jack Sargeant am ei gyfraniad a'i gwestiynau. Mae Bwcle yn dref rwy'n gyfarwydd â hi, nid oherwydd imi dreulio llawer o'm blynyddoedd iau yn mynd i'r clwb nos Tivoli yno, ond oherwydd ei fod ar ffin fy etholaeth fy hun, ac mae gennyf lawer o ffrindiau a theulu sy'n byw yno hefyd. Fel nifer o drefi ledled Cymru, mae Bwcle wedi newid dros y blynyddoedd, mae'r ffordd yr ydym ni'n siopa wedi newid, mae'r ffordd yr ydym ni'n gweithio a'r ffordd yr ydym ni'n byw wedi newid.

Ond rydych chi'n llygad eich lle ynghylch y rhan y gall Metro'r gogledd-ddwyrain ei chwarae ac, mewn gwirionedd, y cysylltiadau seilwaith hanfodol hynny mewn ystyr arall, fel banciau a fferyllfeydd hefyd. Pan welwn ni rai strydoedd mawr sydd wedi llwyddo i wrthsefyll y duedd ychydig, maen nhw wedi llwyddo i gadw'r pethau hynny sy'n denu ymwelwyr; dewch â phobl i mewn ac yna eu cymell i fynd i fusnesau annibynnol efallai ochr yn ochr â hynny. Felly, ydw, yn sicr rwyf wedi cael sgyrsiau gyda fy nghyd-Weinidog, Gweinidog yr Economi, ynghylch sut y gallwn ni ddefnyddio'r elfennau sydd ar gael inni gyda'n gilydd i sicrhau ein bod yn dod â gwasanaethau i gymunedau fel Bwcle ar hyd a lled y wlad.

O ran y sylw yr ydych chi'n ei wneud yn rhinwedd eich swyddogaeth yn gadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar gwrw a thafarndai, sy'n swyddogaeth eithaf braf os caf i ddweud hynny, roedd yr ymgynghoriad a gawsom ni yn flaenorol yn cydnabod y swyddogaeth sydd gan dafarnau nid yn unig fel canolbwynt i'r gymuned, ond fel canolfan, fel y gwelsom ni mewn nifer o leoedd, efallai mewn trefi mwy gwledig, maen nhw mewn gwirionedd yn cynnal swyddfeydd post nawr, a chyfleustodau a siopau. Rwy'n gwybod fod y Gweinidog wedi ymrwymo i gyflwyno hynny cyn gynted ag sy'n bosibl yn ddeddfwriaethol.

Dwi'n croesawu, wrth gwrs, unrhyw fentrau i sicrhau bod buddsoddiad yn gallu mynd i mewn i ganol ein trefi. Dwi'n edrych ymlaen at weithio efo gwahanol fudiadau a chynghorau tref ac ati yn Ynys Môn i weld sut mae'n bosibl manteisio ar hyn—a gweithio yn Amlwch, er enghraifft, un o'r lleoedd sydd wedi gweld dirywiad canol tref dros y blynyddoedd diwethaf.

Ond jest eisiau sôn am un syniad penodol ydw i yn nhref Caergybi. Mae'n bwysig, wrth gwrs, wrth gynllunio ein canol trefi, ein bod ni'n gweithio ar draws gwahanol adrannau a dod â gwahanol gyrff cyhoeddus at ei gilydd. Mae yna argyfwng mewn gofal sylfaenol iechyd yng Nghaergybi ar hyn o bryd; y bwrdd iechyd wedi cymryd drosodd dwy syrjeri oherwydd diffyg meddygon, ac mae angen adeiladu gwasanaeth iechyd sylfaenol o'r newydd. Mae o wedi cael ei dynnu i fy sylw i bod yr hen siop Woolworths yng nghanol Caergybi—y math o beth a allai fod yn ddelfrydol ar gyfer agor canolfan iechyd aml-ddisgyblaethol newydd—yn berffaith oherwydd y math o adeilad ydy o, yng nghanol y dre ac â pharcio yno. Bydd yn dod â phobl i mewn wedyn, wrth gwrs, fel footfall i ganol Caergybi mewn ffordd a allai greu bwrlwm economaidd. Rŵan, mae yna opsiynau eraill yn cael eu hystyried wrth gwrs, ond dwi wedi cyflwyno'r syniad yna, ar ôl iddo fo gael ei dynnu i'n sylw i, i'r bwrdd iechyd; dwi'n gobeithio y gwnaiff yr awdurdod lleol ei gymryd o o ddifri hefyd. Ond, tra ddim yn gofyn i chi wneud penderfyniad heddiw, na rhoi arian, ydych chi'n cytuno efo fi mewn egwyddor bod y math yna o fenter yn un sydd wirioneddol yn clymu nifer o bethau at ei gilydd yr ydyn ni angen ei wneud a chael impact arnyn nhw, a'i fod o yn haeddu ystyriaeth fanwl?

18:20

Diolch am y cwestiwn. 

Ydw, rwy'n credu, i wneud penderfyniad ynglŷn ag ariannu neu—[Anhyglyw.]—os nad wyf yn gwneud penderfyniad sydd efallai yn uwch na fy ngraddfa gyflog i'w wneud beth bynnag. Ond, y sylw yr ydych chi'n ei wneud ynglŷn â sut yr ydym ni'n defnyddio'r safleoedd hynny—. Gan fod natur canol ein trefi wedi newid ac nad yw'r manwerthwyr mawr hynny yno; nid oes ganddyn nhw'r presenoldeb yr oedd ganddyn nhw ar un adeg, mae ynglŷn â sut rydym ni'n defnyddio'r safleoedd hynny a'u defnyddio mewn ffordd wahanol a rhoi diben newydd iddynt. Ac, yn sicr, rwy'n credu y byddai'r sylwadau yr ydych chi'n eu gwneud yn cyd-fynd yn dda iawn â'r dull gweithredu o ystyried canol trefi yn gyntaf.

Diolch, Dirprwy Lywydd.

Gweinidog, un agwedd ar ganol ein trefi y credaf fod llawer o bobl yn ei gweld yn ddeniadol iawn yw'r cynnig unigryw hwnnw nad yw'n ddyblygiad o'r hyn a welwch chi mewn cynifer o ganol trefi eraill ledled y DU. Felly, yn hytrach na'r cwmnïau mawr, mae'r siopau a'r storfeydd a welwch chi ym mhobman a'r busnesau lleol unigryw, rwy'n credu, yn gaffaeliad mawr. Rwy'n gwybod, mewn llawer o ardaloedd, bod cyfoeth, mewn gwirionedd, o bobl leol, unigolion a busnesau bach, sy'n ymwneud â chelf a chrefft, cerddoriaeth a darparu cynnyrch bwyd lleol. Rwy'n credu mai'r hyn a fyddai'n wirioneddol werthfawr fyddai cael ymarferion mapio lle mae'r unigolion a'r busnesau bach hynny yn cael eu nodi, eu dwyn ynghyd, ac weithiau, lle caiff safleoedd eu nodi, oherwydd, er yn unigol, efallai na fyddant yn gallu fforddio rhenti a safle, os dônt at ei gilydd fel cydweithfa, neu fel grŵp, yna daw hynny yn ddichonadwy ac yn bosibl.

Ond mae'n golygu bod yn rhaid i rywun, Gweinidog, gymryd y cam cyntaf i wneud hynny, ac efallai y bydd yn digwydd mewn rhai rhannau o Gymru ond nid mewn rhannau eraill. Felly, o ran bod Llywodraeth Cymru yn dangos arweiniad ac yn mynd ati mewn modd strategol, tybed a oes unrhyw beth yn benodol y gallai Llywodraeth Cymru ei ystyried i sicrhau bod y math hwnnw o weithgarwch wedi'i strwythuro a'i ddatblygu ledled Cymru.

Ac, un peth arall, Gweinidog: rwy'n gwybod, yng Nghil-y-coed, er enghraifft, yn fy ardal i yn Nwyrain Casnewydd, mai un o'r anawsterau wrth fwrw ymlaen â pholisi yng nghanol y dref yw canfod pwy yw perchenogion preifat y siopau, ac yna gweithio gyda'r perchnogion. Yn aml iawn, ceir llawer o anhawster wrth ymwneud â hynny, a tybed unwaith eto, a oes unrhyw beth y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud i ddarparu'r gefnogaeth angenrheidiol a helpu i ymdrin â'r materion hynny.

Diolch i'r Aelod am ei gyfraniad. Gan weithio ar y dybiaeth—ynghylch eich sylw olaf o ran yr anhawster i ganfod perchnogion—eich bod yn cyfeirio efallai at adeiladau neu eiddo a adawyd yn wag efallai, neu nad ydynt wedi cael eu gosod ar rent ers tro, dyma'r hyn yr ydym ni'n gobeithio y bydd y gronfa orfodi hon, ynghyd â'r sawl fydd yn gweithio gyda ni sy'n arbenigwr yn y diwydiant, a fydd yn ymweld ag awdurdodau lleol gyda ni o'r mis nesaf ymlaen, mewn gwirionedd, yn helpu i fynd i'r afael ag ef. Byddwn yn elwa ar arbenigedd y gŵr hwn, yn rhannu hynny, yn hyfforddi ac yn rhoi'r adnoddau priodol i'n cymheiriaid mewn awdurdodau lleol fel bod ganddynt yr hyder, yr adnoddau a'r cyllid i allu ymgymryd â hynny. Ac, ar ôl i un neu ddau gael eu herio, yna, gobeithio, y bydd hynny'n anfon neges drwy gymuned yn dweud, mewn gwirionedd, os na fyddwch chi'n cydweithredu ac os ydych chi'n mynd i fod yn anodd, yna fe weithredir yn eich erbyn. Ac rwy'n fwy na pharod i rannu mwy o fanylion am hynny gyda'r Aelod wrth i'r dull gweithredu hwn ddatblygu.

Rydych chi'n gywir am yr elfen unigryw sydd gan dref neu gymuned i'w chynnig, oherwydd dyna sy'n ei gwneud yr hyn ydyw, ac rwy'n credu, fel y dywedais o'r blaen, nid yw'n ymwneud â cheisio efelychu un peth penodol, ond yr hyn sy'n gweithio ar gyfer lle penodol a chymuned benodol. A'r sylw yr ydych chi'n ei wneud o ran sut y gallwn ni ddefnyddio hyn i greu, efallai, rhywbeth fel canolfan neu gyfrwng i roi'r cyfle hwnnw i bobl, na fyddent, fel y gwnaethoch chi ddweud, yn gallu fforddio'r safle ar eu pen eu hunain, a bod â'r adnoddau i wneud hynny, yn un dilys iawn. Rwy'n gwybod bod rhai awdurdodau lleol—a lle'r oeddwn i ddoe, yn y Rhyl, maen nhw'n ystyried sut y gallan nhw ddefnyddio hen adeilad Marchnad y Frenhines i ddenu cynhyrchwyr annibynnol i gysylltu â'r colegau lleol a rhoi cyfle mewn gwirionedd i fyfyrwyr gael stondinau dros dro, i ddatblygu cynlluniau busnes a chael y profiad hwnnw, a chael y math hwnnw o gyfle i'w galluogi, gobeithio, a'u helpu i lwyddo, yn y dyfodol. Felly efallai bod hynny'n rhywbeth y gallwn ni wneud rhywfaint o waith arno—sut y gallwn ni rannu'r syniadau hyn a rhannu'r arferion gorau hyn, i'w gweld yn cael eu hailadrodd mewn trefi a lleoedd ledled Cymru lle byddent yn briodol ac y byddai'r croeso mwyaf iddynt. 

18:25

Diolch, Dirprwy Weinidog, am eich datganiad yma heddiw. Mae gen i dri chwestiwn cyflym i chi. Yn gyntaf, o ran eich sylwadau ar yr egwyddor o roi canol y dref yn gyntaf, yn fy etholaeth i, yng Nghwm Cynon, rwyf wedi gweld rhai enghreifftiau gwirioneddol gadarnhaol, lle mae'r cyngor wedi gwella'r gwasanaethau cyhoeddus sy'n cael eu cynnig yng nghanol ein trefi. Ac rwy'n cytuno â'ch amcangyfrif o fanteision gwneud hyn. Fel y gwnaethoch chi sôn, mae lleoli pencadlys Trafnidiaeth Cymru ym Mhontypridd yn enghraifft wych o'r egwyddor hon ar waith. Yr hyn yr hoffwn i ei wybod yw sut y mae Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â phartneriaid eraill yn y sector cyhoeddus, ac, yn wir, mewn mentrau sector preifat hefyd, i'w hannog i mewn i ganol trefi.

Yn ail, fe wnaethoch chi sôn am y £10 miliwn o arian ychwanegol drwy'r gronfa fenthyciadau i sicrhau bod adeiladau gwag a rhannol segur yng nghanol y dref yn cael eu defnyddio unwaith eto. Rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth sydd wir angen ei grybwyll. Unwaith eto, mae rhai enghreifftiau rhagorol yn Rhondda Cynon Taf o'r awdurdod lleol yn ymyrryd i ddarparu cynlluniau tebyg. Rwy'n meddwl am gynlluniau defnydd cymysg Gwesty Boot yng nghanol tref Aberdâr, er enghraifft. Felly tybed a wnewch chi roi ychydig mwy o wybodaeth i ni, gan fy mod yn gwybod bod hwn yn rhywbeth y byddai fy etholwyr i'n hoffi gweld mwy ohono.

Ac mae fy nhrydydd cwestiwn a'r olaf yn ymwneud â'r ffaith eich bod yn sôn am y gronfa i geisio rhyddhau safleoedd segur strategol y byddai modd eu defnyddio ar gyfer tai. Tybed sut y byddai hynny'n cyd-fynd â'r gronfa safleoedd segur a gyflwynwyd tua dwy flynedd yn ôl, a beth, os o gwbl, yw'r gwahaniaethau arwyddocaol rhwng y ddau.

Diolch Vikki am eich cyfraniadau a'ch cwestiynau. Egwyddor canol y dref yn gyntaf—rydych chi'n gywir, mewn gwirionedd; gallwch chi weld, mewn egwyddor, fod y syniad y tu ôl iddo yn synnwyr cyffredin, mewn gwirionedd. Gallwch chi weld y gwahaniaeth y mae'n ei wneud, gan gynnwys ar y safle ym Mae Colwyn hefyd—y gwahaniaeth y maen nhw wedi'i weld yno. Wrth greu adeiladau'r Cyngor, un o'r penderfyniadau ymwybodol a wnaethon nhw oedd nid yn unig symud i leoliad canol tref, ond i beidio â chael ffreutur. Ac nid oherwydd eu bod yn ddiangen o gas i'r staff ac i'r gweithwyr—mae cyfleuster yno o hyd i wneud eich prydau, a gwneud eich te a'ch coffi a phethau—ond mewn gwirionedd i geisio annog yr ymgysylltiad hwnnw â'r gymuned leol, i fynd allan a chefnogi busnesau lleol hefyd, cyn ac ar ôl gwaith. A hefyd, mewn gwirionedd, sut y mae'r awdurdod lleol nawr yn meddwl am wasanaethau eraill y gallan nhw ddod â hwy i'r gofod hwnnw, i ddenu mwy o bobl i'r adeilad ac i'r dref hefyd.

Ac ar draws y sector cyhoeddus drwyddo draw, mae gan hyn gefnogaeth drawslywodraethol, ac nid yw hynny'n golygu dim ond ein dull gweithredu fel Llywodraeth, o ran ein strategaeth lleoliadau, o hyn ymlaen, ond mewn gwirionedd y gwaith a wnawn ni efallai drwy'r amryw fyrddau iechyd, drwy addysg, drwy awdurdodau lleol, a'r gwaith gyda chymdeithasau tai, a chyrff eraill hefyd. Felly, mae'n rhywbeth y dylid ei ddefnyddio—y cwestiwn, o fynd drwy'r prism o ganol y dref yn gyntaf, o hyn ymlaen.

Ac roeddech chi yn llygaid eich lle, mae RhCT yn enghraifft wirioneddol dda, o ran defnyddio eiddo unwaith eto, ac mae prosiectau sydd wedi cael eu cynnal gan y cyngor hefyd. Gwn i pan roddais i dystiolaeth i'r pwyllgor ynghylch eiddo gwag fod hynny'n cael ei grybwyll fel enghraifft gadarnhaol iawn, yr hoffwn i ei gweld yn cael ei hefelychu mewn mannau eraill. A chredaf i, o ran gwneud hynny, fod yr arian hwnnw y tu ôl iddyn nhw ar hyn o bryd, gyda'r gronfa orfodi a'r arbenigedd, i wneud i hynny ddigwydd yn gyflymach ac ar raddfa fwy, ledled y wlad. Ond hefyd, rwy'n credu yr hyn y byddwn i'n ei ddweud wrth eich etholwyr, o ran yr hyn yr ydym ni eisiau ei weld yn ei le, rwy'n credu ei fod yn mynd yn ôl i'r ffordd yr ydym ni'n gwella ac yn cynnwys cymunedau'n well wrth lunio'r agenda honno hefyd. Felly, fel y dywedais i, rwy'n gwahodd yr Aelod, os oes gennych chi awgrymiadau gan eich etholwyr ynglŷn â'r ffordd orau o wneud hynny yn y dyfodol, yna byddai croeso mawr iddyn nhw.

7. Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2020

Eitem 7 ar yr agenda y prynhawn yma yw Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2020. Galwaf ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd i gynnig y cynnig. Rebecca Evans.

Cynnig NDM7240 Rebecca Evans

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2020 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Ionawr 2020.   

Cynigiwyd y cynnig.

Mae Awdurdod Cyllid Cymru wedi bod yn casglu a rheoli treth gwarediadau tirlenwi yn llwyddiannus am y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae wedi gweithio'n agos gyda gweithredwyr safleoedd tirlenwi i'w cefnogi wrth weinyddu'r dreth, ac mae wedi sefydlu perthynas waith gref â Cyfoeth Naturiol Cymru. Hyd yn hyn, yn nau chwarter cyntaf y flwyddyn ariannol hon, mae'r dreth a aseswyd yn £21 miliwn ac yn cyfrif am ychydig dros 530,000 tunnell o wastraff.

Byddaf i nawr yn siarad ynghylch Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2020, sy'n ymwneud â gosod cyfraddau treth 2021 ar gyfer treth gwarediadau tirlenwi. Mae'r rheoliadau hyn yn gosod y cyfraddau safonol, is ac anawdurdodedig ar gyfer treth gwarediadau tirlenwi, a fydd, yn amodol ar ganlyniad y ddadl heddiw, yn gymwys i warediadau trethadwy a wneir ar neu ar ôl 1 Ebrill.

Wrth ddatblygu'r rheoliadau hyn, ystyriwyd sut mae'r cyfraddau sy'n cael eu gosod yn cefnogi'r amcan o leihau'r gwastraff sy'n cael ei hanfon i safleoedd tirlenwi. Gallai gostyngiad mewn cyfraddau treth gwarediadau tirlenwi annog mwy o warediadau tirlenwi yng Nghymru, nad yw'n gyson â nod Llywodraeth Cymru o leihau gwarediadau tirlenwi. Gallai cynyddu cyfraddau gymell achosion o waredu gwastraff heb awdurdod. Mae'r rheoliadau hyn yn cynnal cost briodol i waredu gwastraff i safleoedd tirlenwi er mwyn cymell gweithgareddau sy'n fwy amgylcheddol sensitif, megis lleihau ac ailgylchu gwastraff.

Yn unol â chyhoeddi'r gyllideb ddrafft ym mis Rhagfyr, bydd y cyfraddau safonol ac is ar gyfer treth gwarediadau tirlenwi yn cynyddu yn unol â'r mynegai prisiau defnyddwyr. Mae'r dull hwn hefyd yn sicrhau bod y gyfradd yn parhau i fod yn gyson â threth y DU ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, gan ddarparu'r sefydlogrwydd y mae busnesau wedi dweud wrthym ni mor glir y bod ei angen arnyn nhw.

Drwy bennu yr un gyfradd dreth â Llywodraeth y DU, bydd gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn parhau i elwa ar refeniw treth, gan sicrhau bod y risg o symud gwastraff ar draws y ffin wedi'i lleihau. Bydd y gyfradd safonol yn cael ei chynyddu i £94.15 y dunnell a'r gyfradd isaf fydd £3 y dunnell. Caiff y gyfradd anawdurdodedig ei phennu ar 150 y cant o'r gyfradd safonol, sy'n ceisio annog gweithredwyr anghyfreithlon i fynd â'u gwastraff i safle tirlenwi awdurdodedig ac i ddidoli eu gwastraff i'w adfer, ei ailddefnyddio a'i ailgylchu er mwyn lleihau maint y gwastraff sy'n mynd i safleoedd tirlenwi. Y gyfradd anawdurdodedig fydd £141.20. Felly, gofynnaf i'r Aelodau am eu cefnogaeth i'r rheoliadau hyn y prynhawn yma.

18:30

Diolch. A gaf i alw ar Dai Lloyd i siarad ar ran y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol? Dai.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Ie, Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2020. Gwnaethom ni osod ein hadroddiad mewn perthynas efo'r rheoliadau yma gerbron y Senedd ar 21 Ionawr. Cododd ein hadroddiad un pwynt o ragoriaeth bach, ond pwysig, o dan Reol Sefydlog 21.3(i).

Bydd y rheoliadau yn diwygio'r gyfradd safonol, y gyfradd is a’r gyfradd gwarediadau anawdurdodedig ar gyfer treth gwarediadau tirlenwi a fydd yn berthnasol i warediadau trethadwy a wneir ar 1 Ebrill 2020 neu wedi hynny yng Nghymru. Gobeithio eich bod chi i gyd yn dilyn. [Chwerthin.]

Yn unol ag adran 25 o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016, rhaid i Awdurdod Cyllid Cymru dalu'r trethi a gesglir i gronfa gyfunol Cymru. Fel offeryn cadarnhaol dros dro, neu offeryn cadarnhaol a wnaed, rhoddwyd y rheoliadau ar waith yn gyfreithiol ar 6 Ionawr 2020, ond rhaid i'r Cynulliad eu cymeradwyo er mwyn i'r rheoliadau barhau i gael effaith. Diolch yn fawr.

Cymeraf i'r cyfle i ddiolch i'r Cadeirydd a'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol am eu gwaith wrth graffu ar y darn hwn o ddeddfwriaeth.

Y cynnig yw bod y cynnig yn cael ei gytuno. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

8. Dadl: Cyfnod 4 y Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru)

Symudwn ni nawr at eitem 8 ar yr agenda y prynhawn yma, sef dadl ar Gyfnod 4 Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru). Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gynnig y cynnig hwnnw, Julie Morgan.

Cynnig NDM7246 Julie Morgan

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:

Yn cymeradwyo'r Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru).

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, ac mae agor dadl Cyfnod 4 yn fraint enfawr. Credaf y dylem ni ymfalchïo yn y ffaith bod ein cenedl wedi bwrw ymlaen â'r diwygiad pwysig hwn i sicrhau bod plant yn cael yr un amddiffyniad rhag cosb gorfforol ag oedolion.

Fel minnau, mae llawer yn y Siambr hon, yn y gorffennol a'r presennol, o wahanol bleidiau, a llawer o randdeiliaid ar draws llawer o wahanol sectorau, gan gynnwys y rhai y gwn i eu bod yma yn yr oriel heno, wedi ymgyrchu'n hir ac yn galed dros y ddeddfwriaeth hon ers blynyddoedd lawer—degawdau mewn gwirionedd. Rwy'n credu fy mod i wedi bod yn ymgyrchu ers 20 mlynedd o'i phlaid gyda llawer o rai eraill.

Felly, mae eich dyfalbarhad wedi helpu i ddod â Chymru un cam yn nes at roi'r hawl i blant gael eu diogelu rhag pob math o gosb gorfforol. Ac rwyf eisiau diolch i'r holl sefydliadau hynny a'r holl unigolion hynny yma yn y Siambr, a chyn-Aelodau'r Cynulliad hwn, am yr hyn y maen nhw wedi'i wneud. A hoffwn i hefyd ddiolch i Gomisiynydd Plant Cymru am ei harweiniad ar y mater hwn, gan gynnwys ar y llwyfan rhyngwladol. Ac felly, mae hyn yn dangos yr hyn y gellir ei gyflawni pan fyddwn ni'n gweithio gyda'n gilydd, gan roi lle blaenllaw i hawliau plant.

Bydd llawer o bobl o genhedlaeth hŷn yn cofio cael eu cosbi'n gorfforol gan rieni yn y cartref a gan athrawon yn yr ysgol. Ond mae pethau wedi newid, ac nid yw'r Bil hwn yn ymwneud â barnu gweithredoedd neu benderfyniadau rhieni yn y gorffennol, roedd eu penderfyniadau rhianta yn seiliedig ar y wybodaeth a'r normau cymdeithasol a oedd yn gyffredin bryd hynny. Yn sicr, mae mwy o ymchwil, cyngor proffesiynol a mewnwelediad seicolegol ar gael i rieni heddiw, sy'n eu helpu i fagu plant heb orfod troi at gosb gorfforol.

Felly, nod cyffredinol y Bil hwn yw helpu i ddiogelu hawliau plant. Mae cael gwared ar yr amddiffyniad o gosb resymol yn sicrhau bod Cymru yn cydymffurfio â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, sy'n ganolog i'n dull gweithredu o roi'r dechrau gorau mewn bywyd i blant, ac i'w helpu i gyflawni eu potensial. Bydd yn rhoi'r eglurder y mae ei angen yn ddirfawr i rieni a'r bobl broffesiynol sy'n gweithio gyda theuluoedd. Bydd yn dileu'r perygl presennol o ddryswch ac amwysedd o ran sut yr ydym ni'n disgwyl i blant gael eu trin. Ac mae gweithwyr proffesiynol rheng flaen wedi dweud dro ar ôl tro y bydd yr eglurder hwn yn gwella eu gallu i amddiffyn plant sy'n byw yng Nghymru.

Ond, yn amlwg, bydd dau beth yn dyngedfennol bwysig i sicrhau bod y Bil o fudd i blant a'u teuluoedd: yn gyntaf, sicrhau bod pawb yn ymwybodol bod y gyfraith wedi newid; ac, yn ail, cymorth i rieni fabwysiadu arddulliau rhianta cadarnhaol. Ac fel y gwyddoch chi, rwyf i wedi ymrwymo'n llwyr i'r gweithgareddau pwysig hyn. Yn amodol ar basio'r Bil drwy'r cyfnod terfynol hwn a chael Cydsyniad Brenhinol, bydd y broses o godi ymwybyddiaeth yn dechrau yn y gwanwyn ac yn parhau am nifer o flynyddoedd ar ôl i'r gyfraith newid. A fel gyda'n darpariaeth o gymorth rhianta, byddwn i'n darparu gwybodaeth i rieni mewn nifer o wahanol fformatau i ddiwallu amrywiaeth o anghenion.

Yn ystod hynt y Bil hwn, casglwyd tystiolaeth werthfawr a fu'n gymorth i lywio ein meddylfryd, nid yn unig wrth ddatblygu'r ddeddfwriaeth, ond hefyd wrth ystyried ei heffaith a'i gweithrediad. Mae llawer iawn o bobl wedi cyfrannu eu hamser, eu hegni a'u gwybodaeth, a diolchaf yn ddiffuant iddyn nhw. Hoffwn i gydnabod y cymorth a'r gefnogaeth gan yr heddlu, Gwasanaeth Erlyn y Goron, y gwasanaethau cymdeithasol, gweithwyr proffesiynol addysg ac iechyd, ac eraill sydd wedi gweithio'n ddiflino gyda ni yn ystod y tymor Cynulliad hwn. A hoffwn i ddiolch iddyn nhw ymlaen llaw am eu cymorth parhaus, gan gynnwys drwy ein grwpiau gweithredu, i sicrhau y caiff y gyfraith hon ei gweithredu yn y ffordd fwyaf ymarferol a phragmatig. Ac rwyf eisiau diolch yn arbennig i holl swyddogion Llywodraeth Cymru sydd wedi gweithio'n ddiflino ar y Bil—ni allen nhw fod wedi gwneud mwy.

Rwy'n ddiolchgar i'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu at y gwaith o graffu ar y Bil hwn, ac i Huw Irranca-Davies am ei gysylltiad cynnar â'r Bil, ac i Carl Sargeant, am y rhan a chwaraeodd y ddau ohonyn nhw yn natblygiad y Bil. A gadewch i mi dalu teyrnged i'r tri phwyllgor am eu cefnogaeth a'u her. Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: o dan y Cadeirydd, Lynne Neagle, roedd eu gwaith craffu manwl a thrylwyr ar y Bil wedi rhoi llais i lawer o wahanol safbwyntiau, gan gynnwys rhai gan blant a phobl ifanc. Arweiniodd argymhellion adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor at welliannau gan y Llywodraeth a nododd feysydd y byddai modd eu hatgyfnerthu yng Nghyfnodau 2 a 3. Un maes o'r fath oedd rhoi sicrwydd ynghylch y dyddiad y bydd y gyfraith yn newid, ac i ddarparu ar gyfer cyfnod o ddwy flynedd rhwng y Cydsyniad Brenhinol a'r dyddiad dod i rym. Mae fy ngwelliant yng Nghyfnod 2 yn sicrhau digon o amser i sefydliadau partner fod yn barod ar gyfer y newid yn y gyfraith ac ar gyfer yr ymgyrch codi ymwybyddiaeth. Hoffwn i ddiolch i Janet Finch-Saunders a Suzy Davies am drafodaeth adeiladol yn dilyn Cyfnod 2. O ganlyniad, mae'r Bil bellach yn cynnwys darpariaeth sy'n cryfhau'r adolygiad ôl-weithredu.

Mae arnaf i eisiau sicrhau Aelodau sy'n pryderu am effaith y Bil hwn ein bod eisoes wedi gwneud cynnydd sylweddol wrth baratoi ar gyfer gweithredu. Rydym ni wedi bod yn cydweithio â'r holl bartneriaid allweddol, a byddwn ni'n parhau i wneud hynny, drwy ein grŵp gweithredu strategol, sydd ar waith gyda chyfranogwyr brwdfrydig a grwpiau gorchwyl a gorffen cysylltiedig. A byddaf i'n parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd am y gwaith hwn.

Dyma foment hanesyddol yn hanes Cymru. Mae ein hesiampl eisoes yn annog pobl ledled y byd sydd eisiau roi terfyn ar gosbi plant yn gorfforol. Rwy'n cymeradwyo'r Bil hwn i'r Senedd.  

18:40

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar bod gennyf y cyfle i siarad yng ngham terfynol Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru).

Mae'r Bil hwn yn bleidlais rydd ymhlith grŵp Ceidwadwyr Cymru, ac yn sicr hoffwn i sicrhau Aelodau fy mod i, fel llefarydd, wedi gwrando ar bob ochr o'r ddadl, yr holl dystiolaeth a gyflwynwyd gerbron y Pwyllgor, a holl ddatganiadau'r Dirprwy Weinidog ei hun ar y mater hwn. Roeddwn i'n falch o weld ymgysylltu drwy gydol hynt y Bil, yn ogystal â rhywfaint o gyfaddawdu gan y Dirprwy Weinidog yng Nghyfnod 3, a arweiniodd at dderbyn ein gwelliannau ar safonau adrodd yn rhan o'r Bil hwn.

Fodd bynnag, o fy safbwynt i fy hun, nid wyf eto wedi fy argyhoeddi bod dileu amddiffyniad cosb resymol yn iawn nac yn deg i Gymru. Fel yr wyf wedi'i ddweud drwy gydol hynt y Bil, mae gennym ni gyfreithiau a systemau eisoes ar waith i amddiffyn hawliau'r plentyn, a gallem ni fod wedi ystyried dewisiadau eraill i newid ymddygiad rhieni, megis atebolrwydd sifil.  

Drwy'r Bil hwn, mae'r wladwriaeth bellach yn camu i mewn i fywydau preifat teuluoedd, a drwy gynnwys yr heddlu a'r gwasanaethau cymdeithasol i orfodi'r gwaharddiad ar smacio, mae'n bosibl y bydd gan hyn effeithiau pellgyrhaeddol ar bob un ohonom ni. Dylai gwneud rhieni yn agored i atebolrwydd troseddol am smacio eu plant fod yn ddewis olaf i unrhyw Lywodraeth, nid y dewis cyntaf.

Meddylfryd tymor byr y Llywodraeth hon y tu ôl i fater hirdymor sy'n peri'r pryder mwyaf i mi. Heddiw, mae'r Senedd Cymru hon yn gorfod dewis pasio Bil nad oedd wedi'i gostio'n fanwl ar gyfer ein gwasanaethau cyhoeddus o'r cychwyn cyntaf, ac rydym yn cael gwybod yn awr, drwy lythyr yr wyf wedi cael gafael arno, gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, Llyr Gruffydd, am eu pryderon bod y Bil, ers y memorandwm esboniadol, wedi cynyddu o ystod o rhwng £2.3 miliwn a £3.7 miliwn, i rhwng £6.2 miliwn a £7.9 miliwn. Mae'r asesiad o effaith rheoleiddiol diwygiedig yn rhoi cyfanswm cost gweithgareddau codi ymwybyddiaeth o £2.8 miliwn, a oedd gynt o fewn ystod o £1.3 miliwn; Amcangyfrifir y bydd gwybodaeth am gynlluniau gwarediadau y tu allan i'r llys, nad oedd wedi eu costio yn wreiddiol, yn costio rhwng £810,000 a £2.5 miliwn erbyn hyn; mae costau i staff sy'n gweithio mewn swydd ddiogelu, y bydd angen iddyn nhw ymgyfarwyddo â chanllawiau newydd, wedi'u cynnwys—£882,000; costau'r grŵp gweithredu gorchwyl a gorffen, £620,000; a chostau'r adolygiad ôl-weithredu, £100,000. Ac mae'n mynd ymlaen. Dyma lythyr sydd wedi ei lofnodi gan bwyllgor yn y Cynulliad hwn—

—o ystyried eich bod wedi cyfeirio at lythyr gyda fy enw i arno? A bod yn deg ag aelodau'r pwyllgor, mae'r ffigurau hynny yn ffigurau y gofynnwyd amdanyn nhw gan y Pwyllgor, ac fe wnaeth y Llywodraeth, yn ddidwyll, ddarparu'r ffigurau hynny. Mae gwahaniaeth rhwng yr hyn a gafodd ei gyflwyno yn wreiddiol, a'r hyn a oedd yn ein hwynebu yn ddiweddarach, ond, wrth gwrs, dyna holl bwynt cael proses graffu. Mae'n dangos ei bod yn gweithio, ac, wrth gwrs, gall Aelodau heddiw bleidleisio o blaid neu yn erbyn yn seiliedig ar y dystiolaeth y mae'r Llywodraeth, a bod yn deg, wedi ei chyflwyno.

Diolch.

Felly, yr hyn sydd gennym yn y fan yma yw pasio Bil nad oedd wedi ei gostio'n fanwl ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus o'r cychwyn cyntaf, ac nid yw hynny'n rhoi llawn ffydd i ni o ran sut y bydd canlyniadau'r Bil yn cael eu cyfleu i rieni a phlant, ac mae'n un nad yw'n rhoi i ni, fel Senedd ddatganoledig, unrhyw reolaeth dros sut y caiff yr orfodaeth ohono ei weithredu gan ddau sefydliad a gadwyd yn ôl— Gwasanaeth Erlyn y Goron a'r heddlu.

Dywedaf eto fod yn rhaid i'r Llywodraeth ymrwymo i roi hyn ar y tu blaen i feddyliau rhieni a'r cyhoedd yn barhaol. Er gwaethaf ymrwymiad clir y Dirprwy Weinidog i gynnal ymgyrch ymwybyddiaeth hir, os ydym ni'n mynd i ddefnyddio enghraifft Seland Newydd fel rheswm dros gyflwyno'r Bil, dylem ni hefyd wrando ar yr arwyddion rhybudd sy'n dod o'r wlad honno.

Fel y soniais yr wythnos diwethaf, 13 mlynedd ar ôl iddyn nhw wahardd smacio, canfu arolwg y byddai bron i 40 y cant o famau yn dal i smacio eu plentyn, ac ni fyddai 70 y cant yn achwyn ar riant pe bydden nhw'n gweld rhiant yn smacio eu plentyn ar y pen-ôl neu'r llaw. Felly, efallai na fydd hyn hyd yn oed yn cael cymaint o effaith ag yr oeddech chi wedi ei fwriadu. Hefyd, bu dirywiad mewn disgyblaeth yn Seland Newydd, gyda 15 y cant o rieni â phlant ifanc yn dweud eu bod yn ymwybodol o deulu yr oedd y gyfraith wedi effeithio'n negyddol arnyn nhw, a dywedodd 17 y cant  ei fod wedi eu gwneud yn llai hyderus fel rhieni. Ni allwn ganiatáu i hyn gael ei ailadrodd yng Nghymru.

Dirprwy Lywydd, rwy'n cytuno'n llwyr â phryderon y Pwyllgor Cyllid. Ac fel y dywedais yn ystod hynt Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru) y llynedd, ni ddylai Llywodraeth Cymru ddiystyru pryderon y Senedd hon yn barhaus, ac ni fyddem ni'n cymryd mwy.

Dirprwy Weinidog, fel y dywedais yr wythnos diwethaf, eich dyletswydd chi yw mynd â chyhoedd Cymru gyda chi, yn hytrach na chreu awyrgylch o elyniaeth a gwrthwynebiad. Nid wyf i'n credu bod hyn wedi'i gyflawni eto, ond rwyf hefyd yn gwybod bod gennych chi ddigon o bleidleisiau i'r Bil basio. Fel y dywedais wrth y cyn Ddirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol y llynedd, mater i chi hefyd yw argyhoeddi eich etholwyr eich hun mai dyma'r cam cywir i'w gymryd a'ch bod wedi gwrando ar y broses graffu. Nid wyf i'n credu bod hynny'n wir.

18:45

Gwnaf. Yn y pen draw, eich etholwyr chi, ein teuluoedd ni a'r pleidleiswyr fydd yn barnu hynny.

Rhoddaf addewid i gyhoedd Cymru heddiw: Byddaf i a fy nghyd-Aelodau yn monitro'r sefyllfa hon yn fanwl yn ystod y blynyddoedd i ddod, ac os na fydd y Bil hwn yn gweithio, os bydd hyn yn rhoi rhieni sy'n parchu'r gyfraith o dan anfantais, os bydd hyn yn rhoi pwysau di-ben-draw ar wasanaethau cymdeithasol, ac os yw hyn yn golygu y bydd mwy o blant mewn gofal, byddwn ni'n gwrando ar bobl Cymru, a byddaf i'n bersonol—

—yn ceisio gwrthdroi goblygiadau'r ddeddfwriaeth echrydus hon. Diolch yn fawr.

Codaf i i gefnogi'r ddeddfwriaeth hon heddiw gyda chalon hapus, ac rwy'n credu bod gwaith yr ymgyrchwyr, y mae rhai ohonyn nhw, fel y dywedodd y Dirprwy Weinidog, yma, wedi talu ar ei ganfed o'r diwedd. Rwy'n credu i'r rhai ohonon ni sydd wedi bod yn brwydro'r frwydr hon am amser hir iawn, bydd hwn yn ddiwrnod hapus i ni, yn ddiwrnod hapus i deuluoedd Cymru, ac yn bwysicach fyth yn ddiwrnod hapus i blant Cymru.

Nid wyf i'n dymuno cadw'r Siambr hon am gyfnod hir, Dirprwy Lywydd, ond rwy'n teimlo bod angen i mi ymateb i rai o'r pwyntiau y mae Janet Finch-Saunders wedi eu gwneud. Yn fy marn i, mae'r Dirprwy Weinidog a Llywodraeth Cymru wedi bod yn hyblyg iawn er mwyn ateb pryderon pobl. Mae rhai ohonom ni yma—[Torri ar draws.] Rwy'n ddigon bodlon derbyn ymyriad gan Janet Finch-Saunders, ond rwyf yn ei chael hi'n anodd iawn ymdrin â sylwadau sydd wedi'u gwneud oddi ar eich eistedd. Os ydych chi'n dymuno ymyrryd—

Rwy'n gwerthfawrogi hynny. Os caf i ddim ond gwneud y pwynt yn glir: fe wnaethom ni gyflwyno 11 o welliannau; dim ond dau a gafodd eu hystyried mewn gwirionedd.

Un peth, yn fy marn i, yw cael proses graffu—mae hawl, wrth gwrs, gan y Llywodraeth i beidio â derbyn gwelliannau'r wrthblaid. Rwy'n synnu ei bod yn ymddangos bod Janet Finch-Saunders yn synnu at hynny.

Yn fy marn i, mae'r Dirprwy Weinidog wedi bod yn hyblyg iawn. Felly, i ryw raddau, rwy'n anghytuno â hi. Rwy'n siomedig na fydd plant Cymru yn cael eu hamddiffyn o heno ymlaen—y byddwn ni'n aros am ddwy flynedd—ond rwyf i'n deall pam mae hi wedi gwneud y penderfyniad hwnnw: mae hi wedi gwneud y penderfyniad hwnnw i ymdrin â'r pryderon gwirioneddol ynghylch gweithredu.

Dywedodd Janet Finch-Saunders mai dewis cyntaf yw hyn. Nid dewis cyntaf yw hwn—rydym ni wedi bod yn trafod hyn yn y lle hwn am bron i 20 mlynedd. Byddem ni wedi pasio'r ddeddfwriaeth hon—

Na, mae'n ddrwg gennyf i, Darren, nid oes amser gennyf i. Efallai y gwnaf i mewn munud.

Cafodd hwn ei basio gennym, mewn egwyddor, 18 mlynedd yn ôl, felly mae unrhyw awgrym bod Llywodraeth Cymru yn rhuthro hyn —. Unwaith eto, rwy'n teimlo—rwyf braidd yn siomedig ei fod wedi cymryd cyn hired. Mae Janet Finch-Saunders eto'n sôn am arolwg Seland Newydd, y nodais yr wythnos diwethaf nad yw'n ddim mwy nag arolwg, a chafodd ei brynu a'i dalu amdano gan yr union ymgyrch a oedd wedi ymgyrchu yn erbyn hynny yn y lle cyntaf. Felly, nid ymchwil yw hyn, nid deddfwriaeth wyddonol yw hyn.

Nawr, rwyf i am roi sylw i'r ddau grŵp hynny o bobl sydd, yn fy marn i, yn pryderu am y ddeddfwriaeth hon, a'r bobl gyntaf yr wyf i eisiau siarad â hwy yw'r rhai sydd mewn gwirionedd â rhai pryderon dilys yn ymwneud â'r gweithredu. Ac wrthyn nhw, rwy'n dweud: bydd popeth yn iawn. Mae 58 o wledydd eisoes wedi gwneud hyn. Dyma'r normalrwydd newydd.

Dechreuodd yn 1979 gyda Sweden. Nid oes yr un o'r gwledydd hynny wedi gweld y pethau hynny y mae pobl yn pryderu yn eu cylch. Nid oes yr un ohonyn nhw wedi gweld rhieni caredig a gofalgar yn cael eu demoneiddio. Ni welodd yr un ohonyn nhw systemau cyfiawnder troseddol wedi eu llethu. Nid yw wedi digwydd. Pum deg wyth gwlad, yr Alban yn fwyaf diweddar, ac mae'n fater o dristwch i mi nad oedd Cymru yno o'u blaen.

Heddiw, ni fydd rhif pum deg naw, ond i'r rhai sydd â phryderon dilys, rwy'n dweud, 'Edrychwch ar y profiad; edrychwch ar yr hyn sydd wedi digwydd.' Yn y bôn, yr hyn sydd wedi digwydd yw bod rhianta da wedi ei hyrwyddo yn y gwledydd hynny. Yn y gwledydd hynny lle mae hyn wedi bod ar waith ers amser hir iawn—Sweden yw'r enghraifft—mae wedi arwain at leihau trais mewn teuluoedd, trais difrifol mewn teuluoedd.

Felly, heddiw rydym ni'n symud i roi eu hawliau erthygl 19 i'n plant, eu hawl i gael eu hamddiffyn rhag trais. Wrth i ni wneud hyn, rwyf i am ganolbwyntio ar y rheini sy'n gwrthwynebu'r ddeddfwriaeth hon o safbwynt ymyrryd ym mywyd y teulu. Wel, wyddoch chi, rydym ni’n ymyrryd â bywyd teuluol yn rheolaidd. Ar un adeg yr oedd yn gyfreithlon yn y wlad hon i ddyn guro ei wraig gyda ffon cyn belled nad oedd y ffon yn fwy trwchus na'i fawd. Nid wyf i'n credu bod plant yn eiddo i'w rhieni. Mae gennym ni wahaniaeth sylfaenol, athronyddol yn y fan yma. Nid yw plant yn eiddo i'w rhieni. Maen nhw'n ddinasyddion yn eu rhinwedd eu hunain.

Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn rhoi dyletswydd ar bob un ohonom ni i'w cefnogi yn eu twf ac yn eu datblygiad. Heddiw, byddwn ni fel gwlad yn arfer yr hawl hwnnw. Byddwn ni yn rhoi iddyn nhw o'r diwedd—o'r diwedd—amddiffyniad cyfartal rhag trais o dan y gyfraith. Rwy'n edrych ymlaen at hyn a chymeradwyaf y ddeddfwriaeth hon i'r Siambr hon, ond yn bwysicach i'r wlad hon.

18:50

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd, am y cyfle i gael gwneud cyfraniad byr i'r ddadl hon. Mae hwn yn ddiwrnod hanesyddol i blant yng Nghymru ac rwy'n falch iawn ein bod ni wedi cyrraedd y fan yma ar ôl cymaint o amser. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn cydnabod y rhan y mae'r Dirprwy Weinidog wedi ei chwarae yn y mater hwn ers 20 mlynedd mewn dwy Senedd wahanol. Felly, diolch i chi, Dirprwy Weinidog, am eich dyfalbarhad a'ch penderfynoldeb gwych, sydd wedi chwarae rhan mor bwysig i ddod â ni i'r fan yma heddiw.

Roeddwn i hefyd eisiau diolch i bawb a roddodd dystiolaeth i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: i'r holl rieni o'r ddwy ochr i'r ddadl, a rannodd eu barn yn ddewr, yn feddylgar ac yn agored gyda'r pwyllgor; yr amrywiaeth eang o weithwyr proffesiynol o addysg, amrywiaeth o weithwyr iechyd proffesiynol, yr heddlu, Gwasanaeth Erlyn y Goron, gwasanaethau cymdeithasol, a dywedodd pob un ohonyn nhw wrthym ni, heb eithriad, y byddai'r Bil hwn yn ei gwneud yn haws iddyn nhw amddiffyn plant yng Nghymru; y Senedd Ieuenctid a wnaeth eu hunain, mewn gweithred hanesyddol, bleidleisio a chefnogi'r ddeddfwriaeth hon—diolch iddyn nhw am hynny; a hoffwn ddiolch i weddill y pwyllgor ac, yn bwysig iawn, i Llinos Madeley, ein clerc, a Sian Thomas, ein pennaeth ymchwil, y bu'n rhaid iddyn nhw roi llwyth enfawr o dystiolaeth i mewn i'r gyfrol anferth a ddaeth yn adroddiad Cyfnod 1. Rwy'n credu ein bod wedi ein bendithio fel Pwyllgor o gael cymorth mor wych.

Ond, yn anad dim i'r pwyllgor, yr oedd hwn yn fater o hawliau sylfaenol plant, ac rwyf wirioneddol wrth fy modd y byddwn ni, heddiw, yn sicrhau bod hawliau'r plant hynny yn dod yn realiti yng Nghymru. Diolch yn fawr.

Dylai'r ddadl hon fod ynghylch mwy na pha un a yw hi'n foesol gywir i smacio plentyn neu a yw byth yn rhianta da i ddefnyddio cosb gorfforol. Pe byddai'n ymwneud â hynny'n unig, yna fy marn i yw nad ydyw ac, o ran fy mhlant fy hun, nid wyf wedi eu smacio ac rwyf yn gobeithio eu magu nhw heb eu ceryddu'n gorfforol byth. Ond nid yw hynny'n ddigon, y farn honno, i bleidleisio dros y ddeddfwriaeth hon gan fod cam pellach: a yw'n iawn i symud o'ch safbwynt moesol personol eich hun ynghylch hyn i ddweud, 'Mae honno'n farn y byddwn ni'n defnyddio ein pwerau yma i'w gorfodi ar weddill y gymdeithas'? Nid wyf i'n argyhoeddedig ein bod ni wedi cyrraedd y pwynt hwnnw. Siaradodd y Dirprwy Weinidog yn ddigon teg am norm cymdeithasol, ac ni fyddwn i eisiau rhoi unrhyw bwyslais ar unrhyw bleidlais benodol nac unrhyw arolwg penodol, ond rwyf yn pryderu nad yw'r newidiadau hynny mewn cymdeithas—smacio a chosbi corfforol, yn norm cymdeithasol fel yr oedden nhw o'r blaen. Ond rwy'n ofni bod gormod o bobl o hyd, grŵp rhy fawr o rieni sydd â barn wahanol ar hyn i fy marn bersonol i. Ac am y rheswm hwnnw, rwy'n credu y dylai hyn aros, ar hyn o bryd o leiaf, yn fater sy'n cael ei benderfynu gan rieni, o fewn priodasau, o fewn perthnasoedd, o fewn teuluoedd. Rwy'n dweud hynny o safbwynt pragmatig yn hytrach nag egwyddorol. Efallai y daw amser pan fydd y newidiadau mewn norm cymdeithasol yn golygu y gallai fod yn briodol i ddeddfu, bod rhywbeth yn tramgwyddo ar norm cymdeithasol i'r fath raddau fel bod deddfu a throseddoli, ond nid wyf yn credu bod yr amser hwnnw wedi cyrraedd eto, yn syml oherwydd bod gormod o deuluoedd cariadus sy'n dal i ddefnyddio cosb gorfforol oherwydd bod eu barn ar y mater yn wahanol i fy un i. Ac rwyf—

18:55

Diolch. Diolch i chi am dderbyn yr ymyriad. Clywaf yr hyn a ddywedwch, ond mae'n amlwg nad wyf i'n cytuno ag ef. Oherwydd pe byddem ni'n dilyn y trywydd yr ydych chi'n ei ddilyn, mae'n ymddangos i mi mai'r hyn yr ydych chi'n ei ddweud yw nad yw'r personol yn wleidyddol, ac y byddai hynny, yn ei dro, yn golygu'n amlwg na fyddai'r holl ddeddfwriaeth yr ydym ni wedi'i chael i ddiogelu pobl o fewn eu teuluoedd rhag pa bynnag fath o gam-drin a allai fod—cam-drin domestig, llosgach ac ati—erioed wedi digwydd, oherwydd os wyf yn eich deall yn gwbl glir, nid oedd cymdeithas eto'n barod ar gyfer y newidiadau.

Nid wyf yn credu eich bod yn fy neall yn iawn, oherwydd rwy'n derbyn y gall y personol fod yn wleidyddol ac rwy'n credu bod rhai mathau o ymddygiad mor amhriodol o ran normau cymdeithasol fel bod cyfiawnhad dros ddeddfwriaeth ac, mewn rhai achosion, troseddoli. Y cyfan yr wyf i'n ei ddweud yw nad wyf yn argyhoeddedig bod ein cymdeithas yn y sefyllfa iawn eto o ran y mater hwn, oherwydd credaf fod cymaint o rieni a theuluoedd sydd yn gariadus, yn rhieni da mewn ffyrdd eraill, sydd â barn wahanol i chi a minnau ar y mater hwn, a dyna'r pwynt creiddiol yn wir pam nad wyf yn credu y dylem ni ddeddfu i wneud yr hyn sy'n digwydd bod yn fwyafrif—mwyafrif sylweddol—yn y Siambr hon, o ran moesoldeb neu farn bersonol ar y mater hwn, yn gyfraith gwlad, gyda chosbau troseddol, pan fydd cyfran uwch o'r boblogaeth, o'i chymharu â ni, â barn i'r gwrthwyneb.

Rwyf wedi meddwl am hyn yn ofalus ac rwyf wedi gwrando ar areithiau grymus a wnaed gan Helen Mary ac eraill ac rwy'n llongyfarch y Dirprwy Weinidog ar sut y mae wedi mynd â'r ddeddfwriaeth drwodd ac yn cydnabod yr hyn y mae wedi'i wneud dros gyfnod hir o ran ei hymgyrchu. Rwyf ond yn poeni am y rhai y gallem eu troseddoli drwy hyn. Rwy'n poeni y bydd hyn yn cael ei ddefnyddio pan fydd pobl yn siarad am gaethiwed ac achosion ysgaru. Rwy'n poeni—nid wyf eisiau codi bwganod, ac nid wyf yn meddwl, neu o leiaf rwy'n gobeithio nad yw pobl yn mynd i weld plant yn gorfod derbyn gofal dim ond oherwydd bod rhiant wedi cael ei weld yn eu smacio'n gyhoeddus, ond mae arnaf ofn, mewn rhai achosion, y bydd yn rhan o'r fantol a bydd yn golygu y bydd rhai plant yn mynd i orfod derbyn gofal na fydden nhw fel arall efallai, ac o ystyried hanes truenus y wladwriaeth, fel rhiant, rwy'n poeni nad yw hynny efallai er lles pennaf y plant hynny. I mi, mae'n fater o gydbwysedd. Nid wyf i'n argyhoeddedig eto bod y cydbwysedd yn golygu y dylem ni basio'r ddeddfwriaeth hon.

Diolch. A gaf i alw nawr ar y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl? Julie Morgan.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r Aelodau am eu hymatebion meddylgar ac ystyriol. Hoffwn godi rhai o'r pwyntiau yn y cyfnod byr iawn sydd gennyf.

Diolch i Llyr am ei ymyriad, oherwydd, fel y mae'r Pwyllgor Cyllid yn cydnabod yn eu llythyr, mae llawer o'r costau ychwanegol yn y memorandwm esboniadol diweddaraf yn deillio o argymhellion gan ei bwyllgor ef, felly roeddem yn gwrando ar ei bwyllgor. A, Janet, hyd y gwn i, nid oes yr un gwlad arall wedi gwneud cymaint i nodi'r effaith neu'r costau posibl cyn deddfu i wahardd cosbi plant yn gorfforol. Mae llawer o'n cymdogion agos wedi bod yn rhan o'r gwaith o hyrwyddo'r ddeddfwriaeth hon.

Fe'i cyflwynwyd gan Iwerddon ar welliant heb unrhyw baratoi o gwbl. Rydym ni wedi treulio llawer iawn o amser yn paratoi ar gyfer y ddeddfwriaeth hon. Mae'r Bil yn darparu eglurder i rieni, gweithwyr proffesiynol a'r cyhoedd, ac o'r dyddiad cychwyn, ni fydd cosb gorfforol plentyn yng Nghymru yn dderbyniol mwyach o dan unrhyw amgylchiadau. Rwy'n credu ei fod yn bwynt diddorol bod 58 y cant o'r cyhoedd yng Nghymru eisoes yn meddwl mai dyma'r gyfraith, a chan sylwi ar yr hyn y mae Mark Reckless wedi'i ddweud, mae 81 y cant o rieni ifanc sydd â phlant ifanc yn credu nad oes angen cosbi plentyn yn gorfforol. Credaf fod teimladau'r cyhoedd yn newid. Mae'r holl ymchwil y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud wedi dangos newid nodedig yn nheimladau pobl. Soniodd Lynne Neagle am sut y pleidleisiodd y Senedd Ieuenctid. Rydym yn symud i'r cyfeiriad hwnnw ac rydym yn mynd gyda'r oes, ond mae'n rhaid i ni fod yn sensitif, fel y mae Mark Reckless wedi ei ddweud, o ran y lleiafrif sy'n dal i ddefnyddio cosb gorfforol.

Ond, fel y dywedais, rydym ni'n mynd i roi cymorth i rieni, rydym ni'n mynd i roi cyngor, rydym ni'n mynd i roi gwybodaeth. Nid wyf i'n credu y gallem ni fod yn gwneud mwy i baratoi'n ofalus, ac mae'r holl asiantaethau'n gweithio gyda ni. Mae gennym ni grŵp gweithredu mawr, mae gennym ni is-grwpiau—mae gennym ni is-grŵp dargyfeirio, mae gennym ni un ar gymorth rhianta—ac maen nhw'n gweithio gyda hwn yn frwdfrydig iawn, oherwydd ei fod yn rhywbeth y mae llawer o bobl wedi bod eisiau ei weld ers blynyddoedd lawer. Oherwydd maen nhw yn ei weld yn rhwystr rhag gallu cynghori rhieni, gweithio gyda rhieni. Mae'r gweithwyr proffesiynol rheng flaen hynny, yr ymwelwyr iechyd, y bydwragedd, pobl sy'n gweithio gyda rhieni o'r cychwyn cyntaf, maen nhw eisiau bod yn glir ynghylch yr hyn y cânt ei ddweud ac, os gwnawn hyn, bydd yn ei wneud yn glir. A chofiwch, fe wnaethom ni siarad am gam-drin domestig yn y modd hwn yn ddiweddar iawn.

Felly, gadewch i ni lofnodi'r darn pwysig hwn o ddeddfwriaeth i gyfraith Cymru, a fydd yn helpu i ddiogelu hawliau ein plant yng Nghymru nawr ac yn y dyfodol. Beth am barhau i fod yn ddewr a gwneud y peth iawn ar gyfer plant y wlad hon? Felly, rwy'n annog pob Aelod i gefnogi Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) a chymryd cam pwysig arall ymlaen o ran amddiffyn hawliau plant yng Nghymru.

19:00

Diolch. Yn unol â Rheol Sefydlog 26.50C mae'n rhaid cymryd pleidlais wedi'i chofnodi ar gynnig Cyfnod 4, ac felly gohiriaf y pleidleisio ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Rydym wedi cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Oni bai bod tri aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu, rwyf yn bwriadu symud ymlaen yn awr at y bleidlais electronig. Na. Popeth yn iawn, iawn.

9. Cyfnod Pleidleisio

Felly, symudwn at y bleidlais ar Gyfnod 4 o Fil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) a galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Julie Morgan. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 36, neb yn ymatal, 14 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei dderbyn. [Cymeradwyaeth.]

NDM7246 - Dadl: Cyfnod 4 y Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru): O blaid: 36, Yn erbyn: 14, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Ac mae hynny'n dod â thrafodion heddiw i ben. [Cymeradwyaeth.] A dyna drafodion y dydd wedi dod i ben. Diolch.

Daeth y cyfarfod i ben am 19:03.