Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

03/12/2019

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Mark Isherwood. 

Banc Cymunedol yng Nghymru

1. Pa gynnydd sydd wedi'i wneud i sefydlu banc cymunedol yng Nghymru? OAQ54778

Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Mae'r bartneriaeth a grëwyd rhwng Banc Cambria a'r Gymdeithas Banc Cynilion Cymunedol yn cwblhau cynllun prosiect manwl, asesiad cychwynnol o'r farchnad ac astudiaeth o ddichonoldeb, gyda chymorth Banc Datblygu Cymru a Phrifysgol Caerdydd. Edrychaf ymlaen at dderbyn yr adroddiad hwnnw'n fuan.

Wel, sylwaf fod y grŵp trawsbleidiol heddiw, na allwn fynd iddo, wedi cyfeirio at hynny a datblygiad y grŵp sy'n gweithio ym Manc Cambria i fwrw ymlaen â'ch cynigion ar gyfer banc cymunedol. Wrth gwrs, mae'r rhain yn cydredeg â datblygu cytundeb fframwaith bancio Swyddfa'r Post gyda 28 o fanciau yn y DU i alluogi cwsmeriaid ar y stryd fawr i allu manteisio ar wasanaethau bancio ehangach, a'r cynigion ddwy flynedd yn ôl gan Cyllid Cyfrifol Cymru, er mwyn i eraill, er mwyn i grwpiau, gydweithio i ddatblygu model banc cymunedol. Ac, wrth gwrs, roeddwn i'n arfer gweithio yn un o ragflaenwyr y banciau cymunedol—un o'r cymdeithasau adeiladu cydfuddiannol.

Fodd bynnag, pan godais gyda'r Prif Weinidog ar y pryd, yn 2010, y gofynion a'r rheoliadau rheoli risg a digonolrwydd cyfalaf y byddai'n rhaid i fanc newydd gydymffurfio â nhw, na fyddai'n rhaid i bartner banc sefydledig ei wneud, cytunodd y Prif Weinidog ar y pryd y gall sefydlu banc newydd fod, a dyfynnaf,

yn fusnes drud a hirfaith os ydych chi'n dechrau o'r dechrau, ac mae defnyddio'r arbenigedd sydd eisoes yn y sector i ddatblygu model bancio cymdeithasol yn gwneud synnwyr.

Pa drafodaethau ydych chi a'ch cyd-Weinidogion wedi eu cael, felly, mewn ymgynghoriad â grwpiau defnyddwyr ac arbenigwyr yn y diwydiant, ynghylch dichonoldeb cael banc cymunedol yng Nghymru sy'n adlewyrchu'r anghenion, y rheoliadau a'r egwyddorion bancio craidd hynny?

Wel, Llywydd, diolchaf i Mark Isherwood am y cwestiwn yna. Mae'n hollol iawn i ddweud bod gan y busnes o sefydlu banc newydd rwystrau rheoleiddio sylweddol i'w goresgyn ac y gall fod yn fusnes hirfaith. Ond dyna pam yr ydym ni'n gweithio gyda'r Gymdeithas Banc Cynilion Cymunedol. Ac yn y modd hwnnw, mae'r sefyllfa wedi newid ers 2010, gan fod y Gymdeithas Banc Cynilion Cymunedol, sy'n deillio o waith a wnaed gan Gymdeithas Frenhinol y Celfyddydau, wedi ariannu ei hun ac wedi arwain y gwaith o baratoi dogfennau cyfansoddiadol, systemau TG, dyluniadau canghennau, cysylltiadau system daliadau, manylebau cynnyrch, ac, yn hanfodol, dogfennau cais am drwydded fancio. Felly, mae llawer mwy o waith wedi'i wneud erbyn hyn gan grŵp o arbenigwyr sy'n rhoi'r sylfaen i ni ar gyfer yr hyn y gall Banc Cambria ei wneud yma yng Nghymru.

Mae'r ddogfen cais am drwydded fancio, yn arbennig, yn rhannu'r broses o gael trwydded i nifer o gamau y gellir eu rheoli. A dyna'r ffordd yr ydym ni'n bwriadu gweithio drwy'r broses yng Nghymru, gan symud ymlaen un cam ar y tro. Dyna pam mae'r asesiad cychwynnol o'r farchnad a'r astudiaeth o ddichonoldeb mor bwysig, gan y bydd yn profi'r cwestiynau sylfaenol hynny ynghylch hyfywedd a chynaliadwyedd, ac yna byddwn yn symud ymlaen i'r cam nesaf, gan weithio gydag 11 o fentrau eraill sydd ar wahanol gamau o gynnydd ar draws y Deyrnas Unedig, pob un ohonyn nhw o dan ambarél y Gymdeithas Banc Cynilion Cymunedol, gan roi'r hyder i ni yma yng Nghymru bod gennym ni'r cyngor sydd ei angen arnom i lwyddo yn ein huchelgais o sefydlu banc cymunedol.

Dwi'n siŵr buasai'n haws pe bai gennym ni'n trefniadau rheoleiddio ein hunain o ran sefydlu banc o'r math yma. Ond dŷn ni fel plaid wedi cefnogi cael banc cymunedol ers blynyddoedd. Dwi'n edrych ymlaen i gael cyfrif yn ein banc cymunedol ni yma yng Nghymru. Ond, wrth gwrs, ymateb ydy hyn rŵan i'r ffaith fod banciau't stryd fawr wedi gadael ein cymunedau ni yn y niferoedd dŷn ni wedi'u gweld dros y blynyddoedd diwethaf. A fyddech chi'n cytuno efo fi fod y ffaith ein bod ni wedi methu â rheoleiddio, wedi methu â gosod amodau ar y banciau hynny, wedi'n gadael ni yn y sefyllfa yma lle dŷn ni wedi gweld yr ecsodus o wasanaethau ariannol o'r stryd fawr yn y modd dŷn ni wedi ei weld yn y blynyddoedd diwethaf?

Wel, i ddweud y gwir, Llywydd, mae'n fwy cymhleth na jest i ddweud mai problemau o reoleiddio sydd y tu ôl i beth sydd wedi digwydd ar y stryd fawr. Beth mae'r banciau yn ei ddweud yw nad yw'r business model maen nhw wedi'i ddefnyddio dros y blynyddoedd jest ddim yn gweithio fel oedd e beth amser yn ôl. Mae nifer y bobl sy'n defnyddio'u canghennau wedi cwympo, mae lot fwy o bobl yn gwneud y gwaith ar-lein, so mae rhywbeth yn y business model hefyd. Dyna pam mae hi wedi bod mor bwysig i weithio gyda'r Community Savings Bank Association, achos maen nhw wedi creu model newydd ble maen nhw'n hyderus ei bod hi'n bosibl rhedeg rhywbeth ar y stryd fawr mewn ffordd wahanol sy'n gallu gweithio yn lleol. A dyna pam dŷn ni wedi bwrw ymlaen. Dwi'n cytuno â beth roedd Rhun ap Iorwerth yn ei ddweud am y broblem, ac mae'r broblem ledled Cymru, dŷn ni'n gwybod. Ond mae jest dweud mai'r hen ffordd i wneud pethau yw'r ffordd orau i'w wneud e ddim yn mynd i weithio, dwi ddim yn meddwl. Dyna pam mae'r model newydd gyda ni, a dŷn ni'n trial gweithio'n galed i gael y model yna ar waith yma yng Nghymru.

13:35
Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru

2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am berfformiad Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru? OAQ54798

Llywydd, mae Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru wedi gwneud cynnydd da yn ei flwyddyn gyntaf. Cyhoeddwyd ei adroddiad blynyddol cyntaf, fel y bwriadwyd, ar 27 Tachwedd.

Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Fel y dywedwch, ar 27 Tachwedd, cyflwynodd y comisiwn ei adroddiad blynyddol cyntaf. Ni wahoddwyd unrhyw un o Aelodau'r Cynulliad, a dywedwyd wrthyf na chafodd hyd yn oed Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, Russell George, ei hysbysu am y cyflwyniad. Mae'n ymddangos yn hynod o siomedig mai'r cwbl yr oedd yr adroddiad yn ei wneud, ar ôl eistedd am 12 mis, oedd amlinellu cyfres o feysydd y bydd cynllun gwaith y dyfodol yn canolbwyntio arnynt. Fodd bynnag, mae cipolwg yn unig ar yr adroddiad hwn yn dweud wrthym ni bod yr holl agweddau hyn eisoes wedi eu nodi a'u trafod yn helaeth ym mhwyllgorau'r Cynulliad, ac yn yr ymchwiliad cyhoeddus i ffordd liniaru'r M4. Mae'n ymddangos mai'r cwbl yw hwn yw ymarfer torri a gludo, wedi'i amgylchynu gan y rhagymadrodd arferol. Felly, Prif Weinidog, os yw hi wedi cymryd 12 mis i'r comisiwn, gyda 12 aelod, lunio'r cwestiynau, pa mor hir y bydd hi'n ei gymryd i feddwl am yr atebion? O ystyried bod y broses hon yn gost sylweddol i'r trethdalwr unwaith eto, a yw'r Prif Weinidog yn wirioneddol fodlon â'r cynnydd a wnaed hyd yn hyn?

Llywydd, rwy'n clywed o gwmpas y Siambr fod Aelodau Cynulliad eraill â gwahanol safbwynt o ran pa un a roddwyd gwahoddiadau iddyn nhw fod yn rhan o gyhoeddi'r adroddiad blynyddol. Nid wyf i'n cytuno ag asesiad yr Aelod ohono. Mae'n bwysig bod y Comisiwn wedi darparu asesiad sylfaenol ar sail tystiolaeth yn ei adroddiad blynyddol cyntaf. Dyna a ofynnwyd iddo ei wneud. Mae'n nodi tair thema allweddol datgarboneiddio, cysylltedd, a chydnerthedd. Mae'n nodi 10 mater allweddol penodol y mae'n dweud y bydd yn rhoi sylw iddyn nhw, ac yn gofyn am sylwadau gan bwyllgorau Cynulliad ac eraill ynghylch y ffordd orau o'u datrys. Mae'n nodi tri maes y mae'n bwriadu canolbwyntio arnyn nhw yn ystod y flwyddyn i ddod: cyfathrebu digidol, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig dwysedd isel; ynni adnewyddadwy a chysylltiadau â'r grid trydan; a thrafnidiaeth, lle mae'n awyddus i archwilio materion yn ymwneud â chapasiti, tagfeydd a datgarboneiddio.

Rwy'n credu bod yr adroddiad blynyddol yn gychwyn cadarn i waith y comisiwn, a'r hyn y bydd yn ei wneud yw ymateb i adroddiad y pwyllgor perthnasol, gan gytuno y dylai'r adroddiad cyntaf ar gyflwr y genedl fod ym mis Tachwedd 2021, ac y bydd yn adrodd, fel yr argymhellodd y Pwyllgor, bob tair blynedd wedi hynny. Mae'r Llywodraeth wedi ymrwymo i adolygu'r comisiwn erbyn mis Mai 2021, ei gwmpas a'i gylch gwaith. A chredaf fod hynny i gyd yn dangos bod rhaglen waith weithredol y mae'r comisiwn wedi dechrau cael gafael gwirioneddol arni, a bod cynllun ar waith iddo barhau i gyflawni'r gwaith hwnnw dros y blynyddoedd i ddod.

Dylwn gadarnhau fy mod i yn y digwyddiad yr wythnos diwethaf. Ond yr hyn y gwnaf i ei ddweud, er fy mod i yno, oedd bod yr hyn a ddywedwyd yn yr adroddiad blynyddol cyntaf hwnnw wedi creu argraff llai na syfrdanol arnaf. Mae wedi cymryd blwyddyn i'r comisiwn ddarganfod mai'r hyn y mae angen iddyn nhw ganolbwyntio arno yw ynni, cysylltedd digidol, band eang a thrafnidiaeth. Wel, gallai unrhyw un ohonom ni yn y Siambr hon fod wedi dweud yn union hynny wrth y comisiwn. Yr unig beth y gwnes i ei ddysgu yr wythnos diwethaf yw nad yw'r comisiwn, a sefydlwyd i edrych ar y tymor hir, yn mynd i gymryd unrhyw dystiolaeth am y dull hirdymor ar hyn o bryd. Felly, mae'n rhaid i mi ddweud bod gwaith y comisiwn hyd yn hyn wedi gwneud argraff llai na syfrdanol arnaf, ac nid wyf i'n credu bod y gallu gan y comisiwn ar hyn o bryd i ymateb i'r her sydd ganddo o'i flaen.

A gaf i ofyn, Prif Weinidog, a ydych chi'n credu bod diffyg uchelgais a sylwedd yn y dull presennol? Beth ydych chi'n mynd i'w wneud o ran newid y dull sy'n cael ei ddilyn hyd yma, gyda diffyg uchelgais a sylwedd yn digwydd? Faint o staff y mae'r comisiwn yn eu penodi ar hyn o bryd? A faint o staff fydd yn cael eu penodi yn y dyfodol, oherwydd rwy'n credu bod angen darparu adnoddau priodol ar ei gyfer? Rydych chi'n penodi cadeirydd hirdymor, yr wyf i'n credu sydd i'w groesawu, a pha rinweddau fyddech chi'n disgwyl eu gweld yn y person penodedig hirdymor hwnnw?

13:40

Wel, diolchaf i'r Aelod am hynna. Rwy'n falch ei fod wedi gallu bod yn bresennol yn lansiad yr adroddiad. Nid wyf i'n derbyn yr hyn y mae'n ei ddweud. Y tro diwethaf i mi ateb cwestiynau ar lawr y Cynulliad hwn am waith y comisiwn, gofynnwyd i mi o bob rhan o'r Siambr a oeddwn i'n mynd i fod yn ystyried materion yn ymwneud â dŵr, yn ymwneud â gwastraff, yn ymwneud â rheoli perygl llifogydd, yn ymwneud â thai, ac mae'r comisiwn, yn gwbl briodol, wedi gorfod gwneud dewisiadau yn ei flwyddyn gyntaf ynghylch y materion y dylai ganolbwyntio arnyn nhw, ac roedd hwnnw'n ymarfer dethol priodol fel y gellid nodi ei feysydd blaenoriaeth yn ystod y 12 mis nesaf.

Yn wir, ceir ymarfer sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd ar gyfer y broses penodi cyhoeddus ar gyfer cadeirydd hirdymor y comisiwn seilwaith. Rwy'n falch, Llywydd, yn y trafodaethau yr wyf i wedi eu cael gyda'ch swyddfa bod y swydd honno ar y rhestr o benodiadau cyhoeddus arwyddocaol a fydd yn cael eu profi trwy broses graffu cyn penodi yma yn y Cynulliad, a bydd Aelodau sydd â safbwyntiau cryf ar y rhinweddau y dylai'r sawl a benodir i'r swydd hon feddu arnynt yn gallu rhoi prawf ar yr unigolyn hwnnw drwy'r broses graffu honno.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price. 

O ystyried difrifoldeb yr hyn sydd wedi digwydd yng Nghwm Taf, oni ddylem ni fod wedi disgwyl i Weinidog o Gabinet yr wrthblaid Lafur a oedd yn siarad yn y Senedd fod wedi ymgyfarwyddo â'r achos trasig hwn? Neu a yw'n wir mewn gwirionedd fod Cymru o gyn lleied o bwys i fainc flaen Llafur yn San Steffan ag y mae i'r Torïaid?

Llywydd, mae'r digwyddiadau yng Nghwm Taf yn haeddu ymateb mwy difrifol na'r un yr ydym ni newydd gael ei gynnig gan arweinydd Plaid Cymru. Go brin y mae pa un a oedd llefarydd ar y fainc flaen yn gwbl gyfarwydd â'r manylion yn berthnasol o gwbl i'r mamau a'r teuluoedd sy'n gysylltiedig â'r digwyddiadau yng Nghwm Taf. Mae'r Llywodraeth hon wedi canolbwyntio ac mae'r Gweinidog wedi canolbwyntio ar sicrhau bod pryderon y mamau hynny yn cael ymateb priodol, bod pob cyfle iddyn nhw gyfrannu at y broses o unioni'r hyn a aeth o'i le yng Nghwm Taf. Dyna'r pethau sydd o bwys i'r teuluoedd hynny ac i gleifion yn ardal Cwm Taf, ac nid yw'r ymgais i'w droi'n rhyw gecru gwleidyddol dibwys o ddim clod o gwbl iddyn nhw nac iddo fe.

Siawns bod y ffaith bod Gweinidog Cabinet yr wrthblaid Lafur wedi galw am ymchwiliad ddydd Gwener ac yna wedi gorfod tynnu hynny'n ôl ar y Sul, a hynny am y rheswm syml nad oedd wedi dangos yr hyn yr wyf i'n credu y byddem ni'n ei ddisgwyl ganddyn nhw, sef lefel resymol o ddiddordeb yn yr hyn sy'n digwydd i bobl yng Nghymru—. Digwyddodd ar y dydd Gwener, a byddech chi wedi meddwl, ar ôl cael eu dal unwaith drwy eu difaterwch a'u hanwybodaeth ynghylch yr hyn sy'n digwydd yng Nghymru, y byddech chi wedi briffio Richard Burgon ar y Sul. Roedd yn fwy nag eiliad o embaras llwyr i'r Blaid Lafur, fel y dywedodd Alun Davies. Roedd ei ddistawrwydd o ran methu â gallu ymateb i mi, o ran yr hyn sy'n digwydd yn y GIG yng Nghymru, yn siarad cyfrolau am ddifaterwch i Gymru sy'n ymylu ar ddirmyg.

Nawr, mae un maes yr oeddwn i'n cytuno â Richard Burgon yn ei gylch—[Torri ar draws.] Mae un maes yr oeddwn i'n cytuno â Richard Burgon yn ei gylch yn ymwneud â'r GIG. Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau yn amlwg, er gwaethaf ei wadiadau yn gynharach heddiw, yn berygl eglur a phresennol i ddyfodol y GIG, ond a allwch chi esbonio, felly, pam na fyddwch chi'n cefnogi ein cynnig yn y cynnig a gyflwynwyd gerbron y Senedd i roi feto gyfansoddiadol i'r sefydliad hwn ar unrhyw gytundeb masnach a fydd yn peryglu'r GIG, a pham nad ydych chi'n cefnogi ein galwad i gefnogi Bil diogelu'r GIG y bydd ASau Plaid Cymru yn ei gefnogi yn Senedd nesaf San Steffan?

13:45

Llywydd, mae'r Aelod wedi treulio gormod o amser yn teithio o gwmpas y stiwdios teledu. Mae ei safbwynt o'r hyn sy'n bwysig i bobl yng Nghymru yn cael ei ystumio gan yr oriau y mae'n eu treulio yn bychanu Cymru o flaen cynulleidfaoedd teledu. Ac, mewn gwirionedd, mae'n dioddef yn sgil ei bropaganda ei hun os yw'n credu bod Aelodau'r wrthblaid Lafur rywsut yn atebol iddo fe. Mae'r GIG yng Nghymru yn cael ei reoli gan Lywodraeth Lafur gyda Gweinidogion Llafur yn y fan yma yn ateb cwestiynau ar draws y Siambr hon bob wythnos, ac ar bob agwedd arno. Dyna lle mae penderfyniadau'n cael eu gwneud. Os nad yw'n deall datganoli, yn ffodus, mae pobl Cymru yn ei ddeall, ac ni fyddan nhw'n hapus o gwbl, yn fy marn i, gyda'i safbwynt mai'r pethau y mae e'n digwydd eu dweud mewn stiwdio deledu yw'r ffordd y dylai gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru gael eu trefnu. [Torri ar draws.]—fe'i clywais yn dweud hynny, felly efallai yr hoffai fyfyrio ar hynny am eiliad.

Y rheswm pam na fyddwn ni'n cefnogi Aelodau Plaid Cymru ar lawr Tŷ'r Cyffredin yn y modd y mae e'n ei awgrymu yw oherwydd ein bod ni'n ymgyrchu dros Lywodraeth a fyddai'n golygu na fyddai unrhyw angen o gwbl am Fil o'r fath. Yr hyn sydd ei angen ar y wlad hon yw Llywodraeth Lafur yn San Steffan sy'n barod i sefyll yn erbyn Donald Trump, yn barod i'w gwneud yn eglur nad yw ein GIG ar werth, ac yna ni fydd angen y math o Fil y mae'r Aelod yn cyfeirio ato. Rydym ni'n dal i frwydro'r etholiad cyffredinol hwn; dydyn ni ddim wedi rhoi'r ffidil yn to yn barod.

Prif Weinidog, hoffwn ofyn i chi, yn olaf, ymateb i rywfaint o wybodaeth newydd sydd wedi ei chyhoeddi ynghylch y cynigion sydd wedi eu gwrthod erbyn hyn i gyflwyno seibiannau di-dâl i nyrsys yn y gogledd. Yn gyntaf oll, a allwch chi ddweud pa un a ydych chi'n credu ei bod hi'n briodol bod eich swyddogion wedi ceisio cynnwys prif weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Gary Doherty, mewn materion gwleidyddol trwy rannu testun cynnig gan Blaid Cymru yn y Senedd gydag ef, ac yr ymatebodd iddo, fel y dywedodd ef, 'llinell arfaethedig i'w chymryd'?

Mae hefyd yn dweud yn ei e-bost fod bod y cynigion a dynnwyd yn ôl erbyn hyn i gyflwyno seibiannau di-dâl i nyrsys, a gondemniwyd gan Goleg Brenhinol y Nyrsys ac Unsain fel rhai didostur a hollol annerbyniol, eisoes yn gweithredu mewn bwrdd iechyd arall yng Nghymru. Rydych chi wedi cuddio manylion y bwrdd iechyd dan sylw. A allwch chi ddweud wrthym ni nawr pa un yw hwnnw? A chyn i chi gael eich temtio i ddweud, 'Materion gweithredol yw'r rhain', neu 'Rhowch y bai ar y Torïaid', a ydych chi'n barod i gydnabod, o Gwm Taf i Betsi, mai un person sy'n gyfrifol am y GIG yn y pen draw, Prif Weinidog, a chi yw hwnnw?

Fi sy'n gyfrifol am y GIG yng Nghymru, Llywydd, ac rwy'n falch iawn yn wir o fod yn y sefyllfa honno. Rwy'n falch iawn yn wir o bopeth y mae ein GIG yn ei wneud bob un dydd, o'r miloedd o bobl sy'n gweithio ynddo, o'r cannoedd o filoedd o bobl sy'n cael eu trin ganddo yma yng Nghymru, ac y cynyddodd eu lefelau o foddhad â GIG Cymru eto yn ein harolwg cenedlaethol yn gynharach eleni. Fi sy'n gyfrifol, rwy'n falch o fod yn gyfrifol, ac rwy'n falch iawn bod gennym ni, yma yng Nghymru, gefnogaeth gref y cyhoedd yng Nghymru i'r math o GIG yr ydym ni'n benderfynol o'i gadw yma—GIG a ddarperir yn gyhoeddus, a ariennir yn gyhoeddus, sydd ar gael am ddim ar y pwynt defnyddio. Dyna'r math o GIG yr wyf i'n gyfrifol amdano, a dyna'r math o GIG yr wyf i'n bwriadu parhau i fod yn gyfrifol amdano.

Rwyf i wedi fy syfrdanu bod arweinydd Plaid Cymru yn credu bod cynnig a roddwyd gerbron y Cynulliad Cenedlaethol rywsut yn ddogfen wleidyddol. Mae'n ddogfen gyhoeddus; mae ar gael i unrhyw un ei darllen. Mae'r syniad na ellid ei dwyn i sylw bwrdd iechyd sydd wedi ei enwi ynddi yn nonsens i'r pwynt sy'n peri dryswch i mi y dylai'r Aelod fod wedi hyd yn oed wedi meddwl ei fod yn werth ei godi. Nid wyf i'n gwybod pa fwrdd iechyd arall sydd â threfniadau tebyg, ac nid wyf i angen gwybod ychwaith. Nid wyf i'n gyfrifol am rotas nyrsys; rwy'n gyfrifol am bolisi, cyfeiriad a chyllid y gwasanaeth iechyd gwladol.

Diolch, Llywydd.

Prif Weinidog, mae canlyniadau'r rhaglen ryngwladol asesu myfyrwyr heddiw yn cadarnhau unwaith eto bod Cymru wedi parhau fel y wlad â'r perfformiad isaf yn y Deyrnas Unedig ar gyfer pob pwnc, er gwaethaf y gwelliannau sy'n cael eu gwneud. Pam na fu unrhyw welliannau ystadegol arwyddocaol i sgoriau PISA Cymru o ran darllen a mathemateg ers 2006?

Wel, Llywydd, mae'n siomedig, ar ddiwrnod pan fo pobl ifanc yng Nghymru a'r rhai sy'n eu haddysgu wedi cael canlyniadau sy'n dangos bod Cymru, yn unigryw yn y Deyrnas Unedig, wedi gwella ei safle o ran darllen, gwyddoniaeth a mathemateg, na all arweinydd yr wrthblaid yn y fan yma ddod o hyd i un gair da—dim un gair da—i'w ddweud dros y bobl ifanc hynny a'u hathrawon. Oherwydd rwy'n credu mai dyna'r stori y bydd ein hysgolion yn ei chlywed heddiw—sef, wrth gwrs, nad yw'r sefyllfa'n berffaith, ond mae'r newyddion heddiw yn gadarnhaol. Mae'n dangos gwelliant ym mhob un o'r tri maes; ni all yr un rhan arall o'r Deyrnas Unedig ddangos hynny. Mae llawer o bethau eraill yn y canlyniadau PISA heddiw y dylem ni fod yn eu dathlu, a dylem ni fod yn cydnabod yr ymdrechion y mae plant a'u hathrawon wedi eu gwneud.

13:50

Wel, yn amlwg, Prif Weinidog, doeddech chi ddim yn gwrando. Dywedais fod gwelliannau wedi eu gwneud, ond ni allwch chi gamliwio'r sefyllfa oherwydd rydym ni'n dal ar waelod tabl cynghrair y Deyrnas Unedig. Er gwaethaf gwaith caled y rhai sy'n gweithio yn y proffesiwn addysgu, mae sgoriau gwyddoniaeth Cymru yn dal i fod yn waeth o lawer nag yn 2006; mae Cymru ar y gwaelod o blith gwledydd y DU o ran darllen, mathemateg a gwyddoniaeth; a Chymru yw'r unig wlad yn y DU i sgorio'n is na chyfartaledd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd ym mhob un o fesuriadau PISA. Mae'n eithaf eglur, Prif Weinidog, eich bod chi a'ch Llywodraeth yn methu â gwella system addysg Cymru yn sylweddol.

Nawr, rwy'n gwybod ac yn derbyn bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyfres o ddiwygiadau, a dim ond fis diwethaf, cyhoeddodd yr Athro Calvin Jones o Ysgol Fusnes Caerdydd a Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, yr adroddiad 'Addysg Addas ar gyfer y Dyfodol yng Nghymru', a alwodd am dreth newydd gyffredinol wedi ei phridiannu i Gymru, wedi'i thargedu'n benodol at alluogi pontio'r cwricwlwm. Nawr, gan eich bod chi wedi cadarnhau yr wythnos diwethaf y bydd trethi'n codi o dan Lywodraeth Lafur, a allwch chi gadarnhau, felly, pa un a fydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno treth addysg yng Nghymru?

Nid wyf i erioed wedi clywed y syniad hwn heblaw gan yr Aelod ei hun. Nid yw'n berthnasol o gwbl i'r Llywodraeth Cymru hon. Y gwir am ganlyniadau heddiw yw bod Cymru ar y cyfartaledd rhyngwladol ym mhob un o'r tri phwnc erbyn hyn am y tro cyntaf erioed; bod Cymru, mewn mathemateg a gwyddoniaeth, yn perfformio ar yr un lefel â Gogledd Iwerddon a'r Alban; a bod gennym ni'r sgoriau gorau erioed o ran darllen a mathemateg a gwelliant mewn gwyddoniaeth hefyd. Nid dyma ble'r ydym ni eisiau bod. Nid dyma ble mae ein huchelgeisiau ar gyfer rownd nesaf PISA eisiau i ni fod, ond ni wnewch chi fyth sicrhau gwelliannau mewn system os mai'r cwbl yr ydych chi'n llwyddo i'w wneud yw drwy'r amser—[Torri ar draws.] Rwy'n gallu clywed yr Aelod, rwy'n gallu ei glywed. Nid oes angen iddo ei ailadrodd drosodd a throsodd, rwy'n gallu ei glywed. Yr ychydig o droeon cyntaf y mae'n meddwl ei fod yn beth synhwyrol ceisio torri ar draws o'r lle y mae'n eistedd, nid yw'n ei helpu, nid yw'n helpu unrhyw un sy'n ceisio gwneud synnwyr o'r pethau hyn, ac yn sicr nid yw'n helpu plant a phobl ifanc yn ein hysgolion, sydd wedi cyflawni rhywbeth gwerth chweil iawn yn y canlyniadau PISA hyn, i ymddwyn fel pe na byddai hynny'n cyfrif am ddim byd.

Ond, Prif Weinidog, rydym ni'n dal ar waelod tabl cynghrair y DU o ran y canlyniadau hyn. Ydw, rwy'n derbyn, wrth gwrs, y bu gwelliannau, ond rydych chi'n amlwg yn siomi ein plant a'n pobl ifanc gan y dylem ni fod wedi gweld gwelliant llawer mwy dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf.

Nawr, wrth gwrs, mae'r adroddiad 'Addysg Addas ar gyfer y Dyfodol yng Nghymru', yr ydych chi, yn amlwg, eisiau ei ddiystyru, wedi galw am ddileu TGAU, ac fel yr ydym ni i gyd yn gwybod, mae Cymwysterau Cymru yn lansio ymgynghoriad ar ddyfodol TGAU a chymwysterau eraill a ddilynir gan bobl ifanc 16 oed. Prif Weinidog, mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn gwneud hyn yn iawn ac na fydd dysgwyr Cymru yn cael eu siomi fel y cafodd dysgwyr y degawd blaenorol eu siomi.

Nawr, mae'n ffaith ddiymwad bod canlyniadau TGAU 2019 Cymru ar yr un lefel â 2007. Mae ein canlyniadau PISA, fel yr wyf i newydd ei ddweud, yn dal i fod y gwaethaf yn y DU, a dim ond 29 y cant o bobl ifanc yng Nghymru sy'n mynd i'r brifysgol mewn gwirionedd. Prif Weinidog, pa sicrwydd allwch chi ei gynnig i ddysgwyr ledled Cymru yn ogystal â theuluoedd a darparwyr addysg y bydd Llywodraeth Cymru yn cymryd cyfrifoldeb am ei hanes o gyflawni, ac, wrth symud ymlaen, na fydd unrhyw garreg yn cael ei gadael heb ei throi wrth sicrhau bod dysgwyr yng Nghymru  yn cael mynediad at system addysg sy'n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain?

Wel, Llywydd, mae gan y Llywodraeth hon y rhaglen ddiwygio fwyaf uchelgeisiol yn system addysg unrhyw Lywodraeth mewn unrhyw le yn y Deyrnas Unedig. Mae'n rhaglen ddiwygio y mae'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd wedi ei chymeradwyo eto heddiw fel y sail ar gyfer y gwelliannau yr ydych chi eisoes wedi eu gweld.

Mae'r Aelod yn iawn i ddweud mai dim ond un o'r mesurau yr ydym ni'n eu defnyddio i ddeall llwyddiant ein system addysg yw PISA. Dyna pam yr oeddem ni mor falch o weld yn yr haf bod y canlyniadau Safon Uwch gorau yng Nghymru yn well nag mewn unrhyw ranbarth o Loegr na Gogledd Iwerddon. Atebais gwestiwn gan un arall o'i Aelodau yr wythnos diwethaf ynglŷn â'r adroddiad y mae'n cyfeirio ato a Cymwysterau Cymru. Bydd yr adroddiad yn gyfraniad defnyddiol at yr ymgynghoriad y mae Cymwysterau Cymru yn ei gynnal, ond yn y pen draw, Cymwysterau Cymru fydd yn gyfrifol am gyflwyno sylwadau i Lywodraeth Cymru ynghylch sut y bydd gennym ni system gymwysterau sy'n bodoli ochr yn ochr â'n cwricwlwm newydd, a bod hynny i gyd yn sail i'n huchelgais. Ac rydym ni mor uchelgeisiol ag unrhyw un yng Nghymru i'n pobl ifanc gael yr addysg orau posibl i gyflawni popeth y byddem ni eisiau iddyn nhw ei gyflawni ac yna mynd ymlaen i gael cyfleoedd yn yr economi hon, lle y caiff y cyfleoedd hynny eu dosbarthu'n deg yn hytrach na'r gymdeithas anghyfartal iawn y mae ei blaid ef wedi bod yn benderfynol o'i chreu.

13:55

Diolch, Llywydd. A gaf i longyfarch y Prif Weinidog, yr ysgrifennydd addysg, y 107 o ysgolion a'r 3,165 o ddysgwyr a gymerodd ran yn y profion PISA? Maen nhw'n sylweddol well na'r canlyniadau gwael iawn a welsom yn 2016, ac rwy'n credu ei bod hi'n briodol rhoi hynny ar y cofnod. Pe byddai wedi bod fel arall, byddwn wedi bod yn befriol yn fy meirniadaeth.

A gaf i, fodd bynnag, ofyn am y canlyniadau? O ran y wyddoniaeth a'r fathemateg, ceir gwahaniaeth o un neu ddau bwynt, ffracsiynol iawn, lle'r ydym ni'n is na chyfartaledd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd. O ran darllen, mae braidd yn fwy; ceir bwlch o saith pwynt ar y rheini. Ac er ei bod hi'n wir i Lywodraeth Cymru ddweud bod y canlyniadau hyn, ar eu pennau eu hunain, ar draws y tri maes, yn cyfateb a heb fod yn arwyddocaol yn ystadegol pan eu bod rhyw fymryn yn is, onid yw'n wir, gyda'i gilydd, bod y ffaith eu bod yn is ym mhob un o'r tri, gan gynnwys bwlch sy'n agos at fod yn arwyddocaol yn ystadegol o ran darllen, yn golygu na ellir o anghenraid hawlio yn gyffredinol bod Cymru wedi perfformio yn gyfatebol ar sail agregedig?

Lywydd, gadewch i mi ddechrau drwy ddiolch i'r Aelod am y ffordd y cyflwynodd ei gwestiwn. Mae'n sicr yn ddiwrnod i gydnabod yr ymdrechion a wnaed a'r llwyddiannau sydd wedi deillio ohonynt.

Mae'n iawn i dynnu sylw at y ffaith mai'r bwlch mewn darllen yw'r mwyaf o'r tri, a phan fydd ganddo gyfle, fel y gallaf weld ei fod eisoes wedi dechrau, i edrych ar fanylion y canlyniadau, bydd yn gweld bod hynny'n cael ei lywio'n rhannol gan y bwlch rhwng bechgyn a merched o ran sgoriau darllen sydd gennym ni yma yng Nghymru. Ac rydym ni'n gwybod bod gwaith y mae'n rhaid i ni ei wneud i berswadio dynion ifanc i gymryd diddordeb mewn gwella eu gallu llythrennedd a bod hynny yno yn y canlyniadau a welwn.

Ceir tystiolaeth yn y ffigurau o welliant cymharol Cymru dros amser o ran darllen. Rydym ni wedi gwella ein safle yn nhablau cynghrair y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd o wahanol wledydd o ran darllen, yn ogystal â'r ddau faes arall, ond rydym ni'n cydnabod, wrth gwrs, bod mwy y mae angen i ni ei wneud, yn enwedig i fynd i'r afael â'r ffenomen, sy'n wir yn rhyngwladol—mae'n wir ym mhob un gwlad yn y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd—bod menywod ifanc yn rhagori ar ddynion ifanc pan ddaw hi'n fater o ddarllen. Mae honno'n broblem fwy heriol mewn rhai rhannau o Gymru, ac mae mwy y byddwn ni eisiau ei wneud, a bydd ein cwricwlwm newydd, yn ein barn ni, yn ein helpu i wneud hynny.

Wel, rwy'n credu bod yr hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi ei ddweud mewn ymateb i'r canlyniadau hyn yn deg ar y cyfan, ac rwy'n credu bod y pwyntiau ynglŷn â chymariaethau'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn werth eu nodi yng ngoleuni'r hyn a welsom dair blynedd yn ôl a'r gwahaniaeth yn y ddadl bryd hynny. Ac rwy'n credu y dylai hynny gael ei adlewyrchu yn ein sylwadau.

A wnaiff y Prif Weinidog, fodd bynnag, dderbyn nad yw'r darlun mor wych yn y cymariaethau o fewn y DU? Ac er nad yw'r bylchau gyda'r Alban a Gogledd Iwerddon yn ystadegol arwyddocaol, ar gyfer mathemateg a gwyddoniaeth, rydym ni'n gweld bod Lloegr yn gwneud yn sylweddol well na ni a'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, ac a oes unrhyw wersi y gallwn ni eu dysgu gan Loegr yn hynny o beth? A yw'r Prif Weinidog hefyd yn derbyn bod problem benodol o ran darllen, lle mae'r canlyniadau wedi gwella'n sylweddol o ganlyniad arbennig o wael yn 2016, o'i gymharu â mathemateg, dyweder, lle'r ydym ni wedi gweld gwelliannau eithaf mawr mewn dau gylch yn olynol, y dylem ni ei nodi? Ond mae'r canlyniadau ar gyfer darllen—(a) yn gwrthdroi canlyniad gwael y tro diwethaf, yn hytrach na dangos tuedd o wella, a (b) mae ein canlyniadau, yn ystadegol, yn sylweddol is na'r tair gwlad arall yn y DU o ran darllen, ac rwy'n meddwl tybed beth yw barn y Prif Weinidog ynglŷn â hynny.

Rwy'n meddwl tybed, a allai gynnig sylwadau hefyd ar ddau beth arall yr oeddwn i'n meddwl oedd yn arwyddocaol? Cafwyd pryder gan brifathrawon yng Nghymru a oedd yn adrodd bod mwy o brinder neu ddiffygion o ran deunyddiau addysgol, er enghraifft gwerslyfrau ac offer technoleg gwybodaeth. A yw e'n credu bod hwnnw'n bryder teg iddyn nhw ei fynegi? Yn olaf, o ran llesiant—ac roedd hwn yn fater ar gyfer y DU gyfan yn hytrach na phenodol i Gymru—roedd cryn dipyn o bobl ifanc yn dweud eu bod yn debygol o deimlo'n bryderus neu'n ddigalon, a gwn, gyda'r pwyllgor pobl ifanc ac addysg, ein bod ni wedi gwneud rhywfaint o waith ar hyn, ond a oes gan y Prif Weinidog unrhyw beth i'w gynnig i'r myfyrwyr hynny?

14:00

Diolchaf i Mark Reckless am y cwestiynau ychwanegol yna. Rwy'n credu, fel y mae'r Gweinidog addysg wedi ei ddweud, pryd bynnag y gofynnwyd iddi am hyn eisoes heddiw, ac y bydd yn cael cyfle arall ar lawr y Cynulliad, nid ydym ni erioed wedi awgrymu bod y canlyniadau hyn yn berffaith. Maen nhw'n gadarnhaol, ac mae problemau, o ran darllen yn benodol, y byddwn ni eisiau rhoi sylw iddyn nhw o ganlyniad i'r sgoriau hyn ac i weld beth y gallwn ni ei wneud i'w gwella ymhellach fyth yn y rownd nesaf o ganlyniadau PISA.

O ran adnoddau, mae Llywodraeth Cymru yn gwneud buddsoddiad mawr o £50 miliwn i wella TG yn yr ystafell ddosbarth. Wrth gwrs, byddwn yn disgwyl i athrawon a phenaethiaid ddweud pe byddai ganddyn nhw fwy o adnoddau y gallen nhw wneud yn well. Ond mae hwnnw'n fuddsoddiad mawr.

Os edrychwch chi ar unrhyw arolwg rhyngwladol o lesiant ymhlith pobl ifanc yn y Deyrnas Unedig, rydym ni yn hanner gwaelod y tabl cynghrair. Mae hwnnw'n fater y dylem ni bryderu yn ei gylch, ond mae hefyd, mewn rhai ffyrdd, yn adlewyrchu'r ffordd y mae rhai o'r cwestiynau yn y prawf hwn yn cael eu geirio er mwyn cael y deunydd crai y mae'r atebion yn deillio ohono.

Pe bawn i'n chwilio am rywbeth cadarnhaol yn y canlyniadau y gallech chi ei ddweud wrth y bobl ifanc hynny, yna byddwn yn tynnu sylw at y ffaith fod y bwlch o ran anfantais yng Nghymru yn llai o lawer nag ar draws y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd a bod pobl ifanc yng Nghymru mewn sefyllfa well i oresgyn anfantais o ganlyniad i'r addysg y maen nhw'n ei chael yng Nghymru nag a fyddai'n wir ar draws y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn ei gyfanrwydd. Felly, mae person ifanc sy'n dod i mewn i'n hysgol gyda bwlch anfantais yn fwy tebygol o oresgyn y bwlch hwnnw yng Nghymru nag ar draws y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn ei gyfanrwydd. Rwy'n credu bod y math hwnnw o neges gadarnhaol a'r buddsoddiad cadarnhaol hwnnw y mae ein gwasanaeth addysg yn ei wneud mewn pobl ifanc, yn gwneud ei gyfraniad rwy'n gobeithio, ynghyd â llawer o bethau eraill, i geisio cyfleu neges i'r bobl ifanc hynny am eu pwysigrwydd i ni, am y gwerth yr ydym ni'n ei neilltuo iddyn nhw ac ynghylch sut y mae eu llesiant, yn ogystal â phopeth arall y maen nhw'n ei gyflawni, yn bwysig yn eu bywydau nhw ac i bobl Cymru yn gyffredinol.

Pobl ag Awtistiaeth yn Addysg Uwch

3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am nifer y bobl ag awtistiaeth sy'n astudio mewn addysg uwch yng Nghymru? OAQ54803

Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Roedd 800 o fyfyrwyr addysg uwch yng Nghymru a gofnodwyd yn 2017-18 bod ganddynt nam cymdeithasol neu gyfathrebu hunanddatganedig, fel syndrom Asperger neu anhwylderau eraill ar y sbectrwm awtistig.

Prif Weinidog, efallai eich bod chi'n cofio'r achos anffodus y llynedd ym Mhrifysgol Abertawe, pryd yr honnwyd bod myfyriwr wedi ei gwahardd o'i chwrs prifysgol am resymau iechyd. Nawr, rwy'n falch iawn o weld bod Prifysgol Abertawe a Choleg Gŵyr Abertawe wedi cyfuno mewn prosiect blwyddyn o hyd i gynorthwyo myfyrwyr â chyflyrau sbectrwm awtistiaeth wrth iddyn nhw baratoi i symud o'r coleg i'r brifysgol. Rwy'n credu bod hwnnw'n newid pwysig dros ben oherwydd, yn ogystal â'r pryderon arferol a fydd gan unrhyw fyfyriwr ynghylch pa gwrs i gofrestru arno a ble i astudio, mae angen i fyfyrwyr awtistig ystyried ffactorau eraill fel arfer, fel yr amgylchedd, cyfleoedd cymdeithasol a chymorth anghenion addysgol arbennig unrhyw brifysgol benodol ac, yn wir, cwrs penodol mewn prifysgol.

Yn ôl y Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth, mae cynllunio addysg, iechyd a gofal yn allweddol, ac mae hyn yn cael ei wneud yn gynyddol mewn ysgolion a cholegau, rwy'n falch o ddweud. Ond nid yw'n cael ei ddwyn ymlaen i addysg uwch. A ydych chi'n cytuno â mi ei bod hi'n hen bryd i ni osod y safon yng Nghymru a mynnu bod gan ein prifysgolion y cynlluniau hyn, fel bod myfyrwyr sydd ag anhwylderau ar y sbectrwm awtistig yn cael eu cynorthwyo'n briodol?

14:05

Diolchaf i David Melding am y pwyntiau pwysig yna. Rwy'n cytuno'n llwyr ag ef ynghylch pwysigrwydd pontio a bod pobl ifanc sydd eisoes yn cael cymorth mewn un rhan o'r system—y bydd y cam nesaf y maen nhw'n ei wneud ar yr ysgol addysg, y gwaith a wnaed gyda nhw mewn un lle, yn cael ei drosi'n briodol i'r lle nesaf y maen nhw'n bwriadu mynd iddo, fel bod y newid hwnnw mor ddidrafferth ag y gall fod.

Cyhoeddodd Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ei ddatganiad sefyllfa ar lesiant ac iechyd ym mis Mehefin eleni. Mae ganddo gyfres o gamau y mae'n eu cynnig o'r datganiad sefyllfa y bydd yn gweithio arnyn nhw, ynghyd ag UCM yng Nghymru—Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr—i wneud yn siŵr bod pobl ifanc ag awtistiaeth sy'n astudio mewn addysg uwch yn cael yr holl gymorth sydd ei angen arnynt.

Rwy'n cofio'r digwyddiad yn Abertawe y mae David Melding yn cyfeirio ato. O fewn y pythefnos diwethaf, cyfarfûm â menyw ifanc sy'n astudio ym Mhrifysgol Abertawe heddiw a oedd yn gadarnhaol iawn yn wir am y cymorth yr oedd hi'n ei gael i sicrhau bod ei chyflwr awtistig yn cael ei gydnabod a'i ddeall. Roedd hi'n cael rhywfaint o gymorth drwy'r lwfans cymorth i fyfyrwyr anabl sydd gennym ni yma yng Nghymru—mae 3,400 o fyfyrwyr o Gymru yn elwa ar y gronfa £8 miliwn honno. Ond rhan fach o'r hyn yr oedd hi'n teimlo yr oedd hi'n ei gael oedd yr arian. Y ddealltwriaeth yr oedd hi'n ei chael gan y brifysgol, gan ei thiwtoriaid ac eraill, yr oedd hi'n ei deimlo oedd yn ei chynorthwyo i wneud y gorau o'i gallu ac i gael popeth yr oedd hi ei eisiau allan o'i phrofiad addysg uwch. Byddai cynllunio gwell ar gyfer pontio, gan sicrhau bod y pethau y cyfeiriodd David Melding atyn nhw yn cael eu gwneud, o gymorth ym mhrofiad unrhyw berson ifanc.

Cyn y cwestiwn hwn heddiw, siaradais â nifer o bobl ag awtistiaeth. Roedden nhw'n dweud wrthyf i eu bod nhw'n aml yn cael eu denu at addysg uwch, ac mae rhai ohonyn nhw yn aml yn orgymwysedig gan eu bod nhw'n teimlo'n ddiogel o gael y cefndir academaidd hwnnw, a diogelwch mewn dysgu, yn hytrach na wynebu marchnad swyddi lle y gallen nhw, o bosibl, gael eu stigmateiddio, a'u bod nhw'n canfod nad yw prosesau ymgeisio am swyddi yn cyd-fynd â'u hanghenion.

Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi dweud yn ddiweddar bod gwahaniaeth o 12 y cant rhwng cyflogau pobl anabl a'u cymheiriaid nad ydynt yn anabl. Felly, gallwn siarad am addysg uwch a chael y bobl hynny ag awtistiaeth i mewn i'r system, sy'n iawn yn ei le, ond beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i'w cynorthwyo nhw pan fyddan nhw'n mynd allan i'r byd go iawn, pan eu bod eisiau cystadlu am swyddi ar sail deg mewn ffordd sy'n gyfartal iddyn nhw ac sy'n sy'n eu parchu hefyd?

Llywydd, rwy'n credu ei fod ychydig yn fwy na 'iawn yn ei le'. Rwy'n credu bod y sgyrsiau yr ydych chi'n adrodd amdanynt yn ddiddorol iawn gan eu bod nhw'n adlewyrchu'r hyn yr wyf innau wedi ei glywed gan bobl ifanc hefyd. Os oes gennych chi gyflwr sy'n gysylltiedig ag awtistiaeth, yna mae'r cyfnod yr ydych chi'n ei dreulio mewn addysg uwch yn werthfawr oherwydd y cymhwyster y gallech chi ei gael, ond mae hefyd yn rhan bwysig iawn o'ch synnwyr o allu arfogi eich hun i ymdopi â'r byd y tu hwnt i addysg. Felly, rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn y mae Bethan Jenkins wedi ei ddweud am yr angen i wneud yn siŵr bod y byd gwaith hefyd yn un sy'n deall anghenion pobl ag awtistiaeth, ac sydd â'r gallu i ymateb mewn ffordd sy'n caniatáu i'r bobl hynny wneud y cyfraniad y maen nhw eisiau ei wneud. Ac mae llawer iawn o waith yr ydym ni wedi ei wneud, dros nifer o flynyddoedd bellach, i ymdrin â phroblemau iechyd meddwl yn y gweithle, a chyda'r stigma y mae pobl yn ei wynebu. Ond mae cyfnod a dreulir mewn addysg uwch gan berson ifanc sydd ag awtistiaeth yn fuddsoddiad gwirioneddol, yn ei synnwyr ei hun o gymhwyster ond hefyd yn ei synnwyr ei hun o allu wynebu'r byd yn y ffordd y dywedodd Bethan Jenkins y mae pobl y mae hi wedi siarad â nhw yn ei ddweud, a gallu gwneud hynny mewn modd y maen nhw'n teimlo'n ffyddiog y byddan nhw'n gallu ymdopi ag ef.

14:10
Cefnogaeth i rai sy'n Cysgu ar y Stryd

4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth i rai sy'n cysgu ar y stryd yn Sir y Fflint? OAQ54805

Llywydd, mae'r cynnydd i'r niferoedd sy'n cysgu allan yn un o'r arwyddion mwyaf amlwg o ddegawd o gyni cyllidol y Torïaid. Yn ystod eleni yn unig bydd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi dros £20 miliwn i atal a lliniaru digartrefedd. Mae holl awdurdodau lleol Cymru, gan gynnwys Sir y Fflint, wedi elwa ar y cyllid newydd hwn.

Diolch, Prif Weinidog. Soniasoch yn eich ymateb am effaith cyni cyllidol, ac mae hyn yn digwydd ar bob un stryd fawr erbyn hyn. Nid problem mewn dinasoedd mawr yn unig yw hon erbyn hyn. Mae pobl wedi bod yn cysgu ar y strydoedd mewn trefi fel Cei Connah a Shotton, am y tro cyntaf yn fy nghof i. Nawr, mae'n bosibl iawn y gallai pethau fynd yn drech na chynghorau fel Sir y Fflint y gaeaf hwn, felly rwyf i wedi ysgrifennu atoch chi, Prif Weinidog, i ofyn pa gymorth brys y gallwch chi ei gynnig fel Llywodraeth Cymru i gynghorau fel Sir y Fflint i sicrhau nad yw pobl yn cael eu gadael allan yn yr oerfel y Nadolig hwn.

Prif Weinidog, os caf, hoffwn ofyn am eich sicrwydd hefyd y bydd y grant cymorth tai hefyd yn cael ei gryfhau, oherwydd yn aml, dyna'r unig hyblygrwydd sydd ar gael i gynorthwyo'r bobl hynny sydd mewn amgylchiadau anodd dros ben.

Diolchaf i Jack Sargeant am hynna, Llywydd. Mae yn llygad ei le i dynnu sylw at y ffaith bod llawer ohonom ni yn y Siambr hon wedi byw y rhan fwyaf o'n bywydau pan fyddai gweld rhywun heb rywle i gysgu yn gwbl brin ac ysgytiol, a nawr rydym ni'n gweld y ffenomen hon, fel y dywedodd Jack, nid yn unig yn ein prif ardaloedd trefol, ond mewn trefi llai ledled Cymru, ac mae'n wirioneddol ysgytiol bod gwead ein gwladwriaeth les wedi cael ei chaniatáu i ddirywio i'r graddau y mae wedi ei wneud, ein bod ni'n gweld pobl yn y niferoedd hynny'n cael eu gorfodi i'r sefyllfa honno erbyn hyn.

Mae'r grŵp gweithredu ar ddigartrefedd a sefydlwyd gan y Gweinidog ac a gadeiriwyd gan Jon Sparkes o Crisis wedi cyflwyno adroddiad gyda chyfres o argymhellion uniongyrchol ar gyfer pethau y gallwn ni eu gwneud y gaeaf hwn i geisio osgoi'r sefyllfa y mae Jack Sargeant wedi cyfeirio ati. Mae'r Llywodraeth wedi derbyn yr holl argymhellion hynny ac mae'n gweithio'n galed gyda chydweithwyr yn yr awdurdodau lleol a chyda sefydliadau trydydd sector i weithredu'r mesurau hynny ar unwaith. Rydym ni wedi cynnal y buddsoddiad yr ydym ni'n ei wneud yn Cefnogi Pobl, sydd, fel y dywedodd Jack, yn un o'r rhannau hyblyg o'r gyllideb y gall awdurdodau lleol a'u partneriaid eu defnyddio i ddarparu gwasanaethau i bobl, oherwydd er bod ailgartrefu cyflym yn ganolog i'r hyn yr ydym ni eisiau ei gynnig i bobl sy'n canfod eu hunain yn cysgu ar y stryd, rydym ni hefyd yn gwybod bod gan yr unigolion hynny, oherwydd yr hanesion y bu'n rhaid iddyn nhw fynd drwyddynt, anghenion y tu hwnt i lety yn aml, a dyna y mae'r grant Cefnogi Pobl yno i'w wneud, a dyna pam yr ydym ni wedi ei gynnal drwy gydol tymor y Cynulliad hwn, ac rydym ni'n bwriadu parhau i wneud hynny.

Iechyd y Cyhoedd yn Nwyrain Casnewydd

5. Pa gamau pellach y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella iechyd y cyhoedd yn Nwyrain Casnewydd? OAQ54793

Diolchaf i John Griffiths am hynna. Mae'n rhaid i gamau i wella iechyd y cyhoedd ddechrau o oedran cynnar, Llywydd, ac rwy'n llongyfarch ysgolion Casnewydd, y mae pob un ohonynt yn aelodau o rwydwaith ysgolion iach Cymru, ac y mae wyth ohonyn nhw eisoes wedi ennill y lefel uchaf o ddyfarniad cenedlaethol am eu gwaith yn hybu iechyd ymhlith eu pobl ifanc. Mae wyth ysgol arall yng Nghasnewydd ar y trywydd iawn i gyrraedd y garreg filltir wirioneddol arwyddocaol hon.

Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog, ac yn arbennig am dynnu sylw at y gwaith da iawn sy'n digwydd yn ysgolion Casnewydd, yr wyf i'n amlwg yn gyfarwydd iawn ag ef.

Cefais gyfarfod yn ddiweddar gyda Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint, ac mae ehangder y problemau anadlu erbyn hyn yn rhywbeth tebyg i un ym mhob pump o bobl yn y DU gydag anawsterau anadlu. Yn amlwg, mae aer glân yn ffordd allweddol o leddfu a gobeithio, maes o law, cael gwared ar y problemau hynny. Mae angen i ni gyrraedd y cam lle mae pobl yn anadlu aer glân gydag ysgyfaint iach.

Un ffordd bwysig o gyrraedd y sefyllfa honno, Prif Weinidog, yw mynd i'r afael â thraffig ffyrdd, gan gael pobl a nwyddau ar drafnidiaeth gyhoeddus gymaint â phosibl. Gwn fod llawer o bolisïau ar waith, a llawer o syniadau ymarferol i helpu i gyflawni hynny, ond, yn amlwg, mae angen gwneud hynny cyn gynted â phosibl. Gwn y bu llawer o ymgyrchoedd, ac yn wir, achos llys, i geisio sicrhau gwell ansawdd aer yng Nghymru ac yn y DU yn gyffredinol, ac mae rhai awdurdodau lleol wedi ymateb. Rwy'n falch iawn bod Cyngor Dinas Casnewydd yn cyflwyno cynigion erbyn hyn, yn wir, gyda phartneriaid iechyd cyhoeddus. Ond mae llawer o syniadau o gwmpas pan fyddwch yn cyfarfod â grwpiau, Prif Weinidog. Mae gennym ni ein gwaith ar y terfyn cyflymder o 20 mya yn mynd rhagddo, yr holl welliannau teithio llesol y mae angen i ni eu gwneud, mae parthau gwahardd weithiau o amgylch ysgolion, ceir syniadau ynghylch gwahardd ceir llonydd rhag cadw'r injan yn troi a sicrhau bod bysiau a thacsis—

14:15

Diolch, Llywydd. Felly, dim prinder syniadau, Prif Weinidog, ond, mewn gwirionedd, rwy'n credu bod angen i ni gael synnwyr o frys o ran sut yr ydym ni'n gwneud y newid hwn.

Wel, Llywydd, rwy'n cytuno'n llwyr â John Griffiths ynglŷn â phwysigrwydd y mater a'r angen am frys. Bydd y Gweinidog, Lesley Griffiths, yn gwneud datganiad ar lawr y Cynulliad yr wythnos nesaf, rwy'n credu, ar y cynllun aer glân i Gymru. Yn y cyfamser, mae'n dda iawn gweld bod cyngor Casnewydd wedi cyflwyno i Lywodraeth Cymru ei strategaeth teithio cynaliadwy newydd, sydd ag aer glân yn ganolog i hynny. Ac, fel y dywedodd John Griffiths, Llywydd, cyhoeddodd y bwrdd iechyd lleol ar gyfer ardal Gwent ym mis Medi 'Creu Gwent Iachach'; mewn cynhadledd ar 6 Tachwedd, roedd yr angen am aer glân a'i effaith ar iechyd pobl yn rhan bwysig o'r drafodaeth fywiog iawn honno. Oherwydd mae John yn iawn: nid oes prinder o syniadau yn y maes hwn, a bydd angen i ni, mewn sawl ffordd, fod yn fwy beiddgar o ran ein parodrwydd i ymgymryd â rhai o'r syniadau hyn, a fydd, heb os, yn cynnwys meysydd lle y bydd pobl yn ei chael hi'n anodd addasu eu hunain i'r camau y mae angen eu cymryd. Ond mae'n rhaid i ni fod o ddifrif am aer glân—mae'n fater iechyd cyhoeddus gwirioneddol, ac mae defnyddio'r trydydd sector, drwy Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint ac eraill, i ychwanegu at y repertoire yn rhan bendant o sut yr ydym ni'n dymuno bwrw ymlaen.

Y GIG yn Nwyrain De Cymru

6. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer y GIG yn Nwyrain De Cymru? OAQ54811

Diolchaf i'r Aelod am hynna. Un o'n blaenoriaethau ar unwaith ar gyfer y GIG yn Nwyrain De Cymru yw cwblhau'r buddsoddiad o £350 miliwn yn Ysbyty Athrofaol 470 gwely y Grange. Bydd yn darparu gwasanaethau salwch acíwt a chritigol arbenigol i dros 600,000 o bobl yn y de-ddwyrain.

Diolch, Prif Weinidog. Cysylltodd un o'm hetholwyr â mi yn ddiweddar gyda phryderon difrifol am y ffordd y mae bwrdd iechyd Cwm Taf wedi bod yn ymdrin â'i achos. Nawr, rhoddwyd llawdriniaeth iddo tua degawd yn ôl i gael gwared â melanoma malaen, a oedd yn llwyddiannus, diolch byth, ond dywedwyd wrtho y byddai angen archwiliadau blynyddol am weddill ei oes i fonitro'r sefyllfa. Ers hynny mae wedi datblygu brychni haul ar ei lygaid, sy'n anfalaen, ond gallen nhw droi'n ganseraidd, ac, yn amlwg, oherwydd ei hanes meddygol, mae'n bwysicach fyth ei fod yn cael archwiliadau blynyddol.

Yn ddiweddar mae ei geisiadau am apwyntiad gan Gwm Taf wedi cael eu gwrthod ar sawl achlysur a daeth y cyfan i'r pen pan dderbyniodd lythyr gan gwmni iechyd preifat, o'r enw Community Health and Eye Care, yn gweithredu ar ran y bwrdd iechyd, a ddywedodd wrtho nad oedd angen rhagor o apwyntiadau arno gyda meddyg ymgynghorol ac yn hytrach, pe byddai'n dymuno, y byddai'n cael gweld optegydd bob hyn a hyn. Nawr, cysylltodd fy etholwr â'i feddyg ymgynghorol yn uniongyrchol wedyn, a oedd yn bendant bod angen archwiliadau blynyddol arno gyda meddyg ymgynghorol. Prif Weinidog, a allech chi ddweud wrthym ni beth yw perthynas Community Health and Eye Care gyda bwrdd iechyd Cwm Taf, ac a ydych chi'n cytuno â mi y byddai'n gwbl annerbyniol i fwrdd iechyd yng Nghymru gyflogi cwmni preifat i dorri rhestrau aros trwy atal apwyntiadau i gleifion y mae nhw eu hangen am resymau iechyd?

Llywydd, nid wyf i'n gyfarwydd â'r manylion, wrth gwrs, am yr achos unigol, a chan nad yw Cwm Taf yn Nwyrain De Cymru, nid wyf i wedi dod yn barod gyda'r holl fanylion i ateb y cwestiwn y prynhawn yma. Ond yr hyn yr wyf i yn ei wybod yw bod y Gweinidog wedi diwygio yn ddiweddar y ffordd y mae gwasanaethau offthalmoleg yn— [Torri ar draws.] Mae'n ddrwg iawn gen i, nid wyf i'n gallu clywed y—

Rwy'n gwybod yn gyffredinol—rwy'n ceisio rhoi cymaint o gymorth ag y gallaf i'r Aelod yn ei chwestiwn—bod y Gweinidog wedi diwygio'r ffordd y darperir gwasanaethau offthalmoleg yng Nghymru i wneud yn siŵr bod apwyntiadau dilynol yn cael eu trin yn union fel y byddai apwyntiadau cyntaf wedi cael eu trin yn y system flaenorol, gan ein bod ni'n gwybod bod 90 y cant o gleifion dilynol yn debygol o fod angen y math o ofal parhaus y cyfeiriodd Delyth Jewell ato yn yr achos unigol y mae wedi ei nodi y prynhawn yma.

Mae'n bwysig iawn ein bod ni'n gwneud y defnydd mwyaf posibl o'r unigolion medrus iawn sydd gennym ni yn ymarfer offthalmoleg yn y gymuned. Mae gennym ni adnodd nad yw'n cael ei ddefnyddio'n ddigon aml. Rydym ni'n gwybod hyn ers nifer o flynyddoedd—bod pobl yn cael eu hanfon i'r ysbyty ar gyfer apwyntiadau pan allai'r cyflyrau hynny gael yr un lefel o sylw clinigol gan ein hoptegwyr hynod hyfforddedig sy'n gweithredu ar y stryd fawr.

Felly, ein polisi yw gwneud y defnydd mwyaf posibl o wasanaethau cymunedol, fel bod pobl sydd angen gwasanaeth dan arweiniad meddyg ymgynghorol yn gallu ei gael yn gyflymach gan nad ydyn nhw'n aros y tu ôl i bobl a allai fod wedi derbyn gofal sydd ei angen arnyn nhw mewn modd yr un mor rhwydd ac yn fwy cyfleus yn y gymuned. Rwy'n fwy na pharod i edrych ar yr achos unigol i weld a yw'r egwyddorion hynny wedi eu rhoi ar waith yn briodol yn yr achos hwnnw, ond dyna'r dull sylfaenol y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddilyn o ran y gwasanaethau hyn.

14:20
Adroddiad Canlyniadau Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2019

7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am adroddiad canlyniadau Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2019? OAQ54809

Llywydd, cyhoeddwyd mynegai amddifadedd lluosog diweddaraf Cymru ar 27 Tachwedd. Mae'n dangos yn glir effaith degawd o gyni cyllidol a orfodwyd ar gymunedau ledled Cymru.

Cafwyd rhywfaint o newyddion cadarnhaol i Barc Lansbury yn etholaeth Caerffili. Nid yw bellach wedi ei restru fel yr ardal fwyaf difreintiedig yng Nghymru, er bod anawsterau'n parhau, fel y mae'r Prif Weinidog yn cydnabod, ac mae'n dal i fod ymhlith y 10 uchaf. Rwy'n credu bod y gwelliant wedi deillio o gymysgedd o fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru, yr Undeb Ewropeaidd a Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, yn enwedig o ran safon ansawdd tai Cymru—gwariwyd £8 miliwn ar gladin a thoeau newydd ar gyfer eiddo'r cyngor, gwariwyd £4.5 miliwn ar ystafelloedd ymolchi a cheginau newydd, a £2.5 miliwn cyffredinol yn ychwanegol o ran safon ansawdd tai Cymru.

Rwy'n credu y bydd rhai o'r pethau yr ydym ni wedi sôn amdanyn nhw heddiw ynglŷn ag addysg a'r gwelliannau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cynllunio yn hynny o beth yn gwneud gwahaniaeth ym Mharc Lansbury—mae Dechrau'n Deg yn gwneud gwahaniaeth i'r gymuned honno. Beth arall all Llywodraeth Cymru a'r Prif Weinidog ragweld fydd yn cael ei wneud ar gyfer cymuned glòs, cymuned fendigedig, fel Parc Lansbury?

Diolchaf i Hefin David am hynna. Mae'n bwysig iawn ein bod ni'n dadansoddi'r cyfoeth o wybodaeth sydd ar gael ym mynegai amddifadedd lluosog Cymru, er mwyn deall pam mae rhai cymunedau'n aros ar yr hyn y mae'r adroddiad yn ei ddisgrifio fel pen dwfn amddifadedd, a pham mae cymunedau eraill sydd wedi llwyddo i ddod o hyd i le gwahanol yn yr adroddiad hwnnw, ac, o ran Parc Lansbury—mae'n dda iawn clywed bod rhywfaint o gynnydd wedi ei wneud yno.

Llywydd, pan ddaw'r adeg i wneud y dadansoddiad hwnnw, rwy'n credu mai'r hyn y byddwn ni'n ei weld yw bod gan y cymunedau hynny sy'n canfod eu hunain ar ben mwyaf miniog amddifadedd yng Nghymru un nodwedd allweddol yn gyffredin—bod ganddyn nhw orgynrychiolaeth, o'i gymharu â rhannau eraill o Gymru, o deuluoedd â phlant. A'r rheswm y maen nhw'n canfod eu hunain yn y sefyllfa y maen nhw ynddi yw oherwydd y toriadau i fudd-daliadau y bu'n rhaid i'r teuluoedd hynny eu hwynebu dros y degawd diwethaf.

Bydd rhiant unigol yng Nghymru yn colli £3,720 bob blwyddyn o ganlyniad i doriadau i fudd-daliadau yng Nghymru. Bydd teulu â thri neu fwy o blant yng Nghymru yn wynebu toriadau o £4,110 bob blwyddyn. Mae hynny'n £75 bob un wythnos yn llai i fyw arno i ddiwallu anghenion eich teulu a'ch plant. Ac mae gan y cymunedau hynny sy'n canfod eu hunain ar y pen mwyaf miniog ym mynegai amddifadedd lluosog Cymru fwy o deuluoedd â phlant na chymunedau eraill yng Nghymru. Nid yw'n syndod i mi eich bod chi'n gweld hynny'n cael ei adlewyrchu yn y tablau.  

Ond, wrth i ni geisio deall pam mae cymunedau yn bodoli sy'n wynebu'r heriau hynny, mae'n bwysig iawn ein bod ni'n edrych i weld sut mae cymunedau eraill wedi llwyddo i ganfod eu hunain mewn gwahanol ran o'r sbectrwm. Felly, mae Butetown yma yng Nghaerdydd, lle'r ydym ni heddiw, a oedd yn y 10 uchaf o wardiau mwyaf difreintiedig Cymru yn ôl yn 2005, yn y 150fed safle heddiw. Roedd ward Riverside yn fy etholaeth i fy hun, lle'r wyf i'n byw, yn yr unfed safle ar ddeg yn 2005, ac mae bellach yn safle cant ac wyth. Felly, mae cymunedau—ac maen nhw i'w cael nid yn unig yma yng Nghaerdydd, ond yn Abertawe, ym Merthyr, yn Aberafan, yng Nghaerffili, yn Rhondda Cynon Taf—a ganfu eu hunain ar y pen mwyaf miniog, sydd, heddiw, wedi symud i ran wahanol o'r sbectrwm. Ac mae'r un mor bwysig ein bod ni'n ceisio nodi beth fu'r amodau sydd wedi caniatáu i'r cymunedau hynny symud i'r cyfeiriad hwnnw. Rwy'n credu bod Hefin David, wrth gyfeirio at safon ansawdd tai Cymru a rhai buddsoddiadau eraill sydd wedi eu gwneud, wedi dechrau helpu gyda'r dadansoddiad hwnnw, gan nodi'r ffactorau sy'n creu amodau llwyddiant, ac yna ein helpu ni i wneud mwy o hynny yn y dyfodol.

14:25

Tynnwyd cwestiwn 8 [OAQ54807] yn ôl, ac felly, yn olaf, cwestiwn 9. Vikki Howells.

Y Tasglu Ffyrdd sydd heb eu Mabwysiadu

9. Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i ganfyddiadau'r tasglu ffyrdd sydd heb eu mabwysiadu? OAQ54799

Diolch i'r Aelod am hynny. Cyhoeddodd grŵp y tasglu ffyrdd sydd heb eu mabwysiadu ei adroddiad yr haf diwethaf a chymeradwywyd yr argymhellion gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth. Mae'r grŵp hwnnw bellach yn gweithredu'r argymhellion a wnaeth.

Diolch i'r Prif Weinidog am yr ateb hwnnw. Rwyf i wedi cyrraedd y cyfarfod llawn heddiw yn syth o gyfarfod â Persimmon, lle mae'n ymddangos ein bod ni'n agos iawn, iawn at gael tair ystad wedi eu mabwysiadu, rai ohonyn nhw wedi'u hadeiladu bron 18 mlynedd yn ôl. Ond rwy'n ymwybodol iawn, ar gyfer pob teulu yr wyf i wedi llwyddo i'w helpu, fod llawer iawn o berchenogion cartrefi eraill yng Nghymru sy'n byw ar ffyrdd sydd heb eu mabwysiadu neu ar ystadau sydd heb eu mabwysiadu. Rwy'n croesawu canfyddiadau'r tasglu ffyrdd sydd heb eu mabwysiadu, ond hoffwn i wybod pa gynlluniau sydd ar y gweill i'r dyfodol i fwrw ymlaen â'r argymhellion hynny.

Diolch i'r Aelod am hynny. Gwnaeth y grŵp saith gwahanol argymhelliad. Roedd eisiau gweld canllaw arfer da yn cael ei gynhyrchu, ac mae hwnnw wedi cael ei gynhyrchu, ac mae'n cael ei dreialu gan awdurdodau lleol ar hyn o bryd. Gofynnodd am ddatblygu cyfres o safonau cyffredin, ac mae'r gwaith hwnnw'n agos iawn at gael ei gwblhau. Fe'i cynhaliwyd ar y cyd ag awdurdodau lleol a datblygwyr tai. Dechreuodd ar ei argymhellion drwy ofyn am sefydlu cronfa ddata gynhwysfawr o ffyrdd sydd heb eu mabwysiadu yma yng Nghymru, felly roeddem yn ymwybodol o faint y broblem a'r hyn yr oedd angen ei wneud. Mae'r gwaith o sefydlu'r gronfa ddata honno bron wedi'i gwblhau. Rydym yn disgwyl ei gweld yn barod i'w chyhoeddi yn y flwyddyn newydd, a bydd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yn rhoi rhagor o wybodaeth i'r Aelodau am y gwaith hwnnw ar ôl iddo gael ei gwblhau.

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf felly yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hwnnw. Rebecca Evans. 

Diolch, Llywydd. Mae dau newid i fusnes yr wythnos hon. Yn ddiweddarach y prynhawn yma, bydd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig yn gwneud datganiad ynghylch rhwydwaith clwstwr bwyd a diod Cymru, ac, yn ogystal â hynny, mae'r ddadl fer yfory wedi'i gohirio. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos eistedd nesaf wedi'i nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith papurau'r cyfarfodydd sydd ar gael i'r Aelodau'n electronig.

A gaf i alw am ddau ddatganiad heddiw, Trefnydd, y cyntaf, ar fater gwasanaethau cwnsela gofal sylfaenol yn y Gogledd, gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol? Mae problem sylweddol o ran amseroedd aros am wasanaethau cwnsela gofal sylfaenol mewn rhai rhannau o'm hetholaeth i ac, yn amlwg, gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar hyn o bryd o dan fesurau arbennig ar gyfer ei wasanaethau iechyd meddwl , roeddwn i eisiau i hyn gael ei amlygu, a chael gwybod yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i'w ddatrys. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae yna yn ardal dwyrain Conwy rai unigolion yn aros ar hyn o bryd—yr arhosiad arferol i weld cwnselydd gofal sylfaenol yw 12 mis, sy'n amlwg yn annerbyniol, o'i gymharu â gorllewin Conwy a chanolbarth a de Sir Ddinbych, lle mae unigolion yn cael gwasanaeth bron ar unwaith oherwydd cymerwyd dull gwahanol o weithredu gan glystyrau gofal sylfaenol y meddygon teulu. Nawr, rwy'n siŵr y cytunwch chi â mi y dylai pobl gael yr un cyfle cyfartal i'r mathau hyn o wasanaethau lle maen nhw wedi'u gwasanaethu gan yr un bwrdd iechyd lleol, a byddwn i'n ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog ymchwilio i hyn er mwyn i ni allu sicrhau bod y gwasanaethau hyn ar gael mewn modd amserol i'r rhai sydd eu hangen.

A gaf i hefyd alw am ddatganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ar ddiogelwch mewn llety rhent? Rwy'n deall nad oes unrhyw ofynion cyfreithiol ar hyn o bryd i osod synwyryddion carbon monocsid mewn llety rhent, mewn ystafelloedd lle mae offer llosgi nwy. Ond, o ystyried y byddwn ni i gyd yn ymwybodol o'r golygfeydd trasig sydd wedi digwydd mewn rhai cartrefi, lle mae unigolion yn anffodus wedi ildio i garbon monocsid, a rhai ohonyn nhw wedi marw, credaf i fod hyn yn rhywbeth y dylid ei ystyried ar gyfer y dyfodol yma yng Nghymru, a byddai'n ddefnyddiol i ni newid y gyfraith i wneud synwyryddion carbon monocsid yn ofyniad mewn llety rhent. Mae carbon monocsid yn gyfrifol am farwolaeth tua 60 o bobl bob blwyddyn yn y DU, ac mae miloedd o bobl wedi cael eu derbyn i'r ysbyty o ganlyniad i gael eu gwenwyno gan garbon monocsid. Credaf fod hyn yn rhywbeth y mae'n werth ei ystyried, a byddwn i'n falch iawn o gael datganiad.

14:30

Diolch i Darren Millar am godi'r materion hyn y prynhawn yma. Bydd ef yn cofio bod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cyhoeddi'r fframwaith gwella diwygiedig ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar 14 Tachwedd, gan nodi'r disgwyliadau y bydd angen iddo eu bodloni er mwyn cael ei dynnu oddi ar fesurau arbennig. A gwn fod y Gweinidog Iechyd yn falch o nodi bod cynnydd cadarnhaol wedi'i wneud o ran gwasanaethau iechyd meddwl, gan gynnwys y dull ICAN o wella iechyd meddwl. Ond rwy'n gwerthfawrogi pryderon Darren Millar am wahanol ddulliau ledled yr ardal y mae'n ei chynrychioli. Felly, byddwn i'n ei wahodd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd, gan ailadrodd y pryderon y mae wedi sôn amdanyn nhw yn y Cynulliad heddiw.

O ran diogelwch mewn llety rhent a charbon monocsid, byddaf i'n gofyn i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ysgrifennu atoch gyda'r wybodaeth ddiweddaraf o ran y safonau y mae eu hangen arnom ar gyfer llety rhent, ond gan ganolbwyntio'n benodol ar bwysigrwydd profwyr carbon monocsid.FootnoteLink

A gawn ni ddatganiad, neu ddadl, ar fagiau siopa plastig, a all helpu i lywio ystyriaethau'r Gweinidog wrth iddi benderfynu ar y ffordd ymlaen i wneud Cymru yn arweinydd byd-eang o ran lleihau plastigau defnydd untro? Byddai'n caniatáu inni wedyn drafod yr astudiaeth wyddonol hirdymor gyntaf o blastigau bioddiraddadwy, oxo-diraddadwy a phlastig y gellir ei gompostio, sydd wedi dangos, ar ôl tair blynedd o'u rhoi mewn pridd, dŵr môr ac awyr agored, fod y bagiau bioddiraddadwy ac oxo-diraddiadwy yn rhyfeddol o wydn, ac yn dal i allu dal 2kg ar ôl y tair blynedd. A gallem hefyd drafod, wrth gwrs, y cynnydd yn nefnydd y bagiau plastig am oes sy'n fwy trwchus. Ac wedi hynny, byddwn i'n awgrymu bod angen dod â'r defnydd o fagiau untro a bagiau plastig i ben ar gyfer siopa yn gyfan gwbl. Rydym wedi arwain y ffordd yng Nghymru; gallwn ni fynd ymhellach, a gwn fod y Gweinidog yn cydymdeimlo â hynny.

A gawn ni ddatganiad hefyd am ddatblygu safbwynt Llywodraeth Cymru ar deledu cylch cyfyng mewn lladd-dai yng Nghymru? Rwy'n datgan fy niddordeb fel aelod cyswllt hirdymor o Gymdeithas Milfeddygon Prydain. Rwy'n cefnogi eu safbwynt ar gamerâu teledu cylch cyfyng gorfodol mewn lladd-dai, gan y byddai'n golygu mwy o gyfleoedd i arsylwi a gwirio'r ffordd y mae  anifeiliaid yn cael eu trin. Byddai hefyd yn rhoi mwy o gyfleoedd i arsylwi a gwirio bod y prosesau stynio a lladd yn cael eu gweithredu'n gywir, ac yn rhoi mwy o gyfleoedd i ddiogelu'r gadwyn fwyd a diogelu iechyd y cyhoedd.

Ac yn olaf, a gawn ni ddatganiad maes o law—yn enwedig, efallai, ar ôl i'r Arlywydd Trump adael y DU—ar faterion sy'n ymwneud â masnach yn y dyfodol gyda'r Unol Daleithiau, a'r goblygiadau i Gymru o ran nid yn unig unrhyw wasanaethau iechyd, ond hefyd yr angen i warchod ein ffermwyr, ein cynhyrchwyr bwyd a'n cwsmeriaid yn erbyn safonau llesiant anifeiliaid a hylendid is. Mae'r syniad ein bod yn sydyn yn agor ein marchnadoedd i fewnforion o wartheg sy'n cael eu pwmpio'n llawn, yn ddi-angen, â gwrthfiotigau, neu gyw iâr sy'n cael ei olchi mewn clorin i ladd bacteria rhemp fel mater o drefn—. Nid yw hynny'n golygu chwarae teg i'n ffermwyr, ac, mae'n rhaid imi ddweud, nid y safon y mae ein cwsmeriaid eisiau ei chael o ran llesiant anifeiliaid a hylendid bwyd. Felly, gofynnaf am ystyriaeth o'r tair dadl a'r datganiadau hynny.

Diolch yn fawr iawn am ofyn am y tri datganiad neu'r dadleuon hynny. Gwn fod gennych chi gyfarfod wedi'i gynllunio gyda'r Gweinidog Tai ac Adfywio i drafod y pryderon penodol ynglŷn â gwastraff, a gwn ei bod yn ymwybodol o'r ymchwil yr ydych chi wedi cyfeirio ati. Mae Llywodraeth Cymru ei hun wedi comisiynu astudiaeth o'r defnydd o fagiau siopa yng Nghymru, a bod ymchwil wedi casglu data ar fagiau siopa untro a bagiau amldro, ac mae hefyd wedi archwilio agweddau ac ymddygiad pobl mewn cysylltiad â chyflwyno taliad am fagiau siopa. Bydd canlyniad y gwaith hwnnw'n cael ei gyhoeddi'r mis hwn ac yn cael ei ddefnyddio bryd hynny i'n helpu i ystyried y camau y gallai fod eu hangen yn y dyfodol o ran hynny. A gwn fod y Gweinidog yn awyddus i archwilio hynny gyda chi.

Ynghylch y mater o deledu cylch cyfyng mewn lladd-dai, mae gan ein lladd-dai mwy o faint, sy'n prosesu'r mwyafrif helaeth o anifeiliaid yma yng Nghymru, gamerâu CCTV eisoes, a gall milfeddygon swyddogol gael gafael ar y lluniau hynny am yr holl resymau defnyddiol hynny a ddisgrifiwyd gan Huw Irranca-Davies. Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi ymrwymo i weithio gyda gweithredwyr lladd-dai mewn perthynas gefnogol i sicrhau bod teledu cylch cyfyng ar gael ym mhob lladd-dy yng Nghymru. Ac, er mwyn hwyluso hynny, mae'r cynllun buddsoddi mewn busnesau bwyd ar gyfer lladd-dai bach a chanolig yn cynnwys cyllid ar gyfer buddsoddi i ddiogelu llesiant anifeiliaid, a byddai hynny, wrth gwrs, yn cynnwys gosod, diweddaru neu wella teledu cylch cyfyng. Nid yw cyflwyno deddfwriaeth i'w wneud yn orfodol wedi cael ei ddiystyru o bell ffordd, ac ni fydd unrhyw benderfyniad i wneud hynny'n digwydd tan ar ôl i'r cyfnod ymgeisio ar gyfer y cynllun hwnnw gau ym mis Ionawr, ac yna bydd y math o fuddsoddi ac i ba raddau y gwneir hynny gan y lladd-dai yn cael ei adolygu.

Ac ar y mater olaf, ar ôl yr etholiad cyffredinol, os cawn sefyllfa pan fydd gennym ni Lywodraeth sydd eisiau cynnal negodiadau â'r Unol Daleithiau fel blaenoriaeth, yna yn sicr byddwn yn trefnu cyfle i'r Cynulliad ystyried yr hyn a allai fod yn effeithiau negyddol sylweddol i Gymru. Wrth gwrs, yr UE a'r Unol Daleithiau yw dau o'r negodwyr masnach cryfaf a mwyaf profiadol yn y byd ac mae gwahaniaethau sylfaenol mewn agwedd rhwng y ddwy wlad mewn meysydd fel diogelwch bwyd a chyfle i ddefnyddio gwasanaethau cyhoeddus. A gwn fod hyn yn rhywbeth y mae'r Gweinidog sy'n gyfrifol am gysylltiadau rhyngwladol, ac sy'n gyfrifol am fasnachu o fewn ei phortffolio, yn awyddus i'w archwilio gydag Aelodau'r Cynulliad.  

14:35

Gweinidog, a gaf i ofyn am ddau ddatganiad gan y Gweinidog Addysg am bresenoldeb mewn ysgolion uwchradd ym Mlaenau Gwent. Yn ôl adroddiad diweddar, dros y tair blynedd diwethaf, mae presenoldeb mewn ysgolion uwchradd yn y fwrdeistref wedi methu â gwella. Mae Blaenau Gwent yn is na'r holl awdurdodau lleol eraill yn y de-ddwyrain ac mae'n is o lawer na chyfartaledd Cymru o 93.8 y cant. A fyddai modd inni gael datganiad gan y Gweinidog ynghylch pa gamau y mae'n bwriadu eu cymryd i fynd i'r afael â'r sefyllfa ddifrifol hon—[Torri ar draws.]—sydd wedi gweld Blaenau Gwent—dyma fy rhanbarth i— yn ugeinfed o'r 21 awdurdod lleol yng Nghymru o ran  presenoldeb mewn ysgolion uwchradd dros y tair blynedd diwethaf?

A'r ail, Gweinidog, yw datganiad am y canlyniad PISA hwn, maen nhw'n dweud, gair am air, am lesiant disgyblion Cymru:

Roedden nhw'n fwy tebygol o deimlo'n ddigalon ac yn bryderus...ac yn llai tebygol o deimlo'n llawen, yn siriol ac yn falch. 

Dyna ganlyniad PISA i'n myfyrwyr Cymraeg. Felly, sut gallwn ni wella safon morâl ein plant a'n system addysgu yn ein hysgolion i wneud yn siŵr eu bod nid yn unig yn dysgu, ond hefyd eu bod yn mwynhau yn ysgolion Cymru? Diolch.

Felly, o ran y mater cyntaf, sef presenoldeb mewn ysgolion uwchradd ym Mlaenau Gwent, byddwn i'n eich gwahodd i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg yn amlinellu eich safbwyntiau a'ch pryderon yno.

Ac, wrth gwrs, yr eitem nesaf o fusnes y prynhawn yma yw'r datganiad gan y Gweinidog Addysg ar ganlyniadau PISA, a gwn i ei bod yn awyddus i drafod yr holl faterion hyn gyda'r Aelodau y prynhawn yma.

Gweinidog, fel y gwyddoch chi rwy'n siŵr, dydd Sadwrn hwn yw Dydd Sadwrn Busnesau Bach Cymru. Cyfle gwych i bob un ohonom ni, fel Aelodau'r Cynulliad, gefnogi busnesau cynhenid lleol, yn y stryd fawr ac mewn mannau eraill. Yr wythnos diwethaf yn y Siambr hon, gwnaeth y Prif Weinidog y pwynt pwysig nad oes modd atgyfodi stryd fawr y gorffennol, ni waeth faint y byddwn ni'n dymuno hynny weithiau, ond bydd y dyfodol yn gyfuniad o'r stryd fawr ffisegol a gwerthiant ar-lein.  

Pan oeddwn i'n Gadeirydd y Pwyllgor Menter a Busnes, yn ôl yn 2014 rwy'n credu, fe wnaethom ni adrodd ar sut y byddai modd gwella'r stryd fawr ac fe awgrymon ni y dull hwn o weithredu. Mae pum mlynedd, chwe blynedd wedi mynd heibio ers hynny. Tybed a allem ni gael yr wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru ynghylch sut y gallem ni gyflawni'r stryd fawr fwy modern, mwy cynaliadwy honno drwy newid pwyslais ardrethi busnes fel bod busnesau, boed yn rhai ar-lein neu ar y stryd fawr ffisegol, yn gallu cystadlu'n well a goroesi.  

Yn ail, a gawn ni'r wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru am y cynigion ar gyfer coedwig genedlaethol? Gwn fod hyn yn rhywbeth sydd ar y gweill a bod syniadau gwahanol wedi bod ynglŷn â sut y gellid cyflawni hyn. Mae'n boblogaidd iawn ar hyn o bryd, gyda llawer o bleidiau yn etholiad cyffredinol y DU yn ystyried ffyrdd y gallwn ni blannu mwy o goed. Rwy'n credu y byddai pob un ohonom ni'n cytuno bod honno'n ffordd dda o fynd ati, ond y mater dan sylw yw sut y gwnewch chi hynny, pa mor gyflym y gwnewch chi hynny a ble y caiff y coed hynny eu plannu, a yw'n cael ei wneud ar sail awdurdod lleol, sef cynllun Llywodraeth Cymru, rwy'n credu, yn hytrach na'i gael mewn un man. Felly, tybed a gawn ni ddiweddariad ar strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer gwneud yn siŵr ein bod yn gwneud Cymru yn wyrddach yn y dyfodol a'n bod ni'n arwain ledled y DU i ddangos sut y gall Cymru fod y rhan fwyaf cynaliadwy ac ecogyfeillgar o'r DU yn y dyfodol.  

14:40

Yn sicr, rwy'n edrych ymlaen at ddathlu Dydd Sadwrn Busnesau Bach, yn debyg, rwy'n siŵr, i lawer o gyd-Aelodau eraill yn y cyfnod cyn y Nadolig, ac yn amlwg rwy'n siŵr y byddwn ni'n manteisio ar bob cyfle i gefnogi a hyrwyddo'r masnachwyr annibynnol hynny sydd o fewn pob un o'n hetholaethau ledled Cymru, a'r bywiogrwydd y maen nhw'n ei roi i'n strydoedd mawr. Mae'r Gweinidog sydd â chyfrifoldeb am adfywio yma, a bydd hi wedi clywed eich cais chi o ran yr wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r stryd fawr, yn enwedig o ran mynd i'r afael â'r angen i greu stryd fawr y dyfodol, sydd, fel y dywedodd y Prif Weinidog, yn edrych yn wahanol iawn i'r gorffennol.FootnoteLink Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gwneud gwaith diddorol iawn gydag Ymddiriedolaeth Carnegie, sydd wedi bod yn ystyried sut wedd fydd ar ddyfodol y stryd fawr yng Nghymru, a byddwn i'n hapus i rannu dolen i'r gwaith hwnnw gyda chydweithwyr oherwydd rwy'n siŵr y byddai o ddiddordeb i'r Aelodau ar draws y Siambr.

Ac o ran coedwig genedlaethol, rwyf innau hefyd yn rhannu brwdfrydedd y gwahanol bleidiau sydd bellach yn deall ac yn mynd i'r afael â phwysigrwydd sicrhau ein bod ni’n plannu coed yn y lleoedd iawn, a'n bod ni'n cyflwyno'r cynlluniau hynny ar gyfer cynnal a chadw ein coetiroedd a'n coedwigoedd hefyd. Siaradaf i â'r Gweinidog sy'n gyfrifol am hyn i archwilio pa gyfleoedd a allai fod ar gael maes o law i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad am ein cynlluniau ni yn y maes hwnnw.

Trefnydd, a gaf i ofyn am dri datganiad, os gwelwch yn dda? Wrth i ni nesáu at ddyddiadau'r toriad nawr, mae pob un ohonom yn ymwybodol bod cyfnod y Nadolig yn rhoi pwysau enfawr ar ein gwasanaethau meddygol, yn arbennig damweiniau ac achosion brys. Rwy'n talu teyrnged i bob un sy'n gweithio yn y gwasanaethau hynny dros gyfnod y Nadolig er mwyn ein cadw'n ddiogel a'n gwella, os oes angen y gwasanaethau hynny arnom ni. Ond yn aml iawn, yn anffodus, mae straeon negyddol o gwmpas yr adeg honno o'r flwyddyn am bwysau o fewn yr adrannau. A gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd ynglŷn â sut y mae byrddau iechyd yn paratoi ar gyfer yr adeg brysur hon o'r flwyddyn, lle mae rotas o dan bwysau, ac yn amlwg dathliadau'r Nadoligaidd y mae llawer o bobl yn eu mwynhau ar yr adeg hon o'r flwyddyn yn rhoi pwysau unigryw ar y gwasanaeth? Fel Aelod, rwy'n gwybod y byddwn i'n well o lawer os byddwn i'n gallu rhoi sylw i bryderon rhai o fy etholwyr os byddai'r wybodaeth honno yn cael ei chyflwyno i mi ar ddechrau'r tymor, yn hytrach nag efallai pan fyddwn ni i gyd yn dod yn ôl ac yn gofyn am ddatganiadau ar ôl y toriad. Gobeithio y byddwn ni'n gofyn am ddatganiadau sy'n dathlu llwyddiant yr adrannau hynny a'r ffordd y maen nhw wedi mynd i'r afael ag ef, yn hytrach na rywfaint o'r pwysau sy'n gymwys yn ystod y cyfnod hwnnw.

Yn ail, rwyf wedi cael llythyr gan wahanol grwpiau o fyfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd, ond yn enwedig Grŵp Ceidwadwyr Prifysgol Caerdydd, sydd wedi tynnu sylw, yn amlwg, at y pwysau y mae'r streic yn ei roi ar amser astudio. Rwy'n sylweddoli bod prifysgolion yn sefydliadau annibynnol ac nad yw hyn yn swyddogaeth uniongyrchol i'r Llywodraeth, ond mae'r Llywodraeth yn amlwg yn rhoi arian i'r sector addysg uwch ac yn cefnogi myfyrwyr drwy eu hamgylchedd dysgu. Byddwn i'n ddiolchgar os byddem ni'n gallu cael rhyw fath o ddatganiad gan y Gweinidog Addysg ynghylch pa ymyriad, os o gwbl, y mae hi wedi'i wneud i siarad ag is-gangellorion. Mae'r cais y mae myfyrwyr Ceidwadol Prifysgol Caerdydd yn ei wneud yn ymddangos yn eithaf rhesymol i mi: pan fydd amser dysgu'n cael ei golli, bod yna ryw fath o ad-daliad; yn ail, pan fydd amserlenni wedi bod yn heriol, oherwydd bod y streic wedi rhoi pwysau ar derfynau amser, bod y terfynau amser hynny'n cael eu hymestyn.

Ac yn bwysig, yn drydydd, yn ôl yr hyn a ddeallaf, os nad oes penderfyniad—. Yn anffodus, gallaf i weld y Gweinidog yn ysgwyd ei phen i beidio â rhoi'r datganiad, sy'n drueni, ond mae'r myfyrwyr yn amlwg yn gofidio am hyn. Ond yn drydydd, os gallem weld rhyw fath o oleuni ym mis Ionawr ar ddiwedd y twnnel hwn, oherwydd, yn ôl yr hyn a ddeallaf, bydd y gweithredu'n digwydd eto ym mis Ionawr os na cheir ateb i'r anghydfod, a bydd hynny yn amlwg yn rhoi pwysau sylweddol ar arholiadau yn benodol—.

Felly, gyda'r tri chais hynny, byddwn i'n gobeithio'n fawr y gallwn ni gael ymateb gan y Llywodraeth, gan dderbyn bod prifysgolion yn sefydliadau annibynnol a bod hyn yn fater iddyn nhw ei drafod yn uniongyrchol, ond mae gan y Llywodraeth ran fawr yn yr arian y mae'n ei roi i gefnogi'r sefydliadau a'r myfyrwyr, a byddwn i'n ddiolchgar am ymateb i hynny. Diolch.    

Felly, er budd y cofnod, Llywydd, nid oedd y Gweinidog Addysg yn awgrymu na ddylai hi na Llywodraeth Cymru fod yn gwneud datganiad ar y mater hwn; roedd hi'n gwneud y pwynt, mewn gwirionedd, na all Gweinidogion Cymru na Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru chwarae unrhyw fath o swyddogaeth ffurfiol mewn trafodaethau y DU gyfan. Wrth gwrs, mae sefydliadau addysg uwch yn gyrff ymreolaethol sy'n gyfrifol am faterion cyflogaeth, gan gynnwys pensiynau, ac mae'r cyfrifoldebau hynny'n perthyn i'r sefydliadau hynny eu hunain. Wedi dweud hynny, mae swyddogion yn parhau i fonitro'r sefyllfa ac unrhyw drafodaethau a allai ddigwydd yn y dyfodol, ac mae swyddogion hefyd yn gweithio gyda CCAUC a Phrifysgolion Cymru i fonitro'r effaith ar staff a myfyrwyr. Rwy'n credu mai'r pryder mwyaf, mewn gwirionedd, yw'r effaith ar fyfyrwyr, a byddem ni yn sicr yn annog pob plaid yn eu hymdrechion i sicrhau setliad wedi'i negodi.

O ran cadernid y gaeaf, rydym wedi canolbwyntio'n ddi-ildio ar gefnogi gwelliannau a chynllunio ar gyfer cyfnod y gaeaf, ac nid ydym wedi atal y broses o adolygu'r gaeaf blaenorol na chynllunio ar gyfer y cyfnod sydd i ddod. Mae cynlluniau ar lefel bwrdd iechyd ar gyfer y gaeaf bellach wedi dod i law a darparwyd adborth wedi'i dargedu i'r sefydliadau hynny. Hefyd, gofynnwyd iddyn nhw ddarparu cynlluniau wedi'u mireinio ynghyd â chynllun ar dudalen, sy'n amlinellu camau mewn cyfyngder ac asesiad o gapasiti gwelyau ar gyfer cyfnod y gaeaf, i'w ddychwelyd i Lywodraeth Cymru yr wythnos hon.

Mae cynlluniau'r byrddau partneriaeth rhanbarthol hefyd wedi dod i law a darparwyd adborth ar eu cyfer. Ac ar 1 Hydref, cyhoeddodd y Gweinidog becyn o £30 miliwn i gefnogi'r gwaith o ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn ystod gweddill 2019-20, gyda £17 miliwn wedi'i ddyrannu i fyrddau partneriaeth rhanbarthol, £10 miliwn i fyrddau iechyd lleol a'r £3 miliwn sy'n weddill wedi'i gadw ar gyfer blaenoriaethau a gytunwyd yn genedlaethol dros gyfnod y gaeaf. Ac, wrth gwrs, unwaith eto, rydym wedi cael yr ymgyrch Dewis Doeth, y byddwn ni'n ei chyflwyno ar adegau allweddol yn ystod misoedd y gaeaf, i atgoffa'r cyhoedd ei bod yn bwysicach byth defnyddio ein gwasanaeth iechyd yn gyfrifol, a bydd yr ymgyrch honno yn helpu i gyfeirio pobl at y gwasanaeth cywir ar gyfer eu hanghenion, ac, unwaith eto, mae hyn yn rhywbeth yr wyf yn siŵr y bydd Aelodau'r Cynulliad eisiau ei hyrwyddo'n lleol i'w hetholwyr.

14:45

Hoffwn i godi'r pryder sydd wedi dod i'r amlwg neithiwr os oeddech chi'n gwylio Newyddion 9 bod lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru'n cael eu hanghofio wrth i gyfrifiad 2021 gael ei gynnal. Yn benodol, y consérn yw na fydd yna unrhyw beth yn rhagor o ran opsiwn i ddatgan eich bod chi'n Gymro neu'n Gymraes, oni bai eich bod chi'n wyn. Nawr, mae hwn yn hollol anghyfrifol. Allaf i ddiolch hefyd, heddiw, y gantores, Kizzy Crawford, am drafod hyn yn fyw a sut mae hynny'n mynd i effeithio ar ei hunaniaeth hi a sut mae hi'n diffinio ei hun? Mae'r sefyllfa'n wahanol yn yr Alban, yn ôl beth dwi'n deall, ond y Swyddfa Ystadegau Gwladol sydd yn gyfrifol am weinyddu'r cyfrifiad yng Nghymru ar sail Cymru a Lloegr.

Nawr, mae Nia Jeffreys, sydd yn aelod cabinet Plaid Cymru dros gefnogaeth gorfforaethol ar Gyngor Gwynedd, eisoes wedi gohebu â'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn barod, ond hoffwn ofyn i chi, fel Llywodraeth Cymru, pa gamau dŷch chi'n eu cymryd i gyfathrebu hwn at y cyfrifiad a pha ymdrechion dŷch chi'n eu gwneud er mwyn galluogi pobl i nodi'n swyddogol beth yw eu hunaniaeth? Os yw hyn yn digwydd ar y cyfrifiad, yna, mae'n rhaid i ni sicrhau nad yw e'n digwydd mewn meysydd swyddogol eraill. Ar ddiwedd y dydd, dŷn ni ddim yn mynd i gael darlun clir o'r bobl sydd yn byw ac sydd yn gweithredu yma yng Nghymru os nad ydyn nhw'n gallu diffinio eu hun fel maen nhw eisiau ac fel sydd yn hawl iddyn nhw hefyd. 

Mae Llywodraeth Cymru yn cytuno'n llwyr nad yw'r cwestiwn ar ethnigrwydd ar hyn o bryd yn cynnwys pob un o'r aelodau hynny o gymdeithas sy'n ystyried eu hunain yn Gymry ond nad ydyn nhw'n wyn. Gallaf gadarnhau bod swyddogion Llywodraeth Cymru wedi bod yn codi hyn yn uniongyrchol gyda'r ONS ers cryn amser, ac rwyf wedi ysgrifennu'n ddiweddar at y Gweinidog dros y Cyfansoddiad ar y mater hwn i godi pryderon Llywodraeth Cymru yn fwy ffurfiol. Nid ydym wedi cael ymateb i'r llythyr hwnnw eto, am resymau amlwg yn ôl pob tebyg gyda'r etholiad cyffredinol yn mynd rhagddo.

Rwy'n credu ei bod yn bwysig cydnabod, o fewn y cyfrifiad, fod cwestiwn ar wahân ar hunaniaeth genedlaethol. Felly, gall unrhyw rai adnabod eu hunain fel Cymry, Saeson, Prydeinwyr neu unrhyw gyfuniad o hynny, ond cytunwn nad yw cwestiwn ethnigrwydd mor gynhwysol fel y caiff ei eirio ar hyn o bryd. Rydym ni eisiau i'r ONS ystyried y mater hwn yn ofalus. Rwy'n credu bod hwn yn gyfle hefyd i bwysleisio bod y cyfrifiad yn 2021—mae mor bwysig ei fod yn gyfrifiad llwyddiannus, oherwydd mae'n hanfodol i'n dealltwriaeth ni o'r holl grwpiau poblogaeth hynny er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu cynnwys yn y data sy'n helpu i lywio penderfyniadau a wneir gan y Llywodraeth. Felly, byddem ni'n annog cynifer o bobl â phosib i ymateb i'r cyfrifiad hwnnw pan fydd yn digwydd. Ond, Llywydd, byddwn i'n hapus iawn i rannu'r ymateb i'r llythyr a anfonais i at y Gweinidog dros y Cyfansoddiad a chopi o'r llythyr yr anfonais i gyda fy nghyd-Weinidogion.FootnoteLink FootnoteLink

Rheolwr Busnes, cyfeiriodd y Prif Weinidog yn ystod y cwestiynau i'r Prif Weinidog, at yr ysbyty newydd sy'n cael ei adeiladu, sef Ysbyty Athrofaol Grange, sy'n cael ei adeiladu yn Llanfrechfa. Roedd croeso i hyn gan y bobl yr wyf yn eu cynrychioli ym Mlaenau Gwent, sy'n edrych ymlaen at gael yr ysbyty a'r cyfleusterau, a'r ehangu a'r gwelliant ym maes gofal iechyd y mae hyn yn ei gynnig. Ond er mwyn manteisio i'r eithaf ar botensial yr ysbyty i ddarparu gofal iechyd i bobl ledled ardal Aneurin Bevan, wrth gwrs, mae angen y rhwydweithiau trafnidiaeth arnom a fydd yn galluogi pobl i ddefnyddio'r cyfleusterau yno ac i ymweld â'r rheini sy'n gleifion mewnol yn yr ysbyty newydd.

Rwyf wedi siarad â'r Gweinidog Iechyd a'r Gweinidog Trafnidiaeth ynghylch y mater hwn, a chredaf i ei bod yn bwysig inni gael datganiad gan o leiaf un ohonyn nhw i sicrhau bod gennym ni'r holl rwydweithiau trafnidiaeth gyhoeddus, y cyllido a'r ddarpariaeth o wasanaethau bysiau i alluogi pobl i gyrraedd yr ysbyty hwnnw. Felly, byddwn i'n ddiolchgar o gael datganiad ar hynny yn gynnar yn y flwyddyn newydd i sicrhau bod yr holl systemau trafnidiaeth hyn yn eu lle pan gaiff yr ysbyty newydd ei gomisiynu.

14:50

Diolch yn fawr iawn i Alun Davies. Wrth gwrs, mae e'n iawn i ddweud y bydd mynediad i'r cyhoedd i ysbyty newydd y Grange yn gwbl hanfodol er mwyn sicrhau bod yr ysbyty hwnnw'n gallu diwallu anghenion pobl yr ardal yn y ffordd orau ac yn cynnig cyfleoedd i'w teuluoedd ymweld â nhw a'u cefnogi, ac ati.

Rwy'n falch ei fod wedi cael cyfle i drafod hyn gyda'r Gweinidog Trafnidiaeth a'r Gweinidog Iechyd, ond mae'r Gweinidog Iechyd newydd ddangos i mi y byddai ef yn hapus iawn i gael cyfarfod pellach i drafod y mater yn fanylach, efallai, pan ddaw cyfle yn y dyfodol agos.

3. Datganiad gan y Gweinidog Addysg: Canlyniadau PISA 2018

Felly, y datganiad nesaf fydd y datganiad hynny gan y Gweinidog addysg ar ganlyniadau PISA, a dwi'n galw ar Kirsty Williams i wneud y datganiad.

Llywydd, mae canlyniadau 2018 PISA yn cael eu cyhoeddi heddiw, ac am y tro cyntaf erioed, mae Cymru yn y brif ffrwd ryngwladol, ac i ymdrechion ein hathrawon ni a'n myfyrwyr ni y mae'r diolch am hynny. Rwy'n awyddus i roi gwybod i bob athro, pob myfyriwr, pob rhiant, a phob cyflogwr ein bod ni wedi dal i fyny. Rydym wedi gwella ym mhob maes ac mae gennym fwy o berfformwyr uchel nag erioed o'r blaen. Mae newyddion heddiw yn gadarnhaol i bob un o'r rheini sydd wedi buddsoddi yn llwyddiant ein pobl ifanc a'n system addysg ni. Ydy, mae'n gadarnhaol, ond nid yw'n berffaith.

Dair blynedd yn ôl, roeddwn wedi egluro'n groyw nad oeddem mewn sefyllfa foddhaol a bod PISA yn ddangosydd pwysig i gyflogwyr, buddsoddwyr a rhieni. Fe gymerais i gyngor y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, OECD, ynglŷn â'n diwygiadau ni. Fe ddywedon nhw wrthym am ddyfalbarhau, a bod yn ddewr, a bod yr hyn yr oeddem ni'n ei wneud yn gywir. Fe wrandewais i ar y cyngor hwnnw. Yn dilyn hynny, aethom ymlaen i gyflawni'r buddsoddiad mwyaf erioed yn ein hathrawon, y rhaglen dysgu proffesiynol fwyaf erioed, ac rydym wedi parhau i ddiwygio ein cwricwlwm.

Nawr, am y tro cyntaf erioed, rydym yn perfformio ar gyfartaledd yr OECD ym mhob un o'r tri maes: sef darllen, gwyddoniaeth, a mathemateg. Am y tro cyntaf erioed, mae ein sgoriau ni wedi codi ym mhob maes a gafodd ei brofi ac ymhlith criw dethol iawn o wledydd ledled y byd sydd wedi gwneud hyn yng nghanlyniadau 2018. Rydym hefyd wedi cyrraedd ein sgôr grai orau erioed ar gyfer darllen ac ar gyfer mathemateg. Felly, ydym, rydym wedi dal i fyny â'r rhelyw. Rydym wedi treulio llawer gormod o amser yn llusgo y tu ôl i wledydd fel yr Iseldiroedd neu'r Swistir, neu'r Alban a Gogledd Iwerddon o ran hynny, ac rydym bellach wedi ymuno â nhw ym mhrif ffrwd yr OECD. Ac, yn hollbwysig yn fy marn i, rydym wedi gwneud hynny ar yr un pryd â chau'r bwlch cyrhaeddiad. Ond gadewch imi fod yn gwbl glir: nid dyma'r amser i godi ein troed ni oddi ar y sbardun. Fel isafswm lleiaf, mae angen inni fynd yr un mor gyflym. Rwyf eisiau ein gweld ni'n cynnal y momentwm hwn ac yn parhau i symud ymlaen.

Felly, gadewch i mi droi nawr at faterion a datblygiadau penodol. Mae'r sampl PISA ym mhob gwlad yn adlewyrchu pob system genedlaethol unigol. Felly, wrth gwrs, i ni, mae hynny'n gymysgedd o ysgolion cyfrwng Cymraeg, cyfrwng Saesneg a dwyieithog o fewn addysg gwasanaeth cyhoeddus annetholus. Mae'r sampl mewn systemau eraill yn wahanol iawn, ac yn adlewyrchu ysgolion detholus a rhai nad ydyn nhw'n perthyn i'r wladwriaeth, fel y mae hi dros y ffin. Ond nid dyna'r dull yng Nghymru. Fe fyddwn ni—fe fyddaf i—yn parhau i gefnogi ein system ni, gan ddisgwyl llawer gan bob un, heb ystyried cefndir unrhyw un; gan weithio gyda'n gilydd i godi safonau ar gyfer pawb a sicrhau ein bod ni'n cyplysu tegwch â rhagoriaeth. Felly, fe fyddwn ni'n parhau i weithio gyda'r OECD a systemau y tu hwnt i Gymru a thu hwnt i'r Deyrnas Unedig. Wedi'r cyfan, fe gymerodd 79 o wledydd ran yn PISA, ac rydym yn ein meincnodi ein hunain yn erbyn pob un ohonyn nhw.

Mae canfyddiadau'r OECD yn rhoi cyfres gyfoethog o wybodaeth a rhai naratifau diddorol iawn i ni. Pryder cyffredin ym mhob gwlad sy'n cymryd rhan yw'r bwlch mewn perfformiad ar gyfer darllen rhwng bechgyn a merched. Mae merched yn perfformio'n well na bechgyn ym mhob gwlad unigol, ac yng Nghymru, yr un yw'r stori.

Mae cyllid ar gyfer addysg yn bwysig, ond mae'r OECD yn dweud bod sut rydych chi'n gwario'r arian yn bwysicach. Mae Estonia yn gwario 30 y cant yn llai na'r cyfartaledd, ond mae'r OECD yn nodi'r wlad honno'n un o'r rhai sy'n perfformio orau. Ac maen nhw'n gallu dangos yr hyn y gall cenedl fach a medrus ei gyflawni. Felly gadewch inni beidio â rhoi unrhyw gyfyngiadau ar ein huchelgeisiau i Gymru. Fe wn i fod athrawon ledled Cymru yn rhannu'r uchelgeisiau hynny. Fe fyddwn ni'n dymuno i ganlyniadau heddiw wneud i bob athro unigol fod yn fwy sionc yn ei gerddediad. Mae gwelliant yn bosibl ac rydym wedi dangos hynny. Rydym yn mynd i'r cyfeiriad iawn, ond, unwaith eto, gadewch imi fod yn glir: mae llawer mwy y mae angen ei wneud eto.

Mae ein cenhadaeth genedlaethol wedi mapio'r llwybr cywir ac fe allwn ni, ac mae'n rhaid inni, ddal ati i wella. Er enghraifft, Llywydd, ystyriwch fy her i, dair blynedd yn ôl, i wella ein cyfran ni o ddysgwyr sy'n perfformio orau yn PISA o'r lefelau affwysol o isel a welsom ni yn 2015. O ran darllen, mae gennym 7 y cant o berfformwyr uchel erbyn hyn, o'i gymharu â 3 y cant yn y rownd ddiwethaf, ac rydym wedi cynyddu'r gyfran yn y ddau faes arall. Cafwyd cynnydd tebyg o ran mathemateg, ac ychydig yn llai o ran gwyddoniaeth.

Mae hwn yn gam sylweddol ymlaen, ond mae'n rhaid inni wneud mwy. Yn wahanol i'r sgorau yn gyffredinol, nid ydym eto wedi cyrraedd cyfartaledd yr OECD ar gyfer y grwpiau hyn o ddysgwyr. Ond, rwy'n credu bod ein cynllun gweithredu priodol cyntaf ni ar gyfer disgyblion sy'n fwy galluog a thalentog, ac ehangu ein rhaglen Seren i ddisgyblion o flwyddyn 8 i fyny, a gosod disgwyliadau uchel ar bawb yn gwneud gwahaniaeth ac fe fydd yn parhau i wneud gwahaniaeth.

Gan weithio gyda busnesau blaenllaw yng Nghymru, yn ogystal â'n colegau a'n prifysgolion, rydym yn gosod safon uchel. Ac mae hynny'n golygu bod ein myfyrwyr yn gwneud argraff fawr pan fyddan nhw'n astudio am gyfnod mewn prifysgolion fel Rhydychen a Chaergrawnt, Yale, Harvard a'r Massachusetts Institute of Technology. Nawr, un o'm blaenoriaethau i erioed fel Gweinidog fu edrych ar ein diwygiadau ni o'r safbwynt rhyngwladol hwnnw. Ac, fel y dywedais i, dyna pam y byddwn ni'n parhau i weithio gyda'r OECD wrth inni fwrw ymlaen â'n rhaglen ni o ddiwygio. Y tro diwethaf, eu negeseuon allweddol i mi oedd y dylem

barhau â'r ymdrechion i ddiwygio'r cwricwlwm a chodi safonau addysgu.

Wel, fe fydd fframwaith diwygiedig y cwricwlwm yn cael ei gyhoeddi ym mis Ionawr. Fe gaiff ei ategu gan gefnogaeth, adnoddau a chyngor uniongyrchol i ysgolion ac athrawon. Fe fyddwn ni'n parhau i fuddsoddi yn y grant datblygu disgyblion ac i ddiwygio'r anghenion dysgu ychwanegol, gan roi'r gefnogaeth ychwanegol sydd ei hangen i'r dysgwyr hynny lwyddo yn ein system ni. Ac fe fyddwn ni'n parhau i wyrdroi'r blynyddoedd o esgeulustod o ran arweinyddiaeth i fod yn brif ysgogydd ein rhaglen ddiwygio ni, ac fe fyddwn ni'n parhau i roi'r adnoddau sydd eu hangen ar athrawon i gyflawni ar eu gorau.

I gloi, Llywydd, yn ein cynllun gweithredu cenhadaeth genedlaethol ni, fe wnes i nodi tri amcan: codi safonau; mynd i'r afael â'r bwlch cyrhaeddiad; a sicrhau system sy'n destun balchder cenedlaethol ac y bydd y cyhoedd yn ymddiried ynddi. Mae canlyniadau heddiw yn dangos llwyddiant yn erbyn pob un o'r amcanion hynny. Sgoriau uwch ym mhob maes; gostyngiad yn y bwlch rhwng ein dysgwyr mwyaf difreintiedig a'u cyfoedion; Cymru yn y brif ffrwd ryngwladol am y tro cyntaf yn ystod oes PISA; y sgoriau gorau erioed mewn mathemateg a darllen; a'r unig genedl yn y DU a welodd welliant ym mhob maes.

Unwaith eto, hoffwn i achub ar y cyfle hwn i ddiolch i'n hathrawon a'n myfyrwyr ni. Mae'r canlyniadau hyn yn tystio i'w gwaith caled a'u hymroddiad nhw, ac maen nhw'n dechrau dangos yr hyn y gall Cymru ei gyflawni.  

14:55

A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad hi, yn enwedig y rhan olaf, yn sôn am yr hyn yr ydych chi'n bwriadu ei wneud nesaf, ac rwy'n siŵr y bydd hynny'n destun i ddadl rywbryd eto? Yr adeg hon dair blynedd yn ôl, Gweinidog, fe ddywedoch chi wrth fy rhagflaenydd i 

ni all dim a ddywedwch chi yma heddiw yn y Siambr hon wneud i mi deimlo'n waeth yn bersonol ynglŷn â'r canlyniadau hyn.

Felly, rwy'n tybio eich bod chi'n rhoi caniatâd i chi eich hun roi ochenaid fach o ryddhad heddiw, ond eich bod chi'n ymwybodol iawn o'r ffaith mai rhyddhad dros dro yw hyn. Rwy'n cydnabod, fel y gwna eich swyddogion, fod gwelliant wedi digwydd, ac rwyf innau'n awyddus i ddiolch i'r athrawon a'r myfyrwyr am eu hymdrechion nhw wrth wneud hynny. Ond a yw eich swyddogion chi'n cydnabod hefyd nad yw'r rhain wedi bod yn welliannau sylweddol?

Nid yw fy nadl i gyda'r athrawon a'r bobl ifanc sydd wedi cymryd rhan yn y profion hyn. Mae fy nadl i gyda chi yn y Llywodraeth a'r gobeithion yr ydych chi wedi eu codi, ar sail y tair blynedd diwethaf o ddiwygiadau, sy'n parhau i gael eu siomi. Felly, ie, er ein bod ni'n cydnabod y gwelliannau cymedrol ond heb fod yn sylweddol, maen nhw'n parhau i olygu mai Cymru yw'r wlad sy'n perfformio waethaf yn y DU. Mae'r canlyniadau hyn, i bob pwrpas, heb fod cyn waethed ag yr oedden nhw. Mae'n atgyfnerthu pa mor uchel yw'r mynydd y mae'n rhaid i ni ei ddringo er mwyn cyrraedd gwledydd eraill y DU, heb sôn am rai o'r gwledydd eraill.

Rydym yn parhau i fod yn brin o'r targed hwnnw o 500, a gadarnhawyd bythefnos yn unig yn ôl gan y Prif Weinidog. Rydym yn dal i fod yn is na'r cyfartaledd mewn rhai o'r meysydd a gaiff eu harchwilio, er, fel y gwyddom ni, mae cyfartaledd yr OECD wedi gostwng ynddo'i hunan, ac fe ddylem anelu at gyflawni mwy na bod ar y cyfartaledd beth bynnag. Nid yw dal i fyny gyda'r rhelyw, sy'n mynd tuag yn ôl, yn golygu ennill y ras mewn gwirionedd. Mae angen inni fod yn gwneud mwy na mynd ar yr un cyflymder. Mae angen inni fod yn gwneud yn well yn hyn o beth.

Felly, fy nghwestiwn cyntaf i ynglŷn â'r datganiad, ac rwy'n siŵr y bydd yna laweroedd ohonyn nhw, yw: fe ddywedoch chi dair blynedd yn ôl y byddech chi'n edrych ar wledydd eraill i weld beth y maen nhw'n ei wneud yn dda a chael eu syniadau da nhw. Hyd yn oed bryd hynny, roeddem yn gofidio ychydig bach am yr Alban oherwydd ei dylanwad amlwg ar y diwygiadau yr oeddech chi'n eu cyflwyno. Yn amlwg, maen nhw wedi cael canlyniad da o ran darllen y tro hwn. Er hynny, mae eu sgoriau nhw wedi parhau i fod yn isel ers cyfnod Donaldson, ac nid yw sgôr darllen heddiw hyd yn oed yn mynd â nhw'n ôl fel roedd hi cyn hynny. Felly, a wnewch chi ddweud wrthym beth yr ydych chi'n ei ddysgu o hyd o brofiad yr Alban a'u gofidiau nhw, a'r hyn y byddwch chi'n ei ddysgu hefyd o brofiad Lloegr? Yn amlwg, mae eu sgoriau nhw, fel y clywsom  gan Mark Reckless yn gynharach, yn llawer gwell ac yn dal i wella.

A wnewch chi roi ychydig bach o wybodaeth i ni ynglŷn â tharddle'r gwelliannau hyn yn eich barn chi? Yn 2016, yn gwbl briodol, fe wnaethoch chi gydnabod—ac rydych chi wedi crybwyll hyn heddiw—bod ein plant ni sy'n fwy galluog a thalentog yn tanberfformio. Credaf y byddai pob un ohonom ni'n anfodlon pe bai hynny ag unrhyw ran o gwbl yn ein sefyllfa ni o ran y bwlch cyrhaeddiad. Yn benodol, a yw'r newidiadau wedi effeithio ar yr hanner uchaf—y 75 canradd, os caf gyfeirio ato felly—o'i gymharu â'r 90 canradd?

Roeddech chi'n crybwyll rhaglen Seren, ac fe hoffwn i glywed ychydig mwy am hynny. Ond y rheswm yr wyf i'n gofyn y cwestiwn hwn yw: er bod ein safonau ni o ran graddau A* TGAU eleni yn uchel iawn—ac fe soniodd y Prif Weinidog am hynny'n gynharach—mae ein graddau ni o A* i C wedi gostwng eleni ym mhob un o'r pynciau hyn. Dyma'r un garfan o bobl ifanc sydd wedi sefyll y profion PISA yn y flwyddyn cyn iddyn nhw sefyll yr arholiadau TGAU. Fel yr oeddech chi'n cydnabod, mae'r TGAU hyn bellach yn cyd-fynd yn well â'r sgiliau y mae'r profion PISA wedi cael eu llunio i fynd i'r afael â nhw, ac mae eich diwygiadau chi wedi bod ar waith i drwytho'r arholiadau hynny ers peth amser erbyn hyn. Felly, pam mae gwelliant bach o ran canlyniadau PISA yn cyfateb i ostyngiad o ran graddau TGAU A* i C?

Fe fuom ni'n siarad yn y Siambr hon rai wythnosau'n ôl bellach am y gostyngiad o ran cyflawniadau ar hyn o bryd drwy flynyddoedd 7 i 9. Os cofiwch chi, roedd hyn yng nghyd-destun dileu'r gofyniad ar lywodraethwyr ysgol i bennu targedau i arweinyddion ysgol at ddibenion gwelliant disgyblion yn y Gymraeg neu'r Saesneg, a mathemateg a gwyddoniaeth. Y plant sydd ym mlwyddyn 7 eleni fydd y garfan nesaf o blant i sefyll prawf PISA. Felly, a ydych chi'n gofidio nawr fod y llwybr presennol ar gyfer y rhai sydd  ym mlynyddoedd 7 i 9 yn golygu nad yw'r oedolion na'r plant sy'n rhan o'r system addysg bresennol wedi deall sut y caiff y diwygiadau hyn eu cyflawni? Ac a yw'n edifar gennych chi erbyn hyn y gall dileu'r targedau hyn ar gyfer cyflawniad cyffredinol disgyblion yn y pynciau allweddol hynny gyflwyno darlun inni y gallem i gyd fod yn weddol anfodlon yn ei gylch ymhen ychydig flynyddoedd?

Yn gynharach, wrth wrando ar eich ymateb i Mark Reckless ynglŷn â'r ffaith nad oes gan ysgolion ddigon o adnoddau, fe sylwais eich bod chi'n ei borthi ef pan oedd yn siarad â chi, ac, yn amlwg, rydych chi wedi crybwyll Estonia yn y fan hon heddiw. Beth bynnag y gallwch chi ei ddweud wrthym ni am y system addysg a'r gwariant sy'n mynd i mewn iddi, y gwir amdani yw nad yw ysgolion—ysgolion yn benodol—yn cael digon o arian, ac rwy'n gofyn tybed a wnewch chi roi rhywfaint o gysur i ni yn hynny o beth heddiw.

Tybed beth yw eich sylwadau chi, er bod y sgoriau darllen wedi gwella, ynglŷn â'r pryder difrifol sydd gan yr OECD o hyd o ran dealltwriaeth. Felly, er bod caru darllen yn dal i fod yn dipyn o her ynddo'i hunan, mae'r mater hwn o ddealltwriaeth—'darllen a deall', fel yr oeddem ni'n ei alw ers talwm—yn parhau i beri pryder sylweddol, yn fy marn i, oherwydd os na allwch chi ddeall yr hyn yr ydych chi'n ei ddarllen, go brin y gellir trosglwyddo'n ddifrifol i faes meddwl yn feirniadol. Ac wrth gwrs, dyma holl ddiben yr hyn y mae PISA yn ceisio ei brofi a'r hyn y mae ein harholiadau ni ein hunain yn gweithio tuag ato. Dyna'r cyfeiriad yr ydym ni'n mynd iddo, ac os oes yna broblem o ran dealltwriaeth, yna, yn amlwg, byddwn yn methu yn ein hamcanion.

Yna, yn olaf—gan fy mod i'n deall, yn amlwg, y bydd cwestiynau gan bobl eraill—rwyf am ofyn, yn y bôn: sut y gall ein sgoriau ni yn y meysydd hyn barhau i fod yn is nag yr oedden nhw yn 2006, pan benderfynodd Cymru gymryd rhan? Nid eich diwygiadau chi yw'r rhai cyntaf, Gweinidog, a hyd yn oed gyda nhw, rydym yn dal i fod ymhellach ar ei hôl hi nag yr oeddem ni pan wnaethom ddechrau: ar waelod y DU, yn methu'r targedau, miloedd o blant yn dal i fod y tu ôl i'w perthnasau ar draws y byd, a hynny'n ddi-angen. Felly, fy nghwestiwn olaf i yw hwn: pa sicrwydd a wnewch chi ei roi y byddwn ni, yn 2021, yn uwch na'r cyfartaledd hwn, ac y byddwn ni'n cyrraedd eich targed chi o 500—i bob pwrpas, pryd fyddwn ni yn y sefyllfa yr ydych chi'n dymuno inni fod ynddi? Diolch.

15:05

Llywydd, a gaf i ddiolch i'r Aelod am y gyfres honno o gwestiynau? Fe wnaf i fy ngorau i wneud yn siŵr fy mod i wedi eu cofnodi nhw i gyd ac yn ateb pob un.

Nid oes ochenaid o ryddhad o'm rhan i fy hun heddiw, Llywydd—dim ond y penderfyniad i fwrw ymlaen â'r rhaglen  ddiwygio a gwneud hyd yn oed yn well. Fe ddywed yr Aelod ein bod ni wedi gostwng y targed o 500 ac yna mae hi'n dweud ar ddiwedd ei datganiad—a wyf i am gyrraedd y targed o 500? Mae'r targed o 500 yn cael ei amlinellu'n eglur yn ein cynllun gweithredu cenhadaeth genedlaethol ar gyfer y gyfres nesaf o ganlyniadau PISA. Fe osodais i darged ar gyfer y gyfres hon o ganlyniadau PISA, sef dangos gwelliant mewn tri maes, yr hyn yr ydym wedi ei wneud heddiw, a gweld cynnydd yn niferoedd y perfformwyr gorau yn ein profion PISA, yr hyn yr ydym wedi  ei wneud heddiw. Yn hytrach na methu'r targed, cyflawni'r targed oedd hynny.

A gaf i ddweud, Llywydd, nad yw'n wir o gwbl i ddweud ein bod ni ar waelod y domen yn y Deyrnas Unedig? Mae'r rhai sy'n gweinyddu profion PISA, yr OECD, yn eglur iawn bod ein perfformiad ni o ran mathemateg a gwyddoniaeth, yn ystadegol, yn gyfartal â Gogledd Iwerddon a'r Alban. Nawr, rwy'n gwybod bod y Torïaid yn ddi-hid iawn o ran ystyriaeth i ddyfodol yr undeb, ond y tro diwethaf imi edrych, roedden nhw'n dal i fod yn rhan o'r Deyrnas Unedig. Y fi yw'r cyntaf i gydnabod bod gennym ni fwy eto i'w wneud i wella ein sgoriau darllen. Dyna oedd geiriau'r SCYA hefyd, yn dweud ein bod ni wedi cyrraedd, ac yn debyg yn ystadegol i gyfartaledd yr OECD ar draws y tri maes, tra oeddem yn sylweddol is na tharged yr OECD y tro diwethaf.

Nawr, o ran y cwricwlwm, mae'r Aelod yn gofyn i ni am gwricwlwm yr Alban. Yr hyn sy'n bwysig ei gofio yw ein bod ni'n datblygu ein cwricwlwm ein hunain yng Nghymru. Nid ydym yn efelychu cwricwlwm yr Alban yng Nghymru—rydym yn cynllunio un i ni ein hunain. Am y tro cyntaf erioed, bydd gennym gwricwlwm sydd wedi cael ei gynllunio gan bobl Cymru ar gyfer plant Cymru, ac rydym ni'n dal i ddysgu gwersi o bob rhan o'r byd ynglŷn â'r hyn y mae arfer da yn ei olygu a'r hyn y mae angen i ni ei osgoi. Mae hynny'n cynnwys dysgu'r gwersi o weithredu llwyddiannus cwricwla ym mhob rhan o'r byd, gan gynnwys yr Alban. Un enghraifft ddisglair iawn o'r hyn yr ydym wedi ei ddysgu yw nad oes raid rhuthro'r broses, a dyna pam y gwnes i'r penderfyniad anodd i oedi cyn rhoi'r cwricwlwm ar waith, gan wneud yn siŵr ein bod ni wedi paratoi ein proffesiwn.

O ran y gwersi eraill y gellir eu dysgu, fe wêl yr Aelod fod llawer o ganolbwyntio yn y cyfryngau Prydeinig heddiw—ac rwyf innau wedi sôn am hyn—ar y system yn Estonia. Mae'r system yn Estonia yn canolbwyntio llawer ar ofal ac addysg yn y blynyddoedd cynnar, gan sicrhau bod pob plentyn, pan fydd yn mynd i gael ei addysg ffurfiol, yn meddu ar yr aeddfedrwydd a'r ymdeimlad o lesiant a hyder i fanteisio i'r eithaf ar ei addysg. Dyna pam ein bod ni yn y Llywodraeth hon yn parhau i flaenoriaethu Dechrau'n Deg, rydym ni'n sicrhau bod mwy o ofal plant o safon uchel ar gael i deuluoedd, a pham y byddaf i bob amser, pan fydd adnoddau yn caniatáu, yn buddsoddi ymlaen llaw mewn addysg ar gyfer y blynyddoedd cynnar hynny. Oherwydd dyna lle y gwyddom y gallwn sicrhau y bydd ein plant yn datblygu'r sgiliau cynnar hynny—y llafaredd sydd mor bwysig i ddatblygu darllen a deall da yn ddiweddarach mewn bywyd—a thrwy fuddsoddi yn y blynyddoedd cynnar fe fyddwn ni'n elwa ar y buddsoddiad hwnnw.

Fe holodd yr Aelod am Seren fach. Wel, rwyf i wedi bod yn ffodus iawn i ddod y bore yma o gynhadledd Seren yn y Drenewydd, lle'r oedd prifysgolion o Gymru, y DU ac America yn cael eu cynrychioli. Mae mor gadarnhaol clywed pobl o Rydychen a Chaergrawnt yn sôn am y niferoedd uchel o gyfweliadau y maen nhw wedi eu cynnig i fyfyrwyr Cymru eleni, sydd ymhell uwchlaw'r darlun cenedlaethol. Maen nhw'n gwybod am ansawdd myfyriwr Seren Lefel-A yng Nghymru ac maen nhw'n awyddus i gael yr ansawdd hwnnw yn eu sefydliadau nhw. Ond rydym wedi gwrando ar rieni ac athrawon hefyd ynglŷn â sut y gallwn ni gludo manteision Seren yn gynharach yng ngyrfa addysg plentyn, ac rwy'n falch iawn o ddweud bod gennym gynlluniau peilot Seren fach yn cael eu cynnal eleni ym mhob canolfan Seren unigol. Ac, unwaith eto, fe hoffwn i ddiolch i gydlynwyr y canolfannau a'r ysgolion sy'n cymryd rhan sydd wedi gweithio'n galed iawn i ddechrau treialu'r dull hwnnw ar gyfer myfyrwyr iau.

O ran yr hyn sydd wedi gwneud y gwahaniaeth, mae'n amhosibl cyfeirio at un ffactor unigol, ond rwy'n credu bod y gwelliant sylweddol yn y perfformwyr gorau wedi cael effaith. A phan ddywedaf 'gwelliant sylweddol', nid fy ngeiriau i mo'r rhain, ond geiriau'r OECD wrth ddisgrifio'r hyn yr ydym ni wedi ei wneud. Ond gadewch imi fod yn hollol glir, fel y dywedais i yn fy natganiad, er ein bod ni wedi gweld y gwelliant sylweddol hwnnw, nid ydym ar gyfartaledd yr OECD eto o ran canran y myfyrwyr sy'n perfformio ar y lefel honno, a dyna pam mae'n rhaid i ni barhau â'n cefnogaeth i'r rhai mwy galluog a thalentog, oherwydd dyna un o'r ffyrdd y byddwn ni'n taro'r targed o 500 yn y rownd nesaf.

Materion yn ymwneud ag adnoddau—roeddwn i'n nodio fy mhen pan oedd Mark Reckless yn siarad, oherwydd roedd yn berffaith iawn yn yr hyn a ddywedodd: roedd athrawon yng Nghymru wedi mynegi teimladau cryfach am y ffaith nad oedd ganddyn nhw'r adnoddau angenrheidiol—gwerslyfrau a TGCh yn yr achos hwn. Yr hyn sy'n ddiddorol yw nad oedd athrawon yn ysgolion Cymru wedi nodi nad oedd ganddyn nhw'r niferoedd addas o staff. A dweud y gwir, roedd hynny ar gyfartaledd yr OECD. Felly, nid oedd athrawon Cymru yn teimlo nad oedd ganddyn nhw'r personél addysgu angenrheidiol. Ac rwy'n nodio fy mhen am ein bod ni wedi cydnabod y mater hwnnw yn Llywodraeth Cymru. Felly, eleni, er enghraifft, rydym wedi darparu, ar sail genedlaethol, i bob ysgol unigol yng Nghymru, Microsoft Office, fel nad oes raid i ysgolion ei brynu. Mae'n gyffredinol, mae pawb ar yr un maes chwarae, ac rydym wedi gallu gwneud hynny gan arbed cost, mewn gwirionedd, i'r gwariant cyffredinol. Ac eleni yn unig, fe fyddwn ni'n buddsoddi £50 miliwn mewn technoleg addysg. Rwy'n falch o ddweud ein bod ni'n gwneud hynny mewn partneriaeth â phob un o'r 22 awdurdod lleol. Bydd gan bob awdurdod lleol gyfran o'r buddsoddiad hwnnw, ac fe ofynnwyd i bob awdurdod lleol anfon asesiad o sefyllfa bresennol eu hysgolion nhw. Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr holl asesiadau hynny erbyn hyn, ac rydym nawr yn y broses o sicrhau y caiff y £50 miliwn ei wario erbyn diwedd y flwyddyn ariannol. Ac rwy'n credu y bydd hynny'n mynd rhan o'r ffordd i fynd i'r afael â rhai o'r pryderon y mae athrawon wedi eu codi. Mae hwnnw'n ymateb ymarferol, hyd yn oed cyn inni gael yr adroddiad hwn.

A gaf i ddweud, o ran y targedau a fethwyd, nid oes angen i'r aelod ond edrych ar y ddogfen genhadaeth genedlaethol lle'r oeddem ni'n dweud mai'r targed y tro hwn oedd gweld cynnydd ym mherfformiad y perfformwyr uchel? Rydym wedi cyflawni hynny. Mae'r genhadaeth genedlaethol yn datgan yn gwbl glir hefyd ein bod ni'n dymuno cyrraedd y targed hwnnw o 500 erbyn y gyfres nesaf o ganlyniadau PISA. Yn ddiddorol, os edrychwch chi ar ddarllen ymysg genethod, mewn gwirionedd, nid yw'r sgôr hwnnw mor bell i ffwrdd. Ond, yn amlwg, mae mwy o waith i'w wneud eto i gyrraedd y targed hwnnw, ac rwyf i, ac, yn fwy pwysig na mi, mae pawb sy'n ymwneud â'r system addysg yn benderfynol o fwrw ymlaen i wneud yn siŵr bod hynny'n digwydd.

15:10

Hoffwn innau dalu teyrnged i ddisgyblion Cymru am eu holl waith caled, yn ogystal â diolch i'r holl staff ac athrawon am eu hymdrechion diflino i sicrhau bod ein pobl ifanc ni yn cyflawni. Mae profion rhyngwladol PISA yn un ffordd o fesur cynnydd, ond mae'n rhaid defnyddio'r data'n ddoeth, a dwi'n edrych ymlaen at gael cyfle i ddadansoddi'r cynnwys yn ofalus dros y dyddiau a'r wythnosau nesaf ac i weld beth ydy barn arbenigwyr addysgol ar y canlyniadau diweddaraf yma.

Mae yna gynnydd bychan wedi bod ar draws y tri maes—mathemateg, gwyddoniaeth a darllen—ers 2015, sy'n galonogol. O'i gymharu â 2006, cafwyd cynnydd bychan mewn mathemateg a darllen ond gostyngiad ym maes gwyddoniaeth. Rhaid cofio bod dirywiad wedi digwydd yn y tri maes yn 2009 a 2012 a dim ond megis ailgydio yn sefyllfa 2006 ydym ni rŵan. Mae'n dda gweld arwyddion y gallai'r canlyniadau fod nôl ar y trywydd cywir wedi cyfnod maith o ddirywiad, ond mae hi'n ddyddiau cynnar ac mae'r her yn fawr. 

Fy nghwestiwn cyntaf i felly ydy: pa mor hyderus ydych chi y byddwn ni yn cyrraedd 500 pwynt erbyn 2021? Dwi'n falch iawn o'ch clywed chi heddiw'n cadarnhau bod y targed yna yn dal yna, ond pa mor hyderus ydych chi y byddwn ni'n ei gyrraedd o a beth ydy'ch blaenoriaethau chi ynglŷn â'r gwaith sydd angen ei wneud er mwyn bod yn y sefyllfa yna yn 2021? Achos mae'n amlwg bod angen parhau efo'r cynnydd bychan yma sydd wedi digwydd rŵan ers 2015, ond mae hi yn gyfnod o newid anferth yn ein system addysg ni, ac mae'r cwricwlwm newydd angen cael cyfle i wreiddio, ac mae angen darparu adnoddau a chyfleoedd digonol ar gyfer datblygiad proffesiynol ein staff ni.

Mae'n fy mhryderu i ei bod hi'n ymddangos bod yna anghysondeb mawr ar draws Cymru o safbwynt sut mae athrawon yn ymgymryd â her y cwricwlwm newydd. Dwi'n sôn am astudiaeth mae Prifysgol Caerdydd wedi'i gwneud, sy'n dangos nad yw bron i 40 y cant o athrawon mewn ysgolion arloesi yn teimlo eu bod nhw'n rhan o ddatblygu'r cwricwlwm. Rŵan, dwi'n sôn am 40 y cant mewn ysgolion arloesi; mae'n debyg bod y ffigur yn dipyn is mewn ysgolion sydd ddim yn rhan o'r gyfundrefn o gyflwyno'r cwricwlwm newydd. A dwi'n siŵr eich bod chi'n cytuno efo fi bod anghysondeb fel yna—mae angen cael gwared ohono fo. Felly, fy ail gwestiwn i ydy: beth ydy'r cynlluniau sydd gennych chi i sicrhau bod athrawon ymhob ysgol yn rhan o'r broses o gyflwyno'r cwricwlwm newydd?

Ar ben y gwaith cwricwlwm, mae trefniadau asesu a'r systemau atebolrwydd yn newid, ac yn gefndir i hyn oll mae problemau recriwtio athrawon, ac mae un mewn tri o athrawon newydd yn gadael yr ystafell ddosbarth o fewn pum mlynedd. Ac yn ogystal â'r uchelgais o gyrraedd y 500, y targed yma, yn amlwg hefyd—. A dwi'n rhannu'r uchelgais ac yn hyderus bod angen inni fod efo'r uchelgais yna, ond does bosib bod angen chwistrelliad o arian cyson i ysgolion erbyn hyn ac mae angen gwella amodau gwaith athrawon. Mae angen i athrawon fedru neilltuo eu hamser i addysgu ac ysbrydoli ein disgyblion ni, ac mae angen gwneud y proffesiwn yn ddeniadol i ddarpar athrawon, gan arwain at recriwtio mwy i mewn i'n hysgolion ni. 

Mi ydym ni fel plaid wedi addo darparu £300 miliwn yn ychwanegol y flwyddyn tuag at gyllido ein hysgolion ni yn sgil y gostyngiad o 8 y cant mewn termau real o wariant sydd wedi digwydd, ac, er bod rhywun yn gwybod am sefyllfaoedd fel Estonia ac yn y blaen, mae'r athrawon yn dweud wrthym ni fod y pwysau ariannol maen nhw'n eu hwynebu yn llesteirio eu gwaith nhw. Rydym ni'n gwybod bod llawer gormod o'n hathrawon mwyaf profiadol ni yn gorfod cael eu diswyddo wrth i ysgolion orfod gweithredu ar lai a llai o arian yn sgil toriadau. Ac mae hynny wedyn yn arwain at nifer fawr o blant mewn dosbarthiadau, llai o gyfle i roi sylw i anghenion unigol, a gwaith bugeiliol yn cael ei esgeuluso a'i dorri. 

A dwi'n troi at y pwynt olaf yna wrth gloi. Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at bryderon ynghylch llesiant disgyblion. Mae hyn yn bryderus. Maen nhw'n adrodd am lefelau o ddiflastod a phryder sy'n uwch na'r cyfartaledd rhyngwladol. Hoffwn i gael eich ymateb chi i hynny, a beth rydych chi'n mynd i'w wneud yn ei gylch o. Mae'r comisiynydd plant, a'r pwyllgor plant a phobl ifanc, wedi bod yn tynnu sylw at y broblem llesiant yn benodol ers tipyn o amser rŵan, ond mae'n ymddangos bod y cynnydd yn araf, a hoffwn weld os oes gennych chi gynlluniau penodol i fynd i'r afael â'r broblem gynyddol yma ynghylch llesiant disgyblion. Diolch. 

15:20

Diolch yn fawr, Siân. Ac a gaf i ddiolch am gydnabod ymdrechion athrawon i gyflawni'r canlyniadau hyn heddiw? Fel yr aethoch chi ymlaen i'w ddweud, rydym ynghanol y diwygiad mwyaf o addysg yn unman yn y Deyrnas Unedig, felly rydym yn gofyn llawer iawn gan ein proffesiwn eisoes wrth gymryd rhan yn y diwygiadau hynny, yn enwedig yn y cwricwlwm. O ganlyniad, mae gallu cyflawni'r canlyniadau hyn yn tystio'n wirioneddol i'w gallu nhw nid yn unig i gymryd rhan yn y diwygiadau hynny, ond i barhau â'r gwaith beunyddiol o addysgu ein plant ni. Ac rydym ni'n gofyn llawer iawn ganddyn nhw.

A gaf i gytuno â chi hefyd bod angen inni ddefnyddio'r data'n ddoeth? Weithiau, ar ôl cymryd rhan yn y profion PISA, mae'n teimlo fel ein bod yn aros am heddiw, pan rydym yn gweld y sgoriau crai, a dyna ddiwedd y stori. A dweud y gwir, mae toreth o wybodaeth yma y mae angen inni ei dadansoddi'n ofalus, nid yn unig o ran ein hysgolion ein hunain, ond ar gyfer edrych ar dueddiadau rhyngwladol a chymryd rhan wirioneddol yn y naratif hwnnw, fel y gallwn weld beth yn union y mae'n ei olygu i gymryd rhan yn y profion PISA.

Rydych chi yn llygad eich lle: heddiw, rydym wedi gweld y sgoriau gorau erioed ar gyfer mathemateg a darllen ers i ni gymryd rhan yn 2006. Nid yw ein sgoriau gwyddoniaeth wedi cyrraedd yno eto, ac roeddwn i'n glir iawn y tu allan i'r Llywodraeth, fel yr oeddwn i'n glir y tro diwethaf, pan gawsom ni'r canlyniadau ar gyfer 2015, na allai neb ddisgrifio'r blynyddoedd cyfamserol hynny fel blynyddoedd da na'r sgoriau'n rhai y byddai unrhyw un ohonom ni'n dymuno eu gweld. A dyna pam yr ydym ni wedi cymryd rhan yn y broses hon o ddiwygio addysg. Ond yr hyn y mae'r canlyniadau hyn yn ei ddangos yw nad yw dirywiad yn anochel—fe allwn ni wneud yn well, ac mae'n rhaid inni wneud yn well.

Sut y gallwn ni gyflawni hynny? Wel, fe wnawn ni hynny drwy ganolbwyntio ar y pedwar amcan craidd ar gyfer galluogi o fewn ein cenhadaeth genedlaethol. Ac rydym yn canolbwyntio ar y rhain nid oherwydd bod angen cyrraedd targed PISA o 500, ond oherwydd ein bod ni'n gwybod, drwy ganolbwyntio ar yr amcanion hynny, y byddwn ni'n datblygu ac yn cyflenwi safonau dyrchafedig, fe fyddwn ni'n cau'r bwlch cyrhaeddiad, ac fe fyddwn ni'n cyflwyno'r system addysg honno a fydd yn ffynhonnell balchder cenedlaethol. Felly, beth fyddwn ni'n ei wneud? Fe fyddwn ni'n parhau i fuddsoddi yn ein proffesiwn addysgu, drwy sicrhau y cânt yr adnoddau sydd eu hangen i ymgymryd ag addysg broffesiynol. Fe fyddwn ni'n canolbwyntio ar lesiant ein plant. Fe wyddom fod plant sydd â lefelau uwch o lesiant, ar gyfartaledd, yn gwneud yn well yn academaidd. Felly, fe fydd angen inni barhau i ganolbwyntio ar sicrhau y gall ein plant fanteisio i'r eithaf ar eu cyfleoedd nhw yn yr ysgol drwy fynd i'r afael â materion llesiant.

Mae angen cyfundrefn atebolrwydd ac asesu arnom sy'n ysgogi'r mathau cywir o ymddygiad yn ein hysgolion ni. Pan edrychwn ar drefn atebolrwydd sy'n rhoi'r un pwysoliad i rai cymwysterau gwyddoniaeth penodol, yn hytrach na chymwysterau gwyddoniaeth TGAU, a hynny'n ddealladwy—yn ddealladwy iawn—fe welsom ymgyrch enfawr tuag at y mathau penodol hynny o gymwysterau. Ac yna rydym ni'n edrych ar ein dirywiad ni o ran sgoriau gwyddoniaeth ac rydym ni'n gofyn tybed beth ddigwyddodd. Rydym wedi newid y marciwr atebolrwydd hwnnw, ac mae'r hyn yr ydym ni wedi ei weld yn gynnydd sylweddol, o dros 50 y cant, yn nifer y myfyrwyr sy'n astudio tri phwnc gwyddoniaeth TGAU, a'r myfyrwyr hynny sy'n gwneud yn dda ynddyn nhw. Felly, mae ysgogi trefn atebolrwydd sy'n gyrru'r mathau cywir o ymddygiad mewn ysgolion, nid yn academaidd yn unig, ond gan fesur llesiant hefyd a sut mae ysgolion yn mynd i'r afael â llesiant, yn gwbl eglur.

Rydym wedi bod yn glir iawn hefyd ein bod wedi esgeuluso'r pwynt pwysig o arweinyddiaeth yn y system addysg ac, yn rhy aml o lawer, nid ydym wedi bod yno yn sefyll gyda'n harweinwyr ysgol i roi cyfle proffesiynol iddyn nhw a'r cymorth sydd ei angen arnyn nhw i wneud y gorau y gallan nhw. Felly, canolbwyntio—dysgu proffesiynol, llesiant, atebolrwydd ac asesu ac arweinyddiaeth yw'r meysydd y mae angen inni ganolbwyntio arnyn nhw, a dyna fydd yn sbarduno ein taith ni ymlaen o ran addysg.

Mae rhoi'r adnoddau priodol i ysgolion yn bwysig. Mae'r OECD yn dweud hynny, ond mae'n mynd yn ei flaen hefyd i ddweud nad yw gwario mwy a mwy o arian o reidrwydd yn cysylltu'n uniongyrchol â chanlyniadau gwell a gwell. Y ffordd yr ydych chi'n gwario'r adnoddau sydd ar gael sy'n gwneud y gwahaniaeth. A dyna pam, wrth gwrs, yr ydym wedi cyflogi Luke Sibieta i gynnal ein gwerthusiad annibynnol o wariant ar addysg yng Nghymru—ie, i edrych ar y swm cyfan yr ydym ni yn Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu ar gyfer addysg, ond hefyd i ystyried yn wirioneddol sut y defnyddir yr arian hwnnw yn ein system ni wedi hynny, ac a yw'n cael ei defnyddio yn y ffordd fwyaf effeithiol. Felly, nid wyf i'n ceisio ffoi oddi wrth y sefyllfa, pan ydym yn gwbl hyderus bod pob ceiniog yn cael ei defnyddio i'r eithaf, a dyna pam mae gennym rywun o'r tu allan i'r Llywodraeth yn edrych ar y mater hwnnw.

Llesiant: mae canlyniadau adran llesiant PISA yn peri pryder i bob un ohonom ni, rwy'n siŵr. Fe fydd unrhyw un ohonom sydd â phlant, neu wyrion, nithod, neiod, neu sydd â diddordeb cyffredinol yn llesiant plant ein cenedl ni, yn awyddus i ddeall beth sydd wrth wraidd y mater hwnnw. Er gwaethaf yr hyn a ddywedodd y Prif Weinidog yn ei atebion i'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, mae angen edrych ar y canlyniadau hyn, ac mae angen gweld beth arall y gallwn ni ei wneud. Wrth gwrs, rydym yn dechrau mynd i'r afael â hynny eisoes, yn fy marn i, yn y gwaith ar ein dull ysgol gyfan, yr ydym ni wedi dechrau arno ers cyhoeddi adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac addysg, ac mae'r gwaith hwnnw'n mynd rhagddo'n dda iawn. Fe gaiff Vaughan Gething a minnau fy nal i gyfrif ym mhob cyfarfod gan Lynne Neagle—a chredwch chi fi, nid yw hi'n aros tan i'r cyfarfodydd ychwaith cyn fy nal i gyfrif ynglŷn â'r materion hynny. Felly, rydym yn dal i weld y gwaith ar y dull ysgol gyfan y mae'r Llywodraeth yn ymgymryd ag ef i fynd i'r afael â hynny.

Wrth gwrs, bydd iechyd a llesianr yn un o'r chwe maes addysg a phrofiad o fewn ein cwricwlwm newydd. Ond mae angen inni hefyd, Siân—ac rwy'n gobeithio y byddech chi'n cytuno â mi—edrych y tu allan i'n system addysg ni ac ar rai o'r ffactorau sy'n gyrru hynny o bosib—felly sut gallwn ni weithio gyda'n gwasanaeth ieuenctid, yn enwedig yn y blynyddoedd allweddol hyn i bobl ifanc yn eu harddegau, sut y gallwn ni sicrhau bod ein gwasanaeth ieuenctid —. Rydym wedi gweld cynnydd sylweddol mewn buddsoddiad yn y flwyddyn ariannol hon yn ein gwasanaethau ieuenctid; rwyf wedi cael trafodaethau sylweddol a hir gyda'r Gweinidog Cyllid ynghylch ein gallu ni i barhau i fuddsoddi yn y gwasanaethau ieuenctid. Ond mae'n rhaid inni edrych hefyd ar faterion, a godwyd, eto, yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog, ynghylch tlodi. Os ydych chi'n blentyn sy'n byw mewn tlodi, mae'n siŵr y byddwch chi'n rhoi ateb yn yr arolygon hynny eich bod chi'n teimlo'n ddigalon. Os ydych chi'n gwylio eich mam a'ch tad yn cael trafferthion, os nad ydych yn gwybod a fydd gwres yno wedi ichi gyrraedd adref, os ydych yn mynd gyda'ch rhiant i lawr i'r banc bwyd, oherwydd dyna'r unig ffordd y gwyddoch chi y bydd bwyd i'ch teulu chi'r wythnos honno, mae'n siwr y byddai hynny'n effeithio ar eich llesiant chi. Ac, felly, mae cyfrifoldeb ar draws Llywodraeth Cymru i gymryd camau i fynd i'r afael â'r materion hyn. Felly, oes, mae gan ysgolion ran i'w chwarae—wrth gwrs eu bod nhw'n gwneud hynny. Ond mae gan y Llywodraeth yn fwy eang ac, yn wir, y gymdeithas yn fwy eang, ran i'w chwarae hefyd i sicrhau bod ein plant ni'n cael ymdeimlad gwell o lesiant; nid dim ond gwaith i'r ysgolion yn unig yw hyn.

15:25

Roeddwn i'n eich llongyfarch chi, Gweinidog Addysg, mewn sylwadau cynharach, ynghyd â phawb dan sylw, am y gwelliannau yr ydym ni wedi eu gweld yng nghanlyniadau PISA y tro hwn. Wrth ddarllen eich datganiad yn gynharach, roeddwn i braidd yn bryderus y gallech chi fod ychydig yn rhy barod i ganmol eich hunain. Er enghraifft, roedd y sylwadau sy'n gadarnhaol ond nid yn mynegi perffeithrwydd, braidd yn ormodol, ac nid yw hyn cystal â gweddill y DU. Ond rwy'n credu yn yr hyn yr oeddech chi'n ei ddweud nawr yn yr atebion i'r ddau siaradwr blaenorol—. Ac roeddech chi'n ychwanegu ar ddiwedd eich datganiad—y fersiwn lafar ohono—mai dim ond megis dechrau yw hyn, ac rwyf innau'n cydnabod hynny. Er hynny, pan ddywedwch ein bod wedi treulio llawer gormod o amser yn llusgo'r tu ôl i wledydd eraill—fe wnaethoch chi sôn am yr Iseldiroedd a'r Swistir, ac yna roeddech chi'n dweud, 'Wel, yr Alban a Gogledd Iwerddon, o ran hynny, rydym ni'n ymuno â nhw nawr ym mhrif ffrwd yr OECD.' A ydych chi'n cydnabod bod yr Alban a Gogledd Iwerddon gryn dipyn yn uwch na'r brif ffrwd ar gyfer darllen, ac nid ydym wedi cyrraedd y fan honno eto yn y gymhariaeth gyffredinol?

A gaf i gyfeirio at y—? Fe welsom ni sleidiau yn cael eu dangos yn gynharach a oedd â bathodyn Llywodraeth Cymru ac Addysg Cymru arnyn nhw. Ac roedd un o'r rhain am berfformwyr uchel. Roeddech chi'n sôn hefyd nawr am y gwelliant ar lefel 5 neu uwch mewn darllen o 3 y cant i 7 y cant—gwelliant sylweddol, ac er bod hyn ar ei hôl hi mae'n dechrau agosáu at gyfartaledd yr OECD o 9 y cant. O ran mathemateg, ddim cystal—rydym wedi codi o 4 y cant i 7 y cant, ac mae hynny'n cymharu â chyfartaledd o 11 y cant. Roeddech chi'n dweud yn eich datganiad gynnau fach—cyfran uwch o'r perfformwyr uchel yn y ddau faes arall, sy'n cyfeirio at fathemateg a gwyddoniaeth. A gwelwn hyn hefyd yn y sleid a ddangoswyd yn gynharach. Mewn gwyddoniaeth, mae'n dweud bod hyn wedi codi o 4 y cant yn 2015 i 5 y cant yn 2018 ar lefel 5 ac uwch. Serch hynny, yn yr adroddiad canlyniadau a ddosbarthwyd inni yn gynharach hefyd, rwy'n nodi ar dudalen 194, mae'n dweud, ar gyfer gwyddoniaeth, mai dim ond 4 y cant a gafodd lefel 5 neu uwch yng Nghymru yn 2018. Felly, tybed a allem ni wirio hynny, ac os nad ydym wedi gweld y gwelliant o'i gymharu â'r 4 y cant yn 2015, pe gallem ni, o leiaf, unioni hynny gan gydnabod y gwelliannau mewn meysydd eraill ar y lefel hon, sy'n cyfateb i'r pwyslais a roddwyd gennych chi yn gynharach ar gyfran A* Lefel A.

Ers ichi ddechrau yn eich swydd, rwyf wedi holi cryn dipyn arnoch chi ynglŷn â phrosiect Seren, ac rwyf i o dan yr argraff ei fod yn rhywbeth yr ydych chi wedi bod yn ei annog yn bersonol ac wedi perswadio cydweithwyr i'w gefnogi hefyd. Efallai ein bod ni'n gweld rhai o ganlyniadau hyn yn dod i'r amlwg. Eto, er hynny, fe fyddwn i'n dweud bod gwelliannau wedi digwydd ac rwy'n barod i groesawu'r rhain, rwy'n rhybuddio rhag mynd yn rhy bell o ran ein cymharu ni â gweddill y DU ynghylch ein sefyllfa bresennol gyda Rhydychen a Chaergrawnt neu Grŵp Russell. Oes, mae gwelliannau wedi bod, ac rwy'n falch iawn bod staff derbyn yn cydnabod hynny. Ond a ydych chi'n cytuno bod ffordd bell i fynd eto, ac mae'n bwysig iawn cadw at y llwybr hwnnw os ydym am ddweud ein bod ni'n well na rhannau eraill o'r DU? Fe fyddwn i'n rhybuddio rhag awgrymu ein bod ni wedi cyrraedd y marc eto.

Un maes yr hoffwn i holi yn ei gylch yw bod gennych chi'r uchelgais i gau'r bwlch cyrhaeddiad o ran y sail economaidd-gymdeithasol a chodi safonau hefyd. Tybed a fydd yna densiwn yn dod i'r amlwg rhwng y ddau nod hyn, wrth inni ymlafnio tuag at hynny. Mae'r bwlch cyrhaeddiad yn gymharol wastad ar gyfer Cymru o'i gymharu â gweddill y DU, ond yn arbennig o ran cyfartaledd yr OECD, lle mae cynnydd serth iawn ledled y grwpiau economaidd-gymdeithasol. Ac yn rhyngwladol, fe fydd cryn dipyn o wledydd mewn gwirionedd yn gweld mwy o wariant ar blant i rieni cefnog na rai tlotach, ac efallai y byddai'n unioni hynny, i ryw raddau. Ond rydym yn anghyffredin iawn wrth fynd ymhell y tu hwnt i hynny a gwario llawer mwy ar blant rhieni llai cefnog nag ar y rhieni mwy cefnog.

Ac rwy'n sylwi, wrth gymharu â Lloegr ym maes darllen, bod y rhan fwyaf o'r gwahaniaeth â Lloegr yn hanner uchaf y dosbarthiad economaidd-gymdeithasol, ac yn y fan honno, rydym ni ar gyfartaledd 30 i 40 o bwyntiau yn is yn y profion darllen nag yn Lloegr. Os ydym yn dymuno cau'r bwlch hwnnw gyda Lloegr, efallai y bydd angen gweld gwelliannau sylweddol ar y lefel honno o'r sefyllfa economaidd-gymdeithasol, yn ogystal â'r lefel is lle, pe baech chi'n gwneud y cyfan drwy gau'r bwlch o ran cyrhaeddiad, byddech yn gweld cyrhaeddiad a fyddai i'w ryfeddu ar y lefelau is, ac rwy'n croesawu eich uchelgais yn hynny o beth. Ond rwy'n holi o ran cyllid rhai o'r ysgolion, sydd â'u cymeriant economaidd-gymdeithasol yn yr hanner uchaf, ac fe gefais i fy nharo gan y lefel gynradd, sef prin £3,000, ychydig yn uwch weithiau, y flwyddyn, fesul plentyn, ac i ryw raddau, yn yr uwchradd. Yn Lloegr, yr hyn a welir yw codi lefel yr ysgolion hynny sy'n gwario llai, ac mae'n ofid gennyf i, os na welir hynny yng Nghymru hefyd fe fydd hi'n anodd iawn cyrraedd y lefel honno o 500, ac yn arbennig felly i fod â'n lefelau ni'n agos at rai Lloegr o ran darllen yn benodol.

Yn olaf, rydych chi'n cyfeirio at gyngor gan yr OECD, ac ar ôl y canlyniadau siomedig y tro diwethaf, rydych chi'n pwysleisio'r canlyniadau hyn a'r cyngor hwn ac yn ymgysylltu â nhw. Tybed a wnewch chi egluro beth yw'r cyngor hwnnw? Mae gennym ni'r adroddiad hwn o 262 o dudalennau ar ganlyniadau. Nid wyf yn gwybod pryd y cawsoch chi hwn neu a oes gennych chi ddeunydd arall nad ydym wedi ei weld eto. Beth ydych chi'n ei wneud gyda'r OECD o ran cyngor? A yw hon yn berthynas barhaus? A oes gan ysgolion sy'n cymryd rhan ym mhrofion PISA gyfle i elwa ar hynny hefyd? A beth, hyd yn hyn, yw'r darnau allweddol o gyngor y maen nhw'n ei ddweud wrthych sy'n angenrheidiol nawr, ar ôl edrych ar y canlyniadau hyn a'r gwelliannau o'u cymharu â'r tro diwethaf, er bod hynny'n golygu llusgo ar ôl gweddill y DU ar sawl cyfrif o hyd?  

15:30

A gaf i, Llywydd, ddiolch i Mark Reckless am iddo gydnabod ymdrechion y staff a'r myfyrwyr wrth ennill y canlyniadau hyn heddiw? Pe caf i ddechrau gyda'r pwynt olaf yn gyntaf, nid wyf i'n gwybod pa ysgolion a safodd y profion PISA. Mae rhai pobl yn rhyfeddu at hynny, ond mae hynny'n rhan o'r amodau. Ni allaf ddweud wrthych pa ysgolion a safodd a pha ysgolion na safodd y profion PISA. Felly, nid ydym yn hwyluso perthynas waith barhaus gydag ysgolion unigol a'r OECD. Mae'r OECD yn gweithio ar lefel system i system, ac felly, newydd gael yr adroddiad gan yr OCED yr ydw i yn ystod y dyddiau diwethaf—unwaith eto, mae hynny'n rhan o'r amodau.

Felly, rwyf wedi cael llai na—gadewch inni weld, dydd Iau, dydd Gwener—. Wel, prynhawn Mercher y gwelais i'r canlyniadau cychwynnol ac yna fe gefais i'r adroddiad ddydd Iau, felly dim ond ychydig ddyddiau a gefais i ddod yn gyfarwydd ag ef.

Ond rydym wedi gweld yr OECD yn ôl yng Nghymru yn gynharach yn nhymor yr hydref i roi asesiad annibynnol i ni, unwaith eto, o'n sefyllfa bresennol o ran ein taith ddiwygio ni, ac maen nhw'n gobeithio adrodd am hynny rywbryd yn y flwyddyn newydd. Felly, unwaith eto, rydym wedi eu comisiynu nhw, rydym wedi gofyn iddyn nhw ddod i mewn i gael golwg ar yr hyn yr ydym ni'n ei wneud a chraffu arnom ni fel Llywodraeth; mynd allan i ysgolion a siarad â phenaethiaid; siarad ag awdurdodau addysg lleol; siarad â gwasanaethau gwella ysgolion rhanbarthol i ofyn iddyn nhw fynegi eu sefyllfa bresennol nhw; a siarad â rhanddeiliaid eraill, ac fe fydd yr adroddiad annibynnol hwn yn cael ei gyflwyno i ni, fel y dywedais i, yn y flwyddyn newydd. Ac mae honno'n ymdrech ddiffuant i gadw'r pwysau arnom, i gael craffu annibynol yn edrych fel hyn o'r tu allan ar yr hyn yr ydym ni'n ei wneud fel nad ydym yn mynd dros ben llestri, neu'n mynd yn rhy hyderus yn ein gallu ni ein hunain. Mae'r craffu hwnnw o'r tu allan yn ein cadw ni'n ddiffuant o ran cyflawniad ein rhaglenni ni, ac yna rydym yn defnyddio'r cyngor hwnnw i ddiwygio neu addasu pethau sy'n gweithio'n dda, neu os nad yw pethau'n gweithio cystal, i allu ymateb yn unol â hynny. Felly, fe ddaw hynny yn y flwyddyn newydd.

Roeddech chi'n sôn am fater y llwybr, ac rwyf i'n credu bod y llwybr yn bwysig. Yr hyn sy'n rhoi rhywfaint o foddhad i mi heddiw yw ein bod ni wedi gallu cynnal, dros ddau gylch erbyn hyn, y gwelliant hwnnw o ran mathemateg, a dyna'r hyn y mae angen inni ei weld yn digwydd yn y meysydd eraill hefyd. Er ein bod ni ar i fyny gyda darllen, mae hynny o'i gymharu â'r gwaelod isel yr oeddem ni arno'r tro diwethaf, ac er ein bod wedi codi mewn gwyddoniaeth, sy'n wahanol i weddill y DU, unwaith eto, mae hynny o sylfaen isel iawn. Dyma'r tro cyntaf erioed, mewn gwirionedd, inni allu gwella ein sgôr mewn gwyddoniaeth, ond mae'n rhaid i hynny fod yn gynaliadwy. Rydym wedi gweld hynny dros ddau gylch erbyn hyn ar gyfer mathemateg, sy'n gallu rhoi mwy o hyder inni, yn fy marn i, ac fe fydd yn rhaid inni weld hynny'n parhau yn y ddau faes arall hefyd.

O ran tegwch a rhagoriaeth, rwyf i o'r farn ei bod yn bwysig dwyn i gof bod y bwlch anfantais yng Nghymru yn sylweddol is, a bod disgyblion yng Nghymru yn gymharol fwy galluog i oresgyn anfanteision eu cefndir nhw nag yng nghyfartaledd gwledydd yr OECD. Felly, rydym ni'n cau'r bwlch cyrhaeddiad, ac rydym yn rhoi'r sgiliau sydd eu hangen ar ein pobl ifanc  a'r offerynnau sydd eu hangen arnyn nhw i oresgyn anfantais y gallen nhw eu cludo gyda nhw i'r system. Yr hyn sy'n bwysig hefyd yw nad oedd disgyblion yng Nghymru sydd o gefndir mewnfudol yn wahanol iawn i ddisgyblion nad ydyn nhw'n fewnfudwyr o ran eu perfformiad darllen sydd, unwaith eto, yn uwch na chyfartaledd yr OECD. Felly, o ran dysgwyr a allai wynebu amrywiaeth o heriau wrth ymuno â'r ysgol, boed hynny o bosib o deulu nad yw'n siarad Cymraeg neu Saesneg, neu'n dod o deulu difreintiedig yn gymdeithasol, mae ein system ni'n helpu'r plant hynny i wneud yn dda.

Ond a yw hynny'n golygu bod tensiwn rhwng ein cefnogaeth ni i ddisgyblion mwy galluog a thalentog o'i gymharu â'n cefnogaeth ni i'n myfyrwyr o gefndir mwy difreintiedig yn economaidd-gymdeithasol? Nid wyf i'n credu bod tensiwn yno. Ni all y Llywodraeth anwybyddu unrhyw un. Mae'n rhaid i'r system addysg fod yn system sy'n gweithio i bob disgybl unigol i'w alluogi i gyrraedd ei lawn botensial, boed yn ddisgybl ag anghenion dysgu ychwanegol dwys, fel y gwelais i yn Ysgol a Chanolfan Adnoddau Cae'r Drindod yng Nghaerffili ddoe, neu'n ddisgyblion fel y rhai y gwnes i gyfarfod â nhw heddiw sydd ar eu ffordd i brifysgolion byd enwog. Mae'n rhaid creu system addysg sy'n caniatáu i bob unigolyn gyrraedd ei lawn botensial.

Ni wnaf i ymddiheuro byth am y buddsoddiad yn y grant datblygu disgyblion. Fe wyddom ni fod y plant hynny'n llai tebygol o wneud yn dda, ac nid wyf i'n dymuno byw mewn gwlad lle mae maint cyflog eich rhieni neu gefndir eich bywyd chi'n eich dynodi ac yn dweud wrthoch chi o'r crud, 'Dyma yw eich tynged chi.' Mae'n rhaid atal hynny. Mae'n rhaid rhoi cyfle i alluoedd cynhenid pob plentyn ddisgleirio, heb ystyried eu cefndiroedd—heb ystyried eu cefndiroedd nhw. Ac nid wyf yn mynd i ymddiheuro byth am fynd ar ôl y freuddwyd honno i'r plant hynny.

O ran darllen, rydych chi'n iawn; nid ydym mewn sefyllfa dderbyniol o ran ein sgoriau darllen, ac mae hynny'n arbennig o wir ar gyfer ein bechgyn. Fe fydd angen inni ystyried ein perfformiad a deall beth arall y gallwn ni ei wneud i sicrhau cynnydd yn hyn o beth. O ran darllen i ferched, mae eu sgôr nhw'n sylweddol uwch, ond mae gennym ni—a fi fyddai'r cyntaf i gyfaddef hynny—her yn y fan hon, yn enwedig o ran y bechgyn, i godi'r lefel ddarllen hon. Cafwyd llawer o adroddiadau ar y ffigur o 44 y cant o bobl nad ydyn nhw'n darllen llyfrau. Nawr, nid wyf i'n gwybod a yw'n rhy hwyr yn hynny o beth, ond gwn y gellir olrhain hyn i'r blynyddoedd cynnar, a datblygu arferion darllen yn gynnar yng ngyrfa addysgol y plentyn, a datblygu cariad at ddarllen. Mae'n rhaid inni ennyn y diddordeb hwn o oedran cynnar. Mae troi'n sydyn at blentyn 15 oed—ac yn fam i blentyn 15 oed, rwy'n gwybod hyn—a dweud, 'Mae'n rhaid iti ddarllen y llyfr hwn' yn annhebygol o wneud llawer o ddaioni. Mae'n rhaid i ni ddechrau ar hynny eto yn ein blynyddoedd cynharaf a datblygu'r cariad at ddarllen a'r arfer o ddarllen. Ac, wrth gwrs, mae llawer iawn o waith i'w wneud gan y rhieni. Gall rhieni ein helpu ni'n aruthrol, a  helpu ysgolion yn fawr iawn, drwy ddarllen gyda'u plant yn y cartref o oedran cynnar i wneud y plant yn gyfarwydd â'r arfer hwnnw o godi llyfr a chael difyrrwch o'i ddarllen. Ond mae'n rhaid cofleidio technoleg newydd hefyd. Efallai y gwnaiff pobl ifanc—rydym ni'n fwy tebygol o'u denu nhw i gymryd rhan mewn byd o eiriau os rhown wahanol ddewisiadau iddyn nhw, ond mae gennym ni waith i'w wneud eto yn hyn o beth, a fi a fyddai'r person cyntaf i gyfaddef ein bod ni'n is na'r DU o ran ein sgoriau darllen.

15:40

A gaf i ymuno ag eraill i longyfarch ein pobl ifanc a'u staff a'u gwaith? Rwy'n siŵr y bydd pawb ar draws y Siambr hon yn ymuno â mi i'w llongyfarch. Gweinidog, rydych chi wedi ateb llawer iawn o'r cwestiynau ar bwyntiau yr oeddwn i eisiau eu codi, oherwydd mae'n amlwg eich bod yn angerddol ynghylch hyn a gallwch chi weld yr angerdd hwnnw yn dod trwodd. Rwy'n cytuno â chi, mae'r blynyddoedd cynnar yn allweddol i fwynhau darllen oherwydd roedd gennyf i ddiddordeb mewn darllen—ac roedd Siân Gwenllian yn llygad ei lle—mae dadansoddi'r testun, nid yn unig y penawdau, yn bwysig. Mae pobl ifanc yn cael naw deg un y cant o'u deunydd darllen o sgyrsiau ar-lein, ac maen nhw'n dweud mai yn anaml, neu byth, y mae 44 y cant yn darllen llyfr. Mae angen ystyried sut yr ydym ni'n mynd i'r afael â hynny ac annog pobl ifanc i ddefnyddio technoleg ar gyfer eu hymchwil a'u datblygiad. Nid oeddwn i'n gallu deall sut oedd yr elfen ddealltwriaeth o ddarllen, neu ddeall, fel y dywedodd Suzy, yn is na'r llinell ac eto i gyd, roedd ein myfyrdod a'n gwerthusiad yn uwch na'r llinell, sy'n amlwg yn bwynt hollbwysig.

Ond hefyd, rwyf eisiau atgoffa ein hunain o'r neges gadarnhaol yma: mewn gwirionedd, rydym ni wedi gwella naw lle mewn gwyddoniaeth yn y ffigurau cenedlaethol; rydym wedi gwella wyth lle mewn darllen; ac rydym wedi gwella saith lle mewn mathemateg. Felly, mewn gwirionedd, yn erbyn gwledydd eraill, yn bendant rydym wedi gwella ein hunain ac wedi codi'r llinell ac ni ddylem anwybyddu'r pwynt hwnnw. Nid mater o wella'r ffigurau unigol hynny'n unig yw hyn, rydym wedi codi yn erbyn gwledydd eraill hefyd, ac mae hynny'n hollbwysig. Sylwais hefyd fod y bwlch cyrhaeddiad wedi gostwng, er fy mod yn cydnabod nad yw'r deial 10 y cant a'r deial 90 y cant o reidrwydd ar y lefelau yr ydym ni eisiau iddyn nhw fod i allu cau'r bwlch hwnnw, ond yn rhoi gwell cyfartaleddau inni, ac mae angen gwneud rhywbeth ynglŷn â hynny.

A gaf fi ofyn y cwestiwn, yn amlwg, ynghylch sut yr ydym ni'n mynd i'r afael â hyn? Mae rhai o'r pethau—. Rwy'n credu bod addysg alwedigaethol yn agwedd bwysig pan fyddwn ni'n cyrraedd rhai o'r lefelau hyn, oherwydd credaf y gall addysg alwedigaethol hefyd helpu rhai o'r disgyblion hynny i ddeall rhai o'r pwyntiau yr ydym ni'n sôn amdanyn nhw. Nid yw'n ymwneud â'r agenda academaidd yn unig, ond yr agenda alwedigaethol hefyd, a gall y ddwy ddod at ei gilydd i'w cymeradwyo. Felly, sut y byddwch chi'n edrych ar sut y bydd yr agenda alwedigaethol a'r agenda academaidd yn eich cwricwlwm weithio i sicrhau y gallwn ni wella'r lefelau hynny o'r 10 y cant isaf a'r 10 y cant uchaf, sy'n rhoi'r ffigur gwell hwnnw i ni yn hynny o beth? Sut yr ydym ni'n sicrhau ein bod yn codi disgwyliadau ynghylch posibiliadau? Roeddech chi wedi sôn am gyrraedd y potensial, ond rydym ni eisiau codi'r disgwyliad a'r cyfleoedd a'r posibiliadau i'r bobl hynny gyrraedd y potensial hwnnw. Felly, beth yr ydych chi'n ei wneud i weithio tuag at hynny fel ein bod ni'n rhoi mwy o obaith iddyn nhw?

Soniodd Siân Gwenllian am athrawon. Unwaith eto, rwy'n codi cwestiwn yr athrawon hefyd. Sut mae annog mwy i mewn? Ond hefyd, ni adlewyrchwyd ein hathrawon absennol yn hynny, ond mae gennym lawer o athrawon cyflenwi'n dod i mewn. Sut yr ydym ni'n mynd i'r afael â'r agenda athrawon cyflenwi i sicrhau nad yw hynny'n effeithio ar ddysgu ein pobl ifanc, fel y gallan nhw barhau i ddatblygu? Mewn llawer o ysgolion mae athrawon cyflenwi'n mynd a dod yn eithaf aml, ac mae hynny yn effeithio arnyn nhw. Rydych chi wedi sôn am fanciau bwyd a'u llesiant, ond gadewch inni beidio ag anghofio, mae llesiant yn effeithio ar ddysgu plant, ac mae hynny'n hollbwysig. Mae angen inni roi sylw i hynny.

Fe wnes i sylwi bod yr OECD yn adlewyrchu Andreas Schleicher a'i sylw: 'Rwyt ti ar y trywydd iawn.' Dyna'r hyn a ddywedodd ef: 'Rwyt ti ar y trywydd iawn. Dal ati', ond a allwch chi ein hargyhoeddi ni y bydd y newidiadau i'r cwricwlwm a gyflwynir gennych y flwyddyn nesaf yn ein cymryd ar y llwybr hwnnw'n barhaus, ac nad yw'n mynd i'n dargyfeirio oddi ar y llwybr i lwybr arall, i gyfeiriad arall? Oherwydd mae'n bwysig ein bod yn parhau â'r cynnydd a welwyd yn ystod y tair blynedd diwethaf. Rydym i gyd wedi galw am y cynnydd hwn. Ers 2015, rwy'n ei gofio—galwodd pob un ohonom ni am y cynnydd hwn. Rydym wedi'i gael nawr, gadewch inni ei ddathlu, ond gadewch inni hefyd wneud yn siŵr ei fod yn parhau, oherwydd dyna'r nod ar gyfer ein pobl ifanc, er mwyn sicrhau eu bod nhw'n gallu elwa o wella ein systemau.

15:45

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Hoffwn i ddiolch i David am ei ganmoliaeth i'n hathrawon a'n myfyrwyr ac am ei gwestiwn.

Nod y cwricwlwm newydd yw bod yn gwricwlwm llawer ehangach a fydd yn mynd i'r afael â'r wybodaeth y bydd ei hangen ar ein plant ni ond hefyd yn rhoi'r sgiliau a'r profiadau iddyn nhw. Ac mae hynny'n golygu, o bosib, fod mwy o botensial yn y cwricwlwm hwnnw ar gyfer ffocws mwy galwedigaethol. Ond byddwch chi hefyd yn ymwybodol bod Cymwysterau Cymru yn cynnal ymgynghoriad ar hyn o bryd ar y cymwysterau, ac mae rhyw awgrym y dylid lleihau'r miloedd, yn llythrennol, o gymwysterau y gall plant eu gwneud, ond hynny, mewn gwirionedd, fydd y canllaw o ran y cymwysterau a fydd ar gael ar ôl yr amser yn yr ysgol. Ond mae'r cwricwlwm mwy eang hwn a gallu'r athrawon i gynllunio cwricwlwm sy'n diwallu anghenion y plant o'u blaenau ac anghenion cyflogwyr lleol a'r economi leol—rwy'n credu y bydd y rhyddid ehangach hwnnw yn gallu mynd i'r afael â mater hanfodol ymgysylltu.

Roeddwn i mewn ysgol yn ddiweddar yn cael fy nghyfweld gan fyfyrwyr, ac fe wnaethon nhw ofyn i mi enwi rhywbeth yr oeddwn i wedi'i astudio yn yr ysgol nad wyf erioed wedi'i ddefnyddio eto yn fy ngyrfa broffesiynol gyfan, ac rwy'n amau y gallwn i gyd feddwl am y mathau hynny o bethau. Ac fe wnaethon nhw roi rhestr faith o bethau i mi yr oedden nhw'n teimlo eu bod wedi'u dysgu yn yr ysgol ac yr oedden nhw wedi'u hargyhoeddi na fyddent byth yn mynd i fod o ddefnydd iddyn nhw. Mae'n rhaid inni wrando a rhoi cyfle i'n plant gael lleisio barn o ran, 'beth sydd ei angen arnaf i?', ac i roi perthnasedd i'r dysgu. Felly, hyd yn oed os yw'n rhywbeth—. Mae syrdiau mewn mathemateg yn codi'n aml, felly er nad ydych chi efallai'n deall pam eich bod yn gorfod dysgu syrdiau mewn mathemateg, rydym ni'n gwneud y dysgu'n berthnasol drwy ddweud, 'iawn, efallai nad ydych chi'n hoffi hyn, ond mae angen ichi ddysgu hyn oherwydd— ', a dangos y cysylltiadau i'w sgiliau bywyd yn y dyfodol, i'w gyrfaoedd yn y dyfodol, a dyna sut yr ydym ni'n ymgysylltu â'n dysgwyr i gyd. Mae codi uchelgais yn rhan bwysig o hynny ac esbonio i blant nid yw'r hyn y maen nhw'n ei weld o'u hamgylch yw terfyn eu huchelgais o reidrwydd, a'u bod yn gallu meddwl y tu hwnt i hynny. Ac mae ein rhaglen Seren yn ymgorffori codi dyheadau ein plant i ddweud, 'rydych chi'n ddigon da. Gallwch chi gystadlu â'r goreuon. Mae lle i chi yn y prifysgolion hyn, ar y cyrsiau tariff uchel hyn.' Dyna un o'r rhesymau pam yr ydym eisiau dod â Seren yn is i lawr yr oedran ysgol er mwyn gallu mynd i'r afael â'r materion uchelgais hynny'n gynharach.

Mae athrawon, wrth gwrs, yn hollbwysig. Ni all unrhyw system addysg ragori ar ansawdd yr athrawon sy'n gweithio gyda'n plant o ddydd i ddydd. Dyna pam yr ydym ni wedi diwygio ein rhaglen addysg gychwynnol i athrawon, dyna pam yr ydym wrthi'n ystyried symud i gyfnod o ddwy flynedd i athrawon sydd newydd gymhwyso, fel bod mwy o gefnogaeth a mentora i'r rhai sy'n ymuno â'r proffesiwn am y tro cyntaf, a dyna pam mae angen inni ystyried unwaith y rhaglen Meistr eto. Ond rhaid peidio â dweud wrth athrawon yn eu blwyddyn gyntaf o addysgu fod yn rhaid iddyn nhw wneud gradd Meistr, gan fod ganddyn nhw ddigon i ymdopi ag ef, ond creu'r bwlch hwnnw mewn gwirionedd fel y gall athrawon astudio ar lefel gradd Meistr. Ond hefyd mae angen parhau â'r buddsoddiad cychwynnol y dechreuwyd arno mewn dysgu proffesiynol a gwneud yn siŵr fy mod i'n gallu sicrhau'r adnoddau hynny fel y gall dysgu proffesiynol fod yn barhaus.

Nawr, mae pennaeth yr adran addysg yn yr OECD yn wirioneddol wedi rhoi gogwydd diddorol ar daith addysg Gymraeg. Mae ef o'r farn mai'r rhaglen ddiwygio yr ydym ni'n ymwneud â hi yw'r cyfle gorau i sicrhau system addysg wych, ac mae'n gefnogol iawn o'r cwricwlwm a'r newidiadau i'r cwricwlwm. Ond yr hyn sy'n hollbwysig i mi—mae'n iawn cael cenhadaeth genedlaethol wedi'i hysgrifennu ar ddarn o bapur—ym mis Ionawr, bydd gennym ni ein cwricwlwm gorffenedig wedi'i ysgrifennu ar ddarnau o bapur. Yna, mae'n rhaid i'n sylw droi at y busnes difrifol o weithredu. Rwyf wedi bod yn y Siambr hon yn ddigon hir i weld cynlluniau gwerthfawr iawn wedi'u llunio ar bapur ac yna'n methu yn y cyfnod gweithred. Rwy'n benderfynol o ddysgu gwersi o hynny a pheidio â gadael i hynny ddigwydd o dan fy ngofal i.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Dywedodd y Gweinidog yn ei datganiad:

'am y tro cyntaf erioed, rydym yn perfformio ar gyfartaledd yr OECD ym mhob un o'r tri maes: sef darllen, gwyddoniaeth, a mathemateg.'

Ond a wnaiff hi gydnabod bod llai o reswm dros longyfarch ein hunain yma, efallai, na'r hyn sy'n ymddangos? Gan fod ei graffiau ei hun yn dangos bod cyfartaledd yr OECD ei hun yn gostwng; mae'n mynd yn is ac yn is o flwyddyn i flwyddyn. Felly, os byddwn ni'n sefyll yn llonydd, yn y pen draw bydd yr OECD yn disgyn yn is na ni, ac ni fyddai hynny'n rheswm dros longyfarch ein hunain. Wedi dweud hynny, rwy'n cydnabod, yn amlwg, fod y Gweinidog wedi cyflawni rhywbeth gwerth chweil—mae hi wedi dod â chyfnod hir o ddirywiad mewn safonau yn ysgolion Cymru i ben. Gan fod Cymru yn edwino islaw gwledydd eraill y DU ar ôl 20 mlynedd o fodolaeth y Cynulliad hwn, nid wyf i'n credu y gallai unrhyw Weinidog Addysg ddisgwyl bod yn falch o'r canlyniadau yr ydym ni wedi bod yn sôn amdanynt heddiw. Yn sicr, ni allwn ddathlu bod yn is na phob gwlad arall yn y DU o hyd. Ni allwn ddathlu bod yn is na chyfartaledd yr OECD. Yn wir, yn achos Gogledd Iwerddon, wrth gwrs, ni fu Cynulliad ar waith ganddyn nhw ers sawl blwyddyn, ac nid oes ganddyn nhw Lywodraeth sydd wedi'i rheoli'n ddemocrataidd, ond maen nhw wedi ein curo yn y canlyniadau hyn.

Tybed a wnaiff y Gweinidog gydnabod y dylem edrych ar y canlyniadau diweddaraf drwy lygaid hanes. Ac edrychwn yn ôl at 2006, yr hyn yr ydym wedi'i weld—er fy mod yn cydnabod ac yn croesawu y bu gwelliant ers iddi hi fod yn Weinidog. Nid ydym wedi symud ymlaen rhyw lawer o gwbl. O ran darllen, rydym wedi mynd o sgôr o 481 i 483. Yn fras, mae hynny'n statig. Yn achos mathemateg, rydym wedi mynd o 484 i 487, ac yn achos gwyddoniaeth, yn drychinebus, rydym wedi mynd o 505 yn ôl i 488. Mae'n rhaid inni wneud llawer yn well na hyn cyn y gallwn ni roi clod i'n hunain.

Nid wyf i o'r farn ei bod yn llawer o uchelgais mewn bywyd i geisio bod ar y cyfartaledd. Yr hyn y dylem ni fod yn ceisio'i wneud yw bod yn llawer gwell na'r cyfartaledd. Os edrychwn ni ar dablau'r holl wledydd sydd wedi bod yn cymryd rhan yng nghanlyniadau PISA, ac edrychwn ni ar Singapore—bron ar y brig, oherwydd mewn gwirionedd, mae'n Rhif 2—mae sgoriau Singapore mewn darllen yn 549, o'i gymharu â'n rhai ni ar 483, 569 mewn mathemateg, o'i gymharu â'n rhai ni ar 487, a 551 mewn gwyddoniaeth, o gymharu â'n rhai ni ar 488. Wrth gwrs, ni all pawb fod y gorau, dyna holl bwynt cyfartaleddau, ond rwy'n dal i gredu y dylai ein huchelgais fod yn fwy na hynny.

Gwn nad yw'r Gweinidog yn hoffi cael ei llongyfarch na'i chanmol gennyf i—nid oes ganddi reswm da dros fod felly—ond rwyf yn ei chanmol am yr egni, yr ymroddiad a'r brwdfrydedd a gyfrannodd at weithgaredd ei swyddfa, a chroesawaf y newid a wnaeth i'r system addysg yng Nghymru. Os yw'r atal ar y dirywio hwn i'w gynnal, ac rwy'n credu ei bod wedi rhoi rhai o'r conglfeini yn eu lle ar gyfer llwyddiant yn y dyfodol, yna bydd yn cael ei chofnodi yn hanes datganoli yng Nghymru fel y Gweinidog Addysg gorau i ni ei gael, er efallai nad yw hynny'n ganmoliaeth rhy fawr.

15:50

Wel, nid wyf i'n siŵr a wnaeth yr Aelod fanteisio ar y cyfle i fynd i'r sesiwn friffio y bore yma—rwy'n ofni fy mod i yng nghynhadledd Seren—ond os oedd ef yno, byddai wedi cael dadansoddiad dwfn iawn o'r ffigurau, ac nid yw hynny'n wir o gwbl, yr hyn y mae ef wedi'i nodi. Yn ystadegol, rydym ni'n perfformio ar gyfartaledd yr OECD. A yw ar gyfartaledd yn ddigon da? Wel, fel y dywed yr hen ddywediad criced, mae cyfartaleddau ar gyfer chwaraewyr cyffredin, ac rwyf am fod yn well na'r cyffredin. Ond o ystyried mai dim ond tair blynedd yn ôl, roeddem yn is o lawer na chyfartaledd yr OECD, credaf ein bod wedi codi ein hunain ac wedi adennill rhywfaint o urddas yma yn system addysg Cymru, ac mae'n sail y gallwn ni symud ymlaen arni, ac rwy'n benderfynol o wneud hynny. Nid ydym ni'n sefyll yn ein hunfan, rydym wedi gwneud gwelliannau yn ein sgoriau ar draws yr holl rannau.

Nawr, mae'r Aelod yn gywir i ddweud ein bod wedi dod o sylfaen isel, ond rydym ni bellach wedi cofnodi heddiw y sgôr gorau erioed mewn mathemateg a'r sgôr gorau erioed mewn darllen. Mae rhagor o waith i'w wneud—rwyf i wedi bod yn glir iawn ers imi godi ar fy nhraed y prynhawn yma nad wyf yn gorffwys ar fy rhwyfau ac nad wyf yn cymryd unrhyw beth yn ganiataol. Mae rhagor o waith caled i'w wneud. Ond mae heddiw yn rhywbeth y gallwn ni fod yn falch ohono. Fel y dywedais, mae'n gadarnhaol, ond nid yw'n berffaith, ac rwyf i, ac, yn bwysicach na hynny, mae athrawon Cymru yn benderfynol o wneud yn well byth. Gwelaf hynny bob dydd yr ymwelaf â nhw; mae yna uchelgais gyffredin ledled ein cenedl. Rydym wedi gwella heddiw, ond byddwn yn gwella eto, rwy'n ffyddiog o hynny.

15:55
4. Datganiad gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Cyflogaeth Pobl Anabl

Eitem 4 ar yr agenda y prynhawn yma yw datganiad gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ynglŷn â chyflogaeth pobl anabl. Galwaf ar y Gweinidog Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Heddiw yw Diwrnod Rhyngwladol Pobl ag Anableddau y Cenhedloedd Unedig, sef diwrnod a gynlluniwyd i hyrwyddo hawliau pobl anabl a chynyddu ymwybyddiaeth o'r heriau y maent yn eu hwynebu. Fodd bynnag, fel Llywodraeth, mae ein swyddogaeth yn fwy o lawer. Gan weithio gyda sefydliadau pobl anabl, adrannau Llywodraeth, y trydydd sector a byd busnes, rhaid i ni arwain y gwaith o ganfod a chael gwared ar y rhwystrau sy'n analluogi pobl.

Mae'r rhan fwyaf o'r rhwystrau hyn wedi'u gwreiddio mewn agweddau negyddol, y ffordd yr ydym yn gwneud pethau, a'r amgylchedd adeiledig. Rhaid inni i gyd gofio bod llawer o'r rhwystrau hyn yn anghyfreithlon, gan arwain at y gwahaniaethu beunyddiol a wynebir gan bobl anabl. I nodi'r diwrnod hwn, hoffwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y gwaith y mae'r Llywodraeth hon yn ei wneud i helpu pobl anabl i oresgyn y rhwystrau y maent yn dweud wrthym eu bod yn eu hwynebu wrth geisio a chadw gwaith.

Rydym yn glir ynghylch ein hymrwymiad i greu Cymru fwy ffyniannus a chyfartal, gan geisio cydraddoldeb i bawb. Roedd ein cynllun cyflogadwyedd, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2018, yn cynnwys ymrwymiad i gynyddu nifer y bobl anabl sydd mewn gwaith. Rydym ni wedi gweithredu ar draws y Llywodraeth i gychwyn y newid sylweddol sydd ei angen i ddileu'r rhwystrau y maent yn eu hwynebu. Er fy mod yn falch iawn o ddweud ein bod wedi gweld cynnydd yng nghyfradd cyflogaeth pobl anabl yng Nghymru ar gyfer y flwyddyn hyd at fis Mehefin 2019—cynnydd o 45.2 y cant i 48.6 y cant—mae angen gwneud mwy er mwyn inni gyflawni cyfradd gyflogaeth gyfartalog y DU ar gyfer pobl anabl.

Roedd ein fframwaith traws-lywodraethol 'Gweithredu ar Anabledd: Yr Hawl i Fyw'n Annibynnol', a lansiwyd gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip, Jane Hutt AC, ar 18 Medi, yn cyfleu ein hymrwymiad i ganfod a herio arferion cyflogaeth gwahaniaethol; cynyddu nifer y bobl anabl sydd mewn gwaith drwy roi cymorth wedi'i deilwra i unigolion oresgyn rhwystrau i gael swyddi cynaliadwy a'u cadw; a newid agweddau cyflogwyr, lleihau'r stigma, a chefnogi cyflogwyr yn well i recriwtio a chadw pobl anabl.

Rydym yn ailganolbwyntio ein darpariaeth gyflogaeth bresennol, drwy weithio ar y cyd â phartneriaid a chontractwyr i ganolbwyntio adnoddau er mwyn gwella ymgysylltu a chefnogi mwy o bobl anabl i gael gwaith. Amcangyfrifir, ar draws rhaglenni Llywodraeth Cymru a Chronfa Gymdeithasol Ewrop, y gallai hyn gefnogi cynnydd o tua 25 y cant yn ychwanegol dros y tair blynedd nesaf.

Rydym ni wedi gwneud camau breision i ddatblygu darpariaeth gyflogadwyedd bwrpasol i fynd i'r afael â rhwystrau i gyflogaeth, drwy gefnogi'r rheini sydd wrth galon y gymuned drwy ein rhaglenni cyflogadwyedd cymunedol; cefnogi'r rhai sydd bellaf oddi wrth y farchnad lafur oherwydd rhwystrau iechyd sylweddol, drwy ein cynlluniau cyflogaeth lle mae pwyslais mawr ar iechyd; a darparu hyfforddiant yn y gwaith drwy raglenni fel prentisiaethau.

Ym mis Mai fe wnaethom ni lansio Cymru'n Gweithio, ein gwasanaeth cyngor cyflogadwyedd newydd, sy'n ei gwneud hi'n haws i bobl gael gafael ar gyngor a chymorth proffesiynol, asesiadau ar sail anghenion a chael eu cyfeirio i gyfleoedd gwaith. Mae gan y gwasanaeth hwnnw, a ddarperir gan Gyrfa Cymru, hyfforddwyr a chynghorwyr gyrfaoedd cymwysedig sy'n cynnig cyngor ac arweiniad proffesiynol a phersonol i ganfod a goresgyn rhwystrau y mae unigolion, gan gynnwys pobl anabl, yn eu hwynebu, wrth symud tuag at gyflogaeth.

Mae ein cynllun hirdymor ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, 'Cymru Iachach', yn nodi sut y mae angen i ni gefnogi pobl i fyw bywydau iachach. Mae dod o hyd i waith yn hynod o bwysig i'r dull ataliol hwn, ac rydym ni'n sicrhau y gall ein rhaglenni cyflogaeth seiliedig ar iechyd gefnogi mwy o bobl anabl i gael a chadw swyddi.

Mae heddiw'n nodi blwyddyn ers i ni lansio ein cynllun gweithredu ar anabledd 'Prentisiaethau Cynhwysol', ac rydym yn gwneud cynnydd da o gymharu â'r camau gweithredu sydd ynddo. Mae'r data diweddaraf ar gyfer 2017/18 yn dangos bod 5.6 y cant o brentisiaid wedi datgan eu bod yn anabl o gymharu â dim ond 3.4 y cant yn 2013/14. Drwy gyflawni'r camau gweithredu yn y cynllun i ddileu'r rhwystrau sy'n atal pobl rhag cyfrannu, rydym yn ffyddiog y gallwn ni weld y ffigur hwn yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn.

Nid cefnogi unigolion yn unig ydym ni, ond busnesau hefyd, i greu'r amodau i bobl anabl ffynnu mewn gwaith. Gallaf gadarnhau y caiff hyrwyddwyr cyflogwyr pobl anabl, a fydd yn gweithio gyda chyflogwyr ledled Cymru i wneud gweithleoedd yn fwy cynhwysol ac yn rhoi gwell cefnogaeth i recriwtio a chadw pobl anabl, eu recriwtio yn y flwyddyn newydd. Rydym ni hefyd yn adolygu ein deunydd marchnata ac adnoddau cyflogwyr i chwalu camdybiaethau, dylanwadu ar agweddau cyflogwyr a'u newid, a chodi ymwybyddiaeth o'r gefnogaeth ehangach sydd ar gael i fusnesau wrth gyflogi pobl anabl. Hefyd, rydym yn gweithio mewn partneriaeth ag ystod o sefydliadau sy'n cynrychioli pobl anabl i asesu dewisiadau ar gyfer adeiladu ar y cynllun Hyderus o ran Anabledd sydd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau ar hyn o bryd. Byddaf yn rhoi'r newyddion diweddaraf i'r Aelodau am hyn yn fuan iawn.

Rydym ni hefyd yn newid natur sgyrsiau gyda busnesau. Mae Busnes Cymru, ynghyd â'i gyngor busnes cyffredinol, yn cynnwys cyngor ar bolisïau ac arferion cydraddoldeb ac amrywiaeth i gynghori busnesau ar recriwtio a chadw gweithwyr anabl. Bydd hyn yn cynyddu ymwybyddiaeth o gyfleoedd i bobl anabl ddechrau busnes, gan gynnwys modelau busnes amgen fel mentrau cydweithredol a busnesau cymdeithasol. Caiff gwefan Busnes Cymru ei hehangu i ddod â gwybodaeth berthnasol ynghyd ar gyfer pobl anabl sy'n ceisio dechrau a thyfu busnes, ac annog y genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid drwy Busnes Cymru, canolfannau menter, Syniadau Mawr Cymru a Busnes Cymdeithasol Cymru. Ac, er mwyn annog a hyrwyddo arferion busnes a chyflogaeth sy'n mynd y tu hwnt i'r lleiafswm cyfreithiol, rydym yn ystyried dewisiadau i ehangu a dwysáu effaith y contract economaidd fel ei fod yn cynyddu dealltwriaeth a chyfrifoldeb cyflogwyr ymhellach o ran gwella recriwtio a chadw gweithwyr anabl. Yn sicr, o leiaf, gallai hyn gynnwys cyfeiriad penodol yn ein canllawiau ar gyfer contractau economaidd at bolisïau, prosesau a rhaglenni sydd â'r potensial i gefnogi gweithlu mwy amrywiol.

Rydym ni'n ymwybodol y gallai cynnal cwmpas a maint y cymorth i unigolion a busnesau fod yn her wrth symud ymlaen, gan fod ein dull o weithredu yn cael ei danategu gan gronfeydd Ewropeaidd. Felly, mae'r Llywodraeth hon yn ailadrodd ei safbwynt clir a diamwys i unrhyw Lywodraeth newydd yn y DU: dim ceiniog yn llai, dim colli unrhyw bwerau os byddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Rydym ni i gyd yn gwybod mai ein rhwystrau cymdeithasol sy'n analluogi pobl â namau. Daw'r ddealltwriaeth hon o'r model cymdeithasol o anabledd a fabwysiadwyd gennym ni fel Cynulliad yn 2002, gan wneud Cymru yn un o'r gwledydd cyntaf yn y byd i wneud hynny. Ein nod yw ymgorffori'r model hwn yn weladwy ac yn effeithiol ar draws pob maes gwaith, gan gynnwys datblygu economaidd a chymorth cyflogwyr, er mwyn annog pob sefydliad yng Nghymru i wneud yr un peth.

Os byddwn ni, yng Nghymru, yn gweithio gyda'n gilydd, gallwn roi terfyn ar y gwahaniaethu sy'n difetha bywydau cynifer o bobl. Mae'n ddyletswydd foesol, ac os caf fentro dweud, economaidd arnom ni i wneud hynny.  

16:00

Fel y dywedoch chi, heddiw yw Diwrnod Rhyngwladol Pobl ag Anableddau. Y thema eleni ar y diwrnod rhyngwladol yw 'mae'r dyfodol yn hygyrch'. Ym mis Mawrth 2013, cadeiriais ddigwyddiad yma—'Tuag at Gymru sy'n Galluogi: gwella rhagolygon cyflogaeth i bobl anabl'—ac yna roeddwn yn gyd-gadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar anabledd yr wyf yn ei gadeirio heddiw. Yn fy sylwadau cyflwyniadol, felly, rhoddais fanylion am ddiben y grŵp: mynd i'r afael â materion cydraddoldeb anabledd allweddol sy'n cwmpasu sawl amhariad, gan gynnwys gweithredu'r model cymdeithasol o anabledd a'r hawl i fyw'n annibynnol, gan bwysleisio y gwneir pobl yn anabl gan gymdeithas, nid gan nhw eu hunain, fod yn rhaid inni gydweithio i fynd i'r afael â'r rhwystrau i fynediad a chynhwysiant i bawb, a bod yn rhaid caniatáu i bawb gael annibyniaeth, dewis a rheolaeth yn eu bywydau.

Ym mis Medi 2013, cadeiriais gyfarfod cyfochrog yn y gogledd ar y thema anabledd a chyflogaeth. Ym mis Mawrth 2017, fe wnes i noddi a siarad yn y digwyddiad prosiect Ymgysylltu i Newid yn y Cynulliad. Dan arweiniad Anabledd Dysgu Cymru, ariannwyd y prosiect am bum mlynedd gan y Gronfa Loteri Fawr mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru i gefnogi 1,000 o bobl ifanc yng Nghymru gydag anabledd dysgu, anhawster dysgu a/neu gyflwr ar y sbectrwm awtistiaeth i ennill sgiliau cyflogadwyedd a dod o hyd i gyflogaeth gynaliadwy. Nid oes cyfeiriad at y prosiect ardderchog hwn yn eich datganiad, a byddwn yn ddiolchgar pe baech chi, naill ai nawr neu wedyn, yn sôn am y cynnydd a fu gyda hynny, yn enwedig gan ei fod wedi'i gynllunio i ymgorffori cynaliadwyedd o ddiwedd y prosiect hwnnw.

Fel y dywedwch chi, mae llawer o'r rhwystrau y mae pobl anabl yn eu hwynebu yn anghyfreithlon. Mae gennym ni yng Nghymru, fel yn y DU, o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus, ac yn anffodus, rwy'n dal i ganfod, wrth gynrychioli etholwyr anabl gyda chyrff cyhoeddus, mai anaml, os o gwbl, y maent yn cydnabod bodolaeth y ddyletswydd o'u gwirfodd hyd nes y byddaf yn eu gwneud yn ymwybodol ohoni. A bu hynny hefyd yn wir o ran cyflogaeth neu bobl anabl sy'n ceisio ymdrin efallai â'r broses gynllunio at ddibenion hunangyflogaeth. Felly, sut gallwn ni roi mwy o hwb i hynny, nid gwneud i awdurdodau lleol ac eraill deimlo bod hyn yn orfodaeth, ond yn gyfle i wneud i bethau weithio'n well i bawb, gwella bywydau ac, yn y pen draw, leihau'r pwysau ar wasanaethau statudol?

Fel y dywedwch chi, mae angen gwneud mwy i gyrraedd cyfradd gyflogaeth gyfartalog y DU ar gyfer pobl anabl, lle mae'r ffigur yn 48.6 y cant yng Nghymru. Ond, o ran awtistiaeth, darganfu ymchwil y Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol yn 2016 mai dim ond 16 y cant o bobl ag awtistiaeth o oedran gweithio oedd mewn cyflogaeth lawn-amser. Roedd y ffigur hwnnw wedi aros yn ei unfan am ddegawd, a chredwyd bod y ffigur hyd yn oed yn is yng Nghymru. Felly, sut ydych chi'n bwriadu canolbwyntio nid yn unig ar yr agenda hawliau anabledd cyffredinol, o ran cyflogaeth, ond hefyd ar y gwahaniaeth sy'n bodoli rhwng gwahanol gyflyrau, a'r bwlch cyflog anabledd, sydd yng Nghymru yn parhau, mi gredaf, ar 9.9 y cant rhwng pobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl?

Rydych yn dweud eich bod yn ystyried cyfleoedd i ddarparu hyrwyddwyr cyflogwyr pobl anabl. Yn wir, yng nghyfarfod y grŵp trawsbleidiol ar awtistiaeth a gadeiriais ym Mhrestatyn ar 18 Hydref, bu Ben Morris o NEWCIS, y gwyddoch chi efallai amdano—Gwasanaeth Gwybodaeth Gofalwyr Gogledd-ddwyrain Cymru— yn trafod ei waith yn cefnogi gofalwyr a phobl awtistig i ddod o hyd i waith, yn ogystal â'i brofiadau ei hun fel person awtistig yn y gweithle. A dywedodd, er bod ymwybyddiaeth o awtistiaeth ar gynnydd, nad oedd nifer y bobl awtistig yn y gweithle yn cynyddu. Dywedodd ei fod wedi gweithio gyda chyflogwyr i'w helpu i sylweddoli nad yw eu cyfrifoldeb i wneud addasiadau rhesymol yn dechrau pan fyddant yn cyflogi rhywun, ond eu bod ar eu colled o ran cyflogi llawer o bobl awtistig ac anabl cymwys oherwydd nad ydynt yn gwneud addasiadau yn eu proses recriwtio. Dywedodd hefyd fod ei waith yn golygu helpu cyflogwyr i ddeall rhinweddau gweithwyr awtistig ac anabl a gwerth cael gweithlu amrywiol. Felly, wrth yrru'r agenda honno yn ei blaen, a ydych chi'n cytuno y dylai'r hyrwyddwyr arfaethedig yr ydych yn sôn amdanynt fod â phrofiad bywyd a/neu phrofiad uniongyrchol yn hytrach na bod yn bobl da eu bwriadau, ond yn bobl nad oes ganddynt yr ased ychwanegol allweddol hwnnw?

Rydych chi'n dweud bod asesu dewisiadau i adeiladu ar y cynllun Hyderus o ran Anabledd sydd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau ar hyn o bryd—neu eich bod yn asesu dewisiadau i adeiladu ar hynny, a newid natur sgyrsiau gyda byd busnes. Wrth gwrs, mae cynllun Hyderus o Ran Anabledd Adran Gwaith a Phensiynau y DU yn helpu cyflogwyr i fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd sydd i'w cael drwy gyflogi pobl anabl, mae'n wirfoddol, ac mae wedi'i ddatblygu gan gyflogwyr a chynrychiolwyr pobl anabl. Maen nhw'n gweithio gyda chyflogwyr drwy Hyderus o ran Anabledd er mwyn sicrhau bod pobl anabl a'r rhai sydd â chyflyrau iechyd hirdymor yn cael y cyfle i gyflawni eu potensial a gwireddu eu dyheadau. Ac rwyf wedi cwrdd â rhai swyddogion anhygoel yr Adran Gwaith a Phensiynau sy'n gweithio ar y rhaglen hon yng Nghymru—y tro diwethaf ychydig wythnosau'n ôl. Sut ydych chi'n sicrhau y byddwch yn ategu yn hytrach na dyblygu'r gwaith hwn, ac yn sicrhau eich bod chi, gyda'ch gilydd, yn ychwanegu gwerth yn hytrach na gwneud yr un peth?

Yn yr un modd, rydych chi'n cyfeirio at wasanaeth cyngor ar gyflogadwyedd Cymru'n Gweithio. Wrth siarad yma y llynedd, ar ôl ymweld â Remploy yn Wrecsam i drafod lansio rhaglen cymorth cyflogaeth Llywodraeth y DU, y Rhaglen Gwaith ac Iechyd, yng Nghymru, dywedais fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru felly roi sicrwydd bod ei rhaglen gyflogadwyedd newydd yn ychwanegu at y rhaglen honno hefyd yn hytrach na'i dyblygu. Tybed a wnewch chi gadarnhau sut yr ydych chi'n sicrhau eich bod chi, drwy weithio mewn partneriaeth yn y ffordd yr ydych chi'n ei disgrifio, yn gweithio gyda rhaglen ategol yr Adran Gwaith a Phensiynau. Yn yr un modd, mae'r rhaglen Mynediad i Waith—

16:05

—rwy'n ymwybodol bod hynny hyd yn oed wedi cefnogi fy merch fy hun mewn gwaith.

Ac yn olaf, os caf i—un cwestiwn terfynol.

Sut ydych chi'n gweithio gyda chyrff allweddol yn y trydydd sector sydd hefyd yn gweithio gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau, megis y Cyfeirlyfr Awtistiaeth yn Nhrefforest, sy'n gweithio gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau ar raglen cyflogaeth awtistiaeth, ac Oxfam Cymru, sy'n gweithio gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau i wreiddio eu dull o fywoliaethau cynaliadwy i sicrhau bod gan staff yr Adran Gwaith a Phensiynau y sgiliau sydd eu hangen i ddarparu gwasanaeth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, gan symud oddi wrth atebion tymor byr sy'n caethiwo unigolion mewn sefyllfa gyson o fod yn gweithio ac yna'n ddi-waith, ac felly mewn tlodi? Diolch.

16:10

A gaf i ddiolch i Mark Isherwood am ei sylwadau hynod adeiladol, a hefyd am ei gwestiynau, a chydnabod yr ymroddiad y mae wedi'i roi i'r agenda arbennig hon dros flynyddoedd lawer? Credaf y byddai Mark Isherwood yn cytuno ein bod i gyd yn dymuno sicrhau bod pob person anabl yn cael yr un rhyddid ac urddas a dewis a rheolaeth â phawb arall mewn cymdeithas, boed hynny yn y cartref, yn y gwaith, mewn addysg neu yn y gymuned. Mae Mark Isherwood wedi codi'r cwestiwn ynghylch sut y gallwn ni gefnogi busnesau a hyrwyddo arferion cyflogi cyfrifol yn fwy ymysg busnesau. 

Hoffwn dynnu sylw at y ffaith, Dirprwy Lywydd, ar hyn o bryd, fod amrywiaeth o dystiolaeth sy'n dangos pam y dylai busnesau gyflogi pobl anabl. Er enghraifft, mae gweithwyr anabl, a bod yn onest, yn fwy tebygol o aros mewn swydd am gyfnod hwy a chael llai o absenoldeb salwch hefyd. Mae ymchwil hefyd wedi canfod eu bod yn fwy tebygol o ymdrin â phroblemau mewn ffordd greadigol a chyflawni tasgau gwahanol mewn ffyrdd newydd ac arloesol. Felly, mae angen i gyflogwyr fanteisio ar ddoniau pobl anabl a chymryd camau cadarnhaol i amrywio eu gweithlu. 

Mae Mark Isherwood yn codi nifer o bwyntiau pwysig iawn, gan gynnwys perfformiad rhaglenni cyflogadwyedd hyd yn hyn, yr angen i awdurdodau lleol gydnabod bod y ddyletswydd yn berthnasol iddynt, y swyddogaeth y gallai'r hyrwyddwyr anabledd ei chael yn y dyfodol, y bwlch cyflog i bobl anabl hefyd a sut y byddwn yn ceisio lleihau hynny, a chysylltu â'r Adran Gwaith a Phensiynau a'r trydydd sector.

Rwy'n mynd i geisio ymdrin â'r holl bwyntiau pwysig hyn. I ddechrau, fodd bynnag, gyda'r cwestiwn cyntaf a godwyd, sef sut y gallwn ni sicrhau bod gan bobl anabl yr hawl i fyw'n annibynnol, wel byddwn yn cyfeirio at yr adroddiad 'Gweithredu ar Anabledd: Yr Hawl i Fyw'n Annibynnol', a lansiwyd gan y Dirprwy Weinidog ac sy'n cynnwys cyfres o gamau i sicrhau bod darpariaeth a chymorth byw'n annibynnol ar gael i bawb.

O ran perfformiad cyflogadwyedd hyd yn hyn, cyfeiriodd yr Aelod at brosiect penodol y byddaf yn fodlon rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau yn ei chylch. Gwyddom fod y canlyniadau drwy raglenni cyflogadwyedd hyd yma wedi bod yn drawiadol. Gwyddom, ers 2014, er enghraifft, fod y cylch cyfredol o raglenni Cronfa Gymdeithasol Ewrop wedi cefnogi mwy na 16,000 o unigolion i gael gwaith, a bod tua 16 y cant o'r rhain wedi datgan bod ganddynt anabledd.

O ran ein rhaglen Cymunedau am Waith, mae 1,843 o bobl anabl wedi cael eu cynorthwyo i gael gwaith ers mis Mai 2015. Mae Cymunedau am Waith a Mwy wedi cynorthwyo dros 4,250 i gael gwaith ers ei lansio ym mis Ebrill 2018, ac mae 2,264 o'r rhai a fu'n rhan o hynny hyd yn hyn yn anabl neu mae ganddynt gyflwr iechyd sy'n cyfyngu ar eu gallu i weithio. Ac, o ran y rhaglen hyfforddeiaeth sy'n cael ei gweithredu, mae 750 o bobl ifanc sydd wedi datgan eu bod yn anabl wedi dechrau gweithio.  

Byddwn yn gwella perfformiad, byddwn yn newid pwyslais ac yn ailflaenoriaethu gwariant o Gronfa Gymdeithasol Ewrop—arian Ewropeaidd y disgwyliwn gael yr un swm yn union, os gadawn yr UE, gan Lywodraeth y DU—a thrwy wneud hynny ein nod yw creu cyfleoedd ar gyfer 25 y cant arall o bobl sy'n wynebu ffactorau yn eu bywydau sy'n achosi anabledd. 

Credaf fod Mark Isherwood yn cefnogi'r egwyddor o benodi hyrwyddwyr anabledd ledled Cymru. Mae hyn yn rhywbeth y mae'r Dirprwy Weinidog yn awyddus i'w ddatblygu gyda chynnydd cadarn, a byddwn yn cyhoeddi rhagor am y cynllun hwn yn y flwyddyn newydd, ond gallaf sicrhau'r Aelod heddiw y bydd yr hyrwyddwyr hynny wedi byw ac wedi profi ffactorau sydd wedi achosi anableddau iddynt yn bersonol yn eu bywydau, i ddod â'r mewnwelediad sydd mor bwysig y mae'r Aelod ei hun yn ei gydnabod.

Tynnodd Mark Isherwood sylw hefyd at y bwlch cyflog anabledd sy'n bodoli yng Nghymru ac sydd ar hyn o bryd yn 9.9 y cant. Mae'r bwlch cyflog hwnnw'n annerbyniol. Fodd bynnag, mae'n is na'r DU yn ei chyfanrwydd, sef 12.2 y cant ar hyn o bryd. Cymru oedd y pumed lleiaf o blith 12 o wledydd a rhanbarthau'r DU yn 2018 o ran y bwlch cyflogau. Er mwyn lleihau'r bwlch hwnnw ymhellach ac er mwyn lleihau'r bwlch cyflogaeth rhwng cyfartaledd Cymru a chyfartaledd y DU, mae gennym ni nifer o ymyriadau newydd y manteisir arnynt yn llawn, gan gynnwys gwaith ar y Bil partneriaeth gymdeithasol, gan gynnwys swm sylweddol o waith sydd eisoes wedi'i wneud o ran gwaith teg ac ymwreiddio egwyddorion gwaith teg a thrwy ymestyn ymhellach y contract economaidd a grybwyllais yn fy natganiad.

O ran ymgysylltu a chysylltu, mae ymgysylltu â'r trydydd sector yn ganolog i bopeth a wnawn o ran cynorthwyo pobl sy'n wynebu ffactorau sy'n achosi anableddau iddynt yn eu bywydau. Ac o ran ymgysylltu â'r adran Gwaith a Phensiynau, rwy'n falch o'r graddau y mae Llywodraeth Cymru a'r Adran Gwaith a Phensiynau yn cydweithio â'i gilydd, boed hynny er mwyn sicrhau bod Hyderus o ran Anabledd yn cydnabod yn llawn ac yn gweithredu'n gwbl gyson â'r cymorth ychwanegol sydd ar gael gan raglenni cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru neu'r rhaglen Mynediad at Waith, sy'n hanfodol bwysig, yn fy marn i, ac sy'n ymddangos ar safle Busnes Cymru. Mae wedi'i gynnwys yno er mwyn cyfeirio unigolion a chyflogwyr i gyllid a all helpu i dalu am amrywiaeth o gymorth, gan gynnwys unrhyw addasiadau i'r amgylchedd gwaith, am offer arbennig a gweithwyr cymorth a chefnogi darpariaeth iechyd meddwl.

O ran sicrhau ein bod yn cael mwy o gysondeb fyth rhwng ymyriadau'r Adran Gwaith a Phensiynau ac ymyriadau Llywodraeth Cymru ac yn benodol ynghylch Hyderus o ran Anabledd, rydym ni wrthi'n gwneud gwaith polisi i ystyried sut y byddwn yn cyflawni'r cam hwn o fewn fframwaith newydd Llywodraeth Cymru, 'Gweithredu ar Anabledd: Yr Hawl i Fyw'n Annibynnol', o ran datblygu cynllun gwobr anabledd i gyflogwyr yng Nghymru, a allai adeiladu ar y cynllun Hyderus o ran Anabledd neu fod yn gynllun newydd i annog cyflogwyr i anelu at fod yn fwy cefnogol o bobl anabl. Ac wrth ystyried yr anghenion penodol sy'n cael eu cydnabod ar gyfer Cymru a sut y byddai cynllun gwobr anabledd i Gymru yn gweithio, ac yn gyson â'r hyn y mae swyddogion Hyderus o ran Anabledd yn ei gynnig, byddwn yn cyfarfod â nifer o randdeiliaid yn y sector, gan gynnwys y trydydd sector, i geisio eu barn ar y mater pwysig hwn.

16:15

A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad ar gyflogaeth pobl anabl? Fel y mae'n dweud, mae heddiw'n ddiwrnod rhyngwladol pobl ag anableddau y Cenhedloedd Unedig, sef diwrnod a gynlluniwyd i hyrwyddo hawliau pobl anabl a chynyddu ymwybyddiaeth o'r heriau y maent yn eu hwynebu. Felly, mae'n bwynt sy'n dal angen ei drafod. 

A gaf i yn gyntaf oll gefnogi llawer o'r materion y mae Mark Isherwood newydd eu codi? Fel cadeirydd cyntaf erioed y grŵp trawsbleidiol ar awtistiaeth yn y Senedd—neu'r Cynulliad fel yr oedd bryd hynny, 17 mlynedd yn ôl—roedd materion yn ymwneud â chyflogadwyedd ymhlith pobl ag awtistiaeth yn broblem fawr bryd hynny. Mae hynny'n dal i fod yn wir. Felly, os gallwn ni gadw hynny ar eich amserlen, byddai hynny'n wych.

A hefyd, a minnau'n gadeirydd presennol y grŵp trawsbleidiol ar faterion pobl fyddar, mae gennyf ychydig o heriau o'r gymuned fyddar hefyd. Oherwydd, fel yr ydych chi wedi'i ddweud heddiw, Gweinidog, mae pobl anabl, gan gynnwys, yn amlwg, y rhai sy'n fyddar wedi wynebu rhwystrau ers tro wrth geisio cael gwaith. Mae'n galonogol, fel y dywedwch chi yn eich datganiad, fod Llywodraeth Cymru yn ceisio gwella'r sefyllfa hon, er enghraifft, drwy eich cynllun gweithredu ar gyfer prentisiaethau cynhwysol ar gyfer pobl ag anabledd, a phobl fel hynny. Fodd bynnag, o ran sicrhau y gall pobl ifanc anabl gael cyngor gyrfaoedd priodol fel y gallant ddeall eu hawliau, gan gynnwys eu hawl i addasiadau yn y gweithle a'r gronfa mynediad i waith, mae hynny i gyd hefyd yn hollbwysig er mwyn mynd i'r afael â'r rhwystrau hyn. Dyna pam fy mod i a'r Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar yn pryderu bod y cod ymarfer drafft ar anghenion dysgu ychwanegol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn gynharach eleni yn amlinellu dyletswydd sylweddol is i ddarparu cyngor gyrfaol arbenigol i fyfyrwyr ag anghenion dysgu ychwanegol. Nawr, rwy'n sylweddoli bod a wnelo hyn â materion traws-bortffolio, ond rydym ni'n siarad am gyflogadwyedd ac, yn amlwg, mae dysgu, addysg a gyrfaoedd yn rhan bwysig o'r sbectrwm hwnnw. Felly, a gaf i ofyn i'r Gweinidog amlinellu a fu rhagor o ystyriaeth ar ddyletswyddau'n ymwneud â chyngor gyrfaoedd arbenigol o fewn y cod ADY, ac a yw wedi bod yn rhan o drafodaethau o'r fath?

Hefyd, rwy'n ymwybodol o'r adolygiad presennol o'r cwricwlwm cenedlaethol. Er bod y cwricwlwm drafft yn rhoi pwyslais ar yrfaoedd, byddai'n ddefnyddiol cael pwyslais penodol ar sicrhau bod pobl ifanc anabl yn ymwybodol o'u hawliau cyflogaeth. Mae hwn yn fater traws-bortffolio arall, ond ni allwch chi fyth drafod cyflogaeth pobl anabl yn hollol ynysig. Felly, a gaf i ofyn pa drafodaethau y mae'r Gweinidog yn eu cael ar y materion hyn gyda chyd-Weinidogion er mwyn i gyngor ar yrfaoedd, cyngor ar gyflogaeth gael ei deilwra i bobl ifanc anabl? Diolch yn fawr.

16:20

A gaf i hefyd ddiolch i Dai Lloyd heddiw am ei gyfraniad ac am y diddordeb a'r ymrwymiad brwd iawn y mae wedi ei ddangos i'r maes polisi pwysig hwn i Lywodraeth Cymru? Rwy'n siŵr bod Dai Lloyd hefyd yn credu, fel yr wyf fi, fod cydraddoldeb canlyniadau i bawb yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud, ac y dylem ei wneud, a bod ein huchelgeisiau ar gyfer cymdeithas Cymru yn uchelgeisiau sydd wedi'u gwreiddio mewn cydraddoldeb a chyfle cyfartal i bawb.

Rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud, wrth fyfyrio ar y swyddogaeth arweiniol y bu gan Dai Lloyd ei hun yn y maes hwn yn ystod y blynyddoedd diwethaf, er bod Llywodraeth Cymru yn gallu darparu arweinyddiaeth genedlaethol, a bod gwleidyddion yn y Siambr hon yn gallu darparu arweinyddiaeth genedlaethol, mae gweithredu lleol yn gwbl hanfodol er mwyn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i unigolion yn eu bywydau bob dydd. A gall gweithredu lleol gynnwys y math o gyngor y mae Gyrfa Cymru ac ysgolion eu hunain yn gallu ei gynnig i fyfyrwyr ifanc.

Mae Dai Lloyd wedi codi tri phwynt pwysig yn bennaf. Un: 'Gweithredu ar anabledd ', y fframwaith a'r cynllun, gan roi sylw penodol i bobl sy'n fyddar. Yn ail, swyddogaeth Gyrfa Cymru wrth gynnig cyngor a chymorth un-i-un i unigolion. Ac yna, yn drydydd, cyfeiriodd Dai Lloyd hefyd at y 'Prentisiaethau Cynhwysol: Cynllun Gweithredu ar Anabledd ar gyfer Prentisiaethau 2018-21', sy'n rhywbeth sy'n gwneud cryn wahaniaeth o ran creu cyfleoedd. Ac mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos hynny, sydd, ar gyfer 2017-18, yn dangos bod tua 6 y cant o fyfyrwyr ar raglenni dysgu prentisiaethau wedi'u nodi fel rhai sydd ag anabledd sylfaenol a/neu anhawster dysgu, a bod y gyfran honno wedi cynyddu bob blwyddyn ers 2012-13. Yn ôl yn 2012, roedd y ffigur oddeutu 3 y cant, felly mae wedi dyblu o fewn pum mlynedd neu fwy.

Dirprwy Lywydd, byddaf yn ymrwymo heddiw i gyhoeddi ym mis Chwefror y flwyddyn nesaf yr ystadegau swyddogol a fydd yn ystyried 2018-19, a fy ngobaith yw, fy nghred yw hefyd, y bydd y ffigurau hynny'n dangos gwelliant pellach. Ac rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud, o ganlyniad i'r gwaith caled sydd wedi'i wneud hyd yn hyn, rydym yn gwneud cynnydd rhagorol o ran y cynllun, ond ni ddylem ni laesu dwylo, a byddwn yn sicrhau bod y cynllun hwnnw'n parhau i gael ei gyflawni.  

O ran 'Gweithredu ar anabledd', wel, mae'r fframwaith yn ei gwneud hi'n ofynnol i ni weithio tuag at ddileu rhwystrau sy'n atal pobl nid yn unig rhag cael gwaith, ond hefyd yn atal pobl rhag aros mewn gwaith—nid yn unig rhwystrau corfforol mewn adeiladau, mewn trefi ac yng nghefn gwlad, ond hefyd, yn bwysig, y rhwystrau sy'n cael eu creu gan strwythurau a pholisïau sefydliadau ac, yn wir—a'r pwysicaf oll mae'n debyg—agweddau pobl. Ac mae cynllun gweithredu yn cyd-fynd â'r fframwaith. Mae hynny'n tynnu sylw at y prif gamau gweithredu y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd ac yn arwain arnynt ar hyn o bryd, a'r bwriad yw eu cadw'n gyfredol er mwyn adlewyrchu amgylchiadau newidiol a datblygiadau newydd. A byddwn yn fwy na pharod i drafod gyda Dai Lloyd y cymorth y gellir ei gynnig i unigolion sy'n fyddar.

I droi at swyddogaeth Gyrfa Cymru wrth gynnig cefnogaeth, ac, yn arbennig, cyngor i fyfyrwyr a disgyblion, o fewn yr adnoddau presennol—a holodd Dai Lloyd am yr adnoddau sydd ar gael drwy Gyrfa Cymru—mae gennym ni tua 30 o staff cyfwerth ag amser llawn sydd wedi'u neilltuo'n benodol i weithio gyda chwsmeriaid ag ADY a'u teuluoedd. Mae cymorth i'r grŵp cwsmeriaid penodol hwn yn cynnwys cymorth wyneb yn wyneb drwy waith grŵp a chyfweliadau gyrfaoedd. Mae'n llunio cynlluniau dysgu a sgiliau ar gyfer unigolion a'u teuluoedd, ac mae hefyd yn cynnig cymorth ar adegau o drawsnewid, ac eiriolaeth hefyd.

O ran y canlyniadau, o ganlyniad i'r cyngor a'r cymorth a gynigir, mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos bod 3,365 o adolygiadau pontio wedi'u cynnal gan gynghorwyr gyrfaoedd ac iddynt gytuno ar ychydig dros 1,000 o gynlluniau dysgu a sgiliau ar gyfer y rhai sy'n symud o ysgol, gan nodi anghenion addysg a hyfforddiant pobl ifanc a'r cymorth sydd ei angen i ddiwallu'r anghenion hynny. Gobeithio bod y ffigurau hyn, gan gynnwys y ffigurau hynny ynghylch prentisiaethau cynhwysol, yn dangos ein bod yn gwneud cynnydd. Ond yn y pen draw, Dirprwy Lywydd, os ydym ni eisiau lleihau'r bwlch o ran cyflogau a'r bwlch mewn cyfraddau cyflogaeth rhwng y DU a Chymru, mae angen inni ddyblu ein hymdrechion.

16:25

Os oes gennych chi anabledd, rydych chi'n fwy tebygol o fod yn ddi-waith, ac os ydych chi mewn gwaith, rydych chi'n fwy tebygol o fod ar yr isafswm cyflog. Dyna'r realiti i bobl ag anableddau yng Nghymru heddiw. Er bod sefydliadau fel Barod—cwmni buddiannau cymunedol wedi'i leoli yn Abertawe, yn arbenigo mewn hyfforddiant a gwybodaeth arloesol, lle mae'r perchenogion a'r gweithlu yn gymysgedd gyfartal o bobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl, sy'n arbenigo mewn pontio'r bwlch rhwng sefydliadau yn y sector cyhoeddus a phreifat a phobl ag anableddau dysgu—nid oes digon o bell ffordd o gwmnïau o'r math hwn er mwyn cael pobl ag anableddau dysgu i mewn i gyflogaeth.

Rwy'n ddigon hen i gofio pan roedd gennym ni'r system cerdyn gwyrdd. Roedd disgwyl i gwmnïau gyflogi cyfran benodol o bobl gyda chardiau gwyrdd ac adroddwyd ar y ganran. Diflannodd hyn, yn anffodus, gyda'r Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995, ac rwy'n credu bod hynny wedi gwneud llawer mwy o niwed na daioni, oherwydd bryd hynny, fe allech chi ddwyn cyflogwyr i gyfrif. Ar hyn o bryd, mae'n anodd iawn dwyn cyflogwyr i gyfrif.

Mae gennyf i un sylw pellach a dau gwestiwn. Soniwn am anabledd fel pe bai'n un peth. Mae yna ystod eang o anableddau sy'n amrywio o ran eu graddau a'u problemau i'r bobl sy'n dioddef ohonynt. Mae pobl sydd ag anableddau bach iawn, na fyddech yn gwybod eu bod yn anabl pe byddech yn eu gweld yn cerdded i lawr y stryd, ac eithrio y gallent fod yn cerdded ychydig yn araf, i'r rheini sydd ag anableddau lluosog ac anableddau difrifol iawn. Felly, rwy'n credu ein bod yn tueddu i siarad am bobl anabl fel petaent yn un corff; dydyn nhw ddim, maen nhw'n grŵp o bobl sydd â phroblemau hollol wahanol ac anghenion gwahanol.

Soniodd Dai Lloyd am y gymuned fyddar. Mae fy chwaer yn hollol fyddar, yr wyf wedi sôn amdani ar fwy nag un achlysur yn y fan yma, ac mae'n anhygoel o anodd. Mae cyflogwr yn gallu anwybyddu unrhyw Ddeddf drwy ddweud 'y gallu i ateb y ffôn'. Mae hynny'n eithrio unrhyw un sy'n hollol fyddar. Byddai llawer o bobl yn ei ddisgrifio fel rhywbeth nad yw'n afresymol disgwyl i rywun allu ei wneud, ond ar ôl ichi gynnwys hynny, rydych chi'n eithrio unrhyw un sy'n fyddar rhag gweithio yno. 

Mae gennyf i ddau gwestiwn. Beth mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'w wneud i hyrwyddo cyflogi pobl ag anableddau yn Llywodraeth Cymru, ac, yn bwysicach, mewn cyrff a ariennir gan Lywodraeth Cymru? Mae hynny'n rhywbeth y mae gennych chi reolaeth uniongyrchol drosto, ac mae gennych chi reolaeth uniongyrchol hefyd dros y cyrff rydych yn eu hariannu. Y sawl sy'n talu'r delyn sy'n gofyn am y gân. Er hynny, gall yr hwn sy'n ariannu mudiad roi cyfarwyddyd.

Beth arall gellir ei wneud i gefnogi sefydliadau fel Barod, sy'n gwneud gwaith mor dda o ran trin pobl ag anableddau a'r rhai nad oes ganddynt anableddau, yr un fath yn union? Un o'r problemau sydd gennym ni yw ein bod, yn rhy aml, yn eu trin yn wahanol. Efallai bod ganddyn nhw anabledd, ond mae'n rhaid eu trin a dylid eu trin yr un fath. Felly, beth allwn ni ei wneud i helpu sefydliadau fel hynny?

A gaf i ddiolch i Mike Hedges am ei sylwadau a'i gwestiynau? Roedd yn gywir yn dweud bod pobl anabl yn fwy tebygol o fod yn ddi-waith, a bod pobl anabl, os ydynt mewn gwaith, yn fwy tebygol o fod ar gyflog gwael. Felly, o ganlyniad, mae'n amlwg bod pobl anabl yn fwy tebygol o fod yn byw mewn tlodi yn yr oes fodern hon, ac mae hynny'n foesol annerbyniol.

Mae Llywodraeth Cymru yn gwbl benderfynol o sicrhau bod pobl Cymru yn cael cyfleoedd i gael gwaith ac yna i symud ymlaen yn eu gyrfaoedd. Mae'n flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon y dylai fod gan bawb yn ddieithriad y cyfle i weithio. Cyfeiriodd Mike Hedges at y ffaith bod pobl sy'n chwilio am waith yn gwbl benderfynol o sicrhau cyfleoedd da, sy'n talu'n dda. Mae'r dystiolaeth sy'n dangos bod pobl sy'n wynebu ffactorau sy'n achosi anabledd yn benderfynol o weithio yn glir iawn yn wir, Dirprwy Lywydd. Gwyddom fod tua 45 y cant o'r grŵp economaidd anweithgar yng Nghymru heddiw yn bobl anabl, a bod traean o bobl ddi-waith yng Nghymru yn wynebu ffactorau sy'n achosi anabledd. Mae tua 49,000 o bobl anabl sy'n economaidd anweithgar naill ai'n chwilio am waith neu ddim wrthi'n chwilio am waith ond yn awyddus i weithio. Mae hynny'n golygu bod dros 50 y cant o bobl economaidd anweithgar sy'n wynebu rhwystrau sy'n achosi anabledd naill ai'n chwilio am waith neu'n dymuno gweithio. Dyna tua 90,000 o bobl yn ein gwlad.

Er mwyn cyrraedd y targed o gau'r bwlch o ran cyflogaeth rhwng y DU a Chymru ar gyfer pobl anabl, byddai'n rhaid i ni ddod o hyd i gyfleoedd ar gyfer o leiaf 16,000 o bobl. Yn amlwg, Dirprwy Lywydd, mae'r penderfyniad gan bobl i ddod o hyd i waith, eu hawydd i ddod o hyd i waith, yn dangos na fydd dod o hyd i 16,000 o bobl sy'n dymuno mentro i'r gweithle yn broblem. Yr her yw sicrhau bod busnesau'n sicrhau bod y cyfleoedd hynny ar gael i bobl sy'n wynebu ffactorau sy'n achosi anabledd.

Rydym ni'n gweithio gyda Busnes Cymru i gynghori entrepreneuriaid mewn busnesau bach a chanolig ar sut y gallant gael gwared ar y rhwystrau i bobl. Rydym ni hefyd yn gweithio gyda nifer o randdeiliaid a, thrwy'r fframwaith gweithredu ar anabledd, rydym ni wedi amlinellu nifer o gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer canfod sut y gallwn ni wella cyfleoedd i unigolion drwy ein cyflogwyr mawr a llai o faint yn y wlad.

O ran y cwestiwn penodol y mae Mike Hedges yn ei holi am yr hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud a hefyd, yn bwysig iawn, beth y gall y cyrff hynny a ariennir sy'n dibynnu ar adnoddau Llywodraeth Cymru ei wneud, rwy'n falch o hysbysu'r Aelodau heddiw y bydd y contract economaidd yn cael ei ymestyn i nifer sylweddol o gyrff a ariennir gan Lywodraeth Cymru, i sicrhau bod y cyrff hynny a ariennir yn hybu twf cynhwysol ac yn cofleidio'r agenda gwaith teg, sydd wrth wraidd y contract economaidd ac, wrth wneud hynny, yn creu mwy o gyfleoedd i bobl anabl i gael gwaith yn eu sefydliadau.

16:30

A gaf i ddiolch i Weinidog y Cabinet am ei ddatganiad, sy'n cydnabod Diwrnod Rhyngwladol Pobl ag Anableddau y Cenhedloedd Unedig? Rwy'n credu ei bod hi'n wir i ddweud ein bod ni i gyd yn rhannu pryderon ynghylch sut yr ydym ni'n trin ein cyd-ddinasyddion sydd mewn sefyllfa lle na allent, oherwydd anableddau, ddod o hyd i waith. Ond gallaf ddweud yn y cyswllt hwn ei bod hi'n ymddangos nad yw cyflogwyr yn rhannu'r un lefel o wasanaeth cyhoeddus a oedd ar un adeg yn gyffredin tuag at y rhai yn ein cymdeithas sydd ag anabledd. Rhaid imi ddweud bod rhai ohonom yn gresynu at dranc llawer o unedau Remploy, a gafodd eu beirniadu am wahanu pobl anabl ond o leiaf fe roddodd iddynt yr urddas o waith da tymor hir mewn amodau da.

Fodd bynnag, mae'n braf darllen yn yr adroddiad fod Busnes Cymru yn gweithio gyda chyflogwyr, nid yn unig i godi eu hymwybyddiaeth o'r rhai sydd ag anableddau ond hefyd i agor eu llygaid at eu hagweddau negyddol yn aml tuag at alluoedd pobl anabl, yn hytrach na'u hanableddau. Rwyf hefyd yn cydnabod y gwaith y mae Gyrfa Cymru'n ei wneud ar adeg dyngedfennol ym mywydau pobl ifanc anabl, ac mae eu hymyriadau'n dod ar yr adeg dyngedfennol honno, sydd i'w croesawu'n fawr iawn.

Un agwedd na soniwyd amdani yn eich adroddiad yw gallu pobl anabl i gyrraedd y gwahanol leoedd gwaith. O gofio y bu trafnidiaeth yn draddodiadol yn rhwystr i'r anabl gael gwaith, dylai'r gwelliannau mawr i drafnidiaeth o ran mynediad i'r anabl, sydd naill ai eisoes ar waith neu i'w rhoi ar waith dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, gael effaith, os nad dileu'r rhwystrau hynny'n llwyr, gan eu gwneud yn llawer llai o rwystr. Dylai'r gwelliannau hyn, nid yn unig i'r drafnidiaeth ei hun, ar ffurf newid sylweddol o ran hygyrchedd bysiau a threnau, ond hefyd i'r gorsafoedd, ar gyfer y ddau ddull o deithio, wneud gwahaniaeth mawr yng ngallu'r anabl i gyrraedd pob math o leoliadau gwaith.

Onid yw'n ddyletswydd ar bob un ohonom ni yn y Cynulliad hwn i roi sylw i'r mater o ddiweithdra ymysg pobl anabl yn ein cymuned. Ni ddylid edrych arnynt fel baich ar gymdeithas, ond adnodd enfawr o dalent ddihysbydd. Ni all fod yn iawn, fel y nododd adroddiad Sefydliad Joseph Rowntree 'Poverty in Wales 2018', fod 39 y cant o bobl anabl yng Nghymru mewn tlodi, o'u cymharu â 22 y cant o bobl nad ydynt yn anabl, ac mai'r gyfradd dlodi ymhlith pobl anabl yng Nghymru yw'r uchaf yn y DU gyfan. Fe wnaethoch chi eich hun, Gweinidog, ddweud ar un adeg bod y ffigurau hyn yn warth cenedlaethol. Eto i gyd, er gwaethaf degawdau o ddeddfwriaeth ganmoladwy sydd â'r nod o fynd i'r afael â gwahaniaethu yn erbyn pobl anabl, y profiad fynychaf i lawer yw bywyd o dlodi, eithrio a rhwystrau rhag cyfleoedd. Rwy'n derbyn bod eich adroddiad yn cydnabod y methiannau hyn, ac edrychaf ymlaen at eu gweld yn cael sylw—na, sylw manwl—dros y blynyddoedd nesaf.

16:35

Dirprwy Lywydd, a gaf i ddiolch i David Rowlands am ei sylwadau? Rwy'n cytuno â'r farn bod tranc unedau Remploy yn siom fawr ac i hynny roi llawer iawn o bobl yn wir o dan anfantais. A gaf i hefyd ddiolch i David Rowlands am gydnabod y gwaith da sy'n cael ei wneud gan Busnes Cymru a Gyrfa Cymru?

Nododd yr Aelod yn gywir yr angen i'w gwneud hi'n haws cael gwaith, ac mae hynny'n cynnwys cludiant, o ganlyniad i fuddsoddiad o £800 miliwn mewn cerbydau. O dan gytundeb masnachfraint newydd Cymru a'r Gororau byddwn yn gweld trenau newydd—y caiff hanner ohonynt eu hadeiladu yng Nghymru—yn cynnig mynediad i bawb, ac rwyf hefyd yn falch o ddweud, o ganlyniad i'n buddsoddiad ym metro de Cymru, y bydd pob gorsaf o fewn y metro yn rai heb risiau. Mae bron i £200 miliwn yn cael ei wario ar orsafoedd ar draws rhwydwaith llwybrau Cymru a'r Gororau, ac, unwaith eto, byddwn yn gweld swm sylweddol o arian yn cael ei fuddsoddi i sicrhau bod cynifer o orsafoedd â phosib yn rhai heb risiau.

Rwy'n credu hefyd, o ran dyfodol y diwydiant bysiau—a byddaf yn cyflwyno deddfwriaeth yn y flwyddyn newydd—ynghyd â'r diwygiadau yr ydym ni eisiau eu gwneud i'r ffordd y mae gwasanaethau bysiau lleol yn cael eu rheoli a'u cynllunio, mae gennym ni hefyd gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer adnewyddu'r fflyd o 2,300 o fysiau yng Nghymru sydd â cherbydau dim allyriadau a cherbydau sy'n cynnig, unwaith eto, fynediad i bawb sydd hyd yma yn aml wedi wynebu rhwystrau anablu. Felly, o ran trafnidiaeth, rydym ni yn sicr yn symud i'r cyfeiriad cywir, ac rydym ni'n gwneud hynny'n eithaf cyflym.

Cyfeiriodd David Rowlands at yr hyn y bu imi sôn amdano'n gynharach, sef bod adnodd anferthol dihysbydd o dalent y dylai busnesau fanteisio arno. Rwyf eisoes wedi amlinellu'r ymchwil a wnaed ac sy'n dangos bod cyflogeion anabl yn fwy tebygol o aros mewn swydd am gyfnod hwy a chael llai o absenoldeb oherwydd salwch, ond mae hefyd yn wir bod gan bobl anabl gyfleoedd enfawr, enfawr nawr i ddechrau a thyfu eu busnes eu hunain, gyda'r cymorth sy'n cael ei gynnig gan Busnes Cymru. Dylwn bwysleisio wrth Aelodau, fel y gallant ledaenu'r wybodaeth hon i'w hetholwyr, bod cronfa gyfranogi yn bodoli yn rhan o wasanaeth Busnes Cymru, ac sydd ar gael i dalu am unrhyw gymorth ychwanegol y mae pobl anabl yn ei wynebu, i'w helpu i oresgyn y rhwystrau sy'n eu hatal rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau dechrau busnes, ac mae hyn yn ychwanegol at y modiwlau cynllunio busnes safonol sydd ar gael wyneb yn wyneb neu ar-lein.

16:40
5. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cymru Iachach—Y wybodaeth ddiweddaraf am yr Ymgyrch 'Hyfforddi. Gweithio. Byw.'

Eitem 5 yw datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cymru Iachach—y wybodaeth ddiweddaraf am yr ymgyrch 'Hyfforddi. Gweithio. Byw.' A galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gweithlu'r GIG y mae ei angen arnom i sicrhau'r canlyniadau gorau i bobl sy'n cael gofal. Rydym yn cyflawni hyn drwy gael mwy o leoedd hyfforddi, drwy annog pobl ifanc i ddilyn gyrfa fel gweithiwr iechyd proffesiynol, a chefnogi recriwtio drwy ein hymgyrch farchnata lwyddiannus, 'Hyfforddi. Gweithio. Byw.' Mae'r ymgyrch 'Hyfforddi. Gweithio. Byw' yn parhau i farchnata gyrfaoedd gofal iechyd GIG Cymru ynghyd â'r cyfleoedd ffordd o fyw sydd ar gael yng Nghymru. Mae hynny wedi'i farchnata o fewn y DU ac, wrth gwrs, yn rhyngwladol.

Mae'r hyn a ddechreuodd fel ymgyrch yn canolbwyntio ar hyrwyddo manteision gweithio yn feddyg teulu yng Nghymru, dros y tair blynedd diwethaf, wedi ehangu i gynnwys amrywiaeth o broffesiynau allweddol eraill—nyrsio, seiciatreg, fferylliaeth ac yn fwyaf diweddar, bydwreigiaeth. Mae'r ymgyrch yn creu darlun cadarnhaol o Gymru a'r hyn y gallwn ei gynnig i weithwyr gofal iechyd proffesiynol. Eleni, roeddwn yn bresennol fy hun yng nghynadleddau y Coleg Nyrsio Brenhinol a'r Coleg Bydwreigiaeth Brenhinol, gan weld drosof fy hun yr ymateb cadarnhaol i'n presenoldeb yn y digwyddiadau mawr hyn a'r diddordeb a ddeilliodd o hynny. Y flwyddyn nesa bydd arddangosfa am yr ymgyrch 'Hyfforddi. Gweithio. Byw' yn nigwyddiadau'r Coleg Nyrsio Brenhinol a'r Coleg Bydwreigiaeth Brenhinol yn rhan o flwyddyn ryngwladol y nyrs a'r fydwraig. O ran digwyddiad y Coleg Bydwreigiaeth Brenhinol, bydd yn digwydd am y tro cyntaf yma yng Nghymru. Bu'r ymgyrch yn allweddol hefyd wrth sefydlu cysylltiadau â systemau gofal iechyd y tu allan i'r DU, ac mae gwaith ar y gweill i ddatblygu dull cydgysylltiedig o recriwtio nyrsys yn rhyngwladol.

Mae hyfforddi meddygon teulu wedi parhau i fod yn ganolbwynt allweddol i'r ymgyrch. Yn dilyn y llwyddiant sylweddol a fu wrth lenwi lleoedd ers 2016, cytunais ar gynnydd yn y dyraniad llinell sylfaen o 136 i 160 o leoedd, gan ddechrau'r hydref hwn. Mae hyn yn atgyfnerthu ymrwymiad y Llywodraeth hon i gyflwyno'r gweithlu sydd ei angen arnom yn dilyn y lefelau uchaf erioed o feddygon yn dewis Cymru ar gyfer eu hyfforddiant meddyg teulu.

Eleni llwyddwyd i gyrraedd y gyfradd lenwi uchaf erioed, gan lenwi 186 o leoedd o ddyraniad o 160, gan ragori ar y dyraniad newydd hwnnw hyd yn oed, gyda phob cynllun hyfforddi ledled Cymru yn llenwi hyd at gapasiti, gan gynnwys yr ardaloedd hynny a oedd yn anodd recriwtio ar eu cyfer yn hanesyddol. Mae hyn yn cynnwys, er enghraifft, cynllun Sir Benfro, a oedd â chyfradd llenwi o sero mor ddiweddar â 2016. Eleni, yn dilyn pob rownd recriwtio, mae Sir Benfro bellach wedi llenwi saith lle. Llenwodd y tri chynllun yn y gogledd 28 o leoedd o'u dyraniad targed cychwynnol o 22 lle.

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn parhau i weithio i sicrhau bod y seilwaith yn ei le i gefnogi nifer cynyddol bobl sydd eisiau hyfforddi i fod yn feddygon teulu, gyda'r bwriad o ehangu'r cynlluniau hyfforddi ymhellach dros y ddwy flynedd nesaf. Cyflawnwyd y gwelliant parhaus yn y sefyllfa recriwtio drwy osod targedau realistig ynglŷn â'r hyn y gellir ei gyflawni ac ymestyn ein huchelgais bob yn dipyn wrth i'r system ddatblygu'r gallu i gyflenwi'r niferoedd ychwanegol hynny.

Mae'r ymgyrch hefyd wedi hybu arbenigeddau meddygol eraill sydd wedi gweld cynnydd yn eu cyfraddau llenwi. Mae'r gyfradd lenwi ar gyfer hyfforddiant seiciatreg graidd wedi cynyddu o ddim ond 33 y cant i 100 y cant mewn dwy flynedd. Mae hynny'n ganlyniad cadarnhaol arall. Er gwaethaf yr hinsawdd ariannol anodd sy'n parhau, rydym yn parhau i fuddsoddi yn y gwaith o sicrhau cynaliadwyedd hirdymor ein gweithlu yn y GIG, sy'n parhau i dyfu flwyddyn ar ôl blwyddyn.

Am y chweched flwyddyn yn olynol, bydd cyllid i gefnogi addysg a hyfforddiant i weithwyr iechyd proffesiynol yng Nghymru yn cynyddu. Gwneuthum y penderfyniad i fuddsoddi £127.8 miliwn yn 2020-1. Mae hynny'n cyfateb i gynnydd blynyddol o 13 y cant, gyda £16.4 miliwn ychwanegol ar gyfer rhaglenni addysg a hyfforddiant i weithwyr gofal iechyd proffesiynol yma yng Nghymru. Mae hynny'n cynnwys £1.4 miliwn ar gyfer 47 o leoedd hyfforddi ôl-raddedig meddygol ychwanegol. Mae hynny'n golygu, ers 2014, bod nifer y lleoedd hyfforddi i nyrsys wedi cynyddu 89 y cant, bod nifer y lleoedd hyfforddi i fydwragedd wedi cynyddu 71 y cant, bod nifer y lleoedd hyfforddi i ffisiotherapyddion wedi cynyddu 71 y cant hefyd, a bod lleoedd hyfforddiant radiograffeg wedi cynyddu 57 y cant.

Dyma'r lefel uchaf erioed o gyllid a bydd yn cefnogi'r nifer mwyaf erioed o gyfleoedd hyfforddi yng Nghymru. Mae'n cynyddu gallu ein gweithlu i helpu'r GIG i ymateb i'r heriau sy'n ei wynebu yn awr ac yn y dyfodol. Rwy'n falch o record y Llywodraeth hon o ran buddsoddi. Yn nannedd degawd o gyni, mae gan y GIG fwy o bobl yn gweithio ynddo nag ar unrhyw adeg yn ei hanes, a'r cyfan wedi'i anelu at atal a gofalu am bobl ym mhob un cymuned yma yng Nghymru.

Yn ogystal â recriwtio a hyfforddi, mae cadw'r gweithlu presennol yn allweddol i sicrhau gweithlu medrus a chynaliadwy. Dyna pam roedd lles staff yn ganolog i'n gweledigaeth a nodwyd yn 'Cymru Iachach' a bydd yn rhan o strategaeth y gweithlu sy'n cael ei datblygu ar y cyd gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru.

Roeddwn yn falch o gyhoeddi yr wythnos diwethaf fy mod yn ymestyn bwrsariaeth GIG Cymru tan 2023. Bydd y fwrsariaeth ar gael ar gyfer dwy garfan ychwanegol ar gyfer y blynyddoedd academaidd 2021-22 a 2022-23. Bydd ar gael i nyrsys a bydwragedd, ond, yn wahanol i'r Alban, byddwn yn parhau i ddarparu'r fwrsariaeth i weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd hefyd. Mae'r cyhoeddiad hwn yn rhoi eglurder ynghylch trefniadau bwrsariaeth ar gyfer y tair blynedd academaidd nesaf i fyfyrwyr a darparwyr.

Mae'n hanfodol ein bod yn ymgysylltu â'n cenhedlaeth nesaf o weithwyr gofal iechyd proffesiynol ym mhob cyfnod yn eu haddysg. Nod y rhaglen cefnogi gyrfaoedd meddygol yw cynyddu nifer y ceisiadau llwyddiannus gan siaradwyr Cymraeg i ysgolion meddygol yng Nghymru, ac rwyf wedi ymestyn hyn am flwyddyn arall. Yn dilyn llwyddiant rhaglen 2018, cytunais y byddai'r cynllun yn rhedeg am ail flwyddyn yn 2019. O'r 60 o fyfyrwyr a oedd yn rhan o'r rhaglen yn 2018, cofrestrodd 43 ar gyrsiau yn ymwneud ag iechyd yng Nghymru—28 ar gyrsiau meddygaeth a 15 ar gyrsiau anfeddygol.

Yn ogystal â hyn, rwyf wedi cytuno ar estyniad pellach o flwyddyn i ehangu mynediad i feddygfeydd teulu drwy'r rhaglen profiad gwaith. Nod y rhaglen, sydd bellach yn ei phedwaredd flwyddyn, yw rhoi cyfle i fyfyrwyr blwyddyn 12 weld y gwaith sy'n gysylltiedig â phractis cyffredinol. Hyd yma, mae dros 200 o fyfyrwyr o bob cwr o Gymru wedi cymryd rhan yn y rhaglen yn llwyddiannus.

Eleni, rydym ni hefyd wedi cyflwyno tri phrif ddull i fod yn sail i ymagwedd fwy cyfannol a chefnogi gwaith cynllunio gweithlu effeithiol mewn gofal sylfaenol: cofrestr Cymru gyfan ar gyfer  meddygon teulu locwm, system adrodd gweithlu genedlaethol i gasglu gwybodaeth am staff practis cyffredinol, a gwefan symlach i bractisau meddygon teulu reoli a hysbysebu swyddi gwag.

Mae gwaith hefyd yn mynd rhagddo drwy'r rhaglen strategol ar gyfer gofal sylfaenol i nodi meysydd blaenoriaeth ar gyfer yr ymgyrch 'Hyfforddi. Gweithio. Byw' yn y dyfodol, gan gynnwys gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, sydd wrth gwrs yn rhan allweddol o'r gweithlu. Lansiwyd fframwaith y proffesiynau perthynol i iechyd, 'Edrych Ymlaen Gyda'n Gilydd', yn y gynhadledd genedlaethol ar ofal sylfaenol ar 7 Tachwedd. Datblygwyd y fframwaith ar y cyd ag aelodau o'r proffesiynau a nifer o randdeiliaid.

Diben y fframwaith yw sicrhau bod dinasyddion yn cyflawni'r canlyniadau sy'n bwysig iddynt ac yn cael gofal a thriniaeth o'r safon uchaf bob amser. Mae'n darparu cyfeiriad clir ar gyfer trawsnewid y ffordd y mae gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd yn cael eu defnyddio a'u cyrchu. Yn benodol, bydd yn helpu i gefnogi'r symudiad o weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd i wasanaethau sylfaenol a gofal yn y gymuned sydd ar gael yn uniongyrchol. Mae hyn yn gyson o ran cyflawni ein gweledigaeth genedlaethol i ddarparu gofal yn agosach at y cartref, i wella iechyd a lles y boblogaeth, ac i sicrhau'r adferiad mwyaf posibl sy'n galluogi pobl i fyw mor annibynnol â phosibl am gyhyd â phosibl.

Ategir y fframwaith gan gynllun gweithredu i ysgogi newid. Un o'r camau gweithredu a weithredwyd eisoes yw penodi arweinydd cenedlaethol gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd ar gyfer gofal sylfaenol yn y rhaglen strategol ar gyfer ein tîm gofal sylfaenol. Edrychaf ymlaen at gymryd cwestiynau heddiw, ac, wrth gwrs, yn y dyfodol.  

16:45

Prynhawn da, Gweinidog, a diolch am y datganiad heddiw ac am gael ei weld o flaen llaw. Rwy'n credu bod rhai arwyddion da iawn i'w gweld yn yr ymgyrch 'Hyfforddi. Gweithio. Byw,' a chroesawaf yn arbennig yr ymdrechion i wella'r broses o recriwtio pobl ifanc a chynyddu'r lleoedd hyfforddi ym mhob un o'r proffesiynau gofal iechyd.

Nawr, un o'r nodau oedd denu demograffig mwy amrywiol i'r proffesiwn. Lansiwyd ymgyrch ddechrau'r flwyddyn hon, yn cynnwys Richard Desir, nyrs wrywaidd, i geisio denu mwy na'r 12 y cant o nyrsys gwrywaidd sydd gennym ni ar hyn o bryd, a tybed a wnewch chi amlinellu sut y mae'r ymgyrch hon yn datblygu ac a oes mwy o nyrsys gwrywaidd wedi cael eu recriwtio ac a yw nyrsys wedi cael eu recriwtio o blith oedrannau ehangach. Hefyd, a wnewch chi amlinellu a fu unrhyw lwyddiannau ai peidio o ran denu nyrsys yn ôl i'r proffesiwn sydd wedi gadael yn y gorffennol?

Nawr, rwy'n siŵr y byddwch yn gwybod bod y Coleg Nyrsio Brenhinol wedi amlinellu bod bylchau difrifol yn y gweithlu nyrsio, gan nodi bod nyrsys yng Nghymru, bob wythnos, yn rhoi oriau ychwanegol i'r GIG gwerth 976 o nyrsys llawn amser. Nawr, y llynedd, 2018-19, gwariodd GIG Cymru dros £63 miliwn ar nyrsys asiantaeth, sy'n gynnydd o ryw 24 y cant ers y llynedd, ac mae hynny'n cyfateb i dros 2,600 o nyrsys sydd newydd gymhwyso. Nawr, rwyf yn cydnabod y cyhoeddiad diweddar fod rhagor o leoedd hyfforddiant nyrsio, ond mae'n gwestiwn ynghylch a fyddai'r lleoedd hyfforddi ychwanegol hynny'n ddigonol mewn gwirionedd ar gyfer y lefel honno o swyddi gwag dros y tymor hir, a tybed a wnewch chi, yn eich barn chi, ddweud sut y byddech yn rhagweld cai'r broblem honno o brinder nyrsys ei datrys a faint o amser y credech y byddai'n ei gymryd i wneud hynny.

Yr wythnos diwethaf, lansiodd Llywodraeth yr Alban ei hymgyrch 'What did you do today?' i recriwtio mwy o staff iechyd, a hoffwn wybod a ydych chi wedi cael unrhyw drafodaethau gyda'ch cymheiriaid yn yr Alban ynghylch eu hymdrechion i wneud iechyd yn llwybr gyrfa mwy deniadol i bobl ifanc, ac a oes unrhyw beth y gallem ei ddysgu oddi wrthyn nhw.  

Rwy'n falch iawn o glywed bod meysydd penodol o ran recriwtio meddygon teulu wedi bod yn llwyddiant, yn enwedig—ac rwy'n bleidiol iawn, fel y gwyddoch chi mae'n siŵr—ardal Sir Benfro, ond a oes unrhyw gynlluniau i ehangu hyn ymhellach, gan ganolbwyntio'n benodol ar siroedd eraill neu feysydd penodol eraill? Oherwydd, er bod y lleoedd hyfforddi newydd hyn yn newyddion da, rwy'n dal i bryderu am allu byrddau iechyd Cymru i gadw'r meddygon teulu presennol. Mae ffigurau Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu yn tynnu sylw at y ffaith bod 31 y cant o feddygon teulu yn dweud eu bod dan bwysau mawr ac na allant ymdopi o leiaf unwaith yr wythnos, mae 23 y cant o feddygon teulu yn dweud eu bod yn annhebygol o fod yn gweithio mewn practis cyffredinol ymhen pum mlynedd, ac mae 72 y cant o feddygon teulu yn dweud eu bod yn disgwyl i weithio mewn practis cyffredinol waethygu yn ystod y pum mlynedd nesaf. Felly, rwy'n credu mai'r hyn y mae'n ei ddweud yw bod dadrithiad a phryder gwirioneddol ynghylch eu harferion gwaith ymhlith meddygon teulu. Felly, er y croesewir yn fawr eich bod wedi llwyddo i lenwi'r holl leoedd sydd ar gael i chi, ein bod wedi recriwtio yn rhai o'r ardaloedd sy'n anodd recriwtio ar eu cyfer yn draddodiadol, roeddwn eisiau deall yn glir beth yw eich strategaeth hirdymor i newid y sefyllfa hon, i gadw'r meddygon teulu sydd gennym ni, er mwyn gwella eu hamodau yn y fath fodd fel nad ydym yn cael y bygythiad posibl hwn o ran pobl yn gadael.

Yn olaf, rwy'n dal i bryderu bod llawer o fylchau'n parhau yn y gweithlu diagnostig a tybed a wnewch chi roi'r newyddion diweddaraf ynghylch strategaeth weithlu Addysg a Gwella Iechyd Cymru a sut y mae'n bwriadu mynd i'r afael yn benodol â'r bylchau yn y gweithlu diagnostig. Rwy'n siŵr ein bod i gyd yn cytuno, os gallwn ddiagnosio pobl yn gynharach, mae'n debyg y gallwn eu cyrraedd, cael gwell canlyniadau o ran iechyd gyda llai o gost i'r wlad. Beth ydych chi yn ei wneud i gynyddu nifer y lleoedd hyfforddi clinigol yn unol ag anghenion cleifion heddiw ac yn y dyfodol? Ac—mae hwn yn gwestiwn, mewn gwirionedd, gan rai o'r elusennau canser—a fydd Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i gynnal archwiliad cynhwysfawr o niferoedd y staff diagnostig yn y GIG yng Nghymru? Pan gymerais olwg ar y sefyllfa honno, roeddwn yn credu nad oedd yn beth hollol afresymol i'w ofyn a tybed a allai AaGIC fod yn rhoi sylw i hynny. Diolch.

16:50

Diolch am y gyfres o gwestiynau. Rwy'n credu bod rhywfaint o hynny ychydig y tu allan i ble'r ydym ni o ran 'Hyfforddi. Gweithio. Byw', ond fe wnaf fy ngorau i ymateb i'r pwyntiau heddiw ac rwy'n eithaf sicr, gyda dadleuon ar nyrsio yfory ac o bosibl yn y dyfodol, y bydd digon o gyfleoedd i siarad am y gweithlu.

O ran nyrsio gwrywaidd, ni chawn y ffigurau tan o leiaf diwedd y flwyddyn hon ac i mewn i'r flwyddyn nesaf i weld a oes tuedd, ac, yn ddiddorol, mae hyn yn peri pryder i'r Coleg Nyrsio Brenhinol ac, yn wir, i Unsain hefyd, lle maen nhw wedi cael problemau penodol ynghylch dymuno gweld nyrsio fel gyrfa i ddynion, oherwydd menywod yw'r delweddau traddodiadol o nyrsys ac yna, er gwaetha'r holl Charlie Fairheads, mae llawer o rai eraill o ran ein portread rheolaidd o'r gweithlu nyrsio. Felly, mae her yn y fan honno, ac, fel y dywedwch chi, roedd hi'n ddewis bwriadol i ddewis nyrs wrywaidd i arwain yr ymgyrch recriwtio y llynedd, ond credaf y byddai'n her annheg i'w gosod drwy ddweud y dylid cael newid sylweddol o fewn un flwyddyn, oherwydd rydym ni'n ymdrin â'r angen am newid diwylliannol, ond mae'n bwysig ein bod ni'n ceisio mynd i'r afael ag ef yn fwriadol.

Ac, eto, o ran eich pwynt ynglŷn â dysgu oddi wrth yr Albanwyr a denu pobl i yrfaoedd yn y GIG, rwy'n hapus i gymryd syniadau da o ble maen nhw'n dod. Os ydyn nhw'n effeithiol, mae gen i ddiddordeb yn y ffordd y gallem ni eu haddasu a'u mabwysiadu yma yng Nghymru yn hytrach na cheisio nodi sut a pham na allen nhw weithio. Ac mae syniadau sy'n gweithio yng nghyd-destun y teulu o genhedloedd yn y DU yn llawer mwy tebygol o gael eu haddasu a'u mabwysiadu yng Nghymru oherwydd y tebygrwydd o fewn ein systemau. Felly, rwyf wir yn dal yn chwilfrydig ac yn ymddiddori yn yr hyn y mae gwledydd eraill y DU yn ei wneud yn wyneb heriau gweddol debyg. Dylai fod gennym ni fwy o wybodaeth ar ddiwedd y flwyddyn hefyd ynghylch rhywfaint o'r wybodaeth am ddychwelyd i waith nyrsio a'r tueddiadau a welwn ni. Felly, mae her o ran deall yr hyn a wnawn ni fel bod pobl yn dychwelyd i yrfa yn y GIG os ydynt wedi gadael, ond hefyd sut yr ydym yn cadw rhai o'r bobl hynny a fyddai'n gadael fel arall, ac mae a wnelo hynny â rhai o'r patrymau gwaith sydd gennym ni. Mae a wnelo hynny hefyd â'r hyblygrwydd yr ydym ni eisiau ei weld yn y gweithlu, oherwydd efallai y bydd rhai pobl eisiau parhau i weithio'n rhan amser. Nawr, yr hyn nad ydw i eisiau ei wneud yw mabwysiadu agwedd artiffisial a dweud, 'Wel, er bod ein niferoedd nyrsio wedi codi'n net, wrth feddwl am y peth, mae wedi cynyddu mwy oherwydd ein bod wedi cadw pobl a fyddai fel arall wedi mynd.' Dydw i ddim yn credu bod hynny'n ddefnyddiol iawn. Ond rwyf eisiau nodi faint yn fwy y gallem ei wneud gyda'r hyblygrwydd yr ydym eisiau ei gynnig i gadw pobl yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, boed yn borthorion, yn weithwyr gweinyddol neu'n nyrsys neu'n weithwyr eraill.

O ran gwariant ar asiantaethau, edrychwch, rhan o hyn yw'r realiti o fod eisiau cyflwyno'r ddeddfwriaeth yr ydym ni wedi ei llunio, pan rydych yn meddwl am ddymuno cael niferoedd digonol o staff ar draws y gweithlu, y gallu i addasu a chyflawni hynny, yn enwedig gyda'r heriau a gawsom ni o ran recriwtio—. Oherwydd ni allwn ni anwybyddu'r realiti nad yw tua 90 y cant o nyrsys a oedd fel arall yn cofrestru ar yr NMC a gofrestrodd yn Ewrop bellach yn dod yma. Mae hynny'n rhoi pwysau mawr ar y gweithlu nyrsio sydd gennym ni eisoes. Gwyddom, yn y byd gorllewinol yn fwy cyffredinol, fod pwysau ar niferoedd nyrsio. Felly, mewn gwirionedd, mae ein gallu i recriwtio a chadw nyrsys o Ewrop yn rhan fawr o'r hyn yr ydym ni eisiau ei wneud, yn ogystal â recriwtio rhyngwladol. Ond mae hynny yn nwylo'r pleidleiswyr ac eraill yn yr wythnosau nesaf ynghylch beth fydd ein perthynas yn y dyfodol. Ond bwriad y buddsoddiad sylweddol mewn hyfforddiant nyrsys yw ei gwneud hi'n glir ei fod yn golygu mwy na dim ond recriwtio o wledydd eraill, mae'n ymwneud, mewn gwirionedd, â hyfforddi ein nyrsys ein hunain, sy'n llawer mwy tebygol o aros. Oherwydd mae nyrsys sy'n mynd i'r gweithlu yn tueddu i fod â chyfrifoldebau a chysylltiadau ag ardal eisoes, ac nid yw hynny yr un fath mewn rhannau eraill o'r gweithlu a raddiodd yn ddiweddar.

O ran eich pwynt am y gweithlu diagnostig, gallwch ddisgwyl gweld rhywfaint o hynny yn y strategaeth gweithlu ar y cyd, ond rwy'n credu y byddwch yn gweld mwy o hynny wrth imi ddychwelyd i sôn nid yn unig am y gweithlu canser ond yn fwy penodol am ddiagnosteg fel maes. O ran cadw ein meddygon teulu presennol, mae gennym ni ystod o waith yr wyf wedi siarad amdano'n rheolaidd ar ddiwygio'r contract, am y gwaith ar ddatrys indemniad yn y Bil byr sydd gerbron y Cynulliad ar hyn o bryd. Mae'r her yn ymwneud â'r awydd i recriwtio pobl a gwneud hynny'n llwyddiannus, ac mae a wnelo rhan fawr ohono â chael mwy o bractisau hyfforddi mewn gwirionedd. Ac mae hynny'n rhywbeth y mae meddygon teulu wedi dweud wrthyf, a byddai AaGIC eu hunain eisiau eu helpu i fod ag awydd i ymrwymo i aros yn y system gwasanaeth iechyd hefyd, yn y gwasanaeth iechyd gwladol.

O ran yr agenda ddiwygio, fodd bynnag, mae'n bwysig eu bod yn gallu gweld bod rhywbeth yn cael ei wneud o ran meddygon teulu, oherwydd mae llawer o'r diwygio hwnnw'n cael ei sbarduno gan bobl yn y gwasanaeth. Yn y gynhadledd genedlaethol ar ofal sylfaenol, un o'r rhannau mwyaf trawiadol ohoni oedd edrych ar y llawlyfr clwstwr sydd wedi cael ei ddarparu, lle mae pob clwstwr yn siarad am yr hyn y mae'n dewis ei wneud a'r arweiniad gan feddygon teulu, yn gweithio gydag eraill. Ac nid oherwydd fy mod wedi dweud wrthynt yn benodol beth y dylent ei wneud—mae llawer mwy o berchenogaeth a syniadau ac arloesedd yn dod at ei gilydd. Pan gyfarfûm ag arweinwyr y clystyrau mewn dau gyfarfod penodol, gwnaed argraff fawr arnaf gan y brwdfrydedd i berchenogi rhai o'r heriau a dod o hyd i atebion yn eu sgil. Oherwydd, fel y gwyddoch chi a minnau, yn anffodus, mae'n wir, beth bynnag fo'r areithiau y gallaf eu gwneud, nad yw pobl bob amser yn credu mai gwleidydd yw'r person y dylent wrando arno ynghylch sut y dylent wella eu swydd o fewn y gwasanaeth. Maen nhw'n barod i wrando ar eu cymheiriaid sy'n darparu'r dyfodol yn barod. A dyna'r rhan galonogol: mae'r dyfodol yma eisoes mewn rhannau eraill o'r system yma yng Nghymru. Yr her i ni yw sut ydym ni'n rhannu hynny ac yn cyflawni hynny'n fwy cyson. Ond rwy'n edrych ymlaen at allu gwneud hynny.

16:55

Diolch, Dirprwy Lywydd, a hoffwn hefyd ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad ac am y copi o flaen llaw. Mae'n galonogol iawn ei bod hi'n amlwg bod rhywfaint o newyddion cadarnhaol.

Hoffwn ofyn rhai cwestiynau penodol i'r Gweinidog—dim un nad yw'n ymwneud â materion a godwyd yn ei ddatganiad, ond, os oes rhai sy'n rhy benodol i'w trafod yn y fformat hwn, efallai y gallai'r Gweinidog ysgrifennu ataf gyda'r manylion os wyf yn turio gormod.

Hoffwn ofyn, yn gyntaf oll, pa werthusiad penodol sy'n cael ei wneud o effaith yr ymgyrch ei hun. Gallwch weld beth yw effaith yr ymgyrch o ran mwy o recriwtio, ond a yw'r Gweinidog yn gwneud unrhyw waith penodol i benderfynu a yw—ai'r ymgyrch ydyw, a yw'n gyfuniad, fel y tybiaf y gallai fod, o'r ymgyrch a rhai ffactorau eraill? Mae'n rhaid imi ddweud ei bod hi'n ymddangos i mi ei bod hi'n sicr yn effeithiol, ond mae'n amlwg bod buddsoddiad sylweddol yn cael ei wneud, a byddai'n ddefnyddiol gwybod pa werthusiad roedd y Gweinidog a'i swyddogion yn ei wneud o effaith benodol yr ymgyrch ei hun.

Mae'r Gweinidog yn sôn yn ei ddatganiad am y cynnydd canrannol mewn lleoedd hyfforddi ar gyfer nyrsio, bydwreigiaeth a ffisiotherapi, ac mae'r rheini, wrth gwrs, i'w croesawu'n fawr. Nawr, tybed a wnaiff y Gweinidog ddweud wrthym ni heddiw pa mor ffyddiog ydyw y bydd y cynnydd hwn mewn lleoedd yn diwallu'r angen yn y dyfodol. Sylweddolaf y gall rhywfaint o hyn ddod yn rhan o'r gwaith sy'n cael ei wneud gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru mewn cysylltiad â strategaeth y gweithlu, ond gallai cynnydd crai mewn lleoliadau hyfforddi, os nad ydym yn sicr bod y rhain wedi'u cysylltu â'r angen presennol a'r angen yn y dyfodol, wrth gwrs, greu risg o hyfforddi'r gweithlu hwnnw ac yna aelodau'r gweithlu hwnnw yn gorfod mynd i rywle arall i chwilio am waith os nad yw'r swyddi yno ar eu cyfer.

Clywodd y grŵp trawsbleidiol ar strôc heddiw nad oes meddygon mewn lleoedd hyfforddi uwch mewn gwasanaethau strôc ar hyn o bryd. Nawr, rwy'n seilio fy nghwestiwn, wrth gwrs, ar yr hyn y maen nhw’n ei ddweud, ac mae'n bosib bod yr wybodaeth honno'n hen, ond, yn amlwg, os yw hynny'n wir, mae'n rhoi straen enfawr ar ddarparu gwasanaethau gofal strôc, a tybed a all y Gweinidog ymchwilio i'r sefyllfa hon a chanfod os yw'n wir a beth y gall ei wneud i unioni'r mater penodol hwn.

Mae datganiad y Gweinidog yn cyfeirio at recriwtio i hyfforddiant mewn seiciatreg graidd yn codi o 33 y cant i 100 y cant. Eto, wrth gwrs, mae hynny'n newyddion da, ond 30 y cant o beth i 100 y cant o beth? Tybed a fyddai'r Gweinidog yn barod i rannu gyda ni beth yw'r data crai er mwyn inni allu gweld yn union beth yw niferoedd y bobl sy'n cael eu hyfforddi. Tybed hefyd a oes ganddo unrhyw wybodaeth am y lleoedd hyfforddi ar gyfer seicolegwyr clinigol ac a ydym yn llwyddo i lenwi'r lleoedd hynny, ac, unwaith eto, a ydynt yn diwallu'r angen yn benodol.

Mae datganiad y Gweinidog yn cyfeirio at brofiad gwaith, a tybed a yw'r Gweinidog yn derbyn canfyddiadau prosiect y Cyngor Ysgolion Meddygol ar ehangu mynediad ac mai'r lle cyntaf y bydd athrawon a dylanwadwyr allweddol yn mynd i gael cyngor ac arweiniad o ran ceisiadau ysgolion meddygol ac, weithiau, y gall eu gwybodaeth am dderbyniadau, swyddogaeth y meddyg, ac ati, fod yn dameidiog ac nid yn gyfredol—. A tybed a fyddai'r Gweinidog yn barod i gael rhagor o sgyrsiau gyda'r Gweinidog Addysg ynghylch sut y gallwn ni sicrhau—unwaith eto, mae gan y datganiad rai pethau cadarnhaol i'w dweud am hyn—y gall ysgolion roi cyngor cywir i bobl ifanc a allai fod yn ystyried gyrfaoedd yn y gwasanaeth iechyd yn ehangach. Rwy'n credu'n arbennig nad yw rhagdybiaethau'n cael eu gwneud ynghylch priodoldeb plant o gefndiroedd llai llewyrchus, ardaloedd llai llewyrchus, yn gwneud cais am hyfforddiant meddygol.

Mae yna bwynt penodol iawn am system adrodd y gweithlu cenedlaethol i gasglu gwybodaeth staff mewn practis cyffredinol. Mae hynny'n amlwg yn ffordd synhwyrol o symud ymlaen, ond mae Angela Burns eisoes wedi sôn am y pwysau ar bractisau meddygon teulu, a tybed beth all y Gweinidog a'i swyddogion ei wneud i sicrhau na fydd casglu'r wybodaeth hon yn rhoi baich ychwanegol ar bractisau meddygon teulu. Dylwn fod yn glir fy mod yn cefnogi'n fawr yr wybodaeth sy'n cael ei chasglu. Pa wybodaeth y mae'n ei rhannu gyda phractisau meddygon teulu er mwyn i bobl ddeall pam mae'r wybodaeth yn bwysig, oherwydd mae'n sicr yn wir fod pobl yn llawer mwy tebygol o gasglu ac adrodd yn rheolaidd ar ystadegau os ydynt yn gwybod beth rydym yn mynd i'w wneud gyda nhw? Yn amlwg, mae'n hanfodol ar gyfer cynllunio'r gweithlu.

Dim ond yn olaf, Dirprwy Lywydd, mae'r Gweinidog yn sôn am gadw yn ei ddatganiad, a chrybwyllodd hynny eto yn rhai o'i ymatebion i Angela Burns. Mae hyn yn amlwg yn hollbwysig, oherwydd y peth olaf yr ydym ni eisiau ei wneud yw hyfforddi staff ac yna eu colli. Felly, tybed a wnaiff y Gweinidog ddweud wrthym ni a yw'n ffyddiog heddiw y cawn y strategaeth gweithlu newydd yn fuan a fydd yn mynd i'r afael â hyn yn fanwl. Bu rhywfaint o oedi. Byddem i gyd eisiau dweud ei bod hi'n llawer gwell cymryd mwy o amser a gwneud y gwaith yn iawn, ond byddai'n dda cael sicrwydd bod hynny'n mynd i ddigwydd. Ac ar y diwrnod hwn, diwrnod rhyngwladol pobl anabl, bydd y Gweinidog yn ymwybodol iawn ein bod yn colli llawer o staff o'r GIG oherwydd anableddau y maen nhw'n eu cael yn ystod eu gwasanaeth yn y GIG. A all ein sicrhau y bydd y materion sy'n ymwneud â chadw staff yn strategaeth y gweithlu yn mynd i'r afael â'r mater hwnnw'n benodol ac, os oes gennym ni, efallai, nyrs sydd wedi bod yn gweithio mewn amgylchedd sy'n gofyn llawer yn gorfforol, pa mor ffyddiog ydym ni fod byrddau iechyd lleol yn cymryd y camau priodol i ddod o hyd i waith arall sy'n defnyddio'r sgiliau hynny fel nad ydym yn colli'r gweithwyr proffesiynol hynod fedrus hynny? Diolch.

17:00

O ran y pwynt olaf, bûm yn ymwneud rywfaint â'r gwasanaeth iechyd cyn dod i'r fan yma, yn glaf ond hefyd yn weithiwr proffesiynol, ac roedd llawer o hynny mewn gwirionedd—nid yn unig o fewn y gwasanaeth iechyd, ond mewn ystod eang o feysydd yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat—yn ymwneud â'r busnes o wneud addasiadau rhesymol, i weld y gwerth parhaus mewn staff, beth bynnag fo'u hiechyd meddyliol neu gorfforol, ond i weld beth y gallant ei wneud mewn gwirionedd, ac i weld hynny fel budd gwirioneddol a pheidio â cholli golwg ar brofiad y bobl hynny.

Nid ennill hawliad mewn tribiwnlys mewn gwirionedd oedd y rhan fwyaf llwyddiannus o hyn; ond pan oeddech yn gallu newid natur y berthynas yng ngweithle rhywun fel y gallen nhw aros mewn gwaith, yn hytrach nag ennill swm o arian ar ôl iddyn nhw adael y gweithle, neu wneud hawliad yn erbyn cyflogwr a chael canlyniad llwyddiannus a arweiniai'n aml at ddiwedd y berthynas yn y gweithle yn ymarferol. Rwy'n disgwyl i'r gwasanaeth iechyd fod yn rhan o hynny'n llwyr. Rwy'n credu bod yna bwynt ehangach ynghylch cadw ein staff—ac mae'n bosibl y bydd y telerau'n newid, efallai y bydd yr oriau y maen nhw'n gweithio yn newid, efallai y bydd y patrwm yn newid—sef bod eisiau dechrau o'r safbwynt ein bod eisiau cadw'r staff o fewn y gwasanaeth.

O ran y pwynt fod gan yr ymgyrch, 'Hyfforddi. Gweithio. Byw' gyllideb o £0.5 miliwn. Mae'r cymelliadau ychydig dros £400,000—y cymelliadau ariannol ar gyfer yr hyfforddiant meddygol gan gynnwys meddygfeydd teulu. A dweud y gwir, byddaf yn cyhoeddi rhywfaint o wybodaeth am nifer y bobl y credwn eu bod wedi'u denu i Gymru o ganlyniad i'r ymgyrch farchnata, ond bydd rhywfaint o hynny'n ymwneud â'r cyfuniad o ffactorau yr ydych yn gywir yn eu nodi. Mae arnaf eisiau deall gwerth parhaus yr ymgyrch, a rhan o'r her yw cyflawni a deall yr hyn y mae ymgyrch farchnata yn ei chyflawni a phetaech yn cael gwared ar hynny, yna beth a gredwn ni fydd yn digwydd hefyd.

Ond, gallaf ddweud yn onest, ym mhob un o'r digwyddiadau yr wyf wedi bod ynddynt yng nghyngres yr RCN yn ystod y tair blynedd diwethaf, ac yng nghynhadledd yr RCM, mae'n anodd gorbwysleisio brwdfrydedd ein cynrychiolwyr ein hunain yn y cynadleddau hynny—. Felly, mewn gwirionedd, mae ein nyrsys a'n bydwragedd yng Nghymru yn falch iawn o weld Cymru ar ganol y llwyfan, ac maen nhw eu hunain yn eiriolwyr gwirioneddol dros bobl sydd eisiau dod i weithio yng Nghymru. Ond y brwdfrydedd gwirioneddol a fynegwyd gan amrywiaeth o bobl eraill ynghylch canfod beth yw'r cyfleoedd—. Nid yw ynghylch dod i edrych ar stondin grand a chael cacen gri am ddim. Lefel y diddordeb a geir, gyda'r un pwynt mynediad i fynd yn ôl at bobl—. Mae wedi gwella bob blwyddyn. Felly, mae'n dangos gwir werth yr hyn yr ydym ni'n ei wneud, ac mae yna frand cenedlaethol cyson; mae hynny mewn gwirionedd yn helpu byrddau iechyd i ymgymryd â'u gweithgarwch recriwtio eu hunain hefyd. Felly, mae gwerth go iawn. Rwyf eisiau ceisio deall hynny'n iawn, ac rwyf eisiau rhoi mwy o fanylion i Aelodau'r Cynulliad ynghylch hynny yn ystod y flwyddyn nesaf.

O ran anghenion y dyfodol—ac mae hyn yn cysylltu â phwynt strategaeth y gweithlu a wnaethoch a'r ymgynghoriad a gyflwynwyd gan AaGIC a Gofal Cymdeithasol Cymru—mae hyn yn cysylltu'n ôl â'r diwygio bwriadol yr ydym yn ei wneud i wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn 'Cymru Iachach' a'r awydd i ddeall sut mae hyfforddiant yn digwydd. Sut mae pobl yn cael eu hyfforddi i'w hyfforddi nhw ar gyfer y byd gwaith y maen nhw'n mynd iddo, nid y byd gwaith a fodolai 10 mlynedd yn ôl; ond, yn fwy na hynny, y niferoedd y bydd eu hangen arnom ni hefyd. Felly, mae'n cysylltu'n rhannol â strategaeth y gweithlu. Mae hefyd yn cysylltu'n rhannol â'r ail-lunio bwriadol sy'n mynd i ddigwydd.

Mae'r fframweithiau yr ydym ni wedi ymgymryd â nhw ar gyfer gwyddoniaeth gofal iechyd a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd hefyd yn sôn am swyddogaeth ehangach i'r grŵp hwnnw o staff. Nid oes a wnelo hynny ddim â'r staff sydd gennym ni nawr. Mae'n ymwneud â dymuno ail-lunio'r cydbwysedd yn y niferoedd sydd gennym ni yn fwriadol. Mae rhywfaint o hyn yn ymwneud â mwy na'r hyn yr ydym ni eisiau yn y dyfodol. Mae'n ymwneud â'n gallu i recriwtio. Nid wyf yn golygu nad oes gennym ni bobl sy'n gallu darparu hyfforddiant ac addysg o ansawdd uchel i'r bobl hynny o fewn y system yma yng Nghymru. Mewn gwirionedd, mae'n ymwneud â'r ffaith bod yn rhaid i lawer o'r hyfforddiant hwnnw ddigwydd o fewn y gwasanaeth iechyd.

Mewn sgyrsiau blaenorol yr wyf wedi'u cael gyda phobl ar draws y pleidiau—er enghraifft, am hyfforddi nyrsys yn Wrecsam—mae un o'r camau mwyaf cyfyngol mewn gwirionedd ynghylch gallu'r gwasanaeth iechyd i sicrhau bod y lleoedd hyfforddi hynny ar gael. Felly, mae'n ymwneud â gallu ein system i gyflawni hynny, ac rwyf wedi dewis yr opsiwn mwyafsymiol ym mhob un o'r blynyddoedd yr wyf wedi gwneud y dewis hwnnw, gan gofio gallu'r system i hyfforddi'r bobl hynny yn ddigonol ac yn briodol, o ystyried y profiad o hyfforddiant y dylent fod ei angen a'i eisiau, er mwyn iddynt gael profiad da, cymhwyster da a'r awydd i aros o fewn y system yma yng Nghymru.

Byddaf yn falch o ysgrifennu'n ôl at y grŵp trawsbleidiol ar strôc ar y mater penodol a godwch. Efallai y byddai'n ddefnyddiol pe bai'r Cadeirydd, rwy'n cydnabod ei fod yn yr ystafell, yn ysgrifennu ataf gyda chwestiwn penodol, a byddaf yn falch o ymateb. O ran lleoedd seiciatreg, rydym ni wedi llenwi 21 o 21 lle. O ran y materion sy'n ymwneud ag addysgu ac annog pobl i ystyried gyrfa yn y gwasanaeth iechyd, a dweud y gwir, wrth siarad â chyrff proffesiynol ac undebau llafur yn y gwasanaeth iechyd, dywedant mai eu pryder mwyaf ynghylch pobl yn dewis peidio â mynd i'r gwasanaeth iechyd yw'r ffordd y caiff y gwasanaeth iechyd ei bortreadu'n rheolaidd. Maen nhw'n poeni am y tudalennau blaen ar bapurau newydd, yn arbennig—ond safleoedd ar-lein hefyd—sy'n sôn am y gwasanaeth iechyd, ac mae pobl yn meddwl, 'Wel, does dim angen i mi fynd yno i ennill bywoliaeth dda, a pham y byddwn i'n gwneud hynny os ydw i wedyn yn mynd i gael fy ngwawdio?' Felly mae yna her yn bodoli ynglŷn â sut yr ydym ni'n siarad am y gwasanaeth, ac, i fod yn glir, nid problem yng Nghymru'n unig yw hon— mae'n broblem i'r DU gyfan, ac mae'n ymwneud â sut yr ydym yn trafod y gwasanaeth nad yw'n peri i bobl ei ddiystyru. Ond wrth gwrs mae eisiau annog pobl i weithio hyd eithaf eu gallu. Soniwn am hynny yn nhermau gofal iechyd darbodus, rydym yn siarad am hynny gyda phobl ifanc hefyd. Rwyf yn dal i fod o'r farn, ers yr hen ddyddiau yn Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru—a byddaf yn gorffen ar y pwynt hwn; na, mae gennyf un pwynt arall—. Byddaf yn ysgrifennu atoch am adnodd y gweithlu, ac at yr Aelodau, oherwydd rwy'n credu bod yna rai manylion yno y gallaf eu darparu, ond mae'n rhan o'r contract meddygon teulu y cytunwyd arno eleni. Mae'n rhan orfodol, a bydd yr adnodd ar gael i bractisau, clystyrau a byrddau iechyd hefyd. Ond byddaf yn rhoi mwy o fanylion.

Ond ynghylch y pwynt hwn am yrfaoedd yn y gwasanaeth, erbyn i bobl gyrraedd blynyddoedd 12 a 13, y chweched isaf a'r chweched uchaf i roi'r hen enwau arnynt, os cofiwch hynny, bydd y rhan fwyaf o bobl wedi gwneud dewisiadau yn barod, hyd yn oed os nad ydynt yn ymwybodol o hynny. Felly, mewn gwirionedd, mae'n ymwneud â chyfnod llawer cynharach cyn i blant adael yr ysgol gynradd ac ar ddechrau cyfnod yr ysgol uwchradd; eu hatgoffa nhw eu bod yn ddigon da ac y dylen nhw feddwl am yrfa, a chael darlun a dealltwriaeth ehangach o'r byd a'r hyn y gallent ei gyflawni. Oherwydd bydd hynny'n rhoi grŵp ehangach fyth o bobl i ni, a dyna pam mae'r gwaith ehangu mynediad y cyfeiriais ato yn fy natganiad mor bwysig, er mwyn sicrhau bod gennym ni feddygon sy'n debyg i'r bobl y byddant yn eu trin a'u gwasanaethu yn y dyfodol.

17:10

Bydd y Gweinidog yn ymwybodol imi gyfarfod â phractis Gelligaer i drafod cau meddygfa'r Gilfach, ac un o'r materion a godwyd ganddynt oedd nad prinder meddygon teulu yn yr ardal yn unig oedd yn peri iddynt frwydro yn erbyn dull y Llywodraeth o ran y model gofal sylfaenol, ond hefyd prinder gweithwyr proffesiynol eraill ym maes iechyd meddwl, parafeddygon, a'r gweddill. Felly, mae'r ymgyrch hon—a chredaf eich bod wedi dweud eich bod am ei hehangu'n ymgyrch recriwtio ar gyfer pob math o weithwyr proffesiynol, gan gynnwys nyrsys a fferyllwyr—i'w chroesawu. Y cwestiwn y byddwn i'n ei ofyn yn syml yw: a yw'r Gweinidog yn credu y bydd yr ymgyrch hon yn ei gwneud hi'n haws cyflawni'r dull gofal sylfaenol y mae'n ei arloesi, ac a yw'n credu bod meddygon teulu yn ymgysylltu'n llawn â'r dull gweithredu hwnnw?

Rwy'n credu ei fod yn gwestiwn pwysig oherwydd mae yna rywbeth ynghylch ein gallu i ddweud, 'Dyma'r ffordd iawn i weithio yn y dyfodol'. Mae yna farn gyffredinol o blaid hynny, ac yna ein gallu i gael y niferoedd cywir o staff yn y lle priodol i ddarparu'r gofal hwnnw. Mae hynny'n her oherwydd, os edrychwch yn ôl i dair blynedd yn ôl ac yna bum mlynedd yn ôl, credaf y byddai lefel ehangach o sinigiaeth, mae'n deg dweud, ymhlith llawer o'n haelodau staff rheng flaen, gan gynnwys mewn practis cyffredinol, ynghylch y dull a gyflwynodd y Llywodraeth. Ar ddechrau'r cyfnod o weithio mewn clystyrau, yn sicr ni chafodd ei groesawu gan bawb, ac mewn gwirionedd, nawr, gwelaf o'r gynhadledd gofal sylfaenol ac, yn fwy na hynny, o'm rhyngweithio rheolaidd, nid yn unig â chyrff cynrychioliadol fel Cymdeithas Feddygol Prydain a Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol, ond o'm rhyngweithio rheolaidd o gwmpas y wlad, bod barn llawer mwy cadarnhaol am glystyrau a'u potensial a'u gallu i gyflawni.

Ond nid yw'r sefyllfa'n gyson. Mae rhai rhannau o'r wlad yn dal i fod ychydig yn fwy cyndyn nag eraill, a rhan o'r hyn yr wyf eisiau ei wneud yw cyrraedd y sefyllfa pryd y bydd pobl mewn gwirionedd yn cydnabod ei fod yn ffordd well o weithio a byddent ar eu colled os na fyddent yn gwneud hynny. Mae hynny'n golygu bod angen y niferoedd cywir o staff arnom ni. O ran parafeddygon, er enghraifft, mae gennym ni fwy o barafeddygon—bu cynnydd o 7 y cant yn y gweithlu parafeddygon yn y blynyddoedd diwethaf. Nid yn unig hynny, fodd bynnag; rydym yn buddsoddi yn sgiliau parafeddygon hefyd. Felly, o ran y parafeddygon ymarfer uwch, sydd nid yn unig yn ddefnyddiol o fewn y system argyfwng ond mewn gwirionedd o fewn gofal sylfaenol hefyd, rydym ni'n dod o hyd i fodd iddyn nhw weithio fel nad oes angen iddyn nhw roi'r gorau i un i wneud y llall. Mae hynny wedi bod yn stori lwyddiant go iawn.

Os cofiwch Fryntirion, fe wnaethon nhw lwyddo i ddod o hyd i fodel a wnaeth hynny, ac fe wnaeth yr union beth hynny, a rhoddodd fwy o sefydlogrwydd o fewn y gweithlu wrth wneud hynny. Os ydych yn edrych ar lwyddiant, er enghraifft, ein dull cyswllt cyntaf o ran ffisiotherapi hefyd, gwelwn lwyddiant mewn gwahanol rannau o'r wlad. Mae'n dal yn rhan o fy rhwystredigaeth, ac yn her i'r system gyfan, i weld hynny'n cael ei ddosbarthu'n fwy cyson. Rwy'n cydnabod bod gan yr Aelod her arbennig mewn un rhan o'r etholaeth, ond rwy'n credu y dylai pobl fod yn fwy hyderus. Rydym yn rhoi ein harian ar ein gair ac yn buddsoddi yn nyfodol y gweithlu, a byddwn yn helpu ac yn cefnogi pobl i gyflwyno'r model gofal sylfaenol newydd, gan fy mod yn gwbl argyhoeddedig ei fod yn darparu gwell gofal i bobl ac mae mewn gwirionedd yn lle gwell i'n staff weithio ynddo.

Diolch am eich datganiad, Gweinidog. Staff y GIG yw ein hadnodd pwysicaf. Ofer yw pwmpio miliynau o bunnau yn ychwanegol i ofal iechyd oni chawn y meddygon, y nyrsys, y radiograffyddion, y technegwyr labordy a'r cynorthwywyr gofal iechyd sydd eu hangen i ddarparu gofal o'r radd flaenaf. Croesawaf y cynnydd y mae 'Hyfforddi. Gweithio. Byw' yn ei wneud, ac mae'r ffaith eich bod wedi llwyddo i ragori ar y lleoedd hyfforddi i feddygon teulu ym mhob cynllun hyfforddi ar draws Cymru yn newyddion gwych. Rwyf yn croesawu'r cynnydd yn nifer y lleoedd hyfforddi ym maes nyrsio, radiograffeg a ffisiotherapi hefyd. Mae'n wych gweld ein bod o'r diwedd yn gwneud cynnydd.

Fodd bynnag, gan roi canmoliaeth o'r neilltu, Gweinidog, nid yw'n ddigon o hyd. Bedair blynedd yn ôl, dywedodd Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol wrthym fod angen i ni hyfforddi 200 o feddygon teulu y flwyddyn er mwyn cadw'r niferoedd fel y maen nhw ar hyn o bryd, ac rydym yn gweld y nifer mwyaf erioed o feddygon teulu yn gadael y proffesiwn. Felly, Gweinidog, faint o feddygon teulu a gaiff eu hyfforddi a'u recriwtio y flwyddyn nesaf? Dyna fy nghwestiwn cyntaf.

Yn ddiweddar, amlygodd Cymdeithas Feddygol Prydain y ffaith bod byrddau iechyd lleol ledled Cymru yn atal ehangu safleoedd meddygon teulu ledled Cymru—ehangu sy'n angenrheidiol i ddarparu lle ymgynghori i feddygon teulu dan hyfforddiant. Gweinidog, pa asesiad ydych chi wedi'i wneud o'r effaith y mae hyn yn ei gael ar yr ymgyrch i hyfforddi a recriwtio mwy o feddygon teulu yng Nghymru, os gwelwch yn dda?

Os ydym am hyfforddi mwy o staff, rhaid inni hefyd sicrhau eu bod eisiau aros yng Nghymru pan fyddant wedi cymhwyso. Dywed bron i dri chwarter o feddygon teulu Cymru eu bod yn disgwyl i'r gwaith mewn practis cyffredinol waethygu yn ystod y pum mlynedd nesaf. Felly, Gweinidog, sut bydd ymgyrch recriwtio meddygon teulu yn mynd i'r afael â'r ffaith hon a'r ffaith frawychus nad yw chwarter y meddygon teulu presennol yn disgwyl bod yn gweithio ym maes ymarfer meddygol?

Ac yn olaf, Gweinidog, rydych chi wedi cyflwyno cofrestr locwm i Gymru gyfan. A fydd hi'n ofynnol i staff locwm ar gofrestr Lloegr ymuno â chofrestr Cymru, ac a fydd cofrestr Cymru yn caniatáu i staff locwm o ranbarthau ffiniol yng Nghymru weithio ar ddwy ochr Clawdd Offa? Mae angen inni wneud cymaint mwy os ydym ni eisiau osgoi chwalu gofal sylfaenol yng Nghymru, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda chi, Gweinidog. Diolch.  

17:15

Diolch am y cwestiynau. O ran nifer y meddygon teulu fydd yn cael eu hyfforddi y flwyddyn nesaf, rwyf wedi gosod llinell sylfaen o 160, ac fel y nodais yn fy natganiad, fy mwriad yw gallu cynyddu'n raddol nifer y lleoedd hyfforddi meddygon teulu a fydd ar gael gennym ni ar gyfer ein llinell sylfaen newydd. Fodd bynnag, mae hynny'n dibynnu ar ein gallu i gael y nifer angenrheidiol o leoedd hyfforddi mewn practisau. Felly, rwy'n edrych ymlaen at gael rhywfaint o gyngor gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru ynghylch ein gallu o fewn y system i gynyddu'n raddol a llwyddo i recriwtio ar gyfer y niferoedd hynny.

O ran y mater penodol y sonioch chi amdano ynghylch yr ystad gofal sylfaenol, nid wyf yn ymwybodol o'r mater penodol yr ydych yn ei godi lle mae bwrdd iechyd yn atal pobl rhag ehangu darpariaeth, oherwydd dylem gofio bod cydbwysedd yma, onid oes? Gan fod practis cyffredinol yn cael ei ddarparu'n bennaf gan gontractwyr annibynnol, y mae rhai ohonynt yn berchen ar eu hadeiladau eu hunain, ac mae gan rai ohonynt bartneriaeth gydag amrywiaeth o wasanaethau eraill i weithio o safleoedd penodol. Felly, wrth fuddsoddi yn yr ystad gofal sylfaenol, rydym fwyfwy yn bwriadu buddsoddi mewn cyfuniad o'r rhain, ac i ddeall, yn y gorffennol, pan oeddem yn helpu i adeiladu cyfleusterau nad oedd y GIG yn berchen arnynt, bydd hynny yn cynnig gwahanol heriau hefyd. Felly, mae hynny'n rhannol yn ymwneud â'r model partneriaeth a'r hyn sy'n digwydd. Mae'r rhain yn faterion ymarferol go iawn sy'n rhan o'n sgwrs â phwyllgor meddygon teulu Cymdeithas Feddygol Prydain. Ond, o ran darparu cenhedlaeth newydd o ganolfannau, llif prosiect gofal sylfaenol, 19 o gynlluniau unigol, gan gynnwys y newyddion da a gawsom yn ddiweddar bod cynllun Aberpennar ar y safle nawr. Felly, rydym ni mewn gwirionedd yn darparu amrywiaeth newydd o safleoedd eisoes.

O ran y mater ynghylch cadw meddygon teulu presennol, ceisiaf ymdrin â hynny o ran y cwestiynau a ofynnodd Angela Burns. Doeddwn i ddim wedi'i gyrraedd o ran y rhestr o gwestiynau, ond o ran y pwyntiau ynghylch y cynlluniau cymhelliant, mae hynny'n bwysig ar gyfer cadw meddygon teulu presennol mewn practis hefyd, fel nad ydyn nhw'n teimlo nad oes unrhyw gyflenwad ar gyfer meddygfeydd teulu yn y dyfodol hefyd. Ond rydym yn bwriadu adolygu effaith y cymhellion hynny, nid yn unig yn yr ardaloedd sydd wedi cael cymhellion ar gyfer yr ardaloedd sydd wedi bod yn anodd recriwtio ar eu cyfer, ond hefyd i weld a fu effaith ar gynlluniau cyfagos o ran meddygfeydd teuluol. Eleni, ymddengys na fydd hynny'n digwydd, oherwydd inni lenwi pob cynllun. Ond fel y yr ydym ni wedi dweud, llinell sylfaen newydd ar gyfer pob un o'r cynlluniau hyfforddi hynny, rwyf eisiau gweld beth yw'r effaith uniongyrchol.

O ran y gofrestr locwm, rwy'n credu bod hyn yn bwysig iawn er mwyn i ni ddeall ble a faint o feddygon locwm sydd gennym ni a beth yw telerau eu cytundeb gwaith. Ac mae rhan o'r cytundeb yn y contract newydd yr ydym wedi cytuno arno gyda phwyllgor meddygon teulu Cymdeithas Feddygol Prydain yn ymwneud mewn gwirionedd â'r ffordd yr ydym yn cymell pobl i adael y dull locwm o weithio ac i fod naill ai'n gyflogedig neu, yn wir, yn bartneriaid mewn practis cyffredinol hefyd, ac i roi inni'r sefydlogrwydd y byddem eisiau ei gael. Ac mae her o ran y genhedlaeth sy'n codi hefyd, sydd, yn onest, nid yn unig o fewn y gwasanaeth iechyd ond yn ehangach o lawer, ynghylch sut y gallwn ni helpu pobl i edrych ar yr hyn a gynigir o fewn y GIG ac i ddeall beth sy'n cael ei gynnig, ac ymrwymo i'r yrfa honno, boed fel contractwr gofal sylfaenol neu fel arall, ac yna dylai'r gofrestr ein helpu i wneud hynny a bod yn llawer cliriach o ran y telerau cyflogi.  

17:20
6. Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Rhwydwaith Clwstwr Bwyd a Diod Cymru

Eitem 6 ar yr agenda yw datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ar rwydwaith clwstwr bwyd a diod Cymru. Galwaf ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig—Lesley Griffiths.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae ein sector bwyd a diod yng Nghymru yn parhau i fynd o nerth i nerth ac mae'n sylfaen i'n heconomi, gyda 217,000 o weithwyr ar draws y gadwyn gyflenwi, sy'n cynnwys amaethyddiaeth, gweithgynhyrchu, manwerthu, arlwyo a chyfanwerthu, gan ategu twristiaeth a rhoi delwedd gadarnhaol o Gymru i'r byd. Roedd hyn yn amlwg iawn yn Blas Cymru 2019, ein digwyddiad masnach arddangos, lle daethom â phrynwyr rhyngwladol ac o'r DU at ein cynhyrchwyr a'n cynnyrch.

Mae llwyddiant yn seiliedig ar bartneriaeth. Mae Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru wedi bod yn bartner egniol i ni. Gyda'n gilydd rydym yn cyflymu uchelgais, yn creu llwybrau i'r farchnad, yn dileu rhwystrau ac yn hyrwyddo sector â chwmpas ac enw da cynyddol. Wrth gwrs, rydym yn wynebu heriau, a'r mwyaf uniongyrchol yw Brexit. Ond mae'n rhaid i ni hefyd weithio i gynyddu cynhyrchiant, datblygu busnesau i fod yn fwy cadarn a chynaliadwy, a chynnal ein henw da am safonau cynhyrchu uchel er mwyn sicrhau y gall y diwydiant ffynnu mewn marchnad gystadleuol.

Mae dod â busnesau at ei gilydd yn rhan annatod o fynd i'r afael â'r heriau hyn a hybu llwyddiant hirdymor. Mae hyn yn gonglfaen i'n dull o weithredu ac yn sylfaen ar gyfer llwyddiant. Elfen allweddol o hyn yw ein rhwydwaith clwstwr bwyd a diod sydd wedi'i ddatblygu'n dda iawn. Mae'r rhwydwaith clwstwr yn rhaglen uchelgeisiol sydd â'r nod o greu newid gwirioneddol yn y diwydiant. Fe'i datblygwyd i roi gwell cefnogaeth i'r diwydiant trwy greu llwyfan i fusnesau o'r un anian gydweithio a chael cymorth sy'n benodol i'r sector. Mae'n hwyluso twf y sector, rhannu adnoddau, gwybodaeth ac arbenigedd drwy ddigwyddiadau a gweithdai rhwydweithio, ac mae'n creu cadernid yn ein cadwyni cyflenwi drwy ddatblygu gwe o gysylltiadau a chydberthnasau sy'n atgyfnerthu'r naill a'r llall.

Mae clystyrau'n hanfodol i lwyddiant mewn diwydiant ledled y byd. Maen nhw'n esblygu'n naturiol: technoleg yn Silicon Valley; esgidiau lledr a thecstilau yng ngogledd yr Eidal; a chyllid yn Ninas Llundain, i enwi dim ond rhai. Trwy ddod â busnesau a thalent at ei gilydd, maen nhw'n hybu arloesi a datblygu. Mae llwyddiant yn magu llwyddiant. Ein strategaeth yw cyflymu clystyru. Trwy gymorth integredig gan y Llywodraeth, gwybodaeth dechnegol drwy Arloesi Bwyd Cymru a Phrosiect Helix, ac uchelgais ein bwrdd, gall ein teulu clwstwr sy'n tyfu, helpu diwydiant bwyd a diod Cymru i barhau i ddatblygu a ffynnu.

Erbyn hyn mae yna wyth clwstwr o fewn rhwydwaith clwstwr bwyd a diod Cymru, gyda dros 450 o fusnesau yng Nghymru yn cymryd rhan. Yn Blas Cymru, roedd y parth dysgu clwstwr yn galluogi gwneud cysylltiadau wyneb yn wyneb rhwng aelodau'r clwstwr a phartneriaid eraill. Mae ein clystyrau'n amrywio o grwpiau o fusnesau sy'n cynhyrchu math penodol o fwyd neu ddiod, i fusnesau sydd â gwahanol gynhyrchion ond sy'n rhannu nodau ac uchelgeisiau, fel cynhyrchion allforio neu gynnyrch uchel eu gwerth.

Mae ein clwb allforio yn galluogi busnesau i gydweithio a rhannu profiadau ynglŷn ag allforio, gan hwyluso allforwyr profiadol a'r rhai hynny sydd ond yn dechrau ar y daith hon i drafod rhwystrau a chyfleoedd o ran allforio. Rydym wedi cyflwyno'r system cyfeillio allforio, gan baru allforiwr profiadol ag allforiwr newydd er mwyn cadw'r cwmnïau'n atebol ac yn llawn cymhelliant. Rydym hefyd wedi datblygu cysylltiadau â mentrau cydweithredol rhyngwladol, gan ddatblygu ein huchelgais i gynyddu allforion a mewnfuddsoddi a chodi proffil rhyngwladol Cymru. Mae Prosiect Allforio Bwyd yr Iwerydd yn dod â busnesau o Gymru ynghyd â busnesau o ranbarthau yn Ffrainc, Sbaen, Portiwgal, Gweriniaeth Iwerddon a Gogledd Iwerddon i oresgyn rhwystrau i allforio a gwella cystadleurwydd mewn marchnadoedd rhyngwladol.

Mae'r clwstwr maeth Cymru yn cynnwys dros 75 o fusnesau a sefydliadau sy'n cydweithio ar brosiectau sy'n amrywio o beirianneg bwyd i raglen datgarboneiddio strategol. Mae'n cynnwys rhaglen bwydydd y dyfodol ym Mhrifysgol Aberystwyth a'n canolfannau bwyd ar draws y wlad, gyda'r nod o fwy o ymchwil a datblygu yn y diwydiant bwyd, gan ei gwneud yn wirioneddol arloesol a chynaliadwy mewn amgylchedd cynyddol gystadleuol.

Mae'r clwstwr effaith uchel yn canolbwyntio ar fynd i'r afael â'r broblem gwastraff frys. Mae wedi nodi cyfleoedd i leihau gwastraff, sydd hefyd werth degau o filoedd o bunnoedd o arbedion uniongyrchol, i'r busnesau dan sylw. Mae hyn yn helpu busnesau a ffyniant ehangach ac mae'n helpu lles Cymru, gan ei fod yn cyd-fynd â strategaeth Llywodraeth Cymru 'Tuag at Ddyfodol Diwastraff' a'i nod o ailgylchu 70 y cant erbyn 2025, a 100 y cant erbyn 2050. Mae'r clwstwr bellach yn bwriadu datblygu hyn ymhellach, ar ôl cynnal cynhadledd a oedd yn canolbwyntio ar wastraff ac effeithlonrwydd adnoddau yn ddiweddar, ac rwy'n ffyddiog y bydd yn creu atebion newydd i fynd i'r afael â gwastraff deunydd pacio.

Mae'r clwstwr diodydd wedi cydweithio â Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru i ddatblygu strategaeth sector yfed drosfwaol i gefnogi'r rhan amrywiol a gwerthfawr hon o'n diwydiant. Mae'n datblygu grwpiau diddordeb arbennig, gan weithio tuag at brosiectau strategol penodol â phwyslais. Mae aelodau ein clwstwr bwydydd da wedi gwerthfawrogi'n fawr y gallu i rwydweithio, gyda chwmnïau'n partneru i gyflwyno cynigion i brynwyr yn Blas Cymru yn llwyddiannus, ac maen nhw bellach yn rhannu gwerthwyr hyd yn oed. Mae hyn yn dangos bod y rhwydwaith nid yn unig yn ymwneud â chwmnïau sy'n cael eu cefnogi gan y clwstwr, ond yn ymwneud â'r cymorth gweithredol y mae aelodau'r clwstwr yn ei roi i'w gilydd.

Mae'r clwstwr bwyd môr yn codi ymwybyddiaeth o'n diwydiant cynhyrchion pysgodfeydd. Maen nhw wedi creu fideos llawn gwybodaeth am y diwydiant hwn ac wedi sefydlu grŵp diddordeb arbennig brandio a bandio, gyda'r nod o gynyddu'r gallu i olrhain ac ymwybyddiaeth o darddiad y pysgod cregyn. Maen nhw hefyd yn sefydlu cyfeirlyfr bwyd môr Cymru i gyfeirio at leoedd lle gallwch chi brynu bwyd môr blasus o Gymru ledled y wlad.

Mae'r clwstwr mêl wedi'i ddatblygu yn fwy diweddar ac mae'n codi proffil cynhyrchion gwenynwyr Cymru ac yn helpu i rannu arferion gorau yn eu plith.

Wrth i ni ddatblygu'r cynllun strategol newydd ar gyfer y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru, rydym yn awyddus i ddysgu gwersi o'r llwyddiannau hyn er mwyn adeiladu ar y seiliau hyn a sicrhau bod y rhwydwaith clwstwr yn parhau i ffynnu yn y dyfodol. Mae'r rhwydweithiau y maen nhw'n eu creu gyda'i gilydd, ac i'r gadwyn gyflenwi ehangach, yn creu cadernid yn ein system fwyd. Mae hon wedi bod yn daith ysbrydoledig, yn esiampl o'r hyn y gallwn ni ei gyflawni yng Nghymru, gan gefnogi ein gweledigaeth i greu cenedl ffyniannus a theg o fri byd-eang.

17:25

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd, a diolch ichi, Gweinidog, am eich datganiad y prynhawn yma. Mae'n debyg mai'r peth mwyaf cyffrous sydd wedi digwydd i mi heddiw yw fy mod yn cael defnyddio'r darllenfwrdd, oherwydd bod gennym ni ddatganiad materion gwledig.

Ond, mae'n werth myfyrio ar faint y diwydiant i Gymru: cyfanswm trosiant o £20.5 biliwn, 210,000 neu 217,000 o swyddi i gyd, os ydych chi'n ystyried y sector arlwyo. Ac mae twf y sector a'r ymwybyddiaeth ymhlith y defnyddwyr yn syfrdanol dros, yn sicr, y 10, 15 mlynedd diwethaf. Ac mae pobl yn poeni'n fawr am darddiad y bwyd y maen nhw'n ei brynu, ac maen nhw'n barod i weithredu drwy benderfynu gwario'r arian ar fwyd y gallan nhw fod â ffydd ynddo. Felly, mae'n bwysig bod gan bobl y gallu i dyfu eu busnesau yma yng Nghymru, ac os gellir nodi arfer gorau yn y gwahanol glystyrau, yna bod arfer gorau yn cael ei rannu.

Rwy'n credu eich bod wedi nodi ehangder y clystyrau, o'r mwyaf diweddar, y sector mêl, drwodd at y farchnad allforio, sy'n faes cymhleth iawn a dweud y lleiaf. Ac, yn aml iawn, er mwyn rhoi hyder i gwsmeriaid i fynd i'r farchnad allforio honno, mae'n amlwg bod angen iddynt gael eu harwain gan gymheiriaid a gwybod bod y Llywodraeth yno i'w cefnogi.

Mae un neu ddau o gwestiynau y mae'n rhaid imi eu gofyn. Yn amlwg, dim ond yn ddiweddar y mae Tomlinson wedi mynd yn fethdalwr yn y gogledd, neu wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr, ddylwn i ddweud, ac mae cyflwr ansicr ymhlith rhai o'r proseswyr mawr yma yng Nghymru. Pan edrychwch chi ar fodel Tomlinson, a oedd yn ymwneud â chefnogi cynnyrch Cymru—yn yr achos hwn, llaeth—a chaniatáu i'r llaeth hwnnw gael lle ar silff ymysg y manwerthwyr mawr, mae'n dangos bod angen esblygiad graddol yn y maes hwn, oherwydd, yn amlwg, gall busnes sydd wedi hen ennill ei blwyf dyfu'n gyflym iawn dros nos, a rhoi straen ariannol penodol a phwysau ar y busnes. A wnewch chi roi syniad inni o sut y mae'r rhwydwaith clwstwr o fudd i'r sector prosesu yma yng Nghymru, yn enwedig yn y sector cig coch? Oherwydd, rwy'n credu, petaech chi'n hepgor un lladd-dy mawr ym Merthyr, ychydig iawn o gapasiti prosesu cig eidion a fyddai ar ôl yng Nghymru. Felly, mae'n bwysig deall, o'r ddwy enghraifft hynny yr wyf wedi'u rhoi i chi, sut y mae'r sector prosesu yn elwa ar y rhwydwaith clwstwr.

Hoffwn i hefyd geisio deall sut mae'r cynllun datblygu gwledig yn helpu i lywio'r rhwydwaith clwstwr, ac o ran y cynllun datblygu gweledig yn llywio, yr hyn rwy'n ei olygu yw faint o arian sy'n mynd i'r rhwydwaith clwstwr o'r cynllun datblygu gwledig. Oherwydd, unwaith eto, dylai'r rhwydwaith clwstwr fod yn ysgogi arbedion yn y diwydiant, boed hynny wrth glwyd y fferm, neu boed hynny yn y sector prosesu, neu boed hynny yn y sector manwerthu, fel bod gennym gadwyn effeithlon a all gystadlu yn y farchnad allforio a'r farchnad ddomestig. Felly, pe byddech yn rhoi rhyw syniad i ni pa mor bwysig fu'r cynllun datblygu gwledig i lywio datblygiad y rhwydwaith clwstwr yng Nghymru, rwy'n credu y byddai hynny'n wirioneddol ddefnyddiol.

Hoffwn ddeall hefyd sut yr ydych chi'n cadw'r rhwydwaith clwstwr yn ffres ac yn fywiog. Gan fod wyth sector wedi'u cynrychioli, mae'n bwysig nad ydynt yn troi'n siopau siarad yn y pen draw, ac nad ydynt yn datblygu'r hyn yr ydym ni eisiau ei weld fel arfer gorau, yr arloesedd, a sbarduno'r syniadau newydd, a phan fo angen adfywio, neu ailwampio ar y sector penodol hwnnw, bod hynny'n digwydd, yn hytrach na bod gennym ni yr ymarfer ticio blychau o ddweud, 'Wel, mae'r sector hwnnw'n cael sylw gan y rhwydwaith clwstwr penodol hwnnw.' Gwelsom ni i gyd yr hyn a ddigwyddodd gyda'r canolfannau technium ar ddechrau oes y Cynulliad, ac, yn anffodus, nid oeddent mor llwyddiannus ag yr oedd pobl, yn amlwg, yn dymuno iddyn nhw fod, oherwydd teimlwyd nad oedden nhw'n gallu cyflawni'r hyn a oedd yn digwydd mewn rhannau eraill. Ac yn eich datganiad y prynhawn yma rydych chi'n sôn am wahanol glystyrau, yng Nghaliffornia, yn yr Eidal, ac mae'n ymddangos eu bod wedi gweithio dda yno. Wel, roedd y model technium yn canolbwyntio'n fawr iawn ar yr hyn a oedd yn digwydd yng Nghaliffornia, ond eto ni wnaeth drosglwyddo ar draws yr Iwerydd i Gymru. Felly, byddwn yn awyddus iawn i ddeall sut y mae'r adran, a chithau fel Gweinidog, yn gweithio i sicrhau bod y rhwydwaith clwstwr yn aros yn ffres ac yn aros yn fywiog.

Ac yn bwysig, yn amlwg, ar agenda, radar—galwch e' beth bynnag y dymunwch chi—y defnyddwyr yw'r argyfwng newid yn yr hinsawdd sydd wedi'i ddatgan, a lleihau carbon. Ac rwy'n sylwi yn eich datganiad eich bod yn cyfeirio at hynny, a rhai o'r modelau arfer gorau, a'r buddsoddiad sydd wedi'i wneud ym Mhrifysgol Aberystwyth ar gyfer ymchwil. Byddwn i'n awyddus iawn i ddeall meddylfryd y Llywodraeth ar hyn, oherwydd, yn amlwg, rydym ni mewn etholiad cyffredinol ar hyn o bryd—rwyf wedi eich holi chi am hyn o'r blaen. Mae gan wahanol bleidiau gwleidyddol yr agenda hon er mwyn ceisio cywasgu'r agenda garbon niwtral honno i darged 2030, yn hytrach na tharged 2050 y mae'r pwyllgor ar y newid yn yr hinsawdd yn dweud yw'r unig opsiwn credadwy sydd ar gael ar hyn o bryd gyda'r technolegau sydd gennym. Pa mor ffyddiog ydych chi y bydd y lleihad mewn carbon a nodir yn eich cynllun chi eich hun fel Llywodraeth Cymru yn cyflawni nodau'r hyn y mae'r defnyddwyr eisiau eu gweld, sef byd carbon niwtral, sydd ag ôl troed amgylcheddol da, ac y gellir ei gyflawni heb achosi niwed hirdymor i'r diwydiant, ac y gall y diwydiant gyd-fynd â'r nodau yr ydych yn eu gosod? Oherwydd, mae'n ymwneud â gosod nodau y gellir eu cyflawni ac nad ydynt, yn y pen draw, yn achosi'r niwed economaidd y gallai, o bosibl, rhywfaint o fyrhau'r amserlen honno ei achosi pe byddai targed 2030 yn cael ei rhoi ar waith.

Felly, pe bawn i'n gallu cael atebion ar y ddau gwestiwn hynny yr wyf wedi'u gofyn i chi, byddwn i'n ddiolchgar iawn, Gweinidog.

17:30

Diolch, Andrew, am y gyfres o gwestiynau. Rwy'n credu eich bod yn gwneud pwynt pwysig iawn sef bod y defnyddwyr eisiau gwybod mwy am darddiad eu bwyd, ac, yn sicr, yn y tair blynedd a hanner y bûm yn y portffolio hwn, rwyf wedi gweld cynnydd aruthrol yn nifer y bobl sy'n mynd i wyliau bwyd, neuaddau bwyd yn ein sioeau amaethyddol, a gallwch chi weld eu bod nhw'n awyddus iawn i brynu'r cynnyrch o Gymru. Ac rydych chi'n gweld hynny hefyd yn yr archfarchnadoedd, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn bod gan archfarchnadoedd y cynnig hwnnw o gynnyrch o Gymru. Ac, unwaith eto, mae'n rhywbeth yr wyf i wedi fy nghalonogi'n fawr yn ei gylch yn ein lolfa fusnes yn Sioe Frenhinol Cymru, lle mae llawer iawn o fusnes yn cael ei wneud. Rwy'n credu ein bod wedi cyfarfod—cyfarfu swyddogion â rhai, a chyfarfûm innau â rhai ohonyn nhw—tua 90 y cant o'r rhwydwaith archfarchnad gyfan, gan nad oes gwell gair. Cyfarfuom â chynrychiolwyr yr archfarchnadoedd hynny i sicrhau bod eu defnyddwyr, a phobl ar hyd a lled Cymru, a'r DU, yn gallu prynu cynnyrch o Gymru os ydyn nhw'n dymuno gwneud hynny.

Rydych chi'n sôn am y rhwydwaith clwstwr, ac mae'n debyg mai dyma'r unig enghraifft, rwy'n credu, sydd gennym o'r polisi clwstwr hwn yn Llywodraeth Cymru. Ac roeddwn yn ffodus iawn i fynd allan i Gatalonia a Gwlad y Basg, tua 18 mis yn ôl, i edrych ar eu rhwydwaith clwstwr nhw—y rhwydwaith clwstwr bwyd yn arbennig. Ond mae gan y ddwy wlad hynny, yn enwedig Catalonia, bolisi clwstwr ers blynyddoedd lawer—rwy'n credu ei fod tua 30 mlynedd. Felly, mae ganddyn nhw glwstwr ar gyfer plant, er enghraifft, a gall pob sefydliad a chwmni dalu i mewn i'r clwstwr hwnnw os ydyn nhw'n gwneud dodrefn i blant, os ydyn nhw'n gwneud dillad plant. Felly, nid yw'n ymwneud ag un math o fwyd yn unig, a dyna yr ydym ni wedi'i wneud yn y fan yma—fe wnaethoch chi sôn am fwydydd da, mae gennym ni'r clwstwr diodydd—felly mae'n ymwneud ag amrywiaeth o sefydliadau yn dod at ei gilydd, a chefnogi ei gilydd. A'r un peth yr wyf i'n ei hoffi'n fawr am y polisi clwstwr—fe wnaethoch chi sôn am y clwstwr mêl, ac, fel y dywedais, dyma'r un mwyaf diweddar sydd gennym. Ac i eistedd o amgylch y bwrdd—rwyf wedi bod yn ffodus i gwrdd â nhw ychydig o weithiau—maen nhw'n gystadleuwyr, ond maen nhw'n wirioneddol hapus i rannu'r arfer gorau hwnnw y gwnaethoch chi gyfeirio ato.

Rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn ei gadw'n ffres, ac rwy'n tybio mai'r ffordd yr ydym yn ei gadw'n ffres yw drwy sicrhau ein bod yn cyflwyno rhwydweithiau clwstwr newydd, ond mae'n cael ei arwain gan gymheiriaid, llawer ohono, hefyd. Ac yn sicr, rwy'n credu mai'r rhaglen allforio sydd gennym, lle mae pobl yn cefnogi eich gilydd—. Felly, rwy'n gwybod yn fy etholaeth i fy hun bod gen i Wrexham Lager, ac mae'r Rheolwr Gyfarwyddwr yno yn awyddus iawn i gefnogi cwmnïau newydd eraill sy'n ceisio allforio. Rwy'n gwybod bod cwmni yn etholaeth Jeremy Miles yng Nghastell-nedd yr ymwelais ag ef gydag ef, felly maen nhw wedi cyfeillio â'i gilydd, ac maen nhw yn eu tro, wedyn, yn cefnogi gwyliau bwyd ei gilydd, er enghraifft. Felly, rwy'n credu eu bod nhw'n ei gadw'n ffres eu hunain drwy sicrhau eu bod yn cefnogi ei gilydd.

O ran yr argyfwng hinsawdd, rwy'n gwybod eich bod wedi gofyn ychydig o weithiau am wahanol dargedau. Byddwch yn ymwybodol bod ein targed ni ar gyfer 2050, a'i fod ar hyn o bryd yn ostyngiad o 95 y cant mewn allyriadau. Rwy'n mynd i Gynhadledd y Pleidiau y penwythnos hwn, lle bydd yn dda clywed am arfer gorau o wledydd eraill. Mae Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd, sef ein corff cynghori ac sy'n rhoi cyngor imi, wedi dweud y dylai ein targed fod yn 95 y cant. Rwyf wedi gofyn iddyn nhw fynd yn ôl i weld a allwn ni gyflawni 100 y cant. Maen nhw'n dargedau uchelgeisiol iawn, fel y dywedwch chi, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn nad ydym ni dim ond yn mynd â chwmnïau gyda ni, ond ein bod hefyd yn mynd â'r cyhoedd gyda ni. Ac rwy'n credu bod pobl yn cydnabod na allwn ni barhau i wneud pethau yn y ffordd y buom ni yn eu gwneud. Mae'n rhaid i ni wneud pethau gwahanol.

Fe wnaethoch chi holi am y cynllun datblygu gwledig, ac mae'n gyfle da i sôn am Arloesi Bwyd Cymru a Phrosiect Helix. Mae gennym ni dair canolfan ragoriaeth Arloesi Bwyd Cymru, yr wyf yn siŵr bod yr Aelod yn ymwybodol ohonynt, ZERO2FIVE ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd, un yn Horeb yng Ngheredigion a'r ganolfan technoleg bwyd yn Llangefni. Mae gennym ni Brosiect Helix hefyd. Mae hwnnw bellach yn cael ei ddarparu o dan frand Arloesi Bwyd Cymru, a chefnogir hwnnw gan £21.2 miliwn o gyllid cynllun datblygu gwledig. Unwaith eto, bydd yn casglu gwybodaeth am gynhyrchu bwyd, am dueddiadau, am wastraff, sy'n bwysig iawn ac a godwyd gennych chi, o bob cwr o'r byd, a byddan nhw wedyn yn trosglwyddo'r wybodaeth honno i'n proseswyr, ein cynhyrchwyr a'n gweithgynhyrchwyr bwyd. Ac mae disgwyl iddo gynhyrchu dros £100 miliwn ar gyfer economi Cymru, a chreu a diogelu miloedd o swyddi. Rwy'n gwybod bod y data cyntaf a dderbyniais yn dangos ein bod ar y trywydd iawn i wneud hynny.

17:35

Diolch i chi, Weinidog, am eich datganiad. Dwi ddim yn meddwl ein bod ni wedi cael unrhyw gyhoeddiad arwyddocaol yn y datganiad, ond yn amlwg mae e'n ddiweddariad defnyddiol o'r hyn sydd yn digwydd. Dwi yn credu bod dod â gwahanol fudd-ddeiliaid ynghyd drwy'r gadwyn gyflenwi fesul sector yn amlwg yn mynd i ddod â buddiannau, i adeiladu ar gryfderau, rhannu profiadau, a chreu rhyw fath o critical mass, gobeithio, sydd yn mynd i weld y cynnydd yn y sectorau hynny rŷn ni gyd yn awyddus i'w weld.

Mae gen i gwpwl o sylwadau, wrth gwrs, fel y byddech chi yn ei ddychmygu. Yn bennaf, dwi'n pigo fyny o'r ddwy sector, o'r sector fwyd a hefyd o'r sector amaethyddol, fod yna ddiffyg cyswllt, fod yna disconnect rhwng eich dogfennau ymgynghori diweddar chi ar ddatblygu'r sector bwyd a diod yng Nghymru a 'Ffermio Cynaliadwy a'n Tir'. Yr awgrym yw y dylai'r ddwy ddogfen hynny wneud mwy i gael eu datblygu law yn llaw, neu hyd yn oed i fod yn un strategaeth integredig. Felly, fy nghwestiwn cyntaf i ofyn i chi yw a oes yna berygl bod gwendid sylfaenol yn hynny o beth, hynny yw bod yna ddwy broses wahanol, dau ymgynghoriad, dwy ddogfen, i feysydd a ddylai fod yn mynd law yn llaw? Efallai y gallwch chi roi eich ymateb chi i hynny.

Rŷch chi'n sôn yn eich datganiad am dyfu cyrhaeddiad ac enw da'r sector fwyd a diod, y reach and renown yma. Wrth gwrs, mae brandio Cymreig yn ganolog i'r enw da a'r cyrhaeddiad hynny, boed yn y farchnad ddomestig neu, wrth gwrs, yng nghyd-destun nifer o'r marchnadoedd rhyngwladol ryn ni'n cael mynediad iddyn nhw. Sut felly ydych chi'n sicrhau fod brandio bwyd a diod Cymru yn cael ei gryfhau ac nid yn cael ei danseilio gan ymgyrchoedd Llywodraeth y Deyrnas Unedig, er enghraifft yr ymgyrch 'mae bwyd yn GREAT Britain', sydd ddim yn gweithio yn Gymraeg o gwbl? Mae yna berygl i'r brand hwnnw lastwreiddio y brand Cymreig a'r gwerthoedd mae'r ddraig goch yn eu cynrychioli ar ein cynnyrch ni.

Rŷch chi'n sôn am heriau, wrth gwrs, yn enwedig Brexit a'r angen inni sicrhau bod y sector yn fwy cydnerth a chynaliadwy. A wnewch chi felly esbonio sut y byddwch chi'n cynorthwyo'r sector fwyd a diod yn wyneb y posibilrwydd o golli rhai o'n marchnadoedd rhyngwladol ni, a hefyd colli marchnadoedd ar yr un llaw, ond hefyd gweld mewnforion rhad yn llifo i mewn i'r farchnad ddomestig ar y llaw arall, a sut bo hynny yn risg, wrth gwrs, i fod yn ras i'r gwaelod?

Rŷch chi'n cyfeirio at sut mae'r clwstwr impact uchel yn gwneud gwaith ar wastraff pecynnu. Mae hynny, wrth gwrs, i'w groesawu, ond tra eu bod nhw, wrth gwrs, yn gallu gwneud eu rhan, mae yna lawer mwy y gall Lywodraeth Cymru ei wneud, a dwi eisiau gwybod pryd y gwelwn ni'r Llywodraeth o'r diwedd yn dod i benderfyniad ar bethau megis cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr, yr extended producer responsibility, er mwyn gwneud gwahaniaeth go iawn. Dwi'n gwybod bod ymgynghori wedi bod, mae yna drafod wedi bod—wel, mae'r amser wedi dod nawr inni weld gweithredu, does bosib.

Yn olaf, allwch chi sôn wrthyf i beth yn fwy rŷch chi'n credu y gallwch chi ei wneud o safbwynt caffael cyhoeddus, oherwydd mae hwn yn un mater dwi ddim yn teimlo bod y Llywodraeth wedi llwyddo i'w ddatrys, nag i fynd i'r afael ag ef yn ddigonol? Mae yna'n dal ormod o gytundebau bwyd a diod sector gyhoeddus yn mynd allan o Gymru. Esboniwch inni sut ŷch chi'n gweld rôl y clystyrau yma ac unrhyw ddulliau eraill sydd gennych chi, yn benodol o safbwynt y sector fwyd a diod, i wella hynny, oherwydd rŷn ni'n gwybod bod pob 1 y cant rŷn ni'n llwyddo i'w gynnal yng Nghymru yn golygu tua 2,000 o swyddi, a hynny oll, wrth gwrs, heb wario rhagor o arian—dim ond gwario'r arian rŷn ni'n ei wario yn barod yn llawer mwy effeithiol.

17:40

Diolch, Llyr, am y gyfres yna o sylwadau a chwestiynau. Lansiwyd yr ymgynghoriad ar ein cynlluniau ar gyfer y bwrdd diwydiant bwyd a diod yn y dyfodol yn Sioe Frenhinol Cymru. Soniodd rhai pobl efallai y dylai'r ddau ymgynghoriad fod wedi'u cysylltu â'i gilydd; roeddwn i'n credu ei bod yn bwysig iawn eu bod ar wahân, ond yn amlwg mae yna orgyffwrdd. Yn amlwg, bydd yr ymgynghoriad ar fwyd a diod a'r cynllun gweithredu nesaf yn adeiladu ar y cynllun gweithredu presennol, sy'n dod i ben yn 2020. Yn sicr, rwy'n credu y byddwn ni wedi cyflawni'r targed uchelgeisiol iawn o £6 biliwn, i'w gyrraedd erbyn 2020—ac roeddwn i'n credu ei fod yn uchelgeisiol iawn ar y pryd—erbyn diwedd y flwyddyn hon, mae'n debyg; yn sicr, rwy'n credu ein bod yn agos iawn, iawn ato ddiwedd y llynedd. Felly, er fy mod i'n llwyr werthfawrogi'r bwyd-amaeth—ac rydym ni'n defnyddio'r frawddeg honno cryn dipyn, onid ydym ni, 'bwyd-amaeth'—mae'n wirioneddol bwysig bod gennych chi'r gorgyffwrdd hwnnw. Roeddwn i'n credu mai dyna oedd y peth iawn, eu bod ar wahân, ac rwy'n sicr yn credu, yn y trafodaethau yr wyf i wedi'u cael yn gyffredinol, bod hynny wedi'i dderbyn. Ond mae'n bwysig, pan fyddwn ni'n edrych ar ganfyddiadau cyffredinol y ddau, ein bod yn sicrhau bod y gorgyffwrdd hwnnw'n parhau.

Mae brandio Cymreig yn bwysig iawn i mi. Rwy'n benderfynol na chawn ni ein tanseilio gan frandio 'Food is GREAT' Llywodraeth y DU. Mae'n debyg eich bod chi'n cyfeirio at yr hyn a ddigwyddodd y llynedd yn Sioe Frenhinol Cymru. Ni ddigwyddodd hyn eleni, a hynny am fy mod i'n glir iawn mai ein ffenest siop ni yw'r neuadd fwyd, a doeddwn i ddim eisiau 'Food is GREAT'. Fodd bynnag, mae'n wir bod rhai cwmnïau o Gymru eisiau bod yn rhan o 'Food is GREAT', ac mae hynny'n gwbl briodol iddyn nhw, ond rwy'n credu po fwyaf y bydd brand bwyd cynaliadwy o'r fath yn dod i feddyliau pobl—mae'n amlwg bod draig Cymru yn bwynt gwerthu enfawr i'n cynhyrchwyr bwyd. Felly, rwy'n hapus iawn i barhau i sicrhau bod y ffenest siop honno yn parhau i fod ar gyfer cynnyrch o Gymru yn unig, ond, wrth gwrs, rwy'n parchu dewis pobl sydd o bosibl eisiau bod yn rhan o rywbeth arall.

O ran cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr, fel y gwnaethoch chi ei grybwyll, rydym ni wedi bod yn ymgynghori. Mae fy nghydweithiwr, Hannah Blythyn, yn gwneud hynny bellach, a byddaf yn sicrhau ei bod yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf. Fe wnaethom ni gynnal ymgynghoriad, ac yn amlwg, mae'n briodol bod yn rhaid i gynhyrchwyr ystyried eu rhan nhw wrth leihau pecynnu bwyd.

O ran Brexit a'r heriau a masnach yn y dyfodol, rydym ni'n gwybod bod aelodaeth o'r UE yn rhoi mynediad heb gyfyngiad i gynhyrchwyr bwyd a diod Cymru at 0.5 biliwn o bobl. I mi, nid oes dim a all gymharu â hynny, felly er bod ganddyn nhw, ar hyn o bryd, ryddid rhag tariffau gwahaniaethol—mae gennym ni rwystrau nad ydyn nhw'n ymwneud â thariffau ac felly mae ein cynhyrchwyr yn gallu allforio i wledydd yr UE yn rhwydd iawn. Rydym ni'n gwybod bod 90 y cant o allforion cig oen a chig eidion Cymru yn mynd i wledydd eraill yn yr UE, felly gall Brexit, i mi, dim ond golygu y bydd allforion yn ddrutach os ydyn nhw'n agored i dariffau a rhwystrau nad ydyn nhw'n ymwneud â thariffau. Felly, mae'n bwysig iawn ein bod yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU, yn amlwg, i wneud yn siŵr eu bod yn gwybod beth yw ein barn. Rydym ni'n gwybod bod yn rhaid i ni gefnogi ein sector cig coch yn benodol, ac rydym ni wedi bod yn gwneud hynny dros y tair blynedd diwethaf. Byddwch chi'n ymwybodol fy mod wedi rhoi arian ar gyfer meincnodi cig coch i sicrhau bod ein ffermwyr yn fwy cystadleuol.

Unwaith eto, mae rhyddid pobl i symud yn mynd i gael effaith ar ein cynhyrchwyr bwyd. Roeddwn i'n edrych ar ffigurau ynghylch faint o bobl—o blith y 217,000 o bobl hynny y soniais amdanyn nhw ar draws y gadwyn gyfan, faint ohonyn nhw sy'n wladolion yr UE, ac rwy'n credu ei fod dros 30 y cant. Felly, gallwch chi weld bod hynny hefyd yn mynd i wneud gwahaniaeth enfawr i'n cynhyrchwyr bwyd. Felly, heriau enfawr yn ymwneud â Brexit, a byddwn ni'n parhau i weithio'n agos iawn gyda'r sector.

17:45

Wrth fynd ar drywydd y ddau gyfraniad blaenorol, a oedd yn cwmpasu rhywfaint o'r hyn yr oeddwn i yn mynd i'w godi, nid wyf i'n rhannu'n llwyr hyder Andrew R.T. Davies fod pobl yn barod i roi eu harian ar eu gair. Oherwydd, yn anffodus, mae llawer o bobl yn gorfod prynu ar sail pris ac mae llawer o bobl, hyd yn oed os nad ydyn nhw'n cael eu gorfodi i wneud hynny, maen nhw yn y bôn yn prynu ar sail pris. Ac yn aml mae'r hyn sy'n ymddangos yn rhatach mewn gwirionedd yn ddrutach, gan fod bwyd wedi'i brosesu yn llawn siwgr, halen a braster dirlawn, ac, yn anffodus, rwy'n arswydo o glywed nad yw rhywbeth fel dwy ran o dair o'r holl bobl, ledled y DU, byth yn bwyta bwyd wedi'i baratoi'n ffres. Felly, rydym ni'n wynebu heriau iechyd cyhoeddus eithaf mawr yn hynny o beth.

Ond rydych chi eisoes wedi sôn am yr argyfwng dirfodol yn sgil Brexit, sydd wedi'i ohirio am nawr, ond nid yw'r bygythiad o orfod ymadael yn drychinebus â'n prif farchnad allforio a mewnforio bwyd wedi diflannu—mae wedi'i ohirio am flwyddyn yn unig. Ac felly, yn union fel y mae'r Llywodraeth sy'n ymadael—Llywodraeth y DU—yn hapus i agor gwasanaeth caffael cyffuriau y GIG i gwmnïau fferyllol mawr yr Unol Daleithiau, rwy'n ofni hefyd nad oes ganddyn nhw unrhyw amheuon ynghylch aberthu safonau bwyd ar allor cytundebau masnach rydd, fel y'u gelwir. Felly, gallai hynny olygu buddiannau ffermio o'r Unol Daleithiau, y mae cwmnïau prosesu bwyd rhyngwladol yn tra-arglwyddiaethu arnyn nhw, nad ydyn nhw'n poeni dim am y niwed amgylcheddol y maen nhw'n ei achosi i'n priddoedd, ein moroedd a'n haer, gan sathru ar fuddiannau ffermio Cymru. Felly, mae gennym ni rai heriau eithaf sylweddol o'n blaenau.

Hoffwn ddathlu'r pethau yr ydych chi wedi'u hamlinellu eisoes yn eich datganiad. Fe wnaethoch chi sôn am chwech o'r wyth clwstwr bwyd a diod, ac rwy'n credu bod clwstwr garddwriaeth hefyd, ac ni fyddwch yn synnu o fy nghlywed yn eich holi am hyn, oherwydd rwy'n credu mai dyma un o'r pethau pwysicaf i bob un ohonom. Mae dros 60 o gynhyrchwyr llysiau masnachol ar gronfa ddata Tyfu Cymru. Pa gynnydd allwch chi ddweud wrthym ni amdano am eu gallu i wneud Cymru'n gynhyrchydd mwy cynaliadwy o'n llysiau a'n ffrwythau ein hunain, ac yn llai agored, felly, i ymadawiad trychinebus o'r UE ddiwedd y flwyddyn nesaf?

Rwy'n sylwi hefyd y bydd cyfarfod yfory o enillwyr cronfa her yr economi sylfaenol yn Llanelwedd, y mae Lee Waters yn mynd iddo, yn ôl pob tebyg. Mae gennyf i ddiddordeb mawr mewn gwybod pa gynlluniau sydd ar y gweill i ymestyn uchelgais bwrdd gwasanaethau cyhoeddus Sir Gaerfyrddin i gaffael mwy o fwyd sector cyhoeddus yn nes at adref o fusnesau lleol, a sut ydych chi'n credu y gallai arferion da gael eu lledaenu i'r holl fyrddau gwasanaethau cyhoeddus eraill. Rwy'n nodi yn arbennig y bu'r Athro Sonnino o adran ddaearyddiaeth Prifysgol Caerdydd yn annerch sefydliad bwyd ac amaeth y Cenhedloedd Unedig ddoe a'i fod wedi tynnu sylw at bwysigrwydd rhwydweithiau bwyd trefol lleol ar gyfer mynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd a datgarboneiddio ein rhwydweithiau bwyd.

Diolch, Jenny. Rwy'n meddwl mai'r pwynt yr oedd Andrew R.T. Davies yn ei wneud ac yn sicr y byddwn i'n cytuno ag ef yw—ac rwyf wedi ei weld fy hun dros y tair blynedd diwethaf—bod pobl—yn enwedig mewn archfarchnadoedd, rwy'n credu, rwyf wedi ei weld—yn chwilio am fwyd a diod o Gymru ac yn mynnu bod ein harchfarchnadoedd yn ei stocio, yn amlwg, er mwyn iddyn nhw allu dewis gwneud hynny. Bydd fy mam fy hun yn chwilio am gaws o Gymru. Ni fydd hi'n prynu unrhyw gaws arall ar wahân i gaws o Gymru, ac, yn amlwg, mae llawer o fathau o gaws o Gymru. Ond rwy'n credu ei fod yn dda iawn; anaml y byddwch chi'n mynd i archfarchnad yng Nghymru bellach ac nad ydych chi'n gweld caws o Gymru'n cael ei arddangos.  

Rwy'n credu bod y ffigur a gawsoch chi—nad yw dwy ran o dair o bobl ledled y DU yn bwyta bwyd ffres—yn amlwg, mae effaith bwyd ar iechyd y cyhoedd yn cael ei gydnabod yn dda iawn, ac rwy'n credu bod gan y diwydiant bwyd ran bwysig o ran dylanwadu ar yr hyn y mae pobl yn ei ddewis i fwyta ac yfed.

Fe wnaethoch chi sôn am y clwstwr garddwriaeth. Yn wir, mae yna glwstwr garddwriaeth. Fel y gwyddoch chi, nid yw'n farchnad enfawr yng Nghymru, ond rwy'n credu mai un o'r cyfleoedd o 'Ffermio Cynaliadwy a'n Tir', wrth fwrw ymlaen, yw gweld cynnydd yn nifer y garddwriaethwyr. Rwyf wedi ymweld ag o leiaf dau dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf, lle maent yn awyddus iawn i sicrhau eu bod yn ymestyn eu cynnig.

Nid wyf yn ymwybodol o'r digwyddiad y gwnaethoch chi nodi bod y Dirprwy Weinidog Lee Waters yn mynd iddo yfory, ond mae ef newydd gerdded i mewn i'r Siambr, a byddwn i'n hapus iawn i gael trafodaeth, os bydd yn mynd i'r digwyddiad hwnnw yfory, rwy'n cymryd, ar faes y Sioe Frenhinol.

Rydych chi yn llygad eich lle ynglŷn â phryderon, ar ôl Brexit, o ran pa gytundebau masnach rydd y mae Llywodraeth y DU yn eu gwneud, ac rwyf bob amser yn dweud, os yw UDA fwy na thebyg ar frig eu rhestr, ni fyddai ar frig fy rhestr i, yn sicr. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn cael y trafodaethau hynny gyda Llywodraeth y DU, ac rwy'n gwybod bod y Gweinidog sy'n gyfrifol am fasnach yn sicrhau eu bod o gwmpas y bwrdd ar gyfer unrhyw drafodaethau.

Ond, yn amlwg, cynnal ein safonau uchel iawn yn y ffordd y cynhyrchir ein bwyd a diod—rydym ni eisiau cynnal y safonau hynny ac nid ydym ni eisiau i'r farchnad gael ei boddi gan fwyd rhad, oherwydd, fel yr ydych chi'n dweud, i lawer o bobl, mae pris yn sicr o fod yn rhywbeth y bydd yn  rhaid iddyn nhw edrych arno pan fydden nhw'n prynu eu bwyd. Felly, mae'n ymwneud â chefnogi pobl i wneud yn siŵr eu bod nhw'n gallu gwneud dewisiadau iach, a hefyd rhoi cyngor a gwybodaeth a chymorth. Ac, yn amlwg, mae hynny'n rhan o'r cynnig bwyd a diod sydd gennym ni.  

17:50

Diolch yn fawr iawn, Gweinidog, ac mae hynny'n dod â thrafodion heddiw i ben. Diolch.

Daeth y cyfarfod i ben am 17:52.