Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Plenary - Fifth Senedd
26/11/2019Cynnwys
Contents
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Galw'r Aelodau i drefn.
A'r eitem gyntaf ar yr agenda y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog. Ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Michelle Brown.
1. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwella deiliannau academaidd ar gyfer plant ysgol? OAQ54771
Llywydd, mae cyflwyno ein cwricwlwm newydd, rhoi hwb i'r grant datblygu disgyblion a bwrw ymlaen â'r buddsoddiad mwyaf yn ysgolion yr unfed ganrif ar hugain ymhlith y mesurau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella deilliannau i blant ysgol.
Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Ar y deunawfed o'r mis hwn, dywedodd Cymwysterau Cymru bod y brand TGAU yn cael ei werthfawrogi a'i gydnabod yn eang, ac na ddylid cael gwared arno yn rhan o ddiwygiadau addysg y Llywodraeth. Mae hyn yn gwrthgyferbynnu'n uniongyrchol â chomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, sydd eisiau diddymu cymwysterau TGAU. Rwy'n cytuno â Cymwysterau Cymru, ac rwy'n credu, er bod angen diweddaru TGAU efallai, nad ydym ni'n gwneud cymwynas o gwbl â'n pobl ifanc os byddan nhw'n gadael ein system addysg gyda chymwysterau nad oes neb y tu allan i Gymru wedi clywed amdanynt, yn eu cydnabod nac yn deall y lefel y maen nhw arni. Â phwy ydych chi'n cytuno, Prif Weinidog—Cymwysterau Cymru neu gomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol?
Wel, Llywydd, mae ymgynghoriad pwysig iawn yn cael ei gynnal ar hyn o bryd, i sicrhau bod y cymwysterau yr ydym ni'n eu cynnig i'n pobl ifanc yng Nghymru yn cyd-fynd â'r cwricwlwm newydd, ac yn cyflwyno'r math o gyfranogiad gweithredol mewn dysgu y mae'r cwricwlwm hwnnw wedi'i gynllunio i'w ddarparu. Ymgynghoriad yw hwn, a bydd barn y comisiynydd plant, wrth gwrs, yn cael ei darllen yn ofalus iawn yn rhan o hynny, ac yna byddwn yn dibynnu ar gyngor Cymwysterau Cymru, y corff arbenigol a sefydlwyd at yr union ddiben hwn.
Prif Weinidog, i wella deilliannau academaidd, wrth gwrs, mae'n rhaid i blant a phobl ifanc fod yn rhywle lle y gallan nhw ddysgu, ac os ydyn nhw'n cael eu tynnu oddi ar y gofrestr i hybu cofnod academaidd ymddangosiadol ysgol, yna nid ydyn nhw o reidrwydd yn dysgu. Gwn fod eich Gweinidog yn gwrthwynebu'n llwyr yr arfer o dynnu disgyblion oddi ar y gofrestr, yn amlwg, ond pa gamau uniongyrchol y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i ymchwilio i gyhuddiadau gydag ysgolion penodol, ac i gosbi unrhyw ysgolion sy'n twyllo'r system?
Wel, Llywydd, dim ond i ychwanegu fy llais at yr un mater: mae tynnu pobl ifanc oddi ar y gofrestr er mwyn gwneud iddi ymddangos, yn artiffisial, fel pe byddai canlyniadau mewn ysgol yn well nag y bydden nhw fel arall yn gwbl annerbyniol. Mae'r bobl ifanc hynny yn haeddu'r addysg orau bosibl, a'r ystyriaeth lawnaf, a gwyddom eu bod weithiau'n blant sy'n achosi heriau yn yr ystafell ddosbarth. Dyna pam mae'r Gweinidog Addysg wedi dweud yr hyn y mae hi wedi ei ddweud. Mae hi wedi sefydlu cyfres o fesurau ar unwaith i sicrhau bod gennym ni'r wybodaeth orau yn y maes hwn, ac i newid y ffordd y caiff asesiadau eu cynnal mewn ysgolion, fel bod y cymhellion, y cymhellion gwrthnysig a allai fod wedi bod yno fel arall, ac y dywedir bod rhai ysgolion wedi manteisio'n annheg arnynt—bod y cyfleoedd hynny'n cael eu hatal yn y dyfodol.
Fe gymerodd Cymru ran ym mhrofion PISA am y tro cyntaf yn 2006, a bydd y set ddiweddaraf o ganlyniadau yn cael ei chyhoeddi yr wythnos nesaf. Fel rydych chi'n gwybod, roedd sgoriau Cymru yn y cylch diwethaf yn 2015 yn is na sgoriau 2006 ymhob maes, ac roedd canlyniadau Cymru yn y flwyddyn honno hefyd yn is na chanlyniadau'r tair gwlad arall yn y Deyrnas Unedig, ac yn is na chyfartaledd yr OECD, a hynny yn y tri maes—darllen, mathemateg a gwyddoniaeth.
O edrych ar ddata sydd wedi cael eu cyhoeddi'n ddiweddar, yn cynnwys adroddiadau blynyddol Estyn, ydych chi'n gweld arwyddion sy'n eich calonogi chi cyn cyhoeddiad yr OECD ddydd Mawrth nesaf?
Wel, mae lot o bethau, Llywydd, am beth mae plant yn ein hysgolion ni yng Nghymru yn ei wneud sy'n codi ein calon ni yma yn y Llywodraeth, a chyda rhieni ledled Cymru hefyd. Wrth gwrs, mae'r ysgolion, mae'r athrawon ac mae'r plant eu hunain yn gweithio'n galed i drio gwneud eu gorau glas yn y system sydd gyda ni, ac rydym ni'n gweithio'n galed gyda'r OECD. Maen nhw'n dweud bod y pethau rydym ni'n gwneud yma yng Nghymru—ein bod ni ar y ffordd iawn. Cawn weld beth fydd y ffigurau PISA pan fyddan nhw'n dod atom ni yr wythnos nesaf.
2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddiogelu hawliau dynol dinasyddion Cymru? OAQ54770
Llywydd, byddwn yn cychwyn y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol a nodir yn rhan 1 Deddf Cydraddoldebau 2010. Byddwn yn gweithredu argymhellion ein hadolygiad o gydraddoldeb rhwng y rhywiau, a byddwn yn cyflwyno Bil partneriaeth gymdeithasol—pob un yn gam i helpu i amddiffyn hawliau dynol dinasyddion Cymru.
Diolch am eich ateb, Prif Weinidog. Mae hawliau dynol fy etholwyr yn cael eu herydu gan Heddlu De Cymru, eu hawliau erthygl 8 yn bennaf. Mae Liberty a'r Electronic Frontier Foundation yn dadlau bod y defnydd eang o dechnoleg adnabod wynebau, a ddefnyddir gan Heddlu De Cymru, yn amlwg yn groes i'r hawl i breifatrwydd a roddir gan erthygl 8 o Ddeddf Hawliau Dynol 1998. Mae'r Llys Apêl wedi rhoi hawl i Ed Bridges apelio yn erbyn ei ddefnyddio, ac mae'r Arglwydd Ustus Singh wedi datgan bod yr achos yn debygol iawn o lwyddo.
Mae Heddlu De Cymru yn parhau i ddefnyddio technoleg adnabod wynebau yn awtomatig, er gwaethaf y ffaith y dangoswyd ei fod yn anghywir, yn adnabod pobl yn anghywir, a bod yr algorithmau a ddefnyddir yn dangos rhagfarn hiliol. Ddydd Sadwrn, bydd technoleg adnabod wynebau yn cael ei defnyddio yn ystod gêm Cymru yn erbyn y Barbariaid yn Stadiwm y Principality. Felly, Prif Weinidog, a wnewch chi alw ar Heddlu De Cymru i roi'r gorau i ddefnyddio'r dechnoleg hon yn erbyn dinasyddion Cymru tan y gall y Swyddfa Gartref ddiogelu ein hawliau erthygl 8 a sicrhau bod y feddalwedd a ddefnyddir yn gywir ac yn rhydd o ragfarn hiliol?
Llywydd, rwy'n credu bod y pwyntiau y mae'r Aelod yn eu gwneud yn rhai pwysig, oherwydd mae'n iawn cael dadl am y mater hwn, ac mae pwyntiau pwysig i'w gwneud ar ddwy ochr y ddadl, fel yr ydym ni wedi ei gweld yn dod i'r amlwg hyd yn hyn. Ac rwy'n falch o weld y bydd hyn yn cael ei brofi ymhellach yn y llysoedd, a bod hawl i symud i'r cam nesaf yn y llysoedd wedi ei ganiatáu. Ond rwy'n ymwybodol hefyd nad yw Heddlu De Cymru wedi cymryd y camau y maen nhw wedi eu cymryd yn ddifeddwl, eu bod nhw eu hunain yn cael trafodaeth fywiog iawn am y materion moesegol ac ymarferol sy'n gysylltiedig ag adnabod wynebau yn awtomatig. Rwy'n credu bod honno'n ddadl bwysig iawn i ni ei chael. Ar y naill law, ceir dadleuon sy'n dweud y gall adnabod wynebau yn awtomatig helpu i'n cadw ni i gyd yn ddiogel, yn enwedig mewn digwyddiadau mawr, fel gemau rygbi mawr, lle na ellir anwybyddu'r posibilrwydd y gallai pethau drwg ddigwydd. Ar y llaw arall, ceir pryderon y mae'r Aelod wedi eu mynegi y prynhawn yma, ac maen nhw'n haeddu cael eu cymryd o ddifrif a chael eu profi yn yr un modd. A'r llysoedd nawr fydd y lle y caiff hynny ei drafod a'i ddatrys.
Mae cryfhau hawliau dynol dinasyddion Cymru mewn sefyllfa ar ôl Brexit yn hanfodol, wrth gwrs. Ond tybed a ydych chi wedi rhoi ystyriaeth bellach i hawliau dynol y lleiafrif o ddinasyddion Cymru a fydd yn cael eu hystyried yn niwroamrywiol? A ydych chi'n credu bod yr amser wedi dod i ddeddfwriaeth cydraddoldeb ystyried niwroamrywiaeth fel nodwedd warchodedig ynddi ei hun?
Llywydd, rwy'n ymwybodol o'r ddadl am hyn, wrth gwrs; nid yw'n ddadl sydd wedi dod i gasgliad. Nid wyf i'n credu fy hun ein bod ni wedi cyrraedd pwynt lle mae consensws digonol yn y gwahanol gymunedau a fyddai â buddiant yn hyn i ddod i'r casgliad ein bod ni wedi cyrraedd yr adeg lle gellid ehangu nodweddion i gynnwys unigolion niwroamrywiol. Ond mae'n ddadl sy'n wahanol iawn heddiw i'r hyn yr oedd hi dim ond blwyddyn neu ddwy yn ôl—mae mwy o wybodaeth yn dod i'r amlwg, mwy o bobl yn ychwanegu eu lleisiau at y ddadl honno. Rwy'n credu ei bod hi'n hollol iawn y dylem ni gael y drafodaeth honno. Fel y dywedaf, fy nealltwriaeth i o sefyllfa bresennol y drafodaeth yw nad oes consensws hyd yma ynghylch y mater hwnnw a fyddai'n ei roi ar yr un lefel â'r nodweddion gwarchodedig eraill sydd gennym ni mewn deddfwriaeth eisoes.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd yr wrthblaid—Paul Davies.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, o dan Lywodraeth Lafur y DU, a Llywodraeth Cymru, a allwch chi gadarnhau pa un a fydd trethi yn codi neu'n gostwng?
Bydd trethi'n codi i rai pobl pan fydd y Llywodraeth Lafur nesaf, ar lefel y DU, yn dod i rym ar 13 Rhagfyr. Ac mae hynny'n gwbl gywir a phriodol, oherwydd rydym ni angen dosbarthiad tecach o faich trethiant yn y Deyrnas Unedig. Gwnaeth fy mhlaid ymrwymiad maniffesto yn etholiadau diwethaf y Cynulliad na fyddem ni'n newid cyfraddau treth incwm sydd wedi eu datganoli i'r Cynulliad Cenedlaethol yn ystod y tymor Cynulliad hwn, a bydd hwnnw'n parhau i fod yn ymrwymiad tan yr etholiad nesaf, pan fyddwn ni, gyda phob plaid wleidyddol arall, yn gallu cyflwyno cynigion newydd mewn maniffestos.
Prif Weinidog, cefais ateb syml o'r diwedd i gwestiwn syml iawn y bydd trethi yn codi o dan y Blaid Lafur mewn gwirionedd. Ac, wrth gwrs, rhywun arall nad oedd yn ofni dweud y bydd yn rhaid i bawb dalu mwy o dreth o dan Lywodraeth Lafur y DU oedd John McDonnell, a gyfaddefodd o'r diwedd ddoe y bydd llawer o bolisïau'r blaid yn effeithio ar y boblogaeth gyfan. Ac, wrth gwrs, fel yr ydych chi newydd ei ddweud, lle mae Llywodraeth Lafur y DU yn arwain, bydd Lywodraeth Cymru yn dilyn, ac mae eich maniffesto eich hun yn ymrwymo i ofyn am ychydig mwy gan y rhai sydd â'r ysgwyddau lletaf, gan sicrhau bod pawb yn talu'r hyn sy'n ddyledus ganddyn nhw. Ac rydym ni i gyd yn gwybod beth mae hynny'n ei olygu—mae hynny'n golygu trethi'n mynd yn uchel iawn o dan y Blaid Lafur.
Wrth gwrs, un peth na soniwyd amdano, yn gyfleus, yn eich maniffesto ddoe oedd cynlluniau treth Llafur Cymru ar gyfer gofal cymdeithasol. Pryd ydych chi'n bwriadu bod yn onest gyda phobl Cymru a chadarnhau eich bod chi ar fin dechrau eu trethu fwyfwy ar gyfer gofal cymdeithasol yn y dyfodol?
Wel, Llywydd, gadewch i ni gywiro'r gwallau ynghylch nifer o'r materion yna. Bydd Llafur yn codi mwy o dreth gan unigolion sy'n ennill mwy na £80,000 y flwyddyn. Rwy'n croesawu'n llwyr ein bwriad i wneud hynny. Byddwn yn rhoi terfyn ar arswyd credyd cynhwysol yn y wlad hon, lle mae'r bobl dlotaf yn ein gwlad yn byw mewn ofn o'r diwygiadau y mae ei blaid ef wedi eu cyflwyno, a byddwn yn gwneud hynny trwy gymryd swm bach o arian ychwanegol gan bobl sy'n gallu fforddio gwneud y cyfraniad hwnnw yn gyfforddus.
Byddwn yn codi'r dreth gorfforaeth yn ôl i le'r oedd hi pan ddaeth ei blaid ef i rym—yn ôl i 26 y cant: sy'n dal yn llai na Gwlad Belg, yn dal yn llai nag Awstralia, yn dal yn llai na Seland Newydd, yn dal yn llai na Chanada, yn dal yn llai na'r Almaen, yn dal yn llai na Ffrainc, yn dal yn llai nag Unol Daleithiau America. Ond byddwn yn gwneud hynny oherwydd ein bod ni'n gwybod bod llawer gormod o fusnesau yn y wlad hon yn gweithredu i ddianc rhag baich trethiant y dylen nhw chwarae rhan yn ei ysgwyddo.
O ran gofal cymdeithasol, oni fyddai'n braf, Llywydd, pe byddai'r Papur Gwyrdd y mae ei blaid ef wedi ei addo ers pum mlynedd wedi gweld golau dydd cyn yr etholiad cyffredinol? Rydym ni'n parhau i wneud y gwaith manwl, gan weithio gyda'r Athro Gerry Holtham ac arbenigwyr eraill, ar sut y byddwn yn ariannu system gofal cymdeithasol ar gyfer y dyfodol yma yng Nghymru a fydd yn parchu'r bobl hŷn hynny nad oes ganddyn nhw'r gwasanaethau y bydden nhw yn dymuno eu gweld ar hyn o bryd wrth iddyn nhw heneiddio. Sylwaf fod maniffesto'r Blaid Geidwadol yn anhygoel o dawel ar y pwynt hwn, Llywydd. Rydym ni'n gwneud ein gwaith mewn modd y gall pawb ei weld. Rydym ni'n ei adrodd bob tro mae'r grŵp yn cyfarfod. Mae hyn yn cael ei guddio oddi wrth bawb ym maniffesto ei blaid ef.
Wel, mae'n eithaf eglur, Prif Weinidog, y bydd eich ymrwymiadau gwario yn eich maniffesto yn gwneud ein gwlad yn fethdalwr mewn gwirionedd. Roeddem ni bron â bod yn fethdalwr yn ôl yn 2010 pan yr oedd gennym ni ddiffyg o £150 miliwn oherwydd eich camreolaeth chi o'r economi. Ond nid gofal cymdeithasol yn unig y mae eich Llywodraeth yn bwriadu gorfodi trethdalwyr i dalu mwy fyth amdano, fodd bynnag, aie? O dan eich Llywodraeth chi, Cymru sydd â'r lluosydd ardrethi busnes drytaf ym Mhrydain, sef 52.6c yn y bunt. Mae gennym ni'r dreth eiddo masnachol uchaf yn y DU ar eiddo dros £1 filiwn. Bydd sector twristiaeth Cymru yn cael ei mygu gan y posibilrwydd o gyflwyno treth dwristiaeth. Bydd ein hysgolion annibynnol yn colli rhyddhad ardrethi elusennol pan eu bod nhw wedi eu cofrestru yn elusennau, a dim ond y mis diwethaf, roedd treth wedi'i neilltuo a chyffredinol newydd i Gymru, wedi ei chyfeirio'n benodol at alluogi pontio'r cwricwlwm, yn cael ei chrybwyll. A gadewch i ni beidio ag anghofio cynlluniau eich plaid ar gyfer treth etifeddiant, a fydd yn golygu y bydd mwy fyth o arian trethdalwyr sy'n gweithio'n galed yn cael ei chyfeirio yn ôl i'r wladwriaeth. Ac mae hynny'n nodweddiadol o'r Blaid Lafur, onid yw, Prif Weinidog—trethu ein busnesau, trethu ein tir a threthu ein pobl? A oes dim allan o gyrraedd pan ddaw i gynhyrchu trethi i'r Blaid Lafur? Ac a wnewch chi fod yn onest â phobl Cymru nawr a dweud wrthym ni faint yn union y bydd Llywodraeth Lafur ar ddau ben yr M4 yn ei gostio?
Wel, Llywydd, yn wir, y Blaid Geidwadol ac adweithiol a gynigir i ni y prynhawn yma—plaid sydd yn sownd yn economi'r gorffennol, eu syniadau heb ddatblygu o gwbl o'r rhai y maen nhw wedi eu cynnig ac sydd wedi eu gwrthod gan bobl yng Nghymru dro ar ôl tro ar ôl tro.
Bydd maniffesto Llafur yn yr etholiad hwn, Llywydd, yn symud y Deyrnas Unedig i'r brif ffrwd Ewropeaidd. Bydd y gyfran o'n heconomi y byddwn ni'n ei gwario ar wasanaethau cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig dan Lywodraeth Lafur newydd yr un ganran ag sy'n cael ei gwario yn Ffrainc ac yn yr Almaen—yn yr Almaen, yr economi fwyaf llwyddiannus yn Ewrop gyfan. A pham mae hynny? Mae hynny oherwydd ein bod ni'n deall, fel y maen nhw'n deall, bod yn rhaid i chi fuddsoddi er mwyn creu amodau llwyddiant economaidd.
Rydym ni wedi cael degawd o newyn gan y Torïaid—newyn o ran buddsoddiad yn ein gwasanaethau cyhoeddus, newyn o ran y mathau o fuddsoddiadau seilwaith a fyddai wedi gwneud gwahaniaeth i gynhyrchiant ar draws y Deyrnas Unedig gyfan. Bydd Llywodraeth Lafur yma yn y Deyrnas Unedig yn gweithio gyda Llywodraeth Lafur yma yng Nghymru i wneud yn siŵr ein bod ni'n gallu atgyweirio'r difrod a wnaed gan y Blaid Geidwadol, i greu economi yma sy'n cynnig gobaith i ni ar gyfer y dyfodol, ac rwy'n falch iawn yn wir o fod wedi gallu cael hynny ar y cofnod eto y prynhawn yma.
Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Prif Weinidog, yn 2017, roedd maniffesto Llafur yn cynnwys ymrwymiad pendant i ddatganoli plismona i Gymru. Nid yw eich maniffesto ar gyfer 2019 yn ei gynnwys. Pam?
Oherwydd, Llywydd, yn y cyfamser, rydym ni wedi sefydlu ac wedi gweld adroddiad comisiwn Thomas, sy'n darparu cyfres gynhwysfawr o argymhellion ar gyfer y system gyfiawnder yn ei chyfanrwydd yma yng Nghymru, nid dim ond plismona. Cyhoeddwyd yr adroddiad hwnnw yn yr un wythnos ag y galwyd yr etholiad cyffredinol. Mae maniffesto fy mhlaid yn cyfeirio'n uniongyrchol at brif gasgliad comisiwn Thomas, nad yw'r system gyfiawnder yn gwasanaethu pobl yn dda yng Nghymru, ac mae'n gwneud ymrwymiad i unioni hynny, gan ddefnyddio adroddiad Thomas fel y sail ar gyfer gwneud hynny.
Ie, rydych chi'n iawn, mae'r maniffesto yn cyfeirio at yr adroddiad, ac mae'n defnyddio'r iaith o 'weithio gyda' ac 'ystyried yr adroddiad', ond pam na ellid cael ymrwymiad cwbl gadarn i ddatganoli plismona o leiaf, ac yna mynd ymhellach a chyflawni argymhellion yr adroddiad? Mae hyn yn cefnu, i bob pwrpas, ar eich safbwynt ym maniffesto 2017. Nawr, mae'r papur 'Diwygio ein Hundeb', a gyhoeddwyd gennych yn ddiweddar, yn dweud y dylai fformiwla Barnett gael ei disodli gan, a dyfynnaf:
system newydd sy'n seiliedig ar anghenion cymharol...a dylid gwneud hyn o fewn fframwaith cyllid cynhwysfawr a chyson'.
Nawr, yn eich maniffesto, eich maniffesto ar gyfer 2019, mae cyfeiriad at y ddogfen honno, oes, ond dim ond yng nghyd-destun, unwaith eto, cael ei hystyried gan gonfensiwn cyfansoddiadol. O ran fformiwla Barnett, rydych chi'n cyfeirio at ddiwygiad hirdymor yn unig o'r modd y mae'r DU yn dyrannu gwariant cyhoeddus. Nawr, rydym ni wedi bod yn aros am y diwygiad hirdymor hwnnw, onid ydym, ers cyflwyno fformiwla Barnett gyntaf fel mesur dros dro gan Lywodraeth Lafur Callaghan ym 1978. Nawr, a allwch chi ddweud pa un a yw eich plaid yn ymrwymo'n bendant i ddiddymu fformiwla Barnett, ac, os felly, erbyn pa ddyddiad?
Wel, Llywydd, rwy'n falch iawn bod maniffesto Llafur yn yr etholiad hwn yn cynnwys dau ymrwymiad penodol yn y meysydd y mae Adam Price yn cyfeirio atyn nhw. Yn wir, mae'n cyfeirio'n uniongyrchol at y cynllun 20 pwynt y mae'r Llywodraeth hon wedi ei gyhoeddi, sy'n gynllun o ddifrif ar gyfer dyfodol y Deyrnas Unedig, dyfodol lle mae fy mhlaid i eisiau gweld Cymru lwyddiannus yn y Deyrnas Unedig lwyddiannus honno mewn Undeb Ewropeaidd llwyddiannus. Ac mae cael cydnabyddiaeth uniongyrchol i'n hadroddiad fel un o ddogfennau sylfaenol y confensiwn cyfansoddiadol y byddwn ni'n ei sefydlu yn gydnabyddiaeth rwy'n credu o'r difrifoldeb a neilltuwyd i'r ddogfen honno ers ei chyhoeddi.
Yn gwbl ar wahân, ac mewn rhan wahanol o'n maniffesto, rydym ni'n cyfeirio at ddiwygio'r ffordd y mae cyllid yn llifo drwy'r Deyrnas Unedig gyfan, a gwneud y llif cyllid hwnnw yn seiliedig ar asesiad o angen cymharol. Mae hwnnw'n anochel yn ddiwygiad o fformiwla Barnett, ac mae yno ym maniffesto Llafur i unrhyw un ei weld.
Wel mae'r paragraff, mewn gwirionedd, ar yr angen am ddiwygio yn union yr un fath. Mae wedi ei dorri a'i ludo o faniffesto 2017. Byddwn i wedi—. O ystyried eich bod chi wedi cyflwyno'r cynllun 20 pwynt hwn—ac mae'n dda cael cyfeiriadau mewn maniffesto, ond byddwn i wedi disgwyl cynnydd, y byddech chi mewn gwirionedd wedi gallu gwneud ymrwymiad maniffesto cwbl bendant i ddiddymu fformiwla Barnett, ac nid ydych chi'n gwneud hynny yn eich maniffestos yng Nghymru nac yn y DU.
Gadewch i ni aros gyda chyllid. Mae eich maniffesto ar gyfer Cymru yn dweud y bydd yr Alban yn cael o leiaf £100 biliwn o adnoddau ychwanegol dros ddau dymor o Lywodraeth Lafur—bydd £10 biliwn yn mynd i gronfa drawsnewid genedlaethol newydd i adeiladu 120,000 o gartrefi newydd yn yr Alban, £6 biliwn arall i ôl-ffitio cartrefi sy'n bodoli eisoes, bydd banc buddsoddi cenedlaethol newydd yr Alban yn cael £20 biliwn i ariannu amrywiaeth eang o brosiectau. Nawr, pe byddai Cymru'n cael ei hariannu ar y raddfa hon, dylem ni ddisgwyl o leiaf £60 biliwn yn ychwanegol, ond nid oes ymrwymiad penodol o'r fath yn eich maniffestos ar gyfer y DU na Chymru. Pam ydych chi mor fanwl ynghylch yr Alban, hyd yn oed yn eich maniffesto ar gyfer Cymru, ac mor dawel ynghylch Cymru?
Wel, Llywydd, yn ei gwestiwn cyntaf i mi y prynhawn yma, beirniadodd arweinydd Plaid Cymru faniffesto Llafur am ddweud rhywbeth gwahanol am blismona i 2017 ac, yn ei ail gwestiwn, beirniadodd y maniffesto am ddweud yr un peth ag a wnaeth yn 2017. Y gwir amdani yw ein bod ni'n ailysgrifennu ein maniffesto pan fo pethau newydd y mae'n rhaid i ni eu cymryd i ystyriaeth a, phan fo ymrwymiadau heb eu cyflawni yr ydym ni eisiau bwrw ymlaen â nhw, yna, wrth gwrs, rydym ni'n eu hailadrodd nhw yno.
Bydd Llywodraeth Lafur y DU, Llywydd, yn gweddnewid y cyllid sydd ar gael i Gymru. Bydd £3.4 biliwn yn fwy ar gael i fuddsoddi mewn rhedeg gwasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru nag yr ydym ni wedi ei gael o dan y Llywodraeth bresennol, gan gofio, Llywydd, pe byddai'r adnoddau a oedd ar gael i ni wedi codi'n unol â thwf yr economi, byddem ni eisoes £4 biliwn yn well ein byd nag yr ydym ni heddiw. Mae maniffesto Llafur yn llenwi'r bwlch hwnnw a bydd yn caniatáu i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru a phobl sy'n dibynnu arnyn nhw gael y math o wasanaethau y maen nhw'n eu haeddu. Ac, o ran gwariant cyhoeddus ar fuddsoddi, mae ein maniffesto yn gwneud ymrwymiad pendant i forlyn llanw Bae Abertawe—buddsoddiad cyfalaf o £1.3 biliwn yno. Mae'n gwneud ymrwymiad penodol i hyrwyddo prosiect Wylfa ar Ynys Môn—buddsoddiad o £20 biliwn yn economi Cymru. Mae'n rhoi cyfran i ni yn y rhaglenni trawsnewid newydd gwych y bydd Llywodraeth Lafur yn eu cyflwyno ac, yma yng Nghymru, byddwn yn gweld nid yn unig refeniw i ganiatáu i ni ail-fuddsoddi yn ein gwasanaethau cyhoeddus, ond y gallu i ailadeiladu'r seilwaith y mae economi lwyddiannus yn ei ganiatáu ar raddfa sydd wedi bod yn gwbl absennol dros y 10 mlynedd diwethaf. A dylai pobl yng Nghymru sydd eisiau gweld hynny'n digwydd fod yn pleidleisio drosto ar 12 Rhagfyr.
Arweinydd Plaid Brexit, Mark Reckless.
Wel, Prif Weinidog, mae'r swm canlyniadol Barnett hwnnw o £3.4 biliwn yn dibynnu ar gynnydd enfawr i fenthyg cyhoeddus ac, os byddwch yn llwyddo yn eich nod i orfodi pobl Cymru a'r DU i bleidleisio eto a llwyddo yn eich ymgyrch i aros, byddwch yn cael eich gwahardd rhag benthyg yr arian hwnnw gan reolau'r Undeb Ewropeaidd.
Nawr, Prif Weinidog, mae maniffesto Llafur wedi addo adeiladu 100,000 o dai cyngor bob blwyddyn yn Lloegr—faint fyddwch chi'n eu hadeiladu yng Nghymru?
Wel, rwy'n gallu darparu i'r Aelod y ffigurau sydd gennym ni ar gyfer adeiladu tai cyngor yng Nghymru yn ôl y rhagamcan dros y cyfnod sydd ar ddod. Erbyn diwedd 2021, bydd dros 800 o dai cyngor newydd wedi eu hadeiladu yn ninas Caerdydd; bydd 150 o dai cyngor newydd yn cael eu hadeiladu ym Mhowys; bydd 176 o dai cyngor newydd yn cael eu hadeiladu yn Ynys Môn. Felly, mewn llinell ddi-dor o'r de-ddwyrain i'r gogledd-orllewin, bydd cannoedd o dai cyngor newydd yn cael eu hadeiladu dan Lywodraeth Lafur, o dan reolau presennol, a bydd Llywodraeth Lafur yn San Steffan, gan ddarparu'r buddsoddiad sydd ei angen arnom, yn arwain at gynyddu cyflymder y gwaith cynhyrchu hwnnw yn ystod blynyddoedd y Llywodraeth Lafur nesaf.
Prif Weinidog, o ystyried mai dim ond 57 o dai cyngor y gwnaethoch chi eu hadeiladu y llynedd, gall pobl farnu credadwyedd hynny, neu fel arall, drostynt eu hunain. Rydych chi wedi dweud eich bod chi'n mynd i—a dyfynnaf eich maniffesto yma yn 2016:
Byddwn yn darparu 20,000 o dai fforddiadwy ychwanegol yn ystod y tymor nesaf.
Ond mae hynny'n awgrymu 4,000 y flwyddyn. Rydych chi wedi bod yn darparu 2,500 y flwyddyn ar gyfartaledd. A yw'n wirioneddol gredadwy eich bod chi'n mynd i oresgyn y diffyg hwnnw yn ystod y ddwy flynedd nesaf?
Nawr, ymrwymiad Llafur y DU yw 100,000 o dai cyngor y flwyddyn yn Lloegr, ond ers 2009-10 yng Nghymru—a gadewch i ni edrych ar yr hanes, yn hytrach na'ch honiadau ar gyfer y flwyddyn ganlynol—dim ond 153 o dai cyngor a adeiladwyd yn ystod yr holl flynyddoedd hynny. Mewn chwech o'r blynyddoedd hynny, ni wnaeth awdurdodau lleol adeiladu unrhyw dai cyngor o gwbl. O gofio mai dim ond 57 y cyrhaeddodd Cymru y llynedd, mae hyn yn cymharu â 5,600 a ddylai fod wedi cael eu hadeiladu pe byddech chi'n cyd-fynd ag addewid breuddwyd gwrach eich plaid ar gyfer Lloegr. Pa baratoadau mae Llywodraeth Cymru wedi eu gwneud, os o gwbl, ar gyfer cynnydd o bron i ganwaith cymaint o ran adeiladu tai cyngor?
Wel, Llywydd, y cwestiwn cyntaf oedd pa un a oes gennym ni ffydd y byddwn ni'n adeiladu 20,000 o dai fforddiadwy yn ystod y Cynulliad hwn, a'r ateb i'r cwestiwn hwnnw yw 'oes'—byddwn yn cyrraedd y ffigur hwnnw, ac rwy'n credu y byddwn ni'n rhagori arno, yn ystod y tymor Cynulliad hwn.
Y rheswm pam nad yw cynghorau wedi gallu adeiladu tai yng Nghymru yw oherwydd y polisïau a ddilynwyd gan y blaid yr oedd ar y pryd yn aelod ohoni ac y gorymdeithiodd drwy lobïau yn Nhŷ'r Cyffredin i'w chefnogi pryd bynnag y câi gyfle.
[Anghlywadwy.]—faint wnaethoch chi eu hadeiladu felly?
Gallaf glywed—gallaf glywed y lol sy'n cael ei gynnig i mi, Llywydd, o'r chwith i mi yn y Siambr. Mae polisïau'r blaid honno, o ddyddiau Mrs Thatcher ymlaen, wedi arwain at ddistrywio stoc cyngor ar hyd a lled y Deyrnas Unedig. Dyna pam yr ydym ni wedi diddymu'r hawl i brynu yma yng Nghymru—i gadw tai cyngor yn y rhannau hynny o Gymru lle mae teuluoedd ifanc eu hangen i ymuno â'r ysgol dai a lle y mae'r gallu hwnnw wedi cael ei dynnu oddi wrthyn nhw oherwydd gweithredoedd ei blaid ef, gyda chymorth Mr Reckless pryd bynnag y cafodd gyfle i wneud hynny.
Nawr bod gennym ni gyfle i wrthdroi'r sefyllfa honno, i gael cynghorau i godi tai unwaith eto, rwy'n llawenhau'n fawr yn awydd ein partneriaid awdurdod lleol o bob plaid i fanteisio ar y cyfleoedd newydd a fydd ar gael. Dyna pam yr oeddwn i'n gallu rhoi'r ffigurau hynny i Mark Reckless yn fy ateb cychwynnol—ffigurau sy'n dangos yr awydd ymhlith cynghorau sydd o dan reolaeth Llafur, o dan reolaeth Plaid Cymru, o dan ddim rheolaeth unrhyw gyngor. Ar draws Cymru gyfan, ceir cynghorau sydd eisiau adeiladu tai cyngor, gan eu bod nhw'n gwybod ar gymaint o frys y mae eu hangen. Rydym ni'n benderfynol o'i wneud yma yn Llywodraeth Cymru, a, chyda Llywodraeth Lafur yn San Steffan, bydd ein gallu i wneud hynny'n cael ei wella'n aruthrol.
3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer y GIG yng Nghanol De Cymru dros y 12 mis nesaf? OAQ54769
Llywydd, ymhlith ein blaenoriaethau ar gyfer y system gofal iechyd dros y 12 mis nesaf mae atal, lleihau anghydraddoldebau iechyd, darparu'r model gofal sylfaenol i Gymru, mynediad prydlon at ofal a buddsoddiad pellach mewn gwasanaethau iechyd meddwl.
Nawr, rydym ni wedi clywed llawer dros y tair blynedd diwethaf am effaith drychinebus honedig Brexit ar bob math o wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, gan gynnwys y GIG, ac rydym ni'n gwybod bod GIG Cymru eisoes yn ei chael hi'n anodd recriwtio digon o staff i ymdopi â'r galw. Ond rydym ni'n darganfod nawr mai bwriad y Blaid Lafur yw cyflwyno wythnos pedwar diwrnod, a fydd yn sicr o waethygu'r problemau recriwtio yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru. Mae'n bolisi mor niweidiol fel bod llefarydd iechyd Llafur yn Lloegr eisoes wedi honni na fydd yn cael ei ddilyn yn y GIG. A hoffai'r Prif Weinidog achub ar y cyfle hwn i ymwrthod â'r polisi hwn a allai fod yn drychinebus?
Llywydd, wel, mae'n braf clywed, o'r diwedd, bod Gareth Bennett yn cydnabod yr effaith drychinebus y bydd gadael yr Undeb Ewropeaidd yn ei chael ar recriwtio yn y gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru. Roeddwn i'n meddwl bod ei gwestiwn wedi dechrau'n addawol iawn yn hynny o beth—dirywiodd yn eithaf cyflym ar ôl hynny.
Gallaf ddweud wrtho, Llywydd, bod pobl sy'n gweithio'n galed yn GIG Cymru, sy'n gweithio bob dydd i sicrhau bod pobl yng Nghymru yn cael y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt—maen nhw'n edrych ymlaen at y diwrnod pan fydd Llywodraeth Lafur yn barod i fuddsoddi yn y gwasanaethau cyhoeddus hynny fel y gellir gwireddu'r uchelgais o wythnos pedwar diwrnod yma yng Nghymru. Pam yn y byd y gellid meddwl amdano fel uchelgais annheilwng i ganiatáu i bobl dreulio mwy o amser gyda'u teuluoedd, mwy o amser yn buddsoddi yn eu datblygiad eu hunain, pan ein bod ni'n gallu gwneud hynny? Mae gennym ni gynllun i wneud hynny. Bydd yn berthnasol yma yng Nghymru. Edrychaf ymlaen at y cyfle i allu ei wneud.
Prif Weinidog, mae'n eironig eich bod chi'n sôn am weithwyr iechyd sy'n gweithio'n galed pan fu'n rhaid i'ch plaid eich hun ddefnyddio actores yn eich darllediad gwleidyddol, oherwydd na allech chi ddod o hyd i unrhyw weithwyr iechyd i gefnogi eich polisïau.
Ond hoffwn ofyn i chi am bwynt difrifol, os caf i, gan fod Arolygiaeth Iechyd Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru newydd gynnal archwiliad o Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf, a chyfeiriasant at fethiant y staff i fod yn ffyddiog, os byddan nhw'n codi pryderon, y byddai'r pryderon hynny'n cael eu cymryd o ddifrif. Yn wir, aeth yr adroddiad ymlaen i ddweud eu bod nhw'n teimlo na allen nhw wneud mwy i uwchgyfeirio eu pryderon. A allwch chi roi ffydd i mi heddiw, Prif Weinidog, bod eich Llywodraeth yn gweithio gyda'r byrddau iechyd yng Nghanol De Cymru i sicrhau y gweithredir ar bryderon gweithwyr iechyd, pan gânt eu codi, oherwydd ffrind beirniadol i dynnu sylw at fethiannau a allai arwain at rai canlyniadau trychinebus yn ddiweddarach yw'r ffrind gorau yn y gwasanaeth iechyd?
Llywydd, hoffwn ddiolch i Andrew R.T. Davies am y cwestiwn pwysig yna, ac rwy'n cytuno â bron popeth a ddywedodd. Mae'n gwbl hanfodol yn ein gwasanaeth iechyd, pan fydd gan bobl bryderon y mae'n rhaid iddyn nhw eu codi, bod ganddyn nhw ffydd y bydd y system yn gwrando'n astud arnyn nhw, yn ymateb iddyn nhw o ddifrif, ac yn gweithredu ar sail y pryderon hynny pan gaiff y pryderon hynny eu cadarnhau yn dilyn ymchwiliad.
Nawr, dywedodd yr adroddiad a gyhoeddwyd ar 19 Tachwedd gan yr arolygiaeth gofal iechyd a Swyddfa Archwilio Cymru yng Nghwm Taf bod camau yn cael eu cymryd i gryfhau ansawdd, diogelwch a llywodraethu o fewn y Bwrdd Iechyd, bod y prif weithredwr newydd, am y tro, yn gwneud llawer iawn i arwain y sefydliad i'r cyfeiriad hwnnw. Yna mae'n gwneud cyfres o argymhellion pellach y mae angen i'r bwrdd iechyd ymateb iddyn nhw i ddangos ei fod yn ailgynllunio ei strwythurau a'i brosesau, ac i wneud yn siŵr bod y gwerthoedd o fod yn agored a rhoi sylw gofalus i'r hyn y mae aelodau o staff yn ei ddweud wrth y bwrdd wedi eu hymwreiddio'n llwyr yn niwylliant y sefydliad hwnnw. Ac rwy'n rhannu safbwyntiau a fynegwyd gan yr Aelod ar y pwysigrwydd bod hynny'n digwydd yn ein gwasanaethau iechyd drwyddynt draw.
4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarparu gwasanaethau deintyddol? OAQ54749
Diolch am y cwestiwn. Mae gan fwy o bobl yng Nghymru fynediad at ddeintyddiaeth gwasanaeth iechyd Cymru nag erioed o’r blaen, ac mae mynediad yn achos plant wedi cyrraedd y lefel uchaf erioed. Er hynny, mae’r ddarpariaeth mewn rhai rhannau o Gymru’n dal yn her. Mae diwygio’r contract, buddsoddi mewn addysg ddeintyddol a rhyddhau’r proffesiwn yn rhai o'r atebion sy’n cael eu rhoi ar waith.
Yn dilyn adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar ddeintyddiaeth yng Nghymru, fel Aelodau Cynulliad, rydym ni'n parhau i dderbyn cwynion gan aelodau'r cyhoedd ynglŷn â phrinder deintyddion GIG yn lleol. Nawr, yn hen ardal Abertawe Bro Morgannwg yr wyf i'n ei chynrychioli, dywedir wrthym mai dim ond naw o'r 65 o bractisau deintyddol sy'n derbyn cleifion GIG newydd sy'n oedolion. Mae deintyddiaeth GIG leol yn perthyn i'r gorffennol mewn llawer o'n cymunedau. Mae Llywodraeth Cymru wedi siarad o'r blaen, fel yr ydych chi wedi ei wneud heddiw, am ei bwriad i roi sylw i recriwtio a chadw deintyddion, ac am ddiwygio contractau yn y tymor canolig, ond mae pobl eisiau gwybod pa gamau yr ydych chi'n eu cymryd nawr yn eich trafodaethau gyda byrddau iechyd i geisio gwella capasiti deintyddol lleol y GIG yn y byrdymor, nawr?
Diolchaf i'r Aelod am hynna. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig wrth gydnabod bod heriau gwirioneddol ym maes deintyddiaeth y GIG mewn rhai rhannau o Gymru, ein bod ni hefyd yn cydnabod yr hyn a gyflawnwyd. Mae 40,000 yn fwy o bobl yn cael triniaeth ddeintyddol y GIG yng Nghymru heddiw nag yr oedd bum mlynedd yn ôl. Yn 2014, roedd gennym ni 1,439 o ddeintyddion yn gweithio yn y GIG yng Nghymru. Heddiw, mae gennym ni dros 1,500 o ddeintyddion yn gweithio yn y GIG yng Nghymru, ac fel y dywedais yn fy ateb gwreiddiol, mae canran y plant sy'n manteisio ar ddeintyddiaeth y GIG yng Nghymru ar y lefel uchaf erioed.
Nawr, ceir rhannau o Gymru lle mae honno'n her fwy. Un o'r rhesymau pam mae'n her fwy, gan feddwl am gyfeiriad Gareth Bennett at effaith Brexit ar staff GIG, yw'n union hynny: darperir 30 y cant o ofal deintyddol y GIG yn y Deyrnas Unedig gan wladolion yr UE. Nid yw'r bobl hynny'n cael eu recriwtio yn y ffordd yr oedden nhw oherwydd oerfel Brexit, ac mae hynny wedi achosi effaith benodol ar rai o'r cwmnïau deintyddol mawr yng Nghymru, sy'n canfod nad ydyn nhw'n gallu recriwtio deintyddion o dramor fel yr oedden nhw yn gallu ei wneud ar un adeg. Ond, rydym ni yn hyfforddi deintyddion yng Nghymru. Rydym ni'n hyfforddi 75 i 80 o ddeintyddion ychwanegol bob blwyddyn, ond ceir her i'r proffesiwn yma hefyd. Dylai diwygio'r contract olygu treulio llai o amser yn gwneud gwaith mater o drefn nad oes unrhyw fudd clinigol iddo gan ryddhau amser i wneud mwy o bethau yr ydych chi angen rhywun â sgiliau deintydd i'w gwneud. Ac mae angen i ni weld y proffesiwn yn cael ei ystwytho. Mae gennym ni lawer gormod o ddeintyddion yng Nghymru sy'n darparu llenwadau ac archwiliadau deintyddol mater o drefn, nad ydych chi angen rhywun â gallu hynod fedrus deintydd i'w wneud. Rydym ni angen i'r proffesiwn deintyddol ddilyn y proffesiwn meddygol gofal sylfaenol yng Nghymru trwy ledaenu nifer y bobl a'r mathau o broffesiynau sy'n gallu darparu deintyddiaeth y GIG, ac yna, byddwn yn gallu defnyddio'r sgiliau prin hynny i gael effaith glinigol lawn ac i gynnig lefel uwch o fynediad at ddeintyddiaeth y GIG.
Wrth gwrs, her arall i gadw deintyddion yng Nghymru yw'r diffyg cymorth y maen nhw'n ei gael ar hyn o bryd os oes ganddyn nhw salwch sy'n gysylltiedig â straen. Nawr, tynnwyd sylw at hyn gan Gymdeithas Ddeintyddol Prydain. Maen nhw wedi ei godi fel mater o bwys ymhlith deintyddion sy'n gweithio yn y GIG drwy'r DU gyfan, nid dim ond yng Nghymru.
Nawr, yn Lloegr, mae'r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cyhoeddi'n ddiweddar ei bod yn darparu mynediad i ddeintyddion at eu rhaglen gynhwysfawr o gymorth iechyd i ymarferwyr y GIG, ond yn ôl Cymdeithas Ddeintyddol Prydain, nid oes unrhyw gymorth tebyg gan Lywodraeth Cymru ar gyfer llesiant iechyd meddwl yn y fan yma. Tybed, Prif Weinidog, a wnewch chi ystyried y pryder hwnnw, oherwydd ar ôl hyfforddi deintyddion, ar ôl recriwtio deintyddion, rydym ni'n sicr eisiau dal gafael arnyn nhw, ac os yw diffyg cymorth pan eu bod yn dioddef o salwch iechyd meddwl neu salwch cysylltiedig â straen yn un o'r rhesymau pam maen nhw'n gadael y maes deintyddol yng Nghymru, yna mae rhywbeth ymarferol y gallwn ni ei wneud yn ei gylch—neu y gallwch chi ei wneud yn ei gylch.
Diolchaf i Angela Burns am hynna. Rwy'n credu ein bod ni'n fwy ymwybodol yn gyffredinol erbyn hyn o'r pwysau y mae gweithwyr gofal sylfaenol proffesiynol o bob math yn ei deimlo mewn rhan o'r gweithlu sydd dan bwysau mawr. Os oes syniadau newydd y gallwn ni eu defnyddio i gynorthwyo deintyddion yn y gwaith pwysig y maen nhw'n ei wneud, yna, wrth gwrs, byddem yn hapus i siarad â'r BDA drwy'r ffyrdd arferol yr ydym ni mewn cysylltiad â nhw. Rwy'n hapus iawn i wneud yn siŵr bod hynny'n rhan o'r sgwrs nesaf honno.
5. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru? OAQ54772
Diolchaf i Jayne Bryant am hynna. Cyhoeddodd y comisiwn ei ddogfen 'Ein Dull o Weithio' ym mis Hydref. Mae'n nodi sut y bydd yn mynd ati i wneud ei waith. Bydd y comisiwn hefyd yn cyflwyno adroddiad ar gynnydd erbyn diwedd y flwyddyn galendr hon.
Diolch, Prif Weinidog. Pan gafodd ei greu, uchelgais y comisiwn trafnidiaeth oedd gweithredu ar y cyd ac yn dryloyw, gan ddarparu gwybodaeth reolaidd am ei waith. Heddiw, rwy'n deall bod cyfarfod comisiwn yr M4 wedi gwahodd grwpiau yng Nghasnewydd am y tro cyntaf. Er fy mod i'n falch bod swyddog o Gyngor Dinas Casnewydd yn rhan o hyn, mae llawer o'm hetholwyr wedi gofyn i mi sut y bydd y comisiwn yn cymryd i ystyriaeth barn y bobl sy'n cael eu heffeithio fwyaf gan unrhyw argymhelliad y byddan nhw'n ei wneud. Rwy'n siŵr y byddwch chi'n deall bod fy etholwyr a minnau yn aros yn eiddgar am ddiweddariad ar gynnydd y comisiwn yn ystod yr wythnosau nesaf. Yn hynny o beth, mae'r comisiwn yn addo rhestr fer o fesurau carlam posibl, yr wyf fi a'm hetholwyr hefyd yn edrych ymlaen yn eiddgar atynt, ac yna'r adroddiad interim yng ngwanwyn y flwyddyn nesaf. Prif Weinidog, sut y bydd hyn yn cael ei gyfathrebu i drigolion Casnewydd, ac yn enwedig y rhai nad ydyn nhw yn rhan o unrhyw grŵp? Sut y byddan nhw'n gallu lleisio eu barn ar unrhyw newidiadau a fydd yn effeithio'n anochel arnyn nhw i sicrhau bod unrhyw fesurau yn gwneud gwahaniaeth ystyrlon a gwirioneddol er gwell?
Wel, Llywydd, diolchaf i Jayne Bryant am y cwestiwn atodol yna a'r pwyntiau pwysig y mae hi'n eu gwneud. Gallaf roi sicrwydd iddi, Llywydd, pan gyfarfûm â'r Arglwydd Burns gyntaf, mewn ymgais i'w berswadio i ymgymryd â'r gwaith pwysig hwn, mai un o'r pwyntiau a wnaeth i mi bryd hynny oedd y byddai ganddo ddiddordeb mewn gwneud hynny dim ond pe byddai ganddo'r cyfle yn uniongyrchol i siarad â phobl yng Nghasnewydd ac eraill sy'n cael eu heffeithio gan y broblem y mae'n mynd i'n helpu ni i'w datrys. A byddwch yn gweld hynny yn y ddogfen 'Ein Dull o Weithio', lle mae'r Arglwydd Burns yn dweud bod y Comisiwn yn bwriadu cynnwys rhanddeiliaid yn agos yn ei waith. Ac un o'i brif flaenoriaethau yw deall y dewisiadau a wneir gan bobl sy'n byw, yn gweithio ac yn teithio yn y de-ddwyrain, ac yn enwedig defnyddwyr yr M4 o amgylch Casnewydd.
Mae yr un rhan o'r ddogfen 'Ein Dull o Weithio' yn nodi wedyn sut mae'r comisiwn yn bwriadu cyfathrebu â'r cyhoedd am y trafodaethau ehangach hynny y mae Jayne Bryant wedi cyfeirio atyn nhw, sy'n digwydd heddiw. Cyfarfodydd a gweithdai i randdeiliaid, gan ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol fel ffordd o gyrraedd pobl na fydden nhw o bosibl yn cyfathrebu â nhw, a thrwy ddulliau mwy confensiynol, ac adroddiadau a llythyrau i Weinidogion Cymru.
Rwyf innau hefyd yn edrych ymlaen at dderbyn y gyfres gychwynnol honno o syniadau gan y comisiwn cyn diwedd y flwyddyn. Ac rwy'n bwriadu sicrhau bod pa bynnag gyngor sy'n cael ei roi i mi ar gael i bobl yng Nghasnewydd ac mewn mannau eraill ei weld hefyd, ac yna eu gwahodd i gynnig sylwadau ar y syniadau hynny, i gyfrannu unrhyw syniadau ychwanegol sydd ganddyn nhw, ac i wneud yn siŵr bod y comisiwn, fel y mae wedi dymuno bod o'r cychwyn cyntaf, yn gorff gwirioneddol iteraidd sy'n gweithio ochr yn ochr â'r bobl hynny yr effeithir arnyn nhw yn fwyaf uniongyrchol gan ei waith.
Un o gyfrifoldebau'r comisiwn trafnidiaeth hwn yw cyflwyno argymhellion ar gyfer gweithredu llwybr carlam i fynd i'r afael â phroblemau difrifol tagfeydd a diogelwch ar yr M4 o amgylch Casnewydd. Prif Weinidog, a allwch chi gadarnhau y bydd gwaith i weithredu unrhyw argymhelliad o'r fath yn dechrau cyn gynted â phosibl ac na fydd yn rhaid iddyn nhw aros tan y bydd y comisiwn yn llunio ei adroddiad terfynol ddiwedd y flwyddyn nesaf? Diolch.
Yn sicr, Llywydd, rwy'n hapus i roi'r sicrwydd hwnnw. Dyna'n union sut y mae gwaith y comisiwn wedi ei strwythuro. Byddan nhw'n cyflwyno eu camau gweithredu sydd ar gael yn fwyaf parod cyn diwedd y flwyddyn galendr hon. Yn sicr, nid wyf i eisiau aros i'r syniadau hynny gael eu rhoi ar waith nes cael rhannau pellach yn y broses adrodd. Mae'r comisiwn yn canolbwyntio ar edrych ar y syniadau hynny sydd agosaf at law y gellir eu rhoi ar waith cyn gynted â phosibl, ac yn sicr ni fyddem yn dymuno atal dim y gallwn fwrw ymlaen ag ef mewn modd mor gyflym ag y gallwn.
6. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu ei flaenoriaethau ar gyfer y GIG yng ngogledd Cymru? OAQ54744
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. Mae'r blaenoriaethau ar gyfer y GIG yng ngogledd Cymru yn adlewyrchu'r rhai ar gyfer ein cenedl gyfan, fel y nodwyd yn fy ateb i gwestiwn cynharach y prynhawn yma: symud i gyfeiriad atal, lleihau anghydraddoldebau iechyd, gwella gofal sylfaenol, mynediad prydlon at wasanaethau gofal, a buddsoddi ymhellach mewn iechyd meddwl.
Roeddwn i'n gobeithio mai un o'ch blaenoriaethau efallai fyddai ymdrin â'r problemau parhaus yr ydym ni wedi eu gweld ers rhoi'r bwrdd iechyd hwnnw mewn mesurau arbennig oherwydd, wrth gwrs, mae pobl y gogledd yn teimlo eu bod nhw wedi cael eu siomi gan eich Llywodraeth pan ddaw i'n gwasanaeth iechyd gwladol yn y rhanbarth. Mae gennym ni fwrdd iechyd sydd wedi bod mewn mesurau arbennig ers pedair blynedd a hanner. Mae ei sefyllfa ariannol wedi dirywio ers iddo fod mewn mesurau arbennig, mae llawer o'i ddangosyddion perfformiad wedi dirywio hefyd; mae pobl yn aros hyd at ddwy flynedd am eu triniaeth orthopedig; rydym ni wedi gweld domino o feddygfeydd teulu sydd wedi cau ers i chi gymryd cyfrifoldeb am fesurau arbennig yn y bwrdd iechyd penodol hwnnw; ac, wrth gwrs, rydym ni wedi gweld y sefyllfa annymunol o anallu'r arweinwyr presennol gan orfod cyflogi rhywun sy'n byw dramor sy'n cael ei dalu £2,000 y dydd—nid yr wythnos, y dydd—er mwyn datrys y problemau yn y bwrdd iechyd hwnnw oherwydd y diffyg arweinyddiaeth o ansawdd.
Pa bryd y bydd pobl yn y gogledd yn gweld y newid a addawyd gennych iddyn nhw bedair blynedd a hanner yn ôl ac yn gweld y bwrdd iechyd hwnnw'n gweithredu i'w lawn botensial fel y gall pobl gael eu triniaeth mewn pryd a chael y canlyniadau y maen nhw'n eu haeddu?
Un diwrnod, Llywydd, fel y gwyddoch, bydd yr Aelod yn dod o hyd i rywbeth da i'w ddweud am y gwasanaeth iechyd y mae ei etholwyr yn dibynnu arno. Mae eu hadroddiad nhw ar wasanaethau iechyd yn y gogledd yn wahanol iawn i'w un ef.
Dim ond y mis diwethaf, cyflwynodd y Gweinidog iechyd gyfres o gamau y mae angen i'r bwrdd iechyd eu cymryd er mwyn symud ymlaen o fod mewn mesurau arbennig, ac rydym ni'n disgwyl i'r bwrdd iechyd adrodd yn erbyn y gofynion hynny erbyn 13 Rhagfyr. Bydd hynny'n dangos sut y mae'r bwrdd iechyd yn bwriadu adeiladu ar y llwyddiannau y mae wedi eu cael, y byddai'n dda clywed yr Aelod yn eu cydnabod weithiau: y ffaith bod pob swydd meddyg teulu dan hyfforddiant yn y gogledd wedi ei llenwi am y tro cyntaf; y ffaith bod cyfraddau brechu rhag y ffliw ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ymhlith y gorau yng Nghymru; y ffaith nad yw gwasanaethau mamolaeth, a oedd yn bryder ar ddechrau mesurau arbennig, yn fater sy'n peri pryder arbennig mwyach.
Pan glywaf yr Aelod yn pregethu wrthym am gyflwr y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, diffygion a'r angen i ddilyn cyngor y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus o ran sicrhau cymorth allanol er mwyn gwella ymhellach fyth, rwy'n cael fy atgoffa o ymddiriedolaeth Unedig Swydd Lincoln y mae ei blaid ef yn gyfrifol amdani, ymddiriedolaeth sy'n hanner maint Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ac yr oedd ei diffyg y llynedd yn fwy na GIG Cymru gyfan gyda'i gilydd, ac sy'n gwario miliynau o bunnoedd i sicrhau cymorth allanol, ie, er mwyn ceisio ymdrin â'r problemau y mae'r ymddiriedolaeth honno'n eu hwynebu.
Prif Weinidog, rydym ni'n gwybod sut mae iechyd a lles yn cael eu llunio gan fwy nag ymyrraeth glinigol yn unig. Mae ffactorau cymdeithasol, diwylliannol, gwleidyddol, economaidd ac amgylcheddol yn cael effaith enfawr ar ganlyniadau iechyd. Mae Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru yn sôn am yr angen am ddull gweithredu cenedlaethol ar gyfer lles a'r angen i gynnwys yr holl ffactorau hyn wrth sôn am genedl iach. Pa ystyriaethau y mae'r Prif Weinidog wedi eu rhoi i adeiladu ar y gwaith sydd eisoes wedi ei wneud gan gomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol a chynllun iechyd a gofal cymdeithasol Llywodraeth Cymru i sefydlu gwasanaeth lles cenedlaethol a fyddai'n gweithio gyda'r GIG i wella canlyniadau iechyd, tynnu'r pwysau oddi ar staff gwych ein GIG a gwneud yn siŵr ein bod ni'n gweithredu hyd eithaf ein gallu?
Diolchaf i Jack Sargeant am y pwyntiau pwysig iawn yna. Wrth ateb y ddau gwestiwn a ofynnwyd i mi y prynhawn yma am flaenoriaethau ar gyfer y gwasanaeth iechyd gwladol, y peth cyntaf yr wyf i wedi ei grybwyll yw'r angen i symud y system i gyfeiriad atal. Os ydym ni'n mynd i atal afiechyd ymhlith poblogaeth Cymru, yna pwyslais ar y pethau hynny sy'n cadw pobl yn iach y bydd angen i ni ei weld yn y system yn ei chyfanrwydd.
Nawr, mae sut yr ydych chi'n cadw pobl yn iach yn gyfuniad o bethau y gall y gwasanaeth iechyd ei hun eu gwneud drwy raglenni brechu, er enghraifft, cyfraniad gwirioneddol bwysig y mae iechyd cyhoeddus yn ei wneud, ond hefyd yr holl wasanaethau cyhoeddus eraill hynny y cyfeiriodd Jack Sargeant atyn nhw. Rydym ni'n gwybod bod cyflwr tai yn cael effaith ddwys ar iechyd pobl. Rydym ni'n gwybod bod gallu bod mewn swydd sy'n cynnig boddhad i chi ac yn caniatáu i chi dalu eich ffordd yn y byd yn cael effaith enfawr ar lesiant pobl. Rydym ni hefyd yn gwybod bod pethau y gall unigolion eu gwneud drostynt eu hunain gyda chymorth o ran deiet, o ran ymarfer corff, o ran gofalu am eu hiechyd a'u llesiant eu hunain, a dim ond pan fyddwch chi'n tynnu'r holl bethau hynny at ei gilydd—y pethau y gall y gwasanaeth iechyd eu gwneud, y pethau y gall gwasanaethau cyhoeddus eraill eu gwneud a'r pethau y gall unigolion eu gwneud drostynt eu hunain—y byddwn ni'n llwyddo i greu gwasanaeth nad yw'n wasanaeth salwch gwladol, ond yn wasanaeth iechyd a llesiant gwladol o'r math y byddem ni eisiau ei weld yma yng Nghymru.
7. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi busnesau Cymru? OAQ54736
Diolchaf i'r Aelod am hynna. Yn unol â'n cynllun gweithredu ar yr economi, rydym ni'n parhau i fod yn ymrwymedig i gynorthwyo busnesau Cymru drwy Busnes Cymru a Banc Datblygu Cymru, ac mae'r ddau ohonyn nhw yn cynnig cyngor dwyieithog, cymorth a chyllid i fusnesau yng Nghymru allu cychwyn a thyfu.
Diolch. Fel y gwyddoch, mae'n debyg, mae busnesau bach a chanolig eu maint yng Nghymru yn cynrychioli 99.3 y cant o'r holl fusnesau, bron i 65 y cant o gyflogaeth, â throsiant o fwy nau £46 biliwn y flwyddyn, £126 miliwn bob dydd. Ond, yn anffodus, mae cyfran uchel ohonyn nhw nad ydynt yn goroesi mwy na phum mlynedd, ac y tu hwnt i oroesi mae nhw hefyd yn wynebu heriau sylweddol.
Mae ymgyrch Dydd Sadwrn y Busnesau Bach yn bodoli i'w cynorthwyo, eu hysbrydoli a'u hyrwyddo, ac mae Dydd Sadwrn nesaf y Busnesau Bach ar ddydd Sadwrn 7 Rhagfyr. Rwy'n gwybod y byddwch chi'n dymuno ymuno â mi i ddymuno'n dda iddyn nhw. Fodd bynnag, nododd y Ffederasiwn Busnesau Bach megadueddiadau allweddol sy'n effeithio ar drefi yng Nghymru gan wneud cyfres o argymhellion i sicrhau eu llwyddiant a'u cynaliadwyedd yn y dyfodol. Sut ydych chi'n ymateb i'r argymhellion hynny, sy'n cynnwys—rhoddaf ddwy enghraifft—cyhoeddi strategaethau tref ym mhob tref, gan sicrhau bod y berchnogaeth yn lleol a bod busnesau a'r sectorau gwirfoddol a chyhoeddus yn cymryd rhan, ac ailfeddwl swyddogaeth ardrethi busnes mewn trefi, gan efelychu'r rhyddhad a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn Lloegr ar gyfer busnesau'r stryd fawr, ac yna ystyried yn well effaith ardrethi ar ein trefi yn y tymor hwy?
Llywydd, yn gyntaf oll, i gydnabod y pwynt a wnaeth Mark Isherwood ar y dechrau, ar bwysigrwydd busnesau bach a chanolig i economi Cymru, ac yn sicr mae unrhyw beth y gallwn ni ei wneud i gyfeirio at y pwysigrwydd hwnnw ac at eu llwyddiant i'w groesawu. Mae cyfraddau geni busnesau yng Nghymru yn uwch na chyfraddau geni busnesau ar draws y Deyrnas Unedig, ac mae cyfraddau goroesi un flwyddyn busnesau Cymru yn uwch na chyfradd y DU hefyd. Felly mae llawer iawn i'w ddathlu mewn busnesau bach a chanolig yng Nghymru, ac rwy'n siŵr y bydd y penwythnos hwn yn chwarae rhan yn hynny.
Croesawaf yr adroddiad y cyfeiriodd Mark Isherwood ato, oherwydd mae'n dweud wrthym, er mwyn sicrhau bod y stryd fawr mor llwyddiannus ag yr ydym ni'n dymuno iddi fod, bod yn rhaid i ni ei hailddychmygu. Nid yw'n ddigon i gymryd y model a fu gennym ni dros yr 20 mlynedd diwethaf a cheisio rhedeg yn galetach i'w gynnal. Mae'r byd wedi symud ymlaen. Nid yw'r ffordd y mae pobl yn mynd ati i siopa a gwneud pethau eraill yr un fath ag yr oedd bryd hynny, ac mae adroddiad y Ffederasiwn Busnesau Bach, rwy'n credu, yn ein helpu i weld rhai o'r elfennau y gellid eu cael yno a fyddai'n caniatáu i'r ailddychmygu hwnnw ar y stryd fawr ddigwydd.
Mae'n bwysig iawn ei fod yn gwneud hynny. Mae ymlyniad pobl i'w hardaloedd ac i'r trefi lle maen nhw'n byw yn aml wedi ei wreiddio yn y dref ei hun. Yn y dref y cefais i fy magu ynddi, roedd pobl bob amser yn cyfeirio at 'fynd i lawr y dref' os oedden nhw'n mynd allan, ac roedden nhw'n golygu eu bod nhw'n mynd i mewn i ganol Caerfyrddin, yn wir. Felly croesawaf yr adroddiad. Byddwn yn edrych arno'n ofalus, ac rwy'n falch o weld ei fod wedi symud ymlaen o ddim ond ceisio dod o hyd i ffyrdd o gynnal model na fydd, yn fy marn i, yn ein rhoi mewn sefyllfa gwbl dda mwyach.
Ac yn olaf, cwestiwn 8, Vikki Howells.
8. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu ymateb Llywodraeth Cymru i'r canfyddiadau a geir yn adroddiad State of the Coalfields 2019? OAQ54734
Llywydd, rydym ni'n gwerthfawrogi'r gwaith a wneir gan Ymddiriedolaeth Adfywio'r Meysydd Glo, gan gynnwys comisiynu'r adroddiad hwn. Rhannwyd yr adroddiad gydag aelodau tasglu'r Cymoedd wrth iddyn nhw ddatblygu camau gweithredu ar gyfer gweddill eu rhaglen.
Diolch, Prif Weinidog. Un o'r prif ganfyddiadau a ddeilliodd o'r adroddiad i mi oedd y cysylltiad rhwng cymunedau'r hen feysydd glo ac amddifadedd, gyda 42 y cant o gymunedau ymhlith y 30 y cant mwyaf difreintiedig ym Mhrydain, ac mae'r ffigur hyd yn oed yn fwy amlwg yn ardal meysydd glo y de, lle mae'n 52 y cant. Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod mynd i'r afael â'r cyswllt hwn yn parhau i fod yn ganolog i bob maes llunio polisi?
A gaf i ddiolch i Vikki Howells am y cwestiwn atodol pwysig yna, Llywydd? Dyma dair ffordd y credaf ein bod ni'n gwneud yn siŵr bod y cyswllt hwnnw'n parhau i fod yn ganolog i bopeth yr ydym ni'n ei wneud: gwaith tasglu'r Cymoedd ei hun, sy'n ymwneud yn llwyr â dod â chyfleoedd economaidd newydd i bobl yn ardal y Cymoedd i wneud yn siŵr y gellir erydu'r tueddiadau sylfaenol a hanesyddol hynny, fel y mae'r adroddiad yn ei nodi, ymhellach i'r dyfodol. Yna rydym ni'n buddsoddi yn yr economi sylfaenol yng nghymunedau'r Cymoedd: 27 o wahanol brosiectau drwy her yr economi sylfaenol, a geir ym mhob rhan o gymunedau'r Cymoedd, ac a fydd yn cryfhau gallu cynhenid y cymunedau hynny i ddarparu'r gwasanaethau hynny a'r swyddi hynny na ellir eu symud i rywle arall a pharhau i fod yn rhan mor bwysig o'r ardaloedd hynny. Wedyn, popeth yr ydym ni'n ei wneud ym maes tlodi plant: y pethau yr ydym ni'n eu gwneud drwy'r grant datblygu disgyblion, y grant mynediad yr ydym ni wedi ei ddyblu a'i ddyblu eto yn ystod y tymor Cynulliad hwn, y rhaglen fwydo yn ystod gwyliau'r ysgol sydd gennym ni yn unigryw yn y Deyrnas Unedig fel rhaglen genedlaethol yma yng Nghymru. Rwy'n meddwl yn ôl i gwestiwn Dr Dai Lloyd am ddeintyddiaeth yn gynharach y prynhawn yma: rhaglen Cynllun Gwên, sy'n rhaglen anarferol iawn yn wir mewn darpariaeth lles cymdeithasol, o'r safbwynt ei fod wedi cau'r bwlch rhwng y rhai sydd â'r iechyd geneuol gorau a gwaethaf ymhlith ein plant. Mae iechyd y geg ein holl blant yn gwella, ond mae'n gwella gyflymaf ymhlith y rhai sydd angen cymorth fwyaf. Ac mae honno'n rhaglen eithaf anarferol o safbwynt lles cymdeithasol. Felly, yr holl bethau hynny—yr economi, yr economi sylfaenol, y dyfodol yr ydym ni'n ei greu ar gyfer ein plant—dyna'r pethau y mae'r Llywodraeth hon yn eu gwneud i sicrhau bod canfyddiadau'r adroddiad hwnnw yn parhau i gael sylw ym mhob agwedd ar ein gwaith llunio polisïau.
Diolch i'r Prif Weinidog.
Y datganiad a chyhoeddiad busnes sydd nesaf. Dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad. Rebecca Evans.
Diolch, Llywydd. Nid oes unrhyw newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos eistedd nesaf wedi'i nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith papurau'r cyfarfodydd sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
Gweinidog, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog iechyd am ganlyniadau astudiaeth gan yr European Heart Journal? Canfu'r astudiaeth fod mwy nag un o bob 10 claf canser yn marw o broblemau gyda'r galon a'r pibellau gwaed yn hytrach nag o'u salwch cychwynnol. Dywedodd yr ymchwilydd fod y cynnydd yn nifer y bobl sy'n goroesi canser yn golygu y dylid canolbwyntio mwy ar risgiau cardiofasgwlaidd. Gweinidog, a fyddai modd inni gael datganiad gan y Gweinidog iechyd ynglŷn â'r canfyddiadau hyn ac ynghylch pa gamau y bydd ef yn eu cymryd i sicrhau bod y meddygon canser a'r cardiolegwyr yn cydweithio'n agosach i leihau'r risg sydd i gleifion sy'n goroesi canser ildio i glefyd y galon a chylchrediad y gwaed yng Nghymru?
Byddwn i'n ddiolchgar pe bai Mohammad Asghar yn anfon copi ataf o'r adroddiad hwnnw ar y risgiau cardiofasgwlaidd i gleifion canser, a byddaf i'n siŵr o ofyn i'r Gweinidog iechyd ystyried yr adroddiad hwnnw os nad yw eisoes yn gyfarwydd ag ef, ac ysgrifennu atoch chi gyda'i farn ar yr adroddiad hwnnw.FootnoteLink
Mae rhai o fy etholwyr i wedi bod yn fy ngweld i'n ddiweddar i sôn am gynllun cyffrous i greu canolfan amgylcheddol arbennig yn Eryri. Nod y Ganolfan Ryngwladol Adnoddau Daear ydy defnyddio'r ymchwil wyddonol ddiweddaraf i helpu cynulleidfaoedd i ddeall effaith pobl ar y byd a pha gamau y gallwn ni eu cymryd. Ond mae'n ymddangos bod arafwch ymateb eich Llywodraeth chi'n dal pethau'n ôl. Mae yna safle addas wedi'i hadnabod yng Nglynrhonwy ger Llanberis ac mae yna gynllun busnes, rhaglen waith a gwaith dichonoldeb wedi cael eu cwblhau. Mi rydw i wedi ysgrifennu at Ken Skates a hefyd at Lesley Griffiths, ond dwi ddim wedi derbyn ymateb cyn belled. Yr honiad ydy y gall y project ddod ag o leiaf 100 o swyddi i'r ardal. Buaswn i'n ddiolchgar felly tasech chi'n cymryd diddordeb personol yn y mater yma ac yn gofyn i'r ddau Weinidog i gyd-drafod ac i ymateb yn briodol. Mi fyddai'n drueni mawr i ogledd Cymru golli'r cyfle unigryw yma oherwydd diffyg diddordeb gan Lywodraeth Cymru.
Ac yn ail, wrth droi at faes iechyd, yn anffodus mae un arall o feddygfeydd teulu fy etholaeth i yn cau. Ar ôl nifer o flynyddoedd o wasanaeth i unigolion a chleifion Penygroes, mae meddygon Llys Meddyg wedi rhoi rhybudd y byddan nhw yn dod â'u cytundeb efo'r bwrdd iechyd i ddarparu gwasanaethau meddyg teulu i ben ym mis Ebrill 2020. Mae'r bwrdd iechyd yn dweud eu bod nhw'n gweithio'n agos efo'r practis a meddygon teulu lleol eraill i gynllunio sut bydd cleifion yn parhau i gael y gwasanaethau angenrheidiol o'r gwanwyn nesaf ymlaen. Mae yna gynllun ar droed yn Nyffryn Nantlle ar gyfer canolfan iechyd newydd i'r ardal, ac felly hoffwn ofyn i'ch Llywodraeth chi ddod â'r project yma ymlaen yn ddi-oed er lles holl etholwyr Dyffryn Nantlle. Mi fyddai arweiniad gennych chi i gymryd hwn ymlaen yn syth yn gallu diogelu a datblygu gwasanaethau i'r dyfodol.
Diolch i Siân Gwenllian am gyflwyno'r ddau fater hynny y prynhawn yma. Yn sicr, gallaf i roi'r ymrwymiad hwnnw ichi y byddaf i'n cysylltu â Gweinidog yr amgylchedd a materion gwledig a Gweinidog yr economi i sicrhau ymateb ar fater y ddaear ryngwladol—ni allaf ddarllen fy ysgrifen—ar y ganolfan yr ydych chi wedi'i disgrifio yn eich cyfraniad heddiw.
Ac o ran y meddygfeydd teulu, a'r potensial ar gyfer cyfleuster newydd, byddaf i'n gofyn i'r Gweinidog iechyd archwilio gyda'r Bwrdd Iechyd beth yw'r diweddaraf ar hynny, a rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi.FootnoteLink
Cynhaliwyd cynhadledd i'r wasg yn Ewrop yr wythnos hon, lle rhoddodd yr Athro Guus Berkhout o'r Sefydliad Deallusrwydd Hinsawdd wybodaeth am y 700 o lofnodion a gasglodd oddi wrth wyddonwyr a gweithwyr proffesiynol blaenllaw, gan gynnwys enillydd gwobr Nobel. Maent yn datgan nad oes argyfwng hinsawdd, a hefyd bod pedwar o fynegeion gwyddonol newydd wedi cofnodi bod tymheredd y ddaear wedi gostwng 0.47 y cant yn ystod y degawd diwethaf, er gwaethaf y cynnydd o 2 y cant mewn carbon deuocsid, ac mae datgeliadau newydd yn dangos bod gan y byd y lefelau uchaf erioed o orchudd eira, sy'n cynnwys y ffaith mai'r eira sy'n gorchuddio hemisffer y Gogledd yw'r pumed uchaf yn y 52 mlynedd diwethaf. A wnaiff y Llywodraeth ddatganiad ynghylch a fydd yn parhau i dderbyn yr honiad hollol wallus hwn bod yna argyfwng newid hinsawdd a chynhesu byd-eang, oherwydd mae eich ymgais i fynd ar drywydd polisïau sy'n derbyn y ffaith hon yw gwthio niferoedd cynyddol o bobl yng Nghymru i dlodi tanwydd?
Wel, i egluro, Llywydd, mae'r Llywodraeth hon yng Nghymru yn glir iawn bod yna argyfwng hinsawdd. Mae Llywodraeth Cymru yn glir iawn bod newid yn yr hinsawdd yn bodoli, ac rydym yn canolbwyntio cryn dipyn ar fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd hwnnw. A bydd yr Aelod yn ymwybodol o'r cynllun cyflawni carbon isel, sy'n nodi rhaglen fanwl ac uchelgeisiol ar draws y Llywodraeth o ran yr hyn y byddwn ni'n ceisio ei wneud i sicrhau bod Cymru yn dod yn wlad carbon isel.
Hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad gan y Llywodraeth—yn gyntaf, ar ddefnyddio asiantaethau cyflenwi i ddarparu athrawon cyflenwi i ysgolion. Mae hyn, i mi, yn fater difrifol iawn o ran cyfiawnder cymdeithasol. Rwy'n credu bod athrawon cyflenwi'n cael eu hecsbloetio. Credaf fod angen inni gael ateb sector cyhoeddus yn hytrach na bod athrawon cyflenwi ar drugaredd asiantaethau cyflenwi preifat.
Mae'r ail ddatganiad yr wyf i'n gofyn amdano yn ymwneud â nofio am ddim i rai dros 65 oed. Mae nifer fawr o'm hetholwyr hŷn yn rhannau lleiaf breintiedig Dwyrain Abertawe bellach yn methu â manteisio ar nofio am ddim. Os mai ein nod yw gweithredu iechyd ataliol yn hytrach nag adweithiol, yna mae nofio am ddim i'n henoed sy'n byw yn y cymunedau tlotaf yn sicr yn bwysig iawn i gadw pobl yn egnïol a'u cadw allan o ysbytai.
Wel, mae llawer o newid wedi bod o ran y ffordd y mae athrawon cyflenwi yn cael eu caffael yng Nghymru. Daeth fframwaith y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol newydd ar gyfer athrawon cyflenwi yn weithredol ym mis Medi eleni ar gyfer dechrau'r flwyddyn academaidd. Mae 27 o asiantaethau ar y fframwaith hwnnw, felly mae ysgolion bellach yn cael cynnig dewis o ddarparwr. Mae'n rhaid i asiantaethau fframwaith gydymffurfio â thelerau'r cytundeb fframwaith, gan gynnwys hyrwyddo'r pwynt isafswm cyflog, ac mae'r GCC yn monitro cydymffurfiaeth â'r fframwaith, a byddan nhw'n mynd i'r afael ag unrhyw faterion o ddiffyg cydymffurfio gydag unrhyw asiantaethau. Felly, os oes gan Mike Hedges rai enghreifftiau o asiantaethau sy'n ecsbloetio gweithwyr cyflenwi, byddem yn awyddus iawn i gael y dystiolaeth honno, ac yn sicr, byddwn ni'n gweithio i sicrhau bod yr ecsbloetio hwnnw'n dod i ben. Cynlluniwyd y fframwaith, mewn gwirionedd, i sicrhau bod hawliau gweithwyr yn cael eu diogelu, felly bydd isafswm cyfradd tâl ar gyfer athrawon cyflenwi cymwys, diddymir rhanddirymiad Sweden, a bydd cyfraddau ffi asiantaeth yn sefydlog a thryloyw. Felly, rwy'n credu ein bod ni wedi cymryd rhai camau pwysig iawn, ond os oes asiantaethau yn mynd yn groes i ysbryd a llythyren yr hyn yr ydym ni wedi'i osod allan, yna mae angen imi gael yr wybodaeth honno.
O ran y fenter nofio am ddim, bydd Mike Hedges yn ymwybodol mai dim ond 6 y cant o bobl dros 60 oed oedd yn manteisio ar y cyfle i gael y fenter nofio am ddim, ac awgrymodd yr adroddiad annibynnol fod angen diwygio'r cynllun, er mwyn sicrhau y gall pobl ifanc, yn enwedig o gefndiroedd tlotach, fanteisio ar y cyfle i nofio am ddim.
Felly, y sefyllfa nawr, ar sail y ddealltwriaeth o anghenion eu cymunedau eu hunain, yw bod gofyn i awdurdodau lleol ganolbwyntio ar gefnogi pobl ifanc, a dinasyddion hŷn o ardaloedd mwy difreintiedig, a darparu cynlluniau newydd i gyflawni'r amcanion hynny. Gallaf ddweud bod y cynlluniau hynny'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, ac rydym yn y cyfnod pontio, lle mae defnyddwyr yn cael eu hannog i gynnig eu barn a'u profiadau i'r darparwr drwy eu pyllau nofio lleol. Unwaith eto, byddwn i'n falch iawn pe bai Mike Hedges ac aelodau eraill yn gallu rhoi adborth yn ôl i Lywodraeth Cymru ar yr hyn y mae eu hetholwyr yn ei ddweud wrthyn nhw, oherwydd bydd yr adborth hwnnw'n cael ei ddefnyddio i helpu awdurdodau lleol ac asiantau i ddarparu gwasanaeth sydd wedi'i deilwra'n well yn y dyfodol. Bydd y cymorth yn cael ei ddarparu gan Chwaraeon Cymru a Nofio Cymru, a fydd, yn eu tro, yn adrodd yn ôl i'r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth bob chwe mis, am gyfnod o 18 mis.
Trefnydd, a gaf i ofyn am ddau ddatganiad, os oes modd—un gan y Dirprwy Weinidog sy'n gyfrifol, am y sylw a wnaeth yn ôl ym mis Chwefror 2018 ynghylch asesiad o'r effaith amgylcheddol a oedd yn ofynnol ar gyfer llosgydd biomas y Barri. Roedd y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip yma i brotestio ddydd Sadwrn, a deallaf ei bod wedi siarad â'r dorf, ac wedi dweud y bydd y boeler biomas—neu'r llosgydd, y dylwn i ei ddweud—ar waith ymhen ychydig ddyddiau. Nawr, ni all hyn fod yn iawn, o gofio i'r Dirprwy Weinidog ddweud yn ôl ym mis Chwefror 2018 ei bod o blaid cael asesiad o'r effaith amgylcheddol; deallwn nawr gan Weinidogion y Llywodraeth fod y llosgydd yn mynd i gychwyn ymhen ychydig ddyddiau. Ac eto, cawsom ddatganiad yn ôl ym mis Ebrill bod y Llywodraeth yn gweithredu ar achosion o fynd yn groes i'r system gynllunio, yn eu barn nhw, a'u bod yn mynd i siarad â Chyngor Bro Morgannwg yn eu cylch. Ac rwy'n datgan a diddordeb fel cynghorydd yn y Fro. Ond ni allwn barhau â'r cwestiwn penagored hwn nad oes modd ei ateb: a ydych chi'n mynd i fynnu asesiad o'r effaith amgylcheddol cyn i'r llosgydd hwn gychwyn, ai peidio? Rydych chi wedi cael bron dwy flynedd bellach i feddwl am yr ateb. Nid yw'n ddigon da i drigolion y Barri, ac nid yw'n ddigon da i drigolion eraill yng Nghanol De Cymru. Felly, a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog i egluro'r sefyllfa, yn hytrach na'r anallu hwn, yn fy marn i, sydd wrth wraidd proses gwneud penderfyniadau'r Llywodraeth ar y mater penodol hwn?
Yn ail, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ynghylch y rheoliadau newydd y mae'n eu cyflwyno o ran digwyddiadau llygru, a'r parthau perygl nitradau a gaiff eu creu ar ôl 1 Ionawr? Mae'n amlwg ein bod ni bellach yno—bron â bod, dim ond pythefnos sydd ar ôl o'r tymor, a bydd y rheoliadau hyn yn achosi beichiau sylweddol a chyfrifoldebau newydd ar fusnesau amaethyddol, ac mae pryder cyffredinol o hyd ynghylch pa rwymedigaethau yn union y bydd yn rhaid eu bodloni, ac yn benodol o ran yr amseru ar gyfer cael gwared ar slyri a thail buarth ar y tir. Ac o ystyried yr hydref a gawsom, mae'n broblem eithaf difrifol ar hyn o bryd ar lawer o ffermydd. Felly, mae angen mwy o wybodaeth oddi wrth y Llywodraeth, a byddwn yn ddiolchgar iawn pe gallech ddweud y bydd datganiad yn cael ei gyhoeddi cyn inni dorri ar gyfer toriad y Nadolig, o gofio bod y rheoliadau hyn i fod i ddechrau ar 1 Ionawr.
Felly, o ran safle biomas y Barri, bydd yr Aelod yn ymwybodol ein bod ni, yn ôl ym mis Mai, wedi cyhoeddi ein bwriad i ymgynghori ar ddatganiad amgylcheddol yr oedd y datblygwr yn cynnig ei baratoi. Mae'r datblygwr wedi darparu datganiad amgylcheddol erbyn hyn, ac rydym newydd benodi WSP i ymgymryd â gwaith craffu annibynnol ar y deunyddiau a gyflwynwyd. Os gwelir bod y datganiad amgylcheddol yn ddigonol, bydd WSP yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar ôl yr etholiad cyffredinol. Mae gan WSP dîm sydd â gwybodaeth fanwl am ddiwydiant pŵer y DU a system gynllunio Cymru, ac mae ganddo brofiad helaeth o adolygu a chynhyrchu datganiadau amgylcheddol ar gyfer prosiectau ynni. A bydd eu profiad yn ychwanegu cefnogaeth a groesewir at ystyriaeth Gweinidog Cymru o'r achos.
O ran y sefyllfa ddiweddaraf, rwy'n ymwybodol bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn monitro cydymffurfiaeth ag amodau trwydded amgylcheddol y cwmni drwy gydol y cyfnod profi. Ac os daw unrhyw achos o dorri trwydded i'w sylw, yna bydden nhw'n amlwg yn cymryd camau priodol, yn unol â'u polisi gorfodi ac erlyn. Dyna, yn ôl a ddeallaf i, yw'r diweddaraf o ran safle biomas y Barri.
Ynghylch yr ail fater, sef y rheoliadau ar lygredd amaethyddol, gwn fod trafodaethau'n dal i fod ar y gweill rhwng y Gweinidog a gwahanol grwpiau sydd â diddordeb, gan gynnwys y rhai sy'n aelodau o is-grŵp fforwm rheoli tir Cymru ar lygredd amaethyddol. Gwn y gofynnir iddyn nhw am eu barn am y cyfnodau pontio posib, gan gynnwys y rhai sydd â chyfnodau gwaharddedig posib ar gyfer gwasgaru gwrtaith. Gwn hefyd fod y Gweinidogion wedi cael ymatebion ar y mater hwn gan y ddau undeb ffermio, a byddant yn cael eu hystyried yn yr asesiad effaith rheoleiddiol terfynol, ynghyd â'r ymatebion eraill a ddaeth i law. Ond, yn amlwg, mae'r Gweinidog yma y prynhawn yma, ac mae hi wedi clywed eich pryderon a'ch ceisiadau am y diweddariad.
Mi hoffwn i gyfeirio at ddau achos gwahanol. Efo'r cyntaf, mae o'n ymwneud â cheir trydan, dwi'n rhoi dewis i'r Llywodraeth ymateb mewn dwy ffordd—un ai drwy roi datganiad i ni, neu drwy ateb yn ysgrifenedig. Mi hoffwn i ymateb mewn datganiad i'r cwestiynau canlynol: faint o bwyntiau gwefru ceir trydan sydd i'w cael mewn safleoedd sy'n cael eu rheoli gan Gyfoeth Naturiol Cymru? Pa wybodaeth sydd ar gael am ddibynadwyedd pwyntiau gwefru ceir trydan ar safleoedd Cyfoeth Naturiol Cymru? Faint o bwyntiau gwefru ceir trydan sydd wedi'u gosod ar safleoedd sy'n cael eu rheoli gan Gyfoeth Naturiol Cymru? A phryd mae disgwyl i bwyntiau gwefru ym mharc coedwig Coed y Brenin fod yn weithredol eto? Felly, datganiad ar hynny neu, o bosib, ateb i'r cwestiynau ysgrifenedig yna wnes i anfon at y Llywodraeth ar 7 Awst a dwi dal ddim wedi cael ateb iddyn nhw—naill ffordd neu'r llall dwi'n hapus.
Mae'r ail bwynt dwi eisiau ei godi ynglŷn â chyllid i Gyngor ar Bopeth.
Mae newidiadau diweddar i'r ffordd y mae'r Cyngor ar Bopeth yn cael ei ariannu yn mynd i adael rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn fy etholaeth i yn fwy agored byth i niwed a byddant yn methu cael gafael ar gymorth pan fydd ei angen arnyn nhw fwyaf. Felly, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth ynghylch sut y mae'n bwriadu ymdrin â'r diffyg gallu hwn nawr i fynd i'r afael â materion sydd o bwys i'm hetholwyr?
Er mwyn rhoi syniad ichi, ar hyn o bryd mewn canolfannau cyngor ar bopeth ar Ynys Môn mae gennym bump a hanner o weithwyr cyfwerth ag amser llawn yn gweithio gydag etholwyr: mae un a hanner o weithwyr achos dyled, dau arbenigwr budd-daliadau lles, a dau arbenigwr cyffredinol. O fis Ionawr y flwyddyn nesaf, bydd 1.6 ar gyfer popeth arall heblaw am ddyled, gyda 0.7 o weithwyr cyfwerth ag amser llawn yn gweithio ac yn ymdrin â holl anghenion fy etholwyr sy'n ymwneud â dyled. Mae'n amhosibl i Cyngor ar Bopeth roi'r math o gyngor a gwasanaeth y maen nhw eisoes wedi bod yn eu rhoi i fy etholwyr. Ar lawer o'r achosion hyn, maen nhw'n gweithio gyda fy swyddfa i fel Aelod Cynulliad, oherwydd ein bod yn cydweithio'n agos iawn. Hoffwn i gael datganiad ynghylch sut ar y ddaear y maen nhw i fod ymdopi â'r sefyllfa honno, a sut y byddai'r Llywodraeth yn rhoi ystyriaeth i'r posibilrwydd o symud tuag at sefyllfa, er y gallai'r niferoedd amrywio o un sir neu un ardal i'r llall, o gael o leiaf un person sy'n cyfateb i amser llawn i ymdrin â materion fel dyled, oherwydd ni fydd unrhyw beth arall yn ddigonol, yn enwedig pan fo'r gwasanaeth gan Gynor ar Bopeth wedi bod cystal yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
O ran y mater cyntaf, y cwestiynau ysgrifenedig a gyflwynwyd gennych i Lywodraeth Cymru ynghylch pwyntiau gwefru cerbydau trydan, byddaf i'n siŵr o sicrhau eich bod yn cael ymateb i'r cwestiynau hynny.
Ac ar yr ail fater, rwy'n rhannu eich edmygedd yn llwyr o'r gwaith y mae Cyngor ar Bopeth yn ei wneud a'r ffordd y mae'n gweithio gyda swyddfeydd Aelodau'r Cynulliad i sicrhau bod pobl yn cael y cymorth sydd ei angen wrth wynebu dyled a materion eraill. Ac rwy'n credu ein bod yn gweld mwy o alw, am resymau amlwg, oherwydd effaith cyni, a dyna un o'r rhesymau y cyhoeddodd fy nghyd-Weinidog, y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip, yn ddiweddar gynllun cyllid grant newydd o £8 miliwn ar gyfer gwasanaethau cynghori yma yng Nghymru, a bydd y grantiau'n cael eu dyfarnu drwy'r gronfa gynghori sengl newydd. Rwy'n hyderus y bydd hynny'n rhoi dull o ymdrin â gwasanaethau cynghori a gynlluniwyd yn strategol ac mewn modd cydweithredol inni a fydd yn helpu i ddiwallu'r galw cynyddol hwnnw ledled Cymru. Ond rwy'n gwybod pe byddech chi'n ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip am y profiadau penodol yn eich etholaeth chi, y byddai hi'n gallu ystyried hynny wrth inni symud ymlaen gyda'n dull o ymdrin â gwasanaethau cynghori.
A gaf i ofyn am ddau ddatganiad neu ddadl—un ohonynt ar y pwnc hwnnw, fel mae'n digwydd, o gyngor ar ddyledion a'r swyddogaeth hynod gadarnhaol ac allweddol y mae cynghorwyr dyled yn ei chwarae mewn llawer o sefydliadau—canolfannau Cyngor ar Bopeth, elusen dyled StepChange, Christians Against Poverty a llawer o rai eraill? Yr wythnos diwethaf, mewn digwyddiad a drefnwyd gan Hefin David, dangosodd adroddiad StepChange 'Wales in the Red' fod rhieni sengl yng Nghymru yn cael eu gorgynrychioli'n sylweddol ymhlith eu cleientiaid; yr achos mwyaf o fynd i ddyled yng Nghymru yw ergydion incwm, ac yn aml mae yna deuluoedd nad ydyn nhw ond un digwyddiad i ffwrdd o gael eu taflu i ddyled; mae dros hanner y cleientiaid newydd yng Nghymru ar ei hôl hi gydag o leiaf un bil yn y cartref ar ôl cael cyngor ar ddyledion, ar ôl cael cwnsela—dyna pa mor allweddol yw'r pwysau ariannol; ac, yn seiliedig ar bolau cyffredinol, amcangyfrifir bellach fod tua 8 y cant o'r oedolion sy'n byw yng Nghymru yn wynebu problemau dyled difrifol, o'i gymharu ag oddeutu 6 y cant o boblogaeth oedolion y DU—mae tua 193,000 o bobl yng Nghymru mewn dyled, sy'n broblem ddifrifol.
Ar y llaw arall, byddai'n caniatáu inni drafod y ffaith bod credyd tymor byr, cost uchel fel cyfran o'r cleientiaid yng Nghymru â'r benthyciadau dyled tymor byr, cost uchel hynny wedi gostwng yn sylweddol yn ystod y pum mlynedd diwethaf, o 17 y cant o'r cleientiaid yn 2014 i ddim ond un o bob 10 bellach. Ac mae hynny, mae'n rhaid imi ddweud, diolch yn anad dim i ymyriadau rheoliadol gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol a thynnu'n ôl rai o'r cwmnïau credyd cost uchel hyn—y siarcod hyn—o'r farchnad, y bu'r ddau ohonyn nhw yn destun ymgyrchoedd mawr gyda chefnogaeth Llafur a chydweithwyr eraill yn San Steffan ac yma. Felly, byddai dadl yn caniatáu inni ymchwilio ymhellach i weld beth yn fwy y gallem ni ei wneud yng Nghymru drwy gefnogi ymhellach y sefydliadau hynny sy'n rhoi cyngor ar ddyledion a hefyd gefnogi benthyca cyfrifol drwy sefydliadau megis undebau credyd yng Nghymru.
A gawn ni hefyd ddatganiad neu ddadl am gronfa ddysgu undebau Cymru, a ddisgrifiwyd gan Lywydd TUC Cymru, Ruth Brady, yr wythnos diwethaf fel enghraifft ddisglair o bartneriaeth undeb gyda Llywodraeth Cymru? Roedd yn ddathliad pen-blwydd angerddol dan faner '20 mlynedd, 20 stori ' yn y Pierhead, ac roedd yn bleser gennyf fod yn bresennol yno. Mae pobl wedi gweld trawsnewid yn eu bywydau—megis Mark Church, a siaradodd yn huawdl yn y digwyddiad. Yn ei bedwardegau, penderfynodd ofyn am gymorth ar gyfer problemau gyda darllen. Dilynodd gwrs sgiliau hanfodol a ariennir gan Gronfa Ddysgu Undebau Cymru a gafodd ei ddisgrifio ganddo ef fel cael ei ollwng o gawell, a soniodd am y modd y rhoddodd y profiad mwy o hyder a llu o sgiliau newydd iddo, y mae'n eu defnyddio yn y swyddfa ac yn y cartref , gan gynnwys helpu ei ferch gyda'i gwaith cartref am y tro cyntaf. I'r bobl hynny sy'n beirniadu cronfa ddysgu'r undebau ar lefel y Deyrnas Unedig, ond hefyd yma yng Nghymru, dylen nhw weld y dystiolaeth sydd o'u blaenau ynglŷn â sut y mae'n trawsnewid bywydau pobl. Felly, byddai'n wych cael datganiad neu gyfle i drafod y ffordd y mae hynny wedi cael effaith drawsnewidiol ar fywydau pobl.
Mae Huw Irranca-Davies yn ein hatgoffa bod amrywiaeth eang o sefydliadau ar gael i unigolion sy'n wynebu problemau dyled. Soniodd am StepChange a Christians against Poverty ac rydym yn ffodus iawn bod gennym gymuned mor fywiog o bobl sy'n ceisio sicrhau bod modd i bobl yn gael y cymorth a'r cyngor cywir pan fydd arnyn nhw ei angen. A byddaf i'n sicrhau bod y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip yn ymwybodol o'r cais am ddatganiad i archwilio pwysigrwydd y sector penodol hwnnw a hefyd, wrth gwrs, yr undebau credyd, sy'n darparu cyfle i fanteisio ar gredyd fforddiadwy ac yn cynnig dewis tecach a mwy moesegol na chredyd cost uchel, y mae llawer o bobl yn ei geisio neu'n teimlo bod yn rhaid iddyn nhw ei geisio. Ac, i gefnogi gwaith yr undebau credyd, mae Llywodraeth Cymru yn darparu £544,000 i'r undebau credyd yn y flwyddyn ariannol hon, a chredaf fod yr arian hwnnw wedi'i fuddsoddi'n dda.
Mae Huw Irranca-Davies, eto, yn iawn i ddweud bod pobl wedi gweld eu bywydau'n cael eu trawsnewid gan gronfa ddysgu undebau Cymru. Ers ei sefydlu tua 20 mlynedd yn ôl, cefnogwyd dros 200 o brosiectau cronfa ddysgu undebau Cymru, gan helpu miloedd o ddysgwyr. Mae tua 1,000 o gynrychiolwyr dysgu'r undebau yng Nghymru wedi helpu i ddarparu cyfle dysgu i 7,088 o bobl yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf yn unig. Ac mae'r timau dysgu yn y gweithle hynny hefyd, yn amlwg, wedi cyfrannu'n fawr at gyflawni'r prosiectau hynny'n effeithiol ac wedi gwneud hynny yn anad dim drwy eu gwybodaeth a'u cefnogaeth ar lefel lawr gwlad. Felly, credaf y byddai unrhyw gyfle i ddathlu hynny'n sicr yn rhywbeth cadarnhaol.
Dau fater, os caf i, Trefnydd. Yn gyntaf oll—wel, mae'r mater cyntaf yr oeddwn i eisiau ei godi gyda chi eisoes wedi cael ei godi'n huawdl iawn gan Mike Hedges, ynglŷn â'r fenter nofio am ddim a'r newidiadau a wnaed i hynny. Rwy'n clywed yr hyn a ddywedwch am leiafrif bach—6 y cant, rwy'n credu ichi ddweud, a oedd yn manteisio ar hynny. Felly, nid oes dim yn berffaith, ac rwy'n gwybod bod yr adolygiad annibynnol wedi awgrymu nad oedd yn addas i'r diben, ond, fel Mike Hedges, mae gen i etholwyr, etholwyr hŷn, sydd wedi bod yn poeni am hyn. Felly, o ystyried bod y penderfyniad wedi'i wneud gan Lywodraeth Cymru i ddod â'r cynllun hwnnw i ben, tybed a ellid tawelu eu meddwl ynghylch pa ddewis arall a allai fod ganddynt neu ym mha ffyrdd eraill y gellir annog pobl hŷn i fanteisio ar fudd fel nofio neu efallai weithgareddau eraill. Rwy'n credu y byddai hynny'n cael ei werthfawrogi, oherwydd mae pryderon yn cael eu mynegi.
Yn ail, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi 66 o brosiectau teithio llesol yn ddiweddar o'r cynllun buddsoddi yn seilwaith Cymru. Rydw i newydd fod yn edrych drwy'r prosiectau nawr, y dyraniad ar gyfer 2019-20, a gwelaf fod dau brosiect yn sir Fynwy: gwelliant teithio llesol cam 3 yng nghanol tref y Fenni—tipyn o lond ceg— sy'n cael ei gyllido gan £300,000; a hefyd mae £50,000 ar gael ar gyfer astudiaeth traffig amlfoddol o Gas-gwent. A gaf i groesawu'r ddau hyn? Credaf ei bod yn dda gweld, ar ôl blynyddoedd o siarad am deithio llesol—a chofiaf pan ddaeth y Gweinidog i'r Pwyllgor Menter a Busnes blaenorol a rhoi tystiolaeth o blaid creu'r Bil teithio llesol—mae'n dda gweld ein bod yn cael rhywfaint o brosiectau gwirioneddol ar lawr gwlad yn datblygu nawr, sef yr hyn oedd yn fwriad yn y dyddiau cynnar hynny. Felly, rwyf wedi sôn am y ddau brosiect hynny; yn amlwg, bydd gan ACau eraill ddiddordeb mewn prosiectau yn eu hetholaethau nhw. Tybed a wnaiff y Gweinidog gyflwyno datganiad i'r Siambr hon cyn gynted ag y bo modd er mwyn inni allu trafod y materion hyn yn llawnach.
Iawn. Diolch am godi'r mater o nofio am ddim eto, a godwyd gan Mike Hedges. Yn fy ymateb iddo ef, roeddwn i'n gallu dweud ein bod ni mewn cyfnod pontio ar hyn o bryd, lle mae defnyddwyr yn cael eu hannog i roi gwybod am eu profiad. Felly, petaech chi'n casglu profiadau eich etholwyr chi a'u rhannu â'r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, byddai hynny'n ddefnyddiol iawn.
Rwy'n ddiolchgar am eich brwdfrydedd dros y gwaith yr ydym ni'n ei wneud nawr i wella ein cynnig teithio llesol i bobl yng Nghymru. Rwy'n credu ei fod yn rhan gyffrous iawn o'r llwybr yr ydym ni arno, o ran teithio llesol. Rydym yn dechrau gwneud cynnydd gwirioneddol yn y maes hwn, a gwn fod y Dirprwy Weinidog wedi clywed eich cais chi am ddatganiad, a gwn ei fod bob amser yn frwdfrydig i rannu'r wybodaeth ddiweddaraf am y prosiectau yr ydym ni wedi gallu eu cefnogi.
Tri pheth. Un yw: a allaf i fynd ar drywydd y pwyntiau a godwyd gan Mike Hedges a Nick Ramsay ar nofio am ddim? Oherwydd, fel nhw, rwyf i hefyd wedi cael gohebiaeth gan bobl hŷn yr effeithiwyd arnynt gan y newidiadau i'r amserlen yn ein pyllau nofio lleol, ond nid wyf wedi cael unrhyw ohebiaeth o gwbl gan unrhyw deuluoedd â phlant, nac yn wir gan blant yr effeithiwyd arnynt gan ad-drefnu'r gwasanaeth hwn. Mae hyn yn awgrymu i mi nad ydyn nhw, fwy na thebyg, yn ymwybodol fod y gwasanaeth hwn yn bodoli, sef yr hyn sydd wedi peri pryder i mi ers tro. Felly, yr hyn yr wyf i eisiau ei weld, maes o law, yw adroddiad sy'n dangos bod y dull sydd wedi'i dargedu'n fwy ar gymunedau na allant fforddio nofio am ddim yn gweithio mewn gwirionedd, fel ein bod yn gweld cynnydd yn nifer y bobl sydd â'r angen mwyaf am y gwasanaeth hwn yn manteisio arno. Beth bynnag—byddaf i'n gadael hynny gyda chi.
Yn ail, roeddwn am dynnu sylw at adroddiad a lansiwyd yn y Pierhead heddiw ar seilwaith sy'n cefnogi bywydau iach a gweithgar gan Gymdeithas y Contractwyr Peirianneg Sifil, sef canlyniad trafodaethau cynhadledd gyda pheirianwyr eraill. Mae eu huchelgais i gynllunio seilwaith integredig i hyrwyddo ffyrdd egnïol o fyw a chreu lleoedd cymdeithasol, iach ac egnïol yn dda iawn, oherwydd heb ragoriaeth mewn peirianneg mae'n anodd iawn inni gyrraedd y targedau uchelgeisiol sydd gennym ni. Felly, roeddwn i eisiau dweud hynny wrth yr holl Aelodau, gan gynnwys y Llywodraeth, yn enwedig gan mai chi sy'n gyfrifol am gaffael, gan fod ganddyn nhw, rwy'n siŵr, lawer i'w gyfrannu.
Yn drydydd, tybed a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog iechyd—diweddariad ar y strategaeth 'Pwysau Iach: Cymru Iach'—i gadarnhau a yw'n bwriadu cynnwys, fel mater o flaenoriaeth, (a) cyfyngiadau ar hyrwyddiadau pris ar fwydydd sy'n cynnwys llawer o fraster, siwgr a halen, a (b) cyfyngiad ar siopau cludfwyd poeth ger ysgolion.
Iawn, felly, unwaith eto, ar fater nofio am ddim, byddwn i'n eich gwahodd i rannu profiadau eich etholwyr chi gyda Dafydd Elis-Thomas. Fel y soniais, bydd ef yn cael adroddiadau bob chwe mis ar y pontio i'r cynnig newydd a sut mae hynny'n effeithio ar y grwpiau targed.
Yr adroddiad seilwaith, yr adroddiad ar gynllunio seilwaith integredig a bywydau iach— byddwn i'n awyddus iawn pe gallech chi rannu copi ohono gyda mi. Nid oeddwn yn gallu bod yn bresennol heddiw, ond rwyf yn awyddus iawn i weld yr adroddiad, yn enwedig wrth inni ddechrau ystyried fersiwn nesaf y cynllun buddsoddi yn seilwaith Cymru, er enghraifft, a sicrhau bod ein cynnig seilwaith yn cael ei wneud mewn ffordd sy'n ystyried yr effaith ledled y Llywodraeth—gan feddwl am sgiliau, er enghraifft, ond hefyd gan ystyried ein huchelgeisiau ehangach o ran 'Cymru Iachach' ac yn y blaen.
Cyn belled ag y mae strategaeth 'Cymru Iachach' yn mynd, gallaf gadarnhau y bydd y Gweinidog yn lansio gwaith ar 6 Chwefror i fwrw ymlaen â chyflwyno cyfres o gynlluniau cyflawni bob dwy flynedd, a fydd yn amlinellu ein hymrwymiadau cynnar a'r camau nesaf. Un o gamau allweddol y strategaeth fydd sefydlu'r bwrdd gweithredu cenedlaethol, a fydd yn goruchwylio'r camau gweithredu ar gyfer pob cynllun cyflawni ac yn darparu arweinyddiaeth a threfn lywodraethol i symud ymlaen y newid sydd angen ei weld ar draws amrywiaeth o leoliadau, gan gynnwys amgylcheddau ac ymddygiad. Bydd hwnnw'n cyfarfod am y tro cyntaf ar 13 Ionawr ac yn cael ei gadeirio gan y Gweinidog ei hun, oherwydd mae ganddo ddiddordeb personol cryf iawn yn yr agenda hon.
Drwy'r cynllun cyflawni, cynhelir ymgynghoriad y flwyddyn nesaf i ystyried pecyn o ddeddfwriaeth yn yr amgylchedd bwyd, a bydd hynny'n cynnwys hyrwyddiadau pris, diodydd ynni a labelu calorïau, yn ogystal â chynllunio a thrwyddedu o amgylch ysgolion. Byddwn yn gweithio gyda'r bwrdd gweithredu cenedlaethol hwnnw i ddatblygu'r dull gweithredu.
Ac, yn olaf, Neil McEvoy.
Diolch, Llywydd. Ddydd Sadwrn, fe welsom ACau Llafur, ASau Llafur—neu ddarpar ASau, cyn-ASau, ymgeiswyr erbyn hyn—a Dirprwy Weinidog, y cyfan ohonyn nhw'n protestio yn erbyn polisi'r Llywodraeth ar losgi gwastraff. Felly, rwy'n awyddus i fod yn eglur—fe wrandewais i'n astud yn gynharach—a wnewch chi gadarnhau, efallai—wel, a oes modd cael datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd yn cadarnhau na fydd trydan yn cael ei gynhyrchu gan y llosgydd yn y Barri? Rwy'n awyddus i bwysleisio'r pwynt am yr asesiad effaith amgylcheddol, oherwydd dyna'r hyn a addawyd i'r trigolion, ac ni fyddai unrhyw beth llai na hynny'n ddigon da. Felly, rwy'n dymuno pwyso ar y Gweinidog o ran yr asesiad effaith amgylcheddol: ble mae hwnnw a phryd fydd e'n digwydd?
Felly, fe fyddai Neil McEvoy wedi clywed fy ateb i Andrew R.T. Davies yn gynharach y prynhawn yma. Dyna'r wybodaeth lawn sydd gennyf i ar flaenau fy mysedd y prynhawn yma, felly fe fyddwn i'n ei annog ef i ysgrifennu at y Gweinidog sy'n gyfrifol i ofyn am yr wybodaeth ddiweddaraf mewn ymateb i'r cwestiynau manylach hynny.
Diolch i'r Trefnydd.
Yr eitem nesaf felly yw'r datganiad gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ar yr economi sylfaenol, a dwi'n galw ar y Dirprwy Weinidog i wneud ei ddatganiad—Lee Waters.
Diolch yn fawr, Llywydd. Un o'r meysydd allweddol y mae'r Llywodraeth hon yn canolbwyntio arnyn nhw yw meithrin elfennau bob dydd ein heconomi. Y diwydiannau a'r cwmnïau sydd yno am fod pobl yn bresennol, y bwyd yr ydym ni'n ei fwyta, y cartrefi yr ydym ni'n byw ynddyn nhw, yr ynni yr ydym ni'n ei ddefnyddio a'r gofal yr ydym ni'n ei gael: dyma sylfeini ein heconomi ni. Maen nhw'n gyfrifol am bedair ym mhob 10 swydd, a £1 ym mhob £3 a wariwn ni. Ac maen nhw'n hanfodol i lesiant. Hynny yw, fe fyddai canlyniadau unrhyw darfu arnyn nhw'n mynd y tu hwnt i effeithiau economaidd ac fe fyddai'n tanseilio bywyd diogel a gwaraidd.
Wrth inni deithio tuag at amodau economaidd sy'n fwyfwy heriol, mae ein ffocws ar yr economi sylfaenol yn dwysáu gan mai honno yw'r rhan o'r economi sy'n gallu bod yn fwy cydnerth i wrthsefyll ergydion economaidd allanol. Hyd yn oed pe byddai newid yn yr economi fyd-eang yn peri i gwmni rhyngwladol mawr ddewis peidio â buddsoddi yng Nghymru, fe fyddai'r economi sylfaenol yma o hyd. Ac mae meithrin hyn o fewn ein gallu ni—mae'r dulliau ar gyfer cyflawni hynny wedi eu datganoli ac fe ellir eu defnyddio'n gymharol gyflym.
Mae fy nghyd-Aelod Ken Skates wedi pennu'r cyfeiriad yng nghynllun gweithredu economaidd Llywodraeth Cymru ar gyfer symud oddi wrth ddull sectoraidd o ddatblygu economaidd tuag at un sy'n canolbwyntio ar leoliad. Mae pwyslais y cynllun ar dwf cynhwysol yn rhoi mwy o bwysigrwydd ar wneud y cymunedau yr ydym ni'n byw ynddyn nhw'n fwy cadarn ac yn fwy cydnerth.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi bod yn gweithio gyda'n gilydd i greu dull o feithrin sylfeini ein heconomïau lleol, gan ganolbwyntio nid yn unig ar ganlyniadau economaidd, ond hefyd ar ansawdd profiad pobl o fywyd bob dydd. Mae hyn yn rhan o fudiad sy'n digwydd mewn dinasoedd a rhanbarthau yn fyd-eang. Yn Barcelona, mae'r ddinas-ranbarth yn datblygu cynllun strategol ar gyfer hanfodion sylfaenol, ac yn Awstria mae gan yr hyn sy'n cyfateb i Gyngres yr Undebau Llafur yn y fan honno ymgyrch sylfaenol o dan y slogan 'Bywyd Da i Bawb'.
Ond Llywodraeth Cymru yw'r gyntaf yn y byd i fabwysiadu dull economi sylfaenol ar lefel genedlaethol. Ac wrth greu dull Cymreig o weithredu'r symudiad hwn tuag at newid, rydym yn canolbwyntio ar dri maes allweddol. Yn gyntaf, arbrofi: rydym wedi creu cronfa her economi sylfaenol o £4.5 miliwn i dreialu ffyrdd o feithrin a gwella'r rhan hon o'r economi. Yn ystod yr wythnosau diwethaf, rydym wedi cyhoeddi 52 o brosiectau arloesol ledled Cymru yr ydym ni'n eu cefnogi, o fwyd a gofal cymdeithasol i adeiladu ac adfywio, a chan ymgeiswyr yn y sectorau cyhoeddus a phreifat a'r trydydd sector. Erbyn hyn, maen nhw'n arbrofi gyda gwahanol ddulliau o weithredu, ac fe fyddwn ni'n creu cymunedau ymarfer cryf ar gyfer ehangu'r hyn sy'n gweithio a dysgu o'r pethau sydd ddim yn gweithio. Ac rwy'n awyddus i gynnwys prosiectau yng nghronfa arloesi Arfor. Mae'r cynlluniau hyn, y cytunwyd arnynt â Phlaid Cymru fel rhan o gytundeb y gyllideb ddiwethaf, yn canolbwyntio ar gefnogi'r Gymraeg drwy gyfrwng yr economi leol, ac maen nhw'n cyd-fynd â dull economi sylfaenol. Felly, mae'n bwysig eu bod nhw'n rhan o'r rhwydweithiau dysgu yr ydym ni'n eu creu.
Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.
Dirprwy Lywydd, rwy'n awyddus i osgoi creu 52 o brosiectau peilot sydd mewn perygl o fynd i'r gwellt. Dyna pam mae ein hail ffocws ni ar ehangu a chynyddu arfer gorau. Mae agenda'r economi sylfaenol yn fynegiant ymarferol o'r egwyddorion a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Felly, rwy'n gweithio gyda byrddau'r gwasanaethau cyhoeddus fel partneriaid allweddol i helpu i gymhwyso'r hyn sy'n gweithio i bob rhan o Gymru.
I ddechrau, fe fyddwn ni'n canolbwyntio ar ehangu'r llwyddiant a gafwyd gan Gyngor Preston o ran defnyddio awdurdod pwrcasu lleol i feithrin cyfoeth lleol. Rydym yn penodi sefydliad partner i weithio gyda byrddau gwasanaethau cyhoeddus i wneud yn fawr o werth cymdeithasol caffael. Gyda'i gilydd, fe fyddan nhw'n nodi darparwyr lleol ar gyfer nwyddau a gwasanaethau. Ond nid ydym eisiau efelychu dull blaengar Preston o gaffael yn unig, rydym eisiau mynd y tu hwnt i hynny. Wrth inni ehangu, rydym yn anelu at ddatblygu dull sy'n osgoi dadleoli a dull amrwd o gyfrifo anfonebau lleol yn ôl cod post, ac rydym eisiau gweld dull sydd â'r pwyslais ar gefnogi cwmnïau sefydlog ar draws y gadwyn gyflenwi.
Mae'n hen bryd ein bod ni yma yng Nghymru yn achub y blaen eto o ran y dull hwn. Fe allwn ni dynnu sylw at nifer o enghreifftiau lle'r ydym wedi arloesi, er enghraifft y pecyn cymorth Gallu Gwneud ar gyfer tai a ddatblygwyd yng Nghymru 10 mlynedd yn ôl, a gwaith mwy diweddar ar Swyddi Gwell yn Nes at Adref a gychwynnwyd gan fy nghyd-Weinidog Julie James, gan adeiladu ar waith TUC Cymru.
Roedd Cymru ar y blaen i Preston mewn llawer ffordd, ond mae cynnal yr addewid cynnar wedi bod yn anodd hyd yn hyn. Fe ddylwn i fod yn glir gyda'r Aelodau fy mod i'n pryderu ynghylch capasiti a gallu sectorau cyhoeddus a phreifat Cymru i ymateb i'r her hon, a pha mor gyflym y gallwn ni ysgogi ein hymdrechion. Ond os llwyddwn ni i ehangu a chael mwy o lwyddiant a chynnal y newid hwnnw, y tro hwn, fe allwn ni hawlio bod Cymru yn arwain yn wirioneddol ar lwyfan byd-eang. I'r perwyl hwnnw, o fewn Llywodraeth Cymru, rwyf bellach wedi creu, gyda'r Gweinidog Cyllid Rebecca Evans, fwrdd cyflawni trawsadrannol i sicrhau bod ein gwifrau mewnol wedi eu cysylltu.
Rydym yn rhoi cynnig ar ddull newydd ac ni allwn fforddio bod yn ddihyder. Os gadawn ni'r UE ar ddiwedd mis Ionawr gyda chytundeb, neu heb gytundeb fis Rhagfyr nesaf, yna fe fydd economi Cymru yn cael ei tharo gan storm a fydd yn waeth na chwalfa 2008 a'r dad-ddiwydiannu gan Thatcher. Felly, mae angen dull sy'n gallu meithrin cydnerthedd yn ein heconomïau lleol i geisio ymdopi â hynny. Mae pob argyfwng economaidd yn golygu bod menywod yn waeth eu byd, a hynny'n anghymesur, gan atgyfnerthu'r ddadl dros ddull sy'n cefnogi'r economi ddyddiol y mae cymaint o fenywod yn dibynnu arni am waith.
Mae trydedd elfen ein dull ni yn hollbwysig yn hyn o beth: sef cefnogi cwmnïau sefydlog, gan feithrin yr hyn a elwir yn 'ganol coll', a chyfuno'r galw lleol i'n helpu ni i wneud hynny. Fy nod i yw cynyddu nifer y cwmnïau sydd â'u gwreiddiau yn eu heconomïau lleol, gan gynnwys microfusnesau, busnesau bach a chanolig eu maint, mentrau cymdeithasol, mudiadau cydweithredol a grwpiau buddiannau cymunedol sydd, yn y sectorau masnachadwy, â'r gallu i werthu y tu allan i Gymru, ond sydd â'u penderfyniadau wedi eu gwreiddio yn ein cymunedau ac yn cynnig cyfleoedd i bobl ym mhob rhan o Gymru i gael gwaith teg.
Yn rhy aml, bydd cwmnïau sy'n tyfu yng Nghymru yn mynd ar goll i ni pan fydd eu sylfaenwyr nhw'n eu gwerthu am arian parod. Drwy ein banc datblygu ni a thrwy Busnes Cymru, rydym eisoes yn gwneud llawer i feithrin a chadw cwmnïau yng Nghymru ac rwy'n gweithio gydag is-grŵp o fwrdd cynghori'r Gweinidog i weld beth yn fwy y gallwn ni ei wneud. Rydym wedi cael llwyddiant mawr wrth gefnogi cwmnïau i dyfu'n gyflym. Mae ein rhaglen i gyflymu twf yn dod â gwerth ychwanegol gwirioneddol i gwmnïau, fel y gwnes i ei ddarganfod wrth gyfarfod—[Anghlywadwy.]—ym Mhorth Tywyn yn fy etholaeth i ddydd Gwener diwethaf, sy'n cael cymorth o dan y cynllun. Mae'n cynhyrchu £17 o fudd i economi Cymru am bob £1 yr ydym ni'n buddsoddi ynddo.
Rydym wrthi nawr yn ystyried beth arall y gallwn ni ei wneud i ddarparu cymorth amyneddgar hefyd i gwmnïau cynaliadwy sy'n tyfu'n arafach. Ymhen ychydig dros flwyddyn, fe fydd y cyllid yr ydym ni'n ei ddefnyddio i ariannu ein gwasanaethau cymorth Busnes Cymru yn diflannu wrth inni adael yr UE. Rydym yn dal yn aros i glywed gan Lywodraeth y DU pa gyllid, os o gwbl, fel yr addawyd. Ond wrth inni fynd ati i lunio'r fersiwn nesaf o gymorth i fusnesau, fe fyddwn ni'n sicrhau ein bod yn ymgorffori'r gwersi a ddysgwyd yn sgil ein gwaith ar gefnogi cwmnïau sefydlog yn yr economi sylfaenol.
Dirprwy Lywydd, mae cynnydd da wedi bod hyd yn hyn, ond wrth inni roi'r dull hwn ar waith, mae'n galw am gydberthnasau newydd a ffyrdd newydd o weithio o fewn ac ar draws y Llywodraeth, yn ogystal â rhwng y Llywodraeth, y busnesau a'r cymunedau. Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi hwb i sbarduno newid, ond ni ddaw'r budd mawr heb i ni gynghreirio ar gyfer y newid. Mae'n rhaid inni weld gweithio cydgysylltiedig ar draws adrannau'r Llywodraeth a rhwng cyrff cyhoeddus sy'n torri trwy'r gwahanol agendâu a rheolau cyllidebol a all fod yn rhwystrau.
Mae modd elwa ar gaffael, ond mae modd elwa llawer mwy drwy feddwl yn ochrol am y ffordd yr ydym ni'n cydlynu cyllidebau sector cyhoeddus. Ac mae hon yn her i ni gyd ond yn gyfle hefyd, nid yn lleiaf, i arweinyddiaeth leol. Fe gymerodd Cyngor Bwrdeistref Preston ei gamau ei hunan, ac rwy'n dymuno gweld y byrddau gwasanaethau cyhoeddus eu hunain yn dangos eu potensial, nid drwy aros i rywun ofyn iddyn nhw, ond drwy ddefnyddio eu partneriaethau lleol grymus i ddod â'r agenda hon yn fwy. Fe fydd Llywodraeth Cymru yn gwneud ei rhan, ond ni allwn wneud hyn ar ein pennau ein hunain. Mae'r cymunedau yr ydym i gyd yn bodoli i'w gwasanaethu yn mynnu ein bod yn cael hyn yn iawn. Diolch.
Diolch i chi. Russell George.
Diolch, Dirprwy Lywydd, ac a gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad heddiw ac am y copi ymlaen llaw a ddarparwyd hefyd?
Fe fydd y Gweinidog yn ymwybodol o waith Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar gaffael a sut y gall hynny chwarae ei ran yn yr economi sylfaenol. Nid yw'r Pwyllgor wedi gwneud unrhyw argymhellion hyd yn hyn na chyflwyno ei adroddiad, ond un o'r negeseuon allweddol a gyflwynwyd yw nad yw'n ymddangos bod arfer da yn cael taith hwylus drwy Gymru. O ystyried yr amrywiaeth o weithgareddau a gefnogir ar draws y gwahanol brosiectau a'r gwahanol amserlenni, a'r allbynnau a'r canlyniadau amrywiol, sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu monitro a gwerthuso'r ystod eang o brosiectau er mwyn cyrraedd safbwynt o ran y rhai sy'n esiamplau o arfer da ac y dylid eu lledaenu a'u gwella?
Yn y gorffennol, mae Busnes Cymru wedi canolbwyntio ar dargedau o ran swyddi a thwf economaidd. Felly tybed a fyddech chi, Dirprwy Weinidog, yn cytuno â mi y dylai Busnes Cymru ganolbwyntio nesaf ar gefnogi cwmnïau yn yr economi sylfaenol ac y dylai'r cynllun nesaf geisio cefnogi cwmnïau i ddatblygu modelau busnes hirdymor mewn amrywiaeth ehangach o faterion fel cynhyrchiant a throsiant, yn ogystal ag anelu'r mesuriadau traddodiadol hynny o lefelau cynnyrch domestig gros a chyflogaeth. Pa fesuriadau cymdeithasol ac economaidd eraill a gydnabyddir yn rhyngwladol y bydd Llywodraeth Cymru yn eu defnyddio i fesur llesiant a monitro llwyddiant prosiectau penodol?
Fe wn i fod yna her wirioneddol wedi bod o ran cwmnïau bach yn ceisio tyfu i faint canolig, ac awgrymodd adroddiad gan fanc datblygu yn ddiweddar mai dim ond nifer fach o gwmnïau canolig eu maint oedd yn tyfu. Roedd adroddiad Ffederasiwn y Busnesau Bach ar Gymru, sef 'Canol Coll Cymru'—ac fe wnaethoch chi eich hun gyfeirio at y canol coll yn eich datganiad heddiw—yn pwysleisio hefyd fod Cymru'n cael ei dominyddu gan y microfusnesau a'r busnesau amlwladol hynny. Felly, sut y bydd dull y Llywodraeth o weithredu'r economi sylfaenol yn mynd i'r afael â hyn sydd, yn fy marn i, yn anomaledd, ac yn helpu'r busnesau bach hynny i dyfu?
Sut yr ydych chi yn bwriadu datblygu cadwyni cyflenwi yng Nghymru o dan eich cynllun gweithredu economaidd i gefnogi'r economi sylfaenol wrth ddyfarnu cyllid grant i brif gwmnïau i annog mewnfuddsoddiad? Tybed hefyd, Dirprwy Weinidog, a ydych chi'n credu bod y dull sectoraidd o ymdrin â chysyniad economi sylfaenol yn rhoi digon o hyblygrwydd, yn adeiladu cynghreiriau traws-sectoraidd, yn sicrhau nad yw'r cysyniad o'r economi sylfaenol yn gweithredu mewn ysguboriau ar wahân, ond yn adlewyrchu'r gwahanol angenrheidiau economaidd mewn gwahanol rannau o Gymru a fydd mewn gwirionedd yn darparu'r atebion a'r gwasanaethau ymarferol hynny y mae pobl yn awyddus i'w cael? Rwy'n bendant yn un sy'n cefnogi dull yr economi sylfaenol, felly fe gewch chi fy nghefnogaeth i yn hynny o beth.
A'r cwestiwn olaf sydd gennyf i yw hwn: sut y dylid diffinio caffael lleol, a sut y dylid monitro gwariant lleol? Ac os nad ydych chi mewn sefyllfa i allu ateb y cwestiwn hwnnw neu gynnig y diffiniad hwnnw heddiw, pryd yr ydych chi'n credu y byddwch chi mewn sefyllfa i allu gwneud hynny?
Wel, diolch yn fawr i chi. Yn gyntaf oll, i ymdrin ag un o'r pwyntiau olaf ynglŷn â'r cymorth a gaiff ei gynnig, ac rwy'n gwerthfawrogi hynny, fe fydd yr Aelodau yn cofio mai rhan o fudiad cymdeithas sifil oedd y mudiad a oedd wrth wraidd yr agenda polisi hwn yn y Cynulliad. Fe ddaeth yr ysgogiad o'r prifysgolion, o'r trydydd sector, ac o sefydliadau busnes, yn ogystal ag o ymdrech drawsbleidiol, ac rwyf i'n gwerthfawrogi hynny ac yn gobeithio y gallwn ni gadw at hynny. Felly rwy'n croesawu ei gefnogaeth ef i gysyniad hyn.
Manylion hyn—rydym yn darganfod ein ffordd wrth fwrw ymlaen. Mae'r Basgiaid, maen nhw'n dweud wrthyf i, yn defnyddio'r ymadrodd barddonol, eu bod nhw'n ceibio'r ffordd wrth deithio arni. Rwyf i'n defnyddio ymadrodd llai barddonol, ein bod ni'n meddwl am bethau wrth inni fynd yn ein blaenau. Dyna'r oeddwn i'n cyfeirio ato, y dull arbrofol hwn yn benodol, yn hytrach na dweud, 'Mae gennym dempled, gwyddom sut mae'n gweithio.' Holl ddiben yr agenda hon—dyna pam mae'n gyffrous ac yn frawychus braidd—yw ein bod ni'n ailadrodd ac yn datblygu mewn amser real, ac mae perygl i hynny, fel y gallaf dystio, ond dyna'r bwriad y tu ôl i'r polisi. Mae hwn yn ddull gwahanol ac mae'n amlwg wedi ennyn rhywfaint o ddadlau, ond rwy'n credu mai hwn yw'r un cywir, o ystyried yr ansicrwydd yr ydym ni'n ei wynebu.
Mae'r Aelod wedi gofyn rhyw saith o gwestiynau sylweddol i mi, ac ni fyddaf i'n gallu gwneud gwir gyfiawnder â nhw, ond fe geisiaf wneud hynny'n fyr, Dirprwy Lywydd. O ran yr ymchwiliad gan Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, rwy'n edrych ymlaen at weld yr adroddiad ac at ystyried eich argymhellion chi, oherwydd mae hwn yn rhywbeth sy'n agored i'w fowldio ac i ddylanwadu arno.
Mae'r cwestiwn y mae Russell George yn ei ofyn am fonitro a gwerthuso yn un rhesymol iawn, ac mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni'n ei ystyried ar hyn o bryd gydag is-grŵp y bwrdd cynghori gweinidogol a sefydlais i, sy'n fwrdd cynghori gwirioneddol, yr ydym ni'n gwahodd her a mewnbwn iddo gan amrywiaeth o sefydliadau cymdeithas sifil ac academyddion. Felly, rydym ni'n creu'r cymunedau ymarfer hyn. Nid ydynt mewn ysguboriau ar wahân, fel y dywedodd ef ar y diwedd; nid dull sectoraidd mo hwn o fewn yr economi sylfaenol. Dull gweithredu sy'n niwtral o ran sectorau ydyw. Yn y cynllun gweithredu economaidd gwreiddiol, fe nodwyd sectorau; rydym wedi symud y tu hwnt i hynny nawr i gael barn agnostig o ran sectorau, ac edrych ar hyd a lled yr economi sylfaenol gyfan. Os edrychwch ar y rhestr lawn o brosiectau sy'n cael eu cyhoeddi ar wefan Busnes Cymru, ceir amrywiaeth wirioneddol yn y fan honno, gan gynnwys rhai prosiectau polisi hefyd i brofi ffiniau ein meddylfryd ni.
O ran ei gwestiwn ynglŷn â thargedau swyddi gyda Busnes Cymru, mae hynny, hefyd, yn gwestiwn byw, ac yn rhywbeth yr wyf yn ei drafod gyda'r bwrdd cynghori—sut y gallwn ni fesur hyn. Fe soniodd am yr her sydd gennym o ran symud o gwmnïau micro i gwmnïau maint canolig, ac mae'r ystadegau yn syfrdanol: mae gan 95 y cant o fusnesau Cymru lai na naw o weithwyr; mae'r cwmnïau canolig eu maint, sydd â rhwng 50 a 249 o weithwyr, yn cyfrif am lai nag 1 y cant o'r holl fusnesau yng Nghymru, ond maen nhw'n gyfrifol am drosiant sy'n fwy na'r cyfan o'r 95 y cant o fusnesau. Felly, mae gennym nifer fach o gwmnïau sy'n gwneud llawer mwy na'r disgwyl yn economi Cymru, a'r hyn yr ydym ni'n awyddus i'w wneud yw cynyddu maint y micro i fod yn fach, y bach i fod yn ganolig, ac yna, pan fyddant yn ganolig, eu cadw nhw wedi eu gwreiddio'n ddwfn yng Nghymru. Mae pethau fel perchenogaeth gweithwyr yn ddewis atyniadol ar gyfer gwneud yn siŵr eu bod nhw'n aros wedi eu gwreiddio yn ein heconomi ni.
Gweithio ar hyd y cadwyni cyflenwi, meddai ef, yw'r her allweddol yma unwaith yn rhagor, a dyma'r gwaith y mae angen i ni ei wneud gyda'r byrddau gwasanaethau cyhoeddus ar hyn o bryd, gan ddefnyddio data i'w ddeall yn iawn. Mae'r prosiect Swyddi Gwell yn Nes at Adref y mae Julie James wedi arwain arno wedi gwneud llawer o waith eisoes gyda rhai gweision sifil ymroddedig iawn o fewn Llywodraeth Cymru i ddeall yn iawn y data o ran ble mae'r gwariant yn gostwng, y bylchau o fewn hynny, a sut yr ydym yn gwneud ymholiadau i wneud y gorau o'r sefyllfa. Felly, dyna'r hyn yr ydym yn bwriadu gweithio arno ar draws y sector cyhoeddus.
Yr hyn y byddwn yn hoffi ei wneud hefyd yw hyn—rydym wedi gweld nifer fawr o gwmnïau sector preifat yn gwneud cais i'r gronfa her, ac rwy'n awyddus nawr i weld sut y gallwn ni ddatblygu'r agenda hon gyda chwmnïau mwy yn y sector preifat, fel bod y prif gwmnïau mawr yn defnyddio eu gwariant, eu gwariant dewisol nhw, ynghlwm wrth yr agenda hon fel ein bod ni'n gwneud yn fawr o'r cyllid hwnnw hefyd. Nid agenda i'r sector cyhoeddus yn unig yw hon.
Rwy'n credu fy mod i wedi ceisio ymdrin â'r rhan fwyaf o'r pwyntiau. Mae'r diffiniad o, maddeuwch i mi—
Caffael lleol.
Ie. Sut y diffinnir caffael lleol oedd hynny? Fel y dywedais i, rydym yn gobeithio symud y tu hwnt i fodel Preston, a geisiodd ei ddiffinio o fewn gwariant yn nherfynau'r cod post lleol, a rhoi dull perthynol ar waith. Felly, yn sir Gaerfyrddin, er enghraifft, ceir prosiect cyffrous iawn i gael bwyd lleol i ysgolion lleol ac ysbytai lleol. Nawr, er enghraifft—rwy'n defnyddio hyn at ddibenion enghreifftiol yn unig—pe na fydden nhw'n gallu dod o hyd i'w holl gynnyrch yn y prosiect hwnnw nac yn unrhyw un fan arall o fewn eu cod post lleol nhw, ond yn gallu ei gael oddi wrth gwmni sydd wedi'i sefydlu mewn rhan arall o Gymru, fe fyddai hynny'n beth da. Felly, ni ddylem gyfyngu ein hunain drwy edrych ar godau post yn unig, oherwydd gall hynny amharu ar yr effeithiau. Yr enghraifft yr ydym ni wedi ei chrybwyll yn y Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau, er enghraifft, yw pe byddai awdurdod lleol yn gwario arian drwy brynu teiars yn Kwik-Fit, fe allai hynny edrych yn dda o ran caffael yn y cod post lleol, ond ni fyddai'r arian yn aros yn yr ardal—byddai'n mynd allan o'r ardal i gwmni Kwik-Fit. Mae'n bosibl defnyddio'r ffigurau hyn er mwyn iddynt edrych yn dda, neu roi camargraff. Felly rydym ni'n dymuno mynd ati mewn ffordd fwy deallus, a dyna pam rydym yn awyddus i gymryd ein hamser i weithio trwy sut mae hynny'n gweithio'n ymarferol.
Gaf innau ddiolch am y datganiad? Mi fydd y Dirprwy Weinidog yn gwybod ei fod o a fi yn gweld llygad yn llygad yn eang iawn yn y maes hwn. Dwi'n falch iawn o'r arweiniad sydd wedi cael ei roi gan Blaid Cymru yn hynny o beth, ac yn falch ein bod ni, mewn cytundeb efo'r Llywodraeth ar y gyllideb, wedi gallu rhoi'r sylfaen mewn lle, efo £1.5 miliwn os dwi'n cofio yn iawn, ar gyfer gallu adeiladu arno fo. Dwi'n falch o weld bod yna ddatblygu yn digwydd o ganlyniad i'r gwaith hwnnw a wnaed ychydig o flynyddoedd yn ôl gennym ni. Dwi hefyd yn falch o weld crybwyll Arfor ac ati, sydd eto yn syniad sy'n deillio gennym ni, yn benodol ynglŷn â gwreiddio datblygiadau a ffyniant economaidd yn ein cymunedau ni yng Nghymru, ac dwi'n edrych ymlaen at weld rhagor o ddatblygu wrth i brosiectau peilot ac ati, gobeithio, ddwyn ffrwyth yn y blynyddoedd sydd i ddod.
Dwi'n falch bod yna grybwyll yma o'r angen i weithio ar draws adrannau'r Llywodraeth ac mae yna gyfeiriad gan y Dirprwy Weinidog at y grŵp newydd yma, ar y cyd efo'r Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans, i wneud yn siŵr bod weirio mewnol y Llywodraeth wedi'i gysylltu yn gywir. Dwi'n synnu, i raddau, fod yna ddim y math yna o gydweithio trawsadrannol yn digwydd yn barod. O bosibl, gallwch chi egluro mwy yn union am beth yr ydych chi'n cyfeirio ato yn fan hyn. Ai dim ond y gwaith trawsadrannol ar yr economi sylfaen ydy hwn, ynteu ydy o'n rhywbeth arloesol o ran yr adran datblygu economaidd ac adran gyllid y Llywodraeth? Achos y byddwn i'n tybio y dylai hwnnw fod yn gweithio yn drawsadrannol yn barod, mewn difri.
Cwpl o gwestiynau. Un, sut ydych chi'n disgwyl gweld llywodraeth leol a'r rhai sy'n gweithio mewn datblygu economaidd ar lawr gwlad yn ymateb i'r agenda yma? Gaf i roi enghraifft i chi o'm hetholaeth i? Dwi ddim yn disgwyl i chi ymateb i'r enghraifft benodol, a gwnaf i ddim hyn yn oed yn enwi'r cwmni, ond lle mae yna gwmni sydd wedi'u gwreiddio mewn un rhan o Gymru, ac yn teimlo eu bod nhw'n cael eu perswadio braidd i symud i ffwrdd er mwyn tyfu, maen nhw eisiau gwreiddio yn yr ardal honno, mae'n gwmni sydd yn yr economi sylfaenol, mae o'n ymwneud ag adeiladu tai a chynnal a chadw tai, ac ati, ac mae'n gwmni mawr a llwyddiannus, ond maen nhw eisiau help er mwyn gallu ehangu, er mwyn gwreiddio yn ddyfnach yn eu bro eu hunain—eisiau mwy o dir ar ystâd ddiwydiannol, mewn ffordd. Ond beth fyddech chi'n disgwyl i'r agwedd fod gan dimau datblygu economaidd tuag at helpu'r math yna o gwmni?
Wedyn, efo targedau, oes, mae yna elfen fawr o arbrofi yn yr hyn yr ydych chi'n bwriadu ei wneud yn fan hyn, ond mae'n rhaid ichi gael syniad at beth yr ydych chi'n anelu. Pa fath o arwyddion o lwyddiant y dylem ni fod yn edrych amdanyn nhw? Mae'n bosibl ei bod hi'n anodd gosod KPIs cadarn pan mae'n dod at arbrofi efo rhywbeth, ond siawns bod yna rywbeth y gallem ni edrych arno fo ymhen amser, mewn blwyddyn neu ddwy, a fydd yn gallu penderfynu, ydyn, mi ydym ni'n gweld llwyddiant yn fan hyn o ran yr effaith ar GDP neu ar swyddi sy'n cael eu creu, ac yn allweddol ar lefel y cyflogau yn y swyddi hynny.
Hefyd o ran targedau, mi fyddwn i'n croesawu eich sylwadau chi ynglŷn ag at beth yr ydym ni'n anelu o ran targedau caffael yn lleol. Dwi'n gwybod ein bod ni ym Mhlaid Cymru wedi sôn am anelu at o gwmpas 50 y cant o gyllid cyhoeddus Cymru sy'n cael ei wario yng Nghymru ar hyn o bryd at dua 75 y cant, sy'n dal yn modest iawn, rydym ni'n teimlo, ond o osod nod, a tharo'r nod yna, rydych chi'n sôn am greu 40,000 o swyddi, os ydych chi'n cymryd y ffigwr 2,000 o swyddi i bob 1 y cant o GDP yn ychwanegol sy'n cael ei wario yn lleol. Felly, ydych chi'n fodlon gosod targed ar gyfer lle rydym ni'n mynd o ran cynyddu caffael yn lleol?
Diolch i chi unwaith eto. Fe geisiaf i godi'r pwyntiau hynny yn eu trefn ac ailadrodd y pwynt eto bod y gefnogaeth i'r agenda hon wedi dod o bob cwr o'r Siambr, ac rwy'n gwerthfawrogi hynny. Ac yn wir, fel y soniais i yn y datganiad, fe ddaeth yr ymrwymiad cychwynnol o £1.5 miliwn ar gyfer cronfa arbrofol yn sgil y trafodaethau a'r cytundeb rhwng Llywodraeth Lafur Cymru a Phlaid Cymru. Rwy'n hynod falch fy mod i wedi gallu treblu hynny gyda chefnogaeth y Gweinidog Cyllid a Gweinidog yr economi a'r Prif Weinidog drwy'r cylch cyllideb hwn.
Ac o ran Arfor, fe wnaeth Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, a minnau gyfarfod ag arweinyddion rhaglen Arfor o bob rhan o Gymru yn ddiweddar, a chawsom drafodaeth hir ynghylch sut y mae'r prosiect hwnnw'n gweithio. Fe'm trawyd i bryd hynny ein bod ni'n codi ysgubor ar wahân yn hynny o beth, a bod cymaint yn gyffredin rhwng yr agenda hon ac agenda'r economi sylfaenol, ac mae angen inni eu cyplysu â'i gilydd. Ac mae angen i'r hyn a gaiff ei ddysgu o'u prosiectau nhw groesbeillio â'r lleill, ac i'r gwrthwyneb. Felly, rwyf wedi ymrwymo i wneud hynny. Ac rydym ni, rwy'n credu, yn gwneud cysylltiadau wrth inni fwrw ymlaen.
Roedd ei syndod o ddeall bod y Llywodraeth yn gweithio mewn ysguboriau ar wahân yn ddigon annwyl, yn fy marn i, ond mae sefydliadau mawr yn tueddu i wneud hyn. Mae caffael, er enghraifft, yn torri ar draws y gwaith y mae'r Gweinidog Cyllid yn ei wneud. Mae'n torri ar draws yr agenda gyfan, felly mae gwaith traws-lywodraethol eisoes yn cael ei wneud ar hynny. Yr hyn a welais i pan oeddwn i'n dechrau yn y swydd hon oedd y cynlluniau yr oeddwn i'n gyfrifol amdanyn nhw nid yn unig yn gorwedd y tu allan i'n hadran ni ond y tu allan i'n grŵp ni o fewn y Llywodraeth hefyd, ac roedd yn anodd iawn i'r gweision sifil, o ystyried eu strwythurau gwaith, gyfathrebu'n effeithiol â'i gilydd. Dyna pam y sefydlwyd y grŵp hwn ar yr economi sylfaenol yn benodol. Rwyf i wedi sefydlu grŵp arall, a gyfarfu ddoe gyda'r Gweinidog Cyllid, ar ddeallusrwydd artiffisial a dyfeisgarwch a yrrir gan ddata, yn yr un modd, er mwyn ceisio torri ar draws echelin lorweddol y Llywodraeth.
Felly, mae hyn yn rhan o'r dysgu sy'n digwydd, sef bod hyn yn un o'r rhwystrau i ledaenu ac uwchraddio yn y gorffennol, ac rwyf wedi nodi'r rhwystredigaeth o brosiectau peilot yn dangos llwyddiant ysgubol yn y gorffennol. Cyfeiriais at y pecyn cymorth Gallu Gwneud, lle'r oeddem ni ar flaen y gad. Ond yna bu'r anallu i wreiddio hynny i fod yn arfer cyffredin ac i weithio ar draws ffiniau, mewn llywodraeth ganolog a llywodraeth leol, yn llyffethair ac mae hynny'n rhywbeth y mae angen inni ei oresgyn. Ond nid wyf i dan unrhyw gamargraff pa mor anodd yw hyn a pha mor anodd y bydd hyn, ac efallai na fydd yn gweithio. Rwy'n credu bod yn rhaid inni wynebu'r ffaith na fydd hyn yn gweithio o bosib, ond rwy'n agored ac yn onest ynglŷn â hynny, ac ar ôl sôn am y perygl hwnnw, mae angen inni wneud yn siŵr na fydd yn digwydd.
Roeddech chi'n sôn am y benbleth o ran sut yr ydych chi'n caniatáu i gwmnïau ehangu ond eu cadw wedi eu gwreiddio ar yr un pryd. Ac rwy'n credu mai dyma pam mae angen inni weithredu dull rhanbarthol o ddatblygu economaidd, a sut mae'n rhaid i awdurdodau lleol gydweithio. Nid yw'r cyrff a arferai fod ganddynt mewn adrannau datblygu economaidd ar gael erbyn hyn. Mae'n rhaid iddyn nhw rannu gydag awdurdodau cyfagos yn yr ôl-troed rhanbarthol, fel y gwelwn ni o dan y Bil Llywodraeth Leol, a chyd-leoli a gweithio gyda thimau economaidd rhanbarthol newydd Llywodraeth Cymru a phrif swyddogion economaidd rhanbarthol i weithredu dull rhanbarthol. Felly, hyd yn oed os nad yw'r cwmni bach yn yr enghraifft ddamcaniaethol yn gallu tyfu ar yr union ôl troed y'i sefydlwyd arno, fe all dyfu o fewn y rhanbarth, serch hynny. [Torri ar draws.] Mae'n mynd i fod yn anodd ei gyflawni, ond, yn amlwg, fe fyddem yn dymuno iddynt dyfu yn y man lle maen nhw wedi eu gwreiddio. Mae'n anodd cyffredinoli ar sail enghraifft ddamcaniaethol. Os yw'r Aelod, sy'n torri ar fy nhraws ac yn dweud nad yw hynny'n ddigon da, yn dymuno rhoi enghraifft benodol imi, nad yw'n awyddus i'w gwneud yn gyhoeddus efallai, fe fyddwn yn hapus i gyfarfod ag ef a thrafod yr enghraifft benodol honno, oherwydd mae'n swnio fel y math o broblem yr ydym ni'n awyddus i'w hosgoi, ac fe hoffwn i weithio gydag ef i weld a allwn ni ei datrys.
O ran dangosyddion perfformiad allweddol a thargedau, mae risg bob amser y ceir canlyniadau anfwriadol i dargedau oherwydd yn y gorffennol, yn sicr pan oedd Jane Hutt yn Weinidog Cyllid, llwyddwyd i sicrhau dros 50 y cant o gaffael. Dylid cofio bod 75 y cant o arian y sector cyhoeddus, yn y rhan fwyaf o sefydliadau, yn mynd ar staff, a bod y rhan fwyaf o'r staff hynny'n byw mewn dalgylch gweddol fach lle caiff y cwmni ei leoli. Fe allwch chi, heb ormod o drafferth, gyflwyno ffigurau ynglŷn â chaffael lleol sy'n edrych yn drawiadol iawn, ond nad ydyn nhw mewn gwirionedd yn adrodd y stori'n llawn, ac felly rwy'n credu bod angen inni gael dull mwy deallus a manwl o ymdrin â thargedau. Rydym yn arbrofi yma. Rwy'n amharod i ymrwymo i ddangosyddion perfformiad allweddol a thargedau ar hyn o bryd oherwydd nid wyf i'n dymuno iddyn nhw fod yn gamarweiniol. Mae angen inni fonitro'n ofalus sut mae hyn yn gweithio, ac yna ar ôl inni ddysgu rhai o'r gwersi, efallai y byddwn ni mewn sefyllfa i osod rhai targedau yn y cam nesaf. Ond o ran y cwestiwn eang—ac rwy'n meiddio dweud fy mod i'n gobeithio y bydd gan adroddiad y Pwyllgor EIS rai syniadau ynglŷn â hyn—'Sut y gwyddom ni sut beth fydd llwyddiant?', dyna her dda, ac yn sicr cyfeiriodd Russell George yn gynharach at y wireb mai teithiwr gwael yw arfer da. Rwy'n credu, yn y lle cyntaf, o ystyried ein man cychwyn, mai llwyddiant fyddai cael rhyw ddwsin o fyrddau gwasanaethau cyhoeddus yn amgyffred yr agenda hon ac yn ei defnyddio'n gyson ar draws ei ffiniau. Y tu hwnt i hynny, mae gennyf feddwl agored o ran sut yr ydym yn deall rhai o'r metrigau gronynnog ar gyfer mesur llwyddiant. Rwy'n cytuno ag ef bod angen targedau a dangosyddion perfformiad arnom yn y tymor canolig, ond fe fyddwn i'n gyndyn o roi'r drol o flaen y ceffyl.
Diolch. Fe fydd yn rhaid imi ofyn am gwestiynau mwy cryno ac atebion mwy cryno. Mae gennyf i bump i siarad a thua 15 munud ar ôl, felly mi gewch chi wneud y rhifyddeg ynglŷn â hynny. Jenny Rathbone.
Diolch. Rwy'n falch iawn eich bod chi am fynd i'r afael â'r mater o arfer da ddim yn teithio. Pan oeddwn i'n cadeirio pwyllgor monitro'r rhaglen Ewropeaidd, roedd rhaglenni rhagorol o'r gwaelod i fyny y gellid eu defnyddio nhw gyda chymunedau eraill a oedd yn debyg iawn iddynt, a gwn fod Huw Irranca-Davies yn gweithio ar hyn yn y rhaglen bresennol, ond ni allwn ni fforddio taflu arferion da i ffwrdd, wir. Felly rwy'n gobeithio y bydd bwrdd gwasanaethau cyhoeddus sir Gaerfyrddin yn arwain y ffordd, o gofio eu bod wedi llwyddo i ennill contract ar gyfer yr economi sylfaenol ym maes caffael bwyd.
Rwy'n credu yr hoffwn ganolbwyntio am eiliad ar eich rhybudd iasoer chi, os byddwn ni'n gadael yr UE ar ddiwedd mis Ionawr gyda chytundeb neu heb gytundeb fis Rhagfyr nesaf, sef cynllun Farage/Johnson wrth gwrs, yna ychydig iawn o amser fydd gennym i baratoi ein heconomi ar gyfer y storm ofnadwy sy'n debygol o ddeillio o hyn, sy'n waeth o lawer nag unrhyw beth a gyflawnodd Mrs Thatcher yn ei rhuthr i ddad-ddiwydiannu.
Rwy'n cytuno y gall byrddau gwasanaethau cyhoeddus fod yn bartneriaid allweddol i helpu i gymhwyso'r hyn sy'n gweithio ym mhob rhan o Gymru, ac mae'n beth ardderchog bod yr uchelgais hwnnw gennych chi, ond fe hoffwn i ofyn ichi hefyd am y gwaith y gallai'r cynghorau cymuned ei wneud hefyd. Ddoe, roedd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn craffu ar swyddogion y Llywodraeth ynghylch y swyddogaeth sydd wedi bod gan gynghorau cymuned a thref, ac rydym ni'n gwybod ers rhai blynyddoedd fod llawer gormod ohonyn nhw'n eistedd ar gyfalaf na chafodd ei wario. Anaml y maen nhw'n ymgynghori â'u cymunedau ac nid ydyn nhw'n manteisio ar y cyfleoedd y gallen nhw fod yn eu defnyddio i gryfhau eu heconomïau bychain eu hunain. Serch hynny, ddoe, fe glywsom ni am yr arferion da, er enghraifft, yn Gofal Solfach yn sir Benfro, sy'n darparu dull sy'n canolbwyntio mwy ar yr unigolyn o ran gofalu am bobl hŷn. Ac roedd yn hyfryd clywed bod cynghorau cymuned—. Rwy'n credu mai gweddol brin ydyn nhw, mae'n debyg, ond fe geir cynghorau cymuned sydd wedi sefydlu cynlluniau ynni adnewyddadwy sy'n eiddo i'r gymuned. Haleliwia. Sut yr ydym yn mynd i sicrhau bod pob cyngor cymuned yn meddwl ar hyd y trywydd hwn ac yn defnyddio'r cyfleoedd sydd ymhlyg yn yr adnoddau naturiol o'u cwmpas i gyfoethogi eu cymunedau lleol?
Diolch. Wel, er parch i rybudd y Dirprwy Lywydd, fe geisiaf i gadw fy ateb yn fyr. Rwy'n ymwybodol bod rhai cynghorau cymuned wedi gwneud cais i'r gronfa her, ond nid wyf yn credu bod unrhyw un wedi bod yn llwyddiannus. Roedd hon yn gronfa gystadleuol ac roedd yna lawer mwy o gynlluniau o ansawdd nag arian ar eu cyfer nhw, hyd yn oed ar ôl treblu'r gyllideb. Ond rwy'n credu, yn fy natganiad, fy mod i'n amlinellu'r her i fyrddau gwasanaethau cyhoeddus yn hyn o beth, ac fe ddylai byrddau gwasanaethau cyhoeddus gynnwys cynghorau cymuned. Rwy'n cytuno â'r pwynt a wnaeth Jenny Rathbone am y cyfraniad sydd ganddyn nhw i'w roi yn hyn o beth. Ac mae'r ffaith bod llawer ohonyn nhw'n gwneud cais yn dangos bod yr awydd yno ymysg rhai ohonyn nhw.
Rwy'n credu mai'r perygl sydd gennym o ran y byrddau gwasanaethau cyhoeddus yw eu bod nhw'n mynd yn ffatrïoedd strategaeth. Ac mae llawer iawn o amheuaeth nad ydyn nhw wedi cyflwyno unrhyw beth o sylwedd eto, ac rwy'n credu mai hwn fydd eu cyfle nhw. Bydd yn darged ymestynnol i rai ohonyn nhw, ond mae'n rhaid iddyn nhw brofi eu gwerth. Mae hon yn agenda sy'n gwbl gydnaws â'r mandad sydd ganddyn nhw. Ac felly rwy'n trafod gyda chomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol i ddatblygu rhai canllawiau ar y cyd i'n galluogi i fanteisio i'r eithaf ar botensial y byrddau gwasanaethau cyhoeddus i wneud yn fawr o'r agenda hon, a byddaf yn ystyried y pwynt a wnaeth am swyddogaeth cynghorau cymuned wrth inni ymaflyd yn y dasg honno.
Diolch, Dirprwy Weinidog, am eich datganiad. Rwy'n ofni bod llawer o'r hyn yr wyf i wedi ei ysgrifennu yma yn ailadrodd llawer o'r hyn yr ydych chi wedi ei ddweud, ond nid wyf am wneud esgusodion am hynny, oherwydd mae'n dangos ein bod ni i gyd yn meddwl yn yr un ffordd.
Felly, ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd yr economi sylfaenol, gyda ffigur ar gyfer y DU o 40 y cant o'r gweithlu, ac yn cyfrif am £1 am bob £3 yr ydym yn eu gwario. Ac fe gydnabyddir mai'r economi sylfaenol, mewn llawer o fannau, yw'r economi—y bwyd yr ydym ni'n ei fwyta, y cartrefi yr ydym ni'n byw ynddyn nhw, yr ynni a ddefnyddiwn ni, a'r gofal a gawn ni. Er gwaethaf y niferoedd a gaiff eu cyflogi, nodweddir y swyddi hyn yn aml gan gyflogau isel, patrymau cyflogaeth hynod fregus ac amodau gwaith drwg. Felly, mae'r rhain yn fethiannau y mae'n rhaid mynd i'r afael â nhw os yw'r economi sylfaenol hon am weithio. Nid oes unrhyw amheuaeth y byddai gan economi sylfaenol sydd wedi'i hadfywio y potensial i sicrhau budd cymdeithasol i bob cymuned ddifreintiedig, drwy ddarparu gweithgaredd economaidd wedi ei thargedu'n well sydd â'r potensial ychwanegol hefyd o gyflawni manteision amgylcheddol a hynny'n deillio o economi fwy lleol, lle mae nwyddau a gwasanaethau yn teithio llai o bellter.
Er y derbyniwyd yr economi sylfaenol yn eang, mae penderfyniad Llywodraeth Cymru yn ei chynllun gweithredu economaidd i gael pedwar sector yn unig—bwyd, manwerthu, twristiaeth a gofal—yn rhy gyfyng yn fy marn i. Oni ddylem ni fod wedi cynnwys adeiladu a chynhyrchu ynni yn hyn? Fe grybwyllwyd hynny yn eich datganiadau cynharach, ond ni wnaethoch ei gynnwys yn yr un diwethaf. Wrth gwrs, rydym yn croesawu'r arian a ddyrennir o dan y gronfa her, gan gyrraedd £3 miliwn, a'r dyraniad olaf ym mis Hydref, sef £1.077 miliwn, gan wthio'r cyfanswm dros £4 miliwn.
Yn eich cyhoeddiad chi heddiw, roeddech yn siarad am y drydedd elfen ac adeiladu'r canol coll ar gyfer cynyddu nifer y cwmnïau sydd â'u gwreiddiau mewn cymunedau lleol. Mae angen ichi sicrhau yn y lle cyntaf bod y seilwaith ar gael i alluogi nwyddau i symud yn gyflym ac yn effeithlon. Fe fyddai hyn nid yn unig yn annog cwmnïau newydd i ymsefydlu mewn cymunedau, ond fe fyddai hefyd yn hwyluso twf y rhai sydd yno eisoes. Fe all cynghorau lleol, fel y crybwyllwyd, fod â rhan fawr hefyd yn y gwaith o gadw pethau'n lleol drwy sicrhau bod tendrau o fewn cyrraedd microfusnesau lleol, efallai drwy eu torri i lawr yn fodiwlau, yn hytrach na thendrau mawr sy'n cael eu galw gan gwmnïau mawr yn unig, sydd, yn aml iawn, nid yn unig y tu allan i'r ardal, ond yn aml y tu allan i Gymru.
Rydym yn cydnabod bod cynnydd wedi bod o ran cryfhau'r economi sylfaenol yng Nghymru, ond ni ddylai hyn fod yn seiliedig ar ehangu'r sector cyhoeddus yn unig, ond ar feithrin y sector preifat hefyd. Gyda llaw, roeddech chi'n sôn na wnaiff hyn weithio, o bosibl, ac rwy'n credu, wrth wneud hynny, eich bod chi mewn perygl o fod yn wleidydd sy'n dweud y gwirionedd.
Diolch i chi am y sylwadau. Maen nhw'n dweud mai efelychu yw'r ffurf fwyaf didwyll ar weniaith. Felly, mae'r ffaith fy mod i mor gyfarwydd â chymaint o eiriau yn eich datganiad chi'n tystio i wirionedd hynny. Rwy'n gweld bod llawer o dir cyffredin yma. I fynd i'r afael â dau bwynt penodol a wnaethoch chi—roeddech chi'n sôn ein bod ni, yn y cynllun gweithredu economaidd, wedi nodi pedwar sector sylfaen, ac roeddech chi'n dweud bod hynny'n rhy gyfyng. Ac, fel y crybwyllais i yn fy natganiad, rwy'n credu bod y ffaith ein bod ni bellach wedi mynd y tu hwnt i hynny ac wedi gweithredu dull niwtral o ran sectorau, fel nad ydym wedi cyfyngu hyn i bedwar yn unig, ac na fydd y cynllun galluogi o ran yr economi sylfaenol yr ymrwymwyd iddo yn y Cynllun Gweithredu Entrepreneuriaeth yn cael ei gyfyngu i'r pedwar hwn yn unig ac y byddwn yn cymryd trosolwg ehangach, yn adlewyrchu'r ffaith bod ein meddylfryd ni wedi datblygu.
O ran y pwynt ynghylch a ddylai tendrau fod o faint hydrin, rwy'n cytuno'n llwyr, a dyna'r gwaith y mae Rebecca Evans, fel Gweinidog Cyllid, yn ei wneud ynglŷn â diwygio caffael er mwyn ei agor allan, ac uwchsgilio'r proffesiwn, i allu cynnig tendrau sy'n cynnwys cwmnïau bach. Mae un o'r prosiectau yr ydym ni'n eu hariannu drwy'r gronfa her gyda Chyngor Abertawe. Cynllun distadl iawn yw hwn, ond ei ddiben yw cynllunio a phennu contractau gan y Cyngor i wneud yn fawr o gyfleoedd i fusnesau bach gynnig am waith—er enghraifft, contractau sy'n seiliedig ar adeiladu. Ceir cais tebyg gan Gymdeithas Tai Gorllewin Cymru, sef Pobl, i agor ei waith allan i fasnachwyr unigol a phobl mân swyddi, fel rhan o'r gronfa arbrofol hefyd. Felly, rydym wedi bod yn monitro'r ddeubeth hynny'n ofalus, a holl ddiben y gronfa arbrofol yw ein bod ni'n rhoi cynnig ar y gwahanol bethau hyn, ac os ydyn nhw'n gweithio, fe fyddwn ni'n galw ar y byrddau gwasanaethau cyhoeddus i fabwysiadu neu gyfiawnhau hynny. Nawr, yn amlwg, nid ydym yn dweud y bydd popeth yn gweithio ym mhobman—ni allwch godi a symud rhywbeth sy'n gweithio mewn un ardal yn awtomatig i ardal arall. Ond rwyf i o'r farn y byddwn ni'n troi hynny ar ei ben, ac yn dweud wrth awdurdodau lleol, 'Mae hyn yn gweithio yma—mae angen ichi roi rheswm da i ni pam na allai hyn weithio gyda chi, neu rydym yn disgwyl i chi fabwysiadu'r arfer da hwnnw.'
Dirprwy Weinidog, fel y gwyddoch chi, rwyf i wedi bod yn bleidiol bob amser i'r economi sylfaenol, a pheth ardderchog iawn yw eich gweld chi nawr, yn aelod o Lywodraeth Cymru, yn gweithio i sefydlu rhai o'r syniadau y buom ni'n gweithio mor agos ar y meinciau cefn arnyn nhw.
Felly, rwy'n dal yma y fframwaith datblygu cenedlaethol drafft, y mae'r Prif Weinidog, yn y rhagair, yn ei ddisgrifio fel un sy'n nodi
'lle rydyn ni'n credu y dylen ni geisio tyfu a'r mathau o ddatblygiadau sydd eu hangen arnom dros yr ugain mlynedd nesaf i'n helpu ni i fod yn gymdeithas gynaliadwy a llewyrchus.'
Pan gaiff ei chwblhau, yn fy marn i, hon fydd y ddogfen bwysicaf a gaiff ei chynhyrchu gan y Llywodraeth. Felly, roedd yn syndod i mi weld nad oes unrhyw gyfeiriad at yr economi sylfaenol o fewn yr FfDC drafft o gwbl, ac mae hynny'n peri peth pryder i mi. Beth fyddai eich ateb chi i hynny?
Diolch yn fawr iawn. Ac mae'n rhaid i mi gydnabod y gwaith a wnaeth Vikki Howells, gyda nifer o gyd-Aelodau eraill, i gefnogi'r agenda hon hyd yn hyn. Ac rwy'n awyddus ein bod ni'n parhau i gydweithio arno, ac mae'n briodol bod y gwaith hwnnw'n waith heriol. Felly, rwy'n croesawu'r cwestiwn, sy'n nodi bod rhywfaint o waith eto i'w wneud o ran tynnu'r ysguboriau i lawr. Nid enghraifft unigryw mo'r FfDC; ceir rhai meysydd eraill o bolisi lle gellir gwneud mwy, yn fy marn i. Ein strategaeth ni o ran bwyd, er enghraifft—rwy'n credu bod lle i gynnwys agenda'r economi sylfaenol o fewn hyn i raddau helaethach na'r hyn a wneir ar hyn o bryd. A dyna'r hyn y bydd yn rhaid inni weithio drwyddo yn y Llywodraeth. Felly, rwy'n falch eich bod chi wedi codi'r pwynt arbennig hwnnw. Fe fyddaf i'n codi hynny'n benodol gyda'r Gweinidog, ac fe fyddaf i'n ysgrifennu atoch gyda'r ateb.
Rwy'n credu y caiff hyn ei groesawu nid yn unig gan bob un o'r cyd-Aelodau Llafur yn y fan hon, ond gan gyd-Aelodau Llafur a Phlaid Cydweithredol Cymru hefyd. Mae'r syniad o ddatblygu mentrau i ennill cyfoeth cymunedol sy'n cael eu gwreiddio'n ddwfn yn eich cymuned yn rhywbeth yr ydym ni wedi ei gefnogi ers amser maith. Felly, roeddwn i'n awyddus i holi am ddau faes penodol yr hoffwn i'r Gweinidog ymhelaethu arnyn nhw'n fras—mae Project Skyline a wahoddwyd yma gennym ni'n ddiweddar yn un. Roedd yr enghreifftiau cychwynnol a gafodd eu cefnogi ganddyn nhw yng Nghaerau, Treherbert ac Ynysowen. Fe gafodd rhywfaint o'r arian ei roi tuag at adeiladu ar hyn nawr, a'i ddatblygu. Syniad cyffrous iawn yw y gall cymunedau, ym mhob peth y gallant ei weld yn eu cwm nhw, gyfrannu at y gwaith o'u rheoli a'u perchenogi a chynhyrchu'r enillion a ddaw, ac ail-fuddsoddi yn eu cymunedau nhw. Felly, tybed a allai ymhelaethu rhywfaint, a sut y gallem ni fwrw ymlaen â hynny? Dyna un sydd fel pe bai'n barod am y ffwrn, ar un ystyr—fel y byddai ambell i wleidydd arall yn defnyddio'r un ymadrodd hwnnw yn ddisymwth nawr.
Yr un arall yw, pe byddai mentrau eraill, mentrau yn y gymuned, a fyddai'n awyddus i ddatblygu syniadau cyffelyb—felly, er enghraifft, mae gennyf i gwmni lleol, sy'n defnyddio llawer iawn o ynni, sy'n fodlon rhoi rhodd o dir a'u hegni a'u gwres sydd dros ben er mwyn gwneud rhywbeth hollol wahanol i'r hyn y maen nhw'n ei wneud: mentrau garddwriaethol, sy'n cael eu rhedeg gan fentrau cymdeithasol, ar garreg eu drws. Mae'n rhywbeth yr ydym ni wedi siarad amdano ers tro, o ran rhwydweithiau bwyd lleol a thyfiant yng nghymoedd y de. Sut fydden nhw'n cymryd rhan yn y dull hwn o weithredu drwy'r economi sylfaenol, sy'n seiliedig ar y grwpiau buddiant cymunedol hynny, mentrau cydweithredol, perchenogaeth gweithwyr, ac ati? Sut y gallen nhw ddechrau bwrw ymlaen â hyn, hyd yn oed, o fewn y fframwaith a luniodd ef?
Ac yn olaf, Gweinidog, fe fuoch chi mor ddewr â dweud efallai na fydd hyn yn gweithio. Fe fyddwn i'n dweud wrthych chi: yn gyntaf, nid wyf i erioed wedi clywed Gweinidog yn dweud hynny o'r blaen, ond rwy'n credu, wrth roi cynnig ar y pethau hyn, ac yna gymhwyso'r egwyddorion cydweithredol—sef profi ei fod yn gweithio, a chynyddu wedyn a dysgu eraill sut i wneud yr un fath—y bydd hyn yn gweithio.
Diolch yn fawr iawn i chi. I ymdrin â'r pwyntiau hyn yn gyflym, mae Project Skyline yn brosiect cyffrous iawn yn fy marn i. Y cam cyntaf, fel y gwyddoch chi, oedd cael astudiaeth ddichonoldeb yn edrych ar sut y gallai cymunedau reoli'r dirwedd sy'n amgylchynu eu tref neu eu pentref nhw. Ac fe weithiodd cwmni buddiannau cymunedol y Cymoedd Gwyrdd gyda Treherbert, Ynysowen a Chaerau. Nawr, maen nhw wedi llwyddo i gyflwyno cais i'r gronfa hon, ar gyfer y cam nesaf, gan weithio gyda Croeso i'n Coetiroedd, i edrych ar Ynysowen a Chaerau, a chymryd hynny i'r cam datblygu nesaf. Ac mae hwn yn brosiect arbrofol ailadroddol ynddo'i hunan. Felly, rwy'n falch iawn eu bod nhw wedi dod ohoni'n llwyddiannus, ac fe fyddaf i'n gwylio'r prosiect hwnnw gyda diddordeb.
O ran garddwriaeth, rwy'n cytuno bod yna botensial aruthrol. Fe fyddaf i'n cwrdd yn fuan, rwy'n gobeithio, â Phrifddinas-ranbarth Caerdydd i drafod sut y gallwn ni weithio gyda'n gilydd i edrych ar botensial garddwriaeth, yn enwedig o fewn tasglu'r Cymoedd. Mae tasglu'r Cymoedd wedi gwneud ei gyfraniad sylweddol ei hun i'r gronfa arbrofol, ac felly mae nifer o brosiectau arbrofol wedi cael eu clustnodi yn ardal y Tasglu. Rydym yn sefydlu, gyda chymorth Josh Miles o'r Ffederasiwn Busnesau Bach, un o is-grwpiau tasglu'r Cymoedd i edrych ar gwmnïau sydd wedi ei gwreiddio a'r economi sylfaenol i ystyried sut y gallwn ni gael ffocws penodol ar y Cymoedd. Felly fe fyddwn i'n annog yr Aelod i roi mwy o wybodaeth imi am y cwmni y soniodd ef amdano i weld a oes yna botensial inni ddatblygu hynny ymhellach.
Diolch. Ac yn olaf, Dawn Bowden.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Yn sicr, Dirprwy Weinidog, rwy'n croesawu'r camau yr ydych eisoes wedi'u cymryd, yn enwedig ar y cyd â thasglu'r Cymoedd i fuddsoddi ac i ledaenu'n gyflym yr arferion gorau a'r arloesedd a gawn yn yr economi sylfaenol. Nid wyf am fynd drwy fy holl raglith, oherwydd fy mod yn ymwybodol o gyfyngiadau amser, ond gwn fod rhai o'r buddiolwyr yn y rownd ariannu cychwynnol yn brosiectau a arweinir gan Sefydliad Bevan, ac maen nhw'n cynnwys datblygu melin drafod adfywio cymunedol mewn partneriaeth â TUC Cymru i helpu i gynyddu gwaith teg mewn busnesau yn y sector sylfaenol, ac rwy'n mynd i gadw golwg brwd ar hynny, oherwydd fy mod i'n gwybod beth yr hoffwn ei weld yn digwydd o ganlyniad i hynny. Ond a wnewch chi ddweud mwy wrthym am eich disgwyliadau o'r prosiect hwn a'r manteision yr ydych yn credu y gall eu darparu i gymunedau yng Nghymoedd De Cymru?
Wel, fel y dywedais, mae gan yr arian yr ydym wedi ei gyhoeddi eisoes, er enghraifft y £10 miliwn drwy dasglu'r Cymoedd ar gyfer dechrau defnyddio tai gwag eto, ac oherwydd ein bod wedi bwriadu ehangu hynny i ystyried siopau gwag hefyd, botensial enfawr o fewn yr economi sylfaenol ar gyfer busnesau sefydledig, oherwydd cwmnïau lleol fydd yn gwneud y gwaith hwnnw yn bennaf. Es i gyda Vikki Howells i Ynysybwl i weld un o'r prosiectau cyntaf a ariannwyd o dan y prosiect hwnnw, ac roedd yn amlwg o'r enghraifft honno taw crefftwyr lleol oedd wedi gwneud y gwaith. Felly, rwy'n meddwl bod potensial mawr yn y gwaith yr ydym yn ei wneud o dan y prosiect hwn, ac yn y gwaith cysylltiedig drwy dasglu'r Cymoedd, yr ydym, fel rwy'n ei ddweud drwy'r grŵp traws-lywodraethol hwn, yn ceisio edrych arno yn un peth.
Rydych yn sôn am waith Sefydliad Bevan a'r cyllid y mae wedi ei gael ar gyfer TUC Cymru. Mae dau brosiect wedi'u hariannu. Yr hyn rwy'n ei ddisgwyl o hynny yw her i'r agenda hon. Nid yw hon yn agenda hawdd na llipa. Mae rhai problemau gwirioneddol anodd o ran polisi yn yr agenda hon a rhai materion dyrys. Y farn draddodiadol yw bod yr economi sylfaenol yn cael ei nodweddu gan gyflogau isel, cynhyrchiant isel, a diwydiannau a gweithgareddau â gwerth isel, ac yn hytrach na cheisio eu cynnal, dylem ni fod yn ceisio mynd i'r gwrthwyneb, a fyddai'n golygu y bydd cwmnïau'n tyfu'n gyflym a chynhyrchiant yn uchel. A fy ymateb i hynny yw, 'Nid ydym yn dymuno tyfu'r economi sylfaenol fel y mae, rydym yn dymuno newid yr economi sylfaenol.' Nid oes unrhyw wrthddweud yn fy marn i. Nid wyf yn gweld pam na ellir bod arloesedd cynhyrchiant uchel o fewn yr economi sylfaenol. Nid wyf yn gweld pam na ellir bod deallusrwydd artiffisial a roboteg yn yr economi sylfaenol. Ond mae yna fater yn ymwneud â gwaith teg a chyflogau isel a diffyg trefniadaeth a chydnabyddiaeth gan weithwyr sy'n nodweddu sawl rhan o'r economïau hyn, ac mae hynny'n rhywbeth, drwy'r gwaith hwn, mae angen i ni ei herio.
Y gwaith a wnaeth Preston, er enghraifft, wrth nodi'r sefydliadau angori lleol—roedd pump o'r chwe sefydliad angori lleol a nodwyd drwy'r gwaith hwnnw yn gyflogwyr cyflog byw yn y pen draw. Felly, rwy'n ystyried bod hyn yn gwella'n wirioneddol y ffordd y mae'r rhan honno o'r economi'n gweithio. Ond yn sicr, mae'n rhaid i ni gydnabod, ar hyn o bryd, nad yw sawl rhan o'r economi sylfaenol fel y byddwn yn dymuno iddyn nhw fod. Felly, rwyf am i hyn fod yn rym aflonyddgar o fewn yr economi sylfaenol, nid un cyfforddus.
Diolch yn fawr, Gweinidog.
Eitem 4 ar yr agenda y prynhawn yma yw Gorchymyn Draenio Cynaliadwy (Gorfodi) (Cymru) (Diwygio) 2019, a galwaf ar y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i gynnig y cynnig—Lesley Griffiths.
Cynnig NDM7200 Rebecca Evans
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn Draenio Cynaliadwy (Gorfodi) (Cymru) (Diwygio) 2019 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Tachwedd 2019.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Yn dilyn ymgynghoriad eang, cyflwynwyd gofyniad gorfodol i ddarparu systemau draenio cynaliadwy ar ddatblygiadau newydd yng Nghymru o 7 Ionawr eleni. Bydd SuDS, fel y'u gelwir yn fwy cyffredin, yn cynnig sawl budd o ran lleihau'r risg o lifogydd, ailddefnyddio dŵr glaw, ansawdd dŵr, lles a bioamrywiaeth. Rwyf yn falch mai ni yw'r wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno SuDS gorfodol ar bob datblygiad newydd.
Mae'r llifogydd diweddar mewn rhannau o'r DU yn dangos bod angen i ni fod yn wyliadwrus ac yn arloesol o ran sut yr ydym yn delio â glawiad gormodol, sydd dim ond yn debygol o waethygu o ganlyniad i newid hinsawdd. Roedd y Gorchymyn Gorfodi gwreiddiol yn un o bum darn o is-ddeddfwriaeth a wnaed gan y Cynulliad Cenedlaethol i weithredu'r darpariaethau SuDS yn Atodlen 3 i Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010.
O dan Ddeddf 2010, mae angen cymeradwyaeth cyn y gall rhywun ddechrau adeiladu systemau draenio ar safleoedd newydd a rhai sydd wedi'u hailddatblygu. Mae Gorchymyn Draenio Cynaliadwy (Gorfodi) (Cymru) (Diwygio) 2018 yn darparu ar gyfer gorfodaeth ar dorri'r gymeradwyaeth sy'n ofynnol mewn cysylltiad â systemau draenio. Mae'r Gorchymyn yn gwneud darpariaeth i'r corff cymeradwyo SuDS i arfer pwerau mynediad a dyroddi hysbysiadau gorfodi neu hysbysiadau atal i ddatblygwr sy'n torri'r gofyniad am gymeradwyaeth.
Fodd bynnag, ar ôl ei weithredu, daeth yn amlwg bod angen mân ddiwygiad i erthygl 21 o Orchymyn 2018 er mwyn sicrhau ei fod yn cyd-fynd â newidiadau diweddar i ddeddfwriaeth gorfodi arall. Mae erthygl 21 yn cyfyngu ar y dirwyon y gellir eu gosod mewn achos diannod am y drosedd o fethu â chydymffurfio â hysbysiad atal dros dro, hysbysiad gorfodi neu hysbysiad atal, hyd at uchafswm o £20,000.
Drafftiwyd Gorchymyn 2018 cyn i adran 85(1) o Ddeddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012 gael ei roi ar waith, ond ni roddwyd y ddeddf ar waith tan ar ôl hynny, felly ni chafodd ei ddal gan y ddarpariaeth honno. Dileodd Deddf 2012 y terfyn uchaf ar y dirwyon y gallai llysoedd ynadon eu gosod ar gyfer bron pob trosedd. I ddarparu cysondeb â throseddau eraill o natur debyg, cynigir y dylid newid y terfyn o £20,000 i 'ddirwy' yn unig, gan alluogi llysoedd ynadon i osod dirwy ddiderfyn. Mae hyn yn gyson â'r geiriad a ddefnyddir mewn diwygiadau i ddeddfwriaeth arall a wneir gan Ddeddf 2012.
Mae'n bwysig bod trefniadau gorfodaeth priodol yn ategu'r drefn SuDS, a chymeradwyaf y Gorchymyn hwn i'r Cynulliad Cenedlaethol.
Diolch. A gaf i alw ar Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, Mick Antoniw?
Diolch, Dirprwy Lywydd. Fe wnaethom ni ystyried y Gorchymyn hwn yn ein cyfarfod ar 18 Tachwedd, a gosodwyd ein hadroddiad gerbron y Cynulliad ar 19 Tachwedd. Roedd ein hadroddiad wedi nodi un pwynt rhinwedd o dan Reol Sefydlog 21.3, a gododd bryder nad oedd y memorandwm esboniadol a oedd ynghlwm wrth yr offeryn mor glir ag y gallai fod, yn benodol mewn cysylltiad â chyfyngiadau dirwyon ar gyfer troseddau. Rydym yn nodi bod Llywodraeth Cymru, yn ei hymateb i'n hadroddiad, yn cydnabod y diffyg eglurder hwn, ac rydym ni hefyd yn croesawu'r ffaith bod fersiwn wedi'i diweddaru o'r memorandwm esboniadol wedi ei hailgyflwyno ers hynny. Diolch, Dirprwy Lywydd.
Llyr Gruffydd. Na. Mae hynny'n iawn. Mark Reckless.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rydym yn sôn am sut yr ydym yn awyddus i adeiladu a chodi mwy o dai yng Nghymru, i ddarparu tai ac i gynhyrchu twf economaidd, ond y realiti yw ein bod yn rhoi mwyfwy o gyfyngiadau ac amodau ar yr hyn y mae'n rhaid i ddatblygwyr ei wneud cyn y caniateir iddyn nhw ddatblygu. Mae gofynion draenio trefol cynaliadwy wedi bod yn un o'r rhain.
Pan oeddwn yn eistedd ar Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, roeddem ni'n ystyried adeiladwyr tai bach a chanolig eu maint a fe wnaethom ni dderbyn tystiolaeth a oedd yn pwysleisio'r gofynion draenio fel problem benodol. Mewn llawer o achosion, roedd angen trefniadau draenio a oedd yn barhaus ac yn gofyn am reolaeth ystâd a gwaith rheoleiddio sylweddol iawn a oedd yn ychwanegu llawer o gost at y datblygiadau. Roedd cwynion sylweddol iawn hefyd ynglŷn â Dŵr Cymru—gwrthwynebodd Dŵr Cymru rheini. Ond rwy'n nerfus ynglŷn â chael mwyfwy o ofynion, a dirwyon mwy ac ehangach, sydd yn golygu bod rheoleiddwyr yn lleihau pa mor hawdd y gall pobl adeiladu'r tai a'r datblygiadau sydd eu hangen arnom ni.
Rwy'n falch bod y newid yn cael ei wneud i'r nodyn esboniadol a nodwyd gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, a hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol am eu gwaith yn nodi'r gofyniad hwnnw ar gyfer y newid yn y nodyn esboniadol, ond byddwn i'n cwestiynu'r ddirwy ddiderfyn. Os oes cyfres o faterion adnabyddus lle mae datblygwyr wedi gweld £20,000 fel cost o wneud busnes ac wedi gwneud pethau gwirioneddol dybryd, ac mae problem y mae angen i ni fynd i'r afael â hi, iawn, ond awgrymir, 'O wel, mae angen i ni fod yn gyson â'r pethau eraill hyn—mae'r angen hyn i wneud hyn', ac nid wyf wedi fy argyhoeddi bod yr angen hwnnw yno.
Ond rwy'n fodlon gwrando ar ymateb y Gweinidog a byddwn yn gofyn iddi'n benodol i egluro yr awdurdodau a all roi'r hysbysiadau stop cychwynnol—y 22 awdurdod lleol—. A wnaiff hi egluro—awdurdodau'r parciau cenedlaethol, Dŵr Cymru—? A yw Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd yn cael gwneud hyn? Beth yw'r cwmpas? A fydd unrhyw ddirwy yn ofyniad gan lysoedd yr ynadon ac yn cael ei hasesu'n annibynnol cyn y byddai'n rhaid i'r datblygwr dalu? Edrychaf ymlaen at glywed ymateb cyn i ni ystyried ein sefyllfa o ran pleidleisio. Diolch.
Y cyfan yr oeddwn i am ei ofyn oedd sut y bydd y rheoliad hwn—diwygiad i'r rheoliad—yn gwneud yn siŵr bod dull cymesur o weithredu, a bod dull rhesymol yn cael ei ddefnyddio ar gyfer dirwyon a chosbau. Rwy'n anghytuno â'r pwynt y mae Mark wedi'i wneud; rwy'n credu bod systemau SuDS yn gwbl hanfodol bellach—rydym wedi dysgu hyn, mae'n rhaid iddyn nhw fod ar waith, ac mae'n iawn bod yna lefel gymesur, o ran lefel briodol uchel, i atal camddefnydd SuDS trwy beidio â mynd ati yn y ffyrdd priodol hefyd. Ond, eto, rwy'n meddwl i roi rhywfaint o sicrwydd i'r gymuned adeiladu tai fod yna ryw ffordd y mae'r broses hon yn mynd drwy rwystrau a gwrthbwysau, felly ni fydd yn cael ei defnyddio mewn unrhyw ffordd fympwyol, ond mae'r rheini sy'n dewis peidio â chydymffurfio â'r rheoliadau SuDS—a bydd rhai o'r rhain yn adeiladwyr o faint sylweddol, nid busnesau bach a chanolig eu maint yn unig; gallen nhw fod yn gwmnïau adeiladu mawr—mae ganddyn nhw rywbeth a fydd yn eu hatal rhag peidio â chydymffurfio â'r rheoliadau SuDS sydd ar waith. Ond hoffwn bwysleisio i'r Gweinidog fy mod i'n credu bod y rheoliadau SuDS yr ydym wedi'u sefydlu yn gwbl angenrheidiol yn y cyfnod sydd ohoni, nid yn faich i'w osgoi neu i betruso yn ei gylch—rhaid iddyn nhw fod ar waith oherwydd y llwyth sydd ar ein systemau dŵr a charthffosiaeth erbyn hyn.
A gaf i alw ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i ymateb i'r ddadl? Lesley Griffiths.
Diolch, a diolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau. Rwy'n credu ei fod yn gwbl hanfodol ein bod ni'n darparu seilwaith draenio i ateb y galw sydd arno, gan hefyd leihau'r perygl o lifogydd a diogelu ansawdd dŵr a darparu ystod ehangach o fuddion cymunedol, fel yr oedd Huw Irranca-Davies yn cyfeirio ato.
Rwyf i wir yn gobeithio, wrth ateb pryderon pobl eraill, fod datblygwyr a chyrff cymeradwyo SuDS yn gweithio gyda'i gilydd i sicrhau nad oes angen cymryd camau gorfodi ac, yn sicr, byddwn yn gobeithio y byddai'r cymeradwyaethau cychwynnol y ceisir amdanyn nhw yn sicrhau na fydd hynny'n digwydd.
O ran y dirwyon—ynglŷn â bod yn gymesur, wrth gwrs, mae hynny'n bwysig iawn. Eto, rwy'n credu bod graddfa'r ffioedd y codir tâl amdanyn nhw ar gyfer cymeradwyaeth SAB wedi'i nodi yn y rheoliadau, felly gellid priodoli unrhyw symiau mwy a gafwyd i'r defnydd o ymgynghorydd trydydd parti. Nid ydyn nhw wedi eu rheoli gan y gyfundrefn reoleiddio ar gyfer SuDS, ond eto rwy'n credu y bydd cymryd rhan mewn trafodaethau cynnar gyda'r awdurdod cynllunio a'r SAB yn rhoi eglurder i'r datblygwr o ran y gofynion dylunio ar gyfer y safle, gan gadw eu costau manylion dylunio mor isel â phosibl.
Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw cytuno ar y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriwn y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Eitem 5 ar yr agenda yw Rheoliadau Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Rhif 3) 2019, ac unwaith eto, galwaf ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i gynnig y cynnig hwnnw — Lesley Griffiths.
Cynnig NDM7201 Rebecca Evans
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Rhif 3) 2019 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Hydref 2019.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch. Cynigiaf y cynnig. Mae'r rheoliadau diwygio yn mynd i'r afael â diffygion yn y rheoliadau domestig canlynol o ganlyniad i ymadawiad y DU â'r UE, gan gynnwys trefniadau trosiannol, ychwanegu diffiniadau a diweddaru cyfeiriadau at Reoliadau'r UE: Rheoliadau Marchnata Cynnyrch Garddwriaethol Ffres (Cymru) 2009; Rheoliadau Wyau a Chywion (Cymru) 2010; Rheoliadau Cig Dofednod (Cymru) 2011; Rheoliadau Bwyd (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2019, sy'n diwygio Rheoliadau Labelu Cig Eidion a Chig Llo (Cymru) 2011; a Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2019, sy'n ychwanegu darpariaethau trosiannol at Reoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014.
Mae rheoliadau 2 a 5 yn diwygio Rheoliadau Marchnata Cynnyrch Garddwriaethol Ffres (Cymru) 2009 a Rheoliadau Labelu Cig Eidion a Chig Llo (Cymru) 2011 yn y drefn honno. Mae'r rheoliadau hynny yn gosod ac yn diwygio darpariaethau trosiannol er mwyn sicrhau bod busnesau'n cael cyfnod gras o 21 mis i addasu i newidiadau labelu sy'n deillio o'r ffaith ein bod yn ymadael â'r UE, ac felly'n rhoi cyfle teg i gynhyrchwyr addasu i'r newidiadau heb gyflawni trosedd yn ddiangen.
Mae rheoliad 3 yn diwygio Rheoliadau Wyau a Chywion (Cymru) 2010, sy'n gwneud darpariaeth ar gyfer gorfodi a chyflawni safonau marchnata sy'n gymwys i wyau deor, cywion dofednod fferm ac wyau yn eu plisgyn ar gyfer eu bwyta gan bobl. Mae diffiniad o 'trydydd gwlad' wedi'i ychwanegu ac mae cyfeiriadau at ddeddfwriaeth yr UE a thelerau na fydd bellach yn briodol neu'n berthnasol ar ôl y diwrnod ymadael wedi eu dileu o'r Atodlenni.
Mae rheoliad 4 yn diwygio Rheoliadau Cig Dofednod (Cymru) 2011, sy'n gwneud darpariaeth ar gyfer gorfodi a gweithredu safonau marchnata sy'n gymwys i gig dofednod. Mae'r diwygiad yn gosod diffiniad o 'trydydd gwlad' yn rheoliad 2(1) o reoliadau 2011. Yn olaf, mae rheoliad 6 yn diwygio darpariaeth drosiannol a ychwanegwyd at Reoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014. Mae'r newid yn rhoi mwy o sicrwydd ynghylch sut y mae hyn yn berthnasol i gynhyrchion a osodir ar y farchnad cyn y diwrnod ymadael ac yn dilyn y diwrnod ymadael yn ogystal â gwahaniaethu rhwng trin cynnyrch gwin a chynnyrch penodol arall yn ystod y cyfnod trosiannol. Daw rheoliadau 1 i 4 i rym ar y diwrnod ymadael. Daw rheoliadau 5 a 6 i rym yn syth cyn y diwrnod ymadael.
Diolch. A gaf i alw ar Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol? Mick Antoniw.
Diolch. Fe wnaethom ni ystyried y rheoliadau hyn yn ein cyfarfod ar 11 Tachwedd a gosodwyd ein hadroddiad gerbron y Cynulliad ar 12 Tachwedd. Yn yr un modd â'n gwaith o graffu ar bob offeryn statudol, rydym yn eu hystyried mewn cysylltiad â'r meini prawf a nodir yn ein Rheolau Sefydlog 21.2 a 21.3. Yn achos y rheoliadau hyn, dim ond un pwynt o dan Reol Sefydlog 21.3(ii) a nodwyd yn ein hadroddiad, sef bod y rheoliadau wedi'u gwneud o dan y weithdrefn gadarnhaol ‘gwnaed’. Nodwyd mai hwn oedd y tro cyntaf i Weinidogion Cymru ddefnyddio'r weithdrefn frys o dan baragraff 7 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, a bod hyn wedi ei wneud er mwyn paratoi ar gyfer ymadawiad disgwyliedig y DU â'r Undeb Ewropeaidd ar 31 Hydref 2019 ar y pryd. Hoffwn hefyd fanteisio ar y cyfle i ddweud ein bod wedi nodi'r un pwynt yn ein hadroddiad ar y Rheoliadau Iechyd a Lles Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â'r UE) (Diwygio) 2019, sydd hefyd yn cael eu hystyried y prynhawn yma fel eitem 6, ond wnaf i ddim sylw pellach ynglŷn â hyn. Diolch.
Diolch. A gaf i alw ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i ymateb?
Na.
Na. Diolch. Y cynnig yw cytuno ar y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 6 yw Rheoliadau Iechyd a Lles Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2019, ac, unwaith eto, galwaf ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i gynnig y cynnig. Lesley Griffiths.
Cynnig NDM7199 Rebecca Evans
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Iechyd a Lles Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Diwygio) 2019 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Hydref 2019.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch. Mae'r rheoliadau diwygio hyn yn effeithio ar ddau ddarn o ddeddfwriaeth ddomestig: Rheoliadau Iechyd a Lles Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2019 a Rheoliadau Lles Anifeiliaid Adeg Eu Lladd (Cymru) 2014. Gwnaed diwygiadau yn Rheoliadau Iechyd a Lles Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2019 a oedd yn dileu'r angen i'r awdurdod cymwys yng Nghymru gydnabod tystysgrifau cymhwysedd a gyhoeddwyd gan aelod-wladwriaethau eraill yr UE fel petaent wedi eu cyhoeddi yng Nghymru. Mae angen tystysgrifau cymhwysedd er mwyn lladd anifeiliaid neu gyflawni gweithrediadau cysylltiedig mewn lladd-dy. Mae'r rheoliadau hyn yn gwneud darpariaethau sy'n atodol i'r rhai a wneir gan reoliad 5(2) o Reoliadau Iechyd a Lles Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2019, sy'n diwygio rheoliad 3(1) o Rheoliadau Lles Anifeiliaid Adeg Eu Lladd (Cymru) 2014. Bydd y gwelliant hwn yn darparu y bydd tystiolaeth o hyfforddiant ac archwiliad y gellir ei dderbyn gan awdurdod cymwys yng Nghymru wrth roi tystysgrif cymhwysedd yn cynnwys hyfforddiant ac archwiliad cymeradwy a gynhelir yng Ngweriniaeth Iwerddon. Mae'r diwygiad hwn yn cynnal ymrwymiadau Llywodraeth Cymru mewn cysylltiad ag ardal deithio gyffredin y DU-Iwerddon, sy'n darparu'r hawl i ddinasyddion Gwyddelig weithio yn y DU a sicrhau bod eu cymwysterau proffesiynol yn cael eu cydnabod.
Diolch. Nid oes gennyf siaradwyr ar gyfer y ddadl, felly y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 7, Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol a’u Symud ar draws Ffin) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Rhif 2) 2019. Eto, galwaf ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i gynnig y cynnig hwnnw. Lesley Griffiths.
Cynnig NDM7198 Rebecca Evans
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol a’u Symud ar draws Ffin) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Rhif 2) 2019 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Tachwedd 2019.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Cynigiaf y cynnig. Mae'r rheoliadau diwygio hyn yn effeithio ar dri darn o ddeddfwriaeth Gymreig: Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Rhif 2) 2002, Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Symud Ar Draws Ffin) (Cymru) 2005, a Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol a’u Symud ar draws Ffin) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Rhif 2) 2019.
Mae rheoliadau 2 a 3 yn gwneud amryw o ddiwygiadau i gywiro methiannau o ran cyfraith yr UE a gadwyd yn ôl i weithredu'n effeithiol a diffygion eraill sy'n deillio o ymadael â'r UE. Mae hyn yn dilyn pwyntiau technegol a godwyd gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn ei adroddiad ar 13 Mawrth 2019, fel y nodwyd yn y memorandwm esboniadol sy'n cyd-fynd ag ef. Mae'r rheoliadau diwygio yn sicrhau bod yr angen am ganiatâd ymlaen llaw ar y prosesau presennol ar gyfer rhyddhau a marchnata organeddau a addaswyd yn enetig yn parhau. Dim ond os bydd asesiad sy'n seiliedig ar wyddoniaeth yn dangos nad yw diogelwch iechyd pobl neu'r amgylchedd yn cael ei beryglu y rhoddir caniatâd o'r fath. Hefyd, mae rheoliad 4 o'r rheoliadau diwygio hyn yn gwneud dirymiadau sy'n angenrheidiol er mwyn i reoliadau 2 a 3 fod yn effeithiol. Bydd ein dull o ryddhau organeddau a addaswyd yn enetig yn gyson â'r hyn a ddefnyddir yn Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban.
Diolch. Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, Mick Antoniw.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Yn dilyn ein hystyriaeth ar 18 Tachwedd o'r rheoliadau hyn, fe welwch fod y pwyllgor—sy'n amlwg yn bwyllgor cyffrous iawn—wedi cyflwyno adroddiad gerbron y Cynulliad a oedd yn nodi'r pwyntiau technegol a rhagoriaeth o gymharu â'r meini prawf a nodir yn Rheolau Sefydlog 21.2 a 21.3. Mae'r rheoliadau hyn yn cyfeirio at wahanol ddarnau o ddeddfwriaeth yr UE, y mae'r rhan fwyaf ohonynt wedi'u diwygio, felly byddent yn gweithredu'n effeithiol yng nghyfraith y DU ar ôl y diwrnod ymadael. Fodd bynnag, fe wnaethom ni sylwi nad yw'n ymddangos bod un penderfyniad gan y cyngor o 2002 wedi ei ddiwygio. Yn ein pwynt adrodd cyntaf, fe wnaethom ni ofyn felly am esboniad gan Lywodraeth Cymru. Yn ei hymateb, dywedodd na ddylai methu â diweddaru deddfwriaeth yr UE achosi dryswch ac mai Llywodraeth y DU sydd fel arfer yn gorfod diweddaru deddfwriaeth yr UE yn y modd hwn. Fe'n cynghorwyd y bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn codi'r mater gydag Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig i ystyried a oes o bosib, angen unrhyw newidiadau, ac rydym ni'n croesawu'r camau gweithredu hyn.
O dan Reol Sefydlog 21.3, fe wnaethom ni nodi tri phwynt lle'r oeddem ni o'r farn bod angen eglurhad pellach. Mae ein dau bwynt rhagoriaeth cyntaf yn ymwneud â chyfeiriadau yn y rheoliadau sy'n cael eu diwygio. Mae'r rheoliadau hyn yn diwygio rheoliadau o 2002, ac o ganlyniad, ceir cyfeiriadau nawr at Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Gweinidogion Cymru pan fyddant, o dan yr amgylchiadau hyn, yn golygu'r un peth.
Fe wnaethom ni hefyd sylwi ar ddefnydd cymysg o 'shall' a 'must' yn rheoliadau 2002. Er nad ydym ni'n credu bod hyn yn achosi i reoliadau 2002 fod yn ddiffygiol mewn unrhyw ffordd, nodwn, lle mae cyfeiriadau cymysg yn parhau, fod y posibilrwydd o ddryswch yn parhau felly hefyd. Rydym ni wedi nodi bod ymateb Llywodraeth Cymru i reoliadau 2019 yn ymdrin ag ymadroddion nad ydynt yn berthnasol bellach o ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru a 'shall', lle bo'n ymarferol.
O ran y sylw olaf, nododd fod y memorandwm esboniadol yn cynnwys diffiniad anghywir o'r diwrnod ymadael. Fe wnaethom ni nodi ymateb Llywodraeth Cymru i'r pwynt hwn a chydnabod yr ailgyflwynwyd y memorandwm esboniadol ers hynny. Diolch, Dirprwy Lywydd.
Diolch. Nid oes gennyf unrhyw siaradwyr. Galwaf ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i ymateb. Na? Diolch. Y cynnig yw cytuno ar y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 8 ar ein hagenda y prynhawn yma yw dadl ar egwyddorion cyffredinol y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru), a galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gynnig y cynnig—Vaughan Gething.
Cynnig NDM7203 Vaughan Gething
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:
Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru).
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwy'n fodlon cynnig y cynnig sydd ger ein bron heddiw a'r ddadl ar egwyddorion cyffredinol y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru), a gyflwynais ar 17 Mehefin eleni.
Hoffwn ddiolch ar goedd i'r holl randdeiliaid ac aelodau'r cyhoedd a fu'n ymgysylltu â ni ac a gyfrannodd at ein syniadau. Mae'r Bil yn adlewyrchu canfyddiadau'r adolygiad seneddol o 2017, a ganfu fod angen pwyslais parhaus ar ansawdd yn gyffredinol a llais cryfach i'r dinesydd. Mae'n atgyfnerthu ein blaenoriaethau a nodir yn 'Cymru Iachach', ein cynllun hirdymor ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol. Mae'n amlinellu sut y bydd ansawdd yn allweddol i wneud y system iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru yn addas ar gyfer y dyfodol ac yn un sy'n cyflawni gwerth. Mae amcanion y Bil yn mynd i'r afael â phedwar mater a ddyluniwyd i sicrhau bod dinasyddion Cymru wrth wraidd gwasanaethau o ansawdd uchel.
Y cyntaf yw'r ddyletswydd ansawdd. Mae hyn yn mynd at wraidd yr hyn yr ydym ni'n ceisio ei gyflawni. Mae'r ddyletswydd yn fwy na newid diwylliannol yn unig. Mae'n ei gwneud hi'n ofynnol i gyrff y GIG a Gweinidogion Cymru feddwl a gweithredu'n wahanol drwy gymhwyso'r cysyniad o ansawdd a chanlyniadau gwell, nid yn unig i'r gwasanaethau a ddarperir, ond i'r broses gyfan ac ym mhob un o'r swyddogaethau, yng nghyd-destun anghenion iechyd a lles ein poblogaeth.
Mae'r Bil yn cyflwyno dyletswydd gonestrwydd a fydd yn cefnogi mwy o ddidwylledd, tryloywder, a datblygiad parhaus diwylliant dysgu ledled ein GIG. Mae'r Bil hefyd yn moderneiddio ac yn cryfhau'r ffordd y caiff llais y dinesydd ei glywed. Bydd corff newydd llais y dinesydd yn cymryd lle cynghorau iechyd cymuned presennol a bydd hwn, am y tro cyntaf, yn gweithredu ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ill dau. Ac yn olaf, mae'n cyflwyno pŵer i Weinidogion Cymru benodi is-gadeiryddion i ymddiriedolaethau'r GIG, gan eu gosod ar yr un sail â byrddau iechyd lleol.
Mae pedair elfen y Bil yn gwneud cam ymlaen tuag at wella a chefnogi ansawdd gwell, gweithio mwy integredig rhwng iechyd a gofal cymdeithasol a gwella ymgysylltu â dinasyddion. Rwy'n ddiolchgar i aelodau'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, y Pwyllgor Cyllid a'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol am eu gwaith craffu ar y Bil hyd yn hyn, ac am eu hargymhellion. Ond, yn benodol, rwyf eisiau diolch i'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon am gefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil a nodir yn eu hadroddiad.
Rwyf eisiau troi nawr i fynd i'r afael â rhai o'r pwyntiau a godwyd yn adroddiadau'r pwyllgorau. Yn gyntaf, mae'r pwyllgor iechyd yn argymell y dylid cael canllawiau statudol ar ddyletswydd ansawdd. Nawr, rwyf eisoes wedi nodi y byddai canllawiau ar y ddyletswydd. Fodd bynnag, rwy'n fodlon y byddai ei wneud yn statudol yn ychwanegu at y pwyslais, a byddaf yn cyflwyno gwelliant i wneud hynny.
Mae nifer o argymhellion ynghylch manylion y ddyletswydd ansawdd, beth ddylai pwyslais y ddyletswydd fod a sut y dylid ei weithredu. Unwaith eto, rwyf wedi bod yn glir byddai llawer o'r rhain, yn fy marn i, yn cael eu trin yn well yn y canllawiau, ac rwyf bellach yn cynnig gwneud rheini'n statudol, yn hytrach na chael rhestr hir ar wyneb y Bil. Dylai'r dull hwn sicrhau y rhoddir ystyriaeth lawn i'r holl faterion hynny sy'n fodd o gyflawni'r ddyletswydd. Byddwn mewn gwell sefyllfa i ddisgrifio amrywiaeth o amgylchiadau mewn ffordd enghreifftiol a bod yn llawer cliriach ynghylch yr hyn a olygir wrth wahanol amgylchiadau.
O ran y dyletswyddau ansawdd a gonestrwydd, byddwn yn disgrifio ac yn esbonio yn y canllawiau statudol beth fydd canlyniadau diffyg cydymffurfio. Mae angen i ni sicrhau cydbwysedd rhwng eglurder ynghylch yr hyn a fydd yn digwydd os nad yw sefydliad yn cydymffurfio â'r ddyletswydd a'r gallu i weithredu'n briodol a chymesur. Hoffwn feddwl am yr amgylchiadau, ac, yn bwysig, sicrhau ein bod yn manteisio ar bob cyfle i ddysgu a gwella.
Wrth gwrs, bu cryn ddiddordeb yn y cynigion sy'n ymwneud â chorff newydd llais y dinesydd, gyda nifer o argymhellion, yn fwyaf nodedig ynglŷn â rhoi hawl i'r corff allu ymweld â safleoedd y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol; sicrhau nad yw'r corff yn gorff cenedlaethol anghysbell sy'n anhygyrch ac nad yw'n gallu cynrychioli buddiannau pobl ledled Cymru gyfan; a gofyniad bod cyrff y GIG ac awdurdodau lleol yn ymateb i sylwadau a gyflwynir gan y corff hwnnw.
Rwy'n cytuno bod angen i'r corff allu ceisio barn pobl ar yr adeg y darperir gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Credaf mai'r ffordd orau o gyflawni hynny yw drwy god ymarfer o ran ymweld â safleoedd iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Un o brif fanteision y dull gweithredu hwn yw ei hyblygrwydd i fod yn berthnasol i'r amrywiaeth enfawr o leoliadau lle darperir gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Darperir mathau tra gwahanol o ofal, cymorth a thriniaeth yn y lleoliadau hyn, sy'n ymateb i anghenion a dymuniadau unigolion.
Mae'r cod hefyd yn elwa ar fod yn ddogfen fyw, sy'n gallu ymateb i newidiadau mewn arferion a phrofiad pobl o ddefnyddio'r cod. Bydd yn cynnwys y pwyslais angenrheidiol i sicrhau bod pob parti yn cyflawni ei gyfrifoldebau priodol. Wrth gwrs, bydd yn destun ymgysylltu ac ymgynghori wrth ei baratoi er mwyn sicrhau ei fod, fel dogfen, yn addas i'r diben a bod pawb y bydd angen iddynt ei ddefnyddio yn ei ddeall yn glir. Rydym ni wedi mynd ati fel hyn wrth ddatblygu a chyhoeddi codau ymarfer o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2016, ac rwy'n credu mai dyma'r ffordd fwyaf priodol o symud ymlaen gyda hyn mewn golwg.
Cytunaf hefyd fod angen i'r corff newydd allu cynrychioli buddiannau pobl ledled Cymru a bod yn hygyrch i bobl ym mhob rhan o Gymru, felly byddaf yn cyflwyno gwelliannau yng Nghyfnod 2 i fynd i'r afael â'r pryder ynghylch gallu'r corff i gynrychioli pobl o Gymru benbaladr ac o ran ymweld â safleoedd.
Nodaf sylwadau'r pwyllgor iechyd ar y sylwadau y bydd corff llais y dinesydd yn eu cyflwyno a'r hyn y gellir ei wneud i sicrhau nid yn unig fod rhywun yn gwrando arnynt, ond y gall y corff a'r cyhoedd weld bod rhywun yn gwrando arnynt. Mae'r adroddiad yn argymell y dylid cynnwys ar wyneb y Bil gofyniad i roi sylw i sylwadau a gyflwynir. Nawr, rwy'n credu bod y geiriad presennol eisoes yn ei gwneud hi'n ofynnol i gyrff y GIG ac awdurdodau lleol roi sylw i sylwadau, ac mae hynny o bwys mawr. Fodd bynnag, rwyf wedi ystyried yr hyn y mae'r pwyllgor wedi'i ddweud, ac rwy'n bwriadu cyflwyno gwelliant gan y Llywodraeth yng Nghyfnod 2 i'w gwneud hi'n ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi canllawiau statudol eto ynglŷn â sut y bydd hyn yn gweithio'n ymarferol.
Unwaith eto, ar ôl gwrando ar y dystiolaeth a gyflwynwyd ar y pwnc, mae'n amlwg y bydd angen i gorff llais y dinesydd gael gwybod yn gyson sut mae awdurdod cyhoeddus yn ymdrin â'i sylwadau, ac, yn bwysig, canlyniad y sylwadau hynny. Bydd cyhoeddi canllawiau statudol yn ein galluogi i ddisgrifio sut y dylai hyn ddigwydd mewn ffordd gymesur sy'n adlewyrchu'r gwahanol fathau o sylwadau y gellir eu cyflwyno.
Rwyf wedi darllen yr hyn sydd gan y pwyllgor iechyd i'w ddweud am annibyniaeth y corff newydd, yn ogystal â pheth o'r dystiolaeth a ddefnyddiwyd i lunio barn. Mae angen inni fod yn glir wrth sôn am benodi aelodau—mae'r Bil yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru benodi aelodau bwrdd y corff newydd. Wrth benodi aelodau'r bwrdd rhaid cadw at reolau'r Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus. Mae hynny'n gofyn am gystadleuaeth agored a theg am swyddi. Er hynny, dywedais yn ystod fy ymddangosiad gerbron y pwyllgor iechyd fy mod yn fwy na pharod i gynnwys cam ychwanegol i randdeiliaid yn y broses benodi.
Yn wahanol i'r sefyllfa bresennol gyda chynghorau iechyd cymuned, lle mae Gweinidogion Cymru yn penodi 50 y cant o'r aelodau gwirfoddol, o dan y trefniadau newydd yn y Bil, bydd corff llais y dinesydd ei hun yn gallu recriwtio ei holl wirfoddolwyr yn uniongyrchol, sy'n cynyddu yn hytrach na lleihau ei annibyniaeth ar y Llywodraeth. Mae digon o fesurau diogelu ar wyneb y Bil hefyd i sicrhau bod y corff yn annibynnol ar y Llywodraeth, megis gofyniad i gynhyrchu cynllun blynyddol sy'n cynnwys blaenoriaethau ac amcanion y corff ar gyfer y flwyddyn, a gynhyrchir ar ôl ymgynghori a heb fod angen caniatâd na chymeradwyaeth gan y Llywodraeth.
Gan droi nawr at y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, rwy'n hapus i dderbyn argymhellion y pwyllgor. Mae'r holl elfennau, ac felly ystyr dyletswydd gonestrwydd, wedi'u gosod ar wyneb y Bil. Mae'r Bil yn glir y daw'r ddyletswydd i rym pan fo mwy nag ychydig o niwed. Caiff esboniad o hyn ei nodi yn y canllawiau statudol y byddwn yn eu datblygu ar y cyd â chlinigwyr a'r cyhoedd yn fwy cyffredinol. Mae hynny'n bwysig gan y bydd yn ein galluogi i roi arweiniad i staff gofal iechyd, cleifion a defnyddwyr gwasanaethau ynglŷn â sut mae'r ddyletswydd yn gweithio mewn ffordd hygyrch a hawdd ei defnyddio. Rwy'n deall sylw'r pwyllgor ynghylch yr angen am esboniad clir o'r hyn yw ystyr y ddyletswydd gonestrwydd, ac y dylai hynny fod yn hygyrch i'r cyhoedd. Rwy'n meddwl mai canllawiau statudol, unwaith eto, sy'n cynnig y ffordd orau o wneud hynny. Mae'r memorandwm esboniadol gyda'r Bil, ar dudalennau 19 a 20, yn cynnwys esboniad clir o'r hyn a olygir wrth ddyletswydd gonestrwydd a pham yr ydym ni'n cyflwyno dyletswydd o'r fath.
O ran eu hail argymhelliad, gallaf ddweud yn awr nad oes gennyf i unrhyw fwriad ar hyn o bryd i ddefnyddio'r pwerau yn adran 26 o ran diwygio deddfwriaeth sylfaenol. Mae'r pŵer yno i sicrhau y gallwn ni ymateb yn briodol i unrhyw ddatblygiadau annisgwyl yn y dyfodol, fel deddfwriaeth gan Lywodraeth y DU. Mae hon yn ddarpariaeth safonol ym Miliau'r Cynulliad. Pe bai'r Llywodraeth yn cyflwyno gwelliannau i ddeddfwriaeth sylfaenol, byddai'r rheoliadau yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol a gwaith craffu gan y Cynulliad.
Rwyf wedi myfyrio ar y drafodaeth yn y pwyllgor ynglŷn â'r defnydd o'r gair 'hwylus' yn y Gymraeg a'r Saesneg, a byddaf yn cyflwyno gwelliant gan y Llywodraeth i roi'r gair 'priodol' yn lle'r gair 'hwylus'. Rwyf hefyd yn ddiolchgar i'r Pwyllgor Cyllid am eu hargymhellion adeiladol a defnyddiol. Byddaf yn cyflwyno asesiad effaith rheoleiddiol diwygiedig a chryfach i adlewyrchu'r adroddiad lle y bo'n briodol, gan gynnwys dadansoddiad sensitifrwydd ar gyfer rhai rhannau o'r Bil ac ystod o gostau sy'n cwmpasu gwahanol amgylchiadau.
Yn olaf, hoffwn ailadrodd fy sylwadau cynharach a diolch unwaith eto i'r holl bwyllgorau am eu sylwadau hyd yma a'u hymgysylltiad drwy gydol Cyfnod 1 y gwaith o graffu ar y Bil. Credaf ein bod ni, ddinasyddion Cymru, yn wirioneddol ffodus i fwynhau rhai o'r gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol gorau wedi eu darparu gan staff ymroddedig a thosturiol ar bob lefel. Bydd llwyddiant hynt y Bil hwn yn helpu i ddiogelu'r gwasanaethau hyn am y cenedlaethau i ddod. Fel y mae adroddiad y pwyllgor iechyd yn cydnabod, mae cryn gefnogaeth gan ystod eang o randdeiliaid i amcanion y Bil, a gobeithio y bydd yr Aelodau'n ei gefnogi heddiw.
Diolch. Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, Dai Lloyd.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Dwi'n falch iawn o gyfrannu at y ddadl Cyfnod 1 hon i amlinellu prif argymhellion a chasgliadau'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon mewn perthynas â'r Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2019.
Cynhaliodd y pwyllgor ymarfer ymgynghori cyhoeddus dros yr haf, a chymerodd dystiolaeth lafar gan nifer o randdeiliaid. Hoffwn ddiolch i bawb a gyfrannodd at ein gwaith craffu ar y Bil hwn. Mae'r Bil yn un elfen o gyfres o fesurau sydd â'r nod o wella a gwarchod iechyd, gofal a llesiant poblogaeth Cymru. Byddai'n anodd anghytuno â'i brif nodau, sef: sicrhau bod ansawdd yn dod yn sbardun i ffordd systematig o weithio yn y gwasanaeth iechyd; ei gwneud yn ofynnol i sefydliadau iechyd fod yn agored ac yn onest pan aiff pethau o chwith; a chryfhau llais dinasyddion ar draws y gwasanaethau iechyd a chymdeithasol.
Ar y cyfan, rydym ni'n croesawu’r cynigion yn y Bil yn fras, ac o’r farn ei fod yn cynrychioli cam pwysig tuag at ragor o dryloywder ac atebolrwydd ar draws iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru. Gan hynny, mae'r pwyllgor yn argymell y dylai'r Cynulliad gytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil. Dyna argymhelliad 1.
Fodd bynnag, rydym wedi pwyso a mesur y dystiolaeth gan randdeiliaid ac wedi gwneud nifer o argymhellion i Lywodraeth Cymru ar gyfer gwelliannau i'r Bil. Dwi'n clywed y geiriau mae'r Gweinidog wedi'u dweud ynglŷn â hynny a buaswn yn annog y Gweinidog i roi ei ystyriaeth lawn i'r argymhellion hyn yn ystod hynt y Bil.
Yn gyntaf, y ddyletswydd ansawdd. Mae'r Bil yn cyflwyno dyletswydd eang newydd i'w gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru a chyrff y gwasanaeth iechyd arfer eu swyddogaethau mewn perthynas ag iechyd gyda'r bwriad o sicrhau gwelliant yn ansawdd gwasanaethau iechyd. Mae ansawdd yn cynnwys effeithiolrwydd gwasanaethau iechyd, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny’n unig; diogelwch gwasanaethau iechyd; a phrofiad unigolion y darperir gwasanaethau iechyd iddynt.
Dywedodd llawer o ymatebwyr wrthym, er eu bod yn croesawu nod y Bil ac yn cydnabod yr angen i wella ansawdd, y dylid egluro a chryfhau’r ddyletswydd ansawdd, a bod angen diffinio ansawdd yn fwy penodol ar wyneb y Bil, ac y dylid cael darpariaeth ar gyfer cosbau am beidio â chydymffurfio.
Fel pwyllgor, rydym yn cefnogi’n llwyr unrhyw fesur sy'n ceisio gwella ansawdd y gwasanaethau a ddarperir gan y gwasanaeth iechyd i'w gleifion. I'r perwyl hwn, rydym yn cefnogi'r newid ffocws, a gynigiwyd gan Lywodraeth Cymru drwy'r Bil hwn, i ffordd o weithio ar draws y system a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru a chyrff y gwasanaeth iechyd arfer eu holl swyddogaethau gyda'r nod o sicrhau gwelliant yn ansawdd y gwasanaethau iechyd.
Roeddem yn siomedig, felly, o glywed gan randdeiliaid, yn enwedig cyrff y gwasanaeth iechyd, nad oedd y Bil yn ddigon cryf o ran nodi sut byddai ansawdd y ddarpariaeth gwasanaethau yn cael ei asesu, sut byddai sefydliad yn dangos canlyniadau gwell, a sut byddai methiant i gyflawni gwelliannau o ran ansawdd gwasanaethau yn cael sylw. Mae'r rhain yn faterion mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru ddelio â nhw. I'r perwyl hwn, nodwn fwriad y Gweinidog i gyhoeddi canllawiau ynghylch y ddyletswydd ansawdd i gefnogi a chynorthwyo cyrff y gwasanaeth iechyd i roi'r ddyletswydd hon ar waith, a'i fod wedi darparu amlinelliad drafft o'r canllawiau hynny. Rydym ni'n derbyn ei ddadl mai canllawiau yw'r cyfrwng mwyaf priodol ar gyfer y lefel o fanylder mae'n bwriadu ei ddarparu ar y mater hwn.
Fodd bynnag, credwn fod y canllawiau i gyd-fynd â'r darpariaethau dyletswydd ansawdd yn y Bil yn ganolog i lwyddiant y darpariaethau hyn ac, o'r herwydd, dylai’r canllawiau feddu ar awdurdod statudol. Ar hyn o bryd nid oes darpariaeth yn y Bil i Lywodraeth Cymru gyhoeddi canllawiau yn benodol ar y ddyletswydd ansawdd. Eto, dwi'n clywed geiriau'r Gweinidog heddiw.
Gan hynny, rydym yn argymell bod y Bil yn cael ei wella i wneud darpariaeth ar gyfer cyhoeddi canllawiau statudol a dwi'n croesawu beth mae'r Gweinidog wedi'i ddweud yn ymwneud â’r ddyletswydd ansawdd. Dylai'r canllawiau hyn nodi'n glir sut bydd y ddyletswydd ansawdd wrth ddarparu gwasanaeth yn cael ei hasesu a sut byddai sefydliad yn dangos canlyniadau gwell. Dylai hefyd gynnwys manylion am sut bydd arloesiadau a gwelliannau a ddyluniwyd mewn un ardal yn cael eu lledaenu a'u graddio ledled Cymru gyfan. Dyna argymhelliad 2.
Clywsom dystiolaeth gref am yr angen am gysylltiad clir rhwng ansawdd gwasanaeth a’r gweithlu. Rydym yn ategu'r farn hon. Yn ein barn ni, mae'n amhosibl gwahanu mater ansawdd a darparu lefelau staffio priodol—mae cysylltiad annatod rhyngddynt. Er mwyn cyflawni ansawdd o ran darparu gwasanaethau, rhaid cael y lefel angenrheidiol o staff. Gan hynny, dylid gwella’r Bil i wneud darpariaeth benodol ar gyfer lefelau staffio a chynllunio’r gweithlu yn briodol fel rhan o'r ddyletswydd ansawdd. Dyna argymhelliad 4.
Ymhellach, credwn fod cysylltiad annatod rhwng gwella ansawdd gwasanaethau a lleihau anghydraddoldebau iechyd, a rhaid darparu ar gyfer y cyswllt hwn yn gliriach ar wyneb y Bil. Dyna argymhelliad 5.
Mewn perthynas â sancsiynau, clywsom dystiolaeth gref o'r angen am arwydd cliriach o sut yr eir i'r afael â methiant i ddarparu gwelliannau i wasanaethau. I'r perwyl hwn, credwn y dylid bod canlyniadau clir yn sgil diffyg cydymffurfio â'r ddyletswydd ansawdd, ac y dylid darparu ar gyfer hyn ar wyneb y Bil. Ni ddylai sancsiynau o'r fath gael effaith niweidiol ar sefyllfa ariannol y sefydliad. Rydym yn cytuno â'r Gweinidog fod trefniadau uwchgyfeirio ac ymyriadau’r gwasanaeth iechyd yn fecanwaith priodol.
Gan symud ymlaen nawr at y ddyletswydd gonestrwydd. Rydym yn llwyr gefnogi amcan polisi dyletswydd gonestrwydd, a'r symudiad diwylliannol tuag at fod yn fwy agored a thryloyw yn y gwasanaeth iechyd a ddylai ddeillio o hynny. Pan aiff pethau o chwith mewn lleoliadau iechyd, dylai cleifion a'u teuluoedd allu disgwyl cael eu trin mewn ffordd agored ac onest. Mater yr un mor bwysig yw bod gan sefydliadau ddiwylliant ar waith sy'n annog ac yn ategu’r egwyddor o ddysgu o gamgymeriadau ac sy’n creu'r amodau priodol i hyn ddigwydd.
Er bod y Bil yn nodi'r amodau i'w bodloni er mwyn sbarduno'r ddyletswydd gonestrwydd, bydd cymaint o'r manylion am weithredu hyn yn ymarferol yn fater i reoliadau a chanllawiau. Y rheoliadau fydd yn nodi'r broses i'w dilyn unwaith y bydd y ddyletswydd wedi ei sbarduno. O'r herwydd, rydym yn croesawu'r ymrwymiad gan y Gweinidog i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y rheoliadau a darparu canllawiau statudol ategol.
Yn yr un modd â'r ddyletswydd ansawdd, clywsom dystiolaeth gref o'r angen am sancsiynau am beidio â chydymffurfio â'r ddyletswydd gonestrwydd hon. Clywsom bryderon real iawn gan randdeiliaid ynghylch rhwystrau o ran datgelu ac ofnau dilys staff y gwasanaeth iechyd ynghylch codi llais. Mae'n hanfodol bwysig wrth gyflawni'r math o newid diwylliannol a hyrwyddir gan y Bil hwn fod gan staff amgylchedd diogel i fod yn agored ac yn dryloyw, heb ofni gwrthgyhuddo. Er ein bod yn cefnogi'r camau hyn, nid ydym wedi ein hargyhoeddi’n llawn eu bod yn ddigonol. Credwn fod rhinwedd mewn archwilio ymhellach system gymorth fwy annibynnol a chadarn i staff sy'n eu galluogi i deimlo'n ddiogel wrth godi pryderon a chwythu'r chwiban.
Mewn perthynas â chorff llais y dinesydd, mae nifer o heriau o ran y fframwaith statudol presennol. O'r herwydd, mae angen diwygiadau yn y maes hwn ac felly rydym yn cefnogi'r cynnig i ddisodli'r cynghorau iechyd cymuned gyda'r corff llais y dinesydd newydd a fydd yn cwmpasu iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Fodd bynnag, mae'n rhaid i ni gydnabod y rôl amhrisiadwy mae'r cynghorau iechyd cymuned wedi ei chwarae dros y 45 mlynedd diwethaf wrth adlewyrchu barn a chynrychioli buddiannau eu cymunedau lleol wrth ddarparu gwasanaethau iechyd yng Nghymru. Rhaid peidio â cholli cryfderau'r cynghorau iechyd cymuned, gan gynnwys eu gallu i gynrychioli llais pobl leol, mewn unrhyw strwythur newydd, ond adeiladu arnynt a'u datblygu. Awgrymodd nifer o dystion y dylai penodi aelodau corff llais y dinesydd fod yn gwbl annibynnol o Lywodraeth Cymru ac, fel pwyllgor, rydym yn cytuno.
Clywsom bryderon hefyd am allu corff llais y dinesydd i gynnal ymweliadau cyhoeddedig a dirybudd, ac rydym yn cefnogi hynna. Mae hyn wedi bod yn ffordd werthfawr a rhad o wirio ansawdd a darpariaeth gwasanaethau. Rydym yn cydnabod bod problemau o ran mynediad pan fydd pobl yn derbyn gwasanaeth gartref, yn enwedig lle mae hyn mewn lleoliad gofal preswyl. Fodd bynnag, nid ydym yn cynnig mynediad dilyffethair at ystafelloedd preifat pobl. Dylai cyflawni gwiriadau rhesymol a chymesur fod yn gyfan gwbl bosibl i'w wneud.
Gan dynnu at y diwedd, a diolch am eich amynedd, er ein bod yn cytuno ei bod yn annhebygol y byddai Gweinidogion Cymru yn anwybyddu sylwadau corff llais y dinesydd, byddai sefydlu'r hawl i ymateb mewn deddfwriaeth yn rhoi digon o bwerau i'r corff fel bod y cyhoedd yn hyderus y gall wneud gwahaniaeth. Gan hynny, rydym yn argymell ei fod yn y Bil.
Mae yna nifer eraill o argymhellion a sylwadau y buaswn i'n licio eu gwneud ond, wrth gwrs, mae amser wedi cerdded ymlaen. I derfynu, dwi'n clywed beth mae'r Gweinidog wedi ei ddweud heddiw. Mae yna nifer o welliannau sydd yn angenrheidiol i'r Bil yma i'w wneud. Dwi'n clywed beth mae'r Gweinidog wedi ei ddweud eisoes, ei fod yn mynd i gyflwyno rhai gwelliannau, buaswn i'n gofyn iddo wrando ar yr holl areithiau y prynhawn yma. Dwi'n croesawu bwriad y Gweinidog i gyflwyno rhai gwelliannau ac, eto, mae angen gwelliannau sy'n dilyn trywydd adroddiad y pwyllgor iechyd i wneud yn siŵr bod hwn yn Fil sy'n addas i'r bwriad. Diolch yn fawr.
Diolch. A gaf i alw ar Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, Llyr Gruffydd?
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch o gyfrannu at y ddadl yma. Mae'r Pwyllgor Cyllid, wrth gwrs, wedi gwneud naw argymhelliad. Fe glywodd y pwyllgor gan y Gweinidog fod y Bil yn ymwneud ag arwain newid diwylliannol ac mae’n ofynnol iddo gyflwyno cyfres o ddiwygiadau i gryfhau gwasanaethau iechyd a chymdeithasol. Dywedodd nad oedd yn bosibl rhoi gwerth ariannol ar bob rhan o’r newid.
Nawr, mae'r Pwyllgor Cyllid yn derbyn y gallai buddion y Bil fod yn amrywiol ac yn anodd eu mesur, ond rydyn ni wedi tynnu sylw ar sawl achlysur at y pwysigrwydd y dylai asesiadau effaith rheoleiddiol gynnwys yr amcangyfrif gorau posibl ar gyfer costau a buddion Bil er mwyn sicrhau bod y pwyllgor yn gallu craffu'n llawn ar y goblygiadau ariannol cyffredinol. Felly, rydyn ni wedi argymell bod Llywodraeth Cymru yn ymgymryd â gwaith pellach yn dadansoddi ac yn amcangyfrif buddion y Bil, a nodir fel ysgogwyr allweddol ar gyfer gweithredu'r ddeddfwriaeth, ac rwy'n cydnabod y sylwadau wnaeth y Gweinidog i'r perwyl yna wrth agor y ddadl yma.
Mae'r pwyllgor yn falch bod y sector iechyd wedi bod yn rhan o'r gwaith o ddatblygu deunyddiau hyfforddi ar ddyletswydd gonestrwydd, ac rydyn ni'n credu y bydd hyn yn cynorthwyo'r newid diwylliannol y mae'r Bil yn edrych i'w gyflawni.
Fodd bynnag, rydyn ni'n pryderu bod y Gweinidog o'r farn ei bod yn ymarferol i gyrff y gwasanaeth iechyd cenedlaethol amsugno'r costau ychwanegol a gaiff eu gosod arnyn nhw o ganlyniad i'r Bil, yn enwedig gan nad ydy'r asesiad effaith rheoleiddiol yn meintioli'r holl gostau i syrthio ar gyrff y gwasanaeth iechyd cenedlaethol. Rydyn ni'n argymell, felly, y dylid cynnwys rhagor o wybodaeth am y costau ychwanegol yn yr asesiad effaith rheoleiddiol, unwaith eto.
O ran y ddyletswydd gonestrwydd, disgrifir canlyniad andwyol fel un sydd wedi, neu a allai, arwain at fwy nag ychydig o niwed a lle'r oedd darparu’r gofal iechyd yn ffactor, neu y gall fod wedi bod yn ffactor. Mae'r pwyllgor yn pryderu bod yr amcangyfrif o gostau parhaus ar gyfer y ddyletswydd gonestrwydd newydd yn adlewyrchu nifer y digwyddiadau a osodwyd yn y dosbarth cymedrol. Os yw'r diffiniad o 'fwy nag ychydig o niwed' i adlewyrchu niwed bychan, yna mae'n debygol, wrth gwrs, y gallai'r gost fod yn sylweddol uwch. Rydym ni'n argymell bod Llywodraeth Cymru yn paratoi dadansoddiad sensitifrwydd i ddangos effaith newidiadau yn nifer y digwyddiadau ar y costau parhaus sy'n deillio o gyflwyno dyletswydd gonestrwydd. Unwaith eto, rwy'n cydnabod datganiad cynharach y Gweinidog yn hynny o beth.
Nawr, mae'r asesiad effaith rheoleiddiol yn meintioli'r gwasanaethau cyfreithiol sy'n deillio o'r ddyletswydd gonestrwydd fel £30,000 i gyrff y GIG, sy'n seiliedig ar y costau cyfreithiol presennol ar gyfer Gweithio i Wella—yr ymgyrch a ddefnyddiwyd, wrth gwrs, i lansio gweithdrefn gwyno newydd y GIG yn ôl yn 2011. Mae hyn yn cyfateb, ar gyfartaledd, i gost flynyddol o £3,000 ar gyfer pob bwrdd iechyd lleol a'r Ymddiriedolaeth GIG yng Nghymru. Fodd bynnag, mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi dweud wrth y Pwyllgor Cyllid droeon am ei bryder ynglŷn â nifer y cwynion iechyd a wneir i'w swyddfa. Felly, rydym ni'n pryderu y gallai'r costau cyfreithiol fod yn sylweddol uwch ac rydym ni'n argymell bod Llywodraeth Cymru yn gwneud rhagor o waith, gan gynnwys dadansoddiad sensitifrwydd unwaith eto, i ddangos ystod o gostau.
Yn olaf, mae'r rhan fwyaf o gyfanswm cost y Bil, sef £6.1 miliwn, yn gysylltiedig â chost sefydlu a chynnal corff newydd llais y dinesydd, gan gynnwys, wrth gwrs, costau pontio sylweddol gyda thechnoleg gwybodaeth a chyfathrebu. Bydd corff llais y dinesydd yn disodli'r saith cyngor iechyd cymuned yng Nghymru a chaiff ei sefydlu i gynrychioli buddiannau'r cyhoedd ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.
Caiff yr amcangyfrif o'r gost TGCh yn yr asesiad effaith rheoleiddiol ei adlewyrchu yng nghost net y Bil, sef £2.13 miliwn. Fodd bynnag, mae'r wybodaeth ategol yn cynnwys costau sy'n amrywio o £2.13 miliwn hyd at £3.12 miliwn. Er ein bod yn cydnabod y gall TGCh alluogi a hwyluso arferion gweithio hyblyg, nid yw'r asesiad effaith rheoleiddiol yn nodi digon o dystiolaeth i ddangos hyn. Felly, nid ydym ni'n cefnogi defnyddio'r amcangyfrifon cost isel wrth asesu'r goblygiadau ariannol. Rydym yn argymell y dylai'r asesiad effaith rheoleiddiol adlewyrchu'r ystod bosib o gostau TGCh yn hytrach na'r amcangyfrif cost isel. Fel y dywedais, rwy'n cydnabod bwriad y Gweinidog i ddarparu llawer o'r wybodaeth ychwanegol—gwybodaeth ariannol—yr ydym ni wedi gofyn amdani fel pwyllgor, ac rydym ni'n edrych ymlaen at weld hynny maes o law.
Hoffwn gloi fy sylwadau'n fyr yn rhinwedd fy swyddogaeth yn Aelod Cynulliad dros Ogledd Cymru, oherwydd bydd y Gweinidog yn gwybod bod cefnogaeth gref i Gyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru. Mae wedi bod yn eiriolwr cryf ac effeithiol dros gleifion a dinasyddion yng Ngogledd Cymru dros y blynyddoedd. Mae wedi bod ar flaen y gad yn y dadleuon ar sgandal Tawel Fan; ar y llanast mesurau arbennig; ac ar golli'r unedau gofal arbennig i fabanod, y daethpwyd â nhw'n ôl yn y pen draw, wedi hynny, ar ôl ymgyrch eithaf hir. Gwnaeth 500 o ymweliadau dirybudd â wardiau ar draws gogledd Cymru y llynedd, gan helpu i ddwyn y bwrdd iechyd a Llywodraeth Cymru i gyfrif a sicrhau bod cleifion yng ngogledd Cymru yn cael y gwasanaethau y maent yn eu haeddu.
Mae'r Bil hwn, fel y gwyddom ni, yn cynnig cael gwared ar Gyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru. Bydd yn lleihau llais cleifion gogledd Cymru a bydd yn canoli'r swyddogaeth graffu bwysig honno i gorff, o bosib, fydd ymhell i ffwrdd a mwy anghysbell, fydd, siŵr o fod, wedi'i leoli yng Nghaerdydd. Os caiff corff newydd ei sefydlu, fe hoffwn i, yn un, ei weld yn cael ei leoli yn y gogledd. Felly, rwy'n eich annog, Gweinidog, i roi'r gorau i'ch cynnig, i gadw Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru ac i sicrhau bod gan gleifion a dinasyddion yn y gogledd yr eiriolaeth a'r llais cryf ac annibynnol y mae pob un ohonom ni yn ei haeddu.
A gaf i alw ar Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, Mick Antoniw?
Cyflwynwyd adroddiad ar y Bil ar 15 Tachwedd. Fe wnaethom ni dri argymhelliad. Mae ein hargymhelliad cyntaf yn ymwneud â'r diffiniad 'dyletswydd gonestrwydd'. Mae rhan 3 o'r Bil yn gwneud darpariaeth ar gyfer ac ynghylch dyletswydd gonestrwydd mewn cysylltiad â gwasanaethau iechyd. Er bod y Bil yn nodi'r gweithdrefnau i'w dilyn pan ysgogir dyletswydd gonestrwydd, nid yw'n diffinio ar wyneb y Bil beth mae dyletswydd gonestrwydd yn ei olygu. O ganlyniad, daethom i'r casgliad na fyddai dinasyddion sy'n anghyfarwydd â therminoleg o'r fath yn deall sut y byddai'r ddeddfwriaeth yn effeithio arnynt, felly fe wnaethom ni argymell y dylai'r Gweinidog ddefnyddio'r ddadl hon i egluro pam nad yw'r diffiniad o 'ddyletswydd gonestrwydd' yn ymddangos ar wyneb y Bil, ac, yn ei absenoldeb, lle gallai dinasyddion ddod o hyd i wybodaeth am ei ystyr. Rwy'n croesawu'n fawr y sylwadau a wnaeth y Gweinidog ynglŷn ag wyneb y Bil a chyflwyno ymrwymiad i fater canllawiau statudol yn y maes hwn.
Mae ein dau argymhelliad arall yn ymwneud ag adran 26. Mae'n rhoi'r pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau i wneud darpariaethau atodol, cysylltiedig neu ganlyniadol, neu ddarpariaethau darfodol, trosiannol neu arbedol. Fe wnaethom ni fynegi pryder ynglŷn ag ehangder y pwerau y bydd Gweinidogion Cymru yn eu harddel o dan adran 26, yn enwedig pan ellir defnyddio pwerau o'r fath i ddiwygio neu ddiddymu deddfwriaeth sylfaenol, ac nid oes eglurder ynghylch os neu sut y cânt eu defnyddio. O dan amgylchiadau o'r fath, nid yw cymhwyso'r weithdrefn gadarnhaol i'r pwerau hyn yn dilysu eu defnydd. Ni ellir diwygio rheoliadau ac nid ydym o'r farn y dylai rheoliadau sy'n gallu gwneud newidiadau sylweddol ond amhenodol i ddeddfwriaeth sylfaenol fod yn destun penderfyniad 'ie' neu 'na' i'w cymeradwyo neu eu gwrthod.
Ar y sail honno, ein hail argymhelliad oedd y dylai'r Gweinidog ddefnyddio'r ddadl hon i nodi'n glir ac yn fanwl sut y bwriada ddefnyddio'r pwerau a geir yn adran 26, a nodaf sylwadau'r Gweinidog nad yw'n bwriadu defnyddio'r pwerau hyn i ddiwygio deddfwriaeth sylfaenol. Fodd bynnag, er ein bod yn gofyn am eglurder o ran sut y mae'r Gweinidog yn bwriadu defnyddio'r pwerau, mae un newid yr hoffem ei weld hefyd, sef o dan 26(1), lle gellir arfer y pŵer i wneud rheoliadau pan fo Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod hi'n hwylus neu'n angenrheidiol i ddiben y Ddeddf. Nawr, fel Pwyllgor, rydym ni wedi mynegi pryderon dro ar ôl tro ynglŷn â'r defnydd o'r term 'hwylus' a defnyddio termau tebyg o ran pwerau gwneud rheoliadau, a thynnwyd sylw at rai o'n hadroddiadau blaenorol a oedd wedi gwneud hynny. Ein safbwynt ni o hyd yw y dylai Gweinidogion Cymru fabwysiadu dull sydd wedi'i dargedu'n well, yn hytrach na chymryd y pwerau ehangaf sydd ar gael iddynt. Felly, credwn y dylid cymryd pŵer i wneud rheoliadau at ddiben clir; wrth dynnu pwerau'n rhy eang mae risg bob amser y cânt eu defnyddio yn y dyfodol mewn ffyrdd na fwriadwyd yn wreiddiol nac a ragwelwyd pan gyflwynwyd y Bil. Felly, rydym yn argymell y dylai'r Gweinidog gyflwyno gwelliant i'r Bil i ddileu'r geiriau 'neu'n hwylus' o adran 26(1).
Nodaf fwriad y Gweinidog i gyflwyno rhywbeth arall yn ei le i ddefnyddio'r term 'priodol'. Nawr, mae'n ymddangos bod y term 'priodol' yn 'hwylus yn hytrach nag yn briodol', ac felly yn 'amhriodol', ac yn ein barn ni, mae'n ddiangen, ac mai'r ffordd briodol o fwrw ymlaen fyddai ei ddileu'n llwyr fel bod yr adran dim ond yn dweud bod gan y Gweinidogion y pŵer i wneud rheoliadau pan fyddant o'r farn bod hynny'n angenrheidiol at ddibenion y Ddeddf. Diolch, Dirprwy Lywydd.
Diolch. Angela Burns.