Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Plenary - Fifth Senedd
06/11/2019Cynnwys
Contents
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Galw'r Aelodau i drefn.
Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw'r cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, ac rwyf wedi derbyn hysbysiad o dan Reol Sefydlog 12.58 y bydd Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Lee Waters, yn ateb y cwestiynau ar ran y Gweinidog y prynhawn yma. Felly, mae'r cwestiwn cyntaf gan David Rees.
1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddiogelu swyddi gweithwyr dur Cymru? OAQ54632

Diolch. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ddefnyddio dull trawslywodraethol i gefnogi'r diwydiant dur a diogelu swyddi gweithwyr dur Cymru. Dros y tair blynedd diwethaf, rydym wedi darparu buddsoddiad sylweddol i gefnogi'r diwydiant mewn meysydd allweddol, gan gynnwys datblygu sgiliau, gwelliannau amgylcheddol, ac ymchwil a datblygu.
Diolch am eich ateb, Ddirprwy Weinidog. Yn wahanol i Lywodraeth y DU, sydd wedi methu gwneud unrhyw beth ar ran dur, ac wedi canslo cyfarfod diweddaraf y cyngor dur yn ôl yr hyn a ddeallaf, a oedd yn hollbwysig gan nad oes un wedi'i gynnal ers 18 mis, ac nid oes ganddynt un o hyd—. Maent hefyd wedi methu cynhyrchu strategaeth ddiwydiannol ar gyfer y sector dur, ac nid ydynt hyd yn oed wedi edrych ar fynd i'r afael â phroblemau mewn perthynas â chyfartalwch, yn enwedig o ran costau ynni, a bydd angen hynny arnom pan fyddwn yn wynebu marchnad fyd-eang gystadleuol yn y sector dur.
Gwn fod Llywodraeth Cymru, fel y nodoch yn hollol gywir, wedi bod yn weithgar iawn wrth gefnogi’r diwydiant hwn ac wedi bod ar flaen y gad, yn enwedig ar ran gwneuthurwyr dur o Gymru, i sicrhau bod dur yn parhau i fod wrth wraidd strategaeth ddiwydiannol Cymru. A allwch ateb p’un a yw'r amodoldeb y mae Llywodraeth Cymru wedi'i roi ar rywfaint o'r cymorth ariannol hwnnw i'r gwaith ym Mhort Talbot, yn enwedig mewn perthynas â'r £30 miliwn a ddyrannwyd i waith Port Talbot ar gyfer y gorsafoedd ynni, wedi'i fodloni, gan y bydd darparu’r arian hwnnw'n caniatáu i gam nesaf yr orsaf ynni fynd rhagddo, gan gynnwys, felly, gwell defnydd o nwy gwastraff, gwelliannau o ran safonau amgylcheddol, a chynhyrchiant mwy effeithlon ac effeithiol, a chostau is gan eu bod yn cynhyrchu eu trydan eu hunain yn hytrach na gorfod ei brynu oddi ar y grid am gostau uchel nad yw Llywodraeth y DU yn mynd i’r afael â hwy?
Diolch. Credaf fod David Rees wedi crynhoi’r sefyllfa’n dda iawn o ran diffyg arweinyddiaeth Llywodraeth y DU ar ddur a chanslo cyfarfod y cyngor dur. Rydym yn parhau i fod mewn cysylltiad agos â Tata, fel rydym wedi bod ers blynyddoedd lawer. Fel y nodoch, yn argyfwng dur 2016, darparwyd cyllid sgiliau o £10 miliwn gennym tuag at gynnig o £12 miliwn tuag at ddatblygu gweithlu Tata Steel. Rydym hefyd wedi cynnig tua £666,000 ar gyfer gwaith ymchwil a datblygu ar ddatblygu cynnyrch newydd.
O ran yr orsaf ynni, rydym wedi cynnig buddsoddiad o £8 miliwn hyd yn hyn, ond ac eithrio'r cyllid sgiliau, ni ellir rhoi’r cyllid i Tata yn erbyn y cynigion hyn hyd nes ein bod wedi cytuno ar yr amodau cyllido. Ac yn dilyn y cyhoeddiad ym mis Mai na fyddai'r fenter arfaethedig ar y cyd â Thyssenkrupp yn mynd rhagddi, mae Tata Steel bellach yn gweithio ar gynllun trawsnewid newydd ar gyfer y cwmni. Ac yng ngoleuni'r newidiadau hyn, rydym yn parhau i ymgysylltu â'r cwmni, gan gynnwys trafod cymorth posibl i'r orsaf ynni.
Fel y gwyddoch, mae Tata Steel yn Shotton yn fusnes deinamig ac yn allforiwr pwysig, ond mae'n dibynnu ar y gadwyn gyflenwi am ddur cynaliadwy Prydeinig, ac ar ddefnydd crai o'r pen trwm yn ne Cymru. Ddydd Llun, cefais e-bost, fel y gwnaeth Aelodau eraill sy'n cynrychioli'r ardal, gan Faes Awyr Heathrow, yn cyhoeddi eu bod yn un o'r 18 safle ar y rhestr fer i fod yn hwb logisteg i Heathrow, gan eu gwahodd i wneud cais ffurfiol i’r broses dendro ar gyfer gwaith ehangu Heathrow. Mewn ymateb, dywedodd eich cyd-Weinidog, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, ei fod yn edrych ymlaen at barhau â gwaith Llywodraeth Cymru gyda hyrwyddwyr y safle a thîm Heathrow yn y broses ddethol hon. Beth fydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud felly yn y cyd-destun hwnnw i gefnogi Tata, yn ogystal â'r porthladd yng Nghaerdydd—y cynigydd arall o Gymru ar y rhestr fer—i wneud y mwyaf o'r cyfleoedd y mae hyn yn eu cynnig?
Wel, credaf fod y ffaith eu bod wedi cyrraedd y rownd nesaf yn newyddion gwych, ac rydym wedi eu cefnogi bob cam o’r ffordd, felly byddwn yn parhau i gynnig y gefnogaeth honno iddynt. Mae hwn yn fuddsoddiad rydym yn ei groesawu. Os yw’r cynllun seilwaith mawr hwn am gael ei roi ar waith yn Llundain, nid yw ond yn deg fod y buddion yn cael eu lledaenu ledled y DU.
Weinidog, dylai gwaith dur Orb yng Nghasnewydd barhau i weithredu, a chyda'r lefel gywir o gefnogaeth gan Tata Steel, Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, byddai'n cael ei alluogi i gynhyrchu duroedd trydanol ar gyfer cynhyrchiant ceir trydan yn y dyfodol. Mae ymgyrch leol gref iawn ar waith i sicrhau bod gwaith Orb yn parhau i weithredu, ac yn wir, mae wedi bod yn un o nodweddion bywyd economaidd yng Nghasnewydd ers diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. A allwch ailddatgan cefnogaeth Llywodraeth Cymru i hynny, ac a fyddech yn croesawu ymgyrch a lansiwyd heddiw gan y South Wales Argus, sydd wedi lansio deiseb o blaid cadw gwaith dur Orb?
Wel, gallaf ddweud yn glir iawn wrth John Griffiths nad yw Llywodraeth Cymru am weld gwaith dur Orb yn cau. Rydym wedi bod yn trafod gyda Tata ac Undeb Community i weld beth y gellir ei wneud. Mae Tata wedi parhau i ddadlau bod y gwaith yn gwneud colledion sylweddol a bod gorgyflenwad ym marchnad y byd, ac nad ydynt yn teimlo bod ganddo ddyfodol hyfyw. Nawr, mae Undeb Community wedi comisiynu ymgynghorwyr—Sindex—i archwilio opsiynau eraill yn lle cau Orb, ac wedi creu cynnig amlinellol, sy'n nodi, gyda chyllid Llywodraeth Cymru, ac ystod o newidiadau eraill gan y cwmni, fod dyfodol hyfyw yn bosibl. Rydym wedi derbyn crynodeb o'r cynnig hwnnw, a bydd angen i ni ddeall ei fanylion ac ymateb Tata Steel i'r argymhellion. Bydd y Prif Weinidog yn cyfarfod ag Undeb Community i drafod y cynnig, a byddwn yn sicrhau ein bod yn deall yn iawn pa rôl y gallwn ei chwarae, er mwyn rhoi dyfodol hyfyw i hyn.
2. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fesurau i wella cefnffordd yr A4042 yn Llanelen? OAQ54622
Wel, nid oes unrhyw gynlluniau uniongyrchol i wella cefnffordd yr A4042 yn Llanelen. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn monitro perfformiad y rhwydwaith cefnffyrdd yn rheolaidd.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Mae'n siŵr eich bod yn ymwybodol—neu yn sicr, mae eich cyd-Weinidog Ken Skates yn ymwybodol—o’r problemau parhaus gyda llifogydd ar yr A4042 yn Llanelen, yn enwedig ar yr adeg hon o'r flwyddyn. Caewyd y ffordd eto yn ystod y tywydd gwael yn ddiweddar, gan achosi anhrefn i gymudwyr o ran traffig. Rwy'n arbennig o bryderus y bydd y llwybr hwn hyd yn oed yn fwy hanfodol pan fydd gwasanaethau damweiniau ac achosion brys, a gwasanaethau eraill, yn symud o Nevill Hall i Ysbyty Athrofaol y Grange yng Nghwmbrân, pan fydd pobl o Frycheiniog a Maesyfed a de Powys hefyd yn ddibynnol ar yr ysbyty newydd, gan y gallai hyn ddod yn fater o fywyd a marwolaeth gyda chynnydd mewn amseroedd teithio. Tybed a allech roi diweddariad i ni, neu sicrhau’r amgylchiadau cywir i roi diweddariad i ni, ar welliannau i'r darn hwn o ffordd, boed hynny'n golygu gwell draenio, codi'r ffordd, neu o bosibl, ac yn ôl pob tebyg yr opsiwn gorau yn y tymor canolig, neu’r tymor hwy o leiaf, ffordd osgoi ar gyfer pentref Llanelen.
Wel, fel y gŵyr Nick Ramsay, mae hon wedi bod yn broblem ers tua 20 mlynedd, ac nid oes ateb syml iddi. Rydym yn ymwybodol iawn o'r broblem ac wedi treulio peth amser yn ymchwilio i atebion posibl. Bydd yn ymwybodol fod y bont bresennol yn strwythur rhestredig gradd II, ei bod yn ymyl gorlifdir, ac nad oes ateb peirianyddol syml a fyddai'n parchu ei nodweddion presennol neu'n datrys y broblem o fewn yr ôl troed presennol. Rydym yn gwneud yr hyn a allwn, gan weithio gyda pherchnogion tir lleol, i gynnal a chadw'r tir, i ddraenio'r ffosydd, ac mae'r oedi pan fydd y ffordd ar gau yn mynd yn llai o lawer bellach. Bu achlysuron pan fu'r ffordd ar gau am wythnos, a chredaf mai am awr y bu ar gau y tro diwethaf. Felly rydym yn gwneud llawer i geisio lliniaru’r sefyllfa; nid oes ffordd hawdd o’i datrys. Wrth gwrs, rydym yn buddsoddi mewn rheilffyrdd, a bydd gwasanaeth Cas-gwent, sydd ond yn cael dau drên yr awr ar hyn o bryd, yn cynyddu o ran capasiti o ganol mis Rhagfyr ymlaen, i bedwar trên yr awr. Felly, mae honno’n enghraifft arall o ymyrraeth gennym i helpu gyda'r sefyllfa. Ond os oes gan yr Aelod ateb hawdd a syml mewn golwg nad ydym wedi'i ystyried, byddem yn sicr yn barod i edrych arno.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Un o'r pethau olaf a wnaeth Alun Cairns fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru—neu Ysgrifennydd Gwladol gorllewin Lloegr, fel roedd llawer yn ei adnabod—oedd sefydlu porth y gorllewin. Porth i ble yw porth y gorllewin, ac i bwy?
Wel, a gaf fi ddweud yn gyntaf, yn amlwg, fod Alun Cairns wedi ymddiswyddo yn ystod yr ychydig oriau diwethaf, a chredaf mai dyna oedd y peth iawn i'w wneud o dan yr amgylchiadau? Yn amlwg, mae ein Llywodraeth a'i Lywodraeth yntau wedi anghytuno ynghylch nifer o faterion. Ond dylwn ddweud bod Ken Skates a minnau wedi cael perthynas dwymgalon a phroffesiynol gydag Alun Cairns, ac yn enwedig ar y bargeinion dinesig, rydym wedi cydweithio'n dda gyda’n gilydd, ac yn sicr, ni fyddem wedi dymuno i'w amser fel Gweinidog ddod i ben fel hyn.
O ran y cwestiwn uniongyrchol, mae'n anffodus iawn fod cydweithrediad Glannau Hafren wedi cael ei alw'n 'orllewin Prydain' yn rhywfaint o'i weithgarwch ar y cyfryngau cymdeithasol. Yn sicr, nid dyna’r cynllun i sicrhau ei fod yn cael dechrau da. Rydym yn awyddus, yn amlwg, i edrych ar fforwm a all gydweithredu dros y ffin, fel y gwnawn yng ngogledd Cymru gyda Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy. Fodd bynnag, rydym yn amheus ynghylch y bwriad y tu ôl i sefydlu'r gynghrair hon, ac yn sicr, ynghylch rhoi unrhyw nodweddion sefydliadol iddi gan ein bod yn ofni bod Llywodraeth y DU yn defnyddio hyn fel ceffyl pren Troea i danseilio Llywodraeth Cymru drwy beth bynnag a ddaw o'r gronfa ffyniant gyffredin. Rydym yn edrych ymlaen at weld a ddaw unrhyw beth o'r gronfa ffyniant gyffredin. Ond credaf ein bod yn ymdrin â hyn gyda pheth amheuaeth. Mae'r cadeirydd a benodwyd, Katherine Bennett, yn unigolyn da iawn ac yn sicr ni fyddem yn dymuno ei thanseilio mewn unrhyw ffordd. Nid apwyntiad ar y cyd mo hwn, ond yn sicr, hoffem gael sgwrs gyda hi ynglŷn â sut y mae'n teimlo y dylai'r gynghrair hon weithredu, gyda'n pryderon mewn golwg.
Wel, mae Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, yn cael ei galw'n bartner ym mhrosiect porth y gorllewin. O fewn munudau i lansio'r prosiect, cyfeiriodd y cadeirydd y sonioch chi amdani at 'bwerdy gorllewin Prydain'. Sut y credwch fod ail-frandio Cymru yn orllewin Prydain neu ran o orllewin Prydain yn helpu gyda'r gwaith sydd angen ei wneud i adeiladu economi go iawn yng Nghymru a all weithio wedyn mewn partneriaeth go iawn â'n ffrindiau i'r dwyrain?
Wel, digwyddais siarad â Katherine Bennett ar y bore yr anfonwyd y trydariad hwnnw a dywedodd yn glir wrthyf nad ei geiriau hi oeddent. Rwy’n amau efallai fod gan swyddfa orfywiog y cyn Ysgrifennydd Gwladol y soniwyd amdano gynnau rywbeth i’w wneud â hyn, ond gan roi hynny o'r neilltu am funud, credaf fod daearyddiaeth economaidd yno rydym am ei harchwilio a manteisio arni, ond rydym yn Llywodraeth ddatganoledig, mae gennym ffin i'w pharchu, ac yn sicr, nid ydym am fod yn naïf ynghylch yr agendâu gwleidyddol sydd ar waith yn San Steffan mewn perthynas â hyn, ond rydym eisiau'r gorau i bobl yn y rhan honno o Gymru a'n cymdogion agosaf.
Ni chredaf fod 'rydym yn parhau i fod yn amheus’ yn ddigon da o ran rhai o'r negeseuon rwy’n sicr wedi'u clywed a'u darllen ynglŷn â phrosiect porth y gorllewin. Yr hyn rydym am ei weld yw Llywodraeth Cymru sydd o ddifrif yn adeiladu economi Cymru, ac rwy'n ofni bod Llywodraeth Cymru wedi cael ei chamarwain gan Swyddfa Cymru o dan Alun Cairns. Credaf fod Llywodraeth Cymru wedi bod yn llawer rhy awyddus i ddal ei gafael yng nghynffon côt Alun Cairns fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Gwyddom fod Llywodraeth Cymru wedi cytuno i ailenwi'r ail bont Hafren yn Bont Tywysog Cymru, a gwyddom na chroesawyd hynny o gwbl gan bobl Cymru. Gwyddom fod Llywodraeth Cymru wedi cael cyfle i ddweud ei dweud ar y mater hwnnw a’i bod wedi penderfynu peidio â gwneud hynny am ba reswm bynnag, ac rwy’n ofni, mewn perthynas â phorth y gorllewin, yn ogystal â phrosiectau dros y ffin rhwng gogledd-ddwyrain Cymru a gogledd-orllewin Lloegr, nad yw Llywodraeth Cymru o ddifrif ynglŷn â'i rôl yn creu economi Gymreig wirioneddol gryf.
Rwy'n cefnogi gweithio trawsffiniol yn fawr. Mae gweithio trawsffiniol yn gweithio er budd cyffredin gwledydd a rhanbarthau cyfagos ledled y byd. Nid yw hynny'n wahanol i ni yng Nghymru. Ond a wnaiff y Gweinidog weld, cyhyd â bod gennym ddarlun o Lywodraeth Cymru yn mynd gyda dysgl gardod i'r cyfarfodydd partneriaeth nad yw'n ymddangos ei bod am fod yno fel partner go iawn, y bydd Cymru yn cael ei thanwerthu gan y Llywodraeth hon?
Wel, credaf fod hynny braidd yn orgynhyrfus. Credaf y buaswn yn cael trafferth gyda—[Torri ar draws.]
Hoffwn pe baech ychydig yn fwy cynhyrfus ynglŷn â gwneud defnydd o economi Cymru. Cynhyrfu am—
A chredaf y buaswn yn cael trafferth—. Buaswn yn cael trafferth—[Torri ar draws.] Gyda phob parch, rydych wedi gofyn eich cwestiwn. Mae eich cwestiwn wedi’i orffen. Rwy'n ceisio ei ateb, os caniatewch i mi wneud hynny.
Wel, na, cafwyd sylw coeglyd. Dyna a glywais gyntaf.
Wel, â phob parch—
Gadewch i'r Gweinidog barhau i ateb eich cwestiwn.
Mae Rhun ap Iorwerth yn ddig am imi wneud sylw coeglyd. Mae wedi ein cyhuddo o fod ag agwedd dysgl gardod, felly mae hynny'n eithaf coeglyd, buaswn yn dweud, â phob parch.
Ac o ran cynffon côt Alun Cairns, buaswn yn cael trafferth ei chyrraedd, gyda phob parch. Felly, nid oes agwedd daeogaidd yma ac ni chredaf fod defnyddio iaith mor hysterig yn hybu trafodaeth gall ynglŷn â sut y gallwn hyrwyddo buddiannau economaidd de Cymru.
Fel y dywedais yn glir, yn sicr nid ein term ni oedd 'gorllewin Prydain’, na therm y cadeirydd yn wir, ac yn sicr, ni fuaswn—a dywedais yn glir yn fy ateb cynharach—yn cymeradwyo hynny. Fel y dywedais, nid ydym yn naïf ynghylch yr agendâu gwleidyddol sydd ar waith yma. Nid oedd hwn yn apwyntiad ar y cyd. Nid yw hyn yn rhywbeth rydym yn ei sefydlu ar y cyd. Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol am y fenter hon. Byddwn yn ei gwylio â diddordeb. Os yw'n fforwm ar gyfer rhannu gwybodaeth, rydym yn fwy na pharod i fod yn rhan ohono. Os yw'n fwy na hynny, ni fyddwn yn gwneud hynny.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Russell George.
Diolch, Lywydd. Ddirprwy Weinidog, a yw'r amserlen ar gyfer Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru wedi llithro?
Nid hyd y gwn i.
Diolch. Mae'n braf clywed hynny. Ym mis Mehefin eleni, dywedodd y Dirprwy Weinidog, eich bos, y Gweinidog, wrth y Siambr hon fod trafnidiaeth yn faes lle mae gan Lywodraeth Cymru gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol. Dywedodd ei fod yn disgwyl adroddiad interim i Gomisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru o fewn chwe mis. Dywedodd y Gweinidog hefyd, ac rwy'n dyfynnu:
'rwyf wedi bod yn awyddus ac yn glir iawn wrth ddweud wrth y cadeirydd ac wrth y cyhoedd, os gall y comisiwn gyflwyno awgrymiadau ymarferol y gellir eu cyflwyno'
yn y tymor byr, o fewn y chwe mis nesaf, i liniaru tagfeydd ar yr M4, y dylid gwneud hynny heb oedi.
Ers y datganiadau hyn yn ôl ym mis Mehefin, a gaf fi ofyn ychydig o gwestiynau? A gaf fi ofyn pam ei bod wedi cymryd tan fis Hydref i sefydlu aelodaeth y comisiwn? Ac a gaf fi ofyn hefyd: a allwch gadarnhau y bydd gennym yr adroddiad interim erbyn diwedd eleni, neu ai diweddariad yn unig fydd hwn? Ac a gaf fi ofyn, ymddengys fod hyn wedi'i wthio i'r naill ochr—a allwch ddweud wrthyf a yw'r adroddiad interim hwn wedi'i wthio i'r naill ochr, neu a ydych yn dal i ragweld y bydd yr adroddiad yn cael ei gyflwyno erbyn diwedd eleni?
Mae'r Prif Weinidog a Gweinidog yr economi wedi dweud yn glir iawn wrth gadeirydd y comisiwn ein bod yn disgwyl cael argymhellion cynnar erbyn y Nadolig, a dyna yw ein disgwyliad o hyd.
Cymerwyd peth amser i gynnull panel o bobl uchel eu parch. Maent wedi cyhoeddi eu cylch gorchwyl a'u ffordd o weithio. Mae'n galonogol iawn na fyddant wedi'u cyfyngu, fel a ddigwyddodd gydag astudiaethau blaenorol, i edrych ar opsiynau ffyrdd yn unig, ond byddant yn edrych ar yr ystod lawn o ymyriadau, gan gynnwys newid ymddygiad, i fynd i'r afael â thagfeydd a'r ddibyniaeth ar geir yn y rhan honno o Gymru, yn hytrach na'r dulliau traddodiadol sydd wedi dominyddu'r ddadl hon ers blynyddoedd lawer.
Felly, rwy'n disgwyl ystod gyffrous o gynigion, gyda rhai syniadau cychwynnol erbyn diwedd eleni.
Diolch, Weinidog. Fe fyddwch hefyd yn ymwybodol fod traffig ar yr M4 yn cynyddu'n ddyddiol. Rydym wedi cael arolwg barn newydd, sy'n dangos bod bron i ddwywaith cymaint o bobl yng Nghymru bellach yn credu y dylid adeiladu ffordd liniaru'r M4, yn groes i farn y Prif Weinidog a Llywodraeth Cymru. Ond a allwch gadarnhau p'un a yw'r opsiwn o adeiladu ffordd liniaru'r M4 o fewn cwmpas cylch gorchwyl Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru ai peidio? Ac os felly, ac os ydynt yn argymell eich bod yn ei hadeiladu, a fyddwch yn gwneud hynny neu a fyddwch yn gwrthod canfyddiadau'r comisiwn annibynnol hwn?
Na. Ar ôl cynnal ymchwiliad cyhoeddus a edrychodd ar y llwybr du, ni fyddai unrhyw bwrpas sefydlu ymchwiliad arall i fynd i ailedrych ar yr un opsiwn yn union. Felly, nid yw hwnnw'n opsiwn y mae'r comisiwn yn ei ystyried. Maent yn edrych ar opsiynau eraill y credwn y gellir eu cyflwyno'n gyflymach ac yn rhatach ac a fyddai'n cael gwell effaith na'r ffordd a archwiliwyd eisoes.
Mae Russell George yn sôn am arolwg barn a gyhoeddwyd ddoe, sydd—. Wel, buaswn yn dweud dau beth am hynny: yn gyntaf oll, gwnaeth y Prif Weinidog ei benderfyniad nid oherwydd ei fod yn boblogaidd ond oherwydd mai dyna'r peth iawn i'w wneud, oherwydd nid oedd adroddiad yr arolygydd yn rhoi cydnabyddiaeth briodol i'r argyfwng hinsawdd na'r effaith ddinistriol ar fioamrywiaeth. Roedd hwnnw'n benderfyniad egwyddorol a wnaed gan y Llywodraeth, nid un i geisio bod yn boblogaidd. Ac nid yw'r arolwg barn yn werth llawer, mewn gwirionedd, pan feddyliwch am y ffordd y cafodd ei ofyn. Pe bai'r cwestiwn wedi'i ffurfio i ofyn i bobl, 'A fyddech yn fodlon i'ch ysbyty a'ch ysgol gael eu canslo ar gyfer prosiect y mae ei gyllideb wedi mwy na dyblu?', efallai y byddai wedi cynhyrchu canlyniad gwahanol.
Llefarydd Plaid Brexit, David Rowlands.
Diolch, Lywydd. Ddirprwy Weinidog, mae’r cynnig i wneud Casnewydd yn ganolbwynt ar gyfer twf economaidd wedi'i groesawu gan bawb yn Nwyrain De Cymru, ac rydym yn llongyfarch Llywodraeth Cymru ar ei chyhoeddiad. Fodd bynnag, deallaf fod cyngor dinas Caerdydd wedi beirniadu’r cynnig hwn, gan ddadlau y byddai'n mynd â swyddi a buddsoddiad allan o Gymru ac yn tanseilio rôl Caerdydd fel sbardun economaidd i economi Cymru.
Onid yw'r Gweinidog yn cytuno â mi fod eu dadl yn mynd yn groes i'r cynllun datblygu rhanbarthol a'r gwaith o sefydlu cynlluniau datblygu strategol sy'n cwmpasu prifddinas-ranbarth Caerdydd mewn gwirionedd?
Wel, mae'n debyg mai at arweinydd cyngor Caerdydd y dylid cyfeirio'r sylwadau hynny. Mae ymgynghoriad ar waith ar y fframwaith datblygu cenedlaethol, ac edrychwn ymlaen at ystyried pob sylw fel rhan o hynny.
Wel, diolch i'r Dirprwy Weinidog am ei ateb cryno, ond Ddirprwy Weinidog, mae'r fframwaith cenedlaethol drafft yn cwmpasu cynlluniau datblygu lleol, cynlluniau datblygu strategol, datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol, pob un ohonynt yn sefyll ochr yn ochr â 'Pholisi Cynllunio Cymru', a phob un yn seiliedig yn ôl y sôn ar strwythur rhanbarthol. O ystyried yr awydd hwn i newid i ganolfannau llywodraethu rhanbarthol, a allai Llywodraeth Cymru ystyried cael pum canolfan lywodraethu ranbarthol yn unig, yn seiliedig, efallai, ar ranbarthau etholiadol Cynulliad Cymru, yn hytrach na'r gymysgedd ychydig yn ddi-drefn o ranbarthau economaidd sy'n seiliedig ar awdurdodau lleol sydd bellach yn bodoli neu'n cael eu hargymell? Byddai gan y rhanbarthau mwy hyn gyllidebau mwy, a fyddai'n hwyluso cynllunio strategol yn well, yn enwedig ar gyfer prosiectau seilwaith, ac felly'n sail i gynllun datblygu strategol y Llywodraeth ar gyfer Cymru.
Os wyf wedi deall pwynt yr Aelod yn iawn, mae'r rhanbarthau sy'n bodoli yn seiliedig, yn sicr yn y de-ddwyrain, ar brifddinas-ranbarth Caerdydd, dinas-ranbarth a fu'n cael ei ddatblygu ers rhai blynyddoedd bellach ac sydd wedi cael cefnogaeth yr awdurdodau lleol. Yn sicr, gallwch ddadlau ynglŷn â ble y dylid tynnu’r llinell rhwng rhanbarth canolbarth Cymru a dinas-ranbarth bae Abertawe, ond gallwch bob amser gael y safbwyntiau hyn ynglŷn â pha ddarn a ddylai fod ym mha un ac yn y blaen. Rydym yn barod i gadw meddwl agored. Os oes cefnogaeth ymhlith yr awdurdodau lleol i'w hailraddnodi, byddem yn ystyried hynny, wrth gwrs. Ond ychydig o gapasiti sydd gennym i chwarae ag ef yma rhwng yr awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru, ac mae angen inni ddewis y nifer gorau posibl fel y gallwn sicrhau bod gennym allu i reoli ein hadnoddau mewn modd priodol ac effeithiol, a pho fwyaf y byddwn yn eu hollti, yr anoddaf fydd cael y canlyniadau rydym yn edrych amdanynt.
3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am seilwaith cysylltedd digidol ar gyfer cymoedd de Cymru? OAQ54618
Gwnaf. Mae cymoedd de Cymru wedi cael buddsoddiad sylweddol mewn seilwaith cysylltedd digidol, gyda chynllun Cyflymu Cymru yn buddsoddi dros £66.9 miliwn i ddarparu mynediad at fand eang ffeibr cyflym i dros 244,600 o adeiladau.
Diolch am eich ateb, Ddirprwy Weinidog. Gwn, wrth gwrs, fod hwn yn faes gwaith sydd heb ei ddatganoli i raddau helaeth, ond rwy'n cydnabod, dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, oherwydd methiant Llywodraeth y DU i ddarparu buddsoddiad digonol lle na fydd y farchnad fasnachol yn darparu'r gwasanaeth hanfodol hwn i’n cymunedau a’n busnesau, fod Llywodraeth Cymru wedi camu i’r adwy ac wedi buddsoddi mewn seilwaith band eang o ansawdd uchel, gan wella cysylltedd digidol drwy raglen Cyflymu Cymru, fel y nodoch chi eisoes—rhywbeth rwy'n ymwybodol ei fod yn cael effaith gadarnhaol iawn yn fy etholaeth. Felly, a gaf fi ofyn i'r Dirprwy Weinidog: pa waith rydych yn ei wneud gyda'ch cyd-Weinidogion yn Llywodraeth Cymru i bwyso ar Lywodraeth y DU i ddilyn eich arweiniad ac i ddarparu cyllid ar gyfer seilwaith digidol o ansawdd uchel a all roi rhagor o gefnogaeth i ardaloedd fel Merthyr Tudful a Rhymni wella eu cynhyrchiant a'u cystadleurwydd fel ardal i fuddsoddi ynddi?
Diolch am eich cwestiwn. Mae Dawn Bowden yn llygad ei lle fod hwn yn faes heb ei ddatganoli, ond oherwydd methiant y farchnad ac anweithgarwch Llywodraeth y DU, mae Llywodraeth Cymru wedi gorfod camu i mewn yma i ddargyfeirio adnoddau sylweddol oddi wrth wasanaethau datganoledig i fynd i’r afael â’r methiant amlwg hwn gan Lywodraeth y DU i weithredu. Rydym wedi cyflawni canlyniadau sylweddol: band eang cyflym iawn mewn 95 y cant o safleoedd yng Nghymru. Nawr, rydym yn credu o ddifrif fod mynediad cyflym at y rhyngrwyd bellach yn wasanaeth modern hanfodol. Mae gan Lywodraeth y DU rwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol ar gyfer gwasanaethau post, felly, os ydych yn postio llythyr at drac fferm, anghysbell, mae'n dal i fod—er efallai nad yw'n broffidiol, mae gan y Post Brenhinol rwymedigaeth i ddosbarthu'r llythyr hwnnw. Credwn y dylid cael rhwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol debyg i ddarparwyr telathrebu ddarparu band eang modern, cyflym.
Mae Llywodraeth y DU yn cynnig yr hyn y mae'n ei alw'n rhwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol, ac mae hynny mewn enw yn unig, mae arnaf ofn. Ceir hawl i ofyn am hyd at 10 Mbps, lle nad yw'r gost adeiladu yn fwy na £3,400, o fis Mawrth 2020. Felly, bydd hyn yn dal i adael rhannau helaeth o gefn gwlad Cymru heb wasanaeth band eang sy'n gweithio. Felly yn amlwg, nid yw hynny'n werth y papur y mae wedi'i ysgrifennu arno. Rydym yn edrych i weld beth y gallwn ei wneud, ac mae gennym ddatganiad a dadl cyn bo hir ar beth arall y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i gyrraedd yr ardaloedd nad ydym wedi eu cyrraedd eto.
Ceir rhywfaint o gynnydd o ran technolegau eraill, yn enwedig 4G a 5G, sydd hefyd yn gallu darparu gwasanaethau rhyngrwyd. Cyfarfûm â'r cwmnïau telathrebu yn ddiweddar, ac rwy'n falch iawn o ddweud eu bod wedi llunio eu cynllun eu hunain i sicrhau newid sylweddol o ran darpariaeth 4G yng Nghymru erbyn 2025, er mwyn cynyddu'r cwmpas o 58 y cant i 86 y cant, heb ymyrraeth gan Ofcom. Rhaid i mi ddweud bod hynny'n galonogol iawn, ac rydym yn gweithio gyda hwy i weld beth y gallwn ei wneud i helpu i gynyddu hynny y tu hwnt i 86 y cant os oes modd. Rydym yn bryderus na fydd hyn yn cael ei gyflawni tan 2025, sy'n dal i adael bwlch hir iawn.
Rydym hefyd yn gweithio fel rhan o'r broses o gynnig am dreialon 5G mewn ardaloedd gwledig. Mae Simon Gibson yn arwain grŵp gorchwyl a gorffen sy’n edrych ar 5G ar gyfer Llywodraeth Cymru, ac fel rhan o hynny, mae wedi cyflwyno cais i dreialon 5G yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon ar gyfer ardaloedd prawf, ac maent ar fin ei ystyried, cais a fyddai’n arwain at ffocws arbennig ar Flaenau Gwent, Blaenau'r Cymoedd a sir Fynwy, sef canlyniad gwaith gwerth £250,000 y mae'r Llywodraeth wedi'i gefnogi. Felly, credaf ein bod yn gwneud rhai pethau, er nad yw hyn yn fater wedi'i ddatganoli. Ond mewn gwirionedd, mae angen i Lywodraeth y DU ysgwyddo'i chyfrifoldeb am hyn ar unwaith.
Weinidog, y mis diwethaf, cynhyrchodd y Ffederasiwn Busnesau Bach adroddiad ar sut y mae cysylltedd band eang a ffonau symudol yn rhwystro busnesau bach yn ne-ddwyrain Cymru. Wrth drafod Cymru, maent yn tynnu sylw at y ffaith bod ffonau symudol yn dod yn elfen fwyfwy allweddol o gysylltedd i berchnogion busnesau bach. Mewn ardaloedd lle nad oes band eang cyflym iawn ar gael, mae niferoedd anghymesur o uchel o gwmnïau bach yn dweud eu bod yn defnyddio eu ffonau symudol ar gyfer bancio dros y rhyngrwyd ac i ryngweithio â chwsmeriaid a chyflenwyr ar yr un pryd. Weinidog, pa gamau y byddwch yn eu cymryd i ymestyn cyrhaeddiad band eang i ardaloedd sy'n anodd eu cyrraedd ar hyn o bryd, megis rhannau o Gymoedd de-ddwyrain Cymru? Diolch.
Wel, gyda phob parch i Mohammad Asghar, rwyf newydd ateb y cwestiwn hwnnw. Buaswn yn dweud wrtho mai Llywodraeth y DU—waeth beth fo'i phlaid, Llywodraeth y DU sydd â'r rôl arweiniol i'w chwarae yma. Ac ers i'w blaid ddod i rym, rydym ar ei hôl hi'n druenus. Rydym wedi camu i'r adwy lle na ddylem orfod gwneud hynny i ddarparu'r gwasanaeth hwn. Mae'n bryd bellach i'r Llywodraeth weithredu.
4. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi datblygu economaidd yng Ngogledd Cymru? OAQ54626
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae Banc Datblygu Cymru wedi cefnogi 109 o fusnesau yng ngogledd Cymru, gyda chyfanswm o £40 miliwn o fuddsoddiad yn y rhanbarth ers 2016. Mae Busnes Cymru wedi helpu mwy na 6,000 o fusnesau ac entrepreneuriaid i gynhyrchu £30 miliwn o fuddsoddiad, £16 miliwn mewn allforion a bron i 3,000 o swyddi newydd.
Ar 28 Hydref, cyhoeddodd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ddatganiad ysgrifenedig ar fetro gogledd Cymru. Roedd llawer o gynnwys y datganiad hwnnw wedi'i gymryd o ddogfennau gweledigaeth twf a chais twf Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru—o barthau teithio integredig i'r llwybr rhwng Wrecsam a Bidston i'r seilwaith ffyrdd a rheilffyrdd. Roedd disgwyl i benawdau'r telerau ar y fargen twf gael eu cytuno erbyn diwedd mis Chwefror, yna cawsant eu gohirio tan fis Gorffennaf, yna tan fis Hydref neu fis Tachwedd, ac ar ôl iddynt gael eu cytuno, deallwn y bydd yn cymryd pedwar i chwe mis i gwblhau'r achos busnes cyn rhoi unrhyw rawiau yn y ddaear.
Fodd bynnag, ddoe, nododd ein papur lleol fod cynrychiolwyr Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru wedi ymuno â Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i arwyddo penawdau'r telerau a chytuno ar y saith rhaglen a fydd yn ffurfio’r fargen o 2020 ymlaen, a dywedodd cadeirydd y bwrdd:
'Ein camau nesaf fydd dechrau gwaith ar y prosiectau â blaenoriaeth a cheisio cyllid gan y sector preifat mewn meysydd allweddol',
y disgwylir iddo ddod i gyfanswm o £1 biliwn o fuddsoddiad. Pam nad yw Llywodraeth Cymru wedi rhannu’r cynnydd gwych hwn gyda ni wedi'r holl fisoedd hyn o oedi, o gofio bod hyn wedi'i godi yma dro ar ôl tro? A sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau y byddwn yn cael ein briffio ar y rhaglenni blaenoriaeth hynny wrth iddynt fynd rhagddynt, pryd fyddant yn debygol o ddechrau, a sut y cânt eu cyflwyno?
Nid wyf yn hollol siŵr sut i ymateb i'r cwestiwn hwnnw, a dweud y gwir. Roedd yr oedi wrth arwyddo gyda Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru yn ganlyniad i oedi gan Lywodraeth y DU. Ymddengys ei fod wedyn yn ein beirniadu am fabwysiadu polisïau roedd bwrdd uchelgais gogledd Cymru wedi'u hyrwyddo yn ei gynllun. Mae fel arfer yn ein beirniadu am beidio â chydweithredu'n ddigonol â Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, felly nid wyf yn hollol siŵr beth oedd y pwynt y ceisiai ei wneud.
Bellach, mae gennym ffordd ymlaen gyda'r bwrdd uchelgais, a mater iddynt hwy yw gweithio fel rhanbarth. Holl bwynt y dinas-ranbarthau hyn yw bod angen i'r arweinyddiaeth fod yn lleol. Mater i'r awdurdodau lleol, gan weithio gyda'i gilydd, yw llunio cynllun i fodloni Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU fod ganddynt gynlluniau cadarn ar waith y gellir eu cyflawni ar amser ac o fewn y gyllideb, ac yna byddwn yn darparu'r arian. Nid dod i gwyno i Lywodraeth Cymru drwy'r amser eu bod yn disgwyl inni gymryd yr awenau. Dyma holl bwynt datblygu economaidd rhanbarthol: caiff ei arwain gan y rhanbarth, ac rydym yn gweithio'n agos gyda hwy i wneud hynny. Rydym yn cydgynhyrchu hynny gyda hwy drwy ein dull economaidd rhanbarthol newydd, ac mae prif swyddog rhanbarthol gogledd Cymru yn gweithio'n agos â'r bwrdd i wneud yr hyn a allwn. Ond partneriaeth yw hon, ac mae'n rhaid i'r ddau bartner weithredu.
5. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am barodrwydd cefnffyrdd cyn tywydd gwael posibl? OAQ54613
Gwnaf. Mae parodrwydd ar gyfer y gaeaf yn hanfodol i'n rhwydweithiau trafnidiaeth. Rydym mewn cysylltiad rheolaidd ag awdurdodau lleol i fonitro lefelau stociau halen, gan sicrhau y gallwn gynnal diogelwch a dibynadwyedd y rhwydwaith. Rydym hefyd yn gweithio'n agos gyda chwmnïau rheilffyrdd a bysiau i sicrhau parodrwydd y system drafnidiaeth gyhoeddus.
Diolch am eich ateb, Ddirprwy Weinidog. Yn sicr, yn fy etholaeth dros yr wythnosau diwethaf, bu nifer o broblemau gyda llifogydd lle rydym wedi gweld nifer o ffyrdd yn cau. A’r hyn y mae etholwyr yn dod ataf yn ei gylch yw’r ffaith na allant gael gwybodaeth am ble mae'r ffyrdd ar gau, boed yn gefnffyrdd neu’n ffyrdd sy'n gyfrifoldeb i'r awdurdod lleol. Nawr, gwn fod y Gweinidog eisoes wedi crybwyll wrth Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau fod cyfathrebu'n rhywbeth yr hoffai ei weld yn cael ei wella ar gyfer gwaith ffordd a gynllunnir. Rwy'n derbyn nad yw llifogydd wedi'u cynllunio, ond oni fyddech yn cytuno y byddai'n ddefnyddiol cael siop un stop lle gall Traffig Cymru restru'r holl ffyrdd sydd ar gau, boed yn gau wedi'i gynllunio neu mewn achosion o lifogydd? A buaswn yn gobeithio eich bod yn cytuno nad yw y tu hwnt i allu dyn—
Neu fenyw.
—neu fenyw, Joyce, i gael cyfleuster i ganiatáu i awdurdodau lleol drosglwyddo gwybodaeth i wefan Traffig Cymru, fel bod gennym y siop un stop honno ar gyfer unrhyw fath o broblemau ar y ffordd.
Iawn, buaswn yn cytuno â hynny, ac mae hynny i fod i ddigwydd. Mae'r ffrydiau Twitter, yn sicr rhai'r asiantaethau cefnffyrdd rwyf yn eu dilyn, yn rhoi diweddariadau rheolaidd ar ffyrdd sydd wedi cau, boed yn gau wedi'i gynllunio neu beidio. Felly, os oes gan yr Aelod rai enghreifftiau penodol o ble nad yw hynny'n digwydd, rwy'n fwy na pharod i ymchwilio ymhellach i hynny.
Ddirprwy Weinidog, wrth i'r gaeaf agosáu, mae'r oriau tywyll yn mynd yn hwy, ac felly mae angen inni edrych ar yrru yn ystod yr oriau tywyll, a byddem yn amlwg yn dibynnu ar oleuadau stryd, lle maent ar gael, i weithio'n effeithiol, yn enwedig ar hyd y cefnffyrdd. Nawr, ym Mhort Talbot, mae'r goleuadau stryd yn y rhan uwchddaearol wedi cael eu tynnu oddi yno ers misoedd lawer. Mae'r bonion yno o hyd, ac yn y tywyllwch ac yn y nos ni allwch weld y bonion gan ei bod mor dywyll. Pryd fydd Llywodraeth Cymru yn gosod y goleuadau yn eu holau, fel bod rhan uwchddaearol yr M4 a ddylai fod wedi'i goleuo, yn cael ei goleuo? Dylai fod yn fwy diogel i yrwyr, yn enwedig mewn ardal sy'n cael ei beirniadu'n fawr am y tagfeydd traffig.
Wel, yn sicr, torrwyd y colofnau ym mis Ebrill ar ôl i un ohonynt gwympo. Canfuwyd fod gan y strwythurau eraill fethiannau a oedd yn eu gwneud yn risg diogelwch. Fe'u symudwyd o'r herwydd. Yna, comisiynwyd adroddiad i edrych ar ba opsiynau a oedd ar gael i ni, a chanfuwyd bod y safonau wedi newid yn yr 20 mlynedd ers gosod y goleuadau, ac mewn gwirionedd, yn ôl safonau modern, ni fyddai'r ffordd wedi cael ei hadeiladu fel hynny yn y lle cyntaf, a barn yr arbenigwyr oedd fod y darn hwnnw o'r ffordd wedi'i oroleuo. Maent yn edrych yn awr ar beth yw'r opsiynau, ar sut y gellir rhoi dewisiadau amgen ar waith a sut y gallwn ystyried yr agenda ddatgarboneiddio. Felly, o bosibl, byddai gennym opsiynau goleuo sy'n defnyddio llai o ynni. Felly, mae hynny'n digwydd ar hyn o bryd. Bydd yn cymryd tua thri mis i archebu'r colofnau goleuo, felly mae'n annhebygol o ddigwydd yn y flwyddyn ariannol hon. Rydym yn ystyried opsiynau yn y cyfamser, yn enwedig llifoleuadau, ond byddai angen generaduron ar gyfer hynny. Ond rydym yn gobeithio cael rhai argymhellion y gallwn eu rhoi ar waith yn ystod y misoedd nesaf.
6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella cysylltiadau trafnidiaeth yng Ngorllewin De Cymru? OAQ54625
Diolch. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol i ddatblygu rhaglen gynhwysfawr o welliannau ar draws pob dull trafnidiaeth i wella cysylltiadau trafnidiaeth ar draws y rhanbarth a fydd yn cefnogi ein cymunedau ac yn sicrhau twf cynaliadwy.
Diolch, Ddirprwy Weinidog. Er efallai y gellir cyfiawnhau llawer o'r sylw i dagfeydd ar yr M4 ger Casnewydd a'r effaith y mae hynny'n ei chael ar economi coridor yr M4 yn gyffredinol, mae fy rhanbarth i hefyd yn dioddef o dagfeydd ar y draffordd. Mae cynnydd o bron i 50 y cant wedi bod mewn traffig ar gyffordd 48 yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac mae bron i 80,000 o gerbydau y dydd yn defnyddio cyffordd 47. Yn anffodus, i lawer, nid oes dewis arall dibynadwy i'w gael. Mae'r prif weithredwr bysiau yn Abertawe newydd gael dirwy gan fod ei wasanaethau mor wael ac annibynadwy. Mae bysiau'r cleifion sy'n teithio i ysbytai Singleton a Treforys yn hwyr yn amlach na pheidio, ac mae'r gwasanaeth yn aml yn cael ei ganslo'n gyfan gwbl. Ac o ran y trên, mae llawer o fy etholwyr yn cwyno am orlenwi ac oedi, ac mae'r gost fesul milltir yn uwch na'u ceir. Weinidog, pryd y gall fy etholwyr ddisgwyl gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus rhatach a mwy dibynadwy?
Wel, yn sicr mewn perthynas â chyffordd 48 yr M4 yn Hendy, gallaf gyhoeddi y byddwn yn buddsoddi yn yr ychydig fisoedd nesaf. Mae gwella llif y traffig a lliniaru tagfeydd yn rhan o'r ysgogiad economaidd rydym wedi'i gyhoeddi mewn ymateb i Brexit. Rydym yn darparu mwy na £3 miliwn i osod goleuadau a gwneud gwelliannau teithio llesol yn Hendy, a ddylai wneud gwahaniaeth yn ystod y flwyddyn ariannol hon, ac rwy'n falch iawn o hynny.
O ran y pwynt ehangach, rydym yn gweithio gyda'r Adran Drafnidiaeth i gynyddu capasiti trenau rhwng Abertawe a Llundain. Mae'n rhaid imi ddweud, mae'r cynnydd a wnaed wedi bod yn rhwystredig iawn. Cyhoeddwyd hyn, fe gofiwch, pan ganslwyd cynigion i drydaneiddio'r brif reilffordd, ac yn y ddwy flynedd ers hynny, nid ydym wedi clywed fawr ddim gan yr Adran Drafnidiaeth i'n cynorthwyo i fwrw ymlaen â hyn. Nid ydynt wedi rhannu dogfennau gyda ni, ac nid ydynt wedi bwrw ymlaen â hyn yn y ffordd y gwnaethant addo inni y byddent yn ei wneud pan wnaethant ganslo'r cynigion i drydaneiddio'r brif reilffordd.
Mae'n rhaid imi ddweud hefyd fy mod yn siomedig na allem weithredu yn y lle hwn ar sail fwy trawsbleidiol i fwrw ymlaen â hyn. Pan oedd Carl Sargeant yn Weinidog trafnidiaeth ffurfiwyd clymblaid i ddadlau'r achos dros drydaneiddio'r brif reilffordd, gwnaed hynny ar sail pob plaid yn y Siambr hon yn gweithio gyda'i gilydd a chyflwyno sylwadau i San Steffan, ac arweiniodd Carl ymgyrch lwyddiannus iawn. Ers i’r Ceidwadwyr ganslo’r fargen honno eu hunain a methu cyflawni’r hyn y dywedasant y byddent yn ei gyflawni o ganlyniad i hynny, ni chlywsom ddim byd ond distawrwydd oddi ar feinciau’r Ceidwadwyr nad ydynt wedi bod yn gweithio gyda ni i lobïo’r Adran Drafnidiaeth i wneud iawn am hynny.
Beth am yr M4?
Felly, buaswn yn gobeithio bod—. Rydym yn siarad am reilffyrdd, Darren, a dyma'r fargen a wnaeth Llywodraeth y DU, yr addewid a wnaeth eich Llywodraeth—
Beth am ffyrdd?
Mae Darren Millar yn gofyn, 'Beth am ffyrdd?' Wel, un pwnc ar y tro. Gadewch i ni roi sylw i reilffyrdd, sy'n fargen a wnaeth eich Llywodraeth â phob un ohonom yn y Siambr hon, nid ein plaid ni yn unig, i drydaneiddio'r brif reilffordd, ac fe wnaethoch chi ganslo'r fargen.
Fe wnaethoch chi addo gwelliannau.
Fe wnaethoch chi ganslo'r fargen, ac yna fe ddywedoch chi, yn gyfnewid am hynny—
Ers i Trafnidiaeth Cymru ddod yn gyfrifol am y gwasanaeth rheilffyrdd, a ydych wedi gweld ei gyflwr?
Os gwnewch chi dalu sylw, fe ddeallwch fy rhesymeg.
Nid oes angen i chi wrando ar Darren Millar pan nad yw ar ei draed.
Wel, Lywydd, mae'n anodd iawn peidio pan fo'i feicroffon ymlaen.
Nid yw ei feicroffon ymlaen.
Mae bellach wedi diffodd, rwy'n falch o ddweud.
Ni wnaethoch gadw at eich bargen. Nid ydych wedi gweithio gyda ni i gael yr un newydd y dywedoch chi y byddech yn ei rhoi ar waith. Felly, mae'n bryd ichi archwilio'ch cydwybod a gweithio gyda ni ar sail drawsbleidiol unwaith eto i sicrhau gwell gwelliannau ar draws coridor de Cymru.
Yna, yn olaf, i ateb pwynt Caroline Jones, metro de Cymru bae Abertawe, rydym yn gweithio arno gyda'r awdurdodau lleol yn yr ardal, rydym wedi rhoi rhywfaint o gyllid i'r broses honno a byddwn yn rhoi mwy o gyllid er mwyn cyflymu'r cynnydd.
Rydym hefyd wedi cynyddu capasiti ar y rheilffordd. Mae gennym wasanaethau newydd a phrisiau tocynnau newydd a fydd yn cael eu cyhoeddi y mis nesaf. Mae 40 y cant yn fwy o wasanaethau dydd Sul ar fin cychwyn ar draws y rhwydwaith, yn ogystal â gwasanaeth dydd Sul ar reilffordd Maesteg am y tro cyntaf. Felly, rydym yn gwneud cynnydd, ond gallem wneud mwy o lawer pe bai Llywodraeth y DU yn gwneud ei chyfran o'r gwaith hefyd.
7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am seilwaith trafnidiaeth yng ngogledd Cymru? OAQ54636
Wel, rwy'n edrych ymlaen at hyn. [Chwerthin.] Bydd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi ym mhob dull trafnidiaeth i ddarparu'r system drafnidiaeth fodern o ansawdd uchel sy'n hollbwysig i gyflawni ein cynaliadwyedd, ym mhob ystyr o'r gair.
Un maes buddsoddi rydych yn gyfrifol amdano ond heb ei gymryd o ddifrif yw'r angen am fuddsoddiad yng nghefnffordd yr A55 yn fy etholaeth. Fe fyddwch yn ymwybodol o'r tarfu sylweddol sy'n digwydd yn aml ar yr A55, yn enwedig pan fydd gwaith cynnal a chadw yn mynd rhagddo ar y ffordd, neu yn wir, pan fydd damweiniau'n digwydd ar y ffordd honno o ganlyniad i'r diffyg llain galed ar rannau sylweddol ohoni. Mae'r methiant i fynd i'r afael â'r tagfeydd ar yr A55 yn cael effaith ddinistriol ar ein profiad i ymwelwyr, mae'n peri i ambiwlansys fethu cyrraedd cleifion mewn pryd neu eu cludo i ysbytai pan fydd angen, ac wrth gwrs, mae'n achosi niwed aruthrol i'r economi o ran pobl yn methu cyrraedd neu adael eu gwaith, neu leoliadau addysg neu gyflogaeth yn wir.
Un enghraifft yw'r gwaith ffordd diweddar yn Llanddulas, a achosodd dagfeydd a arweiniodd at dros awr o amser teithio ychwanegol ar yr A55 yn fy etholaeth, gan achosi anhrefn llwyr ar ffyrdd, gan gynnwys y B5381, y B5383, sy'n gyfarwydd iawn i chi, rwy'n siŵr, â'r A547, pob un ohonynt yn ffyrdd lleol sy'n costio cryn dipyn i'w hatgyweirio pan fydd yn rhaid i'r traffig trwm oddi ar yr A55, nad ydynt wedi'u cynllunio ar ei gyfer, deithio arnynt er mwyn osgoi'r anhrefn y mae eich Llywodraeth yn ei achosi oherwydd y diffyg buddsoddiad. Felly, a allwch ddweud wrthym pryd y gwelwn yr A55 yn cael ei huwchraddio'n iawn ar draws gogledd Cymru, nid mewn etholaethau Llafur yn unig?
Gadewch i mi ddeall hyn yn iawn, a yw'n cwyno nad ydym yn buddsoddi, neu a yw'n cwyno ein bod yn buddsoddi ac yna'n cwyno am y gwaith ffordd y mae'r buddsoddiad hwnnw'n ei achosi? Nid wyf yn deall ei gŵyn yn iawn. Ni all ei chael hi bob ffordd. Pan fyddwn yn uwchraddio ac yn buddsoddi, mae hynny'n golygu tarfu, ac yn anffodus mae honno'n ffaith na allwn ei hosgoi.
Rydym yn buddsoddi mewn ystod o fentrau ar gyffyrdd 15 ac 16 ar yr A55, lle mae gennym ddatblygiadau a gwelliannau ar waith ar y cyffyrdd, a chynllun ar gyfer gwella ffordd yr A55 Abergwyngregyn i Dai’r Meibion, y buddsoddir ynddo ar hyn o bryd. [Torri ar draws.] Mae'n goridor, Darren Millar; mae arnoch angen buddsoddiadau ar hyd y coridor. Yng nghoridor sir y Fflint, gwelliannau pont afon Dyfrdwy a chroesfan y Fenai, rydym yn buddsoddi. Mewn gwirionedd, rydym yn buddsoddi £60 miliwn y flwyddyn o arian cyfalaf i awdurdodau lleol ei fuddsoddi mewn cynllun adnewyddu priffyrdd.
Ond nid yw mynd i'r afael â thagfeydd yn golygu gwella ffyrdd yn unig, mae'n ymwneud â dull amlfoddol i roi dewisiadau amgen i bobl yn lle ffyrdd, ac rydym yn buddsoddi'n sylweddol yn y rheilffordd. Ac rwy'n siŵr y bydd yn ymuno â mi i groesawu cyhoeddiad y gallaf ei wneud—[Torri ar draws.] Yn sicr, mae rhywbeth ar gyfer Gorllewin Clwyd. Talwch sylw. Edrychaf ymlaen at weld y datganiad i'r wasg gennych yn croesawu'r ffaith y gallaf gyhoeddi buddsoddiad o £1.6 miliwn heddiw ym mhromenâd Hen Golwyn ar gyfer y gwaith uwchraddio i wella cyfleusterau teithio llesol a chodi amddiffynfeydd arfordirol uwch. [Torri ar draws.] Mae'n dweud, 'Hen bryd'; nid oes plesio ar rai pobl. Felly, rydym yn buddsoddi yng Ngorllewin Clwyd ac rydym yn buddsoddi mewn teithio llesol i annog newid moddol, felly rwy'n siŵr y byddwch yn croesawu hynny.
8. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Trafnidiaeth Cymru i gynyddu capasiti teithwyr ar gyfer defnyddwyr rheilffyrdd yn Islwyn? OAQ54629
Nododd y Gweinidog, Ken Skates, ei weledigaeth ar gyfer rheilffyrdd yng Nghymru yn ei ddatganiad ar 24 Medi. Fel rhan o'n cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer metro de Cymru, bydd Trafnidiaeth Cymru yn darparu gwasanaethau ychwanegol, gyda gwell cerbydau trenau a gorsafoedd yn Islwyn.
Diolch, Ddirprwy Weinidog. Diolch am eich ateb. Mae rheilffordd Glyn Ebwy i Gaerdydd, a ailagorwyd gan Lywodraeth Lafur Cymru, wedi bod yn un o lwyddiannau mwyaf gweladwy datganoli. Yn yr 11 mlynedd ers ailagor y rheilffordd, mae teithwyr wedi heidio i ddefnyddio'r gwasanaeth bob awr. Fel yr Aelod dros Islwyn, byddaf yn parhau i ganmol y manteision nad oeddent ar gael o'r blaen y mae hyn yn eu cynnig i gymunedau Rhisga, Trecelyn a Crosskeys yn Islwyn. Fodd bynnag, symud ymlaen yw'r pwynt, a dyna fydd yn digwydd gyda'r estyniad i Gasnewydd.
Cyhoeddodd Trafnidiaeth Cymru gynlluniau ym mis Hydref eleni i gyflwyno llawer mwy o gapasiti ar gyfer hyd at 6,500 o gymudwyr ychwanegol bob wythnos o fis Rhagfyr eleni ymlaen ar draws y rhwydwaith, a’r newyddion ychwanegol y bydd teithwyr o Islwyn ar reilffordd Glyn Ebwy i Gaerdydd yn elwa o drenau modern dosbarth 170 sy'n addas at y diben, gyda digonedd o le, systemau gwybodaeth i deithwyr, toiledau hygyrch, systemau aerdymheru, Wi-Fi a socedi trydan. Felly, Ddirprwy Weinidog, beth y gallaf ei ddweud wrth bobl Islwyn ynglŷn â phryd y gallant weld y capasiti gwell hwn ar drenau ar eu rheilffordd, a beth yw'r amserlen ar gyfer y trên dosbarth 170 cyntaf ar y rheilffordd honno?
Wel, credaf fod Rhianon Passmore wedi achub y blaen arnaf. [Chwerthin.] Roedd ei chwestiwn yn cynnwys y cyhoeddiad, ac mae'n llygad ei lle i ddweud hynny. Dylem fod yn falch o'r gwelliannau gwirioneddol rydym yn eu gwneud i'r cymunedau y mae'n eu cynrychioli mor dda yn y Siambr. O 16 Rhagfyr eleni ymlaen, fel rhan o'r newid i'r amserlen ym mis Rhagfyr, bydd trenau dosbarth 170 yn gweithredu rhwng Caerdydd a Glyn Ebwy a rhwng Cheltenham a Maesteg, gyda manteision trenau dosbarth 170 modern, gyda mwy o le, systemau gwybodaeth i deithwyr ar y trenau, toiledau hygyrch, systemau aerdymheru, Wi-Fi a socedi trydan, a fydd yn darparu lle i hyd at 6,500 o gymudwyr ychwanegol bob wythnos, mantais wirioneddol o ganlyniad i arweinyddiaeth Llywodraeth Cymru ar reilffyrdd. Ac erbyn mis Rhagfyr 2022, bydd mwy o gynnydd eto yn y capasiti, gyda 180 sedd ychwanegol ar reilffordd Glyn Ebwy i Gaerdydd yn ystod oriau brig y bore, ac mae hynny'n rhywbeth y dylem ei ddathlu, ac mae'n digwydd o ganlyniad uniongyrchol i'r camau y mae'r Llywodraeth Lafur hon yn eu cymryd i wella'r cyfleusterau i bobl yn Islwyn.
9. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am economi ardal bae Abertawe? OAQ54620
Gwnaf. Rhwng 2011 a 2017, cynyddodd gwerth ychwanegol gros y pen yn ardal bae Abertawe 14.3 y cant, ac yn 2018, roedd 18,025 o fentrau gweithredol yn ardal bae Abertawe.
Un o'r uchafbwyntiau yw datblygiad SA1 yn fy etholaeth, sef datblygiad cymysg sy'n cynnwys tai a fflatiau, gwestai, bwytai a chyflogwyr mawr sy'n cynnwys Admiral, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a chwmnïau â photensial twf sylweddol, fel Canolfan Cymru ar gyfer Gweithgynhyrchu Swp Uwch. Cyflawnwyd llawer o hynny o ganlyniad i fuddsoddiad gan y sector preifat a Llywodraeth Cymru. Faint sydd wedi'i fuddsoddi yn yr ardal, a faint yn fwy y gellir ei ddisgwyl?
Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £59 miliwn yn natblygiad SA1, ac yn ychwanegol at hynny, mae Prifysgol Abertawe wedi sicrhau £100 miliwn o gronfeydd yr Undeb Ewropeaidd i gefnogi cyfleusterau newydd pwysig a rhaglenni ymchwil a datblygu yn y datblygiad. Yn ogystal â hynny, gan weithio gyda dinas-ranbarth bae Abertawe a Llywodraeth y DU, rydym yn buddsoddi ymhellach yng nghanol dinas Abertawe drwy'r fargen ddinesig. Hoffem wneud ymyriadau pellach drwy symud yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau i ganol dinas Abertawe, a fyddai, yn ein barn ni, yn cael effaith bendant ar Abertawe gyfan—Dwyrain Abertawe a Gorllewin Abertawe. Yn anffodus, nid ydym wedi cael unrhyw lwc wrth ymgysylltu â Llywodraeth y DU ynghylch hynny, ond buaswn yn sicr yn croesawu ymgyrch gan Aelodau rhanbarthol i geisio gweithio gyda ni i wneud hynny, gan y credaf y gallai gael effaith sylweddol ar wead Abertawe.
Credaf mai'r cwestiwn arall, i ymateb i'r pwynt ehangach y mae Mike Hedges yn ei wneud, yw sut y lledaenwn ddatblygiad SA1 y tu hwnt i hynny i'w etholaeth, sy'n cynnwys rhai o'r wardiau mwyaf economaidd ddifreintiedig yn y wlad. Yno, credaf fod gan ein hymagwedd ranbarthol a'n hymrwymiad i'r economi sylfaenol gryn dipyn o botensial.
Ac yn olaf, Suzy Davies.
Rhif 9, ie?
Ie, rhif 9.
Ocê. Diolch yn fawr am hynny. Sori.
Fe sonioch chi am fargen ddinesig bae Abertawe, Ddirprwy Weinidog, ac wrth gwrs, rydym yn dal i aros i £18 miliwn cyntaf y fargen ddod drwodd. Deallaf mai'r rheswm dros yr oedi yw nad yw Llywodraeth Cymru wedi dweud wrth arweinydd y fargen ddinesig, Rob Stewart, un o'ch cymheiriaid Llafur, beth yw telerau ac amodau'r £18 miliwn y maent wedi bod yn aros amdano. Mae wedi cwyno ei bod wedi cymryd 16 wythnos, sy'n rhy hir o lawer. A allwch ddweud wrthym beth yw'r rheswm am yr oedi, os gwelwch yn dda?
Mae'r ffordd y mae prosiect y fargen ddinesig wedi'i sefydlu gan Lywodraeth y DU a'r Trysorlys wedi bod yn hynod heriol a chymhleth i awdurdodau lleol nad oes ganddynt fodd o fynd â phrosiectau drwy ddull model busnes pum achos. Mae dau adroddiad annibynnol a gwblhawyd ar y fargen ddinesig wedi nodi nad oedd capasiti'n bodoli'n lleol, ac o ganlyniad, roedd cryn dipyn o rwystredigaeth yn cronni ar ran awdurdodau lleol a oedd â'r syniadau a'r cynlluniau i fwrw ymlaen â'r prosiectau hyn, ond ni allent fodloni meini prawf yr achosion busnes roedd y Trysorlys yn eu mynnu, a bu'n rhaid i ni eu cyflawni wedyn fel rhan o benawdau telerau'r fargen ddinesig. Felly, bu'n broses rwystredig iawn ym mhob ffordd. Awgrymodd yr adroddiadau annibynnol hynny gyfres o ddiwygiadau i gael gwared ar hynny, ac mae'r rhanbarth yn gwneud cynnydd wrth eu cyflawni. Rhan o'r ateb i'r pryderon a nodwyd yn yr adroddiad hwnnw oedd rhoi telerau ac amodau ar waith i sicrhau y byddai'r arian yn cael ei wario'n dda, ac rydym wedi bod yn gweithio gyda'r rhanbarth i roi'r telerau a'r amodau hynny ar waith yn fanwl. Credaf ein bod yn agos iawn at allu eu cymeradwyo.
Diolch i'r Dirprwy Weinidog.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol yn rhinwedd ei gyfrifoldeb fel Gweinidog Brexit. Mae'r cwestiwn cyntaf [OAQ54630] wedi'i dynnu yn ôl, felly cwestiwn 2—Mike Hedges.
2. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o effaith Brexit ar buro dŵr yfed? OAQ54619

Y cwmnïau dŵr sydd â'r prif gyfrifoldeb am ddarparu dŵr yfed glân a diogel. Mae'r cwmnïau dŵr, gan weithio gydag Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, rheoleiddwyr dŵr a'r Llywodraethau datganoledig, wedi cynhyrchu cynlluniau lliniaru cadarn a manwl i atal effeithiau ar gyflenwad dŵr diogel a glân pan fydd y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Un o'r pethau pwysicaf mewn bywyd yw dŵr yfed glân, fel y mae llawer o bobl mewn rhai o wledydd y trydydd byd yn ei ddarganfod bob dydd, yn anffodus. Yr hyn y mae Brexit wedi'i ddysgu inni, fodd bynnag, yw'r ffordd y mae ein heconomi wedi teneuo a pha mor ddibynnol rydym ni fel gwlad ar fewnforio angenrheidiau sylfaenol. Er nad yw'n newid bywyd i allu prynu llysiau tymhorol yn unig, mae diffyg dŵr glân yn newid bywydau ac o bosibl yn rhoi diwedd ar fywydau. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau parhad y cyflenwad o gemegau sydd eu hangen i buro dŵr, a pha gefnogaeth y maent yn ei rhoi i'r cwmni dŵr sy'n gwasanaethu'r rhan fwyaf o Gymru a'r cwmni dŵr arall sy'n gwasanaethu gweddill Cymru er mwyn sicrhau bod y dŵr a gawn o'n tapiau yn lân ac o'r ansawdd rydym yn ei ddisgwyl ac yn ei gael ar hyn o bryd?
Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.
Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn atodol. Mae hwn yn gwestiwn pwysig iawn, wrth gwrs. Mae gan Gymru beth o'r dŵr yfed o'r safon uchaf yn Ewrop, gyda'n cydymffurfiaeth yn erbyn y safonau perthnasol yn 99.95 y cant. Felly, mae'n fater pwysig i ni, a byddwn bob amser yn awyddus i barhau i fodloni'r safonau hynny, ni waeth beth fydd yn digwydd yn sgil Brexit. Fe fydd yn ymwybodol, wrth gwrs, fod diogelwch y cyflenwad dŵr yn y DU wedi bod yn rhan o broses gynllunio Operation Yellowhammer, ac mae corff cynrychiadol y diwydiannau dŵr, Water UK, a’r cwmnïau dŵr, gan gynnwys y rheini sy’n gweithredu yng Nghymru, wedi bod yn gweithio ar y cyd i sicrhau bod ganddynt ddealltwriaeth fanwl o'r gadwyn gyflenwi. Maent wedi cymryd camau penodol mewn perthynas â chasglu cemegau hanfodol a ddefnyddir i drin dŵr, yn ogystal â sefydlu trefniadau cyd-gymorth gyda chwmnïau dŵr eraill. Yn y senario waethaf—ond credwn ei bod yn annhebygol iawn y byddai hyn yn angenrheidiol—mae'r statudau'n rhoi'r grym i Weinidogion Cymru roi cyfarwyddiadau i'n cwmnïau dŵr liniaru unrhyw effeithiau a allai godi.
3. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda diwydiant yng ngogledd Cymru yn dilyn cyhoeddi estyniad i Brexit tan 31 Ionawr 2020? OAQ54631
Mae fy nghyd-Weinidogion a minnau wedi ymgysylltu'n helaeth â busnesau ar faterion sy'n ymwneud â Brexit fel rhan o'n gwaith ymgysylltu â rhanddeiliaid ledled Cymru. Yn fwyaf diweddar, arweiniodd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth gyfarfod bord gron ar fynediad busnesau bach a chanolig at gyllid ar 24 Hydref yn Wrecsam.
Diolch yn fawr am eich ateb, Weinidog. Mae Alun a Glannau Dyfrdwy yn gartref i rai o ddiwydiannau mwyaf uwch-dechnolegol a blaengar Cymru a'r gweithlu ymroddedig a medrus sydd yn yr ardal honno. I'r cyflogwyr a'r gweithwyr hyn, mae cynllunio'n allweddol. A all y Gweinidog fanylu ymhellach ar y cyswllt y mae ef a'i swyddogion, ac unrhyw gyd-Weinidogion eraill, wedi'i gael gyda phrif gyflogwyr yr ardal a'r undebau llafur cysylltiedig, fel undeb Unite, i sicrhau y gallant barhau i gynllunio? A all nodi hefyd pa gymorth arall sydd ar gael iddynt? Ac yn olaf, pa mor hyderus yw ef fod Llywodraeth y DU, Llywodraeth Dorïaidd y DU, yn gwrando ar y grwpiau hyn a'r cyflogwyr hyn er lles eu teuluoedd ac yn rhannu'r wybodaeth berthnasol â hwy?
Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Ers iddo ddod i'r Siambr, mae bob amser wedi ceisio deall effaith Brexit ar ei etholaeth ac ar gyflogwyr yno, felly rwy’n gwerthfawrogi ei bryder parhaus mewn perthynas â hynny.
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ymgysylltu â busnesau mewn amryw o wahanol ffyrdd, naill ai drwy ymgysylltu'n uniongyrchol wyneb yn wyneb, sesiynau bord gron, sy'n rhywbeth y mae Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth a minnau ac eraill wedi arwain arnynt, cyfathrebiadau drwy Busnes Cymru a'r rhwydweithiau cymorth busnes, yn ogystal ag ystod o sianeli'r cyfryngau. Fe fydd yn ymwybodol fod y Llywodraeth yn darparu cymorth busnes parhaus drwy gronfa dyfodol yr economi a gwaith Banc Datblygu Cymru, ac yn fwyaf diweddar, cyhoeddodd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth £6 miliwn arall ar gyfer cronfa cydnerthedd Brexit a gyhoeddwyd ddiwedd yr wythnos diwethaf, sy'n cynnwys cyfuniad o arian grant a chyllid benthyciad y gall cwmnïau wneud cais amdano. Ac yn ogystal â hynny, rydym yn parhau i wneud popeth yn ein gallu i hyrwyddo a rhoi cyhoeddusrwydd i'r wybodaeth sydd gennym ar wefan Paratoi Cymru, sy'n cynnwys y porth Brexit, sydd wedi cael 39,000 o ddefnyddwyr hyd yn hyn, rwy'n credu.
Ym mis Medi, dywedodd cyfarwyddwr cyffredinol Cydffederasiwn Diwydiant Prydain, Carolyn Fairbairn:
Mae cymaint o fusnesau yma yng Nghymru yn llawn optimistiaeth a brwdfrydedd. Maent yn awyddus i sôn am—a gweithredu ar—gryfderau Cymru. I nodi bod Cymru'n agored ar gyfer busnes. Ond maent yn wirioneddol awyddus i roi terfyn ar ansicrwydd.
Gan ddyfynnu busnesau yng ngogledd Cymru ddechrau mis Hydref, dywedodd y Daily Post:
Mae ansicrwydd yn bwydo ansicrwydd. Mae angen inni roi terfyn ar holl ansicrwydd Brexit.
Yng nghanol mis Hydref, dywedodd cadeirydd Ocado a chyn-bennaeth Marks and Spencer, Stuart Rose, ei fod bellach yn cefnogi cytundeb newydd Llywodraeth y DU, gan ddweud ei fod yn rhan o’r ymgyrch wreiddiol i 'aros', ond ei fod hefyd yn realydd, a dywedodd ei fod yn gobeithio ei fod yn bragmatydd ac yn parchu'r broses ddemocrataidd.
Ac yn olaf, dywedodd prif economegydd a strategydd cwmni buddsoddi Schroders y gallai derbyn y cytundeb newydd ddatgloi twf cryfach yn yr economi:
os yw'r cytundeb yn cael ei basio gan Senedd y DU ddydd Sadwrn,
rhywbeth na ddigwyddodd,
dylem weld twf cryfach yn economi'r DU wrth i gwmwl ansicrwydd Brexit godi.
Pa gamau rydych yn eu cymryd i wrando ar ddiwydiant a busnes ynglŷn â'u prif bryder, sef y diffyg sicrwydd hwnnw, a thrwy hynny, osgoi rhygnu ymlaen â hyn am fisoedd yn rhagor wrth i bleidiau geisio ailnegodi, ailgynnal refferendwm neu beth bynnag. Mae twf economi Cymru yn y dyfodol a lles cyflogaeth a phobl yng Nghymru yn dibynnu ar y sicrwydd hwnnw, a fynegwyd mor effeithiol gan y byd busnes. Mae angen rhoi diwedd ar yr ansicrwydd.
Wel, rwy'n croesawu ac yn gwerthfawrogi pryderon yr Aelod ynghylch buddiannau busnes. O na byddai ei blaid seneddol yn San Steffan, sydd wedi sathru ar bryderon busnes ers dechrau dadl Brexit, yn rhannu'r un pryderon.
Clywais innau sylwadau Carolyn Fairbairn, a chredaf imi ei chlywed yn dweud hefyd fod buddsoddiad busnes 26 y cant o dan y duedd o ganlyniad i Brexit. Ac yn ogystal, roedd twf busnes sawl pwynt canran yn is na'r hyn y byddem yn ei ddisgwyl.
Mae'n llygad ei le, mewn gwirionedd, i nodi mater ansicrwydd. Rydym yn clywed bob dydd yng Nghymru am yr effaith y mae Brexit eisoes yn ei chael ar fusnesau a chyflogwyr a bywoliaeth pobl ledled y wlad. Ond mae'r bydysawd amgen y mae'n sôn amdano yn un lle mae'r cytundeb hwn yn dda i fusnes, ac nid yw hynny'n wir. Ac mae'r syniad fod y cytundeb yn rhoi diwedd pendant i'r mater hwn yn ffuglen bur. Mae hwn yn gytundeb gwael ac mae'n rhoi sicrwydd i ni o fargen wael i fusnesau ledled Cymru. Rydym yn edrych ar gostau ychwanegol sylweddol i fusnesau bach sy'n allforio, costau nad ydynt prin yn gallu fforddio'u talu. Efallai y gall gadarnhau i mi a yw Llywodraeth y DU yn bwriadu eu digolledu am hynny. Ond fel arall, mae'r rhain yn feichiau sylweddol na all busnesau yng Nghymru fforddio gorfod eu hysgwyddo.
Mae angen i'r ansicrwydd ddod i ben, oes, ond i lawer iawn o fusnesau, mae angen i fygythiad Brexit ynddo'i hun ddod i ben. Gadewch imi ddarllen rhan o e-bost a dderbyniais gan etholwr sy'n rhedeg cwmni ymgynghorol bach ar Ynys Môn, gyda'r rhan fwyaf o arian y busnes yn dod o'r Undeb Ewropeaidd:
Mae'r niwed y mae Brexit wedi'i wneud hyd yn hyn i'n busnes yn sylweddol,
meddai,
yn bennaf oherwydd y drwgdeimlad y mae gwledydd eraill yn ei deimlo tuag at y DU. Rydym wedi cael ein cau allan o sawl prosiect oherwydd risg neu esgusodion eraill o'r fath. Mae hyn yn drueni mawr i fusnes a oedd yn tyfu ac yn darparu incwm, trethi a swyddi yn yr ardal. Rydym bellach yn aros yn ein hunfan ac yn aros i hyn i gyd ddod i ben fel y gallwn ailddechrau tyfu.
Ac roedd yn gofyn am fy sicrwydd y buaswn yn ymgyrchu dros 'aros'. Yn sicr, gallaf roi sicrwydd pendant iddo o ran hynny. Ond yr hyn y gall cwmnïau dirifedi o'r fath ei weld yw nad yr oedi o ychydig fisoedd fan hyn fan draw yw'r hyn sy'n berthnasol mewn gwirionedd—ond y bygythiad o ran yr hyn a gollant o beidio â bod yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd, ac fe welant nad oes yna gytundeb sydd cystal â'r un sydd ganddynt ar hyn o bryd.
Os caf, rwyf am adleisio'r pwyntiau y mae'r Aelod newydd eu gwneud. Hynny yw, mae ei brofiad a'r materion y mae ei etholwyr wedi'u codi gydag ef yn adleisio'r hyn a glywn gan fusnesau drwy'r amser. Yr wythnos diwethaf, rwy’n credu, neu’r wythnos cynt, cefais e-bost gan ffigwr blaenllaw yn y gymuned fusnes yn dweud bod y syniad fod cytundeb Boris Johnson yn ateb i ansicrwydd busnes yn ffuglen bur. Ac yn fy marn i, ac rwy'n rhannu argyhoeddiad yr Aelod, y ffordd orau o gael y sicrwydd hwnnw y mae busnesau yng Nghymru wedi gallu ffynnu oddi tano o ganlyniad i’n haelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd, yw cael refferendwm lle gallwn ymgyrchu dros aros ac ennill y ddadl honno.
Trown yn awr at gwestiynau'r llefarwyr, ac yn gyntaf y prynhawn yma mae llefarydd y Ceidwadwyr, Darren Millar.
Weinidog, a wnewch chi amlinellu safbwynt Llywodraeth Cymru ar Brexit?
Safbwynt Llywodraeth Cymru ar Brexit yw bod unrhyw fersiwn o Brexit yn gytundeb gwaeth i Gymru na pharhau i fod yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd, ac mai’r unig ffordd y gall pobl yn y DU ddweud eu dweud yn y ddadl hon yw pleidleisio dros Lafur yn yr etholiad nesaf a chael refferendwm, lle byddwn ni yng Nghymru yn ymgyrchu dros aros.
Rwy'n falch o glywed neges gyson yn dod o'ch ceg y tro hwn, o leiaf, oherwydd, wrth gwrs, rydym wedi clywed pob math o newid meddwl gan Lywodraeth Cymru dros y misoedd diwethaf. Nawr, rydych wedi ceisio mynegi safbwynt Plaid Lafur y DU ar Brexit, ond y gwir amdani yw nad oes gan Blaid Lafur y DU safbwynt ar Brexit. Yr hyn sydd gennych yw safbwynt ar gynnal ail refferendwm, gan nad yw eich arweinyddiaeth, arweinyddiaeth Plaid Lafur y DU, yn ddigon dewr i ddweud sut y byddant yn ymgyrchu yn y refferendwm hwnnw. Nawr, mae fy mhlaid yn glir iawn. Mae gennym bolisi i gyflawni Brexit. Mae pleidiau eraill, a bod yn deg iddynt, hefyd yn glir iawn eu bod yn dymuno aros. Ond mae Plaid Lafur y DU yn gwneud yr hoci coci ar hyn, gydag un droed i mewn ac un droed allan o ran gadael neu aros.
Nawr, Weinidog, rwy'n siŵr y byddech yn cytuno ei bod yn hanfodol fod y cyhoedd yn gwybod beth yw safbwynt unrhyw Lywodraeth yn y DU yn y dyfodol ar Brexit. Felly, a ydych yn cytuno ei bod yn bryd i'ch cymheiriaid ym Mhlaid Lafur y DU ddweud y gwir wrth y cyhoedd, nodi safbwynt clir ar Brexit, a rhoi cyfle i bleidleiswyr ledled Cymru ddweud eu dweud ar 12 Rhagfyr, gan wybod beth yn union rydych chi'n sefyll drosto?
Credaf fod y sgwrs hon braidd yn drist mewn gwirionedd, a chredaf fod ei ddiddordeb yng ngwleidyddiaeth San Steffan yn arbennig o drist. Mae'n sôn am newid meddwl—dylwn gydymdeimlo ag ef; mae'n amlwg ei fod yn ymwybodol o effaith newid meddwl ei gyd-Aelod etholaethol David Jones, ac felly cydymdeimlaf ag ef ynglŷn â hynny. Rwy'n siŵr bod newid meddwl a thorri addewidion ar flaen ei feddwl yn y cwestiynau hyn.
Mae'n ddrwg gennyf, ni chlywais gennych beth yw safbwynt eich plaid. Ond edrychwch, dyma’r sefyllfa: mae’r syniad o ail refferendwm y mae eich plaid yn ei gynnig yn hollol hurt. Pam fyddai unrhyw un yn disgwyl i'r Blaid Lafur barchu canlyniad ail refferendwm os nad ydych wedi parchu'r cyntaf? Y gwirionedd yw, a gwn ei fod yn wirionedd anghyfleus i chi, ond pleidleisiodd Cymru i adael yr UE yn y refferendwm ar Brexit, gan gynnwys 57 y cant o'ch etholwyr eich hun. Ac eto, er hyn, rydych chi a llawer o bobl eraill yn y Siambr hon wedi gwneud popeth yn eich gallu i rwystro'r cyfarwyddyd a gawsom gan bobl Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig. Felly, nid oes gennych unrhyw barch at ddemocratiaeth, nid oes gennych unrhyw barch at y rheini a bleidleisiodd i adael, ac nid oes bwriad o gwbl gennych i gyflawni'r hyn y pleidleisiodd pobl Cymru drosto.
Felly, gofynnaf i chi: sut y gall unrhyw un ymddiried yn y Blaid Lafur i gyflawni canlyniad ail refferendwm os nad ydynt wedi trafferthu cefnogi canlyniad y cyntaf?
A daw hyn gan blaid a ymgyrchodd yn San Steffan yn erbyn y Cynulliad ar ôl canlyniad y refferendwm. Credaf fod eich safbwynt ar y ddadl hon yn eithaf rhyfeddol, Darren. Gadewch imi ddweud wrthych yn syml iawn—[Torri ar draws.] Rwy'n fwy na pharod i ateb y cwestiwn; efallai y gallwch adael imi wneud hynny. Mae polisi'r Blaid Lafur yn un o barch at etholwyr y Deyrnas Unedig y gwnaed addewidion iddynt, addewidion a gafodd eu torri, a chawsant eu torri i raddau helaeth gan bobl sy'n rhedeg Llywodraeth ei blaid yn San Steffan. Mae'n gwbl amlwg i ni mai'r unig ffordd o dynnu llinell o dan hyn—tair blynedd o dorri addewidion gan ei blaid—yw rhoi cyfle i bobl Prydain ddweud eu dweud, ac i wneud hynny ar gytundeb Boris Johnson, ac rydym yn hyderus y dangosir ei fod yn ganlyniad llawer gwaeth na pharhau i fod yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd.
Llefarydd Plaid Cymru, Delyth Jewell.
Diolch. Weinidog, hoffwn ofyn i chi ynghylch cynlluniau Llafur ar gyfer negodi cytundeb Brexit newydd. Rwy'n ymwybodol eich bod wedi bod ym Mrwsel yn ddiweddar yn cwrdd â chynrychiolwyr o'r Undeb Ewropeaidd. A allwch chi ddweud wrtha i os gwnaethoch chi gynnal trafodaethau gyda nhw ynglŷn â chynlluniau'ch plaid i negodi cytundeb newydd wedi ei seilio ar greu undeb dollau newydd? Ac a wnaethoch eu holi a fydden nhw'n barod i rhoi estyniad arall i erthygl 50 er mwyn caniatáu amser i negodi'r cytundeb hwn ac yna i alw refferendwm?
Diolch am y cwestiwn. Roedd y cwestiwn o safbwynt Llywodraeth Cymru ar Brexit ar dop yr agenda, ac fe wnaethom ni'n glir bod ein Llywodraeth ni yma o blaid aros yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd. Wrth gwrs, roedd pobl roeddwn i'n cwrdd â nhw yn disgwyl i fi ddweud hynny. Wnaethon ni ddim trafod, wrth gwrs, mewn manylder y cwestiwn o'r math o gytundeb y byddem ni'n ei negodi. Ond, ar achlysuron ac ymweliadau arall yn y gorffennol, rŷn ni wedi cyflwyno iddyn nhw ddogfen 'Securing Wales' Future', sydd wedi ei chytuno ar y cyd â Phlaid Cymru, ac felly mae ganddyn nhw ddarlun clir o'r math o Brexit, pe baem ni'n gorfod gadael, rŷn ni'n meddwl y byddai'n gwneud y lleiaf o niwed i ni yma yng Nghymru.
Diolch am yr ateb yna. Hoffwn ofyn, o ganlyniad, a fydd Llywodraeth Cymru yn cynnal asesiad effaith economaidd o effaith debygol bargen newydd Jeremy Corbyn ar economi a phorthladdoedd Cymru. Wrth gwrs, does dim llawer o fanylion penodol ynglŷn ag union natur y cytundeb hwn ar gael yn gyhoeddus, ond rwy'n cymryd, fel Gweinidog Llafur mewn Llywodraeth Lafur, eich bod yn gwybod union fwriad eich plaid o ran y cytundeb newydd rydych eisiau ei negodi. Byddwch yn ymwybodol bod Michael Gove wedi dweud wrthyf fi nad yw'r Llywodraeth Brydeinig bresennol wedi cynnal asesiadau effaith ar gyfer porthladdoedd Cymru chwaith, sy'n bryderus iawn o ystyried pwysigrwydd porthladd Caergybi yn enwedig. Allwch chi gadarnhau, felly, mai bwriad eich Llywodraeth fyddai cynnal asesiadau manwl o effaith bargen Brexit Jeremy Corbyn ar economi a phorthladdoedd Cymru, o flaen unrhyw refferendwm, os yw'ch plaid mewn llywodraeth ar ôl yr etholiad?
Wel, dwi ddim yn siarad ar ran Jeremy Corbyn, nac unrhyw aelod arall o'r meinciau yn San Steffan, ond rwy'n gallu siarad ar ran Llywodraeth Cymru ar y cwestiwn yma. Mae'r broses rŷn ni wedi ymwneud â hi, o'r cychwyn cyntaf, wedi bod yn un yn seiliedig ar dystiolaeth a ffeithiau a gwybodaeth byd go iawn, yn hytrach na sloganau a gobeithion. Ac rwy'n falch ein bod ni wedi llwyddo, gyda Phlaid Cymru, i gyhoeddi dogfen sy'n cynnwys y dystiolaeth hynny. Ond bydd yr Aelod yn gwybod, wrth gwrs, ar ôl hynny, ein bod ni wedi cyhoeddi sawl papur arall sy'n dangos impact o bob mathau—economaidd ac eraill—o safbwyntiau polisi Llywodraeth Cymru yn ymwneud â Brexit.
Yn olaf, Weinidog, rwyf am droi at y newyddion fod Alun Cairns wedi ymddiswyddo o'r diwedd fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn dilyn y newyddion ei fod wedi helpu i gynorthwyo ffrind a danseiliodd achos llys ar drais yn fwriadol. Rwy'n siŵr eich bod yn cytuno â mi fod ymddygiad Alun Cairns yn warthus, yn anamddiffynadwy ac yn arwydd o bydredd dwfn wrth wraidd y Blaid Geidwadol yng Nghymru. Mae'n eithaf amlwg fod Alun Cairns, ac uwch aelodau eraill o'r Blaid Geidwadol yng Nghymru, yn ymwybodol o'r hyn roedd Ross England wedi'i wneud cyn iddynt ei ddewis a'i gymeradwyo fel eu hymgeisydd. A hoffwn wybod a fyddech yn cytuno fod angen cynnal ymchwiliad i ddarganfod pwy oedd yn gwybod beth a phryd—
Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol ynghylch Brexit yw'r rhain.
—ac y dylai pawb mewn sefyllfa o bŵer sy'n gysylltiedig â'r sgandal honno ymddiswyddo. O ran—
Mae'n ddrwg gennyf. Na, mae eich meicroffon wedi'i ddiffodd. Mae'n ddrwg gennyf, Delyth, mae eich meicroffon wedi'i ddiffodd. Cwestiynau am Brexit yw'r rhain; nid ydynt yn ymwneud ag unrhyw beth a allai fod wedi'i ddweud am hynny ar Twitter. Mae'n ymwneud â Brexit. Fe ddechreuoch chi'n iawn, ond credaf eich bod wedi crwydro, felly os gallwch ei gysylltu â chwestiwn am Brexit, byddai hynny'n iawn.
Iawn. O ran eich dyletswyddau fel Gweinidog Brexit, hoffwn ofyn i chi sut y bydd ymddiswyddiad Alun Cairns yn effeithio ar waith eich Llywodraeth gyda Llywodraeth y DU? A ydych yn disgwyl iddynt benodi rhywun yn ei le fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru cyn yr etholiad, o ran y dyletswyddau a oedd ganddo ar y Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Negodiadau’r UE)? Ac a yw hyn yn creu anawsterau mewn unrhyw fodd i waith rhynglywodraethol mewn perthynas â pharatoadau Brexit?
Yng nghyd-destun cwestiynau am Brexit, nid wyf am roi sylw i'r pwynt ehangach, ond credaf fod y Prif Weinidog wedi egluro ein safbwynt yn glir mewn perthynas â materion sy'n ymwneud â chyn Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Mewn perthynas â chwestiynau sy'n berthnasol i Brexit, yn fy mhrofiad i, y man lle rydym wedi gwneud y cynnydd mwyaf mewn trafodaethau â Llywodraeth y DU yw lle rydym wedi gallu ymdrin â hwy'n uniongyrchol. Hyd yn oed wedyn, mae wedi bod yn her sylweddol mewn nifer fawr o ffyrdd. Ond mae'n amlwg yn wir mai'r cysylltiadau uniongyrchol hynny yw'r ffordd orau o amddiffyn buddiannau Cymru yn y dyfodol.
4. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am yr effaith y bydd oedi pellach i gytundeb Brexit yn ei chael ar Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro? OAQ54642
Mae'r estyniad hyblyg hyd at 31 Ionawr yn golygu bod Brexit digytundeb trychinebus wedi'i osgoi, neu ei ohirio o leiaf. Yn economaidd, mae hynny'n golygu cynnal y status quo. Mae hefyd yn rhoi cyfle i wrthod cytundeb Brexit caled Boris Johnson a rhoi’r penderfyniad yn ôl i’r bobl.
Roedd gennyf deimlad y byddech chi'n dweud rhywbeth tebyg i hynny, Gwnsler Cyffredinol, felly rwy'n falch na chefais fy siomi. Wrth gwrs, yn y pen draw, credaf fod pob un ohonom yn clywed yr hyn rydym am ei glywed, a hoffwn ddweud wrthych beth y mae ffermwyr yn fy etholaeth yn ei ddweud wrthyf, gan eu bod yn dymuno cael ac angen sicrwydd ynglŷn â Brexit, ac o'r nifer o sgyrsiau rwyf wedi'u cael, gwn eu bod yn awyddus i gael cytundeb. Rywsut neu'i gilydd, maent am gael cytundeb er mwyn cael sicrwydd fel y gallant gynllunio ar gyfer y dyfodol. Ac eto, y mis diwethaf, yn San Steffan, pleidleisiodd y Blaid Lafur yn erbyn cymeradwyo cytundeb newydd y Llywodraeth Geidwadol, cytundeb a wnaethant gyda’r UE, ac a oedd i'w weld yn ennyn cefnogaeth amrywiaeth eithaf eang o wahanol sefydliadau, gwahanol sectorau diwydiannol, ffermwyr, ac yn y blaen. Ac ymddengys mai polisi Llywodraeth Cymru yw cael ail refferendwm. Pa warant y gallwch ei rhoi i fy ffermwyr yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, pe baech yn cynnal ail refferendwm, y byddech yn trafferthu cyflawni'r canlyniad?
Diolch i'r Aelod am gydnabod cysondeb fy ymagwedd ar ddechrau ei chwestiwn. Mae gennyf ffermwyr sy'n trafod eu pryderon gyda minnau hefyd, ac mae eu pryderon yn ymwneud â pha sicrwydd a gânt o gyllid gan Lywodraeth y DU yn lle'r gefnogaeth a gânt ar hyn o bryd. Pa gyllid y gallwn ei sicrhau ar gyfer buddsoddi rhanbarthol yng Nghymru gan Lywodraeth y DU yn lle'r gefnogaeth y gallwn ei darparu iddynt ar hyn o bryd? Yn anffodus, mae'n rhaid imi ddweud wrthynt mai'r sefyllfa mewn gwirionedd, er gwaethaf sloganau gobeithiol Boris Johnson, yw na allaf roi'r sicrwydd y maent yn dymuno'i gael. Y rheswm am hynny yw bod Llywodraeth y DU wedi esgeuluso'r sector amaethyddol yn llwyr fel rhan arwyddocaol o'n heconomi, er gwaethaf y datganiadau a welwn weithiau yn y penawdau. Felly, dyna'r realiti, a dyna y mae ffermwyr yn ei ddweud wrthyf, ac rwy'n synnu nad yw ffermwyr yn ei hetholaeth hi'n dweud wrthi eu bod yn poeni nad yw Llywodraeth y DU yn cyflawni ei chyfrifoldebau.
Weinidog, nododd etholwyr Angela Burns y pryderon ynghylch oedi posibl, ond beth yw eich ystyriaethau ar gyfer yr etholwyr hynny os caiff y cytundeb hwn ei dderbyn a bod gennym 11 mis i negodi cytundeb masnach rydd, sy'n annhebygol? Ymddengys bod pawb heblaw Michael Gove o'r farn fod hynny'n amhosibl, ac mae e'n bendant na fyddant yn gofyn am estyniad i unrhyw gyfnod pontio, sy'n golygu y byddwn yn gadael heb gytundeb ar 31 Rhagfyr y flwyddyn nesaf. Beth yw'r goblygiadau i'r etholwyr hynny os bydd hynny'n digwydd?
Wel, credaf fod yr Aelod yn gwneud pwynt pwysig iawn. Er bod 31 Ionawr yn rhoi rhywfaint o hyder inni mewn perthynas â Brexit heb gytundeb yn y dyfodol agos, mae'r pwynt a wna yn mynd at wraidd y gwendid yng nghytundeb Boris Johnson gyda'r Undeb Ewropeaidd, sef na cheir unrhyw sicrwydd nad ydym yn sôn am Brexit heb gytundeb gohiriedig. A gwyddom pa ddifrod y bydd hynny'n ei achosi i'r sector ffermio, i wahanol sectorau o'n heconomi a'n cymunedau yn gyffredinol. Rhannaf ei amheuaeth y gellir cyflawni'r math o gytundeb masnach rydd—oni bai ei fod yn hynod o gyfyngedig—y mae'n ei ddisgrifio yn y datganiad gwleidyddol o fewn y cyfnod hwnnw, hyd yn oed ar ei delerau ei hun. Unwaith eto, os edrychwn ar ffigurau Llywodraeth y DU, hyd yn oed os oes modd rhoi'r cytundebau masnach hynny ar waith, nid yw'r fantais i economi'r DU yn sgil hynny yn ddim o gymharu â'r niwed y byddai perthynas o'r fath â'r Undeb Ewropeaidd yn ei wneud i'n heconomi yn y dyfodol.
5. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda'r Gweinidog Addysg ynghylch cyfranogiad parhaus myfyrwyr o Gymru yn rhaglen Erasmus+ ar ôl Brexit? OAQ54639
Yn ogystal â thrafodaethau rheolaidd ar hyn a materion cysylltiedig yn is-bwyllgor y Cabinet, rwyf wedi cyfarfod â'r Gweinidog Addysg ar wahân ar sawl achlysur i drafod effeithiau posibl Brexit ar raglen Erasmus+.
Diolch, Gwnsler Cyffredinol. Fel y gwyddoch, mae dysgwyr o Gymru wedi elwa’n fawr o Erasmus+, gyda dros €40 biliwn yn dod i Gymru rhwng 2014 a 2018 i gefnogi dros 7,000 o gyfranogwyr mewn 245 o brosiectau. Gwn fod Comisiwn yr UE wedi awgrymu, ar gyfer y cylch a fydd yn cychwyn yn 2021, y bydd cwmpas y cynllun yn dod yn fyd-eang, ond fel gyda chymaint o bethau eraill, mae'r ansicrwydd a berir gan Brexit yn golygu bod marciau cwestiwn ynghylch cyfranogiad Cymru a'r DU yn y dyfodol. Pa drafodaethau rydych wedi'u cael ynghylch cyfranogiad parhaus dysgwyr o Gymru, y gall y profiad hwn newid eu bywydau, ac yn benodol, ynghylch galluogi dysgwyr galwedigaethol i gael mynediad at y cyfleoedd hyn?
Mae hwn yn bwynt pwysig iawn, felly diolch i chi am ei godi. Ar 16 Hydref, cyfarfûm—drwy garedigrwydd Colegau Cymru, a diolch iddynt am drefnu hyn—â grŵp o ddysgwyr galwedigaethol o bob rhan o dde Cymru a oedd wedi elwa o gymryd rhan mewn lleoliadau Erasmus+, a chlywais o lygad y ffynnon am fanteision y rhaglen honno, a ddisgrifiwyd ganddynt yn eu bywydau eu hunain ac yn eu gweithleoedd eu hunain. Roedd yn ymwneud â magu hyder, datblygiad personol, dysgu am wahanol safbwyntiau ar y byd a byd gwaith, meithrin perthynas â phobl mewn gwledydd eraill, yn ogystal â mynd â syniadau newydd a ffyrdd newydd o edrych ar bethau yn ôl i'w gweithleoedd eu hunain. Roedd pob un ohonynt yn sicr nad oedd hyn yn rhywbeth y byddent wedi gallu manteisio arno fel arall yn eu bywydau eu hunain.
Mae hi'n sôn am gwmpas y cynllun newydd yn lle cynllun Erasmus yn y dyfodol, ac mae'n mynd i'r afael â'r union fath o flaenoriaethau yr hoffem eu gweld: cynorthwyo dysgwyr difreintiedig i gymryd rhan yn rhaglen Erasmus, dysgwyr rhan-amser, a chwmpas mwy byd-eang mewn sawl ffordd arall. Dyna'r union fathau o bethau rwy'n siŵr y byddai pob un ohonom am weld ein pobl ifanc yng Nghymru yn gallu cymryd rhan lawn ynddynt.
Gwn fod y Gweinidog Addysg wedi bod yn dadlau dros hyn gyda Llywodraeth y DU o'r cychwyn cyntaf, a chredaf ein bod, yn fwy diweddar, wedi cael rhywfaint o hyder, os na allwn gymryd rhan yn y cynllun newydd yn lle cynllun Erasmus yn y dyfodol, rhywbeth sy'n parhau i fod yn flaenoriaeth gennym, fod gan Lywodraeth y DU gynllun mewn golwg ar gyfer y DU gyfan. Ond y pwynt sylfaenol, gan ddychwelyd at y pwynt a wneuthum yn gynharach, yw bod yn rhaid i'r Trysorlys ymrwymo cyllid er mwyn i hynny ddigwydd, a heb yr arian hwnnw, ni fydd modd ei wireddu.
6. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda chymheiriaid yn Llywodraeth y DU ynghylch tracio troseddau trawsffiniol ar ôl Brexit? OAQ54637
Y tro diwethaf i mi drafod materion sy'n ymwneud â'r bartneriaeth ddiogelwch yn y dyfodol oedd yng nghyfarfod y fforwm gweinidogol ym mis Chwefror. Nid oes gan unrhyw le arall yn y byd yr un lefel o gydweithredu amlochrog agos mewn perthynas â gorfodi'r gyfraith a materion barnwrol â'r hyn sy'n bodoli rhwng aelod-wladwriaethau'r UE, ac mae'n rhaid i'r cydweithredu hwnnw barhau hyd yn oed os yw'r DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Diolch am eich ateb, Gwnsler Cyffredinol. Yn dilyn marwolaethau erchyll 39 o fudwyr o Fiet-nam yn Essex y mis diwethaf, mae nifer o uwch ASau ac arbenigwyr wedi rhybuddio bod y DU yn wynebu risg wirioneddol o gael ei heithrio o Europol a'u hasiantaethau, gan gynnwys yr uned atal masnachu pobl a Chanolfan Smyglo Mudwyr Ewrop, ar ôl Brexit. Aethant yn eu blaenau i ddweud y byddai mynediad y DU at y sefydliadau hynny, hyd yn oed gyda chytundeb, yn cael ei israddio.
Gallai hawl y DU i gyrchu a rhannu gwybodaeth am lu o faterion diogelwch fel masnachu pobl a throseddau rhyngwladol gael ei llesteirio'n ddifrifol ar adeg pan fo mwy o angen nag erioed am gydweithredu rhyngwladol. Mae cael eich eithrio o sefydliad sydd â gallu dihafal i olrhain troseddau ledled Ewrop a thu hwnt yn achos pryder mawr. Felly, Weinidog, pa drafodaethau a gawsoch gyda Llywodraeth San Steffan—neu y byddwch yn eu cael ar ôl iddi ddychwelyd—ynglŷn â sut y bwriadant gynnal mynediad at yr holl asiantaethau rwyf newydd eu crybwyll, yn enwedig nawr, a ninnau mewn cyfnod mor gythryblus yn rhyngwladol?
Wel, gallaf roi sicrwydd i'r Aelod mai dyna'r union fath o ymwneud ac ymgysylltu agos yr hoffem ei gael yn y dyfodol gyda'r gwahanol gyrff ac asiantaethau gorfodi'r gyfraith ledled Ewrop—. Dyna'r union fath o berthynas roeddwn yn dadlau drosti yn y fforwm gweinidogol hwnnw ac rwyf fi a Gweinidogion eraill wedi parhau i bwyso amdani yn y cyfamser. Fel y dywed, boed yn Europol neu'n Schengen, system SIS II, boed yn ymwneud â rhannu cofnodion enwau teithwyr neu gofnodion troseddol, mae llu o drefniadau gorfodi'r gyfraith a diogelwch ledled yr UE rydym yn elwa arnynt ar hyn o bryd, a bydd cael ein heithrio rhagddynt yn cael effaith wirioneddol arnom ni a'n diogelwch.
Nawr, wrth gwrs, uchelgais Llywodraeth y DU yw negodi'r berthynas orau sy'n bosibl gyda'r sefydliadau hyn ar ôl Brexit. Ond y gwir amdani yw bod y negodiadau hynny'n wynebu sawl rhwystr o ran sicrhau'r un lefel o ymwneud ac ymgysylltiad ag sydd gennym ar hyn o bryd, yn enwedig y cwestiwn ynghylch digonolrwydd data'r DU. Mae hwn oll yn ddata a rennir, ac fel y gwyddom yn y Siambr hon, pe baem yn dod yn drydedd gwlad, byddai angen inni ailgychwyn proses gymhwyso er mwyn cael mynediad at ddata o unrhyw fath. Mae'n faen tramgwydd mawr. Fel trydedd gwlad nad yw'n wlad Schengen, byddai ein mynediad at nifer o'r trefniadau hyn, hyd yn oed ar y gorau, yn cael ei leihau.
Ac mae trydedd agwedd i hyn hefyd, sef bod llawer ohonynt yn mynnu cyfartalwch o ran amddiffyn hawliau dynol, a gallai colli budd ac amddiffyniad siarter yr UE a hawliau sylfaenol fod yn rhwystr ynddo'i hun rhag sicrhau'r math o drefniadau y byddem am eu cael ar waith yn y negodiadau hynny.
7. Pa fesurau y mae'r Cwnsler Cyffredinol yn eu cymryd cyn Brexit i ddiogelu economi Cymru? OAQ54635
Er ein bod yn credu mai'r ffordd orau o ddiogelu economi Cymru yw aros yn yr Undeb Ewropeaidd, mae Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth yn ein gallu i ddiogelu economi Cymru. Mae hyn yn cynnwys defnyddio mesurau fel ein cronfa cydnerthedd Brexit, y cyhoeddasom gyllid ychwanegol o £6 miliwn ar ei chyfer yr wythnos hon.
Gwnsler Cyffredinol, gwaith busnesau bach a chanolig eu maint yw llawer o'r gweithgarwch economaidd yng Nghymru, a chredaf eu bod yn hanfodol i'n heconomi. Maent yn wynebu llawer o bwysau o ran llif arian a hyder oherwydd Brexit a'r hyn a allai ddigwydd yn sgil Brexit. Credaf y gall Banc Datblygu Cymru ddarparu cymorth hanfodol iddynt, felly a allech roi sicrwydd i ni heddiw fod y banc datblygu yn y sefyllfa orau i gynnig y cymorth hanfodol hwnnw i’n busnesau bach a chanolig cyn ac ar ôl Brexit?
Gallaf. Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn atodol. Bydd y rôl y gall Banc Datblygu Cymru ei chwarae, yn enwedig wrth ymgysylltu â chymuned y busnesau bach a chanolig, yn gwbl hanfodol mewn byd ôl-Brexit, os daw pethau i hynny. Yn amlwg, mae Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yn ymwneud cryn dipyn â'r banc. Rwyf innau wedi cyfarfod â'r cadeirydd a'r prif weithredwr i drafod eu trefniadau ynghylch parodrwydd ac adleoli staff pe bai angen.
Dywed fod llif arian a hyder yn debygol o fod yn ddau beth sy'n llesteirio busnesau yn gyffredinol, ac rwy'n cytuno. Mae Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cyhoeddi £100 miliwn o gyfalaf ar gyfer cronfa buddsoddi hyblyg Cymru, a reolir gan Fanc Datblygu Cymru, ac yn gynharach eleni, cyhoeddodd fwy na £120 miliwn o gyllid pellach ar gyfer gwahanol gronfeydd a reolir gan y banc datblygu, a holl bwynt y rheini yw sicrhau bod cyllid ar gael mewn ffordd sy'n hyblyg ac yn briodol ar gyfer yr anghenion penodol a allai fod gan fusnesau mewn byd ôl-Brexit.
Rydym wedi dweud yn glir fel Llywodraeth Cymru, ac rydym wedi bod yn glir wrth gyfleu'r safbwynt hwn i Lywodraeth y DU, os wynebwn y sefyllfa honno, fod yn rhaid inni wneud popeth yn ein gallu i gefnogi busnesau a all fod hyfyw i mewn i'r tymor canolig, os mynnwch, i oroesi'r hyn a fydd, yn anochel, yn gyfnod cythryblus iawn. Nid ydym wedi perswadio Llywodraeth y DU ynglŷn â hynny, ond dyna yw ein safbwynt pendant ni o hyd.
Wrth gwrs, rydym yn gobeithio am sefyllfa lle cawn refferendwm ac ymgyrch i aros sy'n llwyddo, lle mae'r risg hon i'r busnesau hynny'n cael ei dileu. Ond mae'n rhaid inni baratoi am sefyllfa lle nad yw hynny'n digwydd.
Ac yn olaf, cwestiwn 8—Lynne Neagle.
8. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith y cytundeb ymadael diweddaraf ar hawliau gweithwyr yng Nghymru? OAQ54615
Wel, nid yw'r cytundeb ymadael yn darparu unrhyw warantau fod Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i barhau i gydymffurfio â hawliau ac amddiffyniadau presennol yr UE i weithwyr yng Nghymru.
Diolch am eich ateb clir iawn, Weinidog. Mae'n gwbl amlwg fod y cytundeb ymadael diweddaraf yn arwydd o wanychu pellach ar ymrwymiad Llywodraeth y DU tuag at hawliau gweithwyr. Mae Frances O'Grady, ysgrifennydd Cyngres yr Undebau Llafur, wedi dweud:
Byddai'r cytundeb hwn yn drychineb i weithwyr. Byddai’n ergyd i'r economi, yn arwain at golli swyddi ac yn troi cefn ar hawliau gweithwyr.
A ydych yn cytuno â Syr Keir Starmer, Ysgrifennydd Brexit yr wrthblaid ar gyfer y DU, y byddai perygl gwirioneddol, pe bai'r cytundeb hwn yn cael ei dderbyn, y byddai hawliau gweithwyr yn cael eu gwanychu'n sylweddol ac y byddai'n debygol iawn y byddai'r DU yn dilyn modelau eraill, fel un yr Unol Daleithiau, sy'n cynnwys amddiffyniadau gwannach o lawer i weithwyr na'r rhai sydd gennym yn y wlad hon ar hyn o bryd?
Wel, credaf fod yr Aelod yn taro'r hoelen ar ei phen. Credaf mai dyna'n union yw'r risg yn sgil y cytundeb hwn. Mewn gwirionedd, buaswn yn mynd gam ymhellach na'i alw'n risg; credaf fod natur y cytundeb yn datgelu'r math o ben draw y mae Llywodraeth bresennol y DU yn awyddus i fynd â'r DU iddo. Mae'n un o ddadreoleiddio, lle mae'r DU wedi rhoi'r gorau i amddiffyniad yn y gweithle a hawliau cymdeithasol ac amgylcheddol o'r math rydym ni yng Nghymru yn eu cymryd yn ganiataol ac yr hoffem barhau i gydymffurfio â hwy wrth gwrs.
Fel yr awgryma ei chwestiwn, mae'r cytundeb hwn hyd yn oed yn waeth na chytundeb Theresa May, a oedd o leiaf yn ymrwymo'r Llywodraeth i gynnal hawliau gweithwyr yr UE ar eu lefel bresennol ac a oedd yn rhoi rhywfaint o fecanwaith i Senedd y DU yn y dyfodol mewn perthynas â hynny. Mae'r math o weledigaeth a amlinellir yn y cytundeb hwn yn gwbl groes i flaenoriaethau Llywodraeth Cymru yma yng Nghymru fel y'u nodwyd yng ngwaith y Comisiwn Gwaith Teg yn ddiweddar, sy'n sicrhau y byddwn ni fel Llywodraeth yn parhau i wneud popeth y gallwn i sicrhau nad yw gweithwyr yng Nghymru dan anfantais os a phan fyddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Diolch yn fawr iawn, Weinidog.
Eitem 3 ar yr agenda y prynhawn yma yw dadl o dan Reol Sefydlog 25.15 ar Orchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Diwygio) 2019—Gorchymyn adran 109 yn ymwneud â swyddogion cofrestru etholiadol. Galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit i gynnig y cynnig—Jeremy Miles.
Cynnig NDM7176 Jeremy Miles
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 25.15 yn cymeradwyo fersiwn ddrafft Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Diwygio) 2019.
Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Cynigiaf y cynnig i gymeradwyo'r Gorchymyn hwn yn y Cyfrin Gyngor o dan adran 109 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Mae'r Gorchymyn hwn yn gwneud rhywfaint o gynnydd wrth fynd i'r afael â materion cymhwysedd sydd wedi codi o ganlyniad i Ddeddf Cymru 2017. Pan wneir y Gorchymyn, bydd yn sicrhau y gall y Cynulliad ddeddfu'n effeithiol ac yn gynhwysfawr mewn perthynas â chyfraith etholiadol sy'n ymwneud ag etholiadau datganoledig Cymru. Dyma oedd bwriad gwreiddiol Senedd y DU, wrth gwrs, pan ddatblygwyd Deddf Cymru 2017.
Mae hefyd yn angenrheidiol er mwyn caniatáu i reoliadau cydlynol gael eu gwneud mewn perthynas â diwygio'r canfasiad mewn pryd ar gyfer canfasiad blynyddol 2020, ac i sicrhau bod y llinellau cymhwysedd gweithredol rhwng Llywodraeth y DU a Gweinidogion Cymru yn glir. Mae cyfraith etholiadol yn cynnwys ystod eang o ddeddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth, ac mae rôl swyddogion cofrestru etholiadol yn hanfodol i gofrestru etholiadol ac felly i ddiwygio etholiadol. Heb y gallu i roi swyddogaethau i swyddogion cofrestru etholiadol mewn deddfwriaeth newydd, mae swyddogaethau etholiadol Gweinidogion Cymru wedi'u cyfyngu'n sylweddol.
Daeth yn amlwg drwy brosiect diwygio'r canfasiad fod y mecanwaith penodol ar gyfer trosglwyddo swyddogaethau etholiadol, ac yn benodol y rheini sy'n effeithio ar swyddogion cofrestru etholiadol, yn golygu na fyddai gan unrhyw unigolyn, Gweinidogion Cymru na'r Ysgrifennydd Gwladol set gwbl gydlynol o bwerau mewn perthynas ag etholiadau datganoledig. Pan fydd y Gorchymyn hwn wedi'i wneud, bydd modd inni fwrw ymlaen â'r agenda i ddiwygio'r canfasiad, a fydd yn symleiddio'r broses gofrestru yng Nghymru ac yn ei gwneud hi'n haws i etholwyr ymwneud â hi.
Bydd y Gorchymyn hefyd yn ein galluogi i wneud y newidiadau angenrheidiol i rôl swyddogion cofrestru etholiadol mewn perthynas ag etholiadau datganoledig mewn deddfwriaeth sylfaenol heb fod angen ceisio cydsyniad Llywodraeth y DU bob tro. Mae hyn yn cynnwys newidiadau y byddwn yn eu cynnig yn ein Bil llywodraeth leol ac etholiadau (Cymru) sydd ar y ffordd. Bydd hyn yn cefnogi'r agenda diwygio etholiadol yng Nghymru ac yn galluogi i arferion etholiadol gael eu moderneiddio, ac yn y pen draw, bydd yn cynorthwyo pleidleiswyr i gymryd rhan ym mhroses democratiaeth.
Mae Llywodraeth y DU wedi cydnabod yr heriau a grëwyd yn sgil y ffordd y mae swyddogaethau wedi'u trosglwyddo, ynghyd â gweithrediad darpariaethau Atodlen 7B i Ddeddf Llywodraeth Cymru, felly roeddent yn fodlon cyflwyno'r Gorchymyn fel mater o frys ac maent wedi sicrhau y bydd yn mynd drwy Senedd y DU mor gyflym â phosibl. Gofynnaf felly i'r Cynulliad ei gymeradwyo.
Diolch. A gaf fi alw ar Carwyn Jones i siarad ar ran y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol? Carwyn.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Cyfeiriodd y Pwyllgor Busnes Orchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Diwygio) 2019 at y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn unol â Rheol Sefydlog 25.7(i). Cawsom dystiolaeth gan y Cwnsler Cyffredinol ar y Gorchymyn arfaethedig yn ein cyfarfod ar 16 Medi 2019, a chyflwynasom ein hadroddiad i'r Cynulliad ar 30 Medi eleni. Ers hynny, nodwn fod y Gorchymyn wedi'i gymeradwyo gan Dŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi ar 28 Hydref eleni. Ddirprwy Lywydd, yn ystod ein sesiwn dystiolaeth, esboniodd y Cwnsler Cyffredinol ddiben ac amcan y Gorchymyn arfaethedig, yn ogystal â'r berthynas rhwng y Gorchymyn, Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) a Bil llywodraeth leol Llywodraeth Cymru sydd ar y ffordd. Rydym wedi nodi cefndir a diben y Gorchymyn arfaethedig, ac rydym yn fodlon, Ddirprwy Lywydd.
Diolch. Galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit i ymateb.
Diolch i Carwyn Jones am ei sylwadau ac am waith y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol mewn perthynas â'r Gorchymyn hwn. Os bydd y Cynulliad yn cymeradwyo'r Gorchymyn, bydd y Cyfrin Gyngor yn ei ystyried yn ei gyfarfod nesaf. Rwy'n disgwyl i'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod hwnnw gael ei gadarnhau yn dilyn etholiad cyffredinol y DU. Ac i gloi, a gaf fi gofnodi fy niolch i swyddogion yn Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU am ei gwneud hi'n bosibl dwyn y ddeddfwriaeth hon gerbron yn gyflym?
Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Symudwn yn awr at y cwestiynau amserol, a daw'r cyntaf y prynhawn yma, a fydd yn cael ei ateb gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, gan Jack Sargeant.
1. Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i gwneud o benderfyniad GIG Lloegr i gymeradwyo'r defnydd o Orkambi a Symkevi? 359

Diolch am y cwestiwn. Nid yw GIG Lloegr ond wedi cymeradwyo defnyddio Orkambi a Symkevi drwy gytundeb mynediad masnachol. Mae fy swyddogion wedi cyfarfod â Vertex ac maent yn aros am gynnig ffurfiol ganddynt. O ystyried natur gyfrinachol ein trafodaethau, mae yna derfyn i'r sylwadau y gallaf eu gwneud wrth gwrs.
Diolch i chi am hynny, Weinidog. Fel y gwyddoch, mae gennyf etholwyr sy'n gorfod teithio dros y ffin i Lerpwl a Manceinion i gael triniaeth. Byddant yn yr un adeilad â chleifion o Loegr sy'n gallu cael mynediad at y feddyginiaeth hon. Weinidog, a allwch fy sicrhau bod y negodiadau yn y sgyrsiau rydych yn eu cael gyda Vertex yn parhau a'u bod yn gadarnhaol fel y gall fy etholwyr a phobl Cymru gael mynediad at y meddyginiaethau hyn cyn gynted â phosibl? Ac yn olaf, Weinidog, a ydych chi hefyd wedi ystyried cyflwyno cynllun dros dro ar gyfer mynediad i gleifion, fel y digwyddodd yn GIG yr Alban, wrth ddod i gytundeb ynghylch mynediad at y meddyginiaethau pwysig hyn?
Bydd yr Aelod yn ymwybodol o'r llythyr a gyhoeddwyd gan Simon Stevens, prif weithredwr GIG Lloegr ar y mater hwn, a anfonwyd at Bwyllgor Dethol Iechyd a Gofal Cymdeithasol Tŷ’r Cyffredin. Roedd hwnnw'n nodi bod Gogledd Iwerddon a Chymru wedi sefyll ochr yn ochr â Lloegr wrth negodi'r cytundeb a wnaed. Rwy'n disgwyl y bydd y telerau hynny'n cael eu hanrhydeddu. Gwneuthum sylw cyhoeddus ddoe y byddwn yn ymrwymo heddiw i'r un telerau pro rata yn union ar gyfer Cymru, a hoffwn allu gwneud hynny. Dyna fy ymrwymiad. Ni ddylai unrhyw deulu wynebu oedi yng Nghymru. Edrychaf ymlaen at ymateb priodol o onest ac adeiladol gan Vertex a fydd yn caniatáu i hynny ddigwydd.
Weinidog, gwn eich bod yn rhannu fy mhryderon fod gennym, gyda phob dydd sy'n mynd heibio, gleifion yng Nghymru nad ydynt yn gallu cael mynediad at y meddyginiaethau hynod bwysig hyn. Nawr, ar 25 Hydref, fe ddywedoch eich bod chi a'ch swyddogion yn cyfarfod â chynrychiolwyr o Vertex yr wythnos ganlynol i drafod manylion y telerau hyn a sut y gellid eu cymhwyso. Rwy'n deall bod gennych faterion yn ymwneud â chyfrinachedd cwmnïau yma, ond a allwch chi roi unrhyw fath o ddiweddariad i ni ar hynny?
A gaf fi ofyn hefyd pa wersi a ddysgwyd o'r amser a gymerwyd i wneud cynnydd ar y mater hwn, a sut y gellid gwneud pethau'n wahanol yn y dyfodol i sicrhau na chawn ein gadael ar ôl pan fo angen dod i gytundeb i sicrhau bod cyffuriau sy'n achub bywydau ar gael i gleifion Cymru?
Ac yn olaf, o ran dysgu gwersi, deallaf fod y cwmni, ar ddechrau 2018, wedi bod mewn trafodaethau gyda GIG Cymru ar gynnig portffolio ar gyfer eu holl feddyginiaethau ffeibrosis systig presennol ac yn y dyfodol. Fodd bynnag, ac rwy'n dyfynnu'n uniongyrchol, daeth y trafodaethau hyn i stop ym mis Mawrth/Ebrill, oherwydd yr hyn y deallem ar y pryd a oedd yn fater staffio ym mhroses gaffael meddyginiaethau Cymru gyfan GIG Cymru. Weinidog, a allwch chi daflu unrhyw oleuni ar hynny a rhoi sicrwydd i ni na fydd y fath oedi'n digwydd eto?
Ar eich pwynt olaf, nid yw'n wir o gwbl. Nid yw'n wir o gwbl. Mae Vertex yn deall y mecanweithiau gwerthuso sefydledig sydd gennym ar gyfer meddyginiaethau newydd ar draws y Deyrnas Unedig yn iawn: system arfarnu'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal rydym wedi ymrwymo iddi, y systemau arfarnu penodol sydd hefyd ar gael yn yr Alban, ac yma yng Nghymru drwy Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan. Yr hyn y maent wedi'i wneud, wrth ddod i gytundeb â Lloegr, sydd wedi'i gynnwys yn llythyr Simon Stevens, yw cytuno i ddarparu data cleifion amser real ar sail lle maent wedi cytuno ar bris i sicrhau bod mynediad ar gael i bob claf sy'n dioddef o'r cyflwr ac sydd angen y driniaeth, ac yna byddant yn cyflwyno eu portffolio cyfan, gyda'r data amser real hwnnw, i'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal i'w arfarnu. Nawr, mae hynny'n gwneud synnwyr, ac nid dyna'r cynnig a roddwyd yma yng Nghymru.
Rwy'n glir nad ydym ni yng Nghymru yn gyfrifol am oedi mynediad at y meddyginiaethau hyn. Y broblem yw bod angen i Vertex wneud yr hyn y maent wedi ymrwymo i'w wneud, sef yr hyn sydd yn llythyr Simon Stevens. A dyna ddechrau a diwedd y mater. Ni ddylai'r un teulu yng Nghymru gael ei roi mewn sefyllfa lai manteisiol na theulu dros y ffin oherwydd anallu i fodloni telerau'r cytundeb y cytunwyd arno. Edrychaf ymlaen at ymateb cadarnhaol ac adeiladol gan y cwmni fferyllol.
Diolch. Daw'r ail gwestiwn amserol y prynhawn yma gan Angela Burns.
2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am golli 2,763 o gleifion yn ddiweddar o'r rhestr aros ym Mwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg? 360
Roedd y cleifion hyn bob amser wedi eu cofnodi ar restr fewnol o fewn y bwrdd iechyd, ac roedd eu hamseroedd aros yn cael eu monitro. Cânt eu cofnodi nawr ar y rhestr aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth neu'r rhestr ddiagnostig gywir. Mae mecanweithiau cadarn yn eu lle nawr i sicrhau bod y bwrdd iechyd yn adrodd am bob claf yn gywir.
Rwy'n falch iawn o'ch clywed yn defnyddio'r gair 'nawr' gyda phwyslais mawr ddwywaith, oherwydd rwy'n bryderus iawn am y newyddion hwn. Mae'n fethiant arall eto gan reolwyr Cwm Taf, ac rwy'n teimlo trueni gwirioneddol dros staff rheng flaen gweithgar y bwrdd iechyd hwn sydd, wythnos ar ôl wythnos, yn gweld enw'r bwrdd iechyd yn cael ei bardduo heb fod unrhyw fai arnynt hwy. Rwyf hefyd yn pryderu na fydd cleifion sy'n byw yn ardal y bwrdd iechyd hwn yn hyderus y byddant yn derbyn y gofal y maent ei angen yn daer.
Nawr, rydym yn ymwybodol o'r adolygiad llawn o wasanaethau mamolaeth sydd ar y gweill ar hyn o bryd, ac fe drafodasom hynny y mis diwethaf a chredaf fod rhai camau cadarnhaol iawn yno, ond fe fyddwch yn gwybod o'r adroddiad bod problemau systemig diwylliannol wedi'u nodi ar nifer o wahanol achlysuron a hynny drwy holl weithrediad y bwrdd. Fe ddyfynnaf yn uniongyrchol o'r adroddiad:
Mae'n afrealistig disgwyl y gellir datrys problemau hirsefydlog sy'n ymwneud â diwylliant, agweddau ac ymddygiad o fewn ychydig fisoedd.
Felly, gan gadw'r cefndir hwn mewn cof, gofynnaf y tri chwestiwn canlynol. A wnewch chi ystyried gofyn am, neu a ydych yn credu bod angen cael adolygiad mwy cynhwysfawr sy'n edrych ar yr holl wasanaethau y mae Cwm Taf yn eu cynnig, ac nid gwasanaethau mamolaeth yn unig, os ceir problemau systemig, a gallai'r broblem hon gyda'r rhestrau aros fod yn enghraifft o broblem arall? Pa mor ffyddiog ydych chi, Weinidog, na cheir achosion tebyg o golli data mewn byrddau iechyd eraill? Rwy'n sylweddoli mai rhestr fewnol oedd yr un na welsoch chi, na neb arall ychwaith. O gofio bod hyn wedi digwydd mewn un man, a yw'n digwydd mewn mannau eraill? Ac yn olaf, a allech chi egluro wrthym pa fethodoleg sydd ar waith yn eich adran i sicrhau bod y data rydych yn ei dderbyn gan ein holl fyrddau iechyd ledled Cymru yn gywir, os gwelwch yn dda, oherwydd mae casglu data da yn gwbl hanfodol i'ch helpu chi, y Llywodraeth, i gynllunio ar gyfer darparu gofal iechyd yn y dyfodol? Er mwyn gallu cynllunio hynny, mae angen i'r data hwnnw fod yn gywir, rydym angen y gwir, y gwir i gyd a dim byd ond y gwir.
Rwyf am ymdrin â'ch dau bwynt olaf yn gyntaf, oherwydd o ran y cwestiwn a oes problemau eraill yn bodoli gyda data, mae'r ystadegau a gofnodir yn cael eu harchwilio'n rheolaidd gan ein hadran ystadegau swyddogol o fewn y Llywodraeth, ac maent yn gwbl gydwybodol yn y gwaith a wnânt. A lle ceir unrhyw gafeatau i'r data a dderbynnir, cânt eu cyhoeddi fel rhan o'r adroddiad ystadegau. Rwy'n siŵr y byddwch chi a chymheiriaid sy'n craffu ar yr adroddiadau hynny pan gânt eu darparu yn nodi bod y cafeatau hynny'n cael eu darparu o bryd i'w gilydd. Hefyd, oherwydd ein bod eisiau ystadegau swyddogol i'r cyhoedd allu dibynnu arnynt, mae'n rhan o'r rheswm pam nad ydym wedi gallu gwneud cynnydd mewn nifer o feysydd eraill, oherwydd rydym eisiau bod yn glir bod y data yn ddibynadwy. Rwyf dan bwysau mewn nifer o feysydd eraill i sicrhau bod ystadegau swyddogol ar gael, ac rwyf wedi cadw dweud y byddant ar gael pan fyddwn yn sicr ein bod yn mesur yr un pethau yn yr un ffordd ar draws y wlad, a dyna'n union rwy'n ei ddisgwyl yma.
Mewn gwirionedd, yr hyn a ddigwyddodd yma oedd bod y bwrdd iechyd eu hunain wedi gofyn i uned gyflawni'r GIG ddilysu eu rhestrau aros. Arweiniodd yr adolygiad hwnnw at ychwanegu'r bobl hyn at y rhestr yn briodol. Felly, dywedodd y bwrdd iechyd ei hun, 'Rydym yn credu y gallai fod gennym broblem, gadewch i ni gael corff allanol drwy Lywodraeth Cymru i ddod i mewn a gwneud hynny.' Ac yn fwy na hynny, mae adroddiad yr uned gyflawni ar gael ar wefan y bwrdd iechyd, felly mae'r lefel honno o dryloywder yno nawr. Maent wedi cydnabod bod hon yn broblem ac mae wedi cael ei datrys. Nid wyf yn credu bod angen adolygiad cynhwysfawr pellach o'r sefydliad. Fel y gwyddoch, mae statws y sefydliad cyfan wedi'i godi i ymyriad wedi'i dargedu. Os oes angen cymryd unrhyw gamau pellach, byddaf yn adrodd yn ôl yn agored ac yn dryloyw, gyda chyngor y byddaf yn ei gael gan brif weithredwr GIG Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru, ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wrth gwrs.
Efallai fod hwn i'w weld yn fater dibwys ynglŷn â gwall cofnodi data, ond y tu ôl iddo, roedd hyd yn oed swyddogaethau gweinyddol sylfaenol yn cael eu perfformio'n wael yn gyson. Heb ddata cywir ar amseroedd aros, ni allwn farnu a yw pethau'n gwella neu'n gwaethygu. Ni allwn nodi'n fanwl y meysydd y mae angen buddsoddi ynddynt a'r meysydd lle gallai diogelwch cleifion fod mewn perygl oherwydd amseroedd aros hwy, ac eto mae ansawdd gwael y data ledled y GIG yn fater sydd wedi cael sylw dro ar ôl tro gan un adroddiad pwyllgor ar ôl y llall. Felly, pa mor hyderus ydych chi fod y penderfyniadau a wnewch, pan fo'r data sydd gennych yn gyson annibynadwy, yn benderfyniadau cywir?
Nid wyf yn derbyn cynsail cwestiwn yr Aelod fod y data yn gyson annibynadwy. Rydym yn agored ac yn onest ynglŷn â'r cywirdeb sydd gennym yn ein hystadegau swyddogol. Mae'r ystadegau swyddogol hynny, wrth gwrs, yn helpu i lywio'r dewisiadau a wnawn a'r gwaith craffu sydd gennym ar ein gwasanaethau. Rwy'n credu bod ymosodiad cyffredinol sy'n dweud, 'Ni allwch ddibynnu ar ddata a ddarperir gan y GIG' yn gyfeiliornus ac nid dyna'r ffordd rwy'n bwriadu rhedeg y gwasanaeth iechyd.
Weinidog, er fy mod yn derbyn na ddaeth yr ymchwiliad o hyd i unrhyw dystiolaeth o niwed clinigol ac er nad oedd unrhyw arwydd bod Cwm Taf wedi bod yn ceisio ystumio'r ffigurau'n fwriadol, mae hyn yn codi cwestiynau difrifol ynghylch y ffordd y caiff rhestrau aros eu rheoli, yng Nghwm Taf ac ar draws yr holl fyrddau iechyd. Rwy'n siŵr y gall pob un ohonom yn y fan hon restru enghreifftiau o gleifion yn cael eu tynnu oddi ar restrau aros am nad oeddent wedi ymateb i lythyr nad oeddent, o bosibl, wedi ei gael. Weinidog, a wnewch chi lansio ymchwiliad ehangach i'r ffordd y caiff rhestrau aros eu rheoli ar draws yr holl fyrddau iechyd lleol, ac a wnewch chi edrych ar sut y gellir defnyddio technoleg i wella'r ffordd y caiff apwyntiadau ysbyty eu rheoli?
Fel y dywedais o'r blaen wrth Angela Burns, nid wyf yn credu bod angen adolygiad cynhwysfawr o Gwm Taf, nac yn wir o'r ffordd y caiff rhestri aros eu rheoli. Fodd bynnag, rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd i wneud gwell defnydd o dechnoleg i helpu i reoli apwyntiadau a rhestri aros o fewn y gwasanaeth. Rhan o'r hyn rwy'n awyddus i'w wneud yw sicrhau bod arferion gorau yn cael eu mabwysiadu ar draws byrddau iechyd a'u bod yn fwy unffurf ar draws ein gwasanaeth, fel bod pobl yn gwybod, pan fydd ganddynt apwyntiadau a phan fyddant yn mynychu'r apwyntiadau hynny, y gallant fod yn siŵr nad ydym yn rhedeg gwasanaeth sy'n ychwanegu haen o aneffeithlonrwydd. Felly, rwyf bob amser yn meddwl sut y gallwn wella'r gwasanaeth, ond nid wyf yn bwriadu cael ymchwiliad diangen a gwastraffus ar draws y gwasanaeth iechyd gwladol yma yng Nghymru.
Diolch yn fawr iawn. Leanne Wood sydd i ofyn y trydydd cwestiwn amserol y prynhawn yma, a bydd hwnnw'n cael ei ateb gan y Trefnydd.
3. Pa drafodaethau y mae’r Prif Weinidog wedi’u cael gyda Llywodraeth y DU ar y goblygiadau i Gymru yn dilyn ymddiswyddiad Ysgrifennydd Gwladol Cymru? 361

Nid ydym wedi cael unrhyw drafodaethau o'r fath.
Rwyf wedi ffieiddio at ddigwyddiadau'r wythnos diwethaf yn ymwneud â Ross England. Dylai ei ymgais i rwystro'r system gyfiawnder fod wedi ysgogi condemniad eang a chamau disgyblu ar unwaith gan arweinwyr y Torïaid Cymreig. Yn hytrach, arweiniodd at ddyrchafiad Ross England fel ymgeisydd mewn sedd darged yn y Cynulliad. Ni ddylem anghofio bod yna fenyw wrth wraidd y stori hon a fydd yn gorfod byw gyda'r hyn a wnaed iddi am weddill ei hoes. Nid oes unrhyw ffordd y dylai fod wedi gorfod dioddef ail achos o gwbl.
Mae'r digwyddiad wedi achosi i Ysgrifennydd Gwladol Torïaidd Cymru golli ei swydd yn y Cabinet. Os oedd yn gwybod am y digwyddiad hwn, fel yr awgrymir mewn e-bost gan gynghorydd arbennig, mae'n rhaid iddo sefyll i lawr fel ymgeisydd yn yr etholiad nesaf hwn. Nid yw unrhyw un sy'n lleihau neu'n esgusodi methiant achos o drais yn addas i gael swydd gyhoeddus. Os profir bod uwch ffigurau Torïaidd yn y blaid yng Nghymru a Lloegr yn gwybod am yr helynt ofnadwy hwn, ond heb wneud dim, mae'n rhaid iddynt hwythau hefyd roi ystyriaeth ddifrifol i'w dyfodol yn eu swyddi.
A ydych yn cytuno â mi fod Alun Cairns yn anaddas ar gyfer gwneud swydd gyhoeddus ac y dylai unrhyw ymchwiliad gynnwys unigolion eraill o fewn y Blaid Dorïaidd a wyddai am fethiant achos trais Ross England? Ac a fyddwch hefyd yn cyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU pan fydd enw Ysgrifennydd Gwladol Cymru newydd yn cael ei gyhoeddi i fynnu eu bod yn penodi rhywun sy'n gwybod beth sydd ei angen ar ein gwlad? Tra bo'r swydd anacronistig hon yn bodoli, ni allwn fforddio llais arall i Lywodraeth y DU yng Nghymru yn lle'r hyn sydd ei angen: llais cryf i Gymru o fewn Llywodraeth y DU.
Wel, Ddirprwy Lywydd, rwy'n llwyr rannu ffieidd-dod Leanne Wood at yr hyn a ddigwyddodd gyda'r achos a'r modd y cafodd ei drin gan y Blaid Geidwadol, ac mae Leanne, wrth gwrs, yn ein hatgoffa, a hynny'n bwysig iawn, fod yna fenyw y tu ôl i hyn i gyd sydd wedi cael ei heffeithio gan yr hyn a ddigwyddodd, ac yn amlwg, byddai gorfod ymdopi â'r sefyllfa bresennol yn peri gofid mawr, felly rwy'n credu, yn yr holl drafodaethau hyn, y dylem gofio'n bennaf am y fenyw, y dioddefwr.
Rwyf am ddweud fy mod yn cytuno â sylwadau Jeremy Corbyn ar y mater, ac fe ddywedodd, er bod gan Alun Cairns hawl gyfreithlon i sefyll,
a oes ganddo hawl foesol i sefyll fel ymgeisydd?
Aiff ymlaen i ddweud:
Os yw'n ymddiswyddo fel Gweinidog oherwydd y rhan a chwaraeodd buaswn wedi meddwl mai'r peth lleiaf y gall y Blaid Geidwadol ei wneud yw peidio â'i gynnig fel ymgeisydd yn yr etholiad nesaf.
Ac wrth gwrs, mae Leanne yn iawn eto i ddweud ein bod angen Ysgrifennydd Gwladol sy'n deall Cymru, ac edrychaf ymlaen yn fawr at gael Ysgrifennydd Gwladol newydd, ar ôl yr etholiad cyffredinol, sy'n canolbwyntio ar fuddiannau Cymru yn hytrach na buddiannau'r Blaid Geidwadol. Ac yn amlwg, nid yw'n beth da ein bod mewn sefyllfa nawr lle mai'r unig Weinidog sydd ar ôl yn Swyddfa Cymru yw'r cyn AS dros Torbay a fyddai'n debygol o fod yn gyfyngedig ei wybodaeth am y materion sy'n effeithio arnom yma yng Nghymru, credaf ei bod yn deg dweud.

Fel rwyf wedi'i egluro yn fy sylwadau yn gynharach heddiw, credaf fod Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn iawn i ymddiswyddo o'i rôl, o ystyried yr amgylchiadau. Ac rwyf hefyd wedi dweud yn gwbl glir heddiw fy mod yn credu bod yr achos hwn wedi bod yn frawychus, ac rwy'n cydymdeimlo'n fawr â'r unigolyn dan sylw.
Nawr, fel y gŵyr y Gweinidog, o gofio'r ymddiswyddiad heddiw, cynhelir ymchwiliad o dan god gweinidogion Llywodraeth y DU, a bydd yr ymchwiliad hwnnw'n mynd rhagddo nawr, ac rwy'n cytuno'n llwyr â hynny. Ac mae'n bwysig ein bod yn cynnal y safonau uchaf posibl fel gwleidyddion yn ein holl sefydliadau seneddol, gan gynnwys y lle hwn.
Felly, a all y Gweinidog ddweud wrthym beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod ei chod gweinidogol ei hun mor effeithiol â phosibl fel y gall y cyhoedd gael hyder ym mhob un o'n sefydliadau seneddol, ac ym mhob un o sefydliadau'r Weithrediaeth, i wneud yn siŵr bod y cod hwnnw mor gadarn â phosibl?
Diolch i Paul Davies am ei sylwadau, ac rwy'n gyfarwydd â'r datganiad a gyhoeddodd yn gynharach heddiw, er fy mod yn teimlo ei fod wythnos yn hwyr yn dod o bosibl. Ond fe ddywedaf fod Llywodraeth Cymru yn adolygu cod y gweinidogion yn rheolaidd, a phan fydd angen gwneud ychwanegiadau ato, cânt eu gwneud. Felly, mae Gweinidogion yn cael copïau o god y gweinidogion yn rheolaidd, ac mae'n rhaid i ni eu mabwysiadu'n llwyr a sicrhau ein bod, bob amser, yn cydymffurfio â'r hyn sydd wedi'i nodi yng nghod y gweinidogion.
Un o'r effeithiau y gallai ymddiswyddiad Alun Cairns fel Ysgrifennydd Gwladol eu cael yw anfon neges glir a sylweddol at fenywod sy'n ystyried adrodd am drais y gellid defnyddio eu trawma drwy ymddangosiad llys i'w difrïo ac y gallai'r achos fethu, sef yn union yr hyn a ddigwyddodd yn yr achos hwn.
Ar adeg pan fo pob un ohonom yn gwybod bod cyfradd yr achosion trais sy'n llwyddiannus yn eithriadol o isel eisoes yn y DU ac yng Nghymru, credaf fod y niwed y gall yr achos amlwg iawn hwn ei wneud i leihau unrhyw bosibilrwydd y bydd menywod yn dymuno rhoi eu hunain drwy hyn yn fawr iawn. Hoffwn alw ar Alun Cairns i wneud y peth iawn yn yr achos hwn, oherwydd fe gefnogodd rywun gan wybod yn iawn, mae'n ymddangos, am yr hyn a wnaeth yr unigolyn hwnnw, a gwneud i'r fenyw honno ddioddef ail achos. Os nad yw un treial yn ddigon, mae dau achos yn erchyll.
Ac mae perygl gwirioneddol yma—ac rwy'n annog pawb i fod yn ofalus iawn yn yr hyn y maent yn ei wneud—o ddatgelu pwy yw'r dioddefwr, oherwydd dyna yw fy ofn yn hyn i gyd erbyn hyn, y gallai hynny ddigwydd rywsut. Rhaid i ni sicrhau'n bendant na fydd hynny'n digwydd. Felly, nid yw gwneud y peth iawn o ran ildio swydd y gallai fod wedi'i chael neu beidio mewn ychydig wythnosau yn fy modloni'n llwyr, ac rwy'n siŵr na fydd yn bodloni'r holl fenywod eraill hynny. Pe bai am wneud y peth iawn, byddai Alun Cairns, am ei rôl yn hyn, yn rhoi'r gorau i'w sedd, oherwydd yn fy marn i, nid yw'n gymwys i gynrychioli neb bellach mewn swydd gyhoeddus. A allwch chi ddychmygu sut y bydd yn ymdrin ag achosion o anghyfiawnder y gallai eu hwynebu yn y dyfodol? A allwch chi ddychmygu y byddai unrhyw fenyw ym Mro Morgannwg, a gynrychiolir ganddo, am fynd yn agos ato ef neu ei blaid ar hyn o bryd? Felly, os yw'r Torïaid—ac rwy'n credu'r hyn a ddywedodd Paul Davies ac rwy'n ei dderbyn yn llwyr—ond os yw'r Torïaid am ddweud eu bod yn malio mewn gwirionedd, ac rwy'n sôn am y Torïaid yn y DU a'u prif swyddfa, mae'n rhaid iddo fynd. Dyna'r unig ffordd ymlaen, oherwydd, yn anffodus, mae'r hyn y mae'n ei wneud yn niweidio'i holl gydweithwyr yn ogystal.
Diolch i Joyce Watson am y sylwadau hynny, ac mae'r hyn a ddywed yn adleisio geiriau Christina Rees, wrth gwrs, a ddywedodd
Nid yw'r ffaith bod Alun Cairns wedi camu i lawr fel Ysgrifennydd Gwladol yn ddiwedd ar y mater o bell ffordd, ac mae'n gam hanner ffordd gwael na fydd yn twyllo neb.
Ac mae'n mynd yn ei blaen i ddweud
Nid yw wedi egluro ei ymddygiad o hyd ac nid yw wedi mynd i'r afael â'r materion difrifol a godwyd gan y negeseuon e-bost a ddatgelwyd ddoe.
A
dylai wneud y peth iawn—ymddiheuro, ac ymddiswyddo fel ymgeisydd.
Ond credaf mai'r pwynt pwysicaf a gododd Joyce Watson heddiw yw pwysigrwydd sicrhau bod gan fenywod hyder i adrodd ac i roi gwybod am bethau sydd wedi digwydd iddynt, er mwyn sicrhau bod cymorth ar gael i'r menywod hynny, ac i sicrhau hefyd y gall y menywod dan sylw fod yn hyderus bob amser y perchir eu cyfrinachedd bob amser.
Yn olaf, Alun Davies.
Rwy'n ddiolchgar i chi, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi gysylltu fy hun â sylwadau Leanne Wood a Joyce Watson yn y sesiwn gwestiynau hon? Mae'r holl fater, sydd wedi bod yn destun dadl gyhoeddus yn ystod yr wythnos diwethaf, wedi datgelu rhai materion difrifol iawn, nid yn unig o ran ymddygiad unigolyn, ond o ran rôl yr Ysgrifennydd Gwladol. Rwy'n gobeithio y byddwn ni a Llywodraeth Cymru yn gallu mynd ar drywydd materion, nid yn unig er mwyn diogelu'r dioddefwr yn hyn, ond hefyd i sicrhau, lle bynnag y mae gennym ddylanwad i wneud hyn—rwy'n falch o weld bod y Cwnsler Cyffredinol yn ei sedd y prynhawn yma—ein bod yn diogelu'r system llysoedd yng Nghymru, er mwyn sicrhau bod menywod yn teimlo y gallant roi gwybod am yr achosion hyn.
Ond mae hyn hefyd yn codi materion arwyddocaol ynglŷn â rôl yr Ysgrifennydd Gwladol, ac rwy'n credu, ers rhai blynyddoedd, fod llawer ohonom wedi teimlo bod rôl yr Ysgrifennydd Gwladol yn anacroniaeth yn y Deyrnas Unedig fel y mae. Mae llawer ohonom wedi teimlo, ac yn benodol, rwy'n siarad o fy mhrofiad i mewn Llywodraeth, nad oes diben i Swyddfa Cymru na swydd yr Ysgrifennydd Gwladol mwyach.
Weinidog Cyllid, efallai nad ydych yn ymwybodol o hyn, ond treuliodd gwrandawiad yn ddiweddar gan y pwyllgor materion allanol awr a hanner yn trafod y berthynas rhwng Llywodraethau'r Deyrnas Unedig gyda Michael Gove ychydig cyn y toriad, ac yn yr awr a hanner honno, ni soniodd Michael Gove nac unrhyw aelod o'r pwyllgor hwnnw am Swyddfa Cymru. Rwy'n credu bod hynny'n dweud cyfrolau am y modd y mae Swyddfa Cymru yn cael ei chydnabod yn y Deyrnas Unedig heddiw. Mae'n bryd inni sefydlu peirianwaith rhynglywodraethol sy'n sicrhau y gall holl Lywodraethau'r Deyrnas Unedig weithio gyda'i gilydd er lles pob un ohonom yn y Deyrnas Unedig, ac rwy'n gobeithio, os daw unrhyw beth o'r busnes truenus hwn, y bydd hynny'n un peth, o leiaf, i ddod o hyn, ac rwy'n gobeithio y gall Llywodraeth Cymru fynd ar drywydd hynny.
Diolch i Alun Davies am godi'r mater penodol hwnnw, ac wrth gwrs, yn ddiweddar mae Prif Weinidog Cymru wedi nodi ei weledigaeth, os mynnwch, ar gyfer y berthynas rynglywodraethol rhwng gwledydd cyfansoddol y DU. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn fod y system honno o gysylltiadau'n seiliedig ar y peirianwaith a fydd yn gweddu orau i'n huchelgeisiau ar gyfer y ffordd y byddwn yn ymwneud â rhannau eraill o'r DU.
Diolch yn fawr iawn, Drefnydd.
Eitem 6 ar yr agenda yw'r datganiadau 90 eiliad. Daw'r cyntaf y prynhawn yma gan Vikki Howells.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae hwn yn ddatganiad 90 eiliad am dedi cyffredin—tedi cyffredin a gafodd ei daflu, ei wneud yn fyw gan ddyn smotiog ac a gafodd bwerau arbennig gan fam natur. Ie, dyma ddatganiad 90 eiliad am SuperTed. Ymddangosodd SuperTed, y comisiwn cyntaf un gan S4C, ar deledu Cymraeg am y tro cyntaf ar 1 Tachwedd 1982, felly mae'r mis hwn yn nodi ei ben blwydd yn 37 oed. Darlledwyd cartŵn Saesneg yn adrodd stori'r arwr anthropomorffig y flwyddyn ganlynol, a chafodd ei ddarlledu, o 4 Hydref 1984 ymlaen i'r DU gyfan.
Roedd y tedi bendigedig hwn yn gyfrifol am ledaenu logo S4C drwy'r byd. Yn wir, gwerthwyd y gyfres i dros 70 o wledydd. Ef oedd y cynhyrchiad allanol cyntaf erioed a brynwyd gan Walt Disney Company, ac fe gafodd ei orchestion eu lledaenu ar fideo a'u darlledu ar Disney Channel a oedd yn newydd sbon ar y pryd.
SuperTed oedd gwir seren deledu Cymru'r 1980au. Crëwyd yr arth ddewr gan yr awdur a'r animeiddiwr Cymreig, Mike Young. Mae'n wybyddus i Mike greu'r cymeriad carismatig i helpu ei fab i oresgyn ei ofn o'r tywyllwch. Cyhoeddwyd dros 100 o lyfrau SuperTed, a werthodd dros 200,000 o gopïau yn y DU yn unig. Serennodd mewn rhaglenni addysgol. Pwy sy'n cofio Super Safe with SuperTed, y set animeiddio diogelwch ffyrdd yng Nghaerdydd? Ymddangosodd SuperTed ar y llwyfan, ar fitaminau i blant, ac ef oedd noddwr cyntaf crysau Clwb Pêl-Droed Dinas Caerdydd hyd yn oed. Am waddol. Pen-blwydd hapus.
Mae'n rhaid i mi guro hynny. [Chwerthin.] Diolch, Ddirprwy Lywydd. Sut y mae rhywun yn curo hynny?
Mae'r wythnos hon yn nodi pen-blwydd arall—sef pen-blwydd fy nhref enedigol yn 70 oed, dynodiad Cwmbrân yn dref newydd, y dref gyntaf a'r unig dref newydd, ar wahân i un, i gael ei hadeiladu yng Nghymru o dan Ddeddf Trefi Newydd 1946.
Wrth dyfu i fyny yn y 1980au yn ardal Llanyrafon o'r dref, ar gyrion gorllewinol etholaeth Trefynwy, roeddwn yn ymwybodol iawn fod y lle roeddwn yn ei alw'n gartref rywsut yn wahanol ac fe'm swynwyd gan y weledigaeth o ddyfodol mwy disglair a ysbrydolodd y cynllunwyr trefol ar ôl y rhyfel. Roedd y weledigaeth honno wedi tyfu o syniadau Ebenezer Howard, sylfaenydd mudiad y gardd-ddinasoedd Fictoraidd ac awdur To-morrow: a Peaceful Path to Real Reform. Roedd yn cefnogi creu cymunedau newydd i elwa ar aer glân, mannau agored a thai o ansawdd da, pethau prin ym Mhrydain ar ôl y rhyfel.
Yng Nghwmbrân, roedd hefyd yn cynnwys gwaith arloesol i bedestreiddio canol y dref yn llwyr, gyda pharcio am ddim, ac yn y pen draw, ar ôl i Gorfforaeth Datblygu Cwmbrân ddod i ben, daeth yn ganol tref cyntaf y DU i fod mewn dwylo preifat. Fe'i rhagwelwyd yn wreiddiol fel cymuned o 35,000 o bobl, ond mae Cwmbrân wedi tyfu i fod yn agosach at 50,000 o bobl mewn gwirionedd. O ganlyniad i'r ehangu hwn, mae llawer mwy o bobl bellach wedi gwneud y dref newydd yn gartref iddynt.
Mae 70 o flynyddoedd wedi bod ers i'r Gweinidog Cynllunio Gwlad a Thref ar y pryd, Lewis Silkin, ddweud wrth gadeirydd pwyllgor y Cabinet, Herbert Morrison:
Rwy'n credu y gallwn adeiladu tref newydd dda iawn yma.
Byddai llawer yn dweud bod hanes wedi'i brofi'n gywir. Pen-blwydd hapus, Cwmbrân.
Eitem 7 ar ein hagenda yw cynnig i amrywio trefn ystyried gwelliannau Cyfnod 3 y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru). A gaf fi alw ar Aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig? Darren.
Cynnig NDM7175 Elin Jones
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36:
Yn cytuno i waredu’r adrannau a’r Atodlenni i’r Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) yng Nghyfnod 3 yn y drefn ganlynol:
a) adrannau 2 i 9,
b) Atodlen 1,
c) adrannau 10 i 28,
d) Atodlen 2,
e) adran 29,
f) Atodlen 3,
g) adrannau 30 i 41,
h) adran 1,
i) Teitl hir.
Cynigiwyd y cynnig.
Rwy'n cynnig.
Diolch yn fawr iawn. Nid oes gennyf unrhyw siaradwyr. Felly, y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 8 ar ein hagenda y prynhawn yma yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon: 'Hepatitis C: Cynnydd tuag at ei ddileu yng Nghymru'. A galwaf ar Helen Mary Jones i gyflwyno'r cynnig ar ran y pwyllgor. Helen Mary.
Cynnig NDM7174 Dai Lloyd
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar Hepatitis C: Cynnydd tuag at ei ddileu yng Nghymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Mehefin 2019.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n sefyll yma, wrth gwrs, yn lle ein cyd-Aelod annwyl, Dr Dai Lloyd, oherwydd nid yw'n dda iawn ar hyn o bryd. Yn sicr, ni allaf obeithio dynwared ei arddull unigryw. Rwy'n siŵr y bydd yr holl Aelodau yn y Siambr hon yn ymuno â mi i ddymuno gwellhad buan a chyflym i Dai, a'r cyfan y gallaf ei wneud yw ceisio llenwi ei esgidiau ar ran y pwyllgor, gan wybod, wrth gwrs, fod hyn y tu hwnt i mi yn llwyr.
Rwy'n falch iawn o gymryd rhan yn y ddadl hon heddiw ar ran y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, ar ein hadroddiad ar y cynnydd a wnaed tuag at ddileu hepatitis C yng Nghymru. Dyma'r drydedd mewn cyfres o ymchwiliadau sbotolau byr a phenodol a gynhaliwyd gan y pwyllgor, ac rydym i gyd yn ddiolchgar iawn i bawb a roddodd dystiolaeth ac fel bob amser, i'r tîm rhagorol sy'n cefnogi gwaith ein pwyllgor.
Cytunodd y pwyllgor i gynnal yr ymchwiliad undydd hwn i ymchwilio i'r gwaith sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd i ddileu hepatitis C yng Nghymru erbyn y dyddiad targed, sef 2030. Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn amcangyfrif bod gan 71 miliwn o bobl yn y byd heintiau hepatitis C cronig, ac o'r 21,000 sy'n byw yn y DU, mae 12,000 i 14,000 yn byw yng Nghymru. Felly mae'r cyflwr hwn yn effeithio ar nifer fawr o'n cyd-ddinasyddion.
Rydym yn gwybod, wrth gwrs, fod hepatitis C yn effeithio ar gymunedau difreintiedig ac ymylol, gan gynnwys pobl ddigartref a chymunedau mudol yn enwedig, gyda bron i hanner y bobl sy'n mynd i'r ysbyty gyda'r feirws yn dod o'r bumed ran dlotaf o'r gymdeithas.
Daeth pethau allweddol i'r amlwg yn ein hymchwiliad. Gwyddom, wrth gwrs, fod Cymru wedi ymrwymo i strategaeth sector iechyd byd-eang Sefydliad Iechyd y byd, sy'n anelu at ddileu hepatitis C erbyn 2030. Un o'r trasiedïau, wrth gwrs, o ystyried y nifer fawr o bobl sy'n byw gyda'r cyflwr hwn, yw fod modd ei wella'n llwyr bellach. Er bod hyn i'w groesawu—mae'r ymrwymiad i'w groesawu—mynegodd nifer o dystion i'n hymchwiliad bryderon ynglŷn ag a fyddwn yn cyrraedd y targedau hynny. Clywodd y pwyllgor nad yw pob bwrdd iechyd lleol yn cyrraedd y targedau, ac y bydd yn rhaid i gyfraddau diagnosis a thriniaeth gynyddu'n sylweddol yng Nghymru os ydym am gyrraedd y targed 2030. Clywsom dystiolaeth anecdotaidd fod cyfarwyddwyr cyllid byrddau iechyd lleol yn atal timau hepatoleg rhag rhagori ar y targedau triniaeth oherwydd pryderon ariannol. Ni fydd y dull hwn o weithredu ond yn arwain at fwy o gost ariannol yn y tymor hir, ac nid yw'n gydnaws â sicrhau bod Cymru'n cyrraedd y targed dileu. Mae'n hanfodol nad yw byrddau iechyd yn gosod capiau ar dargedau triniaeth lleol. Dylid ystyried targedau triniaeth cenedlaethol fel lleiafswm sylfaenol, a dylai byrddau iechyd anelu at ragori arno.
Mae'r neges gan y tystion yn glir—fod gwybodaeth ac ymwybyddiaeth o hepatitis C ymhlith y cyhoedd yn parhau i fod yn isel, ac adlewyrchir hynny yn y ffaith bod tua 50 y cant o gleifion heb gael diagnosis. Mewn arolwg DU gyfan a gomisiynwyd gan yr Ymddiriedolaeth Hepatitis C, nodwyd bod llai na 40 y cant o'r 80 y cant a oedd yn ymwybodol o hepatitis C yn gwybod ei fod yn effeithio ar yr afu, a bod llai na 30 y cant yn gwybod bod modd gwella'r feirws bellach.
Clywodd y pwyllgor fod gwybodaeth sydd wedi dyddio yn amlwg o hyd ymhlith grwpiau sydd mewn perygl, ac o'r herwydd, mae rhai cleifion yn ofnus ynglŷn â gofyn am ofal iechyd, oherwydd natur anodd y triniaethau blaenorol. Gall cynyddu ymwybyddiaeth a gwybodaeth y cyhoedd am y feirws drwy ddatblygu ymgyrch ymwybyddiaeth wedi'i chefnogi gan y Llywodraeth, ac wedi'i thargedu at grwpiau penodol sydd mewn perygl, helpu i leihau'r effeithiau ar y rhai yr effeithiwyd arnynt gan y feirws. Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru wrth y pwyllgor, ers i Lywodraeth Cymru gyflwyno polisi ffurfiol o gynnig prawf optio allan ar gyfer feirysau a gludir yn y gwaed i bawb sy'n cael eu derbyn i'r carchar yn 2016, fod y nifer sy'n cael eu profi wedi cynyddu o 8 y cant i 34 y cant. Mae hyn yn galonogol, ac mae wedi bod yn welliant mawr, ac ymhen amser, gobeithio, bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyrraedd y targed o 100 y cant. Fodd bynnag, tynnodd y tystion sylw at ddiffyg adnoddau ar gyfer cynnal profion mewn carchardai, ac er mwyn cael gwared ar feirws hepatitis C mewn carchardai, roeddent yn dweud bod angen adnoddau a staff ychwanegol. Roedd recriwtio a chadw staff hefyd yn faterion a gafodd sylw gan dystion, gyda rhai'n nodi bod diffyg staff yn atal carcharorion rhag cael profion prydlon.
Mae gwybodaeth ac ymwybyddiaeth ymhlith rhai gweithwyr iechyd proffesiynol yn broblem barhaus sy'n rhaid ei datrys. Clywodd y pwyllgor fod cleifion yn cael profiadau llai cadarnhaol gyda gweithwyr iechyd proffesiynol, megis meddygon teulu a nyrsys anarbenigol, gyda llawer yn dweud nad oeddent wedi cael cynnig profion mewn gwirionedd. Dywedodd eraill eu bod wedi dod ar draws lefelau isel o wybodaeth am y feirws gan weithwyr iechyd proffesiynol, a'u bod yn aml yn cael gwybodaeth a chyngor a oedd yn wallus neu wedi dyddio. Mae Ymddiriedolaeth Hepatitis C yn cydnabod bod mentrau a gyflwynwyd i ddarparu cymorth addysgol i weithwyr gofal iechyd proffesiynol yn werthfawr, ond mae'n dweud bod angen gwneud rhagor. Galwodd tystion am amser dysgu wedi'i ddiogelu ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol o'r fath, ac am fwy o godi ymwybyddiaeth. Clywsom nad oes angen i hyfforddiant o'r fath gymryd llawer o amser a bod modd cyflwyno llawer ohono ar-lein.
Y neges gan dystion oedd fod gan Gymru gyfle gwych i ddod yn wlad gyntaf y DU i gael gwared ar y clefyd hwn. Fodd bynnag, heb gamau ychwanegol ar frys i fynd i'r afael â'r ansicrwydd sy'n ymwneud â'r strategaeth a chyllido ar ôl 2021, ofnir y gallai'r cyfle gael ei golli.
Felly, dyma oedd ein pedwar argymhelliad—y dylai Llywodraeth Cymru greu strategaeth ddileu genedlaethol, gynhwysfawr ar gyfer hepatitis C, yn cynnwys targedau uchelgeisiol clir a chynllunio ar gyfer y gweithlu, a dylai ddarparu cyllid sylweddol hyd nes y caiff yr haint ei ddileu. Rhaid gwneud hyn yn ddiymdroi, o gofio y bydd y cynllun presennol yn dod i ben eleni, ac mai dim ond tan 2021 y mae cyllid wedi’i gadarnhau ar gyfer swyddi penodol.
Ein hail argymhelliad yw fod yn rhaid i’r strategaeth gynnwys ymgyrch codi ymwybyddiaeth wedi’i thargedu er mwyn cyrraedd cymunedau sy’n wynebu risg, ynghyd â darparu addysg a hyfforddiant ychwanegol i weithwyr iechyd proffesiynol. Ein trydydd argymhelliad yw fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru ysgrifennu at gyfarwyddwyr cyllid a phrif weithredwyr y byrddau iechyd lleol i bwysleisio bod yn rhaid ystyried y targedau triniaeth cenedlaethol ar gyfer hepatitis C fel y targedau mwyaf sylfaenol, gyda’r nod o ragori arnynt lle bynnag y bo modd. Ein pedwerydd argymhelliad yw y dylai Llywodraeth Cymru wneud buddsoddiad ychwanegol er mwyn gwella’r profion am hepatitis C mewn carchardai yng Nghymru.
Rydym braidd yn siomedig mai dim ond un o'r argymhellion hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi dewis ei dderbyn yn llawn. Rydym yn ddiolchgar fod yr argymhellion eraill wedi'u derbyn mewn egwyddor. Ond mewn gwirionedd, nid yw'r Llywodraeth ond wedi cytuno i ysgrifennu at y cyfarwyddwyr cyllid a'r prif weithredwyr, ac mae eu hymateb yn dweud bod ffyrdd eraill o fynd i'r afael â'r materion y mae ein hadroddiad yn tynnu sylw atynt. Rwy'n awyddus i glywed yr hyn sydd gan y Gweinidog i'w ddweud heddiw, ond buaswn yn ei annog i edrych unwaith eto ar