National Assembly for Wales

Back to Search

Y Cyfarfod Llawn

Plenary

22/10/2019

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

The Assembly met at 13:30 with the Llywydd (Elin Jones) in the Chair.

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog
1. Questions to the First Minister

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Mick Antoniw. 

The first item on our agenda this afternoon is questions to the First Minister, and the first question is from Mick Antoniw. 

Cytundeb Fframwaith Capasiti Cludo Nwyddau
Freight Capacity Framework Agreement

1. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU mewn perthynas â'i Chytundeb Fframwaith Capasiti Cludo Nwyddau arfaethedig? OAQ54604

1. What discussions has the Welsh Government had with the UK Government in respect of its proposed Freight Capacity Framework Agreement? OAQ54604

Llywydd, discussions have been held Welsh Government and the Department for Transport, and other departments in UK Government, regarding the freight capacity framework agreement, although these were often late in the procurement process.  That process was undertaken solely by the UK Department for Transport.

Llywydd, mae trafodaethau wedi eu cynnal rhwng Llywodraeth Cymru a'r Adran Drafnidiaeth, ac adrannau eraill yn Llywodraeth y DU, ynghylch y cytundeb fframwaith capasiti cludo nwyddau, er bod y rhain yn aml yn hwyr yn y broses gaffael. Dim ond Adran Drafnidiaeth y DU wnaeth gymryd rhan yn y broses honno.

Thank you for that answer, First Minister. Each year, Welsh ports, as you know, handle 48 million tonnes of freight. They carry 2.5 million passengers. They employ 6,000 people, including 1,000 seafarers, and it's worth £1 billion a year to the Welsh economy. The Government's Brexit mismanagement is likely to turn into a disaster for the Welsh economy and for Welsh jobs. So, if there is no deal, the freight capacity framework agreement is a potential charter for workers' exploitation, and already companies like Irish Ferries and Fastnet Line, have been named by trade unions such as the National Union of Rail, Maritime and Transport Workers as the 'ships of shame', because of they're non-recognition of trade unions and exploitative rates of pay below the UK minimum wage. Now, if there is a deal, First Minister, the new Tory Siegfried line that will be the customs border down the middle of the Irish sea will lead to companies bypassing Welsh ports as they head tariff-free to the European Union. So, under the Tories' Brexit arrangements, First Minister, Welsh workers face either exploitation or unemployment. So, will you, as First Minister, meet with me, and with RMT, to discuss the steps that Welsh Government can take to protect Welsh workers and Welsh ports?

Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Bob blwyddyn, mae porthladdoedd Cymru, fel y gwyddoch, yn ymdrin â 48 miliwn tunnell o nwyddau. Maen nhw'n cario 2.5 miliwn o deithwyr. Maen nhw'n cyflogi 6,000 o bobl, gan gynnwys 1,000 o forwyr, ac mae'n werth £1 filiwn y flwyddyn i economi Cymru. Mae camreolaeth y Llywodraeth o Brexit yn debygol o droi'n drychineb i economi Cymru ac i swyddi yng Nghymru. Felly, os na fydd cytundeb, mae'r cytundeb fframwaith capasiti cludo nwyddau yn siarter bosibl i gamfanteisio ar weithwyr, ac enwyd cwmnïau fel Irish Ferries a Fastnet Line eisoes gan undebau llafur fel Undeb Cenedlaethol y Gweithwyr Rheilffordd, Morwrol a Thrafnidiaeth fel y 'llongau cywilydd', oherwydd eu diffyg cydnabyddiaeth o undebau llafur a chyfraddau cyflog camfanteisiol sy'n is nag isafswm cyflog y DU. Nawr, os bydd cytundeb, Prif Weinidog, bydd llinell Siegfried newydd y Torïaid a fydd yn gweithredu fel y ffin dollau i lawr canol Môr Iwerddon yn peri i gwmnïau osgoi porthladdoedd Cymru wrth iddyn nhw allu mynd yn ddi-dariff i'r Undeb Ewropeaidd. Felly, o dan drefniadau Brexit y Torïaid, Prif Weinidog, mae gweithwyr Cymru yn wynebu naill ai camfanteisio neu ddiweithdra. Felly, a wnewch chi, fel Prif Weinidog, gyfarfod â mi, a chydag RMT, i drafod y camau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i amddiffyn gweithwyr Cymru a phorthladdoedd Cymru?

Well, Llywydd, Mick Antoniw is right to the point to the significance of Welsh ports. It's often, I think, not easily understood in other parts of the United Kingdom, but Holyhead is one of the busiest ports in the whole of the UK. Now, if we leave the European Union without a deal—an eventuality that we have absolutely regularly pointed out to be disastrous as far as the Welsh economy is concerned—then there will be immediate and adverse impacts at Welsh ports. And while we have worked with the UK Government and with ports authorities to mitigate those impacts, they will be real and they will be felt in Wales, as well as elsewhere. 

Llywydd, Mick Antoniw went on to point out the impact of the deal that the Prime Minister has now struck. And we are not well prepared for that deal, because we have proceeded on the basis of the Prime Minister's previous pronouncements on this subject. On 2 July, he told an audience in Belfast,

'under no circumstances', he said

'whatever happens, will I allow the EU or anyone else to create any kind of division down the Irish sea.'

The second of July, that's what he said—an arrangement that Mrs May described, let's not forget, as something that no UK Prime Minister could ever agree to. And here we are, a few short weeks later, and that is exactly what is now being proposed. And that without any opportunity for us to explore with this administration the impact that that decision will have on ports here in Wales, and those impacts will be absolutely real. The Johnson deal makes Wales, and Welsh ports, the front line between Great Britain and the European Union. 

Now, I've seen the Member's correspondence with my colleague Ken Skates on these matters, and I'm very happy to discuss a ministerial meeting involving Mick Antoniw and the trade unions. 

Wel, Llywydd, mae Mick Antoniw yn iawn i gyfeirio at bwysigrwydd porthladdoedd Cymru. Yn aml, nid yw'n hawdd ei ddeall mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, ond mae Caergybi yn un o borthladdoedd prysuraf y DU gyfan. Nawr, os byddwn ni'n gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb—digwyddiad yr ydym ni wedi dweud yn gwbl rheolaidd a fyddai'n drychinebus o ran economi Cymru—yna bydd effeithiau uniongyrchol a niweidiol ym mhorthladdoedd Cymru. Ac er ein bod ni wedi gweithio gyda Llywodraeth y DU a chydag awdurdodau porthladdoedd i liniaru'r effeithiau hynny, byddan nhw'n rhai real a byddan nhw'n cael eu teimlo yng Nghymru, yn ogystal ag mewn mannau eraill.  

Llywydd, aeth Mick Antoniw ymlaen i dynnu sylw at effaith y fargen y mae Prif Weinidog y DU wedi'i tharo erbyn hyn. Ac nid ydym wedi paratoi'n dda ar gyfer y cytundeb hwnnw, gan ein bod ni wedi bwrw ymlaen ar sail datganiadau blaenorol Prif Weinidog y DU ar y pwnc hwn. Ar 2 Gorffennaf, dywedodd wrth gynulleidfa yn Belfast,

'nid o dan unrhyw amgylchiadau', meddai

'beth bynnag sy'n digwydd, y gwnaf i ganiatáu i'r UE nac unrhyw un arall greu unrhyw fath o raniad i lawr Môr Iwerddon.'

Ar yr ail o Orffennaf, dyna'r hyn a ddywedodd—trefniant a ddisgrifiwyd gan Mrs May, gadewch i ni beidio ag anghofio, fel rhywbeth na allai unrhyw Brif Weinidog y DU byth gytuno iddo. A dyma ni, ychydig wythnosau yn ddiweddarach, a dyna'n union sy'n cael ei gynnig erbyn hyn. A hynny heb unrhyw gyfle i ni archwilio gyda'r weinyddiaeth hon yr effaith y bydd y penderfyniad hwnnw'n ei chael ar borthladdoedd yma yng Nghymru, a bydd yr effeithiau hynny yn gwbl real. Mae cytundeb Johnson yn gwneud Cymru, a phorthladdoedd Cymru, yn rheng flaen rhwng Prydain Fawr a'r Undeb Ewropeaidd.  

Nawr, rwyf i wedi gweld gohebiaeth yr Aelod gyda fy nghyd-Weinidog Ken Skates ar y materion hyn, ac rwy'n hapus iawn i drafod cyfarfod gweinidogol sy'n cynnwys Mick Antoniw a'r undebau llafur.

First Minister, I think it is essential that the freight capacity framework agreement can provide Government departments with the ability to secure freight capacity for supply chains between the UK and the EU. But it's also important to improve cross-border freight capacity between Wales and England. And I noticed during the evidence gathering for the Marches and mid Wales freight strategy, which was published last year, that the business community outlined the opportunities for greater domestic food production. I also say that in the context of the importance of agriculture to areas of Wales such as my constituency. They also stressed the importance of interventions that would increase the capacity of the road network in mid Wales, for better flow into the midlands. So, can I ask what specific discussions you've had with the UK Government in regard to better flow of freight between Wales and England, in the context of the points that I've raised?

Prif Weinidog, rwy'n credu ei bod hi'n hanfodol bod y cytundeb fframwaith capasiti cludo nwyddau yn gallu rhoi'r gallu i adrannau Llywodraeth sicrhau capasiti cludo nwyddau ar gyfer cadwyni cyflenwi rhwng y DU a'r UE. Ond mae hefyd yn bwysig gwella capasiti cludo nwyddau ar draws y ffin rhwng Cymru a Lloegr. A sylwais yn ystod y broses o gasglu tystiolaeth ar gyfer strategaeth cludo nwyddau y Gororau a chanolbarth Cymru, a gyhoeddwyd y llynedd, bod y gymuned fusnes yn amlinellu'r cyfleoedd i gynhyrchu mwy o fwyd yn ddomestig. Rwyf i hefyd yn dweud hynny yng nghyd-destun pwysigrwydd amaethyddiaeth i ardaloedd o Gymru fel fy etholaeth i. Fe wnaethon nhw bwysleisio hefyd bwysigrwydd ymyraethau a fyddai'n cynyddu capasiti'r rhwydwaith ffyrdd yn y canolbarth, i sicrhau llif gwell i ganolbarth Lloegr. Felly, a gaf i ofyn pa drafodaethau penodol yr ydych chi wedi eu cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â llif gwell o ran cludo nwyddau rhwng Cymru a Lloegr, yng nghyd-destun y pwyntiau yr wyf i wedi eu codi?

13:35

I thank the Member for that point. He makes an important point about freight capacity on the mainland between Wales and England. But discussions with the UK Government on this point have focused entirely on not whether there will be enough road capacity, but whether there will be hauliers with the necessary licences to operate their lorries on those roads at all. Because, in the event of a 'no deal' Brexit, we know that there simply will not be sufficient permits to allow HGVs to operate in the way that they have while we've been members of the European Union. The freight capacity framework agreement has focused primarily on additional capacity across the short straits, but it also has an impact here in Wales as well, between Welsh ports and the Republic of Ireland. Those ports, in the event of a 'no deal' Brexit, will find themselves with hauliers unable to operate in the way that they do now, stranded potentially on the continent of Europe, unable to return. And our problem in that context will not be whether the roads themselves are fit for purpose; it will be that we won't have the capacity that we have today to operate along them.

Diolchaf i'r Aelod am y pwynt yna. Mae'n gwneud pwynt pwysig am gapasiti cludo nwyddau ar y tir mawr rhwng Cymru a Lloegr. Ond mae trafodaethau gyda Llywodraeth y DU ar y pwynt hwn wedi canolbwyntio'n llwyr nid ar ba un a fydd digon o gapasiti ar y ffyrdd, ond a fydd cludwyr nwyddau sydd â'r trwyddedau angenrheidiol i redeg eu lorïau ar y ffyrdd hynny o gwbl. Oherwydd, os ceir Brexit 'heb gytundeb', rydym ni'n gwybod na fydd digon o drwyddedau i ganiatáu i gerbydau nwyddau trwm weithredu yn y ffordd y maen nhw wedi ei wneud tra'r ydym ni wedi bod yn aelodau o'r Undeb Ewropeaidd. Mae'r cytundeb fframwaith capasiti cludo nwyddau wedi canolbwyntio'n bennaf ar gapasiti ychwanegol ar draws y culforoedd byr, ond mae hefyd yn cael effaith yma yng Nghymru hefyd, rhwng porthladdoedd Cymru a Gweriniaeth Iwerddon. Bydd y porthladdoedd hynny, os ceir Brexit 'heb gytundeb', yn canfod eu hunain â chludwyr nwyddau nad ydyn nhw'n gallu gweithredu fel y maen nhw nawr, wedi eu hynysu o bosibl ar gyfandir Ewrop, ac yn methu â dychwelyd. A'n problem ni yn y cyd-destun hwnnw fydd nid pa un a yw'r ffyrdd eu hunain yn addas i'r diben; bydd yn golygu na fydd gennym ni'r capasiti sydd gennym ni heddiw i weithredu ar eu hyd.

Diwygio Cyfraith Lesddaliad
Leasehold Reform

2. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y grŵp gorchwyl a gorffen ar ddiwygio cyfraith lesddaliad? OAQ54611

2. Will the First Minister provide an update on the Welsh Government's response to the report of the task and finish group for leasehold reform? OAQ54611

I thank the Member for that question. The Minister for Housing and Local Government is currently giving careful consideration to the recommendations of the task and finish group. We do not now expect to receive reports from the Law Commission until the spring, but the Minister will provide an update during this autumn term, as previously indicated.

Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. Mae'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol yn rhoi ystyriaeth ofalus i argymhellion y grŵp gorchwyl a gorffen ar hyn o bryd. Nid ydym  ni'n disgwyl derbyn adroddiadau gan Gomisiwn y Gyfraith tan y gwanwyn bellach, ond bydd y Gweinidog yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf yn ystod tymor yr hydref eleni, fel y nodwyd yn flaenorol.

I'd like to emphasise the importance of this report for my constituents. Freehold residents in Cwm Calon in Ystrad Mynach are currently paying upwards of £150 a year for maintenance work on their estate, carried out by an estate management company. There is currently no cap on how high those charges can go, and residents cannot sell their properties until they've paid those charges, and, if they don't pay them, they're subject to county court judgements. And they're on top of their council tax. The fact that any maintenance work is going on at this estate at all is a testament to the work of the voluntary, estate-based Cwm Calon liaison group, which was set up by residents to liaise with the estate management company to get them to do the work. There is no power to make them do the work, but they managed to work with that company to make them do it. I'm currently trying to get a meeting between Redrow, the estate management company, and the council together, and currently I'm having a nightmare getting Redrow to respond to me. We're desperate to get this meeting together. We need regulation to enforce the work that is going on here, and we need regulations to enforce the power of residents in these circumstances. In particular, Welsh Government must support local authorities in adopting green spaces, so that they don't have to pay these charges, and, from a trading standards perspective, residents feel that they have been missold their properties. Can the First Minister, therefore, take these comments on board? This is residents speaking to me out of desperation. Can the First Minister take these comments on board, and please can we proceed to regulation as quickly as possible?

Hoffwn bwysleisio pwysigrwydd yr adroddiad hwn i'm hetholwyr. Mae trigolion rhydd-ddaliad yng Nghwm Calon yn Ystrad Mynach yn talu dros £150 y flwyddyn am waith cynnal a chadw ar eu hystâd ar hyn o bryd, sy'n cael ei wneud gan gwmni rheoli ystadau. Nid oes cap ar hyn o bryd ar ba mor uchel y gallai'r ffioedd hynny godi, ac ni all preswylwyr werthu eu heiddo tan eu bod wedi talu'r ffioedd hynny, ac, os na fyddan nhw yn eu talu, maen nhw'n ddarostyngedig i ddyfarniadau llys sirol. Ac maen nhw'n ychwanegol at eu treth gyngor. Mae'r ffaith bod unrhyw waith cynnal a chadw yn cael ei wneud ar yr ystâd hon o gwbl yn dyst i waith grŵp cyswllt gwirfoddol Cwm Calon, sydd wedi ei leoli ar yr ystâd ac a sefydlwyd gan y trigolion i drafod â'r cwmni rheoli ystadau i'w cymell i wneud y gwaith. Nid oes unrhyw rym i'w gorfodi i wneud y gwaith, ond fe wnaethon nhw lwyddo i weithio gyda'r cwmni hwnnw i'w orfodi i wneud hynny. Ar hyn o bryd, rwy'n ceisio cael cyfarfod rhwng Redrow, cwmni rheoli'r ystâd, a'r Cyngor gyda'i gilydd, ac rwy'n cael hunllef ar hyn o bryd o ran cael Redrow i ymateb i mi. Mae angen taer arnom ni i drefnu'r cyfarfod hwn. Rydym ni angen rheoliadau i orfodi'r gwaith sy'n digwydd yn y fan yma, ac rydym ni angen rheoliadau i orfodi grym y trigolion o dan yr amgylchiadau hyn. Yn arbennig, mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru gefnogi awdurdodau lleol i fabwysiadu mannau gwyrdd, fel nad oes yn rhaid iddyn nhw dalu'r ffioedd hyn, ac, o safbwynt safonau masnach, mae'r trigolion yn teimlo bod eu heiddo wedi cael ei gam-werthu iddyn nhw. Felly, a all y Prif Weinidog roi ystyriaeth i'r sylwadau hyn? Y trigolion yn siarad â mi allan o anobaith yw hyn. A all y Prif Weinidog roi ystyriaeth i'r sylwadau hyn, ac a allwn ni fwrw ymlaen i reoleiddio cyn gynted â phosibl?

Llywydd, I thank the Member for those very important points. He is drawing attention to the fact that, although the task and finish group was set up to deal with leasehold reform, there was a particular workstream within it dealing with freehold matters as well. And this is a very complex area of law and policy, Llywydd, which is why, as well as the taskforce that has reported to my colleague Julie James, the Minister for Economy and Transport also set up a taskforce to look at issues surrounding unadopted roads. Because unadopted roads is a very important subset of estate management charges of the sort referred to by Hefin David.

In a very complex picture, with many different actions, I'm going to just highlight three things this afternoon, if I could. First of all, as a result of that report, we have set up the Wales conveyancer accreditation scheme, because the report said that one of the really important things was to make sure that, at the point of purchase, people got proper advice. Otherwise, people find themselves in the position that Hefin outlined, where they find charges imposed on them that they hadn't anticipated, find it very difficult to get an explanation of where those charges derive from or to get any sense of how those charges are to be regulated in the future. If you're buying a house under Help to Buy now in Wales you've got to use a conveyancer who's been accredited. The accreditation is a high bar, where people have to be able to demonstrate that they've been trained and are properly equipped to ensure that customers are adequately informed at the point of purchase.

The second thing we are looking at is strengthened rights. Leaseholders have rights and legal protections. For example, they can challenge the reasonableness of service charges under the provisions in the Landlord and Tenant Act 1985. Freeholders do not have those protections, which is how they end up in the position of the residents in Hefin David's constituency. The Law Commission report, which I referred to in my answer, is now expected in 2020, and we do not hold back at all from the possibility that we will want to legislate, but we will need to legislate in the light of the wider recommendations that that report will make.

And, finally and thirdly, to take up the point of unadopted roads and the charges that people find themselves having to pay there, as a result of the taskforce that Ken Skates has established, all parties are now agreed on common national standards. A good practice guide has been produced and has been disseminated to all local authorities, and a database is being developed of historic unadopted roads across Wales, so we have a better sense of the challenge that is there. All of those were recommendations of the taskforce. All three of them have been implemented and all of them I think will be of relevance to Hefin David's constitutents. 

Llywydd, hoffwn ddiolch i'r Aelod am y pwyntiau pwysig iawn yna. Mae'n tynnu sylw at y ffaith, er bod y grŵp gorchwyl a gorffen wedi ei sefydlu i ymdrin â diwygio cyfraith lesddaliad, bod ffrwd waith benodol yn rhan ohono yn ymdrin â materion rhydd-ddaliad hefyd. Ac mae hwn yn faes cymhleth iawn o gyfraith a pholisi, Llywydd, a dyna pam, yn ogystal â'r tasglu sydd wedi adrodd i'm cyd-Weinidog Julie James, y mae Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth hefyd wedi sefydlu tasglu i edrych ar faterion yn ymwneud â ffyrdd nad ydyn nhw wedi eu mabwysiadu. Oherwydd mae ffyrdd nad ydyn nhw wedi eu mabwysiadu yn is-gyfres bwysig iawn o ffioedd rheoli ystadau o'r math y cyfeiriwyd atyn nhw gan Hefin David.

Mewn darlun cymhleth iawn, â llawer o wahanol gamau gweithredu, hoffwn dynnu sylw at dri pheth y prynhawn yma, os caf i. Yn gyntaf oll, o ganlyniad i'r adroddiad hwnnw, rydym ni wedi sefydlu cynllun achredu trawsgludwyr Cymru, gan fod yr adroddiad yn dweud mai un o'r pethau pwysig iawn oedd sicrhau bod pobl yn cael cyngor priodol ar adeg prynu. Fel arall, mae pobl yn canfod eu hunain yn y sefyllfa a amlinellodd Hefin, lle maen nhw'n canfod bod ffioedd yn cael ei codi arnynt nad oedden nhw wedi eu rhagweld, yn ei chael hi'n anodd iawn cael esboniad ynghylch o ble y mae'r ffioedd hynny'n deillio neu i gael unrhyw syniad o sut y bydd y ffioedd hynny'n cael eu rheoleiddio yn y dyfodol. Os ydych chi'n prynu tŷ o dan y cynllun Cymorth i Brynu nawr yng Nghymru, mae'n rhaid i chi ddefnyddio trawsgludwr sydd wedi ei achredu. Mae'r achrediad yn far uchel, lle mae'n rhaid i bobl allu dangos eu bod nhw wedi cael eu hyfforddi a'u bod yn meddu ar yr adnoddau priodol i sicrhau bod cwsmeriaid yn cael gwybodaeth briodol ar adeg prynu. 

Yr ail beth yr ydym ni'n edrych arno yw hawliau cryfach. Mae gan lesddeiliaid hawliau ac amddiffyniadau cyfreithiol. Er enghraifft, cânt herio rhesymoldeb ffioedd gwasanaeth o dan y darpariaethau yn Neddf Landlord a Thenant 1985. Nid oes gan rydd-ddeiliaid yr amddiffyniadau hynny, a dyna sut y maen nhw'n canfod eu hunain yn sefyllfa'r trigolion yn etholaeth Hefin David yn y pen draw. Disgwylir adroddiad Comisiwn y Gyfraith, y cyfeiriais ato yn fy ateb, yn 2020 erbyn hyn, ac nid ydym ni'n dal yn ôl o gwbl o'r posibilrwydd y byddwn ni eisiau deddfu, ond bydd angen i ni ddeddfu yng ngoleuni'r argymhellion ehangach y bydd yr adroddiad hwnnw'n eu gwneud.

Ac, yn olaf ac yn drydydd, i barhau â'r pwynt o ffyrdd heb eu mabwysiadu a'r ffioedd y mae pobl yn canfod eu hunain yn gorfod eu talu yn hynny o beth, o ganlyniad i'r tasglu y mae Ken Skates wedi ei sefydlu, mae pob plaid wedi cytuno ar safonau cenedlaethol cyffredin erbyn hyn. Lluniwyd canllaw arfer da ac fe'i dosbarthwyd i bob awdurdod lleol, ac mae cronfa ddata yn cael ei datblygu o ffyrdd hanesyddol nad ydyn nhw wedi eu mabwysiadu ledled Cymru, felly mae gennym ni well syniad o'r her sydd yno. Argymhellion y tasglu oedd pob un o'r rheini. Mae pob un o'r tri wedi ei weithredu ac rwy'n credu y bydd pob un ohonyn nhw yn berthnasol i etholwyr Hefin David.  

13:40

First Minister, do you join with me in welcoming Persimmon Homes' decision to settle out of court during the summer and grant 55 householders on a Cardiff estate—St Edeyrns—their leasehold free of charge? They were on that estate despite the fact that the other 1,100 properties were sold as freehold, and it really is time that developers stopped using leasehold simply as another tool to generate income. It should only be used when the type of tenure requires leasehold, and there are times when it does, but usually on these residential estates freehold is what should be granted. 

Prif Weinidog, a ydych chi'n ymuno â mi i groesawu penderfyniad Persimmon Homes i setlo y tu allan i'r llys yn ystod yr haf a rhoi eu prydles i 55 o ddeiliaid tai ar ystâd yng Nghaerdydd—Saint Edeyrn—yn rhad ac am ddim? Roedden nhw ar yr ystâd honno er gwaethaf y ffaith fod y 1,100 o dai eraill wedi eu gwerthu fel rhydd-ddaliadau, ac mae wir yn bryd i ddatblygwyr roi'r gorau i ddefnyddio lesddaliad dim ond fel ffordd arall o gynhyrchu incwm. Dylid ond ei ddefnyddio pan fydd y math o ddeiliadaeth yn gofyn am brydles, a cheir adegau pan fydd hynny'n digwydd, ond rhydd-ddaliad yw'r hyn y dylid ei roi ar yr ystadau preswyl hyn fel rheol.

Well, I entirely agree with the Member there, and he will be pleased, I know, to see that the figures released by the Office for National Statistics show that, in Wales, the proportion of new house sales that were leasehold decreased from 18 per cent in 2017 to 2.6 per cent in 2018,FootnoteLink and we anticipate a further reduction when the figures for 2019 are published. And that is because of an agreement with the volume house builders that no Help to Buy or Wales property development fund houses will be built in future as leasehold homes, and that's a very important advance that we've been able to make in Wales. 

Wel, rwy'n cytuno'n llwyr â'r Aelod yn hynny o beth, a bydd yn falch, mi wn, o weld bod y ffigurau a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos, yng Nghymru, bod cyfran y gwerthiannau tai newydd a oedd yn lesddeiliadaeth wedi gostwng o 18 y cant yn 2017 i 2.6 y cant yn 2018,FootnoteLink ac rydym ni'n rhagweld gostyngiad pellach pan fydd y ffigurau ar gyfer 2019 yn cael eu cyhoeddi. Ac mae hynny oherwydd cytundeb gyda'r adeiladwyr tai cyfradd uchel na fydd unrhyw dai Cymorth i Brynu neu gronfa datblygu eiddo Cymru yn cael eu hadeiladu yn y dyfodol fel cartrefi ar brydles, ac mae hwnnw'n ddatblygiad pwysig iawn yr ydym ni wedi gallu ei wneud yng Nghymru.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau
Questions Without Notice from the Party Leaders

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd yr wrthblaid, Paul Davies. 

Questions now from party leaders. The leader of the opposition, Paul Davies. 

First Minister, why has your Government increased the loan facility to Cardiff Airport by £21.2 million? 

Prif Weinidog, pam mae eich Llywodraeth wedi cynyddu'r cyfleuster benthyg i faes awyr Caerdydd gan £21.2 miliwn?

Well, we have increased the loan payment because of the success that Cardiff Airport has established during the time that it has been in public ownership and because we want that success to continue and to grow. 

Wel, rydym ni wedi cynyddu taliad y benthyciad oherwydd y llwyddiant y mae Maes Awyr Caerdydd wedi ei gael yn ystod y cyfnod y mae wedi bod yn eiddo cyhoeddus ac oherwydd ein bod ni eisiau i'r llwyddiant hwnnw barhau a thyfu.

Well, let's be clear, First Minister—since the Welsh Government purchased Cardiff Airport back in 2013, it has already invested over £90 million of public money. Now, with this extra £21 million,  that's twice the amount that the Government paid for it, and what have been the results? Yes, passenger numbers are increasing, but not above the 2007 levels. However, even with the increase in passenger numbers, the airport continues to make a loss. In its latest financial statement, the airport revealed that its losses have increased to £5.71 million. Now, in my former profession, First Minister, if a business case came to me with these figures I would want to see a clear plan of how it could make its way back into profit and the viability of the business before providing further loan facilities. The airport currently owes £38.2 million, and yet your Government is extending this by £21.2 million when the airport is clearly losing millions of pounds. What business plan—what business plan—has your Government received to convince you that this loan facility is appropriate and that this is the best use of taxpayers' money? And can you reassure the people of Wales that this is not just offering a blank cheque to the airport and that this money will ultimately be repaid to the Welsh taxpayer?

Wel, gadewch i ni fod yn eglur, Prif Weinidog—ers i Lywodraeth Cymru brynu Maes Awyr Caerdydd yn ôl yn 2013, mae eisoes wedi buddsoddi dros £90 miliwn o arian cyhoeddus. Nawr, gyda'r £21 miliwn ychwanegol hwn, mae hynny'n ddwywaith y swm a dalodd y Llywodraeth amdano, a beth fu'r canlyniadau? Ydy, mae nifer y teithwyr yn cynyddu, ond nid yn uwch na lefelau 2007. Fodd bynnag, hyd yn oed gyda'r cynnydd i nifer y teithwyr, mae'r maes awyr yn parhau i wneud colled. Yn ei ddatganiad ariannol diweddaraf, datgelodd y maes awyr bod ei golledion wedi cynyddu i £5.71 miliwn. Nawr, yn fy nghyn-broffesiwn, Prif Weinidog, pe byddai achos busnes yn dod ataf i gyda'r ffigurau hyn, byddwn i eisiau gweld cynllun eglur yn dangos sut y gallai ddychwelyd i elw yn ogystal â hyfywedd y busnes cyn darparu rhagor o gyfleusterau benthyg. Mae gan y maes awyr ddyledion o £38.2 miliwn ar hyn o bryd, ac eto mae eich Llywodraeth yn ymestyn hyn gan £21.2 miliwn pan fo'r maes awyr yn amlwg yn colli miliynau o bunnoedd. Pa gynllun busnes—pa gynllun busnes—y mae eich Llywodraeth wedi ei dderbyn i'ch argyhoeddi bod y cyfleuster benthyg hwn yn briodol ac mai dyma'r ffordd orau o ddefnyddio arian trethdalwyr? Ac a allwch chi roi sicrwydd i bobl Cymru nad mater o gynnig siec wag i'r maes awyr yw hyn ac y bydd yr arian hwn yn cael ei ad-dalu i drethdalwyr Cymru yn y pen draw?

13:45

Well, Llywydd, the airport has, as the Member knows, a draft master plan, which provides exactly what he is asking for, and that is a plan that the Welsh Government endorses. We invest in the airport in order to make sure that Wales has a vibrant asset, which we need for our economy in the whole of the south of Wales. We are very confident in what the airport can achieve. The Member will have seen that only today TUI, the largest firm of its sort in the United Kingdom, has announced 15,000 new holidays to be sold from Cardiff Wales airport next year, bringing further passengers and further new business to that airport.

What would help the airport, Llywydd, would be if his Government would allow air passenger duty to be devolved in Wales. What would help would be if his Government would allow our airport to have the same advantages as large airports across our border are able to have. Smaller regional airports are squeezed in the United Kingdom by the United Kingdom's regional policies and their approach to those airports. There's a great deal the UK Government could do to support Cardiff Airport and it resolutely refuses to do any of them.

Wel, Llywydd, mae gan y maes awyr, fel y mae'r Aelod yn gwybod, uwchgynllun drafft, sy'n darparu'n union yr hyn y mae'n gofyn amdano, ac mae hwnnw'n gynllun y mae Llywodraeth Cymru yn ei gymeradwyo. Rydym ni'n buddsoddi yn y maes awyr er mwyn sicrhau bod gan Gymru ased bywiog, y mae ei angen arnom ni ar gyfer ein heconomi yn ne Cymru gyfan. Rydym ni'n ffyddiog iawn ynglŷn â'r hyn y gall y maes awyr ei gyflawni. Bydd yr Aelod wedi gweld, heddiw ddiwethaf, bod TUI, y cwmni mwyaf o'i fath yn y Deyrnas Unedig, wedi cyhoeddi y bydd 15,000 o wyliau newydd yn cael eu gwerthu o faes awyr Cymru Caerdydd y flwyddyn nesaf, gan ddod â rhagor o deithwyr a rhagor o fusnes newydd i'r maes awyr hwnnw.

Yr hyn a fyddai'n helpu'r maes awyr, Llywydd, yw pe byddai ei Lywodraeth ef yn caniatáu i dollau teithwyr awyr gael eu datganoli i Gymru. Yr hyn a fyddai'n helpu fyddai pe byddai ei Lywodraeth ef yn caniatáu i'n maes awyr gael yr un manteision ag y mae meysydd awyr mawr dros ein ffin yn eu cael. Mae meysydd awyr rhanbarthol llai yn cael eu gwasgu yn y Deyrnas Unedig gan bolisïau rhanbarthol y Deyrnas Unedig a'u hymagwedd at y meysydd awyr hynny. Mae llawer iawn o bethau y gallai Llywodraeth y DU ei wneud i gynorthwyo maes awyr Caerdydd ac mae'n gwrthod yn lân â gwneud yr un ohonynt.

Well, let me remind the First Minister that I'm not the only person who thinks that this situation needs to be turned around and that you must now look at introducing a different business model to make this airport successful after six years of nationalisation. Your very own director general for economy, skills and natural resources recently made it clear that, in order for it to be, or revert to be, a wholly commercial endeavour, its business model would need to be very different. But it seems to me—[Interruption.]—it seems to me that you carry on doing the same things hoping for a different outcome by offering a blank cheque.

Now, First Minister, people will argue that this additional loan for the airport could have been spent on funding our vital public services. Twenty-one million pounds indeed could go a long way—£21 million could help pay for the salaries of more than 400 GPs, or nearly 900 nurses, or indeed 700 teachers. Your Government's plan for the airport relies solely on increased passenger numbers, and yet, whilst passenger numbers are slowly increasing, the airport's losses continue to grow faster. That does not make any sense. More passengers should mean more income for the airport. Why is it therefore going wrong, First Minister, and is your Government still aiming to return this airport to private ownership, and, if so, what target date have you set to achieve this?

Wel, gadewch i mi atgoffa'r Prif Weinidog nad fi yw'r unig un sy'n credu bod angen newid y sefyllfa hon a bod yn rhaid i chi ystyried bellach cyflwyno gwahanol fodel busnes i wneud y maes awyr hwn yn llwyddiannus ar ôl chwe blynedd o wladoli. Fe'i gwnaed yn eglur yn ddiweddar gan eich cyfarwyddwr cyffredinol eich hun dros yr economi, sgiliau ac adnoddau naturiol y byddai angen i'w fodel busnes fod yn wahanol iawn, er mwyn iddo fod, neu ddychwelyd i fod, yn fenter gwbl fasnachol. Ond mae'n ymddangos i mi—[Torri ar draws.]—mae'n ymddangos i mi eich bod chi'n parhau i wneud yr un pethau gan obeithio am wahanol ganlyniad trwy gynnig siec wag.

Nawr, Prif Weinidog, bydd pobl yn dadlau y gellid bod wedi gwario'r benthyciad ychwanegol hwn ar gyfer y maes awyr ar ariannu ein gwasanaethau cyhoeddus hanfodol. Gallai un miliwn ar hugain o bunnoedd fynd ymhell yn wir—gallai £21 miliwn helpu i dalu am gyflogau mwy na 400 o feddygon teulu, neu bron i 900 o nyrsys, neu 700 o athrawon yn wir. Mae cynllun eich Llywodraeth ar gyfer y maes awyr yn dibynnu'n llwyr ar gynyddu nifer y teithwyr, ac eto, er bod nifer y teithwyr yn cynyddu'n araf, mae colledion y maes awyr yn parhau i dyfu'n gyflymach. Nid yw hynny'n gwneud unrhyw synnwyr. Dylai mwy o deithwyr olygu mwy o incwm i'r maes awyr. Pam mae'n mynd o chwith felly, Prif Weinidog, ac a yw eich Llywodraeth yn dal i fwriadu dychwelyd y maes awyr hwn i berchnogaeth breifat, ac, os felly, pa ddyddiad targed ydych chi wedi ei bennu i gyflawni hyn?

Well, Llywydd, the degree of short sightedness expressed in that question is breathtaking, as well as the degree of ignorance about basic business models. You can't pay nurses out of capital loans, can you? The idea that you can is absurd. You clearly could not possibly do so. The money that we have provided to Cardiff Airport, if you totalled it all up, if you total every penny of it up, is less than his Government is spending on an advertising campaign about Brexit. Where is the money for nurses and doctors coming out of that £100 million, I wonder?

Llywydd, there are 4,300 airports in the world from which scheduled flights are part of their operation—4,300. Of those, 14 per cent are in private ownership. So, Cardiff Airport is in the same position as JFK airport in New York, Schiphol airport in Amsterdam, as Charles De Gaulle Airport in Paris. The model that we have in Wales is the model replicated around the world. It makes sure that the Welsh public has an airport that they need, that its economy needs, and we will invest to make it a success, where he would have closed it down.

Wel, Llywydd, mae lefel y byrder golwg a fynegwyd yn y cwestiwn yna yn syfrdanol, yn ogystal â lefel yr anwybodaeth am fodelau busnes sylfaenol. Allwch chi ddim talu nyrsys allan o fenthyciadau cyfalaf, allwch chi? Mae'r syniad y gallwch chi yn hurt. Mae'n amlwg na allech chi fyth wneud hynny. Mae'r arian yr ydym ni wedi ei ddarparu i Faes Awyr Caerdydd, pe byddech chi'n cyfrif y cwbl, pe byddech chi'n cyfrif pob un ceiniog ohono, yn llai nag y mae ei Lywodraeth ef yn ei wario ar ymgyrch hysbysebu ar gyfer Brexit. Ble mae'r arian ar gyfer nyrsys a meddygon yn dod allan o'r £100 miliwn hwnnw, tybed?

Llywydd, mae 4,300 o feysydd awyr yn y byd y mae teithiau rheolaidd ohonynt yn rhan o'u gweithrediad—4,300. O'r rheini, mae 14 y cant mewn perchnogaeth breifat. Felly, mae Maes Awyr Caerdydd yn yr un sefyllfa â maes awyr JFK yn Efrog Newydd, maes awyr Schiphol yn Amsterdam, maes awyr Charles de Gaulle ym Mharis. Y model sydd gennym ni yng Nghymru yw'r model sy'n cael ei efelychu ledled y byd. Mae'n sicrhau bod gan y cyhoedd yng Nghymru faes awyr sydd ei angen arnynt, y mae'r economi ei angen, a byddwn yn buddsoddi i sicrhau ei fod yn llwyddo, pan fyddai ef wedi ei gau.

Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.

Plaid Cymru leader, Adam Price.

First Minister, we all want to get to our destination quicker and in greater comfort, and promises made to Welsh train travellers in this regard should be promises kept. Transport for Wales said that outdated Pacer trains would be taken out of service by the end of this year, but we now know, as you confirmed last week, this commitment will not be met. Pacers will also remain in service on the busiest routes in northern England next year, despite an identical commitment to phase them out there. The Labour leaders of greater Manchester, Sheffield city region and Leeds have accused the train operator there of treating passengers like second-class citizens. In Wales, passengers are compensated for delays of 15 minutes or more; will Transport for Wales compensate travellers, in the same way that Labour is calling for in England, for new trains that will be delayed by months?

Prif Weinidog, rydym ni i gyd eisiau cyrraedd diwedd ein taith yn gynt ac yn fwy cyfforddus, a dylai addewidion a wnaed i deithwyr trên Cymru yn hyn o beth fod yn addewidion a gedwir. Dywedodd Trafnidiaeth Cymru y byddai trenau Pacer hen ffasiwn yn cael eu tynnu allan o wasanaeth erbyn diwedd y flwyddyn hon, ond gwyddom erbyn hyn, fel y cadarnhawyd gennych chi yr wythnos diwethaf, na fydd yr ymrwymiad hwn yn cael ei fodloni. Bydd trenau Pacer hefyd yn parhau i fod yn weithredol ar y llwybrau prysuraf yng ngogledd Lloegr y flwyddyn nesaf, er gwaethaf yr un ymrwymiad i gael gwared arnyn nhw yn raddol yno. Mae arweinwyr Llafur Manceinion fwyaf, dinas-ranbarth Sheffield a Leeds wedi cyhuddo'r cwmni trenau yno o drin teithwyr fel dinasyddion eilradd. Yng Nghymru, mae teithwyr yn cael eu digolledu am oediadau o 15 munud neu fwy; a wnaiff Trafnidiaeth Cymru ddigolledu teithwyr, yn yr un modd ag y mae Llafur yn galw amdano yn Lloegr, am drenau newydd a fydd yn cael eu gohirio am fisoedd?

13:50

Well, the reasons why Pacer trains have to retained into 2020 here in Wales are the same reasons why they have to be retained on the northern franchise as well, because of the failure of train manufacturing companies to honour the contract signed with them, where we would have had those new trains already here in Wales and ready to go onto the network. They haven't arrived, despite signing contracts to say that they could be delivered, and Pacer trains will need to continue for a short while longer, until that capacity arrives.

What Transport for Wales is about to do is to announce plans to improve fares across their entire network from January 2020. Parts of that have been announced already, Llywydd, as you know—extending free travel to under-11-year-olds, under-16s being able to travel off-peak free when accompanied by an adult, and extending half-price fares to 18-year-olds down to 16 to 17-year-olds as well. But that will come with additional reductions in fares in parts of the network when Transport for Wales makes its January announcement, and that will be some compensation for people who were promised by private providers that those trains would arrive and where those promises have not been kept by them. 

Wel, y rhesymau pam mae'n rhaid i drenau Pacer gael eu cadw i mewn i 2020 yma yng Nghymru yw'r un rhesymau pam mae'n rhaid eu cadw ar fasnachfraint gogledd Lloegr hefyd, oherwydd methiant cwmnïau gweithgynhyrchu trenau i anrhydeddu'r contract a lofnodwyd gyda nhw, lle byddem ni wedi cael y trenau newydd hynny eisoes yma yng Nghymru ac yn barod i fynd ar y rhwydwaith. Dydyn nhw ddim wedi cyrraedd, er iddyn nhw lofnodi contractau i ddweud y gellid eu cyflenwi, a bydd angen i drenau Pacer barhau am gyfnod ychydig bach yn hwy, tan i'r capasiti hwnnw gyrraedd.

Yr hyn y mae Trafnidiaeth Cymru ar fin ei wneud yw cyhoeddi cynlluniau i wella prisiau tocynnau ar draws eu rhwydwaith cyfan o fis Ionawr 2020. Mae rhannau o'r rheini wedi eu cyhoeddi eisoes, Llywydd, fel y gwyddoch—ymestyn teithio am ddim i gynnwys pobl ifanc dan 11 oed, pobl ifanc dan 16 yn cael teithio am ddim ar adegau nad ydynt yn adegau brig pan eu bod yng nghwmni oedolyn, ac ymestyn tocynnau hanner pris i bobl ifanc 18 oed i lawr i bobl ifanc 16 a 17 oed hefyd. Ond bydd hynny'n dod gyda gostyngiadau ychwanegol i brisiau mewn rhannau o'r rhwydwaith pan fydd Trafnidiaeth Cymru yn gwneud ei gyhoeddiad ym mis Ionawr, a bydd hynny'n rhywfaint o iawndal i bobl yr addawyd iddyn nhw gan ddarparwyr preifat y byddai'r trenau hynny'n cyrraedd a phan nad yw'r addewidion hynny wedi eu cadw ganddyn nhw.

So, if I follow the First Minister, what I think he's saying is that the reason for the extension of the use of the Pacer trains—it's not just a legacy of the last franchise, it's a consequence of some of the procurement decisions and the problems with that made under this one. Now, can you confirm that Arriva ordered four to five-car Flex trains, as I think they're called, and that Transport for Wales extended that order to nine trains? Can you confirm whether or not these electric trains with a diesel engine that are on order actually work or not? And, if they don't, has Transport for Wales built in any penalty clauses to the deal with the supplier, Porterbrook trains, and is there a cancellation point that gives Transport for Wales the option of pulling the plug on that deal? And have Transport for Wales and the Government made any analysis of the cost implications of having to keep these older Pacer trains in service in relation to the maintenance costs?

Felly, os wyf i'n dilyn y Prif Weinidog, yr hyn yr wyf i'n meddwl y mae'n ei ddweud yw mai'r rheswm am ymestyn y defnydd o drenau Pacer—nid etifeddiaeth y fasnachfraint ddiwethaf yn unig yw hynny, mae'n ganlyniad i rai o'r penderfyniadau caffael a'r problemau a wnaed o dan yr un yma. Nawr, a allwch chi gadarnhau bod Arriva wedi archebu trenau Flex, fel y'u gelwir rwy'n credu, pedwar i bum cerbyd, a bod Trafnidiaeth Cymru wedi ymestyn yr archeb honno i naw trên? A allwch chi gadarnhau a yw'r trenau trydan hyn â pheiriant diesel sydd wedi eu harchebu yn gweithio ai peidio? Ac, os nad ydynt nhw a yw Trafnidiaeth Cymru wedi cynnwys unrhyw gymalau cosb yn y cytundeb gyda'r cyflenwr, trenau Porterbrook, ac a oes pwynt canslo sy'n rhoi'r dewis i Trafnidiaeth Cymru dynnu'r plwg ar y cytundeb hwnnw? Ac a yw Trafnidiaeth Cymru a'r Llywodraeth wedi gwneud unrhyw ddadansoddiad o'r goblygiadau o ran cost o orfod cadw'r trenau Pacer hŷn hyn yn weithredol o ran y costau cynnal a chadw?

I thank the Member for the question. There are some details in there that he'll understand I'm not likely to have immediate access to. He made an important point in the beginning, that some of this is legacy stuff from those years of Arriva and their underinvestment and the decisions that they made about rolling stock. I'm told by my colleague, the transport Minister, that safeguards are built into the contracts that have been signed by Transport for Wales in relation to the new rolling stock that we're going to have here in Wales. I told the Chamber last week of my meeting with CAF, who have set up their train manufacturing centre in Newport, and how those trains, made in Wales by Welsh workers, will be running on Welsh railways before next year is out. I will check the detail of the Member's question, of course, and make sure that he has an answer to the specific points he's raised with me. 

Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn. Mae rhai manylion yn y fan yna y bydd ef yn deall nad ydyn nhw'n debygol o fod ar gael i mi ar unwaith. Gwnaeth bwynt pwysig ar y cychwyn, sef bod rhywfaint o hyn yn stwff etifeddiaeth o'r blynyddoedd hynny o Arriva a'u tanfuddsoddi a'r penderfyniadau a wnaed ganddyn nhw am gerbydau. Mae fy nghydweithiwr, y Gweinidog trafnidiaeth, yn dweud wrthyf bod camau diogelu wedi eu cynnwys yn y contractau a lofnodwyd gan Trafnidiaeth Cymru o ran y cerbydau newydd yr ydym ni'n mynd i'w cael yma yng Nghymru. Dywedais wrth y Siambr yr wythnos diwethaf yn fy nghyfarfod â CAF, sydd wedi sefydlu eu canolfan gweithgynhyrchu trenau yng Nghasnewydd, a sut y bydd y trenau hynny, sy'n cael eu gwneud yng Nghymru gan weithwyr Cymru, yn rhedeg ar reilffyrdd Cymru cyn diwedd y flwyddyn nesaf. Byddaf yn edrych ar fanylion cwestiwn yr Aelod, wrth gwrs, ac yn sicrhau ei fod yn cael ateb i'r pwyntiau penodol y mae wedi eu codi gyda mi.

What I actually said was that it doesn't appear to be a legacy problem. If you— through Transport for Wales, if the Government has procured a technology that doesn't actually work, then it's you who should have done the due diligence, and the responsibility lies with you.

Now, transforming our twentieth-century rail infrastructure demands a radical approach overall. If I wanted to make the 36-mile journey from Pontypool to Treherbert without going by car, I'd almost be better going by bike as by train at the moment. At this time, on a Tuesday afternoon, the train journey takes over two hours. Now, travelling east-west within the south Wales Valleys is as difficult as travelling north-south in Wales as a whole, and for the same reasons—Beeching and the legacy of an extractive economy that prioritised moving product over people. Isn't now the time, First Minister, to turn that on its head and, as Mark Barry and my party have proposed, connect the Heads of the Valleys not just by road but by rail, creating a new corridor of development with a 50 km rapid-transit crossrail for the Valleys?

Yr hyn a ddywedais mewn gwirionedd oedd nad yw'n ymddangos mai problem etifeddiaeth yw hon. Os ydych chi—trwy Trafnidiaeth Cymru, os yw'r Llywodraeth wedi caffael technoleg nad yw'n gweithio mewn gwirionedd, yna chi ddylai fod wedi gwneud y diwydrwydd dyladwy, a chi sy'n gyfrifol.

Nawr, mae gweddnewid ein seilwaith rheilffyrdd ugeinfed ganrif yn galw am ddull radical yn gyffredinol. Pe byddwn i eisiau gwneud y daith 36 milltir o Bont-y-pŵl i Dreherbert heb fynd mewn car, byddai bron yn well i mi fynd ar feic nag ar drên ar hyn o bryd. Ar yr adeg hon, ar brynhawn dydd Mawrth, mae'r daith drên yn cymryd dros ddwy awr. Nawr, mae teithio o'r dwyrain i'r gorllewin yng Nghymoedd y De mor anodd â theithio o'r gogledd i'r de yng Nghymru gyfan, ac am yr un rhesymau—Beeching ac etifeddiaeth economi echdynnol a roddodd flaenoriaeth i symud cynnyrch dros bobl. Onid nawr yw'r amser, Prif Weinidog, i weddnewid hynny'n llwyr ac, fel y mae Mark Barry a'm plaid i wedi ei gynnig, cysylltu Blaenau'r Cymoedd nid yn unig trwy ffyrdd ond drwy reilffyrdd, gan greu coridor newydd o ddatblygiad gyda chroes-reilffordd cludiant cyflym 50 cilomedr i'r Cymoedd?

13:55

Well, first of all, Llywydd, the Member is quite wrong if he thinks that the legacy of Arriva, and the years of neglect that were inflicted on Wales by that franchise and by the failure to account for any growth in passenger numbers during it—if he thinks there isn't a legacy issue there that has to be dealt with, then I'm afraid he needs to read up a bit on the history of that.

I don't accept that the technology doesn't work. I've said that I will investigate his questions. That doesn't mean for a minute that I accept that there is a problem simply because he asserts that there may be one. And the Welsh Government is investing enormous sums of money to complete the Heads of the Valleys road so that there is a link across east-west in that part of Wales. That demonstrates completely this Government's commitment to Valleys communities and to connectivity between them.

Wel, yn gyntaf oll, Llywydd, mae'r Aelod yn hollol anghywir os yw'n credu nad yw etifeddiaeth Arriva, a'r blynyddoedd o esgeulustod a orfodwyd ar Gymru gan y fasnachfraint honno, a chan y methiant i fod yn gyfrifol am unrhyw dwf i nifer y teithwyr yn ei hystod—os yw'n credu nad oes problem etifeddiaeth yn y fan yna y mae'n rhaid ymdrin â hi, yna mae arnaf ofn bod angen iddo ddarllen ychydig am hanes hynny.

Nid wyf i'n derbyn nad yw'r dechnoleg yn gweithio. Rwyf i wedi dweud y byddaf yn ymchwilio i'w gwestiynau. Nid yw hynny'n golygu am funud fy mod i'n derbyn bod problem dim ond am ei fod ef yn honni y gallai fod un. Ac mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi symiau enfawr o arian i gwblhau ffordd Blaenau'r Cymoedd fel bod cyswllt o'r dwyrain i'r gorllewin yn y rhan honno o Gymru. Mae hynny'n dangos yn llwyr ymrwymiad y Llywodraeth hon i gymunedau'r Cymoedd ac i gysylltedd rhyngddynt.

Arweinydd Plaid Brexit, Mark Reckless.

Leader of the Brexit Party, Mark Reckless.

First Minister, your future generations commissioner, Sophie Howe, has announced that GCSEs are not fit for purpose and should be scrapped. She claims this is necessary as the new curriculum replaces what she characterised as the 'silos' of traditional subjects with six areas of learning and experience. The co-author of her White Paper, Professor Calvin Jones, says they struggle with the idea of a public standardised exam that gives pupils a grade. Instead, they want schools to focus on teaching the skills of empathy, emotional intelligence, artistry, creativity, care giving and carbon cutting. Does the First Minister agree with their vision for the future of education in Wales?

Prif Weinidog, mae eich comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, Sophie Howe, wedi cyhoeddi nad yw cymwysterau TGAU yn addas i'w diben ac y dylid eu diddymu. Mae'n honni bod hyn yn angenrheidiol gan fod y cwricwlwm newydd yn disodli'r hyn a briodolwyd ganddi fel 'seilos' pynciau traddodiadol gyda chwe maes dysgu a phrofiad. Mae cyd-awdur ei Phapur Gwyn, yr Athro Calvin Jones, yn dweud eu bod yn cael trafferth gyda'r syniad o arholiad safonedig cyhoeddus sy'n rhoi gradd i ddisgyblion. Yn hytrach, maen nhw eisiau i ysgolion ganolbwyntio ar addysgu sgiliau empathi, deallusrwydd emosiynol, artistiaeth, creadigrwydd, rhoi gofal a thorri carbon. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno â'u gweledigaeth ar gyfer dyfodol addysg yng Nghymru?

Well, I agree that the introduction of the new curriculum requires a new qualifications framework to go with it—it's why Qualifications Wales is doing exactly that. I thought the contribution from the future generations commissioner, as ever, is an important contribution to the debate, as I thought the report today from the Welsh Youth Parliament on the same subject was particularly interesting and useful. It describes the danger that Welsh schools produce 'A* robots', by which it means that they teach their pupils very well to pass exams, but those children aren't necessarily equipped with the sort of thinking skills, the sort of critical capacity, that we know employers tell us that they are looking for in young people entering the workplace. I thought it was particularly interesting that that point of view comes from young people themselves. The Minister is meeting the Youth Parliament on Friday to discuss their report. Taking that and the work of the commissioner together, they will be important contributions to thinking about the way in which we have a qualifications approach that goes with the radical new curriculum we are introducing in Wales.

Wel, rwy'n cytuno bod cyflwyno'r cwricwlwm newydd yn gofyn am fframwaith cymwysterau newydd i gyd-fynd ag ef—dyna pam mae Cymwysterau Cymru yn gwneud yn union hynny. Roeddwn i'n meddwl bod y cyfraniad gan gomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, fel arfer, yn gyfraniad pwysig at y ddadl, gan fy mod i'n meddwl bod yr adroddiad heddiw gan Senedd Ieuenctid Cymru ar yr un pwnc yn arbennig o ddiddorol a defnyddiol. Mae'n disgrifio'r perygl y bydd ysgolion Cymru yn cynhyrchu 'robotiaid A*', sy'n golygu eu bod nhw'n addysgu eu disgyblion yn dda iawn i lwyddo mewn arholiadau, ond nad yw'r plant hynny o reidrwydd yn meddu ar y math o sgiliau meddwl, y math o allu beirniadol, yr ydym ni'n gwybod bod cyflogwyr yn dweud wrthym ni y maen nhw'n chwilio amdanynt ymhlith pobl ifanc sy'n dechrau yn y gweithle. Roeddwn i'n meddwl ei bod yn arbennig o ddiddorol bod y safbwynt hwnnw'n dod gan bobl ifanc eu hunain. Mae'r Gweinidog yn cyfarfod â'r Senedd Ieuenctid ddydd Gwener i drafod eu hadroddiad. Gan ystyried hynny a gwaith y comisiynydd gyda'i gilydd, byddan nhw'n gyfraniadau pwysig at feddwl am y ffordd y mae gennym ni ddull cymwysterau sy'n cyd-fynd â'r cwricwlwm newydd radical yr ydym ni'n ei gyflwyno yng Nghymru.

But do our schools teach pupils very well to pass exams—or at least sufficiently—on the current results? One change we are having, which I should welcome, which the education Secretary put out this morning, is we are seeing a 2.75 per cent increase in teachers' pay and 5 per cent for the newly qualified, and, I think, £12.8 million in the current year to support that. However, would the First Minister agree that this may be too little, too late to address the deep crisis we see in teacher recruitment currently?

Will he also consider whether lower standards of education in Wales compared to England, at least on the results that we are able to compare and the Programme for International Student Assessment ratings, reflect more than just relative spending priorities? May they not also reflect progressive policy and a lack of rigorous comparison of achievement among pupils, schools and UK nations? Estyn reports have dropped their key stage 2 comparisons among schools; Welsh Government has got rid of their target for five good GCSEs, including Maths and English or Welsh; and we've seen our GCSE A to G grades diverging from the 1 to 9 they now have in England. Is the final stage in ending accountability for this Government's failure in education simply to abolish GCSEs?

Ond a yw ein hysgolion yn addysgu disgyblion yn dda iawn i lwyddo mewn arholiadau—neu o leiaf yn ddigonol—ar sail y canlyniadau presennol? Un newid yr ydym ni'n ei gael, y dylwn i ei groesawu, a gyhoeddwyd gan yr Ysgrifennydd addysg y bore yma, yw ein bod ni'n gweld cynnydd o 2.75 y cant i gyflogau athrawon a 5 y cant i'r rhai sydd newydd gymhwyso, ac, rwy'n credu, £12.8 yn y flwyddyn gyfredol i gefnogi hynny. Fodd bynnag, a yw'r Prif Weinidog yn cytuno y gallai hyn fod yn rhy ychydig, yn rhy hwyr i fynd i'r afael â'r argyfwng dwys yr ydym ni'n ei weld o ran recriwtio athrawon ar hyn o bryd?

A wnaiff ef hefyd ystyried a yw safonau addysg is yng Nghymru o'u cymharu â Lloegr, o leiaf ar sail y canlyniadau y gallwn ni eu cymharu a sgoriau'r Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr, yn adlewyrchu mwy na dim ond blaenoriaethau gwario cymharol? Onid ydyn nhw hefyd yn adlewyrchu polisi blaengar a diffyg cymhariaeth lem o gyflawniad ymhlith disgyblion, ysgolion a chenhedloedd y DU? Mae adroddiadau Estyn wedi cael gwared ar eu cymariaethau cyfnod allweddol 2 ymhlith ysgolion; mae Llywodraeth Cymru wedi cael gwared ar ei tharged ar gyfer pum TGAU da, gan gynnwys Mathemateg a Chymraeg neu Saesneg; ac rydym ni wedi gweld ein graddau TGAU A i G yn ymwahanu oddi wrth yr 1 i 9 sydd ganddyn nhw yn Lloegr erbyn hyn. Ai'r cam olaf o ran rhoi terfyn ar atebolrwydd am fethiant y Llywodraeth hon ym maes addysg yw cymryd y cam syml o ddiddymu cymwysterau TGAU?

Well, I certainly don't agree with that, of course, Llywydd. A* grades in A-levels in Wales in the summer were the best in any part of the United Kingdom—the very best, better than any part of England, better than Scotland. Welsh young people achieving the very top grades in examinations and outstripping anybody else—I don't regard that as a failure of our system. And his Gradgrind approach to education, that it's simply there to factorise children through a system so they come out at the end of it, not as young people who've had a breadth of education, not as young people who are taught to think critically, not as young people who are able to understand, argue and to participate in that wider way, but just have a set of qualifications, that's not my idea of education, because I want our children to have both. I want them to have successful qualifications, but I want them to have an education experience that will fit them for life in the twenty-first century, and that's what our curriculum will provide.

Wel, yn sicr, nid wyf yn cytuno â hynny, wrth gwrs, Llywydd. Roedd y graddau A* mewn cyrsiau Safon Uwch yng Nghymru yn yr haf y gorau o unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig—y gorau oll, yn well nag unrhyw ran o Loegr, yn well na'r Alban. Pobl ifanc Cymru yn ennill y graddau uchaf oll mewn arholiadau ac yn gwneud yn well na neb arall—nid wyf i'n ystyried hynny'n fethiant yn ein system. Ac mae ei agwedd lladdfa raddau tuag at addysg, ei bod yn bodoli’n syml i ffactoreiddio plant drwy system fel eu bod yn dod allan ar ei diwedd, nid fel pobl ifanc sydd wedi cael addysg eang, nid fel pobl ifanc sy'n cael eu haddysgu i feddwl yn feirniadol, nid fel pobl ifanc sy'n gallu deall, dadlau a chymryd rhan yn y ffordd ehangach honno, ond dim ond i gael cyfres o gymwysterau, nid dyna fy syniad i o addysg, oherwydd rwyf i eisiau i'n plant gael y ddau. Rwyf i eisiau iddyn nhw gael cymwysterau llwyddiannus, ond rwyf i eisiau iddyn nhw gael profiad o addysg a fydd yn eu paratoi ar gyfer bywyd yn yr unfed ganrif ar hugain, a dyna fydd ein cwricwlwm ni yn ei ddarparu.

14:00
Hyfforddiant Sgiliau
Skills Training

3. Pa fesurau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cyflwyno i wella hyfforddiant sgiliau yng Nghymru dros y deuddeg mis nesaf? OAQ54565

3. What measures will the Welsh Government introduce to improve skills training in Wales over the next twelve months? OAQ54565

I thank the Member for that question, Llywydd. Over the next 12 months, our skills training will see the introduction of Job Support Wales, simplifying and consolidating the current suite of employability programmes. That will take place in the context of the impact that Brexit has produced on the skill needs of Welsh employers.

Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Dros y 12 mis nesaf, bydd ein hyfforddiant sgiliau yn arwain at gyflwyno Cymorth Swyddi Cymru, gan symleiddio a chyfnerthu'r gyfres bresennol o raglenni cyflogadwyedd. Bydd hynny'n digwydd yng nghyd-destun yr effaith y mae Brexit wedi ei chael ar anghenion sgiliau cyflogwyr Cymru.

Thank you very much, First Minister, for the answer. The UK Conservative Government has announced it is to invest £120 million to establish eight new institutes of technology in England. This is in addition to the 12 institutes already in operation there. These institutes are a partnership between further education colleges, universities and employers, offering higher education technical qualifications for students in areas such as digital, construction, manufacturing and engineering. First Minister, given that the Confederation of British Industry in Wales has called for a greater focus on vocational qualifications, what consideration have you given to opening institutes of technology to improve the skill set base for workers in Wales, please?

Diolch yn fawr iawn, Prif Weinidog, am yr ateb. Mae Llywodraeth Geidwadol y DU wedi cyhoeddi y bydd yn buddsoddi £120 miliwn i sefydlu wyth o sefydliadau technoleg newydd yn Lloegr. Mae hyn yn ychwanegol at y 12 o sefydliadau sydd eisoes yn weithredol yno. Partneriaeth rhwng colegau addysg bellach, prifysgolion a chyflogwyr yw'r sefydliadau hyn, ac maen nhw'n cynnig cymwysterau technegol addysg uwch i fyfyrwyr mewn meysydd fel digidol, adeiladu, gweithgynhyrchu a pheirianneg. Prif Weinidog, o gofio bod Cydffederasiwn Diwydiant Prydain yng Nghymru wedi galw am fwy o bwyslais ar gymwysterau galwedigaethol, pa ystyriaeth ydych chi wedi ei rhoi i agor sefydliadau technoleg i wella'r sail sgiliau i weithwyr yng Nghymru, os gwelwch yn dda?

Llywydd, it's good to see the system in England catching up with what we've been doing here in Wales. We don't need to invent new centres in Wales, because we already have centres doing what the new technology centres purport to do across our border. That's why we have been increasing higher level apprenticeships in our further education colleges. It's why we have degree apprenticeships, level 6 apprenticeships, for the first time starting work in September of this year with £20 million-worth of new investment. We are serious here in Wales about vocational qualifications, and the importance that they play in the Welsh economy. As I say, they're catching up across our border, and it's good to see them doing it.  

Llywydd, mae'n braf gweld y system yn Lloegr yn dal i fyny â'r hyn yr ydym ni wedi bod yn ei wneud yma yng Nghymru. Nid oes angen i ni ddyfeisio canolfannau newydd yng Nghymru, gan fod gennym ni ganolfannau eisoes sy'n gwneud yr hyn y mae'r canolfannau technoleg newydd yn honni eu bod yn ei wneud dros y ffin. Dyna pam yr ydym ni wedi bod yn cynyddu prentisiaethau lefel uwch yn ein colegau addysg bellach. Dyma pam mae gennym ni brentisiaethau gradd, prentisiaethau lefel 6, am y tro cyntaf yn dechrau gweithio ym mis Medi eleni gyda gwerth £20 miliwn o fuddsoddiad newydd. Rydym ni o ddifrif yma yng Nghymru ynglŷn â chymwysterau galwedigaethol, a'u pwysigrwydd yn economi Cymru. Fel rwy'n dweud, maen nhw'n dal i fyny dros y ffin, ac mae'n braf eu gweld nhw'n gwneud hynny.

Mae yna lot o ffocws ar sgiliau athrawon yn y sector statudol o ran dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, ond does dim cymaint o ffocws ar sgiliau y rheini sy'n dysgu yn addysg bellach o ran sut maen nhw'n medru'r Gymraeg. Yn ystod y Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau yn ddiweddar, daeth Comisiynydd y Gymraeg i mewn atom i ddweud bod yna ddiffyg data yn bodoli ynglŷn â faint o sgiliau sydd yn bodoli yn y sector o ran y tiwtoriaid, a bod yna ddiffyg tiwtoriaid sydd â'r capasiti i ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Beth mae'ch Llywodraeth chi wedi'i wneud i geisio newid hynny, a pha gynlluniau sydd ar waith i sicrhau bod y rheini sydd yn dysgu ym maes addysg bellach yn gallu meddu ar y sgiliau hynny?   

There's been a great deal of focus on teachers' skills in the statutory sector in terms of teaching through the medium of Welsh, but there hasn't been as much focus on the skills of those in FE in terms of how they can teach through the medium of Welsh. During a recent meeting of the Economy, Infrastructure and Skills Committee, the Welsh Language Commissioner joined us and told us that there was a lack of data about what level of skill exists within the sector in terms of the tutors, and that there is a shortage of tutors who have the capacity to teach through the medium of Welsh. So, what is your Government doing to try and change that, and what plans are in place to ensure that those teaching in FE have those necessary skills? 

Diolch yn fawr am y cwestiwn. Wrth gwrs, dwi'n cytuno am y gwaith rydym ni'n ei wneud i fuddsoddi mewn sgiliau pobl yn y dosbarth, mae hwnnw'n hollbwysig i helpu pobl gyda'u hyder i ddefnyddio'r iaith ac i greu awyrgylch ble maen nhw'n gallu defnyddio y sgiliau sydd ganddyn nhw yn barod i helpu pobl ifanc. Dyna pam rydym ni'n buddsoddi y swm mwyaf yn ein hanes ni yn y gweithlu mewn ysgolion, ac rydym ni eisiau gwneud mwy yn addysg bellach hefyd i ddefnyddio'r gwersi rydym wedi eu gweld yn y dosbarth yn ein hysgolion ni, ac i wneud mwy gyda'r colegau addysg bellach hefyd.

Thank you very much for that question. Of course, I agree on the work we are doing to invest in people’s skills in the classroom, that’s vital to help people with the confidence to use the language and to create an atmosphere where they can use the skills that they have already to help young people. That’s why we're investing the greatest amount of money in our history in the people in the workforce in schools, and we want to do more in FE as well to use the lessons that we've seen in the classrooms in our schools, and to do more with the FE colleges as well.

We must rightly acknowledge the recent extensive work put in by the Welsh Government in putting in place the infrastructure that will produce a better skilled workforce for the future. Can I ask, however, what progress has been made by local authorities in developing skill pathways by integrating vocational training into the wider education system?

Mae'n rhaid i ni gydnabod yn briodol y gwaith helaeth a wnaeth Llywodraeth Cymru yn ddiweddar wrth sefydlu'r seilwaith a fydd yn creu gweithlu mwy medrus ar gyfer y dyfodol. A gaf i ofyn, fodd bynnag, pa gynnydd sydd wedi ei wneud gan awdurdodau lleol o ran datblygu llwybrau sgiliau trwy integreiddio hyfforddiant galwedigaethol i'r system addysg ehangach?

14:05

Well, Llywydd, we work with our local authority colleagues, of course, to make sure that the contribution they can make through their representation at further education, and in the schools that they themselves run, to make sure that the skills agenda is understood and implemented there.

It's one of the key things that Government does, Llywydd, to invest in people and to provide them with the skills that they need for the future. We expect all local authorities to work with local employers as well as listening to the voice of the learners themselves. When my colleague Ken Skates commissioned an independent review of regional skills partnerships, one of the things that that report said was that as well as listening to the voice of professionals, we need to learn from the learners as well. Because they will often tell us important things about the quality of the experience in the classroom, the quality of the experience they get when out on the job, and by learning from their experience, we can improve the experience for others who come after them.

Wel, Llywydd, rydym ni'n gweithio gyda'n cydweithwyr mewn awdurdodau lleol, wrth gwrs, i sicrhau bod y cyfraniad y gallan nhw ei wneud drwy eu cynrychiolaeth mewn addysg bellach, ac yn yr ysgolion y maen nhw eu hunain yn eu rhedeg, i sicrhau bod yr agenda sgiliau yn cael ei deall a'i gweithredu yno.

Mae'n un o'r pethau allweddol y mae Llywodraeth yn ei wneud, Llywydd, i fuddsoddi mewn pobl ac i roi iddyn nhw y sgiliau sydd eu hangen arnynt ar gyfer y dyfodol. Rydym ni'n disgwyl i bob awdurdod lleol weithio gyda chyflogwyr lleol yn ogystal â gwrando ar lais y dysgwyr eu hunain. Pan gomisiynodd fy nghyd-Weinidog Ken Skates adolygiad annibynnol o bartneriaethau sgiliau rhanbarthol, un o'r pethau yr oedd yr adroddiad hwnnw'n ei ddweud oedd bod angen i ni ddysgu gan y dysgwyr yn ogystal â gwrando ar lais gweithwyr proffesiynol. Oherwydd byddan nhw'n aml yn dweud pethau pwysig wrthym ni am ansawdd y profiad yn yr ystafell ddosbarth, ansawdd y profiad y maen nhw'n ei gael pan fyddan nhw allan yn gweithio, a thrwy ddysgu o'u profiad, gallwn wella'r profiad i eraill sy'n dod ar eu holau.

Gwastraff Niwclear
Nuclear Waste

4. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am bolisi Llywodraeth Cymru ar waredu gwastraff niwclear yng Nghymru? OAQ54582

4. Will the First Minister provide an update on the Welsh Government's policy on nuclear waste disposal in Wales? OAQ54582

Llywydd, the Welsh Government has not identified any sites or communities in Wales where a geological disposal facility could be sited, nor will we seek to do so. The Welsh Government's policy is clear: a GDF can only be built in Wales if there is a community willing to host it, and a local authority willing to give its consent.

Llywydd, nid yw Llywodraeth Cymru wedi nodi unrhyw safleoedd na chymunedau yng Nghymru lle y gellid lleoli cyfleuster gwaredu daearegol, ac ni fyddwn yn ceisio gwneud hynny ychwaith. Mae polisi Llywodraeth Cymru yn eglur: gellir adeiladu GDF yng Nghymru dim ond os oes cymuned sy'n fodlon ei gynnal, ac awdurdod lleol yn fodlon rhoi ei ganiatâd.

First Minister, last year, there was an enormous protest here against mud being dumped in Welsh waters that had been dredged from outside Hinkley C nuclear reactor without the full range of testing that could and should have been done. The campaign generated international publicity, with coverage on Al Jazeera, Russia Today, the BBC, German news, Pakistani news, and many other news outlets. [Interruptions.] But you're Labour Party and the AMs here ignored the protests and the clear public outrage and voted for the dumping to happen. Your own Deputy Minister—

Prif Weinidog, cafwyd protest enfawr yma y llynedd yn erbyn dympio mwd yn nyfroedd Cymru a oedd wedi cael ei garthu o'r tu allan i adweithydd niwclear Hinkley C heb yr ystod lawn o brofion y gellid ac y dylid bod wedi eu gwneud. Arweiniodd yr ymgyrch at gyhoeddusrwydd rhyngwladol, gyda darllediadau ar Al Jazeera, Russia Today, y BBC, newyddion yr Almaen, newyddion Pacistan, a llawer o allfeydd newyddion eraill. [Torri ar draws.] Ond anwybyddodd eich Plaid Lafur chi a'r ACau yn y fan yma y protestiadau a'r dicter cyhoeddus eglur gan bleidleisio i'r dympio ddigwydd. Mae eich Dirprwy Weinidog eich hun—

Allow the Member to be heard, please.

Gadewch i'r Aelod gael ei glywed, os gwelwch yn dda.

—has taken to Twitter to take issue with the building of Hinkley C, asking what could be achieved with the billions upon billions of pounds spent there. So, when EDF Energy returns to the Welsh Government to ask for permission to dump a second round of mud dredged from outside of a nuclear reactor not even in Wales, will you do three things? This is the question. Firstly, will you demand that a full environmental impact assessment takes place this time? Secondly, will you demand that the full range of radiation testing takes place, including alpha, gamma and mass spectrometry? And thirdly, will you give your Labour AMs a free vote next time instead of whipping them to vote for the dumping to take place?

—wedi bod ar Twitter i ddadlau yn erbyn adeiladu Hinkley C, yn gofyn beth y gellid ei gyflawni gyda'r biliynau ar filiynau o bunnoedd a wariwyd yno. Felly, pan fydd EDF Energy yn dychwelyd i Lywodraeth Cymru i ofyn am ganiatâd i ddympio ail rownd o fwd a garthwyd o'r tu allan i adweithydd niwclear nad yw hyd yn oed yng Nghymru, a wnewch chi dri pheth? Dyma'r cwestiwn. Yn gyntaf, a wnewch chi fynnu bod asesiad llawn o'r effaith ar yr amgylchedd yn cael ei gynnal y tro hwn? Yn ail, a wnewch chi fynnu bod yr ystod lawn o brofion ymbelydredd yn cael ei chynnal, gan gynnwys alffa, gama a sbectrometreg dorfol? Ac yn drydydd, a wnewch chi roi pleidlais rydd i'ch ACau Llafur y tro nesaf yn lle eu chwipio i bleidleisio dros ganiatáu i'r dympio ddigwydd?

Llywydd, no such application has been received.

Llywydd, nid oes cais o'r fath wedi dod i law.

In the summer recess, I had the pleasure of visiting the Hinkley Point construction site and found that that opportunity presents to 25 per cent of the workforce being Welsh based, and it's really important that the benefits of that spend—£19 billion in total—is felt in the Welsh economy as well. What action is the Welsh Government undertaking to make sure that Welsh companies are to the fore when it comes to contracts being awarded on that construction, and in particular, the promotion of the skills that are available to employees to find work in that particular project?

Yn ystod toriad yr haf, cefais y pleser o ymweld â safle adeiladu Hinkley Point a chanfod bod y cyfle hwnnw'n golygu bod 25 y cant o'r gweithlu wedi eu lleoli yng Nghymru, ac mae'n bwysig iawn bod manteision y gwariant hwnnw—cyfanswm o £19 biliwn—yn cael eu teimlo yn economi Cymru hefyd. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod cwmnïau yng Nghymru ar flaen y gad pan ddaw i ddyfarnu contractau ar y gwaith adeiladu hwnnw, ac yn arbennig, hyrwyddo'r sgiliau sydd ar gael i gyflogeion ddod o hyd i waith yn y prosiect penodol hwnnw?

Llywydd, I agree with the Member that the economic opportunities need to be taken and made available to Welsh workers. Actions taken by my colleague Ken Skates have made sure that those opportunities are well advertised to workers in Wales.

I recently attended a conference call by Unite: The Union, in which they foregrounded the actions that they have taken to make sure that the skills of Welsh workers are known to the employers in that project, and that where opportunities arise, Welsh workers are able to avail themselves of them.

Llywydd, rwy'n cytuno â'r aelod bod angen manteisio ar y cyfleoedd economaidd a sicrhau eu bod ar gael i weithwyr Cymru. Mae camau a gymerwyd gan fy nghyd-Weinidog Ken Skates wedi gwneud yn siŵr bod y cyfleoedd hynny'n cael eu hysbysebu'n dda i weithwyr yng Nghymru.

Yn ddiweddar, roeddwn i'n bresennol mewn galwad gynadledda gan Unite: yr Undeb, pryd y tynnwyd sylw ganddyn nhw at y camau y maen nhw wedi eu cymryd i wneud yn siŵr bod sgiliau gweithwyr Cymru yn hysbys i'r cyflogwyr yn y prosiect hwnnw, a bod gweithwyr Cymru, pan fydd cyfleoedd yn codi, yn gallu manteisio arnyn nhw.

Blaenoriaethau Economaidd ar gyfer Aberafan
Economic Priorities for Aberavon

5. A wnaiff y Prif Weinidog nodi blaenoriaethau economaidd Llywodraeth Cymru ar gyfer Aberafan am weddill y Cynulliad hwn? OAQ54612

5. Will the First Minister set out the Welsh Government's economic priorities for Aberavon for the remainder of this Assembly? OAQ54612

I thank the Member for that question. Our priorities include safeguarding the Aberavon economy from the adverse impacts of Brexit by investing in people, places and businesses through skills, infrastructure and business support.

Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. Mae ein blaenoriaethau yn cynnwys diogelu economi Aberafan rhag effeithiau niweidiol Brexit trwy fuddsoddi mewn pobl, lleoedd a busnesau drwy sgiliau, seilwaith a chymorth busnes.

14:10

I thank the First Minister for that answer. Now, First Minister, as you're aware, last week, Hi-Lex Cable System Company announced that it was going to close its factory, with the loss of 125 well-paid, highly skilled jobs as a consequence of a forecast of sales lost due to Brexit, as the Swindon Honda plant is going to shut consequently. Now, what we have here are high-skilled, well-paid individuals who are working in the locality, and what we want now is to actually ensure that we attract more inward investment and support local businesses so that we can use those skills. We want to ensure that those skills remain local, because if we want a diverse economy in Port Talbot, then we need to have that attraction and those skills retained. Can you give me assurances that you will work with local authorities and other partners to attract businesses to ensure that the skilled workforce remains, and if we need more skills, we develop those skills within Port Talbot to ensure that those businesses can work effectively there?

Diolch i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Nawr, Prif Weinidog, fel y gwyddoch, yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd cwmni Hi-Lex Cable System ei fod yn mynd i gau ei ffatri, gan golli 125 o swyddi crefftus â chyflogau da o ganlyniad i ragolwg o golli gwerthiant yn sgil Brexit, gan fod gwaith Honda Swindon yn mynd i gau o ganlyniad. Nawr, yr hyn sydd gennym ni yn y fan yma yw unigolion hynod fedrus, ar gyflogau da, sy'n gweithio yn yr ardal leol, a'r hyn yr ydym ni eisiau ei weld nawr yw sicrhau mewn gwirionedd ein bod ni'n denu mwy o fewnfuddsoddiad ac yn cynorthwyo busnesau lleol fel y gallwn ni ddefnyddio'r sgiliau hynny. Rydym ni eisiau sicrhau bod y sgiliau hynny'n aros yn lleol, oherwydd os ydym ni eisiau economi amrywiol ym Mhort Talbot, yna mae angen i ni gael yr atyniad hwnnw a chadw'r sgiliau hynny. A allwch chi roi sicrwydd i mi y byddwch chi'n gweithio gydag awdurdodau lleol a phartneriaid eraill i ddenu busnesau i sicrhau bod y gweithlu medrus yn aros, ac os oes angen mwy o sgiliau arnom ni, ein bod ni'n datblygu'r sgiliau hynny ym Mhort Talbot i sicrhau y gall y busnesau hynny weithio'n effeithiol yno?

I thank the Member for that question. It is indeed because of the efforts that the Welsh Government, local authorities and businesses in his constituency have made that full-time workers in Aberavon have the highest gross weekly earnings in the whole of Wales. We want to make sure that we do everything we can to continue to provide a range of opportunities where those very highly skilled people can develop their skills for new opportunities and deploy their skills in existing ways.

I look forward to working with Neath Port Talbot council on the programmes for which they are responsible within the Swansea city deal. We're in the very final stages of seeing them submit the business case for the Homes as Power Stations project. That will be £0.5 billion-worth of investment in the Swansea Bay city deal area, led by Neath Port Talbot council. Soon after that business case is submitted, we look forward to receiving detailed proposals for the Swansea Bay technology centre, to be based at the Baglan Energy Park, again led by Neath Port Talbot council and absolutely aimed at creating technological possibilities for the future, where the high-skill people who made up that local economy will be able to look forward to a future in which their skills can be further developed and put to good productive use.

Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. Yn wir, oherwydd yr ymdrechion a wnaed gan Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a busnesau yn ei etholaeth gweithwyr llawn amser yn Aberafan sydd â'r enillion wythnosol gros uchaf yng Nghymru gyfan. Rydym ni eisiau sicrhau ein bod ni'n gwneud popeth yn ein gallu i barhau i ddarparu amrywiaeth o gyfleoedd lle gall y bobl hynod fedrus hynny ddatblygu eu sgiliau ar gyfer cyfleoedd newydd a defnyddio eu sgiliau mewn ffyrdd sy'n bodoli eisoes.

Edrychaf ymlaen at weithio gyda chyngor Castell-nedd Port Talbot ar y rhaglenni y maen nhw'n gyfrifol amdanyn nhw o fewn bargen ddinesig Abertawe. Rydym ni ar y camau olaf o'u gweld nhw'n cyflwyno'r achos busnes ar gyfer y prosiect Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer. Bydd hynny'n werth £0.5 biliwn o fuddsoddiad yn ardal bargen ddinesig Bae Abertawe, o dan arweiniad cyngor Castell-nedd Port Talbot. Yn fuan ar ôl cyflwyno'r achos busnes hwnnw, edrychwn ymlaen at dderbyn cynigion manwl ar gyfer canolfan dechnoleg Bae Abertawe, i'w lleoli ym Mharc Ynni Baglan, unwaith eto dan arweiniad cyngor Castell-nedd Port Talbot ac â'r nod pendant o greu posibiliadau technolegol ar gyfer y dyfodol, lle bydd y bobl fedrus iawn sy'n ffurfio'r economi leol honno yn gallu edrych ymlaen at ddyfodol lle gellir datblygu eu sgiliau ymhellach a gwneud defnydd cynhyrchiol da ohonynt.

Thank you for mentioning the Swansea Bay city deal there, but one area within our economy generally in Wales where we need highly skilled workers is an area where high levels of skill aren't seen as necessary, and that is our tourism industry. I know that David Rees will agree with me on this, that we've got in Aberavon some rather fantastic, but also unexpected scenery and attractions. We know about Margam Country Park, and so forth, but we've also got the Baked Bean Museum of Excellence. All of these are things that are something of a private delight to residents in that area, but I'm sure they'd be very happy to share those with the rest of the world. So, can you tell me what your Government has done to take advantage of the UK Government tourism sector deal to raise the status and strategic importance of tourism in Wales, particularly with areas like Aberavon, where there's a lot to offer, but that potential is under-exploited?

Diolch i chi am grybwyll bargen ddinesig Bae Abertawe yn y fan yna, ond mae un maes yn ein heconomi yn gyffredinol yng Nghymru lle'r ydym ni angen gweithwyr medrus iawn sydd yn faes lle na ystyrir bod lefelau uchel o sgiliau yn angenrheidiol, sef ein diwydiant twristiaeth. Gwn y bydd David Rees yn cytuno â mi am hyn, bod gennym ni yn Aberafan rai golygfeydd ac atyniadau gwych, ond hefyd annisgwyl. Rydym ni'n gwybod am Barc Gwledig Margam, ac yn y blaen, ond mae gennym ni hefyd yr Amgueddfa Rhagoriaeth Ffa Pob. Mae'r rhain i gyd yn bethau sy'n dipyn o bleser preifat i drigolion yn yr ardal honno, ond rwy'n siŵr y bydden nhw'n hapus iawn i'w rhannu'r gyda gweddill y byd. Felly, a allwch chi ddweud wrthyf i beth y mae eich Llywodraeth wedi ei wneud i fanteisio ar fargen sector twristiaeth Llywodraeth y DU i godi statws a phwysigrwydd strategol twristiaeth yng Nghymru, yn enwedig gydag ardaloedd fel Aberafan, lle mae llawer i'w gynnig, ond lle nad oes manteisio digonol ar y potensial hwnnw?

Llywydd, let me agree with Suzy Davies about the potential that Aberavon has for tourism. And, the Member is absolutely right to say that there is a real challenge for that industry in reshaping its reputation amongst people who go to work for it, and emphasising to people the opportunities that exist within the tourism industry and that it isn't regarded as something you do only when nothing else is available to you. So, that's a reputational challenge for that sector. I met recently with representatives from the tourism industry in Wales, and they know themselves, particularly if a supply of labour that they have relied upon coming from other parts of the European Union won't be available to them in the future, that they are going to have to do more to make that industry attractive to people who are already here in Wales.

We will work with them to do that, to find new opportunities, because the tourism industry is important in all parts of Wales, but there is a challenge for the industry itself. They are going to have to do things that demonstrate that the skills are important, that the career paths exist, that the rewards are available, and that if you commit yourself to leisure and tourism in Wales, then the opportunities that my colleague Dafydd Elis-Thomas is helping to develop in that industry, levelling it upwards so that it has a different profile in Wales, that that profile communicates itself to potential workers as well.

Llywydd, gadewch i mi gytuno â Suzy Davies ynghylch y potensial sydd gan Aberafan ar gyfer twristiaeth. Ac mae'r Aelod yn llygad ei lle i ddweud bod her wirioneddol i'r diwydiant hwnnw o ran ailsefydlu ei enw da ymhlith pobl sy'n mynd i weithio ynddo, a phwysleisio i bobl y cyfleoedd sy'n bodoli o fewn y diwydiant twristiaeth ac nad yw'n cael ei ystyried fel rhywbeth yr ydych chi'n ei wneud dim ond pan nad oes unrhyw beth arall ar gael i chi. Felly, mae honno'n her o ran enw da'r sector hwnnw. Cefais gyfarfod yn ddiweddar gyda chynrychiolwyr o'r diwydiant twristiaeth yng Nghymru, ac maen nhw'n gwybod eu hunain, yn enwedig os na fydd cyflenwad o lafur y maen nhw wedi dibynnu arno yn dod o rannau eraill o'r Undeb Ewropeaidd ar gael iddyn nhw yn y dyfodol, eu bod nhw'n mynd i orfod gwneud mwy i wneud y diwydiant hwnnw'n ddeniadol i bobl sydd eisoes yma yng Nghymru.

Byddwn yn gweithio gyda nhw i wneud hynny, i ddod o hyd i gyfleoedd newydd, oherwydd mae'r diwydiant twristiaeth yn bwysig ym mhob rhan o Gymru, ond ceir her i'r diwydiant ei hun. Bydd yn rhaid iddyn nhw wneud pethau sy'n dangos bod y sgiliau'n bwysig, bod y llwybrau gyrfaol yn bodoli, bod y gwobrau ar gael, ac os gwnewch chi ymrwymo eich hun i hamdden a thwristiaeth yng Nghymru, yna bydd y cyfleoedd y mae fy nghyd-Weinidog Dafydd Elis-Thomas yn helpu i'w datblygu yn y diwydiant hwnnw, gan ei uwchraddio fel bod ganddo wahanol broffil yng Nghymru, a bod y proffil hwnnw'n cyfathrebu ei hun i ddarpar weithwyr hefyd.

Troseddau Casineb
Hate Crime

6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â throseddau casineb? OAQ54609

6. What action is the Welsh Government taking to tackle hate crime? OAQ54609

I thank Joyce Watson for that. The Welsh Government works hard, with others, to prevent hate crimes, support victims and promote community cohesion. In recognition of the tensions and divisions that have arisen since the EU referendum, we have utilised the EU transition fund to bolster our work significantly in this area.

Diolchaf i Joyce Watson am hynna. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n galed, gydag eraill, i atal troseddau casineb, i gynorthwyo dioddefwyr ac i hybu cydlyniant cymunedol. Er mwyn cydnabod y tensiynau a'r rhaniadau sydd wedi codi ers refferendwm yr UE, rydym ni wedi defnyddio cronfa bontio'r UE i atgyfnerthu ein gwaith yn sylweddol yn y maes hwn.

14:15

I thank you for that answer, but recent figures obtained from the Home Office have shown a 29 per cent increase in hate crime across England and Wales, and the highest increase is seen in transgender and disability hate crimes. We've also witnessed the rhetoric and language that's been witnessed being used by leading political figures very recently, and, in my opinion, that has only added fuel to the fire, particularly when it comes to racially motivated and religious hate crime. Hate crime based on an individual's race is accounting for three quarters of all hate crime that is reported, and I was horrified, and I'm sure that most people in this Chamber would be, to witness the racial abuse experienced by a number of England football players in Bulgaria recently, and also on Saturday when Haringey's goalkeeper was spat at and bottles were thrown at him, resulting in, quite rightly, those players walking off the field. But the real concern here, when you view some of those pictures, is that it's young people who are the perpetrators of these acts, and the problem with that is we're talking about the next generation coming through. So, First Minister, I ask what assessment the Welsh Government has made about the recent Home Office stats regarding the worrying increases, and whether you've had any conversations whatsoever with the Football Association of Wales and particularly Show Racism the Red Card?

Diolchaf i chi am yr ateb yna, ond mae ffigurau diweddar a gafwyd gan y Swyddfa Gartref wedi dangos cynnydd o 29 y cant mewn troseddau casineb ledled Cymru a Lloegr, a gwelir y cynnydd mwyaf mewn troseddau casineb at bobl drawsrywiol ac anabl. Rydym ni hefyd wedi gweld y rhethreg a'r iaith a welwyd yn cael ei defnyddio gan ffigyrau gwleidyddol blaenllaw yn ddiweddar iawn, ac, yn fy marn i, y cwbl y mae hynny wedi ei wneud yw ychwanegu tanwydd at y tân, yn enwedig pan ddaw i droseddau casineb ar sail hiliol a chrefyddol. Troseddau casineb sy'n seiliedig ar hil unigolyn yw tri chwarter yr holl droseddau casineb yr adroddir amdanynt, a chefais fy nychryn, ac rwy'n siŵr y byddai'r rhan fwyaf o bobl yn y Siambr hon, o weld y camdriniaeth hiliol a ddioddefwyd gan nifer o chwaraewyr pêl-droed Lloegr yn Bwlgaria yn ddiweddar, a hefyd ddydd Sadwrn pan boerwyd ar gôl-geidwad Haringey ac y taflwyd poteli ato, gan arwain, yn gwbl briodol, at y chwaraewyr hynny yn cerdded oddi ar y cae. Ond y pryder gwirioneddol yn y fan yma, pan fyddwch chi'n gweld rhai o'r lluniau hynny, yw mai pobl ifanc sy'n cyflawni'r gweithredoedd hyn, a'r broblem gyda hynny yw ein bod ni'n sôn am y genhedlaeth nesaf yn dod drwodd. Felly, Prif Weinidog, rwy'n gofyn pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud o ran ystadegau diweddar y Swyddfa Gartref ynghylch y cynnydd sy'n peri pryder, a pha un a ydych chi wedi cael unrhyw sgyrsiau o gwbl gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru ac yn arbennig Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth?

I thank the Member for the question and for the work that she has done so consistently over the years in this area, and for the part she has played in making sure that this Assembly will be debating this matter on the floor here tomorrow afternoon. If I think of the Home Office figures, then I think there are four things that I draw from them immediately, Llywydd. The first is that Wales is not immune to hate crime and the horrors that it brings, and we should never think that, somehow, these things don't happen here—they do—and, secondly, that behind the figures lies a combination of better reporting and recording as well as real increases in instances. We have had a policy in Wales since 2014 of driving up reporting in this area, of persuading people to have confidence to come forward to the police, and then working with the police to make sure that those reports are properly recorded and reported. So, there is something, I hope, in these figures that demonstrates that people are more willing to come forward and more willing to take these things seriously. But as well as that, there is a real rise in incidents in these figures too.

I think the third thing that I learned from the figures is that hate crime happens across the whole range of targets; 68 per cent of hate crime is race hate crime, but as Joyce Watson said, over 400 disability hate crimes were recorded in Wales last year. I find myself just baffled by it—how anybody could think that someone who already has to deal with the issues of disability becomes a victim of crime because of the disability that they suffer. And an 88 per cent increase, the largest increase of all, as Joyce Watson said, in transgender hate crime.

I think the fourth point that I draw from it, Llywydd, is the importance of the investment that we make in Wales in resisting hate crime—the extra money we've put into the national hate crime report and support centre, the additional investment in the hate crime minority communities grant, the community cohesion grant that we provide through the Welsh Government, supported across the Chamber here, I know. All of these things help to make a difference, and it is by working with others, whether that is Show Racism the Red Card or whether it is formal bodies like the Football Association of Wales, that we can do what we can to row back the hateful presence of hate crime in Wales as elsewhere.

Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn ac am y gwaith y mae hi wedi ei wneud mor gyson dros y blynyddoedd yn y maes hwn, ac am y rhan y mae hi wedi ei chwarae i sicrhau y bydd y Cynulliad hwn yn trafod y mater hwn ar y llawr yn y fan yma brynhawn yfory. Wrth feddwl am ffigurau'r Swyddfa Gartref, yna rwy'n credu bod pedwar peth yr wyf i'n eu cymryd ohonynt yn syth, Llywydd. Y cyntaf yw nad yw Cymru yn rhydd o droseddau casineb a'r erchyllterau a ddaw yn eu sgil, ac ni ddylem byth feddwl, rywsut, nad yw'r pethau hyn yn digwydd yma—maen nhw—ac, yn ail, y ceir cyfuniad o well adrodd a chofnodi y tu ôl i'r ffigurau yn ogystal â chynnydd gwirioneddol i nifer yr achosion. Bu gennym ni bolisi yng Nghymru ers 2014 o annog adrodd yn y maes hwn, o berswadio pobl i fod â hyder i ddod ymlaen at yr heddlu, ac yna gweithio gyda'r heddlu i wneud yn siŵr bod yr adroddiadau hynny'n cael eu cofnodi a'u hadrodd yn gywir. Felly, mae rhywbeth, gobeithio, yn y ffigurau hyn sy'n dangos bod pobl yn fwy parod i ddod ymlaen ac yn fwy parod i gymryd y pethau hyn o ddifrif. Ond yn ogystal â hynny, mae cynnydd gwirioneddol i nifer y digwyddiadau yn y ffigurau hyn hefyd.

Rwy'n credu mai'r trydydd peth a ddysgais o'r ffigurau yw bod troseddau casineb yn digwydd ar draws yr ystod gyfan o dargedau; troseddau casineb hiliol yw 68 y cant o droseddau casineb, ond fel y dywedodd Joyce Watson, cofnodwyd dros 400 o droseddau casineb ar sail anabledd yng Nghymru y llynedd. Nid wyf i'n deall o gwbl—sut y gallai unrhyw un feddwl bod rhywun sydd eisoes yn gorfod ymdrin â phroblemau anabledd yn dod yn ddioddefwr trosedd oherwydd yr anabledd y mae'n ei ddioddef. A chynnydd o 88 y cant, y cynnydd mwyaf oll, fel y dywedodd Joyce Watson, i droseddau casineb trawsrywiol.

Rwy'n credu mai'r pedwerydd pwynt yr wyf i'n ei gymryd ohono, Llywydd, yw pwysigrwydd y buddsoddiad yr ydym ni'n ei wneud yng Nghymru i wrthsefyll troseddau casineb—yr arian ychwanegol yr ydym ni wedi ei roi i'r ganolfan adrodd a chymorth cenedlaethol ar gyfer troseddau casineb, y buddsoddiad ychwanegol yn y grant troseddau casineb cymunedau lleiafrifol, y grant cydlyniant cymunedol yr ydym ni'n ei ddarparu trwy Lywodraeth Cymru, a gefnogir ar draws y Siambr yn y fan yma, mi wn. Mae'r pethau hyn i gyd yn helpu i wneud gwahaniaeth, a thrwy weithio gydag eraill, boed hynny'n Dangos y Cerdyn coch i Hiliaeth neu gyrff ffurfiol fel Cymdeithas Bêl-droed Cymru, y gallwn wneud yr hyn a allwn i leihau presenoldeb atgas troseddau casineb yng Nghymru fel mewn mannau eraill.

14:20
Plant Mewn Gofal
Children in Care

7. A wnaiff y Prif Weinidog egluro beth yw cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer lleihau nifer y plant mewn gofal? OAQ54606

7. Will the First Minister explain what the Welsh Government's plans are to reduce the number of children in care? OAQ54606

Diolch i Siân Gwenllian am y cwestiwn. Mae gormod o blant yn cael eu cymryd oddi wrth eu teuluoedd yng Nghymru. Mae pob awdurdod lleol bellach wedi cyflwyno cynlluniau i leihau nifer y plant sydd mewn gofal, y nifer sy’n cael eu lleoli y tu allan i’r sir, y tu allan i Gymru, a’r rheini sy’n cael eu cymryd oddi wrth rieni sydd ag anabledd dysgu.

Thank you, Siân Gwenllian, for that question. Too many children are taken away from their families in Wales. Every local authority has now submitted their plans to reduce the number of children in care, the number placed out of county, out of Wales, and those removed from parents with a learning disability.

Yn ogystal â gofyn i gynghorau sir gyflwyno cynlluniau i leihau’r nifer, mae eich Llywodraeth chi hefyd yn gofyn iddyn nhw osod targedau ar gyfer lleihau nifer y plant mewn gofal, ac mi fyddwch chi’n ymwybodol, efallai, fod Cyngor Gwynedd a nifer o gynghorau eraill yn gwrthod cydymffurfio â’r gofyniad hwn i osod targed, gan ei weld o fel cam gwag ac un peryglus hefyd. A dwi’n cytuno. Nid defnyddio ffigurau mympwyol ydy’r ffordd o daclo’r nifer cynyddol o blant mewn gofal, ond yn hytrach mae angen edrych ar pam fod y nifer yn codi a rhoi’r ffocws ar wella canlyniadau i blant mewn gofal. Ydych chi’n fodlon ailedrych ar eich polisi o osod targedau?

In addition to asking local authorities to submit plans to reduce the numbers, your Government also asks them to set targets for reducing the number of children in care, and you will be aware, perhaps, that Gwynedd Council and a number of other councils have refused to comply with that requirement to set a target, seeing it as a dangerous and retrograde step. And I agree. Using arbitrary figures is not the way of tackling the increasing numbers of children in care, but, rather, we need to look at why the numbers are increasing and focus on improving outcomes for children in care. Are you willing to review your policy of setting targets?

Well, I disagree with the Member, Llywydd, because we come to targets reluctantly. It was absolutely not our first way of doing things, but we have tried—we have tried for nearly a decade all the other measures to which the Member refers. This Government has funded, repeatedly, year after year, initiatives to reduce the number of children taken into care here in Wales. We have provided money directly to local authorities, we have sponsored, through local authorities, the production of reports, such as the Cordis Bright report, that set out more than five years ago for local authorities in Wales the practical steps that they could take to reduce the number of children they take into care. We’ve funded other initiatives to do exactly the same thing, and yet, year after year after year, the number of children being taken into care in Wales goes up. It has gone up every year for 20 years. And the gap between the rate at which children are taken away from their families in Wales and that are taken away from their families across our border has widened every year as well. And Gwynedd is not immune from this. The number of children taken into care in Gwynedd has risen steadily year on year for the last four years. The rate at which Gwynedd takes children away from their families has risen year on year for the last four years. If Members here read last week the report of the rate at which children in Wales are taken away at birth from their families, they will have seen that Gwynedd does that at a faster rate than other local authorities in Wales. The idea that Gwynedd has nothing to look at and nothing to learn does not stand up to examination.

Now, our targets are simply there to focus the minds of local authorities on this problem, and 18 of the 22 local authorities in Wales have agreed to do that. So, Gwynedd is in a small minority of councils who have not come with us on this journey. The targets are absolutely not there to prevent social workers from making right decisions, but they are there to focus the minds of local authorities on one of the great public policy challenges that we have in Wales, and a problem that is getting worse, and has got worse every year for 20 years. That’s why we are doing it, and that’s why it is the right thing to do, and that’s why I’m grateful to the 18 local authorities in Wales who’ve agreed that this is the right way to tackle the problem.

Wel, rwy'n anghytuno â'r Aelod, Llywydd, oherwydd rydym ni'n troi at dargedau yn anfoddog. Nid dyna oedd ein dewis cyntaf o wneud pethau yn sicr, ond rydym ni wedi rhoi cynnig—rydym ni wedi rhoi cynnig am bron i ddegawd ar yr holl fesurau eraill y mae'r Aelod yn cyfeirio atyn nhw. Mae'r Llywodraeth hon wedi ariannu, droeon, flwyddyn ar ôl blwyddyn, mentrau i leihau nifer y plant sy'n cael eu rhoi mewn gofal yma yng Nghymru. Rydym ni wedi darparu arian yn uniongyrchol i awdurdodau lleol, rydym ni wedi noddi, drwy awdurdodau lleol, cynhyrchiad adroddiadau, fel adroddiad Cordis Bright, a nododd dros bum mlynedd yn ôl ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru y camau ymarferol y gallen nhw eu cymryd i leihau nifer y plant y maen nhw'n eu cymryd i dderbyn gofal. Rydym ni wedi ariannu mentrau eraill i wneud yr un peth yn union, ac eto, flwyddyn ar ôl blwyddyn ar ôl blwyddyn, mae nifer y plant sy'n cael eu derbyn i ofal yng Nghymru yn codi. Mae wedi codi bob blwyddyn ers 20 mlynedd. Ac mae'r bwlch rhwng y gyfradd y cymerir plant oddi wrth eu teuluoedd yng Nghymru ac sy'n cael eu cymryd oddi wrth eu teuluoedd ar draws ein ffin wedi ehangu bob blwyddyn hefyd. Ac nid yw Gwynedd yn ddiogel rhag hyn. Mae nifer y plant sy'n cael eu cymryd i ofal yng Ngwynedd wedi cynyddu'n gyson o flwyddyn i flwyddyn dros y pedair blynedd diwethaf. Mae'r gyfradd y mae Gwynedd yn cymryd plant oddi wrth eu teuluoedd wedi codi o flwyddyn i flwyddyn yn ystod y pedair blynedd diwethaf. Os darllenodd yr Aelodau yn y fan yma yr adroddiad yr wythnos diwethaf am y gyfradd y mae plant yng Nghymru yn cael eu cymryd ar adeg eu geni oddi wrth eu teuluoedd, byddan nhw wedi gweld bod Gwynedd yn gwneud hynny ar gyfradd gyflymach nag awdurdodau lleol eraill yng Nghymru. Nid yw'r syniad bod gan Wynedd ddim i'w ystyried a dim i'w ddysgu yn gwrthsefyll archwiliad.

Nawr, mae ein targedau yno'n syml i ganolbwyntio meddyliau awdurdodau lleol ar y broblem hon, ac mae 18 o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru wedi cytuno i wneud hynny. Felly, mae Gwynedd mewn lleiafrif bach o gynghorau sydd heb ddod gyda ni ar y daith hon. Yn sicr nid yw'r targedau yno i atal gweithwyr cymdeithasol rhag gwneud y penderfyniadau iawn, ond maen nhw yno i ganolbwyntio meddyliau awdurdodau lleol ar un o'r heriau mawr sydd gennym ni o ran polisi cyhoeddus yng Nghymru, a phroblem sy'n gwaethygu, ac sydd wedi gwaethygu bob blwyddyn ers 20 mlynedd. Dyna pam yr ydym ni'n gwneud hyn, a dyna pam mai dyma'r peth iawn i'w wneud, a dyna pam rwy'n ddiolchgar i'r 18 awdurdod lleol yng Nghymru sydd wedi cytuno mai dyma'r ffordd iawn i fynd i'r afael â'r broblem.

Ac yn olaf, cwestiwn 8, Neil Hamilton.

And finally, question 8, Neil Hamilton.

Yr Argyfwng Newid Hinsawdd
The Climate Change Emergency

8. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd ers iddi ddatgan yr argyfwng newid hinsawdd? OAQ54594

8. What actions has the Welsh Government taken since its declaration of a climate change emergency? OAQ54594

Llywydd, we have funded a new generation of ambulances fitted with solar panels. We have invested millions of pounds in projects to address biodiversity. We have published major reforms in future financial support for agriculture. Last week, all this, and more, was discussed at our first annual climate change conference.

Llywydd, rydym ni wedi ariannu cenhedlaeth newydd o ambiwlansys â phaneli solar wedi eu gosod arnyn nhw. Rydym ni wedi buddsoddi miliynau o bunnoedd mewn prosiectau i fynd i'r afael â bioamrywiaeth. Rydym ni wedi cyhoeddi diwygiadau mawr o ran cymorth ariannol i amaethyddiaeth yn y dyfodol. Yr wythnos diwethaf, trafodwyd hyn i gyd, a mwy, yn ein cynhadledd newid yn yr hinsawdd flynyddol gyntaf.

I thank the First Minister for that reply. I wonder if he ever has any sleepless nights about the impact upon the lives of ordinary people of climate change policies of the UK Government and the Welsh Government. Figures for fuel poverty in Wales were published recently—that is, people spending more than 10 per cent of their income on keeping warm—130,000 vulnerable households spend more than 10 per per cent on keeping warm; 32,000 households spend more than 20 per cent of their income on keeping warm. And yet it's the policy of UK Government and Welsh Government to make fuel more expensive in order, supposedly, to save the planet. The carbon zero by 2050 commitment, which Theresa May made as a parting shot to us all before she left office, has been estimated by her own Chancellor, Philip Hammond, to cost more than £1 trillion, and the UK Committee on Climate Change has estimated that to reach this target will cost us between 1 to 2 per cent of our gross domestic product every single year between now and 2050, which for Wales amounts to something like £2.5 billion a year. That's about a sixth or so of the entire Welsh budget. If this is going to be funded by putting imposts upon the price of electricity, that will directly affect the poorest and most vulnerable in society. So, where does that leave the Government's anti-poverty programme, and indeed its commitment to eradicate fuel poverty in Wales, on which it has spectacularly failed so far?

Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Tybed a yw ef byth yn cael unrhyw nosweithiau di-gwsg ynghylch effaith polisïau newid yn yr hinsawdd Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ar fywydau pobl gyffredin. Cyhoeddwyd ffigurau ar dlodi tanwydd yng Nghymru yn ddiweddar—hynny yw, pobl sy'n gwario mwy na 10 y cant o'u hincwm ar gadw'n gynnes—mae 130,000 o aelwydydd agored i niwed yn gwario mwy na 10 y cant ar gadw'n gynnes; mae 32,000 o aelwydydd yn gwario mwy nag 20 y cant o'u hincwm ar gadw'n gynnes. Ac eto polisi Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yw gwneud tanwydd yn ddrutach er mwyn, yn ôl y sôn, achub y blaned. Amcangyfrifwyd y byddai'r ymrwymiad di-garbon erbyn 2050 a wnaed gan Theresa May wrth ffarwelio â ni i gyd, gan ei Changhellor ei hun, Philip Hammond, yn costio mwy nag £1 triliwn, ac mae Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd wedi amcangyfrif y bydd cyrraedd y targed hwn yn costio rhwng 1 a 2 y cant o'n cynnyrch mewnwladol gros i ni bob un blwyddyn rhwng nawr a 2050, sy'n cyfateb i rywbeth tebyg i £2.5 miliwn y flwyddyn yng Nghymru. Mae hynny tua un rhan o chwech o holl gyllideb Cymru. Os yw hyn yn mynd i gael ei ariannu drwy gyflwyno trethi ar bris trydan, bydd hynny'n effeithio'n uniongyrchol ar y tlotaf a'r mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas. Felly, ble mae hynny'n gadael rhaglen wrthdlodi'r Llywodraeth, ac yn wir ei hymrwymiad i ddileu tlodi tanwydd yng Nghymru, y mae wedi methu'n llwyr â'i wneud hyd yn hyn?

14:25

Llywydd, what does keep me awake at night is the impact of the climate change emergency upon this planet, upon those who will come after us, who will live with the consequences of any failure on our part to take the actions that we can take during the time that we have that opportunity, and will make those long-term differences that will allow this fragile planet to go on providing a home for future generations. And every time that somebody tries to place obstacles in the path of the necessary actions, it's an obstacle in the path of that major ambition of this Government. We will do all the things that lie in our hands to tackle the decline in biodiversity, the impact of climate change here in Wales, and sometimes those will be difficult and sometimes they will be unpopular, but what they will overwhelmingly be is right.

Llywydd, yr hyn sy'n fy nghadw i'n effro yn y nos yw effaith yr argyfwng newid yn yr hinsawdd ar y blaned hon, ac ar y rhai a fydd yn dod ar ein holau. Byddan nhw'n byw gyda chanlyniadau unrhyw fethiant ar ein rhan ni i gymryd y camau y gallwn ni eu cymryd yn ystod y cyfnod y mae'r cyfle hwnnw gennym ni, ac a fydd yn gwneud y gwahaniaethau hirdymor hynny a fydd yn caniatáu i'r blaned fregus hon barhau i gynnig cartref i genedlaethau'r dyfodol. A phob tro y bydd rhywun yn ceisio gosod rhwystrau ar lwybr y camau angenrheidiol, mae'n rhwystr ar lwybr uchelgais mawr y Llywodraeth hon. Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i fynd i'r afael â'r dirywiad i fioamrywiaeth, effaith newid yn yr hinsawdd yma yng Nghymru, ac weithiau bydd y rheini'n anodd ac weithiau byddan nhw'n amhoblogaidd, ond heb os nac oni bai, byddan nhw'n iawn.

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
2. Business Statement and Announcement

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes gan y Trefnydd. A dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad—Rebecca Evans.

The next item is the business statement and announcement from the Trefnydd. And I call on the Trefnydd to make the statement—Rebecca Evans.

Diolch, Llywydd. There are four changes to this week's business. I will shortly move a motion to suspend the relevant Standing Order to allow a debate on Brexit to be held as the last item of business today. As a result, the oral statement—update on Brexit—has been withdrawn. Additionally, the Deputy Minister for Culture, Sport and Tourism will make a statement on priorities for the visitor economy 2020-5. Finally, the debate under Standing Order 25.15 on the Government of Wales Act 2006 (Amendment) Order 2019 has been postponed. Draft business for the next three sitting weeks is set out on the business statement and announcement, which can be found amongst the meeting papers available to Members electronically.

Diolch, Llywydd. Mae pedwar newid i fusnes yr wythnos hon. Cyn bo hir, byddaf yn gwneud cynnig i atal y Rheol Sefydlog berthnasol er mwyn caniatáu ar gyfer cynnal dadl ar Brexit fel yr eitem olaf o fusnes heddiw. O ganlyniad, mae'r datganiad llafar—y diweddaraf am Brexit —wedi'i dynnu'n ôl. Yn ogystal â hyn, bydd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth yn gwneud datganiad ar y blaenoriaethau ar gyfer yr economi ymwelwyr 2020-5. Yn olaf, gohiriwyd y ddadl o dan Reol Sefydlog 25.15 ar Orchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Diwygio) 2019. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos eistedd nesaf wedi'i nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith papurau'r cyfarfodydd sydd ar gael i'r Aelodau'n electronig.

Minister, may I ask for a statement from the Minister for health on the new eye care measures? The Royal National Institute of Blind People, RNIB Cymru, has expressed its concern at the results of the first three months of data collected since the introduction of new eye care measures. In that time, not a single health board has hit the Welsh Government target. Secondly, all health boards have seen an increase in the number of patients waiting beyond their target dates. And finally, the highest risk patients are waiting beyond targets and longer than is clinically safe. Minister, eyesight is precious. It is unforgivable that people should be at risk of irreversible harm because they are not treated quickly enough. May we have a statement on what action is being taken to ensure people with rapid eyesight loss receive the treatment they need within the specified timescales in Wales?

Gweinidog, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd ar y mesurau gofal llygaid newydd? Mae Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Deillion, RNIB Cymru, wedi mynegi ei bryder ynghylch canlyniadau'r tri mis cyntaf o ddata a gasglwyd ers cyflwyno mesurau gofal llygaid newydd. Yn y cyfnod hwnnw, nid oes yr un Bwrdd Iechyd wedi cyrraedd targed Llywodraeth Cymru. Yn ail, mae pob Bwrdd Iechyd wedi gweld cynnydd yn nifer y cleifion sy'n aros y tu hwnt i'w dyddiadau targed. Ac yn olaf, mae'r cleifion risg uchaf yn aros y tu hwnt i dargedau ac yn hwy na'r hyn sy'n ddiogel yn glinigol. Gweinidog, mae'r golwg yn synnwyr gwerthfawr. Mae'n anfaddeuol y dylai pobl fod mewn perygl o niwed na ellir ei wrthdroi oherwydd nad ydynt yn cael eu trin yn ddigon cyflym. A gawn ni ddatganiad ynghylch pa gamau sy'n cael eu cymryd i sicrhau bod pobl sydd wedi colli eu golwg yn gyflym yn cael y driniaeth sydd ei hangen arnynt o fewn yr amserlenni penodedig yng Nghymru?

Thank you very much for raising the issue of the new eye care measures in the Chamber this afternoon. I know that when those eye care standards were introduced, they were warmly welcomed by RNIB and others who saw the potential that they could have in terms of preventing eyesight loss for people in Wales. I'll be happy to ask the Minister to write to you with an update as to how those new standards and measures are being implemented within the first three months, but also to set out how he envisages the improvements to be demonstrated in the longer period ahead.

Diolch yn fawr iawn ichi am godi mater y mesurau gofal llygaid newydd yn y Siambr y prynhawn yma. Pan gyflwynwyd y safonau gofal llygaid hynny, gwn iddynt gael croeso cynnes gan RNIB ac eraill a welai'r potensial y gallent ei gael o ran atal pobl rhag colli eu golwg yng Nghymru. Byddaf yn fwy na pharod i ofyn i'r Gweinidog ysgrifennu atoch gyda'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch sut y mae'r safonau a'r mesurau newydd hyn yn cael eu gweithredu o fewn y tri mis cyntaf, ond hefyd i amlinellu sut y mae'n rhagweld y bydd y gwelliannau'n cael eu dangos yn y cyfnod hirach sydd o'n blaenau.

Earlier this month, a statement was issued by the transport Minister, and in that statement we were told that the dreaded Pacer trains will be with us for much longer than was originally promised. Built from the body of a bus mounted on train wheels to create a uniquely bumpy and rattling travelling experience, the Pacers were only meant to be a temporary stopgap when they were first introduced in the 1980s. The statement containing this came just after the publication of the annual report for Transport for Wales, which did not include the pledge from the previous year's annual report to phase out the Pacers before the end of the year. The statement also declared that an even older train, the 1960s-built British Rail class 37, would remain on the tracks for longer as well. This train model was not even featured in the first annual report of Transport for Wales, because it was brought out of retirement after the publication of that report due to chronic rolling stock shortages.

Travelling on these trains that are well past their use-by date does not make for a great travelling experience. I use these trains all the time, and I can testify to others' complaints about overcrowding, missing services and broken-down trains that are made on a regular basis by many, many people. Now, I note that your Labour Party colleagues, Greater Manchester mayor, Andy Burnham, Sheffield city regional mayor, Dan Jarvis, and Leeds City Council leader, Judith Blake, have all signed a letter calling on train operator, Northern, to reduce fares for passengers who, like us in Wales, are forced to travel on these Pacer trains. I think this is a great idea. Will you and your Cabinet colleague with the transport brief be standing shoulder to shoulder with your party colleagues in putting the interests of passengers before profit? Can we have a statement from the transport Minister outlining by how much passengers can expect their fares to be reduced while we wait for the basic public transport service that we deserve?

Yn gynharach y mis hwn, cyhoeddwyd datganiad gan y Gweinidog Trafnidiaeth, ac yn y datganiad hwnnw dywedwyd wrthym y bydd y trenau Pacer bondigrybwyll gyda ni am lawer hwy nag a addawyd yn wreiddiol. Wedi eu hadeiladu o gorff bws ac wedi eu gosod ar olwynion trên gan greu profiad teithio anghyfforddus, dim ond dros dro y bwriadwyd y trenau hyn pan gawsant eu cyflwyno gyntaf yn yr 1980au. Daeth y datganiad sy'n cynnwys hyn yn fuan ar ôl cyhoeddi'r adroddiad blynyddol ar gyfer Trafnidiaeth Cymru, nad oedd yn cynnwys yr adduned o adroddiad blynyddol y flwyddyn flaenorol i gael gwared â'r Pacers cyn diwedd y flwyddyn. Mynegodd y datganiad hefyd y byddai trên sydd hyd yn oed yn hŷn, sef y trên dosbarth 37 Rheilffordd Prydeinig a adeiladwyd yn yr 1960au, yn aros ar y cledrau am gyfnod hwy hefyd. Nid oedd y model trên hwn yn cael sylw hyd yn oed yn adroddiad blynyddol cyntaf Trafnidiaeth Cymru, gan iddo gael ei ail gyflwyno ar ôl cyhoeddi'r adroddiad hwnnw oherwydd prinder cerbydau dwys.

Nid yw teithio ar yr hen drenau hyn yn brofiad teithio gwych. Rwy'n defnyddio'r trenau hyn drwy'r amser, a gallaf dystio i gwynion pobl eraill, sy'n cael eu gwneud yn rheolaidd gan lawer iawn o bobl am orlenwi, gwasanaethau coll a threnau wedi torri i lawr. Nawr, sylwaf fod eich cyd-aelodau yn y Blaid Lafur, maer Manceinion Fwyaf, Andy Burnham, maer rhanbarthol Dinas Sheffield, Dan Jarvis, ac arweinydd Cyngor dinas Leeds, Judith Blake, i gyd wedi llofnodi llythyr yn galw ar weithredwr trenau'r Northern i ostwng prisiau tocynnau ar gyfer teithwyr sydd, fel ninnau yng Nghymru, yn gorfod teithio ar y trenau Pacer hyn. Rwy'n credu bod hwn yn syniad gwych. A fyddwch chi a'ch cyd-Aelod yn y Cabinet gyda'r brîff trafnidiaeth yn sefyll ochr yn ochr â'ch cyd-aelodau yn eich plaid i roi buddiannau teithwyr cyn elw? A gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog Trafnidiaeth yn amlinellu faint o ostyngiad yn y prisiau y gall teithwyr ei ddisgwyl tra byddwn yn aros am y gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus sylfaenol yr ydym yn ei haeddu?

14:30

Presiding Officer, I think that the First Minister did answer some of these questions during his exchange with the leader of Plaid Cymru this afternoon. But, just to repeat, the stock to which Leanne Wood refers will be phased out early in the new year. They're being kept on the lines at the moment to maintain capacity. And, of course, there are rolling stock across the whole of the UK; this isn't an issue which is particularly confined to Wales. And the First Minister also set out the future proposals in terms of the reduction of fares across Wales as well. 

Llywydd, credaf fod y Prif Weinidog wedi ateb rhai o'r cwestiynau hyn yn ystod ei drafodaeth ag arweinydd Plaid Cymru y prynhawn yma. Ond, i ailadrodd, bydd y stoc y mae Leanne Wood yn cyfeirio ato yn cael ei ddileu'n raddol yn gynnar yn y flwyddyn newydd. Maen nhw'n cael eu cadw ar y cledrau ar hyn o bryd er mwyn cynnal capasiti. Ac wrth gwrs, mae cerbydau ar draws y DU i gyd; nid yw hwn yn fater sydd wedi'i gyfyngu'n benodol i Gymru. A nododd y Prif Weinidog hefyd y cynigion ar gyfer y dyfodol o ran gostwng prisiau tocynnau ar draws Cymru hefyd.

Two issues: first of all, the Wales Audit Office has today published an important report on the roll-out of enhanced primary care, which highlights that change needs to be happening at a greater pace and scale to address all the long-standing challenges, and ensure that primary care services are fit for purpose. Certainly, investment in new buildings sometimes has unintended consequences. In my own constituency, the St David's practice in Pentwyn was awarded a capital grant by the Government to expand its Pontprennau branch to accommodate the growing number of new estates in Cardiff North. But this has led to the Pentwyn surgery, where the most deprived population is living, being redesignated as a branch surgery. So, there's been a superficial strengthening of primary care, which has actually led to a reduced service for those who don't have a vehicle and only have an infrequent bus service. So, I wondered if we could have a debate in Government time to enable us to examine the challenges that we face in primary care, and hear more about what the Government is doing to strengthen primary care, which is so crucial for delivering 'A Healthier Wales'. 

Secondly, I wanted to raise the issue of the fall-out from the demise of Tomlinsons Dairies in Wrexham, because we have learnt in the last 36 hours that farmers were encouraged to transfer to Tomlinsons by Sainsbury's on the grounds that if they didn't transfer to Tomlinsons, they would lose their contracts to supply milk to that supermarket. But a result of which is that they haven't been paid in the last two weeks. I understand that Marks and Spencer has paid suppliers for milk that they have sold, but Sainsbury's has yet to do so. I wondered what the Government can do about this and whether they've entered into any discussions with Sainsbury's on this matter of justice. 

Dau fater: yn gyntaf, mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi cyhoeddi adroddiad pwysig heddiw ar gyflwyno gofal sylfaenol gwell, sy'n tynnu sylw at y ffaith bod angen i newid ddigwydd yn gyflymach ac ar raddfa fwy er mwyn mynd i'r afael â'r holl heriau hir-sefydlog, a sicrhau bod gwasanaethau gofal sylfaenol yn addas at y diben. Yn sicr, mae canlyniadau anfwriadol i fuddsoddi mewn adeiladau newydd weithiau. Yn fy etholaeth i fy hun, dyfarnodd y Llywodraeth grant cyfalaf i bractis Dewi Sant ym Mhentwyn er mwyn ehangu Cangen Pontprennau i ddarparu ar gyfer y nifer cynyddol o ystadau newydd yng Ngogledd Caerdydd. Ond mae hyn wedi golygu bod meddygfa Pentwyn, lle mae'r boblogaeth fwyaf difreintiedig yn byw, yn cael ei hailddynodi fel meddygfa gangen. Felly, mae gofal sylfaenol wedi'i gryfhau'n arwynebol, ac mae hyn mewn gwirionedd wedi arwain at lai o wasanaeth i'r rhai nad oes ganddynt gerbyd a dim ond gwasanaeth bws anfynych sydd ganddynt. Felly, tybed a gawn ni ddadl yn amser y Llywodraeth i'n galluogi ni i archwilio'r heriau sy'n ein hwynebu ym maes gofal sylfaenol, a chlywed mwy am yr hyn y mae'r Llywodraeth yn ei wneud i gryfhau gofal sylfaenol, sydd mor hanfodol er mwyn gwireddu 'Cymru Iachach'.  

Yn ail, roeddwn am godi mater y canlyniadau yn sgil tranc Tomlinsons Dairies yn Wrecsam. Rydym wedi cael ar ddeall yn y 36 awr ddiwethaf fod ffermwyr wedi cael eu hannog i drosglwyddo i Tomlinsons gan Sainsbury's ar y sail os nad oeddent yn trosglwyddo i Tomlinsons, y byddent yn colli eu cytundebau i gyflenwi llaeth i'r archfarchnad honno. Ond o ganlyniad i hynny nid ydynt wedi cael eu talu yn ystod y pythefnos diwethaf. Deallaf fod Marks and Spencer wedi talu cyflenwyr am laeth y maent wedi'i werthu, ond nid yw Sainsbury's wedi gwneud hynny eto. Tybed beth all y Llywodraeth ei wneud ynglŷn â hyn ac a ydynt wedi cynnal unrhyw drafodaethau gyda Sainsbury's ynghylch y mater hwn o gyfiawnder.  

I thank Jenny Rathbone for raising the issues this afternoon. We do welcome the report on primary care services, which has been produced by the Wales office, and that will certainly help inform the wider work that is being undertaken to achieve the vision that we set out in 'A Healthier Wales', where people have access to the care and support that they need, and remain independent for as long as possible. The national director for primary care has established a strategic programme, designed to support the local implementation of the primary care model. And I know that the Minister, Vaughan Gething, made a statement not too long ago on primary care services here in Wales. But I know that he'll be interested to hear particularly about the experiences of your constituents in Pentwyn surgery, so it would be great if you could write to him and set out those particular issues.

On the matter of Tomlinsons Dairies, we have been working closely with Tomlinsons Dairies over the last 18 months to try and help them resolve the ongoing business issues that they're facing. We've now established a taskforce to work directly with the staff affected by the closure, and we're in discussions with farming unions and other stakeholders to consider what support is required at this time. I think it's really positive that M&S has paid the suppliers, and I would hope, certainly, that Sainsbury's will take a similar approach.

Diolch i Jenny Rathbone am godi'r materion hyn y prynhawn yma. Rydym yn croesawu'r adroddiad ar wasanaethau gofal sylfaenol, a gynhyrchwyd gan Swyddfa Cymru, a bydd hynny'n sicr yn helpu i lywio'r gwaith ehangach sy'n cael ei wneud i wireddu'r weledigaeth a nodwyd gennym yn 'Cymru Iachach', lle mae gan bobl fynediad at ofal a chymorth sydd ei angen arnynt, ac yn parhau'n annibynnol gyhyd ag y bo modd. Mae cyfarwyddwr cenedlaethol gofal sylfaenol wedi sefydlu rhaglen strategol, gyda'r nod o gefnogi'r broses o roi'r model gofal sylfaenol ar waith yn lleol. A gwn fod y Gweinidog, Vaughan Gething, wedi gwneud datganiad heb fod yn rhy bell yn ôl ar wasanaethau gofal sylfaenol yma yng Nghymru. Ond rwy'n gwybod y bydd diddordeb ganddo i glywed yn benodol am brofiadau eich etholwyr ym meddygfa Pentwyn, felly byddai'n wych pe gallech ysgrifennu ato a nodi'r materion penodol hynny.

Ar fater Tomlinsons Dairies, rydym wedi bod yn gweithio'n agos gyda Tomlinsons Dairies dros y 18 mis diwethaf i geisio'u helpu i ddatrys y problemau busnes sy'n parhau i'w hwynebu. Rydym bellach wedi sefydlu tasglu i weithio'n uniongyrchol gyda'r staff a effeithir, ac rydym mewn trafodaethau gydag undebau'r ffermwyr a rhanddeiliaid eraill i ystyried pa gymorth sydd ei angen ar hyn o bryd. Rwy'n credu ei bod yn gadarnhaol iawn bod M & S wedi talu'r cyflenwyr, a byddwn yn gobeithio, yn sicr, y bydd Sainsbury's yn mynd ati mewn ffordd debyg.

14:35

Could I identify with the comments in particular about Tomlinsons Dairies, where we had the urgent question last week? And I appreciate the Government has been involved for some considerable period of time with the dairy. But it is imperative and incumbent, I would suggest, on Sainsbury's to live up to their pledge. They directed producers to this dairy. I don't blame the Welsh Government for this, but, by the heavy involvement of Welsh Government, many farmers took that as a green light, if you like, to put their supplies with that particular dairy. And because of economic circumstances, many now face a very bleak couple of weeks, trying to understand how they're going to plug that cashflow. So, if the Welsh Government does feel it is able, in any way, shape or form, to use its contacts at Sainsbury's, that would be hugely appreciated. I appreciate it's a commercial decision, but any activity and action the Welsh Government could bring would be most welcome—I'm assuring you of that.

Could I also seek a statement from the housing Minister, please, in relation to Celestia Homes, just up the way from this building here? Many Members have been lobbied and informed of the very precarious situation that all residents find themselves in in that particular block. In excess of 400 houses have had a fire prevention order served on them, and, in particular, a lot of the work looks as if it was substandard when it was built in 2006-07. I appreciate, again, this is in the field of commercial activity and that it's a dispute between Redrow and other individuals involved in the construction of that particular block, but it would be worth while if the Minister would give a statement forward to Members so that we can understand whether the Welsh Government see themselves having a role at all in being honest broker in this dispute. And importantly, the enforcement of building regulations—. I met residents on Friday, and some of the pictures they showed clearly are at the build stage, and the non-supervision of the implementation of plumbing works, fire prevention measures were not correctly installed—. And it is unbelievable to think that they could have been signed off by building regulation officers from the local authority. I do think that's a really important—[Interruption.] I can hear plenty of people chundering. I've built three or four properties myself, so I do understand a bit about building regs, and the building regs do allow for an impartial person to come in and sign, at every stage, the building works off, so that they meet a satisfactory level. There are, as I said, in excess of 400 residents, just a stone's throw away from this building, who are at their wits' end. And I would be grateful if the Minister could bring a statement forward, to indicate whether the Government is able in any way to act as honest broker. I'm not blaming the Government at all, but there is a role for Government here to assist, I would suggest, along with the local authority—in this case, Cardiff Council.

And the second point I would like to make, if possible, please, is to understand why yesterday's statement was given in a written form on the new loan to Cardiff Airport. Only three weeks ago, I raised it with your good self about the Minister coming forward with a statement after the evidence that was given to the Public Accounts Committee over the continuing involvement of Welsh Government. And to have another loan put on the table, without oral examination from Members in this Chamber, really is disrespectful, I would suggest. This is a considerable sum of money, now taking in excess of £50 million leant to the airport. And the Government can talk all they want about this being on commercial terms, and rates; none of us know what those commercial terms are because, every time we question on these areas, we are told that this is commercial confidentiality and we cannot release that information. Well, if you feel strong enough about it and you feel prepared to stand by it, you should be able to take questions in this Chamber. And looking at the agenda today, there is more than enough time available to the Government to have brought a statement forward. So, I'd be grateful to understand why a written statement and not an oral statement was brought forward, when this substantial sum of money was injected into the airport.

A gaf i uniaethu â'r sylwadau, yn arbennig am Tomlinsons Dairies, lle cawsom y cwestiwn brys yr wythnos diwethaf? Ac rwy'n gwerthfawrogi bod y Llywodraeth wedi bod mewn cysylltiad ers cryn amser gyda'r llaethdy. Ond mae'n hanfodol ac yn ddyletswydd, byddwn yn awgrymu, ar Sainsbury's i gadw at eu haddewid. Cafodd cynhyrchwyr eu cyfeirio at y llaethdy hwn ganddynt. Nid wyf yn beio Llywodraeth Cymru am hyn. Ond, drwy gyfraniad cynhwysfawr Llywodraeth Cymru, roedd llawer o ffermwyr yn cymryd hynny fel golau gwyrdd, os mynnwch chi, i roi eu cyflenwadau gyda'r llaethdy penodol hwnnw. Ac oherwydd amgylchiadau economaidd, mae nifer ohonynt yn wynebu wythnosau llwm iawn erbyn hyn, gan geisio deall sut y maent yn mynd i lenwi'r llif arian hwnnw. Felly, os yw Llywodraeth Cymru yn teimlo y gall, mewn unrhyw ffordd, ddefnyddio'i chysylltiadau yn Sainsbury's, byddai hynny'n cael ei werthfawrogi'n fawr. Rwy'n gwerthfawrogi ei fod yn benderfyniad masnachol, ond byddai unrhyw weithgaredd a chamau y gallai Llywodraeth Cymru eu cyflwyno yn cael eu croesawu'n fawr—rwy'n eich sicrhau chi o hynny.

A gaf i hefyd ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Tai, os gwelwch yn dda, mewn cysylltiad â Chartrefi Celestia, sydd i fyny'r ffordd o'r adeilad hwn? Mae llawer o Aelodau wedi cael eu lobïo a'u hysbysu am y sefyllfa fregus iawn y mae'r holl drigolion yn eu cael eu hunain ynddi yn y bloc penodol hwnnw. Mae dros 400 o dai wedi cael gorchymyn atal tân a gyflwynwyd iddynt, ac yn benodol, mae llawer o'r gwaith yn edrych fel pe bai'n is na'r safon pan gafodd ei adeiladu yn 2006-07. Gwerthfawrogaf, unwaith eto, fod hyn ym maes gweithgarwch masnachol a'i fod yn anghydfod rhwng Redrow ac unigolion eraill sy'n ymwneud ag adeiladu'r bloc penodol hwnnw. Ond byddai'n werth chweil pe bai'r Gweinidog yn rhoi datganiad i'r Aelodau fel y gallwn ddeall a yw Llywodraeth Cymru yn gweld bod ganddi rôl o gwbl i fod yn frocer gonest yn yr anghydfod hwn. Ac yn bwysig, gorfodi rheoliadau adeiladu—. Cyfarfûm â thrigolion ddydd Gwener, ac mae'n amlwg bod rhai o'r lluniau a oedd ganddynt yn y cyfnod adeiladu, a'r diffyg goruchwylio o ran gweithredu gwaith plymio, nad oedd mesurau atal tân wedi'u gosod yn gywir—. Ac mae'n anghredadwy meddwl eu bod wedi cael eu cymeradwyo gan swyddogion rheoliadau adeiladu o'r awdurdod lleol. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn — [torri ar draws.] Dwi'n gallu clywed digon o bobl yn chwerthin. Rwyf wedi adeiladu tri neu bedwar eiddo fy hun, felly rwy'n deall ychydig am reoliadau adeiladu, ac mae'r rheoliadau adeiladu yn caniatáu i berson diduedd ddod i mewn a llofnodi, ar bob cam, fod yr adeilad yn gweithio'n iawn, fel eu bod yn cyrraedd lefel foddhaol. Fel y dywedais, mae mwy na 400 o drigolion, dim ond tafliad carreg i ffwrdd o'r adeilad hwn, sydd ar ben eu tennyn. A byddwn yn ddiolchgar pe byddai modd i'r Gweinidog gyflwyno datganiad, i ddangos a all y Llywodraeth weithredu fel brocer gonest mewn unrhyw ffordd. Nid wyf yn beio'r Llywodraeth o gwbl, ond mae rôl i'r Llywodraeth gynorthwyo, byddwn yn awgrymu, ynghyd â'r awdurdod lleol —yn yr achos hwn, Cyngor Caerdydd.

A'r ail bwynt yr hoffwn ei wneud, os oes modd, os gwelwch yn dda, yw deall pam y rhoddwyd datganiad ddoe ar ffurf ysgrifenedig ar y benthyciad newydd i faes awyr Caerdydd. Dim ond tair wythnos yn ôl, codais y mater gyda chi am i'r Gweinidog gyflwyno datganiad ar ôl y dystiolaeth a roddwyd i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ynglŷn â chyfraniad parhaus Llywodraeth Cymru. Ac mae cael benthyciad arall wedi'i roi ar y bwrdd, heb archwiliad llafar gan Aelodau yn y Siambr hon, yn wirioneddol amharchus, byddwn i'n awgrymu. Mae hwn yn swm sylweddol o arian, sydd bellach yn fwy na £50 miliwn wedi ei fenthyg i'r maes awyr. A gall y Llywodraeth siarad hyd ddydd y Farn ynglŷn â bod hyn ar delerau masnachol, ac ardrethi; ni ŵyr neb ohonom beth yw'r telerau masnachol hynny oherwydd, bob tro y byddwn yn holi am y meysydd hyn, dywedir wrthym mai cyfrinachedd masnachol yw hyn ac nad oes modd rhyddhau'r wybodaeth honno. Wel, os ydych chi'n teimlo'n ddigon cryf am hyn a'ch bod yn teimlo'n barod i lynu wrtho, dylech allu cymryd cwestiynau yn y Siambr hon. Ac wrth edrych ar yr agenda heddiw, mae mwy na digon o amser ar gael i'r Llywodraeth gyflwyno datganiad. Felly, byddwn yn ddiolchgar o gael deall pam y cyflwynwyd datganiad ysgrifenedig ac nid datganiad llafar, pan gafodd y swm sylweddol hwn o arian ei roi i'r maes awyr.

14:40

Well, I note, of course, that you began by associating yourself with the comments that Jenny Rathbone made on Tomlinsons, and the Minister for environment and rural affairs has confirmed that her officials are doing a huge amount of work to try and support the workforce there, and to ensure that—. I think it's around 40 farmers in the supply chain who are on aligned contracts and are yet awaiting payment from Sainsbury's. And I know officials are very much involved in supporting that particular piece of work.

We do have a statement this afternoon on building safety from the Minister for Housing and Local Government, and that is a culmination of some of the work that began in the aftermath of the Grenfell disaster. So, Welsh Government is working very hard with partners on a programme of building safety to ensure that the homes that we build newly, but also the homes that we have here in Wales, are safe. Of course, Members will have specific examples of buildings that they may be interested in within their own constituencies, and I would encourage them to write to the Minister about those specific cases, in addition to listening to what the Minister has to say on building safety in the round this afternoon. 

And, of course, there are ample opportunities to scrutinise Welsh Government on decisions relating to the airport. You referred to the PAC inquiry that has been undertaken. Your leader asked questions on this particular issue this afternoon during leaders' questions. So, it's not as if the Government isn't making itself available for scrutiny on this or any other issue. 

Wel, sylwaf, wrth gwrs, eich bod wedi dechrau drwy gysylltu eich hun â'r sylwadau a wnaeth Jenny Rathbone ar Tomlinsons, ac mae'r Gweinidog Amgylchedd a Materion Gwledig wedi cadarnhau bod ei swyddogion yn gwneud llawer iawn o waith i geisio cefnogi'r gweithlu yno, ac i sicrhau—. Rwy'n credu ei fod o gwmpas 40 o ffermwyr yn y gadwyn gyflenwi sydd ar gontractau wedi'u halinio ac sydd yn parhau i aros am daliad gan Sainsbury's. Ac rwy'n gwybod bod swyddogion yn ymwneud i raddau helaeth â chefnogi'r darn penodol hwnnw o waith.

Mae gennym ddatganiad y prynhawn yma ar ddiogelwch adeiladu gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, ac mae hynny'n benllanw ar rywfaint o'r gwaith a ddechreuodd yn sgil trychineb Grenfell. Felly, mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n galed iawn gyda phartneriaid ar raglen o ddiogelwch adeiladu er mwyn sicrhau bod y cartrefi yr ydym yn eu hadeiladu o'r newydd, ond hefyd y cartrefi sydd gennym yma yng Nghymru, yn ddiogel. Wrth gwrs, bydd gan Aelodau enghreifftiau penodol o adeiladau y gallai fod ganddynt ddiddordeb ynddynt yn eu hetholaethau eu hunain, a byddwn yn eu hannog i ysgrifennu at y Gweinidog am yr achosion penodol hynny, yn ogystal â gwrando ar yr hyn sydd gan y Gweinidog i'w ddweud ar ddiogelwch adeiladu yn y cylch y prynhawn yma.

Ac, wrth gwrs, mae digon o gyfleoedd i graffu ar benderfyniadau Llywodraeth Cymru sy'n ymwneud â'r maes awyr. Cyfeiriasoch at yr ymchwiliad a gynhaliwyd gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus. Gofynnodd eich arweinydd gwestiynau am y mater penodol hwn y prynhawn yma yn ystod cwestiynau arweinwyr. Felly, nid yw fel pe na bai'r Llywodraeth yn sicrhau ei bod ar gael ar gyfer craffu ar y mater hwn neu unrhyw fater arall.

Trefnydd, as the constituency AM, you will be aware of the recent decision by the UK Government to grant development consent for 300 MW gas-fired power station on land at Abergelli, north of Swansea. Now, clearly, the Welsh Government has made a number of policy announcements over recent months that are relevant to this application, none more so than becoming the first Parliament in the world to vote in favour of the declaration of a climate emergency. The Welsh Government has also specifically committed to cross-governmental action on decarbonisation to reach net zero by 2050. Now, the decision by the UK Government to grant development consent for the gas-fired power station at Abergelli, therefore, flies in the face of Welsh Government policy in this area.

We know that the UK Government has already made a number of major infrastructure decisions that have resulted in a significant amount of additional fossil fuel generation being located in Wales, whilst at the same time rejecting renewable energy projects such as the Swansea bay tidal lagoon. Despite developing Wales-specific policy on this front, the current deficit in the devolution settlement means that the UK Government can ride roughshod and simply ignore it, as is the case here in Abergelli. So, will the Welsh Government, therefore, bring forward a statement on the issue of the UK Government ignoring Welsh Government objectives in this way and how it intends to challenge this type of behaviour going forward? 

Trefnydd, fel AC yr etholaeth, byddwch yn ymwybodol o'r penderfyniad diweddar gan Lywodraeth y DU i roi caniatâd datblygu ar gyfer 300 gorsaf bŵer llosgi nwy MW ar dir yn Abergelli, i'r gogledd o Abertawe. Nawr, yn amlwg, mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud nifer o gyhoeddiadau polisi dros y misoedd diwethaf sy'n berthnasol i'r cais hwn, dim mwy felly na bod y Senedd gyntaf yn y byd i bleidleisio o blaid datgan argyfwng hinsawdd. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi ymrwymo'n benodol i weithredu traws-lywodraethol ar ddatgarboneiddio i gyrraedd sero net erbyn 2050. Nawr, mae penderfyniad Llywodraeth y DU i roi caniatâd datblygu ar gyfer yr orsaf bŵer nwy yn Abergelli, felly, yn mynd yn groes i bolisi Llywodraeth Cymru yn y maes hwn.

Rydym yn gwybod bod Llywodraeth y DU eisoes wedi gwneud nifer o benderfyniadau seilwaith mawr sydd wedi arwain at leoli llawer iawn o danwydd ffosil ychwanegol yng Nghymru, tra ar yr un pryd yn gwrthod prosiectau ynni adnewyddadwy fel y morlyn llanw Bae Abertawe. Er gwaethaf datblygu polisi sy'n benodol i Gymru yn y cyswllt hwn, mae'r diffyg presennol yn y setliad datganoli'n golygu y gall Llywodraeth y DU blesio ei hun a'n hanwybyddu ni, fel sy'n wir yma yn Abergelli. Felly, a wnaiff Llywodraeth Cymru gyflwyno datganiad ar y mater bod Llywodraeth y DU yn anwybyddu amcanion Llywodraeth Cymru yn y ffordd hon a sut y mae'n bwriadu herio'r math hwn o ymddygiad wrth symud ymlaen?

As Dai Lloyd says, I'm familiar with the particular case in hand through my constituency role, and I understand that the gas-powered energy facility is a facility that will deal with energy surges, rather than being a full time energy plant, as it were. I'll certainly ask the Minister with responsibility for energy to give some consideration to this particular case, and explore what discussions have been had with the UK Government to ensure that we do have access to reliable energy but also as much renewable energy as is possible. 

Fel y dywed Dai Lloyd, rwy'n gyfarwydd â'r achos penodol sydd ar y gweill drwy fy swyddogaeth yn yr etholaeth, a deallaf fod y cyfleuster ynni a yrrir gan nwy yn gyfleuster a fydd yn ymdrin ag ymchwydd mewn ynni, yn hytrach na bod yn waith ynni llawn amser, fel petai. Byddaf yn sicr yn gofyn i'r Gweinidog sy'n gyfrifol am ynni roi rhywfaint o ystyriaeth i'r achos penodol hwn, ac archwilio pa drafodaethau sydd wedi'u cynnal gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod gennym fynediad at ynni dibynadwy ond hefyd gymaint o ynni adnewyddadwy â phosibl.

Can I call for a single statement on children educated at home? If a child is arrested they cannot be forced to give evidence. So, where a child is at serious risk of harm, a court order is required if the parent declines to consent to the child being interviewed. However, a concern's been raised with me that the Welsh Government's draft statutory guidance for local authorities on home education would mean that children educated at home are to be treated less favourably than children who offend or children at risk, simply on the basis of that home education, should the guidance be implemented. I have been copied in on advice from a QC in Matrix Chambers, Gray's Inn, which says that that draft strategy guidance is unlawful, and I am circulating that to all Members through the internal postal system. The guidance explains that the principles of the United Nations Convention on the Rights of the Child guide how the rights of the child are protected, but the Welsh Government guidance fails to include or recognise the obligations arising under article 14, the rights and duties of parents, or article 16, prohibition of interference with privacy and home. It says that the guidance is unlawful in implying the local authority can insist on discussions with parents and/or children and unlawful in suggesting that a local authority has any role in questioning the parental choice to home educate in circumstances where that education is agreed suitable. And it concludes, overall, if the matters it sets out are adopted in the final guidance following consultation, then that final guidance will misstate or misunderstand the law and so be unlawful and/or lead to illegality by local authorities acting in the light of it. I call for a Welsh Government statement accordingly to ensure that matters don't go forward until these serious legal concerns have been addressed.

A gaf i alw am ddatganiad unigol ar blant sy'n cael eu haddysgu gartref? Os caiff plentyn ei arestio ni ellir ei orfodi i roi tystiolaeth. Felly, pan fo plentyn mewn perygl difrifol o gael ei niweidio, mae angen gorchymyn llys os yw'r rhiant yn gwrthod rhoi caniatâd i'r plentyn gael ei gyfweld. Fodd bynnag, codwyd pryder gyda mi y byddai canllawiau statudol drafft Llywodraeth Cymru ar gyfer awdurdodau lleol ar addysg yn y cartref yn golygu bod plant sy'n cael eu haddysgu gartref yn cael eu trin yn llai ffafriol na phlant sy'n troseddu neu blant sydd mewn perygl, dim ond ar sail yr addysg gartref honno, pe bai'r canllawiau'n cael eu gweithredu. Rwyf wedi cael caniatâd i weld cyngor gan CF ym Matrix Chambers, Gray's Inn, sy'n dweud bod y canllawiau drafft ar y strategaeth yn anghyfreithlon, ac rwy'n dosbarthu hwnnw i bob Aelod drwy'r system bost mewnol. Mae'r canllawiau'n egluro mai egwyddorion Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn sy'n llywio'r modd y diogelir hawliau'r plentyn, ond nid yw canllawiau Llywodraeth Cymru yn cynnwys nac yn cydnabod y rhwymedigaethau sy'n codi o dan erthygl 14, hawliau a dyletswyddau rhieni, neu Erthygl 16, gwahardd ymyrraeth â phreifatrwydd a chartref. Dywed fod y canllawiau'n anghyfreithlon gan awgrymu y gall yr awdurdod lleol fynnu trafodaethau gyda rhieni a/neu blant ac yn anghyfreithlon wrth awgrymu bod gan awdurdod lleol unrhyw swyddogaeth o ran cwestiynu'r dewis sydd gan rieni i'w haddysgu gartref mewn amgylchiadau lle mae hynny wedi ei gytuno a'r addysg yn addas. Ac mae'n dod i'r casgliad, yn gyffredinol, os caiff y materion a nodir eu mabwysiadu yn y canllawiau terfynol ar ôl ymgynghori, y bydd y canllawiau terfynol hynny'n cam-ddatgan neu'n camddeall y gyfraith ac felly'n anghyfreithlon a/neu'n arwain at anghyfreithlondeb gan awdurdodau lleol fydd yn gweithredu yng ngoleuni hynny. Galwaf am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru yn unol â hynny i sicrhau nad yw materion yn mynd rhagddynt hyd nes y bydd y pryderon cyfreithiol difrifol hyn wedi cael sylw.

14:45

Well, consultation on the new home education statutory guidance commenced at the end of July and closed yesterday, but I'm sure that if you write to the Minister with the specific concerns that you've raised in the Chamber this afternoon she'd be pleased to look at them as part of the consideration of the responses to the consultation. 

Wel, dechreuwyd ymgynghori ar y canllawiau statudol newydd ar addysg yn y cartref ddiwedd Gorffennaf gan ddod i ben ddoe. Ond rwy'n siŵr, os ysgrifennwch at y Gweinidog gyda'r pryderon penodol yr ydych wedi eu codi yn y Siambr y prynhawn yma y byddai'n falch o edrych arnynt fel rhan o'r broses o ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad.

First of all, Trefnydd, I appreciate that we have a statement from the Minister for housing this afternoon, and I hope that she does have the opportunity to address those questions raised by Andrew R.T. Davies regarding building regulations—the primary responsibility, of course, being the builders', but also there's a question for the vulnerability of local authorities on their building inspectorates. There is an issue, of course, that breaches of building regulations cease to become actionable after a certain period of time, and I'd be grateful if she could at least make some preliminary comments on that. 

The second—Mark Reckless raised this point earlier on—we've heard recently, this week, from the future generations commissioner with the report 'Education fit for the Future', and, of course, the First Minister mentioned the Youth Parliament report on life skills. Bearing in mind that we have a draft Bill fairly imminent now on the curriculum and also PISA results due out by the end of the year, I wonder if I could ask the education Minister, who explained that she is seeing both the Youth Parliament and the future generations commissioner this week, to bring forward an urgent response to both those reports, which will help us scrutinise her plans in the new year. Thank you. 

Yn gyntaf oll, Trefnydd, gwerthfawrogaf fod gennym ddatganiad gan y Gweinidog Tai y prynhawn yma, a gobeithiaf y bydd yn cael cyfle i fynd i'r afael â'r cwestiynau hynny a godwyd gan Andrew R.T. Davies ynghylch rheoliadau adeiladu—cyfrifoldeb yr adeiladwr yn bennaf wrth gwrs, ond hefyd mae cwestiwn i'r awdurdodau lleol fod yn agored i niwed ar eu harolygiaethau adeiladu. Mae yna broblem, wrth gwrs, fod achosion o dorri rheoliadau adeiladu yn peidio â bod yn weithredol ar ôl cyfnod penodol o amser, a byddwn yn ddiolchgar pe gallai o leiaf wneud rhai sylwadau rhagarweiniol ar hynny.

Yr ail—cododd Mark Reckless y pwynt hwn yn gynharach—clywsom yn ddiweddar, yr wythnos hon, gan gomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol gyda'r adroddiad 'Addysg yn addas i'r Dyfodol', ac wrth gwrs, soniodd y Prif Weinidog am adroddiad y Senedd Ieuenctid ar sgiliau bywyd. O gofio bod gennym Fil drafft ar fin cael ei gyflwyno nawr ar y cwricwlwm a hefyd ganlyniadau PISA erbyn diwedd y flwyddyn, tybed a gaf i ofyn i'r Gweinidog Addysg, a eglurodd ei bod yn gweld y Senedd Ieuenctid a Chomisiwn Cenedlaethau'r Dyfodol yr wythnos hon, gyflwyno ymateb brys i'r ddau adroddiad hynny, a fydd yn ein helpu i graffu ar ei chynlluniau yn y flwyddyn newydd. Diolch.

Building safety is certainly a very complex area. I think we've already had that demonstrated in the contributions from yourself and from Andrew R.T. Davies. And there are many, many partners with different responsibilities, and I think that that is one of the things that the Minister has been seeking to address in terms of having a more coherent look at building safety, and of course we'll hear more about that this afternoon. But, again, if there are specific cases, perhaps a letter to the Minister would be very useful in terms of setting out particular concerns. 

And the education Minister, of course, is here to hear your request for a statement or some other response to the recent reports and ideas that have been set out for us. 

Mae diogelwch adeiladau yn sicr yn faes cymhleth iawn. Rwy'n credu ein bod eisoes wedi clywed hynny'n glir yn y cyfraniadau gennych chi ac Andrew R.T. Davies. Mae llawer iawn o bartneriaid sydd â gwahanol gyfrifoldebau, a chredaf fod hynny'n un o'r pethau y mae'r Gweinidog wedi bod yn ceisio mynd i'r afael ag ef o ran cael golwg fwy cydlynol ar ddiogelwch adeiladau, ac wrth gwrs byddwn yn clywed mwy am hynny'r prynhawn yma. Ond, eto, os oes achosion penodol, efallai y byddai llythyr at y Gweinidog yn ddefnyddiol iawn o ran nodi pryderon penodol.

Ac mae'r Gweinidog Addysg, wrth gwrs, yma i glywed eich cais am ddatganiad neu ryw ymateb arall i'r adroddiadau a'r syniadau diweddar sydd wedi cael eu cyflwyno i ni.

Trefnydd, I recently hosted a charity quiz night—one of my other hats—to raise funds for research into ovarian cancer in Wales. This came about after a constituent case, a constituent whose wife died on the very day she was supposed to start treatment for cancer. She was already at stage 4, due to repeated misdiagnosis earlier on in the stages of cancer, over many months. I had a meeting with my constituent with my colleague Angela Burns as well. She was misdiagnosed at various times with irritable bowel syndrome, other conditions. The point my constituent made was that this is a notoriously difficult cancer to diagnose—one of the most difficult, I think, because it masquerades as many other different conditions earlier on in the cycle. My constituent is calling for more research, more investment, into better ways of diagnosing this, so I wonder if we could have a statement from the Welsh Government on efforts being made by the Welsh Government, with the NHS, to try and improve diagnosis of ovarian cancer. And also could you tell us what support you're giving both to sufferers from this condition and also the families, because it is a very cruel disease that takes people away, often at a young age and with very little warning, actually, certainly in this case. My heart certainly went out to this constituent. So, I wonder if we could have an update from the Government on what can be done in this area. 

Trefnydd, yn ddiweddar, cynhaliais noson gwis elusennol—yn gwisgo un o'm hetiau eraill—i godi arian ar gyfer ymchwil i ganser yr ofari yng Nghymru. Digwyddodd hyn ar ôl achos etholaeth, etholwr y bu farw ei wraig ar yr union ddiwrnod yr oedd i fod dechrau triniaeth ar gyfer canser. Roedd eisoes yng Nghyfnod 4, oherwydd sawl camddiagnosis yn gynharach yng nghyfnodau canser, dros fisoedd lawer. Cefais gyfarfod â'm hetholwr gyda'm cydweithiwr Angela Burns hefyd. Cafodd ddiagnosis anghywir ar adegau amrywiol gyda syndrom coluddyn llidus, cyflyrau eraill. Y pwynt a wnaeth fy etholwr oedd bod hwn yn ganser eithriadol o anodd ei ddiagnosio—un o'r rhai anoddaf, mi gredaf, gan ei fod yn ffugio cynifer o gyflyrau eraill gwahanol yn gynharach yn y cylch. Mae fy etholwr yn galw am fwy o ymchwil, mwy o fuddsoddi, i ffyrdd gwell o gael diagnosis o hyn. Felly tybed a oes modd cael datganiad gan Lywodraeth Cymru ar ymdrechion Llywodraeth Cymru, gyda'r GIG, i geisio gwella'r diagnosis o ganser yr ofari. A hefyd a allech ddweud wrthym pa gefnogaeth yr ydych yn ei rhoi i ddioddefwyr y cyflwr hwn a hefyd i'r teuluoedd, oherwydd mae'n glefyd creulon iawn sy'n cymryd pobl, a hynny'n aml yn ifanc a heb fawr o rybudd, yn sicr yn yr achos hwn. Yn bendant, aeth fy nghalon allan at yr etholwr hwn. Felly, tybed a oes modd cael yr wybodaeth ddiweddaraf gan y Llywodraeth am yr hyn y gellir ei wneud yn y maes hwn?

Thank you, Nick Ramsay. The health Minister was here listening to what you had to say, and he would be happy to write to all Members providing an update on Welsh Government action in this particular area. 

Diolch i chi, Nick Ramsay. Roedd y Gweinidog Iechyd yma yn gwrando ar yr hyn oedd gennych i'w ddweud, a byddai'n fwy na pharod i ysgrifennu at bob Aelod i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gamau gweithredu Llywodraeth Cymru yn y maes penodol hwn.

I've a request for a statement and a debate. I would like to request a Government statement on buildings listed by Cadw. In Swansea East, which I don't think is unusual, we have listed buildings in various degrees of disrepair, which are privately owned but unoccupied, such as Danbert House, which is turning into a ruin, St John's Church on Woodfield Street, which has vegetation growing out of it, and the former Manselton School, which is currently empty. These are causing grave concerns to my constituents and to me.

I would also like to request a debate in Government time, sponsored by the Government, on regional economic policy, identifying support to the four regions of Wales and how wealth can be shared more equally in Wales than it currently is, and how universities, for example, can act as regional economic drivers. Because there are serious concerns in some parts of Wales—I speak for Swansea and west Wales, but I'm sure some people from north Wales and mid Wales would say the same thing—that wealth is not being equally shared out throughout Wales.

Mae gennyf gais am ddatganiad a dadl. Hoffwn ofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth ar adeiladau a restrir gan Cadw. Yn Nwyrain Abertawe, sydd ddim yn anarferol, mae gennym adeiladau rhestredig mewn gwahanol raddau o ddadfeilio, sydd mewn perchnogaeth breifat ond heb eu meddiannu, megis Tŷ Danbert, sy'n troi'n adfail, Eglwys Sant Ioan ar Stryd Woodfield, lle mae llystyfiant yn tyfu allan ohoni, a hen ysgol Manselton, sy'n wag ar hyn o bryd. Mae'r rhain yn peri pryder difrifol i'm hetholwyr ac i mi.

Hoffwn hefyd ofyn am ddadl yn amser y Llywodraeth, a noddir gan y Llywodraeth, ar bolisi economaidd rhanbarthol, gan nodi cefnogaeth i bedwar rhanbarth Cymru a sut y gellir rhannu cyfoeth yn fwy cyfartal yng Nghymru nag y mae ar hyn o bryd, a sut y gall prifysgolion, er enghraifft, weithredu fel sbardunau economaidd rhanbarthol. Oherwydd mae pryderon difrifol mewn rhai rhannau o Gymru—rwyf i'n siarad ar ran Abertawe a'r Gorllewin, ond rwy'n siŵr y byddai rhai pobl o'r Gogledd a'r Canolbarth yn dweud yr un peth— nad yw cyfoeth yn cael ei rannu'n gyfartal ledled Cymru.

14:50

Thank you very much, Mike Hedges. You've certainly articulated some of the concerns that the economy Minister has also articulated, in terms of ensuring that wealth and opportunity are there to grow across Wales and to ensure that all parts of Wales are able to thrive. I know that he will give consideration as to what the best opportunity will be to provide colleagues with an update on his approach to regional economic policy.

Diolch yn fawr iawn, Mike Hedges. Yn sicr, rydych chi wedi mynegi rhai o'r pryderon a fynegwyd gan Weinidog yr Economi hefyd, o ran sicrhau bod y cyfoeth a'r cyfleoedd yno i dyfu ledled Cymru a sicrhau bod pob rhan o Gymru'n gallu ffynnu. Rwy'n gwybod y bydd yn ystyried pryd fydd y cyfle gorau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i gydweithwyr am ei ddull if o weithredu polisi economaidd rhanbarthol.

Cynnig i Atal Rheolau Sefydlog
Motion to Suspend Standing Orders

Nesaf yw'r cynnig i atal Rheolau Sefydlog 12.20(i), 12.22(i) ac 11.16 dros dro er mwyn caniatáu i ddadl ar Brexit sydd wedi'i gosod gael ei hystyried fel yr eitem olaf o fusnes yn y Cyfarfod Llawn heddiw. Dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y cynnig.

Next the motion to suspend Standing Orders 12.20(i), 12.22(i) and 11.16 to allow a debate on Brexit to be considered as the last item of business in Plenary today. I call on the Trefnydd to move the motion.

Cynnig NNDM7169 Rebecca Evans

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:

Yn atal Rheol Sefydlog 12.20(i), 12.22(i) a’r rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM7170 gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn heddiw, 22 Hydref 2019.

Motion NNDM7169 Rebecca Evans

To propose that the National Assembly for Wales, in accordance with Standing Orders 33.6 and 33.8:

Suspends Standing Order 12.20(i), 12.22(i) and that part of Standing Order 11.16 that requires the weekly announcement under Standing Order 11.11 to constitute the timetable for business in Plenary for the following week, to allow NNDM7170 to be considered in Plenary today, 22 October 2019.

Cynigiwyd y cynnig.

Motion moved.

Formally.

Yn ffurfiol.

Y cynnig yw, felly, i atal y Rheolau Sefydlog dros dro. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

The proposal, therefore, is to suspend Standing Orders. Does any Member object? No. The motion is, therefore, agreed in accordance with Standing Order 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Motion agreed in accordance with Standing Order 12.36.

3. Datganiad gan y Prif Weinidog: Diweddariad ar Brexit
3. Statement by the First Minister: Update on Brexit

Felly, mae'r datganiad gan y Prif Weinidog ar ddiweddariad ar Brexit wedi ei dynnu yn ôl.

Therefore, the statement by the First Minister on a Brexit update is withdrawn.

4. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: 'Pwysau Iach: Cymru Iach'
4. Statement by the Minister for Health and Social Services: 'Healthy Weight: Healthy Wales'

Felly, rydym ni'n cyrraedd eitem 4, sef y datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar 'Pwysau Iach: Cymru Iach'. Dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud ei ddatganiad—Vaughan Gething.

Therefore, we move to item 4, which is a statement by the Minister for Health and Social Services on 'Healthy Weight: Healthy Wales'. I call on the Minister to make the statement—Vaughan Gething.

Diolch, Llywydd. Last week I was delighted to launch 'Healthy Weight: Healthy Wales', our 10-year strategy to help prevent and reduce obesity. This sets a clear path for a long-term approach that makes use of the five ways of working set out in the future generations Act as key components to deliver an approach that will have far-reaching impacts for the future health of the population.

Obesity is a complex issue, with many contributing factors acting at an individual, community and global level. We are at a point in time where the UK already has one of the highest levels of obesity in western Europe. We start from a position where over 60 per cent of our adult population are either overweight or obese, and that has become a normalised state, with around 27 per cent of our four- and five-year-old children starting school each year who are already overweight or obese.

The burden of obesity is felt hardest in our least affluent communities, and there are significant impacts upon life expectancy as we see worrying trends around links to type 2 diabetes, cancers, heart conditions and many other conditions associated with diet and an inactive lifestyle. We know that obesity can also have a significant impact on our mental health. In many cases that tracks from a young age to having lifelong consequences.

The final strategy is a culmination of the views of our stakeholders, international evidence and research. When I stood before you to launch the consultation, I was grateful for the large measure of cross-party support and the understanding of the significance of this as an issue. Since then, we've held far-reaching consultation, which included conversations with over 1,000 people across Wales. There is strong support for the proposals that we have set out in the strategy, together with energy and backing within our communities to support positive lifestyle change. I want to ensure that our strategy unlocks that potential.

Our strategy sets out a 10-year vision to help us all to make the healthy choice the easy choice. Our aim is to achieve these changes by 2030. We want future generations to live in environments where the healthy choice is the norm, where physical activity is part of everyday life, encouraged and supported by working in partnership with local government, education and transport, where Wales’s natural beauty is taken advantage of and our food choices are nutritious and affordable. I want to close the health inequalities gap and, in particular, I want to focus and target support for children and families.

Diolch, Llywydd. Yr wythnos diwethaf, pleser oedd cael lansio 'Pwysau Iach: Cymru Iach', sef ein strategaeth 10 mlynedd i helpu i atal a lleihau gordewdra. Mae'r strategaeth hon yn nodi llwybr clir ar gyfer dull hirdymor sy'n gwneud defnydd o'r pum ffordd o weithio a nodir yn Neddf Cenedlaethau'r Dyfodol fel elfennau allweddol i wireddu dull a fydd yn cael effeithiau pellgyrhaeddol ar iechyd y boblogaeth i'r dyfodol.

Mae gordewdra yn fater cymhleth, gyda llawer o ffactorau'n cyfrannu ar lefel ar unigolion, cymunedau ac yn fyd-eang. Rydym mewn cyfnod o amser yn y DU sy'n gweld y cyfraddau uchaf o ordewdra yng ngorllewin Ewrop. Rydym yn cychwyn o sefyllfa lle mae dros 60 y cant o'n poblogaeth oedolion naill ai dros bwysau neu'n ordew, ac mae hynny wedi mynd yn beth normal, gyda thua 27 y cant o'n plant pedair a phump oed yn dechrau'r ysgol bob blwyddyn eisoes yn rhy drwm neu'n ordew.

Caiff baich gordewdra ei deimlo fwyaf yn ein cymunedau lleiaf ariannog ni, a cheir effeithiau sylweddol ar ddisgwyliad oes gan ein bod ni'n gweld tueddiadau pryderus o ran y cysylltiadau â diabetes math 2, canserau, cyflyrau'r galon a llawer o gyflyrau eraill sy'n gysylltiedig â deiet a ffordd o fyw anactif. Rydym ni'n gwybod y gall gordewdra gael effaith sylweddol hefyd ar iechyd meddwl. Mewn llawer o achosion mae hynny'n cael ei gofnodi o oedran ifanc hyd at ganlyniadau gydol oes.

Mae'r strategaeth derfynol yn benllanw ar farn ein rhanddeiliaid, tystiolaeth ryngwladol ac ymchwil. Pan sefais i o'ch blaen chi i lansio'r ymgynghoriad, roeddwn i'n ddiolchgar iawn am y gefnogaeth drawsbleidiol a'r ddealltwriaeth o arwyddocâd hyn fel mater o bwys. Ers hynny, cynhaliwyd ymgynghoriad pellgyrhaeddol, a oedd yn cynnwys sgyrsiau gyda dros 1,000 o bobl ledled Cymru. Ceir cefnogaeth gref i'r cynigion a nodwyd yn y strategaeth, ynghyd ag egni a chefnogaeth yn ein cymunedau i gefnogi newid cadarnhaol o ran ffordd o fyw. Rwy'n awyddus i sicrhau y bydd ein strategaeth ni'n datgloi'r potensial hwnnw.

Mae ein strategaeth yn nodi gweledigaeth 10 mlynedd i'n helpu ni i gyd i wneud y dewis iach yn ddewis hawdd. Ein nod ni yw cyflawni'r newidiadau hyn erbyn 2030. Rydym eisiau gweld cenedlaethau'r dyfodol yn byw mewn amgylcheddau lle mae'r dewis iach yn ddewis arferol, lle mae gweithgarwch corfforol yn rhan o fywyd bob dydd ac yn cael ei annog a'i gefnogi drwy weithio mewn partneriaeth â llywodraeth leol, addysg a thrafnidiaeth, lle mae elwa o harddwch naturiol Cymru a lle mae ein dewisiadau ni o fwydydd yn faethlon ac yn fforddiadwy. Rwy'n awyddus i gau bwlch anghydraddoldebau iechyd ac, yn benodol, rwy'n awyddus i ganolbwyntio a thargedu cymorth i blant a theuluoedd.

14:55

Daeth Suzy Davies i’r Gadair.

Suzy Davies took the Chair.

Taking the approach of 'A Healthier Wales', this is the first time that the Welsh Government has adopted a co-ordinated approach to tackling obesity. The range of cross-Government action highlights how existing programmes and approaches can work in tandem to promote and enable positive change. This includes how interventions in areas like transport, planning, early years, education, communities and health services can be brought together to enable even greater opportunities for people to change behaviours. 

The four themes of the strategy are: healthy environments, healthy settings, healthy people, and leadership and enabling change. They illustrate the system-wide approach that will be required to tackle obesity, recognising that the environment influences our everyday choices. Over generations, we have evolved the environment into one that places a focus on convenience over health. We'll develop and scale approaches to reverse the current imbalance placed towards unhealthy food choices, and ensure that our active environment can help to make good physical activity choices.

Our focus upon the environment will be coupled with approaches through behavioural change. This will develop a range of actions to enable prevention and early intervention support for people, which will focus upon providing the right information, advice or provision at the right time. We'll also develop an equitable and accessible clinical obesity pathway across Wales, which will put in place a range of specialist services for those who require the most specialist support.

But obesity cannot be solved by the Government or NHS working in isolation. Our systems-based approach should help to develop leadership across all levels. This is on the basis of collective responsibility and drawing upon the strengths and assets of a particular community. We'll underpin this approach through the development of dynamic data, evaluation and strong communication.

Now, I have previously stated that we will not set superficial targets and that the strategy is focused on delivering outcomes. To supplement the strategy, we'll publish an outcomes framework in the new year, which will help us to monitor and track change. We've begun to explore new data sources to develop this work. This will provide us with a range of indicators that are linked to behavioural change.

Accompanying the strategy will be a series of two-yearly delivery plans, which will span its lifetime. The first delivery plan will be from 2020 to 2022, and it will provide detail of the initial priority areas that we will take forward. I will chair a newly-established implementation board later this year to agree these priorities and establish how to utilise and maximise existing resources, policies and programmes to achieve an integrated approach. Over the next two years, we will begin to develop policy and legislation, and I will make funding available to help achieve our aims. This will allow us to put a greater focus, together with partners, on prevention and early intervention through all systems as part of our approach to building a healthier Wales. The strategy will help to ensure that we can leverage and maximise additional funding and opportunities to drive changes across partners, to see a shift in how we use spend towards prevention. 

Of course, we have to take into consideration the impact of Brexit. Whilst I intend to announce funding approaches to influence positive health impacts across our population, the uncertainty over funding is unavoidable in the current climate. If we leave the European Union, especially a crash-out 'no deal' Brexit, then we will have many hard and unpleasant choices to make. There is no evidence to suggest there will be an overall shortage of food. However, a 'no deal' Brexit is likely to lead to a reduction in the choices and availability of some foods, especially fresh fruit and vegetables that we regularly import from the European Union. As a consequence, it is likely that costs for these foods will rise, and that will impact disproportionately upon families on the lowest incomes. We will need to consider and reflect the impact that Brexit would have on the delivery of this strategy.

I continue to welcome cross-party support and challenge to ensure that we can achieve shared ambitions and forward-thinking aims. I welcome continued support and engagement with other parties and the wider public to ensure that we can deliver an approach that will make a significant difference for the health of our population.

Gan gymryd agwedd 'Cymru Iachach', dyma'r tro cyntaf i Lywodraeth Cymru fabwysiadu dull cydgysylltiedig o fynd i'r afael â gordewdra. Mae'r ystod o gamau traws-lywodraethol yn dangos sut y gall rhaglenni a'r dulliau gweithredu presennol weithio ar y cyd i hyrwyddo a hwyluso newid cadarnhaol. Mae hyn yn cynnwys sut y gellir cyflwyno ymyriadau mewn meysydd fel trafnidiaeth, cynllunio, y blynyddoedd cynnar, addysg, cymunedau a gwasanaethau iechyd at ei gilydd i alluogi pobl i newid eu harferion yn fwy byth.

Pedair thema'r strategaeth yw: amgylcheddau iach, lleoliadau iach, pobl iach, ac arweinyddiaeth a galluogi newid. Mae'r rhain yn dangos y dull system-gyfan y bydd ei angen i fynd i'r afael â gordewdra, gan gydnabod bod yr amgylchedd yn dylanwadu ar ein dewisiadau bob dydd. Dros y cenedlaethau, rydym wedi datblygu'r amgylchedd i fod yn un sy'n canolbwyntio ar gyfleustra yn hytrach nag ar iechyd. Byddwn yn datblygu ac yn cynyddu dulliau o wrthdroi'r anghydbwysedd presennol a roddir ar ddewisiadau o fwyd gwael, ac yn sicrhau y gall ein hamgylchedd gweithredol ni helpu i wneud dewisiadau da o ran gweithgarwch corfforol.

Bydd y ffocws hwn ar yr amgylchedd yn cael ei gyplysu â dulliau o weithredu sy'n ymwneud ag ymddygiad. Bydd hyn yn datblygu ystod o gamau i alluogi cymorth ataliol ac ymyrraeth gynnar i bobl, a fydd yn canolbwyntio ar ddarparu'r wybodaeth, y cyngor neu'r ddarpariaeth gywir ar yr amser priodol. Fe fyddwn ni hefyd yn datblygu llwybr gordewdra clinigol teg a hygyrch ledled Cymru, a fydd yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau arbenigol i'r rheini sydd angen y cymorth mwyaf arbenigol

Ond ni all y Llywodraeth na'r GIG ddatrys gordewdra ar eu pennau eu hunain. Fe ddylai ein dull ni o weithredu ar sail systemau helpu i ddatblygu arweinyddiaeth ar bob lefel. Mae hyn yn seiliedig ar gydgyfrifoldeb, gan ddefnyddio cryfderau ac asedau cymuned benodol. Caiff hyn ei ategu drwy ddatblygu data deinamig, gwerthuso a chyfathrebu cadarn.

Nawr, rwyf wedi datgan o'r blaen na fyddwn ni'n pennu nodau arwynebol a bod y strategaeth yn canolbwyntio ar gyflawni canlyniadau. I ategu'r strategaeth, byddwn yn cyhoeddi fframwaith canlyniadau yn y flwyddyn newydd, a fydd yn ein helpu ni i fonitro a chofnodi newid. Rydym wedi dechrau archwilio ffynonellau newydd o ddata i ddatblygu'r gwaith hwn. Fe fydd hyn yn rhoi amrywiaeth o ddangosyddion inni sy'n gysylltiedig â newid ymddygiad.

I gyd-fynd â'r strategaeth, fe fydd yna gyfres o gynlluniau cyflawni bob dwy flynedd, a fydd yn cwmpasu cyfnod y strategaeth. Fe fydd y cynllun cyflawni cyntaf rhwng 2020 a 2022, ac fe fydd hwn yn rhoi manylion y meysydd blaenoriaeth cychwynnol y byddwn ni'n eu datblygu. Fe fyddaf i'n cadeirio bwrdd gweithredu newydd yn ddiweddarach eleni i gytuno ar y blaenoriaethau hyn ac i sefydlu sut i ddefnyddio a manteisio i'r eithaf ar yr adnoddau, y polisïau a'r rhaglenni presennol i sicrhau dull integredig o weithredu. Dros y ddwy flynedd nesaf, fe fyddwn ni'n dechrau datblygu polisi a deddfwriaeth, ac fe fyddaf i'n sicrhau bod cyllid ar gael i helpu i gyflawni ein nodau ni. Bydd hyn yn ein galluogi ni, ynghyd â phartneriaid, i ganolbwyntio mwy ar atal ac ymyrryd yn gynnar drwy bob system fel rhan o'n dull ni o adeiladu Cymru sy'n iachach. Fe fydd y strategaeth yn helpu i sicrhau y gallwn ysgogi a gwneud yn fawr o gyllid ychwanegol a chyfleoedd i hybu newidiadau ymysg partneriaid, i weld newid yn y ffordd yr ydym ni'n defnyddio'r gwariant i ganolbwyntio mwy ar atal.

Wrth gwrs, fe fydd yn rhaid inni ystyried effaith Brexit. Er fy mod i'n bwriadu cyhoeddi dulliau ariannu i ddylanwadu ar effeithiau cadarnhaol ar iechyd ar draws ein poblogaeth ni, nid oes modd osgoi'r ansicrwydd ynghylch cyllid yn yr hinsawdd sydd ohoni. Os byddwn ni'n ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, yn enwedig yn achos Brexit 'heb gytundeb', yna fe fydd gennym lawer o ddewisiadau anodd ac annymunol i'w gwneud. Nid oes unrhyw dystiolaeth i awgrymu y bydd prinder bwyd yn gyffredinol. Serch hynny, mae Brexit 'heb gytundeb' yn debygol o arwain at leihad yn y dewis o fwyd a'r bwyd fydd ar gael, yn enwedig y ffrwythau a'r llysiau ffres yr ydym yn eu mewnforio'n rheolaidd o'r Undeb Ewropeaidd. O ganlyniad, mae'n debygol y bydd costau'r bwydydd hyn yn codi, ac fe fydd hynny'n effeithio'n anghymesur ar deuluoedd incwm isel. Fe fydd angen inni ystyried ac adlewyrchu'r effaith y byddai Brexit yn ei chael ar gyflawni'r strategaeth hon.

Rwy'n parhau i groesawu cefnogaeth a herio trawsbleidiol i sicrhau y gallwn ni gyflawni'r uchelgeisiau a'r nodau blaengar a rannwn. Rwy'n croesawu cefnogaeth ac ymgysylltiad parhaus â phleidiau eraill ac â'r cyhoedd i sicrhau y gallwn gyflwyno dull o weithredu a fydd yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i iechyd ein poblogaeth ni.

Diolch, Weinidog. Angela Burns. 

Thank you, Minister. Angela Burns. 

Thank you very much, acting Deputy Presiding Officer. Thank you very much for the statement today, Minister. There's much in it to agree with, although I will have to just say that I thought your end paragraph about Brexit was utterly ridiculous in this particular context. Yes, we will have challenges no matter what happens, in or out, but the situation we have today is a current situation that has been evolving over the last decades, decades when your Government have been responsible for trying to help to solve this issue. To suddenly land the end of your statement with an 'Oh, woe is me; this is all down to Brexit', I think, is ridiculous.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd dros dro. Diolch yn fawr iawn am y datganiad heddiw, Gweinidog. Mae llawer ynddo i gytuno arno, er ei bod yn rhaid i mi ddweud fy mod i o'r farn fod eich paragraff olaf ynglŷn â Brexit yn gwbl chwerthinllyd yn y cyd-destun penodol hwn. Bydd, fe fydd yna heriau inni waeth beth fydd yn digwydd, wrth aros neu wrth ymadael, ond mae'r sefyllfa sydd gennym ni heddiw yn sefyllfa gyfredol sydd wedi bod yn esblygu dros y degawdau diwethaf, degawdau pan oedd eich Llywodraeth chi'n gyfrifol am geisio helpu i ddatrys y mater hwn. Mae gorffen eich datganiad drwy ddweud 'Gwae ni; Brexit sydd ar fai am bopeth', yn gwbl hurt, yn fy marn i.

There are some very good points that you make in this, but I would like to make a couple of my own. The first is that at no point in this document do you actually follow a line that says that people have a personal responsibility. And I can say this as someone who's had more than her fair share of ill health over the last few years, and I am no sylph, regrettably, but I am fully aware that in order to get truly well, I have to take myself in hand. We all know that. We don't smoke, we need to have more exercise, and we need to control what we eat. And in your statement, there's very little reference to that; it's all about what you can do, communities can do, GPs can do. But I ldo think that somewhere along here there needs to be a slight call to action on the public, that we also try to do our bit to control what we weigh and understand what impact not controlling what we eat is going to have on our long-term health outcomes. It's an honesty agenda, and we are very, very scared at times, I think, of being quite straightforward with people.

You talk a lot about prevention, and I think there is an awful lot of very good prevention work going on, and particularly in schools through the healthy eating initiatives. But of course, being a healthy weight isn't just about what you put in your mouth; it is about the exercise that you take and your attitudes to the way you go out and live your life. And I wondered if you can clarify for us what discussions you have had with the Minister for Education about increasing the amount of time that children have within their school day to spend on sports, because over the last decade, the amount of time that children have had in the playground—and I've done the FOIs, I've had all the answers back—has slowly been reducing. There may have been a step change in the last year, because I haven't checked in the last year, but it needs more than just an extra five minutes a day or five minutes a week. So, what discussions have you had, particularly at primary age, on ensuring that young people have that opportunity to really have inculcated into them the desire to go out and be fitter and just to enjoy it? They don't even know it's exercise, they're just playing, they're having fun. Education is absolutely key.

The food environment comments, I think, are extremely important. I think there is a real argument for widening the advertising exclusion zone around schools and to work closely with Sport Wales.

Your whole statement is called 'Healthy Weight: Healthy Wales'. I understand it's driving on the obesity agenda, but I couldn't stand here and not mention the fact that, particularly for our young teenagers, underweight is also a massive issue. So, I would like to ask you what steps you're taking as a Government to ensure that when promoting this agenda, what we're actually saying is, 'Let's get the right weight.' Because we have, especially our young girls, an awful lot of them who just do not eat appropriately because they are terrified of being too fat or they feel they should be following some norm that's been pushed by some celebrity. And on Instagram, I couldn't agree with you more, Minister for Education; I think Instagram is one of the great ills of the world.

On the active environment, I'm so glad to see that the Minister for housing is also here because, actually, again, in the planning, I'd like to ask you to go through what discussions you've had about how we can use the planning system to increase our recreational and sports ability and play ability in our new housing developments. Because, again, we've been through this in the past where developers have said, 'Oh, well, we've got x metres of green space', but actually it turns out to be the green grass along the sides of the pavement. That is not a sports facility where kids can play. And the other thing that developers do not do is they don't recognise the fact that parents actually quite like to have the play area where parents can see it, so that they know that their kids are safe. So, they put the play area on the other side of the village lane, away from all the houses. We want them in the middle of the houses. It's very old-fashioned, but you can look out of your window, you can see your child, your child's outside having fun and having that play. All of those small things help to contribute towards having a healthier life.

I do just want to very quickly, though, mention a couple of very good programmes that have been running. There's a fabulous one—and I'm going to get this wrong; no, it is right, it's been written down about three times—Man versus Fat. This is for men, middle aged, a bit too wide, and they go out and they play football. There is a big programme, it's running in the National Assembly, and people are losing weight by the droves. That's the kind of thing we need to be encouraging people. Middle-aged women like me, I don't want to go to a gym and face off with a gym bunny in Lycra. No, thank you. I'd much rather we come up with programmes and it's about getting the adults out there—they'll get fitter, the kids will get fitter, but it's about targeting it.

There's a fabulous programme running in London. It's called 'Mind, Exercise, Nutrition...Do it!', MEND. It's a programme that's aimed specifically at seven to 13-year-olds who are very obese, and again, it's had great successes. Minister, can you tell us what you've done to look at other initiatives that have already been proven? I saw in your programme, which I've read today, that, again, you're talking about finding best practice and making it happen throughout the whole of Wales. If you can just give us some of that information, that would be very helpful.

And, before I'm booted off the floor, may I just add about the funding? It comes back to my point about Brexit. Actually, this is a really serious issue about making us all slimmer, fitter and healthier. The saving to the NHS in the long term would be immense, and even more important, the saving to the individual. And it is within your power; you get over £16 billion a year as a Government. We're not talking big bucks, but you can spend a little bit of that money in helping local authorities to keep their gym facilities open, open their swimming pools, keep their bowling greens going, keep all their green spaces and allow them to have play equipment that can be looked after and maintained so that people actually have a great environment to go out there and to try and be fit.

Rydych chi'n gwneud rhai pwyntiau da iawn yn hyn o beth, ond fe hoffwn i wneud un neu ddau fy hun. Y cyntaf yw nad ydych chi mewn gwirionedd, ar unrhyw adeg yn y ddogfen hon, yn mynd ar drywydd y ffaith fod gan bobl gyfrifoldeb personol. Ac os caf i ddweud hyn fel un sydd wedi cael mwy na'i siâr o salwch dros y blynyddoedd diwethaf, ac nid wyf innau'n fain o gorff, ysywaeth, ond rwy'n gwbl ymwybodol fod yn rhaid imi gymryd y cyfrifoldeb am hynny fy hunan er mwyn bod yn wirioneddol iach. Mae pawb yn gwybod hynny. Nid ydym yn ysmygu, mae angen gwneud mwy o ymarfer corff, ac mae angen rheoli'r hyn yr ydym yn ei fwyta. Ac yn eich datganiad, ychydig iawn o gyfeirio a geir at hynny; mae'n ymwneud â'r hyn y gallwch chi ei wneud, y gall cymunedau ei wneud, ac y call meddygon teulu ei wneud. Ond yn fy marn i, yn rhywle fan hyn mae angen ychydig o alw ar y cyhoedd i weithredu, ein bod ninnau hefyd yn ceisio gwneud ein rhan i reoli ein pwysau a deall pa effaith y mae peidio â rheoli'r hyn yr ydym ni'n ei fwyta yn ei chael ar ganlyniadau iechyd hirdymor. Agenda gonestrwydd yw hon, ac mae arnom ofn mawr iawn weithiau, yn fy marn i, i siarad gyda phobl yn ddi-flewyn ar dafod.

Rydych chi'n sôn llawer am atal, ac rwy'n credu bod llawer iawn o waith da iawn yn digwydd o ran atal, ac yn enwedig mewn ysgolion drwy'r mentrau bwyta'n iach. Ond wrth gwrs, nid yw bod o bwysau iach yn ymwneud yn unig â'r hyn y byddwch chi'n ei roi yn eich ceg; mae'n ymwneud â'r ymarfer corff a wnewch chi a'ch agwedd chi tuag at y ffordd yr ydych chi'n mynd o gwmpas byw eich bywyd. Tybed a wnewch chi egluro inni pa drafodaethau yr ydych chi wedi eu cael gyda'r Gweinidog Addysg ynghylch cynyddu'r amser a gaiff plant yn ystod eu diwrnod ysgol i gymryd rhan mewn chwaraeon, oherwydd dros y degawd diwethaf, mae'r amser y mae plant yn ei gael ar yr iard yn chwarae—ac rwyf i wedi gwneud y ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth, rwyf i wedi cael yr holl atebion yn ôl—wedi bod yn gostwng yn araf. Efallai fod newid sylweddol wedi bod yn y flwyddyn ddiwethaf, oherwydd nid wyf wedi edrych ar wybodaeth y flwyddyn ddiwethaf, ond mae angen mwy o amser na dim ond pum munud y dydd neu bum munud yr wythnos yn ychwanegol. Felly, pa drafodaethau a gawsoch chi, yn enwedig o ran yr oedran cynradd, ynghylch sicrhau bod plant yn cael y cyfle i ennyn yr awydd hwnnw i fynd allan a bod yn fwy heini a mwynhau'r cyfan? Nid ydyn nhw'n ystyried hynny fel ymarfer corff, ond chwarae y maen nhw, cael sbort y maen nhw. Mae addysg yn gwbl allweddol.

Rwy'n credu bod y sylwadau ar amgylchedd bwyd yn bwysig dros ben. Rwy'n credu bod yna ddadl wirioneddol dros ehangu'r parth gwahardd hysbysebion o amgylch ysgolion a chydweithio yn agos â Chwaraeon Cymru.

Yr enw sydd ar eich datganiad yn ei gyfanrwydd yw 'Pwysau Iach: Cymru Iach'. Rwy'n deall mai arwain ar agenda gordewdra y mae hyn, ond ni allaf i sefyll yn y fan hon heb grybwyll y ffaith, yn enwedig i bobl ifanc yn eu harddegau, fod bod dan bwysau yn broblem enfawr hefyd. Felly, fe hoffwn i ofyn ichi pa gamau yr ydych chi'n eu cymryd yn y Llywodraeth i sicrhau, wrth hyrwyddo'r agenda hon, mai'r hyn yr ydym ni'n ei ddweud mewn gwirionedd yw, 'Gadewch inni gael y pwysau'n iawn.' Oherwydd mae gennym ni, yn enwedig ein merched ifanc, lawer iawn ohonyn nhw nad ydyn nhw'n bwyta'n iawn gan eu bod yn arswydo rhag bod yn rhy dew neu'n teimlo y dylen nhw fod yn dilyn rhyw batrwm sydd wedi cael ei wthio gan rywun enwog. Ac ar Instagram, ni allaf i gytuno mwy â chi, Gweinidog Addysg; rwyf i o'r farn mai Instagram yw un o ddrygau mawr y byd.

O ran yr amgylchedd egnïol, rwy'n falch tu hwnt o weld bod y Gweinidog Tai yma hefyd oherwydd, mewn gwirionedd, unwaith eto, yn y cynllunio, hoffwn i ofyn ichi restru pa drafodaethau yr ydych chi wedi eu cael ynglŷn â'r ffordd y gallwn ni ddefnyddio'r system gynllunio i gynyddu ein gweithgareddau hamdden a chwaraeon a'n gallu i chwarae yn y datblygiadau tai newydd. Oherwydd, unwaith eto, rydym wedi bod drwy hyn yn y gorffennol lle mae datblygwyr wedi dweud, 'O, wel, mae gennym ni hyn a hyn o fetrau o ofod gwyrdd', ond mewn gwirionedd y cyfan sydd yno yw'r clytiau o laswellt wrth ymyl palmentydd. Nid yw'n gyfleuster chwaraeon lle gall plant chwarae. A'r peth arall o ran y datblygwyr, maen nhw'n gwrthod cydnabod y ffaith bod rhieni mewn gwirionedd yn hoffi cael lle chwarae sydd o fewn eu golwg, fel eu bod nhw'n gwybod bod eu plant yn ddiogel. Felly, maen nhw'n rhoi'r cae chwarae ym mhen arall y pentref, ymhell oddi wrth y tai. Rydym ni eisiau eu gweld nhw yng nghanol y tai. Mae'n beth hen ffasiwn iawn, ond gallwch edrych allan trwy'r ffenestr, a gallwch weld eich plentyn y tu allan yn cael hwyl ac yn cael cyfle i chwarae. Mae'r pethau bychain hyn yn helpu i gyfrannu at fywyd iachach.

Ond fe hoffwn i sôn yn gyflym iawn am rai rhaglenni da iawn sydd wedi bod ar waith. Mae yna un rhaglen ragorol—ac rwy'n mynd i ddweud hyn yn anghywir; nac ydw, mae'n iawn, rwyf wedi ei ysgrifennu tua thair gwaith—Dyn yn Erbyn Braster. Rhaglen ar gyfer dynion  sy'n ganol oed, ychydig yn rhy drwm, ac maen nhw'n mynd allan ac maen nhw'n chwarae pêl-droed. Mae yna raglen fawr, mae'n digwydd yn y Cynulliad Cenedlaethol, ac mae pobl ddi-ri yn colli pwysau. Dyna'r math o beth y mae eisiau inni fod yn annog pobl i'w wneud. I fenywod canol oed fel fi, nid wyf i'n awyddus i fynd i gampfa a chystadlu â geneth ifanc fain yn ei Lycra. Dim diolch. Byddai'n well gen i weld rhaglenni'n cael eu cyflwyno i ddenu oedolion allan yno—a byddan nhw'n magu ffitrwydd, bydd y plant yn magu ffitrwydd, mae'n ymwneud â thargedu.

Mae yna raglen benigamp ar waith yn Llundain. Fe'i gelwir yn 'Mind, Exercise, Nutrition...Do it!', MEND. Rhaglen yw hon sydd wedi ei hanelu'n benodol at blant 7 i 13 oed sy'n ordew iawn, ac unwaith eto, mae hon wedi bod yn llwyddianus iawn. Gweinidog, a wnewch chi ddweud wrthym ni beth ydych chi wedi ei wneud i edrych ar fentrau eraill sydd wedi cael eu profi eisoes? Fe welais i yn eich rhaglen, a ddarllenais heddiw, eich bod chi, unwaith eto, yn sôn am ddod o hyd i'r arfer gorau a gwneud i hynny ddigwydd drwy Gymru gyfan. Pe gallech chi roi ychydig o'r wybodaeth honno inni, byddai'n ddefnyddiol iawn.

A chyn imi gael fy nghicio oddi ar y llawr, a gaf i ychwanegu ychydig am y cyllid? Mae hyn yn mynd â ni yn ôl i'r pwynt a wnes i am Brexit. Yn wir, mae hwn yn fater difrifol ynglŷn â gwneud pob un ohonom ni'n fwy main, yn fwy heini ac yn fwy iach. Byddai'r arbediad i'r GIG yn yr hirdymor yn aruthrol ac, yn bwysicach, yr arbediad i'r unigolyn. Ac mae hyn o fewn eich gallu chi; rydych chi'n cael dros £16 biliwn y flwyddyn fel Llywodraeth. Nid ydym yn sôn am arian mawr, ond fe allech chi wario ychydig o hynny ar helpu awdurdodau lleol i gadw eu cyfleusterau ymarfer corff ar agor, eu pyllau nofio ar agor, i gynnal eu lawntiau bowlio, a chadw eu holl fannau gwyrdd a chaniatáu iddyn nhw gael cyfarpar chwarae y gellir ei gynnal a'i gadw fel y bydd gan bobl amgylchedd ardderchog i fynd allan iddo a cheisio cadw'n heini.

15:05

Thank you for the range of comments and questions. I'll deal, to start off, with your point about Brexit. I've never said, either in launching the consultation or in the statement that I made today, that the challenge that we face in terms of combating and reducing obesity as a society is only the result of Brexit—far from it. The point that I make is an unavoidable one, that the scale of our challenge is made harder because of the reality of what Brexit would do. And don't take my word for it; there are many representatives of your own party who recognise the economic impact of leaving on the currently proposed deal. That would have an impact. We know that's true. If we have less fresh fruit and veg available and what we have costs more, we know that will have an impact too. And that's part of being honest. That's part of the honesty that is required, but I certainly don't deny that even if Brexit were not happening, we would still need to look again at what we are doing in this area, because our population figures and the reality of the impact of this issue is not something that we could or should avoid. And that's why we have the strategy.

We start by looking at how we empower and enable people, the assets that exist within people and in their communities. Because, at the outset of this consultation, I did try to point out that I recognise that sometimes, this can be a difficult debate to have. If you wag your finger at people and say, 'You must do better', that doesn't always work, it often puts people off. So, there's something about how you empower and encourage people, because most people actually do want to make a change, and the challenge is how we can support them into a place where they can make that change an effective one. And that is partly about the message of some responsibility for self, but how that is provided is really important and not straightforward, because that can easily turn into a very harsh and unkind debate. And, at the times that we're in, we live at a point in time when, often, that is the default position, and it's very difficult, sometimes, to find the room for reasons through the middle. And this strategy tries to take that approach saying, 'This is what we can do, but we have to work with people', because it's always the case that the biggest influencer on your own healthcare and your own health outcomes is you, the individual person. And that includes me when I look at my health.

On your point about physical activity, you talked about sport in schools, and yes, we do talk about this and officials across the Government have talked about this, but I remember that there was someone who looked quite a lot like you when the consultation was launched in this Chamber, who said that they didn't just want to talk about sport, because not everyone enjoys sport. But there's something about physical activity and opportunities to make the activity range that people undertake, not just in schools, but in communities as well, and that is definitely part of what we're looking at. So, it's not just the daily mile in schools, but very clearly set out within the strategy we do talk about having more physical activity within school settings as part of what we want to achieve.

In terms of your point about what is a healthy weight, and the challenge for people who are underweight and have eating disorders, this is again one of the difficult parts of the consultation because not everyone liked the title 'Healthy Weight: Healthy Wales', as if there was an impression it was deliberately avoiding issues of people who have eating disorders, or people who are underweight. As ever, there is never a perfect title for anything we choose to do, but we do take that seriously, and so there's a whole different stream of work ongoing, but this is the point about what is 'healthy'. It isn't just the weight you are necessarily, it's about 'Healthy Weight: Healthy Wales', the way you live your life, the choices that you make, and understanding what you do to your own body with the choices that you make about eating, drinking and exercise in particular. You'll definitely see those themes, of course, in the areas of learning within the school curriculum, and you'll see consistency between that and the approach we're taking in the strategy.

When it comes to the point about planning healthier environments both at home and at work, again, I take on board the point you're making and again I strive to make clear that we do want to look at that. There are things that we'll want to try and test and do with future legislation. For example, I'm quite keen to test the limits of what we can do in terms of public health and planning, where fast-food outlets are and aren't allowed to take place, the number of them that might be allowed to take place, and how close they are to leisure centres and schools. Those are the things we want to test and see how far we can go with that, because we know that otherwise we'll end up having more of those in areas where we recognise they'll have an adverse impact on the health of the population.

In terms of what is appropriate in terms of activity, yes, we have looked already at what exists in the UK and in other parts of Europe and the US in particular, because I do recognise that there isn't a one-size-fits-all approach—no pun intended. For different people, different opportunities will make the difference for them, that will be accessible and things they'll want to do. Some people may really enjoy going out and joining a walking football club, and there are lots of people, men and women, who are enjoying doing things like that. For other people, that would be the last thing that they would want to do. So it's the variety of activity that we can provide and understanding the evidence base for what is the most effective intervention to help support people. It's a difference that, as I say, most people do want to make, and it's about how we help them to do so.

Diolch am yr amrywiaeth o sylwadau a chwestiynau. Fe fyddaf i'n ymdrin, i ddechrau, â'ch pwynt chi ynglŷn â Brexit. Ni ddywedais i erioed, naill ai wrth lansio'r ymgynghoriad nac yn y datganiad a wneuthum heddiw, mai o ganlyniad i Brexit yn unig y daw'r her sy'n ein hwynebu o ran gwrthsefyll a lleihau gordewdra yn y gymdeithas—ddim o gwbl. Mae'r pwynt a wnaf i'n un na ellir ei osgoi, sef bod maint ein her ni'n cynyddu yn sgil yr hyn y byddai Brexit yn ei wneud. A pheidiwch â chymryd fy ngair i am hynny; mae llawer o gynrychiolwyr o'ch plaid chi eich hun yn cydnabod effaith economaidd ymadael gyda'r fargen arfaethedig ar hyn o bryd. Fe fyddai hynny'n cael effaith. Gwyddom fod hynny'n wir. Os oes bydd llai o ffrwythau a llysiau ffres ar gael a'r rheini'n costio mwy, gwyddom y bydd hynny'n cael effaith hefyd. A rhan o fod yn onest yw hynny. Dyma rywfaint o'r gonestrwydd sydd ei angen, ond yn sicr nid wyf i'n gwadu, hyd yn oed pe na fyddai Brexit yn digwydd, y byddai angen inni edrych eto ar yr hyn a wnawn yn y maes hwn, Nid yw ein ffigurau poblogaeth a gwir effaith y mater hwn yn rhywbeth y gallem ni neu y dylem ni eu hosgoi. A dyna pam mae'r strategaeth hon gennym ni.

Rydym yn dechrau drwy edrych ar y ffordd yr ydym yn rhoi'r grym a'r gallu i bobl, gyda'r asedau sy'n bodoli ymhlith y bobl a'u cymunedau. Oherwydd, ar ddechrau'r ymgynghoriad hwn, fe geisiais i dynnu sylw at y ffaith fy mod i'n cydnabod y gall hon fod yn ddadl sy'n anodd ei chael weithiau. Os ydych yn dweud y drefn wrth bobl ac yn dweud, 'Mae'n rhaid ichi wneud yn well na hyn', nid yw'n hynny'n gweithio pob amser, yn aml mae'n codi gwrychyn pobl. Felly, mae rhywbeth ynglŷn â sut yr ydych chi'n rhoi grym ac anogaeth i bobl, oherwydd mae'r rhan fwyaf o bobl yn awyddus i weld newid, a'r her yw sut y gallwn ni eu cefnogi nhw i sefyllfa lle gallan nhw wneud y newid hwnnw'n un effeithiol. Ac mae hynny'n ymwneud yn rhannol â'r neges bod rhywfaint o gyfrifoldeb ar yr unigolyn. Ond mae'r modd y caiff hynny ei gyflwyno i'r unigolyn hwnnw'n bwysig iawn ac nid yw'n fater syml, oherwydd yn hawdd iawn gall honno droi'n ddadl filain ac annifyr iawn. Ac, yn y dyddiau sydd ohoni, rydym ni'n byw ar adeg pan mae'r sefyllfa'n aml yn un ddiofyn, ac weithiau mae'n anodd iawn cael gwrandawiad i'ch rhesymau. Ac mae'r strategaeth hon yn ceisio cymryd yr agwedd honno gan ddweud, 'Dyma'r hyn y gallwn ni ei wneud, ond mae'n rhaid inni weithio gyda phobl'. Oherwydd mae bob amser yn wir mai chi eich hun fel unigolyn all ddylanwadu fwyaf ar eich gofal iechyd a'ch canlyniadau iechyd. Ac mae hynny'n fy nghynnwys innau pan fyddaf i'n ystyried fy iechyd i.

Ynglŷn â'r pwynt a wnaethoch chi am weithgarwch corfforol, roeddech chi'n sôn am chwaraeon mewn ysgolion, ac ydym, rydym ni'n trafod hyn ac mae swyddogion ar draws y Llywodraeth wedi siarad am hyn. Ond cofiaf fod rhywun a oedd yn edrych yn debyg iawn i chi, wedi dweud, pan lansiwyd yr ymgynghoriad yn y Siambr hon, nad oedd yn dymuno siarad am chwaraeon yn unig, oherwydd nid yw pawb yn mwynhau chwaraeon. Ond mae gweithgarwch corfforol a chael cyfleoedd i wneud yr ystod o weithgarwch y mae pobl yn ymgymryd ag ef, nid yn unig mewn ysgolion, ond mewn cymunedau hefyd, yn rhywbeth sy'n cyffroi pobl ac mae hynny'n sicr yn rhan o'r hyn yr ydym ni'n edrych arno. Felly, nid yw hyn yn ymwneud â'r filltir ddyddiol mewn ysgolion yn unig, ond yn y strategaeth rydym yn sôn yn eglur iawn am gael mwy o weithgarwch corfforol mewn lleoliadau ysgolion fel rhan o'r hyn yr ydym ni'n awyddus i'w gyflawni.

O ran eich pwynt chi ynglŷn â'r hyn yw pwysau iach, a'r her i bobl sydd heb dan bwysau ac sydd ag anhwylderau bwyta, dyma un o rannau anodd yr ymgynghoriad oherwydd nid oedd pawb yn hoffi'r teitl 'Pwysau Iach: Cymru Iach', fel pe bai'n osgoi'n fwriadol y problemau sydd gan bobl ag anhwylderau bwyta, neu bobl dan bwysau. Nid oes byth deitl perffaith ar gyfer unrhyw beth yr ydym ni'n dewis ei wneud, ond rydym yn cymryd hynny o ddifrif, ac felly mae ffrwd wahanol o waith yn mynd rhagddo, ond dyna yw'r pwynt am yr hyn sydd yn 'iach'. Nid yw'n ymwneud yn unig â'ch pwysau chi o reidrwydd, mae'n ymwneud â 'Phwysau Iach: Cymru Iach', y ffordd yr ydych chi'n byw eich bywyd, y dewisiadau a wnewch chi, a deall yr hyn a wnewch chi i'ch corff chi eich hun gyda'r dewisiadau a wnewch ynglŷn â bwyta, yfed ac ymarfer corff yn benodol. Fe fyddwch chi'n sicr yn gweld y themâu hynny, wrth gwrs, yn y meysydd dysgu yn y cwricwlwm i ysgolion, ac fe fyddwch chi'n gweld cysondeb rhwng hynny a'r dull yr ydym ni'n ei ddilyn yn y strategaeth.

Wrth ystyried cynllunio amgylcheddau sy'n fwy iach gartref ac yn y gwaith fel ei gilydd, unwaith eto rwy'n derbyn y pwynt a wnewch chi, ac unwaith eto rwy'n ceisio egluro ein bod ni'n awyddus i ystyried hynny. Fe fydd yna bethau y byddwn ni'n dymuno ceisio eu profi nhw a'u cyflawni gyda deddfwriaeth yn y dyfodol. Er enghraifft, rwy'n awyddus iawn i brofi terfynau'r hyn y gallwn ni ei wneud o ran iechyd cyhoeddus a chynllunio, y safleoedd y caniateir allfeydd bwyd cyflym neu beidio, y niferoedd, a pha mor agos ydyn nhw at ganolfannau hamdden ac ysgolion. Dyna'r pethau yr ydym ni'n awyddus i'w profi a gweld i ba raddau y gallwn ni fynd gyda hynny, oherwydd gwyddom fel arall y bydd mwy o'r rhain mewn mannau lle rydym ni'n cydnabod y byddan nhw'n cael effaith andwyol ar iechyd y boblogaeth.

O ran yr hyn sy'n briodol o ran gweithgarwch corfforol, do, fe wnaethom ni edrych ar yr hyn sy'n bodoli yn y DU eisoes ac mewn rhannau eraill o Ewrop a'r Unol Daleithiau yn benodol, oherwydd rwy'n cydnabod nad oes un maint i ffitio pawb—nid chwarae ar eiriau yw hynny. I wahanol bobl, bydd gwahanol gyfleoedd yn gwneud gwahaniaeth iddyn nhw, cyfleoedd sy'n hygyrch ac yn bethau y byddan nhw'n eiddgar i'w gwneud. Efallai fod rhai pobl yn mwynhau mynd allan ac ymuno â chlwb pêl-droed, ac mae yna lawer o bobl, dynion a menywod, sy'n mwynhau gwneud pethau fel hynny. I eraill, dyna fyddai'r peth olaf y bydden nhw'n ei ddymuno. Felly, mae'n ymwneud â'r amrywiaeth o weithgarwch y gallwn ei ddarparu a deall y sylfaen dystiolaeth ar gyfer yr hyn fyddai'r ymyriad mwyaf effeithiol i helpu i gefnogi pobl. Fel y dywedais, mae'r rhan fwyaf o bobl yn dymuno gwneud y gwahaniaeth hwn, ac mae hyn yn ymwneud â'r ffordd y byddwn ni'n eu helpu nhw i wneud hynny.

15:10

Can I thank the Minister for his statement on 'Healthy Weight: Healthy Wales'? Obviously it's quite comprehensive. I just wanted to drill down on what we can actually do as a matter of urgency because this is an emergency. We've been talking about an obesity epidemic for some time now and really we need to see a step change, because as you say here, over 60 per cent of our adult population are overweight or obese, which has become a normalised state. Yes, correct; it has. With around 20 per cent of our children starting school each year who are already obese or overweight.

Now, obviously, it's a balance of what Government can do and what the individual can do. Government, as you've alluded to, can do things like restrict price promotions on food and drink high in fat, salt and sugar, like two-for-one promotions and stuff. We'd like to see that pretty aggressively enforced. And as you also alluded to, planning restrictions on hot takeaways near schools and leisure centres and stuff. We also really do need to get to grips with tackling the advertising of junk foods targeted at children. Now, I know some of that is not devolved, but frankly we've been talking about that for years and the power of advertising is such that it's still a very pervasive influence on what our children eat, and also portion sizes. That is also a combination of what can be legislated for or individual choice; I'll leave that one up to the Minister. But the important thing is, after smoking, obesity is the biggest preventable cause of cancer. Lots of people don't realise that actually obesity is an independent cause of cancer, just like smoking. Being overweight causes cancers. It causes around 13 different types of cancers. Even in the absence of smoking, being overweight gives you cancer as an independent carcinogen.

But obviously, as you've alluded to, and as Angela Burns has already also alluded to, it's not just about diet, it's not just about eating less, eating fewer carbohydrates, fewer sugars, more protein and also extending the period of the day that you're actually fasting, trying to restrict the time of day that we take calories to about an eight or a 10-hour slot out of the 24—that's the latest medical advice. So, it's not just about diet: it’s about physical fitness and physical activity as well. And walking doesn't require fancy Lycra—well, you could obviously be in Lycra if you wanted to, but on the coastal path, you don’t actually need Lycra. Going up a mountainside—you don’t actually need Lycra there either. But you could do with 10,000 steps a day or any other additional number of thousands of steps per day, walking briskly, getting physically fit. As I’ve said here before, of being physically fit, your blood sugar is 30 per cent lower than if you’re not physically fit. Your blood cholesterol level is 30 per cent lower than if you’re not physical fit. And if you are physically fit, your blood pressure is 30 per cent lower than if you’re not physically fit. Now, as I’ve said before, if you invented a tablet that did all that, we’d be shouting to the rooftops about a miracle cure, but physical fitness is that miracle cure. And, obviously, there’s an overall weight reduction as well.

So, lots of that is down to the individual, but, as I said, Government has a role here as well, with the planning restrictions, and for restricting price promotions and stuff. But also, as we found, we can educate people until we’re blue in the face, but it’s actually anti-smoking legislation that brought about the greatest reduction in smoking rates in this country in recent years. That smoking ban—. When we had devolution, 32 per cent of the adult population in Wales smoked, and it has been about 32 to 35 per cent for the previous 20 years, despite all the education programmes and stuff. Now, after the smoking ban, it’s down to 16 per cent and getting lower. It was the legislation that did a marked change, along with the education and the help to quit and stuff. And now we’re finding with minimum alcohol legislation in Scotland, people in Scotland are drinking less alcohol. Who would have thought? People in Scotland drinking less alcohol, and that is down to the minimum alcohol legislation about pricing.

So, I think the Government needs to get real and tough about food and drink legislation as well, and start to view food and drink companies—like big food, big drink—a bit like we view big tobacco. Let’s not have any more volunteering or voluntary agreements. Let’s legislate. Sugar tax raised in this country—I know there’s a sugar tax, but we have very little control over it. We need to have control over it here so that we can spend what comes from the sugar tax here in Wales on what we want to do in the obesity agenda.

And finally, in the preventative analogy: education. I’m looking at the education Minister there. As Angela Burns knows well, as the Minister knows well, in the health committee we’ve done a review on physical fitness and obesity—this very agenda. One of those recommendations we came up with was, ‘How about making 120 minutes of physical activity mandatory per week in our schools?’ It was a very strong recommendation. That’s what all the evidence said. How about making Estyn inspections of that physical activity also mandatory? That is something that could happen now. How about moving radically with the active travel legislation? We’ve been talking about active travel legislation—it’s wonderful, it is, but how about making it easy and safe to walk and cycle everywhere? We need to actually do something rather than talk about it all of the time.

So, yes, I welcome a lot of what’s happening here, but we haven’t got 10 more years and stuff. There needs to be a step change in activity, so that we can get the people of Wales into a healthy weight, and for a healthier Wales indeed. Diolch yn fawr.

A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad ar 'Pwysau Iach: Cymru Iach'? Mae'n amlwg ei fod yn gynhwysfawr iawn. Rwy'n awyddus i fynd i'r afael â'r hyn y gallwn ni ei wneud fel mater o frys gan fod hwn yn argyfwng. Rydym wedi bod yn siarad am epidemig gordewdra ers peth amser erbyn hyn ac mewn gwirionedd mae angen inni weld newid sylweddol, oherwydd fel y dywedwch chi yma, mae dros 60 y cant o'n poblogaeth ni o oedolion dros bwysau neu'n ordew, ac mae hynny wedi ei normaleiddio. Ydy, wir; felly y mae. Ac mae oddeutu 20 y cant o'n plant ni'n dechrau yn yr ysgol bob blwyddyn eisoes yn ordew neu dros bwysau.

Nawr, yn amlwg, ceir cydbwysedd rhwng yr hyn y gall y Llywodraeth ei wneud a'r hyn y gall yr unigolyn ei wneud. Fe all y Llywodraeth, fel yr ydych chi wedi cyfeirio ato, wneud pethau fel cyfyngu ar yr hyrwyddo sy'n digwydd i brisau bwyd a diod sy'n uchel mewn braster, halen a siwgwr, fel hyrwyddo dau am un a phethau felly. Fe hoffem ni weld hynny'n cael ei orfodi'n llym mawr. Ac fel yr oeddech chi'n crybwyll hefyd, cyfyngiadau cynllunio ar gyfer siopau cludfwyd poeth ger ysgolion a chanolfannau hamdden a phethau felly. Mae gwir angen hefyd inni fynd i'r afael â hysbysebu bwydydd sothach a anelir at blant. Nawr, rwy'n gwybod nad yw rhywfaint o hynny wedi ei ddatganoli, ond a dweud y gwir rydym  wedi siarad am hyn ers blynyddoedd ac mae grym hysbysebu yn golygu ei fod yn parhau i fod yn ddylanwad treiddiol iawn ar yr hyn y mae ein plant ni'n ei fwyta, a hefyd maint y prydau bwyd. Mae hynny hefyd yn gyfuniad o'r hyn y gellir deddfu yn ei erbyn neu ddewis yr unigolyn; fe adawaf i hynny i'r Gweinidog. Ond y peth pwysig yw hyn, ar ôl ysmygu, gordewdra yw'r achos mwyaf o ganser y gellir ei atal. Nid yw llawer o bobl yn sylweddoli bod gordewdra yn achos annibynnol o ganser, yn union fel ysmygu. Mae bod dros bwysau yn achosi canser. Mae'n achosi tua 13 math gwahanol o ganser. Hyd yn oed heb ysmygu, mae bod dros bwysau yn rhoi canser i chi fel carsinogen annibynnol.

Ond yn amlwg, fel y cyfeiriasoch ato, ac fel y cyfeiriodd Angela Burns eisoes ato, mae'n golygu mwy na deiet, mae'n golygu mwy na bwyta llai, bwyta llai o garbohydradau, llai o siwgwr, mwy o brotein, a hefyd ymestyn y cyfnod newynu yn ystod y dydd, gan geisio cyfyngu ar yr amser y byddwn yn cymryd calorïau i'r corff i slot o wyth neu 10 awr o'r 24—dyna'r cyngor meddygol diweddaraf. Felly, nid deiet yn unig sy'n gwneud hyn: mae hyn yn ymwneud â ffitrwydd corfforol a gweithgarwch corfforol hefyd. Nid yw mynd allan i gerdded yn gofyn am Lycra ffansi—wel, mae'n amlwg y gallech chi wisgo Lycra pe dymunech, ond ar y llwybr arfordirol nid oes angen Lycra arnoch chi mewn gwirionedd. Wrth ddringo'r mynydd—nid oes angen Lycra yn y fan honno ychwaith. Ond fe allech chi gyda 10,000 cam y dydd neu fwy na hynny o gamau y dydd, drwy gerdded yn gyflym, ddod yn gorfforol heini. Fel y dywedais yma o'r blaen, o fod yn gorfforol ffit, bydd eich siwgr gwaed chi 30 y cant yn is nag y byddai heb fod yn ffit yn gorfforol. Mae lefel y colesterol yn eich gwaed 30 y cant yn is nag y byddai heb fod yn gorfforol ffit. Ac os ydych chi'n gorfforol ffit, mae pwysedd eich gwaed chi 30 y cant yn is nag y byddai heb fod yn gorfforol ffit. Nawr, fel y dywedais o'r blaen, pe bai tabled yn cael ei dyfeisio i wneud hynny i gyd, byddem yn gweiddi'n groch am yr iachâd gwyrthiol hwnnw, ond ffitrwydd corfforol yw'r iachâd gwyrthiol. Ac, yn amlwg, bydd lleihâd cyffredinol yn y pwysau hefyd.

Felly, mae'n fater i'r unigolyn i raddau helaeth ond, fel y dywedais, mae gan y Llywodraeth waith i'w wneud yma hefyd, o ran y cyfyngiadau cynllunio, ac o ran cyfyngu ar hyrwyddo prisiau a phethau eraill. Ond yn ogystal â hynny, fel y gwnaethom ei ganfod, fe allwn ni addysgu pobl faint fynnom ni, ond mewn gwirionedd deddfwriaeth wrth-ysmygu wnaeth achosi'r gostyngiad mwyaf mewn cyfraddau ysmygu yn y wlad hon yn y blynyddoedd diwethaf. Y gwaharddiad hwnnw ar ysmygu—. Pan ddigwyddodd datganoli, roedd 32 y cant o boblogaeth oedolion Cymru yn ysmygu, ac roedd hynny wedi bod tua 32 i 35 y cant dros yr 20 mlynedd flaenorol, er gwaethaf yr holl raglenni addysg a phethau felly. Nawr, wedi'r gwaharddiad ar ysmygu, mae wedi gostwng i 16 y cant ac yn mynd yn is. Y ddeddfwriaeth a wnaeth y newid amlwg, ynghyd â'r addysg a'r cymorth i roi'r gorau iddi a phethau felly. A nawr rydym yn gweld gyda'r ddeddfwriaeth isafswm alcohol yn yr Alban, mae pobl yn yr Alban yn yfed llai o alcohol. Pwy fyddai wedi meddwl? Mae pobl yn yr Alban yn yfed llai o alcohol, ac mae hynny'n ymwneud â'r ddeddfwriaeth ar isafswm prisio alcohol.

Felly, rwy'n credu bod angen i'r Llywodraeth wynebu'r gwirionedd caled ynglŷn â deddfwriaeth bwyd a diod hefyd, a dechrau ystyried cwmnïau bwyd a diod—fel cwmnïau bwyd mawr, cwmnïau diod mawr—ychydig fel yr ydym ni'n ystyried cwmnïau tybaco mawr. Gadewch inni beidio â chael rhagor o wirfoddoli neu gytundebau gwirfoddol. Gadewch inni ddeddfu. O ran y dreth ar siwgwr a godir yn y wlad hon—gwn fod yna dreth ar siwgwr, ond ychydig iawn o reolaeth sydd gennym drosti. Mae angen inni gael rheolaeth drosti yma fel y gallwn ni wario'r hyn sy'n dod o'r dreth siwgwr yma yng Nghymru ar yr hyn yr ydym ni'n awyddus i'w wneud gydag agenda gordewdra.

Ac yn olaf, yn y gyfatebiaeth ataliol: addysg. Rwy'n edrych ar y Gweinidog Addysg o ran hyn o beth. Fel y gŵyr Angela Burns yn dda, fel y gŵyr y Gweinidog yn dda, yn y Pwyllgor Iechyd rydym wedi cyflawni adolygiad o ffitrwydd corfforol a gordewdra—yr union agenda hon. Un o'r argymhellion a gyflwynwyd gennym oedd, 'Beth am wneud 120 munud o weithgarwch corfforol yn orfodol bob wythnos yn ein hysgolion?' Roedd hwn yn argymhelliad cryf iawn. Dyna'r hyn yr oedd y dystiolaeth i gyd yn ei ddweud. Beth am wneud arolygiadau Estyn o'r gweithgarwch corfforol hwnnw yn orfodol hefyd? Mae hyn yn rhywbeth a allai ddigwydd nawr. Beth am symud yn radical gyda'r ddeddfwriaeth teithio llesol? Rydym wedi bod yn siarad am ddeddfwriaeth teithio llesol—ydy, mae'n beth gwych, ond beth am ei gwneud hi'n hawdd ac yn ddiogel i gerdded a beicio i bobman? Mae angen inni wneud rhywbeth yn hytrach na siarad am hyn drwy'r amser.

Felly, ydw, rwy'n croesawu llawer o'r hyn sy'n digwydd yma, ond nid oes gennym 10 mlynedd eto ac ati. Mae angen newid sylweddol mewn gweithgarwch, fel bod pobl Cymru â phwysau iach, ac yn wir er mwyn cael Cymru iachach. Diolch yn fawr.

15:15

I'd like to thank Dr Lloyd for the interesting sermon and lecture. I agree with most of what he says. There is agreement on where we are and what we want to try and do. Rather than trading some facts and figures about what we’re doing and investing in active travel and that in the strategy as well, I think it’s just important to reflect and to recognise that the points that you make about smoking are of real interest, because the legislative change helped to move things on with a broader change taking place at different levels within different parts of the country. But it led to wider-spread cultural change, in particular people’s attitudes around smoking around children, and smoking around food as well. You still see that carrying on. You are suddenly seeing a wider shift in attitudes, and, as you know, I agree with you on minimum unit pricing—that’s why I took through the minimum unit pricing legislation in this place. I think we'll see a similar impact here, not just a reduction in the amount of alcohol but the amount of high strength and very cheap alcohol that is consumed as well.

So, in the strategy, we do set out that we do, as I said to Angela, want to test the limits of our powers—the powers we currently have, for example the powers available to us in the Public Health (Wales) Act 2017 we passed in the last Assembly term, as well as looking in that delivery plan to have future options for legislation, to set out how we might use powers that are available to us in terms of our competence to set up the legislation to allow us to do so as well. Because there are things to think about in terms of advertising and promotion. And then some of that is difficult, because we have some people who raise income in different ways at present. If you think about healthy vending, it's part of what we see within the health service, but also in leisure centres too as well. We don't run those directly, and yet I can tell you, when I take my son swimming, as I do regularly, and he's got far too much energy, as most five-year-old children do, but it's great—except, we finish swimming and we sit down to put our shoes on and we're sat in front of a vending machine that is full of chocolate. My son's five, and he sees a bag full of chocolate and he says, 'Daddy, can I have some chocolate?' So, I have to tell him 'no', so I end up being a bit like bad dad, but I'm doing the right thing. So, there's something about how we change the environment so you're not having those different and mixed messages. Because if I tell him, 'This is a treat', then every time he goes around to try and do the right thing, that is there in front of him. That's part of what we need to see a shift and change in as well.

Just finally, on your point about walking, for those of us who have jobs here, this job is not great for physical activity. I regularly walk from the basement up to the fifth floor, because often it is the only exercise I'll get in the day. Otherwise, I'm sat on my backside talking or stood on my feet talking—not a great deal of exercise. So, there is a challenge about our working environment, and not just us in this place, but people who work in office jobs. There are a range of jobs we now undertake in more modern economies that are not physically active in the way that lots of people would have gone to work and had to earn a living in the past. There is a challenge about what we choose to do in a workplace to make it more physically active, but also, then, about what we choose to do in our time outside of work as well. So, big system shift behaviour change is part of what we want to see, and as you say, and I'm glad you recognise, it isn't all about the Government, it is about all the choices that we make together.

Fe hoffwn i ddiolch i Dr Lloyd am ei bregeth a'i ddarlith ddiddorol. Rwy'n cytuno â'r rhan fwyaf o'r hyn a ddywedodd. Ceir cytundeb ynglŷn â'n sefyllfa bresennol ni a'r hyn yr ydym ni am geisio ei wneud. Yn hytrach na thrafod ffeithiau a ffigurau o ran yr hyn yr ydym ni'n ei wneud a buddsoddi mewn teithio llesol a hynny yn y strategaeth hefyd, rwy'n credu ei bod yn bwysig myfyrio a chydnabod bod y pwyntiau a wnewch chi am ysmygu o ddiddordeb gwirioneddol, oherwydd fe wnaeth y newid deddfwriaethol helpu i symud pethau ymlaen gyda newid ehangach yn digwydd ar wahanol lefelau mewn gwahanol rannau o'r wlad. Ond fe arweiniodd hyn at newid diwylliannol ehangach, yn enwedig o ran agweddau pobl tuag at ysmygu o amgylch plant, ac ysmygu o amgylch bwyd hefyd. Rydych chi'n gweld hynny'n parhau o hyd. Yn sydyn, rydych chi'n gweld newid mwy eang o ran agweddau, ac, fel y gwyddoch chi, rwy'n cytuno â chi o ran isafswm pris uned—dyna pam y gwnes i ddwyn y ddeddfwriaeth isafbris uned gerbron y lle hwn. Rwy'n credu y byddwn ni'n gweld effaith debyg yma, nid yn unig gostyngiad yn swm yr alcohol ond yn swm yr alcohol o gryfder uchel a rhad iawn sy'n cael ei yfed hefyd.

Felly, yn y strategaeth, rydym yn nodi ein bod ni, fel y dywedais wrth Angela, yn dymuno profi terfynau ein pwerau—y pwerau sydd gennym ni ar hyn o bryd, er enghraifft y pwerau sydd ar gael inni yn Neddf Iechyd Cyhoeddus (Cymru) 2017 a basiwyd yn y tymor Cynulliad diwethaf. Rydym hefyd yn y cynllun cyflawni hwnnw yn ceisio cael dewisiadau ar gyfer deddfwriaeth yn y dyfodol, a nodi sut y gallem ni ddefnyddio'r pwerau sydd ar gael i ni o ran ein cymhwysedd i sefydlu'r ddeddfwriaeth i ganiatáu inni wneud hynny hefyd. Oherwydd mae yna bethau i feddwl amdanyn nhw o ran hysbysebu a hyrwyddo. Ac yna mae rhywfaint o hynny'n anodd, oherwydd mae gennym rai pobl sy'n ennill incwm mewn gwahanol ffyrdd ar hyn o bryd. Os ystyriwch beiriannau gwerthu bwyd iach, mae'n rhan o'r hyn yr ydym yn ei weld o fewn y gwasanaeth iechyd, ond mewn canolfannau hamdden hefyd. Nid ydym yn rhedeg y rhain yn uniongyrchol, ac eto gallaf i ddweud wrthych, pan fydda i'n mynd â'r mab i nofio, fel y gwnaf i'n rheolaidd, ac mae ganddo ef lawer gormod o egni, fel sydd gan y rhan fwyaf o blant pump oed, ond mae'n hyfryd—onibai pan fyddwn yn gorffen gyda'r nofio ac yn eistedd i lawr i wisgo'n esgidiau, o'n blaenau mae yna beiriant gwerthu siocled. Pump oed yw fy mab, ac mae'n gweld bag llawn siocled ac yn gofyn, 'Dadi, a gaf i siocled?' Felly, mae'n rhaid imi ei wrthod, ac felly rwy'n mynd yn hen dad blin, ond rwy'n gwneud y peth iawn. Felly, mae rhywbeth ynglŷn â sut yr ydym ni'n newid yr amgylchedd fel na chewch chi'r negeseuon gwahanol a chymysg hynny. Oherwydd os bydda i'n dweud wrtho ef, 'Trît yw'r siocled', yna bob tro y bydd ef yn ceisio gwneud y peth iawn, dyna fydd o'i flaen ei lygaid. Mae angen gweld newid a symudiad oddi wrth hynny hefyd.

Yn olaf, o ran eich pwynt chi am gerdded, i'r rhain ohonom sydd â swyddi yn y fan hon, nid hon yw'r swydd orau ar gyfer gweithgarwch corfforol. Rwy'n cerdded yn rheolaidd o'r llawr isaf i'r pumed llawr, oherwydd yn aml dyna'r unig ymarfer corff y byddaf yn ei wneud yn ystod y dydd. Fel arall, rwy'n eistedd ar fy mhen-ôl ac yn siarad neu'n sefyll ar fy nhraed ac yn siarad—nid oes lawer iawn o ymarfer corff. Felly, mae her ynglŷn â'n hamgylchedd gwaith, ac nid dim ond y ni yn y lle hwn, ond i bobl sy'n gweithio mewn swyddfeydd. Mae amrywiaeth o swyddi yn cael eu gwneud bellach mewn economïau mwy modern nad ydynt yn gorfforol egnïol yn y ffordd y byddai llawer o bobl yn arfer mynd i'r gwaith a gorfod ennill bywoliaeth yn y gorffennol. Mae yna her o ran yr hyn y dewiswn ni ei wneud yn y gweithle i'w wneud yn fwy egnïol yn gorfforol ond hefyd, wedyn, o ran yr hyn y dewiswn ni ei wneud yn ein hamser y tu allan i'r gwaith. Felly, mae newid ymddygiad yn yr holl system yn rhan o'r hyn yr ydym ni'n dymuno ei weld, ac fel y dywedwch chi, ac rwy'n falch eich bod chi'n cydnabod hynny, nid yw hyn yn ymwneud â'r Llywodraeth yn unig, mae'n ymwneud â'r holl ddewisiadau a wnawn ni gyda'n gilydd.

15:20

I agree with the earlier two speakers: we are the most obese nation in Europe and our food system is absolutely broken. So, no change is not an option. It isn't just a sugar tax we need, we need a salt tax and a fat tax in order to control the actions of the food manufacturing companies who target people with this stuff that passes off as food. And in addition to that, there's been an exponential rise in type 2 diabetes, which already consumes 10 per cent of the NHS budget. So, we cannot wait for a decade to sort this out.

I agree with the Minister that you're absolutely right to point out that the cost of vegetables and fruit will go up as a result of Brexit. So, I'd like to know what the Government's doing now to get more people growing vegetables and fruit here in Wales. That isn't even mentioned in the document. We were at our most healthiest during the second world war when we were digging for victory. We now need to dig to save our nation, really, and save our NHS. And that needs doing now. Even if we manage to avoid the catastrophe of no deal with Brexit, there's lots of evidence that if you get kids to grow food, they will then be tempted to eat it as well.

We are what we eat, and the most terrifying statistic that I've learnt recently is that two thirds of people never eat a meal prepared with fresh ingredients—never. Because even when they go out, they'll go and eat junk food. So, that is the scale of the challenge that we face.

So, I am struggling to understand the difference between milestones and outcomes and targets. I want to see some really clear targets so that we know that we are making progress on this. It's something we've talked about ever since I've been here, and we just need action now. I want to know—the baby born next week: how are they going to be protected from the marketing of unhealthy products masquerading as food? We know that less than three quarters of children starting school have a healthy weight. What is that figure going to be in 2022? We absolutely have to have a whole-system approach; this is not just the Minister for health's department. I want to see what we're going to do with public procurement. What are we doing? We have all the levers here to do something. We've got the 'Appetite for Life' guidelines, regulations, but they're not being adhered to in all our schools, because nobody is monitoring them.

So, we know that up to a third of our children rely on the free breakfasts and the lunches that they get in school, otherwise they are not getting any other thing that I would classify as food. And we know from the statistics and the research done by other organisations that half the children going hungry to bed are not even eligible for free school meals because of the poverty wages their parents are suffering. So, we've got lots of aspiration but not enough action. And one of the things I want to see is the traffic light system, to ensure that people are clear about whether this is something healthy or whether it's something just pretending to be healthy. 

We need action to ensure that all processed food, including baby foods, are not laced with sugar, fat and salt in order to make them more profitable. How does the Minister plan to normalise good eating in primary schools? That's what I find is absent from your document. Will you consider banning the sale of drinks in secondary schools, which, at the moment, encourages pupils to use money that's supposed to be spent on food instead on drinks of limited nutritional value? 

There are lots of opportunities to make Wales into a good food nation, and it's something that we need to work at collectively, not just in the health service. But I'm unclear exactly what differences we expect to see in two years' time so that we can measure whether or not the Government's programme has been successful. 

Rwy'n cytuno â'r ddau siaradwr blaenorol : ni yw'r genedl fwyaf gordew yn Ewrop ac mae ein system fwyd ni'n hollol doredig. Felly, yr unig ddewis yw newid. Nid treth ar siwgwr yw'r unig beth sydd ei angen arnom ni, mae angen treth ar halen a threth ar fraster i reoli gweithgarwch y cwmnïau gweithgynhyrchu bwyd sy'n anelu'r stwff hwn sy'n cael ei alw'n fwyd at bobl. Yn ogystal â hynny, bu cynnydd cyflym iawn mewn diabetes math 2, sydd eisoes yn defnyddio 10 y cant o gyllideb y GIG. Felly, ni allwn aros am ddegawd arall cyn cael hyn i drefn.

Rwy'n cytuno â'r Gweinidog eich bod chi'n hollol gywir i nodi y bydd cost llysiau a ffrwythau yn codi o ganlyniad i Brexit. Felly, hoffwn i wybod beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud nawr i ennyn mwy o bobl i dyfu llysiau a ffrwythau yma yng Nghymru. Nid oes unrhyw sôn am hynny yn y ddogfen. Roeddem ni iachaf yn ystod yr ail ryfel byd pan oeddem ni'n palu am fuddugoliaeth. Mae angen inni balu i achub ein cenedl nawr, mewn gwirionedd, ac i achub ein GIG. Ac mae angen gwneud hynny nawr. Hyd yn oed os llwyddwn ni i osgoi trychineb Brexit heb gytundeb, mae llawer o dystiolaeth ar gael, os cewch chi blant i dyfu bwyd, y byddan nhw'n cael eu temtio wedyn i'w fwyta hefyd.

Yr hyn a fwytwn sy'n ein gwneud ni. A'r ystadegyn mwyaf brawychus a ddysgais i'n ddiweddar yw nad yw dwy ran o dair o bobl byth yn bwyta pryd o fwyd wedi ei baratoi â chynhwysion ffres—byth. Hyd yn oed pan fyddan nhw'n mynd allan, fe fyddan nhw'n mynd allan i fwyta bwyd gwael. Dyna faint yr her sy'n ein hwynebu ni.

Felly, rwy'n cael trafferth deall y gwahaniaeth rhwng cerrig milltir a chanlyniadau a thargedau. Rwy'n awyddus i weld targedau clir iawn fel y gwyddom ein bod yn gwneud cynnydd yn hyn o beth. Dyma rywbeth yr ydym ni wedi sôn amdano ers imi fod yma, ac mae angen gweithredu nawr. Fe hoffwn i wybod—y baban a gaiff ei eni'r wythnos nesaf: sut y caiff ei ddiogelu rhag marchnata cynhyrchion gwael sy'n cymryd arnyn nhw i fod yn fwyd maethlon? Gwyddom fod llai na thri chwarter y plant sy'n dechrau'r ysgol yn pwyso'n iach. Beth fydd y ffigur hwnnw yn 2022? Mae'n rhaid inni gael dull gweithredu system gyfan yn bendant; nid yw hyn yn ymwneud yn unig ag adran y Gweinidog Iechyd. Fe hoffwn i weld beth yr ydym yn mynd i'w wneud o ran caffael cyhoeddus. Beth ydym ni'n ei wneud? Mae gennym yr holl gyfryngau yn y fan hon i wneud rhywbeth. Mae gennym  ganllawiau 'Blas am Oes', rheoliadau, ond nid ydynt yn cael eu dilyn yn ein hysgolion  oherwydd does neb yn eu monitro nhw.

Felly, gwyddom fod hyd at draean o'n plant ni'n dibynnu ar y brecwastau rhad ac am ddim a'r ciniawau ysgol, neu fel arall nid ydynt yn cael unrhyw beth arall y byddwn i'n ei alw'n fwyd. A gwyddom o'r ystadegau a'r ymchwil a wnaeth sefydliadau eraill nad yw hanner y plant sy'n mynd i'r gwely'n newynog hyd yn oed yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, oherwydd bod eu rhieni tlawd yn ennill mymryn o gyflog. Felly, mae gennym lawer o ddyheadau ond nid oes digon o weithredu. Ac un o'r pethau yr wyf i'n eiddgar i'w gweld yw system o oleuadau traffig, er mwyn sicrhau bod pobl yn glir a yw'r bwyd yn iach neu'n esgus bod yn iach yn unig.

Mae angen gweithredu i sicrhau nad oes siwgwr, braster a halen yn cael eu hychwanegu at yr holl fwyd wedi ei brosesu, gan gynnwys bwydydd babanod, er mwyn hwyluso gwneud elw. Sut mae'r Gweinidog yn bwriadu normaleiddio bwyta iach mewn ysgolion cynradd? Dyna'r hyn yr wyf i'n ei weld sy'n absennol o'ch dogfen chi. A wnewch chi ystyried gwahardd gwerthu diodydd mewn ysgolion uwchradd, sydd, ar hyn o bryd, yn annog disgyblion i ddefnyddio arian sydd i fod i gael ei wario ar fwyd yn hytrach na diodydd sy'n gyfyngedig o ran maeth?

Ceir llawer o gyfleoedd i wneud Cymru'n wlad o fwyd da, ac mae hyn yn rhywbeth y mae angen inni weithio ar y cyd arno, nid dim ond yn y gwasanaeth iechyd. Ond nid wyf yn sicr pa wahaniaethau y gallwn ddisgwyl eu gweld ymhen dwy flynedd fel y gallwn fesur a fu rhaglen y Llywodraeth yn llwyddiannus ai peidio.  

15:25

I thank the Member for the comments. It's fair to point out that with salt reformulation, a range of food businesses reduced the salt content and it had no impact on the taste that customers reported when actually having that food. The challenge is whether a voluntary approach is enough. And, as I've set out, I think we ought to test the limits of what is available to us to make a bigger difference. That's part of what I've set out, and that goes into school and food and the way that children understand the way their food is produced. And in virtually every primary school that I visit, including ones in the less well-off parts of my constituency, I see a very consistent approach to encouraging children to grow food and to understand where and how that's produced on a local level.

And I just want to deal with your points about targets, and then how we use outcomes and then some of the proposals that we have. We had a conversation about whether to have targets in this strategy, and I decided not to have targets. I looked at what is happening in Scotland and England, where they've got targets to reduce childhood obesity, to halve it by 2030, and I just don't think there's any evidence that that is an aspiration that is in any way achievable, because part of our challenge is that we don't understand yet how much of an impact the measures that we're going to try to introduce will have, and I don't particularly want an aspirational finger-in-the-wind target. I just don't think that's smart or sensible for anyone. The outcome framework that we're going to produce will allow people to measure what impact is being had upon the population of Wales. So, if there is no change, then the outcome measures will track that. If there is real change, we'll see that and we'll then need to try and understand which ones of our interventions are having the most significant impacts. We can't always tell which intervention we introduce affects people's lives and what the direct correlation is in terms of how healthy a weight the country has.

In terms of some of the proposals, it may be helpful to set out that we are looking at a ban on the sale of energy drinks to children; restricting the promotion and marketing of unhealthy food and drink in the retail environment; to ban the sale of refillable sugary drinks in out-of-home settings—and we regularly see those, the endless refills; to restrict the size of a sugary soft drink; and mandatory calorie labelling in out-of-home settings; and to explore options to restrict access to the promotion of unhealthy food and drink accessible to schoolchildren. So, there is a range of specific measures we are looking at and I'll come forward with more specific proposals in the future.

Rwy'n diolch i'r Aelod am y sylwadau. Mae'n deg imi dynnu sylw at ail-fformiwleiddio halen a bod amrywiaeth o fusnesau bwyd wedi lleihau'r gyfradd o halen ac na chafodd hynny unrhyw effaith ar y blas wrth fwyta'r bwyd hwnnw yn ôl y cwsmeriaid. Yr her yw gwybod a yw dull gwirfoddol yn ddigonol. Ac, fel y nodais, rwyf i o'r farn y dylem roi prawf ar derfynau'r hyn sydd ar gael i wneud mwy o wahaniaeth eto. Mae hynny'n rhan o'r hyn a nodais, ac mae'n mynd i'r ysgolion a'r bwyd a sut mae plant yn deall y ffordd y cynhyrchir eu bwyd. Ac ym mhob ysgol gynradd bron yr ymwelais â nhw, gan gynnwys rhai yn y mannau llai ariannog sydd yn fy etholaeth i, rwy'n gweld dull cyson iawn o annog plant i dyfu bwyd a deall ble a sut y caiff hwnnw ei gynhyrchu ar lefel leol.

Rwyf i am ymdrin â'ch pwyntiau chi ynglŷn â thargedau, ac yna sut rydym yn defnyddio canlyniadau a rhai o'r cynigion sydd gennym ni. Fe gawsom ni sgwrs ynghylch a ddylid cael targedau yn y strategaeth hon, ac fe benderfynais i beidio â chael targedau. Edrychais ar yr hyn sy'n digwydd yn yr Alban ac yn Lloegr, lle mae ganddyn nhw dargedau i leihau gordewdra ymhlith plant, i haneru hynny erbyn 2030, ac nid wyf i'n credu bod unrhyw dystiolaeth bod hwnnw'n darged y gellir ei gyflawni mewn unrhyw ffordd. Oherwydd rhan o'r her i ni yw nad ydym yn deall eto faint o effaith a gaiff y mesurau yr ydym ni'n mynd i'w cyflwyno, ac nid wyf yn arbennig o awyddus i gael targed ar sail rhyw ddyhead bras. Nid wyf i o'r farn fod hynny'n ddoeth nac yn synhwyrol i neb. Fe fydd y fframwaith canlyniadau yr ydym yn mynd i geisio ei gynhyrchu yn caniatáu i bobl fesur yr effaith ar boblogaeth Cymru. Felly, os nad oes unrhyw newid, yna fe fydd y mesurau canlyniad yn cofnodi hynny. Os bydd yna newid gwirioneddol, fe fyddwn ni'n gweld hwnnw ac yna bydd angen inni geisio deall pa rai o'n hymyriadau ni sy'n cael yr effeithiau mwyaf sylweddol. Nid oes modd inni wybod bob amser pa ymyriad a gyflwynir gennym sy'n effeithio ar fywydau pobl a beth yw'r gydberthynas uniongyrchol o ran pa mor iach yw pwysau pobl ein gwlad.

O ran rhai o'r cynigion, efallai y byddai'n ddefnyddiol nodi ein bod yn edrych ar wahardd gwerthu diodydd egni i blant; cyfyngu ar hyrwyddo a marchnata bwyd a diod afiach yn yr amgylchedd manwerthu; gwahardd gwerthu diodydd llawn siwgwr y gellir eu hail-lenwi mewn lleoliadau y tu allan i'r cartref—ac rydym yn gweld y rhain yn rheolaidd, yr ail-lenwadau diddiwedd; cyfyngu ar faint diodydd ysgafn llawn siwgwr; a labelu calorïau yn orfodol mewn lleoliadau y tu allan i'r cartref; ac ystyried opsiynau i gyfyngu ar hyrwyddo bwyd a diod afiach yng ngŵydd plant ysgol. Felly, rydym yn ystyried ystod o fesurau penodol a byddaf yn cyflwyno cynigion mwy pendant yn y dyfodol.

Ac yn olaf, Lynne Neagle. 

Finally, Lynne Neagle. 

Thank you, acting Deputy Presiding Officer. As you've acknowledged today, Minister, and as other Members have referred to, we have got a situation where one in four of our children starts school either overweight or obese. And, as you know, the Children, Young People and Education Committee was very keen to influence Welsh Government's thinking in this area and to make sure that children and young people are at the centre of this all-age strategy. And to inform our contribution to the consultation, we conducted a round-table with key stakeholders and took evidence from the chief medical officer, and I would like to take this opportunity to place on record our thanks to them.

As you'll have seen, in April, we published our detailed response to the consultation and highlighted the issues that we thought needed to be addressed, and I do welcome the steps taken to address some of those issues. However, we also identified accountability as a key area that would need to be addressed if we are to guard against a situation where the strategy becomes everybody's role but nobody's responsibility. And we also called for an ambitious target for reducing obesity, and clarity on who will lead on this complex and cross-cutting issue within Government.

Now, I hear what you said in response to Jenny Rathbone, and I note that the strategy states that, instead of specific targets, we will have built-in milestones for each of the four themes of the strategy to test what progress is being made. Can you provide more information on how that measurement of the milestones will work, and also tell us what leadership and accountability is going to be in place across Government to ensure that this strategy is delivered? Because, clearly, it's not just an issue for yourself as health Minister. So, what assurances can you give that, across the whole of the Government, there is going to be appropriate leadership to drive this forward?

Diolch, Dirprwy Lywydd dros dro. Fel yr ydych chi wedi ei gydnabod heddiw, Gweinidog, ac fel y mae Aelodau eraill wedi cyfeirio ato, mae gennym ni sefyllfa lle mae un ym mhob pedwar o'n plant ni'n dechrau'r ysgol naill ai dros eu pwysau neu'n ordew. Ac, fel y gwyddoch chi, roedd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn awyddus iawn i ddylanwadu ar feddylfryd Llywodraeth Cymru yn y maes hwn a gwneud yn siŵr bod plant a phobl ifanc yn ganolog i'r strategaeth hon sydd ar gyfer pob oed. Ac er mwyn llywio ein cyfraniad ni i'r ymgynghoriad, cynhaliwyd cyfarfod bwrdd crwn gyda rhanddeiliaid allweddol ac fe gymerais i dystiolaeth gan y Prif Swyddog Meddygol. Hoffwn i achub ar y cyfle hwn i fynegi ar goedd ein diolch ni iddyn nhw.

Fel y byddwch chi wedi gweld, ym mis Ebrill, fe gyhoeddwyd ein hymateb manwl ni i'r ymgynghoriad ac fe dynnwyd sylw at y materion yr ydym ni'n credu bod angen mynd i'r afael â nhw, ac rwy'n croesawu'r camau a gymerwyd i fynd i'r afael â rhai o'r materion hynny. Eto i gyd, rydym hefyd wedi nodi atebolrwydd yn faes allweddol y byddai angen mynd i'r afael ag ef os ydym yn dymuno gwarchod rhag sefyllfa lle mae'r strategaeth yn mynd yn waith i bawb ond yn gyfrifoldeb i neb. Roeddem hefyd yn galw am darged uchelgeisiol ar gyfer lleihau gordewdra, ac am eglurder ynghylch pwy fydd yn arwain ar y mater cymhleth a thrawsbynciol hwn yn y Llywodraeth.

Nawr, fe glywais i'r hyn a ddywedasoch wrth ymateb i Jenny Rathbone, ac rwy'n sylwi bod y strategaeth yn datgan y bydd gennym gerrig milltir annatod, yn hytrach na thargedau penodol, ar gyfer pob un o bedair thema'r strategaeth i roi prawf ar y cynnydd sy'n cael ei wneud. A wnewch chi roi rhagor o wybodaeth ynglŷn â sut y bydd y gwaith o fesur y cerrig milltir yn gweithio, a dweud wrthym hefyd pa arweiniad ac atebolrwydd fydd ar waith ledled y Llywodraeth i sicrhau y caiff y strategaeth hon ei chyflawni? Oherwydd, yn amlwg, nid mater yn unig i chi fel Gweinidog Iechyd yw hwn. Felly, pa sicrwydd y gallwch chi ei roi y ceir, ledled y Llywodraeth gyfan, arweinyddiaeth addas i ysgogi hyn?

15:30

Okay. I think they're fair questions. I've tried to deal with the point about targets, and I reckon there are different views on this, so I won't try to pretend that there isn't a difference of view about whether we should or shouldn't have targets. In terms of the outcomes and the milestones, one of the first tasks of the implementation board will be to set out those milestones and targets. They'll be visible, they'll be published—they won't be secret and kept within my desk. And then you'll be able to see how we're looking to measure the progress that we make. And I fully expect that I'll have the opportunity, should I stay in this post, to come to committee to explain what progress is or isn't being made.

And, in terms of the leadership within the Government, I'm the lead Minister, but this is a whole-Government enterprise. If you look at all the different areas that we cover in this strategy, it certainly isn't just one Minister and one department. And that will again come back to the implementation board looking honestly at where we are and setting out who needs to do what, because the honest truth is that, if we don't get all parts of Government pointing in the same direction, we won't get our partners on board, and we won't get the biggest partner in all of this on board, and that's the public themselves. So, I think some of this will have to be about this is about the Government genuinely trying to work together with others. I'm the lead Minister, but we'll need to able to demonstrate the progress we're making in reality, and then, I think, that will be the best answer to your challenge about whether there's real accountability in implementing what is a shared vision. And I think there is widespread support for the areas of activity we recognise need to be undertaken. 

Iawn. Rwy'n credu eu bod nhw'n gwestiynau teg. Rwyf i wedi ceisio ymdrin â'r pwynt yn ymwneud â thargedau, ac rwy'n credu bod gwahanol farn ar hyn, felly ni wnaf geisio esgus nad oes gwahaniaeth barn ynghylch a ddylem ni gael targedau ai peidio. O ran y canlyniadau a'r cerrig milltir, un o dasgau cyntaf y bwrdd gweithredu fydd nodi'r cerrig milltir a'r targedau hynny. Byddan nhw'n weladwy, byddan nhw'n cael eu cyhoeddi—ni fyddan nhw'n gyfrinachol ac yn cael eu cadw yn fy nesg. Ac yna byddwch chi'n gallu gweld sut yr ydym ni'n ceisio mesur y cynnydd yr ydym ni'n ei wneud. Ac rwy'n llwyr ddisgwyl y byddwn i'n cael y cyfle, pe bawn yn aros yn y swydd hon, i ddod i'r pwyllgor i egluro pa gynnydd sy'n cael ei wneud neu beidio.

Ac, o ran yr arweinyddiaeth o fewn y Llywodraeth, fi yw'r Gweinidog arweiniol, ond menter Llywodraeth gyfan yw hon. Os edrychwch chi ar yr holl feysydd gwahanol yr ydym ni'n ymdrin â nhw yn y strategaeth hon, yn sicr nid mater o un Gweinidog ac un adran yn unig ydyw. A bydd hynny eto'n dod yn ôl at y bwrdd gweithredu yn edrych yn onest ar nodi lle yr ydym ni a'r hyn sydd angen ei wneud gan bwy, oherwydd y gwir plaen yw, os nad ydym ni'n cael pob rhan o'r Llywodraeth yn wynebu i'r un cyfeiriad, ni fyddwn ni'n cael cefnogaeth ein partneriaid, ac ni chawn gefnogaeth y partner mwyaf oll yn hyn, sef y cyhoedd eu hunain. Felly, credaf y bydd yn rhaid i rywfaint o hyn ymwneud â'r Llywodraeth yn wirioneddol yn ceisio cydweithio ag eraill. Fi yw'r Gweinidog arweiniol, ond bydd angen i ni ddangos y cynnydd yr ydym ni'n ei wneud mewn gwirionedd, ac yna, rwy'n credu, dyna fydd yr ateb gorau i'ch her ynghylch a oes gwir atebolrwydd wrth weithredu'r hyn sy'n weledigaeth gyffredin. Ac rwy'n credu bod cefnogaeth eang i'r meysydd gweithgaredd yr ydym ni'n cydnabod bod angen eu cyflawni.  

5. Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Ddiogelwch Adeiladau
5. Statement by the Minister for Housing and Local Government: Update on Building Safety

Yr eitem nesaf yw'r datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol—y wybodaeth ddiweddaraf am ddiogelwch adeiladau. A galwaf ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i wneud y datganiad. Julie James. 

The next item is a statement by the Minister for Housing and Local Government— an update on building safety. And I call on the Minister for Housing and Local Government to make the statement. Julie James. 

Diolch. Building safety, and the safety of residents, is a high priority for this Government. Safe homes are the foundation on which any modern society thrives. People have a fundamental right to feel safe in their homes. In Wales, we have a good record of fire safety. Latest figures show the number of accidental dwelling fires in Wales is at an all-time low. Furthermore, we have seen this number fall faster here than elsewhere in Great Britain. The overall chance of any dwelling experiencing a fire is low, at around one in 1,000 per year. Whilst the statistics are positive, the harm that fires cause, both in terms of injury and loss of property, is devastating. The data also shows that over three quarters of dwelling fires are caused by unsafe behaviour, not unsafe products or premises. No system of regulation can address that.

Wales also has by far the most widespread and most generous programme of home fire safety checks in Great Britain. The preventative work undertaken by our fire and rescue services has improved fire safety in our homes significantly. However, there is no room for complacency. We must continue to make improvements where we can, whilst working towards an improved and comprehensive building safety system, from the design and construction of buildings through to their occupation.

Next week we will see the publication of the first report of the public inquiry into the Grenfell Tower fire. It will cover the events on the night of the fire itself and the actions of the main responders, in particular the London Fire Brigade and the Metropolitan Police. Any findings or recommendations it makes will primarily be a matter for those organisations, but we will be examining the report closely to identify any implications and lessons for Wales.

Since my last oral statement on building safety in May, the building safety programme board has been established and is progressing the recommendations from 'A Road Map to safer buildings in Wales'. Many of these reforms are long-term changes that will require new primary legislation. I will publish my White Paper on proposals for the reformed building safety system next year. However, there is much that can be done in the short and medium term to improve fire safety.

Diolch. Mae diogelwch adeiladau, a diogelwch trigolion, yn flaenoriaeth uchel i'r Llywodraeth hon. Cartrefi diogel yw sylfaen ffyniant unrhyw gymdeithas fodern. Mae gan bobl hawl sylfaenol i deimlo'n ddiogel yn eu cartrefi. Yng Nghymru, mae gennym ni record dda o ran diogelwch tân. Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod nifer y tanau damweiniol mewn cartrefi yng Nghymru yn is nag erioed. At hynny, rydym ni wedi gweld y nifer hwn yn gostwng yn gyflymach yma nag mewn mannau eraill ym Mhrydain Fawr. Mae'r siawns gyffredinol y bydd unrhyw gartref yn cael tân yn isel, tua un ym mhob 1,000 y flwyddyn. Er bod yr ystadegau'n gadarnhaol, mae'r niwed y mae tanau'n ei achosi, o ran anaf a cholli eiddo, yn ofnadwy. Mae'r data hefyd yn dangos bod dros dri chwarter o danau mewn cartrefi yn cael eu hachosi gan ymddygiad anniogel, nid nwyddau neu safleoedd anniogel. Ni all unrhyw system reoleiddio fynd i'r afael â hynny.

Mae gan Gymru hefyd y rhaglen fwyaf eang a mwyaf hael o wirio diogelwch tân yn y cartref ym Mhrydain fawr o bell ffordd. Mae'r gwaith ataliol a wnaed gan ein gwasanaethau tân ac achub wedi gwella diogelwch tân yn ein cartrefi yn sylweddol. Fodd bynnag, nid oes lle i laesu dwylo. Mae'n rhaid i ni barhau i wneud gwelliannau lle y gallwn ni, wrth weithio tuag at system diogelwch adeiladau well a chynhwysfawr, o ddylunio ac adeiladu adeiladau hyd at y cyfnod pan fydd pobl yn byw ynddyn nhw.

Yr wythnos nesaf bydd adroddiad cyntaf yr ymchwiliad cyhoeddus i dân Tŵr Grenfell yn cael ei gyhoeddi. Bydd yn ymdrin â'r digwyddiadau ar noson y tân ei hun a gweithredoedd y prif ymatebwyr, yn arbennig Brigâd Dân Llundain a'r Heddlu Metropolitan. Mater i'r sefydliadau hynny yn bennaf fydd unrhyw ganfyddiadau neu argymhellion y bydd yn eu gwneud, ond byddwn ni'n archwilio'r adroddiad yn fanwl i nodi unrhyw oblygiadau a gwersi i Gymru.

Ers fy natganiad llafar diwethaf ar ddiogelwch adeiladau ym mis Mai, mae bwrdd y rhaglen diogelwch adeiladau wedi'i sefydlu ac mae'n bwrw ymlaen â'r argymhellion o 'Map tuag at adeiladau mwy diogel yng Nghymru'. Mae llawer o'r diwygiadau hyn yn newidiadau hirdymor a fydd yn gofyn am deddfwriaeth sylfaenol newydd. Byddaf i'n cyhoeddi fy Mhapur Gwyn ar gynigion ar gyfer y system diogelwch adeiladau ddiwygiedig y flwyddyn nesaf. Fodd bynnag, mae llawer y gellir ei wneud yn y tymor byr a chanolig i wella diogelwch tân.

15:35

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

The Llywydd took the Chair.

I've already committed to consult on making the fire and rescue service a statutory consultee on relevant planning applications. This will ensure fire safety issues are fully considered at this early stage, and make the service aware of changes in local fire risk at the earliest opportunity. This goes beyond high-rise buildings, and, subject to consultation, could include other purpose-built flats. Extensive low-rise developments can also raise issues of access for fire appliances and water supplies.

Amendments to the current building regulations in order to ban the use of combustible cladding materials, making it clear what cladding is acceptable on high-rise residential buildings, are also in hand. I would expect these amendments to be laid by Christmas, following clearance. We will not tolerate cladding that falls below acceptable standards and increases risk to residents.

To ensure practical short-term improvements to current working arrangements, my officials have further engaged with key partners to improve communication and better understand current roles and duties. We are working with the Welsh Local Government Association and the Directors of Public Protection Wales to identify further support for local authorities to ensure residents in high-rise residential buildings receive the necessary checks. This will maintain a safe living environment and should help rebuild confidence following the tragedy at Grenfell Tower.

This programme of comprehensive reforms will put greater emphasis on buildings over 18m, or seven storeys, in height. Fire safety in blocks of flats depends critically on maintaining compartmentalisation—the ability of the structure to contain a fire in the area in which it originates. If that fails, as it did at Grenfell, then the consequences, as we know, can be really dire. The risks presented by inadequate compartmentation are especially high in taller buildings, given the added challenges of escape or rescue. Therefore, it is right and proper that there are more requirements on how these buildings are designed and constructed and how they are managed when in occupation.

My commitment to improving fire safety does not only apply to those living in high-rise residential buildings, though. My intention is for legislation to be flexible enough to include other buildings in the future, should the evidence lead us to consider it necessary. A one-size-fits-all system does not reflect the range and complexity of the system we are trying to fix.

As part of the reforms, I am looking to make significant changes to the Regulatory Reform (Fire Safety) Order, commonly known as the fire safety Order, to lighten the system for occupation of buildings. Sorry, Llywydd—to tighten the system, not lighten it; to tighten the system for occupation of buildings. I am minded to extend many of these changes to other buildings containing multiple dwellings and a common area. Areas I will be looking to address when reforming the fire safety Order include bringing clarity to the parts of buildings covered by the regime, including in particular the safety-critical boundaries between common areas and dwellings and the outside walls of buildings; clarifying who the responsible person should be and their role, including legal liability, regarding continual fire safety management; and making fire-risk assessments more robust. New requirements could include a fully qualified and experienced person carrying out assessments at specified intervals, and for the results to be documented and available on request to residents, regulators and others.

We will also explore specific duties around preserving compartmentation, which is vital to fire safety in any multi-dwelling premises. Such duties could apply to residents and contractors, as well as landlords and managing agents. We will also consider specific duties around raising the alarm, fire suppression, means of escape, and facilities for firefighters. The current arrangements for inspection, enforcement and sanctions will also be reviewed.

During the design and construction phase of residential buildings above 18m, a heightened inspection regime will be introduced, with hard stop points. Where problems are identified, progression to the next stage of construction will halt until the issues are addressed. There will also be additional building requirements to improve fire safety. These measures will increase transparency and help rebuild the public’s confidence in the system.

I'm also looking at ways to ensure managing agents are registered to support best practice, and stamp out rogue operators. An initial voluntary accreditation scheme for managing agents will generate evidence to inform the creation of a mandatory system. At occupation phase, there will be a requirement to register duty holders for homes of multiple occupancy, and set new requirements for duty holders for residential buildings over 18m in height to be licensed. 

Of course, these changes will improve matters for the future. But, over the past few months, a number of serious building safety defects in existing high-rise residential buildings have been brought to my attention. Newly identified fire risks are becoming apparent as buildings are undergoing detailed inspections following the fire at Grenfell Tower two years ago. I have been consistent in my message that the taxpayer cannot foot the bill for failures in the design or construction of private sector residential buildings. Building owners and developers should face up to their moral responsibility and put right these faults, or risk their professional reputation. However, I know many leaseholders have been frustrated by the lack of action and left distressed at the bills many face to fix the issues.

This Government has long held that sprinklers are the single most effective way to help protect people and property in the event of a fire. I'm therefore exploring how we might build on the foundation laid by our world-leading 2016 legislation that ensures all new and converted homes in Wales are fitted with sprinklers, and promote retrofit of sprinklers in more existing buildings. I have asked officials to examine the potential to develop a new low-cost loan scheme to support the retrofitting of sprinklers in existing blocks of flats within both the private and public sectors, and I will announce further detail of that in due course.

This is complex work and has required time to reflect on the variety of different professional opinions and potential policy proposals. It is vital that we get this right as the legislative changes will be complex, covering at least three key pieces of legislation. I am confident we can meet the targets set out in my published timetable and, importantly, that they will deliver on our commitment to reform the system for the better. Diolch. 

Rwyf i eisoes wedi ymrwymo i ymgynghori ar wneud y gwasanaeth tân ac achub yn ymgynghorai statudol ar geisiadau cynllunio perthnasol. Bydd hyn yn sicrhau bod materion diogelwch tân yn cael eu hystyried yn llawn ar y cam cynnar hwn, ac yn gwneud y gwasanaeth yn ymwybodol o newidiadau mewn risg o dân lleol cyn gynted â phosibl. Mae hyn yn mynd y tu hwnt i adeiladau uchel ac, yn amodol ar ymgynghoriad, gallai gynnwys fflatiau pwrpasol eraill. Gall datblygiadau helaeth o adeiladau isel hefyd godi materion yn ymwneud â mynediad i offer tân a chyflenwadau dŵr.

Mae diwygiadau i'r rheoliadau adeiladu presennol hefyd ar y gweill, er mwyn gwahardd defnyddio deunyddiau cladin hylosg, gan ei gwneud yn glir pa gladin sy'n dderbyniol ar adeiladau preswyl uchel. Byddwn i'n disgwyl i'r gwelliannau hyn gael eu gosod erbyn y Nadolig, ar ôl cael caniatâd. Ni fyddwn ni'n goddef cladin sy'n is na'r safonau derbyniol ac sy'n cynyddu'r risg i breswylwyr.

Er mwyn sicrhau gwelliannau ymarferol tymor byr i'r trefniadau gweithio presennol, mae fy swyddogion wedi ymgysylltu ymhellach â phartneriaid allweddol i wella cyfathrebu a deall swyddogaethau a dyletswyddau presennol yn well. Rydym ni'n gweithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chyfarwyddwyr Diogelu'r Cyhoedd (Cymru) i nodi rhagor o gymorth i awdurdodau lleol i sicrhau bod trigolion mewn adeiladau preswyl uchel yn cael y gwiriadau angenrheidiol. Bydd hyn yn cynnal amgylchedd byw diogel a dylai helpu i ailsefydlu hyder yn dilyn y drychineb yn Nhŵr Grenfell.

Bydd y rhaglen hon o ddiwygiadau cynhwysfawr yn rhoi mwy o bwyslais ar adeiladau sydd dros 18 metr, neu saith llawr, o uchder. Mae diogelwch tân mewn blociau o fflatiau'n dibynnu'n hanfodol ar gynnal compartmentau—gallu'r strwythur i ynysu'r tân yn yr ardal y mae'n dechrau. Os bydd hynny'n methu, fel y gwnaeth yn Grenfell, yna gall y canlyniadau, fel y gwyddom ni, fod yn enbyd iawn. Mae'r risgiau compartmentau annigonol yn arbennig o uchel mewn adeiladau talach, o ystyried heriau ychwanegol dianc neu achub. Felly, mae'n deg ac yn briodol bod mwy o ofynion ar sut y caiff yr adeiladau hyn eu dylunio a'u hadeiladu a sut y byddan nhw'n cael eu rheoli pan fydd pobl yn byw ynddyn nhw.

Fodd bynnag, nid yw fy ymrwymiad i wella diogelwch tân yn berthnasol i'r rhai sy'n byw mewn adeiladau preswyl uchel yn unig. Fy mwriad i yw y bydd deddfwriaeth yn ddigon hyblyg i gynnwys adeiladau eraill yn y dyfodol, os bydd y dystiolaeth yn ein harwain i ystyried bod hynny'n angenrheidiol. Nid yw un system i bawb yn adlewyrchu ystod a chymhlethdod y system yr ydym ni'n ceisio'i drwsio.

Fel rhan o'r diwygiadau, rwy'n bwriadu gwneud newidiadau sylweddol i'r Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân), a elwir yn gyffredin yn Orchymyn diogelwch tân, i ysgafnhau'r system ar gyfer pobl yn byw mewn adeiladau. Mae'n ddrwg gennyf, Llywydd—tynhau'r system, nid ei ysgafnhau; tynhau'r system ar gyfer meddiannu adeiladau. Rwy'n bwriadu ymestyn llawer o'r newidiadau hyn i adeiladau eraill sy'n cynnwys nifer o dai ac ardal gyffredin. Mae meysydd y byddaf yn mynd i'r afael â nhw wrth ddiwygio'r Gorchymyn Diogelwch Tân yn cynnwys gwneud y rhannau o adeiladau sy'n cael eu cwmpasu gan y gyfundrefn yn gliriach, gan gynnwys yn arbennig y ffiniau diogelwch-critigol rhwng ardaloedd cyffredin a chartrefi a waliau allanol adeiladau; gan egluro pwy ddylai'r person cyfrifol fod a'i swyddogaeth, gan gynnwys atebolrwydd cyfreithiol, ynghylch rheoli diogelwch tân yn barhaus; a gwneud asesiadau risg tân yn fwy cadarn. Gallai gofynion newydd gynnwys person cwbl gymwysedig a phrofiadol sy'n cynnal asesiadau ar gyfnodau penodol, a bod y canlyniadau yn cael eu cofnodi a'u bod ar gael ar gais i breswylwyr, rheoleiddwyr ac eraill.

Byddwn ni hefyd yn archwilio dyletswyddau penodol yn ymwneud â chadw compartmentau, sy'n hanfodol i ddiogelwch tân mewn unrhyw adeiladau aml-annedd. Gallai dyletswyddau o'r fath fod yn berthnasol i breswylwyr a chontractwyr, yn ogystal â landlordiaid ac asiantau rheoli. Byddwn ni hefyd yn ystyried dyletswyddau penodol yn ymwneud â seinio'r larwm, atal tân, dulliau dianc, a chyfleusterau ar gyfer diffoddwyr tân. Bydd y trefniadau presennol ar gyfer arolygu, gorfodi a chosbau hefyd yn cael eu hadolygu.

Yn ystod y cyfnod dylunio ac adeiladu adeiladau preswyl dros 18m, bydd trefn arolygu fwy dwys yn cael ei chyflwyno, gyda phwyntiau cyswllt caled. Pan nodir problemau, bydd symud ymlaen i'r cam adeiladu nesaf yn dod i ben hyd nes y rhoddir sylw i'r materion. Bydd gofynion ychwanegol o ran adeiladau i wella diogelwch tân hefyd. Bydd y mesurau hyn yn gwella tryloywder ac yn helpu i ailennyn hyder y cyhoedd yn y system.

Rwyf i hefyd yn edrych ar ffyrdd o sicrhau bod asiantau rheoli yn cael eu cofrestru i gefnogi arfer gorau, a chael gwared ar weithredwyr twyllodrus. Bydd cynllun achredu gwirfoddol cychwynnol ar gyfer asiantau rheoli yn cynhyrchu tystiolaeth i lywio'r broses o greu system orfodol. Yn y cyfnod meddiannaeth, bydd yn ofynnol bod deiliaid dyletswydd yn cael eu cofrestru ar gyfer cartrefi amlfeddiannaeth, a gosod gofynion newydd bod deiliaid dyletswydd ar gyfer adeiladau preswyl o fwy na 18 metr mewn uchder yn drwyddedig.  

Wrth gwrs, bydd y newidiadau hyn yn gwella pethau ar gyfer y dyfodol. Ond, yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf, tynnwyd fy sylw i at nifer o ddiffygion diogelwch adeiladu difrifol mewn adeiladau preswyl uchel sydd eisoes yn bodoli. Mae risgiau tân sydd newydd eu nodi yn dod i'r amlwg wrth i adeiladau gael arolygiadau manwl yn sgil y tân yn Nhŵr Grenfell ddwy flynedd yn ôl. Rwyf i wedi bod yn gyson yn fy neges na all y trethdalwr dalu'r bil am fethiannau yn nyluniad neu adeiladwaith adeiladau preswyl y sector preifat. Dylai perchnogion adeiladu a datblygwyr wynebu eu cyfrifoldeb moesol ac unioni'r diffygion hyn, neu beryglu eu henw da proffesiynol. Fodd bynnag, gwn fod llawer o lesddeiliaid wedi'u rhwystro gan y diffyg gweithredu ac mae'r biliau y mae llawer ohonyn nhw yn eu hwyneb i gywiro'r materion wedi peri trallod iddyn nhw. 

Mae'r Llywodraeth hon wedi bod o'r farn ers tro mai systemau chwistrellu yw'r ffordd fwyaf effeithiol o helpu i amddiffyn pobl ac eiddo os bydd tân. Felly, rwy'n archwilio sut y gallem ni adeiladu ar y sylfaen a osodwyd gan ein deddfwriaeth 2016 arloesol, sy'n sicrhau bod system chwistrelli wedi'i gosod ym mhob cartref newydd a chartref sydd wedi'i haddasu yng Nghymru, ac yn hyrwyddo ôl-osod systemau chwistrellu mewn rhagor o adeiladau presennol. Rwyf i wedi gofyn i swyddogion ystyried y potensial i ddatblygu cynllun benthyciadau cost isel newydd i gefnogi ôl-osod systemau chwistrellu mewn blociau o fflatiau sy'n bodoli eisoes yn y sector preifat a chyhoeddus, a byddaf i'n cyhoeddi rhagor o fanylion am hynny maes o law.

Mae hwn yn waith cymhleth y bu'n rhaid rhoi amser iddo i fyfyrio ar yr amrywiaeth o safbwyntiau proffesiynol gwahanol a chynigion polisi posibl. Mae'n hanfodol ein bod yn cael hyn yn iawn gan y bydd y newidiadau deddfwriaethol yn gymhleth, gan gynnwys o leiaf dri darn allweddol o ddeddfwriaeth. Rwy'n hyderus y gallwn ni gyrraedd y targedau sydd wedi'u nodi yn yr amserlen a gyhoeddwyd gennyf i ac, yn bwysig iawn, y byddan nhw yn cyflawni ein hymrwymiad i ddiwygio'r system er gwell. Diolch  

15:40

While I agree with much of the Minister's approach, I do think it's time to move more quickly, though I do welcome the fact that we're having regular statements on this very important issue. For instance, I note that you will publish a White Paper on building safety. I think that's appropriate. But I think what we also need to know is whether you intend to legislate before the Assembly elections in 2021, because, if you don't, any Government that's elected then at that election will have to bring in a legislative programme, that probably won't be until the autumn of 2021, and it could be 2022 or 2023 before we are seeing any legislation. So, I really think that we need to do the legislation in this Assembly, if at all possible.

I have a couple of specific questions as well. I note what you said about compartmentation, which is not easy to say, being critical to the design of high-rise buildings, and that any safety inspection has to look at that, and then any future remediation has to look at that, and communal areas. Even each person's front door—if that isn't of the required fire safety then it doesn't matter how robust the flat is, obviously you've got a problem. But I do want to know where we are with 'stay put' advice as well. I notice in England—sorry, in London—they are expressly reviewing that. There's still a lot of confusion about what residents should do.

And then the registration of managing agents—whilst I could see, in terms of a voluntary scheme, that you can get going quicker on that, I would like to know whether we have the power to legislate or whether that doesn't lie within our powers. And, if it doesn't, what discussions are we having with the UK Government to ensure—? I think it should be a mandatory system, and if we could move forward on that as quickly as possible—. 

Finally, can I say that I was a bit disappointed about what we're doing in the private residential sector, where there have been more and more revelations of sub-standard buildings, some of them not very old? The Celestia complex in Cardiff Bay has been discussed, and I think it's a very troubling example: developed by Redrow, now found to have very poor or non-existent fire barriers between flats—there is an enforcement order issued by the fire authority—very poor or non-existent compartmentation measures; design features not in place to stop fire spreading internally; missing or defective external fire cavity barriers; and some of the timber cladding and insulation does not meet required standards. Now, just reading that out, you can imagine what the residents feel, but it now appears that they're going to bear all the risk and the cost of putting things right, unless pressure is brought to bear. I think the developers have and the builders have a moral responsibility, but we need to go a bit further than that and see if the regulations that were in force at the time were properly observed, and, if not, and there's systematic failure, so even if the materials were correct the way they were installed was not, then it seems to me that, at the very least, we need a partnership approach between the private sector, state sector and, perhaps, residents as well. But I do not think the residents should be bearing the brunt of the cost—nothing like it.

Now, the UK Government, to get moving on this, has announced that about £200 million would be made available to remove and replace unsafe cladding from high-rise private residential buildings. This will enable remediation work to take place and it will have to be done for the benefit of the leaseholders, and presumably it will help to reduce the costs they face. I genuinely don't know if that's a UK scheme. If it is, what can we expect to get and how will you administer it? If it isn't, is there any Barnett consequential and will you be developing a scheme as well?

But, it's not enough, I think, and I would say this of the UK Government as well—I'm not singling you out—to talk about moral responsibility that the builders and developers have. We need to get everyone around the table and find a solution, and not just send off bills for £40,000, potentially, to someone who owns a modest two-bedroomed flat in one of these developments. People are really, really concerned—I'm sure many of them are watching this session. I would co-operate with you fully, because we are where we are through a series of problems and errors that have been committed by various administrations, no doubt, but we do need to help these people who are in real need at the moment, and, in many ways, in a worse position than those in social housing.

Er fy mod i'n cytuno â llawer o ddull gweithredu'r Gweinidog, rwy'n credu ei bod yn bryd symud yn gynt, ond rwy'n croesawu'r ffaith ein bod yn cael datganiadau rheolaidd ar y mater pwysig iawn hwn. Er enghraifft, rwy'n sylwi y byddwch yn cyhoeddi Papur Gwyn ar ddiogelwch adeiladau. Rwy'n credu bod hynny'n briodol. Ond rwy'n credu mai'r hyn y mae angen inni ei wybod hefyd yw a ydych chi'n bwriadu deddfu cyn etholiadau'r Cynulliad yn 2021, oherwydd, os na fyddwch yn gwneud hynny, bydd yn rhaid i unrhyw Lywodraeth a etholir yn yr etholiad hwnnw yn gorfod cyflwyno rhaglen ddeddfwriaethol, ac mae'n debyg na fydd hynny tan hydref 2021, a gallai fod yn 2022 neu 2023 cyn i ni weld unrhyw ddeddfwriaeth. Felly, rwy'n credu o ddifrif bod angen i ni wneud y ddeddfwriaeth yn y Cynulliad hwn, os yw hynny'n bosibl.

Mae gennyf i gwpl o gwestiynau penodol hefyd. Rwy'n nodi'r hyn y gwnaethoch chi ei ddweud am gompartmentau, ac nid yw'n hawdd dweud hynny, gan eu bod yn hanfodol i ddyluniad adeiladau uchel, a bod yn rhaid i unrhyw archwiliad diogelwch ystyried hynny, ac yna mae'n gorfod ystyried unrhyw waith adfer yn y dyfodol, a mannau cymunedol. Hyd yn oed drws ffrynt pob person—os nad yw hynny'n unol â'r diogelwch tân gofynnol, yna does dim ots pa mor gadarn yw'r fflat, yn amlwg mae gennych chi broblem. Ond rwy'n awyddus i wybod lle'r ydym ni arni gyda'r cyngor i aros lle'r ydych chi hefyd. Rwy'n sylwi yn Lloegr—mae'n ddrwg gen i, yn Llundain—maen nhw'n adolygu hynny'n benodol. Mae llawer o ddryswch o hyd ynglŷn â'r hyn y dylai preswylwyr ei wneud.

Ac yna cofrestru asiantau rheoli—er y gallwn i weld, o ran cynllun gwirfoddol, y gallwch chi fynd yn gyflymach ar hynny, hoffwn i wybod a oes gennym ni y pŵer i ddeddfu neu a yw hynny y tu hwnt i'n pwerau? Ac, os nad ydyw o fewn ein pwerau, pa drafodaethau yr ydym ni'n eu cael gyda Llywodraeth y DU i sicrhau—? Rwy'n credu y dylai fod yn system orfodol, ac os byddai modd i ni symud ymlaen ar hynny cyn gynted ag sy'n bosibl—.  

Yn olaf, a gaf i ddweud fy mod ychydig yn siomedig am yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yn y sector preswyl preifat, lle y bu fwyfwy o ddatgelu adeiladau is-safonol, rhai ohonyn nhw nad ydynt yn hen iawn? Mae adeilad Celestia ym Mae Caerdydd wedi cael ei drafod, ac rwy'n credu ei fod yn enghraifft drafferthus: wedi'i ddatblygu gan Redrow, rydym yn gwybod erbyn hyn fod ganddyn nhw rwystrau tân rhwng fflatiau sydd naill ai'n wael iawn, neu nad ydyn nhw'n bodoli—mae gorchymyn gorfodi wedi cael ei gyhoeddi gan yr awdurdod tân—yn wael iawn neu fesurau compartmentau nad ydyn nhw'n bodoli; nodweddion dylunio nad ydyn nhw'n weithredol i atal tân rhag lledaenu'n fewnol; rhwystrau ceudod tân allanol ar goll neu'n ddiffygiol; ac nid yw peth o'r cladin coed ac inswleiddio yn cyrraedd y safonau gofynnol. Nawr, dim ond wrth ddarllen hynny allan, gallwch chi ddychmygu'r hyn y mae'r preswylwyr yn ei deimlo, ond mae'n ymddangos yn awr eu bod yn mynd i ysgwyddo'r holl risg a'r gost o unioni pethau, oni bai fod pwysau'n cael ei ddefnyddio. Rwy'n credu bod gan y datblygwyr a'r  adeiladwyr gyfrifoldeb moesol, ond mae angen inni fynd ychydig ymhellach na hynny a gweld a oedd y rheoliadau a oedd mewn grym ar y pryd wedi cael eu dilyn yn gywir, ac, os nad oeddent, a bod methiant systematig, felly hyd yn oed os oedd y deunyddiau yn gywir, nid oedd y ffordd y cawsant eu gosod yn gywir, yna mae'n ymddangos i mi fod angen dull partneriaeth, o leiaf, rhwng y sector preifat, y sector gwladol ac, efallai, trigolion hefyd. Ond nid wyf yn credu y dylai'r trigolion fod yn ysgwyddo baich y gost—dim byd tebyg iddi.

Mae Llywodraeth y DU, er mwyn symud ymlaen, wedi cyhoeddi y byddai tua £200 miliwn ar gael i symud a disodli cladin anniogel o adeiladau preswyl preifat uchel. Bydd hyn yn galluogi gwaith adfer i ddigwydd a bydd yn rhaid ei wneud er budd y prydleswyr, ac mae'n debyg y bydd yn helpu i leihau'r costau y maen nhw'n eu hwynebu. Wn i ddim os ydy hynny'n gynllun y DU. Os ydyw, beth y gallwn ni ddisgwyl ei gael a sut y byddwch chi'n ei weinyddu? Os nad ydyw, a oes unrhyw swm canlyniadol dan fformiwla Barnett ac a fyddwch chi'n datblygu cynllun hefyd?

Ond, nid yw'n ddigon, yn fy marn i, a byddwn i'n dweud hyn am Lywodraeth y DU hefyd—nid wyf yn son amdanoch chi yn unig—i siarad ynghylch cyfrifoldeb moesol yr adeiladwyr a'r datblygwyr. Mae angen inni gael pawb o amgylch y bwrdd a dod o hyd i ateb, ac nid dim ond anfon biliau am £40,000, o bosibl, at rywun sy'n berchen ar fflat dwy lofft gymedrol yn un o'r datblygiadau hyn. Mae pobl yn wirioneddol bryderus—rwy'n siŵr bod llawer ohonyn nhw yn gwylio'r sesiwn hon. Byddwn i'n cydweithio â chi'n llawn, oherwydd rydym ni yn y fan lle'r ydym ni drwy gyfres o broblemau a chamgymeriadau a gyflawnwyd gan wahanol weinyddiaethau, mae'n siŵr, ond mae angen inni helpu'r bobl hyn sydd mewn angen gwirioneddol ar hyn o bryd, ac mewn sawl ffordd, sydd mewn sefyllfa waeth na'r rhai mewn tai cymdeithasol.

15:45

Yes, I don't disagree, really, David, with anything that you've set out there. We are quite frustrated by the position. The UK Government is currently investigating whether to bring into force something called section 38 of the Building Act 1984, which is a part of the Building Act that addresses the civil liability and who is responsible for breaches of regulatory duty and so on. So, that consultation is live. We don't have the power to do it here, as I understand it, although if that's incorrect I'll write to say, but my understanding is we don't.

If they do bring that into force, it gives individuals the right to legal recourse where they suffer damage, which includes personal injury, death and so on, as a result of a breach of the duty imposed by building regulations. But, at the moment—. I've got pages and pages here of the complexity of the law relating to who is responsible if buildings had passed a regulatory regime at one point then fail it subsequently, and it's immensely complex. Andrew R.T. Davies asked a question in the business statement earlier about this, and I'm afraid the answer is that it's immensely complicated. It depends at what point they were inspected, by whom, what the relationship was, what your insurance position is and whether you're a leaseholder. It's really complicated and very individualised.

What is clear, though, is that the current regime does not place the onus on the building inspector. All they're doing is a spot check, so something could have gone wrong the day before that's now covered up or go wrong the day afterwards, so it's a system based on spot checking—it is not a guarantee that your building is compliant. Indeed, as you've rightly pointed out, we are now aware that many buildings that did pass those tests on a spot-check basis are not compliant, so it is a real problem.

We are in conversation—in particular, you mentioned Celestia. Officials are engaged in conversations with the fire authorities—the South Wales Fire and Rescue Service. Welsh Government officials have been meeting with Celestia's managing agents and Cardiff council, as well as fire and rescue, to understand the complex issues that are problematic there. I agree with you that leaseholders should not be expected to pay these, but, at the moment, it is not clear, unless they have a valid claim, who would pay unless the UK Government stumps up some cash, which I join you in calling for them to do.

In terms of the ACM cladding issues, those are slightly more complex. So, we had 111 high-rise buildings identified in Wales and 12 high-rise private residential buildings with ACM cladding that failed the initial screening tests, all of which were in Cardiff. All 12 buildings have either removed the cladding or have a remediation system in place. So, that particular problem is not a problem in Wales, although it continues to be a problem elsewhere. For social homes, we provided the funding to remedy the situation. So, in Wales that specific problem doesn't exist, although we continue to test other types of cladding. Sometimes it's not the cladding, it's the way it was put on, as you say, and the workmanship and so on, so these are very complex things.

In terms of the timing, I totally accept what you're saying. It would be lovely to get it done, but the other thing to do is to get it right. And so, these are really complex, and the more we go into them, the more differing professional views there are. So, I want to get it right. I hope the White Paper will enable us to make those policy choices, and then assuming they're not controversial, maybe we will be able to get that legislation through. I share your wish to do that, but we'll have to see what the White Paper produces.

Dydw i ddim yn anghytuno, mewn gwirionedd, David, ag unrhyw beth yr ydych chi wedi'i nodi yno. Rydym ni'n teimlo'n rhwystredig iawn ynghylch y sefyllfa. Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth y DU yn ymchwilio i weld a ddylid dod â rhywbeth a elwir yn adran 38 o Ddeddf Adeiladu 1984 i rym, sef rhan o'r Ddeddf adeiladu sy'n mynd i'r afael â'r atebolrwydd sifil a phwy sy'n gyfrifol am dorri'r ddyletswydd reoleiddio ac ati. Felly, mae'r ymgynghoriad hwnnw'n fyw. Nid oes gennym ni'r pŵer i'w wneud yma, fel rwyf i'n ei ddeall, er, os yw hynny'n anghywir, byddaf i'n ysgrifennu i ddweud, ond yn ôl yr hyn yr wyf i'n ei ddeall, nid oes gennym ni.

Os ydyn nhw'n dod â hynny i rym, mae'n rhoi hawl cyfreithiol i unigolion droi atyn nhw os ydyn nhw'n dioddef difrod, sy'n cynnwys anaf personol, marwolaeth ac yn y blaen, o ganlyniad i dorri'r ddyletswydd a osodir gan reoliadau adeiladu. Ond, ar hyn o bryd—. Mae gen i dudalennau a thudalennau yma o gymhlethdodau'r gyfraith sy'n ymwneud â phwy sy'n gyfrifol os oedd adeiladau wedi pasio trefn reoleiddio ar un adeg yna wedi'i fethu ar ôl hynny, ac mae'n hynod o gymhleth. Gofynnodd Andrew R.T. Davies gwestiwn yn y datganiad busnes yn gynharach am hyn, ac mae arnaf i ofn mai'r ateb yw ei fod yn hynod o gymhleth. Mae'n dibynnu pa bryd y cawson nhw eu harolygu, gan bwy, beth oedd y berthynas, beth yw eich sefyllfa o ran yswiriant ac a ydych yn lesddeiliad. Mae'n hynod o gymhleth ac yn unigol iawn.

Yr hyn sy'n amlwg, serch hynny, yw nad yw'r drefn bresennol yn rhoi'r cyfrifoldeb ar yr arolygydd adeiladu. Y cyfan maen nhw'n ei wneud yw hapwiriadau, felly gallai rhywbeth fod wedi mynd o'i le y diwrnod cyn hynny sydd nawr wedi'i guddio neu'n mynd o'i le y diwrnod wedyn, felly mae'n system sy'n seiliedig ar hapwiriadau—nid oes gwarant y bydd eich adeilad yn cydymffurfio. Yn wir, fel yr ydych chi wedi'i nodi'n briodol, rydym ni bellach yn ymwybodol nad yw llawer o adeiladau a lwyddodd i basio'r profion hynny ar sail hapwiriadau yn cydymffurfio, felly mae wir yn broblem.

Rydym ni'n sgwrsio—yn benodol, fe wnaethoch chi sôn am Celestia. Mae swyddogion wrthi'n sgwrsio â'r awdurdodau tân—Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi bod yn cwrdd ag asiantau rheoli Celestia a Chyngor Caerdydd, yn ogystal â thân ac achub, i ddeall y materion cymhleth sy'n achosi problemau yno. Cytunaf â chi na ddylid disgwyl i lesddeiliaid dalu'r rhain, ond, ar hyn o bryd, nid yw'n glir, oni bai fod ganddyn nhw hawliad dilys, pwy fyddai'n talu oni bai fod Llywodraeth y DU yn darparu rhywfaint o arian, ac ymunaf â chi i alw arnyn nhw i wneud hynny.

O ran y materion cladin ACM, mae'r rheini ychydig yn fwy cymhleth. Felly, cafodd 111 adeilad uchel eu nodi yng Nghymru a 12 o adeiladau preswyl preifat uchel gyda chladin ACM a fethodd y profion sgrinio cychwynnol, ac yr oedd pob un ohonyn nhw yng Nghaerdydd. Mae pob un o'r 12 adeilad naill ai wedi cael gwared ar y cladin neu wedi sefydlu system adfer. Felly, nid yw'r broblem benodol honno'n broblem yng Nghymru, er ei bod yn dal yn broblem mewn mannau eraill. O ran cartrefi cymdeithasol, fe wnaethom ni ddarparu'r arian i unioni'r sefyllfa. Felly, yng Nghymru nid yw'r broblem benodol honno'n bodoli, er ein bod yn parhau i brofi mathau eraill o gladin. Weithiau, nid y cladin ei hun yw hyn, ond y ffordd y cafodd ei osod, fel y dywedwch chi, a'r crefftwaith ac yn y blaen, felly mae'r rhain yn bethau cymhleth iawn.

O ran yr amseru, rwy'n derbyn yn llwyr yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud. Byddai'n hyfryd ei gyflawni, ond y peth arall i'w wneud yw ei gyflawni'n gywir. Ac felly, mae'r rhain yn wirioneddol gymhleth, a po fwyaf y byddwn ni'n mynd i mewn iddyn nhw, y mwyaf o farnau proffesiynol sydd ar gael. Felly, rwyf i am wneud pethau'n iawn. Rwy'n gobeithio y bydd y Papur Gwyn yn ein galluogi i wneud y dewisiadau polisi hynny, ac wedyn gan dybio nad ydyn nhw'n ddadleuol, efallai y byddwn ni'n gallu sicrhau bod y ddeddfwriaeth honno'n cael ei chyflwyno. Rwy'n rhannu eich dymuniad i wneud hynny, ond bydd yn rhaid inni weld beth fydd y Papur Gwyn yn ei gynhyrchu.

15:50

I thank the Minister for the update provided in the statement. If the Grenfell fire has revealed anything the most, it's been just how neglected the housing conditions of many people have been for far, far too long. It also should highlight the dangers of lax regulation and planning, of which we're seeing the aftermath of here. 

I've got a few questions to focus on this particular aspect of the statement. First of all, there is no professional regulation for builders; anyone can set themselves up as a builder and obtain work that could then subsequently go on to become a fire hazard. We are one of the few countries where this is the case. So, will the Minister be prepared to look at establishing professional regulation in order to raise standards?

Secondly, your statement mentions the professional reputation of building owners and developers. However, in practice, this reputation appears to mean little to many of them. Part of this problem is that developers who apply for planning can't have their previous reputation taken into account by planning officers, who have to go on their word that promises will be kept. So, what steps will you take to change this, and ensure that the reputation of a developer is something that matters more to them than being able to pay a big bonus to their management?

Finally, I'd like to ask you about the last part of your statement that mentions the problems that leaseholders in the same buildings are facing, an issue that has been reported in the media recently, and has been raised with you this afternoon. Now, your statement is suggesting that a low-cost loan scheme be implemented to retrofit sprinklers, but I'm not really sure that that will help. One of the developers has already offered a loan anyway. This is an issue of injustice. Why should the residents who bought those flats in good faith have to pay to rectify those issues that should have been identified by the quality-control process that a responsible developer should have had in place? Instead, wouldn't you agree that developers who have profited from a lacklustre and laissez-faire planning and regulatory regime should be the ones who rectify this? A windfall tax on large developers would be one way of paying for this work to be rectified but, of course, we don't have the ability to do that here. But we do have the ability to create new taxes. So, will you instruct your officials to explore what forms of new taxation could be levied to ensure that those private building companies who've profited from poor safety can no longer do so?

Diolch i'r Gweinidog am yr wybodaeth ddiweddaraf a ddarparwyd yn y datganiad. Os yw tân Grenfell wedi dangos un peth yn fwy na dim, y peth hwnnw yw gymaint y mae amodau tai llawer o bobl wedi cael eu hesgeuluso am rhy hir o lawer. Dylai hefyd dynnu sylw at beryglon rheoleiddio a chynllunio llac, yr ydym ni'n gweld eu canlyniadau yn y fan yma.  

Mae gen i ychydig o gwestiynau i'w gofyn i ganolbwyntio ar agwedd benodol hon y datganiad. Yn gyntaf oll, nid oes unrhyw reoleiddio proffesiynol ar gyfer adeiladwyr; gall unrhyw un sefydlu ei hun fel adeiladwr a chael gwaith a allai, yn y pen draw, fod yn berygl tân. Rydym ni'n un o'r ychydig wledydd lle mae hyn yn wir. Felly, a fydd y Gweinidog yn barod i ystyried sefydlu rheoleiddio proffesiynol er mwyn codi safonau?

Yn ail, mae eich datganiad yn sôn am enw da proffesiynol perchnogion a datblygwyr adeiladau. Fodd bynnag, yn ymarferol, mae'n ymddangos nad yw'r enw da hwn yn golygu fawr ddim i lawer ohonyn nhw. Rhan o'r broblem hon yw nad oes modd i ddatblygwyr sy'n gwneud cais am waith cynllunio gael eu henw da wedi'i ystyried gan swyddogion cynllunio, sy'n gorfod derbyn eu gair y caiff addewidion eu cadw. Felly, beth fyddwch chi'n ei wneud i newid hyn, a sicrhau bod enw da datblygwr yn rhywbeth sy'n o fwy o bwys iddyn nhw na'r gallu i dalu bonws mawr i'w rheolwyr?

Yn olaf, fe hoffwn i eich holi am ran olaf eich datganiad sy'n sôn am y problemau y mae lesddeiliaid yn yr un adeiladau yn eu hwynebu, mater sydd wedi cael sylw yn y cyfryngau'n ddiweddar, ac a grybwyllwyd ichi y prynhawn yma. Nawr, mae eich datganiad yn awgrymu gweithredu cynllun benthyca cost isel i ôl-osod systemau chwistrellu, ond nid wyf yn siŵr iawn y bydd hynny'n helpu. Mae un o'r datblygwyr eisoes wedi cynnig benthyciad fodd bynnag. Mae hyn yn fater o anghyfiawnder. Pam bod angen i drigolion a brynodd y fflatiau hynny'n ddiffuant orfod talu i unioni'r materion hynny y dylid bod wedi'u canfod yn y broses rheoli ansawdd y dylai fod datblygwr cyfrifol yn eu gweithredu? Yn lle hynny, a fyddech chi'n cytuno mai datblygwyr sydd wedi elwa ar gyfundrefn cynllunio a rheoleiddio ddifflach a ffwrdd-â-hi ddylai fod y rhai sy'n unioni hyn? Byddai treth ar hap ar ddatblygwyr mawr yn un ffordd o dalu am gywiro'r gwaith hwn ond, wrth gwrs, nid oes gennym ni'r gallu i wneud hynny yn y fan yma. Ond mae gennym ni'r gallu i greu trethi newydd. Felly, a wnewch chi gyfarwyddo'ch swyddogion i ymchwilio i weld pa fathau o drethi newydd y gellid eu codi i sicrhau na all y cwmnïau adeiladu preifat hynny sydd wedi elwa o ddiogelwch gwael barhau i wneud hynny?

Yes. So, just to be clear on the loan, I'm not talking about loaning it to the residents; I'm talking about loaning it to the developers, because some of them are saying that they can't afford it. So, I agree with that, but we've got to work through the system. So, I completely agree with you that the people who are actually resident should not be paying for it, just be clear. But that's really complicated, because we can't trace them all, some of them have passed on the managing companies through three or four iterations, and there's one in my patch in Swansea where everybody's gone bankrupt in sight. They're really complex issues to work through. But just to be clear, I am trying to make sure that the residents are not the people who end up footing the bill for that. So, I completely agree that they should not be although, actually, getting a fault remedied is also very important, so we'll be bringing forward that, but I take the principle of that certainly on board.

On the tax windfall, I have absolutely no idea, but I'm very happy to undertake to speak with my colleague Rebecca Evans about whether such a thing would be possible in Wales, but I certainly take your point. One of the difficulties is that people set up single-purpose vehicle companies to build these things, and so the holding company—the one that's making all the profit—is often not the one that's on the hook locally. In responding to David Melding, I should have said that that's one of the complexities of the legal system, because trying to establish a contract between yourself and the ultimate holding company can be really complicated. It's one of the things that our system will have to overcome when we do put it into place; it's just immensely complicated who holds the existing thing.

And that's the other issue on the planning thing; I absolutely have a lot of sympathy with the idea that previous reputation should be allowed to be taken into account, but it's just so easy to make a single-purpose vehicle company to do that. So, it is about tracing individuals through the system as well as company names. So, whilst I accept the principle of that, in practice, that's also very problematic to do. But I do take the principle points, which we will certainly be looking at.

Professional regulations for builders: I've already had several conversations with professional bodies around us doing that. They are very keen that a regime should be in place right across Britain because a lot of them work across boundaries and so on. I'm very keen to pursue that. If the UK Government doesn't take it forward, though, we are very keen to look at what can be done here in Wales. And that goes for the whole chain: so, estate agents as well, managing agents, and the professional bodies for builders. But the profession itself is very keen that we don't put more barriers in the place of people who are often already on poor zero-hours contracts and all that kind of stuff. So, there's a lot of complexity for that. But they are also sympathetic to the idea that, you know, I can walk out of a building, call myself a carpenter and set myself up, and clearly would have not the faintest idea of how to do that, just to be clear.

So, I've got a lot of sympathy with what you're saying. What I'd like to do, Llywydd, is keep people in touch with our thinking as it develops, and when we put the White Paper out, to continue to have that policy conversation about the practical implications of some of the principles that I think are shared across the Chamber as to what we'd like to see.

Gwnaf. Felly, er mwyn bod yn glir o ran y benthyciad, nid wyf yn sôn am roi benthyg i'r trigolion; rwy'n sôn am roi benthyg i'r datblygwyr, gan fod rhai ohonynt yn dweud na allant ei fforddio. Felly, rwy'n cytuno â hynny, ond mae'n rhaid i ni weithio drwy'r system. Felly, rwy'n cytuno'n llwyr â chi na ddylai'r preswylwyr fod yn talu amdano, dim ond i fod yn glir. Ond mae hynny'n hynod o gymhleth, oherwydd ni allwn ni eu holrhain i gyd, mae rhai ohonyn nhw wedi trosglwyddo'r cwmnïau rheoli drwy dri neu bedwar iteriad, ac mae un yn fy ardal i yn Abertawe lle mae pawb dan haul wedi mynd yn fethdalwyr. Maen nhw'n faterion cymhleth iawn i'w hymdrin â nhw. Ond i fod yn glir, rwy'n ceisio sicrhau nad y trigolion yw'r bobl sy'n gorfod talu'r bil yn y pen draw. Felly, cytunaf yn llwyr na ddylen nhw fod yn gorfod gwneud hynny, er mewn gwirionedd, mae'n bwysig iawn sicrhau bod pethau'n cael eu hunioni hefyd, felly byddwn ni'n cyflwyno hynny, ond yn sicr, rwyf yn ystyried yr egwyddor honno.

O ran y dreth ar hap, nid oes gennyf unrhyw syniad o gwbl, ond rwy'n fwy na pharod i ymrwymo i siarad â'm cyd-Aelod Rebecca Evans ynghylch a fyddai'r fath beth yn bosib yng Nghymru, ond rwyf yn sicr yn derbyn eich pwynt. Un o'r anawsterau yw bod pobl yn sefydlu cwmnïau cyfrwng un diben i adeiladu'r pethau hyn, ac felly, yn aml iawn, nid y cwmni daliannol—yr un sy'n gwneud yr elw i gyd—yw'r un sy'n atebol yn lleol. Wrth ymateb i David Melding, dylwn i fod wedi dweud bod hynny'n un o gymhlethdodau'r system gyfreithiol, oherwydd gall ceisio sefydlu contract rhyngoch chi a'r cwmni daliannol terfynol fod yn gymhleth iawn. Mae'n un o'r pethau y bydd yn rhaid i'n system ni ei oresgyn pan fyddwn ni'n ei sefydlu; mae'n hynod o gymhleth pwy sy'n gyfrifol am yr adeilad sy'n bodoli.

A dyna'r mater arall ynghylch y peth cynllunio; mae gennyf i lawer o gydymdeimlad â'r syniad y dylid caniatáu i enw da blaenorol gael ei ystyried, ond mae mor hawdd sefydlu cwmni cyfrwng un diben i wneud hynny. Felly, mae'n ymwneud ag olrhain unigolion drwy'r system yn ogystal ag enwau cwmnïau. Felly, er fy mod yn derbyn egwyddor hynny, yn ymarferol, mae hynny hefyd yn broblematig iawn i'w wneud. Ond rwyf yn derbyn y prif bwyntiau, ac yn sicr, byddwn ni'n edrych arnyn nhw.

Rheoliadau proffesiynol ar gyfer adeiladwyr: rwyf i eisoes wedi cael sawl sgwrs gyda chyrff proffesiynol ynghylch ein bod yn gwneud hynny. Maen nhw'n awyddus iawn i sefydlu cyfundrefn ledled Prydain gan fod llawer ohonyn nhw'n yn gweithio ar draws ffiniau ac yn y blaen. Rwy'n awyddus iawn i fynd ar drywydd hynny. Os na fydd Llywodraeth y DU yn bwrw ymlaen â'r gwaith, rydym ni'n awyddus iawn i edrych ar yr hyn y gellir ei wneud yma yng Nghymru. Ac mae hynny'n wir am y gadwyn gyfan: felly, gwerthwyr tai yn ogystal, asiantau rheoli, a'r cyrff proffesiynol ar gyfer adeiladwyr. Ond mae'r proffesiwn ei hun yn awyddus iawn nad ydym ni'n rhoi mwy o rwystrau o flaen pobl sydd eisoes yn aml ar gontractau gwael dim oriau a phethau felly. Felly, mae llawer o gymhlethdod o ran hynny. Ond maen nhw hefyd yn cydymdeimlo â'r syniad, wyddoch chi, y byddwn yn gallu cerdded allan o adeilad, galw fy hun yn saer coed a sefydlu fy hun, ac yn amlwg ni fyddai gennyf i'r syniad lleiaf o sut i wneud hynny, dim ond i fod yn glir.

Felly, mae gen i lawer o gydymdeimlad â'r hyn yr ydych chi'n ei ddweud. Yr hyn yr hoffwn ei wneud, Llywydd, yw cadw pobl mewn cysylltiad â'n syniadau wrth iddynt ddatblygu, a phan gyhoeddwn ni'r Papur Gwyn, i barhau i gael y sgwrs bolisi honno am oblygiadau ymarferol rhai o'r egwyddorion sydd yn fy nhyb i yn cael eu rhannu ar draws y Siambr ynghylch yr hyn yr hoffem ni ei weld.

15:55

Minister, I'm participating in this debate, really, because I want to support and agree with the various comments that have been made, and certainly about the state of the house building industry and some of the legacies we have.

I have a constituent who specifically has asked me to to raise the Celestia issue, and he is obviously one of many. He now lives in my constituency. He, of course, can't sell his flat because of the blighting that has taken place. And the fundamental scandal is this: we see it throughout Wales, I know, and I'm sure throughout the UK, in terms of why this house building monopoly appears to operate now with really very low ethical standards. You build rubbish houses, you then run away from them after making enormous profits, and you leave enormous legacies of problems and repairs and so on. I'm sure most Assembly Members have enormous caseloads of people who've moved into these new houses, sometimes with Government support in terms of the funding arrangements, only to have, year after year after year, the legacy of problems that exist and the problems that then are there when people want to try and sell their particular houses. It seems to me that the real crux, as we've all said from time to time, is that what we do need is a comprehensive, ethical housing and house building policy.

Part of the problem, of course, is that we lost in the public sector the capacity to build houses ourselves, and that is something we have to regain because what they have now is a monopoly over us, and they don't care. We have all met with them from time to time. We have these pointless meetings where it's almost like meeting with banks to talk about bank closures. You're meeting with some of these housing companies to talk about the housing problems they have, and you sit down and, yes, you get a lot of supportive nodding of the head, but nothing changes. The fact that we have modern houses being built that don't even have basic internet services as a guarantee—something that is absolutely fundamental.

So, we have to look, I think, at the weaknesses within our own planning arrangements: the fact that we are giving planning permission to these housing companies to extort these enormous profits and to rob the people who are actually buying these houses, and we have to look at alternatives in house building, whether it be co-operative house building, whether it be establishing our own companies in respect of that. And I know, Minister, that you are very supportive of all these sorts of things, but I think the time has come now where, within Wales, I think we can say, 'Look, enough is enough; this just cannot go on any longer.' The Celestia one is just an example of these companies. They build the houses, they reap the profits, then they accept no responsibility later on from them, and the leasehold is just another scandal. And I still remain of the view that we should just ban any further leasehold housing. There are other things that we can't do.

So, Minister, all I would ask is that you give serious thought to a comprehensive, ethical housing policy, but also to look at the moment at those people, for example, in Celestia who have these particular problems, to do what you can to bring these housing companies together, to bang their heads together and make them accept the responsibilities that they should be taking. It's one thing to say, 'We'll name and shame them', I think they've been shamed and I don't think they actually care that much anymore. But, certainly, whatever pressure—. And, quite frankly, if they can't comply, if they can't deliver to the standards they should, then surely, whether we should actually be allowing them to build houses within Wales, whether the planning system, somehow, should actually say, 'Look, if you can't commit to these ethical standards, then we don't want you building houses here in Wales.'

Gweinidog, rwy'n cymryd rhan yn y ddadl hon, mewn gwirionedd, oherwydd rwyf eisiau cefnogi a chytuno â'r amrywiol sylwadau sydd wedi'u gwneud, ac yn sicr am gyflwr y diwydiant adeiladu tai a pheth o'r gwaddol sydd gennym ni.

Mae gennyf i etholwraig sy'n wedi gofyn imi godi'r mater Celestia yn benodol, ac yn amlwg mae'n un o blith llawer. Mae bellach yn byw yn fy etholaeth. Wrth gwrs, nid yw'n gallu gwerthu ei fflat oherwydd y malltod sydd wedi digwydd. A'r sgandal sylfaenol yw hyn: rydym ni'n ei weld ledled Cymru, rwy'n gwybod, ac rwy'n siŵr ledled y DU, o ran pam mae'n ymddangos bod y monopoli hwn ar adeilad tai yn gweithredu ar hyn o bryd gyda safonau moesegol isel iawn. Rydych chi'n adeiladu tai sâl, yna'n troi cefn arnyn nhw ar ôl gwneud elw enfawr, ac yn gadael gwaddol enfawr o ran problemau ac atgyweiriadau ac yn y blaen. Rwy'n siŵr bod gan y rhan fwyaf o Aelodau'r Cynulliad lwythi achos enfawr o bobl sydd wedi symud i'r tai newydd hyn, weithiau gyda chymorth y Llywodraeth o ran y trefniadau ariannu, dim ond i gael, flwyddyn ar ôl blwyddyn ar ôl blwyddyn, y gwaddol o broblemau sy'n bodoli a'r problemau sydd yno pan fydd pobl eisiau ceisio gwerthu eu tai penodol. Mae'n ymddangos i mi mai gwir hanfod hyn, fel yr ydym ni i gyd wedi'i ddweud o bryd i'w gilydd, yw mai'r hyn y mae arnom ni ei angen yw polisi tai ac adeiladu tai cynhwysfawr, moesegol.

Rhan o'r broblem, wrth gwrs, yw inni golli'r gallu yn y sector cyhoeddus i adeiladu tai ein hunain, ac mae hynny'n rhywbeth y mae'n rhaid inni ei adennill oherwydd yr hyn sydd ganddyn nhw ar hyn o bryd yw monopoli drosom ni, ac nid ydyn nhw'n poeni. Rydym ni i gyd wedi cwrdd â nhw o bryd i'w gilydd. Rydym ni'n cael cyfarfodydd dibwrpas o'r fath sydd bron â bod fel cyfarfod â banciau i drafod cau banciau. Rydych chi'n cyfarfod â rhai o'r cwmnïau tai hyn i drafod y problemau tai sydd ganddyn nhw, ac rydych chi'n eistedd ac, ie, rydych chi'n cael llawer o amneidio cefnogol, ond nid oes dim byd yn newid. Mae'r ffaith bod gennym ni dai modern yn cael eu hadeiladu nad ydyn nhw hyd yn oed yn cael gwasanaethau rhyngrwyd sylfaenol wedi'u gwarantu—rhywbeth sy'n gwbl sylfaenol.

Felly, mae'n rhaid inni edrych, rwy'n meddwl, ar y gwendidau yn ein trefniadau cynllunio ein hunain: y ffaith ein bod yn rhoi caniatâd cynllunio i'r cwmnïau tai hyn i gael y budrelw hwn ac i flingo'r bobl sy'n prynu'r tai hyn, ac mae'n rhaid i ni edrych ar ddewisiadau eraill o ran adeiladu tai, boed hynny'n adeiladu tai cydweithredol, boed yn sefydlu ein cwmnïau ein hunain o ran hynny. Ac rwy'n gwybod, Gweinidog, eich bod yn gefnogol iawn o'r mathau hyn o bethau, ond rwy'n credu bod yr amser wedi dod nawr, yng Nghymru, pan rwy'n credu y gallwn ni ddweud, 'Digon yw digon; ni all hyn barhau mwyach.'  Dim ond un enghraifft yw Celestia o'r cwmnïau hyn. Maen nhw'n adeiladu'r tai, maen nhw'n casglu'r elw, yna nid ydyn nhw'n derbyn unrhyw gyfrifoldeb amdanynt yn ddiweddarach, ac mae'r lesddaliad yn sgandal arall. Ac rwy'n dal i fod o'r farn y dylem ni wahardd unrhyw dai prydles pellach. Mae pethau eraill na allwn ni eu gwneud.

Felly, Gweinidog, y cyfan y byddwn i'n ei ofyn yw eich bod yn rhoi ystyriaeth ddifrifol i bolisi tai moesegol, cynhwysfawr, ond hefyd i edrych ar hyn o bryd ar y bobl hynny, er enghraifft, yn Celestia sydd â'r problemau penodol hyn, i wneud yr hyn a allwch chi i ddod â'r cwmnïau tai hyn gyda'i gilydd, i guro eu pennau gyda'i gilydd a gwneud iddyn nhw dderbyn y cyfrifoldebau y dylen nhw fod yn ei chymryd. Mae'n un peth i'w ddweud, 'byddwn ni'n eu henwi ac yn eu cywilyddio', rwy'n credu eu bod wedi cael eu cywilyddio ac nid wyf yn credu eu bod yn poeni gymaint â hynny mwyach. Ond, yn sicr, pa bynnag bwysau—. Ac, a dweud y gwir, os na allan nhw gydymffurfio, os na allan nhw gyflawni'r safonau y dylen nhw, yna, yn sicr, a ddylem ni fod yn caniatáu iddyn nhw adeiladu tai yng Nghymru, a ddylai'r system gynllunio, rywsut, ddweud, 'Os na allwch chi ymrwymo i'r safonau moesegol hyn, yna nid ydym ni eisiau i chi adeiladu tai yma yng Nghymru.'

16:00

Well, thank you very much for that. I broadly agree with everything you've said. We are working, exactly as you say, on a comprehensive ethical policy. The White Paper will cover off some of the building safety bits of that. There are other bits around standards and green infrastructure and all the rest of it that we also want to put in place.

It is a near monopoly situation, but, actually, Lee Waters and I just met only yesterday with the SME building sector in Wales just to discuss how we could support the SME sector to step up to the plate, really, in terms of that and what they might require in terms of Government support to do that. Also, of course, now, we're able to build social housing at a pace and scale that we haven't had before, and that will drive a different kind of competition into the market. I think it cannot be said often enough that the standards that we build social housing to are higher, currently, than the standards that private sector housing is built to. I'm not sure that's widespread knowledge in Wales, so I'll just say it very clearly. We're looking to extend those standards right across the piece as fast as possible.

There is a whole issue—. I know that Mick Antoniw is aware of some of the legal issues around this about the privity of contract and so on, as a lawyer, so I'm going to lapse into legalese in a minute, but there are some real problems around the privity of contract arrangements and who is responsible. The issue that David Melding raised—and Leanne Wood raised, actually—about what the building control system is designed to do, because it is not designed, currently, to be a regulatory system enforced in the way that people are trying to make it—. What we need to do is look at a system that does do that, since a system based on trust has clearly failed, because, clearly, a system based on trust just means that people cut corners. So, we've got to come up with a better system than that and it's important to get that right so that we don't have another tragedy from unintended consequences later on down the line.

I do want to pay tribute, though, to our fire and rescue services in Wales. As I said in my statement, we've actually done very well in Wales. In fact, the fire service has done itself out of a job, almost, because they've done such a good job. We have a very comprehensive programme of building safety and even in the buildings that are now causing problems—and we've mentioned Celestia today, but that's not the only one in Wales; there are other buildings that have got those kinds of problems—but in all of those cases, the fire and rescue services are in there making sure that the right provisions are in place to keep people safe in their homes. So, I do want to emphasise that, Llywydd—that we are in that. So, if anybody knows of any other situations that we should be engaged in, I'm happy to do that. So, I share both Mick Antoniw's ambition and his frustration at the current system. We will be bringing at least part of what you're talking about forward. And in terms of the leaseholder thing, I think the First Minister said during FMQs—I will be responding to the expert report shortly, saying what we intend to do in Wales in that regard as well.

Wel, diolch yn fawr am hynny. Rwy'n cytuno yn gyffredinol â phopeth yr ydych chi wedi'i ddweud. Rydym ni'n gweithio, yn union fel y dywedwch chi, ar bolisi moesegol cynhwysfawr. Bydd y Papur Gwyn yn sicrhau rhai o'r agweddau diogelwch hynny o adeiladau. Mae agweddau eraill yn ymwneud â safonau a seilwaith gwyrdd a'r holl agweddau eraill yr ydym ni hefyd eisiau eu sefydlu.

Mae'n sefyllfa sydd bron yn fonopoli, ond mewn gwirionedd, dim ond ddoe fe wnaeth Lee Waters a minnau gwrdd â busnesau bach a chanolig y sector adeiladu yng Nghymru dim ond i drafod sut y gallem ni gefnogi'r sector busnesau bach a chanolig gymryd cyfrifoldeb, mewn gwirionedd, ynghylch hynny a'r hyn y gallai fod ei angen arnyn nhw o ran cymorth gan y Llywodraethu i wneud hynny. Hefyd, wrth gwrs, ar hyn o bryd, rydym ni'n gallu adeiladu tai cymdeithasol yn gyflymach ac ar raddfa na welsom ni o'r blaen, a bydd hynny'n esgor ar fath gwahanol o gystadleuaeth yn y farchnad. Rwy'n credu na ellir dweud yn ddigon aml fod y safonau yr ydym ni'n eu defnyddio i adeiladu tai cymdeithasol yn uwch, ar hyn o bryd, yn uwch na'r safonau a ddefnyddir i adeiladu tai'r sector preifat. Nid wyf yn siŵr bod hynny yn wybodaeth eang yng Nghymru, felly rwy'n dweud hynny'n glir iawn. Rydym ni'n edrych i ymestyn y safonau hynny yn gyffredinol cyn gynted ag y bo modd.

Mae hwn yn fater cyfan—rwy'n gwybod fod Mick Antoniw yn ymwybodol o rai o'r materion cyfreithiol sy'n ymwneud â phreifatrwydd cytundeb ac yn y blaen, fel cyfreithiwr, felly byddaf i'n troi at iaith y gyfraith mewn munud, ond mae rhai problemau gwirioneddol o ran preifatrwydd trefniadau contract a phwy sy'n gyfrifol. Mae'r mater a gododd David Melding—a gododd Leanne Wood, mewn gwirionedd—am yr hyn y bwriedir i'r system rheoli adeiladu ei wneud, gan nad yw wedi'i gynllunio, ar hyn o bryd, yn system reoleiddiol sy'n cael ei orfodir fel y mae pobl yn ceisio'i wneud—. Yr hyn y mae angen inni ei wneud yw ystyried system sydd yn gwneud hynny, gan fod system sy'n seiliedig ar ymddiriedaeth yn amlwg wedi methu, oherwydd, yn amlwg, mae system sy'n seiliedig ar ymddiriedaeth yn golygu bod pobl yn cyfyngu ar bethau. Felly, mae'n rhaid i ni ddod o hyd i system well na hynny ac mae'n bwysig cael hynny'n gywir fel nad ydym ni'n cael trasiedi arall oherwydd canlyniadau anfwriadol yn nes ymlaen.

Hoffwn dalu teyrnged, fodd bynnag, i'n gwasanaethau tân ac achub yng Nghymru. Fel y dywedais yn fy natganiad, rydym ni wedi gwneud yn dda iawn yng Nghymru. Yn wir, mae'r gwasanaeth tân wedi'i dileu'r angen am eu swydd, bron, oherwydd eu bod wedi gwneud gwaith mor dda. Mae gennym ni raglen gynhwysfawr iawn o ddiogelwch adeiladau a hyd yn oed yn yr adeiladau sydd bellach yn achosi problemau—ac rydym ni wedi sôn am Celestia heddiw, ond nid dyna'r unig un yng Nghymru; mae adeiladau eraill sydd â'r mathau hynny o broblemau—ond ym mhob un o'r achosion hynny, mae'r gwasanaethau tân ac achub ar gael i wneud yn siŵr bod y darpariaethau cywir ar waith i gadw pobl yn ddiogel yn eu cartrefi. Felly, hoffwn bwysleisio hynny, Llywydd—ein bod yn rhan o hynny. Felly, os oes unrhyw un yn gwybod am unrhyw sefyllfaoedd eraill y dylem ni fod yn rhan ohonyn nhw, rwy'n hapus i wneud hynny. Felly, rwy'n rhannu uchelgais Mick Antoniw a'i rwystredigaeth â'r system bresennol. Byddwn ni'n dwyn o leiaf rhan o'r hyn yr ydych chi'n sôn amdano ymlaen. Ac o ran y peth y mae'r llesddeiliaid yn ei ddweud, rwy'n meddwl bod y Prif Weinidog wedi dweud yn ystod cwestiynau'r Prif Weinidog—byddaf yn ymateb i'r adroddiad arbenigol cyn bo hir, gan ddweud yr hyn yr ydym ni'n bwriadu ei wneud yng Nghymru o ran hynny hefyd.

I want to raise some issues that have already been touched upon by you, Minister, and, indeed, other contributors, and that's around private sector high-rise residential buildings. Just last week, the equality committee received correspondence from a leaseholder raising very significant concerns about basic quality and fire safety measures and the lack of them, and this followed a level 4 survey, which found defects around compartmentation with no effective fire stopping in the compartment wall between each flat and the common corridor. I know this issue has been raised before in Plenary and we're writing to you now, in fact, regarding this case, with more detail on the specific complex involved. But I believe it also links to broader concerns about the private sector and these high-rise residential blocks. We know, for example, that a previous level 4 survey found similar issues with fire safety in another building in south Wales, and this was something that we explored in our report on fire safety in high-rise private sector buildings late last year. So, we think it's very concerning, really, that, of the two buildings surveyed to the extent of a level 4 survey, very basic fire safety measures were lacking. And I think it begs the question, really, for you and for all of us, as to how confident we can be with regard to other private sector high-rise residential buildings in Wales in terms of those issues and the lack of those basic standards.

In our report on fire safety, Minister, we recommended that Welsh Government explore the feasibility of ensuring level 4 surveys for all high-rise residential buildings, and we made this recommendation because we were concerned that people could be living unknowingly in buildings with these basic fire safety defects. So, we were pleased that Welsh Government accepted the recommendation in principle, stating that, as part of the response to the Hackitt review, you would be addressing these issues and you would consider the need for invasive building surveys and who is best-placed to undertake them. However, when the road map was published, it didn't address the issue directly, although the road map did note that there was little in law to require meaningful improvements to the fire safety of existing buildings over the course of their life cycle. It also said that Welsh Government needs to consider how it will ensure all buildings could progressively be brought up to the highest standards now recommended. So, I'd be grateful, really, Minister if you could outline what further consideration is being given to mandating the use of level 4 invasive surveys for all existing high-rise residential buildings in the private sector in Wales.

Mae arnaf i eisiau codi rhai materion a grybwyllwyd eisoes gennych chi, Gweinidog, ac, yn wir, cyfranwyr eraill, ac mae hynny'n ymwneud ag adeiladau preswyl uchel iawn yn y sector preifat. Dim ond yr wythnos diwethaf, derbyniodd y Pwyllgor Cydraddoldeb ohebiaeth gan lesddeiliad yn codi pryderon sylweddol iawn am fesurau ansawdd sylfaenol a diogelwch rhag tân a'u diffyg, ac roedd hyn yn dilyn arolwg lefel 4, a ddaeth o hyd i ddiffygion yn ymwneud â chompartmentau heb unrhyw rwystr tân effeithiol yn wal y compartment rhwng pob fflat a'r coridor cyffredin. Rwy'n gwybod bod y mater hwn wedi'i godi o'r blaen yn y cyfarfod llawn ac rydym ni'n ysgrifennu atoch chi ar hyn o bryd, mewn gwirionedd, ynghylch yr achos hwn, gyda mwy o fanylion am y cyfadeilad penodol dan sylw. Ond rwy'n credu ei fod hefyd yn gysylltiedig â phryderon ehangach am y sector preifat a'r blociau preswyl uchel iawn hyn. Rydym ni'n gwybod, er enghraifft, fod arolwg blaenorol ar lefel 4 wedi dod o hyd i broblemau tebyg gyda diogelwch tân mewn adeilad arall yn ne Cymru, ac roedd hyn yn rhywbeth roeddem ni wedi ymchwilio iddo yn ein hadroddiad ar ddiogelwch tân mewn adeiladau sector preifat uchel iawn ddiwedd y llynedd. Felly, rydym ni'n credu ei fod yn destun pryder mawr, mewn gwirionedd, o'r ddau adeilad a arolygwyd hyd at raddau lefel 4, roedd camau sylfaenol iawn ar goll o ran diogelwch tân. Ac rwy'n credu ei fod yn codi'r cwestiwn, mewn gwirionedd, i chi ac i bob un ohonom ni, o ran pa mor hyderus y gallwn fod ynghylch adeiladau preswyl uchel iawn eraill y sector preifat yng Nghymru o ran y materion hynny a diffyg y safonau sylfaenol hynny.

Yn ein hadroddiad ar ddiogelwch tân, Weinidog, fe wnaethom ni argymell y dylai Llywodraeth Cymru ymchwilio i ddichonoldeb sicrhau arolygon lefel 4 ar gyfer pob adeilad preswyl uchel iawn, ac fe wnaethom ni'r argymhelliad hwn am ein bod yn pryderu y gallai pobl fod yn byw yn ddiarwybod mewn adeiladau sydd â'r diffygion diogelwch tân sylfaenol hyn. Felly, roeddem ni'n falch bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr argymhelliad mewn egwyddor, gan nodi, fel rhan o'r ymateb i adolygiad Hackitt, y byddech chi'n mynd i'r afael â'r materion hyn ac y byddech chi'n ystyried yr angen am arolygon dwys o adeiladau a phwy sydd yn y sefyllfa orau i'w cynnal. Fodd bynnag, pan gyhoeddwyd y map ffyrdd, nid oedd yn mynd i'r afael â'r mater yn uniongyrchol, er bod y map ffyrdd yn nodi nad oedd llawer yn y gyfraith i fynnu gwelliannau ystyrlon i ddiogelwch tân yr adeiladau presennol yn ystod eu cylch bywyd. Dywedodd hefyd fod angen i Lywodraeth Cymru ystyried sut y bydd yn sicrhau y cai pob adeilad ei wella'n raddol i'r safonau uchaf a argymhellir erbyn hyn. Felly, byddwn i'n ddiolchgar, mewn gwirionedd, Gweinidog, pe gallech chi amlinellu pa ystyriaeth bellach sy'n cael ei rhoi i'w gwneud hi'n ofynnol defnyddio arolygon dwys lefel 4 ar gyfer yr holl adeiladau preswyl uchel iawn presennol yn y sector preifat yng Nghymru.

16:05

Thank you for that, John. I concur broadly with the thrust of that. You will know from various interchanges we've had on this that the road map recommends further work is required to understand what the capacity issues and what the resources to undertake that kind of testing might be in Wales, and we've got continual engagement with the UK Government and their competence steering group on the same issue, because those capacity issues are similar across Wales. So, we've got workforce planning and consideration of capacity issues both right now and in the future as a key part of the design and construction task and finish group of the road map working group, and we've already begun the work with regard to future workforce planning.

I would love to be able to say to you, 'Yes, we will do that', but I know that local authorities wouldn't be able to do that at the moment. So, what we're doing is working to see how fast we can do it with the capacity that we have, and how fast we can grow the capacity, because just announcing that we're going to do it doesn't produce magically the people who can and are competent to do that, and can carry out an inspection to the right level of competence and so on. So, I'm still accepting in principle what you say; we're still working very hard on increasing the capacity to be able to deliver it.

Diolch am hwnna, John. Cytunaf yn fras â hanfod hynny. Byddwch yn gwybod o wahanol sgyrsiau a gawsom ni ynglŷn â hyn fod y cynllun yn argymell bod angen gwneud rhagor o waith i ddeall beth yw'r problemau o ran capasiti a pha adnoddau fyddai eu hangen i gynnal profion o'r fath yng Nghymru, ac rydym ni'n trafod yr un mater yn barhaus â Llywodraeth y DU a'i grŵp llywio cymhwysedd, oherwydd mae'r materion capasiti hynny'n debyg ledled Cymru. Felly, mae cynllunio'r gweithlu ac ystyried materion capasiti ar hyn o bryd ac yn y dyfodol yn rhan allweddol o grŵp gorchwyl a gorffen dylunio ac adeiladu'r gweithgor cynllun, ac rydym ni eisoes wedi dechrau ar y gwaith o ran cynllunio gweithlu'r dyfodol. 

Byddwn wrth fy modd yn gallu dweud wrthych chi, 'Gwnawn, fe wnawn ni hynny', ond rwy'n gwybod na fyddai awdurdodau lleol yn gallu gwneud hynny ar hyn o bryd. Felly, yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yw gweithio i weld pa mor gyflym y gallwn ni wneud hynny gyda'r capasiti sydd gennym ni, a pha mor gyflym y gallwn ni gynyddu'r capasiti, oherwydd nid yw datgan ein bod yn mynd i wneud hynny yn cynhyrchu drwy ryw hud a lledrith y bobl sy'n gallu gwneud hynny ac sy'n gymwys i wneud hynny, ac sy'n gallu cynnal archwiliad i'r safon briodol, ac ati. Felly, rwy'n dal i dderbyn mewn egwyddor yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud; rydym ni'n dal i weithio'n galed iawn ar gynyddu'r capasiti i allu cyflawni hynny.

Sorry, Llywydd, can I just say one thing? I beg your indulgence. In response to something that Rhun brought up in my question session last week, I inadvertently said that Llinos—I was very praising of Llinos, and I'd like to reiterate those comments, but I inadvertently said she was a member of the finance sub-group of the partnership council, and I just want to correct the record and say that she's not. I'd become confused with the number of meetings of the partnership council I've been to. She's not a member of that specific sub-group. I just wanted to correct the record in that regard. Sorry.

Mae'n ddrwg gennyf, Llywydd, a gaf fi ddweud un peth? Gyda'ch caniatâd. Mewn ymateb i rywbeth a grybwyllodd Rhun yn fy sesiwn gwestiynau yr wythnos diwethaf, fe ddywedais yn anfwriadol fod Llinos—roeddwn i'n canmol Llinos yn fawr, ac fe hoffwn i ailadrodd y sylwadau hynny, ond fe ddywedais yn anfwriadol ei bod hi'n aelod o is-grŵp cyllid y cyngor partneriaeth, a dim ond eisiau cywiro'r cofnod yr wyf i a dweud nad yw hi. Roeddwn i wedi drysu gyda nifer cyfarfodydd y cyngor partneriaeth yr wyf wedi bod ynddyn nhw. Nid yw hi'n aelod o'r is-grŵp penodol hwnnw. Dim ond eisiau cywiro'r cofnod yn hynny o beth oeddwn i. Mae'n ddrwg gen i.

Okay. The record is corrected.

O'r gorau. Cywirwyd y cofnod.

6. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: Blaenoriaethau ar gyfer yr Economi Ymwelwyr 2020-2025
6. Statement by the Deputy Minister for Culture, Sport and Tourism: Priorities for the Visitor Economy 2020-2025

Felly, yr eitem nesaf yw'r datganiad gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth ar flaenoriaethau ar gyfer yr economi ymwelwyr 2020 i 2025, a dwi'n galw ar y Dirprwy Weinidog i wneud ei ddatganiad—Dafydd Elis-Thomas

Therefore, the next item is a statement by the Deputy Minister for Culture, Sport and Tourism on priorities for the visitor economy 2020 to 2025, and I call on the Deputy Minister to make the statement—Dafydd Elis-Thomas.

Diolch yn fawr, Llywydd. Mae'n arbennig o addas, yn fy marn i, fy mod i'n gwneud y datganiad yma ar yr adeg hon. Fuodd hi erioed yn fwy addas i ddathlu diwylliant, natur unigryw a hunaniaeth Cymru, ein tirwedd a'r anturiaethau rhyfeddol sydd i'w cael, nac yn wir i wahodd pobl i'r wlad yr ydym ni i gyd yn ei hystyried i fod yn arbennig o brydferth.

Dwi'n falch iawn, felly, o'r hyn sydd wedi cael ei wneud dros y pum mlynedd ddiwethaf i ddatblygu twristiaeth yng Nghymru. Dwi'n gobeithio bod Aelodau'r Cynulliad, fel dwi'n gwybod bod y rhelyw yn y diwydiant, yn frwd iawn dros y brand cadarn ac arobryn ac unigryw i Gymru sydd gyda ni, ac sydd yn ganolog i bopeth rydyn ni'n ei wneud. Ond nid yn unig y mae'r brand yma wedi cael ei ddefnyddio i ddenu ymwelwyr, mae wedi cael ei ddefnyddio gan fy nghyd-Weinidogion i hyrwyddo Cymru yn rhyngwladol, i ddangos bwyd a diod gwych Cymru, a hyd yn oed i recriwtio i'r gwasanaeth iechyd.

Thank you very much, Llywydd. It is particularly appropriate, in my view, that I am making this statement at this particular time. It has never been more appropriate to celebrate our culture, the unique nature and identity of Wales, our landscape and the incredible adventures that are to be had here, or, indeed, to invite people to the nation that we all consider to be particularly beautiful.

I'm, therefore, very proud of what has been done over the past five years to develop tourism in Wales. I hope that Assembly Members are, as I know most of the industry are, enthusiastic about the strong, distinctive and unique Welsh brand that we have developed and is at the heart of everything we do. But not only has this brand been used to attract visitors, it has been used too by my fellow Ministers to promote Wales internationally, to showcase the wonderful food and drink of Wales, and even to recruit to our health service.

Daeth Suzy Davies i’r Gadair.

Suzy Davies took the Chair.

16:10

Sail y brand newydd ydy'r pwyslais yma ar 'flynyddoedd', ond nid mater o un flwyddyn ar y tro yn unig ydy hyn erbyn hyn. Rydyn ni'n ymestyn y blynyddoedd dros ddwy flynedd, fel bod y themâu yma yn gallu cyd-weu â'i gilydd—themâu fel 'chwedlau', 'antur', 'y môr', ac i ddod yn y flwyddyn nesaf, 'Blwyddyn Awyr Agored'. Mae'r rhain yn dod â sefydliadau gwahanol ledled Cymru at ei gilydd o dan faner i dynnu sylw at y gorau o ddiwylliant, tirwedd ac anturiaethau Cymru.

Dwi'n falch iawn hefyd o'r buddsoddiad sydd wedi cael ei wneud yn y cynnyrch gwych sydd wedi newid canfyddiadau pobl o Gymru. Fyddwch chi ddim yn synnu imi gyfeirio at Zip World, lle gall genhedlaeth newydd brofi ein hetifeddiaeth a'n treftadaeth ddiwydiannol—os ydyn nhw'n cael cyfle i weld yr hyn maen nhw'n ei basio mor gyflym, os ydyn nhw'n mynd i gyflymder o dros 90 milltir yr awr. Ond mae'r atyniadau yna—ac, wrth gwrs, Surf Snowdonia, y morlyn syrffio cyntaf yn y byd—wedi pwysleisio pwysigrwydd antur yn nhirwedd Cymru.

Dwi'n gwybod hefyd fod pobl drwy Gymru a thu hwnt wedi mwynhau y digwyddiadau rydyn ni wedi'u cefnogi fel Llywodraeth: rowndiau terfynol Cynghrair y Pencampwyr UEFA; Ras Cefnfor Volvo; digwyddiadau lleol fel Gŵyl y Gelli; ac yna lle y mae yna ddigwyddiadau rhyngwladol yn dod drwy Gymru, p'un ai rhai beicio a rhai'n ymwneud â moduro ac yn y blaen. Drwy ddod ag ymwelwyr i Gymru, mae'r cynnyrch newydd yma—digwyddiadau gwych a'r cymorth ar gyfer marchnata—yn dangos pa mor allweddol yw twristiaeth i economi Cymru.

Mae yna dros 11,500 o fusnesau twristiaeth yng Nghymru. Mae'r rhain yn dod â £6.3 biliwn i'r economi. Mae oddeutu 9 y cant o gyflogaeth actif yn yr economi mewn twristiaeth. A dyna pam fy mod i'n falch iawn ein bod ni fel Llywodraeth wedi cydnabod twristiaeth fel rhan o economi sylfaenol o fewn y cynllun gweithredu economaidd, ac o'r trywydd rydyn ni wedi'i osod ac rydyn ni bron â'i gyrraedd yn ein cynllun twristiaeth presennol, sef cynyddu ein hincwm o 10 y cant dros gyfnod.

Mae hyn yn fy arwain i, felly, at amlinellu rhai o'r blaenoriaethau newydd. Mae twristiaeth yn sbardun economaidd ar draws Cymru. Rydyn ni'n teimlo hefyd y gallwn ni wneud mwy drwy'r economi ymwelwyr er mwyn hyrwyddo'r economi gyffredinol. Nid yn unig rydyn ni wedi gallu sicrhau swyddi drwy dwristiaeth, cefnogi cymunedau drwy naws am le, cynnal brwdfrydedd dros ein treftadaeth a'n diwylliant, a chreu cyfleoedd i gynnal gweithgaredd corfforol, sydd mor bwysig ar gyfer iechyd y genedl a'n hymwelwyr ar draws Cymru—. Ac felly, uchelgais y cynllun gweithredu newydd, fel y gwelwch chi pan gyhoeddir o ym mis Rhagfyr, ydy datblygu twristiaeth er lles Cymru. Mae hynny'n golygu ei bod hi'n dal yn bwysig i ddatblygu twristiaeth, ond mewn ffordd sydd yn cynnig manteision ehangach i ddiwylliant, i gymunedau, gan wneud hynny drwy ddiogelu'r amgylchedd. Hynny yw, twristiaeth gynaliadwy yw twristiaeth Gymreig, ac mae'r weledigaeth yma'n ganolog i'r cynllun llywio, fel y gwelwch chi pan ddaw o allan.

Rydw i wedi ei gwneud hi'n glir nad gweledigaeth Llywodraeth yw hon na gweledigaeth un adran ohoni. Pan gychwynnon ni weithio ar y cynllun yma, fe wnaethon ni ohebu gyda Gweinidogion ac Aelodau'r Cynulliad i ofyn am gael gwybodaeth am eich gweledigaeth chi ar gyfer dyfodol twristiaeth. Mae'r gwahoddiad yna'n cael ei ailadrodd heddiw, cyn inni gwblhau'r cynllun yn derfynol.

The basis of the new brand is this emphasis on the 'years of', but it’s not just a matter of one year at a time. We have now extended these years over two years, so that these themes can dovetail together—themes such as 'legends', 'adventure', 'the sea' and, to come next year, the 'Year of Outdoors'. These bring different organisations, the length and breadth of Wales, together under one banner to highlight the best of Welsh culture, landscape and adventure.

I’m also particularly pleased with the investment that’s been made in the excellent products that have changed perceptions of Wales. You won’t be surprised to hear me referring to Zip World, where a new generation can experience our wonderful industrial heritage—if they have an opportunity to see what they pass so swiftly, as they get to speeds of over 90 mph. But those attractions—and, of course, Surf Snowdonia, the first inland surf lagoon in the world—have emphasised the importance of adventure in the Welsh landscape.

I also know that people the length and breadth of Wales and beyond have enjoyed the events that we have supported as a Government: the UEFA Champions League final; the Volvo Ocean Race; home-grown events such as the Hay Festival; and then when international events come to Wales, whether they're related to cycling or motoring and so on. By bringing visitors to Wales, these new products—great events and great marketing support—do demonstrate how crucial tourism is to the Welsh economy.

There are over 11,500 tourism business in Wales. These bring £6.3 billion per annum into the economy. Around 9 per cent of active employment in Wales is in tourism. And that’s why I am delighted that we as a Government have recognised tourism as part of the foundational economy within the economic action plan, and of the pathway that we have set and which we have almost delivered in our current tourism plan, namely to increase our income by 10 per cent.

This leads me, then, to our new priorities. Tourism is an economic driver across Wales. We also think that we can do more through the visitor economy in order to promote the economy more generally. Not only have we secured jobs in tourism, supported communities by supporting a sense of place, relighting our passion for heritage and culture, and creating opportunities to get out there and be active, which is so crucial for the health of our nation and our visitors across Wales—. And so, the ambition of the new action plan, as you will see on its publication in December, is to grow tourism for the good of Wales. This means that it is still important to develop tourism, but to do so in a way that delivers wider benefits to culture, to communities, and to do that by safeguarding our environment. That is, sustainable tourism—that is what Welsh tourism will be, and this vision is at the heart of the plan and will shape everything, as you will see.

I have made it clear that this is not just the vision of Government, or even the vision of one department of Government. When we started to work on this plan, we corresponded with Ministers and Assembly Members to ask about your vision for the future of tourism. That invitation is repeated here today, before we complete the plan in its final form.

Mi ddywedwyd wrthyf i, pan oeddwn i'n holi barn pobl, fod angen inni ddangos sut y gallai twristiaeth gyfrannu at ein hamcanion ehangach ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, ac, oherwydd hynny, rydyn ni wedi gosod yr uchelgais yna yn ganolog i'r cynllun. Rydyn ni hefyd wedi trafod hyn i gyd yn fanwl gyda'r diwydiant, gyda'r sector. O'r uwchgynhadledd dwristiaeth a gynhaliwyd ym mis Mawrth y llynedd, ac yn dilyn y cwestiynau a ofynnwyd yno, fe gafwyd oddeutu 386 o bobl yn ymateb gyda sylwadau a syniadau. Roeddent hwythau yn dweud bod angen i gynaliadwyedd fod yn ganolog i bopeth roedden ni am ei wneud.

Roedd y sector hefyd yn nodi heriau ymarferol—yr angen i fynd i'r afael â natur dymhorol twristiaeth a pharhau i greu swyddi gydol y flwyddyn, i greu mwy o elw a rheoli costau. Rydyn ni hefyd yn dechrau gweld gor-bwyslais ar dwristiaeth, yn ôl rhai, mewn rhai rhannau o Gymru ac ar rai adegau o'r flwyddyn. Felly, yn ogystal â'r uchelgais craidd i ddatblygu twristiaeth er lles Cymru, mae angen i gynllun gweithredu newydd nodi sut y byddwn ni'n mynd i'r afael â rhai o'r heriau ymarferol yma.

I guro yn y gystadleuaeth, rydyn ni angen cynnyrch sy'n unigryw ac yn uchelgeisiol, sy'n gyson â'n cryfderau ni, ac sy'n apelio at farchnadoedd newydd ar gyfer yfory. Dyna pam rydyn ni'n pwysleisio profiadau sy'n unigryw i Gymru, sy'n sicrhau pwyslais a chydbwysedd rhwng y lleol a'r byd-eang, rhwng yr hyn rydyn ni'n alw yn 'fro' a 'byd'. Mae hyn yn golygu gwneud pethau sy'n sicrhau manteision lleol, ond hefyd gan bwysleisio naws am le cryf Cymru, cefnogi busnesau cynhenid, a chyfrannu tuag at y brand ehangach a chyrraedd safonau byd-eang o ddarpariaeth.

Mae gyda ni felly bedwar maes o flaenoriaeth at y dyfodol. Yn gyntaf, 'cynnyrch a lleoedd gwych'—mi fyddwn ni'n parhau i fuddsoddi mewn cynnyrch arloesol sy'n dod â phobl i Gymru.

Ein prif flaenoriaeth ydy 'profiadau o ansawdd uchel i ymwelwyr'. Ond, yn arbennig ar sail ymweliadau rwyf wedi'u gwneud yn ddiweddar i safleoedd sydd yn darparu cyfle gwersylla i bobl sydd ag anghenion arbennig, sydd ag anabledd penodol a phroblemau symudedd, dwi'n awyddus iawn ein bod ni'n gosod cyfleoedd i bobl llai abl o ran symudedd gael eu denu yma i Gymru, fel bod gan Gymru enw uchel yn fyd eang o ran darpariaeth ar gyfer pawb sydd am ymweld â ni.

Blaenoriaeth pellach fydd parhau i ddatblygu brand arloesol Cymru, gyda phwyslais ar farchnata ac arloesi digidol.

Yna, yn bedwerydd, rydyn ni'n awyddus i ddangos bod gyda ni sector gyd-gysylltiedig o fewn yr economi a chymdeithas, ac sydd yn fywiog, sy'n cynnwys gwneud mwy i gysylltu twristiaeth gydag agendâu eraill o fewn y gymuned, megis trafnidiaeth ac, wrth gwrs, iechyd. Mi fyddwn ni'n cynnwys heriau fel sut y gall twristiaeth fynd i'r afael â rhai o'r effeithiau newid hinsawdd fel rhan o'n ffordd o feddwl.

Mi fyddwn ni hefyd yn ceisio gweithio yn llawer mwy masnachol, drwy ffyrdd newydd o greu cynnyrch y mae modd ei archebu, canolbwyntio mwy amlwg ar gynnyrch â diddordeb, a bod yn fwy doeth ynghylch y ffordd y byddwn yn cydweithio â phartneriaid i gyrraedd mwy o bobl. Hynny yw, nid ein bod ni yn cynnig arlwy yn unig, ond ein bod ni'n deall pa fath o arlwy mae pobl sydd yn dod yma yn ei wir ddymuno.

I grynhoi, yr holl uchelgais yw datblygu twristiaeth er lles Cymru, er lles i'r perfformiad economaidd, ond hefyd drwy sylweddoli bod twristiaeth yn ddiwydiant sydd yn cwmpasu'r genedl gyfan, yn yr ardaloedd gwledig yn ogystal ag yn yr ardaloedd trefol, yn y Cymoedd yn ogystal ag yn Eryri fynyddig. Ond mae angen hefyd inni fod yn realistig, fel ein bod ni yn gweld bod angen inni addasu'r hyn rydyn ni'n ei gynnig er mwyn gallu ymateb i'r hyn mae'n hymwelwyr ni am ei weld, ond hefyd i gyplysu hynny ag anghenion Cymru. Ac felly, ein blaenoriaeth gyson ni yw atgoffa'r byd fod Cymru ar agor ar gyfer busnes fel lle i fuddsoddi ynddo, i weithio ac i fyw. A diolch ichi i gyd fel Aelodau Cynulliad ac, yn arbennig, i'r diwydiant ac i'r sector y tu fas i'r Senedd hon am eu cefnogaeth dros y ddwy flynedd, bron, yr wyf i wedi cael y fraint o gael cyfrifoldeb dros y diwydiant hwn.

I was told, when I asked people’s views, that we needed to show how tourism could contribute to our wider aims for future generations, and, as a result of that, we have set that ambition as central to the plan. We have also been discussing all of this in detail with the industry and with the sector. From the tourism summit held in March of last year, and following the questions asked there, there were around 386 people who responded with comments and ideas. And they told us that sustainability should be at the heart of everything we do.

The sector also identified some practical challenges—the need to tackle seasonality in tourism and to continue to create year-round jobs, to increase more profits and manage rising costs. We also are beginning to see overemphasis on tourism, according to some, in some areas of Wales and at some particular times of the year. So, in addition to the core ambition to grow tourism for the good of Wales, the new action plan needs to set out how we will address some of these practical challenges.

To stay ahead of our competitors, we need a product that is distinctive and ambitious, which is true to our strengths, and appeals to the markets of tomorrow. That’s why we offer the unique Welsh experiences that strike a balance between the local and the global, between what we call 'bro' and 'byd'. This means doing things that deliver local benefits, but also emphasising a strong sense of place for Wales, supporting home-grown businesses and contributing towards the wider Welsh brand, whilst also meeting world-class standards in provision.

We have, therefore, identified four priority areas for the future. The first is ‘great products and places’—we will continue to invest in innovative products that bring people to Wales.

Our main priority is ‘quality visitor experiences’. But, particularly on the basis of visits I’ve recently taken to sites that provide camping opportunities for people with special needs, particular disabilities, or mobility problems, I am very eager that we provide opportunities for people who do have mobility problems and so on to be attracted here to Wales, so that Wales has a global reputation in terms of providing for everyone who wishes to visit us.

A further priority will be to continue to develop the innovative Cymru brand, with an emphasis on digital marketing and innovation.

And then, fourth, we are eager to demonstrate that we have an engaged and vibrant sector within an economy that is vibrant, and does more to link tourism with tourism agendas such as transport and, of course, health. We will include challenges as to how tourism can address some of its impacts on climate change as part of our thinking. 

We will also be seeking to work in a far more commercial manner, through new ways of creating products that can be ordered, focusing on special interest products, and being smarter about how we work with partners in order to reach a wider audience. That is, not that we just offer these products, but that we understand what kind of products people who visit us truly want.

And, to summarise all of our ambitions, it’s to grow tourism for the good of Wales, for economic performance, but also by realising that tourism brings the whole nation together, in rural areas as well as our urban areas, in the Valleys as well as in the mountains of Snowdonia. We also need to be realistic, so that we do realise that we need to adapt our offer in order to respond to what our visitors want to see, but also to link that with Welsh needs. And therefore our overarching priority is to remind the world that Wales is open for business as a place to invest, to work, to live. And thank you all as Assembly Members and, particularly, the industry and the sector outside this Senedd for their support over the two years in which I've had the privilege for being responsible for this industry.

16:20

Can I start by just welcoming the fact that the Deputy Minister is inviting us to make our own contributions in terms of the ongoing approach to expand the tourism sector and is open to ideas? I think that many of the ambitions that have been set out will be shared. So, anyway, this is my opportunity to tell the Assembly, and the Minister in particular, about what I think needs to be in the plan and priorities for the visitor economy in the first half of the 2020s.

I think we do need to recognise the dual nature of the market. We have a large market that comes from the rest of the UK, and that's very, very important, but there's also an international market, and I think, for driving up the standards, trying to get higher end tourism and a green offer, many of the things that are now there and demanded by tourists, that needs to be remembered, because I don't think both elements of the market necessarily always work together. So, some different approaches are needed between the UK market and the international market. So, that's my first thing, and I want to see some very precise planning around that. 

I think we also need to seek growth in our international market. I do think we have just world-class offers, and I should say the Minister and I were at a seminar run by the National Museum earlier today, and one of the participants raised Caerleon, just saying said that it's such an excellent Roman site, but people go to the slightly more meagre—well, not slightly, the more meagre—site in Bath, which has this wonderful constant campaign, I suppose, going on to attract visitors. And Conwy Castle, for instance, is probably the greatest—that is, the most terrible—castle ever built by man. It is part of our heritage and people from around the world, if they want to visit a medieval castle, they should be visiting Wales. And, indeed, if it's Conwy, it also has one of the best preserved medieval town layouts still in existence anywhere in Europe. So, I do want to see a greater emphasis on the international market and also on the green tourism that is often demanded in that market. I mean, hiking holidays—Wales is completely blessed in being able to provide the most wonderful range of walking destinations, and mix that in with high-end culture and I really think there's a winning combination. 

I think there needs to be more work on the brand, frankly. This is difficult, because it costs a lot. But if you look at Ireland—perhaps Ireland's not the best comparator, given how vast their budget is on marketing, but Scotland, I think, has been driving forward and spending more on marketing. And I do think it's a great failure of the private sector, really, because it can't combine and produce that capacity to market something like a nation or its tourism offer. This is where Government needs to step in, because, really, if Government doesn't do it and lead it, it just doesn't get done at anything like the optimum level. 

I welcome your talk about a more commercial approach, because I do think that some of the standards we have need to be higher. We need more boutique hotels, we need more high-end restaurants, and that's good for the UK market and the international market, and it's good for our own local economies. Hi-tech, really good green offers, boutique hotels and all the rest of it, they can be a part of the foundational economy as well. The foundational economy means it's something that can work around the year, locally, and stays local—the money that is generated. It doesn't mean that it's a basic level of the economy, necessarily, so I would mention that.

I think in Scotland they have a very ambitious draft strategy. They've set the target of Scotland being a world leader in tourism by 2030. I think that's the sort of ambition we should state as well. And, if you do state it, I know that everyone in the Assembly would be behind you in trying to achieve that ambition.

A gaf i ddechrau drwy groesawu'r ffaith bod y Dirprwy Weinidog yn ein gwahodd i wneud ein cyfraniadau ein hunain o ran sut yr ydym ni'n bwrw iddi ar hyn o bryd i ehangu'r sector twristiaeth a'i fod yn agored i syniadau? Credaf y bydd llawer o unfrydedd ynghylch yr uchelgeisiau sydd wedi'u hamlinellu. Felly, beth bynnag, dyma fy nghyfle i ddweud wrth y Cynulliad, a'r Gweinidog yn arbennig, am yr hyn y credaf sydd ei angen yn y cynllun ac yn y blaenoriaethau ar gyfer yr economi ymwelwyr yn hanner cyntaf y 2020au.

Rwy'n credu bod angen i ni gydnabod natur ddeuol y farchnad. Mae gennym ni farchnad fawr sy'n dod o weddill y DU, ac mae hynny'n bwysig iawn, iawn, ond mae marchnad ryngwladol hefyd, ac rwy'n credu, er mwyn codi'r safonau, ceisio sicrhau twristiaeth fwy safonol a thwristiaeth werdd, llawer o'r pethau sydd bellach yn bodoli ac y mae twristiaid yn eu mynnu, mae angen cofio hynny, oherwydd nid wyf yn credu bod y ddwy elfen o'r farchnad bob amser yn gweithio gyda'i gilydd. Felly, mae angen ymdrin â marchnad y DU a'r farchnad ryngwladol mewn ffyrdd gwahanol. Felly, dyna'r peth cyntaf, ac rwyf eisiau gweld cynllunio manwl iawn yn hynny o beth.

Rwy'n credu bod angen i ni hefyd geisio cael twf yn ein marchnad ryngwladol. Credaf fod gennym gynigion o'r radd flaenaf yn wir, a dylwn i ddweud y bu'r Gweinidog a minnau mewn seminar a gynhaliwyd gan yr Amgueddfa Genedlaethol yn gynharach heddiw, a soniodd un o'r rhai oedd yn bresennol am Gaerllion, a dweud ei fod yn safle Rhufeinig mor rhagorol, ond bod pobl yn mynd i'r safle ychydig llai diddorol—wel, nid ychydig, y safle llai diddorol—yng Nghaerfaddon, sydd â'r ymgyrch gyson wych hon, mae'n debyg, i ddenu ymwelwyr. Ac mae'n debyg mai Castell Conwy, er enghraifft, yw'r castell mwyaf—hynny yw, y castell mwyaf dychrynllyd—a adeiladwyd gan ddyn erioed. Mae'n rhan o'n treftadaeth ac mae pobl yn dod o bob cwr o'r byd, os ydyn nhw eisiau ymweld â chastell canoloesol, dylen nhw ymweld â Chymru. Ac, yn wir, os ydyn nhw'n dod i Gonwy, mae ganddi hefyd un o'r cynlluniau trefi canoloesol gorau a oroeswyd ac sy'n dal i fodoli yn unrhyw le yn Ewrop. Felly, rwyf eisiau gweld mwy o bwyslais ar y farchnad ryngwladol a hefyd ar y dwristiaeth werdd a fynnir yn aml yn y farchnad honno. Yr hyn rwy'n ei olygu yw, gwyliau heicio—mae Cymru wedi'i bendithio'n llwyr o ran gallu darparu'r ystod fwyaf bendigedig o gyrchfannau cerdded, a chyfuno hynny â diwylliant o safon a chredaf mewn gwirionedd fod yna gyfuniad llwyddiannus. 

Rwy'n credu bod angen mwy o waith ar y brand, a dweud y gwir. Mae hyn yn anodd, am ei fod yn costio llawer. Ond os edrychwch chi ar Iwerddon—efallai nad Iwerddon yw'r wlad orau ar gyfer cymharu, o ystyried mor helaeth yw ei chyllideb ar gyfer marchnata, ond rwy'n credu y bu'r Alban yn gyrru ymlaen ac yn gwario mwy ar farchnata. Ac rwyf yn credu ei fod yn fethiant mawr yn y sector preifat, mewn gwirionedd, oherwydd ni all gyfuno a chynhyrchu'r gallu hwnnw i farchnata rhywbeth fel cenedl neu ei arlwy twristiaeth. Dyma ble mae angen i'r Llywodraeth ymyrryd oherwydd, mewn gwirionedd, os nad yw'r Llywodraeth yn gwneud hynny ac yn arwain hynny, caiff ei wneud mewn ffordd sydd ymhell o fod y ffordd orau bosib. 

Croesawaf eich geiriau am ddull mwy masnachol, oherwydd credaf fod angen i rai o'r safonau fod yn uwch. Mae arnom ni angen mwy o westai boutique, mae arnom ni angen mwy o fwytai ym mhen ucha'r farchnad, ac mae hynny'n dda i farchnad y DU a'r farchnad ryngwladol, ac mae'n dda i'n heconomïau lleol ni ein hunain. Twristiaeth werdd wirioneddol dda, uwch-dechnoleg, gwestai boutique ac ati, gallant fod yn rhan o'r economi sylfaenol hefyd. Mae'r economi sylfaenol yn golygu ei fod yn rhywbeth sy'n gallu gweithio gydol y flwyddyn, yn lleol, ac yn aros yn lleol—yr arian sy'n cael ei gynhyrchu. Nid yw'n golygu ei fod yn lefel sylfaenol o'r economi, o reidrwydd, felly byddwn yn sôn am hynny.

Rwy'n credu bod ganddyn nhw strategaeth ddrafft uchelgeisiol iawn yn yr Alban. Maen nhw wedi gosod y targed bod yr Alban yn arwain y byd ym maes twristiaeth erbyn 2030. Rwy'n credu mai dyna'r math o uchelgais y dylem ei ddatgan hefyd. Ac, os dywedwch chi hynny, rwy'n gwybod y byddai pawb yn y Cynulliad yn gefnogol ichi wrth geisio cyflawni'r uchelgais hwnnw.

16:25

I'm very grateful for the enthusiasm displayed in the response by David Melding. I will agree that Conwy is probably one of the most frightening castles ever built. As you know, I am a citizen of the county of Conwy, but I have to tell you that this most frightening of castles is now blessed with the latest effort in tapestry inspired by Cefyn Burgess and school pupils from that part of the world. What we are doing with our heritage sites is showing visitors that they are also places that are appreciated by the local population as well as themselves.

I certainly agree that there is a need for different approaches for the UK market and for the international market. I did try to do my bit for the international market with the new destination room that we recently opened at terminal 3 in Heathrow. Certainly, having life-sized and room-filling photographic images of Wales—albeit in the departures area rather than in an arrivals area, although we've also got other artwork in other parts of airports, both Manchester and Cardiff, obviously, as well as Heathrow—it enables people to see the value of combining landscape and culture with history, and that is a continuing emphasis that we have. So, the UK market and the international market—we are always conscious there.

Marketing is an exercise that needs both imagination and continuity, as well as substantial expenditure. I think what we've achieved now in the particular graphic design of the marketing is something that is very distinctive, which people can see and respond to. 

I obviously agree with the importance of walking holidays, and to remember those wonderful areas of our country—the coastal path, but also that amazing Offa's Dyke, which indicates clearly—

Rwy'n ddiolchgar iawn am y brwdfrydedd a ddangoswyd yn yr ymateb gan David Melding. Cytunaf mai Conwy mae'n siŵr yw un o'r cestyll mwyaf brawychus a godwyd erioed. Fel y gwyddoch chi, rwy'n un o ddinasyddion Sir Conwy, ond rhaid imi ddweud wrthych fod hwn, y mwyaf brawychus o gestyll bellach wedi'i fendithio â'r ymdrech ddiweddaraf mewn tapestri a ysbrydolwyd gan Cefyn Burgess a disgyblion ysgol o'r rhan honno o'r byd. Yr hyn yr ydym ni'n ei wneud gyda'n safleoedd treftadaeth yw dangos i ymwelwyr eu bod hefyd yn lleoedd sy'n cael eu gwerthfawrogi gan y boblogaeth leol yn ogystal â chanddyn nhw. 

Rwy'n sicr yn cytuno bod angen ymdrin â marchnad y DU a'r farchnad ryngwladol mewn ffyrdd gwahanol. Ceisiais wneud fy rhan ar gyfer y farchnad ryngwladol gyda'r ystafell gyrchfan newydd a agorwyd gennym ni yn ddiweddar yn nherfynfa 3 yn Heathrow. Yn sicr, mae cael llond ystafelloedd o ddelweddau ffotograffig maint-llawn o Gymru—er fod y rheini yn yr ardal ymadawiadau yn hytrach nag yn yr ardal gyrraedd, er bod gennym ni weithiau celf eraill mewn rhannau eraill o feysydd awyr, ym Manceinion a Chaerdydd, yn amlwg, yn ogystal â Heathrow—mae'n galluogi pobl i weld gwerth cyfuno tirwedd a diwylliant gyda hanes, ac mae hynny'n bwyslais parhaus sydd gennym ni. Felly, marchnad y DU a'r farchnad ryngwladol—rydym ni bob amser yn ymwybodol o hynny. 

Mae marchnata yn ymarfer sydd angen dychymyg a pharhad, yn ogystal â gwariant sylweddol. Rwy'n credu bod yr hyn yr ydym ni wedi'i gyflawni nawr yn nyluniad graffig penodol y marchnata yn rhywbeth arbennig iawn, y gall pobl ei weld ac ymateb iddo.

Rwy'n amlwg yn cytuno â phwysigrwydd gwyliau cerdded, ac o gofio'r ardaloedd bendigedig hynny yn ein gwlad—llwybr yr arfordir, ond hefyd rhyfeddod Clawdd Offa, sy'n dangos yn glir—

The whole length. [Laughter.]

Yn ei gyfanrwydd. [Chwerthin.]

Which indicates clearly that we have the opportunity for long-distance hiking of the kind that you emphasised.

I also agree with boutique hotels. We have a significant pipeline of hotels and we are continuing to make sure that in our tourism offer there are always—at the head of that offer, we're seeking to invest in increasing and developing the quality of our hotels throughout Wales.

Sy'n dangos yn glir bod gennym y cyfle ar gyfer cerdded pellteroedd hir o'r math a bwysleisiwyd gennych.

Rwyf hefyd yn cytuno â'r sylw o ran gwestai boutique. Mae gennym ni nifer sylweddol o westai ac rydym ni'n parhau i sicrhau bod ein harlwy twristiaeth wastad yn cynnwys—ym mhen eithaf yr arlwy hwnnw, rydym yn ceisio buddsoddi mewn cynyddu a datblygu ansawdd ein gwestai ledled Cymru.

Diolch am y datganiad a'r rhybudd ymlaen llaw hefyd. Mae yna lawer, mae'n rhaid dweud, dwi'n ei groesawu yn y datganiad. Rwy'n cytuno, wrth gwrs, â'r sylwadau am ba mor bwysig y gall twristiaeth fod i Gymru a bod yna, yn ein harddwch, ein diwylliant, ein bwyd, ein chwaraeon a'n hantur, fodd i ddenu twristiaid mewn ffordd all ddod ag elw mawr i ni yn economaidd. Mi allaf i dynnu sylw at bethau sydd ddim eto wedi cyrraedd eu potensial yn fy etholaeth i—hynny ydy, Mynydd Parys. Mae yna dal gymaint all gael ei wneud i dyfu'r atyniad hwnnw, ac mi fyddwn yn croesawu cefnogaeth o unrhyw fath i hynny ac i ddweud hanes y pontydd mewn amgueddfa arall, er enghraifft.

Ond dwi hefyd yn croesawu'r cyfeiriad yn y datganiad at y peryglon o fynd yn orddibynnol ar dwristiaeth, ac mi liciwn i glywed mwy am gynlluniau'r Gweinidog i geisio rheoli hynny. Hefyd, mae yna berig, wrth gwrs, fod hwn yn gallu bod yn sector lle mae cyflogau yn rhy isel, lle mae yna ormod o sylw ar greu swyddi tymhorol, a dim digon ar helpu pobl i greu bywoliaeth dda a chynaliadwy. Does yna ddim digon o sôn am hynny yn y datganiad hwn, ac mi fyddwn i'n gwerthfawrogi sylwadau gan y Gweinidog ynglŷn â hynny.

Y mater arall y buaswn i'n hoffi gwneud sylw arno fo ydy'r cwestiwn yma o wneud yn fawr o'r brand Cymreig. Mae'r datganiad yn frith o gyfeiriadau at,

'ein brand cryf, unigryw i Gymru',

at 'naws am le', sydd wastad i mi yn awgrymu rhywbeth neilltuol Gymreig. Mae yna gyfeiriadau at greu, 

'cynnyrch sy'n unigryw ac yn uchelgeisiol', 

at greu 'Brand Cymru Arloesol' neu 'Innovative Cymru Brand'. A gaf i awgrymu felly fod angen i'r Llywodraeth fod yn llawer mwy parod i ddod allan o dan gysgod brand Prydain yn hynny o beth? Rydym ni yn gwybod o brofiad, er enghraifft—er bod yna arwyddion fod pethau'n gwella rhywfaint—mor wan mae VisitBritain wedi bod yn rhoi sylw teg i Gymru dan eu brand nhw. Ond fel cenedlaetholwr, dwi'n gallu gweld manteision o weithio ar draws ffiniau Prydain ac Ewrop mewn bob mathau o ffyrdd gwahanol ond, wir, mi fyddwn i'n gwerthfawrogi sicrwydd gan y Gweinidog y gwnaiff Llywodraeth Cymru fod yn llawer mwy penderfynol i beidio â 'dilute-io' y brand Cymreig, yn enwedig mewn rhai amgylchiadau lle mae yna gryfder go iawn i'r brand hwnnw, drwy ganiatáu ei Brydeinio fo.

Rydym ni'n sôn am fwyd yn y fan hyn. Siawns y dylem ni yn ein sioe frenhinol genedlaethol ein hunain, ein prif sioe amaeth a bwyd, fod yn gallu dathlu ein bwyd ni. Unwaith eto, o dan y brand GREAT wrth giât y sioe eleni, 'For the finest food and drink, choose the UK'. Wel na, siawns na allwn ni ddweud, 'Choose Wales' yn ein sioe ein hunain.

Mae yna lawer wedi tynnu sylw at yr ymgyrch GREAT yn hawlio buddugoliaeth tîm Cymru yng Nghwpan Rygbi'r Byd. 'Rugby is GREAT', medden nhw. Na, dyma lwyfan lle mae bod yn neilltuol Gymreig yn wirioneddol werthfawr. Does dim angen Prydeinio brand Cymru yn y cyd-destun hwnnw. Ac ni wnaf i fyth anghofio y siom o fod ym Mharis yn ystod gemau pêl-droed Ewro 2016, a mynd i'r pentref bendigedig hwnnw ar lan y Seine lle roedd pob gwlad annibynnol bêl-droed Ewropeaidd yno yn gwerthu ei hun, ac yno yn stondin Cymru roedd baner yr undeb o dan label 'Britain is GREAT'. Cymru yn gwerthu'i hun yn y fan honno. Mi oedd o'n torri nghalon i, ac mi oedd o'n gwbl, gwbl ddiangen, ac yn dangos diffyg hyder.

Gallwn ni ddim llawn gredu yr hyn mae'r Llywodraeth yn ei ddweud ynglŷn â bod yn uchelgeisiol ac yn hyderus yn ein brand ein hunain, os nad ydy'r Llywodraeth yn gallu mynnu defnyddio'r brand hwnnw a dim ond y brand hwnnw, yn sicr yn y lleoedd lle mae'r brand Cymreig yn gweiddi i gael ei ddefnyddio. Mi groesawn i sicrwydd gan y Llywodraeth fod yna fwy o feiddgarwch yn mynd i fod gan y Llywodraeth yn hynny o beth. 

Thank you for the statement and the advance notice given of it. There is a great deal that I welcome in the statement. I agree with the comments about how important tourism can be for Wales, and that in our beauty, our culture, our food, our sports and our adventure there is means to attract visitors and tourists in a way that can bring us great economic profit. I can draw attention to things that haven’t quite reached their potential—for example, Parys Mountain—in my constituency. There’s so much more that could be done to grow that attraction, and I would welcome any kind of support for that and to tell the history of the bridges, for example, in another museum.

But I also welcome the reference in the statement to the risks of becoming overdependent on tourism. I would like to hear more about the Minister’s plans to try to manage that. Also, there is a risk that this can be a sector where salaries are too low, and there is too much emphasis on creating seasonal jobs, and not enough on assisting people in making a good and sustainable living. There isn't enough mention of that in this statement, and I would like comments from the Minister on that.

The other issue that I would like to highlight is this question of making the most of this Welsh brand. The statement is peppered with references, and I quote, to

'our strong, distinctive Wales Brand',

to 'a sense of place', which suggests something specifically Welsh. And there is mention of creating

'a product that is distinctive and ambitious'

and creating an 'Innovative Cymru Brand'. May I suggest, therefore, that there is a need for the Government to be much more willing to come out from under the shadow of the Britain brand? Because we know from experience, for example—although there are indications that things are improving—how weak VisitBritain has been in giving Wales attention under their brand. As a nationalist, I can see the advantages of working cross-border in Britain and in Europe in all sorts of different ways, but I would truly appreciate an assurance from the Minister that the Welsh Government will be much more determined in not diluting the Welsh brand, particularly in some circumstances where there is great strength to that brand, by allowing it to be