Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

16/10/2019

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Jayne Bryant. 

Y Bortffolio Iechyd a Gofal Cymdeithasol

1. Pa ddyraniadau cyllideb ychwanegol y bydd y Gweinidog yn eu rhoi i'r portffolio iechyd a gofal cymdeithasol i gefnogi pobl sydd â diagnosis o nam meddyliol difrifol fel rhan o gyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21? OAQ54552

Drwy gynlluniau fel cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor, rydym wedi ymrwymo i gefnogi pobl â nam meddyliol difrifol. Byddaf yn cyhoeddi ein cynigion ar gyfer cyllideb 2020-21, gan gynnwys ar gyfer gwasanaethau iechyd a chymdeithasol, ar 19 Tachwedd.

Diolch, Weinidog. Rwy'n falch iawn fod Llywodraeth Cymru yn arwain y gwaith o sicrhau y gall pobl sy'n byw â diagnosis o nam meddyliol difrifol gael mynediad at y gostyngiad hanfodol hwn yn y dreth gyngor. Mae'n galonogol iawn fod hyn yn digwydd mewn partneriaeth â'r arbenigwr arbed arian, Martin Lewis, a chredaf fod hyn yn rhywbeth y bydd pobl yn ei groesawu'n fawr. Cyn y dull hwn, un o brif ddiffygion y cynllun gostyngiad hwn oedd nad oedd unrhyw un yn ymwybodol ohono, a gobeithio y bydd unrhyw un sy'n gwneud cais amdano yn cael gostyngiad wedi'i ôl-ddyddio hyd at adeg eu diagnosis. A allwch amlinellu'r hyn sy'n cael ei wneud ar lefel Llywodraeth Cymru i sicrhau bod pobl yn ymwybodol o'r gefnogaeth sydd ar gael, ac yn ychwanegol at hynny, beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi ac i weithio gydag awdurdodau lleol yng Nghymru i sicrhau bod y broses hon yn hawdd ei defnyddio ac yn gyson?

Diolch i Jayne Bryant am godi'r mater hynod bwysig hwn yn y Siambr y prynhawn yma. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio’n galed iawn i sicrhau bod pawb sy’n gymwys i gael gostyngiad yn y dreth gyngor am eu bod wedi'u categoreiddio'n bobl â nam meddyliol difrifol—. Ac mae'n rhaid i mi ddweud fy mod yn gwirioneddol gasáu'r ymadrodd hwnnw; credaf ei fod yn swnio fel ffordd ofnadwy o gyfeirio at bobl, ond mae'n ymadrodd meddygol y bydd meddygon yn ei ddefnyddio. Pan fydd rhywun yn cael y diagnosis hwnnw, byddant yn gymwys i gael rhwng 25 y cant a 100 y cant o ostyngiad i'w treth gyngor. Ac rydym wedi bod yn gweithio'n galed iawn gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod pawb sy'n gymwys yn gallu cael mynediad ato, ac rydym wedi bod yn gweithio'n galed gyda'r arbenigwr arbed arian hefyd. Gwelwyd ymgyrch fawr ar y cyfryngau cymdeithasol, ac ers i'r ymgyrch honno ar y cyfryngau cymdeithasol gychwyn ym mis Ebrill, ac ymweliad Martin Lewis â'r Senedd, mae'r ffigurau dros dro eisoes yn awgrymu cynnydd o 416 yn nifer yr esemptiadau, o 4,615 ym mis Mawrth i 5,031 ym mis Medi. O gymharu, cynnydd o 385 yn unig a gafwyd yn y flwyddyn gyfan cyn hynny. Felly, credaf fod yr ymgyrch gymdeithasol yn gwneud gwahaniaeth.

Ac er mwyn rhoi hynny yn ei gyd-destun, mae esemptiad nam meddyliol difrifol yn werth £1,590 ar gyfartaledd i aelwyd mewn eiddo band D cyffredin, felly os yw pobl o'r farn y gallai fod ganddynt hwy neu aelod o'r teulu hawl iddo, mae'n sicr yn rhywbeth y dylent yn ofyn i'r awdurdod lleol yn ei gylch.

Weinidog, o'r 45,000 o bobl sy'n dioddef o ddementia, mae 17,000 o bobl yn byw mewn ardal wledig. Mae pobl â dementia sy'n byw mewn ardaloedd gwledig yn wynebu heriau ychwanegol, megis cysylltiadau trafnidiaeth gwael sy'n ei gwneud hi'n anos cael mynediad at gymorth, gofalwyr yn teimlo'n fwy ynysig a heb gefnogaeth, ac yn olaf, y ffaith bod gwasanaethau cymorth yn llai tebygol o fod ar gael. Mae honno'n senario drist i'r bobl hynny. Weinidog, pa ystyriaeth a roddwyd i anghenion pobl sy'n dioddef o ddementia ac sy'n byw mewn ardaloedd gwledig yng Nghymru wrth ddyrannu'r gyllideb i'r portffolio iechyd a gofal cymdeithasol?

Un o ymrwymiadau allweddol ein rhaglen lywodraethu, 'Symud Cymru Ymlaen', oedd datblygu cynllun gweithredu penodol ar ddementia, ac fe'i cyhoeddwyd ym mis Chwefror 2018, ac mae hwnnw'n ymdrin â'r cyfnod hyd at 2022. Ac un o nodau allweddol y cynllun hwnnw oedd cefnogi pobl sy'n byw gyda dementia lle bynnag y maent yn byw yng Nghymru, ac i wneud hynny mor annibynnol â phosibl, yn eu cymunedau y gobeithiwn sicrhau eu bod yn gymunedau sy'n deall dementia, a hefyd i osgoi derbyniadau diangen i'r ysbyty a sicrhau bod pobl sy'n mynd i'r ysbyty yn gallu cael eu rhyddhau o ofal cyn gynted â phosibl. Ac i gefnogi'r broses o roi'r cynllun hwnnw ar waith, rydym wedi ymrwymo £10 miliwn y flwyddyn gan Lywodraeth Cymru o 2018-19, a thargedwyd £9 miliwn o hwnnw drwy'r byrddau partneriaeth rhanbarthol. Ac wrth gwrs, y byrddau partneriaeth rhanbarthol fydd yn y sefyllfa orau i ddeall yr heriau lleol wrth ddarparu gwasanaethau yn eu hardaloedd—felly, er enghraifft, yr heriau gwledig penodol y cyfeirioch chi atynt. A chredaf mai sicrhau bod y cyllid ychwanegol hwnnw'n cael ei ddargyfeirio neu ei ddyrannu drwy'r byrddau partneriaeth rhanbarthol hynny yw'r ffordd fwyaf cadarnhaol yn sicr o fynd i'r afael â'r anghenion lleol penodol hynny.

Rydym yn clywed bod staff rheng flaen ym maes gofal cymdeithasol yn poeni bod toriadau i gymorth cymdeithasol yn tanseilio annibyniaeth a lles pobl anabl yn gorfforol ac yn feddyliol. Nawr, mae llymder yn golygu bod pecynnau gofal yn cael eu lleihau i'r tasgau mwyaf sylfaenol, ac mae gweithwyr cymdeithasol yn gorfod brwydro am gyllid i gefnogi anghenion cymdeithasol a chymunedol pobl. A ydych chi yn derbyn, felly, fod y diffyg cyllid a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru i awdurdodau lleol yn ystod y blynyddoedd diwethaf yma wedi cyfrannu at y sefyllfa yma, sy'n effeithio ar ein pobl fwyaf bregus ni? A pha drafodaethau ydych chi'n eu cael â'ch cyd-Weinidogion i gywiro'r sefyllfa?

13:35

Wel, ni allaf ddadlau nad yw'r setliadau ar gyfer llywodraeth leol dros y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn hynod o heriol. A hyd yn oed gyda’r cyllid ychwanegol sydd gennym eleni, mae'n amlwg y bydd pethau’n parhau i fod yn arbennig o anodd o ran diwallu’r holl anghenion gofal cymdeithasol a nodwyd. Ac wrth gwrs, golyga'r newidiadau demograffig fod yr angen hwnnw'n cynyddu, ac mae cymhlethdod anghenion pobl yn dod yn fwy amlwg hefyd. Felly, os edrychwch ar y data a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan awdurdodau lleol, mae'n dangos cynnydd o 6 y cant yn y gwariant ar wasanaethau cymdeithasol yn y flwyddyn ddiwethaf yn unig. Felly, mae'n dangos y math o her y maent yn ei hwynebu, ac mae'n un o'r rhesymau pam ein bod wedi dweud, ochr yn ochr â blaenoriaethu iechyd yn ein trafodaethau ar y gyllideb, y byddwn yn anelu at roi'r setliad gorau posibl i lywodraeth leol.

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015

2. Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog wedi'i rhoi i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 wrth baratoi cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn nesaf? OAQ54525

Rwyf wedi cyfarfod â Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru ar sawl achlysur i drafod sut y gall y Ddeddf lywio paratoadau ein cyllideb ddrafft i sicrhau bod cymaint o adnoddau â phosibl ar gael fel y gallwn gael yr effaith fwyaf yn y tymor hwy.

Diolch, Weinidog. Yn amlwg, ers i’r Llywodraeth ddatgan argyfwng hinsawdd, yn ôl ym mis Ebrill, rhywbeth a gymeradwywyd yn llawn gan holl Aelodau’r Cynulliad bron iawn, sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu asesu’r gyllideb sydd ar y ffordd yng nghyd-destun yr argyfwng hinsawdd a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015? A pha ddadansoddiad sy'n cael ei wneud o effaith penderfyniadau ynglŷn â'r gyllideb ar ein nod o gyflawni statws di-garbon?

Mae Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol wedi bod yn ganolog i'n holl drafodaethau ynglŷn â'r gyllideb hyd yn hyn. Felly, pan wyf wedi cyfarfod â phob un o'r Gweinidogion yn Llywodraeth Cymru, rwyf wedi gofyn yn benodol iddynt beth y maent yn ei wneud o fewn eu portffolios i wireddu holl uchelgeisiau Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol a sut y maent yn ei defnyddio i helpu i lywio eu penderfyniadau cynnar o ran eu cyllidebau adrannol eu hunain. Rydym wedi cael cyfarfodydd rhagorol gyda chomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, ac rydym yn gweithio gyda hi i ddatblygu gwiriwr siwrnai—felly mae'n rhan o gynllun gwella ein cyllideb—a fydd yn dangos pa gamau y byddwn yn eu cymryd yn y tymor byr, canolig a hwy i ymgorffori Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn llawn ym mhroses ein cyllideb. A chredaf fod hynny'n ymateb da i un o argymhellion y Pwyllgor Cyllid a gyflwynwyd ganddynt.

Ar y cyfan, ar draws y Llywodraeth, rydym wedi edrych ar y gyllideb benodol hon drwy lens ein hwyth maes blaenoriaeth, ac un o'r rheini yw datgarboneiddio. A chredaf mai un o'r ffyrdd y gallwn wneud cynnydd gwirioneddol o ran datgarboneiddio yw edrych ar sut rydym yn gwario ein cyllid cyfalaf yn benodol. Felly, mae hwn yn faes y bûm yn gweithio'n agos iawn gyda chyd-Aelodau arno i sicrhau bod gennym newyddion cadarnhaol yn enwedig o ran yr elfen gyfalaf yn ein cyllideb.

Nodaf fod yr Arglwydd Bird, sylfaenydd The Big Issue, yn cyflwyno Deddf cenedlaethau'r dyfodol yn Nhŷ'r Arglwyddi, sydd wedi'i hysbrydoli'n fawr gan waith Llywodraeth Cymru. Felly, da iawn ar hynny. Credaf fod hon yn broses wirioneddol dda, ond mae'n rhaid i mi ddweud, yn y gwaith craffu ariannol y bûm yn rhan ohono mewn pwyllgorau, pan ofynnwch i'r uwch swyddogion pa hyfforddiant y maent wedi'i gael ar ddefnyddio'r Ddeddf wrth bennu cyllidebau, pa benderfyniadau a wnaed sydd wedi bod yn wahanol i brosesau gwneud penderfyniadau blaenorol, lle mae'r newid yn digwydd, rydym weithiau'n cael distawrwydd lletchwith. Felly, rwy'n gobeithio gweld rhywfaint o drylwyredd yn eich gwaith o fonitro a gwerthuso'r modd y defnyddir y Ddeddf yn y broses o bennu'r gyllideb.

Pan fydd y pwyllgorau'n gofyn hyn i swyddogion yn ystod y gwaith o graffu ar gyllideb eleni, rwy'n gobeithio na fyddant yn wynebu'r distawrwydd hwnnw. Oherwydd rydym wedi bod yn gweithio'n galed i sicrhau bod swyddogion ym mhob rhan o Lywodraeth Cymru, nid yn yr adran gyllid yn unig, yn deall pwysigrwydd ymgorffori'r Ddeddf yn eu penderfyniadau. Ac roedd un o'r cyfarfodydd gyda chomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol yn cynnwys uwch swyddogion cyllid o bob rhan o Lywodraeth Cymru—felly, nid yr adran gyllid yn unig—er mwyn sicrhau bod gan swyddogion sy'n gweithio ym maes cyllid yng ngwahanol adrannau'r Llywodraeth ddealltwriaeth gyson o'r angen i ymgorffori'r Ddeddf yn y broses o wneud penderfyniadau.

13:40

A gaf fi ddiolch i Jenny Rathbone am gyflwyno'r cwestiwn hwn heddiw—cwestiwn hanfodol bwysig ar adeg dyngedfennol i'n planed ac i genedlaethau'r dyfodol? Weinidog, croesawaf eich sylwadau, ond a allwch ddweud wrthyf yn benodol beth rydych yn ei wneud i asesu a dadansoddi effaith gwariant presennol yn ogystal ag unrhyw wariant newydd o ran carbon, a sut rydych yn bwriadu cyhoeddi hyn i ganiatáu i'r Aelodau ac eraill graffu arno?

Wel, fe fyddwch yn gyfarwydd â'n cynllun carbon isel i Gymru, 'Ffyniant i Bawb', sy'n nodi 100 o'r gwahanol gamau rydym yn eu cymryd ar draws y Llywodraeth o ran sicrhau bod datgarboneiddio'n ganolog i'r gwaith a wnawn. Ond credaf ei bod yn bwysig gwneud hyn yng nghyd-destun Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, ac mae honno'n rhoi system lywodraethu wirioneddol gadarn ar waith ar gyfer Gweinidogion Cymru.

Felly, yn dilyn cyngor gan y corff cynghori—Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd—rydym wedi ymestyn, fel y gwyddoch, ein llwybr hirdymor i ymateb i'r argyfwng hinsawdd: felly, o 80 y cant i 95 y cant erbyn diwedd 2050, ac mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wneud targed uwch i leihau allyriadau 95 y cant fan lleiaf yn gyfraith. Ac mae hynny'n golygu bod yn rhaid i'n llwybrau newid go iawn, a bod yn rhaid i'r penderfyniadau a wnawn gael eu gwneud mewn ffordd wahanol.

Ond credaf y bydd angen i'n cynlluniau cyflawni ar garbon isel yn y dyfodol ddangos yn barhaus sut y mae pob Gweinidog yn cyfrannu at y camau o fewn ein cyllideb garbon, ac o ganlyniad, bydd angen i bob Gweinidog fyfyrio ar y penderfyniadau gwariant y maent wedi'u gwneud ac y byddant yn eu gwneud wrth bennu cynlluniau gwariant manwl eu prif grwpiau gwariant.

Yn fy mhortffolio i, credaf y gallwn edrych yn benodol ar y gwaith sy'n mynd rhagddo ym maes caffael, ac mae hynny'n chwarae rhan bwysig iawn wrth helpu i leihau allyriadau carbon deuocsid. Ac un o'r pethau rydym wedi'u gwneud i asesu'r penderfyniadau a wnaethom eisoes ac yna i lywio gwell penderfyniadau yn y dyfodol yw cyflwyno dangosfwrdd datgarboneiddio a ddatblygwyd gan Gwerth Cymru, sy'n dangos yr allyriadau carbon deuocsid ar gyfer categorïau gwariant amrywiol ar draws y Llywodraeth. Felly, mae hynny'n caniatáu inni edrych ar y penderfyniadau rydym wedi'u gwneud ac yna i chwilio am gyfleoedd i wneud penderfyniadau gwell yn y dyfodol.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Nick Ramsay.

Diolch, Llywydd. Prynhawn da, Gweinidog.

Sut y gallwn ddisgwyl gweld yr arian ychwanegol ar gyfer Llywodraeth Cymru, sy'n deillio o'r adolygiad diweddar o wariant gan Lywodraeth y DU, yn sicrhau manteision i Gymru yng nghyllideb Llywodraeth Cymru sydd ar y ffordd?

Diolch. Wel, rydym eisoes wedi nodi yn y datganiad a wneuthum ar yr adolygiad o wariant y bydd y GIG yng Nghymru yn parhau i fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru er mwyn sicrhau bod gan bobl fynediad at ofal iechyd rhagorol lle bynnag y maent yn byw yng Nghymru. Ond ochr yn ochr â hynny, rydym yn awyddus iawn i sicrhau bod llywodraeth leol yn cael y setliad gorau posibl am lawer o'r rhesymau rydym eisoes wedi'u trafod y prynhawn yma—felly, pwysigrwydd gofal cymdeithasol, er enghraifft, a phwysigrwydd yr holl wasanaethau sy'n cynnal ein cymunedau.

Felly, dyna ein dau faes blaenoriaeth, ond cefais drafodaethau gyda'r holl Weinidogion ar draws y Llywodraeth i archwilio sut y gallwn eu cynorthwyo gyda'r pwysau sy'n eu hwynebu. Oherwydd, fel y gwyddoch, un o'r meysydd gwariant mwyaf—oddeutu 50 y cant o gyllideb Llywodraeth Cymru—yw talu cyflogau. Ac mae'n wych gweld codiadau cyflog, ond os nad yw'r cyllid ychwanegol yn dod yn llawn gan Lywodraeth y DU, sydd heb ddigwydd, yna mae hynny'n rhoi mwy o bwysau ar Lywodraeth Cymru.

Ond rydym wedi bod yn edrych ar draws y Llywodraeth hefyd, drwy lens yr wyth maes blaenoriaeth, i archwilio meysydd lle y gallwn wneud ymrwymiadau cyllido newydd ac ychwanegol o bosibl a fydd yn gallu gwneud gwahaniaeth yn yr wyth maes penodol hynny a nodwyd gennym fel y rhai a allai gael yr effaith fwyaf ar bobl yng Nghymru.

Diolch, Weinidog, rwy'n sylweddoli ei bod yn ddyddiau cynnar ac edrychaf ymlaen at graffu arnoch yn y Pwyllgor Cyllid, gyda fy nghyd-Aelodau hefyd, mewn perthynas â'r gyllideb. Rydych newydd ddweud eich bod yn brin o arian neu nad ydych wedi derbyn arian gan Lywodraeth y DU, ond fel y byddech yn cydnabod rwy'n siŵr, bydd cyllideb adnodd Llywodraeth Cymru yn cynyddu mwy na £485 miliwn yn 2019-20, a bydd y gyllideb gyfalaf hefyd yn cynyddu bron i £70 miliwn yn 2020-21. Felly, er nad ydych wedi derbyn yr arian hwnnw heddiw efallai, fel y mae pethau, mae'n sicr wedi'i glustnodi ar gyfer y sefydliad hwn. Felly, hoffwn glywed gennych beth y bwriadwch ei wneud ag ef er mwyn gwneud defnydd da ohono.

Fe sonioch chi am lywodraeth leol. Rwy'n sylweddoli bod cyllidebau awdurdodau lleol wedi bod dan bwysau, fel y dywedoch chi eich hun. Yn ddiweddar, mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi adrodd bod cyllid grant craidd wedi gostwng 20 y cant ar ôl addasu ar gyfer chwyddiant yn 2019-20. Os nad ydych yn cynnwys cyllid ysgolion, fel sy'n digwydd mewn llywodraeth leol yn Lloegr, mae cyllid craidd hyd yn oed yn is na hynny, felly yn amlwg, mae cyllidebau awdurdodau lleol dan bwysau. Sut rydych chi'n cynllunio, yn eich cyllideb, er mwyn ceisio rhoi peth o'r arian nad ydynt wedi bod yn ei gael i lywodraeth leol, fel bod ganddynt yr arian hollbwysig hwnnw ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yn lleol yng Nghymru?

13:45

Wel, credaf ei bod yn bwysig myfyrio ar y rhesymau pam fod llywodraeth leol wedi bod yn ei chael hi'n anodd dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae hynny i raddau helaeth oherwydd y ffaith bod eu cyllidebau wedi bod yn gostwng wrth i gyllideb Llywodraeth Cymru ostwng. Y llynedd, cafwyd cyllid a oedd yn llai o lawer na'r cyllid y byddent wedi’i gael hyd yn oed 10 mlynedd ynghynt, felly credaf ei bod yn bwysig myfyrio ar yr anawsterau yn hynny o beth. Credaf ei bod hefyd yn bwysig cofio, er bod fformiwla Barnett yn rhoi arian, ei bod hefyd yn cymryd arian oddi wrthym, a dyma un o'r materion rydym yn ceisio mynd i'r afael â hwy ar hyn o bryd, o ran y cylchoedd gwario diweddaraf. Felly, cafwyd addasiad negyddol o oddeutu £180 miliwn gan Lywodraeth y DU. Nawr, gallwn ddeall oddeutu hanner hynny, ond mae swm sy'n weddill, o £90 miliwn, na allwn ei egluro. Felly, rydym yn cael trafodaethau gyda Llywodraeth y DU i archwilio a allwn gael atebion i hynny. Ond os na chawn ateb, yn amlwg, bydd yn rhaid i ni gyflwyno dadl ar hynny yng Nghyd-bwyllgor y Gweinidogion.

Wel, rwy'n gweld beth a olygwch pan ddywedwch fod y Barnett yn rhoi arian ac yn ei gymryd—mae hwnnw'n ymadrodd da mewn sawl ffordd. Ddoe cefais ddogfen —'Diwygio ein hundeb', a grybwyllwyd yn natganiad y Prif Weinidog—ac mae'n cynnwys adran ddiddorol ar gyllid yma lle mae'r Prif Weinidog neu Lywodraeth Cymru yn cydnabod bod cyllid gwaelodol Holtham—y fframwaith cyllidol a ddeilliodd o'r trafodaethau hynny—wedi bod yn cyflawni dros Gymru mewn gwirionedd, ac rydym yn derbyn mwy am bob punt yng Nghymru bellach o ganlyniad i hynny. Credaf y gallwch gadarnhau bod hynny'n £1.05 am bob punt yn wreiddiol, gan godi i £1.15. Felly, mae'r arian hwnnw'n dod inni, Weinidog. Felly, roeddwn ychydig yn siomedig â'ch ateb pan ddywedoch fod cyllid awdurdodau lleol wedi bod yn gostwng gyda chyllid Llywodraeth Cymru, oherwydd yn sicr, nid yw hynny'n wir ar hyn o bryd.

Os caf ehangu ychydig ar hynny i sôn am y fformiwla ariannu, a grybwyllais ynghynt, ac a gaf fi wneud apêl arall? Oherwydd os edrychwch yn fanwl ar gyllid awdurdodau lleol ledled Cymru, mae'n amlwg fod awdurdodau gwledig wedi'i chael hi'n arbennig o wael dros y blynyddoedd diwethaf. Felly, pan ddywedwch wrthym eich bod yn awyddus i roi arian tuag at wasanaethau cymdeithasol ac arian tuag at awdurdodau lleol yn y dyfodol, a allwch warantu y bydd y gacen honno'n cael ei rhannu'n deg ac y bydd cyllidebau awdurdodau lleol ledled Cymru, mewn ardaloedd gwledig, hefyd yn cael bargen well na'r hyn y maent wedi'i gael yn y gorffennol, fel bod cyllidebau yng Nghymru yn y dyfodol ar gyfer awdurdodau lleol yn decach nag y buont yn y gorffennol?

Wel, mae'r Gweinidog llywodraeth leol wedi dweud yn glir iawn wrth awdurdodau lleol ei bod hithau a minnau yn agored iawn i drafodaethau os oes gan awdurdodau lleol ffordd well o ddosbarthu'r cyllid a roddir i awdurdodau lleol. Ac yn amlwg, mae'r fformiwla ariannu fel y mae yn ystyried ystod eang o bethau—ac mae gwledigrwydd yn un ohonynt. Ond rydym wedi dweud yn glir iawn: os oes ffyrdd i lywodraeth leol ddod i gonsensws ynglŷn â beth y dylai'r newidiadau fod, byddem yn fwy na pharod i edrych ar y newidiadau hynny. Ond rydym yn awyddus, fel y dywedaf, i sicrhau bod awdurdodau lleol yn cael y setliad gorau posibl ynghanol yr holl heriau sy'n ein hwynebu.

Diolch, Llywydd. A wnaiff y Gweinidog grynhoi'r prif ffactorau a gwerthoedd sy'n penderfynu beth ydy blaenoriaethau cyllidol Llywodraeth Cymru?

Diolch yn fawr iawn. Gellir gweld y prif ffactorau a'r blaenoriaethau sy'n pennu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru yn ein rhaglen lywodraethu, ac fel rwy'n dweud, rydym yn edrych drwy'r gyllideb benodol hon, drwy lens yr wyth maes blaenoriaeth a nodwyd gan Lywodraeth Cymru fel y rhai, os gallwn weithio'n agosach ac mewn ffordd fwy cydgysylltiedig ar draws y Llywodraeth, a all sicrhau y gallwn gael yr effaith fwyaf ar fywydau pobl. Felly, maent yn cynnwys pethau fel tai, y blynyddoedd cynnar, gofal cymdeithasol, bioamrywiaeth, datgarboneiddio, cyflogaeth a sgiliau ac ati. Felly, dyna'r meysydd a nodwyd gennym fel y ffyrdd allweddol y gallwn wneud gwahaniaeth. Ond fel Cabinet, rydym wedi penderfynu y bydd iechyd yn parhau i fod yn flaenoriaeth i ni yn y gyllideb nesaf hon, ac unwaith eto, fel y dywedais, rhoi’r setliad gorau posibl i awdurdodau lleol.

Diolch am y sylwadau yna, ac yn cyfeirio at y rhes o werthoedd y gwnaethoch chi eu crybwyll, dwi'n meddwl y gallem ni gytuno y byddai'r rheini'n cael eu rhoi o dan y label 'llesiant', o bosib, a dwi'n croesawu'r sylwadau yn hynny o beth.

A gaf i ddyfynnu i chi gan yr economegydd Joseph Stiglitz a ddywedodd y llynedd:

Os ydym yn canolbwyntio ar les materol yn unig—ar gynhyrchu nwyddau, er enghraifft, yn hytrach nag ar iechyd, addysg a'r amgylchedd—cawn ein gwyrdroi yn yr un ffordd ag y mae'r mesurau hyn wedi'u gwyrdroi; rydym yn dod yn fwy materol... Os ydym am roi pobl yn gyntaf, mae'n rhaid i ni wybod beth sy'n bwysig iddynt, beth sy'n gwella eu lles a sut y gallwn ddarparu mwy o beth bynnag sy'n gwneud hynny.

Dwi'n meddwl eich bod chi'n cytuno efo'r math yna o sylw. Mae llesiant pobl yn bwysig i ni. Yn enwog erbyn hyn, mae Seland Newydd wedi cyflwyno dull newydd o gyllido yn canolbwyntio'n benodol ar geisio delifro ar gyfer yr hyn sy'n bwysig i lesiant pobl. Yn agosach at adre, mae Llywodraeth yr Alban hefyd yn mesur ei chyraeddiadau a'i pherfformiad drwy national outcomes, efo pwysau statudol yn cael ei roi i'r rheini drwy'r Community Empowerment (Scotland) Act 2015.

Allwch chi, fel Gweinidog, gadarnhau i fi os oes cais wedi cael ei roi, neu wahoddiad wedi cael ei roi, i Lywodraeth Cymru i ymuno â chynghrair llesiant rhyngwladol, lle mae nifer o wledydd yn gweithio efo'i gilydd i ddatblygu'r union fath o gyllidebau llesiant yma dwi wedi crybwyll yn yr Alban a Seland Newydd?

13:50

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n gyfarwydd â'r sefyllfa yn Seland Newydd, ac mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio'n agos gyda swyddogion o Seland Newydd i ddeall eu dulliau ei gilydd yn well, oherwydd, mewn gwirionedd, mae llawer o'r pethau yn null Seland Newydd o bennu cyllidebau wedi'u hymgorffori yn ein hymagwedd at ddeddfwriaeth Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Felly, credaf fod llawer o ddrychau yn hynny o beth.

Ac o ran yr Alban a’u dull o fesur llesiant, wel, mae gennym ni, wrth gwrs, ein dangosyddion cenedlaethol, sy’n deillio o Ddeddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol. Felly, unwaith eto, credaf fod llawer o synergedd yma, ac wrth gwrs, rydym yn agored i ddysgu gan wledydd eraill a rhannu ein harferion gorau hefyd.

O ran y rhwydwaith a'r sefydliad penodol y cyfeirioch chi atynt, nid wyf yn ymwybodol o unrhyw wahoddiad, ond nid yw hynny'n golygu nad oes un wedi'i roi. Byddaf yn sicr yn edrych ar hynny, oherwydd, fel rwy'n dweud, rydym yn awyddus i ddysgu gan eraill.

Diolch. Deallaf fod gwahoddiad wedi'i roi a bod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod y gwahoddiad i ymuno â'r gynghrair llesiant hon. Rwyf am ysgrifennu atoch fel Gweinidog i rannu mwy o wybodaeth am hynny. Ac os yw'n wir, credaf fod hynny'n siomedig. Mae gennym Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, ond ni allwn ddibynnu ar honno.

Credaf i chi ddweud ychydig wythnosau yn ôl, yn y Pwyllgor Cyllid, fod addasiadau cyllidebol bob amser yn cael eu gwneud yng nghyd-destun Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Credaf mai'r ymateb a gafwyd gan un cyn-Weinidog, Alun Davies, oedd ei fod wedi cymryd rhan mewn sgyrsiau ynglŷn â rhai o'r addasiadau hynny ac nad yw'n cofio unrhyw sgyrsiau am Ddeddf cenedlaethau'r dyfodol na 'Ffyniant i Bawb' yn unrhyw un o'r sgyrsiau hynny. Felly, mae cwestiynau gwirioneddol i'w gofyn ynglŷn â'r hyn sy'n digwydd ar lawr gwlad mewn gwirionedd. Gan ein bod ni ym Mhlaid Cymru wedi dweud y byddem, fel Llywodraeth, yn awyddus i ymuno â'r math o gynghrair o Lywodraethau cyllideb llesiant y soniais amdani, a fyddech yn cytuno y byddai Llywodraeth Cymru yn colli cyfle pe na bai'n manteisio ar bob cyfle i ddysgu gan eraill wrth roi'r math o gyllidebau ar waith sydd mewn gwirionedd yn gweithio tuag at wella llesiant pobl Cymru?

Wel, fel y dywedaf, fe edrychaf ar yr achos penodol hwnnw ynglŷn â'r rhwydwaith y cyfeiriwch ato.FootnoteLink Fel y dywedaf, nid yw'n rhywbeth a gafodd ei ddwyn i fy sylw, ond mae Llywodraeth Cymru yn arbennig o awyddus i gymryd rhan mewn rhwydweithiau a dysgu gan eraill, yn enwedig ar hyn o bryd yng nghyd-destun Brexit, wrth gwrs, gan fod ein cysylltiadau rhyngwladol mor bwysig ag erioed o ran gallu dangos beth a wnawn yng Nghymru a'r gwerthoedd sydd gennym yma yng Nghymru, gwerthoedd a rennir gan lawer ledled y byd yn fy marn i, ac o ran dysgu gan eraill hefyd, oherwydd yn sicr, nid oes monopoli gennym ar syniadau da.

Diolch, Lywydd. Weinidog Cyllid, rydych yn disgrifio'r cynnydd yng nghyfraddau llog y Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus fel cam yn ôl. Wrth wneud hynny, a oeddech yn adlewyrchu'r datganiad i'r wasg gan y Trysorlys, a ddywedai, drwy gynyddu'r gorswm ar fenthyciadau newydd 100 pwynt sylfaen, ei fod yn adfer cyfraddau llog i'r lefelau a oedd ar gael yn 2018? Ac a fyddech yn cytuno â fy asesiad fod y Trysorlys yn awyddus i ffrwyno nifer go helaeth o gynghorau lleol? Rwy'n ymwybodol o rai ohonynt dros y ffin yn Lloegr sydd wedi bod yn adeiladu portffolios sylweddol iawn o eiddo masnachol, weithiau y tu hwnt i ffiniau eu hardaloedd cyngor, ac weithiau'n talu symiau sylweddol iawn am eiddo manwerthu sydd wedi bod yn amhoblogaidd ar y farchnad fasnachol. Ac un enghraifft: benthycodd Cyngor Bwrdeistref Spelthorne £405 miliwn gan y Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus er mwyn prynu canolfan ymchwil fyd-eang BP. Ac a yw hyn yn adlewyrchu'r raddfa fwy o gyni y mae awdurdodau lleol Lloegr wedi'i gweld yn gyffredinol? Er enghraifft, yn Spelthorne, £22 miliwn yn unig yw eu cyllideb gyffredinol, ac eto mae'r £405 miliwn hwn sawl gwaith yn fwy na hynny, a chredaf eu bod yn disgwyl, eleni, cael £10 miliwn o'u cyllideb o £22 miliwn o'r elw net ar eu portffolio eiddo. A yw hynny'n rhywbeth y mae'r Trysorlys wedi cymryd camau gweithredu yn ei erbyn ac a ydym ni yng Nghymru wedi cael ein llyncu i mewn i hynny?

13:55

Wel, fel y dywedwch, newidiodd y gyfradd llog yn ddirybudd o 1.8 i 2.8 y cant ar unwaith yr wythnos diwethaf. Ac mae hynny'n peri anhawster i awdurdodau lleol yng Nghymru, wrth gwrs, gan y bydd yn rhaid iddynt ailasesu eu holl gynlluniau benthyca a'r cynlluniau sydd ganddynt ar gyfer buddsoddiad strategol mewn tai cymdeithasol yn arbennig, ond hefyd mewn ysgolion a phrosiectau cyfalaf eraill, yn enwedig yng Nghymru.

Credaf ei bod yn bwysig nodi hefyd fod Llywodraeth Cymru, dros gyfnod hir, wedi ymgyrchu i gael gwared ar y cap ar fenthyca ar gyfer awdurdodau lleol ac i ganiatáu i awdurdodau lleol fenthyca hyd at derfyn a oedd yn synhwyrol iddynt. Yn sicr, ni roesoch unrhyw enghreifftiau yng Nghymru o ble rydym wedi gweld benthyca i raddau sy'n anghyfrifol mewn unrhyw ffordd. Felly, credaf ei bod yn broblem fawr i awdurdodau lleol yng Nghymru, oherwydd wrth gwrs, mae'n golygu ailasesu eu cynlluniau.

Weinidog, fe gyfeirioch chi at weithgareddau adfywio a thai cymdeithasol fel enghreifftiau cadarnhaol o ble y gallai llywodraeth leol yng Nghymru fod yn benthyca arian, ond ceir hefyd—ceir rhywfaint o dystiolaeth, o leiaf, o fenthyca llywodraeth leol yng Nghymru sydd wedi'i ysgogi gan fuddsoddiad y portffolio eiddo masnachol. Un enghraifft yw Sir Fynwy, ac rydym wedi clywed sawl tro yn y Siambr hon pa mor anodd yw'r gyllideb i Sir Fynwy o ran y swm llawer iawn llai y mae'n ei gael gan Lywodraeth Cymru na llawer o gynghorau eraill. A tybed ai dyma eu hymateb i hynny yn y ffordd a welsom gan y cynghorau hyn yn Lloegr.

Roedd gan Sir Fynwy bortffolio eithaf sylweddol o eiddo masnachol eisoes, ond cafwyd dau gytundeb eleni lle maent wedi ychwanegu ato, a hynny drwy gyllid y Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus. Prynwyd Parc Busnes Castlegate yng Nghil-y-coed am £7 miliwn, ac yna ym mis Mawrth, am bris uwch o £21 miliwn prynwyd Parc Hamdden Casnewydd, sydd y tu allan i ardal cyngor Sir Fynwy—gwariwyd £21 miliwn ar hynny, ac maent yn gobeithio cael £1.4 miliwn mewn rhent. Felly, os oes gennym gynghorau yn benthyca ar 1.8 y cant, bellach ar 2.8 y cant, ac o bosibl yn cael arenillion o 6 neu 7 y cant, onid yw hyn yn rhywbeth sy'n mynd i barhau a thyfu o bosibl, a beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod benthyca o'r fath yn briodol a bod gan y cynghorau lleol dan sylw yr arbenigedd angenrheidiol ac nad ydynt yn cymryd risgiau gormodol a allai arwain at ofyn am gymorth gan Lywodraeth Cymru yn y dyfodol?

Bydd yn rhaid i awdurdodau lleol gyfiawnhau eu penderfyniadau gwario eu hunain i'w hetholwyr lleol. Felly, ar gyfer yr enghreifftiau a roesoch yn Sir Fynwy, mater i'r etholwyr lleol fyddai archwilio, neu benderfynu mewn gwirionedd a ydynt yn gyfforddus â'r penderfyniadau y mae awdurdodau lleol yn eu gwneud. Ond o ran effaith gyffredinol y penderfyniad hwn ar awdurdodau lleol yng Nghymru, wrth gwrs, bydd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol a minnau’n cyfarfod eto gyda’r is-grŵp cyllid, fel y gwnawn yn rheolaidd, felly bydd hon yn eitem y gallwn ei harchwilio gyda hwy. Ac rwy'n fwy na pharod i anfon mwy o wybodaeth atoch am y canllawiau rydym ni, drwy'r Gweinidog llywodraeth leol, yn eu rhoi i awdurdodau lleol ar fenthyca.

Tynnwyd cwestiwn 3 [OAQ54543] yn ôl. Cwestiwn 4, felly, Siân Gwenllian.

Ail Gartrefi

4. A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ynglyn a sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau fod perchnogion ail gartrefi yn talu treth gyngor? OAQ54553

Mae trefniadau casglu a gorfodi cadarn ar waith i sicrhau bod pob deiliad tŷ yn talu'r dreth gyngor y maent yn atebol amdani. Rydym yn gweithio'n agos gyda llywodraeth leol i wella'r prosesau hyn, lle bynnag y bo modd.

Mae yna fater o annhegwch sylfaenol yn digwydd yn fan hyn. Mae nifer fawr o ail gartrefi yng Nghymru, sef tai domestig sy'n cael eu defnyddio fel ail gartrefi tra bo'r prif annedd yn rhywle arall, felly dwi ddim yn sôn am unedau busnes, arlwyo masnachol na busnesau gwyliau fan hyn. Ond mae yna fwlch yn y gyfraith, ac dwi'n credu bod eich Llywodraeth chi yn ymwybodol o hyn. Mae yna fwlch sy'n golygu bod nifer gynyddol o berchnogion ail gartrefi wedi canfod ffordd o beidio â thalu treth cyngor na threth busnes. Ydych chi'n cytuno bod angen canfod ateb buan i'r broblem yma? Ydych chi'n cytuno y byddai diwygio adran 66 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 yn un ffordd o gael gwared ar yr annhegwch hwn?

14:00

Wel, nid wyf yn siŵr y buaswn yn cytuno bod bwlch yn y gyfraith, gan fod y gyfraith yn glir iawn ynglŷn ag a yw eiddo yn annedd at ddibenion y dreth gyngor neu a yw'n fusnes at ddibenion ardrethi annomestig. Rwy'n sylweddoli y bydd rhai ohonynt wedi'u categoreiddio'n fusnesau bach ac yna'n gymwys i gael rhyddhad ardrethi. Ond cyfarfûm ag Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn ddiweddar i drafod y pryderon penodol hyn, a chefais weld y ffurflenni y mae'n rhaid i fusnesau eu llenwi i ddangos eu bod yn bodloni amodau busnes go iawn—felly, fod yr eiddo hwnnw wedi'i osod am 70 noson ac ar gael i'w osod am 140 noson. Ond gwn hefyd ein bod wedi gwahodd awdurdodau lleol i roi enghreifftiau o ble nad yw hynny'n digwydd. Felly, gwn fod Gwynedd wedi rhoi nifer o enghreifftiau i Asiantaeth y Swyddfa Brisio ac fe wnaethant ymchwilio i bob un o'r achosion hynny, a chanfuwyd nad oedd perchnogion yr eiddo'n torri'r gyfraith mewn unrhyw un o'r achosion hynny.

Am fod bwlch yn y gyfraith. Gallant ei wneud. Dyna ble mae'r bwlch yn y gyfraith.

Fel y gwyddoch, mae'r Gorchymyn ardrethu annomestig yn nodi'r telerau rydych newydd eu disgrifio—ar gael i'w osod am 140 diwrnod, wedi'i osod am 70 diwrnod—er mwyn bod yn fusnes hunanddarpar. Ac fe gyfeirioch chi at y rôl y mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn ei chwarae fel ceidwad y porth a'r ddogfennaeth sy'n ofynnol ganddynt, a'u bod wedi ymchwilio i ychydig o achosion a gyfeiriwyd atynt gan Gwynedd. Ond pa larymau sydd ar waith o fewn y system i sicrhau bod y swyddfa brisio yn ymchwilio ac yn gwirio sampl, o leiaf, o eiddo hunanddarpar honedig fel mater o drefn er mwyn sicrhau eu bod yn rhai dilys, gan gydnabod hefyd fod y telerau a roddwyd ar waith gan Lywodraeth Cymru yn gyfaddawd gyda'r diwydiant i amddiffyn busnesau cyfreithlon?

Os oes gan awdurdodau lleol unrhyw bryderon penodol am unrhyw eiddo o gwbl, dylent dynnu sylw Asiantaeth y Swyddfa Brisio atynt a byddant yn eu hasesu'n fanwl. Credaf fod angen i ni ystyried hefyd ei fod yn fater difrifol iawn mewn gwirionedd os yw perchennog eiddo yn ceisio efadu ac osgoi trethi drwy honni bod eu heiddo yn eiddo gwyliau i'w osod yn hytrach na phreswylfa ddomestig, oherwydd, wrth gwrs, os cânt eu dal yn gwneud hynny, gallant wynebu bil ôl-ddyddiedig mawr iawn am y dreth gyngor. Mewn gwirionedd, gallai unrhyw ymgais i gamarwain awdurdod neu Asiantaeth y Swyddfa Brisio, neu i ddarparu gwybodaeth anwir neu anghywir yn fwriadol, arwain at erlyniad am dwyll. Felly, mae ceisio efadu neu osgoi talu trethi yn y ffordd honno'n hynod o ddifrifol.

Rhyddhad Ardrethi Busnes

5. Pa mor effeithiol y mae rhyddhad ardrethi busnes wedi bod o ran helpu busnesau yng Nghymru? OAQ54533

Mae pecyn rhyddhad ardrethi Llywodraeth Cymru yn darparu dros £230 miliwn o gymorth i fusnesau a threthdalwyr eraill gyda’u biliau eleni. Nid yw hanner yr holl fusnesau yng Nghymru yn talu unrhyw ardrethi o gwbl.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Mae Stryd Fawr y Rhyl a chanol y dref wedi dirywio dros y blynyddoedd, fel canol sawl tref yng Nghymru. Ar un adeg, roedd canol y dref yn y Rhyl yn llewyrchus, a bellach mae'n edrych fel llawer o'r trefi sydd wedi dirywio dan ofal y Llywodraeth hon. Mae perchnogion siopau yn colli'r frwydr yn erbyn parciau manwerthu y tu allan i'r dref, sy'n cynnig parcio am ddim a chyfleus, a siopau sydd, yn ôl pob tebyg, wedi cael gostyngiadau ar eu rhenti neu ardrethi busnes i'w denu allan o'r dref ac i'r parc manwerthu.

Pryd bynnag y caiff y Llywodraeth hon ei holi am ardrethi busnes a rhyddhad ardrethi busnes, a sut y gellir eu defnyddio'n well i adfywio'r stryd fawr, rydych bob amser yn ateb mai'r awdurdodau lleol sydd yn y sefyllfa orau i benderfynu sut i wella canol trefi yn eu hardaloedd. Efallai fod hynny'n wir, ond nid ydynt yn gwneud hynny. Onid yw'n bryd bellach i Lywodraeth Cymru ddangos arweiniad ar y mater hwn a dangos i awdurdodau lleol sut y gallant achub canol trefi a'u gwarchod, yn enwedig ar gyfer y manwerthwyr bach a chanolig sydd wedi'u lleoli yng nghanol y dref ac sy'n debygol o arwain at greu swyddi a stryd fawr lewyrchus? Mae'r adolygiad o ryddhad ardrethi yn cymryd gormod lawer o amser. Mae canol trefi'n marw wrth i chi osgoi unrhyw graffu difrifol drwy guddio y tu ôl i'r hyn sy'n edrych fel adolygiad mewnol.

14:05

Wel, ni chredaf ei bod yn deg dweud, pryd bynnag y caf fy holi ynglŷn â'r mater hwn, fy mod yn dweud ei fod yn fater i'r awdurdodau lleol, oherwydd wrth gwrs, mae gennym gynlluniau ar gyfer Cymru gyfan sy'n cael eu gweinyddu ac ni cheir disgresiwn i rai o'r cynlluniau hyn. Felly, er enghraifft, rhyddhad ardrethi busnesau bach, mae hwnnw'n gynllun rhyddhad ardrethi busnesau bach parhaol yng Nghymru, sy'n darparu dros £120 miliwn o ryddhad eleni. Caiff ei ariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru, yn wahanol i'r hyn sy'n digwydd dros y ffin, lle y gwelwch fusnesau'n sybsideiddio busnesau eraill. Ac mae dros 70,000 o drethdalwyr ledled Cymru yn cael cymorth, ac fel rwy'n dweud, nid yw eu hanner yn talu unrhyw beth o gwbl. Mae hynny'n cymharu â thraean o'r rheini yn Lloegr. Yn ogystal, mae gennym ein cynlluniau rhyddhad ardrethi'r stryd fawr. Mae hynny'n £23.6 miliwn ychwanegol sydd ar gael i gefnogi a gwella'r stryd fawr, ac rydym wedi ehangu hynny fel ei fod yn berthnasol i fwy na siopau ac eiddo manwerthu yn unig yn yr ystyr hwnnw; mae wedi'i ehangu i gynnwys tafarndai, bwytai, er mwyn sicrhau ei fod yn cefnogi'r caffis a'r busnesau eraill sy'n rhoi naws fywiog i ganol ein trefi.

Mae gan awdurdodau lleol ddisgresiwn o ran y £2.4 miliwn ychwanegol i dargedu'r cymorth hwnnw i fusnesau lleol penodol neu sectorau y credant eu bod yn arbennig o bwysig i fywyd eu tref. A chredaf ei bod yn briodol iawn fod ganddynt y disgresiwn hwnnw. Wrth gwrs, nid yw rhyddhad ardrethi ynddo'i hun yn mynd i ddatrys holl broblemau'r stryd fawr, a dyna pam fod gennym bethau fel ein benthyciadau ar gyfer y stryd fawr, sy'n gynllun hynod boblogaidd, ac mae hwnnw'n adfywio'r stryd fawr. Mae gennym ein gwaith adfywio canol trefi sy'n mynd rhagddo ledled Cymru hefyd. Felly, rydym yn gwneud llawer o bethau i adfywio ein stryd fawr, ond ni chredaf fod unrhyw un ohonom yn tanbrisio'r her sydd ynghlwm wrth hynny.

Mae'n ymwneud â'r pwynt hwnnw, mewn gwirionedd. Ym mis Gorffennaf, efallai y byddwch yn cofio i chi fod yn ddigon caredig i ysgrifennu, neu i ohebu beth bynnag, â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ynghylch eu rhyddhad ardrethi i siopau'r stryd fawr. Dywedasant wrthyf o'r diwedd ym mis Gorffennaf—ac ar ôl i chi gysylltu â hwy—fod 90 y cant o fusnesau a oedd wedi gwneud cais iddynt am y math hwn o ryddhad ardrethi wedi bod yn llwyddiannus, felly diolch am gysylltu â hwy. Fodd bynnag, os mai nifer y busnesau ar y stryd fawr sydd naill ai wedi agor neu wedi aros ar agor yw mesur llwyddiant y polisi hwn, nid wyf yn siŵr a a allwch hawlio llwyddiant yn y fwrdeistref benodol hon. Felly, yn yr adolygiad rydych yn ei gynnal a'r gwaith o werthuso'r polisi, beth fydd y prif feini prawf ar gyfer llwyddiant? Ai nifer y busnesau sydd wedi aros ar agor, yn hytrach na chymariaethau â Lloegr o ran faint o bobl sy'n talu ardrethi ac ati? Ac a fyddwch yn cymharu effeithiau eich polisi penodol â pholisïau amgen a gynigir yma gan bleidiau eraill?

Y mis nesaf, edrychaf ymlaen at gyflwyno datganiad i'r Cynulliad ar ddiwygiadau ariannol llywodraeth leol, ac mae hynny'n cynnwys ystyried trethi lleol yn gyffredinol, felly fe fydd yn ystyried y dreth gyngor ac ardrethi annomestig hefyd. A bydd yn disgrifio'r ymchwil a gomisiynwyd gennym yn y ddau faes i'n helpu i ddeall yn well beth yw'r cyfleoedd ar gyfer diwygio'r ddau beth yn y tymor hwy.

O ran rhai o'r ffyrdd y gallwn fesur llwyddiant, wrth ateb cwestiwn Rhun ap Iorwerth yn gynharach, buom yn siarad ynglŷn â sut y mae mesur gwerth am arian. Mae mesur gwerth am arian mewn termau ariannol pur yn un peth, ond mewn gwirionedd, os ydym yn ei fesur mewn ffordd fwy creadigol, ffyrdd sy'n ceisio hyrwyddo agenda ehangach Llywodraeth Cymru o ran bioamrywiaeth, er enghraifft, neu ein cynllun gweithredu ar yr economi, credaf fod cyfleoedd gwych i'w cael i dargedu buddsoddiad a chymorth. Ond credaf fod hwn yn waith hwy. Gofynnodd Suzy a fyddem yn edrych ar syniadau eraill. Buaswn yn falch iawn pe gallem barhau â'r sgwrs hon er mwyn archwilio meysydd lle mae gennym syniadau cyffredin a lle y gallwn rannu syniadau.

Trethi Datganoledig

6. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gasglu trethi datganoledig? OAQ54524

Mae Awdurdod Cyllid Cymru yn cyhoeddi gwybodaeth alldro yn rheolaidd am y refeniw a gesglir o'r dreth trafodiadau tir a'r dreth gwarediadau tirlenwi. Mae disgwyl i Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi gyhoeddi'r flwyddyn lawn gyntaf o ddata alldro ar gyfraddau refeniw treth incwm Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol hon yn ystod haf 2021.

Edrychaf ymlaen at weld y data hwnnw'n cael ei gyhoeddi, Weinidog. Mae chwe mis wedi bod bellach ers datganoli cyfradd treth incwm Cymru—ers creu'r gyfradd Gymreig honno—ac fel y dywedasoch, mae llawer mwy na hynny wedi bod ers datganoli'r dreth stamp, sef y dreth trafodiadau tir bellach, a'r dreth gwarediadau tirlenwi. Felly, a ydych wedi gwneud unrhyw asesiad rhagarweiniol o gyfraddau casglu'r trethi hynny, yn enwedig y rhai sydd wedi'u datganoli ers mwy o amser, ac a yw'r symiau a gesglir o'r trethi hynny yn unol â disgwyliadau Llywodraeth Cymru? Gwn fod rhywfaint o'r data cynnar—o'r dreth gwarediadau tirlenwi, rwy'n credu—yn dangos bod mwy yn cael ei gasglu, llawer mwy na'r hyn a ragwelwyd yn wreiddiol, am y chwarter cyntaf o leiaf, a hynny am sawl rheswm. Felly, tybed a ydym yn gweld unrhyw anghysondebau rhyfedd ond calonogol eraill, neu fel arall, yn rhywfaint o'r data ar y trethi eraill.

14:10

O ran y dreth trafodiadau tir a’r data alldro ar gyfer 2018-19, wel mae hynny £12 miliwn yn is na rhagolwg cyllidebol olaf Llywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr y llynedd. £239 miliwn oedd y ffigur hwnnw. Ac roedd rhagolwg mwy diweddar gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, a gyhoeddwyd ochr yn ochr â datganiad y gwanwyn ym mis Mawrth, yn rhagweld y byddai'r refeniw ar gyfer 2018-19 yn £234 miliwn. Bydd y rhagolwg refeniw nesaf yn cael ei gyhoeddi ochr yn ochr â gwaith y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol gyda'r gyllideb ddrafft ym mis Tachwedd.

Mae'r data diweddaraf a gyhoeddwyd gan Awdurdod Cyllid Cymru yn nodi bod refeniw'r dreth trafodiadau tir rhwng 1 a 31 Awst 2019 yn £88.5 miliwn. Mae hynny 4 y cant yn is na'r un cyfnod y llynedd. A chredaf ei bod yn deg dweud bod y dreth trafodiadau tir yn dreth eithaf anwadal o ran ei natur, felly efallai ei bod yn anoddach ei rhagweld. Ac o ran y dreth gwarediadau tirlenwi, rhagolwg Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol ar gyfer 2019-20 yw £41 miliwn. Felly, mae hynny £2 filiwn yn is na rhagolwg Llywodraeth Cymru yn ôl ym mis Rhagfyr 2018, ond unwaith eto, wrth inni symud tuag at ein nod o ddyfodol diwastraff, bydd y swm o arian a geir drwy'r dreth gwarediadau tirlenwi yn gostwng yn naturiol dros amser.

Y Gronfa Ffyniant Gyffredin

7. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch y Gronfa Ffyniant Gyffredin? OAQ54547

Rwy’n parhau i godi pwysigrwydd cyllid llawn yn lle cyllid yr UE, ac i Lywodraeth Cymru gadw’r ymreolaeth i’w ddarparu. Holais Brif Ysgrifennydd y Trysorlys ynglŷn â'r mater hwn pan gyfarfûm ag ef yng nghyfarfod diweddaraf y Gweinidogion cyllid.

Wel, diolch am eich ateb, Weinidog. Wrth gwrs, rwy'n sylweddoli eich bod yn ei chael hi'n anodd cael ymateb. Nawr, i’r rhai ohonom a wyliodd ddarllediadau byw o gynhadledd y Blaid Geidwadol, byddem wedi cael ateb digonol iawn, gan fod y Gweinidog yno'n gyhoeddus yn gwneud datganiadau cyhoeddus mewn cyfarfodydd, gan ddweud yn hollol glir y bydd y gronfa ffyniant gyffredin yn cael ei rheoli a'i rheoleiddio er mwyn cryfhau'r undeb, a chredaf fod hynny'n golygu'n amlwg iawn y bydd yn cael ei defnyddio mewn ffordd sy'n tanseilio holl egwyddorion ein setliad datganoli. Nawr, gan gofio ei bod yn ymddangos y gall y Gweinidog wneud hynny'n fyw ar y teledu, tybed a oes angen ymateb brys gan Lywodraeth Cymru yn mynnu ein bod ninnau hefyd yn cael yr un fraint neu bleser o gael ateb fel y gallwn fynd i'r afael â'r materion hynny yn uniongyrchol, o leiaf.

Iawn. Gallaf gadarnhau bod y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit wedi atgyfnerthu ein safbwynt fel Llywodraeth Cymru—ac un y gwn fod y gwahanol bleidiau yn y Siambr hon yn ei rhannu—gyda'r Gweinidogion yng nghyfarfod Cyd-bwyllgor y Gweinidogion yr wythnos diwethaf ar 10 Hydref. Ac wrth gwrs, rydym wedi bod yn weithgar iawn yn codi'r pwyntiau hyn yn gyson, gan adlewyrchu barn Llywodraeth Cymru, ond fel rwy'n dweud, y safbwyntiau a rennir y cawsom gyfle i'w cofnodi drwy ddadl yn y Cynulliad hwn, a ddywedai y dylai Llywodraeth Cymru gadw'r ymreolaeth i ddyrannu'r cyllid ar gyfer y cynlluniau hynny gan mai gennym ni y mae'r profiad, y rhwydweithiau ac ati i'w wneud yn y ffordd fwyaf effeithiol, yn ogystal â'r egwyddor o 'yr un geiniog yn llai'. Roeddwn yn bryderus iawn pan godais hyn gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys a bron na ddiystyrodd hynny, gan ddweud, 'Wel, addewid gan yr ymgyrch dros adael oedd honno, nid addewid gan y Llywodraeth Geidwadol', ond wrth gwrs, y Prif Weinidog oedd arweinydd yr ymgyrch dros adael, felly credaf y gellir disgwyl yn rhesymol ein bod yn ei ddwyn i gyfrif ar hynny.

Cefnogi Pobl 16 i 18 Oed

8. Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog wedi'i rhoi i gefnogi pobl 16-18 oed wrth bennu cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21? OAQ54545

Rydym yn asesu effaith ystod o ffactorau ar gynlluniau gwario Llywodraeth Cymru yn barhaus, gan gynnwys yr amcanestyniadau demograffig diweddaraf. Cyfarfûm â Chomisiynydd Plant Cymru ar 23 Medi fel rhan o fy ngwaith ymgysylltu â'r rhanddeiliaid perthnasol cyn y gyllideb sydd ar y ffordd.

14:15

Diolch am hynny. Ond er gwaethaf blynyddoedd lawer o gyni Torïaidd, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i helpu plant o deuluoedd incwm isel i aros mewn addysg os mai dyna y dewisant ei wneud. Ac mae hynny'n amlwg o barhad y lwfans cynhaliaeth ac addysg ar gyfer pobl ifanc 16 i 18 oed yng nghynllun cyfredol y gyllideb a fyngherdynteithio, sy'n rhoi gostyngiad o 30 y cant ar deithiau bysiau yng Nghymru i bobl ifanc 16 i 21 oed, i'w helpu i allu fforddio cyrraedd eu gweithle neu leoliad addysg. Felly, pan fyddwch yn gosod y gyllideb nesaf, a wnewch chi ymrwymo i gynorthwyo pobl ifanc ym mha bynnag ffordd y gallwch, mewn cyferbyniad llwyr â'r hyn sy'n digwydd mewn mannau eraill lle mae'r Torïaid mewn grym?

Diolch yn fawr am nodi pwysigrwydd sicrhau ein bod yn ystyried anghenion gorau pobl ifanc yn ystod ein holl drafodaethau ar y gyllideb, ac yn sicr, roedd honno'n neges roedd y comisiynydd plant yn awyddus i'w hatgyfnerthu pan gawsom gyfle i gyfarfod yn ddiweddar iawn.

Mae'r lwfans cynhaliaeth addysg yn sicr yn un o'r meysydd lle rydym wedi gallu cefnogi pobl ifanc, yn enwedig y rheini o gefndiroedd mwy difreintiedig er mwyn eu cynorthwyo i aros yn yr ysgol. Oherwydd yn amlwg, gwyddom mai cael y gefnogaeth honno i aros yn yr ysgol yw'r peth pwysicaf o ran eu cynorthwyo i aros ar lwybr cadarnhaol mewn bywyd lle byddant yn gallu cyflawni eu potensial llawn. Rydym wedi buddsoddi mwy na £360 miliwn yng nghynllun y lwfans cynhaliaeth addysg ers 2004-05 pan gafodd ei gyflwyno gennym gyntaf. Credaf fod hynny'n gadarnhaol iawn, felly rydym wedi gallu cynorthwyo dros 20,000 o bobl ifanc drwy hynny.

Rydym hefyd wedi dyrannu £6.3 miliwn drwy gynllun y cronfeydd ariannol wrth gefn i sefydliadau addysg bellach yng Nghymru. Credaf fod hynny'n bwysig iawn hefyd, gan ei fod yn caniatáu i'r sefydliadau addysg bellach hynny allu targedu cymorth at y bobl ifanc sydd ei angen fwyaf yn eu tyb hwy.

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol

Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Russell George.

Gwerthu Cymru i'r Byd

1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynnydd Llywodraeth Cymru o ran gweithredu argymhellion adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar Werthu Cymru i'r Byd? OAQ54517

Member
Eluned Morgan AM 14:17:45
Minister for International Relations and the Welsh Language

Diolch. Rydym yn gwneud cynnydd da wrth roi'r argymhellion ar waith. Er enghraifft, rwyf wedi canolbwyntio ar dyfu allforion yn y strategaeth ryngwladol, ac mae strategaeth twf allforio yn rhan o'r gwaith hwnnw. Fe fyddwch wedi sylwi, rwy'n siŵr, mai'r argymhelliad cyntaf, creu swydd benodol ar gyfer cysylltiadau rhyngwladol a masnach a swydd ar Brexit, oedd un o gamau cyntaf y Prif Weinidog ar ôl cychwyn ei swydd.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Sylwais hefyd ei bod yn ymddangos eich bod wedi awgrymu bryd hynny yn y pwyllgor materion allanol ar 23 Medi—a chredaf eich bod yn ategu hyn yn eich ateb yn awr—y byddai Llywodraeth Cymru yn rhoi mwy o bwyslais ar gefnogi allforion yn hytrach na denu mewnfuddsoddiad. Os yw hynny'n gywir, tybed a allech esbonio'r rhesymeg dros yr ymagwedd hon a rhoi eich barn ar y berthynas sy'n bodoli rhwng allforio a buddsoddi o ran sicrhau buddion i economi Cymru ar gyfer y gwahanol sectorau busnes hynny.

Wel, credaf ei bod yn bwysig iawn tanlinellu nad ydym mewn unrhyw ffordd yn ymbellhau oddi wrth ddenu mewnfuddsoddiad i Gymru, ond mae'n eithaf amlwg ar adeg fel hon o fflwcs economaidd, lle nad ydym yn gwybod beth fydd ein perthynas â'n partner economaidd agosaf, ei bod yn gwneud synnwyr inni ganolbwyntio ar allforion, fel yn wir y mae'r Swyddfa Dramor a Chymanwlad a'r Adran Masnach Ryngwladol wedi'i wneud. Ac felly, yr hyn a wnaethom, rydym yn falch iawn ein bod wedi derbyn cyllid ychwanegol o'r cyllid sydd wedi dod o ganlyniad i Brexit i helpu i annog mwy o allforwyr o Gymru, gan dargedu busnesau bach a chanolig eu maint yn arbennig, ac rydym wedi bod yn gwneud cryn dipyn o gynnydd ar hynny ac rydym wrth ein boddau gyda'r ymateb cadarnhaol iawn a gafwyd.

Roeddwn yn awyddus i ganolbwyntio ar argymhelliad 5 a chylch gwaith y swyddfeydd tramor a sut y dylid eu cyfleu i fusnesau a sut y gellir gwneud y gorau ohonynt. Gwn, er enghraifft, fod gennych dair swyddfa yn India, ond rwyf hefyd yn gwybod am lawer o fusnesau yma yng Nghymru sydd â chanolfannau yn India nad ydynt yn cael unrhyw ohebiaeth o gwbl gan Lywodraeth Cymru, ac maent yn cwblhau eu teithiau masnach eu hunain i India, a chredaf y byddent yn croesawu cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru i wybod sut y gallent gysylltu â'r swyddfeydd hynny. Felly, beth yw'r cylch gwaith, ac os ydynt yn gweithio gyda busnesau, beth yw'r busnesau hynny, a sut y gallwn sicrhau bod busnesau sy'n awyddus i gael cefnogaeth Llywodraeth Cymru yn y gwledydd hyn yn cael yr hyn y maent yn ei haeddu?

14:20

Diolch. Yr wythnos diwethaf, anfonais hysbysiad clir iawn ynglŷn â chylch gwaith y swyddfeydd hynny at y pwyllgor cyfrifol i nodi beth yn union yw ein disgwyliadau o'r swyddfeydd tramor hynny. Mae gennym ddull llawer mwy cadarn o sicrhau ein bod yn edrych ar berfformiad y swyddfeydd hynny. Mewn gwirionedd, rydym wedi penodi rheolwr perfformiad newydd sy'n gorfod llunio cynlluniau pwrpasol ar gyfer pob un o'r 20 swyddfa dramor. Wrth gwrs, rydym yn ceisio cynyddu amlygrwydd y swyddfeydd, ac mae hynny'n rhywbeth y byddwch wedi'i weld yn y strategaeth ryngwladol rwy'n siŵr. Rydym wedi sicrhau amlygrwydd iddynt, fod pobl yn gwybod y gallant fynd atynt yn uniongyrchol. Felly, rydym yn awyddus iawn i sicrhau bod y cwmnïau hynny yn arbennig yng Nghymru, ac nid oes angen inni fod yno'n dal llaw unrhyw gwmni sy'n awyddus i allforio dramor, gallant wneud hynny'n uniongyrchol, a byddem yn eu hannog i gysylltu'n uniongyrchol â swyddfeydd Cymru dramor.

Islwyn fel Cyrchfan i Dwristiaid

Diolch, Lywydd. Ddirprwy Weinidog, yn ystod tri mis cyntaf 2019, dengys ffigurau—

O ie, wrth gwrs, mae'n ddrwg gennyf. Fe'i caf mewn munud. Mae'n ddrwg gennyf, Lywydd.

2. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo Islwyn fel cyrchfan i dwristiaid? OAQ54549

Diolch, Rhianon. Mae strategaeth dwristiaeth Llywodraeth Cymru yn nodi blaenoriaethau i gefnogi'r diwydiant twristiaeth ledled Cymru. Mae hyn yn cynnwys ymgyrchoedd marchnata yn y DU a thramor, a chyllid datblygu cyfalaf sylweddol ar gyfer busnesau twristiaeth newydd a rhai sy'n bodoli'n barod, ynghyd â chyllid refeniw ar gyfer prosiectau rhanbarthol sylweddol.

O'r gorau. Yn ystod tri mis cyntaf 2019, dengys ffigurau fod 16.6 miliwn o ymweliadau dydd â chyrchfannau yng Nghymru, gyda gwariant cysylltiedig o £874 miliwn. Dros y 12 mis a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2019, cafwyd 10.1 miliwn o deithiau dros nos i Gymru, cynnydd o 11 y cant, gyda gwariant o £1.848 miliwn, sydd hefyd yn gynnydd o 7.8 y cant mewn blwyddyn yn unig. Felly, Ddirprwy Weinidog, dengys y ffigurau hyn pa mor hanfodol i economïau cymunedau Cymru yw twristiaeth ddomestig yn unig o fewn y Deyrnas Unedig.

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi clustnodi tirwedd naturiol hyfryd ffordd goedwig Cwmcarn yn Islwyn fel porth darganfod a fydd yn elwa o gyllid tasglu'r Cymoedd, ac mae Crymlyn ei hun gyda phwll glo Navigation yn dystiolaeth o lafur a chyfraniad pobl Islwyn i waddol hanesyddol Cymru a'r Deyrnas Unedig. Felly, Ddirprwy Weinidog, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu cymryd i barhau i hyrwyddo cymunedau bendigedig Islwyn a'u hatyniadau o'r radd flaenaf fel man i dwristiaid lleol a rhyngwladol ymweld ag ef?

Yr hyn rwy'n arbennig o awyddus i'w hyrwyddo yw'r cysylltiad rhwng y dirwedd anhygoel a'r dreftadaeth ddiwydiannol bwysig iawn. Gan i chi grybwyll Cwmcarn, fe gofiwch imi agor y bwthyn a'r ganolfan antur yno, a ariannwyd drwy raglen cyrchfannau denu twristiaeth, ym mis Gorffennaf eleni. Credaf fod Cwmcarn yn atyniad sylweddol ynddo'i hun, ac rwy'n falch iawn o ddweud bod y gwaith y bu'n rhaid ei wneud ar y 160,000 o goed llarwydd heintiedig ar y safle hwnnw bron â gorffen. Yna, gallwn ddathlu pwysigrwydd y safle hwnnw unwaith eto.

Ddirprwy Weinidog, fe'ch clywais yn sôn am Gwmcarn. Croesawaf y buddsoddiad gan Croeso Cymru mewn atyniad newydd ar ffordd goedwig Cwmcarn, gan gynnwys canolfan chwarae antur a'r bythynnod moethus newydd, a agorwyd gennych ym mis Gorffennaf. Fe fyddwch yn gwybod hefyd fod ffordd goedwig Cwmcarn wedi bod ar gau dros y pum mlynedd diwethaf, oherwydd yr angen i gael gwared ar goed heintiedig. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gobeithio ailagor ffordd goedwig Cwmcarn cyn gynted â phosibl yn gynnar y flwyddyn nesaf. Pan fydd hyn yn digwydd, Weinidog, a wnewch chi ymrwymo i weithio gyda Croeso Cymru i hyrwyddo a rhoi cyhoeddusrwydd i ffordd goedwig Cwmcarn fel bod cymaint o bobl â phosibl yn dod i fwynhau'r golygfeydd a'r harddwch a'r gweithgareddau yn y lleoliad gwych hwn yn ne-ddwyrain Cymru?

14:25

Diolch. Gadewch inni ddeall y sefyllfa: nid oes raid i mi weithio gyda Croeso Cymru; maent yn gweithio i mi fel Gweinidog twristiaeth, ac rwy'n falch o ddweud bod gennyf berthynas ragorol â Croeso Cymru a'u tîm rheoli, ac mae hynny'n ymestyn, wrth gwrs, i Cyfoeth Naturiol Cymru, gan ei bod yn amlwg yn bwysig fod yr asiantaethau i gyd yn gweithio gyda'i gilydd. Nid wyf am roi dyddiad ichi pa bryd y bydd y ffordd goedwig yn cael ei hailagor gan y byddwch wedyn yn sefyll ar eich traed ac yn gofyn pam nad yw wedi'i hagor. [Torri ar draws.] Ond rydym yn cydnabod bod Cwmcarn—. Na, nid wyf am fynd ar hyd y trywydd hwnnw, gan ei bod yn amlwg fod hwnnw'n achos difrifol o glefyd y llarwydd nad yw'n unigryw i'r rhan honno o Gymru, nac yn wir i unrhyw le arall yng nghoedwigoedd Ewrop. Felly, yr hyn sydd gennym yno yw enghraifft o safle sy'n cael ei reoli ar y cyd rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a Cyfoeth Naturiol Cymru. Fel y dywedoch chi, mae'n ffordd goedwig brydferth saith milltir o hyd ac mae'n cynnig pob math o weithgareddau awyr agored: llwybrau beicio mynydd, llwybrau cerdded, llety, fel y dywedoch chi. Mae bellach yn rhan o borth darganfod parc rhanbarthol y Cymoedd, ac rydym yn bwriadu parhau i hyrwyddo Cwmcarn, gallaf addo hynny i chi.

A wnaiff y Gweinidog ymuno â mi i longyfarch grŵp pwyso Cyfeillion Ffordd Goedwig Cwmcarn ar brofi’r achos dros adfer y cyfleusterau ar ffordd goedwig Cwmcarn i Cyfoeth Naturiol Cymru, a’r amser a’r ymdrech a roddodd aelodau'r grŵp i gynnal yr ymgyrch er budd diwydiant twristiaeth Cymru yn gyffredinol, yn ogystal â'r economi leol?

Wrth gwrs, rwy'n llwyr gefnogi unrhyw weithgarwch gwirfoddol sy'n digwydd i gefnogi amgylchedd Cymru, yn enwedig amgylchedd nodedig ein coedwigoedd. Hoffwn ddiolch i'r sefydliad gwirfoddol a fu ynghlwm wrth hyn, a sefydliadau gwirfoddol eraill ledled Cymru sy'n cefnogi ein polisïau tirwedd a'n gweledigaeth ar gyfer y dirwedd, am y gwaith a wnânt yn wirfoddol.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau, a llefarydd y Ceidwadwyr, Suzy Davies.

Diolch, Llywydd, a phrynhawn da, Weinidog. Yn ôl dogfen cychwyn rhaglen eich bwrdd rhaglen o 20 Mawrth 2019, rydym yn disgwyl nifer o gamau oddi wrthych y mis hwn. Un o'r rheini yw datblygu a gweithredu cynllun cyfathrebu strategaeth Cymraeg 2050 ar draws adrannau'r Llywodraeth. Tair blynedd ers i'r Cynulliad hwn ddechrau, pam nad yw hyn wedi digwydd eto?

Diolch. Mae lot o waith wedi mynd mewn i'r cynllun cyfathrebu yma ar draws y Llywodraeth. Rydych chi'n ymwybodol mai yn ystod yr Eisteddfod y gwnaethom ni lansio prosiect 2050. Roedd hwn yn gynllun i sicrhau ein bod ni'n gallu prif-ffrydio'r Gymraeg ar draws y Llywodraeth, ond mi fydd yna, dwi'n gobeithio, yn ystod y mis nesaf, gynllun yn dod gerbron, ac wrth gwrs mae hwn yn waith i'r Ysgrifennydd Parhaol i ddod ymlaen â rhywbeth sylweddol ynglŷn â sut ŷn ni'n mynd i symud ymlaen tu fewn i Lywodraeth Cymru gyda'n cynllun ni o Gymreigio'r civil service yma yng Nghymru.

Wel, diolch am yr ymateb, ond dyw e ddim cweit wedi ateb y cwestiwn o ran pam y mae wedi cymryd cymaint o amser. Rydym hefyd yn disgwyl cyhoeddi polisi trosglwyddo iaith o fewn y teulu a datganiad llafar ar seilwaith ieithyddol. Rwy'n gobeithio ein bod ni'n mynd i gael rhywbeth oddi wrthych chi ynglŷn â'r rhain hefyd, achos maen nhw ar amserlen y bwrdd rhaglen.

Jest i symud ymlaen, mae cyngor partneriaeth y Gymraeg yn cynghori ac yn cyflwyno sylwadau i Weinidogion Cymru—dim ond i chi—mewn perthynas â'u strategaeth iaith Gymraeg. Ers dymchweliad eich cynlluniau ar gyfer Bil newydd a chyflwyno'r ddogfen cychwyn rhaglen, gallaf ddarganfod un set yn unig o gofnodion anghyflawn, o gyfarfod y cyngor ym mis Ebrill, lle ar ôl y camau archwilio risg arferol cafwyd cyflwyniad ar ail gartrefi a'r polisi yng Nghernyw. Sut mae'r cyngor partneriaeth wedi eich helpu i hyrwyddo cynnydd strategaeth 2050 ers rhoi'r gorau i'r Bil?

14:30

Wel, mae'r cyngor partneriaeth yn rhoi help arbenigol i ni ynglŷn â'r iaith Gymraeg. Mae'r cofnodion yn cael eu cyhoeddi nawr, ac, yn sicr, mae'r gwaith maen nhw'n ei wneud drosom ni yn help aruthrol i sicrhau ein bod ni ar y trywydd cywir i gyflawni ein nod ni o gael miliwn o siaradwyr. Un o'r pethau, er enghraifft, yn y cyfarfod diwethaf, oedd ein bod ni'n sôn am yr economi a sut rŷn ni'n edrych ar yr economi yn yr ardaloedd mwy Cymreig, ac, yn sgil Brexit, sut rŷn ni'n mynd i barhau i sicrhau bod yr ardaloedd yna yn gallu symud ymlaen a chadw pobl ifanc, yn arbennig yn ein cadarnleoedd ni. 

Diolch am hynny, ond, unwaith eto, rŷn ni'n sôn am dair blynedd mewn i'r Cynulliad yma, ac rwy'n sôn am bron hanner blwyddyn ers colloch chi eich Bil. Dyw e ddim yn edrych yn debyg i fi bod lot wedi newid yn y cyfamser. A pheth arall, efallai gallwch ddweud wrthyf sawl aelod o'r cyngor partneriaeth sydd â phrofiad personol o fod yn ddysgwyr Cymraeg eu hunain? Un o dair thema gwaith y bwrdd rhaglen yw cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg. A fydd hynny yn cynnwys dysgwyr sydd eisoes yn y system addysg bresennol neu'r byd gwaith? Dim ond 12 o athrawon Cymraeg newydd sydd wedi ymgymhwyso eleni. Mae bron cymaint o aelodau y cyngor partneriaeth ag sydd o athrawon Cymraeg newydd. Pam nad yw'ch strategaeth yn gafael ar ddychymyg athrawon newydd?

Mae'n sialens i gael athrawon ar draws y byd ar hyn o bryd, a dwi wedi bod yn gweithio yn agos gyda'r Gweinidog Addysg i sicrhau ein bod ni'n edrych ar sut rŷn ni'n gallu helpu i gael lot fwy o bobl i gael diddordeb mewn dilyn cwrs dysgu Cymraeg. A dwi yn meddwl bod yna lot fwy o arian wedi mynd mewn i hyn. Er enghraifft, rŷn ni wedi rhoi £150,000 ychwanegol i sicrhau bod mwy o bobl yn ymgymryd â lefel-A Cymraeg, achos rŷn ni'n gwybod bod llawer o'r rheini yn mynd ymlaen i ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg. A dwi yn meddwl hefyd ei bod yn bwysig ein bod ni yn rhoi gwybod i bobl ein bod ni wedi rhoi £5,000 ychwanegol i geisio sicrhau bod mwy o bobl yn deall bod yna symbyliad ychwanegol iddyn nhw os ydyn nhw'n hyfforddi trwy gyfrwng y Gymraeg. Felly, rŷn ni yn cymryd camau penodol. Mae e'n anodd, yn arbennig o ran addysg uwchradd, ond o ran addysg gynradd, dwi'n meddwl ein bod ni yn bendant yn y lle cywir. 

Diolch, Lywydd. Weinidog, gwn y byddai'r gymuned Gwrdaidd yng Nghymru yn dymuno imi ddiolch ichi am godi pryderon gydag Ysgrifennydd Tramor y DU ynghylch penderfyniad Twrci i ymosod ar diriogaethau Cwrdaidd yn Syria. Gwn eich bod yn poeni am sefyllfa'r Cwrdiaid, fel ninnau ym Mhlaid Cymru, ac rwy'n falch o weld Llywodraeth Cymru yn gweithredu ar hyn. Bydd hanes yn cofio penderfyniad Donald Trump i ganiatáu i Dwrci ymosod yn greulon a milain ar y Cwrdiaid fel gweithred ddieflig a disynnwyr. Llwyddodd y Cwrdiaid dewr i atal ISIS. Maent wedi bod yn gynghreiriaid dibynadwy i wledydd y gorllewin ers blynyddoedd, ond yn lle cael eu cefnogi, cawsant eu bradychu unwaith eto. Nid oes ryfedd fod y Cwrdiaid yn dweud nad oes ffrindiau ganddynt oni bai am y mynyddoedd. Ond Weinidog, mae'r DU o'r diwedd wedi rhoi'r gorau i werthu arfau i Dwrci, ac fel aelod o Gyngor Ewrop, mae Twrci yn rhwym i'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, sy'n gosod dyletswydd ar aelod-wladwriaethau i ymatal rhag lladd yn anghyfreithlon. Nawr, gan fod gweithredoedd Twrci yn amlwg yn mynd yn groes i'r dyletswyddau hyn, a ydych yn cytuno â mi fod dadl i'w chael dros ddwyn achos yn erbyn Twrci yn Llys Hawliau Dynol Ewrop?

Wel, diolch yn fawr iawn, ac rwy'n falch eich bod wedi cyfeirio at y ffaith ein bod wedi ysgrifennu at Dominic Raab, ond credaf ei bod yn werth tanlinellu'r pwynt fod materion tramor, mewn gwirionedd, yn faes y mae Llywodraeth y DU yn bennaf gyfrifol amdano. Ond credaf ein bod yn hynod sensitif i'r ffaith bod cymuned Gwrdaidd fawr yng Nghymru sydd â phryderon gwirioneddol am yr hyn sy'n digwydd yn yr ardal honno, ac rwy'n falch iawn hefyd fod Llywodraeth y DU wedi rhoi'r gorau i roi trwyddedau allforio arfau i Dwrci. Mewn perthynas ag a ddylem roi camau pellach ar waith, credaf mai penderfyniad i Lywodraeth y DU yw hwnnw. Rhaid i hynny fod yn gyfrifoldeb iddynt hwy, a hwy sy'n rheoli'r sefyllfa mewn perthynas â materion tramor.

Iawn. Diolch am hynny, Weinidog. Hoffwn ddweud unwaith eto ei bod yn galonogol iawn eich bod wedi gweithredu fel y gwnaethoch, ond credaf fod hwn, fel rydych wedi'i gydnabod, yn fater mawr iawn, a byddai'n dda clywed eich barn ar hynny.

Mae gan rai cwmnïau sy'n ymwneud â'r fasnach arfau, gan gynnwys gwerthu arfau i Dwrci, ganolfannau gweithredu yng Nghymru, ac mae rhai wedi derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru. Nawr, mae rhai o'r cwmnïau hyn yn weithgynhyrchwyr mawr iawn, a rhan fach o'u gwaith yw'r gweithgarwch sy'n ymwneud ag arfau yn rhan fach o'u gwaith. Fodd bynnag, rwy’n bryderus ynglŷn â'r posibilrwydd y gallai arian Llywodraeth Cymru, yn ddamcaniaethol, fod wedi'i ddefnyddio i hwyluso gwerthu arfau i Dwrci a allai fod yn cael eu defnyddio yn erbyn y cymunedau Cwrdaidd yn awr. Weinidog, pan fydd eich Llywodraeth yn rhoi arian i gwmnïau sydd â'r elfennau gweithgynhyrchu arfau hyn yn eu gwaith yn y dyfodol, a allwch roi sicrwydd i mi y byddwch yn gwneud popeth yn eich gallu i sicrhau na fydd yr arian hwn yn cael ei ddefnyddio i hwyluso'r fasnach arfau mewn unrhyw ffordd? Rwyf am sicrhau nad oes gwaed yn y cadwyni cyflenwi, ac rwy'n siŵr y byddech yn cytuno â hynny.

14:35

Wel, dyma un o'r rhesymau pam fy mod yn arbennig o falch o glywed Dominic Raab yn dweud ddoe ei fod yn mynd i atal allforion arfau pellach, oherwydd, mewn gwirionedd, mae'n anodd iawn i ni wneud unrhyw beth yn unochrog yng Nghymru. Rydym yn dod o dan Lywodraeth y DU, mae'n rhaid i ni gydymffurfio â'r rheolau a'r deddfau hynny, a dyna pam fy mod yn falch iawn o weld bod y camau hynny wedi'u cymryd ar ran y Deyrnas Unedig gyfan. Felly, mae'n anodd iawn i ni wneud pethau ar wahân. Ond credaf ei bod yn werth tanlinellu hefyd yn ôl pob tebyg fod llawer o swyddi ynghlwm wrth hynny yng Nghymru, a chredaf fod yn rhaid i ni fod yn sensitif iawn wrth droedio'r llwybr anodd a bregus hwn, oherwydd wrth gwrs, ni chredaf y byddem am weld sefyllfa lle byddai'r arfau hynny'n cael eu defnyddio ar sifiliaid diniwed, yn sicr, yn y rhan honno o'r byd.

Diolch, Weinidog. Yn amlwg, bydd y swyddi sy'n gysylltiedig â hyn yn bwysig, ond unwaith eto, o ran yr elfennau o'r gwaith ar werthu arfau, credaf y byddai'n dda i Lywodraeth Cymru—wel, nid yn unig y byddai'n dda, byddai'n hynod bwysig i Lywodraeth Cymru—wneud popeth yn ei gallu i sicrhau nad yw honno'n ffordd rydym yn ariannu hynny yn anuniongyrchol.

Ond yn olaf, Weinidog, hoffwn droi at fater sy'n agosach at adref, sef ymgyrchwyr annibyniaeth Catalwnia sydd wedi'u carcharu gan wladwriaeth Sbaen. Mae'n afresymol fod carchariadau gwleidyddol yn digwydd yn Ewrop yn 2019. Mae gwledydd y gorllewin, yn briodol iawn, wedi beirniadu Tsieina am lethu protestwyr yn Hong Kong, ac eto mae gennym aelod-wladwriaeth o'r Undeb Ewropeaidd yn anfon gwleidyddion i'r carchar am gyflawni mandad dilys, democrataidd. Weinidog, a wnewch chi ymuno â Phlaid Cymru, a rhai o'ch Aelodau Llafur eich hun ar y meinciau cefn yn wir, i gondemnio Sbaen am eu gweithredoedd? Ac a wnewch chi anfon neges o undod at y naw gwleidydd ac ymgyrchydd Catalanaidd sydd bellach yn y carchar am weithredu mewn modd a ddylai fod wedi'i warchod o dan yr hawl i benderfynu drostynt eu hunain yn siarter y Cenhedloedd Unedig?

Diolch unwaith eto. Y Deyrnas Unedig sy'n arwain ar faterion tramor, ond rwyf eisoes wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Tramor i ofyn pa sylwadau a wnaed ganddynt i Lywodraeth Sbaen ynglŷn â'r dedfrydau o garchar a roddwyd i'r gwleidyddion Catalanaidd. Ac yn ôl yr hyn a ddeallaf, byddwn yn cael cwestiwn pellach ar y mater yn ystod y cwestiynau amserol.

Treftadaeth Ddiwydiannol yng Nghaerffili

3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am warchod treftadaeth ddiwydiannol yng Nghaerffili? OAQ54541

Diolch yn fawr iawn. Mae gan Gaerffili dreftadaeth ddiwydiannol bwysig iawn—yn wir, treftadaeth adeiledig bwysig iawn yn gyffredinol. Ac i mi, mae'r strwythurau a'r safleoedd diwydiannol—dros 40 ohonynt—yn yr awdurdod sydd wedi'u dynodi'n adeiladau rhestredig a henebion cofrestredig yn dangos bod y gorffennol diwydiannol yn cynnig ffordd o ddeall o ble y daethom fel pobl. Ac mae'n rhaid i ni ddangos mwy fyth o barch atynt, yn fy marn i, na chastell hynod Caerffili ei hun.

Cytunaf yn llwyr â hynny. Nid yw hyn yn ymwneud â'r castell yng Nghaerffili yn unig; mae'n ymwneud â safleoedd eraill yn ogystal. Ac rydym yn croesawu’r £900,000 o gyllid ar gyfer parc Penallta, a gymeradwywyd gan y Dirprwy Weinidog sy’n eistedd wrth eich ymyl, ac rydym yn ddiolchgar am hynny. Ond gyferbyn â'r safle hwnnw mae pwll glo Penallta, ac mae’r olwyn weindio a baddonau'r pwll yno yn atgof hanesyddol o’r gorffennol hwnnw, ond maent hefyd yn dechrau mynd yn ddolur llygad, o amgylch baddonau’r pwll ac o amgylch yr olwyn weindio. Nid ydynt wedi'u cynnwys mewn pecynnau cymorth am eu bod yn eiddo preifat. A’r hyn a fyddai’n syniad defnyddiol iawn, yn fy marn i, yw pe gallai tasglu’r Cymoedd ddod â Llywodraeth Cymru, yr awdurdod lleol a pherchnogion yr olwyn weindio a baddonau'r pwll at ei gilydd i drafod dyfodol y safleoedd o ddiddordeb hanesyddol hyn. Mae'n her anodd, ond rwy'n fwy na pharod i gyfarfod â'r Dirprwy Weinidog, a'i gyd-Aelodau os oes angen, i drafod beth arall y gallwn ei wneud yno. A wnewch chi ymrwymo i weithio ar draws eich portffolios i gyflawni hynny, a chael cyfarfod ym Mhenallta i drafod hyn o bosibl hyd yn oed?

14:40

Wel, fe fyddwch yn gwybod, Hefin, fod caniatâd eisoes wedi'i roi ar gyfer defnydd preswyl ar y safle hwnnw. Ac yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a'r datblygwr preifat yn cael trafodaethau parhaus am ddyfodol y safle. Fodd bynnag, mae’r Gweinidog perthnasol, sy'n eistedd wrth fy ymyl, wedi clywed yr hyn sydd newydd gael ei ddweud. Mae parc rhanbarthol y Cymoedd yn cynnwys Parc Penallta fel porth darganfod, ac mae'n rhaid ystyried y dynodiadau hyn, p'un a ydynt mewn ardaloedd treftadaeth ddiwydiannol neu dreftadaeth tirwedd, yn rhywbeth mwy na dynodiad yn unig; mae'n rhaid iddynt gael polisi clir i'w llywio o ran eu cadwraeth eu hunain. Rwy'n hyderus y bydd y £900,000, y gwnaethoch ei groesawu'n ddiolchgar ar gyfer y ganolfan ymwelwyr newydd a'r rhaglen o weithgareddau cymunedol ar y safle hwnnw, yn arwain at hynny.

Ddirprwy Weinidog, mae ardaloedd fel Caerffili, fel y dywedwch, yn gyfoethog iawn o ran eu treftadaeth ddiwydiannol, a chredaf, yn yr holl rannau diwydiannol hynny o Gymru, fod treftadaeth ddiwydiannol yn aml yn nwylo grwpiau lleol, a chynghorau lleol, yn amlwg. Sylwais yn ddiweddar ar Grŵp Treftadaeth Cwm Aber a'r hyn y maent wedi'i wneud yn y gorffennol i godi ymwybyddiaeth o drychineb Senghennydd a chadw'r atgof am hynny'n fyw drwy arddangosfeydd lleol ac ati. Ond mae arddangosfeydd, cofnodion, ffotograffau, deunydd addysg, cofebion, celf gyhoeddus a llwybrau cerdded i gyd yn hanfodol wrth gadw ein cof fel rhywbeth byw o'n gorffennol. A gobeithiaf eich bod yn gweithio gyda'r cynghorau i sicrhau bod gan y grwpiau hyn o bobl sy'n dod at ei gilydd y lefel honno o arbenigedd, efallai, i gynnal gwefannau ac ati, ond hefyd arwyddion, celf gyhoeddus—mae'r pethau hyn yn agored i fenter leol, oherwydd mewn gwirionedd, maent yn cynhyrchu enghreifftiau rhagorol o sut i ofalu am ein treftadaeth.

Diolch yn fawr iawn am hynny, David. Rwyf wedi treulio peth amser yn ymweld, yn benodol, â'r amgueddfeydd lleol, a'r hyn rwy'n annog cymdeithasau a grwpiau gwirfoddol sy'n poeni naill ai am y dreftadaeth adeiledig neu unrhyw agwedd arall ar yr amgylchedd neu ein cof diwydiannol i'w wneud yw gweithio'n agos gyda'n hamgueddfeydd lleol a hefyd gyda'r amgueddfa genedlaethol ei hun, oherwydd yn amlwg, ceir arbenigedd yno y gellir ei ddarparu bob amser i gynorthwyo cymdeithasau lleol gyda'u gweithgareddau cadwraeth. Ond os oes gennych unrhyw enghreifftiau penodol yn eich rhanbarth chi, rhanbarth y gwn ei fod yn llawn treftadaeth o'r math hwn, buaswn yn ddiolchgar iawn pe gallech dynnu ein sylw atynt, os ydych yn teimlo bod diffyg cefnogaeth yma i fentrau gwirfoddol lleol.

Blaenoriaethau Masnach Ryngwladol

4. I ba raddau y mae'r Gweinidog wedi ymgysylltu â sefydliadau yn Ogwr ynghylch blaenoriaethau masnach ryngwladol Llywodraeth Cymru? OAQ54535

Mae hyrwyddo allforion a masnach ryngwladol yn flaenoriaeth yn y strategaeth ryngwladol, ac rydym wedi gwella ein cefnogaeth i allforwyr o Gymru ac rydym yn gweithio gyda nifer o fusnesau ar draws Ogwr i'w helpu i allforio.

Mae'n braf iawn clywed hynny, a chydag wyth diwrnod i fynd i gwblhau'r strategaeth ryngwladol ddrafft ar gyfer Cymru, roeddwn yn awyddus i sicrhau bod pob busnes, mawr a bach, a darparwyr addysg a hyfforddiant, yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr ac Ogwr wedi cymryd rhan lawn yn y broses, fel bod cwmnïau fel y datblygwr a chyhoeddwr gemau digidol arobryn, Wales Interactive, Airborne Systems o Felin Ifan Ddu, sy'n arweinwyr byd-eang ym maes dylunio, cynhyrchu a hyfforddiant parasiwtiau, Sony Bridgend ac eraill, a Choleg dwbl 'ragorol' Penybont oll wedi cyfrannu at y strategaeth hon.

A gaf fi wahodd y Gweinidog, gyda fy nghymorth a fy nghefnogaeth, i ddod i ymweld â ni cyn gynted ag y gall i drafod y strategaeth ryngwladol, pan fydd wedi’i chymeradwyo, i ddysgu o'r profiad a’r wybodaeth yn ardal Ogwr a Phen-y-bont ar Ogwr? Ac rwy'n siŵr y byddai Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr yn fwy na pharod i helpu i hwyluso ymweliad a thrafodaeth, gan y credaf y byddai'r profiad a'r wybodaeth sydd gennym mewn ardal sy'n dal i fod yn un o'r ardaloedd gweithgynhyrchu mwyaf yng Nghymru gyfan, os nad y DU, o gymorth i Lywodraeth Cymru.

Wel, diolch yn fawr iawn am y gwahoddiad; rwy'n sicr o dderbyn eich cynnig. Credaf fod llawer iawn o weithgarwch yn mynd rhagddo eisoes ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Fe wyddoch fod y Cabinet, yn gynharach yr wythnos hon, wedi cyfarfod ym Mhen-y-bont ar Ogwr, yn rhannol i ddangos cefnogaeth i weithwyr Ford. Ond un o'r sectorau allweddol rydym yn gobeithio eu hyrwyddo yn y strategaeth ryngwladol yw teledu a ffilmiau o safon, ac fe fyddwch yn ymwybodol y bydd y stiwdio yn Llanharan yn bwynt gwerthu pwysig i ni. Gwn fod llawer o weithgarwch wedi bod yn digwydd yno gyda'r gwaith o ffilmio Brave New World. Hefyd, ar ymweliad diweddar â'r Almaen, cyfarfûm â chwmni o'r Almaen sydd eisoes wedi buddsoddi ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac sy'n awyddus i ymestyn y buddsoddiad hwnnw. Felly, credaf fod cyfleoedd gwirioneddol i Ben-y-bont ar Ogwr, a buaswn yn falch iawn o dderbyn gwahoddiad yr Aelod.

14:45
Datblygu'r Gymraeg

5. Pa gamau pellach y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddatblygu'r Gymraeg mewn ardaloedd lle mae llai o siaradwyr Cymraeg? OAQ54551

Diolch yn fawr, John. Dwi’n falch bod y de-ddwyrain wedi elwa ar gyllid cyfalaf i ehangu addysg a gofal plant cyfrwng Cymraeg sy’n cael eu darparu yn yr ardal. Bydd hyn, wrth gwrs, yn meithrin siaradwyr Cymraeg newydd. Hefyd, drwy gynlluniau prentisiaeth yr Urdd, mae 35 o bobl ifanc yn gweithio yn ardaloedd tasglu’r Cymoedd er mwyn manteisio ar gyfleoedd lle y gall plant a phobl ifanc ddefnyddio’r Gymraeg yn y gymuned.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Diolch yn fawr, Weinidog. Mae'r Gymraeg yng Nghasnewydd heddiw yn llawer mwy adnabyddadwy na phan ddaeth y Cynulliad i mewn i fodolaeth. Mae addysg Gymraeg yn parhau i dyfu, ac mae disgyblion ymhob ysgol cyfrwng Saesneg yn dysgu Cymraeg. Mae arwyddion a chyhoeddiadau yn ddwyieithog ac mae cyfleoedd i oedolion ddysgu a defnyddio'r Gymraeg, ond mae'r iaith yn dal yn gymharol wan a dim ond ychydig o Gymraeg sy'n cael ei siarad ar y strydoedd.

Mae gan Lywodraeth Cymru dargedau uchelgeisiol i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg, a bydd angen inni weld cynnydd pellach o lawer mewn ardaloedd fel Casnewydd. Pa gamau fydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gyflawni'r cynnydd hwn?

Da iawn, John, a diolch yn fawr am hynny. Dwi'n meddwl eich bod chi'n enghraifft o sut mae'r Gymraeg yn dal dychymyg pobl mewn ardaloedd fel Casnewydd, ac rŷch chi'n enghraifft i bobl eraill yn yr ardal. Felly, diolch yn fawr ichi am yr ymdrech o ddysgu Cymraeg. Pe byddai lot mwy o bobl yn gwneud hynny, byddwn ni'n cyrraedd y nod at y filiwn yn hawdd.

Beth sydd yn ddiddorol yw bod y nod yna o gyrraedd yr uchelgais yn rhywbeth sydd wedi cael ei adnabod gan y cyngor yn lleol, ac mae'r ffaith y byddan nhw'n sefydlu pedwaredd ysgol Gymraeg yn yr ardal dwi'n meddwl yn gydnabyddiaeth bod angen camu ymlaen.

Felly, ar hyn o bryd, mae tua 6 y cant o blant blwyddyn 7 o'r ardal yn mynychu ysgolion Cymraeg. Mewn 10 mlynedd, rŷn ni'n gobeithio y bydd 11 i 15 y cant o blant yr oedran yna yn mynychu ysgolion Cymraeg. Ac mae'r ffaith ein bod wedi gallu rhoi arian cyfalaf i helpu i ddatblygu'r ysgol newydd yn gam pwysig, dwi'n meddwl, yn y cyfeiriad cywir. Ar ben hynny, rŷn ni'n helpu lot o fyfyrwyr i sicrhau eu bod nhw'n cario ymlaen i siarad Cymraeg unwaith maen nhw'n gadael ysgol. Felly, jest i roi enghraifft i chi, mae 140 o fyfyrwyr ar gyrsiau gofal blynyddoedd cynnar ac iechyd a gofal, ac maen nhw wedi cwblhau 10 awr o Gymraeg yn y gweithle. Felly, mae sicrhau eu bod nhw'n gallu defnyddio'r Gymraeg unwaith maen nhw wedi'i dysgu hefyd yn hanfodol.

Weinidog, mae adroddiad 'Hawlio cyfleoedd' Comisiynydd y Gymraeg yn dangos mai dim ond 37 y cant o bobl sy'n credu bod y cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg yn cynyddu, ac felly mae'n amlwg bod yn rhaid gwneud mwy i godi ymwybyddiaeth o wasanaethau Cymraeg, a bod angen gwneud mwy i nodi a gwella sgiliau Cymraeg, yn enwedig yn y gweithlu.

Mewn ymateb i'r adroddiad hwn, a allwch chi ddweud wrthym ni beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu sefydliadau cyhoeddus i wella eu prosesau mewnol i sicrhau cydymffurfiaeth, a pha gamau penodol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd mewn meysydd lle mae llai o siaradwyr Cymraeg, i sicrhau bod gan sefydliadau cyhoeddus ddigon o staff syn gallu cynnig gwasanaethau Cymraeg yn y lle cyntaf?

14:50

Diolch yn fawr. Dwi yn meddwl bod y cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg yn y gweithlu yn cynyddu. Fe fyddwch chi'n ymwybodol bod y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn rhoi cyrsiau arbennig ymlaen ar gyfer pobl sydd am siarad Cymraeg yn y gweithle. Felly, mae sicrhau bod mwy o bobl yn gallu dysgu yn help aruthrol, dwi'n meddwl, ond hefyd gwaith y comisiynydd yw sicrhau bod y safonau yn yr holl adrannau a'r holl ardaloedd lle mae angen iddyn nhw gydymffurfio gyda'r safonau newydd—mae'n bwysig eu bod nhw yn cael cyfle hefyd. Beth dŷn ni wedi bod yn trafod gyda'r comisiynydd, a beth mae e'n awyddus i'w wneud, yw sicrhau eu bod nhw ddim jest yn plismona safonau ond hefyd yn sicrhau bod yna gyfle i bobl hyrwyddo'r Gymraeg, i ddefnyddio’r Gymraeg, a bod yr help yna yn ychwanegol yn cael ei roi mewn i'r system.

Hyrwyddo'r Gymraeg yn Sir Fynwy

6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am hyrwyddo'r Gymraeg yn Sir Fynwy? OAQ54522

Dwi'n gobeithio, gydag ystod o bartneriaid, i hyrwyddo'r Gymraeg yn sir Fynwy. Mae Llywodraeth Cymru weddi dyrannu buddsoddiad ychwanegol o dros £2.5 miliwn drwy gynlluniau cyfalaf addysg a gofal plant trwy gyfrwng y Gymraeg i ehangu'r ddarpariaeth yn yr awdurdod lleol.

Gan ddilyn trywydd tebyg i gwestiwn John Griffiths i raddau helaeth, Weinidog, un o'r heriau, rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno, wrth ddarparu addysg cyfrwng Cymraeg, yn enwedig yn yr awdurdodau gwledig mwy o faint, yw'r amser teithio o'r cartref i'r ysgol. Rwy'n falch fod Cyngor Sir Fynwy yn bwrw ymlaen â chynlluniau ar gyfer ail ysgol cyfrwng Cymraeg newydd yng ngogledd-ddwyrain neu ogledd y sir, a ddylai leihau amseroedd teithio i lawer o blant iau a sicrhau bod gan fwy o rieni fwy o ddewis mewn perthynas â sut y caiff eu plant eu haddysgu.

Fe sonioch am y cyfalaf sydd ar gael ar gyfer ysgolion—gwn fod Llywodraeth Cymru wedi addo swm mawr o arian ar gyfer yr ysgol newydd honno yn Sir Fynwy, ond ni chredaf fod yr un peth yn wir am refeniw. Felly, pan fydd awdurdod fel Sir Fynwy yn adeiladu mwy o ysgolion gan ddefnyddio arian cyfalaf, yn amlwg, mae'r arian sydd ganddynt yn cael ei wasgaru wedyn ar draws yr ardal. Felly, a allwch ddweud wrthym, o ran rheoli a rhedeg yr ysgolion hynny pan fyddant wedi agor, pa gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i awdurdodau lleol i geisio cynnal lefelau dysgu Cymraeg? Oherwydd, yn amlwg, mae'n fwy nag ymdrech gychwynnol yn unig, mae'n ymwneud â sicrhau bod hynny'n gynaliadwy wedyn dros y misoedd a'r blynyddoedd i ddod. Rwy'n gofyn i chi, Weinidog, ond rwyf hefyd yn edrych ar y Gweinidog addysg, gan fod y ddau faes yn gysylltiedig.

Diolch yn fawr. Dwi'n meddwl ei fod e'n glir ein bod ni wedi gallu rhoi'r arian cyfalaf ychwanegol yna i mewn. Mae £2.5 miliwn wedi mynd mewn i gynyddu'r capasiti yn Ysgol Gymraeg y Ffin yn Caldicot. Beth sy'n glir yw, o ran refeniw, os na fydd y plant yma yn cael eu haddysg trwy gyfrwng y Saesneg, wedyn bydd yr arian yn cael ei wario ar y Gymraeg. Felly, o ran refeniw, dylai yna ddim bod gwahaniaeth o ran ble maen nhw a pha iaith maen nhw'n cael eu haddysg ynddi. Felly, mae fyny i'r llywodraeth leol gynllunio ar sail y ffaith eu bod nhw'n gwybod bod rhaid iddyn nhw symud ar hyd trywydd lle rŷn ni'n disgwyl bydd mwy o blant yn mynd i ysgolion Cymraeg, ac mae'n rhaid iddyn nhw gynllunio eu refeniw ar sail y cynllun yna.

Dwi eisiau hefyd gymryd mantais ar y ffaith bod y Gweinidog Addysg yn ei lle y prynhawn yma. Mi fyddwch chi'n ymwybodol, Weinidog, fod cyngor Blaenau Gwent wedi gwneud cais ar gyfer ysgol gynradd newydd Gymraeg yn Nhredegar. Nawr, dwi ddim yn becso os yw hi yn Nhredegar neu yn unrhyw gymuned arall tu mewn i'r sir, ond dwi yn ymwybodol bod rhaid i Blaenau Gwent ddelifro ar ei gynnig ei hun i greu ysgol Gymraeg yn y fwrdeistref. A oes modd i chi, Weinidog, sicrhau bod y cyngor lleol yn cadw at ei fwriad i sicrhau bod yna ysgol gynradd Gymraeg newydd ym Mlaenau Gwent, a bod y Llywodraeth yn glir yn ei huchelgais i alluogi pobl a phlant yn fy etholaeth i i dderbyn yr un math o addysg ag sydd ar gael i bobl ar draws y wlad?

14:55

Diolch yn fawr. Roedd y cyngor ym Mlaenau Gwent wedi bod yn glir eu bod nhw am weld ehangiad—eu bod nhw wedi arwyddo cytundeb i ddweud eu bod nhw eisiau gweld ehangiad yn narpariaeth y Gymraeg. Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi 100 y cant o'r arian cyfalaf ar gyfer agor ysgol newydd, ond mae'n edrych yn debyg eu bod nhw'n ceisio symud yn ôl o'r sefyllfa yna. Dwi'n gwybod ac yn ymwybodol bod y Gweinidog Addysg eisoes wedi siarad â'r person sy'n gyfrifol am addysg ym Mlaenau Gwent. Nhw oedd wedi cytuno'r strategaeth, eu strategaeth nhw yw hi nawr, a byddwn ni fel Llywodraeth yn disgwyl iddyn nhw sicrhau eu bod nhw'n rhoi blaenoriaeth i hynny ac yn cyflawni'r hyn y dywedon nhw roedden nhw'n mynd i'w wneud.

Twristiaeth ym Merthyr Tudful a Rhymni

7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo twristiaeth ym Merthyr Tudful a Rhymni? OAQ54540

Mae gweddnewidiad Merthyr Tudful a Rhymni dros y blynyddoedd diwethaf i fod yn ardal sy'n cynnig profiad cyfoethog o'r radd flaenaf i ymwelwyr wedi bod yn ysbrydoliaeth fawr i mi wrth ddatblygu treftadaeth ddiwydiannol ledled Cymru. Yn ychwanegol at hynny, mae'r buddsoddiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud mewn prosiectau cyffrous, Rock UK a BikePark Wales, yn pwysleisio pwysigrwydd gweithgarwch hamdden mewn ardal ddiwydiannol draddodiadol.

Diolch am eich ateb, Ddirprwy Weinidog. Wrth gwrs, rydych yn gyfarwydd iawn â fy etholaeth. Rydych wedi ymweld lawer gwaith, ac rydych eisoes wedi sôn am atyniadau rhagorol BikePark Wales a Rock UK, ac wrth gwrs, mae gennym Reilffordd Mynydd Brycheiniog, castell Cyfarthfa, a gallwn barhau. Nid yn unig eu bod yn rhoi Merthyr Tudful ar y map twristiaeth, maent yn rhoi'r Cymoedd ar y map twristiaeth, ac mae hynny'n rhywbeth rwy'n awyddus i'w weld yn parhau.

Fel finnau, rwy'n siŵr eich bod yn awyddus i weld potensial gweithgareddau a thwristiaeth diwylliant a threftadaeth yn datblygu. Ac mae stori ein trefi a'u pobl yn rhan o'r weledigaeth honno. Yn y cyd-destun hwnnw, rwy'n amlwg yn falch iawn fod Llywodraeth Cymru bellach yn buddsoddi ym Mharc Cyfarthfa fel rhan o'r weledigaeth ar gyfer Parc Rhanbarthol y Cymoedd, ac wrth gwrs, mae gweledigaeth yn datblygu ar gyfer rôl y profiad ehangach yng Nghyfarthfa gyda phrosiect Crucible a'r rhan y gall hynny ei chwarae yn denu llawer mwy o ymwelwyr i'r etholaeth. Ond yn arbennig, rwy'n ymwybodol fod yna argymhellion sylweddol i ddatblygu ac ehangu rhai o'r atyniadau sy'n bodoli eisoes y cyfeiriais atynt yn gynharach. Felly, a allwch roi sicrwydd i mi fod Llywodraeth Cymru yn dangos diddordeb gweithredol yn y rhain ac yn mynd i fod yn bartner parod, wrth i'r achosion busnes ar gyfer datblygiadau twristiaeth pellach gael eu paratoi, fel y gallwn weld strategaeth tasglu'r Cymoedd mewn perthynas â thwristiaeth yn cael ei rhoi ar waith, a'r ardaloedd hyn yn cyflawni eu potensial llawn mewn perthynas â thwristiaeth?

Rwy'n ddiolchgar eich bod yn gwerthfawrogi'r hyn y buom yn ceisio ei wneud. Mae'n sefyllfa anodd iawn yma, Ddirprwy Gadeirydd: a ddylwn edrych ar yr Aelod ac ymateb iddi hi, neu a ddylwn edrych arnoch chi? Nid wyf am fynd yn groes i'r drefn. [Chwerthin.]

Fel y dywedoch chi, mae'r buddsoddiad rydym eisoes wedi'i wneud yn arwydd o'n cefnogaeth i weithgareddau ym Merthyr Tudful. Rwyf wedi ymweld â Chyfarthfa ar sawl achlysur, a chredaf fod datblygiad Parc Cyfarthfa i gyd, ac yn wir, datblygiad yr adeilad ar y safle yn allweddol i'n hymagwedd. Roedd adroddiad Crucible yn gatalydd hanfodol, ac wrth gwrs, mae'n rhaid i ni edrych ar y ffordd rydym yn darparu o leiaf ran o'r £50 miliwn sydd wedi'i glustnodi—nid ei glustnodi, ei gynnig, fel rhywbeth sy'n angenrheidiol er mwyn trawsnewid Merthyr Tudful yn gyrchfan twristiaeth.

Ond yr hyn sy'n allweddol i hyn yn awr yw rôl Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, ac rwy'n ddiolchgar iawn iddynt am gomisiynu'r astudiaeth ddichonoldeb o'r prosiect sy'n ymwneud â Chyfarthfa, y cysylltiad â'r ffwrneisi a'r draphont dros Afon Taf. Ac mae'n rhaid i mi ddweud eto—ac nid wyf am fynd i ddadlau â chyd-Aelodau ynglŷn â'r mathau eraill o dreftadaeth—ond roeddwn o'r farn fod olion y ffwrneisi anhygoel yn atgof cystal o'n treftadaeth ddiwydiannol ag unrhyw gastell a welais yn unman, yn y gogledd neu'r de. Felly, mae angen inni sicrhau bod y cysylltiadau rhwng Merthyr Tudful a Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon, yn ogystal â'r cysylltiad ag Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe, yn cael eu datblygu fel rhan o brofiad o ddathlu ein treftadaeth ddiwydiannol a fydd yn cystadlu â'r profiad o'n treftadaeth drefedigaethol.

15:00
Y Gronfa Iach ac Egnïol

8. Pa ran y mae Chwaraeon Cymru yn ei chwarae o ran cyflawni amcanion y Gronfa Iach ac Egnïol? OAQ54526

Mae'r Gronfa Iach ac Egnïol yn cael ei darparu drwy bartneriaeth rhwng y Llywodraeth, Chwaraeon Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, gyda Chwaraeon Cymru yn chwarae'r rhan arweiniol yn y gwaith o weinyddu'r gronfa. Canlyniad hynny yw y bydd pob partner yn rhan o'r gwaith o fonitro'r prosiect a goruchwylio'r gronfa.

Gwych. Ers i'r Llywodraeth benderfynu diwygio'r cynnig nofio am ddim a'i dargedu'n fwy penodol at ardaloedd difreintiedig, rwyf wedi cael llawer o ohebiaeth gan rai o'r 6 y cant o bobl dros 60 oed sydd wedi mwynhau'r cynnig nofio am ddim nad yw wedi'i dargedu, ond nid wyf wedi cael unrhyw ohebiaeth o gwbl gan bobl ifanc na'u rhieni a allai fod wedi cael eu heffeithio gan y cynllun diwygiedig ar gyfer rhai o dan 16 oed.

Rwy'n eithaf awyddus i ddeall sut y bydd y cynnig newydd sydd wedi'i dargedu yn fwy buddiol i'r mathau o bobl y mae gwir angen iddynt fanteisio ar y cynnig hwnnw, oherwydd, yn anffodus, mae wedi bod yn gyfrinach sydd wedi'i chadw'n dda. Yn yr ardal rwy'n ei chynrychioli, mae gennym Ganolfan Hamdden Pentwyn, sydd ynghanol ardal cynnyrch ehangach haen is. Felly, rwy'n awyddus iawn i ddeall sut y bydd y cynnig newydd hwn yn effeithio arnynt.

Sut y mae Llywodraeth Cymru, ar y cyd â Chwaraeon Cymru, yn bwriadu mesur llwyddiant y cynllun diwygiedig i sicrhau bod y rhai sydd angen elwa fwyaf arno—h.y. pobl ifanc nad ydynt wedi dysgu nofio eto—yn manteisio ar y cynnig nofio am ddim ac nad yw'r gostyngiad yn y cyllid yn eu rhoi dan anfantais bellach?

Mae'r gostyngiad yn y cyllid yn ostyngiad penodol ar gynllun a oedd yn amlwg yn methu cyrraedd y poblogaethau y'i bwriadwyd ar eu cyfer. Ond yn sicr, ein bwriad yw sicrhau bod pobl iau yn elwa o'r fenter hon. Yr allwedd, i ni, yw gweithio gyda'r canolfannau hamdden eu hunain a chyda'r awdurdodau lleol, a dyna yw bwriad Chwaraeon Cymru.

Mae ein Cronfa Iach ac Egnïol yn parhau i fod yn allweddol i hyn, i ysgogi dulliau mwy arloesol o ymdrin â phob math o weithgarwch corfforol. Ac yn rhan o'r dull hwnnw, rydym hefyd yn annog yr holl awdurdodau dan sylw i fonitro'r ymateb, a bydd Chwaraeon Cymru yn darparu gwerthusiad i ni o effaith y newidiadau a wnaethom yn ôl eu hargymhelliad.

Y Gymuned Gwrdaidd yng Nghymru

9. Sut y bydd barn y gymuned Gwrdaidd sy'n byw yng Nghymru yn llywio'r gwaith o ddatblygu strategaeth cysylltiadau rhyngwladol Llywodraeth Cymru? OAQ54528

Mae'r strategaeth ryngwladol ddrafft yn destun ymgynghori â'r cyhoedd ar hyn o bryd. Buaswn yn annog pawb sydd â diddordeb i ymateb a buaswn yn fwy na pharod i dderbyn adborth gan yr holl gymunedau a gynrychiolir yng Nghymru. Bydd yr holl ymatebion yn cael eu hystyried a'u gwerthuso fel rhan o'r broses ymgynghori honno.

Mae gan y Llywodraeth hon ddyletswydd i gynrychioli pawb sy'n byw yn y wlad hon, beth bynnag fo'u cefndir. Mae gennym gymuned Gwrdaidd sylweddol a dylanwadol yn byw yng Nghymru, sydd, yn naturiol, yn poeni am luoedd Twrcaidd yng ngogledd Syria wedi i'r Unol Daleithiau dynnu eu milwyr oddi yno. Mae perygl y bydd gweithredoedd Twrci yn rhoi cyfle i ISIS ar y dde eithafol. Mae carcharorion ISIS eisoes wedi dianc o ganlyniad i weithgarwch milwrol Twrci.

Bydd mwy o erchyllterau'n cael eu cyflawni yng ngogledd Syria yn erbyn y Cwrdiaid oni bai fod y gymuned ryngwladol yn gwneud rhywbeth, nid yn unig o ran condemnio gweithredoedd Twrci ond o ran eu hymwneud â chwmnïau sy'n gwerthu arfau i'r wlad honno. Yng Nghymru, mae gennym o leiaf dri chwmni sy'n darparu cyfarpar milwrol i Dwrci. Bydd rhai ohonynt wedi cael arian cyhoeddus, sy'n golygu bod ein trethdalwyr wedi buddsoddi mewn cwmnïau sy'n ymdrin â gwladwriaeth awdurdodaidd sydd â gwaed ar ei dwylo.

Clywais eich ateb i'm cyd-Aelod, Delyth Jewell, yn gynharach ac ni wnaethoch ateb ei chwestiwn. Felly, er mwyn heddwch, er mwyn y Cwrdiaid a phawb arall sy'n eu cefnogi, a wnewch chi ateb y cwestiwn hwn yn awr, os gwelwch yn dda? A wnewch chi sicrhau bod holl wariant Llywodraeth Cymru, yn enwedig buddsoddiadau mewn cwmnïau a allai fod yn ymwneud ag arfau i Dwrci, yn cael ei adolygu a'i atal fel mater o frys?

Diolch. I'w gwneud yn glir, rwyf wedi ysgrifennu at Dominic Raab eisoes i nodi ein bod yn poeni ynglŷn â'r pryderon a fynegwyd gan rai o'r cymunedau Cwrdaidd yng Nghymru am y sefyllfa yn yr ardaloedd hynny. Er ein bod yn cydnabod mai'r DU sy'n arwain ar faterion tramor, rydym yn cynnal adolygiad o'n strategaeth allforio yn ei chyfanrwydd ar hyn o bryd ac wrth gwrs, bydd yna faterion y bydd angen inni edrych arnynt mewn perthynas â hynny. Ond rwy'n credu bod y cyhoeddiad a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol heddiw wedi ei gwneud yn glir na fydd unrhyw gyhoeddiadau pellach yn cael eu gwneud yn y dyfodol ynghylch gwerthu arfau i'r ardaloedd hynny lle yr ymosodir ar Syria.

15:05

Nid y gymuned Gwrdaidd yn unig, wrth gwrs, sy'n byw yma yng Nghymru; mae gennym gymuned Bwylaidd sylweddol hefyd. Cyfarfûm â llysgennad Gwlad Pwyl yn Llundain yr wythnos diwethaf, a gwn fod nifer y Pwyliaid yma yng Nghymru'n sylweddol. Yn wir, o'r 3 miliwn o ddinasyddion yr UE—

Gyda phob parch, mae'r cwestiwn yn ymwneud â'r strategaeth cysylltiadau rhyngwladol.

Mae'n ymwneud â'r gymuned Gwrdaidd, ac rwy'n fodlon gwrando os gallwch wneud y cysylltiad hwnnw'n fras, ond—. Y cwestiwn yw—[Torri ar draws.] Mae'r cwestiwn yn ymwneud â'r gymuned Gwrdaidd sy'n byw yng Nghymru a'r strategaeth datblygu rhyngwladol.

Yn union, a dyna pam rwy'n cyfeirio at gymunedau eraill sydd hefyd yn byw yng Nghymru ac sydd eisiau cyfrannu at y strategaeth cysylltiadau rhyngwladol. Felly, o'r— [Torri ar draws.] O'r 3 miliwn—[Torri ar draws.] O'r 3 miliwn o ddinasyddion yr UE sy'n byw yn y Deyrnas Unedig, mae miliwn o'r rheini'n Bwyliaid, ac mae degau o filoedd ohonynt yma yng Nghymru ac yn awyddus i helpu i lunio'r strategaeth cysylltiadau rhyngwladol sydd gennych. Pa ymgysylltiad a fu gyda'r gymuned Bwylaidd a Phwyliaid alltud yma yng Nghymru i lywio eich strategaeth cysylltiadau rhyngwladol?

Diolch. Ymgynghorwyd â'r cwnsleriaid anrhydeddus, gan gynnwys y bobl sy'n cynrychioli Gwlad Pwyl, felly maent i gyd wedi cael copi o'r strategaeth. Rydym wedi ei hanfon at lysgenadaethau ledled y Deyrnas Unedig hefyd, ond rwy'n credu mai'r peth allweddol i ni ei danlinellu—a'r hyn sy'n cael ei danlinellu'n glir iawn yn y strategaeth—yw ein bod eisiau dathlu'r cymunedau alltud o wledydd tramor sydd wedi gwneud Cymru yn gartref iddynt. Un o'r pethau rydym yn eu hawgrymu yw y byddwn bob blwyddyn yn sefydlu ac yn dathlu cymuned benodol sydd wedi gwneud cyfraniad mawr i fywyd Cymru. Felly, gobeithio, ar ryw adeg, y bydd y gymuned Bwylaidd, sef un o'r rhai mwyaf yng Nghymru, yn un o'r cymunedau a fydd yn cael eu dathlu.

Rwy'n croesawu'r sylwadau a wnaed mewn perthynas â'r gymuned Gwrdaidd, a'r hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i gynrychioli eu buddiannau. Rydym wedi cael tipyn o broblem yn y gorffennol lle'r ydym wedi clywed dadlau yn y Siambr hon—'Wel, am nad yw materion tramor wedi'u datganoli, ac ati—'—ynglŷn ag a allwn drafod y materion hyn ai peidio. Y gwir amdani yw ei bod bron yn amhosibl inni fel Senedd gynrychioli'n briodol safbwynt y gwahanol leiafrifoedd sy'n byw yng Nghymru, a'r goblygiadau rhyngwladol a'r cysylltiadau â hwy. Felly, yn gyntaf, rwy'n croesawu'r ffaith ein bod yn amlwg yn cael mwy o ddadleuon ar y materion hyn bellach, oherwydd maent yn bwysig i'r cymunedau rydym yn eu cynrychioli, ac maent hefyd wedi'u hintegreiddio gyda materion rhyngwladol ehangach. Felly, mae mater y Cwrdiaid yn sicr yn gysylltiedig â'r cysylltiadau ag America ar hyn o bryd. Ceir holl sefyllfa'r dwyrain canol hefyd; cawsom ymweliad y llysgennad Palesteinaidd heddiw, ac ati. Felly, a gaf fi ddweud fy mod yn croesawu hynny, ond a allech chi gadarnhau eich bod yn cefnogi'r farn y dylem allu cynrychioli'r lleiafrifoedd sy'n bodoli yng Nghymru yn nhermau'r materion rhyngwladol sy'n effeithio ar y cymunedau hynny a'u buddiannau?

Rwy'n credu bod hynny'n hollol gywir. Credaf fod yr agenda gyfan yn newid yma. Rwy'n credu bod cydnabyddiaeth mai'r Swyddfa Dramor a Chymanwlad sy'n arwain yn y maes, ond fe fyddwch wedi clywed y Prif Weinidog yn siarad ddoe am y setliad cyfansoddiadol newydd rydym yn ei geisio mewn perthynas â'r Deyrnas Unedig, ac mae'n amlwg y byddwn angen mwy o lais a mwy o fewnbwn, yn enwedig mewn perthynas â thrafodaethau masnach a meysydd lle mae gennym gyfrifoldeb datganoledig. Ac wrth gwrs, lle mae gennym gynrychiolaeth sylweddol o gymunedau eraill o amgylch y byd yn byw yma yng Nghymru, mae'n hollol iawn y dylent gael eu clywed yn y Siambr hon hefyd os yn bosibl.

15:10
3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad

Yr eitem nesaf ar ein hagenda y prynhawn yma yw cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad. Bydd cwestiwn 1 a chwestiwn 2 y prynhawn yma yn cael eu hateb gan y Llywydd. Cwestiwn 1—Mick Antoniw.

Trefniadau Pensiwn

1. A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am drefniadau pensiwn yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru? OAQ54555

Mae tri chynllun pensiwn yn gysylltiedig â'r Cynulliad Cenedlaethol: cynllun pensiwn Aelodau'r Cynulliad, cynllun pensiwn staff cymorth Aelodau'r Cynulliad a chynllun pensiwn y gwasanaeth sifil ar gyfer staff y Comisiwn. 

Diolch i chi am yr ateb hwnnw. Wrth gwrs, bydd y Comisiwn yn ymwybodol, yn ogystal â'r cynlluniau pensiwn ar gyfer Aelodau'r Cynulliad a gweision sifil, fod yna drydydd cynllun sy'n darparu ar gyfer staff cymorth Aelodau'r Cynulliad, fel rydych newydd ei grybwyll. Nawr, deallaf nad yw'r cynllun hwn wedi cael ei adolygu ers ei gyflwyno, ac ar yr olwg gyntaf, mae'n cymharu'n anffafriol iawn â'r cynlluniau eraill. A gaf fi ofyn i'r Comisiynydd am arweiniad ar sut y gellid dechrau'r broses o adolygu'r cynllun pensiwn staff fel y gallwn fod yn sicr ei fod yn deg ac yn adlewyrchu'r cyfraniad y mae ein holl staff cymorth yn ei wneud?

Diolch i chi am y cwestiwn hwnnw. Er eglurder, mater i'r bwrdd taliadau, nid Comisiwn y Cynulliad yn uniongyrchol, yw'r trefniadau pensiwn sydd gan staff cymorth Aelodau'r Cynulliad a chyfraddau cyfraniadau'r cyflogwr i'r cynllun hwnnw, ac yn ddiweddar, cyhoeddodd y bwrdd taliadau ei adolygiad o'r cymorth staff ond nid ydynt wedi cyflwyno unrhyw argymhellion i newid cynllun pensiwn staff cymorth Aelodau'r Cynulliad yn ystod yr adolygiad hwnnw, fel rydych newydd ei nodi, rwy'n credu.

Fe fyddwch yn gwybod, wrth gwrs, fel y bydd yr holl Aelodau'n gwybod, fod y bwrdd taliadau'n cynnal adolygiad o'r penderfyniad ar gyfer y chweched Cynulliad a daeth ei ymgynghoriad ar yr adolygiad hwnnw, sy'n ymdrin â chymorth staff, i ben ar 11 Hydref, ond deallaf fod Aelodau a staff cymorth yn rhydd i godi unrhyw faterion sy'n ymwneud â'r adolygiad gyda'r bwrdd taliadau, a byddai hynny'n cynnwys cyfraniad y cyflogwr i bensiynau staff cymorth, ac rwy'n annog unrhyw un sydd â diddordeb i wneud hynny.

Hyrwyddo Ymwybyddiaeth a Dealltwriaeth o Waith Cynulliad Cenedlaethol Cymru

2. A wnaiff y Comisiwn egluro sut y mae'r arian a ddyrennir i hyrwyddo ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o waith Cynulliad Cenedlaethol Cymru yng nghyllideb 2019-20 yn cael ei ddyrannu? OAQ54542

Mae ymgysylltu ac hyrwyddo'r Cynulliad yn un o flaenoriaethau strategol y Comisiwn ac mae codi ymwybyddiaeth a gwella dealltwriaeth o waith y Cynulliad yn rhan o hynny. Mae dwy ffordd gennym ni o neilltuo arian ar gyfer y blaenoriaethau hyn—drwy'r gyllideb arferol a thrwy gronfa prosiectau. Mae'r cyllid rheolaidd yn cynnwys cefnogi Senedd Ieuenctid Cymru, siop y Senedd, ymweliadau ysgolion, marchnata a chyhoeddusrwydd, ac mae hynny'n gyfanswm o £311,000. Mae tri phrosiect perthnasol yn y gronfa brosiectau ar gyfer 2019-20, gyda gwerth cyfanswm o £520,000. 

Diolch, Lywydd. Yn ôl cyllideb 2019-20, mae'r prosiectau blaenoriaeth ar gyfer y flwyddyn ariannol hon, wrth gwrs, yn seiliedig ar y blaenoriaethau sefydliadol, gan gynnwys sicrhau ymgysylltiad cynyddol â phobl Cymru a defnyddio ein hadnoddau'n ddoeth. Ar ôl ystyried y gyllideb, sylwaf fod £311,000 wedi'i ddyrannu i hyrwyddo ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o waith. Yn yr un modd, mae tua'r un swm wedi'i gyllidebu ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf ac fe gafodd ei wario hefyd yn 2018-19. Felly, dyna oddeutu £1 filiwn a neilltuwyd, yn dechnegol, i hyrwyddo ymwybyddiaeth a dealltwriaeth. Mae'n swm eithaf sylweddol, felly yr hyn rwy'n ei ofyn mewn gwirionedd, Lywydd, yw sut y mae Comisiwn y Cynulliad yn sicrhau bod y gwariant hwn yn destun craffu eithaf trylwyr ac y gwneir defnydd doeth o adnoddau sy'n cyflawni o ran codi ymwybyddiaeth o waith Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a'i Aelodau yn wir, mewn etholaethau ac ar draws rhanbarthau Cymru?

Wel, pleidleisir ar gyllideb Comisiwn y Cynulliad gan y Cynulliad hwn, gan yr holl Aelodau sy'n bresennol yma, a chreffir arni fel rhan o'r gwaith craffu blynyddol ar y gyllideb yn y Pwyllgor Cyllid, a chredaf fod y comisiynydd, Suzy Davies, wedi bod ger bron y Pwyllgor Cyllid yn ddiweddar yn cael ei chraffu mewn perthynas â'n cynigion cyllidebol ar gyfer y flwyddyn nesaf. Rydym bob amser yn ceisio gwneud ein gwaith mor effeithiol â phosibl. Rydym yn croesawu sylwadau gan Aelodau ynglŷn â sut y gallwn wella hynny a gwneud hynny fel rhan o'r prosesau craffu ac mewn cwestiynau yma. Ac rwyf bob amser yn edrych ar ffyrdd y gallwn wella'r modd y byddwn yn rhannu gwybodaeth ac yn gweithio gyda phobl Cymru ym mhob rhan o Gymru. Ceisiaf wneud hynny mewn ffordd mor radical ac effeithiol â phosibl, gan fod yn ymwybodol bob amser, wrth gwrs, fod angen inni wario'n ddoeth.

15:15

Diolch. Bydd cwestiynau 3 a 4 yn cael eu hateb gan y comisiynydd, David Rowlands. Cwestiwn 3, Jenny Rathbone.

Pwyntiau Gwefru Cerbydau Trydan

3. Pa ddefnydd sydd wedi'i gofnodi o bwyntiau gwefru cerbydau trydan y Cynulliad? OAQ54527

Gosododd y Comisiwn bedwar pwynt gwefru ym maes parcio Tŷ Hywel yng ngwanwyn 2018 i'w defnyddio gan staff ac ymwelwyr. Ers hynny, maent wedi cael eu defnyddio 692 o weithiau i gyflenwi dros 6,500 kWh o bŵer i geir trydan. Mae hyn wedi arbed mwy na 5.5 o dunelli o garbon deuocsid rhag cael eu hallyrru i'r atmosffer. Mae'r Comisiwn o'r farn fod y mannau parcio dynodedig yn gymhelliant i ddefnyddio cerbyd trydan a bod y Comisiwn yn adennill costau gwefru gan y defnyddwyr.

Diolch. Rwyf wrth fy modd ein bod wedi arbed 5.5 o dunelli yn y 18 mis ers iddynt gael eu defnyddio, ond buaswn yn awyddus iawn i ddeall yn union pa fath o bwyntiau gwefru cerbydau trydan ydynt, o ystyried bod dau fath gwahanol o gerbydau trydan, oherwydd buaswn o ddifrif yn hoffi newid i gerbyd dilygredd, gan fy mod yn cynrychioli un o'r ardaloedd mwyaf llygredig—neu'r ardal fwyaf llygredig, mae'n debyg—yng Nghymru. Ond nid wyf wedi'u gweld, nid wyf wedi gweld arwydd yn dweud, 'Pwyntiau gwefru cerbydau trydan y ffordd yma'. A ydych yn credu y gellid eu hyrwyddo'n well?

Wel, mae hynny'n hollol gywir, ceir dwy system wefru. Ni allaf ateb eich cwestiwn ynglŷn â hynny'n union, ond gallaf ddweud wrthych fod staff y Comisiwn yno i roi gwybodaeth ynghylch cerbydau trydan i unrhyw un a phawb yn y Cynulliad, yn Aelodau Cynulliad a'r staff eu hunain. Mae ganddynt wybodaeth helaeth y gallwch ei chael ganddynt, ac os ydych yn ystyried y peth, fel yn wir y mae llawer erbyn hyn yn ystyried defnyddio cerbydau trydan, gallaf eich sicrhau eu bod yn mynd ati i chwilio am yr wybodaeth honno.

Dwi wedi defnyddio pwynt gwefru fy hun. Fe'i ddefnyddiais pan oeddwn i'n gwneud ffilm ar ddod ar siwrnai o'm hetholaeth i i'r Cynulliad, i ddangos yr heriau o ddefnyddio car trydan oherwydd gwendidau yn ein rhwydwaith gwefru ni ar draws Cymru. Dwi yn falch o glywed bod yna waith yn cael ei wneud i annog staff i ddefnyddio mwy o geir trydan. Tybed a allwch chi, un, ddweud a oes yna fwy o geir trydan—? Tybed a allwch chi ddweud wrthyf a oes yna gynlluniau i gael mwy o pool cars trydan? Yn ddiweddar, dwi'n meddwl mai un ar gytundeb les tair blynedd oedd yn gar trydanol gan y Comisiwn, ac mi fyddai'n syniad ehangu hynny. Hefyd, a allwch chi ddweud wrthyf pa drafodaethau sydd wedi bod efo'r Llywodraeth ynglŷn â chaniatáu lle ar yr ystâd i osod pwyntiau gwefru ar gyfer eu ceir disel presennol nhw?

Wel, a gaf fi ddweud, unwaith eto, eich bod angen llawer o wybodaeth dechnegol? Ac a gaf fi ddweud bod yr wybodaeth honno ar gael gan staff y Comisiwn, sy'n gyfarwydd iawn â beth yn union sy'n digwydd o ran y cyfleusterau gwefru a'r gallu i ddefnyddio cerbydau trydan yn gyffredinol?

Yr Argyfwng Hinsawdd

4. Beth mae'r Comisiwn yn ei wneud i gyflawni ei rwymedigaethau i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd? OAQ54523

Ers ei ffurfio, mae'r Comisiwn wedi ceisio lleihau ei effaith ar yr amgylchedd. Mae ein strategaeth amgylcheddol wedi arwain at ostyngiad o 42 y cant mewn allyriadau carbon ers 2012, gan adeiladu ar ein llwyddiant blaenorol, sef gostyngiad o 30 y cant. Rydym wedi sicrhau bod cyn lleied â phosibl o gyllyll a ffyrc a chwpanau plastig untro yn cael eu defnyddio, ac wedi cyflwyno dewisiadau amgen bioddiraddiadwy yn eu lle, a chynwysyddion bwyd lle y bo modd.

Fel rhan o'n set newydd o ddangosyddion perfformiad, rydym wedi cyflwyno targed ymestynnol i leihau'r niferoedd sy'n teithio mewn ceir at ddibenion gwaith. Ar ôl cyrraedd ein targedau presennol ar gyfer allyriadau carbon a gwastraff i safleoedd tirlenwi, rydym yn cydweithio â Seneddau eraill y DU i ddatblygu set newydd o dargedau amgylcheddol blynyddol, gan gadw mewn cof bob amser mai 2030 yw dyddiad targed Llywodraeth Cymru ar gyfer dod yn garbon niwtral yn y sector cyhoeddus.

15:20

Os ydym am arwain y ffordd yn mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, mae'n rhaid inni osod esiampl i fusnesau a chyrff cyhoeddus eraill ei dilyn. Nawr, er bod adeilad y Senedd wedi cael ei enwi'n Llywodraeth fwyaf gwyrdd y DU, nid yw adeilad Tŷ Hywel yn gwneud cystal. Sgôr ynni E sydd ganddo. Er bod gwelliannau wedi bod i effeithlonrwydd ynni ar yr ystâd yn ystod y blynyddoedd diwethaf, beth arall y gellir ei wneud, er enghraifft, mewn perthynas â gwresogi, goleuo, bwyd, ac ati, i wella'r sgôr i sicrhau bod ein hamgylchedd gwaith yn esiampl dda i bobl eraill ei dilyn mewn argyfwng hinsawdd?

Wel, a gaf fi ddweud bod Comisiwn y Cynulliad wedi llofnodi memorandwm cyd-ddealltwriaeth i ymuno â'r cynllun arfaethedig ar gyfer gwresogi ardal Caerdydd i fuddsoddi yn ein hystâd—? Mae'n ddrwg gennyf, bydd hyn yn dileu cyfran sylweddol o'n hôl troed carbon sy'n deillio o weithgarwch gwresogi'r ystâd sydd, fel arall, yn anodd ei ddatrys.

4. Cwestiynau Amserol

Eitem 4 yw'r cwestiynau amserol, a bydd Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yn ateb y cyntaf y prynhawn yma. Llyr Gruffydd.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Wrth gwrs, mae cyd-destun y cwestiwn yma wedi newid ychydig ers ei osod e, ond mae e'n dal yn ddilys.

1. Yn dilyn yr ansicrwydd am brosesydd llaeth Tomlinsons Dairy, a’r ffaith fod yna 70 o ffermydd llaeth a channoedd o swyddi yn ddibynol ar yr hufenfa, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynorthwyo’r cwmni a’r gweithlu? 351

Diolch yn fawr iawn. Yn amlwg, mae'n newyddion siomedig iawn fod y cwmni wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr, ac mae hyn yn peri gofid i'r gweithlu ac i'r gadwyn gyflenwi ehangach, ac mae ein meddyliau gyda'r rhai yr effeithiwyd arnynt. Deallwn fod tua 331 o bobl wedi'u heffeithio: cafodd 247 ohonynt eu diswyddo ddoe ac mae'r gweddill wedi'u cadw am gyfnod byr. Fel y dywedaf, mae ein meddyliau gyda hwy, ac rydym yn eu cefnogi. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i helpu'r holl staff yr effeithiwyd arnynt. Rydym wedi sefydlu tasglu uniongyrchol i ymateb i'r sefyllfa ddiswyddo yn y cwmni, a bydd y digwyddiad cefnogi a chyfeirio ar gyfer staff yn cael ei gynnal ddydd Llun yng nghanolfan adnoddau Plas Pentwyn yn Wrecsam.

Diolch ichi am eich ateb. Wrth gwrs, mae yna nifer fawr o gwestiynau yn deillio o'r hyn sydd wedi digwydd. Yn y lle cyntaf, dwi'n meddwl, mae pobl yn crafu eu pennau ac yn gofyn i'w hunain, 'Beth aeth o'i le?' Oherwydd dim ond yn 2017 y cafodd y cwmni £22 miliwn o fuddsoddiad—£5 miliwn o hwnnw gan Lywodraeth Cymru, £2 filiwn ymhellach gan Cyllid Cymru—a wedyn, fisoedd yn ddiweddarach, ar ddiwedd y flwyddyn ariannol hyd at Fawrth 2018, roedd y cwmni yn cofrestru colledion o £5 miliwn, a £2 filiwn eto yn y flwyddyn ariannol diwethaf. Felly, rŷn ni eisiau sicrwydd gan y Llywodraeth ac fe fyddwn i yn licio gweld bod y Llywodraeth yn dangos tystiolaeth eich bod chi wedi gwneud y gwaith o ymchwilio yn ddigon trwyadl i mewn i'r cynlluniau yma cyn gwneud y buddsoddiad.

Mae'r Llywodraeth hefyd, dwi wedi gweld mewn adroddiadau yn y wasg, yn dweud eich bod chi'n ymwybodol bod yna drafferthion wedi bod yn cwmni a'ch bod chi wedi bod yn gweithio gyda nhw ers 18 mis i drio gweithio drwy'r materion yma. Allwch chi, efallai, esbonio pa fath o adnoddau wnaethoch chi eu rhoi i'r perwyl hwnnw a pha reswm sydd yna na lwyddwyd i droi'r sefyllfa o gwmpas?

Rŷch chi wedi sôn am ddyfodol y gweithlu, ac rŷn ni yn gobeithio yn fawr iawn, fel ŷch chi'n awgrymu, y bydd y Llywodraeth yn troi pob carreg i sicrhau bod yna gyfleoedd cyflogaeth ar gael i'r rhai fydd yn colli eu swyddi. Wrth gwrs, y cwestiwn mwyaf yw: beth yw dyfodol y safle? Ar ôl buddsoddiad mor sylweddol, yn amlwg mae e'n safle sydd â chit newydd sbon. Hynny yw, fe fyddwn i'n tybio bod yna botensial i ddenu buddsoddwyr amgen i mewn i drio prosesu llaeth ar y safle. Byddwn i'n licio clywed pa gamau ŷch chi'n eu cymryd i wneud hynny.

Mae amseru mynd i ddwylo’r gweinyddwyr yn golygu hefyd—mi ddigwyddodd e jest ar yr adeg yr oedd y ffermwyr a'r cynhyrchwyr llaeth i fod i gael eu sieciau am ddarparu llaeth fis Medi. Mae hynny'n golygu bod y cwmni, i bob bwrpas, wedi cael gwerth chwe wythnos o laeth am ddim. Mae hynny'n golygu colledion difrifol posib i'r ffermwyr hynny. Pa waith mae'r Llywodraeth yn ei wneud i drio sicrhau y byddan nhw yn cael taliad, neu o leiaf rhywfaint o daliad, neu rhyw fath o ddigolledu am y llaeth hwnnw?

A beth mae'r datblygiad yma'n ei ddweud am gyflwr y sector prosesu llaeth yng Nghymru? Hynny yw, flwyddyn diwethaf, mi gollom ni Arla yn Llandyrnog, nawr mae Tomlinsons, yn yr un rhan o Gymru i bob pwrpas, wedi mynd. Mae'r Llywodraeth, ac yr ŷm ni i gyd, yn rhoi pwys mawr ar bwysicrwydd datblygu brand Cymreig, ond o ganlyniad i hyn fydd y llaeth nawr ddim yn cael ei frandio fel llaeth o Gymru, ond llaeth Prydeinig fydd e. Felly, mae'n tanseilio ymdrechion y Llywodraeth i adeiladu'r sector bwyd a diod yng Nghymru, ac dwi eisiau gwybod beth ŷch chi'n ei wneud i adeiladu sector llaeth mwy hyfyw yma yng Nghymru.

15:25

Diolch am y cwestiynau hynny. Rwy'n rhannu pryder a rhwystredigaeth yr Aelod, ond gellid maddau i rywun am feddwl, o wrando ar dôn ei gyfraniad, mai bai Llywodraeth Cymru oedd hyn rywsut. Cwmni masnachol yw hwn. Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud popeth yn ei gallu i helpu'r cwmni hwn, fel y mae benthycwyr masnachol y cwmni ei hun wedi'i wneud. Daeth y rhan fwyaf o'r arian a roddwyd, nid gan Lywodraeth Cymru na'r banc datblygu, ond gan y banciau—y banciau, ni allwn ond tybio, a wnaeth eu diwydrwydd dyladwy eu hunain ac a wnaeth eu penderfyniadau masnachol eu hunain ynglŷn ag a oedd buddsoddi miliynau lawer o bunnoedd yn y busnes hwn yn beth doeth i'w wneud. Penderfynasant ei fod. Erbyn diwedd yr wythnos ddiwethaf, roedd y benthycwyr masnachol a Llywodraeth Cymru a'r banc datblygu yn amlwg wedi cyrraedd y pwynt lle nad oeddem yn credu bod rhoi mwy a mwy o gredyd i gwmni sy'n cronni dyledion, ac sydd eto i gynhyrchu unrhyw gyfrifon diweddar, yn beth doeth i'w wneud mwyach.  

Nawr, fe ofynnoch chi am dystiolaeth o'n cefnogaeth, a gallaf eich sicrhau fod Ken Skates, fel yr Aelod Cynulliad lleol, a Lesley Griffiths fel y Gweinidog, wedi gwneud yn siŵr fod Llywodraeth Cymru wedi bod yn cadw llygad manwl ar y cwmni. Rydym wedi bod mewn deialog â hwy'n gyson. Fe sonioch chi am rywfaint o'r cymorth ymarferol rydym wedi'i roi iddynt—grant o £5 miliwn yn 2018 a ddefnyddiwyd ganddynt yn llawn. Fe wnaethom eu helpu i gael gwared ar safle potelu, a llwyddasant i'w werthu am oddeutu £6 miliwn. Gwnaethom helpu i ryddhau rhai o'r ymrwymiadau grant ar y safle hwnnw i helpu i roi'r cyfle gorau posibl iddynt allu goroesi. Darparwyd benthyciadau gan y banc datblygu eu hunain, ac nid yw pob un ohonynt wedi'u had-dalu. Felly nid wyf yn credu y gallwch ddweud yn rhesymol nad yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud popeth yn ei gallu i helpu'r cwmni masnachol hwn.

Nawr, rydych chi'n iawn i fod yn bryderus am yr effaith ar y diwydiant mewn cyfnod sydd eisoes yn un anodd i'r diwydiant. Rydym yn dal i gredu bod hwn yn fusnes cadarn os yw'n cael ei weithredu'n briodol, ac rydym yn obeithiol y bydd y gweinyddwyr yn gallu dod o hyd i brynwr a fydd yn gallu parhau i weithredu'r ffatri ar y safle ac ailgyflogi cymaint o bobl leol â phosibl. Rwy'n credu bod gennym reswm i fod yn optimistaidd am hynny: aeth GRH Food ger Porthmadog i ddwylo'r gweinyddwyr oddeutu chwe mis yn ôl, ac mae bellach yn weithredol unwaith eto. Felly, o ran capasiti'r diwydiant bwyd a'n strategaeth, credaf y gallwn fod yn hyderus fod hynny'n mynd i'r cyfeiriad cywir, ond ni allwn ficroreoli pob busnes na bod yn gyfrifol am bob penderfyniad rheoli y maent yn ei wneud. Gallwn wneud ein gorau drwy ein swyddfeydd a thrwy ein partneriaid i gefnogi a helpu, ac rydym yn hyderus ein bod wedi gwneud hynny.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Diolch am eich datganiad hyd yn hyn, Weinidog. Rwy'n siarad, wrth gwrs, fel y llefarydd materion gwledig, ac yn amlwg mae'r gefnogaeth i'r gweithwyr sydd wedi colli eu swyddi yn allweddol bwysig. O glywed am y digwyddiad galw heibio sy'n cael ei drefnu ar gyfer dydd Llun—gobeithio y bydd yn gam cyntaf tuag at gael llawer o'r unigolion hynny'n ôl mewn gwaith.

Ond hoffwn godi dau fater gyda chi, cynhaliodd Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr ddigwyddiad i fyny'r grisiau amser cinio a oedd yn tynnu sylw at yr effaith ar y sector ffermydd llaeth. Roedd tua 100 a mwy o gynhyrchwyr yn cyflenwi'r ffatri, yn ôl yr hyn a ddeallaf. Bydd yn rhaid i lawer gymryd eu lle yn y ciw o gredydwyr i'r cwmni sydd yn nwylo'r gweinyddwyr, ac ymddengys na thelir am werth chwe wythnos o laeth yn ôl pob tebyg. Pa gymorth y gall Llywodraeth Cymru ei roi i geisio sicrhau na chaiff llif arian ei dorri yn ystod yr hydref drwy gynllun y taliad sengl? Mewn un enghraifft a bwysleisiwyd i mi, o dan y cynllun benthyg y mae'r Llywodraeth wedi'i ddarparu dan y taliad sengl, os cawsoch y benthyciad hwnnw o fewn y tair blynedd diwethaf, ni fyddech yn gymwys ar ei gyfer eleni. Nid wyf yn gwybod a yw hynny'n gywir ai peidio, ond pe gallech gadarnhau hynny, buaswn yn ddiolchgar iawn. Oherwydd os ydych wedi cael y benthyciad yn ystod y tair blynedd diwethaf, mae'n debyg na allwch ei gael, ond o ystyried yr amgylchiadau force majeure i'r ffermwyr llaeth hyn, mae'n hanfodol fod y llif arian yn cael ei gynnal.

Yn ail, roedd yn dda clywed eich bod yn weddol optimistaidd ynghylch dyfodol y safle, oherwydd yn anffodus, nid oes gennym lawer o gapasiti prosesu llaeth hylif yma yng Nghymru. A allwch chi roi'r newyddion diweddaraf i ni ynglŷn â pha mor optimistaidd ydych chi ynghylch sicrhau dyfodol hirdymor y gwaith fel y gellir gwneud defnydd da ohono unwaith eto, a throi llaeth Cymru yn gynnyrch yfadwy y gellir ei roi ar y silffoedd i ddefnyddwyr ac i mewn i oergelloedd mor gyflym â phosibl? Oherwydd os collwn y safle hwn, rwy'n credu fy mod yn gywir i ddweud na fydd gennym ffatri fawr ar gyfer prosesu llaeth hylif yma yng Nghymru.

Diolch am y cwestiynau. Rydym mor hyderus ag y gallwn fod, ond yn amlwg, mae hynny'n ddibynnol ar fod popeth arall yn gyfartal, ac nid yw popeth arall yn gyfartal. Gwyddom fod y diwydiant o dan gryn dipyn o straen. Mae'r cwmni wedi wynebu rhai problemau sy'n unigryw i'r cwmni, ond mae hefyd wedi wynebu'r problemau y mae eraill yn eu hwynebu. Mae anwadalrwydd y gyfradd gyfnewid ers i Lywodraeth y DU fethu cyflawni'r cytundeb a negododd â'r Undeb Ewropeaidd, a'r ansicrwydd y mae hynny wedi'i achosi, wedi bod yn ffactor arwyddocaol yn sefyllfa'r cwmni, yn enwedig o ran argaeledd llif arian. Mae honno'n broblem ar draws y diwydiant. [Torri ar draws.] Rwy'n ofni na allaf glywed y gŵr anrhydeddus sy'n gweiddi ar fy nhraws, ond rwy'n ceisio ateb y cwestiynau y mae'n eu gofyn; efallai nad dyma'r ateb y chwiliai amdano, ond dyma'r gwir. Mae effaith ansicrwydd y sefyllfa gyda Brexit yn cael effaith amlwg a gwirioneddol ar y diwydiant, ac mae wedi cael effaith benodol yn yr achos hwn. Nid dyna'r unig ffactor, ond mae'n ffactor arwyddocaol. [Torri ar draws.] Mae'r gŵr bonheddig yn dweud ei fod yn sgandal. Hoffwn ddweud wrtho ei bod hi'n sgandal ei fod yn rhoi ei fysedd yn ei glustiau ac yn anwybyddu'r hyn sy'n digwydd o'n cwmpas ni ac effaith y polisïau byrbwyll y mae'n eu dilyn, ac y bu'n eu dilyn yn ddifeddwl dros y tair blynedd diwethaf. Wel, dyma ganlyniad hynny. Dyma sut y mae'n edrych—swyddi, bywoliaeth, dyfodol diwydiant yn ein gwlad, yng ngogledd Cymru—canlyniad yr ansicrwydd a'r amrywiad yn y gyfradd gyfnewid, a'r effaith ar lif arian busnesau. Nawr, gallwn wneud popeth a allwn, ond dyna'r cyfan y gallwn ei wneud. Ni allwn atal y grymoedd hyn sy'n cael eu rhyddhau ganddo ef a'i gyd-Aelodau byrbwyll.

O ran y sylwadau penodol y mae'n eu gwneud—[Torri ar draws.] Mae'n dweud 'rwtsh llwyr'. Wel, rwy'n ofni ei fod wedi cyfeirio at gynllun benthyciadau y mae'n honni ei bod wedi bod yn weithredol ers tair blynedd ond nid yw ond wedi bod yn weithredol ers blwyddyn. Felly, os yw eisiau cyfnewid sylwadau am 'rwtsh llwyr', gallwn ein dau chwarae'r gêm honno. Buaswn yn hapus i ysgrifennu ato ar rai o'r pwyntiau manwl a wnaeth.FootnoteLink Gallaf roi ymrwymiad diffuant iddo: byddwn yn gwneud popeth a allwn i sicrhau dyfodol y diwydiant hwn, a'r busnes hwn, ond mae terfynau i'r hyn y gallwn ei wneud.

15:30

Daeth £5 miliwn, rwy'n credu, o'r buddsoddiad o £22 miliwn yn Tomlinsons yn 2017 gan Lywodraeth Cymru, ac wrth gwrs, mae hynny'n codi cwestiynau ynglŷn â lefel y warchodaeth gytundebol i'r bunt gyhoeddus. Ond fel y clywsom, dyma'r ail safle prosesu llaeth yng Nghymru i gau, sy'n golygu y bydd mwy na hanner y cynnyrch llaeth bellach yn gorfod cael ei gludo i rywle arall. Cafodd y bwrdd arwain llaeth eu cyfarfod diwethaf bedair blynedd yn ôl, ond mae ei gasgliadau'n dal i sefyll, gan gynnwys yr angen i ddenu proseswyr y pen uchaf i Gymru. Mae Cymru'n gynhyrchydd llaeth o'r radd flaenaf ar draws cyfandir Ewrop a thu hwnt. Mae cynhyrchu llaeth yn symud i'r gogledd ac i'r gorllewin am fod porfa'n tyfu'n well yma. Felly, ers yr argymhelliad hwnnw gan y bwrdd arwain llaeth bedair blynedd yn ôl, sut rydych chi yn, neu wedi, rhoi'r camau angenrheidiol ar waith i ddatblygu a diogelu'r sector prosesu yng Nghymru, nid yn unig o ran llaeth, ond hefyd o ran gwneud y mwyaf o'r cyfle masnachol i ddatblygu cydrannau llaeth Cymru, sy'n cynnig cyfleoedd cyffrous i sicrhau twf yn yr economi wledig yn y dyfodol, a marchnata hynny i berchnogion newydd posibl, wrth i chi chwilio am rywun i'w brynu fel busnes sy'n tyfu?

Mae'n rhyfedd mai byrdwn y feirniadaeth yw nad ydym wedi gwneud digon i ddiogelu'r cwmni, ac yna mae'n cwestiynu'r gefnogaeth rydym wedi'i rhoi. Dwy elfen o gymorth a roddwyd gennym yn uniongyrchol—y grant £5 miliwn ar gyfer cynllun penodol i'w helpu i ddatblygu a dod yn fwy gwydn, a'r grant buddsoddi mewn busnesau bwyd, a gafodd ei roi yn unol â phroses diwydrwydd dyladwy ac a oedd yn bodloni'r holl amodau grant—rhoddwyd y cymorth ychwanegol gan Fanc Datblygu Cymru i'w helpu gyda llif arian a materion eraill, ac yn amlwg, ynghyd â'r buddsoddwyr masnachol, nid ydym wedi gallu sicrhau ad-daliad llawn o hwnnw. Ond os gellir ein cyhuddo o unrhyw beth, yn sicr ni ellir ein cyhuddo o beidio â chynnig digon o gefnogaeth i'r cwmni.

Ond mae yna bethau na allwn eu rheoli. Clywn y gŵr bonheddig yn sôn yn aml am rinweddau'r farchnad. Wel, mae'r marchnadoedd yn weithredol yma, ac mae cwmnïau masnachol, unigol yn gwneud penderfyniadau, mae rheolwyr yn gwneud penderfyniadau, ac mae canlyniadau i'r penderfyniadau hynny. Rydym yn dal i fod yn hyderus fod yna fusnes da i'w redeg yma, ac rydym yn gobeithio y bydd y gweinyddwyr yn llwyddo i sicrhau darparwyr amgen. Byddwn yn gweithio gyda hwy i barhau i'w cefnogi. Ar y pwyntiau ehangach y mae'r gŵr bonheddig yn eu gwneud am gefnogaeth i'r diwydiant, fe ofynnaf i fy nghyd-Aelod, Lesley Griffiths, ysgrifennu ato i roi ymateb manwl.

Diolch i'r Dirprwy Weinidog. Mae'r cwestiwn nesaf i'w ateb gan Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, ac mae'r cwestiwn i'w ofyn gan Alun Davies.

Catalonia

2. Pa sylwadau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u gwneud yn dilyn carcharu arweinwyr gwleidyddol etholedig Catalonia? 352

15:35
Member
Eluned Morgan AM 15:35:06
Minister for International Relations and the Welsh Language

Llywodraeth y DU sy'n arwain ar bob mater sy'n ymwneud â materion tramor. Ond rwyf eisoes wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Tramor, i ofyn pa sylwadau y mae Llywodraeth y DU wedi'u gwneud i Lywodraeth Sbaen am y dedfrydau o garchar a roddwyd i wleidyddion Catalonia.

Lywydd, rwy'n credu bod pob un ohonom wedi cael ein syfrdanu gan y newyddion am garcharu arweinwyr gwleidyddol Catalonia yr wythnos hon. Ac ers hynny, cawsom ein syfrdanu gan y lluniau o drais gwladwriaethol a welwn yn dod o Gatalonia. Mae llawer ohonom wedi teimlo bod ein democratiaeth yn ddiogel, fod ein hawliau fel dinasyddion Ewropeaidd yn ddiogel ac wedi'u gwarantu. Ond rydym i gyd yn gwybod ein bod, dros y blynyddoedd diwethaf, wedi gweld gydag eglurder arswydus nad yw'r rhyddid a'r hawliau rydym wedi'u cymryd yn ganiataol yn cael eu diogelu, ac efallai fod angen inni frwydro unwaith eto, fel y mae eraill wedi'i wneud yn y gorffennol, i sicrhau democratiaeth a rhyddid ar ein cyfandir. Mae digwyddiadau diweddar yng Nghatalonia wedi gwneud i lawer ohonom deimlo'n ofnus dros bobl y wlad honno. Ni ddylai hyn fod yn digwydd yn Ewrop, Lywydd. Ni ddylid caniatáu iddo ddigwydd yn yr Undeb Ewropeaidd, ac mae'n rhaid i ni, bobloedd Ewrop, sefyll yn unedig gydag arweinwyr gwleidyddol Catalonia a garcharwyd a chyda phobl Catalonia.

Mae'r hawl i benderfynu drosom ein hunain yn hawl ddynol sylfaenol, wedi'i hymgorffori yn erthygl 1 o Siarter y Cenhedloedd Unedig. Mae'n un o'r egwyddorion arweiniol y mae cyfraith ryngwladol, a'r drefn ryngwladol, wedi'i seilio arnynt. Mae'n hawl rydym ni yng Nghymru wedi'i harfer ddwywaith yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac y mae pobl yr Alban yn ei thrafod heddiw. Lle bynnag y bydd rhywun yn sefyll ar yr ateb i gwestiwn annibyniaeth, mae'n rhaid i'r hawl i wneud penderfyniad o'r fath fod y tu hwnt i amheuaeth. Mae Llywodraeth Sbaen wedi torri'r egwyddor sylfaenol hon, ac mae'n rhaid iddynt wynebu canlyniadau eu gweithredoedd. Lywydd, nid wyf yn credu bod creulondeb gwladwriaeth Sbaen yn gydnaws â'i lle wrth y prif fwrdd yn Ewrop. Dylai pawb sy'n gwerthfawrogi rhyddid a democratiaeth gondemnio gweithredoedd cyfunol gwladwriaeth Sbaen, gan gynnwys ei byddin, ei heddlu a'i system gyfiawnder.

Credaf ei bod yn amlwg fod gwladwriaeth Sbaen yn cyflawni troseddau yn erbyn pobl Catalonia. Ac ni all y lle hwn, na'n Llywodraeth ni, ganiatáu i droseddau o'r fath gael eu cyflawni yn ein cartref Ewropeaidd. Rwy'n cydnabod mai Llywodraeth y Deyrnas Unedig sy'n arwain ar faterion tramor, ond nid wyf yn credu y byddai'r un ohonom sy'n eistedd yma, na'r bobl a gynrychiolwn, eisiau inni sefyll o'r neilltu a gadael i'r pethau hyn ddigwydd ar garreg ein drws. Credaf fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru ddweud hyn yn glir, a defnyddio pob dull sydd ar gael iddi, i sefyll dros hawliau dynol sylfaenol yng Nghatalonia, ac yn ein cartref Ewropeaidd. Rwy'n gobeithio, Weinidog, y byddwch yn dwyn y materion hyn i sylw pellach Llywodraeth y DU, ond hefyd yn uniongyrchol gyda Llywodraeth Sbaen. Nid yw'n ddigon da gweld heddlu Sbaen yn curo pobl Catalonia, ac yn carcharu arweinwyr etholedig, oherwydd y safbwyntiau sydd ganddynt, ac oherwydd eu bod wedi ceisio cyflawni mandad gwleidyddol ac arfer eu hawl ddynol sylfaenol i benderfynu drostynt eu hunain.

Wel, rwyf wedi nodi angerdd yr Aelod wrth iddo fynegi ei bryder dros bobl Catalonia. Ond rwy'n credu ei bod yn werth pwysleisio bod gan wleidyddion mewn democratiaeth gyfrifoldeb penodol i weithio o fewn y gyfraith, ac mae gan y llysoedd gyfrifoldeb i orfodi'r gyfraith honno. Ond fel y pwysleisiodd y Prif Weinidog ddoe, ni ddylai fod lle mewn democratiaeth i'r math o gyfraith sy'n golygu bod gwleidyddion yn cael eu carcharu am fynegi eu barn gyfansoddiadol. Felly, mae hynny wedi'i fynegi'n glir iawn, a chredaf y byddai hynny'n ategu teimladau llawer o bobl yn y Cynulliad hwn.

Beth bynnag ein barn ni fel unigolion am annibyniaeth i Gymru, beth bynnag ein safbwynt ar yr egwyddor o wledydd llai yn yr ynysoedd yma, neu ar draws Ewrop, yn mynnu eu hawl i ryddid, ac i gymryd y cyfrifoldeb am eu dyfodol eu hunain, mi ddylai gweithredoedd y wladwriaeth Sbaeneg yr wythnos yma, yn carcharu naw o ddemocratiaid am gyfanswm o 100 mlynedd am y drosedd o fynnu llais i'w pobl, ddychryn pob un ohonon ni.

Mi oeddwn i yn Senedd Catalonia rhyw ddeufis yn ôl; dwi'n ddiolchgar am y croeso a dderbyniais i a fy nheulu. Mi sefais i yno yn y Siambr, lle mynnodd yr arweinwyr gwleidyddol roi eu ffydd yn y bobl maen nhw yn eu cynrychioli. Mi sefais i dan luniau llywyddion y Senedd honno dros y blynyddoedd—gwleidyddion sydd wedi mynnu i Gatalonia fod yn genedl ac wedi mynnu iddi gael ei Senedd ei hun i warchod ei buddiannau a lleisio ei dyheadau. Yn eu plith nhw oedd Carme Forcadell, sydd heddiw mewn carchar, yn euog o'r drosedd o ganiatáu dadl yn y Senedd honno.

Y diwrnod hwnnw hefyd mi oeddwn i'n gwisgo'r bathodyn yma—y symbol sydd i'w weld ymhob cwr o Gatalonia: ar dai, ar geir, mewn ffenestri, ar y ffyrdd a phalmentydd, ac yng nghalonau miliynau o bobl Catalonia. Y symbol o undod a chefnogaeth i'r rhai hynny—pobl fel chi a fi—sydd dan glo yn enw democratiaeth. Mi wn i yn iawn fod yna wahaniaeth barn yng Nghatalonia ar ddyfodol y wlad ac ar ei pherthynas â'r wladwriaeth Sbaenaidd, ond mae'r wladwriaeth honno, wrth gwrs, yn gwadu llais i'r bobl i benderfynu ar ei ffawd ei hunain.

Ni waeth ar ba ochr i'r ddadl y safwn ar yr egwyddor o genhedloedd llai, fel ein hun ni, yn ceisio gosod eu cyfeiriad eu hunain fel cenhedloedd rhydd, ni allwn dderbyn yr hyn a welsom yn Sbaen. Ni allwn anwybyddu'r gweithredoedd hyn gan wladwriaeth Ewropeaidd honedig fodern, sy'n dal carcharorion gwleidyddol—cynrychiolwyr etholedig; Llywydd Senedd mewn carchar. Mae'r camau cywilyddus hyn eisoes wedi sbarduno protestiadau ar hyd a lled Catalonia, a dylent danio dicter yng nghalon pob democrat.

Rwy'n galw am ddatganiad cadarn a diamwys gan Lywodraeth Cymru. Weinidog, a wnewch chi adleisio fy ngalwad, a galwad fy mhlaid, y dylai pob un ohonom, fel seneddwyr, gondemnio'r carchariadau hyn, a chadarnhau ein bod fel cymuned ryngwladol ar bob lefel—yma yng Nghymru, ar lefel y DU ac ar lefel Ewropeaidd—yn galw am adfer eu rhyddid i'n cymheiriaid a'n bod yn mynnu parch i'r hawl ddynol sylfaenol, yr hawl i benderfynu drosom ein hunain?

15:40

Diolch yn fawr. Mae hanes hir ac agos rhwng Cymru a Chatalwnia—rŷn ni'n awyddus iawn i'r sefyllfa yma i barhau. Rŷn ni'n rhannu nifer o flaenoriaethau gwleidyddol, trwy ein rhwydweithiau rŷn ni'n rhannu gyda Chatalwnia. Pan oeddwn i'n paratoi'r Rheolau Sefydlog ar gyfer y Senedd newydd yma, flynyddoedd yn ôl, un o'r pethau wnes i fel aelod o'r National Assembly advisory group, oedd cael trafodaeth hir gyda llywydd Senedd Catalwnia i ddysgu oddi wrthyn nhw sut oedden nhw'n trefnu eu Senedd nhw. Felly, mae'r berthynas yma yn mynd yn ôl yn hir iawn. Dwi yn meddwl ei bod yn bwysig inni danlinellu ein bod ni'n gweld hwn fel problem wleidyddol ac nid, efallai, fel problem a ddylai gael ei ddelio ag e yn y llysoedd.