Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

01/10/2019

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ond dwi wedi cael gwybod, o dan Reol Sefydlog 12.58, taw'r Trefnydd, Rebecca Evans, fydd yn ateb y cwestiynau heddiw ar ran y Prif Weinidog. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Joyce Watson. 

Cyfraddau Ailgylchu

1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fesurau i wella cyfraddau ailgylchu yng Nghymru? OAQ54411

Cymru sydd â'r drydedd gyfradd ailgylchu gwastraff cartref uchaf yn y byd. Rydym ni'n cymryd camau i wella cyfraddau ailgylchu ymhellach trwy fentrau newid ymddygiad, a thrwy ddatblygu seilwaith newydd er mwyn i fwy o ddeunydd gael ei ailgylchu. Rydym ni'n gweithio'n agos gyda'n partneriaid awdurdod lleol ac yn cynorthwyo gyda chyllid wedi'i dargedu.

Diolch yn fawr iawn am yr ateb yna, Gweinidog. Mae gan Lywodraeth Cymru hanes profedig, fel y dywedwch, o gymryd y mater hwn o ddifrif, ac mae Cymru'n un o arweinwyr y byd yn yr ailgylchu hwnnw. Ac mae hynny'n rhywbeth, rwy'n credu, y mae angen i bob un ohonom ni fod yn falch iawn ohono. Ac rwy'n falch o glywed am eu hymrwymiad parhaus i wella cyfraddau ailgylchu ymhellach a gweithio tuag at Gymru ddiwastraff. Mae rhai cymunedau, unigolion a busnesau yn ei gymryd o ddifrif, a dim ond peth da yw hynny. Bu newid gwirioneddol o ran ymwybyddiaeth yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Yr hyn yr hoffwn i ei weld, ac rwy'n siŵr y byddem ni i gyd yn ei hoffi, yw gostyngiad i faint o ddeunydd y mae angen i ni ei ailgylchu yn y lle cyntaf, yn enwedig o ran plastig untro. Mae llawer o'r plastig hwnnw'n gwbl ddiangen, ac, o ran deunydd na ellir ei ailgylchu, mae 80 y cant ohono'n dal i fod yn blastig.

Felly, hoffwn wybod pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau'r defnydd o blastig untro, ar ba ffurf bynnag y mae, yn enwedig y deunyddiau hynny na allwn, ar hyn o bryd, eu hailgylchu o gwbl.

Diolchaf i Joyce Watson, ac mae'n hollol iawn y dylem ni fod yn hynod falch o'r hyn yr ydym ni wedi ei gyflawni yma yng Nghymru. Ac rydym ni'n sicr yn arweinydd byd-eang; mae gwledydd ar draws y byd yn edrych atom ni am enghraifft o'r hyn y gellir ei wneud, oherwydd, wrth gwrs, ers datganoli, mae ein cyfradd ailgylchu gwastraff cartref wedi cynyddu o ddim ond 5.2 y cant i 61 y cant, a dyma'r trydydd uchaf yn y byd. Ond, yn amlwg, nid oes lle i laesu dwylo a gallwn wneud llawer mwy. Cododd Joyce Watson bwysigrwydd sicrhau bod busnesau hefyd yn chwarae eu rhan, ac mae'r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi lansio ymgynghoriad ar ailgylchu busnes. Bydd hwn yn ceisio gweld a allwn ni gael busnesau i wahanu ac ailgylchu eu gwastraff yn yr un ffordd ag yr ydym ni eisoes yn ei wneud yn y cartref.

Ac mae'r mater hwnnw o wahardd plastigau untro penodol yn bwysig dros ben, ac mae'r dirprwy Weinidog hefyd wedi awgrymu ei bod yn awyddus i gyflwyno deddfwriaeth i wahardd nifer o eitemau plastig untro, ac maen nhw'n cynnwys ffyn cotwm, cyllyll a ffyrc, platiau, gwellt, trochwyr, ffyn balŵn a chwpanau. Gwn fod Joyce Watson yn gefnogwr brwd o sesiynau glanhau traethau, a bydd llawer o'r eitemau hynny yn ymddangos yn aml, rwy'n credu, pan ein bod ni'n glanhau ein traethau.

Gweinidog, ym mis Ebrill cyflwynodd y Llywodraeth y gronfa economi gylchol—cronfa o £6.5 miliwn. Mae dwy ffenestr ar gyfer elfen grantiau bach y gronfa honno wedi cau erbyn hyn, ac mae'r un ffenestr ar gyfer y grant mwy newydd ddod i ben. A ydych chi mewn sefyllfa i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni ynghylch sut y mae'r grantiau hynny wedi bod—. A ydyn nhw wedi bod yn llwyddiannus o ran nifer y defnyddwyr ac elfennau diwydiant sydd wedi manteisio arnyn nhw? Rwy'n sylweddoli na allwch chi roi'r union niferoedd i ni, a byddwn yn ddiolchgar pe gallech chi roi hynny ar y cofnod yn ddiweddarach, ond a allwch chi roi argraff gyffredinol i ni o sut y mae pobl ledled Cymru wedi manteisio ar y cyfleoedd grant hynny?

Gallaf, bu diddordeb mawr yn y gronfa economi gylchol, ac, wrth gwrs, cronfa £6.5 miliwn yw hon sy'n canolbwyntio ar ysgogi'r galw am ddeunydd ailgylchu a'r defnydd ohono. Bydd y busnesau llwyddiannus wedi ymrwymo i roi ystyriaeth i'n pwyslais penodol ar gyrraedd y pwynt lle'r ydym yn genedl ddiwastraff. Gwn y bydd y Gweinidog yn gwneud datganiad yn fuan ar y gronfa economi gylchol.

Morlyn Llanw Bae Abertawe

2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y posibilrwydd o ddatblygu morlyn llanw ym Mae Abertawe? OAQ54416

Rydym ni'n parhau i weithio gydag amrywiaeth o bartneriaid i ddod o hyd i brosiectau buddsoddi i sicrhau bod gan y diwydiant ynni'r môr yng Nghymru, gan gynnwys bae Abertawe, ddyfodol cryf a chadarnhaol. Rydym ni'n ystyried adroddiad tasglu dinas-ranbarth bae Abertawe ar fodelau posibl ar gyfer darparu morlyn yng Nghymru.

Trefnydd, diolch am hynna. Fel y dywedasoch, awgrymodd adroddiad tasglu dinas-ranbarth bae Abertawe rai syniadau a fyddai'n troi pennau yn wir, gan gynnwys cymuned arnofiol o hyd at 10,000 o gartrefi a siopau ym mae Abertawe. Cynigir hefyd fferm solar arnofiol a chanolfan ddata danddwr i gwmnïau technoleg gadw gweinyddion yn oer, ym mae Abertawe. Adroddir hefyd bod cost y cynllun wedi gostwng gan 30 y cant, o'r £1.3 biliwn gwreiddiol. Nawr, fel y soniasoch, cyflwynwyd yr adroddiad hwn i Lywodraeth Cymru ym mis Mai eleni, ac, yn gynharach y mis hwn, dywedodd arweinydd Cyngor Abertawe, y Cynghorydd Rob Stewart, bod Llywodraeth Cymru, yn ystod trafodaethau, wedi ymateb yn gadarnhaol i'r adroddiad. Wel, yn absenoldeb unrhyw beth yn ein cyrraedd, a allech chi roi gwybod i Aelodau'r Cynulliad nawr beth yw barn Llywodraeth Cymru ar yr adroddiad, a phryd yr ydych chi'n disgwyl gwneud penderfyniad ffurfiol, yn enwedig o ran unrhyw fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru ar y mater hwn?

13:35

Diolchaf i Dai Lloyd am godi'r mater hwn. Wrth gwrs, mae'r tasglu y mae'n cyfeirio ato yn cael ei arwain gan gyngor dinas Abertawe, ar ran dinas-ranbarth bae Abertawe. A daw'r aelodau o amrywiaeth eang o gyrff statudol a rheoleiddio, a fydd yn ofynnol, er mwyn bwrw ymlaen ag unrhyw brosiectau posibl, pe byddai model ariannol addas yn cael ei gyflwyno. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid i'r tasglu hwnnw eisoes i ymgymryd â nifer o becynnau gwaith, wedi eu caffael gan arbenigwyr annibynnol, sy'n edrych yn fanwl iawn ar y modelu ariannol, yr achos busnes a'r materion cyflenwi seilwaith. A bwriedir i'r gwaith hwnnw, mewn gwirionedd, ddatblygu model ariannol a allai gynnwys cymysgedd o ffrydiau refeniw a chyfalaf, adfywio ehangach—ac rydych chi wedi rhoi rhai enghreifftiau o hynny—a chynigion arloesi sy'n gysylltiedig ag ynni, a rhai agweddau eraill hefyd. Felly, mae'n bosibl y gallai fod yn gynllun cyffrous iawn. Mae gan Lywodraeth Cymru ddiddordeb mawr ynddo. Byddwch yn cofio, o dan y cynllun blaenorol, bod Llywodraeth Cymru wedi cytuno y byddai hyd at £200 miliwn o gyfalaf trafodion ariannol ar gael i gefnogi hynny, a gallaf gadarnhau y byddai'r cyllid hwnnw ar gael o hyd pe byddai modd cyflwyno model hyfyw sy'n cynnig gwerth am arian.

Rwy'n falch iawn o glywed y sylwadau olaf yna, Trefnydd. Dyna oedd rhan o'r cwestiwn yr oeddwn i'n mynd i'w ofyn i chi, ond byddwch yn falch o wybod nad dyna oedd y cwestiwn cyfan. Rwy'n credu mai'r pwynt pwysig i'w wneud yn y fan yma yma yw bod y syniad hwn sy'n gwneud synnwyr perffaith yn dal i fod yn syniad gwych i'r rhanbarth, i Gymru gyfan ac, yn wir, i gadwyn gyflenwi'r DU. Mae grŵp y Ceidwadwyr Cymreig yn y fan yma yn sicr yn gwneud ei farn yn hysbys i Lywodraeth newydd y DU, a gobeithiaf fod eich Llywodraeth chithau yn gwneud hynny hefyd. Yn rhan o hynny, tybed a allech chi roi syniad i mi o'r craffu y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud ar y modd y mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ymdrin â'r cais am drwydded forol ar gyfer y prosiect gwreiddiol, oherwydd y peth olaf yr ydym ni eisiau ei weld, gydag unrhyw syniadau newydd, yw oedi o'r math hwnnw yn digwydd eto?

Diolch. Rwy'n falch iawn o glywed y bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn rhoi'r pwysau y gallan nhw ar Lywodraeth y DU o ran cefnogi morlyn llanw i fae Abertawe. Ac, wrth gwrs, mae Plaid Lafur y DU wedi dweud y byddai'n rhywbeth y byddai'n awyddus i geisio ei gyflwyno pe byddai yn y sefyllfa o allu ffurfio Llywodraeth. Ond mae'n bwysig bod yr holl faterion hynny yn ymwneud â'r drwydded forol yn cael eu hystyried yn llawn. Gwn fod y Gweinidog sy'n gyfrifol am yr amgylchedd a materion gwledig yn gwbl ymwybodol o'r rheini, a byddem yn ystyried hynny ochr yn ochr ag unrhyw rwystrau posibl eraill y byddai'n rhaid i ni eu goresgyn wrth i'r prosiect, gobeithio, symud yn ei flaen.

Trefnydd, er nad oedd y cynlluniau cychwynnol yn ffafriol, ni ellir gorbwysleisio'r potensial i forlynnoedd llanw fynd i'r afael ag argyfwng yr hinsawdd a'n hargyfwng ynni sydd ar ddod. Trefnydd, un ffordd ddelfrydol o dreialu'r dechnoleg fyddai drwy brosiect ar raddfa lai ar y cyd â defnyddiwr ynni trwm. A fyddai Llywodraeth Cymru yn ystyried menter ar y cyd â gwaith dur Port Talbot er mwyn dangos potensial morlynnoedd llanw i ddatgarboneiddio ein cyflenwad ynni?

Wel, mae Llywodraeth Cymru yn llawn cynnwrf am botensial ynni'r môr yn gyffredinol ac yn uchelgeisiol yn ei gylch. A gwn fod Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi siarad yng nghynhadledd ynni'r môr ddoe ddiwethaf yn Nulyn. Ac roedd yn sôn am fwy na £71 miliwn o gyllid Ewropeaidd y cytunwyd arno ac a fydd yn darparu dros £117 miliwn o fuddsoddiad yng Nghymru, a bydd rhywfaint o hynny yn y rhanbarth yr ydych chi'n ei gynrychioli. Ceir busnes yn Abertawe, sy'n ddatblygwr ynni'r tonnau—Marine Power Systems—ac maen nhw wedi cwblhau eu treialon môr blwyddyn o hyd yn llwyddiannus, gan brofi hyn yn ystod yr haf. Mae eu prototeip graddfa chwarter WaveSub wedi cyrraedd ei gerrig milltir hanfodol, a dyfarnwyd €13 miliwn o'r cyllid hwnnw iddyn nhw i ddylunio a gweithgynhyrchu dyfais ar raddfa fwy. Felly, mae llawer iawn o waith ac ymdrech yn mynd ymlaen ym maes ynni'r môr yn gyffredinol.

13:40

Hoffwn ychwanegu at yr unfrydedd ar draws pleidiau gwleidyddol ar hyn. Bydd morlynnoedd llanw yn datblygu ar draws y byd—mae hynny'n anochel. Mae trydan dibynadwy a chyson yn rhywbeth y mae angen i ni fod yn ei ddatblygu. Yn dilyn y cynnydd tebygol i gostau adeiladu yn Hinkley Point, sy'n bodoli ochr yn ochr â'i gostau storio a gapiwyd, a bron yn sicr—er nad ydym wedi eu cael eto, byddant yn cael eu tanysgrifennu—costau ei ddymchwel, mae cost morlyn llanw yn sylweddol llai na chost Hinkley Point erbyn hyn. A wnaiff y Gweinidog ofyn i'r Llywodraeth wneud y pwynt i Lywodraeth San Steffan, os gall Hinkley Point fynd yn ei flaen, yna ni allwn weld unrhyw reswm pam na all morlyn llanw Abertawe?

Yn hollol, ac mae cynifer o resymau pam y bydd morlyn llanw Abertawe yn mynd yn ei flaen, yn enwedig oherwydd y rhan bwysig y gallai ei chwarae o ran mynd i'r afael â lefelau sgiliau yn y rhanbarth a darparu cyfleoedd am swyddi rhagorol, a rhoi Cymru ar flaen y gad technoleg fyd-eang newydd. Oherwydd, fel y dywed Mike Hedges, mae ynni morlyn llanw yn mynd i ddigwydd yn y byd, ac oni fyddai'n wych pe byddai Cymru ar y rheng flaen yn hynny o beth?

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr a chynrychiolwyr y pleidiau, ac, ar ran Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth. 

Diolch, Llywydd. Trefnydd, mi gafodd llawer o bobl eu dychryn yr wythnos diwethaf gan beth o ddewis iaith Prif Weinidog Prydain yn Nhŷ'r Cyffredin, eu dychryn y byddai fo yn gallu bod mor ddi-hid o ofnau Aelodau Seneddol ynglŷn â thrais corfforol yn eu herbyn, a'i fod o mor barod i amharchu'r cof am Aelod Seneddol gafodd ei llofruddio oherwydd ei daliadau. Ar ba bynnag ochr i'r ddadl Brexit mae rhywun, a wnewch chi ymuno â fi i gondemnio yr hyn glywon ni gan un sydd i fod i ddangos arweiniad? 

Yn sicr mi wnaf i ymuno â chi, a byddwn yn atodi fy enw i ac enw'r Llywodraeth, ac rwy'n siŵr ein plaid yn ei chyfanrwydd, o ran cael ein syfrdanu'n llwyr gan yr iaith a ddefnyddiwyd gan Brif Weinidog y DU o ran rhywbeth cwbl ddinistriol ac ofnadwy sydd wedi digwydd. Ac rydym ni'n ei ddeall fel cynrychiolwyr etholedig, ond byddai gan Jo deulu—mi oedd ganddi deulu yn amlwg—y mae hyn wedi peri loes dybryd iddo. Y cwbl y mae'r math o iaith y mae'r Prif Weinidog yn ei ddefnyddio yn ei wneud yw pentyrru mwy o loes ar ben hynny.

Fel y dywedais yn fy nghwestiwn cyntaf, mae'n rhaid i bob un ohonom ni, wrth gwrs, ar ddwy ochr y ddadl gael ein tôn yn gywir. Darllenais ddiweddariad polisi Llywodraeth Cymru ar Brexit, a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, 'Dyfodol mwy disglair i Gymru', ac yn y ddogfen honno mae'r Llywodraeth yn awgrymu cynigion, gan gynnwys allgludo ymfudwyr yn ddiannod ac olrhain ymfudwyr drwy yswiriant gwladol. Nawr, gan roi o'r neilltu am eiliad y rhagrith yn y fan yna o ddweud, ar adeg pan bleidleisiodd cynhadledd eich plaid eich hun i gynnal ac ymestyn rhyddid i symud, a ydych chi'n deall pryderon y gallai hyn, mewn gwirionedd, gynyddu synnwyr o greu amgylchedd gelyniaethus tuag at ymfudwyr ac a allai annog mewn gwirionedd y math o anoddefgarwch sydd wedi dod yn gymaint o nodwedd o'r ddadl Brexit?

Rwy'n ofni eich bod chi'n cymysgu dau beth sy'n gwbl ar wahân yn y fan yma, ac rydych chi'n cam-gynrychioli, rwy'n credu, a bod yn deg, yr hyn a ddywedasom yn 'Dyfodol mwy disglair i Gymru', ac yn enwedig yr hyn a ddywedasom am ymfudo. Felly, nid ydym ni wedi argymell allgludiadau gorfodol yn unman yn y ddogfen honno, ac nid ydym ni wedi argymell nac wedi sôn am amgylchedd gelyniaethus i ymfudwyr o unrhyw le yn y byd yn unman ychwaith, na gorfodi cardiau adnabod, sydd, mi wn, yn rhywbeth y mae Plaid Cymru hefyd wedi dweud y byddem ni'n ceisio eu gorfodi. Yr hyn yr ydym ni'n ei ddweud yw bod angen i'r DU fod yn fwy effeithiol o ran sicrhau bod dinasyddion yr UE sy'n symud yma yn gwneud hynny ar sail deddfwriaeth rhyddid i symud yr UE. Nid yw hynny'n rhoi hawl anghyfyngedig i breswylio mewn gwlad arall yn yr UE neu yn Ardal Economaidd Ewrop, gan fod rhyddid i symud yn berthnasol i bobl gyflogedig neu hunangyflogedig a'r rheini sydd â moddau annibynnol, neu fyfyrwyr. A dyna'n union sy'n digwydd mewn gwledydd eraill ar draws Ewrop ac ar draws yr AEE. Felly, i gymryd Iwerddon, er enghraifft, dim ond am dri mis y caniateir i wladolion yr AEE, ac eithrio'r DU, aros yn Iwerddon fel ceisiwr gwaith, ac ar yr adeg honno, cewch aros dim ond os ydych chi'n gyflogedig neu'n hunangyflogedig neu os ydych chi'n ariannol ddigonol neu'n fyfyriwr. Ac os edrychwn ni ar Norwy, mae'n rhaid i chi gofrestru gyda'r heddlu o fewn tri mis a gallwch aros hyd at chwe mis fel ceisiwr gwaith, ond, os na chewch chi swydd o fewn chwe mis, mae'n rhaid i chi adael Norwy, a Norwy, wrth gwrs, sydd yn y safle uchaf ar fynegai democratiaeth Uned Gwybodaeth yr Economist. Felly, mae'r hyn yr ydym ni'n ei awgrymu yn cyd-fynd yn bendant â'n rheolau presennol a'n haelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd, ac nid yw'n ddim mwy na hynny.

13:45

Rydym ni'n sôn am bwysigrwydd y defnydd o iaith; gadewch imi droi at ddefnydd o'r iaith Gymraeg. Mi oedd hi'n ymddangos bod yna gryn gonsensws wedi'i gyrraedd i roi'r enw 'Senedd' ar y sefydliad yma. Mi fyddai deddfwriaeth newydd yn adlewyrchu'r ffaith mai Welsh Parliament ydy ystyr hynny, ond mi fyddem ni'n rhoi enw cynhenid Cymreig i'r sefydliad o ddechrau'r bennod nesaf yn ei hanes. 

Mae 'Senedd' wedi dod yn fwyfwy arferol pan fydd pobl yn cyfeirio at y lle hwn. Ydyn, maen nhw'n alw'n Cynulliad Cymru, maen nhw'n ei alw'n Cynulliad Cenedlaethol, maen nhw'n ei alw'n Cynulliad, ond yn gynyddol mae'r adeilad hwn yn cael ei adnabod fel y Senedd yn y ddwy iaith, sy'n perthyn i bob un ohonom ni yng Nghymru, pa bynnag un neu rai yw ein hiaith neu ieithoedd o ddewis. A nawr gallwn gymryd y cam bach ond arwyddocaol o fabwysiadu'r enw hwnnw ar gyfer y sefydliad ei hun. Ym mis Tachwedd, dywedodd y Prif Weinidog,

Pe byddai'n rhaid i mi ddewis, byddai'n rhaid i mi ddewis y Senedd.

Nawr, cynnig eich plaid chi yw dewis y Senedd/Welsh Parliament. Pa mor analluog ydych chi'n credu yw pobl Cymru i ymdopi ac, yn wir, croesawu'r gair 'Senedd', yn yr un modd ag mai'r 'Dáil' yw'r norm yn Iwerddon, er enghraifft? A pha mor awyddus ydych chi i weld y Prif Weinidog yn cefnogi ei reddfau ei hun ar hyn, yn hytrach na chyfuno â'r Torïaid i gael gwared ar yr enw uniaith Gymraeg?

Mae'n rhaid i mi ddweud, Llywydd, fy mod i'n credu mai mater i'r Cynulliad Cenedlaethol yw hwn, yn hytrach na mater i Lywodraeth Cymru, oherwydd byddwn i gyd yn bwrw pleidlais rydd ar y mater penodol hwn, fel yr wyf i'n siŵr y bydd Aelodau eraill hefyd.

Diolch, Llywydd. Gweinidog, gwn fod Llywodraeth Cymru wedi gwneud gwaith da iawn yn y maes hwn, ond pa gamau pellach y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i gefnogi cyn-filwyr yng Nghymru?

Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus iawn i gefnogi cyn-filwyr, ac un o'r ffyrdd y gallwn ni wneud hynny yn y ffordd fwyaf effeithiol, rwy'n credu, yw sicrhau bod y concordat sydd gennym ni gydag awdurdodau lleol yn cael ei weithredu'n effeithiol ac i sicrhau bod ein cefnogaeth i gyn-filwyr pan fyddan nhw'n ceisio cael gafael ar wasanaethau'r GIG yn eu galluogi i wneud hynny mewn modd sy'n rhoi'r flaenoriaeth wirioneddol honno iddyn nhw pan eu bod yn ceisio cael gafael ar wasanaethau o ganlyniad i'r gwasanaeth y maen nhw wedi ei roi i'n gwlad.

Gweinidog, fel yr ydym ni wedi gweld heddiw yn y newyddion, mae'n wych gweld Prifysgol Caerdydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn cymryd rhan yn y treial rhyngwladol hwn i gynorthwyo cyn-filwyr sydd ag anhwylder straen wedi trawma. Ar hyn o bryd, mae ein GIG yng Nghymru yn cael grant sylweddol o £150,000 gan Help for Heroes i ariannu tri therapydd seicolegol llawn amser ledled Cymru, sydd wedi bod yn helpu i leihau'r amseroedd aros i gyn-filwyr gael triniaeth. Yn anffodus, mae'r cyllid hwn i fod i ddod i ben ym mis Hydref 2020 a cheir pryderon ynglŷn â'r effaith y bydd hyn yn ei chael, yn enwedig gan fod targedau ar gyfer asesiadau a thriniaeth yn cael eu methu ar hyn o bryd. A wnaiff Llywodraeth Cymru ymrwymo felly i gynyddu'r cyllid ar gyfer cyn-filwyr yn y GIG o fis Hydref 2020 i sicrhau bod y gwasanaethau ar gyfer cyn-filwyr yn cael eu cynnal yn y blynyddoedd i ddod?

Wel, yn amlwg, mae'r Gweinidog iechyd yma i glywed y pryderon penodol yr ydych chi wedi eu codi, ac nid oes gen i unrhyw amheuaeth y bydd gwasanaethau i gyn-filwyr ar draws y Llywodraeth yn rhan o'r trafodaethau wrth i ni barhau i archwilio ein cyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.

Fel y mae'r Gweinidog yn gwybod, rwy'n siŵr, mae Llywodraeth y DU wedi creu swyddfa ar gyfer materion cyn-filwyr y tu mewn i Swyddfa Gabinet y DU yn ddiweddar, gan ddod ag arbenigwyr i mewn o Swyddfa'r Cabinet a'r Weinyddiaeth Amddiffyn i sicrhau bod dull cyfannol o ymdrin a materion cyn-filwyr. Nawr, bydd y swyddfa newydd hon yn gweithio i gydgysylltu a llywio polisi Llywodraeth y DU ar les, iechyd meddwl a chorfforol, addysg a chyflogaeth cyn-filwyr. Ers blynyddoedd lawer, mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi bod yn galw am gyflwyno comisiynydd lluoedd arfog a chyn-filwyr, a fyddai'n atebol i'r Cynulliad hwn ac a fyddai'n hyrwyddo anghenion cymuned y lluoedd arfog ac yn sicrhau bod pwerau datganoledig yn cael eu defnyddio'n llawn i gynnig y cymorth angenrheidiol. Gweinidog, o ystyried y gwaith sy'n cael ei wneud ar lefel y DU, a wnaiff Llywodraeth Cymru ailystyried nawr cyflwyno comisiynydd lluoedd arfog a chyn-filwyr fel bod cymorth i'n personél ymroddgar yn y lluoedd arfog yn cael ei roi ar sylfaen briodol i sicrhau eu bod nhw wir yn cael y gwasanaethau y maen nhw'n eu haeddu?

Wel, gwn fod Llywodraeth y DU wedi sefydlu, fel y dywedwch, y swyddfa newydd dros faterion cyn-filwyr, ac fel Llywodraeth Cymru rydym ni'n awyddus iawn i ymgysylltu â nhw. Rwy'n credu y bu rhywfaint o ymgysylltu ar lefel swyddogol eisoes i weld sut y gallwn ni weithio orau gyda'n gilydd i gynorthwyo cyn-filwyr, oherwydd, yn amlwg, bydd rhai agweddau wedi eu datganoli a rhai heb eu datganoli. Pryd y gallwn gydweithio'n agos â'r Weinyddiaeth Amddiffyn a phartneriaid eraill i gyflawni dros gymuned y lluoedd arfog yma yng Nghymru, byddwn yn sicr yn ceisio gwneud hynny.

13:50

Croesawaf y Gweinidog Cyllid i'w sesiwn yn ateb cwestiynau i'r Prif Weinidog yr wythnos hon, a hyderaf bod y Prif Weinidog wedi bod mor llwyddiannus yn hyrwyddo Cymru oddi ar y cae ag y mae'r tîm wedi bod hyd yn hyn ar y cae yn Japan. Mae'r Llywodraeth wedi neilltuo agenda heddiw i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am ei pharatoadau pe byddem ni'n gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb cyffredinol, ac mae'n iawn y dylai Lywodraeth gyfrifol wneud y paratoadau hynny, ac y dylai eu cyhoeddi i'w gwneud yn destun craffu. Felly, gobeithiwn y bydd honno'n ymdrech ddidwyll y prynhawn yma. Hoffwn hefyd anfon ymddiheuriadau gan Caroline Jones o'n grŵp ni nad yw hi'n gallu cymryd y sesiynau ar iechyd a llywodraeth leol gan ei bod hi'n mynd gydag aelod o'i theulu i'r ysbyty.

O gofio'r angen am y craffu cyfrifol hwnnw, a all y Gweinidog gadarnhau i mi, pan ddywedodd Jeremy Miles ar 17 Medi y byddai'r Llywodraeth yn cyhoeddi'r wybodaeth ddiweddaraf am effaith economaidd Brexit yn fuan, a yw hynny'n gyfystyr â'r ddogfen hon, 'Dyfodol mwy disglair i Gymru: Y rhesymau dros aros yn yr UE'? Onid pwyslais y ddogfen hon, yn hytrach, yw ei bod yn ddogfen ymgyrchu? Ac o ystyried ei theitl, oni fyddai'n fwy priodol i'r Llywodraeth ei chyhoeddi i geisio dylanwadu ar y refferendwm cyn iddo gael ei gynnal, yn hytrach na nawr, dair blynedd a hanner ar ôl iddi golli?

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn eglur o'r cychwyn bod aros yn yr Undeb Ewropeaidd er lles gorau Cymru. Gwnaed y ddadl honno gennym cyn y refferendwm yn 2016 ac nid oes dim yr ydym ni wedi ei weld ers y dyddiad hwnnw wedi gallu ein hargyhoeddi ein bod ni wedi bod yn anghywir yn hynny o beth. O ran y ddogfen, ydy, mae honno'n cynnwys y dadansoddiad economaidd, ac nid ein dadansoddiad ni yn unig, wrth gwrs; rydym ni wedi cael cymorth y prif economegydd i ddatblygu hwnnw. Ond nid ni yw'r unig bobl sy'n edrych ar hyn, wrth gwrs. Os nad ydych chi'n hoffi'r hyn a ddarllenwch gan Lywodraeth Cymru, gallwch bob amser edrych ar y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, er enghraifft, sydd wedi cynhyrchu rhagolygon ar gyfer ei datganiad yn y gwanwyn a ddangosodd y byddai twf yn debygol o barhau i fod yn siomedig yn ystod y pum mlynedd nesaf, a disgwylir i CMC y pen gynyddu ar gyfradd flynyddol gyfartalog o ddim ond 1 y cant, o'i gymharu â chyfartaledd hirdymor o 2.4 y cant. Mae hynny, wrth gwrs, yn rhagdybio ein bod ni'n gadael yr UE gyda chytundeb. Felly, rwy'n credu bod y darlun yn edrych hyd yn oed yn fwy llwm pe byddem ni mewn sefyllfa lle mae gennym ni Brexit 'heb gytundeb'.

Addawodd y Gweinidog ddiweddariad i ni ar yr asesiad economaidd hwnnw, ond yr hyn yr ydym ni wedi ei weld yw ailgyhoeddi adroddiadau y mae'r Llywodraeth wedi cyfeirio atyn nhw o'r blaen. Mae gennym ni yn y fan yma amcangyfrifon y Llywodraeth ei hun—yn y crynodeb gweithredol mae hyn—sy'n awgrymu, gyda Brexit 'heb gytundeb', y bydd yr economi tua 9 y cant yn llai ymhen 15 mlynedd nag y byddai wedi bod fel arall. Daw hynny, rwy'n credu o 26 Chwefror o dan adroddiad Trysorlys Philip Hammond a gyhoeddwyd bryd hynny. Mae'n dweud mewn gwirionedd y byddai economi'r DU 6.3 y cant i 9 y cant yn llai, ac yna mae'n ychwanegu at yr adran y mae eich Llywodraeth chi yn ei dyfynnu 'gan dybio nad oes unrhyw gamau'n cael eu cymryd'. Onid yw honno'n dybiaeth hynod o annhebygol? Onid yw Llywodraethau, yn union fel y sector preifat, yn mynd i wneud newidiadau, cymryd camau mewn ymateb i'r hyn sy'n digwydd? Rydych chi'n cyfeirio yn ôl at y rhagolwg hwnnw, ond nid ydych chi'n cyfeirio yn yr un modd at ragolygon Banc Lloegr, sydd wedi cael eu diwygio am i lawr ddwywaith ers i'r rhagolwg hwnnw gael ei gyhoeddi. Ac onid yw'n wir hefyd bod Banc Lloegr—? Rydych chi'n dweud yn eich adroddiad ar y risg strategol o ansefydlogrwydd economaidd bod

Sterling wedi gostwng yn sylweddol ers y refferendwm a chan fod y posibilrwydd o Brexit heb gytundeb wedi dwysáu, gallai hyn drosi dros amser i chwyddiant cynyddol ar rai cynhyrchion.

Ond nid yw wedi gwneud hynny; cyrhaeddodd chwyddiant uchafbwynt o 3.1 y cant ar ôl y refferendwm, mae'n 1.7 y cant erbyn hyn. Pan fo Banc Lloegr wedi haneru ei amcangyfrif a rhagweld y gallai fod ergyd o 5 y cant os byddwn yn gadael heb unrhyw gytundeb cyffredinol, a wnaiff y Gweinidog gadarnhau bod hynny ar sail y dybiaeth bod Banc Lloegr ei hun yn ymateb i'r amgylchiadau hynny trwy godi cyfraddau llog o 0.75 y cant i 4.5 y cant? Onid yw hynny'n gwbl annhebygol a ddim yn sail synhwyrol y dylai Llywodraeth Cymru fod yn cynllunio arni?

Efallai, os edrychwn ni yn ôl ar yr hyn sydd eisoes wedi digwydd, y gallai roi syniad i ni o beth arall sydd i ddod. Mae economi'r DU wedi tanberfformio o'i chymharu ag economïau mawr eraill ers cyhoeddi'r penderfyniad i alw refferendwm yr UE yn 2015. Ers y refferendwm ei hun, amcangyfrifir bod CMC rhwng un a dau bwynt canran yn is nag y byddai wedi bod fel arall, ac at ddibenion eglurhaol, mae hynny rhwng £300 a £600 y person y flwyddyn yng Nghymru. Mae'r Aelod yn cyfeirio at Fanc Lloegr, ac maen nhw wedi darparu rhagolwg wedi'i ddiweddaru ar gyfer yr economi ym mis Awst, sy'n canolbwyntio mwy ar y rhagolwg tymor agosach. Dros y 12 mis nesaf, mae'r banc yn disgwyl twf cymedrol yn unig o ran CMC, felly dim ond 1.5 y cant, a bydd busnesau—Banc Lloegr sy'n ei ddadlau, nid fi—yn amharod i fuddsoddi yn erbyn cefndir o bryderon sy'n gysylltiedig â Brexit, ac, wrth gwrs, ochr yn ochr â hynny, nid yw'r banc yn disgwyl i allforion net gyfrannu'n sylweddol at dwf. Felly, rydym ni bob amser yn awyddus i glywed yr hyn sydd gan Fanc Lloegr i'w ddweud, ond yn anffodus i Mark Reckless, ni fydd dim o hynny yn newyddion da iddo ef.

13:55
Cwpan Rygbi'r Byd

3. Sut y bydd y Prif Weinidog yn defnyddio Cwpan Rygbi'r byd i hyrwyddo allforion o Gymru a mewnfuddsoddi i Gymru? OAQ54442

Prif nod ein gweithgarwch o amgylch Cwpan Rygbi'r Byd yw cryfhau'r berthynas fusnes rhwng Cymru a Japan, codi proffil Cymru a sicrhau contractau i gwmnïau o Gymru. Bydd y Prif Weinidog yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y daith fasnach i Japan drwy ddatganiad ar ôl iddo ddychwelyd.

Mae hynny'n newyddion da iawn. Rwy'n siŵr y gwnaiff y Gweinidog ymuno â mi i ddathlu'r canlyniad gwych dros y penwythnos gyda Chymru yn erbyn y Wallabies—rydym ni'n mynd i fformiwla fuddugol yn y fan yma nawr; hir y parhao—ond hefyd i ddathlu buddugoliaeth wych Japan hefyd. Mae'r ddwy gêm hynny wedi tynnu sylw at gwpan y byd, ond, yn wir, mae dull tîm Cymru gwirioneddol yn digwydd yn y fan yma. Allan yn Japan ar hyn o bryd, yn sgil Cwpan Rygbi'r Byd, mae gennym ni Masnach a Buddsoddi Cymru yn gweithio'n galed, GlobalWelsh yn gweithio'n galed i ddatblygu cysylltiadau â'r Cymry alltud, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, yr Urdd a llawer o sefydliadau eraill yn rhan o'r genhadaeth fasnach a diwylliannol gyda'r Prif Weinidog. Mae hwn yn ddull tîm Cymru gwirioneddol. A fyddai hi'n cytuno â mi bod hanes llwyddiant cysylltiadau economaidd, cymdeithasol a diwylliannol rhwng Cymru a Japan wedi cael ei adeiladu ar ddatblygu'r cysylltiadau hirdymor hynny o ymddiriedaeth ac ewyllys da a'i fod yn gwbl briodol ar sail Cwpan Rygbi'r Byd y dylai'r Prif Weinidog, sefydliadau ym myd diwydiant, sefydliadau o'r sector diwylliannol, i gyd fod allan yn manteisio ar hyn ac yn adeiladu ar y cysylltiadau hynny nawr ac am flynyddoedd lawer i ddod?

Diolch yn fawr iawn. Yn gyntaf oll, byddaf yn sicr yn ymuno â chi i longyfarch y tîm dros y penwythnos. Ond mae'r pwyntiau yr ydych chi'n eu gwneud am bwysigrwydd cysylltiadau hirdymor gyda gwledydd o ran masnach, diwylliant a chyfnewidiadau a chyfleoedd addysg ac yn y blaen mor bwysig. Mae gennym ni berthynas hirsefydlog a ffrwythlon iawn gyda Japan yr ydym ni eisiau iddi barhau ymhell i'r dyfodol. Mae Japan yn farchnad strategol i ni yma yng Nghymru a nod ein swyddfa yn Tokyo yw creu budd economaidd i Gymru, yn bennaf drwy fasnach a buddsoddiad, ond hefyd trwy fwy o gysylltiadau twristiaeth, addysg, diwylliant a llywodraeth. Gwn fod gan y Prif Weinidog agenda hynod brysur tra ei fod allan yn Japan yn hyrwyddo Cymru ac yn creu'r cysylltiadau busnes hynny ochr yn ochr â'r genhadaeth fasnach sydd gennym ni ar hyn o bryd. Byddwch yn falch o wybod mai ddoe ddiwethaf bu'n cyfarfod â Sony, sy'n amlwg yn gwmni pwysig o ran eich buddion etholaethol chithau hefyd. Felly, mae'n rhaglen lawn iawn, ac yn gyfle gwych, rwy'n credu, i werthu Cymru i Japan ond hefyd i'r byd ehangach.

Rwyf innau hefyd yn ymuno i longyfarch Cymru ar fuddugoliaeth wych y penwythnos hwn. Mae Cwpan Rygbi'r Byd, wrth gwrs, yn ddigwyddiad chwaraeon gwych, ond mae'n gyfle hefyd i werthu Cymru i'r byd. Nid oes yr un owns o gig oen Cymreig yn cael ei fwyta yn yr Unol Daleithiau ar hyn o bryd gan mai Seland Newydd sy'n dominyddu'r farchnad, a thybiwn mai'r un yw'r sefyllfa yn Asia hefyd. Gwerthir 92 y cant o'n cig oen sy'n cael ei allforio i'r UE. Byddwn yn gofyn i'r Gweinidog: beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo allforion cig oen Cymru i wledydd y tu allan i'r UE, fel Japan, cyn Brexit, wrth gwrs?

Wel, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cymorth i'r diwydiant bwyd a diod i gynnal cenhadaeth fasnach cyn y daith genhadaeth fasnach bresennol i arloesi o ran y gwaith yr ydym ni'n ei wneud ar hyn o bryd yn Japan. Ond rwy'n credu fy mod i'n iawn wrth ddweud bod y farchnad ŵyn newydd agor i ni nawr yn Japan, ac mae Hybu Cig Cymru ochr yn ochr â'r genhadaeth fasnach honno ar hyn o bryd, yn ceisio hyrwyddo ein cynnyrch rhagorol.

14:00
Y Cynllun Ynni Cartref Arbed am Byth

4. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o werth am arian y cynllun ynni cartref Arbed am Byth? OAQ54425

Yn rhan o broses dendro drylwyr, cynhaliodd Llywodraeth Cymru ddadansoddiad trwyadl o'r agweddau masnachol ar y cynnig. Mae'r contract yn cynnwys costau penodol ar gyfer pob mesur, a gafodd eu meincnodi nid yn unig yn erbyn cynigwyr eraill ar adeg y tendr, ond hefyd yn erbyn cynlluniau tlodi tanwydd tebyg.

Y tro diwethaf i mi holi'r Prif Weinidog am gynllun ynni cartref Arbed am Byth, rhoddais wybod iddo bod contractwyr yn cael eu hannog i godi £245 am fesurau goleuo ysgafn, lluosog, am newid bylbiau golau yn y bôn, fel y dywedais y tro diwethaf, a £124 am fesurau dŵr, sy'n golygu, yn ei hanfod, sgriwio awyrydd i mewn i dap.

Cefais lythyr gan y Prif Weinidog yn honni bod fy ffigurau yn anghywir gan nad oedden nhw'n ymwneud ag eitem unigol, ond ni wnes i honni hynny. O ddarllen y llythyr ymhellach, mae'n cadarnhau'r hyn a ddywedais mewn gwirionedd, oherwydd siaradodd y Prif Weinidog yn y fan yma am fesurau effeithlonrwydd. Felly, mae'n ymddangos bod ein Prif Weinidog yn credu ei bod hi'n briodol i £245 gael ei dalu i gontractwyr dim ond i newid ychydig o fylbiau golau. Wel, nid wy'r cyhoedd yn cytuno. Cefais gyfarfod â Swyddfa Archwilio Cymru ac maen nhw bellach yn ymchwilio, ac mae hynny'n rhywbeth na lwyddodd y Llywodraeth i'w wneud gan mai'r cyfan a wnaethon nhw oedd gofyn i Arbed eu hunain. Felly, nawr, gan siarad ar ran y Prif Weinidog, a ydych chi'n derbyn bod y trethdalwr—mae'n chwerthinllyd, yn hollol chwerthinllyd—bod y trethdalwr yn cael ei filio £245 i newid bylbiau golau a £124 i newid awyryddion? A ydych chi'n cytuno bod hynny'n wastraff gwarthus o arian? Ac ydy, fel y dywedodd fy nghyd-Aelod draw yn y fan yna, mae'n wirion.

Wel, mae Neil McEvoy yn iawn bod Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi cynnal yn ddiweddar archwiliad gwerth am arian o ymdrechion Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thlodi tanwydd ers 2010 a'r strategaeth sydd wedi bodoli ochr yn ochr â hynny, ac edrychwn ymlaen at gael yr adroddiad hwnnw. Ond cyn belled ag y mae Arbed 3 yn y cwestiwn, roedd y contract yn destun proses gaffael gadarn; gwnaed diwydrwydd dyladwy wrth ddyfarnu'r contract; ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn cofio bod y contract yn cynnwys cymal cap elw a chanran o daliadau ar sail perfformiad, ac mae hynny'n diogelu buddsoddiad Llywodraeth Cymru i sicrhau ansawdd a gwerth am arian.

Mae'r Aelod yn gwneud pwynt pwysig: mae'n bwysig yn yr holl gynlluniau hyn bod effeithlonrwydd yn cael ei sicrhau a bod gwerth am arian yn cael ei sicrhau. Wrth gwrs, nid dim ond trethdalwyr Cymru sy'n ariannu cynllun arbed; daw cyfran sylweddol o'r arian hwnnw o gronfa datblygu rhanbarthol Ewrop. Felly, rwy'n meddwl tybed pa waith sy'n cael ei wneud, cyn Brexit, i sicrhau bod cynlluniau effeithlonrwydd ynni sy'n ceisio gwneud cartrefi yng Nghymru yn fwy effeithlon yn y dyfodol ac yn helpu i sicrhau llwyddiant ar gyfer argyfwng y newid yn yr hinsawdd, pa waith sy'n cael ei wneud i sicrhau bod cynlluniau fel hyn yn parhau a'n bod ni'n parhau i fod â chartrefi cynaliadwy yn y dyfodol y tu hwnt i Brexit.

Wel, wrth gwrs, rydym ni'n bryderus iawn a gwn fod y pryder yn cael ei rannu ar draws y Siambr o ran dyfodol cyllid yr UE yng Nghymru. Nid ydym wedi cael unrhyw sicrwydd gwirioneddol gan Lywodraeth y DU o ran cyllid yn y dyfodol ar gyfer y cynllun hwn nac unrhyw gynllun arall.

Pan edrychwn ni, er enghraifft, ar y gronfa ffyniant gyffredin, addawyd ymgynghoriad flwyddyn, 18 mis yn ôl, a does dim byd o gwbl wedi digwydd. Felly rydym ni i gyd, yn gwbl briodol, yn pryderu'n fawr am yr hyn yr ydym ni'n gallu ei wneud yn y meysydd hyn sydd wedi elwa'n fawr ar gyllid yr UE. A gadewch i ni beidio ag anghofio, yr ardaloedd sydd wedi elwa ar gyllid yr UE yn aml fu'r ardaloedd tlotaf yng Nghymru, ardaloedd lle mae tlodi tanwydd ar ei fwyaf difrifol. Felly, rydym ni'n pryderu'n fawr am y dyfodol. Rydym ni'n parhau i lobïo Llywodraeth y DU, fel y byddech chi'n disgwyl i ni ei wneud.

Mae etholwyr yn ystâd Parc Lansbury yng Nghaerffili wedi cysylltu â mi, sy'n gwerthfawrogi cynllun Arbed ac sy'n aros i'r gwaith gael ei wneud. Ysgrifennais at Lywodraeth Cymru ar 14 Mai ynghylch yr oediadau hynny, ac roedd trafodaethau wedi bod yn cael eu cynnal rhwng Llywodraeth Cymru a thîm cyflawni Arbed ar ôl cyflwyno cais Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i gwblhau'r gwaith hwnnw.

Ac yn ei hymateb, dyddiedig 4 Mehefin, dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig y byddai Llywodraeth Cymru yn cyfarfod â'r awdurdod lleol ac Arbed i sicrhau bod y gwaith yn gyfredol. Rwy'n dal i gael ymholiadau gan etholwyr, fel y dywedaf, sy'n gwerthfawrogi'r cynllun. Ar y pryd, dywedodd cyngor Caerffili, er gwaethaf yr ymgymeriad hwn, nad oedd wedi clywed dim byd pellach gan Lywodraeth Cymru. Felly, a all hi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am hynny a pha un a gafodd y gwaith hwn ei wneud, a pha un a oes cynlluniau i gyfarfod â Chaerffili ac i gwblhau'r gwaith?

14:05

Gallaf gadarnhau y cynhaliwyd cyfarfodydd dros yr haf rhwng uwch reolwyr ar draws yr holl bartïon dan sylw i symud ymlaen a goresgyn rhai o'r heriau a nodwyd o ran cyflwyno'r cynllun ym Mharc Lansbury. Rwy'n clywed bod cynnydd da yn cael ei wneud, ond bod pethau wedi cymryd mwy o amser na'r disgwyl. Ond, bydd cyfarfod yn cael ei gynnal ar 16 Hydref, a fydd yn ceisio datrys y problemau hynny sy'n weddill, a byddaf yn sicrhau eich bod chi'n cael yr wybodaeth ddiweddaraf ar ôl hynny.

A gaf i ofyn, un o'r cyfleoedd mawr, wrth gwrs, sy'n bodoli o ran Brexit yw cyfle i ddatrys—

Fy mai i. Mae'n ddrwg gen i, Darren, mae angen i mi ofyn y cwestiwn cychwynnol yn gyntaf. Cwestiwn 5, Michelle Brown. [Chwerthin.] Chi sydd ymlaen nesaf, Darren.

Brexit Heb Gytundeb

5. Pa asesiad sydd wedi'i wneud o sut y byddai Brexit heb gytundeb yn effeithio ar economi Cymru? OAQ54446

Mae amcangyfrif Llywodraeth y DU ei hun yn awgrymu y byddai economi'r DU tua 9 y cant yn llai ymhen 15 mlynedd nag y byddai wedi bod fel arall yn sgil Brexit 'heb gytundeb'. Mae Banc Lloegr wedi amcangyfrif bod pob person yng Nghymru eisoes £1,000 yn waeth eu byd nag y bydden nhw wedi bod o ganlyniad i ansicrwydd Brexit, a bydd safonau byw hefyd yn dioddef wrth i brisiau gartref a'r gost o deithio dramor gynyddu, o ganlyniad i ddibrisio a thariffau.

Diolch am yr ateb yna, Trefnydd. Mae'r A55 yn ffordd brysur, yn bennaf oherwydd traffig masnach, gan gynnwys y traffig hwnnw sy'n mynd i Gaergybi ac oddi yno. Os ydym ni'n credu prosiect ofn y Llywodraeth, oni ddylai'r penderfyniad i adeiladu ffordd newydd ar hyd y llwybr coch, sy'n mynd i fod ar gyfer traffig masnach yn bennaf, gael ei rewi a'i ail-archwilio yn ddiweddarach, yn enwedig gan fod y cynlluniau presennol yn cynnwys dinistrio ardal o goetir hynafol prin a safleoedd gwarchodedig eraill a'ch bod chi newydd ddatgan argyfwng hinsawdd? Os oes gennych chi unrhyw ffydd yn eich pryderon tybiedig am Brexit, mae'n rhaid eich bod chi'n amheus o ba un a fydd angen y llwybr coch.

Wel, rydym ni'n pryderu'n fawr o ran trafnidiaeth yn dilyn Brexit, ond bydd llawer o'r pryderon hynny'n ymddangos ar y diwrnod cyntaf, neu os na fyddant, yn fuan ar ôl hynny. Felly, nid wyf i'n credu bod dod â'r ddau fater at ei gilydd o reidrwydd yn cyfateb. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n galed iawn i geisio osgoi cymaint o darfu â phosibl ar brosesau cludo nwyddau ac ar drafnidiaeth arall yn dilyn Brexit 'heb gytundeb' posibl.

Gwn fod llawer o dristwch a gwae ar feinciau Llafur ynghylch Brexit, ond un o'r cyfleoedd a ddaw yn sgil Brexit, wrth gwrs, yw cyfle i fynd i'r afael â'r prosesau caffael sydd gennym ni yng Nghymru a'u gwella er mwyn rhoi cyfle gwell i fusnesau Cymru fanteisio ar gaffael sector cyhoeddus. Pa gamau sydd gan Lywodraeth Cymru ar y gweill i ddiwygio eich prosesau caffael fel y gall ein busnesau yma ffynnu ar ôl i ni adael yr UE?

Wel, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gwneud llawer iawn o waith yn y maes hwn, ac rwy'n edrych ymlaen at allu rhoi datganiad llawnach i'm cyd-Aelodau maes o law. Ond, yr hyn y gwnaf i ei ddweud yw ein bod ni'n edrych yn ofalus iawn ar waith yr economi sylfaenol i archwilio sut y gallwn ni sicrhau bod ein buddsoddiad yn sicr yn mynd yn ôl i'r economi leol ac yn cynorthwyo'r diwydiannau angori hynny a'r busnesau angori sydd yno ac nad yw'n gadael ein heconomïau. Rydym ni'n gwneud llawer iawn o waith i sicrhau ein bod ni'n cael y budd mwyaf posibl mewn ffyrdd eraill o'n gwaith caffael hefyd, felly rydym ni'n edrych ar ddatganiad yr argyfwng hinsawdd a beth arall y gallwn ni fod yn ei wneud i sicrhau bod ein buddsoddiad yn arwain at ddatgarboneiddio drwyddi draw hefyd. Felly, edrychaf ymlaen at ddarparu rhagor o wybodaeth am gaffael, ond byddwn i'n dweud, o ran manteision Brexit, eu bod nhw'n anodd iawn dod o hyd iddynt, yn enwedig pan fyddwn ni'n eu cymharu â'r ffigurau a amlinellais yn gynharach yn ystod cwestiynau y prynhawn yma, yn ystyried yr effaith gyffredinol y gallai Brexit ei chael ar deuluoedd ac ar ein gwlad.

Amseroedd Aros Orthodontig

6. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fonitro'r amseroedd aros ar gyfer mynediad at driniaeth orthodontig yng Nghymru? OAQ54428

Cymru yw'r wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno atgyfeiriadau deintyddol electronig ar draws pob arbenigedd deintyddol, gan gynnwys orthodonteg. Mae hyn yn golygu y bydd byrddau iechyd yn ymwybodol o ffynhonnell, cymhlethdod a nifer yr atgyfeiriadau. Bydd y system e-atgyfeirio yn gwella ansawdd yr atgyfeiriadau ac yn lleihau'r amseroedd aros i gleifion gael triniaeth.

Diolch, Trefnydd. Croesawaf eich sylwadau yn y fan yna am y system e-atgyfeiriadau. Amcangyfrifir bod tua 25,000 o bobl yng Nghymru yn aros am driniaeth orthodontig ar hyn o bryd, ac mae'r rhestrau yn y rhan fwyaf o'r wlad yn ddwy neu dair blynedd o hyd. Caiff y darlun hwn ei gymhlethu gan y ffaith nad oes gan rai byrddau iechyd unrhyw ddarpariaeth uniongyrchol ac achosion o atgyfeirio lluosog, fel y darganfu'r pwyllgor iechyd yn ei ymchwiliad diweddar. Fel y dywedwch, cyflwynwyd y system atgyfeirio electronig hon ym mis Mai, y byddwn yn gobeithio fyddai'n rhoi darlun mwy cywir i ni, sef, wrth gwrs, y cam cyntaf tuag at fynd i'r afael â'r rhestrau aros a gwella'r gwasanaeth. Sut mae'r system hon yn ymwreiddio a phryd mae Llywodraeth Cymru yn credu y bydd hi'n bosibl pennu targedau ar gyfer amseroedd aros er mwyn gwella'r gwasanaeth?

14:10

Mae'r system atgyfeirio electronig yn gwneud yn dda. Mae llawer iawn wedi manteisio arni ac mae 98.6 y cant o ddeintyddion eisoes yn defnyddio'r system honno, ac maen nhw'n dweud ei bod yn hawdd ei defnyddio, ei bod yn gweithio'n dda a'i bod yn gwneud bywyd yn haws iddyn nhw, ond hefyd, yn bwysig, i'w cleifion ac i feddygon ymgynghorol ysbytai. Am y tro cyntaf, mae cleifion eu hunain yn gallu olrhain eu hatgyfeiriadau ar-lein, ac felly maen nhw'n gallu teimlo eu bod yn cael eu cynnwys yn fwy yn eu gofal ac yn cael eu hysbysu'n well amdano. Er mai dim ond dyddiau cynnar yw'r rhain, mae dros 20,000 o atgyfeiriadau wedi mynd drwy'r system eisoes, ac mae tua thraean o'r rheini wedi bod ar gyfer orthodonteg.

Nid oes targedau amseroedd aros ar gyfer gwasanaethau gofal sylfaenol, gan gynnwys orthodonteg, fodd bynnag, o fewn 12 mis i gychwyn cyflwyno'r system, bydd gan fyrddau iechyd fanylion ffynhonnell, cymhlethdod a nifer yr holl atgyfeiriadau at bob arbenigedd deintyddol, a bydd hynny wedyn yn helpu i gynorthwyo byrddau iechyd i wneud penderfyniadau cynllunio sy'n seiliedig ar dystiolaeth am y ddarpariaeth o wasanaethau. Bydd y broses fwy cadarn o atgyfeirio  hefyd yn ei gwneud yn haws nodi darpariaeth gwasanaethau lleol ac anghenion hyfforddi ar lefel practis hefyd, oherwydd, fel y dywedodd Vikki Howells, nodwyd rhai achosion o atgyfeiriadau lluosog a bydd y system yn gallu sicrhau nad yw'r mathau hynny o bethau yn parhau i ddigwydd.

Wrth gwrs, mae'r system e-atgyfeirio yn gam cadarnhaol iawn ymlaen o ran lleihau amseroedd aros yng nghwm Cynon ac ar draws weddill Cymru. Fodd bynnag, un arall o'r problemau sydd gennym ni yw prinder hollbwysig o orthodeintyddion. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i recriwtio mwy o orthodeintyddion?

Mae Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o'r problemau o ran ein gallu i recriwtio orthodeintyddion, ac mae'n sicr yn fater y mae'r Gweinidog iechyd yn effro iawn iddo, a gwn y bydd ganddo fwy i'w ddweud am hyn yfory, pan fydd yn ymateb i ddadl ar y pwnc hwn.

Ynni Gwynt a Solar yng Nghanolbarth Cymru

7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y potensial ar gyfer ynni gwynt a solar yng nghanolbarth Cymru? OAQ54413

Rydym ni'n diwallu hanner ein hanghenion pŵer o ynni adnewyddadwy, ac mae'n rhaid i ni ganfod rhagor o adnoddau i ddiwallu'r angen cynyddol am wres a chludiant carbon isel. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda sefydliadau sector cyhoeddus eraill ym Mhowys i ddatblygu strategaeth carbon-bositif ar gyfer y sir sy'n gwneud y defnydd mwyaf posibl o gynhyrchu ynni glân.

Diolch am eich ateb, Gweinidog. Rwyf i'n rhywun sydd hefyd yn credu bod angen i ni fuddsoddi mewn technolegau adnewyddadwy, ac mae angen hefyd i ni gael amrywiaeth o atebion ynni adnewyddadwy.

Roeddwn i'n siomedig bod yr ymgynghoriad ar y fframwaith datblygu cenedlaethol wedi cael ei gyhoeddi yn ystod toriad y Cynulliad. Rwy'n credu bod angen i ni fel ACau graffu'n fanwl ar y cynigion hynny. Byddwch yn gwerthfawrogi fy mod i a llawer o'm hetholwyr yn arbennig o bryderus am y ffaith bod newid i'r dirwedd wedi cael ei dderbyn a fyddai'n berthnasol i rannau helaeth o Bowys sydd wedi eu cynnwys yn y cynigion. Byddwch yn gwerthfawrogi bod gennym ni dirweddau hardd yn y canolbarth ac mae miloedd o swyddi a busnesau yn dibynnu ar y dirwedd honno o olygfeydd godidog yn y canolbarth. Felly, rwy'n pryderu bod derbyniad o newid i'r dirwedd a nodir yn y cynigion drafft. Rwyf i hefyd yn pryderu nad oes sôn am sut y byddai'r pŵer a fyddai'n cael ei gynhyrchu yn cael ei gysylltu â'r grid cenedlaethol. Nid yw hynny'n cael ei grybwyll yn y cynigion ar gyfer yr FfDC chwaith. Ond a gaf i ofyn i chi, Gweinidog, pa mor ddiffuant yw'r ymgynghoriad hwn o ran gwrando ar etholwyr yn y canolbarth? A pha ddadansoddiad ydych chi wedi ei wneud o ran yr effaith ar economi dwristiaeth y canolbarth pe byddai'r cynigion, fel y maen nhw yn eich ymgynghoriad, yn mynd rhagddynt?

Mae hwn yn ymgynghoriad diffuant, a gwn fod y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol yn awyddus iawn i glywed pob safbwynt a chan bawb sydd â diddordeb yn hyn. Rydym ni wedi bod yn rhagweithiol o ran cynnal digwyddiadau ymgynghori, felly roedd un yn y Drenewydd ar 17 Medi, ac roedd rhwng 30 a 40 o bobl yn bresennol yno. Gwn fod sesiwn friffio wedi ei chynnal ar y FfDC ar 19 Medi yr oeddech chi ac Aelodau Cynulliad eraill wedi gallu bod yn bresennol ynddi er mwyn cael sesiwn friffio ffeithiol ynglŷn â'r goblygiadau i wahanol ardaloedd gan swyddogion cynllunio. Byddwch yn cyfarfod â Julie James i drafod y FfDC ar 16 Hydref, ac mae hi wedi nodi ei bod hi'n hapus iawn i gyfarfod â'r holl Aelodau sydd â diddordeb arbennig a sylwadau penodol y maen nhw eisiau eu gwneud ar ran eu hetholwyr.

O safbwynt y cysylltiad â'r grid, mae angen grid cadarn, addas i'w ddiben arnom ni sy'n galluogi i'n hamcanion ynni carbon isel gael eu cyflawni. Ond mae'n rhaid ei ddarparu mewn ffordd nad yw'n niweidiol i'r amgylchedd o'i gwmpas. Felly, ein blaenoriaeth yw sicrhau bod y grid yn cael ei ddatblygu mewn ffordd sy'n diwallu anghenion Cymru yn y presennol ac yn y dyfodol gan fodloni'r rheidrwydd i ddatgarboneiddio gwres a thrafnidiaeth a chynyddu cydnerthedd, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. Ond byddem ni'n disgwyl i hyn ddibynnu'n bennaf ar gysylltiadau ar bolion pren yn hytrach na pheilonau.

14:15
Gofal Plant ac Addysg Gynnar yn Islwyn

8. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cymorth a roddir i rieni gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gofal plant ac addysg gynnar yn Islwyn? OAQ54448

Gwnaf. Mae teuluoedd yn Islwyn yn elwa ar nifer o raglenni Llywodraeth Cymru sy'n cefnogi gofal plant ac addysg gynnar, gan gynnwys Dechrau'n Deg, y cynnig gofal plant, sydd ar gael ledled Cymru erbyn hyn, a'r hawl gyffredinol i addysg feithrin i blant tair a phedair blwydd oed.

Diolch, Trefnydd. Etholwyd Llywodraeth Lafur Cymru yn 2016. Un o'i phrif ymrwymiadau oedd darparu 30 awr o addysg gynnar a gofal plant i rieni diwyd plant tair a phedair blwydd oed ledled Cymru am 48 wythnos y flwyddyn. Ar ddiwedd mis Gorffennaf eleni, roedd bron i 16,000 o blant tair a phedair blwydd oed yn manteisio ar ofal plant ansoddol wedi ei ariannu gan y Llywodraeth. Ledled Cymru, ceir dros 3,600 o leoliadau gofal plant ansoddol, ac mae'r rhain yn cyflogi tua 17,000 o bobl ac yn cyfrannu at dwf yr economi leol, sgiliau, cymwysterau a phrentisiaethau.

Yn y maes hollbwysig hwn, mae Llywodraeth Lafur Cymru yn gweithredu ac yn gwneud gwahaniaeth i deuluoedd Cymru. Felly, pa gamau eraill y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i barhau i ddatblygu'r fenter gyffrous hon i helpu rhagor o deuluoedd Islwyn a chefnogi addysg plant, gofal plant a'r economi ehangach ymhellach ledled Cymru?

Rwy'n diolch i Rhianon Passmore am godi'r mater hwn. Wrth gwrs, mae 1,107 o blant yng Nghaerffili yn unig yn manteisio ar y cynnig gofal plant. Mae wedi bod yn bwysig iawn ein bod ni'n gwrando ar rieni o ran ein gwerthusiad o'r cynllun. Pan wnaethom ni ei werthuso yn ystod blwyddyn gyntaf ei weithredu, nododd y rhan fwyaf o rieni gynnydd gwirioneddol i'w hincwm gwario oherwydd y cynnig. Mae rhiant nodweddiadol sy'n elwa ar 20 awr o ofal plant yr wythnos bellach yn cael yr hyn sy'n cyfateb i £90 ychwanegol yr wythnos yn ei boced—arian na fyddai ganddo fel arall. Dyna un o'n blaenoriaethau ni fel Llywodraeth Cymru—i weld sut y gallwn ni sicrhau bod gan deuluoedd incwm isel fwy o arian yn eu pocedi i wario ar yr holl bethau sydd eu hangen arnyn nhw, ac i sicrhau bod gan eu teuluoedd yr hyn sydd ei angen arnyn nhw.

Felly, o ran symud ymlaen, rydym ni'n dal i fod yn awyddus i barhau i gyflwyno'r cynllun. Rydym yn gwybod bod llawer o deuluoedd nad ydyn nhw wedi manteisio ar y cynllun hyd yn hyn a fyddai'n sicr yn elwa arno. Gwn fod y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn ystyried pa ffurf allai fod ar y cynllun hwn.

Diolch i'r Trefnydd am ateb y cwestiynau yna ar ran y Prif Weinidog.

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf, felly, fydd y datganiad a chyhoeddiad busnes gan y Trefnydd, i ateb ar ran ei hunan y tro yma. Dwi'n galw ar Rebecca Evans i wneud ei datganiad—Rebecca Evans.

Diolch, Llywydd. Nid oes newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, ac fe'u gwelir ymysg papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.

A gaf i alw am dri datganiad byr, os caf i? Mae'r cyntaf yn ymwneud â gwelliannau i wasanaethau awtistiaeth. Ar 23 Medi, wythnos yn ôl i ddoe, cyhoeddodd y Gweinidog iechyd ddatganiad ysgrifenedig gyda'r teitl hwnnw, sy'n teilyngu datganiad llafar neu hyd yn oed dadl yn amser Llywodraeth Cymru. Mae'n nodi, er enghraifft:

Mae rhai yn ystyried mai'r ateb yw cyflwyno deddfwriaeth awtistiaeth, ond rydym ni'n gwybod yn Lloegr, lle pasiwyd y Ddeddf Awtistiaeth yn 2009, nad yw hyn wedi sicrhau'r manteision a addawyd.

Ac mae'n dweud:

Nid oes dim sy'n cyfateb i'r cynnydd yr ydym yn ei wneud yng Nghymru yn y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig.

Fodd bynnag, mae'r Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth yn Lloegr yn dweud wrthyf y bu cynnydd sylweddol o ran cael llwybr diagnostig o dan y Ddeddf Awtistiaeth yno, a bod llawer mwy o bobl yn gofyn am ddiagnosis. Mae gan bob ardal arweinydd awtistiaeth, a dywedodd yr adroddiad diwethaf fod nifer y bobl awtistig y canfuwyd eu bod yn gymwys i gael gofal cymdeithasol wedi cynyddu, a bod mwy o lwybrau diagnosis yn rhai awtistiaeth arbenigol. Mae'r gymuned awtistiaeth ehangach wedi gofyn imi herio'r canfyddiad bod cynnydd yn cael ei wneud yn y gwasanaeth awtistiaeth integredig, er enghraifft, lle nad ydym yn derbyn unrhyw wybodaeth ganddo sy'n mesur canlyniadau ar gyfer pobl awtistig sydd wedi defnyddio'r gwasanaeth, a llawer mwy o bethau eraill, ond nid oes gen i amser i fanylu ar hyn yn awr. Mae'n haeddu amser i ofyn cwestiynau priodol yn unol â hynny.

Yn ail, a gaf i alw am ddatganiad ar gymorth i bobl sydd â chlefyd niwronau motor? Unwaith eto'r wythnos diwethaf, lansiodd y Gymdeithas Clefyd Niwronau Motor eu hadroddiad, 'Act to Adapt' am addasiadau tai i bobl sy'n byw â chlefyd niwronau motor, gan dynnu sylw at y ffaith bod angen addasiadau i'w cartrefi yn gyflym ac yn hawdd ar y bobl hyn, er mwyn iddyn nhw allu byw yn ddiogel, yn annibynnol ac ag urddas. Roedd eu galwadau'n cynnwys gofyn i'r Llywodraethau cenedlaethol yng Nghymru a Lloegr adolygu'r fformiwla dyrannu cyllid ar gyfer grantiau cyfleusterau anabledd, gan ystyried lefelau anabledd ac incwm, deiliadaeth tai ac amrywiadau rhanbarthol o ran costau busnes; i Lywodraethau yng Nghymru a Lloegr a Gogledd Iwerddon adolygu'r prawf modd i fynd i'r afael â phroblemau allweddol a nodwyd; ac i Lywodraethau cenedlaethol, gan gynnwys Cymru, gynnwys targedau amseroedd aros ar gyfer gwaith brys a gwaith nad yw'n frys mewn safonau tryloyw a mesuradwy ar gyfer addasiadau, a monitro ar sail y targedau hynny.

Yn olaf, a gaf i alw am ddatganiad llafar yn dilyn y datganiad ysgrifenedig gan Jane Hutt AC, y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip, ar 19 Medi, 'Gweithredu ar Anabledd: Yr Hawl i Fyw'n Annibynnol'? Mae'n dweud bod y fframwaith yn nodi sut y mae Llywodraeth Cymru yn cyflawni ei rhwymedigaethau o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, ymysg pethau eraill. Mae ei god ymarfer rhan 2 yn cyfeirio at, neu'n cydnabod y gall pobl anabl gyflawni eu potensial a chyfranogi'n llawn fel aelodau o gymdeithas, yn gyson â fframwaith gweithredu Llywodraeth Cymru ar gyfer byw'n annibynnol, gan fynegi hawl pobl anabl i gymryd rhan lawn ym mhob agwedd ar fywyd. Felly, er enghraifft, mae angen i ni wybod a fydd y cod yn cael ei ddiwygio i adlewyrchu'r canllawiau newydd a phryd y bydd hynny, a sut y bydd darparwyr gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu hysbysu am hynny, pan fo gormod o bobl yn dal i anwybyddu'r cod fel y mae wedi'i ddrafftio ar hyn o bryd. Yn y cyd-destun hwnnw, yn olaf, mae'r cynllun fframwaith gweithredu ar anabledd newydd yn dweud y byddai Llywodraeth Cymru yn datblygu siarter cenedlaethol ar Iaith Arwyddion Prydain i ddarparu gwasanaethau ac adnoddau. Fodd bynnag, fel y dywedais yn y lle hwn ym mis Chwefror, mae Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain yn galw ar awdurdodau lleol a gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru i ymuno â'u siarter ar gyfer Iaith Arwyddion Prydain ac i wneud pum addewid i wella mynediad a hawliau i ddefnyddwyr byddar a BSL yng Nghymru, ond ar hyn o bryd, dim ond dau awdurdod lleol yng Nghymru gyfan oedd wedi ymrwymo i hyn. Felly, gadewch i ni weithio gyda'r gymuned, gobeithio, i fabwysiadu'r siarter a luniwyd ganddyn nhw, ac annog yr holl ddarparwyr gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru i gofrestru yn unol â hynny. Rwy'n credu bod angen y datganiad hwnnw arnom yn y cyd-destun hwn sy'n ymwneud â'r ddwy enghraifft hynny, ond hefyd llawer mwy lle mae angen mwy o eglurder.

14:20

Diolch ichi am godi'r materion sydd gennych y prynhawn yma. O ran gwasanaethau awtistiaeth, gwn fod y Gweinidog wedi cael adroddiadau ar ddau adolygiad annibynnol ar awtistiaeth—un a oedd yn ymwneud â gwasanaethau niwroddatblygiadol plant a phobl ifanc, ac yna ail un a oedd yn edrych ar y gwasanaeth awtistiaeth integredig. Derbyniodd yr argymhellion hynny a nododd sut y byddai'n symud ymlaen â'r rheini. Ond mae wedi dweud ei fod yn comisiynu adolygiad i sicrhau bod gwasanaethau yn diwallu anghenion pobl a bod arian yn cael ei fuddsoddi lle mae ei angen, oherwydd, yn amlwg, mae pob un ohonom yn dymuno sicrhau bod y cymorth a roddwn i bobl ag awtistiaeth a'u teuluoedd y cymorth cywir, a bod y buddsoddiad yn cael ei wneud yn y lle iawn. Oherwydd, unwaith eto, fe wnaeth y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ddweud y byddai'n darparu £3 miliwn o gyllid ychwanegol rheolaidd ar gyfer y gwasanaeth awtistiaeth integredig o 2021 ymlaen, ac rwy'n credu bod hynny yn dyst gwirioneddol i'r gwerth a roddwn ar y gwasanaeth hwnnw, a'r rhan bwysig y gall ei chwarae.

Gofynnaf i chi, os nad oes ots gennych, ysgrifennu at y Gweinidog ynglŷn â'ch pryderon am glefyd niwronau motor a'r adroddiad 'Act to Adapt'. Roedd cryn dipyn o fanylion yn y fan honno, felly rwy'n credu y byddai'n fuddiol i'r Gweinidog gael cyfle i weld yr adroddiad yr ydych yn cyfeirio ato. Byddaf yn gofyn i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip roi ymateb i chi i'r amryw o faterion yr ydych wedi'u codi ynglŷn â'r fframwaith.FootnoteLink

Roeddwn i'n disgwyl i Leanne gael ei galw cyn fi, mae'n ddrwg gen i.

A gawn ni'r wybodaeth ddiweddaraf am weithdrefnau cwyno, a'r hyn y gall pobl ei wneud i gael atebion a gwell adborth a chanlyniadau pan fydd anghydfod ag adrannau gwasanaethau cymdeithasol? Rwyf wedi cael nifer o achosion gan bobl ym Mhen-y-bont ar Ogwr sydd wedi bod ag anghydfodau ag adrannau gwasanaethau cymdeithasol, rydych yn deall na fyddaf yn manylu arnyn nhw yma heddiw, ond hoffwn i ddeall a gawn ni ddatganiad ar y prosesau a'r gweithdrefnau hynny er mwyn i ni allu bod yn ffyddiog yn y systemau hynny ac nad yw pobl yn cael eu methu gan y system.

Mae fy ail ddatganiad yn ymwneud â'r llifogydd a welwyd dros y penwythnos. Mae wedi achosi difrod mewn llawer o ardaloedd yng Nghastell-nedd Port Talbot, yn enwedig yn Ystalyfera. Hoffwn i gael datganiad wedi'i ddiweddaru gan Weinidog yr amgylchedd ynghylch pa gymorth sydd wedi'i roi hyd yn hyn, a beth y gallai cynghorau fod yn ei wneud, a sut y gellir eu cefnogi, mewn gwirionedd, i helpu dinasyddion i gefnogi'r datblygiad hwn, yn enwedig o ran newid yn yr hinsawdd a sut y gall llifogydd fod yn fwy cyffredin yn y dyfodol. Felly, pe gallech roi inni ddatganiad wedi'i ddiweddaru am hyn, byddwn i'n ddiolchgar iawn.

Diolch yn fawr iawn, ac ymddiheuriadau.

14:25

Diolch yn fawr iawn. Yn gyntaf, o ran y gweithdrefnau cwyno, efallai mai'r peth mwyaf priodol yw imi ofyn i'r Dirprwy Weinidog gwasanaethau cymdeithasol ysgrifennu atoch â mwy o wybodaeth am y gweithdrefnau hynny, ac yna efallai y byddai achosion penodol yr hoffech dynnu ei sylw atyn nhw.FootnoteLink

O ran yr ail fater sy'n ymwneud â llifogydd, gwn fod y Gweinidog wedi dweud y byddai'n awyddus i gyflwyno datganiad am hyn, oherwydd rydym yn amlwg wedi gweld glaw trwm iawn a gorllanw uchel iawn yn ystod y dyddiau diwethaf. Rydym wedi bod yn ymwybodol iawn o rai materion llifogydd, yn enwedig ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Ceredigion, Rhondda Cynon Taf a Bro Morgannwg, ac rydym mewn cysylltiad agos â Cyfoeth Naturiol Cymru ac awdurdodau lleol i archwilio unrhyw effeithiau sydd wedi bod ar gartrefi a busnesau a'r hyn y gallwn ei wneud i'w cefnogi. O ran y darlun ehangach, mae rheoli perygl llifogydd ac arfordiroedd yn parhau i fod yn faes lle'r ydym yn gwneud cryn dipyn o waith, wrth i dros £350 miliwn gael ei fuddsoddi dros oes y Llywodraeth hon. Rydyn ni'n ystyried yr her o lifogydd ac, yn amlwg, effeithiau newid yn yr hinsawdd yn hynod o ddifrifol.

Hoffwn i ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i ymchwiliad y BBC a ddarlledwyd neithiwr i'r creulondeb ar ffermydd cŵn bach yn Sir Gaerfyrddin a Cheredigion. Mae gan orllewin Cymru enw am fod yn brifddinas cŵn bach y DU, a hynny er mawr gywilydd. Nid rhywbeth i ymfalchïo ynddo yw hyn. Yn sicr, nid yw'n rhywbeth y byddem yn dymuno'i hysbysebu ar ein llyfrynnau i dwristiaid. Dangosodd y rhaglen, a hoffwn i ganmol y BBC amdani, greulondeb anghredadwy mewn ffermydd cŵn bach sy'n gofrestredig gan y cyngor. Dangosodd cannoedd o gŵn yn byw mewn cyflwr brwnt, tywyll, llaith ac oer. Arolygir y safleoedd hyn yn flynyddol gan arolygwyr a milfeddygon, pobl sydd i fod i flaenoriaethu lles yr anifeiliaid. Mae nifer o safleoedd wedi'u harolygu a chanfuwyd gwendidau ynddynt, ac mae arolygwyr a milfeddygon wedi cofnodi achosion o dorri rheolau ynghylch lles anifeiliaid gwael. Nid unwaith yn unig oedd hyn, roedden nhw wedi methu'n gyson â bodloni argymhellion ac wedi cael rhybuddion. Er gwaethaf hyn, ni chymerwyd unrhyw gamau yn erbyn y bridwyr a chawsant eu hail-drwyddedu flwyddyn ar ôl blwyddyn. Mewn rhai achosion, nid oedd anghenion sylfaenol hyd yn oed yn cael eu diwallu, megis mewn un safle ger Llandysul a oedd yn ymddangos yn y rhaglen.

Ysgrifennais at gyngor Ceredigion a chyngor Sir Gaerfyrddin ddoe ac roeddwn i wedi rhyfeddu o weld eu bod wedi ymateb mewn llai na 24 awr. Felly, nawr rwy'n gwybod bod angen i mi sicrhau bod gen i'r BBC ar fy ochr er mwyn cael ymateb prydlon. Fodd bynnag, yr hyn sydd wedi fy nychryn i yn un o'r ymatebion hynny yw bod Cyngor Ceredigion wedi caniatáu i un o'r safleoedd a gafodd sylw neithiwr yn Llandysul barhau i fridio, ac, rwy'n dyfynnu, ar drwydded tri mis yn unig. Dywedwch chi hynny wrth gŵn a chŵn bach sy'n byw dan yr amodau hynny, oherwydd nid wyf i wedi fy argyhoeddi y bydd y safleoedd hyn yn cadw at yr amodau sydd wedi'u cymhwyso iddynt. Mae hanes yn dweud wrthych nad fydd hynny'n digwydd. Roedd darpariaeth brin o ddŵr glân a lle cysgu yno—ac rwy'n falch o ddweud bod rhywfaint o gamau wedi'u cymryd ers y rhaglen honno mewn rhai o nodweddion y safle, ond ni ddylai fod angen ymchwiliad gan y BBC cyn i hyn ddigwydd.

Mae'n amlwg bod y ddeddfwriaeth sydd ar waith i ddiogelu'r cŵn hyn yn methu. Nid oes gan yr anifeiliaid hyn lais i siarad drostyn nhw eu hunain, felly mae dyletswydd glir arnom ni i wneud hynny ar eu rhan. Rwyf wedi codi'r materion hyn yn y Siambr hon lawer gwaith, a gallaf gofio'n glir y tynwyd sylw at y mater hwn yn y 1980au gan Esther Rantzen. Roedd hynny dros 30 mlynedd yn ôl, ac eto dyma ni nawr o hyd. Mae Sir Gaerfyrddin yn honni ymagwedd ragweithiol—rwy'n dyfynnu—ond mae'r llwyth o gŵynion a gadarnhawyd yn awgrymu bod rhywbeth sylweddol o'i le yn y broses hon. Gweinidog, hoffwn i wybod pa gamau gweithredu brys y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd, yn sgil yr adroddiad hwn, i ddiogelu lles cŵn bach a chŵn llawndwf yn y ffermydd cŵn bach a drafodir yn y rhaglen hon. Ac mae'n amlwg i mi, o'r ymateb a gefais yn gyflym dros nos, fod yr awdurdodau hyn wedi eu llethu. Os felly, a fyddai'r Gweinidog yn ystyried cyfyngu ar nifer y trwyddedau, gan gyfyngu ar nifer y cŵn yn y safleoedd trwyddedig hynny—er bod Ceredigion, a bod yn deg, wedi gwneud hynny—a hefyd ehangu'r gofal—y gymhareb cŵn 1:20, cynyddu honno? Nid yw un i 20 yn ddigon da—dywedais i hyn ar y pryd—o ystyried nifer y cŵn bach y bydd y cŵn hynny yn esgor arnyn nhw. Rhaid cynyddu'r nifer hwnnw. Lles yr anifeiliaid hyn sydd i ddod yn gyntaf, nid yr elw.

A'r mater arall yr hoffwn i ei godi a godwyd yn y rhaglen honno yw'r methiant llwyr o ran dyletswydd milfeddygon, gan mai hyn sy'n peri'r pryder mwyaf oll i mi. Mae'r rhain i fod yn arbenigwyr yn eu maes. Maen nhw i fod i ddiogelu lles eu hanifeiliaid—. Ac eto rydym wedi gweld arbenigwyr yn dweud, rhai a oedd yn gwylio'r rhaglen hon, eu bod wedi methu yn eu dyletswydd. Mae hynny'n eithaf difrifol. Felly, hoffwn i wybod a oes gennym ni unrhyw bwerau neu fwriad i ddefnyddio dull atgyfeirio i Gymdeithas Milfeddygon Prydain i wneud yn siŵr bod camau'n cael eu cymryd yn erbyn y milfeddygon hynny sydd, yn ôl y rhaglen hon, wedi methu yn eu dyletswydd.

14:30

Rwy'n ddiolchgar i Joyce Watson am godi hyn yn y Siambr, ac yn amlwg rydym yn rhannu ei hymdeimlad o arswyd, ond hefyd ei dicter am yr hyn y mae wedi'i gweld yn digwydd yma yng Nghymru, lle'r ydym i fod yn genedl sy'n caru anifeiliaid, ond wedyn rydym ni'n gweld pethau fel hyn yn digwydd. Gwn fod Gweinidog yr Amgylchedd a Materion Gwledig wedi ysgrifennu—neu'n bwriadu gwneud yn fuan iawn—at gyrff milfeddygol, a hefyd at awdurdodau lleol ynghylch y mater penodol hwn. Mae hi'n cyfarfod â'r prif swyddog milfeddygol yfory. Ond gwn hefyd fod y Gweinidog yn bwriadu gofyn i'r grŵp fframwaith lles anifeiliaid ailedrych ar y rheoliadau bridio presennol i wella amodau lles mewn sefydliadau bridio. Rwy'n siŵr mai'r math o gwestiynau y mae Joyce Watson wedi'u codi am y ffordd ymlaen fydd y cwestiynau hynny y bydd y grŵp yn awyddus i edrych arnynt.

Gweinidog, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth am yr oedi o ran dechrau cynhyrchu ceir yn ystad ddiwydiannol Rasa yng Nglynebwy gan TVR? Rhoddodd Llywodraeth Cymru fenthyciad o £2 miliwn i'r cwmni ceir cyflym hwn ym mis Mawrth 2016, ac mae wedi buddsoddi £0.5 miliwn yn y gwneuthurwr ceir. Roedd y cynhyrchu yn Rasa i fod i ddechrau yn gynharach eleni, ond mae atebion i fy nghwestiynau ysgrifenedig yn datgelu nad oes disgwyl iddo ddechrau tan chwarter olaf 2020 erbyn hyn. O ystyried bod Blaenau Gwent ar hyn o bryd ar waelod y gynghrair o ran cystadleuaeth economaidd yn y Deyrnas Unedig, a gawn ni ddatganiad yn rhoi'r rhesymau pam y mae'r buddsoddiad hwn y bu cymaint o sylw amdano wedi'i ohirio a pham nad yw'r 100 o swyddi o safon y mae angen dybryd amdanyn nhw wedi eu cyflawni eto?

Gofynnaf i Mohammad Asghar, yn gyntaf, ysgrifennu at Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth i ofyn am yr wybodaeth ychwanegol honno, ac rwy'n siŵr y bydd yn gallu rhoi eglurhad ynghylch unrhyw oedi.

Allaf i ddiolch, yn gyntaf, i'r Trefnydd am ei datganiad busnes, a hefyd, yn bellach, ar gefn y datganiad busnes yna, allaf i ddiolch am ddatganiad gan y Gweinidog iechyd ar ddiweddariad ar y ddeddfwriaeth isafswm pris alcohol yma yng Nghymru? Fe fyddwch chi i gyd yn cofio i ni basio'r ddeddfwriaeth yma yn y Senedd y llynedd. Mae deddfwriaeth debyg wedi bod yn weithredol yn yr Alban ers dros flwyddyn, ac mae yna arolwg, a gafodd ei gyhoeddi yn y dyddiau diwethaf yma, yn darogan bod y polisi wedi bod yn ysgubol o llwyddiannus yn lleihau faint o alcohol mae pobl yn yr Alban, hyd yn oed, yn ei yfed. Mae goblygiadau amlwg i ni yma yng Nghymru. Felly, a yw hi'n bosib cael datganiad ar isafswm pris alcohol yma yn y Senedd?

14:35

Ie, gallwn ni fod yn falch iawn o'r ddeddfwriaeth iechyd cyhoeddus yr ydym wedi'i chyflwyno eisoes yma yng Nghymru. Ac rwy'n gwybod y bydd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y ddeddfwriaeth isafbris uned.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Rydym wedi clywed heddiw y bu cynnydd o 22 y cant yn nifer y bobl ddigartref sy'n marw. Mae'r niferoedd, wrth gwrs, yn ymwneud ag ymchwil y Swyddfa Ystadegau Gwladol ledled Cymru gyfan a Lloegr. Byddwn i'n ddiolchgar pe gallai Llywodraeth Cymru roi datganiad am y sefyllfa yng Nghymru, er mwyn i ni allu deall sut y mae'r cynnydd hwn mewn achosion o wenwyno gan gyffuriau, yn ôl yr hyn a ddeallaf, wedi effeithio ar bobl sy'n ddigartref yn y wlad hon. Byddwn i hefyd yn gwerthfawrogi datganiad gan y Gweinidog iechyd—gallaf weld ei fod yn ei sedd ar hyn o bryd—ynglŷn â sut yr ydym yn delio â materion cyffuriau, yn enwedig o ran y sefyllfa gyswllt rhwng ymdrin â chaethiwed, â digartrefedd, a'r system cyfiawnder troseddol. Rwy'n deall bod anhawster gwirioneddol iawn yn y polisi yr ydym yn ei ddilyn ar hyn o bryd sy'n golygu nad yw pobl sy'n dioddef o fod yn gaeth i sylweddau bob amser yn derbyn y driniaeth briodol, a bod darparwyr gwasanaethau yn cael anawsterau sylweddol wrth ddarparu'r math o driniaeth sydd ei angen mewn gwirionedd ar lawer o bobl sy'n dioddef o fod yn gaeth i wahanol sylweddau. Felly, byddwn i'n ddiolchgar pe gallai Llywodraeth Cymru roi datganiad i ni am y materion hynny.

Hoffwn i hefyd ofyn am ddatganiad ar y materion y mae Joyce Watson eisoes wedi ymdrin â nhw yn ystod y sesiwn hon. Rwy'n credu bod pob un ohonom a welodd yr ymchwil a gyhoeddwyd gan y BBC—neu a ddarlledwyd gan y BBC—neithiwr wedi eu brawychu'n llwyr bod hynny'n digwydd yn y wlad hon. Ac i bob un ohonom sydd â phryderon ynglŷn â'r materion hyn, rwy'n credu yr hoffem ni i gyd weld lefelau rheoleiddio uwch o lawer gan Lywodraeth Cymru. Nawr, rwy'n deall bod Llywodraeth Cymru yn cynnig cod ymddygiad gwirfoddol ar gyfer gwarchodfeydd anifeiliaid ar hyn o bryd. Hoffwn i gael datganiad gan Lywodraeth Cymru, a hoffwn i ddeall pam nad yw hwnnw'n god statudol. Rwy'n dymuno deall beth y mae Llywodraeth Cymru am ei wneud i sicrhau bod lefelau rheoleiddio llawer uwch, a rheoliadau lles o ansawdd llawer uwch ar waith, i sicrhau bod y gweithgareddau diegwyddor, creulon ac o bosibl, anghyfreithlon hyn sy'n digwydd yn y wlad hon, o dan ein goruchwyliaeth ni, yn cael sylw ac y gweithredir arnyn nhw. Bydd y Gweinidog yn ymwybodol fy mod i, fel cyn Weinidog fy hun, yn ymwybodol bod angen deddfu ar rai o'r materion hyn. Nid wyf i'n gweld unrhyw reswm yn awr pam na all Llywodraeth Cymru symud ymlaen a rhoi'r materion hyn ar y statud er mwyn sicrhau bod gennym ddeddfwriaeth lles anifeiliaid gynhwysfawr yng Nghymru sy'n mynd i'r afael â'r materion a godwyd o ran ffermydd cŵn bach, ond sydd hefyd yn ehangu i sicrhau bod gwarchodfeydd anifeiliaid wedi eu cynnwys, a hefyd yr holl feysydd a busnesau sy'n bridio anifeiliaid er elw.

Diolch i Alun Davies am y ceisiadau hynny am ddatganiadau. A gallaf gadarnhau y bydd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol yn gwneud datganiad am ddigartrefedd ddydd Mawrth nesaf. Ac mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar hyn o bryd yn dod at ddiwedd ei ystyriaethau a'i ymgynghoriad ar y cynllun cyflawni newydd ar gamddefnyddio sylweddau, a bydd yntau'n awyddus hefyd i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Cynulliad pan fydd wedi cael cyfle i ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad hwnnw'n llawn. Ac ar y trydydd mater, rwy'n gwybod y bydd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau yn dilyn ei thrafodaeth gyda'r prif filfeddyg, yn ymwneud â'r materion bridio cŵn. Ond byddaf yn sicr yn gofyn iddi ystyried yr hyn yr ydych wedi'i ddweud ac i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ymagwedd Llywodraeth Cymru at warchodfeydd a materion rheoleiddio eraill.

Byddwch yn ymwybodol bod Canolfan Llywodraethiant Cymru wedi cyhoeddi adroddiad yr wythnos diwethaf yn edrych ar dystiolaeth ryngwladol o'r gostyngiad mewn cyfraddau carcharu. Mae hyn yn dilyn ymchwil blaenorol a ddangosodd fod polisi carcharu San Steffan wedi ein methu ni yng Nghymru, trwy roi i ni'r gyfradd uchaf o garcharu yng ngorllewin Ewrop, niferoedd uwch o bobl o gefndiroedd du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig a difreintiedig. Er mwyn gostwng cyfraddau carcharu uchel, mae'r adroddiad yn dangos bod angen i Lywodraethau gael rheolaeth ar bob un o'r ysgogiadau polisi ym maes cyfiawnder troseddol, gan gynnwys carchardai, y gwasanaeth prawf a'r llysoedd. A yw Llywodraeth Cymru yn cytuno â mi bod angen datganoli'r system cyfiawnder troseddol gyfan er mwyn lleihau ein cyfradd garcharu hynod uchel? Ac yn benodol, a wnaiff y Llywodraeth gytuno i gynnal dadl ar ganfyddiadau adroddiad yr wythnos diwethaf?

Hoffwn i holi am fuddsoddiad y Llywodraeth hon mewn cwmnïau yn y fasnach arfau. Yn benodol, rwy'n dymuno trafod y buddsoddiad yng nghyfleuster seiberddiogelwch Thales a gyhoeddwyd yn gynharach eleni. Rwy'n derbyn, wrth gwrs, bod ymosodiadau seiber yn fygythiad cynyddol, ac mae hyn wedi ei amlygu yn un o'r bygythiadau mwyaf sy'n wynebu'r DU, ond ni allaf ddeall, fodd bynnag, pam na allai buddsoddiad i ddatblygu cyfleuster seiberddiogelwch fod wedi cynnwys cwmni nad yw'n gwneud arfau sy'n anafu a lladd. Mae gan Thales bresenoldeb mawr yn Saudi Arabia ac mae wedi bod yn cyflenwi offer i'r deyrnas honno ers degawdau. Credir hefyd bod Thales yn cyflenwi cydrannau ar gyfer tanciau Rwsia. Pan fyddwch yn buddsoddi mewn cwmni fel hwn, mae gennych chi fuddiant personol yn ei lwyddiant. Pan fydd rhyfeloedd yn digwydd, mae busnes yn dda i gwmnïau fel Thales. Gan fod presenoldeb Llywodraeth Cymru mewn ffeiriau arfau yn cael ei adolygu, a wnewch chi hefyd gytuno i ystyried adolygu cymorth ariannol cyhoeddus parhaus i gwmnïau sy'n rhan o'r diwydiant arfau?

14:40

O ran y mater cyntaf, sy'n ymwneud â datganoli cyfiawnder troseddol, rwy'n credu ein bod yn un o ran ein huchelgeisiau yn hynny o beth, ac rwy'n credu bod Llywodraeth Cymru wedi nodi hynny'n glir ar sawl achlysur ac mae yn parhau i fod yn faes diddordeb gweithredol inni. Ond yn amlwg byddaf yn rhoi gwybod i'r Gweinidog sy'n gyfrifol am y maes hwn am eich pryderon, ac rwy'n siŵr eich bod wedi cael y cyfle i ystyried yr adroddiad yr ydych yn cyfeirio ato.

Ac o ran buddsoddi a sut y mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi, wrth gwrs, rydym yn edrych yn ofalus iawn ar fuddsoddiadau. Pan fyddwn yn edrych ar Fanc Datblygu Cymru, er enghraifft, mae gennym ni feini prawf caeth iawn yn y maes. Gwn, mewn ymateb i bryderon blaenorol a godwyd ynglŷn â'n presenoldeb mewn digwyddiad masnach penodol, fod y Prif Weinidog wedi dweud y bydd yn ail-archwilio unwaith eto y ffordd orau o gefnogi ein diwydiant seiberddiogelwch yng Nghymru, ac rwy'n siŵr y bydd yn ystyried yr holl faterion hynny yn eu cyfanrwydd.

Ar wahân i hyn oll, mae seiberddiogelwch yn un o'r meysydd allweddol yn ein cynlluniau cysylltiadau rhyngwladol—maes y mae Cymru'n cyflawni'n dda iawn ynddo. Ond mae'n bwysig iawn ein bod ni'n buddsoddi yn y busnesau iawn er mwyn parhau i allu hyrwyddo ein hunain yn rhan o'r byd lle mae caiff seiberddiogelwch ei gyflawni'n dda iawn.

Rwy'n gofyn am ddau ddatganiad—yn gyntaf ar losgi, ac rwy'n gofyn am ddatganiadau gan Lywodraeth Cymru i wahardd llosgi. Ysgrifennodd y Gweinidog iechyd at drigolion Trowbridge, a dywedodd na ellir diystyru effeithiau andwyol ar iechyd o ran llosgi gwastraff. Nawr, mae'r gymuned yn wynebu cynnig sy'n golygu y bydd llosgydd yn cael ei osod yn union yng nghanol ardal drefol. Felly, hoffwn i wybod a yw'r Llywodraeth yn barod i wrando ar y gymuned leol ai peidio.

Yn ail, hoffwn i gael datganiad ar gam mawr iawn yn ôl trwy roi cyfyngiadau pellach ar y cerdyn nofio i bobl dros 60 oed. Nid yw'n gwneud synnwyr o gwbl i atal pobl sy'n heneiddio rhag gwneud ymarfer corff. Mae'n benderfyniad annoeth iawn ac, yn y tymor hwy, os edrychwch chi ar effeithiau peidio ag ymarfer ar iechyd, gallai gostio llawer mwy o arian yn y pen draw. Felly, a wnaiff y Llywodraeth edrych ar hynny eto ac adfer y cerdyn nofio i bobl dros 60 oed?

Byddwn yn sicr yn edrych ar y mater cyntaf yn ymwneud â llosgi, a gwn fod y Gweinidog iechyd yn awyddus i ofyn i Iechyd Cyhoeddus Cymru gyhoeddi'r dystiolaeth a'r cyngor diweddaraf o ran llosgi. Wrth gwrs, nid yw'n briodol iawn trafod yn y datganiad busnes faterion cynllunio lleol penodol, oherwydd yn amlwg nid ydym yn gallu rhoi sylwadau ar y rheini.

A chafwyd sawl cyfle'r wythnos diwethaf i archwilio'r fenter nofio am ddim newydd gyda'r Gweinidog sy'n gyfrifol. Yn amlwg, fe wnaeth newidiadau i'r cynllun—neu yn sicr fe wnaeth Chwaraeon Cymru newidiadau i'r cynllun—yn dilyn adolygiad annibynnol a geisiodd newid pwyslais y cynllun, gan edrych ar blant, yn arbennig, mewn ardaloedd difreintiedig, ond gan barhau i sicrhau bod cyfleoedd nofio am ddim i'r rhai dros 60 oed. Rydym yn gwybod mai dim ond rhyw 6 y cant o'r rhai dros 60 oed yn y grŵp targed a oedd yn gallu manteisio ar y sesiynau nofio am ddim, felly mae angen inni sicrhau, pan fyddwn yn gwneud y buddsoddiad, ein bod yn gwneud hynny mewn ffordd sy'n ei gwneud yn bosibl i bobl fanteisio ar y cyfleoedd hynny.

14:45

Mae Neil McEvoy wedi achub y blaen arnaf o ran mater yr oeddwn i'n mynd i'w godi ynglŷn â llosgi, gan fod mater lleol wedi codi i mi hefyd yn Sir Fynwy, ar gyrion Brynbuga, ynghylch pryderon yn ymwneud â chynnig am losgydd. Rwy'n credu i chi ddweud, wrth ateb Neil McEvoy, bod Llywodraeth Cymru am edrych ar hyn. Rwy'n gwybod, ar draws y dŵr yn yr Unol Daleithiau, y bu pryderon ers tro byd ynghylch llosgi ac effeithiau posibl ar iechyd. Felly, a gawn ni rywfaint o ganllawiau newydd neu ymchwil newydd i effeithiau llosgi, rwy'n credu y byddai hynny'n tawelu meddyliau llawer ohonom ni.

Yn ail, rwy'n sylwi bod Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yn bresennol. Yn ystod yr wythnosau diwethaf, unwaith eto, bu anhrefn o ran traffig yng Nghas-gwent yn sgil gwaith ar y ffordd mewn sawl man a chau lonydd. Rwyf i wedi galw sawl gwaith yn y Siambr hon am waith ar ffordd osgoi i Gas-Gwent. Rwy'n gwybod bod y Gweinidog wedi gwrando ar yr apeliadau hynny, ac rwy'n credu i drafodaethau ddigwydd. Felly, tybed a gawn ni ddiweddariad rywbryd—ac rwy'n credu bod y Gweinidog yn eich diweddaru chi nawr—gan y Gweinidog trafnidiaeth, ac yn awr, pe byddai'n dymuno, ar ein sefyllfa ar hyn o bryd o ran ceisio mynd i'r afael â rhai o'r problemau traffig, yn arbennig yn ystod oriau brig, yng Nghas-gwent ac a fu'r trafodaethau trawsffiniol hollbwysig hynny rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ynghylch dichonoldeb ffordd osgoi, gan fy mod i'n derbyn y byddai dwy ran o dair ohono dros y ffin yn swydd Gaerloyw.

Ynglŷn â'r mater cyntaf, sef llosgi, fe wnes i ddweud y bydd y Gweinidog iechyd yn gofyn i Iechyd Cyhoeddus Cymru edrych ar y dystiolaeth ar losgi i sicrhau bod gan yr Aelodau yr wybodaeth orau am unrhyw effeithiau posibl ar iechyd y cyhoedd.

Ynglŷn â'r ail fater, roedd y Gweinidog dweud wrthyf ei fod wedi siarad â'r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth bythefnos yn ôl ar y mater penodol hwn ac fe fydd yn hapus i ysgrifennu atoch i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi.

3. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am gynigion Llywodraeth y DU ar gyfer ymadawiad y DU â'r UE

Felly, dyma ni'n cyrraedd yr eitem nesaf, sef y datganiad gan y Gweinidog Brexit ar y wybodaeth ddiweddaraf am gynigion Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfer ymadawiad y Deyrnas Unedig â'r Undeb Ewropeaidd. Dwi'n galw ar y Gweinidog Brexit i wneud ei ddatganiad—Jeremy Miles. 

Diolch, Llywydd. Y prynhawn yma, bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno cyfres o ddatganiadau a fydd yn amlinellu’r bygythiad gwirioneddol i Gymru os ceir Brexit heb gytundeb. Bydd y datganiadau hefyd yn sôn am y camau lliniaru rŷn ni'n eu rhoi ar waith i geisio mynd i'r afael â hyn cyn belled ag y bo modd. Mae'r rhain yn adeiladu ar y cynllun gweithredu y gwnaethom ni ei gyhoeddi ar 16 Medi a’r ddogfen 'Dyfodol mwy disglair i Gymru', a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Rŷn ni wedi nodi'n glir o'r dechrau y byddai Brexit heb gytundeb yn drychinebus i Gymru, a wnawn ni ddim ymddiheuro am ei ddisgrifio yn y fath fodd. Mae'r datganiadau y prynhawn yma yn dangos y byddai’n cael effaith negyddol ar feysydd niferus yng Nghymru yn y tymor byr, ac yn dinistrio’r economi yn y tymor hir. 

Cyn symud ymlaen i ystyried y camau cadarnhaol yr ydyn ni’n eu cymryd, gadewch inni ystyried am eiliad a yw gadael heb gytundeb yn parhau i fod yn debygol neu beidio. Ym mis Ionawr, wrth inni roi adolygiad manwl i Aelodau’r Cynulliad o'n paratoadau ar gyfer Brexit heb gytundeb, rwy'n siŵr nad oedd unrhyw un ohonom wedi dychmygu y byddai’r sefyllfa wleidyddol yn y Deyrnas Unedig, a’r sefyllfa gyfansoddiadol erbyn hyn, wedi mynd i gyflwr mor enbydus. Yn ei ddau fis cyntaf mewn grym, mae Boris Johnson wedi colli ei saith pleidlais fawr gyntaf yn Nhŷ'r Cyffredin, wedi colli ei fwyafrif gweithredol, wedi torri'r gyfraith drwy geisio atal y Senedd dros dro, ac wedi camarwain y Frenhines. Ac mae'n parhau i honni y bydd yn mynd â'r wlad allan o'r Undeb Ewropeaidd erbyn 31 Hydref. Fodd bynnag, mae Deddf yn y llyfr statud i atal hynny, oni bai bod Senedd y Deyrnas Unedig yn cytuno ar ffurf o ymadael. Mae datganiad Boris Johnson am ei fwriad i fynd â’r wlad allan o’r Undeb Ewropeaidd ar ddiwrnod olaf Hydref, cytundeb neu beidio, awgrymu nad yw e’n bwriadu cydymffurfio â gofynion y ddeddfwriaeth.  

A dim ond rhyw bythefnos i fynd tan uwchgynhadledd y Cyngor Ewropeaidd, dyw hi ddim yn edrych yn debyg bod amser inni gael cytundeb. Yn gyntaf, mae'r Undeb Ewropeaidd wedi bod yn glir o'r dechrau na wnân nhw ddim cytuno ar drefniadau newydd ar gyfer ymadael heb eu bod yn cael yr un effaith â'r backstop yng nghytundeb Theresa May. Mor ddiweddar ag wythnos diwethaf, dywedodd Michel Barnier,

'Mae Llywodraeth newydd y Deyrnas Unedig am inni gael gwared ar y backstop, ac mae hi am i'r Undeb Ewropeaidd newid y ffordd y bydd y farchnad fewnol a'r ffiniau'n gweithio ar ôl Brexit. 'Rwy'n siŵr y gwnewch chi ddeall',

medde fe,

'fod hyn yn annerbyniol.  Fel mae'r Deyrnas Unedig yn meddwl ar hyn o bryd, mae'n anodd gweld sut mae modd cael ateb cyfreithlon fyddai'n cyflawni holl amcanion y backstop'.

Hyd yn oed pe bai cefnogaeth i bedwaredd bleidlais ystyrlon, a oes unrhyw un yn wir yn credu y byddai Senedd y Deyrnas Unedig yn pasio'r ddeddfwriaeth angenrheidiol i gymeradwyo’r Bil ymadael mewn llai na phythefnos? O gofio hyn, felly, mae siawns dda iawn na chawn ni gytundeb ac y bydd yn rhaid gofyn am estyniad, fel ag sy'n ofynnol o dan y gyfraith. Ond i gael estyniad, rhaid cael cytundeb unfrydol pob un o 27 gwlad yr Undeb Ewropeaidd. Rhaid peidio â chwympo i'r trap y mae cymaint o wleidyddion a sylwebwyr wedi cwympo iddo a chredu taw yn ein dwylo ni y mae'r penderfyniad terfynol. A hyd yn oed o'i gael, o edrych ar yr ochr dduaf, byddai estyniad ond yn gohirio gadael heb gytundeb am ryw ychydig fisoedd. Felly, tra bod gennym ni Lywodraeth yn y Deyrnas Unedig sy'n benderfynol o wneud yn fach o aruthredd y broblem y mae gadael yr Undeb Ewropeaidd yn ei chreu, a thra bo gennym Brif Weinidog yn y Deyrnas Unedig sy'n barod i fynd yn groes i'r gyfraith, mae'r risg o ymadawiad niweidiol iawn heb gytundeb yn parhau'n fyw.

Rwy'n gwybod y cawn ni glywed digon o achwyn a geiriau byrbwyll heddiw am project fear, ond mae Banc Lloegr wedi profi bod y penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd eisoes wedi costio £80 biliwn i'r economi—mwy na £1,000 am bob person sy'n byw yn y wlad hon. Mae'r holl dystiolaeth rwy wedi'i gweld, gan gynnwys tystiolaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig ei hun, yn dangos na ddylai unrhyw un hyd yn oed ystyried gadael heb gytundeb. Yn y tymor byr, byddai gadael heb gytundeb yn creu aflonyddwch mawr, yn cynyddu'r peryg o ansefydlogrwydd ariannol, ac yn bygwth y cyflenwad o nwyddau a gwasanaethau hanfodol y mae llawer yn ein cymdeithas yn dibynnu arnyn nhw. Yn y tymor hir, byddai gadael heb gytundeb yn gwneud niwed parhaol i'r economi, yn gwneud drwg i'n henw da rhyngwladol ni ac yn gostwng safonau byw ar draws y wlad i'r graddau na welwyd mo'u tebyg ers i'r Llywodraeth Geidwadol ddifetha sylfeini diwydiant Cymru yn ôl yn y 1980au.

Rydyn ni wedi bod yn glir yn ein safbwynt ac mae gennym dystiolaeth i'w chefnogi: i sicrhau dyfodol mwy llewyrchus i Gymru, rhaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd, ac rydyn ni felly'n cefnogi ail refferendwm i wireddu'r amcan hwnnw.

Ond er gwaethaf ein gwrthwynebiad cryf i strategaeth wleidyddol gan Lywodraeth y DU a allai arwain at Brexit heb gytundeb, ein cyfrifoldeb ni yw gweithio gyda Llywodraeth y DU i wneud popeth yn ein gallu i liniaru'r llu o effeithiau a allai ddeillio o'r DU yn ymadael heb gytundeb. Y ffactor mwyaf sy'n amharu ar ein gallu i roi cynlluniau paratoi ar waith yw parodrwydd Llywodraeth y DU i rannu gwybodaeth â ni, i weithio'n ystyrlon gyda ni a rhoi'r arian angenrheidiol i ni. Yn y fan yma eto, mae Llywodraeth y DU wedi methu â chyflawni ei chyfrifoldebau, ac, wrth i'r cloc barhau i droi tuag at Brexit heb gytundeb, mae Gweinidogion Cymru wedi eu cloi allan o'r cyfarfodydd heb gytundeb allweddol sy'n cael eu cynnal yn Whitehall. Pan oedd Theresa May yn Brif Weinidog, cawsom ein gwahodd fel mater o drefn i gyfarfodydd pwyllgor Cabinet y DU yn ymwneud â pharatoi, ond o bryd i'w gilydd y cawn ein gwahodd erbyn hyn, ar sail asesiad cyfyng Llywodraeth y DU o'n setliad datganoli. Rydym ni wedi cael sicrwydd y bydd hyn yn newid—cawn weld a fydd hyn yn digwydd—ond, beth bynnag, mae amser hollbwysig wedi'i golli'n ddiangen.

Mae cyfrifoldebau datganoledig a'r rhai a gadwyd yn ôl yn gyd-ddibynnol. Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am sicrhau bod meddyginiaethau a gaiff eu mewnforio yn cyrraedd y wlad, ond ni, Llywodraeth Cymru, gaiff ein dwyn i gyfrif os bydd cleifion Cymru'n gweld nad yw eu meddyginiaethau ar gael yn y fferyllfeydd. Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â thrin data, ond bydd busnesau Cymru yn disgwyl i Lywodraeth Cymru helpu pe bydden nhw'n methu oherwydd bod ganddyn nhw ddata am weithwyr neu gwsmeriaid a gedwir ar weinydd yn yr UE—efallai heb wybod hynny hyd yn oed—a cholli'r gallu i ddefnyddio'r data hynny dros nos.

Nid oes amheuaeth bod diogelu dinasyddion y DU sy'n byw dramor yn gyfrifoldeb i Lywodraeth y DU, ond os bydd dinasyddion o'r fath yn penderfynu dychwelyd i'r DU gan nad ydyn nhw'n gallu cael gofal iechyd am ddim mwyach, bydd gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn wynebu galw cynyddol i ddarparu iechyd a gofal cymdeithasol pe byddai eu hangen, a helpu i ddod o hyd i dai. Felly, dylai Llywodraeth y DU fod yn ein cynnwys mewn ffordd gynhwysfawr mewn paratoadau heb gytundeb. Mae'n gwbl annerbyniol i Lywodraeth y DU fod yn ystyried y rhain yn faterion nad oes gennym ni lais i fynegi barn arnyn nhw.

Mewn cyfres o ddatganiadau, bydd Gweinidogion yn amlinellu rhai o'r risgiau allweddol yr ydym ni'n eu hwynebu o ran gwasanaethau cyhoeddus, yr economi ac ym mhob rhan o'r gymdeithas. Nid oes dim amser i ymdrin â holl ganlyniadau heb gytundeb, ond hyd yn oed os nad yw maes wedi ei gynnwys yn y datganiadau heddiw, nid yw hynny'n golygu nad ydym ni'n gwneud popeth yn ein gallu i liniaru'r effeithiau, ac mae'r rhestr lawn o ymyriadau wedi eu cynnwys yn y cynllun gweithredu y gwnaethom ei gyhoeddi ar 16 Medi. Yn ystod y dyddiau nesaf, bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal cyfres o gyfarfodydd hefyd â rhanddeiliaid allweddol i annog eraill i barhau i gymryd camau i baratoi ar gyfer canlyniad heb gytundeb.

Ni all Cymru na'r Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd fod yn gwbl barod am yr holl bosibiliadau a allai fod. Er hynny, rwy'n croesawu cydnabyddiaeth Swyddfa Archwilio Cymru bod gwaith ledled Cymru wedi cynyddu'n sylweddol ers mis Mawrth a bod y gweithio yn fwy cydweithredol ar draws gwasanaethau cyhoeddus Cymru. Bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth yn ein gallu ac yn parhau i fanteisio ar bob cyfle i atal Llywodraeth y DU rhag ein tywys ni dros y dibyn.

14:55

Diolch, Gweinidog, am eich datganiad. Wythnos arall, a datganiad diystyr arall ynglŷn â Brexit, sy'n ychwanegu dim at yr hyn yr ydym ni wedi'i glywed o'r blaen, heblaw am fwy o godi bwganod gan Lywodraeth Cymru, yn ceisio lledu ofn ymysg y boblogaeth ynglŷn â Brexit. Gadewch i ni fod yn eglur: y cyfan y mae pobl Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig yn awyddus i ni ei wneud yw cau pen y mwdwl ar Brexit. Maen nhw wedi cael llond bol ar wrando ar wleidyddion yn ceisio nacáu ewyllys y bobl, a fynegwyd yn y refferendwm yn ôl ym mis Mehefin 2016. Maen nhw'n awyddus i ni gyflawni Brexit fel y gallwn ni fynd ati i ddatrys yr annibendod ofnadwy y mae'r Blaid Lafur wedi'i wneud yma yng Nghymru o ran ein gwasanaeth iechyd gwladol a'n hysgolion, ac, wrth gwrs, mae gennym ni gyfle euraid i ddatrys yr annibendod hwnnw yn sgil buddsoddiad ychwanegol Llywodraeth y DU yn y GIG ac yn y system addysg yn Lloegr ac, o ganlyniad i hynny, mae swm sylweddol, gwerth dros £2 biliwn, yn dod i Gymru yn y tair blynedd nesaf er mwyn i ni fynd i'r afael â'r rhestrau aros hir, er mwyn i ni allu ymdrin â pherfformiad gwael adrannau achosion brys yn ein hysbytai, er mwyn i ni allu cau'r bwlch cyllido rhwng disgyblion unigol yng Nghymru ac yn Lloegr, ac er mwyn i blant Cymru gael cyfle cyfartal â'u cymheiriaid yn Lloegr o ran eu haddysg a'u cyfleoedd mewn bywyd.

Ac, wrth gwrs, mae'r buddsoddiad hwnnw ar gael gan Lywodraeth y DU dim ond oherwydd y cyllid cyhoeddus cadarn sydd gennym erbyn hyn, oherwydd, wrth gwrs, fe wnaethom ni etifeddu annibendod llwyr a adawyd gan Lywodraeth Lafur y DU pan oedd hi mewn grym cyn hynny. Fe aeth yr hwch drwy'r siop o ran ein cyllid cyhoeddus. Bu bron i Gordon Brown ein harwain ni fel gwlad at drothwy methdaliad, ac unwaith eto, Llywodraeth Geidwadol sydd wedi clirio'r annibendod hwnnw. Nawr, yn wahanol i'r Blaid Lafur—yn wahanol i'r Blaid Lafur—a rhai o'r pleidiau eraill yn y Siambr hon, mae gennym ni Geidwadwyr Cymreig bob ffydd y bydd pobl Cymru yn gallu addasu, bod ganddyn nhw'r ddawn i allu ymdrin ag unrhyw heriau a allai godi o ganlyniad i Brexit, ac y byddwn yn gallu elwa ar Brexit a'n hymadawiad â'r Undeb Ewropeaidd.

Gadewch i ni drafod rhai o'r rhagolygon hyn yr ydych chi'n sôn amdanyn nhw, oherwydd clywais lawer o ragolygon cyn i'r DU bleidleisio i ymadael â'r UE yn 2016. Clywsom ni bob math o ragolygon, ac ni wireddwyd yr un ohonyn nhw, oherwydd y gwir amdani yw, er gwaethaf Brexit—er gwaethaf Brexit—ers y refferendwm yn 2016—. [Torri ar draws.] A dywedwyd wrthym—. [Torri ar draws.] Rwy'n clywed y nadau yn dod o'r fainc flaen, ond y gwir amdani yw y dywedwyd wrthym, yn union wedi'r refferendwm, y byddem ni'n cael dirwasgiad yn syth, y byddai cwymp ofnadwy yn y farchnad stoc, y byddai trychineb o ran swyddi, y byddai cannoedd ar filoedd o swyddi ledled y DU yn cael eu colli, ac eto, er gwaethaf Brexit, ers y refferendwm yn 2016, mae cyflogau wedi cynyddu, mae diweithdra wedi gostwng, mae ein heconomi wedi tyfu, mae ein hallforion yn cynyddu ac mae ein marchnad dai yn parhau i fod yn gryf iawn. Felly, a gaf i ofyn i chi, Gweinidog Brexit, a ydych chi'n derbyn bod eich Llywodraeth chi yn gwbl anghywir ym mhob rhagolwg a wnaethoch o ran yr hyn sydd wedi digwydd hyd yn hyn? A wnewch chi roi'r gorau ar y codi bwganod yr ydym yn ei weld o hyd a'r proffwydo dinistr yr ydym ni'n ei weld o hyd a'r darogan gwae yr ydym ni'n ei glywed o hyd, yn atseinio yn ein clustiau gan fainc flaen Llafur?

A wnewch chi ganolbwyntio yn hytrach ar baratoi Cymru ar gyfer Brexit, ni waeth pa ffurf ar Brexit y gallai hwnnw fod? A gadewch i mi ddweud, mae'r Prif Weinidog yn gwneud ei orau glas i geisio cael cytundeb cyn 31 Hydref. Rwy'n gwybod nad ydych chi o reidrwydd yn cefnogi ei ymdrechion, ond felly y mae, ac fe hoffem ni weld cytundeb, os yw'r cytundeb hwnnw'n bosibl. Ond os nad yw'n bosibl, mae'n rhaid i ni adael yr Undeb Ewropeaidd ar 31 Hydref ac anrhydeddu canlyniad y refferendwm.

Mae safbwynt eich plaid chi, wrth gwrs, yn safbwynt hollol hurt, trwy ddweud os bydd Jeremy Corbyn yn Brif Weinidog, y bydd yn mynd i Frwsel, y bydd yn cael cytundeb hollol wahanol—mae Brwsel, wrth gwrs, wedi dweud na all neb gael hyn—ac y bydd yn dychwelyd ac yn ymgyrchu, ond am beth? Nid yw wedi dweud beth y bydd yn ymgyrchu drosto, nagyw? Oherwydd, o ran eich safbwynt chi ar lefel y DU, rydych chi am gyflwyno'r penderfyniad hwn i'r bobl mewn refferendwm. Ond, wrth gwrs, byddwch chi'n ei gefnogi i fynd ati i gael y cytundeb hwnnw ac wedyn ymgyrchu yn ei erbyn. Ni chlywais i erioed y fath beth; mae'n sefyllfa hollol hurt i fod ynddi. Ond dyna, wrth gwrs, yw hanfod y Blaid Lafur gyfoes, mae arna'i ofn. Dyna'r Blaid Lafur gyfoes.

A wnewch chi ddweud wrthym ni, Gweinidog Brexit, pa gamau ac asesiadau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cymryd o effaith economaidd y gwariant ychwanegol a fydd yn dod i Gymru o ganlyniad i'r buddsoddiad ychwanegol mewn ysgolion ac ysbytai, ac effaith hwnnw ledled y wlad o ran ein heconomi ni? Oherwydd, wrth gwrs, nid ydych chi'n trafod y pethau hyn; nid ydych chi'n sôn am y cyfleoedd hyn i Gymru.

15:00

Rwy'n gwybod eich bod chi'n hoffi bogailsyllu o hyd, ond mae angen i ni fod ag elfen o optimisitiaeth—

—yn y darlun hwn. Gwnaf. Ac a gaf i ofyn un cwestiwn olaf, os caf i? Rydych chi wedi siarad am ddigwyddiadau ymgysylltu â rhanddeiliaid. Nid oes angen rhagor o siopau siarad ar Gymru. Yr hyn sydd ei angen arnom yw Llywodraeth sydd wedi ei pharatoi ac yn barod am Brexit, ni waeth pa ffurf fydd ar y Brexit hwnnw ar 31 Hydref, oherwydd bod gennym ni Lywodraeth yn y DU sy'n benderfynol o dynnu ni allan ar y dyddiad hwnnw, ac fe ddylech chi fod yn gwneud popeth yn eich gallu i'w chefnogi.

Rwy'n diolch i'r Aelod am y pwyntiau yna. Mae'n siarad am yr hyder sydd ganddo yn Boris Johnson. Rwy'n credu y defnyddiodd yr ymadrodd 'gwneud ei orau glas'—rhyfeddol iawn a dweud y gwir. Yr hyn yr ydym ni wedi ei ddarganfod heddiw o wybodaeth a gafodd ei datgelu heb ganiatâd, yw nad yw'r Llywodraeth wedi cyflwyno ei safbwynt hyd yn oed i Gomisiwn yr UE ei ystyried, felly mae'r syniad bod y Prif Weinidog wedi bod yn negodi dros yr wythnosau diwethaf yn gwbl chwerthinllyd. Mae llai na 30 diwrnod cyn diwedd y mis, ac nid yw wedi cyflwyno cynnig i'r Comisiwn Ewropeaidd hyd yn hyn. Felly, mae ei hyder, mae'n ddrwg gen i, fel sydd mor aml yn wir, yn llwyr ar gyfeiliorn.

Mae'n sôn am godi ofn. Wn i ddim pwy sy'n dod i'w gymorthfeydd yn ei etholaeth ef, ond rwyf i'n cael pobl yn dod i'm gweld i ac yn sôn am eu pryderon ynghylch a fyddan nhw'n gallu aros yn y DU, sut y gallan nhw recriwtio pobl i weithio yn eu busnesau, sut y gallan nhw gael cymorth ar gyfer hyfforddiant sgiliau yn y dyfodol, sut y gallan nhw gadw eu sefydliadau trydydd sector ar eu traed yn ystod yr wythnosau nesaf. Nid codi ofn yw hyn, ond nodi realiti ym mywyd fy etholwyr i ac rwy'n mentro dweud, yn eich etholaeth chi ac etholaeth pawb arall yn y Siambr hon. Rwyf i o'r farn eich bod chi'n gwneud cam ofnadwy â phrofiad eu bywydau trwy wfftio hyn a'i labelu'n codi ofn.

Mae'r Aelod yn sôn am y buddsoddiad sydd ar ddod, ac mae'n amlwg ei fod wedi edrych ar y baneri yng nghynhadledd y Blaid Geidwadol sy'n sôn am fuddsoddi yn hyn a'r llall. Mae'r syniad y bydd Llywodraeth y DU, yng nghyd-destun Brexit heb gytundeb, yn buddsoddi mewn unrhyw beth yn gwbl chwerthinllyd. Bydd y dinistr a achosir i gyllid y DU oherwydd hynny'n arwyddocaol tu hwnt.

Mae'n siarad am berfformiad economaidd ers y refferendwm yn 2016. Nid wyf i'n gwybod ym mha wlad y mae'n byw. Fe wyddom ni i gyd am wendid y bunt. Bydd unrhyw un sydd wedi treulio unrhyw amser dramor yn ystod yr haf eleni yn gwybod pa mor wan yw'r bunt. Clywais i Carolyn Fairbairn o Gydffederasiwn Diwydiant Prydain fore ddoe yn sôn am fuddsoddiad sydd 26 y cant o dan duedd yn y tair blynedd diwethaf, mae'r cynnyrch domestig gros i lawr 2 y cant, ac mae hynny'n ergyd i'r bunt ym mhocedi'r bobl. Benthycodd Llywodraeth y DU £24 biliwn yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf, sy'n cyfateb i 1.1 y cant o'r cynnyrch domestig gros, i gadw'r hwch rhag mynd drwy'r siop.

Gwyddom ni gan y sefydliad gweithgynhyrchu Make UK sut y mae archebion domestig ac allforio wedi crebachu yn ystod y chwarter hwn am y trydydd chwarter yn olynol, felly wn i ddim ym mha wlad y mae ef yn byw, ond rwyf i'n byw yng Nghymru y byd go iawn, a dyna pam mae'r Llywodraeth hon yn canolbwyntio ar baratoi Cymru yn y ffordd orau y gallwn ar gyfer y math o Brexit heb gytundeb y mae ef ond yn rhy hapus i'w hyrwyddo.

15:05

Rwy'n diolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad. Rydym ni'n rhannu pryderon ynghylch Brexit heb gytundeb, yn enwedig y pwynt difrifol iawn a wnaeth ar ddiwedd ei ddatganiad na all Cymru na'r Deyrnas Unedig fod yn gwbl barod ar gyfer pob posibilrwydd. Nawr, rydym ni i gyd yn gwybod mai'r bobl fwyaf agored i niwed yn y gymdeithas fydd yn dioddef fwyaf. Trïwch chi ddweud wrthyn nhw am addasu i'r amgylchiadau, fel y mae llefarydd y Ceidwadwyr, Darren Millar wedi ei awgrymu y prynhawn yma mewn cyfraniad a oedd yn wirioneddol gywilyddus yn fy marn i. Gweinidog, rydych chi'n sôn am y ffordd y mae Llywodraeth y DU wedi methu o ran ei chyfrifoldebau—[Torri ar draws.]

Darren Millar, rydych chi wedi cael dweud eich dweud, felly a wnewch chi beidio â gwneud sylwadau ar eich eistedd? [Torri ar draws.] Ni fyddwn yn clywed sylwadau gennych chi ar eich eistedd; rydych chi wedi cael dweud eich dweud.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, rydych chi'n sôn am sut y mae Llywodraeth y DU wedi methu o ran ei chyfrifoldebau a bod Gweinidogion Cymru wedi eu cloi allan o gyfarfodydd hollbwysig, ac rydych chi'n dweud bod y sefyllfa wedi dirywio'n fawr ers i Boris Johnson gymryd yr awenau. Mae hyn yn cyd-fynd â'r hyn yr ydych chi wedi ei ddweud wrth y pwyllgor materion allanol yn y gorffennol. Nawr, rwyf i am ddweud eto ei bod hi'n arwyddocaol, pan oeddech chi'n dweud hyn, fod Aelodau ar feinciau'r Ceidwadwyr yn sôn o dan eu hanadl na fydden nhw'n awyddus i weld Llywodraeth Cymru yn yr ystafell ychwaith. Mae'n debyg mai'r fath yna o amharch tuag at ddatganoli fydd yn golygu y bydd y blaid honno'n goruchwylio'r broses o chwalu'r Deyrnas Unedig.

Nawr, rwy'n ymwybodol bod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno cynigion, hefyd, ar i adolygu'r systemau cysylltiadau rhynglywodraethol sydd gennym ni. Nid yw eich geiriau chi heddiw'n rhoi llawr iawn o hyder i mi y bydd y Llywodraeth bresennol yn San Steffan yn barod i chwarae'n deg ac y byddan nhw mewn gwirionedd yn awyddus i weld unrhyw ddiwygio o gwbl. Pa gamau allwch chi eu cymryd i orfodi'r diwygio hwnnw, ac os na allwch chi orfodi'r diwygio hwnnw, fel y mae'n debygol y byddwch yn dweud wrthyf, beth y mae hynny'n ei ddweud wrthym ni am yr anghydbwysedd sylfaenol o ran grym yn yr undeb yr ydym ni'n rhan ohono ar hyn o bryd? Yn olaf, rydych chi'n sôn bod Llywodraeth y DU yn bychanu maint yr heriau a ddaw yn sgil Brexit heb gytundeb. Nawr, mae hyn, ynghyd â'r ffaith bod y Prif Weinidog yn barod i fynd yn groes i'r gyfraith—o dan yr amgylchiadau eithriadol hyn, tybed a wnaiff y Gweinidog fynegi ei farn ef neu farn ei Lywodraeth ar ba un a allai fod dadl bellach o blaid uchelgyhuddo Boris Johnson.

Rwy'n diolch i'r Aelod am ei chwestiynau. Roedd hi'n agor ei sylwadau drwy sôn am yr effaith ar y rhai sy'n agored i niwed yn sgil effeithiau cronnol Brexit heb gytundeb, ac rwyf innau am ategu ei phryderon hi yn hynny o beth. Rwy'n credu ein bod ni wedi gweld, onid ydym ni, wrth i ni symud yn nês at ymadawiad posibl yn yr hydref, mor fawr y gall yr effaith fod ar y rhai sydd leiaf abl i addasu i'r risgiau sydd o'n blaenau ni. Rydym ni wedi bod yn pwysleisio hynny yn Llywodraeth ers amser maith gyda Llywodraeth y DU yn benodol. Mae'n iawn i ddweud bod y broses o gymryd rhan wedi lleihau ers i ni weld y Llywodraeth newydd yn dod i mewn. Maen nhw'n cyfarfod bob dydd ac nid ydym ni'n cael ein gwahodd yn ddyddiol. Rwyf i o'r farn fod angen i ni gael golwg fwy eang, os caf ei roi felly, o ran lle y gall gweithredoedd Llywodraeth y DU effeithio ar Gymru ac ar ein cyfrifoldebau datganoledig, er y gall hynny fod mewn modd sy'n anuniongyrchol, yn hytrach nag yn uniongyrchol. Rwy'n gwneud y pwynt yn gyson ein bod ni'n ceisio ymgysylltu, bob amser, ar sail adeiladol a chyfrifol o ran unrhyw gynigion a gyflwynir.

O ran yr adolygiad rhynglywodraethol, fe fydd hi'n gwybod, wrth gwrs, nad ydym ni'n fodlon ar gyflymder y cynnydd yn y cyswllt hwnnw, ond yn fy nghyfarfod diweddaraf â Michael Gove a chyda'r Gweinidog yn Swyddfa'r Cabinet sy'n gyfrifol am gyrff cysylltiadau rhynglywodraethol, fe bwysais i arnyn nhw am yr anghenraid o symud ymlaen yn gyflym yn y cyswllt hwn fel ein bod ni mewn sefyllfa, erbyn diwedd eleni, i edrych ar gynigion pendant penodol. Ond mae hi'n gywir i ddweud bod ein sefyllfa bresennol yn anfoddhaol. Rydym ni wedi dweud yn eglur bod angen i Lywodraethau yn y DU gael eu trin o safbwynt cydraddoldeb a bod angen i'r sefydliadau hyn fod yn seiliedig ar egwyddor datganoliaeth. Rydym ni wedi cyflwyno cynigion penodol iawn o ran diwygio'r peirianwaith rhynglywodraethol, gan adeiladu ar y cynigion yn 'Brexit a Datganoli ' ynglŷn â Chyngor i Weinidogion ac yn y blaen, ac fe fyddaf i'n falch o gyflwyno adroddiad i'r Siambr pan fydd gennym ni gynnydd i'w adrodd amdano ynglŷn â hynny.

15:10

A gaf i ganmol Llywodraeth Lafur Cymru am gyflwyno cyfres o ddatganiadau agored i agenda y Cyfarfod Llawn heddiw sy'n dangos y bygythiad gwirioneddol a phresennol y gall Brexit heb gytundeb ei achosi i Gymru? Mae perygl Brexit heb gytundeb yn wirioneddol, yn amlwg a cheir tystiolaeth o hynny. Gweinidog, beth yw eich barn chi a barn Llywodraeth Cymru ar y newyddion sy'n dod o Whitehall bod Prif Weinidog y DU, yn rhan o'r negodiadau, fel y maen nhw'n cael eu galw, presennol sy'n cael eu canmol ond sy'n hynod amwys, rhwng Llywodraeth Dorïaidd y DU a'r Comisiwn Ewropeaidd, yn gofyn i'r UE ddiystyru estyniad pellach i Erthygl 50 yn rhan o gytundeb Brexit newydd? Gweinidog, onid yw hon yr enghraifft ddiweddaraf o Brif Weinidog a Llywodraeth Dorïaidd heb reolaeth, Llywodraeth sy'n amddifad o ymddiriedaeth—Gweinidogion o bosibl a gweision sifil o bosibl—wrth i fwriad Boris Johnson fod yn amlwg i negyddu'r Ddeddf Benn drawsbleidiol sy'n gorfodi'r Prif Weinidog i geisio'r estyniad hwnnw i Erthygl 50? Mae hyn yn bwysig. Mae'n bwysig i bobl Cymru ac mae'n bwysig i fy etholwyr i yn Islwyn, oherwydd bod eu dyfodol economaidd nhw'n cael ei roi yn y fantol gan weithredoedd byrbwyll a phenboeth Llywodraeth Dorïaidd y DU sydd mewn gwirionedd wedi colli gafael ar amser a lle.

Yn adroddiad Yellowhammer, a ysgrifennwyd gan eich Llywodraeth chi eich hun yn y DU—cefais i gymaint o fraw o glywed yn yr adroddiad hwn i Siambr Cynulliad Cenedlaethol Cymru y prynhawn yma fod Gweinidogion Cymru wedi eu cloi allan o'r cyfarfodydd hollbwysig Brexit heb gytundeb hyn. Mae hyn yn ymwneud â ni. Mae'n ymwneud â Chymru ac mae'n ymwneud â fy etholwyr i yn sicr. Nid oedd gan Theresa May ryw lawer o'i phlaid hi, ond o leiaf roedd ganddi ddigon o synnwyr a pharch i wahodd Gweinidogion Cymru i gyfarfodydd pwyllgor y Cabinet i drafod paratoi o ran Cymru. Yn olaf, Gweinidog, pa sylwadau all y Siambr hon, y Gweinidog a Llywodraeth Cymru eu cyflwyno i Lywodraeth Dorïaidd y DU i sicrhau ar frys y caiff Gweinidogion Cymru eu briffio yn briodol a'u gwahodd i gyfarfodydd sylfaenol lle mae ein cyfraniad ni'n amlwg yn hollbwysig ac yn dyngedfennol i bobl ac economi Cymru?

Diolch i'r Aelod am ei chwestiynau. O ran y damcaniaethau yn y wasg heddiw ynglŷn â'r datblygiadau posibl yng nghyd-destun y trafodaethau rhwng y Prif Weinidog a'r Comisiwn Ewropeaidd, rwyf i am ddweud yn syml nad oes gennym unrhyw olwg ar beth yw'r rhain yn eu sylwedd. Efallai y bydd hi wedi gweld trafodion y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar ddechrau'r wythnos diwethaf pan wnaeth Gweinidog yn Llywodraeth y DU yn eglur mai bwriad Llywodraeth y DU oedd peidio â rhannu'r dogfennau nad ydynt yn bapurau, fel y'u gelwir, sef y papurau technegol rhagarweiniol i unrhyw ymgysylltu a negodi gwirioneddol, â Llywodraeth Cymru. Mae yna gwestiwn ynghylch i ba raddau y gall ymgysylltu ynglŷn â'r trafodaethau fod yn effeithiol heb i'r wybodaeth honno gael ei rhannu, ac rwy'n ymwybodol iawn o'r modd y mae angen i ni ystyried ein hymateb ni ynglŷn â hynny.

O ran ei phwynt penodol am y damcaniaethau bod y Prif Weinidog yn ceisio diystyru estyniad i Erthygl 50 yn rhan o gytundeb, rwy'n credu y byddai unrhyw ymgais i osgoi deddfwriaeth seneddol yn destun craffu sylweddol iawn yn y llysoedd pe byddai'n dod i hynny. Bydd unrhyw beth sy'n ymddangos fel ymgais i rwystro ewyllys y Senedd yn y cyswllt hwn yn cael ei ystyried yn ofalus iawn.

Nodais i, fel y gwnaeth hithau, rwy'n credu, y trafodion yn y Senedd yr wythnos diwethaf mewn ymateb i gwestiynau ynglŷn â'r mater hwn gyda'r Prif Weinidog a'i ieithwedd ef, ac rwy'n siŵr y byddai llawer ohonom ni yn y Siambr hon o'r farn ei bod yn gwbl wrthun. Clywais Mark Reckless yn yngan ar ei eistedd gyfeiriad unwaith eto at 'y Ddeddf ildio' wrth i'r trafodion hyn fynd rhagddynt, ac ni allaf i ddechrau mynegi fy ffieidd-dod tuag at iaith o'r fath. Dyna'r fath o iaith sy'n arwain at godi ofnau a chynnwrf yn y wlad. Rwy'n credu ei bod yn ddyletswydd ar bob un ohonom ni i osgoi iaith o'r fath yna os ydym ni mewn swydd arweinyddiaeth gyhoeddus, a byddai'n dda iddo ef gofio hynny.

Rwyf i o'r farn, yn olaf, ynglŷn â'r pwynt am friffio a chraffu priodol, mai'r gwir yw ein bod yn cael ein gwahodd i gyfarfodydd yn fwy aml nag yn wythnosol. Y pwynt yr hoffwn i fod yn glir yn ei gylch yw bod cyflymder paratoi Llywodraeth y DU, yn ôl pob golwg, wedi cynyddu ar adeg pan fo'n hymwneud ni â nhw wedi lleihau yn y darlun cyffredinol. Dyna'r hyn sy'n peri gofid i mi. Ond rwy'n credu y bydd hi'n gweld yn y cynllun gweithredu Brexit heb gytundeb ac yn y datganiadau y bydd fy nghyd-Weinidogion yn eu gwneud y prynhawn yma, nad yw ein hymdrechion ni yn y fan hon wedi pylu yn Llywodraeth Cymru o ran y graddau yr ydym ni'n canolbwyntio ar sicrhau bod Cymru mor barod â phosibl.

Gweinidog, diolch i chi am eich datganiad. Yn gyntaf, rwy'n sylwi o'ch datganiad eich bod chi'n honni bod y Prif Weinidog wedi torri'r gyfraith. A wnewch chi egluro'r rhan honno o'r datganiad, gan mai fy nealltwriaeth i oedd bod cyfraith newydd wedi ei chreu? Rydych chi'n sôn yn y datganiad am Ddeddf ar y llyfrau statud i atal y DU rhag gadael ar 31 Hydref heb gytundeb. A wnewch chi egluro pa asesiad yr ydych chi a Llywodraeth Cymru wedi ei wneud o'r Ddeddf ac unrhyw bosibilrwydd o fylchau? Rydych chi'n dweud o hyd bod y Prif Weinidog yn barod i dorri'r gyfraith. Pa brawf sydd gennych chi o hyn?

15:15

Nid oes gennych chi brawf o hyn. Nid yw'n ddim ond rhagdybiaeth ar eich rhan chi ac ar ran y cyfryngau, yn ôl yr arfer. Mae'r Gweinidog yn sôn am brinder nwyddau hanfodol. A wnaiff Llywodraeth Cymru gyhoeddi'r asesiadau hynny a'r paratoadau y mae wedi'u gwneud?

Yn olaf, yn y datganiad hwn, soniwch am beryglon ymadael heb gytundeb. Ond, a yw'r Gweinidog yn cytuno ynglŷn â pheryglon dim democratiaeth, a'r neges yr ydym yn ei hanfon i'r wlad a'r byd os anwybyddwn y mandad democrataidd mwyaf a welsom ni, nid yn unig fel Teyrnas Unedig, ond fel y bleidlais fwyaf a welwyd erioed yma yng Nghymru? Diolch.

Roedd pum cwestiwn yn y gyfres honno o ymyriadau. Mae'r cyntaf yn ymwneud â gweithredoedd Prif Weinidog y DU. Penderfynodd y Goruchaf Lys eu bod yn anghyfreithlon. Roedd yr ail sylw a wnaeth ynghylch fy asesiad o effaith y ddeddfwriaeth ddiweddar ynghylch Brexit heb gytundeb. Rwy'n ofni na fyddaf yn rhannu, yn unol â chonfensiwn y Cwnsler Cyffredinol, fy nghyngor i Lywodraeth Cymru mewn perthynas â hynny.

Gofynnodd imi am y dystiolaeth sydd gennyf fod Prif Weinidog y DU yn bwriadu gweithredu'n anghyfreithlon. Wel, mae'r un wybodaeth ar gael imi ag sydd ar gael i unrhyw aelod arall, sef haeriad mynych y Prif Weinidog y byddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ar 31 Hydref, boed hynny gyda chytundeb neu heb gytundeb. Mae'r Ddeddf yn gofyn am rywbeth heblaw hynny. Felly, drwy barhau i haeru hynny ymddengys ei fod yn tynnu'n groes i ofynion y ddeddfwriaeth. Gofynnodd pa drefniadau ydym ni wedi'u gwneud i roi gwybod i bobl am ein camau gweithredu mewn perthynas â phrinder. Wel, yn amlwg, rydym ni wedi cyhoeddi cynllun gweithredu ar gyfer Brexit heb gytundeb, ac rydym ni'n gwneud datganiadau heddiw.

Yn olaf, gofynnodd imi am effaith, neu beryglon, peidio â pharchu— fel y credaf y byddai'n dweud—y refferendwm. Gadewch imi ddweud hyn mewn perthynas â'r sylw olaf hwnnw: nid ydym yn wfftio'r ffaith bod canlyniad refferendwm 2016 gyfryw ag ydoedd. Fe wnaethom ni dreulio amser maith yn ceisio eiriol dros fath o Brexit a wnai'r difrod lleiaf posib i Gymru, i economi Cymru ac i'n cymunedau. Methodd hynny yn y Senedd oherwydd yr ornest i arwain y Torïaid. I bob diben, daeth â hynny i ben. Felly, rydym ni wedi bod yn glir mai'r ateb i'r sefyllfa yr ydym ni ynddi yw ceisio refferendwm. Ystyriaf fod hynny'n ddigwyddiad democrataidd ynddo'i hun.

Diolch yn fawr, Cwnsler Cyffredinol. A gaf i ddweud fy mod i'n gwybod fod hwn yn bwnc emosiynol iawn, ond ei fod yn ymwneud â gwrando? Pan fydd Aelodau wedi cael cyfle i holi cwestiynau, dylent wrando ar yr atebion. Yn sicr, dylai'r bobl hynny sydd â'u henwau wedi eu nodi i siarad mewn dadleuon yn y dyfodol fod yn ofalus iawn ynglŷn â gwneud sylwadau oddi ar eu heistedd.

4. Datganiad gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Paratoi'r economi yng Nghymru ar gyfer Brexit heb gytundeb

Mae eitem 4 yn ddatganiad gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ynglŷn â pharatoi'r economi yng Nghymru ar gyfer Brexit heb gytundeb. Galwaf ar Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Gan fod perygl uniongyrchol o hyd o Brexit trychinebus heb gytundeb, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i baratoi ar gyfer pob posibilrwydd. Gan ein bod yn Llywodraeth gyfrifol, rydym ni wedi torchi llewys i fynd i'r afael ag effeithiau gwirioneddol ansicrwydd Brexit sydd eisoes yn cael eu teimlo ac, wrth gwrs, heriau'r posibilrwydd o Brexit heb gytundeb sy'n dal ar y gorwel. 

Rydym ni eisoes wedi dioddef canlyniadau tair blynedd o ansicrwydd, sydd wedi esgor ar sefyllfaoedd megis oedi wrth fuddsoddi a lleihad cyson mewn mewnfuddsoddi—pob un yn ganlyniad i'r modd trychinebus yr ymdriniwyd â Brexit, y gellid â bod wedi eu hosgoi nhw i gyd.

Mae busnesau yr wyf yn siarad â nhw yn dweud wrthyf am yr effaith andwyol y mae ansicrwydd yn ei chael ar eu gweithrediadau. Yn hytrach na sicrhau eglurder, mae ymadael heb gytundeb yn ymestyn yr ansicrwydd hwn gan na fydd gennym ni unrhyw sail i negodi cytundeb masnach newydd, ac mae'n annhebygol y bydd yr UE yn bartner negodi parod wrth i'r berthynas â Llywodraeth y DU ddirywio'n fwy nag erioed. 

Y penderfyniad i gau ffatri beiriannau Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr, gyda 1,700 o golledion swyddi; cau Schaeffler yn Llanelli, gyda mwy na 200 o golledion swyddi; ac mae methdaliad y ddau gwmni adeiladu—Dawnus, 700 o swyddi wedi'u colli, a Jiscourt, 60 o swyddi wedi'u colli—i gyd, o leiaf yn rhannol, yn cael eu priodoli i'r ansicrwydd a grëwyd gan drafodaethau Brexit, neu ddiffyg hynny.

Mae'r cynllun gweithredu a gyhoeddwyd gennym ni ar gyfer Brexit heb gytundeb yn nodi ystod o ymyriadau a chamau gweithredu sy'n ategu ymateb Cymru, gan fynd i'r afael â'r effeithiau sy'n cael eu teimlo eisoes a'r rhai y rhagwelwn ni a ddaw i'n rhan pe bai Brexit heb gytundeb. Mae'r mesurau hyn yn cwmpasu ein cyfraniad at y camau gweithredu sydd eu hangen i sicrhau bod trafnidiaeth yn parhau i symud drwy ein porthladdoedd yn ogystal â'r cymorth a'r cyngor hanfodol yr ydym yn eu darparu i fusnesau ledled Cymru.

Bron yn syth gallai Brexit heb gytundeb achosi anherefn difrifol i'r rhwydwaith trafnidiaeth a gwasanaethau cysylltiedig yng Nghymru. Rydym ni eisoes yn gweld yr effaith hon gan fod rhaid i ni wneud penderfyniadau ar sail y dybiaeth y byddwn yn gadael yr UE heb gytundeb ddiwedd mis Hydref. Er nad oes modd diystyru gwaith brys os oes ei angen, ni fydd unrhyw waith yn cael ei gynllunio i gau lonydd yn ystod y dydd ar yr A55 tua'r gorllewin rhwng 31 Hydref a diwedd y flwyddyn. Bydd hyn yn sicrhau na fydd unrhyw darfu o ganlyniad i wiriadau'r tollau yng Nghaergybi yn cael ei gymhlethu gan unrhyw waith ar yr A55. Fodd bynnag, bydd hyn yn effeithio ar ein rhaglen waith ffordd, rhywbeth y gellid yn hawdd fod wedi'i osgoi heb Brexit dinistriol a fyddai'n ein taflu dros y dibyn.

Ni allwn ni fynd i'r afael â holl achosion yr amhariad hwn, gyda threfniadau ffin a phrosesau tollau yn gyfrifoldeb Llywodraeth y DU. Fodd bynnag, rydym ni'n gweithio'n agos gyda phorthladdoedd yng Nghymru, y cwmnïau fferi a phartneriaid lleol i reoli unrhyw darfu ar y traffig o ganlyniad yn ddiogel. Ein nod yw lleihau effaith annhrefn yn y porthladd ar draffig lleol o gwmpas Caergybi a sicrhau bod pobl leol yn gallu parhau i deithio. O ran Doc Penfro ac Abergwaun, mae ein dadansoddiad yn awgrymu y gellid rheoli achosion o oedi wrth reoli cerbydau yn y porthladd. Rydym ni hefyd yn cadw golwg ar hyn yn gyson rhag ofn y bydd angen mesurau wrth gefn ychwanegol.

Mae'n hanfodol sicrhau bod llif y traffig ar y ffin mor llyfn â phosib, a bod gan gludwyr y dogfennau cywir ar ôl cyrraedd porthladdoedd i'w galluogi i deithio. Rydym ni wedi bod yn gweithio gyda chwmnïau fferi i sicrhau bod eu cwsmeriaid yn ymwybodol o'r ddogfennaeth y bydd ei hangen arnynt ac rydym yn annog pob cludwr sy'n cyrraedd porthladdoedd fferi Cymru i gael y ddogfennaeth gywir yn barod, ac osgoi'r perygl o gael eu troi ymaith.

Rwyf wedi amlinellu ein cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y rhwydwaith trafnidiaeth lawer gwaith yn y Siambr hon, ac nid wyf eisiau eu gweld yn cael eu difetha gan sefyllfa ddiofyn o Brexit heb gytundeb. Fodd bynnag, er gwaethaf yr heriau y byddai Brexit heb gytundeb yn eu creu, bydd yn parhau i fod yn hanfodol i fuddsoddi yn ein seilwaith trafnidiaeth a phwyso i gyflawni ein gweledigaeth ar gyfer rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus integredig sy'n rhoi hwb hanfodol i economi Cymru ar adeg o ansefydlogrwydd economaidd.

Gan droi at yr economi a pharodrwydd busnes, mae effeithiau Brexit wedi cael eu teimlo ers peth amser bellach, a byddant yn parhau i effeithio ar hyder busnesau ar ôl ymadael. Nid mater o'r diwrnod cyntaf ar ôl ein hymadawiad yn unig yw hwn. Ond o ran parodrwydd ar gyfer y diwrnod cyntaf hwnnw, fe'm sicrheir bod ein gwasanaethau rheng flaen i fusnesau ac unigolion yn barod i ymateb, gydag, er enghraifft, Busnes Cymru a Banc Datblygu Cymru bellach mewn sefyllfa i ryddhau adnoddau dynol ac ariannol yn hyblyg ac yn gyflym.

Yn arwain at y diwrnod ymadael, rydym yn parhau i dynnu sylw at gamau gweithredu 'cost isel, dim difaru' ar gyfer busnesau. Rydym yn cylchredeg gwybodaeth drwy rwydweithiau busnes ac rydym ni hefyd wedi ysgrifennu'n uniongyrchol at dros 18,500 o fusnesau. Achubaf ar y cyfle hwn i annog pob busnes i gofrestru i gael gohebiaeth reolaidd drwy Busnes Cymru, i ddefnyddio ein porth Brexit a'n hofferyn diagnostig, ac i drafod â'u cyrff masnach a'u sefydliadau cynrychioliadol.

Rwy'n cydnabod mor hanfodol yw hi ein bod yn trefnu dull cydgysylltiedig a chynaliadwy o weithredu pan fydd busnesau a'u gweithwyr yn wynebu cwtogi a, neu dorri swyddi. Gan ddefnyddio'r gwersi a ddysgwyd o ymyriadau'r gorffennol a'r presennol, yn y dyfodol bydd ein hymateb yn seiliedig ar ddull rhanbarthol o weithredu, gan gyd-fynd â'r model datblygu economaidd rhanbarthol a nodir yn y cynllun gweithredu economaidd.

Mae'r Llywodraeth hon yn glir y bydd parhau i gefnogi ac, yn wir, cryfhau sut y byddwn yn mynd i'r afael â sefyllfaoedd swyddi a sgiliau yn hollbwysig yn ein hymateb i Brexit. Rydym ni eisiau sicrhau bod gan Gymru'r gweithlu medrus i gyflawni ein huchelgais economaidd fel y'i nodir yn y cynllun gweithredu economaidd a 'Dyfodol mwy disglair i Gymru'. Mae ein dull yn adeiladu ar y systemau cefnogi busnesau, unigolion a chymunedau sydd wedi eu profi ac y mae parch iddynt. Byddwn yn ymatebol ac yn gefnogol i anghenion pobl sy'n colli eu swyddi a chyflogwyr, yn wir, sydd â chyfleoedd, fel y caiff y bobl a'r sgiliau eu paru mor gyflym â phosib, ac yn rhoi cymorth, wrth gwrs, i gyflogwyr y mae angen iddyn nhw ddatblygu eu gweithlu.

Cymru'n Gweithio yw ein hadnodd newydd i droi ato a byddwn yn sicrhau y caiff unigolion eu cyfeirio i'r lle cywir ar yr adeg gywir. Yn ogystal â hynny, rwyf wedi sefydlu timau ymateb rhanbarthol, fydd yn gweithio gyda phartneriaethau sgiliau rhanbarthol a phartneriaid megis byrddau iechyd lleol, yr Adran Gwaith a Phensiynau a Llywodraeth Leol, i weithredu mewn ffordd draws-lywodraethol, gydweithredol er mwyn sicrhau bod modd cael ymateb rhanbarthol ar lefel gymunedol.

Mae derbyniad brwd o hyd i'r cymorth yr ydym yn ei roi i fusnes ac rwy'n ddiolchgar i'r holl arweinwyr busnes a'r sefydliadau sy'n eu cynrychioli sy'n parhau i lywio ein ffordd o weithio gan herio'n gadarnhaol. Mae cyfres o gamau gweithredu sy'n defnyddio cyllid pontio Ewropeaidd wedi'u cymeradwyo i helpu busnesau i feithrin cydnerthedd, mae £9.2 miliwn ar gael ar draws chwe phrosiect sy'n darparu cymorth a chyngor ynghylch masnach ac allforion, gan alluogi cynyddu capasiti a gweithgareddau cyfathrebu, yn ogystal â chynnig cymorth ariannol drwy grantiau cydnerthedd busnes i fusnesau cymwys.

At hynny, wrth imi drafod â busnesau ledled Cymru, mae'n rhoi sicrwydd mawr imi fod mwy a mwy o fusnesau bach a chanolig yn darganfod sut y gall gweithio gyda Banc Datblygu Cymru eu helpu i wireddu eu huchelgeisiau a goresgyn eu heriau. Erbyn hyn mae gan Banc Datblygu Cymru dros £0.5 biliwn mewn amrywiol gronfeydd sy'n hygyrch i fusnesau bach a chanolig ac mae bellach mewn sefyllfa i chwarae rhan allweddol yn ein hymateb i Brexit.

Mae'r adnoddau cyffredinol sydd ar gael i ni yng Nghymru i fynd i'r afael â heriau Brexit yn dibynnu ar gyllid a ryddheir gan Lywodraeth y DU. Rwy'n dyheu am gynnydd yn y cyfarfod pedairochrog y bu disgwyl mawr amdano bellach gyda'r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, Andrea Leadsom. Mae'n hanfodol bod Llywodraeth y DU yn ystyried barn y gweinyddiaethau datganoledig yn llawn ac mai dim ond drwy ymgysylltu strwythuredig y gall wneud hyn. Rwy'n siomedig, felly, fod y cyfarfod a drefnwyd ar gyfer dydd Llun nesaf, y bu cynllunio maith ar ei gyfer, bellach wedi'i ohirio. Pan fyddwn yn cyfarfod, byddaf yn pwyso am eglurder a chymorth ariannol os bydd ysgytwad economaidd sylweddol, ac yn gwrthwynebu'n gryf iawn gynigion Llywodraeth y DU ar gyfer cronfa ffyniant gyffredin arfaethedig.

Fy ymrwymiad i yw gwneud popeth o fewn fy mhwerau i feithrin twf cynhwysol i Gymru, gan greu amgylchiadau lle mae busnesau'n ffynnu a lle mae cymunedau ledled Cymru yn elwa.

15:25

Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma. Rydym ni wedi clywed llawer o sylwadau negyddol ynglŷn ag effaith bosib Brexit ar economi Cymru, ond rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn cytuno â mi ei bod hi bellach yn bryd i ni gyflawni ar sail canlyniad refferendwm Brexit, er mwyn rhoi'r sicrwydd sydd ei eisiau ar fusnesau ac y mae'r Gweinidog eisiau ei weld. Rwyf yn credu ei bod yn briodol i'r cyhoedd ym Mhrydain deimlo'n rhwystredig nad ydym ni wleidyddion wedi llwyddo i gyflawni Brexit eto wedi tair blynedd.

Rwyf yn cytuno ag un o linellau agoriadol y Gweinidog lle dywedodd y Gweinidog ein bod eisoes wedi dioddef canlyniadau tair blynedd o ansicrwydd. Byddwn yn gofyn a yw'r Gweinidog yn cytuno â mi, ar ôl tair blynedd hir, mai'r effaith fwyaf niweidiol ar economi Cymru fyddai wynebu mwy o ansicrwydd Brexit. Rwyf eisiau ein gweld yn gadael ar 31 Hydref ac rwyf eisiau ein gweld yn gadael gyda chytundeb. Dyna'r hyn yr wyf i eisiau ei weld, fel y gallwn ni wedyn symud ymlaen gyda pherthynas economaidd gadarnhaol newydd gyda'n cyfeillion a'n cydweithwyr yn Ewrop, a hefyd llunio cytundebau newydd ledled y byd.

Rwyf yn poeni bod cymaint o sôn am y canlyniadau negyddol i'n heconomi yng Nghymru. Os byddwn yn bychanu economi Cymru, dyna fydd ei hanes. Mae'n rhaid i ni chwilio am y cyfleoedd a ddaw yn sgil Brexit hefyd. Rwy'n un a bleidleisiodd i aros. Roeddwn i eisiau i ni aros yn yr Undeb Ewropeaidd, ond mae'n rhaid i ni barchu canlyniad y refferendwm. Deuthum yn Brecsitiwr ar ddiwrnod y refferendwm, oherwydd ar y diwrnod hwnnw bu'n rhaid i ni barchu canlyniad pobl Prydain.

Nac ydw.

Felly, gadewch i ni fod yn gadarnhaol ynghylch rhai o'r cyfleoedd sydd gennym ni o'n blaenau. Bydd cylch gwario 2019 yn gweld Cymru'n elwa ar hwb o £600 miliwn gan Lywodraeth y DU. Er gwaethaf ansicrwydd Brexit, rydym hefyd yn gweld bod allforion nwyddau wedi codi 4.2 y cant. Rhestrodd y Gweinidog nifer o benderfyniadau diweddar a thrist gan fusnesau'n gorfod cau a swyddi'n cael eu colli, ond nid yw'r rhain, fel y dywedodd y Gweinidog, o ganlyniad i Brexit, yn ôl y datganiadau hynny a ddarparwyd gan y busnesau. Gwelwn hefyd fod Canolfan Awyrofod Eryri wedi cael bron i £500,000 o arian gan Lywodraeth y DU i greu canolfan ar gyfer ymchwil a datblygu gofodol. Er gwaethaf Brexit, rydym ni hefyd wedi gweld cwmnïau eraill yn dewis buddsoddi yng Nghymru, fel Ineos ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Ac er gwaethaf Brexit, rydym ni hefyd wedi gweld nifer y bobl sy'n cael eu cyflogi yng Nghymru yn cynyddu 10,000, a nifer y bobl sy'n cael eu cyflogi yn y diwydiant gwybodaeth a chyfathrebu yn cynyddu o 34,000 i 58,000. Felly, byddwn yn pledio wrth y Llywodraeth, yn ei holl ddatganiadau ar Brexit, ein bod yn gweld datganiadau mwy cytbwys yn cael eu cyflwyno. [Torri ar draws.] Cydffederasiwn Diwydiant Prydain—dof at y Cydffederasiwn, Dirprwy Weinidog, peidiwch â phoeni.

Hefyd, Gweinidog, fe wnaethoch chi sôn, yn eich datganiad y prynhawn yma, am y ffaith eich bod wedi ysgrifennu at 18,000 o fusnesau, a'ch bod yn eu hannog hwythau hefyd, fel y byddwn i, i gael gohebiaeth drwy wefan Busnes Cymru, i ddefnyddio Porth Brexit. Ac rwy'n tybio a oes gennych chi unrhyw ystadegau neu ddata ynglŷn â faint o fusnesau sydd wedi defnyddio'r porth busnes mewn gwirionedd. Nawr, roedd y Dirprwy Weinidog, a oedd yn gweiddi o'r cefn, yn awyddus imi siarad am Gydffederasiwn Diwydiant Prydain. Wel, Dirprwy Lywydd, mae'r Cydffederasiwn wedi gwneud asesiad yn ddiweddar o gynlluniau ailwladoli Llafur ar ôl Brexit. [Torri ar draws.] Doeddwn i ddim yn meddwl y byddech yn hoffi'r darn hwnnw. Felly, fe wnaethon nhw ddweud, ac rwy'n dyfynnu:

Bydd gwamalu am ailwladoli yn andwyol i fuddsoddwyr sydd eisoes yn simsanu oherwydd ansicrwydd presennol... Heb fuddsoddiad ac arloesedd gan y sector preifat, bydd ymdrechion i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd neu uwchraddio seilwaith yn pallu, gan arwain at effeithiau canlyniadol difrifol.

Rwy'n gwybod nad yw'r Dirprwy Weinidog, sy'n gweiddi yn y cefn, eisiau imi siarad am y darn hwn, ond byddai'n dda gennyf glywed ymateb y Gweinidog i'r asesiad hwn gan y Cydffederasiwn, a chlywed a yw Llywodraeth Cymru yn cymeradwyo dull Jeremy Corbyn o reoli economi'r DU, ac a fyddwch yn ceisio efelychu'r dull hwnnw, fel yr wyf wedi'i amlinellu, yma yng Nghymru. Roeddwn yn falch o rai o'r sylwadau a wnaeth y Gweinidog am y seilwaith trafnidiaeth, a fydd, mi gredaf, yn ganolbwynt i sicrhau bod Cymru'n parhau ar agor ar gyfer busnes ar ôl Brexit—

15:30

Fe wnaf i, Dirprwy Lywydd. A tybed a yw'r Gweinidog yn croesawu'r cyhoeddiad ddoe gan y Canghellor, o ran braenaru'r tir ar gyfer mwy o arian ar gyfer chwyldro mewn seilwaith, i adeiladu mwy o ffyrdd, i adfywio ein gwasanaethau bws hefyd, a sut y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi blaenoriaeth i oblygiadau hyn ar y gyllideb i gefnogi twf economaidd ledled Cymru?

A'm cwestiwn olaf, Dirprwy Lywydd, fyddai: a yw'r Gweinidog yn croesawu cyhoeddiad y Canghellor y bydd yn gwarantu £4.3 biliwn o gyllid ar gyfer rhaglenni'r Undeb Ewropeaidd os na fydd cytundeb, a chyfanswm o £16.6 biliwn hyd at 2020? A sut fydd Llywodraeth Cymru yn ystyried diwygio ei dull gweithredu yn dilyn y sicrwydd hwn o gymorth ariannol i fusnesau Cymru gan Lywodraeth y DU?

A gaf i ddiolch i Russell George am ei gyfraniad a'i gwestiynau? Rwy'n credu, yn gyntaf oll, gadewch i ni fyfyrio ar y ffaith mai'r unig sicrwydd a ddeuai yn sgil ymadael yn ddisymwth â'r UE yw'r sicrwydd o drychineb economaidd, gyda cholli swyddi ar raddfa eang, gwerth yr economi'n crebachu'n gyflym, ac ansicrwydd dwfn, nid am fisoedd yn unig, ond am flynyddoedd lawer. Yr ateb gorau yw'r ateb sydd wedi'i fynegi drwy gyfrwng 'Dyfodol Disglair i Gymru'. Ac o ran y cytundebau masnach newydd cyffrous hynny a addawyd i ni gan y prif Brecsitwyr, wel, bu cryn ddyfalu yr wythnos hon ynghylch yr hyn a allai ddigwydd pe bai Sefydliad Masnach y Byd yn dyfarnu yn erbyn yr UE, a busnesau o fewn yr UE, a sut fyddai'r Arlywydd Trump yn ymateb. A'r dyfalu yw, os penderfynir yn ein herbyn yn Ewrop, yna bydd yr Arlywydd Trump yn ceisio gosod tariffau enfawr ar nwyddau a gwasanaethau o'r DU. A allwn ni mewn difrif ymddiried yn rhywun, sy'n fodlon ac sydd eisiau gwneud hynny, i sefydlu'r cytundeb masnach gorau posib i'r Deyrnas Unedig? Nid wyf yn credu hynny. Ac felly, yr hyn sydd fwyaf llesol inni o hyd yw aros yn yr UE.

O ran lle mae economi Cymru arni ar hyn o bryd, ac fe wnaeth Russell George ddal sylw ar y ffaith bod gennym ni fwy nag erioed o'r blaen mewn gwaith, llai o anweithgarwch nag erioed, bod gennym ni'r nifer mwyaf erioed o fusnesau wedi'u sefydlu yng Nghymru erbyn hyn, bod gennym ni'r nifer mwyaf erioed o bencadlysoedd busnesau yng Nghymru—wel, ni ddylem ni aberthu'r cyflawniad hwn er mwyn, fel y maen nhw'n ei ddweud, 'cyflawni Brexit'. Mae llawer iawn i'w golli os aiff y trafodaethau o chwith, os byddwn yn ymadael yn ddisymwth â'r UE, neu'n wir pe câi'r cytundeb anghywir ei weithredu. A dyna pam fy mod i'n gadarn o'r farn mai'r ateb a geir yn 'Dyfodol Disglair i Gymru' yw'r unig ateb a ddylai gael ei ystyried nawr ar gyfer y Deyrnas Unedig.

O ran colli swyddi, wel, os edrychwn ni ar rai o'r penderfyniadau a wnaed yn ddiweddar, bu B yn rhan gyson o'r broblem o ran yr amgylchedd y mae busnesau'n eu cael eu hunain yn gweithio ynddi—ansicrwydd mawr, diffyg eglurder o ran beth allai ddigwydd yn y dyfodol. Ac ni fydd Aelodau'n synnu bod nifer o fusnesau yng Nghymru, ac yn union yr ochr arall i ffin Cymru, wedi dweud, os bydd Brexit heb gytundeb, y byddant yn ceisio symud eu gweithrediadau o'r Deyrnas Unedig. Mae llawer wedi'i ddweud am Vauxhall—ac rwy'n gwybod nad ydyn nhw yng Nghymru, ond bydd o ddiddordeb i'r Aelodau wybod bod Vauxhall yn Ellesmere Port yn cyflogi tua 400 o bobl—400 o bobl—sy'n byw yng Nghymru. Ac fe gyfeirir yn rheolaidd at Vauxhall, sydd wrth gwrs yn rhan o'r grŵp PSA, fel man lle bydd cyswllt uniongyrchol rhwng penderfyniad ynghylch model newydd ar gyfer gwaith Ellesmere Port a chanlyniad trafodaethau Brexit. Yma yn y de mae gennym ni fusnes bwyd OP Chocolate, sydd wedi dweud ar goedd eu bod yn ofni Brexit heb gytundeb oherwydd, yn y sefyllfa waethaf bosib, fe allen nhw golli hyd at werth £5 miliwn o fusnes o ganlyniad i dariffau. Nid nepell i ffwrdd, ym Mlaenau Gwent, mae Continental Teves UK Ltd wedi mynegi eu pryder ynghylch y posibilrwydd o orfod symud neu gau. Unwaith eto, materion sy'n ymwneud yn uniongyrchol â Brexit, ansicrwydd y trafodaethau nad ydynt yn cael eu cynnal yn llawn eto yn ein barn ni, a'r posibilrwydd parhaus o adael yr UE yn ddisymwth.

O ran rheoli economi'r DU, a'r dull sydd wedi'i amlinellu gan Jeremy Corbyn a John McDonnell, credaf fod rhai cynigion eithriadol o ddiddorol wedi'u cyflwyno, y byddwn yn eu cefnogi'n llwyr. Gwyddom o enghraifft Ffrainc fod gwelliannau mewn cynhyrchiant wedi'u cysylltu'n uniongyrchol â lleihau hyd yr wythnos waith, oherwydd mae pobl yn gallu rhoi mwy, a chyfrannu mwy, yn yr amser y maen nhw yn y gwaith. O ran yr ymagwedd tuag at dwf cynhwysol, byddwn yn ei groesawu'n fawr, oherwydd, gan ein bod wedi rheoli economi Cymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf— ac mae wedi gwneud yn eithriadol o dda—rydym ni wedi gweld bod y contract economaidd yn ysgogi twf cynhwysol, a bod y galwadau i weithredu'n sbarduno twf busnes cyfrifol a chynaliadwy—gyda'r ddwy fenter hon wedi eu dylunio i gyflawni'r lles mwyaf.

Nid ydym yn gwybod pa ganlyniad a allai fod i Gymru yn y cyhoeddiad a wnaed gan y Canghellor yr wythnos hon—yn wir, a fyddwn yn cael ceiniog o'r cyhoeddiad eildwym a wnaethpwyd yng nghynhadledd y blaid. Ond rwyf yn nodi mai dim ond £250 miliwn o'r cyhoeddiad £25 biliwn hwnnw a neilltuir i wasanaethau bysiau ledled y DU. Ac ar hyd a lled y wlad, mae gwasanaethau bysiau mewn sefyllfa fregus iawn, ac, yn seiliedig ar fy asesiad i, mae arnyn nhw angen llawer mwy na £250 miliwn er mwyn goroesi ansicrwydd Brexit a'r problemau sy'n gysylltiedig â dadreoleiddio.

Yr hyn y byddwn yn ei ddweud, o ran cymorth i fusnesau—mewn ymateb i gwestiwn Russell George am ymgysylltu â busnesau—yw ein bod ni, hyd yma, yn amcangyfrif bod bron i 40,000 o fusnesau wedi defnyddio porth Brexit busnes Cymru, a bod tua 1,000 o fusnesau wedi mynd drwy'r broses hunanasesu lawn.

15:35

Gwyddom fod ansicrwydd yn ddrwg i fusnes, sydd ynddo'i hun yn gondemniad o'r ffordd y cynhaliwyd y refferendwm, heb fod y gwaith cartref wedi'i wneud, oherwydd roedd hi'n anorfod y byddai'n cymryd blynyddoedd i ddatrys Brexit. Do, bu llithro o ran yr amserlen wreiddiol, ond byddai'n gyfnod o flynyddoedd beth bynnag, felly roedd hi'n anorfod y byddai'r cyfnod hwnnw o ansicrwydd, fel y dywedodd y Gweinidog, yn arwain at ohirio buddsoddi yn y fath fodd ag yr ydym ni wedi'i weld yn niweidio economi Cymru—gostyngiad mewn mewnfuddsoddi ac ati. Ac rwy'n credu, wrth i ni edrych ar bosibilrwydd Brexit heb gytundeb, ac, yn sicr, newidiadau wedyn i gyfnod dwys o drychineb posib i rai busnesau yng Nghymru—. Rwyf wedi siarad yn y Siambr hon droeon am yr allforwyr cregyn gleision yn allforio 97 y cant o'u cynnyrch yn fyw ac angen cael eu cynnyrch i gyfandir Ewrop o fewn 17 awr ar ôl eu codi o'r môr. Dyna'r math o sector na all ymdopi ag unrhyw oedi, pa mor fychan bynnag y bo, mewn porthladdoedd. Ac rwy'n meddwl am fusnesau eraill yn fy etholaeth sy'n allforio i'r Undeb Ewropeaidd a fydd yn llai cystadleuol, oherwydd naill ai materion ymarferol o ran gallu cael eu cynnyrch i'r farchnad neu faterion yn ymwneud â thariffau sydd efallai'n eu gwneud yn anghystadleuol, ac mae'r rhain yn broblemau real iawn y mae fy etholwyr yn eu hwynebu.

Cyfeiriodd y Gweinidog at y cyllid—£0.5 biliwn ar gael drwy Banc Datblygu Cymru drwy'r cronfeydd amrywiol sydd ar gael i fusnesau bach a chanolig. Tybed a allech chi egluro pa fesurau sy'n cael eu rhoi ar waith fel rhwyd diogelwch fel y gall busnesau sydd mewn sefyllfa lle mae'r esgid yn wirioneddol wasgu gael arian ar fyrder, o ran colled mewn gwerthiannau, a cholli allforion efallai, os byddwn yn gadael heb gytundeb.

Rydym ni weithiau'n anghofio, ac mae'n werth ein hatgoffa ein hunain, bod Cymru'n allforiwr net i'r Undeb Ewropeaidd, ac mae hynny'n ein hatgoffa bod angen i ni gadw mewn cof amgylchiadau penodol Cymru pan fyddwn ni'n trafod Brexit. Ofnaf mai cwestiwn Seisnig oedd y ddadl a gafwyd yn y misoedd byr hynny yn 2016 i raddau helaeth. Ystyriodd yr ardaloedd eraill y gofynnwyd y cwestiwn iddyn nhw, 'beth mae hyn yn ei olygu i ni?' Gofynnwyd yr un cwestiwn yn union i Gibraltar â Chymru, ac fe bleidleisiodd Gibraltar 95 y cant i aros, oherwydd gallent weld, 'Arhoswch funud, mae hyn yn hollol, hollol amlwg yn ddrwg i Gibraltar.' Yn anffodus, rwy'n credu y cymysgwyd mater Cymru ynghanol cwestiynau Seisnig, ond rwy'n crwydro braidd.

O ran trafnidiaeth, rwy'n falch o glywed bod paratoadau wedi'u gwneud i sicrhau y gall cerbydau deithio ar hyd yr A55 yn ddi-rwystr ar ôl 31 Hydref, ac y caiff gwaith ffordd ei glirio i wneud yn siŵr nad oes unrhyw rwystrau ychwanegol i gynnydd yn y traffig neu i'r problemau y bydd y traffig yn eu hwynebu yng Nghaergybi. Efallai y gallech chi roi ychydig mwy o fanylion inni am yr hyn sy'n cael ei wneud, serch hynny, yn eich geiriau chi, i leihau effaith tarfu ar draffig lleol ym mhorthladd Caergybi yn benodol. Oherwydd rydym ni'n gwybod bod lle i 600 o lorïau yng Nghaergybi; mae cynlluniau wedi'u hegluro inni, o'r blaen, i gael ychydig o leoedd ychwanegol i gynyddu hynny i oddeutu 1,000 o gerbydau nwyddau trwm, ond mae posibilrwydd y bydd problemau yng nghyffiniau'r porthladd, lle mae problemau traffig eisoes. Felly, byddwn yn ddiolchgar o gael rhagor o fanylion am hynny.

Hefyd, er bod cynigion diweddaraf Downing Street ar y cwestiwn ynghylch ffiniau Iwerddon wedi eu disgrifio gan y rhan fwyaf o bobl a fu'n rhan o'r trafodaethau hynny fel rhai cwbl ddiffygiol, pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i effaith y syniadau diweddaraf hynny ar lif masnach a sut i ymdrin â'r ffin ar Ynys Iwerddon, a sut y gallai hynny effeithio arnom ni yng Nghymru?

15:40

Wel, a gaf i ddiolch i Rhun ap Iorwerth am ei gwestiynau a'i gyfraniad. Gan ymdrin â'r dyfyniad olaf hwnnw yn gyntaf, yn amlwg, mae Llywodraeth y DU eisoes mewn rhywfaint o lanast ynghylch ei chynigion, neu ei chynigion honedig i ymdrin â ffin Iwerddon. A bydd unrhyw un sy'n edrych ar y newyddion heddiw yn holi sut ar wyneb y ddaear gallai gwiriadau ar y ffiniau beidio â chynnwys ffin galed ar Ynys Iwerddon. Felly, mae arnaf ofn ei bod hi'n ymddangos y caiff y cynigion sy'n cael eu cyflwyno gan y Prif Weinidog eu diystyru'n llwyr gan 27 yr UE, o gofio safbwynt clir a chyson ein partneriaid yn Ewrop yn hyn o beth. Ac, felly, mae pob un o'n hasesiadau o gyfnod cynharach yn y flwyddyn yn ymwneud ag effaith debygol gweithredu rhaglen o reoli ffiniau o'r fath yn dal yn berthnasol heddiw.

Mae Rhun ap Iorwerth yn gywir i ddweud y bydd ansicrwydd yr ysgariad oddi wrth yr Undeb Ewropeaidd, yn ôl pob tebyg, yn para am flynyddoedd. Roedd llawer o academyddion amlwg yn dweud yn ystod ymgyrch y refferendwm—wrth gwrs, ni chlywyd eu lleisiau gan lawer, yn anffodus, ond roedden nhw'n dweud yn gyson ac yn rymus, yn fy marn i, y byddai'n cymryd blynyddoedd i'r ysgariad ddigwydd ac yna i gytuno ar drefniadau dilynol ar gyfer cytundebau masnachu newydd, ac, yn ystod y cyfnod hwnnw, ni allai economi Cymru a'r DU dim ond crebachu oherwydd yr ansicrwydd a'r tarfu a achosid gan hyn.

Ac mae Rhun ap Iorwerth yn llygad ei le: mae'r problemau yr ydym ni yn awr yn eu hwynebu heddiw yn ganlyniad uniongyrchol i'r ddau ddewis a gynigiwyd i bleidleiswyr yn y refferendwm rhwng sicrwydd y sefyllfa fel yr oedd hi a dim byd mwy na syniad, heb unrhyw fanylder. Dyma'r ddau ddewis a gyflwynwyd i bobl heb roi unrhyw ystyriaeth i'r posibilrwydd o ddiwygio'r UE ymhellach. Ac rwy'n credu hefyd, pe bai Llywodraeth y cyfnod hwnnw wedi gallu cynnig rhyw fath o gytundeb o leiaf gyda'r UE a rhoi'r dewis hwnnw i bobl y DU, y byddai'r bobl wedi penderfynu'n fwy gwybodus. Credaf hefyd y byddai hynny wedi golygu y byddai pleidlais i aros wedi bod yn llwyddiannus.

Fodd bynnag, dyma'r sefyllfa sydd ohoni, ac mae Llywodraeth Cymru yn cymryd camau breision wrth baratoi ar gyfer Brexit heb gytundeb—mae'n rhaid inni; mae'n gyfrifoldeb arnom ni. Ac, o ran y cyllid a all fod ar gael, hyd yn hyn, nid yw'r prosiect Kingfisher, sy'n nodi'r busnesau hynny sydd mewn perygl o gau, y busnesau hynny a allai adael ein glannau, wedi gwneud dim mwy na chasglu a rhannu gwybodaeth. Rydym ni wedi bod yn dweud wrth Lywodraeth y DU, i gefnogi'r prosiect Kingfisher, bod yn rhaid i arian fod ar gael. Rydym ni'n amcangyfrif, er mwyn ymdrin â'r galwadau ar Lywodraeth Cymru am gymorth brys, y byddai angen i ni weld cronfa dyfodol yr economi yn cynyddu o'r £10 miliwn presennol i £35 miliwn o leiaf. A gobeithiaf y bydd Llywodraeth y DU yn parchu hynny pan fydd yn ystyried pa fath o gyllid a fydd ar gael.

Ond rhan fach yn unig fyddai hyn o'r ymateb a'r gefnogaeth ariannol y byddai gofyn i'r Llywodraeth hon ei rhoi i fusnesau ledled Cymru. Yn ogystal â hynny, mae'r banc datblygu gennym ni, ac, fel y dywedais eisoes, mae gan hwnnw £0.5 biliwn o gronfeydd amrywiol ar gael y gellid eu defnyddio i gefnogi busnesau. Ar hyn o bryd, mae'r banc datblygu yn edrych ar sut y gall sicrhau y caiff staff eu hadleoli i'r rheng flaen os bydd Brexit heb gytundeb. Mae'n ystyried symud tua 200 o aelodau o staff i wasanaethau rheng flaen. Hefyd, mae Busnes Cymru wedi cadarnhau eu bod yn barod i ddargyfeirio 20 aelod o staff i'r rheng flaen, yn ogystal â'r 74 sydd eisoes yn weithredol, ac mae Llywodraeth Cymru, yn ogystal, yn fy adran i yn unig, yn ystyried adleoli 100 o aelodau staff—mwy na 500 o bobl yn cael eu hanfon i faes gweithgarwch y gellid bod wedi ei osgoi.

O ran yr A55, gallaf ddweud wrth Aelodau heddiw imi wneud penderfyniad anodd iawn yn ddiweddar i ohirio prosiect o wella wyneb y ffordd ar hyd un darn penodol o'r A55 gan fod y gwaith wedi'i raglennu i ddigwydd yn yr wythnos y gallem ni adael yr UE yn ddisymwth. Nid oeddwn eisiau gweld tarfu ar yr A55 tra bod tarfu hefyd ym mhorthladd Caergybi o ganlyniad i ymadael yn ddisymwth â'r UE. Mae goblygiadau gwirioneddol o ran gohirio gwaith ffordd. Mae'n golygu mai dim ond cynyddu bydd yr ôl-groniad. Mae'n golygu, yn nes ymlaen, y bydd mwy o darfu o ganlyniad i'r gwaith hanfodol. Byddai'r gwaith penodol hwnnw a oedd fod i ddigwydd ddiwedd mis Hydref wedi arwain at leihad yn y sŵn sy'n dod o'r ffordd i eiddo sy'n ffinio â'r A55. Byddai'n dda o beth pe gallem ni fod wedi bwrw iddi gyda'r gwaith hwn, ond, o ganlyniad i'r sefyllfa yr ydym ni ynddi oherwydd Brexit, bu'n rhaid inni wneud y penderfyniad cyfrifol a gohirio'r ymyriad penodol hwnnw.

Draw ym mhorthladd Caergybi, mae Rhun ap Iorwerth yn llygad ei le wrth ddweud ar y safle, a chydag ardal arall yr ydym ni wedi gallu ei sicrhau, bydd lle i ychydig llai na mil o gerbydau nwyddau trwm. Os bydd angen rhagor o le, ein cynigion yw defnyddio ochr yr A55 tua'r gorllewin a chael traffig gwrthlif ar ochr ddwyreiniol yr A55 yn y porthladd. Rydym yn dymuno tarfu cyn lleied â phosib ar borthladd Caergybi, ond ni allwn ni warantu, os na fydd dogfennaeth briodol gan gludwyr, na chânt eu troi'n ôl ac na fyddant yn gorfod ffurfio rhesi aros, ond hoffem osgoi hyn os oes modd. Yn wir, rydym ni'n gweithio gyda'r cwmnïau fferi sydd, yn eu tro, yn gweithio gyda busnesau cludo nwyddau, ac rwy'n falch o ddweud bod arwyddion ar draws y ffin bellach ar draffyrdd allweddol yn Lloegr fel y gall cwmnïau cludo nwyddau eu gweld yn glir, ar yr M6 a thraffyrdd eraill yn Lloegr, i annog cwmnïau cludo nwyddau i sicrhau bod ganddyn nhw'r dogfennau cywir ddiwedd mis Hydref pan fyddant yn cyrraedd porthladd Caergybi.

15:50

Gweinidog, mae rhai cwestiynau yr hoffwn i eu gofyn o ran masnach, nid masnach Cymru yn unig, ond masnach y DU, a'r berthynas â masnach ryngwladol. Nawr, yn ystod gohiriad anghyfreithlon y Senedd—ac, i'r rhai sy'n amau hynny, y Goruchaf Lys yw'r corff cyfreithiol goruchaf; os ydynt yn penderfynu ei fod yn anghyfreithlon, dyna yw cyfraith y wlad, dyna beth mae rheol y gyfraith yn ei bennu—. Felly, yn ystod gohiriad anghyfreithlon y Senedd, wrth gwrs, diffygiodd sawl darn o ddeddfwriaeth, gan gynnwys y Bil Masnach a nifer o ddarnau eraill o ddeddfwriaeth y buom ni'n edrych arnyn nhw yn ein gwahanol bwyllgorau, ond mae'r Bil Masnach yn un arbennig o bwysig, ac yn arbennig o berthnasol i'ch portffolio a hefyd i'r buddiannau economaidd sydd gennym ni yng Nghymru.  

Nawr, fel y dywedodd y Fonesig Ustus Hale, os oedd y Gorchymyn gohiriad fel dalen wag o bapur yna, yn ôl pob tebyg, mae'r Bil Masnach yn dal i fodoli. Ond y broblem yw bod gennym ni Lywodraeth nad oes ganddi unrhyw fwriad ar hyn o bryd i fwrw ymlaen â'r Bil hwnnw. Nawr, wrth gwrs, mae gennym ni bryderon mawr ein hunain ynghylch cynnwys y Bil hwnnw, yn arbennig o ran y ffordd y gallai geisio diystyru pwerau datganoledig yng Nghymru, yn enwedig materion sy'n ymwneud â masnach, materion amgylcheddol ac, mewn gwirionedd, y gwasanaeth iechyd gwladol. Gwnaed y pwyntiau hynny yn ystod y Cydgyngor Gweinidogion a buont yn destun cryn drafod. Ond, wrth gwrs, y gwir amdani yw nad oes Bil Masnach yn mynd rhagddo ar hyn o bryd, ac, wrth gwrs, y gwir bryder yw, pe baem yn gadael heb gytundeb, ac yn sydyn yn ymadael yn ddisymwth â'r Undeb Ewropeaidd, yr hyn a fyddai'n digwydd yw y byddai'r llywodraeth yn gweithredu ar sail uchelfraint frenhinol, sy'n golygu y gellir cytuno ar gytundebau masnach gydag ychydig iawn o graffu seneddol o gwbl, ac y gellir osgoi'r Siambr hon yn llwyr, y gellir osgoi'r Cynulliad a Llywodraethau datganoledig y DU.

Nawr, rwy'n cofio, yn ystod y refferendwm—rwy'n cofio ymgyrchwyr UKIP yn sefyll gyda phlacardiau yn dweud, 'Dim TTIP'. Wrth gwrs, roeddem yn pryderu'n fawr am fater y Bartneriaeth Masnach a Buddsoddi Trawsiwerydd yn y Siambr hon, ac, wrth gwrs, roedd yr UE hefyd—roedd pob un o'r 28 cenedl—oherwydd, ar hyn o bryd, mae negodiadau'n dal i fynd rhagddynt â'r Unol Daleithiau, ond yn sicr maen nhw'n araf iawn oherwydd y safonau a fynnir o ran yr amgylchedd a bwyd. Ond, wrth gwrs, yr hyn sy'n cael ei ddweud yn awr gan Nigel Farage a chan y Blaid Brexit, a chan yr adain dde eithafol yn gyffredinol, yw mai'r ffordd ymlaen, wrth gwrs, fydd y cytundeb masnach anhygoel hwn gyda'r Unol Daleithiau. Wel, wrth gwrs, ar hyn o bryd, y mater o ran yr Unol Daleithiau yw nad ydym ni wedi cael unrhyw sicrwydd o gwbl gan Lywodraeth y DU y bydd ein gwasanaeth iechyd gwladol yng Nghymru, er enghraifft, yn cael ei ddiogelu mewn gwirionedd. Nid oes eithriad i'r GIG, a byddwn i gyd yn cofio i Theresa, mewn gwirionedd, wrthod rhoi unrhyw beth yn ysgrifenedig am eithriad o'r fath.

Felly, mae angen inni edrych ar beth yw amcanion negodi'r Unol Daleithiau. Wel, edrychwch ar ychydig ohonyn nhw'n unig: ynghylch nwyddau fferyllol, darparu mynediad llawn i'r farchnad ar gyfer cynnyrch yr Unol Daleithiau; ynghylch mentrau sy'n eiddo i'r wladwriaeth—er enghraifft, y Gwasanaeth Iechyd Gwladol—rhoi triniaeth gyfartal mewn perthynas â phrynu a gwerthu nwyddau a gwasanaethau; cynyddu'r cyfleoedd sydd ar gael i gwmnïau werthu cynnyrch a gwasanaethau'r Unol Daleithiau i'r DU; a sefydlu dulliau datrys anghydfodau—a fydd bron yn sicr yn seiliedig ar sofraniaeth ddeddfwriaethol yr Unol Daleithiau. Yn y bôn, nid yn unig y bydd ein GIG yng Nghymru'n ddibynnol yn sydyn—drwy uchelfraint frenhinol—ar gytundebau masnach gan Boris Johnson gyda'r Unol Daleithiau, sy'n caniatáu ymyrryd yn uniongyrchol gyda'n gwasanaeth iechyd ein hunain a gwasanaeth iechyd y DU—. A'r hyn y mae pob un ohonom ni yn ofni y bydd yn digwydd yw gwerthu a phreifateiddio'r gwasanaeth iechyd mewn gwirionedd, sy'n drysor allweddol y mae diwydiannau'r UD wedi bod yn anelu ato. A dyna pam, pan gawsom ni gynhadledd ddiweddar y Blaid Lafur, mai dyma'r sylw—yr wyf yn cytuno ag ef—a wnaeth Jeremy Corbyn. Dywedodd:

Dyna pam fod Brexit heb gytundeb mewn gwirionedd yn Brexit sy'n gytundeb gyda Trump. Dyna fyddai'r gwrthwyneb i adfer rheolaeth. Byddai'n trosglwyddo dyfodol ein gwlad i Arlywydd Unol Daleithiau America a'i bolisi o America'n Gyntaf. Wrth gwrs, mae Trump yn falch o gael Prif Weinidog Prydeinig ufudd yn ei boced. Byddai Brexit sy'n gytundeb gyda Trump yn golygu y cai corfforaethau rwydd hynt i feddiannu ein gwasanaethau cyhoeddus yn llwyr.

Felly, mae gennyf gwestiwn neu ddau ichi, Gweinidog, ynglŷn â hyn: beth yw'r sefyllfa ar hyn o bryd o ran y cytundeb masnach? Pa drafodaethau, pa gysylltiadau, ydych chi wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU o ran buddiannau Cymru? Yn ail, os yw'r Bil Masnach, mewn gwirionedd, yn dal i fodoli, beth yw oblygiadau gadael yr UE heb gytundeb i fasnach ryngwladol? Yn drydydd, heb ddeddfwriaeth, a allai Llywodraeth y DU sathru ar fuddiannau Cymru? Yn bedwerydd, faint o graffu seneddol a fyddai yn yr hinsawdd bresennol? Ac, yn bumed, pa warantau a roddwyd i Lywodraeth Cymru ynghylch diogelu'r gwasanaeth iechyd gwladol yng Nghymru rhag cytundeb masnach rhwng Prydain ac America gan Boris Johnson?

15:55

Wel, rwyf bob amser yn fodlon cael darlithoedd ar y gyfraith gan Mick Antoniw, o gofio ei arbenigedd yn y maes hwn, a chredaf heddiw ei fod wedi cyfleu'r canlyniadau ofnadwy tebygol o gael cytundeb gwael gyda'r Unol Daleithiau o dan Arlywydd presennol y wlad honno sydd ar fin cael ei uchelgyhuddo. O ran y Bil Masnach, rwy'n siŵr y gall y Gweinidog Cysylltiadau Rhyngwladol a'r Iaith Gymraeg roi'r wybodaeth ddiweddaraf am statws y Bil penodol hwnnw, ond fy nealltwriaeth i yw y rhoddwyd ef o'r neilltu ar hyn o bryd, a'i bod hi'n bur annhebygol y caiff ei brosesu unrhyw bryd yn fuan.

O ran yr hyn y gallai cytundeb masnach â'r Unol Daleithiau ei wneud i Gymru, wel, fy marn i yw y byddai cytundeb masnach yn ei hanfod yn weithred lle gallai'r Unol Daleithiau ysbeilio ein hasedau mwyaf gwerthfawr er ei budd ei hun, yn bennaf y gwasanaeth iechyd gwladol, ac mae hyn yn rhywbeth y dylem ni mewn difrif calon ei ddiystyru'n llwyr. Byddai goblygiadau hefyd o ran ein sector bwyd a diod, sydd wedi cael sylw trylwyr iawn ar y cyfryngau, yn ogystal ag i sawl maes arall o wasanaethau cyhoeddus a'r sector cyhoeddus.

O ran goblygiadau gadael yr UE heb unrhyw gytundebau masnach sylweddol, wel, wrth gwrs, byddem wedyn yn dychwelyd at reolau Sefydliad Masnach y Byd, a allai beri i economi Cymru grebachu'n sylweddol, ac mae'r ffigur o 9 y cant eisoes wedi'i gyflwyno i'r Siambr heddiw, ond byddai rhai sectorau yn cael eu taro'n arbennig o galed, ac mae'r sectorau penodol hynny'n bwysig iawn, iawn yng Nghymru. Rydym ni'n amcangyfrif y gallai goblygiad ymadael yn ddisymwth â'r UE heb gytundeb arwain at berygl cymedrol i sylweddol o golli cynifer â 30 y cant o'r swyddi mewn un ardal awdurdod lleol penodol yng Nghymru, sef Sir y Fflint. Nawr, os mai 30 y cant yw'r ganran yn y fan yna, mae'n debyg ei bod hi'n 30 y cant ychydig dros y ffin, ac rwyf eisoes wedi amlinellu'r sefyllfa y mae Vauxhall ynddi, ac, ar draws y ffin rhwng Cymru a Lloegr, gallem weld swyddi sylweddol yn cael eu colli a fyddai'n effeithio ar ein heconomi hefyd. Yng Nghymru, byddai'r ardal awdurdod lleol uchaf ond un ar ôl Sir y Fflint sydd wedi ei dynodi fel un sydd â risg ganolig neu uchel o golli swyddi yn gweld colli oddeutu 20 i 25 y cant o swyddi o bosib. Mae hyn yn drychinebus i economi Cymru ac i'n cymunedau.

Wel, diolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad ac rwy'n cydnabod doethineb blaengynllunio, ond rhaid imi ddweud, wrth eistedd yn y Siambr hon heddiw, bod gwrando ar Weinidogion y Llywodraeth Lafur yn rhoi gwybod inni sut y maen nhw'n paratoi ar gyfer Brexit heb gytundeb yn cythruddo rhywun. Pam ydw i'n dweud hyn? Gan mai'r Blaid Lafur sydd ar fai yn rhannol am y sefyllfa sy'n bodoli bellach. Ni ddylai Brexit heb gytundeb erioed fod wedi bod yn ystyriaeth. 

Drwy bleidleisio ar sawl achlysur yn erbyn Brexit, a oedd, ar bob achlysur, yn gwadu ewyllys miliynau o gefnogwyr Llafur a bleidleisiodd i adael yr Undeb Ewropeaidd, gellid dweud bod y Blaid Lafur wedi achosi'r digwyddiadau hyn. Maen nhw, mewn gwirionedd, wedi bod yn benseiri ymadael heb gytundeb, os a phan fydd hynny'n digwydd. Fe wnaethon nhw alw am etholiad ar anterth poblogrwydd Corbyn ac yna pleidleisio yn erbyn hynny am fod y blaid bellach mewn cyflwr mor enbyd. Dywedant eu bod yn credu mewn democratiaeth—[Torri ar draws.]

16:00

Diolch. Dywedant eu bod yn credu mewn democratiaeth, ond yn gwadu'r ymarfer democrataidd mwyaf yn hanes gwleidyddol Prydain, ac yn parhau i alw am bleidlais y bobl fel y gadewir pobl a bleidleisiodd 'gadael' yn gofyn iddynt eu hunain, 'onid pobl ydym ni? ' Onid yw'r Gweinidog yn cytuno â mi fod y Blaid Lafur yn San Steffan bellach wedi dod yn blaid o anwadalwch, gan alw am un peth ar un diwrnod a rhywbeth hollol wahanol y diwrnod canlynol? Does ryfedd bod Nigel Farage yn dweud bod y Blaid Lafur bellach yn blaid fwy perthnasol i Islington nag i Islwyn.

Pan gawsant y cyfle i gael etholiad cyffredinol, a dweud y gwir, fe aethon nhw i'w cragen. Pam? Oherwydd eu bod bellach yn gweld bod eu safiad ar Ewrop a gwadu dilysrwydd pleidlais y refferendwm wedi'u gwneud yn amhoblogaidd iawn ymhlith llawer o'u cefnogwyr selog hyd yma. Os oedd y refferendwm yn ddiffygiol, fel y dadleua Llafur yn barhaus, pa ffordd well i brofi ewyllys y bobl yn wir nag etholiad cyffredinol? Onid yw hi'n wir, Gweinidog, fod rhagfynegiadau chwerthinllyd ynghylch y trychinebau posib sy'n hanfodol mewn sefyllfa o ymadael heb gytundeb, ac y mae'r ddadl hon ar barodrwydd nawr yn canolbwyntio arnyn nhw, yn ailadrodd y rhagfynegiadau enbyd yn dilyn canlyniad y refferendwm ei hun? Byddai'r sector bancio'n gadael yn un haid, byddai cwmnïau gweithgynhyrchu mawr yn symud i'r cyfandir, byddai mewnfuddsoddi'n gostwng yn ddramatig, a byddai cyflogaeth yn cynyddu—a profwyd eu bod i gyd yn gwbl gamarweiniol.

Fe wnaethoch chi eich hun, Gweinidog, sôn am waith Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr, er bod Ford yn bendant na wnaeth Brexit ddylanwadu ar eu penderfyniad. Efallai y dylem ni gofio i Ford symud ei gynhyrchiant i Dwrci o Southampton. Wrth gwrs, nid yw Twrci ei hun yn yr UE. Ac fe wnaethoch chi anghofio sôn am golli 900 o swyddi yn Bosch ym Meisgyn—canlyniad uniongyrchol o fod yn yr Undeb Ewropeaidd. Bu mwy o fewnfuddsoddi yn y DU yn 2018 nag yn Ffrainc a'r Almaen gyda'i gilydd. Mae cynhyrchu diwydiannol sydd wedi creu swyddi wedi bod yn uwch nag erioed tra bod economïau Ewrop wedi marweiddio, ac mae cyflogaeth wedi cynyddu yn holl wledydd y cyfandir. Mae'r rhai sy'n dymuno gwadu canlyniad y refferendwm yn anwybyddu'r ffaith bod y DU, yn hanesyddol, yn wlad flaengar, entrepreneuraidd a rhyddfrydol. Ond yn y degawdau diwethaf, mae'r egni rhyddfrydol hwn wedi cael ei beryglu gan ein haelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd, lle mae system o or-reoleiddio ac ymyrraeth gan y wladwriaeth yn rhemp.

Mae Brexit yn gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i'r DU ryddhau ein masnach, busnes a phobl. Ac mae'n rhaid i mi ddweud, gan fy mod wedi treulio 40 mlynedd ym myd masnach fy hun, sef rhywbeth na fu bron pob un Aelod o'r sefydliad hwn ynghlwm ag ef, rwy'n gwybod beth yw gallu pragmatig busnesau i oresgyn anawsterau. Unwaith eto, rwy'n cymeradwyo ymdrechion Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ond ni allaf beidio â meddwl bod hwn yn ymarfer diangen, costus a llafurus. Mae eich paratoadau yn y ddogfen hon yn glodwiw iawn mewn sawl modd, Gweinidog. Teimlaf eich bod yn gwneud popeth a allwch chi i sicrhau bod Cymru'n barod, os ydym ni yn—hoffwn ddweud 'torri'n rhydd' o'r Undeb Ewropeaidd, nid 'ymadael yn ddisymwth'. Oni fyddai'n ddoethach i Lywodraeth Cymru ganolbwyntio ar greu marchnadoedd y tu allan i'r UE ar gyfer busnesau yng Nghymru? Diolch.

Gweinidog, fel yr ydych chi wedi sylwi, mae'n siŵr, mae amser wedi ein trechu, felly efallai gallwch chi fod yn gryno.

Byddaf yn gryno. O ran pwy sydd ar fai am y perygl o Brexit heb gytundeb, wel, mae'n amlwg y bu Nigel Farage yn dweud ers peth amser bellach bod angen torri'n rhydd, hynny yw, Brexit heb gytundeb. Bu'n hyrwyddo'r posibilrwydd o Brexit heb gytundeb ac ni fyddwn yn cytuno bod ymadael heb gytundeb yn ganlyniad i ni'n ymladd am y cytundeb gorau. Mae'r risg o ymadael heb gytundeb yn deillio o'r ffaith bod y Prif Weinidog presennol a'r Prif Weinidog blaenorol wedi gwrthod diystyru Brexit heb gytundeb. O ran profi ewyllys y bobl, wel, ni fyddai ffordd well o brofi ewyllys y bobl ynghylch y mater hwn na chael refferendwm ystyrlon ynghylch y ffordd ymlaen. Ac o ran y busnesau hynny sydd, ysywaeth, wedi colli swyddi, mae ansicrwydd Brexit, yn ôl eu cyfaddefiad nhw eu hunain, wedi bod yn broblem gyson y maen nhw wedi gorfod mynd i'r afael â hi, gan gynnwys Ford.

Os gallaf grybwyll risg real iawn i les y cyhoedd o ran Brexit, gadewch i ni ddewis bysiau am y tro. Rydym ni'n gwybod y caiff olew ei brisio mewn doleri ac o ganlyniad i'r bunt yn llithro o ran gwerth, mae cost tanwydd wedi bod yn cynyddu. Nawr, credwn fod y diwydiant yng Nghymru—ac mae mwy na 80 o gwmnïau bysiau yng Nghymru yn cael y grant cymorth gwasanaethau bysiau neu ad-daliad ar gyfer tocynnau teithio rhatach—gwyddom y gallant amsugno cynnydd o oddeutu 2 y cant mewn pris tanwydd. Dau y cant. Pe bai'n cynyddu mwy na hynny, yna gallai hynny olygu bod cymunedau yng Nghymru yn colli gwasanaethau bysiau neu yn gweld cynydd—[Torri ar draws.] Wel, wyddoch chi, gwasanaethau bysiau—mae'r Aelod yn gweiddi ar ei eistedd am wasanaethau bysiau—

16:05

Y rheswm mae gwasanaethau bysiau mor fregus yw oherwydd i'w blaid ei hun ddadreoleiddio'r sector yn 1986—[Torri ar draws.]

A'r Aelod—[Torri ar draws.] Esgusodwch fi. Andrew R.T. Davies. Esgusodwch fi.

Dyna'r rheswm. Ac mae'n bosibl y gallai mwy o wasanaethau bysiau ddioddef o ganlyniad i ni ymadael â'r UE heb gytundeb a gwerth y bunt yn plymio wrth i brisiau tanwydd gynyddu.

Ond, Dirprwy Lywydd, yng ngeiriau Darren Millar, rydym ni'n gwneud popeth yn ein gallu i baratoi Cymru ar gyfer Brexit heb gytundeb. Ac roedd hi'n ddiddorol ei fod wedi dewis defnyddio'r term hwnnw, 'paratoi Cymru'. Rydych chi'n ymbaratoi pan fydd awyren ar fin cwympo, pan fydd car ar fin chwalu, a bydd Brexit heb gytundeb yn achosi anhrefn llwyr i'n heconomi. Peidiwch ag amau hynny o gwbl.

5. Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Paratoi'r economi wledig a'r sector pysgodfeydd ar gyfer Brexit heb gytundeb

Eitem 5 ar ein hagenda yw datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ar baratoi'r economi wledig a'r sector pysgodfeydd ar gyfer Brexit heb gytundeb. Galwaf ar y Gweinidog, Lesley Griffiths.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Byddai gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb yn cael effaith drychinebus ar unwaith ac yn yr hirdymor ar gymunedau gwledig. Bydd yr effeithiau hyn yn arbennig o ddifrifol yn fy mhortffolio i. Mae'r Llywodraeth hon wedi egluro dro ar ôl tro na ddylem ni adael heb gytundeb sy'n diogelu buddiannau'r amgylchedd, busnesau a dinasyddion. Yn grŵp rhyngweinidogol yr amgylchedd, bwyd a materion gwledig ar 9 Medi, mynegais bryderon difrifol ynghylch ymgais Llywodraeth y DU i adael yr UE ar unrhyw gost. Mae'r sectorau ffermio, pysgodfeydd, bwyd a diod yn dibynnu ar fewnforion ac allforion di-dariff drwy ffiniau agored â'r UE. Mae'r sectorau hyn hefyd yn dibynnu ar weithwyr yr UE. Byddai gadael heb gytundeb, a'r tariffau a'r rhwystrau sy'n codi o ran masnach, yn ddinistriol i gyflogaeth ac economi cymunedau gwledig ac arfordirol sy'n dibynnu ar y sectorau hyn a'u cadwyni cyflenwi cysylltiedig.  

Mae'r rhan fwyaf o ddeddfwriaeth a systemau fy mhortffolio i yn deillio o aelodaeth yr UE, o gefnogi ffermwyr i reoli ein pysgodfeydd, o amddiffyniadau amgylcheddol i enwau bwyd gwarchodedig i hyrwyddo ein cynnyrch o safon. Yn hytrach na dileu biwrocratiaeth, bydd gadael yr UE heb unrhyw gytundeb yn cyflwyno biwrocratiaeth lle nad yw'n bodoli—datganiadau tollau, tystysgrifau iechyd allforio, tystysgrifau dalfa pysgodfeydd a gwiriadau ffiniau. Gallai hyn arwain at oedi, costau ychwanegol i fusnesau a phrisiau cynyddol i ddefnyddwyr. Felly, er ein bod yn parhau i ddadlau yn erbyn gadael heb gytundeb, mae'n hanfodol ein bod yn parhau i baratoi ar ei gyfer. Rydym ni wedi gweithio gyda'n rhanddeiliaid a gweinyddiaethau eraill i sicrhau ein bod yn barod. Gyda bygythiad gwirioneddol gadael heb gytundeb, mae ein sylw ni ar gynllunio wrth gefn ar gyfer gadael y mis hwn.

Mae diwygio ddeddfwriaeth yr UE a gedwir i sicrhau bod yr un pwerau ac amddiffyniadau ar waith wedi bod yn dasg enfawr. Os byddwn ni'n gadael ar 31 Hydref, rwy'n hyderus y bydd gennym ni lyfr statud gweithredol sy'n sicrhau bod iechyd y cyhoedd, anifeiliaid a'r amgylchedd yn parhau i gael eu diogelu a'i fod yn darparu sail gyfreithiol i barhau i fasnachu â'r UE. Mae ein rhaglen parodrwydd o 74 o brosiectau, ar y cyd â DEFRA a BEIS, yn darparu ar gyfer system weithredol ar y diwrnod cyntaf. Bydd hyn yn disodli systemau'r UE y byddwn ni yn colli'r hawl i fynd atynt, gan gynnwys olrhain symudiadau anifeiliaid a phlanhigion, gorfodi pysgodfeydd a rheoleiddio cemegau.

16:10

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Byddwn ni yn talu gwerth llawn eu cynllun taliad sylfaenol 2019 i ffermwyr o 2 Rhagfyr. Er mwyn sicrhau nad yw unrhyw fusnes ar ei golled, rydym ni wedi sefydlu cynllun benthyciadau sy'n caniatáu i ni dalu hyd at 90 y cant o'r gwerth a ragwelir ar gyfer hawliadau nad ydynt wedi'u dilysu. Rydym ni wedi gweithio gyda gweithgynhyrchwyr bwyd, archfarchnadoedd a gweinyddiaethau eraill ar gynlluniau wrth gefn ar gyfer cyflenwi bwyd. Efallai y bydd rhywfaint o ostyngiad yn y dewis o fwydydd sydd ar gael, yn enwedig rhai ffrwythau a llysiau ffres sy'n dod o'r UE. Mae archfarchnadoedd wedi fy sicrhau eu bod wedi ymrwymo i gyflenwi eu holl siopau'n deg, pa un ag ydyn nhw mewn ardaloedd trefol neu wledig.

Mae llawer o'r cemegau a ddefnyddir i sicrhau cyflenwad dŵr glân yn dod o'r UE. Rydym ni'n gweithio gyda'n cwmnïau dŵr, ac rwy'n hyderus bod eu cynlluniau lliniaru cadarn yn sicrhau na fydd, ar y cyfan, unrhyw effaith ar wasanaethau dŵr cyhoeddus. Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am ddiogelwch ynni a marchnadoedd. Rydym ni wedi gweithio gyda BEIS i sicrhau bod eu paratoadau'n diwallu anghenion Cymru. Mae BEIS wedi fy sicrhau nad oes unrhyw risgiau sylweddol i'r cyflenwad trydan, nwy na thanwydd. Mae yna bryderon ynghylch diogelu'r amgylchedd ar ôl gadael. Bydd yr holl fesurau diogelu amgylcheddol deddfwriaethol sydd ar waith ar hyn o bryd yn cael eu cadw. Mae swyddogaeth llywodraethu amgylcheddol y tu allan i Ewrop yn gymhleth ac rydym ni'n gweithio gyda rhanddeiliaid i ddatblygu dull gweithredu syml dros dro a'r trefniadau hirdymor angenrheidiol.

Er fy mod yn hyderus yn ein paratoadau, nid wyf yn hunanfodlon. Byddai'n ffuantus dweud nad oedd unrhyw risgiau. Er y gallwn ni liniaru rhai risgiau, mae eraill y tu hwnt i reolaeth Llywodraeth Cymru. Er enghraifft, os na fydd y DU yn cael statws trydedd wlad gan yr UE, bydd allforio cynhyrchion anifeiliaid a phlanhigion yn dod i ben. Mae cynigion i sicrhau hyn yn cael eu trafod â'r UE. Rydym ni'n disgwyl oedi sylweddol mewn porthladdoedd yn ôl dogfen Operation Yellowhammer. Yn achos pysgod cregyn sy'n cael eu hallforio'n fyw, gallai'r oedi hwnnw olygu'r gwahaniaeth rhwng dalfeydd yn cyrraedd y cyfandir ar eu gorau, neu bod y llwyth wedi'i ddifetha. Bydd ein pysgotwyr yn wynebu beichiau gweinyddol newydd, megis tystysgrifau dalfeydd allforio ac iechyd allforio. Er mwyn roi hyn yn ei gyd-destun, mae'n bosibl y bydd nifer y tystysgrifau iechyd allforio a gyhoeddir yng Nghymru bob blwyddyn yn cynyddu ddengwaith.

Yn yr un modd, mae ein hallforion cig oen ni bron i gyd yn mynd i'r UE. Bydd tariffau yn ei gwneud yn anodd i gig oen Cymru gystadlu yn y farchnad Ewropeaidd. Mae gwaith dwys ar y gweill gyda DEFRA i ddatblygu cynlluniau wrth gefn i atal y sectorau hyn sy'n agored i niwed rhag diflannu yn yr wythnosau yn dilyn gadael heb gytundeb. Byddai'r cynlluniau hyn yn helpu'r sectorau hyn i wrthsefyll effeithiau cychwynnol Brexit heb gytundeb. Fodd bynnag, rydym ni'n dibynnu ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod arian ar gael ar gyfer y cymorth hwn, nad ydyn nhw eto wedi ymrwymo i'w ddarparu. Rydym ni'n cefnogi ffermwyr yn y cyfnod anodd hwn: rydym ni wedi ailargraffu'r llyfryn 'Ffit i Ffermio', wedi lansio partneriaeth elusennau, ac wedi ariannu sefydliad DPJ i ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl i ffermwyr Cymru. Rydym ni hefyd yn hyrwyddo lles ein pysgotwyr.

Nid yw'r holl baratoadau ar gyfer Brexit o dan reolaeth Llywodraeth Cymru. Rwy'n arbennig o bryderus ynghylch parodrwydd busnesau. Mae'n hanfodol bod pob diwydiant yn paratoi ar gyfer Brexit. Mae gwefan Paratoi Cymru yn ffynhonnell allweddol o gyngor, a gofynnaf i chi annog busnesau yn eich etholaethau i ymweld â'r wefan a sicrhau eu bod wedi gwneud popeth sydd ei angen arnyn nhw i baratoi. Ar y cyd ag Andy Richardson, cadeirydd Bwrdd diwydiant bwyd a diod Cymru, ysgrifennais at fusnesau bwyd a diod Cymru i atgyfnerthu'r neges hon. Felly, i gloi, Llywydd, rydym ni'n gwneud popeth sydd o dan ein rheolaeth i liniaru effeithiau gadael heb gytundeb. Rwy'n hyderus y byddwn ni mor barod â phosibl erbyn diwedd y mis hwn. Fodd bynnag, bydd y ffactorau sy'n parhau i fod y tu allan i'n dylanwad uniongyrchol yn effeithio'n sylweddol ar barodrwydd cyffredinol Cymru—parodrwydd busnes, gweithrediadau wrth ffiniau'r DU a'r drefn tariff, yn allweddol.

Diolch, Gweinidog, am eich datganiad y prynhawn yma, yn enwedig y manylion yr ydych chi wedi gallu eu rhoi i'r Cynulliad heddiw. Byddwn ni hefyd yn gwerthfawrogi cael ein ddiweddaru ychydig, oherwydd sylwaf fod eich datganiad yn sôn am y cyfarfod ar 9 Medi, ond fel y deallaf, cafwyd cyfarfod rhynglywodraethol ar 24 Medi yn ogystal, yn cynnwys y gweinyddiaethau/llywodraethau datganoledig. Yn amlwg, byddwn i'n tybio y byddai'r wybodaeth a fyddai'n deillio o'r cyfarfod hwnnw'n llawer mwy diweddar nag o 9 Medi, yn enwedig sut y mae Llywodraeth Cymru'n rhyngweithio â Llywodraeth y DU i baratoi ar gyfer 'heb gytundeb ', sef yr hyn nad yw'n safbwynt y Llywodraeth yn San Steffan. Yn amlwg, safbwynt y Llywodraeth yn San Steffan yw sicrhau cytundeb. Mae'n ddiddorol nodi safbwynt y Llywydd Juncker ddoe, sy'n dweud bod pob posibilrwydd y gellid sicrhau bargen yng nghynhadledd penaethiaid gwladwriaethau Ewrop ar 17 Hydref.

Mae'r Llywodraeth yn San Steffan wedi sefydlu Pwyllgor Cabinet i ystyried yn benodol baratoadau gadael 'heb gytundeb', o dan yr acronym XO. Mae wedi cwrdd 48 gwaith, yn ôl yr hyn a ddeallaf, ac wedi gwneud 300 o argymhellion. Byddwn ni'n ddiolchgar o ddeall sawl un o'r 300 o argymhellion hynny sy'n n effeithio ar y sector bwyd-amaeth yn eich portffolio chi, gan gofio bod yr holl argymhellion hyn yn ymwneud â pharatoi ar gyfer gadael 'heb gyundeb'. Felly, mae'n bwysig inni ddeall ymhle y mae'r argymhellion hynny'n cael eu gweithredu gan Lywodraeth Cymru, oherwydd bod y gwaith rhynglywodraethol agos hwnnw'n hanfodol bwysig.

Mae'n bwysig deall hefyd sut y mae eich adran yn rhyngweithio â'r diwydiant cludo nwyddau, oherwydd mae llawer o nwyddau amaeth yn cael eu hallforio o'r wlad hon. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae 88,000 o fusnesau sydd wedi'u cofrestru ar gyfer TAW wedi cael y gwaith papur angenrheidiol er mwyn rhoi'r trwyddedau ar waith er mwyn iddynt allu parhau i allforio—heb rwystr, fe allwn i ychwanegu. Byddwn i'n ddiolchgar o ddeall faint o'r 88,000 hynny sydd yn y sector bwyd-amaeth yma yng Nghymru. O ystyried mai datganiad 'dim cytundeb ' sydd gennych chi, rwyf yn cymryd yn ganiataol bod y wybodaeth hon ar gael i chi.

Mae hefyd yn werth cofio bod awdurdodau Ffrainc wedi gweithio'n ddiflino i addasu porthladd Calais fel bod modd cludo nwyddau'n rhwydd. Mae meddyginiaethau milfeddygol, yn benodol, wedi'u nodi fel nwyddau categori 1, a fyddai'n cael rhwydd hynt i farchnad y DU, yn enwedig Cymru. Byddwn i'n ddiolchgar o gael deall gan y Gweinidog beth yw ei dealltwriaeth o sut y bydd y weithdrefn yn gweithio, yn enwedig gan fod sicrwydd wedi'i roi ynglŷn â meddyginiaethau milfeddygol yn benodol.

Yn benodol, y bu sôn heddiw am y sector pysgodfeydd, yn bwysig iawn, yn cyrraedd y farchnad mewn pryd. Yn Boulogne, mae awdurdodau Ffrainc wedi sefydlu man tollau tramor a chartref cyflym, a fydd yn gweld nwyddau'n gallu teithio o'r DU ac i mewn i'r farchnad yn Ffrainc mewn cyfnod o 24 awr. A all gadarnhau beth yw ei dealltwriaeth o sut y bydd y man honno'n gweithio? Yn amlwg, mae'n mynd i fod yn fan cyrraedd pwysig i'r farchnad Ewropeaidd. Ai honiad awdurdodau Ffrainc yma yw y byddai'r man cyrraedd hwnnw'r farchnad yn golygu y bydd nwyddau sy'n cael eu dal heddiw yn y DU yn cyrraedd y farchnad Ewropeaidd o fewn 24 awr. Felly, o ran llawer o'r straeon brawychus ynghylch pysgod yn methu cyrraedd y farchnad, os ydych yn derbyn barn awdurdodau Ffrainc amdano, nid yw'n wir, bid siŵr.

Byddwn i hefyd yn ddiolchgar iawn o gael deall sut y mae'r sector milfeddygol yn cael ei gryfhau yma yng Nghymru. Deallaf fod cannoedd o filfeddygon wedi'u hyfforddi mewn gwaith ychwanegol i fynd i'r afael â'r amgylchedd rheoleiddio, ac felly hefyd gweithwyr proffesiynol nad ydynt yn filfeddygon cymwysedig, i'w cefnogi yn eu gwaith. Faint o'r penodiadau hynny a fydd ar gael i ladd-dai a chyfleusterau prosesu yma yng Nghymru, gan bod cannoedd lawer wedi mynd drwy'r ddarpariaeth hyfforddi angenrheidiol, i wneud yn siŵr nad yw llif y milfeddygon i mewn i ladd-dai yn cael ei rwystro na'r amgylchedd rheoleiddio y mae'r sector prosesu yn gweithio iddo?

A fyddai hefyd yn bosibl iddi ein goleuo ynghylch pa drafodaethau y mae wedi'u cael gyda DEFRA mewn cysylltiad â'r sector cig dafad—oherwydd mae'n crybwyll hynny yn ei datganiad—ac yn benodol, am ymyrraeth yn y farchnad a fyddai o bosibl ar gael mewn senario 'dim cytundeb'? Yn ôl yr hyn a ddeallaf o sylwadau yn Nhŷ'r Cyffredin gan Weinidog y Cabinet Michael Gove yr wythnos diwethaf, ac yn amlwg eich datganiad yma heddiw, mae'n ymddangos bod y cynlluniau hyn wedi cael eu datblygu hyd at aeddfedrwydd, byddwn i'n ei awgrymu. Byddai'n dda ceisio cael rhywfaint o ddealltwriaeth o sut y byddent yn gweithredu petai galw amdanynt. Mae'n werth myfyrio ynghylch hyder ffermwyr yn y sector cig oen yn y gwerthiannau bridio. Yn arwerthiant diweddar yr NSA yn Llanfair-ym-Muallt, roedd cynnydd yng nghyfartaleddau a chyfraddau clirio'r stoc bridio yn y gwerthiant hwnnw. Yr wyf wedi mynychu nifer o arwerthiannau fferm yr hydref hwn hefyd ac wedi gweld yr hyder hwnnw i'w weld yn y farchnad.

Fel y dywedais, nid safbwynt Llywodraeth y DU ydyw i adael heb gytundeb. Rydym ni eisiau gweld cytundeb yn ei le, fel nad oes angen galw ar lawer o'r darpariaethau hyn. Ond, o'r hyn a welaf, bu paratoi enfawr wedi bod yn ystod y ddeufis diwethaf, a byddwn yn ddiolchgar o gael deall gan y Gweinidog pa waith paratoi y mae hi wedi bod yn ei wneud i weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod rhai o'r 300 argymhelliad hyn yn eu lle, er mwyn sicrhau y gellir darparu ar gyfer gadael yr Undeb Ewropeaidd mor ddidrafferth â phosibl ar 31 Hydref.

16:15

Diolch, Andrew R.T. Davies, am y rhestr honno o sylwadau a chwestiynau. Nid wyf i mor siŵr fy mod yn rhannu eich hyder yn y ffaith bod Llywodraeth y DU yn gweithio i sicrhau cytundeb. Yn sicr, y cyfarfod pedairochrog diwethaf y mynychais i—. Fe wnaethoch chi gyfeirio at gyfarfod ar 24 Medi, sef dydd Mawrth diwethaf; nid wyf yn ymwybodol o unrhyw gyfarfod gweinidogol, ac yn sicr petai wedi mynd yn ei flaen, fe aeth yn ei flaen hebof i. Yr un diwethaf i mi ei fynychu oedd ar 9 Medi ac fe gawn ni un arall y mis yma, yng Nghaeredin. Felly nid wyf yn ymwybodol o unrhyw un arall. Mae'n bosibl mai un i swyddogion ydoedd, ond yn sicr, nid oedd yn un gweinidogol.

Yn amlwg, rwy'n ymwybodol o'r cyfarfodydd XO sy'n cael eu cadeirio gan Michael Gove, y mae fy nghyd-Weinidogion naill ai'n eu mynychu neu'n cyfrannu iddynt dros y ffôn, ac rydym ni'n gweithio drwy'r argymhellion hynny. Byddwch chi'n ymwybodol iawn bod gan fy adran i, fel y dywedais i, 74 o brosiectau parodrwydd Brexit byw; mae 47 ohonyn nhw yn cael eu harwain yn bennaf gan DEFRA, ac mae 8 yn cael eu harwain gan BEIS. Credaf ei bod yn deg dweud bod gan fy swyddogion a minnau berthynas waith dda iawn â DEFRA; ac â BEIS ddim cystal. Byddwch chi wedi clywed fy nghyd-Aelod Ken Skates yn cyfeirio at y ffaith bod cyfarfod yr ydym ni wedi bod yn aros yn hir amdano, a ddylai fod wedi digwydd ddydd Llun yn Llundain, wedi cael ei ganslo, dim ond y bore yma. Felly, rwyf yn credu bod angen i BEIS gamu ymlaen yn awr a bod â'r un gallu pedairochrog hwnnw i fynd i'r afael â llawer o'r materion.

O ran cludo nwyddau, mae hynny'n rhywbeth sydd yn rhan o bortffolio Ken Skates, a bydd wedi eich clywed yn holi am nifer y 88,000 hwnnw. Nid yw'r niferoedd hynny gennyf, ond gofynnaf i'r Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi am hynny.

Yn amlwg, mae meddyginiaeth filfeddygol yn rhywbeth sy'n bwysig iawn ac yn rhywbeth y mae'r sector amaethyddol yn arbennig yn bryderus iawn yn ei chylch, ac rwyf wedi cael y trafodaethau hynny gydag undebau'r ffermwyr. Unwaith eto, o wrando ar rai o'ch sylwadau ynghylch hyder yn y sector cig, yr undebau, yr NFU ac Undeb Amaethwyr Cymru—ac rwy'n cwrdd â nhw yfory; mae gennyf i fy nghyfarfod bord gron nesaf ar gyfer rhanddeiliaid yfory—nid dyna yw eu teimlad nhw. Rwy'n credu eu bod yn wirioneddol bryderus am y farchnad ar gyfer cig dafad yn y dyfodol.

Nid wyf wedi gweld y manylion yr oeddech chi'n sôn amdanynt o ran Boulogne, ond mae'n amlwg bod llawer o'n pysgod cregyn yn mynd i Sbaen, er enghraifft, ac yn sicr mae gennym ni rai pryderon gwirioneddol ynghylch pysgodfeydd. Soniais am y fiwrocratiaeth yr ydym ni o'r farn y caiff ei chyflwyno. Nid ydym eisiau i bysgod cregyn gael eu difetha. Rydym wedi arfer â'n pysgod cregyn yn cael eu dal a'u hallforio o fewn cyfnod cyfyng iawn, ac yn cael eu gweini ar blatiau mewn bwytai yn ne Sbaen, er enghraifft. Felly credaf ei fod yn rhywbeth yr ydym ni yn pryderu yn ei gylch. Mae'r ffaith y bydd angen tystysgrifau dalfeydd arnom ni, y ffaith y bydd angen tystysgrifau iechyd allforio arnom ni yn rhywbeth y bydd yn rhaid i'r sector gynllunio ar ei gyfer.

Rwy'n bryderus, hefyd, ynghylch lles ein pysgotwyr. Ni chredaf ein bod wedi gallu ymgysylltu â nhw, yn y ffordd yr ydym ni wedi â'r sector amaethyddol oherwydd bod cymaint o elusennau yno'n barod sy'n ein helpu ni gyda lles ein ffermwyr. Felly, rydym ni wedi sefydlu'r bartneriaeth elusennau y cyfeiriais ati yn fy natganiad er mwyn cyflawni hynny.

O ran y milfeddygon, rydym ni'n credu bod 90 o filfeddygon ychwanegol, o ystyried yr ardystiad iechyd yn enwedig. Felly, cefais rywfaint o arian o gronfa bontio'r UE i recriwtio'r rhai hynny. O ran lladd-dai, nid wyf yn credu bod gennym ni bryder ynghylch—. Fe wnaethoch chi gyfeirio at gannoedd o filfeddygon yn cael eu hyfforddi; eto, nid dyna yw fy argraff i. Rydym ni yn pryderu oherwydd bod cynifer, canran uchel iawn, o'n milfeddygon yn wladolion yr UE, ac rydym ni'n pryderu y byddan nhw yn gadael i ddychwelyd adref. Ddoe, roeddwn i yn Nulyn ar gyfer cynhadledd ynni'r cefnfor, ond cefais gyfarfod, manteisiais ar y cyfle i gwrdd â Dawn Meats/Dunbia, ac mae'n amlwg eu bod yn pryderu'n fawr am sut y maen nhw yn mynd i gyflogi'r nifer o wladolion yr UE sydd wedi gadael eu swyddi. Credaf iddynt gyfeirio at y ffaith bod tua 50 wedi gadael yn diweddar, ac mae'n hynod anodd recriwtio, ac maen nhw yn bryderus iawn am recriwtio.

O ran eich cwestiynau am y sector defaid, rwyf wedi ei gwneud yn glir iawn i DEFRA, ac maen nhw'n derbyn y bydd angen cymorth ar y sector defaid os bydd Brexit heb gytundeb. Rydym ni wedi gweithio'n galed iawn ar bolisi ar y cyd gyda DEFRA a gyda Llywodraeth yr Alban, a gyda Gogledd Iwerddon, i gyflwyno cynllun. Rydym ni o'r farn ei bod hi'n bwysig iawn bod cynllun yn—. Felly, mae gennym ni gamau gweithredu cyffredin i'w cymryd hyd a lled yr holl weinyddiaethau i ddarparu'r cymorth sydd ei angen. Nid ydym ni eisiau aflunio cystadleuaeth rhwng gwahanol rannau o'r DU, ond wrth gwrs y peth pwysicaf o ran hynny yw ein bod yn cael yr arian hwnnw gan Drysorlys y DU, a bydd Aelodau wedi fy nghlywed i'n dweud sawl gwaith, yn anffodus, nid ydym wedi cael yr ymrwymiad hwnnw. Nid yw'r cyllid gennyf yn fy nghyllideb a byddai unrhyw ymyriad newydd yn gofyn am arian ychwanegol gan Lywodraeth y DU. Mae angen inni gael y sicrwydd hwnnw gan y Trysorlys, a byddwn ni'n parhau i weithio dros hynny.

16:25

Diolch, Gweinidog, am eich datganiad, rydych chi'n gwneud nifer o bwyntiau dilys. Credaf fod yna ryw eironi bod nifer o bobl a oedd o blaid gadael yr UE eisiau gwneud hynny oherwydd biwrocratiaeth ganfyddedig, ac yn awr wrth gwrs, maen nhw'n wynebu mwy o fiwrocratiaeth yn sgil Brexit heb gytundeb, sydd yn fy nhyb i yn rhywbeth i lawer o bobl gnoi cil arno.

Rwyf innau hefyd yn pryderu y bydd tegwch o ran cyflenwadau bwyd mewn ardaloedd gwledig yn ogystal â mewn ardaloedd trefol, ac rwy'n falch eich bod wedi ceisio cael rhyw lefel o sicrwydd gan archfarchnadoedd. Yn sicr, mae angen inni eu dal at eu gair ar hynny. Wrth gwrs, dywedodd dogfen Yellowhammer Llywodraeth y DU bod angen i ni ystyried y risg y bydd prynu ar frys yn ddiangen yn gallu achosi neu waethygu'r tarfu ar y cyflenwad bwyd. Tybed sut rydych chi'n paratoi ar gyfer y sefyllfa bosibl benodol honno a'r effaith a gâi hynny, oherwydd nid ydych yn cyfeirio ato yn eich datganiad.  

Rydych chi'n dweud wrthym yn y datganiad ac mae dogfen Llywodraeth Cymru ar baratoi ar gyfer Brexit heb gytundeb, a gyhoeddwyd yn ddiweddar, hefyd yn sôn am ymyriad posibl yn y farchnad ar gyfer y sector defaid. Rydych chi wedi'i grybwyll yn y fan honno ac rydych chi wedi ei wneud yn glir y byddech chi'n dibynnu ar Lywodraeth y DU i dalu cost unrhyw ymyriad posibl. Beth os nad ydyn nhw'n gwneud hynny? Siawns nad oes yn rhaid ichi gael rhyw fath o gynllun mewn golwg i geisio lliniaru cystal ag y gallwch unrhyw effeithiau posibl drwy ryw fath o ymyriad. Byddai diddordeb gennyf i wybod beth y gallai cynllun B fod.

Gwyddom ni hefyd, wrth gwrs, fod y sector cig eidion yn cael trafferth mawr gyda nifer o ffermwyr ar ben eu tennyn yn y sector arbennig hwnnw. Ac os gwelwn ni, ar gyfer cig eidion a chig oen, dariffau uchel a safonau uchel yn cael eu codi ar gynnyrch domestig a thariffau isel a safonau is yn cael eu codi ar yr hyn a fydd yn ddiau yn fewnforion tramor rhatach, yna yn syml, ni fydd ffermydd Cymru yn gallu cystadlu, ac mewn llawer o achosion, mae'n debyg na fyddan nhw'n gallu goroesi.

Clywsom ni dros yr haf gan nifer o bobl am bosibilrwydd anghydfod sifil a blocâd porthladdoedd a'u tebyg, wrth i ffermwyr, wrth gwrs, geisio diogelu eu bywoliaeth. Byddai diddordeb gennyf i wybod pa waith paratoi y gallai Llywodraeth Cymru fod wedi'i wneud, yn wir pa drafodaethau y gallech chi fod wedi'u cael gyda'r awdurdodau perthnasol ynghylch posibiliadau o'r fath. Nid oes unrhyw gyfeiriad yn eich datganiad at hynny, ac wrth gwrs, po agosaf y byddwn yn cyrraedd Brexit heb gytundeb, yna byddwn i'n dychmygu y byddai'r math hwnnw o ganlyniad yn fwy tebygol.  

Yn olaf, fe ofynnais i chi ar 17 Gorffennaf a fyddech chi, o gofio'r angen i'r Llywodraeth gyfeirio ei holl adnoddau i liniaru effeithiau gadael heb gytundeb, yn ystyried oedi darnau eraill o waith y mae'r Llywodraeth yn ymgymryd â nhw ar hyn o bryd, megis yr ymgynghoriad ar 'Ffermio Cynaliadwy a'n Tir'. Ar y pryd, fe wnaethoch chi ddweud na fyddech chi'n oedi'r ymgynghoriad hwnnw ac na fyddech chi'n tynnu pobl oddi ar y darn hwnnw o waith. Gan fod y posibilrwydd o adael heb gytundeb yn dod yn fwyfwy tebygol, a wnewch chi ddweud wrthym ni yn awr a yw hynny'n rhywbeth yr ydych chi yn ei ystyried? Nid oeddech yn fodlon ei wneud ym mis Gorffennaf, ond byddwn i'n gofyn ichi gadarnhau hynny heddiw.

Diolch, Llyr, am eich cwestiynau. Credaf eich bod yn llygad eich lle o ran yr eironi. Yn sicr, credaf fod ein pysgotwyr yn arbennig yn mynd i wynebu llawer mwy o fiwrocratiaeth. Yn amlwg, mae'n sector sy'n agored iawn i niwed ac, ynghyd â'r sector defaid, rydym ni wedi ei gwneud yn glir iawn y bydd angen cymorth ychwanegol arnynt.  

Rydych chi'n gofyn a oes gennym ni gynllun B. Wel, fel y dywedais, nid oes gennyf fi filiynau o bunnoedd yn fy nghyllideb i allu cefnogi'r sector defaid yn y ffordd yr ydym ni wedi'i thrafod, wrth ffurfio'r polisi hwnnw ar y cyd â Llywodraeth y DU a'r gweinyddiaethau eraill. Felly, byddai'n rhaid inni edrych yn ofalus iawn ar sut y gallem ni ddod o hyd i'r arian hwnnw. Ond, mae'n rhaid i mi ddweud, byddwch chi wedi clywed y Prif Weinidog yn dweud, a gallwch chi naill ai ei gredu neu beidio, y byddai'n cefnogi'r sector amaethyddol. Mae ef wedi dweud hynny droeon. Rwyf i yn awr yn dal i geisio sicrwydd gan Drysorlys y DU y byddan nhw'n darparu'r cyllid yn y ffordd yr ydym ni wedi'i thrafod am fisoedd lawer erbyn hyn, i gefnogi'r sector defaid. Yn sicr, petawn i'n berson betio, byddwn i'n dweud y byddan nhw yn gwneud hynny, oherwydd yr wyf i'n eu credu'n llwyr pan fyddan nhw'n dweud eu bod yn deall yr effaith ar y sector defaid, ac ni fydden nhw'n caniatáu iddo ddigwydd pe byddem yn cael Brexit heb gytundeb.

O ran pysgodfeydd, mae angen inni edrych unwaith eto ar y cyllid y byddem ni yn gallu ei ddefnyddio i gefnogi ein pysgotwyr, oherwydd mae'n amlwg iawn y byddai effaith Brexit heb gytundeb, mae'n debyg, yn digwydd yn gyflym iawn, iawn—yn gyflymach hyd yn oed na'r sector defaid. Felly, bydd angen inni edrych ar ffordd o warchod y diwydiant hwnnw.

Yn amlwg, mae argyfyngau sifil posibl yn rhan o bortffolio fy nghyd-Aelod Julie James, ac mae hi'n gwneud datganiad yn ddiweddarach, ond rwyf wedi cael trafodaethau, yn enwedig gydag un o'r undebau ffermio, ynghylch aflonyddwch sifil, oherwydd dros yr haf gwnaeth Undeb Amaethwyr Cymru eu barn yn glir iawn ynglŷn â'u pryderon. Felly, rwyf wedi manteisio ar y cyfle i weithio gyda nhw i weld beth y gallwn ni ei wneud i liniaru hynny. Ni allwn ni liniaru popeth, ond credaf ei fod yn fater sy'n uchel ar ein hagenda, yn amlwg.

Fe wnaethoch chi gyfeirio at brynu ar frys yn ddiangen a bwyd, a chredaf mai'r neges yr ydym ni wedi bod yn ceisio'i rhoi i bobl yw na fydd yna ddewis, o bosibl, ond bydd y bwyd yno. Ac rwyf wedi gweithio i gael trafodaethau gydag archfarchnadoedd a gyda chwmnïau logisteg, ac mae'r Gweinidog Brexit a minnau yn trefnu i siarad â rhai o'r archfarchnadoedd eto a rhai o'r prif gwmnïau logisteg yng Nghymru i wneud yn siŵr eu bod yn dal i fod yn y sefyllfa honno.

O ran defnyddio'n holl adnoddau, byddwch chi yn ymwybodol fy mod wedi gorfod symud swyddogion o ddarnau o waith. Eto, nid wyf eisiau gohirio'r ymgynghoriad. Rwy'n credu ei bod yn bwysicach nag erioed ein bod yn paratoi ar gyfer yr hyn sydd i ddod. Ac yn amlwg, mae pethau'n mynd i fod yn wahanol iawn. Felly, rwyf eisiau parhau i weithio gyda phawb, yn enwedig ynghylch y cyd-ddylunio. Rwyf i newydd gael llythyr arall, nid mor bell yn ôl â hynny, gan un o'r undebau ffermio yn gofyn imi wneud hynny. Rwyf wedi ystyried; rydym ni wedi edrych ar nifer yr ymatebion a oedd yn dod at yr ymgynghoriad ac, unwaith eto, ar hyn o bryd, nid wyf i'n mynd i ohirio yr ymgynghoriad.

16:30

Diolch, Gweinidog, am eich datganiad, sy'n creu darlun eithaf digalon. Rwyf eisiau ymateb i un neu ddau o bwyntiau. Rydych chi'n dweud bod yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol wedi eich sicrhau nad oes unrhyw risgiau sylweddol i'r cyflenwad trydan, nwy na thanwydd. Tybed a gaf i archwilio hynny ychydig ymhellach a gofyn ar ba sail y maen nhw'n rhoi'r sicrwydd hwnnw. Pa dystiolaeth y maen nhw'n ei roi? Pa gyfran o anghenion ynni'r DU sy'n cael eu mewnforio ar hyn o bryd o Ewrop—ac yn berthnasol iawn wrth gwrs, ym mis Tachwedd a mis Rhagfyr, sef y ddau fis yn union ar ôl Calan Gaeaf? Yn amlwg, mae angen inni fod yn barod am y posibilrwydd y bydd ynni'n cael ei ddogni, mae'n debyg, os na allwn ni gael cyflenwadau nwy o Ewrop, a gwn yn y gorffennol ein bod ni wedi dibynnu ar hynny.

Yn yr un modd, o ran bwyd, mae'n dda clywed bod yr archfarchnadoedd yn ein sicrhau eu bod yn mynd i barhau i gyflenwi pob un o'u siopau. Rydych chi'n dweud y gallai fod rhywfaint o leihau ar y dewis o fwydydd sydd ar gael, yn enwedig ffrwythau a llysiau ffres sy'n dod o'r UE, ac mae hynny braidd yn amlwg, os bydd tarfu ar daith nwyddau o'n porthladdoedd. Tybed pa fath o gynlluniau ar gyfer sefyllfa lle na allwn ddibynnu ar fewnforio gallai'r Llywodraeth eu cael, oherwydd, yn anffodus, mae'r 'toriad glân' fel y'i gelwir, neu'r trychineb, yn debygol o barhau am fwy na dim ond ychydig fisoedd. Felly, tybed pa gyngor ydych chi'n ei roi i ffermwyr a theuluoedd i blannu llysiau'r gaeaf, rhag ofn ac i warchod rhag y posibilrwydd y collir ffrwythau a llysiau ffres. Rwy'n gwerthfawrogi nad dyma'r adeg iawn o'r flwyddyn i ruthro i wneud hyn, ond mae rhywbeth yn well na dim. Diolch.

Diolch, Jenny. O ran y cwestiwn ynghylch diogelwch ynni, Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol, yn amlwg, am ddiogelwch ynni a marchnadoedd ynni. Felly, rydym wedi ymgysylltu'n helaeth, wel, mae swyddogion wedi ymgysylltu—â swyddogion polisi BEIS, i wneud yn siŵr bod eu dadansoddiad a'r paratoadau y maen nhw'n eu cyflwyno yn ystyried anghenion ein cymunedau a'n diwydiannau. Ac ar hyn o bryd, rydym yn fodlon â'r sicrwydd a roddwyd i ni. Fodd bynnag, mae hyn yn rhywbeth yr wyf am ei ddwyn mewn gwirionedd i lefel weinidogol ac mae wedi bod yn anodd iawn, iawn i ymgysylltu â Gweinidogion BEIS. Soniais mewn ateb cynharach fod fy nghyd-Aelod Ken Skates a minnau i fod i gyfarfod ag Andrea Leadsom ddydd Llun. Cafodd ei ganslo'r bore yma, felly mae gwaith yn mynd rhagddo i geisio aildrefnu'r cyfarfod hwnnw, oherwydd rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod yn cael y sicrwydd hwnnw yr ydych chi yn ei geisio.

Rwyf hefyd wedi bod yn pwyso am drefniadau llywodraethu gwell o ran ynni o ran ein hargyfwng hinsawdd a'n targedau datgarboneiddio, oherwydd, yn amlwg, mae synergedd rhyngddynt. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn—yn amlwg, mae sawl cyd-ddibyniaeth rhwng polisïau datganoledig a pholisïau a gadwyd yn ôl, ac mae'n bwysig iawn ein bod yn cael y sicrwydd hwnnw, a'n bod yn chwilio am unrhyw bolisïau yn y dyfodol i ystyried hynny.

O ran y cyflenwad bwyd, credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod wedi gofyn y cwestiwn i'n harchfarchnadoedd ynghylch y dosbarthu teg hwnnw nid yn unig i archfarchnadoedd trefol, ond hefyd i'n siopau a'n harchfarchnadoedd gwledig.

O ran plannu llysiau'r gaeaf, dydw i ddim yn credu y byddai ar ffermwyr angen cyngor gennyf i; rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth y maen nhw wedi bod yn edrych arno. Mae hyn ar y ffordd ers cryn amser, felly rydym wedi bod yn gweithio gyda'r busnesau amaethyddol hynny a busnesau bwyd a diod eraill i wneud yn siŵr eu bod yn edrych ar eu cynlluniau busnes i weld beth arall y gallan nhw ei wneud.

Rwy'n credu eich bod yn llygad eich lle—rwy'n clywed hyn drwy'r amser: 'mae angen i ni gyflawni Brexit—mae angen i ni gyflawni Brexit.' Wel, mae hyn yn mynd i bara nid yn unig am fisoedd, ond am flynyddoedd a blynyddoedd, ac mae'n bwysig iawn ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i liniaru'r effeithiau. Ond rwy'n credu bod yn rhaid i bobl fod yn realistig ynghylch yr hyn sy'n mynd i ddigwydd yn y dyfodol.

16:35
6. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Paratoi'r gwasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru ar gyfer Brexit heb gytundeb

Yr eitem nesaf yw'r datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar baratoi'r gwasanaethau iechyd a gofal ar gyfer Brexit heb gytundeb, a dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud ei ddatganiad—Vaughan Gething.

Diolch, Llywydd. Rwyf wedi nodi effeithiau sylweddol posib Brexit heb gytundeb ar gyfer ein gwasanaethau GIG a gofal cymdeithasol yng Nghymru yn y Siambr hon ar sawl achlysur. Mae fy safbwynt yn dal yn hollol glir: mae Brexit heb gytundeb yn golygu peryglon sylweddol i wasanaethau yng Nghymru a'r cyhoedd y maen nhw'n eu gwasanaethu.

Mewn sefyllfa o ansicrwydd hanesyddol, rwyf wedi canolbwyntio ar weithio gyda phob partner i gyfyngu, cyn belled â phosib, ar y niwed y byddai Brexit heb gytundeb yn ei achosi i'n GIG a'n gwasanaethau gofal cymdeithasol. Gyda'n gilydd, rydym yn sicrhau bod trefniadau cadarn ar waith i baratoi ar gyfer effaith gadael yr Undeb Ewropeaidd, ac i ymateb yn gyflym i faterion ac effeithiau wrth iddyn nhw godi os byddwn yn gadael. Mae'r trefniadau hyn wedi cael eu profi a'u hymarfer droeon, ac i'r graddau eu bod hi'n bosib, eu sicrhau. Ond gadewch i mi fod yn gwbl glir: er ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i baratoi, ni all unrhyw faint o gynllunio warantu Brexit lle na fydd unrhyw darfu. Mae awgrymu fel arall yn gamarweiniol ac yn anghyfrifol iawn.

Bydd gadael yr UE yn cael effaith dros y tymor byr, canolig a hir. Ein blaenoriaeth fu sicrhau parhad cyflenwadau hanfodol, fel y gellir cynnal gwasanaethau, cyn belled ag sy'n bosibl, ar sail busnes fel arfer. Bydd hyn yn galluogi gweithwyr proffesiynol i weithio'n briodol ac yn hyderus, gan sicrhau gymaint ag y gallwn ni na chaiff y cyhoedd a chleifion eu heffeithio'n andwyol. Y peth olaf y dylem ni ei wneud yw cyflwyno cymhlethdod ac ansicrwydd ychwanegol i'r cyhoedd a'n staff, yn enwedig wrth i'r gaeaf agosáu.

Rydym ni wedi chwilio am gyfleoedd i gryfhau capasiti o fewn y sector y tu hwnt i gyd-destun uniongyrchol Brexit. Bydd yr Aelodau'n gwybod fy mod wedi cymeradwyo prynu a stocio cyfleuster storio ychwanegol i sicrhau nad amherir ar gyflenwadau o offer meddygol ac eitemau hanfodol. Roedd y buddsoddiad hwn o £11 miliwn yn angenrheidiol ac yn fater brys yn sgil y posibilrwydd o Brexit heb gytundeb ym mis Mawrth. I roi hynny yn ei gyd-destun, gallai'r £11 miliwn a wariwyd ar warws fod wedi talu am saith sganiwr delweddu cyseinedd magnetig newydd yn lle hynny.

Mae llawer o'r ymatebion hanfodol i Brexit heb gytundeb yn gyfrifoldebau Llywodraeth y DU. Rydym yn parhau i bwyso am sicrwydd ynghylch materion megis llif nwyddau drwy borthladdoedd, statws preswylydd sefydlog ar gyfer dinasyddion yr UE, ac yn herio'n gadarn mewn meysydd lle mae angen gwarchod buddiannau Cymru.

O ran meddyginiaethau, rydym yn cymryd rhan mewn trefniadau ledled y DU i gynnal cyflenwadau, gan weithio'n agos gyda'r diwydiant. Mae prosesau wedi'u sefydlu i reoli prinder meddyginiaethau, a bydd y rhain yn berthnasol i unrhyw brinder a achosir gan Brexit. Byddant yn seiliedig ar ddadansoddiad manwl o feddyginiaethau a allai fod mewn perygl. Mae trefniadau tebyg ledled y DU ar waith ar gyfer radioisotopau, wedi'u cefnogi gan ddulliau cyflym a phwrpasol o gludo nwyddau i feysydd awyr. Unwaith eto, rhoddwyd y trefniadau hyn ar waith ac ar brawf yn ddiweddar mewn ymateb i bryderon a godwyd yn eang gan glinigwyr a grwpiau proffesiynol.

Yn ogystal â meddyginiaethau, mae cannoedd o filoedd o gynhyrchion y mae'r GIG yn dibynnu arnyn nhw bob dydd. Mae'r rhain yn cynnwys popeth o orchuddion a rhwymynnau i fenig, chwistrellau, nodwyddau a llawer mwy. Ar gyfer y dyfeisiau meddygol a'r deunyddiau traul clinigol hyn, rydym yn parhau i weithio'n agos gyda GIG Cymru i gynyddu'r stoc sydd gennym ni. O'r dechrau, mae ein cynllunio wedi cynnwys darparu eitemau allweddol a ddefnyddir gan ddarparwyr gofal cymdeithasol hefyd, yn ogystal â'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Hyd yn hyn, mae pentyru'r stoc ychwanegol cyffredinol hwn wedi costio dros £5 miliwn.

Nid oes unrhyw dystiolaeth i awgrymu, fel y dywedodd Lesley Griffiths, y bydd prinder bwyd yn gyffredinol, ond bydd Brexit heb gytundeb yn arwain at leihad yn y dewis o rai bwydydd a fewnforir o'r UE a bydd hi'n anoddach cael gafael arnyn nhw. Mae Consortiwm Manwerthu Prydain wedi bod yn glir iawn ynghylch hyn. I baratoi, rydym ni wedi gofyn i sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol ystyried sut y gellid addasu prydau bwyd os yw'n anodd cael gafael ar rai cynhwysion, heb, wrth reswm, gyfaddawdu ar safonau maeth.

Pryder mawr i mi erioed yw effaith bosib Brexit ar ein gweithlu, nid yn unig o ran darparu gwasanaethau, ond mae hyn yn mynd at wraidd pwy ydym ni fel cenedl. Ni allem ni ddarparu ein gwasanaethau iechyd a gofal heb staff o Ewrop a ledled y byd. Rwy'n ystyried ein holl staff yn gyfwerth â'i gilydd, beth bynnag fo'u gwlad enedigol, ac rwy'n parhau i atgyfnerthu'r neges hon yn gyhoeddus ac i Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Mae'n destun rhwystredigaeth anghredadwy i mi fod Llywodraeth y DU yn parhau i hybu cyfyngiadau ar recriwtio staff a fyddai heb os nac oni bai yn niweidiol i wasanaethau iechyd a gofal ac, wrth gwrs, i'r bobl agored i niwed sy'n dibynnu arnyn nhw.

Hyd yn hyn nid ydym ni wedi gweld nifer sylweddol o ddinasyddion yr UE yn gadael gwaith mewn iechyd a gofal cymdeithasol yma yng Nghymru, ond mae rhannau eraill o'r DU wedi gweld hyn. Rydym ni'n gweld gostyngiad mewn recriwtio o dramor, a fydd yn cael effaith ddifrifol yn y tymor canolig os bydd yn parhau. Efallai hefyd y gwelwn ni staff iechyd a gofal yn symud i swyddi mewn sectorau eraill, y mae rhai ohonyn nhw eisoes wedi gweld colledion sylweddol o ran gwladolion yr UE.

Er bod goblygiadau uniongyrchol Brexit—ac yn enwedig Brexit heb gytundeb—eisoes yn sylweddol ac yn bellgyrhaeddol, ceir effeithiau eraill mwy anuniongyrchol a allai arwain at ganlyniadau uniongyrchol, difrifol i ddarparwyr iechyd a gofal. Er enghraifft, mae cost bwyd, tanwydd a meddyginiaethau yn debygol o gynyddu mewn sefyllfa o adael heb gytundeb o ganlyniad i lai o gyflenwad a phunt wannach. Byddai hyn yn effeithio'n arbennig ar sefydliadau yn y sector gofal cymdeithasol. Ledled Cymru, mae 1,275 o ddarparwyr cartrefi gofal yn darparu gofal a chymorth i fwy na 26,000 o bobl. Mae traean o'r darparwyr hynny'n fusnesau bach sydd â llai na chwe gwely. Byddai llawer yn gweld cynnydd mewn prisiau yn anodd ei ysgwyddo, a byddai'r cynnydd hwn yn effeithio ar wasanaethau eraill sy'n chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o ddiwallu anghenion gofal a chymorth pobl, megis pryd ar glud a chanolfannau dydd.

Byddai prisiau mwy, wrth gwrs, yn taro rhai rhannau o'n gweithlu'n arbennig o galed, er enghraifft staff gofal cartref. Byddai hyn yn enghraifft wirioneddol ac anghyfiawn o'r ffordd y byddai gadael heb gytundeb yn cael effaith anghymesur ar bobl mewn grwpiau incwm is a grwpiau mwy agored i niwed. Mae hynny, wrth gwrs, wedi'i nodi'n glir yn y ddogfen Yellowhammer a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

Os gwelwn ni'r colledion swyddi a ragwelir yn dilyn Brexit heb gytundeb, byddai hyn yn arwain at fwy o alw am wasanaethau iechyd a gofal, yn enwedig cymorth iechyd meddwl. Er ei bod hi'n anodd mesur hyn, gallwn ddisgwyl cynnydd yn y gost a'r amser a gymerir i gael triniaeth gan nad oes gennym ni'r nifer o weithwyr proffesiynol sydd eu hangen i ymateb i faint o alw a ragwelir.

Mae'n parhau i beri rhwystredigaeth i mi fod paratoi ar gyfer Brexit yn dargyfeirio cymaint o egni ac adnoddau o feysydd pwysig eraill. Ein hamcangyfrif yw bod cyfwerth â rhwng 50 a 100 o swyddi llawn amser wedi'u neilltuo ar gyfer paratoi am sefyllfa o adael heb gytundeb ledled y maes iechyd a gofal yng Nghymru—digon i gynnal nifer sylweddol o feddygfeydd teulu canolig yng Nghymru yn lle hynny. Mae bod yn barod am Brexit yn defnyddio amser sylweddol arweinwyr a rheolwyr ym mhob haen o'n sefydliadau. Dylai'r bobl hyn fod yn gweithio ar flaenoriaethau eraill i wella'r gwasanaethau yr ydym ni'n eu darparu ar gyfer pobl Cymru, yn hytrach na pharatoi ar gyfer y posibilrwydd o Brexit heb gytundeb a fydd, fel y dywedais, y math gwaethaf posib ar Brexit a'r canlyniad Brexit a fyddai'n achosi'r niwed mwyaf. Fodd bynnag, rwyf yn ddiolchgar i'r holl staff sy'n gweithio yn y gwasanaethau iechyd a gofal am eu proffesiynoldeb a'u hymroddiad wrth baratoi ar gyfer y posibilrwydd y bydd Brexit heb gytundeb. Rydym ni wedi gweithio'n galed i ddiogelu buddiannau'r cyhoedd a chleifion yng Nghymru a byddwn yn parhau i wneud popeth yn ein gallu i asesu effeithiau gadael yr UE ac i sicrhau ein bod mor barod ag y gallwn ni fod o fewn rheswm. Byddwn yn parhau i wneud popeth yn ein gallu i atal Llywodraeth y DU rhag ein harwain at Brexit heb gytundeb trychinebus, a fydd yn anochel yn taro Cymru'n galetach na rhannau eraill o'r DU.

16:45

Rwy'n falch o gael y diweddariad hwn gennych chi, Gweinidog, oherwydd, boed yna gytundeb neu ddim cytundeb, mae angen i ni gyflawni Brexit.

Nawr, mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi canlyniad y refferendwm. Pleidleisiodd mwyafrif llethol pobl Cymru o blaid gadael, ac mae'n ddyletswydd ar Lywodraeth Cymru i wneud y paratoadau angenrheidiol. A gadewch i ni fod yn onest, mae gadael heb gytundeb yn ganlyniad uniongyrchol i Lafur yn San Steffan yn pleidleisio yn erbyn cynigion cytundeb Brexit dro ar ôl tro. Fe wnaethon nhw bleidleisio yn ei erbyn ar bob achlysur, Gweinidog, ac, i fod yn deg, neu i fod yn onest, neu i fod yn blwmp ac yn blaen, unwaith eto, nid yw Jeremy Corbyn yn dangos unrhyw arweiniad ar hyn.

Mae'r negeseuon e-bost a'r galwadau ffôn a gaf gan bobl o bob tuedd wleidyddol, a chan bobl nad oes ganddyn nhw unrhyw deyrngarwch gwleidyddol o gwbl—yn rhwystredig; maen nhw eisiau gweld cyflawni hyn, maen nhw eisiau cau pen y mwdl ar hyn. Maen nhw eisiau i Brexit gael ei gyflawni. Ac mae angen gwneud hynny gan ddiogelu ein GIG a'n gwasanaethau gofal cymdeithasol. A, Gweinidog, o gofio bod diogelu ein GIG yn hanfodol, a wnewch chi groesawu'r £1.2 biliwn o fuddsoddiad y gall Llywodraeth y DU ei wireddu, a ddylai allu dod i Gymru? Ac a wnewch chi ymrwymo i sicrhau y caiff y £1.2 biliwn hwnnw dros y tair blynedd nesaf ei wario ar ein GIG a'n gofal cymdeithasol? Oherwydd, ar ôl i'ch Llywodraeth fod mewn grym am 20 mlynedd yma yng Nghymru, rydym ni ar ei hôl hi yn ein GIG. Mae pedwar o'n saith Bwrdd Iechyd bellach yn destun ymyriadau wedi eu targedu neu fesurau arbennig. Mae gwasanaethau iechyd meddwl Betsi Cadwaladr wedi bod mewn mesurau arbennig yn hirach nag unrhyw Fwrdd Iechyd arall yn unrhyw le yn y DU. Yng Nghymru, ni chyrhaeddwyd y targed o 95 y cant o gleifion yn treulio llai na phedair awr mewn uned damweiniau ac achosion brys ers ei gyflwyno yn 2008. A'r tro diwethaf i GIG Cymru gyflawni ei amseroedd aros o ran canser oedd yn 2008. Ac i wneud pethau'n waeth, gwasanaeth ambiwlans Cymru sydd wedi gweld yr oedi hwyaf mewn unrhyw ymddiriedolaeth GIG yn y DU. Felly, a wnewch chi ymrwymo, Gweinidog, yn y fan yma nawr, i sicrhau bod unrhyw arian ychwanegol, sef £1.2 biliwn, o ganlyniad i symiau canlyniadol ym maes iechyd, yn cael ei wario ar ein GIG?

Rydych chi'n sôn, yn eich datganiad, am brinder cyffuriau. Nawr, mae Conffederasiwn GIG Cymru yn glir iawn ynghylch hyn: fe ddywedon nhw fod y prinder meddyginiaethau yn arferol yn y GIG a'r her yw sut i'w reoli. Ac rwy'n ffyddiog bod Llywodraeth y DU yn gweithio gyda'r diwydiant fferyllol i sicrhau nad effeithir ar gyflenwadau ac y caiff costau uwch eu lleihau. Rwy'n credu bod codi bwganod ynghylch y mater hwn yn beryglus iawn. Mae'n rhaid ei bod hi'n frawychus i bobl sy'n gwylio'r hyn sy'n digwydd, a dim ond effaith negyddol a gaiff hyn, ar brisiau, ar gasglu stoc ynghyd ac ar amgyffred y cyhoedd. Ac ailadroddaf eto, mae Conffederasiwn y GIG ei hun yn dweud, 'Mae ein haelodau yn dweud wrthym nad oes problemau ar hyn o bryd o ran cael gafael ar feddyginiaethau o ganlyniad i Brexit.'

Nawr, mae'r GIG yn Lloegr wedi amlinellu'r cynlluniau wrth gefn canlynol: maen nhw wedi argymell bod cyflenwyr meddyginiaethau yn cronni o leiaf chwe wythnos o stoc ychwanegol yn fwy na'r hyn sydd ganddyn nhw wrth gefn fel arfer. A wnewch chi ddweud wrthyf i, Gweinidog, a ydych chi wedi gwneud yr un peth i'n cyflenwyr ni yma yng Nghymru? Roeddwn yn falch iawn o weld yn eich datganiad eich bod wedi ymrwymo i gyfleusterau warysau a storio ychwanegol ar gyfer angenrheidiau meddygol ac offer meddygol. Ond, yn amlwg, gellir eu defnyddio ar gyfer rhai o'r meddyginiaethau hyn hefyd. A ydych chi wedi bod yn ymwneud â datblygu pethau fel prynu lle ychwanegol ar longau fferi fel y bydd meddyginiaethau a chynnyrch meddygol yn gallu dod i mewn i'r DU? A fuoch chi'n ymwneud ag annog ailgyfeirio meddyginiaethau i'r DU? A ydych chi wedi bod yn rhan o'r trafodaethau, neu wedi bod yn rhan o'r broses, o hyrwyddo'r ffaith y gellir parhau i ddefnyddio meddyginiaethau, dyfeisiadau a threialon clinigol a drwyddedwyd neu a brofwyd yn yr UE yn y DU os bydd Brexit heb gytundeb drwy ddiwygio'r rheoliadau hynny? Felly, byddwn yn ddiolchgar iawn petaech chi'n gallu rhoi diweddariad i ni ynghylch y materion penodol hynny.

Fe wnaethoch chi sôn am gyflenwadau bwyd, fel y gwnaeth Gweinidog yr Amgylchedd a Materion Gwledig. Unwaith eto, nid wyf yn dymuno codi ofn ar bobl sydd efallai'n poeni, pe baen nhw'n mynd i'r ysbyty, na fydden nhw'n gallu cael unrhyw fwyd, oherwydd, wrth gwrs, dim ond rhai pethau fydd allan o drefn—allai fod allan o drefn. Oherwydd y gwir amdani yw, nid oes neb yn gwybod beth sy'n mynd i ddigwydd. Felly, a wnewch chi gadarnhau—rwy'n gwybod ichi ddweud eich bod wedi gofyn i fyrddau iechyd edrych ar hyn, ond a wnewch chi gadarnhau fod y byrddau iechyd eu hunain wedi ymgysylltu â'u staff ac wedi rhoi'r cyfarwyddiadau y gwnaethoch chi sôn amdanyn nhw?

Fe wnaethoch chi sôn am faterion recriwtio. Nawr, wrth gwrs, rydym ni'n gwybod, onid ydym ni, yma yng Nghymru, mae gennym ni gyfres arbennig, cyfres unigryw, o broblemau ynghylch recriwtio, ac nid Brexit yn unig yw hyn—i adael neu i beidio â gadael. Rydym ni wedi cael problemau ynghylch awydd pobl i ddod i Gymru; rydym ni wedi cael problemau ynghylch pobl yn amau a yw'r ysbyty y gallen nhw fynd i weithio iddo yn ddigon sefydlog ac yn ddigon cryf; rydym ni wedi cael problemau oherwydd y tanfuddsoddi hanesyddol mewn lleoedd hyfforddi a'r anhawster i ddarparu arbenigeddau hyfforddi. Felly, pe gallech chi efallai roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am y modd y gallai Brexit heb gytundeb effeithio ar y mathau hynny o broblemau, rwy'n credu y byddai hynny, unwaith eto, yn helpu i egluro'r sefyllfa yn well o lawer.

Rwy'n falch iawn o weld, yn ôl eich datganiad, bod nifer y gwladolion o'r UE a gyflogir gan y GIG yng Nghymru wedi cynyddu mewn gwirionedd, er gwaethaf Brexit. Yn wir, Llywydd, rydym ni wedi gweld cynnydd syfrdanol o 42 y cant yn nifer y gwladolion o'r UE sy'n gweithio yn GIG Cymru ers 2015, ac mae croeso mawr i bob un ohonyn nhw yma. Ac mae'n dda gweld ein bod ni'n dal yn arwain y byd yn y DU o ran arloesi gyda meddyginiaethau newydd. Nawr, rydym ni'n sôn am fuddsoddi a buddsoddi yn y GIG, ond mae angen inni gofio, yma yng Nghymru, er enghraifft, fod ReNeuron newydd daro bargen gwerth £80 miliwn â'r cwmni Tsieineaidd Fosun Pharma ym mis Ebrill eleni ar gyfer datblygu gwasanaethau sy'n gysylltiedig â strôc a rhaglenni therapi dallineb llinell cell genedlyddol retina dynol. Nawr, nid yw hynny'n arwydd o ansicrwydd ac mae hynny'n wirioneddol dda, a dyna'r math o fusnes y mae angen inni fynd ar ei ôl.

Mae'r gwariant ar ymchwil a datblygu yng Nghymru yn gryf o hyd, yn gryf yn y DU. Disgwylir y bydd yn cynyddu 3 y cant yn y tymor hwy. Ac, wrth gwrs, bydd y toriadau yn y dreth gorfforaeth o fudd i gwmnïau fferyllol y DU. Ond a wnewch chi ddweud wrthyf pa effaith a gaiff cynigion asgell chwith galed Llafur o dan 'Medicines for the Many' ar enw da'r DU o ran arwain y byd o ran ymchwil a datblygu ar gyfer meddyginiaethau? Gan gymryd Tsieina a Chiwba fel enghreifftiau, dywedodd arweinydd yr wrthblaid, Jeremy Corbyn, y byddai Llywodraeth Lafur yn defnyddio trwyddedu gorfodol i sicrhau fersiynau generig o feddyginiaethau patent, a dal cwmnïau fferyllol yn wystl drwy ddweud wrthyn nhw, os ydyn nhw eisiau arian ymchwil cyhoeddus, yna bydd yn rhaid iddyn nhw wneud eu cyffuriau'n fforddiadwy i bawb. Ac rydych chi a minnau'n gwybod pa mor bwysig yw cael cyffuriau fforddiadwy yn y GIG, oherwydd bod gennym ni gyllideb sy'n crebachu'n barhaus ac anghenion mwy fyth. Ond mae Cymdeithas Diwydiant Fferyllol Prydain wedi dweud bod trwyddedu gorfodol yn gyfystyr ag atafaelu ymchwil newydd ac y byddai'n tanseilio'r ymchwil a'r datblygiad rhyfeddol hwn sydd gennym ni yma yng Nghymru, yn enwedig ym Mhrifysgolion Caerdydd ac Abertawe. Felly, byddai eich eglurhad ar y mater hwn a'r effaith y byddai hynny'n ei gael arnom ni—Brexit neu ddim Brexit—yn werth gwrando arno yn wir.

16:50

Diolch am y gyfres o sylwadau ac ychydig o gwestiynau yn y fan yna. Rwy'n eich llongyfarch ar ymgais wynebsyth i dreulio cymaint o amser yn tynnu sylw oddi wrth y paratoadau ar gyfer Brexit heb gytundeb. Nid wyf yn mynd i gael fy anfon ar drywydd pethau nad oes a wnelon nhw ddim â'r datganiad a wnes i ar y paratoadau ar gyfer Brexit heb gytundeb.

Er hynny, rwyf eisiau dychwelyd at rai o'r pwyntiau a wnaethoch chi am Brexit. Fe ddywedoch chi bod yn rhaid i Brexit gael ei gyflawni, un ffordd neu'r llall. Fe sonioch chi am ganlyniad ysgubol yma yng Nghymru; nid oedd yn ganlyniad ysgubol. Ac roeddech chi'n sôn bod yn rhaid i Brexit heb gytundeb gael ei gyflawni, ond mae amddiffyn—gadael heb gytundeb yn ffordd bosib ymlaen ar gyfer hyn, ac yna sôn, ar yr un pryd, am ddiogelu ein GIG a gofal cymdeithasol. Ac, mewn gwirionedd, y canlyniad gwaethaf posib i iechyd a gofal cymdeithasol, i'n staff a'r cyhoedd sy'n dibynnu arno, yw gadael heb gytundeb. Nid yw hyn yn gymhleth. Nid yw'n anodd. Mae adroddiadau'r Llywodraeth ei hun ar Yellowhammer yn cydnabod hyn; mae cydweithwyr Ceidwadol ledled y wlad yn cydnabod y niwed y byddai Brexit heb gytundeb yn ei wneud i iechyd a gofal cymdeithasol. Ac, i fod yn gwbl glir, nid ydym ni yn y sefyllfa hon oherwydd y ffordd y mae Aelodau Seneddol Llafur wedi pleidleisio mewn ymateb i gytundebau a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU. Ac os yw'r Aelodau—[Torri ar draws.] Os yw'r Aelodau eisiau edrych ar ble roedden nhw cyn yr etholiad cyffredinol—yn mwynhau mwyafrif Ceidwadol, y fargen a wnaethpwyd gyda'r DUP, y ffaith eich bod wedi colli aelodau o'r grŵp ymchwil Ewropeaidd, a oedd yn gweithredu fel plaid o fewn plaid—mae'n ddigon posib eu bod wedi meddiannu gweddill y blaid Dorïaidd nawr, ond, mewn gwirionedd, mae digon o Geidwadwyr na fydden nhw'n cefnogi'r cytundeb a ddarperir. Nid oes a wnelo hyn ddim â'r ffordd y mae Aelodau Seneddol Llafur wedi pleidleisio, mae a wnelo â phopeth sy'n ymwneud ag anallu'r Llywodraeth i gyflawni'r addewidion y mae wedi'u gwneud.

16:55

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Rwy'n cydnabod hefyd y pwyntiau a grybwyllwyd am y symiau o arian. Nid yw'r rhan hon o'r gwasanaeth iechyd gwladol nac unrhyw ran arall ohono yn credu fod y symiau ffantasi o arian a ddisgrifir yn rhai gwirioneddol. Mae gennym ni werth blwyddyn o arian inni gynllunio cyllideb ar ei gyfer. Mae'r syniad y dylwn i ymrwymo i dair blynedd o wariant ar sail addewidion nad yw hyd yn oed y gwasanaeth yn eu credu yn ffansïol dros ben.

O ran eich sylw am gyflenwadau bwyd yn y GIG, buom yn trafod hyn yn rheolaidd. Wrth gwrs, mae gennym ni'r gallu i ddarparu bwyd o fewn y gwasanaeth iechyd gwladol. Mae'r sylw a wnes i yn y datganiad yn ymwneud â'r posibilrwydd y bydd angen cyfnewid neu newid rhywfaint ar hynny, heb gyfaddawdu ar safonau maeth. Mae'n fwy anodd i rai o'n darparwyr gofal cymdeithasol wneud hynny, yn enwedig y busnesau llai hynny sy'n bodoli, ac, fel y dywedais, mae yna bwynt syml sef y bydd effaith ar y dewis o fwyd yn sicr, ond rydym yn ymrwymo i gynnal safonau maeth.

O ran recriwtio staff, nawr, rydym ni wedi gweld her sylweddol o ran recriwtio staff, o ran cofrestr y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth yn arbennig. Rydym ni wedi cael ein gwarchod yn gymharol rhag hynny, o gymharu â Lloegr. Bu gostyngiad trychinebus yn nifer y cofrestriadau newydd ar gofrestr y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth gan bobl o bob rhan o Ewrop, ac mae'n destun pryder gwirioneddol. Pe baech yn cael y sgwrs hon gyda Choleg Brenhinol y Bydwragedd neu Goleg Brenhinol y Nyrsys neu Unsain, yna bydden nhw'n dweud wrthych am wirionedd y sefyllfa lle mae pobl yn dewis gadael Lloegr, yn arbennig, oherwydd nid yn unig y dewisiadau polisi, ond yr amgylchedd a'r iaith a ddefnyddir i'w disgrifio. Rwy'n falch ein bod yma yng Nghymru—ac yn yr Alban hefyd, a bod yn deg—wedi pwysleisio'n gyson ein bod yn ystyried ein staff yn werthfawr wrth ddymuno cael pobl i aros, a bydd hynny'n parhau.

Fodd bynnag, mae angen i mi nodi bod y cynigion ar gyfer cael trothwy cyflog i ymfudwyr yn weithred o fandaliaeth di-alw-amdani ar y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ym mhob rhan o'r Deyrnas Unedig. Mae'r cyflog cyfartalog yn y sector gofal cymdeithasol yn llai nag £17,000 yng Nghymru. Byddai cael trothwy cyflog o £30,000 yn drychinebus i ofal cymdeithasol, a byddai'n cael effaith ddifrifol ar y gwasanaeth iechyd. Nid yw hi'n rhy hwyr i Geidwadwyr yn Llywodraeth y DU arddel synnwyr cyffredin a rhoi terfyn ar y cynigion hynny, neu byddant yn gwneud niwed difrifol ac arwyddocaol i wasanaethau iechyd a gofal.

Fe wnaf i ymdrin â'ch sylwadau am feddyginiaethau. O ran lleihau'r cynnydd mewn costau a'r sylwadau yr ydych chi'n eu gwneud am gyflenwadau wrth gefn ychwanegol, mae'r rhain yn drefniadau ar gyfer y DU gyfan sy'n cael eu rhoi ar waith. Nid y Llywodraeth yn gweithredu dros Loegr yn unig yw hyn, ac mae hyn yn rhan o'r cyfrifoldebau sydd gan y DU. Mae'n gyfrifoldeb ar y DU i gyflenwi meddyginiaeth i'r Deyrnas Unedig, ac mae trefniadau'n bod sy'n cynnwys y prif swyddogion meddygol a'r prif swyddogion fferyllol er mwyn goruchwylio sut y byddid yn ymdrin â phrinder o ran gwneud yn siŵr y caiff meddyginiaethau eu dosbarthu'n deg ledled y wlad.

O ran trefniadau trafnidiaeth, unwaith eto, mae hyn yn rhan o gyfrifoldebau'r DU gyfan. Mae tua thraean o'r diwydiant fferyllol wedi gwneud eu trefniadau eu hunain ac wedi gwario arian sylweddol wrth wneud hynny. Mae tua dwy ran o dair yn dibynnu ar y trefniadau trafnidiaeth y mae Llywodraeth y DU yn eu darparu. Ac, o ran hyn, byddaf yn cydnabod y bu gwelliant yn y paratoadau ar gyfer Brexit heb gytundeb gan Lywodraeth y DU o fis Mawrth. Byddwch yn cofio ei fod yn chwerthinllyd, fod cwmnïau fferi nad oedd ganddyn nhw fferi wedi ennill contractau, a bod yn rhaid talu arian i gwmnïau fferi ac i Eurotunnel am drefniadau a roddwyd ar waith. Rwy'n cydnabod bod Llywodraeth y DU mewn gwell sefyllfa nawr. Ar ôl dysgu o'r camgymeriadau a'r gwastraffu arian sylweddol, maen nhw bellach mewn gwell sefyllfa, ond yr her fydd, os bydd dwy ran o dair o'r cyflenwad yn dibynnu ar y trefniadau fferi diweddaraf, yna byddwn yn wynebu'r heriau gwirioneddol a nodir yn nogfen Yellowhammer ynghylch cerbydau nwyddau trwm yn cronni.

Fy mhryder mwyaf ynglŷn â'r cyflenwad meddyginiaethau mewn gwirionedd yw dosbarthu'r nwyddau ledled y Deyrnas Unedig. Mae'r dystiolaeth a ddarparwyd yn y datganiad gan Yellowhammer ym mis Awst yn ddigon i'ch sobri, ac ni ddylai neb fod yn obeithiol yn ei gylch a gwneud dim ond honni bod yn rhaid inni fwrw ymlaen a gadael heb gytundeb os mai dyna'r cyfan sy'n ein hwynebu, oherwydd mae hwnnw'n nodi'r niwed gwirioneddol a sylweddol a gaiff ei achosi, a'r amhariadau difrifol dros hyd at chwe mis a fyddai'n ein hwynebu ar draws y culfor. Felly, nid yw hwn yn fater dibwys. Mae meddyginiaethau yn eitemau categori 1; byddant yn cael y flaenoriaeth o ran y capasiti sy'n bodoli. Wedyn mae angen inni gael y nwyddau hynny o amgylch y wlad, ac ynghylch hynny, rydym yn cymryd rhan ar lefel swyddogol ac rydym mewn sgyrsiau gweinidogol am yr union faterion hynny.

Rwyf eisiau gwneud y pwynt olaf arall am feddyginiaethau, sef na ddylai'r un ohonom ni fod yn rhy obeithiol ynghylch y prinder posib a achosir. Ceir prinder arferol yn y gwasanaeth iechyd ac fe gaiff hynny ei reoli, mae hynny'n wir. Ond rydym ni mewn cyfnod eithaf rhyfeddol, ac nid ydym ni erioed wedi dewis gwneud rhywbeth yn fwriadol y gwyddom ni y bydd yn peryglu cyflenwadau meddyginiaeth. Er gwaethaf yr holl ddadansoddi sydd gennym ni ar y trefniadau sy'n cael eu rhoi ar waith nawr, os effeithir ar un feddyginiaeth unigol oherwydd Brexit heb gytundeb, yna bydd pob un person sy'n dibynnu ar y feddyginiaeth honno yn edrych arnom ni, yn ddealladwy, ac yn dweud, 'pam wnaethoch chi hyn? Pam wnaethoch chi fynnu bod Brexit yn digwydd os oeddech chi'n gwybod bod hyn yn risg i mi a'm hiechyd? Byddaf yn edrych yn fodlon i fyw llygaid y bobl hynny ac yn dweud, 'rydym ni wedi gwneud y peth iawn wrth godi'r materion hyn.' Mae angen i Aelodau eraill o ba blaid bynnag ystyried yn ofalus eu safbwynt ar Brexit heb gytundeb a'r peryglon a ddaw yn sgil hynny i iechyd a lles pobl yng Nghymru.

17:00

Diolch. A gaf fi dynnu eich sylw at y cloc a dweud mai un cwestiwn yn eich datganiad oedd hwnna? Felly, dim ond i chi fod yn ymwybodol. Dai Lloyd.

Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad diweddaraf ar baratoadau Brexit heb gytundeb ym maes iechyd a gwasanaethau cymdeithasol? Yn y rhan o'ch datganiad ar dudalen 2, rydych yn dweud bod trefniadau tebyg ar gyfer y DU gyfan ar waith ar gyfer radioisotopau, wedi'u cefnogi gan ddulliau cyflym a phwrpasol o gludo nwyddau i feysydd awyr. Yn amlwg, mae radioisotopau meddygol yn bwysig iawn, ac mae hwn yn faes sy'n peri pryder mawr. Bydd y Gweinidog yn gwybod bod yr isotopau hyn—isotopau ymbelydrol—yn hanfodol ar gyfer ein pecynnau sganio meddygol uwch-dechnoleg yn ein holl ysbytai mawr, a rhai ysbytai nad ydynt mor fawr, a dweud y gwir. Hefyd, mae'r radioisotopau meddygol hyn yn cael eu defnyddio mewn triniaethau canser sylweddol ac yn yr ymchwiliadau amrywiol a wnawn. Felly, maen nhw'n gwbl hanfodol.

Rydych chi hefyd yn gwybod bod gan radioisotopau fel technetiwm a molybdenwm hanner oes o chwe awr yn unig. Mae hanner ohono'n diflannu mewn chwe awr, mewn geiriau eraill. Mae hanner arall yn diflannu mewn chwe awr arall, ac ati. Rydym yn cael y rhain o dir mawr Ewrop ar hyn o bryd. Felly, mae dau gwestiwn yn dilyn yn benodol o ran radioisotopau meddygol. A yw Llywodraeth Cymru wedi cael eglurhad cyfreithiol ynghylch pa un a fydd cyflenwyr yr UE hyd yn oed yn gallu gwerthu'r radioisotopau hyn inni heb gytundeb, gan fod hwn yn cael ei gyfrif yn ddeunydd niwclear? Yr ail gwestiwn yw: a yw Llywodraeth Cymru yn fodlon y bydd cynllun hedfan radioisotopau i faes awyr Coventry i'w dosbarthu er mwyn osgoi'r ciwiau mewn porthladdoedd yn gweithio, ac na fydd unrhyw oedi ar gyfer gwiriadau ar ochr yr UE nac ar ochr y DU, o gofio bod pob awr o oedi'n golygu bod y deunyddiau'n llai tebygol o weithio, yn enwedig yng nghyd-destun ysbytai ymhell i ffwrdd yng Nghymru, a bod llwybrau'r M42, M5 a'r M6 i Gymru'n dioddef tagfeydd yn aml?

Diolch. Mae'r sefyllfa o ran radioisotopau a meddyginiaethau eraill wedi bod yn destun pryder mawr imi, ac rwyf wedi sôn am hyn yn y Siambr o'r blaen. Mae'n enghraifft dda o'r cynnyrch yr ydym yn ei ddefnyddio yn y gwasanaeth iechyd mewn ffordd arferol sydd ag oes silff fer, ac felly ni allwn ni stocio popeth. O ran mater gadael Euratom o bosib—nad oes angen inni ei adael, ond dyna'r safbwynt y mae Llywodraeth y DU wedi'i fabwysiadu yn y gorffennol—yna ydy, mae'n bosibl bod hynny'n broblem.

Nid ydym ni wedi cael cyngor cyfreithiol annibynnol, gan ein bod wedi cael sicrwydd uniongyrchol gan gyflenwyr y byddant yn parhau i gyflenwi'r DU. Ond rwy'n cydnabod ei fod yn risg wirioneddol, ac mae aelodau o Gymdeithas Feddygol Prydain yn benodol wedi mynegi pryder ynghylch pa un a ellir darparu'r eitemau hynny'n gyfreithlon. Ond mae'r holl gyflenwyr presennol yn dweud eu bod yn barod i weithio ar drefniadau newydd i hedfan i faes awyr Dwyrain Canolbarth Lloegr, fel y gwnaethoch chi sôn.

Unwaith eto, mae hyn yn mynd yn ôl at fy mhryderon ynghylch meddyginiaethau a chyflenwadau. Nid wyf yn pryderu cymaint am fynd â nwyddau i fferïau neu i mewn i awyren. Mae'n ymwneud â'u dosbarthu ledled y DU gyfan. Pa un a ydych yn Sir Benfro, Swydd Durham neu Gernyw, mewn gwirionedd, mae hynny'n eithaf pell o faes awyr Dwyrain Canolbarth Lloegr. Felly, os ydych yn glinigwr yn ysbyty Truro, neu'n glinigwr ym Mangor, byddech yn naturiol yn pryderu: 'a yw hwn yn mynd i gyrraedd mewn pryd?' Rydych chi'n gywir; nid yw chwe awr yn amser hir.

Mae'r cynllun a'r sicrwydd a ddarparwyd yn dweud y dylai hynny fod yn bosib o hyd ac y dylai ddigwydd o hyd. Ond fy mhryder i yw nad ydym ni erioed wedi gwneud hyn o'r blaen. Nid ydym ni erioed wedi ceisio amharu ar y cyflenwad nwyddau i'r Deyrnas Unedig yn fwriadol fel hyn. Dyma ran o'r rheswm pam fy mod i'n dweud bod y cynlluniau hyn yn eu lle, mae elfen o sicrwydd yn eu cylch, ond mae ansicrwydd ynghylch yr effaith wirioneddol. Oherwydd os gwelwn y math o darfu ar drafnidiaeth a ragwelir ac y mae model ar ei gyfer, bydd heriau i'w goresgyn, a gallai hynny gael effaith uniongyrchol ar ofal iechyd a phrofiad pobl ledled y Deyrnas Unedig. Felly rwy'n bell o fod yn obeithiol ac yn bell o fod yn gadarnhaol am y peth, ac nid wyf yn rhannu barn pobl eraill y bydd popeth yn iawn.

17:05

A gaf i yn gyntaf ddatgan fy muddiant fel Cadeirydd Grŵp Cynghori ar Ewrop Prif Weinidog Cymru? A chyda hynny, a gaf i ddiolch i bawb yn y grŵp hwnnw ac yn y grwpiau ar gyfer sectorau penodol eraill sydd wedi rhoi o'u hamser i gyfrannu eu harbenigedd wrth inni baratoi ar gyfer Brexit, ac yn arbennig wrth baratoi ar gyfer gadael heb gytundeb?

Dim ond myfyrdod ffeithiol syml yw hwn: y ffaith drist yw bod yr ymdrech enfawr a pharhaus hon, fel yr un y cyfeiriodd y Gweinidog ati sef y llu o weision sifil, swyddogion polisi, arbenigwyr cyfreithiol ac eraill a gafodd eu dargyfeirio, yn troi eu sylw oddi wrth faterion brys eraill sy'n ymwneud â diwygio cymdeithasol ac economaidd. Mae Brexit wedi costio'n ddrud i Gymru a'r DU eisoes, ond mae cost yn parhau ar ffurf yr egni hwnnw a'r cyfleoedd a gollwyd.

Ond a gaf i ofyn i chi, Gweinidog, am unrhyw drafodaethau yr ydych chi wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU? Rydych chi wedi egluro, yn gwbl briodol, mai cyfrifoldeb y DU yw'r mater o feddyginiaethau. Ond mae'n ymwneud yn benodol â pharatoi, yn achos gadael heb gytundeb, ar gyfer y mater o allforion cyfochrog o'r DU i'r UE ac yn ehangach dramor, lle y gallem ni weld, yn eithaf rhyfedd, ond gallwn ragweld hyn, y sefyllfa lle mae'r bunt yn colli gwerth yn y cyfnod yn arwain at adael heb gytundeb—ac mae Prif Weinidog y DU ar hyn o bryd yn ein hatgoffa'n gyson, os bydd popeth arall yn methu, byddwn ar y ffordd i adael heb gytundeb—ond mae modd i'r bunt ostwng, ac oherwydd y newid yn y gyfradd gyfnewid, fel y gwelsom ni o'r blaen heb i Brexit ddigwydd o gwbl, bod allforwyr cyfochrog yn manteisio ar y cyfle i ysbeilio'r cyfanwerthwyr, ysbeilio fferyllwyr unigol sydd â thrwyddedau masnachu, ac yn sydyn, sylweddolwn, yn y sefyllfa o hawlio'n gwlad yn ôl, sylweddolwn fod meddyginiaethau i gleifion yma yn y DU, sy'n rhan o baratoadau gadael heb gytundeb, yn rhan o'r paratoi hwnnw i osgoi sefyllfa o brinder, yn cael eu gwerthu dramor.

Nawr, byddai hynny'n hurt, ac nid wyf yn credu y byddai unrhyw un eisiau gweld hyn. Nid yw'n rhywbeth sydd o fewn gallu Llywodraeth Cymru, rwy'n gwybod, ond byddwn yn ddiolchgar pe gallai ein sicrhau ei fod yn codi'r pryderon hynny gyda Gweinidogion y DU fel y caiff neges ei hanfon at y masnachwyr cyfochrog hynny na ddylen nhw wneud hynny wrth ragweld Brexit heb gytundeb—na ddylai eu rheidrwydd masnachol fod yn ystyriaeth sy'n bwysicach na rheidrwydd moesol i roi blaenoriaeth i ddinasyddion y DU a chleifion y DU.

A gaf i hefyd ofyn i chi beth yw eich barn ar friff Cymdeithas Feddygol Prydain sydd wedi cael ei anfon, rwy'n credu, at holl Aelodau'r Cynulliad? Yn eu geiriau nhw, mae'n sôn am ganlyniadau trychinebus gadael heb gytundeb ar wasanaethau iechyd—ar ddiogelwch cleifion, ar bwysau'r gaeaf, ar ymchwil feddygol, ar gydnabod cymwysterau proffesiynol, trefniadau gofal iechyd dwyochrog, cydweithredu rhyngwladol ynghylch clefydau prin, y gweithlu iechyd a gofal a mewnfudo, fel soniodd y Gweinidog, a llawer mwy. A yw'r Gweinidog yn ystyried y neges glir iawn hon gan Gymdeithas Feddygol Prydain fel ymgais arall i godi bwganod, neu fel ofnau gwirioneddol y bobl sy'n pryderu'n fwy na dim am eu cleifion, am ein gwasanaethau cymdeithasol a'n gwasanaeth iechyd, am yr hyn a allai ddigwydd os bydd Brexit heb gytundeb? Ac os yw hynny'n wir, a bod y rhain yn ofnau gwirioneddol, onid yw hyn yn rheswm unwaith eto i ddiystyru Brexit heb gytundeb?

Diolch am y ddau brif sylw. Ynghylch yr un sy'n ymwneud â masnachu cyfochrog, rydych chi'n iawn, mae punt wannach yn newid gwahanol gymhellion i symud nwyddau rhwng gwahanol rannau o'r Undeb Ewropeaidd. Mae hynny'n ganlyniad i'r bunt sy'n gwanhau nawr, ac, os ydym yn dal i nesáu at ddiwedd mis Hydref gyda Phrif Weinidog presennol y DU yn bygwth torri'r gyfraith ac yn ceisio gadael heb gytundeb, yna mae'n annhebygol y bydd y bunt yn cryfhau. Mae her yma: yn achos meddyginiaethau wedi'u brandio, mae rheolaethau ar brisiau, ond yn achos rhai generig mae llai o hynny. Mae'n rhywbeth sydd wedi ei grybwyll mewn sgyrsiau rhwng y llywodraethau, ac felly mae ymwybyddiaeth o hynny. Rydym yn dal i gredu mai potensial ac arwyddocâd hyn—mae'n annhebygol o fod yn wir cyn inni adael, ond yr her yw, o bosib, os byddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb, y gallwn ganfod y gallai meddyginiaethau generig, sydd yn nodweddiadol yn llai costus, gynyddu mewn pris mewn gwirionedd, yn enwedig os oes gwiriadau ychwanegol, a rhwystrau ychwanegol ar nwyddau, ac y caiff hynny ei adlewyrchu yn y pris. Felly, mae'n bryder gwirioneddol. Ac o ystyried arwyddocâd y bil cyffuriau, mae hyd yn oed cynnydd bach yn cael effaith arwyddocaol ar gyllid y gwasanaeth iechyd ym mhob rhan o'r Deyrnas Unedig.

Rwy'n cydnabod eich sylw am aelodau Cymdeithas Feddygol Prydain a'r briff y maen nhw wedi'i ddosbarthu. Mae aelodau Cymdeithas Feddygol Prydain wedi mynegi'n glir iawn i mi eu barn a'u pryderon. Dyma realiti'r sefyllfa. Dyma'r hyn sy'n ein hwynebu. Peidiwch â chymryd fy ngair i ynghylch hynny, na gair Cymdeithas Feddygol Prydain, edrychwch ar yr hyn mewn gwirionedd a ddywed dogfen Yellowhammer a gyhoeddwyd. Ni ddylai neb fod yn obeithiol ynghylch hyn. Mae'n cydnabod yr effaith wirioneddol a sylweddol. Mae'r pryderon yn rhai dilys. A dyna pam ein bod ni'n treulio cymaint o amser, egni ac ymdrech yn y Llywodraeth ac yn ein gwasanaethau iechyd a gofal wrth baratoi ar gyfer Brexit heb gytundeb, rwy'n cytuno'n llwyr â'r Aelod y dylid diystyru hynny gan y byddai'n ganlyniad cwbl annerbyniol i ni i gyd.

17:10
7. Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Paratoi ein gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru ar gyfer Brexit heb gytundeb

Eitem 7 ar ein hagenda y prynhawn yma yw datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ar baratoi ein gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru ar gyfer Brexit 'heb gytundeb'. Galwaf ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i sôn am y datganiad.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Fel Llywodraeth Cymru, ein barn ni yw na ddylid hyd yn oed meddwl am Brexit 'heb gytundeb'. Fel y clywsom eisoes, gallai'r effeithiau fod yn ddifrifol ac yn bellgyrhaeddol. Gwyddom y bydd yn anodd iawn lliniaru effeithiau ymadael heb gytundeb, a dyna pam yr ydym ni'n parhau i weithio'n ddiflino yn erbyn y posibilrwydd hwnnw, yn ogystal ag i leihau effaith drychinebus canlyniad o'r fath, i'r graddau yr ydym yn gallu gwneud hynny. Dirprwy Lywydd, hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ymhelaethu ar agweddau ar ein cynllun gweithredu ar gyfer Brexit 'heb gytundeb' a'r gwaith ehangach y mae rhai o'n partneriaid yn y sector cyhoeddus, gan weithio'n agos gyda phartneriaid yn y trydydd sector, yn ei wneud i baratoi.

Mae awdurdodau lleol ledled Cymru yn gyfrifol am gynllunio i sicrhau bod gwasanaethau hanfodol megis addysg a gofal cymdeithasol yn gallu ymateb i bob sefyllfa Brexit. Maen nhw, a phartneriaid yn y trydydd sector, yn allweddol i ddarparu ymateb lleol i effaith niweidiol Brexit 'heb gytundeb' ar ein cymunedau. O'r cychwyn cyntaf, fe wnaethom ni gydnabod y byddai'r gwaith paratoi hwn yn cymryd cryn dipyn o adnoddau ac ymdrech. Darparwyd arian gennym ar gyfer cydlynwyr Brexit penodedig ym mhob awdurdod lleol ledled Cymru, ac ar gyfer gwaith gan CLlLC i'w cefnogi a'u cynghori. Mae'r cyllid hwn o dros £1.3 miliwn wedi galluogi pob awdurdod lleol i baratoi ei wasanaethau ei hun i ymateb i ymadael 'heb gytundeb'.

Maen nhw wedi gweithio gyda phartneriaid allweddol i leihau'r effaith a gaiff ar ein dinasyddion yn sgil y tarfu ar borthladdoedd, y cadwyni cyflenwi bwyd, cynnydd yng nghost bwyd a thanwydd, yn ogystal â'r posibilrwydd o darfu ar lif data. Gallai tarfu ar gadwyni cyflenwi effeithio ar gyflenwadau bwyd i ysgolion a chartrefi gofal, neu i bobl agored i niwed yn eu cartrefi. Bydd unrhyw gynnydd mewn costau tanwydd a nwyddau neu rwystrau eraill i'r gweithlu yn effeithio ar wasanaethau trafnidiaeth a phrosiectau adfywio ac adeiladu, o dai i ysgolion yr unfed ganrif ar hugain. Mae awdurdodau lleol, fel eraill, wedi gorfod gweithio drwy'r materion hyn i archwilio dewisiadau amgen a datblygu cadernid ar draws eu gwasanaethau.

Mae'r effeithiau yn mynd yn ehangach na gwasanaethau awdurdodau lleol. Mae economïau lleol, sydd eisoes wedi'u niweidio gan ddegawd o gyni, yn teimlo effeithiau ansicrwydd ymadael 'heb gytundeb'. Mae swyddogaeth llywodraeth leol o ran cefnogi economïau lleol yn sylweddol, boed hynny drwy gefnogaeth uniongyrchol, penderfyniadau prynu neu adfywio ehangach. Yn rhan o'n pecyn haf o ysgogiad economaidd, darparodd y Llywodraeth £20 miliwn o arian cyfalaf i awdurdodau lleol i gefnogi ac ysgogi eu heconomïau lleol yn erbyn effeithiau Brexit. Rydym hefyd wedi ariannu Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru i helpu'r trydydd sector i fod yn barod. Yn ddiweddar, cyhoeddwyd eu hadroddiad 'Grymuso Cymunedau'.

Dirprwy Lywydd, mae'n amlwg y byddai Brexit 'heb gytundeb' anhrefnus yn effeithio ar bawb, gan roi mwy o bwysau ar ein gwasanaethau cyhoeddus, sydd eisoes o dan bwysau. Wedi blynyddoedd o gyni a thoriadau gan Lywodraeth y DU, ni all y gwasanaethau hyn fforddio canlyniadau dirwasgiad dwfn arall a chynnydd posibl i brisiau bwyd a thanwydd, a allai wthio nifer fwy o bobl i dlodi a mwy o ddibyniaeth ar wasanaethau cyhoeddus.

Hoffwn ddweud ychydig o eiriau am effaith Brexit, gyda neu heb gytundeb, ar ein cymunedau a'n dinasyddion mwyaf agored i niwed, gan gynnwys y peryglon i'r rhai hynny sydd eisoes yn byw mewn tlodi, neu sydd mewn perygl o ddisgyn i dlodi. Mae tai a lleihau digartrefedd eisoes yn un o'n blaenoriaethau mwyaf taer. Bydd Brexit 'heb gytundeb' yn gwneud y sefyllfa hon yn waeth, gan roi bywoliaeth pobl mewn perygl, a chynyddu costau byw, gan gynnwys costau morgais a rhent. Dyna pam, o dan y gyllideb atodol gyntaf, y dyrannwyd £50 miliwn o wariant cyfalaf ychwanegol i gyllideb y grant tai cymdeithasol i helpu i wrthbwyso effaith economaidd gadael heb gytundeb.

Yna, mae'n bosibl y bydd cynnydd yng nghost bwyd, oherwydd sioc economaidd neu lai o gyflenwad. Mae'r galw am fanciau bwyd wedi bod ar gynnydd ers nifer o flynyddoedd. Byddai unrhyw gynnydd mewn prisiau bwyd yn fater o bryder mawr. Dyna pam y cyhoeddodd y Prif Weinidog gronfa gwerth £2 miliwn yn ddiweddar ar gyfer mynd i'r afael â thlodi bwyd a mynd i'r afael ag ansicrwydd bwyd. Rydym ni hefyd yn ystyried ffyrdd y gellid defnyddio ein cronfa cymorth dewisol i gefnogi'r rhai hynny a fyddai'n cael eu heffeithio fwyaf gan Brexit 'heb gytundeb'.

Dirprwy Lywydd, rydym ni'n gwbl glir ynghylch y gwerth yr ydym ni'n ei roi ar y bobl hynny o genhedloedd eraill yr UE sydd wedi gwneud eu cartrefi gyda ni, sy'n cyfrannu at ein heconomi, ein gwasanaethau cyhoeddus, ein bywyd dinesig a'n diwylliant. Un o'r agweddau mwyaf truenus ar ein hamgylchiadau presennol yw'r pryder a'r ansicrwydd y mae'r unigolion a'r teuluoedd hyn wedi'u dioddef cyhyd. Gadewch i mi fod yn glir: mae'r cyfrifoldeb am hyn yn sefyll yn gadarn wrth ddrws Llywodraeth y DU ond nid ydym ni'n sefyll yn ôl ac yn gwneud dim. Rydym ni wedi ariannu Cyngor ar Bopeth Cymru i helpu dinasyddion i wneud cais am statws preswylydd sefydlog drwy ein prosiect hawliau dinasyddion yr UE, yn ogystal ag ariannu gwasanaeth cyngor ar fewnfudo i ddarparu cyngor mwy arbenigol.

Dirprwy Lywydd, gwyddom fod refferendwm yr UE wedi creu rhaniadau mewn teuluoedd, mewn cymunedau ac mewn cymdeithas a allai gymryd cenhedlaeth i'w cyfannu. Mewn rhai achosion, mae wedi arwain at fwy o densiynau ac achosion o droseddau casineb. Gydag ansicrwydd Brexit 'heb gytundeb', gallai'r tensiynau hyn waethygu. Felly, rydym ni wedi ehangu ein rhaglen cydlyniant cymunedol, a gydgysylltir gan awdurdodau lleol, drwy £1.5 miliwn ychwanegol o gyllid pontio Ewropeaidd dros y ddwy flynedd nesaf. Mae'r cyllid hwn bellach yn cefnogi timau bach ym mhob rhanbarth o Gymru i fonitro tensiynau cymunedol a hybu mwy o ymgysylltu yn ein cymunedau. Rydym ni hefyd wedi cynyddu'r cyllid ar gyfer y ganolfan genedlaethol adrodd am droseddau casineb, sy'n cael ei rhedeg gan Cymorth i Ddioddefwyr Cymru, ac wedi datblygu grant troseddau casineb newydd ar gyfer cymunedau lleiafrifol i gefnogi partneriaid y trydydd sector sy'n gweithio gyda chymunedau lleiafrifoedd ethnig i liniaru effeithiau troseddau casineb a'u hatal yn y dyfodol.

Wrth gwrs, nid oes gennym ni'r holl ysgogiadau i fynd i'r afael â'r materion hyn. Mae rhai effeithiau y tu hwnt i reolaeth llywodraeth leol, neu yn wir Llywodraeth Cymru, yn enwedig pan fyddan nhw'n ymwneud â materion nad ydyn nhw wedi’u datganoli neu faterion macroeconomaidd. Ni fydd unrhyw lefel o gynllunio a pharatoi naill ai yn y fan yma, na chan Lywodraeth y DU, yn gallu ymdopi'n ddigonol â lefel y tarfu y byddai ymadael 'heb gytundeb' yn ei olygu i bobl Cymru. Dyna pam yr ydym ni wedi bod yn gweithio ar gynllunio wrth gefn ar gyfer Brexit 'heb gytundeb' ers y cyfnod cyn y dyddiad ymadael cychwynnol ym mis Mawrth. Mae'r pedwar fforwm Cymru Gydnerth lleol ledled Cymru wedi nodi'r risgiau lleol ac maen nhw wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid allweddol i sicrhau ein bod mor barod ag y gallwn ni fod i nodi a lliniaru'r risgiau hyn. Rydym ni wedi cyfrannu at weithrediad Ymgyrch Yellowhammer Llywodraeth y DU ac rydym ni'n parhau i weithio gyda'n partneriaid yng Nghymru i sicrhau bod gennym y strwythurau a'r prosesau cywir ar waith i fonitro'r effeithiau a, phan fo angen, i gymryd y camau priodol.

Dirprwy Lywydd, cyhoeddwyd y gwaith dilynol ar adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru, 'Paratoadau yng Nghymru ar gyfer Brexit "heb gytundeb'' ', ddydd Gwener. Nododd fod tystiolaeth o ddull mwy cydweithredol ar draws gwasanaethau cyhoeddus Cymru a bod cynllunio ar gyfer Brexit yn cyfateb i'r enghraifft fwyaf cynhwysfawr o weithio ar draws y Llywodraeth yr ydym wedi gweld Llywodraeth Cymru yn ei wneud hyd yma. Croesawaf y sylwadau hyn yn fawr iawn ac rwy'n gobeithio eu bod nhw, ynghyd â'm datganiad i, yn rhoi rhywfaint o sicrwydd ein bod ni a'n partneriaid mewn llywodraeth leol a'r trydydd sector yn gwneud popeth o fewn ein gallu i leihau effaith drychinebus Brexit 'heb gytundeb' ar wasanaethau cyhoeddus, ac ar ein cymunedau a'n dinasyddion. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i gofnodi fy niolch diffuant i gydweithwyr ar draws y sector cyhoeddus a'r trydydd sector yng Nghymru am eu hymroddiad enfawr a pharhaus i'r hyn a allai fel arall deimlo fel tasg braidd yn ddiddiolch? Diolch.

17:15

Diolch am eich datganiad. Fe wnaethoch chi gyfeirio, rwy'n credu, yn agos i'r dechrau, at risgiau dirwasgiad. Wrth gwrs, yn yr Almaen, sy'n pweru economi'r UE, mae 10 i 15 y cant o'i chynnyrch domestig gros yn dibynnu ar y gallu i fynd i farchnadoedd yn y DU, gan gynnwys Cymru, ac rydym ni'n deall o sylw yn y wasg yn ystod yr haf y gallen nhw fod ar drothwy dirwasgiad eu hunain. Felly mae'n amlwg bod gwerth i'r ddwy ochr sicrhau y ceir cytundeb, oherwydd nid yw Brexit 'heb gytundeb' yn mynd i helpu ein cyfeillion cyfandirol ychwaith.

Fe wnaethoch chi gyfeirio at droseddau casineb. A gaf i hyrwyddo digwyddiad? Nos Fercher nesaf, 9 Hydref, rwy'n noddi digwyddiad Diwrnod Rhyngwladol Integreiddio yn y Cynulliad, yn y Pierhead. Os na fyddwn ni'n eistedd yn rhy hwyr y noson honno, rwy'n gobeithio y bydd llawer ohonoch chi'n dod i ddangos eich cefnogaeth i'r agenda honno ac yn rhannu yn y dathliad amlddiwylliannol a fydd yn digwydd y noson honno.

Fe wnaethoch chi gyfeirio at adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru, 'Paratoadau yng Nghymru ar gyfer Brexit 'heb gytundeb'', a gyhoeddwyd ddydd Gwener diwethaf. Wrth gwrs, mae'n dweud bod:

y broses o gynllunio ar gyfer Brexit heb gytundeb ar draws gwasanaethau cyhoeddus Cymru wedi parhau i gyflymu.

Sut, felly, ydych chi'n ymateb i'r heriau allweddol a nodwyd ganddo, sy'n wynebu arweinyddion gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru, yn y diwygiad hwn o'i adroddiad ym mis Chwefror? Sef: cynnal gweithio ar y cyd; cryfhau cyfathrebu â'r cyhoedd; gwella'r broses graffu annibynnol, sy'n golygu bod angen i'r rhai hynny sy'n gyfrifol am lywodraethu cyrff cyhoeddus yng Nghymru wella'r gwaith o oruchwylio a chraffu ar baratoadau ar gyfer Brexit; cytuno ar y cyd i ymateb i'r annisgwyl; ac i gynllunio a pharatoi ar gyfer effeithiau tymor hwy.

Dywedodd yr archwilydd cyffredinol, yn ei asesiad, a gyhoeddwyd ddydd Gwener diwethaf, ar gyfer Brexit 'heb gytundeb' bod

y rhan fwyaf o gyrff cyhoeddus ledled Cymru yn cymryd eu gwaith cynllunio ar gyfer Brexit ‘heb gytundeb’ o ddifrif. Mae llawer ohonyn nhw wedi cynyddu eu gweithgarwch yn sylweddol ers haf 2018.

Pa asesiad ydych chi a'ch cydweithwyr wedi'i wneud felly o'r £4 miliwn o Gronfa bontio'r UE a ddarparwyd hyd yma i awdurdodau lleol gan Lywodraeth Cymru i'w helpu i gynllunio ar gyfer Brexit, o ran effeithiau a digonolrwydd?

Er bod effaith mudo o'r UE ar weithlu'r sector cyhoeddus yng Nghymru wedi'i restru fel un o bryderon Llywodraeth Cymru yn ei dogfen ar baratoi ar gyfer Brexit 'heb gytundeb', canfu'r archwilydd cyffredinol bod y risg y gallai staff adael yn sydyn pe byddai Brexit 'heb gytundeb' neu unrhyw fath arall yn gyfyngedig, a bod gwasanaethau cyhoeddus,

yn credu bod risgiau i’r gweithlu yn fwy perthnasol i’r tymor canolig a’r tymor hwy.

Fodd bynnag, mae Llywodraeth y DU wedi bod yn gweithio i leihau unrhyw risgiau posibl yn y tymor canolig i'r hirdymor drwy'r cynllun preswylio’n sefydlog i ddinasyddion yr UE, ac mae wedi bod yn glir eu bod yn dymuno i ddinasyddion yr UE aros. Y trefniadau mewnfudo 'heb gytundeb' ar gyfer dinasyddion yr UE sy'n cyrraedd ar ôl Brexit—roedd dogfen 5 Medi yn manylu ar hyn. Mae'r cynllun preswylio’n sefydlog i ddinasyddion yr UE, wrth gwrs, yn wasanaeth rhad ac am ddim y gall dinasyddion yr UE sy'n byw yn y DU ei ddefnyddio hyd at o leiaf 31 Rhagfyr 2020 pe byddai'r sefyllfa gwaethaf 'heb gytundeb' yn digwydd, a bydd yn rhoi hawliau a gwasanaethau tebyg i'r rhai hynny sydd ganddyn nhw ar hyn o bryd. Yn hynny o beth, dywedodd mai bach iawn, os o gwbl, y bydd unrhyw darfu ar wasanaethau cyhoeddus Cymru, o ran lefelau staffio. Felly, pa asesiad ydych chi'n ei wneud o'r amhariad posibl hwnnw i lefelau staffio yn sgil yr ymagwedd ragweithiol a gymerwyd gan Lywodraeth y DU i dawelu meddyliau dinasyddion yr UE y byddan nhw'n dal i allu cael hawliau a chyfleoedd tebyg pe byddai Brexit 'heb gytundeb' yn digwydd?

Mae Llywodraeth y DU wedi gwarantu, pe na byddai cytundeb, y bydd yn darparu'r holl gyllid datblygu rhanbarthol Ewropeaidd a fyddai wedi'i ddarparu o dan raglen 2014-20. Mae hyn yn rhoi sicrwydd ac eglurder i gymunedau lleol a bydd yn caniatáu iddyn nhw barhau i allu manteisio ar lwybrau ariannu pwysig. Felly, sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod awdurdodau lleol yn parhau i fanteisio ar y cyllid hwn?

Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru yn datgan bod yr awdurdodau lleol hynny a oedd wedi mabwysiadu agwedd 'gwylio ac aros' tuag at Brexit wedi dechrau cymryd camau i fwrw ymlaen â'u gwaith cynllunio ar gyfer Brexit 'heb gytundeb'. Galwodd hefyd ar wasanaethau cyhoeddus ledled Cymru i:

ddechrau cynnal sgyrsiau gyda’r cyhoedd a rhanddeiliaid allweddol, er mwyn osgoi panig a tharfu dianghenraid.

Ei eiriau ef yw'r rhain. Wrth gwrs, bydd camau o'r fath yn rhoi mwy o hyder i breswylwyr. Sut, felly, y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod gwybodaeth am barodrwydd ar gyfer Brexit ar gael, a'i bod yn parhau i fod ar gael, yn unol ag argymhellion yr archwilydd cyffredinol?

Bydd rheolau caffael y sector cyhoeddus yn aros yr un fath i raddau helaeth, ni fydd y trothwyon yn newid, ond un gwahaniaeth allweddol ar gyfer yr awdurdodau sy'n contractio fydd yr angen i anfon hysbysiadau at wasanaeth e-hysbysu newydd yn y DU, yn hytrach na Swyddfa Cyhoeddiadau'r Undeb Ewropeaidd. Sut, felly, y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod awdurdodau contractio yng Nghymru yn ymwybodol bod lefelau tebyg o reoliadau yn darparu mwy o sicrwydd ar gyfer caffael cyhoeddus a gwasanaethau cyhoeddus, ar yr amod eu bod yn gwneud y newid bach hwn i'w harferion?

17:20

Os caf i gloi gyda'r cwestiwn hwn. Yn gynharach yn y mis, dywedodd cyfarwyddwr masnach de Môr Iwerddon Stena Line, awdurdod y porthladd yng Nghaergybi, fod y DU bellach wedi'i pharatoi'n well o lawer ar gyfer Brexit nag yr oedd ym mis Mawrth, y dyddiad gwreiddiol ar gyfer Brexit, ac mae'n dweud nad yw rhai o'r ofnau gwaethaf a allai fod wedi cael eu gwireddu yn mynd i ddigwydd. Dywedodd hefyd: 'Ie, rwy'n credu—

Mae'n ddrwg gen i; bydd yn rhaid i chi geisio dirwyn i ben os gwelwch yn dda, Mark. Rydych chi wedi bod bron cyn hired ag a gymerodd y Gweinidog i gyflwyno'r datganiad.

Iawn. Sut y byddwch chi'n sicrhau neu a ydych chi'n sicrhau bod darparwyr gwasanaethau cyhoeddus yn y gogledd yn ymwybodol o'i ddatganiad y bydd tarfu am ddiwrnod neu ddau oherwydd ansicrwydd, ond mai dim ond am gyfnod byr iawn y bydd hynny?

Diolch i chi am y gyfres yna o gwestiynau—cyfres eithaf hir o gwestiynau. Fe wnaf fy ngorau i roi rhywfaint o olwg gyffredinol arnyn nhw. Hoffwn ddechrau drwy ddweud fy mod i, wrth gwrs, yn croesawu'n fawr y dathliadau amlddiwylliannol a grybwyllwyd gan Mark Isherwood, ac rwy'n hapus iawn i gefnogi hynny. Mae'n gwbl hanfodol yn y sefyllfa hon o ansicrwydd a rhaniadau ein bod ni'n gwneud yn siŵr bod y bobl sy'n cyfrannu at ein diwylliant amlddiwylliannol cyfoethog yma yng Nghymru yn cael eu gwerthfawrogi'n briodol, a'u gwobrwyo am eu cyfraniadau. Rwy'n fwy na pharod i wneud hynny.

Fe af yn sydyn drwy rai o'r pethau mwy penodol am lywodraeth leol a godwyd gan 7Mark Isherwood. Yn amlwg, rydym ni'n cydnabod y risgiau ariannol i lywodraeth leol a gwasanaethau cyhoeddus eraill yn gyffredinol, fel y dywedais yn fy natganiad. Gallai ef helpu, wrth gwrs, drwy sicrhau bod Llywodraeth y DU yn cyflawni'r ymrwymiad na fyddai Cymru'n colli ceiniog o gyllid o ganlyniad i Brexit. Byddai cael y math hwnnw o sicrwydd yn sicr o gymorth o ran cynllunio. Wrth gwrs, ar hyn o bryd, nid oes gennym ni sicrwydd o'r fath. Mae honno'n broblem fawr. Byddai hefyd o gymorth pe byddai gennym ni unrhyw syniad beth fydd yn digwydd i'r gyllideb, oherwydd er bod gennym ni lawer o addewidion, nid oes gennym ni ddeddf cyllid nac unrhyw bleidlais arni. Felly, byddai hynny'n helpu hefyd.

Mae llywodraeth leol wedi gwneud eu gorau i raddau helaeth iawn, fel y dywed adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol. Rydym ni wedi datblygu dealltwriaeth dda o oblygiadau Brexit ac rydym yn ymgysylltu ar draws y Llywodraeth. Mae gennym gyngor partneriaeth yfory, mewn gwirionedd, pryd y byddwn yn trafod y paratoadau. Gofynnwyd i bob awdurdod lleol roi'r wybodaeth ddiweddaraf bob mis i'r panel cynghori ar barodrwydd ar draws eu hawdurdodau lleol, ac, er enghraifft, mae'r cynlluniau hynny'n cynnwys gwaith i sicrhau bod cadwyni cyflenwi, yn enwedig y rhai hynny sy'n cefnogi gwasanaethau allweddol, mor gadarn â phosibl; i gefnogi gwladolion yr UE i sicrhau statws preswylydd sefydlog; hyfforddiant ac ymwybyddiaeth o newidiadau megis yr ychydig a grybwyllwyd ganddo ynghylch gofynion ardystio allforion ac yn y blaen; codi ymwybyddiaeth o'r arferion gorau ar gyfer storio bwyd, er enghraifft darparu cyngor a chanllawiau ar ddiogelwch bwyd; ac unrhyw newidiadau i'r trefniadau arolygu mewn porthladdoedd ac yn y blaen.

Fodd bynnag, rwy'n credu, Dirprwy Lywydd, nad yw'r meinciau gyferbyn wedi gweld yr eironi oherwydd mae'r syniad mai'r unig broblem o ran caffael yw y byddwn ni'n hysbysebu ein contractau i awdurdod gwahanol yn chwerthinllyd, yn enwedig gan mai dyna'r unig beth yr oedden nhw'n gallu ei nodi mewn unrhyw fodd fel rhywbeth i gydio ynddo fel yr unig beth da i ddod yn sgil Brexit. Ac rwy'n credu y gadawaf hi yn y fan yna.  

17:25

A allaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad ar baratoi ein gwasanaethau cyhoeddus am Brexit heb gytundeb? Yn amlwg, fel rydych chi wedi olrhain yn eich datganiad, mae yna gryn dipyn o waith caled yn mynd y tu ôl i'r llenni a chryn dipyn ohono fe o flaen y llenni hefyd, os caf i ddweud, a mawr yw ein diolch.

Nawr, wrth gwrs, mae'r cwestiynau amlwg—ac fe wnaf i gadw fe'n fyr. Gyda'r holl baratoadau yma gogyfer Brexit heb gytundeb ar ran ein cynghorau sir, dwi'n sylwi ar y dosrannu, ariannu gwahanol fudiadau, ac mae hynny i'w gyfarch hefyd, ond pa arian yn benodol yn ychwanegol sydd yna wedi'i ddyrannu neu yr ydych chi'n sicr o allu ei ddyrannu i'n siroedd, i'n hawdurdodau lleol ni, er mwyn hwyluso'r gwaith o baratoi?

Yn benodol, felly, clywsom ni yn y drafodaeth yn gynharach efo trafnidiaeth: pa gymorth sydd yna i leddfu'r tagfeydd traffig fydd yn deillio o Brexit heb gytundeb yn ein porthladdoedd? Llefydd fel Caergybi—gwnaethon ni glywed gan Rhun ap Iorwerth gynnau fach—llefydd fel Caergybi, Doc Penfro, Abergwaun, byddan nhw o dan dagfeydd traffig enbyd, loriau ym mhob man, ac, wrth gwrs, mae yna gostau ychwanegol ar ein hawdurdodau lleol ni'n deillio o hynna. Felly, pa gymorth yn benodol sydd i'n siroedd ni yn y sefyllfa yna? Diolch yn fawr iawn i chi. 

Wel, diolch yn fawr iawn am hynna, Dai Lloyd. Rydym ni wedi bod yn gweithio'n galed iawn y tu ôl i'r llenni i gynllunio, ond dim ond i fod yn glir, nid oes modd ymdrin â'r holl risgiau sy'n gynhenid i Brexit 'heb gytundeb', ac ategaf sylwadau fy nghyd-Aelod, Vaughan Gething, am y gwir drueni o wylio arian a allai fel arall fod wedi cael ei wario ar wella gwasanaethau a helpu cymunedau yn cael ei wario ar baratoadau sydd, gobeithio, yn gwbl ddiangen ond y mae'n rhaid eu gwneud.

Cafwyd symiau penodol o arian—ac fe roddais y manylion yn y datganiad—ynghylch cymorth cyfalaf i awdurdodau lleol i wneud amrywiaeth o bethau, gan gynnwys ystyried asesiadau o'r effaith ar draffig ac ati. Manylwyd ar rai ohonyn nhw gan gyd-Aelodau eraill sydd wedi siarad yn y fan yma heddiw. Gofynnwyd i bob awdurdod lleol ddefnyddio astudiaeth asesiad o effaith Grant Thornton i ddarganfod yr hyn y mae angen iddo ei wneud yn benodol, ac yn amlwg bydd yr awdurdodau hynny sydd â phorthladdoedd ynddyn nhw wedi cael cyngor a chymorth penodol gan swyddogion trafnidiaeth sydd yn Llywodraeth Cymru ac mewn mannau eraill er mwyn cynllunio ar gyfer hynny.

Ond, yn y pen draw, wrth gwrs, rydym ni'n paratoi ar gyfer y pethau anhysbys hysbys a'r pethau anhysbys anhysbys clasurol hefyd, a'r cyfan y gallwn ni ei wneud yw sicrhau bod ein fforymau cadernid yn barod i fynd i'r afael â'r sefyllfa cyn gynted ag y byddwn yn sylweddoli beth yw goblygiadau'r dasg sydd o'n blaenau. Ond mae'n rhaid i mi ddweud bod fy nghalon i'n torri ynghylch y pethau y gallem ni fod wedi'u gwneud gyda'r arian hwn ac nad ydym ni'n gallu ei wneud yn awr tra ein bod ni'n niweidio ein hunain yn ddiangen heb unrhyw reswm amlwg.

Diolch am yr holl wybodaeth yr ydych chi wedi ei rhoi i ni am arian ychwanegol ar gyfer cydlyniant cymunedol, am y grant tai cymdeithasol, ac mae'r Prif Weinidog wedi cyhoeddi arian ar gyfer banciau bwyd. Ond mae'n debyg, o ystyried yr holl ddatganiadau hyn yn gyffredinol, tybed o ble mae'r holl arian yn dod, oherwydd fe wnaeth Philip Hammond neilltuo £26.5 biliwn i ymdrin â Brexit, ond mae ei olynydd, Sajid Javid, wedi tynnu £13.8 biliwn o hwnnw ar gyfer pob math o addewidion cyn yr etholiad. Ac rydym ni bellach yn gwybod y bydd yn rhaid neilltuo £12 biliwn i ddileu dyledion heb eu talu gan fyfyrwyr. Mae hynny'n gadael £800 miliwn ar gyfer y DU gyfan, sy'n swnio'n llawer o arian i chi a fi, ond, yn amlwg, yn gyffredinol, nid yw hynny'n fawr o arian.

Felly, gan mai chi sy'n gyfrifol am argyfyngau sifil posibl, sut ydym ni'n mynd i ymdopi, o gofio maint yr argyfwng a allai godi os cawn ni 'doriad glân', fel y'i gelwir, a elwir fel arall yn Brexit 'heb gytundeb' trychinebus?

17:30

Ie, wel, mewn gwirionedd, mae argyfyngau sifil posibl ym mhortffolio'r Prif Weinidog a'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip, ond fi sy'n gwneud y datganiad ar ran y Llywodraeth heddiw—dim ond er mwyn bod yn glir ynglŷn â hynny. Mae'r Dirprwy Weinidog wedi bod yn gweithio'n galed iawn gyda phartneriaid yn y trydydd sector i sicrhau sefyllfa o barodrwydd, cystal ag y gallwn ei gael, o ran yr hyn sydd gennym.

Hynny yw, yr ateb byr i'ch cwestiwn yw: mae rhywfaint o arian wedi dod o'r Gronfa bontio Ewropeaidd, ond mae arian arall wedi'i ddargyfeirio'n uniongyrchol o ddarpariaeth gwasanaethau er mwyn gwneud y gwaith hwn. Felly, mae'n gwbl dorcalonnus ystyried beth y gallem ni fod wedi'i wneud gyda'r arian hwn, pe byddai wedi bod ar gael ar gyfer gwasanaethau, a dyna'r ateb byr. Yr ateb arall yw nad ydym ni'n gwybod faint mae'n mynd i gostio, oherwydd tan ein bod ni'n gweld beth yw'r heriau, os byddwn ni'n gadael heb gytundeb, fyddwn ni ddim yn gwybod. Felly, bydd yn rhaid i ni roi arian wrth gefn ar gael i wneud yn siŵr, ac rwyf mewn cyngor partneriaeth yfory i drafod gyda'r awdurdodau lleol beth yn eu barn nhw y gallai hyn fod. Felly, nid yw'n newyddion da, o bell ffordd, ond roeddwn i'n falch iawn bod yr archwilydd cyffredinol o'r farn bod gwasanaethau cyhoeddus a'r trydydd sector wedi gweithio'n galed iawn i gael eu hunain i'r sefyllfa orau bosibl.

Roeddwn i'n arbennig o falch o'r gwaith yr oeddem wedi'i wneud ynghylch cydlyniant cymunedol, a'n gallu i ddarparu gwell cynllunio a gwell cefnogaeth i awdurdodau lleol ar gyfer y cymunedau hynny sydd, gadewch i ni wynebu'r peth, yn teimlo'n fregus iawn. Rydym ni'n awyddus iawn i'w helpu nhw i deimlo eu bod yn cael cymaint o ofal ag y gallwn ni wneud iddyn nhw deimlo eu bod yn ei gael yng Nghymru tra bod hyn yn digwydd, ond—. Byddwn ni i gyd yn gyfarwydd yn ein hetholaethau ein hunain—mae eich etholaeth chi yn debyg iawn i'm hetholaeth i—gyda phobl sydd hyd yma wedi teimlo eu bod yn Gymry ac yn rhan fawr o'n diwylliant ni, sy'n cael eu gwneud i deimlo nad oes croeso iddyn nhw, ac rwy'n gresynu'n fawr bod hynny'n digwydd.

8. Cynnig i Gytuno ar y Penderfyniad Ariannol Mewn Perthynas â'r Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru)

Eitem 8 ar yr agenda yw cynnig i dderbyn y penderfyniad ariannol ar gyfer Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru), a galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit i gynnig y cynnig—Jeremy Miles.

Cynnig NDM7147 Rebecca Evans

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y penderfyniad ariannol ar gyfer Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru), sy'n gam pwysig ar ein taith gyfansoddiadol. Gan nad yw'r ddadl yn digwydd yn union ar ôl y ddadl ar yr egwyddorion cyffredinol, mae'n werth atgoffa'n hunain yn gyflym o'r hyn y mae'r Bil yn bwriadu ei gyflawni, sef ymestyn yr hawl i bleidleisio, dod â'r gyfraith ar anghymhwyso i ben, a darparu ar gyfer ariannu a goruchwylio gwaith y Comisiwn Etholiadol, yn bennaf.

Yr wythnos diwethaf, rhoddais dystiolaeth i'r Pwyllgor Cyllid am y gwelliant, ac rwyf erbyn hyn wedi'i gyflwyno i'r Bil, a fyddai'n gwneud y Comisiwn Etholiadol yn atebol i'r Cynulliad hwn, a'i ariannu ganddo. Rwy'n ddiolchgar i'r Pwyllgor am ystyried y materion, ac i'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol am arwain y gwaith o graffu ar y Bil yng Nghyfnod 1.

Rwyf wedi ysgrifennu at y Pwyllgor Cyllid i amlinellu'r amcangyfrifon costau sy'n ymwneud â'm gwelliannau i'r Comisiwn Etholiadol, ac rwyf i wedi sicrhau eu bod ar gael i bob Aelod cyn y ddadl heddiw. Mae gan y Llywydd, sydd, fel yr Aelod sy'n gyfrifol am y Bil, a Chomisiwn y Cynulliad, farn wahanol i'r Llywodraeth ar y modd y dylid sefydlu'r berthynas ariannu rhwng y Cynulliad a'r Comisiwn Etholiadol, ond byddwn yn dychwelyd at y mater hwnnw yn ystod Cyfnod 2. Y cwestiwn ar gyfer heddiw yw a yw'r Cynulliad, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy'n deillio o Fil Senedd ac Etholiadau (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o'r math y cyfeirir ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy'n codi o ganlyniad i'r Bil.

Rydym ni wedi gallu sicrhau bod yr amcangyfrifon costau angenrheidiol ar gael er mwyn galluogi Aelodau i ystyried y cwestiwn yn fwy llawn. Rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau yn ymuno â Llywodraeth Cymru i gefnogi'r cynnig fel y gallwn ni fynd ati i ystyried y Bil yn fwy manwl yn ystod y cyfnodau diwygio, ac wrth wneud hynny, symud ymlaen â'r newidiadau cyfansoddiadol pwysig hyn.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Dwi'n croesawu’r cyfle i gyfrannu i'r ddadl ar benderfyniad ariannol y Bil Senedd ac Etholiadau, fel yr Aelod sy'n gyfrifol am y Mesur yma.

Cafodd amcangyfrifon costau’r ddeddfwriaeth eu hamlinellu yn yr asesiad effaith rheoliadol a gyhoeddwyd gyda’r Bil pan y’i cyflwynwyd, ond yn unol â'r Rheolau Sefydlog, bydd diweddariad i'r costau yn yr asesiad diwygiedig yn cael ei osod ar ôl Cyfnod 2 i gynnwys unrhyw welliannau a wnaed i’r Bil.

Ar gais y Pwyllgor Cyllid, bydd y diweddariad hwn hefyd yn cynnwys amcangyfrif o gostau Llywodraeth Cymru ynghlwm â chodi ymwybyddiaeth o roi’r bleidlais i bobl ifanc 16 ac 17 oed, a gyfeiriwyd atynt yn yr asesiad effaith gwreiddiol fel ffigurau anhysbys ar y pryd. Bydd y memorandwm esboniadol hefyd yn cael ei ddiweddaru i adlewyrchu unrhyw welliannau a gytunwyd o ran y Comisiwn Etholiadol ar atebolrwydd a sgrwtini.

Hoffwn ddiolch i’r Pwyllgor Cyllid am ei ystyriaeth ddiweddar o welliannau arfaethedig y Cwnsler Cyffredinol ar y mater, ac am adroddiad perthnasol y pwyllgor a gafodd ei gynhyrchu mewn dim ond dau ddiwrnod. Heb os, bydd hyn o gymorth i Aelodau wrth iddynt ystyried penderfyniad ariannol heddiw a’r gwelliannau a drafodir yr wythnos nesaf yn y ddadl ar Gyfnod 2 y Mesur.

O ran costau’r gwelliannau ynghlwm â’r Comisiwn Etholiadol, mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi ysgrifennu at y Pwyllgor Cyllid yn amlinellu goblygiadau ariannol y gwelliannau mae’n bwriadu eu gosod. Rwy’n fodlon hefyd mai dyma'r amcangyfrifon gorau o ran y costau i Gomisiwn y Cynulliad. Wrth gwrs, mae ystod eang o welliannau eraill wedi eu gosod, ac mae rhai gyda goblygiadau ariannol amlwg. Ond o ystyried yr holl oblygiadau hyn o ran cost, rwy’n parhau o’r farn bod buddiannau polisi’r Bil i bobl Cymru yn sicr yn werth am arian, ac rwy’n annog y Cynulliad y prynhawn yma i gymeradwyo’r penderfyniad yma.

17:35

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Dwi'n falch iawn o gael cyfrannu at y ddadl yma heddiw. Fe fydd y Siambr yn cofio, wrth gwrs, inni drafod egwyddorion cyffredinol y Bil yma ar 10 Gorffennaf, ac fe gytunodd y Cwnsler Cyffredinol ar gais gan y Pwyllgor Cyllid i beidio â gofyn i’r Cynulliad gymeradwyo’r penderfyniad ariannol nes bod y pwyllgor wedi cael cyfle i drafod y gwelliannau drafft, a’u goblygiadau o ran cost, a hynny, wrth gwrs, mewn perthynas â threfniadau’r Comisiwn Etholiadol.

Ar 25 Medi, fe wnaethom ni glywed tystiolaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a gan y Llywydd, wrth gwrs, fel yr Aelod â chyfrifoldeb dros y Bil, a chawsom ni gyfle i drafod y gwelliannau drafft mewn perthynas â chyllid ac atebolrwydd y Comisiwn Etholiadol.

Roedd y ffaith nad oedd gwybodaeth ariannol fanwl yn cyd-fynd â gwelliannau drafft y Cwnsler Cyffredinol yn destun siom i ni, yn benodol mewn perthynas ag effaith y gwelliannau ar gost. A dim ond yn gynharach y prynhawn yma, wrth gwrs, y ces i lythyr gan y Cwnsler Cyffredinol yn rhoi rhagor o wybodaeth am y gwelliannau. Dwi'n diolch i’r Cwnsler Cyffredinol am ei lythyr, ond mae e yn anffodus na chafodd ei anfon efallai bach yn gynharach er mwyn gallu ei ystyried yn fwy trylwyr cyn y ddadl hon y prynhawn yma.

Nawr, wrth roi tystiolaeth, fe wnaeth y Cwnsler Cyffredinol gadarnhau mai Comisiwn y Cynulliad fyddai’n ysgwyddo’r rhan fwyaf o’r costau mewn perthynas â’r gwelliannau i ariannu’r Comisiwn Etholiadol a’i ddwyn i gyfri, sef tua £39,000 dros bum mlynedd ar gyfer gwaith craffu. Mae llythyr y Cwnsler Cyffredinol nawr, wrth gwrs, yn cadarnhau hyn ac, o ganlyniad, mae’r pwyllgor yn gyffredinol fodlon â goblygiadau ariannol y Bil.

Fe wnaethon ni glywed gan y Cwnsler Cyffredinol fod trafodaethau’n cael eu cynnal gyda Thrysorlys Ei Mawrhydi ynglŷn â throsglwyddo'r arian ar gyfer y Comisiwn Etholiadol mewn perthynas ag etholiadau a refferenda datganoledig yng Nghymru. Mae’r pwyllgor yn pryderu y gallai Cymru golli arian ac y bydd angen defnyddio adnoddau presennol Cymru i lenwi’r bwlch hwnnw. Rŷn ni'n argymell bod y Cwnsler Cyffredinol yn gwneud ymrwymiad i sicrhau bod y drefn ar gyfer pennu gwerth yr arian sydd i’w drosglwyddo i gronfa gyfunol Cymru i dalu am y costau hyn yn golygu bod digon o arian yn cael ei drosglwyddo i Gymru. Dwi'n nodi ymateb y Cwnsler Cyffredinol i’r argymhelliad hwn fod trosglwyddo’r arian yn ddibynnol, wrth gwrs, ar drafodaethau rhynglywodraethol, sydd y tu hwnt i reolaeth Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, dwi'n falch ei fod e wedi rhoi ymrwymiad y bydd Llywodraeth Cymru yn mynd ar drywydd yr amcan polisi hwn yn ei thrafodaethau. Mae’n bwysig iawn nad yw Cymru’n colli’r arian yma ac, wrth gwrs, ar ei cholled o ganlyniad.

Mae gan y pwyllgor rai pryderon am yr opsiwn y mae’r Cwnsler Cyffredinol yn ei ffafrio i ariannu cyllideb y Comisiwn Etholiadol drwy gyllideb Comisiwn y Cynulliad, mewn perthynas, yn enwedig, ag amseru a materion ymarferol. Yn eich ymateb, rŷch chi'n dweud, wrth gwrs, fod modd dygymod â hynny—wel, mae'r dystiolaeth rŷn ni wedi'i chael yn awgrymu na fydd hynny, o reidrwydd, yn beth hawdd i'w wneud. Rŷn ni hefyd yn pryderu y byddai’r opsiwn hwn yn golygu bod prif weithredwr Comisiwn y Cynulliad yn dod yn swyddog cyfrifyddu ar gyfer cyfran y Comisiwn Etholiadol sy’n ymwneud â Chymru. Dyw'r pwyllgor ddim yn credu bod yr opsiwn hwn yn cynnig atebolrwydd clir. Fel y dywedais i, mae’r Cwnsler Cyffredinol yn dweud bod modd mynd i’r afael â’r materion hyn drwy newid gweithdrefnau a phrosesau y tu allan i’r darpariaethau deddfwriaethol, ac rwy’n siŵr y bydd yr Aelodau yn edrych yn fanylach ar hyn yn ystod trafodion Cyfnod 2 yr wythnos nesaf.

Er y byddai’n well gan y pwyllgor weld y Cwnsler Cyffredinol yn cyflwyno cynnig ar y cyd y cytunwyd arno gyda’r Llywydd, dwi yn falch ei fod e wedi rhoi sicrwydd y bydd e'n parhau i drafod gyda’r Llywydd ynghylch a oes modd dod i gytundeb o’r fath. Yn wir, dwi'n mawr obeithio y bydd posib gwneud hynny. Diolch.

17:40

Diolch. A gaf i ofyn i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit ymateb i'r ddadl?

Diolch, Dirprwy Lywydd. Gaf i ddiolch i'r Llywydd a Chadeirydd y pwyllgor am eu sylwadau, ac a gaf i sicrhau'r Cadeirydd fod Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i sicrhau bod gwybodaeth ar gael i Aelodau sgrwtineiddio'r ddeddfwriaeth mewn ffordd addas? Bydd y Llywodraeth yn edrych, wrth gwrs, ar rai o oblygiadau costau'r Mesur o fewn proses cyllideb 2020-21.

O ran y sylwadau ar fanylion y gwelliannau, dyw hi ddim, yn y ddadl hon, yn addas inni ymateb i'r rheini, ond byddaf i'n edrych ymlaen at wneud hynny pan ddown ni nôl at Gyfnod 2. Felly, rwy'n gofyn heddiw i'r Cynulliad i ymgytuno ar y gwariant yn sgil y Mesur. Diolch.

Diolch. Y cynnig yw ein bod yn derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Iawn, diolch. Felly, rwy'n gohirio’r bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

9. Cyfnod Pleidleisio

Rydym wedi cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Oni bai bod tri aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu, rwy'n bwriadu bwrw ymlaen i bleidlais. Iawn, iawn. Felly, galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn y—mae'n ddrwg gen i, dylwn i ddweud beth ydyw: y cynnig i dderbyn y penderfyniad ariannol ar gyfer Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru). Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 38, neb yn ymatal, dau yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei dderbyn.

NDM7147 - Cynnig i Gytuno ar y Penderfyniad Ariannol Mewn Perthynas â'r Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru): O blaid: 38, Yn erbyn: 2, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Daeth y cyfarfod i ben am 17:42.