Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

25/09/2019

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Enwebiadau ar gyfer cadeirydd pwyllgor

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw'r enwebiadau ar gyfer cadeirydd pwyllgor. Ddoe, fe fyddwch chi'n cofio bod y Cynulliad, ar gynnig o dan Reol Sefydlog 17.2A i bennu Cadeirydd y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad, wedi pennu'r gadeiryddiaeth yna i'r grŵp Llafur. Dwi nawr yn gwahodd enwebiadau, o dan Reol Sefydlog 17.2F, i ethol y Cadeirydd, ac, i'ch atgoffa, dim ond aelod o'r grŵp Llafur all gael ei enwebu'n Gadeirydd, a dim ond aelod o'r un grŵp gwleidyddol â hynny sy'n cael cynnig ac eiiio'r enwebiad. Ac, felly, dwi'n gwahodd enwebiadau o'r grŵp Llafur ar gyfer Cadeirydd y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad. 

Dwi'n galw am aelod arall o'r un grŵp plaid i eilio'r enwebiad. 

A oes rhagor o enwebiadau? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu'r enwebiad? Rwy'n datgan, felly, fod Dawn Bowden wedi ei hethol yn Gadeirydd y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad, a phob dymuniad da a phob hwyl iddi hi yn ei gwaith fel y Cadeirydd. 

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg

Yr eitem nesaf yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Addysg, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Michelle Brown. 

Addysgu'r Gymraeg

1. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o ba mor effeithiol yw addysgu'r Gymraeg mewn ysgolion? OAQ54370

Ers adroddiad 'Un iaith i bawb' yn 2013, cyhoeddodd Estyn adroddiad ar y Gymraeg yng nghyfnodau allweddol 2 a 3 yn 2018, a bydd dau adolygiad pellach yn cael eu cynnal yn ystod 2019-20, a fydd yn edrych ar gaffael iaith mewn ysgolion cynradd, ac addysgu a dysgu Cymraeg Safon Uwch.

Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Ar ddiwrnod cyhoeddi'r canlyniadau TGAU dros yr haf, dywedodd arweinwyr ysgolion eu bod yn pryderu'n fawr am y cwymp yng nghanran y plant 16 oed a oedd yn pasio Cymraeg ail iaith gyda graddau A* i C, ac roedd eu cymdeithas yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda hwy i ddarganfod beth sydd wedi achosi'r gostyngiad o 10 y cant yn y graddau. Ond nid Cymraeg yn unig oedd yn peri pryder iddynt. Roedd y gostyngiad o 4.3 y cant yn y canlyniadau Saesneg hefyd yn eu hysgogi i alw am fwy o waith gan Lywodraeth Cymru. Mae'n ymddangos bod cyfarwyddwr Cymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau Cymru yn rhoi'r bai ar y newidiadau a wnaethoch, pan ddywedodd, ac rwy'n dyfynnu,

Gallwn sicrhau'r cyhoedd na fu unrhyw lacio o gwbl yn ymrwymiad ysgolion i gynhyrchu'r canlyniadau gorau posibl i'w disgyblion, ac mae'n bwysig deall bod y canlyniadau hyn yn dod ar adeg o newid enfawr yn y system addysg yng Nghymru.

A dywedodd Cymdeithas Genedlaethol Prifathrawon Cymru hefyd fod angen gwneud mwy o waith. Y ddwy iaith bwysicaf yn y wlad yw'r Gymraeg a'r Saesneg, ac mae'n ymddangos eich bod yn gwneud cam â'n disgyblion yn y ddwy. A allwch chi ddweud wrthym sut y bwriadwch atal y system addysg rhag darparu canlyniadau gwaeth yn y pynciau hyn o flwyddyn i flwyddyn?

O ran canlyniadau TGAU Cymraeg ail iaith, rwy'n siŵr fod yr Aelod yn ymwybodol ein bod wedi gweld y cwrs byr TGAU yn cael ei ddileu, ac mae hynny'n sicr wedi cael effaith ar gyrhaeddiad eleni. Ond mae'r canrannau a ddyfynnodd yn gamarweiniol, oherwydd cynnydd o draean yn nifer y dysgwyr a gofrestrwyd ar gyfer arholiad cwrs llawn. Byddai llawer o ddysgwyr wedi dilyn y cwrs byr yn y gorffennol, ac mae'r dadleuon ynghylch yr angen am newid yn y cyswllt hwnnw wedi'u trafod ar sawl achlysur yma yn y Siambr. Yr hyn sy'n galonogol iawn, Lywydd, wrth edrych ar y niferoedd crai sy'n pasio pob gradd, yw ein bod wedi gweld y graddau A*-A yn cynyddu 9.7 y cant a'r graddau A*-C yn cynyddu 12.5 y cant, sy'n awgrymu bod y cynnydd yn y nifer sy'n ymgeisio yn arwain at fwy o ddysgwyr yn cael gradd dda mewn TGAU Cymraeg ail iaith—cymhwyster gwell a mwy heriol.

O ran Saesneg, rwy'n falch o weld canlyniadau gwell mewn TGAU Saesneg iaith, yn enwedig A*-C, ond, yn amlwg, mae lle i wella bob amser, a byddwn yn gweithio gyda chonsortia rhanbarthol, ysgolion a Cymwysterau Cymru i drafod pa gamau eraill y gallwn eu cymryd i wella canlyniadau mewn TGAU Saesneg iaith.

Weinidog, wrth edrych ar Ystadegau Cymru, mae'n rhaid cyfaddef fy mod yn synnu braidd o weld, yn ogystal â'r rhai sy'n gymwys i ddysgu Cymraeg fel iaith gyntaf, fod 40 y cant o'n gweithlu addysgu yn gymwysedig i ddysgu Cymraeg fel ail iaith mewn ysgolion cyfrwng Saesneg. Wrth gwrs, mae'n anos gwybod a ydynt yn defnyddio'r sgiliau hynny ai peidio. Mae nifer y newydd-ddyfodiaid sy'n dewis hyfforddi yn y Gymraeg wedi bod yn gostwng, ac mae nifer y bobl sy'n credu na ddylai dysgu Cymraeg fod yn orfodol yn dal i fod yn siomedig o uchel. Felly, pa gamau ymarferol sy'n cael eu cymryd yn awr, gyda'r gweithlu presennol, i sicrhau addysgu effeithiol ar gontinwwm iaith Gymraeg newydd, i gynhyrchu pobl ifanc sy'n meddu ar sgiliau Cymraeg uwch, y byddant yn eu defnyddio'n hyderus ar ôl iddynt adael yr ysgol?

13:35

Wel, mae'n bwysig cydnabod ein bod wedi cynyddu buddsoddiad i gefnogi'r gwaith o ddatblygu'r gweithlu Cymraeg mewn addysg i'r swm uchaf erioed o £5 miliwn yn y flwyddyn ariannol hon. Felly, yn 2017, gwariwyd £4.2 miliwn gennym, yna £4.8 miliwn, ac fel y dywedais, mae hwnnw wedi codi i £5 miliwn eleni. Mae hyn yn ein galluogi i ddatblygu sgiliau iaith ac addysgu Cymraeg addysgwyr yn barhaus. Er enghraifft, un ffordd ymarferol y gwnawn hynny yw drwy ein cynllun sabothol, sy'n darparu hyfforddiant Cymraeg dwys i addysgwyr ledled Cymru. Ac mae cyllid ar gael hefyd ac yn cael ei ddarparu i gonsortia rhanbarthol er mwyn cynnig ystod o gyfleoedd i ddatblygu'r Gymraeg a sgiliau addysgu Cymraeg yn ein gweithlu. I'r rhai sy'n dymuno ymuno â'r proffesiwn, i addysgu'r Gymraeg ei hun, neu i addysgu pynciau eraill drwy gyfrwng y Gymraeg, rydym yn cynnig y lefel uchaf o gymhelliant ariannol iddynt wneud hynny.

Cyrsiau Galwedigaethol

2. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod disgyblion yng Nghyfnod Allweddol 4 yn cael mynediad i gyrsiau galwedigaethol? OAQ54368

Diolch, Nick. Rwy'n rhoi gwerth mawr ar sicrhau bod cymwysterau galwedigaethol ar gael i bobl ifanc 14 i 16 oed. Mae Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009 yn ei gwneud yn ofynnol i'r cynnig cwricwla lleol gynnig lleiafswm o dri chwrs galwedigaethol i bob dysgwr yng nghyfnod allweddol 4.

Diolch i chi, Weinidog. Rydych wedi dweud yn gwbl glir mai'r bwriad wrth symud oddi wrth y mesur pum A* i C Saesneg a Mathemateg oedd annog ysgolion i ganolbwyntio ar wireddu potensial pob plentyn, nid y rheini ar y ffin C/D/C yn unig. Mae eich mesur newydd—capio 9—yn rhoi gwerth ar gyrsiau galwedigaethol, ac mae hynny i'w groesawu'n fawr, ac fel y dywed, mae cynifer o bobl ifanc yn gallu sicrhau gyrfa lwyddiannus a buddiol drwy'r llwybr galwedigaethol. Fodd bynnag, mae cryn dipyn o ffordd i fynd o hyd, fel y byddech yn cydnabod rwy'n siŵr, cyn y gellir sicrhau statws cydradd wedi'i gydnabod gan brifysgolion rhwng cymwysterau academaidd a galwedigaethol. Felly, beth a wnewch i sicrhau bod mwy o gyrsiau o'r fath ar gael mewn ysgolion a cholegau, ac i sicrhau bod pobl iau yn cael eu cyfeirio'n fwy effeithiol byth, ar oedran iau, fel ein bod yn gweld colli—roeddwn am ddweud 'rhagfarn'; mae'n debyg fod hwnnw'n air rhy gryf—colli'r gwahaniaeth dros amser rhwng cymwysterau galwedigaethol ac academaidd fel bod y ddau lwybr yn cael eu hystyried yr un mor dderbyniol?

Lywydd, rwy'n falch iawn fod yr Aelod wedi cydnabod, yn y mesurau atebolrwydd interim, fod cymwysterau galwedigaethol yn cyfrif tuag at sgôr capio 9. Felly, ni cheir unrhyw anghymhelliad i ysgolion allu cynnig y cyrsiau hyn i ddisgyblion, os mai dyna yw'r peth iawn i'r plant hynny. Rwy'n falch iawn o roi sicrwydd i'r Aelod fod pob un o'r pedair ysgol uwchradd yn sir Fynwy yn bodloni gofyniad y Mesur dysgu a sgiliau, a bod y dewis hwnnw ar gael i ddysgwyr yn ei ardal. Er enghraifft, yn Ysgol Gyfun y Brenin Harri VIII, yn y Fenni—y cefais y fraint o ymweld â hi ar ddiwrnod y canlyniadau TGAU, a dathlu'r set orau erioed o ganlyniadau TGAU yn yr ysgol honno gyda hwy—mae dysgwyr yn yr ysgol benodol honno'n cael cynnig wyth cwrs galwedigaethol yng nghyfnod allweddol 4. Ond mae'r Aelod yn iawn—mae angen i ni wneud mwy weithiau i oresgyn canfyddiadau o werth cyrsiau galwedigaethol. A dyna pam ein bod ar hyn o bryd yn treialu dull newydd o roi gwybodaeth a chyngor i blant a phobl ifanc, fel y gallwn sicrhau bod pob plentyn yn gwneud y dewisiadau cywir ar sail dealltwriaeth a gwybodaeth go iawn y gall cymwysterau galwedigaethol eu helpu i gyflawni eu dyheadau gyrfaol a chyflawni eu potensial.

Weinidog, yn eich ateb i gwestiwn Nick Ramsay, rwy'n awyddus iawn ac yn falch iawn o glywed eich bod yn cydnabod mewn gwirionedd fod addysg alwedigaethol yn gyfwerth â llwybrau academaidd. Ac mae'n drueni nad oes digon o bobl ifanc—neu eu rhieni yn enwedig, weithiau—yn deall yr un peth. Oherwydd er mwyn sicrhau bod gennym y statws cydradd hwnnw, er mwyn sicrhau bod y sgiliau rydym eu hangen yng Nghymru ar gael i bobl—ac i bobl ifanc yn benodol—mae angen i ni hefyd addysgu rhai o'r genhedlaeth hŷn, a'r rhieni, i sicrhau eu bod hwythau'n deall hynny hefyd. Oherwydd mae llawer o bobl, dros yr 20 mlynedd diwethaf, wedi llyncu'r neges, 'Addysg uwch, dyna'r ffordd ymlaen.' Ond mae yna gymysgedd ar gael mewn gwirionedd, ac mae'r ddau gymhwyster yr un mor haeddiannol â'i gilydd—galwedigaethol ac academaidd. Ac ni ddylid eu hystyried fel llwybrau ar wahân, ond fel llwybr sengl gyda chanlyniadau gwahanol ar y diwedd, efallai, ond canlyniadau cyfartal yn y pen draw. Felly, a wnewch chi hefyd ehangu'r trafodaethau rydych yn eu cael gyda phobl ifanc i gynnwys eu rhieni, i sicrhau bod rhieni'n deall pwysigrwydd y ddau lwybr, ansawdd y ddau llwybr, a'r canlyniadau y gall plant eu cyflawni yn eu gyrfaoedd hirdymor mewn gwirionedd?

13:40

Yn sicr. Mae David Rees yn gwneud pwynt pwysig iawn am y ffactorau sy'n dylanwadu ar blant wrth ddewis pa gyrsiau i'w hastudio yn yr ysgol neu mewn colegau. Yn aml, mae plant yn gwrando ar eu cyfoedion—mae ganddynt ddiddordeb mawr mewn deall beth y mae eu cyfoedion yn ei wneud—ond yn amlwg mae rhieni a theulu yn ddylanwad enfawr wrth helpu plant i wneud penderfyniadau. Fel rhan o gynllun peilot Gatsby, sy'n cael ei ddarparu yn ardal awdurdod lleol Rhondda Cynon Taf ar hyn o bryd, ac sy'n ceisio profi a gwella'r system wybodaeth a chyngor, mae'r ysgolion hynny yn gweithio nid yn unig gyda disgyblion ond gyda chyflogwyr lleol a chyda rhieni i allu sicrhau bod plant yn dod i gysylltiad â'r ystod eang o ddewisiadau sydd ar gael iddynt a chydnabod nad yw dilyn cwrs galwedigaethol yn 14 oed yn rhwystr i lefelau astudio uwch. Yn wir, mae dilyn cwrs galwedigaethol rhwng 16 a 18 oed yn ffordd gwbl arferol i chi fynd ymlaen wedyn i astudio cwrs gradd neu brentisiaeth lefel uwch, os mai dyna y dymunwch ei wneud.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau, a llefarydd y Ceidwadwyr yn gyntaf—Suzy Davies. 

Diolch, Lywydd. Weinidog, yr wythnos diwethaf, gwnaeth y Gweinidog Cyllid ddatganiad yn nodi ei barn am oblygiadau cylch gwariant 2019 Llywodraeth y DU i Gymru, ac yn hwnnw cadarnhaodd farn y Llywodraeth y dylid seilio penderfyniadau gwariant y gyllideb ar wyth maes blaenoriaeth. Pam nad yw addysg oedran ysgol yn un o'r meysydd blaenoriaeth hynny?

Yr hyn y cyfeiriai'r Gweinidog ato yw'r meysydd blaenoriaeth trawsbynciol sydd gan y Llywodraeth. Mae un o'r rheini'n cynnwys y blynyddoedd cynnar. Mae'r blynyddoedd cynnar yn rhan o'n system addysg. Fy mlaenoriaeth yw sicrhau bod gan ysgolion y gyllideb orau sy'n bosibl. Mae'r Gweinidog Cyllid wedi cyhoeddi, a ninnau bellach wedi cael rhywfaint o fanylion am ein cyllideb refeniw, y byddwn yn cyflwyno'r gyllideb ar gyfer y Llywodraeth gyfan yn gynt, ym mis Tachwedd.

O gofio'r newidiadau enfawr a fydd yn digwydd mewn ysgolion, yn enwedig gyda'r newid yn y cwricwlwm a'r paratoadau ar gyfer hynny, ond hefyd y cwynion hirsefydlog a difrifol iawn a wneir gan ysgolion yn awr am eu cyllid uniongyrchol, mae'n rhaid i mi ddweud fy mod wedi fy siomi nad wyf wedi gweld hynny'n fwy penodol yn themâu trawsbynciol y Llywodraeth, oherwydd, wrth gwrs, os na chewch addysg yn iawn, mae'n effeithio ar bob maes gwariant arall wrth inni symud ymlaen.

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi'r hwb o 2.3 y cant yn uwch na chwyddiant i floc Cymru. Disgwylir y bydd dros £2 biliwn yn dod i Lywodraeth Cymru o gyllideb ysgolion y DU hefyd—ysgolion yn benodol, nid addysg. Mae hynny dros dair blynedd, ac rwy'n derbyn bod y setliad blynyddol yn gyfyngiad ar gynllunio. Rydych wedi gweld adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar gyllid i ysgolion, a ddaeth i'r casgliad fod perygl real ac uniongyrchol iawn o gyllid annigonol i ysgolion. Rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog llywodraeth leol yn cyflwyno'r achos dros sicrhau mwy o arian i'w phortffolio, mwy o arian i gynghorau. A fyddwch yn gadael y gwaith o ddod o hyd i'r cyllid uniongyrchol ychwanegol sydd ei angen ar ysgolion iddi hi?

Rwy'n ddiolchgar fod yr Aelod wedi cydnabod yr anawsterau sy'n wynebu Llywodraeth Cymru yn sgil penderfyniad ei chymheiriaid yn San Steffan i roi cyllideb ddangosol ar gyfer un flwyddyn yn unig i addysg, tra'u bod wedi bod mor garedig â rhoi cyllideb ddangosol tair blynedd i'r system addysg yn Lloegr, ac mae hynny, yn wir, yn gwneud pethau'n anos i ni.

Bydd yr Aelod hefyd yn ymwybodol fy mod wedi croesawu gwaith y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar gyllid addysg. Rwyf wedi derbyn holl argymhellion adroddiad y pwyllgor hwnnw, gan gynnwys adolygiad o gyllid addysg yng Nghymru. Pan drafodir yr adroddiad hwnnw yn ddiweddarach y tymor hwn, edrychaf ymlaen at roi rhagor o fanylion i'r Aelodau ynglŷn â sut y byddwn yn ymateb yn llawn i hynny.

O ran y gyllideb eleni, mae'r Gweinidog llywodraeth leol a minnau'n cytuno bod yn rhaid sicrhau bod awdurdodau lleol, sef prif ffynhonnell cyllid ein hysgolion, yn ogystal â'r maes addysg yn ei gyfanrwydd, yn cael blaenoriaeth.

Rwy'n ddiolchgar am yr ymateb hwnnw, Weinidog, oherwydd er ein bod yn cydnabod mai'r awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am y rhan fwyaf o'r cyllid uniongyrchol, pryder y pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, fel y gwyddom, yw nad yw'r cyllid hwnnw wedi'i ddiogelu mewn unrhyw ffordd. Pan fyddwch yn cynhyrchu canlyniadau eich adolygiad, ac yn ymateb i'r ddadl mewn gwirionedd, bydd yn ddiddorol iawn gweld a fyddwch mewn sefyllfa i ddweud sut y gellir diogelu unrhyw gyllid uniongyrchol o fewn cyllideb well, gobeithio, i awdurdodau lleol.

Rwyf am ofyn rhywbeth gwahanol i chi yn awr, oherwydd y penwythnos hwn gwelsom sylw yn y cyfryngau i bryderon ynghylch cynnwys gwersi addysg rhyw i blant ifanc iawn mewn rhannau o Loegr. Gwn fod gwneud addysg grefyddol ac addysg rhyw yn rhan orfodol o'r cwricwlwm newydd yn benderfyniad dadleuol eisoes, ond mae'n rhaid i mi ddweud fy mod i, hyd yn oed, yn teimlo ychydig yn anghyfforddus am y potensial o dynnu sylw plant chwech oed at fastyrbio, yn enwedig pan fyddwn ni hefyd yn gofyn iddynt ddeall a siarad yn agored am unrhyw gyffwrdd amhriodol gan oedolion. Nawr, nid oes syniad gennyf pa mor gywir yw'r adroddiadau hyn, ond rwy'n credu y byddai teuluoedd ac athrawon ledled y wlad yn gwerthfawrogi datganiad gennych chi i dawelu eu meddyliau am yr hyn y credwch chi y dylai addysg rhyw sy'n addas i'r oedran ei gynnwys yng Nghymru.

13:45

Mae'r Aelod yn llygad ei lle; os ydym am gyflawni nodau cwricwlwm a arweinir gan ddiben, ac os ydym am sicrhau bod pob plentyn sy'n gadael ein hysgolion yn hapus ac yn iach, yna credaf fod addysg rhyw a pherthnasoedd sy'n addas i oedran a datblygiad yn ffordd bwysig o gyflawni dibenion ein cwricwlwm. Yn amlwg, mae hwn yn bwnc sensitif, ac mae'r Aelod yn iawn i ddweud bod problem yn codi mewn perthynas ag amddiffyn plant hefyd. Ond rwyf am ei sicrhau hi a phob Aelod yma, a'r gymuned ehangach yn wir, y bydd cynnwys addysg rhyw a pherthnasoedd yn cael ei ddatblygu mewn modd sensitif a gofalus iawn, gyda'r cyngor gorau gan weithwyr proffesiynol a'r rhai sydd wedi cynghori'r Llywodraeth hyd yn hyn ar yr angen i sicrhau bod addysg rhyw a pherthnasoedd ar gael i blant yng Nghymru.

Diolch, Lywydd. Mae'r Blaid Lafur wedi dweud y byddan nhw'n cael gwared ar ysgolion preifat, gan ailddosbarthu eu heiddo i'r wladwriaeth. Fe basiwyd cynnig yn eu cynhadledd i integreiddio ysgolion preifat i sector y wladwriaeth. O gofio mai dim ond 2.2 y cant o blant Cymru sy'n cael eu dysgu mewn ysgolion preifat, ydych chi'n cytuno mai mater gweddol hawdd byddai symud yn syth i gael gwared ar ysgolion preifat yng Nghymru?

Nid oes gennyf unrhyw gynlluniau i gael gwared ar ysgolion preifat yng Nghymru.

Iawn. Wel, fydd hi'n ddiddorol iawn clywed y drafodaeth—neu, mi fyddai'n ddiddorol petawn ni'n cael clywed y drafodaeth yn y Cabinet efo'ch cyd-Aelodau Llafur ynghylch hynny, lle mae yna arweiniad clir yn dod gan eu cynhadledd nhw. Felly, diddorol clywed eich ymateb chi yn fanna.

Mi fyddai Llafur hefyd yn ymgyrchu i ddileu statws elusennol oddi ar ysgolion preifat, a dwi'n nodi bod ymgynghoriad yn mynd rhagddo gan Lywodraeth Cymru ar hyn a dwi'n edrych ymlaen at weld ysgolion preifat yn talu trethi. Mae hyn, wrth gwrs, yn codi cwestiynau am Ysgol Gymraeg Llundain, a dwi'n edrych ymlaen at weld sut rydych chi'n bwriadu cynnal y gallu i deuluoedd Cymraeg gael addysg cyfrwng-Cymraeg yn y brifddinas.

Troi at fater arall, mae Suzy Davies wedi cyfeirio'n rhannol at hyn, ond, yn y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yr wythnos diwethaf, fe sonioch chi fod yna lobi gryf, neu o leiaf ymateb cryf, yn erbyn cynnwys addysg grefyddol ac addysg cyd-berthynas a rhywioldeb fel rhan statudol o'r cwricwlwm newydd, a hynny heb hawl gan rieni i dynnu eu plant yn ôl o'r gwersi hynny. Dwi yn mawr obeithio nad ydych chi yn meddwl ildio i'r pwysau yma a'ch bod chi'n cytuno efo fi bod rhain yn ddau faes hollbwysig i'w cadw'n faterion statudol yn y cwricwlwm newydd wrth inni anelu at greu dinasyddion iach a hyderus, a chymdeithas sy'n parchu amrywiaeth.

Wel, yn ffodus i ni, Lywydd, mae addysg wedi'i datganoli ac nid oes angen cynhadledd plaid yn Brighton na Bournemouth yn wir i ddweud wrthym sut i weithredu ein system addysg. Nid wyf yn gweld unrhyw broblemau gydag ymrwymiad Llywodraeth Cymru i barhau i gefnogi addysg cyfrwng Cymraeg yn Llundain. Gwyddom fod nifer o'r teuluoedd hynny'n dychwelyd i Gymru ac yn gosod eu plant mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg yma, ac nid oes gennyf gynlluniau i newid y gefnogaeth i hynny. A gallaf sicrhau'r Aelod nad oes gennyf unrhyw gynlluniau i newid fy meddwl mewn perthynas â natur statudol addysg grefyddol neu addysg rhyw a pherthnasoedd yn ein diwygiadau i'r cwricwlwm.

Da iawn. Dwi'n falch iawn o glywed yr ateb olaf yna, beth bynnag. 

Troi at fater arall, sef polisïau teithio i'r ysgol, mewn ymateb i bwyntiau a godwyd gan Llyr Gruffydd yr wythnos diwethaf, fe ddywedodd Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol fod yna—a dwi'n dyfynnu—refresh yn mynd i fod i Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 a gallwn ddisgwyl hynny yn yr hydref. Mae yna esiamplau o'r angen i greu newid yn codi ar draws Cymru, yn enwedig o safbwynt y disgyblion mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg. Yn Fflint, er enghraifft, mae hi'n siomedig bod y cabinet yn fanno yn mynd i fod yn codi tâl ar fyfyrwyr chweched dosbarth ar gyfer eu trafnidiaeth i'r ysgol, sy'n benodol yn effeithio ar fyfyrwyr chweched dosbarth Ysgol Maes Garmon, ac mae yna bosibilrwydd y bydd rhieni yn wynebu cynnydd o 400 y cant yn y gost o anfon plant i chweched dosbarth cyfrwng Cymraeg yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Mae'r materion yma mewn perig o danseilio unrhyw fuddsoddiad mewn addysg cyfrwng Cymraeg ac ymdrechion i gyrraedd at y filiwn o siaradwyr. Felly, a fedrwch chi ymhelaethu ar yr hyn a ddywedodd Gweinidog y Gymraeg am y bwriad yma i edrych ar bolisïau teithio i'r ysgol? Pryd a sut fydd unrhyw adolygiad yn digwydd? A oes yna ffordd i bobl fedru rhoi eu barn drwodd yn ystod yr adolygiad yma, ac ai'r nod, mewn gwirionedd, ydy cryfhau hygyrchedd ein disgyblion at addysg cyfrwng Cymraeg?

13:50

Bydd yr Aelod yn ymwybodol nad yw cludiant i'r ysgol, yn rhyfedd braidd, yn rhan o fy mhortffolio, mae'n rhan o bortffolio fy nghyd-Aelod, Ken Skates. Ond mae Ken Skates, Eluned Morgan, Julie James a minnau'n gweithio ar y cyd ar ateb polisi i'r sefyllfa rydym ynddi. Mae newidiadau yn sir y Fflint a Chastell-nedd Port Talbot wedi bod yn peri pryder i mi. Deallaf fod y polisi yng Nghastell-nedd Port Talbot wedi'i ohirio ar hyn o bryd, ac mae hynny i'w groesawu'n fawr.

Yn achos trafnidiaeth ôl-16, ni ellir gwadu'r ffaith bod plant yn gorfod teithio pellteroedd sylweddol i gael mynediad at ddarpariaeth ôl-16 cyfrwng Cymraeg. Dylem sicrhau polisi trafnidiaeth sy'n caniatáu iddynt ddilyn eu continwwm addysg drwy gyfrwng y Gymraeg, ac ni ddylem osod rhwystrau yn ffordd eu gallu i wneud hynny, a dyna pam fod y Llywodraeth wedi ymrwymo i edrych ar ateb polisi i'r broblem hon.

Gwisgoedd Ysgol

3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fforddiadwyedd gwisgoedd ysgol yng Nghymru? OAQ54392

Diolch, Jayne. Er mwyn cefnogi ysgolion i wneud penderfyniadau effeithiol ynglŷn â'u polisïau gwisg ysgol, rwyf wedi datblygu canllawiau statudol newydd ar gyfer ysgolion a chyrff llywodraethu ar bolisïau gwisg ysgol ac edrychiad disgyblion. Nod y canllawiau hyn yw annog dull gweithredu mwy cyson ar draws pob ysgol yng Nghymru er mwyn sicrhau bod gwisgoedd ysgol yn fforddiadwy.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Mae fforddiadwyedd gwisgoedd ysgol yn fater o bwys mawr i lawer o rieni ledled Cymru, ac rwy'n gwybod bod grant datblygu disgyblion Llywodraeth Cymru yn cynorthwyo teuluoedd ar incwm isel i brynu gwisgoedd ysgol newydd. Rwy'n siŵr eich bod wedi gweld rhai o'r enghreifftiau gwych o rieni mewn rhannau o Gymru yn creu systemau rhoddion llwyddiannus, gan alluogi rhieni i ailgylchu hen wisgoedd ysgol a'u gwerthu i rieni eraill am ran fach o'r pris. Nid yn unig y mae hyn yn helpu teuluoedd, ond mae'n helpu'r amgylchedd hefyd, drwy arbed y dillad rhag mynd i safleoedd tirlenwi. A wnaiff y Gweinidog gymeradwyo'r gwaith hwn? Sut y byddwch yn sicrhau y bydd yr arferion cyson a grybwylloch yn cael eu lledaenu i bob awdurdod lleol yng Nghymru?

Diolch am hynny, Jayne. Rydych yn iawn—mae hon yn broblem go iawn i lawer o rieni ledled Cymru. Dyna pam ein bod wedi cynyddu'r arian sydd ar gael i gefnogi rhieni drwy'r grant datblygu disgyblion, gan roi cymorth i 14,000 o ddysgwyr ychwanegol ar ddechrau'r flwyddyn academaidd hon. Ond mae hefyd yn gywir i ddweud—a bydd llawer ohonom sy'n rhieni yn gwybod yn iawn pa mor gyflym y mae plant yn tyfu, ac weithiau nid oes dim o'i le ar y dillad, ac mae'n drueni mawr na all pobl eraill fwynhau'r fantais o ddefnyddio'r dillad hynny.

Felly, yn ein canllawiau statudol, rydym yn tynnu sylw ysgolion a chyrff llywodraethu at y ffaith bod yna lawer o siopau dillad ysgol ail-law neu drefniadau cyfnewid dillad llwyddiannus iawn yn bodoli, mentrau sydd, fel y dywedwch, yn dda i sefyllfa ariannol rhieni unigol, ond mae hefyd yn wirioneddol bwysig i'n hamgylchedd. Fel rhan o'r canllawiau statudol, rydym yn tynnu sylw ysgolion at yr arferion da hynny ac yn annog llawer mwy ohonynt i wneud hynny yn eu hysgolion.

13:55

Rwy'n croesawu cyhoeddiad y canllawiau statudol a ddaeth i rym ar ddechrau'r mis, ac mae'n gwneud y wisg ysgol yn fwy fforddiadwy, yn fwy hygyrch ac yn niwtral o ran rhywedd. Er bod mwy o hyblygrwydd o fewn y system, gellir gorfodi'r rhai sy'n cael grantiau i fynd at un cyflenwr yn unig; mae hynny'n wir yn achos un ysgol yn fy etholaeth yn y Rhondda. Gwn hefyd nad yw rhai ysgolion yn rhoi caniatâd i'r logo gael ei frodio ar ddillad generig, sef yr opsiwn mwyaf economaidd yn aml, a rhywbeth sy'n arbennig o bwysig i deuluoedd ar incwm isel. Felly, a oes angen ailedrych ar eich canllawiau statudol er mwyn rhoi mwy o hyblygrwydd i rieni, p'un a ydynt yn cael grant ai peidio?

Mae'r canllawiau statudol a ddaeth i rym ar ddechrau'r flwyddyn academaidd hon yn berthnasol i wisgoedd ysgol yn gyffredinol, p'un a ydych yn cael grant ar gyfer eich gwisg ysgol ai peidio. Yn wir, mae'n tynnu sylw ysgolion at y ffaith y dylent fod yn gallu cynnig amrywiaeth o opsiynau sy'n caniatáu i rieni wneud dewisiadau unigol. Ac o ran eitemau wedi'u brodio neu eu brandio, mae'n gofyn i ysgolion gwestiynu a oes angen hynny go iawn—felly a oes angen i chi gael crys polo wedi'i frandio, neu a yw crys polo plaen yn lliwiau'r ysgol yn briodol? Unwaith eto, mae gofyn i gyrff llywodraethu gwestiynu a yw'r gallu i frodio neu i brynu clwt y gellir ei wnïo ar ddilledyn, yn hytrach na chyfeirio pobl at siop unigol—dylai'r rheini fod yn bethau y mae cyrff llywodraethu yn eu hystyried wrth greu eu polisi gwisg ysgol, yn ogystal â meddwl am yr effaith a gaiff ar deuluoedd unigol. Yn aml, mae ffyrdd rhatach i deuluoedd brynu gwisg ysgol os rhoddir yr hyblygrwydd hwnnw iddynt, a dyna beth y mae'r canllawiau statudol yn annog cyrff llywodraethu i'w wneud: darparu'r hyblygrwydd hwnnw yn hytrach na rhai o'r opsiynau cyfyngol hyn sy'n ychwanegu at y gost i deuluoedd.

Weinidog, i ategu gwestiwn Leanne Wood, rwy'n eich cefnogi'n llwyr yn eich nod clodwiw o gadw cost gwisgoedd ysgol i lawr. Fodd bynnag, sylwaf fod eich canllawiau'n caniatáu i ysgolion benderfynu a yw eu logos yn gwbl angenrheidiol. Credaf fod logos yn mynegi cenhadaeth ac ysbryd ysgol, ac yn destun balchder i ddisgyblion, rhieni a staff, ac yn creu ymdeimlad o gymuned ymhlith plant yr ysgolion hynny. O gofio hyn, a fyddech yn ymuno â mi i annog cynifer o ysgolion â phosibl i gadw eu logos fel symbol o'u hunaniaeth? Diolch.

Fel Gweinidog, nid fy rôl i yw dweud wrth ysgolion unigol beth y gallant ei gael a'r hyn na allant ei gael ar eu gwisg ysgol. Fy rôl i fel Gweinidog yw cyhoeddi'r canllawiau statudol, ac rydym wedi gwneud hynny, ac annog llywodraethwyr ysgolion i feddwl am fforddiadwyedd wrth gynllunio'u polisi gwisg ysgol ac edrychiad disgyblion. Yn wir, rydym yn gofyn i ysgolion gwestiynu a yw'n briodol neu'n angenrheidiol i bob dilledyn gael logo arno. Rwy'n cofio pan oedd fy mhlant yn yr ysgol gynradd, pan oeddwn yn arfer eu hanfon i'r ysgol mewn crys polo gwyn generig ac roedd ganddynt logo ar eu crys chwys. Nid oeddwn yn credu bod angen cael logo ar y ddau ddilledyn. Yr hyn a ddywedwn wrth ysgolion yw, 'Meddyliwch—cyn i chi wneud y rheolau hyn, meddyliwch am fforddiadwyedd i'ch holl rieni'. Rwy'n cytuno bod gwisgoedd ysgol yn gallu rhoi ymdeimlad o hunaniaeth, a'u bod yn gallu cynnig llawer o fanteision i ysgolion, ond wrth lunio polisi gwisg ysgol, byddwch yn ymwybodol o'r beichiau ariannol ychwanegol y gallech fod yn eu gosod ar y rhieni hynny, a beth y gall hynny ei olygu i lesiant plant yn eu hysgolion a allai fod yn wirioneddol bryderus ynglŷn â gallu eu rhieni i fforddio'r cit cyfan a'r wisg y mae disgwyl iddynt eu prynu. Oherwydd, os yw llesiant plant yn cael ei niweidio, gwyddom fod hynny'n cael effaith niweidiol ar eu dysgu.

Ysgolion Gwledig

4. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am bolisi ysgolion gwledig Llywodraeth Cymru? OAQ54375

Mae ein cynllun addysg wledig yn nodi ein hymagwedd tuag at ysgolion gwledig, gan gyfuno gweithredoedd o genhadaeth ein cenedl. Mae hyn yn cynnwys ein grant ysgolion bach a gwledig, sydd o fudd i dros 400 o ysgolion, a'n prosiect peilot e-sgol, sy'n cael ei gyflwyno i awdurdodau lleol ac ysgolion eraill ledled Cymru.

Diolch i chi am yr ateb hwnnw. Mae rhieni pryderus yn Llandrillo, Corwen wedi cysylltu â mi i ddweud bod ysgol y pentref, Ysgol Gynradd Llandrillo, wedi cael ei huno ag ysgol Cynwyd. Mae fy nghwestiwn heddiw'n ymwneud â'r sefyllfa sy'n codi pan nad yw'r ysgolion newydd a grëir o ganlyniad i uno a rhesymoli'n gallu parhau i ymdopi â'r galw cynyddol pan fyddant yn dioddef o ganlyniad i'w llwyddiant eu hunain. Mae hyn yn creu rhwyg mewn dau bentref gwledig. Yn Llandrillo, mae adeilad yr hen ysgol yn wag, ac rwy'n deall bod gormod o alw am leoedd yn yr ysgol newydd ac nad yw plant lleol yn cael yr addysg cyfrwng Cymraeg sydd ei hangen arnynt. Pa gamau y gallwch eu cymryd i fynd i'r afael â'r sefyllfa hon?

14:00

Wel, nid mater i Lywodraeth Cymru yw cynllunio darpariaeth lleoedd mewn ysgolion; mater i'r awdurdod addysg lleol ydyw, a dylai'r Aelod rannu ei phryderon â'r awdurdod lleol hwnnw yn gyntaf. O ran addysg cyfrwng Cymraeg, mae meddwl bod rhieni sydd eisiau'r cyfle hwnnw i'w plant yn cael eu hamddifadu o'r cyfle yn peri pryder mawr i mi. Mae hwnnw'n destun pryder mawr i mi. Dylai rhieni allu arfer eu hawl i addysg cyfrwng Cymraeg i'w plant os ydynt yn dymuno gwneud hynny. Os nad yw'r Aelod yn cael unrhyw lwc wrth gyfathrebu â'r awdurdod lleol, byddaf yn hapus iawn i dderbyn gohebiaeth ganddi ar y mater.

Weinidog, gyda'r cod ad-drefnu ysgolion, fel y'i diwygiwyd, pan fo achosion busnes yn dod gerbron Llywodraeth Cymru i'w cymeradwyo, pa bwyslais y mae'r Gweinidog yn ei roi ar y gorchmynion polisi y mae Llywodraeth Cymru wedi'u rhoi ar waith ar y cam hwnnw yn y broses? Neu ai'r unig beth a wnewch yw edrych ar yr ystyriaethau ariannol mewn perthynas â chais o'r fath? Buaswn yn hoffi deall i ba raddau'n union y caiff menter bolisi ei phwyso a'i mesur pan gaiff yr achos busnes ei gymeradwyo, yn y pen draw, gan Lywodraeth Cymru ar gyfer datblygiadau ysgol newydd.

Wel, ceir meini prawf clir iawn wrth benderfynu rhoi cyllid ysgolion a cholegau'r unfed ganrif ar hugain i unrhyw awdurdod lleol ar gyfer eu prosiect. Gwneir hynny gan fwrdd annibynnol sy'n gwneud argymhellion i'r Gweinidog. Prif ddiben cronfa ysgolion a cholegau'r unfed ganrif ar hugain yw sicrhau bod cymaint o blant â phosibl yn cael eu haddysg mewn adeiladau sy'n addas i'r diben ac sy'n gallu cyflwyno ein cwricwlwm newydd yn effeithiol iawn, a mynd i'r afael â chyflwr gwael iawn yr adeiladau y mae'r plant a'r athrawon yn gweithio ynddynt ar hyn o bryd mewn rhai achosion, mewn rhai ysgolion. Ond nid yw'n gywir dweud bod yn rhaid i chi gau ysgol er mwyn cael mynediad at y gronfa honno. Mae llawer iawn o enghreifftiau ledled Cymru lle y cafodd darpariaethau tebyg am debyg eu rhoi ar waith. Ond os oes gan yr Aelod broblem benodol, rwy'n siŵr y bydd yn gallu ei chrybwyll yn un o'i gyfarfodydd cyngor sir Bro Morgannwg.

Consortia Gwella Ysgolion

5. Pa drafodaethau diweddar y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda chonsortia gwella ysgolion Cymru? OAQ54367

Diolch am eich cwestiwn, Mr Hamilton. Rwy'n cyfarfod â'r consortia addysg rhanbarthol bob blwyddyn fel rhan o sesiynau gwerthuso a gwella rheolaidd. Rwy'n disgwyl cyfarfod â hwy eto yr hydref hwn. Mae fy nghyfarwyddwr addysg yn cyfarfod yn rheolaidd â phob rhanbarth ac yn rhoi adborth iddynt. Rwyf hefyd yn cyfarfod â'r rhanbarthau'n unigol i drafod materion o bwys pan fyddant yn codi.

Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am yr ateb hwnnw. Fe fydd yn cofio nad oedd arweinydd cyngor Castell-nedd Port Talbot yn canmol y consortiwm gwella yn ei ardal i'r cymylau beth amser yn ôl. Dywedodd iddo gael ei sefydlu i wella ysgolion ond bod y gwrthwyneb wedi digwydd: nid yw'r ysgolion yr oedd angen eu gwella wedi gwella, ac mae'r ysgolion a oedd yn gwneud yn dda wedi gwaethygu. Dywedodd y Gymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau fod y consortia'n dyblygu cyllid a swyddogaethau a ddarperir gan yr awdurdodau addysg lleol, ac maent wedi dweud bod hyn yn costio £450 miliwn. Pan ymddangosodd y Gweinidog gerbron y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg rai misoedd yn ôl, dywedodd fod sicrhau arian i reng flaen yr ysgol yn flaenoriaeth, ac os nad oes digon o arian yn cyrraedd yno, onid yw'n bryd i'r Cynulliad wneud rhywbeth yn ei gylch? Os nad yw'r arian yn cyrraedd yr ysgolion a'r disgyblion, onid yw'n bryd cael gwared ar y cwango hwn o reolwyr, ymgynghorwyr, aparatshiciaid a jargon a grëwyd gan y Cynulliad fel y gall yr arian fynd yn uniongyrchol i gynghorau lleol sydd wedi'u hethol yn gyfan gwbl ac sydd mewn sefyllfa well efallai i amcangyfrif anghenion y cymunedau ysgol yn eu hardaloedd?

Lywydd, mae'n siomedig nad yw Mr Hamilton fel pe bai'n deall trefniadau llywodraethu'r consortia rhanbarthol. Mae'r consortia'n gweithio ar ran awdurdodau lleol i arwain, trefnu a chydlynu'r gwelliannau mewn ysgolion ar draws y rhanbarth. Sefydlodd awdurdodau lleol y gwasanaeth gwella ysgolion rhanbarthol yn 2014 o dan y model cenedlaethol ar gyfer gweithio'n rhanbarthol. Dylwn bwysleisio nad yw consortia rhanbarthol yn haen ychwanegol o fiwrocratiaeth. Lle byddant yn dilyn y model cenedlaethol, maent yn atgyfnerthu gweithgareddau gwella ysgolion eu hawdurdodau lleol cyfansoddol ac yn eu darparu ar sail ranbarthol.

14:05

Gallaf ddweud wrthych, Weinidog, fod athrawon a phenaethiaid rwy'n cyfarfod â hwy yn Aberconwy yn parhau i gwestiynu effeithiolrwydd a gwerth gwirioneddol y consortia rhanbarthol yn rheolaidd. Yn wir, lleisiwyd pryderon yn y pwyllgor yn ystod yr ymchwiliad cyllid, ac edrychaf ymlaen at adolygiad o'r consortia rhanbarthol. Pleidleisiodd Cyngor Castell-nedd Port Talbot i adael y consortiwm addysgol ERW, ac nid yw GwE hyd yma wedi cyrraedd nifer o dargedau yn ei gynllun busnes 2017-20. Mae'r rhain yn cynnwys yr angen i ddarparu arweinyddiaeth a rheolaeth dda, sicrhau bod ysgolion wedi'u paratoi'n dda i gyflwyno'r cwricwlwm newydd a sicrhau bod pawb yn gweithredu fframwaith sy'n sicrhau gwerth am arian yn gyson. Mae'r rheini'n ofynion sylfaenol i unrhyw gorff a ariennir gan drethdalwyr. Mae'r olaf yn amhosibl i fy ysgolion yn Aberconwy, oherwydd mewn gwirionedd, fel y mae llywodraethwyr yng Nghonwy wedi'i ddatgan heddiw, cânt eu torri i'r byw. Mae angen i arian ychwanegol gyrraedd ein hysgolion a'n disgyblion ar frys. Felly, a wnewch chi ymrwymo i groesawu unrhyw adolygiad posibl o'r consortia addysg yng Nghymru, ac a wnewch chi fod yn agored a chroesawu ac edrych ar unrhyw argymhellion a gyflwynir gennym a gweithio gyda ni fel pwyllgor, a sicrhau na cheir barn gul, o bosibl, o ran yr hyn yw'r consortia rhanbarthol, a ydynt yn dda, yn ddrwg neu heb fod yn gwneud gwahaniaeth? Gadewch i ni edrych ar hyn unwaith ac am byth, a gadewch i ni adael iddynt brofi eu bod yn effeithiol ac yn ddefnydd da o arian trethdalwyr.

Lywydd, mae'n amlwg nad yw'r Aelod wedi gweld fy ymateb ysgrifenedig i adroddiad y pwyllgor, lle y derbyniais holl argymhellion yr adroddiad hwnnw. Yn hytrach na chroesawu adolygiad, byddaf yn ei sefydlu.

Tynnwyd cwestiwn 6 [OAQ54353] yn ôl. Cwestiwn 7—Rhianon Passmore.

Y System Anghenion Dysgu Ychwanegol

7. A wnaiff y Gweinidog amlinellu'r amserlenni sy'n gysylltiedig â gweithredu'r system anghenion dysgu ychwanegol? OAQ54383

Diolch yn fawr iawn. Fel y nodwyd yn fy natganiad ar 17 Medi, mae'r swyddogaethau statudol a grëwyd gan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 yn dechrau ym mis Ionawr 2021, a bydd y system ADY newydd yn dechrau fesul cam o fis Medi 2021 ymlaen. Cyflwynir y cod a'r rheoliadau gerbron y Cynulliad Cenedlaethol yn 2020 i'w cymeradwyo.

Diolch, Weinidog. Diolch am y cadarnhad, felly, y bydd y system anghenion dysgu ychwanegol yn dechrau fesul cam o fis Medi 2021 ymlaen. Yn wir, bydd athrawon, rhieni, addysgwyr ac undebau llafur addysg yn croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi gwrando ac wedi gweithredu'n adeiladol ar eu hadborth a'r nifer fawr o sgyrsiau a gafwyd. Ac rwy'n gwybod, Weinidog, eich bod yn credu'n angerddol ei bod yn hanfodol fod amser yn cael ei roi i wrando ac ymateb i'r safbwyntiau a gasglwyd yn ystod yr ymgynghoriad fel bod y cod a'r rheoliadau yn gwbl addas i'r diben. Weinidog, pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau, wrth i'r broses hon symud yn ei blaen, y bydd deialog agored ac adeiladol yn parhau gyda phawb sydd â diddordeb i sicrhau'r llwyddiant gorau posibl pan ddaw'r system anghenion dysgu ychwanegol i rym?

Wel, mae'r Aelod yn gywir i ddweud ein bod wedi gorfod rhoi ystyriaeth ddifrifol iawn i'r ymateb a gawsom i'r cod drafft a diwygio ein hamserlen yn unol â hwnnw. Gallaf roi sicrwydd iddi hi a'r Siambr y byddwn yn parhau i weithio gyda'r holl randdeiliaid i fynd i'r afael â'r pryderon a godwyd ac i sicrhau bod y system newydd yn effeithiol ac yn darparu'r newid sydd ei angen ar rieni a phlant. Mae fy swyddogion yn bwriadu cynnal cyfarfodydd a digwyddiadau gyda rhanddeiliaid allweddol dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf i fireinio agweddau penodol ar y cod lle y mynegwyd pryderon yn ystod y cyfnod ymgynghori. Os caf roi rhai enghreifftiau penodol o'r hyn y byddai hynny'n ei gynnwys: mewn perthynas â'r defnydd gofynnol o seicolegwyr addysg, y ffin rhwng yr ysgol a chynlluniau datblygu unigol a gynhelir gan awdurdodau lleol a gweithrediad systemau o fewn yr unedau cyfeirio disgyblion ac addysg Gymraeg y tu allan i'r ysgol yn fwy cyffredinol. Felly, dyna roi blas i'r Aelodau o'r meysydd gwaith penodol lle bydd yn rhaid i ni ymgysylltu unwaith eto â rhanddeiliaid i baratoi ar gyfer drafftio'r cod.

Lywydd, rwy'n atgoffa'r Siambr fy mod ar gorff llywodraethu dwy ysgol arbennig. Rydym yn nhir neb ar hyn o bryd. Rwy'n croesawu'r symudiad oddi wrth ddatganiadau, yn enwedig o ran yr hyblygrwydd sydd ei angen arnom. Mae gan blant amrywiaeth o broblemau weithiau, ac efallai na fydd rhai ohonynt yn cyrraedd trothwy'r datganiad. I ble y gallant fynd? Mae angen ymyriadau go iawn arnynt o hyd. Ond nodais sylwadau cytbwys SNAP Cymru, a oedd yn dweud ein bod yn y cyfnod anodd hwn rhwng dwy system, ac rwy'n pryderu na fydd rhai plant yn cael y cymorth addysgol y maent ei angen, ac mae'n rhaid i hynny fod—. Yn y flwyddyn nesaf, mae'n rhaid i ni bwysleisio y bydd y system sydd ar waith ar hyn o bryd yn parhau hyd nes y caiff ei disodli.

14:10

David, rydych yn hollol gywir. Mae awdurdodau addysg lleol wedi'u rhwymo gan y gyfraith fel y mae ar hyn o bryd, ac nid yw'r ffaith ein bod yn trosglwyddo i fframwaith ddeddfwriaethol newydd yn caniatáu iddynt beidio â rhoi sylw i anghenion plant sydd yn y system yn awr. Rwy'n disgwyl eu bod yn cymhwyso'r gyfraith i blant sydd ag ystod o anghenion addysgol arbennig fel y'i nodir ar hyn o bryd, ac ni allant anwybyddu'r plant hynny hyd nes y daw'r drefn ddeddfwriaethol newydd i rym. Rwyf wedi bod yn glir iawn yn fy ngohebiaeth â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, gyda deiliaid portffolio addysg a chyfarwyddwyr addysg, y cyfarfûm â hwy fore dydd Gwener diwethaf ynglŷn â fy nisgwyliadau yn hyn o beth. Mae'n rhaid iddynt ddilyn y gyfraith fel ag y mae ar hyn o bryd, wrth i ni aros i gyflwyno'r gyfraith newydd.

Asesiadau Personol Ar-lein

8. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyflwyno asesiadau personol ar-lein i ddysgwyr ac ysgolion? OAQ54362

Diolch, Hefin. Gwneuthum ddatganiad ysgrifenedig yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ynglŷn â chyflwyno asesiadau personol ar-lein ar 3 Medi. Erbyn diwedd tymor yr haf, roedd dros 268,000 o ddysgwyr wedi cwblhau asesiadau gweithdrefnol rhifedd ar-lein yn llwyddiannus. Yn dilyn gwaith datblygu a threialu helaeth, bydd asesiadau darllen ar gael i ysgolion o fis Hydref ymlaen.

Yn ogystal â hynny, bydd y Gweinidog yn gwybod fy mod wedi ysgrifennu ati ar 16 Gorffennaf ar ran clwstwr o ysgolion ym mwrdeistref sirol Caerffili, yn enwedig Glyn-Gaer yn fy etholaeth. Roedd ganddynt bryderon am y ffordd y cynhelid y profion yn yr ysgol, y ffaith na allech gyflawni rhai gweithgareddau o fewn y profion, a bod y canlyniadau'n anodd i athrawon eu dehongli'n hawdd ac yn gyflym. Soniodd yn ei datganiad fod newidiadau wedi'u gwneud a bod gwelliannau wedi cael sylw. Ond gyda hynny mewn golwg, a allwch gadarnhau eich bod wedi cyfarfod â'r ysgolion a ysgrifennodd atoch, neu fod eich swyddogion wedi cyfarfod â'r ysgolion sydd wedi ysgrifennu atoch, a pha gamau a gymerwyd yn uniongyrchol gyda'r ysgolion hynny o ganlyniad?

Wel, rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am wneud y sylwadau y mae wedi'u gwneud ar ran y clwstwr hwnnw o ysgolion. Rydym wedi gweithredu ar yr adborth nid yn unig gennych chi, ond gan ysgolion eraill, a thros yr haf, gwnaethom nifer o welliannau i'r system a ddylai fynd i'r afael â'r pryderon a godwyd yn eich llythyr. Drwy gyflwyno asesiadau fesul cam, gallwn ddefnyddio profiad yr asesiadau mathemateg i sicrhau nad ydym yn gwneud rhai o'r camgymeriadau hynny wrth i ni gyflwyno'r asesiadau darllen yr hydref hwn. Fel yr addawyd yn fy ymateb, mae swyddogion eisoes yn trafod gyda'r consortiwm rhanbarthol perthnasol i weld sut y gallant ymgysylltu orau â'r grŵp penodol hwnnw o ysgolion, ac mewn ymateb i'r gwahoddiad yn fy llythyr, deallaf fod athro o un o'r ysgolion eisoes wedi cadarnhau y bydd yn bresennol yng nghyfarfod nesaf y panel athrawon ar gyfer yr adolygiad o'r asesiad rhesymu rhifyddol ar-lein, a gaiff ei gynnal ym mis Hydref. Felly, mae'r athrawon hynny'n ymwneud yn weithredol â'r broses, ac rwy'n ddiolchgar iawn eu bod yn rhoi amser i wneud hynny; mae'n ddefnyddiol iawn.

Weinidog, rwyf innau hefyd yn croesawu'r gwerth y gall yr asesiadau ar-lein hyn ei ychwanegu at y rhaglen asesu y mae'r athrawon yn ymgymryd â hi, ond un o'r pryderon a godwyd gyda mi, wrth gwrs, yw bod rhywfaint o raniad digidol yn ein gwlad rhwng y plant na fyddant efallai'n cael cyfle i fod mor fedrus ag eraill wrth ddefnyddio cyfrifiadur ac nad oes ganddynt gyfrifiadur at eu defnydd yn eu cartref hyd yn oed, neu fynediad at fand eang yn eu cartref, lle bydd gan rai eraill, wrth gwrs, ac mae'n bosibl y gallai hynny roi mantais iddynt. Beth sydd wedi'i gynnwys yn y systemau hyn i sicrhau bod materion o'r fath yn cael eu hystyried yn y ffordd y caiff yr asesiadau hyn eu cynnal?

Yn gyntaf, bydd yr Aelod yn ymwybodol mai rhan gyntaf ein cwricwlwm newydd yw cyflwyno'r fframwaith cymhwysedd digidol ac felly, mae disgwyl i ysgolion fynd i'r afael â'r sgiliau hyn gyda'u holl ddisgyblion. O ran cyfleusterau technoleg gwybodaeth mewn ysgolion a sicrhau bod darpariaeth gyfartal yn gyffredinol, fe fyddwch yn ymwybodol fod y Llywodraeth wedi buddsoddi'n helaeth—degau o filiynau o bunnau—i sicrhau cysylltedd ar gyfer ein hysgolion. Rwy'n falch iawn o ddweud, ac rwy'n siŵr y bydd pob Aelod o'r Siambr yn falch o'i glywed, fod ein hysgol olaf yn sir Benfro, sef yr ysgol olaf yn y rhaglen heb ei chysylltu, wedi'i chysylltu erbyn hyn, ac wrth wneud hynny rydym hefyd wedi datrys rhai o'r materion cysylltedd cymunedol hefyd.

Felly, mae ein sylw bellach wedi troi at gefnogi ysgolion sydd â'r seilwaith TG yn eu hysgolion, a bydd yr Aelod yn ymwybodol fy mod, cyn toriad yr haf, wedi cyhoeddi prosiect buddsoddi cyfalaf gwerth £50 miliwn mewn technoleg addysg. Mae pob awdurdod lleol ar hyn o bryd yn cynnal arolygon o ysgolion unigol er mwyn i ni ddeall lle mae'r ysgolion arni gyda'u seilwaith o fewn eu hysgolion unigol, ac felly bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol wedyn, gyda'r £50 miliwn hwnnw, er mwyn sicrhau bod y ddarpariaeth yn gyfartal o fewn yr ysgolion.

Y tu allan i ysgolion, bydd yr Aelod hefyd yn ymwybodol o'r fargen y mae Llywodraeth Cymru wedi'i tharo i gyflenwi meddalwedd Microsoft Office i bob ysgol yng Nghymru, bargen y talwyd amdani gan Lywodraeth Cymru, ac mae'r feddalwedd hefyd ar gael i ddisgyblion allu ei defnyddio ar ddyfeisiau yn y cartref, felly ni fydd yn rhaid i rieni brynu trwydded ar gyfer meddalwedd Microsoft Office a gall eu plant fewngofnodi yn y cartref. Unwaith eto, mae hynny'n helpu i ddatrys rhywfaint o'r rhaniad digidol hwn, os yw rhiant yn ei chael hi'n anodd dod o hyd i arian i dalu am y trwyddedau hynny.

14:15
Plant sydd â'u Teuluoedd yn y Lluoedd

9. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi plant mewn ysgolion, sydd â'u teuluoedd yn y lluoedd? OAQ54365

Mae cronfa Llywodraeth Cymru i gefnogi addysg plant y lluoedd arfog yn helpu ysgolion i ddarparu cymorth ychwanegol i liniaru'r heriau y gall plant cymunedau'r lluoedd arfog eu hwynebu oherwydd ffordd o fyw filwrol eu teulu. Rwyf wedi neilltuo £250,000 ar gyfer ceisiadau y flwyddyn academaidd hon.

Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am yr ateb hwnnw. Fe fyddwch yn ymwybodol, wrth gwrs, o'r galwadau gan grŵp trawsbleidiol y Cynulliad ar y lluoedd arfog i sefydlu premiwm disgyblion y lluoedd arfog yma yng Nghymru, a chredaf y byddai premiwm disgyblion y lluoedd arfog yn gwneud llawer i gefnogi'r plant sydd dan anfantais o ganlyniad i'r ffaith bod eu rhieni'n gwasanaethu yn y lluoedd arfog, naill ai oherwydd eu bod yn adleoli'n aml neu oherwydd effaith gwasanaeth gweithredol. Gwn y byddai cefnogaeth ychwanegol yn cael ei chroesawu gan fod y lluoedd arfog yn chwarae rôl allweddol yn eich etholaeth chi, Weinidog, yn ogystal ag yn fy un i. Felly, a allwch chi ddweud wrthym a yw Llywodraeth Cymru yn ystyried cyflwyno premiwm disgyblion y lluoedd arfog yma yng Nghymru, ac os nad ydyw, a allwch chi ddweud wrthym pa gymorth penodol ychwanegol y gall Llywodraeth Cymru ei gynnig i blant y lluoedd arfog yn ysgolion Cymru?

Lywydd, rwy'n effro iawn i'r problemau a wynebir gan blant teuluoedd sy'n gwasanaethu, a dyna pam ein bod wedi sicrhau bod y gronfa hon ar gael. Eleni, mae'r gronfa'n cefnogi tri phrosiect yn sir Benfro, ac rwy'n siŵr y byddai'r Aelod yn falch o hynny. Os nad yw'n ymwybodol o'r prosiectau unigol, rwy'n hapus i ysgrifennu ato gyda manylion yr ysgolion sy'n derbyn y grant hwnnw.

Rydym yn parhau i edrych ar anghenion ein cohort cyfan o blant wrth benderfynu ar gyllidebau addysgol, ac fe fydd yn ymwybodol o'r sefyllfa ariannol heriol y mae Llywodraeth Cymru ynddi. Rwy'n ymrwymedig i wneud yr hyn a allaf i ddod o hyd i adnoddau i gefnogi'r prosiectau sydd ar y gweill ar hyn o bryd, ac yn hollbwysig rwyf wedi dechrau ar y broses systematig ar gyfer dechrau casglu data ar blant teuluoedd y lluoedd arfog yn ein system addysg. Nid yw hwnnw'n cael ei gasglu ar hyn o bryd. Mae'n anodd iawn cadw golwg ar hyn a darparu'r dystiolaeth y byddem ei hangen i gefnogi buddsoddiad ychwanegol yn ein hysgolion. Rydym wedi dechrau ar y broses honno yn awr, lle bydd data cyfrifiadau ysgolion blynyddol ar lefel disgyblion yn cael ei ddiwygio fel y gall ysgolion gofnodi plant teuluoedd milwrol, ac ar yr un pryd byddwn yn newid data CYBLD fel y gellir cofnodi teuluoedd sydd wedi mabwysiadu plant hefyd. Mae'n broses hirfaith—yn hwy nag y buaswn yn dymuno—ond mae'r broses honno wedi dechrau erbyn hyn, ac mae hynny'n golygu y bydd gennym ddata gwell fel y gallwn wneud penderfyniadau polisi gwybodus yn y dyfodol.

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Yr eitem nesaf, felly, yw cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan John Griffiths.

Amseroedd Aros Canser

1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am amseroedd aros am ddiagnosis ar ôl i'r GIG ganfod amheuaeth o ganser? OAQ54385

Diolch am y cwestiwn. Gwneuthum y penderfyniad i wella diagnosis canser, a Chymru yw'r wlad gyntaf i gyflwyno'r llwybr canser sengl. Mae hwn yn adrodd ar yr amser y mae claf yn aros o'r amheuaeth gychwynnol o ganser hyd at ddechrau'r driniaeth. Mae ein data diweddaraf yn dangos bod 75.1 y cant o gleifion wedi dechrau triniaeth o fewn 62 diwrnod i'r amheuaeth gychwynnol o ganser.

Weinidog, ar gyfer yr wyth math mwyaf cyffredin o ganser, mae cyfraddau goroesi deirgwaith yn fwy pan geir diagnosis cynnar a phan gaiff ei ganfod yn y camau cynharaf yn hytrach nag yn y camau diweddaraf. Wrth gwrs, mae cleifion a'u teuluoedd yn dioddef yr artaith llwyr o'r amheuaeth o ganser i ddiagnosis un ffordd neu'r llall. Rwy'n croesawu'r hyn a grybwyllwyd gennych yn eich ymateb cychwynnol yn fawr, oherwydd mae hwnnw'n gynnydd gwirioneddol sy'n arwyddocaol ac yn bwysig iawn, ond gwn fod cyfyngiadau ar gapasiti yn parhau, megis prinder yn y gweithlu, ac mae hynny'n cyfyngu ar allu'r GIG i wneud diagnosis. Un o ofynion rhai o'r sefydliadau sy'n cynrychioli pobl â chanser a'u teuluoedd yw bod Llywodraeth Cymru yn cynnal archwiliad o staff diagnostig y GIG yng Nghymru ac yna'n mynd i'r afael â'r bylchau sy'n bodoli. A yw hynny'n rhywbeth y bydd Llywodraeth Cymru'n ymrwymo iddo?

14:20

Mae'r pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud am ddiagnosis cynharach yn hollol gywir—mae'n rhan allweddol o'n strategaeth ar gyfer canser yma yng Nghymru. Ac wrth gwrs, bydd y llwybr canser sengl yn rhoi gwell syniad i ni o'r pethau sydd angen inni eu gwella ar draws y gwasanaeth. Bydd yna her mewn perthynas â'r gweithlu bob amser ac ni fydd triniaethau newydd neu dechnoleg newydd yn gallu ei datrys. Felly, bydd strategaeth y gweithlu y mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn gweithio arni yn ystyried y camau rydym eisoes yn eu cymryd wrth gwrs, er enghraifft yr academi ddelweddu a'r gwaith a drafodasom yma yn y Siambr hon yr wythnos diwethaf ar wella gwasanaethau endosgopi, a bydd hyn i gyd yn cael effaith, nid yn unig ar yr hyn y gallwn ei wneud, ond ar ein hangen i gynllunio ar gyfer niferoedd y staff, a'u caffael wedyn. Felly, rwy'n credu y gallaf roi sicrwydd i'r Aelod ein bod yn edrych ar niferoedd ein staff ar hyn o bryd. Bydd yr wybodaeth a gawn drwy weithredu'r llwybr canser sengl yn rhoi rhagor o wybodaeth i ni ac wrth gwrs, fe fyddwch yn gweld hynny pan fyddwn yn cyhoeddi'r strategaeth ddrafft ar gyfer y gweithlu y mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn gweithio arni gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.

Weinidog, un targed sydd gan Gymru bellach mewn perthynas ag amser aros ar gyfer diagnosis o ganser a thriniaeth canser, ac rwy'n croesawu hynny. Fodd bynnag, mae'n hysbys nad oes gennym y capasiti o ran gwasanaethau diagnosis, ac mae eich Llywodraeth wedi methu cyrraedd ei thargedau ei hun ar gyfer amseroedd aros canser drwy'r llwybr brys ers 2008. Weinidog, pa gamau rydych yn eu cymryd i sicrhau'r buddsoddiad sylweddol hwn mewn cyfleusterau canser ledled Cymru i adeiladu'r capasiti sydd ei angen i gyrraedd y targed sengl newydd hwn ar gyfer diagnosis canser?

Wel, rwy'n credu bod llawer o'r hyn a ofynnodd yr Aelod wedi'i gynnwys yn fy ymateb i John Griffiths. Mae'n ffaith, pan fyddwch yn edrych ar amseroedd aros canser, ein bod wedi gwneud yn gymharol well na Lloegr. Os edrychwch ar ffigur newydd ein llwybr canser sengl, nid yw ond ychydig o bwyntiau canran yn is na'r hen darged a gynigid yn Lloegr, a hynny ar gyfer rhan o'r llwybr yn unig. A'r rheswm pam y cyflwynasom y llwybr canser sengl newydd oedd ein bod yn cydnabod bod arosiadau cudd yn y system o fewn y ffigur o 31 diwrnod. Felly, mae gennym ddarlun llawer mwy gonest o'n sefyllfa, ac rydym wedi buddsoddi yn y gorffennol ac yn parhau i fuddsoddi yn awr. Mae'n ffaith ein bod wedi buddsoddi 6.5 y cant yn y gyllideb i hyfforddi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae'n mynd yn ôl at y pwyntiau a wneuthum i John Griffiths ynglŷn â chael strategaeth briodol ar gyfer y gweithlu, deall yr hyn rydym eisoes yn ei wneud a'r buddsoddiadau rydym eisoes wedi'u gwneud.

Triniaethau Rhagnodadwy

2. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o ran nifer y bobl y bydd penderfyniad y GIG yng Nghymru yn effeithio arnynt, i ddilyn y dull a gymerwyd gan y GIG yn Lloegr a chael gwared ar eitemau y barnwyd eu bod yn flaenoriaeth glinigol isel o'r rhestr o driniaethau rhagnodadwy? OAQ54374

Nid yw GIG Cymru wedi mabwysiadu'r dull o weithredu y mae'r Aelod yn cyfeirio ato. Mae Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru wedi datblygu canllawiau i nodi nifer o driniaethau sy'n cynnig gwerth gwael am arian, yn aneffeithiol neu'n beryglus. Mae meddygon yn defnyddio eu crebwyll clinigol a rhagnodwyr eraill i gynnig yr opsiynau triniaeth gorau posibl i'w cleifion.

Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Weinidog. Ganed y Gymraes wyth oed, Sofia Bow, gydag anhwylder genetig ffeibrosis systig, sy'n effeithio ar un o bob 2,500 o fabanod a gaiff eu geni. Mae'r Llywodraeth hon wedi gwrthod ariannu'r cyffuriau Orkambi a Symkevi, er bod profion wedi dangos eu bod yn gallu gwella iechyd yr ysgyfaint a lleihau'r angen am dderbyn cleifion i'r ysbyty, gan ddweud eu bod yn rhy ddrud, tra bod Llywodraeth yr Alban wedi llwyddo i negodi disgownt gyda'r gwneuthurwyr fel y gellir rhoi'r cyffuriau ar bresgripsiwn i ddioddefwyr yn yr Alban. Mae teulu Sofia yn ystyried gadael eu cartref yng Nghymru a symud i'r Alban fel y gall eu merch gael y driniaeth drawsnewidiol hon sydd ei hangen arni. Felly, a wnewch chi ddilyn esiampl GIG yr Alban yn awr a rhoi Orkambi a Symkevi ar bresgripsiwn? Os mai'r arian yw'r unig rwystr, ar ôl i chi benderfynu ar bris rhesymol am fywyd plentyn, a wnewch chi drefnu disgownt os bydd angen, neu a oes angen i Weinidog iechyd yr Alban wneud hynny ar eich rhan?

Rwy'n ofni bod cwestiwn yr Aelod yn gwyro oddi wrth ei chwestiwn cyntaf drwy beidio â chyfeirio at driniaethau sydd â blaenoriaeth glinigol isel a rhestr o driniaethau rhagnodadwy, ac mewn gwirionedd, mae'n gamddealltwriaeth sylweddol o'r sefyllfa mewn perthynas ag Orkambi.

Rwyf wedi dweud mewn gohebiaeth â'r holl Aelodau ac mewn datganiadau cyhoeddus fy mod yn dal i fynegi rhwystredigaeth ynglŷn â'r dewis y mae Vertex wedi'i wneud—gweithgynhyrchwyr Orkambi a Symkevi—i beidio ag ymgysylltu â'r broses arfarnu yma yng Nghymru. Nid mater o arian yn unig ydyw. I'r Aelodau yma, ond hefyd i'r teuluoedd sy'n gwylio ac yr effeithir arnynt yn uniongyrchol, mae hyn ymwneud â mwy nag arian yn unig; mewn gwirionedd, mae'n ymwneud â'r amharodrwydd i gymryd rhan mewn proses i ddarparu tystiolaeth glinigol o effeithiolrwydd y meddyginiaethau hyn neu fel arall. A bod yn onest, pe baent yn gwerthu'r meddyginiaethau am £1 y tro, yn hytrach na £100,000 am bob triniaeth, byddai'n dal i fod angen i ni wybod beth yw effaith y feddyginiaeth.

O ran y fargen y maent wedi'i tharo yn yr Alban, ar ôl i'w proses arfarnu eu hunain yno beidio â chaniatáu mynediad at Orkambi, maent wedi mynd yn ôl a tharo bargen wahanol sy'n ddarostyngedig i gyfrinachedd masnachol. Nid wyf wedi gweld hynny, felly nid wyf mewn sefyllfa i gopïo'r un fargen na hyd yn oed i wneud sylwadau yn briodol ar y gwerth cymharol a roddir iddo.

Buaswn yn annog Vertex eto i ymwneud â'r broses arfarnu yma yng Nghymru fel y maent wedi nodi yn y gorffennol y byddent yn ei wneud, i beidio â rhoi teuluoedd yn y sefyllfa annymunol hon, ac i'n galluogi i ddeall yn iawn pa mor effeithiol yw'r feddyginiaeth sydd ganddynt ar gael, ac i ni wedyn wneud dewis sy'n seiliedig ar dystiolaeth briodol. Nid wyf eisiau i unrhyw deulu yng Nghymru gael ei roi yn y sefyllfa y mae'r Aelod yn ei disgrifio oherwydd bod cwmni fferyllol yn gwrthod cymryd rhan yn ein proses arfarnu uchel ei pharch ac sydd wedi'i deall yn dda.

14:25

Weinidog, rwy'n croesawu'r dull y mae Llywodraeth Cymru wedi'i fabwysiadu mewn perthynas â'r agenda gofal iechyd darbodus. Un o egwyddorion yr agenda honno yw, 'Peidiwch â gwneud dim heblaw'r hyn y gallwch ei wneud a gadewch i eraill wneud y pethau na allwch eu gwneud.' Wrth gwrs, un o'r ffyrdd y gellid diwygio'r GIG fyddai galluogi fferyllwyr ledled Cymru i wneud mwy o'r hyn sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd mewn meddygfeydd meddygon teulu. Heddiw yw Diwrnod Fferyllwyr y Byd. Beth sydd gennych i'w ddweud wrth y fferyllwyr ledled Cymru sy'n chwilio am gontract newydd er mwyn iddynt allu mynd i'r afael yn benodol â hyn unwaith ac am byth?

Fel y nodais o'r blaen wrth drafod gofal sylfaenol yn fwy cyffredinol yma, mae'r broses o ddiwygio contractau ym maes gofal sylfaenol, gan gynnwys fferylliaeth, yn rhan bwysig o'n gallu i gyflawni ein hamcanion cyffredin. Mewn gwirionedd, mae contractwyr fferyllol sy'n fferyllwyr cymunedol yma yng Nghymru yn cymryd rhan mewn sgwrs reolaidd ac adeiladol gyda'r Llywodraeth. Rwy'n disgwyl y bydd cam nesaf y contract fferylliaeth yn y dyfodol yn caniatáu inni fuddsoddi mwy yn nyfodol fferylliaeth ac mewn ystod ehangach o wasanaethau, ac mae'n bosibl y bydd rhai ohonynt, pwy a ŵyr, yn ffurfio rhan o'r cwestiynau y bydd Aelodau eraill yn eu gofyn yn ddiweddarach ar y papur trefn.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Dai Lloyd.

Diolch yn fawr, Llywydd. Gweinidog, ydych chi'n hapus efo ansawdd y wybodaeth sydd gennych chi am weithlu y gwasanaeth iechyd?

Nid wyf yn credu bod y data cyfredol sydd gennym ar y gweithlu yn caniatáu i ni gael y ffordd fwyaf cadarn o gynllunio ar gyfer y dyfodol. Mae hynny'n rhan o'r hyn rydym yn ei ystyried. Yn wir, cefais drafodaeth ar yr union bwynt hwn yn gynharach yr wythnos hon.

Diolch am hynny. Fel rydych chi'n gwybod, yn adroddiad diweddar y pwyllgor iechyd ar nyrsio cymunedol a nyrsio ardal, bu inni dderbyn tystiolaeth a oedd yn darogan—a dwi'n dyfynnu: er yn cydnabod cyfraniad allweddol ein nyrsys cymunedol a'n nyrsys ardal i ddarparu gofal iechyd i'r dyfodol, ni wyddys ryw lawer am y gwasanaeth anweledig yma—'invisible service', fel y'i gelwid. Nid oes darlun manwl gywir ar lefel genedlaethol o'r nifer na chymysgedd sgiliau y timau nyrsio nac o nifer a lefel salwch y cleifion sy'n derbyn gofal yn eu cartrefi eu hunain. Yn naturiol, bydd hyn yn cael effaith ar effeithlonrwydd cynllunio’r gweithlu.

Nawr, dyna beth mae'r dystiolaeth yn ei ddweud. Yn ogystal, cawsom dystiolaeth uniongyrchol o nyrsys yn y gymuned yn gorweithio, o dan straen, mewn system yn gorymestyn eu hunain i ateb y galw, tra roedd penaethiaid byrddau iechyd yn darogan darlun llawer gwahanol o wasanaeth yn cyflawni disgwyliadau. Nid oes data cyflawn ychwaith ar nifer y ffisiotherapyddion na therapyddion galwedigaethol a gyflogir yn y gymuned hefyd. Felly, sut allwch chi gynllunio i symud mwy o ofal iechyd i'r gymuned yn y dyfodol pan nad ydych yn gwybod y nifer na chymhwysedd sgiliau y staff iechyd sydd yn gweithio yna ar hyn o bryd?

Wel, ni fuaswn yn dweud ei fod yn ddarn gwag o bapur ac nid ydym yn gwybod unrhyw beth am y gweithlu presennol nac yn wir am natur y galw ar hyn o bryd. Bydd yr Aelod yn gwybod, o ran ein hagenda ar gyfer symud mwy o ofal yn nes at y cartref, ei fod yn golygu parhau i fuddsoddi mewn gofal sylfaenol a chymunedol. Mae'n cynnwys y modelau gofal newydd sy'n cael eu treialu o fewn y gronfa trawsnewid ac oddi allan iddi hefyd. Nid tystiolaeth anecdotaidd yn unig am rannau penodol o'r wlad yw honno, mae'n rhan o'r gwaith o ddiwygio'r system gyfan. Rydym yn fwriadol wedi dewis llwybr lle mai dim ond y prosiectau sydd â'r gallu i ehangu fydd yn cael eu cefnogi drwy'r gronfa trawsnewid. Felly, wrth gwrs, bydd y dystiolaeth a gawn o'n cynlluniau clwstwr hefyd—lle bydd yn rhaid iddynt gynllunio ar lefel clwstwr—yn llywio ein proses gynllunio tymor canolig a'r byrddau iechyd, yn ogystal â strategaeth y gweithlu sy'n cael ei datblygu gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru. Felly, mae gennych ystod o wahanol ffynonellau o wybodaeth ar yr hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd, a'r hyn y mae angen i ni wneud mwy ohono yn y dyfodol.

Ond o'i gyfnod yn y lle hwn, a'i yrfa cyn iddo gael ei ethol nad yw'n sôn amdani'n rheolaidd, gyrfa y mae'n parhau i'w dilyn ar adegau hefyd, bydd yr Aelod yn gwybod nad yw hwn byth yn bwynt statig mewn amser. Ac mae ein gallu i ddiwygio mor gyflym ag yr hoffem yn y lle hwn yn aml yn disgyn yn fyr o'r nod wrth ddod wyneb yn wyneb â realiti. Ond rwy'n credu bod yr agenda a nodwyd gennym yn 'Cymru Iachach' yn un y mae gennym ymrwymiad iddi ar draws y bwrdd, a byddwn yn parhau i wneud penderfyniadau buddsoddi i gefnogi hynny.

14:30

Mae'r un math o bwysau gwaith a bylchau mewn rotas, stres a blinder affwysol sydd yn deillio o orweithio achos prinder staff hefyd yn effeithio ar feddygon yn ein hysbytai—blinder affwysol, cyfrifoldeb dychrynllyd dros fywyd a marwolaeth, dim amseroedd gorffwys, dwyster gwaith heb seibiant, peryglon gyrru car wedi gorffen sifftiau ganol nos, a'r teimlad o ddiffyg cefnogaeth, a diffyg cydnabyddiaeth o'r ymrwymiad anferthol i'w cleifion, a'r teimlad hefyd fod gweinyddwyr ysbytai yn ddi-hid i hyn oll ac yn ansensitif weithiau. Felly, beth ydych chi, Weinidog, yn ei wneud i hyrwyddo llesiant ein meddygon yn ein hysbytai?

Rydym yn mabwysiadu dull eang o weithredu. Ar un llaw, pan edrychwch ar y nod pedwarplyg, mae staff yn un o'r pedair colofn yn y nod pedwarplyg hwnnw. Yn benodol, o ran ochr feddygol y gweithlu, rydym eisoes wedi ymgysylltu â Chymdeithas Feddygol Prydain ar y siarter blinder. Siaradais â’r gymdeithas yn yr wythnosau diwethaf—ac mae’r gwaith hwnnw’n parhau—i geisio sicrhau ein bod yn ymdrin â rhai o’r pwyntiau y mae’r Aelod yn eu codi ynghylch y pwysau anhygoel a’r ymrwymiad y mae ein gweithlu meddygol yn eu hwynebu. Ac oherwydd yr ymrwymiad hwnnw, nid yn unig gan ein gweithlu meddygol, ond gan y gweithlu ehangach, y mae'r gwasanaeth iechyd yn parhau i ddarparu gofal eang a thosturiol o ansawdd. Ond nid ydym yn ei gymryd yn ganiataol. Dyna pam y cawsom y trafodaethau gyda Chymdeithas Feddygol Prydain, a byddwn yn cael y trafodaethau hynny gyda chynrychiolwyr eraill y gweithlu hefyd, oherwydd nid wyf am esgus fod popeth yn berffaith iawn. Gyda'r galwadau ychwanegol a welwn yn wynebu ein system, lle y ceir yr holl broblemau eraill y tu allan i'r gwasanaethau iechyd sy’n ysgogi’r galw ac yn effeithio ar ein gweithlu, yr her i ni yw sut y parhawn i wneud popeth y gallwn ac y dylem ei wneud i sicrhau ein bod yn gyflogwr da, a'n bod yn ystyried lles y staff yn briodol ar bob lefel.

Diolch, Lywydd. Ddirprwy Weinidog, fe fyddwch yn ymwybodol, wrth gwrs, mai Arolygiaeth Gofal Cymru sydd â'r rôl allweddol ar gyfer archwilio a gweithredu i wella ansawdd a diogelwch gwasanaethau er lles pobl Cymru. Nawr, yn ôl adroddiad blynyddol y prif arolygydd ar gyfer 2018-19, cynhaliwyd 2,499 o arolygiadau. Mae hynny 456 yn llai na'r flwyddyn flaenorol. Roedd llai o wasanaethau wedi'u rheoleiddio hefyd. Nawr, daw'r dirywiad hwn yn y gweithgaredd rheoleiddio ac arolygu er bod costau staff wedi cynyddu bron i £150,000, a chanran y gyllideb ar gyfer gweithgaredd arolygu a rheoleiddio wedi cynyddu. Felly, sut ydych chi, Ddirprwy Weinidog, yn cyfiawnhau'r cynnydd yn y costau staffio, er y bu cwymp sylweddol yn nifer yr arolygiadau mewn gwirionedd, a pha gamau y byddwch yn eu cymryd i wrthdroi'r dirywiad?

Wel, yn amlwg, mae'r gwaith y mae Arolygiaeth Gofal Cymru yn ei wneud yn gwbl hanfodol. Mae'n gofalu am y safonau sydd yn ein cartrefi gofal yn benodol, ac mae'n hollbwysig fod yr holl arolygiadau a gynhelir ganddynt yn cael eu gwneud yn ddigon manwl, ac yn cael eu gwneud mewn ffordd ystyriol iawn. Ac rwy'n credu eu bod yn cynnal arolygiadau ystyriol iawn, ac mae gennyf bob hyder ynddynt.

Wel, Ddirprwy Weinidog, diolch am yr ymateb hwnnw, ond rhaid i mi ddweud wrthych yma nawr nad wyf yn rhannu eich hyder ynddynt ar hyn o bryd. Yn ôl blaenoriaeth strategol 2, yng nghynllun strategol Arolygiaeth Gofal Cymru 2017-20, mae'r sefydliad yn ymdrechu i fod yn lle gwych i weithio ynddo. Fodd bynnag, ceir honiadau difrifol o fwlio ac aflonyddu o fewn y sefydliad, a phwysau dwys ar yr arolygwyr eu hunain. Mewn gwirionedd, gwn am arolygydd a fynegodd bryderon, gan sbarduno’r hyn a alwyd yn ymchwiliad. A dyma sut yr ymatebodd yr uwch-reolwr a oedd yng ngofal yr ymchwiliad:

Daethpwyd i'r casgliad, gan fod eich cwyn wedi canolbwyntio ar fethiant y berthynas rhwng eich rheolwr llinell a'ch uwch-reolwr, a chan i chi benderfynu ymddiswyddo o'ch swydd fel arolygydd oedolion yn Arolygiaeth Gofal Cymru, na fydd y cysylltiadau proffesiynol hyn yn bodoli mwyach, gan nad ydych bellach yn gyflogai i Arolygiaeth Gofal Cymru a Llywodraeth Cymru—

felly gallwch weld y sylw agos iawn yno, am Arolygiaeth Gofal Cymru a Llywodraeth Cymru—

gan hynny, daethpwyd i’r casgliad nad yw parhau â’r ymchwiliad hwn yn ateb unrhyw bwrpas defnyddiol.

Mae'n frawychus felly mai’r rheswm dros derfynu’r ymchwiliad oedd oherwydd bod yr unigolyn dan sylw wedi ymddiswyddo o Arolygiaeth Gofal Cymru. Ac yn dechnegol, gan eu bod hwy eu hunain—yr uwch-reolwr—wedi dweud 'Arolygiaeth Gofal Cymru a Llywodraeth Cymru', mae’r cyfrifoldeb ar Lywodraeth Cymru yn rhywle. Felly gofynnaf i chi, Ddirprwy Weinidog, a wnewch chi ymrwymo i gynnal ymchwiliad annibynnol i driniaeth staff, y pwysau dwys sy'n faich arnynt, a hefyd sut y maent yn mynd ati i gynnal ymchwiliadau pan fydd rhywun wedi bod yn chwythwr chwiban mewn gwirionedd, ac wedi tynnu eu sylw at bryderon ynghylch diffyg gweithdrefn gywir ar gyfer cynnal arolygiadau mewn cartref gofal?

14:35

Gallaf sicrhau'r Aelod fy mod yn cael cyfarfodydd rheolaidd gyda phennaeth Arolygiaeth Gofal Cymru, pan fyddwn yn trafod pob agwedd ar waith yr arolygiaeth. Yn amlwg, mae'r swydd y mae staff yr arolygiaeth yn ei chyflawni yn swydd anodd iawn, oherwydd eu bod yn edrych ar sut y mae ein hoedolion mwyaf agored i niwed yn cael gofal. Ac maent yn gyfan gwbl o ddifrif ynghylch unrhyw dystiolaeth o ofal gwael a welant. A gallaf sicrhau'r Aelod, mewn sefyllfaoedd lle bu’n rhaid iddynt ymyrryd—rwy'n derbyn yn llwyr eu bod yn sefyllfaoedd llawn straen—maent yn gyfan gwbl o ddifrif ynglŷn â’r gwaith, rhoddir ystyriaeth ddifrifol iawn i achosion o chwythu'r chwiban, a gallaf eich sicrhau bod perthynas dda rhwng Llywodraeth Cymru ac Arolygiaeth Gofal Cymru, ond eu bod yn gweithredu'n annibynnol.

Diolch unwaith eto, Ddirprwy Weinidog, ond rydym hefyd yn gwybod bod rhai erthyglau wedi'u dogfennu ar raglen Y Byd ar Bedwar ynglŷn â’u pryderon—Arolygiaeth Gofal Cymru—ac am eu gallu i gynnal arolygiadau trwyadl sy'n amddiffyn y bobl fwyaf agored i niwed yn y sefyllfaoedd hynny.

Nawr, yn olaf, mae gennyf reswm i gredu, o ffynhonnell ddibynadwy, fod yr anawsterau mewnol hyn yn effeithio'n negyddol ar ddefnyddwyr gwasanaethau gofal cymdeithasol hefyd. Er enghraifft, er bod pryderon am ddarparwyr yn ymddangos ar y radar o fewn y sefydliad, ac er gwaethaf y ffaith bod arolygwyr, yn ôl y sôn, yn tynnu sylw rheolwyr at hyn, clywais honiad fod rhai sefyllfaoedd yn cael eu hanwybyddu am wythnosau. Mewn gwirionedd, mynegwyd un pryder ynghylch sefydliad penodol—cymerodd chwe mis i'r sefydliad roi unrhyw gamau ar waith o gwbl—chwe mis—lle teimlwyd y gallai pobl agored i niwed fod wedi wynebu risg.

Ddirprwy Weinidog, yn sgil y ffaith bod pryderon mor ddifrifol am gorff rheoleiddio, a luniwyd i amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed, wedi cael eu dwyn i fy sylw yn y ffordd hon, fel Aelod etholedig o'r sefydliad hwn, hoffwn ofyn i chi gymryd y rhain—[Torri ar draws.] Wel, Senedd ydyw, rydych chi'n iawn. Felly, fel Aelod etholedig o'r Senedd hon, rwy'n gofyn i chi, Ddirprwy Weinidog: os gwelwch yn dda, a wnewch chi ystyried adolygiad i waith sylfaenol Arolygiaeth Gofal Cymru? A wnewch chi edrych at y materion a godais ynglŷn â honiadau o fwlio staff, pwysau dwys? Ond yn bwysicach fyth, a wnewch chi edrych ar Arolygiaeth Gofal Cymru, gyda golwg ar edrych, yn annibynnol, i weld a yw'n gwneud yr hyn y bwriedir iddi ei wneud mewn gwirionedd—sef amddiffyn ein pobl fwyaf agored i niwed? Diolch.

Hoffwn ofyn i'r Aelod, os oes ganddi unrhyw bryderon difrifol iawn am y ffordd y mae unrhyw bobl agored i niwed yn cael eu trin, y dylai ysgrifennu ataf am y sefyllfaoedd unigol hynny. Ac nid yw'n bosibl ymateb i 'ffynhonnell ddibynadwy'—nid yw'n bosibl ymateb i'r mathau hynny o ddigwyddiadau. Ac os oes gennych bryderon difrifol, a wnewch chi'n ysgrifennu ataf os gwelwch yn dda?

Diolch, Lywydd. Weinidog, mae adeiladau ein GIG mewn cyflwr gwael ac mae rhai ohonynt yn dadfeilio. Ceir ôl-groniad o waith gwerth £0.25 biliwn y bernir ei fod yn achosi risg uchel neu sylweddol. Nid yw 13 y cant o'r ystâd yn cydymffurfio â mesurau diogelwch. O adeiladau Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, dim ond ychydig dros draean ohonynt a ystyrir yn addas yn ymarferol. Weinidog, rydych wedi ymrwymo tua £370 miliwn tuag at  brosiectau cyfalaf iechyd eleni—faint ohono a gaiff ei wario ar sicrhau bod adeiladau'r GIG yn ddiogel i gleifion a staff?

14:40

Mae'r talp sylweddol o gyfalaf y GIG, fel y gŵyr yr Aelod, wedi'i wario ar greu a chwblhau Ysbyty Athrofaol Grange, sy'n cael ei wneud o fewn yr amser ac o fewn y gyllideb. Rwyf eisoes wedi cyhoeddi ystod o ddatganiadau eraill sy'n nodi, er enghraifft, ein rhaglen gyfalaf ym maes gofal sylfaenol. Ac mae gan sefydliadau'r GIG gyfalaf yn ôl disgresiwn i geisio cyflawni'r ôl-groniad o waith cynnal a chadw. Felly, rwy'n cydnabod yr heriau sy'n bodoli, ond mae hyn yn rhan o'r hyn y mae angen i fyrddau iechyd eu hunain fynd i'r afael ag ef o fewn eu dyraniadau.

Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Weinidog. Ceir gwerth £0.5 biliwn o leiaf o ôl-groniad o waith cynnal a chadw adeiladau. Rwy'n dweud 'o leiaf' oherwydd nad yw'r rhan fwyaf o fyrddau iechyd lleol hyd yn oed yn gallu fforddio gwneud yr asesiadau sy'n angenrheidiol i bennu graddau'r problemau cynnal a chadw—problemau cynnal a chadw sy'n effeithio ar ofal cleifion. Clywodd BBC Cymru gan staff Ysbyty Athrofaol Cymru a ddywedodd fod yna risgiau o ran heintiau oherwydd bod yn rhaid cludo gwastraff ysbytai mewn lifftiau i gleifion. Weinidog, beth y mae eich Llywodraeth yn ei wneud i asesu'r risgiau i ddiogelwch cleifion oherwydd gwaith cynnal a chadw gwael, a beth fyddwch chi'n ei wneud yn y blynyddoedd i ddod i ddileu'r ôl-groniad o waith atgyweirio sydd wedi bod yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn?

Wel, crybwyllodd yr Aelod y ffigur o £370 miliwn sydd ar gael ac o hwnnw, mae £80 miliwn ar gael i fyrddau ac ymddiriedolaethau iechyd wneud yn union y math hwn o waith cynnal a chadw. Mae o fewn eu dyraniad cyfalaf yn ôl disgresiwn. Ac mae deall yr ystâd sydd ganddynt a deall y risgiau sydd ganddynt yn iawn yn rhan o waith byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd. Mae'n wir, fodd bynnag, lle bu problemau uniongyrchol, er enghraifft y to a gwympodd yn ddirybudd mewn cyfleuster yn Wrecsam o fewn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, fod Llywodraeth Cymru wedi darparu cymorth ychwanegol i wneud yn siŵr fod cyfleusterau eraill ar gael tra bod y bwrdd iechyd yn cynllunio i adeiladu cyfleuster newydd priodol, gan effeithio'n sylweddol ar gapasiti endosgopi ar y safle. Felly, mae'r Llywodraeth yn cynorthwyo byrddau iechyd pan allwn a phan ddylem wneud hynny, ond mae hyn yn rhan o'r gwaith y mae'n rhaid iddynt ei wneud o ran rheoli a rhedeg ystâd y gwasanaeth iechyd gwladol yn briodol.

Cadw Staff yn y GIG yng Nghymru

3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gadw staff yn y GIG yng Nghymru? OAQ54384

Gwnaf. Mae recriwtio a chadw staff yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru a'r gwasanaeth iechyd gwladol. Mae byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd yn arwain mentrau i wella lefelau cadw staff, megis dychwelyd i weithio a gwella lles staff. Hefyd, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi amrywiaeth o fesurau ar waith i gynyddu'r cyflenwad o weithwyr gofal iechyd proffesiynol.

Diolch, Weinidog. Drwy gwestiynau ysgrifenedig y Cynulliad, deuthum ar draws ffaith frawychus am nifer y nyrsys yng Nghymru: mae 4,727 wedi gadael GIG Cymru ers 2016/17. A gwrandewch: yn 2018/19, roedd mwy o staff yn gadael nag a oedd yn ymuno â'r gwasanaeth. Mae arnom angen mwy o nyrsys cofrestredig i ddarparu gofal, ac fel y mae Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru wedi'i ddweud, mae hyn yn gofyn am ganolbwyntio ar recriwtio a mynd i'r afael â chadw staff. Ar hyn o bryd, fodd bynnag, nid yw recriwtio cynyddol yn gynaliadwy heb wella cyfraddau cadw staff. Felly, Weinidog, a wnewch chi ymrwymo i ymchwilio i weld pam y mae cynifer o staff yn gadael y gwasanaeth yng Nghymru, ac a wnewch chi ddatblygu strategaeth ar gyfer gweithlu'r GIG sy'n canolbwyntio ar ddarparu amodau gwaith diogel a gweithio mwy hyblyg i helpu ein nyrsys gweithgar ledled Cymru?

Efallai fod yr Aelod wedi nodi ac wedi anghofio, wrth ddarllen ei chwestiwn atodol, ein bod wedi siarad am strategaeth ar gyfer gweithlu'r GIG mewn ymateb i ddau gwestiwn yn gynharach heddiw. Rwy'n cydnabod, y llynedd, y flwyddyn ddiwethaf y mae gennym ffigurau ar ei chyfer, fod 65 yn fwy wedi gadael y gweithlu nyrsio nag a ymunodd â'r gweithlu hwnnw; mae hynny'n gwrthgyferbynnu â thuedd gyson o gynnydd yn nifer y nyrsys. Rhwng 2009-18, cododd nifer y nyrsys 3.8 y cant i gyd. Mae'r Aelod yn cyfeirio at ffigurau'r bobl sydd wedi gadael y gwasanaeth, ond wrth gwrs, rydym yn recriwtio bob blwyddyn hefyd. Bydd yr Aelod hefyd yn gwybod ein bod wedi trafod yn rheolaidd yn y Siambr hon y gwaith a wnawn ar geisio recriwtio rhagor o nyrsys. Mae'r ymgyrch 'Hyfforddi Gweithio Byw' wedi bod yn llwyddiannus. A dweud y gwir, mae'r Coleg Nyrsio Brenhinol ei hun wedi canmol yr ymgyrch benodol honno. Mae hefyd yn ffaith ein bod, yn y pum mlynedd diwethaf, wedi cynyddu nifer y lleoedd hyfforddi i nyrsys 68 y cant yng Nghymru. Felly, rydym yn gwneud popeth y gallwn ac y dylem ei wneud i gynyddu nifer y nyrsys sy'n dod i'r proffesiwn, fel yn wir, gyda'r gwaith a wnawn—cyfeiriodd yr Aelod at rywfaint ohono—ar sicrhau bod gennym batrymau mwy hyblyg sy'n adlewyrchu realiti gwaith rhywun i geisio gwneud yn siŵr ein bod yn cadw'r nyrsys sydd gennym ar hyn o bryd hefyd. Y ffactor mawr, wrth gwrs, a fydd yn effeithio ar beth o'n gallu i recriwtio nyrsys yn y dyfodol yw parhad ein perthynas ag Ewrop, lle rydym yn dal i recriwtio a chyflogi nifer o nyrsys o’r Undeb Ewropeaidd a’r ardal economaidd ehangach o fewn teulu'r GIG.

14:45

Weinidog, rwy'n falch iawn o glywed yr ateb rydych chi newydd ei roi, a'r ymdrechion y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud i ddatblygu a hyfforddi mwy o nyrsys ledled yr ardal. Rwy’n siarad â nyrsys—nid nyrsys yn unig, ond gweithwyr proffesiynol eraill ar draws y gwasanaeth iechyd—ac rwyf am ganmol y gwaith a wnânt, oherwydd mae llawer ohonynt, os nad pob un ohonynt, yn mynd y tu hwnt i'w hamodau gwaith arferol ac yn ymdrechu’n galed mewn gwirionedd, ond mae'n dreth ar y nyrsys a staff eraill. Maent yn cyrraedd pwynt lle na allant gymryd mwy, ac felly mae'n rhaid iddynt geisio gadael yn gynnar.

Rydych chi wedi siarad am weithio'n hyblyg. Rwyf wedi codi hyn gyda fy mwrdd iechyd fy hun ar fwy nag un achlysur. A wnewch chi edrych ar gyfleoedd, oherwydd mae rhai o'r nyrsys sy'n gadael ac yn mynd i asiantaethau yn ei wneud oherwydd eu bod eisiau mwy o reolaeth dros yr oriau y maent yn eu gweithio? Maent eisiau’r gallu i gael gwell cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith gyda'u teuluoedd. Felly, a wnewch chi edrych ar hyblygrwydd contractau gwaith fel y gall nyrsys gael hynny o fewn y GIG, heb orfod mynd at asiantaeth i gael y cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith sy'n gwneud gwahaniaeth iddynt? Mae'n dangos eu bod yn cael gofal a pharch gan y system, nid gan y cleifion yn unig.

Rwy'n cydnabod y pwyntiau y mae'r Aelod yn eu gwneud. Mae hyn yn rhywbeth sydd ar wahanol bwyntiau yng nghylch hyfforddi aelodau o staff y gwasanaeth iechyd gwladol, ond hefyd pan fyddant ar wahanol bwyntiau yn eu bywyd gwaith. Dyna pam ei bod hi wedi bod yn bwysig i mi gadw bwrsariaeth y GIG. Gwelsom effaith cael gwared ar y fwrsariaeth yn Lloegr, lle y cafodd effaith drychinebus ar recriwtio nyrsys anableddau dysgu yn benodol, sy'n aml yn fwy tebygol o fod yn nyrsys aeddfed.

Mae yna bwynt hefyd am y patrwm gweithio hyblyg a fydd yn bwysig ar wahanol bwyntiau gwahanol ym mywyd rhywun, boed yn ymwneud â chyfrifoldebau gofalu am oedolion neu blant, neu fod pobl eisiau bod ar gam gwahanol o'u bywydau tuag at ddiwedd eu gyrfa hefyd, oherwydd rydym yn dibynnu ar ewyllys da'r staff i ddarparu'r gwasanaeth

Felly, ydy, mae hynny'n rhan o'r hyn yr ydym yn ei ystyried, nid ar gyfer y dyfodol pell yn unig, ond mae'n rhan o'r hyn y mae byrddau iechyd eisoes yn ceisio mynd i'r afael ag ef heddiw. Ond mae'n mynd yn ôl at un o'r pwyntiau a wneuthum i Dai Lloyd am ein gallu i ddiwygio'r system gyfan fel y credwn y gallem ac y dylem ei wneud, a pha mor gyflym y gallwn ei wneud, gan fod hon yn flaenoriaeth yn awr, ac nid mewn dwy neu dair blynedd yn unig.

Cyfraddau Marwolaethau oherwydd Canser

4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyfraddau marwolaethau oherwydd canser yng ngogledd Cymru? OAQ54387

Gwnaf. Mae cyfraddau marwolaethau oherwydd canser yn gwella ledled Cymru, gan gynnwys yn y gogledd. Mae'r gyfradd safonedig Ewropeaidd o farwolaethau yn ôl oed ar gyfer canser yng ngogledd Cymru wedi gostwng o 348.3 ym mhob 100,000 yn 2001 i 276 erbyn 2017. Mae hwnnw'n ostyngiad o 21 y cant dros 17 mlynedd.

Mae'r ystadegau hynny i'w croesawu'n fawr, ond yn anffodus, fel y gŵyr y Gweinidog, rydym yn dal ymhell y tu ôl i wledydd eraill o ran ein cyfraddau goroesi pum mlynedd. Mewn gwirionedd, ar gyfer canser y coluddyn, rydym yn bumed ar hugain allan o 29 o wledydd yn Ewrop o ran y gyfradd oroesi pum mlynedd. Fe fyddwch yn gwybod bod dal canser yn gynnar yn hollbwysig i obaith pobl o oroesi. Mae Cancer Research UK wedi nodi eich bod dair gwaith yn fwy tebygol o oroesi eich canser os ydych yn cael diagnosis yng ngham 1 neu 2, yn hytrach na cham 3 neu 4.

Felly, er mwyn hybu'r gwelliant yn y gyfradd farwolaethau, mae'n amlwg fod angen inni fynd i'r afael â rhai o'r problemau a wynebwn yn y gweithlu diagnostig. Gwyddom, er enghraifft, fod prinder radiograffwyr, meddygon ymgynghorol a nyrsys endosgopi arbenigol yng Nghymru. A allwch ddweud wrthym pa gamau penodol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r prinder yn y gweithlu er mwyn inni allu hybu lefelau diagnosis cynnar i wella'r cyfraddau marwolaethau a'n symud o'r gwaelod i frig rhai o'r rhestrau Ewropeaidd hyn?

Rwy'n credu mai'r un cwestiwn yn fras a ofynnodd John Griffiths yn gynharach, oherwydd, wrth gwrs, rydym—. Cyfeiriais ato gynnau—yr ymateb i adroddiad y pwyllgor ar endosgopi. Mae'n nodi'r camau yr ydym yn eu cymryd ac y mae angen inni eu cymryd ar gyfer ehangu'r gweithlu. Rwyf wedi cyfarfod â nifer o staff sy'n cymryd rhan yng ngwaith y bwrdd endosgopi ynglŷn â'r gwaith y maent am ei wneud. Mae defnyddio'ch pwynt yma am ofal iechyd darbodus—gwneud yr hyn y gallwch ei wneud yn unig—yn golygu y dylai meddygon, sef yr unig weithlu, fwy neu lai, a oedd yn ymgymryd â'r maes yn y gorffennol, fod yn gwneud llai a llai o'r triniaethau hynny. Mae angen inni hyfforddi mwy a mwy o endosgopyddion nyrsio ac eraill.

Mewn gwirionedd, o fewn arweinyddiaeth y proffesiwn, ceir cydnabyddiaeth mai dyna y dylem ei gael—mae angen i ni gynllunio i wneud hynny. Mae'r un peth yn wir am ein gweithwyr proffesiynol ym maes delweddu hefyd. Dyna pam y mae'r academi ddelweddu mor bwysig i ni. Felly, mae camau penodol ar y gweill gennym. Rydym yn disgwyl gweld mwy ohonynt yn strategaeth y gweithlu pan ddaw honno. Gallwch hefyd ein gweld yn gwneud dewisiadau buddsoddi i gefnogi'r strategaeth honno, nid yn unig yn y gyllideb ar gyfer eleni, ond yn y dyfodol.

14:50
Cyfraddau Dibyniaeth ar Gyffuriau ac Alcohol

5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyfraddau dibyniaeth ar gyffuriau ac alcohol yng Nghymru? OAQ54393

Hoffwn ddechrau drwy longyfarch Jayne Bryant, ac yn arbennig, Mr Bryant, ar ei ddewis rhagorol, a dymuno'r gorau i chi ar gyfer y dyfodol.

Roedd rhwng 42,000 a 58,500 o bobl yn defnyddio cyffuriau mewn ffordd broblemus yn 2015-16. Yn ôl arolwg cenedlaethol Cymru ar gyfer y flwyddyn wedyn, roedd yna 81,392 o yfwyr niweidiol. Dylwn egluro mai'r diffiniad o yfwyr niweidiol yw dynion sy'n yfed dros 50 uned yr wythnos a menywod sy'n yfed dros 35 uned yr wythnos, ond nid yw pob yfwr niweidiol yn ddibynnol ar alcohol.

Diolch am yr ateb hwnnw i gyd, Weinidog. [Chwerthin.]

Gyda fy nghyd-Aelod John Griffiths, ymwelais â phrosiect Kaleidoscope a gwasanaeth cyffuriau ac alcohol Gwent yng Nghasnewydd yr wythnos diwethaf. Un gwasanaeth integredig sy'n darparu gwasanaethau camddefnyddio sylweddau yng Ngwent yw GDAS. Yn anffodus, maent wedi gweld cynnydd mawr mewn atgyfeiriadau a chynnydd yn nifer y bobl hŷn sy'n ddibynnol ar alcohol. Er bod pob marwolaeth y gellir ei hosgoi yn un yn ormod, yn ôl ffigurau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol, mae nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig â chamddefnyddio cyffuriau yn ardaloedd awdurdodau lleol Gwent ymhlith yr isaf yng Nghymru. Sefydlwyd rhaglenni triniaeth GDAS ar gyfer adferiad. Maent yn sicrhau bod pobl yn gallu cael mynediad at bresgripsiynau cyfnewid o fewn ffrâm amser sy'n briodol i'w hangen. A wnaiff y Gweinidog ymuno â mi i ganmol y gwaith y mae GDAS yn ei wneud ac edrych ar sut y gallwn rannu'r gwaith hwn ar draws rhannau eraill o Gymru?

Yn sicr. Rwyf wedi ymweld â Kaleidoscope fy hun yn ystod fy amser yn y swydd fel Gweinidog i weld drosof fy hun rywfaint o'r gwaith y maent yn ei wneud ar amrywiaeth o feysydd, gan gynnwys cyffuriau sy'n gwella delwedd ac amrywiaeth o wahanol fathau o ddibyniaeth a heriau y mae pobl yn eu hwynebu. Mae'n rhan o'n dull o ddod â'r trydydd sector a chyrff statudol at ei gilydd mewn byrddau cynllunio ardal i ddeall pa wybodaeth leol sydd ei hangen, ac yna i wneud dewisiadau buddsoddi yn unol â hynny. Felly, ni chânt eu gwneud yn ganolog gan Lywodraeth Cymru, ond mewn gwirionedd rydym wedi cynyddu'r gyllideb sydd ar gael i fyrddau cynllunio ardal er mwyn darparu gwasanaethau rheng flaen. Felly, ydy, mae'n enghraifft dda o fodel sy'n gweithio. Mae'n enghraifft dda hefyd o'r angen parhaus yn y gwasanaethau hynny, ac mae angen i ni adolygu'n barhaus ein gallu i gefnogi gwaith rheng flaen ymhellach, yn ogystal, wrth gwrs, â'r galw a'r rhesymau dros y galw hwnnw sy'n wynebu ein gwasanaethau.

Weinidog, yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae marwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau yng Nghymru ar eu lefelau uchaf. Maent yn dweud bod nifer y bobl sy'n marw o wenwyn cyffuriau wedi cynyddu 78 y cant yn y 10 mlynedd diwethaf yn unig. Dywedant hefyd y bu cynnydd yn nifer y bobl ifanc sy'n marw o sylweddau fel cocên. O gofio y gall gofyn am gymorth yn gynnar atal y broblem a'r ddibyniaeth rhag gwaethygu, Weinidog, pa gamau y byddwch yn eu cymryd i fynd i'r afael â phroblem dibyniaeth ar gyffuriau yng Nghymru yng ngoleuni'r canfyddiadau brawychus hyn?

Unwaith eto, dyna pam ein bod yn buddsoddi mwy yn ein gwasanaethau rheng flaen, nid yn y pen triniaeth yn unig, ond mewn rhaglenni ar y cyd â phartneriaid eraill—mae'r heddlu'n bartneriaid amlwg yn y maes hwn—o ran ceisio ymyrryd yn gynnar. Ni cheir ateb hawdd, fodd bynnag, oherwydd, wrth gwrs, mae llawer o'r rhesymau pam fod pobl yn ddibynnol ar gyffuriau ac alcohol y tu allan i gyrhaeddiad y gwasanaeth iechyd. Felly, nid yw'r her yn un i'r gwasanaeth iechyd yn unig o ran yr ymyrraeth a'r gwaith atal cynharach hwnnw, ac yn sicr, nid her addysg yn unig ydyw; mae'n ymwneud â'r pwysau a'r straen ehangach sydd ar bobl, a sut yr awn i'r afael â rhai o'r rheini. Mae hynny'n cynnwys, er enghraifft, y sylweddau newydd sy'n ymddangos yn rheolaidd ar y strydoedd.

Felly, mae yna raglen waith eang. Mae'n ymwneud â gweithio gyda phartneriaid ar y neges atal, yn ogystal â chael ymateb mwy effeithiol pan fydd pobl angen triniaeth. Yn hynny o beth, mae ein rhaglenni camddefnyddio sylweddau yn dangos eich bod yn fwy tebygol o gael triniaeth a chymorth arbenigol yng Nghymru nag yn Lloegr. Mewn gwirionedd, amcangyfrifodd Coleg y Brenin, Llundain ym mis Gorffennaf eleni eich bod 2.5 yn fwy tebygol o gael y cymorth iechyd arbenigol hwnnw a'i gael yn gyflymach hefyd.

Gwasanaeth Profi a Thrin Dolur Gwddf

6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyflwyno'r gwasanaeth profi a thrin dolur gwddf? OAQ54359

Gwnaf. Ers i'r peilot profi a thrin dolur gwddf ddechrau gyda 58 o fferyllfeydd ym mis Tachwedd y llynedd, cofnodwyd 3,655 o ymgynghoriadau. Dim ond mewn 752 o achosion y cafodd gwrthfiotigau eu presgripsiynu, neu 21 y cant. Rwyf wrth fy modd fod y peilot profi a thrin dolur gwddf wedi ennill y categori arloesedd a thechnoleg yng Ngwobrau Gwarcheidwaid Gwrthfiotig 2019 eleni. Mae hyn yn dangos bod Cymru ar flaen y gad o ran arloesi a buddsoddi mewn fferylliaeth gymunedol.

14:55

Diolch i chi am eich ymateb, Weinidog, ac fel y soniodd fy nghyd-Aelod, Vikki Howells, yn ystod y cwestiynau ddoe, rwyf innau hefyd wedi ymweld â fferyllfeydd cymunedol rhagorol yn fy etholaeth i, sef Alun a Glannau Dyfrdwy, ac mae gwaith gwych wedi'i wneud yno ar ddatblygu a chyflwyno'r gwasanaeth profi a thrin dolur gwddw arloesol.

Nawr, pan gyfarfûm â staff yn ddiweddar, nodwyd dau fater penodol yr hoffwn i chi roi sylw iddynt, yn briodol heddiw, rwy'n credu, Weinidog, o gofio ei bod yn Ddiwrnod Fferyllwyr y Byd. Yn gyntaf, ar fater hyfforddiant, er y bydd cyflwyno'r rhaglen yn rhan hanfodol o'r gwaith o ymdopi â phwysau'r gaeaf, mae yna bryder na fydd fferyllwyr cymunedol yn cael eu hyfforddi mewn gwirionedd tan y flwyddyn newydd. Weinidog, beth y mae'r Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau eu bod yn cael eu hyfforddi'n gyflymach fel y gall pobl brofi manteision llawn y prawf?

Yn olaf, Weinidog, o ran cyflwyno'r rhaglen yn gyffredinol, rwy'n falch iawn mai Betsi Cadwaladr sydd wedi cyflwyno'r lefel uchaf o'r gwasanaeth hwn, sy'n stori wych i'r bwrdd iechyd ond hefyd i bobl yng ngogledd Cymru. Mae'r profion wedi arwain, fel y sonioch chi, at ostyngiad o 80 y cant yn y defnydd o wrthfiotigau, ac wedi cael ymateb cadarnhaol o 95 y cant yn fras gan gleifion, gan gynnwys un o fy etholwyr, Molly, a ddaeth ataf ar y stryd ac a grybwyllodd y prawf gan ei argymell i mi. Felly, mae'n ffordd wych ymlaen i Gymru, ond yr hyn sy'n bwysig yw ei fod o fudd i bawb yng Nghymru. Felly, Weinidog, beth y mae'r Llywodraeth yn ei wneud i gael mwy o gysondeb a llai o amrywioldeb o ran y modd y caiff y rhaglen ei chyflwyno gan fyrddau iechyd ledled Cymru?

Diolch i chi am y cwestiwn a'r pwyntiau a wnaethoch. Roeddwn yn ymwybodol fod eich cymydog yn y Siambr wedi codi mater tebyg mewn cwestiynau busnes ddoe. Byddaf yn darparu datganiad ysgrifenedig, gan nodi rhagor o'r manylion am yr hyn a wnawn ar gyflwyno'r gwasanaeth hwn, ond mae'n werth rhoi sylw i'ch pwynt am hyfforddiant hefyd. Rwyf wedi buddsoddi £4.5 miliwn yn y gwaith o hyfforddi fferyllwyr yn y dyfodol i sicrhau bod gennym weithlu cynaliadwy, a bydd hynny'n parhau dros yr ychydig flynyddoedd nesaf gan arwain at bron i ddwywaith nifer y lleoedd hyfforddiant fferyllol yng Nghymru.

Yn ystod blynyddoedd diwethaf y contract fferylliaeth, rydym eisoes wedi buddsoddi symiau o arian yn y gweithlu sydd gennym ar hyn o bryd. Y cynllun ar gyfer cyflwyno'r prawf gweld a thrin dolur gwddw yw ein bod yn disgwyl i 50 y cant o fferyllfeydd cymunedol ledled Cymru allu darparu hynny drwy'r gaeaf. Ac nid menter pwysau'r gaeaf yn unig ydyw; mewn gwirionedd, mae'n rhan o'r ystod safonol o wasanaethau y disgwyliwn eu gweld yn cael eu darparu mewn fferyllfeydd cymunedol. Mae'r rhain yn lleoliadau cyfleus, wedi'u sefydlu'n dda o fewn cymunedau, gyda gweithwyr proffesiynol dibynadwy sydd â pherthynas â phobl, felly byddwch yn gweld mwy o fuddsoddi yn nyfodol fferyllfeydd cymunedol. Un enghraifft yn unig yw hyn. Rwy'n falch o ddarparu'r datganiad ysgrifenedig y gofynnodd y Trefnydd i mi ei lunio, a byddaf yn gallu rhoi'r manylion y credaf eich bod chi a'ch cyd-Aelodau yn chwilio amdanynt.

Rwy'n hapus iawn ar yr achlysuron pan fydd hyd yn oed Aelodau'r gwrthbleidiau'n cymeradwyo gweithred gan Lywodraeth Cymru, ac rwy'n credu bod hwn yn gynllun da. Sylwaf yn rhifyn mis Awst o 'Clinical Pharmacist' fod y cynllun yn cael ei werthuso a'i ganmol ac mae'n enghraifft o arloesedd a gwellhad go iawn. Ers blynyddoedd lawer, rydym wedi bod yn ceisio cael pobl â mân anhwylderau i geisio cyngor fferyllydd—poen gwaelod y cefn, insomnia. Ceir amrywiaeth eang o bethau lle mae eich fferyllydd yn aml yn bwynt cyswllt cyntaf. Felly, rwy'n gobeithio y byddwn yn gweld hynny'n parhau. Ond mae'n gynllun addawol iawn, felly rwy'n ei gymeradwyo.

Wel, diolch yn fawr, a dylwn ailadrodd—gwn fy mod wedi dweud yn y Siambr hon droeon, pan oeddwn yn Ddirprwy Weinidog ac yn wir, yn fy rôl bresennol—fod hyn wedi'i adeiladu ar gefn y buddsoddiad yn y platfform Dewis Fferyllfa. Mae hwnnw bellach ar gael mewn 98 y cant o fferyllfeydd. Mae'n caniatáu inni fuddsoddi mewn gwasanaethau gwahanol ac ychwanegol o fewn y sector fferylliaeth gymunedol. Felly, rwy'n obeithiol ynglŷn â'n gallu nid yn unig i symud ymlaen â'r enghraifft benodol hon, ond y byddwn, yn y dyfodol, yn gweld mwy o'r gwasanaethau hynny'n cael eu darparu gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol o fewn y gymuned.

Camddefnyddio Cyffuriau

7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyfraddau marwolaethau sy’n gysylltiedig â chamddefnyddio cyffuriau ym Môn? OAQ54389

Diolch am y cwestiwn. Mae unrhyw farwolaeth sy'n gysylltiedig â chyffuriau yn drasiedi, ac rydym wedi cynyddu ein buddsoddiad i fynd i'r afael â chamddefnyddio sylweddau. Y cyfraddau marwolaeth ar gyfer camddefnyddio cyffuriau yn Ynys Môn yw 6.4 y 100,000, ychydig yn is na chyfartaledd Cymru, sef 7.2. Er bod amrywiad yn y pwyntiau canran hynny, mae hyn mewn gwirionedd yn dangos bod dwy farwolaeth ychwanegol yn gysylltiedig â chyffuriau, neu farwolaethau camddefnyddio cyffuriau, ar Ynys Môn yn y ffigurau diweddaraf.

15:00

Dwi wedi dod yn ymwybodol o beth sy'n ymddangos yn batrwm pryderus iawn o farwolaethau ym Môn yn y cyfnod diweddar. Dwi'n dweud fy mod i wedi dod yn ymwybodol o hyn, achos, cyn belled ag ydw i'n gwybod, does yna ddim cyhoeddusrwydd wedi bod am hyn. Beth dwi wedi'i gael ydy pobl yn ein cymunedau ni'n siarad efo fi i rannu eu pryderon nhw, ac maen nhw'n gweld y patrwm. Dwi'n meddwl fy mod i'n iawn i ddweud bod yna bump o farwolaethau wedi bod yn ardal Llangefni mewn cyfnod byr yn ddiweddar. A'r ofn, yn benodol, ydy bod camddefnyddwyr cyffuriau wedi bod yn cyfuno'r cyffur benzodiazepine efo sylweddau eraill efo canlyniadau trasig.

Rŵan, o wneud ymholiadau efo'r heddlu a'r crwner, mae'n ymddangos nad oes data'n cael eu cadw ar y cyffur penodol yna fel achos marwolaeth am ei fod o'n cael ei gyfrif fel contributory factor yn unig. Allaf i ofyn i'r Llywodraeth i edrych i mewn i'r marwolaethau yma i ymchwilio i'r posibilrwydd bod yna batrwm yma? Gaf i ofyn pa waith sydd yn cael ei wneud i adnabod faint o broblem ydy cymryd cyfuniad o gyffuriau? Ac a allaf i apelio am gymorth ychwanegol sydd wirioneddol ei angen ar frys, yn amlwg, er mwyn gallu cynnig help i'r rheini sydd yn gaeth i gyffuriau, rhai ohonyn nhw ers blynyddoedd lawer, fel ein bod ni'n gallu atal marwolaethau o'r fath?

Fel nad wyf yn camddeall yr union bwyntiau y mae'r Aelod yn eu codi o safbwynt gwybodaeth a phryderon lleol, buaswn yn ddiolchgar pe bai'n ysgrifennu ataf fel y gallaf sicrhau, ai'r Llywodraeth—neu yn wir, ofyn i'r bwrdd cynllunio ardal edrych ar hyn gyda'u gwybodaeth leol eu hunain hefyd. Mae'r ffigurau a ddyfynnais yn gynharach yn cyfeirio at y ffigurau a gyhoeddwyd yn 2018, felly mae'n bosibl fod yr Aelod yn cyfeirio at farwolaethau sy’n gysylltiedig â chamddefnyddio cyffuriau sydd wedi digwydd ar ôl hynny. Felly, buaswn yn ddiolchgar iawn pe bai'n ysgrifennu ataf. Fe edrychaf ar hynny ac fe ysgrifennaf ato i egluro sut y byddwn naill ai'n edrych ar hynny o fewn y Llywodraeth, neu yn wir, sut y mae'r wybodaeth yn cael ei rhannu a sut y caiff ymateb ei geisio gan y bwrdd cynllunio ardal.

Ers i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ei strategaeth 10 mlynedd ar gyfer camddefnyddio sylweddau yn 2008 i leihau a mynd i’r afael â'r niwed sy’n gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau yng Nghymru, mae marwolaethau sy'n gysylltiedig â chamddefnyddio cyffuriau ledled Cymru wedi codi o 569 i 858: ar Ynys Môn, mewn gwirionedd—hyd at y ffigurau a gyhoeddwyd ym mis Awst gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol—ychydig yn well, i lawr o 10 i wyth, ond ledled gogledd Cymru, i fyny o 81 i 98. A datgelodd ffigurau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol ym mis Awst mai Cymru oedd â'r ffigurau uchaf ond un ymhlith y 10 ardal—naw yn Lloegr, a Chymru—y cynnydd mwyaf ond un o ran y gyfradd dros y 10 mlynedd diwethaf, sef 84 y cant, a'r gyfradd farwolaethau safonedig yn ôl oedran uchaf ond un o ran marwolaethau sy'n gysylltiedig â chamddefnyddio cyffuriau yn ôl gwlad a rhanbarth. Nid yw'n ddarlun da.

Pam fod Llywodraeth Cymru yn dal i fethu mynd i’r afael â’r argymhellion a wnaed mewn cyfres o adroddiadau a gomisiynwyd yn ystod yr ail a’r trydydd Cynulliad ar drin camddefnyddio sylweddau yng Nghymru, yn enwedig dadwenwyno a chymorth adsefydlu, i fynd i’r afael â’r problemau a nodwyd gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a’u hadolygiad ym mis Gorffennaf 2018—10 mlynedd ar ôl y strategaeth—fod pobl yn ei chael hi'n anodd cael y driniaeth yr oeddent ei hangen drwy wasanaethau presgripsiynu meddyginiaeth gyfnewid a dadwenwyno, gwasanaethau adsefydlu a gwasanaethau cwnsela oherwydd amseroedd aros hir a diffyg capasiti yn y gwasanaethau? Cafodd yr atebion eu nodi—pam ein bod yn dal i aros?

Mewn gwirionedd, mae'r data ar amseroedd aros yn dangos ein bod, yn ystod 10 mlynedd olaf y strategaeth camddefnyddio sylweddau, wedi gweld gwelliant sylweddol o ran amseroedd aros—mae 91.5 y cant o bobl yn dechrau triniaeth ac yn cael eu gweld o fewn 20 diwrnod gwaith i gael eu cyfeirio, o gymharu â 73 y cant 10 mlynedd yn ôl. A'n her ni yw'r hyn y gall ein gwasanaeth ei wneud, o gymharu â'r galw a'r angen sy'n ei wynebu a'r heriau ehangach y tu hwnt i'r gwasanaeth iechyd sydd angen ymateb gan y gwasanaeth iechyd yn y pen draw. Felly, ni chredaf fod y darlun mor syml â'r un y mae Mark Isherwood yn ei baentio, ac nad yw'n fater o'r gwasanaeth iechyd yn methu gwneud ei waith. Mae'n ymwneud â sut y gallwn sicrhau y caiff pobl eu gweld a'u trin mewn modd amserol. Mae'n ymwneud hefyd â'r ymdrech y gallwn ei gwneud fel cymdeithas gyfan mewn perthynas â heriau camddefnyddio cyffuriau ac alcohol, ac rwy'n cydnabod bod gormod o farwolaethau sy'n gysylltiedig â chamddefnyddio cyffuriau ac alcohol yn digwydd. Mae'n rhan o'r rheswm pam ein bod wedi ailymrwymo i strategaeth camddefnyddio sylweddau yn y dyfodol a dyma pam hefyd, o ran alcohol, er enghraifft, ein bod wedi ymrwymo i roi camau ar waith ar bris alcohol fel mesur pwysig i leihau marwolaethau.

Ardoll Gofal Cymdeithasol

8. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith traws-lywodraethol sy'n ystyried ardoll gofal cymdeithasol? OAQ54380

15:05

Gwnaf, a hoffwn ddiolch i'r Aelod am ei waith o fewn y Llywodraeth ar fwrw ymlaen â'r gwaith ar draws y Llywodraeth ar ardoll gofal cymdeithasol bosibl. Rwyf bellach yn cadeirio'r bwrdd gweinidogol, a thros y chwe mis diwethaf, rydym wedi ystyried dulliau posibl o godi a dosbarthu cyllid ychwanegol posibl. Rydym yn canolbwyntio ar hyn o bryd ar egwyddorion meysydd blaenoriaeth ar gyfer unrhyw gyllid, ac edrychaf ymlaen at fod mewn sefyllfa i ysgrifennu at y pwyllgor iechyd a gofal cymdeithasol gyda chynigion amlinellol, y byddwn yn ymgynghori arnynt yn eang.

Mae hynny'n newyddion i'w groesawu'n fawr, Weinidog, ac rwy'n falch fod y gwaith yn mynd rhagddo mewn ffordd ystyriol a phwyllog, gan na allwn ruthro hyn. Ond fe fydd yn deall, gyda'r Papur Gwyrdd gofal cymdeithasol yn Llywodraeth San Steffan yn dal i ddiflannu dros y gorwel fel rhyw fath o rith, ei bod yn hanfodol bwysig ein bod yn gwneud y gwaith yma yng Nghymru, gan fy mod amau y bydd angen i ni greu ein hatebion ein hunain ar ryw bwynt. Bu sôn hefyd, wrth gwrs, yn Llywodraeth Cymru am wasanaeth gofal cenedlaethol a fyddai’n darparu llwybr gyrfa gwerthfawr i bobl sy’n gweithio ym maes gofal, yn debyg i’r hyn sydd ar gael yn y gwasanaeth iechyd, yn hytrach nag fel dewis amgen, fel y nodir mor aml, yn lle stacio silffoedd neu beth bynnag—credaf fod hynny'n difrïo'r gweithlu, mewn gwirionedd, ond gwyddom beth y mae'r ymadrodd hwnnw'n ei olygu. Felly, a all ddweud wrthym sut y bydd yn bwrw ymlaen â'r gwaith hwn wrth iddo fynd rhagddo, wrth iddo weld rhai o ganlyniadau'r ffrydiau gwaith, mewn ffordd drawsbleidiol? Oherwydd yr hyn a wyddom yw bod hyn wedi mynd benben, yn enwedig ar lefel y DU, â gwleidyddiaeth tymor byr a chylchoedd etholiadol yn llawer rhy aml yn y gorffennol. Er mwyn bwrw ymlaen â hyn yng Nghymru, os daw hi i hynny, bydd yn rhaid i ni gael cydsyniad trawsbleidiol yma yn y Senedd hon er mwyn gwneud hynny.

Ie, rwy'n cydnabod y pwynt a wnaeth yr Aelod, ac mewn gwirionedd, cyn ymgynghori ar awgrymiadau amlinellol ynglŷn â sut y gallem godi a gwneud defnydd o gyllid—ac wrth gwrs, mae cyfraddau cyflogau staff yn rhan o hynny—byddaf eisiau gallu cael sgwrs gyda Chadeiryddion ein pwyllgorau pwnc yma. Bydd fy swyddfa'n cysylltu i geisio trefnu sgwrs, a byddwn hefyd yn cynnig sesiwn friffio dechnegol i'r pwyllgor iechyd a gofal cymdeithasol er mwyn edrych ar rai o'r modelau hynny fel ein bod yn agored am yr hyn yr ydym yn sôn amdano, ac yn gwneud hynny mewn ffordd sy'n rhoi cyfle go iawn i ni fwrw ymlaen â hyn mewn ffordd nad yw'n arwain at ornest bleidiol. Oherwydd, ni waeth beth yw ein barn am Lywodraeth bresennol y DU—ac mae nifer o safbwyntiau i'w cael—nid yw'n debygol y bydd gennym Bapur Gwyrdd ar ofal cymdeithasol ar unrhyw adeg yn y dyfodol agos, felly mae angen i ni wybod beth y gallwn ei wneud yng Nghymru gyda'r pwerau sydd gennym.

Ar y pwynt hwn, ar sail drawsbleidiol, mae Aelodau ar y meinciau cefn yn San Steffan wedi dod at ei gilydd a chytuno y dylent godi arian ychwanegol i'w roi yn y system gofal cymdeithasol. Roedd honno'n farn unfrydol gan ddau bwyllgor dethol a ddaeth ynghyd, gan gynnwys aelodau o’r Blaid Geidwadol, Llafur ac eraill hefyd, a gytunodd fod angen i chi godi arian. Felly, ceir parodrwydd i edrych am hynny ar lefel y DU, ond credaf, yng Nghymru, y bydd angen i ni edrych ar hynny cyn i ni gyrraedd y pwynt hwnnw. Yna, os gwneir cynnydd ar unrhyw adeg yn y dyfodol, gallwn ystyried ffrydiau ariannu'r DU a'r hyn y gallai hynny ei olygu. Ond ydw, rwy'n fwy na pharod i nodi nawr, a byddaf yn dilyn hynny gyda sgyrsiau rhwng fy swyddfa a'r pwyllgor, ac yn wir, rwy'n gobeithio y byddai llefarwyr y pleidiau'n agored i sgwrs am hynny pan fydd gennym y cynigion amlinellol hynny, gan nad oes unrhyw beth wedi'i bennu na'i benderfynu ar hyn o bryd.

Diolch, Lywydd. Weinidog, mae gennym eisoes bobl sy'n gadael Cymru i fyw mewn rhannau eraill o'r gwledydd cartref er mwyn gallu cael gafael ar gyffuriau na allant gael gafael arnynt yma. Felly, o ystyried araith Jeremy Corbyn yn y gynhadledd, pan soniodd am gael gofal cymdeithasol am ddim yn y man darparu, a allech gadarnhau p'un a yw hynny'n un o'r ffrydiau gwaith y mae'r grŵp trawsbleidiol hwn yn gweithio arnynt ar hyn o bryd ai peidio? Os felly, a ydynt yn edrych ar y costiadau hefyd, er mwyn atal y torfeydd rhag gadael Cymru?

Ni chredaf y dylai unrhyw beth a drafodwyd ddoe arwain at dorfeydd yn gadael Cymru, ac nid wyf yn cydnabod yr hyn a ddywedodd yr Aelod am dorfeydd yn gadael Cymru ar sail argaeledd meddyginiaeth. Mae gennym hanes da iawn o ran argaeledd meddyginiaeth newydd ac effeithiol, fel y mae ein cronfa triniaethau newydd lwyddiannus yn ei ddangos. Ond o ran eich pwynt ynglŷn â gofal cymdeithasol, pan fyddwn yn rhannu cynigion ymgynghori amlinellol, byddant yn cynnwys syniad ynglŷn â'r math o gronfeydd y byddai angen i hynny ei ddarparu. Felly, byddwn yn agored gyda'n gilydd ynglŷn â'r hyn y gallai gwahanol opsiynau ei olygu o ran sut y defnyddiwn gyllid, yn ogystal â sut y gallech godi'r cyllid hwnnw. Felly, iawn, os ydych am fabwysiadu ymagwedd fwyafsymiol o ran cael gymaint o ofal cymdeithasol â phosibl, bydd modd inni nodi'r hyn a fyddai'n angenrheidiol er mwyn gwneud hynny, a byddwn yn mynd ati i ymgynghori ar sail eang. Yn sicr, byddaf yn awyddus i ddefnyddio'r paneli dinasyddion sydd i'w cael o amgylch pob bwrdd partneriaeth rhanbarthol, ynghyd â'r gymysgedd o bleidiau sy'n arwain awdurdodau lleol. Bydd gan bob un ohonynt eu cyfran yn hyn, ac mewn gwirionedd, mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn rhan o'r gwaith a wnawn ar fwrdd y rhaglen. Felly, mae'r gwaith yn mynd rhagddo ar sail wirioneddol draws-sector—a thrawsbleidiol hefyd yn wir, fel y bydd yr Aelod yn falch iawn o glywed, rwy'n siŵr.

15:10
3. Cwestiynau Amserol

Yr eitem nesaf yw cwestiynau amserol. Dwi wedi dewis un cwestiwn i'w ofyn i'r Gweinidog Economi a Thrafnidiaeth, ac mae'r cwestiwn gan Bethan Sayed.

Thomas Cook

1. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu'r rhai sydd wedi cael eu heffeithio gan y ffaith bod Thomas Cook yn cau? 341

Lywydd, a gaf fi ddweud ei bod yn hynod siomedig fod Thomas Cook wedi mynd i'r wal? Rwy'n cydymdeimlo, wrth gwrs, gyda phawb yr effeithir arnynt gan y cyhoeddiad. Cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig ddoe a oedd yn amlinellu’r ystod o gamau rwyf wedi'u cymryd, ac mae fy swyddogion, wrth gwrs, yn cadw mewn cysylltiad agos iawn â Maes Awyr Caerdydd, Llywodraeth y DU ac amryw asiantaethau eraill.

Diolch yn fawr iawn am y datganiad ysgrifenedig hwnnw. Gan ddechrau ar bwynt cadarnhaol, hoffwn ofyn i chi ymuno â mi i ganmol Elaine Kerslake o'r Gilfach Goch, a aeth ati i godi arian ar daith awyr yn ôl adref gyda Thomas Cook pan sylweddolodd nad oedd y staff yn cael eu talu. Felly, a fyddech yn awyddus i'w chanmol am wneud hynny? Ond hefyd, a wnewch chi ymuno â mi, felly, i ofyn i reolwyr a phrif weithredwyr Thomas Cook, a enillodd £35 miliwn mewn 12 mlynedd mewn taliadau bonws, yn ôl adroddiadau, er gwaethaf y problemau ariannol roeddent yn eu hwynebu—a wnewch chi ofyn iddynt ad-dalu—ymuno â mi i ofyn iddynt ad-dalu'r taliadau bonws hynny yn wyneb y sefyllfa arbennig o sensitif hon, lle rydym yn darganfod nad yw staff Thomas Cook yn cael eu talu pan fo'r prif weithredwyr hynny wedi elwa o gwymp y cwmni hwnnw?

Fy nghwestiwn arall i chi fyddai—yn fy ardal i o leiaf, mae llawer o siopau Thomas Cook a bydd yr effaith ar y staff yn wael. Gwn eich bod yn sôn yn eich datganiad ysgrifenedig ynglŷn â sut y byddwch yn cefnogi staff, ac rwy'n ddiolchgar am hynny, ond a allech ymhelaethu ar hynny, a hefyd sut y byddech o bosibl yn cefnogi'r seilwaith o amgylch y siopau hynny ar ein stryd fawr y bydd angen eu helpu yn y dyfodol—a all asiantau teithio eraill neu gwmnïau eraill o'r fath eu cymryd drosodd, gan y gallai hynny gynorthwyo'r stryd fawr—a dweud ychydig mwy wrthym ynglŷn â sut y bydd staff yn gyffredinol yng Nghymru yn cael eu cefnogi?

Nawr, gŵyr pob un ohonom am yr effaith ar deithwyr, ac mae llawer ohonynt wedi dod ataf, ond gwnaeth un achos penodol i mi bryderu—ni allai un o fy etholwyr ddod adref ar yr awyren a ddynodwyd ar eu cyfer i Gaerdydd oherwydd anableddau, ac felly bu'n rhaid iddynt dalu am eu taith awyr eu hunain. A allwch roi sicrwydd inni eich bod yn ymchwilio i'r mathau hyn o sefyllfaoedd fel y gall teithwyr deithio yn ôl yn y cyfforddusrwydd sydd ei angen arnynt a chyda'r gefnogaeth sydd ei hangen arnynt os oes ganddynt yr anableddau hynny? Ni allwn anghofio'r bobl sy'n ddiamddiffyn pan fyddant yn ceisio teithio adref. Ond hoffwn rannu—gyda phawb arall, rwy'n siŵr, yn y Siambr hon—pa mor drist yr ydym fod hyn wedi digwydd a sut y gallwn fel gwlad, o bosibl, gefnogi'r staff hynny a'r rhai yr effeithir arnynt.

A gaf fi ddiolch i Bethan Jenkins am ei chwestiynau a'r pryderon a fynegwyd ganddi, nid yn unig o ran y rhai yr effeithiwyd arnynt sydd wedi bod yn teithio gyda Thomas Cook, ond hefyd o ran gweithwyr y cwmni? Hoffwn gofnodi fy niolch i'r ddynes garedig o'r Gilfach Goch a helpodd i godi arian i bobl sy'n wynebu diweithdra. Roedd honno'n weithred anhunanol, yn fy marn i, a chredaf fod ymateb y teithwyr eraill ar yr awyren yn anhygoel.

A gaf fi hefyd gofnodi fy niolch i'r Awdurdod Hedfan Sifil a'r Swyddfa Dramor a Chymanwlad? Pan ddechreuodd Ymgyrch Matterhorn, cafwyd ymdrech aruthrol i ddod â 150,000 o bobl yn ôl i'r Deyrnas Unedig, a dywedodd Gweinidogion Llywodraeth y DU a minnau'n glir na fyddai hon yn dasg hawdd, ond mae'r ffordd y mae'r Awdurdod Hedfan Sifil, yn benodol, wedi mynd i'r afael â'r sefyllfa hon a'i rheoli yn anhygoel, ac rwy'n siŵr y bydd llawer o bobl a gludwyd adref o ganlyniad i'w hymdrechion yn ymuno â mi i ddiolch iddynt—yn ogystal â'r Swyddfa Dramor a Chymanwlad, sy'n gwneud gwaith anhygoel ar lawr gwlad mewn cymaint o wledydd yn rhoi cefnogaeth i ddinasyddion Prydeinig.

Rwyf am drafod achos unigryw a grybwyllwyd gan Bethan Jenkins, ond mae'n un sy'n peri pryder i mi, sef y penderfyniad gan deithiwr ag anabledd i dalu am eu taith awyr eu hunain adref. Un peth yr oedd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth a minnau yn awyddus i'w archwilio cyn i Ymgyrch Matterhorn ddechrau oedd y byddai darpariaeth ar gael i bobl anabl, ac y byddai'n cael ei blaenoriaethu: nid darpariaeth i gyrraedd awyren yn unig—gwasanaeth gwahanol a mynd ar yr awyren honno—ond hefyd cludiant pellach ar ôl dychwelyd adref. Cawsom sicrwydd y byddai cludiant i bobl anabl yn cael ei ddarparu fel blaenoriaeth. Os gall yr Aelod roi gwybodaeth i mi am yr etholwr dan sylw, byddaf yn trafod y mater gyda Llywodraeth y DU a chyda'r Awdurdod Hedfan Sifil wrth gwrs.

Mae arnaf ofn y bydd tranc Thomas Cook yn effeithio ar nifer sylweddol o bobl. Rydym yn amcangyfrif y bydd 179.5 o staff cyfwerth ag amser llawn yn cael eu heffeithio yng Nghymru yn unig drwy gau'r siopau, a 45 aelod ychwanegol o staff ym Maes Awyr Caerdydd. Bydd rhaglen Cymru'n Gweithio ar gael iddynt fel rhan o hynny. Bydd ReAct, rhaglen ymyrraeth sydd wedi hen ennill ei phlwyf, ar gael iddynt. Mae gennym dimau ymateb rhanbarthol ledled Cymru yn barod i gynorthwyo unrhyw un yr effeithir arnynt gan fethiant Thomas Cook, a buaswn yn annog unrhyw Aelodau sy'n clywed gan fusnesau yr effeithir arnynt yn sgil tranc y cwmni i'w cyfeirio at linell gymorth Busnes Cymru.

Credaf fod Bethan Jenkins yn codi pwynt pwysig iawn y bydd llawer o'n cymunedau—ac fe edrychais drwy'r rhestr i weld ble y lleolir rhai o ganghennau Thomas Cook—yn cael eu heffeithio'n ddifrifol wrth i lawer o'r siopau hynny gau. Ar lawer o’r strydoedd mawr rwy'n gyfarwydd â hwy, prin iawn yw gwasanaethau o’r fath, a bydd cael siop arall yn cau yn rhai o’r lleoedd hynny, wrth gwrs, yn eithaf dinistriol, a dyna pam fod y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol a minnau yn awyddus i fwrw ymlaen â menter 'canol y dref yn gyntaf' a fyddai'n golygu bod y sector cyhoeddus, a'r sector preifat yn wir, yn blaenoriaethu buddsoddiad yng nghanol y dref i ysgogi mwy o gadernid economaidd ynddynt. Ni fydd hon yn dasg hawdd, ond mae'n un y mae'n rhaid i ni gychwyn arni.

Ac un pwynt olaf hefyd, ac mae'n ymwneud â gweithredoedd y prif weithredwyr. Rwy'n falch o nodi bod yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol wedi agor ymchwiliad i gamau gweithredu corfforaethol, a chredaf ei bod yn briodol inni aros am ganlyniad yr ymchwiliad hwnnw cyn gwneud sylwadau arno.

15:15

A gaf finnau ategu'r Aelodau eraill sydd wedi cydymdeimlo â'r staff yr effeithir arnynt, ac wrth gwrs, y nifer fawr o bobl eraill yr effeithiwyd arnynt ac sy'n dal i gael eu heffeithio hefyd? Rwy’n falch, Weinidog, fod y llinell gymorth y cyfeirioch chi ati mewn perthynas â Cymru'n Gweithio wedi'i sefydlu—credaf mai dyna’r ffordd gywir o fynd ati. Tybed pa gefnogaeth yr ystyriwch y gallai fod angen i Lywodraeth Cymru ei darparu i Faes Awyr Caerdydd. Ceir her yma yn y ffaith bod y maes awyr wedi colli cwmni hedfan pwysig sy'n cludo 100,000 o deithwyr bob blwyddyn. Felly, cefais fy synnu i raddau, ond efallai y gallwch ymhelaethu ar hyn, wrth ddarllen yn eich datganiad ddoe eich bod yn credu mai effaith gyfyngedig y bydd hyn yn ei chael ar y maes awyr. Efallai y bydd yn anodd iawn i'r maes awyr ddod o hyd i gwmni hedfan partner newydd yn lle Thomas Cook cyn tymor prysur yr haf y flwyddyn nesaf, ac wrth gwrs, fe fyddwch yn ymwybodol fod y maes awyr wedi colli £23 miliwn ers 2014. Felly, a ydych yn teimlo bod angen rhywfaint o gefnogaeth ar Faes Awyr Caerdydd, ac a allech amlinellu pa gefnogaeth y credwch y gallai fod ei hangen arno? A hefyd, pa ddadansoddiad cychwynnol a wnaethoch o effaith methiant Thomas Cook ar sefydlogrwydd ariannol Maes Awyr Caerdydd?

A gaf fi ddiolch i Russell George am ei gwestiynau ac am ymuno ag Aelodau eraill yn y Siambr hon i ddiolch i sefydliadau a chyrff fel yr Awdurdod Hedfan Sifil am eu gwaith a'u hymdrechion dros y dyddiau diwethaf? Rwyf am ganolbwyntio'n benodol ar fater maes awyr rhyngwladol Caerdydd, sef prif ffocws cwestiynau Russell George.

O ran cynaliadwyedd ariannol y maes awyr ar ôl cwymp Thomas Cook, mae'n wir na fydd hynny'n cael effaith fawr ar y maes awyr, ac mae hynny oherwydd, fel rhan o waith diwydrwydd dyladwy'r broses ymgeisio am y benthyciad a ddarparwyd gennym i faes awyr rhyngwladol Caerdydd, modelwyd nifer o senarios gennym. Roedd un o'r senarios hynny'n cynnwys yr effaith y byddai methiant cwmni hedfan yn ei chael ar y maes awyr. Y model a ddewiswyd gennym oedd cwmni hedfan mwy o faint, ac felly, nid yw hyfywedd y maes awyr wedi'i amharu i raddau helaeth, er gwaethaf methiant Thomas Cook.

Fodd bynnag, credaf fod yr Aelod yn nodi pwynt pwysig ynghylch perchnogaeth a chynaliadwyedd hirdymor y maes awyr, ac mae hynny'n rhywbeth y byddaf yn ei drafod yn y Siambr hon yn yr hydref. Mae'n eithaf anhygoel; rydym yn tueddu i feddwl, yn y DU, y dylai meysydd awyr fod yn eiddo preifat yn ddiofyn, ond nid yw hyn yn wir yn fyd-eang. Credaf fod oddeutu 4,300 o feysydd awyr yn darparu gwasanaeth teithiau awyr rheolaidd, ond 14 y cant yn unig ohonynt sydd heb fod mewn perchnogaeth gyhoeddus. Mae hyd yn oed meysydd awyr fel JFK yn eiddo i'r cyhoedd. Felly, y model byd-eang, mewn gwirionedd, yw bod meysydd awyr yn eiddo i'r cyhoedd, a dylai hynny fod yr un peth ar gyfer Maes Awyr Caerdydd yn fy marn i. Mae'r maes awyr yn siarad yn rheolaidd iawn gyda chwmnïau hedfan gwahanol, cwmnïau hedfan eraill y mae'n ceisio eu denu i'r cyfleuster, ac rwy'n hyderus iawn, ar sail ar y trafodaethau diweddar iawn sydd wedi mynd rhagddynt, y bydd cwmnïau hedfan newydd yn cael eu denu ac y byddant yn darparu llwybrau newydd o ac i Faes Awyr Caerdydd.

Ond os caf ddweud, mae cwmnïau hedfan yn wynebu dwy her fawr ar hyn o bryd, cwmnïau sy'n gweithredu o'r DU. Mae un yn ymwneud â grym gwario dinasyddion y DU, sydd wedi lleihau dramor oherwydd y cwymp yng ngwerth y bunt, ac felly anhawster wrth ddenu dinasyddion y DU i fynd dramor. Ac yna'r ail her sy'n ein hwynebu o ganlyniad i ansicrwydd ynghylch Brexit yw'r cwymp yn y bunt a'r ffaith bod tanwydd yn cael ei brisio mewn doleri, ac felly mae cost gweithredu cwmnïau hedfan sydd wedi'u lleoli yn y DU wedi codi. Felly, mae'n amlwg fod y sector ei hun mewn sefyllfa fregus a simsan iawn.

15:20

A gaf finnau gydymdeimlo â'r staff, fel yr amlinellwyd gan Bethan a Russell—y staff sy'n gweithio yn y siopau yng Nghymru, ond hefyd y staff ym mhob rhan o waith y cwmni hedfan? Oni fyddai'r Prif Weinidog yn cytuno â mi, hyd yn oed pe bai'n ddymunol rhoi arian cynorthwyol i Thomas Cook—ac o ystyried y strwythur rheoli, sy'n echrydus yn ôl pob golwg, mae'n debyg na fyddai—y gallai Llywodraeth y DU fod yn mynd yn groes i reolau cymorth gwladwriaethol Ewrop pe baent yn ceisio rhoi arian cynorthwyol i'r cwmni? Ac mae un pwynt yn ymwneud â dod â theithwyr yn ôl o dramor. Yn ôl pob tebyg, pan fydd cwmni neu gwmni hedfan yn cael eu diddymu, mae'r holl awyrennau sy'n eiddo i'r cwmni hwnnw'n cael eu hatal rhag hedfan. Mae'n amlwg, pan aeth Monarch i'r wal, fod Llywodraeth y DU wedi dweud y byddent yn newid y rheolau. Felly, a wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried gwneud sylwadau i Lywodraeth y DU i newid y rheolau mewn perthynas â hyn, fel y gellid rhyddhau'r awyrennau hynny i ddod â theithwyr adref ar adegau fel hyn?

Yn sicr. Byddaf yn ystyried gwneud hynny heb unrhyw amheuaeth. Mae'n rhaid i mi ddweud bod gallu'r Awdurdod Hedfan Sifil, serch hynny, i nodi 45 o awyrennau i ddod â theithwyr yn ôl yn rhyfeddol. Mae'r ffaith eu bod wedi gallu gwneud hynny mewn cyfnod mor fyr yn glod mawr iddynt. Credaf mai mater i Lywodraeth y DU yw ystyried a ddylent fod wedi rhoi arian cynorthwyol i Thomas Cook ai peidio. Nid wyf yn gwybod, ac rwy'n amau na chaf byth wybod, pa gamau diwydrwydd dyladwy a gyflawnwyd ganddynt. Felly, rwy’n derbyn gair Gweinidogion Llywodraeth y DU pan ddywedant na fyddai wedi bod yn opsiwn cynaliadwy a fforddiadwy. Gwn fod pobl wedi codi'r cwestiwn ynglŷn ag a ddylid ei roi mewn perchnogaeth gyhoeddus. Mae'n debyg fod hwnnw'n fater i Aelodau yn Nhŷ'r Cyffredin ei godi. Ond fel y dywedaf, nid wyf wedi derbyn unrhyw wybodaeth a ddarparwyd drwy'r broses ddiwydrwydd dyladwy.

4. Datganiadau 90 Eiliad

Yr eitem nesaf yw'r datganiad 90 eiliad. Angela Burns.

Mae heddiw'n Ddiwrnod Fferyllwyr y Byd, amser i gydnabod y cyfraniad y mae fferyllwyr a'u timau'n ei wneud i iechyd y byd. Wedi'i gydgysylltu gan y ffederasiwn fferyllol rhyngwladol, mae Diwrnod Fferyllwyr y Byd yn tynnu sylw at y gwaith amrywiol y mae fferyllwyr yn ei wneud mewn amryw o wledydd. Er enghraifft, yn Affrica, mae fferyllwyr yn darparu seminarau addysg iechyd ac yn rheoli clinigau ar gyfer clefydau cronig fel anhwylderau iechyd meddwl, HIV, diabetes a phwysedd gwaed uchel.

Yn benodol i ni yng Nghymru, mae fferyllwyr yn chwarae rôl allweddol yn darparu gwasanaethau'r GIG, o bigiadau ffliw ac archwiliadau iechyd i gyngor ar bob math o afiechydon a mân anafiadau, fel y gwasanaeth profi a thrin dolur gwddf. A gwn, fel mam, fy mod yn y fferyllfa yn gofyn am help yn gyson pan oedd fy mhlant yn ifanc. Pobl ryfeddol.

Felly, gyda'r pwyslais ar annog pobl i ddewis yn dda ac i geisio cymorth gan y lefel briodol o wasanaeth yn dibynnu ar eu hangen, mae thema Diwrnod Fferyllwyr y Byd eleni, sef meddyginiaethau diogel ac effeithiol i bawb, yn hyrwyddo'r rôl hanfodol y mae fferyllwyr yn ei chwarae yn sicrhau diogelwch cleifion drwy wella'r defnydd o feddyginiaethau a lleihau camgymeriadau meddyginiaethol.

Mae'r gwasanaeth adolygu meddyginiaethau wrth ryddhau yng Nghymru yn enghraifft wych o ble y caiff camgymeriadau meddyginiaethol eu lleihau drwy ddefnyddio data, ond mae mwy i'w wneud ac arferion gorau i'w rhannu. Felly, Aelodau, hoffwn ofyn i bob un ohonoch gydnabod y rôl y mae fferyllwyr yn ei chwarae yn darparu gofal iechyd diogel ac effeithiol, ac i fferyllwyr ledled Cymru, ar ran pob un ohonom mae'n debyg, rwy'n dweud 'diolch o galon'.

15:25
5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: Hawliau Pleidleisio i Garcharorion

Yr eitem nesaf, eitem 5, yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar hawliau pleidleisio i garcharorion. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—John Griffiths. 

Cynnig NDM7139 John Griffiths

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, 'Hawliau Pleidleisio i Garcharorion', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Mehefin 2019. 

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr. Rwy’n falch o agor y ddadl heddiw ar adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar hawliau pleidleisio i garcharorion.

Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i bawb a gyfrannodd at ein hymchwiliad, naill ai drwy roi tystiolaeth ysgrifenedig neu ar lafar; aelodau'r cyhoedd a gyfrannodd at ein fforwm trafod ar-lein, a'r ffordd barchus y trafodwyd ac y cynhaliwyd dadleuon ar wahaniaethau barn, yn enwedig gan fod y materion hyn yn ddadleuol iawn; a staff y carchar a'r carcharorion y buom yn siarad â hwy yn ystod ein hymweliadau â Charchar Ei Mawrhydi y Parc a Charchar Ei Mawrhydi Eastwood Park. Mae’r ddau wedi rhoi cipolwg go iawn inni ar ymarferoldeb cyflwyno unrhyw newid, ond maent hefyd wedi ein galluogi i archwilio’r egwyddorion ehangach gyda'r rhai yr effeithir arnynt fwyaf gan unrhyw newid, y carcharorion eu hunain. Roeddent yn drafodaethau diddorol ac addysgiadol.

Ar ôl derbyn tystiolaeth, ac ar ôl ystyried a phwyso a mesur y dadleuon moesegol, ymarferol a chyfreithiol yn ofalus iawn, argymhellodd y rhan fwyaf o’r pwyllgor y dylid rhoi'r bleidlais i fwy o garcharorion. Fel y dywedais yn gynharach, mae hwn, wrth gwrs, yn fater dadleuol, ac roeddem yn ymwybodol iawn o'r effaith y gallai unrhyw newid ei chael ar ddioddefwyr troseddau, ac archwiliwyd hyn gyda'n holl dystion.

Rhan o gefndir y materion hyn yw'r dyfarniad fod Llywodraeth y DU wedi mynd yn groes i’r confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol drwy gael gwaharddiad cyffredinol ar y bleidlais i garcharorion. Yna, cyflwynwyd newidiadau cyfyngedig, gan ganiatáu i garcharorion ar remánd ac ar drwydded dros dro, er enghraifft, bleidleisio. Mae Llys Hawliau Dynol Ewrop wedi dweud yn glir nad braint yw'r hawl i bleidleisio. Maent wedi dweud y dylid cael rhagdybiaeth lle y cynhwysir cymaint o bobl â phosibl mewn democratiaeth. Mae carcharorion yn cadw hawliau eraill pan fyddant yn mynd i'r carchar. Efallai eu bod yn colli eu rhyddid, ond nid ydynt yn colli eu hawliau sylfaenol. Credaf fod pleidleisio yn hawl o’r fath.

Un o'r dadleuon mwyaf cymhellol a glywsom oedd fod carcharorion yn parhau i fod yn ddinasyddion cymdeithas. Roedd hyn yn rhywbeth a gafodd ei gyfleu’n gryf iawn yn ystod ein trafodaethau yn y carchardai. Clywsom fod llawer yn ymdrechu i barhau i fod yn rhan weithredol o fywydau eu teuluoedd, er gwaethaf y rhwystrau corfforol. Lywydd, buaswn yn dweud bod polisi cyfiawnder troseddol yn y DU yn arwain at garchardai gorlawn, diffyg adsefydlu a chyfraddau aildroseddu uchel, a bod ailintegreiddio mwy effeithiol i'r gymdeithas yn golygu llai o droseddu a llai o ddioddefwyr troseddau. Mae o fudd i'n cymunedau yn gyffredinol, yn ogystal â chyn-droseddwyr a'u teuluoedd. Gall pleidleisio fod yn arwydd bach ond arwyddocaol o ymagwedd fwy goleuedig a chynhyrchiol.

Mae cael gwared ar yr hawl i bleidleisio hefyd yn rhan o broses sy'n trin carcharorion fel dieithriaid: nid ydynt fel y gweddill ohonom a dylent gael eu trin yn wahanol. Nid yw hyn yn dda iddynt hwy ac nid yw'n dda i'r gymdeithas ehangach. Mae'n rhwystro'r broses adsefydlu ac nid yw'n helpu i leihau cyfraddau aildroseddu na chydlyniant cymdeithasol. Dywedodd llawer o randdeiliaid wrthym eu bod yn credu y byddai rhyddfreinio yn helpu. Dywedodd y Foneddiges Hale, sydd bellach yn Llywydd Goruchaf Lys y DU, y clywsom gryn dipyn amdano yn ddiweddar, y byddai cadw'r bleidlais yn annog cyfrifoldeb dinesig ac ailintegreiddio. Mae hefyd yn symbol pwysig. Er nad oes llawer o dystiolaeth empirig i gefnogi'r farn hon, cawsom ein perswadio gan y rhanddeiliaid a ddywedodd y byddai mwy o gynhwysiant pan fydd pobl yn y carchar yn helpu’r broses o adsefydlu ar ôl iddynt gael eu ryddhau. Llywiodd nifer o ddadleuon eraill ein barn derfynol, megis cynsail ryngwladol, a'r effaith anghymesur y mae'r gwaharddiad yn ei chael ar rai grwpiau o bobl.

Lywydd, roedd angen i ni ystyried wedyn sut beth fyddai'r etholfraint. Diystyrwyd ei seilio ar y math o drosedd neu ddyddiad rhyddhau, a chytunwyd i'w seilio ar hyd y ddedfryd. Ynghyd â rhai o aelodau’r pwyllgor, roeddwn yn cefnogi rhyddfreinio llawn. Fodd bynnag, ar ôl trafod yn ofalus, fe benderfynwyd argymell cynnwys carcharorion sy'n bwrw dedfrydau o lai na phedair blynedd. Roeddem yn teimlo bod hwn yn gyfaddawd addas a oedd yn cydbwyso'r angen am etholfraint etholiadol syml; un sy'n hawdd ei deall, a oedd yn thema gref iawn drwy gydol ein tystiolaeth; yn ystyriol o farn y cyhoedd, sydd yn erbyn rhoi’r hawl i bob carcharor bleidleisio; ac yn sicrhau cydymffurfiaeth â dyfarniad llys Ewrop. Mae hefyd yn cydnabod pa mor arwyddocaol yw dedfrydau pedair blynedd yn y system cyfiawnder troseddol, gan fod y carcharorion hyn yn wynebu telerau llai ffafriol ar gyfer cael eu rhyddhau'n gynnar.

Lywydd, rwy'n falch iawn fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn ein hargymhelliad allweddol ac y bydd yn ceisio deddfu i wneud newidiadau ar gyfer etholiadau'r Cynulliad a llywodraeth leol. Credaf fod hyn yn dangos arweinyddiaeth wleidyddol go iawn, ac yn nodi bod Cymru’n parhau i fod ar flaen y gad o ran parchu hawliau dynol. Fodd bynnag, hoffwn rywfaint o eglurder pellach. Cadarnhaodd y Llywydd a'r Gweinidog mewn gohebiaeth y bydd Llywodraeth Cymru’n bwrw ymlaen â newidiadau i etholfraint y Cynulliad. Yn ei llythyr, dywedodd y Gweinidog y byddai'n ceisio cyfrwng deddfwriaethol priodol. Ond er iddi ymrwymo i newid yr etholfraint ar gyfer llywodraeth leol yn nhymor y Cynulliad hwn, ni chafwyd yr un ymrwymiad ar gyfer y Cynulliad. Felly, Weinidog, buaswn yn ddiolchgar pe gallech ddarparu rhywfaint o eglurder ynghylch eich syniadau ar hyn, ac a fydd y newid ar waith ar gyfer etholiadau nesaf y Cynulliad yn 2021. Mae'r darpariaethau cyfredol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 yn cysylltu etholfreintiau etholiadol y Cynulliad a llywodraeth leol yn glir. Os nad ydych yn gwneud y newidiadau i'r ddau ar yr un pryd, Weinidog, a allwch amlinellu a ydych yn ceisio’u datgysylltu dros dro? Mae'n werth nodi'r dystiolaeth a gawsom gan y Comisiwn Etholiadol y dylent fod yn gyson.

Er fy mod wedi canolbwyntio, felly, ar y materion ehangach ynglŷn ag a ddylai carcharorion gael pleidleisio, edrychodd ein hadroddiad hefyd ar ymarferoldeb y dull o bleidleisio, gwybodaeth ac ymgyrchu. Buaswn yn gofyn i'r Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â sut y mae trafodaethau gyda Llywodraeth y DU ar y materion a godwyd gan y pwyllgor yn argymhellion 5, 6 a 10 yn mynd rhagddynt. Mae'r rhain yn ymwneud yn benodol â dynodi cydgysylltydd etholiadau o blith staff y carchar, sicrhau bod pob carcharor cymwys wedi'u cofrestru i bleidleisio a'u bod yn cael eu cefnogi i gymryd rhan mewn etholiadau perthnasol, a darparu mynediad at gyfryngau Cymru yn y carchardai sydd â phoblogaeth gymharol fawr o Gymry.

Lywydd, edrychaf ymlaen yn awr at glywed barn yr Aelodau eraill ar y materion pwysig hyn. Rwy'n siŵr y bydd yn ddadl ddiddorol, gan fod hwn wedi bod yn waith diddorol iawn i'r pwyllgor, ac i Aelodau'r Cynulliad yn gyffredinol, rwy'n siŵr.

15:30

Daeth Joyce Watson i’r Gadair.

Carchar yw pen eithaf ein system gyfiawnder, ac mae'n rhan bwysig ac annatod o'r system cyfiawnder troseddol ym mhob gwlad. Amddifadu rhywun o'i ryddid am gyfnod yw un o'r pwerau mwyaf arwyddocaol sydd ar gael i'r wladwriaeth. Mae carchar yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o gynnal rheolaeth y gyfraith, drwy helpu i sicrhau bod troseddwyr honedig yn cael eu dwyn o flaen eu gwell, a thrwy ddarparu cosb am gamymddwyn difrifol. Mae iddo dri diben craidd: amddiffyn y cyhoedd; cosbi, gan amddifadu troseddwyr o ryddid a fwynheir gan weddill cymdeithas a gweithredu fel ataliad; ac adsefydlu, gan roi cyfle i droseddwyr ystyried eu troseddau a chymryd cyfrifoldeb amdanynt, a'u paratoi ar gyfer bywyd sy'n parchu'r gyfraith ar ôl eu rhyddhau.

Fel y clywsom yng ngharchar y Parc, ychydig o garcharorion a fyddai naill ai'n defnyddio'r hawl i bleidleisio neu'n ei gweld fel ysgogiad i adsefydlu. Mae'r pwyllgor yn cyfaddef yn yr adroddiad fod y dystiolaeth empirig sy'n cefnogi'r ddamcaniaeth fod pleidleisio'n help i adsefydlu yn 'gyfyngedig'. Mae'r adroddiad hefyd yn nodi, pan roddodd carchar Caerdydd gamau ar waith i annog carcharorion ar remánd i gofrestru i bleidleisio yn yr etholiad diwethaf, ni fanteisiodd yr un ohonynt ar y cyfle. Yn hytrach, dylem ganolbwyntio ar roi cyfleoedd i droseddwyr adeiladu bywydau cadarnhaol. Daw hawliau law yn llaw â chyfrifoldebau, a dim ond un o ffeithiau bywyd sy'n deillio o fod yn y carchar yw peidio â phleidleisio, gan adlewyrchu penderfyniad gan y gymuned nad yw'r unigolyn dan sylw yn addas i gymryd rhan ym mhroses cymuned o wneud penderfyniadau.

Yn dilyn y dyfarniad y cyfeiriwyd ato yn Llys Ewrop, mae tua 17 y cant o garcharorion eisoes yn gymwys i bleidleisio. Gall carcharorion yn y gymuned, ar drwydded dros dro, bleidleisio erbyn hyn, ac mae hawl eisoes gan garcharorion heb eu collfarnu sy'n cael eu cadw ar remánd a charcharorion sifil a garcharwyd am droseddau megis dirmyg llys i bleidleisio, er mai ychydig iawn ohonynt sy'n gwneud. Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi dweud y dylid ei gwneud yn fwy eglur i bobl sy'n cael dedfryd o garchar na fydd ganddynt hawl i bleidleisio tra byddant yn y carchar.

Mae'r adroddiad hwn yn dyfynnu un o ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru, lle y cytunodd 50 y cant y dylid caniatáu i garcharorion gofrestru i bleidleisio, ac ymgynghoriad gan Gomisiwn y Cynulliad, lle'r oedd 49 y cant yn cytuno y dylai carcharorion allu pleidleisio yn etholiadau'r Cynulliad os oedd disgwyl iddynt gael eu rhyddhau yn ystod y cyfnod pan oedd Aelodau'n cael eu hethol i wasanaethu. Fodd bynnag, roedd y ddau ymateb i'r ymgynghoriad yn rhai hunanddetholus, yn hytrach na samplau cynrychiadol wedi'u pwysoli. Mewn cyferbyniad, mewn arolwg YouGov yn 2017, dim ond 9 y cant o bobl yng Nghymru a ddywedodd y dylid caniatáu i bob carcharor bleidleisio.

Nid cael terfynau sy'n cyfrannu at droseddu, ond diffyg terfynau. Mae'n peri pryder fod rhai aelodau o'r pwyllgor yn credu yn yr egwyddor o bleidleisiau i bob carcharor. Ond er gwaethaf hynny, fel y clywsom, dim ond argymell bod Llywodraeth Cymru a'r Cynulliad Cenedlaethol yn deddfu i roi hawl i garcharorion o Gymry sy'n bwrw dedfryd o garchar o lai na phedair blynedd i bleidleisio mewn etholiadau datganoledig a wnaeth y pwyllgor. Am y rhesymau a amlinellwyd eisoes, ni allai Mohammad Asghar a minnau gytuno â'r argymhelliad hwnnw.

Wrth ymateb i'r adroddiad, nododd Llywodraeth Cymru y bydd yn gweithio i gyflwyno deddfwriaeth yn y Cynulliad hwn i alluogi carcharorion o Gymru sy'n bwrw dedfryd o garchar o lai na phedair blynedd i bleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol datganoledig. Wrth ymateb ar ran Comisiwn y Cynulliad, dywedodd y Llywydd nad yw'n credu y dylid cyflwyno gwelliannau i'r Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) er mwyn mynd i'r afael â'r mater hwn. Mewn llythyr at Gadeirydd y pwyllgor yr wythnos diwethaf, ychwanegodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi ymrwymo i'r egwyddor o hawl pleidleisio i garcharorion ym mhob etholiad lleol, a bydd yn chwilio am gyfrwng deddfwriaethol priodol ar y cyfle cyntaf i alluogi carcharorion o Gymru i bleidleisio yn etholiadau'r Cynulliad ar yr un telerau â'r rhai a fydd yn berthnasol ar gyfer etholiadau llywodraeth leol.

Er mwyn bod yn glir, yn ôl y Law Pages, bydd rhoi'r bleidlais i garcharorion sy'n bwrw dedfryd o garchar o lai na phedair blynedd yn cynnwys y rhai a gafwyd yn euog o fod â llafn neu arf miniog mewn man cyhoeddus, ymosodiad cyffredin gwaethygedig ar sail hil, difrod troseddol gwaethygedig ar sail hil, caffael dynes drwy fygythiadau, ymgais i gyflawni llosgach gan ddyn gyda merch dros 13 oed, cipio merch ddi-briod, achosi puteinio gan fenywod, llithio gan ddynion, trin cleifion yn wael, ymosod gyda'r bwriad o wrthsefyll arestiad, a chaffael eraill i gyflawni gweithredoedd cyfunrhywiol, a llawer iawn mwy. Dyma'r hyn y mae'r Blaid Lafur a Phlaid Cymru yn ei gefnogi, gan roi tystiolaeth bellach, os caf ddweud, o'r bwlch cynyddol rhwng ewyllys pobl Cymru a'u cynrychiolwyr honedig a etholwyd i'r lle hwn.

15:35

Rwy'n falch ein bod ni'n cael y ddadl hon, ac rwy'n siomedig iawn ynglŷn â chyfraniad y Ceidwadwyr, nid yn unig heddiw, ond yn yr ymchwiliad hefyd. Rhaid i mi gyfaddef fy mod yn amheus pan ddechreuodd ein pwyllgor yr ymchwiliad hwn. Fel cyn-swyddog prawf, sydd â diddordeb brwd yn y system gyfiawnder er nad yw wedi'i datganoli, roeddwn yn credu y byddai'n rhyfedd i ni, fel pwyllgor, ymweld â gwahanol garchardai i siarad â charcharorion am rywbeth a oedd er ein lles ni. Rydym yn ymwybodol iawn o ystod y problemau y mae carcharorion yn eu hwynebu, o ddigartrefedd i broblemau cyffuriau ac alcohol, iechyd meddwl, chwalfa deuluol, cam-drin, trais yn y cartref, ac eto nid oeddem yn mynd i'r carchardai i siarad â phobl am y materion hynny, ond yn hytrach, roeddem yn gofyn i garcharorion a staff am eu barn ar bleidleisio, drosom ni mae'n debyg. Mae'n rhaid i mi ddweud i mi deimlo braidd yn anghyfforddus am y cyfan. Ond roeddwn i'n anghywir.

Daeth yn amlwg yn fuan yn ystod ein hymweliadau â charchar Parc a charchar Eastwood Park y gallai rhai o'r carcharorion hyn weld ffordd drwy ein hymchwiliad o roi eu pryderon ar yr agenda drwy gael y bleidlais. Ar hyn o bryd, pwy sy'n gwrando arnynt? A oes ganddynt lais o gwbl? Nac oes. Mae carcharorion wedi cael eu hanghofio a'u bwrw i'r cyrion gan lunwyr polisi, gwleidyddion a'r gymdeithas ehangach, ac yma mae gennym gyfle i wneud rhywbeth i newid hynny.

Mae pobl yn anghytuno ynghylch diben carchar. Ai ymwneud yn unig â chosbi y mae carchar? A ddylem wneud bywyd yn y carchar mor ofnadwy i bobl fel y byddent yn ei weld fel ataliad ac yn gwbl benderfynol o beidio â mynd yn ôl? Os mai dyna sut y'i gwelwn, nid yw amodau a hawliau yn bwysig. Ac eto, mae pobl yn meddwl pam y mae pobl sy'n mynd drwy system y carchardai'n dod allan wedi'u niweidio fwy ac yn tueddu i fod yn fwy troseddol. Nid yw carchar heb elfen adsefydlu yn fawr mwy na ffatri droseddau.

Yn fy marn i, dylai carchar fod yn gosb, ond dylai hefyd fod yn offeryn i ddiogelu'r cyhoedd a cheisio adsefydlu'r unigolyn fel nad yw'n cyflawni rhagor o droseddau ar ôl ei ryddhau. Mae dull adsefydlu yn arwain at lai o droseddu a chymdeithas fwy diogel, fel y byddai unrhyw gymhariaeth onest rhwng gwledydd Sgandinafia a'r DU yn ei ddangos. Dylem anelu at leihau poblogaeth y carchardai drwy adsefydlu mwy o bobl a thrin pobl fel y dinasyddion ag yr ydynt a'r dinasyddion yr ydym eisiau iddynt fod. Am y rhesymau hyn rwy'n cefnogi ymestyn yr etholfraint i gynnwys carcharorion ac rwy'n cymeradwyo argymhellion yr adroddiad pwyllgor hwn.

Mae cael y cyfle i bleidleisio yn atgoffa carcharorion eu bod yn dal yn ddinasyddion er iddynt gael eu cosbi am droseddu. Mae'n eu hatgoffa eu bod yn mynd i gael eu rhyddhau un diwrnod a bod disgwyliadau arnynt fel dinasyddion. Gall cael y cyfle i roi croes yn y blwch helpu i ailintegreiddio a chynnwys carcharorion yn y gymdeithas ehangach.

I mi, er fy mod yn amheus i ddechrau ynghylch defnyddioldeb yr ymchwiliad hwn i boblogaeth y carchardai, deuthum yn fwyfwy argyhoeddedig mai dyma oedd y peth cywir i'w wneud. Os ydych yn fenyw a ddedfrydwyd i'r carchar, mae'n warthus fod yn rhaid i chi gael eich carcharu mewn gwlad arall heb fynediad at eich teulu, at y newyddion o Gymru, at eich rhwydwaith adsefydlu, a dylai hynny ynddo'i hun fod yn rheswm digon da dros ddatganoli'r system cyfiawnder troseddol, er mwyn inni allu gwneud rhywbeth am hynny.

Nid braint yw pleidleisio ac ni ddylai gael ei ystyried felly. Mae pleidleisio'n rhywbeth y dylem fod eisiau i bob un o'n dinasyddion ei wneud. I mi, mae hwn yn gwestiwn lle y gallai Cymru ddangos y gallem wneud pethau'n wahanol, yn fwy trugarog, gyda mwy o dosturi. Mae'r adroddiad hwn yn rhoi cyfle i'r Llywodraeth ac rwy'n mawr obeithio y bydd yn manteisio arno.

15:40

Mae'n bleser gennyf siarad o blaid yr argymhellion a ddeilliodd o'r pwyllgor hwn, a chroesawu hefyd y modd y bu i John stiwardio'r pwyllgor hwn. Clywsom lawer iawn o dystiolaeth—y bobl a ddaeth ger ein bron, yr ymweliadau a wnaethom hefyd, lle buom yn siarad â llywodraethwyr carchardai, staff carchardai, staff rheng flaen a hefyd â phobl sydd wedi'u carcharu eu hunain. Rwyf am ddiolch i'r holl bobl a roddodd dystiolaeth, ond yn enwedig am y modd yr ymdriniodd yr Aelodau â chlywed y dystiolaeth honno hefyd. Roedd gwahaniaeth barn ar y pwyllgor hwn—gwelwyd hynny yn yr adroddiad, o ran ein prif argymhelliad—ond fe'i gwnaethom mewn ffordd gymesur, rwy'n credu. Rydym wedi cydnabod y gwahaniaethau hynny. Hoffwn ddweud wrth Mark: nid cynrychiolydd honedig ydw i. Rwy'n gynrychiolydd yn y sefydliad hwn, fel y mae pawb arall. Peidiwch â difrïo fy rôl i ac eraill drwy fy ngalw'n gynrychiolydd honedig.

Fodd bynnag, os caf droi at y sylwedd, mae'r adroddiad yn gytbwys, oherwydd mae'n edrych ar y dadleuon o blaid ac yn erbyn hefyd. Mae'n egluro, fel y mae'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol wedi'i ddweud, nad yw hawliau pleidleisio yn hawliau absoliwt—hawliau cyffredinol. Dyna'n union pam yr edrychai'r pwyllgor hwn arno. I ba raddau yr adlewyrchwn farn y cyhoedd? I ba raddau y dymunwn ddangos arweinyddiaeth hefyd? Ond ceir teimlad amlwg hefyd, drwy dystiolaeth ryngwladol, ond hefyd y pwysau sydd wedi'i roi ar Lywodraeth y DU dros lawer o flynyddoedd, y dylem edrych ar hyn a gweld faint ymhellach y gallem fynd, yn enwedig oherwydd y dadleuon y nododd Leanne a'r adroddiad, sef, er efallai nad yw'n hawl gyffredinol i bawb, yn hawl absoliwt, dylem fod yn edrych ar unigolion sydd yn y carchar nid fel—. Bydd rhai'n garcharorion gydol oes, a rhai, gan gynnwys menywod y cyfarfuom â hwy, a ddywedodd, 'Wel, mae gennyf blant y tu allan i'r carchar. Rwyf yma am gyfnod byr iawn. Mae fy mhlant yn yr ysgol. Bydd fy mhlant yn derbyn gofal tra byddaf i ffwrdd oddi yma. Nid oes gennyf unrhyw lais o gwbl yn—'. Ac eto, bydd y bobl sydd yn y carchar—bob un ohonynt—yn talu treth ar enillion, treth ar gynilion ac ati tra byddant yno. Felly, mae'n anomaledd rhyfedd.

Mae'r adroddiad yn gytbwys. Mae'n cydnabod—Mark, rydych chi'n llygad eich lle—nad yw'r cyhoedd yn cefnogi hawliau pleidleisio i garcharorion. Mae hefyd yn adlewyrchu'r ffaith bod teimladau'r cyhoedd yn newid, a'u bod wedi newid ar hyn hefyd. Weithiau, mae angen i ni, fel cynrychiolwyr etholedig, ddynodi cyfeiriad teithio. Nid wyf am greu embaras i'r Gweinidog, ond pan ddaeth hi ger ein bron yn y pwyllgor, dywedais, 'Weinidog, beth yw eich agwedd tuag at hyn i gyd?', oherwydd roeddwn i ychydig yn amheus. Roeddwn yn meddwl y gallai'r Llywodraeth adael hyn am y tro a'i roi o'r neilltu: 'Dyma adroddiad pwyllgor diddorol. Down yn ôl at hyn ymhen pum mlynedd neu 10 mlynedd.' A dywedais wrthi, 'A ydych chi'n gweld eich hun, o bosibl, yn bod yn Roy Jenkins Gweinidogion Llywodraeth Cymru ar y mater hwn?'—nid eich bod yn mynd uwchben a thu hwnt, ac nid y dylech geisio bod yn ddi-hid yn y ffordd—. Ond edrychwch ar y dystiolaeth a phenderfynwch beth yw'r polisi cywir a blaengar sy'n cydbwyso buddiannau pobl fel y comisiynydd dioddefwyr, a ddaeth ger ein bron a siarad yn angerddol am ei phryderon ynghylch ochr y dioddefwyr, ond hefyd ar fater adsefydlu—y ffaith bod y bobl hyn yn dal i fod yn ddinasyddion, am eu bod yn talu treth, mae ganddynt blant y tu allan mewn ysgolion ac ati. Felly, rwy'n credu ei fod yn eithaf cytbwys.

Nawr, cyfaddawd oedd yr hyn a gafwyd gennym. Roedd gwahanol safbwyntiau yn y pwyllgor. Roedd rhai ohonom yn cefnogi, er symlrwydd ond hefyd o ran egwyddorion sylfaenol, ymestyn y bleidlais yn gyffredinol. Roedd llawer o'r tystion a ymddangosodd ger ein bron yn cefnogi hynny hefyd, am yr un rhesymau'n union. Ond roeddem yn cydnabod, ar y pwyllgor, am fod cymaint o wahaniaeth barn, y dylem edrych ar rywbeth a oedd yn ymarferol, a oedd yn syml, y gellid ei gyflawni ac nad oedd yn rhy gymhleth. Edrychasom ar lawer o wahanol bosibiliadau o fewn hynny, ac mae'r un a ddewiswyd gennym, sef dedfrydau pedair blynedd neu lai, yn rhoi'r symlrwydd a'r eglurder hwnnw rwy'n credu, ac mae'n rhoi'r neges glir y gallai Cymru, hyd yn oed os na fydd Llywodraeth y DU yn symud, fynd ati mewn gwirionedd i symud ymlaen a dangos arwydd clir ein bod yn credu yn egwyddorion adsefydlu—yn yr egwyddorion y bydd y bobl hyn, y bydd llawer ohonynt yn mynd drwy'r carchar, yn ôl yn byw gyda ni, ochr yn ochr â ni ac wedi'u hailintegreiddio yn y gymdeithas, ac yn magu eu plant a gweithio mewn gyrfaoedd ac yn y blaen ac yn y blaen. Rwy'n credu bod honno'n egwyddor bwysig.

Felly, rwy'n croesawu hyn ac rwy'n croesawu ymateb y Llywodraeth hefyd. Fy unig ymholiad fyddai adleisio'r hyn a ddywedodd y Cadeirydd: am beth y siaradwn yma, o ran amserlenni ar gyfer bwrw ymlaen â hyn? Rwy'n credu bod cyfle yma i Lywodraeth Cymru ddangos rhywfaint o arweiniad yn hyn o beth ac efallai, pwy a ŵyr, y bydd Llywodraeth y DU yn dilyn ei hesiampl maes o law.

15:45

Diolch i'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau am eu hadroddiad ar hawliau pleidleisio i garcharorion. Nid oeddwn yn aelod o'r pwyllgor yn ystod eu hymchwiliad, ond pe bawn i wedi bod, buaswn wedi ymuno â Mark Isherwood a Mohammad Asghar i wrthwynebu'r argymhellion. Rhaid nodi bod hawl gan garcharorion ar remánd i bleidleisio, ac nid wyf yn cytuno â'r dybiaeth y dylid caniatáu i garcharorion bleidleisio.

Mae'r hawl i bleidleisio, hawl y mae pobl wedi marw i'w sicrhau a hawl y mae pobl wedi marw i'w hamddiffyn, yn gysylltiedig â'n dinasyddiaeth. Mae dinasyddion da, y rhai sy'n cydymffurfio â rheolau a chyfreithiau ein cymdeithas, yn cael hawl i benderfynu pwy sy'n llunio'r deddfau.

15:50

Dim ond i wneud y pwynt: a fyddech yn cydnabod bod yna gyfran sylweddol o boblogaeth y carchardai sydd mewn gwirionedd yn gyn-filwyr? Maent yn gyn-filwyr a fu'n gwasanaethu ein gwlad ar y rheng flaen, ac maent wedi mynd i sefyllfa lle maent yn y carchar am gyfnod. Mae'n neges anarferol i ni eu hanwybyddu a ninnau am iddynt fod yn ôl ac wedi'u hailintegreiddio yn y gymdeithas.

Nid oes neb yn anwybyddu neb, Huw, ond yr hyn rwy'n ei ddweud yw pan fydd pobl yn cael eu hadsefydlu, mae ganddynt hawl i ddod yn ôl i mewn a chael y bleidlais honno.

Mae wedi bod yn arfer hirsefydlog yn ein gwlad fod y rhai sy'n torri cyfreithiau ein gwlad yn colli'r hawl i gael unrhyw lais yn y broses o lunio'r cyfreithiau hynny, ac ni ddylem roi'r gorau i'r arfer hwnnw. Drwy dorri ein cyfreithiau, mae carcharorion wedi dangos eu bod yn diystyru ein cymdeithas a'i dinasyddion, ynghyd â dioddefwyr eu troseddau, ac ym mhob trosedd ceir dioddefwr. Ni ddylent gael rhoi eu barn am y ffordd y caiff ein gwlad ei rhedeg. Gwrthodaf yn llwyr unrhyw gamau i roi'r bleidlais i garcharorion.

Rwyf hefyd yn cwestiynu'r penderfyniad i osod y terfyn ar ddedfrydau o bedair blynedd neu lai. Yn ymarferol, golyga hyn y bydd gan bob carcharor sy'n bwrw dedfryd yng ngharchardai Cymru hawl i bleidleisio, gan nad oes gan Gymru unrhyw garchardai categori A. Nid yw'r Alban hyd yn oed wedi mynd mor bell â hyn—maent wedi gosod y terfyn ar 12 mis. Felly, nid wyf yn cefnogi argymhellion y pwyllgor, ac am y tro cyntaf i mi, mae'n rhaid, rwy'n galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried y goblygiadau a gwrthod yr argymhellion, oherwydd nid yn unig y mae hyn yn mynd yn groes i ddymuniadau'r cyhoedd yn ehangach, mae'r rhai sy'n pwyso am y newid hwn yn derbyn ei fod yn annerbyniol at ei gilydd i bleidleiswyr cyffredin. Felly, unwaith eto, mae gwleidyddion yn datgan eu bod yn gwybod beth sydd orau, ac yn diystyru barn y cyhoedd. Rydym wedi cael ein rhoi yma i wasanaethu ein hetholwyr, ac ni allwn anwybyddu eu dymuniadau, beth bynnag yw ein barn bersonol. Felly, os bydd Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen â'r polisi hwn, byddant—

Nid un arall, mae'n ddrwg gennyf.

Byddant yn dangos faint o ddiffyg cysylltiad sydd rhyngddynt mewn gwirionedd a barn y cyhoedd. Drwy roi'r bleidlais i'r rhai sy'n gwrthod rheolau ein cymdeithas, rydych mewn perygl o ddadrithio pleidleiswyr cyffredin—pleidleiswyr na fyddant yn pleidleisio mewn etholiadau yn y dyfodol am eu bod yn gwrthod pleidleisio dros elît gwleidyddol pell. Ac i beth? Er mwyn cael llond dwrn o bleidleisiau gan bobl a gafwyd yn euog o drosedd. A minnau wedi gweithio yn y gwasanaeth carchardai, gallaf ddweud wrthych na fydd y nifer a fydd yn pleidleisio yn rhywle fel carchar Parc yn agos at y 33 y cant a bleidleisiodd yn etholiad diwethaf y Cynulliad.

Ac am y rhesymau a nodais, rwy'n annog yr Aelodau i wrthod y cynigion hyn.

Mae'r adroddiad hwn gan y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, yr oeddwn yn arfer bod yn aelod ohono, yn gwneud 11 o argymhellion. Y prif argymhelliad yw y dylai carcharorion o Gymru sy'n cael dedfrydau o lai na phedair blynedd o garchar gael hawl i bleidleisio yn etholiadau datganoledig Cymru. Roedd fy nghyd-Aelod, Mark Isherwood, a minnau'n anghytuno â'r argymhelliad hwn. Rwy'n parhau i anghytuno heddiw.

Rwy'n gwrthwynebu'r cynnig hwn o ran egwyddor, ac am resymau ymarferol hefyd. Rydym fel cymdeithas yn cynhyrchu fframwaith o ddeddfau sy'n nodi safonau cyfrifoldeb ac ymrwymiad y disgwyliwn i'n dinasyddion eu cynnal. Nid yw pobl sydd wedi cyflawni troseddau yn erbyn eu cyd-ddinasyddion yn cyrraedd y safonau hynny. Felly, os nad yw'r bobl hyn yn fodlon cydymffurfio â'r gyfraith, pam y dylent gael rôl yn gwneud y gyfraith i bawb arall?

Dywedodd y Prif Weinidog ei hun yn y Siambr hon ddoe, Lywydd, a'r dyfyniad yw:

'[mae] pobl sy'n penderfynu bod yn wneuthurwyr deddfau yn ildio'r hawl i fod yn dorwyr cyfraith.'

Credaf fod y gwrthwyneb yn wir hefyd. Bu llawer o sôn am hawliau sifil carcharorion, ond mae carcharu, drwy ddiffiniad, yn golygu atal yr hawl i ryddid. Mae hawliau sifil mewn democratiaeth yn cyfuno'r hawl i bleidleisio â'r hawl i sefyll etholiad, rhyddid i gymdeithasu, ymgynnull a symud. Mae troseddwyr sy'n bwrw dedfrydau o garchar yn cael eu hamddifadu o'r hawliau sifil hyn o ganlyniad i'w gweithredoedd. Rwy'n credu'n gryf mewn adsefydlu troseddwyr. Mae adfer yr hawl i bleidleisio yn dangos bod unigolyn wedi talu ei ddyled i'r gymdeithas. Dylid ei weld fel cymhelliad i integreiddio troseddwyr yn ôl i'r gymdeithas ddinesig. Felly, o ran egwyddor, rwy'n gwrthwynebu'r cynnig hwn.

Ond ceir dadleuon ymarferol yn erbyn hyn hefyd. Y gwir amdani yw bod y cynigion hyn yn creu hunllef fiwrocrataidd i staff a gyflogir yn y gwasanaethau carchardai sydd eisoes dan bwysau. Mae'r adroddiad hwn yn cynnig y dylai pob carchar, lle bynnag y bônt, ddynodi cydgysylltydd etholiadau ar gyfer carcharorion o Gymru o blith staff y carchar. Mae hyn yn faich ychwanegol ar staff carchardai. Nid oes gan Gymru garchardai i fenywod, felly mae menywod Cymru—

15:55

O gofio bod Boris Johnson, y Prif Weinidog, wedi'i gael yn euog o dorri'r gyfraith yr wythnos hon, a ydych yn credu na ddylai gael yr hawl i bleidleisio yn awr?

Gwrandewch—[Torri ar draws.] Edrychwch, y peth yw—

Edrychwch, ni wnaeth niwed i'r wlad. Chi yw'r un sy'n niweidio'r wlad.

Nid ydych yn gwrando ar—. Lywydd, cefais safbwyntiau yn fy swyddfa fy hun yng Nghasnewydd: mewn mis, pan oeddwn yn aelod o'r pwyllgor hwn, roedd mwy na 100 o etholwyr—gofynnais iddynt, ac ni ddywedodd yr un ohonynt, 'Hoffwn weld hawl i garcharorion bleidleisio.' Mae hynny yn Nwyrain De Cymru. Gwnewch hynny yn eich etholaethau a dewch yn ôl i adrodd. [Torri ar draws.] Na, rydych chi wedi cael digon, diolch.

Mae'r rhan fwyaf o bobl yn cael eu newyddion oddi ar y teledu yn y carchar. Mae hyn yn rhoi carcharorion o Gymru yn Lloegr dan anfantais yn awtomatig am nad oes unrhyw garchardai i fenywod yma yng Nghymru—crybwyllwyd hyn yn gynharach. Un o gryfderau ein democratiaeth yw bod etholwyr yn cael cyfle i gyfarfod â'r ymgeisydd sy'n sefyll mewn etholiad. Mae'n gwbl anymarferol i ymgeiswyr deithio i'r carchar i gyfarfod â darpar bleidleiswyr yn yr achos hwn. Mae hyd yn oed yr adroddiad yn cydnabod bod y syniad o gynnal hustyngau ymarferol yn y carchar yn amhosibl oherwydd mae'n peri risg sylweddol o ran diogelwch.

Lywydd, nid oes cefnogaeth o blith y cyhoedd na charcharorion i gael yr hawl i bleidleisio. Yn 2017 canfu arolwg YouGov nad oedd 60 y cant o'r bobl a ymatebodd yn cefnogi rhoi'r bleidlais i garcharorion—YouGov oedd hwnnw.

Mae arolygon barn cyhoeddus yn dangos dro ar ôl tro fod y cyhoedd yn gyffredinol o blaid adfer crogi. A ydych chi'n credu felly y dylem adfer crogi er mwyn cydymffurfio â'r farn gyhoeddus?

Ond mae hyn yn gwbl amherthnasol i fater carcharorion—

Nid yw'n amherthnasol, rydych chi'n siarad am y farn gyhoeddus.

Gwrandewch, roeddwn i'n meddwl eich bod yn wraig ddeallus iawn, rydym yn sôn am—

Nid ydym—. Ni ddywedais—. Roeddwn i'n meddwl eich bod chi'n ddeallus iawn, ond rydym yn siarad—

Rydym yn siarad yma—. Na, ni ddefnyddiais y gair 'twp' yma. Mae'n arwydd o'r diffyg cysylltiad rhwng y Llywodraeth Lafur hon yng Cymru a'r farn gyhoeddus. Mae Llywodraeth Lafur Cymru yn ei hystyried yn flaenoriaeth i roi pleidleisiau i ddihirod, yr etholfraint i ddrwgweithredwyr, a phleidlais i fyrgleriaid. Gadewch i Lafur Cymru a Phlaid Cymru geisio cefnogaeth Norman Stanley Fletchers y byd hwn, os dymunant. Bydd y Ceidwadwyr Cymreig bob amser yn sefyll dros hawl dioddefwyr troseddau ac nid dros hawl y troseddwyr. Rwy'n erfyn ar y Cynulliad i wrthod yr adroddiad hwn. Diolch.

Dyma brynhawniau Mercher ar eu gorau, onide? Rwy'n croesawu'r adroddiad gan y pwyllgor, wyddoch chi. Rwyf hefyd yn croesawu ymateb y Llywodraeth i'r adroddiad hwnnw, ac roeddwn yn falch iawn o ddarllen geiriau'r Gweinidog yn ei hymateb.

Roeddwn yn falch iawn pan wneuthum ddatganiad llafar ar y mater hwn ym mis Ionawr y llynedd. Bydd pob un ohonom sy'n cael y fraint o wasanaethu Llywodraeth ein gwlad yn dysgu pethau gwahanol o ganlyniad i arfer ein dyletswyddau fel rhan o'r fraint honno, ac i mi, fe wnaeth deall a dod i gysylltiad am y tro cyntaf, mewn gwirionedd, â'r system cyfiawnder troseddol roi ymdeimlad clir iawn i mi o system sydd wedi torri ac nad yw'n gwasanaethu anghenion y wlad hon, boed yn ddioddefwyr neu'r rhai a gedwir yn y ddalfa yn y wlad hon neu rywle arall.

Deuthum yn hynod argyhoeddedig yn gyflym iawn ein bod yn trin pobl mewn modd annynol yn y system hon, ein bod yn trin ein cymunedau mewn modd annynol, ac nad ydym yn hyrwyddo nac yn darparu gwasanaeth adsefydlu mewn unrhyw ffordd o gwbl. Nid oes neb yma, yn y lle hwn, er gwaethaf peth o'r nonsens a glywsom o rai rhannau o'r Siambr, a allai fod yn falch mewn unrhyw fodd ynglŷn â'r hyn sy'n digwydd—[Torri ar draws.] Rwy'n adnabod fy etholwyr, Oscar, fe wnaethant fy ethol; nid ydynt yn gwybod pwy ydych chi. Gadewch i mi ddweud hyn wrthych—[Torri ar draws.] Gadewch i mi ddweud hyn wrthych—[Torri ar draws.] Gadewch i mi ddweud hyn: dylech gywilyddio, fel y dylai pawb ar bob ochr i'r Siambr sy'n caniatáu i'r sefyllfa hon barhau yn ein carchardai.

Credaf ei bod yn iawn ac yn briodol inni ymestyn yr hawl i bleidleisio mewn etholiadau penodol i garcharorion yn y categori arbennig hwn. Credaf ei bod yn iawn ac yn briodol inni seilio system cyfiawnder troseddol ar ein gwerthoedd ac ar ein hegwyddorion—ein hegwyddorion ynghylch cyfiawnder cymdeithasol, ein hegwyddorion ynghylch yr hyn sy'n iawn ac yn briodol, ein hegwyddorion sydd am weld cyfiawnder gwirioneddol i ddioddefwyr troseddau yn y wlad hon, sef gostyngiad mewn troseddu a lleihad yn nifer y dioddefwyr. Ni wn am unman yn y byd lle mae dull mwy dialgar, dull mwy creulon, o weinyddu cyfiawnder troseddol yn arwain at fwy o heddwch mewn cymdeithas. Ac os nad yw pobl wedi dysgu hynny eto, efallai y bydd angen iddynt wneud ychydig mwy o ddysgu cyn darllen geiriau rhywun arall.

Gadewch i mi ddweud hyn: rydym o ddifrif ynghylch cyfyngu ar ryddid pobl. Rydym o ddifrif o ran y modd yr anfonwn bobl i'r carchar ac y gosodwn bobl mewn sefydliadau gwarchodol. Ond colli eu rhyddid a wnânt yn y lleoedd hynny, nid colli eu hawliau dynol. Maent yn fodau dynol o hyd—bodau dynol sydd â hawliau yn y gymuned hon. Maent yn fodau dynol hefyd a fydd yn dychwelyd i'n cymunedau. Yn fy nghymuned i, Blaenau Gwent, yn ôl ymchwil gan Brifysgol Caerdydd, mae oddeutu 50 o bobl ar hyn o bryd yn bwrw dedfryd mewn gwahanol sefydliadau ledled Cymru a Lloegr. Mae'n iawn ac yn briodol eu bod yn gallu dychwelyd i'n cymuned a'n bod yn rhoi cyfle iddynt ddysgu, cyfle i fod y math o ddinasyddion yr ydym eisiau iddynt fod. Mae'n iawn ac yn briodol ein bod yn eu trin gyda'r parch y maent yn ei haeddu fel bodau dynol—[Torri ar draws.] Mae'n iawn ac yn briodol—mae'n iawn ac yn briodol ein bod yn ceisio eu hadsefydlu yn ein cymdeithas ac yn ein cymunedau. Dyna sut y mae creu gwell cymuned a gwell cymdeithas. Nid oes angen iselhau'r lle hwn â pheth o'r iaith a glywsom y prynhawn yma, ac nid oes angen inni iselhau ein sefydliadau drwy geisio'r lefel gyffredin isaf ar gyfryngau cymdeithasol.

Gadewch i mi ddweud hyn: rwyf wedi dysgu llawer mwy nag y credwn y byddwn yn ei ddysgu yn fy amser fel Gweinidog cyfiawnder yn y lle hwn. Rwy'n torri fy nghalon wrth gofio'r sgyrsiau a gefais gyda charcharorion—y sgwrs y siaradais â'r Aelod dros y Rhondda amdani gydag un o'i hetholwyr, a dybiai y byddai'n ôl yng ngharchar Caerdydd yn weddol fuan ar ôl ei ryddhau am nad oedd y cyfleusterau i'w gefnogi ac i ymdrin â'i ddibyniaeth ar gyffuriau yn bodoli ac nid oedd ganddo unman i fyw. Mae'n rhaid i ni drin y bobl hyn â mwy o ddyngarwch, ac mae'n rhaid i ni drin y bobl hyn â mwy o barch ac mae'n rhaid i ni ddweud wrth bobl, 'Mae gennych hawliau a'r hawl i gymryd rhan yn siapio'r gymuned y byddwch yn cael eich rhyddhau iddi'. Ac rwy'n gobeithio y bydd y wlad hon, wrth i ni gronni pwerau ychwanegol ac wrth i'r ddemocratiaeth hon aeddfedu, yn aeddfedu i fod yn ddemocratiaeth sy'n trin pobl y wlad hon gyda llawer mwy o barch nag a glywsom o rai rhannau o'r Siambr y prynhawn yma. A gadewch i mi ddweud hyn: byddaf yn sefyll etholiad, fel y gwneuthum eisoes—ac nid yw llawer o'r bobl sy'n gwneud pwyntiau i wrthwynebu, wrth gwrs, erioed wedi ennill mandad i'r lle hwn, nid ydynt erioed wedi sefyll yn eu henw eu hunain mewn etholaeth ac ymladd etholiad. [Torri ar draws.] Gadewch i mi ddweud hyn: fe gefais fy ethol, fe gefais y sgyrsiau hynny gyda fy nghymuned ac fe wnaf hynny eto. A byddaf yn sefyll dros hawliau dynol pobl pan fyddaf yn gwneud hynny, a dyna, rwy'n credu, yw dyletswydd pob un ohonom.

16:05

Rwy'n mynd i alw'r siaradwr nesaf, Jenny Rathbone, ond rwy'n credu, cyn i mi wneud hynny, buaswn yn hoffi rhywfaint o eglurder gan y siaradwr blaenorol nad oedd yn bwriadu dweud, fel rwy'n siŵr nad oedd, fod pobl sy'n sefyll etholiad drwy ba fodd bynnag ac felly yn cael eu hethol i'r sefydliad hwn yn llai gwerthfawr na'u cyd-Aelodau. [Torri ar draws.] Hoffwn i hynny gael ei egluro, cyn i mi alw ar y siaradwr nesaf.

Lywydd dros dro, pan fydd pobl yn siarad â ni am y farn gyhoeddus, rwy'n gwneud y pwynt fy mod wedi profi'r farn gyhoeddus yn fy etholaeth, ac fe enillais fandad ar sail hynny.

Credaf fod hon yn ddadl bwysig, ac yn un y bydd yn rhaid inni benderfynu arni pan fyddwn yn deddfu ar yr etholfraint ar gyfer etholiadau'r Cynulliad a llywodraeth leol yn y dyfodol. Felly, nid mater penchwiban yw hwn; mae'n rhywbeth y bydd yn rhaid inni wneud penderfyniadau yn ei gylch.

A dweud y gwir, pe bai gan garcharorion hawl i bleidleisio, efallai y byddai gwleidyddion yn talu mwy o sylw i'r amodau gwarthus y cedwir llawer o garcharorion ynddynt o hyd. Clywsom gan—. Dangosodd terfysgoedd ddoe yn Long Lartin fod llawer o garcharorion yn dal heb doiled yn eu celloedd a'u bod yn gorfod gwagio bwcedi yn y bore, rhywbeth sydd mor annymunol i'r carcharorion a'r swyddogion sy'n edrych ar eu hôl. Mae hyn yn warthus yn yr unfed ganrif ar hugain.

Ledled y DU, rydym yn gwario biliynau o bunnoedd ar roi pobl dan glo, ac yng Nghymru, mae gennym gyfran uwch o garcharorion nag unrhyw wlad arall yng ngorllewin Ewrop, felly mae angen inni ofyn i'n hunain beth sydd ddim yn gweithio. Oherwydd mae ein cyfraddau aildroseddu'n golygu, mewn llawer o achosion, fod gennym ddrws troi ac felly rydym yn taflu mwy o biliynau o bunnoedd at rywbeth nad yw'n gweithio'n iawn. Mae angen inni sicrhau bod y rhan fwyaf o'n carcharorion yn dod allan yn argyhoeddedig eu bod yn mynd i fyw bywyd gwell a'u bod wedi dysgu o'u camgymeriadau. Rwy'n canmol gwaith rhagorol y carchardai a'r carcharorion—y swyddogion carchar ac asiantaethau eraill sy'n cyflawni hynny, ond mae llawer gormod o garcharorion yn methu sicrhau'r canlyniad hwnnw.

Ystyriaf fod pleidleisio nid yn unig yn hawl, ond yn ddyletswydd i bob dinesydd, a dylai hynny gynnwys pob carcharor. Roedd yn ddiddorol iawn siarad â charcharorion yng ngharchar Parc ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac yn Eastwood Park yn swydd Gaerloyw, lle mae'r holl garcharorion sy'n fenywod—roeddent yn dweud wrthym eu bod yn credu, cyn mynd i'r carchar, fod pob carcharor yn bobl ddrwg, ond eu bod bellach yn teimlo'n aml mai pobl a oedd wedi gwneud penderfyniadau gwael oeddent. Rwy'n credu ei bod yn arbennig o siomedig clywed gan Caroline Jones, sydd wedi gweithio yn y system carchardai ac sy'n gwybod felly pa mor gymhleth yw'r sefyllfa—bydd gan bob person yn y carchar stori wahanol, ac mae'r rhan fwyaf ohonynt wedi gwneud penderfyniadau gwael. Nid yw'r rhan fwyaf ohonynt wedi mynd ati i gyflawni trosedd, ond yn hytrach, maent wedi cyflawni trosedd yn ddifeddwl—trosedd y mae angen eu cosbi amdani. Ond rwy'n meddwl bod cymhlethdod y sefyllfa hefyd yn cael ei ddangos yn y ddrama a ddangosir yn y Clink ar hyn o bryd—drama o'r enw A Night in the Clink—sy'n rhan o garchar Caerdydd. Mae'r gwaith a wnaed gan Theatr Sherman mewn cydweithrediad â Papertrail yn gyfansoddiad clodwiw iawn, ac actio a mynegiant grymus iawn o ba mor anodd yw hi i rywun ailintegreiddio o fewn y gymdeithas.

Mae John Griffiths eisoes wedi sôn am yr hybarch Lady Hale, cynheiliad ein democratiaeth. Yn 2014, dywedodd:

Rhaid i unrhyw gyfyngiad ar hawliau sylfaenol fod yn ffordd gymesur o fynd ar drywydd nod cyfreithlon. Ai cosb ychwanegol yn unig ydyw, nod arall o anghymeradwyaeth cymdeithas o'r tramgwydd troseddol? Ynteu a yw'n annog ymdeimlad o gyfrifoldeb dinesig a pharch tuag at sefydliadau democrataidd? Os felly, gellid dadlau bod hyn yn fwy tebygol o gael ei gyflawni drwy gadw'r bleidlais, fel bathodyn o barhad dinasyddiaeth, i annog cyfrifoldeb dinesig ac ailintegreiddio mewn cymdeithas sifil.

Rwy'n credu bod y farn honno wedi'i mynegi'n dda gan yr holl lywodraethwyr y buom yn siarad â hwy, oherwydd maent yn deall pwysigrwydd sicrhau bod carcharorion yn canolbwyntio ar y canlyniad gobeithiol. Felly, mae'n drychineb fod polisi cosbi yn cael ei ddominyddu i'r fath raddau gan y wasg boblogaidd, fel y mynegwyd gan rai o'r siaradwyr heddiw. Mae'n drychineb arbennig i blant carcharorion, nad ydynt byth yn cael eu hystyried pan anfonwn bobl i'r carchar, ac yn aml nid ydynt yn achosi unrhyw risg eu hunain i gymdeithas mewn gwirionedd. Drwy roi'r etholfraint i bawb sydd wedi cael dedfryd o lai na phedair blynedd, rydym yn eithrio'r rhai sy'n euog o'r troseddau mwyaf difrifol, ac mae'n drueni na ddarllenodd Caroline Jones yr adroddiad mewn gwirionedd, oherwydd mae'n dweud yn glir fod llai na hanner y carcharorion o Gymru yn bwrw dedfryd o bedair blynedd neu fwy. Felly, yn 2017, sef y tro diwethaf yr oedd y ffigurau hynny ar gael, roedd 1,800 yn bwrw dedfryd o lai na phedair blynedd, o gymharu â 1,600 a oedd yn bwrw dedfryd hwy na phedair blynedd.

Rhaid inni symud gyda—. Mae'n rhaid i ni fod ar flaen y farn gyhoeddus yn yr achos hwn, fel yr oeddem wrth ddiddymu crogi, fel yr oeddem wrth gyflwyno'r Ddeddf erthylu, deddf y mae'r rhan fwyaf o bobl resymol yn awr yn sylweddoli mai dyna'n union sydd angen inni ei wneud. Felly, fy mhwynt olaf yw dweud na chaniateir i'r rhai sydd eisoes wedi cael hawl i bleidleisio o dan Ddeddf 1983 i arfer y cyfrifoldeb hwnnw. Nid yw'n ddigon dweud, 'A oes unrhyw un am bleidleisio?'—

16:10

—a disgwyl iddynt gamu ymlaen, gyda'r holl broblemau eraill sydd ganddynt. Mae angen i bawb fod wedi cofrestru i bleidleisio. Dyna'r gyfraith, ac nid yw'n cael ei harfer yn ein carchardai, ac mae'n rhywbeth y gobeithiaf y bydd y Gweinidog yn sôn amdano o ran sicrhau bod y gwasanaeth carchardai a'r swyddogion cofrestru etholiadol yn gweithio i sicrhau bod pob person sy'n mynd i'r carchar, hyd yn oed os yw'n ddim ond am wythnos, wedi'i gofrestru i bleidleisio fel rhan o'r broses dderbyn.

Diolch i Gadeirydd y pwyllgor am gyflwyno'r ddadl heddiw, a diolch hefyd i'r holl bobl a gymerodd ran, gan gynnwys y carcharorion y buom yn siarad â hwy. Nawr, nid wyf yn aelod o'r pwyllgor mwyach, er fy mod ar ddechrau'r ymchwiliad hwn. Cymerais ran yn y ddau ymweliad â charchardai ac roeddwn ar y pwyllgor pan ddechreuasom drafod cynnwys yr adroddiad.

Credaf fod John Griffiths yn iawn yn dweud bod hwn yn fater sy'n ennyn teimladau cryfion, ac mae safbwyntiau pobl yn siŵr o amrywio, fel y mae'r ddadl hon wedi dangos. Er mwyn bod yn deg â'r Cadeirydd, rhoddodd gyfle i bob un ohonom ddweud ein barn ar hyn pan ddechreuwyd trafod beth fyddai'n mynd i mewn i'r adroddiad, ond wrth gwrs nid oeddem i gyd yn mynd i gytuno. Nawr, efallai fod gennym wahaniaethau gwleidyddol yma ynglŷn ag a ddylid ymestyn yr hawl i bleidleisio i gynnwys carcharorion ai peidio, ond a gaf fi nodi hefyd, hyd yn oed pe bai pob un ohonom yn cytuno i'w hymestyn, ac nid ydym, byddai problemau logistaidd ac ymarferol mawr o hyd mewn perthynas â chymhwyso'r hawl i bleidleisio? Er enghraifft, mae yna broblem gyda'r ffaith bod gennym garcharorion o Gymru mewn carchardai yng Nghymru a llawer o garcharorion o Gymru hefyd mewn carchardai yn Lloegr, ac mae gennym hefyd garcharorion o Loegr yn y carchar yng Nghymru. Os cawn etholiad yng Nghymru megis etholiad Cynulliad neu etholiadau llywodraeth leol, golyga hyn y gall rhai carcharorion bleidleisio—os yw'r syniad o ymestyn yr hawl yn cael ei dderbyn, bydd rhai carcharorion yn cael pleidleisio ac eraill na fyddant yn cael gwneud hynny, a bydd anawsterau wrth wahaniaethu rhwng y gwahanol gategorïau o garcharorion. Nid wyf yn dweud—

Y cyfan yr hoffwn ei wneud yw tynnu sylw at y ffaith bod y rheini sydd â dedfrydau hwy na phedair blynedd eisoes wedi'u gosod mewn categori ar wahân gan y gwasanaeth carchardai. Felly, mae hyn yn rhywbeth y maent eisoes yn ei wneud.

Ydy, ac nid wyf yn anghytuno â'r sylw a wnaethoch, Jenny, ac nid wyf yn dweud na ellir goresgyn yr anawsterau. Ond yn sicr, credaf y bydd y ddeddfwriaeth yn ychwanegu at faich staff carchardai, sydd â digon i'w wneud fel y mae, mae'n debyg, a chlywsom rywfaint o dystiolaeth i'r perwyl hwnnw pan gawsom yr ymchwiliad.

Hefyd, beth sy'n digwydd os oes gennym sefyllfa debyg i 2017, pan oedd etholiadau lleol Cymreig yn cael eu dilyn yn gyflym gan etholiad cyffredinol. Pe bai'r sefyllfa honno'n digwydd eto yn y dyfodol, byddai gennych rai carcharorion yn gymwys i bleidleisio yn yr etholiadau leol. Yna, ychydig wythnosau'n ddiweddarach, efallai y cawn etholiad cyffredinol, y gallai fod ganddynt fwy o ddiddordeb ynddo nag yn yr etholiadau lleol, ac a wyddoch chi beth? Ni fydd ganddynt bleidlais. Bydd yn rhaid i rywun esbonio i grŵp o garcharorion pam nad oes ganddynt bleidlais, a hwythau wedi credu bod un ganddynt—pob lwc gyda hynny.

Nawr, ceir problem logistaidd hefyd mewn perthynas â phennu terfyn o ran pa garcharorion sy'n cael pleidleisio, felly mae gennym gyfaddawd, a gynigir gan yr adroddiad, o roi pleidlais i garcharorion sy'n bwrw dedfryd o bedair blynedd neu lai. Mae hyn yn well yn fy marn i na rhoi'r bleidlais i bob carcharor, a fyddai, rwy'n credu, yn anfon neges i'r gymdeithas y byddai'r cyhoedd ehangach yn ei chael hi'n anodd ei deall. Fodd bynnag, dywedwyd wrthym gan rai a oedd mewn awdurdod yn y gwasanaeth carchardai yn ystod ein hymweliadau y byddai'n llawer anos gweithredu'r hawl i garcharorion bleidleisio pe bai terfyn yn bodoli, oherwydd unwaith eto, mae'n creu categorïau gwahanol o garcharorion, gyda rhai ohonynt yn cael pleidleisio, ac eraill na chânt wneud hynny. Byddai gennym garcharorion ar yr un adain, nifer ohonynt wedi'u cael yn euog am droseddau tebyg iawn, ond wedi cael dedfrydau ychydig yn wahanol, a bydd rhai ohonynt yn cael pleidleisio, ac eraill na chânt wneud hynny. Mewn amgylchedd caeedig fel carchar, gallai hyn arwain at broblemau. Yn wir, yn hytrach na chynyddu morâl carcharorion, byddai rhoi'r bleidlais i rai ohonynt, ond nid i bob un ohonynt, yn gallu arwain at ddadlau a lleihau morâl cyffredinol adain mewn carchar yn ystod cyfnod etholiad.

Yn fy marn i, yr ateb mwyaf ymarferol fyddai peidio ag ymestyn yr hawl i bleidleisio i garcharorion o gwbl, ond derbyn y sefyllfa fel y mae ar hyn o bryd. Nid oes fawr neb yn yr etholaeth ehangach yn cefnogi rhoi'r bleidlais i garcharorion o gwbl. Mae'r rhan fwyaf yn credu bod carcharorion wedi fforffedu eu hawl i bleidleisio pan oeddent yn fforffedu hawl llawer pwysicach, sef yr hawl i'w rhyddid eu hunain. Mae carcharorion eisoes wedi'u dyfarnu'n analluog i gydymffurfio â'r gymdeithas sifil. Dyma'r penderfyniad a wnaed pan gawsant eu dedfrydu i garchar. Nid yw'n gwneud synnwyr o gwbl yng ngolwg y rhan fwyaf o'r cyhoedd yn gyffredinol i roi'r hawl iddynt bleidleisio. Ceir rhai cafeatau o ran carcharorion ar remánd nad ydynt wedi'u cael yn euog o unrhyw drosedd, ac o ran y rhai sydd ar drwyddedau dros dro, ond caiff y rhain i gyd eu cynnwys yn y ddeddfwriaeth bresennol. Felly, pam yr angen i ymestyn yr hawl i bleidleisio i garcharorion? Mae'r adroddiad hwn yn rhagarweiniad i ddeddfwriaeth wael arall, mae arnaf ofn, ac un arall sy'n dangos cyn lleied o gysylltiad sydd rhwng Cynulliad Cymru a'r cyhoedd yn gyffredinol yng Nghymru. Diolch.

16:15

Yn ei hymateb i'r adroddiad, dywedodd Llywodraeth Cymru, ac rwy'n dyfynnu,

'Mae Llywodraeth Cymru yn credu y bydd caniatáu i rai carcharorion o leiaf bleidleisio yn anfon neges gadarn a chadarnhaol i garcharorion bod ganddynt ran i'w chwarae yn ein cymdeithas ac, yn ei dro, bod ganddynt gyfrifoldebau tuag at y gymdeithas yn gyfan.' 

Mae honiad o'r fath yn anwybyddu'r ffaith bod llai nag un o bob 12 carcharor mewn gwirionedd yn y carchar am drosedd gyntaf. Mae'n anhygoel o anodd mynd i garchar y dyddiau hyn. Er enghraifft, nid oes gan lai nag un o bob wyth a gaiff eu carcharu am droseddau cyffuriau unrhyw gollfarnau neu rybuddion blaenorol, ac yn rhyfeddol, mae carcharor yn llawer mwy tebygol o fod ag o leiaf 46 o gollfarnau neu rybuddion blaenorol nag o fod yn droseddwr tro cyntaf. Yr holl droseddu, tra'u bod yn dal i allu pleidleisio, a dal i gael rhan mewn cymdeithas, a chyfrifoldebau yn eu tro tuag at gymdeithas yn gyffredinol.

Bob tro y bydd troseddwr wedi bod drwy'r system farnwrol, bydd y gwasanaethau prawf a'r barnwr neu'r ynadon wedi rhoi'r holl arwyddion sydd eu hangen arnynt i droseddwyr eu bod yn cael cyfle i newid—arwyddion cryf sy'n llawer mwy uniongyrchol nag unrhyw neges y gallai'r lle hwn ei hanfon. Rhybuddir pob troseddwr, a throseddwyr mynych hyd yn oed yn fwy felly, os byddant yn parhau i droseddu, y byddant yn peryglu eu hawliau, eu hawliau priodasol a'u rhyddid dyddiol. Mae ynadon, swyddogion prawf a barnwyr yn ei gwneud yn gwbl glir beth y mae troseddwr yn ei beryglu os yw'n aildroseddu, ac felly does bosibl na allwn gymryd y weithred o aildroseddu gan y troseddwr fel eu cydsyniad hwy i golli'r hawliau a'r rhyddid hwnnw.

Mae'r adroddiad hwn yn ymwneud â niferoedd yn unig, ond dylai ymwneud â mwy na niferoedd—mae yna egwyddorion difrifol iawn yma. Yn hytrach nag anfon neges i droseddwyr di-baid y bydd ganddynt gyfrifoldebau tuag at gymdeithas o hyd, mae'n gwneud y gwrthwyneb. Mae'n dweud, er gwaethaf rhybuddion mynych gan farnwyr a swyddogion prawf y byddwch yn colli'ch hawliau sifil os byddwch yn parhau i droseddu, gallwch barhau i droseddu gydag amgylchiadau llai negyddol o ran eich hawliau sifil personol nag sydd wedi bod yn wir hyd yn hyn. Mae'n anfon neges at aelodau o'r gymdeithas sy'n cydymffurfio â'r gyfraith fod ein dosbarth gwleidyddol yn fwy allan o gysylltiad nag yr oeddent yn ei feddwl, oherwydd maent am ganiatáu i'r rhai na allant lynu wrth y gyfraith gael rhan yn creu'r gyfraith.

Does bosibl fod troseddwr, tra yn y carchar yn bwrw ei ddedfryd, yn berson addas i ddylanwadu ar y broses o benderfynu ar y rheolau y mae'r cyhoedd sy'n cydymffurfio â'r gyfraith yn gorfod byw oddi tanynt. Ni chaiff llawer o bedoffiliaid a gafwyd yn euog o feddu ar ddelweddau anweddus o blant eu carcharu, ond hyd yn oed pan gânt eu carcharu, fel Jonathan McNeill, cânt ddedfrydau sy'n fyrrach na phedair blynedd. Nid oedd angen rhoi unrhyw arwydd i'r dyn hwn ynglŷn â chael rhan mewn cymdeithas; nid oedd ond wedi ymddeol o fod yn swyddog heddlu chwe mis cyn ei arestio a'i ddedfrydu i 15 mis o garchar. Ond mae Llafur ac eraill yn y Siambr hon yn amlwg yn meddwl y dylai ef a phedoffiliaid tebyg iddo fod â rhan mewn cymdeithas o hyd. Wel, ni ddylai, a dylai pobl deimlo cywilydd eu bod am fynd ar ôl eu pleidleisiau.

Wythnos yn unig ar ôl i'r lle hwn anfon neges at rieni y dylent deimlo'n wael ynglŷn â'r modd y maent yn disgyblu eu plant, mae'r un gwleidyddion yn dweud wrth y rhai sydd am weld lluniau o blant yn cael eu cam-drin y dylent deimlo'n well amdanynt eu hunain. Mae'n ffiaidd. Os ydych chi'n mynd i barhau i newid yr etholaeth, efallai y dylech brofi'r farn gyhoeddus am y newidiadau arfaethedig yn briodol cyn cytuno arnynt yn y lle hwn. Nid wyf wedi cael unrhyw ohebiaeth gan yr etholwyr yn gofyn am ganiatáu i garcharorion bleidleisio. Fodd bynnag, rwy'n clywed gan bleidleiswyr sy'n pryderu bod y GIG yn methu, y system addysg yn methu a'r system gofal cymdeithasol yn methu. Nid oes ryfedd fod Llafur am newid yr etholaeth a chaniatáu i'r rhai nad ydynt yn malio dim, os o gwbl, ynglŷn â pha mor deg y mae cymdeithas yn gweithredu bleidleisio drostynt. Diolch.

16:20

Galwaf ar y Llywydd i siarad ar ran Comisiwn y Cynulliad—Elin Jones.

Diolch. Dwi'n ddiolchgar am y cyfle i ymateb ar ran Comisiwn y Cynulliad i'r adroddiad manwl yma gan y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau. Dwi eisiau amlinellu yn gyntaf pam ein bod ni'n cael y ddadl yma heddiw. Pan oeddwn i a'r Comisiwn yn ystyried sut i arfer y pwerau newydd a ddarparwyd yn Neddf Cymru 2017 i wneud newidiadau i etholfraint y Cynulliad, un o'r materion a ddaeth i'm sylw yn gynnar oedd hawliau carcharorion i bleidleisio.

Roedd Llys Hawliau Dynol Ewrop wedi canfod mewn dyfarniadau olynol fod y Deyrnas Unedig yn torri'r confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol drwy wahardd carcharorion yn gyffredinol rhag pleidleisio. Mae dyletswydd felly i sicrhau bod etholfraint y Cynulliad yn gydnaws â'r confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol. Felly, daeth hawliau pleidleisio carcharorion yn un o'r materion blaenaf i'w hystyried yng nghyd-destun newid etholfraint y Cynulliad.

Bydd Aelodau'n ymwybodol bod Llywodraeth y DU wedi gwneud trefniadau gweinyddol a fydd yn galluogi nifer cyfyngedig o garcharorion i bleidleisio. Mae Cyngor Ewrop wedi cymeradwyo dull Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ond nid ydym yn gwybod eto a yw'r trefniadau hyn yn ddigonol ym marn llys Ewrop. O ran y Cynulliad, prif ofyniad dyfarniad llys Ewrop yw bod penderfyniadau ystyriol yn cael eu gwneud ynglŷn â hawliau carcharorion i bleidleisio mewn etholiadau i ddeddfwrfeydd.

Gofynnodd Comisiwn y Cynulliad am farn y cyhoedd ar y mater yma yn 2018, fel rhan o'n hymgynghoriad ni ar 'Creu Senedd i Gymru'. Fe wnaeth yr ymgynghoriad hynny amlygu'r cymhlethdodau cyfreithiol, moesegol ac ymarferol sydd ynghlwm wrth roi'r bleidlais i garcharorion. Felly, gwnaethom gytuno fel Comisiwn fod angen parhau i ystyried y mater yma'n fanwl, ar sail drawsbleidiol, er mwyn galluogi'r Cynulliad fel deddfwrfa i roi ei farn ar y maes polisi yma cyn cyflwyno unrhyw gynigion deddfwriaethol.

Felly, ym mis Medi 2018, ysgrifennais i at y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau a gofyn iddynt i ystyried y mater hwn ymhellach. Gweler y gwaith sydd nawr wedi ei gyflawni a'r adroddiad sydd ger ein bron ni heddiw. Ystyriodd Comisiwn y Cynulliad adroddiad ac argymhellion y pwyllgor yn ofalus. Prif argymhelliad y pwyllgor yn ei adroddiad oedd y dylai Llywodraeth Cymru a Chomisiwn y Cynulliad ddeddfu i roi'r bleidlais i garcharorion sy'n bwrw dedfrydau o lai na phedair blynedd.

Rwy’n ymwybodol bod y Cwnsler Cyffredinol wedi ysgrifennu at y pwyllgor yn ddiweddar yn amlinellu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i’r egwyddor o roi'r hawl i garcharorion bleidleisio ym mhob etholiad datganoledig yng Nghymru—

Rydych yn dweud eich bod yn teimlo dyletswydd i wthio am yr hawl i garcharorion bleidleisio, ond onid yw hynny'n ei danddatgan mewn gwirionedd? Onid ydych o dan rwymedigaeth gyfreithiol i wneud hynny, wrth siarad ar ran y Comisiwn, yn yr un ffordd ag y byddai Jeremy Miles ar ran Llywodraeth Cymru? Fel cyrff cyhoeddus, mae'r gyfraith yn mynnu eich bod yn ystyried dyfarniadau Siarter Hawliau Dynol Ewrop.

Ydy, rwy'n cytuno, ac roeddwn yn meddwl mai dyna beth a ddywedais. Os nad oeddwn yn glir yn yr hyn a ddywedais, yna yn sicr mae cydymffurfio â'r confensiwn yn rhywbeth y mae'n ddyletswydd ar y Cynulliad Cenedlaethol i'w sicrhau—ei fod yn cydymffurfio â'r confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol, a hynny sydd wedi gyrru'r holl waith hyd yma.

Os af fi nôl, felly, i argymhelliad y pwyllgor, mae'r Comisiwn wedi ystyried a fyddai'r Bil Senedd ac etholiadau, sy'n cael ei ystyried ar hyn o bryd gan y Cynulliad, yn gyfrwng deddfwriaethol addas ar gyfer unrhyw gynigion gan Lywodraeth Cymru, ac wedi dod i'r casgliad na fyddai'r Bil yn gyfrwng deddfwriaethol addas, yn ein barn ni ar hyn o bryd. Mae'r Comisiwn yn cytuno'n gryf â barn y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y byddai rhoi hawliau pleidleisio i garcharorion yn gyfystyr â newid sylweddol i'r etholfraint. Dylai unrhyw ddarpariaethau i gyflawni newid o'r fath gael eu cynnwys mewn Bil wrth ei gyflwyno, yn hytrach na'u mewnosod drwy welliannau. Er bod yr ymchwiliad i hawliau pleidleisio carcharorion a gynhaliwyd gan y pwyllgor wedi ystyried y mater polisi hwn yn fanwl, mae'r Comisiwn yn cytuno â'r pwyllgor materion cyfansoddiadol na all hyn gyfateb i waith craffu ar Fil yng Nghyfnod 1. O'r herwydd, nid yw'r Comisiwn o'r farn y dylid cyflwyno gwelliannau i'r Bil Senedd ac etholiadau i fynd i'r afael â'r mater yma.

Mae'n werth imi hefyd egluro beth yw cylch gwaith Comisiwn y Cynulliad o ran materion etholiadol. Mae'r Cynulliad, wrth gwrs, wedi rhoi mandad i'r Comisiwn gyflwyno deddfwriaeth i ostwng yr oedran pleidleisio ar gyfer etholiadau'r Cynulliad. Fodd bynnag, Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol o hyd am bolisi o ran pob etholiad datganoledig yng Nghymru. Mae pleidlais i garcharorion hefyd yn faes polisi llawer mwy cymhleth na rhoi'r hawl i bobl ifanc 16 a 17 oed i bleidleisio. Am y rhesymau hyn, dwi'n credu bod datblygu unrhyw gynigion deddfwriaethol mewn perthynas â hawliau pleidleisio carcharorion ar gyfer etholiadau’r Cynulliad, a’r cyfrifoldeb am ymateb i'r rhan fwyaf o argymhellion y pwyllgor, yn fater i Weinidogion Cymru.

I gloi, felly, dwi'n diolch i'r pwyllgor am gynnal yr ymchwiliad manwl yma. Heb os, mae'n gyfraniad pwysig iawn ar y cwestiwn sylfaenol hwn sy'n ymwneud â materion cyfansoddiadol a hawliau dynol pwysig y bydd Llywodraeth Cymru a'r Cynulliad, maes o law, yn mynd i'r afael â nhw.

16:25

Galwaf ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James.

Diolch, Lywydd dros dro. Hoffwn ddiolch hefyd i'r Cadeirydd ac i'r pwyllgor am eu harchwiliad manwl o'r materion niferus sy'n ymwneud â phwnc emosiynol a chymhleth hawliau pleidleisio i garcharorion. Roedd yr ymchwiliad a'r adroddiad yn drylwyr ac yn wrthrychol. Mae'r dadansoddiad a'r argymhellion yn sicr wedi helpu i lywio ein casgliadau polisi a nodir yn fy ymateb ysgrifenedig i'r argymhellion, sydd eisoes wedi'i gyhoeddi. Rydym yn derbyn, neu'n derbyn mewn egwyddor, holl argymhellion y pwyllgor a gyfeiriwyd at Lywodraeth Cymru. Mae ein rhesymeg wedi'i nodi yn fy ymateb, felly nid af drwy hynny eto.

Fel y pwysleisiwyd yn adroddiad y pwyllgor, ceir materion cyfreithiol a gweinyddol pwysig i fynd i'r afael â hwy wrth weithredu hawl carcharorion i bleidleisio. Bydd angen i Lywodraeth Cymru weithio gyda Llywodraeth y DU ac yn benodol gyda Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi i sicrhau'r bleidlais i garcharorion mewn modd amserol, cydlynol ac effeithiol. Mae fy swyddogion eisoes wedi dechrau cysylltu â chysylltiadau ar draws ystod o sefydliadau Llywodraeth y DU.

Ond dim ond rhan o'r paratoi a'r ymgysylltu sydd ei angen yw hynny. Mae'r hawl i bleidleisio yn arf gwerthfawr a phwerus. Mae angen i bleidleiswyr gael gwybod am beth y maent yn pleidleisio a phwy sydd am eu cynrychioli. Mae angen i ymgeiswyr a phleidiau gwleidyddol allu estyn allan at bleidleiswyr a chyfleu eu polisïau iddynt. Os yw ymestyn y bleidlais i gynnwys carcharorion a phobl ifanc yn y ddalfa yn mynd i fod yn ystyrlon, mae angen inni hefyd wneud llawer o waith ar y materion meddalach a nodir yn adroddiad y pwyllgor, megis ymwybyddiaeth ac addysg pleidleiswyr, hygyrchedd gwybodaeth a chyfryngau a chymorth ymarferol i helpu carcharorion a phobl ifanc yn y ddalfa i gofrestru eu pleidlais.

Rwyf bob amser wedi dweud yn glir fod Llywodraeth Cymru yn credu'n gryf yn yr egwyddor y dylai o leiaf rai carcharorion gael y bleidlais mewn etholiadau datganoledig yng Nghymru. Byddwn yn gweithio i gyflwyno deddfwriaeth yn y Cynulliad hwn i alluogi carcharorion a phobl ifanc yn y ddalfa o Gymru sy'n bwrw dedfryd o garchar o lai na phedair blynedd i bleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol. Ein nod yw sicrhau bod carcharorion a phobl ifanc gymwys yn y ddalfa yn gallu pleidleisio yn yr etholiadau llywodraeth leol arferol nesaf yn 2022.

Fodd bynnag, yn anffodus, nid ydym yn credu y bydd yn bosibl datrys yr holl faterion a grybwyllir yn adroddiad y pwyllgor mewn pryd i gynnwys darpariaeth ar gyfer etholiadau'r Cynulliad yn y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) sy'n cael ei ystyried gan Aelodau'r Cynulliad ar hyn o bryd. Am yr holl resymau y mae'r Llywydd newydd eu nodi, ac rwy'n cytuno'n llwyr â hwy, mae angen inni roi ystyriaeth well i'r hyn sydd angen inni ei wneud a meddwl am hynny'n fwy penodol. Fe ddychwelaf at y pwynt hwnnw ychydig yn nes ymlaen yn fy araith.

Felly, bydd hwn yn grŵp bach iawn o etholwyr newydd, ond mae ganddynt amgylchiadau arbennig sy'n torri ar draws llawer o'r trefniadau hirsefydlog ar gyfer cofrestru i bleidleisio a bwrw pleidlais. Yn syml iawn, fel y mae'r Llywydd newydd ei nodi, nid oes digon o amser i weithio drwy'r holl ofynion cyfreithiol a gweinyddol newydd y byddai'n rhaid eu sefydlu ar gyfer etholiad a gynhelir yn 2021, a'u profi gyda Llywodraeth y DU, y gwasanaeth carchardai a'r swyddogion cofrestru etholiadol. Er mwyn i unrhyw gategori newydd o bleidleiswyr allu pleidleisio yn etholiad y Cynulliad ym mis Mai 2021, cofiwch y byddai angen i'r holl ddeddfwriaeth sylfaenol, yr is-ddeddfwriaeth a'r canllawiau fod yn eu lle erbyn mis Gorffennaf 2020, pan fydd y canfasio'n dechrau ar gyfer llunio'r gofrestr a fydd yn gymwys yn yr etholiadau hynny.

Bydd angen i ni hefyd weithio'n agos gyda'r Comisiwn Etholiadol, llywodraethwyr a swyddogion carchardai, pleidiau gwleidyddol, darparwyr addysg, sefydliadau'r cyfryngau a charcharorion eu hunain i ddatblygu canllawiau a gweithdrefnau clir, cywir ac ymarferol i hysbysu a chynorthwyo carcharorion ynglŷn â sut i gofrestru a bwrw eu pleidlais. Yn unol â hynny, ni fydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno gwelliannau i'r Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru); byddwn yn chwilio am gyfrwng deddfwriaethol priodol i gyflwyno darpariaeth cyn gynted â phosibl er mwyn galluogi carcharorion a phobl ifanc yn y ddalfa o Gymru i bleidleisio yn etholiadau'r Cynulliad. Yr etholiad Cynulliad cyffredinol cyntaf y byddai carcharorion a phobl ifanc yn y ddalfa yn gallu pleidleisio ynddo, felly, fyddai'r etholiad yn 2026.  

Bydd y nifer sy'n cael yr hawl i bleidleisio gan y newidiadau hyn yn fach—tua 2,000 ar y mwyaf—ond mae hwn yn gam pwysig ymlaen, yn ymarferol ac mewn egwyddor. Mae angen inni wneud yn siŵr ei fod yn fwy na gweithred ddisylwedd heb unrhyw effaith ymarferol y tu hwnt i'r hyn a ysgrifennwyd ar y llyfr statud. Mae hynny'n golygu y bydd angen i ni, a'r holl asiantaethau eraill sy'n gysylltiedig, fuddsoddi amser ac ymdrech i sicrhau bod y seilwaith angenrheidiol ar waith, wedi'i brofi, a'i fod yn gadarn. Rwy'n hapus iawn i ymateb i gais John i roi gwybod i'r pwyllgor am ein cynnydd mewn perthynas â phob un o'r argymhellion a sut y'u gweithredwn mewn manylder ymarferol, a byddaf yn sicrhau bod swyddogion yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r pwyllgor wrth i'r materion hynny fynd rhagddynt.

Rydym am i'r grŵp newydd hwn o bleidleiswyr allu arfer eu hawliau a gwneud hynny gan wybod eu bod yn ddinasyddion, fod ganddynt ran mewn cymdeithas a bod ganddynt rwymedigaethau i gymdeithas hefyd. Credaf yn gryf y bydd yr elw ar fuddsoddiad o'r fath yn hynod o werth chweil. Diolch.

16:30

Galwaf yn awr ar John Griffiths, fel Cadeirydd y pwyllgor, i ymateb i'r ddadl.

Diolch yn fawr. Wel, mae wedi bod yn ddadl ddiddorol gyda safbwyntiau cymysg. Wrth gwrs, roedd barn gymysg ar y pwyllgor, rhywbeth a adlewyrchwyd yn yr adroddiad, ond mae'r mwyafrif yn cefnogi argymhellion y pwyllgor a'r adroddiad ei hun. Credaf fod nifer o faterion ymarferol sy'n rhaid mynd i'r afael â hwy, fel yr amlinellwyd gan yr Aelodau, ond ymdrinnir â'r rheini yn yr adroddiad a'r argymhellion.

Wrth gwrs, clywsom gan staff carchardai a ddywedodd eu bod yn cydnabod yr anawsterau hynny—peth o'r fiwrocratiaeth a'r problemau system a allai fod yn gysylltiedig â hyn—ond nad oeddent yn anorchfygol o bell ffordd. Yn wir, roedd llywodraethwr y carchar a'r staff yn gefnogol iawn i'r cyfeiriad teithio y mae'r adroddiad yn ei argymell, ac roeddem yn ddiolchgar iawn am y lefel honno o ddealltwriaeth.

Fel yr argymhellwn, bydd yn rhaid cael memorandwm cyd-ddealltwriaeth, fel yr ydym yn ei argymell, y gall Llywodraeth Cymru a'r Comisiwn Etholiadol fynd ar ei drywydd gyda Llywodraeth y DU a'r gwasanaeth carchardai. Bydd hynny'n mynd i'r afael â materion ynghylch sicrhau bod carcharorion yn cael eu cofrestru i bleidleisio, os ydynt yn gymwys; eu bod yn cael cymorth i gymryd rhan; fod mynediad i bleidiau gwleidyddol allu cyfarfod â charcharorion at ddibenion ymgyrchu; a bod cydgysylltydd etholiadau ym mhob carchar sydd â charcharorion o Gymru. Mae'r holl faterion hynny'n rhai ymarferol iawn, Ddirprwy Lywydd, ac rydym yn eu cydnabod ac yn rhoi sylw iddynt yn ein hadroddiad mewn ffordd yr un mor ymarferol. Nid ydynt yn anorchfygol, ac fel y dywedais, cafodd hynny ei dderbyn gan y rheini a fydd yn gyfrifol am wneud y trefniadau o fewn y carchar.

Bydd yn rhaid rhoi gwybodaeth i garcharorion a mynd i'r afael â'r diffyg mynediad at gyfryngau Cymru o ran carchardai yn Lloegr, a chlywsom yn effeithiol iawn gan garcharorion yn Eastwood Park. Felly, oes, mae cryn dipyn o faterion ymarferol yn codi, ond mae modd goresgyn pob un ohonynt. Yn wir, rwy'n credu bod yna ymdeimlad clir o'r ewyllys angenrheidiol o fewn carchardai ac ymhlith partneriaid angenrheidiol i wneud yn siŵr fod yr anawsterau hynny'n cael eu goresgyn.

Mae wedi bod yn waith diddorol a gwerth chweil, ac rwy'n credu i'r pwyllgor fwynhau'r gwaith, gan wybod ei fod yn rhywbeth sydd o werth ymarferol—mae'n rhywbeth y gofynnwyd i ni ei wneud. Mae'n rhywbeth sy'n cydnabod cyfrifoldebau'r sefydliad hwn mewn perthynas â'r confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol, fod gofyniad clir gan y corff rhyngwladol pwysig iawn hwnnw i'r materion hyn gael sylw, ac yn wir, wrth gwrs, y dyfarniad gan Lys Hawliau Dynol Ewrop na ellir amddiffyn gwahardd eu gofynion a'n cyfrifoldebau yn ddiwahân. Mae Llywodraeth y DU wedi cydnabod hynny gyda'r newidiadau cyfyngedig a wnaethant, ac y cyfeiriais atynt yn gynharach, ac mae'n rhaid i ni hefyd fabwysiadu safbwynt yma ynglŷn â sut i fynd i'r afael â'r gofynion hynny. Rwy'n falch iawn fod yr adroddiad wedi llwyddo i wneud hynny'n effeithiol, rwy'n credu—mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn hynny. Rwy'n deall yr hyn a ddywedodd y Llywydd mewn perthynas â gwaith y pwyllgor a'r cyfrifoldeb yr ydym wedi'i dderbyn, wedi ymgymryd ag ef, ac wedi'i gyflawni'n briodol, rwy'n gobeithio.

Wrth gwrs, roedd llawer o'r hyn a glywsom yn y ddadl, Ddirprwy Lywydd, yn ymwneud â materion o egwyddor ehangach yn hytrach na'r problemau mwy ymarferol. Rwy'n credu bod hynny'n hollol iawn; mae yna faterion o egwyddor ehangach yn codi. Rydym yn cydnabod hynny yn yr adroddiad. Buaswn yn cytuno â rhai o'r Aelodau a siaradodd, fel Leanne Wood, Jenny Rathbone ac Alun Davies, a diolch i Alun Davies am y gwaith a wnaeth fel Gweinidog yn bwrw ymlaen â'r materion hyn, ac yn ein rhoi mewn sefyllfa lle y gallwn wneud y cynnydd y gobeithiaf y byddwn yn ei wneud maes o law.

Rwy'n deall yn iawn y disgrifiad a roddodd yr Aelodau o'r system cyfiawnder troseddol sydd gennym. Rwy'n credu ei bod wedi torri; nid wyf yn credu bod unrhyw amheuaeth am hynny. Mae'n orlawn iawn, sy'n ei gwneud hi'n anodd iawn datblygu hyfforddiant priodol, adsefydlu priodol. Mae hynny'n bwysig, onid yw? Ac yn wir, cydnabu Rory Stewart, un o'r Gweinidogion diweddar ar lefel y DU gyda chyfrifoldeb am hyn. Mewn gwirionedd, rwy'n credu ei fod wedi dweud yn eithaf dramatig ac yn drawiadol iawn y byddai'n ymddiswyddo o'r swydd os na allai newid y system o fewn cyfnod penodol o amser. Roedd yn ffordd eithaf dramatig o fynd i'r afael â'i gyfrifoldebau. Daeth materion eraill ar ei draws, fel y gwyddom, mewn ffordd eithaf dramatig hefyd, ond credaf fod honno'n ffordd drawiadol i Weinidog gydnabod ei gyfrifoldebau, gan gydnabod cyflwr presennol y system cyfiawnder troseddol a'r system carchardai, a bod eisiau gwneud rhywbeth effeithiol yn ei gylch.

Felly, mae yna broblemau difrifol, a'r hyn a wnânt mewn gwirionedd yw arwain at fwy o droseddu a mwy o ddioddefwyr troseddau, oherwydd os na chaiff pobl eu hadsefydlu'n briodol pan gânt eu rhyddhau, fel sy'n digwydd i bron bob carcharor, mae'n amlwg eu bod yn fwy tebygol o aildroseddu a niweidio ein cymunedau, eu hunain a'u teuluoedd ymhellach.  

16:35

Rhaid bod y dystiolaeth a roddwyd gan yr Ymddiriedolaeth Diwygio Carchardai wedi creu argraff arno, fel y gwnaeth arnaf fi, pan ddywedodd, 'Gadewch inni beidio ag anghofio bod llawer o'r bobl sydd yn y carchar yn dod, i raddau anghymesur, o gymunedau du a lleiafrifoedd ethnig, ac i raddau anghymesur o gymunedau difreintiedig hefyd.' Nid ydynt yn gymuned ar wahân; maent yn rhan o'n cymuned ni. Ac mae hynny'n iawn, oherwydd os methwn roi darpariaeth adsefydlu ddigonol ar waith—ac mae rhan o'r ddadl hon yn ymwneud â hynny hefyd—yna, mewn gwirionedd, yr hyn a ddywedwn yw ein bod yn diystyru'r bobl hynny, a Duw a'n helpo wedyn o ran goblygiadau hynny pan gânt eu rhyddhau yn ôl i mewn i'n cymuned, oni bai ein bod yn eu trin fel dinasyddion.

Cytunaf yn llwyr â hynny. Fel y dywedais, yr hyn yr ydym yn siarad amdano, yn fy marn i, yw gwneud y peth iawn o ran egwyddor, ond gwneud y peth iawn hefyd o ran yr effaith ymarferol. Ac nid wyf yn dweud bod rhoi'r bleidlais i garcharorion yn mynd i roi hwb mawr i adsefydlu ac ailintegreiddio, ond rwy'n credu ei fod yn arwydd pwysig, ac rwy'n credu, pan oeddem yn cymryd tystiolaeth yn y carchardai gan garcharorion a staff, a'r tu allan i'r carchar yn ein gwrandawiadau pwyllgor, roedd cydnabyddiaeth a chefnogaeth gyffredinol i'r safbwynt hwnnw. Gallai ymddangos fel rhywbeth eithaf bach o ran adsefydlu cyffredinol, ond mae'n sylweddol mewn gwirionedd. A dyna'n sicr yw'r ffordd rwy'n ei weld, ac rwy'n falch iawn fod y mwyafrif o'r pwyllgor yn ei weld yn yr un ffordd.

Y cynnig—. Arhoswch funud. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

6. Dadl y Pwyllgor Cyllid ar flaenoriaethau gwariant y llywodraeth

Iawn, symudwn ymlaen yn awr at eitem 6, dadl y Pwyllgor Cyllid ar flaenoriaethau gwariant y Llywodraeth, a galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig. Llyr Gruffudd.

Cynnig NDM7140 Llyr Gruffydd

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi'r sylwadau a wnaed gan gyfranogwyr yn nigwyddiad rhanddeiliaid y Pwyllgor Cyllid yn Aberystwyth ynghylch blaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer cyllideb 2020-21 sydd ar y gweill.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd dros dro, ac fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, dwi'n falch iawn o gael agor y ddadl yma heddiw ar flaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru yn y dyfodol. Mae'r Pwyllgor Cyllid, wrth gwrs, wedi mynegi ei bryder nad yw'r Cynulliad yn cael cyfle ffurfiol i drafod, ac wrth gwrs drwy wneud hynny, gobeithio, i ddylanwadu ar flaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru cyn i'r gyllideb ddrafft gael ei chyflwyno. 

Yn ystod y sesiwn graffu ar y gyllideb ddrafft ar 27 Mehefin, fe gytunodd y pwyllgor y dylai Aelodau'r Cynulliad gael y cyfle i drafod blaenoriaethau gwariant yn y dyfodol yn gynharach ym mhroses y gyllideb. Yn wir, mae'n hymchwiliad ni i broses gyllidebu ddeddfwriaethol wedi amlygu sut mae seneddau eraill yn caniatáu cyfleoedd llawer cynharach i Aelodau meinciau cefn i ddylanwadu ar flaenoriaethau gwariant y Llywodraeth yn y cyfnod ffurfiannol cynnar hwnnw, ymhell cyn i'r gyllideb ddrafft gael ei chyflwyno.

Nawr, er bod y pwyllgor yn credu'n gryf bod dadl gynnar yn rhywbeth y mae angen ei hwyluso ar sail barhaol yn y dyfodol, mae’n bwysig, wrth gwrs, ein bod ni’n cael dadl ar flaenoriaethau gwariant eleni hefyd, er ychydig yn hwyrach nag y byddem ni'n ei dymuno, o ystyried cylch gwariant diweddar Llywodraeth y Deyrnas Unedig ac amseriad arfaethedig cyllideb Llywodraeth Cymru. Bydd ein gwaith craffu ni ar y gyllideb ddrafft yn dilyn yr un dull â’r gorffennol, gan ganolbwyntio ar y pedair egwyddor craffu ariannol, sef, yn gyntaf, fforddiadwyedd, hefyd blaenoriaethu, gwerth am arian, a phroses y gyllideb.

Fe gynhaliodd y Pwyllgor Cyllid ddigwyddiad yn Aberystwyth ar 27 Mehefin i glywed barn rhanddeiliaid ar y blaenoriaethau gwariant ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Drwy drafod a thrwy ddilyn ymlaen o’r argymhellion wnaed yn sgil ein gwaith craffu parhaus ar gyllideb Llywodraeth Cymru, fe wnaethom ni nodi nifer o feysydd yr hoffem ni ganolbwyntio arnyn nhw wrth graffu eleni, ac mae'r rhain yn cynnwys sut ddylai Llywodraeth Cymru ddefnyddio pwerau trethu a benthyca, yn enwedig o ran cyfradd treth incwm Cymru, a sut mae gwariant ataliol yn cael ei flaenoriaethu'n gynyddol a sut mae hynny’n cael ei gynrychioli wrth ddyrannu adnoddau. Rŷm ni’n sôn fan hyn, wrth gwrs, am wariant sy'n canolbwyntio ar atal problemau ac yn lleihau’r galw am wasanaethau yn y dyfodol drwy ymyrraeth gynnar, yn enwedig mewn perthynas ag ariannu byrddau iechyd lleol, gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Maes arall y byddem ni am ganolbwyntio arno fe ydy cynaliadwyedd gwasanaethau cyhoeddus, ac mae hynny'n cynnwys arloesi a thrawsnewid gwasanaethau i ymateb i ofynion newidiol a newid demograffig. Mae blaenoriaethu polisi i hybu twf economaidd, lleihau tlodi ac anghydraddoldeb rhywiol, a lliniaru effaith diwygio lles hefyd yn faes pwysig. Hefyd, gwaith cynllunio a pharodrwydd Llywodraeth Cymru ar gyfer Brexit, wrth gwrs, a sut mae Deddf cenedlaethau’r dyfodol yn dylanwadu ar y gwaith o lunio polisi. Ac wrth ddatgan argyfwng hinsawdd, a yw hi'n glir sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ymateb i’r her honno a sicrhau bod adnoddau priodol ar gael, a bod hynny'n cael ei adlewyrchu'n glir yn y gyllideb?

Ar ôl y digwyddiad yn Aberystwyth, mi ysgrifennais i at holl Gadeiryddion y pwyllgorau i rannu safbwynt y Pwyllgor Cyllid â nhw ac i annog y pwyllgorau eraill i ystyried sut y gallan nhw gyfrannu at graffu ar gynlluniau gwariant y Llywodraeth yn y ffordd fwyaf cydlynol ac effeithiol. Fel yn y gorffennol, rŷn ni hefyd yn cynnal ymgynghoriad ar y blaenoriaethau ar gyfer y gyllideb ddrafft ar ran yr holl bwyllgorau. Ac heddiw, fel mae'n digwydd, yw’r dyddiad cau ar gyfer yr ymgynghoriad hwnnw, ac mi fydd yr ymatebion yn cael eu cyhoeddi yn yr wythnosau nesaf er mwyn helpu'r Cynulliad i graffu ar y gyllideb ddrafft.

Cyhoeddodd Canghellor y Trysorlys gynlluniau gwariant Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfer 2020-21 yn ddiweddar, wrth gwrs, fel rhan o gylch gwariant un flwyddyn. Roedd y cyhoeddiad yn cynnwys manylion am gyllideb refeniw Cymru ar gyfer y flwyddyn nesaf a fydd yn cynyddu £593 miliwn yn uwch na llinell sylfaen eleni. Mewn termau real, mae hyn yn gynnydd o 2.3 y cant. Roedd y cylch gwariant hefyd yn cynnwys cynnydd o £18 miliwn i'r gyllideb gyfalaf ar gyfer Cymru, gan olygu bod y gyllideb 2.4 y cant yn uwch mewn termau real o’i chymharu â 2019-20.

Ymatebodd y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd i’r cylch gwariant mewn datganiad ysgrifenedig ar 4 Medi eleni, gan nodi, a dwi'n dyfynnu:

'Bydd Cyllideb Llywodraeth Cymru'n seiliedig ar anghenion pobl Cymru a byddwn yn anelu at ddarparu'r setliad tecaf posibl ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus Cymru.'

Ond beth mae hynny wir yn ei olygu? Mae'n ddatganiad eang a chyffredinol tu hwnt, wrth gwrs. Beth fydd y ffactorau allweddol o ran sut y caiff yr arian ychwanegol hwn ei wario yng Nghymru? Sut y dylem ni gydbwyso'r angen i fuddsoddi mewn mentrau ataliol i leihau'r galw yn y dyfodol â'r angen i gefnogi ein gwasanaethau presennol, sydd, wrth gwrs, wedi dioddef blynyddoedd o gyni? A sut fyddwn ni’n asesu a yw Llywodraeth Cymru wedi cyflawni ei hamcanion? Mae angen inni sicrhau bod y gyllideb yn cael ei defnyddio mor effeithiol â phosib er mwyn diwallu anghenion poblogaeth Cymru yn y ffordd orau, yn amlwg. Mae'r ddadl heddiw yn gyfle i'r Cynulliad ystyried sut ddylai Llywodraeth Cymru fod yn blaenoriaethu ei gwariant er mwyn cyflawni'r canlyniadau dymunol yma.

Does dim dwywaith ei bod hi’n gyfnod ansicr, wrth gwrs, gyda Brexit heb gytundeb yn dal i fod yn bosibilrwydd real, a'r posibilrwydd, wrth gwrs, o etholiad cyffredinol arall yn y Deyrnas Unedig ar y gorwel, ac mae hyn oll yn ei gwneud hi'n anoddach fyth rhagweld dyfodol economaidd Cymru. Mae'r ffaith mai blwyddyn yn unig oedd hyd cylch gwariant y Deyrnas Unedig yn rhwystredig i'r holl weinyddiaethau datganoledig hefyd, gan nad yw e'n ein galluogi ni i ddatblygu cynlluniau ariannol tymor hwy, fel y byddem ni, a nifer o'r rhanddeiliaid rŷn ni wedi siarad efo nhw, wrth gwrs, yn dymuno gweld.

Fodd bynnag, mae'r ansicrwydd hwn yn ei gwneud hi'n bwysicach fyth inni gael y ddadl yma heddiw, yn fy marn i, ac ystyried y blaenoriaethau ar gyfer cyllideb y flwyddyn nesaf yn ofalus, er mwyn lliniaru, cyn belled ag y bo modd, unrhyw effeithiau yn y dyfodol yn sgil Brexit, ac er mwyn amddiffyn dyfodol ariannol Cymru a buddiannau ein dinasyddion ni. Dwi'n edrych ymlaen yn fawr iawn at glywed barn, safbwyntiau a blaenoriaethau Aelodau o bob rhan o'r Cynulliad yma. Diolch.

16:45

Rwy'n falch o gyfrannu at y ddadl bwysig y prynhawn yma ar flaenoriaethau'r gyllideb, wrth i ni symud i gyfnod hollbwysig gosod cyllideb Llywodraeth Cymru a chyfnod craffu ar gyllideb Pwyllgor Cyllid y Cynulliad.

Roeddwn yn falch o gymryd rhan yn y digwyddiad i randdeiliaid yng Ngwesty'r Marine yn Aberystwyth—diwrnod heulog braf, yn ôl fel y cofiaf; mae'n ymddangos ymhell i ffwrdd yn awr. Cawsom lawer o drafodaeth yn y ddadl flaenorol am farn gwleidyddion a barn Aelodau yn y Siambr hon a siambrau tebyg i hon ynglŷn â barn y cyhoedd, felly credaf fod y digwyddiadau hynny i randdeiliaid yn hollbwysig fel ffordd o fynd allan a chanfod beth y mae pobl ar lawr gwlad, mewn busnesau a sefydliadau yn y trydydd sector—beth yw eu blaenoriaethau, fel y gallwn ni, fel pwyllgor, fwydo'n ôl i Lywodraeth Cymru, a gallwn geisio ffurfio cyllideb sy'n wirioneddol o fudd i bawb.

Credaf iddi ddod yn amlwg, drwy gydol y digwyddiad yn Aberystwyth, fod yna gytundeb cyffredinol fod atal ac ymyrraeth gynnar yn eiriau ac yn gysyniadau allweddol a ddylai fod wrth wraidd y broses o ddyrannu'r gyllideb. Eto, y syniad craidd hwn o atal a blaengynllunio ar y naill law—yn rhy aml, teimlid bod hynny'n cael ei negyddu, neu o leiaf ei leihau, ar y llaw arall, gan y pwysau cynyddol ar gyllidebau, y mae sefydliadau a chyrff cyhoeddus ledled Cymru'n rhy aml yn teimlo eu bod yn suddo oddi tano—i beidio â defnyddio ymadrodd rhy gryf. Ac mae cynllunio mwy hirdymor yn anodd iawn i'r sefydliadau hynny.

Clywsom dystiolaeth sy'n peri pryder fod llawer o awdurdodau lleol wedi cyrraedd pwynt dirlawnder—dyna'r ymadrodd a ddefnyddiwyd ganddynt—ac na allant amsugno rhagor o gostau ychwanegol. Mae hyn yn arwain at doriadau mewn gwasanaethau anstatudol, fel hamdden, diwylliant a thrafnidiaeth, sydd wedyn yn gallu cael effaith ganlyniadol negyddol ar les y boblogaeth leol. Gwn y bydd y Gweinidog wedi clywed llawer o'r pryderon hyn gan awdurdodau lleol dros amser maith; rydym wedi eu clywed ar y pwyllgor ers cryn amser. Ac mae'n rhy hawdd meddwl, 'Wel, fe fyddent yn dweud hynny, oni fyddent, am eu bod ar y talcen caled?' Ond er hynny, pan fydd y mathau hyn o wasanaethau cyhoeddus, gwasanaethau lleol, yn cael eu torri, ceir sgil-effeithiau a cheir effeithiau ar gyllidebau eraill, oherwydd mae'r arian yn gorfod dod o gyllidebau eraill i ariannu'r ymrwymiadau anstatudol. Ac wrth gwrs, pan fydd pethau fel canolfannau hamdden yn gweld toriadau, a mannau diwylliannol eraill yn gweld toriadau, mae'n bosibl y bydd effaith ar lesiant lleol ac mae'n rhaid i'r gwasanaeth iechyd a gwasanaethau cymdeithasol ymdopi â'r canlyniadau.

Felly, gallwn gael ein dal mewn cylch diddiwedd, lle y ceir mwy o bwysau ar y gwasanaethau statudol, sydd wrth wraidd yr hyn y mae'r awdurdodau lleol yn ei ddarparu. Ac wrth gwrs, mae mwy fyth o bwysau ar y gwasanaethau hyn mewn ardaloedd gwledig. Rwy'n siarad yn gyson am faterion megis trafnidiaeth wledig yn y Siambr hon. Mae'r materion hynny'n creu mwy fyth o bwysau mewn ardaloedd gwledig ledled Cymru. Roedd yn ddiddorol iawn fod rhanddeiliaid hefyd wedi cwestiynu fforddiadwyedd rhai o'r gwasanaethau cyffredinol, megis presgripsiynau am ddim, nad ydym yn trafod cymaint arnynt yn y Siambr hon bellach, ac mae'n debyg fod hynny wedi tyfu'n fwy o ran o'r dirwedd a dderbynnir. Ond pan siaradwch â rhanddeiliaid, fel y gwnaethom ni, maent yn dweud bod pethau o'r fath sy'n cael eu darparu i bawb—efallai fod yna rywbeth gwirioneddol gadarnhaol y mae pobl am ei gael, ond pan fydd cyllidebau'n dynn a bod yn rhaid i awdurdodau lleol a gwasanaethau cyhoeddus wneud penderfyniadau pwysig, teimlant fod yn rhaid iddynt edrych yn gyffredinol ar bopeth, neu fel arall fe welwch feysydd pwysig yn cael eu torri.

Cododd mater niwtraliaeth cost dro ar ôl tro. Mae'n fater allweddol i'r Pwyllgor Cyllid. Dywedir wrthym yn aml gan Lywodraeth Cymru fod deddfwriaeth newydd yn niwtral o ran cost, a chan Aelodau'n aml wrth drafod deddfwriaeth. Dywedodd ein rhanddeiliaid wrthym mai anaml y mae hyn yn wir yn ymarferol, ac yn aml ceir costau cudd nad ydym yn eu gweld pan fyddwn yn edrych ar ddeddfwriaeth, ac maent yno ac yn cael effeithiau canlyniadol yn y cymunedau. Roeddent am i Lywodraeth Cymru gael gwell ffordd o asesu'r costau cudd a all ddeillio o ddeddfwriaeth a phenderfyniadau cyllidebol.

Soniwyd am Brexit yn ystod y sesiwn wrth gwrs—mae'n amhosibl ei osgoi ar hyn o bryd. Gyda llaw, i unrhyw un sydd wedi darllen adroddiad y Pwyllgor Cyllid, nid wyf yn credu bod y fath beth â Brexit 'cytundeb newydd' yn bodoli, er mor braf y gallai hynny fod. Rwy'n credu bod y rhanddeiliaid yn siarad am Brexit 'heb gytundeb' mewn gwirionedd. Rwy'n credu bod dau gysyniad gwahanol wedi dod at ei gilydd yno. Efallai ei fod yn derm newydd a ddaw'n amlwg dros yr wythnosau nesaf, nid wyf yn gwybod. Ond gyda Brexit 'heb gytundeb', roeddent yn teimlo bod angen cynllunio ar gyfer hynny. Nid oedd neb y buom yn siarad â hwy eisiau Brexit 'heb gytundeb', ond roeddent yn cydnabod, os mai dyna sydd ar y gorwel, fod angen gwneud rhywfaint o waith i geisio lliniaru unrhyw ganlyniadau posibl yn ei sgil.

Gwyddom fod cylch gwariant Llywodraeth y DU wedi arwain at £600 miliwn ychwanegol, neu ychydig yn llai—credaf mai £593 miliwn neu £594 miliwn a ddywedodd y Cadeirydd—yn dod i mewn i gyllideb Cymru, a £18 miliwn o gyfalaf ychwanegol. Dyna gynnydd o dros 2 y cant mewn termau real, ac mae hynny i'w groesawu. Mae Llywodraeth y DU wedi dweud ein bod yn troi'r gornel. Rwy'n derbyn ei bod hi wedi bod yn amser hir a bod pwysau yno o hyd, ond rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig i'r rhanddeiliaid y buom yn siarad â hwy ac i bobl ledled Cymru yw bod Llywodraeth Cymru yn gwneud yn siŵr fod yr arian hwnnw sy'n cael ei wario ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru—y gwasanaeth iechyd, addysg—yn cael ei drosglwyddo i'r gwasanaethau cyhoeddus hollbwysig, ac i reng flaen gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, fel y gallwn weld y math o welliannau y mae pobl yn awyddus iawn i'w gweld.

16:50

Rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn dechrau ein sgyrsiau am y cyllidebau ar ddechrau'r broses, yn hytrach na bod y ddeddfwrfa'n ymateb i gynigion y Llywodraeth. Roedd y sgyrsiau yr ydym wedi dechrau eu cael, wrth wrando ar bobl, yn Aberystwyth yn yr achos hwn, yn rhan o'r ymgais honno i sicrhau ein bod yn newid y ffordd—nid craffu ar gyllidebau'n unig a wnawn yn yr ystyr o graffu ar linellau unigol y gyllideb ac ar benderfyniadau gwariant, ond rydym yn edrych ar ffurf cyllideb ac rydym yn ceisio dylanwadu ar ffurf a blaenoriaethau cyllideb. Weithiau, fel Aelod, rwy'n credu fy mod wedi treulio llawer gormod o amser yn ceisio rhwydo Gweinidog mewn perthynas â phenderfyniad gwariant penodol, yn hytrach nag edrych ar ysgogiad polisi ac uchelgais polisi'r gwariant hwnnw ac edrych wedyn ar sut y bydd y Gweinidog yn rhoi cyfrif am gyflawni neu beidio â chyflawni eu blaenoriaethau. Felly, wrth inni symud tuag at broses cyllideb ddeddfwriaethol dros y blynyddoedd i ddod, rwy'n gobeithio y byddwn yn gallu sicrhau ein bod yn cynnal mwy o'r dadleuon hyn a'n bod yn dechrau proses y gyllideb gyda dadl o'r fath, lle mae'r Aelodau yma yn penderfynu ac yn hysbysu'r Llywodraeth beth yw eu blaenoriaethau, ac yna gall y Llywodraeth, wrth gyhoeddi ei chyllideb, ymateb i'r dadleuon hyn ac i'r blaenoriaethau y mae'r Aelodau yma a'r cyhoedd wedi'u nodi mewn gwirionedd.

Nawr, wrth wneud hynny, a chawsom y sgwrs hon yn Aberystwyth, y demtasiwn, wrth gwrs, yw rhestru'r holl ystod o weithgareddau llywodraethol ac mewn gwahanol ffyrdd, diffinio'r holl wahanol weithgareddau hynny fel blaenoriaeth. Mae rhai areithiau a glywn yma ar brynhawn Mercher yn sicr yn cyflawni hynny, a gellir cyflwyno achos da, wrth gwrs, dros lawer o wariant y Llywodraeth bob amser. Felly, rwyf am ymwrthod â'r demtasiwn i roi rhestr o 1,000 o flaenoriaethau gwahanol i'n Gweinidog y prynhawn yma, a cheisio cyfyngu fy hun i dair blaenoriaeth y credaf ei bod yn bwysig inni eu hystyried dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf.

I mi, y flaenoriaeth allweddol yw addysg. Siaradais am hyn—ac efallai y bydd aelodau'r Llywodraeth yn cofio—fel Gweinidog y llynedd. Roeddwn yn glir iawn mai'r gwasanaeth cyhoeddus y teimlwn fod angen inni ganolbwyntio go iawn arno yn y blynyddoedd i ddod oedd addysg, ac yn enwedig ysgolion. Mae ysgolion wedi gwneud pethau gwych dros y blynyddoedd diwethaf, ac rydym wedi gweld gwelliant gwych yn y safonau a'r canlyniadau. Ond rydym hefyd wedi gweld y pwysau sydd ar ysgolion ac athrawon, cynorthwywyr addysgu ac eraill. Mae'r gymuned addysg gyfan yn cyflawni llwyddiannau gwych, ond rydym mewn sefyllfa yn fy marn i lle mae angen inni sicrhau bod ysgolion yn cael eu gweld fel blaenoriaeth.

Rwy'n gobeithio, yn rhan o hyn—ac fe wnaf sicrhau, Ddirprwy Lywydd dros dro, fod fy muddiant yn y mater wedi'i gofnodi; mae fy mab yn derbyn addysg anghenion dysgu ychwanegol—credaf fod angen inni sicrhau, wrth weithredu'r fframwaith statudol anghenion dysgu ychwanegol, ein bod yn darparu cyllid ychwanegol ar gyfer addysg anghenion dysgu ychwanegol, rhywbeth nad yw'n cael ei wneud ar hyn o bryd. Credaf y dylid darparu arian ychwanegol ar gyfer addysg ac addysg anghenion dysgu ychwanegol drwy grant uniongyrchol i'r gyllideb addysg, neu drwy grant datblygu disgyblion i sicrhau bod arian ychwanegol yn cyrraedd ysgolion sydd â phoblogaeth uwch yn cael prydau ysgol am ddim. Rwy'n credu ei bod yn bwysig ei fod yn cael ei wneud drwy grant uniongyrchol drwy'r adran addysg, oherwydd credaf ei bod yn bwysig ein bod yn sicrhau bod yr arian hwn yn mynd yn uniongyrchol i'r rheng flaen.

Yr ail flaenoriaeth fyddai trafnidiaeth gyhoeddus. Mae'r Aelodau eisoes wedi nodi mai trafnidiaeth gyhoeddus yw un o'r blaenoriaethau allweddol a anwybyddir yn eithaf aml yn rhai o'r dadleuon hyn. Ychydig o wythnosau sy'n mynd heibio yn fy nghymorthfeydd cyngor ym Mlaenau Gwent lle nad yw pobl yn egluro i mi yr anawsterau y mae diffyg gwasanaethau bysiau, er enghraifft, yn eu golygu iddynt yn eu bywydau bob dydd—yr effaith a gaiff hynny ar ganol trefi, yr effeithiau a gaiff ar allu pobl i gyrraedd gwasanaethau cyhoeddus, yr effaith y mae'n ei chael ar allu pobl i siopa neu gymdeithasu. Os ydym o ddifrif ynghylch cydlyniant a chyfiawnder cymdeithasol yn ein cymunedau, rhaid i fynediad at system trafnidiaeth gyhoeddus effeithiol fod yn ganolog i hynny. Mae'n amlwg i mi fod gwasanaethau bysiau ar hyn o bryd yn chwalu mewn rhannau helaeth o'r wlad, ac mae angen inni nodi hynny.

Y drydedd flaenoriaeth, heb fod mewn trefn uniongyrchol, yw—[Torri ar draws.] Rwy'n credu bod ein hamser yn dod i ben, mae'n ddrwg gennyf. Ond y maes olaf yr hoffwn ei nodi yw gwariant ataliol. Rydym wedi gweld protestiadau gwych yn ystod yr wythnos diwethaf, gweithredu gwych gan bobl ifanc yn sôn am effaith newid yn yr hinsawdd. Credaf fod angen inni allu ariannu camau gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd, datgarboneiddio'r economi a systemau gwasanaethau cyhoeddus. Trafodasom hefyd yn ystod y cwestiynau iechyd effaith camddefnyddio cyffuriau ar bobl, a phobl ifanc yn arbennig, a chredaf fod angen inni edrych ar y gwasanaethau a ddarperir yn benodol ar gyfer pobl ifanc. Nid wyf yn credu bod Llywodraeth Cymru yn gwneud digon i ddysgu gan wledydd eraill a thiriogaethau eraill lle y ceir gwasanaethau ataliol sydd eisoes yn darparu datblygiadau ac amddiffyniadau arwyddocaol i bobl ifanc, ac yn darparu mwy o gyfleoedd iddynt. Ond rwy'n credu mai'r newid yn yr hinsawdd, wrth gwrs, fydd mater diffiniol ein cyfnod ni. Dyma fydd yr her wleidyddol ddiffiniol sy'n ein hwynebu. Fe fydd yn un o'r meysydd hynny y bydd pobl yn edrych yn ôl arno ac yn edrych ar Lywodraethau ac yn edrych ar ddeddfwyr ac yn gofyn y cwestiwn, 'Beth a wnaethoch? Roeddech chi'n gwybod ein bod yn wynebu argyfwng. Beth a wnaethoch yn wyneb yr argyfwng hwnnw?' Ac nid wyf yn credu y gallwn gytuno ar unrhyw gyllideb yn y lle hwn nad yw'n cynnwys buddsoddiad sylweddol ym maes newid hinsawdd a mynd i'r afael ag achosion newid yn yr hinsawdd.

16:55

Rydyn ni'n gwybod ein bod ni wedi byw drwy gyfnod o wasgu ariannol dybryd, ond beth mae hynny'n ei olygu mewn difri ydy, pan mae'n dod at osod blaenoriaethau a thrio gwneud yn siŵr ein bod ni'n gallu gwireddu'r blaenoriaethau yna, sianelu'r arian i'r ffordd iawn i'r lle cywir, er mwyn gwireddu'r blaenoriaethau, bod yn fwy soffistigedig ynglŷn â sut mae penderfyniadau yn cael eu cymryd.

Nôl ym mis Gorffennaf, mi wnaeth y Gweinidog Cyllid nodi wyth blaenoriaeth i Lywodraeth Cymru ar gyfer 2020-1. Mae'r blaenoriaethau gwariant hynny yn cynnwys gofal cymdeithasol, taclo tlodi, datgarboneiddio—dydw i ddim yn anghytuno efo'r blaenoriaethau hynny, ond un peth ydy gosod blaenoriaethau ar lafar, peth arall wedyn ydy sicrhau bod arian yn gallu cael ei sianelu tuag at wireddu'r uchelgais sy'n cael ei gosod.

Rŵan, mae dadansoddiad cyllidol Cymru yn awgrymu y bydd yna gynnydd mewn grantiau bloc y flwyddyn nesaf, a hynny yn caniatáu i'r Llywodraeth gynyddu cyllid ar gyfer mwy o'i blaenoriaethau, o gymryd y penderfyniadau cywir. Ond, wrth gwrs, mi fydd—ac rydyn ni'n gwybod hyn o'r blynyddoedd diwethaf—gallu'r Llywodraeth i ymateb i ystod o'i blaenoriaethau yn dibynnu, i raddau helaeth, ar faint o arian y bydd y Llywodraeth yn penderfynu ei ddyrannu i'r gwasanaeth iechyd unwaith eto. Mae'n anodd dianc rhag hynny. Mae'r dadansoddiad cyllidol wedi amlinellu tri senario sydd yn pwyso a mesur faint sy'n mynd i iechyd a faint mae hynny yn ei adael ar ôl ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus datganoledig eraill. Ac mae yna, pob amser, pan fo yna gyhoeddiad am arian ychwanegol gan y Trysorlys ar gyfer Lloegr, bwysau gan y rhai mwy ddiddychymyg yn y lle yma ar i’r arian cyfatebol—beth bynnag sy’n mynd i iechyd yn Lloegr, i’r arian cyfatebol fynd i iechyd yng Nghymru, ond, wrth gwrs, dydy hi ddim mor syml â hynny, ac mae’r cwestiwn ataliol yn gorfod bod wrth graidd penderfyniadau cyllidol sy’n cael eu gwneud. Ac mae Sefydliad Iechyd y Byd—roedden ni’n cael ein hatgoffa yr wythnos yma—yn ein hatogffa ni bod 80 y cant o’r pethau hynny sy’n ein cadw ni’n iach yn bethau sy’n digwydd ac yn cael eu dylanwadu arnyn nhw gan bethau y tu hwnt i gyllideb yr NHS. Felly mae’n rhaid inni sicrhau bod yr ochr ataliol yn cael ei chynnal, ac, yn y fan hyn, dwi’n mynd yn syth at gyllidebau llywodraeth leol. All llywodraeth leol yng Nghymru ddim cymryd mwy o wasgu. All llywodraeth leol yng Nghymru ddim cymryd mwy o setliadau fflat, oherwydd mae hynny’n mynd i fod yn gam yn ôl.

17:00

Diolch, Rhun. Cyn i chi symud ymlaen at yr awdurdodau lleol, o ran iechyd, clywaf yr hyn a ddywedwch, a dywedais yn fy araith fy hun fod yr agenda ataliol yn hollbwysig, ond serch hynny, os oes swm sylweddol o arian yn mynd i'r gwasanaeth iechyd yn Lloegr, ac o ganlyniad i hynny, ein bod yn cael arian drwy swm canlyniadol yma, a fyddech yn derbyn y byddech am weld o leiaf gyfran ohono'n mynd tuag at gynyddu'r gwasanaeth iechyd mewn termau real yma, fel ein bod yn gwneud mwy na dal i fyny'n unig.

Na, nid wyf yn cytuno â chi—rwy'n credu mai'r hyn a welsom yn Lloegr yw eu bod wedi disgyn i'r fagl o feddwl y gallant roi'r holl arian tuag at y gwasanaeth iechyd, llwgu gwasanaethau eraill a ddarperir gan awdurdodau lleol, gan arwain at bwysau ychwanegol ar y GIG. Yr hyn rwy'n ei ddweud yw y dylid ystyried yr arian yn ei gyfanrwydd. Mae arian sy'n mynd tuag at ofal cymdeithasol, gwasanaethau cymdeithasol, yn arian ataliol sy'n gallu arbed arian i'r GIG yn nes ymlaen. Felly, na, dyna'r union bwynt nad wyf yn ei wneud. Rhaid inni fod yn fwy dychmygus. Ie, yn sicr, ariannwch y GIG yn ddigonol, ond nid ei ystyried ar ei ben ei hun.

Felly, mae arian sy'n mynd i mewn i lywodraeth leol ar gyfer gofal sy'n cael ei ddarparu ganddyn nhw yn arian sy'n cynnig arbedion i'r NHS nes ymlaen, ac mae Cymdeithas Lywodraeth Leol Cymru yn amcangyfrif bod llywodraeth leol wedi gorfod gwneud toriadau go iawn o 22 y cant yn y degawd diwethaf. Yn amlwg, dydy hynny ddim yn rhywbeth all barhau ac mae'n rhaid i'r flaenoriaeth gael ei gosod yn glir yng nghyllideb 2020-21, neu'r NHS hefyd fydd yn dioddef i lawr y lôn.

Sylw arall ynglŷn â blaenoriaeth mae yna gonsensws yn ei gylch o, a hynny ydy datgarboneiddio: mae comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol wedi amcangyfrif bod angen, o bosib, ddim yn bell o £1 biliwn i gael eu neilltuo ar gyfer cynlluniau datgarboneiddio yng Nghymru. Y consérn gan lawer ydy ein bod ni, ar y pwnt yma mewn amser, heb weld unrhyw arwyddion mewn difrif gan Lywodraeth Cymru—er iddyn nhw osod datgarboneiddio fel blaenoriaeth ar lefel uchel os liciwch chi, dyw Llywodraeth Cymru ddim wedi dangos eu bod nhw'n barod i wneud y commitment yna yn ariannol.

Felly, dyna i chi ddau faes mae'n rhaid eu gweld yn cael eu hadlewyrchu yn y gyllideb y flwyddyn nesaf. Un pwynt olaf: mae'n destun pryder mawr mai dim ond un rownd flynyddol o wariant dŷn ei gweld gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, a dwi'n meddwl bydd hi'n flaenoriaeth i gryfhau arian wrth gefn wrth inni wynebu'r perig o ragor o lymder mewn blynyddoedd i ddod.

Rwy'n falch iawn o gymryd rhan yn y drafodaeth hon oherwydd rwy'n credu bod angen i ni gael mwy o drafodaethau yn gyffredinol ynghylch gwariant disgwyliedig yn hytrach na siarad am linellau gwariant ac a ddylid cael £10 i £15 miliwn ychwanegol yma neu acw, ond siarad amdano fel pwynt cyffredinol mewn gwirionedd.

Roeddwn innau hefyd yn falch iawn ein bod wedi cael cyfarfod cyllid yn Aberystwyth, gan gyfarfod ag aelodau o'r cyhoedd. Roedd yn ddefnyddiol iawn i mi, oherwydd cyfarfûm â phobl o'r grwpiau amgylcheddol, o lywodraeth leol, ac addysg bellach ac addysg i oedolion, ond cyfarfûm â hwy y tu allan i'r hyn y buaswn yn ei ddisgrifio fel fy nghornel gysurus yn Abertawe. Roedd yn ddiddorol cael barn pobl yn yr un meysydd ag y bu gennyf ddiddordeb ynddynt a meysydd y mae gennyf ychydig o wybodaeth amdanynt, ond sy'n byw mewn ardal arall, ac rwy'n sicr wedi dysgu llawer o hynny. Credaf mai'r un peth y dylem i gyd ei gofio drwy'r amser yw mai arian y cyhoedd a werir gennym. Yn rhy aml o lawer, rydym yn sôn am arian y Llywodraeth, a siaradwn am arian y Cynulliad, ond arian y cyhoedd ydyw ac rydym yn atebol iddynt.

Diddorol iawn oedd siarad â hwy. Buom yn sôn, yn y bôn, am effaith cyni a thoriadau ar wasanaethau cyhoeddus, mai llywodraeth leol sydd wedi ysgwyddo'r baich mwyaf o doriadau yn y sector cyhoeddus, ac mai gofal cymdeithasol sy'n wynebu'r pwysau mwyaf ar unrhyw wasanaeth—ac rwy'n cynnwys iechyd yn hynny. Mae gofal cymdeithasol o dan bwysau aruthrol. Ac mae'n hynod o bwysig. Os nad ydych yn ariannu gofal cymdeithasol yna bydd pobl yn mynd i'r ysbyty yn y pen draw. Os ydych yn eu cefnogi yn eu cartrefi, yn rhoi'r mymryn bach o gymorth y maent ei angen, yna ni fyddant yn cwympo, ni fyddant yn cyrraedd y cam hwnnw lle bydd angen iddynt fynd i'r ysbyty. Felly, rydych chi'n helpu iechyd mewn gwirionedd drwy gadw pobl yn eu cartrefi.

Roedd y cynrychiolydd llywodraeth leol, a oedd yn dod o ardal Ceredigion/Powys, yn awyddus iawn i dynnu sylw—a byddai'n dda gennyf pe bai Russell George yma, oherwydd mae'n ei nodi'n gyson hefyd—at gost darparu gwasanaethau gwledig, ac maent yn gwbl gywir ynghylch cost darparu gwasanaethau gwledig. Cyfrifais gydag ef, ac rwy'n eu cyfrif yma'n rheolaidd—dyma'r galw ychwanegol mewn ardaloedd lle mae gennych amddifadedd cymdeithasol. Felly, mae gennych yr anhawster o ddarparu'r gwasanaethau, a'r galw. Ond yn y bôn, nid ydym—. Nid yw'n ddadl rhwng Blaenau Gwent a Phowys am yr arian; mae'n ddadl fod angen arian ychwanegol arnom yn y system.

Mae toriadau wedi cael effaith enfawr ar addysg. Yn gyffredinol, mae awdurdodau lleol wedi ceisio diogelu gwasanaethau cymdeithasol ac addysg, ond mae hynny wedi bod yn—. Ar beth yr effeithiwyd? Gwasanaethau llyfrgell, gwasanaethau hamdden, canolfannau hamdden, cyfleusterau chwaraeon—yr holl bethau sy'n wasanaethau anstatudol, maent wedi'u torri'n ôl. Ac mae rhai o'r gwasanaethau statudol wedi cael eu cwtogi. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn sylweddoli pa mor bwysig yw'r gwasanaethau anstatudol hyn yn y bôn yn cadw pobl yn iach a'u cael allan o'r tŷ.

Tynnwyd sylw at bwysigrwydd cludiant i'r ysgol—neu, fel y mae'r Ceidwadwyr wedi dweud yn y fan hon yn weddol reolaidd, 'biwrocratiaeth'; maent yn disgrifio'r arian a gedwir gan awdurdodau lleol yn ganolog i dalu am fysiau ysgol fel arian a gedwir ar gyfer biwrocratiaeth. Credaf fod angen iddynt ystyried ymhellach ar beth y gwerir yr arian sy'n cael ei gadw gan awdurdodau lleol yn ganolog mewn gwirionedd.

Addysg i oedolion ac addysg bellach—mae'r rheini eto wedi ysgwyddo mwy na'u cyfran deg o unrhyw doriadau. Er ein bod wedi diogelu ysgolion ac wedi diogelu addysg bellach i bobl ifanc rhwng 16 a 18 oed, mae'r rheini sy'n mynd i mewn—maent am aros ymlaen ac ailhyfforddi ac ailsgilio—. Ac rydym yn siarad llawer, onid ydym, am roi ail gyfle i bobl, a phobl yn cael cyfle i ailsgilio mewn byd sy'n newid? Mae'r cyrsiau hynny wedi'u torri'n ddramatig, oherwydd mae'r arian sy'n mynd tuag at addysg bellach yn cael ei gwtogi'n ddramatig, ac mae'r hyn sydd wedi mynd i mewn wedi'i anelu'n bennaf at bobl ifanc 16 i 18 oed. Mae hwnnw wedi bod yn benderfyniad ymwybodol gan y Llywodraeth. Mewn gwirionedd, anfonasant lythyrau allan yn dweud hynny—nid y Llywodraeth hon yn awr yn unig, mae'n mynd yn ôl i Lywodraeth 2007-2011, a anfonodd yr union lythyrau hynny allan.

O ran yr amgylchedd, cafwyd galw am fwy o goed. Rwyf bob amser yn galw am fwy o goed. Cefais drafferthion gydag Undeb Amaethwyr Cymru pan ddywedais, 'Mae arnom angen mwy o goed ym mhobman', ond mae angen inni warchod yr amgylchedd. Nid yw'r gyllideb yn neilltuo agos digon o adnoddau ar gyfer materion amgylcheddol, ac mae gennym sefyllfa hefyd fod Cyfoeth Naturiol Cymru'n cael ei danariannu'n aruthrol. Nid wyf yn meddwl bod uno'r tri sefydliad gyda'i gilydd yn syniad da, ac mae cyfuno'r tri sefydliad a pheidio â'u hariannu'n ddigonol wedyn wedi arwain at broblemau.

Mae gennyf ddau beth yr hoffwn eu dweud i orffen. Fel y gwyddom, rydym wedi cael twf gwirioneddol o 2.3 y cant yn yr incwm ar gyfer y flwyddyn nesaf. Hoffwn weld Llywodraeth Cymru yn dweud yn awr na fydd yr un gwasanaeth yn cael cynnydd is na chwyddiant, ac mae hynny'n cynnwys pob awdurdod lleol. Nid oes unrhyw reswm pam na ellir gwneud hynny, oherwydd mae gennych yr ardal twf o hyd i'w roi tuag at flaenoriaethau'r Llywodraeth, ond gadewch i ni amddiffyn pawb.

Rydym yn sôn am wariant ataliol—ac rydym bob amser yn siarad am wariant ataliol—a allwn roi rhywfaint o arian tuag at iechyd cyhoeddus? Oherwydd collasom y rhan iechyd cyhoeddus o Cymunedau yn Gyntaf, a wnaeth waith aruthrol ar bethau fel gweithgarwch corfforol a hybu bwyta'n iach, ond mae angen inni gael pobl yn well yn hytrach nag aros nes eu bod yn mynd yn sâl a'u trin wedyn.

17:05

Mae'r Pwyllgor Cyllid yn gweithio'n galed i ymgysylltu â rhanddeiliaid a'r   cyhoedd yn ehangach fel rhan o'i broses o graffu ar y gyllideb. Serch hynny, yn ystod fy aelodaeth ysbeidiol o'r Pwyllgor Cyllid, rwyf wedi canfod rhywfaint o ddiffyg cysylltiad rhwng ein hymgysylltiad â rhanddeiliaid ac eraill a phroses y gyllideb. Ac rwy'n credu ei bod yn her wirioneddol i ymgysylltu â phobl mewn ffordd gynhyrchiol a defnyddiol sy'n cyfrannu at ein gwaith craffu ar gyllideb blwyddyn benodol.  

Credaf fod a wnelo llawer o hynny â'r ffaith bod gennym broses gyllidebol, a arweinir gan y Weithrediaeth, y Llywodraeth, a ninnau fel pwyllgor, fel Aelodau Cynulliad, i'r graddau ein bod yn cyfarfod â rhanddeiliaid sydd wedi dod i wthio eu blaenoriaethau penodol o ran gwariant efallai, rydym yn ymgysylltu â hwy a chredaf weithiau efallai ein bod yn gadael y cyfarfod hwnnw o dan yr argraff fod y bobl a wahoddwyd yn disgwyl mwy gennym fel pwyllgor nag yr ydym yn debygol o allu ei gyflawni, oherwydd mae'n broses a arweinir gan y Llywodraeth ar gyfer y gyllideb.  

Rwy'n credu bod heriau hefyd o ran pwy a wahoddwch i'r cyfarfodydd hynny, sut y gallwch ymgysylltu'n eang. A ydynt n ffafrio sefydliadau sy'n cyflogi pobl sydd ag amser i fynd yn rhan o ymgynghoriadau ac ymgysylltu ag Aelodau'r Cynulliad yn y ffordd hon? Sut y gwyddom ein bod yn rhoi blaenoriaeth deg i'r math gwahanol o wahoddedigion a gwesteion y byddwn am drafod eu blaenoriaethau penodol gyda hwy o bosibl? Rwy'n credu hefyd, gan fod gennym fwyfwy o bwerau trethu datganoledig, fod maes arall yn dod i mewn i hyn. O'r blaen caem ein hariannu drwy grant bloc i raddau helaeth—yn wir, byddai llawer o wahanol bobl yn cystadlu i ddweud wrthych pa mor bwysig oedd eu maes gwario yn bwydo i mewn i broses a gâi eu gyrru gan grant bloc, a dim ond rhannu'r gacen wariant honno a wnaem i raddau helaeth. Yn awr, mae gennym fwy o bwerau trethu ac ers mis Ebrill, mae 10 y cant o'r gyfradd dreth incwm yn cael ei gosod gennym ni—beth y dylem ei wneud i sicrhau bod trethdalwyr yn cael eu cynnwys ac yr ymgynghorir â hwy a'u bod yn rhan o'r broses honno, a'n bod yn ystyried bod y cyfaddawd rhwng trethiant a gwariant ychydig yn fwy nag sydd gennym pan fyddwn wedi codi llai o'n harian ein hunain?

Y maes olaf lle y credaf fod diffyg cysylltiad yw'r amserlen. Pan fyddwn yn edrych ar linellau'r gyllideb ac yn mynd i lawr i lefel y prif grwpiau gwariant ac efallai'n is, credaf mai'r hyn a glywn gan y rhanddeiliaid yn aml yw eu blaenoriaethau ar gyfer rhaglenni polisi neu feysydd trawsbynciol nad ydynt o anghenraid yn ffitio'n dwt i un neu hyd yn oed gyfuniad o'r llinellau gwahanol hynny. Yn sicr, rwy'n ei chael yn anodd gwrando ar randdeiliaid ac yna craffu ar waith y Gweinidog mewn trafodaeth linell wrth linell ar y gyllideb ar gyfer blwyddyn benodol. A chredaf fod hynny'n cysylltu â mater arall y mae Rebecca Evans wedi siarad amdano yma ac mewn mannau eraill, ynghylch yr anawsterau y mae hi a'r Llywodraeth yn eu hwynebu gyda chyllideb un flwyddyn y maent yn ei chyflwyno am nad yw Llywodraeth y DU ond wedi rhoi'r grant bloc ar gyfer un flwyddyn i ddod. Rwy'n cydymdeimlo â llawer o'r hyn y mae'n ei ddweud am hynny, ond buaswn yn cwestiynu a yw'n fater deuaidd. Tybed a allem fynd ychydig ymhellach i roi tamaid mwy o sicrwydd mewn rhai meysydd gwariant o leiaf. Nid yw Llywodraeth y DU ei hun yn gwybod beth fydd ei refeniw ymhen dwy neu dair blynedd. Nid yw'n gwybod pryd y bydd yr arian a dalwn i'r Undeb Ewropeaidd ar gael ar gyfer blaenoriaethau eraill. Mae wedi pennu rhai cyllidebau ar gyfer mwy na blwyddyn, ac rwy'n credu y gallai Llywodraeth Cymru bennu cyllidebau am fwy na blwyddyn ar gyfer rhai o'i meysydd, neu ar gyfer blaenoriaethau neu feysydd penodol lle mae'r sicrwydd hwnnw'n arbennig o bwysig.

Fe ildiaf i Mike.  

17:10

Diolch. Y fantais, wrth gwrs, i San Steffan yw eu bod yn gallu benthyca ar gyfer gwariant refeniw, oni allant, felly mae ganddynt y sicrwydd hwnnw gan eu bod yn gwybod, hyd yn oed os nad oes ganddynt arian yn dod i mewn, y gallant ei fenthyg i lenwi'r bwlch.

Gallant. Ac yn amlwg, mae gennym ein rhaglenni cyfalaf a rhai lle y ceir capasiti benthyca, ond mae mwy o gylchoedd y mae'n rhaid inni neidio drwyddynt na Llywodraeth y DU er mwyn defnyddio'r rheini. Ond ni fydd cyfran mor fawr o'n hincwm yn dod o'r grant bloc yn y dyfodol ac felly nid yw'r ffaith bod y grant bloc hwnnw'n cael ei bennu am y flwyddyn i ddod yn unig yn ddadl mor gref ag y gallai fod wedi bod ynglŷn â pham na allwn gyllidebu am fwy na'r flwyddyn sydd o'n blaenau. Ac rwy'n meddwl tybed a oes meysydd blaenoriaeth, neu rai penodol lle mae angen sicrwydd, y gallai'r Gweinidog ystyried rhoi syniad cadarnach ynglŷn â chynlluniau tebygol. Y llynedd, rwy'n credu ein bod wedi gweld menter eithaf da o ran cyfleu i awdurdodau lleol y pwysau posibl yn y flwyddyn i ddod er mwyn rhoi ychydig mwy o rybudd iddynt, a'r Llywodraeth yn San Steffan—mae ganddynt gyllidebau i ddod, ond weithiau maent yn newid. Yn 2010, cofiaf i Lywodraeth y DU—yr un newydd—ddod i rym ac fe wnaeth doriadau yn ystod y flwyddyn. Nid yw hynny'n ddelfrydol, ond efallai y bydd yn well i rai sefydliadau gael syniad o leiaf beth fydd cyllidebau'r dyfodol, hyd yn oed os yw'n bosibl y cânt eu newid.

17:15

Diolch i'r Pwyllgor Cyllid am gyflwyno'r adroddiad hwn. Nid wyf yn aelod o'r pwyllgor, ond yn amlwg, mae gennyf ddiddordeb ac rwy'n parhau i bryderu bod nifer o agweddau ansicr ynghlwm wrth gylch gwariant diweddar y DU o hyd—er enghraifft, y ffaith nad yw Llywodraeth y DU wedi mynd i'r afael, unwaith eto, ag ateb hirdymor i ariannu gofal cymdeithasol. Tra'n bod yn ceisio canfod ein hatebion ein hunain i'r her honno, byddai'n help cael gwybod yn union beth yw cynlluniau ariannu hirdymor Llywodraeth y DU yn hynny o beth. Credaf fod hwnnw'n fethiant mawr yng nghynllun gwariant diweddar y DU, ac mae'n taflu cysgod dros un o'r heriau hirdymor allweddol a wynebwn yma yng Nghymru.

Fodd bynnag, yma yng Nghymru rwy'n croesawu'r arwydd a roddwyd gan y Gweinidog yn y Siambr yr wythnos diwethaf, yn ogystal â'r flaenoriaeth yr ydym yn iawn i'w roi i GIG Cymru, ein bod yn bwriadu edrych yn ofalus ar y setliad gorau posibl i lywodraeth leol. Ceir llawer o drafodaethau ynglŷn â'r ffyrdd y gwerir arian ar wasanaethau lleol, ond mae'n amlwg i bob un ohonom, er gwaethaf setliadau llawer iawn mwy hael yng Nghymru o gymharu â Lloegr, fod ein cynghorau o dan bwysau difrifol er hynny, a rhaid inni wneud rhagor i geisio cynnal gwasanaethau lleol. Yn anffodus, gwyddom fod cynllun gwariant blwyddyn y DU yn ymwneud yn gyfan gwbl â'r tymor byr, gan gefnu ar strategaeth ac uchelgais hirdymor er mwyn ambell gyhoeddiad poblogaidd yn y tymor byr. Felly, er gwaethaf yr hyn a ddywedodd rhanddeiliaid wrth y Pwyllgor Cyllid, o'r hyn a ddarllenaf, efallai ein bod yn dal i wynebu rhai o'r cyfyngiadau ar ein gweithredoedd oherwydd nad yw'r cynllun DU ond yn ymwneud â'r flwyddyn 2020-21 yn unig.  

Nawr, fel y mae eraill wedi dweud yn barod, rydym yn gwybod bod canolbwyntio ar atal mewn iechyd a gofal, ac edrych ar gynllunio mwy hirdymor yn ein gwariant cyhoeddus, yn sylfaen y gall Llywodraeth Cymru adeiladu arni. Felly, law yn llaw â'r ansicrwydd a wynebwn, efallai y gall y gyllideb Gymreig sydd ar y ffordd lywio cydflaenoriaethau pellach rhwng Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol. Oherwydd os cred y ddwy mai gwario at ddiben hirdymor clir yw'r peth cywir i'w wneud, mae'n amlwg y dylid llunio cytundeb newydd er mwyn inni sicrhau diben sy'n gyffredin rhyngom a llywodraeth leol, boed hynny yn y ddadl ynghylch ysgolion ac addysg neu'r galwadau am ofal cymdeithasol, gan gynnwys plant sy'n derbyn gofal, neu ddarparu gwasanaethau hamdden hanfodol sy'n gallu darparu pethau fel presgripsiynu cymdeithasol, sydd, yn y tymor hwy, yn helpu i liniaru peth o'r pwysau cynyddol ar y GIG. Os oes diben cyffredin, yna gadewch iddo fod yn gytundeb cyffredin i gyflawni'r blaenoriaethau hynny drwy lywodraeth leol.

Nawr, oherwydd natur fyrdymor y setliad ariannu a wynebwn eleni, efallai nad dyma'r amser i ystyried hyn, ond rwy'n meddwl tybed oni ddylem ddechrau meddwl mwy am iechyd a gofal cymdeithasol, nid fel portffolio integredig ar gyfer Gweinidog yn unig, ond hefyd o ran realiti cyllidebau ar y cyd i ddarparu ateb mwy hyblyg, ymatebol yn y gwasanaethau iechyd a gofal hanfodol hynny. Credaf mai dyna'r pwynt yr oedd Rhun yn cyfeirio ato yn ei gyfraniad, o ran sut y darparwn y gwasanaethau integredig hynny. Fel y dywedaf, efallai fod hon yn ystyriaeth ar gyfer y tymor hwy y bydd yn rhaid inni ddychwelyd ati, ond heddiw credaf mai'r brif neges i'r cylch cyllidebol hwn yw rhoi'r gallu i awdurdodau lleol nid yn unig i weithredu, ond i ddechrau adfer a darparu'r gwasanaethau lleol a gafodd eu taro mor wael gan flynyddoedd caled o gyni. Efallai mai dim ond dechrau'r broses y gallwn ei wneud y flwyddyn hon, ond mae hyd yn oed y daith hiraf yn gorfod dechrau gydag un cam.  

Hoffwn gefnogi'r Aelodau sydd wedi crybwyll addysg fel blaenoriaeth ar gyfer gwariant Llywodraeth Cymru, a hoffwn ganmol yn fawr yr adroddiad gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar ariannu ysgolion. Rwy'n gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr holl argymhellion, ond rwy'n credu ei fod yn gosod achos cryf iawn dros flaenoriaethu cyllid ysgolion i raddau helaethach nag sydd wedi digwydd hyd yma.

I mi, os ydym am ymwneud â gwariant ataliol, rhaid inni roi mwy o arian tuag at addysg a'n hysgolion. Cytunaf yn llwyr â'r hyn a ddywedodd Mike Hedges am addysg bellach hefyd, a chredaf fod y maes hwnnw wedi'i anwybyddu braidd o ran cyllid digonol ac y dylid darparu'n well ar ei gyfer. Ond mae'r achos hanfodol, rwy'n meddwl, dros ariannu ysgolion oherwydd pwysigrwydd hynny i gynifer o'n pobl ifanc, a chyllid addysg blynyddoedd cynnar a blynyddoedd cynnar yn gyffredinol wrth gwrs. Oherwydd os ydym am fod yn ataliol, rwy'n credu bod addysg yn gwneud popeth i ni bron iawn. Mae addysg yn dda yn ei hawl ei hun. Mae'n hynod o bwysig o ran datblygiad personol. Rwy'n credu bod llawer o astudiaethau ledled y byd yn dangos, os ydych yn blaenoriaethu gwariant ar addysg, y bydd gennych economi lawer cryfach, ac mewn gwirionedd dyma'r peth mwyaf effeithiol y gallwch ei wneud. Os ydych am adeiladu eich economi, rhowch arian tuag at addysg.

Hefyd, wrth gwrs, mae'n bwysig iawn i iechyd. Mae pobl sydd wedi cael addysg well yn mwynhau gwell iechyd drwy gydol eu bywydau a lles gwell, ac ansawdd bywyd gwell yn gyffredinol. Maent yn cael mwy o gyfleoedd, gwell gyrfaoedd; mae'n fuddiol ym mhob ffordd. Mae hefyd yn bwysig iawn o ran diwylliant a'r amgylchedd yn wir. Felly, os edrychwn ar bethau yn eu cyfanrwydd ac ar atal, rwy'n credu y byddem yn cael ein hysgogi i roi mwy o arian tuag at addysg, a cheir sylfaen dystiolaeth gref iawn dros wneud hynny. Dyna pam rwy'n cytuno'n fawr ag adroddiad y pwyllgor.

Rwy'n credu y dylai rhan o hynny—ac rwyf wedi sôn am hyn sawl gwaith yn y gorffennol—fod yn gyllid mwy effeithiol ar gyfer ysgolion bro, oherwydd eu bod yn adnodd sy'n bodoli'n barod, onid ydynt, ein hysgolion, yr adeiladau, y tiroedd, y cyfleusterau, ac yn rhy aml ni chânt eu defnyddio'n ddigon da yn ystod gwyliau'r ysgol, ar benwythnosau, gyda'r nos. Mae hynny'n wastraff ofnadwy ar adnoddau presennol, onid yw? Er bod rhai arferion da, ni cheir hanner digon, ac rwy'n credu bod angen i ni ddarparu mecanwaith ariannu effeithiol sy'n sicrhau bod ysgolion bro yn gweithredu'n effeithiol ledled Cymru.

Daw hynny â mwy o gyfleoedd yn ei sgil, oherwydd ceir llawer o blant nad ydynt yn cael profiad o dacsi mam neu dad—na thacsi mam-gu neu dad-cu hyd yn oed—o ran y cyfleoedd ehangach i ddatblygu eu galluoedd a'u doniau. Nid ydynt yn mynd i'r gweithgareddau a'r clybiau fel y gallent. Os caiff ei ddarparu ar dir yr ysgol fel rhan o estyniad i'r diwrnod ysgol, bydd llawer iawn mwy o deuluoedd, yn enwedig teuluoedd o amgylchiadau difreintiedig, yn cael cyfleoedd ehangach o'r fath, ac mae ysgolion bro yn allweddol i hynny.

Un peth arall yr hoffwn ei grybwyll—ac unwaith eto, rwy'n credu ei fod yn bendant yn perthyn i'r agenda ataliol—yw gwasanaethau ieuenctid. Yn anffodus, oherwydd y pwysau sydd ar lywodraeth leol ac eraill, gwelsom lawer gormod o doriadau i glybiau ieuenctid, gweithgareddau ieuenctid a gwasanaethau ieuenctid yn gyffredinol, ac mae hynny'n wirioneddol ataliol. Mae'r heddlu'n deall hynny. Mae llywodraeth leol yn deall hynny. Mae'r sector gwirfoddol yn deall hynny. Pan fyddwch yn mynd o gwmpas yn curo drysau, maent yn deall hynny, ond oherwydd y pwysau y mae 10 neu fwy o flynyddoedd o gyni wedi'i achosi, rydym wedi gweld llawer gormod o doriadau i'r ddarpariaeth hynod werthfawr honno. Rwy'n credu bod angen i Lywodraeth Cymru edrych o ddifrif ar sut y gallwn gynnal y ddarpariaeth sy'n weddill, ond adeiladu hefyd y tu hwnt i lefelau'r ddarpariaeth a fu gennym yn y blynyddoedd a fu.  

17:20

Galwaf ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd, Rebecca Evans.

Diolch. Rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfle i wrando ar y ddadl heddiw ac i ymateb iddi, a diolch i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau. Rwy'n croesawu'n fawr y gwaith y mae'r pwyllgor yn ei wneud yn y maes hwn, ac yn gwerthfawrogi'n fawr y cyfraniad a wnaed gan y rhanddeiliaid a gymerodd ran yn y digwyddiad yn Aberystwyth ym mis Mehefin. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at adroddiad terfynol y pwyllgor ar ôl i'w hymgynghoriad ddod i ben.

Wrth baratoi ar gyfer y gyllideb, roeddwn am wrando hefyd ar farn rhanddeiliaid ar y modd y mae cyllid y Llywodraeth yn cael ei fuddsoddi ledled Cymru, a'r effaith y mae'n ei chael ar bobl a'u cymunedau. Felly, dros yr haf, ymwelais â chyfres o leoliadau ledled Cymru sy'n adlewyrchu ein hwyth maes blaenoriaeth trawsbynciol, sef y blynyddoedd cynnar, gofal cymdeithasol, tai, sgiliau a chyflogadwyedd, iechyd meddwl gwell, datgarboneiddio, tlodi a bioamrywiaeth. Mae'r wyth maes yn ganolog i uchelgeisiau'r Llywodraeth i weld Cymru fwy cyfartal, Cymru fwy ffyniannus a Chymru fwy gwyrdd. Roeddwn eisiau deall yr heriau o ddydd i ddydd a wynebir yn y meysydd hyn a dysgu mwy am y gwahaniaeth y gellir ei wneud drwy ganolbwyntio arnynt. Ac roedd hefyd yn gyfle gwych i archwilio'r cyfleoedd sy'n bodoli i ni wneud mwy yn y meysydd hyn.

Yng ngogledd Cymru, gwelais drosof fy hun gymuned yn cymryd rheolaeth dros ei defnydd ei hun o ynni drwy brosiect ynni dŵr Ynni Ogwen ym Methesda. Ymwelais hefyd â chanolfan gofal brys iechyd meddwl I CAN yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor. Tynnodd yr ymweliad sylw at fodel ataliol lle y cynigir cefnogaeth emosiynol i bobl sy'n profi anawsterau iechyd meddwl a chymdeithasol lefel isel y tu allan i'r oriau gwaith arferol. Yng nghanolbarth Cymru, ymwelais ag RSPB Llyn Efyrnwy, sy'n dangos nid yn unig sut y gall ardaloedd sylweddol o dirwedd Cymru sicrhau canlyniadau bioamrywiaeth cadarnhaol, ond sut y gallant gefnogi mentrau ffermio cynaliadwy hefyd. Yn Aberystwyth, cyfarfûm ag aelodau bwrdd a staff Tai Ceredigion, ynghyd â darpar breswylwyr datblygiad tai fforddiadwy newydd cyffrous ym Maes Arthur. Ac ym Mhenarth, ymwelais â'r cynllun chwarae newyn gwyliau yn Ysgol y Deri sy'n darparu cymorth i sicrhau bod bwyta'n iach yn parhau drwy gydol y gwyliau ysgol ar gyfer rhai o'n teuluoedd mwyaf difreintiedig.

Roedd yr ymweliadau hyn yn arddangos angerdd, talent ac ymrwymiad y rheini a fydd yn llywio canlyniadau ein blaenoriaethau trawsbynciol. Maent yn enghreifftiau gwirioneddol o sut rydym wedi parhau i flaenoriaethu ein buddsoddiad cyfyngedig er gwaethaf yr agenda cyni ac yn wyneb cyllidebau heriol a sut y gweithiwyd gyda phartneriaid i gyflawni ein blaenoriaethau. Ac mae'r blaenoriaethau hyn yn brawf o gryfder dull cyllidebol sy'n diogelu ac yn hyrwyddo'r hyn sydd bwysicaf. Cânt eu hybu gan ein hymrwymiad i flaenoriaethu iechyd a gwasanaethau cymdeithasol a phartneriaeth wirioneddol gyda llywodraeth leol. Ac mae hynny'n gwrthgyferbynnu'n llwyr â'r profiad yn Lloegr, lle mae toriadau i gynghorau wedi bod ddwywaith mor ddwfn ag yng Nghymru, gan wneud niwed aruthrol i gymunedau lleol.

O'r blynyddoedd cynnar i dai, caiff ein ffocws ei wella gan y blociau adeiladu y mae'r Llywodraeth hon wedi'u rhoi ar waith drwy roi ei harian ar ei gwerthoedd: cynnig gofal plant gyda 48 o wythnosau o ddarpariaeth sy'n cyflawni ar draws Cymru o flaen yr amserlen, a'r ymgyrch i adeiladu dros 20,000 o dai fforddiadwy y tymor hwn—unwaith eto, ar y trywydd iawn, o flaen yr amserlen. Rwy'n benderfynol o wneud y gorau o'r effaith y gallwn ei chael ar y blaenoriaethau hyn i Gymru o fewn ein cyllideb arfaethedig, a hoffwn ddiolch i gyd-Weinidogion o bob rhan o'r Cabinet am y gwaith y maent wedi ei wneud i gefnogi'r ymagwedd gyfunol hon tuag at y gyllideb dros y misoedd diweddar. Wrth edrych tua'r dyfodol, fel Llywodraeth, rydym wedi bod yn glir iawn y bydd iechyd yn parhau i fod yn ganolog yn ein hystyriaethau cyllidebol, ac yn darparu'r setliad gorau posibl i lywodraeth leol.

Cyn troi at rai o'r negeseuon allweddol y mae rhanddeiliaid wedi'u dwyn i fy sylw dros yr haf ac y credaf eu bod wedi cael eu hadleisio yn y Siambr heddiw, mae'n werth gosod y ddadl yn y cyd-destun ehangach. Fel y clywsom gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei chylch gwariant cyflym un flwyddyn ar 4 Medi, a'r tu ôl i'r penawdau, nid yw'r cylch gwariant hwn yn troi'r dudalen ar gyni fel yr honnodd y Canghellor, gan y bydd ein cyllideb yn 2020-21 yn dal i fod 2 y cant yn is, neu £30 miliwn yn llai mewn termau real, nag yn 2010-11, a byddwn yn wynebu dewisiadau anodd dros yr wythnosau nesaf. A byddwn hefyd yn parhau i wynebu—[Torri ar draws.]

17:25

Mae'n rhaid eich bod wedi disgwyl i mi godi gyda'r sylw hwnnw. Fel y dywedais wrthych o'r blaen mewn cwestiynau, rwy'n derbyn yr hyn a ddywedwch ynglŷn â chymharu'r ffigurau â 2010-2011—mae'n dal i fod ffordd bell i fynd—ond rhaid i chi hyd yn oed dderbyn, pan fyddwch yn optimistaidd, Weinidog, fod hyn, o'i gymharu â'r llynedd, yn gynnydd o fwy na 2 y cant mewn termau real—mewn termau real. Felly, bydd yn bendant yn gwella cyllideb Cymru y flwyddyn nesaf.

Wel, yn seiliedig ar y trafodaethau a gawsom o'r blaen yn y Siambr, roeddwn yn mynd i fynd ymlaen i ddweud hynny. Nid oeddwn yn mynd i oedi'n hir ar hynny y prynhawn yma, yn enwedig ar ôl yr hyn y credaf iddi fod yn ddadl adeiladol a defnyddiol. Ond mae'n deg dweud y byddwn yn dal i wynebu risgiau mawr a rhywfaint o ansicrwydd wrth i ni wneud ein paratoadau. Er enghraifft, mae amseriad a chynnwys cyllideb yr Hydref y DU yn parhau'n aneglur, ynghyd â goblygiadau Brexit a'r posibilrwydd o Brexit 'heb gytundeb' ar ein cynigion gwariant. Felly, rydym angen i'r disgwyliadau fod yn ofalus yn y cyd-destun ehangach hwnnw.

Ond yn ystod fy ymweliadau dros yr haf, cafodd nifer o faterion pwysig eu dwyn i fy sylw gan randdeiliaid ac fel y clywsom eto y prynhawn yma, mae'r gallu i gynllunio ar gyfer y tymor hir gyda chyllidebau sefydlog ar gyfer y blynyddoedd i ddod yn aml yn cael ei grybwyll fel problem. A'n huchelgais bob amser yw darparu eglurder mwy hirdymor ynglŷn â chyllidebau lle bynnag y bo modd, ond rhaid cydbwyso hyn â rhagdybiaethau cynllunio realistig a synhwyrol, ac nid oes gennym rai y tu hwnt i'r flwyddyn nesaf. Ond er mwyn rhoi cymaint o sicrwydd ag sy'n bosibl i'n partneriaid a'n rhanddeiliaid, rwyf wedi cyflwyno ein cynlluniau i gyhoeddi cyllideb Llywodraeth Cymru, a gallaf gadarnhau, gyda chytundeb y pwyllgorau cyllid a busnes, ac rwy'n ddiolchgar iawn amdano, y byddaf yn cyhoeddi ein cyllideb ddrafft yn gynt ar 19 Tachwedd a'r gyllideb derfynol ar 4 Chwefror.

Yn ystod fy ymweliadau a fy nghyfarfodydd a fy ngwaith ymgysylltu ehangach, gwelwyd bod llawer o gefnogaeth i'r ymagwedd ataliol tuag at fuddsoddi y clywsom amdani y prynhawn yma, ac mae wedi bod yn thema eithaf amlwg yn y cyllidebau diweddar. Rydym yn llwyr gydnabod pwysigrwydd ariannu gweithgarwch ataliol a'i botensial i gael effaith drawsnewidiol ar wasanaethau cyhoeddus ac i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl. Mae dulliau ataliol fel prosiect I CAN yn Ysbyty Gwynedd yn parhau i fod yn ystyriaeth bwysig wrth ddyrannu cyllidebau Llywodraeth Cymru. Ac wrth gwrs, nid yw Brexit byth yn bell o fy meddwl. Rwyf wedi ymweld â llawer o gymunedau sydd wedi elwa o gyllid yr UE yn y gorffennol ac mae pryderon, yn amlwg, ynghylch cyllid ar ôl Brexit. Drwy fy holl ymweliadau a chyfarfodydd, roedd dealltwriaeth wirioneddol o'r heriau sy'n wynebu pob un ohonom ar draws y gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, ond er gwaethaf hyn, cefais fy nghalonogi'n fawr o glywed sut y mae gwasanaethau'n gyffredinol yn ystyried ffyrdd newydd o weithio er mwyn ymateb i'r her. Felly, wedi fy ysgogi gan y sgyrsiau hyn, rwy'n fwy penderfynol nag erioed o edrych yn gadarnhaol tua'r dyfodol a chefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn y ffordd orau sy'n bosibl.

Mae'r holl sgyrsiau hyn yn llywio ein paratoadau ar gyfer y gyllideb ddrafft y byddwn yn ei chyhoeddi ym mis Tachwedd. Bydd y gyllideb yn canolbwyntio ar y meysydd blaenoriaeth lle y gallwn gael yr effaith fwyaf dros y tymor hir er mwyn diwallu anghenion Cymru yn y presennol a'r dyfodol, a darparu'r gwasanaethau a'r canlyniadau y mae pobl Cymru yn eu haeddu. Diolch.

17:30

Galwaf ar Llyr Gruffydd, Cadeirydd y pwyllgor, i ymateb i'r ddadl.

A gaf i ddiolch, o waelod calon, i bawb sydd wedi cyfrannu i'r ddadl? Rwy'n credu bod y drafodaeth rŷm ni wedi'i chael yn yr awr ddiwethaf yma wedi dangos pa mor werthfawr yw cael y math yma o drafodaeth, ac yn wir sut y byddai, efallai, cael trafodaeth ehangach eto o safbwynt amser a nifer y cyfraniadau yn cyfoethogi ac yn cynorthwyo, yn sicr, y Gweinidog ac eraill wrth ddatblygu cyllideb y Llywodraeth, ond ei bod hi'n bwysig gwneud hynny ar yr adeg ffurfiannol, gynnar yna, yn hytrach na fel rŷm ni wedi ffeindio ein hunain, yn anffodus y tro yma, yn ei chael hi'n hwyrach ymlaen yn y broses nag y byddem ni'n dymuno.

Fe wnaf i bigo lan jest ar ambell un o'r pwyntiau. Dwi'n meddwl y cychwynnodd Nick Ramsay drwy ein hatgoffa ni o bwysigrwydd ymgysylltu â'r cyhoedd yn ehangach, ac yn amlwg mae hynny'n rhywbeth y mae'r Pwyllgor Cyllid yn trio ei wneud. Mae'n rhywbeth y dylai bob pwyllgor yn y Cynulliad yma fod yn ei wneud. Yn wir, dylai bob Aelod bod yn achub ar bob cyfle i ymgysylltu ag etholwyr. Dwi'n credu bod pwynt Mike Hedges ynglŷn â'r ehangu daearyddol yna hefyd, o safbwynt pwy rŷm ni'n siarad â nhw. Ac, wrth gwrs, mae ymgynghoriad y pwyllgor, sydd yn gorffen heddiw, fel yr oeddwn i'n sôn yn gynharach, hefyd yn gyfle i daflu'r rhwyd yna ymhellach.

Roedd hi'n ddiddorol ac yn galonogol clywed nifer o Aelodau'n cyfeirio at ffactorau gwledig, wrth gwrs, fel un o'r meysydd sydd yn gweld tipyn o bwysau ar hyn o bryd. A dwi eisiau diolch i Alun Davies yn enwedig jest am ofyn y cwestiwn, 'Beth ŷm ni'n craffu?' mewn gwirionedd, oherwydd rŷm ni yn cael ein sugno i mewn i graffu llinell wrth linell, lle yn aml iawn, efallai, dŷn ni ddim yn cymryd y cam yna yn ôl i edrych ar siâp y gyllideb gyfan a sut mae hynny'n cysylltu ag amcanion neu uchelgais polisi'r Llywodraeth. Rwy'n credu bod hwnna yn ffactor canolog o'n gwaith ni fel pwyllgor, a phwyllgorau eraill. A phan soniodd e fod ganddo fe dair blaenoriaeth, roeddwn i'n poeni ei fod e'n mynd i ddweud, 'Blaenau Gwent, Blaenau Gwent a Blaenau Gwent', ond wnaeth e ddim, er clod iddo fe: addysg, trafnidiaeth gyhoeddus a newid hinsawdd. Ac, wrth gwrs, dyna'r pwynt. Hynny yw, bydd gan bob Aelod tair blaenoriaeth wahanol, dwi'n siŵr, fel rŷm ni wedi clywed gan eraill heddiw, a dyna yn union fwriad y ddadl yma, wrth gwrs, sef rhoi llwyfan a rhoi llais i'r blaenoriaethau hynny wrth i'r Llywodraeth ffurfio ei chyllideb.

Mi wnaeth Rhun, Dawn Bowden ac eraill sôn am y tensiwn yma rhwng cyllido gwasanaethau iechyd a gwasanaethau eraill, a Mike Hedges hefyd yng nghyd-destun gwerth ataliol buddsoddi mewn gwasanaethau cymdeithasol neu ofal cymdeithasol yn enwedig. Rŷm ni wedi clywed yng nghyd-destun llywodraeth leol—. Mi ddefnyddiodd Nick Ramsay'r term 'saturation point' a dwi wedi clywed 'tipping point' a 'rŷm ni ar ymyl y dibyn.' Mae'r llinellau yma'n gyson yn cael eu dweud wrthym ni, ond dwi yn meddwl bod yr amser wedi dod i'r Llywodraeth 'front-o' lan i hyn a bod angen gwneud rhywbeth nawr am y sefyllfa.

Mi gododd Mark Reckless bwynt pwysig, dwi'n meddwl, ynglŷn â'r disconnect rhwng ymgysylltu â rhanddeiliaid a'n craffu ni o'r gyllideb. Mae yn anochel, fel oedd e'n ei ddweud, oherwydd ei bod hi'n executive-led process ac efallai bod canfyddiad y cyhoedd yn un sy'n awgrymu eu bod nhw'n meddwl bod gennym ni fwy o ddylanwad efallai nag y byddem ni'n licio, yn sicr. Ond nid dim ond yng nghyd-destun cyllid mae hynny'n wir, wrth gwrs. Dwi'n meddwl bod hynny'n wir ym mhob cyd-destun yn aml iawn: y diffyg gwahaniaethu yma rhwng Llywodraeth Cymru a rôl Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Ond eto mae'n tanlinellu, rwy'n credu, yr angen i gryfhau llais Aelodau meinciau cefn ac Aelodau'r Cynulliad yma fel rhan o'r drafodaeth honno.

Dwi'n rhannu'r rhwystredigaeth ynglŷn â'r cylch gwariant un flwyddyn gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Wrth gwrs, dyw hynny ddim wedi stopio, os dwi'n iawn, Llywodraeth yr Alban rhag cynnig sicrwydd mwy hirdymor i'w cyrff cyhoeddus nhw, ond dwi yn deall dyw hi ddim yn hawdd gwneud hynny. Ond mae gwneud hynny hefyd yn caniatáu iddyn nhw ddefnyddio'r arian hwnnw yn fwy effeithiol, ac yn yr hinsawdd sydd ohoni, mae'n rhaid inni wneud i bob punt weithio mor galed ag sy'n bosib.

Diolch i John Griffiths am ein hatgoffa ni ynglŷn ag addysg a'r angen i ariannu ysgolion, eto yng nghyd-destun y gwariant ataliol yma. Yr hyn ŷn ni'n chwilio amdano fe mewn gwirionedd yw'r shifft yma, ontefe, rhyw fath o decisive shift i fuddsoddiad ataliol, ac mae gwasanaethau ieuenctid, wrth gwrs, yn un rhan bwysig iawn o hynny.

Jest i ymateb yn sydyn i rai o sylwadau'r Gweinidog hefyd, mi gawsom ni restr o brojectau: Ynni Ogwen, I CAN ym Mangor, yr RSPB yn Llyn Efyrnwy, Tai Ceredigion ac yn y blaen. Dwi'n teimlo weithiau mai dyna'r perig, ontefe? Hynny yw, mae modd pwyntio at brojectau unigol i amlygu rhywbeth neu'i gilydd, ond dyw e ddim o reidrwydd yn cynrychioli newid systemig yn y ffordd mae'r Llywodraeth yn mynd ati i greu ei chyllideb. Mae hynny'n dod nôl, rwy'n credu, at yr hyn roedd Alun Davies yn ei ddweud: sut allwn ni gryfhau'r cysylltiad yna rhwng llinellau yn y gyllideb ac uchelgais polisi a chanlyniadau polisi'r Llywodraeth? Hynny yw, y gwahaniaeth yma rhwng outputs ac outcomes, ac rwy'n credu mai yn fanna, os lwyddwn ni i ddatrys fel pwyllgor ac fel Cynulliad ac fel Llywodraeth y conundrum yna a chreu'r cyswllt clir yna, yn hytrach na mynd ati i restru projectau, rwy'n credu efallai y byddwn ni wedi cyrraedd y man lle byddwn i'n licio inni gyrraedd.

Felly, gyda hynny o sylwadau, eto, gaf i ddiolch i'r holl Aelodau am gyfrannu? Dwi'n teimlo ein bod ni wedi cael blas ar y math o drafodaeth y dylen ni fod yn ei chael o gwmpas blaenoriaethau cyllidebol Llywodraeth Cymru, ond i wneud hynny yn y blynyddoedd i ddod yn llawer, llawer cynharach yn y broses. Diolch.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

17:35

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig. 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Dadl y Blaid Brexit: Y Deyrnas Unedig a'r Undeb Ewropeaidd

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1, 2, 3 a 4 yn enw Rebecca Evans, a gwelliant 5 yn enw Darren Millar. Os derbynnir gwelliant 4, caiff gwelliant 5 ei ddad-ddethol.

Yr eitem nesaf yw'r ddadl gan Blaid Brexit ar y Deyrnas Unedig a'r Undeb Ewropeaidd, a dwi'n galw ar Mark Reckless i wneud y cynnig. Mark Reckless.

Cynnig NDM7141 Caroline Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cefnogi aelodaeth Cymru o Deyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon a'i pharhad amhenodol.

2. Yn nodi bod Cymru, fel y Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd, wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd.

3. Yn cefnogi datganoli pellach mewn meysydd penodol a fyddai o fudd i Gymru a lle mae rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig yn elwa o ddatganoli o'r fath, fel toll teithwyr rheilffyrdd ac awyr.

4. Yn nodi'r rhan a fu gan yr Undeb Ewropeaidd yn y gorffennol o dan erthyglau 154 i 156 o Gytuniad Rhufain mewn perthynas â rhwydweithiau traws-Ewropeaidd, gan gynnwys yr M4 a'r A55.

5. Yn galw ar Lywodraeth y DU i gefnogi gwelliannau i'r A55 a chyflenwi ffordd liniaru'r M4 drwy gronfa ffyniant a rennir y DU er budd Cymru a'r DU gyfan.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd. Cynigiaf y cynnig yn enw Caroline Jones.

Mae'r pwynt bwled cyntaf yn cefnogi aelodaeth Cymru o Deyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon a'i pharhad amhenodol. Nawr, buaswn wedi meddwl nad oedd hyn yn rhywbeth yr oedd angen ei ddatgan. Gwn fod gan Blaid Cymru farn wahanol, wrth gwrs, ond cyn imi gael fy ethol i'r lle hwn, roeddwn wedi derbyn maniffestos a safbwyntiau polisi'r pleidiau eraill ar eu golwg. Gwyddwn hefyd am nifer o Aelodau Seneddol o Gymru a oedd yn y Blaid Lafur a, hyd y gwyddwn, yn unoliaethwyr diwyro. Fy argraff yma, fodd bynnag, o fewn y Llywodraeth o leiaf, yn rhengoedd y Blaid Lafur yma, yw bod mwy o amrywiaeth barn am ymreolaeth, os nad annibyniaeth, yn hytrach nag unoliaetholdeb a beth ddylai trywydd datganoli fod. Credaf fod o leiaf rai o'r Aelodau ar feinciau'r Llywodraeth yn hwylio o dan faniffesto Llafur a safbwyntiau polisi Llafur, ond mae'r gwahaniaethau rhyngddynt a llawer o Aelodau Plaid Cymru yn llai nag y byddwn wedi'i ddisgwyl yn flaenorol. Felly, rydym yn datgan hynny yn ein cynnig heddiw.

Rydym hefyd, yn ein hail bwynt, yn nodi eto—nid wyf am oedi'n rhy hir gyda'r pwyntiau ar yr UE yn y ddadl hon—fod Cymru, fel y Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd, wedi pleidleisio dros adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae'n ddealladwy yng nghyd-destun yr Alban, lle y pleidleisiodd yr Alban o gryn dipyn dros aros, a lle mae gennych Lywodraeth Plaid Genedlaethol yr Alban sy'n cefnogi annibyniaeth yr Alban, mae'n ddealladwy sut y bydd y ddau fater yn cael eu cyfuno a Llywodraeth yr SNP yn defnyddio un i geisio symud ar y llall. Rwyf wedi fy synnu gan y graddau y mae hyn wedi digwydd yng Nghymru hefyd. Rwy'n cydnabod bod llawer o'r Aelodau wedi'u syfrdanu, eu siomi, a'u cynhyrfu gan ganlyniad y refferendwm, ond cefais fy synnu fwy gan y graddau y bu i rai Aelodau gwestiynu lle Cymru yn y Deyrnas Unedig ar y sail fod eu hochr hwy wedi colli'r refferendwm pan bleidleisiodd Cymru dros adael yr Undeb Ewropeaidd. Rydym wedi gweld rhai arolygon ac rydym wedi gweld ambell orymdaith, ac yn aml, Plaid Cymru sydd y tu ôl i'r cwestiynau a pheth o'r gwaith trefnu ar y rheini, a bu cryn dipyn o sylw yn y cyfryngau i'r rhai sy'n chwilfrydig ynglŷn ag annibyniaeth, a cheir awgrym fod rhyw fath o ymchwydd wedi bod yn y gefnogaeth i annibyniaeth. Rwy'n amheus o hynny, ac rwy'n meddwl tybed a yw'r Aelodau, yn enwedig ar feinciau Llafur, yn mynd yn rhy bell, er eu budd etholiadol eu hunain o leiaf, yn y modd y maent efallai'n cwestiynu parhad ein haelodaeth o'r undeb, neu o leiaf natur yr undeb a sut y dylai ddatblygu oherwydd yr hyn a ddigwyddodd gyda'r refferendwm.

Fe ildiaf.

17:40

Rydych chi wedi siarad am y refferendwm, mae realiti'r drafodaeth ynghylch annibyniaeth wedi digwydd oherwydd llanastr Llywodraeth y DU a Senedd San Steffan a'r ffordd y mae wedi ymddwyn ers y refferendwm hwnnw. Felly nid oedd yn fater refferendwm; mae'n edrych, mewn gwirionedd, ar sut y mae San Steffan yn ymddwyn, a methiant San Steffan i fynd i'r afael ag anghenion y gwahanol wledydd ar draws y DU sydd wedi bod yn arwain yr agenda hon.

Ac i mi, y broblem yw methiant gormod o'r bobl sydd o blaid aros, gan gynnwys ac yn enwedig efallai yn San Steffan, i dderbyn canlyniad y refferendwm. Maent wedi treulio tair blynedd a mwy yn tyfu'n fwyfwy hyderus ac yn mynd ymhellach ac ymhellach yn erbyn yr hyn a ddywedasant yn y gorffennol i geisio rhwystro canlyniad y refferendwm hwnnw, ac rwy'n credu mai'r gwrthodiad hwnnw i weithredu'r canlyniad a gwrthodiad elît sydd o blaid aros, y sefydliad efallai, i weithredu penderfyniad eu pleidleiswyr sydd wedi arwain at yr anawsterau a wynebwn yn awr.

Fodd bynnag, hoffwn ganolbwyntio ar ddatganoli a'i drywydd. Roeddwn wedi gobeithio, gyda'r hyn a ddaeth yn Ddeddf Cymru 2017, y byddem yn cyrraedd setliad sefydlog. Mae'n fy nharo bod y system yn gymharol sefydlog mewn llawer o wledydd ledled y byd lle y ceir llywodraeth ddatganoledig ac mewn rhai achosion, llywodraeth ffederal. Mae'n fy nharo bod y DU yn eithriad yn yr ystyr fod yna newidiadau cyfansoddiadol o'r fath sydd wedi parhau cyhyd ac ymddengys nad oes pen draw i'w weld. Roeddwn wedi meddwl y byddai'n gweithio'n well gyda'r modelau cadw pwerau, ac rwy'n meddwl bod rhywfaint o'r bai ar Lywodraeth y DU efallai o ran diffyg hyblygrwydd wrth ymgysylltu â sefydliadau datganoledig i ddod o hyd i setliad a fyddai'n fwy sefydlog o bosibl. Ac yn awr, rwyf i a chyd-aelodau o'm mhlaid hyd yn oed yn gweld meysydd lle byddai'n gwneud synnwyr i gael mwy o ddatganoli, ac rydym ni ein hunain yn amau a yw'r system sefydlog honno'n realistig ag ystyried y setliad a gyrhaeddwyd gennym yn 2017.

Hoffwn dynnu sylw at ddwy enghraifft yma lle rwyf wedi fy mherswadio i raddau helaeth gan areithiau a wnaed gan Weinidogion y Llywodraeth a chan eraill yn y Siambr hon fod yna achos cryf dros ddatganoli pellach. Un o'r rheini yw'r doll teithwyr awyr. Rwy'n credu bod adroddiad y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig o San Steffan ac arweiniad David T.C. Davies wedi dylanwadu arnaf o ran hynny, ac mae'r adroddiad unfrydol a gawsant, rwy'n credu, yn dweud bod hyn yn rhywbeth y dylid ei ddatganoli o'u goruchwyliaeth hwy i'n goruchwyliaeth ni, ac mae hynny'n rhywbeth yr ydym yn hapus i'w gefnogi.

Mae'r rheilffyrdd hefyd yn faes lle y cefais fy mherswadio o'r achos dros ragor o ddatganoli, yn rhannol oherwydd y Gweinidog, Ken Skates, sydd, yn fy marn i, yn gwneud achos da iawn dros yr angen am fuddsoddi pellach yng Nghymru. Ond nid mater o arian yn unig ydyw. Mae'n fater o drefniadaeth, ac a dweud y gwir, nid wyf yn teimlo bod strwythur y rheilffyrdd yn y Deyrnas Unedig wedi gweithio'n arbennig o dda. Yn fwyaf arbennig, buaswn yn feirniadol o Network Rail o ran ei reolaeth, ei anhyblygrwydd, ei fiwrocratiaeth, ei un model ar gyfer pawb, ac yn bennaf, ei gost. Mae darparu atebion rheilffyrdd i'w weld mor anhygoel o ddrud. Fe'm trawyd hefyd gan Transport for London a'i lwyddiant cymharol o ran integreiddio, a Mersey Rail yn yr un modd, wrth edrych ar hwnnw'n fwy diweddar. Mae'n fy nharo, o ystyried yr hyn a welsom gan Network Rail a sut y mae'r system wedi gweithio, ond hefyd, rwy'n credu, pa mor dda y gwnaeth Llywodraeth Cymru o ran negodi a chytuno ar fasnachfraint Cymru a'r gororau, rwy'n credu bod yr achos wedi'i wneud dros ddatganoli'r rheilffyrdd. Credaf ein bod wedi gweld problemau ers i Trafnidiaeth Cymru gymryd drosodd, a chredaf eu bod yn mynd yn brin o amser i'w beio ar sail y system flaenorol ac mae angen cymryd cyfrifoldeb, ond yn gyffredinol, credaf fod y cyflawniad yn un y byddem am ei gefnogi, a chredwn y byddai rhagor o ddatganoli yn y maes hwnnw o fudd i Gymru.

Symudaf yn awr at bwynt 4 yn ein cynnig lle y nodwn sefyllfa'r A55, a'r M4 yn fwy diweddar, rwy'n credu, fel rhwydweithiau traws-Ewropeaidd o dan erthyglau 154 i 156 o Gytuniad Rhufain, ac rydym wedi derbyn mesur o oruchwyliaeth yr Undeb Ewropeaidd dros y ffyrdd hynny oherwydd yr effaith y maent yn ei chael ar Iwerddon a'r graddau y maent yn mynd y tu hwnt i ffiniau'r DU. Am yr un rhesymau, a rhesymau cryfach, rwy'n credu, gallem weld achos dros fesur o ymwneud ar ran y DU i'r graddau fod yr hyn sy'n digwydd gyda'r llwybrau hynny'n bwysig iawn, nid yn unig i Gymru, ond i'r DU yn ehangach.

Nid yw yn ei sedd yn awr, ond gwnaeth pwynt a wnaeth Alun Davies yn gynharach wrth edrych ar yr M4 gryn argraff arnaf mewn gwirionedd. Edrychodd ar yr achos economaidd a'r costau a'r manteision, a gwnaeth y pwynt ynghylch pa mor gymharol fach y cyfrifwyd y manteision i'w etholwyr ym Mlaenau Gwent, a gwrthgyferbynnodd hynny â'r manteision sylweddol iawn i bobl sy'n byw ym Mryste a lleoedd gryn dipyn ymhellach na hynny yn Lloegr. Ac fe ddywedodd, yn deg efallai, 'Pam y dylai boeni am y manteision iddynt hwy? Pam y dylem wario arian trethdalwyr Cymru ar hynny?' A chan fod ganddo'r rôl hon bellach yn edrych ar strwythurau'r DU y mae Llywodraeth Cymru wedi ei rhoi iddo i wneud argymhellion, buaswn yn dweud, 'Ydy, mae'n iawn am hynny', ond os oes gennym system lle y caiff y costau i gyd eu hystyried, gan ein bod yn ysgwyddo'r holl gostau yng Nghymru, ond bod manteision sylweddol iawn i bobl eraill, er enghraifft yn Lloegr, nad ydym yn cymryd unrhyw sylw ohonynt am nad dyna yw ein mandad, onid yw hynny'n awgrymu y gallem fethu buddsoddi'n ddigonol? Ac os oes budd mawr i bobl dros y ffin yn Lloegr mewn gwirionedd, onid oes rôl i Lywodraeth y DU gefnogi'r ffyrdd hynny a thalu amdanynt o bosibl?

Gofynnwyd i'r Cwnsler Cyffredinol nos Sul gan gadeirydd y pwyllgor dethol Cymreig, pe bai ei swyddogion ac eraill yn gweithio i sicrhau bod Llywodraeth y DU yn rhoi'r arian i dalu am y ffordd liniaru hon, a fyddai'n ei chyflawni. Gobeithio y bydd yn ystyried hynny, oherwydd nid ydym am gyfyngu ar economi Cymru ac ymwahanu oddi wrth Loegr, ac yn enwedig yr ardaloedd mwy ffyniannus. Mae angen inni sicrhau bod y ffordd honno'n weithredol, ac rwy'n credu bod rôl briodol hefyd i Lywodraeth y DU yn hyn o beth wrth inni geisio ymdrin â datganoli mewn modd cytbwys. Mae modd ei gyfiawnhau'n fwy mewn rhai meysydd, ond mae yna feysydd lle y gallem elwa o gymorth Llywodraeth y DU.

17:45

Rwyf wedi dewis y pum gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 4, bydd gwelliant 5 yn cael ei ddad-ddethol. Galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit i gyflwyno yn ffurfiol welliannau 1, 2, 3 a 4, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans.

Gwelliant 1—Rebecca Evans

Ychwanegu ar ddiwedd pwynt 1 'ond yn credu bod angen i’r ffordd y cynhelir y cysylltiadau rhynglywodraethol rhwng y cenhedloedd datganoledig a Llywodraeth y DU gael ei diwygio mewn modd radical'.

Gwelliant 2—Rebecca Evans

Ychwanegu ar ddiwedd pwynt 2 'ond yn credu, yn sgil profiad y tair blynedd diwethaf, na ellir sicrhau dyfodol mwy disglair i Gymru heb i’r DU aros yn yr UE'.

Gwelliant 3—Rebecca Evans

Ym mhwynt 3, yn lle 'fel toll', rhoi 'fel plismona a chyfiawnder a tholl'.

Gwelliant 4—Rebecca Evans

Dileu pwynt 5 a rhoi yn ei le:

Yn galw ar Lywodraeth y DU:

a) i gryfhau ei hymrwymiad i fuddsoddi mewn seilwaith yng Nghymru, er enghraifft drwy drydaneiddio’r prif linellau rheilffordd yn y De a’r Gogledd a buddsoddi mewn ynni llanw yng Nghymru, sy’n gyfrifoldeb iddi;

b) i ddarparu cyllid llawn yn lle’r cyllid Ewropeaidd y bydd Cymru’n ei golli os bydd y DU yn ymadael â’r UE, a hynny heb unrhyw ymyrraeth gan Lywodraeth y DU o ran y ffordd orau o’i ddefnyddio.

Cynigiwyd gwelliannau 1, 2, 3 a 4.

Yn ffurfiol. Felly, dwi'n galw nawr ar Darren Millar i gyflwyno gwelliant 5 a gyflwynwyd yn ei enw. Darren Millar.

Gwelliant 5—Darren Millar

Ym mhwynt 5, ar ôl 'gwelliannau i'r', ychwanegu 'seilwaith yng Nghymru, gan gynnwys yr'.

Cynigiwyd gwelliant 5.

Diolch, Lywydd. Rwy'n cynnig y gwelliant, a gyflwynwyd yn fy enw i.

Roeddwn yn disgwyl i hon fod yn fwy o ddadl nôl ac ymlaen, a bod yn onest, yn ôl yr arfer ar brynhawn dydd Mercher pan fydd Plaid Brexit yn cyflwyno dadl gwrthblaid. Ond mewn gwirionedd, mae'r cyfraniadau meddylgar a wnaed gan arweinydd Plaid Brexit mewn perthynas â dyfodol y Deyrnas Unedig a'r setliad datganoli wedi gwneud cryn argraff arnaf, oherwydd credaf fod angen i ni fel Senedd drafod dyfodol datganoli yn y wlad hon, ac rwy'n sicr yn cytuno â chi fod angen setliad mwy sefydlog a chadarn. Ar hyn o bryd nid oes gennym hynny, ac mae gennym anghydbwysedd o fewn y Deyrnas Unedig o ran y setliad datganoli yng Nghymru o'i gymharu â'r Alban, ac yn yr Alban o'i gymharu â Llundain, a'r maeryddiaethau wrth gwrs, a Gogledd Iwerddon. Felly, mae gennym drefniant rhyfedd sydd, mae'n ymddangos i mi, wedi'i ddatblygu heb ystyriaeth briodol i'r hyn a allai fod yn lefelau priodol o gyfrifoldeb i bob un o'r gwledydd. Ac yn sicr, rwy'n credu bod angen ystyried hynny'n fwy gofalus yn y dyfodol er mwyn inni allu cyrraedd rhywbeth mwy synhwyrol ar gyfer y tymor hir sy'n cadw'r Deyrnas Unedig gyda'i gilydd yn hytrach na'n rhannu.

Nid wyf yn ymddiheuro o gwbl am fod yn unoliaethwr angerddol—credaf ei bod yn llawer gwell i Gymru fod yn rhan o'r Deyrnas Unedig na'r tu allan i'r Deyrnas Unedig, a dyna pam ei bod yn eithaf rhyfeddol fod gennym blaid genedlaetholgar sy'n beirniadu'r ffaith bod Llywodraeth y DU yn benderfynol o geisio cyflawni ewyllys y bobl drwy ein tynnu allan o'r UE oherwydd ei bod yn honni bod manteision economaidd sylweddol yn deillio i Gymru o wneud hynny, ac eto mae'n ceisio ein rhannu drwy annibyniaeth oddi ar weddill y Deyrnas Unedig, sydd, wrth gwrs, hyd yn oed yn fwy strategol bwysig i Gymru o ran ein heconomi. Rwy'n hapus i dderbyn yr ymyriad.

17:50

Diolch i chi am dderbyn yr ymyriad. Mae gwahaniaeth syml iawn yn y ddwy senario: nid yw Cymru'n wlad annibynnol o fewn Prydain; mae Prydain yn wlad annibynnol o fewn Ewrop, yn ôl unrhyw fesur.

Rwy'n deall hynny, ond nid wyf yn credu eich bod wedi ymateb i'r datganiad a wneuthum ei bod yn ymddangos yn rhyfeddol iawn i lawer o bobl eich bod yn cyflwyno dadl economaidd dros aros yn yr UE, heb wneud yr un ddadl economaidd yn fwy pwerus oherwydd pwysigrwydd ein cysylltiadau economaidd ar draws y DU.

Nawr, o ran safbwynt y Ceidwadwyr Cymreig, rydym eisoes wedi cofnodi ein bod yn cefnogi datganoli'r rheilffyrdd a mwy o gyfrifoldeb dros y system reilffyrdd yma yng Nghymru, a buaswn yn cytuno'n llwyr â rhai o'r sylwadau a wnaethoch yn arbennig am ddiffyg ymatebolrwydd Network Rail i fod eisiau gwneud yn siŵr fod digon o fuddsoddi a chynnal a chadw yma ar ein rheilffyrdd ledled y wlad. Rwyf wedi'i chael yn anodd iawn ymdrin â hwy ar lefel etholaethol, ac nid oes gennyf amheuaeth nad yw honno'n farn a rennir ar draws y Siambr hon. Hefyd, wrth gwrs, rydym yn cefnogi camau—mewn ffordd wahanol ac yn arddel safbwynt gwahanol i'n plaid yn y DU—i sicrhau bod y doll teithwyr awyr yn cael ei datganoli i Gymru, gan ein bod yn credu bod cyfleoedd economaidd y gallwn eu cael o ddatganoli'r doll teithwyr awyr. Rwy'n credu bod achos posibl hefyd dros ddatganoli rhai materion telathrebu i Gymru, er enghraifft. Gwyddom fod Llywodraeth Cymru wedi bod yn gyfrifol am gyflwyno'r cynllun band eang cyflym iawn, ac mae hwnnw wedi bod yn gymharol lwyddiannus mewn llawer ffordd, er bod rhai diffygion o hyd mewn rhannau gwledig o fy etholaeth. Ond unwaith eto, rwy'n credu bod achos da i'w wneud dros gael mwy o gyfrifoldebau i Gymru mewn perthynas â thelathrebu. Mae gennym eisoes gyfrifoldebau cynllunio am bethau megis uchder mastiau ac ati, am deleffoni symudol, ac mae'n gwneud synnwyr perffaith i mi i wneud yn siŵr fod y pethau hynny'n cael eu rhoi at ei gilydd mewn rhyw ffordd, rwy'n meddwl, o ran y sefyllfa yn y dyfodol.

Rydym hefyd yn cydnabod pwysigrwydd strategol yr M4 a'r A55 a ffyrdd eraill yng Nghymru i rwydwaith y DU, a chredaf y gallwch ddadlau'r ddwy ffordd o ran pwy sy'n gyfrifol am y rheini, ond yn sicr, rydym am weld mwy o fuddsoddi yn ein ffyrdd, oherwydd mae cysylltiadau trafnidiaeth gwell yn helpu i hybu ffyniant. Ni allwn anwybyddu'r ffaith bod cysylltiad gwell ag ardaloedd sy'n llewyrchus yn golygu eich bod yn tueddu i wneud yn well yn economaidd eich hun. Mae tystiolaeth gref iawn fod hynny'n wir, a dyna pam y credwn fod ffyrdd fel yr A55, yr A40, yr M4 a'r llwybrau strategol o'r gogledd i'r de yng Nghymru yn eithriadol o bwysig o ran yr angen i gael gwell cysylltedd ar draws y wlad.

Felly, rydym yn hapus i gydnabod y pethau hynny yn y ddadl hon, ac os gallwn gael dadl hynaws, efallai y cawn rywfaint o gonsensws er mwyn gallu datblygu rhai o'r pethau hyn yn y dyfodol.

Rwyf am ganolbwyntio ar fanteision penodol sy'n deillio o'n hundeb â Lloegr a'r ddwy wlad arall sy'n ffurfio'r Deyrnas Unedig, ac felly rhoddaf enghraifft i chi o sut y gallwn elwa o'r undeb hwnnw.

Crëwyd y rhwydwaith traws-Ewropeaidd, TEN, gyda'r nodau datganedig o greu marchnad ryngwladol ac atgyfnerthu cydlyniant economaidd a chymdeithasol. Nid oedd yn gwneud fawr o synnwyr i siarad am farchnad fawr yr UE, gyda rhyddid i symud o'i mewn ar gyfer nwyddau a gwasanaethau oni bai fod y gwahanol ranbarthau a rhwydweithiau cenedlaethol a ffurfiai'r farchnad honno wedi'u cysylltu'n briodol â seilwaith modern ac effeithlon. Roedd adeiladu rhwydwaith traws-Ewropeaidd hefyd yn cael ei gweld yn elfen bwysig ar gyfer twf economaidd a chreu gwaith. Roedd y cytuniad a sefydlodd y gymuned Ewropeaidd yn gyntaf yn rhoi sail gyfreithiol i'r TENau o dan y telerau a gynhwyswyd yn y cytuniad, ac erthyglau 156, fel y nododd Mark Reckless yn gynharach. Mae'n rhaid i'r Undeb Ewropeaidd anelu at hyrwyddo datblygiad rhwydweithiau traws-Ewropeaidd fel elfen allweddol ar gyfer creu'r farchnad fewnol ac atgyfnerthu cydlyniant economaidd a chymdeithasol. Mae'r datblygiad hwn yn cynnwys rhyng-gysylltiad y rhwydweithiau cenedlaethol a'u gallu i ryngweithredu yn ogystal â mynediad at rwydweithiau o'r fath.

Mae'r economi yng ngogledd Cymru wedi dioddef llawer yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac un o'r rhesymau am hyn yw gallu cefnffordd yr A55 i ymdopi â'r traffig mawr sy'n teithio ar hyd-ddi, yn enwedig yn ystod cyfnodau prysuraf y gwyliau. Mae'r A55 yn rhan o'r llwybr traws-Ewropeaidd sy'n cysylltu porthladd Caergybi ag Ewrop, ac eto nid yw'r Undeb Ewropeaidd wedi rhoi digon o arian tuag at ddatblygu'r llwybr hwnnw, ac mae wedi'i adael bron yn llwyr i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU sicrhau ei fod yn addas i'r diben. Ac mae'r ffordd hon yn cael effaith fawr ar hyfywedd economaidd rhanbarth gogledd Cymru, o ran busnes a thwristiaeth—

17:55

Diolch i chi am dderbyn yr ymyriad. Rwy'n siŵr eich bod yn ymwybodol fod yr Undeb Ewropeaidd yn fwy na pharod i lwybrau Cymru, yn ffyrdd a rheilffyrdd, gael statws craidd o fewn y rhwydweithiau TEN-T. Llywodraeth y DU oedd yn gyfrifol am beidio â chyflwyno'r llwybrau hynny i gael eu cysylltu o fewn TEN-T. Roedd Brwsel yn berffaith hapus.

Wel, gallwch ddadlau hynny, ond wrth gwrs, nid oedd yr arian ar gael. Dyna rwy'n ei ddweud, ac yn dod o'r Undeb Ewropeaidd, nid oedd ar gael. Ac rwy'n mynd i nodi sut y gall fod ar gael o fewn senario'r Deyrnas Unedig.

Mae'r M4 yn ne Cymru yn cael yr un effaith ar fusnes a hamdden â'r A55, ac wrth gyhoeddi'r penderfyniad i ddileu'r cynllun gwella yn nhwneli Bryn-glas, y rheswm a roddodd Prif Weinidog Cymru, oedd, yn gyntaf, ei gost gynyddol, ac yn ail, y pryderon amgylcheddol. Er mwyn lliniaru'r rhwystr cyntaf, y gost, rydym yn credu y dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno achos cryf i Lywodraeth y DU dros ddefnyddio'r gronfa ffyniant gyffredin i roi cymhorthdal tuag at gronfeydd Llywodraeth Cymru, yng ngogledd a de Cymru. O ystyried y gydnabyddiaeth gyffredinol y bydd gwelliannau i ran Cymru o'r M4 hefyd yn cael effeithiau buddiol ar economi rhanbarth Bryste, a natur draws-Ewropeaidd yr A55, rydym ni yn Brexit yn credu y gellid gwneud achos cadarn dros gael cyllid ychwanegol.

Cyfrifoldeb y Llywodraeth yw sefydlu seilwaith i gynyddu rhagolygon economaidd rhanbarth i'r eithaf. Er mwyn hwyluso hyn, rydym yn annog Llywodraeth Lafur Cymru i foderneiddio'r A55 ac atgyfodi ffordd liniaru'r M4 drwy ofyn am gymorth ariannol gan Lywodraeth y DU yn y modd a amlinellir uchod. Ni fyddai hwn ar gael pe baem yn aros o fewn yr Undeb Ewropeaidd. Diolch.

Mae'r cynnig hwn yn mynegi cefnogaeth i

'aelodaeth Cymru o Deyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon a'i pharhad amhenodol.'

Mae arnaf ofn nad ydym ni ar feinciau Plaid Cymru yn gallu cefnogi hynny. Pam? Yn gyntaf, rwy'n credu ein bod yn trafod yn ddamcaniaethol yn ôl pob tebyg. Byddai'n hynod o ffôl, yn fy marn i, i ymrwymo'n llawn am byth i wladwriaeth nad yw'n debygol efallai o fodoli ar ei ffurf bresennol am gyfnod hir iawn. Ymddengys i mi fod annibyniaeth yr Alban yn eithaf anochel yn y blynyddoedd i ddod, ac mae'r darlun sy'n prysur newid o ran undod Gwyddelig yn un sy'n debygol o gyflymu, rwy'n credu, yn y misoedd a'r blynyddoedd i ddod. Felly, nid yn unig ein bod yn siarad yn ddamcaniaethol, gofynnir inni hefyd bleidleisio ar rywbeth a allai'n hawdd fod y tu hwnt i'n rheolaeth. Wrth gwrs, gallem ddewis ymrwymo i fod yn atodiad taeogaidd i Loegr mewn byd lle bydd yr Alban yn annibynnol, ac Iwerddon yn unedig, ond mae'r ymchwydd diweddar yn y diddordeb yng nghwestiwn annibyniaeth yma yng Nghymru yn awgrymu bod hwnnw'n ddarlun sy'n mynd yn llai a llai atyniadol i boblogaeth sy'n deffro yng Nghymru.

Felly, ar bob ystyr, gadewch—[Torri ar draws.] Wrth gwrs.

Rwy'n ei chael hi'n anodd iawn deall pam y byddai'n well gan Blaid Cymru fod yn rhanbarth mewn casgliad enfawr o ranbarthau'n ymestyn o'r Môr Baltig i'r Môr Aegeaidd, yn hytrach na bod yn genedl mewn undod o genhedloedd a alwn yn Deyrnas Unedig. Dywedwyd wrthych yn gwbl bendant na fyddech yn cael eich cydnabod yn genedl yn Ewrop.

18:00

Fel cenedl annibynnol byddem yn sicr yn cael ein cydnabod fel cenedl drwy'r byd i gyd. Fy nymuniad i yw i'r genedl Gymreig honno ddatblygu'r rhwydweithiau rhyngwladol y mae eich plaid, i bob golwg, yn benderfynol o'u difa—gan adeiladu waliau yn hytrach nag adeiladu pontydd.

Ond ar bob cyfrif, gadewch i ni siarad am ein seilwaith trafnidiaeth, gan fy mod bob amser yn awyddus i wneud hynny, a sut i wella cysylltedd er mwyn cryfhau ein heconomi, ond gadewch inni wneud hynny mewn ysbryd o uchelgais gwirioneddol i'n gwlad fel partner cyfartal wrth ochr Lloegr, yr Alban, ein ffrindiau ar draws môr Iwerddon ac yn wir ein ffrindiau ar draws y sianel. I'ch atgoffa am waddol trafnidiaeth yng nghyd-destun y Deyrnas Unedig: mae wedi cymryd tan nawr i gael un filltir o reilffordd wedi'i thrydaneiddio yma yng Nghymru, a hyd yn oed wedyn, pan ddaw'n weithredol, cyn belled â Chaerdydd yn unig y bydd hynny'n digwydd, oherwydd penderfynodd Llywodraeth y DU mai dyna pa mor bell y dylai fynd. Mae ein holl briffyrdd aml-lôn yn rhedeg o'r dwyrain i'r gorllewin; mae'r llwybrau hynny'n bwysig iawn wrth gwrs, ond ble mae'r llwybrau rhwng y de a'r gogledd a allai, yn yr un modd, fod wedi helpu i greu economi integredig yng Nghymru? Nid oes unrhyw gysylltiad rheilffordd i lawr arfordir gorllewinol Cymru o gwbl. Rwy'n credu y gallwn feicio'n gyflymach o Flaenau Ffestiniog i Gaerfyrddin na mynd ar y trên, sy'n cymryd tua wyth awr. O ran gwariant ar y rheilffyrdd, rydym yn cael 1 y cant o'r arian sydd ar gael ar gyfer gwella ac ehangu rhwydweithiau rheilffyrdd, er bod gennym 11 y cant o'r rhwydwaith rheilffyrdd. HS2—rwy'n siŵr eich bod i gyd yn gwybod, wrth i wariant HS2 godi, fod gwariant ar y rheilffyrdd yng Nghymru yn gostwng oherwydd ei fod yn cael ei ystyried yn brosiect Cymru a Lloegr, er bod pob astudiaeth yn dangos y bydd economi Cymru yn cael ei niweidio gan HS2. Dyna waddol y DU, a Llywodraeth y DU, fel y nodais yn gynharach, a benderfynodd nad oedd Cymru'n haeddu cael un filltir o reilffordd na ffordd statws craidd o fewn y rhwydweithiau TEN-T. Cymerwch eich tro—Mark Isherwood yn gyntaf.

Fel Aelod sy'n cynrychioli etholaeth yng ngogledd Cymru, a wnewch chi gydnabod bod yr un astudiaethau wedi dweud y byddai gogledd Cymru ar ei hennill?

Dim ond os byddant yn cael rhai penderfyniadau yn ymwneud â Crewe, cywir, mae gobaith na fydd rhannau o ogledd Cymru yn y gogledd-ddwyrain yn cael eu niweidio, ond bydd economi Cymru yn ei chyfanrwydd, y byddwn yn seilio ein sylfaen drethi arni yn y blynyddoedd i ddod, yn cael ei niweidio. Mae pob astudiaeth yn dangos hynny. Mark Reckless.

Cytunaf â'r hyn y mae'r Aelod yn ei ddweud, ac mae'n un rheswm pam ein bod yn awyddus i ganslo HS2, ond hefyd, fel y dywedodd David T.C. Davies, Cadeirydd y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig nos Sul wrth y Gweinidog Brexit, oherwydd HS2, oherwydd yr annhegwch hwnnw, roedd arno eisiau gwthio i gael Llywodraeth y DU i dalu am ffordd liniaru'r M4.

Mae'n ddiddorol iawn—gall consensws adeiladu rhwng gwleidyddion yma yng Nghymru a gwleidyddion yn San Steffan. Digwyddodd dros y doll teithwyr awyr, er enghraifft. Ond oherwydd bod y grym yn nwylo Llywodraeth y DU, mater iddynt hwy, nid i ni fel cenedl, yw'r hyn y cawn ei benderfynu ar ddyfodol ein rhwydwaith trafnidiaeth. Felly, mae catalog o enghreifftiau y gallwn eu rhoi ynghylch pam nad yw gwaddol y DU yn un gadarnhaol i Gymru pan edrychwch ar drafnidiaeth. Os ydych am gyflwyno'r achos dros y DU, buaswn yn awgrymu bod trafnidiaeth yn ddewis eithaf gwael o ran pwnc, ac yn wir rwy'n credu ei bod hi'n mynd yn fwyfwy anodd i chi ddewis pwnc sy'n dweud mai'r DU yw ein cyfle gorau.

Credid na fyddai'r haul byth yn machlud ar yr Ymerodraeth Brydeinig—fod yr ymerodraeth ar y llwybr cywir, ac rwy'n dyfynnu Plaid Brexit, 'i barhau'n amhenodol'. Ond mae'r haul wedi machlud arni. Nawr, rydym yn edrych tuag at wawr newydd, felly rhwbiwch eich llygaid ac ymunwch gyda ni ar y daith.

Pan gefais fy ethol i'r lle hwn am y tro cyntaf, roeddwn i'n eithaf cefnogol i ddatganoli. Gwelais gyfleoedd i Gymru drwy ddatganoli pe baem yn defnyddio'r pwerau a oedd gan y Cynulliad i ryddfrydoli'r economi a bod yn lleoliad mwy deniadol ar gyfer buddsoddi, ac yn y blaen. Ond rwy'n ofni bod tair blynedd o brofiad yma wedi fy ngwthio i'r cyfeiriad arall. Rwyf wedi gweld sut y mae'r wladwriaeth un blaid yn gweithio. Pan ddechreuasom, wrth gwrs, drwy gynghreirio â Phlaid Cymru a'r Ceidwadwyr, fe wnaethom atal Llywodraeth Cymru rhag dychwelyd i rym, a byddai hynny wedi bod yn sioc enfawr i'r system pe gallem fod wedi parhau â hynny. Ond wrth gwrs—[Torri ar draws.] Gadewch i mi orffen fy mrawddeg yn gyntaf. Yn anffodus, mae Plaid Cymru bob amser yn cynnal Llywodraeth Lafur, ac mae hynny'n golygu na allwn byth weld dim heblaw Llywodraeth asgell chwith fel y mae pethau ar hyn o bryd. Felly, ni allaf weld unrhyw reswm pam y gallai unrhyw un sydd hyd yn oed yn gymedrol i'r dde o'r canol feddwl y gallai datganoli fod yn llwyddiant.

18:05

Oni bai fy mod yn camgymryd yn fawr, rwy'n cofio'r Aelod yn siarad ym mis Gorffennaf am awydd i gael mwy o ddatganoli, ac nid wyf yn credu ei fod wedi bod yn ôl yn y lle hwn cyn i mi glywed adroddiadau amdano'n siarad yng Nghasnewydd yn dweud ei fod bellach am ddiddymu'r Cynulliad. Pam y newid dros doriad yr haf?

Nid wyf yn gwybod beth y mae'r cyn-Aelod UKIP a'r cyn-aelod o'r grŵp Ceidwadol, a llawer arall yn ogystal, wedi bod yn ei wneud dros yr haf, ond rwyf i wedi bod yn gwneud ychydig o feddwl. Sylweddolaf yn awr fod unrhyw fesur o ddatganoli wedi bod yn fethiant, ac mae hynny'n rhywbeth y mae cyfran fawr iawn o bobl Cymru yn cytuno ag ef. Cafwyd arolwg ar S4C yn gynharach eleni, a gofynnwyd i bobl a oeddent yn credu bod y Cynulliad wedi newid y ffordd y llywodraethir Cymru er gwell, a dim ond 34 y cant a atebodd y cwestiwn hwnnw yn gadarnhaol. Pan ofynnwyd iddynt a oeddent yn credu ei fod wedi bod yn well i'r gwasanaeth iechyd, dim ond 23 y cant a ddywedodd 'ydy'. Felly, yn sicr nid yw wedi bod yn wir fod y Cymry wedi cael eu hargyhoeddi bod ymdrechion y lle hwn a Llywodraeth Cymru wedi bod o fudd iddynt.

Felly, ar ôl 20 mlynedd, credwn ei bod yn iawn i'r bobl gael eu holi eto i roi eu barn ynglŷn ag a ydynt am barhau â'r arbrawf hwn ai peidio. Gwn fod y Blaid Lafur yn awr yn awyddus iawn, yng Nghymru beth bynnag, i gael refferendwm arall, i gael pleidlais y bobl, ac mae Plaid Cymru, wrth gwrs, wedi bod yn awyddus erioed i gael pleidlais y bobl ar annibyniaeth, ac felly gallem gyfuno'r ddau â chyfres o gwestiynau. Rwy'n credu y dylai pobl Cymru allu penderfynu a fu'r arbrawf datganoli hwn yn llwyddiant ai peidio, ac a oes ffordd arall ymlaen a fyddai'n well, ac efallai'n mynd y tu hwnt i ddatganoli a datganoli pwerau ymhellach.

Pam na wnawn ni ddemocrateiddio'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru, er enghraifft, o ystyried bod y gwasanaeth iechyd wedi'i gamreoli mor drychinebus o Gaerdydd, ac yn parhau i gael ei gamreoli'n drychinebus o Gaerdydd? Gallem fynd â datganoli ymhellach i lawr i'r bobl nag yma yng Nghaerdydd. Gallem gael datganoli pellach yn y system addysg hefyd, fel na fydd angen swydd y Gweinidog Addysg. Gallem roi mwy o bwerau i awdurdodau lleol arddel safbwynt annibynnol ar y ffordd y maent am reoli eu hysgolion eu hunain yn eu hardaloedd eu hunain. Rwy'n credu y gallai hynny fod yn iach iawn i ddemocratiaeth hefyd. Felly, gallai honno fod yn ffordd arall o ailgysylltu â'r bobl nad oes ganddynt syniad, i raddau helaeth iawn, beth yw pwerau'r lle hwn. Mae'n dal yn wir nad yw cyfran fawr iawn o'r Cymry yn gwybod bod y gwasanaeth iechyd wedi cael ei ddatganoli. Does bosibl nad yw hynny'n fethiant os bu un erioed, o ystyried ei fod yn mynd â hanner cyllideb Llywodraeth Cymru.

Nawr, pan grybwyllwyd datganoli yn gyntaf, gwnaethpwyd achos drosto ar y sail y byddai'n helpu i gadw'r undeb gyda'i gilydd—undeb y Deyrnas Unedig, hynny yw. Ac yn awr gwelwn fod y Deyrnas Unedig yn cael ei rhwygo'n ddarnau, mewn gwirionedd, er gwaethaf datganoli, yn fwyaf arbennig, yn amlwg, yn yr Alban. Yn sicr, nid yw bodolaeth Senedd yr Alban wedi gwneud dim i leddfu'r galw am annibyniaeth wleidyddol yn yr Alban, rhywbeth y byddai Plaid Cymru'n ei gefnogi'n fawr, ond mae hynny'n fy mrawychu i'n fawr, fel unoliaethwr. Ac mae bodolaeth Llywodraeth yr Alban wedi'i gwneud yn fwy tebygol y gwelwn y Deyrnas Unedig yn chwalu, yn hytrach nag yn llai tebygol. Mae rhesymau eraill dros hynny, wrth gwrs, nid yn lleiaf, fel y nodwyd yn gynharach, y dryswch a grëwyd yn sgil y ffordd y mae San Steffan wedi camreoli Brexit, lle mae gennym Senedd sydd am 'aros' a phobl sydd am 'adael', ac mae'r dryswch a achosodd hynny wedi galluogi'r Alban, wrth gwrs, i'w gwneud yn anos inni gyflawni canlyniad y refferendwm.

A gwelwn hefyd yn y Blaid Lafur fod rhai o'i haelodau hi wedi bod yn chwarae gyda'r syniad o symud tuag at fwy o annibyniaeth hefyd, a dywedodd Prif Weinidog Cymru ym mis Gorffennaf nad yw cefnogaeth Cymru i'r undeb yn y Deyrnas Unedig yn ddiamod. Felly, rwy'n dweud mai'r hyn sydd angen i ni ei wneud ar ôl 20 mlynedd o brofiad o ddatganoli yw cyflwyno'r achos i'r bobl unwaith eto. Felly, mae angen inni fynd y tu hwnt i ddatganoli ac mae angen inni ailgysylltu â phobl Cymru, a chael bargen well ar ôl 20 mlynedd o fethiant llwyr.            

Diolch, Llywydd. Mae'r cynnig a gyflwynwyd gan y Blaid Brexit ychydig yn rhyfedd. Gall Llywodraeth Cymru gytuno â rhywfaint ohono, ond mae'n anghytuno â llawer ohono. Gadewch imi ddechrau gyda'r hyn y gallaf i gytuno ag e, cyn tynnu sylw at ddiffygion y cynnig. Mae'n cefnogi aelodaeth Cymru o Deyrnas Unedig Prydain Fawr. Mae'n galw am ragor o ddatganoli, sy'n ddatblygiad i'w groesawu o ystyried hanes amheus gwleidyddion blaenorol Plaid Brexit yn UKIP a'u hagwedd tuag at ddatganoli. Mae Llywodraeth Cymru wedi galw sawl tro i'r toll teithwyr awyr gael ei ddatganoli i Gymru, fel sy'n digwydd yng Ngogledd Iwerddon a'r Alban, ac mae'r cynnig hwn yn cefnogi'r alwad honno. Mae'r Llywodraeth Dorïaidd, wrth gwrs, wedi rhoi veto arno dro ar ôl tro, er gwaethaf yr argymhelliad unfrydol diweddaraf ym Mhwyllgor Materion Cymreig Tŷ'r Cyffredin.

Yn fwyaf hynod, mae'r cynnig yn cydnabod y buddsoddiad sylweddol yn ein seilwaith o'r gefnogaeth rydyn ni wedi'i derbyn gan yr Undeb Ewropeaidd dros yr 20 mlynedd diwethaf. Ac eto, roedd ochr 'gadael' y refferendwm 2016 yn amharod iawn i drafod ar y pryd y ffaith fod Cymru ar ei helw o gyllid Ewropeaidd, nid yn unig ar gyfer seilwaith ond ar gyfer rhaglenni sgiliau hanfodol megis prentisiaethau a datblygu'r gweithlu o fewn busnesau, am gyllid busnes drwy Fanc Datblygu Cymru—llwyddiant enfawr—ac am arloesi ac ymchwil a datblygu.

Yn olaf, mae'n galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i gynyddu ei buddsoddiad mewn seilwaith. Mae hyn yn bendant yn rhywbeth rydyn ni'n galw amdano fe ein hunain. Dro ar ôl tro, mae Llywodraethau Torïaidd y ddegawd diwethaf wedi siomi Cymru o fewn y meysydd polisi hynny y mae ganddyn nhw gyfrifoldeb drostynt: trydaneiddio'r rheilffordd i Abertawe, wedi'i ganslo. 

18:10

Mae'n dweud bod ein cynnig yn cyfeirio at gyllid o'r Undeb Ewropeaidd. Nid yw'n gwneud hynny; mae'n cyfeirio at y pwerau a gymerodd yr Undeb Ewropeaidd dros y rhwydwaith traws-Ewropeaidd, ac nid dyna sydd dan sylw. Mewn rhai o'r rheini, maent yn eu rheoleiddio ac maent yn mynnu safonau penodol, ac yna, yn yr achos hwn, yn mynnu bod Cymru'n talu amdanynt.

Mewn gwirionedd, mae llwybrau ffyrdd TEN-T yng Nghymru wedi elwa'n aruthrol o gyllid Ewropeaidd drwy'r ERDF, ac ar gyfer y rhwydwaith ffyrdd, rydym yn hyderus y byddwn yn bodloni'r safonau TEN-T. Ond os byddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, y pryder yw y byddai colli TEN-T yn arwain at ddadneilltuo sylweddol o ran trydaneiddio rhwydwaith rheilffyrdd Cymru yn y gogledd i Gaergybi ac yn y de i Aberdaugleddau. Mae hwnnw, wrth gwrs, yn fuddsoddiad y disgwyliwn i Lywodraeth y DU ei anrhydeddu.

Ond roeddwn yn rhestru'r nifer o ffyrdd y mae Llywodraeth y DU wedi methu cyflawni ei rhwymedigaethau i ni yng Nghymru: methiant morlyn llanw bae Abertawe, methiant i gynnal y diwydiant dur. A soniodd yr Aelod, yn ei araith, am yr M4 a'i gefnogaeth ymddangosiadol yn awr i'r llwybr du, er iddo ymgyrchu, a chredaf iddo ysgrifennu'r maniffesto yn 2016 a ddywedai fod llwybr du'r M4 yn rhy ddrud ac y byddai'n llyncu'r rhan fwyaf o gyllideb cyfalaf Cymru, a beirniadodd yn arbennig yr effaith andwyol ar yr amgylchedd, a dyna'n union oedd y rhesymau a roddodd Prif Weinidog Cymru dros beidio â bwrw ymlaen â'r cynllun. Felly, rwy'n credu ei bod yn dda cael rhywfaint o gysondeb mewn perthynas â hynny. [Torri ar draws.] Ie.

Credwn y dylid ei hadeiladu. Buom yn ymgyrchu dros ffordd liniaru i'r M4. Mae ei lliw neu'r union lwybr yn fater atodol i'r ffaith bod Cymru angen iddi gael ei hadeiladu.

Wel, bydd y cofnod yn dangos eich bod chi newydd ofyn am i'r llwybr du gael ei adeiladu. Felly, efallai y gallwn edrych ar y cofnod ar ôl y ddadl hon.  

Nawr i droi at yr elfennau o'r cynnig na allwn eu derbyn. Yn gyntaf, mae'n anghyson ynghylch datganoli. Rwy'n methu gweld sut y mae'n bosibl galw am ddatganoli pellach a chefnogi cysyniad gwag Llywodraeth y DU ynghylch y gronfa ffyniant gyffredin ar yr un pryd fel ffordd o sicrhau cyllid y mae Cymru wedi bod yn ei reoli ers degawdau er mwyn buddsoddi mewn materion o fewn ein cymhwysedd datganoledig. Mae'n wag oherwydd, ers dros ddwy flynedd, maent wedi methu manylu ar unrhyw syniadau pendant ynglŷn â sut y byddai'n gweithio neu beth fyddai'n ei wneud. Yr hyn sy'n glir, fodd bynnag, yw y byddai'n golygu bod Llywodraeth y DU yn cipio'r cyllid a ddeuai'n syth i Gymru o'r Undeb Ewropeaidd ac yn llyffetheirio gallu'r Cynulliad Cenedlaethol hwn a Llywodraeth Cymru i'w ddefnyddio i wireddu strategaeth ddatblygu gydlynol. Mae'n amlwg yn ymosodiad ar bwerau'r Cynulliad, a chredaf na allai plaid sydd wedi ymrwymo o ddifrif i ddatganoli gefnogi'r argymhelliad hwnnw. Rydym wedi nodi'n glir, os a phan fydd y DU yn pontio o gronfeydd strwythurol yr UE, na ddylid colli'r un geiniog ac na ddylai unrhyw bŵer gael ei gipio.  

Nesaf, yr undeb. Fel Llywodraeth, rydym am i'r undeb ffynnu. Ond yn wahanol i'r cynnig, rydym yn cydnabod na all hynny ddigwydd oni cheir diwygio radical ar y cyfansoddiad, gan gynnwys cysylltiadau rhynglywodraethol—diwygio y mae'r Llywodraeth bresennol ar y gorau'n esgeulus ynglŷn â'i wneud, ac ar y gwaethaf, heb ddiddordeb mewn gwneud hynny. Lywydd, nid yw'r undeb erioed wedi bod o dan fwy o straen. Mae datganoli, neu fe ddylai datganoli fod yn elfen annatod o'n cyfansoddiad, yn hytrach na rhywbeth sy'n cael ei ystyried yn rhodd gan San Steffan a Whitehall, ac mae'r ddadl ynghylch datganoli'n ymwneud â mwy na'r cysylltiadau unigol rhwng y DU a phob un o'r gwledydd datganoledig—mae angen iddi fynd i'r afael â sut y dylid llywodraethu'r DU yn ei chyfanrwydd. Ac mae angen inni gydnabod bod grym yn y pen draw yn llifo o'r gwaelod i fyny, nid o'r brig i lawr fel athrawiaeth hen ffasiwn o sofraniaeth seneddol a'r uchelfraint frenhinol, a bod dyfodol yr undeb yn dibynnu ar gydsyniad pobloedd ac etholwyr Cymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr.

Un o'r egwyddorion allweddol ar gyfer datganoli pwerau, a ddefnyddir gan gyrff annibynnol sydd wedi argymell datganoli'r doll teithwyr awyr, seilwaith rheilffyrdd, plismona a chyfiawnder i Gymru, yw sybsidiaredd. Cefnogwn yn gryf ddatganoli pwerau pellach yn y meysydd hynny, a bod pwerau'r sefydliadau datganoledig yn seiliedig ar gyfres gydlynol o gyfrifoldebau a ddyrennir yn unol ag egwyddor sybsidiaredd. Mae'r hyn y mae Prif Weinidog Cymru wedi'i alw'n fodel datganoli 'gras a ffafr' wedi methu'n ddramatig yn achos Brexit, lle mae Llywodraeth y DU dro ar ôl tro wedi methu cyflawni ei hymrwymiadau i weithio gyda'r Llywodraethau a'r sefydliadau datganoledig i gytuno ar dull negodi, ac mae'r ffaith nad yw'r Llywodraeth bresennol yn gweld unrhyw reswm—fel y dywedodd Gweinidog wrth y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ddydd Llun—i rannu papurau a rannwyd gyda negodwyr yr UE gyda ni, nid ymlaen llaw yn unig, ond o gwbl, yn ddadlennol ac yn frawychus iawn. A Brexit, wrth gwrs, sy'n fwyaf amlwg yn bygwth dyfodol yr undeb, gyda Brexit 'heb gytundeb' yn bwrw ati i chwalu cyfansoddiad y DU, gan ei gwneud hi'n debygol y bydd yr Alban yn pleidleisio pan fydd yn cael caniatâd i wneud hynny dros annibyniaeth, ac yn hwb hefyd i'r achos dros yr hyn a fyddai bron yn sicr yn bleidlais ymrannol ar y ffin yn Iwerddon.

Felly, i orffen, gadewch i mi droi at Brexit. Rydym yn sicr yn nodi bod Cymru, fel y DU gyfan, wedi pleidleisio dros adael yn 2016, ac fel yr eglurwyd gennym yma lawer gwaith, fel Llywodraeth Cymru, fe wnaethom geisio anrhydeddu'r canlyniad hwnnw. Ond mae'n bryd i'r rhai a ymgyrchodd dros adael ddechrau anrhydeddu'r addewidion a wnaethant. [Torri ar draws.] Mae llawer o'r honiadau a wnaed gan yr ymgyrch dros adael yn deilchion, a dyna pam y mae'r Aelod yn gweiddi arnaf o'i sedd. 'Y cytundeb masnach rydd hawsaf erioed', oedd yr hyn a ddywedwyd. Gweithgynhyrchwyr ceir yr Almaen yn ymbil ar yr UE i aberthu eu gwerthoedd gwleidyddol, cael ein cacen a'i bwyta, mwy o arian i'r GIG, diwedd sydyn ar fewnfudo—ble mae'r honiadau hynny yn awr wrth inni wynebu'r posibilrwydd o Brexit 'heb gytundeb' sy'n bygwth niwed dwfn a pharhaol i'n gwlad a'n pobl? Yfory, byddwn yn cyhoeddi achos llawn yn seiliedig ar dystiolaeth dros ein penderfyniad i alw, ar ôl tair blynedd, tair blynedd a wastraffwyd o negodiadau trychinebus anhrefnus a chyda swyddi a buddsoddiad yn llifo o'n heconomi, am ail refferendwm ac yn addunedu i ymgyrchu dros aros yn yr UE. Mae'r achos gwrthrychol yn ddiymwad, ac mae ein gwelliannau, yn wahanol i'r cynnig gwreiddiol, yn rhoi'r pwyslais ar ddiwygio, democratiaeth a lles pobl Cymru, ac rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi'r egwyddorion hynny wrth ddiwygio'r cynnig.

18:15

Diolch, Lywydd. Cyn i mi ddod at y cyfraniadau unigol, hoffwn gyflwyno'r farn fod undeb Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon yn un o'r undebau gorau a mwyaf hirhoedlog mewn hanes, ac ers ymhell dros 300 o flynyddoedd mae'r undeb hwn wedi parhau. Ac er gwaethaf galwadau am annibyniaeth—ac i ddechrau, pan gafodd datganoli ei roi i Gymru, ni wnaeth Llywodraeth Blair ymdrin â'r setliad datganoli yn dda iawn, a chymerodd dros ddegawd i'w ddatrys, ond mae'r undeb yn parhau o hyd. Ac ychydig dros bum mlynedd yn ôl, pleidleisiodd yr Alban gyda mwyafrif llethol dros barhau'n rhan o'r undeb, ac mae'r arolygon barn diweddaraf yn dangos bod y mwyafrif helaeth o bleidleiswyr yr Alban yn dymuno aros yn rhan o'r DU. Mae Cymru hefyd yn dal i wrthwynebu gadael y Deyrnas Unedig. Ac mae'r cynnig sydd ger eich bron heddiw yn tanlinellu'r egwyddor ein bod ni'n gryfach gyda'n gilydd, a bod pob rhan o'r undeb yn bwysig fel cyfanrwydd. Mae'r buddsoddiad yng Nghymru o fudd i'r DU gyfan, felly ni allwn droi cefn ar ein hymwneud â Llywodraeth y DU. Ac nid yw datganoli'n ddigwyddiad a wneir unwaith a'i anghofio wedyn. Felly, mae'n rhaid i ni sicrhau hefyd fod unrhyw setliad ar ôl Brexit yn deg ac yn fanteisiol i bob rhan o'r DU. Ond yn amlwg, rwy'n pryderu am Gymru; rwy'n rhan o Senedd Cymru ac rwyf am gynrychioli pobl Cymru mor llawn ag y gallaf. [Torri ar draws.] Byddwn yn—. O, dyma fe wrthi eto ynglŷn ag etholiad. A ydych chi eisiau—? Fe ddywedaf wrthych chi beth, fe gaf fi a chi drafodaeth y tu allan, iawn, os nad oes ots gennych chi.

18:20

Na, na; cynhelir y trafodaethau yma, ac wedi'u cofnodi. Ewch ymlaen, Caroline Jones.

A hoffai sefyll i wneud ymyriad, Lywydd, os gwelwch yn dda?

O'r gorau. Fe fyddwn—[Torri ar draws.] Felly, fe fyddwn yn pleidleisio yn erbyn holl welliannau Llywodraeth Cymru. Rydym ni, fel y mwyafrif o'r cyhoedd yng Cymru, yn credu ein bod yn well ein byd y tu allan i'r UE ac rydym yn credu'n gryf fod Llywodraeth Cymru, drwy geisio anwybyddu canlyniadau refferendwm 2016, yn cefnu ar ddemocratiaeth. Byddwn yn cefnogi gwelliant y Ceidwadwyr Cymreig.

Ond fel y dywedais, hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran yn y ddadl, ac mae Mark wedi siarad yn gryf dros fod yn—[Torri ar draws.] Yn sicr, David.

Diolch i'r Aelod am dderbyn yr ymyriad. Rydych newydd ddweud y byddwch yn cefnogi gwelliant y Ceidwadwyr Cymreig, sef gwelliant i bwynt 5, sy'n sôn am y gronfa ffyniant gyffredin a sut y bwriadwch ei defnyddio i ariannu prosiectau seilwaith. A ydych yn deall mewn gwirionedd beth sy'n gwneud honno'n gronfa ffyniant gyffredin a pham y mae yno? Cronfa Gymdeithasol Ewrop, sef Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop ydyw—yr arian y mae gennym hawl i'w gael ar gyfer prosiectau eraill. Nid yw'n ymwneud â'r seilwaith yr ydych am ei gyllido; mae'n ymwneud â phrosiectau ac anghenion cymdeithasol ein cymunedau.

Nid ydych yn gwybod beth y mae'n ei olygu hyd yn oed.

Wrth gwrs fy mod. Ni phenderfynwyd arno eto. Felly—

O, felly nid ydych am sicrhau bod yr arian hwnnw'n dod i ni.

Felly, cawsom Mark—. Daeth y cyfraniad cyntaf gan Mark Reckless wrth gwrs, a thynnodd sylw at y ffaith y byddem yn hoffi i reilffyrdd gael eu datganoli i Gymru. Mae arnom eisiau mwy o ddatganoli. A siaradodd am bwysigrwydd seilwaith a thynnodd sylw at bwysigrwydd cysylltedd, fel y gwnaeth David Rowlands.

Mae gennyf ddiddordeb yng nghyfraniad Rhun, oherwydd fe soniodd yntau hefyd am seilwaith a sut y mae'n rhaid ei wella. Tynnodd sylw at fater trydaneiddio, y gŵyr pawb ohonom ei fod yn bwysig iawn i wahanol rannau o Gymru. Dywedodd hefyd nad oedd unrhyw gysylltiad rheilffordd ar arfordir y gorllewin.

Tynnodd Darren sylw hefyd at y ffaith ei fod o blaid datganoli a gweithio gyda'n gilydd—pob plaid, grwpiau trawsbleidiol yn gweithio gyda'i gilydd i sicrhau bod datganoli'n gweithio.

Oherwydd—. Roedd cyfraniad Neil Hamilton yn amlwg yn syndod oherwydd pan oeddech yn gweithio yn gyntaf, roeddwn yn meddwl eich bod o blaid datganoli, felly mae wedi bod yn dipyn o syndod eich bod bellach wedi penderfynu eich bod am gael refferendwm ar y Cynulliad. Yn amlwg, nid wyf yn rhannu eich barn.

Na, ni wnes hynny erioed. Rwyf bob amser—. Na, na, na. Roeddwn bob amser am gael datganoli, ac roeddwn bob amser o blaid—. Roeddwn bob amser o'i blaid. Felly, dyna ni. Felly, mae'n—[Torri ar draws.] Felly, mae'n anghywir ynglŷn â hynny, ond nid oedd byth yn adnabod y bobl yr oedd i fod yn eu harwain beth bynnag. Felly, fe wnawn ni adael hynny—[Torri ar draws.] Felly, fe wnawn ni adael hynny yn y fan honno.

Felly, hoffwn—[Torri ar draws.] Felly, hoffwn ddweud diolch wrth bawb am eu cyfraniadau. Rwy'n credu ei bod wedi bod yn ddadl dda. Diolch yn fawr iawn.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Dwi'n gohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

8. Cyfnod Pleidleisio

Ac rŷn ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio, oni bai bod yna dri Aelod sydd yn moyn i fi ganu'r gloch.

Felly, y bleidlais—yr unig bleidlais yw'r bleidlais ar ddadl y Blaid Brexit ar y Deyrnas Gyfunol a'r Undeb Ewropeaidd. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Caroline Jones. Agorwch y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 4, neb yn ymatal, 42 yn erbyn. Ac felly mae'r cynnig wedi ei wrthod. 

NDM7141 - Dadl y Blaid Brexit - Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 4, Yn erbyn: 42, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Pleidlais ar y gwelliant, felly, a dwi'n galw am bleidlais ar welliant 1. Agor y bleidlais. Gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 26, wyth yn ymatal, 13 yn erbyn. Ac felly mae gwelliant 1 wedi ei dderbyn. 

18:25

NDM7141 - Gwelliant 1: O blaid: 26, Yn erbyn: 13, Ymatal: 8

Derbyniwyd y gwelliant

Gwelliant 2. Galwaf am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 32, neb yn ymatal, 15 yn erbyn. Ac felly mae gwelliant 2 wedi ei dderbyn.

NDM7141 - Gwelliant 2: O blaid: 32, Yn erbyn: 15, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Y bleidlais nesaf ar welliant 3—gwelliant 3, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 26, chwech yn ymatal, 15 yn erbyn. Ac felly mae gwelliant 3 wedi ei dderbyn. 

NDM7141 - Gwelliant 3: O blaid: 26, Yn erbyn: 15, Ymatal: 6

Derbyniwyd y gwelliant

Gwelliant 4 yw'r gwelliant nesaf, ac, os derbynnir gwelliant 4, mi fydd gwelliant 5 yn cael ei ddad-ddethol. Felly, pleidlais ar welliant 4 yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 31, neb yn ymatal, 15 yn erbyn. Ac felly mae gwelliant 4 wedi ei dderbyn; mae gwelliant 5 wedi ei ddad-ddethol. 

NDM7141 - Gwelliant 4: O blaid: 31, Yn erbyn: 15, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cafodd gwelliant 5 ei ddad-ddethol.

A dwi nawr yn galw am bleidlais ar y cynnig fel y'i diwygiwyd. 

Cynnig NDM7141 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cefnogi aelodaeth Cymru o Deyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon a'i pharhad amhenodol, ond yn credu bod angen i’r ffordd y cynhelir y cysylltiadau rhynglywodraethol rhwng y cenhedloedd datganoledig a Llywodraeth y DU gael ei diwygio mewn modd radical.

2. Yn nodi bod Cymru, fel y Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd, wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd, ond yn credu, yn sgil profiad y tair blynedd diwethaf, na ellir sicrhau dyfodol mwy disglair i Gymru heb i’r DU aros yn yr UE.

3. Yn cefnogi datganoli pellach mewn meysydd penodol a fyddai o fudd i Gymru a lle mae rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig yn elwa o ddatganoli o'r fath, fel plismona a chyfiawnder a tholl teithwyr rheilffyrdd ac awyr.

4. Yn nodi'r rhan a fu gan yr Undeb Ewropeaidd yn y gorffennol o dan erthyglau 154 i 156 o Gytuniad Rhufain mewn perthynas â rhwydweithiau traws-Ewropeaidd, gan gynnwys yr M4 a'r A55.

5. Yn galw ar Lywodraeth y DU:

a) i gryfhau ei hymrwymiad i fuddsoddi mewn seilwaith yng Nghymru, er enghraifft drwy drydaneiddio’r prif linellau rheilffordd yn y De a’r Gogledd a buddsoddi mewn ynni llanw yng Nghymru, sy’n gyfrifoldeb iddi;

b) i ddarparu cyllid llawn yn lle’r cyllid Ewropeaidd y bydd Cymru’n ei golli os bydd y DU yn ymadael â’r UE, a hynny heb unrhyw ymyrraeth gan Lywodraeth y DU o ran y ffordd orau o’i ddefnyddio.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 25, neb yn ymatal, 22 yn erbyn. Ac felly derbyniwyd y cynnig wedi ei ddiwygio. 

NDM7141 - Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 25, Yn erbyn: 22, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

9. Dadl Fer: Agwedd ysgol gyfan Cymru: Cynorthwyo pob plentyn i ffynnu, dysgu a llwyddo mewn ysgolion

Ac felly rŷn ni'n cyrraedd yr eitem olaf ar yr agenda heddiw—yr eitem honno yw'r ddadl fer. Gofynnaf i Aelodau adael y Siambr yn gyflym ac yn dawel, a dwi'n galw ar Jayne Bryant i gyflwyno'r ddadl fer. Jayne Bryant. 

Diolch, Lywydd. Rwyf wedi cytuno i roi munud yn y ddadl hon i Mark Isherwood, Jack Sargeant, Hefin David a John Griffiths. Mae lles emosiynol a meddyliol pobl ifanc yn her, a daeth hynny i'r amlwg yn ddiweddar. Cafodd ei gydnabod gan wleidyddion, rhieni, athrawon a chan bobl ifanc eu hunain. Roedd yn dweud llawer fod cynifer o'r bobl ifanc a safodd ar gyfer y Senedd Ieuenctid wedi gwneud hyn yn flaenoriaeth iddynt. Mae gan bobl ifanc heddiw fwy o wybodaeth ar flaenau eu bysedd nag unrhyw genhedlaeth o'r blaen, ond maent yn wynebu mwy o her ar yr ochr gymdeithasol ac emosiynol o dyfu i fyny. Ein cyfrifoldeb ni yw gwrando a gweithredu. Gall profiadau niweidiol yn ystod plentyndod gael effaith niweidiol sylweddol ar gyfleoedd bywyd a chyrhaeddiad pobl ifanc. Yn 2015, canfu ymchwil gan Iechyd Cyhoeddus Cymru fod 47 y cant o boblogaeth Cymru wedi profi o leiaf un profiad niweidiol yn ystod plentyndod cyn eu bod yn 18 oed, a 14 y cant wedi profi pedwar neu fwy o brofiadau o'r fath. Yn aml, bydd agweddau, credoau ac ymddygiad a ddysgir yn ystod y blynyddoedd cynnar iawn hyn yn parhau pan fyddant yn oedolion, ac mae'n hanfodol ein bod yn gwneud popeth a allwn i gefnogi ac annog plant. Os byddwn yn gwneud pethau'n iawn yn gynnar, ceir mynydd o dystiolaeth gynyddol sy'n dangos y bydd hyn yn cael effaith gadarnhaol nid yn unig ar yr unigolyn, ond ar gymdeithas yn gyffredinol.  

Mae ysgol sy'n feddyliol iach yn gweld iechyd meddwl a lles meddyliol cadarnhaol fel rhywbeth sy'n hanfodol i'w gwerthoedd. Ni ellir cyfyngu iechyd a lles emosiynol i wersi'n unig. Rhaid iddo fod yn rhan o ethos yr agwedd ysgol gyfan. Rwy'n falch o ddweud y gwelwyd cynnydd cadarnhaol iawn ar y mater hwn drwy'r Cynulliad a thrwy benderfyniad fy nghyd-Aelod, Lynne Neagle. Mae Lynne wedi bod wrthi'n frwd yn hyrwyddo lles meddyliol ac emosiynol gwell i'n plant a'n pobl ifanc, ac mae wedi bod yn hyrwyddo dull ysgol gyfan o weithredu. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i dalu teyrnged i waith Lynne a'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Lluniodd y pwyllgor adroddiad clir, yn seiliedig ar dystiolaeth, 'Cadernid Meddwl', sy'n gosod heriau i Lywodraeth Cymru. Canfu 'Cadernid Meddwl' gonsensws eang fod lleoliadau ysgol yn allweddol i hyrwyddo lles emosiynol ac iechyd meddwl da, fod angen ymgorffori'r dull ataliol o fewn ethos ysgol, nid yn unig yn y gwersi a addysgir, ac nad athrawon yn unig sydd â chyfrifoldeb, ond fod galw am weithio ar y cyd rhwng gweithwyr proffesiynol ar draws y sectorau—mae iechyd, addysg, gofal cymdeithasol, y trydydd sector a gwaith ieuenctid yn allweddol.

Rwy'n falch iawn o ddweud nad oes yn rhaid i chi edrych yn rhy bell yn fy etholaeth i yng Ngorllewin Casnewydd i ddod o hyd i enghreifftiau o ysgolion sy'n ceisio arddel yr union egwyddorion hyn—ysgolion sy'n gwneud gwaith ardderchog yn meithrin ein plant a'n pobl ifanc, ac yn rhoi cynnig ar ffyrdd arloesol o roi lles myfyrwyr yn y canol ym mhopeth a wnânt. Mae Ysgol Gynradd Millbrook yn y Betws yn ysgol sydd wedi croesawu'r agwedd ysgol gyfan, ac mae'n ei wneud yn dda. I roi rhywfaint o gefndir, cymuned o 8,000 o bobl yw Betws. Mae'n ardal sydd â lefelau uchel o amddifadedd, gyda chwe ardal gynnyrch ehangach haen is ar yr ystâd.

Mae'r tîm arweinyddiaeth yn ysgol Millbrook wedi bod yn ymchwilio i ddulliau o wella cyfleoedd bywyd a chyrhaeddiad plant ers flynyddoedd lawer. Maent wedi edrych am arferion da yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Eu harwyddair yw 'Dysgu am ofalu, gofalu am ddysgu', a'u cenhadaeth yw gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau'r bobl ifanc y maent yn gweithio gyda hwy. I fod yn fwyaf effeithiol, eu nod yw ymgysylltu â phlant a'u teuluoedd o oedran cynnar iawn. Athroniaeth Millbrook yw bod plant hapus yn dysgu. Maent yn teimlo'n angerddol fod angen pentref cyfan i fagu plentyn, ac yn credu, drwy annog teuluoedd, a'r gymuned, y gellir rhoi'r cyfle gorau un i bobl ifanc gyflawni. Ethos yr ysgol yw edrych tuag allan. Maent yn annog plant a theuluoedd i rannu diwylliannau, ac i ehangu gorwelion. Mae gan yr ysgol ystafell ddosbarth Confucius ar y safle, ac maent yn dysgu Mandarin.

Gan weithio'n agos gyda Chyngor Dinas Casnewydd, a phartneriaid allweddol eraill, maent wedi datblygu dull aml-asiantaeth o weithredu, gan dreialu menter Rhoi Plant yn Gyntaf Llywodraeth Cymru, dull sy'n seiliedig ar le i leihau anghydraddoldebau a lliniaru effeithiau profiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Yn gynharach eleni, cefais y fraint o ymweld â'r ysgol, gyda'r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan, a gwelsom yn uniongyrchol y ffordd yr oedd hyn yn gweithio, ac ni allai beidio â gwneud argraff fawr arnoch. Ers ei sefydlu, maent wedi gweld gostyngiad sylweddol yn nifer y plant ar y gofrestr amddiffyn plant. Y ffactor mwyaf dylanwadol yn hyn yw'r ffordd y mae asiantaethau'n gweithio gyda'i gilydd. Mae pob perthynas a ffurfir yn seiliedig ar y gwahaniaeth y gallai ei wneud i'r gymuned, ac i fywyd yr unigolyn ifanc. Mae wedi golygu nad yw'r partneriaethau hyn yn weithredoedd ar hap o gymorth mwyach, ond wedi'u hystyried a'u cynllunio'n ofalus.

Dywed pennaeth ysbrydoledig Millbrook, Lindsey Watkins, mai'r gobaith, pan ddaw rhywun i'r ysgol, yw eu gwneud i deimlo eu bod yn cael eu croesawu, ac mae hynny'n treiddio drwy'r adeilad, fel bod yr holl asiantaethau yn cael eu gweld fel un tîm di-dor. Un o'r asedau yn Millbrook yw ystafell deuluol bwrpasol. Mae'n galluogi'r ysgol i ddarparu caffi lles a chyrsiau ymwybyddiaeth ofalgar i deuluoedd. Mae'r ystafell hefyd yn caniatáu i deuluoedd ddod i gysylltiad ag asiantaethau eraill yn anffurfiol, sy'n helpu i feithrin perthynas ac ymddiriedaeth rhwng asiantaethau a theuluoedd. Er enghraifft, mae rhai teuluoedd wedi hunangyfeirio at y tîm atal. Yn ogystal, mae'r ysgol yn cynnig amrywiaeth o raglenni dysgu teuluol a gweithgareddau i'r teulu sy'n cefnogi lles.

Mae Millbrook yn ymfalchïo yn y ffaith ei bod yn darparu pecyn pwrpasol o gymorth lles i blant a theuluoedd ar draws yr ysgol. Mae hyn yn cynnwys cymorth llythrennedd emosiynol ac amrywiaeth o raglenni anogaeth a lles. Defnyddir y rhain i ddarparu ymyrraeth gynnar, yn enwedig pan fydd plentyn wedi wynebu trawma yn eu bywyd. Rhoddodd un unigolyn ifanc a oedd wedi profi trawma ddisgrifiad o'u profiad—ac rwy'n dyfynnu: 'Er bod y rhan fwyaf ohonom yn wynebu bwmp yn y ffordd ar ryw adeg, cefais fwmp yn y ffordd pan wahanodd fy rhieni ac roedd fy mam yn sâl iawn. Roeddwn i mor drist, roeddwn i'n arfer dod i'r ysgol bob dydd a chrio. Ond roedd hi'n iawn, oherwydd gallwn siarad â Miss. Bob bore, pan fyddwn i'n dod i mewn yn drist, byddai'n paratoi diod i mi, byddem yn eistedd a chael sgwrs, ac roeddwn i'n teimlo'n well. Rwy'n iawn nawr, ond rwy'n gwybod, pe bawn i ei hangen, byddai hi yno i mi.'

Mae gwaith partneriaeth Millbrook hefyd wedi gweld perthynas yn ffurfio gydag ysgol arloesol arall Rhoi Plant yn Gyntaf yng Ngorllewin Casnewydd, Ysgol Gynradd Pilgwenlli. Mae'r rhaglen yn canolbwyntio ar ddwy ysgol, mewn dwy gymuned, gydag un dull. Mae'r ddwy ysgol dan sylw wedi ymchwilio i ffyrdd o adeiladu gwytnwch yn y ddwy gymuned, ac mae'r plant wedi bod yn ganolog i'r gwaith hwnnw. Gan weithio gyda sefydliadau fel Barnardo's Cymru ac Achub y Plant Cymru, mae grwpiau o ddisgyblion o Millbrook a Philgwenlli wedi gweithio gyda'i gilydd i ddysgu sut i gynnal eu cynlluniau ymgynghori cymunedol eu hunain. Mae plant yn cael eu grymuso ac maent yn dysgu am hawliau'r plentyn, democratiaeth a dinasyddiaeth, gan weithio gyda'r gymuned i sicrhau newid cadarnhaol.

Mae Ysgol Gynradd Pilgwenlli hefyd wedi datblygu i fod yn ysgol gynradd sy'n arwain y sector mewn darpariaeth anogaeth, ac roeddwn yn falch o ymuno â'r Gweinidog Addysg ar ymweliad ag Ysgol Gynradd Pilgwenlli i weld hyn ar waith yn ymarferol. Mae anogaeth yn cefnogi'r disgyblion mwyaf difreintiedig ac fe'i hargymhellir yn benodol gan Estyn fel dull o gefnogi plant sy'n derbyn gofal. Mae'r elusen nurtureuk yn dathlu eu hanner canmlwyddiant yn 2019, ac rwy'n falch o weld eu bod yn cefnogi 40 o ysgolion yng Nghymru gyda'u rhaglen anogaeth. Agorodd Pilgwenlli ei hystafell anogaeth gyntaf yn 2004. Mae'n cynnig man lle y gall plant ddysgu mewn lleoliad anogaeth a gall eu rhieni ymuno â hwy am ran o'r wythnos. Mae gan bob disgybl ddosbarth sylfaenol, ond maent yn mynychu'r ystafell anogaeth deuluol am dros hanner eu hwythnos. Maent yn dysgu ochr yn ochr â'u rhieni am 10 y cant i 20 y cant o'u hamser, a blaenoriaeth ddatganedig Pilgwenlli yw

'galluogi ein plant i ffurfio ymlyniadau gyda phobl eraill, gwneud y dewisiadau cywir a deall pam maent yn gwneud y dewisiadau hyn—bod yn gryf a myfyriol.'

Ysgol arall sydd newydd ddechrau gwneud hyn yw Ysgol Gynradd Llys Malpas. Maent wedi bod ar y rhaglen anogaeth genedlaethol i ysgolion ers blwyddyn ac agorodd yr ysgol ystafell anogaeth newydd ym mis Medi ar gyfer disgyblion sydd angen y cymorth mwyaf. O fewn tair wythnos, dywedodd yr ysgol eu bod eisoes wedi gweld yr effaith y mae'r ystafell anogaeth wedi'i chael ar gefnogi plant a gwneud iddynt deimlo'n ddiogel. Mae profiad Pilgwenlli a Llys Malpas o fanteision y dull hwn yn debyg i brofiad Millbrook. Dywedant fod hyn yn gweithio'n fwyaf effeithiol pan fo'r ysgol gyfan wedi ymrwymo i wneud y mwyaf o ymgysylltiad cymdeithasol ac addysgol pawb, a phan fo grwpiau anogaeth yn cyfrannu'n gadarnhaol ac yn gweithredu diwylliant ac arferion ysgol gyfan, gan hyrwyddo amgylchedd mwy anogol drwy'r ysgol gyfan.

Mae gwaith yr ysgolion hyn yn fy etholaeth wedi gwneud cryn argraff arnaf ac wedi fy nghalonogi a buaswn yn annog holl Aelodau'r Cynulliad, os nad ydynt eisoes wedi gwneud hynny, i fynd i weld ysgol sydd wedi mabwysiadu dull ysgol gyfan yn eu hardal. Ni all ysgolion arwain dull ysgol gyfan ar eu pen eu hunain. Daw'r adroddiad 'Cadernid Meddwl' i'r casgliad

'mae’n hanfodol datblygu dull ysgol gyfan, ymgorffori lles yn ethos yr ysgol gyfan, y cwricwlwm, a hyfforddiant a datblygiad proffesiynol y staff. Mae angen newid sylweddol i wireddu’r uchelgais hon.'

Mae gennym gyfle gwych a rhaid inni arwain ar hyn. Yn dilyn adroddiad y pwyllgor, gwn fod grŵp gorchwyl a gorffen gweinidogol ar y cyd wedi'i sefydlu i gyflymu'r gwaith hwn. Diolch i'r Gweinidog am ei gwaith ar hyn, ac rwy'n gobeithio y bydd cynnydd yn cael ei wneud yn gyflym. Mae ysgolion cynradd Millbrook, Llys Malpas a Philgwenlli yn enghreifftiau gwych. Edrychaf ymlaen at adeg pan fydd holl blant Cymru yn gallu elwa o'r dull ysgol gyfan.

18:35

O ran y dull anogaeth, roeddwn am rannu enghraifft yn fy etholaeth o'r un agwedd ysgol gyfan at anogaeth. Mae Ysgol Gynradd Nant-y-Parc yng nghwm Aber yn cynnwys ymdrechion dyddiol i ddeall anghenion emosiynol disgyblion gan athrawon, grwpiau llythrennedd emosiynol a chymorth ar gyfer lles staff. Mae'r ysgol yn cynnal grwpiau llythrennedd emosiynol ar draws y grwpiau blwyddyn yn yr ysgol ac maent hefyd yn helpu gydag anawsterau megis profedigaeth, er enghraifft. Dywedodd un aelod o staff wrthyf—ac rwyf am eu dyfynnu: 'Mae rhoi pwyslais mawr ar les yn caniatáu i staff a disgyblion deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi. Mae wedi caniatáu i mi ffurfio perthynas waith bositif ac rwy'n teimlo ysgogiad i roi i'r disgyblion gan fy mod i'n teimlo fy mod yn cael fy ngwerthfawrogi.

A gaf fi ddiolch i Jayne Bryant am roi rhywfaint o amser i mi yn y ddadl bwysig hon, a diolch yn bersonol i Jayne hefyd? Fel un sy'n dioddef o iechyd meddwl gwael, fel y dywedais droeon, rwy'n cydnabod y gefnogaeth rydych chi'n ei rhoi i eraill a'r gofal am eu lles hefyd. Felly, diolch i chi, Jayne.

Lywydd dros dro, hoffwn sôn am ysgol yn fy etholaeth i hefyd, Ysgol Tŷ Ffynnon, sydd wedi mabwysiadu'r dull hwn o weithredu ac mewn gwirionedd, yn gynharach eleni, hi oedd yr ysgol gyntaf yng Nghymru i gwblhau'r rhaglen anogaeth genedlaethol i ysgolion—rhaglen ddwy flynedd o hyd, ac rwy'n ei chymeradwyo'n llawn i ysgolion eraill gymryd rhan ynddi yng Nghymru. Fel rhan o hyn, mae'r ysgol gyfan wedi cofleidio chwe egwyddor anogaeth, ac mae sesiynau'r grwpiau anogaeth, fel y dywedodd Hefin, yn caniatáu i'w disgyblion gymryd rhan mewn gweithgareddau sy'n datblygu hunanymwybyddiaeth, yn meithrin hunan-barch, dyfalbarhad a meddwl yn gadarnhaol. Ond mae hynny hefyd yn helpu'r athrawon a'r teuluoedd yn ogystal; mae'n ymwneud â gofalu am ein gilydd, bod yn garedig wrth ein gilydd a dangos parch tuag at ein gilydd drwy gydol y dydd. Felly, rwy'n falch iawn o'r ysgol yn fy etholaeth i, Ysgol Tŷ Ffynnon, ac rwy'n gwybod ei bod yn anrhydedd iddynt fod yr ysgol gyntaf i gael ei galw'n ysgol anogaeth yng Nghymru, ond nid yn unig hynny, yn ysgol anogaeth i'r gymuned gyfan hefyd. Felly, diolch, Jayne; diolch i chi, Lywydd.

18:40

A gaf fi longyfarch Jayne hefyd am gyflwyno'r set bwysig a blaengar hon o faterion i'r Cynulliad heddiw? Mae mor bwysig i blant gael y dechrau gorau mewn bywyd, onid yw? Nid oes yr un ohonom yn gwybod beth y gall bywyd ei daflu atom, felly mae datblygu gwytnwch emosiynol mor bwysig dros holl lwybr ein bywyd. Fel eraill, hoffwn innau dynnu sylw at ysgol yn fy etholaeth, Ysgol Gynradd Somerton, a gafodd gydnabyddiaeth gan Estyn am ei bod yn dangos esiampl dda iawn mewn perthynas â'r dull anogaeth. Maent wedi bod yn cynnal rhaglen anogaeth genedlaethol nurtureuk i ysgolion, ac mae'r staff yno'n credu ei bod wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol gadarnhaol i'r disgyblion yn yr ysgol honno. Os caf innau, fel Hefin, ddyfynnu un o aelodau'r staff a ddywedodd, 'Mae wedi helpu o ddifrif i newid yn sylweddol er gwell, gyda hyder a hunan-barch cynyddol, rhannu a chydweithredu, a chynhyrchu gwell strategaethau ar gyfer ymdopi mewn gwahanol sefyllfaoedd cymdeithasol. Mae ymddygiad a'r agweddau at ddysgu i gyd wedi gwella.'

Wel, clywsom fod 40 o ysgolion yng Nghymru ar hyn o bryd yn dilyn rhaglen anogaeth genedlaethol nurtureuk i ysgolion, i adeiladu dull anogaeth ysgol gyfan, ond hefyd, yn ôl ymchwil nurtureuk, yn 2015, roedd 144 o ysgolion yng Nghymru yn cynnig rhyw fath o ddarpariaeth anogaeth, cynnydd o 101 yn 2007. O ran gwaith ysgolion yng ngogledd Cymru, clywsom gyfeiriad gan Jack at Ysgol Tŷ Ffynnon yn Shotton, ond hefyd Ysgol Maesincla yng Nghaernarfon—y ddwy'n enghreifftiau ardderchog o leoliadau'n mabwysiadu agwedd ysgol gyfan at anogaeth. Rwyf wedi rhoi sylw yn aml i waharddiadau o ysgolion, ac yn enwedig y modd y mae'r rhain yn effeithio'n anghymesur ar ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae Ysgol Maesincla wedi gweld gostyngiad yn nifer y gwaharddiadau ers iddi agor ei grwpiau anogaeth a mabwysiadu dull ysgol gyfan. Yn yr un modd, yn Shotton, mae Ysgol Tŷ Ffynnon wedi dweud, yn ystod ei sesiynau grŵp anogaeth, fod ei disgyblion yn cymryd rhan mewn gweithgareddau i ddatblygu hunanymwybyddiaeth, i feithrin hunan-barch, dyfalbarhad a meddwl yn gadarnhaol, sy'n cefnogi eu lles, eu hymddygiad, ac felly, eu dysgu.

Galwaf ar y Gweinidog Addysg i ymateb—Kirsty Williams.

Diolch yn fawr iawn, Lywydd dros dro. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Jayne am gyflwyno'r ddadl hon i ni heddiw ac am ddisgrifio arferion gwych ei hysgolion lleol. Mae'n rhoi pleser mawr bob amser i mi glywed gan Aelodau'r Cynulliad am y gwaith gwych y mae ein hathrawon a'n staff cymorth yn ei wneud bob dydd mewn cymunedau ar hyd a lled Cymru.

Fel y dywedwyd eisoes, mae hwn yn fater eithriadol o bwysig, ac yn un y credaf ein bod yn gwneud cynnydd da arno, yn enwedig ers cyhoeddi adroddiad 'Cadernid Meddwl' y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg fis Ebrill diwethaf. Fel Jayne, hoffwn ddiolch i holl Aelodau'r pwyllgor hwnnw am eu gwaith yn y maes hwn, a chydnabod yn arbennig gyfraniad Lynne Neagle i wthio'r agenda hon yn ei blaen. Mae gennym oll rôl a chyfrifoldeb i hybu lles meddyliol a meithrin gwytnwch pobl ifanc. Mae ysgolion yn bendant ar y rheng flaen yn y mater hwn, a dyna pam y mae angen y sgiliau, yr wybodaeth a'r ddealltwriaeth ar staff ysgol i gefnogi ein plant. Nawr, nid yw hynny'n golygu bod staff ysgol yn dod yn arbenigwyr mewn seicoleg neu seiciatreg, ond mae'n golygu y gallant weld pan fydd plentyn yn cael trafferth yn emosiynol, gallant adnabod arwyddion trallod ac yn hollbwysig, gallant gael mynediad at y cymorth sydd ei angen arnynt i alluogi person ifanc i barhau i gael addysg.

Mae ein cynllun gweithredu cenhadaeth ein cenedl yn nodi sut y bwriadwn wella'r system ysgolion drwy ddatblygu cwricwlwm trawsnewidiol a threfniadau asesu a fydd yn gosod lles yn ganolog yn ein system addysg. Ein cwricwlwm newydd i Gymru yw'r angor i'n hymrwymiad i les emosiynol, er mwyn cefnogi pobl ifanc i ddod yn unigolion iach, hyderus, gan adeiladu eu lles meddyliol ac emosiynol drwy ddatblygu eu hunan-barch, eu gwytnwch a'u hempathi.

Ond beth y mae hynny'n ei olygu'n ymarferol mewn gwirionedd a beth yw agwedd ysgol gyfan? Dywed athrawon wrthym eu bod yn pryderu am iechyd meddwl eu myfyrwyr. Teimlant ei bod yn ofynnol iddynt ymdrin â materion iechyd meddwl y tu allan i'w cymhwysedd fel athrawon, ac maent yn aml yn teimlo nad ydynt yn cael cefnogaeth gwasanaethau arbenigol. Mae'n amlwg fod angen i athrawon gael help a chymorth i ymateb i blant sy'n profi anawsterau fel gorbryder, hwyliau drwg a hunan-niwed cymhellol neu anhwylderau ymddygiad.

Ond mae'n bwysig hefyd, rwy'n credu, i ni beidio â gwneud y broses o dyfu i fyny yn un feddygol. Dyma a ddywedodd y bobl ifanc eu hunain wrthym yn yr adroddiad 'Gwneud Synnwyr' yn 2016, a luniwyd gan bobl ifanc, ac sy'n cynrychioli eu barn. Mae bron i 40 y cant yn yr arolwg hwnnw'n dweud bod eu hathro'n berson y byddai'n well ganddynt gael cymorth ganddynt. Datblygwyd y thema hon ymhellach yn 'Cadernid Meddwl', a dynnodd sylw at rôl bwysig addysg wrth fynd i'r afael ag anghenion emosiynol ac iechyd meddwl pobl ifanc. Ac yn benodol, anghenion yr hyn a elwir yn 'ganol coll', pobl ifanc sydd â phroblemau emosiynol go iawn ond nad ydynt o anghenraid yn dioddef salwch meddwl ac yn aml, ni chânt lawer o gymorth.

A dyna pam, fel y cyfeiriodd Jayne, y sefydlodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a minnau y grŵp gorchwyl a gorffen gweinidogol ar y cyd ym mis Medi 2017. Daeth arbenigwyr o bob rhan o'r maes addysg ac iechyd at ei gilydd i'n cynghori ar y gwaith sydd angen i ni ei wneud i gyflwyno agwedd ysgol gyfan tuag at ymdrin â lles emosiynol a meddyliol gan sicrhau bod pawb sy'n gweithio yn ein hysgolion, nid athrawon yn unig, yn gallu cyfrannu'n gadarnhaol at les pobl ifanc.

Pan roddais dystiolaeth i'r pwyllgor ym mis Mehefin, nodais fy mod yn ymrwymedig i gynhyrchu fframwaith a fydd yn cynorthwyo ysgolion i ddatblygu a gweithredu agwedd ysgol gyfan sy'n gyson, a bydd yn rhoi arweiniad i ysgolion ar asesu eu hanghenion a'u cryfderau eu hunain o ran lles, a'u cynorthwyo i ddatblygu cynllun gweithredu i fynd i'r afael â'r materion a nodir yn dilyn asesiad, wedi'u cefnogi gan drefniadau monitro a gwerthuso cadarn. Byddwn yn cefnogi ysgolion yn y gwaith hwn gydag ystod o adnoddau i'w helpu i hyrwyddo lles meddyliol.  

Rwy'n falch o ddweud nad ydym yn dechrau gyda thudalen wag o bapur. Fel y clywsom gan yr Aelodau o amgylch yr ystafell hon, mae gennym eisoes sylfeini da iawn y gallwn adeiladu arnynt. Er enghraifft, fel y dywedodd Jayne, ers fy ymweliad ag Ysgol Gynradd Pilgwenlli yng Nghasnewydd y llynedd, gwn fod mwy o ysgolion—mwy a mwy—yn cydnabod bod grwpiau anogaeth yn ffordd brofedig o helpu pobl ifanc yn y cyfnod cynradd ac uwchradd. Mae'n eu helpu i ddatblygu sgiliau ymddiriedaeth a chyfathrebu ac yn gwella eu hunan-barch. A gallant fod yn effeithiol iawn pan fydd pobl ifanc wedi dioddef trawma difrifol sydyn, pan fyddant ar fin dod yn ddisgyblion sy'n gwrthod mynd i'r ysgol, a hefyd fel cymorth i rieni a gofalwyr adeiladu pontydd gydag ysgolion ac addysg ac i'w helpu i ennyn eu diddordeb yn addysg eu plant, pan nad ydynt hwy eu hunain yn aml wedi cael profiad cadarnhaol o addysg o reidrwydd pan oeddent yn fach.

Mae ein gwasanaethau cwnsela mewn ysgolion yn cefnogi dros 11,500 o bobl ifanc bob blwyddyn, ond rwy'n cydnabod bod gormod o amrywiad o hyd yn yr amseroedd aros ar gyfer y gwasanaethau hynny, a dyna pam y mae'r Gweinidog iechyd a minnau wedi cytuno'n ddiweddar i roi arian ychwanegol tuag at ymdrin â pheth o'r amrywiad yn y ddarpariaeth, a mynd i'r afael â rhestri aros hir a hyrwyddo trefniadau cydweithredol ar draws awdurdodau lleol a byrddau iechyd er mwyn gwella'r ddarpariaeth. Mae'r cyllid hwn yn rhan o fuddsoddiad ehangach o £2.5 miliwn eleni tuag at wella, nid yn unig y ddarpariaeth gwnsela, ond hefyd i hyfforddi staff ein hysgolion mewn perthynas â'u lles emosiynol eu hunain a'u myfyrwyr, ac i ddarparu ac i brofi ymyriadau cyffredinol ac wedi'u targedu yn yr ysgol.

Ar Ddiwrnod Atal Hunanladdiad y Byd, roeddwn hefyd yn falch iawn o lansio ein canllawiau newydd ar hunanladdiad a hunan-niwed, a ddatblygwyd yn benodol i gynorthwyo athrawon a gweithwyr proffesiynol sy'n dod i gysylltiad â phobl ifanc yn rheolaidd. Mae'r canllawiau hynny'n canolbwyntio ar ymyrraeth gynnar a rheoli hunan-niwed a meddyliau hunanladdol yn ddiogel pan fyddant yn codi. Mae'n darparu ffynhonnell gyflym a hygyrch o gyngor ac arferion da i addysgwyr. Os nad yw'r Aelodau wedi cael cyfle eto i ddarllen yr adnoddau hynny, buaswn yn eich annog yn gryf i wneud hynny. Rwy'n ddiolchgar i'r gweithwyr proffesiynol a helpodd i'w cynhyrchu.  

Mae ein cynlluniau peilot mewngymorth CAMHS i ysgolion hefyd yn dangos manteision gwirioneddol ers eu lansio, ac rwy'n falch iawn o gyhoeddi ein bod wedi cytuno ar gyllid ychwanegol i ymestyn y cynlluniau peilot tan fis Rhagfyr 2020 i gyd-fynd ag adroddiad gwerthuso terfynol y rhaglen honno, a chafodd hyn ei gefnogi gan gyllid ychwanegol. Mae'r cynlluniau peilot yn dangos bod datblygu cysylltiadau hollbwysig o'r fath—ac mae Jayne wedi siarad am hyn droeon—ar draws ffiniau sefydliadol yn allweddol i sicrhau llwyddiant. Mae staff yr ysgol yn nodi'r budd sy'n deillio o gael cyswllt y gallant drafod materion yn uniongyrchol â hwy, ac mewn modd amserol, sy'n hollbwysig. Mae hyn o fudd nid yn unig i bobl ifanc ond hefyd i athrawon sy'n teimlo eu bod yn cael eu cynorthwyo'n well i ddiwallu anghenion eu plant a'u pobl ifanc.

Ond rwy'n gwybod—rwy'n gwybod yn iawn—y gallwn wneud cymaint mwy. Mae arnaf eisiau adeiladu ar y momentwm hwn drwy ddatblygu mwy o weithgarwch i gefnogi athrawon fel y bydd ganddynt well dealltwriaeth o ddatblygiad plant, yn enwedig yn ystod blynyddoedd tyngedfennol y glasoed, sy'n gallu bod yn anodd iawn i bawb, a'r wybodaeth i ddysgu ac ymwneud â materion sy'n dod i'r amlwg ynghylch lles emosiynol a meddyliol dysgwyr. A chan weithio gyda'n prifysgolion, byddwn yn datblygu adnoddau dysgu ar gyfer athrawon dan hyfforddiant ac yn sicrhau bod cymorth tebyg ar gael i athrawon presennol.

Mae hefyd yn hanfodol i mi ein bod yn parhau i ymgynghori â'r bobl ifanc eu hunain ynglŷn â pha gymorth pellach y dylem fod yn ei ddarparu iddynt. A dyna pam ein bod wedi cynnull grŵp rhanddeiliaid ieuenctid, o gefndiroedd daearyddol a chymdeithasol amrywiol, gan gynnwys defnyddwyr gwasanaethau iechyd meddwl eu hunain. Rhaid i mi ddweud, mae eu hymrwymiad i'r broses, eu gwybodaeth a'u brwdfrydedd di-ben-draw wedi creu argraff fawr arnaf. Ynghyd â Senedd Ieuenctid Cymru, sydd wedi cytuno, fel y clywsom, y dylai cymorth emosiynol ac iechyd meddwl fod yn un o'u prif ystyriaethau rwy'n siŵr y byddant hwy, ynghyd â Lynne Neagle, yn parhau i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif am ein gwaith yn y maes hwn.

Fel pawb sydd ar ôl yma yn y Siambr heno, rwyf am i bob person ifanc yng Nghymru ffynnu. Rwyf am iddynt ddysgu ac rwyf am iddynt lwyddo, yn enwedig o ran datblygu agwedd ysgol gyfan tuag at gefnogi'r rhai sydd â phroblemau iechyd emosiynol a lles. Nid yw'n fater o un neu'r llall, Lywydd dros dro, mae yr un mor bwysig, yn rhan annatod o'u gallu i lwyddo mewn addysg. Ac rwy'n awyddus, unwaith eto, i ddiolch i Jayne a'r cyd-Aelodau am eu cyfraniadau heno. Diolch yn fawr.

18:50

Daeth y cyfarfod i ben am 18:52.