Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Plenary - Fifth Senedd
01/05/2019Cynnwys
Contents
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Galw'r Aelodau i drefn.
Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni'r prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Addysg, a'r cwestiwn cyntaf, Darren Millar.
1. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am safonau addysg yn ysgolion Cymru? OAQ53770
Diolch, Darren. Dengys adroddiad blynyddol Estyn ar gyfer 2017-18 fod safonau yn 'dda' neu'n 'well' mewn ychydig dros wyth o bob 10 ysgol gynradd, ac yn parhau i fod yn 'dda' neu'n 'well' yn hanner yr ysgolion uwchradd. Rwyf wedi ymrwymo i'r diwygiadau fel y'u hamlinellir yn 'Cenhadaeth ein Cenedl', a fydd yn rhoi cyfle cyfartal i'n holl blant gyflawni eu llawn botensial a gweld rhagoriaeth ym mhob un o'n hysgolion.
A wnewch chi ymuno â mi i longyfarch Ysgol y Foryd ar ei phum 'rhagorol'—Ysgol y Foryd ym Mae Cinmel, yn fy etholaeth, ysgol yr ymwelais â hi dros doriad y Pasg? Mae'n ysgol ragorol. Ond wrth gwrs, mae'n cyflawni hynny er gwaethaf yr heriau ariannol sylweddol y mae ysgolion yn eu hwynebu yng Nghonwy a gogledd Cymru ar hyn o bryd. Fe fyddwch yn gwybod, o ganlyniad i drefniant ariannu presennol Llywodraeth Cymru gyda Llywodraeth y DU, fod £1.20 ar gael i'w wario ar blant yma, o ran eu haddysg, am bob £1 a werir ar ddisgybl yn Lloegr, ond serch hynny, y realiti yw bod bwlch ariannu sylweddol yn bodoli o ran gwariant fesul disgybl bob blwyddyn. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gau'r bwlch ariannu hwnnw fel y gall ysgolion eraill sicrhau'r rhagoriaeth sydd ar gael i blant sy'n ddisgyblion yn Ysgol y Foryd?
Wel, a gaf fi longyfarch staff, disgyblion a llywodraethwyr yr ysgol yn eich etholaeth? Efallai y byddai'r Aelod yn ddigon caredig i ofyn i mi ymweld â'r ysgol, fel y gallaf weld â fy llygaid fy hun, yn amlwg, y safonau uchel sy'n cael eu cyflawni. Gadewch i ni fod yn gwbl glir: dengys astudiaethau annibynnol fod y bwlch ariannu rhwng ysgolion Cymru a Lloegr wedi cau a'i fod prin yn bodoli mwyach. Wrth gwrs, gallem roi mwy o arian i wasanaethau addysg rheng flaen pe baem yn cael gwell bargen gan Lywodraeth San Steffan. Er enghraifft, o ran mater y cynllun pensiwn athrawon, a chodiadau i'r cynllun pensiwn athrawon, sy'n peri cryn bryder i lawer yn y proffesiwn, 80 y cant yn unig o'r adnoddau i dalu am y cynnydd yng nghost pensiynau athrawon a ddarparwyd gan Lywodraeth San Steffan, a bu'n rhaid i Lywodraeth Cymru ddod o hyd i'r 20 y cant ychwanegol er mwyn inni allu talu am y cynnydd ym mhensiynau athrawon.
Mae gan y cwricwlwm newydd y potensial i weddnewid profiadau dysgu ein plant a phobl ifanc, ond mi ydw i'n arswydo o feddwl bod ganddo fo hefyd y potensial o fethu yn llwyr. Mae bywyd pob ysgol yn hynod brysur o ddydd i ddydd ac yn llawn heriau, ac mae yna lawer o amser yn mynd ar ddelio efo toriadau yn wyneb cyllidebau sy'n crebachu. Rydych chi wedi cyhoeddi y bydd yna un diwrnod ychwanegol o hyfforddiant proffesiynol y flwyddyn, ond go brin fod hynny yn ddigon ar gyfer creu'r trawsnewid anferth sydd ynghlwm â'r cwricwlwm newydd. Sut ydych chi'n disgwyl i ysgolion greu'r gofod ar gyfer creu'r trawsnewid ac ar gyfer hyfforddi'r staff heb i'r Llywodraeth yma gynyddu cyllidebau ysgolion?
Wel, wrth gwrs, rydym yn ymgynghori ar hyn o bryd ar y cynigion i ddarparu diwrnod hyfforddiant mewn swydd ychwanegol i ysgolion i baratoi ar gyfer rhoi'r cwricwlwm ar waith, a fydd yn statudol o 2022 ymlaen. Wrth gwrs, mae gan ysgolion eisoes nifer o ddyddiau hyfforddiant mewn swydd, y gallant eu defnyddio i helpu i baratoi ar gyfer rhoi'r cwricwlwm ar waith. O ran adnoddau i alluogi athrawon i ymgymryd â datblygiad proffesiynol, bydd yr Aelod yn ymwybodol fod y Llywodraeth hon wedi darparu £24 miliwn yn uniongyrchol i gyllidebau penaethiaid ar gyfer datblygiad proffesiynol eu staff, a dyna yw'r buddsoddiad unigol mwyaf mewn dysgu proffesiynol yn y 20 mlynedd ers creu'r sefydliad hwn.
2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y canllawiau a roddir i awdurdodau addysg lleol ynghylch sicrhau bod digon o amser yn y diwrnod ysgol i ddiwallu anghenion iechyd a lles disgyblion? OAQ53777
Diolch, Caroline. Mae 'Cenhadaeth ein Cenedl' yn sicrhau bod lles yn ganolog i'n cwricwlwm newydd, gan sicrhau ei fod yn treiddio trwy gydol y diwrnod ysgol. Bydd datblygu ymagwedd ysgol gyfan at les emosiynol a meddyliol hefyd yn helpu i hybu diwylliant lle mae holl staff yr ysgol yn gyfrifol am gefnogi eu dysgwyr.
Diolch, Weinidog. Nid wyf yn siŵr a ydych yn ymwybodol, ond mae Ysgol Gynradd Notais ym Mhorthcawl yn bwriadu newid eu diwrnod ysgol i gyd-fynd â'r ysgol gyfun. Er mwyn cyflawni hyn, heb gwtogi'r amser addysgu, mae'r cynigion yn galw am leihau amser chwarae 40 munud a chaniatáu un amser egwyl 10 munud yn unig. Weinidog, a ydych yn cytuno â mi y bydd lleihau amser chwarae a chyfyngu ar amser i fynd i'r tŷ bach yn effeithio'n andwyol ar iechyd a lles y plant?
Rwy'n ymwybodol o gynigion ysgol Notais yn sir Pen-y-bont ar Ogwr. Mae trefnu'r diwrnod ysgol, yn wir, yr wythnos ysgol, yn fater i benaethiaid unigol a'u cyrff llywodraethu. Ond dylid gwneud unrhyw newidiadau i drefn y diwrnod ysgol drwy ymgynghori'n llawn â rhieni, ac yn amlwg, dylid ystyried anghenion iechyd a lles plant wrth wneud y newidiadau hynny.
Weinidog, a ydych yn cytuno â mi fod gofalwyr ifanc yn un grŵp o blant a phobl ifanc yn ein hysgolion sy'n arbennig o agored i niwed a bod angen amser a chefnogaeth ychwanegol arnynt gyda'r staff priodol i'w helpu i gyflawni'r hyn y gallant ei wneud yn academaidd, ond hefyd i gael amser i fod yn blentyn? Rhannaf rai o'r pryderon, oherwydd i ofalwyr ifanc, mae bod yn yr ysgol yn aml yn seibiant. Rydych yn mynd i'r ysgol a gallwch fod yn blentyn, gallwch chwarae. Mae gennyf rai pryderon y gallai byrhau'r diwrnod ysgol, yn enwedig i ofalwyr ifanc iawn—a gwyddom y gall plant mor ifanc â chwech fod yn ymgymryd â chyfrifoldebau gofalu—gyfyngu ar allu gofalwyr ifanc i gael yr amser hwnnw i fod yn blentyn yn yr ysgol.
Mae camau y gallwch eu cymryd, efallai ar y cyd â'r Dirprwy Weinidog gwasanaethau cymdeithasol, i sicrhau, wrth i ysgolion wneud y newidiadau arfaethedig hyn, eu bod yn ystyried anghenion y grŵp hwn o blant a phobl ifanc sy'n arbennig o agored i niwed.
Diolch, Helen Mary. Rydych yn llygad eich lle i dynnu sylw'r Siambr at anghenion penodol gofalwyr yn ein system addysgol a sicrhau bod ein haddysgwyr a'n hysgolion a'n colegau yn ymwybodol o'r pethau syml iawn, weithiau, y gallant eu gwneud i sicrhau ei bod yn haws i'r bobl ifanc hynny gymryd rhan yn yr ysgol a'r coleg ac i gyflawni eu potensial llawn.
Mae mater trefnu diwrnodau ysgol yn aml yn gysylltiedig â mater yr wythnos anghymesur. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol fod y Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru wedi cynnal ymchwil i'r wythnos ysgol anghymesur, sy'n aml yn arwain at gwtogi, o bosibl, naill ai amser egwyl neu amser cinio. Mewn gwirionedd, yn yr achosion hynny, dywedwyd bod egwyl ginio fyrrach yn cefnogi lles plant weithiau gan fod hynny'n lleihau'r cyfleoedd i fwlio a rhai o'r problemau sy'n gysylltiedig â chyfnodau hir y tu allan heb oruchwyliaeth uniongyrchol y staff. Ond wrth gwrs, nid yw hynny o reidrwydd yn berthnasol i'r mater sy'n ymwneud â gofalwyr.
Rwy'n siŵr y bydd yr Aelod yn ymwybodol fy mod wedi gofyn yn arbennig i Estyn gynnal adolygiad strategol o beth arall y gallwn ei wneud yn y system addysg i sicrhau bod y grŵp hwnnw o ddysgwyr yn cyflawni eu potensial llawn, ac fel y dywedais, fod y proffesiwn yn gwybod beth yw'r ffordd orau o'u cefnogi.
Weinidog, mae iechyd a lles yn mynd y tu hwnt i'r ysgol. Mae angen i ni edrych hefyd ar golegau addysg bellach yn ogystal â cholegau ôl-16, lle nad oes amser gorfodol o reidrwydd. Ond gall cymryd rhan mewn chwaraeon cystadleuol a gweithgareddau corfforol anghystadleuol eraill helpu ysgolion a cholegau i sicrhau bod digon o gyfleoedd ar gael i ddysgwyr fod yn ymwybodol o'u hagendâu iechyd a lles eu hunain.
A wnewch chi ymuno â mi i longyfarch colegau addysg bellach Cymru ar eu llwyddiant dros y penwythnos ym Mhencampwriaethau Chwaraeon Cenedlaethol Cymdeithas y Colegau yn Nottingham, lle buont yn cystadlu mewn dros 14 o gystadlaethau gwahanol? Ac efallai y gwnewch chi ymrwymo i helpu i sicrhau bod Chwaraeon Cymru, ar y cyd â Chwaraeon Colegau Cymru, yn parhau i gynnig ystod o weithgareddau newydd, pleserus ar gyfer darparu cyfleoedd iechyd a ffitrwydd i'r 45,000 o ddysgwyr ôl-16 sy'n astudio mewn sefydliadau addysg bellach yng Nghymru.
Wel, diolch, David, am ein hatgoffa am yr ymdrech aruthrol honno ar ran y myfyrwyr yn ein colegau addysg bellach ledled Cymru, a'u llwyddiant wrth gynrychioli eu colegau, ac yn wir, wrth gynrychioli Cymru yn y gemau hynny. Gwn o drafodaethau gyda chydweithwyr addysg bellach eu bod wedi ymrwymo i ddarparu cwricwlwm eang a chytbwys mewn colegau addysg bellach sy'n caniatáu i fyfyrwyr ymgymryd nid yn unig â'u hastudiaethau academaidd neu alwedigaethol, ond hefyd i allu cymryd rhan mewn ystod lawn o weithgareddau allgyrsiol, gan gynnwys chwaraeon, ond hefyd drama, cerddoriaeth a gweithgareddau creadigol. Ac fel y gwyddoch, David, mae'r sector addysg bellach yn un o gryfderau'r system addysg yng Nghymru, ac mae'r llwyddiant diweddar hwn ym maes chwaraeon yn ategu'r hyn a wyddom—fod y colegau addysg bellach yng Nghymru yn perfformio'n dda iawn wir.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Suzy Davies.
Diolch yn fawr, Lywydd. Weinidog, a gaf fi ddechrau drwy ddiolch ichi am hwyluso'r briff ar y cwricwlwm newydd ddoe, a drefnwyd gan Lynne Neagle? Credaf mai'r argraff gyffredinol rwyf wedi'i chael ar y cam hwn yw y bydd yn cymryd peth amser i ddeall y newid mawr hwn o ran athroniaeth a diwylliant a'i droi'n gynlluniau gwersi go iawn, yn enwedig gan y bydd yn rhaid i ysgolion, wrth gwrs, ddarparu dwy set o gwricwla ysgol ar yr un pryd, ar gyllidebau cyfyngedig, am beth amser. Ond nid yw'r ffaith y bydd yn anodd yn golygu na ddylem wneud hynny, ac er fy mod yn teimlo'r un peth am y fformiwla ariannu, efallai y gallwn adael hynny at ddiwrnod arall.
Rwy'n Geidwadwr un genedl, felly rwy'n credu mewn cydgynhyrchu, cymdeithas fawr a grymuso unigolion i ysgwyddo cyfrifoldebau personol yn ogystal â'r ddyletswydd i rymuso'r rhai o'u cwmpas. Ac felly, byddaf yn cefnogi nodau cwricwlwm sy'n helpu i fagu pobl ifanc gwydn sy'n ddatryswyr problemau tosturiol ac yn cydnabod yr angen i gyfrannu eu doniau i gymdeithas yn ogystal â'u trethi i'r wladwriaeth. Ond byddant hefyd angen gwybodaeth fanwl am bynciau nad yw'n seiliedig ar eu profiadau a'u dewisiadau eu hunain yn unig. Nid yw hwn yn gwricwlwm sy'n seiliedig ar gynnwys—ailadroddwyd hynny sawl gwaith ddoe—ond bydd ganddo gynnwys a fydd yn seiliedig i raddau sylweddol ar ddewis staff a disgyblion. Sut y bydd ansawdd y doreth hon o gynnwys yn cael ei reoli?
Wel, yn gyntaf, a gaf fi ddweud fy mod yn falch fod yr Aelod yn credu bod y briff ddoe yn ddefnyddiol? Ac a gaf fi hefyd rannu ei diolch i Lynne Neagle, Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, a helpodd i hwyluso'r briff hwnnw? Rwy'n ddiolchgar i'r holl Aelodau o'r pwyllgor, ac yn wir, y tu hwnt i'r pwyllgor, a roddodd o'u hamser i ddod i wrando ar y cyflwyniadau ddoe mewn perthynas â'r cwricwlwm newydd.
Credaf ei bod yn bwysig iawn cydnabod nad yw'r cwricwlwm yn brin o wybodaeth. Mae'n gwricwlwm sy'n adeiladu ar wybodaeth, sgiliau a'r profiadau y credaf y bydd eu hangen ar blant a phobl ifanc yng Nghymru er mwyn sicrhau, pan fyddant yn gadael yr ysgol, y byddant yn mynd yn eu blaenau i fyw bywydau personol llwyddiannus ac y byddant yn gallu cyfrannu'n llwyddiannus at y genedl.
O ran rheoli ansawdd, yn amlwg, cyhoeddwyd trefniadau asesu hefyd ddoe, sy'n dangos lle byddem yn disgwyl i blentyn fod, yn gyffredinol, mewn perthynas â'r chwe maes dysgu a phrofiad ar wahanol gamau drwy gydol eu gyrfa addysgol. Ac wrth gwrs, byddwn yn parhau i asesu'r plant hynny drwy ein cyfundrefnau asesu ar-lein arloesol, yn ogystal ag asesu athrawon. Ac wrth gwrs, bydd polisi cyffredinol profiad y cwricwlwm wedi'i ategu gan ein cyfundrefn atebolrwydd—atebolrwydd unigol yr athrawon, rôl llywodraethwyr, rôl ein consortia rhanbarthol neu ein gwasanaeth gwella ysgolion, ac yn y pen draw, wrth gwrs, Estyn, a fydd yn ymweld ag ysgolion yn amlach o dan ein trefn newydd nag y gwnânt ar hyn o bryd, a byddant yno i sicrhau bod y cwricwlwm a gyflwynir yn un o ansawdd uchel.
Wel, diolch am eich ateb. Credaf ei fod, mewn gwirionedd, yn gwestiwn eithaf anodd ei ateb y tu allan i'r byd traddodiadol o ran monitro ac asesu fel yr esbonioch chi nawr. Yn wir, croesawaf y syniad y bydd yn gwricwlwm mwy amrywiol, ond bydd canfod sut i gadw golwg ar hynny yn eithaf anodd. A chredaf y bydd y ffordd y mae'r cysylltiadau hynny'n gweithio dros yr ychydig flynyddoedd nesaf yn bwysig iawn, gan y credaf y byddai'n deg dweud y bydd pob system newydd yn mynd drwy gyfnod o ymsefydlu, hyd yn oed gyda'r newidiadau llai anodd a welsom gyda'r cymwysterau 'a wnaed yng Nghymru' yn ddiweddar wrth symud rhai plant o BTEC i TGAU, a gwn pam y gwnaethoch hynny. Rydym wedi gweld rhywfaint o ddryswch ynglŷn â sut i feincnodi safonau. Yn amlwg, Cymwysterau Cymru sydd â'r prif rôl yn hyn o beth, ond hoffwn glywed eich barn ar sut y byddwn yn osgoi amharu ar y garfan o ddysgwyr trosiannol sy'n foch cwta—os caf eu galw'n hynny—a fydd yn cael eu haddysgu gan athrawon a all fod wedi cael y DPP ond heb gael unrhyw brofiad gwirioneddol o addysgu'r cwricwlwm yn ystod y blynyddoedd cyntaf hyn. Oherwydd gwelsom rai yn dioddef pan newidiasom o'r system ramadeg i'r system gyfun yr holl flynyddoedd yn ôl, cyn i'r system newydd ymsefydlu. A hoffwn sicrhau, fel yr hoffech chithau rwy'n siŵr, nad ydych am i'r risg honno gael ei hailadrodd.
Mae'r cysylltiad rhwng y cwricwlwm newydd a sut y bydd y cymwysterau'n edrych yn dal i fod yn aneglur iawn i mi. Felly, sut y byddwch yn helpu dysgwyr a gweithwyr proffesiynol i ddiogelu safonau a chyflawniad yn y cyfnod pontio hwn fel nad ydynt o dan anfantais ym marn sefydliadau addysg bellach, addysg uwch a chyflogwyr yn y dyfodol a fydd yn dylanwadu'n enfawr ar ddewisiadau ôl-16 dysgwr?
Wel, Suzy, y cam cyntaf rydym yn ei gymryd i sicrhau nad yw cyfleoedd bywyd plant yn dioddef oedd y penderfyniad a wneuthum yn flaenorol i gyflwyno'r cwricwlwm dros nifer o flynyddoedd, yn enwedig yn y sector uwchradd. Byddai wedi bod yn amhosibl dychmygu, y tu hwnt i amgyffred yn wir, i feddwl am newid y cwricwlwm yn ystod cyfnod astudio plentyn ym mlwyddyn 10 neu 11, a all fod yn allweddol. A dyna pam y byddwch yn ymwybodol y bydd y broses o gyflwyno'r cwricwlwm yn dechrau yn ein hysgolion uwchradd ym 2022 ym mlwyddyn 7, a bydd yn dilyn y garfan honno o blant.
O ran cyfnod ymsefydlu, fe fyddwch yn ymwybodol unwaith eto fy mod wedi gwneud y penderfyniad eithaf anodd i ohirio'r broses o roi'r cwricwlwm ar waith, ar ôl gwrando ar athrawon a ddywedodd wrthyf yn glir iawn y byddai angen mwy o amser arnynt i baratoi. Felly, cyhoeddwyd y drafft ddoe. Mae hwn bellach yn gyfnod o adborth gwirioneddol fel y gall pobl ymgysylltu—nid y proffesiwn addysgu yn unig, ond hefyd y cyflogwyr, y colegau, y prifysgolion y siaradoch chi amdanynt fel y gallant hwythau roi adborth inni yn ogystal. Cyhoeddir y cwricwlwm terfynol ym mis Ionawr y flwyddyn nesaf, gan roi cyfnod sylweddol o amser, unwaith eto, i ysgolion, cyn iddo ddod yn statudol a chyn y bydd yn rhaid iddynt ei gyflwyno fel y gallant ymgysylltu'n iawn ag ef.
Fe fyddwch yn gwybod, drwy gydol y broses hon, fod Cymwysterau Cymru wedi bod yn rhan greiddiol o'r broses. Maent eisoes wedi dechrau eu gwaith ar y goblygiadau ar gyfer arholiadau diwedd blwyddyn 11, o ganlyniad i'r newidiadau i'r cwricwlwm. Dywedant yn glir iawn yn eu cyngor i mi fod y brand TGAU yn frand cryf—mae rhieni, disgyblion, cyflogwyr, addysg bellach ac addysg uwch yn ei ddeall yn dda ac maent yn disgwyl i TGAU barhau, ond yn amlwg, gallai fod angen i'r cynnwys newid. A byddwn yn parhau i weithio gyda'r corff annibynnol, Cymwysterau Cymru, i sicrhau bod yr arholiadau hynny'n rhoi pasbort i fyfyrwyr a phobl ifanc Cymru i mewn i'r byd gwaith ac i fyd astudio, p'un a'u bod yn gwneud hynny yng Nghymru neu'n dewis gwneud hynny yn rhywle arall.
Diolch am yr atebion hynny. Ydw, rwyf wedi siarad â Cymwysterau Cymru fy hun am hyn ac nid wyf yn siŵr o hyd beth fydd yn cael ei arholi ymhen rhyw saith mlynedd mewn arholiad TGAU. Rwy'n sylweddoli y gallem gael rhywfaint o eglurder ar hynny yn y cyfamser, ond mae gennyf bryderon o hyd ynglŷn â'r athrawon unigol sy'n dechrau ym mlwyddyn saith, a hyd yn oed os ydynt gyda'r un plant hyd nes blwyddyn 11 neu 12, ni fyddant wedi cael unrhyw brofiad blaenorol o addysgu hyn. Dyna pam y gofynnais y cwestiwn ynglŷn ag a fydd yno ryw fath o—nid wyf am eu galw'n 'drefniadau arbennig', ond lle i anadlu i blant sy'n rhan o'r broses yn ei saith mlynedd gyntaf.
Hoffwn symud ymlaen yn awr, gan aros gyda'r cwricwlwm: yn aml, mae Llywodraeth Cymru yn ein gwahodd i edrych ar gymaryddion rhyngwladol ac rwy'n siŵr y byddwn yn cael ein gwahodd i wneud hynny eto, yn gwbl briodol, yn ystod y dadleuon ar ddileu amddiffyniad cosb resymol. Cafodd cynigion yr Athro Donaldson eu hysbrydoli gan brofiadau gwledydd eraill—fel y gwyddom, roedd llawer ohonynt yn Sgandinafia—ac rydym wedi cael cyfle i'w gweld ar waith, yn nes at adref, yn yr Alban. Nawr, nid yw profiad yr Alban wedi bod heb ei broblemau ac rydych wedi rhoi sicrwydd inni, Weinidog, ar fwy nag un achlysur eich bod wedi dysgu gwersi gan yr Alban i osgoi eu camgymeriadau hwy. Yn ddiweddar, mae'r Alban wedi dysgu o'u camgymeriadau eu hunain. Mae pob un o'u cynghorau wedi cyfarwyddo eu hysgolion i addysgu adfywio cardio-pwlmonaidd ar gwricwlwm yr ysgol uwchradd. Mae'n orfodol ar y cwricwlwm yn 20 y cant o wledydd Ewrop, gan gynnwys Norwy a Denmarc—gwledydd Sgandinafaidd—ac yn Sweden, lle nad yw ar y cwricwlwm, mae'r siawns o oroesi ataliad ar y galon y tu allan i ysbyty yn is nag yng ngweddill Sgandinafia. Mae hyd yn oed America o gwmpas eu pethau bellach, gyda'r hyfforddiant hwn yn orfodol mewn 36 talaith. Os ydych yn barod i ddysgu gwersi gan yr Alban, pam na wnewch chi ddysgu'r wers hon?
Gadewch i mi ddechrau drwy ddweud bod sgiliau achub bywyd a gweithdrefnau cymorth cyntaf brys yn amlwg yn hynod o bwysig, ac rwy'n awyddus iawn i godi ymwybyddiaeth o'r sgiliau hynny. Buaswn yn annog pawb i ddysgu cymorth cyntaf, boed yn blant ysgol, neu yn wir, wedi gadael yr ysgol. Ond mater i'r ysgolion eu hunain yw penderfynu a ddylid darparu addysg cymorth cyntaf a'r cyfleoedd hynny o fewn y cwricwlwm, a sut i wneud hynny yn y ffordd orau.
Fel y gwyddoch o'r briff ddoe, mae'r cwricwlwm yn cynnwys maes dysgu a phrofiad newydd iechyd a lles—MDPh sydd wedi'i groesawu at ei gilydd gan bawb sydd wedi rhoi adborth hyd yma a bydd digon o gyfle o fewn y MDPh hwnnw i'r pynciau hyn gael eu haddysgu mewn ysgolion.
Fel y gwelsoch dros y penwythnos o bosibl, nododd Buzzfeed fod Llywodraeth y DU yn ystyried diddymu statws ffioedd cartref ar gyfer dinasyddion yr UE sy'n astudio yn Lloegr ar ôl 2021. Deallaf fod safbwynt presennol Llywodraeth Cymru yn diogelu'r sefyllfa bresennol hyd at flwyddyn academaidd 2019-20 yma yng Nghymru, a byddem ni, fel plaid, yn cefnogi hynny. Ond er budd parhad ac eglurder, a allwch gadarnhau na fydd Llywodraeth Cymru yn diddymu statws cartref a chymorth ariannol i fyfyrwyr yr UE ar ôl 2020?
Mae'r Aelod yn llygad ei lle—rydym wedi cadarnhau y byddwn yn parhau i ddarparu cymorth ffioedd dysgu i fyfyrwyr o'r UE sy'n dechrau eu hastudiaethau ym mlwyddyn academaidd 2019-20. Hoffwn yn fawr egluro'r sefyllfa ar gyfer 2020-21, ond ni allaf gadarnhau hynny hyd nes y bydd gennym safbwynt clir gan Lywodraeth y DU o ran darparu benthyciadau.
Iawn, diolch yn fawr iawn am hynny. Ac os caf ofyn pryd, yn eich trafodaethau â Llywodraeth y DU, y credwch y bydd modd i chi gael y cadarnhad hwnnw—o ymateb blaenorol a roddwyd gennych i'r pwyllgor addysg, rwy'n credu, dywedasoch fod hyn oherwydd rheolau'r Trysorlys. Felly, deallaf nad yw hynny bellach yn gymaint o her i chi. Ac os nad yw'n gymaint o her, a allech ddweud wrthym p'un a allech barhau â'r gefnogaeth i fyfyrwyr ar ôl 2019? Oherwydd, hyd y gwelaf, mae'r arian hwnnw yn ei le ar gyfer myfyrwyr yr UE eisoes. Felly, oni allem barhau â'r setliad presennol fel y mae—hynny yw, mae hynny eisoes yn ein cyllidebau fel rhan o'r hyn a gytunwyd gennym yma yn y Cynulliad—oherwydd, wrth gwrs, mae'n bwysig iawn nad yw myfyrwyr Ewropeaidd yn dewis mynd i ran arall o'r DU? Er enghraifft, yn yr Alban, maent wedi dweud y byddant yn ei ymestyn y tu hwnt i 2021, ac felly nid ydym am fod ar ein colled pan fydd myfyrwyr yn gwneud y penderfyniadau hynny yn y flwyddyn nesaf i benderfynu peidio â mynd i Gymru o bosibl, ac i fynd i'r Alban yn lle hynny, pan fydd arnom angen y gefnogaeth ariannol gan fyfyrwyr Ewropeaidd, gan ein bod yn colli rhai o'r myfyrwyr hynny eisoes, yn anffodus, oherwydd y trafodaethau ynghylch Brexit.
Wel, yn gyntaf, gadewch i mi ddweud yn glir fy mod am i gynifer o fyfyrwyr o'r UE, yn wir, cynifer o fyfyrwyr o bob cwr o'r byd, ddod i astudio yma yn ein prifysgolion. Mae gennym gynnig addysg uwch da iawn, a fyddai o fudd mawr iddynt. Hoffwn egluro i'r Aelod nad ein cyllidebau ein hunain sy'n berthnasol i'r pwynt hwn—mae angen inni gael cadarnhad gan Lywodraeth San Steffan ynghylch darparu benthyciadau. Os na chawn hynny, byddai'n rhaid i Lywodraeth Cymru warantu oddeutu £45 miliwn o gymorth i fyfyrwyr yr UE i sicrhau y byddai'r arian ar gael iddynt drwy gydol eu cyfnod astudio. Rwy'n siŵr y byddai'r Aelod yn cytuno â mi y byddai hynny'n peri risg sylweddol i gyllideb Llywodraeth Cymru. Dyna pam fod angen inni gael eglurder gan Lywodraeth San Steffan ynghylch mynediad at fenthyciadau. Heb yr eglurder hwnnw, nid wyf yn teimlo fy mod mewn sefyllfa i wneud ein cyllidebau yn agored i'r risgiau hynny. Rwyf wedi codi'r mater hwn gyda Gweinidog addysg uwch y DU, Mr Skidmore, ym mhob cyfarfod a gefais gydag ef. Fy nealltwriaeth o'r sefyllfa ar hyn o bryd yw ein bod yn annhebygol o gael penderfyniad neu gadarnhad cyhoeddus gan Lywodraeth San Steffan yn ystod y cyfnod purdah cyn yr etholiadau Ewropeaidd.
Diolch am eich ateb, ac nid wyf yn gofyn yn elyniaethus, rwy'n gofyn er mwyn rhoi cefnogaeth, oherwydd wrth gwrs, hoffem gefnogi safiad y Llywodraeth ar hyn gan ein bod yn cydnabod pa mor bwysig fyddai'r myfyrwyr hynny o'r UE i economi Cymru, ond hefyd i wella bywydau'r myfyrwyr nid yn unig o gyfandir Ewrop, ond hefyd bywydau'r myfyrwyr sydd yma yng Nghymru. Felly, os oes unrhyw beth y gallwn ei wneud i ddylanwadu ar Lywodraeth y DU mewn perthynas â'r benthyciad, byddem yn gwbl gefnogol i allu gwneud hynny er mwyn dangos bod Cymru yn agored i fusnes, er gwaethaf y trafodaethau ynghylch Brexit.
O ran y trydydd cwestiwn a'r cwestiwn olaf, roeddwn am ofyn mewn perthynas â pharhau â'r thema ynghylch diwygio'r cwricwlwm, ond yn benodol mewn perthynas ag addysg bellach. Rwyf wedi clywed bod llawer—. Cafwyd croeso i'r newid yn y broses ei hun, ond clywais gan rai yn y sector eu bod yn poeni ynglŷn â'r symud i ddysgu seiliedig ar waith ac i addysg ôl-16 mewn perthynas â'r cyfnod pontio. Felly, a allwch warantu y bydd y broses hon yn digwydd mewn ffordd ddi-dor fel y gellir sicrhau, pan fydd pobl yn gadael yr ysgol gyda'r newidiadau hyn o ran cymwysterau, pan fyddant yn cael mynediad at addysg ôl-16 neu ddysgu seiliedig ar waith, y gall y sgiliau hynny fod yn addasadwy i'r amgylchedd hwnnw ac y byddwch yn ymgysylltu â'r sector addysg ôl-16 yn yr un modd i'w cynnwys mewn unrhyw drafodaethau y byddwch yn eu cael ar y newidiadau i'r cwricwlwm?
Wel, rwy'n ddiolchgar am gefnogaeth yr Aelod i safiad Llywodraeth Cymru o ran yr awydd i barhau i groesawu myfyrwyr yr UE i astudio yn ein prifysgolion. Rwy'n ddiolchgar iddi am ddeall nad ydym mewn sefyllfa i wneud cyhoeddiadau pellach hyd nes y cawn eglurder gan Drysorlys San Steffan ynghylch gallu'r myfyrwyr hynny i gael mynediad at fenthyciadau.
A gaf fi sicrhau'r Aelod fod addysg bellach wedi chwarae rhan fanwl yn y broses arloesi wrth ddatblygu'r cwricwlwm hyd yn hyn? Yn amlwg, byddem am i unrhyw blentyn a ddaw o'n hysgolion wedi i'r cwricwlwm gael ei roi ar waith feddu ar set o gymwysterau, sgiliau a doniau a fydd yn eu galluogi i fynd yn eu blaenau naill ai i'r byd gwaith neu i astudio mewn addysg bellach, boed hynny drwy brentisiaethau, drwy gyrsiau Safon Uwch academaidd traddodiadol neu gyrsiau galwedigaethol, ac mae cynrychiolwyr o'r sector addysg bellach wedi bod yn rhan o'r broses hyd yn hyn. Ond a gaf fi ddefnyddio'r cyfle hwn, Lywydd, i annog pawb sydd â diddordeb mewn addysg yng Nghymru i gymryd rhan yn y cyfnod rydym ynddo ar hyn o bryd, wrth i ni brofi, mireinio a herio ein hunain gyda datblygiad ein cwricwlwm newydd—y tro cyntaf yn hanes y genedl hon y byddwn wedi dyfeisio ein cwricwlwm ein hunain ar gyfer ein plant a'n pobl ifanc?
3. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi disgyblion sy'n defnyddio iaith arwyddion Prydain mewn ysgolion? OAQ53779
Diolch yn fawr iawn, Mark. Bydd ein diwygiadau uchelgeisiol i anghenion dysgu ychwanegol yn helpu i sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc sydd angen Iaith Arwyddion Prydain er mwyn cael mynediad at addysg yn ganolog i'r broses gynllunio ac y caiff y cymorth ei gynllunio'n briodol a'i ddiogelu.
Diolch. Ar 6 Chwefror, buom yn trafod deiseb Deffo! Fforwm Ieuenctid Byddar Cymru a oedd yn gofyn am well mynediad at addysg i bobl ifanc fyddar, staff cymwys i weithio gyda hwy, a chymorth i ddatblygu sgiliau pobl ifanc byddar sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain. Mae Deffo! yn pryderu eich bod wedi dweud yn eich ymateb dilynol i lythyr ganddynt a ddaeth i'ch sylw na fydd dim o'r £289,000 o arian ychwanegol sy'n cael ei ddarparu i'r gyllideb anghenion dysgu ychwanegol yn mynd tuag at gymorth i gynorthwywyr addysgu—neu, fel y mae'n well ganddynt gael eu galw, gweithwyr cymorth cyfathrebu—a dywedant fod hynny'n wirioneddol syfrdanol. Sut yr ymatebwch i'w pryder nad ydynt wedi cael unrhyw ohebiaeth bellach oddi wrthych chi na neb yn Llywodraeth Cymru hyd yma ynglŷn â'r cynllun i sefydlu grŵp ymgynghori i ddechrau'r camau gweithredu a gytunwyd yn y ddadl?
Buaswn yn fwy na pharod i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r ymgyrchwyr, a byddaf yn rhoi copi o'r llythyr hwnnw, os yw'n briodol, Lywydd, yn y Llyfrgell, a'i gopïo hefyd i'r Aelod dan sylw.
4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella hawliau plant i gael addysg am rywioldeb a chydberthynas ym mhob ysgol? OAQ53776
A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei chwestiwn? Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod yr holl bobl ifanc yn derbyn addysg rhywioldeb a pherthnasoedd o ansawdd uchel. Ym mis Mai 2018, cyhoeddais fy mwriad i ailenwi'r maes astudio hwn ac rwyf wedi cynnig y bydd addysg cydberthynas a rhywioldeb yn statudol i bob dysgwr yn y cwricwlwm newydd.
Diolch yn fawr iawn, Weinidog. Ar ôl darllen y canllawiau statudol drafft ddoe, credaf eu bod yn egluro'r hyn rydym yn ceisio'i wneud yn dda iawn, a hefyd, gobeithio, yn tawelu meddwl unrhyw un sydd wedi'i annog i feddwl bod hyn, rywsut, yn ffordd o gyflyru ein plant i weithredu mewn rhyw ffordd neu'i gilydd.
Yn amlwg, ni fydd y meysydd dysgu newydd yn dod i rym am beth amser, felly, o gofio'r problemau a gafwyd yn Lloegr, lle gwnaed sylwadau eithaf homoffobig, yn enwedig gan bobl sy'n honni eu bod yn weithwyr proffesiynol, sut y gallwn sicrhau bod rhieni yng Nghymru yn sylweddoli mai'r hyn y ceisiwn ei wneud yw rhoi'r arfau sydd eu hangen arnynt i blant allu byw bywyd iach a hybu perthnasoedd iach? A fydd rhyw fath o fersiwn gryno yn cael ei chyhoeddi fel bod pob rhiant yn ymwybodol o'r hyn a all ddod yn fater go ddadleuol yn nwylo'r unigolyn anghywir?
A gaf fi ddiolch i Jenny am ei chroeso cadarnhaol i'r drafft a gyhoeddwyd ddoe? Mae'n gwbl hanfodol fod pawb yn deall mai'r hyn rydym yn ei gynnig yma yw addysg cydberthynas a rhywioldeb sy'n briodol i oedran a datblygiad, sy'n gwbl gynhwysol ac sy'n adlewyrchu'r gymdeithas y mae ein plant a'n pobl ifanc yn tyfu i fyny ynddi ac y byddant yn dod yn oedolion ynddi. Mae'n ymwneud â rhoi'r iaith a'r wybodaeth y byddant eu hangen i'r plant a'r bobl ifanc hynny, fel y dywedwch, er mwyn iddynt allu ffurfio perthnasoedd iach—yn gyntaf, yn eu teuluoedd eu hunain, ac ymhlith eu cyfoedion yn yr ysgol—sut y gallant gadw eu hunain yn ddiogel, sut y mae ganddynt wybodaeth i ddeall sut beth yw perthynas iach a sut beth yw perthynas gamdriniol. Ac mae hynny'n ganolog i'r hyn y ceisiwn ei wneud wrth ddatblygu'r cwricwlwm newydd. Ond yn amlwg, rwy'n deall bod y rhain yn aml yn faterion sensitif, yn enwedig i oedolion. Anaml y byddant mor sensitif â hynny i blant a phobl ifanc, sydd i'w gweld yn ymdrin â'r cyfan yn ddigyffro. Ond gallant fod yn sensitif iawn i oedolion. Ac fel rhan o'n hymgysylltiad ar y cwricwlwm newydd, byddaf yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau teithiol, a byddaf yn edrych yn benodol ar ymgysylltu â theuluoedd—mamau, tadau a gofalwyr—ar y materion hyn. Ond rwy'n ddiolchgar am gefnogaeth yr Aelod.
Cred Cymorth i Fenywod Cymru fod angen i ysgolion gael yr adnoddau sydd eu hangen arnynt i roi cyhoeddusrwydd priodol i fanteision y cwricwlwm addysg cydberthynas a rhywioldeb newydd er mwyn sicrhau ac amddiffyn hawliau plant. Sut yr ymatebwch i Cymorth i Fenywod Cymru, sydd wedi atgyfnerthu'r angen am ymarferwr arweiniol addysg cydberthynas a rhywioldeb dynodedig a hyfforddedig i ddatblygu a chyflwyno'r cwricwlwm addysg cydberthynas a rhywioldeb ac ymgorffori addysg cydberthynas a rhywioldeb mewn dull ysgol gyfan, fel yr argymhellwyd gan y panel arbenigol i wella effaith a mynediad i blant ledled Cymru?
Mark, fel y gwyddoch, mae Llywodraeth Cymru wedi cyllido Cymorth i Fenywod Cymru i'n helpu i ddatblygu deunyddiau ac adnoddau i fynd i mewn i ysgolion. Mae adnoddau ychwanegol wedi eu darparu'n benodol i helpu i hyfforddi athrawon a gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio yn ein hysgolion i drafod y materion hyn gyda phlant a phobl ifanc.
Roeddwn yn falch iawn o dderbyn llythyr heddiw gan Gomisiynydd Plant Cymru sy'n dweud ei bod yn credu, ar ôl astudio'r cwricwlwm drafft a gyhoeddwyd ddoe, fod y cwricwlwm drafft hwnnw nid yn unig yn rhoi Cymru ar flaen y gad o ran sicrhau bod plant yn dysgu ac yn gallu arfer eu hawliau, ond mae'n ein rhoi ar flaen y gad yn rhyngwladol. Nawr, yn amlwg, mae mwy o waith i'w wneud, a bydd y comisiynydd plant yn awyddus i roi adborth, ond mae'n bleser gennyf dderbyn ei hasesiad cychwynnol o ble mae hyn yn ein rhoi ni—Cymru—yn rhyngwladol ar flaen y gad o ran hawliau plant.
5. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o rai ysgolion yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru yn cau amser cinio dydd Gwener? OAQ53782
Diolch, Joyce. Rydym yn ymwybodol fod rhai ysgolion yng ngorllewin Cymru yn gweithredu wythnos anghymesur, gyda phrynhawniau Gwener yn cael eu defnyddio ar gyfer cynllunio ac amser hyfforddi i athrawon. Yr ysgolion sydd i benderfynu sut i strwythuro'u hwythnos. Fodd bynnag, wrth wneud hynny, mae'n rhaid iddynt ymgynghori â'r rhieni cyn gwneud unrhyw newidiadau.
Mae nifer o'r ysgolion yn fy etholaeth eisoes yn cau yn gynnar ar ddydd Gwener, fel y dywedwch, i ganiatáu amser ar gyfer hyfforddi athrawon, gyda llawer ohonynt yn sôn am gynlluniau i wneud yr un peth ym mis Medi. Y pryder yw bod rhai rhieni yn meddwl tybed pa bynciau, os o gwbl, na fydd yn cael eu darparu neu eu cwtogi o ganlyniad i ddwy awr yn llai o amser addysgu.
Hefyd, mae rhai rhieni'n pryderu am yr wythnos fyrrach a'r hyn y gallai hynny ei olygu iddynt hwy o ran goruchwylio'u plant pan fyddant yn y gwaith. Tybed a ydych wedi cael unrhyw drafodaethau ynglŷn â'r materion penodol a ddygwyd i fy sylw, a phryderon y rhieni hynny, gyda'r ysgolion dan sylw.
Diolch, Joyce. Mae swyddogion wedi cysylltu â sir Benfro mewn perthynas â chynigion i gyflwyno'r wythnos anghymesur mewn rhai ysgolion a'r wythnos anghymesur sydd eisoes ar waith mewn ysgolion eraill. Gadewch i mi ddweud yn gwbl glir: yn ôl y sicrwydd a gefais gan Gyngor Sir Penfro, nid oes yn rhaid i unrhyw blentyn fynd adref ar brynhawn Gwener gan fod darpariaeth sylweddol o weithgareddau allgyrsiol a chyfleoedd i aros i gael cinio ac i gymryd rhan mewn ystod lawn o weithgareddau allgyrsiol, naill ai o natur gelfyddydol artistig neu fynegiannol, neu chwaraeon, neu o fath academaidd.
Mae'n ofynnol i bob ysgol, fel y dywedais, gynnal ymgynghoriad cymunedol os ydynt am newid i'r wythnos anghymesur. Gwn, er enghraifft, yn achos Ysgol Harri Tudur, eu bod yn parhau i adolygu'r wythnos anghymesur a ph'un a ydynt am wneud rhagor o newidiadau. Wrth gwrs, nid sir Benfro yw'r unig ardal. Mae Ysgol Gyfun Treorci, er enghraifft, yn Rhondda Cynon Taf, wedi bod yn gweithredu wythnos anghymesur ers dwy flynedd bellach, rwy'n credu.
Weinidog, a ydych yn cytuno â mi ei bod yn bwysig iawn fod unrhyw benderfyniad i newid i wythnos anghymesur yn seiliedig ar ba mor dda yw hynny i'r plant yn hytrach na pha mor gyfleus ydyw i oedolion, boed yn athrawon sy'n eu haddysgu neu'r rhieni sy'n gofalu amdanynt? Yn yr ymgynghoriad y disgwyliwch i ysgolion ei gynnal, a allwch gadarnhau mai un o'r materion dan sylw i ysgolion gwledig fyddai mater cludiant ysgol a phlant heb unrhyw ffordd o fynd i neu o'r ysgol heblaw ar fysiau ysgol, a'r cymhlethdodau y gall hyn eu cyflwyno i fywyd teuluol? Mae sefyllfa plant mewn ysgolion gwledig iawn, wrth gwrs, yn wahanol, o bosibl, o ran wythnos anghymesur, os nad yw'r plant yn yr ysgol, i'r hyn y byddai mewn ardal fwy trefol lle ceir mwy o opsiynau trafnidiaeth.
Buaswn yn cytuno'n llwyr fod yn rhaid i bob ysgol sy'n gwneud y penderfyniadau hyn ystyried y cyd-destun y maent yn darparu addysg ynddo, ac mae hwnnw'n amrywio o un gymuned i'r llall, heb sôn am rhwng ardaloedd awdurdodau lleol. Yr hyn sy'n wirioneddol ddiddorol yn y gwaith a wnaed gan y Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru yw mai un o fanteision yr wythnos anghymesur yn ôl eu canfyddiadau o'r adroddiad oedd eu bod, mewn gwirionedd, wedi nodi gwelliannau o ran lles disgyblion, gan gynnwys y gallu i gymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol, na fyddent wedi'i wneud fel arall, y gallu i dreulio mwy o amser gyda'u teuluoedd, y gallu i dreulio ychydig mwy o amser yn ymlacio, yn hytrach na bod—rydym yn aml yn clywed gan rieni ynglŷn â'r pwysau cyson y mae plant yn ei deimlo yn ein sefydliadau academaidd—ac mewn gwirionedd, mae'n caniatáu i blant allu mynd i apwyntiadau personol a fyddai'n golygu, fel arall, eu bod yn colli'r diwrnod ysgol. Felly, mae gwaith y Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru wedi nodi rhai manteision, ond mae anfanteision mewn perthynas â thrafnidiaeth, yn enwedig mewn ardal wledig, hefyd yn rhywbeth a nodwyd ganddynt. Nid oes gan Lywodraeth Cymru bolisi datganedig ar yr wythnos anghymesur yn yr ystyr mai mater i ysgolion unigol yw barnu beth sydd orau i'w disgyblion. Ac mae'r Aelod yn gwbl gywir; dylid sicrhau bod unrhyw newidiadau i'r hyn a ystyrir yn ddiwrnod ysgol traddodiadol o'r budd gorau i'w disgyblion.
6. Beth y mae'r Gweinidog yn ei wneud i sicrhau bod ysgolion yn cael eu hariannu'n ddigonol? OAQ53785
Diolch yn fawr iawn, Leanne. Rwyf wedi cymryd camau i gefnogi cyllidebau i awdurdodau lleol er mwyn diogelu gwasanaethau rheng flaen mewn ysgolion. Mae cyllid addysg yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol i mi ac i'r Llywodraeth hon, er gwaethaf y cyni parhaus.
Wrth siarad â phenaethiaid yn y Rhondda, ymddengys bod eu swydd yn ymwneud i'r un graddau â chyfrifyddu clyfar ag y mae â darparu cyfeiriad, arweinyddiaeth ac ysgogiad i staff. Yn yr awdurdod lleol sy'n gyfrifol am y Rhondda, mae gan rai ysgolion uwchradd fwy na £0.5 miliwn o ddyled. Ceir pwysau i fantoli'r llyfrau, ond mae gwasanaethau eisoes wedi'u torri i'r asgwrn, felly yr unig ffordd o wneud y toriadau pellach hynny yw drwy ddiswyddo nifer fawr o staff, sy'n anghynaladwy. Bydd hyn, wrth gwrs, yn niweidio addysg ein plant, a dylai eu haddysg fod yn brif flaenoriaeth inni.
Rwyf wedi codi'r materion ynghylch y £0.5 biliwn, bron â bod—bron un rhan o bump o'r holl wariant a ddyrennir i ysgolion—o'r gyllideb addysg a gedwir yn ôl rhag y rheng flaen gan gonsortia neu awdurdodau lleol yn ôl undebau'r athrawon. Nawr, gwn eich bod yn anghytuno â'r ffigur hwnnw. Felly, pa gyngor a chefnogaeth y gallwch ei roi i'n harweinwyr mewn addysg sy'n wynebu penderfyniadau ariannol anodd iawn yn y dyfodol agos oni bai eich bod yn gwneud rhai newidiadau?
Diolch, Leanne. Nid wyf yn amau am funud yr heriau sylweddol y mae llawer o benaethiaid yn eu hwynebu mewn perthynas â chyllidebau ysgolion. Mae'n bwysig cydnabod mai awdurdodau addysg lleol unigol sy'n gyfrifol am ariannu ysgolion o ddydd i ddydd. Fel chi, rwy'n rhannu'r uchelgais i sicrhau bod cymaint o arian â phosibl yn cyrraedd y rheng flaen, a dyna, er enghraifft, pam y gwnaethom y penderfyniad i sicrhau bod y £21 miliwn ar gyfer datblygiad proffesiynol yn cael ei basbortio'n syth i benaethiaid unigol.
Beth bynnag yw'r ffigur, mae'n destun cryn bryder i mi fod unrhyw arian a ddylai fod yn y gyllideb ysgolion yn cael ei gadw yn amhriodol, naill ai ar lefel AALl neu ar lefel consortia, neu yn wir, fod arian yn cael ei ddyblygu o AALlau a chonsortia. Wedi'r cyfan, caiff y consortia eu rhedeg gan eu rhannau cyfansoddol, a byddai'n rhyfedd iawn pe bai awdurdod lleol yn caniatáu i gonsortiwm rhanbarthol y mae'n ei redeg ddyblygu gwariant pan fo'r cyllidebau hynny'n dynn, fel y nodoch chi'n gwbl gywir.
Rwy'n gwneud gwaith yn ganolog yn y Llywodraeth i sicrhau bod y grantiau uniongyrchol a reolir gennym yn cael eu defnyddio'n briodol a bod yr arian hwnnw'n cyrraedd y rheng flaen. Ond o ran y gwaith a wneir gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, fel y gwyddoch rwy'n siŵr, ni cheir consensws ynglŷn ag a yw newid i system o ariannu ysgolion yn uniongyrchol, gan osgoi'r AALl a'r consortia rhanbarthol, yn bolisi y ceir consensws y tu ôl iddo. Yn wir, mae eich llefarydd addysg eich hun yn teimlo'n gryf iawn na ddylai hynny ddigwydd.
Fel y dywedasoch, Weinidog, mae angen inni sicrhau bod cyllid yn cyrraedd y rheng flaen. A bod yn deg, mae rhaglenni fel ysgolion yr unfed ganrif ar hugain wedi darparu cyllid mawr ei angen i awdurdodau lleol allu gwella adeiladau ysgolion ac agweddau eraill ar fywyd ysgol, ond wrth gwrs, nid yw hynny'n helpu sefyllfa refeniw ysgolion presennol, yn enwedig pan nad ydynt bob amser yn ticio'r blychau cywir o ran y fformiwla ariannu. Er enghraifft, fel rwyf wedi'i godi gyda chi eisoes, yn ardal awdurdod lleol sir Fynwy, mae ysgolion yn draddodiadol wedi derbyn llai o gyllid oherwydd bod ganddynt lai o blant yn cael prydau ysgol am ddim. Nawr, gallaf ddeall y rheswm dros yr agwedd honno ar y fformiwla, ond golyga hynny fod ysgolion sir Fynwy wedi cael llai o arian dros amser er bod plant o gefndiroedd difreintiedig yn mynychu'r ysgolion hynny wrth gwrs. Felly, fy nghwestiwn i chi yw: sut y sicrhewch fod y fformiwla ariannu'n gweithio yn gyffredinol ac yn ariannu awdurdodau lleol ac ysgolion mewn gwahanol rannau o Gymru yn deg fel bod ein plant yn cael y dechrau gorau mewn bywyd?
Fel y gŵyr yr Aelod yn iawn, mater i bob awdurdod lleol unigol yw'r penderfyniad ynglŷn â chyllid i ysgolion unigol. O ran y fformiwla ariannu, credaf fod yr Aelod yn cyfeirio at y fformiwla ariannu ar gyfer llywodraeth leol yn gyffredinol. Fe fyddwch yn ymwybodol fod grŵp adolygu fformiwla ariannu yn edrych yn rheolaidd ar wahanol agweddau ar gynllun y grant cynnal refeniw. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, yn sicr, y llynedd, roedd cynrychiolydd o gyngor sir Fynwy ar y grŵp hwnnw a chanddynt y gallu i ddylanwadu ar y data a'r fformiwla wrth iddi gael ei rhoi ar waith. Mae'r Gweinidog llywodraeth leol a minnau wedi dweud ein bod yn fwy na pharod i ymgysylltu ag Aelodau unigol a allai fod ag awgrymiadau ynglŷn â sut y mae'r fformiwla'n gweithredu, ond mae'n rhaid i mi ddweud wrth yr Aelod, pan roddwyd cyfle yn gynharach y llynedd i newid materion yn ymwneud â'r asesiad yn seiliedig ar ddangosyddion ar gyfer addysg, penderfynodd y cynrychiolwyr llywodraeth leol eu hunain beidio â bwrw ymlaen â'r newid hwnnw.
7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gadw myfyrwyr yng Ngogledd Cymru ar ôl cwblhau addysg bellach? OAQ53774
Diolch, Mandy. Mae colegau addysg bellach ledled Cymru yn gwneud gwaith rhagorol ar gynllunio eu cwricwlwm i adlewyrchu anghenion cyflogwyr, ac ar baratoi myfyrwyr ar bob lefel i gamu ymlaen i ddysgu pellach a chyflogaeth sy'n adlewyrchu eu sgiliau a'u dyheadau personol.
Diolch am eich ateb. Weinidog, rwyf wedi darllen mai ein pobl ifanc yng Nghymru yw'r mwyaf tebygol o bob un o wledydd y DU o wneud cais i astudio y tu allan i'w gwlad eu hunain. Mae oddeutu 40 y cant yn mynd i Loegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon. Pan fydd pobl ifanc yn mynd oddi yma i astudio, gwyddom efallai na fyddant byth yn dychwelyd, ac mae hyn yn effeithio'n negyddol iawn ar rannau o fy rhanbarth. Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn ceisio cymell pobl ifanc i astudio yma?
Rwyf wedi dweud yn glir iawn nad wyf am roi unrhyw gyfyngiadau ar ddyheadau pobl ifanc Cymru i astudio mewn sefydliadau naill ai yn eu gwlad eu hunain neu yng ngweddill y Deyrnas Unedig, neu yn wir, yn rhyngwladol. Wrth gwrs, yr hyn sydd angen inni ei wneud yng Nghymru yw sicrhau bod ansawdd ein cynnig yn gryf, a chredaf ei fod, ond yn ail, mae angen inni edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud i berswadio pobl sy'n astudio dramor neu mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig i ddod adref i Gymru, yn union fel y gwneuthum innau a llawer o bobl eraill yn y Siambr hon. Un o'r ffyrdd y byddwn yn gwneud hynny fydd cymhellion ariannol ychwanegol i fyfyrwyr sy'n dychwelyd i Gymru i ymgymryd â'u hastudiaethau ôl-raddedig mewn pynciau craidd a fydd o fudd i'r economi. Bydd ganddynt hawl i gymorth ychwanegol ar gyfer eu hastudiaethau os byddant yn eu cyflawni yma yng Nghymru ac os byddant yn eu cyflawni mewn pwnc sy'n arbennig o berthnasol i anghenion economi Cymru.
Rwy'n edrych i weld pwy sydd nesaf. Gwn fod rhywun nesaf. A chi yw hwnnw, Mr Griffiths. Cwestiwn 8, John Griffiths.
8. Pa gamau pellach y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod y system addysg yn darparu'r sgiliau sy'n ofynnol i gefnogi economi Cymru? OAQ53761
Diolch byth fod y Llywydd wedi dod o hyd i chi, John; mae'n gwestiwn ardderchog. Rydym yn gweithio i gyflwyno cwricwlwm newydd i bob dysgwr erbyn 2022. Bydd yn gwricwlwm a arweinir gan ddibenion, felly erbyn y byddant yn 16 oed, dylent fod yn unigolion galluog, hyderus, moesegol sy'n chwarae rhan weithredol yn eu cymuned a'u cymdeithas, ac yn barod i ffynnu ym myd gwaith.
Diolch, Weinidog. Tybed a ydych yn gyfarwydd â chynnig diweddar ar gyfer sefydliad technoleg cenedlaethol, a ddaeth gan rwydwaith economaidd Casnewydd. Mae'n ymwneud ag edrych ar sut y darparwn y math hwn o addysg gymhwysol ar gyfer sgiliau technegol, digidol ac entrepreneuraidd o'r radd flaenaf, wrth ymateb i'r pedwerydd chwyldro diwydiannol. Mae llawer iawn o waith y tu ôl iddo, Weinidog, ac mae'n ymwneud ag ymarferoldeb bwrw ymlaen â hynny gyda sefydliadau a darparwyr presennol yn hytrach na chreu rhywbeth newydd iawn yn yr ystyr hwnnw. Gallaf weld eich bod yn gyfarwydd ag ef, a hoffwn yn fawr glywed eich barn.
Wel, John, rydych chi'n iawn, rwy'n gyfarwydd ag ef ac mae swyddogion wedi cyfarfod â chynrychiolwyr o Gyngor Dinas Casnewydd a rhwydwaith economaidd Casnewydd i drafod cynnwys yr adroddiad a'r weledigaeth gyffrous a gyflwynir ganddo. Mae cyfarfodydd wedi'u cynllunio gyda darparwyr presennol a rhanddeiliaid eraill i ystyried y cynnig a beth allai'r camau nesaf fod er mwyn ei ddatblygu ymhellach.
Diolch i'r Gweinidog.
Y cwestiynau nesaf, felly, yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Alun Davies.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fynediad at feddygon teulu ym Mlaenau Gwent? OAQ53765
Gwnaf. Diolch am y cwestiwn. Rydym am weld gwasanaethau meddygon teulu cynaliadwy a hygyrch ledled Cymru, gan gynnwys, wrth gwrs, ym Mlaenau Gwent. Mae practisau meddygon teulu yn defnyddio elfennau o'r model gofal sylfaenol newydd i wella'r ffordd y maent yn darparu gwasanaethau gyda chleifion, ac ar eu cyfer.
Weinidog, roedd yn bleser eich croesawu i Flaenau Gwent rai misoedd yn ôl, lle buom yn trafod mynediad at wasanaethau meddygon teulu ledled y fwrdeistref. Fe fyddwch yn ymwybodol hefyd fod Llywodraeth Cymru wedi helpu i fuddsoddi mewn canolfan les newydd ym Mryn-mawr. Credaf fod bron i £4 miliwn wedi'i fuddsoddi i wella'r cyfleusterau sydd ar gael i bobl Bryn-mawr a rhan uchaf dyffryn Ebwy Fach, ond ers agor y ganolfan newydd, mae cannoedd o bobl, yn llythrennol, wedi cysylltu â mi i sôn am ba mor anodd yw cael mynediad at y gwasanaethau yn y ganolfan les. Rwy'n siŵr eich bod yn rhannu rhwystredigaeth pobl Bryn-mawr a minnau a mannau eraill ein bod yn buddsoddi mewn cyfleusterau newydd gwych i wella'r seilwaith gofal iechyd ym Mryn-mawr a bod pobl wedyn yn ei chael yn anodd cael mynediad at wasanaethau yn y cyfleusterau hynny. Beth a ddywedwch wrth y bobl sy'n gweld y cyfleuster newydd gwych hwn ond sy'n rhwystredig iawn am na allant gael apwyntiad i weld meddyg teulu neu weithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill?
Wel, buaswn yn dweud ein bod yn cydnabod bod mynediad yn un o'r blaenoriaethau allweddol i'r cyhoedd o ran y gwasanaeth iechyd gwladol a gwasanaethau iechyd lleol yn arbennig. Dyma'r mater sy'n peri'r pryder mwyaf yn Arolwg Cenedlaethol Cymru ac mae wedi tyfu fel problem. Dyna pam ein bod yn benderfynol o wneud cynnydd ar wella mynediad. Mae'r buddsoddiadau a wnawn mewn cyfleusterau wedi'u cynllunio i wneud hynny, ond mae angen newidiadau o ran ymarfer. Ac ym mhob man y gwneir trefniadau mynediad newydd, yn enwedig mewn perthynas â threfniadau brysbennu, boed hynny gan staff anghlinigol, o dan arweiniad nyrs neu o dan arweiniad meddyg teulu, mae rhwystr i'w oresgyn bron bob amser o ran ymdopi â ffordd newydd o weithio i staff, ond hefyd o ran gallu'r cyhoedd i gael mynediad at y gwasanaeth hwnnw.
Lle caiff y trefniadau newydd hynny eu cyflwyno, rwy'n disgwyl bod pobl yn hysbysu'r cyhoedd ynglŷn â'r newidiadau ymlaen llaw ac yna'n gwrando ar yr hyn y mae'r cyhoedd yn ei ddweud ynglŷn â sut y maent yn defnyddio'r gwasanaethau hynny, gan fy mod yn disgwyl i bawb allu cael mynediad at y clinigwyr cywir yn y lle iawn ac ar yr amser iawn. Ac os nad ydych wedi cael ymateb boddhaol gan reolwr y practis yn y ganolfan newydd, buaswn yn fwy na pharod i eistedd yno gyda chi i drafod yr hyn y gallwn ei wneud i geisio sicrhau'r gwelliannau rydym yn amlwg am eu gweld ar gyfer trigolion Blaenau Gwent a Bryn-mawr.
Cefais gadarnhad gan fwrdd iechyd Aneurin Bevan heddiw, mai 34 yn unig o'u 398 o feddygon teulu sydd ym Mlaenau Gwent, sef 8.5 y cant o'r cyfanswm o gymharu, efallai, â'r oddeutu 12 y cant y byddem yn ei ddisgwyl yn ôl poblogaeth. Un ffordd y maent yn ceisio mynd i'r afael â hyn yw drwy'r meddygon teulu a gyflogir yn uniongyrchol, ac roeddwn yn falch o glywed bod y mwyafrif ohonynt, mewn gwirionedd, ym Mlaenau Gwent, ond roeddwn yn llai hapus o glywed bod hynny'n golygu pedwar yn unig o'r saith meddyg cyfwerth ag amser llawn.
A yw'r Gweinidog yn credu y gellid ehangu'n sylweddol nifer y meddygon teulu a reolir, ac a gyflogir yn uniongyrchol gan y byrddau iechyd, er mwyn mynd i'r afael, yn rhannol o leiaf, â'r prinder a'r anhawster i gael mynediad at feddygon teulu ym Mlaenau Gwent?
Wel, caf fy holi'n rheolaidd ynglŷn â'r pwnc hwn yn y Siambr hon, ynglŷn ag a oes agenda gan Lywodraeth Cymru i gael gwared ar y model partneriaeth mewn ymarfer meddygol, ac nid dyna yw ein bwriad o gwbl. Caiff y mwyafrif helaeth o ymarfer meddygol ei ddarparu drwy'r model partneriaeth, model y contractwr annibynnol, ac mae'r practisau a reolir yno i geisio helpu tuag at ddarparu modelau gofal newydd neu i reoli cyfnod pontio, lle mae angen i ni sicrhau, yn draddodiadol, pan fo meddygon teulu yn ymddeol, fod y gwasanaeth yn parhau, ac mae'n wir nad oes unrhyw unigolyn yng Nghymru wedi'i adael heb feddyg teulu.
Felly, credaf fod practisau a reolir yn rhan o'r ateb yn y dyfodol, ond ni fyddant yn cymryd lle model y contractwr annibynnol. Ac mae hynny'n ymwneud â'r sgwrs gyda meddygon teulu lleol, ac mae ein model clwstwr wedi helpu i hyrwyddo gweithio gwell rhwng practisau, a chredaf y byddwn yn parhau i weld mwy o gyfuno a ffederasiynau rhwng practisau a ffordd newydd o gyflogi meddygon teulu, ond rwy'n dal i gredu mai model y contractwr annibynnol fydd y sylfaen ar gyfer ymarfer meddygol yma yng Nghymru am beth amser eto.
2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am raglenni sgrinio ar gyfer canser yng Nghymru? OAQ53783
Diolch am eich cwestiwn. Mae sgrinio'r boblogaeth yn flaenoriaeth iechyd y cyhoedd. Gwyddom fod rhaglenni sgrinio ar gyfer canser yn achub bywydau. Iechyd Cyhoeddus Cymru sy'n gyfrifol am ddarparu'r rhaglenni sgrinio ar gyfer canser yng Nghymru ac maent yn goruchwylio gwelliannau sylweddol gyda'r bwriad o gynyddu'r nifer sy'n manteisio arnynt, ac atal mwy o ganserau wrth gwrs.
Diolch, Weinidog. Yn gynharach eleni, daeth staff fy swyddfa a minnau yn hyrwyddwyr sgrinio ar gyfer canser ar ôl cwblhau sesiwn hyfforddi o dan arweiniad Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ac Iechyd Cyhoeddus Cymru. Rwyf hefyd yn falch o fod yn hyrwyddwr canser y coluddyn cyntaf y Cynulliad, ac rwy'n falch iawn fod wyth o fy nghyd-Aelodau wedi cytuno i wneud hynny wedyn. Yn anffodus, gan Gasnewydd y mae un o'r cyfraddau isaf yng Nghymru o ran y nifer sy'n cael eu sgrinio ar gyfer canser. Yn genedlaethol ledled Cymru, 55 y cant yn unig a fanteisiodd ar ddarpariaeth sgrinio'r coluddyn y llynedd. Mae'n hanfodol ein bod yn cynyddu nifer y bobl sy'n manteisio ar y rhaglenni sgrinio rhad ac am ddim hyn a allai achub bywydau.
Mae'r prawf imiwnocemegol ysgarthol newydd ar gyfer sgrinio'r coluddyn, sy'n symlach ac yn fwy sensitif, wedi bod ar gael yng Nghymru ers mis Ionawr. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i roi cyhoeddusrwydd i'r prawf newydd hwn ac i annog y rheini sy'n gymwys i gymryd rhan ym mhob rhaglen sgrinio?
Diolch am eich cwestiwn. Rydych yn gywir i ddweud ein bod wedi dechrau cyflwyno'r prawf newydd, sy'n fwy sensitif, ac yn bwysicach, yn haws i'w gynnal ers mis Ionawr eleni. Bydd yn cael ei weithredu'n llawn ledled Cymru erbyn mis Mehefin eleni. A dweud y gwir, pan fydd pobl yn derbyn eu gwahoddiad i wneud y prawf, mae hynny'n rhan o'r cysylltiad uniongyrchol â phobl, ac mae hefyd yn rhan o'n neges ehangach ynghylch y ffaith bod sgrinio yn achub bywydau. Mae'n bwysig ei gyflwyno mewn ffordd lle nad ydym yn creu mwy o alw nag y gall ein system ymdopi ag ef. Dyna pam ein bod wedi dewis dull graddol, a chael mwy o sensitifrwydd yn y prawf er mwyn sicrhau bod gennym y nifer gywir o bobl i ddarparu triniaeth wedi hynny. Felly, ar bob cam, byddwn yn parhau i adolygu'r ffigurau ar y nifer sy'n manteisio ar y profion ac effaith hynny ar y gwasanaeth. Gallwch ddisgwyl clywed yr anogaeth honno yn rheolaidd, neges syml gan y Llywodraeth ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i ddefnyddio'r prawf, i fanteisio arno, gan y bydd cymryd rhan yn y broses sgrinio honno yn achub bywydau.
Weinidog, mae'n amlwg bod sgrinio ar gyfer canser y coluddyn yn faes pwysig. Mae'r prawf imiwnocemegol ysgarthol yn seiliedig ar sensitifrwydd, ac mewn gwirionedd, bydd lefel y sensitifrwydd yn hanfodol yn hynny o beth, ond hefyd yr oedran, o bosibl, oherwydd ar hyn o bryd, 60 yw'r oedran hwnnw ond gallai ostwng i 50, ond ceir profion ceg y groth hefyd. Felly, ceir amrywiaeth o brofion sy'n lleihau o ran y nifer sy'n eu cael, yn y bôn. Pa drafodaethau rydych yn eu cael gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru i sicrhau ein bod yn hyrwyddo'r profion hyn, fel bod mwy o bobl yn eu cael, oherwydd, fel y dywedwch, rydych yn eu cael yn gynnar a gallwn atal pobl rhag cael canser gan y gallwn weld pethau'n gynharach neu gallwn eu trin yn gynharach, sy'n golygu diagnosis cynharach a chanlyniadau gwell?
Rydych yn iawn, ac wrth gwrs, mae'n achos pryder fod dirywiad araf wedi bod, nid yn unig yng Nghymru ond ledled y DU, o ran nifer y bobl sy'n manteisio ar y profion ceg y groth a gynigir. Mae hynny'n ymwneud yn rhannol ag edrych i weld a fydd newid yn y prawf, ac mae rhywfaint o ymchwil yn mynd rhagddo ar hunan-sgrinio. Bydd cynllun peilot yn dechrau ym mis Medi eleni yn Llundain, felly bydd diddordeb gennyf yn y canlyniadau, a fydd yn cael eu rhannu ledled y DU. Ond mae a wnelo hyn ag atgyfnerthu'r neges a deall pa grwpiau penodol y mae angen inni eu targedu, gan mai menywod iau yw'r lleiaf tebygol o fanteisio ar y profion sydd ar gael. Felly, fe fyddwch wedi gweld yr ymgyrch #loveyourcervix a gychwynnwyd gennym ym mis Mawrth. Roeddem am weld rhywbeth a oedd yn fwy cadarnhaol am y corff, fel na fyddai pobl yn teimlo embaras ynglŷn â mynychu, ac adnabod yr un neges, unwaith eto, gyda sgrinio'r coluddyn. Mae'r profion wedi'u cynllunio i helpu i achub bywydau ac mae peidio â chymryd y prawf yn golygu bod risg anhysbys i'r unigolyn dan sylw ac yn fwy cyffredinol. Felly, rwy'n fwy na pharod i ailadrodd y neges fy mod am i bawb sy'n cael cynnig prawf sgrinio yng Nghymru fanteisio ar y cyfle i wneud hynny er eu mwyn hwy a'u teuluoedd.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Helen Mary Jones.
Diolch yn fawr, Lywydd. Diolch. Y llynedd, diswyddwyd 76 o feddygon gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol a diswyddwyd 257 o unigolion gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth gan yr ystyrid nad oeddent bellach yn addas i ymarfer yn y gwasanaeth iechyd ar draws y DU. Rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn cytuno â mi ei bod yn iawn fod gweithwyr proffesiynol yn y gwasanaeth iechyd yn atebol am gamymddwyn a chamymddygiad difrifol. A yw'r Gweinidog yn credu y dylid gwneud rheolwyr yn y gwasanaeth iechyd yn atebol hefyd, ac os felly, a all ddweud wrth y Siambr hon faint o uwch reolwyr neu aelodau byrddau yn y GIG yng Nghymru sydd wedi colli eu swyddi o ganlyniad i fethiannau yn y gwasanaeth neu gamreoli ers 2016?
Wel, wrth gwrs, mae'r Aelod yn ymwybodol nad yw nifer y staff sydd wedi gadael y gwasanaeth iechyd o swyddi rheoli ers 2016 gennyf wrth law. Mae'n werth cofio, fel y dywedais ddoe pan wnaed pwynt tebyg, fod nifer o reolwyr ac arweinwyr gwasanaethau yn y gwasanaeth iechyd yn glinigwyr cofrestredig hefyd wrth gwrs a bod ganddynt ddyletswyddau proffesiynol yn ogystal. Felly, byddai angen i chi edrych ar y bobl sydd â chyfrifoldebau proffesiynol yn ogystal â'u cyfrifoldebau fel rheolwyr. Mae hyn yn ymwneud â'r pwynt ehangach am arweinyddiaeth, llywodraethu ac atebolrwydd ym mhob un o'r sefydliadau GIG hynny.
Rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn deall, ar ôl datganiad ddoe, fod materion sy'n ymwneud ag arweinyddiaeth ac atebolrwydd yn peri cryn bryder i'r Aelodau yn y Siambr hon. A all y Gweinidog esbonio wrthym pam ei fod wedi cadw bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr mewn mesurau arbennig ers tua phedair blynedd a pham, yn ôl pob golwg, nad ydym wedi gweld unrhyw newid ar ôl yr ymyrraeth hirfaith hon? A all ddweud pam, os dychwelwn at sefyllfa Cwm Taf, fod wyth adroddiad wedi bod dros chwe blynedd heb i unrhyw un o'r adroddiadau hynny sbarduno'r newid oedd ei angen yn amlwg, a bod mamau a babanod wedi parhau i gael cam a rhai ohonynt wedi'u niweidio'n ddifrifol? A all y Gweinidog esbonio i'r Siambr hon pam y dylai teuluoedd yn ardal Cwm Taf ymddiried ynddo ef, ei swyddogion a'r mesurau y maent wedi'u rhoi ar waith i roi trefn ar y system yng Nghwm Taf, o gofio ei fod wedi methu ymateb i unrhyw un o'r wyth adroddiad dros y chwe blynedd ar ôl i'r pryderon cyntaf gael eu mynegi, ac o gofio hefyd nad yw'r problemau yn Betsi Cadwaladr yn agos at gael eu datrys ar ôl pedair blynedd?
Credaf fod tri chwestiwn penodol yn y fan honno, Lywydd, ac mae'r cyntaf yn ymwneud â—[Torri ar draws.] Mae'r cyntaf yn ymwneud â mesurau arbennig yng ngogledd Cymru, ac wrth gwrs, mae'n ffeithiol anghywir dweud nad oes unrhyw gynnydd wedi bod. Er enghraifft, un o'r prif faterion a olygodd fod Betsi Cadwaladr wedi'u rhoi mewn mesurau arbennig oedd heriau yn eu gwasanaethau mamolaeth, ac maent wedi dod allan o fesurau arbennig oherwydd eu bod wedi gwneud gwelliannau real a pharhaus, am fod y camau a gymerwyd gennym, gan gynnwys arweinyddiaeth newydd o fewn y gwasanaeth bydwreigiaeth a newid diwylliant ar draws y gwasanaeth cyfan, wedi gwneud gwahaniaeth. Mae hefyd yn wir, er enghraifft, fod y gwasanaeth y tu allan i oriau yng ngogledd Cymru wedi dod allan o fesurau arbennig fel testun pryder. Ceir pryderon o hyd, a dyna pam fod y bwrdd iechyd hwnnw'n parhau i fod yn destun mesurau arbennig, oherwydd rwy'n benderfynol o sicrhau y ceir cynnydd gwirioneddol yn hytrach na bod yn ddyfais artiffisial i wleidydd ei defnyddio.
O ran Cwm Taf, fel yr eglurwyd yn glir ddoe yn y datganiad ac wrth ateb cwestiynau amdano, nid oedd difrifoldeb a dyfnder y pryderon yn amlwg o'r adroddiadau blaenorol hynny, a dyna pam na chymerwyd camau hyd nes i mi gomisiynu adolygiad ar y cyd gan y colegau brenhinol ym mis Hydref y llynedd. Mae rhan o'r pryder yn ymwneud â pham nad arweiniodd ffactorau eraill, yn enwedig arwyddion o bryderon a chwynion eraill, at newid diwylliant ac ymarfer o fewn y bwrdd iechyd ar y pryd. Dyna pam y cymerais y camau a amlinellais yn fanwl ddoe yn ysgrifenedig ac yn y datganiad llafar.
Ac o ran yr hyder a ddylai fod gan y cyhoedd a'r staff, rhan allweddol o hynny yw'r gwaith y bydd nid yn unig ein rheoleiddwyr annibynnol yn ei wneud, ond y grŵp goruchwylio annibynnol rwyf wedi'i benodi, gyda chlinigwyr annibynnol, i oruchwylio'r 43 digwyddiad difrifol ac i edrych yn ôl hyd at 2010. Byddaf yn cyfarfod yn uniongyrchol â theuluoedd dros y pythefnos nesaf, yn ogystal â staff, i glywed yn uniongyrchol ganddynt, ynghyd â Mick Giannasi, ynglŷn â'u pryderon ac i ddeall sut y gallwn helpu i ail-feithrin hyder yn y gwasanaeth gan fod yn rhaid iddo wella, ac yn sicr, mae angen iddo newid yn sylweddol.
Wel, rwy'n siŵr, Lywydd, y bydd y Siambr hon braidd yn bryderus nad oedd y Gweinidog a'i swyddogion, ar ôl wyth adroddiad dros chwe blynedd, wedi sylwi ar ddifrifoldeb y sefyllfa hon. Clywsom dystiolaethau unigol yn y Siambr hon a awgrymai fod y pryderon hynny, mewn gwirionedd, yn dyddio'n ôl ymhellach o lawer na'r adroddiad cyntaf y cyfeiriaf ato yn 2012. Rwy'n bryderus dros ben, Lywydd, fod hyn yn awgrymu bod gennym Weinidog nad oes ganddo afael ar y system. Wyth adroddiad dros chwe blynedd, ac ni wnaed unrhyw beth nes i chi alw am yr adroddiad flynyddoedd yn ôl.
Rwy'n ceisio osgoi cyffrogarwch yn y Siambr, ond yn ystod y blynyddoedd hynny, bu farw plant, cafodd mamau eu trawmateiddio a chafodd teuluoedd eu trawmateiddio. Mae'n rhaid i mi ofyn i'r Gweinidog pam y credwch y dylem fod yn dawel ein meddyliau bellach y bydd ef a'i swyddogion yn gallu bwrw iddi'n effeithiol ar y materion hyn ar ôl methu gwneud hynny dros y cyfnod hwnnw o flynyddoedd.
Tybed a yw'r Gweinidog yn cytuno ag Owen Smith AS sy'n dweud yn y Western Mail heddiw nad yw Llywodraeth Cymru yn rhydd o fai am y methiannau yng Nghwm Taf. Tybed a yw'r Gweinidog yn deall bod llawer o bobl yn pryderu ynglŷn â'r hyn sy'n ymddangos yn ymateb hunanfodlon ganddo. Cefais fy syfrdanu, er enghraifft, wrth ei glywed ddoe yn gwrthod goblygiadau'r ddeddf gofal gwrthgyfartal—y ffaith bod y cymunedau a wasanaethwyd mor wael yn rhai mor dlawd. Cefais fy syfrdanu wrth ei glywed yn gwrthod hynny. Awgryma hynny i mi nad yw'n deall y cymunedau hynny'n dda iawn. Cefais fy syfrdanu hefyd—ac nid wyf yn cael fy syfrdanu'n hawdd—wrth glywed y Gweinidog yn dweud, pan ofynnodd ITV iddo ddoe ai ei gyfrifoldeb ef oedd hyn yn y pen draw, ymateb y Gweinidog oedd ei fod yn gyfrifoldeb i bawb yn y pen draw. Wel, mae arnaf ofn fod yn rhaid imi ddweud wrth y Siambr hon, Lywydd, nad yw'n gyfrifoldeb i bawb—cyfrifoldeb y Gweinidog ydyw. Ac rwy'n mynd i ofyn iddo, unwaith eto, i ystyried ei sefyllfa, ac os na all ystyried ei sefyllfa, gofynnaf iddo egluro beth arall, pa sefyllfa fwy difrifol a fyddai'n digwydd yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, beth arall sy'n mynd i orfod mynd o'i le cyn iddo fod yn barod i dderbyn cyfrifoldeb personol?
Dychwelaf at yr ystod o bwyntiau—credaf fod pum pwynt gwahanol wedi'u gwneud y tro hwnnw, Lywydd. O ran yr wyth adroddiad y cyfeiria'r Aelod atynt, nid oes unrhyw un ohonynt yn cyfeirio at ddyfnder yr her a ddatgelwyd yn ystod yr hydref y llynedd, a arweiniodd at gomisiynu adroddiad ar y cyd gan y colegau brenhinol. Roedd hwnnw'n benderfyniad a wneuthum oherwydd y pryder a ddatgelwyd yn briodol bryd hynny. Ac mae'n ffaith syml, wrth gwrs, nad oeddwn wedi bod yn y swydd hon am y cyfnod cyfan o chwe blynedd y cyfeiriwch ato. Rwyf wedi gweithredu ers i mi fod yn y swydd yn unol â'r holl wybodaeth sydd wedi bod ar gael i mi. Ac mae deall sut a pham na nodwyd pryderon a pham na weithredwyd yn eu cylch yn gynharach yn rhan o'r her. Dyna pam fod yr annibyniaeth yn y trefniadau goruchwylio yn y broses adolygu yn gwbl hanfodol, er mwyn ailadeiladu'r ymddiriedaeth a'r hyder y bydd y staff a'r cyhoedd yn eu disgwyl.
Yn sicr, nid wyf wedi diystyru'r ddeddf gofal gwrthgyfartal. Rwyf wedi dweud yn glir fy mod yn disgwyl i bob unigolyn, pob teulu, pob cymuned, yng Nghymru gael eu trin yn briodol gan ein gwasanaeth iechyd gwladol, gydag urddas a pharch, i'w lleisiau gael eu clywed. Mae'n rhan o'r hyn sydd wedi peri cryn ofid i mi mewn perthynas â gwasanaethau mamolaeth Cwm Taf. Yn amlwg, ni ddigwyddodd hynny i amryw o deuluoedd sydd wedi siarad am eu profiadau. Felly, o ran y camau rydym wedi'u cymryd yn fwy cyffredinol mewn perthynas â'r ddeddf gofal gwrthgyfartal, mae gennym raglenni penodol ar waith yn Aneurin Bevan, ynghyd â Chwm Taf. Felly, mae hyn yn rhywbeth rydym yn cymryd camau rhagweithiol arno'n fwriadol yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru.
Nawr, pan ddywedaf, 'Pwy sy'n rhannu'r cyfrifoldeb?', mae pawb yn y gwasanaeth iechyd hwn yn rhannu'r cyfrifoldeb am y ffordd y mae'r gwasanaeth iechyd cyfan yn gweithio. Ond yn y pen draw, fi yw'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a fi sydd â'r cyfrifoldeb cyffredinol am yr hyn sy'n digwydd. Ac rwy'n bell o fod yn hunanfodlon ynglŷn â fy nghyfrifoldebau, nid yn unig yn yr ystyr o berfformiad cyffredinol y gwasanaeth, nid yn unig yr heriau, ond y daioni y mae'r gwasanaeth yn ei wneud. Ond fy nghyfrifoldeb i yw sicrhau'r gwelliant rwy'n cydnabod bod ei angen yn daer ac rwy'n benderfynol o gyflawni hynny.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Janet Finch-Saunders.
Mae'n dra hysbys ymhlith rhanddeiliaid, defnyddwyr, gwleidyddion yng Nghymru yr ystyrir bod cyllid gofal cymdeithasol ledled Cymru yn ddifrifol iawn. Ochr yn ochr â'r setliad llywodraeth leol ar gyfer 2019-20, nad yw'n rhoi unrhyw beth i gynghorau ond toriadau mewn termau real unwaith eto, gan roi fawr o ddewis iddynt ond torri gwasanaethau hanfodol, mae Cymru yn debygol o weld cynnydd o 35 y cant yn y boblogaeth dros 65 oed erbyn 2039. Mae'r pwysau ychwanegol ar awdurdodau lleol wedi'i nodi gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, sydd wedi amcangyfrif y bydd gwerth £344 miliwn o bwysau ar wasanaethau gofal cymdeithasol erbyn 2021-2. Yn amlwg—[Torri ar draws.] Gadewch i'r Gweinidog ymateb i mi, os gall. Yn amlwg, mae angen gweledigaeth realistig, yn hytrach na'r rhethreg a glywir mor aml yn y Siambr hon ar hyn o bryd. Mae angen cyflwyno pecyn trawsnewidiol o ddiwygiadau, ac un sy'n cael gwared ar y baich ariannol parhaus, sylweddol a chynyddol ar awdurdodau lleol. Mae darparu gofal cymdeithasol priodol i'n pobl fwyaf agored i niwed yng Nghymru nid yn unig yn hawl, mae'n hawl dynol sylfaenol. A wnewch chi, fel deiliad y portffolio a'r Gweinidog, gydnabod y ffaith nad yw eich Llywodraeth yn darparu digon o adnoddau ariannol i awdurdodau lleol ledled Cymru ar gyfer darparu gofal cymdeithasol? Ac a wnewch chi ystyried trawsnewid y ffordd y caiff hyn ei ariannu?
Wel, Lywydd, mae'r holwr yn dangos diffyg hunanymwybyddiaeth syfrdanol wrth ofyn y cwestiwn. Y realiti anochel yw bod Llywodraeth Cymru wedi dioddef gostyngiad o 7 y cant yn ein cyllideb mewn termau real—ymhell dros £1 biliwn—ac mae hynny'n arwain at ganlyniadau na ellir eu hosgoi ac sy'n deillio'n uniongyrchol o'r polisi cyni a weithredir gan y Llywodraeth rydych yn ei chefnogi, polisi rydych wedi ymgyrchu drosto mewn tri etholiad cyffredinol yn olynol.
Dylwn nodi hefyd, pe bai pob un o'r galwadau am wariant a wneir gan y Ceidwadwyr yn y Siambr hon, a'r tu allan iddi, yn cael eu gwrando, byddai gennym swm llawer mwy o arian gan na allwn ateb yr holl alwadau a wnewch. Maent yn gwbl afrealistig, ac maent yn anwybyddu effaith cyni'r Ceidwadwyr. Pan fyddwch yn sôn am yr heriau i lywodraeth leol a thalu am ofal, yr her fwyaf y maent yn ei hwynebu yw cyni. Os ydych am weld newid sefyllfa llywodraeth leol a'u cyllid, dylech ymuno ag eraill yn y Siambr hon a'r tu allan a galw ar y Llywodraeth Geidwadol i ddod â pholisi cyni i ben er mwyn atal y difrod a wneir ym mhob un o'n cymunedau. Credaf y bydd llawer o bobl yn clywed yr hyn a oedd gennych i'w ddweud ac yn meddwl tybed a ydych yn deall beth sy'n digwydd o gwbl, neu os ydych yn deall, p'un a ydych o bosibl braidd yn rhagrithiol.
Roeddwn o dan yr argraff ein bod am gael gwleidyddiaeth fwy caredig. Nid wyf wedi'ch sarhau chi'n bersonol.
Nawr, un syniad diweddar ynglŷn â sut i ariannu gofal cymdeithasol yw'r cynnig yr wythnos hon a amlinellwyd gan y Gwir Anrhydeddus Damian Green AS yn ei bapur ar ddatrys yr argyfwng gofal. Mae'n deg dweud bod Llywodraeth y DU yn sylweddoli fod gennym fom sy'n tician o ran ble mae'r pwysau ar ofal cymdeithasol ac maent yn barod i wneud rhywbeth ynglŷn â hynny. Nawr, byddai hyn yn golygu cyflwyno system debyg i'r system bensiynau, gan warantu rhwyd ddiogelwch gyffredinol resymol. Nid wyf yn cymeradwyo hyn ar hyn o bryd, ond yr hyn rwy'n ei ddweud yw eu bod yn ystyried y mater ac yn cynnig ffyrdd ystyrlon a phosibl o fynd i'r afael ag ef. Y ffordd rydych yn gwenu, rydych yn edrych fel pe na baech hyd yn oed yn credu bod argyfwng ariannu gofal cymdeithasol yn bodoli yng Nghymru. Nawr, byddai hyn yn helpu i gynyddu llif yr arian preifat i'r—. [Torri ar draws.] Gallwch heclo a cheisio'i gefnogi o'r cyrion—
Peidiwch â chymryd unrhyw sylw ohonynt; dyna'r cyngor gorau y gallaf ei roi. Anwybyddwch hwy yn llwyr a pharhewch.
Diolch. Er gwybodaeth, caiff £1.20 ei wario ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru—a ddarperir gan Lywodraeth y DU—am bob £1 yn Lloegr. Felly, onid oes gwendid amlwg yno, pan fo llai o arian yn cael ei wario yn Lloegr, ac—[Anghlywadwy.]—darpariaeth? Ond beth bynnag, yn ôl at fy nghwestiwn. Byddai hyn yn annog cyfraniad gwirfoddol mwy o faint o'r oddeutu £163 biliwn mewn asedau nad ydynt yn bensiynau sydd gan bob carfan flynyddol o bobl 65 oed ym Mhrydain. Nawr, gall rhinweddau'r cynnig fod yn ddadl ar gyfer rhyw dro eto, ond o leiaf, fel y dywedais, maent yn ei ystyried. Ond mae'n rhaid i ni gydnabod bod yn rhaid gwneud rhywbeth yng Nghymru. A allwch ddweud eich hun fod Llywodraeth Cymru, a chi fel Gweinidog, yn gwneud digon i wneud hyn, ac a wnewch chi gadarnhau i mi hefyd sut rydych wedi bwrw ymlaen ag un, dau neu fwy na hynny hyd yn oed o'r naw argymhelliad yn adroddiad y Pwyllgor Cyllid, 'Cost gofalu am boblogaeth sy'n heneiddio', yn enwedig Rhif 7, sy'n nodi'r angen i ymgysylltu â'r cyhoedd ynghylch ariannu gofal cymdeithasol yng Nghymru yn y dyfodol, ac i gael sgwrs genedlaethol? A ydych wedi bwrw ymlaen â'r argymhellion hynny, ac a ydych yn barod i gael y sgwrs genedlaethol honno?
Wel, hoffwn ddiolch i'r Aelod am ei safbwynt diddorol diweddaraf a dod â hi'n ôl i realiti. Mae'r heriau anochel yn bodoli i ofal cymdeithasol ledled y Deyrnas Unedig, gan gynnwys yma yng Nghymru. O fewn y gostyngiadau sylweddol a wnaed i'n cyllideb gan Lywodraeth Geidwadol y DU y mae hi'n ei chefnogi ac wedi ymgyrchu drostynt, rydym wedi gwneud dewisiadau gonest ynglŷn â rhannu adnoddau rhwng iechyd, llywodraeth leol a phob gwasanaeth cyhoeddus arall ac arian a wariwn ar gefnogi'r economi. Pe bai'r Ceidwadwyr yn Llywodraeth y Deyrnas Unedig o ddifrif ynghylch datrys y mater hwn, byddent wedi gwneud rhywbeth yn ei gylch. Rydym wedi cael addewid o Bapur Gwyrdd, nid papur gan Damian Green, i ddeall beth y mae Llywodraeth y DU yn mynd i'w wneud ar hyn. Mae wedi'i ohirio dro ar ôl tro ar ôl tro.
Cafodd comisiwn Dilnot, a oedd i fod i helpu i symud y mater hwn yn ei flaen, ei gladdu gan y Llywodraeth Geidwadol yn ystod y tymor diwethaf. Y gwir amdani yw y gallem fod wedi gwneud mwy o gynnydd ledled y Deyrnas Unedig pe bai Llywodraeth y DU wedi bod yn onest yn hyn o beth ac wedi gweithredu yn hytrach na chicio'r penderfyniad hwn ymhellach i lawr y ffordd. Yma yng Nghymru, mae gennym grŵp rhyngweinidogol a gadeirir gennyf sy'n ystyried y broses o dalu am ofal cymdeithasol yn y dyfodol, ac i ystyried sut y cynhyrchwn fwy o arian i fynd i mewn i'n system gofal cymdeithasol. Ac nid yw hynny'n deillio o'r rhyddid i ddewis mewn unrhyw ffordd, ac os ydym am i fwy o adnoddau fynd i mewn, ceir dewisiadau anodd ynglŷn ag o ble y daw'r arian hwnnw ac a ydym yn barod i ariannu hynny mewn amrywiaeth o ffyrdd gwahanol.
Yn hytrach nag ystyried hyn yn unig, awgrymaf fod angen i Lywodraeth y DU gydnabod eu bod yn gyfrifol am y sefyllfa o ran cyllid gofal cymdeithasol, ac mae'n ymwneud unwaith eto â'r dewis ynghylch cyni. Dewch â chyni i ben—mae gwahanol ddewisiadau y gall pob Llywodraeth yn y Deyrnas Unedig eu gwneud. Dewch â chyni i ben, a bydd eich cydweithwyr Ceidwadol sy'n rhedeg cynghorau yn Lloegr yn cael setliad gwahanol, oherwydd, peidiwch â derbyn fy ngair i ar hyn, ond mae'r dewisiadau y mae eich Llywodraeth wedi'u gwneud ar draws y Deyrnas Unedig wedi arwain at ganlyniadau hyd yn oed yn fwy difrifol yn Lloegr nag yn unrhyw ran arall o'r DU. Maent yn edrych ar y ffordd y mae llywodraeth leol Cymru wedi cael ei thrin ac maent yn cydnabod bod bargen well o lawer ar gael i lywodraeth leol yma am fod gennym Lywodraeth Lafur yng Nghymru sydd wedi cydbwyso ein hadnoddau ac wedi blaenoriaethu gwasanaethau lleol.
Ymateb gwan tu hwnt gan Weinidog Llywodraeth. Rydych newydd gyfaddef i'r Siambr hon, er bod y dulliau gennych, er bod yr adnoddau ariannol gennych, ac er bod y pwerau gennych, eich bod yn aros am Bapur Gwyrdd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Beth ddigwyddodd i ddatganoli? Beth ddigwyddodd i chi'n cymryd yr awenau fel Gweinidog Llywodraeth ac fel Llywodraeth Lafur yng Nghymru? Rydych wedi ateb y cwestiwn hwnnw. Ond beth bynnag, mae gennyf un arall i chi. [Chwerthin.]
Mae 370,000 o ofalwyr yng Nghymru yn darparu 96 y cant o'r gofal mewn cymunedau ledled Cymru ac maent yn cyfrannu dros £8.1 biliwn i economi Cymru bob blwyddyn. Nawr, pe bai canran fechan yn unig o'r gofalwyr gweithgar hyn yn rhoi'r gorau i ofalu, byddai gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, heb os, yn wynebu argyfwng mwy difrifol na'r un y soniais amdano. Felly, mae'n rhaid i chi fynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu gofalwyr di-dâl yng Nghymru. Er enghraifft, rwy'n synnu, ac rwy'n siŵr y byddai Aelodau eraill yma'n synnu, wrth glywed—
Mae angen i chi ofyn eich cwestiwn nawr. Nid oes angen rhagymadrodd i'ch trydydd cwestiwn.
Mae llawer o ofalwyr yn methu manteisio ar gyfnodau egwyl priodol o'u cyfrifoldebau gofalu er mwyn iddynt allu byw bywydau iach a chyflawn eu hunain a chyrraedd eu potensial eu hunain o ran addysg a chyflogaeth. Pa gamau a roddwch ar waith ar fyrder i sicrhau bod pob gofalwr yn cael yr egwyl angenrheidiol, ac y telir am gost lawn trefnu gofal seibiant er mwyn iddynt allu byw bywydau cyflawn eu hunain?
Diolch am eich cwestiwn ar ofalwyr—pwnc pwysig, a cheir rhywfaint o gytundeb trawsbleidiol fod angen i ni sicrhau bargen well ar eu cyfer. Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn darparu hawliau nad ydynt yn bodoli mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Yr her i ni yw sut y gweithiwn gyda'n partneriaid a sicrhau bod yr hawliau hynny'n cael eu gwireddu. Ni cheir diffyg ffocws ar ofalwyr, ac yn wir, mae'r Dirprwy Weinidog yn arwain gwaith gyda gofalwyr ar sicrhau bargen well ar eu cyfer yma yng Nghymru.
Mewn gwirionedd, credaf mai'r broblem gyda'r set hon o gwestiynau, pan fyddwch yn siarad am bwerau, ysgogiadau ac adnoddau sy'n bodoli eisoes, y gwir amdani yw mai yn ddiweddar iawn y cawsom bwerau dros newid ein hincwm. Ni fu'r adnoddau gennym i wneud hynny. Rwyf wedi codi'r pwynt yn barhaus ynghylch cyni a'ch methiant i gymryd unrhyw gyfrifoldeb am y dewis rydych wedi ymgyrchu'n weithredol drosto mewn tri etholiad cyffredinol yn olynol. Mae'n ddewis Ceidwadol, yn greadigaeth Geidwadol—yr argyfwng a welwn mewn gwasanaethau cyhoeddus ledled y Deyrnas Unedig.
Yr her yn y ddadl hon, yn anffodus, Lywydd, yw na chredaf fod yr Aelod yn deall beth sy'n digwydd yn y wlad mewn gwirionedd, a gadewch i ni adael pethau ar hynny.
Llefarydd UKIP, Neil Hamilton.
Diolch, Lywydd. Bydd y Gweinidog yn ymwybodol fod 100,000 o apwyntiadau cleifion offthalmoleg wedi'u canslo yn y blynyddoedd 2017-18, yn aml heb fawr o rybudd, ac roedd y ffigur hwnnw'n gynnydd o 5.5 y cant ar ddwy flynedd ynghynt. Roedd 35,000 o bobl wedi bod yn aros ddwywaith mor hir ag y dylent am apwyntiad dilynol ym mis Rhagfyr 2018, i fyny o 15,000 ym mis Ebrill 2015. Dengys y ffigurau diweddaraf y gallais ddod o hyd iddynt fod 48 o bobl wedi mynd yn ddall wrth aros am driniaeth yng Nghymru. Roedd hynny yn ôl yn 2014 mewn adroddiad gan Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall. Onid yw'n warth fod unrhyw unigolyn yng Nghymru yn mynd yn ddall wrth aros am driniaeth gan y GIG?
Mae hwn yn faes lle rydym wedi newid y mesurau, mewn gwirionedd, ac mae'r gwahaniaeth rhwng y mesurau a'r hyn a ddigwyddodd yn y gwasanaeth yn bwysig. Roeddem yn mesur targed rhwng atgyfeirio a thriniaeth nad oedd yn ystyried blaenoriaeth glinigol y cleifion. Felly, roedd gennym fesur amrwd nad oedd yn ystyried sut y dylai'r gwasanaeth weithredu i fynd i'r afael â'r niwed clinigol posibl. Felly, un o'r pethau a wneuthum yw gweithio gyda'r gwasanaeth, ynghyd â'r Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall, ac mae gennym fesurau newydd ar waith sy'n ystyried blaenoriaeth glinigol. Felly, bydd rhai pobl yn aros am gyfnodau hwy, ond byddwn yn blaenoriaethu'r bobl â'r angen mwyaf er mwyn osgoi'r posibilrwydd y bydd pobl yn colli eu golwg lle gellir osgoi hynny. Rydym wedi gwneud dewis bwriadol, a chredaf y bydd y gwasanaeth iechyd a phobl Cymru yn well eu byd o'i herwydd, ac mae clinigwyr a'r trydydd sector yn gyffredinol yn ei gefnogi.
Wel, gwell hwyr na hwyrach, rwy'n sicr yn cydnabod hynny, ond mae llawer i'w wneud o hyd. Bydd y Gweinidog yn gwybod bod gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ddiddordeb yn y maes hwn, ac yn ddiweddar, cawsom dystiolaeth gan fwrdd iechyd Aneurin Bevan, a dynnodd sylw at yr angen i wella ei berfformiad cyfredol o 62 y cant o gleifion risg 1 yn cael eu gweld erbyn y dyddiad targed, neu o fewn 25 y cant i'r dyddiad targed. Diffinnir risg 1 gan y Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall fel risg o niwed diwrthdro neu ganlyniad niweidiol sylweddol i'r claf os na ellir eu trin erbyn y dyddiad targed. Onid yw'r oedi hwn yn gwbl annerbyniol?
Os edrychwch ar yr apwyntiadau dilynol mewn rhai byrddau iechyd, mae eu perfformiad yn amrywio'n sylweddol iawn. Yn Abertawe Bro Morgannwg, roedd 5,000 o bobl yn aros ddwywaith cyhyd ag y dylent am apwyntiadau dilynol—pedair gwaith cymaint â dwy flynedd ynghynt. Yng Nghaerdydd a'r Fro, mae 10,000 o bobl yn aros ddwywaith cyhyd ag y mae angen am apwyntiadau llygaid. Mae hynny bedair gwaith cymaint â'r sefyllfa ddwy flynedd yn ôl. Mae hyn yn rhywbeth sy'n galw am weithredu ar fyrder mor gyflym â phosibl gan yr Ysgrifennydd iechyd, ac efallai y gall ddweud wrthym beth, yn ymarferol, y mae'n mynd i'w wneud i ddatrys y broblem.
Wel, nid yw'r mesurau newydd yn ateb ynddynt eu hunain. Mewn gwirionedd, maent yn ymwneud â sut y trefnwn ac y gweithredwn y system gyfan. Mae'n ymwneud â sicrhau y gallwn drosglwyddo gofal i wasanaethau yn y gymuned lle bo modd, ac mewn gwirionedd, mae Aneurin Bevan wedi bod yn arwain ar lawer o'r gwaith hwnnw, i ddarparu mwy o amser a chapasiti o fewn gwasanaethau ysbyty i bobl sydd angen gweld clinigydd mewn ysbyty. Felly, mae a wnelo ag ailbeiriannu ein system gyfan. Ac mewn gwirionedd, os siaradwch â phobl yn y gwasanaeth, ac os siaradwch â phobl ar draws y system yn y Deyrnas Unedig, maent yn cydnabod ein bod yn gwneud y pethau iawn yma yng Nghymru a bod her i'w chael ynglŷn â sut y mae rhannau eraill o'r DU yn dal i fyny â'r hyn rydym ni'n ei wneud, o ran triniaeth leol yn y gymuned yn ogystal â mwy o flaenoriaeth i'r bobl iawn gael eu gweld yn gyflymach o fewn system ysbyty. Golyga hynny wahanol fesurau sy'n adlewyrchu'n gywir yr hyn sy'n bwysig i'r unigolyn, yn ogystal â beth ddylai fod yn bwysig i bob un ohonom, er mwyn sicrhau y darperir y gofal iawn ar yr adeg iawn ac yn y lle iawn.
3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fynediad at wasanaethau meddygon teulu yng Ngogledd Cymru? OAQ53773
Gwnaf. Rydym am weld gwasanaethau meddygon teulu cynaliadwy a hygyrch ledled Cymru. Mae practisau meddygon teulu yn defnyddio elfennau o'r model gofal sylfaenol i wella'r ffordd y maent yn darparu gwasanaethau i gleifion, gan gynnwys, wrth gwrs, yng ngogledd Cymru.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Mae gwasanaethau meddygon teulu yn dioddef. Dywed fy etholwyr eu bod yn aros wythnosau am apwyntiad arferol ac yn methu cael ateb dros y ffôn, gan ddweud, mewn ambell i achos, eu bod yn rhoi cynnig arni hyd at 50 o weithiau ac yna'n rhoi'r gorau iddi. Dywed llawer eu bod yn colli hyder a ffydd yn y gwasanaeth iechyd. Rydym eisoes wedi clywed bod newidiadau diweddar i'r cyllid sydd ar gael ar gyfer y cynllun indemniad, yn ôl pob golwg, gam yn rhy bell i lawer o'r meddygon teulu hynny. Weinidog, eich cyfrifoldeb gweinidogol cyntaf yw goruchwylio darpariaeth a pherfformiad y GIG. A ydych yn gwneud eich gwaith yn iawn?
'Ydw' yw'r ateb syml i'r cwestiwn olaf, ond gwyddom, mewn gwirionedd, mewn ymateb i'r cwestiwn a ofynnwyd gan Alun Davies, fod angen cydnabod bod mynediad yn her allweddol ym mhob cymuned ledled Cymru. Ac mewn gwirionedd, fel gwleidyddion, pan ewch allan i siarad â phobl, fe wyddoch fod problem oherwydd ei bod wedi'i chyfyngu i un ardal—gan na fydd gan rai tai y byddwch yn siarad â hwy unrhyw broblem o gwbl ac ni fyddant yn codi'r mater, ac ychydig o strydoedd oddi yno, bydd gennych lawer o bobl yn dweud eu bod yn wynebu heriau gwirioneddol o ran cael mynediad at eu practis cyffredinol lleol.
Dyna pam rwyf wedi sicrhau bod mynediad yn gymaint o flaenoriaeth mewn sgyrsiau â gwasanaethau iechyd lleol nid yn unig dros y flwyddyn ddiwethaf, ond dros y flwyddyn i ddod hefyd. Mae'n rhan o'n sgyrsiau gydag ymarfer cyffredinol o ran sut y cyflwynwn y modelau newydd hynny, oherwydd, mewn gwirionedd, nid oes gan y rhan fwyaf o bractisau yn y wlad broblem o ran mynediad at yr unigolyn iawn ar yr adeg iawn, ond mae problem gan leiafrif sylweddol ohonynt, a bydd pob un ohonom, bron â bod, yn adnabod pobl, os nad ni ein hunain, sydd wedi wynebu rhai o'r heriau hynny.
O ran y contract ymarfer cyffredinol ar gyfer gwasanaethau meddygol cyffredinol, rydym wedi gwneud cynnydd gwirioneddol. Rydym wedi gwneud cam go iawn ymlaen o ran trefniadau indemniad. Bydd hynny'n cael gwared ar y risgiau i ddyfodol gofal iechyd lleol i feddygon teulu. O ran y contract ehangach, rwy'n obeithiol y byddwn yn sicrhau cytundeb, fel oedd yn fwriad gennyf o'r cychwyn. Yn ddiweddar, a thros y mis diwethaf, cafwyd trafodaethau pellach rhwng pwyllgor ymarfer cyffredinol Cymdeithas Feddygol Prydain, Llywodraeth Cymru a'r GIG, ac rwy'n obeithiol y byddwn yn dod i gytundeb yn yr wythnosau nesaf er mwyn bwrw ymlaen â'r mater hwn.
Wrth gwrs, oherwydd y diffyg mewn niferoedd meddygon teulu yn y gogledd, mae mwy a mwy o feddygfeydd wedi bod yn mynd i mewn i reolaeth uniongyrchol gan fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr. Felly, gaf i ofyn a ydy Llywodraeth Cymru wedi gwneud unrhyw ddadansoddiad neu unrhyw astudiaeth yn cymharu gwasanaethau gan y meddygfeydd hynny o'u cymharu, wrth gwrs, â'r model o bractisys mwy traddodiadol?
Oes, mae llawer o wybodaeth ar gael am gost gymharol contractwyr annibynnol neu bractisau a reolir, ond mae a wnelo hefyd â'n gallu i ddenu pobl i weithio yn y gwasanaethau hynny a'u cadw, nid meddygon teulu yn unig, ond staff clinigol eraill hefyd. Felly, mae amryw o'r practisau hynny wedi dod i gael eu rheoli gan Betsi Cadwaladr, ac mae pob un ohonynt wedi llwyddo i gynnal gwasanaeth ar gyfer y cyhoedd yn lleol, ond fy uchelgais yw sicrhau model mwy sefydlog ar gyfer darparu gofal iechyd lleol. Dyna pam y soniwn am glystyrau'n dod at ei gilydd; credwn y byddwn yn gweld mwy o gydweithio rhwng y gwahanol bractisau hynny. Gallant fod yn uniadau ffurfiol; gallant fod yn ffederasiynau. Ond mewn gwirionedd, mae sicrhau'r sefydlogrwydd hwnnw, p'un a yw meddyg yn dewis gweithio fel meddyg cyflogedig a gyflogir gan feddygon eraill, neu p'un a ydynt am ddod yn bartneriaid—a dylem gymell pobl i ddod yn bartneriaid mewn practisau cyffredinol—ac yna i sicrhau bod ganddynt dîm amlddisgyblaethol priodol, yn gynyddol, dyna fyddwn yn ei gyflawni mewn gofal iechyd lleol. Os yw'r Aelod yn dymuno cael rhagor o fanylion, rwy'n fwy na pharod i drafod mewn gohebiaeth y tu allan i'r Siambr.
4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am amseroedd aros ysbytai ar gyfer cleifion yng ngogledd Cymru? OAQ53771
Gwnaf. Er bod y bwrdd iechyd wedi gwella ei berfformiad 36 wythnos 3 y cant rhwng mis Chwefror y llynedd ac eleni, rwy'n siomedig ynglŷn â nifer y bobl sy'n dal i aros yn rhy hir. Rwyf wedi datgan fy nisgwyliadau yn glir i'r bwrdd iechyd, ac rwy'n disgwyl gweld gwelliannau pellach o ran amseroedd aros cyn diwedd eleni ac i mewn i'r flwyddyn nesaf. Er mwyn cynorthwyo hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid ychwanegol i helpu i gyflawni'r gwelliant hwnnw yn y perfformiad.
Mae gormod o bobl yn aros yn rhy hir am driniaeth yng ngogledd Cymru. Mae'n arferol i bobl ar restrau aros orthopedig dwy flynedd bellach i gael triniaeth. Fe adfachoch chi £1 filiwn oddi wrth y bwrdd iechyd eleni oherwydd ei fethiant i gyflawni eich targedau amser aros, ac adfachwyd £3 miliwn y llynedd oherwydd methiant tebyg yn y cyfnod hwnnw. Bydd y sefyllfa gydag Ysbyty Iarlles Caer, a dderbyniai nifer sylweddol o atgyfeiriadau o ogledd-ddwyrain Cymru, yn golygu y bydd amseroedd aros hyd yn oed yn hwy ac yn anos eu cyflawni o fewn y targedau. Pa bryd y gwnewch chi ddeffro, a sicrhau bod Ysbyty Iarlles Caer yn cael yr arian sydd ei angen arnynt i sicrhau y gall ofalu am y cleifion o Gymru sydd angen mynediad at y gwasanaeth hwnnw fel y gallwn leihau'r amseroedd aros hyn, a pha bryd y byddwch yn cymeradwyo'r cynllun amser aros orthopedig, sydd wedi bod yn eistedd ar eich desg ers 18 mis, fel y gall y cleifion hyn gael mynediad at y driniaeth sydd ei hangen arnynt o fewn yr amseroedd targed?
Credaf fod tri phwynt penodol yn y fan honno, Lywydd. Y cyntaf yw nad dwy flynedd yw'r amser aros safonol i bob claf orthopedig. Nid dyna'r amser aros cyfartalog, hyd yn oed. Ond ceir rhai arbenigeddau, yn enwedig rhai mathau o driniaethau gosod cymalau newydd, lle mae'n rhaid aros am gyfnodau o'r fath, ac mae hynny'n rhy hir o lawer ac nid yw'n dderbyniol.
Nid yw'r cynllun orthopedig wedi bod yn eistedd ar fy nesg ers 18 mis. Nid wyf eto wedi cael cynllun orthopedig gan y bwrdd iechyd y gallaf benderfynu yn ei gylch, o ran a ddylid buddsoddi ynddo ai peidio. Mae wedi cymryd mwy o amser nag y dymunwn, yn bendant, i sicrhau cynllun ar y cyd y gall clinigwyr ledled Cymru a'r bwrdd iechyd gytuno y bydd yn addas ar gyfer y capasiti ar hyn o bryd ac yn y dyfodol.
O ran Ysbyty Iarlles Caer, mae'r Aelod yn anghywir i awgrymu bod y system Gymreig yn gwrthod gwneud taliadau ac mai dyna'r rheswm, tra bo Ysbyty Iarlles Caer wedi gweithredu'n unochrog. Mae ychydig yn fwy cymhleth na hynny. Nid yw system Cymru wedi ymddwyn yn amhriodol, a gobeithio y bydd pobl yn Ysbyty Iarlles Caer yn ymddwyn mewn ffordd sy'n adlewyrchu'r gwerthoedd a ddylai fod ar waith ar draws y gwasanaeth iechyd gwladol ym mhob un o'r pedair gwlad yn hytrach na rhoi cleifion o dan anfantais tra bo trafodaethau'n parhau am gyfradd briodol o dâl. A phob blwyddyn yn ddi-ffael, mae system Cymru wedi talu ei biliau'n llawn ac yn brydlon.
Dŷch chi'n dweud eich bod chi'n siomedig bod pobl yn aros rhy hir. Mae'n werth cymryd eiliad i feddwl beth yn union mae 'rhy hir' yn ei olygu yn y cyd-destun yma. Mi ysgrifennais i at fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr a chael ateb ar 8 Ebrill. Roeddwn i wedi ysgrifennu ar ran claf sy'n aros am ben-glin newydd. Roedd yr ateb yn dweud bod rhyw 2,200 o gleifion yn aros am driniaeth orthopedig a bod amser aros am driniaeth elective o gwmpas 100 wythnos—dwy flynedd ydy hynny. Bythefnos yn ddiweddarach, roeddwn i'n cael ateb yn dweud bod amser aros ar gyfer triniaeth clin yn fwy na 110 o wythnosau. Dydy hyn ddim ar unrhyw lefel yn agos at beth sydd yn dderbyniol i ni. Onid ydy hi'n amser inni sylweddoli nad yw mesurau arbennig ynddynt eu hunain ddim yn ddigon, bod angen symud i ryw fath o fesurau argyfwng ar gyfer Betsi Cadwaladr, neu i ystyried go iawn ydy'r model un bwrdd iechyd ar gyfer y gogledd yn ffit i bwrpas?
Ni cheir unrhyw awgrym y byddai newid strwythur sefydliadol Betsi Cadwaladr a chael dau neu dri bwrdd iechyd gwahanol yn gwella perfformiad yn y maes hwn. Byddai'r her o hyd yn ymwneud â sut y mae gwahanol glinigwyr ar wahanol safleoedd yn gweithio yn unol â chynllun unedig i wneud gwell defnydd o'r adnoddau y maent yn eu rhannu ar draws y bwrdd iechyd. Bydd hynny'n golygu buddsoddi mewn cyfleusterau cyfalaf yn ogystal â newid o ran ymarfer. Disgwyliaf weld y ddau beth hynny wedi'u nodi yn y cynllun orthopedig, pan fydd yn cael ei ddarparu i mi, fel y gallaf wneud penderfyniad ynglŷn ag a ddylid buddsoddi ai peidio.
Rwy'n cydnabod bod pobl yn aros yn rhy hir o lawer yng ngogledd Cymru yn enwedig. Wrth ddarparu capasiti ychwanegol o'r system annibynnol neu o Loegr, rwy'n cydnabod ein bod yn gwario arian mewn ffordd nad yw mewn gwirionedd yn ffordd gynaliadwy, hirdymor o ddefnyddio'r adnodd hwnnw. Mae arnom angen ffordd fwy cynaliadwy o ddefnyddio'r adnodd yma yng Nghymru ac i ddefnyddio capasiti y tu allan i system Cymru pan fydd hynny'n gwbl angenrheidiol yn unig. Felly, nid wyf yn twyllo fy hun o gwbl o ran y sefyllfa annerbyniol sy'n wynebu ein staff, a'n cleifion yn enwedig. Edrychaf ymlaen at gael y cynllun er mwyn i mi allu penderfynu ar y camau nesaf i'w cymryd yn y gwasanaethau orthopedig.
5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am berfformiad Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe? OAQ53744
Rwy'n siŵr y bydd yr Aelod yn sylweddoli na allaf gael ffigurau perfformiad ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, sydd newydd gael ei greu. Fodd bynnag, ar gyfer yr hen fwrdd, Abertawe Bro Morgannwg, parhaodd eu perfformiad i wella ar draws meysydd allweddol o gymharu â'r flwyddyn flaenorol, gyda pherfformiad gwell o ran amseroedd aros mewn unedau damweiniau ac achosion brys, amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth, ac amseroedd aros ar gyfer diagnosteg a therapi, ac mae'r bwrdd iechyd newydd yn parhau i weld mwy o gleifion o fewn yr amser targed ar gyfer canser o gymharu â'r flwyddyn flaenorol.
Weinidog, ers ei uwchgyfeirio i statws ymyrraeth wedi'i thargedu ym mis Medi 2016, mae bwrdd iechyd bae Abertawe, sef Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg hyd nes yn ddiweddar wrth gwrs, wedi gwneud rhywfaint o gynnydd o ran ei berfformiad, fel yr amlinellwyd gennych, ac mae'n rhaid cydnabod gwaith y tîm arweinyddiaeth newydd. Fodd bynnag, ceir pwysau o hyd. Ceir heriau o ran cyflawni yn erbyn targed y llwybr canser ar draws y bwrdd iechyd, a hefyd o fewn gofal wedi'i gynllunio. Er gwaethaf gostyngiadau yn nifer y bobl sy'n aros dros 36 wythnos, mae bron i 11 y cant o gleifion yn dal i aros dros 26 wythnos—chwe mis—gydag amseroedd aros mewn rhai meysydd, megis trawma ac orthopedeg, wedi gwaethygu mewn gwirionedd ers mis Medi 2016, pan ddechreuodd y cyfnod o ymyrraeth wedi'i thargedu. Fis Medi, bydd y bwrdd iechyd hwn, gyda'i amrywiol enwau, wedi bod yn destun ymyrraeth wedi'i thargedu ers tair blynedd, felly pa gamau pellach y bwriadwch eu cymryd i sicrhau bod gwasanaethau'n cyrraedd lefel y mae cleifion yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot yn ei haeddu?
Rwy'n cydnabod y pwyntiau a wnaeth yr Aelod, ac a bod yn deg, mae'n codi materion perfformiad y gwasanaeth iechyd yn y rhanbarth y mae'n ei gynrychioli yn rheolaidd. Rwyf wedi dweud eisoes, mewn datganiad ysgrifenedig ac mewn datganiad llafar, fy mod yn disgwyl i'r bwrdd iechyd newydd gael cynllun tair blynedd y gellir ei gymeradwyo yn ystod y flwyddyn hon, ac mae'n rhaid i hynny fod yn seiliedig ar welliant gwirioneddol hyd yn hyn, ynghyd â rhagolygon o welliant pellach yn y dyfodol. Rydym wedi gwneud yn well o ran perfformiad yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ac wrth ddefnyddio'r adnoddau ychwanegol a ddarparwyd gennym, mae'n rhaid i hynny barhau. Felly rydych yn iawn y gall 89 y cant o bobl yn y bwrdd iechyd newydd ddisgwyl cael eu gweld o fewn 26 wythnos. Rwy'n disgwyl gweld gwelliant pellach. Rwy'n disgwyl gweld y bwrdd iechyd yn dod allan o statws ymyrraeth wedi'i thargedu ac yn parhau i wella ym mhob un o'r meysydd allweddol rydych wedi'u hamlinellu.
Weinidog, yn yr adroddiad atebolrwydd ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg yn 2017-18, efallai y byddwch yn cofio bod y bwrdd wrth eu boddau, mewn gwirionedd, eu bod wedi dangos gwelliant i'r graddau mai £32 miliwn yn unig o orwariant a gafwyd o gymharu â'r £36 miliwn a ragwelwyd, ac roedd y ffigur hwnnw mewn gwirionedd yn cuddio arbediad gwell gan fod y ffigur yn cynnwys £7.4 miliwn a oedd yn gosb am beidio â chyrraedd targedau amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth, ac ni chredaf fod hynny'n rhywbeth y dylent fod yn falch ohono. Erbyn hyn, mae gennym fwrdd iechyd newydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, gydag ôl troed llai. A fyddwch yn disgwyl mwy o uchelgais ganddynt o ran eu rheolaethau ariannol, neu a fyddwch yn fodlon os bydd y bwrdd newydd yn dweud bod gorwario ychydig o filiynau o bunnoedd yn llai nag oeddent wedi'i ddisgwyl yn llwyddiant, gan y gallai'r miliynau o bunnoedd hynny, wrth gwrs, fod yn mynd tuag at y gwasanaethau cymdeithasol, a byddech wedi gallu rhoi ateb gwahanol i gwestiwn Janet Finch-Saunders?
Buaswn yn dweud bod y bwrdd iechyd ymhell o fod yn hapus am y gostyngiad yn eu diffyg i lawr i £32 miliwn. Roedd yn dal i fod yn annerbyniol, a gwnaed hynny'n gwbl glir iddynt gan fy swyddogion, a hefyd gennyf fi, yma, mewn sgyrsiau uniongyrchol gyda'r cadeirydd, ac rwyf wedi dweud yn glir iawn yn y gwerthusiad fy mod yn disgwyl iddynt barhau i wella. Ni fydd ganddynt gynllun cytbwys i mi ei gymeradwyo oni bai eu bod yn gallu dangos eu bod ar y trywydd iawn i fyw o fewn eu gallu, a hynny, nid yn unig am flwyddyn, ond dros y cyfnod o dair blynedd. Dyna rwy'n disgwyl i'r sefydliad ei wneud—gwella'i berfformiad, gan gynnwys ei berfformiad ariannol, yn ogystal â gwella ansawdd a phrydlondeb y gofal a'r driniaeth i'r bobl rydych chi a minnau'n eu cynrychioli.
6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ofal iechyd trawsffiniol yng ngogledd Cymru? OAQ53756
Gwnaf. Mae llif cleifion yn digwydd ar draws y ffin rhwng Cymru a Lloegr bob dydd. Trefnir y ddarpariaeth gofal iechyd drawsffiniol drwy gytundebau ffurfiol rhwng byrddau iechyd lleol a darparwyr yn Lloegr i ddiwallu anghenion gofal iechyd y boblogaeth leol ac wrth gwrs, gwelwn nifer sylweddol o drigolion o Loegr yn dod i Gymru i gael triniaeth, yn enwedig mewn perthynas â gofal sylfaenol.
Diolch. Cyn y toriad, cyhoeddodd Ysbyty Iarlles Caer benderfyniad unochrog i beidio â derbyn unrhyw atgyfeiriadau newydd ar gyfer triniaeth ddewisol i gleifion o Gymru. Weinidog, diolch i chi am gyfarfod â mi yn gynharach heddiw i drafod hyn, a gwn eich bod yn ymwybodol, yn dilyn ein cyfarfod, fod y mater hwn yn brifo pobl yn fy etholaeth i, a phobl ar draws sir y Fflint yn wir. Maent yn poeni'n fawr ac yn ddig iawn am yr hyn y bydd y dyfodol yn ei olygu, ac mae'n rhaid i mi ddweud fy mod yn rhannu'r teimladau hynny. Ac mae chwarae gwleidyddiaeth ar fater fel hwn yn warth, yn fy marn i.
Mae fy etholwyr eisiau gwybod, Lywydd, pam ein bod yn y sefyllfa hon, ond yn bwysicaf oll, maent eisiau gwybod beth fydd yn digwydd yn y dyfodol. Weinidog, mae angen ateb dros dro ar unwaith i'r mater hwn tra bo trafodaethau ar y gweill i alluogi cleifion yng Nghymru i gael mynediad at wasanaethau trawsffiniol.
Rydym angen sicrwydd hefyd na fydd y sefyllfa hon byth yn digwydd eto—nid yn unig i fy etholwyr i, ond i unrhyw glaf sy'n defnyddio gwasanaethau trawsffiniol ledled Cymru. Felly, Weinidog, a gaf fi bwyso arnoch i weithio gyda mi a chyd-Aelodau o ogledd-ddwyrain Cymru i sicrhau bod hynny'n digwydd, gan nad yw cyflyrau iechyd yn cydnabod ffiniau ac ni ddylai'r gwasanaeth iechyd eu cydnabod chwaith?
Ie, diolch am y cwestiwn a'r cyfle i drafod y mater hwn yn fanylach yn gynharach heddiw gyda chyd-Aelodau o ogledd-ddwyrain Cymru. Gwnaed rhywfaint o gynnydd o ran y trefniadau gyda'r system yn Lloegr. Fel y gwyddoch, nid yn unig yn y rhan o Gymru rydych yn ei chynrychioli, ond mewn rhannau eraill, mae llif rheolaidd ar gyfer triniaethau mewn ysbytai yn arbennig. Ac mae her wedi codi mewn perthynas â'r ffordd y mae taliadau tariff yn gweithio o fewn y system yn Lloegr. Nawr, ni fydd pawb yma yn gyfarwydd â'r tariff, ond dyna'r ffordd y telir darparwyr gwasanaethau iechyd yn Lloegr, ac chaiff cyfradd ei gosod. Mae'r gyfradd newydd a osodwyd ar gyfer Lloegr yn cynnwys elfennau yr ymddengys eu bod wedi eu talu gan daliadau canlyniadol i systemau Cymru a Lloegr. Os ydym yn cytuno'n syml i dalu'r swm hwnnw, yn y bôn byddwn yn talu ddwy waith am rannau o system Lloegr, gan gynnwys y dyfarniad cyflog, er enghraifft. Nawr, ni fydd hynny'n golygu llawer i bobl sydd ond eisiau sicrwydd ynglŷn â sut y cânt eu trin, ac yn sicr rwyf eisiau gweld cynnydd. Rwyf wedi cael sawl sgwrs uniongyrchol gyda Gweinidogion y DU ar hyn, mae fy swyddogion wedi bod yn ymwneud yn uniongyrchol, mae cyfarfodydd pellach yn cael eu cynnal yr wythnos hon rhwng y ddwy Lywodraeth ac yn wir, rhwng unigolion o fewn y system yng Nghymru a Lloegr.
Rwyf finnau hefyd eisiau sicrhau cytundeb dros dro sy'n caniatáu i ni fwrw ymlaen â'r heriau mwy hirdymor, nid yn unig cytundeb gydag Ysbyty Iarlles Caer yn unig, ond gyda phob darparwr gofal iechyd trawsffiniol, a sicrhau bod gennym rywbeth a fydd yn para yn y dyfodol hefyd. Ac ar hynny, mae rhywfaint o gynnydd wedi bod o ran cael llais Cymreig o amgylch y bwrdd pan fo darparwyr yn Lloegr yn gosod trefniadau tariffau newydd, ond nid ein dewis ni fydd y trefniadau hynny ychwaith. Rwyf eisiau rhywbeth sy'n gweithio yma yng Nghymru a Lloegr, ac yn amlwg, ceir ystyriaethau tebyg ar gyfer gwledydd eraill y DU hefyd. Felly, byddaf yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi ar y cynnydd a wnawn, ond ni ddylai hyn fod wedi digwydd. Mae'n gwbl groes i'r protocol trawsffiniol sy'n darparu y bydd y ddwy wlad yn gweithredu er budd y claf bob amser ac na fydd unrhyw oedi wrth gael mynediad at wasanaethau gofal iechyd tra bo cyfrifoldebau comisiynu yn cael eu gwneud yn gliriach. Gobeithio y bydd y neges honno'n cael ei chlywed gan Ysbyty Iarlles Caer ac na fydd eich etholwyr yn cael eu rhoi yn y sefyllfa y maent ynddi heddiw.
7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarpariaeth gwasanaethau rheoli poen ar gyfer y rhai sy'n dioddef o gyflyrau poen cronig yng nghanolbarth Cymru? OAQ53762
Gwnaf. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda byrddau iechyd a phartneriaid ledled Cymru i wella gwasanaethau i bobl sy'n byw gyda phoen parhaus. Rydym yn gweithio gyda'r byrddau iechyd perthnasol i sicrhau bod llwybrau amgen ar gael i'r cleifion yr effeithiwyd arnynt pan gaewyd y gwasanaeth rheoli poen yn yr ysbyty yng Nghroesoswallt.
Diolch yn fawr, Weinidog. I gleifion yn sir Drefaldwyn, rwyf wedi cael, ac rwy'n dal i gael, adroddiadau gan etholwyr nad ydynt wedi cael gwybod am eu hopsiynau ar gyfer rheoli poen ar ôl cau ysbyty orthopedig Croesoswallt, fel y sonioch yn gynharach. Mae'n ymddangos bod Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn wael iawn am gyfathrebu eu hopsiynau ar gyfer rheoli poen yn y dyfodol. A gaf fi ofyn i chi ymrwymo i weithio gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys i sicrhau bod cleifion yn cael gohebiaeth amserol am eu llwybrau gofal iechyd yn y dyfodol? At hynny, mae cleifion yn sir Drefaldwyn sydd â chyflyrau poen cronig angen darpariaeth yng ngogledd Powys. A gaf fi ofyn i chi weithio gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys i sicrhau bod hynny'n digwydd?
Rwy'n hapus i gadarnhau mai fy nealltwriaeth i yw bod y bwrdd iechyd wedi ysgrifennu at bob claf sydd wedi cael ei drosglwyddo'n ôl o'r ysbyty yng Nghroesoswallt—
Nid ydynt wedi gwneud hynny.
Ac y gallant—eu bod bellach wedi ysgrifennu at bob claf, oherwydd deallaf nad oedd hynny wedi digwydd yn flaenorol, ac mae'r bwrdd iechyd yn rhyddhau ymddiheuriad ynglŷn â hynny. Wrth gwrs, gall cleifion gysylltu â gwasanaeth rheoli poen Powys ei hun os ydynt yn parhau i fod yn bryderus, neu gysylltu â chynrychiolwyr lleol wrth gwrs. Mae rhai clinigau poen eisoes ar gael yng ngogledd Powys ac mae'r bwrdd iechyd yn bwriadu cyflwyno rhagor o wasanaethau. Byddaf yn cyhoeddi datganiad ysgrifenedig yn y dyfodol hefyd i gadarnhau canllawiau newydd ar gyfer gwasanaethau rheoli poen yng Nghymru yn y dyfodol agos iawn.FootnoteLink
Ac, yn olaf, cwestiwn 8. Suzy Davies.
8. A wnaiff y Gweinidog gadarnhau nifer yr achlysuron y mae ambiwlansys wedi gorfod aros am fwy na 10 munud mewn ysbytai yng Ngorllewin De Cymru cyn gallu rhyddhau eu cleifion? OAQ53755
Nid ydym yn casglu data ar sail arhosiad o 10 munud cyn rhyddhau. Mae gennym fesurau sy'n dechrau gyda chyfnod amser o 15 munud. Ond rwy'n disgwyl y bydd pob claf sy'n cyrraedd ysbyty mewn ambiwlans yn cael ei drosglwyddo i ofal staff yr ysbyty yn nhrefn blaenoriaeth glinigol ac mewn modd amserol er mwyn cefnogi canlyniadau a phrofiadau cadarnhaol i gleifion.
Diolch i chi am yr ateb hwnnw. Yn dilyn cais rhyddid gwybodaeth i wasanaeth ambiwlans Cymru, fe'm syfrdanwyd i ganfod bod yr amser cyfartalog y bydd ambiwlans yn aros y tu allan i Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr, cyn trosglwyddo'r claf awr a phum munud ar ben yr amser targed rydych newydd ei nodi. Roedd y wybodaeth hon hefyd yn dangos yr amseroedd aros hwyaf dros y tri mis diwethaf—roedd yr hwyaf yn 16 awr a 39 munud ar ben yr amser targed ar gyfer trosglwyddo, gyda'r nesaf yn 14 awr, yna 11 awr, wedyn 10 awr. O gymharu â hynny, nid yw'r amser cyfartalog yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ond naw munud yn uwch na'r targed a bennwyd ar gyfer trosglwyddo cleifion. Mae'r ysbytai hyn bellach yn yr un ardal bwrdd iechyd lleol. Mae'r ymddiriedolaeth ambiwlans wedi bod yn clustnodi adnoddau ar gyfer y gwaith hwn yng Nghwm Taf ers 2015, a gellir gweld y gwahaniaeth. A ydych wedi gofyn i'r ymddiriedolaeth pam nad yw hyn yn cael ei wneud ym mhobman?
Mater i fwrdd iechyd newydd Cwm Taf Morgannwg fydd sicrhau ei fod yn darparu gwasanaeth cyson ar draws yr ardal gyfan. Mae hwn yn un o'r materion sy'n codi gyda newid diwylliant, arferion ac arweinyddiaeth a sut y bydd yn effeithio ar bob rhan o'r sefydliad cyfan, gan gynnwys y rhan o Ben-y-bont ar Ogwr sydd wedi cael ei dwyn i mewn i fwrdd iechyd newydd Cwm Taf Morgannwg. Felly, rwy'n disgwyl gweld gwelliant pellach. Rwy'n disgwyl gwelliant pellach o ran trosglwyddo cleifion ac o ran deall a gwrando ar gleifion am eu profiad o'r hyn sy'n gwneud gwahaniaeth gyda hwy ac ar eu cyfer. Oherwydd, yn amlwg, nid yw'r arosiadau eithriadol o hir y soniwch amdanynt yn eich cwestiwn yn dderbyniol o gwbl.
Diolch i'r Gweinidog.
Ni ddewiswyd unrhyw gwestiynau amserol heddiw.
Felly, y datganiadau 90 eiliad. Mae'r datganiad cyntaf gan Mick Antoniw.
Diolch, Lywydd. Mae'n 1 Mai heddiw, Diwrnod Rhyngwladol y Gweithwyr, a dydd Sul oedd y Diwrnod Rhyngwladol i Gofio Gweithwyr. Ar y ddau ddyddiad, rydym yn cydnabod cyfraniad ac aberth pobl sy'n gweithio ar draws y byd i'n heconomi a'n cymdeithas a'u brwydr fyd-eang dros gyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb.
Yng Nghymru, mae'r coffâd hwn yn arbennig o berthnasol wrth i ni gofio aberth bywyd ac iechyd ein glowyr, gweithwyr dur, gweithwyr y sector diwydiannol, gweithwyr y sector cyhoeddus a'u hundebau llafur, sy'n gonglfeini ein cymunedau ac a luniodd werthoedd ein cymdeithas. Bob blwyddyn, mae mwy o bobl ar draws y byd yn cael eu lladd yn y gwaith nag mewn rhyfeloedd. Nid yw'r rhan fwyaf yn marw o anhwylderau dirgel neu mewn damweiniau annisgwyl—maent yn marw oherwydd bod cyflogwr wedi penderfynu nad oedd eu diogelwch mor bwysig â hynny, nad oedd yn flaenoriaeth.
Cynhelir y Diwrnod Rhyngwladol i Gofio Gweithwyr bob blwyddyn ar 28 Ebrill ac mae'n coffáu'r gweithwyr hyn a'r rhai sy'n anabl, wedi'u hanafu, neu'n sâl fel arall o ganlyniad i'w gwaith. Mae undebau llafur ar draws y byd yn trefnu digwyddiadau, gwylnosau a gweithgareddau eraill i nodi'r diwrnod.
Mae slogan y Diwrnod Rhyngwladol i Gofio Gweithwyr yn dweud y dylem gofio'r meirw ac ymladd dros y byw, ac mae'n ein hatgoffa, nid yn unig am y rhai sydd wedi talu'r pris eithaf am helpu i greu cyfoeth gwlad, ond hefyd nad oes angen i drasiedïau o'r fath ddigwydd ac nad oes modd gwireddu'r dyhead hwn heblaw drwy ymgyrchu dros ddatblygu deddfwriaeth iechyd a diogelwch effeithiol, drwy orfodi deddfau a chosb tramgwyddau presennol, a thrwy roi pobl o flaen elw.
Yng Nghymru, cofnodwyd 54 o farwolaethau gweithwyr yn sgil damweiniau yn y gwaith dros y pum mlynedd diwethaf. Fodd bynnag, mae cannoedd yn fwy o bobl yn parhau i farw bob blwyddyn yng Nghymru oherwydd clefydau sy'n gysylltiedig â gwaith, megis asbestosis, niwmoconiosis a chlefydau a chanserau eraill ar yr ysgyfaint. Mae Diwrnod Rhyngwladol y Gweithwyr yn gyfle i fyfyrio ar ymdrechion parhaus pobl sy'n gweithio i sicrhau swyddi gweddus, amodau gweddus, cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol. Yma yng Nghymru, mae'n rhaid i'r Cynulliad hwn aros ar flaen y gad yn y frwydr hon.
Leanne Wood.
Hoffwn longyfarch Band y Cory o'r Rhondda am ddod yn gyntaf ym Mhencampwriaethau Band Pres Ewrop ym Montreux, yn y Swistir, dros y penwythnos. Y fuddugoliaeth hon oedd y chweched tro iddynt ennill y gystadleuaeth ers 2008, ac maent wedi dod yn ail ac yn drydydd yn ystod yr un cyfnod o amser. Mae'r fuddugoliaeth wedi cadarnhau eu safle fel y band pres gorau yn y byd, ffaith sy'n cael ei chydnabod gan y system raddio ryngwladol, ac rwy'n falch bod gennym ragoriaeth gerddorol o'r fath yn y Rhondda.
Ychydig o hanes y band: enw gwreiddiol y band oedd 'Ton Temperance'. Yn 1895, newidiwyd yr enw i 'Cory Workingmen's Band' ar ôl cael cymorth ariannol gan yr allforiwr glo Clifford Cory. Cafodd yr enw yma ei dalfyrru yn ddiweddarach i Fand y Cory. Ym 1923, fe wnaethant chwarae i'r BBC, a chredir mai dyna'r tro cyntaf i fand pres gael ei ddarlledu ar y radio. Ers hynny, mae'r band wedi mynd o nerth i nerth ac mae wedi cael ei gydnabod fel band pres gorau'r byd ers 13 o flynyddoedd.
Mae angen llawer o dalent, gwaith caled ac ymroddiad i fod yn fand gorau'r byd a chynnal y safle hwnnw. Mae Band y Cory yn ysbrydoliaeth go iawn, nid yn unig yn y Rhondda, ond ledled Cymru a thu hwnt. Maent wedi dangos beth ellir ei gyflawni gyda digon o benderfyniad. Ond mae bod yn fand gorau'r byd hefyd yn golygu eu bod angen arian. Felly, os oes unrhyw un a fyddai'n hoffi helpu Band y Cory yn ariannol, edrychwch ar eu gwefan neu cysylltwch â mi am ragor o wybodaeth os gwelwch yn dda. Rwy'n siŵr y byddent yn hapus iawn i dderbyn eich cefnogaeth. Diolch yn fawr.
Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.
Eitem 5 ar yr agenda yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar berthynas Llywodraeth Cymru â Pinewood, a galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i wneud y cynnig. Nick Ramsay.
Cynnig NDM7039 Nick Ramsay
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus—'Perthynas Llywodraeth Cymru â Pinewood'—a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Chwefror 2019
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yn briodol, yn dilyn y cyhoeddiad yn dweud bod Pinewood wedi cyrraedd Caerdydd yn 2014, roedd cyffro a chynnwrf fod y fath frand byd-enwog yn dod i Gymru ac y gallai ddod ag oddeutu £90 miliwn i mewn i economi Cymru a rhoi hwb i'r diwydiant ffilm yng Nghymru ar lefel ryngwladol. Roedd dyfodiad Pinewood yn cynnig cyfle a gobaith ond bedair blynedd yn ddiweddarach, penderfynodd Llywodraeth Cymru ddod â'r brydles a'r cytundeb cydweithredol a oedd ganddi gyda'r cwmni i ben. Daeth y stiwdio a'r gwaith o weithredu'r gronfa buddsoddi yn y cyfryngau dan reolaeth uniongyrchol Llywodraeth Cymru. Felly beth ddigwyddodd? Beth achosodd i'r stori garu hon droi'n drasiedi?
Wel, a dweud y gwir, roedd yn gomedi o gamgymeriadau. Ymrwymodd Llywodraeth Cymru i gytundeb nad oedd yn ddigon eglur o ran trefniadau gweithredu a chytundeb cydweithredol nad oedd yn egluro rolau a chyfrifoldebau pob partner yn glir. Nid yn unig fod diffyg eglurder ynglŷn â'r enillion ariannol ac economaidd a ddisgwylid drwy'r cytundebau hyn, ond hefyd roedd diffyg cydnabyddiaeth ymddangosiadol o'r gwrthdaro buddiannau a achoswyd gan y trefniadau. Ymrwymodd Llywodraeth Cymru i gytundeb gydag un o is-gwmnïau Pinewood i reoli'r gyllideb buddsoddi yn y cyfryngau gwerth £30 miliwn, ond methodd swyddogion roi gwybod i'w Gweinidog ynglŷn â'r gwrthdaro buddiannau posibl a ddeilliai o'r ffaith bod Pinewood yn gweinyddu'r gyllideb hon a hefyd yn darparu ei wasanaethau ei hun yn Llundain i'r diwydiant.
Dywedwyd wrthym fod y panel buddsoddi yn y cyfryngau wedi ei sefydlu i liniaru'r risg. Daethom i'r casgliad nad oedd yn fesur lliniaru digonol, yn enwedig o ystyried bod y canfyddiad o fantais i Pinewood yn dal i fodoli ar draws y diwydiant a bod hwn yn wrthdaro ehangach na'r prosiectau unigol a oedd dan ystyriaeth.
Ynghyd â'r trefniadau cytundebol gwael hyn, mae'n ymddangos bod diffyg diwydrwydd dyladwy sylweddol. Dewisodd Llywodraeth Cymru brynu safle ar gyfer y stiwdio a oedd yn cynnwys tri ased gwahanol ac anarferol iawn a gostiai £6 miliwn, a methodd gomisiynu arolwg strwythurol llawn ymlaen llaw. Mae'r rhan fwyaf o bobl yn cael arolwg strwythurol cyn prynu tŷ, ond roedd hwn yn bryniant £6 miliwn ac roedd Llywodraeth Cymru yn fodlon ar adroddiad prisio a'r ffaith bod y safle'n cael ei werthu gan fuddsoddwr sefydliadol.
Eto, fel y gwelsom, ni nodwyd gwaith atgyweirio hanfodol i'r to cyn ei brynu, ac arweiniodd hyn at gostau sylweddol. I wneud pethau'n waeth, nid oedd swyddogion Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o unrhyw ofyniad i adfer yr eiddo rhestredig gradd II ar y safle ac nid oeddent yn bwriadu gwneud unrhyw beth i hwn oni bai eu bod yn cael eu cyfarwyddo i wneud hynny, nid y camau gweithredu y byddech yn eu disgwyl gan y rheini sydd â chyfrifoldeb dros Cadw, a ddylai, yn sicr, fod yn esiampl dda o berchennog adeiladau rhestredig. Serch hynny, yn ddiddorol, mae'r adeilad hwn wedi'i ddatgofrestru gan Cadw yn ddiweddar, ac mae hyn i gyd yn awgrymu, ar y gorau, fod cryn dipyn o naïfrwydd yn bodoli o fewn Llywodraeth Cymru.
Ceir tystiolaeth bellach o'r naïfrwydd hwn yn y diffyg eglurder ynghylch gwerth y gwaith a wnaed gan Pinewood i wella'r adeilad. Roeddem yn synnu ac yn pryderu nad oedd Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o'r hyn a gwblhawyd gan y cwmni pan ddaeth y safle yn ôl i'w dwylo unwaith eto, ac roeddem hyd yn oed yn fwy pryderus nad oedd unrhyw fanylion am werth y gwaith a nodwyd yn y cytundeb i osod y safle, ac nad oedd Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o'r ffaith nad oedd y wybodaeth hon, y cytunwyd arni yn y prif delerau, wedi cael ei throsglwyddo i'r contract gyda Pinewood.
Canlyniad hyn i gyd oedd diffyg eglurder ynglŷn â phwy a oedd yn gyfrifol am ba welliannau a chafodd effaith negyddol yn y pen draw ar bwrs y wlad—a dyna pam fod y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus wedi edrych ar hyn—gan na ellid bod wedi gwerthuso'r gwerth am arian. Unwaith eto, dychwelaf at thema naïfrwydd. I'r pwyllgor, roedd hyn i'w weld yn gamgymeriad sylfaenol yn negodiadau'r contract—negodiadau gwreiddiol y contract.
Cytunasom fel pwyllgor i beidio â mynegi barn ar i ba raddau y mae'r cytundeb gyda Pinewood wedi dangos gwerth am arian, gan ein bod yn cydnabod bod buddsoddi masnachol yn y diwydiant ffilm a theledu, o ran ei natur, yn ansicr ac y gall gymryd blynyddoedd lawer i elwa ar y manteision economaidd. Credwn fod angen taro cydbwysedd rhwng buddsoddi arian cyhoeddus er mwyn sicrhau'r buddsoddiad mwyaf posibl yng Nghymru a'r risg sy'n codi o hyn, ond mae'n rhaid rheoli'r risgiau hyn ac mae'n rhaid i'r trefniadau gwneud penderfyniadau a llywodraethu yn eu cylch fod yn seiliedig ar wybodaeth gadarn a thrylwyr.
Rydym yn croesawu ymateb Llywodraeth Cymru i'n hadroddiad, lle mae'n derbyn wyth o'r naw argymhelliad a wnaed gennym ac yn nodi'r gwaith y mae wedi'i wneud i sicrhau bod gwersi'n cael eu dysgu o brofiad Pinewood ac yn cael eu rhannu, yn ogystal â gweithredu gweithdrefnau a chanllawiau newydd, er mwyn atal camgymeriadau tebyg rhag digwydd eto.
Fodd bynnag, nodwn fod ei hymateb i argymhellion 3, 4 a 5, sy'n ymwneud â gwrthdaro buddiannau, yn benodol i Pinewood, tra bod ysbryd ein hargymhellion yn ymwneud â lliniaru gwrthdaro buddiannau yn fwy cyffredinol o ran holl ymwneud Llywodraeth Cymru â busnesau'r sector preifat. Byddwn yn mynd ar drywydd y mater hwn yn fuan fel rhan o waith y pwyllgor ar gymorth ariannol Llywodraeth Cymru i fusnesau.
Hefyd, er bod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod argymhelliad 8 yn ein hadroddiad, nodwn ei bod yn cytuno ag egwyddor gyffredinol yr argymhelliad ac wedi dechrau gweithio i ddatblygu canllawiau arferion gorau ar gyfer caffaeliadau a gyflawnir yn enw Gweinidogion Cymru. Byddwn yn cadw golwg ar gydymffurfiaeth â'r canllawiau hyn ar ôl iddynt gael eu cyflwyno er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu gweithredu ac yn gweithio'n effeithiol.
Ddirprwy Lywydd, i grynhoi, mae'n anffodus fod Pinewood, fel sawl prosiect arall gan Lywodraeth Cymru yn y gorffennol, gan gynnwys Kancoat, a Cylchffordd Cymru yn wir, wedi dioddef yn sgil diffyg diwydrwydd dyladwy Llywodraeth Cymru mewn rhai ffyrdd: trefniadau llywodraethu gwael; gwneud penderfyniadau anwybodus yn ein barn ni; a diffyg tryloywder ac eglurder sylfaenol cyffredinol, yn enwedig wrth lunio'r contractau gwreiddiol hynny.
Dim ond y llynedd y cyflwynodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus adroddiad ar gyllid cychwynnol Llywodraeth Cymru i brosiect Cylchffordd Cymru, gan dynnu sylw at y ffaith bod angen i'r rheini sy'n gyfrifol am wario arian trethdalwyr sicrhau bod prosesau gwneud penderfyniadau yn gydlynus ac wedi cael eu dogfennu'n gywir. Fel gyda Cylchffordd Cymru, mae perthynas Llywodraeth Cymru â Pinewood wedi arwain at rai penderfyniadau anesboniadwy.
Ni wn faint yn rhagor o weithiau y bydd yn rhaid i ni drafod yr un materion sy'n codi o hyd o fewn Llywodraeth Cymru mewn perthynas â diffyg diwydrwydd dyladwy a diffyg crebwyll. Er ein bod i gyd yma yn derbyn yr angen i gymryd risgiau rhesymol, rhaid i'r angen i fod yn gyfrifol gydag arian cyhoeddus fod yn bwysicach na dim arall. Mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru, wrth symud ymlaen, yn dysgu o'i phrofiadau yn y gorffennol ac yn dangos unwaith ac am byth fod gwersi wedi'u dysgu mewn perthynas â'i dull o ariannu busnesau preifat yng Nghymru.
Mae'n werth inni fyfyrio ar y stori hon y buom yn dadlau yn ei chylch dros y naw mis diwethaf. Mae'n sicr yn wir fod gan gyn Weinidog yr economi y Llywodraeth gynlluniau uchelgeisiol iawn ar gyfer ehangu'r diwydiant ffilm a theledu yng Nghymru, ac roedd hynny ynddo'i hun yn ganmoladwy, ond ni roddwyd digon o ystyriaeth i'r gwrthdaro buddiannau posibl, ac ni chawsant eu hystyried yn briodol wrth greu partneriaeth â chwmni sy'n werth miliynau o bunnoedd ac sydd â buddiannau byd-eang. Pysgodyn bach iawn oedd Llywodraeth Cymru o'i chymharu â Pinewood, ac, er nad yw'n bosibl dod i'r casgliad fod Llywodraeth Cymru wedi cael ei chamarwain, mae'n sicr yn wir nad oedd y mesurau diogelu priodol ar waith i sicrhau na ddigwyddai hynny.
Ni wnaed arolwg o'r adeilad cyn y pryniant. Ymddengys i mi fod mochyn mewn cwd yn ymateb annigonol i fuddsoddiad o £6 miliwn, ac mae hynny'n parhau i fod yn bryder sylweddol. Roedd y cyngor a roddwyd i Weinidogion hefyd yn gwbl fud mewn perthynas â rhwymedigaethau TAW posibl, a oedd yn eithaf syfrdanol o dan yr amgylchiadau. Cawsom sicrwydd cadarn iawn gan weision sifil na fyddai hynny'n digwydd eto. Ond yn wir, ni roddwyd unrhyw ystyriaeth chwaith i'r rhwymedigaethau roedd y Llywodraeth yn eu hysgwyddo drwy brynu ased a oedd yn cynnwys adeilad rhestredig. Nid yw'n ddigon da i Lywodraeth Cymru, sy'n gorfod gorfodi statws adeiladau rhestredig, fod yn ddi-hid am y rhwymedigaethau y mae gofyn iddynt gydymffurfio â hwy fel perchennog eiddo o'r fath.
Fodd bynnag, byddai'n grintachlyd inni beidio â chydnabod y gweddnewidiad sydd wedi digwydd dros y pum mlynedd diwethaf o ran statws Cymru fel lleoliad ar gyfer creu ffilmiau a darlledu. A fyddai stiwdios Bad Wolf wedi'u lleoli yng Nghymru o gwbl pe na bai stiwdios Pinewood yn bodoli? Mae'n amhosibl dweud, ond mae'n debygol iawn na fyddent wedi meddwl gwneud hynny. Rydym bellach yn y sefyllfa hapus fod gan stiwdios Bad Wolf gynifer o archebion ar eu llyfrau fel eu bod wedi tyfu'n rhy fawr i'w safle ei hun ac yn gorfod dibynnu ar stiwdios Pinewood i gyd dros y 12 mis nesaf er mwyn cyflawni'r holl waith y maent yn ei wneud. Mae gennym hefyd adeilad newydd y BBC, a fydd yn un o ganolfannau darlledu mwyaf eiconig y DU ac yn wir, ledled y byd pan fydd yn agor yn y Sgwâr Canolog yng nghanol Caerdydd. Hefyd, mae gennym lawer mwy o wobrau'n cael eu hennill gan S4C, ITV a'r BBC am eu cynyrchiadau drama a rhaglenni dogfen, ac mae hyn i gyd yn newyddion cadarnhaol iawn i economi Cymru.
Ond mae angen i ni adeiladu ar y llwyddiant hwnnw drwy sicrhau ein bod, yn y contractau a luniwn, yn mynnu bod cyfran o'r is-gontractio'n cael ei wneud gyda chwmnïau Cymreig, a bydd hynny'n ein galluogi i adeiladu ar y ffaith bod Cymru'n cael ei chydnabod fel lleoliad ar gyfer ffilmio ac ôl-gynhyrchu. Ond mae angen i ni sicrhau, er enghraifft, os oes gennym actorion talentog yng Nghymru, ac rwy'n siŵr fod hynny'n wir, nad oes angen iddynt fynd i Lundain er mwyn cael clyweliadau ar gyfer rhannau. Nid oes unrhyw reswm penodol pam na all hynny ddigwydd yma. Nid oes angen i Gymru gael ei hystyried fel rhywle ar gyrion pellaf Llundain mewn perthynas â ffilm a theledu. Yn sicr, mae gennym gyfle i wneud hynny er mwyn sicrhau bod Cymru'n cael ei llwyddiant rhyngwladol ei hun yn hyn o beth, ond mae gennym fwy o waith i'w wneud i sicrhau bod gennym yr ystod lawn o sgiliau a bod hynny'n cael ei gydnabod ledled y byd.
Roedd y cyhoeddiad am ddyfodiad Pinewood i Gaerdydd bum mlynedd yn ôl yn llawn cyffro ac edrych ymlaen. Gobeithiwyd y byddai'r brand yn dod â budd amcangyfrifedig o £9 miliwn i economi Cymru. Codwyd gobeithion y byddai'r cyfle a gâi ei ddarparu yn rhoi hwb i'r diwydiant ffilm yng Nghymru ar lefel ryngwladol, ac eto, bedair blynedd yn unig yn ddiweddarach, chwalwyd pob gobaith pan benderfynodd Llywodraeth Cymru derfynu'r brydles a'r cytundeb cydweithredol a oedd ganddi gyda'r cwmni. A yw hyn yn swnio'n gyfarwydd? Fe ddylai. Y llynedd, buom yn trafod prosiect arall a gafodd groeso mawr gan ei fod yn gyfle i adfywio un o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig yn economaidd yng Nghymru. Methodd prosiect Cylchffordd Cymru o ganlyniad i swyddogion yn gwneud camgymeriadau sylfaenol, hepgoriadau a diffyg crebwyll. Unwaith eto, codwyd gobeithion a'u chwalu wedyn gan y llanastr a wnaeth Llywodraeth Cymru wrth ymdrin â phrosiect pwysig.
Roedd adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar Cylchffordd Cymru yn galw am ddulliau llywodraethu cadarn ac effeithiol a sianeli cyfathrebu mewnol i warantu na fydd materion o'r fath yn codi eto. Fodd bynnag, mewn perthynas â Pinewood, synnodd y pwyllgor fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gontract nad oedd yn glir o ran y trefniadau gweithredu. Hefyd, methodd y trefniadau cydweithredu â nodi rolau a chyfrifoldebau pob partner yn glir. Yr hyn a berai'r pryder mwyaf i'r pwyllgor oedd ansawdd anghywir, anghyflawn a gwael y cyngor a roddwyd i Weinidogion ar fwy nag un achlysur. Mewn tystiolaeth lafar, dywedodd Llywodraeth Cymru fod gwerthusiad annibynnol wedi'i gynnal cyn caffael yr adeilad yng Ngwynllŵg, ond wedyn daeth yn amlwg fod cyflwr yr adeilad fel y'i nodwyd yn anghyson â'r angen i gyflawni atgyweiriadau hanfodol i do'r adeilad, y gwelwyd ei fod yn gollwng. Mae'n anhygoel fod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu peidio â chomisiynu syrfëwr strwythurol i arolygu'r adeilad cyn ei brynu, sy'n arfer cyffredin mewn unrhyw fusnes neu eiddo pan fyddwch yn prynu. Rhagdybiodd Llywodraeth Cymru y byddai'r adeilad wedi'i gynnal a'i gadw i safon resymol am ei fod yn cael ei werthu gan fuddsoddwr rhyngwladol neu sefydliadol. Mae hyn yn gwbl annerbyniol, Ddirprwy Lywydd. Sylwaf fod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod argymhelliad y pwyllgor mewn perthynas â chaffael arolygon. Ni allwn ond gobeithio y bydd y canllawiau arferion gorau y dywedir eu bod yn cael eu datblygu ar hyn o bryd yn mynd i'r afael â'r mater hwn.
Daeth enghraifft arall o ddiffyg diwydrwydd dyladwy yn glir mewn perthynas â mater TAW ar y cytundeb noddwr. O dan y cytundeb, byddai Llywodraeth Cymru yn talu £438,000 y flwyddyn i Pinewood i farchnata a hyrwyddo'r stiwdio. Yn fuan ar ôl llofnodi'r cytundeb, sylwyd bod y TAW wedi'i hepgor. Golygodd hyn fod cost flynyddol y nawdd yn codi £87,600 i £525,000 i gyd. Mae'r methiant hwn i gael cyngor arbenigol ar oblygiadau TAW yn dangos diffyg gallu o fewn Llywodraeth Cymru i sicrhau bod datblygiad cynigion i ymrwymo i gytundebau masnachol ansafonol gyda chwmnïau preifat yn ddigon cadarn.
Lywydd, drwy gydol eu cyfnod mewn grym, mae record Llywodraeth Cymru wedi bod yn frith o benderfyniadau gwael sydd wedi colli arian i'r trethdalwr mewn modd mor wastraffus: prosiect Cylchffordd Cymru, gwerthu tir drwy gronfa buddsoddi Cymru mewn adfywio, Kancoat, Cyfoeth Naturiol Cymru. Fel y dywedodd Nick Ramsay, Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn ei ragair i'r adroddiad hwn, mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn dysgu o'i phrofiadau yn y gorffennol ac yn dangos bod gwersi wedi'u dysgu o ran ei dull o ariannu busnesau preifat. Ni allwn ond gobeithio y bydd yn gwneud hynny. Diolch.
Roeddwn eisiau diolch i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus am gynnal yr adroddiad hwn. Roeddwn eisiau cymryd rhan yn y ddadl hon yn fy rôl fel Cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu.
Edrychasom yn gyntaf ar y mater hwn fel rhan o'n hymchwiliad i gynhyrchu ffilmiau a rhaglenni teledu mawr yng Nghymru y llynedd, cyn i ni drosglwyddo'r mater i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i graffu arno ymhellach. Cynhaliwyd dwy sesiwn gyda'r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon a Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth. Roedd yn amlwg fod problemau penodol gyda'r prosiect hwn o'r cychwyn cyntaf. Drwyddi draw, roedd y nod yn glodwiw, ond roedd y modd y'i gweithredwyd yn wael. Yn amlwg, rydym eisiau gweld Cymru'n cynnal cyfleuster stiwdio o'r radd flaenaf, fel y dywedwyd eisoes, ac rydym yn gwbl gefnogol i ymdrechion i godi proffil Cymru'n rhyngwladol yn y diwydiant ffilm. Fodd bynnag, roedd y cyngor a roddwyd i'r Llywodraeth yn seiliedig ar fodel nad oedd erioed yn addas i'r wlad hon. Fel y dywedwyd, cafodd y safle ei brynu heb arolwg strwythurol llawn; dywedwyd wrthym fod hyn yn cyfyngu ei ddefnydd i'r maes teledu yn unig, ac nid cynhyrchu ffilmiau. Fel y dywed adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, nid yw'r cytundeb gyda Pinewood
'yn eglur o ran trefniadau gweithredu,'
ac nid oedd y cytundeb cydweithredol
'yn egluro rolau a chyfrifoldebau pob partner yn eglur.'
Mae bron pob agwedd ar y prosiect, o'r lleoliad i'r cytundeb rheoli i'r datganiadau blynyddol amcangyfrifedig, wedi cael eu profi'n ddiffygiol ers hynny.
Ar wahân i'r problemau gyda'r adeilad a'r cytundeb, a oedd yn destun pryder mawr i'r pwyllgor, rwyf eisiau sôn am ddiffyg tryloywder y Dirprwy Weinidog. Gwrthododd Llywodraeth Cymru ddatgelu manylion ei pherthynas â Pinewood, gan gyfeirio at sensitifrwydd masnachol. Fodd bynnag, nid oedd adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf y llynedd, ond yn hepgor un ffigur ariannol—sef gwerth y ffi reoli. Roedd y pwyllgor yn siomedig ei bod yn ymddangos bod sensitifrwydd masnachol yn cael ei ddefnyddio i osgoi cwestiynau anodd ynglŷn â gwerth am arian. Roedd holl natur ein trafodaeth gyda'r Dirprwy Weinidog yn anfoddhaol. Er enghraifft, gofynnwyd a oedd cynlluniau i adnewyddu'r ffermdy rhestredig Gradd II ar y safle a brynwyd gan y Llywodraeth, ac atebodd y Dirprwy Weinidog na fyddent ond yn gwneud hynny pe baent yn cael eu gorfodi i wneud hynny gan arolygydd cynllunio neu Cadw. Does bosibl na allwn ddisgwyl mwy gan yr aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am ddiogelu ein treftadaeth.
Ym mis Ionawr 2018, dywedodd y Dirprwy Weinidog wrth fy nghyd-Aelod Adam Price, a dyfynnaf:
'Nid yw'n gywir i ddweud ein bod ni fel Llywodraeth yn talu i Pinewood'.
Fodd bynnag, fel y nodir yn glir yn adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, ym mis Tachwedd 2017 ymrwymodd Llywodraeth Cymru i gytundeb â Pinewood, lle byddai costau gweithredu'r cyfleuster, ynghyd â thalu ffi reoli Pinewood, bellach yn cael eu talu'n llawn gan Lywodraeth Cymru. Rydym yn parhau i fod yn bryderus, er gwaethaf ceisiadau am wybodaeth gan amryw o Aelodau Cynulliad, na fyddai'r wybodaeth hon yn gyhoeddus o hyd oni bai am yr adroddiad hwn gan Swyddfa Archwilio Cymru, a byddai Aelodau'r Cynulliad a'r cyhoedd yng Nghymru yn dal i fod yn y tywyllwch.
Mae angen i ni wybod bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod eu buddsoddiad mewn cynyrchiadau ffilm a theledu mawr yn llwyddiant. Hyd yn hyn, mae eu hymwneud â Pinewood wedi bod yn frith o gamgymeriadau amatur, y dywedir wrthym eu bod yn destun adroddiad ar y gwersi a ddysgwyd, a ddosberthir i weddill Llywodraeth Cymru, ond maent yn gamgymeriadau mor sylfaenol fel na ddylid bod wedi eu gwneud yn y lle cyntaf.
Yn ystod ein hymchwiliad, gwelsom fod y gyllideb buddsoddi yn y cyfryngau yn tangyflawni'n ddifrifol. Ni chawsom unrhyw ateb clir i'n cwestiwn ynglŷn ag a oedd y refeniw blynyddol a amcangyfrifwyd o'r cytundeb â Pinewood wedi'i ddiwygio i adlewyrchu perfformiad gwirioneddol y cytundeb cydweithredol. Ym mis Mawrth, gofynnais i'r Dirprwy Weinidog am ddiweddariad ar y gyllideb buddsoddi yn y cyfryngau, a dywedwyd wrthyf y byddai un yn cael ei ddarparu ym mis Rhagfyr, fel rhan o ymateb i argymhellion y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus. Mae hyn yn golygu na chafwyd unrhyw wybodaeth gyfredol ar y gyllideb buddsoddi yn y cyfryngau ers mis Mehefin y llynedd. Mae ein rhanddeiliaid yn y diwydiant yn haeddu gwybod beth yw'r gyfradd enillion ar fuddsoddiadau a wneir gydag arian cyhoeddus yn gynt na hynny.
Rydym yn falch o glywed bod y gofod stiwdio bellach yn cael ei rentu i Bad Wolf, ond hoffwn i'r Dirprwy Weinidog ddweud wrthym beth yw'r ffigurau diweddaraf ar gyfer gwariant ac elw ar fuddsoddiad o'r gyllideb buddsoddi yn y cyfryngau, beth yw'r incwm rhent a dderbynnir gan Bad Wolf, a sut y mae hyn yn cymharu ag unrhyw gostau parhaus sydd gan Lywodraeth Cymru. Ac a all y Dirprwy Weinidog ddatgan yn glir a yw safle Gwynllŵg bellach yn cynhyrchu elw i Lywodraeth Cymru ai peidio? Mae'r wybodaeth hon yn bwysig er mwyn deall y gwerth am arian o'n hymrwymiad ariannol i'r un prosiect hwn. Ond mae'r diffyg tryloywder cyffredinol a brofwyd gennym wrth ymwneud â Llywodraeth Cymru yn parhau i lesteirio ein hymchwiliadau i'r ffordd orau y gall y Llywodraeth gefnogi a chynnal y diwydiant bywiog hwn. Rydym yn gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru o hyn ymlaen yn llawer mwy tryloyw ynglŷn â'i pherthynas â Bad Wolf, ac na fydd galw am adroddiad gan y swyddfa archwilio cyn i fanylion pwysig am benderfyniadau gwariant cyhoeddus ddod i'r amlwg.
A gaf fi ddechrau drwy ddiolch yn ddidwyll i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus am dderbyn y gwahoddiad gan y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu i fynd ar drywydd ymchwiliadau pellach i berthynas Llywodraeth Cymru â Pinewood? Mae'n adroddiad ardderchog. Nid wyf hyd yn oed yn gwybod lle rwyf am ddechrau arno, ond rwy'n meddwl y dechreuaf gyda'r pwynt yr oeddech chi'n sôn amdano, Bethan, sy'n ymwneud â thryloywder, oherwydd fy mod yn credu bod hynny'n berthnasol i'r Llywodraeth yn ei chyfanrwydd.
Fel pawb arall, ar ôl croesawu cyhoeddiad cychwynnol y Llywodraeth am y trefniant newydd gyda Pinewood, ac ar ôl tua blwyddyn, gofynnais gwestiynau gweddol ddiddrwg-ddidda am gynnydd a dangosyddion perfformiad allweddol, yn sgil craffu rheolaidd mewn gwirionedd. Roedd ymatebion Edwina Hart yn fyr a heb fawr o wybodaeth fel roeddem wedi dod i'w ddisgwyl ar y pwynt hwnnw, ond hyd yn oed bryd hynny roedd cyfrinachedd masnachol yn dod i'r amlwg. Nid oeddem yn clywed dim am y trefniadau i ddod â £90 miliwn i mewn i'r economi. Erbyn mis Mawrth 2017, rai blynyddoedd yn ddiweddarach, dywedodd arweinydd y tŷ ar y pryd, mewn ymateb i fy ngheisiadau, fod datganiad ar y ffordd. Ni ddigwyddodd dim byd.
Nid wyf am fynd drwy hyn i gyd, ond euthum ymlaen wedyn i ofyn amryw o gwestiynau, ac nid oedd yn glir ar y pryd beth oedd y gwahaniaeth rhwng cyllideb buddsoddi yn y cyfryngau a chyllideb Sgrîn Cymru—gan nad oedd fawr o wybodaeth ar gael ar y gwefannau amrywiol—ac roedd yr hyn a gefais yn anghyflawn neu roedd oedi mawr cyn cael ymateb, eto'n frith o gyfeiriadau at gyfrinachedd masnachol. Ac erbyn hyn, roeddwn yn rhannu fy anesmwythyd gydag Aelodau eraill. Roeddwn hyd yn oed wedi cysylltu â'r Comisiynydd Gwybodaeth pan wrthodwyd ceisiadau rhyddid gwybodaeth. I dorri stori hir yn fyr, roedd Cadeirydd y pwyllgor diwylliant—Bethan—yn cytuno bod angen archwilio hyn ymhellach, ac rwy'n ddiolchgar iawn i chi am fanteisio ar y cyfle hwnnw.
Oherwydd daw'n amlwg bellach erbyn 2016, pan ddechreuais i ofyn y cwestiynau hyn, fod llawer iawn o newidiadau costus wedi digwydd yn y berthynas honno. Roedd y gwrthdaro buddiannau a oedd yn mudlosgi wedi tanio ac roedd y rhagolygon ariannol ymhell i ffwrdd ac nid oedd neb yn gwybod amdano. Er gwaethaf cwestiynau pellach gennyf fi ac Adam Price, ni chafodd hyn ei amlygu mewn unrhyw ffordd o gwbl tan i'r Archwilydd Cyffredinol, fel y gwyddom, ymwneud â'r mater y llynedd.
Rwyf am i Lywodraeth Cymru wybod ein bod yn deall ac yn parchu cyfrinachedd masnachol. Ond mae angen i Weinidogion barchu eu dyletswydd i fod yn agored pan fydd y Cynulliad hwn yn craffu arnynt, ac efallai y dylent gofio hefyd y gallai rhai ohonom fod yn gyfarwydd â'r cysyniad o gyfrinachedd masnachol o'n bywydau blaenorol. Gwn yn union beth y mae'n ei olygu. Nid Harry Potter yw Llywodraeth Cymru. Nid oes ganddi glogyn anweledigrwydd a rhaid iddi roi'r gorau i drin cyfrinachedd masnachol fel pe bai'n glogyn o'r fath.
Hyd nes y cafwyd craffu gan y pwyllgor, ni chynigiodd Gweinidog na Dirprwy Weinidog yr esboniad ar unrhyw bwynt fod Pinewood wedi rhoi feto ar atebion i gwestiynau, oherwydd pe baent wedi gwneud hynny, gallwn i ac eraill fod wedi ystyried rhoi atebion wedi'u golygu, er enghraifft. Ac er nad oes argymhelliad ar gyfrinachedd masnachol yn yr adroddiad hwn, edrychaf ymlaen at ganfyddiadau'r pwyllgor ar ôl yr ymchwiliad sydd ar y gorwel i gymorth Llywodraeth i fusnesau.
A sôn am fywydau blaenorol, roeddwn yn falch iawn fod y pwyllgor wedi edrych ymhellach ar y ffaith na chafwyd arolwg adeiladau ar gyfer adeilad y stiwdio nac amserlen waith ar gyfer gwelliannau i denantiaid. Ble mae tystiolaeth y Llywodraeth y byddai gwario £1 filiwn ar y to wedi ychwanegu gwerth cyfatebol i'r daliad hwn? Sut na chlywodd rybuddion fod cael y bwthyn ar y safle yn rhwymedigaeth pan fynnodd y gwerthwr ei fod yn rhan o'r pecyn gwerthu? Pe bawn wedi cynghori cleientiaid yn y modd hwn pan oeddwn mewn practis preifat, gyda chaffaeliad o'r math hwn, a'r hyn a wyddom am y contract, rwy'n eithaf sicr y byddai hawliad wedi'i wneud yn erbyn fy nghwmni gan y prynwr, a'r benthyciwr o bosibl, ac rwy'n weddol sicr y buaswn wedi cael fy niswyddo. Ac rwy'n chwilfrydig i wybod pwy oedd â chyfrifoldeb yn yr achos hwn.
Oherwydd pa hyder y gallwn ei gael yn awr, ar ôl clywed bod Llywodraeth Cymru newydd brynu warws i storio meddyginiaeth rhag ofn y cawn Brexit 'dim bargen'? Sut y gallwn fod yn siŵr eu bod hyd yn oed wedi sicrhau bod y lle yn sych? Ac unwaith eto, pam na allwn gael gwybod ar ba delerau y cafodd Llywodraeth Cymru y warws honno? Rwy'n credu y gallaf deimlo Gweinidogion yn estyn am y clogyn anweledigrwydd eto.
Fel y mae'n digwydd, rwy'n cytuno gyda'r ffaith bod y Llywodraeth wedi gwrthod argymhelliad 8. Mae angen cynnal arolwg adeiladau ar adeiladau sy'n werth llai nag £1 filiwn, hyd yn oed os ydynt i gael eu dymchwel, oherwydd dyna sut rydych yn nodi problemau sy'n berthnasol i amcangyfrif costau dymchwel. Felly, rwy'n gobeithio efallai y bydd Llywodraeth Cymru yn derbyn yr argymhelliad hwnnw.
Rwy'n meddwl mai'r hyn y mae pawb ohonom wedi'i ddysgu o'r stori druenus hon yw nad Jeremy Corbyn yn unig sy'n cyflwyno asynnod ac ungyrn fel ceffylau pedigri. Pan fyddwch yn cyflwyno eich enillydd rasys nesaf i wneud arian, Weinidogion, byddai'n well i chi brofi ei bedigri ymlaen llaw. A phan fyddwch yn cymryd rhan mewn trefniadau pwrpasol—a chofiwch fod cytundeb Bad Wolf yn drefniant pwrpasol—gwnewch yn siŵr eich bod wedi caffael yr arbenigedd negodi angenrheidiol. Dywedodd un o gyfarwyddwr Bad Wolf, rhywun a arferai weithio i'r Llywodraeth, fod diffyg capasiti yn yr adran honno. A Jenny, rydych chi'n llygad eich lle, os ydych chi'n ymdrin â Darth Vader, nid ydych yn anfon Bambi i mewn i drafod y cytundeb.
Felly, yn olaf, rydych wedi cael eich dwyn i gyfrif yn gadarn yma, Lywodraeth Cymru. Rwyf am glywed heddiw eich bod yn mynd i dderbyn cyfrifoldeb am hyn, a dangos eich atebolrwydd wedyn. Diolch yn fawr.
A gaf fi alw yn awr ar y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, Dafydd Elis-Thomas?
Diolch yn fawr i'r Dirprwy Lywydd a diolch i Gadeirydd y pwyllgor am ei ffordd gwrtais a rhesymol o gyflwyno ei adroddiad, a dŷn ni yn gwerthfawrogi, yn wir, gynnwys yr adroddiad yma a dwi'n falch ei fod o'n derbyn ein bod ni, fel Llywodraeth, wedi ymateb i bob un o'r argymhellion ac eithrio un. Dŷn ni wedi gosod allan yn glir yn y llythyr anfonais i i'r pwyllgor, ac yn yr hyn a ddywedais i mewn tystiolaeth, sut ydyn ni'n bwriadu gweithredu er mwyn cywiro camgymeriadau a wnaed yn y gorffennol. Ac i fod yn hollol glir, dŷn ni'n derbyn y feirniadaeth yn amlwg sydd wedi ei rhoi gan y pwyllgor. Dyna ydy diben craffu gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ac yn wir gan y pwyllgor perthnasol ynglŷn â diwylliant hefyd.
Dwi'n falch hefyd fod Jenny Rathbone ac eraill wedi nodi pwysigrwydd y sector yma i Gymru ac mae o'n digwydd bod yn gyd-ddigwyddiad hapus i mi, beth bynnag, fy mod i'n ymateb i'r adroddiad negyddol yma, fel petai, ddiwrnod ar ôl gwneud datganiad ynglŷn â Chymru Greadigol. Fe ddywedaf i air pellach am hynny eto cyn y diwedd.
Mi ydym ni wedi gweld twf sylweddol, gyda throsiant blynyddol yn agos i £2 biliwn yn y sector yma yng Nghymru sy'n cyflogi dros 58,000 o bobl, a bod yna 50 y cant yn fwy yn gweithio yn y diwydiant erbyn hyn nag oedd 10 mlynedd yn ôl, ac rwy'n falch bod Aelodau yn cydnabod pwysigrwydd hynna.
Mae gallu cynnal seilwaith stiwdios yn rhan allweddol o unrhyw strategaeth ar gyfer y sector. Fe ges i fy atgoffa'n glir iawn o hynny yn y cyfarfod ag NBC Universal yn ddiweddar ym Mro Morgannwg. Mae yna werthfawrogiad o'r adeiladau sydd gyda ni'n barod ac mae'r cwmnïau yn gweld y posibilrwydd o ddatblygu ymhellach.
Mae Cymru bellach yn ganolfan ragoriaeth ar gyfer dramâu teledu a ffilmiau o ansawdd uchel a dŷn ni'n cydnabod bod yma ddewis cryf iawn ar gyfer cynhyrchu sydd yn cystadlu ag unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig, gan gynnwys wrth gwrs Llundain a dyffryn y Tafwys, sydd mor ddrud o'i gymharu.
Fe wnes i amlinellu'r blaenoriaethau ar gyfer y diwydiannau creadigol ddoe drwy Gymru Greadigol, ac felly fe gyfeiriaf i at hynny cyn i mi ymateb i rai o'r sylwadau pellach. Mi fydd Cymru Greadigol yn ffordd o sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn ysgogi twf yn y dyfodol. Mi fydd yna arbenigaeth ddigonol i ddelio â'r sector. Mi fydd yna gaffael staff ac aelodau o fwrdd a chadeirydd a fydd yn gwbl atebol i ddelio â'r diwydiant creadigol. Dwi yn derbyn, fel un sydd wedi bod yn gweithio'n achlysurol gyda'r sector creadigol ers yr 1980au, fod yna angen sgiliau gwahanol wrth ddelio â busnesion cyfryngau a busnesion sydd yn ymwneud â'r gweithgareddau creadigol nag sydd eu hangen wrth ddelio â busnesion yn arferol. Ac felly, os oes yna ddiffyg wedi bod mewn arbenigaeth a dealltwriaeth o natur arbennig cyllid ar gyfer datblygu yn y diwydiannau creadigol, mae'n sicr yn fwriad gen i y bydd Cymru Greadigol yn gallu manteisio ar y cyngor priodol o fewn y Llywodraeth ac yn arbennig y tu fas i'r Llywodraeth yn yr arbenigaeth y byddwn ni'n ceisio ei recriwtio ar gyfer Cymru Greadigol.
Mae'n bwysig dweud, fel sydd wedi cael ei ddweud yn y ddadl—i ddod yn ôl at sefyllfa Pinewood—ein bod ni wedi cael gwerth i'n diwylliant a'n heconomi yn ogystal ag i'n diwydiannau creadigol drwy gael sefydlu'r enw Pinewood yma yng Nghymru. Mae'r brand wedi helpu i sicrhau bod Cymru yn lleoliad credadwy ar gyfer cynhyrchu ffilmiau a rhaglenni teledu ac mae hynny wedi ei ddangos yn glir drwy'r gwaith sydd wedi ei wneud yma yn barod. Ond mae'r gwersi wedi cael eu dysgu a dwi'n falch bod y pwyllgor yn derbyn yr hyn dŷn ni wedi’i ddweud am hynny. Mae’r gwersi’n cynnwys dysgu’r gwahaniaeth sydd angen ei ddeall rhwng y modelau o weithredu ar gyfer stiwdios ffilm yng Nghymru a gweddill y Deyrnas Unedig, a sut ydym ni’n gallu rhannu’r manteision ehangach i'r economi leol a’r enillion masnachol. Ac mi fydd y gwersi yma ar gael yn union i Gymru Greadigol pan fydd hwnnw’n weithredol o fewn y misoedd nesaf.
Ond mae’n bwysig dweud bod ein perthynas ni â Pinewood wedi sicrhau bod dros £45 miliwn wedi cael ei wario ar gynhyrchu ffilmiau a rhaglenni teledu yng Nghymru, ac rydyn ni’n credu ei bod hi yn briodol priodoli £21.5 miliwn o hyn yn uniongyrchol i gyllid gan y gyllideb fuddsoddi yn y cyfryngau ar ran y Llywodraeth, dros £13.7 miliwn i brojectau gan Pinewood, a tua £7.8 miliwn sy’n weddill i Lywodraeth Cymru ar ôl i Pinewood dynnu nôl o’r gyllideb fuddsoddi ar 31 Hydref 2017.
Wrth gwrs, rŷn ni wedi dweud y bydd yna ddiweddariad arall ar y perfformiad ariannol a'r rhagamcanion ar gyfer incwm yn cael ei roi i’r pwyllgor ym mis Rhagfyr. Rydym ni yn bendant mai dyma’r adeg briodol i wneud hynny, yn unol ag argymhellion 2 a 6 yn adroddiad y pwyllgor. A hefyd, wrth gwrs, mae ystyried y goblygiadau treth ar werth yn fater rydyn ni hefyd wedi gweithredu arno fo gyda thîm yn arbenigo mewn treth ar werth yn Llywodraeth Cymru, fel na fydd camgymeriad mor amlwg â hyn yn digwydd eto. Ac mae’r gwaith wedi dechrau hefyd i ddatblygu, fel y clywson ni, y canllaw arferion gorau ar gyfer caffael fydd yn cael ei wneud yn enw Gweinidogion Cymru. Ac mae’r gwersi yna’n cael eu dysgu ar draws y Llywodraeth. Ac mi fydd y canllaw hwnnw'n ategu’r canllawiau adrannol sydd eisoes mewn bod ac yn sicrhau ein bod ni’n defnyddio’r arferion gorau wrth wneud caffaeliadau gyda’r tryloywder priodol a’r diwydrwydd dyladwy ar draws y Llywodraeth, gan dderbyn y cyfyngiadau, wrth gwrs, sydd yn codi o gwestiwn unrhyw gyfrinachedd sydd yn wirioneddol fasnachol—y pwynt a wnaed gan Suzy Davies.
Mae ein trefniadau cyllid grant, sy’n cynnwys y rhan fwyaf o’n perthnasau cyllido â thrydydd partïon, yn dod o dan ein telerau ac amodau grant, sy’n amlinellu cyfrifoldebau’r ddau barti’n glir. Mae’r berthynas â Pinewood, fel y dywedwyd, yn enghraifft anarferol o ystyried natur arbennig yr hyn a gafwyd er mwyn sefydlu’r cynllun yma. Ac rydyn ni’n derbyn bod y camgymeriadau a wnaed oherwydd natur arbenigol delio â’r cwmni hwn yn rhai y mae’n rhaid inni ddysgu oddi wrthyn nhw yn y dyfodol, a bod yn rhaid inni gael ffordd o ddynesu tuag at y sector greadigol sydd yn briodol i’r sector, fel ein bod ni ddim yn gorfod gwneud eithriadau o gwmnïau unigol yn y presennol a’r dyfodol, fel rydyn ni wedi’i wneud yn y gorffennol. Yn y dyfodol, os oes angen trefniadau pwrpasol i ddiffinio perthynas rhwng partïon, yna mae’n rhaid sicrhau bod cyngor proffesiynol ychwanegol yn cael ei geisio, fel y cyfeiriais i'n gynt, i sicrhau bod yr asesiadau’n gadarn, fel mae’r pwyllgor wedi argymell.
O ran arolygon o bob eiddo gwerth dros £1 miliwn sy'n cael ei gaffael, er ein bod ni’n derbyn yr egwyddor gyffredinol, mi fydd achlysuron lle na fyddai arolwg yn berthnasol, er enghraifft lle mae adeilad yn cael ei brynu neu ei ddymchwel. Rydyn ni’n derbyn fel Llywodraeth ein bod ni wedi nodi'r potensial ehangach ar gyfer gwrthdaro buddiannau yn y dyfodol, ac y byddwn ni’n sicrhau, pan fydd swyddogion yn gweld problemau, y bydd yna dynnu sylw at Weinidogion yn syth, ac mae’n bosib na wnaed hynny yn ddigon cyflym, fel rydyn ni’n ei dderbyn yn yr adroddiad yma.
Mi fydd cymorth ar gyfer y sector yma yn y dyfodol yn cynnwys—fel dywedais i ddoe yn y datganiad mwy cyffredinol ar Cymru Greadigol—pwyslais ar waith teg a hybu sgiliau, sydd yn rhan o’n cynllun ni ar weithredu ar yr economi. Hefyd, mi fydd contract economaidd y cynllun gweithredu ar yr economi yn cyd-fynd â’r synergedd rhwng y celfyddydau a’r diwydiannau creadigol a'n golygu y byddwn ni'n gallu gweld y manteision economaidd, cymdeithasol a diwylliannol gyda’i gilydd, ac mae hynny’n golygu y bydd yna fwy o gyfrifoldeb cymdeithasol cyfrifol tuag at y sector yn y dyfodol.
A gaf fi ofyn i'r Dirprwy Weinidog ddirwyn i ben?
Iawn. Yn olaf, hoffwn ddweud bod y trefniadau gyda Bad Wolf wedi'u cyfeirio—
Mae'r cytundeb gyda Bad Wolf ynglŷn â rhentu'r lle gwag yn Pinewood yn gweithredu am y 12 mis nesaf, ac mae'r gwaith cynhyrchu'n mynd yn ei flaen, ac mae'r adeiladau presennol i gyd yn llawn. Dyw hynny ddim yn cyfiawnhau beth ddigwyddodd yn y gorffennol, ond mae o'n dangos bwriad clir y Llywodraeth i fod yn effeithiol yn y maes yma. Diolch yn fawr.
Diolch. A gaf fi ofyn i Nick Ramsay ymateb i'r ddadl?
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl heddiw a diolch i'r Dirprwy Weinidog hefyd am ei sylwadau, ac i bawb am godi nifer o bwyntiau pwysig? Credaf y dylwn nodi hefyd fod y pwyllgor yn cydnabod bod rhai o'r materion hyn yn dyddio'n ôl gryn dipyn o amser ac yn amlwg, nid oedd y Dirprwy Weinidog yn ei swydd bryd hynny, ond roedd nifer o swyddogion yn eu swyddi ac roeddem yn falch o glywed tystiolaeth ganddynt a gwneud ein hargymhellion.
Os caf gyffwrdd ar rai o'r sylwadau a wnaed gan yr Aelodau a gyfrannodd. Jenny Rathbone, soniasoch am fater TAW—ni soniais am hynny'n iawn yn fy sylwadau agoriadol, felly rwy'n falch i chi ei godi oherwydd roedd yn bwynt pwysig a drafodwyd yn ein hadroddiad. Rydym wedi gweld enghreifftiau eraill mewn prosiectau Llywodraeth Cymru lle nad yw TAW wedi cael ei ystyried i bob pwrpas. Rwy'n gwybod bod y sefyllfa wedi codi gyda'r trafodaethau cynnar ar yr M4 hefyd. Felly, mae hwnnw'n faes lle mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru wneud pethau'n iawn ac mae'n rhaid iddynt feithrin eu harbenigedd yn y maes hwnnw, oherwydd, gadewch inni wynebu'r gwir, mae TAW yn elfen eithaf sylfaenol ym mywydau pawb ohonom mewn gwirionedd, ac ym mywyd Llywodraeth Cymru yn sicr, felly mae'n rhywbeth sydd angen ei gael yn iawn, ac rwy'n falch o glywed y sylwadau gan y Dirprwy Weinidog ynglŷn â hynny.
Fel y dywedoch chi, Jenny, roeddech yn hael yn dweud y gellid cyhuddo Llywodraeth Cymru o geisio bod yn rhy uchelgeisiol yn ôl yn 2014 pan lofnodwyd y contractau gwreiddiol gyda Pinewood. Roedd hwn yn dir arloesol. Fel y dywedodd Mohammad Asghar, mae'n faes a ysgogodd gryn gyffro ar ran y Llywodraeth ac ymhlith pobl ledled Cymru. Mae'n beth gwych i ni gymryd rhan ar y llwyfan rhyngwladol gyda'r diwydiant teledu a ffilm ac rwy'n credu y byddai pawb yn dymuno'n dda i'r prosiect. Wrth gwrs, fel y gwyddom yn awr wrth edrych yn ôl, nid oedd pethau mor hyfryd ag yr ymddangosent ar y pryd, ac yn anffodus, daeth y berthynas honno i ben ychydig o flynyddoedd yn ddiweddarach heb y difidendau a addawyd. Ond roedd yna obaith ar y cychwyn, a gobeithio y gellir ailgynnau'r fflam honno yn y dyfodol.
Mae pawb ohonom yn derbyn nad yw hwn yn faes hawdd i weithredu ynddo; gall gymryd sawl blwyddyn i wireddu manteision menter o'r fath, ond yn bendant ni ddigwyddodd hynny yn yr achos hwn, pan derfynwyd y berthynas honno, felly mae angen dysgu'r gwersi.
Siaradodd Mohammad Asghar am yr adeilad rhestredig. Dylid bod wedi cynnal arolwg yn yr achos hwn—wrth gwrs y dylid bod wedi gwneud hynny. Rwy'n credu bod pawb yn cydnabod hynny bellach. Rwy'n deall y rhesymau pam y gwrthododd Llywodraeth Cymru ein hargymhelliad. Efallai y bydd adegau pan fydd arolwg yn wastraff arian os yw adeilad yn mynd i gael ei ddymchwel, felly ni fyddai angen hynny, nac yn wir y gwrthwyneb i hynny, lle gallai fod achos dros arolwg lle mae pryniannau yn werth llai nag £1 filiwn. Yr hyn yr ydym yn ei ddweud yw, sut bynnag y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud—[Torri ar draws.]—Fe ddof â chi i mewn yn awr, Mike. Sut bynnag y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud, rydym am weld y broses honno'n digwydd fel bod y penderfyniadau cywir yn cael eu gwneud ar y pryd. Mike Hedges.
Roeddwn yn mynd i ddweud, os ydych am ei ddymchwel, does bosibl nad oes angen i chi gael arolwg i weld a oes asbestos neu bethau eraill yn yr adeilad, a fyddai'n cynyddu'r gost o'i ddymchwel.
Ie, rwy'n credu mai'r hyn sydd dan sylw yma yw y bydd amgylchiadau unigol ym mhob achos, ac rydym wedi cytuno fel pwyllgor y dylai'r gweithdrefnau sydd ar waith yn Llywodraeth Cymru fod yn ddigon cadarn fel y gellir ystyried yr amgylchiadau unigol hynny, ac os oes unrhyw awgrym fod angen arolwg, dylai ddigwydd, ac os gellir diystyru arolwg yn gyfan gwbl, gall hynny ddigwydd hefyd. Ond yn amlwg, aeth rhywbeth o'i le yn yr achos hwn. Ond diolch, Mike.
Bethan Sayed, gwn i'ch pwyllgor wneud cryn dipyn o waith yn y maes hwn. Roeddem yn hapus i dderbyn y cais i edrych yn fanylach arno, fel y gwyddoch, o safbwynt budd y cyhoedd—o safbwynt gwerth am arian cyhoeddus. Rwy'n falch i chi ei gyfeirio atom. Gwnaethoch bwynt diddorol yn eich cyfraniad nad oedd y model y mae Llywodraeth Cymru'n dibynnu arno yn addas i Gymru. Nid wyf yn siŵr a wnaethom y pwynt hwnnw yn ein hadroddiad—awgrymwyd hynny yn ein tystiolaeth—ond credaf ei fod yn fater sy'n ganolog i hyn yn ôl pob tebyg, sef yn sicr, os ydym yn mynd i geisio cyflawni'r mentrau hyn yn y dyfodol i annog y diwydiant teledu a ffilm yng Nghymru, mae'n bwysig fod y model sy'n cael ei ddefnyddio yn addas i Gymru. Byddwn yn aml yn sôn am ddatganoli'n creu budd o fod yn addas i Gymru, ond mae'n ymddangos weithiau, wrth inni fwrw ati i ddatganoli ymhellach, nad ydym yn defnyddio modelau sy'n addas, felly mae hwnnw'n faes y dylid edrych arno, felly rwy'n falch ichi ei godi. Efallai na ddylai fod disgwyl i Lywodraeth Cymru gael yr holl brofiad ac arbenigedd angenrheidiol yn y meysydd hyn ar ddechrau menter o'r fath, ond mae angen iddynt allu cael y gallu i wybod ble mae'r bylchau a cheisio llenwi'r wybodaeth honno.
Suzy Davies, unwaith eto, roeddech yn pryderu am y diffyg tryloywder a mater cyfrinachedd masnachol, sy'n codi dro ar ôl tro yn ein dadleuon yn yr adeilad hwn. Credaf i chi ddweud nad yw'n glogyn anweledigrwydd, a soniasoch am Harry Potter hefyd, gan barhau â'r cyfeiriadau ffilm a chyfryngau. Da iawn, Suzy. Oes, mae angen i ni sicrhau nad yw'r clogyn anweledigrwydd, cyfrinachedd masnachol, yn cael ei ddefnyddio yn y ffordd honno a'i fod yn cael ei ddefnyddio mewn ffyrdd sy'n briodol.
A gaf fi ddiolch i'r Dirprwy Weinidog am ei ymateb calonogol iawn heddiw, ac am y ffordd y mae wedi ymateb i'r argymhellion—yn wir, i Lywodraeth Cymru am dderbyn y rhan fwyaf o'n hargymhellion? Fel y dywedais, rwy'n cydnabod bod rhesymau rhesymegol dros wrthod argymhelliad 8, ond gofynnaf yn barchus ichi lynu wrth ysbryd yr argymhelliad hwnnw yn y dyfodol a'r holl bwyntiau a wneuthum yn gynharach—sef bod Llywodraeth Cymru yn gwybod p'un a oes angen arolwg ai peidio, ac nad ydym yn y sefyllfa hon eto yn y dyfodol.
A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog hefyd am ei gyfeiriad at Cymru Greadigol? Nid wyf am roi gormod o sylw i hyn, oherwydd fe wnaethoch ddatganiad ar hynny ddoe, ac mae'n enghraifft o strategaeth sy'n cael ei dilyn a'i datblygu ar hyn o bryd, felly dyna'r union fath o faes lle byddem yn gobeithio nad yw'r gwersi a ddysgir yma yn mynd i mewn i ddogfen i'w gadael ar silff lychlyd yn rhywle, ond eu bod yn cael eu hymgorffori yn y broses o lunio polisïau cyfoes a modern, fel bod yr hyn y mae pawb ohonom am ei weld—sef gwelliant yn y sefyllfa yn y dyfodol—yn digwydd mewn gwirionedd.
Felly, yn gryno, Ddirprwy Lywydd, a gaf fi ddiolch i bawb a gyfrannodd at y ddadl heddiw, i Aelodau'r Cynulliad, aelodau'r pwyllgor diwylliant yn benodol, sydd wedi cyfrannu agwedd werthfawr at y ddadl heddiw? A gaf fi hefyd ddiolch i'r Dirprwy Weinidog am ei ymateb? Mae materion ehangach yn y fantol yma, neu yn hytrach, mae yma wersi i'w dysgu ar draws Llywodraeth Cymru i gyd, nid un adran yn unig, ac mae angen taro cydbwysedd. Yn sicr, fel pwyllgor, nid oeddem am weld creadigrwydd yn cael ei fygu, yn sicr nid oeddem am gau'r drws ar gyfleoedd ffilm a theledu i Gymru yn y dyfodol a chynyrchiadau a wneir yma yng Nghymru ac yn wir, yma yng Nghaerdydd. Felly, roeddem yn ofalus iawn o ran y modd y lluniasom yr adroddiad, a gobeithio bod hynny wedi'i werthfawrogi. Ond mae'n rhaid taro'r cydbwysedd cywir. Yn y pen draw, rhaid diogelu buddiannau'r trethdalwr hefyd ac mae angen inni sicrhau yn y dyfodol, pan wneir y mathau hyn o benderfyniadau, fod y profiad cywir, yr arbenigedd cywir—os nad yw yno ar y dechrau, yn cael ei ddwyn i mewn i Lywodraeth Cymru—fel y gall trethdalwyr Cymru fod yn hyderus fod arian cyhoeddus yn cael ei wario'n effeithiol.
Diolch. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 6 ar ein hagenda y prynhawn yma yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, 'Perthynas Cymru ag Ewrop a'r byd yn y dyfodol', a galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—David Rees.
Cynnig NDM7038 David Rees
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar ei Ymchwiliad i Berthynas Cymru ag Ewrop a’r Byd yn y dyfodol, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Chwefror 2019.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch o agor y ddadl heddiw, gan nodi ein hadroddiad ar berthynas Cymru ag Ewrop a'r byd yn y dyfodol, a gwneud y cynnig. A gaf fi atgoffa'r Aelodau mai dyma yw ail gam ein gwaith mewn gwirionedd, oherwydd yn 2018, cyhoeddasom adroddiad, sef cam 1, a ganolbwyntiai ar Ewrop, ac mae hwn wedi mynd yn ehangach i edrych ar Ewrop a'r byd? Cyn imi ddechrau fy araith, a gaf fi gofnodi fy niolch i'r tîm clercio a'r staff yn y Gwasanaeth Ymchwil a Swyddfa Ewropeaidd y Comisiwn am y gwaith a wnaethant ar ran y pwyllgor?Byddwn bob amser yn ei chael hi'n anodd dod i ben heb yr unigolion hynny, ac rydym yn gwerthfawrogi eu gwaith yn fawr.
Wrth gasglu'r dystiolaeth ar gyfer yr adroddiad hwn, clywsom gan academyddion a rhanddeiliaid, a threuliasom lawer o amser yn meddwl am rôl Cymru ar y llwyfan rhyngwladol. Yn wir, mae proses Brexit wedi creu brys newydd a symbyliad ychwanegol i'r gwaith hwn, er ein bod bellach wedi wynebu ychydig o oedi ar Brexit, ac mae gennym ychydig bach mwy o amser. Ond mae'n bwysig ein bod yn edrych ar ble rydym yn y dyfodol.
Edrychasom y tu hwnt i Gymru, sy'n hollbwysig, a siarad â chynrychiolwyr o Norwy, Gwlad y Basg, Quebec a'r Swistir ar ein hymweliadau â Llundain. Buom hefyd yn siarad â chynrychiolwyr o Ukrain, Seland Newydd, Iwerddon a llawer o wledydd eraill ar ymweliadau â Brwsel a thu hwnt. Rydym yn diolch o galon i'r unigolion a roddodd eu hamser a'u hymrwymiad i wrando arnom, ond hefyd i fwydo i mewn i'n hymchwiliad ar ble y gwelent y gall perthynas fodoli yn y dyfodol a sut y gweithient ar y cysylltiadau yr oeddent am eu sicrhau.
Nawr, canfu ein gwaith fod gweithgareddau Llywodraeth Cymru yn y gorffennol, o ran ymgysylltiad rhyngwladol, wedi bod yn rhy dameidiog yn ein barn ni, ac yn anghydlynol, ac mae'n bwysig ein bod yn gweld y newid hwn. Gwnaethom gyfanswm o 11 o argymhellion yn ein hadroddiad, ac rwy'n falch fod y Gweinidog wedi nodi eu bod wedi derbyn y cyfan ohonynt yn llwyr neu mewn egwyddor—er ein bod bob amser yn cwestiynu'r term 'derbyn mewn egwyddor', weithiau. Cawn weld sut y bydd hynny'n mynd.
Ond gan droi at yr argymhellion cyntaf, mae'n gwbl amlwg fod angen strategaeth newydd ar Gymru o ran y ffordd yr ymgysylltwn â'r byd ar ôl Brexit, neu'n syml, y ffordd yr ymgysylltwn â'r byd. Nid yw Brexit ond yn enghraifft o pam y mae angen i ni ei wneud. Mae angen i'r strategaeth newydd hon fod yn feiddgar. Mae angen iddi nodi maint ein huchelgais fel cenedl. Rhaid inni beidio â bod ofn mynd un cam ymhellach na'r hyn y byddem yn ei wneud yn gonfensiynol. Wrth arwain ar ddatblygu'r strategaeth newydd, mae creu Gweinidog newydd dros gysylltiadau rhyngwladol, gyda sedd yn y Cabinet, yn gam i'w groesawu. Fodd bynnag, mae'n amlwg i ni fod llawer o agweddau ar gysylltiadau rhyngwladol yn rhai trawsbortffolio, ac felly rydym eisiau gweld mwy o enghreifftiau o hynny: portffolios yr economi, yr amgylchedd, addysg. Mae'n amlwg nad un maes pwnc yn unig ydyw.
Rydym am i'r Gweinidog arwain cydgysylltiad o'r fath ar draws y Llywodraeth, ac yn yr adroddiad, roeddem yn argymell is-bwyllgor Cabinet. Rydym yn cydnabod bod y Gweinidog yn dweud y gallai hwn fod yn fecanwaith priodol, ond mae'n cyfeirio at yr angen am drafodaethau llawn yn y Cabinet ar ryngwladoli. Rwy'n cydnabod hyn yn llawn, ond sut y gallwn gael strwythur ffurfiol sy'n sicrhau dull gweithredu trawsbortffolio? Dyna'r cwestiwn. Un peth yw cael cysyniad anffurfiol, ond mae angen strwythur ffurfiol arnom, a dyna pam rwyf am gael rhagor o wybodaeth gan y Gweinidog heddiw am y cynnydd tuag at gydlynu gweithgareddau ar draws y Llywodraeth, yn ogystal â'r cyfarfodydd dwyochrog y mae'n bwriadu eu cael gyda'r cydweithwyr hynny, ond ble mae'r strwythur ffurfiol lle mae hynny'n digwydd?
Roedd rôl Cymru yn Ewrop yn y dyfodol ar ôl Brexit yn fater a godai ei ben yn barhaol yn ystod ein gwaith. Mae'n amlwg i ni, beth bynnag fydd siâp a chanlyniad Brexit yn y pen draw—a dywedaf hynny yn awr, 'beth bynnag fydd siâp Brexit', oherwydd nid ydym yn gwybod o hyd—bydd Ewrop a'n perthynas â'r Undeb Ewropeaidd yn parhau i fod yn bwysig yn y blynyddoedd i ddod. Dyna pam y rhown ein cefnogaeth i gadw swyddfeydd Llywodraeth Cymru ym Mrwsel.
Clywsom hefyd fod Cymru, yn hanesyddol, wedi mwynhau manteision nifer o raglenni Ewropeaidd, megis y rhaglen deithio ar gyfer myfyrwyr, Erasmus+, a'r rhaglen ymchwil ac arloesi, Horizon 2020. Ar hyn o bryd, safbwynt Llywodraeth Cymru yw hyrwyddo cyfranogiad parhaus yn y rhaglenni hynny drwy'r DU. Rydym am i'r uchelgais hwn fynd ymhellach, ac os bydd Llywodraeth y DU yn methu sicrhau hyn, dylai Llywodraeth Cymru fynd ati i ymchwilio i'r posibilrwydd o sicrhau cyfranogiad yn ei hawl ei hun mewn meysydd datganoledig a lle ceir manteision clir i Gymru. Rwy'n credu bod enghraifft y ffi myfyrwyr addysg uwch yr wythnos hon yn tynnu sylw at y ffaith nad yw Llywodraeth y DU o bosibl yn cyd-fynd â meddylfryd Llywodraeth Cymru ynglŷn â'n perthynas â'r UE a dinasyddion yr UE.
Dyma rydym yn galw amdano yn argymhelliad 5: i Lywodraeth Cymru archwilio a chael trafodaethau archwiliol mewn gwirionedd, ac adrodd yn ôl i'r Cynulliad hwn yn nhymor yr hydref, a chan fod tymor yr hydref yn cynnwys 31 Hydref, sef y dyddiad newydd bellach ar gyfer gadael yr UE, efallai ei bod yn briodol ein bod yn gwneud hynny, gan mai dyna'r ymyl clogwyn nesaf sy'n ein hwynebu.
Yn ogystal â'r cysylltiadau amlochrog a'r rhwydweithiau rydym yn eu mwynhau, mae gan Gymru nifer o gysylltiadau dwyochrog hefyd, a fydd yn parhau i fod yn rhan bwysig o waith ymgysylltu allanol Cymru yn y dyfodol. Yn ystod ein gwaith, gwelsom fod y gwledydd a'r is-wladwriaethau ar draws y llwyfan rhyngwladol sy'n gweithredu'n fwyaf llwyddiannus wedi rhoi blaenoriaeth eglur i gysylltiadau dwyochrog yn seiliedig ar ddiddordebau cyffredin. Yn benodol, roedd dull Gwlad y Basg a Quebec yn enghreifftiau y gallem ddysgu oddi wrthynt, ac rwy'n gwbl ymwybodol fod Gwlad y Basg wedi bod yn y sefydliad hwn a'n bod wedi cael pwyllgorau a aeth draw i Wlad y Basg. Maent yn enghraifft o ble y gallem fod eisiau dysgu sut y maent yn rheoli'r cysylltiadau ac yn enwedig cysylltiadau dwyochrog, a sut y maent wedi eu blaenoriaethu.
Mae ein hargymhelliad 6 yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu'r cysylltiadau dwyochrog sydd gan Gymru ar hyn o bryd, er mwyn asesu pa rai ohonynt y gellir eu cryfhau a'u dwysáu yn y dyfodol. Rwy'n falch fod y Gweinidog, yn ei hymateb ysgrifenedig, wedi dangos bod y gwaith hwn ar y gweill, ac unwaith eto byddai'n ddefnyddiol pe gallai roi syniad i'r Cynulliad o'r amserlenni ar gyfer cwblhau'r gwaith hwn, er mwyn inni ddeall y sefyllfa sydd ohoni a ble y gallwn ddisgwyl ei gyrraedd yn yr amser sydd o'n blaenau. Rydym i gyd yn gwybod bod amser yn mynd i fod yn ffactor o bwys yn y dyfodol.
Gan droi at gwestiwn ein Cymry alltud, rydym yn glir y gellir gwneud mwy i ddefnyddio'r Cymry alltud hyn. Er nad oes ffigurau pendant yn bodoli, roedd astudiaeth a gyhoeddwyd yn 2006—ac rwy'n derbyn bod hynny 13 mlynedd yn ôl—yn awgrymu bod cynifer â 11 miliwn o bobl o dras Gymreig yn yr Unol Daleithiau yn unig. Gallai gwell ymgysylltiad â'r Cymry alltud fod yn allweddol i ddatgloi rhai o uchelgeisiau Cymru o ran cysylltiadau rhyngwladol ar ôl Brexit. Unwaith eto, rwy'n ymwybodol fod y cawcws Cymreig yn Washington yn enghraifft o ble y gallem fod yn defnyddio peth o hynny.
Mae ein hadroddiad yn galw am greu cynllun gweithredu i gynnwys y Cymry alltud. Fodd bynnag, mae ymateb ysgrifenedig y Gweinidog yn awgrymu na fydd Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i hyn a'i bod, yn lle hynny, yn gwneud gwaith rhagarweiniol i asesu'r hyn sy'n digwydd eisoes yn y maes hwn. Felly, gofynnaf i'r Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r pwyllgor am y gwaith hwn fel y gellir gwireddu ein huchelgeisiau.
Gan droi at argymhelliad 10, er nad wyf am ailadrodd dadleuon a wnaed o'r blaen yn y Cynulliad ynglŷn â'r angen i wella dulliau rhynglywodraethol, hoffwn roi cyfle i'r Gweinidog, os yw'n gallu—ac rwyf wedi codi hyn gyda'r Gweinidog Brexit—i wella efallai ar y manylion cyfyngedig a geir yn ei hymateb ysgrifenedig, ac yn benodol, pe gallai gadarnhau dyddiad ar gyfer pa bryd y cyhoeddir adolygiad y Cyd-bwyllgor Gweinidogion, gan fod blwyddyn bron—mae'n flwyddyn mewn gwirionedd—ers y cynhaliwyd yr adolygiad ac nid ydym yn glir eto pa bryd y cyhoeddir yr adolygiad hwnnw, ac mae'n hollbwysig deall sut y gall Cymru gyfrannu at wahanol agweddau ar gysylltiadau rhyngwladol.
O ran swyddfeydd tramor Llywodraeth Cymru, nodwn fod presenoldeb Cymru dramor wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Fodd bynnag, mae'n hanfodol fod y swyddfeydd hyn yn gwybod beth y maent yn ei wneud a bod eu gweithgareddau yn cyd-fynd â'r strategaeth arfaethedig. Sylwaf nad yw ymateb y Gweinidog yn ymrwymo i archwiliad yn y ffordd a awgrymwyd gennym. Efallai yr hoffai adolygu hynny, oherwydd mae'n bwysig ein bod yn deall beth yw diben y swyddfeydd, pam eu bod lle maent, sut y byddwn yn mesur yr hyn a wnânt er mwyn inni gael dealltwriaeth glir eu bod yn y lle iawn, yn gwneud y peth iawn i Gymru.
Yn olaf, hoffwn sôn ychydig am bŵer meddal Cymru—hynny yw, dylanwad diwylliannol ac economaidd Cymru ar draws y byd. Clywsom y gellid defnyddio rhai o asedau unigryw Cymru—ein hiaith, ein celfyddyd, ein gwerthoedd—yn well i greu lle i ni ein hunain ar lwyfan y byd. Rydym wedi gweld gwledydd eraill fel yr Alban ac Iwerddon yn gwneud yn union hynny. Er mwyn cyflawni hyn mae angen i ni fod yn gliriach ynghylch beth yw ein pwyntiau gwerthu unigryw a datblygu'r rheini mewn ffordd sy'n ennill cydnabyddiaeth ryngwladol. I'r perwyl hwnnw, argymellasom fod y strategaeth ryngwladol newydd yn rhoi mwy o bwyslais ar bŵer meddal. Rwy'n falch fod y Gweinidog wedi derbyn bod angen hyn. Credaf ei bod yn amlwg pan oeddem ym Mrwsel ddiwethaf sut roedd cynrychiolaeth y DU yn edrych ar fecanweithiau pŵer meddal Cymru fel enghraifft o sut y gallent hwy fod eisiau gwneud hynny pan fyddwn yn gadael yr UE.
Ddirprwy Lywydd, rydym yn wynebu cyfnod o newid ymddangosiadol gynyddol ar draws y byd. Efallai mai nawr yw'r amser i ni yng Nghymru ymdrechu'n galetach a gweithio gyda'n gilydd i sicrhau bod ein llais yn cael ei glywed yn llawer uwch nag o'r blaen ar y llwyfan rhyngwladol. Rwy'n cymeradwyo'r adroddiad hwn i'r Cynulliad Cenedlaethol, ac edrychaf ymlaen at glywed cyfraniad yr Aelodau eraill heddiw.
Diolch i'r Cadeirydd am ei arweiniad ar ein gwaith yn y maes hwn ac i'r clercod am eu cefnogaeth. Edrychaf ymlaen at glywed gan y Gweinidog. Rwy'n credu bod rhai pobl wedi cwestiynu ein dull cyfranogol o ofyn am syniadau, ond rwy'n credu ei fod yn un da a hoffwn ei gymeradwyo. Er na ddaethoch atom ar eich diwrnod cyntaf yn y swydd gyda rhestr o'r hyn y byddwch yn ei wneud, rydych yn cael y cyfnod hwn o wrando ac ymgynghori ag eraill, ac rwy'n credu bod hwnnw'n ddull dilys iawn o weithredu ac edrychaf ymlaen at weld beth a ddaw ohono, gan gynnwys ystyriaeth o'n hadroddiad a'r ddadl heddiw, gobeithio.
Hoffwn dynnu sylw at dri o'n hymweliadau, yn benodol, ar gyfer fy sylwadau: yn gyntaf, yr ymweliad â'n swyddfa ym Mrwsel a'r gweithgaredd mewn perthynas â hynny, yn ail yr ymweliad â dirprwyaeth Gwlad y Basg yn Llundain, ac yn drydydd, yr ymweliad â'r ddirprwyaeth Quebecois yn Llundain. Euthum i'n swyddfa ym Mrwsel gan feddwl tybed a oedd angen ei newid yn sylweddol ac a oedd angen ffocws newydd arni yng ngoleuni Brexit, gan feddwl y byddai'r hyn y byddai'n ei wneud yn wahanol iawn yn y dyfodol o'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd, o gymharu â'r hyn y bu'n ei wneud o fewn yr Undeb Ewropeaidd. Gadewais gan feddwl bod yr angen am newid yn llai radical nag y tybiwn yn wreiddiol, a chredaf mai'r rheswm am hynny yw rhywbeth a nododd y Cadeirydd yn ei gyfraniad—mai'r hyn y bu'r swyddfa honno yn ei wneud yw arfer pŵer meddal i raddau helaeth. Nawr, ceir rhai rhyngwynebau diplomyddol caled, yn fwyaf nodedig gyda chyllid a gafodd Cymru o'r UE, ond hefyd, i ryw raddau o leiaf, ein lle ar Bwyllgor y Rhanbarthau. Fodd bynnag, y rhan fwyaf o waith y swyddfa honno oedd ffurfio cyfeillgarwch, meithrin cysylltiadau, estyn allan, dod o hyd i bobl i weithio gyda Chymru ar ein hagenda. A chredaf y bydd llawer o'r ffocws hwnnw a'r set sgiliau honno yr un fath ar ôl Brexit ag yr oedd o'r blaen, a chredaf ein bod wedi sylwi o ddifrif, o'r ddirprwyaeth ei hun, ond hefyd drwy siarad â nifer o bobl eraill, fel Cydffederasiwn Diwydiant Prydain ym Mrwsel, i ba raddau y mae UKRep yn gorfod newid ei ffocws o'r ddiplomyddiaeth galed o siarad yng nghyfarfodydd llawn y cyngor a phleidleisio mewn ffyrdd penodol, i geisio dylanwadu ar, a chreu cynghreiriaid, ac efallai y dylid bod wedi gwneud mwy o hynny o'r blaen, ond mae UKRep yn gorfod newid yr hyn a wnaeth ac mae'n disgwyl i Gymru, a bod yn deg â'r CBI ac â rhai o'r sefydliadau sector preifat mwy o faint eraill, o ran y modd y mae'n addasu ei chynrychiolaeth ddiplomyddol i fyd a fydd yn canolbwyntio mwy ar bŵer meddal yn hytrach na dulliau sefydliadol o fewn yr Undeb Ewropeaidd.
Rwyf am sôn ychydig am ddirprwyaeth Gwlad y Basg a'r ddirprwyaeth Quebecois, oherwydd credaf eu bod yn pwysleisio dau fath o'r hyn y gallem fod yn ceisio'i gyflawni dros Gymru drwy'r cysylltiadau rhyngwladol hyn. Roedd dull Gwlad y Basg eto—ac roedd hyn yn syndod i mi—yn ddull economaidd cadarn iawn, ac roedd yn gysylltiedig â gweinyddiaeth yr economi a'r hyn yr oedd am ei wneud oedd cynyddu allforion Gwlad y Basg ac roedd am weld mwy o fuddsoddiad uniongyrchol o dramor yn dod i mewn i Wlad y Basg. Ymddengys mai dyma oedd eu dau brif amcan. Roeddent wedi paratoi'n dda iawn ar gyfer ei wneud. Mae'n ardal gymharol gefnog o fewn Sbaen, ac maent yn trefnu o gwmpas hynny. A chredaf fod angen inni ystyried ai dyna rydym am i Gymru ei wneud, ac os felly, mae angen i'n swyddogion fod mewn lleoedd sy'n ffynonellau mwy o faint o fuddsoddiad uniongyrchol o dramor, ardaloedd sy'n tyfu'n gryf neu lle ceir awydd arbennig am allforion posibl o Gymru.
Credaf fod yr ail fodel yn fwy amlwg gan Quebec. Roedd yna agwedd economaidd hefyd, ac roedd yr agwedd honno, rwy'n credu, yn cyd-fynd yn eithaf da â'r hyn yr oedd Canada yn ei wneud drwy ei huchel gomisiynydd, ac roedd yna gysylltiadau agos iawn. Roedd yna awydd hefyd i hyrwyddo Quebec o safbwynt ei diwylliant a'i hiaith, a hefyd, rwy'n credu, o ran addysg. A beth oedd y strwythur i wneud hynny a lle gwnâi hynny, roedd yn fwy ar wahân oddi wrth Ganada nag ydoedd ar yr agweddau economaidd. Ac rwy'n credu bod angen i ni feddwl ai dyna y ceisiwn ei wneud fel Cymru: ai ein diwylliant arbennig ni ydyw? Ai'r iaith Gymraeg ydyw? Ai addysg ydyw, chwaraeon efallai? A oes pethau penodol am Gymru rydym am weld mwy o bobl ar draws y byd yn eu deall a gwybod amdanynt a'n bod am fynd allan yno a'u mynegi? Ac rwy'n credu bod angen i ni wir ddeall y cydbwysedd rhwng yr economi a'r amcan mwy diwylliannol hwnnw.
Yr hyn na chredaf y dylem ei wneud yw ceisio dod o hyd i is-wladwriaethau eraill yr ydym am dreulio amser gyda hwy a bod yn debycach iddynt a 'mae'n rhaid i ni gael y cysylltiadau hynny'. Credaf y gallai fod rhai o'r cysylltiadau hynny, ac os ydych yn blaid sy'n dymuno i Gymru fod yn annibynnol, efallai y byddwch am dreulio amser gyda'r cysylltiadau hynny, yn datblygu'r berthynas honno gyda phleidiau eraill mewn gwledydd is-wladwriaethol sydd hefyd am dorri'n rhydd oddi wrth y gwledydd hynny. Ond nid wyf yn credu mai dyna'r hyn y dylai'r Cynulliad yn ei gyfanrwydd fod yn ei wneud, a hoffwn ofyn i Lywodraeth Lafur Cymru ystyried yn ofalus iawn beth yw'r amcanion. Ac rwy'n credu ein bod wedi dysgu llawer o fynd at y ddirprwyaeth o Wlad y Basg a mynd i Quebec, ond nid wyf yn gweld prif amcan y cysylltiadau rhyngwladol hyn fel cenhedloedd is-wladwriaethol sy'n gweld dyfodol annibynnol, neu weithio gyda Chatalonia yn arbennig am eu bod eisiau mynd i ryw gyfeiriad penodol—neu rai pobl yno. Mae datganoli i ni wedi bod yn llwybr ac yn broses ddeinamig, ond i lawer o'r is-wladwriaethau eraill hyn, ceir setliad—yn Quebec neu Wlad y Basg—y maent yn eithaf bodlon ag ef. Yn sicr, gadewch inni ddysgu ganddynt, ond gadewch inni ganolbwyntio ar beth rydym am ei wneud, faint sy'n ymwneud â'r economi, a faint sy'n ymwneud ag alldafliad diwylliannol.
Rwy'n croesawu argymhellion yr adroddiad yn ei gyfanrwydd. Doeddwn i ddim eto wedi ymuno â'r pwyllgor pan oedd yr ymchwiliad yn cael ei gynnal, ond hoffwn glodfori'r darn hwn o waith a'r arweiniad crefftus gafodd ei ddarparu gan y Cadeirydd, David Rees. Ynddo, ceir argymelliadau cynhwysfawr a manwl ynglŷn â pha gamau all gael eu cymryd i gynyddu rôl Cymru ar lefel ryngwladol yn y blynyddoedd nesaf. Mae sicrhau strategaeth o'r fath yma yn bwysicach nag erioed yng nghysgod Brexit. Rwy'n croesawu'r ffaith bod y Llywodraeth wedi derbyn saith o'r argymhellion, ond yn siomedig bod pedwar arall, a gafodd eu llunio'n feddylgar, ond wedi'u derbyn mewn egwyddor. Mae cyd-Aelodau yn y Siambr hon wedi codi pryderon yn y gorffennol am arferiad y Llywodraeth o gytuno mewn egwyddor gydag argymhellion, gan mai effaith hyn mewn gwirionedd yw nad yw'r argymhellion yn cael eu gweithredu.
Mae argymhelliad 5 yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymchwilio gyda'r Undeb Ewropeaidd i'r posibilrwydd y bydd Cymru yn parhau i gymryd rhan yn rhaglenni Ewrop a geir mewn meysydd datganoledig, gan ychwanegu y dylid symud ymlaen â'r gwaith hwn ar frys. Mae ymateb y Llywodraeth yma yn annigonol gan ei bod yn cytuno fod y gwaith angen ei wneud ond ddim eisiau ymrwymo i'w wneud cyn diwedd y flwyddyn. Byddwn yn erfyn ar y Llywodraeth i ailfeddwl ei hymateb i'r argymhelliad hwn a bwrw ymlaen gyda'r gwaith ar fyrder.
Mi wnaf droi nawr i'r ymateb i argymhelliad 8, sy'n galw ar y Llywodraeth i gomisiynu dadansoddiad llinell sylfaen annibynnol o weithrediad swyddfeydd tramor y Llywodraeth. Mae'r Llywodraeth yn dweud ei bod yn rhoi ystyriaeth bellach i'r argymhelliad wrth i'r strategaeth gael ei datblygu. Eto, dylai strategaeth gynhwysfawr fod mewn yn gynt na hynny. Mae bron i dair blynedd wedi pasio ers y refferendwm, a mis ers y dyddiad gwreiddiol gadael.
Mae argymhelliad 7 yn galw ar y Llywodraeth i lunio cynllun gweithredu ar gyfer ymgysylltu â Chymry alltud. Nid yw ymateb y Llywodraeth yn dangos llawr o uchelgais, byddwn i'n dweud, nac yn mynd i fanylder ynglŷn â pha wledydd fyddai'n cael eu blaenoriaethu. Mae'r ymateb yn hytrach yn mynnu bod llawer yn cael ei wneud yn y maes yma eisoes, sy'n wir, ond mae wastad lle i wneud cynnydd, ac mae'n siomedig nad oes gan y Llywodraeth fwy o'r uchelgais yma. Mae ymateb y Llywodraeth hefyd yn dweud na ellir cael one-size-fits-all approach yma. Mae hyn yn bwynt dilys ac rwy'n cytuno y dylid cael cynlluniau amrywiol sy'n plethu gyda'i gilydd yn hytrach na chael dim ond un cynllun statig. Ond, y gwir amdani yw nad yw'r cynlluniau hyn yn bodoli mewn digon o fanylder ar hyn o bryd.
Mae Cymry alltud yn cyfrannu cymaint i'n cenedl gan adeiladu pontydd gyda phobl sy'n ein cynrychioli ni ar lefel fyd-eang. Dylai'r Llywodraeth gynnig gweledigaeth bendant o ran datblygu'r berthynas hynny gyda Chymry dramor yn hytrach na geiriau cynnes yn unig. Mae Brexit yn gwneud hyn i gyd yn fater brys. Mae angen gweithredu pendant ac uchelgeisiol yn awr yn hytrach na llusgo traed. A wnaiff y Llywodraeth, felly, ymrwymo i lunio cynllun manwl i adeiladu pontydd gyda Chymry alltud?
Byddwn i hefyd yn hoffi gwybod beth yw'r newyddion diweddaraf o ran strategaeth ryngwladol y Llywodraeth, Global Wales. Mae nam gyda gwefan newydd y Llywodraeth yn golygu ei bod yn amhosib darganfod manylion am y gwaith hwn ar y we. Mae'n eironig—eithaf Kafkaesque mewn ffordd—ei bod hi'n amhosib canfod gwybodaeth am y strategaeth sy'n ceisio edrych allan tuag at y byd. Gaf i ofyn lle mae'r Llywodraeth wedi cyrraedd gyda'r gwaith? Beth yw'r amserlen ar ei gyfer? Pa egwyddorion fydd yn gyrru'r gwaith, a beth fydd y cylch gorchwyl? Yn olaf, pryd gallwn ddisgwyl i ddatganiad gael ei wneud gan y Gweinidog yn y Siambr i roi diweddariad i Aelodau?
Mae'n hen bryd i Gymru gymryd ei lle yn y byd fel gwlad falch, fodern sy'n edrych tua'r dyfodol. Dylsem adeiladu pontydd gyda gwladwriaethau eraill, a'r rhai di-wladwriaeth fel Catalwnia, er mwyn gosod sylfeini economaidd a diwylliannol y gallem adeiladu arnynt wrth i'n cenedl deithio ar y llwybr tuag at hunanreolaeth lawn. Mae gan Gymru ddyfodol ddisglair, ond mae'n rhaid i ni ei adeiladu. Diolch.
Fel eraill, hoffwn ddechrau fy nghyfraniad y prynhawn yma drwy ddiolch i dîm clercio'r pwyllgor, a diolch hefyd i David Rees am arwain y pwyllgor ar y materion hyn.
Hoffwn ddilyn eraill hefyd a chroesawu penodiad Gweinidog cysylltiadau rhyngwladol. Mwynheais y sesiwn a gawsom ar 21 Ionawr, Weinidog, ac rwy'n gobeithio y gallwn ddychwelyd at rai o'r materion hynny maes o law. Yr eironi, wrth gwrs, yw bod y penodiad hwn ynddo'i hun wedi tynnu sylw at yr angen am strategaeth ryngwladol nad oeddem efallai'n ei werthfawrogi'n llawn o'r blaen. Hefyd, mae wedi tynnu sylw eglur at i ba raddau y dibynnwn ar sefydliadau'r UE ar gyfer ein proffil rhyngwladol a chreu fframwaith ar gyfer ein gwaith rhyngwladol.
Ond y prynhawn yma, hoffwn berswadio'r Llywodraeth ynglŷn â dau fater. Yn gyntaf, y weledigaeth a'r uchelgais sy'n ofynnol er mwyn manteisio i'r eithaf ar botensial unrhyw strategaeth ryngwladol. Ac yn ail, er mwyn gallu dwyn y Llywodraeth i gyfrif i sicrhau bod gennym y wybodaeth, y targedau a'r uchelgais a ddisgrifiwyd mewn ffordd sy'n ein galluogi i ddeall yr hyn y mae'r Llywodraeth yn ceisio'i gyflawni drwy raglen o'r fath.
Weinidog, yn eich ymateb i'r adroddiad, disgrifiasoch Gymru fel cenedl Ewropeaidd. Nawr, am y rhan fwyaf o'n hanes diweddar, byddai hyn wedi bod yn ddisgrifiad dadleuol o'n gwlad, ac mae'n sicr yn dal i fod yn ddisgrifiad gwleidyddol iawn o'n gwlad. Ar un adeg—mae'n mynd â ni'n ôl, wrth gwrs, at ddyddiau Owain Glyndŵr a'r modd y ceisiai gael llysgenhadon y babaeth a mannau eraill i gydnabod y wladwriaeth y ceisiai ei chreu yn ein gwlad ar y pryd. Ond hefyd, wrth gwrs, oherwydd ei fod yn diffinio Cymru fel cenedl Ewropeaidd heb gyfeirio at wladwriaeth y Deyrnas Unedig yr ydym yn rhan ohoni heddiw. Felly mae'n ddatganiad gwleidyddol iawn, ac mae'n ddatganiad rwy'n ei groesawu wrth gwrs.
Ond mae hefyd yn ddatganiad sy'n sôn am uchelgais llawer uwch a gweledigaeth lawer ehangach. Roedd cyfraniad Mark Reckless yn sôn am yr ymagwedd weithrediadol bron gan Wlad y Basg, ac mae honno'n ymagwedd hollol deg a rhesymol i'w harddel, ac nid wyf yn beirniadu hynny. Ond mae'r uchelgais y credaf sydd gan y Llywodraeth yma mewn golwg, ac y gobeithiaf y bydd yn ei fynegi, yn un sy'n gweld y berthynas weithrediadol honno rhyngom ac eraill fel y blociau y byddwn yn adeiladu arnynt, fel sylfaen ac nid rôl ryngwladol yn ei chyfanrwydd, a'r rôl y dymunwn i Gymru ei chwarae ar y llwyfan rhyngwladol.
Wrth wrando ar y ddadl hon, caf fy atgoffa o'r sgwrs a gawsom gyda llysgennad Seland Newydd yn ystod yr ymweliad â Brwsel. Yno, roedd yn glir dros ben: y cytundebau masnach rhyngwladol y mae Seland Newydd yn ceisio'u gwneud yw'r sail y maent yn ceisio gwneud pethau eraill arni. Yn sicr, mae angen ichi gael yr holl drefniadau ar waith er mwyn masnachu, er mwyn gwneud cytundebau masnachol â gwahanol bartneriaid a sefydliadau, ond ai dyna gyfanswm eich gweledigaeth? Ai dyna'r cyfan y ceisiwch ei gyflawni ar y llwyfan rhyngwladol? Nid oedd hynny'n wir iddynt hwy, a rhaid iddo beidio â bod yn wir i ninnau chwaith. Yr enghraifft a ddefnyddiodd y llysgennad oedd cynaliadwyedd. Efallai ar ôl ein dadl yn ddiweddarach y prynhawn yma, y gallai hwn fod yn rhywbeth y gallem ninnau ei ddefnyddio hefyd i ddiffinio cyfraniad Cymreig i faterion rhyngwladol yn y dyfodol. Mae eraill wedi sôn am y cyfraniad y gallem ei wneud o ran polisi iaith a diwylliant lleiafrifol. Mae hynny'n rhywbeth y mae gan rai ohonom brofiad ohono eisoes, ac rwy'n credu ei fod hefyd yn rhywbeth y gallwn ei wneud. Felly rwy'n gobeithio y bydd gennym yr uchelgais a'r weledigaeth honno.
Ond gadewch imi ddweud hyn hefyd: bydd hynny'n golygu newid diwylliant yn y lle hwn, ac yn enwedig i'r gwrthbleidiau, os caf ddweud. Yn rhy aml, rydym wedi gweld diwylliant gwleidyddol yma lle'r ydym yn cyfrif y ceiniogau ac nid ydym yn deall y weledigaeth. Rwyf am weld Llywodraeth Cymru yn buddsoddi yn y rhwydwaith o swyddfeydd sydd ganddi a'r rhwydwaith o gysylltiadau y mae'n eu datblygu, ac mae hynny'n golygu na allwch fod ar y llwyfan rhyngwladol heb fod yn gorfforol ar y llwyfan rhyngwladol. Felly, yn hytrach na bod y gwrthbleidiau'n treulio amser yn cyflwyno ceisiadau rhyddid gwybodaeth ac yn gofyn am gost teithiau hedfan, efallai y byddai'n well inni fabwysiadu ymagwedd fwy aeddfed, lle'r ydym yn ceisio dwyn y Llywodraeth i gyfrif am yr hyn a gyflawnir ganddi ac nid lle mae'n mynd. A gobeithio y byddai honno'n ymagwedd lawer mwy aeddfed tuag at y ddadl a gawn yn awr.
Wrth gloi, Ddirprwy Lywydd, roeddwn yn ddigon ffodus i fwynhau—gêm gyfartal 1-1 oedd hi yn y diwedd, ac rwy'n credu ein bod wedi bod yn lwcus—Cymru'n chwarae Mecsico yn Pasadena, yn y Rose Bowl, a bydd rhai ohonoch yn gyfarwydd â'r stadiwm, draw yn California y llynedd. Roedd yn ddigwyddiad gwych—80,000 o bobl yn gwylio Cymru yn chwarae pêl-droed. Nid yw'n digwydd yn aml iawn. Nid yw bob amser wedi digwydd yn ystod fy oes, rhaid i mi ddweud. Dyna gyfle inni adeiladu presenoldeb, i greu syniad o beth yw Cymru a'r hyn y gall Cymru fod, a'r rôl y mae Cymru am ei chwarae. Mae gennym gyfle i chwarae rôl gyda'r pŵer meddal y soniwyd amdano eisoes, pŵer nad yw'n eiddo i bawb. Gobeithio y byddwn yn chwarae ac yn ennill Cwpan y Byd yn Japan ymhen ychydig fisoedd. Gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud y gorau o'r effaith y gallwn ei chael o hynny hefyd. Gobeithio y gallwn weld cyfle i chwarae rhan lawn ar y llwyfan rhyngwladol.
Rwyf am orffen gyda'r sylwadau hyn, Ddirprwy Lywydd. Un o'r materion y mae angen i ni eu diffinio—ac mae hyn yn yr adroddiad a hoffwn glywed beth sydd gan y Gweinidog i'w ddweud yn ei hymateb—yw ein perthynas â Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Credaf y gall y berthynas â Llywodraeth y Deyrnas Unedig fod yn berthynas bwerus a chadarnhaol iawn. Rydym yn aml yn beirniadu Llywodraeth y DU yma—ac mae'n debyg fy mod i'n gwneud hynny mwy na'r rhan fwyaf o bobl—ond mae'r rhwydwaith o swyddfeydd a'r ffordd y mae'r Swyddfa Dramor yn gweithio yn arf pwerus iawn inni ei ddefnyddio, a chredaf y dylem weithio'n agos gyda'r Swyddfa Dramor a gweithio gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig i wneud y mwyaf o effaith y rhwydwaith o lysgenadaethau a chonsyliaethau ar draws y byd er mwyn i ni allu sicrhau'r effaith fwyaf a allwn dros Gymru lle bynnag y bôm.
Efallai y caf ddweud wrthych, Ddirprwy Lywydd, imi dreulio rhan o doriad y Pasg yn darlithio yng Ngholeg William a Mary ar y pwnc, 'Prydain ar ôl Brexit'. Mae'n rhaid i mi ddweud bod y teitl wedi'i ddewis ym mis Rhagfyr, pan nad oedd yn ymddangos mor eithafol o annhebygol. Ymwelais â Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn gynharach yn y flwyddyn, ac roeddent yn gwybod am fy nghysylltiad â'r coleg. Llwyddasant i gloddio llythyr o'r archif gan Goronwy Owen, y bardd mawr o'r ddeunawfed ganrif, am ei baratoadau i ymgymryd â swydd addysgu yn yr ysgol ramadeg a oedd yn gysylltiedig â Choleg William a Mary ar y pryd.
Mae'n fy nharo bod llawer o gysylltiadau rhyfeddol y dylem fod yn awyddus i fynd ar eu trywydd. Yn wir, yn y llyfrgell, fe ofynasant a oeddwn i'n gwybod bod cofeb iddo ar gampws y coleg? Fe'm synnwyd gan hyn braidd, ac felly, yn ystod fy ymweliad, fe geisiais ddarganfod ble mae'r gofeb. Euthum i lyfrgell Swem—y brif lyfrgell yn y brifysgol—a dywedasant wrthyf fod y plac yn y llyfrgell. Dywedasant wrthyf lle'r oedd, ac euthum i fyny ac mae yno blac gwych i Goronwy Owen. Mae'n coffáu ei waith trawsnewidiol yn y ddeunawfed ganrif dros lenyddiaeth Gymraeg ac yn dathlu'r cysylltiad. Roedd yn fy atgoffa pa mor wych y byddai pe baem yn gallu gwneud mwy gyda hynny. Mae ei gerdd enwog, 'Hiraeth', er enghraifft, wedi cael effaith enfawr ar ein diwylliant, ond mae'r ffaith ei fod wedi treulio cymaint o amser yn Virginia yn rhywbeth y dylem adeiladu arno.
Nid oedd yn bennod gwbl hapus. Fel y mae beirdd yn tueddu i fod, roedd ychydig yn rhy hoff o'r ddiod gadarn. Ar ôl rhai blynyddoedd, mae gennyf ofn fod y coleg wedi ei symud yn ei flaen, a chafodd ei symud i swydd Brunswick, sydd hefyd yn Virginia, ac roedd yn gurad yno, sy'n swydd braidd yn rhyfedd, efallai, ar gyfer gwella o broblem yfed, ond dyna a ddigwyddodd. Treuliodd 10 mlynedd arall yno—a dweud y gwir, fe'i claddwyd yn swydd Brunswick. Deallaf fod llif cyson, os nad llif enfawr, o bererinion yn gwneud eu ffordd at ei fedd hyd heddiw. Felly, dyna enghraifft wych yn fy marn i o rywun sy'n ein cysylltu'n ddwfn.
Mae'n bosib fod Goronwy Owen wedi cyfarfod â Thomas Jefferson a'u bod yn gorgyffwrdd—roedd Owen tua 20 mlynedd yn hŷn na Jefferson, ac roedd Jefferson yng Ngholeg William a Mary yn y 1750au diweddar. Mae'n hysbys iawn fod Jefferson yn meddwl ei fod yn Gymro, neu o dras Gymreig. Mae'n annhebygol iawn ei fod—mae ysgolheictod modern yn diberfeddu'r holl chwedlau a grëwn onid yw? Erbyn hyn, credwn ei bod yn annhebygol ei fod o dras Gymreig, ond ar hyd ei oes, credai Jefferson ei fod, ac os na allwch adeiladu ar y cysylltiad hwnnw, unwaith eto, mae diffyg uchelgais yno.
Roedd gan Virginia, Pensylfania, Ohio a nifer o daleithiau eraill nifer sylweddol iawn o fewnfudwyr o Gymru ym mlynyddoedd cynharaf y trefedigaethau ac yna yn y chwyldro diwydiannol cynnar ychydig ar ôl sefydlu'r weriniaeth. Mae'n rhywbeth, unwaith eto, y gallwn adeiladu arno.
Mae'n ddiddorol mai'r tonnau diweddarach o fewnfudwyr, yn enwedig y Gwyddelod a'r Eidalwyr, a wreiddiodd y cysyniad o 'Americanwyr Eidalaidd' neu 'Americanwyr Gwyddelig' go iawn, ond dylem gofio'r rhan sylweddol a chwaraeodd Cymry yn hanes, yn enwedig hanes cynnar, yr Unol Daleithiau. Felly, credaf fod y Cymry alltud, a cheisio manteisio ar hynny, yn wirioneddol bwysig.
Rwy'n credu bod hyn yn arwain yn naturiol at bob math o gysyniadau ynghylch pŵer meddal. Ac a gaf fi gymeradwyo baromedr pŵer meddal y Cyngor Prydeinig ar gyfer Cymru, sy'n ein cymharu â'r Alban, Gogledd Iwerddon a lleoedd eraill megis Catalonia, Fflandrys a Quebec, ymysg eraill? Rwy'n credu bod hwnnw'n ddangosydd da, oherwydd mae yna newyddion da a newyddion heb fod cystal yno, ond ceir rhai sylwadau diddorol iawn. Cawn ein graddio'n chweched allan o'r 10, felly rydym yn llusgo ar ôl Quebec, Fflandrys a'r Alban, ond ar y blaen i Ogledd Iwerddon er enghraifft. Rydym yn gwneud yn arbennig o dda ar y baromedr chwaraeon, lle'r ydym yn ail, y tu ôl i Gatalonia. Mae'n debyg bod ganddynt Barcelona a phêl-droed, ond yn amlwg rydym ni'n gwneud yn dda wrth gwrs gyda rygbi a chwaraeon eraill. Rydym hefyd yn ail ar dechnoleg ddigidol, ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y dylem adeiladu arno'n bendant iawn. Nid ydym yn gwneud cystal ar addysg, ond mae hynny'n rhywbeth y gallwn anelu tuag ato.
Pe bai gennyf amser, buaswn yn sôn hefyd am fecanweithiau rhynglywodraethol, ond a gaf ddweud y dylai Llywodraeth y DU—ac mae hwn yn argymhelliad pwysig yn yr adroddiad—gyhoeddi cyn gynted â phosibl ei hadolygiad o fecanweithiau rhynglywodraethol? Er nad wyf yn credu y dylem gael feto, neu y dylai'r Gweinidog gael un, ar negodiadau masnach, mae'n bwysig iawn i'n Gweinidog a'n gwaith ni yn craffu ar ein Gweinidog—fod mecanwaith uniongyrchol ar gael fel y gallwn ddylanwadu, drwy'r Gweinidog, ar bolisi masnach. Diolch i chi am wrando.
Roeddwn i bron â thynnu fy enw yn ôl o’r ddadl yma ar ôl clywed David Melding yn sôn am Goronwy Owen a minnau ddim yn cynllunio araith am Goronwy Owen, ond ddywedwn ni fy mod i wedi bwriadu gwneud ond bod yna ddim pwrpas gwneud bellach gan fod David Melding wedi gwneud yn barod. [Chwerthin.]
Gwnaf i siarad yn fyr fel cadeirydd ac un o sylfaenwyr grŵp trawsbleidiol Cymru ryngwladol. Mi roeddwn i—a grŵp ydy o, i’r rhai ohonoch chi sydd ddim wedi bod yn ymwneud ag o hyd yma, sydd yn fforwm i drafod lle Cymru yn y byd mewn sawl gwahanol ffordd. Mae ein trafodaethau ni o fewn y grŵp hwnnw wedi amrywio o ddefnydd ieithoedd tramor yng Nghymru i’r diaspora, i bŵer meddal—yr holl bethau yma rŷn ni wedi'u clywed yn cael eu trafod heddiw. Roeddwn i’n cefnogi ac yn eiddgar iawn i weld y grŵp trawsbleidiol yn cael ei sefydlu oherwydd fy mod i yn rhyngwladolwr sydd yn credu yn daer yn y budd a ddaw i Gymru, fel cenedl fach falch, o chwarae ei rhan mor llawn â phosib mewn cymaint o rwydweithiau rhyngwladol â phosib.
Wrth wneud sylwadau ar yr adroddiad yma, a gaf i ddiolch i’r pwyllgor nad ydw i ddim yn rhan ohono fo am eu gwaith yn rhoi’r adroddiad pwysig yma at ei gilydd? Gwnaf i ddim treulio amser yn trafod y swmp yn yr adroddiad o ran y berthynas rhwng Cymru ac Ewrop yn y blynyddoedd i ddod—o fy meinciau i mae Delyth Jewell wedi ymwneud â’r mater hwnnw, ond, wrth gwrs, mae eraill wedi cyfrannu ar y dewisiadau pwysig fydd angen eu gwneud yn y blynyddoedd nesaf yn sgil y newid sydd ar y ffordd yn ein perthynas ni efo Ewrop, mae’n ymddangos. Yr oll ddywedaf i ydy fy mod i’n credu, eto fel rhyngwladolwr, yn yr angen, beth bynnag a ddaw, i godi pontydd ac i gryfhau’r berthynas rhwng Cymru a gwledydd ar draws yr Undeb Ewropeaidd.
Dwi am wneud ychydig o sylwadau am bennod 2 a phennod 4. Pennod 2 o’r adroddiad sy’n ymwneud â’r angen, yn ôl y pwyllgor, am strategaeth newydd o ran ein cysylltiadau rhyngwladol ni. Dwi’n cyd-fynd yn llwyr â’r argymhelliad gan y pwyllgor am yr angen ar gyfer strategaeth o’r math yna. Dwi’n croesawu’n fawr fod y Llywodraeth yma bellach wedi penodi Gweinidog sydd yn gyfrifol am gysylltiadau rhyngwladol, ac yn falch iawn bod hynny wedi digwydd, wrth gwrs, ar ôl galwadau gan fy nghyd-Aelod i Steffan Lewis yn fan hyn dros gyfnod mor hir. Ond dydy cael y Gweinidog ynddi’i hun ddim yn ddigon; mae angen bod yn glir beth ydy swyddogaeth y Gweinidog. Ac er mwyn bod yn glir beth ydy swyddogaeth y Gweinidog, mae angen strategaeth glir iawn ynglŷn â’r mathau o ffyrdd y gellid mynd ati i ddatblygu ac adeiladu ar y perthnasau sydd gan Gymru yn rhyngwladol yn barod, ac yn wir i ganfod perthnasau newydd.
Yna ymlaen at bennod 4, ac mae hwn yn rhywbeth sy’n golygu cymaint i fi: y syniad o ddefnyddio ein cyfeillgarwch rhyngwladol, ein pŵer meddal, pŵer cymell ar lefel rhyngwladol, ac wrth gwrs i adeiladu ar y berthynas uniongyrchol sydd gennym ni efo unigolion ym mhob rhan o'r byd drwy'r diaspora Cymreig. Mi soniaf i am Undeb Cymru a'r Byd a datgan budd: mi oedd fy nhad yn gadeirydd Undeb Cymru a'r Byd am flynyddoedd. Mae'n fudiad sydd yn dal yn gryf heddiw ond a gafodd ei sefydlu yn ôl yn yr 1940au pan oedd T. Elwyn Griffiths yn y lluoedd arfog yng Nghairo yn yr Aifft, ac mi sylweddolodd o bryd hynny fod gan yr Alban lawer mwy o gyrff a chefnogaeth i'w diaspora nhw. Doedd yna ddim byd Cymreig. Felly, mi sefydlodd o'r undeb yma er mwyn tynnu Cymry alltud at ei gilydd yn yr Aifft i ddechrau efo hi, sefydlu cylchgrawn Seren y Dwyrain a ffeindio problem oherwydd bod y llythyren 'y' yn cael ei defnyddio gymaint yn y Gymraeg—mwy nag ieithoedd eraill—a methu cael digon o'r llythyren 'y' yn y wasg yng Nghairo. Ond, beth bynnag, dyna oedd dechrau creu rhwydweithiau ffurfiol i glymu Cymry dramor, a dwi'n falch, fel dwi'n dweud, fod hwnnw'n fudiad sydd yn dal i fynd. Ond, wrth gwrs, mae yna fudiadau newydd wedi cychwyn. Mae Global Welsh yn un sy'n werth ei grybwyll, yn un dwi wedi bod yn ymwneud ag o, sydd yn creu rhwydweithiau modern mewn busnes, ymhlith unigolion ar draws y byd. Fy apêl i yn fan hyn fyddai ar y Llywodraeth i fanteisio ar, i ddefnyddio, i fuddsoddi mewn, ac i adeiladu ar y mudiadau sydd yn bodoli'n barod ac sydd wedi bod yn adeiladu eu cysylltiadau nhw dros flynyddoedd mawr.
Dydy Cymru ddim yn wlad fawr, ond mae'n wlad sydd ag iddi gyfeillion ar draws y byd a chysylltiadau drwy chwaraeon, drwy gelfyddyd, drwy gerddoriaeth, drwy fwyd, drwy ein cydwybod genedlaethol. Mi hoffwn i symud tuag at gael cronfa ddyngarol Gymreig benodol yn y blynyddoedd i ddod. Mae hwnna'n rhywbeth allai ddod â budd i ni hefyd. Mae hi'n wlad wastad sydd wedi ymestyn y tu hwnt i'w ffiniau, drwy Goronwy Owen ac eraill, ac mae yna gyfle rŵan, drwy fod gennym ni'n Senedd ein hunain a rŵan Gweinidog cysylltiadau rhyngwladol i fynd i lefydd nad ydyn ni ddim wedi bod o'r blaen. Dwi'n sicr y bydd gennych chi, o gael eich strategaeth yn iawn, gefnogaeth y Cynulliad yma wrth inni chwilio am gyfeillion newydd ar hyd a lled y byd.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, Eluned Morgan?
Wel, diolch yn fawr. Gaf i ddechrau drwy groesawu adroddiad y pwyllgor a David Rees yn arbennig, a diolch iddo am yr holl waith a'r casglu tystiolaeth rydych chi wedi gwneud yn ystod yr ymchwiliad yma, achos mae wedi rhoi gwybodaeth werthfawr iawn i ni wrth i ni ddatblygu'r strategaeth newydd yma i Gymru? Dwi hefyd yn ddiolchgar i bawb sydd wedi cyfrannu at y drafodaeth heddiw. Gaf i ddweud fy mod i'n falch ein bod ni wedi derbyn yr awgrymiadau sydd yn yr adroddiad ac, yn gyffredinol, dwi'n cytuno? Dwi ddim yn hapus iawn i dderbyn pethau mewn egwyddor. Un o'r problemau sydd gyda ni ar hyn o bryd, wrth gwrs, yw bod Brexit yn golygu ei bod hi'n anodd iawn mewn rhai llefydd i ni wybod yn union beth mae'r dyfodol yn edrych fel. Felly, dyna ran o'r rheswm pam mae'r rheini yna.
Ers degawdau, mae'r ffordd rŷm ni wedi gweithredu yng Nghymru wedi cael ei diffinio gan ein perthynas ni â'r Undeb Ewropeaidd. Dwi'n falch bod Alun wedi nodi'r ffaith ein bod ni wedi galw'n hunain yn wlad Ewropeaidd, ac mae hwnna'n bwynt gwleidyddol pwysig i'w danlinellu, dwi'n meddwl. Wrth gwrs, mae natur y berthynas yna ar hyn o bryd yn dal i fod yn ansicr, ond beth bynnag fydd yn digwydd bydd Cymru'n parhau i fod yn genedl Ewropeaidd ac i fod yn wlad agored sydd â chysylltiadau cryf gyda'n cymdogion ni ar y cyfandir. Bydd hwnna'n wir beth bynnag fydd y canlyniad ar ddiwedd y trafodaethau presennol.
Yn dilyn fy nghyhoeddiad i ym mis Ionawr ynglŷn â datblygu strategaeth newydd i Gymru, gwnes i lansio cyfnod o drafodaeth er mwyn rhoi cyfle i grwpiau sector cyhoeddus, sector preifat a'r trydydd sector i roi eu syniadau nhw ynglŷn â sut ddylem ni fod yn datblygu'r strategaeth yma, a dwi wedi bod yn trafod gyda nifer fawr o randdeiliaid ar draws y prif sectorau. Nawr, er mwyn ehangu'r drafodaeth yna, gwnes i gyhoeddi cyfres o gwestiynau ar lein ar y cyfryngau cymdeithasol i gasglu tystiolaeth gan y cyhoedd ynglŷn â pha fath o neges a delwedd y dylem ni fod yn eu cyflwyno i’r byd.
Bydd y strategaeth yn gosod ffocws i ni o ran sut rŷn ni’n rhoi priodoldeb i’r gwaith yn yr adran, a bydd yn nodi’r heriau a’r cyfleoedd dwi’n gobeithio bydd yn dod yn y dyfodol. Bydd hefyd yn gosod meini prawf fel ein bod ni a chi yn gallu mesur ein llwyddiant. Mae gwaith ar y strategaeth yn parhau i fynd yn ei flaen. Dwi yn gobeithio erbyn diwedd y mis yma byddai’n gallu cyflwyno’r drafft cyntaf i’r Cabinet, ond bydd y ddogfen derfynol, wedyn, yn barod cyn dechrau’r haf.
Gaf i ddiolch hefyd i Alun am godi’r pwynt yma o bwysigrwydd yr amgylchedd i rili tanlinellu’r ffaith ein bod ni’n wlad sy’n cymryd hwn o ddifri, a’n posibilrwydd o arweinyddiaeth ym maes ieithoedd lleiafrifol? Rwyf yn siŵr eich bod chi wedi nodi’r ffaith bod y rhain yn rhai o’r pwyntiau mi wnes i eu tanlinellu pan es i ar y daith i’r Unol Daleithiau.
Mae’n werth nodi hefyd fod yr agenda rhyngwladol yn rhedeg fel edau trwy bob portffolio Cabinet. Felly, dros y chwe wythnos diwethaf, dwi wedi bod yn cynnal cyfres o gyfarfodydd gyda Gweinidogion eraill y Cabinet, ac mae’r trafodaethau hyn wedi bod yn ddefnyddiol dros ben i helpu i lunio’r strategaeth. Mae’r pwyllgor wedi gofyn i ni am alw is-bwyllgor Cabinet i osod y cyfeiriad, ond gaf i ddweud yn sgil pwysigrwydd yr agenda, a’r ffaith bod hyn yn ymestyn at draws sawl portffolio, dwi yn meddwl ei fod e’n bwysig ein bod ni’n trafod hwn yn y Cabinet llawn yn hytrach na'i roi mewn i is-bwyllgor? Ond dwi yn derbyn y pwynt bod yn rhaid inni sicrhau, wedyn, fod hwnna yn digwydd a sut rŷn ni’n cadarnhau bod hwnna yn dod ar yr agenda yn gyson.
Ers penderfyniad y Deyrnas Unedig i adael yr Undeb Ewropeaidd, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda sefydliadau partner i gyfyngu ar yr effeithiau negatif yn ystod y cyfnod pontio yma o Brexit. Bydd y Brexit chaotic, fel rŷn ni wedi ei weld hyd yma, yn effeithio ar gymdeithas sifil a sefydliadau’r trydydd sector mewn gwahanol ffyrdd, gan ddibynnu ar y math o wasanaethau maen nhw’n eu darparu, y bobl maen nhw’n eu gwasanaethu a’r bobl maen nhw’n eu cyflogi. Dyna’r rheswm pam rŷn ni wedi bod yn darparu cymorth ariannol yn uniongyrchol i sectorau ar draws Cymru i gynllunio ac i baratoi ar gyfer Brexit. Ac mae hwnna yn cynnwys y £50 miliwn yna yng nghronfa bontio'r Undeb Ewropeaidd.
Mae’n hanfodol bwysig ein bod ni’n sicrhau cymaint â phosib nad yw’r manteision yr oedd Cymru’n eu derbyn trwy fod yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd yn cael eu colli ar ôl i’r Deyrnas Unedig sefydlu perthynas newydd. Rhaid i Lywodraeth y Deyrnas Unedig anrhydeddu’r ymrwymiad na fydd Cymru’n colli ceiniog o gyllid ar ôl Brexit. Rŷn ni’n parhau i alw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i gadarnhau y bydd yn darparu cyllid parhaus i Gymru heb unrhyw amodau, yn yr un ffordd â rŷn ni wedi cael yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf. Rŷn ni’n gwybod pa mor bwysig yw hi i Gymru fedru parhau i fod yn rhan o bartneriaethau a rhwydweithiau Ewropeaidd hefyd. Rŷn ni wedi bod yn glir wrth y Deyrnas Unedig ein bod ni’n gobeithio parhau i fod yn rhan o raglenni'r Undeb Ewropeaidd lle bo hynny’n briodol.
Credaf ei bod yn werth nodi y byddai cyfranogi yn rhaglenni'r UE a'r cytundeb cysylltiedig â'r UE fel arfer yn cael ei wneud gan wladwriaeth sofran gyda'r pwerau i wneud hynny, ac rydym eisoes yn archwilio a fyddai'n bosibl i Gymru, neu gyfuniad o wledydd cyfansoddiadol y DU, gymryd rhan mewn rhaglen UE fel Erasmus, hyd yn oed pe bai Llywodraeth y DU yn peidio â chaniatáu i Loegr gymryd rhan. Mae arnaf ofn ein bod wedi sefydlu y byddai dull o'r fath yn galw am gytundeb Llywodraeth y DU a'i llofnod ar unrhyw gytundeb UE. Ond nid yw hynny wedi gwanhau ein bwriad i wneud yn siŵr ein bod yn symud cyn belled â phosibl i gymryd rhan mewn rhaglenni fel Erasmus yn y dyfodol.
Pan fo'n briodol wrth gwrs, yng nghyd-destun trafodaethau Brexit pellach, byddwn yn cysylltu â sefydliadau perthnasol yr UE. Rydym yn adolygu ein holl gysylltiadau dwyochrog wrth gwrs fel rhan o'r gwaith o ddatblygu'r strategaeth ryngwladol, ac yn seiliedig ar yr asesiad hwn, yn unol â'n blaenoriaethau strategol, byddwn yn nodi cysylltiadau blaenoriaeth allweddol i ganolbwyntio ein gweithgarwch arnynt, a byddant yn cael eu nodi yn y cynllun strategol. A hoffwn sicrhau Mark y byddwn yn tanlinellu pwysigrwydd swyddfa Cymru ym Mrwsel, oherwydd, wrth gwrs, nid yn unig dylem barhau i ddylanwadu yn yr UE, ond mae'r berthynas pŵer meddal honno hefyd yn hollbwysig yn y dyfodol. Wrth gwrs, bydd angen rhywfaint o hyblygrwydd arnom o fewn y strategaeth i sicrhau nad ydym yn atal cydweithredu â phartneriaid eraill y tu allan i'n meysydd blaenoriaeth os bydd y cyfleoedd hynny'n codi.
Wrth gwrs, rydym yn cydnabod pwysigrwydd datblygu dull mwy systematig o gysylltu Cymru â'r Cymry alltud. Diolch i David am ei wersi hynod ddiddorol fel arfer ar Goronwy Owen a Jefferson; roeddent yn perthyn i Gymry alltud y gorffennol wrth gwrs, ac mae'n bwysig ein bod yn casglu'r Cymry alltud sydd yno ar hyn o bryd, sy'n barod ac yn gallu siarad dros Gymru dramor. Mae'n ddarlun eithaf cymhleth. Yr hyn nad wyf mo'i eisiau yw dechrau rhywbeth na allwn ei barhau. Dyna pam ein bod eisoes wedi cael trafodaethau gyda GlobalWelsh, na ddylech ddrysu rhyngddo a Cymru Fyd-eang—nid wyf am inni gamu ar draed pobl sydd eisoes yn gwneud gwaith yn y maes hwn. Felly, rydym yn ceisio darganfod lle yw'r mannau gorau inni weithio.
Mae gwledydd yn mynd ati mewn ffyrdd gwahanol i hyn wrth gwrs. Bydd ein rhwydwaith o swyddfeydd tramor yn chwarae rhan bwysig yn ein gwaith allanol yn y byd, a byddwn yn rhoi ystyriaeth bellach i argymhelliad y pwyllgor i gomisiynu dadansoddiad llinell sylfaen annibynnol o weithrediad swyddfeydd tramor y Llywodraeth, a gallaf sicrhau'r pwyllgor, Gadeirydd, y byddwn yn cynnal asesiad o'u heffeithlonrwydd a'u cyflawniad. Rydym eisoes wedi penodi swyddog i oruchwylio'r gwaith o reoli perfformiad y swyddfeydd tramor ac mae angen i ni ystyried ymhellach a fyddai'n briodol archwilio swyddfeydd bach iawn, oherwydd mewn rhai achosion rydym yn archwilio unigolyn. Y peth allweddol i'w gofio, rwy'n credu, yw bod gennym y swyddfa yn Llundain hefyd, sydd eisoes wedi'i chryfhau. Nid wyf yn twyllo fy hun o gwbl na fydd Llundain yn ganolog i gyflawniad ein strategaeth. Mae angen inni fanteisio ar adnoddau enfawr Llywodraeth y DU yn y Swyddfa Dramor a Chymanwlad a mannau eraill, ac rydym hefyd yn aros am amserlen Cyd-bwyllgor y Gweinidogion.
A wnewch chi ddirwyn i ben, os gwelwch yn dda?
Felly, i gloi, hoffwn ddiolch i'r pwyllgor am eu hymwneud cadarnhaol a gobeithio y gallwn barhau yn y cywair hwn. Gallaf eich sicrhau y bydd nifer o'r pwyntiau a nodwyd gennych yn cael eu cynnwys yn y strategaeth ryngwladol honno. Diolch yn fawr.
A gaf fi alw yn awr ar David Rees i ymateb i'r ddadl?
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau y prynhawn yma ac am ymateb y Gweinidog a thynnu sylw at ambell beth? Rwy'n credu mai'r themâu cyffredin a welsom drwy gydol y cyfraniadau oedd pwysigrwydd pŵer meddal a sut y gall hynny adeiladu a helpu Cymru yn y dyfodol, a hefyd mater y Cymry alltud a sut y mae hynny'n gweithio. Ac nid ydym wedi defnyddio hynny er ein budd hyd yn hyn. Nododd Mark Reckless yn glir iawn fod hynny'n rhywbeth a oedd yn creu argraff arno. Dysgodd pa mor bwysig yw hynny a sut y mae Cymru wedi bod yn gwneud ei gwaith yn dda ym Mrwsel. Tynnodd sylw hefyd at y gwahanol ddulliau y mae angen inni eu defnyddio. Ac mae gwahaniaeth rhwng dull sy'n canolbwyntio ar yr economi a dull sy'n canolbwyntio ar ddiwylliant, a rhaid i Lywodraeth Cymru benderfynu pa ffordd y mae am ei wneud ac efallai pa fath o berthynas fyddai'n cyfateb i'r ddau ddull. Felly, efallai y bydd ganddi berthynas ar ffurf wahanol ag un wlad, o'i gymharu ag un arall, gan ddibynnu ar y dull rydych am ei ddefnyddio. Mae hynny'n bwysig iawn.
Dywedodd Delyth—rwy'n credu mai'r hyn a ddaeth gan Delyth yn bwysicaf oll yw ein bod yn genedl falch, fodern ac mae angen inni edrych ymlaen at feithrin cysylltiadau gyda'r byd. Ni ddylem ofni hynny a dylem fod yn uchelgeisiol wrth fwrw ymlaen â'r negeseuon hynny. A mynegodd bwysigrwydd cydnabod yr amserlenni, gan ein bod yn ymwybodol o'r amserlenni llym iawn sy'n berthnasol heddiw ac mewn gwirionedd, rydym am i Lywodraeth Cymru gyflymu'r broses a myfyrio ar hynny.
Soniodd Alun Davies am yr hyn y credaf ein bod yn anghofio amdano, sef pwysigrwydd Llundain yn hyn. Yn amlwg, soniasoch am swyddfeydd yn Llundain, Weinidog, ond mae'n hollbwysig a'r hyn a amlygwyd inni yw ein bod bob amser yn edrych tua'r byd, ond dylem edrych tuag at Lundain hefyd, oherwydd mae cysylltiadau â Llundain a'r swyddfa dramor, a sut y gallwn ddefnyddio'r rheini hefyd yn hollbwysig. Mae ein rôl yn y DU ac elwa o hynny yn bwysig ac yn rhywbeth arall sydd angen inni ei gael, oherwydd gallai egluro cyfraniad Cymru i faterion rhyngwladol a sut y gallwn ddylanwadu ar hynny, fel ni ein hunain, fel cenedl, ond efallai hefyd yn Llundain fel rhan o'r Deyrnas Unedig. Ni allwn golli ein ffordd, a dylem ddefnyddio'r blociau adeiladu y gallwn adeiladu arnynt.
Mae'n bosibl fod David wedi fy hudo i fynd i America i Goleg William a Mary, ond tynnodd sylw at hyn: mae cymaint allan yno nad ydym yn gwybod amdano, ac efallai fod angen inni ddechrau archwilio rhai o'r pethau hynny, dechrau adeiladu ar yr hyn sydd yno'n barod, nad ydym wedi'i ddysgu eto. Gallwn ei ddefnyddio er mantais i ni. Mae mor bwerus ein bod yn colli cyfle, a dylem fod yn gwneud mwy ynglŷn â hynny.
Rhun, rwy'n cydnabod eich gwaith yn y grŵp trawsbleidiol. Rwyf wedi mynychu un neu ddau o gyfarfodydd, hoffwn allu mynychu mwy ohonynt, ond yn anffodus, mae rhywbeth bob amser yn digwydd ar yr un pryd, fel arfer—weithiau'r rhai rwy'n eu cadeirio hefyd. Ond rydych wedi ystyried elfen hanfodol o ran ble mae lle Cymru yn y byd a sut y gallwn ehangu ar hynny. Bydd y grŵp trawsbleidiol yn parhau â'r neges honno, gan fynd ymlaen, rwy'n gwybod, o dan eich arweiniad. Mae'n bwysig iawn.
Rhaid i ni fynd i lefydd nad ydym wedi bod ynddynt o'r blaen, dyna yw hyn i bob pwrpas. Rydym bob amser yn tueddu i fynd i'r lleoedd rydym yn eu hadnabod, ein ffrindiau, ond mae yna lefydd nad ydym wedi bod ynddynt eto, lleoedd nad ydym wedi'u harchwilio, ac rwy'n meddwl bod cyfle yn awr yn y strategaeth hon i ddechrau edrych ar rai o'r agweddau hynny. Peidiwch â bod ofn dweud, 'Nid ydym wedi meddwl am y lle hwnnw mewn gwirionedd, gadewch i ni fynd yno, gadewch i ni edrych ar y llwybr hwnnw', yn hytrach na'r ffrindiau 'pawb rydym yn eu hadnabod' traddodiadol.
Weinidog, rwy'n falch iawn fod eich strategaeth yn mynd i gael ei chyhoeddi erbyn yr haf, gan ei bod yn hanfodol yn awr inni ddechrau gweld strategaeth, mae'n hanfodol ein bod yn dechrau archwilio'r hyn y mae'n ei olygu i Gymru, ac mae'n hanfodol ein bod yn cael y dangosyddion perfformiad allweddol sy'n gysylltiedig â hyn fel y gallwn asesu a yw'n effeithiol ai peidio. Mae hynny'n bwysig iawn. Mae'n bryd i Gymru gael llais yn awr, a chael llais cryf iawn. Mae gennym ni un, gadewch i ni ei ddefnyddio. Mae angen i ni wneud hyn oherwydd ein bod yn credu bod gennym gyfraniad i'w wneud i'r byd.
Mae llawer yn sôn am yr Alban ac mae llawer yn sôn am Iwerddon, a chredaf fod David wedi tynnu sylw at y ffaith nad ydym yn sôn am yr Americanwyr Cymreig. Mae llawer o Americanwyr Cymreig yn y mynyddoedd Appalachaidd a'r ardaloedd glofaol—mae yna hanes yno, ond nid ydym yn ei ddefnyddio. Gadewch i ni ddefnyddio ein llais, gadewch i ni ddefnyddio ein profiad, gadewch i ni ddefnyddio ein cysylltiadau. Dyna beth sydd angen i ni ei wneud.
Rwy'n croesawu'r ffaith bod y Cynulliad, heddiw, wedi ystyried ein rôl ni yn y byd ac edrychaf ymlaen at ein gweld yn pennu llwybr, a rhaid i'r strategaeth honno fod yn llwybr clir, er mwyn inni allu gweld Cymru sy'n edrych tuag allan yn cyflawni ac yn ffurfio cysylltiadau â chenhedloedd eraill ar draws y byd.
Diolch. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbyniwyd adroddiad y pwyllgor yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Rebecca Evans, a gwelliannau 2, 3 a 4 yn enw Darren Millar. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol.
Eitem 7 ar yr agenda y prynhawn yma yw dadl Plaid Cymru ar hawliau gweithwyr, a galwaf ar Leanne Wood i wneud y cynnig.
Cynnig NDM7034 Rhun ap Iorwerth
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi pwysigrwydd Diwrnod Rhyngwladol y Gweithwyr a rôl undebau llafur wrth sicrhau hawliau gweithwyr yng Nghymru.
2. Yn nodi bod Cymru yn llusgo ar ôl gweddill y DU o ran lefelau cyflog teg, gyda llawer o bobl yng Nghymru ar gyflogau sydd 30 y cant yn is na gweddill poblogaeth y DU.
3. Yn credu y dylid diweddaru'r ddeddfwriaeth i:
a) cyflawni 'Gwaith Teg' gan ddefnyddio dulliau polisi ac ariannu a chynyddu cwmpas cydfargeinio;
b) amddiffyn hawliau gweithwyr drwy ddulliau gorfodi mwy effeithiol; ac
c) sefydlu partneriaeth gymdeithasol a chydfargeinio yng ngwead bywyd gwaith Cymru.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wahardd y defnydd o gontractau dim oriau ym mhob un o wasanaethau datganoledig cyhoeddus Cymru a chadwyni cyflenwi cysylltiedig.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnwys ymrwymiad i gyflwyno deddf partneriaeth gymdeithasol ac amserlen sy'n gysylltiedig â rhaglen ddeddfwriaethol y llywodraeth bresennol.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'n partneriaid yn y mudiad undebau llafur am eu gwaith yn cefnogi Plaid Cymru i ddatblygu'r cynnig hwn. Heddiw yw Diwrnod Rhyngwladol y Gweithwyr, ac rydym yn falch o allu cynnal y ddadl heddiw. Credwn ei bod yn bwysig nodi'r diwrnod drwy roi cyfle i Aelodau yn y Siambr hon leisio cefnogaeth ac undod â gweithwyr a chyfrannu at y ddadl ar hawliau gweithwyr. Mae TUC Cymru am wneud Cymru yn genedl gwaith teg. Mae Plaid Cymru yn rhannu'r gwerthoedd sylfaenol hyn. Does bosibl nad ydym i gyd am i weithwyr yng Nghymru elwa o gydfargeinio a chael dweud eu barn am gyflogau ac amodau'r gweithle, yn ogystal â thelerau ac amodau eu cytundebau. Rwy'n siŵr y bydd y rhan fwyaf o'r Aelodau yn gyfarwydd iawn â'r materion hyn o'n gwaith achos. Dro ar ôl tro, clywn am arferion annheg yn y farchnad lafur, cyflogau isel, contractau amheus, gwahaniaethu ac arferion cyflogaeth anghyfreithlon ac yn y blaen.
Mae'n wir dweud bod diweithdra wedi gostwng yng Nghymru ers dechrau'r argyfwng ariannol, ond nid yw hynny'n golygu bod cyflogau wedi codi. Mae gwaith ar gyflog isel yn bla yng Nghymru. Talwyd cyflogau is na'r cyflog byw gwirfoddol mewn tua chwarter y swyddi yn y wlad hon yn 2017, gydag amrywiadau rhanbarthol yn y ffigur. Er enghraifft, roedd un o bob pum swydd yng Nghaerffili yn rhai ar gyflogau isel; roedd un o bob tair swydd ym Mlaenau Gwent yn rhai ar gyflogau isel. Yn 2016, talwyd llai na'r isafswm cyflog statudol mewn tua 17,000 o swyddi yng Nghymru. Canfu'r Comisiwn Cyflogau Isel fod y rhan fwyaf o weithwyr ar gyflogau rhy isel yn fenywod, yn gweithio'n rhan-amser, ac yn cael eu talu fesul awr. Mae hyn, yn ei dro, wedi arwain at gynyddu lefelau tlodi mewn gwaith. Yn wahanol i'r gorffennol, nid yw gwaith heddiw o reidrwydd yn arwain at lwybr allan o dlodi. Mae cyflogau, oriau gwaith, newidiadau i fudd-daliadau nawdd cymdeithasol oll wedi cael effaith ac effaith andwyol ar ein cymunedau. Rhwng 2014 a 2017, gwelwyd cynnydd o 10 y cant yn nifer y plant a oedd yn byw mewn tlodi cymharol lle'r oedd yr holl oedolion o oedran gweithio yn gweithio. Mae llawer mwy y gallwn ei ddweud am gontractau dim oriau, er enghraifft, sy'n cyfrannu at hyn, ond bydd fy nghyd-Aelod, Helen Mary Jones, yn trafod hynny maes o law.
Efallai nad oes gan y Senedd yr holl ddulliau economaidd at ei defnydd i ymdrin â'r holl broblemau hyn, ond mae pethau y gall y Llywodraeth eu gwneud, ac rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru yn y cynnig hwn i gynnwys ymrwymiad i gyflwyno Deddf partneriaeth gymdeithasol i hybu newid diwylliannol ym marchnad lafur Cymru, lle mae llais torfol y gweithwyr yn gyfartal â llais cyflogwyr—ffordd Gymreig o gryfhau hawliau gweithwyr y mae gennym hanes hir o'u cefnogi. Felly, gadewch inni sicrhau ein bod yn cadw'r traddodiad hwnnw'n fyw.
Rydym hefyd am weld ymrwymiad clir i hyn yn rhaglen ddeddfwriaethol y Llywodraeth. Ond mae'n rhaid i mi ddweud, siom fawr i ni oedd bod Llywodraeth Lafur wedi difetha ein cynnig i bob pwrpas drwy ddileu pob pwynt ar ôl pwynt 1, gan ei droi'n ddatganiad hunanglodforus a diystyr arall, gyda geiriau di-ddim a chic hir i laswellt hirach byth. Rwy'n gwybod, oherwydd fy mod wedi bod ar banel gyda Martin Mansfield o TUC Cymru, eu bod am weld y ddeddfwriaeth hon yn cael ei phasio gydag amserlen glir.
Felly, edrychaf ymlaen at glywed sut y gall y Llywodraeth gyfiawnhau diwygio'r cynnig yn y fath fodd, ac apeliaf ar bob un o'r Aelodau Llafur ar y meinciau cefn sy'n gwerthfawrogi eu perthynas â'r undebau llafur i'n cefnogi yn hyn o beth. Dangoswch iddynt, ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Gweithwyr, o bob diwrnod, y byddwch yn rhoi hawliau gweithwyr uwchben chwip y blaid ar y diwrnod hwn heddiw.
Diolch. Rwyf wedi dethol y pedwar gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Felly, galwaf ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans, yn ffurfiol.
Gwelliant 1—Rebecca Evans
Dileu popeth ar ôl Pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn cymeradwyo gwaith pob Llywodraeth Cymru ers 1999 i ddatblygu strwythurau partneriaeth gymdeithasol effeithiol gydag undebau llafur a busnesau Cymru.
Yn nodi bod y dull gweithredu hwn wedi helpu i sicrhau hawliau gwirioneddol i weithwyr Cymru drwy Ddeddf yr Undebau Llafur (Cymru) a’r Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol sydd wedi gwyrdroi deddfwriaeth Llywodraeth y DU.
Yn croesawu’r camau a ddatblygwyd drwy bartneriaeth gymdeithasol gan Lywodraeth Cymru i ddileu contractau dim oriau ecsbloetiol yng Nghymru a’r gwaith a wnaed drwy’r Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi.
Yn cydnabod ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wneud Cymru yn genedl Gwaith Teg.
Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddatblygu Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a’i chyflwyno yn ystod tymor y Cynulliad hwn.
Yn galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau wrth i ni ymadael â’r UE ei bod yn ymrwymo i safonau deinamig sy’n rhwymo mewn cyfraith ar gyfer diogelu a gorfodi gwaith teg ar draws y DU.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Yn ffurfiol.
Diolch. Galwaf ar Russell George i gynnig gwelliannau 2, 3 a 4, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar.
Gwelliant 2—Darren Millar
Dileu pwynt 4.
Gwelliant 3—Darren Millar
Dileu pwynt 5 a rhoi yn ei le:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgynghori ar ddatblygu deddf partneriaethau cymdeithasol.
Gwelliant 4—Darren Millar
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth y DU i ddiogelu hawliau gweithwyr ar ôl Brexit.
Cynigiwyd gwelliannau 2, 3 a 4.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a hoffwn ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl hon heddiw, a dweud hefyd y byddaf yn cynnig y gwelliannau yn enw fy nghyd-Aelod Darren Millar.
A gaf fi ddweud fy mod yn cefnogi'r mwyafrif helaeth o gynnig Plaid Cymru? Rwy'n cefnogi eu pwyntiau 1, 2 a 3 yn arbennig, ac rwy'n edrych ar bwynt 2 yn eu cynnig, sy'n nodi—cynnig sy'n nodi ydyw—fod Cymru ar ei hôl hi o gymharu â gweddill y DU o ran lefelau cyflog teg, gyda llawer o bobl yng Nghymru ar gyflogau 30 y cant yn is na gweddill poblogaeth y DU. Mae'n ffaith drist fod hynny'n gywir, ond yn siomedig mai felly y mae, ac rwy'n credu bod hynny o ganlyniad i'r Llywodraeth, ac ers inni gael datganoli 20 mlynedd yn ôl, mae'r bwlch wedi lledu, sy'n gwneud hyn yn fwy siomedig byth. Mae adolygiad Taylor o arferion gwaith modern yn dweud—ac rwy'n dyfynnu yma—fod
hyblygrwydd yn y farchnad lafur yn bwysig a rhaid ei gadw er mwyn cadw cyfraddau cyfranogiad yn uchel,
ac mae'r adroddiad yn cyfeirio at yr arolwg o'r llafurlu yn 2017, a ganfu fod un rhan o bump o bobl ar gontractau dim oriau mewn addysg amser llawn, ac nad yw 68 y cant o'r rheini sydd â chontractau eisiau mwy o oriau. Yn sicr, yr awgrym yno yw bod y mwyafrif helaeth y bobl sydd arnynt yn fodlon â chontractau dim oriau.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf, yn bendant.
Diolch. Diolch i chi am dderbyn ymyriad. Fodd bynnag, mae gwahaniaeth rhwng contractau dim oriau, sy'n rhoi'r holl bŵer yn nwylo'r cyflogwr, a chontractau gweithio hyblyg, lle mae'r pŵer yn fwy cytbwys. Nid wyf yn gwybod a oes gennych aelodau o'r teulu sydd wedi bod yn gweithio ar gontractau dim oriau, ond mae gennyf fi, ac fel y dywedodd ysgrifennydd cyffredinol y TUC, nid wyf erioed wedi cyfarfod ag unrhyw un sy'n gweithio ar gontract dim oriau a oedd eisiau'r contract hwnnw. Efallai eu bod am gael hyblygrwydd ond nid oeddent am gael contract dim oriau lle mae'r pŵer gyda'r cyflogwr.
Credaf fod yma gydbwysedd sy'n rhaid ei daro, ac mae'n amlwg ein bod ar ochr wahanol i'r cydbwysedd hwnnw, ond yr hyn y mae contractau dim oriau'n ei gynnig yw hyblygrwydd i weithwyr, gan gynnig patrymau i weithwyr sy'n gweddu i'w hamgylchiadau personol ac yn rhoi gallu iddynt weithio mewn ffordd sy'n addas iddynt hwy. Mae contractau dim oriau hefyd yn rhoi hyblygrwydd i fusnesau, gan ganiatáu iddynt ateb y galw gan gwsmeriaid ar adegau prysurach. Dyna un o'r pethau sydd hefyd yn bwysig yma, a dyma pam na all fy nghyd-Aelodau a minnau ar yr ochr hon gefnogi'r rhan honno o'ch cynnig. Ond rwy'n amau bod yr hyn yr ydym am ei gyflawni yr un fath—mae'r ffordd rydym yn ei gyflawni'n wahanol, dyna i gyd, ac mae cydbwysedd gwahanol yma o ran hynny. Ond dylai gweithwyr allu sicrhau gwaith teg, a dylai cyflogeion allu cael hawl i ofyn i'w cyflogwr am gontractau mwy rhagweladwy a sefydlog os yw'n well ganddynt. Dyma graidd ein gwelliant, gan gymryd agwedd Llywodraeth y DU yma yn eu hymrwymiadau hwy hefyd i warchod hawliau gweithwyr. Mae angen i ni gael dull o weithredu sy'n grymuso gweithwyr, yn rhoi'r gallu iddynt ddewis pa gontract sy'n gweddu orau i'w gofynion personol ac ariannol. Er bod yr Undeb Ewropeaidd yn nodi'r gofynion sylfaenol y dylai gweithwyr eu mwynhau, mae Llywodraeth y DU wedi rhagori arnynt yn gyson, ac mae wedi arwain y ffordd o ran gwella hawliau gweithwyr. Mae hyn yn cynnwys ehangu hawliau mamolaeth ac absenoldeb rhieni yr UE. Mae cynigion newydd yn cynnwys rhoi mwy o amddiffyniad i fenywod beichiog [Torri ar draws.]—mewn munud—a rhieni newydd rhag dileu swyddi, ac ymestyn yr amddiffyniadau presennol a fwynheir gan rieni i rieni eraill, megis y rhai sy'n dychwelyd o absenoldeb rhiant a rennir. Iawn.
Felly, gyda'r hyn rydych wedi'i ddweud, pam nad yw Theresa May yn cefnogi'r siarter hawliau sylfaenol? Pam ei bod yn mynnu bod y siarter yn cael ei heithrio'n ddeddfwriaethol rhag unrhyw gysylltiad â hawliau gweithwyr Cymru, hawliau gweithwyr y DU?
Wel, rwyf eisoes wedi dweud bod Llywodraeth y DU wedi mynd y tu hwnt i'r amddiffyniadau a geir o dan gyfraith yr UE. Rwyf wedi gwneud y pwynt hwnnw, a hoffwn orffen drwy ddweud fy mod yn cytuno â Leanne Wood o ran y siom fod y Llywodraeth wedi dileu cynnig Plaid Cymru yn ei gyfanrwydd, a gallwn gytuno â'r rhan fwyaf o'r cynnig hwnnw. Am y rheswm hwnnw—[Torri ar draws.] Am y rheswm hwnnw, ni fyddwn yn cefnogi gwelliant y Llywodraeth.
Diolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl hon ar hawliau gweithwyr. Hoffwn siarad yn falch am y gwaith a wnaed gan Lywodraeth Cymru ac aelodau eraill o'r meinciau hyn ar hyrwyddo'r hawliau hynny. I rai ohonom, mae hwn yn fater real a phersonol, ac yn fy achos i bûm yn swyddog undeb llafur am 30 mlynedd yn amddiffyn ac ymladd am hawliau gweithwyr bob dydd. Rwy'n parhau i fod yn aelod balch o Unsain ac yn parhau i gefnogi ac edmygu'r gwaith a wnânt ar ran gweithwyr gwasanaethau cyhoeddus ledled y DU a thu hwnt. Fel merch i swyddog Undeb y Gweithwyr Cludiant a Chyffredinol mae'n amlwg i mi fod rhai pethau, fel perthyn i undeb llafur, yn rhywbeth sydd yn y gwaed.
Yn ystod y blynyddoedd a dreuliais yn swyddog undeb llafur cofiaf weithio gyda chyd-Aelodau, fel Vaughan Gething a Mick Antoniw, fel partneriaid cyfraith cyflogaeth yn gweithio ar achosion personol a chyfunol a oedd o fudd i filoedd lawer o bobl—buddion a enillwyd drwy fynnu eu hawliau yn y gweithle. Hefyd, cofiaf weithio'n agos gydag Eluned Morgan yn Nhŷ’r Arglwyddi ar ein gwrthwynebiad i'r Bil Undebau Llafur, a cheisio amddiffyn gweithwyr yng Nghymru rhag ras y Torïaid i'r gwaelod, a'r balchder o weld y Llywodraeth Lafur Gymreig hon yn cyflwyno deddfwriaeth i warchod Cymru rhag yr ymosodiadau ar drefniadaeth undebau llafur yn y sector cyhoeddus.
A wnewch chi dderbyn ymyriad? Heb amheuaeth, mae eich cyfraniad i hawliau gweithwyr a'r mudiad undebau llafur yn ganmoladwy. A ydych chi felly'n gresynu at y gwelliant a gyflwynwyd gan y Llywodraeth heddiw i ddileu holl sylwedd ein cynnig i bob pwrpas, a dim ond llongyfarch ei hun heb feddwl am yr hyn y gall ei wneud yn y dyfodol i warchod hawliau'r gweithwyr hynny ymhellach?
Na, rwy'n ddigon hapus gyda'r gwelliant ac fe egluraf pam wrth i mi barhau. Hoffwn ddweud ei bod yn ddrwg gennyf, Russell, er gwaethaf yr hyn a ddywedwch, mai ateb y Torïaid i'r problemau yn y gweithle bob amser yw ymosod ar weithwyr a'r rhai sy'n eu cynrychioli gan anwybyddu'r cathod tew yn ystafelloedd y byrddau gyda'u taliadau bonws tra bo gweithwyr yn wynebu cyni yn gyson a rhewi cyflogau drwy'r cyfnodau anodd hyn. Ar y meinciau hyn, fodd bynnag, mae gennym werthoedd greddfol a chynhenid sy'n dal i helpu i lunio'r gwaith a wnawn yn y Senedd hon. Yng nghyfnod datganoli, gwelsom Lywodraethau Llafur Cymru olynol yn datblygu agenda hawliau gweithwyr, yn ymgorffori partneriaeth gymdeithasol, yn gweithio tuag at genedl gwaith teg, yn hyrwyddo cydfargeinio, yn diogelu ac ariannu Cronfa Ddysgu Undebau Cymru, yn diddymu contractau dim oriau mewn gofal cymdeithasol, yn cyflwyno codau ar gyflogaeth a chaffael moesegol, yn sefydlu'r contract economaidd, ac fel y crybwyllwyd eisoes, yn diddymu elfennau gwaethaf Deddf Undebau Llafur filain y Torïaid yma yng Nghymru, ac yn olaf, Llywodraeth Lafur sydd wedi ymrwymo i ddatblygu Deddf partneriaeth gymdeithasol yn nhymor y Cynulliad hwn. Mae cymaint o gyflawniadau balch gan ein mudiad Llafur, ond ar ôl nodi'r Diwrnod Rhyngwladol i Gofio Gweithwyr, credaf ei fod yn ein hatgoffa nad yw'r gwaith hwn wedi'i gwblhau o bell ffordd, boed hwnnw'n waith ar iechyd a diogelwch, ar ddiogelu'r enillion a wnaethom ar gydraddoldeb, neu weld mwy o weithwyr yn cael eu hamddiffyn drwy gydfargeinio. Ac roeddwn yn falch iawn o weld bod symud tuag at gydfargeinio gorfodol yn rhan o faniffesto cyffredinol y Blaid Lafur yn 2017 mewn gwirionedd, sy'n dangos bod Llafur yn parhau i fod yn blaid y gweithwyr heb unrhyw amheuaeth.
Ond ni allem gael y ddadl hon, wrth gwrs, heb sôn am Brexit, ac mae eraill wedi cyffwrdd â hyn. Os gadawn yr Undeb Ewropeaidd, bydd angen inni gryfhau ein hymdrechion i sicrhau bod pob hawl a enillir gan weithwyr ar draws Ewrop yn dal i fod yn ganolog i hawliau gweithwyr yn y DU hefyd. Ni allwn ac ni fyddwn yn caniatáu i hawliau gweithwyr gael eu haberthu ar allor y dadreoleiddio a'r masnachu rhydd y mae prif bleidwyr Brexit yn daer eisiau eu gweld. Mae llawer o waith i'w wneud eto yn yr UE neu'r tu allan iddo, ac ni fydd rhai ohonom byth yn rhoi'r gorau i'r frwydr honno, oherwydd, i rai ohonom, mae ymladd dros hawliau gweithwyr yn ein DNA.
Rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfle i gymryd rhan yn y digwyddiad pwysig hwn, y ddadl bwysig hon. Mae'n wych i ni gyd fel Senedd allu dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Gweithwyr, a gwnawn hyn, wrth gwrs, yng nghyd-destun datganiad teimladwy iawn gan Mick Antoniw, a chofio mai dydd Sul oedd y Diwrnod Rhyngwladol i Gofio Gweithwyr.
Nawr, cawsom ein hatgoffa gan Mick o thema'r diwrnod hwnnw, sef cofio'r meirw ac ymladd dros y byw. Ac rwyf am ganolbwyntio ar fy siom ynglŷn â'r ffordd y mae'r Llywodraeth wedi dewis diwygio'r cynnig hwn mewn perthynas â chontractau dim oriau. Nid yw'r rhan fwyaf o bobl ar gontractau dim oriau eisiau bod ar gontractau dim oriau, ac rwyf am roi ychydig ffeithiau o ymchwil a gyhoeddwyd ym mis Chwefror eleni gan Gyngres yr Undebau Llafur. Mae pobl ar gontractau dim oriau fwy na dwywaith mor debygol o fod yn gweithio sifftiau nos, a chânt eu talu traean yn llai yr awr ar gyfartaledd na gweithwyr eraill. Y cyflog canolrifol fesul awr cyn treth i rywun ar gontract dim oriau oedd £7.70, o'i gymharu â £11.80 i weithwyr eraill. Unwaith eto, mae 23 y cant o gontractau dim oriau yn cynnwys gwaith nos gorfodol.
Nawr, y peth am gontract dim oriau, yn hytrach na pherthynas weithio hyblyg, yw bod yr holl bŵer yn nwylo'r cyflogwr. Sut y mae disgwyl i bobl fyw pan na wyddant o'r naill wythnos i'r llall faint o oriau y maent yn mynd i weithio? Mae gweithio hyblyg yn gweithio i rai pobl, ond nid gweithio hyblyg yw contract dim oriau, ac rydym wedi mynd i'r arfer—ac mae arnaf ofn i ni weld hyn braidd gyda Russell George—o ddefnyddio'r rhain yn gyfnewidiol. Ac nid yr un peth ydyw. Mae contractau hyblyg yn rhoi'r un pŵer i'r gweithiwr ac i'r cyflogwr; gyda chontractau dim oriau, mae'r holl bŵer yn nwylo'r cyflogwr, ac nid yw hynny'n deg.
Felly, mae ein cynnig gwreiddiol yn dweud hyn—mae cymal 4
'Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wahardd y defnydd o gontractau dim oriau ym mhob un o wasanaethau datganoledig cyhoeddus Cymru a chadwyni cyflenwi cysylltiedig'.
Mae'r gwelliant yn dweud ei fod
'Yn croesawu'r camau a ddatblygwyd drwy bartneriaeth gymdeithasol gan Lywodraeth Cymru i ddileu contractau dim oriau ecsbloetiol yng Nghymru a'r gwaith a wnaed drwy'r Cod Ymarfer'.
Wel, mae hynny'n awgrymu bod y fath beth â chontract dim oriau nad yw'n ecsbloetiol yn bodoli, ac nid oes neb ar y meinciau hyn yn credu bod hynny'n wir. Mae contractau dim oriau yn fewnforion Americanaidd annifyr na ddylem eu cael yma yn unrhyw un o wledydd yr ynysoedd hyn, ac yn sicr nid yma yng Nghymru. [Torri ar draws.] Mae'n flin iawn gennyf, ni welais. Mick.
Diolch i chi am dderbyn yr ymyriad. Nid wyf yn credu bod neb yn anghytuno â'r naratif a roesoch, ond o ran fformat y cymal, a dderbyniwch ei fod y tu allan i'n cymhwysedd deddfwriaethol mewn gwirionedd?
Roeddwn ar fin dod at hynny, oherwydd wrth gwrs o ran gwahardd—gwahardd yn gyfreithiol—contractau dim oriau nid oes gennym gymhwysedd i wneud hynny. Ond nid yw ein cynnig yn gofyn am hynny. Yr hyn y mae ein cynnig yn ei ofyn yw i Lywodraeth Cymru ddefnyddio ei phŵer economaidd i gadw contractau dim oriau allan o'r meysydd gwasanaeth y mae ganddi reolaeth drostynt—
'gwasanaethau datganoledig cyhoeddus Cymru a chadwyni cyflenwi cysylltiedig'.
Pe bai Llywodraeth Cymru yn dewis eu gwahardd mewn gwasanaethau cyhoeddus drwy wahanol gytundebau lefel gwasanaeth a'r gwahanol ffyrdd y caiff eu gwasanaethau cyhoeddus eu rheoli, gallent wneud hynny. Pe baent yn dewis rhoi cymal i mewn sy'n ei wahardd, drwy'r contractau a osodir ganddynt a'r contractau a osodir gan gyrff cyhoeddus, byddai hynny'n gwbl gyfreithlon o fewn deddfwriaeth y DU fel y mae. Wrth gwrs, ar y meinciau hyn, teimlwn y dylem gael pŵer i ddeddfu, ond gadewch inni ddefnyddio'r pŵer sydd gennym.
Nawr, a gafwyd rhai camau ymlaen? Yn sicr. Ond rydym yn gofyn am rywbeth penodol. Rwyf fi, fel Leanne Wood, yn siomedig iawn eich bod chi fel Llywodraeth, ar rywbeth y byddem wedi disgwyl y gallem gytuno'n fras arno ar draws y rhan fwyaf o'r meinciau hyn, ac yn wir â chyd-Aelodau mewn rhannau eraill o'r Siambr, wedi dewis diberfeddu ein cynnig a gwneud dim ond canmol eich hunain am yr hyn sydd wedi'i wneud eisoes. Nid wyf yn credu bod hynny'n cyd-fynd ag ysbryd y ffordd y cyflwynasom y cynnig hwn a sut y gobeithiem y byddech yn ymateb.
Felly, gadewch imi ddod yn ôl at yr hyn a ddywedodd Mick: cofio'r meirw ac ymladd dros y byw. Nid oes gennym bŵer yma eto i wahardd contractau dim oriau. Nid wyf yn deall pam na wnaiff Llywodraeth Cymru ddefnyddio'r pŵer sydd ganddi i'w lleihau.
Er bod gennyf nifer o siaradwyr, mae'n rhaid imi alw ar y Gweinidog, ac mae'n rhaid i Blaid Cymru ymateb i'r ddadl, felly rwy'n ymddiheuro i'r rheini na chawsant eu galw. Galwaf yn awr ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Fel plaid wleidyddol a grëwyd i uno undebwyr llafur a sosialwyr ac i roi llais i'r dosbarth gweithiol, ac fel Llywodraeth sy'n credu mewn cydraddoldeb, cyfiawnder cymdeithasol a chyfle i bawb, rydym yn llwyr gydnabod pwysigrwydd Diwrnod Rhyngwladol y Gweithwyr fel modd o amlygu trafferthion llawer o weithwyr a hyrwyddo hawliau gweithwyr. Ond fel plaid gyda chyswllt annileadwy ag undebaeth lafur—ac fel Dawn Bowden rwyf innau hefyd yn aelod balch o Unsain, ac wedi bod ers tua 40 mlynedd bellach—mae Llywodraethau Cymru olynol wedi datblygu a defnyddio perthynas waith ardderchog gyda chyflogwyr ac undebau llafur dros yr 20 mlynedd diwethaf. Rydym wedi disodli gweddill pwyntiau'r cynnig i nodi hynny, oherwydd nid yw'r cynnig wedi'i ysgrifennu a'i gynllunio ar gyfer sicrhau consensws ar draws y Siambr, mae wedi'i ysgrifennu fel ymosodiad, a dyna pam rydym yn ei wrthod ac yn gosod ein cynnig ni yn ei le, ac rwy'n hapus iawn ein bod wedi gwneud hynny. [Torri ar draws.] Yn sicr.
A ydych yn croesawu'r ffaith bod y Prif Weinidog, yn gynharach eleni, wedi rhoi ymrwymiad llwyr i gyflwyno Deddf partneriaeth gymdeithasol eisoes ac i ddiddymu adran 1 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bod y gwaith hwnnw'n mynd rhagddo?
Yn sicr, ac rwy'n dod at hynny mewn munud. Mae partneriaeth gymdeithasol, fel y dywedodd Dawn Bowden, wedi bod yn rhan o'n DNA o ddechrau datganoli. Cydnabyddwn ei rôl hanfodol wrth lunio polisi effeithiol ac rydym wedi sefydlu llawer o fecanweithiau i gefnogi hyn, megis cynllun busnes Gweinidogion Cymru, ac yn nyddiau cynnar datganoli, y cyngor partneriaeth busnes, y cyngor datblygu economaidd, ac yn fwy diweddar grŵp strategaeth partneriaid cymdeithasol ac uned partneriaid cymdeithasol Cymru.
Cytunaf hefyd â Dawn Bowden ei bod yn iawn inni fod yn falch o'n model partneriaeth gymdeithasol. Yn wir, mae wedi helpu i ddarparu hawliau diriaethol i weithwyr yng Nghymru drwy Ddeddf Undebau Llafur (Cymru) 2017 fel y crybwyllodd, y Gorchymyn cyflogau amaethyddol, a thrwy'r cod caffael moesegol mewn cadwyni cyflenwi. Mae'r egwyddorion arweiniol ar y defnydd priodol o drefniadau oriau heb eu gwarantu mewn gwasanaethau datganoledig cyhoeddus yng Nghymru yn enghraifft ragorol o ba mor llwyddiannus y gall y bartneriaeth hon fod. Serch hynny, rwy'n llwyr gydnabod llawer o'r pwyntiau a'r materion a godwyd gan Leanne a Helen Mary. Cytunaf yn llwyr â hwy fod angen inni wneud mwy er mwyn i Gymru ddod yn genedl gwaith teg. Er mwyn i hynny ddigwydd, bydd angen i'n polisïau a'n trefniadau sefydliadol ategol weithio gyda'i gilydd i roi siâp i natur gwaith a chyflogaeth yng Nghymru. Rydym wedi penodi—[Torri ar draws.] Iawn, wrth gwrs.
Pwynt penodol iawn am eich gwelliant ar gontractau dim oriau: fel y'i hysgrifennwyd, mae'n dweud
'dileu contractau dim oriau ecsbloetiol'.
Fe'ch gwahoddaf i achub ar y cyfle hwn i egluro bod y Llywodraeth yn credu bod pob contract dim oriau yn ecsbloetiol a bod hynny yno i ddisgrifio pob contract dim oriau ac nid i awgrymu bod yna gontractau dim oriau nad ydynt yn ecsbloetiol.
Rwy'n derbyn y pwynt a wnewch, ac mewn gwirionedd roeddwn yn cytuno â llawer o'r hyn a ddywedasoch yn eich araith, ac rwy'n meddwl bod y mwyafrif helaeth o gontractau dim oriau yn ecsbloetiol yn wir. Y broblem yno yw'r mater ynghylch rheolaeth a amlinellwyd gennych yn briodol. Rwyf am ei amodi ychydig, oherwydd mae'n ymwneud â rheolaeth. Ceir contractau dim oriau lle rhennir y rheolaeth ac mae angen y trefniadau hyblyg hynny ar bobl, ond nid ydynt ond yn gweithio lle mae'r gweithiwr yn rheoli'r trefniant hwnnw, ac mae hwnnw'n drefniant nad ydych yn ei weld yn aml iawn. Felly, cafeat bach iawn i'ch 'pob un' chi ydyw, gan nad wyf yn meddwl bod llawer iawn o'r rheini i'w cael. Felly, rydym yn awyddus iawn i ddileu contractau dim oriau ecsbloetiol, ac rydym yn awyddus iawn i sicrhau bod rhai o'r materion rydych wedi'u codi ynglŷn â'r ffordd y caiff gweithwyr eu trin a'r ffordd y mae ganddynt berthynas anghyfartal o ran pŵer yn cael sylw. Ond mae y tu allan i'n setliad datganoli, ac felly yr hyn y byddwn yn ei wneud—ac fe ddechreuaf amlinellu hynny yn awr—yw defnyddio'r dulliau sydd gennym i'w llawn effaith i ddileu hynny gymaint ag y gallwn ac i arwain y ffordd ar gyfer meysydd yn economi Cymru lle nad oes gennym bŵer uniongyrchol drostynt. O ran hynny, rwyf innau hefyd yn credu y dylem gael y pŵer hwnnw, i fod yn glir.
Ond fel y dywedais, er mwyn i Gymru ddod yn genedl gwaith teg, bydd angen i'n polisïau a'n trefniadau sefydliadol ategol weithio gyda'i gilydd. Felly, bydd y comisiwn a benodwyd gennym, y Comisiwn Gwaith Teg annibynnol, yn cyhoeddi ei adroddiad yr wythnos hon, ar 3 Mai, a bydd ei argymhellion yn helpu i lywio ein syniadau ynglŷn â sut y gallem wella cyfleoedd cyflogaeth ledled Cymru. Bydd partneriaeth gymdeithasol yn gwbl allweddol i allu bwrw ymlaen â hyn. Bydd yn dibynnu ar gael y cydbwysedd yn iawn yn y berthynas rhwng y partneriaid er mwyn mynd â hwy gyda ni a chael y dylanwad rydym am ei gael. Bydd yn bwysig sicrhau bod cytundebau a wneir drwy bartneriaeth gymdeithasol yn cael eu gweithredu'n effeithiol.
Dyna pam rydym eisoes wedi ymrwymo, fel y dywedodd Mick Antoniw yn ei ymyriad, i gyflwyno Deddf partneriaeth gymdeithasol yn nhymor y Cynulliad hwn er mwyn rhoi mwy o eglurder ynglŷn ag awdurdod y cyrff partneriaeth cymdeithasol a'u heffaith. Ac os a phan fyddwn yn gadael yr UE, byddwn yn wir yn ceisio sicrhau nad yw hawliau cyflogaeth presennol yn cael eu gwanhau mewn unrhyw fodd, fod cytundebau masnach newydd yn diogelu safonau cyflogaeth, a bod deddfwriaeth cyflogaeth y DU yn y dyfodol yn cyd-fynd â deddfwriaeth cyflogaeth flaengar yr UE. Russell George, nid yw sefyll yn llonydd a gorffwys ar ein rhwyfau yn ddigon. Mae angen inni sicrhau bod Cymru yn cadw ei lle yn y byd fel lle da i fyw a gweithio ynddo, lle da i wneud busnes. Ac er mwyn i hynny ddigwydd, mae angen i'r cyflogwyr a'r gweithwyr gydnabod mai dyna ydym ni a dyna pam, Ddirprwy Lywydd, y byddwn yn cyflwyno'r Ddeddf partneriaeth gymdeithasol, pam y byddwn yn ceisio gwneud Cymru yn genedl gwaith teg, a pham y cawsom yr adroddiad annibynnol. A dyna pam rwy'n falch iawn fy mod wedi gallu cywiro'r ffeithiau yn y ddadl hon heddiw. Diolch.
A gaf fi alw yn awr ar Rhun ap Iorwerth i ymateb i'r ddadl?
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Fel llefarydd Plaid Cymru ar yr economi, beth dwi'n gobeithio a beth dwi'n trio ei wneud yn gyson ydy datblygu polisi a dal Llywodraeth Cymru i gyfrif fel rhan o'r gwaith yna o gryfhau ein heconomi a gwneud Cymru'n fwy llewyrchus. Ond, mae'r gweithiwr yn gorfod bod wrth galon hynny, nid dim ond achos mai sicrhau hawliau gweithwyr yw'r peth iawn a chywir a chyfiawn i'w wneud, achos bod gweithiwr, wrth gwrs, yn haeddu triniaeth deg—mewn cyflog, mewn telerau, mewn hyfforddiant, mewn diogelwch, ac yn y blaen, i atal ecsploetio, ac ati, ond hefyd am fod hynny yn ei dro yn mynd i fod yn dda i'n heconomi ni. Os fydd gweithiwr yn teimlo gwerth i'r gwaith y mae o neu hi yn ei wneud, yn cael cydnabyddiaeth deg am y gwaith hwnnw, yn dod yn wir rhanddeiliad yn ei weithle ei hun, yna mae'r gweithiwr hwnnw yn debyg o fod yn fwy cynhyrchiol. Dŷn ni'n gwybod bod codi lefelau cynhyrchiant yn allweddol wrth inni weithio tuag at gryfhau ein heconomi. Mae'r cyfan yn cydblethu efo'i gilydd.
Daeth fy nau riant, fel y mae'n digwydd, yn arweinwyr undebau, felly nid oedd yn syndod efallai fod ymuno ag undeb, Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr yn fy achos i, yn gam eithaf naturiol pan ddechreuais yn y byd gwaith. Roedd gwerth undebau'n glir i mi bryd hynny, fel y mae yn awr. Mae undebau'n dda ar gyfer lefelau cyflog a lles, ar gyfer sicrwydd swydd. Lle mae gennych undebau, mae hyfforddiant da'n fwy tebygol o ddigwydd, mae materion cydraddoldeb yn fwy tebygol o gael sylw drwy undebau llafur, mae undebau yn helpu i ddod â sefydlogrwydd i weithle, gan leihau trosiant staff, sy'n dda i fusnes. Daw hynny â ni'n ôl at y pwynt a wneuthum yn gynharach: mae'n gylchol. Mae trin gweithwyr yn deg, a rhoi llais i weithwyr yn dda i'r economi yn ogystal ag i'r gweithwyr eu hunain. A cheir digon o dystiolaeth o'r gwerth a ddaw drwy sicrhau bod gan y gweithiwr lais go iawn.
Yr hyn y mae arnom ei eisiau, wrth gwrs, a phwrpas y cynnig hwn heddiw yw gwneud gwaith yn decach, a rhaid gwneud hynny ar adeg pan fo gwaith yn newid. Mae patrymau gwaith yn newid. Mae'r economi gig yn cyflwyno heriau newydd, ond mae undebau bob amser yn ceisio addasu i'r amgylchiadau newidiol hynny. Rwyf bob amser wedi gweld gwerth gallu cydweithredu â'r mudiad undebau llafur yng Nghymru.
Wrth gloi fy sylwadau ar y cynnig hwn heddiw, atgoffaf y Llywodraeth y byddwn yn ei dwyn i gyfrif o ganlyniad i ymgyrch ddiweddaraf TUC Cymru, er mwyn sicrhau nad oes unrhyw lithriant o ran yr addewid i symud tuag at Ddeddf partneriaeth gymdeithasol—mae'n rhywbeth y mae mudiad yr undebau llafur yng Nghymru yn ei fynnu.
Rhaid dweud ei bod hi'n drueni mawr fod gwelliant y Llywodraeth Lafur yn dileu'r rhan fwyaf o'n cynnig, yn enwedig, efallai, yr un ar gontractau dim oriau. Bydd rhai pobl yn gallu cyfrif a nodi mai dyna'r wythfed tro i Lafur Cymru mewn Llywodraeth wrthod cyfle i bleidleisio dros eiriad cryf—cynnig cryf—ar gontractau dim oriau.
Mae'n drueni eu bod yn dileu ein cynnig, neu'r rhan fwyaf ohono. Canlyniad gwaith rhyngom ni a'n ffrindiau—eich ffrindiau—yn y mudiad undebau llafur yng Nghymru oedd y cynnig hwn, felly efallai yr hoffech esbonio iddynt hwy beth nad oedd yn dderbyniol yn eu geiriau ac yn eu gofynion a ddygwyd gerbron y Cynulliad heddiw yn y cynnig hwn. Ond gadewch i bawb ohonom ymrwymo—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Roeddwn yn dod i ben, ond mewn ychydig eiliadau, gwnaf.
Roeddwn yn meddwl tybed—ond mae'n debyg eich bod yn croesawu ymrwymiad y Prif Weinidog i gyflwyno Deddf partneriaeth gymdeithasol yn fawr, a'ch bod yn fwy na pharod i gefnogi a gweithio gyda'r Llywodraeth, a phob plaid, mewn gwirionedd, i sicrhau ein bod yn cyflwyno Deddf partneriaeth gymdeithasol yn y sesiwn hon.
Diolch am roi'r cyfle i mi nodi bod ein cynnig heddiw wedi gwneud yr ymrwymiad i symud tuag at y Ddeddf partneriaeth gymdeithasol. Mae rhywbeth rhyfedd o lwythol yn y ffaith eich bod yn dileu ein hymrwymiad i ofyn am Ddeddf partneriaeth gymdeithasol ac yna'n ei roi i mewn eich hun. Pam na chefnogwch chi'r hyn yr oedd mudiad yr undebau llafur yn ei ddweud drwy ein cynnig heddiw a'r hyn yr oeddent am inni ei wthio?
Yr un yw'r canlyniad—mae'r canlyniad yr un fath, wrth gwrs. Roeddem ni ei eisiau, a byddwn yn dwyn y Llywodraeth i gyfrif er mwyn sicrhau eich bod yn ei gyflawni. Ond bydd y bobl sy'n gwylio o'r tu allan yn ffurfio'u barn eu hunain ynglŷn â beth ar y ddaear sy'n digwydd o ran dileu ein cynnig a gosod eich un chi yn ei le.
Gan roi gwleidyddiaeth lwythol i'r naill ochr, gadewch i ni gyd ymrwymo i wneud Cymru'n genedl gwaith teg. Yn wir, mewn ymateb i Alun Davies ar ei eistedd, gwleidyddiaeth ddifrifol yw hyn, ac mae gwleidyddiaeth ddifrifol yn ymwneud â gweithio cyfunol, lle mae hynny'n bosibl. Wrth gydweithio â'n ffrindiau—a'ch ffrindiau—yn y mudiad undebau llafur, roedd gennym gynnig heddiw a ofynnai i'r Llywodraeth hon gymryd camau y mae mudiad yr undebau llafur yng Nghymru am eu gweld yn cael eu cymryd. Gwleidyddiaeth aeddfed yw hynny. Ond gadewch inni wneud Cymru yn genedl gwaith teg.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Dwi'n gohirio, felly, y bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Darren Millar, a gwelliant 2 yn enw Rebecca Evans.
Yr eitem nesaf yw dadl Plaid Cymru ar newid hinsawdd. Dwi'n galw ar Llyr Gruffydd i wneud y cynnig.
Cynnig NDM7036 Rhun ap Iorwerth
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi rhybudd llym gan gymuned wyddonol y byd nad oes dim ond 12 mlynedd ar ôl i atal 1.5 gradd o gynhesu.
2. Yn nodi ymhellach fod cynhesu tu hwnt i 1.5 gradd yn cynrychioli bygythiad i ddyfodol dynoliaeth, a bod cynhesu cyfyngedig i'r lefel honno, hyd yn oed, yn peri difrod i fywoliaeth pobl ddirifedi ar draws y byd.
3. Yn cydnabod bod ymateb byd-eang brys yn angenrheidiol ar unwaith.
4. Yn croesawu'r ffaith bod atebion i'r argyfwng yn yr hinsawdd ar gael yn eang gan gynnwys technoleg adnewyddadwy, opsiynau trafnidiaeth cynaliadwy ac adeiladau di-garbon.
5. Yn cefnogi penderfyniadau cynghorau sir, tref a chymuned ar draws Cymru i basio cynigion yn datgan argyfwng o ran yr hinsawdd a phennu targedau o sero ar gyfer allyriadau carbon yn eu hardaloedd lleol.
6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatgan argyfwng o ran yr hinsawdd.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr, Llywydd. Rwy'n siŵr bod nifer ohonom ni wedi croesawu'r datganiad wnaeth y Llywodraeth yn gynharach yr wythnos yma yn datgan argyfwng hinsawdd, a hynny, wrth gwrs, mewn ymateb i ymgyrchu diflino gan ymgyrchwyr hinsawdd—gan bobl ifanc a streicwyr ysgol, miloedd o bobl eraill a ninnau fel plaid, wrth gwrs, sydd wedi codi hyn yn gyson dros y misoedd diwethaf yma.
Dwi'n cytuno hefyd, os caf i ddweud—os ydy'r Llywodraeth yn teimlo bod datganiad o'r fath ag arwyddocâd cenedlaethol, rwy'n cytuno â rhai o Aelodau meinciau cefn plaid y Llywodraeth y dylai'r datganiad fod wedi cael ei wneud i'r Siambr hon, ac nid cael ei ryddhau mewn rhyw ddatganiad i'r wasg ddigon tila gan Lywodraeth Cymru. Ond, mae yn dangos bod modd ennill a bod ymgyrchu diflino yn gallu llwyddo.
Felly, er bod y datganiad wedi cael ei wneud, mae yna bwrpas o hyd i'r ddadl heddiw, wrth gwrs. Gyda llaw, Lywydd, rwy'n deall bod aelodau o'r cyhoedd wedi'u gwahardd o'r oriel rhag dod i weld y ddadl hon, felly, rwy'n poeni am hynny, ond efallai y gellir dweud wrthym pam fod hynny wedi digwydd ar ryw bwynt. Wrth gwrs, rhaid inni wneud yn siŵr yn awr na allwn yn y pen draw weld hyn fel rhyw fath o ymgais orchestol gan y Llywodraeth i ddenu'r penawdau. Mae gwir angen iddo olygu newid go iawn ac uniongyrchol, a chamau gweithredu i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.
Roedd datganiad y Prif Weinidog ddoe yn peri ychydig o ofid i lawer ohonom, pan ddywedodd nad yw datgan argyfwng hinsawdd yn golygu gwahaniaeth mawr ym mholisi'r Llywodraeth mewn gwirionedd. Does bosibl nad holl bwynt datgan argyfwng hinsawdd yw bod popeth yn newid. Bron iawn nad wyf yn disgwyl rhywbeth tebyg i ymateb argyfwng sifil posibl yn hytrach nag ymateb busnes fel arfer gan y Llywodraeth. Nid oes ond raid inni edrych ar ddatganiad Gweinidog yr amgylchedd a gyhoeddwyd ddoe ac unwaith eto, cytunaf â'r aelod o'i meinciau cefn ei hun, a'i disgrifiodd fel ymateb cwbl annigonol. Yn y bôn, rwy'n meddwl mai'r hyn a olyga yw sefydlu dau bwyllgor newydd a rhoi ychydig mwy o arian i Brifysgol Caerdydd. Wel, fy nghwestiwn i'r Prif Weinidog ac i'r Llywodraeth heddiw yw a ydych chi o ddifrif yn mynd i allu wynebu'r her hon. Rhaid i ddatgan argyfwng hinsawdd olygu mwy nag ailfrandio polisïau presennol. Rydym wedi gweld cyhoeddi papur 'Cymru carbon isel' y Llywodraeth yn ddiweddar wrth gwrs, a nododd y BBC yn gwbl glir fod y mwyafrif helaeth o'r addewidion yn y ddogfen honno eisoes yn bodoli mewn gwahanol adrannau o'r Llywodraeth. Mae'n rhaid i hyn newid pethau'n sylfaenol, ac nid yw busnes fel arfer yn opsiwn.
Mae'r ddogfen 'Cymru carbon isel' a grybwyllais—os edrychwch arni'n fanwl, wrth gwrs, mae llawer o'r ymrwymiadau'n dechrau gyda, 'Byddwn yn ymgynghori ar', 'Byddwn yn ystyried', 'Byddwn yn dechrau archwilio' hyn, llall ac arall. Wrth gwrs, mae'n rhaid i naratif y Llywodraeth ynghylch newid yn yr hinsawdd newid yn wirioneddol sylfaenol ac mae'n rhaid i'r Llywodraeth ddechrau gweithredu. Felly, profwch inni heddiw, Weinidog, fod y Llywodraeth hon, fel y dywedais, yn gallu ateb yr her. Fel plaid, rydym wedi egluro'r mathau o fentrau y byddem am fynd ar eu trywydd fel Llywodraeth, o sefydlu cwmni ynni cenedlaethol i helpu i gyflawni ein nod o sicrhau bod Cymru'n dod yn hunangynhaliol mewn ynni adnewyddadwy, i'r atlas ynni, wrth gwrs, y rhestr genedlaethol o bosibiliadau ynni gwyrdd fel y gallwn ddechrau datgloi rhywfaint o'r potensial hwnnw mewn ffordd sy'n creu manteision i'n cymunedau ac i'n pobl. Amlinellwyd y rhaglen ôl-osod cartrefi fwyaf a welodd Cymru erioed, sef ein rhaglen effeithlonrwydd ynni gwerth miliynau o bunnoedd, i gyfrannu at y llinell waelod driphlyg sef lleihau allyriadau, creu swyddi, a threchu tlodi tanwydd ledled Cymru. Rwyf eisoes yn brin o amser, gan fy mod wedi fy nghyfyngu i bedair munud, felly rwyf am ddweud—[Torri ar draws.] Iawn, mae hynny'n iawn. O'r gorau—
Bydd angen i mi wneud y pwynt fod Plaid Cymru wedi dewis cyflwyno'r cynnig hwn fel cynnig hanner awr, ac fe'ch cyfyngir gan yr hanner awr.
O'r gorau. Ac rwyf eisoes wedi gwastraffu 30 eiliad yn gwneud y pwynt hwnnw, ac rwy'n derbyn y pwynt.
Y pwynt arall yr hoffwn ei wneud, pe bai'r cynnig hwn yn cael ei basio heddiw, yw y byddai'n ein gwneud yn Senedd gyntaf yn y byd i ddatgan argyfwng hinsawdd, a byddai hynny, gobeithio, yn rhoi mandad i'r Llywodraeth a'r hyder i fynd ymhellach ac yn gyflymach na sy'n digwydd ar hyn o bryd. Mae arnom hynny i genedlaethau'r dyfodol. Rydym yn gwybod eu bod wedi mynegi eu barn yn ddiweddar, ac wrth gwrs, rydym yn gwybod hefyd, erbyn i'r genhedlaeth nesaf gael eu dwylo ar awenau grym, fe fydd yn rhy hwyr, felly ein cyfrifoldeb ni fel arweinwyr heddiw yw camu ymlaen a chyflawni.
Nid yw datgan argyfwng hinsawdd yn benllanw unrhyw beth; dechrau ydyw. A fy apêl i chi, Weinidog, Brif Weinidog a Llywodraeth Cymru, yw: gadewch i ni droi at weithredu a gadewch i ni wneud rhywbeth.
Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig, ac rwy'n galw ar Andrew R.T. Davies i gynnig gwelliant 1 a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Andrew R.T. Davies.
Gwelliant 1—Darren Millar
Dileu pwyntiau 5 a 6 a rhoi yn eu lle:
Yn croesawu'r rôl arweiniol y mae'r DU wedi'i chwarae wrth weithio tuag at fargen fyd-eang i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr drwy Gytundeb Paris ac yn nodi bod y DU, ers 1990, wedi torri allyriadau fwy na 40 y cant tra'n tyfu'r economi gan fwy na dwy ran o dair, sef y perfformiad gorau fesul person nag unrhyw genedl G7 arall.
Yn gresynu mai dim ond 19 y cant y mae allyriadau yng Nghymru wedi lleihau yn ystod y cyfnod rhwng 1990 a 2015 ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag awdurdodau lleol a Llywodraeth y DU i sicrhau y cyrhaeddir targedau newydd o ran allyriadau carbon sy'n gyfreithiol orfodol wrth symud ymlaen yng Nghymru.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Diolch, Lywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle i siarad yn y ddadl hon. Cytunaf â'r teimladau a fynegwyd heddiw. Mae'n drueni mai dim ond 30 munud o amser seneddol a ddefnyddir i ymdrin â'r mater eithriadol o bwysig hwn. Bydd gan bobl wahanol ffyrdd o ddenu ac ymosod ar y broblem arbennig hon a wynebwn a'r mater hwn a wynebwn, sef, fel y dywedodd y Prif Weinidog, problem y genhedlaeth hon ac mae angen inni ei hwynebu a mynd i'r afael â hi'n uniongyrchol. Ond mae wedi bod yn broblem dros yr 20 i 30 mlynedd diwethaf, a bu cynnydd aruthrol yn y ffordd y buom yn byw ein bywydau bob dydd, p'un a ydym yn y byd busnes, yn edrych arno ar lefel ddomestig neu fel cymdeithas yn ei chyfanrwydd.
Rwy'n cynnig yn ffurfiol y gwelliant yn enw Darren Millar, sy'n tynnu sylw at rai o'r llwyddiannau ar lefel y DU a welsom hyd yn hyn, gyda gostyngiad o 40 y cant, tra bo'r economi wedi tyfu mwy na dwy ran o dair, ac ymuno â chytundeb Paris hefyd, ac mae'r gwelliant yn mynd rhagddo wedyn i dynnu sylw at y ffaith mai gostyngiad o 19 y cant yn unig a welwyd yng Nghymru yn yr un cyfnod o 1990 i 2015, yn anffodus. Nid wyf am funud yn amau difrifoldeb na bwriad a phwrpas y Gweinidog yn ymosod ar rai o'r heriau hyn y mae'n eu hwynebu yn ei swydd yn rhan o'r Llywodraeth, ond mae'n ffaith nad yw ein hôl troed yma yng Nghymru, ysywaeth, yn llwyddo i'r un graddau â rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig neu enghreifftiau eraill y gallwn edrych arnynt ledled y byd.
Wrth yrru i mewn y bore yma gan wybod bod y ddadl hon yn digwydd, cofiais yr adeg yn fy ieuenctid pan fyddech yn gyrru i mewn heibio i'r domen dirlenwi anferth a arferai fod yno, yn Grangetown, drws nesaf fwy neu lai i siop IKEA ar y funud, ac yn y bôn byddai gwastraff tirlenwi yn mynd yno bob dydd o'r wythnos—sbwriel du a theirw dur yn gwastatáu'r safle dro ar ôl tro. Pan edrychwch ar ein cyfraddau ailgylchu a'r ffordd rydym wedi newid yn llwyr a gweddnewid, yn ddomestig ac yn ddiwydiannol, y ffordd y mae ein heconomi'n gweithio, rhaid bod hynny'n gadarnhaol.
Mae datgan argyfwng newid hinsawdd—mae angen cael trywydd a map o'r ffordd rydym yn mynd i ymateb i hyn, oherwydd mae'r gair 'argyfwng' yn arwydd o ddifrifoldeb yr hyn sydd angen inni ei wneud. Fel Aelodau yma, cawsom ddatganiad ysgrifenedig, yn llythrennol, ddoe yn hytrach na datganiad llafar lle gallem herio a holi ynghylch yr hyn y bydd y Gweinidog yn ei wneud yn ystod yr wythnosau nesaf, y misoedd nesaf, a'r blynyddoedd i ddod i wneud y newidiadau y mae pobl at ei gilydd ar draws y gymdeithas yng Nghymru eisiau eu gweld yn digwydd. Ac yn sicr o'r meinciau hyn, mae ganddi gefnogwyr parod ar hyd y daith honno. Ond mae hefyd yn bwysig fod y Llywodraeth yn defnyddio'r dulliau sydd ar gael i sicrhau y caiff y newidiadau o safbwynt polisi'r Llywodraeth eu gweithredu ar lawr gwlad, ac rwyf fi, fel un o gefnogwyr ffordd liniaru'r M4, yn gweld fy hun yn gwrthddweud rhai o'r pwyntiau y mae amgylcheddwyr am eu gwneud ar y pwynt hwn, ond rwy'n datgan y ffaith honno.
Nawr, cyhoeddwyd yr argyfwng newid hinsawdd ddydd Llun, a ddoe cawsom ddatganiad gan y Llywodraeth yn sôn am yr hyn yr oedd am ei wneud ym maes hedfan, a gwyddom fod rhwng £30 miliwn a £40 miliwn wedi'i wario hyd yn hyn ar hyrwyddo ffordd liniaru'r M4. Rwy'n derbyn bod gwahaniaeth barn yma, ond yn yr un modd, os ydych yn y gadair honno fel Llywodraeth, mae angen i chi sicrhau eich bod yn defnyddio'r arfau sydd ar gael i gefnogi eich rhethreg yn hytrach na dim ond mynd ar drywydd penawdau ar ddatganiad i'r wasg ar brynhawn dydd Llun.
Ac o ran cynllunio, er enghraifft, sy'n faes pwysig arall ac yn ddull pwysig y gellir ei ddefnyddio, os edrychwn o gwmpas dinas Caerdydd gyda'r ystadau tai newydd enfawr sy'n cael eu hadeiladu, faint o waith amgylcheddol sydd wedi'i wneud i ddiogelu a datblygu'r ystadau hynny fel bod ganddynt ôl troed cadarnhaol pan gânt eu hadeiladu erbyn y 2030au a'r 2035au? Mae cymaint mwy y gallwn ei wneud ym maes cynllunio. Mae'r pwerau hynny ar gael inni wneud y gwahaniaeth hwnnw.
Yn benodol, buaswn yn erfyn ar y Gweinidog i fynd i'r afael â rhai o'r argymhellion a ddaeth o adroddiad pwyllgor yr amgylchedd a chynaliadwyedd a edrychodd ar y ffordd yr oedd y Llywodraeth yn perfformio yn y maes hwn—ym maes coedwigaeth, er enghraifft, lle gwyddom fod targedau'r Llywodraeth heb eu cyrraedd a hynny o gryn dipyn. Unwaith eto, mae'n ymwneud â'r Llywodraeth yn sicrhau, pan fydd yn gosod her iddi'i hun ac yn gosod targed iddi'i hun, ei bod yn cyrraedd y targed hwnnw. Efallai y cewch eich beirniadu am beidio â bod yn ddigon uchelgeisiol, ond o leiaf gallwn fod yn hyderus fod y targedau'n mynd i gael eu cyrraedd a'n bod yn symud ymlaen at y lefel nesaf o'r hyn sydd angen inni ei wneud.
Pan edrychwch ar y dystiolaeth, mae amser yn tician yn ein herbyn. Bu cynnydd dros yr 20 i 30 mlynedd diwethaf. Mae angen gwneud llawer iawn mwy, ond gadewch inni sicrhau ein bod yn penderfynu ac yn ymrwymo i drosglwyddo amgylchedd gwell i'r genhedlaeth nesaf, sy'n rhywbeth nad yw wedi digwydd dros sawl cenhedlaeth yn flaenorol. Gallwn ei wneud, mae'r dechnoleg yn bodoli i'w wneud. Y cyfan sydd arnom ei angen yw'r ymrwymiad a gwneud yn siŵr ein bod yn cyflawni ein haddewidion.
Galwaf ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i gynnig yn ffurfiol gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans.
Gwelliant 2—Rebecca Evans
Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cymeradwyo Llywodraeth Cymru am:
a) ddwyn ymlaen Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) i sbarduno’r gweithredu ar fyrder ar y newid yn yr hinsawdd;
b) ymrwymo’r sector cyhoeddus yng Nghymru i fod yn ddi-garbon erbyn 2030 ac i bob adeilad y sector cyhoeddus ddefnyddio ynni adnewyddadwy yn gyfan-gwbl erbyn 2020 neu cyn gynted â bod modd gwneud hynny o ran contractau; ac
c) edrych ar phob opsiwn ar gyfer datgarboneiddio economi Cymru drwy weithio gyda bob sector a chymuned, gan dynnu ar y dystiolaeth wyddonol orau sydd ar gael.
Cynigiwyd gwelliant 2.
Yn ffurfiol.
Rwy'n falch iawn o gael cyfle i siarad yn y ddadl hon, gan ei bod hi'n ddeng mlynedd ar hugain ers y trychineb niwclear yn Chernobyl, ac mae gwaddol y trychineb yn parhau i fod gyda ni, ac efallai ein bod yn cofio pob Chernobyl arall posibl sy'n bodoli mewn gorsafoedd niwclear a leolwyd o amgylch ardaloedd lle ceir gwrthdaro mewn rhannau amrywiol o'r byd. Nid yn gymaint deall, gwybod a bod yn ymwybodol o'r holl bethau sy'n digwydd i'r blaned hon yw fy mhryder, ond yn hytrach sut y mae cyflawni newid gwirioneddol.
Eleni, byddaf yn 65. Y flwyddyn nesaf, rwy'n gymwys i gael pensiwn gwladol. Ymhen 20 mlynedd, mae'n fwy na thebyg na fyddaf yma. Fy nghenhedlaeth i yw'r genhedlaeth sydd wedi dinistrio'r blaned hon, sy'n parhau i ddinistrio'r blaned hon, a'n gwaddol i'r genhedlaeth iau yw datrys y camgymeriadau y mae ein cenhedlaeth ni wedi'u gwneud mewn gwirionedd. Felly, pan welsom blant ysgol ar y strydoedd, pobl ifanc yn meddiannu'r strydoedd, yn meddiannu ysgolion, yn protestio, rwy'n rhoi fy nghefnogaeth lawn i hynny ac nid wyf yn derbyn beirniadaeth y bobl hynny oherwydd yr hyn a wnânt yw mynegi yn awr eu perchenogaeth ar y gwaddol rydym yn ei adael iddynt: gwaddol sydd wedi gwthio'r blaned at y pwynt tipio bron iawn.
Roedd gennyf ddiddordeb mawr mewn pedair o alwadau'r streicwyr ysgol ar yr hinsawdd. 'Y Llywodraeth i ddatgan argyfwng hinsawdd': wel, rydym yn symud tuag at hynny, a gobeithio y bydd hynny'n digwydd yn San Steffan cyn bo hir. 'Y cwricwlwm cenedlaethol i fynd i'r afael â'r argyfwng ecoleg fel blaenoriaeth': mae'n dechrau gwneud hyn, ond wrth i ni siarad am ein cwricwlwm yn awr, rwy'n credu bod y pwynt hwnnw'n berthnasol tu hwnt o ran deall y cysylltiad rhwng y gymdeithas sydd gennym a'r gwaddol amgylcheddol. Rwy'n hoff iawn o ddyfyniad gan Naomi Klein, a ddywedai yn y bôn,
ei bod hi bellach yn rhyfel rhwng ein system economaidd a'n system blanedol. Neu, yn fwy cywir, mae ein heconomi'n rhyfela yn erbyn sawl math o fywyd ar y ddaear, gan gynnwys bywyd dynol.
Nid deddfau natur yw'r hyn sydd angen newid, ond deddfau'r economi sy'n galw am fwy a mwy o ehangu heb fawr o sylw i'r amgylchedd.
Lywydd, y feirniadaeth fwyaf a wnaeth llawer o'r bobl ifanc a glywsom ar y cyfryngau cymdeithasol ac a welsom ar y teledu yw bod gwleidyddion yn dda am ddweud geiriau ond nad ydym yn dda iawn am weithredu. Wel, rwy'n meddwl bod ein pobl ifanc wedi dangos eu bod yn barod i weithredu, ac y byddant yn gweithredu, ac rwy'n eu cefnogi'n llwyr i weithredu mewn ymgyrch o'r fath oherwydd os na allwn gyflawni, yr unig bobl a all ddiogelu dyfodol ein hamgylchedd a'n planed mewn gwirionedd fydd y bobl ifanc sy'n gweithredu, yn ymladd ac yn amddiffyn ar gyfer eu dyfodol. Diolch.
Nid yn aml y byddwn yn teimlo pwysau hanes ar ein hysgwyddau, neu yn hytrach pwysau'r dyfodol. Croesawaf ddatganiad Llywodraeth Cymru ar argyfwng yn yr hinsawdd, ond fel y gwnaed y pwynt gan Aelodau ar draws y Siambr, rhaid ei gefnogi â gweithredu. Mae'r Oxford English Dictionary yn diffinio argyfwng fel 'sefyllfa ddifrifol sy'n galw am weithredu ar unwaith'. Fe'i diffinnir gan y ffaith ei fod yn ei gwneud hi'n angenrheidiol i wneud rhywbeth mewn ymateb, felly rwy'n siŵr y bydd Llywodraeth Cymru yn deall yr angen i wneud y penderfyniad cywir ar brosiectau fel ffordd liniaru'r M4. Ni allwch ddatgan argyfwng hinsawdd a pharhau i ystyried y posibilrwydd o adeiladu'r llwybr du; byddai'n afresymol. Rydym yn byw mewn cyfnod arwyddocaol iawn. Iawn, fe dderbyniaf ymyriad.
A yw hynny hefyd yn golygu nad ydych am gael y ffordd osgoi yn Llandeilo?
I ddychwelyd at y pwynt yr oeddwn yn ei wneud o ran yr hyn y mae'r Llywodraeth hon yn ei wneud: er mwyn datgan argyfwng hinsawdd, mae'n rhaid ei gefnogi drwy weithredu. Rydym yn byw mewn cyfnod tywyll. Mae hyn yn wir yn agos at adref lle mae dros hanner bywyd gwyllt Cymru yn dirywio ac mae un o bob 14 rhywogaeth dan fygythiad o ddiflannu. Gwelwn effaith newid hinsawdd ar ffurf erydu arfordirol ar wastadeddau Gwent. Mae'r galar a'r dicter y dylem ei deimlo ynglŷn â hyn nid yn unig yn ymateb i golli'r byd naturiol ond hefyd i'n perthynas ni â'r byd naturiol hwnnw, yr ysbrydoliaeth a gawn ohono a'r cyfraniad y mae'n ei wneud i'n hiechyd a'n lles. Rydym yn greaduriaid ein cynefinoedd ac rydym yn ddibynnol arnynt. Os gadawn iddynt fynd, beth fydd yn ei olygu i'n goroesiad?
Mae gwledydd sydd heb wneud llawer i gyfrannu at yr argyfwng yn byw yn nannedd y storm. Mae tymheredd Mongolia eisoes wedi codi 2.2 gradd Celsius a'r wlad honno sydd â'r llygredd aer gwaethaf yn y byd. Mae Mozambique eleni wedi dioddef dau seiclon; mae llawer o'r tir ger yr arfordir wedi troi'n fôr. Ydy, mae'n ddiwrnod tywyll, ond dyma'r dyddiau hefyd pan fo gennym un cyfle olaf i wneud rhywbeth yn ei gylch. Mae'n weddus yn yr ystyr fod tarddiad y gair argyfwng yn dod o'r Lladin emergere, sy'n golygu 'codi neu ddwyn i'r amlwg'. Mae'n ein hatgoffa bod yn rhaid i oleuni ddilyn y tywyllwch os oes unrhyw obaith. Rhaid i ni weithredu a dilyn y dywediad: meddyliwch yn fyd-eang, gweithredwch yn lleol.
Mae Seland Newydd wedi penderfynu na fydd rhagor o drwyddedau archwilio nwy ac olew yn cael eu rhoi. Gweriniaeth Iwerddon fydd y wlad gyntaf yn y byd i werthu ei holl fuddsoddiadau mewn cwmnïau tanwydd ffosil, sy'n debygol o ddigwydd o fewn pum mlynedd. Ac yn yr Unol Daleithiau, mae bargen werdd newydd Alexandria Ocasio-Cortez yn anelu i ddileu llygredd nwyon tŷ gwydr i bob pwrpas o fewn degawd.
Mae angen i Gymru feddwl yn awr am ba gamau y bydd yn eu cymryd. Ie, o fewn ei chymhwysedd, ond mae angen inni fod yn uchelgeisiol. Dylem osod targedau sy'n bellgyrhaeddol iawn i gyfyngu ar ein hallbwn carbon, annog mwy o ddefnydd o drafnidiaeth gyhoeddus a cherbydau trydan, a chymryd camau i gael ein pweru gan ynni adnewyddadwy yn unig. Er ein lles ni a'r blaned, mae datgan yr argyfwng hwn yn gam angenrheidiol i'w groesawu, ond rhaid iddo fod yn ddechrau ar newid sylfaenol yn ein holl ymagwedd tuag at ddiogelu ein hamgylchedd gan nad yw effaith newid yn yr hinsawdd yn rhywbeth amwys, ynysig neu bell i ffwrdd: mae yma yn awr, mae'n uniongyrchol, mae wrth law. Mae ei ddatrys a'i atal hefyd o fewn ein gafael.
Wel, gobeithio y gallaf godi calon pawb gyda fy araith fach gan fod y cynnig yn dechrau gydag un o'r datganiadau mwyaf syfrdanol o wirion y gallech ei ddychmygu: fod cymuned wyddonol y byd yn dweud mai dim ond 12 mlynedd sydd ar ôl i atal 1.5 gradd o gynhesu. Rwy'n ddigon hen i gofio dyfeisio'r amgylchedd fel mater gwleidyddol ar ddiwedd y 1960au, a chynhadledd gyntaf yn wir Sefydliad Addysg, Gwyddoniaeth a Diwylliant y Cenhedloedd Unedig ar Ddiwrnod y Ddaear yn 1970. Ac mae'n ddifyr iawn edrych yn ôl ar y rhagfynegiadau a wnaed yn y gynhadledd honno, gan gynnwys un gan yr ecolegydd Kenneth Watt, a rybuddiodd am yr oes iâ sydd ar y gorwel mewn araith:
Mae'r byd wedi bod yn oeri'n sydyn ers tua ugain mlynedd,
datganodd, ac
Os bydd y tueddiadau presennol yn parhau, bydd y byd tua phedair gradd yn oerach o ran y tymheredd cymedrig byd-eang yn 1990, ond un ar ddeg gradd yn oerach yn y flwyddyn 2000. Mae hyn tua dwywaith yr hyn y byddai'n ei gymryd i fynd â ni i mewn i oes iâ.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Wel, dim ond pedair munud sydd gennyf, felly nid wyf yn credu y gallaf, diolch.
Yn yr un gynhadledd, dywedodd Paul Ehrlich, a oedd yn enwog am ei broffwydoliaethau llawn gwae ynglŷn â'r boblogaeth, y byddai tua 4 biliwn o bobl yn marw rhwng 1980 ac 1989, gan gynnwys 65 miliwn o Americanwyr, a 50 o flynyddoedd yn ddiweddarach, mae'n dal i fod wrthi. Yn y Guardian ar 22 Mawrth eleni, mae bellach yn dweud,
Mae cwymp ysgytwol gwareiddiad "bron yn sicr" yn ystod yr ychydig ddegawdau nesaf oherwydd y modd y mae'r ddynoliaeth yn dinistrio'r byd naturiol yn barhaus.
Felly, mae arnaf ofn, ni waeth i ba raddau y mae rhagfynegiadau'n gwyro oddi wrth realiti, nid yw'r bobl hyn byth yn rhoi'r gorau iddi.
Roedd cylchgrawn Life yn 1970 yn nodi,
Mae gan wyddonwyr dystiolaeth arbrofol a damcaniaethol gadarn i gefnogi... y rhagfynegiadau canlynol: Ymhen degawd, bydd rhaid i drigolion trefol wisgo masgiau nwy er mwyn goroesi llygredd aer... erbyn 1985 bydd llygredd aer wedi haneru faint o haul sy'n cyrraedd y ddaear.
A gallwn fynd ymlaen ac ymlaen ac ymlaen. Wel, dyma'r ffeithiau: ers 1850, mae'r tymheredd byd-eang wedi codi 0.9 gradd canradd, a digwyddodd hanner y cynnydd hwnnw cyn 1950 pan dderbynnid yn gyffredinol na allai'r cynhesu byd-eang gan bobl—hyd yn oed os ydych yn credu'r wyddoniaeth—y dywedir ei fod yn rheswm drosto fod wedi'i achosi.
Wrth gwrs, yr hyn y mae'r rhagfynegiadau hyn yn methu ymdopi ag ef yw data tymheredd mwy diweddar, oherwydd ers i'r bygythiad oeri byd-eang mawr ddod i ben yn 1975, cafwyd y canlynol: tan 1998, fe gododd lefelau carbon deuocsid atmosfferig a thymereddau ochr yn ochr â'i gilydd yn fras, ond wedyn, yn 1998, dechreuodd saib o 20 mlynedd yn y cynnydd yn nhymheredd y byd, wrth i ffigurau carbon deuocsid byd-eang godi i'r entrychion, a hyd at 2015 neu 2016, roeddent yn wastad. Nid oes neb wedi egluro'n iawn sut y mae'r rhagfynegiadau hyn yn methu ymdopi â realiti'r tymereddau a gofnodir gan arsylwi gweithredol. Yn 2015-16, roedd mwy o gynhesu, ond yn 2017-18, roedd mwy o oeri, ac yn awr, mae tymereddau byd-eang cyfartalog 1 gradd Fahrenheit islaw rhagfynegiadau modelau cyfrifiadurol mewn gwirionedd. Felly, sut ydych chi'n esbonio'r saib? Sut y gallwch ragfynegi gyda hyder y bydd cynnydd o 1.5 gradd yn nhymheredd y byd ymhen 12 mlynedd, pan fo profiad yr 50 mlynedd diwethaf yn profi'r gwrthwyneb?
Wrth gwrs, ceir llwythi o ragfynegiadau brawychus eraill nad oes gennyf amser i'w chwalu—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Ni allaf, mae arnaf ofn. Llai na munud sydd gennyf ar ôl. Ond—
Gadewch i mi ddangos map i chi.
Wedyn, os gwelwch yn dda. [Chwerthin.]
Nid yw'n derbyn ymyriad.
Buaswn yn hapus iawn i fynd drwyddo gyda chi.
Wrth gwrs, y bygythiad mwyaf i'r byd os credwch ragfynegiadau'r cynheswyr yw'r cynnydd yn y boblogaeth, oherwydd roedd poblogaeth y byd yn 1800 yn 1 biliwn ac yn 2019, mae bron yn 8 biliwn a rhagwelir y bydd yn 8.5 biliwn erbyn 2030. A bydd y rhan fwyaf o'r cynnydd hwn yn digwydd mewn gwledydd sy'n diwydianeiddio'n gyflym, a gŵyr pawb ohonom beth sy'n digwydd yn y dwyrain pell. Yn India y llynedd, cafwyd cynnydd o 6.7 y cant yn eu hallyriadau; yn Tsieina—
Dyma ni eto.
Ie, ac mae'n ffaith, a dyma sy'n rhaid i ni ei gydnabod. Mae India a Tsieina rhyngddynt yn gyfrifol am 36 y cant o allyriadau carbon deuocsid y byd. Ac yn Tsieina, cafwyd cynnydd o 4.7 y cant mewn allyriadau carbon deuocsid ac yn India, 6.7 y cant o gynnydd mewn allyriadau. Mae beth bynnag a wnawn yn y wlad hon yn mynd i gael ei lethu gan realiti'r hyn sy'n digwydd yn y dwyrain pell. Rydych yn argymell gosod beichiau economaidd enfawr ar y bobl sy'n lleiaf abl i'w cario yn y wlad hon—y rhai sydd ar ben isaf y raddfa incwm. Credaf fod hyn yn ofnadwy o anfoesol, ac yn hurt.
Gwnaf y pwynt o'r cychwyn nad oes gennym amser i'w wastraffu bellach yn dadlau â'r rhai sy'n gwadu newid hinsawdd; mae gennym bethau pwysicach i'w gwneud yn awr, a hynny ar fyrder. Rwy'n gobeithio y bydd y Cynulliad hwn yn cefnogi'r prif gynnig heddiw a gwelliant y Llywodraeth sy'n adlewyrchu realiti'r argyfwng hinsawdd sy'n ein hwynebu, ond hefyd ymrwymiad a pharodrwydd Llywodraeth Cymru i weithredu. Ond fy nod wrth siarad heddiw yw egluro bod goblygiadau sylweddol i hyn, nid yn unig i Lywodraeth Cymru, ond i bob un ohonom yn unigol. Bydd angen inni wneud mwy, llawer mwy. Bydd yn rhaid i ni wneud dewisiadau gwirioneddol anodd sy'n dilyn y dystiolaeth, gwneud y peth iawn ar gyfer dyfodol hirdymor ein planed yn ogystal ag ar gyfer y genhedlaeth hon a chenedlaethau'r dyfodol, ond a fydd, yn y tymor byr, yn heriol yn wleidyddol ac i ni fel unigolion.
Bydd angen arweinyddiaeth genedlaethol ddewr i wneud y newidiadau sydd eu hangen arnom ni a'r blaned, oherwydd byddant yn effeithio ar y ffordd y byddwn ni a'n hetholwyr yn byw ac yn gweithio, sut y teithiwn, sut yr awn ar wyliau, beth a brynwn, beth a fwytawn, a mwy. Byddant yn effeithio ar y ffordd y byddwn ni fel Llywodraeth yn blaenoriaethu buddsoddiad, yn rheoleiddio ac yn deddfu i newid ymddygiad, defnydd a ffordd o fyw. Felly, peidiwch â thwyllo eich hun, bydd rhai o'r camau pellach y bydd angen inni eu cymryd i ateb yr argyfwng newid hinsawdd yn amhoblogaidd. Bydd angen i Weinidogion fod yn ddewr, ond i ni fel Aelodau'r Cynulliad ac fel pleidiau gwleidyddol—os ydym yn cytuno yn y bôn gyda'r ymgyrchwyr, y protestwyr a'r cynnig heddiw, bydd angen inni barcio'r wleidyddiaeth ac adeiladu consensws ar gyfer gweithredu a fydd yn ateb y brys a maint yr her, yr un arweiniad ac ysbryd o gonsensws gwleidyddol a ganiataodd i Lafur gyflwyno'r Ddeddf newid hinsawdd gyntaf erioed—Deddf Newid yn yr Hinsawdd 2008—neu i ddatblygu Deddf cenedlaethau'r dyfodol yma yng Nghymru. Bydd angen ei harneisio os ydym yn wirioneddol o ddifrif am hyn.
Fe'm gwahoddwyd un tro i Rif 10 fel Gweinidog amgylchedd i esbonio penderfyniad arbennig o anodd a wneuthum, a oedd yn benderfyniad hollol gywir ond a oedd yn amhoblogaidd iawn gyda dyrnaid o gydweithwyr a'u hetholwyr. Eglurais i'r cynghorwyr arbennig yn Rhif 10 sut a pham y gwnaed y penderfyniad a sut a pham yr oedd y penderfyniad yn un cywir. Gwrandawodd y cynghorwyr arbennig yn astud, a fy holi'n ddeallus wrth i mi grynhoi bod yna benderfyniad hawdd yn wir a bod yna benderfyniad anos yn seiliedig ar dystiolaeth a meddwl hirdymor, ac mai hwnnw oedd y penderfyniad a wneuthum. Bu'r cynghorwyr yn cnoi cil ar hyn a daethant ataf gyda chasgliad: byddent yn fy nghefnogi'n llwyr. Roeddent yn cytuno fy mod wedi gwneud y penderfyniad cywir, er mor anodd ydoedd. Wrth i mi adael yr ystafell, trodd yr uwch gynghorwr a sibrwd wrthyf, 'Y tro nesaf, Huw, gwnewch y penderfyniad hawdd.'
Wel, Weinidogion, gyd-Aelodau, yma yn y Siambr, o hyn ymlaen, bydd yn rhaid inni wneud llawer mwy o'r penderfyniadau anodd ond cywir ac adeiladu consensws yma yn y Siambr hon a'r tu allan gyda'r cyhoedd hefyd am y manteision sy'n deillio o'r penderfyniadau cywir ar fynd i'r afael â newid hinsawdd a chynhesu byd-eang, ar wrthdroi bioamrywiaeth a cholli cynefinoedd, ar greu cymunedau a ffyrdd o fyw sy'n wirioneddol gynaliadwy ac yn iachach ym mhob rhan o Gymru.
Rwyf wrth fy modd fod Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi dynodi y bydd yn archwilio gyda'i swyddogion, hyd yn oed yng ngoleuni cynllun carbon isel Cymru a'i 100 o bolisïau ac argymhellion, sut y gallwn fynd ymhellach ac yn gyflymach er mwyn datgarboneiddio. Nawr, rwy'n croesawu hynny, oherwydd er bod Cymru'n dangos arweiniad yn wir—mae wedi ymrwymo i dorri allyriadau carbon net 80 y cant erbyn 2050—mae pawb ohonom yn gwybod yn ein calonnau ac yn ein pennau nad yw'r camau gweithredu rydym wedi cytuno arnynt yn genedlaethol, ond hefyd yn rhyngwladol, yn ddigon. Mae Stern wedi rhybuddio, mae'r pwyllgor newid hinsawdd wedi, ac yn rhybuddio dro ar ôl tro—y consensws gwyddonol rhyngwladol a wrthodir i'r fath raddau gan y rhai a fyddai'n barod i losgi'r blaned yn ulw nawr a dinistrio dyfodol ein plant a'n hwyrion—maent i gyd yn rhybuddio'n gyson fod yn rhaid inni weithredu'n bendant ac yn gynnar, oherwydd bydd costau gwneud hynny'n is. Fel arall, bydd y gost o beidio â gwneud hynny'n enfawr a gallai fod yn derfynol o ran ein rhagolygon ar y blaned hon.
Felly, bydd angen inni fynd ymhellach, a bydd angen inni wneud penderfyniadau anodd, sy'n cefnogi cynhyrchiant ynni cost isel a dewisiadau lleihau galw, fel gwynt ar y tir yn ogystal ag ar y môr; cynyddu effeithlonrwydd ynni mewn cartrefi ac adeiladau preswyl; plannu coed ar gyfradd ddigyffelyb; newid sylfaenol o ran lleihau, ailddefnyddio ac ailgylchu gwastraff; creu cymunedau cynaliadwy a thrafnidiaeth sy'n ei gwneud yn hawdd, yn fforddiadwy, yn ddymunol ac yn gyffredin i bobl deithio'n bell ac agos ar drafnidiaeth gyhoeddus, a cherdded a beicio; sicrhau bod peiriannau tanio mewnol, yn hytrach na rhywogaethau a chynefinoedd, yn diflannu o'r tir; newid yr hyn a fwytawn a faint a fwytawn, sut i reoli'r tir er lles y cyhoedd, gan gynnwys addasu i newid yn yr hinsawdd, sut y cynhyrchwn ein bwyd, sut i hedfan llai. Ym mhob maes polisi a pholisi integredig ar draws y Llywodraeth, bydd angen i ni symud y tu hwnt i fesurau gwirfoddol a thu hwnt i welliannau graddol tuag at newid sylfaenol a mwy o gyfeiriad.
Felly, gadewch i'r rheini ohonom yng Nghymru sy'n credu'n wirioneddol ein bod mewn argyfwng hinsawdd gydweithio i greu consensws newydd, cymryd y camau angenrheidiol i achub y blaned a thrwy hynny, achub ein hunain a'n plant hefyd. Beth am gytuno i wneud y penderfyniadau cywir ond anodd, y penderfyniadau dewr, ar gyfer y genhedlaeth hon a chenedlaethau'r dyfodol ac ar gyfer y blaned werthfawr hon, yr unig un sydd gennym, a'r un a rannwn gyda llawer o rywogaethau eraill am ychydig bach o amser. Nid ein planed ni i'w dinistrio a'i llosgi yw hi. Nid ni sy'n berchen arni; dim ond pasio heibio a wnawn ni, felly gadewch inni droedio'n ysgafn wrth inni fynd.
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig—Lesley Griffiths.
Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.
Diolch, Lywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle i ymateb i'r ddadl hon. Credaf fod cynnig Plaid Cymru yn iawn i dynnu sylw at y rhybudd llym gan y gymuned wyddonol a'r angen am ymateb byd-eang a chyflym ar fyrder. Nid yw newid hinsawdd yn fygythiad pell. Fel yr ydym yn ei drafod heddiw, mae effeithiau newid yn yr hinsawdd yn niweidio bywydau a bywoliaeth miliynau o bobl ar draws y byd. Mae'n gyrru digwyddiadau tywydd eithafol yma yng Nghymru, ac rydym eisoes yn gorfod ymaddasu i hynny.
Nid yw Cymru ond yn gyfrifol am gyfran fach iawn o allyriadau'r byd, ond barn Llywodraeth Cymru yw y gallwn fel cenedl gyflawni newid yma mewn ffordd a fydd yn lleihau ein heffaith ar yr amgylchedd, a gwneud ein cymdeithas yn decach ac yn iachach, ac y gallwn sbarduno newid cyflymach ar draws y DU ac yn rhyngwladol. Dyna pam yr hoffwn inni fynd ymhellach na chynnig Plaid Cymru. Rwyf am inni ganolbwyntio nid yn unig ar yr hyn sydd angen inni ei wneud, ond hefyd ar y modd y byddwn yn canolbwyntio ein hymdrechion ar ei gyflawni. Mae Aelodau'r Cynulliad a'r cyhoedd yn gofyn, a hynny'n briodol: os yw hwn yn argyfwng, beth yw ein hymateb a sut y gallwn farnu cynnydd?
Gwelliant y Llywodraeth yw tynnu sylw at ein meysydd cryfder y gallwn adeiladu arnynt, a rhaid imi ddweud, mae safbwynt Plaid Cymru ar yr argyfwng newid hinsawdd—nid ydynt yn weithredoedd gwael, ond maent ymhell o'r hyn sydd yng nghynllun Llywodraeth Cymru, ac ni fyddent yn mynd i'r afael â hanner ein hallyriadau nwyon tŷ gwydr hyd yn oed, heb sôn am fynd â ni unrhyw le yn agos at sero net. Felly, fel Llywodraeth, gallwn ddefnyddio ein deddfwriaeth flaengar i danategu'r newidiadau sydd eu hangen gyda grym cyfreithiol: Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.
Gallwn fanteisio i'r eithaf ar y cyfraniad a wneir gan y sector cyhoeddus i fynd i'r afael â newid hinsawdd a cholli rhywogaethau a chynefinoedd, a gallwn chwarae rôl gydlynol yn ysgogi newid mewn sectorau eraill, o feithrin y broses o greu diwydiannau gwyrdd newydd a phrosiectau ynni adnewyddadwy a arweinir gan y gymuned i wella'r sylfaen dystiolaeth drwy weithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru, gyda phrifysgolion Cymru, a chydag arbenigwyr rhyngwladol.
Ddydd Llun, pan gyfarfûm â fy nghyd-Weinidogion o Lywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban, roeddem i gyd yn cytuno bod angen cyflymu gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd. Rwy'n siomedig fod gwelliant y Ceidwadwyr Cymreig yn dangos hunanfodlonrwydd yn wyneb yr argyfwng hinsawdd a wynebwn, a buaswn yn annog yr Aelodau i bleidleisio gyda'r Llywodraeth heddiw, i wneud y Cynulliad Cenedlaethol yn Senedd gyntaf yn y byd i bleidleisio o blaid datganiad ar argyfwng hinsawdd. Mae hadau ein hymateb i'r argyfwng hinsawdd wedi'u cynnwys yn y 100 o bolisïau ac argymhellion yn y cynllun cyflawni carbon isel, ond ar ôl cael cyngor ein corff cynghori—yr UKCCC—yfory, byddaf yn adolygu'r rhain.
I gloi, Ddirprwy Lywydd, i gyd-fynd â chyflymder a maint y newid sydd ei angen, mae angen inni alw yn awr am weithredu ar y cyd ar draws y gymdeithas gyfan, a bydd hynny'n cynnwys gweithredu ar sail penderfyniad cyffredin rhwng ein pleidiau gwleidyddol.
Galwaf ar Leanne Wood i ymateb i'r ddadl.
Hoffwn ddechrau fy nghyfraniad i'r ddadl hon gyda 'diolch' mawr i Greta Thunberg, y streicwyr ysgol ac Extinction Rebellion, ond hefyd i'r holl ymgyrchwyr a gweithredwyr amgylcheddol eraill sydd wedi bod yn tynnu sylw at hyn ers blynyddoedd, os nad degawdau. Rydych yn llwyddo, mae'r sgwrs yn newid—gyda rhai eithriadau, wrth gwrs.
Un cais canolog a geir ym mhrotestiadau Extinction Rebellion: rhaid i wleidyddion ddweud y gwir am newid hinsawdd a bod o ddifrif am ein hargyfwng ecolegol. Ond y gwir amdani yw ein bod yn methu'n druenus. Yng Nghymru, mae ein hallyriadau carbon deuocsid wedi codi yn y blynyddoedd diwethaf. Yn ôl yn 2007, fel rhan o gytundeb clymblaid Cymru'n Un rhwng Plaid Cymru a Llafur, cytunasom ar leihad rhwymol mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr, ac er mwyn monitro hyn, sefydlwyd comisiwn newid yn yr hinsawdd. Beth a ddigwyddodd yn lle hynny? Ni chyrhaeddwyd y targedau ac mae'r comisiwn ar newid yn yr hinsawdd bellach wedi'i ddiddymu.
Nid dyma'r amser i Lywodraeth Cymru longyfarch ei hun ar gynnydd a llaesu dwylo. Ac nid dyma'r amser i gymeradwyo hanes Llywodraeth y DU o weithredu, a ninnau wedi'u gweld yn torri'r cyllid ar gyfer cynaliadwyedd. Fel y dywedodd Greta Thunberg wrthym, 'Mae'r tŷ ar dân', ac nid wyf yn gweld unrhyw banig. A dyna pam ein bod yn gwrthod gwelliannau'r Blaid Lafur a'r Torïaid heddiw. Nid yw'n wir dweud, Weinidog, fod eich gweithredoedd yn mynd ymhellach. Mae'n edrych yn rhy debyg i fusnes fel arfer i mi.
Dyna pam fod un o ofynion y protestwyr newid hinsawdd, i sefydlu cynulliadau dinasyddion, i sicrhau bod Llywodraethau'n cael eu dwyn i gyfrif, mor allweddol. Heb hynny, ni fydd y rhwystredigaeth nad yw Llywodraethau'n dweud y gwir ac nad ydynt yn gwneud popeth a allant i osgoi argyfwng hinsawdd yn diflannu. Ein cam cyntaf yw cydnabod y broblem, ac rwy'n falch, wrth gwrs, fod y Llywodraeth wedi cyhoeddi ei bod yn datgan argyfwng o ran yr hinsawdd cyn y bleidlais heddiw, ond ni all hynny fod yn ddiwedd ar y mater. Os yw Llywodraeth Cymru'n onest am yr argyfwng hinsawdd, byddai'r posibilrwydd o M4 newydd o amgylch Casnewydd yn cael ei ddiddymu. Pe baem yn deall difrifoldeb ein hargyfwng ecolegol, byddai'r syniad o osod concrit dros wastadeddau Gwent yn cael ei ddiystyru gan y byddai'n drychineb. Ni allwn ddefnyddio atebion yr ugeinfed ganrif bellach i'n problemau yn yr unfed ganrif ar hugain. Rhaid inni feddwl sut y defnyddir buddsoddiad y Llywodraeth i wrthweithio a lliniaru'r problemau hyn er mwyn meithrin cadernid, a rhaid inni wrthwynebu buddsoddiad sy'n gwneud y gwrthwyneb. Mae llwybr du yr M4 yn brawf allweddol o beth y mae'r datganiad argyfwng hinsawdd hwn yn ei olygu. Rydym i gyd yn gwybod hynny, os ydym yn onest â ni'n hunain. Rhaid inni roi'r gorau i greu swyddi ar unrhyw gost. Nid oes swyddi ar blaned farw.
Felly, rydym am weld ymrwymiadau a chamau clir gan y Llywodraeth hon i wireddu ei datganiad ynghylch argyfwng hinsawdd. Rydym am weld y gostyngiadau cyflym mewn allyriadau, ac rydym am weld y cynulliadau dinasyddion, ac ni fydd unrhyw beth sy'n llai na hynny yn gwneud y tro.
Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriwn y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Ddirprwy Lywydd, tybed a fyddech yn cymryd pwynt o drefn cyn inni symud at y bleidlais.
Gwnaf, fe gymeraf y pwynt o drefn.
Roeddwn am wybod pam nad oedd y rhai a oedd wedi ymgasglu ar risiau'r Senedd i ddangos eu cefnogaeth i'r cynnig rydym newydd ei basio, neu ar fin ei basio, yn cael dod i glywed y ddadl, oherwydd rwyf bob amser wedi bod yn falch o'r ffaith ein bod yn Gynulliad agored ac yn awyddus i sicrhau bod pobl Cymru yn gwybod beth a drafodwn. Dywedwyd wrthyf mai dim ond chwech o bobl a gafodd ddod i mewn i glywed y ddadl er y byddai llawer mwy o bobl wedi hoffi ei chlywed.
O'r gorau. Nid oeddwn yn ymwybodol o hynny. Byddaf yn trafod gyda'r Llywydd ac fe ystyriwn yr hyn rydych wedi'i ddweud, ond mae wedi'i gofnodi. Diolch.
Symudwn yn awr at y cyfnod pleidleisio. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno i mi ganu'r gloch, symudaf ymlaen i'r cyfnod pleidleisio.
Y ddadl gyntaf y pleidleisiwn arni y prynhawn yma yw dadl Plaid Cymru ar hawliau gweithwyr, a galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 10, roedd dau yn ymatal, a 40 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig.
NDM7034 - Dadl Plaid Cymru - Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 10, Yn erbyn: 40, Ymatal: 2
Gwrthodwyd y cynnig
Pleidleisiwn ar y gwelliannau yn awr. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Felly, galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. Roedd 28 o blaid gwelliant 1, neb yn ymatal, a 24 yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 1, a chaiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol.
NDM7034 - Gwelliant 1: O blaid: 28, Yn erbyn: 24, Ymatal: 0
Derbyniwyd y gwelliant
Cafodd gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol.
Galwaf yn awr am bleidlais ar welliant 4, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. Roedd 38 o blaid gwelliant 4, neb yn ymatal, a 14 yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 4.
NDM7034 - Gwelliant 4: O blaid: 38, Yn erbyn: 14, Ymatal: 0
Derbyniwyd y gwelliant
Galwaf yn awr am bleidlais ar y cynnig fel y'i diwygiwyd.
Cynnig NDM7034 fel y'i diwygiwyd:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi pwysigrwydd Diwrnod Rhyngwladol y Gweithwyr a rôl undebau llafur wrth sicrhau hawliau gweithwyr yng Nghymru.
2. Yn cymeradwyo gwaith pob Llywodraeth Cymru ers 1999 i ddatblygu strwythurau partneriaeth gymdeithasol effeithiol gydag undebau llafur a busnesau Cymru.
3. Yn nodi bod y dull gweithredu hwn wedi helpu i sicrhau hawliau gwirioneddol i weithwyr Cymru drwy Ddeddf yr Undebau Llafur (Cymru) a’r Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol sydd wedi gwyrdroi deddfwriaeth Llywodraeth y DU.
4. Yn croesawu’r camau a ddatblygwyd drwy bartneriaeth gymdeithasol gan Lywodraeth Cymru i ddileu contractau dim oriau ecsbloetiol yng Nghymru a’r gwaith a wnaed drwy’r Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi.
5. Yn cydnabod ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wneud Cymru yn genedl Gwaith Teg.
6. Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddatblygu Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a’i chyflwyno yn ystod tymor y Cynulliad hwn.
7. Yn galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau wrth i ni ymadael â’r UE ei bod yn ymrwymo i safonau deinamig sy’n rhwymo mewn cyfraith ar gyfer diogelu a gorfodi gwaith teg ar draws y DU.
8. Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth y DU i ddiogelu hawliau gweithwyr ar ôl Brexit.
Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig fel y'i diwygiwyd 29, neb yn ymatal, a 23 yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd.
NDM7034 - Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 29, Yn erbyn: 23, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd
Symudwn ymlaen yn awr i bleidleisio ar ddadl Plaid Cymru ar newid hinsawdd, a galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Unwaith eto, os na dderbynnir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 10, roedd 13 yn ymatal, a 29 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig a symudwn ymlaen i bleidleisio ar y gwelliannau.
NDM7036 - Dadl Plaid Cymru - Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 10, Yn erbyn: 29, Ymatal: 13
Gwrthodwyd y cynnig
Galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 12, roedd un yn ymatal, a 39 yn erbyn, felly gwrthodwyd gwelliant 1.
NDM7036 - Gwelliant 1: O blaid: 12, Yn erbyn: 39, Ymatal: 1
Gwrthodwyd y gwelliant
Galwaf am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 28, roedd un yn ymatal, a 23 yn erbyn, felly derbyniwyd gwelliant 2.
NDM7036 - Gwelliant 2: O blaid: 28, Yn erbyn: 23, Ymatal: 1
Derbyniwyd y gwelliant
Galwaf yn awr am bleidlais ar y cynnig fel y'i diwygiwyd.
Cynnig NDM7036 fel y'i diwygiwyd:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi rhybudd llym gan gymuned wyddonol y byd nad oes dim ond 12 mlynedd ar ôl i atal 1.5 gradd o gynhesu.
2. Yn nodi ymhellach fod cynhesu tu hwnt i 1.5 gradd yn cynrychioli bygythiad i ddyfodol dynoliaeth, a bod cynhesu cyfyngedig i'r lefel honno, hyd yn oed, yn peri difrod i fywoliaeth pobl ddirifedi ar draws y byd.
3. Yn cydnabod bod ymateb byd-eang brys yn angenrheidiol ar unwaith.
4. Yn croesawu'r ffaith bod atebion i'r argyfwng yn yr hinsawdd ar gael yn eang gan gynnwys technoleg adnewyddadwy, opsiynau trafnidiaeth cynaliadwy ac adeiladau di-garbon.
5. Yn cefnogi penderfyniadau cynghorau sir, tref a chymuned ar draws Cymru i basio cynigion yn datgan argyfwng o ran yr hinsawdd a phennu targedau o sero ar gyfer allyriadau carbon yn eu hardaloedd lleol.
6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatgan argyfwng o ran yr hinsawdd.
7. Yn cymeradwyo Llywodraeth Cymru am:
a) ddwyn ymlaen Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) i sbarduno’r gweithredu ar fyrder ar y newid yn yr hinsawdd;
b) ymrwymo’r sector cyhoeddus yng Nghymru i fod yn ddi-garbon erbyn 2030 ac i bob adeilad y sector cyhoeddus ddefnyddio ynni adnewyddadwy yn gyfan-gwbl erbyn 2020 neu cyn gynted â bod modd gwneud hynny o ran contractau; ac
c) edrych ar phob opsiwn ar gyfer datgarboneiddio economi Cymru drwy weithio gyda bob sector a chymuned, gan dynnu ar y dystiolaeth wyddonol orau sydd ar gael.
Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig fel y'i diwygiwyd 38, roedd 12 yn ymatal, a dau yn erbyn, felly derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd.
NDM7036 - Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 38, Yn erbyn: 2, Ymatal: 12
Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd
Symudwn yn awr at y ddadl fer. Os oes Aelodau'n gadael y Siambr, a allant wneud hynny'n gyflym ac yn dawel os gwelwch yn dda? A wnaiff yr Aelodau adael y Siambr os ydynt yn gwneud hynny, ac os nad ydynt yn gadael, a allant eistedd?
Symudwn ymlaen yn awr at y ddadl fer, a galwaf ar Bethan Sayed i siarad am y pwnc a ddewisodd. Bethan.
Fel gweriniaethwr, rwyf fi, Bethan Sayed, yn tyngu llw o deyrngarwch yn ddifrifol, yn ddiffuant ac yn ddidwyll i bobl Cymru o hyn tan ddiwedd fy nhymor yn y swydd, fy mod yn addo cyflawni dyletswyddau fy swydd yn ffyddlon er mwyn diogelu ac amddiffyn lles, buddiannau gorau a hawliau pobl Cymru.
Fel gweriniaethwr, yr wyf fi, Bethan Sayed, yn datgan yn ddiffuant ac yn ddidwyll, yn cadarnhau ac yn tyngu fy nheyrngarwch i bobl Cymru o'r cyfnod hwn tan ddiwedd fy nhymor yn y swydd, fy mod yn addo cyflawni dyletswyddau fy swydd yn ffyddlon i ddiogelu ac amddiffyn lles, buddiannau a hawliau pobl Cymru.
Dyma'r tro cyntaf yn y lle hwn i mi gael cyfle i fynegi'r hyn sydd ar fy meddwl ac sydd yn fy nghalon yn wir lw o deyrngarwch. Pan fyddwn yn tyngu llw i rywbeth, mae'n hollbwysig ein bod yn credu y llw hwnnw. Mae hyn yn wir yn unrhyw ran o fywyd—mae'n wir mewn llys, mae'n wir mewn sgwrs. Dyma sydd wrth wraidd ymddiried mewn rhywbeth. Mae'n hanfodol i'r modd yr ydym yn cynrychioli'r pobl—ein bod yn credu yn yr hyn yr ydym yn ei ddweud a'n bod ni fel cynrychiolwyr yn anrhydeddu ein credoau. Ond yng Nghymru, pan fyddwn yn tyngu llw fel cynrychiolwyr yma, mae llawer ohonom yn tyngu llw i sefydliad nad ydym yn credu ynddo, nid o ddewis na malais nac ymgais i gamarwain, ond am fod yn rhaid i ni er mwyn cymryd ein seddi yma. Mewn ffordd, rydym yn cael ein bygwth i dyngu rhywbeth nad ydym yn credu ynddo. Mae hyn yn system gwbl annerbyniol.
Nawr, mae rhai pobl wedi dweud—rhai pobl sydd ddim yma yn y Senedd rhagor—na ddylai hyn fod yn flaenoriaeth. Maen nhw wedi gofyn pam ar y ddaear fy mod i'n codi rhywbeth fel hyn sydd mor ymddangosiadol ddibwys. Ond dwi'n anghytuno'n llwyr gyda nhw. Mae hwn yn fater pwysig iawn. Pan fyddwn yn tyngu llw, mae fersiwn o dyngu llw ym mhob diwylliant, ac mae bron pob gwlad yn y byd yn mynnu bod aelodau cyrff yn tyngu llw neu gytuno i gynnal rhai gwerthoedd, gweithredoedd ac egwyddorion mewn bywyd cyhoeddus. Yn y Cynulliad, mae gofyn inni gadw at egwyddorion Nolan o fywyd cyhoeddus, ac mae moesoldeb a rheolau'n bwysig, fel ym mhob corff seneddol arall bron ledled y byd. Mae'r rheolau a'r prosesau hyn yma oherwydd bod disgwyliadau a galw o du'r cyhoedd sy'n dweud eu bod yn bwysig, ond mae'n ymddangos nad oes yna le i rai Aelodau, yn eu gweithred gyntaf yn yr ystafell yma, i dyngu i rywbeth y maent yn credu ynddo.
Dyma'r hyn y mae pobl yn tyngu ar hyn o bryd, 'Yr wyf fi—enw'r Aelod Cynulliad penodol—yn tyngu y byddaf yn ffyddlon ac yn wir deyrngar i'w Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II, ei hetifeddion a'i helynwyr, yn unol â'r gyfraith. Cynorthwyed Duw fi.' Wel, dwi ddim yn credu yn y gosodiad yma. Dwi'n weriniaethwr a dwi'n falch iawn o hynny. Rwy'n deall nad yw pawb yn weriniaethwyr ac felly mae rhwydd hynt iddyn nhw anghytuno. Dwi'n parchu hynny. Dyna yw gwir natur democratiaeth. Ond dylai'r parch hwnnw fynd y ddwy ffordd. Rwy'n parchu Aelodau sydd am dyngu llw o deyrngarwch i'r Frenhines, er nad wyf i'n llwyr yn deall pam nac yn cytuno â'u hawydd i wneud hynny. Ond nid yw fy nymuniad i a nifer eraill i beidio â gwneud hynny yn cael ei barchu. Nid yw'n cael ei barchu chwaith yn yr Alban, Lloegr, na gwledydd eraill lle mae'r Frenhines yn ben ar y wladwriaeth, fel Awstralia a Chanada.
Yr hyn sy'n od am y llw uchod yw bod trefniant ar gael i gymryd llw gwahanol ar sail cred grefyddol rhywun, ond nid am dyngu llw neu beidio i'r frenhiniaeth. Mae fy nghred i yn ei gwneud yn amhosib i mi wir dyngu teyrngarwch i'r Frenhines neu i'w hetifeddion am nad ydw i yn y bôn yn cytuno gyda'r sefydliad y mae'n ei gynrychioli. Dyw e ddim yn cyd-fynd â fy nghredoau na'r fath o Gymru rwyf am weld i'r dyfodol, ac, eto, os wyf am eistedd yn y sedd benodol yma, mae'n rhaid i mi ei wneud e. Dyw'r peth ddim yn gwneud synnwyr i fi.
Ond mae opsiynau i'r rheini ohonom a ddylai allu tyngu llw gwahanol yn seiliedig ar ein cydwybod, ond byddai'n galw am newid Deddf Llywodraeth Cymru yn San Steffan. Er nad wyf yn rhagweld y bydd hyn yn digwydd yfory, os na fyddwn yn trafod rhai materion, yna yn sicr ni fyddant byth yn newid. Mae'n codi proffil y mater hwn ac yn rhoi cychwyn ar ddadl fywiog. Mae eisoes wedi ysgogi meddyliau a theimladau dros yr wythnos hon yn unig.
Ar draws y byd, ceir amrywiaeth o opsiynau ar gyfer llw gwahanol—llw i'r bobl neu'r wlad y mae deiliaid swyddi'n eu cynrychioli. Yn yr Unol Daleithiau, ceir gofyniad i gynnal, diogelu ac amddiffyn y cyfansoddiad—hen ddogfen a luniwyd er hynny i lywio'r wlad honno ac sy'n arddel ei hegwyddorion llywodraethu sylfaenol. Yn yr Almaen, mae iaith deiliaid swyddi fel y Canghellor a Gweinidogion eraill yn cynnwys tyngu llw i ystyried a diogelu lles dinasyddion. Yn Ffrainc, mae'n ofynnol amddiffyn y weriniaeth a'r gwerthoedd y cafodd ei sefydlu arnynt.
Yng Ngogledd Iwerddon, nid oes gofyniad i dyngu llw o gwbl oherwydd y sensitifrwydd ynghylch gwneud hynny—mae pawb ohonom yn derbyn hynny—ond hefyd am fod cydnabyddiaeth, a hynny'n bennaf oherwydd gelyniaeth hanesyddol, i gredoau'r gweriniaethwyr. Byddai'n amhosibl gorfodi teyrngarwch i'r frenhines yng Ngogledd Iwerddon heb wadu cynrychiolaeth i gyfran helaeth o'r bobl yno. Mae hyn hefyd yn seiliedig ar yr egwyddor fod llawer o bobl yng Ngogledd Iwerddon nad ydynt yn dymuno tyngu llw i rywbeth y maent yn anghytuno'n sylfaenol ag ef. Ond yma nid oes y fath gydnabyddiaeth o safbwyntiau ehangach. Yma, mae gennym fygythiad yn hongian uwch ein pennau, 'Plygwch lin, tyngwch lw, neu collwch eich sedd.' Mae'n codi cwestiwn ynglŷn â pha mor ddemocrataidd yw ein system mewn gwirionedd. Byddai rhai'n dweud na allwn fod yn ddemocratiaeth fel rhan o system freniniaethol, ond dadl ar gyfer diwrnod arall yw honno.
Gadewch inni fod yn glir ynglyn â hyn, mae fy ngorfodi i ac eraill i dyngu llw o deyrngarwch i sefydliad nad ydym yn credu ynddo er mwyn cymryd ein seddau, yma ac yn San Steffan, yn dangos bod sefydliad y Deyrnas Unedig yn rhoi ymlyniad at draddodiad hynafol ac anachronistaidd o flaen normau democrataidd. Nid yw'n iawn fod gennym system yn San Steffan, a ddilynir yma, sy'n gwahardd gweriniaethwyr sy'n cynrychioli cannoedd ar filoedd o bobl yng Ngogledd Iwerddon rhag cymryd eu seddau fel enghraifft o osod traddodiad uwchlaw disgwyliadau democrataidd arferol.
Felly, pam y dylem fod yn fodlon â'r system? Oherwydd mai dyma'r ffordd y mae bob amser wedi'i wneud? Wel, rwy'n gwrthod hyn. Nid yw un o'r rhesymau a glywais o'n proses bresennol o dyngu llw ac addo teyrngarwch yn cydnabod normau democrataidd fel y byddai'r rhan fwyaf o bobl yn eu deall chwaith. Mae'r Cynulliad Cenedlaethol a seneddau eraill y DU yn arfer grym ar ran y sawl sydd ar yr orsedd ac yn ôl eu disgresiwn, oherwydd bod y sawl sydd ar yr orsedd yn dewis peidio ag arfer eu pwerau uchelfreiniol. Mae llawer ohono'n seiliedig ar gymysgedd o weithdrefnau a chyfreithiau hirsefydlog sy'n ymestyn yn ôl dros ganrifoedd. Ceir cyfreithiau a chynseiliau o hyd sy'n dylanwadu ar Lywodraethau etholedig a'u perthynas â'r frenhiniaeth ac sy'n ymestyn yn ôl i ryfel cartref Lloegr neu i gynseiliau a phwerau a arferid ar ran y frenhiniaeth gan Robert Walpole, y Prif Weinidog cyntaf, er nad dyna oedd ei deitl ffurfiol ar y pryd.
Mae'r ymlyniad hen ffasiwn i draddodiad er ei fwyn ei hun yn dangos un o'r problemau sylfaenol a esgeuluswyd mewn perthynas â'r frenhiniaeth—y pŵer a'r parch gormodol a roddir i sefydliad heb gyfreithlondeb etholedig. Buaswn yn fodlon betio nad yw'r rhan fwyaf o bobl yn gwybod yn iawn faint o bŵer sydd gan y frenhiniaeth yn ddamcaniaethol ond ei bod yn dewis peidio â'i ddefnyddio. Mae'n un o'r rhesymau pam y mae gennym ein llw presennol: ymostyngiad cyfeiliornus i setliad gwleidyddol y mae'n hen bryd ei adolygu mewn gwlad fodern, mewn Cymru fodern.
Felly, sut fath o lw gwahanol? Wel, rwyf wedi gofyn am syniadau ar y cyfryngau cymdeithasol yr wythnos hon ac roedd y mwyafrif helaeth yn adeiladol, a chefais fy synnu gan nifer y bobl sydd wedi cysylltu â mi i gynnig eu hawgrymiadau a'u syniadau. Un thema gyffredin a redai drwy'r awgrymiadau oedd ymrwymiad i bobl Cymru wrth gwrs, ond hefyd ymrwymiad i wella bywydau'r bobl, i sicrhau eu lles, i weithredu er eu budd gorau, fel y'n hetholwyd i'w wneud, i ystyried penderfyniadau a gweithredu mewn ffordd sy'n cynnal gwerthoedd y sefydliad hwn, i dryloywder a gonestrwydd, ac i ddiogelu diwylliant ac iaith Cymru—llu o syniadau'n seiliedig ar yr egwyddor y dylai grym ddeillio o'r bobl a'n rhoddodd yma, nid i frenhines sy'n gweld yn dda i ddatganoli i ni ei phŵer dwyfol a etifeddwyd.
Felly, beth am y llw a awgrymais ar y cychwyn? Ceir cymaint o ffurfiau eraill posibl arno ac yn y pen draw, yr hyn y mae gennyf fi ddiddordeb ynddo yw bod yr opsiwn yn bodoli. Nid wyf yn poeni gormod nac yn bod yn rhagnodol ynghylch y geiriad ei hun. Yr hyn rwy'n poeni yn ei gylch yw'r pwynt sylfaenol hwn o egwyddor, ynglŷn â rhoi pobl Cymru wrth wraidd popeth a wnawn fel ACau, o'r funud y byddwn yn tyngu'r llw ymlaen. Mae'n ddatganiad clir o fwriad. Roedd yn wych—. Rwy'n clywed cryn dipyn o sylwadau gan rai ar eu heistedd, ond ni ofynnwyd imi am funud, felly, gyda phob dyledus barch, rhowch gyfle i mi wneud fy araith.
Roedd yn wych gweld y diddordeb yn y ddadl hon, sy'n profi, yn wahanol i awgrymiadau rhai pobl nad oedd hwn yn fater roedd gan unrhyw un ddiddordeb ynddo, ei fod, mewn gwirionedd, yn rhywbeth roedd llawer iawn o bobl yn teimlo'n angerddol yn ei gylch. Mae perthynas pobl Cymru â'r frenhiniaeth yn newid, a chredaf fod hynny'n dod yn gliriach yn awr. Rhaid inni adeiladu cefnogaeth ar gyfer dadl ar ein gwerthoedd yma yng Nghymru a ph'un a ydym yn credu bod y frenhiniaeth yn cyd-fynd â'r gwerthoedd penodol hynny ai peidio. Dechrau yn unig yw hyn. Fel y gwelsom gyda'r ymateb i ailenwi pont Hafren, nid yw pobl yn barod i dderbyn rhywbeth yn syml oherwydd bod hyrwyddiad brenhinol ynghlwm wrtho. Mae'r llanw ar droi.
Yn ein Llywodraeth ac yn ein cyrff cynrychioliadol, nid wyf yn credu y dylem dderbyn pethau fel y maent yn ddigwestiwn, oherwydd ni fydd dim yn newid yn ein bywydau o fod felly. Mae hwn yn faes y dylid ei ddiwygio. Dyma'r peth iawn i'w wneud. Mae'n beth cymharol hawdd i'w wneud. Nid wyf yn gofyn am gael gwared ar y llw presennol i'r Frenhines. Byddai rhai am weld hynny, ond nid wyf yn dweud hynny. Os oes gennym opsiwn i beidio â gwneud llw crefyddol, sydd hefyd yn deg, dylem hefyd gael y dewis i beidio â thyngu llw i deulu brenhinol, system nad yw rhai ohonom yn credu ynddi o gwbl. Gadewch i ni barhau â'r ddadl hon. Gadewch inni wneud hynny mewn ffordd deg ac agored, a gadewch inni barchu barn ein gilydd pan ddown at y ddadl hon, oherwydd mae pob un ohonom yn wahanol ac mae gennym hawl i'n barn, a dylem oll gael ein parchu am y safbwyntiau hynny hefyd. Diolch yn fawr iawn.
Galwaf ar y Llywydd i ymateb ar ran Comisiwn y Cynulliad—Elin Jones.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i Bethan Sayed am gyflwyno pwnc newydd a phwnc diddorol i'w drafod yma'r prynhawn yma. Dwi'n ymateb ar ran Comisiwn y Cynulliad, a dwi'n ddiolchgar am y cyfle i amlinellu'r sefyllfa gyfredol o ran cyfrifoldebau a chymhwysedd ynghlwm â llw Aelodau Cynulliad. Mi fydd y Llywodraeth hefyd yn ymateb am eu rôl a'u safbwynt nhw yn hyn o beth.
Ar hyn o bryd, yn unol â Deddf Llywodraeth Cymru 2006, mae rheidrwydd ar bob Aelod Cynulliad i dyngu llw neu ddatganiad cyffelyb o fewn deufis o gael eu hethol. Mae geiriad y llw presennol, fel yr adroddwyd gan Bethan Sayed, yn cael ei amlinellu yn adran 2 o Ddeddf Llwon Addewidiol 1868. Mae gan y Cynulliad y grym i newid rhai adrannau o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 ond nid y ddarpariaeth sy'n amlinellu'r gofynion i dyngu llw. Byddai modd datganoli'r grym i newid yr adran berthnasol, fodd bynnag, byddai angen Mesur San Steffan i gyflawni hyn.
Ffordd amgen, ac o bosib symlach, i drosglwyddo'r cyfrifoldeb fyddai gwneud yr hyn a elwir yn Orchymyn adran 109. Gellid defnyddio hyn i newid Deddf Llywodraeth Cymru er mwyn rhoi'r cymhwysedd deddfwriaethol i'r Cynulliad newid y llw. Byddai Gorchymyn adran 109 yn cael ei osod yn San Steffan gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol a gerbron y Cynulliad yma gan Lywodraeth Cymru. Byddai angen cydsyniad dau Dŷ Senedd y Deyrnas Gyfunol yn ogystal â'r Cynulliad yma. Mae Rheol Sefydlog 25.26 yn caniatáu i unrhyw Aelod Cynulliad osod cynnig i alw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno Gorchymyn arfaethedig dan adran 109. Dan Reol Sefydlog 25.25, hefyd, gall unrhyw bwyllgor gynnig Gorchymyn adran 109.
Serch hyn, mae'r canllaw datganoli—y devolution guidance note—a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Prydain am ddeddfwriaeth San Steffan sy'n effeithio ar Gymru yn glir ar un mater, sef bod y canllaw yn dweud bod Llywodraeth Prydain yn disgwyl i drafodaethau fynd rhagddynt rhwng y ddwy Lywodraeth, am fod angen i'r Gorchymyn 109 ddod gerbron San Steffan a'r Cynulliad gan y ddwy Lywodraeth. Mewn sefyllfa pe bai mwyafrif yn cefnogi trosglwyddo'r pŵer perthnasol o San Steffan i Gymru, byddai angen Bil, wrth gwrs, yn y Cynulliad yma i weithredu'r pŵer hwn.
Wrth gwrs, dim ond yr ystyriaethau proses yr wyf i wedi eu nodi hyd yn hyn. I weithredu unrhyw newid yn y llw, byddai angen sicrhau'r ewyllys gwleidyddol a mwyafrif drwy bleidlais i wneud hynny—yn San Steffan ac yn y Senedd yma.
Mae'n glir bod testun y ddadl yma wedi ennyn cryn ddiddordeb ac wedi cychwyn ar drafodaeth. Mae'n fy atgoffa i o'r tro hynny ym 1997, fel maer Aberystwyth, y newidiais i'r llwnc destun o lwnc destun i'r Frenhines i lwnc destun i bobl Aberystwyth. Ond doedd dim angen deddf gwlad na newid cyfansoddiadol arnaf i bryd hynny—dim ond dyfal barhad a bach o berswâd.
Fy nghyngor i, felly, i unrhyw Aelod sy'n dymuno gweithredu newid o'r fath yma, neu unrhyw newid ar unrhyw fater, yw mynd ati i gynnal trafodaeth gadarnhaol ymysg Aelodau yn y lle yma, ymysg pobl Cymru ac ar draws y pleidiau, wrth gwrs, ac i ennill cefnogaeth mwyafrif. Mae popeth yn bosib, ond dim ond drwy ennill cefnogaeth.
Diolch. A gaf fi alw ar y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip yn awr i ymateb ar ran y Llywodraeth? Jane Hutt.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i Bethan Sayed am gyflwyno'r ddadl fer hon heddiw. Mae tyngu llw fel Aelod Cynulliad yn un o'r adegau pwysicaf yn ein gyrfaoedd gwleidyddol. Gallwn gofio'r amseroedd. Rwy'n credu bod naw ohonom wedi bod trwy hyn mewn gwirionedd; tri—pedwar, pump—yn y Siambr heddiw. Pedwar ohonom sydd wedi bod yn—na, pump—. Beth bynnag, rydym ni yma am ei fod yn golygu llawer i ni ac i barchu'r ffaith eich bod chi wedi cyflwyno hyn. Yn ddiddorol, rydych yn ei gyflwyno ar adeg pan fyddwn, yr wythnos nesaf, yn dathlu, nodi, 20 mlynedd o ddatganoli.
Ond mae'n gyfnod pwysig, o ran tyngu llw. Mae'n nodi'r newid o fod yn wleidydd i fod yn Aelod o'r Cynulliad, neu barhau ar ôl, neu olynu eraill, a hefyd parhau fel Aelod Cynulliad, yn gwasanaethu ein hetholaethau a phobl Cymru, yma yn y Senedd ac adref. Felly, rydych wedi codi nifer o bethau diddorol a phwysig, Bethan, yn y ddadl fer hon am y llw.
Nid mater i Lywodraeth Cymru yw ymateb i'r modd y mae Aelodau'n tyngu'r llw, a ffurf y geiriau y maent yn eu defnyddio, ond roeddwn yn falch fod y Llywydd wedi ymateb i'r ddadl fer hefyd heno, gan nodi'r sefyllfa bresennol o ran y materion gweithdrefnol a chyfreithiol sy'n codi o bwnc y ddadl hon. Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr iawn. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben. Diolch.
Daeth y cyfarfod i ben am 18:19.