Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Plenary - Fifth Senedd
30/01/2019Cynnwys
Contents
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Galw'r Aelodau i drefn.
Mae'n bleser gen i gyhoeddi heddiw, yn unol â Rheol Sefydlog 26.75, fod y Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru) wedi cael Cydsyniad Brenhinol heddiw.
Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Dai Lloyd.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wella caffael cyhoeddus yng Nghymru? OAQ53295
Yn dilyn cwblhau adolygiad o'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol a Gwerth Cymru, rydym yn ymgysylltu â rhanddeiliaid i ddatblygu dull newydd o weithredu mewn perthynas â chaffael, gyda'r bwriad o gynyddu lles ymhellach drwy wariant cyhoeddus ym mhob rhan o Gymru.
Diolch am eich ateb. Yn amlwg, mae cynyddu lefel y gwariant lleol yng nghyd-destun caffael cyhoeddus yn rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i drafod gryn dipyn dros y ddau ddegawd diwethaf, ond dengys yr ystadegau ei bod yn hawdd siarad. Rydym yn parhau i glywed pryderon gan gwmnïau lleol sy'n teimlo'n rhwystredig oherwydd y diffyg cefnogaeth mewn perthynas â gwneud cynigion am ac ennill contractau lleol. Nawr, mae'r Alban flynyddoedd ar y blaen i ni yn hyn o beth, a chlywn am rannau eraill o'r DU—Preston, er enghraifft—lle mae ymgais gydunol wedi arwain at gynnydd o £200 miliwn yn y gwariant lleol dros gyfnod o chwe blynedd. Pryd y bydd Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â'r agenda hon o'r diwedd ac yn dechrau gweithio'n effeithiol â chyrff lleol a rhanbarthol i gefnogi cwmnïau Cymreig yn briodol?
Diolch am godi mater sy'n bwysig iawn, o ran sicrhau bod ein cyflenwyr yng Nghymru a'n cadwyn gyflenwi gyfan yng Nghymru yn gallu elwa o'r mwy na £6 biliwn rydym yn ei wario bob blwyddyn ar gaffael. Nid yw'n deg dweud nad yw'r agenda hon wedi symud ymlaen gan ein bod bellach, yng Nghymru, yn ennill 52 y cant o'r gwariant caffael blynyddol, ac mae hynny'n uwch na llinell sylfaen o 35 y cant yn 2004. Felly, rydym yn gwneud cynnydd, er ei bod yn amlwg nad yw'r cynnydd hwnnw mor bellgyrhaeddol ag y byddem wedi gobeithio, a dyna pam y cynhaliodd y cyn-Weinidog yr adolygiad o'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol a Gwerth Cymru, a phenderfynu gwneud rhywfaint o newidiadau pellgyrhaeddol o ran sut y byddwn yn datblygu'r agenda hon hyd yn oed ymhellach.
Roedd yn archwiliad manwl, sy'n dangos bod yn rhaid i'r ffordd ymlaen fod drwy uned lai o lawer, sy'n canolbwyntio ar nifer lai o bethau. Felly, rhoddir mwy o ffocws yn y dyfodol ar gytundebau caffael cydweithredol sy'n cyd-fynd â'r blaenoriaethau rhanbarthol a lleol hynny rydych wedi sôn amdanynt, a hefyd, hoffwn archwilio sut y gallwn gefnogi ein busnesau bach a chanolig yn well fel y gallant weithio gyda'i gilydd ar y cyd, fel y gwelwn mewn sectorau eraill—mae'r sector llaeth yng Nghymru yn gwneud hynny'n dda iawn, er enghraifft. Felly, gallwn ddysgu gan sectorau eraill i weld sut y gallwn symud yr agenda hon yn ei blaen yma yng Nghymru.
Credaf eich bod newydd gadarnhau, Weinidog, eich bod, wrth gwrs, fel Llywodraeth, yn dal i edrych ar y system gaffael. Ond a allwch roi sicrwydd inni, pan fyddwch wedi gwneud penderfyniadau cadarn ynglŷn â hyn, y byddwch yn dysgu gwersi fel y gall busnesau bach yn arbennig gael cyfle i gymryd rhan yn y system gaffael?
Yn bendant. A dyma un o'r rhesymau pam y cyflwynwyd yr adolygiad gan y Gweinidog blaenorol yn y lle cyntaf, er mwyn sicrhau bod busnesau bach, gyda chymaint ohonynt yma yng Nghymru, yn gallu elwa o'r buddsoddiad enfawr a wnawn yn y sector cyhoeddus bob blwyddyn yng Nghymru.
Mae maint y contract yn pennu pwy sy'n gallu gwneud cynigion amdano. Po leiaf y contract, y gorau yw'r cyfle i gwmnïau lleol llai. Nid yw cyfuno contractau i wneud un contract mawr o fudd i unrhyw un heblaw'r cwmnïau mawr iawn. A wnaiff Llywodraeth Cymru gefnogi'r defnydd o gontractau sector cyhoeddus llai i gefnogi economïau lleol? Mae'r syniad hwn mai un gyllideb iechyd sydd gennych—maent yn prynu holl fwyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg o un lle—yn cau cwmnïau lleol allan.
Unwaith eto, mae hwn yn faes arall y byddaf yn ei archwilio i benderfynu ar y ffordd orau y gallwn fwrw ymlaen â'r agenda hon er budd y busnesau bach a chanolig sydd gennym ledled Cymru, er mwyn sicrhau, fel y dywedais mewn ymateb i gwestiynau blaenorol, y gallant wneud cymaint o elw â phosibl o'r gwariant pwysig hwnnw a wnawn a'r buddsoddiad a wnawn.
2. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddatganoli treth incwm? OAQ53308
Cytunodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfraddau treth incwm Cymru ar 15 Ionawr. Mae swyddogion Trysorlys Cymru yn gweithio gyda Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi i baratoi i'w cyflwyno ar 6 Ebrill 2019. Daeth adolygiadau diweddar Swyddfa Archwilio Cymru a'r Swyddfa Archwilio Genedlaethol i'r casgliad fod y broses o weithredu hyn ar y trywydd iawn.
A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am ei hateb? Mae'n debyg eich bod yn meddwl ein bod mewn cylch diddiwedd a'n bod wedi cael trafodaeth am hyn yr wythnos diwethaf. Rydym wedi bod yn sôn am ddatganoli treth incwm ers peth amser bellach, a bydd y realiti gyda ni cyn bo hir. Yn ogystal â'r weithred fecanyddol o godi trethi, mae angen gallu rhag-weld yn gywir er mwyn gwneud hynny, a gwyddom fod hynny wedi'i wneud ar lefel y DU ers peth amser bellach, ond ychydig iawn o brofiad sydd gennym yng Nghymru o wneud y rhagolygon hynny. Beth rydych yn ei wneud i ddatblygu capasiti Llywodraeth Cymru fel y gellir gwneud rhagolygon cywir er mwyn i chi allu gwneud y penderfyniadau gorau yn y dyfodol?
Diolch yn fawr iawn am godi'r mater hwn, ac wrth gwrs, mae rhagolygon yn bwysig er mwyn sicrhau y gallwn wneud penderfyniadau gwybodus. A dyma un o'r rhesymau pam y bydd y trefniadau o ran y darpariaethau data yn un o'r eitemau y byddwn yn eu nodi yn y cytundeb lefel gwasanaeth hwnnw, sy'n cael ei gwblhau ar hyn o bryd rhwng Llywodraeth Cymru a CThEM.
Bydd CThEM yn parhau i ddarparu adroddiadau misol inni ar atebolrwydd treth incwm talu wrth ennill drwy eu system wybodaeth amser real. Ni fydd hyn yn darparu darlun cyflawn o gyfraddau Cymru, ond yn sicr, bydd yn ddangosydd defnyddiol, amserol a chyson iawn o ran casglu refeniw. Ond byddant hefyd yn cyhoeddi gwybodaeth alldro ynglŷn â hyn fel rhan o'r cyfrifon blynyddol ym mis Gorffennaf, ac yn amlwg, bydd hynny'n rhoi darlun llawnach a mwy cyflawn inni o'r hyn a ddigwyddodd yn y flwyddyn ariannol flaenorol. Felly, yn sicr, bydd cael y data cywir hwnnw yn rhywbeth y byddwn yn gweithio'n agos iawn arno gyda CThEM, a bydd wedyn yn caniatáu inni rag-weld a gwneud y penderfyniadau cywir ar gyfer y dyfodol.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Nick Ramsay.
Mae'n gylch diddiwedd unwaith eto, Weinidog, gan fy mod am eich holi unwaith eto ynglŷn â'r dreth incwm gan ei fod yn fater mor bwysig a dybryd. Yr wythnos diwethaf, fe gyflwynom ni ddadl yn y Siambr ynghylch y mater dybryd hwnnw o ddatganoli'r dreth incwm, a gofynnodd nifer o Aelodau ar yr ochr hon i chi beth oedd eich bwriad mewn perthynas â'r cyfraddau hynny a'ch ymrwymiad i gadw cyfraddau treth fel y maent, yn gyson am y ddwy flynedd nesaf o leiaf. A allwch ailgadarnhau'r ymrwymiad hwnnw heddiw?
Yn wir, mae hyn wedi troi'n gylch diddiwedd bellach, gan i mi ailgadarnhau'r ymrwymiad hwnnw, wrth gwrs, yn ein dadl a'r ffordd y gwnaethom gefnogi'r cynnig a gyflwynwyd gan y Ceidwadwyr yr wythnos diwethaf, a chredaf fod y Prif Weinidog wedi ailgadarnhau'r ymrwymiad ar y diwrnod hwnnw hefyd. Nid oes gennym unrhyw gynlluniau i gynyddu'r dreth incwm yn ystod tymor y Cynulliad hwn. Rydym wedi gwneud dweud hynny'n glir iawn. Roedd yn ymrwymiad maniffesto.
Rydym hefyd wedi dweud yn glir na allwn fyth ddweud na fyddwn ni byth yn cynyddu'r dreth incwm yma yng Nghymru, gan fod y dreth incwm yn un o'r trethi rydym yn eu talu i sicrhau bod pob un ohonom yn gallu manteisio ar y gwasanaethau cyhoeddus sydd gennym yma yng Nghymru. Yn amlwg, byddai'n rhaid i unrhyw fwriad o gynyddu'r dreth incwm ac unrhyw waith arall a wnawn ar dreth fod yn gwbl seiliedig ar dystiolaeth, ac ar wrando ar yr effaith bosibl ar fywydau pobl yma yng Nghymru hefyd. Felly, ni fyddai unrhyw benderfyniadau ar dreth incwm yn cael eu gwneud yn ysgafn.
Buaswn hefyd yn dweud y bydd yn gyfrifoldeb arnom oll, fel pleidiau gwleidyddol, i nodi ein hagendâu ar gyfer y dreth incwm yn y dyfodol, o ran sut y cyflwynwn ein cynnig i bobl ledled Cymru ar gyfer etholiad nesaf y Cynulliad, ac unwaith eto, ymrwymiad maniffesto y byddem yn disgwyl iddo fod yn rhywbeth y byddai pob un ohonom yn meddwl amdano.
Diolch, Weinidog. Rwy'n derbyn yn llwyr eich bod wedi dweud yn y gorffennol, a bod eich rhagflaenydd wedi dweud nad cynyddu'r dreth incwm yw'r bwriad, ond ymddengys bod y sefyllfa wedi newid i raddau yn hyn o beth. Yn sicr, mae'r ieithwedd wedi newid. Dywedodd y Prif Weinidog, yn fuan ar ôl dod i'r swydd, nad yw'n fwriad i wneud hynny. Rydych wedi dweud eto heddiw nad ydych yn bwriadu ei chodi, ond golyga hynny fod y drws yn cael ei adael ar agor. Pe bai'r sefyllfa economaidd yn newid dros y ddwy flynedd nesaf, a wnewch chi ddiystyru codi lefelau treth incwm yn gyfan gwbl cyn etholiad nesaf y Cynulliad, neu a ydych yn dweud bod y drws ar agor? Mae'n gwestiwn pwysig iawn i'w ateb, gan fod busnesau a'r cyhoedd yn pryderu ynglŷn â'r mater hwn.
Credaf fod busnesau a'r cyhoedd yn haeddu gwell na chodi bwganod drwy gyfres o gwestiynau damcaniaethol a senarios damcaniaethol, bwganod a godwyd gennych chi ar y meinciau Ceidwadol. Dywedaf yn glir iawn unwaith eto: mae gennym ymrwymiad maniffesto i beidio â chodi trethi incwm yn ystod y Cynulliad hwn—nid oes gennym unrhyw gynlluniau i wneud hynny.
Fe ateboch chi'r cwestiwn hwnnw heb ddefnyddio 'prosiect ofn', neu roeddwn yn gallu clywed yr ymadrodd hwnnw'n dod o ochr arall y Siambr. Croesawaf yr ymrwymiad hwnnw, Weinidog, a gwn fy mod wedi bod yn sôn am hyn ers peth amser bellach, ond rwyf wedi gofyn y cwestiwn ichi am ei fod yn bwysig iawn i'r cyhoedd. Mae pobl yn dechrau dod ataf, ac maent yn poeni. Credaf fod pobl yn dechrau sylwi ar y newid enfawr hwn mewn datganoli sy'n digwydd i Gymru. Mae'r llenyddiaeth wedi'i rhoi i drethdalwyr yng Nghymru yn ddiweddar i ddweud y bydd y dreth incwm bellach yn rhan o flwch offer Llywodraeth Cymru o ran ymdrin â phenderfyniadau economaidd. A allech roi'r newyddion diweddaraf inni am y broses o roi'r wybodaeth ddiweddaraf i bobl? Gwn fod y llythyrau wedi mynd drwy ddrysau pobl. A ydych wedi cael rhagor o ohebiaeth eich hun ar y mater hwn? Ac a oes unrhyw aelodau o'r cyhoedd wedi mynegi pryderon neu ofyn cwestiynau i Awdurdod Cyllid Cymru ynglŷn â sut y mae'r broses yn mynd rhagddi?
Diolch yn fawr iawn am eich cwestiwn. Wrth gwrs, CThEM yn hytrach nag Awdurdod Cyllid Cymru sy'n gweinyddu'r dreth benodol hon. Maent wedi cael nifer o ymholiadau gan bobl yng Nghymru. Roedd y daflen a'r llythyr a ddosbarthwyd yn cynnig cyfle i bobl gael gwasanaethau yn y Gymraeg. Felly, cawsant 126 o geisiadau i gael eu gwasanaeth yn y Gymraeg. Rydym wedi derbyn nifer fach iawn o alwadau ffôn a negeseuon e-bost—llai nag 20—ar y mater penodol hwn. Mae gennym raglen gynhwysfawr o gyfathrebiadau â threthdalwyr o ran rhoi gwybod iddynt beth y mae cyfraddau treth incwm Cymru yn ei olygu, ac wrth gwrs, yr hyn nad ydynt yn ei olygu.
Felly, rydym wedi cynnal arolygon i sefydlu llinell sylfaen i weld beth yw dealltwriaeth pobl o hyn, a byddwn yn gwneud rhagor o waith ar hyn maes o law. Ond wrth gwrs, mae gennym ein gwefannau newydd a'r don gyntaf o ymgyrch wyth wythnos ar y cyfryngau cymdeithasol—byddwn yn gwneud mwy o hynny hefyd—gan ei bod yn wirioneddol bwysig bellach fod gennym y cyfle hwn i sefydlu perthynas newydd â phobl Cymru o ran sut y maent yn deall bod y trethi a dalant yn gwneud cyfraniad ystyrlon iawn i'r gwaith a wnawn yma yn y Cynulliad.
Llefarydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch, Llywydd. Ar yr unfed ar ddeg o'r mis yma, mi atebodd y Gweinidog ddau gwestiwn ysgrifenedig a gafodd eu cyflwyno gen i ynglŷn â Barnett consequentials i Gymru yn sgil pecyn cyllido'r 10 Rhagfyr ar gyfer prosiect Crossrail. Mi ddywedwyd mewn ymateb i mi fod trafodaethau'n parhau rhwng swyddogion y Llywodraeth—swyddogion Llywodraeth Cymru, felly—a swyddogion Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Oes yna ddiweddariad i ni gan y Llywodraeth am y trafodaethau hynny?
Diolch yn fawr iawn am godi hyn. Yn anffodus, nid oes gennyf ddiweddariad pellach y tu hwnt i'r ffaith bod trafodaethau yn mynd rhagddynt ar hyn o bryd rhwng swyddogion Trysorlys ei Mawrhydi a swyddogion Llywodraeth Cymru mewn perthynas â'r buddsoddiad Crossrail a pha symiau canlyniadol posibl a allai ddod i Gymru. Rydym yn aros am ragor o fanylion gan y Trysorlys. Mae'n rhaid imi ddweud ei bod yn anodd iawn cael atebion amserol gan y Trysorlys ar hyn o bryd, ond cyn gynted ag y cawn unrhyw wybodaeth bellach, wrth gwrs, byddwn yn ei rhannu gyda'r Aelodau.
Rhoddwyd ateb i fy nghymar Seneddol, Jonathan Edwards AS, a ofynnodd gwestiwn tebyg iawn i fy un i i Lywodraeth y DU. Cafodd yr ymateb hwn:
Gan fod y Llywodraeth yn darparu benthyciad i Awdurdod Llundain Fwyaf, caiff hyn ei drin fel proses hirdymor o ailbroffilio cyllideb yr Adran Drafnidiaeth. Mae'r Gweinyddiaethau Datganoledig... wedi cael cynnig symiau canlyniadol Barnett yn sgil ailbroffilio'r Adran Drafnidiaeth, a'r Gweinyddiaethau Datganoledig unigol sydd i benderfynu a ydynt yn derbyn y cynnig hwn ai peidio.
A allwch gadarnhau bod y cynnig wedi'i wneud? Beth oedd natur y cynnig a wnaed? A oedd amodau ynghlwm wrtho? Ai'r ffaith bod amodau ynghlwm wrtho sy'n arafu penderfyniad gan Lywodraeth Cymru, ac oni ddylai hyn fod yn flaenoriaeth i weld ffynhonnell newydd bosibl o arian fel ffordd o fuddsoddi mewn trafnidiaeth—buddsoddiad y mae ei daer angen?
Fel y dywedaf, mae'r trafodaethau hynny'n parhau o ran sut y gellid defnyddio unrhyw symiau canlyniadol posibl yng Nghymru a thros ba gyfnod o amser—pa un a fyddai angen ailbroffilio ein gwariant cyfalaf presennol er mwyn gwneud hynny. Ond byddaf yn ymdrechu i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ynglŷn â hyn cyn gynted ag y gallaf.
Gwyddom fod gwariant ar y seilwaith trafnidiaeth yng Nghymru yn bell ar ei hôl hi, yn sicr o gymharu â de-ddwyrain Lloegr ac ardal Llundain, ac yn wir, pe bai gwariant cyfalaf yma yng Nghymru wedi dal i fyny gyda gwariant cyfalaf y pen yn ne-ddwyrain Lloegr a Llundain, byddai £5.6 biliwn yn ychwanegol wedi'i wario yma yng Nghymru dros yr 20 mlynedd diwethaf. Nawr, yn fy marn i, mae hwnnw'n £5.6 biliwn a gollwyd. A fyddech yn cytuno bod hon yn enghraifft glasurol o Lywodraeth y DU yn tanariannu Cymru? A fyddech yn cytuno i'w gwneud yn flaenoriaeth i weld a oes ffynhonnell o arian yma? Ac a fyddech, efallai, yn ystyried bod hyn yn dangos methiant Llywodraeth Cymru i atal y bwlch hwnnw rhag cynyddu dros yr 20 mlynedd ers ichi ddod i rym ym 1999?
Buaswn yn awgrymu nad yw cymharu gwariant rhwng Cymru a Llundain a de-ddwyrain Lloegr yn gymhariaeth arbennig o gywir i'w gwneud, o reidrwydd. Fel arfer, pan fyddwch yn gwneud cymariaethau, gwneir hynny â rhannau eraill o'r DU sy'n gymharol debyg o ran poblogaeth ac incwm y pen a phethau felly.
Rydym yn gwneud buddsoddiad sylweddol iawn ledled Cymru o ran buddsoddi cyfalaf. Fe fyddwch yn gwybod am y cynlluniau sydd gennym ar gyfer y bargeinion dinesig, bargen twf gogledd Cymru; rydym yn awyddus iawn i weld pa gynnydd pellach y gallwn ei wneud ar hynny. Wrth gwrs, y llynedd, ym mis Mai yn unig, fe gyhoeddom ni £266 miliwn o fuddsoddiadau cyfalaf newydd ochr yn ochr â chyhoeddi adolygiad canol cyfnod y cynllun buddsoddi yn seilwaith Cymru. Ac yn amlwg, mae ein cyllideb, a basiwyd gennym yn ddiweddar drwy'r Cynulliad, yn adeiladu ar hynny. Felly, mae gennym fuddsoddiad o £60 miliwn ychwanegol ar gyfer adnewyddu ffyrdd, £78 miliwn ychwanegol ar gyfer y gronfa trafnidiaeth leol, bron i £43 miliwn dros ddwy flynedd ar ddepo trenau Ffynnon Taf, buddsoddiad o £35 miliwn yn y grant tai cymdeithasol a £25 miliwn i greu saith canolbwynt strategol yn Nghymoedd de Cymru yn unol â gwaith ein tasglu gweinidogol ar Gymoedd de Cymru. Felly, rydym yn sicr yn gwneud buddsoddiad cyfalaf o bwys yma yng Nghymru.
Llefarydd UKIP, Neil Hamilton.
Diolch, Lywydd. Tybed a oedd y Gweinidog yn ystyried bod cymryd cyfrifoldeb am gymhlethdodau cyllid llywodraeth leol yn y blynyddoedd i ddod yn un o nodweddion atyniadol ei swydd newydd, ac a yw'n cytuno â mi fod y fformiwla ariannu ar gyfer llywodraeth leol i'w gweld wedi dyddio bellach a bod angen ei diwygio. Yn benodol, un o'i diffygion yw ei bod hi'n ymddangos bod y mecanwaith sy'n rhan ohoni yn gorfodi cynghorau i godi'r dreth gyngor bron bob blwyddyn. Mae Llywodraeth Cymru yn rhagfynegi gwariant cynghorau dros y flwyddyn nesaf, ac mae rhagfynegiad o angen mwy yn arwain at grant bloc mwy. Mae'r rhagfynegiad o angen yn seiliedig ar wariant cynghorau dros y blynyddoedd blaenorol, felly os oes gennych hanes blaenorol o drethi cyngor uchel, byddwch yn cael mwy o arian; os oes gennych drethi cyngor is, rydych yn cael llai o arian. Felly, mae angen i gynghorau gynyddu'r dreth gyngor bob blwyddyn i sicrhau amcangyfrifon uwch o angen ariannol a grantiau uwch gan Lywodraeth Cymru. Felly, nid oes unrhyw gymhelliad o gwbl yn y fformiwla ar hyn o bryd i gynghorau lleol gael gwell gwerth am arian neu gwtogi eu gwariant. Yr hyn sydd angen inni ei wneud yw cael fformiwla sy'n cael gwared ar y fath hurtrwydd.
Diolch am eich cwestiwn. Mae arnaf ofn fy mod am eich siomi yn awr a rhoi gwybod i chi mai Julie James a gafodd hyn yn ei phortffolio. Fodd bynnag, yn amlwg, mae gennyf ddiddordeb mawr mewn sicrhau ein bod yn ariannu llywodraeth leol yn briodol yma yng Nghymru, a dyna pam y mynychais yr is-grŵp cyllid gyda Julie James yn ddiweddar iawn. Mae'r is-grŵp cyllid yn dwyn arweinwyr awdurdodau lleol, comisiynwyr heddlu a throseddu ac eraill ynghyd i drafod materion penodol, megis fformiwla ariannu'r setliad llywodraeth leol.
Fe ddywedaf hefyd ein bod wedi dweud yn glir yn y cyfarfod hwnnw fod Julie James a minnau yn agored iawn i syniadau eraill. Os yw awdurdodau lleol yn teimlo, ar y cyd drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, nad yw'r fformiwla hon yn gweithio iddynt hwy a'u bod yn awyddus i gynnig syniadau eraill ynglŷn â sut y gellid gwella pethau, yna yn sicr, byddem yn awyddus i archwilio unrhyw syniadau sydd ganddynt i'w cynnig i ni.
Mae'n flin gennyf fy mod wedi camddeall cymhlethdodau'r broses o newid portffolios o fewn y gweinyddiaethau yn ogystal â rhyngddynt, ond mae codiadau yn y dreth gyngor yn arwain at feichiau anferthol ar unigolion, ac yn wir, ar fusnesau. Mae'r band cyfartalog ar gyfer y dreth gyngor wedi mwy na threblu yng Nghymru ers 1997 ac wedi cynyddu ddwywaith a hanner ers creu'r Cynulliad. Mae hyd yn oed cyn-brif swyddog gweithredol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Steve Thomas, wedi dweud:
Y gwir amdani yw bod y fformiwla fel y mae ar hyn o bryd wedi'i dal at ei gilydd gan dâp gludiog a phlasteri
ac na all barhau. Mae angen inni gael adolygiad brys o gyllid awdurdodau lleol ac ailystyried y cysylltiad rhwng rhagfynegiadau Llywodraeth Cymru o angen awdurdodau lleol a chyfraddau'r dreth gyngor dros y blynyddoedd blaenorol, a ymgorfforir yn y fformiwla. Fel y Gweinidog cyllid, wrth gwrs, mae'n rhaid bod y Gweinidog yn elfen ganolog mewn unrhyw newid a allai ddigwydd yn y dyfodol. Felly, hoffwn gael rhyw syniad i ba raddau y mae Llywodraeth Cymru yn ystyried hyn yn flaenoriaeth. Nid yw'n rhywbeth y gellir ei ateb dros nos, ac efallai y bydd yn cymryd sawl blwyddyn i sicrhau newid ystyrlon. Felly, a ydym am weld unrhyw symud tuag at wneud rhyw fath o ddiwygio yn ystod tymor y Cynulliad hwn?
Diolch am eich cwestiwn. Dywedais yn glir wrth yr is-grŵp cyllid fod gennyf ddiddordeb cadarn ac uniongyrchol iawn yn yr agenda hon. Felly, er y byddai gan Weinidog cyllid slot ar eu hagenda fel arfer, rwyf wedi dweud yn glir y buaswn yn awyddus i fod yn rhan o'r broses gyfan, i glywed â fy nghlustiau fy hun y math o bwysau sydd ar awdurdodau lleol, a'r math o syniadau sydd ganddynt am bethau a allai leddfu'r pwysau difrifol sydd arnynt. Credaf ei bod yn deg dweud, pan gyflwynwyd y ddadl ar y setliad llywodraeth leol gan Julie James, ei bod wedi dweud yn glir iawn nad oedd yn bwriadu gwerthu'r setliad fel setliad rhagorol i awdurdodau lleol; pwysleisiodd y ffaith ein bod bellach yn byw yn y nawfed mlynedd o gyni, a bod pwysau enfawr ar bob rhan o'r Llywodraeth. Fe wnaeth yr holl bwyntiau ynglŷn â'r ffaith bod cyllid Llywodraeth Cymru gymaint yn llai, mewn termau cymharol, na'r hyn ydoedd ddegawd yn ôl.
Dosberthir yr arian craidd a ddarparwn ar hyn o bryd i awdurdodau lleol, fel y gŵyr yr Aelod, yn ôl angen cymharol, gan roi ystyriaeth i fformwla sy'n cynnwys toreth o wybodaeth, megis nodweddion demograffig, ffisegol, economaidd a chymdeithasol yr awdurdodau lleol hynny, ac mae hefyd yn ystyried eu gallu i godi eu harian eu hunain—drwy'r dreth gyngor, er enghraifft. Mae newidiadau cynyddrannol wedi eu gwneud i'r fformiwla dros y blynyddoedd. Felly, dros 2017-18 a 2018-19, gwnaed newidiadau sylweddol i'r fformiwla ariannu mewn gwirionedd, er mwyn ystyried y costau ychwanegol yn sgil amseroedd teithio hwy mewn ardaloedd cymharol denau eu poblogaeth, er enghraifft. Felly, fel y dywedaf, mae'r Gweinidog a minnau'n awyddus iawn i wrando ar syniadau a fyddai'n cael eu cynnig gan awdurdodau lleol.
Un nodwedd y mae angen ei hystyried yn fy marn i yw, pan edrychwch ar y cynghorau sydd wedi cael cynnydd yn eu cyllid yn fwyaf diweddar, mae llawer ohonynt wedi gweld cynnydd sylweddol yn eu cronfeydd wrth gefn. Felly, mae hwn yn arian y gellid ei wario ar wasanaethau cyhoeddus ond fe'i cedwir mewn cyfrifon banc ac nid yw ar gael ar gyfer mynd i'r afael â'r problemau cyfredol. Mae gan Rondda Cynon Taf, er enghraifft, swm syfrdanol o £152 miliwn yn eu cronfeydd wrth gefn, i fyny o £148.9 miliwn yn y flwyddyn flaenorol. Mae gan Dorfaen bron i £30 miliwn yn eu cronfeydd wrth gefn, i fyny o £24 miliwn, ac mae Castell-nedd Port Talbot i fyny i £76 miliwn o £65 miliwn. Felly, does bosibl na ddylid cael rhyw fath o reolaeth ar gynghorau rhag cadw gormod o'r arian sydd ar gael iddynt mewn cronfeydd wrth gefn. Wedi'r cyfan, mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi beirniadu cynghorau cymuned yn ddiweddar am gronfeydd wrth gefn a oedd wedi codi i £38.7 miliwn yng Nghymru erbyn mis Ebrill 2018. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog cyllid yn cefnogi fy ngalwad i ailystyried rôl cronfeydd wrth gefn mewn perthynas â setliad y grant bloc.
Wel, yn amlwg, bydd yn rhaid i arweinwyr cynghorau reoli eu cyllidebau yn effeithiol, ond o fewn y cronfeydd wrth gefn hynny, yr hyn nad yw efallai'n gwbl amlwg bob amser o'r ffigurau llinell uchaf, yn sicr, yw y bydd llawer ohono, neu ganran benodol ohono, eisoes wedi'i ymrwymo ar gyfer nifer o brosiectau—prosiectau adeiladu ysgolion ac ati. Felly, credaf ei bod yn bwysig archwilio'r ffigurau'n fanylach er mwyn cael darlun mwy cyflawn o'r cynlluniau sydd gan yr awdurdod lleol ar gyfer y cronfeydd wrth gefn hynny.
3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyraniadau'r gyllideb i'r portffolio tai a llywodraeth leol mewn perthynas â rhwydwaith y swyddfeydd post? OAQ53319
Rydym yn cydnabod pwysigrwydd swyddfeydd post lleol i'r gwaith o wasanaethu ein cymunedau. Er nad yw'r cyfrifoldeb am rwydwaith y swyddfeydd post wedi'i ddatganoli, rydym yn parhau i wneud sylwadau i Lywodraeth y DU ynglŷn â'n pryderon mewn perthynas â chau swyddfeydd post.
Yn ystod y mis diwethaf, rydym wedi colli tair cangen banc yn y Rhondda. Cyhoeddodd Barclays eu bod yn cau eu canghennau yn Nhonypandy a Glynrhedynog, ac yn fwy diweddar, mae Santander wedi cyhoeddi y byddant yn cau eu cangen yn Nhonypandy hefyd. Golyga hyn nad oes unrhyw gangen banc yn y Rhondda Fach bellach. Nawr, mae'n amlwg i mi, yn sgil y rhaglen ddidrugaredd hon gan y banciau corfforaethol i gau canghennau, y bydd swyddfeydd post yn mabwysiadu lefel uwch o bwysigrwydd. Yn y gorffennol, roedd gennym y gronfa arallgyfeirio swyddfeydd post. Roedd honno'n elfen allweddol o Lywodraeth Cymru'n Un Plaid Cymru-Llafur a oedd yn dyfarnu grantiau i swyddfeydd post i wneud y busnesau hynny'n fwy cynaliadwy. Pe gallem amddiffyn a chryfhau rhwydwaith y swyddfeydd post, gallai hynny sicrhau nad yw cysylltiad pobl a chymunedau â gwasanaethau ariannol yn cael ei dorri'n llwyr. Felly, yng ngoleuni hyn, a wnewch chi ystyried rhyddhau arian i ailgychwyn cronfa o'r fath?
Diolch am godi hynny. Yn yr hinsawdd sydd ohoni, mae arnaf ofn nad oes cyllid ar gael i ni ymgymryd â gwaith y dylai Llywodraeth y DU fod yn ei wneud. Mae gan Lywodraeth y DU raglen drawsnewid rhwydwaith gwerth £2 biliwn i foderneiddio'r swyddfeydd post hynny. Mae'n debyg iawn i'r hyn a wnaethom o'r blaen drwy'r gronfa arallgyfeirio. Gall swyddfeydd post yng Nghymru wneud cais i'r gronfa honno, ac yn sicr, buaswn yn eu hannog i wneud hynny.
Roeddwn yn siomedig gyda dechrau'r ateb hwnnw, mae'n rhaid imi ddweud, Drefnydd. Gyda chymaint o fanciau'n cau, rydym yn dibynnu ar swyddfeydd post bellach i gael mynediad at arian parod. A allwch egluro pa un a yw swyddfeydd post yn codi tâl ar fanciau am y gwasanaeth y gall pobl ei ddefnyddio yno, neu o bosibl, a godir tâl y ffordd arall? Ai'r swyddfeydd post sy'n codi tâl ar y banc neu ai'r banc sy'n codi tâl ar y swyddfeydd post? Ac a oes unrhyw wahaniaeth yn y costau hynny yn dibynnu ar ble y lleolir y swyddfeydd post hynny? Fel y clywsom yn ddiweddar, mae cyfradd wahaniaethol dan ystyriaeth bellach ar gyfer rhwydwaith peiriannau ATM Link, gydag ardaloedd mwy difreintiedig a gwledig yn gweld taliadau llai rhwng y ddau sefydliad na chanol dinasoedd o bosibl. Ond gallai hynny fod yn anghymhelliad neu'n gymhelliad i swyddfeydd post, yn dibynnu ar ble y maent. Yn amlwg, rwy'n derbyn mai pwerau cyfyngedig sydd gan Lywodraeth Cymru yn y maes hwn, ond wrth bennu pa swyddfeydd post y gallech eu cefnogi drwy eich polisïau cynhwysiant ariannol, sut rydych yn sganio'r gorwel am fygythiadau newydd i fynediad at arian parod wrth benderfynu pa swyddfeydd post y gallech eu cefnogi?
Diolch yn fawr iawn am godi hynny. Wrth gwrs, mae rheoleiddio banciau a rhwydwaith y swyddfeydd post yn gyfrifoldebau i Lywodraeth y DU, ac rydym wedi dweud yn glir iawn dro ar ôl tro fod angen i Lywodraeth y DU fabwysiadu ymagwedd fwy cydlynol a strategol tuag at fancio cymunedol. Rydym yn credu bod gan bob banc, pan fyddant yn gadael cymuned, gyfrifoldeb i'r cwsmeriaid sy'n aml wedi bod yn deyrngar i'r banc hwnnw ers degawdau, mewn llawer o achosion.
Gwyddom y bydd chwe banc rydym yn ymwybodol ohonynt yn cau yn ddiweddarach eleni, gan gynnwys yr un a grybwyllwyd eisoes yn Nhonypandy, a dyna un o'r rhesymau pam fod gennym ddiddordeb mewn archwilio'r syniad o fanc cymunedol i Gymru. Felly, rydym wedi cynnal rhai trafodaethau cychwynnol gyda nifer o randdeiliaid sy'n awyddus i archwilio dichonoldeb sefydlu'r banc cymunedol hwnnw yng Nghymru. Bydd y gwaith hwnnw'n cael ei arwain gan bartneriaid a fydd yn paratoi asesiad llawn o'r farchnad a chynllun busnes gyda'r bwriad o'i gyflwyno wedyn i Fanc Lloegr fel cais yn ddiweddarach eleni. Bydd gweithwyr bancio proffesiynol sy'n gweithio ym Manc Datblygu Cymru yn cefnogi'r gwaith, gan ddarparu cyngor a chyfarwyddyd lle bo'n briodol a sicrhau bod y broses o greu banc cymunedol yn integreiddio â sefydliadau ariannol sy'n bodoli eisoes, gan gynnwys, er enghraifft, Banc Datblygu Cymru a'r undebau credyd. Mae'r undebau credyd yn arbennig yn rhan bwysig iawn o'r cynhwysiant ariannol hwnnw yr oedd yr Aelod yn sôn amdano.
4. A wnaiff y Gweinidog nodi polisi Llywodraeth Cymru mewn perthynas â datblygu mesurau trethiant? OAQ53314
Bydd polisi treth Cymru yn cael ei ddatblygu yn unol â'r egwyddorion a amlinellir yn ein fframwaith polisi trethi. Byddaf yn mabwysiadu ymagwedd ystyriol, yn ceisio codi refeniw'n deg, ac yn ymgysylltu'n eang â threthdalwyr a rhanddeiliaid eraill.
Weinidog, mae pwerau trethu yn rhoi cyfle i gyflwyno newid i'r system drethi er mwyn helpu i greu Cymru decach a mwy cyfartal. Ar hyn o bryd, mae ysgolion preifat yn cynnal annhegwch ac anghydraddoldeb sefydliadol, ac yn gweithio yn erbyn symudedd cymdeithasol drwy atgyfnerthu anghydraddoldeb addysgol sy'n bwydo drwodd i yrfaoedd a chyfleoedd bywyd, gyda nifer anghymesur o gyn-ddisgyblion ysgolion preifat yn cyrraedd y brig mewn nifer o broffesiynau a busnesau. A wnewch chi roi ystyriaeth ofalus i roi diwedd ar y manteision treth a ddaw yn sgil statws elusennol ysgolion preifat er mwyn hyrwyddo cydraddoldeb o ran cyfleoedd a chanlyniadau yng Nghymru?
Diolch yn fawr iawn am eich cwestiwn. Wrth gwrs, tegwch yw ein hegwyddor bwysicaf o ran yr egwyddorion trethu sy'n ein llywio wrth inni ddatblygu ein polisi treth yng Nghymru. Gallaf gadarnhau fy mod yn bwriadu ymgynghori dros y 12 mis nesaf ar gynigion i sicrhau bod ysgolion annibynnol ac ysbytai preifat ar sail gyfartal â'u cymheiriaid yn y sector cyhoeddus mewn perthynas â thalu ardrethi annomestig. Bydd yr ymgynghoriad yn ystyried diddymu rhyddhad ardrethi elusennol oddi ar ysgolion preifat ac ysbytai preifat os ydynt wedi'u cofrestru fel elusennau. Mae'n rhaid i ysgolion ac ysbytai gwladol, wrth gwrs, dalu ardrethi annomestig, fel pob talwr ardrethi arall, ac mae'n gyfraniad pwysig at gost y gwasanaethau lleol hanfodol a ddarperir yn ein cymunedau. Felly, mae hyn yn arwain at y cwestiwn ynghylch cydraddoldeb, a grybwyllwyd gennych, ochr yn ochr â thegwch—os byddwn yn newid cymhwystra'r sefydliadau hyn o ganlyniad i'r ymgynghoriad, bydd hynny'n eu rhoi ar sail gyfartal ag ysgolion ac ysbytai gwladol.
A fyddech yn cytuno, Weinidog, fod yn rhaid i bolisi Llywodraeth Cymru o ran cyfraddau treth incwm Cymru gynnwys ymrwymiad i ddarparu canllawiau cynhwysfawr a hygyrch i drethdalwyr Cymru, ac a allwch gadarnhau y bydd canllawiau'n cael eu darparu ar wefannau megis rhai Llywodraeth Cymru ac Awdurdod Cyllid Cymru?
A fy mhwynt arall, Weinidog: os yw pobl sy'n byw yn ne-ddwyrain Cymru yn gweithio dros y ffin—gwyddom fod un unigolyn yn y Siambr hon yn byw yn Lloegr ac maent yma yn y rhan hon o'r byd—felly os oes gwahaniaeth mewn trethi rhwng y ddau ranbarth, y ddwy wlad, lle mae'r budd ar gyfer y dreth? A fydd modd iddo ef neu hi wneud cais a mynd am eu man preswylio yn hytrach na lle maent yn ennill yr arian?
Gallaf gadarnhau y bydd y rhan fwyaf o bobl yn talu trethi yn eu man preswylio. Fodd bynnag, mae eithriad yn y rheolau sy'n golygu y bydd holl Aelodau'r Cynulliad yn talu cyfraddau treth incwm Cymru ni waeth ble maent yn byw. Byddaf yn cadarnhau y bydd rhaglen gyfathrebiadau gynhwysfawr ar waith i sicrhau bod pobl yn gwbl ymwybodol o gyfraddau treth incwm Cymru a beth y gallai hynny ei olygu iddynt hwy, ac yn amlwg, i allu cael atebion i unrhyw gwestiynau sydd ganddynt.
5. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Trysorlys ynghylch ailddyrannu unrhyw arian gan neu i'r UE pan fydd y DU yn ymadael â'r UE? OAQ53310
Gyda fy swyddogion, rwyf mewn cysylltiad rheolaidd â Gweinidogion Trysorlys y DU mewn perthynas ag amrywiaeth o faterion ariannol, gan gynnwys trafod goblygiadau'r sefyllfa bresennol o ran effaith Brexit ar wariant cyhoeddus a'n cyllideb.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Yn amlwg, mae llawer ohonom wedi sôn lawer gwaith am y gronfa ffyniant gyffredin, gan na wyddom beth ydyw nac o ble y daw, ond mae'r gronfa honno'n canolbwyntio ar gronfeydd strwythurol Ewropeaidd ac arian y gronfa datblygu rhanbarthol. Y cwestiwn sydd gennyf yw hwn: a oes cronfeydd eraill yn Ewrop sy'n dod i sefydliadau yn y wlad hon? Rhoddaf enghraifft—codwyd hyn gyda'r grŵp trawsbleidiol ar ddur yr wythnos diwethaf—y gronfa ymchwil ar gyfer glo a dur, sydd mewn gwirionedd yn ariannu ymchwil ar ardaloedd dur i sicrhau bod gennym ddiwydiant dur cynaliadwy ar gyfer y dyfodol, rhywbeth sy'n hanfodol i economi Cymru. Pan ofynasant y cwestiwn hwn i'r Trysorlys, dywedwyd wrthynt, yn y bôn, 'Bydd yn mynd yn ôl i'r pot', ac na fyddai'n cael ei glustnodi ar gyfer unrhyw beth, felly efallai na chawn gronfa ymchwil wedi'i chlustnodi ar gyfer dur a glo. Pan fyddwch yn cyfarfod â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys, a allwch godi'r mater fod unrhyw arian a ddaw yn ôl o Ewrop, neu a fyddai wedi'i ddyrannu i Ewrop ar gyfer pynciau penodol mewn ardaloedd penodol, yn parhau i fod yno iddynt fel y gallwn elwa o hynny? Oherwydd mae colli oddeutu £200 miliwn i £400 miliwn o gyllid hygyrch ar gyfer ymchwilio i ddur yn golled enfawr i'r wlad hon.
Yn sicr, ac mae'r Aelod yn ymwybodol iawn ein bod wedi cael addewid na fyddai Cymru'n colli'r un geiniog yn sgil Brexit, ac mae'n gwbl hanfodol ein bod yn dal Llywodraeth y DU at yr ymrwymiad hwnnw. Mae David Rees yn iawn: ceir cryn dipyn o ffocws ar y gronfa ffyniant gyffredin oherwydd ei phwysigrwydd i'n cymunedau, a'r buddsoddiad a wna, ond rydym yn elwa o gymaint o raglenni a chronfeydd eraill—felly, mae'r rhaglen ymchwil i ddur, a grybwyllwyd, yn un ohonynt, ond nifer o raglenni llai yn ogystal. Ac mae gwir angen inni sicrhau ein bod yn parhau i gael mynediad at amrywiaeth eang o raglenni, amrywiaeth eang o rwydweithiau, a'r ystod eang o gronfeydd arloesi sydd gennym ar hyn o bryd. Byddaf yn sicr yn pwysleisio hynny, fel y gwn y bydd fy nghyd-Aelod, y Gweinidog Brexit, yn y cyfarfodydd y mae'n eu mynychu'n rheolaidd iawn, a chyfarfodydd rheolaidd iawn, bellach, y Prif Weinidog gyda Phrif Weinidog y DU.
Ysgrifennydd cyllid, pa ddefnydd a wnaethoch o'r £31 miliwn a ddarparwyd gan y Trysorlys i Lywodraeth Cymru ar gyfer parodrwydd mewn perthynas â Brexit? Mae'r arian hwn wedi eich cyrraedd, ond pan holaf wahanol Weinidogion mewn sesiynau cwestiynau, maent yn edrych yn syn wrth glywed bod yr arian hwn yn llifo drwy Lywodraeth Cymru. Felly, a allwch ddweud yn benodol beth y mae'r £31 miliwn hwnnw wedi'i gyflawni, os gwelwch yn dda?
Diolch yn fawr iawn am eich cwestiwn ar gyllid parodrwydd ar gyfer Brexit. Wrth gwrs, rydym wedi cyflwyno'r gronfa £50 miliwn ar gyfer parodrwydd ar gyfer Brexit ac mae Gweinidogion portffolio wedi gwneud nifer o ddatganiadau ynglŷn â sut y mae'r arian hwnnw wedi'i wario. Er enghraifft, yn ddiweddar, cyhoeddwyd cynllun cydnerthedd partneriaeth yr heddlu, cynllun cymorth Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru ar gyfer Brexit, a pharatoadau ar gyfer y trefniadau olynol ar gyfer y cynlluniau UE hynny, megis beth a ddaw'n gronfa ffyniant gyffredin ac ati.
Mae £10 miliwn arall o fewn y £31 miliwn hwnnw o gyllid nad yw wedi'i ddyrannu eto. Rwy'n trafod ar hyn o bryd gyda'r Prif Weinidog a swyddogion ar draws y Llywodraeth gyda'r bwriad o wneud cyhoeddiad pellach ynglŷn â sut y caiff yr arian hwnnw ei wario, ond mae'r drafodaeth honno'n mynd rhagddi ar hyn o bryd.
Tynnaf sylw'r Aelodau at fy nghofrestr buddiannau, fel cadeirydd pwyllgor monitro'r rhaglen sy'n ymwneud â chyllid Ewropeaidd. A gaf fi gytuno â'r sylwadau a wnaed gan David Rees, fy nghymydog yn etholaeth Aberafan a Chadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar y llinellau coch a dynnwyd gan y Llywodraeth, o ran y cyllid yn ei gyfanrwydd, a allai fod yn fwy, mewn gwirionedd, yn ôl yr hyn a ddeallwn, yn seiliedig ar gyfrifiadau presennol yr UE, na'r £680 miliwn presennol a ddylai ddod i Gymru, ond hefyd y dulliau ar gyfer gwneud y penderfyniadau ynglŷn â sut y dyrannwn ac y dosbarthwn yr arian hwnnw, efallai mewn ffordd wahanol, ar ôl Brexit hefyd? Ymddengys bod mwy a mwy o frys ar ôl y bleidlais neithiwr, unwaith eto.
Fel arfer, mae'r Trysorlys yn tueddu i fod—ar hyn o bryd, yn sicr—yn geidwadol yn ariannol, ond ceidwadol gydag 'c' fach o ran eu hymagwedd tuag at ddatganoli hefyd. Felly, a gaf fi ailbwysleisio'r pwynt a wnaeth David, sef: pa drafodaethau y mae hi a'i swyddogion yn eu cael gyda swyddogion y Trysorlys, sef y rhai, yn y pen draw, a fydd yn eistedd o amgylch bwrdd y Cabinet, nid yn unig i helpu i ddylanwadu ond hefyd i wneud y penderfyniad ynglŷn ag a fydd llinellau coch Llywodraeth Cymru yn cael eu parchu, a bod yr arian yn cael ei basio'n ôl i Gymru yn ogystal â'r grym i wneud fel y dymunwn ag ef?
Diolch yn fawr iawn am godi'r pwynt pwysig nad swm yr arian yn unig sy'n bwysig, er bod hynny'n amlwg yn bwysig—ond sut y caiff yr arian hwnnw ei ddarparu inni i'w ddyrannu yn unol â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Ni allwn weld 20 mlynedd o ddatganoli yn cael eu dad-wneud drwy ymdrechion gan Lywodraeth y DU i gipio grym yn y maes hwn. Mae cynigion megis senario debyg i fargen ddinesig ar gyfer defnyddio'r arian hwnnw yn hollol amhriodol.
Nid oes rôl yma i Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Mae hwn yn arian y mae angen i Lywodraeth Cymru ei ddyrannu i gyd-fynd â'n blaenoriaethau yn ein cymunedau, gan fod gennym y wybodaeth leol, y ddealltwriaeth a'r rhwydweithiau angenrheidiol i sicrhau ein bod yn gwneud defnydd effeithiol o gyllid o'r fath yma yng Nghymru.
Rydym wedi dweud yn glir iawn fod yn rhaid cynyddu llinell sylfaen grant bloc Llywodraeth Cymru bob blwyddyn yn unol â lefel y cyllid a gawn gan yr UE bob blwyddyn ar hyn o bryd, heb unrhyw adfachu neu frigdorri'r cyllid hwnnw chwaith. Dywedaf ar goedd eto ein bod yn teimlo'n rhwystredig iawn oherwydd y diffyg manylion gan Lywodraeth y DU ynglŷn â'r gronfa ffyniant gyffredin.
6. Pryd y gwnaiff y Gweinidog gyhoeddi canllawiau cylch cyflog 2019 ar gyfer cyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru? OAQ53309
Mae canllawiau cylch cyflog 2019 ar gyfer ein cyrff a noddir yn cael eu cwblhau ar hyn o bryd a byddant yn cael eu cyhoeddi erbyn diwedd mis Chwefror.
Weinidog, yn amlwg felly, mae'n rhaid rhoi hyn ar waith o 1 Ebrill ymlaen, a chredaf ei bod yn wirioneddol bwysig eu cyhoeddi cyn gynted â phosibl. Nid yw diwedd mis Chwefror yn rhoi llawer o amser iddynt roi mesurau amrywiol ar waith fel y gallant weithredu'r dyfarniadau cyflog hyn yn effeithiol. A oes unrhyw obaith y gallwch gyflymu'r cyhoeddiad, sydd eisoes yn eithaf hwyr yn y cylch, rwy'n credu, fel y gallant gyflawni hyn yn effeithiol—y cynlluniau ariannol hyn?
Diolch am godi'r mater hwn. Mae datblygu'r canllawiau hynny yn broses iteraidd iawn, felly dylai'r cyrff hynny fod yn cynnal trafodaethau gyda swyddogion yn ystod y broses o ddatblygu'r canllawiau. Yr hyn a ddywedaf yw y gallwn ddisgwyl y bydd y canllawiau'n edrych yn debyg, mewn rhai ffyrdd, i'r canllawiau a gafwyd y llynedd, felly'n adeiladu ar y themâu roeddem yn awyddus i'w datblygu yno. Felly, roedd tryloywder, er enghraifft, yn thema bwysig, yn ogystal ag annog cyrff a noddir i dalu'r cyflog byw go iawn, fel y'i diffinnir gan y Living Wage Foundation, a sicrhau bod datganiadau ar bolisïau tâl yn cael eu cyhoeddi yn unol â'n hymrwymiadau i dryloywder, yn enwedig ynghylch cyflogau uwch swyddogion.
Byddwn yn sicrhau bod y canllawiau'n cefnogi cyflogau teg ac yn edrych yn ffafriol ar gyrff a noddir sy'n talu'r un cyfraddau â Llywodraeth Cymru. Gallaf gadarnhau hefyd nad oes unrhyw fwriad i osod cap ar ddyfarniadau cyflog y sector cyhoeddus, a bydd hyn yn cynnal y dull o weithredu a fabwysiadwyd gennym y llynedd.
7. Pa ystyriaeth a roddodd y Gweinidog i ofal iechyd yng Ngogledd Cymru wrth benderfynu ar gyllideb 2019/20? OAQ53279
Rhoddwyd ystyriaeth i anghenion gofal Cymru gyfan, gan gynnwys gogledd Cymru. Ar gyfer 2019-20, dyrannwyd cyllid o £1.46 biliwn i Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr er mwyn gwella perfformiad, hybu trawsnewid ac integreiddio a chynorthwyo pobl i fyw bywydau iachach ac annibynnol am gyfnod hwy.
Diolch. Fis diwethaf, mynegwyd pryderon gan Ysbyty Iarlles Caer, ysbyty lle mae un o bob pump o'i gleifion yn dod o Gymru, fod cynnydd o 26 y cant wedi bod yn nifer yr achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal ar gyfer ei gleifion o Gymru dros y flwyddyn flaenorol. Ar yr un pryd, bu gostyngiad o 24 y cant ar gyfer cleifion o ochr Lloegr i'r ffin, yr ardal y mae'n ei gwasanaethu, sef dalgylch cleifion gorllewin swydd Gaer. Mynegodd swyddogion bryderon ynghylch cyllid gan Lywodraeth Cymru. Gwadodd Llywodraeth Cymru honiadau nad oeddent yn talu eu cyfran deg. Beirniadodd y Gweinidog iechyd gadeirydd bwrdd yr ymddiriedolaeth yn y cyfryngau. A dywedodd Llywodraeth Cymru fod byrddau iechyd ac awdurdodau lleol yn ymwybodol o'r angen i leihau oedi wrth drosglwyddo gofal a bod cyfradd y gwelliant wedi bod yn amlwg iawn dros y blynyddoedd diwethaf. Wel, yn amlwg, dengys y ffigurau hyn nad oedd hynny'n wir. Felly, yn amlwg, ceir anghytuno rhwng y ddwy ochr ers blynyddoedd lawer, ac mae bellach yn arwain at oblygiadau difrifol i brofiad y cleifion yn sgil y trefniant ariannu. Beth sy'n digwydd, Weinidog? A allwch gadarnhau hynny yn awr neu a allwch ymchwilio i weld beth sy'n digwydd mewn gwirionedd a rhoi gwybod i'r Cynulliad hwn?
Diolch am godi'r mater hwn. Yn sicr ar lefel Cymru gyfan, gwn ein bod yn gweld rhai o'r lefelau isaf o oedi wrth drosglwyddo gofal ers dechrau cadw cofnodion, ond rwy'n derbyn bod yr amgylchiadau a ddisgrifiwch yn unigryw yn yr ystyr ein bod yn sôn am ddarpariaeth drawsffiniol. Nid wyf yn ymwybodol o'r mater, ond yn sicr, byddaf yn cael trafodaethau gyda'r Gweinidog iechyd i archwilio'r mater ymhellach.
8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am argaeledd ystadegau gwladol mewn perthynas â gamblo cymhellol? OAQ53301
Mae ystadegau ar gael eisoes ar gyfer gamblo cymhellol yng Nghymru gan y Comisiwn Hapchwarae. Byddwn yn cynnwys cwestiynau ar hapchwarae fel rhan o arolwg cenedlaethol Cymru yn 2020-1.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Rwy'n croesawu'r ffaith bod cwestiynau sy'n gysylltiedig â hapchwarae wedi'u cynnwys o'r diwedd yn yr arolwg iechyd diwygiedig. Mae'n rhywbeth rydym wedi'i godi flwyddyn ar ôl blwyddyn yn y Siambr hon, felly mae hwnnw'n gam ymlaen. Ond mae angen llawer mwy o ddata mewn gwirionedd o ran yr effaith o fewn addysg, yr effaith ar fyfyrwyr, yr effaith ar iechyd ac ati. Ymddengys i mi nad yw hyn ynddo'i hun yn rhywbeth y gallwn ddibynnu arno, ond mae'n hanfodol fod gennym broses strategol gynhwysfawr o goladu ddata i ddeall beth sy'n digwydd, oherwydd heb y data hwnnw, mae'n amhosibl datblygu strategaethau ar gyfer mynd i'r afael â gamblo cymhellol. Tybed pa strategaethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried o ran y data hwnnw ar hyn o bryd.
Diolch am godi'r mater hwn ac am wneud hynny'n gyson. Gwn eich bod wedi ymgyrchu ers blynyddoedd dros weld y data hwn yn cael ei gasglu, ac rwy'n falch y bydd hynny'n digwydd bellach. Credaf i'r prif swyddog meddygol ddangos yn glir iawn yn ei adroddiad blynyddol sut y mae hapchwarae yn dod yn fater iechyd y cyhoedd y mae angen inni fynd i'r afael ag ef yng Nghymru. Ac i wneud hynny, yn amlwg, mae arnom angen data da ac ystadegau da i lywio ein gwaith. Rydym wedi trefnu bod cwestiynau ar hapchwarae yn cael eu cynnwys yr arolwg rhwydwaith ymchwil o ymddygiad iechyd mewn plant oedran ysgol ac iechyd ysgolion yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Arolwg o blant 11 i 16 oed oedd hwnnw. Mae'r data hwnnw wrthi'n cael ei gasglu a'i ddadansoddi, ac yn amlwg, bydd o gymorth wrth lywio ein ffordd ymlaen hefyd. Bydd ffynonellau eraill o wybodaeth yn bwysig hefyd.
Felly, mae swyddogion yn ystyried canfyddiadau adroddiad a gyhoeddwyd yr wythnos hon ar hapchwarae ac iechyd y cyhoedd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Bangor i helpu i lywio camau gweithredu lleol a chenedlaethol y gallwn eu cymryd yma i atal gamblo cymhellol a'r niwed y mae hynny'n ei achosi ledled Cymru. Yn ogystal â hynny, byddwn yn awyddus i wrando ar bartneriaid pwysig hefyd. Felly, ddydd Llun yr wythnos hon, cyd-gadeiriodd y prif swyddog meddygol, ochr yn ochr â'r Comisiwn Hapchwarae, drafodaeth bwrdd crwn a oedd yn cynnwys amrywiaeth o randdeiliaid allweddol. Yn amlwg, bydd data o'r arolwg cenedlaethol yn cael ei ddefnyddio i'n galluogi i olrhain y cynnydd y gallwn ei wneud o ran mynd i'r afael â niwed sy'n deillio o gamblo cymhellol yng Nghymru.
Ac yn olaf, Darren Millar.
Croesawaf y gwaith sy'n mynd rhagddo i wella argaeledd data ar gamblo cymhellol. Mae'n fater y mae angen inni gymryd camau mwy pendant i fynd i'r afael ag ef. O ran rhai o'r camau eraill y gallech eu cymryd, tybed a allwch ddweud wrthym a roddwyd unrhyw ystyriaeth i'r defnydd o ardrethi busnes fel cyfle i leihau effaith, os mynnwch, y nifer cronnol o siopau sy'n ymddangos ar y stryd fawr leol mewn rhai cymunedau ledled Cymru. Fe fyddwch yn gwybod ein bod wedi mynegi'r pryderon hyn yn y Siambr hon yn y gorffennol, ynglŷn â'r ffaith bod rhai cymunedau, yn enwedig cymunedau difreintiedig yng Nghymru, i'w gweld yn cael eu targedu gan gwmnïau gamblo diegwyddor â gormodedd o siopau betio. A oes unrhyw beth y gallwch ei wneud i gynyddu ardrethi busnes mewn ffordd gosbedigol er mwyn lleihau effaith bosibl siopau o'r fath ar y cymunedau hynny?
Diolch am godi'r mater hwn, ac am dynnu sylw hefyd at yr hyn a nodwyd gan y prif swyddog meddygol yn ei adroddiad, fod y niwed a achosir gan hapchwarae yn anghyfartal iawn o ran ei ddosbarthiad, a bod pobl sy'n economaidd anweithgar, er enghraifft, ac yn byw mewn ardaloedd difreintiedig yn llawer mwy tebygol o ddioddef niwed o ganlyniad i hapchwarae. Byddaf yn sicr o roi ystyriaeth bellach i'r awgrym a wnaethoch heddiw.
Diolch i'r Gweinidog.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Mandy Jones.
1. Beth y mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i ddenu mwy o ddigwyddiadau mawr i Gymru? OAQ53278
Diolch, Llywydd, a diolch, Mandy.
Rydym wedi ymrwymo i adeiladu ar lwyddiant diweddar Cymru wrth gynnal digwyddiadau rhyngwladol mawr. I'r perwyl hwnnw, rydym yn gweithio'n agos gyda phartneriaid yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol i nodi a mynd ar drywydd cyfleoedd newydd i ddenu digwyddiadau chwaraeon a diwylliannol mawr i bob rhan o Gymru.
Diolch am eich ateb. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae Caerdydd wedi bod yn hysbyseb wych i Gymru ledled y byd drwy gynnal digwyddiadau mawr. Mae'r digwyddiadau yn gyfle perffaith i arddangos popeth sydd gan Cymru i'w gynnig a hybu twristiaeth yn ystod y digwyddiad. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu efelychu llwyddiant Caerdydd mewn rhannau eraill o Gymru, gan gynnwys yn fy rhanbarth i?
Wel, diolch. Rwy'n siŵr y byddwch yn falch o glywed ein bod wedi gwario oddeutu £6 miliwn ar ddigwyddiadau mawr yng ngogledd Cymru ers tua 2008. Wrth gwrs, mae'n gwbl wir, yn aml iawn, y bydd y digwyddiadau rhyngwladol hyn yn canolbwyntio ar brifddinas; weithiau, mae hynny'n ofyniad gan rai o'r sefydliadau hyn. Ond os edrychwch ar beth rydym yn ei wneud—er enghraifft, gŵyl gerddoriaeth drefol yn Wrecsam yw FOCUS Wales, ac mae'n hynod lwyddiannus; Gŵyl Rhif 6—byddwch wedi clywed amdani—ym Mhortmeirion, sy'n llwyddiannus iawn. Yn anffodus, nid fydd yn cael ei chynnal eleni, ond mae'r Good Life Experience yn un arall yng ngogledd Cymru, ac wrth gwrs, gŵyl ryngwladol Llangollen, y Tour of Britain, digwyddiad beicio ffordd proffesiynol mwyaf y DU, ac wrth gwrs, Rali Cymru GB. Felly, rydym eisoes yn gwneud llawer yng ngogledd Cymru.
Mae Mandy Jones yn llygad ei lle yn nodi bod gan brifddinas Cymru hanes da iawn o ddenu digwyddiadau mawr, yn enwedig ym maes chwaraeon. Un enghraifft o'r hyn y gellid ei ddisgrifio'n adborth adeiladol a gawn weithiau gan gyrff trefnu ac ymwelwyr, fodd bynnag, yw y byddai'n well pe na bai pobl sy'n dod yma ar y ffyrdd yn cael eu dal mewn tagfeydd, yn aml am oriau, drwy dwnelau Bryn-glas. A yw'r Gweinidog yn credu felly y dylid datrys y broblem hon drwy gyflawni'r addewid yn eu maniffesto ar gyfer Cymru i ddarparu ffordd liniaru ar gyfer yr M4?
Wel, diolch. Wrth gwrs, credaf mai ein blaenoriaeth, lle bo modd, fyddai annog pobl i ddod yma ar drafnidiaeth gyhoeddus, a bydd hynny gymaint yn haws bellach gan fod gennym ychydig mwy o reolaeth dros y rhwydwaith rheilffyrdd. Felly, rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru a'r tîm digwyddiadau mawr yn cydgysylltu i sicrhau, pan fydd Caerdydd yn cynnal y digwyddiadau hyn, y byddant yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus lle bynnag y bo modd. Ond wrth gwrs, mae angen inni fynd i'r afael â'r tagfeydd hynny, nad ydynt o fudd i unrhyw un.
Mae yna un digwyddiad mawr iawn ar y gorwel i ni yn Ynys Môn, sef y cyfle i ni gynnal Gemau'r Ynysoedd yn 2025. Mae pwyllgor gweithredol Gemau'r Ynysoedd yn rhyngwladol wedi bod yn gefnogol iawn i'n cynlluniau ni, a dwi'n ddiolchgar iawn iddyn nhw am hynny, ac mi fyddwn ni'n cyflwyno ein cais terfynol iddyn nhw mewn mater o wythnosau, felly mae hwn yn amser tyngedfennol. Dŷn ni'n ddiolchgar iawn am y gefnogaeth sydd wedi cael ei ddangos i ni gan yr awdurdod lleol a gan dîm digwyddiadau mawr Llywodraeth Cymru o dan Weinidogion blaenorol a dŷn ni'n edrych ymlaen at weithio mewn partneriaeth efo chi dros y blynyddoedd nesaf, tan 2025.
Ydych chi, fel Gweinidog sy'n newydd i'r portffolio yma, yn cytuno efo fi bod hwn yn gyfle amhrisiadwy i Fôn, fydd yn hwb economaidd, yn dda i chwaraeon, i ffitrwydd ac i iechyd, a fydd yn gadael gwaddol am flynyddoedd lawer, ac yn cytuno ei fod o'n ddigwyddiad y gall Llywodraeth Cymru fod yn falch iawn o'i gefnogi?
Wel, diolch, a gaf i ddiolch i'r Aelod am ei fuddsoddiad e yn y gemau yma? Dwi'n meddwl bod hwn yn gyfle. Mae'n gyfle mawr i Ynys Môn, dwi'n meddwl, sydd wedi gweld rhywfaint o broblemau yn ystod yr wythnosau diwethaf a byddai fe'n hyfryd i weld bod rhywbeth ar y gorwel o ran yr Island Games. Wrth gwrs, o ran egwyddor, rŷm ni'n gefnogol i'r gemau. Beth hoffwn i ei weld nawr yw fy nhîm i yn datblygu achos busnes dilys gyda llywodraeth leol, ac rŷm ni yn ymwybodol dros ben bod yn rhaid i hwn fod yn barod erbyn 8 Mawrth. Felly, mae'r syniad o symud yn gyflym yn un rŷm ni'n ei gymryd o ddifrif a bydd fy swyddogion i yn cydweithredu â llywodraeth leol i weld pa mor bell rŷm ni'n gallu mynd, ond dwi wir yn obeithiol y byddwn ni'n gallu cefnogi hwn.
2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol y cynllun nofio am ddim i blant a phensiynwyr? OAQ53285
Rwy'n ddiolchgar iawn i fy ffrind a fy nghyn gyd-Aelod Mohammad Asghar am ei gwestiwn. Roeddwn am gael hynny i mewn. [Chwerthin.]
Cwblhawyd adolygiad o'r rhaglen nofio am ddim ym mis Medi 2018. Ac fel rhan o argymhellion yr adolygiad hwnnw, mae opsiynau ar gyfer y rhaglen yn y dyfodol yn cael eu datblygu, a disgwyliaf iddynt gael eu cyflwyno i mi cyn bo hir. Yna, byddaf yn gwneud penderfyniad ynghylch cyfeiriad y rhaglen ar gyfer y dyfodol.
Diolch yn fawr iawn am eich ateb, Weinidog. Canfu adroddiad diweddar gan Chwaraeon Cymru nad yw'r cynllun nofio am ddim i blant a phensiynwyr yn addas i'r diben mwyach, a bod angen ei newid yn sylweddol. Dywedai hefyd nad oedd y cynllun ond yn costio hanner y £3 miliwn blynyddol o gyllid a ddarperir gan Lywodraeth Cymru, ond bod cynghorau'n dibynnu ar yr incwm hwn oherwydd y toriadau i'w cyllidebau. Weinidog, pa drafodaethau a gawsoch gyda Chwaraeon Cymru ynghylch canfyddiadau'r adroddiad hwn, ac a wnewch chi gadarnhau eich bod yn parhau i fod yn ymrwymedig i gefnogi'r cynllun hwn, sy'n cynnig manteision iechyd sylweddol i bobl ifanc a'r henoed yn ein cymdeithas?
Yn sicr, rwy'n dal i fod yn gwbl ymrwymedig. Rwy'n awyddus iawn i ddatblygu rhaglen gyffredinol o weithgarwch corfforol yng Nghymru, ac rwy'n cydnabod bod nofio yn weithgaredd corfforol da iawn y dylid ei annog yn eang, ynghyd â gweithgareddau corfforol eraill. Yr hyn rwy'n awyddus iawn i'w weld yn datblygu yw'r opsiwn i fwy o bobl yng Nghymru gymryd rhan. Nid ein bwriad, mewn unrhyw ystyr, yw lleihau maint y cyllid i hyrwyddo gweithgarwch corfforol, ond yn hytrach, ehangu'r posibiliadau.
Fel y dywedwyd, mae nofio'n arwain at fanteision sylweddol o ran iechyd—ymladd gordewdra, lleihau nifer y bobl yr effeithir gan ddiabetes math 2, a rhywbeth nad ydym yn sôn amdano'n ddigon aml, helpu pobl i ddatblygu cryfder cyhyrol, yn enwedig ar ôl iddynt adael yr ysbyty. Fel mathau eraill o ymarfer corff, mae'n ffordd ardderchog o leihau problemau iechyd a'u hatal rhag datblygu yn y dyfodol, ac onid yw'n well inni geisio atal pobl rhag mynd yn sâl na'u trin wedi iddynt fynd yn sâl?
Rwy'n ddiolchgar am y gefnogaeth gan fy nghyd-Aelod presennol, Mike Hedges, ar y mater hwn. Rwy'n awyddus iawn i weld yr ymateb i weithgarwch Chwaraeon Cymru o ran asesu'r adroddiad cyntaf a gynhyrchwyd ganddynt, ac mae is-grŵp—grŵp llywio'r fenter nofio am ddim—lle caiff awdurdodau lleol, Nofio Cymru a Llywodraeth Cymru eu cynrychioli, wedi bod yn ymgymryd â'r gwaith hwn. Rwyf wedi cael trafodaethau gyda rhai o aelodau'r bwrdd hwnnw eisoes, a gobeithiaf ystyried eu hadroddiad i mi cyn gynted ag y daw i law. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyfrannu oddeutu £30 miliwn tuag at y rhaglen nofio am ddim. Fel y dywedais yn gynharach mewn ymateb i Mohammad Asghar, nid oes unrhyw gynlluniau i gael gwared ar nofio am ddim ar gyfer y grŵp oedran 16 ac iau na'r grŵp dros 60 oed. Fodd bynnag, mae materion yn codi ynghylch effeithiolrwydd y cynllun, ac maent wedi'u nodi'n glir yn yr adroddiadau rwyf wedi'u derbyn eisoes, a byddaf yn gwneud datganiad pellach i'r Aelodau cyn gynted ag y bydd gennyf rywfaint o wybodaeth.
Hoffwn ofyn i'r Dirprwy Weinidog edrych ar y ffordd y caiff nofio am ddim ei hyrwyddo yn eich adolygiad, oherwydd cofiaf, yr haf diwethaf, yn fy etholaeth i—mae canolfan hamdden Pentwyn yn gyfleuster gwych, ond ni châi ei hysbysebu'n dda yn yr ardaloedd cynnyrch ehangach haen is ger y ganolfan hamdden, a dyna'r bobl sydd angen eu hysbysu fwyaf pa bryd y gallant fynd i nofio am ddim, gan nad oes ganddynt arian i fynd i nofio oni bai ei fod am ddim. Felly, tybed a wnewch chi edrych ar hynny, oherwydd, os yw arian yn dynn, ymddengys i mi ei bod yn hanfodol mai'r bobl na allant fforddio mynd i nofio fel arall yw'r rhai y dylid blaenoriaethu'r wybodaeth hon ar eu cyfer.
Wel, rydym bellach yn gwneud mwy a mwy o waith ar draws y Llywodraeth a gyda llywodraeth leol ar hyrwyddo pob math o weithgarwch corfforol, a byddaf yn sicr o atgoffa'r awdurdodau lleol drwy eu cysylltiadau uniongyrchol â ni yn y grŵp hwnnw sydd wedi bod yn astudio'r mater hwn nad oes pwynt cael cynllun nad yw'n cael ei ddefnyddio oherwydd methiant i hyrwyddo. Ac felly, yn y gwaith cyffredinol a wnawn ar hyrwyddo gweithgarwch corfforol ar draws y Llywodraeth, byddwn yn rhoi sylw arbennig i'r ardaloedd o amddifadedd, a allai, ynghyd â holl ardaloedd eraill ein cymdeithas ledled Cymru, elwa fwyaf o'r cynlluniau hyn ac o fwy o weithgarwch corfforol.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Siân Gwenllian.
Diolch, Llywydd. Fel Gweinidog y Gymraeg, a fedrwch chi gadarnhau nad yw’r Saesneg yn cael ei chyflwyno mewn cylchoedd y Mudiad Meithrin nag mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg tan fod plentyn yn saith oed ar hyn o bryd? Ac, os felly, a wnewch chi gadarnhau, i ni gael bod yn gwbl glir, mae’r cynnig ym Mhapur Gwyn Llywodraeth Cymru ar gyfer y cwricwlwm newydd fyddai i wneud y Saesneg yn bwnc gorfodol mewn lleoliadau o’r fath?
Diolch yn fawr. Byddwch chi’n ymwybodol nawr o ran addysg Gymraeg fod hynny wedi mynd i bortffolio’r Gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros addysg, ond dwi yn meddwl ei bod yn werth i ni danlinellu’r ffaith ein bod ni’n deall bod trochi cyfrwng Cymraeg yn hanfodol o ran gwireddu ein gweledigaeth ni ar gyfer 1 miliwn o siaradwyr. Rwyf wedi cael fy sicrhau gan y Gweinidog Addysg y bydd y trefniadau trochi Cymraeg presennol, y rhai sy’n cael eu darparu gan y Mudiad Meithrin, er enghraifft, yn parhau heb eu newid fel rhan o’r cwricwlwm newydd yma.
Wel, y cwestiwn mawr sy’n codi o beth rydych chi newydd ei ddweud ydy: beth sy’n mynd i ddigwydd i’r dyfodol? Beth am y cenedlaethau nesaf o blant sydd yn dod ymlaen? A fyddan nhw hefyd yn parhau i gael eu trochi? Mae’ch strategaeth chi—a’ch strategaeth chi fel Gweinidog y Gymraeg ydy hon o hyd, dwi’n cymryd, y strategaeth 1 miliwn o siaradwyr—yn dweud yn hollol ddiamwys mai addysg drochi cyfrwng Cymraeg yw’r prif ddull ar gyfer sicrhau bod plant yn gallu datblygu eu sgiliau Cymraeg ac ar gyfer creu siaradwyr newydd. Yn wir, mae’r dystiolaeth ryngwladol a phwyslais Donaldson ei hun yn cadarnhau hynny. Dwi wedi clywed chi’n sôn droeon eich bod chi yn disgwyl i bob adran o fewn Llywodraeth Cymru fod yn ystyried y Gymraeg a’r strategaeth 1 miliwn o siaradwyr ym mhob datblygiad polisi ac ym mhob elfen o’u gwaith. Ac, o ystyried bod cynnig y Llywodraeth yn bygwth y drefn hynod effeithiol sy'n bodoli ar hyn o bryd o ran addysg drochi, ac yn mynd yn gwbl groes i un o gonglfeini eich strategaeth iaith, mi fuaswn i yn licio gwybod faint o gyfathrebu fu rhyngoch chi a’r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, wrth ddatblygu’r cynnig hwn. A fedrwch chi ddweud wrthym ni hefyd beth ydy’r dystiolaeth y mae’r adran addysg yn ei ddefnyddio i hyrwyddo’r cynnig yma?
Dwi ddim yn siŵr os oeddwn i wedi ei wneud e'n ddigon clir yn fy ateb cyntaf i, ond dwi yn meddwl bod yn rhaid i fi danlinellu does yna ddim newid o ran y polisi pan mae'n dod i drochi. Mae yna ymwybyddiaeth. Rŷn ni wedi bod yn gwneud hyn ar hyd y blynyddoedd. Mae gyda ni hanes mae pobl yn copïo drwy'r byd i gyd o ran pa mor effeithiol yw'r system yna o drochi. Dyw hynny ddim yn mynd i newid yn y dyfodol. Felly, dwi eisiau ichi fod yn hollol glir mai dyna yw'r sefyllfa, nid jest am nawr, ond ar gyfer y dyfodol hefyd.
Mae'n rhaid i fi hefyd danlinellu bod e werth gweld, yn y cwricwlwm newydd, fod y targed yna o gyrraedd miliwn o siaradwyr ddim jest ar gyfer pobl sy'n mynd trwy addysg cyfrwng Cymraeg, ond ar gyfer cenedlaethau'n gyfan—y plant ysgol i gyd sydd yn mynd drwy'r system. Felly, mae pob un yn mynd i elwa. Ond, wrth gwrs, o ran y system drochi, mae honna'n mynd i fod yn wahanol i'r rheini.
Felly, dwi'n cymryd o hynny y byddwch chi yn dileu'r cymal sydd yn y Papur Gwyn, a hynny ar fyrder. Dŷch chi wedi cadarnhau bod trochi i'w ddatblygu ac i'w barhau. Felly, y cam hollol naturiol ydy tynnu'r cymal yna, cael gwared ar yr holl drafodaeth sydd yn digwydd, achos mae'r drafodaeth yn ddiangen. Felly, does dim angen iddo fo fod yn y Papur Gwyn.
Ond, yn ogystal â'r angen i ddatblygu addysg drochi, mae normaleiddio'r Gymraeg yn y system addysg drwyddi draw yn gwbl allweddol i gyrraedd y filiwn, gan gynnwys cynyddu dysgu cyfrwng Cymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg. Ac yn 2013, fe ddatganodd adroddiad yr Athro Sioned Davies bod angen newidiadau brys i sut mae'r Gymraeg yn cael ei haddysgu. Fe argymhellodd Sioned Davies bod angen dileu Cymraeg ail iaith erbyn 2018, a chyflwyno un continwwm dysgu, ac fe ddywedodd cyn-Weinidog y Gymraeg, Alun Davies, wrthyf i, yn y fan hon:
'Mi fydd y cymhwyster Cymraeg ail iaith yn cael ei ddisodli..yn 2021'.
Yn amlwg, mae'r amserlen wedi llithro, ond dwi yn croesawu'r cyhoeddiad y bydd yna un continwwm dysgu Cymraeg o 2022 ymlaen, a bod hynny'n arwydd o gynnydd o'r diwedd, ac felly, yn rhywbeth i'w groesawu.
Yr hyn sydd angen rŵan ydy cadarnhad ynglŷn â'r amserlen, ac ymrwymiad i gyhoeddi cymhwyster enghreifftiol er mwyn hwyluso'r paratoi yn yr ysgolion. Felly, a fedrwch chi ymrwymo heddiw i weithio efo'r Gweinidog Addysg ar amserlen glir ar gyfer cyhoeddi cymhwyster cyfunol enghreifftiol ar gyfer yr iaith Gymraeg?
Gaf i jest ddweud rwyf i'n falch eich bod chi'n croesawu'r ffaith ein bod ni wedi gwrando ar yr hyn oedd gan Sioned Davies i'w ddweud? Dwi hefyd yn ymwybodol iawn bod angen i ni wella'r ffordd rydym ni'n dysgu ail iaith yn ein hysgolion ni. Am y rheswm hwnnw, roeddem ni wedi dod â symposiwm at ei gilydd llynedd, lle'r oeddem ni wedi dod â phobl oedd yn wirioneddol yn deall ac wedi edrych ar y ffordd orau i ddysgu Cymraeg fel ail iaith drwy'r byd i gyd, ac rŷn ni'n defnyddio hynny nawr, ac yn dangos hynny fel ffordd i bobl sydd yn dysgu Cymraeg yn ein hysgolion ni lle nad yw'r Gymraeg yn brif iaith yr ysgol.
Wrth gwrs, mae'r rhain yn gwestiynau rili i'r Gweinidog sy'n gyfrifol am addysg. Ond, o ran y cymhwyster, wrth gwrs, nid y Llywodraeth sydd â chyfrifoldeb dros y cymhwyster, ond mae yna lot o waith yn cael ei wneud ar hyn o bryd i baratoi ac i edrych ar sut fydd y continwwm yma yn gweithio o ran sicrhau bod cymhwyster ar gael a fydd yn briodol i bobl sydd yn Gymraeg iaith gyntaf, a'r rheini sydd wedi mynd drwy addysg sydd ddim yn addysg Gymraeg drwy'r ysgol.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Suzy Davies.
Diolch yn fawr, Llywydd. Wel, rwyf eisiau dechrau gyda'r mater o ddysgu Saesneg mewn lleoliadau cyfrwng Cymraeg i blant ifanc iawn hefyd, achos efallai dŷch chi ddim yn gyfrifol yn uniongyrchol am addysg, ond rŷch chi yn gyfrifol am y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg. Felly, clywsom ddoe fod y Saesneg eisoes wedi ei defnyddio mewn rhai o'r lleoliadau blynyddoedd cynnar a chyfnod sylfaen. Rwy'n cydnabod hynny, ond yn fy mhrofiad i, hyd yn oed, mae'n wir yn fater o ystyried lles plant penodol a'u hanghenion cyfathrebu cyfredol. Ac mae hynny yn wahanol i 'teaching English'. Dwi ddim yn amau bwriad y Gweinidog Addysg neu chi na ddylai hyn danseilio'r system drochi neu gynnydd, ond dwi ddim yn credu ei fod e'n ddigon i ddweud bod hyn eisoes yn ofyniad yng nghanllawiau'r cyfnod sylfaen. Dyw e ddim yn ddigon o ymateb, dwi ddim yn credu.
Dŷn ni ddim yn siarad am yr un peth â chyflwyno mwy o Gymraeg i'r sector Saesneg. Hoffwn i wybod beth mae 'teaching English' yn meddwl. Pa dystiolaeth gallwch chi ei rhoi i ni fod Saesneg mewn gwirionedd yn cael ei dysgu mewn lleoliadau Cymraeg ar hyn o bryd? A pha anfantais mae'r plant hynny yn ei wynebu ar hyn o bryd y bwriedir ei goresgyn gan y cynnig hwn?
Wel, rŷch chi’n eithaf iawn i ganolbwyntio ar y ffaith bod addysg yn ganolog i’n targed ni o gyrraedd miliwn o siaradwyr, ac, wrth gwrs, erbyn 2050, rŷn ni’n gobeithio bydd tua 40 y cant o blant Cymru yn mynychu ysgolion lle'r Gymraeg yw’r iaith benodol yn yr ysgol. Er mwyn cyrraedd y targed yna, wrth gwrs, mae’n rhaid inni sicrhau ein bod ni yn ymrwymo i’r system drochi yma, a dwi’n gobeithio eich bod chi wedi clywed yr hyn wnes i’n glir wrth Siân Gwenllian.
Felly, gaf i—[Torri ar draws.] Rŷn ni wedi ei wneud e'n hollol glir does dim—mae’r Mudiad Ysgolion Meithrin—dwi’n gobeithio byddan nhw yn deall y bydd yna ddim angen iddyn nhw newid y ffordd maen nhw’n gweithredu ar hyn o bryd. Papur Gwyn yw hwn, wrth gwrs, does dim cymalau a dwi’n siwr bydd Mudiad Ysgolion Meithrin yn ei gwneud hi'n glir eu bod nhw ddim eisiau gweld hyn. Mae’n glir i ni na fydd hyn yn digwydd. Dwi’n gobeithio fy mod i wedi gwneud hwnna’n ddigon clir heddiw na fydd yna newid yn y system bresennol pan mae’n dod i ysgolion meithrin.
Wel, sori, Gweinidog, dyw e ddim yn glir o gwbl beth mae 'teaching English' yn ei feddwl yn y system newydd, achos fel clywsom ni gan Dai Lloyd ddoe, dŷn ni ddim yn gwybod am feithrinfeydd sy'n dysgu Saesneg ar hyn o bryd. Maen nhw'n defnyddio Saesneg oherwydd lles plant, ond dŷn nhw ddim yn dysgu Saesneg, felly mae'n well i ni gael tipyn bach o eglurder o gwmpas hynny yn y dyfodol nawr.
Dal ar bwnc addysg, ychydig wythnosau yn ôl, codais i gyda'r Gweinidog Addysg ganlyniad anfwriadol yng Ngwynedd y toriadau i'r grant gwella addysg. Roedd rhan o'r grant wedi ei dargedu a'i wario ar waith dwys gyda phlant di-Gymraeg ar ôl symud i'r ardal i'w helpu nhw i gaffael y sgiliau Cymraeg mae eu hangen arnynt i gael mynediad i addysg yn y sir honno. Er hynny, dywedodd y Gweinidog ei bod hi'n hyderus y bydd pobl ifanc sydd angen sgiliau Cymraeg ychwanegol yn gallu eu dysgu yn llwyddiannus, a gobeithio ei bod hi'n iawn fanna. Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn rhoi hawl i blant i addysg, ac mae'r polisiau yma yn cael sylw dyledus gan yr UNCRC. A fyddech chi'n fodlon cydweithio gyda'r Gweinidog Addysg i fodloni eich hunan fod y plant sydd angen y gwaith dwys hwn yn dal i'w gael, neu i fod yn sicr bod dulliau eraill yn cyflawni'r un canlyniadau? Diolch.
Rŷn ni yn ymwybodol iawn bod yna amgylchiadau pryd mae pobl yn dod mewn i gymuned lle dŷn nhw ddim yn medru'r iaith, yn arbennig yn rhai o'n hardaloedd mwy Cymreig, lle mae angen inni gael y trochi yna pryd maen nhw'n blant ychydig yn hŷn. Mae ysgolion hwyrddyfodiad wedi eu lleoli mewn llefydd o gwmpas Cymru. Yn aml, mae'n rhaid i rai llywodraethau lleol gydweithredu er mwyn sicrhau bod y ddarpariaeth yna ar gael, ac, wrth gwrs, byddaf i yn cydweithredu gyda'r Gweinidog sy'n gyfrifol am addysg i sicrhau y bydd y system yna yn parhau. Wrth gwrs, mae llywodraeth leol o dan lot o bwysau ariannol. Rŷn ni'n ymwybodol iawn ein bod ni eisiau i hyn gario ymlaen a dŷn ni ddim eisiau gweld toriadau yn y maes hwn.
Wel, diolch am hynny, achos, wrth gwrs, rŷn ni i gyd eisiau gweld plant sy'n dod mewn i Gymru yn parhau i gael y fantais o wasanaethau tebyg i'r rheini. Mae'n cael effaith wahanol mewn llefydd gwahanol yng Nghymru, wrth gwrs, ond yng Ngwynedd yn benodol mae'n bwysig iawn bod y plant yn cael caffael ar y sgiliau sy'n gallu eu helpu nhw i gael mynediad i addysg yno.
Jest i droi nawr at rywbeth arall. Mewn cyfarfod o gabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn fy rhanbarth i, ddechrau'r mis hwn, gofynnodd y cynghorydd Ceidwadol Tom Giffard gwestiwn yn y Gymraeg. Yr ymateb gan yr aelodau oedd anwybyddu'r cwestiwn. Fe geisiodd cadeirydd y cyngor symud ymlaen at yr eitem nesaf ar yr agenda. Ar ôl mynnu bod ei gwestiwn yn cael ei ateb, gofynnwyd i'r cynghorydd a allai ailadrodd y cwestiwn yn Saesneg ac fe gytunodd y tro yma, yn bragmatig, achos doedd dim unrhyw swyddogion o gwbl a oedd yn Gymraeg eu hiaith yn y siambr. O dan y prawf rhesymol a chymesur, dwi ddim yn disgwyl i bob cynghorydd siarad Cymraeg na bod yna wasanaeth cyfieithu, cydamserol, pwrpasol ar gael ym mhob cyngor yng Nghymru. Fodd bynnag, mae safonau yn effeithio ar gyngor Pen-y-bont ar Ogwr, ac ar hyn o bryd, maen nhw'n anfon eu holl waith cyfieithu i gwmnïau allanol. Oni fyddai'n syniad iddyn nhw ddefnyddio rhywfaint o'r arian hwnnw i gyflogi rhywun profiadol mewn cyfieithu ar lafar ac yn ysgrifenedig i ddiwallu eu hanghenion yn well a helpu gyda'u cynnydd wrth greu amgylchedd dwyieithog ar gyfer eu gweithlu?
Diolch, a dwi yn gobeithio y bydd cynghorau ar draws Cymru yn gefnogol o allu rhywun i siarad Cymraeg hyd yn oed os oes wedyn rhaid iddyn nhw ailadrodd y cwestiwn yn Saesneg. Ond dwi yn meddwl bod yna ffordd inni wella'r ffordd dŷn ni'n darparu'r system gyfieithu trwy Gymru i gyd. Mae yna gynllun technolegol gyda ni yn Llywodraeth Cymru i edrych ar sut ydym ni'n mynd i ddefnyddio technoleg i wella darpariaeth cyfieithu. Rŷm ni'n creu cof cyfieithu—mae hwn yn un o'r pethau rydym yn wirioneddol edrych arnynt mewn ffordd ddwys. Os yw pawb sydd yn defnyddio'r Gymraeg yn rhoi mewnbwn i mewn i'r system, bydd y data lot yn well a bydd y ddarpariaeth yn well. Felly, mae yna ffyrdd, dwi'n meddwl, o edrych ar sut allwn ni gael llywodraethau lleol, yn arbennig, i gydweithredu, a fydd yn arbed lot o arian iddyn nhw. A hefyd, efallai, byddant yn gallu defnyddio, yn y pen draw, ein cof cyfieithu ni yn Llywodraeth Cymru ac y gall i gyd fynd i mewn i un pwynt a'n bod ni i gyd yn elwa o gael system y mae pob un yn gallu ei defnyddio. Felly, dyna yw rhan o'r cynllun technolegol rŷm ni'n ceisio mynd amdano ar hyn o bryd.
Llefarydd UKIP, Gareth Bennett.
Diolch, Lywydd. Hoffwn groesawu'r Gweinidog i'w rôl newydd, a chroesawu'r Dirprwy Weinidog yn ôl i'w rôl yntau. Un o feysydd polisi eich adran yw cynnal digwyddiadau mawr. Roedd yn ddiddorol clywed yr atebion a roesoch mewn ymateb i gwestiwn 1 gan Mandy Jones, a'r cwestiynau atodol. Wrth gwrs, roedd Mandy yn llygad ei lle o ran ei phwynt, er ei bod yn dda iawn fod digwyddiadau yn dod i Gaerdydd, fod hefyd angen lledaenu digwyddiadau ledled Cymru yn gyffredinol a chynnwys gogledd Cymru hefyd, felly roedd hefyd yn ddiddorol clywed eich ymateb i ymholiadau Rhun ynglŷn â Gemau'r Ynysoedd a ragwelir ar gyfer Ynys Môn. Yn amlwg, bydd llawer o Aelodau yn dod atoch gyda chynigion am y mathau hyn o ddigwyddiadau.
Un digwyddiad mawr sydd wedi ei drafod eisoes yn ystod tymor y Cynulliad hwn yw cais gan Gymru i gynnal Gemau'r Gymanwlad yn y dyfodol, sy'n rhywbeth roedd Ken Skates yn awyddus i'w weld pan oedd yn gyfrifol am y portffolio digwyddiadau mawr. Rwy'n derbyn yr hyn a ddywedoch chi'n gynharach am leoli digwyddiadau penodol mewn dinasoedd, ac yn wir, mae Gemau'r Gymanwlad yn ddigwyddiad o'r fath. Ond credaf fod Ken Skates o'r farn y gellid cynnig rhannau penodol o'r cais i wahanol rannau o Gymru—ni fyddai'n canolbwyntio'n gyfan gwbl ar un ddinas o reidrwydd. Wrth gwrs, nid wyf yn datgan pa ddinas a ddylai fod wrth wraidd cais o'r fath. Ond a ydych wedi ystyried cais ar gyfer Gemau'r Gymanwlad yn y dyfodol ac a yw'n rhywbeth sydd wedi'i ddwyn i'ch sylw cyn hyn?
Fel y mae'n digwydd, cefais sesiwn friffio ar y sefyllfa mewn perthynas â digwyddiadau mawr y bore yma. Nid oedd hwn yn un o'r materion a gododd yn y cyd-destun hwnnw. Credaf mai'r hyn sy'n bwysig i mi yw bod gennym drosolwg nid yn unig o beth sy'n digwydd ble a phryd, ond y gallwn ei fapio ar sail flynyddol er mwyn sicrhau ein bod yn deall, os ydym yn cefnogi un prosiect mawr penodol un flwyddyn, efallai na chawn gymaint y flwyddyn ganlynol, ond os gwelwn fod prosiect mawr iawn ar y ffordd yn y dyfodol, efallai y byddwn eisiau dal yn ôl. Felly, mae cael trosolwg, i mi, yn eithaf pwysig. Nid yw Gemau'r Gymanwlad yn un o'r digwyddiadau mawr sydd ar ein hagenda ar hyn o bryd. Wrth gwrs, cawsom Ras Cefnfor Volvo y llynedd a oedd yn llwyddiannus iawn ac a roddodd Flwyddyn y Môr ar y map yn bendant iawn, yn fy marn i. Mae'r ffaith ein bod wedi cael 22 o ddigwyddiadau diwylliannol a chwaraeon ledled Cymru y llynedd, gan ddenu dros 0.25 miliwn o ymwelwyr i Gymru, a dod â £72 miliwn o arian i mewn—. Credaf fod pob un o'r rhain yn storïau llwyddiannus iawn. Ond wrth gwrs, pan fyddwch yn cynnal digwyddiad mor enfawr â Gemau'r Gymanwlad, mae'n rhaid ichi hefyd ystyried goblygiadau'r gost i ni fel Llywodraeth.
Iawn. Credaf fod hynny'n synhwyrol oherwydd, weithiau, gallwch glywed honiadau fod y digwyddiadau hyn yn arwain at seilwaith enfawr a chyfranogiad enfawr mewn chwaraeon yn nes ymlaen. Cawsom yr honiadau hyperbolig hyn am Gemau Olympaidd Llundain yn 2012, ac nid ydynt bob amser yn arwain at y canlyniadau hynny. Felly, yn sicr, byddem yn ddoeth i ystyried y pethau hyn yn ofalus.
Gan edrych ar ddigwyddiad posibl arall—os gallwch wneud sylwadau am fanylion hyn—cawsom rownd derfynol lwyddiannus iawn Cynghrair y Pencampwyr yng Nghaerdydd. Mae hwnnw'n un sydd, wrth gwrs, yn canolbwyntio ar—cwestiwn sy'n canolbwyntio ar Gaerdydd. Roedd hynny yn 2017. Nawr, roedd hwnnw'n ddigwyddiad da ac roedd yn enghraifft o lobïo da, ond dylid nodi ein bod heb gael unrhyw ran yn cyd-gynnal y pencampwriaethau pêl-droed Ewropeaidd yn 2020. Mae posibilrwydd y gallai Cymru gyd-gynnal pencampwriaethau Ewropeaidd yn y dyfodol gan fod UEFA yn fwyfwy awyddus i weld mwy nag un wlad yn cynnal digwyddiad. Eu diffiniad o 'gwlad' yw ardal sydd â'u cymdeithas bêl-droed eu hunain. Felly, mewn egwyddor, gallai Cymru gyd-gynnal pencampwriaethau Ewropeaidd yn y dyfodol gyda'r gwledydd cartref eraill. A yw hynny'n rhywbeth y byddech yn ei ystyried?
Credaf fod y ffaith bod 160 miliwn o bobl wedi gwylio rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr yn golygu bod Caerdydd yn arbennig wedi'i rhoi ar y map mewn ffordd nad ydym, efallai, wedi'i gweld o'r blaen. Felly, mae pêl-droed yn iaith ryngwladol sy'n wahanol i unrhyw iaith arall, a chredaf fod y digwyddiadau trasig a welsom yr wythnos diwethaf yng Nghlwb Pêl-droed Dinas Caerdydd hefyd yn enghraifft o lle mae'r math o ffocws a welsom ar Gaerdydd nad oeddem yn ei ddymuno fel y cyfryw yn golygu bod yr iaith ryngwladol hon yn rhywbeth y mae pawb yn canolbwyntio arno.
Credaf y daw cyfleoedd i ni gydweithredu â rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig i ystyried digwyddiadau pêl-droed yn y dyfodol, ac wrth gwrs, gorau po fwyaf o'n rhan ninnau. Felly, byddwn yn ystyried cyd-gynnal rhai digwyddiadau o'r maint hwnnw a'r natur honno yn y dyfodol.
Diolch am egluro'r pwynt hwnnw, ac edrychaf ymlaen at gyhoeddiadau yn y dyfodol. Nawr, mae llawer o sôn wedi bod dros y blynyddoedd diwethaf am adeiladu canolfan gynadledda fawr yng Nghaerdydd. Nid wyf yn gwybod a oes digon o alw amdani ai peidio ag ystyried bod un wrthi'n cael ei hadeiladu yng Nghasnewydd. Efallai fod perygl o orgyflenwi, ac wrth gwrs, mae'n rhaid inni fod yn wyliadwrus rhag adeiladu eliffantod gwyn weithiau. Ar y llaw arall, efallai fod rhai o fewn y sector rheoli digwyddiadau yn credu bod digon o alw am ddwy ganolfan gynadledda. Nid wyf yn gwybod a oes gennych farn ar hynny, Weinidog.
Wel, cefais gyfarfod adeiladol iawn gydag awdurdodau'r ganolfan gynadledda ryngwladol yr wythnos diwethaf, gyda'r Celtic Manor, a chredaf fod cryn dipyn o gyffro ynglŷn â'r hyn y gallai hynny ei wneud i Gymru ac o ran dod â phobl i Gymru. Un o'r materion a drafodwyd gennym yno, gydag arweinwyr awdurdodau lleol eraill, oedd yr angen efallai i edrych ar ddatblygu biwro cynadleddau ar gyfer prifddinas-ranbarth Caerdydd yn ei gyfanrwydd. Felly, yr argraff glir iawn a roesant inni oedd na fyddai'r ganolfan gynadledda ryngwladol ei hun a'r Celtic Manor yn ddigon mawr i groesawu'r niferoedd y maent yn eu disgwyl. Felly, mae cyfleoedd ar gyfer Caerdydd a Chasnewydd o ran lletya, ystafelloedd gwesty, ac mae cyffro gwirioneddol, rwy'n credu, yn datblygu mewn perthynas â hynny. Ac mae'n rhaid imi ddweud yn glir fy mod yn gobeithio y bydd y ganolfan gynadledda ryngwladol honno'n rhan o'r strategaeth ryngwladol y byddaf yn ei datblygu dros y misoedd nesaf.
3. Beth y mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i gynyddu twristiaeth yn Islwyn? OAQ53299
Diolch, Rhianon. Mae ein strategaeth dwristiaeth yn nodi ein blaenoriaethau i gefnogi'r diwydiant twristiaeth ledled Cymru, gan gynnwys rhanbarth y de-ddwyrain. Mae hyn yn cynnwys ymgyrchoedd marchnata yn y DU a dramor, a chyllid datblygu cyfalaf ar gyfer busnesau twristiaeth presennol a newydd, ynghyd â chyllid refeniw ar gyfer prosiectau rhanbarthol.
Diolch am eich ateb. Mae Islwyn yn cynnwys rhai o dirweddau naturiol mwyaf trawiadol Cymru, megis Ffordd Goedwig Cwmcarn sy'n enwog yn rhyngwladol, a phwll glo Navigation, a chyhoeddwyd statws porth i'r ffordd yn ddiweddar yn rhan o fenter y Cymoedd. Ond mae unrhyw brofiadau ymwelwyr rhyngwladol ansoddol yn cael eu gwella ganwaith gan sylw i fanylion, ac i lawer o dwristiaid i Gymru, mae ansawdd cyfleusterau megis llwybrau troed sylfaenol, toiledau, arwyddion a meysydd parcio yn rhan annatod o'r profiad hwnnw. Felly, roedd yn newyddion gwych i Gymru yr wythnos diwethaf pan gyhoeddodd Llywodraeth Cymru fod £2.2 miliwn yn cael ei gynnig i 23 o brosiectau a fydd yn gwella'r profiad hwnnw i ymwelwyr ledled Cymru, yn enwedig yn ystod yr adeg hon o gyni. Felly, Ddirprwy Weinidog, sut y gall Llywodraeth Cymru weithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a sefydliadau twristiaeth ac ymwelwyr ym mhob rhan o Islwyn i sicrhau eu bod yn ymwybodol o brofiad y Cymoedd ac y gallant elwa o gyfleoedd ariannu posibl yn y dyfodol o'r cynllun cymorth buddsoddi mewn amwynderau twristiaeth—ni fu erioed mor bwysig i'n heconomi ar hyn o bryd ac i'n lle yn y byd yn ystod y cyfnod hwn sy'n ein hwynebu o ansefydlogrwydd posibl i Gymru?
Diolch yn fawr iawn am dynnu sylw at bwysigrwydd hanfodol seilwaith sylfaenol i ymwelwyr. Gallaf gadarnhau—ac nid oes angen imi ddweud wrthych gan eich bod yn gwybod—fod yr amgylchedd o gwmpas Cwmcarn ac yn benodol, canolfan antur Cwmcarn, yr ymwelais â hi'n ddiweddar hefyd, yn lleoliad delfrydol ar gyfer pob math o weithgareddau awyr agored, ac mae Caerffili, fel awdurdod lleol, yn ymrwymedig iawn i ddatblygu'r cynnig twristiaeth. Bydd buddsoddiad yr Undeb Ewropeaidd yma, wrth gwrs, drwy'r rhaglen Cyrchfannau Denu Twristiaeth, yn arwain at fuddsoddi dros £1.8 miliwn yn y gyrchfan honno. Rwy'n awyddus iawn, yn enwedig oherwydd fy nghefndir a'r math o ardal a gynrychiolaf, i weld prosiectau twristiaeth yn cael eu cyd-leoli, yn enwedig twristiaeth antur, gyda'n tirweddau hanesyddol, gan gynnwys y rheini a fu'n gartref i'n treftadaeth ddiwydiannol werthfawr, ond niweidiol yn aml hefyd, yn y gorffennol.
Weinidog, clywais eich geiriau—dymunol iawn—am goedwig Cwmcarn, sydd, mewn gwirionedd, yn fy rhanbarth i. Mae coedwig Cwmcarn yn cynnig ystod eang o weithgareddau i ymwelwyr, gan gynnwys cerdded, pysgota, beicio mynydd, ac yn anad dim, mynd gyda ffrindiau a theulu i gael barbeciw yno. Mae'n lle gwych i fynd. Fodd bynnag, mae ffordd goedwig boblogaidd a hardd Cwmcarn yn parhau i fod ar gau i geir ers 2014, sy'n gwbl annerbyniol. Yr unig reswm am hynny yw er mwyn i Cyfoeth Naturiol Cymru gwympo miloedd o goed heintiedig. Felly, pa drafodaethau a gawsoch ar effaith y cau ar y niferoedd sy'n ymweld â choedwig Cwmcarn? A pha drafodaethau a gawsoch gyda'ch cyd-Weinidogion i sicrhau y caiff y ffordd hon ei hailagor cyn gynted â phosibl fel y gall ymwelwyr ddod i fwynhau'r golygfeydd syfrdanol? Soniodd y Gweinidog fod canolfan gynadledda Cymru ar ei ffordd, ac yn enwedig ar ôl diddymu tollau Pont Hafren, rydym yn disgwyl mewnlifiad o ymwelwyr yn yr haf, sydd ond ychydig fisoedd i ffwrdd, a dylai'r lle hardd hwn fod yn agored, nid i ni, ond i ymwelwyr o dramor. Mae hwn yn un o'r lleoedd prydferthaf yn ne-ddwyrain Cymru.
Rwy'n ymrwymo i siarad gyda Cyfoeth Naturiol Cymru ynglŷn â'r gwaith o reoli coedwig Cwmcarn. Ond mae'n rhaid imi bwysleisio bod prosiectau cyffrous iawn wedi'u lleoli ger canolbwynt antur Cwmcarn, sy'n rhan o driongl antur camlas £4.6 miliwn sir Fynwy ac Aberhonddu, sy'n cael ei hyrwyddo gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, yn ogystal â Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, a bydd y buddsoddiad hwn yn arwain at fudd sylweddol. Gallai hyn gynnwys gwaith gwella yng nghoedwig Cwmcarn ar gyfer cyfleusterau glampio, gwaith seilwaith i gangen Crymlyn o gamlas sir Fynwy ac Aberhonddu, yn ogystal â gwelliannau i'r llwybrau ar fryn godidog Twmbarlwm yng ngorllewin Torfaen. Mae'r holl bethau hyn yn cael eu trafod. Mewn gwirionedd, mae gennyf fwy o ddiddordeb mewn sicrhau bod pobl yn dod allan o'u ceir ac yn defnyddio ein cyfleusterau. Wrth gwrs, gall pobl ddod yma mewn ceir, ond yn yr un modd, hoffwn weld pobl yn dod yma ar hyd ein camlas—
I fynd am farbeciw.
Rwy'n deall bod yr Aelod am gynnig trefnu barbeciws yng nghoedwig Cwmcarn, ac rwy'n siŵr y byddai hynny'n ddeniadol iawn i ymwelwyr.
4. A wnaiff y Gweinidog nodi blaenoriaethau cychwynnol Llywodraeth Cymru ar gyfer cysylltiadau rhyngwladol Cymru? OAQ53312
Bydd blaenoriaethau rhyngwladol yn cael eu llunio drwy strategaeth ryngwladol newydd, ac rydym ar gychwyn y broses honno, ond rwyf wedi dweud yn glir mai'r ffocws yw creu Cymru fwy llewyrchus a chynaliadwy drwy ragor o allforio a buddsoddi, gan gynyddu dylanwad Cymru a'r adnabyddiaeth ryngwladol ohoni.
Ydy, Weinidog, credaf ei bod hi'n bwysig iawn parhau i agor Cymru i'r byd a'r byd i Gymru, a chredaf fod hynny wedi bod yn un o fanteision pwysig datganoli. Un agwedd ar hynny yw'r rhaglen o blaid Affrica, a chredaf fod y gwerthusiad ohoni'n dangos ei bod yn cyflawni'n well na'r disgwyl. Credaf fod gennym oddeutu 20 y cant o'r cysylltiadau ysbyty i ysbyty rhwng y DU ac Affrica yma yng Nghymru. Ni oedd y genedl Masnach Deg gyntaf yn 2008. Mae Maint Cymru wedi rhagori ar y targed o blannu miliwn o goed yn Uganda, a chredaf fod targed newydd o 10 miliwn wedi'i bennu bellach. Yn 2015, elwodd 80,000 o bobl yng Nghymru o waith y rhaglen, ac oddeutu 0.25 miliwn o bobl yn Affrica is-Sahara, ac mae gennym dros 150 o gysylltiadau cymuned i gymuned, a chredaf fod hynny'n hollol wych. Felly, o gofio'r llwyddiant hwnnw a phwysigrwydd y gwaith hwn, tybed a fyddech yn ystyried cynyddu'r gyllideb, oherwydd credaf ei fod wedi bod ychydig dros £900,000 ers sawl blwyddyn bellach. Er cymhariaeth, yn yr Alban, maent wedi mynd o oddeutu £3 miliwn i £15 miliwn dros gyfnod tebyg o amser. Felly, o ystyried pwysigrwydd a gwerth mawr y gwaith hwn, Weinidog, tybed a wnewch chi edrych yn ofalus i weld a allwn gynyddu'r gyllideb.
Credaf ein bod yn wirioneddol falch o'n rhaglen Cymru o Blaid Affrica, ac mae'n enghraifft o lle mae swm bach o arian wedi mynd yn bell iawn, ac wedi trawsnewid bywydau pobl mewn ffordd hanfodol iawn yn rhai o ardaloedd tlotaf y byd. Felly, mae hyn yn rhan bendant o'r hyn y byddwn yn ei ymgorffori yn ein strategaeth ryngwladol. Ac rydych yn llygad eich lle—yn Uganda, plennir y deng-filiynfed goeden yr haf hwn, felly mae hynny'n rhywbeth y dylai pob un ohonom fod yn falch iawn ohono yn fy marn i.
Yn ddiweddar, rydym wedi cyhoeddi 15 grant bach gyda chyllideb o £250,000, felly mae llu o sefydliadau newydd yn mynd i gael arian, ond byddwn yn edrych ar y cyllidebu yng nghyd-destun y strategaeth ryngwladol. Felly, y cam cyntaf fydd blaenoriaethu, a sicrhau wedyn fod y cyllid yn cyd-fynd â'r rhestrau hynny o flaenoriaethau. Ond yn sicr, mae Affrica yn bendant iawn ar ein hagenda.
Weinidog, i ddathlu cynnal Cwpan Rygbi'r Byd, mae Llywodraeth Japan wedi lansio tymor o ddiwylliant rhwng Japan a'r DU. Mae pwyllgor gweithredol yng Nghymru yn hyrwyddo digwyddiadau yma. Rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn cymryd rhan fawr yn hyn o beth gan y dylem ddathlu ein cysylltiadau â Japan. Maent wedi gwneud cymaint yn economaidd, ac mae gennym lawer o gysylltiadau diwylliannol hefyd, a dyma'r math o beth sydd ei angen arnom er mwyn hyrwyddo Cymru yn well dramor ac adeiladu ar y traddodiadau cyfoethog sydd eisoes wedi'u datblygu yn sylweddol.
Diolch. Credaf fod gennym draddodiad hir a balch iawn o ran ein perthynas â Japan. Wrth gwrs, gwelsom lawer o gwmnïau yn symud yma yn y 1970au hwyr a'r 1980au cynnar, gan drawsnewid rhannau o'n cymunedau. Mae'n drist iawn gweld bellach fod cwmnïau megis Sony wedi dweud y byddant yn symud eu pencadlys o'r Deyrnas Unedig o ganlyniad uniongyrchol i Brexit. Felly, mae hynny'n rhywbeth anffodus iawn, wrth gwrs, ond mae'n digwydd eisoes. Credaf fod yr un peth yn wir am Panasonic. Mae Celfyddydau Rhyngwladol Cymru yn sefydliad sydd wedi bod yn edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud mewn perthynas â Chwpan Rygbi'r Byd. Mae cyfleoedd gwych i'w cael. Rwyf wedi bod yn siarad â rhywun sy'n ymwneud â hyrwyddo paentiadau a gwerthu gwaith celf dramor, ac mae hi wedi gwneud cyswllt pendant iawn gydag amgueddfa yn Japan. Felly, eisoes, mae pethau'n adeiladu tuag at gwpan y byd, a gwn fod y Gweinidog sy'n gyfrifol am amaethyddiaeth a materion gwledig wedi mynegi diddordeb mewn ymweld â Japan, gan eu bod wedi cyhoeddi yn ddiweddar y byddant yn codi'r gwaharddiad ar allforio cig oen Cymru i Japan. Felly, mae hwn yn gyfle go iawn inni hyrwyddo ac i ddefnyddio Cwpan Rygbi'r Byd i ddod o hyd i farchnadoedd newydd mewn cyfnod gwirioneddol anodd, yn enwedig os cawn ryw fath o Brexit 'dim cytundeb', a fyddai'n ei gwneud yn anodd iawn inni allforio i'n marchnadoedd traddodiadol.
Dwi yn croesawu'r ffaith bod y rôl yma'n bodoli, yn enwedig gan ei bod hi'n bwysig bod Cymru'n cael barn ar bethau sydd yn digwydd ar lefel ryngwladol. Yn y cyd destun hynny, tybed a fedrwch chi esbonio i ni pa fathau o drafodaethau y byddwch chi'n gallu dod gerbron y Senedd yma i ni allu cael dadleuon ynglŷn â'r hyn sydd yn digwydd ar lefel rhyngwladol. Er enghraifft, dwi wedi bod yn gweithio gyda'r gymuned o Gwrdiaid yma yn ne Cymru ar hyn o bryd, sydd wedi bod yn canfasio ac yn ymgyrchu'n erbyn y ffaith bod nifer o ymgyrchwyr a gwleidyddion yn y carchar yn Nhwrci ar streic newynu—ar hunger strike—oherwydd y ffaith bod Llywodraeth Twrci yn eu trin nhw'n anfoddhaol. Os ydym ni fel Senedd yn cael barn ac yn cael dadleuon ar faterion o bwys rhyngwladol, yna mae hynny'n danfon neges glir i'r byd am ba mor bwysig yw'r materion i'r byd, ond hefyd i'r gymuned o Gwrdiaid, sydd yn gymuned fawr yma yn ne Cymru. Felly, a fedra i ofyn i chi beth yw eich gweledigaeth chi ar gyfer cael trafodaethau ar bethau sydd ddim wedi cael eu datganoli ond pethau sydd o bwys iawn i bobl o Gymru ac i bobl y byd yn gyffredinol?
Diolch. Dwi yn croesawu'r ffaith bod yna gyfle i ni nawr i ymrwymo gyda beth sy'n digwydd yn y byd ehangach. Dwi'n meddwl bod rhaid i ni fod yn ymwybodol hefyd, wrth gwrs, bod hwn yn fater sy'n reserved i raddau helaeth i'r Llywodraeth, ond, wrth gwrs, mae gyda ni ddiddordeb mawr, yn arbennig os oes yna gysylltiadau rhwng pobl Cymru ac ardaloedd eraill y byd. Gaf i jest, ar fater y Cwrdiaid, ddweud fy mod i wedi cwrdd â llysgennad Twrci ddydd Llun ac wedi codi'r mater yma o'r imâm o Gasnewydd sydd wedi bod yn newynu achos ei fod e'n gofidio am yr hyn sy'n digwydd yn Nhwrci? Dwi yn meddwl bod rhaid i ni, wrth gwrs, gofio mai dyma'r degfed gwlad lle rŷn ni'n allforio ein nwyddau ni. Felly, mae'n fasnach pwysig i ni, ond, wrth gwrs, mae'n rhaid i ni sicrhau bod y masnach hefyd yn cyd-fynd gyda hawliau dynol.
5. Beth yw gweledigaeth Llywodraeth Cymru o ran meithrin cysylltiadau â chenhedloedd di-wladwriaeth? OAQ53316
Wel, Llywodraeth y Deyrnas Unedig sydd, wrth gwrs, yn bennaf gyfrifol am gysylltiadau diplomyddol yn swyddogol, ond dydy Llywodraeth Cymru ddim yn mynd i ymatal rhag datblygu perthynas â rhanbarthau, cenhedloedd neu bobl lle byddai hynny'n fanteisiol i Gymru.
Rwy'n gweld bod bwriad gyda Llywodraeth Cymru i ymestyn ei rwydwaith o lysgenadaethau, fel petai, o fewn gwladwriaeth Sbaen. Gaf i ofyn a yw hi'n fwriad i edrych yn benodol ar Gatalonia a Gwlad y Basg, wrth gwrs, lle mae yna berthynas agos rhwng Cymru a'r gwledydd hynny'n barod? Dwi'n codi hynny'n benodol oherwydd, mewn ymweliad yn ddiweddar o gynrychiolaeth Llywodraeth Catalonia ym Mrwsel, mi oedd Meritxell Serret, sydd yn gweithio i Lywodraeth Catalonia, wedi dweud bod diddordeb gyda nhw—Llywodraeth Catalonia—agor llysgenhadaeth fan hyn yng Nghymru, yn arbennig pe baem ni'n gwneud yr un fath.
A gaf i ofyn hefyd—? Oherwydd bod Meritxell ei hunan, wrth gwrs, yn ffoadur, yn methu dychwelyd i Gatalonia ar hyn o bryd—ac wrth gwrs mae'r Llywydd ei hunan wedi ymweld yn ddiweddar â chyn-lywydd Senedd Catalonia, Carme Forcadell, sydd yn y carchar yn fanna—a fyddai'n bosib i'r Gweinidog, ar ran Llywodraeth Cymru, godi'r mater yma gyda llysgennad Sbaen? Dwi'n gwybod bod hynny'n fater cadwedig, ac yn y blaen, ond mae hwn yn sefyllfa anarferol iawn yn hanes democratiaeth diweddar yn Ewrop, ac, wrth gwrs, mae yn nhraddodiad Cymru, wrth feddwl am yr hyn a ddigwyddodd adeg y rhyfel cartref yn Sbaen, ein bod ni'n mynegi ein cydlyniad llwyr gyda phobl Catalonia ar hyn o bryd.
Diolch yn fawr. Dwi'n meddwl bod yna tua 20 o swyddfeydd ar draws y byd ar hyn o bryd gan Lywodraeth Cymru. Un o'r pethau dwi'n awyddus i wneud yw jest i aros ac i edrych pa mor ddylanwadol ydyn nhw a beth yw'r impact y maen nhw'n ei gael. Mae un o'r cyfarfodydd yma, un o'r pwyllgorau yma, wedi gofyn inni fel Llywodraeth i sicrhau ein bod ni'n cael gwerth am arian. Dwi'n awyddus iawn i sicrhau bod hynny'n digwydd. Felly, cyn inni edrych ar ehangu'r rhwydwaith, dwi eisiau sicrhau bod beth sydd gyda ni nawr yn iawn. Ond dwi yn ymwybodol iawn bod angen inni ddatblygu ar y berthynas naturiol yna sydd gyda ni gyda rhanbarthau fel Catalonia a Gwlad y Basg.
Dwi ddim yn meddwl o reidrwydd bod wastad rhaid inni agor swyddfeydd. Os ŷm ni'n mynd i ganolbwyntio ar ddatblygu economaidd, er enghraifft, efallai y byddai'n well inni anfon pobl o fan hyn sydd gydag arbenigedd mewn maes arbenigol, yn hytrach na chael generalists mewn rhai o'r llefydd yma. Mae hwnna'n rhan o'r pethau dwi eisiau eu hystyried pan dyn ni'n edrych ar sut mae'r strategaeth i'r dyfodol yn mynd i edrych. Ond dyn ni ddim jest yn mynd i ganolbwyntio ar faterion economaidd, wrth gwrs. Bydd yna faterion diwylliannol. Ac, wrth gwrs, lle mae perthynas gyda ni eisoes, mae'n gwneud synnwyr inni beidio â thorri'r rheini, ac mae'n gwneud synnwyr, o beth dwi'n ei ddeall, gyda materion tramor—beth sy'n gwneud i hyn ddigwydd yn well na dim yw perthnasau personol, ac mae'n rhaid inni sicrhau ein bod ni'n yn adeiladu ar rheini. Dwi'n meddwl bod cyfrifoldeb arnom ni i gyd i sicrhau ein bod ni yn gwneud beth y gallwn ni i godi'r faner tra'n bod ni'n teithio dramor hefyd.
Weinidog, dyma'r tro cyntaf i mi eich holi yn eich rôl newydd, felly llongyfarchiadau ar eich penodiad. Credaf ei bod yn wych fod yna ffocws a phwyslais newydd ar feithrin cysylltiadau rhyngwladol rhwng y Cynulliad a rhannau eraill o'r byd, sydd weithiau'n gythryblus.
O edrych ar fy nyddiadur, gwelaf eich bod yn cynnal digwyddiad yn y Senedd ddydd Iau lle byddwch yn nodi eich strategaeth ryngwladol gyda rhanddeiliaid allweddol—Cymru ar lwyfan y byd. Bydd dau o fy etholwyr, Dave a Martha Holman, yn cynrychioli Love Zimbabwe yn y digwyddiad hwnnw. Gobeithio y cewch gyfle i siarad â hwy. Mae'r sefyllfa yn Zimbabwe yn wirioneddol drychinebus. Mae'r llawenydd a'r gobaith a oedd yno ychydig fisoedd yn ôl bellach wedi'i ddisodli gan golli gwaed a thristwch a gofid. Fel rhan o'ch strategaeth ryngwladol newydd, a gaf fi ofyn am roi ffocws ar gynnig cymorth i bobl Zimbabwe, boed yn byw yn Zimbabwe neu yma yng Nghymru, fel fy etholwyr? Mae'r bobl rwy'n eu hadnabod o Zimbabwe yn hoff iawn o Gymru ac yn ddiolchgar iawn am y croeso cynnes y mae pobl Cymru wedi'i roi iddynt, felly credaf y byddai'n ardderchog pe gallech ystyried meithrin perthynas â'r rhan gythryblus honno o'r byd.
Diolch. Rwy'n edrych ymlaen at gynnal y digwyddiad hwnnw ddydd Iau yr wythnos hon, lle byddwn yn lansio'r ymgynghoriad hwnnw ar gynnwys strategaeth ryngwladol i Gymru yn y dyfodol. Wrth gwrs, fel rhan o'r datblygiadau yn rhaglen Cymru o blaid Affrica, bydd Zimbabwe'n ymddangos yn honno eisoes, rwy'n siŵr. Un o'r pethau rwy'n awyddus i'w gwneud yw sicrhau ein bod yn datblygu cronfa ddata gynhwysfawr o'r hyn sydd eisoes yn digwydd yng Nghymru, felly os bydd pobl o Gymru yn ymweld â Zimbabwe, byddant yn gallu cysylltu â phobl a sicrhau ein bod yn adeiladu'r rhwydweithiau hynny. Felly, mae cysylltu'r diaspora yng Nghymru yn rhywbeth sy'n galw am lawer o ffocws hefyd, ond ni ddylem golli golwg ar rym meddal. Credaf fod angen i ni feithrin ac annog y cysylltiadau personol hynny. Ond Zimbabwe—edrychaf ymlaen at gyfarfod â'r cynrychiolwyr hynny ddydd Iau.
6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynnydd tuag at ei tharged o 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050? OAQ53284
Mae Cymraeg 2050 yn strategaeth hirdymor uchelgeisiol. Mae ein hymdrechion cychwynnol wedi canolbwyntio ar osod sylfeini cadarn ar gyfer y dyfodol, gan adeiladu o'r gwaelod i fyny er mwyn sicrhau bod digon o ddysgwyr yn mynd drwy'r system addysg. Rydym ar y trywydd cywir i gyrraedd ein targedau ar gyfer 2021 o ran y sector blynyddoedd cynnar, ac wrth gwrs, mae'r cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg wedi ein helpu i wneud hynny.
Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Weinidog. Y llynedd, lansiodd Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru ddogfen o'r enw 'Yr Iaith Gymraeg yng Ngogledd Cymru'. Roedd y ddogfen wedi'i hanelu at hyrwyddo a chynyddu dwyieithrwydd ar draws y rhanbarth. Roedd canfyddiadau'r adroddiad hwnnw yn nodi'r ffaith bod cyflogwyr yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat yn dymuno cael mwy o weithwyr sy'n gallu siarad Cymraeg a Saesneg. Felly, mae yna awydd cynyddol, ond yn anffodus, nid oes digon o gyfleoedd i bobl ddysgu'r iaith, yn enwedig oedolion. Tybed pa waith y gallwch ei wneud o bosibl gyda Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, ac eraill yn rhanbarth Gogledd Cymru, i hybu cyfleoedd i oedolion ddysgu Cymraeg lle nad oes ganddynt unrhyw sgiliau iaith Gymraeg, fel y gallwn sicrhau bod y math o uchelgais a geir yn y ddogfen hon yn cael ei gyflawni yn y dyfodol.
Diolch. Mewn gwirionedd, credaf ein bod wedi gwneud cynnydd eithaf sylweddol o ran ein perthynas â busnesau a'r ffordd rydym yn hyrwyddo'r Gymraeg. Felly, rydym yn falch iawn fod y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol wedi gwneud ymdrech sylweddol i addysgu Cymraeg yn y gweithle, ac mae miloedd o bobl, yn llythrennol, wedi manteisio ar hynny. Felly, buaswn yn eu hannog i wneud yn siŵr eu bod yn edrych ar y cyfleoedd hynny. Y peth arall, wrth gwrs, yw bod Comisiynydd y Gymraeg yn gallu darparu laniardau a bathodynnau a darparu gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg, i wneud yn siŵr fod pobl yn ymwybodol o bwy yn union sy'n siarad Cymraeg fel eu bod yn cael cyfle i ymarfer yr iaith.
Wrth gwrs, mae gennym Cymraeg Byd Busnes. Rydym wedi darparu tua 11 swyddog gwahanol a all ymweld â chwmnïau a'u helpu i gynyddu eu defnydd o'r Gymraeg, a gwneud yn siŵr eu bod, efallai, yn gallu cyfieithu darnau bach o wybodaeth. Rydym hefyd yn awyddus iawn i weld pobl yn dod o ysgolion a cholegau—colegau yn arbennig. Rydym bellach wedi symud o ganolbwyntio'n unig ar addysg uwch tuag at addysg bellach, ac mae gennym gynllun gweithredu sy'n darparu model newydd. Wrth gwrs, gorau po fwyaf o bobl y gallwn eu cael i gadw eu Cymraeg a'i defnyddio yn y gweithle.
Diolch i'r Gweinidog.
Yr eitem nesaf yw'r cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad, ac mae'r cwestiwn cyntaf i'w ateb gan y Comisiynydd David Rowlands ac i'w ofyn gan Huw Irranca-Davies.
1. Pa asesiad y mae'r Comisiwn wedi'i wneud o'r ddarpariaeth o fannau diogel i storio beiciau ar ystâd y Cynulliad? OAQ53297
Mae gan y Cynulliad gyfleuster storio beiciau cudd a diogel. Ar hyn o bryd, mae gennym ddigon o le i storio 69 o feiciau, ac mae capasiti pellach wedi'i gynllunio ar gyfer eleni. Yn ogystal, mae rheseli beiciau cyhoeddus ar gael i ymwelwyr eu defnyddio y tu allan i Dŷ Hywel. Rydym hefyd yn darparu cawodydd, loceri a chyfleusterau sychu dillad i feicwyr eu defnyddio.
Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.
Diolch i chi am yr ymateb hwnnw, David. Y bore yma, fel arfer, deuthum oddi ar y trên yng ngorsaf Caerdydd, mynd ar fy meic, beicio i gyfarfod ym Mharc Cathays a beicio'n ôl drwy'r parc, drwy'r rhew, yr holl ffordd yma, gyda fy sgarff yn hedfan y tu ôl i mi, ar fy meic llyw uchel—yr holl ffordd yma. Pan gyrhaeddais, roedd yn wych gweld yr holl feiciau yno—yr adeg hon o'r flwyddyn, gyda'r holl rew a phopeth arall, mae'r cyfleuster storio yn llawn dop, sy'n arwydd o lwyddiant yr hyn rydym yn ceisio ei wneud i hybu beicio a theithio llesol. Ond mae'n llawn dop. Felly, a allwch roi mwy o fanylion i mi ynglŷn â'r argymhellion a grybwyllwyd gennych i ehangu'r capasiti, a hoffwn wneud yn glir mai capasiti dan do a storio diogel rydym yn ei olygu wrth ehangu capasiti, er diogelwch, ond hefyd fel nad yw ein seti, ein beiciau a'n heiddo yn wlyb domen pan fyddwn yn gadael gyda'r nos?
Wrth gwrs, rydym yn awyddus i ehangu'r defnydd o feiciau ar gyfer y gwaith. Yn unol â hyn, fel y dywedais, rydym yn bwriadu cyflwyno lleoedd parcio ceir ychwanegol eleni—[Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf—
Parhewch, David.
Wrth gwrs, bydd yn galw am ymagwedd lawer ehangach tuag at y ddarpariaeth feicio. Er mwyn gwneud hynny wrth gwrs, byddwn yn ystyried y posibilrwydd o gael gwared ar leoedd parcio ceir ar ryw adeg yn y dyfodol. Yn amlwg, rydym yn gobeithio na fydd hynny'n effeithio ar y bobl sy'n defnyddio ceir oherwydd gobeithio y byddant yn defnyddio beiciau ac felly, yn amlwg, bydd llai o alw am y lleoedd parcio ceir.
Cwestiwn 2, i'w ateb gan y Comisiynydd David Rowlands eto—Jenny Rathbone.
2. Sut y mae lefel y gwastraff bwyd a gynhyrchwyd ar ystâd y Cynulliad yn ystod y chwarter diwethaf yn cymharu â'r un cyfnod yn y flwyddyn flaenorol? OAQ53293
Ie. Mae lefel y gwastraff bwyd a gynhyrchwyd ar ystâd y Cynulliad wedi cynyddu rhywfaint o 4.23 tunnell ar ddiwedd 2017 i 4.59 tunnell ar ddiwedd 2018. Yn amlwg, wrth gynnal gwasanaeth arlwyo, ni fydd modd dileu gwastraff bwyd yn llwyr, ond mae ein contractwr Charlton House yn rhagweithiol iawn ac mae wedi cyflwyno amrywiaeth o fentrau, gan gynnwys cynllunio'r fwydlen yn ôl galw wythnosol, swp-goginio a chrynhoi cownteri bwyd tuag at ddiwedd cyfnodau gwasanaeth. Yn ogystal, dylem nodi bod ein holl wastraff bwyd yn cael ei gompostio ac mae olew coginio sy'n wastraff yn cael ei drawsnewid yn fiodiesel.
Diolch i chi am yr ateb diddorol hwnnw. Buaswn yn cytuno â chi bod Charlton House yn ymdrechu'n galed iawn, ac nid cyfrifoldeb arlwywyr yn unig yw lleihau gwastraff bwyd. Ond tua 18 mis yn ôl, awgrymodd Lesley Griffiths y dylem fod yn haneru gwastraff bwyd erbyn 2025, ac mae'n amlwg yn wirioneddol bwysig ein bod ni yn y Cynulliad yn dangos y ffordd yn hytrach na dim ond awgrymu y dylai pobl eraill wneud hynny. Yn amlwg, mewn gwlad lle nad oes gan lawer iawn o bobl ddigon o fwyd i fwydo eu hunain, mae gwastraff bwyd yn drosedd mewn gwirionedd. Ond rwy'n sylweddoli, yn y diwydiant lletygarwch, ei bod yn anodd iawn rheoli gwastraff bwyd am fod pobl yn archebu bwyd nad ydynt yn dod i'w fwyta. Fodd bynnag, credaf fod angen i ni i gyd ganolbwyntio ar hyn, a sicrhau, pan fyddwn yn trefnu neu'n cynnal digwyddiadau, fod pwy bynnag sy'n talu am y bwyd yn meddwl yn ofalus iawn beth fydd ei angen arnynt ac ar gyfer faint o bobl, ond hefyd byddai'n wych pe gallem sefydlu rhyw ffordd o ddosbarthu bwyd sydd dros ben i rai sydd angen bwyd, ac mae llawer ohonynt, yn anffodus, yn ein prifddinas. Felly, byddai'n wych pe gallem gael sgyrsiau pellach ynglŷn â sut y gallem wneud hynny er mwyn lleihau, yn hytrach na chynyddu, y gwastraff bwyd a gynhyrchwn.
Wel, mae'r Aelod Cynulliad dros Ogledd Caerdydd yn hollol gywir pan ddywed fod llawer o fwyd ar fwydlenni lletygarwch yn cael ei wastraffu—er ei fod yn cael ei gyfrifo fesul y pen, mae'r bwyd sy'n cael ei fwyta yn ddibynnol ar y rhai sy'n mynychu, wrth gwrs. Felly, nid oes llawer iawn y gall Charlton House ei wneud i ailddefnyddio unrhyw fwyd dros ben. Mae rheolau hylendid llymach yn golygu na ellir ailgylchu'r rhan fwyaf o eitemau. Yn amlwg, gydag eitemau fel bisgedi wedi'u pecynnu, byddant yn defnyddio'r rheini ac yn eu hailgylchu. Ond credaf eich bod yn hollol gywir, mae'n drychinebus gweld bwyd da yn cael ei wastraffu pan fo cymaint o bobl angen y bwyd hwnnw'n enbyd.
Diolch. Bydd Cwestiwn 3 i'r Comisiwn yn cael ei ateb gan y Llywydd. Helen Mary Jones.
3. A wnaiff y Comisiwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf am Senedd Ieuenctid Cymru yn dilyn y cyfarfodydd rhanbarthol cyntaf? OAQ53315
Cyfarfu Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru yn eu rhanbarthau am y tro cyntaf ar 19 a 26 Ionawr. Roedd yn gyfle iddynt ddod i adnabod ei gilydd, trafod blaenoriaethau a chyfarfod â rhai o Aelodau’r Cynulliad a’r staff am y tro cyntaf. Gwnaethant hefyd gymryd rhan mewn hyfforddiant, a thrafod y cyfarfod cyntaf, sef y penwythnos preswyl, sydd i’w gynnal yn y lle yma rhwng 22 a 24 Chwefror.
Diolch i chi, Lywydd. Rwy'n siŵr y bydd pob Aelod yma yn falch iawn o glywed bod cynnydd eithriadol o gadarnhaol wedi bod. Roeddwn yn ffodus i gwrdd ag Aelodau'r Senedd Ieuenctid o Ganolbarth a Gorllewin Cymru yng Nghaerfyrddin ac roeddwn yn llawn edmygedd o'r bobl ifanc ymrwymedig a diddorol yno. Roeddwn hefyd yn llawn edmygedd o'r trefniadau cymorth a oedd ar waith i gefnogi'r bobl ifanc a fydd yn ei chael hi'n fwy anodd i gymryd rhan. Ymhlith y bobl ifanc y cyfarfûm â hwy roedd cynrychiolwyr gofalwyr ifanc a chynrychiolwyr o'r gymuned Sipsiwn a Theithwyr, a theimlwn fod y trefniadau hynny'n gweithio'n dda iawn. A wnaiff y Comisiwn barhau i adolygu'r trefniadau hynny er mwyn sicrhau bod y bobl ifanc sydd, o bosibl, yn ei chael yn fwy anodd i gymryd rhan yn parhau i gael cymorth drwy'r broses?
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna ac iddi hi a nifer o Aelodau eraill yn y Siambr yma sydd wedi cymryd amser i gwrdd ag Aelodau'r Senedd Ieuenctid yn y cyfarfodydd rhanbarthol. Dwi wedi gweld ffotograffau o nifer ohonoch chi mewn amrywiol gyfarfodydd dros y ddau benwythnos olaf yma. Diolch hefyd am ganmol yr hyn rŷm ni yn ceisio gwneud ar hyn o bryd i sicrhau bod pob un o'r Aelodau, y 60 ohonyn nhw, sydd yn gyfartal yn eu rôl nhw fel Aelodau o'r Senedd Ieuenctid, sydd yn dod o gefndiroedd â heriau gwahanol—mae’n bwysig ein bod ni fel Comisiwn y Cynulliad ac fel y Cynulliad yma yn rhoi'r gefnogaeth sydd ei hangen ar bob un ohonyn nhw i ymgymryd â'u gwaith newydd. Mae yna gyffro yn eu plith nhw i ymwneud ac i gymryd rhan yn y Senedd Ieuenctid, ac mae'n rhaid i ni sicrhau bod gyda nhw'r gefnogaeth briodol i wneud hynny, ac i gadw hynny dan sylw ac o dan adolygiad wrth i'r Senedd Ieuenctid fynd drwy ei dwy flynedd gyntaf ac wrth i'r bobl ifanc yma gymryd rhan yn eu democratiaeth nhw ar ran eu cyd-bobl ifanc yng Nghymru.
4. Sut y bydd Comisiwn y Cynulliad yn ariannu unrhyw gostau ychwanegol a fydd yn gysylltiedig â'r posibilrwydd o newid enw Cynulliad Cenedlaethol Cymru? OAQ53318
Bydd yr asesiad effaith rheoleiddiol a ddaw gyda'r Bil sydd i'w gyflwyno yn y dyfodol agos yn asesu ei gostau posibl i'r Cynulliad ei hun ac i'r unigolion a'r sefydliadau eraill yr effeithir arnynt. Bydd y costau i Gomisiwn y Cynulliad a nodir yn yr asesiad effaith rheoleiddiol yn cael eu cynnwys o fewn cyllidebau sy'n bodoli eisoes a'r capasiti presennol.
Diolch i chi, Lywydd. Fel y byddwch yn gwybod, yn ystod ymgynghoriad y Comisiwn, cafwyd cytundeb mwyafrifol y dylai'r Cynulliad newid ei enw. Fodd bynnag, datgelodd yr ymgynghoriad fod pryder ynghylch cost y newidiadau, ac mewn anerchiad ar 13 Mehefin 2017, fe ddywedoch chi eich hun, Lywydd, y bydd y Comisiwn, ac rwy'n dyfynnu,
'yn cynllunio'r newid fel y gellir lleihau'r gost. Rydym yn bwriadu, ymhen amser, newid enw'r Cynulliad yn unig, gan osgoi'r angen i gael unrhyw ail-frandio ar raddfa fawr neu i newid y logo.'
Nawr, gwn fod rhywfaint o amwysedd ar hyn o bryd ynghylch yr enw neu'r enwau a roddir i ni, felly fy nghwestiwn yw: faint sydd eisoes wedi'i wario ar y broses drawsnewid hyd yn hyn, ac a allech egluro'r amwysedd sy'n parhau mewn perthynas â'r amcanestyniadau o gostau, a sut y bydd hyn yn effeithio arnom ni fel Aelodau Cynulliad ac yn wir, ar ail-frandio ein swyddfeydd?
Fel y gwyddoch, rwyf ar fin cyflwyno Bil Senedd Cymru ac Etholiadau (Cymru) fel yr Aelod sy'n gyfrifol am y Bil hwnnw. Bydd hwnnw'n cael ei gyflwyno o fewn yr ychydig wythnosau nesaf. Bydd asesiad effaith rheoleiddiol a memorandwm esboniadol yn dod gyda'r Bil, a byddant yn manylu'n eithaf sylweddol ar lawer o'r materion rydych wedi tynnu sylw atynt yn eich cwestiwn. Gallaf gadarnhau, fel rwyf wedi'i ddweud o'r blaen, nad ydym yn bwriadu ail-frandio'r Cynulliad yn ei gyfanrwydd; rydym yn bwriadu rhoi deddfwriaeth ar waith i newid yr enw er mwyn adlewyrchu ein rôl fel Senedd genedlaethol, yn unol â'r mandad a roddwyd gan benderfyniad Cynulliad ym mis Gorffennaf 2016, ac fel y dywedais, bydd hynny'n cael ei wneud am y pris rhataf fel yr amlinellwyd yn yr asesiad effaith rheoleiddiol a gaiff ei gyhoeddi pan gyflwynir y Bil.
Diolch, Llywydd.
Eitem 4 yw'r cwestiynau amserol ac mae gennyf ddau yr wythnos hon, a daw'r cyntaf gan Bethan Sayed.
1. A wnaiff y Gweinidog ymateb i adolygiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru i ymdriniaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg â honiadau a wnaeth cleifion ag anawsterau dysgu ynghylch ymosodiadau rhyw yn erbyn gweithiwr gofal? 272
Diolch i chi am y cwestiwn. Rwyf wedi comisiynu adolygiad annibynnol o'r modd y mae'r bwrdd iechyd wedi ymdrin â'r pryderon a godwyd ynghylch Kris Wade. Cyhoeddodd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yr adroddiad hwnnw ddoe. Rwy'n disgwyl yn awr i'r bwrdd iechyd gymryd camau brys i fynd i'r afael â'r canfyddiadau a'r argymhellion. Byddwn yn gweithredu mesurau mewn ymateb i hynny ledled Cymru cyn gynted â phosibl.
Diolch i chi am yr ateb hwnnw. Dyma'r trydydd adroddiad, wrth gwrs, os ydym yn cynnwys yr adolygiad bwrdd gwaith o ddiogelu yn y bwrdd iechyd, ac mae'r adroddiad yn dangos bod yna ddiffyg eglurder o hyd o ran sut y mae rhai argymhellion, sy'n mynd yn ôl cyn y sgandal benodol hon, wedi cael eu rhoi ar waith neu sut y byddant yn cael eu rhoi ar waith. Pan fyddwn yn trafod yr adroddiad hwn, rwy'n credu y dylai pawb ohonom gofio am beth y mae'n sôn—ymosodiadau rhywiol yn erbyn menywod agored iawn i niwed mewn lleoliad gofal lle'r oeddent yn credu eu bod yn ddiogel. Teimlai'r menywod nad oedd neb yn eu credu, ac onid ydych yn cytuno, Weinidog, fod hyn yn gwbl annerbyniol? Os yw mudiad #MeToo am gael effaith, mae'n rhaid i awdurdodau cyhoeddus wrando ar bob menyw, agored i niwed neu beidio, ond yn fwy pwysig, rhaid iddynt eu credu hefyd.
Mae yna rannau o'r adroddiad sy'n hynod broblemus. Beirniadir y dull o lywodraethu o fewn y bwrdd iechyd. Mae'n dweud bod aelodau'r bwrdd yn ymwybodol o'r honiadau unigol, ond ni wnaethpwyd dim yn ffurfiol hyd nes ei bod yn llawer rhy hwyr. Mae diffyg cysylltiad rhwng y bwrdd a gwasanaethau gweithredol wedi bod yn amlwg ers adroddiad 'Ymddiried mewn Gofal' 2014. Beth y bwriadwch ei wneud yn wahanol, Weinidog, mewn perthynas â llywodraethu, fel nad oes rhaid i ni gael adroddiad arall ymhen ychydig flynyddoedd a'r un hen ymatebion wedi'u hailgylchu, parod ar gyfer y wasg gennych chi? A wnewch chi ymchwilio i'r posibilrwydd o fesurau arbennig i oruchwylio'r gwaith o weithredu argymhellion, yn enwedig yn yr adroddiad hwn? Ac a wnewch chi'n bersonol gynnal adolygiad o lywodraethu ym mwrdd iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg a mynd ati ar frys i newid arweinyddiaeth ar lefel y bwrdd?
Yn olaf, fel y gwneuthum ddoe, hoffwn geisio sicrwydd ynglŷn ag annibyniaeth Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru. A dywedaf hyn eto oherwydd credaf ei fod yn hanfodol bwysig. Cafodd y wasg eu briffio am 9 o'r gloch y bore ac ni chefais yr un adroddiad tan 6 o'r gloch y noson honno, gyda'r honiad fod yn rhaid iddynt gadw'r mater yn breifat er mwyn y teuluoedd. Os oedd yn fater mor breifat, pam y cafodd y wasg eu briffio cyn y gwleidyddion etholedig yn y lle hwn? Yr unig reswm y cefais yr adroddiad oedd oherwydd fy mod wedi gofyn amdano—ni chafodd unrhyw AC arall yr adroddiad hwnnw—ynghyd ag AS sydd wedi dangos diddordeb yn y maes hwn hefyd. Er eglurder, rydym angen sicrwydd bod AGIC yn gwbl annibynnol, oherwydd os ydynt, pam y gwnaethant drin y wasg mewn ffordd wahanol i wleidyddion etholedig yn y lle hwn?
Diolch i chi am y gyfres o gwestiynau. Rwyf am ddechrau gyda'ch cyfres olaf o gwestiynau ynghylch AGIC a'u hannibyniaeth. Ydynt, maent yn gweithredu'n annibynnol. Gwnaethant benderfyniadau ynghylch pwy i'w gweld a sut i gynnal yr ymchwiliad. Credaf eu bod wedi gweld tua 40 o wahanol bobl, aelodau staff presennol ac aelodau staff o'r gorffennol, yn ogystal â theuluoedd y tair menyw, ynghyd â theulu Christine James, a gafodd ei llofruddio gan Kris Wade fel y gwyddom.
Cafodd yr adroddiad ei ryddhau i'r menywod a oedd wedi cwyno, eu teuluoedd neu eu cynrychiolwyr, wythnos cyn cyhoeddi'r adroddiad. Yn ogystal, cyfarfu AGIC â'r menywod wythnos cyn yr adroddiad. Yna rhyddhawyd yr adroddiad iddynt ar 28 Ionawr. Ac, ar 28 Ionawr, cynhaliodd AGIC sesiwn friffio dechnegol ar gyfer y wasg, a darparu copi o'r adroddiad i chi. Mater i AGIC yw cyhoeddi'r adroddiad, ac nid mater lle cafwyd unrhyw fath o ymyrraeth gan Lywodraeth Cymru. Nid oes unrhyw amheuaeth nad oedd casgliadau'r ymchwiliad a'r broses i gyrraedd y casgliadau hynny yn gwbl annibynnol.
Rwyf am ddychwelyd at y pwynt rydym yn sôn amdano—tair o fenywod agored i niwed y gwnaed cam mawr â hwy. Ac mae'n ddrwg iawn gennyf fod y tair ohonynt wedi cael cam, nid yn unig gan unigolyn o fewn y gwasanaeth iechyd, ond gan y ffordd y gwnaeth y gwasanaeth cyfan ymateb i'r gŵyn wedyn, ac yn arbennig yr ymateb wedi'r gŵyn gyntaf, lle cydnabyddir na chafodd y mater ei adnabod fel mater diogelu ar unwaith a'i drin yn unol â hynny. Fe gafodd yr ail a'r drydedd gŵyn eu trin felly. Fel y gwyddom, penderfynodd yr heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron beidio â bwrw ymlaen ag erlyniad. Nawr, mae hynny y tu allan i gylch gwaith y bwrdd iechyd a Llywodraeth Cymru yn wir. Ond rwy'n cytuno, rydych yn dechrau drwy gredu'r sawl sy'n gwneud y gŵyn—mae'n rhaid i hwnnw fod yn fan cychwyn i chi. Fel arall, gwyddom na fyddwn yn annog pobl i wneud cwynion fel y dylent, ac yna ymdrin â'r cwynion mewn modd sensitif pan fyddant yn cael eu hymchwilio.
Af ymlaen, rwy'n credu, at y ddau bwynt arall a godwyd gennych—o ran cynllun gweithredu a beth fydd yn digwydd nesaf, o fewn ychydig wythnosau, bydd angen i'r bwrdd iechyd gyflwyno cynllun gweithredu i Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru. Ni fyddant yn cyflwyno'r cynllun hwnnw i'r Llywodraeth, bydd yn mynd i Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, a fydd yn penderfynu a yw'r cynllun gweithredu hwnnw'n ddigonol. A diau y bydd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn dychwelyd i weld pa gynnydd, gan gynnwys cyflymder a chysondeb y cynnydd, y mae'r bwrdd iechyd yn ei wneud mewn perthynas ag ymdrin â'r argymhellion hynny. Rwyf eisoes wedi ymrwymo i fwrw ymlaen â thri argymhelliad ar gyfer y Llywodraeth.
O ran eich galwad am fesurau arbennig a newid arweinyddiaeth yn y bwrdd iechyd, wrth gwrs, mae'r prif weithredwr yn newydd ac nid oedd yn ei swydd pan gynhaliwyd yr adolygiad bwrdd gwaith, nac yn wir pan ddigwyddodd y digwyddiadau, ac o ran y bwrdd ei hun, nid oes unrhyw awgrym gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru y dylid gwneud newidiadau ar lefel y bwrdd. A hoffwn atgoffa'r Aelod ac eraill sydd yma neu'n gwylio bod gwneud bwrdd iechyd neu ymddiriedolaeth yn destun mesurau arbennig yn rhywbeth sy'n digwydd yn dilyn cyngor gan brif weithredwr GIG Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn wir. Pe bai Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wedi ystyried hynny'n briodol, byddent wedi dweud hynny a byddai cyfle wedi bod i gynnal cyfarfod arbennig o dan y statws uwchgyfeirio.
Felly, rwy'n derbyn cyngor ar y materion hyn gan bobl sy'n gwbl annibynnol, ac mae hynny'n rhoi sicrwydd i bobl Cymru nad ydym yn gwneud sefydliadau gofal iechyd yn destun mesurau arbennig neu'n eu tynnu allan o fesurau arbennig er mwyn bodloni gwleidydd yn y Llywodraeth neu tu allan, a dyna'n bendant yw'r peth cywir i'w wneud. Ond rwy'n benderfynol y bydd y gwasanaeth iechyd yn ymdrin â'r argymhellion yn yr adolygiad annibynnol hwn ac y bydd yn gwneud hynny o ddifrif ac yn fuan.
Mae hon yn sefyllfa ddifrifol iawn a'r cwestiwn sylfaenol yw: pam fod materion sy'n ymwneud â gofal pobl ag anabledd dysgu yn cael eu hanwybyddu yn gyson? Dyna'r mater sylfaenol yma, oherwydd roedd bwrdd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg yn gwybod am yr honiadau a wnaed yn erbyn Kris Wade a'r problemau yn y gyfarwyddiaeth anabledd dysgu ei hun, ond ni lwyddasant i weithredu. Methodd Gwasanaeth Erlyn y Goron â chymryd honiadau'r menywod o ddifrif, er gwaethaf y ffaith bod yr heddlu wedi gofyn iddynt ailystyried. Roedd yr heddlu eisiau mynd ar drywydd yr achos; methodd Gwasanaeth Erlyn y Goron roi unrhyw gamau ar waith. Barn y gwasanaeth yw bod Llywodraeth Cymru bob amser wedi gwthio'r ymdrechion i ddatblygu cyswllt effeithiol rhwng y gwasanaethau anabledd dysgu a'r system cyfiawnder troseddol i'r naill ochr. Nid wyf am gael dadl wleidyddol ynghylch yr hyn sydd wedi'i ddatganoli a'r hyn nad yw wedi'i ddatganoli yn awr, ond yn sicr, gyda materion mor ddifrifol, mae angen i chi allu gweithio gyda'ch gilydd yn hytrach nag anwybyddu'r sefyllfa, oherwydd dros y blynyddoedd, ceir amryw o adroddiadau ar afiachusrwydd a marwolaethau ychwanegol ymhlith pobl ag anabledd dysgu mewn ysbytai cyffredinol. Nid oes neb yn gwrando arnynt yno chwaith. A gwn am y grŵp cynghori amlasiantaeth ar anabledd dysgu, ond mae hwnnw'n gweithredu'n union fel y mae ei enw'n dweud—grŵp cynghori yn unig ydyw. Nid oes unrhyw newid yn y canlyniadau i bobl ag anabledd dysgu. Mae'r achos hwn yn tynnu sylw at sefyllfa ddifrifol iawn. Felly, hefyd, a gaf fi ofyn: pam nad oedd uwch-swyddogion gweithredol y bwrdd iechyd yn meddwl neu'n teimlo bod yr honiadau yn achos Kris Wade yn ddifrifol? Pam y cytunodd Llywodraeth Cymru i adolygiad bwrdd gwaith mewnol yn ôl ym mis Hydref 2017? Os nad oedd achos i'w ateb, pam cynnal adolygiad? Os oedd yn ddifrifol, dylid bod wedi cynnal adolygiad priodol, nid adolygiad bwrdd gwaith mewnol yn unig. Ac yn olaf, a yw Llywodraeth Cymru yn falch o'r modd y mae'r chwythwr chwiban meddygol wedi cael ei drin yn yr achos hwn?
Cytunaf â rhywfaint o'r hyn y mae Dai Lloyd wedi'i ddweud am ddifrifoldeb gwirioneddol y mater hwn. Mae'n fater difrifol. Dyna pam y gelwais am yr ymchwiliad, gyda'r adroddiad a gyhoeddwyd gennym. Ac os edrychwch ar yr adroddiad, nid oes lle i guddio ynddo. Mae'n nodi amrywiaeth o feysydd lle mae angen gwneud gwelliannau go iawn. Mae'n nodi amrywiaeth o fethiannau a siomedigaethau ynglŷn ag ymddygiad yn y gorffennol. Ac mae hynny'n bwysig i gael darlun gonest er mwyn gwella arno. Ond o ran anabledd dysgu, rwy'n cydnabod yr hyn a ddywed Dai Lloyd ynghylch lefelau marwolaethau gwahaniaethol. Nid yw hynny'n achos dathlu, mae'n achos pryder ond mae'n achos dros weithredu hefyd. Dyna pam fod y Llywodraeth, o'i dewis ei hun, wedi cynnal adolygiad ar draws y Llywodraeth mewn perthynas â gwasanaethau anabledd dysgu, ac rwyf fi, Rebecca Evans mewn rôl flaenorol, a Huw Irranca-Davies mewn rôl flaenorol hefyd, wedi bod yn rhan o'r gwaith o gyflawni ac adolygu a datblygu, oherwydd rydym yn cydnabod bod angen i ni wneud yn well. Rydym yn cydnabod bod heriau gwirioneddol a bod angen gwella. Nid oes diffyg dealltwriaeth neu ymrwymiad gan y Llywodraeth i wneud yn well. Os ydych eisiau gweld enghreifftiau, mae'r prif swyddog nyrsio wedi dangos arweinyddiaeth go iawn ar y mater hwn hefyd. Mae hi wedi sicrhau ei fod yn flaenoriaeth go iawn dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, oherwydd y dystiolaeth gynyddol am ganlyniadau gwahaniaethol a'r methiant i wneud cynnydd priodol.
Er enghraifft, yn gynharach y tymor hwn, cyfarfûm â theulu Paul Ridd i edrych ar yr hyn a ddigwyddodd gyda'i ofal, lle roedd wedi cael cam, unwaith eto, ac yna daeth y teulu yn ôl wedi cyfnod o amser—ac rydym yn deall eu bod yn ddig ac nad oeddent eisiau dod yn ôl. Yna, penderfynasant eu bod eisiau gwneud rhywbeth er mwyn sicrhau nad oedd pobl eraill yn gorfod dioddef yr un profiad. Ac mae hwnnw wedi bod yn brofiad cadarnhaol awn i'r bwrdd iechyd hwn hefyd. Maent wedi dysgu gwersi ar faterion ar y ward—ac yn wir, mae Melanie Thomas, un o'r nyrsys y maent wedi ymwneud â hi, y cydlynydd anabledd dysgu, wedi cael cydnabyddiaeth yn ddiweddar am ei gwaith ar anabledd dysgu yn rhestr anrhydeddau'r flwyddyn newydd.
Felly, mae yna arferion da yng Nghymru. Fel erioed, mae'r her yn ymwneud â pha mor gyson yw'r rheini ac nad yw'r dysgu'n cael ei gadw mewn un rhan o'n gwasanaeth yn unig. Felly, rwy'n cydnabod bod methiannau wedi bod. Hoffwn ei gwneud yn glir nad yw Llywodraeth Cymru yn awdurdodi adolygiad bwrdd gwaith fel yr unig ymateb a ddylai ddigwydd. Cynhaliodd y bwrdd iechyd adolygiad bwrdd gwaith, ac yn dilyn hwnnw, nid oeddwn yn fodlon mai dyna oedd y llwybr gweithredu priodol, nid oeddwn yn fodlon fod y dysgu wedi bod yn ddigon dwfn nac yn wir eu bod wedi dysgu'r gwersi i gyd ac wedi gofyn i'r bobl iawn i gyd. Felly, gelwais ar Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru i gynnal adolygiad.
O ran triniaeth y chwythwr chwiban, wel, yr her yma yw bod Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wedi mynd drwy hynny. Buaswn bob amser eisiau i bobl gredu chwythwyr chwiban, a hoffwn—. Unwaith eto, rydych yn dechrau drwy gredu'r chwythwr chwiban a chymryd yr hyn y maent yn ei ddweud o ddifrif os ydych am sicrhau'r diwylliant cywir. Yn sicr, credaf fod angen dysgu mwy ac mae Cymdeithas Feddygol Prydain wedi codi'r mater hwnnw'n uniongyrchol gyda mi. Credaf y byddwn mewn sefyllfa well, ond fel erioed, byddwn yn parhau i ddysgu o'n camgymeriadau yn ogystal â'r pethau rydym yn eu gwneud yn iawn. Mae llawer na ddylem fod yn falch ohono yma, ond credaf hefyd mai'r peth pwysicaf yw'r ymrwymiad i wneud yn well yn y dyfodol.
Diolch yn fawr iawn, Weinidog. Mae'r ail gwestiwn amserol y prynhawn yma i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth. Rhun ap Iorwerth.
2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gamau gweithredu Llywodraeth Cymru yn dilyn penderfyniad REHAU Ltd. i ymgynghori ar ddyfodol ei ffatri yn Amlwch? 273
Diolch. Cyfarfu fy swyddogion â rheolwyr y cwmni ddydd Llun, ynghyd â chynrychiolwyr cyngor Ynys Môn a'r Aelod Seneddol lleol, Albert Owen. Roedd y cyfarfod yn adeiladol iawn ac mae pob plaid wedi cytuno bellach i weithio gyda'i gilydd mewn ymdrech i gadw gwaith ar y safle. Rydym hefyd yn barod i roi cymorth i'r gweithwyr drwy gydol y cyfnod ymgynghori.
Diolch yn fawr iawn am yr ymateb. Dwi innau wedi cyfarfod uwch swyddogion lleol ac ar lefel Brydeinig. Dwi yn ddiolchgar i swyddogion Llywodraeth Cymru a swyddogion Cyngor Sir Ynys Môn am fod wedi ymgysylltu'n fuan efo REHAU yn dilyn y cyhoeddiad. Mi oedd o'n gyhoeddiad a ddaeth o nunlle mewn difrif. Mae'n gwmni sydd wedi gweithredu yn Amlwch ers dros 40 mlynedd. Mae yna weithlu da, cynhyrchiol a theyrngar yna. Mae o'n gwmni sydd ddim mewn trafferthion. Ailstrwythuro ydy hyn ac, yn anffodus, mae Amlwch yn gorfod talu'r pris am hynny, oherwydd gostyngiad yn y galw am y cynnyrch penodol maen nhw'n ei wneud yno. Mae yna 104 yn gweithio yno, wrth gwrs, a all gogledd Ynys Môn ddim fforddio colli'r swyddi yna. Mae'n ardal sydd wedi dioddef ergyd ar ôl ergyd yn economaidd. Mi ddaeth cyhoeddiad Hitachi, wrth gwrs, am oedi cynllun Wylfa Newydd wythnos yn unig cyn cyhoeddiad REHAU. Mae rhagor o swyddi, rhyw 150, yn mynd i fynd o'r hen Wylfa ymhen rhyw flwyddyn wrth i'r broses ddadgomisiynu barhau.
Dwi wedi gofyn yn benodol yn yr wythnosau diwethaf i chi a'r Llywodraeth am gymorth datblygu economaidd o'r newydd i Fôn, a'r ardal yma yn benodol. Ond, o ran REHAU, pedwar cwestiwn. Allaf i ofyn am ragor o sicrwydd, yn ychwanegol at yr hyn ddywedsoch chi yn gychwynnol, y bydd y Llywodraeth yn darparu adnoddau digonol i allu gwneud cynnig sylweddol i'r cwmni am gymorth a allai eu perswadio i arallgyfeirio neu ddatblygu cynnyrch newydd yno o bosib? Allaf i gael rhagor o sicrwydd hefyd y bydd y Llywodraeth yn rhoi cefnogaeth i gadw pob un opsiwn ar y bwrdd ar gyfer parhad posib i'r gwaith, yn cynnwys edrych ar unrhyw opsiynau ar gyfer cefnogi management buy-outs ac yn y blaen? Ond, os ydy hi'n dod i'r gwaethaf, dwi'n gobeithio gallwn ni ddibynnu ar y Llywodraeth i fuddsoddi yn helaeth mewn cyfleon ailsgilio a chwilio am ailgyflogaeth i'r gweithwyr. Gaf i ofyn am sicrwydd am hynny? A hefyd mae'r gweithwyr yn bryderus am y math o becynnau diswyddo gallan nhw gael eu cynnig, os ydy hi'n dod i hynny. Gaf i sicrwydd gan y Llywodraeth y bydd pob cyngor a chymorth yn cael eu cyfeirio atyn nhw i sicrhau eu bod nhw—mewn sefyllfa lle dŷn nhw ddim, fel dwi'n deall, yn cael trafod trwy undebau—yn cael chwarae teg?
Wel, a gaf fi ddiolch i Rhun ap Iorwerth am godi'r cwestiwn pwysig hwn ar gyfer ei etholwyr ac efallai, yn gyntaf oll, a gaf fi roi rhywfaint o gefndir i'r penderfyniad a wnaed gan y cwmni ac yna tynnu sylw at rai o'r opsiynau—yn gydweithredol gyda'r cwmni a'r swyddogion o gyngor Ynys Môn y mae'r Aelod yn cyfeirio atynt—rydym yn ystyried bwrw ymlaen â hwy, gan gynnwys y cymorth a allai fod ar gael ar gyfer yr opsiynau hynny? Ac yna, yn drydydd, os caf, Ddirprwy Lywydd, hoffwn grybwyll y gwaith sydd bellach wedi digwydd o fewn Llywodraeth Cymru mewn perthynas â gogledd-orllewin Cymru, yn enwedig Ynys Môn, a hefyd, o ystyried y newyddion brawychus gan Airbus a dyfalu ynghylch dyfodol y safle ym Mrychdyn yn hirdymor, y cymorth rydym yn bwriadu ei gynnig i ogledd-ddwyrain Cymru yn ogystal—yn wir, rhanbarth gogledd Cymru yn ei gyfanrwydd.
Yn gyntaf oll, o ran y cefndir, mae Rhun ap Iorwerth yn llygad ei le: mae safle Amlwch yn cynhyrchu math penodol o fand ymyl PVC ar gyfer cynnyrch dodrefn sydd wedi profi gostyngiad sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf—gostyngiad o tua 75 y cant. Mae gan ei chwaer-safle yn Tortosa, Sbaen, nifer o fanteision dros safle Amlwch, gan gynnwys y ffaith bod ganddynt le i ehangu, tra bod safle Amlwch yn gyfyngedig. Mae gan y safle gymysgedd mwy amrywiol o gynnyrch yn ogystal, ac mae capasiti offer sefydledig ar y safle. Nawr, o ran yr opsiynau a'r gwaith sydd bellach ar y gweill a'r cymorth posibl y gallem ei gynnig i'r busnes, yn gyntaf oll, rydym yn edrych ar y posibilrwydd o fuddsoddi yn safle Amlwch er mwyn creu cystadleuaeth mor deg â phosibl rhyngddo a'r chwaer-safle yn Sbaen. Yn ail, rydym yn bwriadu cynorthwyo safle Amlwch i arallgyfeirio sylfaen weithgynhyrchu'r safle ei hun fel y gall gynhyrchu mwy na dim ond y cynhyrchion band ymyl penodol y gwelsom ostyngiad sylweddol yn y galw amdanynt dros y blynyddoedd diwethaf. Byddai hyn, yn ei dro, yn caniatáu i ni weithredu strategaeth fwy hirdymor a fyddai'n datblygu cadernid o fewn y busnes. Ac yna, yn drydydd, ac yn bwysig iawn rwy'n credu, rydym ni a'r cwmni yn mynd drwy bob un o'n cysylltiadau, nid yn unig yng Nghymru a'r DU, ond yn rhyngwladol, i weld a oes yna drydydd parti a allai ddefnyddio safle Amlwch ar gyfer gweithgarwch gweithgynhyrchu ar sail contract neu, yn wir, caniatáu i weithgynhyrchwyr trydydd parti ddefnyddio'r safle presennol. Felly, mae pob opsiwn yn cael ei archwilio ar hyn o bryd.
Mae nifer o gamau gweithredu wedi codi o'r cyfarfod a gynhaliwyd ddydd Llun, gan gynnwys, wrth gwrs, yr holl gefnogaeth y gellid ei gynnig gan Lywodraeth Cymru i weithwyr pe bai'r safle yn cael ei gau ar ôl y cyfnod ymgynghori. Byddwn yn darparu'r holl gefnogaeth sydd ar gael yn y rhaglen ReAct i'r gweithlu. Rydym yn nodi'r cwmnïau trydydd parti hynny a allai ddod i safle Amlwch neu ddefnyddio safle Amlwch i gynhyrchu cynhyrchion eraill. A byddaf hefyd yn cyfathrebu gyda phrif fwrdd y cwmni. Wrth gwrs, mae'r cwmni yn seiliedig yn yr Almaen. Mae ei bencadlys gweinyddol wedi'i leoli yn y Swistir, ac mae'n cael ei reoli gan deulu Swisaidd. Byddaf yn ceisio sefydlu llinellau cyfathrebu gyda'r bwrdd er mwyn dylanwadu ar benderfyniad y cwmni dros y 90 diwrnod nesaf.
Gan edrych yn ehangach ac yn fwy eang ar Ynys Môn, gogledd-orllewin Cymru ac yn wir, gogledd Cymru i gyd, rwyf wedi gofyn i swyddogion yn fy adran archwilio'r holl gyfleoedd ar gyfer cyflymu prosiectau gwariant cyfalaf yn y gogledd, ac yn enwedig ar Ynys Môn, o ystyried y penderfyniad mewn perthynas â Wylfa Newydd. Credaf ei bod yn gwbl hanfodol ein bod yn cyflwyno cyfleoedd lle bynnag a phryd bynnag y gallwn yn y rhanbarth, ond yn enwedig ar Ynys Môn, a allai gymryd lle'r swyddi a addawyd yn y tymor byrrach gyda phrosiect Wylfa Newydd tra bo penderfyniad yn cael ei wneud ynglŷn ag ailgychwyn y rhaglen waith benodol honno.
Pan gyhoeddodd grŵp REHAU gynigion a allai arwain at gau ei safle gweithgynhyrchu yn Amlwch, ar ôl bod yno am dros 40 mlynedd, roedd yn dweud nad oedd unrhyw arwydd y byddai'r farchnad ar gyfer band ymyl PVC yn gwella, ond roedd hefyd yn dweud bod gweithgynhyrchu cynhyrchion amgen ar y safle, ac rwy'n dyfynnu, 'yn amhosibl oherwydd cyfyngiadau gofod'. O gofio beth rydych newydd ei ddweud wrthym, pa drafodaethau a gawsoch naill ai cyn y penderfyniad neu'r cyhoeddiad hwn, neu yn awr gan eich bod bellach mewn trafodaethau gyda'r cwmni ers eu cyhoeddiad, mewn perthynas â'r gofod ar y safle fel y gallent arallgyfeirio o bosibl?
Diolch i Mark Isherwood am ei gwestiwn, ac mae'n hollol gywir: nid oes pen draw i'w weld o ran y gostyngiad yn y galw am y cynnyrch penodol a gynhyrchir ar safle Amlwch, ac mae hefyd yn gywir—ac fel rwyf wedi'i ddweud eisoes—fod y gofod ar y safle yn gyfyngedig. Fodd bynnag, rydym yn edrych ar arallgyfeirio a newid o gynnyrch sy'n gostwng—mae gostyngiad yn y galw am y cynnyrch penodol hwnnw—naill ai i gynhyrchion eraill o fewn y grŵp y gellid eu dargyfeirio dros dro neu'n fwy parhaol i safle Amlwch neu'n wir y cwmnïau trydydd parti hynny.
Nawr, pe baem yn cael gwared ar rywfaint o'r cynhyrchiant band ymyl o safle Amlwch ac yn gweld cynhyrchion newydd yn dod ar y safle, byddai angen rhywfaint o fuddsoddiad wrth gwrs, a dyna'n union y mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn ei archwilio gyda'r cwmni. Os oes angen cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, rwy'n siŵr y byddem yn edrych ar y mater gyda chydymdeimlad, yn enwedig o gofio bod pob archwiliad o'r busnes hyd yn hyn yn ein harwain i gredu ei fod yn gyflogwr cyfrifol iawn ac felly, yn ein barn ni, mae'n debygol y byddai'n gallu glynu wrth bedwar pwynt y contract economaidd ac wrth gwrs, o ystyried beth y mae'r cwmni wedi'i gynhyrchu'n draddodiadol, ac o ran y ffordd rydym yn buddsoddi mewn busnesau a'n galwadau i weithredu, rwy'n credu y byddai'r busnes mewn sefyllfa i allu cael cymorth. Ond yn gyntaf oll, mae angen inni archwilio yn union pa gyfleoedd sydd ar gael o fewn y grŵp a gyda chwmnïau trydydd parti.
Diolch yn fawr iawn, Weinidog.
Eitem 5 yw'r datganiadau 90 eiliad, a daw'r cyntaf y prynhawn yma gan Vikki Howells.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yr wythnos diwethaf, cynhaliodd fy swyddfa etholaethol sesiwn hyfforddi Ffrindiau yn Erbyn Sgamiau. Cafodd ei drefnu gan Centrica (Nwy Prydain), ac roedd yn tynnu sylw at faint y broblem. Mae 53 y cant o bobl 65 oed a hŷn wedi cael eu targedu gan sgamiau, sydd gyda'i gilydd yn costio rhwng £5 biliwn a £10 biliwn y flwyddyn i economi'r DU. Mae'r canlyniadau dynol yn sylweddol. Mae dioddefwyr sgamiau yn colli arian mawr, ond gallant hefyd golli rhywbeth hyd yn oed yn waeth: eu hurddas. Gall sgamiau arwain at straen, iselder ac arwahanrwydd. Mae rhai dioddefwyr yn ystyried, yn ceisio neu'n llwyddo i gyflawni hunanladdiad, ac mae pobl sy'n cael eu twyllo yn eu cartrefi eu hunain ddwywaith a hanner yn fwy tebygol o farw neu fynd i ofal preswyl. Oedran cyfartalog dioddefwr sgam yw 75, er y gall unrhyw un fod yn ddioddefwr. Gall pobl gael eu sgamio drwy'r post, dros y ffôn, ar garreg y drws neu ar-lein. Beth bynnag yw'r dull a ddefnyddir, maent yn droseddol, yn dwyllodrus, a'r hyn sy'n gwneud y sefyllfa'n waeth yw bod sgamiau'n creu ymdeimlad o gywilydd. Mae eu dioddefwyr yn dioddef yn dawel, ac amcangyfrifir mai un o bob 20 sgam yn unig sy'n dod i sylw'r awdurdodau.
Hoffwn ddiolch i Matt a Rachel am ddod i Aberdâr i esbonio sut y mae Centrica (Nwy Prydain) yn rhoi camau ar waith i godi ymwybyddiaeth o sgamiau. Rwy'n gwisgo fy mathodyn Ffrindiau yn Erbyn Sgamiau gyda balchder, a buaswn yn annog Aelodau eraill i fanteisio ar yr hyfforddiant gwerthfawr hwn. Mae gennym oll ran i'w chwarae yn codi ymwybyddiaeth o'r niwed y mae sgamiau yn ei achosi i helpu i wneud Cymru yn genedl o ffrindiau yn erbyn sgamiau.
Diolch. Jayne Bryant.
Teithiodd CPD Casnewydd i Middlesbrough i gystadlu ym mhedwaredd rownd Cwpan yr FA y penwythnos diwethaf. Nid yn unig bod y ddau reolwr yn dod o Billgwenlli ac wedi mynychu'r un ysgol, rydym hefyd yn rhannu tirnod. Mae pont gludo Casnewydd yn un o ddim ond chwe phont o'r fath sy'n dal i weithredu yn y byd heddiw. Mae Middlesbrough yn gartref i un o'r lleill. Er mwyn dathlu'r gêm hon yng Nghwpan yr FA, awgrymodd cadeirydd Ffrindiau Pont Gludo Casnewydd, David Hando, y dylid cyflwyno print cynfas o bont Casnewydd i reolwr y tîm buddugol, o gofio bod y ddau ohonynt wedi cael eu geni yng nghysgod y bont. Daeth y gêm ddydd Sadwrn i ben yn gyfartal, ac edrychwn ymlaen at y gêm ailchwarae yn Rodney Parade.
Wrth inni aros am y canlyniad pêl-droed terfynol, rydym eisoes yn gwybod bod Casnewydd wedi ennill brwydr y pontydd cludo. Fe'i hagorwyd yn 1906, ac mae'n eicon poblogaidd ar nenlinell Casnewydd ac yn symbol o'n balchder yn ein treftadaeth ddiwydiannol a morol. Mae'n rhychwantu'r afon Wysg lydan sy'n llifo'n gyflym, ac sydd ag un o'r amrediadau llanw mwyaf yn y byd. Cymerodd bedair blynedd i'w hadeiladu ac fe gostiodd £98,000. Mae gwirfoddolwyr ymroddedig Ffrindiau Pont Gludo Casnewydd yn gweithio'n galed gyda Chyngor Dinas Casnewydd i sicrhau grant gwerth £10 miliwn gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri. Mae pont gludo annwyl Casnewydd wedi bod yn galon i'n dinas ers dros ganrif, ac rwy'n annog pobl ledled Cymru i gefnogi'r ymgyrch i sicrhau y bydd yn aros yno ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Symudwn yn awr at y cynnig i atal Rheolau Sefydlog 11.16 a 12.20 er mwyn i'r cynnig i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog gael ei drafod, a galwaf ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig hwnnw—Rhun ap Iorwerth.
Cynnig NNDM6956 Elin Jones
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:
Yn atal Rheol Sefydlog 12.20(i) a'r rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy'n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu'r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i i’r eitem fusnes nesaf gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher, 30 Ionawr 2019.
Cynigiwyd y cynnig.
Cynnig yn ffurfiol.
Diolch. Y cynnig yw atal y Rheolau Sefydlog. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, cafodd hwnnw ei dderbyn.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Felly, symudwn ymlaen at y cynnig i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog, a galwaf ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig hwnnw—Rhun ap Iorwerth.
Cynnig NNDM6955 Elin Jones
Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:
1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Busnes ‘Diwygio'r Rheolau Sefydlog: Rheol Sefydlog 12— Cwestiynau Llafar y Cynulliad i'r Cwnsler Cyffredinol’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 29 Ionawr 2019; ac
2. Yn cymeradwyo’r cynnig i adolygu Rheol Sefydlog 12, fel y nodir yn Atodiad B i Adroddiad y Pwyllgor Busnes.
Cynigiwyd y cynnig.
Eto, cynnig yn ffurfiol.
Diolch. Nid oes unrhyw ddadl, felly y cynnig yw diwygio'r Rheolau Sefydlog. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36, derbyniwyd y cynnig hwnnw.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 6 yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar systemau gwybodeg y GIG, a galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Nick Ramsay.
Cynnig NDM6948 Nick Ramsay
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus—'Systemau Gwybodeg GIG Cymru'—a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Tachwedd 2018.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch i chi am y cyfle i siarad heddiw am ymchwiliad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i systemau gwybodeg GIG Cymru. Bydd yr Aelodau'n cofio bod y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, fis Tachwedd diwethaf, wedi cyhoeddi un o'u hadroddiadau mwyaf damniol hyd yma. Mewn gwirionedd, cafodd y gair 'scathing' ei ddefnyddio i ddisgrifio ein dadansoddiad 23 tudalen o systemau gwybodeg GIG Cymru—GGGC yn fyr.
Yn y pwyllgor, disgrifiodd y prif weithredwr a oedd yn gyfrifol am gynnal GGGC ei uchelgeisiau fel rhai blaengar. Fodd bynnag, nid ydym yn ystyried bod hyn yn wir, ac mewn gwirionedd, mae ein hadroddiad wedi amlygu llu o broblemau gyda'r systemau TG camweithredol, hen ffasiwn sy'n cynnal ein GIG. Roedd darllen ein hadroddiad yn brofiad anghysurus. Deilliodd ein hymchwiliad o adroddiad yr archwilydd cyffredinol ar systemau gwybodeg GIG Cymru, a chanfu fod llawer o brosiectau digidol GGGC ar ei hôl hi, ac mai'r unig reswm y mae rhai ohonynt ar amser yw oherwydd bod eu hamserlenni wedi cael eu haildrefnu er mwyn dangos eu bod ar amser. Mae llinellau atebolrwydd yn aneglur, ceir anfodlonrwydd cyffredinol ynglŷn â pherfformiad y systemau ar draws y GIG ac mae systemau mawr wedi methu dro ar ôl tro a hynny'n boenus o gyson.
Mae'n fater o bryder mawr i'r pwyllgor nad yw GGGC, a gafodd ei ystyried gyntaf yn 2003, wedi llwyddo i gadw i fyny â datblygiadau mewn technoleg. Er bod y cynhyrchion technoleg sydd ar gael i ni—mae defnydd o ddydd i ddydd wedi newid y tu hwnt i adnabyddiaeth yn yr amser hwnnw. Mae staff meddygol yng Nghymru yn dal i gael trafferth gyda systemau TG hen ffasiwn nad ydynt yn cyflawni eu haddewidion. Ac yn wir, ar ôl y Nadolig y llynedd, adroddwyd bod gan GIG Cymru dros 1,000 o beiriannau ffacs sy'n dal i gael eu defnyddio mewn ysbytai a meddygfeydd meddygon teulu, gyda £550,000 wedi'i wario ar gyflenwadau ers 2015, ac un meddyg teulu yn eu disgrifio fel 'creiriau' y mae angen cael gwared arnynt. Rwy'n siŵr y byddai pab ohonoch yn cytuno, yn enwedig mewn cyfnod lle mae e-bost yn cynnig ffordd gynt a mwy diogel o drosglwyddo gwybodaeth am gleifion, fod hon yn sefyllfa annerbyniol.
Yn anffodus, roedd y teimladau hyn i'w clywed drwy gydol ein hymchwiliad. Clywsom sut y mae staff rheng flaen yn cael trafferth gyda systemau TG hynafol a bregus. Mewn rhai achosion, roedd hyn wedi arwain at fethu paratoi triniaethau cemotherapi a radiotherapi mewn pryd; cleifion yn wynebu oedi ar ôl dod i'r ysbyty i gael triniaeth; a gweithwyr iechyd proffesiynol yn methu cael mynediad at ganlyniadau profion gwaed a chofnodion cleifion. Clywsom fod rhai gweithwyr iechyd proffesiynol wedi troi at gofnodion papur hyd yn oed oherwydd nad oedd systemau TGCh yn ddigon dibynadwy. Mae'r diffygion hyn yn cyfrannu hefyd at debygolrwydd cynyddol o gamgymeriadau a phrofiadau gwael i gleifion.
Nid ydym yn gweld sut y gellir datrys hyn heb ailfeddwl yn radical. Yn 2016, amcangyfrifwyd bod cyfanswm y gost o ddatblygu a chyflwyno'r systemau newydd sydd eu hangen ar draws pob bwrdd iechyd yng Nghymru yn £484 miliwn. Ond ni allai'r pwyllgor ddod o hyd i fawr o dystiolaeth a ddynodai o ble y doi'r arian ac a fyddai'n arian GIG ychwanegol neu i'w ganfod o adnoddau presennol. Mae'r gyllideb ar gyfer gweithredu GGGC yn cael ei defnyddio'n bennaf i gadw'r system TG i fynd. Felly, mae angen inni ddod o hyd i ffordd arall o sicrhau bod yr arloesedd angenrheidiol yn cael ei gyllido.
Hefyd, mae ein hymchwiliad wedi holi cwestiynau difrifol ynghylch cymhwysedd, gallu a chapasiti ar draws y system iechyd i gyflawni gweddnewidiad digidol ym maes gofal iechyd yng Nghymru. Ac eto, rydym wedi darganfod diwylliant o hunan-sensoriaeth a gwadu ymhlith y rhai sy'n gyfrifol am symud yr agenda yn ei blaen, yn GGGC ei hun, yn ogystal â'i bartneriaid yn y byrddau iechyd a Llywodraeth Cymru.
Rydym yn arbennig o bryderus am y ffaith nad yw'n ymddangos bod pobl yn bod yn agored a'r diffyg tryloywder ar draws y system gyfan. Mae gweddnewidiad digidol yn galw am ddiwylliant agored, ond canfu'r pwyllgor fod diwylliant GGGC yn gwrthgyferbynnu'n llwyr â hyn. Roedd adroddiad yr archwilydd cyffredinol yn nodi patrwm lle'r oedd y sefydliad yn 'or-gadarnhaol' wrth adrodd ar ei gynnydd. Gwelwyd enghreifftiau o hyn dro ar ôl tro wrth i'r pwyllgor gasglu tystiolaeth. Yn anffodus, mae'n ymddangos bod y meddylfryd hwn yn cyd-fynd â meddylfryd y byrddau iechyd a thimau Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ochr yn ochr â GGGC, gan i'r pwyllgor weld amharodrwydd cyfunol i drafod gwir sefyllfa cynnydd yn agored.
Gwelsom hefyd fod tystion yn amharod i gofnodi eu beirniadaeth o gynnydd neu drefniadau. Roedd peth tystiolaeth ysgrifenedig o ddwy ran o'r GIG yn hynod o debyg a rhoddodd hyn yr argraff i'r pwyllgor ein bod yn cael safbwynt wedi'i baratoi ymlaen llaw. O ganlyniad, ni allai'r pwyllgor gael llawer o hyder yn y sicrwydd a gawsom gan GGGC a Llywodraeth Cymru. Os ydym am fynd i'r afael â'r problemau gyda GGGC, mae ystyriaeth agored a gonest o gyflwr presennol y gwasanaeth a'r rhwystrau i gynnydd yn hanfodol. Yn wir, mae'n bur bosibl fod y diwylliant hwn wedi rhwystro'r pwyllgor rhag clywed am ystod gynhwysfawr o faterion sy'n codi a phroblemau. Yn fyr, rydym yn parhau i fod yn ansicr ynglŷn â maint y problemau.
Rydym yn pryderu nad yw GGGC na Llywodraeth Cymru yn gwbl barod i gydnabod maint a dyfnder y problemau yn agored. Mae'r pwyllgor yn pryderu y gallai'r broblem ddiwylliannol hon fod yn cuddio problemau ehangach a dyfnach na chanfuwyd gennym. Credwn fod angen newid ymddygiad sylfaenol ar ran GGGC a thîm digidol ehangach y GIG os ydym am wneud cynnydd.
Mae'r pwyllgor yn bryderus iawn ynghylch arafwch y broses o gyflwyno systemau gwybodeg modern ar draws y GIG yng Nghymru a'r gwendidau sylfaenol yn y trefniadau cymorth a goruchwylio. Mae'n amlwg nad oes neb yn fodlon gyda'r sefyllfa bresennol ac nid oes neb i'w gweld yn barod i gymryd cyfrifoldeb am yr heriau. Mae cyrff y GIG yn teimlo'n rhwystredig ynghylch arafwch y broses o gyflwyno systemau newydd a'r problemau gyda'r systemau sydd ganddynt, ac maent yn poeni am y dryswch o ran pwy sy'n atebol. Mae GGGC yn teimlo'n rhwystredig oherwydd y diffyg cyfeiriad gan y GIG ehangach. Fodd bynnag, i ni, y rhwystredigaeth fwyaf yw'r ffaith y gall systemau digidol wella'r GIG ac ni wneir hanner digon o ddefnydd ohonynt. Enghraifft syml yw bod cofnodion electronig yn arwain at ofal a chanlyniadau gwell i gleifion, ond mewn gormod o achosion, mae'r GIG yn dibynnu ar gofnodion papur hen ffasiwn.
Ni ddaeth y pwyllgor o hyd i fawr o dystiolaeth a ddangosai fod unrhyw beth wedi'i wneud ynglŷn â'r angen i gyflymu'r newid. Derbyniodd prif weithredwr GIG Cymru adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2018—ac mewn llythyr i'r pwyllgor hwn, cyfeiriodd at y 18 mis o waith a wnaed. Mae hyn yn awgrymu bod y dystiolaeth gychwynnol wedi'i chasglu tua dwy flynedd yn ôl ym mis Medi 2016. Nawr, mae'r pwyllgor yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru a'r GIG yn ehangach yn cymryd camau i ddechrau mynd i'r afael â llawer o'r problemau wrth i'r archwilydd cyffredinol wneud ei waith. Serch hynny, rydym yn dal i fod yn bryderus ynglŷn â chyflymder a brys y camau gweithredu, gan na welsom lawer o dystiolaeth o newid.
Mae ein hadroddiad yn cefnogi canfyddiadau Archwilydd Cyffredinol Cymru a'r adolygiad seneddol, ond rydym hefyd yn gwneud pum argymhelliad ein hunain. Rydym yn croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr argymhellion hyn, yn ogystal â'i hymrwymiad i nifer o adolygiadau i edrych ar wybodeg a datblygu cynllun gwybodeg cenedlaethol. Fodd bynnag, roeddem yn siomedig nad oedd yr ymateb, unwaith eto, i'w weld yn cydnabod pryderon dwfn y pwyllgor ynglŷn ag arafwch y broses o gyflwyno systemau gwybodeg newydd ar draws y GIG yng Nghymru. Mae'n ymddangos o hyd nad oes fawr o gydnabyddiaeth o'r ailwampio radical sydd ei angen na'r angen i gyflawni hyn ar frys. Ymddengys ein bod wedi ein dal mewn cyfnod hir o adolygu heb fawr o newid.
Nodwn y bydd canlyniadau'r adolygiadau yn arwain at newid, ond mae angen ei gyflawni'n gyflym gan fod gwybodeg o fewn GIG Cymru wedi methu dal i fyny â thechnoleg fodern, a bob dydd, mae staff o fewn y GIG yn cael trafferth gyda systemau nad ydynt yn gweithio. Nid yw'n ddigon da o gwbl ac mae angen newid agweddau hunanfodlon y rheini sy'n gyfrifol am ddarparu'r systemau hyn o fewn GIG Cymru. Mae'n rhaid iddynt fod yn agored i'r newid sydd ei angen a sylweddoli nad yw'r dull o weithredu wedi gweithio hyd yma.
Disgwylir y bydd adolygiadau a chynllun gwybodeg cenedlaethol Llywodraeth Cymru yn cael eu cwblhau o fewn chwe mis, a byddwn yn disgwyl y wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun bryd hynny. Byddwn hefyd yn ceisio sicrwydd y bydd Llywodraeth Cymru a'r GIG ehangach yn gweithredu yn ôl yr angen i roi'r adnoddau a'r newidiadau ymarferol sy'n angenrheidiol i wella gwybodeg ar waith o fewn yr amserlen briodol. Rydym wedi gwahodd swyddogion perthnasol i fynychu cyfarfod o'r pwyllgor yn nes ymlaen eleni, ym mis Gorffennaf, i ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf yn llawn i ni ar y cynnydd ac i rannu canlyniadau'r adolygiadau sydd ar y gweill. Rydym yn mawr obeithio y bydd adroddiad y pwyllgor yn rhoi hwb i'r broses o wella ac yn darparu system TGCh fodern i bobl Cymru a fydd yn darparu gwasanaethau iechyd yn well yng Nghymru.
Jenny Rathbone.
A gaf fi dynnu fy enw yn ôl, os gwelwch yn dda, Ddirprwy Lywydd?
O'r gorau. Iawn. Diolch. Mohammad Asghar.
Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i siarad y prynhawn yma ar adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar system wybodeg GIG Cymru. Mae manteision buddsoddi mewn technoleg newydd a TG yn amlwg. Gall gwybodeg greu system gofal iechyd sy'n fwy diogel, hygyrch a chynaliadwy i helpu'r GIG i ddarparu gwell canlyniadau i gleifion a gwneud defnydd mwy effeithlon o adnoddau ariannol a dynol. Mae'r adroddiad yn dilyn y dogfennau blaenorol gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Ionawr y llynedd. Er bod y weledigaeth o gofnod electronig am gleifion yn glir ac er bod elfennau allweddol yn eu lle, canfu fod oedi sylweddol o ran ei gweithredu. Aeth ymlaen i ddweud bod gwendidau allweddol yn y trefniadau i gefnogi a goruchwylio gweithrediad y system, ac i sicrhau bod y system yn cyflawni'r manteision a fwriadwyd. Gwnaeth yr archwilydd cyffredinol nifer o argymhellion, ac rwy'n falch o ddweud eu bod wedi cael ymateb cadarnhaol iawn gan Lywodraeth Cymru. Yn dilyn yr adroddiad hwn, cytunodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i gynnal ei ymchwiliad ei hun i system wybodeg GIG Cymru. Mae'n sicr yn wir fod adroddiad y pwyllgor yn atodol i un yr archwilydd cyffredinol. Yn ystod ein sesiynau gwrando, roedd llawer o bryderon yn codi dro ar ôl tro. Y brif broblem o hyd yw arafwch y broses o ddarparu system wybodeg fodern ar draws y GIG yng Nghymru a'r gwendidau sylfaenol yn y trefniadau cymorth a goruchwylio. Adlewyrchir y pryder hwn yn y rhwystredigaeth a fynegwyd ar draws y GIG ynghylch yr oedi wrth ddarparu cofnodion electronig am gleifion, yn ogystal â phryder ynglŷn â chydnerthedd systemau craidd.
Roeddem wedi gobeithio y byddai cyflymder y newid wedi cynyddu ers adroddiad yr archwilydd cyffredinol flwyddyn yn ôl. Fodd bynnag, nid felly y bu. Mewn gormod o achosion, mae'r GIG yn dal i ddibynnu ar gofnodion papur, trefn sydd wedi dyddio. Mae Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru yn teimlo'n rhwystredig ynghylch diffyg cyfeiriad y GIG yn ehangach, ond gwelsom nad yw'r GIG yn cydnabod yn agored beth yw maint a dyfnder y broblem o hyd. Gall hyn fod yn arwydd o broblem ehangach bosibl, a allai ddatgelu rhagor o bethau a allai beri pryder nad ydynt yn amlwg eto. Yr hyn a ddaeth yn amlwg oedd diffyg tryloywder ar draws y system gyfan. Ymddengys bod rhai tystion yn yn amharod i gael eu cofnodi'n beirniadu'r cynnydd a wnaed, neu'r trefniadau sydd ar waith. Canfu'r archwilydd cyffredinol fod GGGC yn 'or-gadarnhaol' wrth adrodd ar gynnydd. Ddirprwy Lywydd, nid yw eu hagwedd hunanfodlon yn cyd-fynd â chanfyddiad y pwyllgor fod llawer o brosiectau digidol ar ei hôl hi, ac eraill ond ar amser am fod eu hamserlenni wedi'u haddasu i ddangos eu bod ar amser. Nid yw symud y pyst gôl yn datrys y broblem. Mae cyflymder mawr newid technolegol yn golygu y gallai'r oedi parhaus olygu bod y GIG yng Nghymru yn gweithredu ar systemau TG sydd wedi dyddio.
Yn ogystal â chymeradwyo'n gryf yr argymhellion a wnaed eisoes gan yr archwilydd cyffredinol, mae'r adroddiad hwn yn gwneud pump argymhelliad. Rwy'n croesawu'r ffaith bod y pump argymhelliad wedi'u derbyn gan Lywodraeth Cymru, yn enwedig cais y pwyllgor i gael adroddiadau diweddaraf bob chwe mis gan Lywodraeth Cymru ar y cynnydd ar weithredu'r argymhellion digidol yn yr adolygiad seneddol ac adroddiad yr archwilydd cyffredinol. Mae hyn yn hanfodol os ydym i gyflymu cynnydd a darparu system TG sy'n addas at y diben ac yn sicrhau canlyniadau gwell i gleifion yng Nghymru. Roeddwn yn ddigon ffodus i gyfarfod â Dr Alice Groves yr wythnos diwethaf. Aeth i America gyda grŵp o feddygon a aeth ar ymweliad casglu ffeithiau yn arbennig er mwyn gweld y system wybodeg hon yn America, a thestun syndod i'r meddygon Americanaidd oedd clywed bod y GIG yng Nghymru yn dal i ddefnyddio peiriannau ffacs hen ffasiwn ac mewn rhai achosion, fod llawdriniaethau'n cael eu canslo yn theatrau llawdriniaethau GIG Cymru am nad oedd y ffeiliau ar gyfer y cleifion wedi cyrraedd y theatrau llawdriniaethau. Yr hyn a glywais gan Dr Groves oedd ein bod ymhell ar ei hôl hi yn y maes hwn yng ngwasanaeth y GIG yng Nghymru, ac y dylem ddilyn ychydig a dysgu rhywbeth gan wasanaeth iechyd yr Unol Daleithiau yng Nghymru hefyd. Diolch.
Ar ôl bod yn absennol o'r lle hwn am beth amser, weithiau rwy'n myfyrio ynglŷn â'r hyn sydd wedi newid a'r hyn sydd heb newid ers i mi ddychwelyd. Cofiaf orfod ymdrin â sefyllfa yn fy etholaeth lle na ellid trosglwyddo gwybodaeth yn effeithiol rhwng dau ysbyty yn sir Gaerfyrddin. Canlyniad hynny, mewn gwirionedd, oedd bod y claf, a oedd yn oedolyn ifanc—rhoddwyd ei gofnodion i'w rieni eu gyrru o Lanelli i Gaerfyrddin. Nid oedd yn ddefnydd diogel iawn o ddata neb, ond yr unig ffordd y gallent gael y wybodaeth drwodd mewn pryd. Ddirprwy Lywydd, nid oeddwn yn disgwyl dychwelyd yma ar ôl cymaint o amser i weld mai systemau TG hen ffasiwn o'r fath sydd gennym o hyd, fel y mae'r adroddiad hwn yn ei ddangos. Mae'r ffaith bod unrhyw un yn dal i ddefnyddio peiriant ffacs—nid wyf yn credu y buaswn yn cofio sut i ddefnyddio peiriant ffacs pe bai galw arnaf i wneud hynny—wedi bod yn dipyn o sioc i mi, ac fel y gŵyr y Dirprwy Lywydd, nid wyf yn un sy'n dychryn yn hawdd.
Nid wyf am ailadrodd y pwyntiau a wnaed eisoes yng nghyfraniad clodwiw Nick Ramsay i'r ddadl. Nid oes angen ailadrodd y problemau; mae'r problemau'n ddigon clir yn yr adroddiad i bawb eu darllen. Ond mae'n werth ystyried nad sôn am ddadl damcaniaethol a wnawn yma, neu rywbeth cwbl dechnegol; mae hyn yn effeithio ar fywydau pobl. Nododd Canolfan Ganser Felindre na chafodd claf driniaeth gemotherapi am nad oedd canlyniadau gwaed ar gael a bu oedi cyn rhoi triniaeth radiotherapi i wyth o gleifion. Cleifion go iawn yw'r rhain; bywydau pobl go iawn yw'r rhain.
Rwyf am ganolbwyntio yn fy nghyfraniad heddiw, Ddirprwy Lywydd, ar faterion yn ymwneud â diwylliant, materion yn ymwneud ag anallu ymddangosiadol i gyfaddef bod yna broblemau difrifol, y duedd i symud y pyst gôl yn hytrach na chyfaddef bod prosiectau ar ei hôl hi, a methiant syml i gydnabod bod yna broblem. Ac rwyf am ailadrodd yr hyn a ddywedodd Nick Ramsay. Mae'r adroddiad yn dweud:
'Mae ein hymchwiliad wedi codi cwestiynau difrifol am gymhwysedd, gallu a chapasiti ar draws y system iechyd i gyflawni gweddnewidiad digidol yng ngofal iechyd Cymru. Ac eto canfuwyd diwylliant o hunan-sensoriaeth a diarddeliad ymhlith y rhai sy’n gyfrifol am fwrw ymlaen â’r agenda—yng Ngwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru ei hun yn ogystal â’i bartneriaid yn y byrddau iechyd a Llywodraeth Cymru.'
Nawr, credaf fod hwnnw'n gyhuddiad difrifol tu hwnt. Felly, roeddwn yn falch o weld bod Llywodraeth Cymru yn derbyn argymhellion y pwyllgor. Ond pan ddarllenais fanylion y derbyniad hwnnw, roedd yn ymddangos i mi unwaith yn rhagor eu bod yn dweud wrthym y byddai popeth yn iawn am fod Llywodraeth Cymru eisoes yn gwneud yr hyn roedd y pwyllgor wedi dweud bod angen ei wneud ac y byddai popeth yn berffaith iawn. Wel, nid oes ond angen inni wrando eto ar gyfraniad Nick Ramsay heddiw i wybod nad yw hynny'n wir. Ac nid fi'n unig sy'n sôn am y diwylliant hwn. Hoffwn ddyfynnu i'r Gweinidog ei gyd-Aelod Llafur—ei gyd-Weinidog, bellach—Lee Waters, a ddywedodd,
Nid ymwneud â thechnoleg yn unig y mae newid digidol, mae'n ymwneud â newid diwylliant. Mae'n ymwneud â bod yn agored. Mae'n ymwneud â defnyddio data i ddatrys problemau. Yn hytrach na chynllunio gwasanaethau o safbwynt beth y mae bwrdd iechyd neu awdurdod lleol yn credu sydd ei angen ar ddinesydd, mae dull digidol yn golygu cynllunio gwasanaethau sy'n diwallu anghenion y defnyddiwr.
Ac rwy'n credu bod hynny'n hollol gywir. Nid yw ymateb y Llywodraeth yn tawelu fy meddwl eto, ac rwy'n gobeithio y gall y Gweinidog roi sicrwydd i mi, ac yn bwysicach, i aelodau'r pwyllgor a wnaeth y gwaith gwerthfawr hwn y bydd pethau'n newid o ddifrif o hyn ymlaen, oherwydd yn bendant, nid ydynt wedi newid eto.
Nawr, credaf fod yr adroddiad bob chwe mis i'r pwyllgor—ac rwy'n arbennig o falch o weld bod y Llywodraeth wedi ymrwymo i wneud hynny—. Mae'n anarferol i bwyllgor ofyn am hynny ar sail barhaus, a chredaf fod hynny'n dangos pa mor bwysig yw'r materion hyn iddynt, ac felly dylent fod yn bwysig i bob un ohonom ninnau hefyd. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig ac i'w groesawu'n fawr. Bydd gweld a yw'r Gweinidog yn barod i roi'r gorau i fod yn ymddangosiadol hunanfodlon ac yn barod i ddangos arweiniad cadarn i sicrhau newid a chreu diwylliant a all dderbyn her yn bwysicach byth. Rhaid aros i weld a yw'n gallu, neu a yw'n dewis gwneud hynny.
Galwaf yn awr ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r pwyllgor am ei adroddiad a'r ddadl heddiw. Efallai na fyddwn yn cytuno ar bob mater ar ei ddiwedd, ond credaf fod yna uchelgais a rennir ar gyfer ein dyfodol digidol o fewn y byd iechyd a gofal. Wrth gwrs, mae 'Cymru Iachach' yn gosod trawsffurfio technoleg ddigidol a defnydd sylfaenol a hanfodol o dechnoleg wrth wraidd y gwaith o weddnewid iechyd a gofal. Rwy'n glir mai ein huchelgais yw sicrhau buddsoddiad, systemau, sgiliau ac arweinyddiaeth ar gyfer cyflawni hynny.
Mae hon yn agwedd allweddol ar ein bywydau bob dydd, ac wrth gwrs, nid yw iechyd a gofal yn eithriad. Ein her yw dal i fyny â realiti'r ffordd rydym yn byw ein bywydau. Mae pobl yn disgwyl i wybodaeth am eu gofal fod ar gael lle bynnag a phan fo'i hangen, a dyna y mae ein dull gweithredu cenedlaethol yn ceisio ei ddarparu. Rwy'n cydnabod pryderon ynglŷn â chyflymder y broses o ddarparu'r wybodaeth honno, sefydlogrwydd ein systemau ac arweinyddiaeth. Gwneuthum ymrwymiad clir yn 'Cymru Iachach' i gyflymu newid digidol er budd cymdeithas, ac economi ehangach Cymru yn wir. Bydd buddsoddiad ychwanegol y Llywodraeth o £25 miliwn o gyfalaf a £25 miliwn o refeniw ar gyfer technoleg ddigidol yn y flwyddyn ariannol nesaf yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i'n helpu i sbarduno'r newid hwnnw. Er mwyn sicrhau ein bod yn gweithio'n gyflymach ac yn canolbwyntio ar flaenoriaethau, mae gennym bellach gynllun gwybodeg cenedlaethol tair blynedd a ddatblygwyd drwy ymgysylltiad â'r byrddau iechyd, yr ymddiriedolaethau a swyddogion polisi, a byddwn yn canolbwyntio ar adnewyddu systemau canser, gofal llygaid, patholeg a fferyllfeydd ysbyty. Byddwn yn cynyddu buddsoddiad mewn technoleg i gynorthwyo i gyfarparu ein gweithwyr gofal proffesiynol a darparu gwasanaeth ar-lein.
Mae'n werth cofio, yng Nghymru, ein bod wedi mabwysiadu dull cynyddrannol o ddatblygu systemau TG ar gyfer y GIG. Pan sefydlwyd Hysbysu Gofal Iechyd yn 2003 roedd ganddo gyllideb flynyddol o £30 miliwn. Er cymhariaeth, yn Lloegr, cafodd y rhaglen genedlaethol ar gyfer TG ei thorri'n fyr ar ôl gwario £7.3 biliwn ac adroddodd y Swyddfa Archwilio Genedlaethol nad oedd arian a wariwyd ar systemau cofnodi gofal yn darparu gwerth am arian. Yn ogystal, daeth yr Awdurdod Prosiectau Mawr i'r casgliad nad oedd y rhaglen yn Lloegr yn addas ar gyfer darparu'r gwasanaethau TG modern sydd eu hangen ar y GIG.
Rydym eisoes wedi cyflawni amryw o bethau mewn perthynas â chyflawniad digidol. Mae ein systemau cenedlaethol yn caniatáu i weithwyr proffesiynol ar draws iechyd a gofal gael mynediad at y cofnod diweddaraf o ofal y claf ac i ddelweddau gael eu rhannu ledled Cymru. Mae lefel y gwasanaethau yn gwella, arbedir amser a cheir llai o risg a chost. Cymru yw un o'r gwledydd cyntaf i ddefnyddio gwasanaeth canlyniadau prawf cenedlaethol, sy'n golygu bod canlyniadau profion ar gael lle bynnag a phan fo'u hangen ar draws y ffiniau sefydliadol. Gwelais o lygaid y ffynnon, fel y mae'r Aelodau hefyd wedi'i weld, gobeithio, y gwahaniaeth y mae Dewis Fferyllfa yn ei wneud i gleifion, a bellach gallant gael meddyginiaethau ar bresgripsiwn gan fferyllwyr mewn argyfwng heb fynd at feddyg teulu am fod gan fferyllfeydd fynediad at wybodaeth y claf. Mae'r system honno ar waith mewn mwy na 95 y cant o fferyllfeydd cymwys erbyn hyn, ac am unwaith mae'n brosiect TG sy'n gweithredu o fewn y gyllideb ac yn gynt na'r disgwyl.
Mae meddygon teulu yng Nghymru yn gallu defnyddio un o ddwy system TG wedi'u rheoli'n ganolog i ddarparu popeth o gymorth bwrdd gwaith i reoli gwasanaethau argraffu, gyda'r gobaith o ganiatáu i feddygon teulu ganolbwyntio mwy o'u hamser ar drin pobl yn eu gofal. Mae cleifion yn gallu gwneud mwy a mwy o ddefnydd o dechnoleg ddigidol i helpu eu gofal a'u triniaeth eu hunain, yn cynnwys trefnu apwyntiadau ar-lein, archebu presgripsiynau amlroddadwy a chael gafael ar ddata o'u cofnodion iechyd. Fodd bynnag, mae llawer mwy i'w wneud. Mae cyflwyno negeseuon testun i atgoffa am apwyntiadau yn un enghraifft sydd wedi helpu i leihau nifer yr apwyntiadau a gollir.
Mae ein dull o weithredu systemau digidol yn cefnogi system lle caiff iechyd a gofal eu hintegreiddio a rhaid iddynt roi'r dinesydd yn y canol. Felly, mae system wybodaeth gofal cymunedol Cymru eisoes wedi cael ei rhoi ar waith mewn 13 o sefydliadau eisoes ac rwy'n glir fy mod am i ragor ddod yn rhan ohoni ar sail gynyddol hyd nes y cawn y wlad gyfan wedi'i chynnwys, i ddarparu cofnod a rennir am y claf, yr unigolyn, i gydweithwyr ym maes iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, er mwyn gwella diogelwch ac ansawdd gofal. Dyma'r tro cyntaf y cyflawnwyd rhaglen o'r fath ar raddfa genedlaethol yn unman.
Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Gweinidog. Rwy'n meddwl tybed a allwch roi i ni heddiw—. Mae'r hyn rydych wedi bod yn ei ddweud yn gadarnhaol iawn, a byddem oll yn croesawu hynny, rwy'n siŵr, ond a allwch roi'r ffigurau diweddaraf inni o ran methiannau yn system bresennol y GIG? Os nad ydych yn gallu darparu'r ffigurau hynny heddiw, a fyddech yn barod i ysgrifennu at yr Aelodau ynglŷn â hynny? Oherwydd mae hynny'n gwbl allweddol wrth gwrs—ni fydd y datblygiadau cadarnhaol a ddisgrifiwch heddiw yn gweithio os yw'r systemau'n dal i fethu.
Fe ddof at fethiannau yn nes ymlaen yn fy sylwadau. Yng Nghymru, rydym yn datblygu cyfeiriadur ar-lein o wasanaethau sy'n cydgrynhoi gwybodaeth ar draws y sector iechyd, y sector gofal a'r sector gwirfoddol i'w gwneud yn haws i ddinasyddion ddod o hyd i wybodaeth am wasanaethau sy'n berthnasol iddynt hwy. Fel yr amlinellir yn fy ymateb i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, mae adolygiad o bensaernïaeth ddigidol y GIG yn mynd rhagddo, a bydd yn llywio cynlluniau ar gyfer sut y datblygir y bensaernïaeth ar gyfer y dyfodol i roi sylw i ddatblygiadau yn y farchnad ac arferion gorau o fannau eraill. Rydym am barhau i fod yn wasanaeth agored sy'n dysgu. Byddaf yn gweithredu ar adroddiad yr adolygiad y disgwylir iddo ddod i law cyn diwedd y flwyddyn ariannol.
Wrth i ni ddod yn fwy dibynnol ar ein systemau, mewn amgylchedd cymhleth, mae'n bwysicach fyth fod y systemau'n ddiogel a chadarn, a chafwyd nifer o fethiannau y llynedd. Mae GGGC bellach wedi bwrw iddi i gynnal a diweddaru ein systemau, ac rwy'n falch o adrodd na fu unrhyw ddigwyddiadau mawr gyda systemau TG ers dechrau mis Medi y llynedd. Hefyd rwyf wedi cynyddu buddsoddiad mewn seiberddiogelwch ac wedi sefydlu prosesau newydd ar gyfer pan fydd methiant o ran seiberddiogelwch neu fethiant system.
Ond bydd cyflawni'r newid rydym ei eisiau yn galw am y lefel gywir o sgiliau digidol ac arweinyddiaeth o fewn y gwasanaeth iechyd. Mae hynny'n golygu edrych ar draws y system gyfan, nid canolbwyntio ar un sefydliad yn unig o'i mewn. Fel yr addewais yn fy ymateb i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, mae'r adolygiad o lywodraethu gwybodeg yn y GIG bellach wedi'i gwblhau a'i adroddiad wedi'i gyflwyno i'r Llywodraeth.
Ni fydd atebion pwyntiau syml yn gweithio. Mae arnom angen camau gweithredu ychydig mwy radical, lluosog a chydgysylltiedig ar draws pob rhan o'r system. Ceir cefnogaeth eang i newid a chydnabyddiaeth glir mai dyma'r cyfle i greu system fwy cadarn ac ymatebol sy'n wirioneddol addas ar gyfer y dyfodol.
Mae'r adolygiad yn gwneud cyfres o argymhellion ar gyfer y tymor byr a'r tymor canolig o dan bedair thema allweddol: sefydlu prif swyddog digidol ar gyfer iechyd i gryfhau arweinyddiaeth ddigidol genedlaethol; creu awdurdod safonau newydd a mandadu safonau gwybodeg; sefydlu tîm datblygu digidol newydd i gefnogi arloesedd ac i gyflymu'r broses o gyflawni, gan bennu blaenoriaethau yn genedlaethol; a dwyn ynghyd y gwasanaethau gwybodeg rhanbarthol a chenedlaethol gwasgaredig presennol mewn trefniant cydwasanaeth ar gyfer seilwaith a darparu data.
Wrth gwrs, byddaf yn cyhoeddi'r adroddiad maes o law. Yn y cyfamser, gofynnais i fy swyddogion weithio gyda'r gwasanaeth iechyd i ystyried yr argymhellion. Byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau cyn toriad y Pasg ar ein hymateb i argymhellion yr adolygiad. Wrth gwrs, nid sgiliau digidol a gallu ein gweithlu yn unig sy'n bwysig. Rhaid inni fod yn ymwybodol o'r effaith ar ein dinasyddion, yn enwedig ar y rhai a allai ei chael hi'n anodd manteisio ar wasanaethau newydd. Felly rwyf wedi ymrwymo £3 miliwn ar gyfer elfen sy'n canolbwyntio ar iechyd i'n rhaglen cynhwysiant digidol dros y tair blynedd nesaf i adeiladu rhwydwaith o hyrwyddwyr yn y gwasanaeth ac yn y gymuned. Byddwn yn parhau i edrych y tu hwnt i ffiniau iechyd i sicrhau manteision i'n dinasyddion. Mae GGGC yn gweithio gyda chydweithwyr mewn mannau eraill yn y sector cyhoeddus, ac mae'r ecosystem iechyd digidol yng Nghymru yn meithrin cydweithio rhwng y gwasanaeth, y byd academaidd a diwydiant i yrru arloesedd. Heb golli golwg ar yr hyn a gyflawnwyd, gwn fod llawer mwy i'w wneud. Rwy'n hyderus y byddwn yn cyflawni Cymru iachach, gyda gwell gallu digidol a mynediad yn ganolog iddi.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Nick Ramsay i ymateb i'r ddadl?
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl heddiw. Efallai ei bod ychydig yn fyrrach na rhai o'r dadleuon a gawn yn y Siambr hon, ond credaf fod pob un o'r pwyntiau a wnaeth yr Aelodau wedi'u gwneud yn dda ac i'w croesawu.
Cyffyrddodd yr holl Aelodau ar rai themâu a oedd yn codi eu pen dro ar ôl tro, gan ddechrau gyda Mohammad Asghar, a soniodd am dryloywder a'r angen i fod yn agored. Rwy'n credu bod angen inni wybod maint y broblem sy'n ein hwynebu, ac i dderbyn hynny fel y gallwn ganfod atebion—mae hynny'n allweddol. A dyna y mae adroddiadau'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yma i'w gwneud: taflu goleuni ar y meysydd lle mae pethau'n methu—gan barchu'r ffaith bod yna feysydd eraill lle mae cynnydd a llwyddiant yn digwydd—ac mae angen rhoi'r meysydd sy'n methu, fel y maes hwn, ar y trywydd cywir.
Mae Helen Mary Jones yn ein hatgoffa nad yw hi'n un hawdd ei dychryn, ond rydych yn iawn i gael eich dychryn neu eich synnu gan yr adroddiad hwn. Mae'n adroddiad diflewyn ar dafod—nid wyf yn gwadu hynny. Mae'n adroddiad deifiol. Nid yw'n dal yn ôl, oherwydd mae'n adrodd ar y dystiolaeth a gawsom, a'r pryderon dwfn mewn rhai sectorau am y problemau sy'n ein hwynebu gyda gwybodeg yn y GIG. Fel y dywedoch chi, Helen Mary, nid dadl ddamcaniaethol yw hon. Mae'n digwydd go iawn, wrth i mi siarad yma yn awr, wrth i chi siarad yn gynharach—allan yno yng Nghymru, mae'n effeithio ar bobl go iawn, mae'n effeithio ar staff ac yn effeithio ar gleifion. Efallai 50 mlynedd yn ôl pan oedd cyfrifiaduron, wel, yn sicr yn eu babandod ac mae'n fwy na phosibl nad oedd gwybodeg wedi'i ddychmygu hyd yn oed, yn amlwg nid oedd y mathau hyn o bethau'n berthnasol. Ond maent yn berthnasol bellach. Maent yn berthnasol i feysydd eraill o fywyd ac maent yn gynyddol berthnasol i'r gwasanaeth iechyd.
Rwy'n falch, Helen Mary, eich bod wedi dyfynnu Lee Waters—Lee Waters, aelod blaenorol ac aelod gwerthfawr o'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus. Gwn fod y rhain yn faterion—rydych yn gwisgo het wahanol bellach, wrth gwrs, felly nid ydych yn rhan o'r ddadl hon heddiw, ond fe wnaethoch lawer o waith gyda gweddill y pwyllgor, ac mae hynny i'w groesawu yn ogystal. Mae gweddnewidiad digidol, pan ddyfynnoch chi Lee, yn ymwneud â bod yn agored. Mae hynny'n adleisio sylwadau Mohammad Asghar yn gynharach hefyd. Dyna rydym yn ceisio ei gyflawni yma.
Gan droi at ymateb y Gweinidog—ac rwy'n credu ei fod yn ymateb llawn bwriadau da, fel y dywedodd Helen Mary, mae'n ymateb a oedd yn cynnwys llawer sydd i'w groesawu. Diolch i chi am yr ysbryd y gwnaethoch ei gyflwyno ynddo, Weinidog, a diolch i chi am y dystiolaeth a roesoch i'r pwyllgor. Rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn ein hargymhellion. Rwy'n falch yn fwy na dim oherwydd mae angen iddynt gael eu derbyn. Rydych yn gywir: mae pawb ohonom am weld gwelliant yn y maes hwn.
Y broblem sydd gennym—un o'r pethau pwysicaf oll—yw cyflymder newid. Ni all fod yn iawn fod Aelodau Cynulliad a oedd yma yn nyddiau cynnar datganoli, pan oeddem yn trafod yr un problemau'n union, yn ôl yma bellach a phopeth fel yr oedd. Ni all hynny fod yn iawn. Felly, mae cyflymder yn broblem. Do, fe fu gwelliannau, do, mae pethau wedi symud ymlaen mewn rhai meysydd, ond mae angen iddo ddigwydd yn gyflymach. Mae angen inni gael capasiti. Mae angen inni gael capasiti o fewn Llywodraeth Cymru, o fewn system y GIG—y capasiti a'r sgiliau sydd eu hangen i unioni'r sefyllfa. Nid oedd y pwyllgor yn argyhoeddedig fod y capasiti hwnnw yno ar hyn o bryd. Roedd tystiolaeth o allu yn y system—cawsom drafodaeth hir am y gwahaniaeth rhwng gallu a chapasiti—ond roedd pryderon ynghylch maint y capasiti hwnnw.
Methiannau—soniodd Aelodau am nifer y methiannau. Rwy'n falch o glywed na fu unrhyw fethiant ers mis Medi diwethaf oherwydd, a dweud y gwir, gyda maint rhai o'r methiannau a oedd yn digwydd, roeddent yn llyffethair mawr ar y system ac yn arafu cynnydd. Rhaid datrys hynny fel y gallwn symud ymlaen.
Mae yna gefnogaeth i newid—o fewn Llywodraeth Cymru, os caf ddweud, o fewn y Siambr hon ei hun—wrth gwrs bod pawb yn cefnogi newid. Mae pawb ohonom am weld hyn yn cael ei ddatrys. Mae'n mynd i olygu arian, ond mae hefyd yn mynd i olygu newid meddylfryd—neu efallai fod datblygu meddylfryd yn ffordd well o'i roi mae'n debyg—oherwydd heb amheuaeth mae yna awydd ymysg yr holl randdeiliaid y cawsom dystiolaeth ganddynt i weld y sefyllfa hon yn gwella. Ond nid ydym yn agos at fod yno eto. Rydym ar y ffordd, ond rydym am gyrraedd lle rydym yn mynd yn gyflymach nag y gwnawn ar hyn o bryd. Gadewch inni roi'r system wybodeg y mae'n ei haeddu i'r GIG. Gadewch inni roi'r system y maent yn ei haeddu a'i hangen i bobl Cymru, a chleifion a staff. Rydym wedi aros yn hir. Rwy'n erfyn ar y Gweinidog i ddefnyddio eich ymrwymiad i hyn i wneud yn siŵr ein bod yn gweld gwelliant yn y system wybodeg fel y mae pawb ohonom yn dymuno ei weld.
Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Gareth Bennett, gwelliant 2 yn enw Darren Millar, a gwelliant 3 yn enw Rebecca Evans. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol.
Symudwn ymlaen at eitem 7, sef dadl Plaid Cymru ar gyfiawnder troseddol a charchardai. Galwaf ar Leanne Wood i wneud y cynnig. Leanne.
Cynnig NDM6949 Rhun ap Iorwerth
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi’r adroddiad gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru: Dedfrydu a Dalfa yng Nghymru: Ffeil Ffeithiau.
2. Yn mynegi pryder am ganfyddiadau’r adroddiad mai yng Nghymru y mae’r raddfa garcharu uchaf yng ngorllewin Ewrop, a bod dedfrydau llymach yng Nghymru yn cael effaith anghymesur ar fenywod, pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a chymunedau difreintiedig.
3. Yn nodi gwaith ymchwil blaenorol gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru sydd wedi datgelu problemau helaeth o ran diogelwch a lles yng ngharchardai Cymru, gan gynnwys graddau cynyddol o gamddefnyddio sylweddau, hunan-niweidio, trais a hunanladdiad.
4. Yn nodi bod nifer o droseddwyr ifanc o Gymru yn treulio amser eu dedfryd mewn carchardai yn Lloegr, a bod y carchar yn cael effaith negyddol sylweddol ar gyfleoedd bywyd pobl ifanc yn y dyfodol.
5. Yn galw am:
a) datganoli cyfiawnder troseddol yn gyfan gwbl i Gymru;
b) diystyru adeiladu rhagor o ‘Uwch garchardai’ ar unrhyw safle yng Nghymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyfleu’r gwrthwynebiad hwn i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder;
c) ailuno'r gwasanaeth prawf yn gyfan gwbl a rhoi diwedd ar breifateiddio rhannol;
d) ffocws ar ddulliau cymunedol ar gyfer troseddau nad ydynt yn rhai treisgar a rhoi'r gorau i or-ddefnyddio dedfrydau carcharu byr;
e) rhoi diwedd ar ddedfrydau o garchar i bobl ifanc a menywod ac eithrio mewn amgylchiadau neilltuol;
f) yr hawl i garcharorion bleidleisio yn etholiadau Cymru.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch. Rwy'n falch o wneud y cynnig hwn yn enw Plaid Cymru yn dilyn cyhoeddi darn o ymchwil sy'n haeddu sylw difrifol. Dylai canfyddiad Canolfan Llywodraethiant Cymru mai gan Gymru y mae'r gyfradd garcharu uchaf yng ngorllewin Ewrop fod yn destun cywilydd i ni i gyd. Mae'n destun pryder mawr hefyd fod y duedd hon wedi datblygu heb ei chanfod hyd nes i Ganolfan Llywodraethiant Cymru ddadgyfuno'r data. Dylai'r canfyddiadau hyn a'r darlun digalon ehangach y maent yn ei ddynodi ein hysgogi i ofyn cwestiynau treiddgar ynglŷn â beth rydym ei eisiau gan ein system gyfiawnder a sut y mae'n gwasanaethu'r nodau hynny. A dyna rwy'n gobeithio y gallwn ddechrau ei wneud gyda'r ddadl hon heddiw.
Y gwir amdani yw bod system cyfiawnder troseddol Cymru a Lloegr yn gwneud cam â'n cymunedau. Mae gennym gyfradd garcharu uwch na Lloegr, er bod y gyfradd droseddu'n is. Mae menywod yn fwy tebygol o gael dedfryd uniongyrchol o garchar na dynion. Mae cyfraddau carcharu ymhlith cymunedau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn fwy anghymesur o gymharu â'r boblogaeth yng Nghymru na'r hyn ydynt yn Lloegr, ac mae hyd cyfartalog dedfrydau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn fwy. Felly, os ydych yn berson croendywyll yng Nghymru, rydych yn fwy tebygol o gael eich carcharu a hefyd o gael dedfryd hwy. Fodd bynnag, mae'r gyfran gyfartalog o bobl wyn yn llai.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Wrth edrych ar gyfraddau carcharu ar draws Cymru, rydym hefyd yn gwybod bod cyfraddau carcharu uwch yng nghymunedau mwyaf difreintiedig Cymru. Mae cysylltiad clir rhwng tlodi a throseddu a'r modd y mae'r llysoedd yn trin troseddwyr dosbarth gweithiol. Mae anghydraddoldeb wedi'i adeiladu'n rhan greiddiol o'n system gyfiawnder, boed yn anghydraddoldeb hiliol, rhywiol, dosbarth neu ddaearyddol, ac nid damwain yw hyn. Penderfyniadau gwleidyddol yn San Steffan gan y Torïaid a Llafur Newydd o'u blaenau sydd wedi dod â ni i'r fan hon.
Rwy'n cofio pan oeddwn yn gwasanaethu fel swyddog prawf ynghanol y 1990au, roedd poblogaeth y carchardai yn hanner yr hyn ydyw yn awr. Flynyddoedd yn ddiweddarach mae gennym wasanaeth prawf wedi'i breifateiddio, diffyg hyder ar ran y llysoedd mewn ymatebion cymunedol, ynghyd â thoriadau llym yn sgil y polisi cyni i gymorth cyfreithiol a methiant i gael mynediad at gyfiawnder, ac mae hyn oll wedi golygu bod mwy o bobl yng Nghymru yn cael eu dedfrydu'n syth i garchar.
Yn ychwanegol at hyn, mae hanner yr holl lysoedd ynadon yng Nghymru a Lloegr wedi cau ers 2010. Bellach rhaid i bobl deithio ymhellach i gael mynediad at gyfiawnder. Ceir cysylltiad clir rhwng cyni, preifateiddio'r gwasanaeth prawf, yr awydd am elw a pherfformiad gwael o ran goruchwylio a monitro. Wrth i atebion cymunedol gael eu difa gan Lywodraethau olynol, maent wedi trosglwyddo mwy a mwy o'r system gyfiawnder i ddwylo preifat, gyda charchardai'n cael eu rhedeg er elw gan gwmnïau preifat, megis G4S, sydd wedi'u cysylltu â chamweddau hawliau dynol difrifol.
Yn y cyfamser, mae'r amodau mewn carchardai wedi dirywio i lefel argyfyngus, fel y dangosodd ymchwil flaenorol gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru. Er bod nifer y carcharorion a garcharwyd yng Nghymru wedi cynyddu 23 y cant rhwng 2010 a 2017, cynyddodd nifer y digwyddiadau o hunan-niwed a gofnodwyd 358 y cant yn ystod yr un cyfnod. Yn 2017, roedd 2,132 o ddigwyddiadau o hunan-niwed mewn carchardai yng Nghymru. Mae'r ffigur yn cyfateb i bum digwyddiad unigol o hunan-niwed yng ngharchardai Cymru bob dydd. Ar gyfartaledd, mae carcharor yng Nghymru yn cyflawni hunanladdiad bob pedwar mis.
Mae lefelau trais hefyd ar gynnydd yn ein carchardai. Ers 2010, mae cyfanswm yr ymosodiadau gan garcharor ar garcharor yng Nghymru wedi cynyddu 156 y cant, o'i gymharu â 86 y cant o gynnydd yn nifer y digwyddiadau yng ngharchardai Lloegr. Mae ymosodiadau ar staff ac aflonyddu mewn carchardai hefyd wedi cynyddu yng Nghymru a Lloegr, a chafwyd nifer anghymesur o ddigwyddiadau o aflonyddu yng ngharchar y Parc, unig garchar preifat Cymru.
Mae ein carchardai'n orlawn, yn anniogel ac yn anaddas i ateb anghenion y system gyfiawnder fodern. Y gwir amdani yw nad yw carchar yn gweithio os mai ein nod yw creu cymdeithas gyfiawn, deg a diogel, neu os ydym am i bobl gael eu hadsefydlu fel nad ydynt yn dal ati i gyflawni troseddau dro ar ôl tro.
Yn San Steffan, mae'r Torïaid a Llafur Newydd o'u blaenau wedi mabwysiadu ymagwedd at gyfiawnder sy'n gosbedigol, yn annheg ac yn canolbwyntio ar gynhyrchu elw preifat o droseddoli a dioddefaint dynol. Gallem wneud pethau'n wahanol, a byddai datganoli'r system cyfiawnder troseddol yn llawn yn caniatáu inni wneud hynny. Gellid dwyn gwasanaethau prawf yn ôl o dan reolaeth gyhoeddus lawn, ochr yn ochr â sefydlu system garchar sy'n adsefydlu gyda ffocws penodol ar gynorthwyo pobl a'u helpu i dorri cylch dieflig o aildroseddu drwy gyrsiau a chynlluniau yn y cymuned gydag adnoddau da i'w cynnal.
Gallem hefyd ystyried cyfleoedd ehangach i ddad-droseddoli gweithredoedd nad ydynt yn achosi niwed i'n cymunedau. Byddai dad-droseddoli cyffuriau a thrin camddefnyddio sylweddau fel mater iechyd yn hytrach na mater cyfiawnder troseddol yn lleihau'r peryglon sy'n gysylltiedig â chyffuriau ac yn sicrhau na wastreffir adnoddau ar erlyn pobl am fân droseddau anhreisgar, fel meddu ar gyffuriau neu ddwyn o siopau i fwydo teulu. Gallai'r system cyfiawnder troseddol ganolbwyntio ar sefydlu mentrau cyfiawnder sy'n seiliedig ar ddatrys problemau i geisio mynd i'r afael ag achosion sylfaenol troseddu ar oedran cynnar, a chanolbwyntio ar atal yn hytrach na dial ar ôl i drosedd gael ei chyflawni. Yn fwyaf arbennig, ni fyddai dedfrydau o garchar yn cael eu defnyddio ar gyfer menywod a phobl ifanc ac eithrio yn yr amgylchiadau mwyaf eithriadol. Ar gyfer y grwpiau hyn o bobl, yn amlach na pheidio, nid yw dedfryd o garchar ond yn gwneud pethau'n waeth, ac mae'r un peth yn wir wrth gwrs yn achos pobl â chyflyrau iechyd meddwl.
Nid yw ein ffocws presennol ar gosbi pobl yn mynd â ni i unman, ac nid yw ond yn arwain at fwy o deuluoedd yn cael eu chwalu, at gylchoedd o aildroseddu, camddefnyddio sylweddau, diweithdra, digartrefedd a phroblemau iechyd meddwl. Byddai canolbwyntio ar adsefydlu llawn, dulliau cyfiawnder adferol a gwaith wedi'i lywio gan drawma gyda throseddwyr yn ein helpu i greu cymunedau mwy diogel. A dyna pam y mae Plaid Cymru hefyd o blaid rhoi'r hawl i garcharorion gael pleidleisio, er budd hawliau dynol ac adsefydlu. Yn fy marn i, ni ellir cyfiawnhau difreinio rhan gyfan o'r boblogaeth yn y modd hwn mewn democratiaeth fodern. Ac am neges gref y gallai Cymru ei rhoi drwy'r cynnig hwn ynglŷn â'n penderfyniad i adsefydlu carcharorion yn llawn fel dinasyddion.
Gan droi at y gwelliannau i'r cynnig, hoffwn yn gyntaf ymdrin â'r gwelliant gan y codwyr bwganod asgell dde, UKIP, y mae eu gwelliant yn ceisio cysylltu tarddiad ethnig neu genedligrwydd ag ymddygiad troseddol. Am beth gwarthus i'w wneud. Dyma ymdrech druenus arall gan UKIP i droi pobl yn erbyn ymfudwyr, a buaswn yn annog pawb i bleidleisio yn erbyn hwnnw.
Byddwn hefyd yn pleidleisio yn erbyn gwelliant y Ceidwadwyr, sy'n ymddangos fel pe bai'n ymgais ganddynt i gladdu eu pennau yn y tywod ynglŷn ag effeithiau trychinebus cyni eu plaid a phreifateiddio. Rhaid i eiriau cynnes gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder am ffocws ar adsefydlu gael eu cefnogi gan gamau gweithredu o sylwedd i allu bod yn ystyrlon, a hyd yma, nid oes ganddynt hanes da o hynny.
Rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru heddiw wedi cefnogi ein galwadau am system gyfiawnder decach sy'n gweithio. Cefais fy siomi yn ddiweddar er hynny wrth glywed y Prif Weinidog newydd yn dweud nad yw o blaid datganoli cyfiawnder i Gymru yn llawn, ac yn hytrach, ei fod yn ffafrio dull mwy tameidiog. Hoffwn ofyn iddo, os yw'n cytuno â'r hyn y galwn amdano, o ganolbwyntio ar adsefydlu i roi diwedd ar elw preifat o garchardai, pa reswm sydd dros aros?
Edrychaf ymlaen at weld canlyniad y gwaith gan y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru sy'n ystyried y mater hwn, ond mae consensws eang eisoes ar draws y Siambr hon ac ymhlith y cyhoedd yn gyffredinol y dylid datganoli cyfiawnder troseddol i Gymru. Felly, hoffwn annog Llywodraeth Cymru i gefnogi ein cynnig heddiw a'i gwneud yn glir eu bod o blaid datganoli llawn. Gadewch i ni fynnu'r arfau i wneud pethau ein hunain ac adeiladu system well. Byddai datganoli'r cyfrifoldeb am gyfiawnder troseddol yn ein galluogi i greu ein llwybr ein hunain yng Nghymru. Yn hytrach na chyrraedd brig y gynghrair o ran carcharu, a'r tlodi a'r diflastod sy'n gysylltiedig â hynny, gallem greu system decach, fwy gweddnewidiol a fyddai'n disgleirio dros gyfiawnder i bedwar ban byd. Beth sy'n ein rhwystro?
Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i’r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol. Dwi'n galw ar Gareth Bennett i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn ei enw. Gareth Bennett.
Gwelliant 1—Gareth Bennett
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi adroddiad Canolfan Llywodraethiant Cymru, Dedfrydu a Dalfa, Carcharu yng Nghymru a thystiolaeth atodol i'r Pwyllgor Dethol Materion Cymreig.
2. Yn nodi ymhellach bod 11 y cant o gyfanswm poblogaeth carchardai Cymru a Lloegr, yn ôl y Weinyddiaeth Gyfiawnder, ym mis Hydref 2018, yn wladolion tramor, a'r mwyaf cyffredin yn dod o Wlad Pwyl, Albania, Iwerddon a Rwmania.
3. Yn credu:
a) y dylid ariannu gwasanaeth y carchardai yn ddigonol a rhoi tâl digonol i swyddogion carchardai;
b) y dylai pob carcharor a gaiff ei gadw yn y ddalfa gan swyddogion y Goron fod yn atebol i Weinidogion Llywodraeth y DU ac nid cwmnïau preifat;
c) y dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda Llywodraeth y DU i wyrdroi preifateiddio'r system garchardai;
d) y dylai troseddwyr o dramor gael eu halltudio i fwrw eu dedfryd yn eu gwledydd eu hunain, ac y dylai troseddwyr o'r fath gael eu gwahardd rhag dychwelyd i'r DU;
e) y dylai carchardai newydd gael eu hadeiladu fel y bo angen ledled y DU i ddarparu ar gyfer nifer y bobl a gaiff eu dyfarnu'n euog o droseddau sy'n dwyn cosb o garchar.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Diolch, Lywydd, a diolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl heddiw. Rhaid i mi ychwanegu nad ydym ni yma ar ochr UKIP i'r Siambr yn croesawu'r ddadl hon yn arbennig, gan mai ein barn ni yw mai mater i Lywodraeth y DU yw cyfiawnder troseddol, ac yn briodol felly. Nid ydym yn cytuno â dyheadau Plaid Cymru y dylid datganoli cyfiawnder troseddol. Mae'n ymddangos bod Llywodraeth Lafur Cymru yn cropian fesul modfedd tuag at safbwynt Plaid Cymru, felly rydym ni yn UKIP yn gwrthwynebu Llafur fwyfwy hefyd ynglŷn â llawer o faterion cyfiawnder troseddol.
Efallai y dylwn ddechrau gyda'r meysydd rydym yn cytuno arnynt. Nid yw UKIP yn gweld unrhyw rôl i gontractwyr preifat allu gweithio yn y sector cyfiawnder troseddol. Rydym yn credu mai rôl i'r wladwriaeth yw hon o reidrwydd, a hoffem delerau ac amodau da ar gyfer pobl sy'n gweithio yn y system garchardai er mwyn sicrhau y cynhelir safonau uchel. Yn amlwg, nid yw cyfraddau uchel o hunanladdiad, trais a hunan-niwed ymhlith poblogaeth y carchardai yn beth da, ac mae'n rhaid inni ystyried y cyfraddau cynyddol o ymosodiadau gan garcharorion ar swyddogion carchar hefyd.
Gall fod problem gyda dedfrydau byr o garchar. I fod yn deg, cawsom dystiolaeth i'r perwyl hwn ar y pwyllgor cymunedau y llynedd, pan wnaethom ein hymchwiliad i ddigartrefedd. Mae rhai carcharorion ar ddedfrydau byr yn mynd yn ddigartref bron yn ddieithriad pan gânt eu rhyddhau am nad yw'r awdurdodau tai wedi cael amser i roi tenantiaeth ar waith ar eu cyfer, felly gall carcharor sy'n cael ei ryddhau ddisgyn i gylch o garchar a digartrefedd a mynd yn ôl i garchar am aildroseddu o bosibl ar ôl amser byr yn unig. Felly, mae yna broblemau'n codi o'r defnydd o ddedfrydau byr.
Y broblem gyda hyn yw nad yw dedfrydau cymunedol yn briodol mewn gwirionedd ar gyfer troseddwyr mynych, am fod eu hanes yn awgrymu y byddant yn aildroseddu yn ôl pob tebyg, sy'n golygu y bydd gennym ragor o ddioddefwyr troseddau yn sgil hynny. Ac mae'n broblem mai dwy ran o dair yn unig o ddedfrydau cymunedol sy'n cael eu cwblhau yng Nghymru a Lloegr. Mae gennym broblem gyda chael digon o swyddogion prawf i weithredu'r dedfrydau cymunedol yn iawn, felly ni allwch haeru'n gyffredinol fod rhaid inni ddiystyru dedfrydau byr. Weithiau, rhaid rhoi dedfryd fer o garchar i droseddwyr am nad oes unrhyw ddewis ymarferol arall.
Ceir problem gorlenwi mewn carchardai am fod poblogaeth y carchardai wedi codi'n sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf. Nid yw'n ymddangos bod Plaid Cymru a Llafur eisiau i ragor o garchardai gael eu hadeiladu; ymddengys mai dyma yw eu safbwynt, er eu bod yn dweud mai gwrthwynebu carchardai mawr yn benodol y maent ac nid carchardai fel y cyfryw. Mewn gwirionedd, nid wyf yn credu bod Llafur na Phlaid Cymru'n hoff o'r syniad o gael carchardai o gwbl. Un o achosion gorlenwi mewn carchardai yw'r boblogaeth sy'n cynyddu yng Nghymru a Lloegr yn gyffredinol—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
—nid wyf yn derbyn unrhyw ymyriadau, diolch—wedi'i achosi'n rhannol, wrth gwrs, gan fewnfudo ar raddfa fawr, ac wrth gwrs, oherwydd nad oes gan y Swyddfa Gartref lawer o ddewis mwyach dros bwy sy'n cael dod i ymgartrefu yn y wlad, mae llawer o droseddwyr tramor, yn enwedig o ddwyrain Ewrop, wedi bachu ar y cyfle i ymgartrefu yma a pharhau â'u gyrfaoedd troseddol yn y DU. Felly, mae gennym ffigur fod 11 y cant o'r holl garcharorion yng Nghymru a Lloegr bellach yn wladolion tramor.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Na, nid wyf yn derbyn unrhyw ymyriadau, Rhun. Diolch yn fawr. Wrth gwrs—
Hiliol.
[Anghlywadwy.]—mwy na thebyg eich bod ofn dadl.
Hiliol.
Wrth gwrs, gallwn geisio allgludo'r bobl hyn—
Hiliol.
—ond rydym yn gorfod gwrthsefyll heriau yn y llysoedd, ac mewn gwirionedd ni allwn gael gwared ar yr elfen dramor fawr yn ein carchardai—
Hiliol.
—nes ein bod y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd a Llys Cyfiawnder Ewrop, ac yn ddelfrydol hefyd y tu allan i Lys Hawliau Dynol Ewrop.
Mae Llafur a Phlaid Cymru yn ymrwymo eu hunain heddiw i bleidlais i garcharorion. Mae hyn i'w weld yn rhyfedd braidd, gan ein bod yn cael ymchwiliad ar yr union bwnc hwn yn y pwyllgor cymunedau ar hyn o bryd, ond newydd gychwyn ar yr ymchwiliad hwn rydym ni, felly pam fod Llafur eisoes yn ymrwymo i safbwynt ar hyn, nid wyf yn gwybod. Wrth gwrs, fe arhosaf i glywed beth fydd gan lefarydd y Blaid Lafur i'w ddweud, ond mae'n ymddangos efallai fod y Llywodraeth yn dangos dirmyg tuag at y pwyllgor yma. Mae gennym aelod newydd nodedig o'r pwyllgor, sef Carwyn Jones, a oedd yn Brif Weinidog tan ychydig wythnosau yn ôl, ac ymddengys ei fod â gwir ddiddordeb yn yr ymchwiliad hwn ac yn bwrw iddi o ddifrif heb safbwynt rhagdybiedig. Oni chaiff arddel barn ystyrlon ar y mater am fod y Llywodraeth Lafur eisoes yn gosod ei safbwynt ar hyn? Ond fel rwy'n dweud, edrychaf ymlaen at glywed sut y mae'r Gweinidog Llafur yn egluro eu barn ar y mater hwn heddiw.
I grynhoi safbwynt UKIP, gwrthwynebwn gynnig Plaid Cymru, gwrthwynebwn welliannau Llafur, nid ydym yn hoff iawn o welliant y Ceidwadwyr, gan mai canolbwyntio'n unig ar adsefydlu a dedfrydau cymunedol a wnânt a dim arall, ac nid yw hynny'n cynnig ateb cyfannol neu ymarferol i'r problemau sy'n ein hwynebu yma, felly byddwn yn ymatal heddiw ar welliant y Ceidwadwyr. Diolch yn fawr iawn.
Galwaf ar Mark Isherwood i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar—Mark Isherwood.
Gwelliant 2—Darren Millar
Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn nodi ffocws gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder ar wasanaethau adsefydlu, dedfrydau cymunedol a lleihau aildroseddu.
Cynigiwyd gwelliant 2.
Diolch, Lywydd. Fel y clywsom, gwelodd adroddiad Canolfan Llywodraethiant Cymru, 'Dedfrydu a Dalfa yng Nghymru' mai Cymru sydd â'r gyfradd garcharu uchaf yng ngorllewin Ewrop, ac er bod cyfanswm y dedfrydau o garchar yng Nghymru wedi codi rhwng 2010 a 2017, gwelwyd gostyngiad o 16 y cant yn Lloegr. Dywedodd awduron yr adroddiad fod angen ymchwil ehangach i esbonio'r gyfradd garcharu uchel yng Nghymru, ac mae hyn yn arbennig o berthnasol o gofio bod llawer o'r gwasanaethau sydd eu hangen i reoli troseddwyr a chyn-droseddwyr a hyrwyddo adsefydlu eisoes wedi'u datganoli. Mae'r gwahaniaeth mawr yn y dull o weithredu o fewn yr hyn sy'n system cyfiawnder troseddol a rennir yn rhoi rheswm arall pam na ddylid ateb y galwadau am ddatganoli cyfiawnder troseddol. Mae'r galwadau hyn hefyd yn parhau i fethu cydnabod nad yw gweithgarwch troseddol yn cydnabod ffiniau cenedlaethol neu ranbarthol a bod 40 y cant o bobl Cymru yn byw o fewn 25 milltir i'r ffin â Lloegr a bod 90 y cant yn byw o fewn 50 milltir i'r ffin honno. Fel y nododd y cyn-Brif Weinidog hefyd, gallai troseddwyr peryglus ddal i gael eu hanfon ledled y DU ar ôl datganoli yn sgil y diffyg carchardai categori A yng Nghymru. O ddarllen cynnig rhithwir Plaid Cymru, ni fyddech yn gwybod bod Gweinyddiaeth Gyfiawnder y DU yn canolbwyntio ar wasanaethau adsefydlu, dedfrydau cymunedol a lleihau cyfraddau aildroseddu yng Nghymru a Lloegr. Felly rwy'n cynnig gwelliant 2.
Mae Llywodraeth y DU wedi datgan yn gyson fod y gyfran o garcharorion sy'n aildroseddu ar ôl eu rhyddhau yng Nghymru a Lloegr yn rhy uchel. Fis Awst diwethaf, bûm mewn digwyddiad a gynhaliwyd yn Wrecsam gan Wasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi yng Nghymru i drafod y papur 'Cryfhau'r gwasanaeth prawf, meithrin hyder', a fydd yn dod â'r holl wasanaethau rheoli troseddwyr yng Nghymru o fewn y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol o 2020 ymlaen. Bydd Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi yng Nghymru yn ystyried opsiynau ar gyfer comisiynu gwasanaethau adsefydlu megis ymyriadau a chynlluniau gwneud iawn â'r gymuned. Byddant yn adeiladu ar y trefniadau unigryw sydd ganddynt eisoes yng Nghymru drwy eu cyfarwyddiaeth carchardai a phrawf sefydledig a phartneriaethau lleol presennol llwyddiannus, i adlewyrchu cyfrifoldebau datganoledig Llywodraeth Cymru yn well.
Nid ymwneud â chynyddu capasiti y mae diwygiadau Llywodraeth y DU i'r system garchardai, ond yn hytrach ag adnewyddu carchardai sy'n heneiddio ac sy'n aneffeithiol drwy godi adeiladau addas ar gyfer gofynion heddiw. Nid un model o garchar mawr a geir. Carchar Berwyn Wrecsam yw'r cyfleuster carchar cyntaf yng Nghymru a Lloegr i gael ei ddynodi'n garchar adsefydlu. Mae'n garchar hyfforddi ac adsefydlu sydd wedi'i rannu'n dri thŷ, gyda phob un wedi'i rannu'n wyth cymuned, yn ogystal ag uned gofal a chymorth. Yn dilyn ei ymweliad diweddar â Berwyn, dywedodd AS Llafur Wrecsam ei fod yn falch iawn fod yna arwyddion adeiladol ar gyfer y dyfodol.
Mae canllawiau dedfrydu eisoes yn datgan—[Torri ar draws.]—eisoes yn datgan na fydd dedfrydau o garchar ond yn cael eu rhoi i droseddwyr ifanc yn yr achosion mwyaf difrifol. Mae Llywodraeth y DU eisoes wedi gwrthod carchardai cymunedol ar gyfer menywod yng Nghymru a Lloegr ac yn lle hynny byddant yn treialu pum canolfan breswyl i helpu troseddwyr sy'n fenywod gyda materion fel dod o hyd i waith ac adsefydlu yn sgil troseddau cyffuriau yn y gymuned. Eisoes hefyd, mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn gweithio ar wahardd dedfrydau byr o garchar yng Nghymru a Lloegr, gyda Gweinidogion yn datgan bod cyfnodau byr o garchar yn llai effeithiol o ran lleihau aildroseddu na chosbau cymunedol, a bod dedfrydau o'r fath yn ddigon hir i niweidio a heb fod yn ddigon hir i wella.
Ni sonnir am alwad Plaid Cymru, a gaiff ei hadleisio gan Weinidogion Llafur, i garcharorion gael yr hawl i bleidleisio yn etholiadau Cymru yn y naill na'r llall o'u maniffestos yn 2016. Mae'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar hyn o bryd yn cynnal ymchwiliad i hawliau pleidleisio ar gyfer carcharorion, a bydd unrhyw gefnogaeth i'r cynnig heddiw yn achub y blaen ar ein canfyddiadau. Yn nhrafodaeth ar-lein y pwyllgor, 24 y cant yn unig a oedd o'r farn y dylai'r holl garcharorion gael pleidleisio. Mewn arolwg YouGov yn 2017, 9 y cant yn unig o bobl Cymru a ddywedodd y dylai pob carcharor gael pleidleisio. Mae peidio â phleidleisio yn un o ffeithiau bywyd sy'n deillio o fod yn y carchar, gan adlewyrchu penderfyniad y gymuned nad yw'r unigolyn dan sylw yn addas i gymryd rhan ym mhroses y gymuned o wneud penderfyniadau.
Rhaid inni roi blaenoriaeth i hawliau dynol dioddefwyr sy'n dioddef dan law llofruddion, terfysgwyr, treiswyr a phedoffiliaid. Ni farnodd Llys Hawliau Dynol Ewrop y dylid rhoi hawliau pleidleisio i bob carcharor, a derbyniwyd cyfaddawd gan Lywodraeth y DU ar hyn eisoes. Dylai unrhyw ystyriaeth y tu hwnt i hyn ganolbwyntio ar yr achos dros ganiatáu i garcharorion bleidleisio fel rhan o'u proses adsefydlu i baratoi ar gyfer ailymuno â'r gymdeithas ehangach. Yn hytrach na'r model o'r brig i lawr a argymhellir gan y cynnig hwn, dylid rhoi sylw cyson i'r hyn sy'n gweithio a'r hyn sydd angen inni ei wneud yn wahanol er mwyn cynllunio'r system tuag yn ôl. Diolch yn fawr.
Galwaf ar y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip i gynnig yn ffurfiol gwelliant 3 yn enw Rebecca Evans.
Gwelliant 3—Rebecca Evans
Dileu pwynt 5 a rhoi yn ei le:
Yn croesawu gwaith y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru ac yn edrych ymlaen at ei argymhellion ynglŷn â’r cyfrifoldeb am blismona a chyfiawnder yng Nghymru yn y dyfodol.
Yn galw am:
a) diystyru adeiladu rhagor o ‘uwch garchardai’ ar unrhyw safle yng Nghymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyfleu’r gwrthwynebiad hwn i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder;
b) ailuno'r gwasanaeth prawf yn gyfan gwbl a rhoi diwedd ar breifateiddio rhannol;
c) ffocws ar ddulliau cymunedol ar gyfer troseddau nad ydynt yn rhai treisgar a rhoi'r gorau i or-ddefnyddio dedfrydau carcharu byr;
d) rhoi diwedd ar ddedfrydau o garchar i bobl ifanc a menywod ac eithrio mewn amgylchiadau neilltuol; ac
e) yr hawl i garcharorion bleidleisio yn etholiadau Cymru.
Cynigiwyd gwelliant 3.
Yn ffurfiol.
Diolch. Bethan Sayed.
Diolch. Mae'n bwysig iawn inni gadw'r mater hwn ar frig yr agenda wleidyddol a cheisio ei drafod mewn ffordd adeiladol, os oes modd—gan nad dyna a glywais o rai o'r cyfraniadau heddiw. Un o'r pethau roeddwn yn fwyaf awyddus i siarad amdano, a'i roi ar yr agenda pan gawsom yr ymgyrch ym Mhort Talbot yn erbyn carchar mawr newydd ym Maglan oedd y dylai'r ymgyrch ymwneud â mwy na 'Nid yn fy ngardd gefn i'. Tynnodd mater y carchar sylw at faterion llawer mwy pwysig i Gymru ac roedd angen archwilio a thrafod y rheini mewn ffordd adeiladol. Roedd y carchar arfaethedig yn ymwneud â llawer mwy na rhoi llety i garcharorion, ac roedd y dadleuon ynglŷn â charchar fel rhyw fath o fuddsoddiad economaidd bob amser yn brin o hygrededd, yn enwedig pan oedd y tir eisoes wedi'i ddynodi'n barc busnes, ac yn fy marn i, dylai fod wedi'i ddatblygu'n barc busnes flynyddoedd yn ôl.
Yn fy marn i, yr hyn roedd a wnelo'r carchar arfaethedig ym Mhort Talbot mewn gwirionedd oedd Llywodraeth yn San Steffan a oedd wedi methu buddsoddi yng Nghymru, a oedd wedi canslo prosiectau seilwaith mawr neu wedi methu cefnogi rhai eraill. Roedd yn enghraifft arall o Lywodraeth San Steffan yn credu y byddai Cymru, gyda'i heconomi wastad, yn bachu'r cyfle i gael y gobaith lleiaf o fuddsoddiad, ni waeth beth oedd y buddsoddiad hwnnw neu beth oedd ei oblygiadau. Rydym yn haeddu gwell na hynny nawr ac roeddem yn haeddu gwell pan oedd yr ymgyrch ar ei hanterth. Hefyd, rhaid imi ddweud bod Llywodraeth Cymru ar y dechrau wedi neidio at y posibilrwydd o garchar; rwy'n cofio geiriau Carwyn Jones pan oedd yn Brif Weinidog. Felly, rwy'n falch iawn fod Alun Davies, sy'n Aelod o'r meinciau cefn bellach, ond a oedd yn Weinidog ar y pryd, wedi newid ei feddwl ar hynny ac yn cyflwyno rhai syniadau blaengar iawn.
Yr hyn oedd y carchar hwn i ni, a'r hyn y daeth i olygu i lawer a gymerodd ran yn ymgyrch y carchar oedd sgwrs am ein dyfodol a sut rydym yn ymdrin â materion ehangach yn ymwneud â chyfiawnder troseddol. A yw'n iawn fod Gweinidog yn Lloegr yn penderfynu ar dynged carcharorion Cymru? A yw'n iawn, er gwaethaf 20 mlynedd o ddatganoli a chorff cynyddol o gyfraith Gymreig, nad oes gennym lais dros yr elfen bolisi enfawr a chynyddol bwysig hon? A yw'n iawn fod carcharorion Cymru'n cael eu hanfon i garchardai yn Lloegr a bod carcharorion Lloegr yn cael eu cadw yma yng Nghymru? Ac wrth gwrs, y cwestiwn ehangach: pam rydym yn dal i ddilyn trywydd o garcharu ar raddfa fawr yn hytrach na chael sgwrs ynglŷn â pham rydym yn anfon pobl i'r carchar yn y lle cyntaf, pwy ddylai fod yn y carchar mewn gwirionedd a sut y mae angen inni ganolbwyntio ar eu hanghenion adsefydlu? Cawsom lawer o'r trafodaethau hynny fel rhan o'r ymgyrch ym Mhort Talbot a dangoswyd, yn groes i'r hyn y byddai rhai pobl yn ei feddwl o bosibl, nad oes cefnogaeth mor eang i'r farn y mae UKIP yn ei harddel—yr ymagwedd 'taflu'r allwedd' a allai fod gan rai pobl. A yw pobl yn credu y dylai'r rheini a geir yn euog o drosedd gael eu cosbi? Ydynt. Ac rydym ni'n credu hynny hefyd; nid ydym yn credu mewn peidio â chael carchardai—byddai hynny'n gwbl hurt. Ond mae yna wir ddealltwriaeth ac awydd i sicrhau y rhoddir cyfle i rai a geir yn euog o droseddau llai difrifol allu newid eu bywydau a chywiro eu camgymeriadau mewn modd gweddus.
Rhaid inni fod yn wyliadwrus, er hynny, gan fod y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn dal i ymchwilio i'r posibilrwydd o garchar mawr newydd yn ne Cymru. Mae'r ddadl yn aros, fel y gwnaeth ym Mhort Talbot, nad oes angen carchar arall yn ne Cymru. Ac rwy'n credu bod y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn gwneud cam â hi ei hun yn y modd y mae'n synied am wleidyddion Cymru, oherwydd nid yw symud i ardal arall o dde Cymru'n golygu nad ydym yn mynd i ymgyrchu, nid yw'n golygu nad ydynt yn mynd i wynebu gwrthwynebiad lleol; byddwn yn mynd â'r ymgyrch at y gymuned honno, lle bynnag y bo, ni waeth a fyddaf yn cynrychioli'r ardal honno ai peidio, oherwydd nid ydym eisiau'r carchar hwnnw yma yng Nghymru. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn nodi hynny.
Rwy'n credu bod safbwynt Llywodraeth y DU ar hyn yn seiliedig ar y syniad o fwy o'r un peth. Maent yn arddel safbwynt nad yw o ddifrif ynglŷn â diwygio, sy'n ceisio darparu cyfiawnder ac adsefydlu'n rhad, cloi pobl mewn carchardai mawr heb ddigon o adnoddau, ac maent yn gwneud hynny oherwydd mae'r staff yno wedi dweud wrthym. Mae chwythwyr chwiban wedi dod atom ac wedi dweud mai dyna beth sy'n digwydd. O dan yr amgylchiadau hynny, nid yw'n syndod fod y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn ystyried adeiladu mwy o garchardai.
Felly, mae ein safbwynt ni'n wahanol, fel y soniodd Leanne Wood yn gynharach, ac rydym yn dadlau'n gryf, drwy newid ffocws y ffordd rydym yn trin pobl a gafwyd yn euog, drwy drawsnewid cyfreithiau dedfrydu a pholisi cosbi a thrwy ailwladoli ac ailflaenoriaethu prawf ac adsefydlu, y gallwn dorri a lleihau'r galw am leoedd mewn carchardai. Nawr, nid oes llawer o amser gennyf yn weddill, ond hoffwn orffen drwy geisio ailddeall, efallai, beth y mae sgwrs ystyrlon â'r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn ei olygu mewn gwirionedd. Nid oeddwn yn ei ddeall o dan y Gweinidog arall ac rwy'n dal i fethu deall beth y mae'n ei olygu. Mae angen eglurhad ar—os mai'r polisi yw peidio â chael rhagor o garchardai yma yng Nghymru, pryd a beth fydd y sgyrsiau ystyrlon hynny â'r Weinyddiaeth Gyfiawnder i newid eich meddwl. Beth sydd ei angen i Lywodraeth Cymru newid eich meddwl ar rai o'r materion allweddol hyn o egwyddor mewn perthynas â'r hyn rydym am ei wneud â dyfodol ein system cyfiawnder troseddol? Os caf yr eglurder hwnnw yma heddiw, byddaf yn falch iawn, ond rwy'n ddiolchgar ein bod yn parhau gyda'r ddadl hon ac y gallwn ymdrin â rhai o'r materion hyn, gobeithio, mewn ffordd flaengar.
Cytunaf â llawer o'r hyn a ddywedodd Leanne am gyflwr presennol y system garchardai fel rhywbeth sy'n destun cywilydd, yn ogystal â'r ffaith bod mwy o bobl yng Nghymru yn cael eu carcharu nag unrhyw grŵp arall o ddinasyddion ar draws Ewrop gyfan, ond ceir rhai cwestiynau difrifol sydd angen eu gofyn er mwyn deall pam y mae hynny'n wir. Faint o hynny, y dedfrydau llymach hyn, sy'n ymwneud â'r ffaith bod barnwyr o Loegr yn dod i Gymru ac yn rhoi dedfrydau hwy a llymach nag y maent yn ei wneud i bobl a gafwyd yn euog o'r un drosedd yn Lloegr? Ni allaf ateb y cwestiwn hwnnw, ond mae'n un difrifol sy'n rhaid inni ei ofyn, ac wrth gwrs mae hynny'n bwydo i mewn i'r dadleuon ynglŷn â pham y gallai fod angen—pam y mae angen—datganoli'r system cyfiawnder troseddol i Gymru. Fel arall, ai oherwydd bod lefelau uwch o amddifadedd yng Nghymru y gwelir cynnydd yn nifer y bobl sy'n troi at ladrata a dwyn a chyflawni troseddau treisgar fel dewis amgen yn lle cael swydd? Neu a yw'r heddlu yng Nghymru yn well am ganfod troseddau a dod o hyd i'r unigolion sy'n torri'r gyfraith?
A wnewch chi dderbyn ymyriad? Efallai y gallaf eich helpu gyda rhai o'r cwestiynau rydych yn eu gofyn, oherwydd yn ddiweddar cyfarfûm â rhai o gynrychiolwyr Napo, fy hen undeb llafur, Cymdeithas Genedlaethol y Swyddogion Prawf, ac roeddent yn dweud wrthyf mai'r hyn sy'n digwydd, yn amlwg, yw hyn: mae'r ffaith bod y gwasanaeth prawf wedi'i breifateiddio'n rhannol wedi golygu nad oes gan y llysoedd ffydd mwyach yn yr elfen o'r gwasanaeth prawf sydd wedi'i phreifateiddio. Felly, yn hytrach na gallu argymell dedfrydau yr arferem eu galw'n wasanaeth cymunedol, ac a elwir yn awr yn 'waith di-dâl', neu'n waith grŵp—roeddwn yn arfer rhedeg grwpiau rheoli dicter neu grwpiau yfed a gyrru, er enghraifft—nid yw swyddogion prawf yn gwneud yr argymhellion hynny bellach am nad oes ganddynt ffydd yn y system. A'r hyn sy'n fwy tebygol o fod yn digwydd wedyn yw bod pobl naill ai'n cael dirwy, neu rhaid iddynt fynd i'r carchar, ac mae mwy o bobl yn mynd i'r carchar yn eu barn hwy. Dyna'r esboniad y maent yn ei roi i mi am y gyfradd garcharu uwch yng Nghymru.
Iawn. Wel, rwy'n siŵr fod honno'n ystyriaeth bwysig iawn, ond ni fyddai'n egluro pam y mae mwy o bobl yn mynd i'r carchar yng Nghymru nag yn Lloegr, oherwydd mae gennych wasanaeth prawf wedi'i breifateiddio yn Lloegr hefyd. Yn ôl fy nealltwriaeth i, mae'n digwydd yn gyffredinol, ond os ydych yn gwybod rhywbeth mwy na hynny, yn amlwg gallwch ddod yn ôl. Beth bynnag, rwy'n credu mai dyma'r math o bethau rydym am i'r comisiwn ar gyfiawnder eu hateb, ac ar hyn o bryd, ni fyddant yn cyflwyno eu hadroddiad tan ddiwedd y flwyddyn. Felly, ni chredaf y gallwn ddyfalu beth y byddant yn ei ddweud.
Mae llawer iawn o'i le, ac mae'n amlwg fod lefelau troseddu parhaus yn drychineb llwyr. Mae'n costio mwy i roi rhywun yn y carchar nag y mae'n ei gostio i'w rhoi yn Claridge's neu rywle felly, ac eto ni ddylem synnu. Mae'r amgylchiadau gorlawn yn magu hunan-niwed, hunanladdiad, ymosodiadau ac anobaith. Mae hynny'n rhywbeth sy'n rhaid inni ei gydnabod. Rhaid inni gydnabod hefyd y gwaith da sy'n digwydd i geisio gostwng lefelau hunan-niweidio, gan gynnwys hunanladdiad, drwy'r sgyrsiau un i un rheolaidd rhwng carcharorion a'r swyddog dynodedig y clywsom amdano yn y Parc ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ac fel y clywais hefyd, yng ngharchar Caerdydd, pan ymwelais â'r lle yr wythnos diwethaf. Os yw carcharor yn teimlo bod eu cwynion yn cael eu clywed, mae'n amlwg eu bod yn llai tebygol o droi at ffyrdd gwirioneddol anghynhyrchiol o fynegi'r rhwystredigaeth honno. Felly, credaf y dylem ganmol y gwasanaeth carchardai am sefydlu'r math hwnnw o beth.
Hefyd, hoffwn ganmol gwaith yr Ymddiriedolaeth Cyngor a Gofal Carchardai yng ngharchar Caerdydd, i wneud y caffi, yr ardal lle mae carcharorion yn cyfarfod a'u teuluoedd, yn llawer mwy cyfeillgar ac yn lle mwy pleserus i fod ynddo, a fydd yn fanteisiol i deuluoedd ac yn fuddiol i'r carcharor. Gwyddom fod lefelau troseddu parhaus yn gostwng yn helaeth os yw carcharorion yn cadw mewn cysylltiad â'u teuluoedd. Ond credaf fod y math o ymatebion a glywsom gan Mark Isherwood yr un math o broblem ag a gawn gyda dadl synhwyrol am y system cyfiawnder troseddol, sy'n cael ei hybu gan y Daily Mail. Ni allwn barhau fel hyn. Ni allwn anfon pobl i'r carchar os na allwn sicrhau, ar yr un pryd, fod y gyfraith yn cael ei gorfodi yn y carchar. Mae'n gwbl annerbyniol fod carcharorion yn gweld eu heiddo'n cael ei ddwyn tra'u bod yn cael eu trosglwyddo o un carchar i'r llall. Mae hynny yn erbyn y gyfraith, a dylid cynnal y gyfraith, mewn carchardai ac—.
Credaf mai un o'r dadleuon mwyaf o blaid rhoi pleidlais i garcharorion yw ei fod yn gorfodi gwleidyddion sy'n gwneud y penderfyniadau am y system i gael llawer mwy o ymwybyddiaeth o'r hyn sy'n digwydd mewn carchardai a'r ffyrdd y mae angen inni ymdrin â hynny er mwyn ei wneud yn rhywbeth llai eithriadol o ddrud nad yw'n cynhyrchu'r canlyniadau a ddymunwn, sef lleihau nifer y bobl sy'n aildroseddu ar ôl eu rhyddhau. Felly, credaf ei bod yn rhy gynnar i ni bleidleisio ar hyn o bryd ynglŷn â sut a pha bryd y dylai carcharorion gael y bleidlais am fod y pwyllgor llywodraeth leol ynghanol ymchwiliad ar y mater pwysig hwn. Ond rydym lle'r ydym, rydym yn cael y ddadl rydym yn ei chael, a chredaf ei bod yn un y mae angen i ni barhau i'w chael.
Yn fy nghyfraniad y prynhawn yma rwyf am dynnu sylw at dair agwedd benodol ar effeithiau'r system bresennol ar y rhai sydd ar hyn o bryd yng ngharchar a chanlyniadau hynny. Rwyf am edrych yn gyntaf ar y gwasanaethau a ddarperir—neu na ddarperir—ar gyfer carcharorion sy'n siarad Cymraeg. Bydd aelodau o'r Siambr wedi gweld adroddiad Comisiynydd y Gymraeg, 'Cymraeg yn y carchar'. Roedd yn ddarn trylwyr iawn o waith, ac roedd yn peri pryder mawr. Gallodd dynnu sylw at y ffaith nad yw'r ddarpariaeth yn gyson. Canfu hyd yn oed fod yna enghreifftiau o garcharorion yn cael gorchymyn i beidio â siarad Cymraeg â'u teuluoedd, ac rwyf wedi dod ar draws sefyllfaoedd yn bersonol lle dywedwyd wrth famau am beidio â siarad Cymraeg â'u plant sy'n siarad Cymraeg pan fydd y plant hynny mor ifanc fel nad ydynt yn siarad Saesneg am eu bod mor fach. Mae hynny'n amlwg yn dramgwydd yn erbyn hawliau dynol y carcharorion hynny. Mae'n bwysicach yn wir, yn enwedig, fel y noda'r Comisiynydd, am fod gan gynifer o'n carcharorion anawsterau dysgu, efallai fod ganddynt lefelau addysgol isel, efallai fod ganddynt anableddau, ac mae gan lawer ohonynt broblemau iechyd meddwl.
Mae'n amlwg o ganfyddiadau'r adroddiad hwn fod y ddarpariaeth sydd ar gael ar hyn o bryd i siaradwyr Cymraeg yn annigonol ac yn anghyson, ac o ran carcharorion benywaidd, sydd wedi'u carcharu y tu allan i Gymru, bob un ohonynt, yn aml iawn nid yw'r ddarpariaeth ar gael o gwbl. Rhaid mynd i'r afael â hyn, ac wrth gwrs, cyfrifoldeb cyfreithiol y Gweinidog cyfiawnder a Llywodraeth y DU yw mynd i'r afael â hyn. Mae'n amlwg i mi o adroddiad y comisiynydd eu bod yn methu gwneud hynny.
Lywydd, faint bynnag o unigolion sy'n gweithio yn y system—ac mae'r comisiynydd yn tynnu sylw at rai arferion da, mae'n rhaid dweud—sy'n ceisio diwallu anghenion y carcharorion hyn, nid wyf yn credu eu bod byth yn mynd i'w wneud, ac yn hytrach na cheisio trwsio system sydd wedi torri o dan reolaeth San Steffan, mae hon yn ddadl gref i mi fod angen i'r system cyfiawnder troseddol gael ei rheoli gan y gwleidyddion a etholir gan bobl sy'n siarad Cymraeg a'u teuluoedd, a ni yw'r rheini wrth gwrs. Mae angen datganoli'r system hon.
Rwyf am adeiladu ychydig ar y pwyntiau a wnaed eisoes gan fy nghyd-Aelod, Leanne Wood, am fenywod sy'n garcharorion. Credaf yn gyntaf fod angen inni roi sylw i'r cwestiwn ynglŷn â pham y caiff menywod eu carcharu fel mater o drefn i'r fath raddau am droseddau y bydd dynion yn cael cosbau cymunedol amdanynt. Credaf ein bod yn gwybod yr ateb i hynny, a chredaf y gwyddom fod ymddygiad troseddol yn cael ei weld gan lawer yn fwy tramgwyddus pan gaiff ei wneud gan fenywod. Mae'n seiliedig ar wahaniaethu ar sail rhyw, ar dybiaethau rhywiaethol ynglŷn â beth sy'n ymddygiad derbyniol gan fenywod. Wyddoch chi, 'Bechgyn yw bechgyn', maent yn ymladd, maent yn cael cosb gymunedol. Mae merched yn ymladd, 'Mae hynny'n warthus; mae'n gwbl gamweddus', ac maent yn debygol o gael dedfryd o garchar. Ac wrth inni ymdrin â'r problemau sy'n ymwneud â'r modd y caiff menywod eu trin yn y system, rhaid inni ei seilio ar y ddealltwriaeth honno o wahaniaethu ar sail rhyw.
Rydym yn gwybod bod yna 227 o fenywod o Gymru ym mis Medi 2017—y ffigurau diweddaraf y gallwn eu cael—yn bwrw dedfryd mewn carchardai yn Lloegr. Mae'r rhan fwyaf o'r menywod hyn yn famau. Felly, dyna o leiaf 200 o deuluoedd Cymru sydd ymhell iawn oddi wrth eu mamau, a gwyddom y gall effeithiau carcharu menywod ar blant a theuluoedd fod yn ddinistriol.
Gwyddom hefyd nad yw'n gweithio, a bod menywod yn mynd yn ôl i garchar, yn aml iawn am beidio â thalu dirwyon, a rhaid rhoi diwedd ar hyn. Mae angen inni edrych ac archwilio agweddau o fewn y system sy'n arwain at garcharu menywod pan na wneir hynny yn achos dynion. Mae arnom angen cyfleusterau ar gyfer carcharorion sy'n fenywod yma yng Nghymru, yn agos at eu teuluoedd. Gwyddom fod hynny'n gwbl hanfodol o ran y tebygolrwydd o allu eu hadsefydlu a'u hailintegreiddio'n llwyddiannus yn y gymdeithas. Credaf fod angen inni drafod a oes arnom angen uned ddiogel fach—a oes arnom angen carchar bach i fenywod yma yng Nghymru ar gyfer y troseddwyr na ellir eu cynnal yn y gymuned. Ond ni ddylai mwyafrif helaeth ein carcharorion sy'n fenywod fod yn y carchar o gwbl, a dylid eu helpu, nid eu cosbi.
Yn olaf, Lywydd, hoffwn siarad yn fyr am y system cyfiawnder ieuenctid. Rydym wedi trafod hyn yn y Siambr ar sawl achlysur. Rwyf am siarad o berspectif personol iawn, oherwydd bydd y Dirprwy Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn cofio adeg pan oeddwn yn weithredol yn y maes, yn rhedeg prosiect cyfiawnder ieuenctid ar ran Barnardo's. Byddai'r holl bobl ifanc y gweithiem gyda hwy—a dynion ifanc oeddent yn bennaf—wedi cael eu carcharu pe na baent wedi dod atom ni. Ac un o'r pethau rwyf am roi diwedd arno yw'r syniad fod cosbau cymunedol yn rhai hawdd. Nid yw hynny'n wir. Ar nifer o achlysuron pan oeddwn yn gweithio gyda dynion ifanc, er enghraifft, yn dod â hwy wyneb yn wyneb â dioddefwyr eu troseddau, byddent yn gofyn i mi ddweud eu bod yn torri'r amodau a'u hanfon i'r carchar, oherwydd gwyddent sut i ymdopi â charchar. Roedd carchar yn gymharol hawdd. Roedd wynebu'r hyn a wnaethant o'i le a gwneud iawn amdano lawer iawn yn fwy heriol.
Nawr, roedd hwnnw'n brosiect a ymchwiliwyd yn drwyadl iawn, wedi'i ariannu gan Barnardo's a'i ymchwilio gan brifysgolion. Un o bob 10 o'r bobl ifanc hynny a aildroseddodd o gwbl, ac roedd aildroseddau'r rhai a wnaeth lawer yn llai difrifol. Roedd yn ddrud, ond roedd yn llawer rhatach na'u carcharu. Lywydd, rydym wedi gwybod ers 25 mlynedd fod troseddwyr ifanc yn droseddwyr ifanc fel arfer am eu bod yn bobl ifanc mewn trafferthion, ac unwaith eto mae angen inni ymyrryd yn eu bywydau mewn ffordd sy'n eu cefnogi. Oherwydd gwn o brofiad personol—a gallaf weld wynebau'r bobl ifanc hynny heddiw—os ydym yn ymyrryd mewn modd sy'n eu cefnogi, nid yn unig y gallwn newid eu bywydau er gwell, ond gallwn eu hatal rhag aildroseddu. Mae arnom angen dull Cymreig o ymdrin â'n pobl ifanc cythryblus iawn, ac unwaith eto, mae angen inni wneud y penderfyniadau hynny yma.
Rwy'n credu bod pawb ohonom yn rhannu diolch i Ganolfan Llywodraethiant Cymru am y gwaith y maent yn ei wneud yn yr adroddiadau a'r dadansoddiadau a gyhoeddwyd ganddynt, ond hefyd am gyhoeddi ystadegau ar gyfer Cymru a dealltwriaeth o'r ystâd ddiogeledd, a sut y mae'r gwasanaeth carchardai a phrawf yn gweithio ac yn gwasanaethu Cymru. Gyda'i gilydd, mae'r holl waith hwn yn disgrifio system sy'n methu. Mae'r system yn methu, a'n gwaith ni yma heddiw ac yma yn y lle hwn yw datrys hynny. Rhaid inni ofyn y cwestiwn sylfaenol: pam y mae'r system yn methu a pham y mae'n methu mor gyson a dros amser? Fy ateb i'r cwestiwn hwnnw yw am fod gennym setliad sydd wedi torri. Hyd nes y caiff y setliad ei drwsio, ni allwn ddatrys y problemau sy'n endemig yn y system cyfiawnder troseddol.
Mae awdurdodaeth Cymru a Lloegr yn perthyn i hanes. Dyna y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddweud yn ei thystiolaeth i Gomisiwn Thomas ar Gyfiawnder yng Nghymru. Mae'n disgrifio sut y mae'r system—gwaddol derfynol y Deddfau Uno, y Deddfau Uno Tuduraidd—sut y mae heddiw'n creu system sy'n gwneud cam â phobl yng Nghymru. Roedd Llywodraeth Cymru yn glir iawn, yn y dystiolaeth a roddais i gomisiwn Thomas, yn y dystiolaeth a roddodd y cyn-Brif Weinidog i'r comisiwn, a'r dystiolaeth a roddodd y Cwnsler Cyffredinol, sydd yn ei sedd heddiw, i'r comisiwn—fod y system yn gwneud cam â Chymru, mae'n gwneud cam â phobl Cymru, a bod yn rhaid datganoli'r system cyfiawnder troseddol i Gymru. Roeddem yn glir iawn ynglŷn â hynny.
Mae angen inni ddeall gwir oblygiadau hyn. Pe bai awdurdodaeth, a phe bai polisi cyfiawnder troseddol, yn ddim mwy na rhyw fath o bwnc academaidd llychlyd, a dweud y gwir ni fyddai gennyf gymaint â hynny o ddiddordeb yn ei ddatganoli. Oherwydd ei effaith ddynol ar bobl heddiw y cefais fy narbwyllo nad mater pwysig yn unig ydyw, ond mater sy'n rhaid ei ddatrys ar frys. [Torri ar draws.] Fe ildiaf.
Diolch i Alun Davies. Er eglurder, a gaf fi fod yn glir ein bod yn sôn yma am y system cyfiawnder troseddol yn ei chyfanrwydd?
Ydym. Nid wyf yn credu fy mod wedi amodi fy ngeiriau mewn unrhyw ffordd o gwbl. Yn sicr nid yw Llywodraeth Cymru wedi amodi ei geiriau o gwbl. Yr hyn a ddywedodd Llywodraeth Cymru yw bod yn rhaid gwneud hyn fel rhan o broses. Nid yw wedi amodi ei chefnogaeth i ddatganoli'r system cyfiawnder troseddol.
Mae angen inni ddatganoli ac uno'r maes polisi wedyn. Mae angen inni sicrhau bod gennym ystâd ddiogeledd, fod gennym gefnogaeth y gwasanaethau cymdeithasol, a'n bod yn gallu darparu ymagwedd gyfannol tuag at gyfiawnder troseddol, ac ni allwn wneud hynny ar hyn o bryd. Mae'n debyg mai dyma'r unig faes polisi lle nad yw Llywodraeth Cymru na Llywodraeth y DU yn gallu cyflawni eu huchelgeisiau polisi yng Nghymru. Mae'n dipyn o gamp i'r ddwy Lywodraeth fethu cyflawni eu hamcanion polisi.
Roeddwn yn gresynu at naws a chynnwys yr araith gan y llefarydd Ceidwadol yn y ddadl hon y prynhawn yma. Hoffwn ddweud wrtho fod y sgyrsiau a gefais gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder a Gweinidogion y Swyddfa Gartref yn llawer mwy adeiladol nag y cafodd wybodaeth amdanynt o bosibl. Mae'r Gweinidogion yn Llundain—yn San Steffan—yn ymwybodol iawn o ddiffygion y system yng Nghymru ac yn ymwybodol o'r rhesymau am fethiannau'r system hon.
Oni chlywsoch chi fi'n rhoi'r rhan fwyaf o fy araith i restru'r cynlluniau a lansiwyd gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder dros y blynyddoedd diwethaf i adlewyrchu'r union ganfyddiad hwnnw, nid yn unig yng Nghymru ond yn Lloegr hefyd?
Maent wedi lansio nifer o gynlluniau dros nifer o flynyddoedd, ond maent yn cydnabod na allant gyflawni eu hamcanion polisi drwy'r cynlluniau hynny yng Nghymru am nad oes gennym setliad sy'n eu galluogi i wneud hynny. Maent yn ymwybodol iawn na ellir cyrraedd eu hamcanion o dan y setliad presennol—maent yn ymwybodol iawn o hynny.
Felly, mae angen inni ddylunio system sy'n diwallu anghenion Cymru. Mae angen inni sicrhau bod iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau yn rhan o'r hyn a wnawn ar draws y system cyfiawnder troseddol yn ei chyfanrwydd. Mae angen inni fynd i'r afael â'r sefyllfa warthus sy'n wynebu menywod a phobl ifanc, ond mae angen inni fynd i'r afael â'r ystâd ar gyfer dynion yn ogystal. Fel y mae ar hyn o bryd, nid yw'r ystâd yn addas at y diben, ac mae angen inni ddeall bod angen inni fuddsoddi yn yr ystâd gyfan. Mae angen inni greu carchardai bach lleol gydag adsefydlu ac ailadeiladu bywydau yn ganolog iddynt. Mae angen inni sicrhau bod y penderfyniadau a wneir heddiw ynglŷn â'r gwasanaeth prawf yn cael eu gweithredu yn y dyfodol.
Ond nid oes dim o hyn yn bosibl heb ddatganoli'r system. Rwy'n gresynu at y ffaith bod y Llywodraeth wedi ceisio diwygio cynnig Plaid Cymru y prynhawn yma—credaf fod hynny'n gamgymeriad. Byddai wedi bod yn well i'r Llywodraeth gefnogi cynnig Plaid Cymru. Rwy'n awyddus i glywed esboniad y Gweinidog ynglŷn â pham ei bod yn ceisio newid y cynnig heddiw. Fe fyddaf yn glir iawn hefyd: nid wyf am gefnogi gwelliant y Llywodraeth heddiw, oherwydd credaf ei fod yn creu amwysedd mewn maes lle mae'r Llywodraeth wedi bod yn glir iawn.
Hoffwn orffen drwy ddweud hyn:
Mae pob ymgeisydd ar gyfer rôl y Prif Weinidog yn cytuno y dylid datganoli cyfiawnder. Dyma farn y grŵp Llafur yn y Cynulliad Cenedlaethol. Mae fy nghyd-Aelodau'n rhannu'r un farn â mi.
Dyna Carwyn Jones, fel Prif Weinidog Cymru, yn rhoi tystiolaeth i'r comisiwn cyfiawnder ym mis Tachwedd y llynedd. Gobeithio y bydd y Gweinidog yr un mor bendant yn ei hymateb y prynhawn yma, oherwydd rydym yn gwneud cam â phobl heddiw ac rydym yn gwneud cam â phobl yfory. Oni fyddwn yn barod i wneud y penderfyniadau anodd a buddsoddi ym mhobl y wlad hon yn y system cyfiawnder troseddol, byddwn ninnau hefyd yn euog o'r un methiannau y mae'r Llywodraeth Geidwadol yn Llundain yn llywyddu drostynt. Nid wyf yn dymuno bod yn rhan o hynny. Fel Gweinidog yn y Llywodraeth hon, ceisiais fabwysiadu ymagwedd radical tuag at sicrhau cyfiawnder cymdeithasol i bawb. Ni allwn sicrhau cyfiawnder cymdeithasol oni bai ein bod yn cefnogi datganoli'r system cyfiawnder troseddol ac yn buddsoddi yn y bobl sy'n rhan o'r system honno.
Galwaf ar y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwif i gyfrannu—Jane Hutt.
Diolch, Lywydd. Rwy'n croesawu'r ddadl ar y materion pwysig hyn. Mae cyhoeddi adroddiad Canolfan Llywodraethiant Cymru, 'Dedfrydu a Dalfa yng Nghymru', yn amserol iawn, ac yn adeiladu ar eu hadroddiad cynharach, a gyhoeddwyd yn yr haf y llynedd, sef 'Carcharu yng Nghymru: Ffeil Ffeithiau'. Wrth gwrs, bydd canfyddiadau'r adroddiad hwn gan y ganolfan llywodraethiant yn ein cynorthwyo i sefydlu darlun cliriach eto o'r system cyfiawnder troseddol yng Nghymru.
Mae'r adroddiad wedi tynnu sylw pellach hefyd at bwysigrwydd yr angen am ddata sy'n benodol i Gymru er mwyn deall polisi ac ymarfer cyfiawnder. Trafodais hynny gyda Dr Robert Jones pan gyfarfûm ag ef ar ôl cyhoeddi ei adroddiad. Roeddwn yn eu cymeradwyo—y ganolfan a Robert Jones—am eu gwaith ac am yr ymgysylltiad parhaus sydd gan y ganolfan llywodraethiant â Llywodraeth Cymru. Achubais ar y cyfle hefyd i ddweud fy mod yn gwerthfawrogi'r briff ar y gwaith pwysig y bu'n ei wneud, gan gynnwys briff ar fy nghyfer ar yr ymchwil y maent yn ei wneud ar gyfer y comisiwn cyfiawnder.
Hoffwn wneud sylwadau ar yr amrywiaeth eang o bwyntiau polisi a godir yn y cynnig heddiw. Rwyf innau hefyd yn gweld yr angen am fath gwahanol o system cyfiawnder troseddol yng Nghymru sydd wedi'i wreiddio mewn adsefydlu ac yn y gymuned, fel y dynoda'r cynnig ac fel a fynegwyd yn y Siambr heddiw. Mae angen inni gael gwell dealltwriaeth o pam y mae pobl yn cael eu carcharu a beth y gallem ei wneud i'w hatal rhag mynd i'r carchar, am ddedfrydau byr yn aml, sydd, fel y dywedwyd, yn gallu cael effaith ddinistriol ar eu bywydau a bywydau eu teuluoedd a'u cymunedau.
Rydym yn cydnabod yr angen i amddiffyn ein cymunedau rhag niwed a lle na allwn droi pobl oddi wrth droseddu yn y lle cyntaf, rhaid inni sicrhau bod popeth a wnawn yn digwydd mewn ffordd gyfannol a ffordd sy'n adsefydlu. Nid ydym yn credu mai adeiladu mwy o leoedd carchar yw'r ffordd gywir o ddatrys yr argyfwng yn ein system cyfiawnder troseddol. Mae'n amlwg fod gwahaniaeth rhwng dymuno mabwysiadu dull gwahanol o wella cyfleusterau a dymuno adeiladu cyfleusterau ychwanegol. Rydym am weld gwelliant yn safon a chyflwr yr ystâd ddiogeledd bresennol. Nid ydym am weld cynnydd yn nifer y carchardai na lleoedd carchar yng Nghymru.
Wrth gwrs, nid yw gwasanaethau'n dod i ben wrth giât y carchar pan fydd unigolyn yn gadael carchar, fel y dywedodd y Prif Weinidog yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos diwethaf. Mae'r Llywodraeth hon yn gwbl gefnogol i ailuno'r gwasanaeth prawf yng Nghymru. Mae camau calonogol ar y gweill mewn perthynas â'r gwasanaeth prawf yng Nghymru, ond rhaid inni fynd ymhellach. Dyma ein cyfle i lywio cyfeiriad gwasanaethau prawf, ac mae angen iddynt fod yn hyblyg ac yn arloesol o ran eu dull o ateb anghenion unigolion, gan eu helpu i gyflawni'r canlyniadau gorau a chynnal sefydlogrwydd o fewn eu cymunedau. Byddai Leanne Wood yn falch o glywed, rwy'n siŵr, y byddaf yn cyfarfod â Napo yfory i drafod y materion hyn, oherwydd eu bod mor berthnasol ac allweddol, ac mae'r ddadl hon, fel y dywedais, yn amserol iawn.
Ni allwn ddechrau mynd i'r afael â'r drws troi wrth i bobl ddychwelyd i garchar yn rheolaidd heb sicrhau bod modd darparu'r lefel gywir o gefnogaeth ar ôl eu rhyddhau—gan gynnwys tai priodol, darpariaeth iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, ac anogaeth i gael mynediad at addysg a sgiliau er mwyn sicrhau cymaint â phosibl o gyfleoedd gwaith. Felly, hoffwn annog a chefnogi unrhyw gynigion i roi diwedd ar, neu gyfyngu ar y defnydd o ddedfrydau tymor byr. Nid oes fawr o bwrpas os o gwbl i brosesau costus mewn perthynas ag adsefydlu, ond fel y dywedais, gall gael effaith ddinistriol ar fywydau pobl.
Gan droi at faterion polisi eraill yn y cynnig—hawl carcharorion i bleidleisio yn etholiadau Cymru. Mae'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol yn ystyried opsiynau ar gyfer ymestyn hawliau i garcharorion gael pleidleisio yn etholiadau llywodraeth leol Cymru ac rydym wedi ymgynghori ar becyn o gynigion o ran diwygio etholiadol gyda golwg ar gyflwyno Bil yn ddiweddarach eleni. Ond wrth gwrs, mae'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, dan gadeiryddiaeth John Griffiths, yn cynnal ymchwiliad ar hawliau pleidleisio i garcharorion. Rwy'n falch fod y cylch gorchwyl yn cynnwys ystyried a ddylid rhoi'r hawl i bleidleisio yn etholiadau Cymru i bob carcharor neu a ddylid gwahaniaethu rhwng gwahanol gategorïau o garcharor. Felly, mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r egwyddor o hawl i bleidleisio ar gyfer carcharorion ond mae'n aros i weld canfyddiadau'r pwyllgor.
Mae arnaf eisiau gwneud pwynt cryf hefyd ynglŷn â menywod a'r system cyfiawnder troseddol. Roedd yr ystadegau'n codi arswyd arnaf—a Helen Mary yn ogystal ag Alun Davies ac eraill ar y pwynt hwn. Rwy'n cefnogi'r egwyddor a nodir yn gryf, a bydd llawer ohonoch yn cofio adroddiad arloesol y Farwnes Jean Corston ar y mater hwn. Dros 10 mlynedd ers hynny, mae'r egwyddorion hyn a amlinellwyd ganddi yn aros yr un fath. Mae'n amlwg fod menywod yn cael eu hanfon i'r carchar am droseddau diannod lefel isel yn aml. Diolch i chi am eich sylwadau heddiw ar y mater hwn.
O ganlyniad, gall defnydd aneffeithiol o ddedfrydau byr o garchar i fenywod nad ydynt wedi cyflawni troseddau difrifol effeithio'n drychinebus arnynt hwy ac ar eu teuluoedd. Nid yw dedfrydau byr yn galluogi adsefydlu yn ei ystyr lawnaf, oherwydd, yn amlwg, yn aml nid ydynt yn y carchar yn ddigon hir i allu cwblhau rhaglenni neu ddechrau rhaglenni hyd yn oed a allai fod yn fuddiol o ran addysg ac adsefydlu.
Ar yr un pryd, bydd plant menywod sy'n bwrw dedfryd o garchar yn dioddef yn eu tro. Fel y mae adroddiad yr Ymddiriedolaeth Diwygio Carchardai, 'What about me?', a gyhoeddwyd y llynedd yn ei ddweud, 5 y cant yn unig o'r plant sydd â mamau yn y carchar sy'n gallu aros yn y cartref teuluol. Mae effeithiau mwy hirdymor carcharu menywod yn bellgyrhaeddol ac mae'n rhaid eu hystyried o ddifrif. Felly, dylid croesawu unrhyw gynnig i leihau effaith carcharu ar fenywod.
Hefyd, hoffwn ddiolch i Alun Davies, fy rhagflaenydd, am y gwaith a wnaeth yn y maes polisi allweddol hwn, a'r ymrwymiad a wnaeth i fynd i'r afael â'r materion hyn ar draws yr ystod lawn o agweddau sy'n codi yn y ddadl hon, ac sydd wedi cael croeso eang. Mae angen inni sicrhau, ar ran menywod Cymru, fod ganddynt gyfleusterau diogel sy'n addas at y diben, ac edrychaf ymlaen at ddatblygu'r glasbrint ar gyfer troseddwyr benywaidd yng Nghymru. Cafodd ei gyhoeddi gan Alun ym mis Rhagfyr y llynedd. Fe'i datblygwyd ar y cyd â Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi, a bydd hwnnw'n helpu i nodi'r cymorth ychwanegol sydd ei angen ar gyfer darparu gwasanaethau system cyfiawnder priodol ar gyfer menywod yng Nghymru.
Felly, Lywydd, mae'n bwysig dweud wrth amlinellu ei brif flaenoriaethau ar gyfer diwygio—a gwnaeth hynny yn ei sesiwn gwestiynau gyntaf fel Prif Weinidog—fod y Prif Weinidog wedi nodi'r blaenoriaethau uniongyrchol fod cyfiawnder ieuenctid a throseddu ymysg menywod yn feysydd rydym yn gweithio arnynt gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder, drwy'r glasbrintiau a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr, er mwyn gweld pa gynnydd y gallwn ei wneud o fewn cyfyngiadau'r setliad datganoli presennol. Ni wnaeth Llywodraeth Cymru sefydlu'r comisiwn i gadarnhau ei barn ei hun; mae'n annibynnol ac mae ganddo arbenigedd mawr ym mhob un o'r meysydd y mae'n ymchwilio iddynt. Gosodwyd ein gwelliant er mwyn cydnabod gwaith pwysig comisiwn Thomas, ac wrth gwrs, mae pawb ohonom ar draws y Siambr yn edrych ymlaen at y casgliadau a'r argymhellion y bydd yn eu darparu.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Rhun.
Diolch yn fawr iawn am gymryd ymyriad, a'i ddiben yw ychwanegu at y sylwadau a wnaed gan yr Aelod dros Flaenau Gwent sy'n eistedd y tu ôl ichi, mewn gwirionedd. Os yw'n uchelgais gwleidyddol go iawn gennych i symud tuag at ddatganoli'r system cyfiawnder troseddol yn llawn, na, nid ydych yn bwriadu ei wneud mewn ffordd sy'n ein bodloni o ran cyflymder y newid, ond pam na wnewch chi benderfynu cefnogi ein cynnig fel y mae ar y cam hwyr hwn er mwyn dangos bod undod yma ar y cyfeiriad teithio, a ble rydym eisiau cyrraedd yn y pen draw?
Wel, rwy'n credu bod diben ein gwelliant yn gyfan gwbl gadarnhaol ac adeiladol yn fy marn i o ran cydnabod y bydd yn llywio'r cyfeiriad teithio, a chredaf ein bod yn gytûn ar hwnnw; rydym wedi cefnogi cymaint o'r pwyntiau yn eich cynnig. Ond a gaf fi ddweud, Rhun, o ran y comisiwn, fel y dywedodd Alun Davies, ein bod wedi cyflwyno corff sylweddol o dystiolaeth—roedd Alun yn rhan o'r tîm gweinidogol—fe gynhyrchwyd papur trosolwg o'r dystiolaeth gennym, ac wrth gwrs, caiff ei ategu gan bapurau eraill, a llwyddasom i edrych ar yr ystod gyfan—cyfiawnder teuluol, y sector cyfreithiol, awdurdodaeth. Mae hyn yn cwmpasu'r holl bwyntiau hynny, a hefyd addysg a chyflogaeth dioddefwyr a throseddwyr—ystod eang o dystiolaeth.
Diolch i chi. Roedd y dystiolaeth a gynigiodd Llywodraeth Cymru i gomisiwn Thomas yn glir iawn. Roedd yn ystyried bod yr awdurdodaeth yn grair o'r adegau a fu ac yn rhwystr rhag cyflawni cyfiawnder cymdeithasol yn y wlad hon heddiw. A wnewch chi ddatgan yn ddigamsyniol yn awr eich bod yn glynu wrth y dystiolaeth honno—tystiolaeth y Cwnsler Cyffredinol, y dystiolaeth a roddais fel Ysgrifennydd Cabinet, tystiolaeth y cyn-Brif Weinidog? Rhaid imi ddweud—rwy'n ailadrodd—mai camgymeriad oedd y gwelliant gan y Llywodraeth. Fel plaid ac fel grŵp rydym yn cefnogi datganoli'r system cyfiawnder troseddol. Nid wyf yn deall pam y mae'r Llywodraeth yn ceisio dileu'r un frawddeg honno o'r cynnig y prynhawn yma. A wnewch chi ddatgan yn ddiamwys eich bod yn cefnogi datganoli cyfiawnder troseddol?
Wel, Alun, fel roeddwn yn ailadrodd dyfnder ac ehangder y dystiolaeth a roesoch fel rhan o'r tîm hwnnw a roddodd y dystiolaeth, gyda'r Cwnsler Cyffredinol a'r cyn-Brif Weinidog—wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru yn glynu wrth y dystiolaeth a roesoch. Rwy'n rhoi fy ymrwymiad i chi ar hynny, ond wrth gwrs, rwy'n credu bod yn rhaid inni edrych ar y comisiwn cyfiawnder. Roedd ein gwelliant i fod yn adeiladol a defnyddiol i'n symud ymlaen, oherwydd mae'r materion a godwyd yn y cynnig gan Blaid Cymru yn hollbwysig, ond credaf eu bod yn ffurfio rhan o ddarlun ehangach roedd yr Arglwydd Thomas yn chwilio amdano.
Felly, i gloi, rwy'n croesawu'r ddadl hon. Mae'n ddadl y gobeithiaf y byddwn yn cael llawer iawn mwy ohonynt, a byddant yn ddadleuon ac yn ddatganiadau a gyflwynir gan y Llywodraeth er mwyn inni ddatblygu'r daith hon rydym arni gyda'n gilydd o ran datganoli cyfiawnder troseddol. Credaf mai'r hyn sy'n bwysig am y ddadl hon—gadewch inni fynd yn ôl at pam rydym yn gwneud—
Na, na, gadewch i ni beidio â mynd yn ôl—
Un gair yn unig—
Rwyf wedi bod yn oddefgar iawn. Mae angen i chi ddod i ben.
A gawn ni groesawu adroddiad Canolfan Llywodraethiant Cymru ar ddedfrydu a dalfa fel adroddiad pwysig iawn i ni yma yng Nghymru heddiw?
Leanne Wood i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Lywydd. Carwn ddiolch i'r holl Aelodau bron am eu cyfraniadau y prynhawn yma. Nid wyf am roi sylw i ddadl UKIP, gan nad oedd y rhan fwyaf o'r pwyntiau'n gwneud unrhyw synnwyr nac wedi'u cefnogi gan ffeithiau—newyddion ffug oedd yn llywio'r rhan fwyaf ohonynt rwy'n credu. Os ydynt yn credu o ddifrif fod ethnigrwydd a chenedligrwydd yn gysylltiedig â chyfraddau troseddu, tybed a ydynt yn gweld paralelau hanesyddol safbwynt o'r fath. Roedd eich cyfraniad yn hiliol, hiliol, hiliol, hiliol.
Nid oeddwn yn synnu clywed y Torïaid yn ceisio cyfiawnhau eu polisi cyfiawnder troseddol trychinebus. Mae'r llinell wych honno, 'nid yw troseddu'n adnabod unrhyw ffiniau' yn enghraifft glasurol gan blaid Brexit. Pam na chawn ni heddlu Ewropeaidd felly, carchardai Ewropeaidd, system cyfiawnder troseddol Ewropeaidd? A na, nid ydym yn gwrthwynebu cael carchardai—rydym yn gwrthwynebu cael carchardai enfawr, rydym yn gwrthwynebu cael lleoedd carchar nad oes mo'u hangen ar ein gwlad. Wrth gwrs bod angen moderneiddio ein hystâd carchardai, ond rydym yn dadlau o blaid datganoli'r system cyfiawnder troseddol fel y gallwn wneud carchardai mewn ffordd wahanol—mwy o adsefydlu, unedau llai o faint ar gyfer y bobl a ddylai fod yno. Ond yn gyffredinol, dylai fod yn nod polisi gennym i leihau poblogaeth y carchardai a defnyddio dedfrydau sy'n fwy cymunedol, ac sy'n ennyn hyder pawb ohonom.
Disgrifiodd Bethan Sayed beth yn union oedd yr ymgyrch yn erbyn carchar ym Maglan. Gosododd y mater yng nghyd-destun blaenoriaethau buddsoddi mewn seilwaith ehangach hefyd. Mae pobl ym Mhort Talbot wedi cymryd rhan yn y ddadl ynglŷn â sut y dylid datblygu ein system cyfiawnder troseddol yn y dyfodol. Nawr, mae angen i Gymru gyfan gymryd rhan yn y ddadl. Oherwydd yr hyn a wyddom yw bod dioddefwyr torseddau, pan ofynnir iddynt beth y maent eu eisiau, dro ar ôl tro yn dweud eu bod am atal y troseddwr rhag aildroseddu. A beth yw'r ffordd orau o wneud hynny? Rhoi mwy o bobl yn y carchar? Na, mae'n well adsefydlu yn y gymuned, ac mae'r ymchwil yn gwbl glir ar y pwynt hwnnw.
Gofynnodd Jenny Rathbone am y rhesymau dros y ffigurau carcharu uchel ar gyfer Cymru, ac rwyf wedi esbonio beth yw eglurhad Napo ar hynny. Ond nid oes unrhyw amheuaeth fod lefelau uwch o amddifadedd yng Nghymru yn effeithio ar hynny hefyd.
Ar fater pleidleisiau i garcharorion, rydym yn falch fod Llafur yn cefnogi'r alwad hon. Dro ar ôl tro, mae Llywodraeth y DU wedi methu cyflawni ei rhwymedigaethau hawliau dynol yn y maes hwn yn unol â safonau rhyngwladol. Rydym yn cytuno gyda dyfarniad Llys Hawliau Dynol Ewrop nad oes unrhyw le i ddifreinio pob carcharor yn awtomatig. Gellir rhoi ystyriaeth bellach i'r angen am osod cyfyngiadau ar hyn, ac edrychaf ymlaen at barhau gyda'r ymchwiliad ac ystyried y pwynt hwnnw ymhellach.
Diolch i Helen Mary am amlinellu mor glir anghenion siaradwyr Cymraeg a'r gwahaniaethu sy'n wynebu menywod yn y system. Rhaid inni newid yr hyn a wnawn gyda'r holl droseddwyr, ond i fenywod a phobl ifanc, mae bellach yn fater o frys. Yn fy marn i, nid oes angen carchar i fenywod yng Nghymru. Mae angen inni fabwysiadu agwedd gwbl wahanol os ydym am weld canlyniadau gwahanol, a gwnaeth y pwynt yn rymus y gall dedfrydau cymunedol fod yn llym. Gallant fod yn llym iawn. Yn fy mhrofiad i fel swyddog prawf, roedd gweld cleientiaid yn crio yn yr ystafell yn erfyn am gael eu hanfon yn ôl i'r carchar yn cyd-fynd yn llwyr â'r pwynt a wnaeth, ond mae'n dangos pa mor galed y gall dedfrydau cymunedol fod.
Ydy, Alun Davies, mae'r system yn methu ac yn methu'n wael a dyna pam y bu Plaid Cymru'n ymgyrchu dros ddatganoli'r system cyfiawnder troseddol yn ei chyfanrwydd ers degawdau bellach. Ac rwy'n croesawu'r ffaith eich bod wedi ymuno â ni. Ac rwy'n croesawu'r ffaith eich bod yn cefnogi datganoli'r system cyfiawnder troseddol yn ei chyfanrwydd yn llawn, oherwydd fel y nodwyd gennych, mae gwelliant y Llywodraeth yn dileu'r rhan honno o'n cynnig. A mawr obeithiaf y bydd yr Aelodau Llafur sydd am weld y system cyfiawnder troseddol yn cael ei datganoli'n llawn yn pleidleisio'n unol â hynny heddiw. Gadewch i ni weld.
Mae'n siomedig, er hynny, na chawsom esboniad digonol gan y Gweinidog ynglŷn â pham na allent ein cefnogi ar y pwynt hwn, yn enwedig yng ngoleuni cyfraniad Alun Davies. Nid yw'n welliant adeiladol na defnyddiol, Weinidog, a chredaf y dylech bleidleisio yn ei erbyn.
Fodd bynnag, rwy'n croesawu'r hyn a ddywedoch chi am y gwasanaeth prawf, ac edrychaf ymlaen at drafod hynny ymhellach gyda chi. Mae'n rhaid inni roi diwedd ar breifateiddio gwaith di-dâl a gwaith grŵp, yn ogystal â goruchwyliaeth un i un. Deallaf nad yw'r Weinyddiaeth Gyfiawnder eisiau ailwladoli'r elfennau hynny, a'u bod am eu cadw mewn dwylo preifat, felly rwy'n gobeithio y gallwch gael rhywfaint o ddylanwad ar y pwynt hwnnw.
Mae'n amlwg o'r ddadl hon fod y rhan fwyaf o'r Aelodau yn derbyn bod y system yn gwneud cam â phawb. Rhaid inni fod yn barod i wneud pethau'n wahanol, ac ni allwn wneud hynny heb fod gennym reolaeth dros yr ysgogiadau polisi perthnasol. Ni allwn barhau i ohirio hyn.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu. [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais, felly, ar yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Gareth Bennett, a gwelliant 2 yn enw Rhun ap Iorwerth. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Daw hyn â ni at y ddadl ar y rhagolygon am gytundeb Brexit yn dilyn y bleidlais yn Nhŷ’r Cyffredin, a dwi'n galw ar y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit i wneud y cynnig—Jeremy Miles.
Cynnig NNDM6958 Rebecca Evans, Rhun ap Iorwerth
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn condemnio Llywodraeth y DU am fethu â chynnal negodiadau ystyrlon ynghylch y cytundeb i ymadael â'r UE ar sail drawsbleidiol ac yn nhermau trafodaethau diffuant â'r gweinyddiaethau datganoledig.
2. Yn pwysleisio unwaith eto y byddai ymadael heb gytundeb yn drychinebus i Gymru ac y dylai Llywodraeth a Senedd y DU wneud popeth o fewn eu grym i atal sefyllfa o ymadael heb gytundeb, gan gynnwys gofyn am ymestyn dyddiad ymadael Erthygl 50.
3. Yn credu os, fel yr ymddengys ar hyn o bryd, nad oes modd i Senedd y DU uno i gefnogi cynnig gwahanol sy'n cynnwys cymryd rhan yn y farchnad sengl ac mewn undeb tollau, yna'r unig opsiwn sydd ar ôl yw dychwelyd y penderfyniad at y bobl; ac yn credu y dylid dechrau gweithio ar unwaith i baratoi am bleidlais gyhoeddus.
4. Yn credu y dylai Senedd y DU fynd ati, ar unwaith, i drafod mwy gyda'r gweinyddiaethau datganoledig am y materion hyn.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Llywydd. Mae digwyddiadau neithiwr yn Nhŷ’r Cyffredin yn hytrach nag egluro materion wedi cymhlethu pethau ymhellach. Wrth gwrs, rŷm ni’n croesawu’r ffaith fod Tŷ’r Cyffredin wedi dweud yn glir nad yw ymadael heb gytundeb yn ganlyniad derbyniol i’r trafodaethau Brexit, safbwynt a fynegwyd gan y Cynulliad hwn bythefnos yn ôl, sy’n dangos grym penderfyniadau yn y Cynulliad i lunio barn. Rhaid i Lywodraeth y Deyrnas Unedig wrando ar hyn ac fel dywedodd Prif Weinidog Cymru wrth Brif Weinidog y Deyrnas Unedig yr wythnos diwethaf i ddweud yn glir nad yw ymadael heb gytundeb yn opsiwn. Dydw i ddim am ailadrodd trafodaethau’r wythnos diwethaf, ond byddai ymadael heb gytundeb yn drychinebus. Does dim modd i unrhyw Lywodraeth gredadwy barhau i wrthod dweud yn bendant nad yw hynny’n opsiwn.
Y cam cyntaf fyddai i’r Llywodraeth gyflyno is-ddeddfwriaeth angenrheidiol i ddiddymu’r cyfeiriad at 29 Mawrth fel diwrnod ymadael. Ond dydy’r camau hyn ddim yn ddigon wrth eu hun. Mewn un ffordd o leiaf, roedd Prif Weinidog y Deyrnas Unedig yn gywir wrth fynnu nad oes modd i ni wrth ein hunain gael gwared â’r cleddyf Damocles sy’n hofran uwch ein pennau—y perygl o ymadael heb gytundeb ar 29 Mawrth. Er bod y mwyafrif yn Nhŷ’r Cyffredin, yn y Cynulliad hwn, ac yn Senedd yr Alban, yn ogystal â’r undebau llafur a’r gymuned fusnes bron yn gyfan yn credu bod ymadael heb gytundeb yn annerbyniol, dydy’r ffaith honno ddim yn golygu ei fod yn amhosib. A hyd yn oed os byddai Senedd y Deyrnas Unedig yn ailddiffinio’r diwrnod ymadael, oni bai fod pob un o’r 27 aelod-wladwriaeth arall yr Undeb Ewropeaidd hefyd yn cytuno i ymestyn y terfyn o ddwy flynedd a osodwyd gydag erthygl 50, ni fydd hyn yn digwydd.
Rydym yn bryderus iawn ynglŷn â chyn lleied o amser sydd ar ôl, gyda'r dyddiad gadael ar 29 Mawrth yn eglur iawn ar y gorwel. Ceir rhagdybiaeth yn San Steffan y gallwn fynd yn agos iawn at y dyddiad hwnnw a galw am estyniad i erthygl 50 wedyn. Mae hon yn rhagdybiaeth beryglus iawn. Po hwyaf yr arhoswn cyn gofyn am estyniad, y gwannaf oll y bydd safbwynt negodi'r Llywodraeth. Po agosaf yr awn i 29 Mawrth, y mwyaf o gonsesiynau y bydd aelod-wladwriaethau eraill yr UE yn eu ceisio gan y DU yn gyfnewid am sicrhau eu cytundeb. A pho agosaf yr awn at yr etholiadau Ewropeaidd, y mwyaf anodd fydd cysoni unrhyw beth mwy nag estyniad byr â'r trefniadau i ad-drefnu'r Senedd honno i adlewyrchu Brexit. Felly, mae angen inni ofyn am estyniad i erthygl 50 nawr, rhywbeth roedd yr UE yn dynodi neithiwr y byddai'n edrych yn gadarnhaol arno. Mae angen i Lywodraeth y DU wynebu'r ffaith nad yw bygythiadau a rhybuddion olaf yn arwain rywsut at wneud i'r UE fod yn barod i gydymffurfio oherwydd, er fy mod yn sicr nad oes neb yn yr UE eisiau i'r DU adael heb gytundeb, a allwn feio ein partneriaid Ewropeaidd os ydynt yn rhwystredig tu hwnt yn sgil yr hyn a welsant dros yr ychydig wythnosau diwethaf?
Ac er mai Brexit yw'r mater pwysicaf yng ngwleidyddiaeth Prydain mae'n siŵr, rydym yn twyllo ein hunain os ydym yn credu mai Brexit yw'r prif ffocws yn Ffrainc, yn yr Almaen, yn Sbaen, ym Mhortiwgal. Byddai unrhyw ddemocratiaeth aeddfed arall, wrth wynebu her o'r math a achosir gan Brexit wedi sicrhau bod y Llywodraeth yn ceisio adeiladu consensws eang ynglŷn â sut i symud ymlaen mewn amgylchiadau na ellir gwadu eu bod yn anodd. Ond mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn amlwg wedi methu estyn allan. Yn hytrach, mae wedi dechrau ar strategaeth bleidiol gul i uno'r Blaid Geidwadol, nid y wlad, strategaeth sy'n seiliedig ar linellau coch, ar derfynau amser a osodwyd ganddi hi ei hun ac ar anallu i wrando neu barchu buddiannau cyfreithlon y parti arall yn y negodiadau: 27 gwlad yr UE. Mae'n strategaeth sydd wedi methu gwneud unrhyw beth i bontio'r rhaniadau dwfn yn ein cymdeithas.
Er hynny, byddai'r grasfa hanesyddol ar y cytundeb ymadael a'r datganiad gwleidyddol wedi arwain, ar unrhyw adeg arferol, at ymddiswyddiad y Prif Weinidog a newid cyfeiriad ar unwaith. Ond yn dilyn y grasfa honno, clywsom eiriau calonogol gan Brif Weinidog y DU am drafodaethau trawsbleidiol, estyn allan at y gweinyddiaethau datganoledig gyda bwriad i adeiladu consensws. Swniai fel pe bai'r Prif Weinidog o'r diwedd wedi dysgu o gamgymeriadau Llywodraeth y DU. Pan gyfarfu â Phrif Weinidog y DU yr wythnos diwethaf, dywedodd Prif Weinidog Cymru yn glir fod Llywodraeth y DU ar groesffordd. Gallai Prif Weinidog y DU barhau i fynd i'r cyfeiriad y mae wedi bod yn symud iddo'n araf ers llinellau coch Lancaster House drwy groesawu undeb tollau yn awr a chyfranogiad yn y farchnad sengl ar draws yr economi gyfan, neu gallai gadw at ei chytundeb a cheisio glynu'n ystyfnig at lwybr a oedd eisoes wedi mynd â hi i cul-de-sac.
Lywydd, er gwaethaf y geiriau calonogol a ddilynodd y grasfa a gafodd bythefnos yn ôl, mae'n eithaf clir bellach fod y Prif Weinidog yn troi mewn cylchoedd yn ei cul-de-sac, yn ailadrodd y safbwyntiau llinell goch, yn methu gweld yr angen i ymestyn erthygl 50 ar frys ac yn methu diystyru 'dim cytundeb'—yn fyr, mae'n parhau ar y ffordd i unman. A all unrhyw beth fod yn fwy chwerthinllyd na'r Prif Weinidog yn gosod chwip ar ei Haelodau Seneddol ei hun i'w cael i'w chyfarwyddo i fynd i wneud rhywbeth y dywedodd ei fod yn amhosibl gwta bythefnos yn ôl? Yn hytrach na cheisio uno'r Senedd ar ffordd ymlaen sy'n gyson â'r weledigaeth ar gyfer perthynas ôl-Brexit â'r UE sy'n parhau i gael ei chymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol, mae'r Prif Weinidog wedi dewis cadarnhau ei hymrwymiad i'r ddarpariaeth wrth gefn, er bod yr UE wedi dweud, ac wedi ailadrodd eto neithiwr, nad yw'r ddarpariaeth wrth gefn yn agored i'w ailnegodi tra bo'i llinellau coch hi yn parhau yn eu lle. Ac os caf ddweud, Lywydd, rydym yn cefnogi'r pryderon dilys a fynegir gan ein cymdogion yng Ngweriniaeth Iwerddon a'r Undeb Ewropeaidd ynglŷn â'r risgiau y mae Brexit yn eu hachosi i'r heddwch a'r ffyniant y mae Cytundeb Dydd Gwener y Groglith wedi'i ddwyn i ynys Iwerddon? Mae'r Prif Weinidog ar fin mynnu bod Iwerddon a'r UE-27 arall yn ailagor cytundeb y mae hi wedi dweud mor ddiweddar ei fod yn derfynol, wedi'i wneud, yr unig gytundeb ar y bwrdd. Os ydynt yn gwrthod ildio'r sicrwydd pendant, a allwn eu beio am wrthod gwneud hynny'n gyfnewid am honiad y DU y gellir ymddiried ynddi i anrhydeddu eu cytundebau?
Felly, er ei bod bob amser yn amhosibl bod yn sicr ynglŷn â'r dyfodol gyda Brexit, mae'n edrych yn debyg fod taith frysiog nesaf y Prif Weinidog i Frwsel wedi'i thynghedu i fethu. A hyd yn oed os daw â rhai consesiynau neu sicrwydd symbolaidd yn ôl gyda hi, pwy all fod yn sicr y byddai'n bodloni'r dyrnaid bach o Brexiteers cyfeiliornus sy'n credu'n ddiffuant na fydd gadael heb gytundeb yn ddim mwy nag anghyfleustra bach?
Gadewch inni fod yn glir: mae'r Prif Weinidog yn mynd i fod angen sicrhau cefnogaeth barhaus i'w dull o weithredu ar Brexit. Bydd ceisio adeiladu strategaeth ar gytundebau ar yr ymyl gyda'r DUP a'r consesiynau i'r grŵp diwygio Ewropeaidd yn gwanhau safbwynt y Llywodraeth yn y wlad hon wrth iddynt geisio pasio'r ddeddfwriaeth angenrheidiol yn yr wythnosau nesaf. Felly, rydym yn condemnio Llywodraeth y DU am fethu gweld yr angen i sefydlu tir cyffredin ar draws y pleidiau gwleidyddol ar Brexit ar gyfer y tymor hir. Mewn cyferbyniad â'r strategaeth rhannu a rheoli a welwyd yn San Steffan, o'r cychwyn cyntaf mae Llywodraeth Cymru wedi ceisio adeiladu consensws, rhywbeth a nodweddir yn ein Papur Gwyn 'Diogelu Dyfodol Cymru', a gytunwyd ar y cyd â Phlaid Cymru. Yn y Papur Gwyn hwnnw, roeddem yn glir ynglŷn â'r cyfaddawdau y byddai eu hangen pe baem yn anrhydeddu canlyniadau'r refferendwm. Roeddem yn cydnabod nad oedd pobl wedi pleidleisio dros wneud eu hunain yn dlotach ac na allai Cymru fforddio'r costau economaidd enfawr yn sgil torri mynediad at y farchnad sengl a bod y tu allan i'r undeb tollau, a bod hyn yn golygu y byddai'n rhaid inni dderbyn dyfodol lle byddai gennym lai o reolaeth, fel Norwy, dros ein hamgylchedd rheoleiddio nag sydd gennym fel aelod-wladwriaeth.
Mae ein dull o weithredu'n seiliedig ar dystiolaeth yn parhau i olygu bod y Cynulliad Cenedlaethol hwn yn gallu cytuno ar safbwyntiau mwyafrifol i wrthod cytundeb Llywodraeth y DU a nodi'r ffurf ar Brexit, gyda chyfranogiad yn y farchnad sengl ac undeb tollau, a fyddai'n ennyn ein cefnogaeth, cytundeb ar yr angen i ymestyn proses erthygl 50, a chytundeb i ddiystyru'r posibilrwydd y bydd y DU yn gadael heb gytundeb. Mae ein gallu yma i ddod o hyd i dir cyffredin yn ein rhoi mewn sefyllfa gref yn y Cynulliad hwn pan geisiwn ddylanwadu ar Lywodraeth y DU drwy fod yn glir beth sydd, a beth nad yw'n dderbyniol i Gymru.
Neithiwr, methodd Tŷ'r Cyffredin gefnogi unrhyw ffordd gydlynol ymlaen ac eithrio ymgais sy'n peri pryder i gicio'r can i lawr y lôn. Mae'n ymddangos yn fwyfwy amlwg mai'r dewis y bydd y wlad yn ei wynebu yn y pen draw yn wir fydd dim cytundeb, cytundeb gwael nad yw'n gallu hawlio mwyafrif sefydlog yn y Senedd, neu roi'r penderfyniad yn ôl i'r bobl. Nid yw pleidlais gyhoeddus arall yn llwybr hawdd; ceir llawer o rwystrau ar y ffordd o ran egwyddor ac ymarferoldeb. Ond er y byddwn ni fel Llywodraeth Cymru yn parhau i annog y Senedd i ymuno i gefnogi cytundeb ymadael a datganiad gwleidyddol wedi'i ailysgrifennu sy'n adlewyrchu Brexit mwy credadwy, mwy sefydlog, tebyg i Norwy+—sydd, gyda llaw, yn dileu'r angen am ddarpariaeth wrth gefn—rydym hefyd yn gwybod bod amser yn brin, a bellach, rhaid dechrau'r gwaith o baratoi ar gyfer pleidlais gyhoeddus.
Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf ar Neil Hamilton, felly, i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Gareth Bennett—Neil Hamilton.
Gwelliant 1—Gareth Bennett
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu bod safbwynt bresennol Llywodraeth y DU o ran ymadael â'r UE yn negyddu canlyniad y refferendwm yn sylweddol, gan gadw'r DU yn yr undeb tollau am gyfnod amhenodol ac, i bob pwrpas, yn y farchnad sengl, gan ein hamddifadu o unrhyw lais ffurfiol neu bleidlais ym mhenderfyniadau'r Undeb Ewropeaidd.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i dynnu ei safbwynt yn ôl o ran yr hyn â nodir yn "Diogelu Dyfodol Cymru," a ysgrifennwyd ar y cyd â Phlaid Cymru, gan fod hyn hefyd yn anwybyddu ewyllys pobl y DU, a Chymru, a bleidleisiodd yn bendant i adael yr Undeb Ewropeaidd.
3. Yn cymeradwyo ymadael â'r Undeb Ewropeaidd heb gytundeb, heb unrhyw estyniad i Erthygl 50, ac o dan delerau Sefydliad Masnach y byd.
4. Yn galw ar Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i achub ar y cyfle i adfer sofraniaeth genedlaethol Prydain y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd.
5. Yn galw ar Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i dderbyn ein bod yn gadael yr UE ar delerau Sefydliad Masnach y Byd ar 29 Mawrth 2019, ac i ganolbwyntio pob ymdrech, bellach, ar baratoi at y canlyniad hwn.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Diolch yn fawr, Lywydd. Rwyf am gynnig y gwelliant yn enw fy nghyd-Aelod, Gareth Bennett.
Rydym wedi cyrraedd pen draw dwy flynedd a hanner a wastraffwyd. Pan ddaeth y Bil ymadael â'r UE i rym, roedd y dyddiad ymadael sef 29 Mawrth ar wyneb y Bil, ac mae pawb wedi gwybod ein bod yn anelu tuag at 29 Mawrth dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae'r modd y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi esgeuluso ei dyletswydd yn syfrdanol a dyna pam rydym yn y llanastr rydym ynddo heddiw. Er, rhaid imi ddweud, roedd yn gwbl rhagweladwy, o gofio bod Theresa May yn anelu'n agored am cul-de-sac na allai ddod allan ohono, am nad oedd yr UE eisiau cytundeb yn y lle cyntaf; roeddent am weld ymostyngiad Prydain.
Rydym yn gwybod bod Monsieur Barnier wedi dweud yn 2016 y bydd wedi gwneud ei waith os bydd y telerau ar ddiwedd y broses mor wael fel y bydd pobl Prydain eisiau aros yn yr UE. Dyna'r cefndir i'r hyn a elwir yn negodi a wnaed ym Mrwsel. Gallem fod wedi darllen y llyfr Adults in the Room gan Yanis Varoufakis, a nododd yn fanwl gywir, mewn gwirionedd, gydag eglurder mawr, flynyddoedd yn ôl, beth fyddai'r tactegau a fyddai'n wynebu Theresa May a'r negodwyr Prydeinig pan fyddent yn mynd i Frwsel, oherwydd dywedodd mai un peth yn unig sy'n bwysig i negodwyr yr UE: sut i ddangos i weddill Ewrop y bydd unrhyw un sy'n pleidleisio dros Lywodraeth neu sy'n pleidleisio mewn refferendwm mewn modd sy'n herio awdurdod y sefydliad dwfn yn Ewrop yn cael eu darostwng. A dyna'n union beth sydd wedi digwydd. Fe ildiaf.
Diolch ichi am dderbyn ymyriad. Rwy'n deall pam y rhowch y sbin hwnnw ar bethau, ond onid effaith yr hyn a ddywedwch yw nad oes unrhyw gytundeb cystal â bod yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd?
Na, oherwydd gallai Theresa May fod wedi dewis llwybr hollol wahanol, sef dweud, ar y cychwyn cyntaf, ein bod eisiau'r math o gytundeb gyda'r Undeb Ewropeaidd ag y mae Canada, De Korea a llond dwrn o wledydd eraill wedi llwyddo i'w sicrhau, sy'n cadw mesur eang o fasnach rydd rhyngom, ond nid yw'n cynnwys yr holl gymhlethdod llywodraethol a arweiniodd at ganlyniad y refferendwm, a'r hyn sy'n gefndir i'n dadl mewn gwirionedd. Credaf mai'r hyn sy'n amlwg o araith y Cwnsler Cyffredinol heddiw yw nad yw erioed wedi derbyn canlyniad y refferendwm ym mis Mehefin 2016 wrth gwrs, ac yn ddiweddar maent wedi dod ychydig yn fwy agored a thryloyw ynglŷn â rhywbeth y maent bob amser wedi bod eisiau ei wneud, sef gwrthdroi'r bleidlais honno. Hynny yw, mae pawb wedi esgus cefnogi pleidlais mwyafrif pobl Prydain ddwy flynedd yn ôl, ond maent bob amser wedi bod eisiau naill ai ei thanseilio mor angheuol fel ei bod yn ddiystyr, neu roeddent eisiau ceisio ei gwrthdroi, yn benodol, fel y maent bellach yn ei ddweud, drwy ail refferendwm, hyd yn oed cyn i ganlyniad y refferendwm cyntaf gael ei weithredu.
Wrth gwrs, mae hanes o hyn ledled Ewrop; mae pobl wedi gorfod dal ati i bleidleisio hyd nes eu bod yn cynhyrchu'r canlyniad y mae sefydliad dwfn yr UE, yng ngeiriau Mr Varoufakis, ei eisiau. Wel, y tro hwn, nid yw'n mynd i ddigwydd, ac mae'n flin gennyf ein bod yn y sefyllfa annymunol hon heddiw, ond nid ydym byth yn mynd i allu cyflawni canlyniad y refferendwm ar sail polisi o dynnu 'dim cytundeb' oddi ar y bwrdd, gan mai dyna'r arf cryfaf a oedd gan Brydain erioed yn y trafodaethau hyn. Oherwydd, bydd, mae'n sicr y bydd rhai dirdyniadau os ceir 'dim cytundeb' ar 29 Mawrth; bydd yna gostau trosiannol—nid oes unrhyw amheuaeth am hynny—ond gan y bydd yr Undeb Ewropeaidd hefyd yn wynebu costau sylweddol iawn, mae hyn yn profi nad oes gan y sefydliad gwleidyddol dwfn ym Mrwsel unrhyw ddiddordeb yn lles pobl Ewrop, heb sôn am bobl y Deyrnas Unedig. Nid ydynt eisiau cytundeb, oherwydd maent am gosbi Brexit i atal pobl eraill a allai ddewis yr un llwybr ag y gwnaeth Prydain ddwy flynedd a hanner yn ôl.
Ond gadewch i ni beidio goramcangyfrif y costau a osodir ar Brydain os na cheir cytundeb. Mae'n wir fod allforion i'r Undeb Ewropeaidd yn bwysig; roedd gwerth allforio nwyddau yn £164 biliwn mewn economi o £2 triliwn, a 2.5 y cant yw cyfradd y tariff cyfartalog yn nhariff allanol cyffredin yr UE. Bydd yn llawer pwysicach i rai sectorau o'r economi, yn enwedig amaethyddiaeth, nag i eraill, ond mae amaethyddiaeth yn llai na 2 y cant o'r—[Torri ar draws.] Nid oes gennyf amser, mae'n ddrwg gennyf, na. Mae gennyf bedair munud a hanner; nid oes gennyf amser i ildio. Hoffwn ildio, ond ni allaf.
Ond rydym yn fewnforwyr net enfawr o ran bwyd. Ceir marchnad enfawr o fewn y Deyrnas Unedig i ffermwyr Prydain fanteisio arni os na cheir cytundeb. Y rhai a fydd ar eu colled o ddifrif fydd ffermwyr tramor: cynhyrchwyr cig moch yn Nenmarc, cynhyrchwyr gwin yn Ffrainc, cynhyrchwyr letys yn Sbaen—nid fy mod yn poeni llawer am hynny. Felly, mae dyfodol Prydain y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd, sy'n rhan sy'n crebachu o'r fasnach fyd-eang: 30 y cant o fasnach y byd yn 1980, i lawr i 15 y cant yn awr, a bydd i lawr i 10 y cant ymhen 20 mlynedd. Gadewch i ni adael yr undeb sglerotig hwn. Gadewch i ni fod yn barod i sefyll dros ein hegwyddorion a chredu ynom ein hunain fel gwlad i sicrhau llwyddiant yn y byd gyda'r rhyddid a ddaw yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Galwaf ar Adam Price i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Adam Price.
Gwelliant 2—Rhun ap Iorwerth
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i hwyluso dirprwyaeth seneddol i gael ei hanfon ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru i gwrdd â chynrychiolwyr seneddol a chynrychiolwyr y llywodraeth yn San Steffan i gyflwyno'r achos dros Gymru fel y nodir yn y cynnig hwn.
Cynigiwyd gwelliant 2.
Mae'n anodd peidio â bod yn ddigalon braidd ar hyn o bryd, yn enwedig ar ôl yr araith honno, ond ein cyfrifoldeb ni yn y lle hwn yw cynnig rhyw fath o gyfeiriad o leiaf, a rhywfaint o obaith. Dechreuodd Brexit gyda phobl yn cynnig addewidion ffug ac anghyson: gallem adael yr UE a dal i gael mynediad dilyffethair at ei farchnadoedd heb fod yn ddarostyngedig i'w ddeddfau. Nawr, fe wnaeth y Senedd ymroi i'r un math o ffantasi Brexit ddoe. Pleidleisiodd Senedd y DU neithiwr (a) nad yw Brexit 'dim cytundeb' yn opsiwn, a (b) fod yn rhaid cael gwared ar y ddarpariaeth wrth gefn ar gyfer Iwerddon o'r cytundeb ymadael, er bod yr UE wedi dweud, ac wedi dweud eto o fewn munudau i'r bleidlais yn y Senedd, nad yw hynny'n opsiwn. Rydym wedi mynd o dagfa lwyr i gylch diddiwedd drosodd a throsodd drwy gydol y saga drist hon, a byddwn yno eto ymhen pythefnos. Mae San Steffan wedi cicio'r can i lawr y lôn gynifer o weithiau nes y dylai ddod yn gamp genedlaethol newydd.
Nawr, bydd Mrs May'n mynd yn ôl i Frwsel am yr eildro ac yn ceisio argyhoeddi ei chymheiriaid yn yr UE dros y pythefnos nesaf i ailagor y trafodaethau, a byddant yn gwrthod gwneud hynny eto, a chanlyniad hyn yw ein bod yn llithro tuag at Brexit 'dim cytundeb' y mae'r Senedd wedi dweud nad yw mo'i eisiau ond dyna fydd y canlyniad diofyn oni chaiff erthygl 50 ei hymestyn, a dyna, yn baradocsaidd, y pleidleisiodd y Senedd yn ei erbyn neithiwr. Ddoe, roedd San Steffan, yn y bôn, yn ewyllysio gweld diwedd ar flocio 'dim cytundeb' heb ewyllysio dull o gefnogi dewis amgen hyfyw yn ei le. Mae gwelliant Brady nid yn unig yn amhosibl ei gyflawni, mae'n amhosibl ei ddehongli. Ni fyddai hynny byth yn atal rhai tebyg i Boris Johnson, wrth gwrs, rhywun sydd eisiau cael ei gacen a'i bwyta yn gwbl ddigwestiwn. I aralleirio Oscar Wilde, mae'r glymblaid dros dro a glytiodd Theresa May at ei gilydd gyda Grŵp Diwygo Ewropeaidd a'r DUP yn enghraifft o'r anhraethol yn mynd ar drywydd yr anghyraeddadwy. Beth yn union yw'r 'trefniadau amgen' hyn? Treuliodd negodwyr Brexit ddwy flynedd yn ceisio dod o hyd i'r trefniadau amgen chwedlonol hyn i'r ddarpariaeth wrth gefn, ac yn y diwedd bu'n rhaid i Lywodraeth Prydain hyd yn oed roi'r gorau iddi. A ydym o ddifrif yn credu eu bod yn mynd i ddod o hyd iddynt yn y bythefnos nesaf drwy ryw ryfedd wyrth? Mae'r ddarpariaeth wrth gefn yno. Mae'r ddarpariaeth wrth gefn yno i sicrhau, os na ddeuir i gytundeb masnach ehangach, ac na ellir dod i atebion eraill, na fydd Iwerddon—y gogledd na'r de—yn gweld ffin galed yn dychwelyd; h.y., os na fydd trefniadau amgen yn gweithio, bydd y ddarpariaeth wrth gefn yn dod yn weithredol. Yr hyn y mae Llywodraeth y DU yn gwahodd yr UE i gytuno yn ei gylch yn awr yw trefniadau amgen rhag ofn nad yw'r trefniadau amgen yn gweithio—mewn geiriau eraill polisi yswiriant heb yswiriant, rhwyd ddiogelwch heb rwyd, darpariaeth wrth gefn heb gefn iddi.
Nawr, ffantasi rhai Torïaid yw bod Mrs May yn mynd i fynd i Frwsel yn awr a sicrhau tro pedol ganddynt ar raddfa moment Fontainebleau enwog Mrs Thatcher. Ond beth bynnag arall y gellid ei ddweud am Thatcher—ac mae llawer y gellid ei ddweud—roedd hi o leiaf yn gyson: 'the lady's not for turning'. Mae Mrs May newydd gyflawni'r tro pedol mwyaf mewn hanes. Hyd at dri diwrnod yn ôl, roedd hi'n dweud bod angen y ddarpariaeth wrth gefn a bod arni hynny i bobl Gogledd Iwerddon. Mae'n dweud yn awr ei bod hi am gael ei gwared. Pa ryfedd nad yw aelod-wladwriaethau'r UE yn hapus iawn. Yr un dewis go iawn sydd ar ôl bellach yw naill ai Brexit 'dim cytundeb' neu bleidlais y bobl. Mae gwleidyddiaeth wedi torri ar hyn o bryd. Ond ymhen 58 diwrnod, bydd mwy na gwleidyddiaeth yn y fantol, ac ni fydd pobl yn maddau i ni, a bydd hanes yn ein barnu'n hallt os na wnawn bopeth yn ein gallu i atal trychineb y gellir ei osgoi, a dyna pam y mae'n iawn, gyda San Steffan yn sownd yn y gors, inni ddod ynghyd yma yn y Senedd hon i ganfod ffordd allan o'r gors. Felly, mae heddiw'n gam cadarnhaol, ond gadewch i ni atgoffa ein hunain mai'r geiriau pwysicaf yn y cynnig hwn yw 'ar unwaith'. Nid oes gennym fawr o amser. Rhaid inni weithredu gyda phendantrwydd, heb oedi, heddiw.
Yn dilyn y ddadl ddoe yn Nhŷ'r Cyffredin, mae'n amlwg iawn fod angen inni baratoi ar gyfer Brexit. Bydd llawer o'r bobl sy'n gwylio'r ddadl hon heddiw'n ei hystyried hi'n eironig iawn, mewn gwirionedd, fod y cynnig sydd ger ein bron ar y cyd rhwng Llafur, Plaid Cymru, a'r Democratiaid Rhyddfrydol—gan mai dyna beth ydyw, cynghrair ddiurddas o dair plaid yn y Cynulliad Cenedlaethol hwn sy'n dymuno ceisio rhwystro Brexit—[ Torri ar draws.] Rydych yn ceisio condemnio Llywodraeth y DU am fethu cymryd rhan mewn trafodaethau trawsbleidiol ym mhwynt 1 y cynnig hwn, ond ni allai dim fod ymhellach o'r gwir. Mae'r Prif Weinidog wedi gwahodd ac wedi cynnal trafodaethau â phleidiau gwleidyddol eraill, gan gynnwys arweinydd Plaid Cymru, gan gynnwys Prif Weinidog Llywodraeth Cymru—[Torri ar draws.]
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
—ac arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn, sydd, hyd yma, wedi methu cymryd rhan.
A ydych yn derbyn ymyriad?
Fe gymeraf un mewn eiliad, Lywydd. Mae'n warthus, a dweud y gwir, ei fod wedi bod yn hapus i gyfarfod â therfysgwyr heb amodau yn y gorffennol, ond nad yw wedi bod yn barod i gyfarfod â'r Prif Weinidog tan neithiwr pan ildiodd o'r diwedd o dan bwysau. Fe gymeraf yr ymyriad a ddaeth yn gyntaf.
Iawn. Rwy'n siŵr ei fod wedi treulio rhywfaint o amser cyn y ddadl yn paratoi ar gyfer hyn, ond un o'r pethau a ddywedodd—. Mae'n sôn am 'gynghrair ddiurddas' rhwng Plaid Cymru, Llafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol: yr wythnos diwethaf, roedd y Blaid Geidwadol yn cyhuddo'r Blaid Lafur o deyrngarwch llwythol. Ni allwch gael y ddau.
Wel, edrychwch, rydym wedi gweld teyrngarwch llwythol yn y Siambr hon, ac mae'n amlwg iawn i bawb ei weld. [Torri ar draws.] Nid yn unig fod cyfarfodydd wedi'u cynnal rhwng arweinwyr gwleidyddol, ond wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru ei hun wedi cymryd rhan drwy gyfarfodydd niferus Cyd-bwyllgor y Gweinidogion, sydd wedi cynnwys llawer iawn o sgyrsiau a thrafodaethau ar Brexit.
Nawr, ym mhwynt 2 y cynnig, gofynnir i'r Cynulliad gefnogi ymestyn dyddiad gadael erthygl 50. Cawsom ein cyhuddo o fod eisiau cicio'r can ymhellach i lawr y lôn funudau yn ôl o ran safbwynt Llywodraeth y DU, ac eto, dyma gicio'r can yr holl ffordd i lawr—nid dim ond i lawr y ffordd, ond i'r stryd nesaf. Wyddoch chi, y realiti yw bod Senedd y DU, neithiwr, dros gyfres o bleidleisiau wedi gwrthod y galwadau hynny'n bendant. Mae'r rhan fwyaf o ASau yn cydnabod nad yw ymestyn y dyddiad gadael yn mynd i wneud unrhyw beth o gwbl i ddatrys yr anghytundeb sylfaenol—[Torri ar draws.]—sydd rhwng llawer o bobl ynglŷn â Brexit. Felly, mae pleidleisio dros geisio estyniad yma yn y Siambr hon heddiw yn gwbl ofer, a gwyddom beth sydd wedi'i ysgogi; mae wedi'i ysgogi gan bobl sydd am rwystro Brexit oherwydd nad ydynt yn cytuno—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
—â barn pobl Prydain, a fynegwyd yn y bleidlais ym mis Mehefin 2016. Fe gymeraf ymyriad.
Diolch i chi am gymryd yr ymyriad. Wel, wrth gwrs, pleidleisiodd Senedd y DU neithiwr dros ddatgan nad oedd 'dim cytundeb' yn opsiwn. Os felly, mewn trafodaethau gyda'r holl bleidiau, Prif Weinidog a gyhuddwyd o fod â drws agored ond meddwl caeedig, oni chredwch y byddai'n rhesymegol i'r Prif Weinidog ddweud yn awr nad yw 'dim cytundeb' yn opsiwn ac y dylai gefnogi sofraniaeth y Senedd?
Gall unrhyw un ddweud nad yw 'dim cytundeb' yn opsiwn oherwydd bod angen cytundeb pob plaid. Felly, nid yw'r Prif Weinidog mewn sefyllfa i ddweud beth yw barn pobl eraill. [Torri ar draws.]
Yr hyn y mae'r Prif Weinidog wedi bod yn ei wneud ac wedi bod yn ei wneud yn gyson yw ymladd yn galed i gael y cytundeb gorau posibl fel nad ydym yn wynebu sefyllfa 'dim cytundeb'. Dyna pam y mae hi wedi cynhyrchu cytundeb, ac a dweud y gwir, dyna'r unig gytundeb sydd ar y bwrdd, yr unig gytundeb sy'n bosibl i allu mynd drwy'r Senedd, a chael cefnogaeth y Senedd, gyda'r addasiad hwn i'r ddarpariaeth wrth gefn y mae'r Senedd wedi pleidleisio dros ei geisio. Felly, rydym mewn sefyllfa yn awr lle mae gan Brif Weinidog y DU fandad clir iawn i geisio ailnegodi'r agwedd honno ar ei chytundeb gyda'r Undeb Ewropeaidd.
Ac i'r rhai sy'n dweud mai'r unig ffordd o osgoi ffin galed ar Ynys Iwerddon yw derbyn y ddarpariaeth wrth gefn, mae arnaf ofn fy mod anghytuno'n llwyr oherwydd mae'r broblem, wrth gwrs, yn ymwneud â mwy na'r ffaith bod gennym sefyllfa lle mae'r ddarpariaeth wrth gefn yn rhywbeth na chaniateir inni ddod allan ohono heb ganiatâd yr UE hyd yn oed, oherwydd dyna un peth sylfaenol arall y mae'n ymddangos bod pawb arall yn ei anwybyddu. Ond dywedodd prif negodwr yr Undeb Ewropeaidd, Michel Barnier, wrth bwyllgor o'r UE yr wythnos diwethaf, mewn senario 'dim cytundeb', ac rwy'n dyfynnu,
bydd yn rhaid inni ddod o hyd i ffordd weithredol o gynnal archwiliadau a mesurau rheoli heb osod ffin yn ôl ar waith.
Nawr, os yw prif negodwr yr UE, Michel Barnier, yn barod i gyfaddef y bydd yn bosibl cynnal archwiliadau a mesurau rheoli heb roi ffin galed ar waith mewn senario 'dim cytundeb', mae'n gwbl bosibl gwneud yr un peth mewn senario lle ceir cytundeb o dan y trefniadau a nodir yng nghytundeb y Prif Weinidog. [Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf, nid oes gennyf amser i dderbyn ymyriad arall.
Hoffwn ddweud yn fyr iawn, mae pwynt 3 y cynnig yn dweud yn glir fod Llywodraeth Cymru bellach yn dadlau y dylid paratoi ar gyfer ail refferendwm, ac eto mae Llywodraeth Cymru wedi dweud wrth bobl Cymru'n gyson ei bod hi'n parchu canlyniad y refferendwm yn 2016. Mae'n amlwg nad yw hi, Lywydd, oherwydd fel arall, byddai'n cefnogi camau i weithredu'r farn honno. Gadewch i ni atgoffa ein hunain: pleidleisiodd pobl Cymru, a phobl y DU o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd ym mis Mehefin 2016, ac mae'n rhaid inni adael. Byddai cynnal ail refferendwm yn bradychu pobl Cymru'n llwyr, byddai'n gosod cynsail peryglus ar gyfer ein democratiaeth.
Felly, i gloi, Lywydd, hoffwn ailadrodd ymrwymiad Plaid Geidwadol Cymru i gyflawni Brexit, ein penderfyniad i gefnogi ymdrechion i wneud hynny gyda chytundeb, ac yn drefnus, a'n hymrwymiad i ymgysylltu ag eraill, gan gynnwys pleidiau eraill yn y Siambr hon, i weld Cymru a'i phobl yn ffynnu pan fyddwn yn gadael yr UE.
Diolch yn fawr iawn ichi am hynny. Felly, nid yw 29 Mawrth ond mater o wythnosau i ffwrdd, ac i lawer o fusnesau a sefydliadau ledled Cymru, mae'r ansicrwydd ynglŷn â Brexit yn frawychus iawn. Gwn o sgyrsiau a gefais yn fy etholaeth gyda chwmnïau ym Merthyr Tudful a Rhymni eu bod yn pryderu'n fawr ynglŷn â hynny. Ni allaf ond tybio nad yw cynrychiolwyr UKIP a'r Ceidwadwyr wedi bod yn siarad â chwmnïau yn eu hetholaethau, oherwydd fel arall byddent—[Torri ar draws.] Na, nid wyf yn derbyn ymyriad. Oherwydd fel arall, byddent wedi cael yr un ymateb ag a gefais i ynglŷn â'r pryderon sydd ganddynt.
A gwyddom y gallai'r tro pedol gan y Prif Weinidog ddoe fod wedi ennill peth amser ychwanegol iddi gydag aelodau ei meinciau cefn ei hun, ond mae'n ymddangos, Adam, eu bod yn sydyn iawn yn hoffi'r ffordd y mae'r ddynes hon yn troi. Ond y cyfan a glywaf yw tician y cloc, a thra bo'r cloc yn dal i dician, rwy'n bryderus ynghylch natur wenwynig y ddadl ynglŷn â'n perthynas gyda'n partneriaid yn yr UE yn y dyfodol, a dylai hynny fod yn destun gofid i bob un ohonom. Y siarad dyddiol am feddylfryd amser rhyfel, o fod yn y ffosydd, ysbryd y blits; nid dyma yw hanfod ein perthynas â 27 gwlad arall yr UE. Ar adegau, teimlaf ein bod ond un cam i ffwrdd o alw ein cyd-Aelodau yn yr UE yn 'Johnny Foreigner'. Er mwyn popeth—nid yr UE a aeth â ni i'r llanastr hwn. Y Torïaid a'u hadrannau mewnol ledled Ewrop a wnaeth hynny, ac nid wyf am eistedd yn ôl a derbyn nad yw eu rhethreg wrth-UE yn ceisio rhoi'r argraff mai'r UE yw'r bobl ddrwg yn y sefyllfa hon. Nid yr UE a ofynnodd inni adael. Maent yn parhau i fod yn unedig fel 27 gwlad wrth i'n Llywodraeth ni yn y DU fethu uno.
Felly, i mi, dadl yw hon bellach ynglŷn â diogelu swyddi ym Merthyr Tudful a Rhymni. Mae'n ymwneud â sicrhau nad yw diogelwch ein pobl dan fygythiad. Mae'n ymwneud â gwneud yn siŵr fod gennym fynediad di-dor at y meddyginiaethau sydd eu hangen ar ein dinasyddion. Mae'n ymwneud â sicrhau hawliau ein dinasyddion. Mae'n ymwneud â sicrhau nad ydym yn peryglu'r hyn sydd, a dweud y gwir, yn dal i fod yn heddwch bregus yn Iwerddon.
Lywydd, cyn belled yn ôl â mis Gorffennaf diwethaf gofynnais i'r Gweinidog Brexit a chyllid ar y pryd, y Prif Weinidog yn awr, a oedd hi'n bryd oedi erthygl 50. Roedd yn amlwg i mi bryd hynny, fel yn awr, nad oedd gennym amser i sicrhau cytundeb derbyniol ar delerau ein hymadaiad â'r UE. Nawr, chwe mis yn ddiweddarach, mae Prif Weinidog y DU wedi gwneud yn union yr hyn y dywedodd nad oedd yn bosibl. Mae hi'n mynd i fynd yn ôl i geisio ailagor y trafodaethau ar ôl dweud wrthym am fisoedd ei fod yn ddewis rhwng ei chytundeb hi a dim cytundeb.
Ond credaf o hyd y byddai oedi yn rhoi amser i bawb gael trafodaethau mwy ystyrlon ac yn bwysicach, i ddatrys rhai o'r tensiynau sy'n gwrthdaro yn ein gwlad ein hunain. Rwy'n glir nad yw oedi yn y trafodaethau yn gwrthdroi'r refferendwm, mae'n diwygio'r amserlen ar gyfer trafodaethau o dan erthygl 50, dyna i gyd. Gadewch imi roi cymhariaeth: pe bawn yn gwerthu fy nhŷ heddiw, mae'n debyg y cymerai tan ddiwedd mis Mawrth, ar y cynharaf mae'n debyg, i gwblhau'r broses honno, a thrafodiad cyfreithiol i werthu un tŷ yn unig fyddai hwnnw. Ni allaf weld, felly, sut y mae'r wlad gyfan yn mynd i ailnegodi a chwblhau'r holl drefniadau cyfreithiol cysylltiedig sydd eu hangen ar gyfer gadael erbyn 29 Mawrth. Efallai fy mod yn anghywir, ond i mi, mae synnwyr cyffredin yn dweud wrthyf nad yw'n bosibl.
Ar ôl dweud hynny, nid oes gennyf unrhyw ffydd y bydd y Prif Weinidog, ni waeth faint o amser sydd ganddi, yn cyflawni'r hyn sydd ei angen arnom ar gyfer ein gwlad. Fel y dywedais o'r blaen, nid ymwneud â beth sydd orau i'n gwlad y mae hyn—mae'n ymwneud bellach â dal y blaid Dorïaidd gyda'i gilydd. Byddai gadael i'r cloc dician tuag at Brexit 'dim cytundeb'—[Torri ar draws.]—er mwyn plesio'r DUP a'r Grŵp Diwygio Ewropeaidd yn frad anferthol. Mae'n risg na allwn ganiatáu iddi ddigwydd. Dyna fyddai'r gwaethaf o bob byd, felly rwy'n falch fod mwyafrif o ASau neithiwr wedi dynodi nad Brexit heb gytundeb fydd y canlyniad ar ôl y rownd nesaf o drafodaethau, ond mae'n rhaid inni dorri unrhyw sefylla ddiddatrys sy'n parhau.
Drwy gydol y broses hon, nid wyf wedi cefnogi ail bleidlais neu refferendwm. A minnau'n cynrychioli etholaeth a bleidleisiodd dros adael, teimlwn fod dyletswydd ar Lywodraeth y DU i geisio negodi cytundeb effeithiol ar gyfer gadael. Er ei bod yn dod yn fwyfwy amlwg nad oes fawr o obaith ar hyn o bryd o gael consensws yn San Steffan, yr hyn a fyddai orau gennyf fyddai gofyn am oedi—ymestyn erthygl 50—i weld pa gonsensws a allai fod yn gyraeddadwy o hyd. Ond nid wyf yn dadlau bellach chwaith nad yw'n synhwyrol dweud hefyd y dylai Llywodraeth y DU o leiaf ddechrau paratoi ar gyfer y posibilrwydd o ail bleidlais, oherwydd pe bai'r sefyllfa'n parhau'n ddiddatrys yn San Steffan, ac os na chawn etholiad cyffredinol i helpu i ddatrys y mater, y bobl yn unig a all gael y gair olaf i ddweud a ddylid derbyn y cytundeb terfynol hwn ai peidio, felly byddaf yn pleidleisio dros y cynnig hwn heddiw.
Mi siaradaf i yn gymharol fyr am pam dwi'n credu bod hwn—y cynnig sydd o'n blaenau ni heddiw—yn gynnig gwerthfawr a pham ein bod ni, ym Mhlaid Cymru, wedi gallu dod i gytundeb ar ffurf o eiriad efo'r Llywodraeth, er bod yna wahaniaethau rhyngom ni ar sawl elfen o'r drafodaeth ar Brexit. Ond dwi'n credu bod hwn yn gam sylweddol ymlaen o ran gosod stamp y Cynulliad yma ar y drafodaeth Brexit, er mor anobeithiol y mae hi'n teimlo ar adegau fod yna ddylanwad o gwbl ac unrhyw bwys yn cael ei roi i lais ein Senedd genedlaethol ni yn y drafodaeth hon.
Mae cymal 1 yn ein hatgoffa ni mai project y Blaid Geidwadol ydy Brexit i bob pwrpas, a bod angen wedi bod o'r dechrau am drafodaethau trawsbleidiol os oedd y Prif Weinidog am ddangos bod yna unrhyw ystyriaeth yn cael ei rhoi i farn eraill. I Darren Millar, sy'n dweud bod y Prif Weinidog wedi estyn allan—nid ym mis Ionawr 2019 y mae'r amser i wneud hynny, pan fo'r refferendwm wedi digwydd ym mis Mehefin 2016. Mae'r cymal yma hefyd yn cynnwys cyfeiriad at yr angen y dylid bod wedi gwrando ar y gweinyddiaethau datganoledig yn berffaith glir o'r dechrau, oherwydd mi oedd yna farn ddilys yma oedd angen cael ei chlywed yn y drafodaeth.
A yw'r Aelod yn derbyn bod trafodaethau parhaus wedi bod rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU drwy gydol proses Brexit? Soniais am gyfarfodydd y cydgyngor gweinidogion yn gynharach, lle mae Brexit wedi bod yn elfen gyson ar yr agenda. Mae hynny'n dangos bod ymgysylltiad â'r gwledydd datganoledig wedi digwydd mewn modd ystyrlon.
Dwi'n cofio fy nghyfaill diweddar Steffan Lewis yn dweud os oedd o'n genedlaetholwr yn mynd i mewn i'r cyfarfodydd efo Llywodraeth Prydain, mi oedd yn sicr yn genedlaetholwr yn dod allan ohonyn nhw, achos fel yr oedd y cyn-Brif Weinidog yn dweud y tu ôl i fi yn y fan hyn, gwastraff amser llwyr oedd llawer o'r trafodaethau rhwng y Llywodraethau.
Y pwynt dŷn ni'n ei wneud yn y cynnig yma heddiw, hefyd, ydy bod angen i lais ein Senedd genedlaethol ni gael ei glywed. Oes, mae yna drafodaethau rhynglywodraethol wedi bod yn digwydd ar ryw lefel gwbl, gwbl annigonol ac amhriodol, ond does yna ddim digon o lais wedi bod yn cael ei roi i'n Senedd genedlaethol ni.
Yn symud at yr ail gymal, mae'r ail gymal yn atgyfnerthu y bleidlais yma'n y Cynulliad ychydig wythnosau yn ôl yn ymwrthod yn llwyr â'r syniad o ymadael heb gytundeb. Mae e hefyd yn ein hatgoffa ni fod y dyddiad yma sydd o'n blaenau ni, 29 Mawrth, yn ganlyniad i gamgymeriad gwleidyddol dybryd wnaed yn ôl yng nghanol 2016 i danio erthygl 50 yn gwbl afrealistig. Mi wnaeth fy mhleidlais i a'n haelodau ni yn San Steffan wrthod pleidleisio dros hwnnw. Ond rŵan mi ydyn ni, gobeithio drwy'r bleidlais yma, yn gallu datgan barn ein Senedd genedlaethol ni ein bod ni rŵan yn credu: na, mae angen ymestyn, oherwydd mae angen rhagor o amser. Dydy penderfyniadau sy'n cael eu gwneud dan y math yma o bwysau amser ddim yn aml iawn yn benderfyniadau da.
Y trydydd cymal ydy'r un hollbwysig. Dŷn ni'n dod yn fan hyn at y cwestiwn o bleidlais o'r newydd i ofyn yn ddemocrataidd i bobl: ydyn nhw'n hoffi y Brexit sydd o'u blaenau nhw erbyn hyn? Dŷn ni'n dweud yn glir yn fan hyn ein bod ni'n credu ei bod hi yn ymddangos bellach nad oes modd dod i ganlyniad synhwyrol fyddai, er enghraifft, yn cadw Cymru yn y farchnad sengl neu o fewn yr undeb tollau, ac yn gwneud y pwynt, oherwydd yr elfen anochel honno, fel mae'n ymddangos i ni, bod angen symud ar unwaith i baratoi i roi llais i bobl Cymru yn 2019, a gofyn eu barn nhw rŵan, yn gyfoes: ydyn nhw'n credu bod hyn er lles Cymru?
Mae pwynt 4 yn atgyfnerthu eto, fel rwy wedi cyfeirio ato fo'n barod, yr angen i drafod mwy gyda'r gweinyddiaethau datganoledig.
Mi symudaf i yn fyr at ein gwelliant ni. Beth sydd yn fan hyn ydy syniad. Dwi ddim yn siŵr os ydy o'n syniad perffaith hyd yn oed, ond syniad oedd yna yn fan hyn ynglŷn â sut y gallwn ni fod yn ceisio y llais cenedlaethol, seneddol yna, drwy o bosib gael Llywodraeth Cymru i ddod â dirprwyaeth at ei gilydd i fynd i siarad yn San Steffan, yn Whitehall, ar lefel llywodraethol ac ar lefel seneddol, i roi safbwynt Cymru, i roi ein safbwynt ni. Mae'n bosib bod yna waith pellach i'w wneud ar hynny ond dwi'n meddwl fod o'n syniad da—[Torri ar draws.] Mick Antoniw, ie.
Rwy'n derbyn ei fod yn syniad ac yn gynnig ac yn y blaen, ond a wnewch chi gydnabod, o safbwynt cynrychioli Llywodraeth y Cynulliad, mae gennych Brif Weinidog Cymru sydd bron yn byw yn Stryd Downing ar hyn o bryd yn ceisio ymgysylltu â Llywodraeth y DU, ac wrth gwrs, yn y fforwm rhyngseneddol, sef cyfarfod o'r holl gyrff cyfansoddiadol a deddfwriaethol, mae safbwynt Cymru wedi'i roi dro ar ôl tro gan Dai Rees a minnau, sy'n mynychu'r fforwm hwnnw, a hyd yn oed yr wythnos o'r blaen, gyda Chloe Smith, roeddem yn cyflwyno'r safbwynt hwnnw eto? Nid oes gennyf wrthwynebiad penodol, ond tybed beth yw'r pwynt pan fo'r safbwynt hwnnw'n cael ei roi mor glir ar hyn o bryd. Gallai dynnu sylw oddi ar y mater o bwys sef newid cyfansoddiadol.
Rwy'n cydnabod y pwynt rydych yn ei wneud ac rwy'n cydnabod gwerth peth o'r cysylltiad a gafwyd. Credwn fod mwy y gellir ei wneud. Rydym yn annog arloesedd o ran y modd, wyddoch chi, yn yr wythnosau diwethaf hyn hyd yn oed, rydym yn ceisio cael y fantais fwyaf i Gymru mewn unrhyw ffordd y gallwn. Ond am y rheswm hwnnw o feddwl efallai fod yna ffordd arall y gallwn drafod hynny, ni fyddwn, gyda'ch caniatâd chi, Lywydd, yn gwthio hyn i bleidlais heddiw a gobeithio y cawn drafodaethau pellach ynglŷn â sut y gallwn weithio mewn modd arloesol ar hyn. Ond credaf fod gennym gynnig yma rydym yn falch o allu ei gyflwyno ar y cyd â'r Llywodraeth sydd eto'n datgan safbwynt clir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, ac sy'n sefyll dros yr hyn sy'n iawn i Gymru yng nghyd-destun Brexit.
Diolch i Rhun ap Iorwerth am ei araith. Dywed ei fod, neithiwr, wedi gallu cytuno ar ffurf geiriad o blaid y cynnig gyda Llywodraeth Cymru. Pan oedd Llywodraeth Cymru yn ymwthio i goflaid Plaid Cymru, sydd eisiau chwalu ein Teyrnas Unedig, tybed a oeddent yn meddwl am ffordd arall y gallent ei dewis, un o gefnogi Llywodraeth y DU yn ei safbwynt negodi a mynd at yr Undeb Ewropeaidd a dweud, 'Nid ydym eisiau 'dim cytundeb', felly mae angen i chi newid eich safbwynt fel y daw'r cytundeb ymadael yn dderbyniol i Dy'r Cyffredin Prydain'. Pan fo negodi'n digwydd rhwng Llywodraeth y DU ar un ochr a'r Comisiwn Ewropeaidd ar yr ochr arall, onid yw Llywodraeth Cymru'n credu, onid ydynt yn pryderu ynglŷn â pha ochr y mae'n ymddangos eu bod arni pan fyddant yn dechrau cynnig gyda'r ymadrodd 'yn condemnio Llywodraeth y DU'? Beth y mae hynny'n ei ddweud amdanynt? Maent yn mynd ati wedyn yn chwerthinllyd i'w chondemnio am ei methiant i gymryd rhan mewn trafodaethau trawsbleidiol, pan fo'u harweinydd hwy hyd at amser te heddiw, wedi gwrthod cyfarfod â Phrif Weinidog y Deyrnas Unedig?
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf.
Beth yw'r pwynt o gael cyfarfod â Phrif Weinidog sy'n dweud, 'Dewch i gwrdd â mi a thrafod, ond ni fyddaf yn newid unrhyw un o fy llinellau coch'? Y pwynt yn awr, wrth gwrs, yw bod y Senedd wedi dweud bod yn rhaid i 'dim cytundeb' ddod oddi ar y bwrdd. Mae wedi dweud hynny, a'r cwestiwn yw a fydd Theresa May yn gwrando ar y Senedd.
Mae'r Aelod yn iawn fod Tŷ'r Cyffredin wedi dweud hynny, ond dywedodd hynny o 318 pleidlais i 310, a dewisodd ddweud hynny a mynegi barn, a phan gafodd gyfle ddwy neu dair gwaith i wneud rhywbeth yn ei gylch, pleidleisiodd mwyafrif ddwywaith cymaint i beidio ac i gefnogi Llywodraeth y DU yn ei safbwynt negodi i roi pwysau ar yr Undeb Ewropeaidd i wneud trefniadau amgen ar gyfer y ddarpariaeth wrth gefn, fel bod cytundeb ar gael y gall y Senedd bleidleisio a chytuno yn ei gylch. Dyna'r unig ffordd o osgoi 'dim cytundeb' oni bai, fel y gwelwn yn fwy a mwy amlwg, o un ddadl i'r llall, yn gweld o'r meinciau hynny eich bod am wrthdroi canlyniad y refferendwm, anwybyddu'r bobl yn Islwyn neu ym Merthyr Tudful a bleidleisiodd 56.4 y cant o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd. Dywedwyd wrthynt gan eu Haelod eu bod yn anghywir, ac yn awr mae hi'n meddwl y dylent baratoi i bleidleisio eto hyd nes y byddant yn cytuno â hi, oherwydd mae hi rywsut yn well. Nid wyf yn cytuno â hynny.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Roeddwn wedi credu, yn y drydedd ran i'r cynnig hwn mewn gwirionedd, nad oedd Llywodraeth Cymru yn barod i alw am ail refferendwm—roedd yn defnyddio geiriau osgoilyd y dylai gwaith ddechrau ar unwaith ar baratoi ar gyfer pleidlais gyhoeddus, beth bynnag yw hynny; efallai mai etholiad cyffredinol ydyw, efallai na allent gytuno. Fel y bobl yn Nhŷ'r Cyffredin, na feiddiodd gyflwyno gwelliant hyd yn oed ar gyfer ail refferendwm oherwydd eu bod yn gwybod cyn lleied o ASau sy'n ei gefnogi, efallai nad oeddent yn pwyso am ail refferendwm mewn gwirionedd. Ond rydym yn clywed gan Aelod ar ôl Aelod mai dyna yw eu dymuniad. Maent yn meddwl bod pobl Cymru yn anghywir. Maent yn credu eu bod yn well. Maent yn credu y dylid gwneud i'w pleidleiswyr, i'w hetholwyr bleidleisio eto oherwydd eu bod yn anghytuno. Wel, nid dyna rydym yn ei gredu ar y meinciau hyn. Cawsom refferendwm. Fe wnaethom bleidleisio dros adael yn y DU ac yng Nghymru. Dylem barchu'r canlyniad hwnnw.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf.
Mae'n ymddangos i mi fod y difrifoldeb a ddangoswyd tuag at y refferendwm hwnnw, neu'r parch a roddwyd iddo, wedi'i adlewyrchu yn y ffaith ein bod wedi treulio dwy flynedd a hanner yn ceisio gweld a oes ffordd o ddod i gytundeb. Nid yw fel pe bai wedi cael ei anwybyddu; rydym wedi cyrraedd y pwynt ar ôl y negodi hwnnw ac yn gweld, 'Gwrandewch, dyma'r dewis arall', ac efallai na all gwleidyddion wneud y penderfyniad hwnnw. Dylai fod yn fater i'r bobl benderfynu yn ei gylch.
Nid yw'r Aelod wedi derbyn y canlyniad o'r dechrau un. Mae wedi llwyddo i hudo'r Blaid Lafur yn raddol i gytuno â Phlaid Cymru ar Brexit mewn enw'n unig a gwthio hynny, ac wrth inni ddod yn agosach ac yn agosach at y dyddiad gadael, maent yn fwy a mwy eglur yn eu cred fod eu pleidleiswyr yn anghywir ac y dylid gwneud iddynt bleidleisio eto. Ond pan fyddant yn dweud, yn rhan 2 y cynnig hwn, ei fod,
'Yn pwysleisio unwaith eto y byddai ymadael heb gytundeb yn drychinebus',
ond wedyn yn mynd yn eu blaenau i ofyn am ymestyn erthygl 50, maent yn tynnu'r pwysau oddi ar yr Undeb Ewropeaidd i gytuno ar gytundeb. Nawr, efallai eu bod am ei hymestyn oherwydd eu bod am ymestyn ac ymestyn ac ymestyn fel ein bod yn aros yn yr Undeb Ewropeaidd am byth. Os felly, pam na ddywedant hynny a datgan yn onest mai dyna yw eu safbwynt?
Fel arall, mae gennym ddarpariaeth wrth gefn gydag Iwerddon a fydd yn golygu yn y bôn na chaniateir i'r Deyrnas Unedig adael yr undeb tollau oni fydd yr UE yn rhoi caniatâd inni wneud hynny. Bydd yn golygu bod Gogledd Iwerddon yn ddarostyngedig i gyfeddiant rheoleiddio gan yr Undeb Ewropeaidd y tu allan i gyfundrefn y DU. Mae'r safbwyntiau hynny'n annerbyniol. Dylid ymdrin â'r ffin drwy'r trafodaethau masnach, a gydag ewyllys da ar y ddwy ochr, gallwn osgoi cael ffin galed, gallwn barhau i fasnachu'n rhydd, a gallwn gael Teyrnas Unedig ffyniannus ac Iwerddon ffyniannus. Ond mae hynny'n ei gwneud yn ofynnol i'r Undeb Ewropeaidd newid ei safbwynt, a dod i drefniant amgen yn hytrach na'r Brexit hwnnw, yn hytrach na'r ddarpariaeth wrth gefn honno, ac yna bydd gennym gytundeb a fydd yn mynd â ni allan o'r Undeb Ewropeaidd ac yn sicrhau llwyddiant i Gymru, i'r Deyrnas Unedig ac i'r Undeb Ewropeaidd.
Lywydd, rydym wedi clywed o wahanol rannau o'r Siambr y prynhawn yma nifer fawr o resymau pam rydym yn y llanastr rydym ynddo heddiw. Ond ni chlywsom gan unrhyw un o'r rhai—ni chlywsom gan unrhyw un—a ddadleuodd dros adael yr Undeb Ewropeaidd unrhyw gydnabyddiaeth mai'r celwyddau a ddywedwyd yn y refferendwm hwnnw a arweiniodd yn uniongyrchol at danseilio ein gwleidyddiaeth heddiw a'r sefyllfa a wynebwn heddiw. Mae'r argyfwng gwleidyddol sy'n ein hwynebu heddiw yn ganlyniad uniongyrchol—yn ganlyniad uniongyrchol—i'r celwyddau a ddywedwyd yn y refferendwm hwnnw. Gadewch imi ddweud hyn: rydym wedi symud, mewn ychydig llai na thair blynedd, o gael addewid o £350 miliwn yr wythnos i'r gwasanaeth iechyd gwladol i'r bygythiad o filwyr ar y stryd a gosod rheolaeth filwrol. Nid yw'n llwyddiant mawr, oni chytunwch?
A gadewch imi ddweud hyn wrthych hefyd, pan glywaf yr Aelodau Ceidwadol hyn—pan glywaf yr Aelodau Ceidwadol hyn—yn dweud wrthyf y dylwn barchu'r refferendwm, yr hyn a glywaf yw Aelodau Ceidwadol eraill a oedd yn siarad heb fod mor bell â hynny'n ôl yn Nhŷ'r Cyffredin i danseilio'r bleidlais ddatganoli yn 1997 o fewn dau fis i'r bleidlais honno. Nid oeddent yn parchu'r refferendwm hwnnw yn ystod yr ymgyrch, nid oeddent yn parchu'r refferendwm pan gyhoeddwyd y canlyniad, ac maent wedi ymladd yn galed i atal y broses ddatganoli byth ers hynny.
Felly, peidiwch â dod i'r lle hwn a rhoi darlith i ni ar barch tuag at y broses wleidyddol, gan mai'r hyn rydych chi wedi'i wneud—yr hyn rydych chi wedi'i wneud—dros dair blynedd yw tanseilio'r strwythurau gwleidyddol a sefydliadau'r wlad hon mewn ffordd na allaf gofio neb yn ei wneud ar unrhyw adeg yn ystod fy oes. Ac rwy'n credu bod llawer ohonom, ble bynnag yr eisteddwn yn y Siambr hon heddiw, yn cydnabod ac yn deall mai'r ychydig flynyddoedd diwethaf yw'r blynyddoedd gwaethaf mewn gwleidyddiaeth y gall unrhyw un ohonom yn ei gofio. [Torri ar draws.] Fe ildiaf iddo.
Y rheswm sylfaenol pam y bu'r ychydig flynyddoedd hynny mor anodd oedd am nad yw pobl fel yr Aelod yn derbyn canlyniad y refferendwm. Nawr, y ffaith amdani yw bod ei etholaeth wedi pleidleisio dros adael i raddau mwy nag unman arall yng Nghymru.
Eisteddwch. Eisteddwch. Gadewch imi ddweud wrthych—gadewch imi ddweud wrthych—fod y pleidleisiau hynny wedi'u prynu ag oel nadredd, ac fe'u prynwyd â ffantasi. A gadewch imi ddweud hyn wrthych—gadewch imi ddweud hyn wrthych—wrth wrando ar gynghreiriaid agosaf a ffrindiau'r wlad hon yn siarad gydag arswyd ynghylch yr hyn a welant, rwy'n cymryd sylw a dylech chithau hefyd. Dylai geiriau Simon Coveney, y Tánaiste Gwyddelig, y bore yma atseinio yn y Siambr hon. Mae rhywun sydd wedi ceisio gweithio gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig, rhywun a gofiaf o gyfarfodydd y Cyngor Ewropeaidd, sy'n fwy o blaid y DU nag unrhyw wleidydd Gwyddelig arall a gyfarfûm, yn gwasgu ei ddwylo mewn arswyd ynglŷn â'r sefyllfa a grëwyd gan y Blaid Geidwadol Brydeinig a Llywodraeth y DU. A phan glywaf Neil Hamilton yn dweud wrthyf y dylem fod yn edrych ymlaen at y dewis gwych o fwyd a fydd gennym ar ein silffoedd gwag ymhen ychydig wythnosau, yr hyn a glywaf yw arweinwyr busnesau manwerthu yn dweud wrthym mai celwydd a ffantasi yw hynny. Efallai y dylech wrando ar yr hyn a ddywedir wrthych.
Felly, rwy'n croesawu cynnig y Llywodraeth heddiw. Rwy'n croesawu cynnig y Llywodraeth, ac rwy'n croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ail refferendwm, ac rwy'n croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i bleidlais sy'n seiliedig ar gynsail a phrosbectws y bydd pawb ohonom yn ei ddeall. Gobeithiaf y bydd refferendwm yn ddewis syml rhwng y cytundeb y mae Mrs May wedi'i negodi—a dyna gytundeb ofnadwy, fel y clywn gan ei phlaid ei hun—. Nid wyf yn deall sut y gall Darren ofyn inni gefnogi cytundeb y mae ef ei hun yn ei ddweud, drwy ei feirniadaeth o'r ddarpariaeth wrth gefn, ei fod yn anymarferol a bod arnom angen dewis amgen yn ei le.
A wnewch chi ildio?
A dyna'r cytundeb y mae eu Llywodraeth eu hunain yn gofyn inni ei gefnogi. Fe ildiaf.
Diolch i chi am ildio. Roeddwn yn cefnogi'r cytundeb. Roeddwn am aros yn yr Undeb Ewropeaidd ac fe ymladdais yn galed i gyflawni hynny, ac fe fethais. Ond nid wyf yn meddwl ei fod yn fethiant yn wyneb wal o gelwyddau, er bod llawer o siarad slic wedi'i wneud gan bobl. Ond rwyf wedi derbyn y canlyniad.
Rwy'n gresynu'n fawr at y ffaith y byddai'r cytundeb hwnnw wedi pasio o un bleidlais pe bai pob Ceidwadwr wedi pleidleisio drosto bythefnos yn ôl. Ac rwy'n gresynu'n fawr at y ffaith bod llawer iawn o Aelodau'r Blaid Lafur yn gwybod y gallai'r ddarpariaeth wrth gefn fod wedi pasio pe bai digon ohonynt hwy wedi cefnogi'r cytundeb hefyd. Ac felly ni fyddem yn y sefyllfa rydym ynddi ar hyn o bryd.
Edrychwch, nid wyf yn mynd i amddiffyn safbwynt y Blaid Lafur yn San Steffan am un eiliad. Roedd y bleidlais ddydd Llun ar y Bil mewnfudo yn anrhefn llwyr; roedd yn warthus. Dylai'r Blaid Lafur wynebu hyn ar sail ein gwerthoedd a'n hegwyddorion ac nid ar sail hwylustod, a chafwyd llawer gormod o hynny gan ein mainc flaen yn Llundain, ac rwy'n gresynu at hynny hefyd, ac rwyf wedi bod yn glir iawn ynglŷn â hynny.
Felly, gadewch inni sicrhau ein bod yn symud ymlaen nawr i bleidlais, ein bod yn gallu atal erthygl 50 dros dro i'n galluogi i egluro'r safbwynt, a'n bod wedyn yn gallu cael dadl sy'n seiliedig ar ffeithiau a dealltwriaeth ac sy'n seiliedig ar opsiwn i aros yn yr Undeb Ewropeaidd ac i barhau'n rhan flaenllaw o un o'r sefydliadau rhyngwladol mwyaf pwerus yn y byd. Byddai hynny'n llawer gwell na chrebachu'n ôl i ryw ffantasi ymerodrol am y gorffennol. Rwyf am weld dyfodol lle gall pawb ohonom gymryd rhan mewn penderfyniadau Ewropeaidd a lle gall pawb ohonom edrych ymlaen at ddyfodol y bydd ein plant yn falch ohono heb gywilydd am ein bod wedi troi ein cefnau pan ddechreuodd pethau fynd yn anodd.
Rwy'n falch iawn o gael y cyfle i siarad yn y ddadl braidd yn danllyd hon heddiw. Ers y refferendwm, ac ers dod i'r Cynulliad, rwyf wedi gwneud popeth a allwn i geisio uno'r bobl a bleidleisiodd dros adael a'r rhai a bleidleisiodd dros aros yn yr UE yn fy etholaeth. Byddai'n naïf dyfalu'n union pam y pleidleisiodd pob person yn y modd y gwnaethant, er fy mod yn credu rhai o'r sylwadau a wnaeth Alun Davies yno. Ond hefyd mae'n glir iawn i mi—pan siaradais ag etholwyr, ac roedd y rheini'n cynnwys myfyrwyr, busnesau, pleidleiswyr hŷn ac eraill, mae'n amlwg eu bod wedi pleidleisio yn y gobaith y byddai eu bywydau a'u safonau byw'n gwella. Nid oedd neb eisiau pleidleisio dros wneud eu hunain yn waeth eu byd neu'n dlotach.
Lywydd, yn gynharach y mis hwn, cefais gyfle i gynnal cynhadledd Brexit, a thrafodwyd hyn gennym yn y Siambr hon o'r blaen, ac roedd y safbwyntiau a'r canfyddiadau o'r gynhadledd honno'n glir iawn: roedd pobl am gael eglurder ar gyfer buddsoddi yn y dyfodol, roeddent am i bobl weithio gyda'i gilydd yn drawsbleidiol, ac roeddent am i'r Prif Weinidog ddiystyru 'dim cytundeb'. Rwy'n dal i gredu hyd heddiw fod y Prif Weinidog wedi bod ar y droed ôl ac wedi bod yn llawer rhy araf i ddiystyru 'dim cytundeb'. Mae unrhyw farn rywsut fod peidio â gwneud hynny yn cryfhau ei llaw negodi yn ffars, ac oherwydd nad yw hynny wedi bod yn wir hyd yn hyn, er gwaethaf ymagwedd galed fel y'i gelwir y Prif Weinidog tuag at Ewrop, mae hi wedi gorfod wynebu embaras mawr wrth gael ei threchu ac mae ein henw da ledled y byd wedi'i niweidio.
Fe ddylai ac fe allai Prif Weinidog y DU fod wedi ymestyn llaw gyfeillgar, nid yn unig at y rheini yn Ewrop, ond at ASau ar draws Tŷ'r Cyffredin, ACau yn y lle hwn ac at y gymuned fusnes yn enwedig. Nid oedd yn rhaid i'r Prif Weinidog wneud hyn ar ei phen ei hun, ond o ganlyniad, mae hi wedi methu cyrraedd y nod. Ac nid y cyfoethog a fydd yn dioddef ac nid ni yn uniongyrchol yn y Siambr hon a fydd yn dioddef. Y bobl, fel llawer o fy etholwyr, sy'n cael trafferth i gael dau ben llinyn ynghyd fydd yn dioddef: y rhai ar gredyd cynhwysol, y rhai sy'n mynd i fanciau bwyd, y rhai sy'n cael trafferth i wneud eu taliadau morgais, y rhai sy'n cymryd risgiau i ddechrau busnes newydd a'r rhai sy'n gweithio i fusnesau sy'n masnachu gydag Ewrop. Ac nid wyf yn barod, Lywydd, i weld y bobl hynny'n dioddef oherwydd na all gwleidyddion gydweithio am fod rhai gwleidyddion—
A wnewch chi dderbyn ymyriad, Jack?
—i'w gweld yn amharod i gyfaddawdu. Iawn, fe wnaf.
Diolch i chi am dderbyn ymyriad. Rydych wedi rhestru llwyth o bethau sy'n real iawn i bobl. A fyddech yn cytuno nad ein haelodaeth o'r UE a greodd y tlodi sy'n bodoli yn y wlad hon, ond mai canlyniad ydyw i benderfyniad gwleidyddol ynglŷn â chyni gan Lywodraeth sy'n dal i fethu cydnabod yr angen i wneud rhywbeth ar gyfer pobl ac nad oedd ganddo ddim byd o gwbl i'w wneud â'r aelodaeth o'r UE, er eu bod wedi dweud hynny?
Diolch, Joyce, ac rwy'n cytuno'n llwyr â chi yno, ac rwyf wedi dweud droeon yn y Siambr hon fod angen i gyni ddod i ben, a daw hwnnw'n uniongyrchol o Lundain.
I fwrw ymlaen, nid wyf yn fodlon gweld rhanbarth Gogledd Cymru yn dioddef chwaith, Lywydd, ac ni ellir ac ni ddylid tanbrisio effaith gogledd Cymru ar economi Cymru. Mae gennym ni yng ngogledd Cymru gyfradd gyflogaeth uwch, lefelau anweithgarwch economaidd is, gwerth ychwanegol gros y pen sy'n uwch na gweddill Cymru, ac incwm gwario gros aelwydydd y pen sy'n uwch na gweddill Cymru.
Roedd y Llywodraeth yn hollol iawn yr wythnos diwethaf i ddefnyddio'r amser ddydd Mawrth i gyflwyno cyfres o ddatganiadau ar effaith Brexit 'dim cytundeb', a gwelais bobl ar y cyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys rhai newyddiadurwyr, yn dweud bod hwnnw'n ymarfer dibwrpas. Nid wyf yn credu hynny. Mae hi hefyd yn bwysig iawn gwrando ar arbenigwyr yn yr amseroedd cythryblus hyn, ac rwy'n ystyried ei bod yn gwbl anghyfrifol inni godi ein hysgwyddau, peidio ag adrodd ar, ac anwybyddu rhybuddion gan gwmnïau fel Airbus yn fy etholaeth, sydd wedi rhybuddio dro ar ôl tro am yr angen am gytundeb.
Rwyf am orffen fy nghyfraniad heddiw drwy ddweud fy mod yn credu bod yna gytundeb i'w gael yn y Senedd a bydd y Prif Weinidog yn gweld bod ei gwaith yn llawer haws pe bai'n diystyru 'dim cytundeb' yn llwyr. Fe allai, ac fe ddylai fod wedi gwneud hynny amser maith yn ôl. Lywydd, ni fydd chwarae gemau gwleidyddol yn gwneud dim i wella bywydau'r bobl sydd prin yn ymdopi, fel y mae'r Prif Weinidog yn hoff o ddweud. Aelodau'r Siambr, fe orffennaf gyda'r sylw olaf hwn: mae pobl Cymru a phobl y DU yn haeddu cymaint gwell.
Rwy'n falch o ddilyn fy nghyd-Aelod, Jack Sargeant oherwydd credaf ei fod wedi dod â'r realiti yn ôl ynghylch yr hyn sy'n digwydd ar lawr gwlad o ganlyniad i'r holl fater hwn. Roeddwn yn mynd i siarad am yr anhrefn a welsom neithiwr yn San Steffan, a oedd yn benllanw dwy flynedd a hanner o ymdrechion gorffwyll gan Lywodraeth heb unrhyw syniad beth oedd hi'n ei wneud. Ond mae'n bwysig ein bod yn atgoffa ein hunain o beth y mae 'dim cytundeb' yn ei olygu mewn gwirionedd i'r bobl y mae pawb ohonom yn eu cynrychioli. Cafodd pob un ohonom ein hethol gan bobl Cymru ac mae 'dim cytundeb' yn effeithio mwy arnynt hwy nag arnom ni. Roedd Jack yn hollol iawn, rydym mewn sefyllfa yn ôl pob tebyg lle nad yw'n mynd i effeithio mor wael arnom ni, ond mae ein hetholwyr yn—. Fe roddaf enghraifft i chi yn fy etholaeth i, fel y gwnaeth Jack yn ei etholaeth ef: gwaith dur. Mae pawb ohonoch yn gwybod am y gwaith dur yn fy etholaeth—fe ddylech fod yn gwybod erbyn hyn, beth bynnag—ac mae pawb ohonom yn gwybod am yr her a wynebai ddwy flynedd yn ôl. Ac mae'n dal i wynebu heriau. Cyfarfûm â gweithwyr dur yr wythnos hon ac mae canlyniadau 'dim cytundeb' yn—gallech ddweud, 'Wel, ni fydd llawer o dariffau ar ddur, felly nid yw'n mynd i fod yn broblem.' Ond wrth gwrs, maent yn gwasanaethu'r diwydiant modurol ac mae tariffau enfawr ar y diwydiant modurol. Felly, aiff 80 y cant o'u marchnad i'r diwydiant modurol. Ond yr elfen arall y maent yn ei gwasanaethu, yn amlwg, yw gwerthu dur i fannau eraill. Ac mae rheolau Sefydliad Masnach y Byd—rwy'n cynnig cyfle i UKIP, oherwydd yn eu gwelliant, maent am droi at reolau Sefydliad Masnach y Byd. Dywedwch wrthyf lle mae rheolau Sefydliad Masnach y Byd yn well na'r hyn sydd gennym yn awr? [Torri ar draws.] Ydw, rwy'n fwy na bodlon.
Pleidleisiodd pobl Prydain ym mis Mehefin 2016 dros adael yr Undeb Ewropeaidd. Golyga hynny adael yr undeb tollau, golyga hynny adael y farchnad sengl. Nid oeddwn eisiau gadael yr UE heb gytundeb, roeddwn am gytundeb masnach rydd gyda'r UE, ond mae'n cymryd dwy ochr i greu cytundeb. A ydym yn mynd i ymostwng i fiwrocratiaid ym Mrwsel neu a ydym yn mynd i wrando ar bobl Prydain?
Lywydd, rwy'n credu ein bod wedi clywed o lygad y ffynnon: nid oes cytundeb gwell na'r hyn sydd gennym ar hyn o bryd, ac nid yw Sefydliad Masnach y Byd yn mynd i wella. Yn wir, yn y diwydiant dur, mae yna gytundeb Sefydliad Masnach y Byd yn bodoli. Gallwn fewnforio dur o Dwrci heb dariffau. Rhaid i ni dalu 40 y cant ar y dur sy'n mynd i Dwrci. Mae hynny'n mynd i niweidio ein diwydiant. Ac rydym yn wynebu rheolau eraill a chanlyniadau eraill am ein bod yn colli amddiffyniad yr UE os ydym yn gadael heb gytundeb a byddwn yn wynebu sancsiynau 232 yr UDA yn ogystal â phopeth arall. Mae'r amddiffyniad y mae'r UE yn ei roi yn mynd i fynd. Felly, mae'r diwydiant dur yn dioddef yn wael yn sgil telerau Sefydliad Masnach y Byd wrth i ni adael, a dyna'r effaith a gawn ar ein cymunedau. Bydd diwydiant sy'n ddiwydiant allweddol yn fy etholaeth yn cael ei niweidio oherwydd hynny. A bydd gadael ar delerau Sefydliad Masnach y Byd, fel y dywed eu gwelliant, yn niweidiol i fy etholwyr, ac etholwyr y rhanbarth o fy nghwmpas. Felly, ni allwn wneud hynny. Ac fe bleidleisiodd fy etholaeth drosto, ac nid wyf yn mynd i wadu hynny, ond nid wyf yn dweud dim arall mewn gwirionedd, ond rwy'n dweud wrthych fod yna oblygiadau. A gadewch i ni gofio un peth: yn y ddwy flynedd a hanner a gawsom ers hynny, fe wyddoch mai fy rôl oedd edrych ar oblygiadau Brexit, ac rydym wedi bod yn cymryd tystiolaeth ar hyn, a bellach maent yn nodi rhai o'r pethau a fydd yn digwydd pan fyddwn yn gadael ar 29 Mawrth heb gytundeb. Fe ildiaf.
Gyda Thwrci, mae'r Aelod yn rhoi enghraifft pam ei bod mor ddrwg bod mewn undeb tollau gyda'r UE heb fod ag unrhyw lais dros ei bolisi masnach. Ond a yw'n cydnabod mai un canlyniad cadarnhaol o ran cystadleurwydd y dur a gynhyrchir yn ei etholaeth ers y bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd yw cyfradd gyfnewid sydd 15 y cant yn is? A bydd, fe fydd Sefydliad Masnach y Byd yn creu heriau, ond bydd hefyd yn debygol o ddod â chyfradd gyfnewid sydd hyd yn oed yn fwy cystadleuol.
Rwy'n derbyn bod y gyfradd gyfnewid yn fwy cystadleuol a bod yr allforion felly'n dod yn fwy deniadol, ond rhaid imi atgoffa'r Aelod hefyd am y mewnforion sydd eu hangen o ran deunyddiau crai. Ac er ein bod wedi bod mewn sefyllfa lle mae gennych gytundebau chwe mis i lawr y lein, byddwn yn dod i bwynt lle daw hynny i ben a rhaid inni ddechrau edrych ar y newidiadau a chostau'n cynyddu ar y deunyddiau crai. Felly, nid yw'n sefyllfa lle byddwn yn ennill. Felly, ar un ystyr—. Os gwelwch yn dda peidiwch â dweud, 'O, wel, mae'n gweithio un ffordd ond anghofiwch y ffordd arall.' Mae'n faich mawr arnom.
A gaf fi atgoffa'r Aelodau hefyd ein bod wedi cael dadl ddoe ar adroddiadau'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar baratoadau ar gyfer Brexit 'dim cytundeb', a buom yn trafod y goblygiadau sy'n ein hwynebu yn sgil gadael heb gytundeb yn ofalus iawn. Ac rwy'n gwerthfawrogi datganiadau Llywodraeth Cymru yr wythnos diwethaf am y camau y maent yn ymateb iddynt. Ond cymerwch yr adroddiad heddiw ar iechyd, a buom yn sôn am ddau beth ynglŷn ag iechyd. Heddiw, mae prif weithredwr Ysbytai Prifysgol Birmingham wedi nodi y gallai llawdriniaethau gael eu canslo o ganlyniad i 'dim cytundeb', ac nid oedd yn dweud, 'Edrychwch, nid ydym yn mynd i allu ei wneud, oherwydd—. Bydd yna rai newidiadau'. Ond yr hyn a ddywedai oedd, 'Ni allwn reoli'r dosbarthiad enfawr o'r holl feddyginiaethau sy'n cael eu storio. Ni allwn reoli'r gwaith o adnewyddu offer sydd yn rhywle arall.' Rydym yn prynu llawer iawn o'n hoffer meddygol o Ewrop, ac os na fydd gennym gytundeb, sut y gallwn sicrhau bod y rhannau sbâr a'r darnau eraill yn dod i mewn? O ganlyniad i 'dim cytundeb' fe welwn ein hetholwyr yn dioddef yn sgil rhai o'r anawsterau. Yn anffodus, mewn llawer o'r trafodaethau gwleidyddol, rydym yn anghofio'r bobl a wasanaethwn. Mae'r bobl a wasanaethwn angen gwell oddi wrthym a chredaf nad yw'r problemau sydd ynghlwm wrth Brexit heb gytundeb yn dderbyniol ar gyfer hynny.
Mae ein hamser ar gyfer y ddadl hon wedi dod i ben, ond oherwydd ei phwysigrwydd ar y cam hwn, rwy'n barod i ymestyn yr amser hwnnw, ond os gallai'r cyfranwyr sy'n weddill sicrhau bod eu cyfraniadau'n fyr, rwy'n siŵr y byddai ein cyd-Aelodau'n croesawu hynny. Hefin David.
Rwy'n amau a oes unrhyw beth mwy y gallaf ei ddweud yn y Siambr hon a fydd yn darbwyllo unrhyw Aelod arall i newid ei safbwynt ar hyn. Ond pan fydd gennych amheuon ynglŷn â chynnig, rwy'n meddwl ei bod hi'n ddoeth eu hadrodd gerbron y Siambr er mwyn iddo gael ei gofnodi yn y Cofnod. Mae gennyf barch mawr at y bobl sy'n rhan o ymgyrch pleidlais i'r bobl, a rhai o'r areithiau gorau a glywais yn y Siambr hon oedd y rhai gan Lynne Neagle a ddadleuai dros bleidlais i'r bobl, ond nid wyf yn rhannu'r farn honno. Rwy'n amharod iawn i gefnogi refferendwm. Fel y dywedodd Mark Reckless, darllenais y geiriau 'pleidlais gyhoeddus'—dehonglais hynny fel 'refferendwm'; deallaf wrth hynny fod y Llywodraeth yn galw am refferendwm. Teimlaf fod yr angen canfyddedig i gynnal refferendwm yn arwydd o wendid mewn democratiaeth gynrychioliadol ac yn wendid sy'n dangos enbydrwydd diffyg cryfder democratiaeth gynrychioliadol, ond buaswn yn dweud bod hynny'n wir am y refferendwm cyntaf a gynhaliwyd ar y penderfyniad Brexit a byddai'n wir am refferendwm yn y dyfodol.
Felly, rwyf braidd yn amharod i gefnogi cynnig y Llywodraeth a Phlaid Cymru, ond caf fy nghalonogi gan y ffaith ei fod yn dweud y cymerir pleidlais gyhoeddus pan na fydd unrhyw opsiwn arall ar ôl. Ac rwy'n ofni mai'r hyn a welsom neithiwr yn San Steffan yw methiant i ddod i gytundeb y gellid bod wedi'i gyrraedd yn y Senedd, ac ofnaf y bydd hynny'n parhau, ac felly yr unig opsiwn a fydd ar ôl i ni fydd refferendwm, a fydd yn opsiwn amherffaith, ond dyna fydd yr unig opsiwn. Ond dylem gofio hefyd fod hynny wedi digwydd oherwydd methiant ein democratiaeth a dylai pawb ohonom, yma ac yn San Steffan, gymryd cyfrifoldeb am hynny.
Yn olaf, pan fyddwch yn ceisio datrys problemau anhydrin gyda dewisiadau deuaidd, ni fyddwch yn cael atebion a chredaf y dylem fod yn ofalus iawn ynglŷn â symud at refferendwm heb barhau i weithio, fel y dywedodd Dawn Bowden, ac oedi erthygl 50 o bosibl, a pharhau i weithio am gonsensws yn San Steffan.
Hoffwn ychwanegu ychydig o bwyntiau'n unig, ac nid ydynt yn ymwneud mewn gwirionedd â manteision ac anfanteision yr hyn sy'n digwydd, ond â'r argyfwng cyfansoddiadol rydym ynddo yn awr a'r angen i ddeall pa mor ddifrifol yw'r argyfwng hwnnw.
Mae gennym Lywodraeth heb fwyafrif, nid oes ganddi fandad mwyach, ac fel y dywedais o'r blaen, nid oes ganddi unrhyw gyfreithlondeb a dyna graidd y mater. Oherwydd y peth anrhydeddus i'w wneud—y peth anrhydeddus y credaf y byddai pob plaid wedi ei wneud yn y gorffennol ar ôl wynebu crasfa mor fawr yn San Steffan, fyddai mynd at y bobl i geisio cael mandad newydd. A dyna yw'r ffordd go iawn ymlaen yn y pen draw—ceisio mandad gan y bobl—a dyna y mae ein cyfansoddiad yn galw amdano mewn gwirionedd. Ond pan fydd gennych sefyllfa lle mae gennych Lywodraeth sydd â chymaint o obsesiwn â'i gwleidyddiaeth fewnol ei hun yn hytrach na buddiannau'r wlad, yr hyn a gewch yw sefyllfa o barlys cyfansoddiadol, a dyna lle rydym yn awr. A dyna pam y bydd gennych sefyllfa, o fewn ein cyfansoddiad unigryw sy'n gyfuniad o gonfensiwn uchelfreiniol a gweithdrefnau—lle bydd gennych rywun a allai fod yn arweinydd nesaf y Blaid Geidwadol—Rees-Mogg—yn siarad am y Frenhines yn arfer ei hawl i ragderfynu'r Senedd. Mae hynny'n wallgofrwydd llwyr—[Torri ar draws.] Gwallgofrwydd pur. Ond am argyfwng, fod gennych arweinydd posibl y Blaid Geidwadol yn gweld ffordd o droi'n ôl at dactegau rhyfel cartref Lloegr 300 mlynedd yn gynharach. Ai i hynny y daethoch mewn gwirionedd?
I mi, un o'r pethau mwyaf difrifol o bosibl sy'n dod i'r amlwg ar hyn o bryd yw'r ffaith bod rhywbeth tebyg i 600 o offerynnau statudol yn dal i fod heb eu pasio drwy'r Senedd cyn diwedd mis Mawrth, fel arall bydd gennym fylchau mawr yn y ddeddfwriaeth nad ydynt yn gweithio. Byddwn yn gadael yr UE ac ni fydd gennym sail gyfreithiol ddilys a chyfreithlon y gallwn weithredu arni mewn cynifer o feysydd. Dyna pam—a dywedais hyn wrth y Cwnsler Cyffredinol—mai'r mater sy'n codi mewn gwirionedd, un o'r pethau mwyaf uniongyrchol sy'n codi, yw ymestyn erthygl 50, oherwydd bydd unrhyw asesiad rhesymol o ble'r ydym yn dangos na allwn ddatrys y parlys rydym ynddo, beth bynnag fo'n barn, heb fwy o amser ac mae taer angen yr amser hwnnw arnom. Un o'r materion mwyaf uniongyrchol yw bod yn rhaid inni gael, a gofyn i'r UE am estyniad i erthygl 50. A ydych yn cytuno?
Mae ffilm boblogaidd iawn yn y sinemâu ar hyn o bryd. Ei henw yw Stan & Ollie. Caf fy atgoffa o ymadrodd y pâr comedi hwnnw: 'This is another fine mess you've gotten me into.' Ac am gawlach rydym ynddo o ganlyniad i'r hyn sydd wedi digwydd yn San Steffan. Y gwir amdani yw hyn: fe ddywedodd y Prif Weinidog wrth Brydain, 'Mae gennyf gytundeb; nid oes dim i'w gael heblaw'r cytundeb—mae'n fater o'r cytundeb hwn neu ddim cytundeb.' Ac yn awr mae'n dweud, 'Wel, anghofiwch fy mod wedi dweud hynny; rwy'n mynd i fynd yn ôl at yr UE'—nad ydynt eisiau siarad â'r DU gyda llaw—'a chael cytundeb gwell.' Mae'n arwydd o wendid. Rhaid i mi gofio, y tro nesaf y byddaf yn prynu car, fy mod yn dychwelyd y diwrnod canlynol a dweud, 'Wedi meddwl, rwyf am aildrafod y pris nawr, oherwydd nid wyf yn fodlon ar y pris a delais yn y lle cyntaf.' Dywedodd Michel Barnier wrthyf ym mis Gorffennaf y llynedd, 'Y broblem sydd gennyf yw nad yw'r DU yn gwybod beth y mae ei eisiau', a dyna'r union broblem a wynebwn yn awr. Ac a gaf fi atgoffa'r Aelodau na wnaeth yr un blaid sefyll etholiad yn 2017 ar sail gadael yr UE heb gytundeb? Y broblem sydd gennym yw bod refferendwm 2016 wedi'i seilio ar syniad, nid cynllun. Ni allai neb ddweud gyda sicrwydd beth fyddai'n digwydd pe bai pobl yn pleidleisio dros adael. Ac mae hynny'n golygu, wrth gwrs, y bydd rhai yn y Siambr hon yn ei dehongli fel pleidlais dros adael yr UE ar ba delerau bynnag, hyd yn oed os yw'n golygu gadael heb gytundeb, ac nid oes unrhyw ffordd o wrthbrofi hynny. Mae eraill, fel fi, sy'n dadlau na phleidleisiodd pobl ar y farchnad sengl nac undeb tollau; ni chlywais i hynny ar garreg y drws. Nid oes unrhyw ffordd o wrthbrofi hynny chwaith. Felly, sut y mae mynd heibio i'r cyfyngder hwn? Fe wyddom, yn 2017, fod pobl wedi gwrthod Brexit eithaf caled yn yr etholiad cyffredinol, felly gwyddom nad ydynt am fynd i lawr y lôn honno.
Mae'r agwedd gafaliraidd—yr ymadrodd cywir mae'n debyg, o ystyried yr hyn y mae Mick Antoniw newydd ei ddweud—tuag at Iwerddon yn fy nghythryblu, Lywydd. Y gwir amdani yw na chafodd Iwerddon ei chrybwyll yn ystod ymgyrch y refferendwm am fod pobl wedi anghofio bod y ffin yno. Ni wneuthum hynny, oherwydd rwy'n gyfarwydd â'r ffin honno, a'r hyn y gallaf ei ddweud yw hyn: mae'r ffin honno'n amhosibl ei phlismona, ceir dros 200 o fannau croesi, mae smyglo wedi bod yn endemig ers llawer iawn o flynyddoedd, ac mae'n fan lle gwelwyd gwrthdaro mawr. Pan fyddech yn croesi'r ffin honno yn y 1990au cynnar, byddech yn croesi i mewn i Newry, a gallech weld hofrenyddion yn croesi'r awyr mewn patrwm igam ogam rhag ofn y caent eu saethu i lawr. Roedd gan Belfast hofrennydd yn yr awyr drwy'r nos a thrwy'r dydd, roedd cylch o ddur o amgylch y ddinas, a châi pobl eu saethu'n rheolaidd. Cafodd mwy na 3,000 o bobl eu lladd o ganlyniad i 25 mlynedd o wrthdaro a ddaeth i ben ym 1998. Gwae inni chwarae gyda'r cytundeb hwnnw, ac mae'n fy siomi pan glywaf rai, efallai nad yn y Siambr hon, ond y tu allan, sy'n ystyried mai rhyw fath o broblem fach yw hon y gellid ei datrys yn hawdd. Rwy'n gofyn y cwestiwn: beth yw'r trefniadau amgen hyn y dywedwyd wrthym eu bod yn bodoli, oherwydd dros y ddwy flynedd ddiwethaf ni ddaeth neb o hyd iddynt? Nid oes unrhyw ffin yn unman yn y byd sy'n cael ei rheoli gan system sy'n dibynnu'n llwyr ar y defnydd o dechnoleg, a'r rheswm am hynny yw hyn: nid yw'n bodoli. Ac felly mae dweud, 'Gadewch i ni fynd yn ôl a dod o hyd i drefniadau amgen' yn ddim byd mwy na ffordd o ohirio'r anochel am bythefnos, a dyna bythefnos na allwn fforddio'i golli, fel gwlad yma yng Nghymru, nac fel y DU.
Felly, rydym mewn sefyllfa nawr lle rydym yn ceisio siarad â phobl nad ydynt yn mynd i siarad â ni am drefniadau nad oes gennym ni na neb arall unrhyw syniad sut bethau ydynt, a'r cwbl ar gais, y cyfan oll ar gais, 10 Aelod Seneddol sy'n cynrychioli'r DUP—un rhan, ond 36 y cant o'r boblogaeth yng Ngogledd Iwerddon; enghraifft bendant iawn o'r gynffon yn siglo'r ci. Maent yn dweud, 'Wel, edrychwch, rydym am wneud yn siŵr nad oes unrhyw wahaniaeth rheoleiddiol rhwng Prydain a Gogledd Iwerddon.' Wel, nid yw hynny'n wir yn achos erthyliadau, nid yw hynny'n wir yn achos partneriaethau sifil. Dewis a dethol beth rydych ei eisiau yw hynny. Y realiti yw bod y sefydliad gwleidyddol wedi bod â man dall o ran Iwerddon a nawr, wrth gwrs, maent yn gweld mai dyna'r un mater sy'n mynd â chymaint o amser.
Nid wyf am gymryd gwersi gan y Blaid Geidwadol oherwydd, am wyth mlynedd, ni wnaethant dderbyn canlyniad y refferendwm yn 1997. Yn 2005, fe wnaethant sefyll ar sail maniffesto a oedd yn dweud, 'Rydym am refferendwm arall'. Os oedd yn iawn bryd hynny—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
—beth yw'r broblem gyda'r egwyddor nawr? Wrth gwrs, David.
Diolch iddo am ildio, oherwydd cefais fy ethol yn 1999. Roeddwn yn derbyn y canlyniad yn 1997. Gwnaeth uwch aelodau'r grŵp, ar ôl inni symud o dan arweinyddiaeth Nick Bourne, lawer o waith ar y pryd, ac nid oedd ein haelodau'n diolch i ni bob amser. Credaf eich bod yn cyfeirio at faniffesto'r DU—roedd y geiriad yn llac yn hwnnw—ond ni fu erioed—erioed—yn bolisi gan Blaid Geidwadol Cymru yn y Siambr hon.
Wel, dyna yn sicr oedd polisi'r blaid yn y DU, ac wrth gwrs, mae'r Prif Weinidog wedi cael ei hatgoffa o hynny yn y gorffennol. Yn sicr, mae'n wir na chafodd y refferendwm ei dderbyn gan y DU—. Rwy'n clywed yr hyn a ddywed am y Ceidwadwyr Cymreig, a gwn beth yw ei farn bersonol ef, ond y realiti yw na chafodd ei dderbyn gan y Ceidwadwyr yn y DU ac wrth gwrs, nid yw UKIP yn ei dderbyn yn awr. Felly, pan glywaf bobl yn dweud, 'Ni ddylem gael ail refferendwm', rwy'n diystyru'r hyn a ddywedant.
Rwyf am wneud dau bwynt arall—rwy'n gweld bod yr amser yn dod i ben, Lywydd—ers pa bryd oedd safbwyntiau busnesau i gael eu diystyru mor ddifeddwl gan y Blaid Geidwadol, gan UKIP? Mae'n debyg bod llais y byd busnes, arweinwyr busnes mae'n debyg—[Torri ar draws.]—yn rhan o brosiect ofn. Mae peth o'r iaith a glywais gan hyrwyddwyr y farchnad rydd—. Mewn eiliad. Byddai hyrwyddwyr y farchnad rydd yn gwneud i'r Marcswyr mwyaf croch gochi, oherwydd maent wedi difrïo busnesau ac wedi dweud, 'Nid yw busnesau'n gwybod am beth y maent yn sôn'.
Wrth gwrs.
Rydych wedi sôn am yr angen i wrando ar lais busnesau. Roedd llais busnesau'n cefnogi cytundeb y Prif Weinidog ac yn annog pawb yn Nhŷ'r Cyffredin i wneud hynny pan gafodd ei gynnig ar gyfer y bleidlais wreiddiol. Er hynny, ni wnaeth eich plaid ei gefnogi. Pam hynny?
Wel, hynny yw, mae hynny'n anwybyddu'r ffaith bod nifer fawr o'r Aelodau Seneddol Ceidwadol heb ei chefnogi chwaith. Dyna'r broblem sydd gennym yma; ni allai hi fynd â'i phlaid ei hun gyda hi. Dyna'r broblem sydd gennych yn eich plaid eich hun.
Un pwynt olaf—[Torri ar draws.] Un pwynt terfynol: mae'r amgylchiadau wedi newid yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Bellach, nid wyf yn gweld pam na allwn ofyn i bobl fynegi barn yng ngoleuni'r amgylchiadau presennol. Yn sicr, boed yn gefnogwyr Brexit neu'n gefnogwyr aros, byddwn yn treulio ein holl amser yn trafod sut olwg a ddylai fod ar Brexit heb ofyn i'r bobl. Felly, gadewch inni ateb y cwestiwn unwaith ac am byth a setlo'r mater drwy ofyn i'r bobl.
Y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit i ymateb i'r ddadl, Jeremy Miles.
Diolch, Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i'r Aelod dros Ben-y-bont ar Ogwr am ein hatgoffa ynglŷn â'r effaith bwerus y mae penderfyniadau a wneir mewn perthynas â Brexit yn ei chael ar fywydau bob dydd pobl, a sut y gall cael y penderfyniadau hynny'n anghywir arwain at ganlyniadau trychinebus mewn bywydau go iawn? Cafwyd amrywiaeth o gyfraniadau gan Aelodau'r Cynulliad yn y ddadl hon. Roeddwn yn croesawu'r mwyafrif helaeth ohonynt, ac roeddwn yn anghytuno'n sylfaenol â rhai ohonynt mae arnaf ofn.
Ystyriodd Adam Price a Dawn Bowden yr ymateb y byddem yn ei gael gan yr Undeb Ewropeaidd. Rydym yn gwybod, onid ydym—cawsom ein hatgoffa neithiwr ddiwethaf gan y Llywydd Tusk—fod y ddarpariaeth wrth gefn yn rhan o'r cytundeb ymadael, ac nid yw'r cytundeb ymadael yn agored i'w ailnegodi. Felly, credwn fod yna gytundeb Brexit amgen amlwg ar gael, fel y mae nifer o ffigurau allweddol yr UE yn cydnabod: ymrwymo i berthynas economaidd agosach o'r math y byddai etholwyr yn etholaeth Jack Sargeant a gweithwyr dur a busnesau mawr yn etholaeth David Rees eisiau ei gweld—y ffurf ar Brexit y mae'r Cynulliad hwn wedi'i gefnogi. Ond mae hyd yn oed sôn am hyn wedi achosi dicter eto heddiw gan bleidwyr Brexit digyfaddawd fel Neil Hamilton, sy'n credu bod 'dim cytundeb' yn ganlyniad dymunol mewn gwirionedd. Mae'r Aelod dros UKIP yn hyrwyddo canlyniad 'dim cytundeb'. Gadewch inni fod yn glir ynglŷn â hynny. Rydym wedi dweud—. Rwyf wedi dweud—. Dywedais ar y dechrau—
A wnaiff yr Aelod ildio?
Dywedais ar y dechrau—. Iawn.
Dywedais wrth ymyrryd ar araith David Rees nad oeddwn eisiau 'dim cytundeb', ond mae hyn wedi'i orfodi arnom gan anhyblygrwydd yr UE a thwpdra'r Prif Weinidog fod dim cytundeb yn well na chytundeb gwael.
Wel, cefais fy nrysu gan y rhan honno, a gwnaeth lawer o synau gwych am gytundebau masnach rydd i amddiffyn gwelliant a hyrwyddai 'dim cytundeb'. Ond fel y dywedais yn fy sylwadau agoriadol, mae angen i'r Prif Weinidog ddod o hyd i gefnogaeth barhaol i'w dull o weithredu ar Brexit.
Gwrandewais ar gyfraniad Darren Millar a rhaid imi ddweud fy mod yn meddwl bod ei ymosodiadau personol ar Jeremy Corbyn wedi methu codi lefel y ddadl yn y Siambr. Mae ei gefnogaeth i welliant Brady yn gwbl syfrdanol—strategaeth gwbl hurt ar ran y Prif Weinidog ei bod yn chwipio aelodau ei meinciau cefn ei hun i gefnogi gwelliannau i'r cytundeb y dywedodd na ellid ei ddiwygio. Ond o leiaf mae'n dangos mwy o deyrngarwch tuag ati na llawer o'i meinciau cefn, fel yn wir y mae Mark Reckless yn ei wneud, ac ni chafodd ei ethol yma fel Ceidwadwr hyd yn oed.
Siaradodd y ddau am—. Siaradodd y ddau am barchu'r refferendwm. [Torri ar draws.] Siaradodd y ddau am barchu'r refferendwm. Y rheswm pam ein bod yn y sefyllfa rydym ynddi yn y ddadl hon heddiw yw bod y Senedd wedi methu cysoni canlyniad y refferendwm â'r addewidion a wnaed i bobl ar y pryd. Nid yw hwn yn waith hawdd. Rydym wedi treulio dros ddwy flynedd yn ceisio cyrraedd y sefyllfa honno, ac nid yw'r Senedd wedi gallu cysoni hynny, a'r rheswm am hynny yw bod Theresa May yn methu cyflawni'r addewidion a wnaed i bobl yn ystod y refferendwm hwnnw. Dyna her sylfaenol sydd wrth wraidd ei strategaeth, a dyna pam y mae'n methu mor druenus.
Rydym yn gobeithio y gall y Senedd ddal i gytuno ar ryw fath o gytundeb Norwy+ o'r math a gefnogwyd gan y Cynulliad hwn ac y byddai Llywodraeth Cymru yn ei gefnogi. Pwy a ŵyr na allai hynny fod yn gyraeddadwy o hyd, ond mae canlyniadau enbyd oedi pellach a'r anghytundeb llwyr yn y Senedd yn golygu bod yn rhaid inni bellach baratoi ar gyfer pleidlais gyhoeddus.
Ni fyddwn yn cefnogi gwelliant UKIP am y rheswm syml ei fod yn hollol groes i fuddiannau pobl Cymru, ac nid oes unrhyw dystiolaeth fod yna gefnogaeth yn ein cymunedau i'w hideoleg o adael heb gytundeb.
Rwy'n ddiolchgar i Rhun ap Iorwerth am nodi na fyddai'n pwyso am bleidlais ar welliant Plaid Cymru. Yn ei araith roedd yn ein hatgoffa, yn bwysig iawn, nid yn unig ynglŷn â rôl y berthynas rhwng Llywodraethau, ond hefyd am rôl bwysig y berthynas rhwng Seneddau yn y mater hollbwysig hwn sy'n ein hwynebu ar yr adeg hon. Yn yr ysbryd hwnnw, rwy'n gobeithio y gall ein Senedd anfon neges glir arall eto heddiw ynglŷn â'n safbwynt, ac rwy'n annog eich Aelodau i gefnogi'r cynnig.
Rwyf ar ddeall bod Rhun ap Iorwerth am dynnu gwelliant 2 yn ôl. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu i welliant 2 gael ei dynnu yn ôl? Felly, mae gwelliant 2 wedi'i dynnu yn ôl.
Tynnwyd gwelliant 2 yn ôl yn unol â Rheol Sefydlog 12.27.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriaf y bleidlais ar yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Dyma ni nawr yn cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Mae pleidlais gyntaf ar ddadl Plaid Cymru ar garchardai a chyfiawnder troseddol. Galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid wyth, un yn ymatal, 41 yn erbyn, felly gwrthodwyd y cynnig.
NDM6949 - Dadl Plaid Cymru - Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 8, Yn erbyn: 41, Ymatal: 1
Gwrthodwyd y cynnig
Gwelliant 1. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Dwi'n galw am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Gareth Bennett. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid tri, neb yn ymatal, 48 yn erbyn. Gwrthodwyd gwelliant 1.
NDM6949 - Gwelliant 1: O blaid: 3, Yn erbyn: 48, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol. Dwi'n galw am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 11, tri yn ymatal, 37 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 2 wedi'i wrthod.
NDM6949 - Gwelliant 2: O blaid: 11, Yn erbyn: 37, Ymatal: 3
Gwrthodwyd y gwelliant
Pleidlais ar welliant 3, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 29, neb yn ymatal, 22 yn erbyn. Mae gwelliant 3 wedi'i dderbyn.
NDM6949 - Gwelliant 3: O blaid: 29, Yn erbyn: 22, Ymatal: 0
Derbyniwyd y gwelliant
Pleidlais nawr ar y cynnig wedi'i ddiwygio.
Cynnig NDM6949 fel y'i diwygiwyd:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi’r adroddiad gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru: Dedfrydu a Dalfa yng Nghymru: Ffeil Ffeithiau.
2. Yn mynegi pryder am ganfyddiadau’r adroddiad mai yng Nghymru y mae’r raddfa garcharu uchaf yng ngorllewin Ewrop, a bod dedfrydau llymach yng Nghymru yn cael effaith anghymesur ar fenywod, pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a chymunedau difreintiedig.
3. Yn nodi gwaith ymchwil blaenorol gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru sydd wedi datgelu problemau helaeth o ran diogelwch a lles yng ngharchardai Cymru, gan gynnwys graddau cynyddol o gamddefnyddio sylweddau, hunan-niweidio, trais a hunanladdiad.
4. Yn nodi bod nifer o droseddwyr ifanc o Gymru yn treulio amser eu dedfryd mewn carchardai yn Lloegr, a bod y carchar yn cael effaith negyddol sylweddol ar gyfleoedd bywyd pobl ifanc yn y dyfodol.
5. Yn croesawu gwaith y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru ac yn edrych ymlaen at ei argymhellion ynglŷn â’r cyfrifoldeb am blismona a chyfiawnder yng Nghymru yn y dyfodol.
Yn galw am:
a) diystyru adeiladu rhagor o ‘uwch garchardai’ ar unrhyw safle yng Nghymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyfleu’r gwrthwynebiad hwn i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder;
b) ailuno'r gwasanaeth prawf yn gyfan gwbl a rhoi diwedd ar breifateiddio rhannol;
c) ffocws ar ddulliau cymunedol ar gyfer troseddau nad ydynt yn rhai treisgar a rhoi'r gorau i or-ddefnyddio dedfrydau carcharu byr;
d) rhoi diwedd ar ddedfrydau o garchar i bobl ifanc a menywod ac eithrio mewn amgylchiadau neilltuol; ac
e) yr hawl i garcharorion bleidleisio yn etholiadau Cymru.
Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 36, un yn ymatal, 14 yn erbyn, felly derbyniwyd y cynnig wedi'i ddiwygio.
NDM6949 - Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 36, Yn erbyn: 14, Ymatal: 1
Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd
Y bleidlais nesaf ar y ddadl ar y rhagolygon am gytundeb Brexit. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant—. Na. Mae'r bleidlais gyntaf ar welliant 1. Agor y bleidlais. Gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Gareth Bennett. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid pedwar, neb yn ymatal, 47 yn erbyn, ac felly mae gwelliant 1 wedi ei wrthod.
NNDM6958 - Gwelliant 1: O blaid: 4, Yn erbyn: 47, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Galwaf am bleidlais ar y cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 37, neb yn ymatal, 14 yn erbyn, ac felly derbyniwyd y cynnig.
NNDM6958 - Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 37, Yn erbyn: 14, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig
Diolch i'r Aelodau. Mae busnes dal i'w gwblhau.
Mi fyddaf i'n symud i'r eitem nesaf, sef y ddadl fer. Ac os caf i ofyn i Bethan Sayed i gyflwyno'r ddadl fer—Bethan Sayed.
Diolch, ac rwyf wedi rhoi munud i Jack Sargeant a Lynne Neagle. Roeddwn am gyflwyno'r ddadl hon i archwilio sut—[Torri ar draws.]
[Anghlywadwy.]—yn dawel. Mae'n ddrwg gyda fi. Os gall Aelodau fod yn dawel neu adael y Siambr. Bethan Sayed.
Roeddwn am gyflwyno'r ddadl i archwilio pa mor driw rydym ni i'n bywydau ein hunain yn y modd y gweithredwn ar-lein, ac a yw yn ein niweidio o gwbl. Nawr, wrth dyfu fyny yng Nghymoedd de Cymru—a chredwch neu beidio, roedd hynny cyn i'r rhyngrwyd ddechrau magu gwraidd—nid oeddwn yn wynebu'r mathau hyn o ddylanwadau ar-lein, ond yn sicr roeddent yno mewn cylchgronau. Ynghanol fy ugeiniau, rhoddais y gorau i brynu llawer o'r cylchgronau ar gyfer menywod am eu bod yn dweud wrthyf o hyd beth y dylwn a beth na ddylwn ei wisgo, sut y dylwn edrych a pha ddeiet y dylwn ei ddilyn, ac achosodd broblemau enfawr i mi gyda gorbryder. Ond wedyn, ni wnaeth hynny helpu go iawn, gan i mi roi'r gorau i brynu cylchgrawn, ond wedyn, yn amlwg, symudodd ein bywydau ar-lein. Felly, trosglwyddodd yr holl fathau hyn o ddeietau a delweddau ar-lein a dechrau fy nilyn at Instagram ac at y cyfryngau cymdeithasol.
Ac felly, roeddwn yn yr un sefyllfa â phan oeddwn yn tyfu fyny a dyna'r sefyllfa rwyf ynddi nawr, eich bod weithiau'n cwestiynu eich hunan-barch a'ch hyder yn eich corff oherwydd y pethau a welwch ar-lein. Ac os wyf fi'n teimlo hynny fel menyw 37 oed, beth y mae ein pobl ifanc sy'n tyfu fyny yn ei deimlo pan gânt eu taro'n gyson gan y delweddau hyn? Maent yn teimlo dan bwysau, yn bryderus, wedi'u hynysu. Efallai nad yw hynny i'w weld o gwbl ar eu hidlyddion Snapchat, wrth gwrs, ond dyna sut y maent yn teimlo go iawn oherwydd byddant yn dweud hyn wrthyf yn ddyddiol.
Nawr, rwy'n gwneud llawer o waith gyda phobl ag anhwylderau bwyta, a dywedodd James Downs, sy'n ymgyrchydd iechyd meddwl gwych a oedd wedi dioddef anhwylder bwyta ei hun, 'Mae'r rhain yn fwy na lluniau. Maent yn dweud wrthym fod edrych mewn ffordd arbennig yn gysylltiedig â llwyddiant, atyniad rhywiol, cyfoeth, harddwch a phoblogrwydd. Nid yw lluniau a negeseuon o'r fath yn hawdd eu diystyru. Cawn ein hannog i feddwl bod yn rhaid inni edrych fel hyn, ac os nad ydym, nid ydym yn ddigon da. Rwyf wedi dioddef o anhwylder bwyta am dros hanner fy oes, a rhan fawr o ddod i delerau â fy nghorff fel y mae oedd dysgu nad yw'r delweddau hyn o berffeithrwydd yn realistig'.
Gellir gweld rhai agweddau ar yr hyn a welwn ar-lein gyda theimlad clir o chwilfrydedd. Nid yw popeth a welwn ar-lein yn cael ei dderbyn fel y mae'n ymddangos nac yn rhywbeth i anelu ato. Ceir rhai tueddiadau ffasiwn a delwedd corff sy'n wirioneddol ryfedd, a safonau harddwch rwy'n siŵr y byddai'r rhan fwyaf o bobl yn gwybod na ddylent eu dilyn o gwbl—y prawf trap bys, er enghraifft. Daeth hwn i enwogrwydd eang ar gyfryngau cymdeithasol Tsieineaidd fel prawf i weld a oedd rhywun yn hardd yn yr ystyr glasurol. Yn syml rhaid i chi roi blaen eich mynegfys ar flaen eich trwyn a'ch gên, ac os yw eich gwefusau'n cyffwrdd â'ch bys, llongyfarchiadau, rydych yn hardd, mae'n debyg. Os na, wel gwae ni oll.
Beth am y 'thighbrow'? Mae'r Kardashians, y Jenners, Amber Rose ac eraill wedi dod yn enwog iawn am eu cyrff yr honnir eu bod yn hardd a siapus. Y 'thighbrow' yw bod gennych linell lle mae croen meddalach yn plygu ar ben uchaf eich clun. Nid wyf am wneud hwn heddiw, gyda llaw. [Chwerthin.] Os yw hynny'n digwydd, mae'n debyg nad ydych yn rhy denau a bydd gennych gorff sy'n lluniaidd yn y mannau cywir, ac rwy'n ystyried hynny'n wirioneddol anhygoel.
Wel, beth am draed Barbie? Y term a fathwyd gan wefan ffasiwn Who What Wear lle bydd menywod, mewn bicinis yn bennaf, yn postio lluniau ohonynt eu hunain yn sefyll ar beli eu traed a phwyntio bysedd eu traed—ac unwaith eto, nid wyf am roi cynnig ar hyn—yn union fel Barbie heb esgidiau. Pam? Wel, gallant ddynwared effeithiau hwyhau a theneuo sodlau. Mae'n debyg nad yw'n ffasiynol gwisgo fflip-fflops i'r traeth.
Daeth Suzy Davies i’r Gadair.
Felly, gallwn ysgwyd ein pennau a gwenu ar rywfaint o hyn, ond gwyddom pa mor hawdd yw hi i gael ein tynnu i mewn i hyn a chael ein sugno i mewn i sut y dylem, a sut na ddylem edrych neu ba chwiw y dylem neu na ddylem ei dilyn. Nawr, dewch, faint ohonom sydd wedi teimlo boddhad ar ôl cael nifer penodol o 'likes' neu gadarnhad ar ôl postio hun-lun neu lun proffil newydd ar-lein? Gadewch inni fod yn onest. Weithiau mae'n hollol ddiniwed, ond gall hefyd fod yn arwydd o ddiwylliant niweidiol o ddyhead corfforol afrealistig, sy'n dod yn niweidiol.
Ac nid yn unig ei fod yn niweidiol i fenywod. Os yw dyn yn ymuno â champfa, nid yw'n gyd-ddigwyddiad ei fod yn cael ei dargedu gan hysbysebion ar Facebook neu Instagram yn hysbysebu pob math o ymarfer corff y gellir ei ddychmygu, gan hyrwyddo safonau o harddwch yn aml sy'n llawn cymaint o ffantasi i lawer o ddynion ag y mae'r corff bicini perffaith i fenywod. Mae dynion, dynion ifanc yn enwedig, yn aml o dan bwysau tebyg i edrych mewn ffordd benodol. Dylai dyn gael pen llawn o wallt trwchus, er gwaethaf y ffaith y bydd y mwyafrif helaeth o ddynion yn profi rhyw fath o golli gwallt yn ystod eu hoes, gyda chanran fawr yn colli eu gwallt cyn eu bod yn 40 oed. Gall hyn gael effaith ddifrifol ar ddynion sy'n eu hansefydlogi'n feddyliol, ond mae'n gwbl normal. Dylai dynion gael abs perffaith; lliw haul braf, ond fel menywod, dim gormod; tatŵ ar y fraich, efallai; barf; cyn lleied o flew ar y corff â phosibl, neu os oes blew ar y frest, ei docio a'i gribo, yn y ffordd benodol honno y mae'r cyfryngau cymdeithasol yn ei ganiatáu.
Cyhyrau hefyd—mae obsesiwn dynion gyda chael cyhyrau wedi tyfu'n enfawr diolch i dwf cyfryngau cymdeithasol a sioeau teledu realaeth. Ceir cynnydd sy'n peri pryder yn y defnydd o steroidau, yn enwedig mewn lleoedd fel de Cymru. Yn wir, y llynedd galwodd un arbenigwr y cynnydd cynyddol yn y defnydd o steroidau ymysg dynion yng Nghymru yn fom amser i'r GIG yng Nghymru, a barnai ymhen 20 mlynedd, efallai llai, y byddai meddygon teulu'n gweld cynnydd yn nifer y dynion 40 i 50 oed â hanes o ddefnyddio steroidau gyda phroblemau gyda'r iau, y thyroid a'r arennau neu gyflyrau'r galon.
Ers blynyddoedd, mae menywod a mwyfwy o ddynion wedi troi at driniaethau cosmetig, sy'n aml yn beryglus, i newid rhannau o'u cyrff. Mae rhai wedi dod mor arferol bellach ac yn rhan dderbyniol o'n diwylliant fel nad yw'n cael ei drafod hyd yn oed, na'i gwestiynu nac yn peri inni godi ael os yw menyw'n talu miloedd o bunnoedd am driniaeth o'r fath. Nawr, rwy'n deall ei fod wedi'i normaleiddio, ac wrth gwrs, caiff y mwyafrif helaeth o'r llawdriniaethau eu gwneud mewn modd diogel. Ond gadewch i ni ofyn pam y mae llawer o bobl yn cael y llawdriniaethau hyn yn y lle cyntaf. Mae llawer o enwogion wedi cael llawdriniaethau o'r fath ac yna'n eu gwrthdroi yn nes ymlaen pan fyddant yn sylweddoli eu bod yn niweidio'u cyrff. Credaf fod ehangder y broblem hon, wedi'i hannog a'i chwyddo ar-lein yn anodd ei anwybyddu. Mae wedi dod yn rhan dreiddiol o'n bywydau bob dydd, pa un a ydym yn sylweddoli hynny ai peidio weithiau, a hyd yn oed os ydym yn sylweddoli beth sy'n digwydd, a yw hynny yn ein hatal rhag cael ein dylanwadu ganddo?
Yn 2016, adroddodd y Dove Global Beauty and Confidence Campaign ei bod hi'n adeg eithafol o ddrwg o ran delwedd corff a hyder. Teimlai mwy o fenywod nag erioed o'r blaen yn ddihyder neu nad oeddent yn hoffi eu cyrff. Canfu yn y DU nad oedd ond 20 y cant â hyder yn y ffordd roeddent yn edrych. Yn Awstralia, canfuwyd bod y ffigur syfrdanol o 89 y cant o fenywod wedi cyfaddef eu bod wedi canslo cynlluniau, trefniadau a hyd yn oed cyfweliadau ar gyfer swyddi oherwydd pryderon ynglŷn â sut roeddent yn edrych. Nawr, nid cyfres haniaethol o ystadegau yw hon. Mae iddi ganlyniadau mewn bywyd go iawn. Pan fydd pobl yn cael eu boddi gan hysbysebion, delweddau, dylanwadwyr, erthyglau dyddiol sy'n ceisio dweud wrthynt mewn ffordd amlwg neu lai amlwg nad ydynt yn ddigon da ac y bydd eu hyder yn gwella os byddant yn newid, neu'n gweithio i newid agweddau ar eu hymddangosiad, yna bydd hynny, yn naturiol, yn gadael ei ôl ar ein hiechyd meddwl.
Ceir effaith hefyd ar sut y mae rhai pobl, yn enwedig pobl iau a phlant, yn ymateb i eraill. Mae Ymddiriedolaeth Nuffield wedi dweud bod 55 y cant o ferched ym mis Chwefror 2018 wedi cael eu bwlio ynglŷn â'u hymddangosiad, ac er bod yr effaith yn croesi'r llinellau rhwng y rhywiau, mae'n amlwg fod merched yn cael eu heffeithio'n fwy na bechgyn, gan niweidio eu hiechyd meddwl mewn modd digynsail. Adroddodd Childline fod 2,000 o ferched wedi cael sesiynau cwnsela ar ddelwedd y corff. Dyna ran fach iawn mae'n debyg o'r hyn sydd ei angen, yn anffodus, a dyna pam yr ymgyrchais yn y gorffennol dros gael gwersi llesiant a hyder yn ein hysgolion er mwyn ceisio mynd i'r afael â rhai o'r problemau hyn mewn bywyd go iawn.
Ond mae'n ymwneud â mwy na'r ffordd rydym yn edrych. Gall ein bywydau ar-lein fod yn wahanol iawn i realaeth ein bywydau. Gall dylanwadwyr ar-lein annog pobl o unrhyw oedran i ddilyn patrymau neu ymgyrraedd at bethau sydd weithiau'n afrealistig. Gwyddom yn rhy dda fel gwleidyddion sut y gall dylanwadwyr ar-lein ystumio'r gwir. Gadewch inni fod yn onest: faint ohonom sydd wedi cael sgyrsiau ar-lein gyda phobl sy'n credu mewn pethau neu sy'n cyfeirio at ddeunydd ar-lein y gwyddom ei fod yn gwbl ffug? Rwyf wedi siarad am y cynnydd mewn newyddion ffug yma cyn hyn, a'r hyn a allai fod yn syndod yw bod y rhan fwyaf o newyddion ffug, erthyglau ffug a lluniau ffug yn cael eu rhannu gan bobl hŷn. Mae gennym argyfwng cynyddol, sy'n cael ei fwydo ar-lein, o ddynion yn ymuno â grwpiau ac ystafelloedd sgwrsio adain dde, lle caiff rhethreg a newyddion ffug gwrth-fenywod, hiliol a threisgar eu rhannu a'u hannog. Caiff geiriau fel 'cuck' eu taflu o gwmpas i gyfeirio at ddynion sy'n credu nad ydynt yn cyrraedd safonau traddodiadol o wrywdod. Mae dylanwadwyr ar-lein sy'n ymateb yn erbyn rolau rhywedd newidiol neu golli rolau traddodiadol yn bwydo'r hyn a alwn bellach yn 'wrywdod tocsig'. Mae delweddau ac iaith ac erthyglau sy'n eich denu i glicio arnynt ar-lein yn bwydo brwydrau rhwng cenedlaethau, gyda thermau fel 'snowflake' a 'gammon' yn cael eu taflu yn ôl ac ymlaen.
Mae delweddau cyson o fath arbennig o ffordd o fyw ddelfrydol yn peri i deuluoedd fynd i ddyled. Mae pawb ohonom wedi gweld y delweddau ar Facebook o bobl yn rhoi anrhegion Nadolig mewn rhes i ddangos faint y maent wedi'i wario ar Joni bach y Nadolig hwn a sut y mae rhai pobl yn teimlo o dan bwysau pan fyddant yn gweld y lluniau hynny. Yn ddiweddar, cyflawnodd merch 14 oed hunanladdiad ar Facebook Live, a oedd yn enghraifft fwy trist na'r un o'r ffordd y gall bod ar-lein effeithio arnom i gyd.
Mae angen sgwrs yn y gymdeithas drwyddi draw ynglŷn ag effaith cyfryngau cymdeithasol ar ein bywydau. Wrth gwrs, dylem gydnabod yr effeithiau cadarnhaol, yr ymdeimlad o gymuned a gawn weithiau wrth gael sgyrsiau gwleidyddol a chreu cynghreiriau newydd; ni fyddem wedi gallu eu cael o'r blaen. Ond hefyd, mae wedi ein gwneud yn fwy toredig fel cymdeithas, yn fwy unig ac wedi'n difreinio i raddau mwy mewn sawl rhan o'n bywydau, yn enwedig mewn perthynas ag iechyd meddwl. Felly, sut y gallwn wneud hyn heb fynd i bregethu wrth eraill? Oherwydd, wrth gwrs, rydym yn treulio llawer o'n hamser ar-lein, a buaswn yn dweud bod angen inni geisio mynd all-lein yn amlach a rhyngweithio yn fwy real. Aeth llawer ohonom i angladd Steffan Lewis yr wythnos diwethaf, a'r hyn rwyf wedi'i ddweud wrthyf fy hun ers iddo farw yw, 'Wyddoch chi beth? Rhaid inni gael y rhyngweithio byw go iawn hwnnw. Rhaid inni dreulio mwy o amser gyda'r bobl sy'n ein caru fel nad ydym yn gadael i'r atgofion basio heibio yn yr amser sydd gennym, ond caniatáu i ni ein hunain ryngweithio'n gadarnhaol â phobl i ni gael trysori'r profiadau am byth, yn hytrach na boddi mewn sgyrsiau ar-lein a fydd yn mynd â ni i le tywyll iawn weithiau, i le negyddol na allwn ddod allan ohono.'
A oes angen inni reoleiddio mwy ar y rhyngrwyd? Dyna'r cwestiwn oesol. A oes angen inni atal pobl rhag doctora delweddau? A oes angen inni reoleiddio Facebooks a Googles y byd hwn? Buaswn yn dweud 'oes', oherwydd bod ganddynt gyfrifoldeb cymdeithasol. A gall dewis ddod i mewn i'r peth; gallwn ddewis peidio â mynd ar y cyfryngau cymdeithasol, ond mae'r hysbysebion yn ein dilyn i ble bynnag yr awn. A dyna realiti'r bywydau rydym yn eu byw.
Rwyf am orffen â cherdd y deuthum ar ei thraws ar-lein, ar Pinterest, a cheisiaf dreulio llai o amser ar-lein a gwneud y pethau rwy'n eu pregethu heddiw oherwydd fy mod eisiau bod yn driw i mi fy hun yn yr hyn rwy'n ei ddweud, ond credaf fod y gerdd hon yn un dda i orffen arni.
'Nid wyf am i fy nghorff fod yn ddifrycheuyn / yn ddi-dor a difefl / rwyf am iddo fod wedi torri mewn mannau / i fod â chreithiau a straeon bach / wedi'u gweu i'w dapestri / marciau sy'n dweud sut y mae wedi ymestyn / a phlygu a chracio ar agor / i adael goleuni'r byd / yr holl ffordd i mewn... / Nid wyf am edrych yn berffaith / hoffwn edrych fel pe bawn i wedi byw.'
Felly, credaf fod honno'n neges i bawb ohonom, ac os gallwn fynd yn ôl i'n cymunedau a chael y mathau hyn o drafodaethau gyda'n hetholwyr a gydag aelodau o'n teuluoedd, boed ar-lein ai peidio, yna rwy'n gobeithio y byddwn yn creu cymuned ar-lein sy'n well ac yn fwy cadarnhaol yma yng Nghymru.
A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i fy ffrind Bethan Sayed am gyflwyno'r ddadl fer hon a chaniatáu imi ddilyn yr araith agoriadol wych honno? Nid oes gennyf gerdd, ond rwy'n croesawu'r cyfle i rannu fy meddyliau. Mae'r holl faterion y soniodd Bethan amdanynt yn costio bywydau mewn gwirionedd. Maent yn achosi torcalon a gofid i bobl ag anhwylderau bwyta a mathau eraill o salwch iechyd meddwl a'u teuluoedd yn ogystal. Ac yn y pen draw, mae'n costio mwy i'r GIG oherwydd y cynnydd yn y gwariant pan fydd rhywun yn cyrraedd pwynt o argyfwng.
Rydych yn llygad eich lle, rydym yn mynd â'r cyfryngau cymdeithasol adref gyda ni—yn fwy felly nag erioed o'r blaen. A chredaf ein bod fel gwleidyddion yn gwybod hynny'n rhy aml gyda throliau, ond nid troliau'n unig sydd allan yno. Efallai na fydd rhai ohonynt yn ei feddwl, ond ceir delweddau allan yno, ceir hysbysebion sy'n portreadu'r pethau anghywir mewn bywyd o bosibl. Ond rydych yn iawn, oherwydd oes, mae gennym Snapchat ac rydym yn rhoi hidlydd ar ein Snapchat, ein hun-luniau neu ein post Instagram, ond a yw hynny'n ei wneud yn iawn? Nid wyf yn meddwl ei fod, a dyna'r cwestiwn y dylai pawb ohonom ei ofyn i ni ein hunain. Felly, diolch, Bethan, am ddod â hyn gerbron heddiw oherwydd mae angen i bawb ohonom yn y Siambr fod yn gweithio'n galetach ar y mater hwn.
Ond rwy'n credu ei bod hi'n werth myfyrio am eiliad am y cynnwys arall sydd ar gael ar-lein ac ystyried hunanladdiad y ferch 14 mlwydd oed heb fod yn hir yn ôl. Ac rwy'n meddwl am ei theulu a theuluoedd arall mewn sefyllfa debyg, fel y mae'r Aelodau eraill yn y Siambr hyn yn ei wneud. Nawr, roedd hynny'n dangos i mi fod yna blant allan yno, mae yna bobl ifanc allan yno, sy'n gallu cael gafael yn hawdd iawn ar negeseuon ar-lein sy'n hyrwyddo hunanladdiad ac iechyd gwael. Mae hynny'n gwbl annerbyniol, a chredaf fod angen inni edrych ar reoleiddio gwahanol lwyfannau cyfryngau cymdeithasol.
Rwyf am orffen ar un pwynt olaf, a dod yn ôl at anhwylderau bwyta, ac rwy'n croesawu cyfle i gyfarfod yn y misoedd nesaf â'r ymgyrchydd Hope Virgo sy'n ymgyrchydd da iawn ar y materion hyn. Rwy'n croesawu'r cyfle hwnnw, a gwn y byddaf yn cyfarfod â hi gyda Bethan yn ogystal. Felly, un adduned olaf i'r Aelodau yn y Siambr ac ar draws y pleidiau, os gwelwch yn dda cefnogwch ac ewch i edrych ar ymgyrch Dump the Scales Hope. Roedd ganddi hithau hefyd broblemau anhwylder bwyta tebyg yn ystod ei bywyd ac mae'n canolbwyntio ar fynd i'r afael â'r stigma sy'n sail iddynt ac iechyd meddwl yn gyffredinol. Felly, da iawn, Bethan, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda chi ac at herio'r Llywodraeth ar y mater hwn.
Roeddwn eisiau diolch i Bethan am gyflwyno'r pwnc pwysig hwn. Yn ymchwiliad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i iechyd emosiynol a meddyliol pobl ifanc y llynedd, roedd y cyfryngau cymdeithasol yn thema gyson a godai ei phen, ac fel rydych chi eisoes wedi amlygu, rydym wedi ein cysylltu fwy nag erioed o'r blaen. Ond mewn gwirionedd, credaf ein bod yn fwy ynysig mewn llawer o ffyrdd nag erioed o'r blaen. Mae rhai o'r storïau a glywsom—ac fe gyfeiriodd y ddau ohonoch, rwy'n credu, at Molly Russell a fu farw drwy hunanladdiad o ganlyniad i ddelweddau ar y cyfryngau cymdeithasol—yn tynnu sylw at ba mor ddrwg y gall pethau fynd, ac rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi mesurau ar lefel y DU i reoleiddio rhai o'r cwmnïau hyn. Ond credaf hefyd ei bod hi'n hanfodol ein bod yn gwneud yr hyn a allwn yng Nghymru, drwy ein cwricwlwm newydd, i wneud plant a phobl ifanc yn fwy gwydn, ond hefyd i fanteisio ar y cyfleoedd y mae'r cyfryngau cymdeithasol yn eu darparu i helpu pobl ifanc i siarad â'i gilydd mewn ffyrdd cadarnhaol ac adeiladol. Credaf y gallwn newid y sefyllfa hon ac rwy'n gobeithio bod gennym ewyllys wleidyddol i wneud hynny. Felly, diolch i chi, Bethan.
Diolch yn fawr, a galwaf ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd i ymateb i'r ddadl—Rebecca Evans.
Diolch yn fawr, a hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Bethan Sayed am gyflwyno'r ddadl fer hon ar bwnc mor bwysig heddiw ac am wneud hynny mewn ffordd mor ysgogol a diddorol, ond hefyd gan wneud cyfiawnder gwirioneddol â difrifoldeb y mater. Credaf fod hynny i'w deimlo hefyd yng nghyfraniadau Jack a Lynne yn ogystal.
Mae'r rhyngrwyd yn arf rhyfeddol. Mewn mater o eiliadau, gallwn fod yn chwilio am y rhyfedd a'r rhyfeddol yn ogystal â'r cyffredin. Gallwn fod yn siopa ar-lein, yn gwylio'r cyfresi bocs diweddaraf, yn chwarae Minecraft gyda rhywun ar gyfandir gwahanol, neu'n cymharu eich barn ar yr albwm canu gwlad diweddaraf—a dyna sut rwy'n treulio fy amser sbâr—ond gan gael y newyddion diweddaraf hefyd a siarad â theulu a ffrindiau yn ogystal. Ceir mynediad at lawer o'r bywyd modern drwy'r rhyngrwyd. Mae'n anodd cofio weithiau sut y byddem yn ymdopi o'r blaen, ac mae'n eithaf rhyfedd meddwl am blant a phobl ifanc heddiw—y ffaith nad ydynt wedi adnabod byd heb y rhyngrwyd. Iddynt hwy yn arbennig, bydd sgiliau digidol mor bwysig o ran eu gwytnwch mewn bywyd, ond hefyd o ran sut y maent yn camu ymlaen yn eu haddysg ac yn eu gwaith.
Mewn sawl ffordd, pobl ifanc sy'n arwain y ffordd, a gwn o brofiad mai pobl ifanc sydd yn y sefyllfa orau i ddweud wrthym am yr ap diweddaraf neu'r llwyfan cyfryngau cymdeithasol diweddaraf a sut i'w ddefnyddio yn y ffordd orau. Ond wrth gwrs, ymysg yr holl fanteision hyn, ceir cost wirioneddol, ac rydym wedi clywed am yr ochr dywyll i'r rhyngrwyd. Mae seiberfwlio, meithrin perthynas amhriodol ar-lein a stelcio oll yn faterion sydd wedi dod yn rhy gyfarwydd o lawer. Rhaid inni amddiffyn plant a phobl ifanc ac oedolion yn wir, fel y clywsom, rhag peryglon y rhyngrwyd. Fodd bynnag, nid yw gwahardd pobl o fyd ar-lein yn briodol nac yn ddymunol. Yn hytrach, rhaid i ni roi'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i bobl allu meddwl yn feirniadol a llywio'u ffordd drwy'r byd digidol mewn modd diogel, cyfrifol a pharchus. Y llynedd, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y cynllun gweithredu cenedlaethol ar gyfer diogelwch ar-lein. Lansiwyd y cynllun yn swyddogol gan fy nghyd-Aelod Kirsty Williams yn Ysgol Gyfun Porthcawl ar 14 Tachwedd, ac mae'n darparu ffocws ar gyfer ein gwaith diogelwch ar-lein. Gan adeiladu ar ein rhaglen bresennol, mae'n darparu gweledigaeth strategol ar gyfer y gwaith a wnawn ar wella diogelwch ar-lein yng Nghymru er mwyn sicrhau ein bod yn cadw plant a phobl ifanc yn ddiogel. A chefnogir hyn gan y parth diogelwch ar-lein, ar Hwb, sef man pwrpasol ar gyfer cefnogi athrawon, teuluoedd a dysgwyr yn y maes hollbwysig hwn.
Ond wrth gwrs, nid diogelwch ar-lein yw'r unig fater sy'n codi, fel y clywsom—mae delwedd corff a chywilyddio corfforol, canfyddiadau wedi'u hystumio a achosir gan hidlyddion a Photoshop oll yn achosi problemau go iawn i bobl heddiw. Bob dydd wynebwn negeseuon sy'n dweud wrthym nad ydym yn ddigon da. Gwelwn gymaint o ddelweddau o bobl sydd i'w gweld yn berffaith, ac nid ydym yn gweld yr haenau o ffilteri neu'r delweddau niferus a ddilëwyd cyn hynny. Ceir corff cynyddol o dystiolaeth sy'n dangos y niwed y mae hyn yn ei achosi, yn enwedig i bobl ifanc. Felly, dros yr ychydig fisoedd diwethaf, rydym wedi cyhoeddi adnoddau addysgol yn edrych ar ddelwedd corff a hunan-barch yn y byd digidol. Y nod yw annog trafodaeth am effaith y rhyngrwyd ar ddelwedd corff a hunan-barch. Rydym yn gobeithio dangos i blant a phobl ifanc sut y gallant ddatblygu ymdeimlad cadarnhaol ohonynt eu hunain yn y byd yn lle hynny a thrwy gymryd rheolaeth a datblygu gwytnwch.
Ceir agweddau eraill hefyd ar fywyd ar-lein a all fod yn niweidiol. Efallai y bydd gennym filoedd o ddilynwyr ar Twitter neu Instagram ond ychydig iawn o ffrindiau go iawn. Drwy'r cyfryngau cymdeithasol, rydym yn fwy cysylltiedig nag y buom erioed o'r blaen a gall hyn greu manteision cadarnhaol—gall pobl chwilio am grwpiau cymorth, dod o hyd i fasnachwyr lleol a gweithgareddau lleol i'w gwneud. Fodd bynnag, mae ochr fwy negyddol i'r cysylltedd hwn, fel y soniodd Lynne Neagle, oherwydd gall byw ein bywydau ar-lein arwain at unigrwydd gwirioneddol ac arwahanrwydd cymdeithasol, a gall hynny gael effaith niweidiol ar ein lles meddyliol a chorfforol.
Gwyddom nad canlyniad gofal iechyd da yn unig yw iechyd da, a bod gan faterion economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol bob un ran arwyddocaol i'w chwarae yn ein hiechyd a'n lles hirdymor. Felly, rydym wedi cyhoeddi adnoddau ar iechyd meddwl a'r rhyngrwyd. Mae'r rhain yn ceisio ysgogi sgyrsiau yn yr ystafell ddosbarth am effeithiau cadarnhaol a negyddol y rhyngrwyd, ac rydym wedi cydweithio â Childnet i ddatblygu Ymddiried ynof fi Cymru. Datblygwyd yr adnodd i helpu athrawon cynradd ac uwchradd i addysgu plant i werthuso'n feirniadol y wybodaeth y dônt o hyd iddi ar-lein, gan gynnwys deunydd a allai geisio dylanwadu'n fwriadol ar eu barn.
A wnewch chi ildio? Mae ychydig ar ei hôl hi ond fe sonioch chi am yr ymchwil ar ddelwedd corff mewn oes ddigidol, ac roeddwn yn meddwl tybed a ellid rhannu hwnnw ag Aelodau'r Cynulliad. Nid wyf yn siŵr pwy a wnaeth hwnnw, ond yn sicr buaswn yn falch o'i rannu gyda'r grŵp trawsbleidiol ar anhwylderau bwyta fel y gallwn weld sut y gallwn gymryd rhan yn hynny yn y dyfodol.
Yn sicr, buaswn yn hapus i ysgrifennu atoch gyda mwy o wybodaeth am yr ymchwil y cyfeiriais ato.
Felly, mae'r adnoddau roeddwn yn sôn amdanynt yn ychwanegu at adnoddau cynyddol ar y parth diogelwch ar-lein, ac anogir ysgolion ledled Cymru i ddefnyddio'r deunyddiau hynny. A'r wythnos nesaf, wrth gwrs, ar 5 Chwefror, byddwn yn ymuno yn y dathliad byd-eang i gydnabod Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel, fel cefnogwyr swyddogol. Mae'r thema eleni yn bwysig iawn: 'gwella'r we gyda'n gilydd'.
Fodd bynnag, nid yw ein gwaith yn gyfyngedig i adnoddau am y byd ar-lein yn benodol. I bobl ifanc, mae'r byd ar-lein a'u byd all-lein yn aml yn plethu mor dynn yn ei gilydd fel y gallant deimlo fel pe baent yn un peth. Mae angen inni helpu pobl ifanc i ragori ym mhob agwedd ar fywyd fel eu bod yn tyfu'n oedolion sy'n unigolion iach a hyderus. Dylai addysg annog a chynorthwyo pobl ifanc i barchu eu hunain ac eraill, i werthfawrogi amrywiaeth a rhoi gallu iddynt feithrin perthnasoedd iach a llawn parch. Mae'r cwricwlwm newydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddatblygu yn rhoi'r egwyddorion hynny wrth wraidd dysgu. Mae angen inni gofio, fodd bynnag, y gall y byd ar-lein ddwyn llawer o fanteision yn ei sgil ac nad yw rhai pobl yn cael y cyfleoedd hynny. Mae mynd i'r afael ag allgáu digidol yn hanfodol os ydym am greu cymdeithas gyfartal, lle mae gan bawb yr un cyfle i gael mynediad at wasanaethau cyhoeddus ar-lein, a lle mae gan bawb yr un cyfle i ddod o hyd i waith, i ddysgu ac i arbed arian drwy brynu gwasanaethau a nwyddau rhatach ar-lein. Felly, mewn un ffordd neu'r llall, mae'r rhyngrwyd yma i aros. Gall effeithio ar bron bob agwedd ar ein bywydau bob dydd, felly rhaid inni wneud popeth a allwn i wneud yn siŵr ei fod yn lle diogel sy'n parchu pawb.
Diolch yn fawr, a daw hynny â thrafodoion heddiw i ben. Diolch.
Daeth y cyfarfod i ben am 19:10.