Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

22/01/2019

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Dirprwy Lywydd (Ann Jones) yn y Gadair. 

Cwestiwn Brys: Wylfa Newydd

Rwyf i wedi derbyn cwestiwn brys o dan Reol Sefydlog 12.67, a galwaf ar Rhun ap Iorwerth i ofyn y cwestiwn brys. Rhun ap Iorwerth.

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad brys am y cyhoeddiad ynglŷn ag Wylfa Newydd? (EAQ0004)

Diolch. Cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig mewn ymateb i'r cyhoeddiad ar 17 Ionawr, ac ers hynny rwyf i wedi bod yn siarad â Hitachi, â Horizon Nuclear Power, Llywodraeth y DU, rhanddeiliaid lleol, ac roeddwn i hefyd yn bresennol yng nghyfarfod brys Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru ddoe, a gallaf sicrhau'r Aelod ein bod ni'n gwneud popeth posibl wrth i'r sefyllfa hon sy'n datblygu fynd rhagddi.

Diolch yn fawr iawn. Mi oeddem ni, dwi'n meddwl, yn disgwyl y cyhoeddiad yma ers rhai misoedd. Dwi'n meddwl y gallem ni ofyn cwestiynau ynglŷn â beth wnaeth Llywodraeth Prydain yn yr amser yna i geisio achub y cytundeb, ond, o ran Llywodraeth Cymru, mae'n werth gofyn heddiw, o bosib, pa gamau, o ystyried ein bod ni'n disgwyl y cyhoeddiad, fu Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i lunio camau gweithredu, cynllun gweithredu, ar gyfer cyhoeddiad o'r math yma. Tybed a allwch chi amlinellu y cynlluniau hynny. 

O ran y camau nesaf, mae gweld beth all gael ei wneud i gadw'r cynllun presennol yn fyw yn rhan amlwg o'r hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd. Mae'n rhaid i fi ddweud fy mod i'n ofni bod Ysgrifennydd Cymru yn Llywodraeth Prydain yn bod yn anghyfrifol yn sôn am y posibilrwydd o adfer y prosiect o fewn blwyddyn neu ddwy, neu dair. Ond os mai'r bwriad ydy trio creu model ariannu newydd, a gaf i ofyn pa rôl mae Llywodraeth Cymru yn cynnig ei chwarae yn y rôl honno, ar y cyd â phartneriaid eraill yn lleol?

Ond, beth bynnag sy'n gallu cael ei wneud o ran adfer y cynllun penodol yma, mae'n amlwg bod angen buddsoddiad rŵan, yn ychwanegol, i wneud i fyny am yr hyn sy'n cael ei golli, o leiaf yn y tymor byr. Mae gwleidyddiaeth niwclear yn un peth—rwy'n deall y dadleuon o blaid ac yn erbyn niwclear—ond fel cyfle economaidd, wrth gwrs, mae'r cyhoeddiad yma wedi bod yn ergyd i genedlaethau o bobl ifanc yn Ynys Môn, ac maen nhw angen gweld rŵan bod popeth yn cael ei wneud i fuddsoddi yn eu dyfodol nhw. Felly, a wnaiff y Gweinidog, sydd wedi rhoi arwyddion o hyn yn barod, wneud ymrwymiad i fuddsoddi rhagor rŵan yng nghynllun twf y gogledd? Mae £120 o filiynau wedi'i glustnodi yn barod, yn ogystal â £120 o filiynau gan Lywodraeth Prydain. Mi fydd angen cynyddu y swm hwnnw yn sylweddol rŵan er mwyn buddsoddi mewn cynlluniau adfywio a datblygu economaidd ym Môn, yn enwedig yng ngogledd yr ynys ac ardal Amlwch. Mae angen symud i agor lein Amlwch. Mae angen sicrhau cyllid i wneud y cyswllt trydan i gynllun parth ynni Morlais. Mae angen cefnogi buddsoddiad Minesto. Felly, mi fyddwn i'n gwerthfawrogi sicrwydd yn hynny o beth gan Lywodraeth Cymru. 

Ac ymhellach, a gawn ni sicrwydd y bydd Llywodraeth Cymru yn gwthio ar Lywodraeth Prydain i gynyddu eu cyfraniad nhw at fargen twf y gogledd? Dyma brosiect arall i Gymru sydd wedi methu â chael ei ddelifro ganddyn nhw. Mae'n rhaid iddyn nhw ddangos ymrwymiad drwy fuddsoddi pellach, yn cynnwys, o bosib, drwy gyfeirio arian ymchwil sylweddol addysg uwch i Brifysgol Bangor. Mae Cymru yn methu a chael ei siâr o arian cyllid ymchwil fel ag y mae. 

Ac yn olaf, a gaf i sicrwydd y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi pob cymorth i'r staff, y rheini sy'n gweithio efo Horizon yn Wylfa ar hyn o bryd, sydd, wrth gwrs, wedi cael llythyrau rhybuddio am ddiswyddo yr wythnos diwethaf? Pobl dda o'r gweithlu lleol fydd angen cefnogaeth rŵan.

A gaf i ddiolch i'r Aelod lleol am y pwyntiau pwysig iawn a wnaeth a'r cwestiynau a godwyd ganddo?

O ran cynllunio ar gyfer y posibilrwydd hwn, wel, wrth gwrs, roeddwn i eisoes wedi rhoi caniatâd i ddatblygu cynllun rhanbarthol ar gyfer y gogledd, ochr yn ochr â datblygu cynlluniau rhanbarthol ar gyfer y ddau ranbarth arall. Mae'r cynllun hwnnw wrthi'n cael ei ddatblygu wrth i ni gyfarfod yma heddiw, a bydd, wrth gwrs, yn cymryd y sefyllfa yr ydym ni ynddi i ystyriaeth a'r gwahanol sefyllfaoedd a allai ddod i'r amlwg yn y misoedd a'r blynyddoedd i ddod. Ond, ochr yn ochr â'r cynllun rhanbarthol, wrth gwrs, mae bargen twf gogledd Cymru, â'r 16 o brosiectau sydd wedi eu cynnwys ynddo. Mae rhai yn sensitif i brosiect Wylfa Newydd, ond, wrth gwrs, mae eraill nad ydynt. Ddoe, yn ystod cyfarfod Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, trafodwyd gennym sut y gellid rhoi blaenoriaeth i nifer o'r prosiectau, a'r prosiectau hynny sydd o bosibl y mwyaf gweddnewidiol i'r rhanbarth, ac, yn wir, sut y gellid eu cyflymu a'u hehangu o bosibl. Os caf i ddim ond nodi un fel enghraifft, rwy'n credu bod gan y prosiect digidol botensial enfawr ac y gellid ei ehangu a'i ddarparu yn gyflym iawn.

Cododd Rhun y pwynt pwysig hefyd am y gwaith a fydd yn cael ei wneud yn y misoedd nesaf, cyn belled ag y mae model ariannu newydd posibl yn y cwestiwn. Rwy'n credu ei bod hi'n deg i ddweud bod yn rhaid i ni wneud popeth a allwn ar y cyd—yma, yn y gogledd, a Llywodraeth y DU, gan weithio gyda Horizon, i sicrhau bod y prosiect, os gall fynd rhagddo, yn mynd rhagddo gyda chyn lleied o oedi â phosibl. O ran y model ariannu newydd a'r gwaith sydd ar y gweill, rydym ni wedi cael ein sicrhau y bydd yr adolygiad a'r adroddiad yn cael eu cwblhau erbyn yr haf hwn. Defnyddiwyd y model sylfaen asedau rheoleiddiedig mewn rhaglenni seilwaith mawr eraill. Un y byddwn yn cyfeirio ato fel yr enghraifft orau efallai o'i ddefnydd yn ddiweddar yn y math hwn o faes yw'r Thames Tideway. Mae angen i ni gymryd rhan lawn mewn unrhyw sgyrsiau, trafodaethau ac ystyriaethau ynghylch y model ariannu posibl hwnnw, ac rwyf i wedi gofyn i swyddogion ymgysylltu'n llawn â'r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol.

O ran cefnogaeth i economi'r gogledd ac, yn fwy cyffredinol, sector ynni morol Cymru, rydym ni'n credu fel Llywodraeth y dylai Llywodraeth y DU geisio datblygu trefn dariffau newydd sy'n cynorthwyo datblygiad y sector yn yr un ffordd, er enghraifft, ag y cynorthwywyd gwynt yn ei flynyddoedd ffurfiannol. Byddai hynny'n galluogi Cymru i arwain y maes o ran defnyddio technoleg ynni'r môr, a byddai'n sicrhau, wrth i ni geisio sicrhau diogelwch ynni, ein bod ni'n gallu dibynnu mwy ar ynni adnewyddadwy. Ac wrth gwrs, ar Ynys Môn ac yn y cyffiniau, ceir canolfannau rhagoriaeth presennol eisoes a chyfleusterau ymchwil yn ymwneud ag ynni'r môr.

O ran y swm a ddyrannwyd gennym i fargen twf gogledd Cymru, roeddwn i'n eglur iawn erioed ein bod ni, trwy gynorthwyo'r fargen twf drwy swm o £120 miliwn, ein bod ni'n darparu'r un faint o arian â Llywodraeth y DU. Ond roeddwn i hefyd yn eglur iawn mewn datganiadau a wnaed cyn y Nadolig ein bod ni'n credu y dylai Llywodraeth y DU gynyddu ei chyfraniad, ac, os gwnaiff hynny, y byddwn ninnau'n gwneud yr un fath. Ac rwy'n disgwyl am newyddion cadarnhaol gan Lywodraeth y DU ynghylch y swm o arian y mae'n barod i'w gyfrannu at y cytundeb pwysig hwn. Ac mae hefyd yn werth cofio, yn ychwanegol at ein cyfraniad i fargen twf gogledd Cymru, ein bod ni hefyd yn cynllunio gwerth £600 miliwn o raglenni seilwaith ar draws y rhanbarth yn y blynyddoedd i ddod. Ac yn ogystal â hynny, bydd swm enfawr o arian yn cael ei fuddsoddi yn ein seilwaith cymdeithasol—mewn ysgolion newydd, canolfannau iechyd, cyfleusterau ysbyty, gan wneud yn siŵr unwaith eto ein bod ni'n cyfrannu at yr economi ranbarthol a'i chydnerthedd economaidd.

Yr hyn y byddwn i'n ei ddweud, wrth ystyried unrhyw adnoddau ychwanegol ar gyfer prosiectau newydd, yw na ddylem ni oddef galwad anghyd-drefnus am gymorth i raglenni yn y gogledd. Mae'n gwbl hanfodol bod y cynllun rhanbarthol, a bargen twf gogledd Cymru, yn ganolog o ran datblygu ôl troed ac ymyraethau economaidd y gogledd. Ac felly, byddwn ni'n galw ar unrhyw bartïon â diddordeb i sicrhau bod eu gwaith, eu cynigion, yn gydnaws â chais y fargen twf a'n cynllun rhanbarthol sy'n dod i'r amlwg.

Rwy'n credu bod yr Aelod yn llygad ei le hefyd i alw am gynnydd i wariant ymchwil a datblygu yn y rhanbarth, a byddwn yn ehangu hynny i ddweud y dylem ni gael mwy o wariant yng Nghymru yn ei chyfanrwydd. Wrth gwrs, o fewn y fargen twf, ceir prosiect gwerth £20 miliwn ar gyfer mynediad at ynni clyfar, sy'n gysylltiedig â datblygiad Trawsfynydd fel canolfan ar gyfer defnyddio adweithyddion modiwlaidd bach. Hoffwn i Lywodraeth y DU archwilio nawr y potensial i neilltuo symiau yn y cytundebau sector ar gyfer niwclear ac awyrofod yn y rhanbarth ac yng Nghymru, i sicrhau ein bod ni ar flaen y gad o ran datblygiadau technolegol mewn dau faes arbenigedd y credaf ein bod ni'n enwog amdanynt ar draws y byd.

Ac yn olaf, o ran cyflogeion, rwy'n cydymdeimlo'n fawr â'r bobl hynny sydd wedi gweithio mor ddiwyd dros gyfnod sylweddol o amser. Rydym ni mewn trafodaethau gyda Horizon am y niferoedd a fydd yn cael eu cadw, ond mae gennym ni hanes cadarn o allu cynorthwyo pobl sy'n cael eu heffeithio gan benderfyniadau o'r fath, drwy ReAct a thrwy ymateb cydgysylltiedig ar draws nifer o asiantaethau'r Llywodraeth. Wrth gwrs, byddwn yn cynorthwyo unrhyw un sy'n cael ei effeithio yn yr un modd. Ond gallaf hefyd sicrhau'r Aelod ein bod ni'n ceisio mynd y tu hwnt i hyn, trwy ymgysylltu'n ddwys â busnesau ar draws y rhanbarth a oedd yn ehangu ac yn gwella sgiliau er mwyn manteisio ar y cyfle unwaith mewn cenhedlaeth hwn. Rydym ni'n ystyried pob ffordd bosibl o gynnig cyfleoedd ar gyfer gwaith ac i fusnesau fanteisio arnynt yn ystod y cyfnod y mae'r prosiect hwn wedi'i oedi.

13:40

A gaf i ddechrau trwy ddiolch i'r Aelod dros Ynys Môn am godi'r cwestiwn brys pwysig iawn hwn, a hefyd i'r Gweinidog am ei ymateb? A gaf i hefyd ychwanegu bod fy nghydymdeimlad gyda phawb sydd wedi cael eu heffeithio gan y cyhoeddiad diweddar hwn?

Rwyf wir yn gobeithio y gallwn ni ddod o hyd i ateb o ran y mater hwn, oherwydd mae'r bobl leol a'r cymunedau lleol ar yr ynys, ond hefyd y cymunedau ar draws y gogledd i gyd, wedi bod yn gweithio'n arbennig o galed i gefnogi a chynllunio ar gyfer y prosiect hwn ers bron i 10 mlynedd, ac mae hynny oherwydd bod manteision eglur iddo: y miloedd o swyddi adeiladu, y cannoedd o swyddi gweithredol a pheirianyddol a'r cyfleoedd ar gyfer prentisiaethau medrus o ansawdd uchel. Felly, rwy'n croesawu cynnig y Gweinidog o gymorth i'r teuluoedd hynny sydd wedi cael eu heffeithio gan y cyhoeddiad hwn.

Dirprwy Lywydd, mae gen i dri phwynt i'r Gweinidog. Yn gyntaf, mae'n amlwg i mi yn dilyn y cyhoeddiad hwn, a'r cyhoeddiad blaenorol ynghylch y morlyn llanw, bod angen gwell mecanwaith ar waith arnom ar gyfer ariannu prosiectau adeiladu mawr. Yn ail, a yw'r Gweinidog yn cytuno â mi bod angen i ninnau hefyd ddysgu o'r gwersi a rhoi ein cefnogaeth lawn i brosiectau eraill yn y gogledd, yn union fel canolfan ehangu logisteg Heathrow, sy'n brosiect parhaus? Nawr, byddai sicrhau'r buddsoddiadau hyn yn dod â swyddi a ffyniant i'm hetholwyr i, ond hefyd i'r bobl hynny ar draws arfordir y gogledd. Ac yn olaf, Gweinidog, mae pobl yn y gogledd ac ar draws y wlad yn colli ffydd mewn prosiectau mawr nad ydynt yn cael eu cyflawni, ac, fel y saif pethau, mae Llywodraeth Geidwadol y DU yn ein siomi. A fyddai'r Gweinidog yn cytuno â mi ei bod hi'n bryd i brosiectau fel hyn gael eu cyflawni fel y gall pobl Cymru weld newid gwirioneddol yn eu cymunedau a chyfleoedd eglur i genedlaethau'r dyfodol?

A gaf i ddiolch i'r Aelod dros Alun a Glannau Dyfrdwy am ei bwyntiau pwysig a'r cwestiynau y mae wedi eu codi? Wrth gwrs, mae'n cynrychioli ardal o Gymru sy'n rhan annatod o'r arc niwclear sy'n ymestyn o ogledd-orllewin Cymru yr holl ffordd i ogledd-orllewin Lloegr, ac er y bydd pwyslais y gweithgarwch wedi ei ganolbwyntio, wrth gwrs, yn Ynys Môn, rwy'n ymwybodol bod llawer o bobl sy'n gweithio ar raglen Wylfa Newydd yn dod o rannau eraill o ogledd Cymru. Mae hwn wir yn brosiect o arwyddocâd rhanbarthol ac, yn wir, cenedlaethol o ran y sylfaen gyflogaeth. Yn wir, yn y sector niwclear yn ei chyfanrwydd, mae cymaint o alw am bobl fedrus fel bod cyflogeion yn fodlon teithio yn eang i gael gwaith. A dweud y gwir, mae un o'm ffrindiau gorau, sy'n byw ar gyrion yr Wyddgrug, yn teithio i Drawsfynydd bob dydd ar gyfer y prosiect datgomisiynu yno. Felly, mae gweithgareddau cysylltiedig â niwclear yn y rhanbarth o fudd enfawr i Gymru gyfan.

Credaf ei bod yn hanfodol bod gwaith ar y model ariannu amgen yn cael ei ddatblygu yn gyflym a, chyda chydweithrediad swyddogion Llywodraeth Cymru, rwyf i hefyd wedi addo i ddarparu nodyn briffio a diweddariadau rheolaidd i gydweithwyr mewn llywodraeth leol yn y gogledd. Rwy'n credu bod yr Aelod hefyd yn codi'r pwynt pwysig o chwilio am gyfleoedd eraill ar gyfer cyflogaeth yn y rhanbarth a ledled Cymru. Rwy'n credu y gallai'r ganolfan logisteg yn Heathrow y mae'r Aelod yn cyfeirio ati fod yn brosiect gweddnewidiol yng ngwaith Tata, ac edrychaf ymlaen at gael diweddariad ar y gwaith a wnaed yn ddiweddar i benderfynu lle y dylid lleoli'r ganolfan.

Ac, yn olaf, cyn belled ag y mae prosiectau seilwaith mawr yn y cwestiwn a buddsoddiadau mawr yn y cwestiwn, ni wnaf ailadrodd y pwyntiau y mae Aelodau eisoes wedi eu gwneud hyd yn hyn ynghylch siomiant i Gymru a methiannau i Gymru, ond byddwn yn dweud, mewn gwrthgyferbyniad, bod Llywodraeth Cymru yn parhau i gyflawni. Efallai ei fod yn eironi trist iawn, ar y diwrnod y clywsom ni am y methiant i fwrw ymlaen â Wylfa Newydd ar sail y model ariannu presennol, fy mod i yn y gogledd yn lansio dechrau'r gwaith ar ffordd osgoi newydd gwerth £135 miliwn Caernarfon i Bontnewydd. Hefyd, rydym ni'n darparu'r fasnachfraint gwerth £5 biliwn, ac mae'r ganolfan gonfensiwn ryngwladol ar fin cael ei chwblhau. Rydym ni wedi gwario mwy nag erioed o ran seilwaith yn y rhanbarth lle disgwyliwyd i Wylfa Newydd gael ei leoli, a lle rwy'n gobeithio y bydd yn dal i gael ei adeiladu.

Gweinidog, diolch am eich sylwadau y prynhawn yma, a dydd Mercher diwethaf hefyd, ac yn enwedig dydd Mercher diwethaf pryd y gwnaethoch chi gymeradwyo'n llawn cefnogaeth Llywodraeth Cymru i ynni niwclear, a oedd yn amlwg yn bryder i rai pobl o ystyried y gystadleuaeth arweinyddiaeth ddiweddar a gynhaliwyd o fewn y Blaid Lafur. Ond yr hyn y mae'n bwysig ei ddeall, fel y mae Horizon a Hitachi wedi ei nodi, yw bod hyn yn fater o'r model ariannu sydd ar gael i adeiladu'r prosiect hwn yn y pen draw. Rydym ni'n cael ein harwain i gredu bod Llywodraeth y DU wedi cynnig pris taro o £75 y megawat. Mae'n amlwg nad yw'n ymddangos bod hynny wedi bod yn ddigon fel y gallai Hitachi bwyso'r botwm gwyrdd ar gyfer y prosiect penodol hwn. Beth yw eich asesiad chi o ba bris taro sydd ei angen i ganiatáu i'r prosiect hwn fynd rhagddo? Ac, yn y pen draw, yr hyn sy'n bwysig iawn i'r cymunedau yn y gogledd, ac yn enwedig ar Ynys Môn, yw nad yw trafodaethau yn parhau am gyfnod amhenodol ond bod y trafodaethau hynny yn cael eu cwblhau.

Pryd ydych chi'n credu y bydd y Llywodraethau ar ddau ben yr M4 mewn sefyllfa i wneud penderfyniad rhesymol ar ddatblygiad y safle hwn fel y gellir sicrhau partneriaid eraill os nad yw Hitachi yn gallu datblygu'r safle hwn? Oherwydd dyma'r safle gorau i ddatblygu cyfle niwclear yn Ewrop, nid yn unig yn y DU, ac mae'n hanfodol bwysig bod Hitachi fel cwmni, os bydd yn teimlo na all barhau gyda'r prosiect hwn, yn cael ei ddisodli gyda gweledigaeth amgen sy'n gallu datblygu'r cyfleoedd y mae llawer iawn o Aelodau o gwmpas y Siambr hon wedi eu nodi ar gyfer swyddi a ffyniant ar Ynys Môn.

13:45

A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn? Ac, wrth gwrs, y model ariannu sydd wedi torri. Nid wyf i'n meddwl mai fy lle i fyddai nodi'r pris taro y byddai ei angen i fwrw ymlaen â hyn, gan fod trafodaethau wedi eu cynnal yn gyfrinachol, er bod y ffigurau, rwy'n deall, allan yn gyhoeddus erbyn hyn. Yr hyn sydd ei angen yw gwerthusiad o fodel ariannu amgen i gael ei gynnal cyn gynted â phosibl, ac rwy'n credu bod yr Aelod yn gwneud pwynt pwysig iawn, o'r safbwynt y bydd amynedd unigolion a'r ffydd sydd gan unigolion yn y rhanbarth yn cael eu herio os na chaiff y sefyllfa hon ei datrys y naill ffordd neu'r llall cyn gynted â phosibl.

Ac rwy'n credu ei bod hi hefyd yn bwysig dweud na ellir cael dim mwy o obeithion gwag, camgychwyniadau, oherwydd mae'n cymryd llawer iawn o ewyllys a buddsoddiad gan fusnesau a phobl i baratoi ar gyfer gweithgarwch ar y math o raddfa a welsom ni yn y misoedd a'r blynyddoedd diwethaf. Os a phan—. Ac rwy'n gobeithio y bydd y prosiect yn mynd rhagddo. Pan fydd yn mynd rhagddo, rwyf yn gobeithio y bydd busnesau ac unigolion ar draws y rhanbarth yn manteisio'n llawn arno. Ond, er mwyn gwneud hynny, mae'n rhaid i ni gynnal y momentwm a'r tyniant a ddatblygwyd yn ddiweddar, ac felly mae angen ymyrraeth bellach gan Lywodraeth o ran y Llywodraeth yn gallu sicrhau ei bod yn gwneud popeth posibl i ddod â'r prosiect hwn i Ynys Môn, ei bod yn egluro yn gyhoeddus iawn y model ariannu a sut y bydd yn gweithio a pha un a yw'n ymarferol cyn gynted â phosibl. Hoffem gael sicrwydd ehangach hefyd ynghylch goblygiadau ehangach i economi ranbarthol y gogledd a sut, yng ngoleuni'r penderfyniad, y gellid cyfeirio cymorth at feysydd eraill o weithgarwch economaidd, er enghraifft, fel yr wyf i wedi sôn eisoes, yr adweithyddion modiwlar bach a seilwaith digidol.

Credaf ei bod hi'n bwysig hefyd ein bod ni'n gwybod beth fydd Llywodraeth y DU yn ei wneud i gynorthwyo datblygiad sgiliau a'r gadwyn gyflenwi yn ystod y cyfnod oedi. Yn ogystal â bod yn bwysig i'r gogledd—mae'n bwysig i Gymru gyfan ac, yn wir, mae'n lledaenu ymhellach: mae'n bwysig i'r arc niwclear gyfan ac i ddiogelwch ynni Prydain.

Diolch. Mae gen i ddau siaradwr arall, ac os y gwnân nhw addo i mi mai dim ond gofyn cwestiynau y byddan nhw, byddaf yn galw ar y ddau ohonyn nhw. Mark Isherwood.

Diolch. [Chwerthin.] Diolch. Cwestiwn: beth wnewch chi ei ddweud nawr i dynnu yn ôl eich datganiad yr wythnos diwethaf bod Prif Weinidog y DU wedi bod yn Japan yr wythnos flaenorol a ddim wedi codi hyn, pryd yr oedd Prif Weinidog Japan yn Llundain mewn gwirionedd, ac y cadarnhawyd ganddi yn Nhŷ'r Cyffredin ei bod hi wedi, fel y gwnaeth Ysgrifennydd Gwladol Cymru, a gadarnhaodd ei fod yntau hefyd wedi cyfarfod â hi yn Nhŷ'r Cyffredin? Atebodd gwestiwn i Ian Lucas yn cadarnhau ei bod hi wedi. Ac, o ystyried bod hyn yn cynyddu'r angen am fargen twf, pa drafodaethau ydych chi wedi eu cael, neu y byddwch chi'n eu cael, gydag Ymchwil ac Arloesi yn y DU, y corff sydd â chyllid o £7 biliwn ar gyfer cyllideb gyfunol at ddibenion fel hyn, yr wyf i'n deall y gallai fod yn hygyrch i gynorthwyo'r adweithyddion modiwlaidd bach ac adweithyddion modiwlaidd uwch i helpu i lenwi unrhyw fwlch sy'n cael ei greu ac i ysgogi Trawsfynydd a gogledd-orllewin Cymru fel canolfan Ewropeaidd, ac o bosibl fel un o ganolfannau blaenllaw'r byd, ar gyfer datblygu adweithyddion modiwlar bach ac adweithyddion modiwlar uwch?

Edrychwch, dylwn i ddweud ar y cychwyn na fydd datblygu adweithyddion modiwlar bach yn gwneud iawn am y golled bosibl o 9,000 o swyddi ar draws y gogledd a gweddill Cymru. Yn syml, ni fydd yn gwneud hynny. Bydd yn cyfrannu at lenwi'r bwlch, ond nid yw un prosiect yn unig, mae arnaf i ofn, yn fwled arian. Wrth gwrs, mae Innovate UK wedi chwarae rhan fawr mewn gweithgareddau yma yng Nghymru yn ddiweddar. Rydym ni'n chwilio am bob un cyfle i gael gafael ar gyllid cystadleuol ar gyfer ymchwil a datblygu ac arloesi yng Nghymru, ac, fel y mae'r Aelod yn gwbl ymwybodol, rwy'n siŵr, rydym ni'n defnyddio swyddfeydd y Llywodraeth yn Llundain erbyn hyn fel yn ffenestr siop ar gyfer arloesedd Cymru er mwyn tynnu sylw at yr hyn sy'n digwydd yn ein sefydliadau ymchwil.

Ac o ran y trafodaethau a gynhaliwyd neu na chynhaliwyd rhwng Prif Weinidog Japan a Phrif Weinidog y DU, mae'n ymddangos bod datganiadau croes i'w gilydd yn cael eu gwneud. Er mwyn egluro'n union yr hyn a ddywedwyd, efallai y byddai'n ddefnyddiol gwybod beth oedd ymateb Prif Weinidog Japan i ymholiadau tybiedig gan Theresa May.

13:50

A gaf i ofyn pa oleuni y gallai hyn ei daflu ar y cyfleoedd ar gyfer datblygiadau ynni eraill yn y gogledd, a morlyn llanw Gogledd Cymru yn arbennig, prosiect a allai, wrth gwrs, greu hyd at 20,000 o swyddi, sydd â'r potensial i wneud cyfraniad sylweddol at anghenion ynni Cymru a'r DU ehangach, ac sydd, yn ôl y cwmni sydd wedi cynnig y prosiect hwn, â diddordeb sylweddol gan fuddsoddwyr ledled y byd ac a all ddarparu'r ynni hwn am bris fforddiadwy? Mae'n ymddangos i mi fod cyfle yma y gallem ni o bosibl ei ystyried fel dewis arall yn hytrach na Wylfa, o gofio iddo gael ei roi o'r neilltu am y tro, ac roeddwn i'n meddwl tybed pa waith y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud gyda Llywodraeth y DU er mwyn gwneud cynnydd ar y cynllun amgen hwn, a fyddai, wrth gwrs, hefyd yn dod â manteision ychwanegol o ran diogelwch rhag llifogydd ar gyfer arfordir y gogledd.

Ie. Rwy'n cydnabod y pwyntiau a wnaed gan yr Aelod dros Orllewin Clwyd. Rwy'n credu ei bod hi yr un mor bwysig i ailddatgan pwysigrwydd dod o hyd i fodel ariannu ffafriol ar gyfer sector ynni'r môr os ydym ni'n mynd i fwrw ymlaen ag unrhyw un o'r cynigion a roddwyd ar y bwrdd, boed hynny yn ardal bae Abertawe neu yn y gogledd. Rwy'n ymwybodol o nifer o gynigion ar gyfer morlynnoedd llanw ledled Cymru. Rwy'n gobeithio y caiff y rhain eu hymchwilio ymhellach yn yr uwchgynhadledd ynni'r môr sy'n cael ei chynnal yn Abertawe yr wythnos nesaf, sydd, yng ngoleuni'r penderfyniad gan Hitachi, ag arwyddocâd ychwanegol erbyn hyn rwy'n credu.

Rwy'n credu mai'r hyn y mae hefyd yn bwysig ei ddweud am forlynnoedd llanw yw bod yn rhaid i ni archwilio nid yn unig eu potensial i greu swyddi a chreu datblygiad economaidd ac nid yn unig ystyried eu swyddogaeth o ran darparu ynni glân, adnewyddadwy, ond hefyd eu swyddogaeth o ran adeiladu lleoedd a diffinio lleoedd, o bosibl. Rwy'n credu yr hoffai pob un ohonom ni yn y Siambr hon—wel, y rhan fwyaf ohonom ni yn y Siambr hon, yn sicr—yn hoffi i Gymru gael ei chydnabod fel y wlad ynni adnewyddadwy. Er mwyn cyrraedd y pwynt hwnnw, nid wyf i'n credu y dylem ni—ac mae risg bob amser y bydd hyn yn digwydd—roi un rhanbarth mewn cystadleuaeth yn erbyn rhanbarth arall yng Nghymru neu un prosiect yn erbyn y llall. Credaf ei bod hi'n deg i ddweud yr hoffai'r rhan fwyaf o bobl yn y Siambr hon weld sawl morlyn llanw ledled Cymru, ac yr hoffai'r rhan fwyaf o bobl yn y Siambr hon weld amrywiaeth o ffynonellau ynni adnewyddadwy yn cael eu defnyddio mor eang a chyn belled â phosibl.

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Awn i eitem 1 ar yr agenda, felly, a chwestiynau i'r Prif Weinidog. Daw'r cwestiwn cyntaf y prynhawn yma gan Michelle Brown.

Ymosodiadau Rhyw

1. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud o'r rheswm pam mae'r gyfradd ymosodiadau rhyw yn uwch yng Nghymru na'r nifer cyfartalog ar gyfer y DU? OAQ53273

Mae asesu'r gyfradd ymosodiadau rhyw yn gymhleth, a chaiff cyfraddau adrodd eu heffeithio gan amrywiaeth eang o ffactorau. Mae Llywodraeth Cymru yn trafod yn rheolaidd y cyfraniad y gall gwasanaethau cyhoeddus datganoledig ei wneud yn y maes hwn gyda chomisiynwyr heddlu a throseddu ac eraill.

Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Mae menyw sydd wedi mynd yn feichiog yn sgil treisiad yn wynebu cyfres o benderfyniadau y byddai'r rhan fwyaf o bobl yn ei chael yn annealladwy o anodd eu gwneud. Dylai allu fod yn sicr nad yw gorfod gweld y sawl a wnaeth ei threisio nac iddo fod yn rhan o fywyd ei phlentyn yn y dyfodol yn ffactor y mae angen ei ystyried wrth wneud unrhyw un o'r penderfyniadau hynny. Yn ddiweddar, mae Sammy Woodhouse, rhywun sydd wedi goroesi trais a chylch paratoi plant i bwrpas rhyw, sy'n magu'r mab y gwnaeth hi feichiogi ag ef yn sgil trais, wedi annog Llywodraeth y DU i newid y gyfraith er mwyn sicrhau nad yw tadau sy'n dreiswyr yn ennill hawliau dros blant eu dioddefwyr. Roedd yn 15 oed pan gafodd ei threisio a dod yn feichiog.

Mae fy swyddfa i wedi bod mewn cysylltiad â Sammy, sydd erbyn hyn yn defnyddio ei phrofiadau yn ddewr i ymladd dros newid i fenywod fel hi ar draws y DU, gan gynnwys Cymru, ac mae hi eisiau i mi ofyn i chi a fyddai eich Llywodraeth yn cefnogi newid cyfraith o'r fath. Rwy'n sylweddoli bod cyfraith teulu wedi ei chadw yn ôl, ond rwy'n siŵr y byddai cefnogaeth foesol Llywodraeth Cymru ar y mater yn golygu llawer i Sammy a'r menywod y mae hi'n siarad ar eu rhan. Felly, Prif Weinidog, a wnewch chi ychwanegu eich llais at fy llais i ac at lais Sammy i wneud yn siŵr na chaiff tadau plant sy'n cael eu geni yn sgil trais neu gam-drin byth gael mynediad at eu plant yn groes i ewyllys y fam a dreisiwyd?

Wel, Dirprwy Lywydd, mae bron yn amhosibl dychmygu'r trallod a achosir i unrhyw unigolyn o dan yr amgylchiadau y mae'r Aelod newydd eu hamlinellu. Mae hi'n iawn, wrth gwrs, bod y newid i'r gyfraith a geisir yn rhywbeth mai dim ond Llywodraeth y DU sydd â'r awdurdod i'w wneud. Pe byddai gan yr Aelod wybodaeth y byddai'n bosibl ei rhannu â'm swyddfa i er mwyn darparu rhywfaint o gefndir ychwanegol i'r achos a godwyd ganddi ar y llawr y prynhawn yma, byddwn yn fodlon iawn i ystyried hynny yn y cyd-destun a godwyd ganddi.

13:55

Prif Weinidog, mae ymosodiadau rhyw a throseddau tebyg eraill yn erbyn unigolyn yn enghreifftiau erchyll o gorneli tywyllaf a mwyaf cythryblus ein cymdeithas, pa un a yw'r dioddefwr yn ddyn, yn fenyw neu'n blentyn. Mae triniaeth o'r fath yn wrthun, yn anghyfreithlon ac yn sicr yn anfoesol. Yn ogystal ag ymosodiadau rhyw, fodd bynnag, mae gennym ni gyfradd hysbys sy'n bryderus o uchel o gam-drin domestig a thrais rhywiol ledled Cymru a Lloegr. Yn wir, yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2018, dioddefodd tua 2 filiwn o oedolion 16 i 59 oed gam-drin domestig yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae hynny'n 695,000 o ddynion ac 1.3 miliwn o fenywod. Nawr, o ran yr olaf, dywedodd y Farwnes Hale, llywydd y Goruchaf Lys, yn ddiweddar:

Mae trais a cham-drin domestig yn dal i fod yn rhy gyffredin o lawer ac, yn ôl astudiaeth ddiweddar, yn rheswm mynych pam mae menywod yn colli eu plant i'r system ofal erbyn hyn.

Prif Weinidog, a wnewch chi egluro pa gamau eraill y gellir eu cymryd? Rwy'n sylweddoli bod wedi llawer o waith wedi ei wneud gan eich Llywodraeth Cymru yn flaenorol, ond mae angen gwneud mwy. Felly, pa gamau wnewch chi eu cymryd i sicrhau bod gostyngiad i nifer yr ymosodiadau rhyw yng Nghymru a cham-drin domestig a thrais rhywiol, a, lle ceir prawf o gam-drin dioddefwyr, nad ydyn nhw wedyn yn gweld eu plant yn cael eu colli i'r system ofal ledled Cymru?

Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn atodol pwysig yna. Mae yn llygad ei lle bod llawer iawn o waith wedi ei wneud ar draws y Siambr hon, gan gynnwys rhoi Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 ar y llyfr statud. Fe ddilynwyd hynny. Rydym ni wedi hyfforddi 135,000 o weithwyr proffesiynol i adnabod arwyddion trais domestig yma yng Nghymru fel nad yw'n mynd heb ei adrodd neu heb gael sylw, ac rydym ni'n buddsoddi £5 miliwn yn y flwyddyn ariannol hon mewn grantiau o dan y Ddeddf honno i awdurdodau lleol a sefydliadau trydydd sector i allu gwneud yn siŵr ein bod ni'n gallu gwneud gwaith dilynol ar y materion y mae'r Aelod wedi eu codi.

Bydd hi'n gwybod fy mod i wedi cyfeirio yn y gorffennol at y cyfraddau y mae plant yn cael eu cymryd oddi wrth eu teuluoedd yma yng Nghymru, ac mae amgylchiadau pan fo menywod yn colli eu plant o ganlyniad i gam-drin y maen nhw wedi ei ddioddef yn amlwg yn annerbyniol fel cam gweithredu a bydd yn rhan o bwyslais newydd yr wyf i eisiau i'r Llywodraeth ei roi ar wneud yn siŵr ein bod ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i helpu teuluoedd trwy gyfnodau anodd ac i helpu teuluoedd i aros gyda'i gilydd, yn hytrach na meddwl mai cymryd plant oddi wrth deuluoedd yw'r ffordd orau bob amser o ymateb i anhawster a thrallod.

Diolch. Cwestiwn 2—rwyf i wedi cytuno y bydd cwestiwn 2 a chwestiwn 7 yn cael eu grwpio, felly cwestiwn 2, Leanne Wood.

Y Gyfradd Carcharu

2. Sut y mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb i ffigurau sy'n dangos mai yng Nghymru y mae'r gyfradd garcharu uchaf yng ngorllewin Ewrop? OAQ53272

7. Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi eu cael yng ngoleuni ffigurau sy'n dangos mai yng Nghymru y mae'r gyfradd garcharu uchaf yng ngorllewin Ewrop? OAQ53267

Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. Dirprwy Weinidog, cafodd Jane Hutt gyfarfod â Dr Robert Jones, awdur yr adroddiad ffeil ffeithiau y mae Leanne Wood yn cyfeirio ato, ar 17 Ionawr i drafod ei ganfyddiadau allweddol. Byddwn yn parhau i weithio'n agos â'r Weinyddiaeth Gyfiawnder i ystyried yr adroddiad yn llawn a deall beth y mae hyn yn ei olygu i Gymru.

Mae'r adroddiad a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru yn dangos bod gennym ni'r gyfradd garcharu uchaf yn Ewrop, ac mae, mewn gwirionedd, ddwywaith yn fwy na chyfradd ardal ogleddol Iwerddon. Hefyd wedi ei chynnwys yn yr adroddiad mae'r ffaith bod y gyfradd garcharu uchel hon er gwaethaf y ffaith bod gan Gymru gyfradd droseddu is na Lloegr bob blwyddyn rhwng 2013 a 2017. O fy nghefndir fel cyn swyddog prawf, gwn yn uniongyrchol y dinistr y gall dedfrydau o garchar ei achosi i bobl. Gall roi terfyn ar yrfaoedd, gall chwalu priodasau, gall arwain at ddigartrefedd. Mae'n amlwg nad yw system cyfiawnder troseddol San Steffan yn gweithio i Gymru. Yn wir, mae'n ymddangos ei bod yn cosbi Cymru. A wnewch chi wthio i gael datganoli'r system cyfiawnder troseddol fel blaenoriaeth allweddol i'ch Llywodraeth, er mwyn atal mwy o fywydau rhag cael eu difetha yng Nghymru? Ac a wnewch chi gytuno i wthio am i'r gwasanaeth prawf cyfan gael ei ailuno o fewn y sector cyhoeddus, oherwydd, heb ddewisiadau dedfrydau cymunedol diogel, mae'r gyfradd garcharu yn siŵr o godi?

14:00

Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn atodol pwysig yna, ac rwy'n cytuno â llawer iawn o'r hyn a ddywedodd wrth gyflwyno'r cwestiwn. Mae'r darlun cyffredinol o ran cyfiawnder troseddol yng Nghymru a Lloegr wedi bod yr un fath ers bron i chwarter canrif. Mae cyfraddau troseddau a gofnodir yn gostwng, mae llai o bobl yn ymddangos gerbron y llysoedd, ac eto mae mwy o bobl yn cael eu hanfon i'r carchar ac am fwy o amser. Nid yw honno'n gyfres dderbyniol o amgylchiadau i Lywodraeth Cymru, ac mae'n arbennig o annerbyniol yn yr amgylchiadau y cyfeiriodd Leanne Wood atyn nhw, pan, er enghraifft, fel y mae'r ffeil ffeithiau yn ei ddweud wrthym ni, fod chwarter y menywod sy'n cael eu hanfon i'r carchar yng Nghymru yn cael eu hanfon i'r carchar am lai na mis. Ac eto, mewn mis, gallwch golli eich cartref, gallwch golli eich swydd, gallwch golli eich plant—yn y modd y nododd Janet Finch-Saunders—ac mae'r rhain am droseddau di-drais ac, mewn rhai achosion, am droseddau sy'n cael eu cyflawni am y tro cyntaf. Nid yw hynny o fudd i neb. Nid yw o fudd i'r unigolyn, y dioddefwyr, na'r gymdeithas yn gyffredinol.

Hoffwn, Dirprwy Lywydd, fabwysiadu dull ymarferol o ddatganoli'r system cyfiawnder troseddol. Nid wyf eisiau i ni beidio â chael y camau ymarferol y gallem ni eu cymryd drwy chwilio am rywbeth sydd y tu hwnt i'n gallu i'w gyflawni. Felly, rwy'n credu bod tri maes y dylem ni ddechrau â nhw fel pwyslais. Dylem ni geisio datganoli'r system cyfiawnder ieuenctid, dylem ni geisio datganoli'r gwasanaeth prawf i Gymru, a dylem ni geisio pwerau newydd o ran troseddwyr benywaidd. Dyna'r rhannau o'r system cyfiawnder troseddol sydd agosaf at y cyfrifoldebau sydd wedi'u datganoli eisoes a lle y gallem ni wneud y gwahaniaeth mwyaf uniongyrchol. Rwy'n credu, mewn ffordd ymarferol, y dylem ni ganolbwyntio ar yr agweddau hynny yn gyntaf, ac os gallwn ni sicrhau eu bod yn cael eu datganoli i Gymru, yna byddwn yn gallu symud ymlaen o'r fan honno i'r agweddau eraill a fyddai'n dilyn.

Diolchaf i'r Prif Weinidog am ei ymatebion i Leanne Wood. Rwy'n teimlo, Dirprwy Lywydd, bod yn rhaid i mi gyfleu bod angen ychydig mwy o uchelgais arnom. Rwy'n deall yn llwyr yr hyn y mae'r Prif Weinidog yn ei ddweud, o'r safbwynt os gallwn ni gael cyfiawnder ieuenctid wedi'i ddatganoli yn gyflym iawn, ac os gallwn ni gael pwerau ychwanegol o ran troseddwyr benywaidd, byddai hynny i'w groesawu. Ond mae hynny'n dal i adael—. Dynion sy'n oedolion yw mwyafrif y bobl sy'n mynd i mewn i'r system carchardai mewn gwirionedd, ac rydym ni'n ymwybodol o'r effaith ddinistriol y gall hynny ei chael arnyn nhw ac ar eu teuluoedd, wrth gwrs, fel y mae e'n ei ddweud yn briodol.

O ran y gwasanaeth prawf, rwy'n siŵr bod y Prif Weinidog yn ymwybodol bod cyfraddau salwch swyddogion prawf yn yr elfennau o'r gwasanaeth sydd wedi eu preifateiddio dair gwaith yn uwch na'r rhai yn y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol. Mae'n amlwg nad yw'n system sy'n gweithio, ac er fy mod i'n croesawu'n fawr y camau sy'n cael eu cymryd tuag at greu gwasanaeth prawf Cymru, fy nealltwriaeth i yw, ar hyn o bryd, y byddai hwnnw'n cynnwys gwaith un i un gyda throseddwyr yn unig. Nawr, os ydym ni'n mynd i leihau, fel y mae'r Prif Weinidog wedi nodi y mae'n dymuno ei wneud, cyfradd y dedfrydau o garchar yng Nghymru, mae'n rhaid i ni gael cosbau cymunedol adsefydlu cryfach a mwy credadwy. Felly, yn rhan o'i waith i geisio datganoli'r gwasanaeth prawf, a wnaiff ef geisio fel mater o frys sicrhau bod cyfrifoldebau am waith grŵp a'r hyn a alwyd yn wasanaeth cymunedol am waith di-dâl — sydd, wrth gwrs, yn cael ei ystyried fel dedfryd gredadwy gan y gymuned, gan eu bod yn gallu gweld yr elfen o gosb yn hynny o beth—yn cael eu cynnwys mewn unrhyw ddatblygiadau o wasanaeth prawf Cymru, oherwydd fel arall bydd gennym ni system ranedig ac ni fyddwn yn gallu bod yn gyson?

Diolchaf i Helen Mary Jones am y cwestiwn dilynol yna. Dylwn fod wedi dweud yn fy ateb i Leanne Wood fy mod i, wrth gwrs, yn cefnogi'n llwyr ailuno'r ddwy ran a wahanwyd o'r gwasanaeth prawf. Er fy mod i'n croesawu'r camau sydd eisoes yn cael eu cymryd o ran y gwasanaeth prawf yng Nghymru, mae mwy y mae angen i ni ei wneud, a mynd y tu hwnt i'r prosbectws hwnnw. Ac rydym ni'n gwybod, Dirprwy Lywydd—yr hyn sy'n achosi rhwystredigaeth yw ein bod ni'n gwybod beth sy'n gweithio: rydym ni'n gwybod bod system lle mae gennym ni'r arallgyfeiriad mwyaf posibl o'r system i ymyrraeth gynnar ac atal; pan fydd angen ymyrryd, rydym ni'n ymyrryd ddim ond mewn modd cwbl angenrheidiol; ac rydym ni'n rheoli'r system gyfan. Bydd newid y ffordd y mae'r system yn gweithio bob amser yn gynt na cheisio newid unigolion y tu mewn iddi. Ac rydym ni'n gwybod bod hynny'n gweithio, oherwydd mae'r ffigurau yn y ffeil ffeithiau yn dangos hynny—ond mewn meysydd eraill, gan gynnwys dynion ifanc, nid ydym yn gwneud cystal ag mewn meysydd eraill—ym maes cyfiawnder ieuenctid, mae'r cyflawniadau yng Nghymru yn fwy na'r rhai y tu hwnt i'n ffiniau. Felly, rydym ni'n gwybod bod gennym ni bresgripsiwn sy'n gweithio; rydym ni'n gwybod bod gennym ni bresgripsiwn sy'n diogelu dioddefwyr ac yn hyrwyddo diogelwch cymunedol.

Rwyf i eisiau bod yn uchelgeisiol, Dirprwy Lywydd, yn y maes hwn, hefyd, ond yn arbennig, rwyf i eisiau bod yn cyflawni . Rwyf i eisiau i ni wneud y pethau hynny yr ydym ni'n gwybod fydd yn gwneud gwahaniaeth ac yn gwneud y gwahaniaeth hwnnw yn y modd mwyaf uniongyrchol, a chanolbwyntio ar yr agweddau hynny ar y system cyfiawnder troseddol sydd agosaf at y cyfrifoldebau sydd gennym ni eisoes, rwy'n credu, yw'r modd y byddwn ni'n gweld cynnydd yn y maes hwn.

14:05

Prif Weinidog, rydych chi eisoes wedi sôn bod un o bob pedair o fenywod yn derbyn dedfrydau o lai na mis, ond amlygodd yr adroddiad hefyd bod mwy na 68 y cant o'r dedfrydau hynny am flwyddyn neu lai—dedfrydau byr iawn—ac, fel y cyfryw, mae angen i ni edrych ar y canllawiau ar gyfer hynny. Nawr, ddoe, roeddwn i'n croesawu'r penderfyniad a'r cyhoeddiad gan y Gweinidog yn Llundain i ddweud mewn gwirionedd nad oedd y carchar mawr ym Mhort Talbot yn ddichonadwy mwyach, ei fod yn sgrap i bob pwrpas, ond yn siomedig dros ben wedyn i glywed ei fod yn dal i ystyried carchardai mawr mewn mannau eraill yn ne Cymru.

Mecanweithiau warysu yn unig yw carchardai mawr. Nid ydyn nhw'n helpu unigolion i roi'r gorau i aildroseddu. Felly, os ydym eisiau cymryd camau yn Llywodraeth Cymru, mae ffordd hawdd o wneud hynny: peidiwch â gweithio gyda Llywodraeth y DU ar fwy o garchardai mawr. A wnewch chi gyfleu i'r Weinyddiaeth Gyfiawnder nad yw Llywodraeth Cymru yn cytuno â charchardai mawr fel ateb, bod ganddi wahanol ddulliau, ac, yn wir, bod angen i ni geisio lleihau'r canllawiau dedfrydu hyn fel nad oes yn rhaid i gymaint o bobl fynd yno yn y lle cyntaf?

Wel, gadewch i mi gytuno â'r hyn y mae David Rees wedi ei ddweud. Rydym ni eisiau i lai o bobl fynd i'r carchar yn y lle cyntaf. Nid wyf i'n credu mai adeiladu mwy o garchardai yw'r ffordd iawn o ddatrys yr argyfwng yn ein system cyfiawnder troseddol. Rwy'n cydnabod yn llwyr fod pobl yn cael eu cadw mewn amodau yng Nghymru ac yn Lloegr nad ydyn nhw'n dderbyniol yn yr unfed ganrif ar hugain. Abertawe yw'r degfed carchar mwyaf gorlawn yng Nghymru a Lloegr, ac nid yw'r amodau Fictoraidd y mae pobl yn cael eu cadw ynddynt mewn rhannau o'r ystâd carchardai yn dderbyniol ac mae angen gwneud yn siŵr bod y rheini'n cael eu disodli, ond nid adeiladu mwy o garchardai yw'r ateb. Cefais fy atgoffa o'r hyn a ddywedodd Alexander Paterson—comisiynydd carchardai yn y 1920au—pan ddywedodd:

Lle bynnag y bydd carchardai yn cael eu hadeiladu, bydd Llysoedd yn gwneud defnydd ohonynt. Os nad oes carchar ar gael, mae'n bosibl y bydd rhyw ffordd arall o ymdrin â'r troseddwr yn cael ei darganfod.

Roedd hynny'n wir 100 mlynedd yn ôl, ac mae'n wir eto heddiw. Fe wnaed yn eglur ein barn ni fel Llywodraeth Cymru ar ddatblygu carchardai mawr yma yn ne Cymru y llynedd ym mis Ebrill a mis Tachwedd. Nid ydym ni wedi cael unrhyw drafodaeth bellach gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder ar y mater hwn ers hynny. Mae fy nghyd-Aelod Jane Hutt yn ceisio cael cyfarfod â'r Gweinidog dros gyfiawnder a Gweinidogion yn y Swyddfa Gartref i drafod yr adroddiad ffeil ffeithiau, a bydd yn gyfle i ailddatgan ein safbwynt wyneb yn wyneb.

Rydym ni eisoes yn gwybod, wrth gwrs, y bydd y gwasanaeth carchardai a'r gwasanaeth prawf yng Nghymru yn gyfrifol am y system brawf eto o 2020 yng Nghymru, gyda phwyslais ar gymunedau, dedfrydu cymunedol ac adsefydlu. Ond, o ystyried bod y dadansoddiad gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru yr oedd y cwestiwn hwn yn ymwneud ag ef yn wreiddiol wedi canfod bod cyfanswm y dedfrydau o garchar yn Lloegr rhwng 2010-17 o dan system cyfiawnder troseddol San Steffan, fel y'i galwyd yn gynharach, wedi gostwng gan 16 y cant, ond wedi cynyddu gan 0.3 y cant, a bod y dedfrydau o garchar a orfodwyd gan ynadon yng Nghymru wedi cynyddu gan 12 y cant, pa ddeialog wnewch chi geisio ei gael, efallai, gyda'r farnwriaeth, gyda'r ynadaeth, i ddarganfod eu rhesymau am hyn yng Nghymru, pan fy mod yn gwybod, flynyddoedd lawer ôl, wrth dderbyn tystiolaeth mewn pwyllgor Cynulliad, pan ganfuwyd gwahaniaethau daearyddol tebyg, y cyflwynwyd achos ganddynt i ni yr oeddem yn gallu ei ystyried?

Wel, Dirprwy Lywydd, rwyf i wedi cael cyfle i drafod yr adroddiad yn gryno gyda'r Arglwydd Thomas, sy'n arwain y comisiwn ar gyfiawnder a sefydlwyd yma yng Nghymru, cyn-uwch farnwr, ac mae'n cynnig llinell uniongyrchol o wybodaeth i ni am feddylfryd dedfrydwyr yn y maes hwn. Mae'r rheswm pam y mae cyfraddau wedi cynyddu yn y ffordd y maen nhw yng Nghymru yn fater cymhleth. Mae hinsawdd o farn fwyfwy cosbol y mae rhai dadansoddwyr yn cyfeirio ato. Mae newidiadau i ddeddfwriaeth, yn sicr. Rhoddwyd dros 3,000 o droseddau newydd ar y llyfr statud mewn 10 mlynedd rhwng 1997 a 2007. Rydym ni yn y Cynulliad hwn wedi rhoi troseddau newydd ar y llyfr statud yn y gwaith yr ydym ni'n ei wneud. Mae effeithiau canllawiau dedfrydu a dyfarniadau canllaw sydd wedi cael yr effaith o gynyddu hyd dedfrydau, yn bendant, ac mae mater, fel y mae rhai dedfrydwyr wedi cyfeirio ato, y dirywiad mewn ffydd yn y gwasanaeth prawf. Dywedais yn fy ateb i Leanne Wood ein bod ni wedi croesawu cryfhau'r gwasanaeth prawf, magu hyder, mewn ymgynghoriad â'r Weinyddiaeth Gyfiawnder yr haf diwethaf. Byddwn yn gwneud yr hyn a allwn o fewn hynny, ond rydym ni eisiau mynd ymhellach.

14:10

Teimlaf fod yn rhaid i mi godi i amddiffyn yr ynadon. Er ein bod ni'n cydnabod mai prin yw'r grym sydd gan Lywodraeth Cymru i ddylanwadu ar ystadegau o'r fath, a yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi bod canllawiau llym wedi eu pennu ar gyfer ynadon a barnwyr sy'n eistedd ynghylch y dewisiadau dedfrydu? Gyda llaw, ynadon sy'n ymdrin â 95 y cant o'r holl achosion troseddol. Mae'n rhaid i ynadon gyfeirio hefyd at yr argymhellion a amlinellir gan adroddiadau prawf. Fy mhrofiad i fel ynad am dros 13 mlynedd oedd nad oedd neb yn cael eu hanfon i'r carchar oni bai fod pob dewis arall wedi ei archwilio'n llawn neu ei roi ar waith. Dim ond pan oedd unigolyn yn gwrthod ymgysylltu neu gydweithredu o ran y dewisiadau yn hytrach na charchariad, neu pan oedd troseddau lluosog, neu pan oedd y troseddau o natur ddifrifol iawn yr oedd dedfryd o garchar yn cael ei ystyried. Fodd bynnag, mae llawer y mae'r system cyfiawnder troseddol yn ymdrin â nhw na fyddai fyth yno pe byddai digon o ymyraethau eraill ar waith, yn enwedig o ran problemau iechyd meddwl. Onid yn y fan yma y mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru gydnabod ei chyfrifoldebau a gwneud yn siŵr bod asiantaethau ar waith i atal pobl rhag dod yn rhan o'r system cyfiawnder troseddol yn y lle cyntaf?

Rwy'n sicr yn ategu'r pwynt olaf a wnaeth yr Aelod. Wrth gwrs, sicrhawyd ein llwyddiant ym maes cyfiawnder ieuenctid drwy wneud yn siŵr bod gwasanaethau dargyfeiriol cryf ar gael y gall ynadon gyfeirio pobl ifanc atynt, a darperir y gwasanaethau hynny i raddau helaeth iawn trwy gyrff datganoledig. Mae'r Aelod yn iawn wrth gyfeirio at effaith canllawiau dedfrydu y mae'n rhaid i ynadon weithio yn unol â nhw, ond rwy'n credu y byddai'n rhaid iddo gydnabod bod y ffenomen o gyfiawnder yn ôl daearyddiaeth yn un real. Yn nhudalennau agoriadol y ffeil ffeithiau, mae'r awdur yn cyfeirio at y ffaith bod amrywiadau mwy mewn dedfrydau yn Lloegr nag sydd rhwng Cymru a Lloegr. Mae'r rhai hynny ohonom sydd wedi gweithio yn y maes yn gwybod yn iawn yma yng Nghymru y bydd diwylliant llys arbennig yn golygu bod rhywun yn cael ei ddedfrydu yn wahanol i'r modd y byddai wedi cael ei ddedfrydu pe byddai wedi ymddangos gerbron gwahanol fainc o ynadon â gwahanol hanes a diwylliant y tu ôl iddyn nhw. Dyna'r hyn y mae'n rhaid i ni geisio mynd i'r afael ag ef, i wneud yn siŵr pan fyddwn ni'n siarad â dedfrydwyr am y gwaith anodd y maen nhw'n ei wneud, ein bod ni'n llwyddo i wneud yn siŵr bod yr arfer gorau, yr ydym ni'n gwybod sy'n bodoli, yn cael ei ddilyn gan bawb.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Diolch. Symudwn nawr at gwestiynau gan yr arweinwyr. Arweinydd yr wrthblaid, Paul Davies, sydd gyntaf y prynhawn yma.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno â mi bod y Cynulliad hwn yn gweithio ar ei orau pan fo pleidiau yn dod at ei gilydd i wella bywydau holl bobl Cymru ar y cyd?

Dirprwy Lywydd, rwy'n cael fy nghalonogi bob amser gan yr achlysuron hynny pan ein bod ni'n gallu gweithio ar draws y pleidiau yn y fan yma. Ceir enghreifftiau da iawn lle'r ydym ni wedi gwneud hynny, ond rydym ni'n cydnabod hefyd bod gan bob plaid yn y Cynulliad hwn safbwyntiau cryf ar faterion ac na fyddan nhw bob amser yn cyfateb.

Wel, mae gen i ofn bod gweithredoedd yn well na geiriau, Prif Weinidog, oherwydd mae eich arweinydd, Jeremy Corbyn, yn gwrthod eistedd wrth y bwrdd gyda Phrif Weinidog y DU i drafod goblygiadau Brexit, ac, yr wythnos diwethaf, gwelsom lwythgarwch dim ond er mwyn llwythgarwch gan eich plaid a'ch Llywodraeth yn y lle hwn, pan wnaethoch chi bleidleisio yn erbyn y Bil awtistiaeth. Ar ôl methu—[Torri ar draws.] Ar ôl methu â gweithio gyda mi—ar ôl methu â gweithio gyda mi na—

—pleidleisiodd eich plaid yn erbyn darn hanfodol o ddeddfwriaeth a fyddai wedi sicrhau gwelliannau gwirioneddol i fywydau pobl ag awtistiaeth. Dehonglwyd canfyddiadau'r adroddiadau pwyllgor, a safbwyntiau rhanddeiliaid eraill, mewn ffordd benodol gan eich Gweinidog iechyd er mwyn gwneud achos dros bleidleisio yn ei erbyn, ac rydym ni i gyd yn gwybod mai un o'r rhesymau pam na allai'r Pwyllgor Cyllid wneud argymhelliad cadarnhaol na negyddol ar y Bil hwn yw oherwydd na wnaeth Llywodraeth Cymru ddarparu'r wybodaeth berthnasol a hanfodol. [Torri ar draws.] Felly—

14:15

Iawn. Diolch. [Torri ar draws.] Esgusodwch fi. Ni wnaf i dderbyn pobl yn pwyntio ar draws y Siambr at unrhyw un, o ble bynnag y daw, ac ni wnaf i dderbyn unrhyw gymorth gan bobl am yr hyn sy'n dderbyniol neu beidio. Fi fydd yn gwneud dyfarniad ar yr hyn sy'n dderbyniol. Apeliais yr wythnos diwethaf i ni ymgymryd â gwleidyddiaeth fwy caredig. Mae hynny'n berthnasol i bawb. Ewch ymlaen.

Diolch, Dirprwy Lywydd.

A allwch chi, felly, Prif Weinidog, wneud ymrwymiad heddiw os nad yw'r cod ymarfer yr ydych chi'n ei gyflwyno yn bodloni anghenion pobl ag awtistiaeth, yna bydd eich Llywodraeth yn cyflwyno'r ddeddfwriaeth angenrheidiol?

Dirprwy Lywydd, rwy'n credu bod gan y Llywodraeth hon hanes canmoladwy o weithio gydag Aelodau mewn pleidiau eraill pan geir cynigion y gallwn ni eu cefnogi. Yn wir, roeddwn i'n gyfrifol am ymateb i'r Bil lefelau diogel staff nyrsio yn y Cynulliad diwethaf, Bil meinciau cefn â chefnogaeth eang ar draws y Cynulliad, pryd y gwnaed llawer iawn o waith rhwng y Llywodraeth ac Aelodau mewn gwahanol bleidiau yn y fan yma i gael y darn hwnnw o ddeddfwriaeth ar y llyfr statud yn ddiogel. Roedd y sefyllfa yr wythnos diwethaf yn wahanol. Roedd safbwynt y Llywodraeth yn eglur. Mae cyfres o gamau yr ydym ni'n eu cymryd yr ydym ni'n credu y byddant yn cael effaith lawer mwy sylweddol ar wella gwasanaethau i bobl ag awtistiaeth a'u teuluoedd nag y byddai wedi cael ei sicrhau pe byddai'r Bil wedi symud yn ei flaen. Amlinellodd y Gweinidog y rheini'n ofalus yn ystod y ddadl honno—y ffaith ein bod ni'n mynd i gael cod ymarfer statudol, y bydd y gwasanaeth awtistiaeth integredig ar gael ym mhob rhan o Gymru, bod yn rhaid i ni ganiatáu i Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 a basiwyd gan y Cynulliad hwn gael ei heffaith. Gwnaeth y Gweinidog gyfres o ymrwymiadau i barhau i adrodd i'r pwyllgor ac ar lawr y Cynulliad o ran hynt y ddeddfwriaeth honno, a dywedodd—fe'i clywais yn dweud ar y llawr hwn yn ystod y ddadl honno—pan fydd yr agweddau hynny wedi cael cyfle i ymsefydlu, i aeddfedu, os ar ddiwedd hynny bod pethau y gellir eu gwneud drwy ddeddfwriaeth, nid yw ein meddyliau wedi eu cau i hynny. Os byddwn yn gwneud hynny yn y modd y soniodd yr Aelod amdano gyntaf yn ei gwestiwn cychwynnol, credaf fod gwell siawns y bydd teuluoedd ledled Cymru yn cael y math o wasanaeth y maen nhw ei eisiau, a byddwn yn well ein byd os byddwn yn parhau i geisio gweithio ar yr agenda gyffredin honno, yn hytrach na defnyddio'r fforwm hwn fel ffordd o daflu bai.

Wel, rwy'n falch bod y Prif Weinidog wedi cadarnhau heddiw, yn amlwg, os nad yw'r cod ymarfer yn gweithio ac nad yw'n effeithiol, yna bydd ei Lywodraeth yn cyflwyno deddfwriaeth. Ond mae mater ehangach ar waith yn y fan yma, Prif Weinidog—diwylliant cynyddol o fewn eich rhengoedd i beidio ag ymgysylltu â chynigion a ddaw o'r meinciau gyferbyn. Ni ddarparodd eich Llywodraeth wybodaeth hanfodol i'r pwyllgor, ac nid ydych chi wedi nodi manylion penodol yn ymwneud â'ch cod ymarfer. Mae hyn er gwaethaf y ffaith ei bod yn ddyletswydd ar eich Llywodraeth i fod yn agored ac yn dryloyw ynghylch sut y gwneir penderfyniadau mewn gwirionedd. Yn fy marn i, o ystyried eich methiant i ddarparu'r wybodaeth hon, nid yw'n eglur nac yn dryloyw i mi pam y gwnaethoch chi bleidleisio yn erbyn y darn hwn o ddeddfwriaeth yn y lle cyntaf.

Nawr, yfory, mae fy nghyd-Aelod Darren Millar yn cyflwyno cynigion i gyflwyno Bil hawliau pobl hŷn sydd â chefnogaeth sylweddol gan randdeiliaid a gweithwyr proffesiynol i wneud hawliau pobl hŷn yn ganolog i'n gwasanaethau cyhoeddus. A wnewch chi ddysgu gwersi nawr o'ch triniaeth wael o'r Bil awtistiaeth a phleidleisio o blaid y cynnig yfory a gweithio'n adeiladol gyda ni i graffu ar y ddeddfwriaeth hon mewn modd teg ac agored?

Dirprwy Lywydd, rwy'n credu bod gan Aelodau'r Cynulliad hwn fynediad heb ei ail at Weinidogion sydd yn y Llywodraeth. Mae maint ein sefydliad, nifer y cyfleoedd sydd gan Aelodau i ymgysylltu â Gweinidogion yn y prosesau ffurfiol sydd gennym ni ac yn y cyfarfodydd niferus y mae aelodau'r Llywodraeth yn cytuno eu cynnal gydag Aelodau ar draws y Siambr gyfan hon—rwy'n gwrthod yn llwyr yr awgrym y mae'r Aelod yn ei wneud nad ydym ni'n ymateb, ac ymateb yn gadarnhaol, i syniadau y mae Aelodau eraill o'r Cynulliad hwn yn eu cyflwyno i'w harchwilio. Ond dywedaf hyn, a byddaf yn ei roi ar y cofnod eto: pan fo Aelod—Aelod o feinciau cefn y Cynulliad hwn—yn llwyddo mewn pleidlais ac yn cyflwyno Bil, cyfrifoldeb yr Aelod hwnnw yw darparu'r wybodaeth sy'n angenrheidiol i'r Cynulliad graffu ar y cynigion hynny. Nid cyfrifoldeb y Llywodraeth yw darparu gwybodaeth y mae'r Aelod hwnnw wedi derbyn cyfrifoldeb am ei darparu drwy'r weithred o gyflwyno'r Bil hwnnw. Yn union fel y mae Aelodau o'r Cynulliad hwn yn disgwyl yn gwbl briodol i'r Llywodraeth ddarparu gwybodaeth lawn ochr yn ochr â Biliau yr ydym ni'n eu darparu, a beirniadu'r Llywodraeth o bryd i'w gilydd pan fyddwch chi'n credu nad ydym ni wedi gwneud hynny'n foddhaol, mae'r rheolau yn y fan yma yn eglur: pan fydd Aelod o'r meinciau cefn yn cyflwyno Bil, cyfrifoldeb yr Aelod hwnnw yw cyflwyno'r wybodaeth ategol, mewn ffordd sy'n caniatáu i Aelodau eraill y Cynulliad graffu ar y Bil hwnnw yn llawn—[Torri ar draws.]

14:20

A gaf i ddweud unwaith eto—? Rydym ni wedi gofyn am wleidyddiaeth fwy caredig. A gaf i ofyn i chi fyfyrio ar sut y byddwn ni'n cael y wleidyddiaeth fwy caredig honno? Nid drwy weiddi ar ein gilydd. Dyma fydd fy adduned blwyddyn newydd, felly byddwch chi'n dysgu yn gyflym iawn—dyna fy adduned blwyddyn newydd—neu'r cwbl y byddwn ni'n ei wneud yw parhau i ailadrodd yr un peth. Ond rwy'n dechrau blino braidd ar bobl yn gweiddi ar draws y Siambr.

Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.

Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf i ofyn i'r Prif Weinidog: beth yw strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer buddsoddi cyfalaf yn ein heconomi, pan fo'r tri phrif brosiect a nodwyd yn wreiddiol yn 'Ffyniant i Bawb' yn annhebygol o ddigwydd erbyn hyn? Gwrthodwyd y morlyn llanw yn Abertawe gan Lywodraeth y DU. Mae Wylfa Newydd ar Ynys Môn, fel y clywsom yn gynharach, wedi cael ei ohirio gan y Japaneaid. Mae'r trydydd—ffordd liniaru'r M4—yn ôl y rhan fwyaf o sylwedyddion profiadol, yn debygol o gael ei ganslo gennych chi. Roedd yn eglur o neithiwr nad oes gan Mrs May gynllun wrth gefn. Y cwestiwn cyn belled ag y mae strategaeth economaidd Cymru yn y cwestiwn yw: a oes gennych chi? A oes piblinell sy'n llawn i'r ymylon o brosiectau economaidd eraill a fydd yn cael effaith fawr ar economi Cymru, yno, yn barod i fynd? Neu a oes gwagle wrth wraidd eich cynlluniau buddsoddi erbyn hyn, yn ogystal ag wrth wraidd eich syniadau?

Dirprwy Lywydd, mae gennym ni, wrth gwrs, strategaeth buddsoddi cyfalaf. Fe'i hadnewyddwyd y llynedd, a deuthum ar lawr y Cynulliad, fel y Gweinidog Cyllid, i gyflwyno'r buddsoddiadau ychwanegol yr ydym ni'n eu gwneud yn rhan o raglen buddsoddi yn seilwaith Cymru. Yr un buddsoddiad mwyaf y byddwn ni'n ei wneud fel Llywodraeth yn ystod tymor y Cynulliad hwn yw'r £1.4 biliwn y byddwn ni'n ei fuddsoddi yn ein rhaglen tai, i ddarparu 20,000 o gartrefi fforddiadwy ychwanegol yma yng Nghymru. Y tu hwnt i hynny, mae gennym ni metro de Cymru, rhaglen buddsoddi cyfalaf mawr yma yn y de-ddwyrain; mae gennym ni raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, sy'n cyfrannu mwy o arian nag erioed o'r blaen i ysgolion a cholegau, i wneud yn siŵr eu bod yn addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain; mae gennym ni'r un buddsoddiad mwyaf erioed mewn prosiect iechyd unigol yn ysbyty athrofaol Grange; ac mae gennym ni biblinell ar gyfer ymhell y tu hwnt i hynny.

Rwyf i wedi cyflwyno gerbron y Pwyllgor Cyllid droeon y strategaeth a ddilynais o ran buddsoddiad cyfalaf, gan ddefnyddio bob amser y math rhataf o gyfalaf sydd ar gael i bwrs y wlad yma yng Nghymru yn gyntaf, ond yn mynd y tu hwnt i hynny mewn cyfres o ffyrdd, trwy fuddsoddiadau arloesol mewn cyfalaf, gan gynnwys y model buddsoddi cydfuddiannol. Trueni nad oes mwy o gyfalaf ar gael i'r Llywodraeth Cymru hon, oherwydd mae gennym ni uchelgeisiau y byddai caniatâd i ni eu cyflwyno pa byddai Llywodraeth y DU yn fodlon buddsoddi yng Nghymru, yn hytrach na syrthio'n ôl ar raglenni y mae wedi eu cyhoeddi ac yna siomi Cymru.

Chlywais i ddim cydnabyddiaeth yn y fan yna yn ymateb y Prif Weinidog i lawer o'r gwaith dadansoddi a welsom gan y cyfryngau mewn ymateb i'r cyhoeddiad diweddaraf, bod gan Gymru enw, onid oes, fel y wlad lle mae prosiectau mawr yn mynd i farw? Mae'n ymddangos bod anallu i fwrw ymlaen â phrosiectau gweddnewidiol mawr. Clywsom iaith gweddnewid unwaith eto gan Weinidog yr economi, ond lle mae gweithrediad hynny? Cawsom ffiasgo Cylchffordd Cymru, ond dim ond un enghraifft yw honno dros lawer iawn o flynyddoedd.

Onid rhan o'r broblem, o ran y tri phrosiect penodol y cyfeiriais atynt, yn rhannol neu'n llwyr, yw ein bod ni'n aml yn dibynnu ar benderfyniadau a wneir gan eraill? Os hoffech chi, rydym ni'n rhoi ein hwyau ym masged rhywun arall. Ac felly, mae ein strategaeth economaidd yn cael ei hysgogi'n gyson gan rymoedd o'r tu allan i Gymru. Nawr, gwn mai eich safbwynt chi eich hun yw mai'r ateb i broblemau Cymru yn y pen draw yw ethol gwahanol lywodraeth yn San Steffan, ond dyna oedd diben datganoli i fod. Felly, pryd ydym ni'n mynd i weld, Prif Weinidog, strategaeth economaidd ymreolus, uchelgeisiol, gynhenid nad yw'n ddibynnol ar yr hyn y mae pobl eraill yn ei benderfynu ar ein cyfer, ond yn seiliedig yn hytrach ar yr hyn yr ydym ni'n benderfynol o'i wneud drosom ein hunain?

14:25

Wel, Dirprwy Lywydd, mae gen i olwg llawer mwy gobeithiol o Gymru bob amser nag y bydd yr Aelod byth yn ei gynnig i ni ar lawr y Cynulliad, ac nid wyf i'n meddwl am funud ei bod hi o gymorth i Gymru i ailadrodd y math o chwedlau y mae'r wasg adain dde yn Llundain yn eu lledaenu, am Gymru fel rhywle lle mae prosiectau yn mynd i farw. Mae'n hurt. Mae'n hurt ym mhob rhan o Gymru, lle bydd pobl yn gweld y buddsoddiadau yr ydym ni'n eu gwneud mewn cyfleusterau cyhoeddus, mewn seilwaith trafnidiaeth, mewn masnachfraint rheilffyrdd gwerth £5 biliwn, mewn canolfan gonfensiwn newydd a fydd yn dod â gweithgarwch i Gymru o rannau eraill o'r Deyrnas Unedig.

Mae ei safbwynt yn ymddangos yn rhyfedd i mi bob amser. Mewn byd byd-eang, mae ef eisiau dadlau dros Gymru ymreolaethol. Penderfyniadau cyfalaf a llifoedd cyfalaf yn terfynu, rywsut, ar ein ffin, ond pe byddem ni'n gyfrifol am y pethau hyn, byddem ni'n gallu gwneud gwahanol benderfyniadau gan lywodraethau Japaneaidd ac eraill sy'n gwneud y penderfyniadau hyn mewn rhannau eraill o'r byd. Rwy'n arddel gwahanol farn iddo ef; rwy'n credu ein bod ni'n gwneud yn llawer gwell yng Nghymru nag y mae ef byth yn barod i'w gydnabod, ac nid wyf i'n credu am eiliad y byddai ei uchelgeisiau i wahanu Cymru oddi wrth weddill y Deyrnas Unedig a'n gwneud ni, gan ddefnyddio ei dermau ef, yn 'ymreolaethol' yn ein helpu mewn unrhyw ffordd i greu'r math o ddyfodol i'n gwlad yr hoffem ni ei weld.

Wel, yn ysbryd gwleidyddiaeth fwy caredig, efallai y gallaf i helpu'r Prif Weinidog. Yn ddiweddarach y prynhawn yma, bydd gennym ni gyfres o ddatganiadau ar gynllunio i liniaru effaith Brexit heb gytundeb. Mae un maes sy'n rhyfedd o absennol, sef yr economi. Nawr, mae'r Canghellor yn San Steffan wedi cadarnhau y byddai ysgogiad cyllidol brys mewn achos o Brexit heb gytundeb, tebyg i'r un a ddefnyddiwyd gan Gordon Brown ar adeg yr argyfwng ariannol. Nawr, does bosib nad oes angen cynllun tebyg ar Lywodraeth Cymru, ac yn sgil y newyddion ynghylch Ford a Wylfa, rydym ni ei angen ar frys. Felly, pam na wnawn ni ofyn i Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru sydd newydd gael ei sefydlu nodi prosiectau mawr ledled Cymru yn rhan o raglen buddsoddiad cyfalaf gwerth sawl biliwn? Gallech chi ariannu hynny trwy eich bond Llywodraeth Cymru newydd eich hun—mewn achos trychinebus o ddim cytundeb, bond Brexit y gallai dinasyddion Cymru ei brynu i chwarae eu rhan yn y gwaith o helpu i ailadeiladu economi Cymru. Dyma'r union fath o ymateb creadigol a chydweithredol a arweiniodd, yn ystod yr argyfwng economaidd diwethaf, at syniadau fel ProAct a ReAct a chyfres o uwchgynadleddau economaidd brys yn ysbryd tîm Cymru.

Ond wyddoch chi, Prif Weinidog, mae angen capten ar dîm Cymru, ac mae angen cynllun arno. Rwyf i wedi clywed Gweinidog yr economi yn cyflwyno rhestr hirfaith o bosibiliadau ar gyfer Cymru, ac yn eu plith oedd Cymru'n dod yn gartref i dechnoleg heb yrrwr. Ar hyn o bryd, mae gennym ni Lywodraeth heb yrrwr, ac o ganlyniad i hynny, mae gennym ni economi heb yrrwr hefyd.

Wel, cyn belled ag y mae datganiadau bachog yn y cwestiwn, ni aeth yn bell iawn, Dirprwy Lywydd, naddo?

Wrth gwrs bod gennym ni gynllun, ac wrth gwrs bod gennym ni biblinell o brosiectau. Fe'u cyflwynwyd gerbron y Cynulliad gennym y llynedd, rydym ni'n ei adnewyddu drwy'r amser, ac rydym ni'n sicr yn ei ystyried yng nghyd-destun penderfyniadau a wneir yn Wylfa ac yng nghyd-destun Brexit. Ond, Dirprwy Lywydd, mae Cymru angen capten, ond mae Cymru angen capten sydd o leiaf yn deall y rheolau, oherwydd rwyf i wedi clywed yr Aelod yn cynnig ei syniad bond i ni lawer gwaith ar lawr y Cynulliad hwn, ac fel y gŵyr yn iawn, nid yw bondiau Cymru yn ychwanegu yr un bunt at ein gallu i fuddsoddi mewn prosiectau cyfalaf. Mae'n gwybod yn iawn mai'r rheolau yw y byddai hynny'n cyfrif yn erbyn ein holl fuddsoddiadau cyfalaf eraill a'r cwbl y byddai'n ei wneud fyddai cymryd lle arian arall, rhatach yr ydym ni eisoes yn ei fwynhau. Nid yw'n syniad sy'n ymarferol am eiliad.

Nawr, mae rhai pethau y mae'r Aelod wedi eu dweud y prynhawn yma nad wyf i'n anghytuno â nhw. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn i ni gynllunio ymlaen llaw. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn bod gennym ni biblinell, y mae'n cyfeirio ati, ond nid yw'n helpu neb i dynnu allan o'r awyr, a'i gyflwyno fel pe byddai'n ateb i'n problem, syniad nad yw'n gwneud unrhyw gyfraniad o gwbl.

14:30

Diolch, Dirprwy Lywydd. Prif Weinidog, cyfeiriodd Adam Price yn gryno at fater Brexit yn ei gwestiynau. Fel y mae'r ddau ohonom ni'n ei wybod, mae 66 diwrnod ar ôl cyn y disgwylir i'r DU ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. Mae Theresa May wedi diystyru gohirio'r dyddiad ymadael. Mae hi hefyd wedi diystyru ail refferendwm, felly y sefyllfa fel y mae hi yw ein bod ni'n gadael yr UE ar 29 Mawrth. O ystyried hynny Prif Weinidog, a fyddai'n syniad da pe byddai Llywodraeth Cymru yn derbyn y canlyniad hwn erbyn hyn a chanolbwyntio ar baratoi ar gyfer y Brexit heb gytundeb yn hytrach na cheisio atal Brexit rhag digwydd?

Wel, Dirprwy Lywydd, bydd gweddill y prynhawn yn helpu i roi ateb i gwestiwn yr Aelod. Wrth gwrs, nid yw Llywodraeth Cymru yn derbyn, ac ni fydd yn derbyn, ein bod ni ar lwybr anochel i'r drychineb y byddai Brexit heb gytundeb i Gymru. Fel Llywodraeth gyfrifol, rydym ni'n gwneud y pethau y mae'r aelodau o gwmpas y Siambr hon wedi gofyn i ni ei wneud, sef paratoi ar gyfer y gwaethaf, a byddwch yn clywed y prynhawn yma y llawer o bethau yr ydym ni'n eu gwneud fel Llywodraeth. Ond nid ydym ni'n derbyn ein bod ni i gyd rywsut wedi ein clymu i drên y mae'r Prif Weinidog wedi ei gychwyn ac nad oes unrhyw ddewis arall i ni ond rhuthro dros yr ymyl gyda hi? Wel, wrth gwrs nad ydym ni.

Gwn fod llawer o ddatganiadau y prynhawn yma, ac rwy'n falch mewn gwirionedd bod datganiadau yn cael eu gwneud mewn ffordd, oherwydd mae elfen yn yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddweud, o'r safbwynt eich bod chi'n gwneud paratoadau ar gyfer Brexit, yr ydym ni'n ei groesawu'n fawr iawn ar yr ochr hon i'r Siambr. Ond, ar yr un pryd, rydych chi'n dal i lynu at y syniad hwn yr ydych chi newydd ei fynegi unwaith eto, y gallwch chi helpu rywsut i orfodi ail refferendwm ac atal Brexit rhag digwydd. Nawr, pam fyddech chi eisiau gwneud hynny pan fo gennych chi fandad democrataidd eglur gan y rhan fwyaf o bleidleiswyr Cymru, a bleidleisiodd i adael yr UE? Yn gryno, pam ydych chi mor benderfynol o fynd yn groes i'r hyn y pleidleisiodd pobl Cymru drosto? A pham ydych chi wedi cael gwared ar fusnes diwrnod cyfan yma heddiw, er mwyn ymroi i raddau helaeth i ddiwrnod o brosiect ofn?

Wel, Dirprwy Lywydd, rwy'n credu bod cyfraniad yr Aelod wedi dechrau trwy groesawu'r datganiadau sydd gerbron y Cynulliad y prynhawn yma a'r ffaith ein bod ni'n paratoi ar gyfer sefyllfa derfynol yr ydym ni'n sicr ddim eisiau ei gweld, ac yna wedi disgrifio'r un peth mewn termau codi bwganod. Dirprwy Lywydd, gadewch i mi fod yn eglur: o ddiwrnod y refferendwm, dywedodd y Prif Weinidog blaenorol—a chefais innau'r cyfle i'w ategu yn aml—bod Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio nid ar ffaith Brexit, ond ar ffurf Brexit. Roedd ffaith Brexit wedi cael ei rhoi gerbron y bobl mewn refferendwm, ond ceir llawer o wahanol bosibiliadau o ran y ffordd yr ydych chi'n gadael yr Undeb Ewropeaidd ac mae ar sbectrwm eang iawn. Rydym ni'n parhau i gredu ei bod hi'n bosibl y gallai Tŷ'r Cyffredin ddod o hyd i dir cyffredin a fyddai'n cefnogi math o Brexit a fydd yn cyd-fynd â'r un a nodwyd gennym ni ynghyd â Phlaid Cymru yn 'Diogelu Dyfodol Cymru'. Rydym ni hefyd wedi dweud os bydd Tŷ'r Cyffredin yn methu â gwneud penderfyniad ac na all sicrhau ffordd drefnus o adael yr Undeb Ewropeaidd, yna mae'n rhaid mai trosglwyddo'r penderfyniad yn ôl i'r bobl iddyn nhw gael y gair olaf fyddai'r ffordd y byddai hynny'n cael ei ddatrys.

Wel, rwyf i wir yn cwestiynu pa un a yw ewyllys y bobl sy'n eistedd yn Nhŷ'r Cyffredin yn drech na phobl y Deyrnas Unedig, sydd eisoes wedi mynegi eu barn ar y mater hwn. Ac fel y gwnaethpwyd yn eglur gan David Cameron pan roddodd y refferendwm hwn i ni yn y lle cyntaf, roedd i fod yn bleidlais a oedd yn mynd i rwymo Tŷ'r Cyffredin. Amhosibl yn gyfansoddiadol efallai, ond dylech chi o leiaf ymgysylltu â'r hyn y mae mwyafrif pobl y DU, ac yn wir, pobl Cymru, wedi pleidleisio drosto. Felly, gofynnaf i chi eto: rwyf i yn hoffi elfen o'r datganiadau hyn—mae'n rhaid i ni wneud cynlluniau wrth gefn ar gyfer gadael, ac rwy'n falch eich bod chi'n gwneud hynny—ond a gaf i ofyn i chi os gwelwch yn dda, wrth symud ymlaen, os ydym ni'n mynd i gael 12 wythnos o hyn, a allwch chi ganolbwyntio ar y cynlluniau wrth gefn eu hunain ac nid ar geisio atal Brexit, a cheisio atal yr hyn y pleidleisiodd pobl Cymru drosto?

14:35

Wel, fel yr wyf i wedi ei ddweud, Llywydd, nid wyf i'n meddwl am eiliad mai bwriad gweithredoedd y Llywodraeth Cymru hon oedd atal canlyniad y refferendwm; bu'r holl drafodaethau ynghylch sut yr ydym ni'n gadael yr Undeb Ewropeaidd, a'r ffordd y byddwn ni'n gadael yr Undeb Ewropeaidd, yr amodau y byddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd yn unol â nhw. Efallai fod gennym ni wahanol safbwyntiau o gwmpas y Siambr hon ynghylch y ffordd orau y gellir gwneud i Brexit ddigwydd, ond dyna yr ydym ni wedi bod yn ei drafod yr holl amser. Nawr, ceir llawer o bobl sydd, wrth i realiti'r hyn y bydd hynny'n ei olygu yn eu taro, yn dod i weld synnwyr yr hyn a ddywedodd y Llywodraeth hon wrth bobl yng Nghymru yn y cyfnod cyn y refferendwm—bod dyfodol Cymru yn cael ei sicrhau orau trwy aelodaeth barhaus o'r Undeb Ewropeaidd. Ac os bydd yn amhosibl i Dŷ'r Cyffredin gytuno ar ffordd drefnus y gall Brexit ddigwydd, nid wyf i'n gweld sut mewn unrhyw ffordd nad yw'n weithred ddemocrataidd mynd yn ôl at bobl y Deyrnas Unedig a chael eu barn ar y ffordd orau o ddatrys hynny.

Cyfradd Troseddwyr

3. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch y gyfradd o droseddwyr yng Nghymru? OAQ53276

Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn. Yn y flwyddyn ddiweddaraf y mae ffigurau ar gael ar ei chyfer, cynyddodd troseddau a gofnodwyd, ond parhaodd troseddau hunan-adroddedig i ostwng. Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am ddata ar gyfraddau troseddu, ac rydym ni'n parhau i weithio gyda Gweinidogion y DU i sicrhau bod dealltwriaeth briodol o fuddiannau Cymru yn y maes hwn.

Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Fel y dywedodd Leanne Wood yn gynharach, mae'r adroddiad diweddar ar niferoedd sy'n cael eu dedfrydu yng Nghymru yn arbennig o syfrdanol, o gofio bod y gyfradd droseddu yma yn is nag yn Lloegr. Mae Cymdeithas Genedlaethol y Swyddogion Prawf yng Nghymru wedi amlygu bod dedfrydu priodol ac adsefydlu effeithiol yn hanfodol i ddatrys y broblem. Fe wnaeth diwygiadau gweddnewid adsefydlu trychinebus Llywodraeth y DU, ddifa'r gwasanaeth prawf, methu'r cyhoedd ac amddifadu troseddwyr o gyfleoedd adsefydlu. A wnaiff y Prif Weinidog herio Llywodraeth y DU ar hyn, galw am wasanaeth prawf sector cyhoeddus cwbl unedig, gydag adnoddau priodol, a pha drafodaethau pellach y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cael gyda'r gwasanaeth prawf ynghylch y strategaeth lleihau aildroseddu a'r camau y gellir eu cymryd i gefnogi adsefydlu?

Diolch i Jayne Bryant am y cwestiwn. Rwy'n cytuno'n llwyr â hi bod yn rhaid i ni adennill y tir yr oedd y gwasanaeth prawf yn ei feddiannu yn draddodiadol, ac yn ei feddiannu mewn modd mor llwyddiannus. Rydym ni'n gwybod y rhoddwyd y diwygiadau gweddnewid adsefydlu i ni gan yr arwyddlun adnabyddus yna o weinyddu llwyddiannus, Chris Grayling—'failing Grayling' fel y'i hadnabyddir ar draws Dŷ'r Cyffredin—ac mae hwn yn faes arall eto pan fo ei law farw yn trosglwyddo anawsterau i'r rhai sy'n dod ar ei ôl. Nawr, mae gennym ni'r presgripsiwn cywir, rydym ni'n gwybod beth yr ydym ni eisiau ei wneud, sef yr hyn a nodwyd gan yr Aelod—gwasanaeth prawf wedi'i ailuno, gydag adnoddau priodol, a redir yn gyhoeddus, lle mae gwasanaeth cyhoeddus ac nid elw preifat yn ganolog i'r hyn y mae'r gwasanaeth hwnnw yn ei wneud. Rydym ni'n parhau i gael trafodaethau â buddiannau yng Nghymru. Y gwir ateb yw rhoi'r gwasanaeth prawf yng Nghymru o dan reolaeth y Cynulliad Cenedlaethol hwn, lle gallem ni wneud yn siŵr ei fod yn gwneud y gwaith y mae'n ei wneud yn y llysoedd ac yn cyflawni yn y gymuned hefyd.

Prif Weinidog, mae adroddiad Dr Robert Jones i Ganolfan Llywodraethiant Cymru yn dweud bod mwy o bobl yn cael eu carcharu yng Nghymru er bod gan Gymru gyfradd droseddu is na Lloegr. Ac rydym ni i gyd yn deall mai ni yw'r wlad waethaf yn Ewrop am roi troseddwyr yn y carchar, yma. Mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn ystyried gwahardd dedfrydau carchar o lai na chwe mis yng Nghymru a Lloegr, oni bai bod y ddedfryd am drosedd dreisgar neu drosedd rywiol. Prin yw'r cyfle y mae dedfrydau tymor byr yn ei gynnig i adsefydlu troseddwyr ac maen nhw'n arwain at gyfraddau uchel o aildroseddu. Prif Weinidog, pa drafodaethau mae Llywodraeth Cymru wedi eu cael gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder ar ddewisiadau eraill posibl yn hytrach na dedfrydau o garchar tymor byr yng Nghymru, os gwelwch yn dda?

Dirprwy Lywydd, a gaf i gytuno â'r hyn y mae Mohammad Asghar wedi ei ddweud, bod dedfrydau byr o garchar yn aml yn gwneud llawer iawn mwy o niwed nag y maen nhw o ddaioni, eu bod nhw'n amharu ar fywydau'r unigolion dan sylw ac yn ei gwneud yn fwy tebygol y bydd eu bywydau yn arwain at aildroseddu ar ôl cael eu rhyddhau na phe na byddai'r ddedfryd honno wedi digwydd? A byddwn yn sicr yn cael trafodaethau gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder ar y cynnig a wnaed—nid wyf i'n credu y gallwch chi fynd lawer ymhellach na hynny—ychydig ddiwrnodau yn ôl.

Rwyf i yn dweud, Dirprwy Lywydd, fod maes cyfiawnder troseddol yn frith o ganlyniadau anfwriadol, ac nid yw y tu hwnt i bosibilrwydd y byddai rhai dedfrydwyr yn ymateb i beidio â gallu traddodi dedfryd o chwe mis drwy, yn hytrach, orfodi dedfryd o naw mis, ac os na fydd hyn yn cael ei wneud yn iawn y gallech chi weld dedfrydau hwy a mwy o bobl yn cael eu llusgo drwy lymdra'r system nag a fwriadwyd, ac rwy'n sylweddoli mai bwriad awgrym y Weinyddiaeth Gyfiawnder yw y byddai llai o bobl yn mynd i'r ddalfa yn y pen draw. Felly, bydd angen ei ystyried yn ofalus. Bydd angen amddiffynfeydd i wneud yn siŵr nad oes canlyniadau anfwriadol, canlyniadau croes, yn dilyn, ond mae'r gosodiad sylfaenol yn un yr ydym ni'n cytuno ag ef ac edrychwn ymlaen at weithio gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder ar y manylion.

14:40
Tagfeydd Traffig o amgylch Casnewydd

4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ysgafnhau tagfeydd traffig o amgylch Casnewydd? OAQ53269

Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. Mae terfynau cyflymder newidiol, gwelliannau i gyffyrdd a buddsoddiad o £14 miliwn yn nhwneli Brynglas ymhlith y camau a gymerwyd eisoes i helpu i leddfu tagfeydd traffig o amgylch Casnewydd.

Ni wnaeth y Prif Weinidog sôn am un ymrwymiad mawr o faniffesto'r Blaid Lafur, a dyfynnaf:

Byddwn yn darparu ffordd liniaru ar gyfer yr M4.

Pan ofynnais i'r Prif Weinidog yr wythnos diwethaf i wneud datganiad ar ba un a yw polisi Llywodraeth Cymru ar ffordd liniaru'r M4 wedi newid ers iddo ddod i rym, ni wnaeth unrhyw gyfeiriad at y ffordd liniaru yn ei ymateb, gan ddim ond ddweud,

Ni fu unrhyw newid ers bwriad Llywodraeth Cymru i wneud gwelliannau sylweddol ar yr M4 o amgylch Casnewydd.

Eich ymrwymiad oedd darparu ffordd liniaru ar gyfer yr M4, nid dim ond rhai gwelliannau amwys o amgylch Casnewydd. Pam ydych chi wedi newid eich meddwl?

Wel, Dirprwy Lywydd, mae cynnig y ffordd liniaru wedi bod yn destun ymchwiliad cyhoeddus lleol annibynnol, y mwyaf cynhwysfawr o'i fath ar gyfer unrhyw gynllun ffordd yng Nghymru. Sicrhawyd cyngor cyfreithiol uwch o'r tu allan i Lywodraeth Cymru i sicrhau bod cyngor sy'n mynd i Weinidogion wedi ei brofi'n drylwyr a'i fod yn ymdrin â holl wahanol ddimensiynau y cynllun cymhleth hwn. Pan fydd y cyngor hwnnw ar gael, byddaf yn ei ystyried yn ofalus ac yn ddiduedd.

[Anghlywadwy.]—cytuno y bydd yn cymryd nifer o flynyddoedd iddo gael ei gwblhau. A wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried atebion, fel cyfeirio traffig o'r gogledd a chanolbarth Lloegr sy'n teithio tua'r gorllewin i ddefnyddio ffordd A465 Blaenau'r Cymoedd, gwneud lôn allanol yr M4 rhwng cyffordd 24 a chyffordd 28 ar gyfer traffig trwodd yn unig, neu gau cyffyrdd traffordd o amgylch Casnewydd?

Wel, diolch i Mike Hedges am yr awgrymiadau yna, ac mae e'n hollol iawn bod y problemau sy'n wynebu trigolion Casnewydd yn broblemau sy'n digwydd ar hyn o bryd, a phe byddai ffordd liniaru, yna byddai'n nifer o flynyddoedd cyn y byddai'r ateb hwnnw ar gael iddyn nhw. Mae hynny'n golygu bod yn rhaid i ni droi ein meddyliau yn weithredol at y camau gweithredu hynny sydd ar gael ar unwaith i ni. Bydd y gwelliannau i ffordd Blaenau'r Cymoedd—enghraifft arall o fuddsoddiad cyfalaf mawr yn cael ei gyflawni'n llwyddiannus yma yng Nghymru—yn caniatáu i draffig sy'n dymuno mynd i'r de-orllewin ddefnyddio'r llwybr hwnnw o ganolbarth Lloegr, yn hytrach na gorfod dod i lawr yr M4, a cheir cyfres o syniadau eraill, gan gynnwys y rhai a nodwyd gan Mike Hedges. Rwy'n eglur iawn y byddwn ni, fel Llywodraeth, yn gwneud ymdrech weithredol i weithredu'r pethau hynny sydd ar gael i ni ar unwaith er mwyn mynd i'r afael â'r problemau tagfeydd traffig sy'n digwydd ar hyn o bryd.

Sffêr Cyhoeddus Cymru

5. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i wella'r sffêr cyhoeddus yng Nghymru? OAQ53227

Ymhlith y camau yr ydym ni'n eu cymryd fydd y darpariaethau hynny i hyrwyddo ymgysylltu amrywiol a safonau uchel o ymddygiad yn y Bil llywodraeth leol ac etholiadau, y bydd Llywodraeth Cymru yn ei gyflwyno i lawr y Cynulliad eleni.

14:45

Bydd llawer o Aelodau yn ymwybodol o Fforwm Polisi Cymru, sy'n cynnal cynadleddau undydd yng Nghaerdydd a ledled Cymru ar faterion o ddiddordeb yn y maes cyhoeddus. Maen nhw'n codi tâl o £230 y person a TAW ar gynrychiolwyr o'r sector cyhoeddus sy'n mynychu digwyddiadau undydd. Fe'u harweinir, yn rhad ac am ddim, gan randdeiliaid allweddol, y bydd llawer ohonom yn gyfarwydd â nhw, ac fe'u cadeirir hefyd gan Aelodau yn y Siambr hon, gan gynnwys fi fy hun, yn y gorffennol. Nid yw Fforwm Polisi Cymru wedi ei leoli yng Nghymru ac mae'n rhan o gwmni sy'n masnachu fel Westminster Forum Projects Ltd, sydd â'i bencadlys yn Bracknell. Rwyf i wedi ymchwilio i'w cyfrifon cyhoeddedig a derbyniodd eu dau gyfarwyddwr, C.J. Whitehouse a P.S. Van Gelder, yn eu trefn, ddifidendau gan y cwmni o £250,000 yn 2017, £550,000 yn 2016, £350,000 yn 2017 a £642,335 yn 2016 yn eu trefn.

Felly, er fy mod i'n deall atyniad y digwyddiadau hyn, wedi bod ynddyn nhw, byddwn yn cwestiynu'n gryf eu gwerth am arian. Nid yw Westminster Forum Projects Ltd yn gwneud unrhyw gyfraniad gwreiddiol, gan ddibynnu'n llwyr ar y gwirfoddolwyr hynny, a cheir ffyrdd mwy cost-effeithiol o wella'r maes cyhoeddus yng Nghymru. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno â'r farn hon, ac a yw ef neu a oes unrhyw un o Weinidogion Llywodraeth Cymru yn bwriadu mynd i unrhyw un o'r digwyddiadau Fforwm Polisi Cymru a gynhelir yn ystod y tymor Cynulliad hwn?

Dirprwy Lywydd, a gaf i ddiolch i'r Aelod am y cwestiwn pwysig yna? Mae'n bwysig i mi ddechrau drwy ddweud fy mod i'n croesawu pob math o ddadl a thrafodaeth ar faterion polisi cyhoeddus yma yng Nghymru, ac nid oes gen i unrhyw wrthwynebiad mewn egwyddor i sefydliadau masnachol sydd eisiau bod yn rhan o'r dirwedd honno. Fodd bynnag, y cwestiwn y mae'r Aelod yn ei godi rwy'n credu yw pa un a ddylai cyfranogiad gan Weinidogion Cymru, neu, yn wir, Aelodau eraill o'r Cynulliad, fod yn rhan o fodel busnes preifat menter breifat sy'n gwneud elw. Nawr, ceir aelodau o gwmpas y Siambr mewn gwahanol bleidiau sy'n noddwyr, rwy'n credu, o'r sefydliad, a bydd llawer o Aelodau yn y fan yma wedi cymryd rhan yn ei ddigwyddiadau. Yn bersonol, o adeg gynnar yn fy nghyfnod fel Gweinidog iechyd, a byth ers hynny, penderfynais mai fy safbwynt diofyn fyddai peidio â derbyn gwahoddiadau i siarad mewn digwyddiadau o'r fath, gan ffafrio defnyddio fy amser i gyfrannu mewn digwyddiadau lle nad oedd angen i ddinasyddion Cymru dalu i glywed yr hyn sydd gennyf i'w ddweud.

Rwy'n credu bod yr Aelod wedi cydnabod yn ei gwestiynau atodol y gallai fod rhai achlysuron pan allai pwysigrwydd pwnc, neu'r cyfle i annerch cynulleidfa benodol, arwain pobl eraill i wahanol gasgliad. Yn y pen draw, rwy'n credu bod yn rhaid penderfynu ar wahoddiadau o'r fath ar sail achosion unigol. Fy safbwynt sylfaenol i yw nad wyf i'n derbyn gwahoddiadau o'r fath oni bai fod rheswm cymhellol i wneud hynny a, hyd yn hyn, nid oes amgylchiadau cymhellol o'r fath wedi codi.

Ffordd Osgoi i Gas-gwent

6. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y DU ac eraill o ran datblygu cynlluniau ar gyfer ffordd osgoi Cas-gwent? OAQ53239

Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn. Rydym ni'n parhau i weithio gyda Chyngor Sir Fynwy ar asesiad o ddewisiadau i wella llif y traffig ar hyd yr A48 a'r A466 drwy Gas-gwent. Gan fod hwn yn llwybr trawsffiniol allweddol, mae nifer o randdeiliaid yn rhan o'r trafodaethau hyn, gan gynnwys Cyngor Sir Swydd Gaerloyw.

Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Rwyf i wedi gofyn y cwestiwn hwn sawl gwaith i'ch rhagflaenydd ac, yn wir, i'r Gweinidog Economi a Thrafnidiaeth. Roedd diddymu tollau pontydd Hafren yn benderfyniad i'w groesawu'n fawr yn y de-ddwyrain ac, yn wir, coridor ehangach yr M4 yn y de, gan wella cysylltedd â de-orllewin Lloegr, ond ceir tystiolaeth ei fod yn effeithio ar lefelau traffig yng Nghas-gwent a'r cyffiniau, fel y rhagwelwyd. Byddwch yn ymwybodol bod llygredd aer yng Nghas-gwent eisoes yn uwch na therfynau Sefydliad Iechyd y Byd oherwydd tagfeydd cronig. Felly, a gaf i ofyn i chi—rwy'n croesawu'r hyn yr ydych chi wedi ei ddweud hyd yma ynghylch cydweithredu a thrafodaethau parhaus gyda Llywodraeth y DU—a allech chi sicrhau bod y trafodaethau hynny yn parhau a'n bod ni, mewn gwirionedd, yn datblygu cynllun gwirioneddol i wneud yn siŵr ein bod ni'n gweld y ffordd osgoi honno y mae wir ei hangen yn cael ei hadeiladu i'r de o Gas-gwent yn y dyfodol agos, fel y gall pobl Cas-gwent fwynhau'r math o safon byw y maen nhw'n ei haeddu ac, yn wir, nad yw cymudwyr a theithwyr cyffredinol yng Nghas-gwent yn dioddef y math o oediadau, tagfeydd a llygredd y maen nhw wedi eu dioddef hyd yma?

14:50

Dirprwy Lywydd, hoffwn ddiolch i'r Aelod am y cwestiwn atodol hwnnw a chydnabod y ffordd ddiwyd y mae'n sicrhau bod Gweinidogion a'r Cynulliad yn cael eu diweddaru ynghylch y cynigion hyn. Fe gyfarfu fy nghyd-Aelod, Ken Skates, ag arweinydd a phrif weithredwr Cyngor Sir Fynwy ddoe ac roedd hyn ymysg y materion a drafodwyd yno. Bydd asesiad dewisiadau cam 1 yn cynnwys camau gweithredu i leihau lefelau traffig. Bydd yn archwilio'r achos o blaid ffordd osgoi. Bydd yn ystyried gwelliannau i ffyrdd presennol a bydd yn ystyried mesurau a all wella ansawdd yr aer. Rydym ni'n cydnabod mai dim ond mewn ymgynghoriad â sefydliadau trawsffiniol, megis Cyngor Swydd Gaerloyw a Chyngor Dosbarth Fforest y Ddena, yn ogystal â buddiannau Cymru, y gellir cyflawni'r atebion hynny a byddwn yn parhau i wneud yn siŵr bod y gwaith hwnnw'n mynd rhagddo.

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Eitem 2 ar ein hagenda y prynhawn yma yw'r datganiad a'r cyhoeddiad busnes, a galwaf ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd, Rebecca Evans.

Bydd yr Aelodau wedi gweld o'r agenda ddiwygiedig a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf bod y Llywodraeth wedi disodli'r rhan fwyaf o'i rhaglen fusnes heddiw gyda chyfres o ddatganiadau sy'n amlinellu sut yr ydym ni'n cynllunio ar gyfer y posibilrwydd o Brexit heb gytundeb, a beth fydd effaith hynny. Caiff y busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf ei gynnwys yn y datganiad a'r cyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymysg y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.

A gaf i ofyn i'r Trefnydd am ddau ddatganiad gan y Llywodraeth heddiw, y cyntaf mewn cysylltiad â chynlluniau Trafnidiaeth Cymru i'w gwneud hi'n haws cyrraedd Lerpwl o linell rheilffordd y gogledd? Roedd Trenau Arriva Cymru yn cynllunio i gyflwyno gwasanaethau uniongyrchol i Lerpwl o ogledd Cymru ar hyd Tro Halton ym mis Rhagfyr y llynedd, sydd, wrth gwrs, wedi ei wella er mwyn ymdopi â hyn, ond eto nid oes unrhyw newyddion o gwbl gan Drafnidiaeth Cymru ynghylch pryd y bydd y gwasanaethau hynny yn cael eu hailsefydlu. Yn ôl yn y 1960au yr oedden nhw’n rhedeg y tro diwethaf ac, wrth gwrs, mae'r rhain yn eithriadol o bwysig i economi'r gogledd. Felly, byddwn yn gwerthfawrogi datganiad ynglŷn â hynny, ac efallai hefyd y gallai’r datganiad hwnnw gyfeirio at unrhyw ostyngiadau a allai fod ar gael. Yr adeg hon o'r flwyddyn, mae llawer o'm hetholwyr ac eraill yng Nghymru yn hoffi manteisio ar ostyngiadau Clwb 55—tocynnau dychwelyd rhad i unrhyw le yng Nghymru am £27. Dyna sydd wedi ei gynnig yn draddodiadol yn ystod yr adeg hon o'r flwyddyn gan Drenau Arriva Cymru. A oes cynnig tebyg am ostyngiadau tebyg gan Drafnidiaeth Cymru? Byddai'n dda clywed gan y Llywodraeth ynglŷn â hynny.

Ac yn ail, a gaf i alw am ddatganiad mewn cysylltiad â thrwyddedau torri coed? Efallai i Aelodau sylwi mai ddoe oedd Diwrnod Gwerthfawrogi’r Wiwer Goch ledled y byd, ac rwyf yn hyrwyddwr rhywogaeth y wiwer goch yma yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Byddwch yn gwybod bod y wiwer goch yn rhywogaeth sydd bron o dan fygythiad yma yn y DU, ac un o'r pethau sy'n cyfrannu at eu lleihad yw nifer amhriodol y trwyddedau torri coed sy’n cael eu caniatáu. Yn ôl Deddf Coedwigaeth 1967, ni ellir gwrthod trwyddedau torri coed ar gyfer, ac rwy'n dyfynnu, 'y diben o warchod neu gyfoethogi' fflora neu ffawna. Nawr, mae hynny’n amlwg yn peri pryder i lawer o bobl sy'n gwerthfawrogi gwiwerod coch ac unrhyw fywyd gwyllt arall mewn ardaloedd coediog a choedwigaeth, ac rwy'n credu ei bod hi’n bryd inni unioni hynny yma yng Nghymru. Mae'r cyfle gennym ni, mae’r pwerau gennym ni, rydym ni’n gallu gwneud hynny. Felly, fe hoffwn i weld datganiad yn cael ei gyflwyno. Fe wn i fod datganiad rheoli coetiroedd wedi ei ohirio o heddiw ymlaen, ond rwyf yn credu ei bod hi’n bwysig inni glywed am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â’r pryder hwn sydd gan y rhai sy’n frwdfrydig dros fywyd gwyllt ynglŷn â thrwyddedau torri coed yn benodol.

Diolch yn fawr iawn am godi'r ddau fater hynny. O ran cynlluniau Trafnidiaeth Cymru i wella gwasanaethau trawsffiniol i Lerpwl, gallaf gadarnhau y dylai'r gwelliannau hynny fod ar waith erbyn mis Mai. Rwy'n deall y bu oedi oherwydd newidiadau amserlennu. O ran y gostyngiadau, rwy'n gwybod y bydd rhai gwasanaethau trawsffiniol a fydd yn cynnig tocynnau teithio rhatach. Fe wnaf i ofyn i'r Gweinidog ysgrifennu atoch chi gyda mwy o fanylion ynglŷn â hynny.

O ran trwyddedau torri coed ac effaith hynny ar nifer y gwiwerod coch, bydd y Gweinidog yn cyflwyno datganiad ar goedwigaeth. Fel yr ydych chi'n dweud, mae wedi ei ohirio o heddiw, ond byddwn yn ei gyflwyno cyn gynted â phosib.

Trefnydd, mis diwethaf, datgelwyd bod tair ardal yn Llundain wedi derbyn mwy o arian Loteri Genedlaethol nac unrhyw ran arall o’r Deyrnas Unedig dros yr 20 mlynedd diwethaf. Mae ardaloedd San Steffan, Holborn a St Pancras, a De Islington a Finsbury wedi derbyn mwy nag £1.8 biliwn dros y cyfnod hwnnw, ar gyfradd o £4,640 y pen. Mae hyn yn fwy na 10 gwaith yr hyn a dderbyniwyd gan Gymru dros yr un cyfnod. Gyda phoblogaeth o 3.1 miliwn, gwnaeth Gymru dderbyn tua £450 yn unig y pen. Yn ddiweddar, dwi wedi derbyn pryderon gan grwpiau yn ne-orllewin Cymru—cymdeithas y pensiynwyr yng Nghraig-cefn-parc, er enghraifft—sydd wedi gweld eu ceisiadau cymharol fach am arian loteri’n cael eu gwrthod. Mae’r anghydraddoldeb yma mewn cyllid rhwng Llundain a Chymru yn amlwg yn annheg, a hoffwn, felly, ofyn i'r Dirprwy Weinidog dros ddiwylliant gyflwyno datganiad ar y mater yma o gyllid y loteri yng Nghymru. Byddai’n braf clywed pa gamau y mae’n eu cymryd a thrafodaeth mae’n eu cael gyda Llywodraeth San Steffan a’r Loteri Genedlaethol i sicrhau bod arian ar gyfer prosiectau loteri’n cael ei ddosbarthu’n fwy cyfartal ar draws y Deyrnas Unedig. Diolch yn fawr.

14:55

Diolch yn fawr am ddod â'r mater hwn i'n sylw, ac fe dderbyniais y sylwadau hynny hefyd gan gymdeithas pensiynwyr Craig-cefn-parc, sydd wedi elwa dros nifer o flynyddoedd ar gyllid i'w galluogi nhw i logi trafnidiaeth i fynd ag aelodau o'r grŵp allan ar deithiau ac ati. Ac rwy'n gwybod o ohebu â'r Gronfa Loteri Fawr eu bod yn cael rhywfaint o gyngor ynghylch sut i addasu eu ceisiadau yn y dyfodol i fodloni'r meini prawf, sydd wedi newid yn ddiweddar, i geisio creu cynlluniau sy'n fwy cynhwysol o gymunedau eraill, cyfagos. Ond byddaf yn sicr yn siarad â'r Dirprwy Weinidog i ystyried y ffordd orau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y trafodaethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cael gyda'r Gronfa Loteri Fawr.

Mae gan Lywodraeth Cymru enw rhagorol am gyflwyno deddfwriaeth flaengar ar dai yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Yn anffodus, nid yw'r gyfraith o ran troi tenantiaid allan heb fai wedi ei newid eto. A wnaiff y Llywodraeth ddatganiad sy'n amlinellu ei pholisi arfaethedig ar droi allan heb fai?

Diolch, Mike, am godi'r mater penodol hwn. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn glir iawn bod y ffordd y mae rhai landlordiaid yn defnyddio troi allan heb fai yn achosi llawer iawn o bryder inni, oherwydd bod y cyfnodau rhybudd cymharol fyr hynny yn cynyddu'r perygl y bydd rhai aelwydydd yn wynebu digartrefedd. Ar hyn o bryd, rydym ni'n ystyried sut y dylid cyflwyno'r mater hwn, ac rwy'n gwybod fod trafodaethau da eisoes wedi eu cynnal gyda sefydliadau megis Shelter, er enghraifft, a'r Gymdeithas Landlordiaid Preswyl. Ond, ochr yn ochr â'r darn hwnnw o waith, rydym ni hefyd yn datblygu cynigion cyffrous iawn sy'n ceisio cael gwared â'r rhwystrau sy'n wynebu rhai pobl wrth iddyn nhw geisio ymuno â'r sector rhentu preifat, gyda'r bwriad o agor y sector i bobl, ond hefyd i'w galluogi nhw i gael tenantiaethau mwy tymor hir. Rwy'n gwybod y bydd y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros ddigartrefedd yn cyflwyno datganiad ar ddigartrefedd a chysgu ar y stryd maes o law, pan fydd y ffigurau cysgu ar y stryd  wedi eu cyhoeddi ar gyfer eleni.

Gweinidog, a gaf i ofyn am gwestiwn gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, yn dilyn y cyhoeddiad ar yr wybodaeth ddiweddaraf gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig fis diwethaf ynglŷn â'i strategaeth i ddileu TB buchol? Mae ystadegau yn yr wybodaeth ddiweddaraf yn dangos bod difa moch daear mewn ardaloedd o Loegr lle bo'r clefyd yn endemig wedi lleihau lefel TB buchol yn sylweddol. Mae hyn yn wahanol i ardaloedd yng Nghymru sydd â lefelau TB uchel, lle bo nifer yr achosion mewn gwartheg yn sefydlog ar y gorau. O gofio bod bron i 10,000 o wartheg wedi eu difa rhwng mis Ionawr a mis Medi y llynedd, a oes gan y Gweinidog unrhyw gynlluniau i adolygu ei rhaglen i ddileu TB yng ngoleuni'r dystiolaeth sy'n dod o Loegr, os gwelwch yn dda?

Diolch yn fawr iawn. Fe fyddwch chi'n cofio, wrth gwrs, bod arweinydd eich plaid wedi cael y cyfle i sôn am ei bryderon penodol am y mater hwn wrth y Prif Weinidog yn ystod y cwestiynau i'r Prif Weinidog yn ddiweddar iawn, ond gallaf gadarnhau y bydd y Gweinidog yn cyflwyno datganiad ar ein dull o fynd i'r afael â TB buchol ym mis Ebrill.

Roeddwn i’n bwriadu gofyn am ddatganiad ynglŷn â safbwynt y Llywodraeth ar gyfiawnder troseddol. Fe glywais yr hyn a ddywedodd y Prif Weinidog yn gynharach mewn cysylltiad â’r tri maes blaenoriaeth, ac, er fy mod i'n croesawu hynny, rwyf yn bryderus bod hynny wedi achub y blaen braidd ar swyddogaeth y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru, sy’n edrych ar hyn o bryd ar yr holl ddewisiadau sy’n ymwneud â datganoli cyfiawnder troseddol, a’r sylwadau a wnaed gan y cyn-Ysgrifennydd Cabinet Alun Davies, a ddywedodd fod angen inni ddatganoli cyfiawnder troseddol fel y gallwn ni wneud pethau'n wahanol yma yng Nghymru.

Rwyf innau, wrth gwrs, yn croesawu penderfyniad Llywodraeth y DU i beidio â bwrw ymlaen â’r carchar mawr ym Mhort Talbot, ond nid yw hynny’n diogelu Cymru rhag pob perygl mewn cysylltiad â chynlluniau eraill sydd gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder o bosib ar gyfer Cymru. Felly, mae angen sicrwydd arnom ni, rwy'n credu, mewn datganiad ar wahân gan Lywodraeth Cymru eich bod yn ymwybodol o hyn ac y gallwch chi fod yn ffyddiog y bydd y comisiwn cyfiawnder yn cael ei ystyried o ddifrif ac y byddwch chi'n ystyried yr holl ddewisiadau o ran y posibilrwydd o ddatganoli cyfiawnder troseddol.

Fy ail gais yw am ddiweddariad ynglŷn â rhan Llywodraeth Cymru yn y sefyllfa bresennol sydd bellach yn deillio o werthu'r darn yna o waith celf Banksy ym Mhort Talbot. Mae cyn-swyddog diogelwch y safle wedi cysylltu â mi, sy’n dweud wrthyf fod y perchennog newydd wedi cysylltu ag ef i ofyn am gyngor ynghylch pwy sy'n gallu symud y darn celf stryd presennol, oherwydd mae yntau wedi dweud wrtho nad yw wedi cael cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru yn hynny o beth. Hoffwn gael eglurhad ynghylch a yw hynny’n wir ai peidio gan nad yw fy mherthynas â’r Dirprwy Weinidog o ran ceisio cael cyfarfod wedi bod mor ffrwythlon ag y byddwn wedi ei hoffi er mwyn sicrhau ein bod ni’n gallu cael trafodaeth gadarnhaol er mwyn deall beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud, oherwydd fe wyddom ni fod gan gyngor y celfyddydau, yr amgueddfa, arbenigedd yn y maes hwn. A’r hyn nad wyf yn dymuno ei weld yw ninnau’n ceisio symud y darn yma o waith Banksy a phethau’n syrthio'n ddarnau. Ni fyddai hynny o fudd i neb. Felly, rwy'n eich annog chi i gysylltu â’r perchennog newydd ac i ninnau, rywsut, yr Aelodau Cynulliad, gael y newyddion diweddaraf, neu’r rhai ohonom ni sydd â diddordeb, beth bynnag.

15:00

Diolch yn fawr iawn am gyflwyno'r ddau fater hynny. O ran y mater cyfiawnder, rydym ni yn deall y gallai'r Weinyddiaeth Gyfiawnder fod yn ystyried, neu'n bwriadu ystyried, safleoedd ar gyfer carchar newydd i ddynion yn y de. Fodd bynnag, rydym ni wedi ysgrifennu at y Weinyddiaeth Gyfiawnder i roi gwybod iddyn nhw na fyddwn ni'n hwyluso datblygu rhagor o garchardai heb drafodaeth ystyrlon a thrylwyr am ddyfodol yr ystâd fel rhan o ymagwedd llawer mwy cyfannol i bolisi cosb yng Nghymru. A byddwch wedi clywed y Prif Weinidog yn dweud y bydd ein cyd-Aelod, Jane Hutt, yn cyfarfod â'r Aelodau hynny sy'n gwneud gwaith cyfatebol iddi, a byddaf yn gofyn iddi ysgrifennu at Aelodau yn dilyn y cyfarfod hwnnw i roi'r wybodaeth ddiweddaraf o ran lle mae pethau arni ar ôl hynny.

O ran gwaith Banksy ym Mhort Talbot, rwyf yn ymwybodol, fel yr ydych chi'n dweud, ei fod bellach yn nwylo prynwr preifat, a gobeithir yn fawr iawn, rwy'n credu, y bydd y gwaith yn cael ei arddangos ym Mhort Talbot fel y gall pobl barhau i'w fwynhau. Fel y gwyddoch chi, mae Cadw yn ymdrin â threfniadau diogelwch ar y safle ar hyn o bryd. Byddaf yn siarad â'r Dirprwy Weinidog i weld pa oleuni pellach sydd ganddo ynglŷn â hyn. 

Daeth y Llywydd (Elin Jones) i’r Gadair.

Trefnydd, a gaf i ofyn am ddatganiad ynglŷn â ffordd osgoi'r Drenewydd, os gwelwch yn dda? Yn ddealladwy, mae pobl yn awyddus i wybod pryd fydd traffig yn cael ei defnyddio, ac rwyf innau’n awyddus i wybod beth yw’r cynlluniau swyddogol ar gyfer y seremoni agoriadol. Mae’r prosiect £90 miliwn—ac rwy'n ailadrodd hynny, y prosiect £90 miliwn—wedi bod yn llwyddiant ysggubol ac mae'n ffrwyth buddsoddiad enfawr gan Lywodraeth Cymru, Llywodraeth Lafur, yn y canolbarth a'r gorllewin, yn fwy nag a wnaeth unrhyw Lywodraeth arall yn fy nghyfnod i yn cynrychioli’r ardal hon. A byddai'n briodol ac yn addas pe byddai hynny’n cael ei adlewyrchu yn y trefniadau ar gyfer y dadorchuddiad mawr. Ac rwy'n gofyn, pan fyddwn yn cael y dadorchuddiad mawr hwn, a allem ni dynnu sylw at y gwaith sydd wedi ei wneud ar brentisiaethau a hyfforddiant—oherwydd dyna’r gwaddol y byddwn yn ei adael i’r bobl ifanc a dyfodol yr ardal honno—a hefyd, sut yr ydym ni'n cysylltu hynny â’r buddsoddiad yr ydym ni'n mynd i’w wneud a’r hyfforddiant a fydd yn digwydd ar bont Dyfi.

Rwy'n gwybod y bydd y Gweinidog trafnidiaeth yn gwybod y bu rhai ymgyrchoedd ynghylch enwi rhannau o'r cynllun, er enghraifft, pontydd, ac yn y blaen, fel ffordd o farchnata'r Drenewydd yn fwy eang. Felly, byddai'n dda iawn clywed mwy am hynny gan wahodd pob plaid i gyfrannu efallai fel eu bod nhw’n gweld mewn gwirionedd bod gennym ni gynllun i fuddsoddi ym mhob rhan o Gymru, gan gynnwys y buddsoddiad enfawr hwn yn y canolbarth. 

Diolch yn fawr iawn i Joyce Watson. Rwyf yn falch o ddweud ein bod ni'n hyderus y bydd ffordd osgoi Y Drenewydd yn agored i draffig o fewn y ddau fis nesaf, ar yr amod, wrth gwrs, nad oes problem annisgwyl rhwng nawr a phryd hynny. Mae'r prosiect £95 miliwn hwn wedi gwneud cynnydd rhagorol, ac fel y mae Joyce Watson yn dweud yn gwbl briodol, mae'n dangos buddsoddiad gwirioneddol yn y canolbarth gan Lywodraeth Cymru. Rwy'n credu bod gwaddol parhaus hynny o ran pwysigrwydd prentisiaethau a hyfforddiant, yn bwysig iawn, ac mae angen inni ystyried sut y byddwn ni'n defnyddio'r buddsoddiad hwnnw mewn pobl yn awr i ddatblygu prosiectau pwysig eraill yn yr ardal.

Rydym ni wedi gofyn i Gyngor Sir Powys a chyngor y dref i ymgynghori â phobl leol ar y cynigion i enwi'r strwythurau hynny ar hyd y ffordd, a phan fydd ychydig o hoff ddewisiadau ar gyfer hynny, bydd rhywfaint o ymgynghori pellach yn ei gylch. O ran manylion penodol y seremoni agoriadol, byddan nhw'n cael eu cyhoeddi yn nes at y dyddiad cwblhau.

15:05

A gaf i ofyn, os gwelwch yn dda, am un datganiad llafar—nid yn awr, ond cyn pen fawr o dro, gobeithio—ynghylch Grant Byw'n Annibynnol Cymru? Ddiwrnod ar ddeg yn ôl, roeddwn i’n cadeirio cyfarfod y Grŵp Trawsbleidiol ar Anabledd, y grŵp Cynulliad, yn y gogledd. Roedd y lle yn orlawn, a gofynnwyd imi gan bobl a ddaeth i’r cyfarfod a fyddwn i’n sôn am y mater hwn eto yn y Senedd, ac, rwy'n dyfynnu:

i geisio cael atebion, oherwydd bod amser yn brin.

Rydym ni'n gwybod, pan gafodd y Gronfa Byw'n Annibynnol ei datganoli gan Lywodraeth y DU yn Lloegr i awdurdodau lleol, ac yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon i’r llywodraethau perthnasol, bod yr Alban wedi lansio Independent Living Fund Scotland i sicrhau bod gan y sawl fydd yn elwa o'r cynllun ddewis a rheolaeth. Penderfynodd Gogledd Iwerddon ymuno â chynllun yr Alban, a dywedodd pobl anabl a grwpiau anabl yng Nghymru eu bod nhw’n dymuno bod yn rhan hefyd, ond yn lle hynny, rhoddodd Llywodraeth Cymru yr arian i’r awdurdodau lleol. Ym mis Mai y llynedd, dywedwyd wrthym ni mewn datganiad ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru bod awdurdodau lleol yn dweud bod y rhan fwyaf o bobl yn derbyn cymorth tebyg i’r hyn yr oedden nhw'n ei gael gyda’u taliadau Cronfa Byw’n Annibynnol, gyda dim materion sylweddol wedi eu crybwyll, ond rydym ni'n gwybod, ers hynny, y bu cryn sôn am bobl anabl yn dioddef oherwydd y penderfyniadau a wnaed.

Pwynt penodol y gofynnwyd imi sôn amdano yn y cyfarfod yn Wrecsam gan ystafell orlawn o bobl yr oedd y rhan fwyaf ohonyn nhw’n anabl eu hunain, oedd pwysleisio bod a wnelo hyn â’r gwahaniaeth rhwng aros mewn gwely a chodi o'r gwely, rhwng cael swper a pheidio â chael swper, rhwng bod â rheolaeth a chael eich rheoli. Roedden nhw’n dweud, 'Dydyn nhw ddim yn deall pwysigrwydd un gair i bobl anabl, “annibyniaeth”, a'r effaith ar iechyd meddwl a lles', a'u gallu i ryngweithio â'r gymdeithas. Profiad o fyw yw hynny, a fynegwyd eto gan Nathan Davies yn y cyfarfod yn y gogledd, sydd wedi arwain ymgyrch Grant Byw'n Annibynnol Cymru ar ran y rhai sy'n derbyn y grant—gan gynnwys ef ei hun, ond llawer iawn o bobl eraill hefyd.

Wrth inni nesáu at y pwynt terfynol ar hyn, pan na fydd neb yn cael Grant Byw'n Annibynnol, a wnewch chi fel Llywodraeth, am unwaith, yn yr achos hwn, wneud datganiad llafar ac ateb y cwestiynau y mae pobl anabl ledled Cymru a oedd yn elwa o'r Gronfa Byw’n Annibynnol yn eu gofyn yn gynyddol?

Diolch am y cwestiwn, ac, wrth gwrs, mae'n hollbwysig nad yw gallu pobl i fyw'n annibynnol yn cael ei beryglu gan y newidiadau i'r ffordd y mae eu gofal a'u cymorth yn cael eu trefnu yn lleol, ac yn arbennig felly ar gyfer pobl a oedd yn arfer cael Grant Byw'n Annibynnol Cymru. Rwy'n gwybod bod y Prif Weinidog wedi gofyn i'r Dirprwy Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol adolygu'r cynnydd a fu hyd yma o ran trosglwyddo i'r system newydd o gael gofal a chymorth, a bydd hynny'n penderfynu i raddau helaeth pa gamau pellach fydd yn angenrheidiol i sicrhau bod canlyniad teg i bawb dan sylw. Rwy'n gwybod y bydd y Dirprwy Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn cwrdd ag arweinydd yr ymgyrch honno yn ddiweddarach yr wythnos hon i drafod ei bryderon wyneb yn wyneb. Byddwch yn ymwybodol, wrth gwrs, o'r adolygiad trylwyr, a gynhaliwyd er mwyn sicrhau, lle bu newidiadau i gefnogaeth pobl, eu bod nhw'n briodol ac nad oedden nhw'n cyfaddawdu mewn unrhyw ffordd ar allu'r person hwnnw i fyw'n annibynnol. Caf ar ddeall bod gwaith wedi ei gwblhau ac y caiff yr adolygiad ei rannu gyda'r Pwyllgor Deisebau, ac rwy'n gwybod y bydd cyfleoedd i holi'r Dirprwy Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynglŷn â'i dull o weithredu maes o law.

Heb unrhyw amheuaeth, bydd arweinydd y tŷ yn ymwybodol o effaith gynyddol cau canghennau banc ar ein cymunedau. Yn hwyr yr wythnos diwethaf, fe gyhoeddodd Barclays eu bod nhw’n cau canghennau Glynrhedynog a Thonypandy, ac rwy'n gwybod bod canghennau eraill yn cau ledled Cymru hefyd. Wrth gwrs, mae bancio ar y rhyngrwyd a dirywiad ein canol trefi traddodiadol yn sbarduno’r newidiadau hyn yn rhannol, ond mae llawer o bobl yn ein cymunedau nad ydyn nhw byth yn mynd i ddefnyddio bancio ar-lein, pobl fel y fenyw oedrannus y siaradais â hi yng Nglynrhedynog yr wythnos hon sy'n defnyddio ei thaith i'r banc lleol bob wythnos fel ffordd o adael y tŷ er mwyn osgoi problemau sy'n gysylltiedig ag unigrwydd. Nawr, gall mwyafrif y bancio gael ei wneud drwy Swyddfa'r Post, ond mae hynny’n dibynnu ar ganol bob un o'n trefi yn cynnal eu swyddfeydd post, ac rwy'n ceisio cael sicrwydd uniongyrchol gan Swyddfa'r Post ynghylch gwasanaethau yn y Rhondda, ond dim ond ddoe, daeth i'm sylw bod yr Adran Gwaith a Phensiynau yn annog hawlwyr i beidio â chael budd-daliadau drwy Swyddfa'r Post, gan eu cynghori yn hytrach i ddefnyddio banc, ac mae’r dystiolaeth gennyf i yn y llythyr hwn yr wyf yn barod i’w rannu gydag arweinydd y tŷ. Mae'n dweud,

Ar hyn o bryd, rydym yn talu eich pensiwn i gyfrif cerdyn swyddfa'r post. Rydym yn dymuno talu eich arian i mewn i gyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd yn lle hynny.

Nawr, o ystyried yr hyn yr wyf newydd ei ddweud ynghylch banciau a phwysigrwydd cynyddol Swyddfa’r Post yn rhai o'n cymunedau mwyaf anghofiedig, a wnewch chi gytuno i edrych ar y cyngor hwn sy’n cael ei gyhoeddi gan yr Adran Gwaith a Phensiynau a dweud wrthyn nhw am ei newid fel y caiff bod pobl eu hannog i ddefnyddio eu swyddfeydd post ar gyfer bancio a thrafodion budd-daliadau? A wnewch chi hefyd gyflwyno dadl yn amser y Llywodraeth yn amlinellu pa gefnogaeth y gallwch chi ei rhoi a pha gymorth ychwanegol y gallwch chi ei ddarparu yn y dyfodol i sicrhau bod rhwydwaith o swyddfeydd post cynaliadwy a hygyrch ar gyfer pawb a phob cymuned?

Hoffwn gael datganiad hefyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd ynglŷn â dyfodol gwasanaethau damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Mae sgyrsiau â staff yno ynghylch prinder meddygon a nyrsys parhaol a'r effaith y mae hyn yn ei chael yn achosi pryder mawr imi. Rwyf i a'm hetholwyr yn ceisio cael sicrwydd ynghylch dyfodol hirdymor ein hadran ddamweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Mae'r staff yno yn wirioneddol bryderus bod yr ysbyty yn cael ei gau yn ara' deg, a dywedir wrthyf i fod meddygon yn gadael oherwydd bod gwasanaethau ymgynghorol yn cael eu colli. Rydym ni wedi colli cynifer o wasanaethau o'r ysbyty cymharol newydd hwn yn ystod y blynyddoedd diwethaf oherwydd yr agenda ganoli y bu'r Llywodraeth Lafur hon yn ei hyrwyddo. Mae'r agenda hon wedi arwain at y penderfyniad i gael gwared ag ymgynghorwyr o dair adran allweddol: damweiniau ac achosion brys, mamolaeth a phediatreg. Mae pobl yn pryderu y caiff hyd yn oed mwy o wasanaethau eu colli. Felly, a all Ysgrifennydd y Cabinet roi sylw i’n pryderon yn y Senedd hon cyn gynted ag y bo modd, os gwelwch yn dda?

15:10

Diolch yn fawr iawn am godi'r ddau fater hynny. O ran cau banciau, yn amlwg, mae Llywodraeth Cymru yr un mor bryderus â chithau ynglŷn â hynny. Rwy'n gwybod ein bod ni wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU ar sawl achlysur i ofyn iddyn nhw ystyried bancio yn ei gyfanrwydd mewn modd llawer mwy strategol, a bancio cymunedol yn enwedig. A hefyd, rydym ni'n rhoi llawer iawn o gefnogaeth i'n hundebau credyd ledled Cymru hefyd, oherwydd, er nad ydyn nhw'n gallu disodli banciau, mewn gwirionedd, maen nhw yn rhan bwysig iawn o'r darlun cyfan o ran sicrhau bod gan bobl gynhwysiant ariannol yn eu cymunedau. Ac, mewn gwirionedd, mae rhai o'r undebau credyd hynny yn cyflwyno syniadau da, sy'n eu gwneud nhw yn llawer mwy tebyg i fanciau o ran bod â cherdyn y gellir ei ddefnyddio er mwyn talu am bethau ac ati. Felly, rwy'n credu bod y mudiad undebau credyd yn sicr yn datblygu yng Nghymru. Ond, wedi dweud hynny, byddwn yn hapus i sicrhau bod y Gweinidog priodol yn mynd i'r afael â'r pryder penodol hwnnw am yr Adran Gwaith a Phensiynau yn annog pobl i ddefnyddio banciau yn hytrach na swyddfeydd post. Fel yr ydych chi'n dweud, i lawer o bobl, ni fydd hynny'n bosib, ond hefyd, mae angen inni sicrhau bod gennym ni rwydwaith o swyddfeydd post bywiog a chynaliadwy ledled Cymru, am sawl rheswm.

Fe wnaf i siarad â'r Gweinidog ynghylch eich pryderon am yr adran ddamweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, yr ydych chi wedi eu hamlinellu, a gofyn iddo roi'r sicrwydd ichi yr ydych chi'n chwilio amdano.

Trefnydd, fe godais i fater yn gynharach gyda'r Prif Weinidog ynghylch y carchar mawr ym Maglan a sut yr oedd Llywodraeth y DU wedi cadarnhau na fyddai’n cael ei adeiladu ac nad oedd yn ymarferol mwyach, ond hefyd yn y dystiolaeth honno, fe amlygodd y Gweinidog dros garchardai fod Llywodraeth Cymru wedi gwerthu’r tir. Nawr, byddai’r ymgyrch gref a gyflwynwyd gan bobl yn fy etholaeth i angen sicrwydd, oherwydd un o'r dadleuon oedd bod y tir at 'ddibenion diwydiannol'—mai dyna beth yr oedd ar ei gyfer—ac roedd y cyfamod ar y tir yn amlygu hynny. A wnewch chi ofyn i Weinidog yr economi, efallai, i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ynghylch beth y gwerthwyd y tir ar ei gyfer—hynny yw, y dibenion? A yw’n cyd-fynd ag uchelgeisiau’r ardal fenter ym Mhort Talbot, efallai—i dawelu meddyliau fy etholwyr ynghylch pwy brynodd y tir hwnnw fel y gallwn ni fod yn ffyddiog ein bod yn gwybod beth yw ei ddiben?

O ran ail bwynt sydd eisoes wedi ei godi gan Bethan Sayed am y darn hwnnw o waith Banksy, a gaf i ychwanegu at y pwynt bod y perchennog newydd wedi amlygu’r ffaith ei fod yn dymuno ei symud i ran o Bort Talbot i sicrhau y byddai pobl Port Talbot yn gallu parhau i weld ac elwa ar hynny a dod ag eitemau eraill o waith celf Banksy i lawr? Mae hynny’n dangos yn glir yr angen am adeilad priodol i sicrhau'r math hwnnw o arddangosfa ac oriel. Efallai yr hoffai'r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, pan fydd yn ymateb i’r cais, dynnu sylw at sefydlu oriel genedlaethol ar gyfer celfyddyd gyfoes a sut y byddai Port Talbot yn lle delfrydol ar gyfer hynny, oherwydd mae'n ymddangos ein bod ni wedi ein hystyried yn wreiddiol, ac mae hyn yn amlygu'r manteision sydd gan Bort Talbot i'w gynnig i'r cysyniad hwnnw. Byddai sefydlu oriel genedlaethol ar gyfer celfyddyd gyfoes yn addas iawn ar gyfer yr agenda hon.

15:15

Diolch yn fawr am sôn am hynny ac fe gyflwynwyd eich dadl yn wych. Rwy'n gwybod fod y Dirprwy Weinidog, sy'n eistedd wrth eich ymyl, wedi clywed y dadleuon hynny. Fel rwy'n dweud, byddaf yn cael trafodaeth bellach gyda'r Dirprwy Weinidog ar y materion y mae'r ddau Aelod wedi eu codi y prynhawn yma o ran sicrhau bod gwaith celf Banksy yn cael ei ddiogelu mewn ffordd sy'n gynaliadwy ond hefyd, rwy'n gobeithio, mewn ffordd y gall pobl Port Talbot ei fwynhau am amser hir i ddod.

O ran y safle ym Mhort Talbot, rwy'n gwybod fod y contractau wedi eu cyfnewid ar sail amodol ar gyfer datblygu diwydiannol ar 5 erw o'r tir. Rydym ni hefyd yn cynnal trafodaethau gyda chwmni arall o ran cael datblygiad diwydiannol arall ar weddill y tir. Ar hyn o bryd, mae'r trafodaethau hyn yn parhau'n fasnachol ac yn gyfrinachol. Fodd bynnag, cyn gynted ag y bydd y Gweinidog yn gallu dweud mwy, rwy'n gwybod y bydd yn gwneud hynny.

A gaf i eich croesawu i'ch swydd, Trefnydd? A gaf i ofyn yn gyntaf oll ichi ddefnyddio eich dylanwad i gael ateb i e-bost a anfonais at Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth bum wythnos yn ôl ynghylch ffordd osgoi'r Drenewydd, pan ofynnais yr holl gwestiynau a holodd Joyce Watson heddiw? Byddwn yn ddiolchgar o gael yr ateb hwnnw, oherwydd mae llawer iawn o ddiddordeb yn y prosiect hwn, ac yn sicr, byddai fy etholwyr yn hoffi cael yr wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â'r prosiect gwych hwn. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallech chi hwyluso’r ateb hwnnw. 

Hefyd, a gaf i ofyn a wnewch chi sicrhau ai peidio y caiff datganiadau eu gwneud i’r Cynulliad hwn yn gyntaf, cyn y caiff manylion unrhyw gontractau sylweddol eu rhyddhau i'r wasg? Rwy'n dweud hyn mewn cysylltiad â lot 2 ail gam prosiect Cyflymu Cymru, a ddyfarnwyd ar 11 Ionawr, ond rhyddhawyd datganiad ysgrifenedig ar hyn i'r Aelodau ar 18 Ionawr. A gaf i ofyn eich bod chi’n neilltuo amser fel y gall y Gweinidog newydd sy'n gyfrifol am fand eang roi datganiad llafar i'r Cynulliad hwn fel y gallwn ni graffu'n fanylach ar ail gam y prosiect?

Nid oes unrhyw fanylion wedi eu rhyddhau ynghylch pa anawsterau sydd wedi atal Llywodraeth Cymru rhag dyfarnu’r contract hwn yn gynharach ac nid ydyn nhw wedi eu cynnwys yn y datganiad ysgrifenedig ychwaith. Nid oes unrhyw fanylion ynghylch pam nad oedd cyfnod pontio di-dor rhwng cam 1 a cham 2 y cynllun, sy'n golygu na fu unrhyw ddatblygiad ers bron i flwyddyn, gan adael llawer o fy etholwyr yn y niwl wrth iddyn nhw weld seilwaith band eang yn hongian oddi ar bolion ar ddiwedd eu rhodfeydd ac yn methu â’i ddefnyddio. 

Ceir cyfres o gwestiynau eraill na fyddaf yn eu darllen yn awr, ond fe hoffwn i'r cyfle i ofyn y cwestiynau hynny i'r Gweinidog ar adeg briodol, os gellid caniatáu amser ar gyfer hynny.

Diolch yn fawr iawn. O ran y mater cyntaf ynglŷn â'r llythyr ynghylch ffordd osgoi'r Drenewydd, fe wnaf i sicrhau eich bod chi'n cael ymateb cyn gynted â phosib.

Ynghylch y mater band eang, rwy'n gwybod bod y Siambr yn cael ei diweddaru'n aml ar ffurf datganiadau llafar ynglŷn â'r cynnydd gyda band eang, ac mae'n werth cofio wrth gwrs, cyn i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael â'r agenda hon, mai dim ond 45 y cant o gartrefi ac adeiladau a oedd yn gallu defnyddio band eang cyflym iawn. Bellach, mae darpariaeth ar gael ar gyfer hyd at 95 y cant ledled Cymru, a gennym ni y mae'r ddarpariaeth orau o ran band eang cyflym iawn o blith y gwledydd datganoledig. Bu hyn yn ymdrech enfawr, gyda buddsoddiad gwerth cyfanswm o £200 miliwn, ond rydym ni yn sylweddoli bod ambell i eiddo o hyd lle nad yw'r ddarpariaeth ar gael, ac rwy'n credu ein bod ni i gyd yn ymwybodol o'r eiddo hynny drwy ein gwaith achos. Serch hynny, mae'r gwaith yn mynd rhagddo drwy gam 2 ac rwy'n siŵr y bydd cyfle addas i ofyn cwestiynau i'r Gweinidog yn fuan iawn.

Hoffwn i ofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth am y canllawiau rydych chi'n disgwyl i fyrddau iechyd eu dilyn o ran eu dyletswydd i gyfathrebu newidiadau, sy'n gallu bod yn bellgyrhaeddol, i wasanaethau efo'r cyhoedd ac, a dweud y gwir, efo'r holl randdeiliaid perthnasol. Mae diffyg tryloywder bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr o ran newidiadau i'r gwasanaethau fasgiwlar yn Ysbyty Gwynedd yn fy mhryderu i'n fawr. Mi oedd fy etholwyr i'n meddwl bod y gwasanaethau fasgiwlar brys yn saff, ond mae wedi dod yn amlwg yn ddiweddar nad dyna ydy'r achos, ac, a dweud y gwir, y bydd y gwasanaethau brys yn mynd o Fangor.

Dwi wedi deall hefyd fod yna newidiadau pellach ar y gweill i newid gwasanaethau wroleg a gofal strôc yn y gogledd. Ond, eto, mae yna ddiffyg gwybodaeth, sydd yn creu pryder ac ansicrwydd yn lleol. Mae yna sôn am newidiadau, ond does yna ddim sôn am ba safleoedd a allai fod yn colli gwasanaethau. Felly, mae pobl yn dechrau meddwl pob math o bethau, wrth gwrs, ac efallai yn hollol ddiangen.

Felly, mi hoffwn i ddatganiad gan y Llywodraeth neu gan y Gweinidog ynglŷn â pha mor dryloyw ydych chi'n disgwyl i'r byrddau iechyd fod pan maen nhw wrthi yn creu newidiadau pellgyrhaeddol i wasanaethau craidd. Diolch. 

15:20

Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn. Wrth gwrs, byddem yn disgwyl i fyrddau iechyd fod yn agored ac yn dryloyw iawn o ran y ffordd y maen nhw'n mynd ati i roi eu cynlluniau i newid gwasanaethau ar waith. Byddem yn disgwyl i ymgynghoriad gael ei gynnal ac ati. Rwy'n clywed yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud am y profiadau yr ydych chi wedi eu cael gyda newidiadau posibl yn eich etholaeth chi. Yn sicr, fe ofynnaf i'r Gweinidog iechyd ysgrifennu atoch gyda rhai manylion ynghylch beth yn union y byddai'n ei ddisgwyl gan fyrddau iechyd, ond yr hyn y dylai fod, yn sicr, yw cyfathrebu da yn seiliedig ar fod yn agored a newidiadau mewn modd cydgynhyrchiol.

Gweinidog, hoffwn ofyn am ddau ddatganiad. Y llynedd, dechreuodd un o'm hetholwyr ddeiseb yn galw ar i fenywod yng Nghymru allu cael gafael ar wasanaeth gwell ar gyfer menywod sy'n mynd drwy'r menopos. Mae hyn ar y cyd â'r ymgyrch genedlaethol Make Menopause Matter, sy'n canolbwyntio ar lawer o'r anawsterau y mae menywod, sydd yn aml â symptomau difrifol, yn eu hwynebu yn y gweithle ac yn gymdeithasol, ac effaith hyn ar ansawdd eu bywydau. Ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan y mae un o ddim ond dau glinig menopos arbenigol yng Nghymru, a byddwn yn ddiolchgar am ddatganiad ar sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y gwasanaethau hyn ar gael i fenywod, a beth sy'n cael ei wneud i wella'r cymorth a ddarperir gan feddygon teulu, fferyllwyr ac ymarferwyr iechyd eraill.

Yn ail, hoffwn gael datganiad ar roi mêr esgyrn yng Nghymru. Mae ymgyrch ar waith ar hyn o bryd i alluogi fy etholwr Marley Nicholls, sy'n 6 oed, o'r Betws, i gael trawsblaniad mêr esgyrn i achub ei fywyd. Mae Marley yn dioddef o gyflwr gwaed anghyffredin ond nid oes rhoddwr cyfatebol wedi ei ganfod hyd yn hyn. Hyd yma, mae dros 10,000 o bobl wedi ymuno â'r gofrestr mêr esgyrn o ganlyniad i'r ymgyrch sy'n cael ei chynnal gan ffrindiau a theulu Marley, ac mae cyfraddau rhoi organau yn genedlaethol yn isel iawn. Hoffwn gael diweddariad ar yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog mwy o bobl i ymuno â'r gofrestr mêr esgyrn.

Diolch yn fawr iawn am godi'r ddau fater yna. O ran y mater cyntaf a godwyd gennych chi am y cymorth i fenywod sy'n mynd drwy'r menopos, mae Llywodraeth Cymru yn amlwg yn rhoi ystyriaeth ddifrifol iawn i'r mater hwn, ac rwy'n falch o roi gwybod i chi bod swyddogion eisoes yn gweithio gyda Iechyd Cyhoeddus Cymru wrth iddo ddatblygu'r fanyleb gwasanaeth iechyd rhywiol ar gyfer 2018. Bydd hwnnw'n nodi llwybr gofal menopos i'w ddefnyddio gan yr holl fyrddau iechyd yng Nghymru. A bydd hwn—rydym yn gobeithio y bydd y llwybr yn cael ei gymeradwyo yng nghyfarfod nesaf bwrdd y rhaglen iechyd rhywiol, sydd i'w gynnal yn fuan iawn.

Wrth gwrs, fe wnaethoch chi sôn am bwysigrwydd rhan meddygon teulu yn hyn, a fferyllwyr, oherwydd y man cychwyn, mewn gwirionedd, i lawer o fenywod ar gyfer gofal menopos yw drwy'r meddyg teulu. Felly, yn unol ag anghenion clinigol unigol a chanllawiau'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal, gallai menywod gael eu hatgyfeirio wedyn gan y meddyg teulu at wasanaethau eraill, ond mae'n bwysig bod meddygon teulu yn deall y broblem a phwysigrwydd y mater, a sut y gall y menopos effeithio ar fenywod ym mhob agwedd ar eu bywydau. Fe wnaethoch chi sôn am y gweithle, ac wrth gwrs mae'n mynd ymlaen i bob agwedd arall.

O ran rhoi mêr esgyrn, os oes angen trawsblaniad bôn-gelloedd ar unigolyn yng Nghymru, yna gall Gwasanaeth Gwaed Cymru chwilio ar gofrestrfeydd ledled y byd ar hyn o bryd i nodi rhoddwyr posibl. Rwy'n credu bod hynny'n gadarnhaol iawn. Fodd bynnag, yn amlwg mae angen o hyd i fwy o bobl ddod ymlaen i gynnig rhoi, ac un o'r ffyrdd yr ydym ni'n ceisio cynyddu'r niferoedd yw drwy'r gwaith y mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn ei wneud. Felly, maen nhw'n mynd ati i annog rhoddwyr i ymuno â'r panel, ac yn gofyn yn benodol i'r rhoddwyr hynny sydd rhwng 17 a 30 oed a fydden nhw'n hoffi cofrestru, oherwydd hwn yn sicr yw'r grŵp sy'n cynnig y siawns orau o oroesi i gleifion trawsblaniad. Felly, byddem yn annog pawb i ystyried pa un a fyddent yn gallu rhoi rhodd a fyddai'n newid bywyd ac yn achub bywyd unigolyn arall.

15:25

A gaf i ofyn i'r trefnydd am ddau ddatganiad? Mae'r cyntaf ynghylch y newyddion trasig posibl am y peldroediwr 28 mlwydd oed o'r Ariannin, Emiliano Sala, a oedd yng Nghymru ddydd Sadwrn i gyhoeddi llofnodi ei gontract am y swm uchaf yn hanes clwb Dinas Caerdydd. Ar ôl dychwelyd i Nantes, lle'r oedd yn arfer chwarae, cadarnhawyd ei fod ar awyren a oedd yn teithio o Nantes i Gaerdydd neithiwr, a gollodd gysylltiad â'r gwasanaeth rheoli traffig awyr. Mae pum awyren a dau gwch wedi bod allan yn chwilio amdano o amgylch Ynysoedd y Sianel, ond hyd yma nid oes unrhyw newyddion. Yn amlwg, hoffem ni i gyd estyn ein dymuniadau i'r teulu ac i bawb dan sylw. Ond a oes gan y trefnydd unrhyw newyddion ynghylch hyn, ac a oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw gyfleusterau a allai helpu yn yr ymdrech i chwilio amdano? Yn ail, a gaf i ofyn am ddatganiad ar y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru?

Yfory, fel cadeirydd grŵp trawsbleidiol y gyfraith, byddaf yn croesawu Rick Rawlings, un o'r comisiynwyr, a'r ysgrifenyddiaeth i ystafell giniawa 1 am 12.45 p.m., ar gyfer unrhyw Aelodau sydd â diddordeb mewn clywed safbwynt y comisiwn ar sut y mae ei waith yn mynd rhagddo. Rwy'n sylwi, er hyn, o'r sylwadau yn gynharach—. A gaf i gael fy sicrhau yn gyntaf, yn hytrach na bod yn fenter gan y Prif Weinidog blaenorol yn unig, bod gan y comisiwn hwn gefnogaeth lawn Llywodraeth Cymru a'r Prif Weinidog newydd?

Yn ail, pwysleisiodd y Prif Weinidog, rwy'n credu, bod Llywodraeth Cymru bellach yn cefnogi datganoli mewn tri maes: cyfiawnder ieuenctid, y gwasanaeth prawf ac, o leiaf mewn rhai ffyrdd, materion yn ymwneud â throseddwyr sy'n ferched. A yw safbwynt polisi Llywodraeth Cymru yn esblygu, neu a oedd hynny wedi'i gynnwys yng nghylch gwaith a chylch gorchwyl y comisiwn? Rhoi pwyslais ar ddatganoli meysydd lle'r ydym eisoes yn gwneud yn gymharol dda o fewn cyfiawnder troseddol: ai dyna'r ffordd iawn o wneud hynny, yn hytrach nag ystyried bod meysydd lle ceir problemau penodol efallai yn rhai i'w datganoli ar fwy o frys?

Yn olaf yn y maes hwn, a yw'r comisiwn a Llywodraeth Cymru yn gweithio'n ddigon agos â'r gweithgor cyfiawnder yng Nghymru a sefydlwyd gan Lywodraeth y DU? Rwy'n gweld bod y Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi rhannu data ymchwil ar gyfer yr adroddiad rhagorol gan Dr Robert Jones a Chanolfan Llywodraethiant Cymru, gan gynnwys cyfeiriadau pob troseddwr unigol a chroes-gyfeirio'r rheini. Mae'n ddarn sylweddol iawn o waith, ac mae'r comisiwn hwn yn rhoi cyfle gwirioneddol inni gael sylfaen ymchwil er mwyn ystyried y mater hwn yn briodol, a hoffwn i gael fy sicrhau bod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn cydweithio'n agos i gefnogi hynny.  

Diolch yn fawr iawn am godi'r ddau fater yna. O ran y mater cyntaf a godwyd gennych, am yr awyren a gollodd gyswllt neithiwr, yn amlwg, fel yr ydych yn ei ddweud, mae ein meddyliau ni i gyd yn sicr gyda phawb sy'n ymwneud â hyn, ac sydd wedi'u heffeithio gan hyn. Gallaf gadarnhau bod maes awyr Caerdydd mewn cysylltiad agos â'r gangen ymchwilio i ddamweiniau awyr, a bydd yn parhau i gynorthwyo gyda'i hymchwiliadau mewn unrhyw ffordd bosibl, ond awyrennau o Ffrainc i raddau helaeth sy'n arwain y chwilio yn yr achos hwn.

O ran eich cwestiynau am gyfiawnder, gallaf gadarnhau bod ein Prif Weinidog newydd a Llywodraeth Cymru yn cefnogi'n llwyr y diddordeb yn y comisiwn a'r ymrwymiad iddo. Mewn gwirionedd, cyfarfu'r Prif Weinidog â'r cadeirydd yr wythnos diwethaf i drafod y rhaglen waith ar gyfer y dyfodol. Gwn y bydd cyfleoedd eto i drafod y materion hyn maes o law.

Diolch, Llywydd. Trefnydd, rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno â mi fod gan Mike Hedges bethau diddorol i'w dweud bob amser. Gwrandewais yn ofalus ar eich cwestiwn i'r Prif Weinidog yn ystod y cwestiynau yn gynharach, Mike, pan wnaethoch chi awgrymu y gellid lleddfu'r tagfeydd ar yr M4 drwy ddefnyddio'r A465 a'r A40, cysylltiad Blaenau'r Cymoedd, ar gyfer traffig sy'n dod i Gymru ac sy'n mynd i dde-orllewin Cymru o ganolbarth Lloegr. Nid yw hynny'n syniad gwael o gwbl. Tybed a allem ni gael ychydig o ddatganiadau, mewn gwirionedd, gan Lywodraeth Cymru. Pe byddai'r awgrym hwnnw yn mynd rhagddo, byddai ganddo oblygiadau ar gyfer dau fater sy'n agos i'm calon yn fy etholaeth i: yn gyntaf oll, mynediad i gerddwyr i Gastell Rhaglan, ac rwyf wedi codi hyn gyda'r Dirprwy Weinidog diwylliant sawl gwaith o'r blaen. Mae angen taer am bont droed yno, felly tybed a allem ni gael datganiad gan y Dirprwy Weinidog—diweddariad ar broblemau mynediad at henebion Cymru yn gyffredinol, ond yn enwedig yn yr ardaloedd hynny lle mae'r ffyrdd prysur yn effeithio ar y mynediad hwnnw. Ac, yn ail, mater arall sy'n agos i'm calon—byddwch chi'n dod i arfer â hyn, Trefnydd, rwyf yn aml yn codi'r materion hyn; codais i nhw gyda'ch rhagflaenydd, a gallaf weld y Prif Weinidog yn gwenu fy mod wedi eu codi unwaith eto—yn ail, mae wyneb concrit y ffordd ar yr A40 rhwng Rhaglan a'r Fenni wedi treulio. Rwy'n gwybod y byddai hwnnw'n gostus i'w adnewyddu, ond, os ydym ni'n mynd i fynd ar drywydd cynyddu traffig ar y rhan honno o'r ffordd, rwy'n credu bod wyneb y ffordd ar hyn o bryd yn anghynaladwy. Felly, os na fydd yr M4 yn mynd rhagddi, ac mae'n ymddangos bod hynny'n dod yn fwyfwy tebygol, yna efallai y gallem ni gael datganiadau gan Lywodraeth Cymru ar ble y gellid defnyddio adnoddau i wella agweddau ar fywydau pobl ar draws fy etholaeth ac ymhellach i ffwrdd.

15:30

Diolch am y cwestiynau yna. Dylwn fod yn glir iawn nad yw'r Prif Weinidog wedi gweld adroddiad yr arolygydd, felly nid oes unrhyw benderfyniad wedi'i wneud eto. Rydym yn disgwyl i'r Gorchmynion gael eu cyflwyno i'r Prif Weinidog cyn bo hir er mwyn iddo eu hystyried. Yn amlwg, mae Llywodraeth Cymru, fel y gwyddoch, yn buddsoddi llawer iawn yn wynebau ein ffyrdd, a byddwch chi wedi bod yn ymwybodol o'r cyhoeddiadau a wnaed o ran buddsoddi yn hynny o beth. Ond rwy'n siŵr y gwnaiff y Gweinidog ysgrifennu atoch chi i awgrymu beth, efallai, fyddai'r ffordd orau o fwrw ymlaen â'ch diddordeb arbennig, ac rwy'n gwybod bod y Dirprwy Weinidog wedi clywed eich pwyntiau ynghylch pwysigrwydd mynediad at ein henebion yng Nghymru.

9. Datganiad gan y Prif Weinidog: Y Diweddaraf am Gynnig Llywodraeth y DU ar gyfer Ymadael â’r UE

Mae'r eitemau canlynol—3, 4, 5, 6, 7 ac 8—wedi eu gohirio, sydd yn dod â ni felly at eitem 9 ar yr agenda, sef y datganiad gan y Prif Weinidog ar y diweddaraf am gynnig Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfer ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. Dwi'n galw ar y Prif Weinidog, Mark Drakeford. 

Lywydd, diolch yn fawr. Bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno cyfres o ddatganiadau y prynhawn yma mewn ymateb i'r bygythiad o Brexit heb gytundeb. Rydym yn gwneud hyn oherwydd bod digwyddiadau yn San Steffan yr wythnos diwethaf yn dangos bod Llywodraeth y DU yn symud ymhellach fyth tuag at argyfwng. Mae gennym ni Lywodraeth yn Llundain sydd wedi colli pleidlais, y gorchfygiad mwyaf ar gofnod, a hynny ar y cyfrifoldeb pwysicaf un sydd ganddi i'w chyflawni. Daeth yn gynyddol anochel ei bod am golli'r bleidlais honno ac roedd maint y gorchfygiad yn rhoi neges glir iawn fod y cytundeb hwn gan Brif Weinidog y DU ar ben. Yn dilyn colli'r bleidlais, dywedodd Mrs May y byddai'n gwrando ar y Senedd, ond mae'r ymrwymiad hwn ganddi wedi ei wneud dwy flynedd a hanner yn rhy hwyr. O ddyddiad y refferendwm hyd at golli'r bleidlais ystyrlon, mae'r Prif Weinidog wedi dilyn y strategaeth mai'r enillydd sy'n cario'r dydd, gan gadw'n ddisymud at safbwynt anymarferol y llinellau coch, pryd y dylai hi fod wedi bod yn ymestyn at eraill i geisio sicrhau strategaeth ehangach a chynyddu'r gefnogaeth i hynny. Nawr, er ei bod hi'n hwyr yn y dydd, mae'n rhaid dechrau'r broses honno ar unwaith gydag un weithred yn unig—sef diystyru 'gadael heb gytundeb' a'r niwed a amlygir yn nadansoddiad Llywodraeth y DU ei hun am ganlyniadau gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb. Yn y Siambr hon, mae Gweinidogion wedi dweud dro ar ôl tro y byddai Brexit heb gytundeb yn drychinebus i'r economi, i wasanaethau cyhoeddus ac i'n dinasyddion yng Nghymru.

Wrth gwrs, Llywydd, rydym ni'n deall, ac wedi bod yn glir bob amser, yn wahanol i Lywodraeth San Steffan, nad ni yn y Deyrnas Unedig yn unig sy'n rheoli trafodaeth Brexit. Hyd yn oed pan fo gennym Lywodraeth sy'n benderfynol o beidio â chaniatáu canlyniad o'r fath, ni allwn fod yn gwbl sicr na fydd hyn yn digwydd, a dyna pam yr ydym yn dod â datganiadau heddiw gerbron y Cynulliad. Er hynny, fe all, ac y mae'n rhaid i Lywodraeth y DU, gael gwared ar y syniad y maen nhw'n fodlon arwain arno a'i ystyried ar hyn o bryd sef gadael yr UE heb gytundeb. A phan fydd hynny'n digwydd, Llywydd, credaf y bydd mwyafrif clir yn y senedd yn diystyru gadael yr UE heb gytundeb. Yr wythnos diwethaf, gwrthododd y Cynulliad Cenedlaethol y syniad o adael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb, ac yn awr mae'n rhaid i'r Senedd chwilio am y cyfle i wneud hynny hefyd. Ac ymddengys y bydd yn rhaid i'r Senedd gymryd rheolaeth yn ôl dros y materion hyn er mwyn gallu cyflawni hynny, gan fod y Prif Weinidog, unwaith eto, yng nghanol cymaint o raniadau o fewn ei phlaid ei hun ac o fewn ei chabinet, lle y mae rhai yn ymarferol yn ceisio cael canlyniad gadael heb gytundeb.

Ddoe, Llywydd, dywedodd y Prif Weinidog  y byddai hi'n fwy hyblyg, agored a chynhwysol—dyna oedd ei geiriau—wrth geisio dod o hyd i ffordd ymlaen. Y broblem yw bod ei gweithredoedd yn bell iawn o efelychu ei geiriau. Gan ddyfynnu geiriau'r Aelod Seneddol Ceidwadol blaenllaw, Sarah Wollaston, roedd datganiad y Prif Weinidog ddoe:

fel na fyddai pleidlais yr wythnos diwethaf wedi digwydd o gwbl.

Mewn gwirionedd, mae cynllun B yn union fel cynllun A gyda dogn newydd o ofynion duwiolfrydig.

Mae'n glir, Lywydd, bod Mrs May yn parhau i ganolbwyntio ar geisio cyflawni'r amhosibl—darparu cytundeb sy'n dderbyniol i'r 27 o aelodau'r UE ac i'r DUP ac i gefnogwyr Brexit caled—yn hytrach na cheisio sicrhau consensws newydd ar draws y Senedd. Sut gallai'r Prif Weinidog ddisgwyl y byddai ASau dros nos yn cefnogi fersiwn o'i chytundeb gyda mân addasiadau iddo, pan gafodd ei wrthod mor bendant? Yn syml, ni fydd hyn yn digwydd. Felly, yr ail beth a ddylai ddigwydd, pan fydd y bygythiad o adael yr UE heb gytundeb wedi'i ddileu, yw bod yn rhaid i'r Prif Weinidog wneud cais am estyniad i broses erthygl 50. Ni allwn ni fentro gyda dyfodol ein gwlad gyda therfynau amser a osodwyd arnom ein hunain a'r perygl o hunan-niweidio y mae'r trafodaethau munud olaf hyn yn ei achosi. Mae'n rhaid i Lywodraeth y DU ddod at ei gilydd a chytuno ar gynnig sydd â chefnogaeth y Senedd, boed hynny'n gytundeb gwahanol sy'n adlewyrchu 'Sicrhau Dyfodol Cymru', neu drwy drefnu ail bleidlais gyhoeddus—y safbwynt, mewn gwirionedd, a gafodd ei gymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol hwn ar 4 Rhagfyr.

O'r cychwyn, Llywydd, roedd Llywodraeth Cymru yn dangos yn glir ei bod yn parchu canlyniad refferendwm 2016, ac rydym wedi canolbwyntio bob amser ar ffurf Brexit yn hytrach na'i ffaith. Am y rheswm hwnnw, hyd yn oed ar yr awr hwyr hon, fe ddylai'r Senedd chwilio am bob ffordd i sicrhau canlyniad i'r broses Brexit a fydd yn parchu'r refferendwm ac ar yr un pryd yn ein hamddiffyn rhag difrod i'r economi ac i wead ein cymdeithas. Ond y ddadl yn y Senedd dros yr wythnos nesaf yw'r cyfle olaf i gefnogi'r ffurf honno ar Brexit, ffurf sy'n seiliedig yn y bôn ar barhau i gymryd rhan yn y farchnad sengl a'r undeb tollau. Llywydd, os na ellir gwneud hynny, mae Brexit lle y gallem adael yr UE heb gytundeb yn sefyllfa mor ddifrifol fel ei bod yn golygu, os na all y Senedd gytuno gyda mwyafrif i sicrhau ein buddiannau tymor hir, yr unig ddewis sydd ar ôl wedyn yw pleidlais gyhoeddus unigol er mwyn datrys yr anghytundeb llwyr. 

Hefyd, i osgoi unrhyw amheuaeth, gadewch imi ddweud hyn: yn 2016, roedd cyngor Llywodraeth Cymru yn ddiamwys—bod ein dyfodol yn fwy diogel drwy barhau i fod yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd. Nid oes dim, dros gyfnod o fwy na dwy flynedd o waith manwl ar Brexit, wedi ein hargyhoeddi i newid y farn honno. Yn y cyfamser, gan fod Brexit heb gytundeb yn parhau i fod yn risg uchel iawn, fel Llywodraeth gyfrifol, mae gennym ni ddyletswydd i nodi canlyniadau hynny i Gymru ac i ddangos sut yr ydym yn ceisio lliniaru'r canlyniadau hynny.

Mewn cyfres o ddatganiadau, bydd Gweinidogion yn amlinellu'r peryglon a wynebwn ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus, yr economi ac yn y gymdeithas yn ehangach. Mae'r effeithiau o bosibl yn rhai eang iawn ac fe fyddan nhw'n effeithio ar bawb. Nid pryderon rhagdybiaethol na damcaniaethol yw'r rhain, ond realiti'r sefyllfa y gallem ganfod ein hunain ynddi nawr. Mae'r gyfres o ddatganiadau heddiw yn rhan o'n penderfyniad i sicrhau bod Aelodau'r Cynulliad yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am yr holl waith hwn. Ar hyn o bryd, Llywydd, y gwir amdani yw nad oes neb yn gwybod mewn gwirionedd beth fydd yn digwydd pe byddai Brexit heb gytundeb. Mae'n dilyn felly na fedr Cymru na'r Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd fod yn gwbl barod am bob posibilrwydd. Bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth y gallwn gan ddefnyddio pob cyfle i ymuno ag eraill i ddwyn perswâd ar y Prif Weinidog i gefnu ar y llwybr trychinebus hwn, i atal y niwed y byddai'n ei achosi i'n gwlad, ac i ddod o hyd i ffordd well ymlaen.

15:40

A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma? Mae'r DU yn awr wythnosau'n unig o adael yr Undeb Ewropeaidd ac felly rwy'n cytuno â barn y Prif Weinidog ei bod yn hanfodol fod ymgysylltiad adeiladol yn digwydd ar unwaith i baratoi Cymru pe byddem yn gadael yr UE heb gytundeb. Felly, mae'n hanfodol bwysig bod arweinwyr Cymru yn rhoi eu gwahaniaethau gwleidyddol o'r neilltu ac yn gwneud popeth o fewn ei gallu i baratoi Cymru ar gyfer bywyd ar ôl 29 Mawrth. Dyna pam y derbyniais ei wahoddiad yr wythnos diwethaf i gwrdd ag ef i drafod goblygiadau Brexit.

Nawr fe ddywed y Prif Weinidog, yn ei ddatganiad, mai dim ond wythnos sydd ar gael i geisio cytundeb ar Brexit. Rwyf yn siŵr y byddai'n cytuno â mi ei bod yn hanfodol fod gwleidyddion yn siarad a chyd-weithio gyda'i gilydd, pryd y gallant, er budd y bobl y maen nhw'n eu cynrychioli. Fodd bynnag, a yw'n cytuno â mi ei bod hi'n siomedig dros ben ac, yn wir yn rhywbeth sy'n peri pryder, fod arweinydd y Blaid Lafur yn gwrthod eistedd wrth y Bwrdd gyda Phrif Weinidog y DU i drafod Brexit, o gofio bod arweinwyr yma yng Nghymru wedi bod yn ddigon aeddfed i gyfarfod? A wnaiff ef yn awr, felly, roi pwysau ar ei arweinydd ei hun i wneud hynny hefyd yn y DU?

Rwyf yn deall pam mae Llywodraeth Cymru yn gwneud cyfres o ddatganiadau y prynhawn yma, ond mae'n rhaid i ni dderbyn, pa un a ydym yn hoffi hynny ai peidio, fod pobl wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd yn 2016. Gan ei fod nawr wedi cadarnhau yn ei ddatganiad heddiw y bydd yn pwyso am ail refferendwm, a all ef egluro i'r Siambr hon sut y bydd ef a'i Lywodraeth yn parchu canlyniad y refferendwm gwreiddiol, oherwydd hyd yn hyn—hyd yn hyn—mae wedi ei gwneud yn glir fod hyn o'r pwysigrwydd mwyaf iddo?

Mae Prif Weinidog y DU wedi dweud yn gwbl glir nad bwriad Llywodraeth y DU yw gadael i amser lithro hyd at 29 Mawrth, ac felly mae gennym ni gyfle hollbwysig i gydweithio i gyflawni ar ran pobl Cymru. Yn yr ysbryd hwnnw, rwyf eisiau ei gwneud yn gwbl glir bod fy nghydweithwyr a minnau yn barod i gydweithio, pryd y gallwn, gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod blaenoriaethau cymunedau ar draws Cymru yn cael eu cyfleu i Lywodraeth y DU, a hyderaf y bydd y Prif Weinidog yn manteisio ar y gwahoddiad hwn yn ystod yr wythnosau nesaf.

Nawr, wrth i amser fynd yn ei flaen mae'n hanfodol bod yr holl randdeiliaid ledled Cymru yn paratoi ar gyfer y posibilrwydd o Brexit heb gytundeb, a byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ar y modd y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda'i rhanddeiliaid mewn termau cyffredinol er mwyn sicrhau eu bod mor barod ag sy'n bosibl ar gyfer y sefyllfa honno.

Nawr, fel y soniais yn gynharach, rwyf yn sylweddoli y bydd Gweinidogion yn gwneud datganiadau penodol yn ddiweddarach heddiw, pryd y byddan nhw'n mynd i fanylder ynghylch eu portffolios eu hunain. Mae'r Aelodau yn ymwybodol iawn o adroddiadau Pwyllgor Cynulliad pwysig ar y paratoadau ar gyfer Brexit dros y 18 mis diwethaf. Cyhoeddwyd un o'r adroddiadau hynny gan y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol bron i flwyddyn yn ôl. Argymhellodd yr adroddiad hwnnw fod Llywodraeth Cymru yn gwella ei chyfathrebu â sefydliadau unigol drwy ysgogi mwy ar gyrff cynrychioliadol i raeadru gwybodaeth i'r sefydliadau hynny. Fe nododd yr adroddiad hwnnw hefyd yn gwbl glir nad oedd gan y gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yr wybodaeth angenrheidiol i baratoi ar gyfer Brexit yn ddigonol. Felly, byddem yn ddiolchgar pe gallai'r Prif Weinidog roi manylion am y gwaith ychwanegol y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud ers yr adroddiad arbennig hwnnw i gefnogi gweithredwyr gwasanaethau cyhoeddus yn well wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. 

Nawr, mae, wrth gwrs, nifer o gwestiynau ynghylch perthynas gyfansoddiadol Cymru â rhannau eraill o'r DU wrth symud ymlaen. Felly, wrth ymateb i'm cwestiynau, efallai y gall y Prif Weinidog roi ei farn ar yr effaith y gallai Brexit heb gytundeb, pe byddai'n dod i hynny, ei chael ar ddyfodol y Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd, yn ogystal â lle Cymru yn y dyfodol hwnnw o fewn y Deyrnas Unedig.

Yn olaf, Llywydd, bydd llwyth gwaith deddfwriaethol y Cynulliad hwn yn cynyddu'n sylweddol os bydd Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ar 29 Mawrth heb gytundeb ffurfiol a chyfnod pontio. Yn wir, gallai diffyg cyfnod pontio roi pwysau enfawr ar y sefydliad hwn ac yn wir ar Lywodraeth Cymru. Felly, efallai y gallai'r Prif Weinidog ddweud wrthym pa asesiad a wnaed gan Lywodraeth Cymru ar effaith Brexit heb gytundeb ar ei weithrediadau ac yn wir ar weithrediadau'r Cynulliad.

Felly, i gloi, Llywydd, hoffwn ddiolch i'r Prif Weinidog am ei ddatganiad heddiw. Mae amser yn hollbwysig yn awr, wrth gwrs, ac felly hoffwn ailadrodd unwaith eto bod fy nghydweithwyr a minnau yn ymrwymedig i gydweithio, pryd y gallwn, gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ar ran pobl Cymru?

15:45

Llywydd, a gaf i ddiolch i Paul Davies am y ffordd yr agorodd ei gyfraniad ac am ddychwelyd at y thema honno ar y diwedd? Yr oeddwn i'n ddiolchgar iddo am dderbyn y gwahoddiad i gyfarfod yr wythnos diwethaf, a nodaf yn ofalus iawn ei gynnig i barhau â'r trafodaethau ar ôl heddiw. Yn sicr, mae hwnnw'n gynnig y byddaf yn manteisio arno.

Gan droi at rai o'r cwestiynau penodol a godwyd ganddo, y safbwynt a nodir gan arweinydd y Blaid Lafur yn San Steffan yw'r safbwynt yr wyf i wedi ei amlinellu y prynhawn yma: y dylai'r Prif Weinidog gymryd 'gadael yr UE heb gytundeb' oddi ar y bwrdd. Dyna'r ffordd i chwalu'r dagfa sydd wedi datblygu yn San Steffan, ac mae hyn yn rhywbeth sydd o fewn gallu'r Prif Weinidog; gall hi ei gwneud yn glir y byddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, ond y byddwn yn gwneud hynny mewn modd sydd wedi ei gynllunio, yn drefnus ac sydd â chytundeb gyda'r Undeb Ewropeaidd. Os gall hi gymryd 'gadael heb gytundeb' oddi ar y bwrdd, bydd hynny yn newid yr awyrgylch, bydd yn caniatáu i'r trafodaethau hynny ddigwydd, a dyna ddylai hi ei wneud.

Rwyf eisiau gwneud yn glir unwaith eto y safbwynt a nodais ynglŷn ag ail refferendwm, gan nad wyf yn dymuno i hynny gael ei gamddeall. Yr hyn a ddywedais yw y dylai'r Senedd barhau i weithio mor galed â phosibl i ddod o hyd i gytundeb—cytundeb sy'n parchu'r refferendwm ac yn diogelu ein heconomi. Ac rwy'n credu ei bod hi'n parhau i fod yn bosibl y byddan nhw'n canfod cydbwysedd yn Nhŷ'r Cyffredin ynghylch dull penodol lle yr ydym  yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ac yn lliniaru'r niwed y bydd hynny'n ei achosi. Yr hyn a ddywedais wedyn oedd, os bydd hynny'n profi i fod yn amhosibl, os bydd Tŷ'r Cyffredin dros y dyddiau nesaf yn methu â dod i benderfyniad ac nad oes mwyafrif o blaid unrhyw fath o gytundeb, yna, y ffordd orau i ddatrys yr anghytundeb llwyr bryd hynny fydd gofyn y cwestiwn i'r bobl y gofynnwyd y cwestiwn iddynt yn y lle cyntaf. Ac rwy'n gwrthod yn llwyr y cyhuddiadau oddi ar y meicroffon fod hyn rywsut yn ffordd gwrth-democrataidd o wneud pethau. Fe bleidleisiais i dros Lywodraeth yn 1997. Nid oeddwn i'n disgwyl y byddai'r canlyniad yn para am byth. Yn wir, gofynnwyd i mi eto yn 2001 a rhoddais yr un ateb. Yn wir, gofynnwyd yr un peth unwaith eto yn 2005 a rhoddais yr un ateb eto. Felly, mae'r syniad ei bod yn amhosibl i fynd yn ôl at y bobl sydd wedi rhoi mandad democrataidd a phenderfyniad, a gofyn iddynt am adolygiad pellach, yn hurt mewn unrhyw ddemocratiaeth. Dyna pam yr wyf i wedi dweud os yw'r Tŷ'r Cyffredin yn methu â dod i benderfyniad, yna efallai mai mynd yn ôl at y bobl y mae unrhyw fandad democrataidd wedi tarddu oddi wrthynt, yw'r ffordd o ddatrys hynny.

Gofynnodd Paul Davies i mi am yr hyn yr ydym ni'n ei wneud i helpu rhanddeiliaid. Bydd wedi gweld y porth busnes Brexit a ddarparwyd gennym. Bydd wedi gweld y wefan newydd Paratoi Cymru, sydd wedi cael dros 2,000 o ymwelwyr gwahanol ers ei lansio lai nag wythnos yn ôl, ac mae Gweinidogion yn parhau i gwrdd â rhanddeiliaid yn eu meysydd portffolio yn rheolaidd iawn.

Gofynnodd am wella cyfathrebu. Bydd wedi gweld, rwy'n gobeithio, y cymorth yr ydym wedi gallu ei ddarparu drwy gronfa pontio £50 miliwn yr UE—arian i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, i gonffederasiwn y gwasanaeth iechyd, i Gymdeithas  Cyfarwyddwyr y Gwasanaethau Cymdeithasol ac i Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru. Mae pob un o'r sefydliadau ymbarél hyn wedi cael cymorth cymhedrol—a chymedrol yn unig ydyw—cymorth o'r Gronfa er mwyn iddyn nhw ddatblygu sianelau cyfathrebu gwell am y pethau yr ydym yn gallu eu dweud  yn uniongyrchol wrth y sefydliadau hynny. Ond wedyn rydym yn dibynnu ar iddyn nhw allu trosglwyddo'r negeseuon hynny ymlaen i'w haelodaeth, ac rydym wedi gwneud ein gorau i ddarparu rhywfaint o gymorth ariannol iddyn nhw i wneud hynny.

Terfynodd Paul Davies ei gwestiynau gyda phwynt pwysig iawn am y straen pellach ar y berthynas gyfansoddiadol o fewn y Deyrnas Unedig y byddai Brexit heb gytundeb yn ei achosi. Onid dyna'r farn gyffredin? Dyna gasgliad ein pwyllgorau yn y fan yma, a dyna gasgliad pwyllgorau Tŷ'r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi, na fedr y prosesau rhynglywodraethol presennol sydd gennym yn y Deyrnas Unedig gynnal pwysau Brexit—ein bod wedi dibynnu ar lyfr rheolau cyffredin ers datganoli, llyfr  rheolau cyffredin yr Undeb Ewropeaidd, yr ydym i gyd wedi ymrwymo iddynt. Pan fydd y llyfr rheolau hwnnw yn diflannu, yna ni fydd y mecanwaith fydd ar ôl yn ddigonol ar gyfer y dasg. Ac rydym yn pwysleisio'r pwynt hwnnw, ac mewn sawl ffordd, bu Cymru yn brif ffynhonnell y penderfyniad i ddatrys y problemau hynny, ac mae Cydbwyllgor y Gweinidogion yn ei gyfarfod llawn, pan oedd fy rhagflaenydd, Carwyn Jones yn aelod ohono, wedi rhoi gwaith ar y gweill i wneud yn union hynny. Ond mae'n fater o frys, ac mae'n anodd perswadio Llywodraeth y DU i ddod o hyd i'r egni, yr amser a'r ymrwymiad i wneud i'r pethau pwysig iawn hyn ddigwydd.

Bydd y llwyth gwaith a fydd yn deillio o Brexit yn cael ei deimlo yn y sefydliad hwn, Llywydd, ac edrychaf ymlaen at drafodaethau pellach rhwng y pleidiau a gyda chithau i wneud yn siŵr ein bod yn canfod y ffordd fwyaf ymarferol bosibl o reoli'r effaith ddeddfwriaethol y bydd Brexit heb gytundeb yn sicr o'i chreu ar gyfer y Cynulliad Cenedlaethol ei hun.   

15:50

Er bod rhywfaint o anghytuno, yn amlwg, ar draws y Siambr hon, yn ei hanfod, o ran polisi Brexit, rwy'n siŵr bod cytundeb ehangach am yr anhrefn a dryswch sy'n nodweddu San Steffan ar hyn o bryd, a'r methiant gwleidyddiaeth dybryd yn y Siambr honno sy'n ein gyrru at ymyl trychineb 'dim cytundeb', y realiti sydd wedi creu'r angen am y cynllunio wrth gefn y mae'r Prif Weinidog wedi'i gyfeirio ato. Mae cau'r Gyngres ac impasse San Steffan yn ddau ben ar y trafferthion ar draws Môr yr Iwerydd ar hyn o bryd; maen nhw'n adlewyrchu ei gilydd bron yn union.

Yn y Siambr hon, gobeithiaf y bydd hi'n bosibl inni gytuno ar ymateb adeiladol i'r argyfwng gwleidyddol sy'n ein hwynebu, fel ein bod gyda'n gilydd yn y lle hwn ar draws y pleidiau yn gallu ymgysylltu ag aelodau'r cyhoedd y mae'n rhaid eu bod yn teimlo'n ddryslyd ac yn rhwystredig dros ben gan yr hyn y maen nhw'n ei weld. Ac rwyf i yma yn sôn am sefydlu cynulliad dinasyddion ar draws gwledydd yr ynysoedd hyn, ond yn sicr yma yng Nghymru, i gymryd yr awenau wrth estyn allan ar draws y gofod rhwng y rhai a bleidleisiodd i adael ac aros yn 2016, er mwyn ceisio cyrraedd mwy o gyd-ddealltwriaeth.

Mewn arolwg diweddar gan Gobaith nid Casineb, cafodd y datganiad hwn—y datganiad nad yw gwleidyddion, yn amlwg, yn gallu penderfynu sut i ddatrys mater Brexit, ac mae'r wlad yn rhanedig iawn ac felly mae angen gwahanol fath o ymateb—gefnogaeth gadarn gan y cyhoedd. Nawr, nid yw'n ddatganiad newydd, fel y bydd pobl yn ymwybodol. Yn wir, bydd gwelliant ar y trywydd hwn yn cael ei gyflwyno yn Nhŷ'r Cyffredin yr wythnos hon, ond ar gyfer cynulliad dinasyddion ar draws y DU. Yn naturiol, rydym ni'n credu y dylai gael ei gyfansoddi ar sail pedair gwlad.

Mewn erthygl yn The Guardian ychydig ddyddiau yn ôl, awgrymodd cyn-arweinydd y Blaid Lafur, y cyn-Brif Weinidog Gordon Brown hefyd gyfres o gynulliadau dinasyddion ar drywydd tebyg, yn mynd i'r afael nid yn unig â'r berthynas rhwng y DU a'r UE, ond o ran y cwestiynau dyfnach a achosodd y bleidlais o blaid gadael, o bosibl, mewn nifer o ardaloedd. Felly, materion am gyflwr yr economi mewn sawl rhan o'r DU, cyflwr cymunedau sydd wedi eu gadael ar ôl, y cynnydd mewn tlodi plant y mae cyni wedi'i greu.

Mae'n debyg y bydd Llywodraeth y DU yn gwrthod y syniad newydd hwn yr wythnos nesaf, fel y mae, hyd yn hyn wedi gwrthod y rhan fwyaf o syniadau newydd sydd wedi cael eu cyflwyno er mwyn ceisio torri'r anghydfod. Ond Brif Weinidog, yma yn y Cynulliad Cenedlaethol, os dymunwn, mae gennym y gallu i ddangos yr arweiniad i weithredu nawr. Gallem ni gytuno i sefydlu, ar sail gyfreithiol, gynulliad dinasyddion Cymru. Mae'n well gennyf y term 'confensiwn' neu'n well byth hyd yn oed, 'cymanfa'r bobl' yn y Gymraeg, i ennyn diddordeb ein pobl ein hunain. Gallai wneud hynny ar sail hollol wahanol i'r ffordd wleidyddol gonfensiynol, sydd bellach yn flinedig ac yn anhygred i raddau helaeth, y cynhaliwyd dadl Brexit,  

Wrth gyflwyno'r cynnig hwn, nid ydym ni ym Mhlaid Cymru yn camu'n ôl mewn unrhyw ffordd oddi wrth ein cefnogaeth gadarn i bleidlais y bobl ar ddewis terfynol rhwng pa bynnag gytundeb y mae Llywodraeth y DU a Senedd San Steffan yn ei gyrraedd ac aros o fewn yr Undeb Ewropeaidd. Ond, mae'n ymddangos i ni y byddai confensiwn dinasyddion Cymru, yn rhagflaenydd buddiol, adeiladol a fyddai'n uno'r bobl, i'r refferendwm hwnnw os caiff ei gynnal. A gallai hefyd ganiatáu i ni wir fynd i'r afael â rhai o'r problemau dyfnach, fel y soniais, y mae Brexit wedi eu datgelu, nid yn unig y berthynas rhwng y DU a'r UE, ond y berthynas o fewn yr ynysoedd hyn, cyfansoddiad yr ynysoedd hyn a'r ffordd y mae ein gwleidyddiaeth drwyddi draw ar chwâl, ac mae angen inni gymryd ein camau ein hunain yma yng Nghymru i'w hail-lunio. Felly, a gaf i wahodd y Prif Weinidog i ymateb yn gadarnhaol i hynny?

O ran cwestiwn o bleidlais y bobl, roeddwn yn falch o weld bod y Prif Weinidog newydd ailadrodd ei farn mai'r ffordd orau o sicrhau buddiannau Cymru fyddai drwy aelodaeth barhaus â'r Undeb Ewropeaidd. Nid yn unig hynny, cydnabu hefyd os na all y Senedd gytuno ar fargen sydd er ein budd economaidd ni yng Nghymru, un sy'n golygu ein bod yn parhau i gymryd rhan yn y farchnad sengl a'r undeb tollau, yna pleidlais y bobl fydd yr unig ddewis sydd ar ôl. Ymddengys ein bod yn symud yn nes at ein gilydd o ran y cwestiwn hwn o bleidlais y bobl.

A gaf i ofyn iddo ailadrodd unwaith eto, o ran yr amseru, oherwydd, yn amlwg, mae'n rhaid inni gadw golwg ar y cloc o ran y terfyn amser presennol: a yw e'n credu bod angen gwneud y penderfyniad hwnnw'n eithaf buan? Rydym ni'n sôn am ddim ond ychydig wythnosau pryd y gall y Senedd bleidleisio o blaid pleidlais y bobl er mwyn i ni ddefnyddio'r gobaith olaf hwnnw i osgoi'r hyn a fyddai, yn nhyb llawer ohonom, yn drychineb?

15:55

A gaf i ddiolch i Adam Price am ei gyfraniad a'r ffordd y mae ef wedi'i gyflwyno? Ac mae e'n hollol iawn i dynnu sylw at y ffaith y bu cytundeb arwyddocaol a sylweddol rhwng ein dwy blaid o ran y materion ehangach yn ymwneud â Brexit. Wrth ymdrin yn fyr iawn â'r pwyntiau a wnaeth tua'r diwedd, y safbwynt yr wyf wedi'i amlinellu heddiw yw'r safbwynt y pleidleisiodd ein dwy blaid drosto yma ar lawr y Cynulliad ar 4 Rhagfyr. Nawr, mae  wythnosau eraill wedi llithro ymaith ers hynny, felly, wrth gwrs, mae e'n iawn i dynnu sylw at y ffaith bod amser yn mynd yn brin, ac mae'r Senedd, fel y dywedais, hyd y gwelaf i, yng nghyfnod olaf ei gallu i lunio cytundeb sy'n parchu'r refferendwm ac sy'n lliniaru'r niwed y bydd gadael yr Undeb Ewropeaidd yn ei wneud i'n heconomi.

Gwrandewais yn ofalus ar yr hyn a ddywedodd. Rwy'n cytuno bod rhywfaint o ddryswch ymhlith y cyhoedd ynghylch sut y mae pethau wedi cyrraedd y pwynt hwn. Ac weithiau mae'n fwy na dryswch, onid yw—mae'n ymdeimlad o ddicter ein bod ni wedi methu â datrys y mater pwysig hwn, a bydd angen ailadeiladu dinesig ar ôl i hyn ddod i ben, pan fydd modd i ni gael pobl sydd â gwahanol ddaliadau cryf i ailymgysylltu â'i gilydd mewn modd sy'n parchu'r gwahanol safbwyntiau hynny. Ac nid yw gweiddi o'r cyrion yn fodel da ar gyfer trafodaeth barchus, pa mor gryf bynnag y gallai Aelod fod yn teimlo am y safbwynt hwnnw. Ar ddiwedd hyn i gyd, bydd gwaith i'w wneud o ran dod â phobl yn ôl at ei gilydd.

Nawr, cynulliad dinasyddion, confensiwn, cymanfa—mae pob un o'r rheini'n bosibiliadau yr wyf i'n hapus iawn i ymgysylltu â nhw yn gadarnhaol. Nid dyna'r unig syniadau, Adam, a dyna pam nad wyf i'n llwyr ymrwymo iddyn nhw heddiw. Mewn bywyd blaenorol, fe wnes i unwaith gynnal cyfres o bwyllgorau dethol cymunedol lleol, a gynlluniwyd i ddatrys materion lleol dadleuol, lle'r oedd panel o ddinasyddion yr ardal yn dod at ei gilydd, yn clywed tystiolaeth gan nifer o dystion, ac ar y diwedd, yn y ffordd ystyriol honno, yn ceisio dod i gasgliad am y ffordd orau ymlaen. Felly, ceir amrywiaeth o ffyrdd y gellid mynd i'r afael â'r gwaith ailadeiladu dinesig hwnnw. Yn sicr, mae cynulliad dinasyddion yn un ohonynt, ac edrychaf ymlaen at ddeialog barhaus â'r Aelod ac eraill ynghylch y model gorau y gallem ni ei fabwysiadu at y diben hwnnw yma yng Nghymru.

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

16:00

Diolch, Prif Weinidog, am y diweddaraf mewn cyfres o ddatganiadau yn ymwneud â Brexit, a ddechreuodd yr wythnos diwethaf. Nawr, cawsom ni un lled ddiddorol yr wythnos diwethaf gan eich Gweinidog Brexit, pryd y soniodd am bethau fel eich gwefan Brexit Llywodraeth Cymru, sy'n cynnig cyngor i fusnesau a sefydliadau ynghylch cynllunio wrth gefn ar gyfer gadael. Ac, fel y soniais wrthych chi yr wythnos diwethaf, mae'r rhain i gyd yn bethau a allai fod yn ddefnyddiol, a dyna'r pethau y dylai Llywodraeth Cymru fod yn eu gwneud: datblygu cynlluniau wrth gefn a chynnig cyngor. Nid wyf i'n gweld rhyw lawer o'r math hwnnw o bethau yn y datganiad hwn gennych chi heddiw.

Roedd yn ddiddorol clywed rhan o'ch ymateb i'r hyn a gododd Paul Davies wrth iddo sôn am—wel, nid wyf i'n siŵr pwy wnaeth ei grybwyll, ond cododd pwnc refferendwm Cynulliad Cymru 1997, a gwnaethoch chi'r pwynt eich bod wedi ateb y cwestiwn yn yr un ffordd o hyd. Dywedasoch chi eich bod wedi ei ateb yn 2001, eich bod wedi ei ateb eto yn 2005—[Torri ar draws.] Beth yr ydych—[Torri ar draws.] Beth allai—[Torri ar draws.] O, yr etholiad cyffredinol, iawn. Y pwynt y gallech chi fod wedi anghofio sôn amdano yw, yn y cyfamser, yn 1999, cafodd y lle hwn ei sefydlu. Felly, mewn gwirionedd, cafodd canlyniad y refferendwm ei weithredu. Felly, alla i ddim gweld, yn ôl y rhesymeg honno, sut yr ydych chi'n mynd i rwystro canlyniad y refferendwm hwn a gawsom yn 2016 ar aelodaeth Prydain o'r Undeb Ewropeaidd.

O ran y datganiad hwn heddiw, nid oes dim byd newydd ynddo. Rydych chi'n cyfleu safbwyntiau Llywodraeth y DU yr ydym eisoes yn ymwybodol ohonynt. Rydym ni'n gwybod bod Theresa May wedi dweud na fydd hi'n gohirio'r dyddiad ymadael. Gwyddom na fydd hi'n ystyried ail refferendwm. Rydym ni hefyd yn ymwybodol o'ch safbwynt ar hyn i gyd, yr ydych yn ei wneud yn gliriach nawr, ond rydym yn gwybod hynny ers peth amser—eich bod eisiau ail refferendwm. Fy unig wir gwestiwn am ddatganiad heddiw yw: pam ydych chi'n gwastraffu amser y Siambr hon gyda'r hyn sy'n lol wag yn y bôn?

Wel, Dirprwy Lywydd, nid wyf yn ei ystyried yn wastraff amser trafod ar lawr y Cynulliad hwn faterion a fydd yn cael effaith uniongyrchol ar fywydau pobl ym mhob rhan o Gymru a lle mae Gweinidogion ar gael i gael eu holi gan Aelodau'r Cynulliad ar fanylion y cynigion a fydd yn cael eu hadrodd yma y prynhawn yma. Sut gallai hynny fod yn wastraff amser mewn fforwm democrataidd? Roedd hon yn ymgais ddiffuant gan y Llywodraeth hon i ddangos pa mor ddifrifol yw'r sefyllfa yr ydym ni ynddi, i fod yn glir â phobl Cymru am ein hasesiad o beth fyddai Brexit heb gytundeb yn ei olygu ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus, busnes ac ar gyfer eu bywydau, ac yna i wneud yn siŵr bod ganddyn nhw'r wybodaeth ddiweddaraf sydd ar gael am y camau yr ydym yn eu cymryd, ac yna clywed gan eraill gan, a bod yn deg, ein bod ni wedi cael cyfraniadau gan y Blaid Geidwadol a Phlaid Cymru yma y prynhawn yma, yn gwneud rhai cynigion pellach ac adeiladol am y ffordd y gallwn ni weithio gyda'n gilydd i wneud yn siŵr, pe ddigwyddai hynny, ein bod yn gallu rhannu gwybodaeth, meddwl ymlaen llaw gyda'n gilydd a gwneud ein gorau i liniaru'r effaith yma yng Nghymru. Nid wyf i'n gweld hynny yn wastraff amser o gwbl.

Prif Weinidog, diolch am eich datganiad y prynhawn yma, a byddaf yn gwrando'n ofalus iawn ar y datganiadau sydd i ddod oherwydd, yn amlwg, codasom fwgan dim cytundeb dros 12 mis yn ôl pan baratowyd yr adroddiad cyntaf i ni gan Lywodraeth Cymru.

Paul Davies—roedd gen i un neu ddau o bwyntiau. Rwyf eisiau ei gadw'n syml oherwydd gwn fod amser yn brin ar gyfer eich datganiad. Tynnodd ef sylw at y llwyth gwaith deddfwriaeth sy'n dod i'n cyfeiriad. A yw Llywodraeth Cymru wedi nodi ei blaenoriaethau ar gyfer deddfwriaeth? Mewn geiriau eraill, a yw hi mewn sefyllfa i wybod yr hyn y mae hi eisiau ei basio'n gyflym a'r hyn y bydd yn ei ohirio tan ar ôl 29 Mawrth, rhag ofn y bydd gennym ni sefyllfa 'dim cytundeb' a'n bod yn gadael ar 29 Mawrth? A ydych chi wedi asesu eich hunan hefyd o ran capasiti? Gwn ein bod wedi sôn am eich capasiti i allu ymgymryd â'r llwyth gwaith hwn, a'ch bod chi wedi cyflogi mwy o staff, ond a ydych chi mewn sefyllfa erbyn hyn lle mae gennych chi ddigon o gapasiti i symud ymlaen yn y math hon o sefyllfa, oherwydd rydym ni saith wythnos i ffwrdd oddi wrth y pwynt lle y byddwn y tu allan i'r UE, a bydd yn rhaid i ni gadw at gyfraith y DU a'r cyfreithiau a gaiff eu pasio yn San Steffan ar gyfer popeth.

O ran papurau technegol Brexit heb gytundeb a gyhoeddwyd y llynedd, beth yw eich asesiad o'r rheini bellach? Oherwydd pan edrychais i arnyn nhw, a dweud y gwir, roedd y rhan fwyaf ohonyn nhw yn wastraff papur; Doedden nhw ond yn dweud wrthym yr hyn yr oeddem eisoes yn ei wybod ond nid yn dweud wrthym sut i ddatrys y problemau. A oes gennych chi atebion i rai o'r materion hynny erbyn hyn? Ac ar 29 Mawrth, os na fydd cytundeb, lle'r ydym ni gyda'r fframweithiau cyffredin a gweithredu'r fframweithiau hynny i weld sut y byddwn yn symud ymlaen â hynny?

16:05

Diolch i'r aelod am y rheini, a, Dirprwy Lywydd, dim ond i ddweud eto, fel yr ydym wedi dweud o'r blaen yn y fan hon, bod adroddiadau o bwyllgorau'r Cynulliad, ac yn arbennig y pwyllgor y mae David Rees yn ei gadeirio, wedi dylanwadu'n fawr ar ein ffordd ni o feddwl ac wedi caniatáu i'r Cynulliad Cenedlaethol hwn fod yn rhan o gyfres ehangach o gysylltiadau â deddfwrfeydd eraill, gan wneud yn siŵr bod pethau sy'n bwysig yma yng Nghymru yn cael eu rhannu â'n cymheiriaid yn San Steffan, yr Alban a, gobeithio maes o law, â Chynulliad Gogledd Iwerddon hefyd.

Gofynnodd David Rees imi a ydym wedi blaenoriaethu ein deddfwriaeth. Do, rydym wedi gwneud hynny. Arweiniodd at rai sgyrsiau heriol gyda'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ynghylch, er enghraifft, a ydym ni'n cyflwyno digon o ddeunydd i'r Cynulliad graffu arno, a ydym ni'n dibynnu gormod ar lywio deddfwriaeth drwy San Steffan. Ond mae hynny'n ymarfer ynglŷn â blaenoriaethu; roedd yn ceisio gwneud yn siŵr bod amser y Cynulliad, a fydd yn brin, yn cael ei neilltuo i'r newidiadau deddfwriaethol hynny sy'n cael effaith wirioneddol ar bolisïau, ac yn caniatáu ar gyfer llywio deddfwriaeth drwy San Steffan, lle nad yw ond yn dechnegol ei natur neu ddim yn arwain at newid polisi o'n sefyllfa bresennol.

O ran capasiti, dim ond hyn a hyn sy'n bosib, Dirprwy Lywydd. Dyna'r gwir amdani: rydym dan bwysau. Nid oes gennym fyddin ddiddiwedd o bobl yn gweithio i Lywodraeth Cymru y gallwn ni eu hadleoli i ymdrin â mater brys Brexit. Yr hyn yr ydym ni'n gorfod ei wneud yw symud pobl o waith pwysig arall er mwyn gwneud gwaith sydd hyd yn oed yn fwy pwysig ac y mae hyd yn oed mwy o frys amdano ym maes Brexit. Ac er bod gennym ni beth arian yr ydym ni'n ei groesawu'n fawr gan Lywodraeth y DU i'n galluogi ni i gyflogi pobl i ymdrin ag effaith Brexit, mae hynny i gyd yn golygu amser hefyd. Nid yw'r sgiliau yr ydych chi'n chwilio amdanyn nhw yn sgiliau y mae digon ohonyn nhw ar gael bob amser.

Mae David Rees yn llygad ei le, Dirprwy Lywydd, yn ei sylw diwethaf ynghylch yr hysbysiadau technegol. Roedden nhw'n dweud ychydig iawn am atebion a llawer iawn wrthym ni fod atebion yn cael eu hystyried, yn cael eu llunio, yn cael eu harchwilio, yn cael eu trafod, ond yn anaml iawn yn cael eu darparu. Beth yw pen draw hyn i gyd i ni? Mae'n ein harwain ni i'r sefyllfa yr oedd yn rhaid i'r Dr Liam Fox ei chyfaddef dim ond yn yr ychydig ddyddiau diwethaf—bod y 40 cytundeb masnach y dywedodd ef y byddent yr hawsaf i'w negodi yn hanes cytundebau masnach—. Rwy'n cofio'n ei glywed yn dweud unwaith mai'r cwbl fyddai ei angen fyddai potel o Tipp-Ex, lle byddem ni'n rhoi Tipp-Ex dros y blaenlythrennau 'EU' ac yn ysgrifennu'r llythrennau 'UK' yn eu lle, a dyna'r cyfan fyddai angen ei wneud. Ni fydd unrhyw un o'r cytundebau hynny'n barod ar y diwrnod y byddwn ni'n gadael yr Undeb Ewropeaidd.

10. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Effaith Brexit heb Gytundeb ar ein Gwasanaethau Iechyd a Gofal

Eitem 10, felly, yw Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynglŷn ag effaith Brexit heb gytundeb ar ein gwasanaethau iechyd a gofal. A galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Pan amlinellais am y tro cyntaf effaith bosib Brexit heb gytundeb ar y GIG a gwasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru ym mis Mehefin y llynedd, roedd rhai Aelodau yn y Siambr hon yn fy nghyhuddo o godi bwganod a gwneud drygau gwleidyddol. Eto i gyd, dwy flynedd a hanner ar ôl refferendwm yr Undeb Ewropeaidd, a llai na 70 diwrnod cyn y mae'r DU i fod i adael yr Undeb Ewropeaidd, mae'r posibilrwydd o beidio â chael cytundeb bellach yn fwy nag erioed. Prin fod carreg sylfaen o gwbl wedi ei gosod ar gyfer y berthynas fydd gennym ni yn y dyfodol gyda'n partneriaid masnachu agosaf a phwysicaf. Yn hytrach, dim ond yr wythnos ddiwethaf, roeddem ni'n clywed adroddiadau am nifer cynyddol o feddyginiaethau yr effeithir arnyn nhw gan faterion cyflenwi ledled y DU yn wyneb Brexit heb gytundeb.

Mae Llywodraeth y DU yn gyfrifol am sicrhau bod y cyflenwad o feddyginiaethau yn parhau, fel gyda chynifer o feysydd a fydd o bosib yn effeithio ar bobl Cymru. Er bod nifer a math y meddyginiaethau yr effeithir arnyn nhw yn gymharol isel, mae'n amlwg na all Llywodraeth y DU roi sicrwydd llawn na fydd Brexit heb gytundeb yn effeithio ar oruchwylion busnes beunyddiol. O safbwynt iechyd a gofal cymdeithasol, mae'n bwysicach nag erioed y caiff Brexit heb gytundeb ei ddiystyru fel isafswm.

Rwy'n parhau i fod yn bryderus ynghylch cyflenwi radioisotopau i Gymru yn y dyfodol pe byddai sefyllfa o ddim cytundeb. Mae radioisotopau yn hanfodol ar gyfer defnydd diagnostig a therapiwtig gan ein gwasanaeth iechyd gwladol. Nid oes unrhyw ffynonellau yn y DU, ac fe gaiff cyflenwadau eu mewnforio'n gyson o wledydd eraill yr UE drwy'r prif borthladdoedd traws-sianel. Mae'n debygol y bydd y tarfu a fydd yn deillio o archwiliadau yn ein porthladdoedd yn golygu y bydd radioisotopau yn ddiwerth ar gyfer triniaeth gofal iechyd. Rydym yn dibynnu ar sicrwydd Llywodraeth y DU, er bod y DU yn dal i fwriadu gadael Euratom, na fydd unrhyw rwystr rheoleiddiol i barhau i fewnforio radioisotopau ar ôl Brexit. Fodd bynnag, gallai Brexit heb gytundeb arwain at wahanol safonau a threfniadau rheoleiddio rhwng cenhedloedd a allai effeithio ar fewnforio radioisotopau. Ac, wrth gwrs, union ddymuniad y rhan fwyaf o'r rhai sy'n eiriol dros beidio â chael cytundeb yw bod gwahaniaeth mewn safonau a threfniadau rheoleiddio.

Ni ddylai unrhyw un danbrisio effaith Brexit heb gytundeb—yr effaith y bydd Brexit heb gytundeb yn ei chael ar ddinasyddion unigol a theuluoedd. Mae hynny'n cynnwys, wrth gwrs, wladolion yr Undeb Ewropeaidd sy'n byw ac yn gweithio yn y DU, neu ddinasyddion y DU, gan gynnwys llawer o ddinasyddion Cymru, sydd wedi manteisio ar ryddid i symud er mwyn byw a gweithio yn yr Undeb Ewropeaidd. Bydd pawb yn cael eu heffeithio.

Heblaw am yr ansicrwydd ynghylch trefniadau gofal iechyd cyfatebol a statws preswylydd sefydlog, bydd Brexit heb gytundeb yn anochel yn arwain at farchnad lafur dynnach o ran iechyd a gofal cymdeithasol ledled y DU. Bydd hynny'n ei gwneud hi'n fwy anodd byth inni gystadlu am staff, ac wrth gwrs, yn golygu cynnydd tebygol mewn costau. Bydd Brexit heb gytundeb yn cael effaith bellgyrhaeddol ar bob proffesiwn a holl staff iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd y newidiadau i bolisïau ymfudo, yn enwedig polisi sy'n ffafrio sgiliau a chyflogau uchel, yn effeithio fwyaf ar y rhannau hynny o'r sector iechyd a gofal cymdeithasol sy'n dibynnu ar weithwyr ar gyflogau cymharol isel, megis gweithwyr sy'n darparu gofal cartref neu breswyl, sydd â swyddogaeth ganolog yn cefnogi rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Felly, gadewch inni fod yn glir: byddai amharu ar ein sector gofal cymdeithasol nid yn unig yn effeithio ar ddinasyddion sy'n agored i niwed yn y byd gofal cymdeithasol, ond byddai'n anochel yn arwain at oedi wrth ryddhau cleifion o ysbytai ac at gynyddu pwysau ar ein hysbytai. Mae hynny'n golygu pwysau ar ein staff ac ar y dinasyddion eu hunain sy'n dal i fod angen iechyd a gofal cymdeithasol arnynt.

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn glir y byddai Brexit heb gytundeb yn achosi niwed difrifol ac anochel i'n gwasanaethau iechyd a gofal, ac y byddai'r niwed hwnnw'n ymestyn i bob sector, gan gynnwys, wrth gwrs, y 1,400 o leiaf o wladolion yr Undeb Ewropeaidd y gwyddom sy'n gweithio yn ein gwasanaeth iechyd gwladol. Os ydym yn mynd i adael yr Undeb Ewropeaidd gyda'r niwed lleiaf posib i'n gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, yna mae'n rhaid cael sicrwydd y ceir cytundeb a fydd yn sicrhau mynediad llawn a pharhaus a dilyffethair i'r farchnad sengl, a datblygiad system fudo newydd lle bydd mwy o gysylltiad rhwng mudo a chyflogaeth, gan sicrhau na fydd neb yn manteisio ar y gweithwyr hynny.

Hoffwn i ganolbwyntio nawr ar y gwaith yr ydym ni wedi bod yn ei wneud i liniaru rhai o'r peryglon sylweddol a hysbys o Brexit heb gytundeb. Rydym wedi bod yn gweithio'n agos gyda'r GIG, awdurdodau lleol, cyrff proffesiynol a chynrychioliadol i gynllunio a pharatoi lle bo hynny'n bosib. I gefnogi darparwyr gofal cymdeithasol, mae gennym y comisiynydd Ipsos MORI i asesu cyfansoddiad y gweithlu gofal plant a gofal cymdeithasol yma yng Nghymru. Bydd yr ymchwil honno yn ein helpu ni i ddarganfod faint o weithwyr yr Undeb Ewropeaidd sy'n cael eu cyflogi yn y sector, fel y gallwn ni eu cefnogi nhw a'u cyflogwyr. Bydd hefyd yn hwyluso cynllunio cost-effeithiol ar gyfer ardaloedd neu swyddogaethau lle canfyddir gwendidau.

Dechreuais fy natganiad y prynhawn yma drwy gyfeirio at adroddiadau o brinder meddyginiaeth. Rydym wedi bod yn canolbwyntio ar sicrhau bod cyflenwad o feddyginiaethau, dyfeisiau meddygol a nwyddau traul clinigol ar gael os ceir Brexit heb gytundeb. O ran meddyginiaethau, fel y dywedais, rydym i bob diben yn dibynnu ar y gwaith y mae Llywodraeth y DU a'r diwydiant fferyllol yn ei wneud i sicrhau bod stoc a llwybrau trafnidiaeth pwrpasol ar gael. Fodd bynnag, rydym yn drylwyr wrth archwilio'r data sydd ar gael gan Lywodraeth y DU am y meddyginiaethau yr effeithir arnynt yn fwyaf tebygol neu lle nad oes digon o sicrwydd gan weithgynhyrchwyr. O ran dyfeisiau meddygol a nwyddau traul clinigol—popeth o reolyddion calon i badiau anymataliaeth i fenig llawfeddygol—byddwn yn defnyddio trefniadau'r DU os mai dyna'r peth priodol i'w wneud. Ond byddwn hefyd yn gwneud pethau ychwanegol os oes yna feysydd sy'n peri pryder, neu os teimlwn y gallwn roi'r sicrwydd ychwanegol sydd ei angen arnom ni yma yng Nghymru. Wrth wneud hynny, rydym yn ystyried sut i fwrw'n golygon y tu hwnt i 29 Mawrth, a cheisio sicrhau gwerth parhaus rhai o'r mesurau y mae'n rhaid inni eu rhoi ar waith i baratoi ar gyfer Brexit heb gytundeb.

Roeddwn yn falch o groesawu ddoe gyhoeddi dadansoddiad trylwyr ac ystyriol iawn gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ynglŷn â sut y gallai Brexit effeithio ar bob agwedd ar iechyd a lles yng Nghymru dros y tymor byr, canolig a hir. Mae'r adroddiad yn canolbwyntio ar yr heriau gwleidyddol, cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd gwahanol y bydd Cymru yn eu hwynebu yn sgil Brexit. Bydd yn ffynhonnell gyfeirio a sylfaen dystiolaeth amhrisiadwy i arweinwyr gwasanaeth a'r gymuned wrth inni gamu i gyfnod hyd yn oed mwy ansicr a'r posibilrwydd o gysylltiadau rhyngwladol newydd. Dyma'r unig asesiad effaith iechyd yn ymwneud â Brexit sydd wedi'i gyhoeddi unrhyw le yn y DU. Mae'n enghraifft bellach o sut yr ydym yn defnyddio'r hyn a allwn ni o drefniadau'r DU ond hefyd yn mynd ymhellach os mai dyna'r peth cywir i'w wneud.

Mae'r ddwy fentr yn hanfodol bwysig i'n cynlluniau wrth gefn cyffredinol a byddwn yn darparu'r sicrwydd ychwanegol sy'n bosibl, oherwydd rydym mor barod ag y gallwn ni fod o fewn rheswm. Ond, hyd yn hyn, ni wyddom pa ffurf fydd i Brexit, gyda dim ond naw wythnos i fynd.

16:15

Ar 23 Mehefin 2016 pleidleisiodd pobl Cymru ac, yn wir, y Deyrnas Unedig, gan fwyafrif i adael yr Undeb Ewropeaidd—gyda'r nifer fwyaf o bobl yn pleidleisio ledled y DU erioed ers dechrau cadw cofnodion. Nawr, rwyf wedi credu erioed, fel yr wyf yn ei wneud heddiw, bod gan wleidyddion, ni waeth pa blaid, ddyletswydd sylfaenol i sicrhau y caiff ewyllys ein pobl ei wireddu. Y sefyllfa gyfreithiol ddiofyn, wrth gwrs, yw dim cytundeb.

Dros y ddwy flynedd a hanner diwethaf, mae wedi fy nhristáu i yma yn gweld Llywodraeth bresennol Cymru yn esgeuluso ei chyfrifoldebau datganoledig ei hun, yn osgoi craffu ac yn hytrach yn achosi anhrefn gan godi bwganod, ac yn awr yn ceisio difetha Brexit drwy wneud cyhoeddiadau dryslyd yn galw am etholiad cyffredinol ac, yn wir, am gynnal ail refferendwm neu—galwch hynny beth fynnoch chi—bleidlais y bobl. Yn hytrach, dylech fod wedi canolbwyntio ar baratoi'r meysydd datganoledig y mae gennych chi gyfrifoldeb amdanyn nhw yma, nid yn lleiaf y sector iechyd, o'r cychwyn cyntaf. Rydych chi'n gywir yn eich datganiad: mae yna nerfusrwydd yn y sector gofal iechyd yng Nghymru, ond nid ydych chi eich hun o unrhyw gymorth i hyn. Er enghraifft, mae'n ffaith syfrdanol nad yw cyfran GIG Cymru o gronfa bontio £50 miliwn yr UE sydd ar gael i Lywodraeth Cymru yn adlewyrchu eich rhethreg chwyddedig. Efallai y cofiwch, Gweinidog, ym mis Hydref 2018, i chi gyhoeddi mai dim ond—ie, dim ond—£210,000 o'r gronfa £50 miliwn fydd yn cael ei ddefnyddio i baratoi'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru ar gyfer Brexit. O ddifrif? O gofio bod iechyd a gofal cymdeithasol yn rhychwantu saith bwrdd iechyd, 22 o awdurdodau lleol, mae'n eithaf syfrdanol mewn gwirionedd eich bod mewn difrif wedi dyrannu dim ond oddeutu £7,200 i bob corff cyhoeddus.

Yn anffodus, mae diffyg parodrwydd yn thema gyffredin wrth ystyried sector iechyd a gofal cymdeithasol Cymru, fel mae un o'ch aelodau cynulliad Llafur eich hun, David Rees, wedi ei grybwyll a'i gydnabod. Er ichi sôn yn eich datganiad eich bod wedi comisiynu Ipsos MORI i asesu cyfansoddiad y gweithlu gofal cymdeithasol a gofal plant yng Nghymru, mae'n ffaith drawiadol mai dim ond nawr y mae hyn yn digwydd. Diolch byth, mae Llywodraeth y DU yn fwy trefnus ac wedi cydnabod materion fel meddyginiaeth ac wedi cynghori gweithgynhyrchwyr i bentyrru gwerth chwe wythnos o stoc yn achos sefyllfa o ddim cytundeb. Mae hefyd yn braf cael gwybod gan Brif Weinidog Cymru bod y llu diweddaraf o 140 o weithwyr—interniaid—yn yr adran honno o Lywodraeth Cymru sy'n paratoi ar gyfer Brexit, mewn gwirionedd, wedi'u hariannu gan Lywodraeth y DU. Yn fwy na hynny, nid oes gan Lywodraeth y DU unrhyw ddymuniad i atal pobl o'r tu mewn neu o'r tu allan i'r UE rhag dod i weithio yn ein gwasanaethau cyhoeddus. Mae Llywodraeth y DU wedi—a pheidiwch â gwadu hynny, mae wedi rhoi sicrwydd na fydd unrhyw newid i statws staff y GIG os na cheir cytundeb. Yn olaf, mae'n ymddangos—

Ydych, rwyf ar fin gofyn fy nghwestiynau nawr, Dirprwy Lywydd. Mae gennych chi fwy o fater i fynd i'r afael ag ef, oherwydd mae'n ymddangos bod Cymru yn parhau i gael anhawster cadw staff, beth bynnag fo'u cenedligrwydd. Yn wir, ymhlith pryderon Nick Fahy o Brifysgol Rhydychen mae yna berygl y gallai staff adleoli i Loegr. Yn bersonol, nid wyf yn credu fod hyn yn syndod, oherwydd gwn eisoes ei fod yn digwydd yn y gogledd, ac mae hynny oherwydd eich anallu chi eich hun i redeg y gwasanaeth iechyd—bwrdd sydd wedi bod mewn mesurau arbennig am dair blynedd.

Felly, fy nghwestiynau i chi, Gweinidog, yw: a wnewch chi gadarnhau a fyddwch chi'n cynorthwyo unrhyw gwmnïau yn ariannol gyda chostau pentyrru, ac, os felly, a fydd hynny'n dod o gronfa bontio yr UE neu o gronfa'r adran iechyd; (2) pa waith ydych chi'n ei wneud i liniaru pryderon staff gofal iechyd o ddim cytundeb, ac a ydych chi mewn gwirionedd yn ffyddiog o gadw staff GIG Cymru waeth beth fo'u cenedligrwydd gan wrthwynebu ar yr un pryd yr or-ddibyniaeth ar staff asiantaeth; a (3), yn olaf, a wnewch chi egluro a ydych chi'n ystyried sicrhau mwy o arian i helpu i baratoi'r sector iechyd a gwasanaethau cymdeithasol? Ledled y DU, dyma'r unig Lywodraeth ddatganoledig lle rydym wedi gweld toriadau enfawr a llym i'n gwasanaeth iechyd. Felly, rwy'n credu y dylid cyfeirio unrhyw—[Torri ar draws.]—unrhyw feirniadaeth nawr at Lywodraeth bresennol Cymru, a gadael i Lywodraeth y DU fwrw ymlaen â Brexit.

16:20

Hoffwn ddiolch i Janet Finch-Saunders am ei chyfraniad diddorol. Gwnaed amryw o haeriadau nad oedden nhw'n ffeithiol. Ni wnaf i ymdrin â phob un ohonyn nhw. Ond gadewch i ni ymdrin â'r tri chwestiwn tybiedig.

Arian ar gyfer cwmnïau i'w helpu gyda phentyrru: rydym yn disgwyl bod â'r un trefniadau ariannol i dalu am offer a meddyginiaethau i'w defnyddio yn y gwasanaeth iechyd. Fodd bynnag, efallai y bydd costau ychwanegol a fyddai'n cael eu trosglwyddo. Er enghraifft, os yw radioisotopau yn cael eu cludo ar awyrennau i'r Deyrnas Unedig oherwydd bod y trefniadau tollau ar ôl trefniant heb gytundeb yn golygu na allwch mewn gwirionedd ddod â radioisotopau drwy'r porthladdoedd yn y ffordd arferol, byddai cost bron yn sicr yn cael ei throsglwyddo i'r gwasanaeth iechyd, a byddai hynny'n cael effaith ar gyllidebau ym mhob un genedl o'r Deyrnas Unedig.

O ran statws preswylydd sefydlog, roedd yn gam cadarnhaol bod Prif Weinidog y DU o'r diwedd wedi gweld synnwyr a chytuno na fyddai ffi ymgeisio i bobl wneud cais am statws preswylydd sefydlog. Mae'r her yn bodoli o hyd ynglŷn â'r diffyg dealltwriaeth o ran sut fydd y broses yn gweithio ar gyfer dinasyddion sydd o bosib yn agored i niwed ac sydd wedi byw yn y wlad hon am gyfnod sylweddol o amser ac eisoes yn manteisio ar wasanaethau iechyd a gofal. Mae gan bobl, yn ddealladwy, ym mhob plaid yn y Senedd bryderon am broses yn cael ei rhedeg gan y Swyddfa Gartref, yn enwedig yng ngoleuni ei hanes diweddar gyda dinasyddion Windrush, gyda rhai ohonyn nhw, wrth gwrs, wedi cael eu halltudio o'r Deyrnas Unedig, ac y gwrthodwyd triniaeth iechyd a gofal hanfodol i rai ohonyn nhw. Mae llawer eto i'w wneud cyn y bydd pobl yn gwbl ffyddiog ynghylch statws preswylydd sefydlog, ac, wrth gwrs, os nad oes cytundeb, bydd yn rhaid i hynny fod ar waith er mwyn gallu cynnal proses o fewn ychydig wythnosau.

A dyna'r datganiad anghywir am ariannu iechyd a gofal cymdeithasol. Rydym yn ymdrin â hyn yn rheolaidd yn y Siambr hon. Mae'r Llywodraeth hon yn ariannu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn sylweddol fwy—o leiaf 8 y cant—nag y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ei wneud ar gyfer Lloegr. Mae'r toriadau cymharol ym maes gofal cymdeithasol yn sylweddol. Peidiwch â derbyn fy ngair i yn hynny o beth: edrychwch ar y Gymdeithas Llywodraeth Leol yn Lloegr lle mae'r Ceidwadwyr wrth y llyw a byddant yn dweud wrthych pa mor wael yw'r fargen a gafodd gofal cymdeithasol yn Lloegr. Hefyd edrychwch ar gydweithwyr yn y gwasanaeth iechyd gwladol yn Lloegr a byddant hefyd yn dweud wrthych am y fargen gawson nhw. Rydym ni'n gwneud yn well o lawer gydag iechyd a gofal cymdeithasol yma yng Nghymru, a does dim modd dadlau gyda'r ffeithiau yn hynny o beth.

O ran eich honiadau ehangach ynghylch diffyg parodrwydd ac achosi anhrefn, ar ryw adeg efallai yr hoffech chi droi at y newyddion ar y teledu. Wn i ddim a ydych chi'n ymwybodol o'r ffenomenon benodol hon—mae yna rywbeth sy'n cael ei galw'n Senedd, Senedd y Deyrnas Unedig, lle mae pobl yn sôn am Brexit yn rheolaidd. Mae Gweinidogion yn ymddiswyddo'n rheolaidd o'r Llywodraeth oherwydd na allan nhw gytuno â pholisi'r Llywodraeth. Mae Gweinidogion y Llywodraeth yn rheolaidd ar y cyfryngau yn anghytuno â pholisi'r Llywodraeth. Yn wir, dywedodd y Canghellor yr wythnos ddiwethaf mewn galwad ffôn i amryw o fusnesau na fyddai Brexit heb gytundeb yn cael ei ystyried, ac mae Prif Weinidog y DU yn mynnu nad yw hynny'n mynd i ddigwydd. Felly, mae Philip Hammond yn wych am awgrymu na fydd dim cytundeb, ond mae'r Marcsydd Jeremy Corbyn gyda'i farf pigfain yn ddrwg iawn am awgrymu na ddylid ystyried dim cytundeb. Os ydych chi eisiau gweld anhrefn, yna edrychwch ar Senedd y Deyrnas Unedig, edrychwch ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Llywodraeth y Deyrnas Unedig sy'n uniongyrchol gyfrifol am Brexit. Theresa May sy'n gyfrifol am ein sefyllfa ni, ar ôl, wrth gwrs, David Cameron, a ddechreuodd hyn i gyd yn y lle cyntaf.

Ac o ran eich sylw, eich honiad, bod Llywodraeth y DU wedi gwarantu—pe na bai cytundeb, ei bod wedi gwarantu statws staff y GIG, nid yw hynny'n wir. Ar ryw adeg, hoffwn estyn croeso i Janet Finch-Saunders ymuno â'r gweddill ohonom ni ar y blaned hon a chymryd Brexit heb gytundeb o ddifrif.

Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad. Yn y datganiad, mae'n nodi rhai o'r materion a'r problemau'n glir iawn, ac mae'r pryderon hynny'n bryderon y byddem ni yn y rhan hon o'r Senedd yn hoffi eu hategu. Mae'n rhaid imi gyfaddef fy mod i braidd yn siomedig bod diffyg manylder yn rhai o'i ymatebion. Ond rwyf hefyd yn cydnabod bod gennym ni lawer iawn o faterion am Brexit heb gytundeb i'w hystyried y prynhawn yma ac efallai nad oedd yn bosib iddo ymhelaethu mewn manylder am bopeth yr oedd arno o bosib eisiau eu trafod. Felly, soniaf ychydig mwy, os caf i, gyda'ch caniatâd, am rai o'r materion y mae wedi eu crybwyll. 

O ran y mater radioisotopau, mae hyn mewn gwirionedd, fel mae'n dweud, yn berygl difrifol posib. Nid bod unrhyw un yn mynd i ddymuno peidio â'u gwerthu i GIG Cymru o'u gwirfodd mwyach, ond mae yna, fel y tynnodd sylw atynt yn briodol, faterion ymarferol—y gellir eu goresgyn, ond ar gost sylweddol—ac wrth gwrs mae materion cyfreithiol. Nawr, mae'r Athro Wyn Owen wedi ein rhybuddio bod perygl, os nad oes unrhyw gytundeb, y bydd cyflenwyr naill ai'n penderfynu y byddan nhw'n parhau i gyflenwi'r DU nes y dywedir wrthyn nhw am beidio â gwneud hynny, a fyddai'n iawn yn y tymor byr, neu ni fyddan nhw'n cyflenwi hyd nes y cânt gadarnhad cyfreithiol y caniateir iddyn nhw wneud hynny. Felly, rwy'n gobeithio y gall y Gweinidog roi ychydig mwy o fanylion am y trafodaethau a gafodd gyda'r bobl berthnasol yn Llywodraeth y DU i sicrhau y caiff y sefyllfa gyfreithiol hon ei hegluro os bydd Brexit heb gytundeb. Ac rwy'n ei annog i ystyried, o gofio cyflwr Llywodraeth y DU ar hyn o bryd, yr ymddengys na all drefnu i gael ei hun allan o fag papur gwlyb—rwy'n gofyn iddo ystyried bod yn barod i ymdrin yn uniongyrchol â Brwsel ar y mater penodol hwn. Yn amlwg, mae angen ateb arnom ni ar gyfer y DU yn ei chyfanrwydd, ond, os nad yw hynny'n ymddangos yn debygol, rwy'n siŵr y byddai'r Gweinidog yn cytuno â mi na allwn fforddio i adael y bobl sy'n dibynnu ar y gwasanaethau hyn a GIG Cymru heb y cyflenwadau angenrheidiol.

Mae'r Gweinidog yn sôn yn ei ddatganiad am y gwaith sy'n mynd rhagddo—yr ymchwil—i edrych ar gyfansoddiad y gweithlu gofal plant a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Bydd hyn yn ddefnyddiol iawn, ond rwy'n gobeithio y gall y Gweinidog roi ychydig o fanylion inni y prynhawn yma am amserlen y gwaith hwnnw, oherwydd, yn amlwg, mae'n fater o frys canfod lle mae'r bylchau hynny'n debygol o fod. Ac, os yn y pen draw y bydd gennym broblemau yn y gweithlu gofal cymdeithasol, bydd hynny'n effeithio'n anochel, wrth gwrs, ar ofal iechyd, oherwydd ni fyddwn yn gallu rhyddhau pobl o ysbytai.

O ran y pwyntiau a wnaiff ynglŷn â meddyginiaethau, ac mae'n siarad ynghylch bod yn ddibynnol yn y bôn ar waith y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud—ac nid wyf yn obeithiol, nid wyf yn ffyddiog, ynghylch hynny, er y sylweddolaf, ar rai lefelau, fod angen hynny—tybed a all y Gweinidog rannu â ni y prynhawn yma, neu efallai y gall ysgrifennu at yr Aelodau maes o law, unrhyw fanylion ynghylch meddyginiaethau yr effeithir arnyn nhw, fwy na thebyg, ac a yw'n fodlon ai peidio, fel y mae pethau, gyda'r sicrwydd y mae gweithgynhyrchwyr yn ei roi. Yn yr un modd, o ran dyfeisiau meddygol a nwyddau traul, yn natganiad y Gweinidog dywedodd y bydd yn gwneud rhagor o waith mewn meysydd sy'n achosi pryder. Tybed a yw mewn sefyllfa i roi unrhyw awgrym cynnar inni heddiw o'r hyn y gallai'r meysydd pryder hynny fod, a pha gynlluniau wrth gefn sydd ar waith.

Nawr, mae'r Gweinidog yn cyfeirio, yn briodol, at adroddiad da iawn Iechyd Cyhoeddus Cymru a ddaeth i law lawer ohonom ni heddiw neu ddoe. Rwy'n ei gymeradwyo fel darn gwerthfawr o waith, ond hoffwn anghytuno ag un agwedd. Un o ganlyniadau cadarnhaol posib Brexit heb gytundeb sy'n cael ei amlygu yw gostyngiad posib yn y defnydd o alcohol. Wel, o'm rhan i, credaf fod Brexit heb gytundeb yn fwy tebygol o fy nghymell i yfed, a bod yn onest, os gwnewch chi faddau fy ngwamalu, Dirprwy Lywydd.

Ond hoffwn i dynnu sylw'r Gweinidog at rai o'r argymhellion. Mae naw yn yr adroddiad—meysydd y mae angen rhagor o waith arnyn nhw. Mae argymhelliad 7 yn dweud bod angen ymchwil bellach i effaith Brexit ar iechyd meddwl a lles, cydnerthedd cymunedol, gyda phwyslais arbennig ar blant ac oedolion ifanc, a ffermwyr a chymunedau gwledig, ardaloedd y porthladdoedd, a phobl dduon a