Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

12/12/2018

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Enwebu'r Prif Weinidog o dan Reol Sefydlog 8

Gweithred gynta'r prynhawn yma yw enwebu y Prif Weinidog. A oes unrhyw enwebiadau ar gyfer penodi'r Prif Weinidog? Carwyn Jones.

Llywydd, o dan Reol Sefydlog 8, a gaf i enwebu Mark Drakeford fel Prif Weinidog Cymru?

Diolch, Lywydd. Ar ran Grŵp Cynulliad y Ceidwadwyr Cymreig, rwy'n falch o enwebu Paul Davies AC.

Ar ran grŵp Plaid Cymru, rwy'n enwebu Adam Price i fod yn Brif Weinidog Cymru. 

Unrhyw enwebiadau eraill? Nac oes. Gan fod yna dri enwebiad, felly, byddaf yn cynnal pleidlais drwy alw'r gofrestr, ac yn gwahodd pob Aelod sy'n bresennol i bleidleisio dros ymgeisydd. Byddaf yn galw pob Aelod yn nhrefn yr wyddor. Dywedwch enw'r ymgeisydd yr ydych yn ei gefnogi'n glir pan gewch chi eich galw, neu dywedwch yn glir eich bod yn dymuno ymatal. Yn unol â Rheol Sefydlog 8.2, ni chaniateir i'r Dirprwy Lywydd nac i finnau bleidleisio. Dyma ni, felly, y rhestr enwau, a'r enw cyntaf, Mick Antoniw.

Mandy Jones yn absennol. Steffan Lewis yn absennol. Dai Lloyd. 

Byddwn yn awr yn aros i'r clerc gadarnhau canlyniad y bleidlais. 

Siaradwch ymysg eich gilydd.

Dyma ganlyniad y bleidlais, felly: Mark Drakeford 30 pleidlais, Paul Davies 12 pleidlais, Adam Price naw pleidlais, a phump yn ymatal. Gan ei fod wedi derbyn dros hanner y pleidleisiau a fwriwyd, rwy'n datgan bod Mark Drakeford wedi ei enwebu yn Brif Weinidog y Senedd yma. Yn unol ag Adran 47(4) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, byddaf yn argymell i'w Mawrhydi y dylid penodi Mark Drakeford yn Brif Weinidog. Rwy'n gwahodd Mark Drakeford i annerch y Siambr. Mark Drakeford. [Cymeradwyaeth.]

13:35

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i bawb sydd wedi cefnogi fy enwebiad yma y prynhawn yma? A dylid rhoi diolch arbennig, wrth gwrs, i fy rhagflaenydd, Carwyn Jones, am roi fy enw gerbron y Cynulliad, ac am y cymorth y mae wedi'i gynnig mor gyson dros nifer o flynyddoedd, ond yn enwedig dros yr ychydig ddyddiau diwethaf wrth i bethau newid.

Fel y gŵyr pob un ohonoch o'r trafodion ddoe, mae arwain plaid wleidyddol yma yng Nghymru yn fraint aruthrol, ac mae cael eich enwebu a'ch ethol yn Brif Weinidog yn y Cynulliad Cenedlaethol hyd yn oed yn fwy o fraint. Rwy'n gwbl ymwybodol o'r cyfle a'r cyfrifoldeb a ddaw law yn llaw â'r swydd hon. Ac yn y cyd-destun hwnnw, a gaf fi ddiolch i'r Aelodau, ym mhob rhan o'r Siambr, am eu haelioni ers dydd Iau yr wythnos diwethaf? Rwy'n wirioneddol ddiolchgar am yr holl negeseuon a gefais.

Heddiw, Ddirprwy Lywydd, yn gwbl briodol, mae'r pleidiau wedi cynnig eu henwebiadau ar gyfer swydd y Prif Weinidog, ac rydym wedi cynnal y broses ddemocrataidd hanfodol honno—etholiad. Yn y nifer o etholiadau rwyf wedi cymryd rhan ynddynt, mae pawb sydd wedi cymryd rhan ynddynt, bron â bod, yn gwneud hynny oherwydd y cyfraniad y maent yn awyddus i'w wneud i wasanaeth cyhoeddus Cymru, ac yn sicr, mae pawb sydd wedi cael eu henwebu heddiw yn byw yn y traddodiad allweddol hwnnw.

Ddirprwy Lywydd, pan gefais fy ethol yn arweinydd y Blaid Lafur yr wythnos diwethaf, dywedais fod mod yn awyddus i fod yn fflam o obaith mewn byd sy'n tywyllu. Nid heddiw yw'r adeg ar gyfer sylwadau pleidiol, ond mae'r awyr o'n hamgylch wedi tywyllu mwy byth yn y dyddiau ers hynny. Mae rhyw fath o wallgofrwydd wedi amharu ar y Blaid Geidwadol, ac ymddengys bod nifer sylweddol o'i Haelodau Seneddol o'r farn mai'r ffordd orau o sicrhau dyfodol ein gwlad yw drwy daflu her i'r arweinyddiaeth ar y goelcerth sydd ohoni yn sgil Brexit. Rwy'n credu o ddifrif, Ddirprwy Lywydd, fod pethau yma, mewn sefydliad mwy newydd a gwahanol iawn, yn cael eu gwneud mewn ffordd wahanol, a bron bob amser, fod pethau'n cael eu gwneud yn well.

Ddoe, buom yn sôn cryn dipyn am ddosbarth 1999. A bydd y rhai ohonom a oedd, mewn gwahanol ffyrdd, yn rhan o bethau yma ers dyddiau cynnar y Cynulliad Cenedlaethol, yn cofio mai'r bwriad oedd i hwnnw hefyd fod yn fflam o obaith yng Nghymru, yn fan lle y gellid anghofio'r hen ffyrdd gwrthbrofedig o wneud gwleidyddiaeth, a datblygu rysáit gwahanol, lle byddai'r pethau rydym yn cytuno arnynt yr un mor bwysig â'r pethau rydym yn anghytuno arnynt, a lle byddai'r materion sy'n uno ein gwlad yn cael rhywfaint o flaenoriaeth dros y materion sy'n bygwth ein rhannu. Nawr, nid wyf yn sôn am wleidyddiaeth heb angerdd neu gredoau sylfaenol. Rwy'n credu mewn gwleidyddiaeth sy'n ymroddedig ac sy'n cael ei llywio gan y math o gymdeithas rydym yn awyddus i helpu i'w chreu—amrywiaeth, undod, cymuned a chydraddoldeb—ar yr ochr hon i'r Siambr, ond lle rydym yn cyflawni'r wleidyddiaeth honno â pharch a ffocws ar yr hyn sy'n gyffredin rhyngom, lle rydym yn cydnabod bod y ffordd rydym yn ymddwyn yn gwneud gwahaniaeth mewn byd toredig ac ansicr—math mwy caredig o wleidyddiaeth.

Ddirprwy Lywydd, bûm yn meddwl cryn dipyn am hynny ddoe pan soniodd Carwyn am ein deddfwriaeth rhoi organau. Ar y noson hir honno pan fuom yn trafod y Bil yma ar lawr y Cynulliad, roeddem yn fflam o obaith mewn bywydau lle nad oedd llawer o obaith i'w gael. Ond cynhaliwyd y ddadl honno gennym, yn fy marn i, mewn ffordd a oedd yn gweddu i'w phwnc: drwy angerdd ar bob ochr i'r Siambr, ond heb unrhyw amheuaeth fod pob cyfraniad wedi'i gymell gan ddyhead i wneud y gwahaniaeth gorau posibl. Roedd y Bil a basiwyd gennym yn well o ganlyniad i'r ddadl honno, ac mae'r Ddeddf rydym wedi'i rhoi ar y llyfr statud wedi newid bywydau yma yng Nghymru ac wedi ysbrydoli newid y tu hwnt i'n ffiniau, a dyna'r math o wleidyddiaeth y mae pob un ohonom, rwy'n credu, yn awyddus i weld mwy ohoni yn y Cynulliad Cenedlaethol hwn.

Ddirprwy Lywydd, pan ddeuthum i'r Siambr hon am y tro cyntaf, ni ddeuthum yma fel pob un ohonoch chi, drwy gael eich ethol yma; deuthum yma am y tro cyntaf yng nghysgod y Prif Weinidog ar y pryd, Rhodri Morgan, a oedd yn ymweld â'r lle am y tro cyntaf wrth i'r Siambr ddod yn barod i'w defnyddio. Mae unrhyw fath o newid fel hyn yn adeg i fyfyrio, fel y gwelsom ddoe, ac rwyf wedi bod yn meddwl cryn dipyn am fy hen ffrind a mentor yn ddiweddar. Ni chynhesodd yn hawdd at yr adeilad newydd hwn. Bydd y rhai ohonom a oedd yma ar y pryd yn cofio, wrth i'w sylfeini gael eu gosod, y byddai'r adeilad gwreiddiol—Tŷ Hywel—yn gwegian o'r naill ochr i'r llall o dan effaith y gyrdd peiriant a'r cyhoeddiad llai na chalonogol a fyddai i'w glywed dros y system sain, yn cynghori'r rhai ohonom ar y lloriau uchaf i beidio â phoeni gan fod yr adeilad wedi'i gynllunio i siglo o ochr i ochr. 'Maent yn adeiladu lean-to newydd' oedd yr hyn y byddai'r Prif Weinidog ar y pryd yn ei ddweud wrth ymwelwyr pan oedd hyn yn digwydd.

Credaf iddo gynhesu at y man lle y treuliodd gymaint o oriau, a lle byddaf, y tro nesaf y byddaf yma, yn ateb eich cwestiynau. Fe fyddwch wedi gweld, efallai, ymhlith y sawl peth atyniadol ynglŷn â bod yn Brif Weinidog, nad y cyfle hwnnw yw'r un a apeliodd fwyaf ataf. A chredaf mai'r rheswm am hynny, yn rhannol o leiaf, yw oherwydd y blynyddoedd maith hynny pan dreuliwn y rhan fwyaf o bob dydd Mawrth yn paratoi'r Prif Weinidog ar y pryd ar gyfer yr ornest honno. Byddai'r diwrnod yn dechrau gyda Rhodri yn mynd drwy'r ffeil aruthrol honno y mae pob un ohonoch wedi'i gweld, gan nodi'r mannau hynny lle roedd angen mwy o wybodaeth neu well gwybodaeth. Yna, byddem yn ceisio dyfalu, yn aflwyddiannus fel arfer, ble fyddai Nick Bourne neu Ieuan Wyn Jones, neu yn ddiweddarach, Kirsty Williams, yn ceisio creu trafferth yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw. Byddai Rhodri'n diflannu; byddwn innau'n cael fy ngadael i geisio dod o hyd i'r wybodaeth a oedd ar goll gan dimau ym Mharc Cathays a oedd, yn anochel, ar wyliau, ar ddiwrnod hyfforddi neu wedi diflannu i Swyddfa Cymru, cyn i Rhodri ddychwelyd i amsugno, gyda'r gallu syfrdanol a oedd ganddo i wneud hynny fel papur blotio, popeth a oedd wedi ei baratoi ar ei gyfer.

Er gwaethaf yr holl waith paratoi manwl hwnnw, gallai popeth fynd o'i le mor hawdd. Fel y Llywydd, nid wyf yn bwriadu ysgrifennu unrhyw gofiannau, ond pe bawn i'n gwneud hynny, byddai'r dydd Mawrth hwnnw pan ddechreuodd y BBC adrodd ar y One O'Clock News, gyda llai na hanner awr i fynd tan y Cwestiynau i'r Prif Weinidog, fod grŵp o weision sifil Llywodraeth Cymru wedi cael eu 'darganfod', fel y dywedodd y BBC, mewn sesiwn fondio mewn sawna yn Llanymddyfri wedi'i serio ar fy nghof. [Chwerthin.]

Ar yr adegau hynny pan oedd trafferthion amlwg ar y gorwel, byddai Rhodri'n anelu am y lifft, a byddwn innau'n mynd yn ôl at fy nesg. Ar y dyddiau hynny, byddai'r Prif Weinidog ar y pryd yn oedi wrth iddo adael yr ystafell ac yn cynnig y cyngor doeth hwn: 'Helmed dun ymlaen', byddai'n ei ddweud, ac yna byddai'n ymadael am y Siambr hon. Felly, os oes unrhyw aelodau o fy nheulu yn yr oriel yn dal i bendroni ynglŷn â beth i'w gael i mi ar gyfer y Nadolig—[Chwerthin.]—rydych wedi clywed hynny'r prynhawn yma. Edrychaf ymlaen, gyda het addas ar fy mhen, at weld pob un ohonoch ar y dydd Mawrth cyntaf pan fyddwn yn ailddechrau yn y flwyddyn newydd. Ac yn y cyfamser,

Nadolig Llawen i chi i gyd. [Cymeradwyaeth.]

13:45
1. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad

Iawn, awn yn ôl at yr agenda nawr. Dyna ddigon o gyffro am heddiw, felly awn yn ôl at yr agenda, ac eitem 1 yw cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad, a daw’r cwestiwn heddiw gan Julie Morgan.

Senedd Ieuenctid Cymru

1. A wnaiff y Comisiwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf am Senedd Ieuenctid Cymru? OAQ53106

Roeddwn yn falch o gyhoeddi enwau Aelodau cyntaf Senedd Ieuenctid Cymru’r wythnos diwethaf—achlysur arbennig iawn. Ac rydw i eisiau cymryd y cyfle i ddiolch i’r cannoedd o ymgeiswyr—dros 450 ohonynt—a wnaeth sefyll i gael eu hethol, ac i’r miloedd o bobl ifanc a wnaeth gofrestru a phleidleisio mewn ymgyrch a oedd heb os yn llwyddiannus dros ben. A phob dymuniad da i’r 60 Aelod newydd.

Diolch i'r Llywydd am ei hymateb, a hoffwn longyfarch y Comisiwn ar eu gwaith i sefydlu'r Senedd Ieuenctid. Credaf fod y ffaith bod gennym bellach Senedd Ieuenctid yn cynrychioli llwyddiant ysgubol. Cyn bo hir, byddaf yn cyfarfod â'r Aelod Senedd Ieuenctid sydd newydd gael ei hethol dros Ogledd Caerdydd, Betsan Roberts, i'w llongyfarch. Felly, credaf fod hynny'n gyffrous iawn i bob un ohonom yma fel Aelodau'r Cynulliad hefyd.

Yn fy etholaeth i, cymerodd llawer o'r ysgolion ran yn y broses bleidleisio, a gwn fod y ganran a bleidleisiodd yn uchel iawn, ac roedd yn, wyddoch chi—cafwyd ymgysylltu da iawn. Ond roedd yn ymddangos nad oedd rhai ysgolion yn ymgysylltu cystal. Felly, tybed a oes unrhyw gynlluniau i ymgysylltu â rhai o'r bobl ifanc hynny nad ydynt yn ymwybodol eto o'r Senedd Ieuenctid, a tybed hefyd a oes unrhyw syniadau ynglŷn â sut y byddwch yn cyrraedd unigolion ifanc, yn enwedig unigolion ifanc sy'n perthyn i grwpiau penodol.

Diolch am eich cwestiwn atodol. Fel chi, rwyf wedi bod yn awyddus i gyfarfod â chynrychiolydd ifanc Ceredigion. Mewn gwirionedd, fe wnes i gyfarfod ag ef, Caleb Rees, ac rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau eraill yn chwilio am gyfleoedd i gyfarfod â'u haelodau cyfatebol, y bobl ifanc hynny sy'n chwilio am ein swyddi. Mae angen i ni fod yn ofalus; mae gennym bobl ifanc nawr sy'n awyddus i fod yn seneddwyr yn y dyfodol, a chredaf fod hynny'n beth gwych.

I ymateb i'r mater ynghylch ymgysylltu â phob ysgol, yr holl bobl ifanc yng Nghymru, credaf fod llawer iawn wedi'i wneud i ymgysylltu â chynifer o bobl ifanc â phosibl yn y cyfnod byr o amser a gawsom cyn yr etholiad cyntaf hwn. Bydd cyfnod hwy o amser nawr i ymgysylltu â phobl ifanc wrth baratoi ar gyfer yr etholiad nesaf mewn dwy flynedd, ac yn hollbwysig, y gwaith y bydd y seneddwyr ifanc hyn yn ei wneud gyda'u cyfoedion a'r bobl ifanc y maent yn eu cynrychioli yn eu Senedd Ieuenctid. Yn gyntaf, bydd y seneddwyr ifanc hynny yn cyfarfod yn rhanbarthol gyda phobl ifanc o'u hardaloedd, yn gwrando ar safbwyntiau o'u gwahanol ranbarthau yng Nghymru, ac yn cynrychioli'r safbwyntiau hynny yng nghyfarfod ffurfiol cyntaf y Senedd Ieuenctid yma ddiwedd mis Chwefror.

Ac o ran y pwynt a wnewch ynglŷn â sicrhau ein bod hefyd yn cynnwys ac yn ymgysylltu a phobl ifanc o gefndiroedd llai breintiedig—y gwaith y mae ein sefydliadau partner, sefydliadau ieuenctid wedi'i wneud wrth ethol a dewis 20 aelod ychwanegol o'r 60, credaf fod hynny wedi torri tir newydd hefyd. Ac mae'r amrywiaeth o bobl ifanc sydd gennym yn y Senedd Ieuenctid gyntaf, gobeithio, yn adlewyrchiad cywir o'r amrywiaeth eang o bobl ifanc sydd gennym yng Nghymru. Gallwn ddysgu o'r profiad o gynnal ein hetholiad cyntaf, a gallwn gefnogi ein pobl ifanc i ganiatáu iddynt ddod o hyd i'w llais yng Nghymru, a sicrhau wedyn nad yw hyn yn rhywbeth sy'n digwydd unwaith yn unig—mae hyn yn rhywbeth parhaol ar gyfer y dyfodol.

13:50

Rwyf innau wedi cyfarfod â fy nghynrychiolydd ar gyfer Canol Caerdydd, Gwion Rhisiart, ac rwy'n edmygu ei dair blaenoriaeth, sef deall pwysigrwydd prentisiaethau a chyfleoedd gwaith i bobl ifanc yn well, canolbwyntio ar gludiant i'r ysgol, gan gynnwys teithio llesol, a'r cyfleoedd ar gyfer siarad a dysgu Cymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg—blaenoriaethau rhagorol iawn. Credaf—. Yn amlwg, mae hwn yn waith sy'n mynd rhagddo, ac mae'n waith pwysig iawn. Credaf y bydd yn bwysig iawn maes o law inni gael yr union ffigurau o ran faint o bobl a bleidleisiodd, y gyfran o'r etholwyr posibl, yn ogystal â nifer y pleidleisiau ar gyfer pob un o'r ymgeiswyr—cafwyd 20 o ymgeiswyr yn fy etholaeth i—gan y credaf fod hynny'n rhan o'r ffordd y gallwn addysgu pobl ifanc ynglŷn â'r hyn sy'n rhaid iddynt ei wneud, ac yn bennaf oll, mae'n rhaid iddynt sicrhau bod pobl wedi cofrestru i bleidleisio, oherwydd fel arall, yn amlwg, ni fydd modd iddynt bleidleisio drostynt.

Wel, fel eich cynrychiolydd chi yng Nghanol Caerdydd, roedd trafnidiaeth leol hefyd yn un o flaenoriaethau allweddol Caleb o Geredigion. Ei ddau arall oedd yr angen am bleidlais y bobl ac annibyniaeth i Gymru, felly dewisiadau ychydig yn wahanol. [Torri ar draws.] Wel, gallai fod yn llawer.

Ond bydd pobl ifanc yn dod o hyd i'w llais eu hunain a byddant yn dod yma ac yn gwneud eu hargraff eu hunain, ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod ni, fel Cynulliad, yn sicrhau ein bod yn caniatáu iddynt ddiffinio'r ffordd y maent yn gweithio a sut y maent yn blaenoriaethu unrhyw faterion yr hoffent eu blaenoriaethu. Cofrestrodd dros 20,000 o bobl ifanc i bleidleisio. Mae angen inni sicrhau bod mwy o bobl wedi cofrestru ar gyfer yr etholiad nesaf. Mae nifer y pleidleiswyr hefyd yn rhywbeth rydym yn awyddus i weithio arno gyfer yr etholiad nesaf. Roedd yn etholiad electronig, ond cafwyd rhai cyfleoedd ar gyfer pleidleisio yn yr ysgolion hefyd, a phrofodd hynny'n arbennig o ddefnyddiol o ran sicrhau bod mwy o bobl yn pleidleisio. Byddwn wedi dysgu llawer iawn o ran sut y cynhaliwyd yr etholiad hwn gennym, a gallwn adolygu hynny ac ystyried barn y bobl ifanc a oedd yn rhan o'r broses i ystyried sut yr awn ati i ddatblygu hyn ar gyfer y dyfodol.

2. Cwestiynau Amserol

Cwestiynau amserol yw eitem 2. Mae gennym un wedi'i ddethol y prynhawn yma. Angela Burns.

Ysbyty'r Tywysog Siarl

1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y contract sector cyhoeddus sydd wedi'i ddyfarnu i Interserve ar hyn o bryd i ymgymryd â gwaith adeiladu yn Ysbyty'r Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful? 248

Diolch am eich cwestiwn. Mae Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf yn gweithio mewn partneriaeth ag Interserve ar y gwaith o adnewyddu Ysbyty'r Tywysog Siarl. Mae Llywodraeth Cymru yn monitro'r prosiect mewn ymgynghoriad â'r bwrdd iechyd.

Diolch am eich ateb. Ar gyfer y rheini nad ydynt yn ymwybodol o bosibl, dyfarnwyd contract gwerth £25 miliwn i Interserve gan fwrdd iechyd prifysgol Cwm Taf i gyflawni rhan o'r gwaith ailddatblygu yno. Nawr, mae gennyf bedwar cwestiwn yr hoffwn eu gofyn i chi'n gyflym ynglŷn â'r mater hwn, Ysgrifennydd y Cabinet. Gwyddom fod eich plaid chi, yn San Steffan, wedi galw am wahardd Interserve dros dro—sy'n anghyfreithlon, rhaid cyfaddef—rhag ceisio am gontractau cyhoeddus, ond nid yw hynny'n wir yn yr achos hwn. Mae'n amlwg nad ydych yn cytuno â'r penderfyniad hwnnw, ac roeddwn yn meddwl tybed pam hynny, ac a wnewch chi ymhelaethu ar hynny.

Ym mis Chwefror 2018, yn sgil y rhybudd elw gan Capita, cwympodd cyfranddaliadau yn Interserve bron i 20 y cant, ac roedd hyn ar ôl gostyngiad o 30 y cant yn y mis Hydref blaenorol. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, i mi, mae'n arwydd nad yw cwmni mewn sefyllfa gadarn yn ariannol. A ydych yn gwybod pa un a ystyriwyd y problemau ariannol hyn pan ddyfarnoch chi a/neu'r bwrdd iechyd y contract i Interserve ar gyfer y gwaith ailddatblygu ym Merthyr Tudful? Nawr, mae Interserve wedi negodi cynllun achub ar gyfer y dyfodol, ac mae hynny'n galonogol iawn, gan fod llawer iawn o bobl yn dibynnu arnynt am swyddi. Ond a allwch roi sicrwydd heddiw, Ysgrifennydd y Cabinet, fod cynlluniau ar waith i sicrhau na fydd unrhyw darfu ar y gwaith sy'n mynd rhagddo yn Ysbyty'r Tywysog Siarl, a'ch bod wedi rhoi camau lliniarol ar waith yn erbyn unrhyw beth anffodus arall a all ddigwydd i Interserve? Mae Llywodraeth y DU wedi penderfynu parhau i roi contractau i Interserve, neu i gadw contractau cyfredol gyda hwy, ond yr hyn a ddywedant yw bod ganddynt fecanwaith monitro cadarn iawn ar waith, ac mae ganddynt gynlluniau pe bai argyfwng pellach yn codi gydag Interserve. Felly, a allech ddweud wrthym heddiw eto pa un a oes gennych gynlluniau wrth gefn o'r fath yma i warchod ein buddsoddiad gwerthfawr?

13:55

Diolch am eich cwestiynau. O ran yr awgrym ychydig yn ddrygionus y dylid gwahardd contractau yn y dyfodol, wel, byddwn yn mabwysiadu ymagwedd bwyllog tuag at unrhyw un sy'n gwneud cais am gontract yn y dyfodol o fewn y gwasanaeth iechyd gwladol neu unrhyw her cyfalaf mawr arall lle mae Llywodraeth Cymru yn ceisio dyfarnu contract. Ac yn amlwg, byddai'r heriau sy'n gysylltiedig â chyflwr ariannol y cwmni hwn yn ffactor wrth ystyried unrhyw ddewisiadau yn y dyfodol.

Ein sefyllfa ar hyn o bryd, fodd bynnag, yw bod Interserve eisoes wedi cwblhau cam 1A o'r gwaith adnewyddu yn Ysbyty'r Tywysog Siarl, ac mae'r gwaith hwn yn angenrheidiol oherwydd hysbysiad diogelwch tân—felly, ymgymryd â'r gwaith hwnnw a chael gwared ar asbestos o'r adeilad. Dyfarnwyd y cam nesaf iddynt—cam 1B—ac archebwyd y gwaith hwnnw sawl mis yn ôl, cyn bod y pryderon mor ddifrifol neu mor amlwg ag y maent bellach. Felly, maent yn parhau â gwaith sydd eisoes wedi cychwyn, a'r pwynt yw bod y gwaith hwnnw'n cael ei gwblhau mewn camau ac mae'r arian yn cael ei ddarparu fesul cam. Nid ydym yn talu'r holl arian hwn ymlaen llaw ac yn cymryd risg enfawr, naill ai gyda chyllid cyhoeddus, neu'n wir, gyda'r gwaith sy'n mynd rhagddo.

Mae ein cytundeb fframwaith adeiladu 'Cynllun Oes' ar waith, ac mae hwnnw'n caniatáu inni fonitro'r gwaith a wneir yn ogystal, o bosibl, â newid i gyflenwr gwahanol ar y fframwaith hwnnw os bydd unrhyw gwmni'n methu bodloni eu rhwymedigaethau. Ac mae hynny wedi digwydd yn y gorffennol ar gontractau llai, naill ai ran o'r ffordd drwy'r broses o gyflawni prosiect, neu'n wir, ar ôl ennill tendr. Er enghraifft, prosiect yng Ngheredigion—Canolfan Iechyd Aberteifi—ar ôl y dyfarniad cyntaf ar 'Cynllun Oes', roedd angen ailedrych ar bwy oedd yr unigolyn hwnnw, gan na allai'r cynigydd gwreiddiol fodloni eu rhwymedigaethau.

Felly, oes, mae monitro ar waith, oes, mae cynllun ar waith, oes, mae mesurau lliniaru amlwg yn cael eu hystyried gan y bwrdd iechyd a'r Llywodraeth pe bai Interserve yn methu bodloni eu rhwymedigaethau. Ond ar hyn o bryd, y wybodaeth orau sydd gennyf, ac yn wir, sydd gan y bwrdd iechyd, yw ein bod yn disgwyl i Interserve fodloni eu rhwymedigaethau. Ond yn amlwg, mae'n fater y byddwn yn cadw llygad barcud arno.

Cyn gynted ag y darllenais yr adroddiad ddoe, cysylltais â phrif weithredwr y bwrdd iechyd yn uniongyrchol am wybodaeth. Roeddwn eisoes yn ymwybodol, wrth gwrs, fod Interserve yn gontractwr a oedd yn ymgymryd â gwaith ar adnewyddu Ysbyty'r Tywysog Siarl. Rwyf wedi gweld eu gwaith fy hun gan eu bod wedi cwblhau rhan gyntaf cam 1, ac rydym bellach yn symud i ail ran cam 1.

Nawr, cefais sicrwydd gan y bwrdd iechyd, yn sgil yr ansicrwydd yn y farchnad y tynnwyd eu sylw ato rai wythnosau yn ôl, eu bod wedi asesu'n llawn y risg i fwrw ymlaen gydag Interserve fel contractwr, a oedd eisoes wedi ennill a sicrhau'r contract ar gyfer ail gam y gwaith adnewyddu ac ailadeiladu wrth gwrs. Felly, fy nghwestiwn atodol i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, yw beth yw eich barn, o gofio'r hyn a ddywedodd y bwrdd iechyd ynglŷn â sut y maent wedi nodi'r risg naill ai o beidio â dyfarnu'r contract ac aildendro a gohirio'r gwaith am 18 mis arall, o bosib—. Wedi asesu'r holl risg, maent wedi penderfynu bwrw ymlaen, ac roeddwn yn awyddus i ofyn i chi a ydych yn fodlon nad oes unrhyw newid sylweddol yn y risg o fod y bwrdd iechyd yn bwrw ymlaen â'r gwaith fel y cynlluniwyd yn wreiddiol, ac a ydych yn fodlon eu bod wedi rhoi camau digonol ar waith ochr yn ochr â phartneriaeth cydwasanaethau'r GIG i reoli'r risg honno.

'Ydw' yw'r ateb syml, gan fy mod wedi trafod y mater hwn ddoe gyda phrif weithredwr GIG Cymru mewn gwirionedd, felly mae hwn yn fater a oedd ar fy meddwl cyn y cwestiwn amserol, oherwydd yn amlwg, rwy'n awyddus i sicrhau bod y gwaith yn ddiogel a bod prosesau monitro digonol ar waith mewn perthynas â'r risgiau a bod y risgiau'n dal i fod yn dderbyniol, i bwrs y wlad, ac yn amlwg, i'r broses o gyflawni'r gwaith mawr ei angen sy'n mynd rhagddo. Ni ddylai unrhyw un fod yn ddidaro naill ai am y risgiau, neu'n wir, am y potensial i godi pac a symud i rywle arall; byddai hynny'n arwain at oedi sylweddol a byddai'n effeithio ar allu'r gwasanaeth iechyd i gyflawni ei rwymedigaethau, yn ogystal, wrth gwrs, â'r gweithwyr a'r ansicrwydd ynglŷn â'u cyflogaeth. Felly byddwn, fe fyddwn yn parhau i fonitro perfformiad y contract, byddwn yn parhau i bryderu ynglŷn â sefyllfa ariannol y cwmni a sicrhau ein bod yn gwarchod y gwerth y mae'r cyhoedd yn amlwg yn awyddus inni ei oruchwylio er mwyn sicrhau bod y gwaith priodol yn cael ei wneud. Ac rwyf hefyd yn cydnabod, fel yr Aelod lleol, y byddwch yn parhau i gadw llygad barcud ar y mater hwn hefyd.

Mae'n rhaid imi ddweud fy mod yn cytuno â chydweithwyr Ysgrifennydd y Cabinet yn Llundain a chydag undeb Unite o ran eu hawgrym pendant iawn nad yw'n briodol rhoi contractau mawr newydd i'r cwmni hwn a hwythau mewn sefyllfa ariannol mor fregus. Rwy'n derbyn yr hyn y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i ddweud ynglŷn â'r ffaith mai cam 2 yw hwn o brosiect parhaus ac efallai nad yw'n briodol iddo ymyrryd ar hyn o bryd, ond a gaf fi ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet a fydd yn ystyried rhoi arweiniad pellach i'r byrddau iechyd ynghylch y diwydrwydd dyladwy y dylent ei gyflawni wrth edrych ar y cwmnïau sy'n cael y contractau enfawr hyn ganddynt ac sydd, wrth gwrs, fel roedd yn iawn i'w ddweud, yn bwysig iawn ac yn arwyddocaol iawn, gyda llawer o bobl yn gweithio iddynt? Yn amlwg, Ddirprwy Lywydd, bydd pob un ohonom yn y Siambr hon yn awyddus i'r contract hwn fod yn llwyddiannus ac yn taer obeithio bod y cwmni'n ddigon cadarn yn ariannol i allu ei gyflawni. Ond unwaith eto, fel y dywedaf, rwy'n cytuno â'r Blaid Lafur yn Llundain ac undeb Unite; a dweud y gwir, nid wyf yn hyderus.

14:00

A bod yn deg, credaf fod yr ymatebion a gafwyd heddiw, ac yn wir, y wybodaeth a ddarparwyd yn uniongyrchol gan yr Aelod lleol wrth roi ei chwestiynau, yn atgyfnerthu'r ffaith nad yw hwn yn gontract newydd, mae'n gontract a ddyfarnwyd sawl mis yn ôl. Mae'n gontract y mae'r bwrdd iechyd eisoes wedi edrych eto arno o ran y risgiau posibl wrth barhau â'r gwaith neu beidio â pharhau â'r gwaith gydag Interserve. Ac wrth gwrs, mae'r sefyllfa ariannol a diwydrwydd dyladwy eisoes yn nodwedd yn y broses o ddyfarnu contractau o dan gytundeb fframwaith adeiladu Cynllun Oes. Wrth gwrs, bydd yn fater lle y ceir monitro penodol, yn ganolog yma o fewn y Llywodraeth yn ogystal ag o fewn y bwrdd iechyd, o allu'r cwmni i gyflawni'r gwaith y maent wedi ymgymryd ag ef ac o dan gontract i'w wneud. Bydd dyfarniadau newydd ar gyfer ceisiadau contract newydd—wrth gwrs, bydd diwydrwydd dyladwy priodol yn cael ei gwblhau, ac wrth gwrs, bydd yn ffactor lle bydd pobl yn deall, os edrychwch ar Interserve ac unrhyw gontractwyr eraill posibl, fod hyn yn ymwneud â rheoli'r risgiau sydd gennym ac a ddeallwn, ac yna sicrhau bod y gwaith yn cael ei gwblhau er mwyn gwneud yn siŵr ei fod yn darparu gwerth da i'r cyhoedd a lle da i bobl gael a darparu gofal iechyd.

3. Datganiadau 90 Eiliad

Eitem 3 ar yr agenda yw'r datganiadau 90 eiliad. Daw'r cyntaf heddiw gan y Llywydd, Elin Jones.

100 mlynedd yn union yn ôl i'r wythnos hon, cynhaliwyd yr etholiad cyffredinol cyntaf wedi'r rhyfel ar 14 Rhagfyr 1918. Roedd Deddf Senedd (Cymhwyster Menywod) 1918 newydd gael Cydsyniad Brenhinol ar 21 Tachwedd 1918. Rhoddodd y Ddeddf yr hawl i ferched dros 21 oed sefyll etholiad i Dŷ'r Cyffredin. Yn yr etholiad cyffredinol hwnnw ar 14 Rhagfyr, safodd un fenyw o Gymru etholiad, a'i henw oedd Millicent Mackenzie. Ymgeisiodd am sedd Prifysgol Cymru fel ymgeisydd Llafur. Enillodd 20 y cant o'r bleidlais a chollodd i'r Rhyddfrydwr, Syr Herbert Lewis. Un fenyw yn unig a etholwyd yn AS yn yr etholiad hwnnw yn 1918, sef Constance Markievicz, ac fel ymgeisydd Sinn Féin, ni chymerodd ei sedd yn Nhŷ'r Cyffredin.

Pwy oedd Millicent Mackenzie, y fenyw gyntaf erioed i sefyll etholiad yng Nghymru? Yn ogystal â bod yn ymgeisydd yn yr etholiad hwnnw, roedd Millicent Mackenzie yn athro addysg yng Ngholeg Prifysgol De Cymru a Sir Fynwy, fel y gelwid Prifysgol Caerdydd ar y pryd. Hi oedd yr athro benywaidd cyntaf mewn unrhyw brifysgol siartredig yn y DU. Roedd yn uchel ei pharch fel academydd addysgol a hyfforddwr athrawon. Roedd Millicent Mackenzie hefyd yn swffragét flaenllaw yn ardal Caerdydd, a dyna a phenllanw hynny oedd ei hymgais i gael ei hethol yn 1918. Rhoddir cyn lleied o sylw i fenywod yn ein hanes, fel nad oeddwn wedi clywed enw Millicent Mackenzie tan fis Ionawr eleni. Ond ni ddylem adael i enw'r fenyw arloesol hon gael ei anghofio yn ystod y 100 mlynedd nesaf. Fel 27 o ACau benywaidd y Senedd hon, diolchwn ichi, Millicent, ac rydym yn sefyll ar eich ysgwyddau. Millicent Mackenzie.

Rydw i am ddefnyddio'r cyfle yma i longyfarch cymuned Llangollen ar sicrhau'r statws o fod yn gymuned ddi-blastig gan y mudiad Surfers Against Sewage. Mae'r diolch yn mynd i waith diflino gwirfoddolwyr fel Mair Davies a grwpiau lleol fel Cyfeillion y Ddaear yn Llangollen. Hon yw'r gymuned gyntaf yng ngogledd Cymru i sicrhau'r gydnabyddiaeth yma, ond mae'n dda gen i ddweud bod eraill fel Dinbych, Prestatyn, y Rhyl, Conwy, Bangor, Caernarfon ac Ynys Môn oll wedi dechrau ar y broses hefyd. Mae ganddyn nhw gynllun pum pwynt i gyrraedd eu nod, sef sefydlu pwyllgor llywio cymunedol, dechrau ar raglen addysgiadol ysgolion di-blastig, cael y cyngor tref i ymrwymo, gweithio gyda busnesau lleol, a threfnu i weithio gyda grwpiau cymunedol lleol i leihau faint o blastig tafladwy y maen nhw'n ei ddefnyddio. 

Fel rhan o'r rhaglen, mae busnesau lleol wedi addo lleihau eu defnydd o blastig mewn amrywiaeth eang o ffyrdd, o roi'r gorau i'r gwelltyn, i newid i fagiau papur, swmp-brynu, ail-lenwi cynwysyddion, cael gwared ar eitemau gweini untro, cael gwared ar gyllyll a ffyrc plastig a chael gwared ar ddeunydd pacio plastig. Mae amrywiaeth o ddigwyddiadau wedi eu cynnal yn y dref i helpu i leihau plastig, o foreau coffi i deithiau codi sbwriel a thrafodaethau grŵp i rymuso pobl eraill i newid. Ac wrth gwrs, mae sefydliadau cyhoeddus a dinesig wedi ymrwymo i'r achos, megis cyngor y dref, Cittaslow Llangollen, y siambr fasnach ac ysgolion lleol. Yn wir, bûm yn ymweld yn ddiweddar ag Ysgol y Gwernant yn y dref, ac roedd y disgyblion yno'n sôn yn frwd iawn ynglŷn â sut yr hoffent fynd i'r afael â'r defnydd o blastig untro. Felly, llongyfarchiadau i Langollen, a gadewch i ni obeithio y bydd llawer o gymunedau eraill ledled Cymru yn dilyn eu hesiampl ac yn dod yn gymunedau di-blastig.

14:05

Ar 11 Rhagfyr 1282, ar ddiwrnod oer a chaled yng Nghilmeri, lladdwyd Llywelyn ap Gruffudd neu Llywelyn ein Llyw Olaf, tywysog Cymru. Gyda'i farwolaeth ef, dan law Stephen de Frankton, un o filwyr Edward I, collodd Cymru a'i phobl eu rhyddid. Dilynodd wedyn saith canrif o ymladd yn erbyn gormes, gan ymdrechu dros hunanbenderfyniad, dros hunanlywodraeth a thros ryddid i gael bod yn wlad annibynnol. Heddiw, mae Llywelyn yn parhau i fod yn rhan greiddiol o hanes ein gwlad a chof ein cenedl. Ynddo ef oedd eginyn gwladwriaeth Gymreig sifil a gobaith dros ddyfodol gwell i'n gwlad. Mae ysbryd annibynnol Llywelyn a'r 18 o ddistaw dystion a safodd gydag ef tan y diwedd yn parhau ynom ninnau heddiw sydd yn barod i sefyll yn erbyn anghyfiawnder a thros annibyniaeth i Gymru. Cofiwn Llywelyn gan anrhydeddu ei weledigaeth drwy orymdeithio yn ein blaen tuag at greu Cymru newydd annibynnol, lle mae pob un yn rhydd. Diolch yn fawr. 

4. Dadl: Diwrnod Rhyngwladol Hawliau Dynol

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Rhun ap Iorwerth, a gwelliant 2 yn enw Darren Millar. 

Eitem 4 ar yr agenda y prynhawn yma yw dadl ar Ddiwrnod Rhyngwladol Hawliau Dynol, a galwaf ar Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip i wneud y cynnig—Julie James.

Cynnig NDM6896 Julie James

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod Diwrnod Rhyngwladol Hawliau Dynol ddydd Llun 10 Rhagfyr 2018.

2. Yn nodi ei bod yn 70 mlynedd ers mabwysiadu’r Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae hawliau dynol yn berthnasol i bob un ohonom bob dydd. Mae dydd Llun 10 Rhagfyr, Diwrnod Rhyngwladol Hawliau Dynol, yn nodi 70 mlynedd ers i gynulliad cyffredinol y Cenhedloedd Unedig fabwysiadu'r datganiad cyffredinol o hawliau dynol. Roedd hon yn ddogfen hanfodol i ddiogelu rhag ailadrodd yr erchyllterau a gyflawnwyd yn yr ail ryfel byd. Roedd yn datgan yr hawliau diymwad y mae gan bawb hawl gynhenid iddynt fel bodau dynol, waeth beth fo'u hil, lliw, crefydd, rhyw, iaith, barn wleidyddol neu farn arall, tarddiad cenedlaethol neu gymdeithasol, eiddo, genedigaeth neu statws arall.

Mae ymagwedd arbennig tuag at hawliau dynol wedi'i phlethu i mewn i setliad datganoli Cymru. Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru weithredu'n unol â'r confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol. Adlewyrchir hyn yn ein cyfraith ddomestig gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998, yn ogystal â'i rhwymedigaethau rhyngwladol, gan gynnwys saith confensiwn y Cenhedloedd Unedig a lofnodwyd ac a gadarnhawyd gan y DU fel y wladwriaeth sy'n barti. Mewn geiriau eraill, mae hawliau dynol yn rhan o'n DNA. Mae'r egwyddorion a gynhwysir yn y datganiad o hawliau dynol yr un mor berthnasol heddiw ag yr oeddent yn 1948.

Rydym yn byw mewn cyfnod anodd ac ansicr, lle mae cyni'n effeithio'n anghymesur ar y rhai sydd leiaf abl i'w oddef, gan effeithio'n uniongyrchol ar eu hawliau dynol. Mae unigolion a theuluoedd yn colli eu cartrefi ac yn mynd heb fwyd. Gwyddom yn rhy dda fod lefelau tlodi ledled Cymru a gweddill y DU yn rhy uchel. Ar ôl ei ymweliad â'r DU, dywedodd yr Athro Alston, rapporteur arbennig y Cenhedloedd Unedig ar dlodi eithafol a hawliau dynol, mai Llywodraeth y DU a'i pholisïau cyni a diwygio lles sy'n gyfrifol am hyn. Dywedodd mai

Ychydig iawn o fannau a geir mewn llywodraeth lle mae'r datblygiadau hyn yn fwy amlwg nag yn y system budd-daliadau. Rydym yn gweld y wladwriaeth les a gyflwynwyd ym Mhrydain wedi'r rhyfel yn diflannu'n raddol tu ôl i wefan ac algorithm. Yn ei lle, mae gwladwriaeth les ddigidol yn dod i'r amlwg. Bydd yr effaith ar hawliau dynol y bobl fwyaf agored i niwed yn y DU yn aruthrol.

Soniodd adroddiad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, 'Effaith diwygio lles a rhaglenni o fudd-dâl i waith', a gyhoeddwyd ym mis Mawrth, am effaith drychinebus bosibl diwygiadau treth a lles Llywodraeth y DU ar bobl â nodweddion gwarchodedig. Roedd yn rhagweld y bydd bron i hanner holl aelwydydd Cymru ar eu colled yn sgil y diwygiadau ac mai pobl ar incwm isel, gan gynnwys menywod, grwpiau ethnig penodol ac aelwydydd â phlant fydd yn teimlo'r effaith fwyaf. Canfu adroddiad 'A Yw Cymru'n Decach? (2018)' y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol hefyd fod y grwpiau mwyaf difreintiedig yng Nghymru yn llithro hyd yn oed ymhellach ar ôl gweddill y gymdeithas.

Yn fyd-eang, mae llawer o werthoedd ac egwyddorion sylfaenol hawliau dynol yn cael eu tanseilio, ac mewn rhai gwledydd, cânt eu hanwybyddu'n llwyr. Mae naratifau ymrannol wedi tyfu'n bla ar ein trafodaeth wleidyddol, ac wedi eu sbarduno gan bobl sydd i'w gweld yn benderfynol o greu tensiynau rhwng cymunedau. Mae cyfryngau cymdeithasol, yn arbennig, yn llawer rhy aml yn hafan i hiliaeth a senoffobia, gydag unigolion yn defnyddio'r cysyniad o ryddid barn fel amddiffyniad, gyda disgwyliad y gallant ysgrifennu beth bynnag a fynnant heb ganlyniadau.

Mae gan Gymru hanes hir o drugaredd, goddefgarwch a pharch a chroeso i eraill. Gwn fod gwlad sy'n rhoi gwerth ar amrywiaeth ac sy'n galluogi ein cymunedau amrywiol i fod yn gyfartal yn gryfach o ganlyniad.

Y rhai mwyaf agored i niwed sydd bob amser yn colli eu hawliau yn gyntaf—pobl dlawd, menywod, lleiafrifoedd hiliol ac ethnig, pobl lesbiaidd, hoyw, ddeurywiol a thrawsryweddol + yn ogystal â phlant, rhieni sengl a phobl anabl. Mae'n gwbl annerbyniol, yma yn y DU yn yr unfed ganrif ar hugain, fod un o bob pump o fenywod yn dioddef trais rhywiol, fod un o bob pedair menyw yn dioddef cam-drin domestig a bod dwy fenyw yr wythnos yn marw o ganlyniad i drais dan law eu partneriaid agos iawn neu gyn-bartneriaid. Mae gennym hefyd fylchau cyflog ystyfnig a pharhaus rhwng y rhywiau yng Nghymru, a rhy ychydig o lawer o fenywod mewn swyddi uwch.

Mae ein hymagwedd groestoriadol tuag at gam 2 o'r adolygiad o gydraddoldeb rhywiol yn cynnwys gweithio ar draws gwahanol feysydd cydraddoldeb, gan gynnwys hil, anabledd ac oedran, gyda'r nod o sicrhau nad oes unrhyw un yn cael eu gadael ar ôl. Rydym yn cydnabod bod menywod a merched sy'n profi sawl ffurf ar wahaniaethu a mathau croestoriadol o wahaniaethu yn aml yn cael eu heithrio rhag cynnydd. Cyn hir, bydd gennym fap clir ar gyfer sicrhau cydraddoldeb rhwng y rhywiau yng Nghymru.

Gan droi at anabledd, gadewch imi ddechrau drwy dynnu sylw at y bwlch cyflogaeth anabledd. Yng Nghymru ar hyn o bryd, 45 y cant yn unig o bobl anabl o oedran gweithio sydd mewn gwaith, o gymharu ag 80 y cant o bobl nad ydynt yn anabl. Un enghraifft yn unig yw hon, er ei bod yn un bwysig iawn, o'r rhwystrau sy'n wynebu pobl anabl. Mae ein fframwaith newydd, 'Gweithredu ar Anabledd: Hawl i Fyw'n Annibynnol', yn seiliedig ar y model cymdeithasol o anabledd, ac yn nodi sut y byddwn yn mynd i'r afael â rhai o'r rhwystrau allweddol a nodwyd gan bobl anabl eu hunain. Mae'r rhain yn cynnwys trafnidiaeth, cyflogaeth, tai a mynediad i adeiladau a lleoedd. Mae'n rhaid i bobl anabl gael mynediad at yr un cyfleoedd â phawb arall.

Mae hil yn fater hollbwysig arall. Mae 75 y cant o droseddau casineb yng Nghymru yn ymwneud â hil neu grefydd—mae hynny'n adlewyrchu miloedd o enghreifftiau ffiaidd o gam-drin geiriol, corfforol ac ar-lein tuag at bobl ddiniwed bob dydd oherwydd eu hymddangosiad, a gwyddom na roddir gwybod am lawer o ddigwyddiadau o'r fath. Nid yw ein grwpiau o bobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn cael eu cynrychioli'n ddigonol yn ein cyfryngau, mewn gwleidyddiaeth na'n gweithleoedd. Rydym yn gweithio'n galed i newid hyn. Mae ein prosiectau pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn hanfodol i sicrhau bod Cymru'n wlad gynhwysol i bawb ac yn groesawgar, fel y gwyddom y gall fod ac fel y dylai fod.

Mae Sipsiwn, Roma a Theithwyr ymhlith y bobl sy'n cael eu hymyleiddio fwyaf yn ein cymdeithas. Maent yn wynebu gwahaniaethu, anghydraddoldeb a diffyg cyfleoedd, ac mae hynny'n hyrwyddo'r safbwyntiau negyddol a'r camsyniadau sy'n llenwi'r naratif o'u cwmpas. Dangosodd gwaith ymchwil diweddar gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol fod 44 y cant o'r cyhoedd yn gyffredinol yn cyfaddef yn agored eu bod yn elyniaethus tuag at y grwpiau hyn. Fel enghraifft o hyn, roedd sylwadau o dan erthygl ar-lein ddiweddar ar Wales Online am angladd cymuned Sipsiwn a Theithwyr yng Nghaerdydd yn cynnwys galwadau i symud y trigolion i Auschwitz a'u llosgi allan o'u gwersyll. Postiodd un unigolyn ddarlun o filwr Natsïaidd gyda'r pennawd, 'Ewch i nôl y nwy.' Parhaodd y sylwadau hyn, nad ydynt yn achos unigryw, yn weladwy am sawl diwrnod, gan achosi cryn drallod i'r gymuned Sipsiwn a Theithwyr. Mae'n rhaid inni ddweud yn glir: ni allwn ac ni fyddwn yn goddef unrhyw weithredoedd neu ddatganiadau o'r fath sy'n ceisio annog safbwyntiau mor eithafol a gwrthun.

14:10

Araith wych hyd yn hyn, ond a wnaiff hi ystyried y ffaith nad yw arweinydd UKIP yng Nghymru, Neil Hamilton, yn bresennol yn y Siambr hon i wrando ar eich rhyddid i lefaru, eto i gyd roedd yn teimlo ei bod yn briodol iddo rannu llwyfan gyda Tommy Robinson yr wythnos diwethaf yn enw rhyddid i lefaru? A fyddai hi'n mynegi siom ynglŷn â hynny?

Wel, yn wir—pwynt da.

Mae'n rhaid inni fod yn gryf yn wyneb eithafwyr. Gyda'n gilydd, mae'n rhaid inni barhau i adeiladu cymdeithas gref ac amrywiol, lle y gwerthfawrogir pobl o bob hil, ffydd a lliw am eu cymeriad a'u gweithredoedd. Mae pob un ohonom yn awyddus i helpu i greu gwlad heddychlon a chytûn, lle y gall ein plant a chenedlaethau'r dyfodol ffynnu.

Mae 'Ffyniant i Bawb' yn nodi gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru fel lle bywiog, croesawgar a chydlynus i fyw ac i weithio—gwlad y gallwn fod yn falch ohoni, sy'n edrych tuag allan a lle mae pobl o bob cefndir yn cael eu parchu a'u gwerthfawrogi. Mae'r weledigaeth hon yn sail i'n cynllun newydd, 'Cenedl Noddfa—Cynllun Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches', sy'n nodi ymrwymiadau trawslywodraethol i ddarparu cyfle cyfartal, lleihau gwahaniaethu a hybu cysylltiadau da ar gyfer pobl sy'n ceisio lloches yng Nghymru.

Dangosodd pob awdurdod lleol yng Nghymru arweinyddiaeth wrth ymateb i argyfwng y ffoaduriaid o Syria drwy gytuno i adsefydlu teuluoedd yn eu hardaloedd. Ymwelodd dirprwyaeth o'r Cenhedloedd Unedig â ni ar ôl y cyfnod cyntaf o adsefydlu, a chreodd y croeso a roddwyd gan gymunedau Cymru gryn argraff arnynt. Mae unigolion mewn cymunedau yng Nghymru wedi arwain y ffordd drwy ddod at ei gilydd a ffurfio sefydliadau nawdd cymunedol, sydd wedi gallu croesawu teuluoedd o ffoaduriaid heb fawr iawn o gymorth gan y Llywodraeth. Un enghraifft wych o'r awydd i gyfrannu at y cymunedau sydd wedi eu croesawu oedd ethol ffoadur o Syria i'r Senedd Ieuenctid yr wythnos diwethaf o fy etholaeth i. Rwy'n falch iawn o hynny, Ddirprwy Lywydd. Mae hyn yn dangos y gall arweinyddiaeth ac ymrwymiad i gydraddoldeb ymddangos yn unrhyw le, ond mae profiadau'r rheini sy'n ymfudo i Gymru yn parhau i fod yn gymysg iawn, hyd yn oed pan fyddant wedi bod yma ers blynyddoedd neu ddegawdau lawer.

Yn gynharach eleni, datgelodd sgandal drasig Windrush enghreifftiau o unigolion yn cael eu hanghofio wrth i bolisïau gael eu datblygu. Mae miloedd o bobl a dinasyddion Prydain wedi wynebu statws mewnfudo ansicr, er gwaethaf sicrwydd blaenorol eu bod yn rhan o Brydain. Cafodd rhai eu hallgludo ac mae eraill wedi methu cael gofal iechyd, wedi colli eu swyddi neu wedi methu dychwelyd i Brydain. Maent yn dal i ymchwilio i hyd a lled y sgandal yn llawn, ond roedd dicter y cyhoedd, gan gynnwys yng Nghymru, yn dangos ymrwymiad y cyhoedd i degwch. Hoffwn obeithio na fyddai polisi o'r fath byth yn cael ei ddatblygu yng Nghymru, ond mae'n rhaid inni fod yn wyliadwrus a chryfhau ein hymdrechion i sicrhau bod pobl yn y canol wrth inni lunio ein polisïau.

Mae hyn yn arbennig o bwysig mewn perthynas â'r ansicrwydd sy'n effeithio ar ein cymdeithas o ganlyniad i Brexit. Nid oes unrhyw un yn teimlo hyn gymaint â'r 80,000 o ddinasyddion yr UE sy'n byw yng Nghymru, a'r nifer lai o ddinasyddion Cymru sy'n byw yn yr UE ar hyn o bryd. Mae gennym gyfrifoldeb i'r aelodau hyn o'n cymuned. Mae angen inni ddefnyddio pob arf sydd gennym dros y misoedd nesaf i sicrhau bod yr unigolion hyn yn hyderus ein bod yn gweld gwerth eu cyfraniad i'n heconomi a'n cymuned, eu bod yn cael cymorth i wneud cais am statws preswylydd sefydlog ac nad ydynt yn wynebu rhwystrau ychwanegol yn y dyfodol.

Y mis diwethaf, roedd hi'n ugain mlynedd ers cyflwyno Deddf Hawliau Dynol 1998. I nodi hyn, gofynnwyd i'r Cwnsler Cyffredinol roi darlith goffa Eileen Illtyd ar hawliau dynol 2018, 'Deddf Hawliau Dynol i Gymru?' Yn ei ddarlith, y cefais y fraint o'i mynychu, dywedodd y Cwnsler Cyffredinol

ei bod yn bosibl iawn na all dull tameidiog o ddiogelu hawliau dynol sicrhau'r un manteision ag y gallai dull deinamig a chynhwysfawr ei gynnig.

Hoffwn ailadrodd ein bod yn ymwybodol iawn o'r cwestiynau hyn, ac wedi ymrwymo i edrych ar ffyrdd o gryfhau hawliau ac amddiffyniadau yng Nghymru.

Bydd yr Aelodau hefyd yn cofio ein dadl yn ddiweddar ar yr opsiwn i ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl yng nghyfraith Cymru. Ers hynny, rwyf wedi bod yn myfyrio ar y materion hyn, gan ystyried galwadau gan amryw o randdeiliaid ar Lywodraeth Cymru i roi camau ar waith i ddiogelu cydraddoldeb a hawliau dynol yng nghyd-destun Brexit, ac i wneud mwy i ymgorffori cytuniadau rhyngwladol yng nghyfraith Cymru. Yn fy nhrafodaethau diweddar â'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol a Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, ymhlith eraill, rwyf wedi dweud yn glir nad yw'n fater o ba un a fyddwn yn gwneud rhywbeth, ond yn hytrach, pa gamau a fydd fwyaf effeithiol.

O ganlyniad, rwyf wedi gofyn i swyddogion ystyried effaith bosibl ystod o gamau, gan gynnwys deddfwriaeth newydd i roi'r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol yn Neddf Cydraddoldeb 2010 mewn grym, a chryfhau rheoliadau. Cwestiwn hollbwysig yw sut y byddai camau o'r fath yn cysylltu â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Bydd y gwaith hwn wedi'i gysylltu â cham 2 yr adolygiad o gydraddoldeb rhwng y rhywiau. I'w symud ymlaen, byddwn yn cynnal seminar yn gynnar yn y flwyddyn newydd i ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol, a chwmpasu’r gwaith y bydd ei angen yn fwy manwl.

Yn wyneb newid heb ei debyg o'r blaen, mae'n rhaid inni fod, ac fe fyddwn, yn rhagweithiol, yn uchelgeisiol, ac yn flaengar, a pharhau i wneud popeth o fewn ein pwerau i sicrhau bod Cymru'n parhau i fod yn lle modern a chynhwysol i fyw ac i weithio ynddo. Ein nod clir, Ddirprwy Lywydd, yw atgyfnerthu ac adeiladu ar yr hawliau hyn ar gyfer y dyfodol. Diolch.

14:15

Diolch. Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig, a galwaf ar Leanne Wood i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth.

Gwelliant 1—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at y twf mewn mudiadau gwleidyddol sy'n gwrthod egwyddorion y Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol, a galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ei gwaith i fynd i'r afael ag eithafiaeth yn cynnwys mesurau rhagweithiol i atal eithafiaeth asgell dde. 

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch. Rwy'n cynnig y gwelliant.

Wrth i ni ddathlu 70 mlynedd ers mabwysiadu'r datganiad cyffredinol o hawliau dynol, mae'n bwysig inni ystyried y bygythiadau i hawliau dynol sy'n bodoli ar hyn o bryd. Felly, mae ein gwelliant yn amserol oherwydd, fel y dywedwyd eisoes y prynhawn yma, y penwythnos hwn, gwelsom enghraifft arall o sut y mae mudiadau gwleidyddol yn ceisio gwrthdroi'r amddiffyniadau hawliau dynol sydd gennym. Roedd Aelod o'r sefydliad hwn yn siaradwr mewn gorymdaith o blaid Yaxley-Lennon yn Llundain, a defnyddiodd y llwyfan hwnnw i adleisio damcaniaeth gwrth-Semitaidd fod Arlywydd Ffrainc yn asiant i bŵer tramor. Roedd hon yn orymdaith lle roedd y rhai a'i mynychodd yn gwthio rhaff crogwr ac yn galw am grogi Prif Weinidog y DU mewn ymateb i araith yr Aelod. Roedd hyn yn digwydd, wrth gwrs, mewn hinsawdd lle y llofruddiwyd AS mewn hanes diweddar am ymgyrchu dros aros yn yr Undeb Ewropeaidd.

Rwyf am i bobl yn y Siambr hon gymharu a chyferbynnu'r hyn sydd wedi digwydd i drefnwyr yr orymdaith honno, a meddwl am beth fyddai'r goblygiadau wedi bod pe bai gorymdaith o bobl Asiaidd Prydeinig wedi bod yn bygwth lladd ASau. Mae'n debygol y byddai gorymdaith o'r fath wedi arwain at arestio nifer o bobl a byddai'r siaradwyr yn wynebu euogfarnau am droseddau o dan ddeddfwriaeth gwrthderfysgaeth a dedfrydau hir o garchar. Neu beth pe bai hon yn orymdaith gyda phobl yn protestio am ddiffyg gweithredu ar newid yn yr hinsawdd? A fyddai gennym sawl aelod o'r heddlu cudd yn ysbïo ar y rhai a'i mynychodd, gyda thrwydded i ddechrau perthynas rywiol dwyllodrus fel rhan o'r gwaith hwnnw? Yn lle hynny, mae'r prif drefnwyr yn debygol o barhau i gael cyflogau uchel gan yr unigolion cyfoethog sydd wedi bod yn ariannu eu mudiadau gwleidyddol a mwynhau'r rhyddid y byddent yn ei wadu i eraill.

Cymharwch a chyferbynnwch y ffordd y mae'r wladwriaeth Brydeinig wedi trin mudiadau gwleidyddol asgell dde a mudiadau gwleidyddol eraill, ac fe welwch pam fod angen ein gwelliant yn enw Plaid Cymru y prynhawn yma. Enghraifft arall, wrth gwrs, yw'r ffordd y mae deddfwriaeth gwrthderfysgaeth wedi cael ei defnyddio i ddedfrydu protestwyr yn Stansted a geisiodd rwystro pobl rhag cael eu hallgludo i wynebu artaith a marwolaeth fel rhan o bolisi mewnfudo'r DU fel y mae. Mae hyn oll yn digwydd yng nghyd-destun Brexit, wrth gwrs; gan fod Brexit ei hun yn brosiect gwleidyddol a ariannir gan y bobl gyfoethog sy'n ceisio gwanhau'r amddiffyniadau sydd ar gael i weithwyr, rheoliadau amgylcheddol a rôl Llys Cyfiawnder Ewrop yn dwyn Llywodraethau San Steffan i gyfrif pan fyddant yn tramgwyddo yn erbyn hawliau dynol.

Bydd Llywodraeth yr Alban yn sicrhau bod gan gyfraith yr Alban fframwaith ar gyfer diogelu hawliau dynol wedi'i gynnwys ym mhob agwedd ar y gyfraith, ac mae fy nghyd-Aelod, Siân Gwenllian, wedi cael ymateb calonogol gan Lywodraeth Cymru wrth alw am rywbeth tebyg yma. Felly, byddai gennyf ddiddordeb mewn clywed y diweddaraf gan Lywodraeth Cymru ar eich syniadau yn y maes hwnnw.

Mae'n 70 mlynedd ers mabwysiadu'r datganiad cyffredinol o hawliau dynol ac mae'n bwysig inni adnewyddu ein hymdrechion yn awr i warchod a gwella'r hawliau hynny rhag y grymoedd gwleidyddol sydd am eu diddymu.

14:20

Diolch. Galwaf ar Mark Isherwood i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar.

Gwelliant 2—Darren Millar

Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi bod Llywodraeth y DU yn cydnabod bod yr holl hawliau a nodir yn natganiad y Cenhedloedd Unedig o hawliau dynol yn un mor bwysig â'i gilydd.

Yn croesawu'r camau y mae Llywodraeth y DU wedi'u cymryd o ran rhoi blaenoriaeth i fynd i'r afael â chaethwasiaeth fodern, amddiffyn rhyddid crefydd neu gred, rhoi terfyn ar anghydraddoldeb a gwahaniaethu, a hyrwyddo democratiaeth.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Roedd Diwrnod Hawliau Dynol ddeuddydd yn ôl yn nodi 70 mlynedd, fel y clywsom, ers y datganiad cyffredinol o hawliau dynol, dogfen arwyddocaol a oedd yn datgan yr hawliau diymwad y mae gan bawb hawl cynhenid iddynt fel bodau dynol, fel y clywsom gan Ysgrifennydd y Cabinet ar y dechrau, waeth beth fo'n hil, lliw, crefydd, rhyw, iaith, barn wleidyddol neu farn arall, tarddiad cenedlaethol neu gymdeithasol, eiddo, genedigaeth neu statws arall. Mewn gwirionedd, hon yw'r ddogfen sydd wedi'i chyfieithu fwyaf yn y byd, ac mae ar gael mewn mwy na 500 o ieithoedd.

Fel y dywedodd cadeirydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar yr achlysur,

Rwyf am... ddweud rhywbeth am un o sylfaenwyr y Cenhedloedd Unedig—Winston Churchill... prif gymhelliad Churchill',

meddai,

dros gefnogi'r syniad o gyfundrefnu ein hawliau fel dinasyddion oedd ei awydd i sicrhau na fyddem byth eto'n tystio i unrhyw beth tebyg i'r enghraifft wrthun o gamddefnyddio grym gan y wladwriaeth Natsïaidd.

Aeth ymlaen i ddweud mai

gweledigaeth Churchill oedd cymdeithas a ddylai gael byw yn rhydd er mwyn iddi allu cyflawni.

Byddwn yn cefnogi gwelliant Plaid Cymru, er ein bod yn ymwybodol fod man cyfarfod rhwng yr asgell dde eithafol a'r asgell chwith eithafol.

Rwy'n cynnig gwelliant 2, gan nodi bod Llywodraeth y DU yn cydnabod bod pob hawl a nodir yn natganiad y Cenhedloedd Unedig o hawliau dynol yr un mor bwysig â'i gilydd, a chroesawu'r camau a gymerwyd gan Lywodraeth y DU i flaenoriaethu'r gwaith o fynd i'r afael â chaethwasiaeth fodern, amddiffyn rhyddid crefyddol neu ryddid o ran cred, rhoi diwedd ar anghydraddoldeb a gwahaniaethu, a hyrwyddo democratiaeth. Ym mis Medi 2017, daeth Prif Weinidog y DU ag arweinwyr y byd at ei gilydd yng Nghynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig i lansio galwad i weithredu er mwyn rhoi diwedd ar gaethwasiaeth fodern—un o heriau hawliau dynol mawr ein hoes. Mae Llywodraeth y DU wedi dyblu gwariant ar gymorth mewn perthynas â'r broblem er mwyn mynd i'r afael â'r achosion craidd, wedi cryfhau'r gallu i orfodi'r gyfraith mewn gwledydd tramwy, ac wedi darparu arian ar gyfer cefnogi dioddefwyr.

Flwyddyn wedi hynny, galwad Prif Weinidog y DU i weithredu, mae dros 80 o wledydd wedi rhoi cymeradwyaeth gadarnhaol. Yn fforwm gogledd Cymru ar gaethwasiaeth fodern ym mis Hydref, a drefnwyd gan Hafan o Oleuni ac a fynychwyd gan gydgysylltydd atal caethwasiaeth Cymru, clywsom fod caethwasiaeth fodern yn digwydd ym myd busnes, y byd amaeth, lletygarwch, gweithgarwch troseddol a chamfanteisio rhywiol. Mae cyn-Gomisiynydd Atal Caethwasiaeth Annibynnol y DU, Kevin Hyland OBE, bellach yn cynghori cyrff rhyngwladol, gan gynnwys y Cenhedloedd Unedig, ar fasnachu mewn pobl a chaethwasiaeth fodern.

Mae rhyddid crefyddol neu ryddid o ran cred yn bwysig gan fod ffydd yn arwain bywydau bob dydd mwy nag 80 y cant o boblogaeth y byd, a chan fod hybu goddefgarwch a pharch i bawb yn helpu i adeiladu cymdeithasau cynhwysol sy'n fwy sefydlog, yn fwy ffyniannus, ac sy'n gallu gwrthsefyll eithafiaeth yn well. Mae rhyddid unigolion a sefydliadau i drafod, dadlau a beirniadu, neu i ddwyn llywodraethau i gyfrif, yn elfen hanfodol o gymdeithas lwyddiannus.

Dylai pawb allu byw gydag urddas, yn rhydd rhag pob math o drais neu wahaniaethu, waeth beth fo'u cyfeiriadedd rhywiol neu hunaniaeth o ran rhywedd. Penododd Swyddfa Dramor a Chymanwlad y DU ei chennad arbennig cyntaf ar gydraddoldeb rhywiol y llynedd, ac mae'n gweithio i hybu cydraddoldeb rhywiol ar lefel ryngwladol, gan gynnwys camau i dargedu trais rhywiol yn ystod gwrthdaro a mynediad anghyfartal at addysg. Y mis diwethaf, cynhaliodd y DU gynhadledd hanesyddol ar gyfer seneddwyr benywaidd o bedwar ban byd. Mae Llywodraeth y DU yn gweithio gyda phartneriaid o'r un anian yma a thramor i hyrwyddo democratiaeth fel y warant hirdymor orau o sefydlogrwydd a ffyniant, a chynaliasant gyfarfod penaethiaid Llywodraethau’r Gymanwlad ym mis Ebrill er mwyn hybu gwerth cyfrannol hawliau dynol, democratiaeth a chynhwysiant sydd wedi'u cynnwys yn siarter y Gymanwlad.

Mae pobl anabl ledled y byd yn dioddef gwahaniaethu. Mae'n rhaid inni ddiogelu eu hawliau a thrawsnewid eu bywydau. Ym mis Gorffennaf, cyd-gynhaliodd Llywodraeth y DU ei huwchgynhadledd anableddau fyd-eang gyntaf erioed i annog gweithredu rhyngwladol. Fel y gŵyr Ysgrifennydd y Cabinet yn bersonol, gan iddi siarad yno, roeddwn innau'n falch o siarad hefyd, fel llywydd anrhydeddus Cymdeithas Gogledd Cymru ar gyfer Integreiddio Amlddiwylliannol, yn nathliad blynyddol y Diwrnod Integreiddio Rhyngwladol yn y Deml Heddwch ar 9 Hydref. Ac rwyf bellach yn edrych ymlaen at fynychu lansiad Tref Noddfa Wrecsam ar 1 Chwefror, gyda cherddoriaeth gan gôr o ffoaduriaid o Syria, i gydnabod Wrecsam fel man lle mae pobl yn falch o gynnig noddfa i bobl sy'n dianc rhag trais ac erledigaeth.

Nid yw ymadael â'r UE yn effeithio ar ein hawliau o dan y confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol, gan ei fod yn deillio o Gyngor Ewrop, nid yr UE. Mae Llywodraeth y DU wedi datgan yn glir fod y DU yn ymrwymedig i'w haelodaeth o'r confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol ac y byddai tynnu'n ôl ohono'n mynd yn groes i'w gweledigaeth o Brydain fyd-eang. Mae'r confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol—

14:25

—yn Brydeinig ac yn Geidwadol o ran ei darddiad. Fe'i hyrwyddwyd gan Winston Churchill ac fe'i drafftiwyd gan y cyn-Ysgrifennydd Cartref Ceidwadol, David Maxwell Fyfe. Wel, 70 mlynedd ers ei fabwysiadu, mae datganiad y Cenhedloedd Unedig ar hawliau dynol yn parhau i fod yn ddatganiad grymus o obaith a dyhead i bob un ohonom. Mae cryn dipyn o gynnydd wedi'i wneud ers 1948, ond mae'n fyd peryglus ac mae llawer i'w wneud o hyd.

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd, am alw arnaf i siarad yn y ddadl bwysig iawn hon. Fel y mae siaradwyr eraill wedi'i ddweud, mae 70 mlynedd wedi bod ers i Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig fabwysiadu'r datganiad cyffredinol o hawliau dynol ym Mharis ar 10 Rhagfyr 1948. Ac fe'i pasiwyd drwy 48 pleidlais i ddim, gydag wyth aelod yn ymatal, ac fe'i galwyd gan Eleanor Roosevelt, cadeirydd pwyllgor drafftio'r datganiad, yn Fagna Carta ar gyfer y ddynolryw. A chredaf ei bod yn eithaf arwyddocaol, mewn gwirionedd, mai un o'r rhai a ymatalodd rhag pleidleisio oedd Saudi Arabia, a phan fyddwch yn meddwl am hawliau dynol mewn perthynas â Saudi Arabia yn ddiweddar gyda mater y newyddiadurwyr a hawliau menywod yn Saudi Arabia, credaf ei bod yn eithaf arwyddocaol eu bod wedi ymatal.

Rwy'n falch iawn fod arweinydd y tŷ wedi dweud wrthym yn ei hanerchiad fod hawliau dynol yn rhan o'n DNA, gan y credaf fod tuedd i feddwl am hawliau dynol fel rhywbeth sydd efallai braidd yn bell oddi wrth ein bywydau bob dydd, rhywbeth sydd braidd yn uchel-ael efallai, rhywbeth sy'n ymwneud â siarteri a chynadleddau a phobl yn eistedd o gwmpas mewn ystafelloedd pwysig ac yn trafod hawliau dynol, ond credaf mai'r hyn sy'n rhaid inni ei wneud fel gwleidyddion yw pwysleisio'r ffaith eu bod yn bendant yn bethau sy'n effeithio ar bob un ohonom yn ein bywydau bob dydd. A bydd rhywbeth fel enghraifft syfrdanol o gam-drin hawliau dynol yn pwysleisio'r pwynt hwnnw i ni, rhywbeth fel sgandal Windrush, wrth gwrs, fel y nodwyd eisoes. Roedd hynny'n rhywbeth, yn y marn i, a ddangosodd i bob un ohonom sut roedd hyn wedi bod yn digwydd—. Roedd yr enghraifft hon o gam-drin hawliau dynol wedi bod yn digwydd yn gyfrinachol, yn dawel, heb i neb wybod, ac roedd y pethau ofnadwy hyn yn digwydd i bobl a oedd wedi cyfrannu cymaint at ein gwlad. Rydych yn ymwybodol o hawliau dynol ar achlysuron felly, ond yn amlwg, mae'n effeithio arnom, ar bob un ohonom, yn ein bywydau bob dydd.

Roeddwn yn falch iawn o fynychu cyfarfod nos Lun a drefnwyd gan Helen Mary Jones, i baratoi ar gyfer adnewyddu'r grŵp trawsbleidiol ar hawliau dynol yma yn y Cynulliad. Ac rwy'n siŵr y bydd Helen Mary'n siarad am hynny yn y man os caiff ei galw. Ond roeddwn o'r farn fod honno'n fenter dda iawn, ac rwy'n falch iawn o roi fy nghefnogaeth iddi. A chawsom siaradwr yno o Just Fair, a gododd bwyntiau pwysig iawn, yn fy marn i. Ac un o'r pwyntiau a gododd oedd ei bod hi mor bwysig sicrhau bod hawliau dynol yn rhan o'n profiad bob dydd.

Ac wrth gwrs, mae arweinydd y tŷ eisoes wedi crybwyll grŵp arall sy'n agos iawn at fy nghalon—y grŵp Sipsiwn/Roma/Teithwyr, sy'n wynebu gwahaniaethu ar sail ddyddiol. Os ydych yn perthyn i gymuned Sipsiwn/Roma/Teithwyr, a'ch bod yn mynd allan ac yn byw eich diwrnod arferol, rwy'n credu y byddwch yn dioddef gwahaniaethu ar sail ddyddiol. Credaf fod honno'n un o'r ychydig ffyrdd parchus sydd ar ôl o gam-drin. A chredaf fod ceisio mynd i'r afael â hynny'n dasg fawr i'r Llywodraeth, a gwn fod arweinydd y tŷ yn gwneud hynny. Ond credaf fod yn rhaid inni wneud ymdrech enfawr.

Ond beth bynnag, credaf ein bod wedi gwneud cynnydd yng Nghymru. Rydym wedi gwneud cynnydd ar hawliau plant, gyda Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011, ac mae wedi bod yn bwysig iawn, yn fy marn i, yr ymgynghori a gawsom gyda phlant ar nifer o wahanol faterion. Rwy'n arbennig o falch ein bod wedi ymgynghori â phlant ynglŷn â Brexit, i ofyn iddynt sut roeddent yn teimlo ynglŷn â Brexit, er fy mod yn credu, wrth gwrs, fod rhai gwleidyddion wedi ein gwawdio am wneud hynny. Ond credaf fod hynny mor bwysig gan ei bod mor bwysig i amddiffyniadau cydraddoldeb a hawliau dynol gael eu diogelu a'u gwella yn ystod proses Brexit a thu hwnt i hynny. Felly, gwn y bydd Llywodraeth Cymru yn wyliadwrus ynglŷn â cholli unrhyw hawliau dynol a fydd yn digwydd yn ystod y broses. Credaf ei bod hefyd yn bwysig iawn, gan na chafodd pobl ifanc gyfle i gymryd rhan yn y refferendwm—nid oedd hawl gan rai 16 a 17 mlwydd oed i bleidleisio—ac er ein bod ni wedi pleidleisio, wrth gwrs, effeithiwyd ar eu dyfodol hwy yn fwy na'r un ohonom. Felly, credaf ei bod yn bwysig iawn, am y rheswm hwnnw, ein bod wedi ymgynghori â phlant. A gwyddom fod plant yn bryderus iawn am hawliau dynol. Credaf fod Cymru Ifanc wedi cynnal ymgynghoriad gyda phlant, a ddangosodd fod myfyrwyr ysgolion uwchradd yn pryderu am yr amgylchedd, cyfleoedd i astudio dramor, hawliau dynol ac iechyd a lles, ac wrth gwrs, mae pobl ifanc wedi mynegi eu rhwystredigaeth yn yr ymgynghoriad hwnnw na chawsant lais mewn pleidlais a fydd yn effeithio ar eu dyfodol.

Mae llawer mwy i'w wneud, ac rwy'n cytuno ag argymhelliad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn eu hadroddiad 'A yw Cymru'n Decach?' y dylai Llywodraeth Cymru weithredu’r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol, a fyddai'n dod â thlodi a chydraddoldeb ynghyd i helpu i fynd i'r afael ag un o'r ffactorau mwyaf sy'n ysgogi anghydraddoldeb yn ein gwlad—tlodi. Felly, rwy'n gobeithio bod hynny'n rhywbeth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud, ond mae'n amlwg yn bwysig iawn inni edrych ar sut y mae hynny'n cyd-fynd â Deddf cenedlaethau'r dyfodol.

14:30

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn ac yn ddiolchgar i chi am ganiatáu i mi wneud cyfraniad byr i'r ddadl hon heddiw. Fel y mae eraill wedi'i ddweud eisoes, mae hwn, heb os, yn gyfnod pan fo hawliau dynol o dan fygythiad. Duw a ŵyr beth a ddaw o lanastr proses Brexit, a sut y bydd hynny'n effeithio ar ein hawliau a'n gallu yng Nghymru i fanteisio ar yr amddiffyniadau Ewropeaidd hynny. Ond rydym yn gwybod, Ddirprwy Lywydd, bod y ddadl ar Brexit wedi gwneud i rai unigolion deimlo bod ganddynt hawl i fynegi rhai agweddau arbennig o wenwynig, ac roedd y cynnydd ofnadwy a welsom mewn troseddau casineb yma yng Nghymru yn syth ar ôl y bleidlais honno yn dyst i hynny. Ac rydym yn gwybod bod yna elfennau yn y wasg Brydeinig sydd wedi tanseilio'r cysyniad o hawliau dynol, sydd wedi gwneud iddo ymddangos fel rhywbeth amherthnasol, yn rhywbeth gorddethol, a rhywbeth, fel y dywedodd Julie Morgan, sy'n amherthnasol i'n bywydau bob dydd. Ac yn y grŵp trawsbleidiol, y cyfeiriaf ato eto, roedd yn galonogol iawn clywed ein siaradwr yn dweud nad yw hawliau dynol yn ymwneud â bod ar asgell chwith neu asgell dde gwleidyddiaeth, fel y mae'n cael ei bortreadu'n rhy aml mewn rhannau o'r wasg Brydeinig. Mae'n ymwneud â hawliau sylfaenol a ddylai fod ar gael i bawb ohonom.

Roeddwn yn falch iawn—ac rwy'n ddiolchgar i Julie Morgan am ei grybwyll—o gael fy ngwahodd yn y cyd-destun hwn i helpu i ailsefydlu'r grŵp trawsbleidiol ar hawliau dynol yn y lle hwn. Gofynnwyd i mi wneud hynny gan yr Athro Cyswllt Simon Hoffman o Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton ym Mhrifysgol Abertawe, sy'n arbenigwr yn y maes, a gwn y bydd nifer yn y Siambr hon yn gwybod amdano. Mae Simon yn cynnal grŵp rhanddeiliaid hawliau dynol Cymru, grŵp o dros 20 o sefydliadau, sy'n edrych ar y mater o wahanol safbwyntiau, ac yn sicrhau cyfoeth o arbenigedd posibl y credaf y gallwn ei ddefnyddio. Roeddwn yn ddiolchgar iawn i Julie am fod yno ddydd Llun, ac rwyf hefyd yn ddiolchgar i Jayne Bryant a Darren Millar, sydd wedi ymuno â'r grŵp, ac rwy'n gobeithio y bydd Aelodau eraill yn teimlo y gallant wneud hynny wrth i'n gwaith fynd rhagddo. Fel y dywedodd Julie Morgan, cawsom gyfarfod ddydd Llun, yma yn y lle hwn, ar Ddiwrnod Rhyngwladol Hawliau Dynol. Cytunasom i weithio gyda'n gilydd tuag at greu deddfwriaeth hawliau dynol newydd gynhwysfawr, deddfwriaeth a wnaed yng Nghymru, i ymgorffori confensiynau priodol y Cenhedloedd Unedig yng nghyfraith Cymru.

Rwyf wedi bod yn ddiolchgar iawn, fel y soniodd arweinydd y tŷ, am y ffordd gadarnhaol iawn y mae hi wedi ymateb i fy nghynnig i ymgorffori'r confensiwn anabledd. Ac rwy'n siŵr y bydd yn cael trafodaethau tebyg gyda Darren Millar ynghylch ei gynnig deddfwriaethol ar hawliau pobl hŷn. Ac roedd yn ddiddorol iawn darllen sylwadau'r Cwnsler Cyffredinol, y mae arweinydd y tŷ wedi cyfeirio atynt heddiw. Ac rwy'n ddiolchgar iawn am y modd y mae arweinydd y tŷ wedi mynd i'r afael â'r mater hwn yn y misoedd ers i mi ddychwelyd yma, a gobeithiaf yn fawr iawn—ac rwy'n siŵr o'r hyn y mae wedi'i ddweud heddiw—y bydd Llywodraeth Cymru, ni waeth beth fydd y newidiadau i rolau unigolion penodol, yn parhau i fabwysiadu'r ymagwedd gadarnhaol, hynod amhleidiol hon. Mae'r grŵp trawsbleidiol yn edrych ymlaen at weithio gyda Llywodraeth Cymru wrth i ni barhau i fwrw ymlaen â'r agenda hon yma yng Nghymru, gan gefnogi, a herio, lle bo hynny'n briodol. Ac mae'r grŵp hwnnw, fel rwyf eisoes wedi'i ddweud, yn darparu cronfa ragorol o arbenigedd, ac rwy'n siŵr y bydd y Gweinidogion sy'n gyfrifol eisiau manteisio arni.

Ddirprwy Lywydd, rwy'n gobeithio y gellir gwrthdroi Brexit, a gobeithiaf y gellir cadw'r amddiffyniadau hawliau dynol rydym wedi'u cael drwy fod yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd, a'r mynediad at lysoedd Ewropeaidd sy'n deillio o'r hawliau hynny. Ond pa un a ellir cyflawni hynny ai peidio, hyderaf y gallwn weithio gyda'n gilydd i sicrhau bod y confensiynau rhyngwladol allweddol yn cael eu hymgorffori'n ystyrlon yng nghyfraith Cymru. Diolch yn fawr iawn i chi.

14:35

Fel y mae pawb wedi'i ddweud, mae'r datganiad cyffredinol o hawliau dynol i fyny yno gyda'r Beibl—mae'n un o'r dogfennau sydd wedi'u cyfieithu a'u cyhoeddi fwyaf yn y byd, ac mae ar gael mewn mwy na 500 o ieithoedd. Cafodd gefnogaeth dorfol ymhell cyn y rhyngrwyd. Cafodd ei ddrafftio gan gynrychiolwyr o bob cwr o'r byd, gyda phrofiadau cyfreithiol a diwylliannol gwahanol, ond roeddent wedi rhannu trawma rhyfel. Fel y GIG, y mae'n rhannu pen-blwydd ag ef, mae'r datganiad yn deillio o benderfyniad i adeiladu byd gwell a thecach. Ond nid oedd yn ddyhead uchel-ael. Roedd yn sail i ffurfio trefn fyd-eang ar ôl y rhyfel a oedd yn seiliedig ar reolau. Ac yn union fel y mae grymoedd cenedlaetholaidd ac awdurdodaidd atgyfodol wedi bod yn ymosod yn gynyddol ar y bensaernïaeth wleidyddol ryngwladol honno, mae'r un peth yn wir am hawliau dynol. Gwaith seneddwyr yw eu hamddiffyn, nid rhannu'r llwyfan â bwlis yr asgell dde, a fyddai'n cael gwared ar hawliau pobl eraill. Ac mae'n rhaid i ni fynd gam ymhellach. Oherwydd, mewn ymateb i heriau mawr y ganrif hon—mewnfudo torfol, newid hinsawdd, ac anghydraddoldebau enfawr o ran cyfoeth—rhaid cryfhau hawliau dynol, nid eu gwanhau, a'u hymestyn, nid eu llesteirio.

Mae hynny'n fy arwain, yn anochel, at Brexit. Mae Brexit, wrth gwrs, yn creu goblygiadau pwysig i hawliau dynol yn y wlad hon. Cawn weld beth fydd yn digwydd heno yn San Steffan. Mae Llywodraeth y DU wedi deddfu i ymgorffori deddfau'r UE sy'n ymwneud â diogelwch rhag gwahaniaethu a hawliau gweithwyr, ond dewisodd gael gwared ar siarter hawliau sylfaenol yr UE, sy'n gwarantu diogelwch mewn cyflogaeth, cydraddoldeb a phreifatrwydd. Beth y gallai hynny ei olygu i fenywod beichiog, er enghraifft, i rieni sy'n gweithio a phobl ag anableddau? Nid oes gennyf amheuaeth yr ymosodir ar ein hawliau cyfredol gan frigâd arferol y tâp coch a'r penboethiaid dros ddadreoleiddio ar yr asgell dde.

Ac un pwynt terfynol: roedd Diwrnod Rhyngwladol Hawliau Dynol hefyd yn nodi diwedd ymgyrch 16 diwrnod yn erbyn trais ar sail rhywedd. Rwyf wedi bod yn ymgyrchu gyda Sefydliad y Merched—yma ac yn Aberystwyth, ac ar draws y rhanbarth—dros y pythefnos, yn gwthio agenda parch i bob cymuned. Ac mae ymgyrch y Rhuban Gwyn wedi bod yn gofyn i bobl addo peidio â chyflawni, goddef na chadw'n dawel am drais yn erbyn menywod. Ond bydd y neges honno'n cael ei thanseilio os na fydd yr heddlu'n llwyddo i weithredu'n briodol pan fydd pobl yn rhoi gwybod. Felly, roeddwn ychydig yn siomedig yr wythnos diwethaf i ddeall, yn ôl yr Arolygiaethau Cyfiawnder Troseddol, fod yna 8,400 o droseddau nad ydynt wedi cael eu cofnodi'n briodol gan heddlu Dyfed-Powys a heddlu Gwent. A hoffwn ganolbwyntio ar heddlu Dyfed-Powys gan ei fod yn cwmpasu'r rhan fwyaf o fy rhanbarth. O'r 3,300 o droseddau yr adroddwyd amdanynt na chânt eu cofnodi bob blwyddyn, mae 1,500 ohonynt yn droseddau treisgar, mae 70 ohonynt yn droseddau rhyw, mae 7 ohonynt yn achosion lle mae'r dioddefwyr yn agored i niwed ac mae 66 ohonynt yn achosion o gam-drin domestig—bron i chwarter yr holl droseddau yr adroddwyd yn eu cylch. Mewn llawer o achosion, ni fydd dioddefwyr ond yn gallu manteisio ar wasanaethau cymorth os caiff trosedd ei chofnodi. Felly, mae hwn yn fethiant difrifol, ac rwy'n disgwyl i arweinwyr yr heddlu a'r comisiynwyr heddlu a throseddu afael ynddi a rhoi'r gorau i wneud cam â dioddefwyr camdriniaeth. Yn y wlad hon, mae ganddynt hawl dynol sylfaenol i gael eu hamddiffyn. Diolch.

14:40

Hoffwn dreulio ychydig funudau yn siarad am y cyfle gwych sydd gennym yng Nghymru i barhau i arwain y ffordd o ran ein hagwedd tuag at hawliau dynol. Roedd yn fraint fawr cael eistedd ar y pwyllgor a fu'n ystyried y Mesur hawliau plant a phobl ifanc yn ôl yn 2011. Mae'n rhaid i mi ddweud bod honno'n garreg filltir, rwy'n credu, i'r Cynulliad Cenedlaethol o ran dangos ei ymrwymiad i'r agenda hawliau, sydd wedi bod mor bwysig yn gosod plant yn y canol yn ein dull sy'n seiliedig ar hawliau o lunio polisi a gwneud penderfyniadau, nid yn unig gan Lywodraeth Cymru, ond wrth gwrs, gan awdurdodau cyhoeddus eraill hefyd.

Fel y dywedodd Helen Mary Jones yn gwbl briodol, bûm yn ddigon ffodus i ennill pleidlais yma yn y Cynulliad Cenedlaethol i geisio cyflwyno deddfwriaeth arall y credaf y bydd yn arloesol fel y gallwn barhau i ddatblygu'r dull sy'n seiliedig ar hawliau ym maes hawliau pobl hŷn. Mae Cymru wedi arwain mewn perthynas â hawliau pobl hŷn. Ni oedd y wlad gyntaf yn y DU i benodi comisiynydd pobl hŷn, ac rwy'n credu ei bod yn deg dweud ein bod yn cael ein gweld yn fyd-eang fel lle gwych i bobl dyfu'n hen. Ond mae gennym gyfle, rwy'n credu, i ymgorffori'r hawliau hynny yng nghyfraith Cymru. Rydym eisoes wedi'u hymgorffori, wrth gwrs, yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2006, a bydd arweinydd y tŷ, wrth gwrs, yn cofio hynny'n iawn, rwy'n credu.

Ond credaf eu bod wedi cael eu derbyn gan yr awdurdodau lleol a oedd â dyletswyddau o dan y Ddeddf honno ac maent wedi cael eu derbyn gan Lywodraeth Cymru. A dyna pam rwyf wedi bod yn falch iawn o weld yr ymatebion cadarnhaol iawn a gefais hyd yn hyn gan y comisiynydd pobl hŷn, Cynghrair Henoed Cymru ac Age Cymru, a llu o sefydliadau rhanddeiliaid pobl hŷn eraill i'r cynigion ar gyfer Bil hawliau pobl hŷn. Buaswn yn croesawu ymateb gan arweinydd y tŷ heddiw yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf, mewn gwirionedd, ar y gwaith y gwn ei fod eisoes yn mynd rhagddo o ran ceisio gwneud hawliau pobl hŷn yn real.

Rhaid i ni beidio ag anghofio bod gennym dros 800,000 o bobl hŷn yng Nghymru. Rydym yn gymdeithas sy'n heneiddio, a dylem ddathlu'r rôl y mae pobl hŷn yn ei chwarae a'r cyfraniad y maent yn ei wneud i'n gwlad. Ond mae'n ymddangos i mi fod rhagfarn ar sail oedran yn dal i fod yn un o'r pethau hynny rydym yn aml iawn yn chwerthin amdano ac yn ei dderbyn ac i'n gweld yn ei oddef mewn ffordd nad ydym yn ei wneud gyda nodweddion gwarchodedig eraill megis hil, rhywedd a rhywioldeb. Credaf fod hwnnw'n fater y mae angen i ni fynd i'r afael ag ef fel cenedl. Felly, credaf fod ymgorffori hawliau pobl hŷn yn well yng nghyfraith Cymru, a helpu i gyfathrebu a hyrwyddo'r hawliau hynny i bobl hŷn, ac yn wir, i'r holl wasanaethau cyhoeddus ac i bawb ledled y wlad, yn ffordd bwysig o helpu pobl i wireddu'r hawliau hynny a gallu manteisio arnynt. Felly, rwy'n gobeithio y gallaf weithio'n agos gyda'r Llywodraeth a'r Gweinidog priodol, pwy bynnag y bo, yn ystod yr wythnosau nesaf o bosibl, ac yn y flwyddyn newydd, i helpu i roi'r ddeddfwriaeth hon ar y llyfrau statud.

Ond rwyf hefyd yn edrych ymlaen at weithio gyda'r grŵp trawsbleidiol ar hawliau dynol. Roeddwn yn falch o weld bod Helen Mary Jones wedi cymryd yr awenau mewn perthynas ag ailsefydlu'r grŵp hwnnw ac edrychaf ymlaen at ymgysylltu ag ef a chyda Llywodraeth Cymru er mwyn hyrwyddo'r agenda hon sy'n seiliedig ar hawliau, ac rwy'n credu ein bod wedi gwneud hynny'n dda iawn hyd yma.

14:45

Mae 70 mlynedd wedi bod ers i'r Cenhedloedd Unedig fabwysiadu'r datganiad cyffredinol o hawliau dynol, ac rydym wedi teithio'n bell yn y saith degawd diwethaf, ond nid ydym wedi teithio'n ddigon pell. I filiynau o bobl ledled y byd, nid yw'r amddiffyniadau a'r addewidion cyffredinol hynny'n ddim ond breuddwyd. Nid yw'r 30 erthygl sydd mor bwysig i ni yn golygu fawr ddim i bobl yn Yemen neu Venezuela, Syria neu Dde Swdan, Somalia neu Saudi Arabia. Nid yw dynion, menywod a phlant sy'n ymdrechu ac yn brwydro bob dydd i aros yn fyw yn mwynhau'r hawliau a'r amddiffyniadau a ddrafftiwyd ar ôl erchyllterau'r ail ryfel byd a'r Holocost. Mae llawer yn gorfod ffoi o'u cartrefi a'u bywydau blaenorol i chwilio am ddiogelwch, ac maent yn aml yn wynebu teithiau sydd yr un mor beryglus â'r sefyllfa y maent yn gobeithio ei gadael ar ôl wrth iddynt groesi Môr y Canoldir, neu Mecsico, ar drywydd hafan ddiogel.

Ond nid y bobl mewn rhanbarthau sydd wedi'u rhwygo gan ryfel yw'r unig rai heb hawliau sylfaenol; gwelwn dorri hawliau dynol yn y byd gorllewinol. Yn yr hyn a elwir yn wlad y bobl rydd, caiff dinasyddion yn yr Unol Daleithiau eu hamddifadu o hawliau sylfaenol, hawliau dynol, ar sail ddyddiol, ac mae'n amlwg fod aelodau o gymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig yn cael dedfrydau carchar llymach na phobl wyn. Mae arweinydd yr Unol Daleithiau'n elyniaethus tuag at ffoaduriaid ac mae'n credu ei bod yn iawn i chwalu teuluoedd drwy orfodaeth a charcharu plant nad ydynt wedi gwneud dim mwy na ffoi rhag newyn, rhyfel ac erledigaeth. Ni chaiff rhai teuluoedd eu haduno o gwbl ac er gwaethaf hyn, caiff ei addoli weithiau gan bobl ar yr asgell dde sy'n gobeithio ei efelychu.

Yn nes adref, nid yw ein defnyddwyr cadeiriau olwyn yn gallu teithio gyda'i gilydd yn bell iawn a bod yn gyd-deithwyr ar drên neu fws am nad yw ein seilwaith wedi'i gyfarparu i sicrhau'r cydraddoldeb hwnnw. Hefyd yn nes adref, i lawr y ffordd yn Abertawe, yng Nghaerdydd, mae gennym epidemig o ddigartrefedd, lle'r amddifedir dynion a menywod, lawer ohonynt yn gyn-aelodau o'r lluoedd arfog, o'u hawliau erthygl 25. Yn hytrach na sicrhau bod gan y trueiniaid anffodus hyn hawl i safon byw sy'n ddigonol ar gyfer eu hiechyd a'u lles eu hunain a'u teuluoedd—gan gynnwys bwyd, dillad, tai a gofal meddygol—mae rhai gwleidyddion yn poeni ynglŷn â sicrhau nad yw pobl ddigartref yn gwneud i'r stryd fawr edrych yn ddiolwg. Mewn parc yn Abertawe y diwrnod o'r blaen, gwelais berson yn cysgu y tu ôl i'r llwyni, yn cuddio o olwg pawb, wedi'i lapio mewn blanced, yn teimlo cywilydd eu bod yn ddigartref, a'r foment honno, roeddwn yn teimlo cywilydd fy mod yn wleidydd.

Mae gennym hefyd wleidyddion a phleidiau gwleidyddol cyfan sy'n ymosod ar bobl yn seiliedig ar eu barn grefyddol neu'r hyn y maent yn dewis ei wisgo, ac yn ceisio gosod cymunedau yn erbyn ei gilydd a gwneud enwogion o bobl sy'n lledaenu hiliaeth, rhagfarn a chasineb at wragedd ar-lein. Ac mae gennym hawl—mae'n rhaid i ni wrthsefyll y bobl hyn: pobl sydd eisiau i'r ddogfen hon gael ei rhwygo, pobl a fyddai wrth eu boddau'n gweld hawliau dynol sy'n rhwymo mewn cyfraith yn cael eu diddymu, pobl sy'n rhoi cenedlaetholdeb pitw o flaen dyngarwch.

Ar 10 Rhagfyr 1948, roedd gan y rhan fwyaf o arweinwyr y byd y weledigaeth i weld nad rhyfeloedd a rhaniadau oedd ein dyfodol, ond yn hytrach, fod cydnabod urddas cynhenid a hawliau cyfartal ac anwahanadwy holl aelodau'r teulu dynol yn sylfaen i ryddid, cyfiawnder a heddwch yn y byd. Rhaid i ni amddiffyn yr hawliau hyn rhag y rhai sy'n dymuno eu distrywio a'u gwanhau, nid yn unig pobl fel Bashar al-Assad, Vladimir Putin, Tayyip Erdoğan neu Kim Jong-un, ond pobl fel Gerard Batten a Tommy Robinson—Gerard Batten, a oedd yn amlwg yn credu nad oes lle i fenywod mewn gwleidyddiaeth. Rwy'n gobeithio na fydd yn cymryd 70 mlynedd arall cyn y bydd y 7 biliwn ohonom sy'n rhannu'r blaned hon yn gallu mwynhau'r un hawliau anwahanadwy a gadarnhawyd gan arweinwyr y byd ar 10 Rhagfyr 1948. Byddaf yn cefnogi'r ddau welliant, Rhun, ac rwyf am gydnabod nad oes lle i eithafiaeth, ar unrhyw ffurf, boed yn eithafiaeth asgell chwith, eithafiaeth asgell dde—unrhyw le—yn ein hamgylchedd na'n cymdeithas. Oherwydd mae pawb ohonom yn gyfartal ni waeth beth yw lliw ein croen, pa grefydd rydym yn ei dilyn, ein rhywedd, ein gallu corfforol, ein sefyllfa economaidd na'r wlad rydym yn byw ynddi, a pho gyflymaf y bydd pawb yn derbyn hynny, y mwyaf heddychlon fydd ein planed. Diolch yn fawr.

14:50

Mae'n bwysig, heddiw o bob diwrnod, ein bod ni, fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn cydnabod y Diwrnod Hawliau Dynol Rhyngwladol, sef dydd Llun, 10 Rhagfyr 2018. Mae 70 o flynyddoedd wedi bod ers mabwysiadu'r datganiad cyffredinol o hawliau dynol, ac roedd datblygiad cyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb yn un o'r rhesymau sylfaenol pam y penderfynais gamu i'r byd gwleidyddol, a gwn fod hynny'n wir am eraill yn y Siambr hon, a dyna pam y mae datblygu a chynnal cyfiawnder cymdeithasol a chyfle cyfartal yn sylfaen i bopeth rwy'n ei wneud fel Aelod Cynulliad dros Islwyn. Yn wir, roedd ymladd ideoleg yr asgell dde eithafol a BNP yn hollbwysig i fy nhaith bersonol. Llywodraeth Lafur y DU a lofnododd y confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol yn wreiddiol a Llywodraeth Lafur y DU a ymgorfforodd y confensiwn hwnnw yn ein cyfraith, drwy basio Deddf Hawliau Dynol 1998.

Ond mae'n ddiwrnod trist, fel y mae eraill wedi dweud heddiw, pan fo arweinydd grŵp UKIP yn gwenu ac yn annog cyn-arweinydd Cynghrair Amddiffyn Lloegr a chyn-aelod o'r BNP mewn rali yn ddiweddar—ac rwy'n credu mai Stephen Yaxley-Lennon yw ei enw iawn—sydd bellach yn cynghori UKIP.

Y llynedd, anerchodd arweinydd Llafur y DU, Jeremy Corbyn, y Cenhedloedd Unedig yn Genefa. Yn yr anerchiad hwnnw, amlinellodd Jeremy Corbyn y problemau sy'n wynebu ein dynoliaeth gyffredin. Dywedodd, a dyfynnaf, fod y crynodiad cynyddol o gyfoeth a grym anatebol yn nwylo grŵp pitw o elitwyr corfforaethol, system y mae llawer yn ei galw yn 'neo-ryddfrydiaeth', wedi arwain at gynnydd mawr mewn anghydraddoldeb, ymyleiddio, ansicrwydd a dicter ar draws y byd. Rydym yn gwybod bod heriau fel y rhain yn peryglu datblygiad cyfiawnder cymdeithasol, ac yn awr fwy nag erioed, rhaid i ni wynebu'r heriau hyn yn uniongyrchol. Felly, mae'n ddigalon gweld, bob dydd, y ciwiau cynyddol mewn banciau bwyd ledled y DU a'r cynnydd yn nifer y bobl ddigartref a'r bobl sy'n cael eu troi allan o'u cartrefi. Mae'n ddigalon gweld, bob dydd, y cosbau parhaus mewn arian ac amser a orfodir drwy'r credyd cynhwysol gwarthus—ein hawlwyr mwyaf agored i niwed sy'n dioddef—y toriadau i fudd-daliadau plant, y toriadau i drothwyon credyd treth, llanastr yr asesiadau taliadau annibynnol personol a'r ffaith bod rhwydwaith cymorth lles y DU ar gyfer y bobl fwyaf agored i niwed wedi cael ei ddiddymu'n strategol, er gwaethaf camau strategol a phellgyrhaeddol Llywodraeth Cymru i liniaru'r sefyllfa. Mae adroddiad diweddar y Cenhedloedd Unedig ar dlodi a hawliau dynol ym Mhrydain yn dilyn adroddiad damniol arall ar hawliau a'r modd y mae'r DU yn trin ei phobl anabl. Ni ddylai unrhyw un yma fod yn falch o hynny. Mae'n datgan bod y modd y caiff system les polisi cymdeithasol y DU ei chymhwyso yn sbarduno tlodi, yn creu digartrefedd, yn dirymu menywod, pobl anabl a phlant, ac yn torri hawliau dynol yn sylfaenol, ac ymhellach, fod yr ideoleg beryglus sy'n llywio credyd cynhwysol, sy'n rhoi adnoddau ariannol yn nwylo'r penteulu gwrywaidd, yn aml yn sbarduno cam-drin domestig a thrais rhywiol, ac yn wreig-gasaol.

Felly, wrth i ni ystyried agenda hawliau dynol y DU a'n lle ni yn y byd, a goblygiadau beth bynnag yw Brexit, ar y diwrnod hwn o bob diwrnod, mae'n bwysig ein bod i gyd, gobeithio, yn gwneud popeth yn ein gallu i amddiffyn yr hawliau dynol sydd gennym yn awr er mwyn eu diogelu ar gyfer y dyfodol a'u hymgorffori yn ein cyfansoddiad ar gyfer dyfodol hawliau ein plant yn awr ac ar gyfer y blynyddoedd i ddod. Diolch.

Diolch. A gaf fi alw ar Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip i ymateb i'r ddadl? Julie James.

Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r holl Aelodau am eu sylwadau a'u syniadau ar y pen-blwydd pwysig hwn. Gan droi at y gwelliannau, byddwn yn cefnogi gwelliant 1. Mae Llywodraeth Cymru yn gadarn yn erbyn pob math o eithafiaeth, gan gynnwys eithafiaeth asgell dde. Yn 'Ffyniant i Bawb: y strategaeth genedlaethol', rydym wedi nodi ein huchelgais i weithio gyda chymunedau, y sector gwirfoddol a gwasanaethau lleol i wrthsefyll bygythiad eithafiaeth a throseddau casineb yn ein cymunedau.

Ym mis Hydref, cefais y fraint o gyfarfod â Sara Khan, y comisiynydd arweiniol ar gyfer gwrthsefyll eithafiaeth. Buom yn trafod rôl ddatblygol y comisiwn a sut y gall gefnogi ein huchelgais yng Nghymru i fynd i'r afael â phob math o eithafiaeth, gan gynnwys eithafiaeth asgell dde—y math mwyaf cyffredin o eithafiaeth yng Nghymru. Tra oedd yng Nghymru, cyfarfu'r comisiynydd â nifer o'n rhanddeiliaid fel rhan o'n gwaith casglu tystiolaeth. Bydd hyn yn helpu i lywio dealltwriaeth well o eithafiaeth a sut y gellir ei wrthsefyll.

Mae gennym fecanwaith effeithiol ar gyfer ymgysylltu ar lefel uwch drwy CONTEST a bwrdd eithafiaeth Cymru. Cadeirir y bwrdd ar y cyd gan Lywodraeth Cymru ac uned eithafiaeth a gwrthderfysgaeth Cymru. Mae'r aelodau'n cynnwys cadeiryddion ein byrddau rhanbarthol yn ogystal ag uwch gynrychiolwyr allweddol o sefydliadau partner allweddol eraill. Bydd yr Aelodau'n falch o wybod bod y bwrdd wedi comisiynu adroddiad ar eithafiaeth asgell dde yng Nghymru. Byddant yn ystyried canfyddiadau'r adroddiad hwn ynghyd ag unrhyw argymhellion gan y comisiwn mewn cyfarfod yn y dyfodol. Er gwaethaf y gwaith helaeth ar draws Llywodraeth Cymru a chyda'n partneriaid, rydym yn gwybod nad oes lle i hunanfodlonrwydd. Mae'r straeon diweddar yn y cyfryngau am eithafiaeth asgell dde ar garreg ein drws yn dangos yr angen i barhau i fod yn effro i'r bygythiad, ac rwy'n credu bod yr holl Aelodau wedi crybwyll y bygythiad hwnnw yma heddiw. Byddwn yn parhau i weithio gyda'n partneriaid a thrwy ein strwythurau sefydledig i ddeall y sefyllfa'n well a mynd i'r afael â'r risgiau hyn.

Gan droi at welliant 2, er ein bod yn cwestiynu i ba raddau y mae'n flaenoriaeth i Lywodraeth y DU, mae Llywodraeth Cymru yn croesawu unrhyw gamau i fynd i'r afael â chaethwasiaeth fodern, i amddiffyn rhyddid o ran crefydd neu gred, i roi diwedd ar anghydraddoldeb a gwahaniaethu, ac i hyrwyddo democratiaeth. Am y rheswm hwn, rydym hefyd yn cefnogi gwelliant 2.

Rydym yn annog Llywodraeth y DU yn gadarn i gryfhau ei hymdrechion yn y meysydd hyn oll, gan ei bod yn amlwg fod llawer mwy i'w wneud i brofi ei bod yn flaenoriaeth wirioneddol i Lywodraeth y DU. O ran y materion a godwyd, mae Leanne Wood wedi dweud sawl gwaith fy mod—. Wel, mewn gwirionedd, rwy'n cytuno'n llwyr â phopeth y mae wedi'i ddweud, ond rydym yn gwneud cryn dipyn eisoes, ac fe wnaf yn siŵr fy mod yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am ganlyniad y bwrdd a'r ymateb a gomisiynodd i eithafiaeth asgell dde. Mae llawer o'r Aelodau wedi sôn am hynny heddiw, felly byddaf yn sicrhau bod yr Aelodau'n cael y wybodaeth lawn ar hynny wrth iddo ddatblygu. 

Roeddwn yn falch iawn o glywed cefnogaeth frwd Darren Millar a Mark Isherwood i hawliau dynol, er gwaethaf y ffaith bod diddymu Deddf Hawliau Dynol 1998 wedi ymddangos mewn dwy o Areithiau'r Frenhines. Credaf ei fod yn dangos bod gwleidyddiaeth yn wahanol yma yng Nghymru, ac roeddwn yn falch iawn o weld y gefnogaeth honno. O na bai Llywodraeth y DU yn mynd mor bell ag y mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi gallu ei wneud, byddem i gyd mewn sefyllfa well o lawer. 

Soniodd llawer o'r Aelodau—Julie Morgan, Helen Mary Jones, Joyce Watson, Caroline Jones a Rhianon Passmore—am yr hyn sy'n digwydd pan fo hawliau dynol yn cael eu hanwybyddu, ac nid wyf yn credu y gallwn wneud yn well na dyfynnu araith y Cwnsler Cyffredinol yn narlith goffa Eileen Illtyd. Dywedodd y dylid gweld hawliau dynol fel pethau ymarferol, sylfaenol, ac arferol hyd yn oed, yn hytrach na phethau sy'n cyfyngu, yn cael eu gorfodi, neu sy'n estron. Rydym angen ymateb sy'n portreadu hawliau dynol fel dulliau arferol o sicrhau cyfiawnder mewn

'lleoedd bach, yn agos at adref', nid datganiadau eangfrydig mewn neuaddau marmor pell.

Credaf fod yr holl Aelodau heddiw, Ddirprwy Lywydd, wedi tanlinellu'r angen i ni ddeall bod hawliau dynol yn hawliau sylfaenol, yn anghenion sylfaenol sydd gan bawb ohonom, nid pethau i'w defnyddio fel arf, ond yn hytrach fel tarian ac fel hawl i urddas a chyfrifoldeb. Rwyf mor falch ein bod wedi cael y ddadl hon heddiw, Ddirprwy Lywydd, a diolch i'r holl Aelodau am fod mor barod i gymryd rhan ynddi. Diolch.

14:55

Diolch.

Y cynnig yw derbyn gwelliant 1. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Y cynnig yw derbyn gwelliant 2. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Iawn. Felly, gohiriwn y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

5. Dadl: Cyfnod 4 y Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru)

Symudwn yn awr at eitem 5, sef y ddadl ar Gyfnod 4 y Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru), a galwaf ar y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol i wneud y cynnig—Huw Irranca-Davies.

Cynnig NDM6899 Huw Irranca-Davies

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:

Yn cymeradwyo Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru).

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n gwneud y cynnig yn ffurfiol.

Rwy'n falch iawn o agor y ddadl hon ar Gyfnod 4 y Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru). Cyflwynwyd y Bil hwn i'r Cynulliad ym mis Ebrill oherwydd ein bod eisiau creu proses syml, 'unwaith i Gymru' i wirio cymhwysedd person ar gyfer y cynnig gofal plant. Yr hyn sydd gennym ger ein bron heddiw yw Bil a fydd yn ein galluogi i wneud yn union hynny.

Yn ystod hynt y Bil, rydym wedi casglu tystiolaeth werthfawr ac rydym wedi trafod rhai materion yn fanwl iawn, materion yn ymwneud â pholisi cyfredol a pholisi yn y dyfodol sydd y tu hwnt i baramedrau'r Bil cul hwn, ond rwy'n ddiolchgar iawn i aelodau'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg am gymryd rhan yn y ddadl hon ac am eu gwaith craffu trylwyr ar y Bil. Hoffwn hefyd gofnodi fy niolch i'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol a'r Pwyllgor Cyllid am eu mewnbwn gwerthfawr, ac rwy'n ddiolchgar i randdeiliaid allweddol hefyd am y dystiolaeth ysgrifenedig a llafar y maent wedi'i darparu, sydd wedi ein helpu i lywio a datblygu ein syniadau.

Rwy'n ddiolchgar hefyd i'r tri phwyllgor yn enwedig am yr argymhellion yn ystod Cyfnod 1 a wnaeth i ni fyfyrio, yn briodol iawn, ar y modd y drafftiwyd y Bil ac a arweiniodd yn y pen draw at welliannau'r Llywodraeth yn ystod Cyfnod 2 a Chyfnod 3. A gaf fi hefyd ddiolch i holl Aelodau'r Cynulliad am eu hymgysylltiad a'u sylwadau yn ystod trafodion Cyfnod 3 yr wythnos diwethaf. 

Nawr, rydym wedi gweld y Bil hwn yn esblygu dros y misoedd diwethaf, ac rwyf o'r farn ei fod wedi cael ei wella gryn dipyn diolch i fewnbwn rhanddeiliaid ac Aelodau'r Cynulliad. Yr hyn sydd ger ein bron heddiw yw Bil sy'n gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i ddarparu cyllid ar gyfer y cynnig, gan gadarnhau, y tu hwnt i unrhyw amheuaeth, ymrwymiad y Llywodraeth hon i'r cynnig. Rydym wedi ymateb i alwadau am fwy o eglurder o ran y diben drwy basio gwelliannau sy'n ei gwneud yn glir pwy yr ystyriwn yn blant cymwys at ddibenion y cynnig. Ac rydym hefyd wedi cynnwys darpariaeth yn y Bil a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru adolygu effeithiolrwydd y Ddeddf a'r trefniadau ar gyfer gweinyddu'r cynnig a chyhoeddi adroddiad. Rwyf hefyd yn falch ein bod wedi gallu mynd i'r afael â mân anghysondebau technegol ac o ran drafftio ar hyd y daith.

A gaf fi hefyd ddiolch i Brif Ysgrifennydd y Trysorlys, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yr Ysgrifennydd Cartref a'r Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau am eu cymorth wrth ddatblygu'r Bil hwn. Rwy'n arbennig o ddiolchgar i swyddogion Cyllid a Thollau EM am weithio mor agos ac adeiladol gyda fy swyddogion dros y cyfnod cyn cyflwyno a'r cyfnod craffu. Rwy'n falch ein bod bellach mewn sefyllfa lle mae holl gydsyniadau angenrheidiol Gweinidogion y Goron yn eu lle, ac edrychaf ymlaen at weithio gydag adrannau Llywodraeth y DU a chyda'r Ysgrifenyddion Gwladol wrth i ni ddatblygu is-ddeddfwriaeth i weithredu'r ddeddfwriaeth sylfaenol hon. Rwyf hefyd yn falch iawn o allu helpu i lywio'r Bil hwn drwy ei gamau terfynol ac ar y llyfr statud yng Nghymru.

Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, diolch i'r arwyr bach anweledig, a di-glod yn aml, yn swyddfeydd a choridorau Parc Cathays a Thŷ Hywel—y swyddogion polisi, swyddogion deddfwriaethol a swyddogion a chynghorwyr eraill sy'n gwneud cymaint i gyflwyno ein deddfwriaeth, gyda chymorth, ac weithiau er gwaethaf yr heriau gan Weinidogion ac eraill. Maent yn gwybod mai ein dull yw estyn allan a gweithio'n adeiladol gydag ACau ac eraill i ddechrau gyda Bil da ac i lunio deddfwriaeth derfynol sydd hyd yn oed yn well. Credaf ein bod, bob un ohonom, wedi gwneud hynny, ac felly, rwy'n cymeradwyo'r Bil hwn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

15:00

Mae'n bleser gennyf siarad yng nghyfnod terfynol y Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru). Fodd bynnag, nid yw hwn ond yn un Bil ar restr hir o Filiau gan Lywodraeth Cymru nad ydynt wedi bod yn ddigon da yn ddeddfwriaethol. Gan barhau â thema bwyd, mae fy nghyd-Aelod Suzy Davies wedi dweud sawl gwaith mai deddfwriaeth caws Swistir yw hon—fod gormod o dyllau yn yr hyn sy'n Fil fframwaith, wedi'i amlinellu mewn termau hollol ganiataol ac ansicr.

Rwyf wedi edrych yn ôl ar y cyfraniadau a wnaed drwy bob cyfnod o'r Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru), ac mae themâu cyson yn codi o hyd. Buaswn yn gobeithio mai dyma'r tro olaf y byddwn ni, fel Aelodau Cynulliad, sy'n craffu fel gwrthbleidiau a grwpiau trawsbleidiol, yn dod ar draws yr un pryderon mewn deddfwriaethau yn y dyfodol. Unwaith eto, rydym yn gweld polisi cadarn ger ein bron, wedi'i weithredu drwy ddeddfwriaeth a gafodd ei chreu'n gyflym ond heb y mecanweithiau craffu angenrheidiol, drwy'r defnydd parhaus o is-ddeddfwriaeth. Roedd y Bil hwn yng Nghyfnod 3 cyn i ni hyd yn oed weld copi o'r adroddiad ar flwyddyn gyntaf yr awdurdodau sy'n weithredwyr cynnar. Roedd hefyd yng Nghyfnod 3 cyn i'r Gweinidogion weithredu'r ddyletswydd i gyllido'r cynnig yn derfynol. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn sicr yn cefnogi'r polisi o gyllido gofal plant yng Nghymru. Yn wir, roedd yn rhan o'n maniffesto ein hunain. Ond mae gormod yn cael ei adael i is-ddeddfwriaeth a chynllun gweinyddol sydd y tu hwnt i'n mewnbwn ni neu lefel briodol o bwerau craffu. 

At hynny, mae dau faes polisi allweddol heb eu rhoi ar wyneb y Bil, sy'n ei wneud yn llestr gwag o bosibl. Nid yw'r cynnig ei hun yma o'n blaenau, er ei fod wedi cael ei ysgrifennu ar hyd y memorandwm esboniadol a'i addo gan y Gweinidog drwy gydol cyfnodau 1, 2 a 3. Mae oedran y plentyn cymwys hefyd yn absennol, ac unwaith eto'n cael ei adael i addewidion a'r cynllun gweinyddol. Yn y bôn, mae hepgor y ddau faes pwysig hwn o wyneb y Bil yn golygu nad oes gennym unrhyw linell sylfaen glir i ddechrau ohoni. Mae angen inni ddechrau o bwynt o sicrwydd, hyd yn oed os yw'n cael ei ddiwygio mewn blynyddoedd i ddod. Nid ydym yn derbyn rhesymeg y Gweinidog y byddai gadael elfennau hanfodol i is-ddeddfwriaeth yn darparu mwy o hyblygrwydd. Yn hytrach, rydym wedi dadlau drwy gydol y broses fod angen cyfaddawd rhwng hyblygrwydd ar gyfer y Weithrediaeth a hawl i graffu gan y ddeddfwrfa. Byddai ein gwelliannau yng Nghyfnod 3 wedi darparu'r cydbwysedd hwn.

Mae'r Gweinidog hefyd wedi dweud mai Bil technegol yn unig yw hwn, ac na ddylai gynnwys meysydd polisi ehangach. Nid yw hynny'n wir. Fel y'i drafftiwyd ac fel y'i diwygiwyd, mae'n mynd y tu hwnt i'r bwriad cul hwnnw. Fel y nodais yn ystod Cyfnod 2 a Chyfnod 3, mae prif ddibenion y Bil wedi'u hamlinellu'n glir yn y memorandwm esboniadol—cefnogi economi Cymru a chefnogi nifer o ddibenion ychwanegol, gan gynnwys cynyddu cyflogaeth a gwella lles cymdeithasol plant. Pe bai'r Bil hwn yn ddim ond mecanwaith i CThEM asesu ceisiadau, pam dweud hynny i gyd yn y memorandwm esboniadol?

Drwy gydol y dystiolaeth, clywsom y gallai prif ddibenion y Bil fod wedi cael eu cryfhau ymhellach drwy nifer o welliannau angenrheidiol, gan gynnwys darparu cludiant cofleidiol, ymestyn y cynnig y tu hwnt i rieni sy'n gweithio, ac atal rhwystrau sy'n rhwystro pobl rhag manteisio ar y cynnig, megis taliadau ychwanegol. Byddai cynnwys y rhain ar wyneb y Bil wedi dangos yn glir i rieni a darparwyr gofal plant fod gan Lywodraeth Cymru ddyletswydd i alluogi mwy o deuluoedd i fanteisio ar y cynnig. Buaswn wedi ei gadael hi yn y fan honno pe bai cymal adolygu'r Bil hwn wedi'i ddrafftio'n ddigonol i gynnwys pwerau'r ddeddfwrfa fel y gallem ei adolygu yn ddiweddarach. Fodd bynnag, nid yw'n dweud 'annibynnol' neu 'i'w gyflwyno gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru' yn unman.

Nawr, gwyddom am ymrwymiad y Gweinidog i gynnal gwerthusiad annibynnol yng Nghyfnod 3, ond fan lleiaf, byddem wedi disgwyl i unrhyw adroddiad fod ar gael i'r Cynulliad, fel y ddeddfwrfa, i'w graffu a'i gymeradwyo. Nid yw'n glir o'r cymal adolygu a ddrafftiwyd gan y Gweinidog a fyddai adolygiad annibynnol yn digwydd o dan Lywodraeth Cymru ymhen pum mlynedd, yn ogystal â beth fyddai rôl ein Cynulliad yn y broses o gynllunio'r adolygiad hwnnw. Yn hytrach nag ateb ei chwestiynau ei hun, mae angen i Lywodraeth Cymru ateb y cwestiynau hyn i'n hetholwyr allu cael hyder yn ei ganfyddiadau maes o law. Er gwaethaf ein hymdrechion i sicrhau bod gan y Bil gymal adolygu a fyddai wedi ateb y pryderon a fynegwyd, nid gan un pwyllgor, ond gan ddau bwyllgor, am y Bil, neu gymal machlud, fan lleiaf, mae'r rhain i gyd wedi cael eu gwrthod yn ddisymwth gan y Gweinidog. Felly, mae'n siomedig iawn fod Cynulliad Cenedlaethol Cymru—ie, y ddeddfwrfa hon—wedi cael ei anwybyddu unwaith eto.

Rhybuddiwyd Llywodraeth Cymru gan fy nghyd-Aelod, Angela Burns, yn ystod Cyfnod terfynol Deddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018, na fyddai gan Aelodau Cynulliad y dyfodol fawr o feddwl ohoni os na chesglid tystiolaeth gredadwy a chyson a ganolbwyntiai ar ganlyniadau i alluogi craffu priodol. Ymataliodd y Ceidwadwyr Cymreig ar y Ddeddf honno yn ystod Cyfnod 4 ar y sail ei bod yn cynnwys cymal machlud. Felly, unwaith eto, rydym yn cyhoeddi'r rhybudd hwn ynglŷn â gorddefnyddio Biliau sgerbwd. Rydych wedi gwrthod meysydd allweddol y mae angen eu hadolygu, gan gynnwys gweithrediad y cynllun gweinyddol, pa un a fydd y Ddeddf yn effeithio ar gynyddu cyflogaeth, yn unol â'i nodau, a chapasiti'r gweithlu gofal plant i gyflawni'r cynnig hwn. Weinidog, rydych yn Aelod Cynulliad yn ogystal â—[Torri ar draws.]—yn ogystal â Gweinidog yn y Llywodraeth hon. Mae angen i chi argyhoeddi eich etholwyr eich hun nad gwrando ar graffu fel Gweinidog yn unig a wnaethoch, ond—

15:05

Lywydd—Ddirprwy—er ein bod yn cefnogi'r cynnig, a'r defnydd o CThEM i asesu ceisiadau, mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn gwrthod y cynnig am y rhesymau hyn. Ni fyddwn yn ei gefnogi. Diolch yn fawr.

Diolch yn fawr iawn. Fe wnaeth Llyr Gruffydd, fel aelod o'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg o fy mlaen i, graffu'r Bil yma'n fanwl, ac rydw innau, fel aelod presennol o'r pwyllgor, wedi cael cyfle i graffu arno hefyd. Mi ydym ni, fel Plaid Cymru, wedi cyflwyno nifer o welliannau er mwyn ceisio gwneud y Bil yn fwy ystyrlon, ond yn siomedig iawn na chafodd rheini eu derbyn. Mi ydym ni o'r farn bod y Bil yn gwahaniaethu yn erbyn rhai o blant tlotaf Cymru. Nid yw plant lle nad ydy eu rhieni'n gweithio yn gymwys ar gyfer 30 awr o ofal plant am ddim, ac nid yw plant y mae eu rhieni mewn addysg a hyfforddiant yn gymwys chwaith. A bwriad ein gwelliannau ni oedd cynnwys plant o'r teuluoedd hynny yn y ddarpariaeth. Rydw i'n credu bod eu gadael nhw allan yn gwahaniaethu yn eu herbyn nhw a bod hynny yn annheg, yn anghywir ac yn wrthgynhyrchiol.

Mae tystiolaeth yn dangos bod rhoi'r cychwyn gorau posibl i blant ifanc yn allweddol i'w datblygiad, ac mai mynychu lleoliadau gofal o ansawdd uchel yw un o'r ffyrdd gorau i roi'r cychwyn gorau hwnnw i blant o deuluoedd tlawd. Rydw i'n ymwybodol bod yna gynlluniau eraill ar gael, ond nid yw'r cynlluniau hynny yn statudol. Mae rhai'n dibynnu ar lle rydych chi'n byw ac nid ar angen, ac mae yna ddryswch a diffyg ymwybyddiaeth am natur ac argaeledd y cynlluniau yma. Fe gollwyd cyfle i ymgorffori carfan hollbwysig i mewn i ddeddfwriaeth—cyfle a fyddai wedi golygu na fyddai angen i'r rhieni sydd mewn addysg, hyfforddiant neu'n chwilio am waith ffeindio'u ffordd drwy'r holl ddryswch o gynlluniau yma ac y byddai gan pawb le i fynd i gael gofal plant mewn deddfwriaeth syml a fyddai'n cwmpasu pawb. Rydym ni'n credu felly bod y Bil yn wallus fel darn o ddeddfwriaeth ac yn mynd yn groes i egwyddorion cydraddoldeb ac egwyddorion y Ddeddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol, ac felly fe fyddwn ni'n pleidleisio’n ei erbyn heddiw. 

15:10

Diolch yn fawr iawn. A gaf fi alw ar y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl?

Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd. Wel, edrychwch, rwy'n berson eithaf hyblyg a hael, ond rwyf ychydig yn siomedig gydag ymateb y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru i'r hyn y credaf iddi fod yn agwedd adeiladol tuag at hynt y Bil hwn. A gaf fi ddweud, drwy bleidleisio yn erbyn y Bil hwn, rydych yn pleidleisio yn erbyn rhywbeth sydd, fel y gwyddom eisoes o'r ardaloedd peilot, yn rhoi £200 i £250 yn ychwanegol yr wythnos i aelwydydd—a menywod, yn bennaf, ar yr aelwydydd hynny gyda llaw, ac yn aml y rheini yn y grwpiau economaidd-gymdeithasol is yn ein cymunedau? Rydych yn pleidleisio yn erbyn hynny.

Hoffwn ddweud wrth y Ceidwadwyr: rydych yn pleidleisio yn erbyn rhywbeth nad yw'n  gwbl annhebyg i'r hyn a oedd gennych yn eich maniffesto. Ond mewn gwirionedd, nid yw'r Bil hwn yn ymwneud â'r cynnig polisi ac rwy'n credu—[Torri ar draws.] Un eiliad, Suzy. Nid yw hwn yn ymwneud â'r cynnig polisi fel y cyfryw. Fe ddywedaf eto, Bil technegol, cul yw hwn i alluogi CThEM i gyflwyno cymhwysedd a cheisiadau o dan y cynllun ac i leddfu'r baich ar awdurdodau lleol sy'n ei wneud o dan y cynlluniau peilot ar hyn o bryd. Mae awdurdodau lleol yn gofyn i ni ysgwyddo'r baich hwn. Nawr, wrth gwrs, mae yna ddadl ehangach mewn perthynas â'r cyfeiriad polisi ar hyn o bryd a'r cyfeiriad polisi yn y dyfodol, ond mae pleidleisio yn erbyn rhywbeth sy'n llwyddiant ar hyd a lled Cymru ym mhob ardal sy'n gweithredu'r cynllun peilot hwn, fel y tystia'r ffaith bod yr ardaloedd nad ydynt yn rhan ohono ar hyn o bryd yn gofyn, 'A gawn ni fod yn rhan ohono?'—wel, rydych yn gwneud tro gwael â'ch etholwyr.

Os caf orffen gyda hyn: mae wedi cael ei ddisgrifio fel fframwaith caws Swistir—[Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf, fe ddof yn ôl atoch, ond mae wedi'i ddisgrifio fel Bil fframwaith caws Swistir. Yn wir, nid yw Bil fframwaith yn llenwi'r bylchau i gyd, ond mae'n briodol mewn ymateb i'r pwyllgorau, sydd wedi dweud, 'A gawn ni sicrhau'r cydbwysedd cywir rhwng hyblygrwydd y Bil hwn i newid yn y dyfodol?', a dyna pam ei fod wedi'i gefnogi, nid yn unig gan reoliadau ond gan gynllun gweinyddol, fel y gallwn ei addasu wrth i ni ddysgu o'r cynlluniau peilot. Felly, rwyf ychydig yn—. Fel gŵr hyblyg, mae'r ymateb braidd yn grintachlyd yn fy siomi, a ninnau'n nesáu at y Nadolig. Suzy, rwy'n ildio.

Diolch i chi am ildio ar hynny. Credaf eich bod yn gwybod beth rwyf am ei ddweud, Weinidog. Mewn perthynas â'r polisi—rydych yn dweud mai Bil technegol yw hwn; mae'r memorandwm esboniadol yn ei ehangu y tu hwnt i hynny o gryn dipyn. Pe bai gennych y fath hyder yn y polisi hwn, hyder sydd i'w weld yn yr ardaloedd peilot yn ôl yr hyn a ddywedwch, dylai fod wedi mynd ar wyneb y Bil, fel na fyddai'n rhaid i ni ddibynnu'n unig ar ymddiried yn y Llywodraeth; gallem fod wedi dibynnu ar ddarn o ddeddfwriaeth a fyddai'n ei orfodi.

Wel, Suzy, diolch i chi am hynny. Ond unwaith eto, rydych wedi methu'r ffaith ein bod, mewn ymateb i Gyfnod 1 a Chyfnod 2, wedi cyflwyno gwelliannau Llywodraeth i greu dyletswydd i ariannu'r cynnig gofal plant hwn, a bydd y manylion rydych yn gofyn amdanynt yn dilyn, oherwydd yr angen am gydbwysedd a hyblygrwydd, o fewn y rheoliadau a'r cynllun gweinyddol hefyd. Nawr, pe baech yn ei roi yn y Bil hwn, pe bai CThEM yn penderfynu yfory eu bod, fel rhan o'r cymhwysedd, yn newid yr amodau gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau, byddai'n rhaid i ni ddod yn ôl at ddeddfwriaeth sylfaenol. Felly, rwy'n deall pam eich bod yn dal i ddadlau, 'Gadewch i ni roi popeth ar wyneb Bil technegol a chul', ond rwy'n credu ei fod gennym ni yma. Nawr, roedd rhywun—Llyr.

Diolch. Rwy'n gwerthfawrogi eich bod wedi derbyn yr ymyriad hwn. Mewn gwirionedd, roeddwn eisiau cofnodi bod ein pryderon mewn perthynas â'r ddeddfwriaeth arfaethedig hon yn adlewyrchu rhai'r comisiynydd plant. Felly, mae'n ddigon hawdd i chi sefyll yma a dweud ein bod yn anghywir am bob dim; nid ni yn unig sy'n dweud y pethau hyn, ac rwy'n synnu at y modd yr ydych yn diystyru rhai o'r sylwadau y mae'r comisiynydd plant wedi'u gwneud.

15:15

Wel, Llyr, rwyf ymhell o fod yn eu diystyru. Credaf fy mod wedi'i gwneud yn glir yn y pwyllgor ac mewn mannau eraill fod y drafodaeth yn ymwneud â ble rydym yn mynd yn y dyfodol o ran y cynnig gofal plant ehangach—nid, gyda llaw, o ran y pwyntiau a godwyd gan Siân yn flaenorol, sy'n ymwneud â rhieni sydd mewn hyfforddiant ac addysg ond na fyddai'n cael eu cynnwys yn y cynnig hwn yn awtomatig, ond rwyf wedi siarad yn fanwl mewn Cyfnodau eraill ynglŷn â lle y ceir darpariaeth eisoes, a'r ffaith ein bod wedi bwriadu ystyried dwyn y ddarpariaeth honno ynghyd yn ogystal ag ymestyn y ddarpariaeth honno am fwy o amser ar gyfer y dyfodol. Felly, nid wyf yn diystyru hynny o gwbl. Yn wir, rwyf wedi edrych ar hynny'n drylwyr.

Ond mae hyn yn fy arwain yn ôl at y pwynt a wnaeth Suzy ac eraill eiliad yn ôl. Yn y memorandwm esboniadol ar gyfer y Bil hwn, rydym wedi cyfeirio at y cynnig. Mae angen gwneud hynny, er ei fod yn Fil technegol, cul. Cyfeiriasom at y cynnig ehangach. Ond nid yw'r cynnig hwn yn sefyll ar ei ben ei hun yng Nghymru, mae'n sefyll ochr yn ochr â Dechrau'n Deg; mae'n sefyll ochr yn ochr â'r hyn rydym yn ei wneud gyda Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth, PaCE, ar gyfer rhieni sydd mewn gwaith ac mewn hyfforddiant; mae'n sefyll ochr yn ochr â Teuluoedd yn Gyntaf, Rhoi Plant yn Gyntaf a llawer o gynlluniau eraill. Ac yn wir—. Fel rwyf eisoes wedi dweud wrthych, Llyr, rwyf ymhell o fod yn ddiystyriol, a chredaf fod angen i ni anelu i fod yn fwy di-dor o fewn y Llywodraeth, ond yn y pen draw, Bil technegol, cul yw hwn i roi CThEM ar waith ac i leddfu baich awdurdodau lleol, sy'n gwneud y gwaith ar hyn o bryd.

Felly, i gloi, gyda'r sylwadau hynny, Ddirprwy Lywydd, a gaf fi ofyn i'r Aelodau gefnogi'r cynnig, i gefnogi'r Bil hwn yng Nghyfnod 4? Ac edrychaf ymlaen, wedyn, at gyflwyno is-ddeddfwriaeth yn ystod 2019.

Diolch. Yn unol â Rheol Sefydlog 26.50C, rhaid cynnal pleidlais wedi'i chofnodi ar gynigion Cyfnod 4, ac felly gohiriaf y bleidlais ar y cynnig hwn tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Nawr, rydym yn bwriadu cynnal pleidlais ar fusnes y Llywodraeth rydym newydd ei drafod. Oni bai bod tri Aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu, rwyf am symud ymlaen at y cyfnod pleidleisio. Iawn.

Cyfnod Pleidleisio (Busnes y Llywodraeth)

Felly, ymlaen at y bleidlais, ac rydym yn mynd i bleidleisio ar y ddadl ar Ddiwrnod Rhyngwladol Hawliau Dynol. Galwaf am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 45, neb yn ymatal, 9 yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 2.

NDM6896 - Gwelliant 2: O blaid: 45, Yn erbyn: 9, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Galwaf am bleidlais ar y cynnig fel y'i diwygiwyd, a gyflwynwyd yn enw Julie James.

Cynnig NDM6896 fel y’i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod Diwrnod Rhyngwladol Hawliau Dynol ddydd Llun 10 Rhagfyr 2018.

2. Yn nodi ei bod yn 70 mlynedd ers mabwysiadu’r Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol.

3. Yn gresynu at y twf mewn mudiadau gwleidyddol sy'n gwrthod egwyddorion y Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol, a galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ei gwaith i fynd i'r afael ag eithafiaeth yn cynnwys mesurau rhagweithiol i atal eithafiaeth asgell dde.

4. Yn nodi bod Llywodraeth y DU yn cydnabod bod yr holl hawliau a nodir yn natganiad y Cenhedloedd Unedig o hawliau dynol yn un mor bwysig â'i gilydd.

5. Yn croesawu'r camau y mae Llywodraeth y DU wedi'u cymryd o ran rhoi blaenoriaeth i fynd i'r afael â chaethwasiaeth fodern, amddiffyn rhyddid crefydd neu gred, rhoi terfyn ar anghydraddoldeb a gwahaniaethu, a hyrwyddo democratiaeth.



Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig fel y'i diwygiwyd 52, roedd 2 yn ymatal, a neb yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd.

NDM6896 - Dadl: Diwrnod Rhyngwladol Hawliau Dynol - Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 52, Yn erbyn: 0, Ymatal: 2

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Galwaf yn awr am bleidlais ar Gyfnod 4 y Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru) a galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Huw Irranca-Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 30, neb yn ymatal, a 24 yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig.

NDM6899 - Dadl: Cyfnod 4 y Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru): O blaid: 30, Yn erbyn: 24, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

6. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Atal Gwastraff ac Ailgylchu

Symudwn yn awr at eitem 6 ar ein hagenda y prynhawn yma, sef y ddadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod: atal gwastraff ac ailgylchu, a galwaf ar Jenny Rathbone i wneud y cynnig.

Cynnig NDM6893 Jenny Rathbone

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi'r cynnig ar gyfer Bil ar atal ac ailgylchu gwastraff.

2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:

a) atal gwastraff drwy osod gofynion ailgylchu ar gynhyrchwyr bwyd a manwerthwyr o ran deunydd pacio a gwastraff deunydd pacio; a

b) cyflwyno cyfrifoldebau estynedig ar y cynhyrchydd i sicrhau bod costau ailgylchu a rheoli gwastraff yn cael eu rhannu yn deg, gyda chynhyrchwyr yn cyfrannu at gost ariannol triniaeth ar ddiwedd bywyd eu cynnyrch.

Cynigiwyd y cynnig.

Mae David Attenborough wedi annog y cyhoedd ym Mhrydain i ganolbwyntio ar faint o blastig sy'n cyrraedd y cefnfor, yn cael ei lyncu gan fywyd y môr ac yn cyrraedd ein stumogau os ydym yn bwyta pysgod. Felly rwy'n falch fod Llywodraeth y DU yn ystyried codi treth ar ddeunydd pacio plastig, gan dargedu'r rheini sy'n cynnwys llai na 30 y cant o ddeunydd wedi'i ailgylchu neu sy'n anodd neu'n amhosibl eu hailgylchu, megis gwellt plastig, cynwysyddion duon a chwpanau untro ar gyfer diodydd poeth. Er bod yr eitemau hyn, sy'n ddiangen i raddau helaeth, fel gwellt plastig, wedi cael cryn dipyn o sylw, nid ydynt ond yn crafu'r wyneb. Ni fydd codi treth enfawr ar wellt plastig neu ffyn cotwm yn datrys sgandal deunydd plastig yn ein cefnforoedd. Rhaid i ni anelu i ddileu gwastraff o bob math yn gyfan gwbl.

Yng Nghymru, fe allwn, ac fe ddylem, fod yn falch iawn o'n llwyddiant yn ailddefnyddio, ailgylchu neu gompostio bron i ddwy ran o dair o 1.5 miliwn tunnell o wastraff trefol a gynhyrchwn bob blwyddyn, ond nid oes lle i laesu dwylo. Bedair blynedd yn ôl, allforiodd Cymru filoedd o dunelli o ddeunyddiau i wledydd tramor i'w hailgylchu, gan gynnwys 4,000 tunnell o blastig. Aeth llawer ohono i Tsieina, sydd bellach wedi gwahardd llawer o'n deunydd rhag cael ei fewnforio o'r DU, ac mae'n mynd i wledydd eraill sydd â phrosesau hyd yn oed yn llai trefnus ar gyfer ymdrin ag ef.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

15:20

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd bellach yn archwilio allforwyr sydd wedi gwneud ceisiadau ffug ar filoedd o dunelli o wastraff plastig nad yw'n bodoli, ac ymddengys bod gangiau troseddol yn camfanteisio ar ddiwydiant gwerth £50 miliwn. Mae hunan-adrodd yn gwahodd twyll a chamgymeriadau, ac mae'n amlwg nad yw'r hyn sy'n digwydd i'n gwastraff yn cael ei oruchwylio'n ddigonol. Yn syml iawn, ni allwn oddef i'n sbwriel gael ei ddympio ar wledydd tlawd sy'n datblygu, gwledydd heb dechnoleg i wneud unrhyw beth defnyddiol ag ef. Yn hytrach, caiff ei adael i lifo i'r afonydd a'r cefnforoedd.

Felly, buaswn yn dadlau bod targedau ailgylchu Llywodraeth Cymru ar gyfer cynghorau yn anghynaliadwy os ydynt yn seiliedig ar farchnadoedd allforio bregus. Yn ddi-os, mae yna farchnad ar gyfer alwminiwm, a oedd yn £1,000 y dunnell y tro diwethaf i mi edrych, ond mae eitemau eraill yn anodd i'w hailgylchu—yn syml iawn, nid oes marchnad ar eu cyfer. Felly, mae angen i ni newid i system ailgylchu gylchol. Mae dibynnu ar ailgylchu yn cuddio arferion gweithgynhyrchu anghynaliadwy, a thalwyr y dreth gyngor sy'n gorfod talu amdanynt. O ran tri phen y bregeth—lleihau defnydd, ailddefnyddio ac ailgylchu—mae angen i ni roi llawer mwy o ffocws ar leihau defnydd ac ailddefnyddio deunyddiau.

Rwy'n gobeithio y bydd y dreth gwarediadau tirlenwi yn mynd i'r afael â chael gwared yn ddiangen ar ddeunyddiau y gellir eu hailddefnyddio'n hawdd—yn benodol, dylai'r gyfradd uwch o dreth ar gyfer gwarediadau anawdurdodedig fod yn rhwystr ariannol i weithgareddau gwaredu gwastraff anghyfreithlon, sy'n digwydd yn y diwydiant adeiladu yn arbennig, oherwydd bydd y rheini sy'n tipio'n anghyfreithlon yn cael eu trethu ddwywaith, fel y dylent.

Wrth gwrs, y diwydiant adeiladu sy'n defnyddio fwyaf o adnoddau naturiol yn y DU. Gan fod bron i 90 y cant o wastraff adeiladu yn anadweithiol ac yn ddiogel, fe ellir, ac fe ddylid, ei ailddefnyddio, ei adfer a'i ailgylchu. Buaswn yn disgwyl i'r dreth gwarediadau tirlenwi sicrhau y bydd hynny'n digwydd yn awr. Ond bydd hynny, yn ei dro, yn ei gwneud yn anos byth i awdurdodau lleol gyrraedd eu targedau ailgylchu yn ôl pwysau, a dyna pam fod angen i ni edrych ar strategaeth wahanol.

Mae angen deddfwriaeth i fynd i'r afael â'r deunydd pacio, yn enwedig y deunydd pacio plastig, a gynhyrchwn, sy'n bwydo'r 8 miliwn o dunelli sy'n cael ei ollwng i'r môr. Yn yr Iseldiroedd, er enghraifft, caiff llawer o nwyddau eu pacio mewn deunydd clir, tebyg i blastig, wedi'i wneud o startsh ac sy'n fioddiraddiadwy. Mae cwmnïau Almaenig yn cynhyrchu prydau parod mewn pecynnau bioddiraddadwy, ac yng Nghymru mae gennym brifysgolion sydd eisoes yn cynhyrchu deunydd pacio o ddeunydd ailgylchadwy, ond nid yw diwydiannau gweithgynhyrchu ond yn eu defnyddio mewn marchnadoedd arbenigol yn hytrach na mabwysiadu dull systematig.

Yn yr Almaen, mae Deddf Cylch Sylweddau Caeëdig a Rheoli Gwastraff 1996, a gyflwynwyd 20 mlynedd yn ôl, yn ei gwneud yn orfodol i gwmnïau gweithgynhyrchu lunio deunydd pacio nad yw'n wastraffus. Mae wedi creu diwydiant gwastraff bywiog sydd ymhlith y gorau yn y byd, a chredaf fod hyn yn rhywbeth y gallem fod yn ei wneud yng Nghymru hefyd.

Mae angen i ni wneud cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr yn rhan annatod o'r holl eitemau pacio hyn, fel bod y gweithgynhyrchwyr yn talu am yr hyn y mae talwyr y dreth gyngor yn talu amdano ar hyn o bryd. Byddai cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr yn cymell gweithgynhyrchwyr i ganolbwyntio ar gylch oes eu cynnyrch, a byddai hynny'n sicrhau bod ganddynt fynediad gwell at ddeunyddiau eilaidd ar gyfer eu cadwyni cyflenwi eu hunain, yn ogystal â manteision cymdeithasol, fel clirio sbwriel, megis stympiau sigaréts a gwm cnoi, a fyddai'n achub miliynau o bunnoedd i gynghorau bob blwyddyn.

Wrth gwrs, mae gennym eisoes rai modelau o gyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr, sef cyfraith yr UE, mewn pethau fel nwyddau trydanol ac electronig, batris a cheir. Ond y tu hwnt i'r UE, mae Japan wedi mynd gam ymhellach gyda chyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr. Mae ganddi gyfreithiau helaeth sy'n cwmpasu cylch oes cynhyrchion o ddiwydiannau gwahanol, ac mae wedi'i gwneud yn ofynnol i weithgynhyrchwyr ddefnyddio deunyddiau wedi'u hailgylchu a chydrannau y gellir eu hailddefnyddio mewn cynhyrchion newydd.

Felly, gallem ddefnyddio cynllun cymunedol y dreth gwarediadau tirlenwi drwy ddarparu grantiau i ddatblygu, er enghraifft, cynlluniau dychwelyd blaendal ar boteli. Mae gwydr, wrth gwrs, yn gwbl ailgylchadwy a gellir ei ddefnyddio dro ar ôl tro. Gellir gwneud hynny gyda phlastigau, hefyd, fel y maent wedi'i wneud yn Norwy, lle mae cynllun dychwelyd blaendal ar waith sy'n sicrhau bod 97 y cant o'u holl gynwysyddion yn cael eu hailgylchu.

Felly, rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau'n ystyried hon yn ddeddfwriaeth effeithiol.

15:25

Mae gennyf nifer o siaradwyr a dadl hanner awr yw hon. Felly, ni fydd y cyfraniadau'n hwy na thair munud, a byddaf yn ceisio galw ar gynifer o siaradwyr ag y bo modd, ac eithrio'r Gweinidog, wrth gwrs. David Melding.

Diolch yn fawr, Lywydd. Rwy'n cymeradwyo'r Aelod. Gwn fod ganddi ddiddordeb angerddol yn y maes hwn, a'i bod ymysg y lleisiau mwyaf diffuant a chynnar, yn wir, i annog polisi cyhoeddus gwell. Rwy'n cytuno'n llwyr â chysyniadau sylfaenol yr economi gylchol, ac mae deunydd pacio, yn benodol, yn her go iawn, ac mae angen i ni ailystyried. Rwy'n ddigon hen i gofio'r adeg pan oeddech yn mynd i brynu ffrwythau ac yn mynd â bag gyda chi, hen fag hesian, ac nid oedd unrhyw ddeunydd pacio am y ffrwythau a'r llysiau—caent eu pwyso a'u rhoi yn y bag. Ac mae angen agwedd wahanol i wneud hynny, ond efallai fod y mudiad bwyd arafach yn dod i siopa arafach.

Rwyf hefyd eisiau canmol Llywodraeth Cymru ar ei hymgyrch dros yr haf i'n gwneud yn genedl ail-lenwi, gan edrych ar ddŵr yfed, lle gallwn gael dŵr yfed, gan greu mwy o fannau ail-lenwi poteli dŵr am ddim, poteli nad ydynt yn blastig yn ddelfrydol. Hoffwn ganmol Llanilltud Fawr, y dref gyntaf, rwy'n credu, i fabwysiadu hyn ar lwybr yr arfordir. Mae cynghorau eraill wedi edrych ar gynlluniau. Gwn fod Cyngor Tref Penarth yn gwneud hyn, ac yn annog gwahanol siopau a chaffis i fod yn rhan o'r cynllun. Yr hyn sy'n wirioneddol ddiddorol, yn fy marn i, yw bod cynghorau tref a chymuned yn gallu arwain ar hyn, a chredaf fod hynny'n arloesol iawn.

A gaf fi hefyd gymeradwyo Sefydliad Prydeinig y Galon? Yn ddiweddar, ymwelais â'u storfa ddodrefn yn Nhreganna, lle maent yn derbyn dodrefn gan bobl ac yn eu glanhau, eu hail-glustogi a'u paratoi ar gyfer eu hailddefnyddio. Pan euthum yno, cefais fy synnu gan ba mor broffesiynol oedd y gwasanaeth hwnnw, pa mor dda yw'r cynhyrchion a pha mor rhesymol yw'r prisiau. Felly, gall ddiwallu nifer o amcanion cymdeithasol wrth ganiatáu i bobl gael mynediad at ddodrefn o ansawdd da, a hynny, yn aml, am un rhan o ddeg o'r pris manwerthu y byddent yn ei dalu. Yn amlwg, i'r elusen honno, gallant gyfleu rhai o'u negeseuon craidd hefyd. Felly, roeddwn yn credu bod hwnnw'n fodel arloesol iawn.

Yn olaf, er mwyn cadw o dan dri munud, credaf fod y Comisiwn wedi cymryd rhan ym mis Gorffennaf di-blastig. Gwn fod Llywodraeth Cymru wedi bod yn edrych ar hyn yn ogystal—sut y gallwn ddileu cynwysyddion untro, ac rwy'n credu bod hynny'n digwydd yn gyflym yn awr, gyda'r defnydd o wellt a phethau felly. Felly, mae llawer iawn o bethau bach y dylem fod yn eu gwneud fel unigolion, ac annog ein gweithleoedd, boed yn y sector preifat neu asiantaethau cyhoeddus eraill, i fabwysiadu'r mathau hyn o bolisïau, a bydd hynny'n ychwanegu at newid mawr yn ein perfformiad yn y maes hwn. Ond da iawn, Jenny.

Diolch, Llywydd, ac a gaf innau groesawu'r cynnig yma gan yr Aelod, a dweud y byddaf i a Phlaid Cymru yn llwyr gefnogol i hyn? Yn wir, mi roddodd Plaid Cymru gynnig nid annhebyg i lawr ein hunain y llynedd, ac felly fydd hi'n ddim syndod ein bod ni yn cefnogi'r egwyddor yma. Mae angen gweithredu ar frys er mwyn atal plastigau rhag llygru ymhellach ein moroedd, ein hafonydd a'n hamgylchedd ni. Mae'n bwysig yn y cyd-destun yma hefyd ein bod ni'n cofio'r egwyddor bod y llygrwr yn talu. 

Egwyddor 'y llygrwr sy'n talu', wrth gwrs, sy'n golygu os mai chi sy'n creu'r gwastraff, chi ddylai dalu'r gost o ymdrin â'i ganlyniadau. Ac yn yr achos hwn, rwy'n credu y dylem gyflwyno cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr, a'i gwneud yn ofynnol i'r cwmnïau sy'n gyfrifol am gynhyrchu cymaint o'n gwastraff i gyfrannu at y gost o drin y gwastraff hwnnw. Mae pawb ohonom wedi clywed gan y Gymdeithas Cadwraeth Forol sut y gallai fod mwy o blastig na physgod yn ein moroedd, o ran pwysau, os nad ydym yn newid pethau erbyn 2050, ac mae hynny'n sobreiddiol iawn.

Nawr, mae yna bryderon difrifol, wrth gwrs, mewn perthynas ag i ble mae ein gwastraff plastig ailgylchu'n mynd, a chlywsom rywfaint am hynny yn y cyfraniadau agoriadol, felly nid wyf am ei ailadrodd. Ond mae'n ein hatgoffa, ac yn dangos i ni'n gynyddol, yn hytrach nag ailgylchu yn unig, fod yn rhaid inni atal y defnydd o blastig, yn enwedig plastig untro, yn y lle cyntaf. A dylid rhoi camau ar waith ar bob lefel o'r Llywodraeth, gyda'r nod o sicrhau dyfodol diwastraff.

Credwn y dylai hyn gynnwys ardoll ar blastig untro i weithio ochr yn ochr â chynllun dychwelyd blaendal ar gyfer poteli a chaniau, er mwyn atal gwastraff rhag digwydd yn y lle cyntaf, ac i wobrwyo ailddefnyddio a chynyddu ailgylchu lle bo angen. Wrth gwrs, Cymru oedd y wlad gyntaf i gyflwyno ardoll ar fagiau siopa, ac mae'n dangos sut y gall cam bach wneud gwahaniaeth mawr iawn. A gwelwyd bod cynlluniau dychwelyd blaendal yn effeithiol iawn hefyd. Mewn gwledydd lle mae cynlluniau o'r fath ar waith, wrth gwrs, rydym wedi gweld lefelau uchel o ailgylchu poteli: dros 90 y cant yn Norwy, Sweden a'r Ffindir, a 98.5 y cant yn yr Almaen, lefelau na allwn ni yng Nghymru ond breuddwydio amdanynt ar hyn o bryd.

Fel y nodwyd yn adroddiad Eunomia ar yr opsiynau ar gyfer cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr yng Nghymru, os yw San Steffan yn penderfynu yn erbyn gweithredu cynllun dychwelyd blaendal neu dreth ar gynwysyddion diod, mae'n dal i fod yn bosibl i Lywodraeth Cymru gyflwyno cynllun dychwelyd blaendal ar gyfer Cymru yn unig. Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan ei bod yn bwriadu gweithio gyda Llywodraeth y DU ar sail Cymru a Lloegr ar gamau i fynd i'r afael â gwastraff, ond wrth gwrs, rydym yn dal i aros i weld pa mor bell y bydd camau Llywodraeth y DU yn mynd yn y maes hwn. Ydy, mae'n newyddion i'w groesawu, fel y clywsom, y bydd yna dreth ar blastig defnydd untro, fel y cyhoeddwyd yng nghyllideb y DU ar gyfer 2018, ond mae'n siomedig, o'm rhan i, na fydd treth ar gwpanau untro, ac rydym yn aros am ganlyniad eu hymgynghoriad ar gyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr.

Os nad yw Llywodraeth y DU yn ddigon uchelgeisiol yn ei chynlluniau i atal llygredd plastig, dylai Llywodraeth Cymru arwain y ffordd, fel y gwnaeth gyda bagiau siopa untro. A hoffwn ofyn i'r Gweinidog felly, pa drafodaethau y mae wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ar y mater hwn yn ddiweddar, a pha gynnydd y gallwn ddisgwyl ei weld, oherwydd, os yw'n amlwg na fydd Llywodraeth y DU yn cyflwyno'r newidiadau radical rydym eu hangen i fynd i'r afael â'r broblem hon, mae angen i Lywodraeth Cymru ymrwymo i gyflwyno ei deddfwriaeth ei hun. Mae angen newid ymddygiad ar gyflymder ac ar raddfa nas gwelsom o'r blaen er mwyn mynd i'r afael â'r broblem hon. Yng Nghymru, fe allwn, ac fe ddylem, fynd ymhellach ac yn gyflymach na Llywodraeth y DU ar hyn, yn enwedig pan fo gennym gonsensws clir ar draws Siambr y Cynulliad. Ac felly, rwy'n falch o roi fy nghefnogaeth lawn i'r cynnig deddfwriaethol hwn.

15:30

Rwyf finnau hefyd yn cefnogi'r cynnig. Cytunaf mai cynhyrchwyr deunydd pacio a ddylai fod yn gyfrifol am eu rhan yn creu'r gwastraff anferth sy'n cyrraedd y bin bob blwyddyn. Ers gormod o amser mae deddfwrfeydd wedi bod yn fodlon rhoi'r cyfrifoldeb ar ddeiliaid tai am ailgylchu a chael gwared ar wastraff deunydd pacio, er nad oes ganddynt y nesaf peth i ddim rheolaeth dros y rhan fwyaf o'r hyn yw'r gwastraff hwnnw am nad hwy sy'n dewis y deunydd pacio y maent yn ei gael.

Ni wnaeth cyfarwyddeb tirlenwi yr UE ddim i leihau'r defnydd o ddeunydd pacio, a fawr ddim mewn gwirionedd i leihau'r gwastraff sy'n mynd i safleoedd tirlenwi. Er bod y dirwyon i gynghorau wedi arafu cyfradd y sbwriel sy'n mynd i safleoedd tirlenwi yn y DU, mae pawb ohonom yn gwybod fod llawer ohono'n cael ei allforio i Tsieina, gan greu allyriadau carbon enfawr o longau cynwysyddion a ddefnyddir i gludo'r holl wastraff ar draws y byd i'w ddympio mewn safleoedd tirlenwi yno. Pan welwn luniau o filoedd o boteli plastig yn y cefnfor, gallwn briodoli cryn dipyn o'r bai am hynny i gyfarwyddeb tirlenwi'r UE. Fodd bynnag, mae honno'n ddadl ar gyfer diwrnod arall.

Rwy'n llwyr o blaid system sy'n dwyn gweithgynhyrchwyr i gyfrif am gael gwared ar y deunydd pacio a ddefnyddiant, ond ymddengys ein bod ar ei hôl hi yn hyn o beth. Mae'r cynnig hwn yn ein helpu i ddal i fyny, ond yn ddelfrydol, dylem fod ar flaen y gad. Ychydig ddyddiau'n ôl, dechreuodd Walkers fenter sy'n caniatáu ac yn annog cwsmeriaid i ddychwelyd pacedi creision gwag iddynt. Ac ers tro bellach, mae Costa wedi bod yn derbyn nid yn unig eu cwpanau coffi untro wedi'u defnyddio yn ôl ar gyfer eu hailgylchu, ond rhai unrhyw siop goffi arall hefyd. Lluniwyd y mentrau hyn i apelio ar gwsmeriaid mewn ymateb i alwadau gan y farchnad. Ni allant fod wedi wedi dod o unrhyw fenter Llywodraeth am na chafwyd menter o'r fath.

Nid treth ar ddeunydd pacio yw'r ateb yn fy marn i. Y defnyddiwr fyddai'n ysgwyddo'r gost amdano. Rhaid inni gyflwyno deddfwriaeth briodol i ymdrin â'r sgandalau sy'n cynnwys manwerthwr ar-lein yn anfon llyfr bach mewn bocs enfawr, neu lle y caiff brws dannedd ei selio gan wneuthurwr mewn petryal anferth o blastig a allai wrthsefyll bwled, bron iawn, ac sy'n galw am ddefnyddio llif i'w agor.

Hoffwn weld y cynnig hwn yn cwmpasu mwy na deunydd pacio bwyd yn unig, a manteisio ar y cyfle i fynd i'r afael â rhai o'r pryderon sylweddol ynglŷn â gwastraff bwyd yn yr amgylchedd. Er enghraifft, ni wneir dim yn y cynnig hwn, neu yn unrhyw le arall, i fynd i'r afael â'r gwastraff bwyd sy'n deillio o daflu 86 miliwn o gywion ieir—mwy nag un cyw iâr i bob person yn y DU—i safleoedd tirlenwi bob blwyddyn. Mae hwnnw'n ffigur dychrynllyd o uchel. Mae'n cyfrannu cymaint o nwyon tŷ gwydr â 290,000 o geir bob blwyddyn yn ôl yr elusen gwrth-wastraff WRAP. Ac wrth gyfrifo'r ffigur hwnnw, roedd WRAP yn ystyried y gost o fagu, bwydo a chludo'r adar byw, ynghyd ag allyriadau nwyon os cânt eu rhoi mewn safleoedd tirlenwi. Amcangyfrifwyd hefyd fod aelwydydd yn y DU yn taflu 34,000 o dunelli o gig eidion bob blwyddyn—sy'n cyfateb i 300 miliwn o fyrgyrs cig eidion. Yn wir, mae'r teulu cyfartalog yn taflu gwerth £700 o fwyd bob blwyddyn. Mae hwnnw'n llawer iawn o wastraff nad yw'n cael sylw yn y cynnig hwn. Ac mae'n bosibl fod yna un arall yn yr arfaeth, ac efallai y dywedwch wrthym amdano, os felly.

Nid yw'r cynnig ychwaith yn mynd i'r afael â deunydd pacio ar gyfer eitemau nad ydynt yn fwyd. Mae pawb ohonom yn ôl pob tebyg yn gyfarwydd â'r mynydd o bolystyren a chardfwrdd a ddaw gyda pheiriant golchi dillad neu deledu newydd, neu'r rhan fwyaf o nwyddau mewn gwirionedd, deunydd pacio a ddefnyddiwyd gan y manwerthwr i sicrhau eu bod yn cyrraedd diogel, ond mater i'r defnyddiwr, drwy eu treth gyngor, yw ymdrin ag ef wedyn. Rwy'n gobeithio y bydd y Bil arfaethedig hwn yn cynnwys camau i fynd i'r afael â deunydd pacio gormodol am eitemau nad ydynt yn fwyd, a'r lefel anfoesol o gig a wastreffir hefyd. Gan droi'n ôl at ddeunydd pacio—

15:35

Efallai y byddai rhwymedigaeth ar fanwerthwyr a gweithgynhyrchwyr i gymryd y deunydd pacio y maent yn dewis ei ddefnyddio yn eu busnes yn ôl yn gwneud iddynt ystyried a yw'r deunydd pacio y maent yn ei ddefnyddio ar hyn o bryd yn wirioneddol angenrheidiol. A dyna ni—diolch ichi.

Gallwch ddweud beth sy'n Fil da, gyda llaw, yn ôl nifer y bobl sydd eisiau siarad. Mae Jenny Rathbone wedi cydnabod bod awdurdodau lleol yn y rheng flaen o ran sicrhau llwyddiant polisïau ailgylchu Llywodraeth Cymru dros y 10 mlynedd diwethaf neu fwy na hynny. Ond rhaid i mi dynnu sylw'r Siambr at ffatri yn fy etholaeth, o'r enw Bryn Compost, sydd wedi cael anawsterau. Gwn nad yw'n uniongyrchol gysylltiedig â deunydd pacio, ond roedd ganddo system ailgylchu gwastraff bwyd gyda rhesi compostio caeedig a oedd yn achosi drewdod yn y gymuned gyfagos. Fe wnaethant newid wedyn i gyfleuster treulydd anaerobig, a leihaodd y drewdod, ond roedd y pethau hynny'n parhau i achosi dicter mawr yn y gymuned, i'r graddau fod pobl wedi rhoi'r gorau i ailgylchu eu gwastraff bwyd, mewn protest. A rhaid imi ddweud, roedd hi'n brotest a gefnogwn oherwydd y drewdod mawr a achoswyd gan y problemau. Ond ateb byr i'r broblem oedd hynny.

Y rheswm rwy'n dod â hyn i sylw'r Siambr—rydym yn dal i weithio ar y problemau yn yr ardal honno—yw oherwydd bod angen inni edrych ar y dechnoleg a ddefnyddiwn, ond hefyd y rheoliad, a dyma yw diben y Bil hwn: mae'n ymwneud â rheoliadau, a rheoliadau effeithiol, a newid y ffordd o reoleiddio. Felly, os ydych yn rhoi'r cyfrifoldeb ar y sector preifat, sy'n creu'r gwastraff, i ymdrin â'r gwastraff, gallwch gefnogi hynny wedyn. Er mwyn ymateb i'r pryderon cyhoeddus hynny, dau beth: mae angen i chi gael cefnogaeth y cyhoedd, a chredaf y byddai'r Bil hwn yn cyflawni hynny, ond hefyd rhaid ichi roi'r pŵer i'r sector cyhoeddus reoleiddio'r sector preifat. Dyna un o'r problemau a gawsom yn sefyllfa Bryn Compost: nid oedd digon o bŵer gan reoleiddiwr Cyfoeth Naturiol Cymru. Ac os yw'r Bil hwn yn mynd i fod yn llwyddiannus, rwy'n credu bod rhaid i chi gael pŵer rheoleiddio statudol y tu ôl iddo. Ond hoffwn roi croeso iddo, ac rwy'n cydnabod ei fod yn cyflawni'r ddau beth hynny.

Ychydig o bwyntiau cyflym. Rwy'n croesawu'r cynnig hwn yn fawr ac yn llongyfarch yr Aelod am ei gyflwyno. Rwy'n cytuno ei bod hi'n anodd iawn mynd yn llawer pellach gydag ailgylchu—rhaid inni leihau defnydd, ailddefnyddio ac ailgylchu. Rwy'n falch iawn fod yr Aelod wedi sôn am y cynllun dychwelyd blaendal, fel y gwnaeth Llyr Gruffydd. Oherwydd credaf ei bod hi'n amlwg, mewn gwirionedd, y dylem gyflwyno cynllun dychwelyd blaendal. A hoffwn ofyn i'r Gweinidog hefyd a oes unrhyw beth y gall ddweud i roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ynglŷn â beth sy'n digwydd o ran gweithio gyda Lloegr ar gyflwyno cynllun dychwelyd blaendal. Bûm yn ymwneud â Chasglwyr Sbwriel Llangatwg, a roddodd ystadegau—ac rwy'n siŵr fod y Gweinidog a'r Aelod wedi'u gweld—ynglŷn â nifer y poteli diodydd plastig, sef yr elfen fwyaf o bell ffordd o unrhyw sbwriel a gesglir. Felly, dyna un pwynt, fy mod yn hapus iawn ynglŷn â'r cynllun dychwelyd blaendal, ac yn meddwl tybed a allem gael sylw ar hynny.

A'r ail bwynt mewn gwirionedd—cyfeiriodd Hefin David ato—yw bod arnom angen cefnogaeth y cyhoedd. Rwy'n meddwl y byddai cefnogaeth gyhoeddus i'r ddeddfwriaeth hon. Gwn fod y Gweinidog wedi ymweld â fy etholaeth, lle y gwnaethom lansio Rhiwbeina ddi-blastig gyda'n Haelod Seneddol, Anna McMorrin, ac mae hynny wedi lledaenu i wahanol rannau o'r etholaeth. A'r wythnos diwethaf euthum i ysgol gynradd Llys-faen, lle mae ganddynt eco-bwyllgor sydd â rhestr hir o argymhellion y byddent yn hoffi eu cyflwyno, ac mae un ohonynt yn ymwneud â lleihau deunydd pacio. Un o'u hymrwymiadau yw ceisio sicrhau nad yw eu rhieni'n prynu bwyd â llawer o ddeunydd pacio amdano. Felly, rwy'n credu bod yna ddyhead ac ewyllys da o'r fath felly rwy'n cefnogi'r cynnig hwn yn llwyr.

15:40

Diolch, Lywydd. A gaf fi ddiolch yn gyntaf i Jenny Rathbone am gyflwyno'r cynnig hwn ac i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl hon? Credaf fod fy nghyd-Aelod Hefin David yn gywir i ddweud y gallwch fesur cryfder cynnig yn ôl faint o bobl sydd am gyfrannu ato. Mae'n drueni, ar yr achlysur hwn, nad oes gennym lawer o amser i'w drafod. Ond rwy'n siŵr y bydd hyn yn rhywbeth a gaiff ei ailystyried yn y Siambr hon yn y dyfodol agos hefyd.

Rydych yn llygad eich lle fod deunydd pacio, yn enwedig deunydd pacio plastig yn fater proffil uchel iawn ar hyn o bryd ac un y gwyddom fod angen inni weithredu yn ei gylch cyn iddi fynd yn rhy hwyr. Rwy'n croesawu'r cyfle i gael y ddadl hon heddiw er mwyn datblygu syniadau pobl ynglŷn â sut y gallwn fynd i'r afael â hyn yng Nghymru.

Buom yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU ar ddiwygio'r gyfundrefn cyfrifoldeb cynhyrchwyr am ddeunydd pacio—felly, cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr. Rydym yn gwybod bod cynhyrchwyr ar hyn o bryd yn cyfrannu tua 10 y cant o'r costau deunydd pacio diwedd oes, sy'n anghyfiawn, yn annheg ac yn methu cymell y cynhyrchwyr hyn i ddefnyddio mwy o gynnwys wedi'i ailgylchu neu ddeunydd pacio hawdd ei ailddefnyddio y gellir ei ailbrosesu. Fel y mae Aelodau eraill wedi nodi hefyd, mae'n gosod cost y baich o reoli ein gwastraff deunydd pacio ar ein hawdurdodau lleol a'n dinasyddion. Felly, ar y rheoliad trwyddedu amgylcheddol hwn, y byddwn yn ymgynghori arno ar y cyd ar gyfer Cymru a Lloegr, bydd yn cynnwys ffioedd wedi'u modiwleiddio hefyd, a fyddai'n helpu mewn gwirionedd i gyfrannu at awdurdodau lleol yn ogystal, er mwyn unioni'r cydbwysedd hwnnw.

Credaf eich bod wedi dweud yn glir o'r cychwyn cyntaf, fel finnau, ei fod yn un o'r pethau a welwn—. Soniodd Julie Morgan am Riwbeina ddi-blastig ac rydym yn gweld cymunedau ledled y wlad yn rhoi camau ar waith ac mae'r cyfrifoldeb ar y Llywodraeth i roi camau ar waith hefyd, ac ar bob un ohonom fel busnesau, cynhyrchwyr a manwerthwyr yn ogystal. Felly, rwyf am weld diwygio a newid y drefn bresennol, er mwyn sicrhau bod cynhyrchwyr yn ysgwyddo rhagor o gyfrifoldeb.

Y mis diwethaf, cyfarfûm â fy Ngweinidog cyfatebol yn Llywodraeth yr Alban i bwyso ar y cyd am ddiwygio o'r fath, a bod y refeniw ychwanegol a gynhyrchir yn llifo i Gymru a rhannau eraill o'r DU yn briodol. Ac yn amlwg rwy'n hapus i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau yn fwy manwl, rwy'n ymwybodol o gyn lleied o amser sydd gennyf i siarad heddiw, ond rwy'n hapus i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ar hynny wrth inni symud ymlaen. Yn amlwg, bydd hyn yn ein galluogi i wthio ymhellach ac yn gyflymach o safbwynt ein hailgylchu.

Ochr yn ochr â hyn, soniodd Julie Morgan ac eraill am gynlluniau dychwelyd blaendal. Byddwn hefyd yn ymgynghori ar y cynllun dychwelyd blaendal ar gyfer Cymru a Lloegr, ond fel rydych wedi dweud eisoes, rydym yn agored i wneud hyn ar wahân yn ogystal—i ymgynghori yng Nghymru.

Yn benodol, rwy'n awyddus i wneud yn siŵr fod yr ymgynghoriad ar y cyd yn ystyried y trefniant penodol sydd gennym yng Nghymru. Ni yw'r unig wlad sy'n meddu ar dargedau statudol—felly, gwneud yn siŵr fod hynny'n gweddu i'r drefn sydd gennym eisoes ac yn ategu ac yn adeiladu ar y llwyddiant hwnnw yn ogystal.

Byddwn hefyd yn ymgynghori ar Ran 4 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Fel y dywedodd Aelod ar yr ochr arall i'r Siambr, rydym yn cymryd cyfrifoldeb fel aelwydydd yn awr gyda'n hailgylchu, ac mae angen i fusnesau wneud yr un peth a gwahanu eu gwastraff ar gyfer ei gasglu, fel rydym wedi bod yn ei wneud ers blynyddoedd bellach.

Ar y sail fod yna weithgarwch sylweddol ar fin digwydd yn y maes hwn, bydd Llywodraeth Cymru yn ymatal ar y cynnig hwn heddiw, ond mae'r cynigion yn gadarn a chredaf ei fod yn gynnig rhagorol. Fel Gweinidog yr amgylchedd, rwy'n rhoi ffocws cadarn ar reoli gwastraff ac ar adeiladu ar yr enw da sydd gennym eisoes am ailgylchu. Fel y dywedodd yr Aelod, un pen yn unig yw ailgylchu ac mae'n ymwneud mewn gwirionedd ag edrych ar ailddefnyddio, lleihau defnydd a sut y dechreuwn ymdrin â phethau ar ddechrau eu hoes yn ogystal ag ar ddiwedd eu hoes.

Soniodd David Melding—ni chlywais enw'r lleoliad yn Nhreganna, y lle ailddefnyddio. Rwyf wedi ymweld â nifer o lefydd ailddefnyddio yn y misoedd diwethaf ac rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi gallu addo cyllid i gefnogi'r mathau hyn o fentrau yn ogystal, oherwydd fel y dywedasoch, nid yn unig mae iddynt fanteision amgylcheddol, ond rydych yn gweld y manteision cymdeithasol ac economaidd ehangach a ddaw yn sgil y mentrau. Gallwch ddod o hyd i fargeinion anhygoel yn ogystal—bûm yn edrych drwy'r finyl yn y lle diwethaf yr euthum iddo tra oeddwn yno.

Roeddem yn sôn am yr economi gylchol, ac mae'r economi gylchol yn allweddol. Rwyf am inni fod y genedl fwyaf cylchol yn y byd o ran ein heconomi, fel ein bod nid yn unig yn buddsoddi yn ein hamgylchedd, ond yn ffyniant ein gwlad a'n pobl yn ogystal. Rwy'n credu ei fod yn un o'r pethau rydym wedi bod yn gweithio arnynt ymhell cyn iddo ddod yn derm go ffasiynol, ond mae wedi cryfhau bellach yn y meysydd a awgrymodd yr Aelod yn ogystal, ac yn y gwaith a wnawn yn buddsoddi gyda busnesau yng Nghymru i'w helpu i geisio symud at ddewis amgen mwy cynaliadwy yn ogystal.

Yn y pen draw, rydym am weld pobl yn ailgylchu, rydym eisiau gweld cyn lleied ag y bo modd o ddeunydd pacio nad yw'n angenrheidiol a gwneud yn siŵr fod modd ailbrosesu ac ailgylchu unrhyw ddeunydd eildro. Felly, wrth gloi, hoffwn ailadrodd fy nghroeso i'r cynnig a gyflwynwyd heddiw, sy'n cyd-fynd â strategaeth Llywodraeth Cymru tuag at ddyfodol diwastraff a'n llwybr tuag at economi fwy cylchol yng Nghymru. Diolch yn fawr.

15:45

Wel, rwy'n falch iawn fod Aelodau ar draws y pedair plaid wedi cefnogi'r cynnig hwn. Ni wneuthum edrych ar fwyd yn benodol, oherwydd credaf fod llawer ohono'n ymwneud â chael y cyhoedd ar ein hochr a'u cael i fwyta bwyd go iawn. Felly, nid wyf wedi mynd i'r afael â gwastraff bwyd, ac nid wyf eto wedi dod o hyd i ffordd y gallem gymhwyso rheoliadau trwyddedu amgylcheddol ar gyfer gwastraff bwyd, er ei fod yn faes diddorol iawn. Rwy'n dal i synnu at yr 86 miliwn o ieir a deflir i safleoedd tirlenwi.

Mae'n amlwg fod yna gefnogaeth fawr i'r cynllun dychwelyd blaendal a hefyd i gyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr, a chredaf fod angen inni symud ar hynny'n eithaf cyflym. Yn y cyfamser, tra byddwn yn cael y cynlluniau dychwelyd blaendal yn weithredol, rwy'n credu bod yna rôl i'r Llywodraeth sicrhau bod yr holl awdurdodau lleol yn gwahanu eu gwydr oddi wrth weddill eu deunydd ailgylchu, oherwydd, ar hyn o bryd, y cyfan y mae'r gwydr yn ei wneud yw halogi'r deunyddiau ailgylchadwy â darnau o wydr, oherwydd, yn amlwg, dyna sy'n digwydd wrth gywasgu.

Felly, diolch yn fawr iawn am y gefnogaeth ac rwy'n gobeithio y gallwn symud ymlaen gyda deddfwriaeth.

Y cynnig yw i nodi'r cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Cyflog Byw

Daw hyn â ni at yr eitem nesaf, sef y ddadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21 ar y cyflog byw. Rydw i'n galw ar Jane Hutt i wneud y cynnig. Jane Hutt. 

Cynnig NDM6860 Jane Hutt

Cefnogwyd gan David Rees, Dawn Bowden, Hefin David, Helen Mary Jones, Jayne Bryant, Jenny Rathbone, John Griffiths, Julie Morgan, Mark Isherwood, Mick Antoniw, Mike Hedges, Rhianon Passmore, Rhun ap Iorwerth, Vikki Howells

Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol Cymru

1. Yn nodi yr adroddiad gan Ysgol Fusnes Caerdydd, 'The Living Wage Employer Experience'.

2. Yn croesawu'r camau a gymerwyd gan 174 o gyflogwyr ar draws y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector yng Nghymru i dalu cyflog byw go iawn i'w cyflogeion.

3. yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) nodi'r mesurau i gefnogi mwy o gyflogwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector i fabwysiadu'r cyflog byw go iawn a dod yn gyflogwyr cyflog byw go iawn achrededig; a

b) ystyried cryfhau y Cod ymarfer: Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi mewn perthynas â'r cyflog byw go iawn.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd. Rwy'n falch o agor y ddadl hon ar y cyflog byw go iawn yn dilyn yr Wythnos Cyflog Byw fis diwethaf. Rwy'n falch iawn o'r gefnogaeth drawsbleidiol i'r ddadl Aelod unigol hon heddiw. Mae'r cyflog byw go iawn yn seiliedig ar y gost o fyw ac fe'i telir yn wirfoddol gan dros 4,700 o gyflogwr yn y DU sy'n credu bod diwrnod caled o waith yn haeddu cyflog teg. Mae'r cyflog byw go iawn yn wahanol i gyflog byw cenedlaethol Llywodraeth y DU, sy'n seiliedig ar darged i gyrraedd 60 y cant o'r enillion canolrifol erbyn 2020, ac ni chaiff ei gyfrifo yn ôl beth sydd ei angen ar weithwyr a'u teuluoedd i fyw. Ond mae cyflog byw go iawn yn ddigon i dalu costau byw, nid isafswm y Llywodraeth yn unig.

Flwyddyn yn ôl, ymunais â grŵp arweiniad ar y cyflog byw go iawn yma yng Nghymru, dan gadeiryddiaeth yr Athro Rachel Ashworth, Deon Ysgol Fusnes Caerdydd. Mae'r grŵp hwn yn cysylltu â'r Living Wage Foundation, sydd wrth wraidd yr ymgyrch cyflog byw go iawn yng Nghymru. Mae ein grŵp yng Nghymru yn cynnwys cynrychiolwyr o'r sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector, gan gynnwys Guy Leach, rheolwr gyfarwyddwr y cwmni adeiladu Cymreig Knox & Wells Limited, a Mari Arthur, prif weithredwr Cynnal Cymru, sy'n gyfrifol am achredu cyflogwyr cyflog byw go iawn yng Nghymru.

Rwyf wedi manteisio ar y cyfle dros y flwyddyn ddiwethaf i godi cwestiynau gydag aelodau o'r Cabinet ynghylch cynnydd a chyflawniad y cyflog byw go iawn yng Nghymru fel ffactor allweddol wrth fynd i'r afael â thlodi mewn gwaith a chyflogau isel er mwyn bod yn gymdeithas decach ac economi fwy cynhyrchiol. Yn fy nghwestiynau i'r Gweinidogion, rwyf wedi ceisio nodi ffyrdd y gall Llywodraeth Cymru annog cyflogwyr yng Nghymru i fabwysiadu'r cyflog byw go iawn. Dengys y ffigurau diweddaraf fod 174 cyflogwr yng Nghymru ar draws y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector yn talu'r cyflog byw go iawn i'w gweithwyr, sef £9 yr awr, o'i gymharu â chyflog byw cenedlaethol Llywodraeth y DU o £7.83 yr awr.

Arweiniodd Llywodraeth Cymru y ffordd yn y sector cyhoeddus ac mae wedi bod yn gyflogwr cyflog byw achrededig i wasanaeth sifil Llywodraeth Cymru ers 2015. Sicrhaodd Mark Drakeford y cyflog byw go iawn ar gyfer gweithlu GIG Cymru o ganlyniad i negodiadau yn ystod ei gyfnod fel Gweinidog iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Mae GIG Cymru wedi talu'r cyflog byw go iawn ers mis Ionawr 2015. Mae awdurdodau lleol wedi ymrwymo i'r cyflog byw go iawn, gyda Chyngor Caerdydd yn symud tuag at fod yn ddinas cyflog byw go iawn, gan gynnwys cyflogwyr cyhoeddus, preifat a thrydydd sector, yn ogystal â hwy eu hunain fel awdurdod. Roeddwn yn falch iawn o fynychu lansiad yr Wythnos Cyflog Byw ym mis Tachwedd gyda'r cyn-Brif Weinidog, Carwyn Jones, yn cyhoeddi'r gyfradd wedi'i diweddaru yn y Bigmoose Coffee Company yng Nghaerdydd, elusen sy'n darparu gwaith a chymorth i bobl ddigartref yn y ddinas ac sy'n talu'r cyflog byw go iawn.

Rwyf hefyd yn falch o'r cynnydd ym Mro Morgannwg, lle bûm yn ymgyrchu fel Aelod Cynulliad ers blynyddoedd lawer o blaid sicrhau'r cyflog byw go iawn ar gyfer gweithwyr a phobl sy'n gweithio'n uniongyrchol i Gyngor Bro Morgannwg. Rwy'n falch fod Cyngor Bro Morgannwg bellach ar fin dechrau talu'r cyflog byw go iawn i'r rhai sy'n gweithio'n uniongyrchol iddynt, fel bod modd i tua 4,000 o staff elwa ar draws adrannau cyngor ac ysgolion o 1 Ebrill y flwyddyn nesaf, ac rwy'n credu bod hwnnw'n gam i'w groesawu'n fawr. Yn wir, mae Cyngor Tref y Barri hefyd yn talu'r cyflog byw go iawn yn fy etholaeth, fel y mae llawer o gyflogwyr y trydydd sector a'r sector preifat yn ei wneud.

Rwyf hefyd yn falch fod rheolwyr Maes Awyr Caerdydd wedi cytuno i dalu'r cyflog byw go iawn i'w holl weithwyr o fis Ebrill nesaf. Mae'r cynnig hwn heddiw wedi ei gyfeirio ar draws Llywodraeth Cymru i gynnwys holl aelodau'r Cabinet sydd â rhywfaint o ddylanwad dros lywodraeth leol a gwasanaethau cyhoeddus, yr economi a'r seilwaith, cyllid drwy'r contract economaidd a'r cod moesegol, addysg ar gyfer addysg uwch, addysg bellach ac ysgolion, iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, ac wrth gwrs, cydraddoldebau.

Bydd mynd i'r afael â chyflogau isel yn effeithio'n uniongyrchol ac yn gadarnhaol ar y bwlch cyflog rhwng y rhywiau a chyflogau pobl anabl a phobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru sy'n aml yn gyflogau annheg. Dywedodd y Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod eu bod

eisiau i fusnesau ymrwymo i dalu cyflog byw (fel y'i cyfrifir gan y Living Wage Foundation) i staff a hwyluso arferion gweithio hyblyg.

Ac yn ddiweddar cyhoeddodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol adroddiad ar amgylchiadau ariannol pobl anabl, gan dynnu sylw at y ffaith bod y bwlch cyflog anabledd yn parhau, gyda phobl anabl yn ennill llai fesul awr ar gyfartaledd na phobl nad ydynt yn anabl.

Rwyf wedi cyfeirio yn y cynnig at y gwaith a wnaed gan Ysgol Fusnes Caerdydd ar brofiad cyflogwyr cyflog byw ar draws y DU. Canfyddiad canolog yr adroddiad yw bod y cyflog byw go iawn wedi bod yn brofiad cadarnhaol i'r rhan fwyaf o gyflogwyr, i gefnogi eu honiad fod achos busnes dros ddod yn gyflogwr cyflog byw go iawn. Yn wir, mae 93 y cant o gyflogwyr yn teimlo eu bod wedi elwa o'r achrediad—gwella enw da yn gwella'u brandiau cyflogwyr, gwella cysylltiadau â chwsmeriaid a chleientiaid ac uwchraddio rheoli adnoddau dynol. Ac yn bwysig, o ran cryfder ein cod ymarfer ar gyflogaeth foesegol, nodir mynediad at gontractau neu gyllid fel canlyniad cadarnhaol.

Felly, hoffwn weld Llywodraeth Cymru yn symud i newid yr ymrwymiadau a ddisgwylir gan gyflogwyr sy'n cael grantiau a chontractau o 'ystyried' talu o leiaf y cyflog byw go iawn i ymrwymiad gwirioneddol gydag amserlen i gyflawni'r canlyniad hwn. Bydd hyn yn galw am gymorth ac adnoddau i allu ei gyflawni o fewn Llywodraeth Cymru ac asiantaethau allanol. Yn yr Alban, rwy'n credu y gallwn weld y gwersi a ddysgwyd am effaith gadarnhaol y buddsoddiad hwn.

Felly, gofynnaf i Lywodraeth Cymru a'n Prif Weinidog newydd gynnwys y cyflog byw go iawn yn flaenoriaeth allweddol ym mriff y Comisiwn Gwaith Teg ac i arwain grŵp cydgysylltu trawslywodraethol i osod cerrig milltir i Lywodraeth Cymru weithio tuag at eu cyrraedd. Edrychaf ymlaen yn awr at glywed cyfraniadau'r Aelodau.

15:50

Rwy'n falch o gefnogi'r cynnig hwn. Wedi'i ariannu gan Sefydliad Joseph Rowntree, cafodd yr hyn a elwid bryd hynny'n 'isafswm incwm safonol' ei gyfrifo a'i ddogfennu gyntaf gan Ganolfan Ymchwil Polisi Cymdeithasol Prifysgol Loughborough yn 2008. Cyfartaledd y DU oedd hwn ac nid oedd yn cynnwys amrywiadau y tu mewn a'r tu allan i Lundain. Yn dilyn ymgyrch gan Creu Cymunedau Gyda'n Gilydd yn Wrecsam, cyflwynodd y Cynulliad gyflog byw ar sail yr isafswm cyflog a 15 y cant ar ei ben ar gyfer staff glanhau a staff contract yn 2006. Chwe blynedd yn ôl i heddiw, cyhoeddodd y Cynulliad yn ffurfiol ei fod wedi dod yn gyflogwr cyflog byw achrededig.

Mae adroddiad Ysgol Fusnes Caerdydd 'The Living Wage Employer Experience' yn nodi bod y cyflog byw wedi dylanwadu ar bolisi Llywodraeth y DU, ac rwy'n dyfynnu,

yn fwyaf nodedig gyda'r cyhoeddiad yn 2015 am y cyflog byw cenedlaethol

a thystiolaeth fod cymhelliant adnoddau dynol i gyflogwyr y cyflog byw go iawn. Y cyflog byw go iawn yw'r unig gyfradd gyflogau yn y DU a delir yn wirfoddol gan dros 4,700 fusnesau, ac mae dros 3,000 ohonynt wedi ennill achrediad y Living Wage Foundation, sy'n credu bod eu staff yn haeddu cyflog teg. Mae'r cyflogwyr hyn yn talu cyflog byw go iawn, cyflog sy'n uwch nag isafswm y Llywodraeth a chyflog byw Llundain yn Llundain. Mae dros 180,000 o weithwyr yn y DU wedi cael codiad cyflog o ganlyniad i'r ymgyrch dros y cyflog byw, ac mae'r Living Wage Foundation yn dweud eu bod yn cael cefnogaeth drawsbleidiol. Caiff y cyfraddau eu cyfrif yn flynyddol gan Sefydliad Resolution ar ran y Living Wage Foundation a chânt eu goruchwylio gan y Living Wage Commission a sefydlwyd ym mis Ionawr 2016, gan ddefnyddio fformiwla'n seiliedig ar yr hyn sy'n digwydd i safonau byw o un flwyddyn i'r llall yn Llundain a'r DU. Mae'r comisiwn yn darparu fforwm penderfynu tryloyw i ddatrys dyfarniadau penodol ynglŷn â sut i ymgorffori newidiadau polisi a ffynonellau newydd o ddata yn y cyfrifiad. Mae hefyd yn cynghori ar sut i reoli amrywiadau eithafol o flwyddyn i flwyddyn o gynnydd cyffredinol mewn costau byw.

Y cyflog byw presennol yn y DU y tu allan i Lundain yw £9 yr awr a £10.55 yn Llundain, ond mae'r enillion cyfartalog yng Nghymru yn is ac wedi tyfu'n arafach nag yng ngwledydd eraill y DU. Yn ôl Sefydliad Bevan, mae 300,000 o weithwyr yng Nghymru yn cael cyflogau is na'r cyflog byw gwirfoddol. Dengys eu hadroddiad 'Fair Pay' yn 2016 y byddai'r cyflog byw o fudd i gyflogwyr Cymru, eu cyflogeion a'u teuluoedd, a'r economi ehangach gyda'r nesaf peth i ddim risg. Maent yn datgan bod y manteision i gyflogwyr Cymru yn cynnwys mwy o gynhyrchiant, yn gwella recriwtio staff, presenoldeb staff a lefelau cadw staff, ac yn gwella enw da, gydag ond effeithiau bach iawn ar filiau cyflog, er y byddai hyn yn amrywio yn ôl sector a maint y sefydliad.

Maent yn ychwanegu bod y manteision i weithwyr Cymru yn cynnwys mwy o arian, mwy o amser ac yn cynyddu llesiant, er bod graddau'r enillion yn dibynnu ar batrymau gwaith cyflogeion, hawl i les a threfniadau mewnol eraill.

Maent yn dweud bod yr economi ehangach yn elwa o gynyddu refeniw treth ac yswiriant cenedlaethol ac arbedion ar fudd-daliadau. Mae modelu'r effaith ar gyfanswm cyflogaeth yn awgrymu, ar y gwaethaf, mai risg bach a chyfyngedig iawn o golli swyddi sydd o'i weithredu, ac ar y gorau, gallai arwain at beth cynnydd mewn cyflogaeth. Yn bwysig, dywedant,

efallai y bydd llawer o gartrefi'n canfod eu bod yn gallu cael ychydig mwy o incwm heb weithio oriau ychwanegol, a bod yn fwy diogel yn ariannol ac efallai'n llai dibynnol ar fudd-daliadau. Mae'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau'n debygol o leihau oherwydd gor-gynrychiolaeth menywod yn y gweithlu cyflog isel yng Nghymru, a gellir cryfhau llesiant ac annibyniaeth ariannol yr unigolyn hefyd.

Fel y dywedodd un cyn-faer Llundain,

mae'n sefyllfa lle mae pawb ar ei ennill, yn weithlu a chyflogwr fel ei gilydd.

Yn bwysig, meddai,

nid ymwneud â difidendau economaidd yn unig y mae hyn, ond â'r gwelliant anfesuradwy i ansawdd bywyd a morâl y gweithle.

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn credu mewn uchelgais ac y dylid gwobrwyo gwaith caled â chyflog teg. Ein gweithlu yw'r ased mwyaf gwerthfawr sydd gennym, ac mae unrhyw beth sy'n tanseilio eu hymdrechion yn niweidiol i'n heconomi. Mae'n hanfodol fod pobl yn cael y cyflogau y mae ganddynt hawl i'w cael.

Rydym yn cefnogi'r cyflog byw cenedlaethol, sy'n mynd i fod o fudd i 150,000 o weithwyr yng Nghymru erbyn 2020. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod hefyd y gall y cyflog byw go iawn ddarparu manteision clir o ran cynhyrchiant a lefelau presenoldeb. Felly, ers amser maith, rydym wedi bod o blaid camau i adeiladu ar y cyflog byw cenedlaethol er mwyn cefnogi gweithwyr y sector cyhoeddus ymhellach, a dylai pob busnes mawr hefyd anelu at dalu cyflog byw gwirfoddol, a dylem weithio gyda busnesau bach i ystyried sut y gallant gyflawni hyn ar sail gynaliadwy. Dylid ystyried unrhyw beth a all sicrhau gwelliant pellach i safonau byw pobl weithgar Cymru. Diolch yn fawr.

15:55

Rwy'n falch o godi heddiw i gefnogi'r cynnig hwn ac roeddwn yn falch iawn o'i weld yn cael ei gyflwyno gan Jane Hutt yn y lle cyntaf a'i gefnogi gan gymaint o gyd-Aelodau. Fel sawl un yn y Siambr hon, mae'n siŵr, teimlaf yn flin iawn fod cynifer o'n cyd-ddinasyddion yn gweithio'n galed iawn a'u bod yn dal yn dlawd. Rwy'n gwrthwynebu defnyddio trethi pobl i sybsideiddio cyflogwyr gwael a ddylai allu talu cyflogau heb fod raid i bobl sy'n gweithio amser llawn ddibynnu ar fudd-daliadau. Ac wrth gwrs, menywod—a menywod sy'n aml yn gwneud nifer o swyddi rhan-amser—sy'n cael eu heffeithio gan gyflogau isel, ac ar brofiad menywod yr hoffwn ganolbwyntio'n benodol heddiw.

Mae'n amlwg fod y polisi cyflog byw wedi bod yn llwyddiant ac yn amlwg, mae ei ehangu wedi bod yn rhan bwysig o strategaeth economaidd a strategaeth trechu tlodi'r Llywodraeth. Ond telir llai na'r cyflog byw go iawn i tua 26 y cant o weithwyr Cymru o hyd. Golyga hynny fod ychydig dros chwarter ein cyd-ddinasyddion i bob pwrpas yn byw mewn tlodi mewn gwaith. A rhaid inni beidio â drysu rhwng y cyflog byw gwirioneddol, y cyflog byw go iawn, a'r hyn a elwir yn gyflog byw—sef yr isafswm statudol.

Nawr, mae nifer anghymesur o'r 26 y cant yn fenywod, yn enwedig gweithwyr rhan-amser a rhai o dan 30, ac mae menywod yn wynebu llawer o gosbau economaidd ychwanegol. Roedd y bwlch cyflog rhwng menywod a dynion—weithiau rydym yn ei alw'n fwlch cyflog ar sail rhywedd, ond mewn gwirionedd, bwlch cyflog ar sail rhyw ydyw, ac mae'n eithaf pwysig, rwy'n credu, ein bod yn defnyddio'r ddeddfwriaeth gywir, fel y cyfeirir ati yn Neddf Cydraddoldeb 2010—ar sail amser llawn canolrifol fesul awr, heb gynnwys goramser ym mis Ebrill eleni, yn 7.3 y cant yng Nghymru ac 8.6 y cant yn y DU. Nawr, yn anffodus, nid yw hynny oherwydd bod menywod yng Nghymru yn cael eu talu'n well; y rheswm am hynny yw oherwydd bod dynion yng Nghymru yn cael eu talu ychydig yn waeth.

Yng Nghymru, mae'r bwlch wedi tyfu 0.9 pwynt canran, ac yn y DU, mae wedi gostwng 0.5 pwynt canran, felly gallem ddadlau ein bod mewn perygl yma o symud i'r cyfeiriad anghywir. Fel y gŵyr Aelodau o'r Siambr, mae rheoliadau o dan y Ddeddf Cydraddoldeb yn ei gwneud yn ofynnol i bob cyflogwr sector preifat a sector gwirfoddol gyda 250 neu fwy o weithwyr gyhoeddi gwybodaeth am eu bwlch cyflog rhwng y rhywiau. Yn dilyn y rownd gyntaf o adroddiadau eleni, ac yn seiliedig ar adroddiadau dros 10,000 o gyflogwyr, nododd ychydig dros 78 y cant eu bod yn talu mwy i ddynion na menywod ar gyfartaledd, ac wrth gwrs, mae hyn yn canolbwyntio ar gyflogau amser llawn, ac nid yw'n edrych ar y gosb gwaith rhan-amser y gwyddom fod menywod yn ei hysgwyddo.

Rydym hefyd yn gwybod bod canran ddychrynllyd o uchel o famau newydd yn nodi eu bod yn cael profiadau negyddol neu wahaniaethol o bosibl hyd yn oed naill ai yn ystod beichiogrwydd ac ar absenoldeb mamolaeth, neu ar ôl dychwelyd i'r gwaith yn dilyn absenoldeb mamolaeth. Mae'n amlwg fod angen i'r Llywodraeth—Llywodraeth Cymru—weithredu mwy ar hyn, er bod yr hyn a wnaethant eisoes i'w groesawu. Mae'n rhaid rhoi mwy o flaenoriaeth i fynd i'r afael â chyflogau isel a gwahaniaethu yn erbyn menywod yn y gweithle, ac rwy'n gobeithio'n fawr y bydd y gwaith a wneir, sy'n cael ei arwain ar hyn o bryd gan arweinydd y tŷ, yn helpu i gyfrannu tuag at hynny.

Fel y dywedais, mae'r polisi isafswm cyflog wedi cael peth llwyddiant ac mae wedi ein galluogi i roi mwy o amlygrwydd i drafodaeth ar y cyflog byw, ond mae'n dal yn wir yng Nghymru fod tua 8 y cant o swyddi'n talu'r isafswm cyflog cyfreithiol, a rhai ohonynt yn talu llai na hynny. Mae hynny'n gadael llawer iawn o'n cyd-ddinasyddion yn gweithio'n galed iawn ac yn aros yn dlawd iawn. O waith y Comisiwn Cyflogau Isel, gwyddom fod dros hanner y swyddi sy'n talu cyflogau isel wedi'u crynhoi mewn tri sector: manwerthu, lletygarwch, a glanhau a chynnal a chadw. Os edrychwch ar y rhai a gyflogir yn y sector preifat, byddai'r rheini'n cynnwys gofalwyr hefyd, ond oherwydd ein bod, er enghraifft, wedi cyflwyno cyflog byw yn y gwasanaeth iechyd, nid yw gofalwyr yn gyffredinol wedi'u cynnwys, ond os edrychwch ar y rhai a gyflogir gan y sector preifat, maent i'w gweld yno. Felly, yn fy marn i, ni allwn gael trafodaeth ystyrlon yn y Siambr am gyflogau isel, tlodi ac ecsbloetio economaidd heb gynnwys gwahaniaethu ar sail rhyw yn y ddadl.

Rhaid inni fynd i'r afael â gwahaniaethu mewn cyflogaeth; rhaid inni fynd i'r afael â chosb cyflog mamolaeth a gwahaniaethu uniongyrchol ar sail rhyw. Buaswn yn mynd ymhellach a dweud mai'r unig ffordd—yr unig ffordd—o fynd i'r afael â chyflogau isel yw drwy gael gwared ar y bwlch cyflog rhwng y rhywiau, a byddai llawer o'n problemau economaidd yn lleihau'n sylweddol pe baem yn gallu gwneud hynny. Felly, hoffwn gysylltu fy hun â rhai o'r sylwadau a wnaeth Jane Hutt am y pethau ymarferol y gallai Llywodraeth Cymru eu gwneud. Er enghraifft, pe bai'n cyhoeddi na fyddai ond yn defnyddio cyflogwyr cyflog byw ar gyfer glanhau, cynnal a chadw, lletygarwch a gofal, dyna neges wych y byddai hynny'n ei gyfleu i'r diwydiannau hynny, a'r fath effaith enfawr a gâi. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y Llywodraeth yn cefnogi'r cynnig hwn; nid yw ein cyd-ddinasyddion gweithgar yn haeddu llai oddi wrthym. Ni lwyddwn i drechu tlodi mewn gwaith oni bai ein bod yn trechu gwahaniaethu ar sail rhyw yn y gweithle, a chredaf fod cymaint mwy y gallem ei wneud.

16:00

Ymddengys ein bod wedi teithio'n bell ers 1997, ac wrth wrando ar Mark Isherwood yn rhestru manteision cyflog byw, oni fyddai wedi bod yn wych pe bai wedi bod o gwmpas ynghanol y 1990au i geisio darbwyllo'r Llywodraeth Geidwadol i gyflwyno isafswm cyflog cenedlaethol? Roeddent yn ei wrthwynebu'n llwyr—yn gwbl bendant yn erbyn gwneud hynny. Yn ôl yr hyn a ddywedent, byddai isafswm cyflog cenedlaethol yn dinistrio ein heconomi. Maent bellach wedi newid eu meddyliau, ac mae'n dda mai'r Blaid Lafur a greodd y newid hwnnw. Ond wedi dweud hynny, rhaid i waith y Llywodraeth barhau, a dyna pam y mae'r cynnig hwn mor deilwng o'n cefnogaeth, ynghyd â'r ffaith y dylem fod yn talu cyflog byw go iawn ledled Cymru, fel y dywedodd Helen Mary Jones.

Roeddwn am dynnu sylw at Educ8, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, a Chanolfan Cydweithredol Cymru yn fy etholaeth, gan eu bod oll yn gyflogwyr cyflog byw achrededig, a chyngor Caerffili, nad yw'n gyflogwr cyflog byw achrededig, ond mae'n talu'r cyflog byw go iawn.

Hoffwn ganolbwyntio fy sylwadau hefyd ar bolisi Ysgrifennydd y Cabinet ar gyfer yr economi sylfaenol a'r cynllun gweithredu economaidd, ac yn arbennig y gwaith y mae'r Ganolfan Ymchwil ar Newid Diwylliannol-Gymdeithasol ym Manceinion—CRESC—wedi'i wneud. Maent wedi tynnu sylw at y ffaith, os oes gennych ffocws ar yr economi sylfaenol, y bydd hefyd yn canolbwyntio ar gyflogaeth technoleg isel, cyflog isel, a dyna'n benodol yw'r broblem mewn cymunedau yn y Cymoedd gogleddol a llawer o'r cymunedau yn rhan ogleddol yr etholaeth a gynrychiolaf. Mae'n broblem benodol, yn rhannol oherwydd bod yr amgylchedd yn llawn o gwmnïau bach a microgwmnïau yn enwedig. Nid yw hynny'n golygu bod pob microgwmni'n gyflogwr cyflog isel, ond maent yn tueddu—ceir cyfran fwy sy'n tueddu—i'r cyfeiriad hwnnw. Soniwn yn aml am arferion adnoddau dynol mewn microfusnesau bach fel pe baent yn ddiffygiol yn yr ystyr nad ydynt mor berffaith ag y gallech feddwl; nid oes gennych y rhyddid y gallech feddwl, wrth weithio mewn cwmni bach.

Ond hoffwn dynnu sylw'r Siambr at adroddiad y Ffederasiwn Busnesau Bach a luniwyd ac a lansiwyd heddiw, 'Cymru Fedrus', lle maent hefyd yn amlygu bod microfusnesau 53 y cant yn fwy tebygol o fod yn defnyddio ac yn talu'r cyflog byw go iawn na chwmnïau sy'n cyflogi mwy na 10 o bobl. Felly, mae'n ddarlun da; mae'n ddarlun cymhleth, ond ceir darlun da yn y sector sylfaenol.

Felly, mae ffocws polisi ar yr economi sylfaenol y mae Ysgrifennydd y Cabinet bellach yn ei chefnogi'n frwdfrydig yn rhoi dylanwad i Lywodraeth Cymru yn y meysydd y maent wedi'u dewis fel sectorau—sef gofal, bwyd, manwerthu a thwristiaeth. Mae eu pwysigrwydd fel darparwyr a chyflogwyr yn golygu y gall Llywodraeth Cymru ddylanwadu ar ganlyniadau economaidd a chymdeithasol yn y sectorau sylfaenol hynny. Yn benodol, mae CRESC yn awgrymu y dylai Llywodraeth Cymru gael gwared ar y syniad o greu amgylchedd busnes generig gyda pholisïau ansafonol a addasir yn ôl nodweddion sectoraidd a gofynion busnes penodol, gan gydnabod cymhlethdod y sector sylfaenol, a hyd yn oed y pedwar sector y mae'r Llywodraeth wedi'u dewis—gan gydnabod y cymhlethdod a defnyddio'r grym llywodraethol sydd ar gael i ddylanwadu yn y sectorau hynny.

Yn y sector bwyd, er enghraifft, gallai hyn olygu negodi gyda chyflenwyr ar ymrwymiadau ffurfiol o ran cyrchu, hyfforddiant a chyflogau byw. Mae CRESC yn dadlau y dylai'r Llywodraeth annog busnesau i fod yn gyfrifol drwy hyrwyddo parhad perchnogaeth ar fusnesau bach a chanolig. Un o'r problemau yw bod ein busnesau bach a chanolig, pan fyddant yn cyrraedd lefel o lwyddiant, yn cael eu prynu gan sefydliadau heb yr un cymhellion allgarol o bosibl o ran eu harferion adnoddau dynol. Felly, gall caffael cyhoeddus chwarae rhan bwysig hefyd, lle mae Llywodraeth Cymru'n defnyddio'i phwerau caffael i hybu'r economi sylfaenol drwy ei gwneud yn ofynnol i gontractwyr a chyflenwyr dalu'r cyflog byw.

Gallwn greu amgylchedd polisi sy'n cefnogi'r economi sylfaenol a busnesau bach a chanolig lleol ac ymgorffori diwylliant o'i mewn sy'n talu'r cyflog byw yn y cwmnïau hynny. Mae ganddo botensial i fod o fudd enfawr i fusnesau bach a chanolig os ydych yn talu'r cyflog byw, fel yr amlinellwyd eisoes—y manteision i sefydliad o wneud hynny—a gallwn greu'r amgylchedd polisi cywir hwnnw. Ceir enghraifft y buom yn siarad amdani o'r blaen, yn Preston, gyda'r sefydliad angori, ond hefyd wrth sôn am y gweoedd cyflenwi sy'n bodoli ar draws y Cymoedd gogleddol, a galluogi'r rheini i dyfu, i ehangu, ac yn y pen draw i dalu'r cyflog byw go iawn yn y sefydliadau hynny.

16:05

Rydw innau'n falch iawn o allu cefnogi'r cynnig yma. Mi ydym ni wedi dod ymhell iawn, fel y mae Hefin David newydd ei ddweud, o'r dadleuon yna nôl yng nghanol y 1990au ynglŷn â gwerth lleiafswm cyflog bryd hynny. Mae hi'n dweud rhywbeth am ein dealltwriaeth ni rŵan fod y blaid a wnaeth wrthwynebu lleiafswm cyflog nôl bryd hynny, bellach, wrth gwrs, wedi cyflwyno rhyw fath o leiafswm cyflog eu hunain, er nad y lleiafswm cyflog fel y mae'r rheini ohonom ni sydd eisiau mynd ymhellach yn dymuno ei weld. Ond, wir, rydym ni'n deall, onid ydym, beth ydy gwerth i'r economi'n ehangach o roi rhagor o arian i bobl am eu gwaith caled nhw.

Ers talwm, diwethdra—taclo diweithdra—oedd y nod. Rydym ni'n deall, erbyn hyn, mai cyflogau uwch, gwell swyddi ac ati, sydd eu hangen ar economi Cymru. Mae o'n bryder gennyf i ac rydw i wedi adrodd hynny sawl tro yma yn y Cynulliad, sef bod Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn dal yn rhoi gormod o bwyslais braidd ar y ffaith bod diweithdra, ydy, yn gymharol isel yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae o'n beth da, ond allwn ni ddim dibynnu ar hwnnw fel yr arwydd o le mae ein heconomi ni arni.

Ond gan ein bod ni’n deall, ac yn cefnogi rŵan, yr egwyddor yma o leiafswm cyflog neu o gyflog byw go iawn, mae’n rhaid edrych ar beth mae Llywodraeth a’r sector cyhoeddus ehangach yng Nghymru yn gallu ei wneud. Mae angen iddi roi trefn ei thŷ ei hun, yn sicr, a sicrhau—. Rwy’n gwybod bod yna waith da iawn wedi cael ei wneud dros y blynyddoedd diwethaf yn gwthio’r cyflog byw allan ar draws y sector cyhoeddus, ond rydym ni’n dal yn aros am i rai staff ym Maes Awyr Caerdydd, er enghraifft, gael lefel y cyflog hwnnw. Rydym ni’n dal yn edrych ar draws y sector cyhoeddus a gweld bod yna dyllau sydd angen eu llenwi o hyd. Ac mae’n rhaid rhoi trefn ar ein tŷ cyhoeddus ein hunain.

Mae angen, oes, ddefnyddio prosesau caffael, fel mae Hefin David a Helen wedi cyfeirio atyn nhw, i sicrhau bod y rheini sy’n darparu gwasanaethau yn sector cyhoeddus yn cael eu cydnabod a’u dewis am eu bod nhw yn gwmnïau sy’n talu cyflog byw.

Rŵan, yn ôl astudiaeth blynyddol KPMG ar gyfer 2018, mae Cymru yn un o’r tair rhan o’r Deyrnas Unedig sydd â’r gyfran uchaf o swyddi yn ennill llai na’r cyflog byw. Felly, rydym ni’n gwybod bod hon yn broblem arbennig o acíwt i ni yn fan hyn. Ac rydym ni wedi cyfeirio yn barod at rai o’r sectorau lle mae’r broblem ar ei mwyaf: lletygarwch, arlwyo, manwerthu, celf, a hamdden, amaeth hefyd, iechyd a gofal—gormod o swyddi o lawer yn talu yn is na’r cyflog byw. Ac mae’n rhaid i’r Llywodraeth wthio’r neges yma fod yna help ar gael—mae’n rhaid sicrhau bod yr help ar gael—i gwmnïau a chyrff allu derbyn achrediad cyflog byw a’u perswadio nhw o’r manteision amlwg sydd yna—manteision fel a oedd yn cael eu dangos mewn dadansoddiad gan Ysgol Fusnes Caerdydd, sydd yn sicr yn dangos nad oes yna dystiolaeth o gyflogwyr cyflog byw yn trio ennill peth o’r arian hwnnw maen nhw’n ei roi mewn cyflogau uwch yn ôl mewn ffyrdd eraill. Mae 93 y cant o’r rheini a gymerodd ran yn yr arolwg yn teimlo eu bod nhw wedi cael budd go iawn o gael achrediad cyflog byw, budd i’w henw da nhw fel cwmnïau yn aml iawn, yn ei gwneud hi'n haws iddyn nhw recriwtio, yn ei gwneud hi'n haws iddyn nhw gadw staff yn hirach. Mi ddywedodd rhai bod achrediad cyflog byw wedi arwain atyn nhw’n cynnig rhagor o hyfforddiant i’w staff—felly, yn rhoi codiad cyflog iddyn nhw, ac uwchsgilio eu staff. Hynny ydy, mae’r knock-ons yn amlwg. Mae tystiolaeth wedyn o gwmnïau yn symud gweithwyr o weithio rhan-amser i lawn-amser, o gytundeb dros dro i gytundeb parhaol, cyflwyno ffurfiau newydd o weithio, am eu bod nhw’n meddwl yn wahanol am y ffordd maen nhw’n talu’r cyflogau ac yn gwerthfawrogi eu staff nhw.

Ond mae yna fudd economaidd ehangach, wrth gwrs, o sicrhau bod gan ein gweithwyr ni ragor o arian i’w wario yn eu heconomïau lleol nhw. Rydw i’n meddwl bod yr adroddiad diweddar gan y Smith Institute yn amcangyfrif, pe baech chi’n talu cyflog byw i’r rheini sydd ddim ar gyflog byw yn ardal Caerdydd yn unig ar hyn o bryd, byddai gennych chi ryw £24 miliwn yn ychwanegol yn cael ei dalu fel cyflogau i gael eu gwario yn yr economi leol. Mae’n rhaid bod hynny yn beth y dylem ni fod yn gwthio amdano fo ledled Cymru. Ac rydw i’n cefnogi, ac mae fy mhlaid i’n cefnogi, hyn, oherwydd ei fod yn llesol i unigolion. Mae beth sy’n llesol i unigolion yn llesol i deuluoedd, a beth sy’n llesol i deuluoedd yn llesol i gymunedau, a lles cymuned yn adeiladu lles cenedlaethol. Felly, oes, mae yna lawer o dir wedi ei ennill ym maes cyflog byw, ond mae yna ffordd bell i fynd, ac mi fyddem ni’n dymuno gweld Llywodraeth Cymru yn gwneud mwy i sicrhau bod Cymru yn dod yn wlad cyflog byw go iawn.

16:10

Mae rhai o'r siaradwyr eisoes wedi dweud ein bod wedi gwneud llawer o gynnydd, ond mae gennym ffordd bell i fynd, ond credaf ein bod wedi gwneud cynnydd sylweddol iawn—a hoffwn sôn amdano, oherwydd roeddwn i yno—gyda phasio'r ddeddfwriaeth isafswm cyflog, a gyflwynwyd gan y Llywodraeth Lafur a ddaeth i rym yn 1997—rhan o'i diwygiadau mawr. Rwy'n meddwl mai dyna oedd y dechrau sydd wedi arwain bellach at yr ymgyrch hon. Ac rwy'n llongyfarch Jane Hutt a Mick Antoniw ac eraill am gyflwyno hyn heddiw, oherwydd credaf ei fod yn fater bara menyn go iawn, fel y dywedodd ein Prif Weinidog newydd. Mae'n ymwneud â'r arian sydd gan weithwyr yn eu pocedi ar ôl talu'r biliau. Mae'n ymdrin â thlodi mewn gwaith, fel y mae eraill wedi'i ddweud yma heddiw. Ar un adeg, os oedd gennych swydd, roeddem yn meddwl mai dyna ni; ni fyddech yn byw mewn tlodi. Gwyddom bellach fod tlodi mewn gwaith yn un o'r problemau anoddaf i fynd i'r afael â hi, felly mae cyflwyno cyflog byw go iawn yn hanfodol bwysig i'n holl ddinasyddion.

Bellach mae 175 o gyflogwyr yng Nghymru a achredwyd gan y Living Wage Foundation wedi ymrwymo i dalu'r cyflog byw go iawn. Wrth gwrs, mae'n effeithio'n arbennig ar bobl ifanc os ydynt o dan 25 oed, gan fod y bwlch rhwng cyfradd is yr isafswm cyflog cenedlaethol a'r cyflog byw go iawn yn fwy ar gyfer y rhai yn y grŵp oedran 18 i 25 oed. Mae hwnnw'n eithaf sylweddol—bron i £3,200 y flwyddyn, sy'n llawer iawn o arian. Rwy'n falch iawn, fel y soniodd Jane Hutt, fod cyngor Caerdydd yn gefnogwr cynnar i'r cyflog byw go iawn, gan ymrwymo iddo yn 2012, ac rydym yn gwybod bod llawer o sefydliadau'r trydydd sector yn talu'r cyflog byw go iawn, megis Cymorth i Fenywod, Chwarae Teg a Mind. Rwyf hefyd yn falch fod 96 o gyflogwyr sector preifat yng Nghymru yn talu'r cyflog byw go iawn, ac yng Nghaerdydd, soniodd Jane Hutt am y Bigmoose Coffee Company, lle lansiwyd yr wythnos cyflog byw; cwmni cysylltiadau cyhoeddus Freshwater, cwmni cyfreithwyr Darwin Gray, y Cardiff Window Cleaning Company ac IKEA, sydd i gyd yn talu cyflog teg i'w staff am ddiwrnod caled o waith. Felly, credaf fod arnom eisiau llongyfarch y cyflogwyr sector preifat hynny a'u hannog, oherwydd, yn amlwg, rhan o'r ymgyrch hon yw annog cyflogwyr sector preifat i wneud hyn.

Credaf fod llawer o siaradwyr heddiw wedi amlygu'n glir iawn pam y dylai cyflogwyr gyflwyno'r cyflog byw go iawn yn hytrach na chyflog byw cenedlaethol Llywodraeth y DU. Mae yna resymau moesol. Rydym am i bobl gael digon o arian i allu byw. Ond yn amlwg, ceir rhesymau busnes cadarn yn ogystal, ac mae sawl siaradwr eisoes wedi sôn am arolwg Ysgol Fusnes Caerdydd o brofiad 840 o gyflogwyr a gynhaliwyd yn ystod hydref 2016, a chredaf fod siaradwyr wedi tynnu sylw at fanteision gwirioneddol cyflwyno'r cyflog byw go iawn, ac nid wyf am ailadrodd y rheini.

Ond credaf fod talu'r cyflog byw go iawn mor bwysig i'r rhai sydd mewn gwaith cyflog isel, oherwydd gall wneud y gwahaniaeth rhwng cael dau ben llinyn ynghyd a methu gwneud hynny. Credaf ein bod oll yn gwybod am y straen ofnadwy sy'n wynebu cynifer o deuluoedd ar hyn o bryd. Yn arbennig, gwelwn bobl yn ein cymorthfeydd, ac mae polisi cyni wedi taro cymaint o deuluoedd mor galed. Fel gwlad, mae gennym ormod o weithwyr ar gyflogau isel, a gwn fod gennym broblem benodol yng Nghymru oherwydd dangosodd adroddiad gan Sefydliad Resolution mai pobl yng Nghymru a gafodd y cynnydd lleiaf ond un yn eu cyflogau yn y DU ar ôl gogledd-ddwyrain Lloegr. O'i gymharu â naid o 18 y cant yng nghyflogau Llundain, 4.5 y cant yn unig o gynnydd a fu yn y cyflogau yma.

Felly, hoffwn groesawu ymrwymiad maniffesto'r Prif Weinidog, Mark Drakeford, i hyrwyddo cydraddoldeb drwy'r agenda gwaith teg a'r cyflog byw go iawn, yn ogystal, wrth gwrs, â chau'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau. Fel yntau, credaf mai'r ffordd fwyaf effeithiol allan o dlodi a'r llwybr gorau tuag at fywydau bodlon, sydd hefyd wrth gwrs yn golygu eich iechyd a'ch llesiant—mae'n golygu popeth a wnewch—yw drwy greu cyflogaeth werth chweil a wobrwyir yn briodol. Ac mae cyfle gwych gan Lywodraeth Cymru i ledaenu'r cyflog byw drwy ein cadwyni cyflenwi, a byddai hynny'n helpu i greu ffyniant ledled y wlad.

16:15

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates.

Diolch, Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Jane Hutt am gyflwyno'r ddadl a'r cynnig pwysig hwn y prynhawn yma, yn amserol iawn, rwy'n credu. Mae Jane wedi bod yn ymgyrchydd diflino dros lawer iawn o flynyddoedd o blaid mwy o hawliau i weithwyr yng Nghymru, o fewn y Llywodraeth ac oddi allan, mae'n deg dweud, ac unwaith eto heddiw, mae'n gwneud achos cryf a grymus dros Gymru cyflog byw, gyda llawer o'r Aelodau eraill ar draws y Siambr hon. A gaf fi ddiolch i'r holl Aelodau heddiw sydd wedi cyfrannu at y ddadl, y drafodaeth?

Credaf ei bod hi'n deg dweud fod digon o dystiolaeth yn bodoli bellach i ddangos bod cymdeithasau mwy cyfartal yn bendant iawn yn gymdeithasau hapusach, yn gymdeithasau mwy dedwydd, a bod cyflogwyr sy'n talu cyflog da yn tueddu i gyflawni cyfraddau cynhyrchiant uwch. Ac o fewn yr economi sylfaenol, fel y clywsom, mae yna broblem arbennig gyda chyflogau isel, ond hefyd, yn yr economi sylfaenol y gwelwn gyfran uwch o fenywod mewn gwaith, sydd, yn ei dro, yn cyfrannu at y bwlch cyflog rhwng y rhywiau sydd gennym yn ein cymdeithas gwaetha'r modd, a rhaid inni fynd i'r afael â hynny. A dyna pam y canolbwyntiwn fwy nag erioed ar yr hyn y gallwn ei wneud i gefnogi gwell cyflogau a gwaith o ansawdd uwch yn yr economi sylfaenol. Dyna pam y mae gwaith tasglu'r Cymoedd wedi canolbwyntio'n fawr ar rôl yr economi sylfaenol, a dyna pam y mae Llywodraeth Cymru yn hapus i gefnogi'r cynnig y prynhawn yma, gan fod gwneud Cymru'n genedl fwy cyfartal, yn genedl lle mae gan bawb fynediad at waith teg sy'n talu cyflog byw, a lle y gall yr holl weithwyr ddatblygu eu sgiliau a'u gyrfaoedd, yn un o amcanion sylfaenol y Llywodraeth hon.

Dyna pam ein bod hefyd wedi datblygu'r cynllun gweithredu economaidd ac wedi gosod y contract economaidd newydd yn ganolog iddo. Ac rwy'n credu'n bendant mai dyma'r cyfle gorau posibl i ni i weithredu polisi mor radical, gyda diweithdra ac anweithgarwch economaidd ar lefelau is nag erioed. Pe bai diweithdra gryn dipyn yn uwch, byddai'n llawer anos gweithredu'r contract economaidd sy'n gofyn cymaint mwy gan gyflogwyr. Ac mae'r contract yn nodi disgwyliad clir iawn y dylai busnesau ddangos eu hymrwymiad i waith teg yn amlwg os ydynt yn dymuno cael cyllid gan Lywodraeth Cymru. Lle mae sefydliadau'n cael ac yn gwario arian cyhoeddus, credaf ei bod hi'n iawn ein bod yn disgwyl iddynt ymrwymo i'n cod ymarfer cyflogaeth foesegol—

16:20

Gwnaf mewn munud—ar gyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi a gwneud popeth a allant i wneud yn siŵr fod eu gweithwyr eu hunain a'r gweithwyr o fewn y gadwyn gyflenwi yn cael eu cyflogi'n deg. Ac rwyf am ildio i Helen Mary Jones.

Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n meddwl tybed a allwch gynnwys ystyriaeth yn y canllawiau hynny o ba mor wahanedig yw gweithleoedd cwmnïau, oherwydd gwyddom mai dyna'r sail—. Tra byddwn yn parhau i dalu mwy i'r dynion sy'n trwsio ein ceir nag a wnawn i'r menywod sy'n edrych ar ôl ein plant, rydym yn dal yn mynd i fethu symud yn y lle hwn. Felly, yn y canllawiau diwygiedig, a allech chi edrych ar sut y gallai monitro'r gwahaniad weithio?

Rwy'n fwy na pharod i wneud hynny oherwydd, fel y dywedodd yr Aelod, mae'n fwy cyffredin mewn rhai diwydiannau penodol ac mewn rhai sectorau penodol, ac rwy'n falch y byddwn yn adolygu pob un o'r canllawiau, a chredaf fod gwahaniad yn nodwedd allweddol y mae'n rhaid inni edrych yn agosach arni. Rwyf hefyd yn falch o ddweud bod gwaith y Comisiwn Gwaith Teg sy'n edrych ar y diffiniad o waith teg ar fin cael ei gwblhau. Daw i ben yn y gwanwyn y flwyddyn nesaf, a byddwn yn edrych ar sut y gallwn ddatblygu'r agenda hon.

I gefnogi gweithredu a mabwysiadu'r cyflog byw go iawn, rydym yn mynd i edrych ar opsiynau sy'n cynnwys defnyddio ein pwerau a'n dylanwad ein hunain i gyrraedd y nodau y credaf fod pawb wedi'u cefnogi heddiw yn y gweithlu ehangach, ac rwy'n falch o ddweud bod yr Athro Edmund Heery, prif awdur yr adroddiad gan Brifysgol Caerdydd y buom yn ei drafod heddiw, yn aelod o'r comisiwn hwnnw.

Mae'r cod ymarfer ar gyfer cyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi bellach yn cynnwys ymrwymiad i ystyried talu'r cyflog byw i bob aelod o staff, ac annog cyflenwyr i wneud yr un peth. Hyd yma, mae 150 o sefydliadau wedi ymrwymo i'r cod, gan gynnwys ein holl heddluoedd, byrddau iechyd a phrifysgolion; mae 14 o awdurdodau lleol wedi ymrwymo a disgwylir i eraill wneud hynny'n fuan; mae 84 o fusnesau preifat mewn amrywiaeth eang o sectorau ac 17 o elusennau hefyd yn gefnogol. Mae'n ddechrau da, ond rydym am weld y nifer honno'n cynyddu'n ddramatig. Credaf ei bod hi'n galonogol clywed am uchelgais cyngor Caerdydd i fod yn un o'r dinasoedd cyflog byw cyntaf yn y DU, ac nid cyrff cyhoeddus mwy o faint yn unig sy'n dod yn achrededig—mae cynghorau tref y Barri ac Aberhonddu yn gwneud hynny hefyd, ac mae hynny'n glod mawr iddynt.

Rwyf hefyd yn falch fod y cod ymarfer wedi bod o ddiddordeb mawr y tu allan i Gymru yn ogystal. Er enghraifft, cynhwysodd cyfarwyddwr gorfodi'r farchnad lafur ar gyfer y DU argymhelliad ar god Cymru yn ei adroddiad blynyddol diwethaf. Gallai weld mantais defnyddio gwariant cyhoeddus fel dull o fynd i'r afael â diffyg cydymffurfiaeth â deddfau llafur ac isafswm cyflogau. Felly, credaf ein bod ar y blaen o gymharu â gweddill y DU mewn sawl ffordd ac yn sicr o ran gofyn i gyrff cyhoeddus a busnesau llai ac elusennau i gyhoeddi datganiadau gwrth-gaethwasiaeth fel rhan o'u hymrwymiad i'r cod hwn. Busnesau mawr yn unig sy'n gorfod gwneud hyn o dan Ddeddf Caethwasiaeth Fodern 2015. Ond ni ddylem edrych ar gyflogau yn annibynnol ar agweddau eraill ar waith teg a chyfreithlon. Mae hyn yn rhywbeth y soniodd Helen Mary Jones amdano mewn perthynas â gwahaniaethu ar sail rhyw, ac mae hefyd yn rhywbeth y cyfeiriodd Julie Morgan ato mewn perthynas â gwahaniaethu ar sail oedran, ac yn arbennig, yr her y mae llawer o bobl ifanc yn eu hwynebu.

Rydym wedi cynnwys sbectrwm o arferion yn y cod o'r troseddol i'r anghyfreithlon, yr anfoesol ac ymlaen at yr arfer gadarnhaol o dalu'r cyflog byw. Nid oes unrhyw doriad clir rhwng y categorïau hyn, a'r peth pwysig yw ein bod yn cyflawni rhagor o ddiwydrwydd dyladwy. Os nad ydych yn gwybod, er enghraifft, sut y cyflenwir gweithwyr yn eich cadwyn gyflenwi, sut y gwyddoch nad oes neb yn cael eu hecsbloetio? Nid yw sefydliad yn gwneud y peth iawn os yw'n talu'r cyflog byw ond ei fod yn cyllido hyn drwy dorri manteision eraill neu drwy symud pobl i gontractau llai diogel.

Felly, fel y dywedais yn gynharach, mae'n sicr y gallwn wneud rhagor a bod rhagor y dylem ei wneud drwy'r cynllun gweithredu economaidd a'r cod ymarfer. Credaf eu bod yn gam mawr ymlaen o'n dull blaenorol o ymdrin â'r byd busnes. Rydym eisoes yn ymrwymedig i adolygu effeithiolrwydd y cod yn gynnar y flwyddyn nesaf, ac rydym wedi derbyn argymhelliad cyfarwyddwr gorfodi'r farchnad lafur ar gyfer y DU y dylem ei adolygu. Bydd pob un o ymrwymiadau'r cod, gan gynnwys yr un ar y cyflog byw, yn cael eu hadolygu. Byddwn yn edrych ar yr effaith y mae eisoes yn ei chael a beth sydd ei angen i'w hyrwyddo ac i annog sefydliadau i gyflawni eu hymrwymiadau. Byddwn hefyd yn ystyried a oes angen ei gryfhau mewn mannau, a byddwn yn gwneud hyn mewn partneriaeth â chyflogwyr y sector cyhoeddus, gyda busnesau a chyda'r undebau llafur.

Os byddaf yn dychwelyd i'r rôl hon, byddaf yn edrych yn fanwl lle gall y contract economaidd fynd nesaf a pha sefydliadau partner y gallwn ofyn iddynt ddechrau ei ddefnyddio, oherwydd fy mwriad o'r cychwyn pan luniais y contract economaidd oedd ei gyflwyno yn y pen draw ar draws holl sefydliadau'r sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector sy'n cael cymorth cyhoeddus, ac ymgorffori—yn amodol ar argymhellion y Comisiwn Gwaith Teg wrth gwrs—y cyflog byw yn y contract economaidd. Nid dyhead yw Cymru cyflog byw, ond cyrchfan y byddwn yn ei gyrraedd. Nid oes gennyf amheuaeth y bydd yr ymrwymiad a ddangoswyd yn y Siambr hon heddiw yn ein helpu ar hyd y ffordd. Diolch yn fawr iawn.

16:25

Diolch, Lywydd. Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i grynhoi yn y ddadl bwysig hon. Rwy'n croesawu cyfraniad pawb. Roedd pob cyfraniad yn deillio o fwriad da ac yn cefnogi'r syniad, oherwydd mae'n gysyniad sy'n llifo mor rhwydd oddi ar y tafod wrth sôn am gyflogau byw. Mae'r realiti yn wahanol braidd, oherwydd lle rwy'n anghytuno yw nad wyf yn credu mewn gwirionedd ein bod wedi dod yn bell iawn. Credaf yn wir ein bod wedi bod yn mynd tuag at yn ôl.

Un agwedd yw'r cyflog byw. Mae'n llawer gwell gennyf y cysyniad o Gymru fel cenedl gwaith teg yn hytrach na chenedl cyflog byw, am mai un agwedd ar yr elfennau sy'n rhoi'r gallu i gael safon byw gweddus yw cyflogau. Yr egwyddor sylfaenol y dylai rhywun sy'n gweithio wythnos lawn o waith allu byw bywyd o ansawdd gweddus, safon weddus, gallu mynd ar wyliau, gallu mwynhau rhai o'r pethau cymdeithasol a diwylliannol yn eu bywydau—yn amlwg nid yw hynny'n wir ar hyn o bryd.

Pan siaradodd Mark Isherwood, gwn fod ei fwriad yn dda. Gwn ei fod yn ei gredu o'i galon. Ond a dweud y gwir, y realiti yw nad yw'r Blaid Geidwadol erioed wedi credu yn y cysyniad o gyflog byw go iawn. Y tric creulonaf oll oedd galw'r isafswm cyflog yn gyflog byw pan nad oedd yn gyflog byw mewn gwirionedd, felly roedd yn rhaid inni ddechrau cymryd rhan yn y drafodaeth honno i'w egluro a dweud, 'Yr hyn yr ydym yn sôn amdano yn awr yw cyflog byw go iawn, hynny yw, cyflog sy'n eich galluogi i fyw'n iawn.'

Pan edrychwch ar yr hanes, pan edrychwch ar yr holl enghreifftiau o'r hyn sydd wedi digwydd yn ddiweddar, y llif o ddeddfwriaeth sydd wedi gwahaniaethu ac wedi cyfyngu ar undebau llafur, lle gwyddom mai prif achos y cyfyngu ar ddosbarthu cyfoeth ymhlith pobl sy'n gweithio oedd y gostyngiad mewn cydfargeinio—gallwch weld y data hwnnw ledled Ewrop. Po leiaf o gydfargeinio a geir, y mwyaf o dlodi sy'n bodoli, a'r mwyaf o anghydraddoldeb mewn gwirionedd.

Gadewch i ni edrych hefyd ar beth yw agenda'r Torïaid wedi bod ar bob agwedd ar ddeddfwriaeth lle rydym wedi sôn am ansawdd cyflogau ac ansawdd gwaith. Roeddent yn gwrthwynebu Deddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014 i amddiffyn gweithwyr fferm. Roeddent yn gwrthwynebu Deddf Undebau Llafur (Cymru) 2017. Roeddent yn gwrthwynebu gweithredu adran 1 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 ar lefel y DU. Roeddent yn gwrthwynebu pennod gymdeithasol yr Undeb Ewropeaidd. Roeddent yn gwrthwynebu cynnwys y siarter Ewropeaidd o hawliau sylfaenol. Ar lefel y DU, maent wedi gwrthwynebu ymgyrch dros orfodi'r isafswm cyflog. Yng Nghymru mae gennym 19,000 bobl—amcangyfrifedig—nad ydynt yn cael yr isafswm cyflog hyd yn oed. Ble mae'r 19,000 o erlyniadau i orfodi hynny mewn gwirionedd? Ac maent hefyd wedi cyflwyno, ac yna wedi gwrthwynebu, eu polisi eu hunain o ddod â gweithwyr ar fyrddau cyfarwyddwyr cwmnïau mawr er mwyn i weithwyr gael lleisio barn.

Byddai'n well o lawer gennyf weld symud tuag at ddiffiniad y Sefydliad Llafur Rhyngwladol o beth yw gwaith gweddus, a dyma'r diffiniad:

Mae gwaith gweddus yn crynhoi dyheadau pobl yn eu bywydau gwaith. Mae'n cynnwys cyfleoedd ar gyfer gwaith sy'n gynhyrchiol ac yn sicrhau incwm teg, diogelwch yn y gweithle ac amddiffyniad cymdeithasol i deuluoedd, gwell rhagolygon ar gyfer datblygiad personol ac integreiddio cymdeithasol, rhyddid i bobl fynegi eu pryderon, i drefnu a chymryd rhan yn y penderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywydau a chyfle cyfartal a thriniaeth gyfartal i'r holl fenywod a dynion.

Credaf fod yn rhaid inni fynd ymhellach o lawer na'r math o ymagwedd wirfoddol sy'n cael ei mabwysiadu. Rwy'n croesawu gwaith y Comisiwn Gwaith Teg wrth gwrs, rwy'n croesawu gwaith y Living Wage Foundation a'r canlyniadau cadarnhaol a gyflawnwyd yn sgil hynny, ond rwy'n eithriadol o falch fod gennym Brif Weinidog sydd wedi ymrwymo i ddeddfu yn y maes hwn mewn gwirionedd, oherwydd credaf mai dyna yw'r unig ffordd ymlaen—deddfu ar gyfer Deddf partneriaeth gymdeithasol, Deddf a fydd yn darparu mecanwaith ar gyfer sicrhau mai i gwmnïau sy'n barod i ymrwymo i safonau moesegol yn unig y bydd ein £6 biliwn o arian caffael yn mynd, a bod y cwmnïau sy'n cael yr arian caffael hwnnw'n ysgwyddo cyfrifoldeb cyfreithiol am y gadwyn gyflenwi, yr holl ffordd i lawr, fel nad oes gennych system is-gontractio lle mae pawb yn cymryd toriad o'r elw ac yn y pen draw, y gweithwyr sy'n cael llai a llai.

Ac rwy'n falch hefyd fod gennym Brif Weinidog sydd wedi ymrwymo yn awr i weithredu adran 1 o'r Ddeddf Cydraddoldeb. Mae hyn yn rhywbeth y mae'r Torīaid wedi gwrthod ei wneud ar lefel y DU. Mae wedi'i roi ar waith yn yr Alban ac nid oes unrhyw rheswm o gwbl pam na ddylem ymrwymo bellach i'w weithredu, gan ddefnyddio caffael ar gyfer amcanion economaidd-gymdeithasol. Ac rwy'n falch iawn fod gennym Brif Weinidog yn awr sy'n ymrwymedig i hynny hefyd.

Felly, er fy mod yn croesawu'r penderfyniad hwn, rwy'n ei groesawu cyn belled ag y mae'n mynd, a'r hyn a ddywedaf yw nad yw'n mynd yn ddigon pell. Rhaid inni symud yn awr i'r ewyllys newydd; hynny yw, creu hawl penodol i waith gweddus a theg, os ydych yn gweithio yng Nghymru. Rwyf am weld Cymru'n dod yn genedl gwaith teg, nid cenedl cyflog byw yn unig na hyd yn oed cenedl cyflog byw go iawn. Mae cymaint o ffactorau'n perthyn i hynny. Wrth gwrs ceir cyfyngiadau, a dyna pam fod angen Llywodraeth Lafur yn San Steffan ac rydym angen y math o agenda sy'n cael ei hyrwyddo gan John McDonnell yn awr ar ail-sefydlu hawliau cyflogaeth, ond hawliau cyflogaeth sylfaenol fel rhan greiddiol o fusnes. A ydym yn gweithio i fusnesau wneud elw yn unig, neu a ydym yn gweithio mewn gwirionedd er mwyn inni allu cael safon byw sy'n weddus? Mae'r cydbwysedd wedi'i golli yn ein cymdeithas a rhaid inni adfer y cydbwysedd hwnnw ar lefel y DU, ond mae llawer y gallwn ei wneud ar lefel Cymru hefyd, ac edrychaf ymlaen yn fawr iawn at ddatblygu agenda ddeddfwriaethol i wneud yr hyn a allwn yng Nghymru i sicrhau bod Cymru'n dod yn genedl gwaith teg. Diolch.

16:30

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

8. Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig: Rhwystrau Carthffosydd

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Julie James, a gwelliannau 2 a 3 yn enw Rhun ap Iorwerth. 

Daw hynny â ni at yr eitem nesaf, sef dadl UKIP ar rwystrau carthffosydd. Rwy'n galw ar Gareth Bennett i wneud y cynnig. Gareth Bennett. 

Cynnig NDM6898 Gareth Bennett

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi adroddiad Water UK ar ei astudiaeth ynghylch hancesi gwlyb yn blocio carthffosydd.

2. Yn gresynu at y ffaith y ceir tua 2,000 o rwystrau mewn carthffosydd bob mis ledled Cymru ac yr achosir llawer ohonynt gan bobl yn fflysio eitemau traul fel ffyn cotwm a hancesi gwlyb i lawr y toiled.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ehangu'r gwaith ar gyfrifoldeb cynhyrchwyr estynedig y hwnt i fwyd a diod i gynnwys eitemau traul fel hancesi gwlyb a ffyn cotwm.

4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i ddeddfu ar gyfer profi cynhyrchion fel hancesi gwlyb a ffyn cotwm ar sail rheoleiddiol; ac os bydd cynhyrchion o'r fath yn methu prawf newydd y diwydiant dŵr i weld a ellir eu fflysio, rhaid i gynhyrchwyr becynnu'r cynhyrchion hynny gyda logo clir, trawiadol ac amlwg sy'n nodi na ellir eu fflysio.

Cynigiwyd y cynnig.

Rwy'n falch o gyflwyno cynnig UKIP heddiw. Fel y dywed ein cynnig, ceir tua 2,000 o achosion o flocio carthffosydd yng Nghymru bob mis, neu tua 24,000 achos y flwyddyn. Yn ddiweddar, rhoddwyd sylw yn y cyfryngau i domenni braster, lle mae braster, olew a saim yn cyfuno â chlytiau a deunyddiau eraill yn y garthffos gan dagu'r rhwydwaith. Cafwyd rhaglenni teledu a ddisgrifiai domenni braster maint bws Llundain. Yn wir, bydd yr Aelodau wedi sylwi ar y gwaith helaeth sy'n digwydd yng Nghei'r Forforwyn, ychydig yn nes i lawr y bae, lle mae Dŵr Cymru yn gorfod gosod carthffos newydd oherwydd yr union broblem hon.

Fodd bynnag, hancesi gwlyb sy'n gyfrifol am y rhan fwyaf o achosion o flocio carthffosydd. Eitemau megis hancesi gwlyb ar gyfer babanod a hancesi tynnu colur yw o leiaf ddwy ran o dair o'r achosion o flocio carthffosydd yn ôl Dŵr Cymru. Mewn gwirionedd, mae astudiaeth Water UK o'r achosion o flocio carthffosydd, a gynhaliwyd y llynedd, yn rhoi ffigur uwch hyd yn oed, sef tua 90 i 95 y cant.

Nid yw carthffosydd wedi'u blocio a'r llifogydd a ddaw yn sgil hynny yn ddymunol. Yn wir, pan fo carthion yn mynd i mewn i eiddo, megis cartref neu fusnes, mae'r canlyniadau ar y gorau yn peri gofid mawr ac ar y gwaethaf yn gwbl ddinistriol.

Serch hynny, mae mwyafrif helaeth yr achosion hyn yn rhai y gellir eu hosgoi'n gyfan gwbl. Y gwir amdani yw bod y rhan fwyaf o'r hancesi gwlyb hyn yn cynnwys deunydd plastig, fel ffibrau polypropylen neu bolyethylen. Nid ydynt yn dadelfennu wrth gael eu fflysio i lawr y toiled, a'r hancesi gwlyb hyn, fel y clywsom, sy'n achosi hyd at 95 y cant o'r achosion o flocio carthffosydd. Pe bai modd dileu'r achosion o flocio carthffosydd a achosir gan hancesi gwlyb, byddai hynny'n arwain at bron 23,000 yn llai o ddigwyddiadau bob blwyddyn.

Wrth gwrs, rhan o'r broblem yw nad yw llawer o bobl yn gwybod na ddylai'r cynhyrchion hyn gael eu fflysio. Rydym yn cymeradwyo'r gwaith a wnaed gan gwmnïau dŵr hyd yma i gynyddu ymwybyddiaeth, ond mae hon yn broblem nad yw'n mynd i ddiflannu hyd nes y dechreuwn weithredu'n fwy eang.

Mae Llywodraeth Cymru eisoes yn gwneud rhywfaint o waith ar gyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr. Ym mis Mai, dywedodd y Gweinidog fod y gwaith hyd yma wedi cynnwys chwe math o ddeunydd pacio bwyd a diod, yn cynnwys poteli a chaniau diodydd a chwpanau coffi untro. Mae pwynt 3 ein cynnig yn gofyn i'r Llywodraeth ehangu'r gwaith i gynnwys cynhyrchion fel hancesi gwlyb a ffyn cotwm. Credwn y dylai cwmnïau sy'n cynhyrchu'r eitemau hyn roi mwy o ystyriaeth i gylch oes cyfan eu cynhyrchion, gan gynnwys cael gwared arnynt ar ôl eu defnyddio.

Yn yr un modd, mae EDANA, y gymdeithas Ewropeaidd sy'n monitro deunydd untro a heb ei wehyddu, wedi datblygu prawf i weld a ellir fflysio deunydd a chod ymarfer ar gyfer gweithgynhyrchwyr. Mae hwn yn dweud y dylai hancesi gwlyb na ellir eu fflysio ddangos logo clir ar y deunydd pacio, yn rhybuddio defnyddwyr na ddylid fflysio'r cynnyrch i lawr y toiled. Wrth gwrs, nid yw'n rhwymol, felly mae pwynt 4 ein cynnig yn galw ar Lywodraeth y DU i fynd â hyn gam ymhellach a deddfu i'w wneud yn ofyniad.

Bu llawer o drafod yn y Siambr am ailgylchu, trethi ar blastig, cwpanau coffi untro ac yn y blaen. Dangosodd Cymru arweiniad ar godi tâl am fagiau siopa plastig. Efallai nad oedd yn boblogaidd gan bawb ar unwaith, ond daeth pobl i arfer yn fuan ac mae ailddefnyddio bagiau plastig yn ail natur i'r rhan fwyaf o bobl erbyn hyn. Mae angen newid diwylliant yn sylweddol ymhlith gweithgynhyrchwyr a defnyddwyr er mwyn gwrthdroi'r diwylliant gwastraffus cynyddol yn ein cymdeithas sy'n peri i garthffosydd gael eu blocio, fel rydym yn sôn heddiw, gan achosi llawer o broblemau amgylcheddol eraill hefyd. Felly, gofynnwn i'r Aelodau gefnogi ein cynnig heddiw. Diolch.

16:35

Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i'r cynnig, ac rwy'n galw ar Weinidog yr Amgylchedd i gynnig yn ffurfiol gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Julie James.

Yn ffurfiol?

Gwelliant 1—Julie James

Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:

Yn nodi gwaith Llywodraeth Cymru gyda chwmnïau dŵr er mwyn pwyso a mesur opsiynau ar gyfer mynd i’r afael â’r broblem lle y mae defnyddiau traul yn achosi i doiledau flocio.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Galwaf ar Llyr Gruffydd i gynnig gwelliannau 2 a 3, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth.

Gwelliant 2—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio ar y cyd â Dŵr Cymru ac asiantaethau eraill i wella ymwybyddiaeth y cyhoedd o ran defnyddiau traul er mwyn lleihau rhwystrau yn y system garthffosiaeth.

Gwelliant 3—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio’r posibiliadau o ddefnyddio trethi newydd i leihau’r defnydd o defnyddiau traul.

Cynigiwyd gwelliannau 2 a 3.

Diolch yn fawr, Lywydd. Fe ddechreuaf drwy gyfeirio at Lanelwy yn fy rhanbarth. Bydd llawer ohonoch yn gyfarwydd â Llanelwy—dinas fach berffaith, enwog am ei heglwys gadeiriol a'i gŵyl gerddoriaeth. Ond cefais fy synnu'n fawr, mewn gwirionedd, yn 2014, pan ddatgelwyd mai Llanelwy oedd prifddinas carthffosydd wedi'u blocio yng Nghymru—ni welwch hynny ar yr arwydd ffordd wrth yrru, yn amlwg. [Chwerthin.] Ond y ffaith amdani oedd bod Dŵr Cymru wedi cael eu galw i ymdrin ag 134 achos o flocio yn y ddwy flynedd hyd at 2014 yn Llanelwy: cofnodwyd 71 achos o flocio yn 2013-14, i fyny o 63 achos yn 2012-13. Arweiniodd y digwyddiadau at saith achos o lifogydd ger cartrefi neu fusnesau, ac rydym eisoes wedi clywed pa mor annifyr y gall hynny fod. Ond wrth gwrs, un gymuned yn unig yw Llanelwy, ac mae gennym gannoedd, os nad miloedd, o gymunedau yng Nghymru. Felly, lluoswch hynny ac nid oes ryfedd bod cwmnïau megis Dŵr Cymru yn ymdrin ag oddeutu 2,000 achos o flocio bob mis.

Mewn ymateb i'r sefyllfa yn Llanelwy, lansiodd Dŵr Cymru ymgyrch fawr i leihau'r achosion o flocio carthffosydd. Mae'r ymgyrch Stop Cyn Creu Bloc yn un y mae llawer ohonom yn gyfarwydd â hi bellach, rwy'n siŵr, a'i nod yw newid ymddygiad cwsmeriaid mewn perthynas â rhoi pethau i lawr y toiled, a chael gwared ar fraster, olew a saim hefyd, wrth gwrs , sy'n cyfrannu'n helaeth. Felly, roedd yr ymgyrch honno'n cynnwys gwersi rhyngweithiol gyda thîm addysg Dŵr Cymru; cynhaliwyd digwyddiadau cymunedol hwyliog; cystadlaethau; hysbysebu; gosodwyd posteri'n egluro i drigolion beth na ddylech ei roi i lawr y toiled; ac ymwelodd y cwmni â chartrefi a busnesau'n uniongyrchol hyd yn oed i siarad â thrigolion ac i siarad â busnesau er mwyn egluro iddynt ac i rannu awgrymiadau defnyddiol ynglŷn â sut y gellid atal y bloc.

Clywsom eisoes sut y mae pobl yn cael gwared ar eitemau bob dydd, fel hancesi gwlyb ar gyfer glanhau, tyweli misglwyf a ffyn cotwm, ynghyd â braster, olew a chrafion bwyd, ac wrth gwrs, mae hyn yn creu hafoc. Gweithiodd cyngor y ddinas yn Llanelwy yn ddiwyd hefyd i geisio egluro i bobl fod gan bawb ran i'w chwarae. Nawr, dyna neges glir y mae angen inni ei rhannu yn y ddadl hon—y gall pawb helpu a gwneud eu rhan, naill ai drwy leihau eu defnydd o eitemau untro fel hancesi gwlyb, neu eu bod yn oedi i feddwl cyn fflysio neu roi unrhyw beth i lawr y toiled neu i lawr y sinc, eu bod yn cael gwared ar hancesi gwlyb, ffyn cotwm, cewynnau mewn modd priodol, ac wrth gwrs, eu bod yn cael gwared ar fraster, olew a saim mewn ffordd ddiogel.

Ond wrth gwrs, nid trigolion lleol a dinasyddion yn unig sydd â rhan i'w chwarae. Mae gan Lywodraeth Cymru ran bwysig i'w chwarae yn hyn o beth, ac rydym eisoes wedi clywed am yr angen i labelu cynhyrchion nad oes modd eu fflysio yn eglur, rhywbeth a fyddai o gymorth mawr, wrth gwrs, oherwydd mae angen inni sicrhau newid diwylliant sylweddol nid yn unig ymhlith dinasyddion, ond gan weithgynhyrchwyr yn ogystal, fel y gallwn wrthdroi'r diwylliant gwastraffus cynyddol sydd gennym yn ein cymdeithas ac sy'n achosi hyn a chynifer o broblemau amgylcheddol eraill yn ogystal. Yn sicr, gwelir deddfwriaeth mewn perthynas â phrofion i weld a ellir fflysio cynhyrchion a labelu cynnyrch fel rhan o'r ateb, fel y gwelsom gyda'r ardoll ar fagiau plastig a grybwyllwyd yn gynharach, a rhybuddion iechyd ar bacedi sigaréts hefyd y gwyddom eu bod yn newid agweddau pobl yn y cyd-destun penodol hwnnw, sy'n cael effaith gadarnhaol fawr o'i wneud yn dda.

Buaswn yn dweud bod yna ychydig o eironi yma fod UKIP yn cyflwyno'r cynnig hwn, ond wrth gwrs, fe wyddom fod Comisiwn yr UE yn argymell cyfarwyddeb ar ddeunydd untro sy'n cael ei drafftio ar hyn o bryd. Mae'n cynnwys y gofyniad i labelu hancesi gwlyb a chynhyrchion eraill a welwn yn ein carthffosydd yn glir ac yn amlwg fel deunydd na ddylid ei fflysio. Os ydym yn gadael yr Undeb Ewropeaidd yn y pen draw—ac mae'n mynd yn fwy ac yn fwy o 'os' bob dydd, os gofynnwch i mi—yna, yn amlwg, dylem ni yng Nghymru geisio cyflwyno ein rheoliadau ein hunain i sicrhau bod pob cynnyrch o'r fath yn cael ei labelu'n briodol.

Fe siaradaf yn fyr am y gwelliannau. Rwyf ychydig yn siomedig gyda gwelliant y Llywodraeth ein bod yn nodi'r gwaith a wneir gan y Llywodraeth a chwmnïau eraill. Wrth gwrs, mae'r amser ar gyfer nodi wedi mynd heibio. Credaf ei bod hi'n bryd gweithredu'n bendant bellach. Mae gwelliannau Plaid Cymru yn cyfeirio yn y lle cyntaf at yr angen am ymgyrchoedd i godi ymwybyddiaeth, ond ymgyrchoedd ar raddfa sy'n adlewyrchu maint y broblem, ac nid yw hynny'n digwydd ar hyn o bryd. Ac mae ein hail welliant yn ein hannog i fynd ati'n rhagweithiol i ystyried ardoll i leihau'r defnydd o ddeunyddiau tafladwy. Rydym wedi'i weld yn gweithio mewn cyd-destunau eraill. Byddai'n lleihau gwastraff, yn lleihau achosion o flocio ac yn cynhyrchu refeniw yn ogystal i allu ymdrin â'r broblem yn uniongyrchol neu i dalu am ymgyrchoedd i godi ymwybyddiaeth.

Rwy'n gobeithio nad y rhwystr mwyaf i ddatrys ein problemau carthffosiaeth yw amharodrwydd Llywodraeth Cymru i weithredu.

16:40

Rwy'n croesawu'r cyfle i gyfrannu yn y ddadl y prynhawn yma. Ym mhwyllgor yr amgylchedd, rydym wedi edrych ar y mater penodol hwn, gan gymryd tystiolaeth gan Dŵr Cymru a sefydliadau eraill ynglŷn â'r problemau peirianyddol y mae'r broblem wastraff hon yn eu hachosi, ond hefyd y problemau ariannol yn ogystal, ac ymwybyddiaeth y cyhoedd. Mae'n amlwg fod llawer o'r achosion hyn o flocio'n digwydd o dan ein traed yn y carthffosydd sy'n mynd yr holl ffordd drwy ein dinasoedd, ein trefi a'n pentrefi, ond wedyn y gwaith peirianyddol a welwn yn digwydd fydd y tro cyntaf yn aml iawn y byddwn yn sylweddoli bod yna broblem.

Ac mae llawer y gallwn ei wneud, a byddwn yn cefnogi cynnig UKIP y prynhawn yma. Byddwn yn cefnogi gwelliant y Llywodraeth a gwelliant 2 Plaid Cymru, ond byddwn yn ymatal ar welliant 3 oherwydd ein bod weithiau'n rhy barod i droi at ysgogiadau trethiant. Rwy'n derbyn bod llawer o enghreifftiau da sy'n dangos bod trethiant a chosbi pobl yn gallu arwain at y newid sydd ei angen, ond credwn fod cryn dipyn yn rhagor o waith i'w wneud ar hynny o hyd. Unwaith eto, rwy'n derbyn mai 'archwilio' y mae'r gwelliant yn ei ddweud, ond ym maes pobl anabl yn arbennig, er enghraifft, ac achosion arbennig eraill, credaf fod angen deall mwy am eu gofynion a'u hanghenion pan fyddwn yn sôn am hancesi gwlyb, oherwydd os ewch yn ôl 10, 15 mlynedd, mae'n debyg nad oedd y rhan fwyaf o bobl yn gweld hon yn broblem o gwbl, fel y cyfryw—roedd yn rhan o fywyd bob dydd.

Ond fel yr agenda ailgylchu a welsom ar draws y wlad—. Ymwelais â depo ailgylchu ddydd Llun, ac roedd hi'n ddiddorol iawn gweld y broses ailgylchu honno ar waith a sut nad oes bron ddim na ellir ei ailgylchu erbyn hyn. Mae defnydd terfynol iddo, boed yn fagiau bin du yn mynd tuag at ddefnydd ynni, neu'r bagiau bin glas, yn yr achos hwn—roedd y safle penodol hwn yn Sir Gaerfyrddin—ac roedd holl gynnwys y bag yn cael ei ddefnyddio fel nwydd y gellid ei ailgylchu gyda gwerth iddo. Pe baech wedi dweud wrth rywun 20 mlynedd yn ôl am yr agenda ailgylchu, byddent wedi edrych arnoch yn geg agored wrth ddeall y gallech newid y gwastraff yn werth ac mewn gwirionedd, y cyfan a wnawn yw taflu'r cyfan i'r bin a daw rhywun heibio unwaith yr wythnos i'w godi a'i gludo ymaith ac mae'n broblem i rywun arall. Yn wir, wrth ichi ddod i mewn—[Torri ar draws.] Rwy'n credu bod John yn gwylio'r pêl-droed, ydy? Pwy sy'n ennill, John? [Chwerthin.] [Torri ar draws.] Rhowch y gefnogaeth. Mewn gwirionedd, nid yw'n bump o'r gloch eto, ac nid wyf yn meddwl bod unigolyn penodol ar eu traed yn Nhŷ'r Cyffredin eto. Fe fyddant cyn hir. [Chwerthin.]

Ond i ddychwelyd at yr eitem agenda rydym yn sôn amdani yma, mae'n bwysig iawn ein bod yn gwneud cynnydd oherwydd mae hwn yn fater pwysig tu hwnt o ran costau sy'n rhaid eu dargyfeirio i ailstrwythuro ein system garthion a dŵr budr pan ellid defnyddio'r adnodd gwerthfawr hwnnw mewn sawl ffordd fuddiol arall. Hyn a hyn y gallwch ei wario yn y system drin dŵr gwastraff, ac os aiff yr arian hwnnw tuag at rywbeth y gallwn ni fel defnyddwyr wneud gwahaniaeth yn ei gylch, yna does bosib nad yw hynny'n gwneud synnwyr perffaith.

Bagiau plastig—[Torri ar draws.] Gwn ei bod hi'n araith wych John, ond—

16:45

Y cyfan a ddywedaf yw tri chamgymeriad ac fe fyddwch chi allan. [Chwerthin.]

Cofiaf yn dda pan oeddwn ar y Pwyllgor Deisebau cyntaf yn y sefydliad hwn, a chyflwynwyd y tâl am fagiau plastig bryd hynny. Ac mewn gwirionedd, pe baech yn mynd i archfarchnad 10 mlynedd yn ôl ac yn gofyn am fag plastig roeddech yn disgwyl ei gael, ac mewn gwirionedd roedd hi braidd yn rhyfedd os na chaech fag plastig. Heddiw, os byddwch yn sefyll wrth y cownter ac yn gofyn am fag plastig, maent yn edrych arnoch, ni fuaswn yn dweud gyda dirmyg, ond gyda chwilfrydedd oherwydd gwyddom am y niwed y mae bagiau plastig yn ei wneud, a mae'n destun balchder mawr fod pobl yn mynd â'u bagiau amldro i'r archfarchnad mewn gwirionedd. Ac felly, yn y ddadl hon, credaf fod angen inni newid diwylliant, y diwylliant gwastraffus sydd gennym ar hyn o bryd, a'i fod yn ymwneud ag ymwybyddiaeth y cyhoedd yn arbennig a gwybodaeth am y niwed y mae hancesi gwlyb a deunydd plastig yn enwedig yn ei achosi i'r hyn nad yw'n broblem weledol ond sydd, yn hytrach, yn broblem sy'n digwydd o dan ein traed gan ddifrodi ein seilwaith gwerthfawr.

Hoffwn dynnu sylw'r Siambr at weithredoedd Llywodraeth y DU ac ymrwymiad Llywodraeth y DU yn y maes penodol hwn. Mae ganddi ymrwymiad i ddileu'r holl wastraff plastig y gellir ei osgoi erbyn 2042. Lansiodd ymgynghoriad ar y maes hwn yn arbennig i weld pa gamau y gellir eu cymryd, ac yn enwedig mewn perthynas â labelu. Felly, nid yr Undeb Ewropeaidd yn unig sy'n gwneud hyn, fel y nododd Llyr; mae Llywodraeth y DU mewn gwirionedd yn rhoi camau breision ar waith yn y maes drwy Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig a Michael Gove.

Ac felly rwy'n mawr obeithio y bydd Llywodraeth Cymru'n gweithio law yn llaw â Llywodraeth Cymru a Llywodraethau eraill ledled y DU, oherwydd mae angen inni weld y newid ar draws y DU gyfan, nid yn unig yng Nghymru. A lle y ceir arferion gorau, gallwn ddefnyddio'r arferion gorau hynny yma yng Nghymru. Felly, nid ydym yn petruso ar y meinciau hyn heddiw rhag cefnogi cynnig UKIP a gyflwynwyd yma a chefnogi gwelliannau 1 a 2 ond byddwn yn ymatal ar welliant 3.

Mae llygredd plastig a sbwriel o hancesi gwlyb sy'n cael eu fflysio ar gynnydd. Y llynedd, cofnododd y Gymdeithas Cadwraeth Forol fod dros 14 o hancesi gwlyb i'w gweld ar bob 100 metr o arfordir, cynnydd o 700 y cant dros y degawd diwethaf.

Bydd y rhan fwyaf o bobl wedi gweld neu wedi clywed am broblem enfawr y plastig sy'n llygru ein cefnforoedd, ac mae'n amlwg nad yw'r broblem wedi'i chyfyngu i ffyn cotwm a hancesi gwlyb, fel y clywsom yn y ddadl yn gynharach. Mae'r defnydd o hancesi gwlyb wedi cynyddu'n aruthrol, a bu cynnydd enfawr yn nifer y cynhyrchion hyn sy'n cael eu gwerthu, gydag ymgyrchoedd hysbysebu mawr gan weithgynhyrchwyr a'r diwydiant colur yn cynyddu'r galw ymhellach.

Gan droi at y gwelliannau, yn syml iawn mae gwelliant Llafur yn hunanfodlon, ac mae'n dangos bod Llywodraeth Cymru yn edrych ar symptomau yn hytrach nag achosion. Mae'r hancesi gwlyb hyn ac eitemau eraill yn y system garthion yn y lle cyntaf oherwydd bod pobl wedi'u rhoi yno. Oni bai bod Llywodraeth Cymru yn dod o hyd i ffyrdd o gyfleu'r neges i'r cyhoedd y dylai'r eitemau hyn fynd i'r bin yn hytrach nag i lawr y toiled, mae'r broblem yn mynd i waethygu. Gall cwmnïau dŵr ddweud wrth Lywodraeth Cymru beth yw maint y broblem, ond ni allant reoli beth y mae pobl yn ei roi i lawr y toiled, ac i mewn i garthffosydd cyhoeddus. I fod yn deg, ni all Llywodraeth Cymru wneud hynny ychwaith, ond maent mewn gwell sefyllfa o lawer na'r cwmnïau dŵr i addysgu'r cyhoedd. Am y rheswm hwnnw a'r ffaith y byddai'n dileu ein galwad am fwy o waith ar gyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr, ni allwn gefnogi gwelliant 1. Fodd bynnag, byddwn yn cefnogi gwelliant 2.

Gan droi at welliant 3, a gynigiwyd gan Blaid Cymru, ar archwilio trethi newydd i leihau'r defnydd o ddeunyddiau traul, credaf y gall pawb yn y Siambr hon gytuno â ni na ddylai'r gwastraff hwn a grëwyd gan bobl gyrraedd ein hamgylchedd yn y pen draw. Mae'n ymwneud â dod o hyd i'r ateb priodol, a gallai hynny ddigwydd drwy gyfuniad o fesurau, ond rwy'n cwestiynu pa mor effeithiol y byddai trethi newydd yn lleihau'r defnydd o eitemau fel hancesi gwlyb a ffyn cotwm. Nid eitemau drud yw'r rhain, lle gallai treth uchel iawn hyd yn oed godi'r pris ddigon i leihau'r defnydd yn sylweddol. Mae'n wir y byddai rhai pobl yn methu fforddio prynu'r eitemau hyn, ond a ydych chi eisiau i'r bobl a allai fod fwyaf o'u hangen, pobl ar incwm isel, fethu eu fforddio? Nid ydym ni am wneud hynny, a dyna pam y byddwn yn pleidleisio yn erbyn gwelliant 3.

Yn fy marn i, mae angen i Lywodraeth Cymru a'r cwmnïau dŵr fabwysiadu ymagwedd ddeublyg. Ar yr un pryd ag addysgu'r cyhoedd am gostau a chanlyniadau fflysio eitemau y dylid eu rhoi yn y bin, mae angen i Lywodraeth Cymru a'r cwmnïau dŵr weithio gyda gwneuthurwyr yr eitemau hyn i greu dewisiadau amgen na fyddant yn blocio carthffosydd ar y ffordd i'r gwaith trin carthion, hyd yn oed os ydynt yn cael eu fflysio i lawr y toiled. Diolch.

16:50

Diolch, Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i'r Aelodau am gyflwyno'r ddadl hon ac i bawb sydd wedi cyfrannu? Nid oes dim yn well i ddynodi ei bod hi'n Nadolig na dadl ar flocio carthffosydd, ond o ddifrif, gwyddom fod cynnydd sylweddol yn y defnydd o hancesi gwlyb a chynhyrchion hylendid eraill yn y blynyddoedd diwethaf wedi arwain at gynnydd mewn eitemau o'r fath sy'n cael eu fflysio i lawr y toiled, lle maent yn mynd i mewn i'r rhwydwaith o garthffosydd cyhoeddus, gan arwain at y problemau a'r achosion o flocio a drafodwyd gennym yma y prynhawn yma.

Ni waeth beth y mae'n ddweud ar y deunydd pacio, mae'r rhan fwyaf o'n cynhyrchion gofal iechyd personol a'n cynhyrchion harddwch yn anaddas i'w fflysio i lawr y toiled. Hancesi gwlyb a chynhyrchion eraill 'untro' fel y'u gelwir yw prif achos blocio carthffosydd a galwadau brys i orsafoedd pwmpio carthion. Mae'r canlyniadau, fel y buom yn siarad amdanynt heddiw, yn aml yn gostus o ran cynnal a chadw, gwaith atgyweirio, llifogydd a llygredd amgylcheddol. Mae mwy na thri chwarter, 80 y cant, o lifogydd carthffosydd yng Nghymru a Lloegr yn deillio o achosion o garthffosydd wedi'u blocio, sy'n costio tua £7 miliwn i Dŵr Cymru bob flwyddyn. A soniodd Gareth Bennett am y domen fraster y mae Dŵr Cymru wedi bod yn ymdrin â hi rownd y gornel yng Nghei'r Forforwyn fel enghraifft o'r hyn a all ddigwydd. 

Er mwyn helpu i wella cydnerthedd y system garthffosiaeth, mae rhaglen ddraenio'r unfed ganrif ar hugain, a gefnogir gan Lywodraeth Cymru ac sy'n cynnwys dros 40 o sefydliadau, wedi datblygu fframwaith ar gyfer cynlluniau draenio a rheoli dŵr gwastraff. Bydd y cynlluniau hyn yn sail i gynlluniau cydweithredol ac integredig mwy hirdymor gan gwmnïau mewn perthynas â charthffosiaeth, draenio, llifogydd a diogelu'r amgylchedd. Mae ymgymerwyr dŵr a charthffosiaeth wedi cytuno i baratoi cynllun treialu ar gyfer draenio a rheoli dŵr gwastraff erbyn 2022, a byddwn yn eu hannog i gynnwys dulliau cadarn ar gyfer cynyddu gallu'r system garthffosiaeth i wrthsefyll blocio.

Ond fel y trafodwyd heddiw, rhan o'r her yw ymwybyddiaeth ac addysgu'r cyhoedd ynglŷn â beth i beidio â'i roi i lawr y toiled neu ddraeniau. Mae rhaglen ddraenio'r unfed ganrif ar hugain yn cydnabod bod angen newid ymddygiad er mwyn cyfyngu ar yr achosion o flocio a llygredd, gan gynnwys codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o'r mathau mwyaf ecogyfeillgar o gynhyrchion hylendid a sut i gael gwared arnynt yn y ffordd gywir. Mae'r cwmnïau dŵr eu hunain yn argymell na ddylid fflysio dim byd heblaw'r tair 'p'—papur, pi-pi a pw-pw—i lawr y toiled.

Ymgyrch ddiweddar i wella ymwybyddiaeth y cyhoedd ac atal—rwy'n falch fod pobl wedi chwerthin. [Chwerthin.] Ymgyrch ddiweddar i wella ymwybyddiaeth y cyhoedd oedd 'Stop Cyn Creu Bloc' gan Dŵr Cymru. Mae angen llawer o'r negeseuon hyn sydd wedi'u targedu os ydym am weld gwahaniaeth, a chefais brofiad o un o'r ymgyrchoedd hyn pan oeddwn—. Roeddent yn dangos uwchgynhadledd eco yn ystod y Ras Hwylio Volvo ac roedd wedi'i hanelu at fyfyrwyr ysgol uwchradd ac at eu haddysgu beth y gallwch ac na allwch ei roi i lawr y toiled, ac roeddent wedi'i wneud mewn ffordd a ddisgrifiai'r toiled fel y clwb nos roedd pawb am fynd iddo a'r bin fel y clwb nos llai dymunol. Ond nid wyf am fanylu ar beth oedd yn cael ei adael i mewn i'r ddau glwb nos ar y pwynt hwn, ond gallwch wylio ar-lein os ydych am weld.

Roedd astudiaeth Water UK ynghylch hancesi gwlyb a blocio carthffosydd yn argymell na ddylid cynnwys ffibrau polyethylen mewn unrhyw gynnyrch gyda label sy'n dweud y gellir ei fflysio, a dylai fod gofyniad i arddangos y logo sy'n dweud wrth y defnyddiwr am beidio â fflysio yn glir ar flaen pob pecyn o hancesi gwlyb na ellir eu fflysio. Fodd bynnag, mae angen gwneud rhagor o waith gyda'r diwydiant, megis prawf cydnabyddedig i benderfynu a yw cynnyrch yn addas i'w fflysio go iawn ai peidio.

Rwy'n cefnogi'r egwyddor o ddeddfu i weithredu'r newidiadau sydd eu hangen yn y maes hwn os ydynt yn angenrheidiol, yn ymarferol ac yn briodol. Mae cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr yn ffordd o fynd i'r afael â hyn trwy sicrhau bod cynhyrchwyr yn ysgwyddo costau llawn net am reoli diwedd oes y cynnyrch a'i ddeunydd pacio. Gellir ei ddefnyddio i wella cyfraddau ailgylchu, hyrwyddo'r defnydd o ddeunyddiau ailgylchadwy, ac i ryw raddau, i dalu am glirio sbwriel. Llyr Gruffydd, ynglŷn â'ch cyfraniad fod y Comisiwn Ewropeaidd yn ystyried cynnwys gofyniad i ymestyn rheoliadau trwyddedu amgylcheddol ar hyn o bryd ar gyfer hancesi gwlyb ynghyd ag amrywiaeth o eitemau eraill nad yw'n ddeunydd pacio, a'r gyfarwyddeb arfaethedig ar blastig untro—mae'n faes cymhleth a byddai'n gynamserol inni symud hyn ymlaen hyd nes y gwneir y gyfarwyddeb ar y cam hwn, ond yn amlwg, mae'n rhywbeth y gallwn ei ailystyried ac edrych arno yn y dyfodol.

Bydd yr Aelodau'n ymwybodol fod Llywodraeth Cymru yn ystyried y potensial ar gyfer treth ar blastig tafladwy fel rhan o'i gwaith ar ddatblygu pwerau trethu newydd. Cynhaliodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid ddadl yn y Cynulliad y llynedd i ddechrau sgwrs genedlaethol am y cyfleoedd y gallai trethi newydd eu sicrhau i Gymru a chyhoeddodd ei fwriad i brofi pwerau Deddf Cymru drwy gynnig treth ar dir gwag, ac ystyried opsiynau posibl mewn perthynas â threthi ar blastig tafladwy. Mae Llywodraeth Cymru bellach yn asesu manylion dull Llywodraeth y DU o weithredu camau posibl i drethu deunydd plastig untro er mwyn ystyried y ffordd orau ymlaen i ni. Mae'n bwysig fod Llywodraeth Cymru yn parhau i chwarae rhan mewn prosesau ymgysylltu, datblygu polisi a gweithredu ar gyfer unrhyw fesurau trethiant yn y maes hwn. Byddai angen i unrhyw gynnig treth newydd fynd drwy'r un broses â'r cynnig treth ar dir gwag, lle mae angen caniatâd dau Dŷ'r Senedd a Llywodraeth y DU arnom. Wrth ofyn am ddatganoli'r pwerau angenrheidiol, o ran potensial treth o'r fath, byddai angen inni helpu i gyflawni ein huchelgeisiau ar gyfer Cymru. Fodd bynnag, nid trethi yw'r unig ateb ac nid yw'n ateb i bob problem; maent yn rhan o dirwedd ehangach o ddulliau rheoliadol a dulliau eraill sy'n cael eu hystyried ar gyfer newid ymddygiad, ac nid ydynt yn unig opsiwn ar gyfer gwneud gwelliannau mewn perthynas â'r problemau a grëwyd gan wastraff plastig.

Fel y mae'r gwelliant yn ei argymell, byddwn yn parhau i archwilio'r potensial ar gyfer trethi ar blastig tafladwy, ac yn bwysicaf oll, yn ganolog i'r ymagwedd a fabwysiadir yng Nghymru, bydd sicrhau y cymerir y camau cywir ar wella rôl Cymru yn arwain yr agenda gwastraff. Mae Llywodraeth Cymru yn pryderu am y niwed amgylcheddol a achosir gan hancesi gwlyb a ffyn cotwm ac yn croesawu adroddiad Water UK. Mae angen gwneud gwaith mwy manwl ar archwilio'r opsiynau deddfwriaethol y gall y Cynulliad Cenedlaethol fwrw ymlaen â hwy i fynd i'r afael â'r broblem hon yng Nghymru. Bydd Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen â hyn y flwyddyn nesaf ac yn gweithio gyda Llywodraeth y DU a'r diwydiant dŵr ar ddatblygu opsiynau ymarferol.

16:55

Diolch yn fawr, Lywydd. Wel, mae wedi bod yn ddadl ddiddorol, addysgiadol a buddiol, ac mae UKIP wedi cyflwyno'r ddadl hon mewn ysbryd o gonsensws ar yr adeg hon o'r flwyddyn, pan ddylai ysbryd ewyllys da ymledu drwy bawb ohonom, ac ymddengys ei fod wedi gwneud hynny. Er na allwn dderbyn y gwelliannau i gyd, rydym o leiaf wedi llwyddo i osgoi'r 'dileu popeth', sydd fel arfer yn y rhagymadrodd i'r holl welliannau a gyflwynir i'n cynigion ni. Felly, gallaf groesawu hynny, o leiaf. Yn yr oes pan oeddwn yn tyfu fyny yn fachgen bach, nid oeddem yn taflu llawer o wastraff wrth gwrs; cefais dy nysgu bob amser i beidio â gadael unrhyw beth ar ôl ar fy mhlât, felly nid oeddem yn arllwys braster i lawr y sinc, na dim byd felly. Problemau bywyd modern ac economi sy'n datblygu yw'r rhain.

Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran yn y ddadl, a diolch i Llyr Gruffydd am y wybodaeth mai Llanelwy yw prifddinas Cymru mewn perthynas â charthffosydd wedi blocio, ac roedd hynny'n sicr yn newydd i mi. Ond mae'n dangos maint y broblem, rwy'n credu—gall hyd yn oed lle bach fel Llanelwy gael problem fawr o'r math hwn. Rwy'n sicr o dynnu sylw Nick Ramsay at broblem rhoi hancesi gwlyb ar gyfer babanod i lawr y toiled ac ati, gan fy mod yn credu y gall ddangos y ffordd ymlaen ar ei aelwyd ei hun, ac felly i weddill Cymru. Ond cyfeiriodd Llyr Gruffydd, yn ystod ei araith, at gyfarwyddeb yr UE, ac roeddwn yn synhwyro rhyw fath o gellwair yn y ffordd y siaradodd am hynny, fel pe na ddylai UKIP gefnogi unrhyw beth y mae'r UE o'i blaid. Ond wrth gwrs, nid ydym yn erbyn popeth a wna'r UE, dim ond ein bod am ei wneud ein hunain, ac fel y dywedodd yn briodol, byddem yn gallu rhoi ein camau ein hunain ar waith yng Nghymru, os a phan fyddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd , a byddai UKIP yn cefnogi cam o'r fath yn frwd.

Gwnaeth Andrew R.T. Davies bwynt da, rwy'n credu, nad ydym yn meddwl am y broblem hon am ei bod yn anweledig i raddau helaeth, mae hi o dan ein traed—neu ei heffeithiau, beth bynnag: datblygiad tomenni braster mewn carthffosydd ac ati—hyd nes yr amlygir y broblem gan yr angen i ddadflocio'r carthffosydd ac felly, y gwaith ffordd a'r gwaith cloddio sydd ei angen i wneud hynny. Ac mae'n amserol, felly, i ni gael y ddadl hon. Tynnodd sylw at yr hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud yn y cyswllt hwn hefyd, ac y dylai unrhyw beth sy'n ailgylchadwy gael ei ailgylchu, ond mae'r dyddiad targed o 2042 i'w weld yn bell i ffwrdd—byddaf yn 93 bryd hynny, os byddaf yn goroesi cyhyd—a thybed a yw'r amserlen honno ychydig yn rhy araf o bosibl.

Hoffwn ddiolch i John Griffiths hefyd am ei gyfraniad yn y ddadl heddiw. Er ei fod yn anfwriadol, o leiaf fe lwyddodd i ysgafnhau'r pwyntiau yr oeddem yn eu cyflwyno. Gwnaeth Michelle Brown rai pwyntiau diddorol iawn hefyd. Roedd gennyf ddiddordeb, yn arbennig, yn y ffigurau a gynhyrchodd gan y Gymdeithas Cadwraeth Forol—fod yna 14 o hancesi gwlyb ar bob 100m o arfordir, a bod hynny'n dangos cynnydd o 700 y cant mewn 10 mlynedd. Os na wneir unrhyw beth am hyn, yn amlwg bydd cyfradd y cynnydd yn parhau. Ond rwy'n cytuno â hi, ac yn wir, gydag Andrew R.T. Davies, efallai nad treth yw'r ffordd orau o ymdrin â'r broblem, ac yn benodol, pa mor effeithiol y gall fod? Os yw'r eitemau a fydd yn cael eu trethu yn gymharol rad mewn gwirionedd, byddai angen iddo fod yn gynnydd sylweddol o ran treth i gael unrhyw effaith ar ymddygiad pobl, a byddai hynny'n effeithio'n fwyaf dramatig ar bobl ar incwm isel, sy'n rhywbeth y dylem oll ei gofio pan fyddwn yn argymell trethi i geisio newid ymddygiad. Rhaid inni bwyso a mesur y buddiannau sy'n cystadlu ac sy'n gwrth-ddweud ei gilydd. Rwy'n credu bod Hannah Blythyn wedi bod yn deg iawn, fel y Gweinidog, a byddaf yn sicr yn cofio un ymadrodd yn ei haraith, beth bynnag, mai pi-pi, papur a pw-pw yw'r unig bethau y dylem eu rhoi i lawr y toiled. Credaf fod hynny'n perthyn i'r categori 'gormod o wybodaeth', ond efallai ei bod hi'n iawn ei bod wedi cynnwys un ymadrodd cofiadwy o leiaf yn y ddadl heddiw.

Felly, rwy'n credu y bydd pawb yn cytuno bod hwn wedi bod yn archwiliad defnyddiol o'r mater, ac mae'n ddrwg gennyf na all y Llywodraeth fod yn fwy beiddgar yn ei dyheadau, oherwydd nid yw'n ymddangos i mi fod dileu ein cynnig, sy'n galw ar Lywodraeth Cymru i ehangu gwaith ar gyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr y tu hwnt i fwyd a diod i gynnwys eitemau traul fel hancesi gwlyb a ffyn cotwm ynddo'i hun yn ddyhead dadleuol, ac nid yw nodi gwaith y Llywodraeth ar archwilio opsiynau yn mynd yn ddigon pell mewn gwirionedd. Felly, wrth gwrs, ni allwn gefnogi gwelliant 2, am nad yw'n ddigon beiddgar. Mae yna broblem gydag allanoldebau sy'n galw am sylw, a'r Llywodraeth yw'r lle gorau i wneud hynny.

Felly, ar y nodyn hwnnw, credaf fy mod am dddirwyn fy sylwadau i ben. A dyma'r tro olaf y byddaf yn siarad yn y Cynulliad cyn y Nadolig, felly hoffwn ddymuno Nadolig llawen a blwyddyn newydd dda i bawb.

17:00

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais, felly, tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

9. Cyfnod Pleidleisio (Busnes y Cynulliad)

Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno i fi ganu'r gloch, rydw i'n symud i'r bleidlais a'r bleidlais ar y ddadl ar rwystrau carthffosydd gan UKIP. Rydw i'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Gareth Bennett. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 35 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi'i wrthod.

NDM6898 - Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig - Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 15, Yn erbyn: 35, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Sy'n dod â ni at welliant 1. Galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 39, neb yn ymatal, 11 yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 1.

NDM6898 - Gwelliant 1: O blaid: 39, Yn erbyn: 11, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Gwelliant 2. Pleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 50, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 2.

NDM6898 - Gwelliant 2: O blaid: 50, Yn erbyn: 0, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Gwelliant 3. Galwaf am bleidlais ar welliant 3, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 35, 11 yn ymatal, pedwar yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 3.

NDM6898 - Gwelliant 3: O blaid: 35, Yn erbyn: 4, Ymatal: 11

Derbyniwyd y gwelliant

Sy'n dod â ni at bleidlais ar y cynnig wedi'i ddiwygio.

Cynnig NDM6898 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi adroddiad Water UK ar ei astudiaeth ynghylch hancesi gwlyb yn blocio carthffosydd.

2. Yn gresynu at y ffaith y ceir tua 2,000 o rwystrau mewn carthffosydd bob mis ledled Cymru ac yr achosir llawer ohonynt gan bobl yn fflysio eitemau traul fel ffyn cotwm a hancesi gwlyb i lawr y toiled.

3. Yn nodi gwaith Llywodraeth Cymru gyda chwmnïau dŵr er mwyn pwyso a mesur opsiynau ar gyfer mynd i’r afael â’r broblem lle y mae defnyddiau traul yn achosi i doiledau flocio.

4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i ddeddfu ar gyfer profi cynhyrchion fel hancesi gwlyb a ffyn cotwm ar sail rheoleiddiol; ac os bydd cynhyrchion o'r fath yn methu prawf newydd y diwydiant dŵr i weld a ellir eu fflysio, rhaid i gynhyrchwyr becynnu'r cynhyrchion hynny gyda logo clir, trawiadol ac amlwg sy'n nodi na ellir eu fflysio.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio ar y cyd â Dŵr Cymru ac asiantaethau eraill i wella ymwybyddiaeth y cyhoedd o ran defnyddiau traul er mwyn lleihau rhwystrau yn y system garthffosiaeth.

6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio’r posibiliadau o ddefnyddio trethi newydd i leihau’r defnydd o defnyddiau traul.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 46, pedwar yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig wedi'i ddiwygio.

NDM6898 - Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig - Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 46, Yn erbyn: 0, Ymatal: 4

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

17:05
10. Dadl Fer: Cyfraith Lucy: Yr ymgyrch i wella lles anifeiliaid drwy wahardd gwerthu a bridio cŵn bach a chathod bach gan siopau anifeiliaid anwes a'r holl werthwyr trydydd parti masnachol

Yr eitem nesaf fydd y ddadl fer, os caf i alw ar i bawb adael y Siambr yn dawel ac yn gyflym.

A wnewch chi adael y Siambr yn dawel os gwelwch yn dda? Galwaf y ddadl fer, i'w chyflwyno gan Andrew R.T. Davies.

Diolch i chi, Lywydd. Mae'n bleser gennyf gyflwyno'r ddadl fer heno. Rwy'n gwneud yn siŵr i weld a yw ffôn John ymlaen neu wedi'i ddiffodd ar gyfer fy nghyfraniad olaf. Mae'n bleser gennyf hefyd roi munud o fy amser i Angela Burns a Bethan ar ddiwedd fy nghyfraniad. Ac i dynnu sylw at bwysigrwydd y ddadl hon, byddwn yn cael cyflwyniad fideo byr ar ryw bwynt, pan ddaw'r setiau teledu ymlaen. Ond yn gyntaf ac yn bennaf, gadewch imi ymddiheuro i'r Aelodau am eu cadw oddi wrth eu partïon Nadolig—gwn fod y rhan fwyaf o'r grwpiau'n anelu tuag at eu partïon Nadolig heno.

Fodd bynnag, rwy'n falch iawn o gyflwyno'r ddadl go amserol hon, yn enwedig cyn cyfnod y Nadolig pan gawn ein hatgoffa mor aml am slogan enwog yr Ymddiriedolaeth Cŵn fod ci am oes, ac nid am y Nadolig yn unig. I'r rhai ohonoch nad ydych yn gwybod am ymgyrch cyfraith Lucy, cafodd hon ei hysbrydoli gan darfgi Siarl o'r enw Lucy. Dioddefodd yn sgil y system ffermio cŵn bach a'i defnyddio ar gyfer bridio am flynyddoedd lawer heb unrhyw ystyriaeth i'w hiechyd na'i lles. Y grym ysgogol sy'n sail i gyfraith Lucy yw'r alwad am waharddiad ar unwaith ar werthu cŵn gan siopau anifeiliaid anwes a gwerthwyr masnachol trydydd parti eraill sy'n cymryd rhan yn y fasnach hon er mwyn gwneud elw. Masnachwyr yw gwerthwyr trydydd parti, pobl nad ydynt yn bridio'r cŵn a'r cathod bach ac sy'n gweithredu fel rhyngfasnachwyr rhwng y bridwyr a'r cyhoedd sy'n prynu. Cafodd cyfraith Lucy ei hysgogi gan grŵp angerddol o ymgyrchwyr ac mae wedi denu cefnogaeth a sylw pobl ar draws y wlad, gan gynnwys gwleidyddion a llawer o enwogion proffil uchel, megis Ricky Gervais, Brian May a Rachel Riley.

Fel rhywun sydd wrth fy modd â chŵn—mae gennyf ddau gartref ar y ransh ym Mro Morgannwg—mae'n ymgyrch sy'n bendant wedi dal fy sylw, ac rwyf mor falch o fod yn gysylltiedig â hi, a hefyd o fod wedi cyfarfod â Linda Goodman a grŵp C.A.R.I.A.D., sy'n credu mewn gofal a pharch i bob ci yn ddiwahân. Hoffwn roi clod hefyd i'r holl wirfoddolwyr sydd wedi cymryd rhan yn yr ymgyrch hon ar lawr gwlad, ac sydd wedi gweithio mor ddiflino i sicrhau bod y mater ar yr agenda i gynifer o bobl. Yn wir, mae'r ddeiseb sydd gerbron Pwyllgor Deisebau'r Cynulliad Cenedlaethol yn brawf o lwyddiant yr ymgyrch, ac mae wedi denu nifer sylweddol iawn o lofnodion. Mae dros 9,000 o bobl wedi ei llofnodi hyd yn hyn, ac roeddem yn ffodus wrth gwrs i gael C.A.R.I.A.D. wedi'i lansio yma yn y Senedd y llynedd.

Yn ddi-os mae cyfraith Lucy wedi cipio calonnau cymaint o bobl ledled y wlad, ac mae'r fideo byr hwn i'r Aelodau yn rhoi cipolwg ar yr ymgyrch wrth inni fynd ati i geisio atal cathod a chŵn bach rhag cael eu defnyddio fel peiriannau bridio yma yng Nghymru. [Torri ar draws.] Ar y gair.

Dangoswyd cyflwyniad clyweledol i gyd-fynd â’r drafodaeth.

Cyflwyniad clyweledol.

Daeth Suzy Davies i’r Gadair.

Yn anffodus, mae Cymru bellach wedi cael enw fel man lle ceir llawer o'r arferion ffiaidd hyn, gyda nifer sylweddol o ffermydd cŵn bach wedi'u lleoli yn siroedd Caerfyrddin a Cheredigion. Mewn gwirionedd, yn ardal wledig de-orllewin Cymru y ceir y crynodiad mwyaf yn y Deyrnas Unedig o fridwyr cŵn masnachol, ac mae'n ffaith adnabyddus anffodus fod yr ardal honno wedi bod yn cynhyrchu llif o gŵn bach mewn amodau ofnadwy. Mae bridwyr anghyfrifol yn cyfrannu at ddechrau cythryblus mewn bywyd i lawer o anifeiliaid anwes, lle mae swm yr allbwn yn aml yn cael mwy o flaenoriaeth na lles, ac mae hyn yn arwain at broblemau iechyd difrifol a diffyg cymdeithasoli i gŵn a chathod bach. Mae cŵn yn mynd trwy gyfnod hollbwysig o ran cymdeithasoli rhwng pump a 12 wythnos oed, ac mae llawer yn cael anhawster i ymdopi â bywyd fel anifail anwes os nad ydynt wedi'u cyflwyno i'r profiadau yn y cyfnod hwn, gofyniad sy'n anodd iawn ei gyflawni o fewn amgylchedd siop.

Mae'r farchnad fasnachol mewn cathod bach ychydig yn wahanol i'r fasnach gŵn bach. Mae mwyafrif helaeth y gwerthiannau trydydd parti o gathod bach yn digwydd o siopau anifeiliaid anwes ffisegol ar y stryd fawr. Nid yw bridio cathod, yn wahanol i fridio cŵn, wedi'i reoleiddio, a gall siopau anifeiliaid anwes fod yn amgylchedd amhriodol ar gyfer cathod bach. Nid yw cathod ifanc a werthir mewn siopau anifeiliaid anwes bob amser yn cael digon o le, amgylchedd priodol na chorlan wedi'i chynllunio'n briodol, tymheredd cyfforddus, nac yn cael gofal milfeddygol angenrheidiol a phrofiadau cyfoethogi.

Fel bron bob agwedd arall ar fywyd modern, mae'r rhyngrwyd mewn llawer o ffyrdd wedi hybu'r fasnach erchyll hon, ac wedi dod yn ffenestr siop a ddewisir ar gyfer hysbysebu anifeiliaid anwes ifanc i gael cartref newydd gan ddarpar berchnogion. Yn 2017 yn unig, postiwyd bron 35,000 o hysbysebion ar gyfer cŵn a chathod, ac felly gall masnachwyr heb drwydded, ac felly, heb eu harolygu, werthu cŵn a chathod bach ac anifeiliaid eraill heb unrhyw archwiliadau. Mae ymgyrch cyfraith Lucy wedi bod yn lobïo gwleidyddion o bob lliw yn egnïol i weithredu gwaharddiad, ac mae'n anelu i fynd beth o'r ffordd tuag at ddileu marchnad sy'n dibynnu ar ffermydd cŵn bach, ac yn cael eu cynnal ganddynt, ar draws y DU, Iwerddon ac Ewrop. Byddai gwaharddiad o'r fath yn helpu i ddileu'r niwed corfforol a seicolegol anochel a achosir drwy werthu cŵn a chathod bach i fannau sydd gannoedd o filltiroedd o'r man geni. Byddai gwaharddiad ar werthiannau masnachol trydydd parti yn gyfystyr â gofyniad cyfreithiol mai bridwyr yn unig a allai werthu cŵn bach fel busnes. Ni fyddai'n effeithio ar weithgareddau nad ydynt yn rhai masnachol, gan gynnwys ailgartrefu cŵn a chathod bach drwy elusennau a llochesi, gan na wneir hynny er elw. Ni fyddai dim yn newid yno.

Ac fel Ceidwadwr, roeddwn yn falch iawn o weld Llywodraeth y DU yn arwain ar hyn wrth gwrs, yn gyntaf ym mis Chwefror gyda'i galwad gyntaf am dystiolaeth, ac yn ail ym mis Awst, pan gyhoeddodd Michael Gove ymgynghoriad ar y gwaharddiad arfaethedig ar werthu cŵn a chathod bach yn fasnachol drwy drydydd parti. Yn amlwg, gyda lles anifeiliaid wedi'i ddatganoli fel cyfrifoldeb i'r sefydliad hwn, cyhoeddiad a oedd yn ymwneud â Lloegr yn unig oedd hwn, ac mae'n hanfodol fod Cymru'n dilyn eu hesiampl. Felly, roeddwn yn falch o glywed Ysgrifennydd y Cabinet yn ymrwymo wythnos neu ddwy yn ôl i lansio ymgynghoriad tebyg. Roedd yn gam i'w groesawu ac mae'n hanfodol ein bod yn bwrw ymlaen â hyn, gan fod lles anifeiliaid yn un o'r materion sy'n codi ei ben yn barhaus ym mlychau post yr Aelodau. Yn wir, prin fod cyfnod yn y flwyddyn pan nad oes rhyw broblem sylweddol yn ymwneud â lles anifeiliaid wedi dal dychymyg y cyhoedd, ac fel sefydliad, rydym yn awr mewn man lle gallwn weithredu ar y pryderon hynny a mynd i'r afael â hwy drwy weithredu deddfwriaeth.

Mae'r Cynulliad, a Llywodraeth Cymru yn ei thro, bellach yn arfer amrywiaeth eang o gyfrifoldebau a phwerau mewn perthynas â deddfwriaeth a rheoliadau yn y maes hwn, ac yn enwedig pan fyddwch yn ei gymharu â lle'r oeddem 20 mlynedd yn ôl. Fel Cynulliad, ac fel Llywodraeth, mae'n hollbwysig fod Cymru'n manteisio ar y dulliau hyn ac yn eu defnyddio'n effeithlon, yn rhagweithiol ac yn ddychmygus i sicrhau bod ein henw da fel cenedl sy'n malio am anifeiliaid yn cael ei ddiogelu. Oherwydd gadewch inni fod yn onest—mae gennym broblem gyda gweithgareddau megis ffermio cŵn bach yma yng Nghymru. Yn wir, mae gwaharddiad ar weithgarwch gwrthun o'r fath yn gwneud synnwyr perffaith o safbwynt diogelu anifeiliaid, a byddai'n welliant amlwg ar y sefyllfa bresennol, gyda llawer mwy o bobl a grwpiau'n gallu gorfodi gwaharddiad—nid awdurdodau lleol yn unig, ond yr RSPCA a'r heddlu hefyd. Mae nifer o grwpiau anifeiliaid, megis yr Ymddiriedolaeth Cŵn a Diogelu Cathod yn cefnogi gwaharddiad, a dylai fod yn llawer haws ac yn llawer rhatach na system drwyddedu wedi'i thagu gan fiwrocratiaeth a diffyg adnoddau.

Mae gwrthwynebwyr y dull hwn o weithredu yn aml yn cyfeirio at y gred y byddai'r gwaharddiad yn gorfodi'r fasnach i fynd yn danddaearol, ond rhaid imi ddweud mai ffolineb yw hynny. Mae'r syniad y byddai darpar berchnogion anifeiliaid anwes cariadus yn mynd ati i chwilota drwy'r we dywyll yn hynod o anhebygol, ac mewn byd cwbl wahanol i'r cymariaethau a wneir ag unigolion sy'n chwilio am ynnau, cyffuriau neu arfau ar y we dywyll ddofn. Yn fy marn i, mae gwaharddiad yn gam cyntaf hanfodol tuag at roi diwedd ar yr arfer hwn o ffermio cŵn neu gathod bach am elw, gyda fawr o sylw, os o gwbl, i'w lles neu eu haddasrwydd i fod yn anifeiliaid anwes i deuluoedd. Mae straen, risg gynyddol o glefyd, arferion bridio gwael a thactegau gwerthu anghyfrifol oll yn gysylltiedig â dulliau gwerthu trydydd parti. A chadarnhawyd wrthyf pa mor bwysig yw rhoi camau o'r fath ar waith ar ymweliad diweddar â Cartref Cŵn Caerdydd. Mae'n gartref cŵn sydd wedi ennill gwobrau wrth gwrs, ond ni allwch help ond cael eich cyffwrdd gan wynebau'r anifeiliaid sydd eisiau cwmnïaeth a chartref cariadus. Yn wir, ar yr ymweliad hwnnw, cefais wybod y ceir oddeutu 9 miliwn o gŵn ledled y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd—mwy na digon i ddiwallu'r galw. Nid oes angen y gweithgarwch masnachol ychwanegol hwn o gwbl.

Ac i gloi, i mi, mae'n hanfodol gweithredu cyfraith Lucy yng Nghymru os ydym yn mynd i oresgyn y niwed a wnaed i enw da Cymru, sy'n parhau i gael ei chydnabod fel canolbwynt ffermio cŵn bach yn y Deyrnas Unedig. Mae hynny'n anghywir, ac mae'n straen annerbyniol ar ein cenedl wych o bobl sy'n caru anifeiliaid.

Bydd gwaharddiad ar werthiannau trydydd parti yn sicrhau bod anifeiliaid anwes annwyl y wlad yn cael y dechrau iawn mewn bywyd ac na fydd modd i bobl sy'n diystyru lles anifeiliaid anwes yn llwyr elwa o'r fasnach ddiflas hon mwyach. Rwy'n talu teyrnged i ymgyrch cyfraith Lucy, dan arweiniad Pup Aid, C.A.R.I.A.D. a'r grŵp gweithredu ar gŵn—Canine Action UK—sydd wedi ymladd mor ddiflino yn yr ymgyrch hon.

Dylai Cymru arwain y ffordd mewn perthynas â lles anifeiliaid. Nid oes dim i'n hatal rhag bod yn genedl fwyaf cyfeillgar y byd tuag at anifeiliaid. Ac fel cam cyntaf yn y crwsâd hwn, rwy'n erfyn ar bob Aelod i gefnogi'r ymgyrch ardderchog a gwerthfawr hon.

17:15

Diolch i Andrew R.T. Davies am gyflwyno'r ddadl bwysig hon ac am bwysigrwydd cyfraith Lucy, sy'n un o'r prif resymau pam y gelwais am gofrestr cam-drin anifeiliaid ar gyfer Cymru, oherwydd gwyddom ein bod am geisio sicrhau bod anifeiliaid yn cael eu hamddiffyn, a chredaf y byddai hon wedi bod yn ffordd glir ymlaen, ond nid oedd Ysgrifennydd y Cabinet eisiau datblygu'r syniad hwnnw. Rwyf wedi cyfarfod â Diogelu Cathod yn ddiweddar, ac maent yn galw am reoleiddio gweithgaredd bridio cathod neu nifer y toreidiau a fegir bob blwyddyn, er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu bridio gyda safonau lles da. Ceir nifer o achosion o glefydau genetig ymhlith rhai cathod pedigri sy'n cael eu bridio, a byddai strategaeth ataliol yma yng Nghymru yn sicrhau ein bod yn hyrwyddo lles cathod, a byddem wedyn yn hyrwyddo camau gweithredu cadarnhaol yn y maes penodol hwn.

Cefais fy synnu wrth glywed bod rhai siopau anifeiliaid anwes yn annog bridio anghyfrifol oherwydd eu bod yn hysbysebu eu bod yn prynu cathod bach a bod pobl felly'n mynd ati i fridio cathod bach i'w gwerthu am arian. Felly, rwy'n credu bod angen rhoi diwedd ar y mathau hyn o weithgareddau ac mae angen inni gefnogi mudiadau fel Diogelu Cathod ac eraill y mae Andrew R.T. Davies eisoes wedi'u crybwyll yma heddiw, er mwyn cefnogi lles anifeiliaid yma yng Nghymru ac i sicrhau ein bod yn gwneud cymaint ag y gallwn dros anifeiliaid yma yng Nghymru.

Hoffwn ddiolch i Andrew am gyflwyno'r ddadl. Mae ein cyfeillgarwch â chŵn wedi parhau ar draws y milenia ac nid dyma'r ffordd i'w trin. Yn fy etholaeth i, Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, mae'n ofid dweud bod lefelau bridio cŵn bach yn uwch nag erioed, ac rwyf wedi bwrw iddi i greu cysylltiad personol gyda rhai o'r bobl sy'n gwneud hyn. Ac rwyf wedi bod mewn ffermydd cŵn bach, lle bydd y perchennog yn dweud eu bod yn credu eu bod yn gwneud gwaith da. Ac fel rhywun sy'n hoff o anifeiliaid anwes, rwy'n cerdded i mewn yno ac mae fy nghalon yn stopio, oherwydd rydych yn sôn am gŵn mewn cewyll bach iawn a disgwyl iddynt atgenhedlu, atgenhedlu, atgenhedlu'n gyson. Nid yw'n unrhyw fath o fywyd i'r cŵn bach—fel y dywedodd Andrew, nid ydynt yn cymdeithasoli—nid yw'n unrhyw fath o fywyd i'r geist sy'n bridio, nac yn wir i'r cŵn sy'n bridio.

Ond mae'n ymwneud â mwy na'r ffermydd cŵn bach yr ymwelais â hwy. Euthum hefyd dan gêl—gwn nad wyf yn un hawdd i'w chuddio—i un ffiaidd, ac ni allaf ddweud wrthych faint o sioc ac arswyd a deimlais pan euthum yno. Ysguboriau â thyllau ynddynt, yr adfeilion, y sbwriel, y budreddi, y drewdod—roedd yn hollol warthus. Ac mae'r cŵn bach sâl hynny bellach yn mynd i gael eu gwerthu i deulu yn rhywle sy'n mynd i'w prynu heb amau dim.

A'r pwynt olaf yr hoffwn ei wneud, Ysgrifennydd y Cabinet, wrth gwrs, yw mewnforio. Oherwydd rwyf hefyd wedi bod yn bresennol pan agorwyd carafán teithiwr a oedd newydd ddod oddi ar y fferi, ym Mhenfro. Fe'i hagorwyd ac roeddwn yn meddwl, 'O Dduw mawr, beth sydd ar y llawr?' Ac yna sylweddolais ei fod yn ferw o gŵn bach, ac maent yn cael eu mewnforio. A chânt eu mewnforio am eu bod yn gwneud arian a chânt eu mewnforio i guddio pethau eraill sy'n dod i mewn oddi tanynt.

Rhaid inni gael gwared ar yr arfer—mae'n greulon, mae'n annynol. Dylem fod yn well na hynny, ac mae gennym gyfle i fod. Ac yn anad dim, fe af yn ôl at yr hyn a ddywedais ar y dechrau—maent wedi dod, yng nghalon y genedl, yn un o'n ffrindiau gorau. Mae'r henoed yn troi atynt pan fyddant yn unig, mae'r plant yn troi atynt i dyfu i dyfu fyny gyda hwy fel cyfaill chwarae. Mae'r rhan fwyaf ohonom wedi cael profiad o gŵn a chathod. Maent yn anifeiliaid anwes, rydym wedi eu caru, rydym wedi dod â hwy i mewn i'n cartrefi—dylem eu trin fel teulu, nid fel hyn.

17:20

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig i ymateb i'r ddadl.

Member
Lesley Griffiths 17:20:09
Cabinet Secretary for Energy, Planning and Rural Affairs

Diolch yn fawr, Gadeirydd. Diolch i Andrew R.T. Davies am gyflwyno'r ddadl fer hon heddiw, ac i Bethan Sayed ac Angela Burns am siarad hefyd. Fel y cyfeiriodd Andrew, rwyf eisoes wedi cyhoeddi y bydd ymgynghoriad yn cael ei lansio ar y mater hwn yn gynnar yn y flwyddyn newydd, oherwydd credaf fod pob un o'r tri siaradwr yn hollol gywir, mae hyn yn rhywbeth y mae angen inni ei wneud.

Hoffwn egluro y bydd yr ymgynghoriad hwn yn ymwneud â gwerthiannau trydydd parti o gŵn a chathod bach. Andrew, soniasoch am fridio yn nheitl y ddadl, ond ni fyddai'r rhai sy'n bridio'r anifeiliaid yn werthwyr neu'n fasnachwyr trydydd parti, bridwyr fyddent, ac mae'n bwysig iawn egluro'r pwynt hwnnw. Credaf fod y ffaith bod y teitl ychydig yn anghywir yn tynnu sylw at gymhlethdodau gwirioneddol y mater hwn. 'Cymru i wahardd gwerthu cŵn a chathod bach gan werthwyr trydydd parti masnachol'—credaf fod hynny'n swnio'n wych, ond mae cymaint o ffactorau i'w hystyried yn y broses hon. Byddai'n ffôl mynd ar drywydd yr un pennawd hwnnw, oherwydd rwy'n credu y gallwn wneud yn well yma yng Nghymru.

Nid oes dim yn atal symud anifeiliaid anwes a fagwyd yng Nghymru i rannau eraill o'r DU ac i'r gwrthwyneb. Felly, pe baem yn edrych ar un cam yn y gadwyn yn unig, rwy'n credu y byddem yn colli cyfle mewn gwirionedd i sicrhau newid parhaol ac effeithiol iawn. Rhaid inni hefyd sicrhau na pheryglir lles anifeiliaid mewn sefydliadau bridio o ganlyniad i unrhyw newidiadau da eu bwriad. Mae'r broses ymgynghori yn gwbl allweddol i hyn, ac nid wyf am achub y blaen ar ei chanlyniadau drwy drafod manylion hynny heddiw. Bydd yr ymgynghoriad yn ceisio barn ac yn gofyn am dystiolaeth i'n helpu i greu darlun llawn o gadwyn gyflenwi cŵn a chathod bach, lle ceir pryderon o ran lles yn y gadwyn, a hefyd sut y gallai newid polisi neu ddeddfwriaeth ddatrys y pryderon hynny.

Felly, fel rwy'n dweud, nid wyf am ddyfalu i ba gyfeiriad y bydd y broses ymgynghori yn ein harwain. Nid wyf am ddiystyru unrhyw opsiynau sydd ar gael i ni, ac rwyf wedi dweud yn glir iawn fy mod wedi ymrwymo i fynd i'r afael â'r pryderon sy'n gysylltiedig â gwerthiannau trydydd parti. Rwy'n ymrwymedig i hyn a gallaf ddweud heddiw y caiff yr ymgynghoriad 12 wythnos ei lansio ar 22 Chwefror, i sicrhau pob Aelod mai dyna y byddwn yn ei wneud. Rwy'n annog yr Aelodau o ddifrif i sicrhau bod eu hetholwyr yn cyflwyno eu hymatebion i'r ymgynghoriad.

Fel Llywodraeth, rydym hefyd yn gweithio gydag elusennau a mudiadau lles, felly rwy'n meddwl o ddifrif eich bod yn gwthio wrth ddrws agored. Fel y dywedoch chi, Andrew, rydym wedi gweld lobïo trawsbleidiol ar hyn. Roeddwn yn falch iawn o siarad mewn digwyddiad a gynhaliwyd gan Eluned Morgan ynglŷn â chyfraith Lucy yn gynharach eleni. Credaf eich bod yn gywir, gallwn wneud yn well na hyn, mae'r bag post iechyd a lles anifeiliaid yn un sydd bob amser yn llawn i ni fel ACau, ar nifer o bynciau gwahanol. Felly, byddwn yn lansio'r ymgynghoriad, fel rwy'n dweud, ar 22 Chwefror, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr iawn at gyflwyno gwaharddiad, gobeithio—nid wyf am achub y blaen ar yr ymgynghoriad, ond rwy'n cytuno ei fod yn rhywbeth y mae angen inni fod yn gyfan gwbl o ddifrif yn ei gylch yma yng Nghymru.

Diolch yn fawr, daw hynny â thrafodion heddiw i ben. A gaf i ddymuno Nadolig llawen a blwyddyn newydd dda i chi i gyd? Mwynhewch. 

Daeth y cyfarfod i ben am 17:23.