Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Plenary - Fifth Senedd
05/12/2018Cynnwys
Contents
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Galw'r Aelodau i drefn.
Mae heddiw yn nodi achlysur arbennig yn hanes ein Senedd ni. Ac wrth i ni edrych ymlaen at ddathlu 20 mlynedd ers ethol y Cynulliad cyntaf, yn 1999, rwy’n falch o gyhoeddi bod y lle hwn ar fin dod yn gartref i senedd arall gyffrous—ein Senedd Ieuenctid gyntaf erioed. Dyma benllanw misoedd lawer o waith gan fudiadau, ysgolion, a thîm Senedd Ieuenctid ymroddgar y Cynulliad yma, ac mae ein dyled yn fawr i bawb a sicrhaodd fod y prosiect arloesol hwn yn ffynnu. Dros 450 o ymgeiswyr ifanc, a bron i 25,000 o etholwyr wedi eu cofrestru, a chynrychiolaeth o bob cwr o Gymru—mae'r ystadegau yn adrodd eu llwyddiant.
Dyma gyfle euraid i ennyn diddordeb y genhedlaeth nesaf, ac rwy'n hyderus y bydd y seneddwyr ifanc hyn yn lladmeryddion gwych ar gyfer y materion sydd o bwys i bobl ifanc Cymru. Felly, rwy'n falch o gyhoeddi aelodau cyntaf erioed Senedd Ieuenctid Cymru, sy'n cynrychioli etholaethau a sefydliadau partner ledled y wlad.
Dyma'r 60 enw.
Dyma enwau’r seneddwyr ifanc.
O'r gogledd—North Wales: Evan Burgess, Nia Griffiths, Brengain Glyn Williams, Talulah Thomas, Harrison James Gardner, Thomas Comber, Ifan Price, Abbey Carter, Jonathon Dawes, Jonathan Powell, Ifan Wyn Erfyl Jones, Grace Barton, Hasna Ali, Katie June Whitlow.
O'r canolbarth a'r gorllewin—Mid and West Wales: Arianwen Fox-James, Marged Lois Campbell, Cai Thomas Phillips, Caleb Rees, Megan Carys Davies, Rhys Lewis, Ellie Murphy.
O'r de-ddwyrain—South Wales East: Calen Jones, Aled Joseph, Gwion Rhisiart, Betsan Roberts, Rhian Shillabeer, Manon Clarke, Ffion Griffiths, Tommy Church, Lloyd Mann, Charley Oliver-Holland, Finlay Bertram, Maisy Evans, Abby O’Sullivan, Luke Parker, Carys Thomas, Angel Ezeadum, Greta Evans, Chloe Giles, Abbie Cooper, Levi Rees.
Ac yn olaf, finally, de-orllewin Cymru—South Wales West. Croeso i: Kian Agar, Todd Murray, Eleri Griffiths, Ffion-Haf Davies, Eleanor Lewis, Laine Woolcock, Efan Rhys Fairclough, Alys Hall, Ruth Sibayan, Ubayedhur Rahman, Lleucu Haf Wiliam, Caitlin Stocks, Casey-Jane Bishop, Oliver Davies, Sandy Ibrahim, Nia-Rose Evans, Anwen Grace Rodaway, Sophie Billinghurst, a William Hackett.
Dyna nhw, felly. Llongyfarchiadau iddyn nhw oll.
Edrychwn ymlaen at eu croesawu i gyd i'r Senedd ar gyfer eu cyfarfod cyntaf ym mis Chwefror. [Cymeradwyaeth.]
Llongyfarchiadau, bawb. Bendigedig. Diolch yn fawr i'r Aelodau, a llongyfarchiadau i aelodau ein Senedd Ieuenctid ni.
Felly, dyma ni, ymlaen â busnes y dydd. Yr eitem gyntaf, felly, yw'r cwestiynau i Ysgrifenydd y Cabinet dros Gyllid, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Jenny Rathbone.
1. Yn sgil rhybuddion gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru am effaith toriadau i gyllid llywodraeth leol, pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cynnal gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus ynghylch diogelu gwasanaethau lleol? OAQ53050

Diolch i Jenny Rathbone am y cwestiwn. Rwy’n cynnal trafodaethau rheolaidd gyda fy holl gyd-Aelodau yn y Cabinet, gan gynnwys Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus. Ddydd Gwener yr wythnos diwethaf, er enghraifft, fe wnaethom fynychu cyfarfod o'r gweithgor llywodraeth leol ar y cyd, cyfarfod a fynychwyd hefyd gan aelodau o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ac eraill.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn amlwg, mae croeso mawr i'r arian ychwanegol a ddarparwyd yr wythnos diwethaf ar gyfer llywodraeth leol, ond o ran yr arian sy'n mynd i Gyngor Caerdydd, mae'n £1.5 miliwn yng nghyd-destun y ffaith bod Cyngor Caerdydd yn gorfod chwilio am doriadau posibl o £34 miliwn. Felly, mae'n parhau’n dirwedd heriol iawn i lywodraeth leol. Ac roeddwn yn meddwl tybed pa waith y gall y Llywodraeth ei wneud i sicrhau ein bod yn gwneud yn siŵr fod gwasanaethau cyhoeddus yn ymuno â'i gilydd i geisio diogelu’r gwasanaethau ataliol hyn sydd mor bwysig i les y gymuned.
A gaf fi gytuno â Jenny Rathbone, Lywydd, ei bod yn parhau’n adeg heriol iawn i bob gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru? Wedi naw mlynedd o gyni mae llywodraeth leol yn sicr yn y rhes flaen. Rwy'n ddiolchgar i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru am yr hyn a ddywedasant. Pan gyhoeddasom yr adnoddau ychwanegol ar gyfer cynghorau, dywedodd CLlLC ei hun fod y cyhoeddiad yn arwydd o gynnydd sylweddol ac yn arddangos yr ymdrech gyfunol sydd ar y gweill i wrthbwyso effaith cyni yng Nghymru. Byddwn yn parhau i weithio gyda'n cymheiriaid llywodraeth leol i gryfhau'r ffordd y gallant weithredu ar y cyd ac yn rhanbarthol, ac i ddarganfod ffyrdd o symud arian ymhellach i fyny, fel ein bod yn gwario arian ar atal problemau rhag digwydd, yn hytrach na gorfod ymateb ar ôl i'r niwed gael ei wneud.
Fel y gwyddoch, Ysgrifennydd y Cabinet, mae’r holl awdurdodau lleol yn fy ardal yn cael eu harwain gan y Blaid Lafur, ac maent hwy hyd yn oed yn dechrau dweud na ellir diogelu ysgolion a gofal cymdeithasol, gydag un ohonynt yn dweud hyd yn oed na all Llywodraeth Cymru barhau i ddefnyddio cyni fel esgus dros beidio â chaniatáu i lywodraeth leol ddarparu gwasanaethau hanfodol i’r holl etholwyr. Gyda'r sylw hwnnw mewn cof, tybed a allwch ddweud wrthyf a ydych wedi trafod gyda'r cynghorau yn fy rhanbarth, yn uniongyrchol eich hun, ynglŷn ag a fyddai newidiadau i'r fformiwla ariannu yn gwneud gwahaniaeth. Ac yn y cyfamser, a ydych wedi trafod unrhyw ffyrdd penodol y gallant ddiogelu'r cyllidebau hynny ar yr arian rydych wedi'i roi iddynt eleni a'r flwyddyn nesaf. Ac os nad ydych wedi cael cyfle i wneud hynny, os ydych yn Brif Weinidog ymhen ychydig wythnosau, sut y byddwch yn cyfarwyddo eich cyd-Aelodau i wneud hynny ar eich rhan?
Diolch i Suzy Davies. Rwy’n ei llongyfarch, wrth gwrs, am fod yr holl awdurdodau lleol yn ei hardal yn rhai a arweinir gan y Blaid Lafur, ac nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y byddant yn edrych ymlaen at gael Llywodraeth Lafur ar lefel y DU yn ogystal ag yma yng Nghymru, oherwydd dyna fyddai’n gwneud y gwahaniaeth mwyaf posibl i'w hamgylchiadau ariannol. Trafodwyd y fformiwla ariannu yn y cyfarfod a fynychais gydag Alun Davies ddydd Gwener yr wythnos diwethaf, gan gynnwys cynrychiolwyr o gynghorau yn ardal Suzy Davies. Rwy'n credu bod arweinwyr cynghorau’n cydnabod, yn y pen draw, fod y fformiwla ariannu’n tynnu sylw oddi ar y brif broblem. Mae'r fformiwla ariannu’n rhannu'r swm o arian sydd ar gael, ac mae’n eithriadol o anodd ei newid pan fo arian yn lleihau. Yr hyn y maent yn ei bwysleisio, ac rydym ninnau’n ei bwysleisio hefyd, yw bod angen i Lywodraeth y DU ddarparu cyllid priodol ar gyfer yr holl wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, fel mai maint y gacen sy'n tyfu yn hytrach na dadl ynglŷn â sut i rannu cacen sy’n lleihau.
Ysgrifennydd y Cabinet, pa asesiad a wnaethoch o ymchwil gan Brifysgol Caergrawnt, sy'n dangos bod toriadau i wariant ar wasanaethau gan gynghorau yn Lloegr, ar gyfartaledd, yn ddwbl yr hyn a welwyd yng Nghymru?
Diolch i Jane Hutt am y cwestiwn hwnnw. Cododd hyn yn ystod ein dadl ar y gyllideb ddrafft ddoe, gan dynnu sylw at y gwaith ymchwil gan Brifysgol Caergrawnt, a gyhoeddwyd fel y mae'n digwydd, fel y dywedais ddoe, ar yr un diwrnod ag y cyhoeddwyd y setliad dros dro ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru. Ac mae'n dangos yn bendant, fel y dywed yr adroddiad ei hun, fod Cymru a'r Alban wedi dilyn llwybr gwahanol o ran y ffordd y diogelwn wasanaethau lleol yma, a bod gennym, o fewn y cyfyngiadau a wynebwn, sy'n rhai real—ac nid yw ein gweithredoedd yn lliniaru'r holl anawsterau a wynebir gan awdurdodau lleol, rwy'n gwybod—ond o fewn y cyfyngiadau hynny, rydym wedi diogelu llywodraeth leol yng Nghymru rhag effeithiau gwaethaf naw mlynedd o gyni, tra bo llywodraeth leol yn Lloegr wedi cael ei thaflu i'r bleiddiaid.
2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella'r ddealltwriaeth o gyfraddau treth incwm Cymru? OAQ53047
Diolch i Lynne Neagle am y cwestiwn hwnnw. Ym mis Tachwedd, cafodd dros 2 filiwn o bobl yng Nghymru lythyr gan Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn nodi sut y bydd cyfraddau treth incwm Cymru'n gweithio. Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol, yn ychwanegol at waith CThEM, i helpu i esbonio'r newidiadau, ac rydym yn gweithio gyda CThEM a rhanddeiliaid i barhau i godi ymwybyddiaeth o'r cyfraddau Cymreig o dreth incwm yma yng Nghymru.
Diolch am yr ymateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n siŵr nad fi yw'r unig un o blith yr Aelodau yn y Siambr hon sy'n gorfod tawelu meddyliau etholwyr ar ôl iddynt gael y llythyr hwnnw gan CThEM nad oes unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd i godi treth incwm yng Nghymru, oherwydd mae'r llythyr wedi dychryn rhai o fy etholwyr i, yn sicr. Pa sicrwydd y gallwch ei roi i fy etholwyr nad oes unrhyw gynlluniau i godi treth incwm yng Nghymru? Ac er fy mod yn croesawu'r hyn rydych newydd ei ddweud am yr ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol, beth arall sy'n bosibl inni ei wneud i sicrhau y ceir dealltwriaeth dda o'n pwerau treth incwm newydd yng Nghymru?
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn atodol hwnnw. Rwy'n siŵr nad hi yw'r unig un sydd ag etholwyr yn gofyn ynglŷn â chyfraddau Cymreig o dreth incwm, ac mae'n dda iawn fod trigolion lleol yn troi at Aelodau'r Cynulliad am esboniad ynglŷn â'r newidiadau pwysig hyn. Rwy'n falch fod Lynne Neagle wedi gallu cynnig y sicrwydd pwysig y bydd aelodau o'i chymuned yn ei geisio—nad oes gennym unrhyw gynlluniau i godi cyfraddau treth incwm yng Nghymru y flwyddyn nesaf.
Rydym yn mynd ar drywydd pob ymholiad a gafodd Llywodraeth Cymru yn sgil llythyrau a anfonwyd at aelodau o'r cyhoedd. Gwn y bydd Lynne Neagle yn falch o wybod ein bod ni wedi cael llai na phump o alwadau ffôn a negeseuon e-bost i Lywodraeth Cymru yn uniongyrchol o ganlyniad i'r llythyr a aeth allan. Hyd yma, mae CThEM wedi cael 94 o alwadau mewn perthynas â'r llythyr hwnnw. Dyna ran fach iawn o'r 2 filiwn o lythyrau a anfonwyd. Ond byddwn yn ateb bob un, byddwn yn dysgu o'r cwestiynau y mae pobl yn eu gofyn i ni a bydd hynny'n bwydo i mewn i'r ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol y byddwn yn ei chynnal dros yr wythnosau nesaf.
Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych chi hefyd yn cytuno â mi mai un ffordd o gynorthwyo dealltwriaeth trethdalwyr Cymru o'u didyniadau treth fyddai cael y gyfradd Gymreig wedi'i chynnwys ar slipiau cyflog, lle mae pobl yn cael cyflogau misol neu wythnosol, a'r ffurflen P60, lle y dylai'r didyniad diwedd blwyddyn mewn amgylchiadau lle mae pobl yn gweithio yn Lloegr ac yng Nghymru, ddangos beth a dynnwyd yn Lloegr a beth a dynnwyd ar gyfer Cymru? Felly, dyna wahaniaeth o ran casglu trethi mewn dau ranbarth gwahanol yn y wlad. Felly, pa drafodaethau a gafwyd ynglŷn â hyn, os gwelwch yn dda?
Diolch i Mohammad Asghar am yr awgrymiadau hynny, ac rwy'n hapus iawn i fynd ar eu trywydd gyda CThEM i weld a fyddent yn ffordd ymarferol o barhau i esbonio'r newidiadau y mae datganoli cyllidol wedi'u cyflwyno i ddinasyddion yng Nghymru. Mae'n iawn i dynnu sylw at y ffaith bod trafodaethau manwl wedi digwydd, a dadansoddiadau manwl, yn wir, gan CThEM o'r 98 cod post trawsffiniol, lle y gallai pobl fod yn byw yn Lloegr neu yng Nghymru, er mwyn sicrhau bod llythyrau hysbysu yn mynd i drethdalwyr sy'n byw yng Nghymru yn unig. Credwn fod llai na 900 o bobl yn y sefyllfa honno, ond bydd y gwaith manwl ychwanegol y mae CThEM wedi'i wneud yn golygu y bydd llythyrau i'r dinasyddion sy'n weddill wedi'u dosbarthu erbyn 10 Rhagfyr.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch yn fawr iawn i chi. Ysgrifennydd Cabinet, pa bwys neu ba werth ddylai gael ei roi i farn a sylwadau Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru pan fydd y Llywodraeth yn dod i benderfyniadau mawr ar bolisïau gwariant?
Wrth gwrs, rydym ni'n gwrando ar beth mae'r comisiynydd yn ei ddweud. Fe wnes i siarad â hi fwy nag unwaith pan oedd y gyllideb yn cael ei pharatoi dros y gwanwyn a'r haf. Mae hi wedi bod yn adeiladol, rydw i'n meddwl, yn y broses yna, ac rydym ni'n gwerthfawrogi'r gwaith mae hi'n ei wneud a'r cymorth mae hi'n ei roi i ni fel Llywodraeth.
Mae'n siŵr eich bod yn dyfalu o bosibl mai at yr M4 rydw i'n mynd i fod yn cyfeirio. Mae'r comisiynydd wedi gwneud sylwadau cryfion iawn dros beth amser erbyn hyn ynglŷn â chynlluniau ar gyfer llwybr du yr M4. Mi soniodd y llynedd y gallai cynllun yr M4 osod cynsail peryglus ar gyfer y dyfodol ac, yn fwy diweddar, mae hi wedi gwneud ei barn yn berffaith glir nad ydy hi'n credu bod y cynllun yma yn gymesur ag anghenion cenedlaethau'r dyfodol. A ddylai sylwadau mor gryf â hynny, gan gomisiynydd rydym ni wedi ymddiried yn fawr ynddi hi, fod yn ddigon mewn difrif i roi stop ar y cynllun yma?
Wel, wrth gwrs, mae'r comisiynydd wedi rhoi ei sylwadau hi i fewn i'r ymchwil sydd wedi cael ei wneud—ymchwil annibynnol ac adroddiad annibynnol, sydd wedi dod mas o'r gwaith dros y flwyddyn ddiwethaf.
Lywydd, rhaid i mi ailadrodd yr hyn a ddywedodd fy nghyd-Aelod, arweinydd y tŷ ddoe. Mae proses gyfreithiol ar y gweill mewn perthynas â phenderfyniadau sydd i'w gwneud ar yr M4. Fel Gweinidog cyllid, mae gennyf ran i'w chwarae yn y broses honno, ac nid wyf am wneud sylwadau ar unrhyw agwedd o'r broses o wneud penderfyniadau a fyddai'n peri i mi dramgwyddo'r paramedrau cyfreithiol y mae'n rhaid i mi weithredu o'u mewn.
Yn briodol iawn, ceir disgwyliadau mawr o ran yr hyn y gall y comisiynydd ei wneud ar gyfer Cymru. Yn y prawf mawr cyntaf hwn o'r dylanwad sydd gan y comisiynydd, does bosibl na ddylai'r Llywodraeth ddangos eu bod o ddifrif ynglŷn â'i rôl. Mae'n codi cwestiynau difrifol a sylfaenol ynglŷn â gwerth am arian a beth y mae hynny'n ei olygu o ran yr arian a fydd ar gael ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Fel deiliad y pwrs cyhoeddus yng Nghymru a rhywun sy'n gyfrifol am sicrhau ein bod yn cael y gwerth mwyaf am arian, a'r mwyaf o fudd o'r bunt Gymreig, tra byddwn yn dal i aros am benderfyniadau gan y Llywodraeth ar y camau nesaf ar gyfer y llwybr du, a allwch ymrwymo y byddwch yn archwilio pob posibilrwydd ar gyfer gwario'r swm sylweddol hwnnw o arian—hyd at £2 biliwn neu fwy hyd yn oed—mewn ffordd fwy synhwyrol, naill ai drwy wario llai i gael yr un canlyniadau drwy gryfhau'r rhwydwaith ffyrdd a buddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus, neu wario'r un faint o arian hyd yn oed a chael canlyniadau gryn dipyn yn well, a fyddai'n plesio nid yn unig cenedlaethau'r dyfodol, ond Ysgrifenyddion iechyd y dyfodol, Ysgrifenyddion trafnidiaeth y dyfodol, ac yn wir Gweinidogion cyllid y dyfodol yn ogystal?
Lywydd, deallaf y pwyntiau a wnaeth Rhun ap Iorwerth. Mae pob un ohonynt yn bwyntiau difrifol a chafodd pob un ohonynt eu gwneud ger bron yr ymchwiliad cyhoeddus annibynnol lleol. Heb amheuaeth, byddant oll yn cael sylw yn adroddiad yr arolygydd a luniwyd yn sgil yr ymchwiliad. Nid wyf eto wedi gweld adroddiad yr arolygydd ac rwyf am gadw unrhyw sylwadau y gallwn eu gwneud ar y mater hwn hyd nes y byddaf yn gallu gwneud hynny a gweld y cyngor a ddarperir gyda'r adroddiad.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Darren Millar.
Ysgrifennydd Cabinet, pa ddarpariaeth a wnaethoch yn eich cyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf mewn perthynas â bargen twf gogledd Cymru?
Lywydd, rwyf ar fin gallu darparu ar gyfer bargen twf gogledd Cymru. Rwy'n gobeithio gallu gwneud hynny o fewn nifer fach o ddyddiau. Nid wyf wedi gallu gwneud hynny nes nawr oherwydd, yn wahanol i fargeinion dinesig Caerdydd ac Abertawe, lle y cytunwyd ar y symiau o arian i'w darparu gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU cyn cyhoeddiad Llywodraeth y DU, dewisodd Canghellor y Trysorlys gyhoeddi'r swm o arian gan Lywodraeth y DU yn annibynnol a heb ddod i gytundeb â ni.
Rydych chi'n araf iawn yn bwrw iddi mewn perthynas â'r fargen hon, onid ydych, Ysgrifennydd y Cabinet? Oherwydd, fel y gwyddoch, rhoddwyd y cais hwn at ei gilydd a'i gyflwyno gan fwrdd uchelgais economaidd gogledd Cymru ar 23 Hydref. Llwyddodd Llywodraeth y DU i'w ystyried a rhoddodd ei llaw yn ei phoced a gosod £120 miliwn ar y bwrdd o fewn ychydig wythnosau'n unig. Pam eich bod chi wedi treulio cymaint o amser yn petruso ynglŷn â hyn?
Rwy'n sicr y byddai'n well gan yr Aelod weld ymagwedd adeiladol a thrawsbleidiol tuag at fargen twf gogledd Cymru. Deallaf fod Aelodau ar draws y Siambr yn ei chefnogi. Yn sicr bydd Llywodraeth Cymru yn chwarae ein rhan, a byddaf yn gwneud penderfyniad ar y swm o arian y gallwn ei gyfrannu i'r fargen. Byddai'n well gennyf fod wedi gwneud hynny yn y ffordd y'i gwnaethom mewn perthynas ag Abertawe a Chaerdydd—drwy gytundeb ymlaen llaw â Llywodraeth y DU. Ar ôl i Lywodraeth y DU benderfynu rhoi ei llaw yn ei phoced, er nad aeth yn ddwfn iawn, rhaid imi ddweud, o gofio bod awdurdodau gogledd Cymru wedi gofyn am £170 miliwn, nid y £120 miliwn a gawsant yn y diwedd—. Ond byddaf yn gwneud yn siŵr fod cyfraniad gan Lywodraeth Cymru ac yna byddaf yn edrych ymlaen at y consensws trawsbleidiol a fu yn y Siambr hon, ar bwysigrwydd parhad y fargen dwf.
Nodais eich beirniadaeth o'r £120 miliwn, ond mae'n £120 miliwn yn fwy nag y llwyddoch chi i roi eich dwylo yn eich poced i'w roi hyd yma. Rydych chi'n hollol iawn i ddweud bod cytundeb trawsbleidiol ar y mater hwn. Cyn cyllideb Llywodraeth y DU, nodais fod Aelodau Seneddol ar sail drawsbleidiol, yn cynnwys Aelodau Seneddol Llafur, wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU i ofyn iddi wneud cyhoeddiad yn y gyllideb ar fargen twf gogledd Cymru. Buaswn yn tybio eich bod chi hefyd wedi cael llythyrau tebyg. Efallai y gallwch ddweud wrthym a ydych wedi cael rhai, naill ai gan Aelodau Cynulliad neu Aelodau Seneddol Llafur mewn perthynas â'r rôl y gallech ei chwarae.
Credaf mai'r hyn y mae pobl yng ngogledd Cymru yn edrych amdano yw penderfyniadau cyflym ynglŷn â hyn. Gwyddom fod Llywodraeth Cymru, yn gwbl briodol, yn awyddus iawn i gael cytundeb ar fargen ddinesig prifddinas-ranbarth Caerdydd a bargen ddinesig bae Abertawe, ond am ryw reswm, ymddengys eich bod wedi bod ychydig yn fwy swrth nag y buoch gyda'r ddwy fargen honno o ran ymgysylltu â'r bwrdd uchelgais economaidd ar fargen twf gogledd Cymru ac o ran rhoi arian ar y bwrdd. Rydych yn dweud yn awr y byddwch yn gwneud cyhoeddiad yn y dyddiau nesaf; rwy'n croesawu'r ffaith eich bod wedi datgelu hynny inni heddiw. A allwch ddweud wrthym, cyn y cyhoeddiad hwnnw, pa un a fyddwch yn darparu digon o arian i allu cyflawni'r cais yn llawn?
Wel, Lywydd, rwyf wedi cael gohebiaeth mewn perthynas â bargen twf gogledd Cymru wrth gwrs. Ar y cyfan, roedd yn fy annog i roi pwysau ar Lywodraeth y DU i benderfynu ynglŷn â'r fargen. Hon oedd y drydedd gyllideb. Sylwaf fod yr Aelod yn siarad am wneud penderfyniadau'n gyflym. Hwn oedd y trydydd achlysur blynyddol y bu i Ganghellor y Trysorlys gyfeirio at fargen twf gogledd Cymru. Ddwy flynedd yn ôl, dywedodd wrthym ei fod yn meddwl am y peth; flwyddyn yn ôl, dywedodd wrthym ei fod wedi meddwl ychydig mwy amdano; ac eleni, roeddwn yn falch iawn o weld ei fod wedi gwneud penderfyniad o ran ariannu. Byddaf yn gwneud cyhoeddiad cyn gynted ag y gallaf, fel rwy'n dweud. Bydd yn fuddsoddiad sylweddol gan Lywodraeth Cymru. Rwy'n credu ei bod hi'n llawer gwell inni ganolbwyntio ar wneud yn siŵr ein bod yn gweithio gyda'n gilydd, Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, partneriaid sector preifat ac eraill, i sicrhau cymaint o lwyddiant â phosibl i'r fargen, yn hytrach na phoeni gormod pa un a wnaed penderfyniad wythnos neu bythefnos yn ddiweddarach na rhywun arall.
Llefarydd UKIP, Neil Hamilton.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd. A gaf fi gymeradwyo prif economegydd Llywodraeth Cymru am y ddogfen a gyhoeddwyd yr wythnos hon, sy'n crynhoi'r dadansoddiadau economaidd a wnaed gan Lywodraeth y DU o effeithiau Brexit mewn senarios gwahanol? Ond mae'r ddogfen yn cynnwys rhai o'r amcanestyniadau mwy chwerthinllyd, gan gynnwys y rhai a gyhoeddwyd gan Fanc Lloegr yr wythnos hon—gan barhau prosiect ofn—a honnai y gallai cynnyrch domestig gros yn y DU erbyn diwedd 2023, yn y senario waethaf, fod rhwng 7.75 y cant a 10 y cant yn is na'r hyn ydoedd ym mis Mai 2016, rhywbeth a fyddai'n gwbl syfrdanol, oherwydd nid yn unig y byddai'n grebachu llawer mwy difrifol na'r hyn a brofwyd gennym yn nirwasgiad 2008, mae'n uwch mewn gwirionedd na'r cwymp mewn allbwn a ddigwyddodd yn ystod dirwasgiad mawr y 1930au, rhywbeth a welir yn unig mewn gwledydd fel Venezuela, sydd wedi cael dos lawn o bolisïau economaidd Corbynaidd, a lle mae crebachu o 16 y cant yn y cynnyrch domestig gros mewn un flwyddyn yn norm bellach. Felly, a fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi fod y math o senarios gwaethaf a gynhyrchir gan sefydliadau swyddogol fel Banc Lloegr yn anghyfrifol tu hwnt yn yr hinsawdd bresennol o ansicrwydd ynglŷn â Brexit, gan eu bod yn chwyddo ofnau'n ddiangen ac felly'n gwneud yr ansicrwydd hwnnw hyd yn oed yn waeth, ac mae hynny'n cael effaith go iawn ar fusnesau a bywydau a bywoliaeth pobl gyffredin?
Wel, Lywydd, hoffwn ddiolch i'r Aelod, yn gyntaf oll, am dynnu sylw at y ddogfen a gyhoeddwyd gan y prif economegydd ddoe. Mae'n annibynnol ar y Llywodraeth yn y farn y mae'n ei rhoi, a gwn ei fod yn awyddus i gyhoeddi ei asesiad ochr yn ochr â'r ddadl a gawsom ddoe, ac rwy'n gobeithio y bydd Aelodau eraill wedi cael cyfle i ddarllen yr hyn a ddywedodd.
Rwy'n meddwl bod ei ddadansoddiad yn gytbwys. Credaf ei fod wedi'i fynegi'n fwriadol mewn iaith nad yw'n codi bwganod, ac ni allaf gytuno â'r Aelod, fel y gŵyr, a diystyru amcanestyniadau a wneir gan ddaroganwyr cwbl prif ffrwd a pharchus, nid yn unig Banc Lloegr, ond y Trysorlys ei hun, a dadansoddwyr ar y tu allan i'r Llywodraeth hefyd, ac mae pob un ohonynt yn rhannu consensws cyffredinol ar effaith bosibl Brexit caled digyfaddawd ar ein heconomi. Ac ni allaf fforddio diystyru'r amcanestyniadau hynny yn y ffordd y mae ef yn ei wneud, oherwydd mewn Llywodraeth, mae arnaf ofn fod yn rhaid i chi baratoi ar gyfer y gwaethaf, hyd yn oed pan fyddwch yn gweithio mor galed ag y gallwch i'w osgoi.
Mae arnaf ofn fod Ysgrifennydd y Cabinet, drwy anghytuno â mi, yn anghytuno hefyd â chyn-lywodraethwr Banc Lloegr, Mervyn King, ac enillydd gwobr Nobel Paul Krugman, y mae eu safbwyntiau gwleidyddol ymhell iawn o fy rhai i a heb fod yn rhy bell o rai Ysgrifennydd y Cabinet, oherwydd dywedodd Mervyn King ei fod yn drist wrth weld Banc Lloegr yn cael ei dynnu'n ddiangen i mewn i ymarfer prosiect ofn o'r math hwn. Ac mae Paul Krugman—nad yw'n hoff o Brexit—yn disgrifio amcangyfrifon y banc fel 'rhifau blwch du' sy'n 'amheus' ac yn 'codi cwestiynau'. Felly, pan fo ystod mor eang o ddadansoddwyr economaidd byd-enwog yn gallu diystyru'r mathau hyn o broffwydoliaethau hysterig, ni allaf ddeall pam na all Ysgrifennydd y Cabinet ei hun, er mwyn sicrhau dadansoddiadau a dadleuon cytbwys—ac rwy'n cytuno gydag ef fod y prif economegydd wedi ychwanegu'r rheini at ein trafodaethau ddoe—dawelu pethau drwy gytuno â mi nad yw'n gwneud unrhyw les o gwbl inni gael rhagolygon ar gyfer y dyfodol sydd ymhell bell o'r hyn sy'n digwydd yn y byd go iawn.
Wel, Lywydd, hoffwn geisio dawelu pethau yn y ffordd hon drwy ddweud bod dau beth wedi digwydd ddoe sy'n gwneud y rhagolygon ar gyfer Brexit 'dim cytundeb' yn llai tebygol, ac rwy'n falch iawn o hynny. Y ffordd orau oll o dawelu pryderon fyddai i Lywodraeth y DU gymryd y cyngor a nodwyd yn 'Diogelu Dyfodol Cymru' a negodi ffurf ar Brexit sy'n rhoi cefnogaeth ddilys i economi Cymru a swyddi, fel na fyddai'n rhaid inni osod arbenigwyr yn erbyn ei gilydd i ymdrin â'r posibilrwydd damcaniaethol ond trychinebus y gallem adael yr Undeb Ewropeaidd ar y telerau sy'n gwneud y niwed mwyaf.
Hoffwn gyfeirio'n ôl at adroddiad y prif economegydd, oherwydd mae'n dweud ynddo fod consensws cryf ymhlith economegwyr ynglŷn â phrif egwyddorion darogan, ac un ohonynt yw bod pellter ei hun yn rhwystr a masnach yn gyffredinol yn fwy bywiog gyda phartneriaid sy'n agos, yn ddaearyddol ac o ran eu cam datblygu economaidd. Mae model y Trysorlys a'r rhan fwyaf o'r modelau eraill y cyfeirir atynt yn y ddogfen hon yn defnyddio'r hyn a elwir yn fodel disgyrchedd o ddarogan, a'r egwyddor sylfaenol yw bod swm y fasnach a gyflawnir rhwng dwy wlad yn lleihau gyda sgwâr y pellter rhyngddynt. Ond lluniwyd yr holl ddata y seiliwyd y model darogan braidd yn amheus hwn arno yn yr 1980au a chyn hynny—byd heb ryngrwyd, heb FaceTime, heb e-bost, heb Google Translate, heb amlwythiant safonedig, cyn i wladwriaethau Marcsaidd blaenorol, fel Tsieina, gael eu hagor, heb Sefydliad Masnach y Byd, hyd yn oed—ac felly, o ystyried bod masnach mewn gwasanaethau bellach yn llawer iawn pwysicach i'n heconomi ac yn wir, i economi ein cymdogion Ewropeaidd na'r pryd hwnnw, a symudedd byd-eang yn llawer mwy a'r chwyldro digidol wedi digwydd, mae'r rhagdybiaethau y seiliwyd y modelau darogan hyn yn affwysol o hen ffasiwn, a dyna pam y maent yn cynhyrchu'r rhagfynegiadau brawychus o anghytbwys hyn, y profir bob amser wedi'r digwyddiad eu bod yn gwbl anghywir.
Lywydd, yn gyffredinol disgrifir y dadansoddiad disgyrchedd, fel y dywedodd yr Aelod, fel hyn: 'mae masnach yn haneru wrth i'r pellter ddyblu', ac mae hynny'n dweud rhywbeth wrthych sy'n synnwyr cyffredin at ei gilydd: eich bod yn fwy tebygol o gael perthynas economaidd fwy bywiog gyda'r rhai sydd agosaf atoch, a pho bellaf y bydd eich marchnad oddi wrthych, y lleiaf tebygol y byddwch o gael masnach sydd yr un mor fywiog. Yr anhawster gwirioneddol i'r Aelod yw bod yr holl bethau y mae'n tynnu sylw atynt er mwyn ceisio tanseilio dadansoddiad disgyrchedd yn berthnasol pa un a ydym yn yr Undeb Ewropeaidd ai peidio. Ac nid yw gadael yr Undeb Ewropeaidd yn ffaith berthnasol yn y dadansoddiad y mae newydd geisio'i nodi.
3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am strategaeth tymor hir Llywodraeth Cymru ar gyfer lefelau trethiant yng Nghymru? OAQ53044
Lywydd, nodwyd strategaeth hirdymor Llywodraeth Cymru yn y fframwaith polisi treth a gyhoeddwyd yn 2017, ac fe'i hadlewyrchir yn yr adroddiad ar ein rhaglen waith ar drethiant, a gyhoeddwyd ochr yn ochr â'r gyllideb ddrafft ar 2 Hydref.
Os mai Ysgrifennydd y Cabinet sydd wrth y llyw, a allwn ddisgwyl i gyfraddau treth yng Nghymru fod yn uwch neu'n is ymhen pum mlynedd?
Lywydd, rhaid barnu cyfraddau treth yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni ar y pryd, a dyna y buaswn yn disgwyl i unrhyw un sy'n ysgwyddo cyfrifoldeb am gyllid Cymru ei wneud.
A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno bod trethiant yn bwysig er mwyn cefnogi gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru? Os caf atgoffa Ysgrifennydd y Cabinet, yn y tair wythnos ddiwethaf, mae'r Ceidwadwyr wedi gofyn am fwy o arian ar gyfer llywodraeth leol, mwy o arian ar gyfer addysg bellach, mwy o arian ar gyfer iechyd. Sut y maent yn bwriadu ei ariannu os nad ydynt eisiau trethiant?
Wel, wrth gwrs, mae Mike Hedges yn llygad ei le. Trethiant yw'r tâl mynediad a dalwn i gymdeithas wâr. Drwy gyfuno'r arian a ddaw drwy drethiant gall pawb ohonom fforddio'r pethau yr ystyriwn ni, o amgylch y Siambr hon, eu bod yn bwysig ym mywydau pobl Cymru. Nawr, pe baech yn dewis torri 1 geiniog oddi ar y dreth yng Nghymru, byddai'r gost gros oddeutu £200 miliwn. Pa rai o'n gwasanaethau cyhoeddus y byddai'n rhaid eu torri, Lywydd, i alluogi hynny i ddigwydd? Ni allwch wneud y math o hud a lledrith economaidd sy'n aml yn cael ei gynnig i ni gan Aelodau ar y meinciau gyferbyn, lle rydych yn torri trethi, fel bod gennych lai o arian, a rywsut eich bod yn dal i allu gwario mwy ar bopeth y maent yn dweud wrthym y byddent yn eu ffafrio.
4. Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer buddsoddi cyfalaf yng Nghwm Cynon? OAQ53029
Diolch i Vikki Howells. Mae ein blaenoriaethau cyfalaf ar gyfer Cwm Cynon yn cynnwys buddsoddi mewn canol trefi, mewn atal llifogydd, yn y gwasanaeth iechyd—gan gynnwys, er enghraifft, y ganolfan gofal sylfaenol a chymunedol newydd sydd i'w chwblhau yn Aberpennar yn 2021.
Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn wir, mae arddangosfa ar gyfer y ganolfan gofal sylfaenol honno yn cael ei chynnal yn Aberpennar heddiw. Ond yn benodol, rwy'n awyddus i'r gwaith deuoli ar adrannau 5 a 6 o ffordd Blaenau'r Cymoedd gael ei gwblhau, gwaith a fydd mor bwysig i fy etholaeth. Nodais sylwadau'r Ysgrifennydd llywodraeth leol yr wythnos diwethaf ynglŷn â sicrhau'r budd mwyaf o'r buddsoddiad yng nghoridor yr A465 ar gyfer cymunedau lleol. Roedd hwn wedi'i osod yn erbyn ffrâm amser o 12 mis, felly gyda'r gwaith ar adrannau 5 a 6 i fod i ddechrau ar ddiwedd 2019, sut y bydd y buddsoddiad hwn yn cael ei ddefnyddio i sicrhau'r budd mwyaf i gymunedau Cwm Cynon?
Diolch i Vikki Howells am hynny. Bydd yn gwybod ein bod wedi gwahodd tendr ar adrannau 5 a 6 o'r A465 yn ôl ym mis Gorffennaf. Rydym bellach yn cael cyfle i ystyried adroddiad yr arolygydd yn llawn, a gobeithiaf y gwneir penderfyniad cyn bo hir ar fwrw ymlaen gyda cham nesaf y broses gaffael. Yn syth yn y prosiect hwnnw, bydd gofynion cytundebol i'r cynigydd llwyddiannus gyflawni amrywiaeth o fanteision cymunedol yn ymwneud â chyflogi pobl leol, prentisiaethau hyfforddiant a chontractau gwaith ar gyfer cwmnïau lleol, a bydd pob un o'r rhain o fudd i drigolion yn ei hetholaeth. Roedd fy nghyd-Aelod Alun Davies yn cyfeirio at weithgor a sefydlwyd gan dasglu'r Cymoedd i ystyried y ffyrdd gorau o sicrhau cynifer â phosibl o gyfleoedd o'r gwaith deuoli, nid yn unig yn ystod y gwaith adeiladu, ond pan fydd wedi agor hefyd.
Ysgrifennydd y Cabinet, fe fyddwch yn gwybod am benderfyniad cyngor Rhondda Cynon Taf i lansio'r rhaglen buddsoddiad cyfalaf fwyaf yn ei hanes, ac rwy'n siŵr eich bod chi fel finnau wedi croesawu'r penderfyniad hwnnw. Mae'n £300 miliwn, a bydd £45 miliwn ohono'n cael ei wario ar dai. Mae cynlluniau arloesol yn yr arfaeth, a phartneriaethau pwysig gyda'r sector preifat a chymdeithasau tai—a'r awdurdod lleol ei hun, wrth gwrs. O ystyried bod y Trysorlys bellach yn codi'r cap benthyca ar gynghorau sy'n dymuno adeiladu mwy o dai, onid ydych yn croesawu'r dull hwn o weithredu, sef yn union y math o ffordd y dylem fynd ati o ddifrif i ysgogi ein heconomïau lleol mewn cyfnod ariannol anodd?
Wel, rwy'n croesawu codi'r cap, a gwn fod fy nghyd-Aelod, Rebecca Evans, wedi bod yn gohebu gydag awdurdodau lleol am yr hyn y bydd hynny'n ei wneud i'w gallu i godi rhagor o arian i'w fuddsoddi mewn tai. Wrth gwrs mae David Melding yn gywir ynglŷn ag effaith economaidd lleol adeiladu tai mewn cymunedau, ac rwy'n cytuno ag ef fod cyngor Rhondda Cynon Taf, o dan arweinyddiaeth y Cynghorydd Andrew Morgan, ymhlith y cynghorau mwyaf arloesol yng Nghymru am ddod o hyd i ffyrdd o ehangu eu gallu i fuddsoddi mewn prosiectau cyfalaf, nid yn unig mewn tai ond mewn llawer o feysydd eraill yn ogystal. Ar y cyd â Jane Hutt, y Cynghorydd Morgan yw awdur y fenter benthyca llywodraeth leol y gwnaethom helpu i'w hariannu, ac rwy'n eu llongyfarch ar y gwaith a wnânt yn y maes hwn.
5. Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ynghylch ariannu rhaglen prentisiaeth Llywodraeth Cymru? OAQ53025
Diolch i'r Aelod. Byddaf yn cyfarfod â holl Ysgrifenyddion y Cabinet fel rhan o'n paratoadau cyllidebol ar gyfer trafod y modd y cyflawnwn y blaenoriaethau a nodwyd gennym yn 'Ffyniant i Bawb'. Mae hynny'n cynnwys ein hymrwymiad i ddarparu 100,000 o brentisiaethau safonol ar gyfer pobl o bob oed yn ystod y tymor Cynulliad hwn.
Diolch yn fawr iawn am yr ateb, Weinidog. Yn ddiweddar, mynegodd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ei siom ynghylch y diffyg tryloywder mewn perthynas â chyllid a gweithrediad y rhaglen brentisiaeth. Hefyd, mynegodd y pwyllgor bryder fod y diffyg tryloywder hwn yn creu her i graffu effeithiol ar y cynllun blaenllaw hwn gan Lywodraeth Cymru. Ysgrifennydd y Cabinet, pa drafodaethau a gawsoch gyda'ch cyd-Weinidogion ynglŷn â'r mater hwn, a pha gamau y byddwch yn eu cymryd i sicrhau bod pryderon y gymuned yn cael sylw ac yn cael eu datrys?
Diolch i'r Aelod am hynny. Wrth gwrs rydym o ddifrif ynglŷn â safbwyntiau'r pwyllgor ac edrychaf ymlaen at eu hastudio'n fwy manwl i weld sut y gallwn ddweud ein stori ar brentisiaethau'n gliriach, oherwydd mae'n stori dda iawn yn wir, Lywydd. Fel Llywodraeth, byddem yn sicr yn dymuno gwneud yn siŵr nad oes unrhyw amheuaeth, er enghraifft, y byddwn yn buddsoddi £150 miliwn o arian Llywodraeth Cymru y flwyddyn nesaf i'n helpu ar ein taith tuag at o leiaf 100,000 o brentisiaethau i bobl o bob oed yn ystod y tymor Cynulliad hwn.
Dengys ymchwil gan Gymdeithas Genedlaethol y Prentisiaid fod prentisiaid yn gwario 20 y cant o'u cyflog ar drafnidiaeth, sy'n sylweddol, o gofio mai £3.70 yr awr yn unig y bydd rhai prentisiaid yn ei gael. Roeddwn yn meddwl tybed pa gynlluniau—neu a oes gennych unrhyw gynlluniau, o bosibl, i annog cludiant am ddim i brentisiaid fel eu bod yn gallu cyrraedd eu man gwaith yn brydlon ac mewn modd fforddiadwy, fel nad oes yn rhaid iddynt gyllidebu ar gyfer trafnidiaeth pan fo'n rhaid iddynt gyllidebu ar gyfer cynifer o bethau eraill yn eu bywydau fel prentisiaid?
Lywydd, rwy'n llwyr gydnabod y pwynt a wnaeth Bethan Sayed am gost teithio i'r gwaith i bobl sy'n gorfod ymdopi ar incwm isel. Nid mater i mi yw'r polisi. Mater i fy nghyd-Aelod, Ken Skates, yw hwnnw ond fe wnaf yn siŵr ei fod yn cael clywed y pwyntiau y mae hi wedi'u gwneud y prynhawn yma.
A fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno fod yr ardoll brentisiaethau y mae Llywodraeth y DU yn ymffrostio yn ei chylch bellach wedi'i datgelu am yr hyn ydyw: dim mwy na threth ar gyflogwyr, nad yw wedi gwneud fawr ddim i wella mynediad at brentisiaethau? A fyddai'n cytuno hefyd fod y colegau addysg bellach yng Nghymru yn gwneud gwaith hynod o dda'n hyfforddi prentisiaid er budd ein gwlad?
Wel, mae Mike Hedges yn iawn, wrth gwrs, Lywydd. Treth ym mhob ystyr arall yw'r ardoll brentisiaethau, a threth sydd wedi'i chynllunio'n wael iawn, ac un nad oes neb yn ei ffafrio, hyd y gallaf weld, o blith gwledydd y Deyrnas Unedig ac o blith cyflogwyr yn ogystal. Roedd yn garbwl o'r dechrau. Ni chafwyd unrhyw drafodaeth ymlaen llaw gyda'r Alban na Chymru. Gallem fod wedi helpu Canghellor y Trysorlys ar y pryd i wneud gwaith gwell ohoni pe bai wedi caniatáu i ni, fel oedd yn ofynnol ym mholisi'r datganiad cyllid, i fod yn rhan o'r gwaith o lunio'r hyn y bwriadai ei gyflawni.
Yn sicr, cytunaf â Mike Hedges fod colegau addysg bellach yng Nghymru yn gwneud gwaith rhagorol yn ymateb i anghenion economaidd lleol, a pharu pobl ifanc â'r gyrfaoedd y byddant yn gallu eu datblygu yn y tymor hir. Yn ddiweddar cyfarfûm â phrentisiaid yn Airbus ac yn Tata yn ne Cymru, ac roedd ganddynt oll straeon trawiadol i'w hadrodd am y cymorth a gawsant gan gyflogwyr mawr yng Nghymru, a sut yr ategwyd hynny gan ymagwedd wirioneddol ymatebol eu hawdurdodau addysg lleol a'r colegau addysg bellach y maent yn dibynnu arnynt.
6. Pa newidiadau i ardrethi busnes yng Nghymru y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn bwriadu eu cyflwyno yn dilyn cyhoeddiad cyllidebol Llywodraeth y DU ynghylch ardrethi busnes yn Lloegr? OAQ53035
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Fel y gŵyr, cyhoeddais ddoe fy mod yn bwriadu gwella ein cynllun rhyddhad ardrethi ar gyfer y stryd fawr yn 2019-20. Dywedais ddoe, Lywydd, y buaswn yn defnyddio'r arian canlyniadol llawn o £26 miliwn at y diben hwnnw, a gallaf ddweud heddiw fy mod yn bwriadu rhyddhau £24 miliwn yn uniongyrchol i'r cynllun stryd fawr ei hun ac y byddaf hefyd yn rhoi £2.4 miliwn ychwanegol i awdurdodau lleol i ariannu'r rhyddhad ardrethi yn ôl disgresiwn y gallant ei ddarparu.
Gyda chyhoeddiad Llywodraeth y DU yn y gyllideb yn ôl ym mis Hydref, dywedai'r ffigurau a ddaeth allan o gyhoeddiad cyllidebol Llywodraeth y DU y byddai busnesau yn Lloegr yn derbyn tua £8,000 o ad-daliad ar eu hardrethi busnes hyd at werth ardrethol o £51,000 dros ddwy flynedd. O ystyried y gyfres o gyhoeddiadau rydych newydd eu gwneud, Ysgrifennydd y Cabinet, sydd i'w croesawu—arian ychwanegol yn mynd tuag at ardrethi busnes—pa fanteision diriaethol a deimlir ar ein strydoedd mawr yma yng Nghymru, o gofio mai dydd Sadwrn diwethaf oedd Dydd Sadwrn y Busnesau Bach, a dro ar ôl tro mae gweithredwyr busnesau ar y stryd fawr yn dweud mai ardrethi busnes yw'r maen melin mwyaf o amgylch eu gyddfau rhag gallu ehangu a chyflogi mwy o staff ar y strydoedd mawr hynny?
Lywydd, credaf ei bod hi'n bwysig i mi wneud yn siŵr fod yr Aelodau'n deall, pan archwiliwyd print mân yr hyn a ddywedodd y Canghellor ar 28 Hydref, mae'n ymddangos nad oes cynllun cenedlaethol yn mynd i fod yn Lloegr o gwbl. Yn syml, dim ond arian i awdurdodau lleol ddefnyddio eu pwerau disgresiynol a geir. Ni fydd unrhyw reolau cenedlaethol. Mater i'ch awdurdod lleol fydd defnyddio'r arian y mae'r Canghellor yn ei ddarparu fel y gwelant yn dda. Felly, mae'r ffigurau a ddefnyddiodd y Canghellor yn rhai enghreifftiol ar y gorau ac ni ddylid dibynnu arnynt fel rhai sy'n cynrychioli cynllun y gall busnesau ledled Lloegr ddibynnu arno. Ar y llaw arall, mae gan ein cynllun rhyddhad ar gyfer y stryd fawr gyfres o reolau ar gyfer Cymru gyfan. Mae yna ffordd y bydd busnesau'n gwybod faint yn union y bydd hawl ganddynt ei gael. Ac wrth gwrs, rwy'n cytuno â'r Aelod. Gwerir pob ceiniog a gawn o ganlyniad i'r cyhoeddiad hwnnw ar gynorthwyo busnesau yma yng Nghymru, ond byddwn yn llunio cynllun sy'n cyfateb i faint, dosbarthiad a gwerth y sylfaen drethiant yng Nghymru yn y maes hwn, sy'n wahanol i'r un yn Lloegr, a byddwn yn llunio cynllun sy'n sicrhau'r defnydd mwyaf effeithlon o'r arian.
Rwy'n ymwybodol fod llawer o fusnesau gofal plant yn fy etholaeth yng Ngogledd Caerdydd yn bryderus iawn ynghylch ardrethi busnes. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau y bydd pob darparwr gofal plant yn cael eu heithrio rhag talu ardrethi busnes yng Nghymru o fis Ebrill 2019?
Gwnaf, Lywydd. Diolch i Julie Morgan am hynny, oherwydd gallaf gadarnhau yn union hynny—fod ein cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau bach yn cael ei ymestyn i ddarparu rhyddhad ardrethi 100 y cant i bob darparwr gofal plant cofrestredig yng Nghymru, a bydd y lefel uwch hon o ryddhad yn dechrau ar 1 Ebrill 2019. Mae'n enghraifft dda iawn o gysoni ein cyfrifoldebau trethiant â'n huchelgeisiau polisi, oherwydd mae gennym uchelgais, wrth gwrs, i ddarparu'r lefel orau o ofal plant i bobl yma yng Nghymru, a bwriad y penderfyniad ynglŷn â rhyddhad ardrethi yw cefnogi'r sector yr ydym yn dibynnu arno i gyflawni ein cynnig gofal plant.
7. Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o'r ffigurau gwariant cyhoeddus mwyaf diweddar ar gyfer gwledydd y DU? OAQ53056
Diolch i Joyce Watson am hynny. Mae'r ffigurau'n dangos bod buddsoddiad mewn iechyd a gwasanaethau cymdeithasol ac mewn addysg wedi tyfu'n gyflymach yng Nghymru yn 2017-18 nag yn unrhyw un o wledydd eraill y DU.
Roedd yn ddiddorol gwrando ar y bwletinau newyddion bore ddoe, ond siomedig oedd deall bod gwariant mewn gwasanaethau gofal hanfodol ar gyfer pobl oedrannus yn Lloegr wedi'i dorri 25 y cant y pen ers 2010. Nid yw hynny, wrth gwrs, wedi digwydd yng Nghymru, am fod Llywodraeth Lafur Cymru wedi diogelu'r cyllidebau hynny, ac rwy'n hynod o falch o hynny, ac rwy'n siŵr y byddai pawb am ymuno â mi i ddathlu'r ffaith honno. Ond o fis Ebrill nesaf, bydd cyfran y dreth incwm a delir gan bobl yng Nghymru yn ariannu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn uniongyrchol. Sut y bydd hynny'n rhyddhau Llywodraeth Cymru i fynd ymhellach o ran blaenoriaethu'r gwasanaethau rheng flaen hanfodol hyn?
Diolch i Joyce Watson am y cwestiwn pwysig hwnnw. Mae'n llygad ei lle—dyna mae'r ffigurau a gynhyrchwyd gan Lywodraeth y DU yn ei ddangos, sef er gwaethaf effaith cyni a'r heriau go iawn y mae'n ei achosi i wasanaethau cyhoeddus, rydym wedi diogelu gwariant mewn awdurdodau lleol a gwariant ar wasanaethau'r henoed i raddau nas gwelwyd ar draws ein ffin yn bendant, a gwelwyd cynnydd o 3.8 y cant mewn gwariant y pen ar iechyd a gwasanaethau cymdeithasol gyda'i gilydd yng Nghymru y llynedd, a dyna'r cynnydd mwyaf o blith pedair gwlad y DU.
Mae Joyce Watson yn hollol iawn i nodi bod y cyfrifoldebau cyllidol newydd sydd gennym yn dod â chyfleoedd newydd yn eu sgil. Bydd yn gwybod am adroddiad yr Athro Gerry Holtham a edrychodd ar y posibilrwydd o ardoll gofal cymdeithasol yma yng Nghymru. Mae gan y Cabinet is-grŵp wedi'i sefydlu, dan gadeiryddiaeth fy nghyd-Aelod, Huw Irranca-Davies, sy'n dod â chyd-Aelodau o'r Cabinet at ei gilydd i weld a fyddai'n ymarferol defnyddio peth o'r dadansoddiad hwnnw'n weithredol yng Nghymru a defnyddio ein posibiliadau cyllidol newydd i gefnogi ein hagenda o bolisïau uchelgeisiol.
A allai Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau'r warant cyllid gwaelodol a ddarparwyd gan Lywodraeth y DU mewn perthynas â gwariant yng Nghymru, a chymharu a chyferbynnu hynny ag unrhyw gyllid gwaelodol a oedd yn ei le o dan Lywodraethau Llafur blaenorol yn y DU?
Diolch i'r Aelod am hynny. Mae'r fframwaith cyllidol yn cynnwys lluosydd—mae'n 105 y cant. Credaf fod arweinydd yr wrthblaid wedi awgrymu ddoe ei fod yn 120 y cant, ond mewn gwirionedd mae'n 105 y cant. Am bob £1 sy'n cael ei gwario yn Lloegr, cawn 105 y cant o hynny drwy symiau canlyniadol Barnett. Mae hynny'n cyfateb i £70 miliwn hyd yma ar gyfer Cymru. Gyda'r arian ychwanegol ar gyfer iechyd—[Torri ar draws.] Na—[Torri ar draws.]
Caniatewch i Ysgrifennydd y Cabinet ateb y cwestiwn.
Credaf fy mod—[Torri ar draws.] Ie, ie. Y pwynt a ofynnodd yr Aelod i mi oedd a oes mecanwaith yn y fframwaith cyllidol sy'n gwarantu bod Cymru'n cael cyfran sefydlog o'r cyllid a gyhoeddir yn Lloegr. Yr ateb yw bod mecanwaith o'r fath yn bodoli. Mae wedi rhoi £70 miliwn yn ychwanegol hyd yn hyn, yn dilyn llofnodi'r fframwaith cyllidol, ac os ystyriwch y cyllid ychwanegol a addawyd ar gyfer y GIG dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, bydd hynny'n rhoi £270 miliwn inni ar ben yr hyn y byddem wedi ei gael fel arall heb gwblhau'r cytundeb hwnnw.
8. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddyfodol lefelau treth yng Nghymru rhwng nawr ac etholiad nesaf y Cynulliad? OAQ53030
Diolch i Darren Millar am y cwestiwn. Roedd y gyllideb ddrafft, a gyhoeddwyd ar 2 Hydref, yn argymell bod cyfraddau Cymreig o dreth incwm yn aros yr un fath â Lloegr a Gogledd Iwerddon yn 2019-20, yn unol ag ymrwymiad maniffesto fy mhlaid i beidio â chodi lefelau treth incwm yn ystod y tymor Cynulliad hwn.
Rwy'n ddiolchgar iawn am yr ymateb hwnnw. Rwyf wedi gwrando'n ofalus arnoch yn ymateb i gwestiynau tebyg hefyd yn ystod y sesiwn gwestiynau hon, a'r hyn na wnaethoch ei nodi oedd beth fyddai eich cynlluniau neu gynlluniau eich plaid y tu hwnt i'r flwyddyn ariannol nesaf. Buaswn yn ddiolchgar pe gallech roi sicrwydd inni ynglŷn â'ch ymrwymiad personol i beidio â chynyddu cyfraddau treth incwm cyn etholiad nesaf y Cynulliad, gan gynnwys yn y blynyddoedd wedi 2019-20.
Wel, Lywydd, rwyf eisoes wedi ailadrodd ymrwymiad maniffesto fy mhlaid i beidio â chodi lefelau treth incwm yn y tymor Cynulliad hwn. Buaswn mewn sefyllfa lawer yn well pe bai Llywodraeth y DU yn gallu dweud wrthyf faint o arian a fydd gan y Cynulliad hwn y tu hwnt i'r flwyddyn ariannol nesaf. Cynhelir adolygiad cynhwysfawr o wariant, na fydd yn dechrau hyd yn oed tan fis Ionawr, ac nid oes gennyf ffigurau o gwbl ar gyfer cyllideb y Cynulliad y tu hwnt i 2019-20. Bydd hwnnw o gymorth mawr i bawb ohonom o ran gallu darparu'r math o sicrwydd ar gyfer y dyfodol y gofynnodd yr Aelod i mi amdano.
Ac, yn olaf, cwestiwn 9, Rhianon Passmore.
Diolch yn fawr iawn. Credaf fod y cwestiwn wedi'i ofyn. A all Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau bod trethdalwyr Cymru wedi cael eu llythyr CThEM ynghylch cyfraddau Cymreig o dreth incwm?
Rydych—
Dyna'r cwestiwn o fy mlaen, Lywydd.
Nid dyna'r cwestiwn o fy mlaen i. Credaf y gwnawn ei gadael hi ar hynny a diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei gyfraniad.
Ac felly dyma ni'n dod at gwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus. Y cwestiwn cyntaf—Helen Mary Jones.
1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer cynghorau gwledig? OAQ53046

Darperir y rhan fwyaf o gymorth Llywodraeth Cymru i gynghorau gwledig drwy'r setliad llywodraeth leol gwerth £4.2 biliwn. Mae fformiwla ariannu'r setliad yn cynnwys nifer o ddangosyddion sydd i gyfrif am wahanol raddau o deneurwydd poblogaeth ar draws pob un o'n hawdurdodau.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb, ond dyma'r gwirionedd: mae Powys yn edrych ar fwlch yn y gyllideb o £14 miliwn ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, mae sir Gaerfyrddin wedi gorfod gwneud gwerth £50 miliwn o doriadau ar yr un pryd â chodi ei threth gyngor 22 y cant dros y pum mlynedd diwethaf, ac mae dinasyddion yn sir Benfro yn wynebu cynnydd o 12 y cant yn eu treth gyngor yn y flwyddyn ariannol nesaf yn unig. Nawr, rwy'n sylweddoli bod Ysgrifennydd y Cabinet yn ymdrin â chyllideb anodd a sylweddolaf nad bai Llywodraeth Cymru yw'r ffaith bod y setliad yn dynn, ond does bosibl, o ystyried y ffigurau hynny, Ysgrifennydd y Cabinet, na allwch weld bod yn rhaid bod rhywbeth o'i le ar y ffordd y caiff yr arian ei ddyrannu. Oherwydd os cymharwch hyn â chymunedau mewn ardaloedd mwy trefol yng Nghymru, nid yw'n ymddangos yn gyfartal nac yn deg.
Mae'r Aelod yn hollol gywir, wrth gwrs, ein bod yn ymdrin â setliad ariannol anodd iawn, ac mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a minnau wedi bod yn hollol glir yn ein hymateb i hyn. Mae hwn yn setliad anodd a byddai'n well gennym allu neilltuo mwy o arian i bob awdurdod lleol. Ond gadewch imi ddweud hyn: rwy'n gresynu at y tueddiad cynyddol ymhlith nifer o'r Aelodau i osod gwahanol gymunedau yn erbyn ei gilydd. Yn y cwestiwn gan yr Aelod dros Lanelli, roedd hi'n gosod cynghorau gwledig yn erbyn rhai trefol. Yn y gorffennol, rydym wedi gosod y gogledd yn erbyn y de, y dwyrain yn erbyn y gorllewin. Rwy'n gresynu at y duedd hon yn ein trafodaethau, oherwydd nid yw'n adlewyrchu'r dadleuon a gawn gyda llywodraeth leol, ac nid wyf yn credu ei bod yn adlewyrchu realiti ychwaith. Rwyf am ddweud wrth yr Aelod fod yr is-grŵp cyllid, sy'n darparu cynrychiolaeth ar gyfer yr holl awdurdodau ledled y wlad, wedi cymeradwyo fformiwla'r setliad cyllido ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf yn ei gyfarfod ar 27 Medi. Yn ogystal â hyn, siaradais â chynrychiolwyr o'r holl grwpiau gwleidyddol mewn llywodraeth leol yr wythnos diwethaf ac ailadrodd wrthynt y pwynt a wneuthum yn y Siambr hon yn ystod dadl gan y Blaid Geidwadol ar y fformiwla ariannu a'r setliad, os caf lythyr gan y pedwar grŵp gwleidyddol mewn llywodraeth leol yn gofyn am adolygu'r fformiwla, yna byddaf yn ei roi ar waith. Rhaid imi ddweud nad oedd yr ymateb ddydd Gwener yn gadarnhaol iawn o blaid hynny.
Credaf eich bod yn ffodus iawn ar y pwynt hwn nad yw'r Aelod dros Lanelli yn y Siambr; credaf mai at yr Aelod dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru y dymunech gyfeirio.
Dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, ie.
Russell George.
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, ar 31 Ionawr, bydd arweinwyr Cyngor Sir Powys a Chyngor Sir Ceredigion yn dod yma i'r Senedd fel rhan o ddirprwyaeth Tyfu Canolbarth Cymru a noddir ar y cyd gan y Llywydd, yr Aelod dros Frycheiniog a Sir Faesyfed a minnau. Bydd cyfle i arddangos cynnyrch a gwasanaethau busnesau lleol ar draws y ddau awdurdod lleol gwledig. Nawr, rwy'n sylweddoli nad chi sy'n arwain ar fargen twf canolbarth Cymru, ac mai mater i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi yw hwnnw, ond a gaf fi ofyn i chi beth rydych yn ei wneud i gefnogi'r ddau awdurdod lleol gwledig er mwyn rhoi hwb i economïau canolbarth Cymru?
Fel y nododd yr Aelod yn ei gwestiwn, nid yw hynny'n rhan o fy nghyfrifoldebau, ond dywedaf wrtho fod y materion hyn wedi'u trafod y tro cyntaf y cyfarfûm ag arweinwyr Cyngor Sir Powys. Cyfarfûm ag arweinwyr yr awdurdod a dywedais wrthynt fod y Llywodraeth hon am fod yn Llywodraeth weithredol a geisiai hyrwyddo a chefnogi datblygiad economaidd ar draws y wlad gyfan, ac y byddem yn cefnogi hynny'n weithredol. Yn sicr, yn y sgyrsiau a gefais gyda'r holl arweinwyr llywodraeth leol ledled y wlad, rydym bob amser wedi pwysleisio y byddwn yn parhau i ddarparu'r lefel honno o gefnogaeth.
2. Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o effaith toriadau i gyllid awdurdod lleol? OAQ53053
Mae fy nghyd-Aelodau o'r Cabinet a minnau'n ystyried cyllid llywodraeth leol gydag awdurdodau lleol drwy'r cyngor partneriaeth a'i is-grŵp cyllid, yn ogystal â chysylltiadau ffurfiol ac anffurfiol eraill.
Gwn y byddwch yn ymwybodol o ganfyddiadau gan yr Athro Philip Alston, rapporteur arbennig y Cenhedloedd Unedig ar fater tlodi eithafol, ac ymhlith llawer o'i gasgliadau enbyd oedd y ffaith bod toriadau San Steffan wedi effeithio fwyaf ar y tlawd, ar fenywod, lleiafrifoedd hiliol ac ethnig, plant, rhieni sengl a phobl ag anableddau. Dadleuai y byddai gwreig-gasäwr yn ei chael hi'n anodd gwneud mwy. A yw eich Llywodraeth wedi cyflawni asesiad effaith llawn o'ch toriadau i gyllid awdurdodau lleol er mwyn sicrhau nad ydych yn ailadrodd penderfyniadau dideimlad y Torïaid ac yn gwaethygu'r sefyllfa i'r bobl sydd â'r lleiaf yn ein cymdeithas?
Yn sicr byddwn yn adolygu'r adroddiad gan rapporteur y Cenhedloedd Unedig, a rhaid imi ddweud fy mod wedi darllen ei adroddiad ac rwy'n cytuno â chasgliadau'r Aelod dros y Rhondda ar y mater. Ond gadewch i mi ddweud hyn: nododd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid mewn ateb i gwestiwn cynharach fod Prifysgol Caergrawnt wedi cyhoeddi adolygiad yn ddiweddar o ddull gweinyddiaethau gwahanol y DU o weithredu mewn perthynas â llywodraeth leol, ac mae'r adolygiad hwnnw'n dweud yn glir iawn fod Cymru a'r Alban wedi dilyn llwybr tebyg iawn, sy'n wahanol iawn i'r un yn Lloegr, ac mae canlyniadau hynny'n glir iawn i bobl Lloegr.
Ond gadewch imi ddweud hyn hefyd: roedd un o'r adroddiadau a ddarllenais y llynedd, sydd wedi dylanwadu'n fawr arnaf, yn dweud bod yr awdurdodau lleol sy'n cynrychioli cymunedau tlotach a mwy difreintiedig yn cael mwy o anhawster i godi arian, ac yn dibynnu mwy ar gyllid Llywodraeth ganolog nag ardaloedd cyfoethog a mwy ffyniannus. A dyna un o'r rhesymau pam fy mod bob amser, ers i mi ddod i'r swydd hon, yn ceisio cael y strwythurau ar waith sy'n sicrhau'r effaith fwyaf o wasanaethau rheng flaen ac yn gwneud yn siŵr fod gwasanaethau'n cael eu darparu ar raddfa sy'n gallu gwrthsefyll pwysau ariannol yn y dyfodol yn ogystal. Ac edrychaf ymlaen at gael cefnogaeth gan Blaid Cymru ac o fannau eraill i fynd ar drywydd yr agenda honno.
Pa drafodaethau a gawsoch gyda phrif weithredwr Cyngor Sir y Fflint ers iddo ysgrifennu at yr holl gynghorwyr yno ar 16 Tachwedd i ofyn iddynt gefnogi'r ymgyrch #CefnogiGalw i gael cyfran deg o gyllid cenedlaethol Cymru, ac a gafodd gefnogaeth unfrydol gan aelodau o bob plaid ar 20 Tachwedd i fynd â'r frwydr, ac rwy'n dyfynnu, 'i lawr i'r adran llywodraeth leol yng Nghaerdydd'?
Nid wyf wedi siarad â'r prif weithredwr, Colin Everett, ar y pwnc hwn yn y ffrâm amser honno, ond rwyf am ddweud hyn: pan oedd y prif weithredwr yn gwneud y datganiad hwnnw yn sir y Fflint, roedd arweinydd Cyngor Sir y Fflint gyda mi yng Nghaerdydd ym Mharc Cathays, yn dweud wrthyf nad oedd ganddo unrhyw ddymuniad i ailagor y fformiwla cyllido na dadl na thrafodaethau ynghylch y fformiwla honno.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, David Melding.
Diolch yn fawr, Lywydd. Weinidog, mae bron i flwyddyn ers y cyhoeddodd yr Ysgrifennydd cyllid ei newidiadau i'r dreth trafodiadau tir, gan symud y trothwy safonol ar gyfer taliad o £150,000 i £180,000. Pa asesiad a wnaeth eich adran o effaith debygol hyn ar brynwyr tro cyntaf yng Nghymru?

Diolch yn fawr am y cwestiwn, ac wrth gwrs, mae'r penderfyniad ynghylch y dreth trafodiadau tir yn golygu na fydd oddeutu 80 y cant o brynwyr tro cyntaf yng Nghymru yn talu treth, gyda'n trothwy o £180,000. Dyma'r un gyfran o brynwyr tro cyntaf ag yn Lloegr, wrth gwrs, gyda'u treth dir y dreth stamp. Ar hyn o bryd, mae pris tŷ cyfartalog yma yng Nghymru yn £140,000, felly yn fy marn i mae'n anghywir ac yn annheg awgrymu ym Mhapur Gwyn y Blaid Geidwadol a ryddhawyd yr wythnos hon nad oes unrhyw ryddhad ar gyfer prynwyr tro cyntaf, gan fod hynny'n gamarweiniol—mae oddeutu 80 y cant brynwyr tro cyntaf yn cael eu gwarchod rhag y dreth honno.
Wel, Weinidog, pan gyflwynwyd y polisi hwn, roedd yn dilyn llwybr gwahanol i'r opsiwn a oedd ganddynt yn Lloegr. Yno, mae prynwyr tro cyntaf yn cael rhyddhad hyd at £300,000, ac ar eiddo sydd wedi'i brisio ar y lefel honno, nid oes treth stamp o gwbl. Rydych yn nodi pris tŷ cyfartalog—rwy'n credu eich bod wedi dweud £140,000; nid wyf yn credu bod hynny'n gywir. Ar hyn o bryd, rwy'n credu mai'r pris cyfartalog yw £180,000 neu oddeutu hynny, ac mae hwnnw'n swm sylweddol. Ar gyfer eiddo sydd rhwng £180,000 a £250,000, sef y pris cyfartalog mewn llawer o awdurdodau lleol ar hyn o bryd, ni fydd prynwyr tro cyntaf yn cael rhyddhad llawn; byddant yn cael rhan o hwnnw ar £180,000, ond ni fyddant yn cael yr un fargen ag y byddai'r prynwyr hynny yn ei chael yn Lloegr.
Gadewch imi egluro beth y mae hynny'n ei olygu. Yng Nghaerdydd, mae'n golygu bod ein prynwyr tro cyntaf, o gymharu â rhai cyfatebol yn Lloegr, yn talu £1,700 yn fwy mewn treth. Yn sir Fynwy, maent yn talu £5,400 yn fwy mewn treth, a hyd yn oed ar Ynys Môn, mae prynwyr tro cyntaf yno yn talu mwy na £1,000 mewn treth yn ychwanegol at yr hyn y byddent yn ei dalu pe baent yn Lloegr. A gredwch ei bod yn deg nad yw ein prynwyr tro cyntaf yng Nghymru yn cael cystal bargen ag y maent yn ei chael yn Lloegr?
Wel, mae asesiad y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol o'r rhyddhad i brynwyr tro cyntaf wedi dangos na fyddai'n gwneud llawer i helpu prynwyr tro cyntaf, a byddai'n codi prisiau tai ac yn arwain at fawr iawn o bryniannau ychwanegol gan brynwyr tro cyntaf. Felly, nid ydym eisiau ailadrodd rhyddhad nad ystyrir ei fod yn effeithiol. Ac yn wir, mae ein dull o weithredu yn llawer tecach yng Nghymru, oherwydd rydym yn awyddus i gynorthwyo pawb sy'n ei chael hi'n anodd prynu tŷ i wneud hynny. Felly, nid oes rhaid i chi fod yn brynwr tro cyntaf i elwa ar y gostyngiad yn y dreth trafodiadau tir yma yng Nghymru. Ac mewn gwirionedd, credaf fod hwnnw'n beth teg i'w wneud. Mae pobl yn cael trafferth prynu eu hail dŷ, mae pobl yn cael trafferth symud, a'n dull o weithredu yw helpu pobl sy'n cael trafferth, yn hytrach na phrynwyr tro cyntaf fel grŵp cyfan.
Wel, mae rhyddhad naill ai'n ddefnyddiol, neu nid yw'n ddefnyddiol, felly rwy'n credu bod angen i chi benderfynu ynglŷn â hynny. Ac ni fuaswn yn hoffi mynd allan ar strydoedd Caerdydd, neu i Fynwy neu Ynys Môn, a dweud wrth y prynwyr tro cyntaf yno, sy'n talu llawer mwy na'r hyn y byddent yn ei dalu pe baent yn Lloegr, fod y dreth ychwanegol hon nac yma nac acw. Credaf fod honno'n neges wael iawn. Rwy'n cytuno â'r pwynt arall ein bod angen ystod ehangach o bolisïau, a'r gyfradd adeiladu yw'r peth allweddol, mewn gwirionedd, o ran darparu gwell marchnad a marchnad fwy cystadleuol ar gyfer ein prynwyr tro cyntaf. Felly, yn eich barn chi, sut y mae'r gyfradd adeiladu isaf erioed bron, yn helpu prynwyr tro cyntaf yng Nghymru?
Wel, yn amlwg, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynyddu graddau a chyflymder adeiladu, ac un o'n hymrwymiadau yn 'Ffyniant i Bawb' oedd gweithio'n agos iawn gydag awdurdodau lleol i wneud hynny. Ac rydym yn gallu gwneud hynny yn awr o ganlyniad i'r cynnydd—neu o ganlyniad i gael gwared ar y terfyn benthyca, y bu Llywodraeth Cymru yn ymgyrchu o blaid ei wneud ers peth amser. Rydym ar y trywydd iawn i gyrraedd ein targed o adeiladu 20,000 o gartrefi fforddiadwy newydd yn ystod y Cynulliad hwn, a heddiw byddwch wedi sylwi ein bod wedi cyhoeddi 'Polisi Cynllunio Cymru', sy'n amlwg yn ein symud ymlaen, o ran chwalu rhai o'r rhwystrau mewn perthynas â chynllunio. Felly, sicrhau bod adeiladu'n digwydd yn yr ardaloedd sy'n cael eu cyflwyno ar gyfer cynllunio, yn hytrach na'r hyn a welwn ar hyn o bryd gyda lleiniau o dir yn cael eu cynnwys mewn cynlluniau datblygu lleol, ac yn codi gwerth y tir hwnnw wedyn, ond heb wneud fawr ddim i wella'r gyfradd adeiladu tai mewn gwirionedd. Felly, buaswn yn dweud bod 'Polisi Cynllunio Cymru' yn gam pwysig ymlaen o ran gallu chwalu rhai o'r rhwystrau a welwn yn arafu'r broses o adeiladu tai ledled Cymru.
Llefarydd Plaid Cymru—Leanne Wood.
Diolch, Lywydd. Weinidog, fe siaradoch chi yn y gynhadledd Crisis yn ôl ym mis Mehefin ar roi diwedd ar ddigartrefedd, ac rwy'n siŵr eich bod wedi darllen yr adroddiad a gynhyrchwyd yn y digwyddiad hwnnw, sy'n amlinellu'r hyn y gellir ei wneud i roi diwedd ar ddigartrefedd. Mae'n adroddiad cynhwysfawr iawn, gydag argymhellion ar gyfer yr holl Lywodraethau, gan gynnwys eich Llywodraeth chi. A allwch chi ddweud wrthym beth a ddysgoch o'r digwyddiad hwnnw ac o'r adroddiad, a sut y mae'n dylanwadu ar eich penderfyniadau?
Diolch yn fawr iawn i chi am hynny. Fel rydych yn ei ddweud, mynychais y digwyddiad hwnnw, ac rwyf wedi darllen y ddogfen helaeth iawn—credaf ei bod tua 2 fodfedd o drwch. Felly, mae'n sicr yn llawn tystiolaeth, ac rydym o ddifrif ynglŷn â'r dystiolaeth honno. Dysgais yn y gynhadledd honno am bwysigrwydd cefnogi pobl sy'n profi digartrefedd yn uniongyrchol a gwrando ar bobl sydd wedi cael y profiad o fod yn ddigartref. Oherwydd, wrth gwrs, arhosais am fwy o amser na fy slot fy hun yn y gynhadledd honno, a llwyddais i glywed yn uniongyrchol gan bobl sydd wedi cael y profiad o fod yn ddigartref, a chredaf mai dyna'r ateb sy'n mynd i lywio ein hymateb. Dyma un o'r pethau cyffrous y mae Abertawe yn ei wneud, gyda'r cyllid ychwanegol y gallasom ei ddarparu iddynt ar gyfer mynd i'r afael â chysgu ar y stryd. Maent yn gwneud gwaith gyda Shelter ar gasglu straeon unigol pobl sy'n cysgu ar y stryd, fel y gallwn ddeall ar ba bwynt y gellid bod wedi ymyrryd er mwyn atal y bobl hyn rhag cysgu ar y stryd, sut y gallem fod wedi helpu pobl rhag cysgu ar y stryd yn llawer cynt, a sut y gallwn atal pobl rhag colli eu deiliadaeth yn y dyfodol.
Diolch i chi, Weinidog. Ers rhai blynyddoedd bellach, ym Mhlaid Cymru, rydym wedi bod yn dadlau'r achos dros gael gwared ar angen blaenoriaethol yn raddol. Nawr, bythefnos yn ôl, mewn ymateb i fy nghyd-Aelod, dywedasoch fod hynny'n destun adolygiad. Ond wrth gwrs, yn 2012 comisiynodd eich Llywodraeth chi Brifysgol Caerdydd i adolygu cyfraith digartrefedd, ac argymhellodd y dylem ddiddymu angen blaenoriaethol, argymhelliad a gymeradwywyd eleni gan y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, ac wrth gwrs, ceir yr argymhelliad hwn yn adroddiad Crisis. Felly, pam y mae eich Llywodraeth wedi gwrthod argymhellion yr adolygiadau hyn, ac wedi gofyn am un arall yn lle hynny?
Wel, rydym yn edrych o ddifrif ar angen blaenoriaethol, a deallaf yn llwyr o ble y daw'r alwad ar hyn, ac rwy'n cydymdeimlo â'r alwad honno, ond ar yr un pryd, mae angen i ni ddeall unrhyw ganlyniadau anfwriadol posibl. Er enghraifft, pan edrychwn ar y sefyllfa yn yr Alban, lle maent wedi diddymu angen blaenoriaethol, fe welwch fod grwpiau mwy o bobl yn aros yn llawer hwy mewn llety dros dro, ac nid yw hynny'n rhywbeth y byddem eisiau ei weld yma yng Nghymru. Felly, mae angen i ni wneud hyn ochr yn ochr â chynyddu'r cyflenwad tai, yn ogystal â chyflwyno tai yn gyntaf, er enghraifft.
Yn sicr, mae hwn yn faes rydym yn edrych arno, ond ni ellir gwneud hynny ar ei ben ei hun, oherwydd mae yna ganlyniadau anfwriadol yno. Ac os edrychwch chi ar yr Alban, lle maent wedi diddymu angen blaenoriaethol, gallwch gerdded o gwmpas Caeredin neu ddinas arall, a bydd yna bobl yn cysgu ar y strydoedd, felly nid yw'n ateb pob problem o bell ffordd. Mae'n rhaid iddo fod yn rhan o ddarlun mwy o faint.
Rydych wedi cael ers 2012 i ddatrys canlyniadau anfwriadol hyn, ac mae niferoedd y bobl sy'n cysgu ar y stryd yn codi. Mae pobl yn mynd yn ddigartref ac yn aros yn ddigartref oherwydd eich tactegau oedi, ac mae angen gweithredu ar hyn yn awr. Nawr, mae eich cydweithiwr Andy Burnham ym Manceinion wedi addo cael gwared ar gysgu ar y stryd erbyn 2020, wyth mlynedd yn gynt na'ch Llywodraeth chi, saith mlynedd yn gynt na tharged y Torïaid, ac yn rhan o hynny, treuliodd yr hydref yn gweithio gydag awdurdodau lleol i ddarparu gwely ar gyfer pob person sy'n cysgu ar y stryd y gaeaf hwn, bob nos, mewn amrywiaeth o letyau, gan gynnwys lleoedd ar gyfer menywod yn unig a lleoedd sydd hefyd yn caniatáu i bobl fynd â'u cŵn. Gall aelodau o'r cyhoedd lawrlwytho ap y gallant ei ddefnyddio i gyfeirio pobl sy'n cysgu ar y stryd at leoedd lle y gallant gael cymorth. Pam fod uchelgais a gweithredu fel hyn yn bosibl ym Manceinion, ond nad yw'n bosibl gan eich Llywodraeth chi?
Wel, mae'n amlwg nad ydych yn ymwybodol o'r gwaith rydym yn ei wneud drwy ein rhaglen tai yn gyntaf, a hefyd, drwy'r cynllun gweithredu ar gyfer pobl sy'n cysgu ar y stryd a gyhoeddwyd y llynedd, a'r ffaith ein bod wedi gofyn i bob awdurdod lleol unigol yng Nghymru gyflwyno cynllun lleihau digartrefedd a chynllun i fynd i'r afael â digartrefedd sy'n canolbwyntio'n benodol ar gysgu ar y stryd. Pan edrychwch ar nifer y lleoedd sydd ar gael, o'i gymharu â nifer y bobl sy'n cysgu ar y stryd, mewn llawer o achosion mewn gwirionedd, mae'r gwelyau ar gael. Ond rwy'n deall nad ydynt yn ddeniadol i'r bobl sy'n cysgu ar y stryd oherwydd, mewn llawer o achosion, mae pobl sy'n cysgu ar y stryd yn dweud wrthyf nad ydynt eisiau mynd i fannau penodol am na allant fod o gwmpas pobl sy'n cymryd cyffuriau neu'n yfed alcohol, neu mae pobl eisiau aros gyda'u cŵn, neu mae pobl eisiau mynd fel pâr. Felly, rydym wedi gofyn i awdurdodau lleol fynd i'r afael â hyn yn eu cynlluniau gweithredu ar dai, y byddant yn eu cyflwyno i'r Llywodraeth cyn diwedd y mis.
Llefarydd UKIP—Gareth Bennett.

Diolch, Lywydd. Mae adroddiadau diweddar yn y wasg wedi dangos mai cyngor Caerdydd yw'r ail gyngor uchaf yn y DU gyfan mewn perthynas â chasglu dirwyon lonydd bysiau. Cafodd tua chwarter miliwn o yrwyr ddirwy mewn cyfnod o flwyddyn. Cyngor Glasgow yn unig a roddodd fwy o ddirwyon i yrwyr na Chaerdydd mewn gwirionedd. Nawr, rwy'n derbyn yr angen i lynu wrth y cyfyngiadau gyrru lleol, ond weithiau mae camgymeriadau diniwed yn digwydd am nad yw gyrwyr yn gyfarwydd ag ardal. Gyda chymaint o bobl yn cael dirwy, mae'r RAC yn dweud ei bod yn debygol fod pethau fel arwyddion a chynlluniau ffyrdd yn achosi problemau go iawn i yrwyr. A ydych yn credu bod perygl efallai fod cynghorau fel Caerdydd yn rhy barod i gosbi wrth gasglu dirwyon gan yrwyr am y mathau hyn o fân droseddau gyrru?
Lywydd, nid oes gennyf gyfrifoldeb am y materion a godwyd gan yr Aelod. Yr hyn a ddywedaf yw mai mater i'r awdurdod lleol yw cyflawni eu cyfrifoldebau fel y gwelant yn dda, a mater i breswylwyr ac etholwyr yng Nghaerdydd yw dwyn y cyngor i gyfrif am y penderfyniadau hynny.
Rwy'n derbyn yr angen am ddemocratiaeth leol ac i benderfyniadau gael eu gwneud yn y blwch pleidleisio, fel y dywedwch. Ond wrth gwrs, mae pobl yn gwneud penderfyniadau yn y blwch pleidleisio yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, nid yn unig ar ba un a ydynt wedi cael dirwy am yrru ar lôn fysiau neu beidio. Felly, gan fod gennych drosolwg ar lywodraeth leol yng Nghymru, tybed a ydych yn effro i'r posibilrwydd y gallai cynghorau fod mewn perygl, heb enwi unrhyw gyngor penodol, yn yr achos hwn efallai—[Torri ar draws.] Wel, gadewch i ni anghofio fy mod wedi enwi'r cyngor hwnnw, a oes posibilrwydd damcaniaethol—? I blesio'r Gweinidog ac efallai i geisio cael ateb mwy goleuedig, a oes posibilrwydd damcaniaethol y gallai cynghorau fod yn rhy barod i gosbi, efallai, wrth gasglu'r mathau hyn o ddirwyon?
Mae'n bosibl fod hynny'n wir yn ddamcaniaethol. Gadewch i mi ddweud hyn wrth yr Aelod dros Ganol De Cymru, sy'n amlwg yn cael trafferth gyda'r mater hwn: nid wyf yn credu ei bod yn iawn i Weinidogion sy'n sefyll yma yn y lle hwn wneud sylwadau ar y penderfyniadau y mae llywodraeth leol yn eu gwneud wrth gyflawni ei swyddogaethau. Rydym yn atebol yma am benderfyniadau a wneir gan Lywodraeth Cymru, nid gan awdurdodau lleol unigol.
Yn wir, rydych yn gywir yn dweud hynny. Mewn perthynas â dirwyon yn gyffredinol—rwy'n credu y gallwn gytuno ar y pwynt hwn—fe wyddom fod llywodraeth leol mewn sefyllfa anodd ar hyn o bryd yn ariannol. A yw'n bosibl efallai fod cynghorau'n rhy barod i gosbi weithiau gyda sawl math o ddirwy ac y gallent fod yn defnyddio'r trethdalwyr lleol fel peiriannau pres?
Lywydd, fe ddarparaf restr o gyfrifoldebau Gweinidogion i arweinydd UKIP cyn ein sesiwn nesaf yn y lle hwn [Chwerthin.] Rwyf wedi bod yn glir iawn gydag ef, ac Aelodau eraill, a bod yn deg, sydd wedi ymdrechu yr un mor galed i fy nhemtio i ddweud rhywbeth annoeth iawn—[Torri ar draws.] Ond ni chaf fy nhemtio ar yr achlysur hwn i wneud sylw ar benderfyniadau unrhyw gyngor lleol mewn unrhyw ran o'r wlad. Mae'n iawn ein bod wedi trafod yr anawsterau sy'n wynebu llywodraeth leol mewn perthynas â threfniadau ariannol a sut y bydd yn arfer ei chyfrifoldebau yn y dyfodol, a byddwn yn gwneud hynny eto, ond fy mholisi i o hyd yw peidio â gwneud sylwadau ar benderfyniadau unigol awdurdodau unigol. Mater iddynt hwy yw hwn, ac maent yn atebol i'w hetholwyr, nid i'r lle hwn.
3. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn annog arloesedd mewn llywodraeth leol? OAQ53059
Buaswn yn annog pob awdurdod i arloesi yn eu cynlluniau i wella'r gwaith o ddarparu gwasanaethau. Mae arloesedd a chreadigrwydd bob amser yn ganolog i'r gwaith o ddarparu gwasanaethau effeithiol a chynaliadwy i bob un o'n dinasyddion.
Ie, Ysgrifennydd y Cabinet, buaswn yn cytuno'n gryf â hynny, ac yn y cyfnod hwn o gyni a achoswyd gan Lywodraeth y DU, mae'n fwy pwysig byth, rwy'n credu, ein bod yn canfod ffyrdd newydd o ddarparu gwasanaethau, ac o ddarparu mwy gyda llai yn aml, ond yn amlwg mae honno'n dipyn o her. Mewn perthynas â llywodraeth leol yn gweithio ar y cyd â sefydliadau partner allweddol eraill, tybed a allwch ddweud rhywbeth am brofiad cynnar y byrddau gwasanaethau cyhoeddus, ac yn arbennig, sut y mae iechyd a gofal cymdeithasol yn datblygu gwaith ar y cyd, ac yn fwy arbennig, sut y mae swyddogaeth gan Lywodraeth Cymru i nodi arferion da o fewn y byrddau gwasanaethau cyhoeddus, oherwydd rwy'n credu eu bod yn amrywio o un i'r llall—sut y gallai Llywodraeth Cymru nodi arferion gorau mewn byrddau gwasanaethau cyhoeddus a sicrhau bod y gwersi hynny'n cael eu rhannu ledled Cymru.
Lywydd, rwyf am ddweud wrth yr Aelod dros Ddwyrain Casnewydd, yn rhinwedd ei swydd fel Cadeirydd y pwyllgor perthnasol yn y lle hwn, fy mod yn edrych ymlaen at adroddiad ei bwyllgor ar y materion hyn, a byddaf yn rhoi cryn dipyn o sylw iddo pan fyddaf yn gallu gwneud hynny.
Ond mae'n iawn i nodi byrddau gwasanaethau cyhoeddus fel cyfle i ddod ag awdurdodau at ei gilydd i arloesi ac i ddarparu atebion newydd a gwahanol i lawer o'r anawsterau rydym yn eu hwynebu. Rwyf newydd gytuno ar becyn cymorth ar gyfer byrddau gwasanaethau cyhoeddus, a byddaf yn gwneud datganiad ar y mater hwnnw maes o law, Lywydd. Fel rhan o hynny, rwy'n credu y dylem osod uchelgeisiau clir iawn ar gyfer byrddau gwasanaethau cyhoeddus o ran yr hyn rydym eisiau iddynt ei gyflawni, ac mae'r agenda ataliol y mae'r Aelod wedi'i disgrifio, rwy'n credu, yn gwbl ganolog ac yn hanfodol i rôl y byrddau gwasanaethau cyhoeddus. Rwy'n gobeithio y gallwn weld llywodraeth leol yn gweithio gyda'i chydweithwyr i gyflawni dull gwell o ddarparu gwasanaethau ataliol nag a welwyd yn y gorffennol. Ac rwy'n credu bod byrddau gwasanaethau cyhoeddus yn allweddol i hynny, i'w gallu i'w gyflawni ar draws ardal benodol, ac rwy'n gobeithio y gallant fanteisio i'r eithaf ar y cyfle y mae dulliau a ffyrdd newydd o weithio yn ei gynnig i ni.
Rwyf am ddweud, Lywydd, fod yr Aelod dros Lanelli, Lee Waters, ar yr achlysur hwn, wedi cynhyrchu adroddiad rhagorol ar y mater hwn mewn perthynas â gwasanaethau digidol, ac rwy'n edrych ar hwnnw'n fanwl iawn ar hyn o bryd, ac rwy'n gobeithio y byddwn, ochr yn ochr ag arweinydd y tŷ ac Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd, yn gallu ymateb yn llawn i'r sylwadau y mae'n eu gwneud.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae ffyrdd newydd o weithio yn allweddol er mwyn cynnal ansawdd a chwmpas y gwasanaethau a ddarperir gan awdurdodau lleol sy'n wynebu cyfyngiadau cyllidebol. Mae hyn yn golygu bod angen mabwysiadu atebion arloesol, ynghyd â datblygu technoleg newydd. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno bod angen arweinyddiaeth gref o'r brig i'r bôn i allu cyflawni hyn, ac a fyddai'n cefnogi cael hyrwyddwr arloesedd cydnabyddedig ym mhob cyngor, gan fod syniadau newydd yn aml yn deillio o angerdd unigolion yn hytrach na mater o broses?
Rwy'n cytuno bod arweinyddiaeth yn bwysig, ond nid wyf yn sicr fy mod yn cytuno mai arweinyddiaeth o'r brig i'r bôn sydd ei angen. Credaf fod gennym bobl dalentog dros ben yn gweithio ar draws y sector cyhoeddus, mewn llywodraeth leol ac mewn mannau eraill ledled Cymru, ac mae'r gweithgor a ddisgrifiais mewn ateb cynharach yn darparu adroddiad heriol iawn i ni sy'n ceisio sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn gallu ymateb yn llawn i'r heriau sy'n deillio o newid technolegol yn ogystal. Ac rwy'n gobeithio, drwy gydweithio â phob rhan o'r sector cyhoeddus, y byddem yn gallu gwneud hynny.
4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gyllidebau llywodraeth leol? OAQ53038
Mae awdurdodau lleol Cymru yn gosod eu cyllidebau yng nghyd-destun eu cynlluniau ariannol tymor canolig. Maen nhw’n seiliedig ar gymysgedd o refeniw a godwyd yn lleol a darpariaeth Llywodraeth Cymru o grantiau penodol a chyllid heb ei neilltuo drwy’r grant cynnal refeniw. Eleni, cyllidebwyd dros £7 biliwn o wariant gan awdurdodau lleol.
Diolch i chi am yr ateb hwnnw. Fel y byddwch yn gwybod, gwelwyd toriad o £1 biliwn i gyllid llywodraeth leol dros yr wyth mlynedd diwethaf. Mae llawer o gynghorau yn sôn am bwysau difrifol ar ysgolion a gofal cymdeithasol. Maent yn sôn am flinder a diffyg morâl ymhlith y gweithlu ac yn rhagweld y bydd 7,000 o swyddi eraill yn cael eu colli dros yr ychydig flynyddoedd nesaf er mwyn mantoli'r cyfrifon yn unig. Mae'r alwad am gymorth ariannol angenrheidiol gan arweinwyr awdurdodau lleol ar draws Cymru i'w gweld yn syrthio ar glustiau byddar. A ydych yn falch o'r rôl y mae eich Llywodraeth yn ei chwarae yn llethu llywodraeth leol ac ysgolion yn llwyr?
Lywydd, mae'n hawdd iawn i ni ddisgrifio'r problemau sy'n wynebu llywodraeth leol, ond ar y meinciau hyn, rydym yn ceisio disgrifio atebion yn ogystal. Mae cyflwyno datganiad i'r wasg yn galw am arian ychwanegol ar gyfer holl feysydd gwariant y Llywodraeth yn ymateb annigonol i'r heriau a wynebwn heddiw. Mae'n ymateb annigonol ac anaeddfed. Rwyf am ddweud hyn wrth yr Aelod: rwyf wedi cyfarfod â phob arweinydd gwleidyddol llywodraeth leol yng Nghymru yn ystod yr wythnos ddiwethaf ac rwyf wedi bod yn glir iawn gyda hwy ynglŷn â'r heriau sy'n ein hwynebu. Ond rwyf am ddweud hyn yn ogystal: yn y dyfodol, mae angen i ni feddwl yn galetach ynglŷn â sut y trefnwn ac y strwythurwn ein gwasanaethau i ymateb i heriau newydd. Ac mae honno'n her nid yn unig i'r Llywodraeth â'r blaid sy'n llywodraethu, ond hefyd, buaswn yn awgrymu, i bob plaid a gynrychiolir yn y lle hwn, oherwydd yn rhy aml, pan gyflwynir cynigion ar gyfer diwygio yma, gwelwn yr un bobl ag a gyhoeddodd ddatganiad i'r wasg i ddweud pa mor anodd yw pethau, yn sefyll i gymryd eu tro i wrthwynebu pob cynnig ar gyfer diwygio. Felly, rwy'n gobeithio y byddwn yn gweld llawer iawn o aeddfedrwydd ar y meinciau yn y lle hwn wrth wynebu heriau i lywodraeth leol, yn hytrach na dim ond rhestru'r heriau hynny mewn areithiau.
Wrth gwrs, nid yw o reidrwydd yn hawdd i gynghorau sy'n ceisio gwneud y gorau o'r arian sydd ganddynt er mwyn adfywio canol eu dinas—yn achos Abertawe—a gwella'r economi leol yno. Mewn adroddiad cabinet gan y cyngor yno fis diwethaf, nodwyd bod perygl nad oes gan yr awdurdod lleol ddigon o adnoddau i gwblhau cam 1 ei gynllun i adfywio canol y ddinas—Canol Abertawe. Mewn ymateb i'r adroddiad hwnnw, dywedodd arweinydd Cyngor Abertawe wrth gynghorwyr, ac rwy'n dyfynnu, y 'bydd y cyhoedd yn ein saethu'—ychydig yn anffodus, rwy'n credu—gan gyfeirio at gabinet Llafur Cyngor Abertawe, os caiff y cynllun adfywio ei ddiddymu. Mae pawb ohonom am weld canol dinas Abertawe yn ffynnu, a dywedaf hynny er bod lliw gwahanol i'r cyngor yno. Sut y gallwch fod yn hyderus, o gofio'r setliad y maent newydd ei gael, fod y cabinet yno'n gallu rheoli ei arian a'i gyllidebau'n briodol fel y gallant ymateb yn briodol i rybuddion ariannol o'r fath?
Mae gennyf hyder llawn yn arweinyddiaeth Cyngor Abertawe i reoli'r cronfeydd sydd ar gael iddo mewn modd priodol. Credaf fod arweinyddiaeth Cyngor Abertawe wedi darparu arweinyddiaeth go ysbrydoledig o ran eu huchelgeisiau ar gyfer y ddinas honno ac mae'n rhoi camau ar waith i'w cyflawni. Credaf fod yr arweiniad a ddangoswyd gan Rob Stewart, fel arweinydd y cyngor, yn gosod esiampl ar gyfer llawer o arweinwyr eraill, ond hefyd yr arweiniad a ddangoswyd gan yr holl awdurdodau yn yr ardal honno wrth lunio bargen ddinesig bae Abertawe. Rwy'n gobeithio y byddwn yn gweld yr uchelgeisiau hynny'n cael eu gwireddu, ond hoffwn ddweud wrth yr Aelod dros Orllewin De Cymru nad y fformiwla ariannu yw'r her fwyaf sy'n wynebu Abertawe ond y polisi cyni sydd wedi golygu, ers wyth mlynedd, nad yw Abertawe, nac awdurdodau lleol eraill yng Nghymru, wedi cael y lefel o gyllid y byddem yn dymuno ei rhoi iddynt. A buaswn yn awgrymu i'r Aelodau Ceidwadol, yn hytrach na dod yma a rhestru'r problemau hynny, y dylent fynd i Lundain i restru'r problemau hynny.
5. Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o effeithiolrwydd gweithio rhanbarthol ymysg awdurdodau lleol? OAQ53039
Rydym ni'n disgwyl i awdurdodau lleol gydweithio ac asesu effeithiolrwydd y trefniadau hynny. Pan fo trefniadau rhanbarthol yn ofynnol yn ôl y gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru, gall y Gweinidog perthnasol oruchwylio effeithiolrwydd y trefniadau hynny.
Byddwch yn ymwybodol bod awdurdodau lleol Cymru yn aml yn danfon eu deunydd ailgylchadwy i gyfleusterau yn Lloegr neu’r tu hwnt i gael eu prosesu. Mae allforio’r deunydd hyn, wrth gwrs, yn ychwanegu at ein hôl troed carbon, ond mae hefyd yn meddwl ein bod ni’n colli ar gyfle i greu swyddi. A ydych chi’n cytuno y dylai Llywodraeth Cymru fod yn gwneud mwy o ran gweithio gydag awdurdodau lleol i ddatblygu canolfannau ailgylchu rhanbarthol yng Nghymru a sicrhau bod holl ddeunyddiau ailgylchadwy yn cael eu trin yma yng Nghymru?
Rydym ni wedi bod, ers rhai blynyddoedd, yn cydweithio â llywodraeth leol a chynghorau gwahanol i greu’r union fath o rwydwaith rhanbarthol y mae’r Aelod yn awgrymu ein bod ni’n gwneud, ac mae hynny’n bodoli yn y rhan helaeth o’r wlad. Rydw i’n fodlon iawn gyda'r math o drefniadau y mae’r cynghorau wedi eu gwneud er mwyn sicrhau bod eu gwastraff yn cael ei ailgylchu neu ei drin yn y ffordd briodol.

Dylai bargen ddinesig bae Abertawe alluogi'r prosiectau posibl sy'n cael eu cynnig i ddod â budd economaidd sylweddol i'r pedair ardal awdurdod lleol. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi fod potensial gan y prosiectau hyn i gyflwyno cyfleoedd cyflogaeth mawr ar draws y rhanbarth? A yw hefyd yn cytuno y gellid ystyried y math hwn o gydweithio, os yw'n cael ei wneud yn iawn, fel glasbrint i awdurdodau lleol allu gweithio gyda'i gilydd yn effeithiol yn y dyfodol, ac felly ni fyddai angen gorfodi uno fel y dymunai ei wneud yn wreiddiol?
Rwy'n cefnogi'r dull cydweithredol a amlinellwyd gan yr Aelod dros y Preseli. Mae'n bwysig i awdurdodau lleol o ba bynnag faint neu siâp allu gweithio gyda'u cymdogion i gyflawni'r math o uchelgais y byddai ef a minnau'n cytuno arno yn ôl pob tebyg o ran bargen ddinesig bae Abertawe. Fodd bynnag, mae'r materion sy'n ymwneud ag uno neu strwythurau o fewn awdurdodau lleol ychydig yn wahanol, wrth gwrs, ac mae'r rheini'n ymwneud â chynaliadwyedd yr unedau llywodraethu hynny. Fy marn i, a barn llywodraeth leol, yw nad yw'r strwythurau cyfredol yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Felly, fel Gweinidog, fy nghyfrifoldeb i yw sicrhau bod y ffeithiau hynny'n cael eu cyflwyno i'r lle hwn a llywodraeth leol a'n bod yn gallu symud tuag at benderfyniad ar hynny.
Ond hoffwn ddweud wrth yr Aelod ei bod yn iawn ac yn briodol wedyn iddo gefnogi'r cynigion hynny i sicrhau bod ei etholwyr, a'n holl etholwyr, yn cael y gwasanaethau o ansawdd uchel y maent eu hangen, a bod awdurdodau lleol yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol.
A gaf fi ddweud yn gyntaf fy mod yn cytuno â phopeth y mae Paul Davies newydd ei ddweud? A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno ei bod yn bwysig i bob gwasanaeth cyhoeddus weithio o fewn yr un ôl troed rhanbarthol, sy'n wir am brifddinas-ranbarth Caerdydd, ond nid yw'n wir am ddinas-ranbarth bae Abertawe, ac a yw'n cytuno ei bod yn bwysig sicrhau bod awdurdodau lleol yn dod i arfer â gweithio gyda'i gilydd? Mae'n bosibl bod gwahanol bleidiau gwleidyddol wrth y llyw yn y pedwar awdurdod lleol yn ne-orllewin Cymru, ond maent wedi dangos arweinyddiaeth gref yn yr ardal wrth weithio gyda'i gilydd.
Rwy'n credu ein bod yn gwneud llywodraeth yn rhy gymhleth ar adegau. Credaf fy mod wedi gwneud hynny'n glir iawn yma ac mewn mannau eraill. Credaf fod angen i ni edrych am eglurder yn y ffordd rydym yn strwythuro'r gwaith o ddarparu ein gwasanaethau ond hefyd yn y ffordd y strwythurwn yr atebolrwydd cyhoeddus ar gyfer darparu'r gwasanaethau hynny. Felly, credaf fod angen i ni sicrhau bod gennym ôl troed rhanbarthol sy'n ddealladwy, nid yn unig i'r rhai ohonom sy'n gorfod gweithio gydag ef, ond hefyd i'r etholwyr y mae pob un ohonom yn eu gwasanaethu. Ond nid wyf yn credu bod hynny, ynddo'i hun, yn ymateb digonol i rai o'r heriau y byddwn yn eu hwynebu yn y dyfodol. Bydd pawb ohonom yn ymwybodol o'r anawsterau ariannol sy'n wynebu llywodraeth leol heddiw, ond rydym hefyd yn gwybod bod Brexit a materion eraill yn golygu y byddant yn wynebu penderfyniadau hyd yn oed yn anos yn y dyfodol, ac felly, mae gennym gyfrifoldeb i feddwl yn galed am y dyfodol hwnnw ac i sefydlu strwythurau sy'n gynaliadwy yn y dyfodol.
6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am wasanaethau cyfiawnder ieuenctid yng Nghymru? OAQ53036
Efallai y bydd yr Aelodau'n cofio fy mod wedi comisiynu'r gwaith o ddatblygu glasbrintiau ar gyfer cyfiawnder ieuenctid ac ar gyfer troseddwyr benywaidd. Rwyf wedi rhannu'r glasbrintiau hyn gydag aelodau o'r Cabinet, ac rwy'n gobeithio, Lywydd, y byddaf yn gallu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau yn ystod yr wythnos nesaf.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am yr ymateb hwnnw ac edrychaf ymlaen at ddarllen y wybodaeth ddiweddaraf. Mae'r ffigurau diogelwch diweddaraf, a gyhoeddwyd ym mis Hydref, yn dangos bod nifer y digwyddiadau o hunan-niweidio mewn carchardai yng Nghymru yn cynyddu ac mae hynny, wrth gwrs, yn cynnwys carchar y Parc a'r sefydliad troseddwyr ifanc sydd yno, lle y credaf fod nifer syfrdanol o ddigwyddiadau wedi bod eisoes eleni: 777 o ddigwyddiadau rhwng mis Ionawr a mis Mehefin. A all Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynllun carchar y Parc i gyflogi dadansoddwyr ymddygiad i wella lefelau diogelwch?
Rwyf wedi ymweld â CEM Parc a'r sefydliad troseddwyr ifanc yn y carchar, ac rwyf wedi trafod y materion hyn gyda'r cyfarwyddwr yno. Mae Gwasanaeth Carchardai a Phrawf ei Mawrhydi wedi cadarnhau bod yna ddadansoddwyr rheoli ymddygiad yn y Parc sy'n gweithio i leihau'r lefelau o hunan-niweidio a thrais yn y carchar. Fodd bynnag, credaf fod angen i ni fynd ymhellach na hyn. Credaf fod angen polisi cosbi penodol ar gyfer Cymru, sy'n edrych, yn y lle cyntaf, ar y problemau sy'n ymwneud â throseddu ymhlith yr ifanc a throseddu gan fenywod, a bod angen i ni edrych ar fuddsoddi o fewn yr ystâd ddiogel ond hefyd, yn hollbwysig, ar ymagwedd gyfannol tuag at bolisi sy'n ceisio lleihau troseddu, gwella adsefydlu a sicrhau nad yw menywod, yn enwedig, yn cael eu trin yn y ffordd y cânt eu trin heddiw.
Ysgrifennydd y Cabinet, ychydig yn ôl, rhoddodd yr Arglwydd Laming gyflwyniad ar ei adolygiad o'r system cyfiawnder troseddol ieuenctid i grŵp cynghori'r Gweinidog ar ganlyniadau i blant. Soniodd am y canfyddiad brawychus fod plant sy'n derbyn gofal yn llawer mwy tebygol o ddod i gysylltiad â'r system cyfiawnder ieuenctid o gymharu â'u cyfoedion, yn aml oherwydd bod y rhai sy'n gysylltiedig—yr heddlu, athrawon a'r llysoedd—yn tybio bod ymateb penodol yn briodol ar gyfer plant sy'n derbyn gofal yn wahanol i'w hymateb i blant o gefndiroedd eraill, ac mae'r rhagfarn gynhenid hon yn amlwg yn peri pryder. Mae'n adolygiad ardderchog ac yn un tosturiol iawn, ac rwy'n gobeithio bod yr holl asiantaethau perthnasol wedi ystyried yr argymhellion sydd wedi'u cynnwys yn yr adolygiad hwnnw.
Rwy'n cytuno'n gryf â chasgliadau'r Aelod dros Ganol De Cymru. Cefais gyfarfod â Charlie Taylor, cadeirydd y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid, yn yr ychydig wythnosau diwethaf i drafod y materion hyn gydag ef a sut yr awn i'r afael â throseddau ieuenctid. Mae'r dadansoddiad a ddisgrifiodd yr Aelod yn gwbl gywir a chredaf ei fod yn argyfwng sy'n rhaid i ni roi sylw iddo. Pan fydd yn darllen y glasbrint, pan gaiff ei gyhoeddi, yr wythnos nesaf, gobeithio, rwy'n gobeithio y bydd yn cael sicrwydd ein bod yn gwneud hynny. Buaswn yn sicr yn hapus iawn i fynychu'r grŵp trawsbleidiol i drafod y materion hyn yn fwy manwl os yw'n dymuno i mi wneud hynny. Ond craidd fy nadansoddiad yw fy mod yn credu bod angen i ni fabwysiadu ymagwedd lawer mwy cyfannol tuag at bolisi. Mae'r setliad toredig sydd gennym yng Nghymru ar hyn o bryd yn rhwystr i hynny, a buaswn yn hoffi gweld y system gosbi a chyfiawnder troseddol yn cael eu datganoli i Gymru er mwyn ein galluogi i ddatblygu a mabwysiadu'r ymagwedd gyfannol honno tuag at bolisi.
Rhannaf y pryderon a amlinellwyd yma gan ganfyddiadau adroddiad diweddar Canolfan Llywodraethiant Cymru ar drais a hunan-niweidio mewn sefydliadau ieuenctid. Chi sy'n gyfrifol am wasanaethau cyfiawnder ieuenctid, ond wrth gwrs, mae'r gwasanaethau eraill sy'n gweithredu yng ngharchar y Parc yn wasanaethau oedolion, ac maent yn perthyn i gylch gwaith San Steffan. Felly, yr hyn rydym ei angen yn fawr yw gweld y system cyfiawnder troseddol yn cael ei datganoli. Nawr, mae hwnnw'n rhywbeth y mae Plaid Cymru wedi bod yn galw amdano ers cyn cof, ac mae'n braf gweld bod rhai o'n gwrthwynebwyr gwleidyddol bellach yn cefnogi'r ddadl honno. A fydd y Llywodraeth hon yn parhau i fod yn ymrwymedig i'r comisiwn ar gyfiawnder yng Nghymru o dan y Prif Weinidog nesaf? Ac a yw eich Llywodraeth wedi llwyddo i berswadio eich cymheiriaid Llafur yn San Steffan i gefnogi'r achos dros ddatganoli'r system cyfiawnder troseddol i Gymru? Oherwydd gwelais fod yna griw o ASau'r Blaid Lafur a oedd lawn mor amheus o ddatganoli â rhai o'r Torïaid yn ystod fy ymwneud â hwy ynghylch Rhan 2 o gomisiwn Silk.
Er gwaethaf ymdrechion yr Aelod o'r Rhondda, credaf ein bod, mewn gwirionedd, yn cytuno ar lawer mwy nag y byddai hi'n ei gredu o bosibl. Mae'r Llywodraeth hon yn gwbl ymrwymedig i ddatganoli plismona a chyfiawnder troseddol i'r lle hwn—
Ond mae angen i chi berswadio eich ASau, onid oes?
—ac i greu ymagwedd gyfannol tuag at bolisi. Ar gais yr heddlu, rydym wedi creu bwrdd plismona i Gymru, a gyfarfu am y tro cyntaf fis diwethaf, ac rydym yn gweithio'n dda gyda'r heddlu. Rwyf wedi cyfarfod â'r Swyddfa Gartref ar nifer o achlysuron i fynd ar drywydd y materion hyn, ac rwyf wedi cyfarfod â Gweinidogion yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder i fynd ar drywydd y materion hyn yn ogystal. Rwyf o'r farn mai'r ffordd orau o fynd i'r afael â'r materion rydym yn eu trafod y prynhawn yma yw mewn modd cyfannol yn y lle hwn. Dyna yw barn y Llywodraeth hon, a dyna fydd barn y Llywodraeth hon.
7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi cyn-filwyr yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ53057
Rydym wedi gwneud cynnydd aruthrol ar wella gwasanaethau a chymorth ar gyfer cyn-filwyr, sy'n cynnwys y rheini sy'n byw yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru. Rwy'n gobeithio y bydd yr Aelod yn cytuno bod fy natganiad diweddar ar y materion hyn yn adlewyrchu hynny.
Yn wir, rwy'n croesawu eich datganiad diweddar ac rwyf hefyd yn credu bod ein cyn-filwyr wedi cyflawni eu dyletswyddau dros ein gwlad, ac y dylem ni yn ein tro roi rhywbeth yn ôl iddynt felly, nid yn lleiaf mewn perthynas â'r modd y maent yn dychwelyd i fywyd sifil. Rhan o hynny wrth gwrs, yw ceisio dod o hyd i waith. Ond rwy'n credu bod cyflogaeth ystyrlon yn ganolog i'r daith honno, a chanfyddiadau hefyd y bydd yn cefnogi eu hiechyd meddwl. Felly, hoffwn ofyn i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch chi ddweud mwy wrthym am y llwybr cyflogaeth a gyhoeddwyd gennych ddoe fel rydych newydd ei ddweud.
Lywydd, bydd yr Aelodau'n ymwybodol ein bod wedi lansio'r llwybr cyflogaeth mewn partneriaeth â grŵp arbenigol y lluoedd arfog sy'n cynnwys cynrychiolwyr o'r sector cyhoeddus a'r trydydd sector, yn ogystal ag elusennau milwrol, gan gynnwys yr Adran Gwaith a Phensiynau. Mae'n darparu opsiynau i gyn-filwyr a'r rhai sy'n gadael y lluoedd arfog o ran ble y gallant ddod o hyd i gymorth a gwybodaeth i sicrhau cyflogaeth sy'n berthnasol iddynt hwy. Dylwn ddweud hefyd wrth yr Aelodau fy mod, cyn dod yma heddiw, wedi lansio pecyn cymorth newydd ar gyfer cyflogwyr, ochr yn ochr â Busnes yn y Gymuned ac eraill, i ategu'r llwybr cyflogaeth. Mae hwn yn ceisio sicrhau bod cyflogwyr eu hunain yn deall y manteision o gyflogi cyn-aelodau'r lluoedd arfog a sicrhau eu bod yn gallu darparu'r cyfleoedd cyflogaeth gorau ar gyfer pawb sy'n gadael ein lluoedd arfog.
Fis diwethaf, pleidleisiodd Llywodraeth Cymru yn erbyn cynigion y Ceidwadwyr Cymreig i greu comisiynydd y lluoedd arfog i Gymru, er mwyn sicrhau bod cyfamod y lluoedd arfog yn cael ei gynnal. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ailystyried gwrthwynebiad Llywodraeth Cymru i greu'r swydd er mwyn sicrhau y gellir darparu'r strategaeth draws-Lywodraethol newydd ar gyfer cyn-filwyr yn y DU yn effeithiol?
Na wnaf.
Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol fod y boblogaeth ddigartref yn cynnwys cyfran uwch o gyn-filwyr yn aml. Yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, ac mewn cymunedau gwledig, mae'n bosibl fod y bobl hyn yn llai tebygol o fod yn cysgu ar y stryd yn y pen draw, ond maent yn aml iawn mewn sefyllfaoedd ansicr iawn, yn mynd o soffa i soffa ac o un aelod teuluol i'r llall a mathau eraill o sefyllfaoedd. Pa drafodaethau rydych chi a'ch cyd-Aelodau wedi'u cael gydag awdurdodau lleol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru i sicrhau ein bod yn mynd i'r afael â'r math hwn o ddigartrefedd cudd ymhlith y boblogaeth cyn-filwyr?
Un o'r rhesymau pam fy mod yn awyddus iawn i sicrhau ein bod yn cyflawni ein cyfrifoldebau o dan y cyfamod oedd er mwyn darparu adnoddau i'r rheng flaen pan fo'u hangen. Felly, byddwn yn gwario adnoddau sylweddol ar gefnogi'r rhwydwaith o swyddogion cyswllt awdurdod lleol ledled Cymru, sy'n darparu cymorth ar gyfer holl bersonél y lluoedd arfog, mewn perthynas â thai ac mewn ffyrdd eraill yn ogystal. Felly, rwy'n gobeithio y byddwn yn gallu gweithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau eu bod yn gallu darparu yr union wasanaethau y mae'r Aelod dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru yn eu disgrifio. Ac i mi, ac yn sicr i'r bobl rwy'n siarad â hwy ar hyn o bryd, maent eisiau gweld y lefel honno o adnoddau ar waith yn darparu gwasanaethau ar gyfer pobl. Rydym wedi clywed sawl gwaith yn ystod y sesiwn y prynhawn yma am yr heriau sy'n wynebu llywodraeth leol o ran darparu gwasanaethau, ac felly mae'n ddyletswydd ar bob un ohonom i edrych ar sut y gallwn ddarparu'r adnoddau hynny i'r rheng flaen er mwyn sicrhau bod pobl yn cael y gwasanaethau y maent eu hangen. A dyna oedd y pwynt a wneuthum wrth ateb cais y Ceidwadwyr i greu comisiynydd, Lywydd. Yr hyn rydym eisiau ei wneud yw rhoi arian ar y rheng flaen, nid creu rhagor o fiwrocratiaeth yma. Cyfrifoldeb yr Aelodau yma yw dwyn Gweinidogion i gyfrif am y penderfyniadau a wnawn a'r gwasanaethau a ddarparwn, ac rwy'n credu bod y lefel honno o atebolrwydd democrataidd yn bwysig.
Ac yn olaf, cwestiwn 8, Neil Hamilton.
8. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y setliad llywodraeth leol ar gyfer Cyngor Sir Penfro? OAQ53037
Ar 9 Hydref, cyhoeddais y setliad llywodraeth leol dros dro ar gyfer 2019-20. Ar 20 Tachwedd, cyhoeddodd y Llywodraeth y bydd arian pellach ar gael ar gyfer llywodraeth leol. Bydd y setliad terfynol yn cael ei gyhoeddi ar 19 Rhagfyr.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am yr ateb hwnnw. Pan godais y cwestiwn hwn flwyddyn yn ôl, roedd sir Benfro yn cael ei gorfodi i godi'r dreth gyngor 12.5 y cant—y cynnydd mwyaf yng Nghymru. Y flwyddyn hon, cafodd y gyllideb ddrafft ei chyflwyno ddydd Llun, ac o ganlyniad i hynny, disgwylir y bydd y dreth gyngor yn codi 10 y cant arall ac y bydd gwerth £15.5 miliwn o doriadau i wasanaethau. Cyn pennu'r gyllideb, roedd uwch swyddogion yn sir Benfro wedi rhybuddio y byddai angen i'r dreth gyngor godi 28 y cant er mwyn ateb anghenion gwasanaethau. Mae sir Benfro yn cael ei chosbi gan y setliad llywodraeth leol cyfredol ac mae'n ymddangos nad oes unrhyw gymhelliant i gynghorau darbodus barhau i fod yn ddarbodus, oherwydd po uchaf yw eich treth gyngor, y mwyaf o arian a gewch gan Lywodraeth Cymru. Felly, a gaf fi ychwanegu at apêl Helen Mary Jones yn gynharach a gofyn i chi ailystyried fformiwla'r setliad? Oherwydd nid cynghorau gwledig yn unig sy'n cael eu cosbi yn y modd hwn, mae unrhyw gyngor darbodus yn sicr o gael eu cosbi, oherwydd po uchaf yw eich treth gyngor, yr uchaf yw'r amcangyfrifon o anghenion ariannol, ac o ganlyniad, yr uchaf yw'r grantiau a gewch gan Lywodraeth Cymru, sy'n ymddangos yn groes i fel y dylai fod.
Sylwais ar sylwadau arweinydd Cyngor Sir Penfro ar y materion hyn mewn papur newydd yn ddiweddar. Hoffwn ddweud wrtho, ac wrth yr Aelod dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, fod Cyngor Sir Penfro wedi gwneud nifer o benderfyniadau ar lefelau'r dreth gyngor dros nifer o flynyddoedd gan wybod yn iawn beth fyddai canlyniadau'r penderfyniadau hynny. A mater i etholwyr sir Benfro, nid mater i mi, yw penderfynu a oedd y penderfyniadau hynny'n rhai cywir ai peidio. Nid wyf yn credu bod arweinyddiaeth broffesiynol nac arweinyddiaeth wleidyddol sir Benfro yn gallu gwneud y penderfyniadau hynny, ac yna dweud wrth y cyfryngau nad oedd ganddynt unrhyw syniad beth fyddai canlyniadau'r penderfyniadau hynny. Pa bryd bynnag y byddwn yn gwneud penderfyniadau gwleidyddol, mae yna ganlyniadau, ac mae sir Benfro wedi penderfynu gostwng y dreth gyngor, mewn termau cymharol, dros nifer o flynyddoedd—sir Benfro sydd â'r dreth gyngor isaf yng Nghymru—ac o ganlyniad i hynny, maent bellach yn wynebu anawsterau gyda'u cyllideb. Mater i'r awdurdod ac etholwyr sir Benfro yw hwnnw.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau amserol. Y cwestiwn cyntaf i'w ofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg, ac mae'r cwestiwn gan Suzy Davies.
1. O ystyried bod adroddiad diweddar Estyn yn datgan y gallai ysgolion uwchradd yng Nghymru wneud yn well, gyda dim ond hanner wedi'u barnu i fod yn dda neu'n ardderchog ar hyn o bryd, pa waith y bydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau y codir safonau ar draws holl ysgolion uwchradd Cymru? 242

Mae ein cenhadaeth genedlaethol yn nodi'n glir ein cynllun i godi safonau ar gyfer yr holl bobl ifanc yn ein hysgolion. Rydym yn darparu buddsoddiad mwy nag erioed i gefnogi datblygiad athrawon, i gefnogi ein dysgwyr mwyaf difreintiedig ac i wella capasiti arweinyddiaeth ac arferion da ar draws y system.
Diolch yn fawr iawn i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n credu efallai y dylwn ddechrau drwy gydnabod bod Estyn yn dweud eu bod yn fodlon fod cynnydd wedi bod yn y sector cynradd. Ond rwy'n credu mai bradychu'r bobl ifanc hynny a wneir os ydynt wedyn yn symud ymlaen i ysgolion lle mae'r rhan fwyaf o'r disgyblion—ac rwy'n golygu'r rhan fwyaf—ar draws yr ystod oedran a'r ystod gallu, yn parhau i fethu datblygu sgiliau a gwybodaeth yn ddigon da, neu'n methu gwneud digon o gynnydd, neu'n cael trafferth i feddwl yn annibynnol, neu deimlo'n gyfrifol am eu dysgu eu hunain. Yn amlwg, daw'r dyfyniadau hynny o adroddiad Estyn.
Gyda hanner yr ysgolion yn tangyflawni, ac awgrym gan Estyn fod y bwlch rhwng ysgolion sy'n perfformio'n dda a'r rhai nad ydynt yn perfformio'n dda yn debygol o ehangu, buaswn yn ddiolchgar pe gallech roi ychydig mwy o fanylion i ni am yr hyn rydych yn bwriadu ei wneud, oherwydd ni fydd Donaldson yn weithredol tan 2022, sy'n genhedlaeth ysgol i ffwrdd bron, ac ni allwch aberthu'r garfan gyfredol hon i gyfnod arall o annigonolrwydd. Ac rwy'n credu mai chi fyddai'r cyntaf i ddweud hynny, pe baech yn eistedd ar unrhyw fainc arall heblaw am y fainc flaen yn y lle hwn.
Felly, yn gyntaf, yr ysgolion sy'n destunau mesurau arbennig neu sydd angen gwelliant sylweddol o hyd: gofynnais i chi pa gamau roeddech wedi'u cymryd mewn perthynas â'r rhain yn ôl ym mis Medi, ac fe restroch chi nifer o gamau gweithredu, ond fe wnaethoch gyfaddef nad oeddech wedi arfer eich pwerau o dan Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 i ymyrryd mewn ysgolion. O gofio canlyniadau'r adroddiad hwn, rwy'n meddwl tybed a fyddech yn barod i wneud hynny bellach.
I rai o'r disgyblion—. Mewn traean o'r ysgolion a ymchwiliwyd gan Estyn, gwelsant fod disgyblion wedi ymddieithrio, nid oedd ganddynt lawer o ddiddordeb yn eu gwaith, byddent yn tarfu ar ddysgu disgyblion eraill, a bod prinder sgiliau dysgu annibynnol a beirniadol gan rai disgyblion blwyddyn 12, a olygai eu bod yn cael trafferth gyda'u pynciau Safon Uwch ac yn gadael yr ysgol ym mlwyddyn 12 mewn gwirionedd. Credaf fod nifer sylweddol o ddisgyblion yn methu cyflawni eu potensial gan nad yw eu galluoedd dysgu annibynnol a beirniadol yn cael eu datblygu'n gynharach yn eu haddysg. Ysgrifennydd y Cabinet, mae'n fy mhoeni y gallai'r disgyblion hyn fod yn ystyried mai methiant ar eu rhan hwy yw hyn, er mai methiant eu haddysg ydyw mewn gwirionedd. Mae'n amlwg fod rhai o'r ysgolion hyn angen y cymorth nad ydynt yn ei gael ar hyn o bryd.
Nawr, ar ôl consortia, Her Ysgolion Cymru ac academi Cymru, sy'n siarad llawer am arweinyddiaeth, nid wyf yn credu eu bod wedi bod yn rhoi'r canlyniadau roeddech wedi gobeithio amdanynt. Felly, beth allwch chi ei wneud nesaf i sicrhau bod disgyblion blwyddyn 7 eleni yn camu ymlaen tuag at gyrraedd eu potensial yn hytrach na, wn i ddim, aros yn yr unfan neu fynd tuag yn ôl hyd yn oed? A allwch ddweud wrthym beth yw'r cynlluniau a ddiweddarwyd ar gyfer eich Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol? Roedd gan y Ceidwadwyr Cymreig ddiddordeb mawr yn y syniad hwnnw eu hunain. Ac a wnewch chi rannu gyda ni yr atebion i'r cwestiynau miniog y byddwch yn siŵr o'u gofyn i'r consortia ar sail yr adroddiad hwn gan Estyn: pam nad ydynt wedi sbarduno'r newid mawr y gallem fod wedi'i ddisgwyl yn yr ysgolion hynny, yn enwedig gan eich bod wedi cytuno i roi £5 miliwn ychwanegol iddynt ar ganol blwyddyn o ganlyniad i le yn y gyllideb. Rwy'n awyddus iawn i glywed beth fydd yn digwydd i'n disgyblion yn awr, nid ar ôl 2022. Diolch.
Rwy'n croesawu adroddiad blynyddol y prif arolygydd ar gyfer 2017-18. Rwy'n edrych ymlaen at astudio'r adroddiad yn fanylach, ac wrth gwrs byddaf yn ymateb yn ffurfiol yn y Cyfarfod Llawn, a deallaf, Lywydd, fod hwnnw wedi'i drefnu ar gyfer 19 Chwefror y flwyddyn nesaf.
Rwy'n falch fod yr Aelod wedi cydnabod y cynnydd a wnaed yn y sector cynradd, ond fi fyddai'r person cyntaf i ddweud nad yw'r cynnydd yn ein sector uwchradd yn ddigon da. Dywedaf hynny, nid yn unig oherwydd fy mod ar y meinciau hyn; dywedaf hynny fel rhiant sydd â phlant yn y system fy hun. Rwyf eisiau i'n holl blant fynychu ysgolion uwchradd da neu ardderchog yma yng Nghymru, a'n dull o weithredu yw cynorthwyo pob ysgol i fod yn dda ac yn rhagorol, yn hytrach na'r dull a welsom ar waith yn bendant iawn ddoe ar draws y ffin, pan gafodd £50 miliwn ei gyhoeddi i gefnogi 16 o ysgolion uwchradd dethol iawn yn unig. Dyna yw'r gwahaniaeth rhwng dull y Llywodraeth hon a'r dull y byddai'r Torïaid yn ei fabwysiadu, rhoi cefnogaeth i ysgolion penodol a phlant penodol, tra ein bod ni eisiau i'n holl ysgolion wneud yn dda.
Nawr, gadewch i mi fod yn gwbl glir am yr hyn a wnawn. Roedd yr adroddiad arolygu yn dweud ddoe fod angen i ni wneud mwy i gefnogi ein proffesiwn addysgu. Dyna pam y byddwn yn gwario £24 miliwn dros y 18 mis nesaf ar gefnogi dysgu proffesiynol ein staff. Dyma'r buddsoddiad unigol mwyaf yn athrawon Cymru ers datganoli, ac rydym yn benderfynol o sicrhau bod ein holl addysgwyr, ym mhob ystafell ddosbarth, gystal ag y gallant fod.
Mae adroddiad Estyn hefyd yn cyfeirio'n gywir at wahaniaethau yn ansawdd yr arweinyddiaeth yn ein system. Dyna pam rydym wedi sefydlu'r Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol, ac a bod yn deg, Suzy, mae'n llai na blwydd oed, ac mae dweud nad yw wedi cyflawni yn annheg â'r bobl sy'n gweithio'n eithriadol o galed i sicrhau bod ein harweinwyr, ein penaethiaid newydd a'n darpar benaethiaid, gystal ag y gallent fod.
I mi, yr hyn sy'n gwbl allweddol yw ei bod hi'n rhy hwyr erbyn i ysgol gael ei rhoi mewn categori gan Estyn, naill ai mesurau arbennig neu welliant sylweddol. Dylai awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol adnabod eu hysgolion yn ddigon da i allu ymyrryd yn gynt os ydynt yn amau bod ysgol yn cael trafferth i ateb anghenion ei disgyblion, ac ni ddylem adael i'r sefyllfa gyrraedd y pwynt o fod angen adroddiad arolygu gan Estyn i ddweud bod yr ysgol honno angen cymorth ychwanegol. Ar hyn o bryd, rwy'n ystyried opsiynau o ran beth arall y gallwn ei wneud i ymyrryd yn gynharach mewn ysgolion nad ydynt, o bosibl, yn ateb anghenion eu plant, ysgolion sy'n cael trafferth i ymdopi ac sy'n peri pryder. Ar hyn o bryd, mae gan awdurdodau lleol gyfrifoldeb statudol i fonitro'r ysgolion hynny, ac rwy'n disgwyl i awdurdodau lleol roi camau ar waith ar fyrder ar gyfer yr ysgolion sy'n peri pryder. Os ydynt angen mwy o gymorth i wneud hynny, naill ai gan Lywodraeth Cymru neu gan y consortia rhanbarthol, byddaf yn sicrhau bod y cymorth hwnnw ar gael.
Pa mor heriol bynnag yw'r sefyllfa yng Nghymru, nid yw'n agos at fod mor heriol â'r sefyllfa sy'n wynebu disgyblion yn Lloegr, lle mae ysgolion sy'n destunau mesurau arbennig yn cael eu gadael ar drugaredd y gwynt oherwydd bod rheidrwydd ar yr academïau i'w cymryd o dan eu hadain, ond mae'r academïau'n troi cefn arnynt. Nid ydynt yn cael eu harolygu gan arolygwyr ei Mawrhydi hyd yn oed, felly mae'n gwbl chwerthinllyd nad yw pobl ar y meinciau Ceidwadol yn gallu cydnabod ein bod mewn sefyllfa well o lawer.
Credaf fod adroddiad Estyn yn arweiniad da iawn o ran beth sy'n arferion da, ac mae ar ffurf darllenadwy iawn i'r holl arweinwyr ysgolion allu gwneud defnydd ohono. Nid yw'n wir o gwbl fod hanner yr ysgolion yn methu. Mae gennyf un pryder, sy'n ymwneud â diffyg darpariaeth blynyddoedd cynnar sy'n rhagorol. Gall hyn ymddangos yn bell iawn o addysg ysgol uwchradd, ond mewn gwirionedd, dyna ble y gallwn ddechrau mynd i'r afael ag anfantais amddifadedd. Mae'n wych fod gennym bellach bedair enghraifft o ddarpariaeth blynyddoedd cynnar y bernir eu bod yn rhagorol, pedair yn fwy na'r llynedd, ond yn amlwg rydym angen llawer mwy.
O ran cefnogi rhagoriaeth yn ein haddysg uwchradd, roeddwn yn meddwl tybed a fyddech, yn eich ymateb i adroddiad Estyn, yn ailystyried adfer Her Ysgolion Cymru. Nid fi yw'r unig un ar y meinciau hyn sy'n credu bod y rhaglen wedi'i diddymu cyn cael amser i wreiddio'r arfer o rannu arferion da sy'n amlwg iawn mewn nifer o'n hysgolion uwchradd ac sydd angen cael eu rhannu, yn enwedig gyda'r ysgolion sy'n wynebu'r heriau mwyaf. Gwelsom pa mor ragorol a thrawsnewidiol oedd y rhaglen yn Llundain, felly roeddwn yn meddwl tybed a fyddech yn ystyried hynny.
Roedd y dystiolaeth yn gymysg mewn perthynas â'r rhaglen Her Ysgolion yng Nghymru. Yn sicr, elwodd rhai ysgolion o gyfranogi yn y rhaglen. Ceir rhai ysgolion sydd wedi methu gwneud y cynnydd y byddem wedi hoffi ei weld er gwaethaf yr adnoddau ariannol a'r cymorth ychwanegol sylweddol a gawsant. Unwaith eto, un o'r heriau gyda Her Ysgolion Cymru yw bod y cymorth hwnnw'n gyfyngedig i un grŵp o ysgolion, yn hytrach na dull cenedlaethol o fynd i'r afael ag ysgolion sy'n peri pryder.
Rwy'n siŵr y byddwch yn gwybod, Jenny, am yr argymhellion diddorol a gyflwynwyd gan Graham Donaldson yn ei adolygiad o Estyn, yr arolygiaeth. Ceir rhai sylwadau ynglŷn â sut y gallwn wella'r sefyllfa ar gyfer ysgolion sy'n cael eu categoreiddio neu sy'n destunau mesurau arbennig. I ormod o'r ysgolion hynny, nid yw'r cymorth sydd ar gael i'w helpu i wella'n gyflym yn gyson ac nid yw'n gwneud yr hyn yr hoffwn iddo ei wneud. Rwy'n dal i drafod gydag Estyn i weld beth arall y gallwn ei wneud i gefnogi'r ysgolion sy'n cael eu categoreiddio.
Rydym yn ymwybodol o rai elfennau hanfodol sy'n gallu gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i wella perfformiad ysgolion yn gyflym os ydynt yn y sefyllfa honno. Ond fel y dywedais, mae ysgol sydd wedi gorfod aros i gael ei rhoi mewn categori ffurfiol gan Estyn wedi aros yn rhy hir am gymorth. Mae angen i ni weithio gyda'n hawdurdodau lleol a'n gwasanaethau gwella ysgolion rhanbarthol i gael gwell dealltwriaeth o sut y gallwn nodi problemau yn gynt, a sut y gallwn ddarparu cymorth i'r ysgolion hynny cyn i Estyn ddod i mewn a dweud bod angen iddynt wella.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiadau 90 eiliad. Vikki Howells.
Diolch, Lywydd. Ddydd Mercher, 7 Rhagfyr 1938—daeth miloedd o bobl ynghyd yn y pafiliwn yn Aberpennar, gan gynnwys fy mam-gu fy hun, a fyddai'n diddanu'r teulu am flynyddoedd lawer wedyn drwy sôn am y seren anhygoel a dawnus a welodd yno. Daethant i fynychu cyfarfod coffa a chyngerdd Cymreig cenedlaethol i anrhydeddu 33 o aelodau'r Frigâd Ryngwladol o Gymru—dynion a roddodd eu bywydau'n ymladd yn erbyn ffasgaeth ac i amddiffyn democratiaeth yn rhyfel cartref Sbaen, ac un o'r rhai a ymddangosodd yn y cyngerdd hwnnw oedd y canwr a'r actor Americanaidd enwog, Paul Robeson. Roedd Robeson yn fab i gyn-gaethwas, yn dalentog yn y byd chwaraeon a'r byd academaidd, ond dewisodd ddilyn gyrfa yn y celfyddydau, gan ennill clod am ei rolau ar lwyfan ac ar sgrin. Yn ystod y 1930au, daeth Robeson i gysylltiad cynyddol ag achosion gwleidyddol. Roedd ei gefnogaeth i'r ochr weriniaethol yn Sbaen yn ganolog i hyn. Roedd Robeson yn ystyried hwn yn drobwynt yn ei fywyd. Wrth siarad mewn cyngerdd dros ffoaduriaid Sbaen, datganodd:
Mae'n rhaid i'r canwr ddewis ochr. Mae'n rhaid iddo ddewis ymladd dros ryddid neu dros gaethwasiaeth.
Yn ystod y degawd hwnnw hefyd, ffurfiodd gysylltiadau gydol oes â chymunedau glofaol de Cymru. Perfformiodd mewn clybiau glowyr, canodd mewn cyngerdd i godi arian i gronfa gymorth y glowyr a chwaraeodd y brif ran yn The Proud Valley. Gwnaeth ei gysylltiad â'r cymunedau hyn ymgyrchwr ohono fel y gwnaeth rhyfel cartref Sbaen, a ddydd Gwener, 80 mlynedd ers y cyngerdd yn y pafiliwn, byddaf yn agor arddangosfa yng nghlwb y gweithwyr Aberpennar i ddathlu'r digwyddiad hanesyddol hwn a'r cysylltiad rhyfeddol ar draws yr Iwerydd rhwng Robeson a glowyr de Cymru.
Helen Mary Jones.
Diolch, Lywydd. Ddoe, ffarweliwyd â'r Athro Mike Sullivan, cyfarwyddwr Academi Morgan Prifysgol Abertawe, sosialydd a Chymro. Cafodd Mike ei fagu mewn teulu dosbarth gweithiol yn Rhisga, ac ef oedd y cyntaf yn ei deulu i fynd i brifysgol. Graddiodd o Rydychen, a bu'n gweithio fel gweithiwr cymdeithasol cyn dechrau gyrfa academaidd nodedig, yng Nghaerdydd yn gyntaf, ac yna yn Abertawe. Gwasanaethodd yma fel ymgynghorydd arbennig i'r Blaid Lafur yn ystod cyfnod Llywodraeth Cymru'n Un, gan sicrhau bod y fersiwn orau posibl o Ddeddf Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 yn cael ei phasio. Ar ôl iddo ddychwelyd i Abertawe, chwaraeodd Mike ran allweddol yn y gwaith o godi proffil rhyngwladol y brifysgol, gan gychwyn y berthynas â'r Ysgrifennydd Clinton, a sefydlodd Academi Morgan, a gafodd ei henwi ar ôl Rhodri Morgan.
Roedd Mike yn gynnes ac yn dosturiol, ond gallai fod yn gadarn pan oedd angen iddo fod. Roedd ei angerdd dros gyfiawnder cymdeithasol a thros Gymru yn llywio popeth a wnâi. Roedd ganddo ddawn i fod yn gyfaill, a gwn fod llawer yn y Siambr hon, Lywydd, yn falch o'i alw'n ffrind.
Bu Mike farw'n rhy fuan. Mae'n gadael ei wraig Jane, eu mab Ciaran a'i lysblant, ac mae eu colled yn anfesuradwy. I'r rhai ohonom a oedd yn ei adnabod, bydd bywyd Mike yn ein hysbrydoli wrth i ni weithio i adeiladu'r Gymru a'r byd y credai eu bod yn bosibl, a chyda'i brifysgol annwyl, sy'n wynebu heriau ar hyn o bryd, rydym yn addo diogelu ei waddol.
Bethan Sayed.
Yr wythnos hon yw Wythnos Dysgu Gydol Oes y Sylfaen Dysgu Gydol Oes. Dyma'r gymdeithas sifil ban-Ewropeaidd ar gyfer addysg, sy'n defnyddio'r wythnos hon i ddod â phartneriaid o bob cwr o Ewrop at ei gilydd i annog ac i siarad am syniadau ar gyfer meithrin dysgu gydol oes. O gofio bod ein dyfodol o fewn yr Undeb Ewropeaidd yn ansicr ar hyn o bryd, rwy'n gobeithio y gall Cymru barhau i chwarae rôl mewn rhaglenni ymgysylltu Ewropeaidd fel hon. Mae cyfnewid syniadau a gweledigaethau yn y maes hwn yn gallu ein helpu i ddeall beth sy'n gweithio orau mewn gwledydd eraill, a sut y gall weithio yma hefyd. Gallwn ddysgu oddi wrth ein cyd-wledydd llai o faint sydd wedi llwyddo i wella a datblygu fframwaith dysgu gydol oes o'r crud i'r bedd go iawn. Mewn cenedlaethau blaenorol, roedd bywyd yn aml yn dilyn patrwm ysgol, gyrfa, ymddeol. Nid yw hyn yn wir mwyach, ac mewn byd lle rydym yn wynebu heriau yn sgil awtomatiaeth, cystadleuaeth gan wledydd o amgylch y byd ac economi hyblyg sy'n esblygu'n gyflym, mae'n rhaid i ni roi pwyslais ar ddysgu a hyfforddiant ar unrhyw oedran, a hyrwyddo meddylfryd sy'n pwysleisio'n gyson nad oes neb byth yn rhy hen i ddysgu sgil newydd neu i fynd ar drywydd diddordeb newydd.
Mae'r Sylfaen Dysgu Gydol Oes yn credu y dylid disgrifio amcan addysg ac hyfforddiant, nid yn unig o ran cyflogadwyedd neu dwf economaidd, ond hefyd fel fframwaith ar gyfer datblygiad personol ac er mwyn hyrwyddo ymgysylltiad a dinasyddiaeth weithredol. Yn y dyfodol, ni waeth beth yw ein sefyllfa yn Ewrop, credaf ei bod yn hanfodol i ni gefnogi ac ariannu dysgu gydol oes yma yng Nghymru fel y gallwn gefnogi'r ased hanfodol hwn ar gyfer ein gwlad.
Yr eitem nesaf yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad i'r Cynulliad, o dan Reol Sefydlog 22.9. Rydw i'n galw ar Gadeirydd y Pwyllgor i wneud y cynnig, Jayne Bryant.
Cynnig NDM6890 Jayne Bryant
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad—Adroddiad 03-18 a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 23 Tachwedd 2018 yn unol â Rheol Sefydlog 22.9
2. Yn cymeradwyo’r argymhelliad yn yr adroddiad.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Lywydd. Fel Cadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, rwy'n gwneud y cynnig yn ffurfiol.
Ystyriodd y pwyllgor yr adroddiad gan y comisiynydd safonau mewn perthynas â chŵyn a wnaed yn erbyn Gareth Bennett AC. Roedd y gŵyn yn ymwneud â'i fethiant i gydymffurfio â'r rheolau a'r canllawiau ar y defnydd o adnoddau'r Cynulliad, gan roi enw drwg i'r Cynulliad, sy'n torri'r cod ymddygiad.
Mae'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad wedi ystyried adroddiad y comisiynydd yn ofalus, ac mae ein hadroddiad yn nodi barn y pwyllgor mewn perthynas â'r gosb sy'n briodol yn yr achos hwn. Mae'r ffeithiau sy'n ymwneud â'r gŵyn, a rhesymau'r pwyllgor dros ei argymhelliad, wedi'u nodi'n llawn yn adroddiad y pwyllgor.
Mae'r cynnig a gyflwynwyd yn gwahodd y Cynulliad i gymeradwyo argymhellion y pwyllgor.
Nid oes siaradwyr yn y ddadl yma. Rydw i'n siŵr, felly, nad yw'r Aelod eisiau ymateb i'r ddadl. Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Julie James.
Daw hyn â ni at yr eitem nesaf, sef dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar berfformiad Llywodraeth Cymru. Ac i gyflwyno'r ddadl, rydw i'n galw ar Paul Davies i wneud y cynnig. Paul Davies.
Cynnig NDM6892 Darren Millar
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu ers mis Rhagfyr 2009:
a) fod amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth yn y GIG yng Nghymru wedi cynyddu;
b) fod perfformiad yn erbyn y targedau 4 a 12 awr yn adrannau brys Cymru wedi dirywio;
c) nad yw’r targedau trin canser yng Nghymru erioed wedi cael eu cyrraedd;
d) fod nifer y gwelyau mewn ysbytai yng Nghymru wedi gostwng;
e) fod perfformiad TGAU wedi dirywio yng Nghymru gyda chyrhaeddiad graddau A * - C ar gyfer haf 2018 ar y lefel waethaf ers 2005;
f) fod sgoriau OECD PISA Cymru yn waeth mewn darllen, mathemateg a gwyddoniaeth a bod y canlyniadau diweddaraf yn waeth nag yn 2009, gan roi sgoriau Cymru yn hanner gwaelod sgoriau byd-eang yr OECD ac ar waelod sgoriau'r DU;
g) fod nifer fawr o ysgolion yng Nghymru wedi'u cau'n barhaol;
h) fod incwm gwario gros aelwydydd fel canran o gyfartaledd y DU wedi gostwng;
i) fod gan Gymru gyfradd twf cyflog gyfartalog gwaethaf gwledydd y DU;
j) fod ardrethi busnes yng Nghymru wedi dod yn llai cystadleuol na rhannau eraill o'r DU; a
k) fod nifer y cartrefi newydd sy'n cael eu hadeiladu yn flynyddol yng Nghymru wedi gostwng.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gydnabod ei methiannau, gan roi’r gorau i’w pholisïau sy’n methu, a chyflawni'r newid cadarnhaol sydd ei angen ar Gymru.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch Lywydd. A ninnau ar fin clywed yfory pwy fydd arweinydd newydd y Blaid Lafur yng Nghymru, mae'n amserol i ni fyfyrio ar berfformiad Llywodraeth Cymru o dan arweiniad y Prif Weinidog cyfredol—y llwyddiannau, y methiannau a'r gwersi ar gyfer y dyfodol. Mater i eraill fydd rhoi barn ar waddol y Prif Weinidog, ond heddiw rwyf eisiau canolbwyntio'n benodol ar bolisi a'r bwlch cynyddol rhwng addewidion a chyflawniad.
Am wyth a hanner o naw mlynedd y Prif Weinidog, cafwyd Prif Weinidog Ceidwadol yn Stryd Downing, ac i'r Gweinidogion yma, mae'r demtasiwn i chwarae gwleidyddiaeth plaid wedi bod yn rhy gryf. Yn rhy aml, mae Prif Weinidog Cymru wedi chwarae rôl arweinydd yr wrthblaid i Lywodraeth y DU, yn hytrach na gweithredu fel arweinydd Llywodraeth yma yng Nghymru. Yn ymgyrch y Blaid Lafur ar gyfer etholiad y Cynulliad yn 2011, prin y cafodd meysydd datganoledig eu crybwyll, gan eu bod yn awyddus i fanteisio ar y lefelau isel o ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd ynglŷn â beth oedd cyfrifoldebau Llywodraeth Cymru.
Nawr, wrth gwrs, byddai'n anfoesgar imi beidio â chydnabod bod yna rai llwyddiannau wedi bod dros y naw mlynedd ddiwethaf a rhai mannau lle y cafwyd cytundeb rhwng y pleidiau: mae'r cynllun i godi tâl o 5c am fagiau siopa, a gyflwynwyd gyda chefnogaeth drawsbleidiol, wedi helpu i newid ymddygiad siopwyr ac mae wedi lleihau nifer y bagiau siopa untro sydd mewn cylchrediad; cafodd y Mesur hawliau plant a'r system sgorio hylendid bwyd eu cyflwyno yn ystod y naw mlynedd diwethaf hefyd. Llwyddodd pob plaid i weithio gyda'i gilydd ar y refferendwm llwyddiannus i sicrhau mwy o bwerau deddfu i'r Cynulliad—penderfyniad a ddilynwyd gan ddatganoli treth, a rymusodd y Siambr hon i wneud penderfyniadau gwell ar gyfer pobl Cymru. Mae'r llwyddiannau hynny, yn anffodus, wedi bod yn brin iawn.
Mae record Llywodraeth Cymru ers 2009, yn anffodus, yn un o fethiant a chyfleoedd a gollwyd, ac mae hynny'n arbennig o wir yn achos y gwasanaeth iechyd gwladol. Er iddo ymgyrchu ar sail maniffesto arweinyddiaeth a oedd yn addo diogelu gwariant ar iechyd, Carwyn Jones yw'r unig un o arweinwyr unrhyw blaid wleidyddol fodern yn y DU i orfodi toriadau mewn termau real i'r GIG. Yng nghyllideb gyntaf Carwyn Jones fel Prif Weinidog, cafwyd toriad o £0.5 biliwn i'r GIG yng Nghymru. Erbyn 2014, roedd y gyllideb iechyd bron 8 y cant ar ei cholled mewn termau real, sy'n cyfateb i £1 biliwn.
Nid yw'r GIG wedi gallu dod dros effaith toriadau'r Blaid Lafur i'r gyllideb o hyd. Heddiw, mae byrddau iechyd yn wynebu'r diffyg cyfunol uchaf erioed, sef £167.5 miliwn. Mae'r effaith ar amseroedd aros a safonau wedi bod yn drychinebus. Ym mis Rhagfyr 2009, nid oedd unrhyw glaf yng Nghymru yn aros am fwy na 36 wythnos rhwng diagnosis a dechrau triniaeth. Eto i gyd, mae'r ffigur hwnnw bellach yn 13,673 erbyn heddiw. O'r rhain, mae mwy na 4,000 o gleifion yn aros mwy na blwyddyn am lawdriniaeth ar hyn o bryd. Pan ddaeth Carwyn Jones i'w swydd, roedd 224,960 o gleifion yn aros i ddechrau triniaeth. Mae'r ffigur hwnnw bellach wedi dyblu i 443,789 o gleifion.
Mewn naw mlynedd, ceir rhai targedau perfformiad allweddol nad ydynt wedi cael eu cyrraedd unwaith. Nid yw'r targed i sicrhau bod 95 y cant o gleifion adrannau damweiniau ac achosion brys yn cael eu gweld o fewn pedair awr wedi ei gyrraedd ers 2009, ac mae perfformiad yn gwaethygu. Ym mis Hydref eleni, 80 y cant yn unig a gafodd eu gweld o fewn pedair awr, ac yn Ysbyty Maelor Wrecsam, 54 y cant yn unig oedd y ffigur hwnnw—y gwaethaf erioed.
Yn frawychus, mae nifer y cleifion sy'n aros dros 12 awr i gael eu gweld mewn adrannau damweiniau ac achosion brys wedi codi 4,000 y cant ers 2009. Yn gynharach eleni, disgrifiodd y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys y sefyllfa yn adrannau damweiniau ac achosion brys Cymru fel un 'enbyd' ac 'arswydus' a bod y profiad i gleifion 'yn anniogel, yn anurddasol ac yn ofidus'. Mae capasiti yn y GIG wedi crebachu gyda nifer y gwelyau'n gostwng flwyddyn ar ôl blwyddyn nes ei bod yn is nag erioed heddiw—2,000 yn llai o welyau nag yn 2009, ac mewn rhai byrddau iechyd, mae cyfradd gyfartalog defnydd gwelyau yn torri'r terfynau diogel ar sail ddyddiol. Mae'r dirywiad hwn ym mherfformiad y GIG wedi cyd-daro â phenderfyniadau Llywodraeth Cymru i barhau i israddio a chanoli gwasanaethau'r GIG, gan orfodi cleifion i deithio ymhellach am ofal hanfodol, a rhoi hyd yn oed mwy o bwysau ar wasanaethau a gedwir. Toriadau, cau ac israddio—dyna a welsom yn y GIG ers mis Rhagfyr 2009.
Nawr, yn ystod ei ymgyrch am yr arweinyddiaeth, ymrwymodd y Prif Weinidog i wario 1 y cant yn fwy na'r grant bloc ar addysg bob blwyddyn hyd nes y byddai'r bwlch ariannu fesul disgybl rhwng Cymru a Lloegr yn cael ei ddileu. Mae naw mlynedd wedi bod ers hynny ac mae'r bwlch ariannu'n dal i fodoli, ac mae'r gyllideb addysg 7.9 y cant yn llai mewn termau real na'r hyn ydoedd yn 2011. Yn y 10 mlynedd hyd at 2016, caewyd 157 o ysgolion, yn bennaf yng nghefn gwlad Cymru, ac ar draws y wlad heddiw, mae 40 y cant o ysgolion yn wynebu diffyg yn eu cyllideb. Mae hyn er gwaethaf y ffaith bod Llywodraeth Cymru yn derbyn £1.20 am bob £1 sy'n cael ei wario ar ysgolion yn Lloegr. Mae perfformiad TGAU wedi dirywio ers 2009, gyda'r safon aur o bum gradd A* i C yn gostwng eleni i'w lefel isaf ers 2005. Mae Cymru wedi mynd ar i lawr ym mhrofion Rhaglen Asesu Myfyrwyr Rhyngwladol y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, gyda sgoriau gwaeth mewn darllen, mathemateg a gwyddoniaeth, gyda'r canlyniadau diweddaraf yn rhoi Cymru yn hanner gwaelod system raddio'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, a hi yw'r wlad â'r sgôr isaf yn y DU. Mae targedau ac amserlenni i wella safle system addysg Cymru i gyd wedi cael eu hanghofio, eu diddymu a'u newid yn ddistaw bach i guddio'r methiannau.
O dan oruchwyliaeth y Prif Weinidog cyfredol, mae targed arall, i Gymru gyrraedd 90 y cant o werth ychwanegol gros cyfartalog y DU erbyn 2010, wedi cael ei anghofio. Cymru sydd â'r twf cyflog isaf o holl wledydd y DU o hyd. Mae cyfleoedd i greu'r amodau ar gyfer twf busnesau bach cynhenid a mwy o fewnfuddsoddi wedi cael eu colli wrth geisio rheoli a gor-drethu busnesau. Mae trefn ardrethi busnes Llywodraeth Cymru wedi arwain at y gyfradd uchaf yn y DU o siopau gwag ar y stryd fawr, gyda gormod o adeiladau gwag ac adeiladau wedi'u bordio. Bellach, Cymru yw'r rhan ddrutaf yn y DU ar gyfer gwneud busnes. Fodd bynnag, mae'n dda gweld, o'r sylwadau ddoe yn y ddadl ar y gyllideb, fod Llywodraeth Cymru o'r diwedd yn gwrando ar ein galwadau am gamau gweithredu mewn perthynas â hyn. Serch hynny, mae'r Llywodraeth Lafur hon yn dal i fethu cydnabod bod economïau treth isel yn fwy hyfyw, yn fwy cystadleuol, ac mewn gwirionedd, yn cynhyrchu mwy o refeniw oherwydd bod hynny'n ei gwneud hi'n haws sefydlu busnes. Dylai creu amodau i fusnesau allu ffynnu, a lle y caiff buddsoddwyr eu denu i ymsefydlu yng Nghymru, fod wedi cael llawer mwy o flaenoriaeth dros y naw mlynedd ddiwethaf, er mwyn ysgogi twf a chynyddu lefelau ffyniant.
Mae Llafur wedi methu darparu rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus sy'n addas i'r diben, felly nid oes dewis amgen yn lle'r car o hyd. Ni allwn fesur llwyddiant neu fethiant y fasnachfraint newydd eto, ond mae'n deg dweud bod y dyddiau cynnar wedi bod yn simsan ar y gorau. Mae nifer o brosiectau ffyrdd mawr wedi cymryd mwy o amser nag y dylent o ganlyniad i din-droi gan Weinidogion, tra bod llawer o'r rhai a adeiladwyd wedi gweld gorwario enfawr, gan gynnwys y gwaith o ddeuoli ffordd Blaenau'r Cymoedd.
Mae signalau ffonau symudol a seilwaith band eang annigonol yn parhau i fod yn broblem, o ganlyniad i gynnydd araf ar fynd i'r afael â mannau gwan.
Byddai creu'r amodau ar gyfer twf economaidd wedi helpu i fynd i'r afael â thlodi cylchol, sy'n dal i ddifetha gormod o'n cymunedau. Mae'r addewid blaengar i gael gwared ar dlodi plant wedi cael ei anghofio, tra bo tystiolaeth yn dangos na chafodd y cannoedd o filiynau o bunnoedd a arllwyswyd i mewn i Cymunedau yn Gyntaf unrhyw effaith ar lefelau ffyniant, ac ar ôl 20 mlynedd o Lafur, mae'r cymunedau hyn yn dal i fod mor dlawd ag erioed.
Mae'r Prif Weinidog cyfredol wedi sicrhau bod perchentyaeth y tu hwnt i gyrraedd llawer, ac wedi gwadu'r hawl i denantiaid tai cymdeithasol brynu eu heiddo. Mae adeiladu tai wedi cael ei gyfyngu gan fiwrocratiaeth, gan greu argyfwng cyflenwad tai sydd wedi codi prisiau a'i gwneud yn anos i bobl gamu ar yr ysgol eiddo. Yn anffodus, mae hon wedi bod yn Llywodraeth sydd wedi gwario biliynau ar drin symptomau tlodi yn hytrach na buddsoddi'n briodol yn yr agenda ataliol i sicrhau rhagolygon gwell i'r genhedlaeth nesaf na'r olaf. Mae'r naw mlynedd diwethaf wedi'u difetha gan gamreoli, yn enwedig ym Mwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr, heb sôn am sgandalau Cronfa Buddsoddi Adfywio Cymru a Chymdeithas Lleiafrifoedd Ethnig Cymru gyfan, gan ddiffyg penderfyniad a diffyg gweithredu ynglŷn â diwygio ardrethi busnes, ffordd liniaru'r M4, a diffyg adeiladu tai, a phenderfyniadau gwael, torri cyllideb y GIG a diddymu'r hawl i brynu.
Er mwyn y 3 miliwn o bobl rydym yn eu gwasanaethu, mae angen syniadau gwreiddiol, ymagwedd ffres ac arweinyddiaeth newydd ar Gymru. Er fy mod yn dymuno'n dda i'r Prif Weinidog yn y dyfodol, rwy'n fwy argyhoeddedig nag erioed fod Cymru angen Llywodraeth newydd i gyflawni ei gwir botensial, ac rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi ein cynnig.
Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.
Diolch. Rwyf wedi dewis y gwelliant i'r cynnig, a galwaf ar Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip i gynnig y gwelliant a gyflwynwyd yn ei henw yn ffurfiol.
Gwelliant 1—Julie James
Dileu popeth ar ôl Cymru a rhoi yn ei le:
1. Yn cydnabod:
a) Bod bron i naw o bob 10 o bobl yn cael eu trin o fewn yr amser targed o 26 wythnos
b) Bod y buddsoddiad yn GIG Cymru ar lefel na welwyd o’r blaen
c) Bod mwy o bobl nag erioed yn goroesi canser yng Nghymru ac yn cael eu trin o fewn yr amser targed
d) Bod cyfran y disgyblion a gafodd y graddau TGAU uchaf, A* i A, wedi cynyddu i 18.5% yn 2018
e) Bod 8.7% o ddisgyblion wedi cael A* yn eu harholiadau Safon Uwch yn 2018 – y canlyniadau gorau yng Nghymru ers cyflwyno’r radd yn 2010
f) Bod incwm gwario gros aelwydydd (GDHI) yn 2016 yn £15,835 i bob person, sy’n cyfateb i 81.5% o GDHI y DU, cynnydd ers 2015
g) Bod enillion wythnosol gros cyflogeion sy’n gweithio’n amser llawn yng Nghymru yn 2018 wedi cynyddu 2.1% ers 2017
h) Bod 1.5m o bobl mewn cyflogaeth yng Nghymru yn ystod y tri mis hyd at fis Medi 2018, cynnydd o 4.2% o’i gymharu â’r un cyfnod flwyddyn ynghynt—y cynnydd mwyaf yn unrhyw un o wledydd neu ranbarthau’r DU
i) Bod tri chwarter busnesau bach Cymru yn cael cymorth â’u biliau ardrethi ac nad yw eu hanner yn talu unrhyw ardrethi annomestig o gwbl
j) Y bydd 20,000 o dai fforddiadwy newydd yn cael eu hadeiladu drwy gyllid Llywodraeth Cymru yn ystod tymor y Cynulliad hwn.
2. Yn diolch i’r Prif Weinidog am ei arweiniad a’i waith yn ystod ei naw mlynedd yn y swydd.
Cynigiwyd gwelliant 1.

Yn ffurfiol.
Diolch. Rhun ap Iorwerth.