Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

21/11/2018

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw'r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Joyce Watson. 

Y Cod Derbyn i Ysgolion

1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y cod derbyn i ysgolion o ran disgyblion a gaiff eu geni yn yr haf? OAQ52970

Gall rhieni ofyn am ganiatâd i’w plentyn a aned yn yr haf gael dechrau’r ysgol yn bump oed mewn dosbarth derbyn. Mae'r cod yn glir y dylai awdurdodau derbyn ystyried ceisiadau’n ofalus a gwneud penderfyniadau ar sail achos mewn ymgynghoriad â rhieni a'r ysgol, ac yn benodol mewn perthynas â buddiannau gorau'r plentyn.

Diolch i chi am yr ateb, ac rwy'n siŵr eich bod yn ymwybodol fod y diwrnod cyntaf yn yr ysgol yn amser pryderus i rieni a'u plant, ac yn aml byddant yn edrych arnynt ac yn meddwl nad ydynt yn barod; maent yn rhy fach. Ond mae’n bosibl y bydd pryder rhieni plant a gaiff eu geni yn yr haf yn ddilys mewn rhai achosion, ac maent bellach yn galw am fwy o hyblygrwydd o ran y dyddiadau cychwyn. Ysgrifennydd y Cabinet, mewn ymateb i adroddiad newyddion diweddar, mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y byddai adolygiad o'r cod derbyn i ysgolion yn cychwyn y mis hwn. A allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cynulliad ar hynny? A yw ar y gweill a phwy sy'n ei arwain, a beth fyddai cwmpas yr adolygiad hwnnw?

Diolch, Joyce. Buaswn yn cytuno y gall dechrau addysg ysgol plentyn fod yn amser pryderus, yn ogystal ag amser cyffrous. A hyd yn oed yn fwy felly weithiau i rieni nag i'r plentyn unigol. Rwy'n cofio fy ngofid wrth giatiau'r ysgol wrth i fy merch sgipio i'r ysgol heb edrych yn ôl, gan fy ngadael yn teimlo'n annigonol iawn. Wrth gwrs, mae gan ein plant ieuengaf hawl i addysg ein cyfnod sylfaen, sy'n cynnig profiad addysg unigryw i blant rhwng tair a saith oed. Mae'n fframwaith arloesol a gynlluniwyd i ddiwallu anghenion amrywiol pob plentyn unigol ar ba gam bynnag o’u datblygiad. Y bwriad yw i’r fframwaith hwn ar gyfer ein dysgwyr ieuengaf fod yn briodol i'w cam dysgu yn hytrach na chanolbwyntio'n unig ar weithgareddau sy'n berthnasol i oedran. Rydych yn iawn i ddweud fy mod wedi ymrwymo i adolygu'r cod. Mae'r adolygiad hwnnw wedi dechrau. Yn y lle cyntaf, mae fy swyddogion yn trafod gyda phob un o'r awdurdodau derbyn, h.y. pob un o'n hawdurdodau addysg lleol, ynglŷn â sut y buont yn defnyddio'r cod dros y pum mlynedd diwethaf, ac rwyf wedi gofyn i fy swyddogion gysylltu ag aelodau'r ymgyrch dros ddisgyblion a anwyd yn ystod yr haf i weld beth yw eu barn.

Os mai'r bwriad yw diwygio'r cod, byddai gofyn cael cyfnod o ymgynghori statudol. Felly, os penderfynaf ddiwygio'r cod ar ôl yr adolygiad hwn, byddai hynny'n agored i ymgynghoriad pellach.

Ysgrifennydd y Cabinet, cefais fy ngeni ar 28 Awst. Rwy'n credu fy mod wedi sôn am y mater hwn yn gyntaf dros 10 mlynedd yn ôl, a chredaf fod angen i ni fod hyd yn oed yn fwy radical, oherwydd roeddwn yn ifanc o ran fy oedran corfforol yn ogystal â chael fy ngeni ar 28 Awst. Rwy'n credu fy mod yn aml 18 mis y tu ôl i lawer o'r bobl a oedd yn yr un flwyddyn â fi. Achosodd anawsterau darllen ac ysgrifennu pan oeddwn yn yr ysgol gynradd, ac ni ddechreuais gyflawni yn agos at fy mhotensial deallusol hyd nes ddiwedd yr ysgol uwchradd. Mae hon yn broblem go iawn, ac mae angen inni gael plant yn y grŵp blwyddyn priodol, ac efallai na fydd modd pennu hynny’n union yn ôl meini prawf eu hoedran yn unig.

Wel, David, fel y dywedais, mae'r cod cyfredol yn caniatáu i awdurdodau derbyn i ysgolion fod yn hyblyg wrth ymateb i geisiadau rhieni. Wrth inni gynnal yr adolygiad hwn, byddwn yn dadansoddi faint o geisiadau a wnaed, sut yr ymdriniwyd â'r ceisiadau hynny, ac fel y dywedais, rydym yn awyddus i glywed barn rhieni sydd â phryderon yn y maes hwn. Ac os penderfynaf fod angen gwneud hynny, gallwn fanteisio ar y cyfle, yn dilyn ymgynghoriad, i ddiwygio'r cod. Ond ar hyn o bryd, rydym yn dal i fod yn y broses o gasglu tystiolaeth.

Cefais fy ngeni ar 1 Medi. [Chwerthin.] [Torri ar draws.] Na, nid awn ymlaen. 

Cwestiwn 2, Rhun ap Iorwerth.

Addysg Feddygol ym Mhrifysgol Bangor

2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am addysg feddygol ym Mhrifysgol Bangor? OAQ52969

Lywydd, mae'n amlwg nad yw wedi gwneud unrhyw niwed i chi na David Melding o ran pryd y cawsoch eich geni.

Diolch, Rhun. Darparodd Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd ddiweddariad manwl ar addysg feddygol yng Nghymru yn ei lythyr at Aelodau'r Cynulliad a anfonwyd ar 13 Tachwedd. Cadarnhaodd hyn y bydd y rhaglen lawn gyntaf o addysg feddygol i gael ei chynnig yng ngogledd Cymru yn dechrau yn 2019.

13:35

Diolch yn fawr iawn. Mi wnes i ddathlu fel pe bai'n ben-blwydd arnaf i—27 Awst, gyda llaw—pan gawsom ni'r newyddion ychydig wythnosau yn ôl fod addysg feddygol yn mynd i gael ei chyflwyno ym Mangor o'r flwyddyn academaidd nesaf yma. Mae Siân Gwenllian a finnau, a thîm Plaid Cymru yn ehangach, wedi brwydro'n galed iawn am hyn, ac roeddwn i'n falch iawn ein bod ni wedi gallu dod i gytundeb efo'r Llywodraeth i sicrhau'r arian i wthio hyn yn ei flaen. Mae fy niolch i'n fawr i bawb sydd wedi bod yn rhan o wneud i hyn ddigwydd, neb llai, wrth gwrs, na'r timau ym Mhrifysgolion Bangor a Chaerdydd, gan mai partneriaeth rhwng y ddwy brifysgol fydd y datblygiad cyffrous yma.

Fy nghwestiwn i heddiw yma ydy pa waith y mae Llywodraeth Cymru a'ch adran chi yn ystyried ei wneud er mwyn hysbysu pobl ifanc yn lleol fod hyn yn digwydd, fel eu bod nhw'n gallu dechrau gwneud penderfyniadau addysgol gwahanol o bosib, er mwyn paratoi'r llwybr at y cwrs yma. Yn ehangach na hynny, pa waith a all gael ei wneud i hyrwyddo'r opsiwn yma ar gyfer myfyrwyr a graddedigion yng Nghymru ar hyn o bryd?

Diolch, Rhun. Fel chi, rwy’n falch iawn fod y cyfleoedd hyn ar gael i fyfyrwyr yng ngogledd Cymru. Yn amlwg, mae llwybrau i mewn i ysgol feddygol yn dechrau o'r dewisiadau y mae plant yn eu gwneud pan fyddant yn gwneud eu TGAU. Dyna pam, y tymor hwn, rydym yn gweld ein rhaglen Seren ddiwygiedig yn cael ei chyflwyno. Rhaglen yw hon sy'n ceisio cefnogi plant yn gynharach yn eu gyrfa addysgol, gan roi iddynt yn union y math hwn o gyngor ar opsiynau TGAU, dyheadau o ran gyrfaoedd a chyfleoedd ar gam cynharach.

Yn amlwg, mae prifysgolion yn gyrff ymreolaethol ac ni allwn orchymyn pwy y maent yn eu derbyn i'w rhaglenni, ond yn dilyn newidiadau i'r rhaglen ymgeisio a derbyn yng Nghaerdydd ac yn Abertawe, sy'n gweithio mewn partneriaeth â gogledd Cymru a gorllewin Cymru i ehangu addysg feddygol, rwyf wrth fy modd ein bod wedi gweld cynnydd yn nifer y myfyrwyr sy'n hanu o Gymru sy'n ennill lle i astudio meddygaeth yn eu sefydliadau. Felly, bellach mae 30 y cant o’r myfyrwyr yng Nghaerdydd a 50 y cant o’r myfyrwyr yn rhaglen ôl-raddedig Abertawe yn fyfyrwyr sy’n hanu o Gymru. Mewn gwirionedd, rydym yn gweld nifer fwy nag erioed o bobl ifanc Cymru yn cael eu derbyn i ysgolion meddygol ledled y Deyrnas Unedig. Mae ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n hanu o Gymru i astudio meddygaeth wedi codi 14 y cant pellach ar gyfer y cylch ymgeisio eleni. Felly, mae'n amlwg bod diddordeb mawr iawn ymhlith ein myfyrwyr ysgol a choleg yng Nghymru mewn dilyn cyrsiau mewn meddygaeth a dyna pam fod ehangu nifer y lleoedd ym Mangor ac yng ngorllewin Cymru, ar y cyd ag Abertawe, yn golygu bod ein myfyrwyr, rwy'n credu, mewn sefyllfa dda i fanteisio ar yr ehangiad hwnnw.

Mae'n 18 mis ers i mi ofyn i'r Prif Weinidog yma i sicrhau bod yr achos busnes ar gyfer ysgol feddygol newydd ym Mangor yn cynnwys deialog gydag ysgol feddygol Lerpwl ar ôl i bwyllgor meddygol lleol gogledd Cymru fynegi pryder fod y cyflenwad blaenorol oddi yno, o ble y daeth llawer o'u cenhedlaeth hwy o feddygon teulu, wedi cael ei atal i raddau helaeth.

Felly yn ogystal â'r addysg feddygol sydd i’w darparu ym Mangor trwy'r dull cydweithredol â Chaerdydd ac Abertawe, darpariaeth sydd i’w chroesawu’n fawr, sut rydych yn ymateb i'r galwadau parhaus gan bwyllgor meddygol lleol gogledd Cymru i ymgorffori cysylltiadau ag ysgolion meddygol Lerpwl a Manceinion ac adfer y cyflenwad o feddygon ifanc newydd i ogledd Cymru o’r fan honno, pan fo llawer o feddygon dan hyfforddiant yn dal i ddewis astudio yno o bosibl ochr yn ochr â'u hastudiaethau yng Nghymru?

Wel, wrth gwrs, Mark. Fel y dywedais, rydym wedi gweld nifer uwch nag erioed o fyfyrwyr o Gymru yn ennill lle mewn ysgol feddygol, boed hynny mewn ysgolion meddygol yma yng Nghymru, neu yn wir, yng ngweddill y DU, sy'n dangos cryfder a gallu ein myfyrwyr safon uwch yn llwyddo i ennill y llefydd hynny. Nid wyf wedi cymryd rhan yn bersonol yn y trafodaethau â darparwyr ar draws y ffin. Fy mlaenoriaeth yw cefnogi'r gwaith caled sy'n digwydd rhwng Prifysgolion Caerdydd a Bangor, gwaith sydd ar gam datblygedig ac yn dangos dau sefydliad yn gweithio'n agos iawn gyda'i gilydd. A gadewch i ni fod yn hollol glir: bydd yr ehangiad newydd hwn yn darparu llwybrau i feddygon gael eu hyfforddi'n gyfan gwbl yn ngogledd Cymru, gan alluogi myfyrwyr meddygol i astudio yng ngogledd Cymru ar gyfer eu gradd yn llawn ac i gynllunio ar gyfer eu hyfforddiant ôl-raddedig, a chredaf fod hynny i’w groesawu'n fawr iawn.

13:40
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Mohammad Asghar.

Diolch, Madam Lywydd. Weinidog, mae system addysg a hyfforddiant galwedigaethol yr Almaen, a elwir hefyd yn system hyfforddi ddeuol, yn cael cydnabyddiaeth ym mhob cwr o’r byd oherwydd ei chyfuniad o addysg a hyfforddiant wedi'u hymgorffori yn yr amgylchedd gwaith go iawn. Prif nodwedd y system ddeuol yw cydweithrediad rhwng cwmnïau a cholegau, a reoleiddir gan y gyfraith. Mae busnesau sy'n cymryd rhan yn y cynllun hyfforddi deuol yn ystyried mai dyma'r math gorau o recriwtio personol am ei fod yn arbed costau recriwtio sydd eu hangen ar gyfer y sgiliau a'r llafur gofynnol. Pa astudiaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o system yr Almaen i weld a oes gwersi i'w dysgu a allai fod o fudd i ni yng Nghymru?

Diolch yn fawr iawn. Cyfarfûm yn ddiweddar â diwydiannau o'r Almaen i drafod y mater hwn. Fe wnaethant gyflwyno eu model o’r hyn sy’n fodel llwyddiannus yn yr Almaen. Gwn fod fy rhagflaenydd yn y rôl hon wedi bod yn yr Almaen mewn gwirionedd ac wedi edrych ar y model a cheisio deall a oedd unrhyw beth y gallem ei ddysgu o'r system. Rwy'n credu bod natur y systemau addysg yn wahanol iawn, ac nid oes ganddynt yr un nifer o awdurdodau lleol. Felly, mae'n anodd iawn dewis un model a'i blannu yma, ond credaf mai'r hyn rydym wedi'i gydnabod yw bod dysgu yn y swydd a deall y ffordd honno o gymhwyso addysg yn ymarferol yn rhywbeth sy'n fuddiol. Rwyf newydd fod mewn cyflwyniad peirianneg i fyny'r grisiau lle roeddent yn dweud yn union hynny—fod dysgu trwy brofiad o’r fath yn gwreiddio'r dysgu yn y myfyriwr. Dyna pam y rhoesom bwyslais go iawn ar y model prentisiaeth. Dyna pam rwy'n credu ein bod ni'n falch iawn o'r hyn y gallasom ei gyflawni ar hyn a pham ein bod yn awyddus iawn i sicrhau ein bod yn cyflawni’r 100,000 o brentisiaethau a addawyd gennym yn ystod tymor y Cynulliad hwn.

Diolch yn fawr iawn wir, Weinidog. Rwy'n falch ein bod yn meddwl ar yr un lefel. Yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru yn talu i'r cyflogwr gynnig prentisiaethau. Yn yr Almaen, nid yw'r Llywodraeth yn talu'r cyflogwyr ond mae'n talu am offer a gweithrediad y colegau galwedigaethol, sydd oddeutu 16 y cant o gyfanswm cost hyfforddi deuol. Y cwmnïau sy'n darparu hyfforddiant sy'n cyfrannu'r gyfran fwyaf o'r arian am hyfforddiant deuol—tua 80 y cant o'r gost. O ganlyniad, mae prentisiaethau'r Almaen o ddifrif yn cael eu harwain gan y cyflogwyr a'r sefydliadau cyflogwyr hynny sy'n gwneud y rhan helaethaf o hyfforddiant yn y gweithle. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod prentisiaethau yng Nghymru yn diwallu angen cyflogwyr Cymru'n well?

Mae hyn eto yn rhywbeth arall a drafodais gyda'r cynrychiolydd o'r Almaen. Fe fuom yn trafod sut y llwyddent i ddarbwyllo cwmnïau yn yr Almaen ei bod o fudd iddynt fuddsoddi yn eu gweithwyr eu hunain. Dros y blynyddoedd, credaf ein bod wedi cael cryn dipyn o gyllid Ewropeaidd, ac mae llawer o gyflogwyr yng Nghymru wedi dod i ddibynnu ar arian Ewropeaidd i wella sgiliau eu gweithwyr. Credaf fod angen inni ddechrau eu cael i ddeall bod yn rhaid iddynt roi eu dwylo yn eu pocedi eu hunain hefyd mae'n debyg er mwyn gwella sgiliau eu gweithwyr eu hunain a'i bod o fudd iddynt wella sgiliau eu gweithwyr, gan y bydd eu cynhyrchiant yn cynyddu a bydd eu proffidioldeb yn cynyddu o ganlyniad i hynny. Mae hynny'n wahanol iawn i'r diwylliant sy'n bodoli yn yr Almaen, lle y ceir dealltwriaeth eu bod yn gwneud cyfraniad. Felly, rydym yn gweithio tuag at y newid hwnnw.

Ar y berthynas a gwneud yn siŵr fod y cyrsiau a ddarperir gennym yn berthnasol, fe fyddwch yn gwybod ein bod o ddifrif yn ceisio gwthio'r mater hwn mewn perthynas â phartneriaethau sgiliau rhanbarthol. Rydym wedi rhoi'r arian ychwanegol hwnnw ar y bwrdd, ac ni all colegau addysg bellach ei gyffwrdd oni bai eu bod yn ymateb i anghenion sgiliau cyflogwyr lleol.

Diolch ichi, Weinidog. Beirniadaeth arall a anelwyd yn erbyn cynlluniau prentisiaeth yng Nghymru yw eu bod o fudd i gwmnïau mwy o faint yn bennaf, ac nid busnesau bach a chanolig. Yn yr Almaen, ceir system barhaol o hyfforddiant, sy'n fuddiol i gwmnïau mawr a busnesau bach a chanolig. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod prentisiaethau yng Nghymru yn ystyried anghenion busnesau bach a chanolig yn ogystal â chwmnïau mwy o faint?

Wel, yr ateb i hynny yw 'llawer mwy nag y maent yn ei wneud yn Lloegr'. Y peth diddorol yw bod yr ardoll brentisiaethau yn cael ei thalu gan gwmnïau mawr, a'u bod, i bob pwrpas, yn cael talebau i'w gwario a dim ond y cwmnïau mawr sydd â mynediad at y system brentisiaethau. Bu'n gymaint o lanastr fel bod y system ei hun yn chwalu yn Lloegr.

Nid ydym wedi dilyn y llwybr hwnnw oherwydd credwn ei bod yn hanfodol ein bod yn cefnogi busnesau bach a chanolig yn ogystal. Rydym yn edrych am brentisiaethau o ansawdd, nid niferoedd mawr yn unig, a dyna a wnânt yn Lloegr. Felly, credaf y gallwn fod yn falch iawn o'r gwaith a wnawn gyda busnesau bach a chanolig. Yfory, byddaf yn cyfarfod â'r diwydiant awyrofod, lle maent wedi dod ynghyd i ddarparu busnesau bach a chanolig ar draws nifer o feysydd—cwmnïau gwahanol sy'n deall bod modd iddynt fanteisio ar ei gilydd. Felly, rydym yn ceisio gwneud llawer mwy o rannu prentisiaethau, fel nad yw'r baich ar unrhyw gwmni bach penodol.

13:45

Diolch, Llywydd. Yn sgil y cytundeb rhwng Plaid Cymru a Llafur a negodwyd ddwy flynedd yn ôl, fe gytunwyd y byddai £2 miliwn yn cael ei ddefnyddio'n benodol ar gyfer hyrwyddo'r iaith Gymraeg. Fe fyddwch chi'n ymwybodol mai'r hyn a oedd yn greiddiol i'r cytundeb rhwng Plaid a chithau oedd ymrwymiad i sefydlu asiantaeth iaith hyd-braich i wneud gwaith hyrwyddo a chynllunio ieithyddol angenrheidiol. A fedrwch chi ein goleuo ni ar beth ddigwyddodd i'r addewid yna i sefydlu asiantaeth a pham na wireddwyd hynny?

Wel, beth roeddem ni'n gobeithio, wrth gwrs, oedd y byddai'r comisiynydd yn gwneud mwy o'r gwaith hyrwyddo yma. A gan fod hynny wedi bod yn anodd, efallai, i'r comisiynydd ei wneud, mae peth o'r gwaith yna wedi dod i mewn ac yn cael ei wneud gan swyddogion y tu fewn i Lywodraeth Cymru. Wrth gwrs, yn ddelfrydol, byddwn i'n licio cael pobl hyd-braich, pobl sydd â'r sgiliau y tu fas i'r Llywodraeth yn gwneud y math hwn o waith. Ac, wrth gwrs, yn ddelfrydol beth fyddwn i'n hoffi ei weld, fel rydym ni wedi dweud yn y Papur Gwyn, yw bod y comisiwn newydd yn cael y cyfrifoldeb yma. Ac, wrth gwrs, mi fyddai'r comisiwn yna yn fudiad hyd-braich oddi wrth y Llywodraeth. 

Felly rydych chi'n dal i sôn am greu comisiwn sydd ynghlwm â'r cynigion ar gyfer Bil y Gymraeg, ond yn y pwyllgor diwylliant yr wythnos diwethaf, mi ddywedoch chi fod popeth i fyny yn yr awyr yn sgil Brexit, a wnaethoch chi ddim rhoi unrhyw addewid y byddai yna Fil cyn diwedd tymor y Cynulliad yma, na chomisiwn ychwaith.

Yn eich maniffesto ar gyfer eich gobeithion i ddod yn Brif Weinidog Cymru, rwy'n deall nad oes yna sôn am un o brif bolisïau’r Llywodraeth ac, yn wir, y prif bolisi rydych chi wedi bod yn gyfrifol am ei hyrwyddo, sef y targed o greu 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, nac unrhyw sôn am Fil y Gymraeg. A allwn ni gymryd o hynny nad ydych chi'n teimlo'n angerddol am gynigion Bil y Gymraeg ac na fyddan nhw'n cael eu parhau petaech chi'n dod yn Brif Weinidog?

Wel, nid wyf yn meddwl ei fod yn briodol i fi ymateb i beth sydd yn fy maniffesto personol i fel siaradwraig dros Lywodraeth Cymru yn fan hyn. Beth y gallaf i ei ddweud wrthych chi yw, o ran Bil y Gymraeg, wrth gwrs rydym ni'n gobeithio y bydd y Bil yna'n dod ger ein bron ni. Ar hyn o bryd, rydych chi jest mor ymwybodol ag yr ydw i o'r mès sydd yn digwydd o ran Brexit, a dyna'r unig reswm pam rydym ni mewn sefyllfa i fod yn glir nad yw hi'n bosibl i wneud yr ymrwymiad yna y byddwn i'n hoffi ei wneud achos y caos sy'n digwydd o ganlyniad i Brexit ar hyn o bryd. 

Rwy'n meddwl ei fod o'n berthnasol iawn fy mod i yn gofyn y cwestiwn ichi a, na, ges i ddim ateb, wrth gwrs.

Mi wnaethoch chi gydnabod yn y pwyllgor diwylliant hefyd fod y trefniadau hyrwyddo—i fynd yn ôl at hyrwyddo—yn ddiffygiol ac nad oes gan is-adran y Gymraeg yn ei ffurf bresennol y capasiti i fod yn gwneud y gwaith hyrwyddo ystyrlon a strategol. Mae dirfawr angen gweithredu ar gynllunio ieithyddol i greu'r 1 miliwn o siaradwyr, ac mae gen i gyngor gan Wasanaethau Cyfreithiol y Cynulliad sy'n dangos y gellid sefydlu asiantaeth hyd-braich i hyrwyddo'r Gymraeg heb ddeddfwriaeth o'r newydd, ac yn cyfeirio at waith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a sefydlu'r corff hwnnw efo cyfrifoldebau eang drwy femorandwm ac erthyglau. 

Maes arall mae'ch diffyg cyfeiriad chi efo'r Bil a'r strategaeth yn effeithio arno fo ydy gallu pobl i gael gwasanaethau Cymraeg wrth ymwneud efo cyrff sy'n hanfodol i fywydau pob dydd dinasyddion. Ac yn wahanol i'r hyn y gwnaethoch chi awgrymu yn y pwyllgor, o weithredu'r Mesur presennol i'r eithaf mi fedrwch chi osod safonau ar y cyfleustodau, ar gwmnïau trafnidiaeth, ar gymdeithasau tai ac ar gwmnïau telathrebu. Felly, os nad oes yna amserlen ar gyfer sefydlu comisiwn, na chwaith amserlen ar gyfer cyflwyno Bil y Gymraeg, a gaf i ofyn i chi am amserlen ynglŷn â hyn? Pryd bydd modd i bobl Cymru gael mynediad i'r gwasanaethau allweddol yma sydd ddim yn ddibynnol ar ddeddfwriaeth newydd?

13:50

Rwy'n meddwl bod gwaith aruthrol wedi cael ei wneud eisoes yn fewnol, y tu fewn i'r Llywodraeth, o ran hyrwyddo'r Gymraeg, ac fe fyddwn i'n licio gweld y comisiynydd yn gwneud mwy o'r gwaith hwnnw, ac rŷm ni mewn trafodaethau i weld, o ganlyniad i'r ffaith na fyddwn yn gweld gosod mwy o safonau ar hyn o bryd, a fydd yna bosibilrwydd y bydd mwy o'r gwaith hwnnw yn cael ei wneud gan y comisiynydd presennol. Dyna'r weledigaeth; dyna beth rŷm ni'n gobeithio ei wneud. Ond rwyf yn meddwl bod lot fawr o waith wedi cael ei wneud yn ystod y ddwy flynedd diwethaf o ran hyrwyddo. 

O ran gosod safonau, wrth gwrs, rŷm ni wedi dweud ein bod ni'n mynd i gael seibiant wrth i ni ddatblygu'r Bil, ac rŷm ni yn, wrth gwrs, gobeithio y bydd y Bil yma yn cael ei gyflwyno a'i basio yn ystod y cyfnod yma, cyn ein bod ni'n cael yr etholiad nesaf. Felly, nid wyf yn meddwl bod dim byd wedi newid, heblaw am y ffaith bod Brexit yn debygol o wneud pob math o lanast o unrhyw drefniadau sydd gennym ni ar hyn o bryd. 

Diolch, Lywydd. Tua 18 i 20 mlynedd yn ôl, fe wnaeth cyn-Brif Weinidog y DU, Tony Blair, addewid enwog i sicrhau bod 50 y cant o oedolion ifanc yn camu ymlaen i addysg uwch erbyn 2010. Mae'n ymddangos bod Llywodraeth Cymru wedi croesawu'r targed hwn yn frwdfrydig gan fod y ffigurau diweddaraf yn dangos ein bod yn agos at gyrraedd y targed hwnnw yng Nghymru. Fodd bynnag, Weinidog y Cabinet, y broblem yw bod bron i hanner ein graddedigion newydd yn gweithio mewn swyddi nad ydynt yn galw am radd. Onid yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno bod hyn yn dangos gwrthdaro sylweddol rhwng yr addysg y mae myfyrwyr yn ei chael a'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer diwydiant?

Nac ydw, nid wyf yn credu bod hynny'n wir. Rwyf am sicrhau bod myfyrwyr o Gymru sydd â gallu academaidd a'r awydd i astudio ar lefel addysg uwch yn cael cyfle i wneud hynny, ac yn cael eu cefnogi gan y system fwyaf hael o gymorth i fyfyrwyr yn y Deyrnas Unedig.

Diolch ichi am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Rydym ni yn UKIP yn credu y byddai llawer o fyfyrwyr yn well eu byd o ddilyn llwybr arall tuag at eu gyrfa ddewisol; mewn geiriau eraill, dylid cysylltu addysg yn agosach â chyflogadwyedd yn hytrach na chymwysterau addysgol pur. O ystyried ystadegau fel y rhai a ddyfynnwyd yn adran Cymru o'r arolwg o sgiliau cyflogwyr yn 2017, sy'n dangos cynnydd sylweddol yn y gyfran o swyddi gwag o ganlyniad i brinder sgiliau yn y sector adeiladu, er enghraifft—mae tua 40 y cant o'r swyddi gwag yn y diwydiant adeiladu yng Nghymru yn deillio o brinder sgiliau—onid yw'n bryd, Ysgrifennydd y Cabinet, i roi llawer mwy o bwyslais yn awr ar roi addysg alwedigaethol i'n plant?

Lywydd, a'n gwaredo rhag rhoi gwerth ar addysg er ei mwyn ei hun. A gaf fi ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddiwygio addysg ôl-orfodol a hyfforddiant yn gynhwysfawr, er mwyn ceisio chwalu'r rhwystrau rhwng addysg uwch, addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith a phrentisiaethau i ganiatáu i fyfyrwyr allu cael cyfleoedd dysgu mwy hyblyg? Yn ddiweddar, cyfarfûm â bachgen bach a ddywedodd mai ei ddyhead oedd naill ai gwneud prentisiaeth neu fynd i brifysgol. Rwy'n gobeithio erbyn y bydd yn 18 oed na fydd yn rhaid iddo ddewis; bydd yn gallu gwneud prentisiaeth gradd uwch drwy hyfforddiant yn y gwaith a bod yn y brifysgol.

Unwaith eto, diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei hateb. Mae gan adroddiadau rhanbarthol ar y farchnad lafur a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru stori ddiddorol i'w hadrodd hefyd o ran prinder sgiliau. Mae lefelau uchaf fy rhanbarth, de-ddwyrain Cymru, o swyddi gwag o ganlyniad i brinder sgiliau yn y sectorau gweithgynhyrchu, adeiladu, trafnidiaeth a chyfathrebu. Mae'r darlun ychydig yn wahanol yn rhanbarth canolbarth Cymru, lle mae eich etholaeth chi wrth gwrs—gwasanaethau busnes, trafnidiaeth a chyfathrebu sydd â'r lefelau uchaf o swyddi gwag o ganlyniad i brinder sgiliau yn y rhan honno o Gymru. Byddai hyn yn awgrymu y dylai hyfforddiant galwedigaethol a roddir i'n myfyrwyr ddilyn patrwm rhanbarthol; hyd yn oed mewn ardaloedd gwledig ni ddylent ganolbwyntio ar amaethyddiaeth yn unig. Ysgrifennydd y Cabinet, a yw'r sector addysgol yn ymwybodol o'r amrywiaeth hon ac a yw'n mynd i'r afael â'r anghenion hyn yn ddigonol, yn enwedig mewn perthynas â'r sector galwedigaethol?

13:55

Wel, wrth gwrs, Lywydd, mae'r Aelod yn gywir i ddweud y bydd gwahanol ardaloedd yng Nghymru angen gwahanol setiau o sgiliau i ymateb yn briodol i'r economi yn yr ardal honno. Cyfeiriaf yr Aelod at y datganiad a roddwyd ddoe gan fy nghyd-Aelod, y Gweinidog dros sgiliau a dysgu gydol oes, a soniai am y diwygiadau i'r ffordd rydym yn ariannu addysg bellach, er enghraifft, fel bod darpariaeth golegol yn cyd-fynd yn well gyda galwadau'r partneriaethau sgiliau rhanbarthol a busnesau lleol, felly ceir mwy o synergedd rhwng y cyrsiau coleg sy'n cael eu cynnig mewn ardal leol er mwyn diwallu anghenion sgiliau cyflogwyr yr ardal honno.

Hyfforddiant Sgiliau yng Nghymru

3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyllid yr UE ar gyfer hyfforddiant sgiliau yng Nghymru? OAQ52961

O fewn y portffolio sgiliau, rydym yn arwain ar naw prosiect cronfa gymdeithasol Ewrop, gyda £340 miliwn wedi'i gymeradwyo hyd nes fis Rhagfyr 2023. Cefnogwyd tua 105,000 o gyfranogwyr hyd yn hyn, ac rydym yn disgwyl cefnogi 125,000 pellach i ategu nifer o ymrwymiadau 'Ffyniant i Bawb' a chyflawni'r blaenoriaethau gweinidogol allweddol hynny.

Diolch ichi am yr ateb hwnnw, Weinidog. Mae'n amlwg i mi fod yr Undeb Ewropeaidd wedi bod o fudd mawr ar gyfer cyllido sgiliau a chyfleoedd hyfforddi. Yn sicr yn fy etholaeth i, Merthyr Tudful a Rhymni, mae gan yr arian a ddarperir gan gronfa gymdeithasol Ewrop ffocws clir ar y dasg hanfodol o gael llawer o bobl sy'n agored i niwed yn ôl i mewn i'r farchnad lafur. Felly, a allwch chi roi sicrwydd i fy etholwyr y bydd yr hanes cadarn o fuddsoddi mewn hyfforddiant sgiliau yn parhau os ydym yn gadael yr Undeb Ewropeaidd?

Wel, wrth gwrs mae'n anodd rhoi sicrwydd ynglŷn ag unrhyw beth ar hyn o bryd, ond gobeithio y gallwn ddibynnu ar y sicrwydd a roddwyd gan y Trysorlys, beth bynnag sy'n digwydd, hyd yn oed mewn sefyllfa 'dim bargen', y gwarentir y bydd y cyllid hwnnw'n parhau tan 2020. Os ceir cytundeb pontio, bydd swyddogion yn ceisio sicrhau bod unrhyw arian sy'n weddill o fewn y pot hwnnw gan gronfa gymdeithasol Ewrop o ganlyniad i'r amrywiadau enfawr a fu yn y gyfradd gyfnewid, yn golygu y gallwn barhau i wario'r arian hwnnw hyd 2023, rwy'n gobeithio. Ond mae'n werth tanlinellu'r swm enfawr o gymorth y mae cymunedau fel eich un chi wedi'i dderbyn o ganlyniad i arian Ewropeaidd. Mae'n drueni efallai nad oes rhagor o'r bobl sydd wedi elwa o'r cyrsiau hynny wedi deall mewn gwirionedd o ble y dôi'r arian hwnnw.

Rydym ni wedi clywed o adroddiad Graeme Reid bod yna, efallai, orddibyniaeth ar y ffynonellau Ewropeaidd. Yn amlwg, mae hynny wedi bod yn rhywbeth naturiol oherwydd bod yr arian hwnnw wedi bod ar gael, ond bod yna ffynonellau arloesedd ac yn y blaen ar gael o lefydd eraill o fewn Prydain y gellir bod prifysgolion a cholegau addysg bellach yn ceisio bidio amdanynt fel eu bod nhw'n gallu gwneud mwy fel prifysgol ac wedyn ceisio gwneud hynny ar lefel fasnachol. Beth ydych chi'n ei ddweud wrth y cais hwnnw gan Graeme Reid ac a ydych chi fel Llywodraeth yn gwneud digon i hybu prifysgolion a cholegau i geisio yn y meysydd yma? 

Wel, rwy'n meddwl bod fy nghyfaill i yn arwain ar hwn, ond beth y gallaf i ei ddweud yw, rwy'n meddwl bod yna ffynonellau eraill lle y gallwn ni geisio sicrhau ein bod ni'n cael mwy o'r arian yna i mewn i Gymru. Ond rwyf hefyd yn meddwl ei bod hi'n bwysig i ni bwysleisio nad cyfrifoldeb y Llywodraeth yn unig yw hi i roi arian i mewn i ymchwil a datblygu. Mae'n rhaid i'r sector preifat hefyd roi eu dwylo nhw yn eu pocedi nhw. Os ydych chi'n edrych dros y byd, rŷm ni'n gwario tua 1.5 y cant o'n GDP ni yn llwyr ar R&D; yn yr Unol Daleithiau, maen nhw'n gwario tua 3 y cant. Felly, mae ffordd gyda ni i fynd i wella faint o arian—. Mae'r gwahaniaeth mwyaf yn dod oherwydd nad yw’r sector preifat yn y wlad yma efallai yn rhoi cymaint o’u harian nhw i mewn i’r system.

14:00

Weinidog, mae Llywodraeth y DU wedi cadarnhau na fydd unrhyw fwlch yn y cyllid ar gyfer twf rhanbarthol os ceir Brexit 'dim bargen'. Mae'r warant hon yn cynnwys prosiectau'r gronfa gymdeithasol Ewropeaidd. Felly, a wnaiff y Gweinidog gadarnhau, os yw Llywodraeth Cymru yn methu cyflawni ei haddewid o 100,000 o brentisiaethau yn ystod y tymor hwn, mai cyfrifoldeb a methiant Llywodraeth Cymru fydd hynny?

Wel, Mohammad, rwy'n falch o ddweud ein bod yn gwneud yn well na'r disgwyl o ran y targed ar gyfer darparu prentisiaethau, ac rwy'n weddol hyderus y gallaf ddweud ein bod yn mynd i chwalu'r targed hwnnw o 100,000 o brentisiaethau. Credwn y bydd mwy o arian yn dod yn y maes hwnnw. Mae hyn yn rhywbeth rydym yn gwbl ymrwymedig iddo fel Llywodraeth Cymru. Rydym yn falch iawn o'r hyn a wnaethom. Felly, rwy'n weddol hyderus y gallaf ddweud y byddwn yn cyrraedd y targed hwnnw ac mewn gwirionedd, y byddwn yn rhagori arno.

Staff Asiantaeth yn y Proffesiwn Addysgu

4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau costau staff asiantaeth yn y proffesiwn addysgu? OAQ52959

Diolch i chi am y cwestiwn. Yn ddiweddar cyhoeddodd y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol fanyleb tendr newydd ar gyfer comisiynu gweithwyr asiantaethau addysg, sy'n egluro'r sefyllfa o ran ffioedd asiantaeth. Awdurdodau lleol ac ysgolion sydd yn y sefyllfa orau i reoli'r defnydd o athrawon cyflenwi a monitro gwariant ar asiantaethau'n briodol o dan y trefniadau diwygiedig.

Ysgrifennydd y Cabinet, rydym yn gwario tua £40 miliwn y flwyddyn ar athrawon cyflenwi, gyda'r rhan fwyaf ohono'n mynd i asiantaethau, sy'n codi gormod ar ysgolion heb dalu digon i staff. Ni allwn ymdopi heb athrawon cyflenwi, ond fel y mae Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru wedi pwysleisio, mae athrawon cyflenwi'n tueddu i gael eu trin yn eithriadol o wael o ran cyflog, amodau gwaith a diffyg parch cyffredinol. Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi ymrwymo heddiw i ariannu ac ehangu'r prosiect athrawon cyflenwi, sy'n gweld clystyrau o ysgolion yn rhannu athrawon sydd newydd gymhwyso i gyflenwi dros staff sy'n absennol, gan leihau ein gorddibyniaeth ar asiantaethau athrawon?

Diolch i chi, Caroline, am eich cefnogaeth i gynlluniau peilot y clystyrau athrawon cyflenwi a gyflwynwyd gennyf. Mae'r buddsoddiad o £2.7 miliwn yn y prosiect hwnnw yn sicrhau bod 15 ardal awdurdod lleol yn cymryd rhan, ac mae gennym 50 o athrawon yn gweithio ar draws 100 o ysgolion yn rhan o hynny. Mae'r gwaith o werthuso’r prosiect peilot hwnnw newydd ddechrau. Mae angen inni ddysgu gwersi ynglŷn â pha rannau ohono sydd wedi gweithio'n dda, pa rhannau, os o gwbl, sydd heb weithio'n dda a'r cyfleoedd y mae'r cynllun peilot yn eu rhoi i ni o ran ymestyn y rhaglen ymhellach.

Gadewch imi fod yn gwbl glir ein bod wedi gweithio'n agos iawn gyda'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol i sicrhau bod y fanyleb fframwaith newydd ar gyfer gweithwyr asiantaeth, a gyhoeddwyd ar 12 Tachwedd, yn rhoi sylw i arferion gwaith teg ac isafswm cyfraddau cyflog ar gyfer athrawon cyflenwi ac yn cynnig mwy o dryloywder o ran y ffioedd y gall asiantaethau eu codi. Mae'n bwysig nodi nad ni sy'n cyflogi athrawon, ac rwy'n disgwyl y bydd pob corff cyhoeddus sy'n gyflogwyr yn cadw at egwyddorion gwaith teg a'r cod ymarfer ar gyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi o ran ffynhonnell eu gwaith. Hoffwn ychwanegu hefyd fy mod ar hyn o bryd yn ystyried gweithredu safonau sicrwydd ansawdd gorfodol ar gyfer asiantaethau cyflenwi er mwyn ategu a chefnogi'r newid i fframwaith y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol.

Diolch yn fawr iawn ichi am yr ateb hwnnw i Caroline. Wrth gwrs, fe fyddwch yn ymwybodol, dair blynedd yn ôl, fod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg wedi cynnal ymchwiliad i'r holl ddarpariaeth o athrawon cyflenwi, ac un gost nad yw bob amser yn cael ei chydnabod yw'r effaith y mae athro cyflenwi'n ei chael ar ganlyniadau disgyblion, yn enwedig mewn ardaloedd difreintiedig a'r cysylltiadau ag ymddygiad gwael disgyblion. Nawr, o'r tua 20 o argymhellion a wnaed gennym, cafodd y rhan fwyaf ohonynt naill ai eu derbyn neu eu derbyn mewn egwyddor, ac un ohonynt oedd ymrwymiad i wneud gwaith ymchwil i effeithiau gwaith athrawon cyflenwi ar y meysydd penodol hyn, h.y. canlyniadau disgyblion mewn ardaloedd difreintiedig ac ymddygiad disgyblion. A ydych wedi gallu ymgymryd â'r gwaith ymchwil hwnnw neu a yw'n rhan o waith y clystyrau y sonioch chi wrth Caroline amdanynt?

Mae wedi'i gynnwys yn y sylfaen dystiolaeth rydym wedi seilio'r prosiect peilot arni. Rydym yn gwybod pa mor bwysig yw gwaith athrawon cyflenwi yn y broses o godi safonau yn ysgolion Cymru a'r gallu i gynnal lefel o gysondeb gydag un athro cyflenwi yn gweithio ar draws grŵp o ysgolion fel bod yr athro'n dod i adnabod yr ysgolion a'r disgyblion hynny'n well. Ar y llaw arall, un o fanteision y cynllun peilot sy'n cael eu harchwilio gennym ar hyn o bryd, rwy'n credu, yw bod y disgyblion yn dechrau datblygu perthynas gydag un person penodol. Yn amlwg, bydd yr agweddau hyn yn rhan o'r gwerthusiad o'r cynllun peilot a gobeithio y bydd yn rhoi'r wybodaeth inni ynglŷn ag a ddylid ymestyn y cynllun peilot hwn i gynnwys Cymru gyfan ac a ddylai fynd y tu hwnt i ddefnyddio athrawon sydd newydd gymhwyso fel athrawon cyflenwi fel y mae'n gwneud ar hyn o bryd yn y cynllun peilot penodol hwnnw, ac a ddylid cymhwyso hynny ar gyfer y gweithlu athrawon cyflenwi yn ei gyfanrwydd.

14:05

Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n rhannu'r pryderon a fynegwyd gan fy nghyd-Aelodau Angela Burns a Caroline Jones, ac rwy'n parhau i ymdrin â gwaith achos gan athrawon cyflenwi anniddig yn fy etholaeth. Yn wir, yr wythnos diwethaf, cyfarfûm ag athro cyflenwi a ddywedodd wrthyf am achos brawychus lle mae asiantaeth gyflenwi'n cynnig cymhellion honedig, megis tocynnau i gemau rygbi rhyngwladol, i benaethiaid er mwyn hyrwyddo eu busnes. A ydych yn ystyried bod hyn yn briodol, ac os nad ydych, pa ymyriadau y gall Llywodraeth Cymru eu rhoi ar waith?

Diolch yn fawr iawn, Vikki. Buaswn yn falch iawn o gael tystiolaeth gan eich etholwr, ar sail ddienw pe bai hynny'n gwneud i'r unigolyn deimlo'n fwy cyfforddus, fel bod modd ymchwilio i hyn. Fel y dywedais yn fy ateb cynharach i Caroline, yn ogystal â gweithio gyda'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol i gynhyrchu fframwaith caffael cryfach nag sydd gennym ar hyn o bryd yn fy marn i, rwyf wrthi'n ystyried cyflwyno system, fel y dywedais, a fyddai'n caniatáu ar gyfer safonau sicrwydd ansawdd gorfodol gan asiantaethau cyflenwi. Pe baem yn dilyn y llwybr hwn, byddai angen i unrhyw asiantaeth fasnachol sy'n dymuno cyflenwi athrawon dros dro i ysgol a gynhelir yng Nghymru fodloni gofynion penodol. Credaf y byddai'r safonau achrededig hynny'n cefnogi ysgolion, athrawon cyflenwi a hefyd—y pwynt pwysig—ansawdd addysgu a dysgu, a gallai edrych o bosibl ar sicrhau nad yw arferion tebyg i'r rhai rydych newydd eu hamlinellu yn dderbyniol.

Lleoedd Ysgol Cyfrwng Cymraeg

5. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Chyngor Caerdydd mewn perthynas â chynyddu nifer y lleoedd ysgol cyfrwng Cymraeg? OAQ52971

Diolch yn fawr, Neil, ac rydw i'n falch iawn eich bod chi wedi gofyn y cwestiwn yn Gymraeg. Diolch yn fawr am eich ymdrech chi fanna.

Rydw i'n meddwl bod yna gysylltiad sydd yn digwydd yn aml iawn rhwng Cyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru, ac mae yna fonitro cyson rhwng yr hyn roedd y cyngor wedi'i addo yn eu WESP nhw a'r hyn rŷm ni'n gobeithio y byddan nhw'n sicrhau eu bod nhw yn delifro. Felly, yn fewnol, tu mewn i'r Llywodraeth, mae gennym ni bobl sy'n monitro hynny'n gyson. 

Diolch. Mae ysgol Hamadryad yn symud i safle newydd yn Nhrebiwt ym mis Ionawr. Mae cyfle i wneud rhywbeth arbennig a phositif yma gyda chymunedau lleol. Beth fydd y strategaeth, a beth ydych chi'n mynd i'w wneud i ymgysylltu â hyn? A fydd hi'n bosib trefnu cyfarfod â rhanddeiliaid yn y gymuned? 

Diolch yn fawr. Wel, rydw i'n falch dros ben i weld yr ysgol newydd yma'n cael ei hagor. Roeddwn i'n un o'r bobl a oedd wedi ymgyrchu i gael ysgol yn yr ardal yma o'r ddinas, ac roeddwn i yn y seremoni lle roedden nhw wedi torri'r tir ar gyfer adeiladu'r adeilad newydd. Rydw i'n hapus iawn hefyd fod yna uned feithrin yn mynd i fod ynghlwm â'r ysgol ac rydw i yn gobeithio nawr y bydd yna ymgais—ac rydw i'n gwybod bod hyn wedi digwydd eisoes—gan yr ysgol i ymgysylltu â'r gymuned yn fwy eang, a'u bod nhw yn mynd allan ac yn sicrhau bod pob un yn yr ardal yn teimlo fel bod hon yn ysgol iddyn nhw gael access iddi hefyd. Ac rydw i'n ymrwymo i gysylltu â'r cyngor i ofyn a sicrhau eu bod nhw'n gofyn i'r ysgol i wneud yr ymdrech yna'n ychwanegol jest cyn iddyn nhw symud i mewn, fel bod pobl yr ardal yn teimlo mai dyma eu hysgol nhw. 

Weinidog, yn amlwg, mae'n newyddion da fod ysgolion newydd yn agor i ddarparu addysg cyfrwng Cymraeg, nid yn unig yng Nghaerdydd, ond ledled Cymru gyfan. Ond un peth sy'n bwysig iawn yw'r gallu i gyflenwi athrawon o ansawdd i'r ysgolion hynny allu addysgu'r cwricwlwm. Gyda datganoli cyflogau ac amodau athrawon, pa ddadansoddiad y mae'r Llywodraeth wedi'i wneud o'r nifer o gamau y gallai eu rhoi ar waith i unioni prinder yn yr ardal benodol hon? Oherwydd, fel y dywedais, nid oes fawr o bwynt o gwbl mewn cael ysgolion newydd os nad oes gennym athrawon i addysgu'r gwersi.

14:10

Wel, mewn perthynas ag athrawon iaith Gymraeg, lle rwyf ychydig yn fwy cyfarwydd â ble y ceir problemau, mewn perthynas ag athrawon cynradd, credaf ein bod ar y trywydd iawn mwy na thebyg ac mae gennym ddigon o athrawon. Mae gennym broblem, fel sydd gan bobl ar draws y blaned gyfan, o ran recriwtio athrawon i addysg uwchradd. Rydym yn rhoi camau ymarferol iawn ar waith i sicrhau ein bod yn gallu denu pobl newydd i'r proffesiwn ac i wneud yn siŵr fod gennym safonau o ansawdd. Fe fyddwch yn ymwybodol fod yr Ysgrifennydd addysg yr wythnos diwethaf wedi nodi argymhellion clir iawn o ran sut y byddwn yn gwella ansawdd yr addysgu yng Nghymru.

Plant a Phobl Ifanc sydd â Nam ar y Synhwyrau

6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddarparu addysg i blant a phobl ifanc yng Ngwent sydd â nam ar y synhwyrau? OAQ52950

Diolch i chi, Lynne. Drwy ein cenhadaeth genedlaethol, rydym yn diwygio ein system addysg i alluogi pob dysgwr, waeth beth fo'u cefndir neu amgylchiadau personol, i gyrraedd eu potensial. Mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd i ddiwallu anghenion pob plentyn ag anghenion arbennig, gan gynnwys y rhai â nam ar y synhwyrau.

Diolch ichi, Ysgrifennydd y Cabinet. Gwn eich bod yn ymwybodol o fy mhryder dwfn ynglŷn â'r penderfyniad gan gyngor Casnewydd i dynnu allan o'r gwasanaeth addysg arbenigol ledled Gwent ar gyfer plant â nam ar y synhwyrau, a elwir yng Ngwent yn SenCom. Yn anffodus, gwnaed y penderfyniad heb ymgynghori gyda theuluoedd nac awdurdodau lleol sy'n bartneriaid, ac rwy'n bryderus iawn y bydd tynnu allan yn ansefydlogi gwasanaethau ar gyfer grŵp o blant a phobl ifanc dan anfantais fawr sydd ar hyn o bryd yn derbyn gwasanaeth arbenigol o ansawdd uchel. Pa gamau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i sicrhau nad yw plant a phobl ifanc yng Ngwent dan anfantais yn sgil y penderfyniad hwn?

Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn heddiw, Lynne, a'r ohebiaeth a gawsoch gyda mi a swyddogion ynglŷn â gwasanaeth SenCom, a oedd yn enghraifft dda iawn o sut roedd gwaith rhanbarthol ac awdurdodau lleol yn cyfuno adnoddau i greu gwasanaeth arbenigol iawn er mwyn diwallu anghenion grŵp penodol o blant, rhywbeth sy'n anodd iddynt ei wneud o bosibl wrth weithio ar eu pen eu hunain. Mae gweithio mewn partneriaeth yn effeithiol yn ffactor allweddol wrth sicrhau bod adnoddau'n cael eu defnyddio'n effeithiol i gefnogi dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol, yn enwedig ar adeg pan nad yw adnoddau'n ddiddiwedd. Rwyf wedi ysgrifennu at arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, y Cynghorydd Debbie Wilcox, i sefydlu pa drefniadau sy'n cael eu rhoi ar waith i sicrhau na fydd dysgwyr, teuluoedd ac ysgolion, nid yn unig yng Nghasnewydd, ond ar draws y rhanbarth, yn cael eu niweidio gan y penderfyniad hwn.

Dylai pob ysgol allu gwasanaethu plant â nam ar y synhwyrau i'r un graddau, neu a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn credu ei bod hi'n well i ysgolion arbenigo a chael ysgolion arbennig ag arbenigedd datblygedig yn y maes hwn?

Wel, Mark, nid wyf yn meddwl bod yna un ateb sy'n addas i bawb; mae'n dibynnu'n fawr iawn ar anghenion plant unigol, ac yn wir, ar farn rhieni'r plant unigol hynny ynglŷn ag a ydynt am i'w plant gael eu haddysgu yn eu cymuned, a'r cohort o fewn y gymuned, neu a fyddai'r plentyn yn elwa mwy o leoliad arbenigol iawn. Yr hyn sy'n wirioneddol bwysig wrth inni symud drwy ein rhaglen drawsnewid ADY yw bod ysgolion o ba fath bynnag yn cael eu paratoi i ymdrin yn effeithiol ag anghenion dysgu ychwanegol yn ei amrywiol ffurfiau a'u bod yno i ymateb yn briodol er mwyn sicrhau bod pob plentyn yn cyrraedd eu potensial llawn. Yr hyn sy'n heriol yn achos SenCom yw bod hwn yn grŵp penodol o blant ag anghenion penodol iawn, a thrwy weithio gyda'i gilydd, mae SenCom wedi gallu darparu tîm amlddisgyblaethol i ddarparu'r cymorth arbenigol iawn hwnnw. Ond mae'n gwbl hanfodol i'n rhaglen drawsnewid ADY mai'r plentyn sy'n cael y lle canolog.

14:15
Ysgolion Gwledig

7. Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o bwysigrwydd ysgolion gwledig? OAQ52941

Jane, mae ysgolion gwledig yn chwarae rhan bwysig yn ein cenhadaeth genedlaethol i godi safonau ac ymestyn cyfleoedd i'n pobl ifanc i gyd, a dyna pam rydym wedi rhoi camau ar waith, gan gynnwys cyhoeddi cynllun gweithredu addysg wledig a chyflwyno'r grant ysgolion bach a gwledig, i helpu i fynd i'r afael â'r heriau sy'n eu hwynebu.

Diolch ichi, Ysgrifennydd y Cabinet. Hoffwn ddiolch i chi am eich ateb i fy llythyr ynglŷn â'r bwriad i gau ysgol Llancarfan, lle rydych yn dweud nad yw'r rhagdybiaeth yn erbyn cau yn golygu na fydd ysgol yn cau byth; fodd bynnag, mae'n golygu bod yn rhaid i'r achos dros gau fod yn gryf ac na ddylid gwneud hynny hyd nes y bydd pob ateb dichonadwy arall wedi'i ystyried yn gydwybodol, gan gynnwys ffedereiddio. Fel y gwyddoch, mae gwrthwynebiad eang i gau'r ysgol wledig hon yn fy etholaeth. A allwch wneud sylw ar y dystiolaeth nad yw'r awdurdod lleol wedi ystyried dulliau amgen dichonadwy, megis ffedereiddio?

Wel, Jane, rwy'n ymwybodol fod cabinet Cyngor Bro Morgannwg wedi penderfynu bwrw ymlaen â'r cynnig i symud Ysgol Gynradd Llancarfan i safle newydd. Cyhoeddwyd yr hysbysiad statudol, fel y byddwch yn gwybod, ar 5 Tachwedd ac mae'n darparu cyfnod gwrthwynebu o 28 diwrnod i unrhyw un gael ymateb. Yn yr achos hwn, mae'n rhaid i'r gwrthwynebiadau ddod i law erbyn 3 Rhagfyr. Yna rhaid i'r awdurdod lleol gyhoeddi crynodeb o'r gwrthwynebiadau statudol ac ymateb i'r gwrthwynebiadau hynny. Fel y byddwch yn gwybod, gellir cyfeirio cynnig wedi'i gymeradwyo neu ei wrthod gan awdurdod lleol at Weinidog Cymru i'w ystyried os bydd rhai partïon penodol yn penderfynu cymryd y cam hwnnw, ac felly ni allaf roi rhagor o sylwadau ar yr achos unigol hwnnw mewn gwirionedd.

Addysgu Ieithoedd Tramor Modern

8. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am addysgu ieithoedd tramor modern yng Nghymru? OAQ52956

Mae perfformiad pobl ifanc sy'n astudio ieithoedd tramor modern Safon UG, Safon Uwch a TGAU yn dal yn gadarn. Rydym wedi buddsoddi £2.5 miliwn yn ein cynllun 'Dyfodol byd-eang' er mwyn galluogi pobl ifanc i ddeall pwysigrwydd a chyfleoedd astudio ieithoedd tramor modern.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am yr ateb hwnnw, ond nid yw mewn gwirionedd yn adlewyrchu realiti dysgu ieithoedd tramor modern yn ysgolion Cymru heddiw. Mae ffigurau diweddaraf Gwasanaeth Derbyn y Prifysgolion a'r Colegau yn dangos bod 80 o fyfyrwyr o Gymru wedi sicrhau lleoedd ar gyrsiau iaith a llenyddiaeth Ewropeaidd y llynedd—i lawr o 120 yr adeg hon y llynedd. A dros y degawd ers 2009, mae nifer yr ymgeiswyr Safon Uwch mewn Ffrangeg ac Almaeneg wedi gostwng ddwy ran o dair—ac wedi disgyn eto y llynedd—a'r nifer o ymgeiswyr mewn Sbaeneg wedi gostwng i'w hanner. Cyhoeddwyd dogfen 'Dyfodol byd-eang' y Llywodraeth ym mis Hydref 2015, ac roedd yn gynllun i hyrwyddo a gwella ieithoedd tramor modern yng Nghymru yn ystod y cyfnod o bum mlynedd hyd at 2020. Mae'n ymddangos bod y rhaglen hon wedi methu'n llwyr, felly beth y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn mynd i'w wneud i geisio dad-wneud y difrod a wnaed?

Gadewch inni fod yn gwbl glir: ychydig eiliadau yn ôl, roedd UKIP yn dweud wrthym fod gennym lawer gormod o bobl yn mynd ymlaen i brifysgol i astudio pynciau academaidd, ac mewn gwirionedd y dylem ganolbwyntio fel Llywodraeth ar annog—[Torri ar draws.]—ar annog pobl i ddilyn llwybrau eraill. Gadewch inni fod yn gwbl glir: lle mae disgyblion yn dewis astudio ieithoedd tramor modern, maent yn gwneud yn dda iawn—dangosodd canlyniadau 2018 gynnydd yn y graddau A* i C Safon Uwch mewn Ffrangeg, Almaeneg a Sbaeneg, a chododd canlyniadau lefel TGAU, graddau A* i C mewn Ffrangeg—[Torri ar draws.] Mewn Ffrangeg hefyd. Nawr, yn sicr, ceir heriau o ran y nifer sy'n astudio ieithoedd tramor modern, ond mae ffigurau 2018 yn dangos nad oes gostyngiad mwyach yn y nifer sy'n astudio Almaeneg, ac mae'r gostyngiad yn y nifer sy'n astudio Ffrangeg yn llai serth. Rydym wedi rhoi adnoddau ychwanegol i mewn drwy gyfrwng y rhaglen 'Dyfodol byd-eang', ac i gefnogi hyn ymhellach, rwyf wedi cytuno i roi cyllid ychwanegol i'r rhanbarthau ar gyfer 2018-19 er mwyn gwella eu cynnig ieithoedd tramor modern, gyda ffocws penodol ar y sector cynradd, fel y gall plant ddarganfod awydd i ddysgu ieithoedd tramor modern yn gynharach yn eu gyrfa academaidd yn hytrach na gorfod aros tan yr ysgol uwchradd er mwyn cael y cyfleoedd hyn.

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Yr eitem nesaf, felly, yw cwestiynau i'r Ysgrifennydd Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Joyce Watson.

Profion HIV

1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynyddu cyfleoedd i bobl gael eu profi ar gyfer HIV, gan gynnwys o fewn lleoliadau cymunedol, drwy hunan-brofi a samplo yn y cartref? OAQ52963

Diolch ichi am y cwestiwn. Yn ddiweddar cyhoeddais nifer o ymyriadau i wella iechyd rhywiol yng Nghymru, gan gynnwys cynllun peilot ar gyfer cynnal profion ar-lein yn ardal bwrdd iechyd prifysgol Hywel Dda, a phrosiect i ddarparu profion hunan-samplu HIV i'r rhai sy'n mynychu clinigau proffylacsis cyn-gysylltiad. Bydd y gwaith hwn yn llywio datblygiadau yn y ddarpariaeth ledled Cymru yn y dyfodol.

14:20

Rwy'n falch iawn, Ysgrifennydd y Cabinet, ac rwy'n croesawu eich ymrwymiad i hyn, oherwydd mae pawb ohonom yn gwybod bod diagnosis cynnar o HIV yn hanfodol i sicrhau y gall unrhyw unigolyn sy'n cael prawf cadarnhaol ddechrau triniaeth cyn gynted â phosibl, ac mae cael amrywiaeth o gyfleoedd ar gyfer profi yn hanfodol iawn i wella diagnosis cynnar a chynnal iechyd a lles y bobl sy'n byw, neu a allai fod yn byw gyda HIV. Mae diagnosis hwyr o HIV yn achosi goblygiadau difrifol i iechyd yr unigolyn a gall arwain at gymhlethdodau difrifol sy'n peryglu bywyd. Yn anffodus, mae lefelau diagnosis hwyr o HIV yn dal yn uchel, gyda 43 y cant o'r holl achosion newydd yn cael diagnosis hwyr. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, y tu hwnt i'r rhai rydych newydd eu hamlinellu—ac maent i'w croesawu yn wir—pa gamau gweithredu eraill y gallai Llywodraeth Cymru eu cymryd i wella'r nifer sy'n mynd am brofion diagnostig cynnar o HIV hyd yn oed ymhellach?

Wel, mae'n galondid mawr gweld y gwaith rydym yn ei wneud ar broffylacsis cyn-gysylltiad (PrEP), ond hefyd yn y cynllun peilot newydd rwyf wedi'i gyhoeddi. Mae'r gwaith ar PrEP yn bwysig, oherwydd os cofiwch, pan wneuthum ddatganiad i'r Siambr hon o'r blaen, roeddem wedi canfod nifer o bobl cyn cynnal y profion, cyn darparu PrEP—nifer o bobl a oedd heb gael diagnosis o HIV—felly roedd modd iddynt ddechrau triniaeth ar y pwynt hwnnw mewn gwirionedd, yn ogystal â'r pwynt ataliol ynglŷn â PrEP, ac rwy'n disgwyl y byddwn yn dysgu llawer mwy ynglŷn â sut i wneud yn siŵr fod PrEP ar gael yn briodol er mwyn atal HIV rhag digwydd yn y lle cyntaf. Mae'r rhaglen a gyhoeddais ynglŷn â hunan-brofi a samplu yn y cartref yn bwysig, oherwydd mae rhannau eraill o'r DU yn gweithredu fersiwn wahanol o hynny. Mewn gwirionedd, rydym yn cyflwyno prawf haws yma yng Nghymru. Mae'r ffocws cychwynnol ar clamydia a gonorea, ond bydd hynny'n datblygu wedyn i edrych ar wneud profion HIV yn ogystal. Rydym yn darparu bron i 100,000 o brofion HIV yng Nghymru bob blwyddyn, felly mae llawer iawn o brofion yn digwydd. Nid yw'n fater o'r hyn y dylem ei wneud, ond yn hytrach, sut y dylem ei wneud, a sut y dylem wella'r hyn rydym yn ei wneud, ac mewn gwirionedd, ar y pwynt hwn, rydym yn arwain y ffordd ledled y DU.

Ysgrifennydd y Cabinet, yn ddiweddar fe nodoch bwysigrwydd deall lefelau gwirioneddol HIV yng Nghymru, ac rwy'n meddwl, fel y dywedoch, fod nifer y bobl yr amcangyfrifir eu bod yn byw gyda HIV yma yn rhy isel yn ôl pob tebyg. Mae Ymddiriedolaeth Terrence Higgins wedi cynhyrchu ystadegau sy'n ymwneud â'r DU yn ei chyfanrwydd, gyda dadansoddiad, ond ychydig iawn o ddata ystadegol a geir sy'n ymwneud â Chymru'n benodol. Ar wahân i edrych ar ddarparu profion mewn cymunedau a phecynnau profi, a fyddwch yn gwneud ymchwil pellach i ganolbwyntio ar Gymru er mwyn deall faint o bobl yng Nghymru sy'n HIV positif ac yn bwysicach, i weld a oes unrhyw rannau o Gymru â nifer fwy o bobl yn dioddef na rhannau eraill?

Rydym yn disgwyl dysgu llawer iawn o'r astudiaeth PrEP rydym yn rhan ohoni—nid yn unig y bobl sy'n gofyn am brawf, oherwydd mae'n bwynt sy'n wir ledled y wlad, ond yr ymgysylltiad ehangach â gwasanaethau iechyd rhywiol. Felly, y pwynt ynglŷn â gwneud profion yn haws—mae'n rhan o geisio lleihau stigma yn ogystal. Mae yna her ynglŷn â phobl yn dod i fanteisio ar y profion sydd ar gael eisoes, felly po hawsaf y gwnawn hynny, po fwyaf y siaradwn amdano a dweud y gwir, y mwyaf tebygol y byddwn o weld pobl yn dod i wneud hynny. Ac wrth gwrs gallwn fod yn hyderus fod yna bobl yn byw yng Nghymru heb gael diagnosis o HIV, oherwydd canfuwyd rhai ohonynt drwy ddamwain yn ystod y profion PrEP. Roeddem yn meddwl y byddem yn canfod rhai, am ein bod mewn gwirionedd yn ceisio cyrraedd pobl sydd ag ymddygiad iechyd rhywiol mwy peryglus nag eraill. Dyna pam ein bod yn gwybod, hyd yn oed ymhlith y bobl sydd wedi mynd ar drywydd PrEP, fod gan bron un rhan o bump o'r bobl hynny heintiau eraill a drosglwyddir yn rhywiol. Felly, mewn gwirionedd rydym yn ymdrin â'r boblogaeth gywir o bobl, ac rwy'n edrych ymlaen at fynd i'r afael â digwyddiad Diwrnod AIDS y Byd Terrence Higgins yma yn y Senedd ddiwedd y mis hwn, a siarad am ymrwymiad y Llywodraeth hon i ddileu HIV yma yng Nghymru.

Cyfraddau Imiwneiddio yng Ngogledd Cymru

2. A wnaiff Llywodraeth Cymru ddatganiad am gyfraddau imiwneiddio yng ngogledd Cymru? OAQ52943

Rwy'n hapus i wneud hynny. Mae cyfraddau imiwneiddio yng Nghymru yn aros ar frig y meincnodau rhyngwladol ac yn cymharu â gwledydd eraill y DU. Mae'r mwyafrif helaeth o blant Cymru wedi'u himiwneiddio'n llawn cyn iddynt ddechrau yn yr ysgol. Mae'r lefelau o blant sy'n cael eu himiwneiddio plant yng ngogledd Cymru yn uwch na chyfartaledd Cymru yn y rhan fwyaf o raglenni.

Diolch ichi am yr ateb hwnnw. Fe fyddwch yn ymwybodol fod pobl hŷn a grwpiau eraill sy'n agored i niwed yn cael eu hannog hefyd i fanteisio ar y cynnig o frechlyn rhag y ffliw bob gaeaf. Cafwyd cryn bryder yng ngogledd Cymru ynglŷn â phrinder y brechlyn ar draws y rhanbarth, gan gynnwys yn fy etholaeth i, Gorllewin Clwyd. A ydych yn derbyn y posibilrwydd y gallai prinder roi bywydau pobl agored i niwed mewn perygl? A beth a wnewch i godi cyfraddau brechu ymhlith gweithwyr rheng flaen y GIG, lle mae cyfran sylweddol ohonynt yn mynd heb y brechlyn bob blwyddyn a gallent fod yn rhoi cleifion mewn perygl?

14:25

Diolch i chi am eich cwestiwn. Roedd dwy ran i'r cwestiwn dilynol i bob pwrpas. Mewn gwirionedd, dros y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi gwneud cynnydd gwirioneddol o ran nifer gweithwyr y GIG, a gweithwyr rheng flaen yn benodol, sy'n cael y brechlyn. Bedair blynedd neu fwy yn ôl, pan gefais y cyfle i weithio yn yr adran iechyd, roedd nifer ein gweithwyr GIG a oedd yn manteisio ar y brechlyn gryn dipyn yn llai na 50 y cant. Mae bellach yn fwy na hynny, ac mewn gwirionedd mae Betsi Cadwaladr yn eithaf da o gymharu â gweithwyr eraill y GIG yng Nghymru. Rydym yn anelu i ehangu hynny ymhellach, oherwydd mae yna neges glir o ran sicrhau, yn fwyaf arbennig, fod y bobl sy'n dod i gysylltiad uniongyrchol â chleifion yn cael eu brechu rhag y ffliw. Rydym wedi mynd â hynny ymhellach yn y maes gofal cymdeithasol yn ogystal. Felly, eleni, bydd y sector fferylliaeth gymunedol yn arwain ar frechu gweithwyr rheng flaen mewn gofal preswyl hefyd.

O ran eich pwynt am y brechlyn ar gyfer gweithwyr hŷn, mae'n un o'r ymadroddion iechyd hynny—brechlyn sy'n cynnwys cyffur ategol: brechlyn sy'n fwy effeithiol ymhlith pobl dros 65 oed. Mewn gwirionedd, y dystiolaeth gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu yw ei bod yn debygol mai dyma'r unig frechlyn sy'n effeithiol mewn pobl dros 75 oed. Felly, mae hwnnw'n mynd allan ym mhob un o wledydd y DU, ac mae'r pedair gwlad wedi wynebu rhai heriau cyflenwi gan y gwneuthurwr. Rydym bellach mewn sefyllfa lle y gallwn fod yn hyderus y bydd yr holl gyflenwad hwnnw ar gael erbyn diwedd y mis hwn, mis Tachwedd, ac mae'n cael ei gyflwyno fesul cam. Mae'r gweithgynhyrchwyr yn cydnabod rhai o'r heriau a gawsant wrth wneud hynny, ond wrth gwrs, rydym yn dysgu gwersi y tymor hwn, nid yn unig ar ei ddiwedd, ac rwy'n hyderus, fel pob gwlad arall yn y DU hefyd rwy'n credu, y bydd cyflenwad digonol o'r brechlyn hwnnw ar gael mewn fferyllfeydd meddygon teulu a fferyllfeydd cymunedol er mwyn i'n dinasyddion mwyaf agored i niwed allu manteisio arno, ac ar y brechlyn mwy effeithiol ar gyfer rhai dros 65 oed hefyd eleni.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Helen Mary Jones.

Diolch, Lywydd. Roeddwn am ddefnyddio fy nghwestiynau cyntaf fel llefarydd i ymdrin â phroblemau mewn gofal cymdeithasol yn hytrach nag iechyd, fel symbol o ba mor bwysig ydyw i bobl ar draws y Siambr hon, yn enwedig yma yn ein plaid ni—. Rydym yn gweld iechyd a gofal cymdeithasol fel partneriaeth gyfartal, heb fod un yn bwysicach na'r llall. Felly, a gaf fi gofyn i'r Gweinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: a yw Llywodraeth Cymru yn gwybod faint o nyrsys cofrestredig a gweithwyr gofal sy'n hanu o wledydd o fewn yr UE sy'n gweithio mewn cartrefi gofal yng Nghymru ar hyn o bryd, ac os felly, beth yw'r ffigurau hynny?

Helen Mary, a gaf fi eich croesawu i'ch rôl fel llefarydd, a chroesawu hefyd y ffordd rydych newydd nodi pwysigrwydd iechyd a gofal cymdeithasol gyda'i gilydd? Mae'r grŵp rhanddeiliaid Brexit rwyf fi ac Ysgrifennydd y Cabinet yn ei gadeirio ar y cyd wedi edrych ar y mater hwn. Ceir prinder cymharol o ddata ar y sector gofal cymdeithasol o'i gymharu â'r sector iechyd. Yn y sector iechyd, mae gennym ffigurau eithaf cywir ar effaith Brexit, boed yn Brexit 'dim bargen' neu'n rhyw fath o drefn bontio, ar y gweithlu o'i fewn. Felly, rydym wedi comisiynu gwaith i fynd ati i lenwi rhai o'r bylchau yn y data, ond mae rhai o'r bylchau yn y data'n deillio'n syml o natur eang ac amrywiol y sector gofal. Nid yw mor gydgysylltiedig â'r GIG sydd gennym. Ond rydym wedi comisiynu gwaith i edrych ar hynny, a chyn gynted ag y byddwn yn ymwybodol o hynny, rwy'n siŵr y byddwn yn dod ag ef gerbron y tŷ wedyn i weld sut rydym yn ei wneud. Ond dyna'n union yw'r rheswm pam rydym yn ei wneud: i weld sut y gallwn baratoi ar ei gyfer os ydym mewn sefyllfa lle bydd yn rhaid inni wynebu colli pobl o'n gweithlu gofal cymdeithasol, sydd mor bwysig i'r holl bobl sy'n derbyn gofal gan bobl sy'n dod i'r wlad hon o bob rhan o'r byd, a dweud y gwir, i ddarparu gofal ar gyfer ein dinasyddion.

Diolch ichi am yr ateb, Weinidog. Er gwaethaf yr hyn rydych wedi'i ddweud am gymhlethdod y sector o gymharu â'r sector iechyd, rwy'n siŵr y byddech yn deall ei bod hi'n rhwystredig iawn nad ydym yn gwybod, ac mor agos at Brexit â hyn, ein bod yn dal heb gael—pa un a fyddech byth yn gallu cael set o ffigurau mor gynhwysfawr a chywir ag y gallwn ei chael ar gyfer y gwasanaeth iechyd, ond mae'n rhwystredig nad ydych yn gwybod yn iawn, a rhannaf eich pryder, wrth gwrs, am effaith bosibl Brexit ar y gweithlu, ac os caiff pobl eu hatal rhag dod i weithio yma.

Weinidog, fe fyddwch yn gwybod am astudiaeth y llynedd gan y BMJ sy'n cysylltu toriadau a chyni mewn gofal cymdeithasol â chynnydd yn nifer y marwolaethau mewn cartrefi gofal. Un o'r mesurau lliniarol, wrth gwrs, fel y byddwch yn gwybod, yw presenoldeb nyrsys cofrestredig sydd wedi cymhwyso'n llawn i staffio cartrefi gofal. A ydych yn derbyn y gallai fod risg i ddiogelwch mewn cartrefi gofal os yw Brexit a'r rheolau mewnfudo yn effeithio'n sylweddol ar lefelau nyrsys cofrestredig mewn cartrefi gofal, a beth y gallwch ei wneud i liniaru'r risg honno?

Mae'n bendant fod angen inni ochel rhag hynny. Rydym wedi cyflwyno ein safbwyntiau'n glir iawn i Lywodraeth y DU, nid yn unig o ran yr angen i'n staff gofal presennol aros a chael croeso yma yng Nghymru doed a ddelo, ond hefyd er mwyn osgoi tynhau ar reolau mewn perthynas ag unigolion sy'n gweithio yn y rheng flaen neu eu teuluoedd hefyd, oherwydd rhaid inni ymdrin â'r ddau beth. Ac un o'r rhwystredigaethau sydd gennym ar hyn o bryd, Ysgrifennydd y Cabinet a minnau, yw nad yw Llywodraeth y DU yn derbyn ein sylwadau, a gyflwynwyd gennym yn ysgrifenedig, sy'n dweud, 'Nid yw'n ddigon da dweud o fewn y maes iechyd y byddwn yn treialu meysydd lle y gallwn gael rhyw fath o hawl preswylio ar gyfer unigolion sy'n gweithio gydag iechyd.' Mae angen ei gymhwyso i ofal cymdeithasol, ond mae angen ei gymhwyso mewn ffordd gydymdeimladol i'w teuluoedd hefyd, oherwydd pam y byddech yn aros yma, pam y byddech yn dod i weithio yma oni bai eich bod yn gwybod hefyd fod eich teulu yn cael gofal? Felly, rydym—.

Mae'r ansicrwydd a grybwyllwyd gennych, fodd bynnag, yn ffaith bendant yn sgil yr anhrefn ynghylch negodiadau Brexit—y ffaith ein bod ar y pwynt hwn dros ddwy flynedd ar ôl y refferendwm lle rydym yn dal heb gael eglurder manwl ynglŷn â'r hyn y mae angen inni gynllunio ar ei gyfer. Ond rydym yn cynllunio yn awr, ac rydym wedi bod yn gwneud hynny ers peth amser, gyda'n rhanddeiliaid, gan gynnwys yr arolygiaeth gofal, y fforwm gofal, gyda darparwyr yn uniongyrchol, i ddweud, 'Beth yw'r effeithiau a hyd yn oed gyda sector cymhleth, a allwn gael y data mwyaf cywir ar yr hyn y gallai'r effaith fod, yn enwedig effaith 'dim bargen'?'

14:30

Wel, diolch i chi, unwaith eto, Weinidog. Yn amlwg, nid oes neb yn mynd i feio Llywodraeth Cymru am Brexit, ond credaf ei bod yn briodol ein bod yn gofyn rhai cwestiynau ynglŷn â pha mor hir y mae wedi'i gymryd i ni gael y wybodaeth hon, oherwydd, wrth gwrs, mae llawer o resymau eraill pam y dylem gael syniad gwell a chliriach o beth yw cymysgedd sgiliau a chymysgedd cymwysterau ein gweithlu gofal cymdeithasol.

Wrth gwrs, yn y Cynulliad blaenorol, pasiwyd deddfwriaeth gennym i greu lefelau gofynnol o staff nyrsio mewn rhai lleoliadau ysbyty. Dewiswyd y lleoliadau hynny am fod tystiolaeth gadarn yn profi bod lefelau staff nyrsio yn effeithio ar ganlyniadau cleifion. Erbyn hyn, wrth gwrs, mae astudiaeth y British Medical Journal yn dangos bod cael staff nyrsio cymwysedig mewn cartrefi gofal yn gallu cael effaith debyg ar gyfraddau marwolaethau ac ar ganlyniadau. Mewn egwyddor, neu ar yr ochr hon i'r tŷ, byddem yn cefnogi camau i ymestyn y ddeddfwriaeth honno i gynnwys cartrefi gofal yn y pen draw. Rydym yn sylweddoli bod hynny'n uchelgeisiol ar hyn o bryd, ond a wnewch chi ymrwymo mewn egwyddor i ystyried ymestyn y Ddeddf i gynnwys nyrsys cofrestredig mewn cartrefi gofal, os bydd y dystiolaeth yn ddigon cadarn yn y dyfodol?

Byddwn bob amser yn cadw meddwl agored ar hyn, oherwydd credaf eich bod yn gywir yn dweud bod angen i ni ddilyn y dystiolaeth bob amser. Ac wrth gwrs, yn y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi adolygu ac adnewyddu'r canllawiau mewn perthynas â darpariaeth nyrsio yn y sector cartrefi gofal, gan gydnabod, unwaith eto, fod cartrefi gofal yn amrywio'n sylweddol o ran y math o breswylwyr sydd ganddynt—a ydynt angen gofal 24 awr ac yn y blaen. Felly, rydym wedi ei adolygu a'i adnewyddu yn weddol ddiweddar. Ond rydym bob amser yn cadw meddwl agored am hynny'n seiliedig ar y dystiolaeth, yn hytrach na dweud yn syml, 'Dyma nifer; os byddwn yn cyrraedd yr isafswm hwn, byddwn yn darparu gofal nyrsio diogel o fewn y sector gofal.' Os ydym am ddilyn y dystiolaeth, mae'n debyg fod angen i ni ei wneud mewn ffordd ddeallus iawn sy'n dweud, oherwydd yr anghenion nyrsio amrywiol iawn sydd i'w cael mewn gwahanol gartrefi gofal, boed yn gartrefi sy'n cynnwys cleifion oedrannus eiddil, boed yn gartrefi sy'n cynnwys cleifion dementia—bydd y gwahaniaethau'n sylweddol. Gallai fod yn wahanol o fis i fis neu o chwarter i chwarter hyd yn oed, yn dibynnu ar y preswylwyr sy'n dod i mewn. Ond rwy'n cytuno ynglŷn â'r angen i sicrhau bod y dystiolaeth yn dweud wrthym beth yw'r lefelau nyrsio diogel yn y sector gofal, a byddwn bob amser yn cadw meddwl agored i'r dystiolaeth a gyflwynir ar hynny.

Diolch, Lywydd. Weinidog, rwy'n siŵr eich bod wedi dychryn cymaint â minnau wrth glywed am fethiannau erchyll a'r achosion honedig o gam-drin ac esgeuluso yn nghartref preswyl Pines yng Ngwynedd. O'r deunydd ffilm a ddaeth o'r cartref hwn, ceir tystiolaeth ymddangosiadol o ffugio dogfennau, cuddio meddyginiaethau ym mwyd preswylwyr, dulliau anniogel o symud preswylwyr a diffyg urddas a pharch cyffredinol yn eu triniaeth a'u gofal. Mae'r digwyddiadau hyn i gyd yn disgyn yn llawer is na'r hyn a ddisgwylir yng Nghymru gyda'i rheoliadau gofal ei hun, a chafodd hyn oll sylw o ganlyniad i newyddiaduraeth ymchwiliol a welais neithiwr ar raglen S4C, Y Byd ar Bedwar. Yr hyn sy'n peri pryder i mi, Weinidog, yw bod Arolygiaeth Gofal Cymru eisoes yn gwybod am y cyfleuster preswyl hwn a bod nifer o adroddiadau beirniadol wedi cael eu gwneud yn erbyn ei ymddygiad a'r ffordd y câi preswylwyr eu trin, ond mae'n amlwg eu bod wedi parhau i drin oedolion agored i niwed yn wael. Beth y mae eich Llywodraeth yn ei wneud ochr yn ochr ag Arolygiaeth Gofal Cymru i sicrhau y bydd yn rhaid i unrhyw gyfleusterau, megis cartref preswyl Pines, ddilyn rhaglenni gwella llym ac ystyrlon, er mwyn sicrhau bod preswylwyr agored i niwed yn cael eu diogelu rhag unrhyw gamymddygiad neu esgeulustod?

Diolch i chi am y cwestiwn, a do, fe welais raglen Y Byd ar Bedwar, ac rydym yn ymwybodol iawn o'r pryderon a godwyd ynghylch Pines yng Nghricieth, fel y mae Arolygiaeth Gofal Cymru. Rhoddodd yr arolygiaeth gamau ar waith ar unwaith ar ôl iddynt gael gwybod am y materion a nodwyd gan S4C yn y Pines, ac mae ei harolwg yn parhau ar hyn o bryd. Nawr, oherwydd hynny, mae'n anodd i mi wneud unrhyw sylw pellach am y Pines ei hun ar hyn o bryd, ond rydych yn gywir yn nodi, mewn gwirionedd, fod arolygiadau a chynlluniau gwella wedi bod yn y gorffennol gan arwain at fesurau gwella yn y cartref hwn. Mae'n iawn fod yr arolygiaeth yno ar hyn o bryd yn ymchwilio i'r honiadau diweddaraf, a dyna ydynt ar hyn o bryd—honiadau—ac yn gweld beth sydd angen ei wneud. Ond mae'n anodd i mi wneud sylwadau pellach ar Pines.

Fodd bynnag, yr hyn y gallaf ei ddweud yw bod Arolygiaeth Gofal Cymru wedi cynnal dros 600 o arolygiadau yn rhan o'i threfniadau rheoleiddio ac arolygu rheolaidd y llynedd, ond wrth gwrs, mae bob amser yn gallu ymweld â chartref heb roi rhybudd yn sgil adroddiadau am unrhyw achosion posibl o gam-drin, esgeulustod neu beth bynnag, a dyna a wnaed yn yr achos hwn.

Fe ofynnoch chi hefyd beth arall y gall Llywodraeth Cymru ei wneud. Credaf fod yna bethau y gallwn eu gwneud a phethau rydym eisoes yn eu gwneud. Ychydig flynyddoedd yn ôl, pasiodd y Cynulliad hwn Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016. Mae honno'n wahanol iawn, oherwydd, er enghraifft, mae'n gosod gofynion cyfreithiol ar ddarparwyr ac unigolion cyfrifol dynodedig cartrefi gofal felly rydym yn gwybod pwy sy'n gyfrifol yn y pen draw yn ogystal. Ond mae hefyd yn symud oddi wrth safonau gofynnol ar gyfer y ddarpariaeth, sy'n golygu, os oes gennych safon ofynnol, fod pobl yn dewis cyrraedd y safon ofynnol a dim mwy na hynny, ac mae'n canolbwyntio yn hytrach ar welliant parhaus, sef yr hyn rydym ei eisiau gan bob un o'n cartrefi gofal. Ond mae hefyd yn rhoi pwyslais ar bwysigrwydd yr unigolyn—ar eu gofal a'u cymorth ac ar eu cefnogi gyda'u hanghenion. Ni fyddwn yn cyflawni hyn dros nos, ond dyma beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud: gosod y fframwaith er mwyn i'r corff rheoleiddio a chartrefi gofal sbarduno gwelliant parhaus.

14:35

Diolch. Mae'n hanfodol, fodd bynnag, fod unrhyw awgrymiadau ar gyfer gwella, beth bynnag yw eu natur, yn cael eu cymryd o ddifrif a bod llesiant pobl hŷn wrth wraidd y modd y darperir gofal. Ond nid yw fy mhryderon yn ymwneud yn unig â hawliau pobl mewn cartrefi preswyl. Wrth i Lywodraeth Cymru fynd ar drywydd eu hagenda 'Cymru Iachach', sy'n gweld mwy o gleifion yn derbyn gofal yn y cartref, sut rydych yn gwneud trefniadau i sicrhau y gall pobl hŷn sy'n derbyn gofal yn eu cartrefi eu hunain fod yn ddiogel ac y byddant yn cael gofal o'r safon uchaf a bod eu llesiant yn cael ei gefnogi gan holl aelodau'r tîm amlddisgyblaethol sy'n gyfrifol am ddarparu'r gofal hwnnw? Y rheswm rwy'n gofyn hynny heddiw yw fy mod wedi cael fy syfrdanu, ddydd Llun, gan y ffaith bod un o fy etholwyr wedi cael ei siomi'n ddrwg yn ddiweddar gan y tîm amlddisgyblaethol sy'n ymweld â'u cartref ar hyn o bryd, ac arweiniodd hynny at eu merch yn gofyn am ymchwiliad trylwyr gan ei bod yn credu bod ei thad oedrannus yn cael ei esgeuluso.

Felly, pa reoliadau a systemau arolygiaeth a roddir ar waith i sicrhau nad yw oedolion agored i niwed yn cael eu hesgeuluso yn eu cartrefi eu hunain? Dyma rai o aelodau mwyaf agored i niwed ein cymdeithas, ac mae'n hanfodol fod gennym gorff arolygiaeth annibynnol ar waith i ymweld â phobl yn eu cartrefi eu hunain a sicrhau bod eu holl anghenion yn cael eu diwallu a bod eu hawliau'n cael eu parchu. Pa waith sy'n mynd rhagddo, Weinidog, i sicrhau bod system o'r fath yn cael ei datblygu, wrth i Lywodraeth Cymru, byrddau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol ddatblygu agenda gofal cymunedol?

Janet, rwy'n credu bod nifer o bethau y gallwn eu gwneud. Yn wir, pan adawodd Sarah Rochira ei swydd, ym mis Mehefin rwy'n credu, roeddem yma yn y Senedd, ac fe wnaethom ymrwymiad i wneud hawliau'n real i bobl hŷn a nodwyd nifer o ffyrdd y byddem yn gwneud hynny. Rydych yn gywir yn dweud nad yw hyn yn ymwneud yn unig â'r lleoliad gofal: mae'n ymwneud â phob lleoliad y bydd y person ynddo—yn eu cartref eu hunain, yn agos at eu cartref, mewn lleoliad gofal—i sicrhau ansawdd bywyd da iddynt ac i ddangos bod eu hawliau'n cael eu parchu.

Felly, rhai o'r pethau ymarferol a ddywedasom: ategir ein fframwaith deddfwriaethol gan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2016. Dywedasom y byddem, gyda'r comisiynydd newydd, Heléna Herklots, yn cydgynhyrchu canllawiau ymarferol sy'n dangos sut i wneud egwyddorion y Cenhedloedd Unedig yn real i bobl hŷn. Byddem yn canolbwyntio peth o'n gwaith cychwynnol ar gomisiynu gwasanaethau ar gyfer pobl hŷn, ar ddiogelu ym mhob amgylchedd ac ar eiriolaeth, oherwydd mae'r rhain yn feysydd y mae angen i ni eu cael yn iawn os ydym am gynorthwyo'r holl bobl hŷn a sicrhau bod ganddynt lais a rheolaeth dros eu hiechyd a'u gofal cymdeithasol ym mhob lleoliad.

Ond byddwn hefyd yn gwneud pethau yn y cartrefi gofal yn ogystal. Felly, byddwn yn diweddaru canllawiau 2009—mae gormod o amser wedi bod ers i ni edrych arnynt—o ran sut i uwchgyfeirio pryderon ynglŷn â gofal mewn cartrefi gofal. Byddwn yn cymryd cyngor gan ganolfan gydraddoldeb a hawliau dynol y GIG ar sut i ymgorffori hawliau dynol yng ngwaith y GIG. Gydag Arolygiaeth Gofal Cymru, byddwn yn ymgorffori naratif hawliau dynol yn adroddiadau arolygiadau cartrefi gofal, o ran y cwestiwn cynharach, a llawer o elfennau eraill. Un peth y dywedasom y byddem yn ei wneud gyda'r comisiynydd newydd yw gofyn iddi gadeirio gweithgor er mwyn inni allu gwireddu'r hawliau hynny, oherwydd nid yw'n ymwneud yn unig â phasio deddfwriaeth, mae'n ymwneud â gwneud iddi frathu.

14:40

Diolch i chi, unwaith eto. Rwyf wedi cyfarfod â Heléna Herklots, ac fe wnaeth argraff fawr arnaf. Wrth symud ymlaen, rwy'n gwybod na fydd yn gallu gwneud popeth, ond un o'r pethau y bydd yn canolbwyntio arnynt yw camdriniaeth yr henoed. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi gwneud ymrwymiadau hirdymor i sicrhau bod hawliau pobl hŷn yng Nghymru yn cael eu cryfhau, ac rwy'n gefnogol iawn i fy nghyd-Aelod, Darren Millar, sydd bellach yn cyflwyno deddfwriaeth y mae ei hangen yn fawr yn y maes hwn. Rydym yn gwybod, Weinidog, nad yw pobl hŷn bob amser yn gwybod beth yw eu hawliau, nid ydynt bob amser yn gwybod pan fyddant yn profi anghyfiawnder, ac nid oes ganddynt hyder bob amser i roi gwybod eu bod yn cael eu cam-drin. Gwelwyd tystiolaeth o hyn yn fwyaf diweddar gan Wasanaeth Erlyn y Goron, a ddangosodd mai 250 o'r 35,000 o droseddau a gafodd eu herlyn yng Nghymru y llynedd oedd yn droseddau yn erbyn yr henoed. Mae'n amlwg fod angen i ni wneud ymdrech fawr i sicrhau bod hawliau pobl hŷn yng Nghymru yn cael eu cryfhau, fod pobl hŷn yn gwybod beth yw eu hawliau, a bod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i hyrwyddo a diogelu'r rhain. A allwch chi gydnabod heddiw fod yna le i gryfhau hyn gyda deddfwriaeth ac y byddwch yn gweithio mewn ffordd adeiladol gyda'r Bil arfaethedig, ac wrth gwrs, y sawl sy'n ei gyflwyno, er mwyn cryfhau hawliau ein pobl hŷn yng Nghymru?

Y peth cyntaf i'w ddweud yw bod yr holl hawliau—hawliau pobl hŷn, hawliau plant, hawliau pobl anabl—yn hawliau cyffredinol ac y dylid eu cymhwyso yn y ffordd honno. Rwy'n credu bod cefnogaeth drawsbleidiol i lywio'r agenda hawliau yn ogystal. Credaf mai'r cwestiwn yw beth yw'r ffordd orau i ni wneud hynny. Rwy'n fwy na pharod i weithio'n adeiladol gyda Darren ac unrhyw Aelod sy'n cyflwyno awgrymiadau ar agenda'n seiliedig ar hawliau i weld ai deddfwriaeth yw'r ffordd gywir ymlaen neu a oes ffyrdd eraill o'i wneud. Nid wyf yn dweud rhan olaf y frawddeg honno er mwyn camu'n ôl oddi wrth hyn, ond rwy'n credu bod gwneud hawliau'n real yn llawer mwy na deddfwriaeth yn unig. Dyna lle y gallwn lunio ffyrdd ymarferol iawn, gan weithio gyda chomisiynwyr, ar gyfer pan fyddwn yn sôn am bobl hŷn mewn cartrefi gofal, pobl hŷn sydd â phecynnau gofal cymdeithasol yn eu cartrefi eu hunain ac yn y blaen.

Pan fyddaf yn ymweld ag ysgol yn Abertawe a gofyn i blant ynglŷn â hawliau, yr hyn sy'n fy nharo yw eu bod yn gallu dweud wrthyf yn union beth yw'r hawliau hynny yn ôl eu rhif. Maent yn gallu dweud wrthyf am hawl 31, yr hawl i chwarae. Maent yn gallu dweud wrthyf am erthygl 12, yr hawl i gael eich clywed ac i gael oedolion i roi eu syniadau ar waith mewn gwirionedd. Ond pe baech yn ymweld â grŵp pobl hŷn ac yn dweud, 'A ydych yn sylweddoli bod gennych hawliau?', byddant yn dweud, 'Wir?' Felly, mae gennym beth ffordd i fynd.

Rwy'n fwy na pharod i ymgysylltu'n adeiladol ar hynny, oherwydd credaf ein bod yn rhannu'r un nod. Yr hyn y buaswn yn ei ddweud yw, gadewch i ni ymgysylltu'n ymarferol ar yr hyn y byddai ei angen er mwyn gwneud yr hawliau hynny'n real mewn gwirionedd a sicrhau bod pobl hŷn yn ymwybodol o'r hawliau sydd ganddynt, sy'n hawliau cyffredinol.

Diolch, Lywydd. Ychydig wythnosau yn ôl yn y Cynulliad, cyfarfûm â chynrychiolwyr o Gymdeithas Alzheimer. Yn ystod y cyfarfod hwn, fe gefais i a rhai aelodau o fy staff sesiwn hyfforddiant a sgiliau i fod yn gyfeillion dementia. Diben bod yn gyfaill dementia yw dysgu peth o logisteg dementia—beth yw dementia, beth sy'n ei achosi, beth yw'r symptomau. Yn bwysicaf oll, mae wedi'i gynllunio i ddangos sut y gallwn helpu pobl â dementia drwy ddeall eu cyflwr yn well. Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni ynglŷn â sut y mae Llywodraeth Cymru yn helpu i annog mwy o bobl i fod yn ystyriol o bobl â dementia?

Rwy'n hapus i gadarnhau ein bod yn gweithio'n dda iawn gydag amrywiaeth o sefydliadau trydydd sector, gan gynnwys y bobl sy'n hyrwyddo cyfeillion dementia. Rwyf wedi cyfarfod â Boots, er enghraifft, ac oherwydd yr arweinyddiaeth yng Nghymru, mae pob siop Boots yng Nghymru yn cynnwys aelodau o staff sy'n gyfeillion dementia ac maent yn bwriadu cyflwyno hynny yng ngweddill y siopau Boots mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Mewn gwirionedd, mae llawer o bobl yn yr ystafell hon wedi gwneud yr hyfforddiant cyfeillion dementia. Mae fy staff a minnau wedi ei wneud, a chredaf fod Jayne Bryant wedi nodi ei bod eisiau annog pob un ohonom i fod yn gyfeillion dementia, fel y gallwn ddweud mai hon yw'r ddeddfwrfa gyntaf yn y byd i fod yn gwbl ystyriol o bobl â dementia. Felly, rydym yn gwneud llawer i hyrwyddo'r ymgyrch honno sy'n cael ei rhedeg gan un corff trydydd sector. Mae'n rhan o fod yn genedl sy'n ystyriol o bobl â dementia, sydd, wrth gwrs, wedi'i nodi yng nghynllun gweithredu Llywodraeth Cymru ar gyfer dementia.

Diolch am yr ateb hwnnw. Mae hynny'n galonogol. Mae problemau'n gallu codi pan fydd yn rhaid i bobl â dementia fynd i'r ysbyty, yn arbennig os nad yw staff wedi cael eu hyfforddi i ddiwallu anghenion y cleifion hynny. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod staff ysbyty ar bob lefel yn deall sut i gynorthwyo a gofalu am bobl â dementia?

14:45

Fel y gŵyr yr Aelod dros Gaerffili, lansiais y pecyn hyfforddiant Gwaith Da yn Ysbyty Ystrad Fawr dros flwyddyn yn ôl, ac mae hwnnw wedi cael ei ddatblygu gan staff o fewn y gwasanaeth yn gweithio gyda'r trydydd sector fel y gallwn ddeall anghenion hyfforddi staff er mwyn gallu darparu gofal sy'n canolbwyntio go iawn ar unigolion â dementia—er mwyn deall yr hyn sy'n bwysig iddynt, er mwyn deall sut y mae bod mewn lle anghyfarwydd, i'r rhan fwyaf o bobl, yn gallu bod yn gythryblus, ond yn enwedig i bobl â dementia. Felly, mae'n sicr yn rhan o ble rydym o fewn y gwasanaeth iechyd fel rhan o'r cyfraniad iechyd tuag at y cynllun gweithredu sydd gennym ar gyfer dementia. Ond yn bwysicaf oll, rwy'n credu, mae hwnnw'n cael ei oruchwylio—y cynllun gweithredu yn ei gyfanrwydd, nid hyfforddiant staff yn unig—. Mae ymgysylltiad gwirioneddol â phobl sy'n byw gyda dementia mewn grŵp goruchwylio ar gyfer y cynllun. Felly, ni fydd yn fater o gael adroddiad yn ôl gan Weinidog, gennyf fi neu rywun arall yn y dyfodol; byddwch yn cael sicrwydd gan bobl sy'n byw gyda dementia a fydd yn rhoi asesiad gonest o'r sefyllfa fel y mae o ran bwrw ymlaen â'r ymrwymiadau rydym yn eu gwneud yn y cynllun hwnnw. Ac wrth gwrs, byddwn yn cynnal adolygiad canol cyfnod, lle bydd y cyhoedd, ac Aelodau'r lle hwn yn wir, yn gallu edrych ar ba gynnydd rydym wedi'i wneud a beth arall, wrth gwrs, y bydd angen i ni ei wneud.

Mae'n bosibl y bydd problem ychwanegol yn codi, ar wahân i'r hyn rydym wedi'i drafod hyd yn hyn, sef y broblem o stigma sy'n gysylltiedig â dementia. A yw Llywodraeth Cymru yn gallu gwneud unrhyw beth i helpu i leihau'r stigma sy'n gysylltiedig â'r cyflwr?

Credaf fod y sgwrs hon, y sgwrs rydym wedi'i chael a'r sgwrs rydym yn ei chael yn rheolaidd yn y lle hwn ac o'i amgylch, yn rhan o ymdrin â'r stigma, er mwyn i bobl sylweddoli bod mwy a mwy o bobl yn dioddef o ddementia ac y bydd hynny'n parhau i fod yn wir yn y dyfodol. Mae'n her i'r gymdeithas gyfan ac nid yw'n rhywbeth y mae angen i bobl deimlo cywilydd ohono o gwbl. Fodd bynnag, mae'r stigma yn aml yn deillio o amharodrwydd pobl i gydnabod bod y cyflwr arnynt, a'r ffaith nad yw eu teuluoedd a'u gofalwyr eisiau cydnabod hynny bob amser. Ac mae hynny'n anodd oherwydd, os ydych yn gweld personoliaeth rhywun yn newid mewn ffordd benodol, boed yn ymwneud â cholli cof neu newidiadau eraill sy'n digwydd weithiau—oherwydd mae dementia'n effeithio ar wahanol bobl mewn gwahanol ffyrdd—mae'n fasged o gyflyrau a chanlyniadau posibl, os mynnwch. Gall fod yn anodd derbyn bod yr unigolyn rydych yn ei adnabod ac yn ei garu yn rhywun gwahanol o ran pwy ydynt a sut y maent yn ymddwyn, hyd yn oed os mai'r person sydd wedi eich magu, y person sydd wedi eich caru ac wedi gofalu amdanoch ydyw o hyd. Ac mae'n anodd iawn. Gwn fod yna bobl yn y Siambr hon sydd wedi cael y profiad hwnnw, a thu hwnt i'r Siambr yn ogystal. Felly, mae hon yn ymgyrch drawsbleidiol go iawn ac yn ymgyrch ar draws y gymdeithas dros sicrhau parch ac urddas a chael canlyniadau gwell i bobl sy'n byw gyda dementia ac wrth gwrs, y gwaith ymchwil rydym yn awyddus i ymgymryd ag ef er mwyn ceisio gwella canlyniadau ac os yn bosibl, er mwyn atal dementia rhag digwydd yn y lle cyntaf. Ac yn hynny o beth, fel gyda chynifer o bethau eraill, gallwn wneud mwy o ymdrech ein hunan i wneud dewisiadau sy'n golygu ein bod yn llai tebygol o gael dementia ein hunain yn y dyfodol.

Canlyniadau Canser yng Ngogledd Cymru

3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ganlyniadau canser yng Ngogledd Cymru? OAQ52938

Gwnaf. Nid yw Llywodraeth Cymru yn casglu data goroesi canser yn rheolaidd ar lefel bwrdd iechyd. Fodd bynnag, mae ffigurau Cymru gyfan yn dangos bod cyfraddau goroesi ar ôl blwyddyn wedi gwella 3.2 pwynt canran rhwng 2005-09 a'r cyfnod pum mlynedd diwethaf a gofnodwyd, sef 2010-14, ac mae cyfraddau goroesi ar ôl pum mlynedd wedi gwella 3.3 pwynt canran dros yr un cyfnod o amser. Mae rhagor i'w wneud wrth gwrs.

Diolch. Ysgrifennydd y Cabinet, nid yw canser yn gwahaniaethu. Nid yw canser yn gwahaniaethu ar sail rhyw, hil neu rywioldeb. Rydym yn gweld, yn gynyddol, nad yw canser yn gwahaniaethu ar sail oedran ychwaith, ac eto mae profion canser ceg y groth yn dechrau pan fydd menywod yn 25 oed. Drwy ostwng yr oedran ar gyfer gwneud profion ceg y groth a sgrinio serfigol, gallwn achub bywydau. Gallwn fynd i'r afael â newidiadau yn y celloedd yn gynharach ac atal canser ceg y groth. Mae nifer o fy etholwyr wedi llofnodi deiseb ar-lein yn galw am ostwng yr oedran. Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi ystyried gostwng yr oedran sgrinio, os gwelwch yn dda?

Rwy'n cydnabod yr ymgyrch yn y maes hwn ac mewn meysydd eraill mewn perthynas â'r proffiliau oedran ar gyfer ein rhaglenni sgrinio cenedlaethol ac yn wir, galwadau am barhau i sgrinio cyflyrau nad ydynt wedi'u cynnwys mewn rhaglenni sgrinio. Fel pob Llywodraeth arall yn y DU, rydym yn dilyn cyngor arbenigol y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu, corff arbenigol annibynnol sy'n rhoi cyngor i ni ar y dystiolaeth orau mewn perthynas â sut y gallwn wneud y gwahaniaeth mwyaf.FootnoteLink Ac ar hyn o bryd, eu cyngor yw na ddylem gael rhaglen sgrinio genedlaethol ar gyfer pobl o dan 25 oed.

Nawr, nid yw hynny'n golygu na fydd neb o dan 25 oed yn cael canser ceg y groth. Yr her yw gweld a oes budd go iawn i'w gael i'r boblogaeth o gael rhaglen sgrinio ar gyfer y boblogaeth gyfan, oherwydd gallai rhai rhaglenni sgrinio wneud niwed i bobl yn ogystal. Felly, yr her yw cydbwyso'r risg a'r cyngor a gawn, ac rwy'n credu o ddifrif ei fod yn un o'r pethau hynny lle y dylai gwleidyddion gael eu harwain gan y dystiolaeth mewn gwirionedd. Fel rwy'n dweud, daw'r dystiolaeth honno gan arbenigwyr annibynnol sy'n cynghori pob Llywodraeth yn y DU. Ond wrth gwrs, fel y clywsoch yn gynharach, byddwn bob amser yn adolygu'r dystiolaeth mewn perthynas â'r hyn y gallem ac y dylem ei wneud.

14:50

Mae gwasanaethau endosgopi yn allweddol i sicrhau y gwneir diagnosis ac y gellir canfod canser megis canser y coluddyn yn gynnar, ac mae 104 o gleifion yng ngogledd Cymru sydd angen endosgopi yn aros am dros 24 wythnos neu 168 o ddiwrnodau. Yng nghyfarfod diweddaraf Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr, dywedwyd bod y gwasanaethau endosgopi wedi uchafu hyn drwy ôl-lenwi a darparu capasiti ychwanegol dros y penwythnos, yn ogystal â gweithredu trydydd endosgopi yn y gorllewin, gan ddweud bod rhywfaint o'r capasiti ychwanegol yn cael ei ddefnyddio i fynd i'r afael â'r ôl-groniad o gleifion brys ag amheuaeth o ganser a chleifion a atgyfeiriwyd gan Sgrinio Coluddion Cymru. Ond er y disgwylir y bydd y bwrdd yn parhau i gyrraedd ei darged 31 diwrnod, mae hefyd yn datgan bod y targed 62 diwrnod i gleifion sydd newydd gael diagnosis o ganser drwy'r llwybr achosion brys ag amheuaeth o ganser ddechrau triniaeth benodol yn cael ei fygwth yn sylweddol, yn deillio'n arbennig o'r pwysau ar wasanaethau endosgopi ar draws Betsi Cadwaladr. Pa waith, felly, y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod capasiti cynaliadwy yn cael ei ddatblygu fel nad oes raid i unrhyw glaf sydd angen endosgopi aros yn hwy nag amseroedd aros targed Llywodraeth Cymru?

Mark, mae'n sicr yn rhywbeth sy'n mynd â llawer o amser a sylw o fewn y Llywodraeth ac o fewn y gwasanaeth iechyd. Mae bwrdd gweithredol gwasanaeth iechyd gwladol Cymru wedi ystyried camau gweithredu pellach mewn perthynas â gwasanaethau endosgopi. Rydym yn llunio cynllun gweithredu i geisio deall sut y gallwn sicrhau capasiti gwell o ran cyfarpar a phobl, a sut y gallwn wneud hynny'n briodol. Nid yw'n ymwneud yn unig â'r prawf imiwnocemegol ysgarthion newydd—mae'n fwy nag un rhan o ganser ac yn fwy nag un rhan o ofal iechyd.

Byddwch yn falch o glywed bod y pwyllgor iechyd, mewn gwirionedd—dylwn ddweud y teitl yn llawn rwy'n credu, sef iechyd, gofal cymdeithasol a chwaraeon; gwelaf y Cadeirydd y tu ôl i mi—yn bwriadu cynnal ymchwiliad ar wasanaethau endosgopi. Rydym wedi cyflwyno tystiolaeth iddo, a gwn y bydd llawer mwy o waith craffu. Felly, rwy'n fwy na pharod, yn y rôl hon neu un wahanol, i ddod yn ôl i ateb mwy o gwestiynau, naill ai yn y pwyllgor hwnnw neu yn y lle hwn yn wir, ar yr hyn rydym yn ei wneud ac effeithiolrwydd y rhaglen waith sydd gennym.

Argaeledd y Brechlyn Ffliw

4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am argaeledd y brechlyn ffliw y gaeaf hwn? OAQ52954

Rwy'n hapus i wneud hynny, ac rwy'n gobeithio nad yw eich cwestiwn wedi'i ateb gan eich cyd-Aelod. Ysgrifennais at holl Aelodau'r Cynulliad ar 1 Tachwedd yn rhoi gwybod am drefniadau ar gyfer cyflenwi brechlynnau ffliw eleni yn sgil y cyflenwad graddol o'r brechlyn a argymhellir ar gyfer pobl 65 oed a hŷn.

Mae'n teimlo fel cylch diddiwedd yma i raddau, Ysgrifennydd y Cabinet, ond fe wnaeth Darren Millar ofyn ynglŷn â hyn gan fod nifer o Aelodau Cynulliad eraill, fel fi, wedi cael e-byst gan etholwyr sy'n pryderu ynglŷn ag argaeledd y brechlyn dan sylw. Roedd yr e-bost mwyaf diweddar a gefais gan ddyn 75 oed o'r Fenni, sydd wedi methu cael y brechlyn oherwydd eu bod yn brin yn ei feddygfa leol ac oherwydd eu bod yn blaenoriaethu pobl hŷn na 75 oed ar hyn o bryd.

Deallaf o'ch ateb blaenorol mai rhan o'r broblem oedd nad oedd meddygfeydd a fferyllfeydd cymunedol wedi archebu digon o'r brechlyn yn y lle cyntaf. Dyna a ddywedodd Age Cymru. Rwyf hefyd yn eich clywed yn dweud y bydd stociau ar gael erbyn diwedd y mis hwn, mewn pryd ar gyfer y tymor ffliw. Ond beth y gellir ei wneud i gyfleu'r neges hon yn well? Ar hyn o bryd, credaf ei bod yn deg dweud bod pobl hŷn yn bryderus ynglŷn â'r oedi. Credaf y byddai'n ddefnyddiol pe baem yn gallu rhoi'r neges nad yw'r tymor ffliw wedi dechrau eto ac y byddant yn cael eu brechu mewn pryd. Ar hyn o bryd mae yna bryderon, a chredaf fod angen i Lywodraeth Cymru leddfu'r pryderon hynny.

Ie, rwy'n hapus i ailadrodd y sicrwydd rydych yn ei geisio. Eleni, mae gennym frechlyn gwell, mwy effeithiol ar gyfer pobl dros 65 oed. Mae'n gyflenwad graddol—her oedd honno yn y broses o gynhyrchu a chyflenwi'r brechlyn hwnnw, yn hytrach na bod meddygon teulu neu fferyllfeydd cymunedol heb archebu digon. Erbyn diwedd y mis hwn—erbyn diwedd mis Tachwedd—dylai'r cyflenwadau fod ar gael yng Nghymru a ledled gweddill y DU. Felly, dylai pobl gysylltu â'u darparwyr gofal iechyd mewn perthynas â'r brechlyn ffliw, boed yn fferyllfa gymunedol neu, yn wir, yn feddygfa meddyg teulu, i drefnu i gael eu brechu. Y neges yw y bydd y brechlyn ar gael, cysylltwch â'ch darparwr gofal iechyd a gwnewch yn siŵr eich bod yn cael eich amddiffyn rhag y ffliw y gaeaf hwn.

Cyflenwad Cyffuriau Fferyllol

5. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynlluniau wrth gefn ar gyfer cyflenwad parhaus o gyffuriau fferyllol i GIG Cymru os bydd Brexit yn digwydd heb fargen? OAQ52945

Gwnaf, rydym yn gweithio gyda Llywodraeth y DU, sydd wedi dweud wrth y gweithgynhyrchwyr meddyginiaethau a'r cyflenwyr am gynnal gwerth chwe wythnos ychwanegol o'u cynnyrch ar hyn o bryd, yn ychwanegol at eu cronfeydd wrth gefn arferol. Byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU, wrth gwrs, i wneud yn siŵr ein bod yn gwneud popeth a allwn os yw'r Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.

14:55

Mae fy nghwestiwn yn deillio o bryder a fynegwyd gan etholwr, yn ymwneud yn benodol â'r cyflenwad o inswlin i Brydain mewn Brexit 'dim bargen'. Cododd bryderon yn dilyn sylwadau a wnaed gan Syr Michael Rawlins o'r Asiantaeth Reoleiddio Cynhyrchion Gofal Iechyd, a rybuddiodd ar 30 Gorffennaf nad yw inswlin yn cael ei weithgynhyrchu ym Mhrydain, fod yn rhaid mewnforio'r cyfan ac na ellir ei gludo fel cyffuriau presgripsiwn eraill oherwydd bod ei dymheredd yn cael ei reoli. Cyflwynais gwestiwn ysgrifenedig ynglŷn â hyn i'r Ysgrifennydd iechyd—i chi—yn ystod toriad yr haf, yn gofyn pa gamau rydych yn eu cymryd, a'r ateb oedd eich bod yn cael trafodaethau rheolaidd gydag Adran Iechyd y DU ac y byddech yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i fy swyddfa ac Aelodau'r Cynulliad. Felly, fy nghwestiwn yw: o ystyried yr ansicrwydd sydd ynghlwm wrth Brexit ar hyn o bryd, a oes unrhyw ddatblygiadau arwyddocaol wedi bod ar y mater hwn ers i mi ofyn fy nghwestiwn ysgrifenedig?

Daw'r her gyda Brexit 'dim bargen' a'n gallu i baratoi ar gyfer y posibilrwydd y bydd y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb ddiwedd mis Mawrth y flwyddyn nesaf. Nid wyf yn credu y dylwn geisio rhoi sicrwydd ffug y bydd popeth yn iawn. Wedi dweud hynny, byddai'n fuddiol i bob Llywodraeth yn y DU wneud yn siŵr ein bod yn gwneud popeth a allwn. Felly, mae hyn yn ymwneud â sut rydym yn ceisio sicrhau bod digon o gyflenwad ar gael. Mae hynny'n ymwneud â threfniadau gyda gwledydd eraill o hyd, oherwydd rydych yn iawn—ni allwch drosglwyddo pob meddyginiaeth ar draws ffiniau heb boeni am eu hoes silff. Mae tua 14,500 o bobl â diabetes math 1 yng Nghymru, felly mae hwn yn fater o bwys mawr. Ceir cyflenwad cyfyngedig o inswlin yn y wlad hon, ond nid yw'n ddigon o bell ffordd i ofalu am yr holl bobl sydd â diabetes math 1. Nid wyf mewn sefyllfa i roi diweddariad manwl ar y mater i chi ar hyn o bryd, ond byddaf yn sicr yn gwneud hynny mor fuan ag y bydd ar gael oherwydd, fel rwy'n dweud, mae'n rhywbeth sy'n peri pryder i mi, a dylai beri pryder i bob un ohonom pe bai Brexit 'dim bargen' yn digwydd go iawn, o ran sut y gwnawn bopeth a allwn ym mhob rhan o'r DU.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol wedi clywed am hyn, ac fe soniwyd am inswlin, yn ogystal â radioniwclidau, sy'n hanfodol ar gyfer offer sganio. Rwy'n credu mai'r hyn sy'n rhaid i'r Llywodraeth ei wneud, mewn cydweithrediad â Llywodraeth y DU, yw gwneud trefniadau mewn perthynas â sut y dylid ymdrin â'r cynhyrchion a'r meddyginiaethau allweddol hyn. Nid wyf yn credu am eiliad y bydd yr Undeb Ewropeaidd yn gwrthod mesurau arbennig ar gyfer y cynhyrchion penodol hyn sydd â phroblemau gyda'u hoes silff a'u tymheredd yn arbennig. Mae'n rhaid i chi fwrw ymlaen â hyn, yn hytrach na dweud, 'Rydym eisiau osgoi Brexit ymyl y dibyn'. Rwyf finnau eisiau ei osgoi hefyd. Mae'n rhaid i chi wneud cynlluniau ar gyfer mynd i'r afael â hynny yn y meysydd penodol hyn.

Mae yna sgyrsiau ymarferol go iawn yn digwydd rhwng pob adran iechyd pob gwlad yn y DU, ac mewn perthynas â'r mater hwn, mewn gwirionedd, rwyf fi ac Ysgrifennydd iechyd yr Alban wedi ysgrifennu at Matt Hancock yn gofyn am gyfarfod er mwyn ceisio rhoi rhywfaint o'r wleidyddiaeth o'r neilltu a chael sgwrs ymarferol, wyneb yn wyneb am yr hyn y gall pob un ohonom ei wneud. Nid wyf wedi cael ymateb cadarnhaol i'r cynnig ar y cyd am gyfarfod eto, ond rwy'n credu y byddai'n synhwyrol i Weinidogion sy'n gyfrifol am adrannau iechyd gael y sgwrs honno ar lefel ymarferol iawn, oherwydd mae'r her yn deillio o'r ffaith bod Llywodraeth y DU yn gweithredu ar ran y DU wrth gael y drafodaeth hon ar gyflenwad meddyginiaethau a chynhyrchion sydd ag oes silff gyfyngedig. Nawr, nid wyf yn rheoli'r sgwrs gyda phartneriaid yr Undeb Ewropeaidd. Nid wyf yn credu eu bod eisiau cosbi'r DU o gwbl, ond mae'n rhaid sicrhau bod rhyw fath o synnwyr cyffredin yn ein trefniadau â gweddill yr Undeb Ewropeaidd er mwyn sicrhau nad ydym yn tarfu ar y cyflenwad. Ond ni allaf roi'r sicrwydd rydych yn ei geisio y bydd popeth yn iawn. Gallaf roi sicrwydd i chi y bydd y Llywodraeth hon yn bartner parod a chywir yn y broses o chwilio am ateb, pe bai'r Deyrnas Unedig yn gadael heb wneud trefniadau boddhaol mewn mannau eraill.

Pwysau ar Feddygon Teulu

6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am bwysau cynyddol ar feddygon teulu yng Ngogledd Cymru? OAQ52965

Gwnaf. Rydym yn cydnabod bod yna heriau ond rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo i gefnogi ein meddygon teulu gweithgar a'u timau practis ledled Cymru. Yn ddiweddar, mae Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi penodi cyfarwyddwr gweithredol gofal sylfaenol a gwasanaethau cymunedol newydd, Dr Chris Stockport, a bydd yn arwain ac yn goruchwylio'r broses o fabwysiadu ac addasu'r model gofal sylfaenol ar gyfer Cymru ar draws y bwrdd iechyd er mwyn ceisio helpu i leddfu'r pwysau ar ymarfer cyffredinol yng ngogledd Cymru.

Diolch i chi am eich ateb. Wrth gwrs, ar ben y pwysau tymhorol cynyddol a'r pwysau arferol rŷm ni'n eu gweld ar ddoctoriaid a'r gwasanaeth iechyd, mae yna broblemau eraill yn deillio yn uniongyrchol o rai o bolisïau y Llywodraeth yma hefyd. Mae cynllun datblygu lleol Wrecsam, er enghraifft, yn rhagweld y bydd angen 10 meddyg teulu ychwanegol oherwydd y cynnydd sydd yn cael ei yrru yn y ddarpariaeth dai yn sgil y cynlluniau datblygu lleol yna. Felly, beth mae'r Llywodraeth yn mynd i'w wneud i sicrhau bod doctoriaid digonol ar gael i gwrdd â'r galw cynyddol fydd yna'n uniongyrchol yn sgil y cynllun datblygu lleol yn Wrecsam, ac wrth gwrs y cynlluniau datblygu lleol eraill ar draws y gogledd ac, yn wir, Gymru gyfan?

15:00

Ceir her bob amser wrth gysylltu twf poblogaeth a datblygiad tai â'r ddarpariaeth o wasanaethau amrywiol gan gynnwys gwasanaethau gofal iechyd. Bydd gennym yr un her ymarferol wrth ddarparu Wylfa Newydd yn ogystal. Mae'n her ac mae'n ymwneud â sgwrs gyda meddygfeydd lleol eu hunain, ond gyda'r tîm ehangach yn ogystal. Mae'r bwrdd iechyd yn datblygu academi gofal sylfaenol ar gyfer gogledd Cymru i gydlynu a datblygu hyfforddiant, mentora a chyfleoedd datblygiad proffesiynol yn lleol. Maent hefyd yn edrych ar sut i ad-drefnu gofal sylfaenol. Yng ngogledd-ddwyrain Cymru yn arbennig, mae'n un o flaenoriaethau allweddol Dr Stockport oherwydd rydym yn cydnabod y pwysau ychwanegol yno. Mae hynny'n debygol o olygu y bydd angen i glystyrau ysgwyddo mwy o gyfrifoldeb gydag arweinyddiaeth a threfniadau newydd ar gyfer y practisau sydd wedi dychwelyd eu contractau.

Rwy'n cydnabod bod cynnal a diogelu'r hyn sydd gennym a'i ddatblygu ar gyfer y dyfodol yn her wirioneddol ac ymarferol, ond nid ad-drefnu syml a gyflawnir gan y Llywodraeth yw'r model newydd ar gyfer gofal sylfaenol; mae amrywiaeth o'n partneriaid yn ei gymeradwyo mewn gwirionedd gan gynnwys Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol a phwyllgor ymarfer cyffredinol Cymdeithas Feddygol Prydain yn ogystal. Yr her yw sut y gwnawn iddo weithio, nid a allwn wneud iddo weithio, a'r rolau gwahanol y bydd yn rhaid i weithwyr gofal iechyd proffesiynol eu chwarae er mwyn darparu'r gofal iechyd o safon uchel y dylai pob rhan o Gymru fod â hawl iddo.

Er gwaethaf rhybuddion flwyddyn ar ôl blwyddyn gan Goleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol a Chymdeithas Feddygol Prydain, mae nifer y meddygon teulu cofrestredig sy'n gweithio yng Nghymru ar ei lefel isaf ers pum mlynedd. Yn 2014, rhybuddiodd Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol fod cyfran cyllid GIG Cymru ar gyfer gofal cleifion ymarfer cyffredinol wedi bod yn gostwng ers blynyddoedd, ac yn yr un flwyddyn, daeth pwyllgor meddygol lleol gogledd Cymru i'r Cynulliad hwn a rhybuddio bod sawl practis wedi methu llenwi swyddi gwag a bod llawer o feddygon teulu o ddifrif yn ystyried ymddeol oherwydd eu llwyth gwaith cynyddol ar hyn o bryd. Pam felly mai ymarfer cyffredinol yng Nghymru a gafodd y gyfran isaf o wariant GIG yn y Deyrnas Unedig y llynedd er gwaethaf y cynnydd yn y galw gan gleifion?

Y ffordd rydym yn dyrannu cyllid ar draws y gwasanaeth yw ceisio bodloni anghenion y presennol ac anghenion yn y dyfodol. Yn benodol, rydym yn buddsoddi mewn Cymru iachach, ac rwyf wedi dweud yn glir iawn, wrth symud gweithgarwch o amgylch ein system iechyd a gofal, fy mod yn disgwyl y bydd adnoddau'n cael eu symud er mwyn galluogi hynny i ddigwydd. Os edrychwn ar y diffiniad ehangach o ofal sylfaenol i olygu'r holl wasanaethau gofal sylfaenol gwahanol hynny, rydym yn ariannu gofal sylfaenol ar yr un lefel ag y maent yn ei wneud yn yr Alban mewn gwirionedd.

Yr her yw sicrhau bod y niferoedd cywir o weithwyr proffesiynol yn y lle cywir i ddarparu'r gwasanaeth rydym ei eisiau. Yn hynny o beth, wrth edrych tuag at y dyfodol, fe wnaethom orlenwi'r hyfforddiant meddygon teulu yn y flwyddyn cyn y ddiwethaf ac roedd gennym gyfradd lenwi o 98 y cant mewn hyfforddiant arbenigol i feddygon teulu y llynedd yma yng Nghymru—y ffigurau canran gorau mewn unrhyw wlad yn y DU. Rydym yn bwriadu cynyddu'r niferoedd hynny rywfaint ac rydym yn edrych ar adolygiad dan arweiniad Addysg Iechyd a Gwella Cymru eleni i edrych eto ar sut rydym yn recriwtio meddygon teulu mewn gwirionedd, ac rydym yn edrych ar y niferoedd ar gyfer hyfforddiant fel rhan o hynny hefyd. 

O ran gwneud y gwaith yn haws ac yn waith gwell i feddygon teulu hefyd, yn y gynhadledd ddiweddar ar ofal sylfaenol, cafwyd neges gadarnhaol gan Charlotte Jones o Gymdeithas Feddygol Prydain am y bartneriaeth sy'n bodoli rhwng meddygon teulu eu hunain, y GIG a'r Llywodraeth, ac yn arbennig, y camau a gymerwyd gennym mewn perthynas â'r cynllun indemniad a'r gwaith pellach rydym yn ei wneud ar glystyrau.

Felly, nid yw popeth yn berffaith, mae yna heriau i bob un ohonom fynd i'r afael â hwy o hyd, ond mewn gwirionedd, credaf ein bod mewn sefyllfa dda i sicrhau bod y bartneriaeth honno'n gweithio. Mae gennym grŵp ymroddedig o ymarferwyr cyffredinol sydd eisiau sicrhau bod gofal sylfaenol yn gweithio gyda gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill. Mae gennym y cynllun cywir; yr her fydd ei gyflawni mewn amgylchedd dadleuol iawn ac amgylchedd lle mae angen i ni wneud pethau'n wahanol yn y dyfodol. Ond dyna y mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i'w wneud.

Gwasanaethau yn Ne-ddwyrain Cymru

7. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn ne-ddwyrain Cymru? OAQ52968

Diolch. Ar 8 Tachwedd, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd oddeutu £13.4 miliwn o arian o'r gronfa drawsnewid i gefnogi gwell mynediad at wasanaethau yng Ngwent. Mae cynnig Gwent yn canolbwyntio ar atal, llesiant, a modelau iechyd a gofal di-dor newydd wedi'u darparu yn nes at adref. Rydym yn falch iawn o ddweud ei fod hefyd yn cynnwys datblygu system integredig o lesiant emosiynol a meddyliol ar gyfer plant a phobl ifanc ledled Gwent. Cefnogir y rhaglen hyderus ac uchelgeisiol hon gan fwrdd partneriaeth rhanbarthol Gwent.

Diolch i chi, Weinidog, ac fel y sonioch chi, fe wnaethoch chi ac Ysgrifennydd y Cabinet y cyhoeddiad diweddar am y buddsoddiad o £13.4 miliwn mewn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Ngwent yn ystod eich ymweliad â chanolfan blant Serennu yn Nhŷ-du. Mae'r ganolfan a'i staff ymroddedig wedi bod yn darparu gwasanaeth amhrisiadwy i blant gydag anghenion cymhleth ar draws Casnewydd a'r rhanbarth ehangach ers iddi agor yn 2011. Rwy'n gwybod, o siarad gyda phlant, rhieni a staff, yn y gorffennol a'r presennol, fod y ganolfan wedi trawsnewid bywydau'r rhai sy'n ei defnyddio a'u teuluoedd. Mae darpariaeth canolfan Serennu yn unigryw, gyda thriniaethau, gofal, gwybodaeth, ymgynghoriadau a gwasanaethau hamdden i gyd o dan yr un to. Gall plant elwa o'r gofal di-dor hwn ac mae'n lleihau'r baich ar deuluoedd yn sylweddol. Felly, a all y Gweinidog amlinellu sut y defnyddir y ganolfan fel enghraifft ardderchog o'r ffordd y caiff gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol eu darparu'n lleol?

15:05

Diolch i chi, Jayne. Credaf fod Ysgrifennydd y Cabinet a minnau wedi cael ein syfrdanu gan y sgyrsiau a gawsom yno gyda rhieni a staff a'r bobl ifanc eu hunain, a oedd yn canmol yr hyn y mae'r ganolfan yn ei wneud yn huawdl iawn, ac mae'n rhaid i mi ddweud i ni gael ein synnu hefyd gan y ffordd y mae'n cyd-fynd â'r dull rydym yn ei fabwysiadu ar draws Gwent erbyn hyn, oherwydd mae'r egwyddorion sydd ganddynt yno yn ymwneud â chanolbwyntio ar yr unigolyn, cydgynhyrchu atebion o gwmpas yr unigolyn, a gweithio ar atal ac ymyrraeth gynnar gyda theuluoedd a phobl ifanc, gan roi cymorth iddynt ar yr adeg gywir, yn y modd cywir. 

Wel, roedd yn lle delfrydol, mae'n rhaid i mi ddweud, i lansio'r cynnig trawsnewid cyffredinol sydd ganddynt yn ogystal â'r elfennau sy'n ymwneud â phlant a phobl ifanc. Un o'r elfennau diddorol sydd ar y gweill yng Ngwent, ar sail Gwent gyfan, yw eu bod yn ceisio ymgorffori eu fersiwn, fersiwn Gymreig, fersiwn Gwent, o fodel y mynydd iâ, y gwn fod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg wedi edrych arno'n fanwl—mae wedi bod o ddiddordeb i Aelodau yma yn y Cynulliad—ac mae'n edrych ar y gwaith mwy integredig hwnnw ar draws ffiniau sefydliadol. Mae'n edrych ar ymyrraeth gynnar, y cymorth cywir ar yr adeg gywir, fel bod mwy'n cael ei gynnig o ran pethau fel iechyd meddwl a llesiant na gwasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc yn unig. Mae'n ymagwedd fwy cyfannol o lawer ac mae'n cynnwys plant a phobl ifanc, gan roi llais iddynt wrth gynllunio gwasanaethau. Mae canolfan Serennu yn gwneud hynny i gyd. Wrth i mi adael, dywedais wrthynt fy mod yn edrych ymlaen at ddychwelyd a threulio mwy o amser yno, oherwydd mae'n bleser ei gweld ac mae angen i ni weld mwy o hynny ac o'r ffordd hon o fynd ati, mae'n rhaid i mi ddweud, sy'n cael ei fabwysiadu ar draws Gwent, ar draws Cymru. A dyna yw diben y gronfa drawsnewid—nad yng Ngwent yn unig rydych yn ei wneud; rydych yn dysgu'r gwersi ac yna'n ei ymestyn ac yn dweud, 'A allwn ni wneud hyn ledled Cymru?'

Ym mis Medi, bu'n rhaid i oddeutu traean y cleifion, 22,300 o bobl, a ymwelodd â'r adran ddamweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Gwent, aros mwy na phedair awr i gael eu gweld. Cafodd ychydig dros 66.4 y cant eu gweld o fewn pedair awr, o gymharu â tharged Llywodraeth Cymru o 95 y cant. Dwy adran ddamweiniau ac achosion brys yn unig yng Nghymru a berfformiodd yn waeth na hyn. Pa gamau y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn eu cymryd i wella amseroedd aros yn yr Adran Ddamweiniau ac Achosion Brys yn Ysbyty Brenhinol Gwent er mwyn sicrhau ei bod yn cyrraedd y targedau a osodwyd gan ei adran ei hun?

Clywodd Ysgrifennydd y Cabinet yr hyn y mae'r Aelod newydd ei ddweud, ac rydym yn parhau i weithio ar welliannau mewn adrannau damweiniau ac achosion brys, oherwydd nid ydym byth yn hunanfodlon ynglŷn â hyn, ond mae gennym ardaloedd lle mae perfformiad, fel y nodoch chi, yn gweithio, ond nid yw'n gyson. Felly, yr hyn sydd angen i ni ei wneud yw gweithio gyda'r byrddau iechyd i roi baich y cyfrifoldeb arnynt hwy i wneud yn siŵr eu bod yn gostwng yr amseroedd aros hynny mewn adrannau damweiniau ac achosion brys ac yn gweithio gyda gwasanaeth ambiwlans Cymru hefyd i sicrhau bod cleifion yn cael eu trosglwyddo mewn modd di-dor, eu bod yn cael eu rhyddhau'n effeithiol ac ati. Felly, nid ydym yn hunanfodlon ynglŷn â hyn o gwbl, ond mae yna rai meysydd sydd ag arferion da iawn o fewn GIG Cymru. Mae angen i ni wneud y meysydd hynny sydd ag arferion da yn rhai cyffredin.

Y Gronfa Triniaethau Newydd

8. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am feddyginiaeth newydd sy'n cael ei dosbarthu drwy'r gronfa triniaethau newydd? OAQ52942

Gwnaf, rwy'n hapus i wneud hynny. Erbyn diwedd mis Hydref, roedd y gronfa triniaethau newydd wedi darparu mynediad cynt i gleifion ledled Cymru at 146 o feddyginiaethau newydd ar gyfer amrywiaeth eang o gyflyrau meddygol. Yr amser cyfartalog a gymerir i sicrhau bod meddyginiaeth ar gael bellach yw 17 diwrnod. Mae hwnnw'n ostyngiad o 81 y cant.

Mae hynny i'w groesawu, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n siŵr eich bod yn gwybod bod Lloegr wedi cyflwyno'r driniaeth 5-ALA ar sail genedlaethol ym mis Mai. Techneg yw hon sy'n helpu meddygon i dynnu tiwmorau ar yr ymennydd. Mae'r dechneg hon wedi arwain at ganlyniadau sy'n amlwg yn well i gleifion. Mae canllawiau clinigol NICE 2018 yn argymell y dylai cleifion, mewn achosion priodol, gymryd asid lefwlinig 5-amino cyn y llawdriniaeth. Mae Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru yn argymell y driniaeth hon hefyd. Fel y gwyddoch, lleoliad daearyddol y claf sy'n penderfynu lle y caiff y tiwmor ar eu hymennydd ei drin. Yng ngogledd Cymru, y ganolfan ragoriaeth yw Canolfan Walton yn Lerpwl; mewn mannau eraill yng Nghymru rydym yn mynd i ysbyty prifysgol Caerdydd. Fy mhryder yw bod yr ysbyty yn Lerpwl yn gwneud defnydd o'r driniaeth hon, ond nad yw llawfeddygon yn ysbyty'r brifysgol yng Nghaerdydd yn ei defnyddio. A oes modd i chi ofyn am eglurder ar y sefyllfa anghyfartal hon, ac a fyddech yn gallu defnyddio'r gronfa triniaethau newydd i hwyluso defnydd o'r fethodoleg arloesol hon a allai helpu cleifion i gadw cymaint mwy ohonynt eu hunain ar ôl cael llawdriniaeth ar yr ymennydd?

15:10

Ie. Rwy'n ymwybodol fod y driniaeth newydd ar gael. Nid wyf yn credu ei fod yn benodol yn faes ar gyfer y gronfa triniaethau newydd, ond serch hynny, fe edrychaf ar y gwahaniaethau rydych wedi'u hamlinellu rhwng gogledd a de Cymru, ac rwy'n hapus i adrodd yn ôl i'r Aelodau pan fyddaf mewn sefyllfa i wneud hynny.

3. Cwestiynau Amserol

Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau amserol, ac mae'r cwestiwn cyntaf i'w ofyn gan Mick Antoniw. 

Maes Awyr Caerdydd

1. Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael gyda Maes Awyr Caerdydd yn sgil adroddiadau bod cwmni awyrennau Flybe yn mynd i gael ei werthu? 234

Rwyf wedi cynnal trafodaethau gyda gweithredwyr y maes awyr fy hun, ac mae fy swyddogion mewn cysylltiad rheolaidd â Maes Awyr Caerdydd, ac maent yn parhau i gydweithio'n agos â Flybe. Mae'r holl awyrennau i ac o'r maes awyr yn gweithredu yn ôl yr arfer ac wrth gwrs, nid yw gwerthu'r cwmni ond yn un opsiwn y mae'r cwmni yn ei ystyried.

Ysgrifennydd y Cabinet, diolch i chi am yr ateb. Fe fyddwch yn deall pam fy mod wedi gofyn y cwestiwn. Mae'r maes awyr wedi bod yn hynod o lwyddiannus ers iddo ddod i berchnogaeth gyhoeddus. Yn y flwyddyn ddiwethaf, mae twf o 9 y cant wedi bod, a hynny ar ben y cynnydd o 16 y cant yn y flwyddyn flaenorol, a 15 y cant o dwf yn nifer y teithwyr ers iddo gael ei dynnu o berchnogaeth breifat a'i roi yn y sector cyhoeddus. Yn ddiweddar, mae wedi cael ei enwi fel y maes awyr gorau o dan 3 miliwn yn y DU. Mae wedi cynyddu niferoedd y teithwyr sy'n dod i mewn o 24 i 30 y cant. Mae yna gwmnïau hedfan newydd, llwybrau newydd. Ym mis Gorffennaf 2018, daeth yn ail o blith holl feysydd awyr y DU am y perfformiad gorau o ran amser; ac yn 2017, dyfarnwyd statws pum seren iddo.

Wrth gwrs, nid yw'n hawdd gwella maes awyr ar ôl blynyddoedd o ddirywiad, ac rwy'n meddwl tybed pa sicrwydd y gall Ysgrifennydd y Cabinet ei roi i ni ynglŷn â strategaeth hirdymor y Llywodraeth o ran pwysigrwydd y maes awyr fel rhan o economi Cymru, fel cyflogwr mawr, yn ogystal â'r strategaeth hirdymor i sicrhau bod llwyddiant yn parhau yn ystod y cyfnod tu hwnt o anodd hwn i'r diwydiant meysydd awyr, ond hefyd er budd economi Cymru.

Wel, a gaf fi ddiolch i Mick Antoniw am ei gwestiwn a hefyd am gydnabod llwyddiant rhyfeddol Maes Awyr Caerdydd ers i Lywodraeth Cymru brynu'r ased penodol hwnnw? Y nod, wrth gwrs, y strategaeth hirdymor—a gafodd ei amlinellu yn y prif gynllun yn ystod yr haf—yw ehangu'r maes awyr i ddarparu ar gyfer 3 miliwn o deithwyr bob blwyddyn. Hefyd, hoffwn gofnodi fy niolch i'r tîm anhygoel ym Maes Awyr Caerdydd sy'n gyfrifol am y llwyddiant a amlinellodd Mick Antoniw.

Mae'n werth nodi, mewn perthynas â Flybe, yn seiliedig ar drafodaethau rhwng y maes awyr a'r cwmni, ein bod yn ymwybodol nad oes unrhyw gynlluniau ar gyfer unrhyw newidiadau radical i'r rhwydwaith o wasanaethau. Nid oes unrhyw gynlluniau o gwbl i gyfyngu ar nifer yr awyrennau, ac nid oes unrhyw gynlluniau o gwbl i dorri nifer y gwasanaethau ychwaith. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol fod y cwmni yn cynnal trafodaethau gyda phartneriaid strategol posibl ac unwaith eto, dylwn ddweud bod yr opsiwn gwerthu yn un o nifer o opsiynau sy'n cael eu harchwilio ar hyn o bryd. Pe bai'n cael ei werthu, byddem yn cydnabod bod maes awyr rhyngwladol Caerdydd wedi bod yn rhan o hanes llwyddiannus Flybe dros nifer o flynyddoedd.

Yn ychwanegol at y gwasanaethau sy'n cael eu gweithredu gan Flybe, rydym wedi gweld maes awyr rhyngwladol Caerdydd yn gweithio'n llwyddiannus gyda TUI yn ddiweddar ar gyflwyno gwasanaeth estynedig drwy ychwanegu awyren arall; mae KLM yn cynyddu capasiti ym maes awyr rhyngwladol Caerdydd; gwyddom am y gwasanaeth newydd i Doha a weithredir gan Qatar Airways; ac mae maes awyr rhyngwladol Caerdydd hefyd yn cynnal trafodaethau â Ryanair. Rydym yn gwybod bod Ryanair yn bwriadu dyblu nifer y gwasanaethau y flwyddyn nesaf, gan ddarparu cyfle enfawr o bosibl i faes awyr rhyngwladol Caerdydd. Byddwn yn parhau i gefnogi'r ased mawr hwn, nid yn unig ar gyfer de Cymru, ond ar gyfer Cymru gyfan. Mae ein maes awyr rhyngwladol yn hynod o bwysig o ran y modd y mae'n cyd-fynd yn strategol â'n cynlluniau trafnidiaeth ar gyfer y dyfodol yng Nghymru. Rydym yn ymfalchïo yn ei lwyddiant, ac edrychwn ymlaen at weld ei lwyddiant yn parhau am lawer o flynyddoedd i ddod.

15:15

Roedd y newyddion yn ofidus yr wythnos diwethaf, yn amlwg, fod Flybe wedi dewis gwerthu, oherwydd, mewn rhai marchnadoedd, maent yn gwmni hedfan llwyddiannus iawn ac yn profi twf gwirioneddol. Yn ystod blynyddoedd cynnar perchnogaeth y Llywodraeth, cafodd benthyciadau sylweddol eu gwneud i Faes Awyr Caerdydd, gyda'r pris prynu ar y benthyciadau yn fwy na £100 miliwn erbyn hyn, yn ôl yr hyn a ddeallaf. Cafodd cyfran o'r arian hwnnw ei ddefnyddio i ddiogelu Flybe ar gyfer y maes awyr, ac os edrychwch ar gyfrifon Flybe, awyrennau siartr i Faes Awyr Caerdydd ydynt mewn gwirionedd, sy'n ffordd eithaf unigryw o gyfrifyddu ar gyfer yr awyrennau hynny.

Pa sicrwydd y mae'r Gweinidog wedi'i gael na fydd unrhyw arian Llywodraeth mewn perygl os bydd y sefyllfa waethaf yn digwydd a bod Flybe yn gorffen masnachu? Nid oes yr un ohonom eisiau gweld hynny'n digwydd, a gobeithio y bydd yr opsiwn gorau, sef sicrhau hyfywedd hirdymor Flybe, naill ai drwy bryniant neu drwy bartneriaeth, yn ehangu datblygiad gwasanaethau o Gaerdydd mewn gwirionedd. Ond mae yna swm sylweddol o arian cyhoeddus yn cael ei roi ar y bwrdd i ddiogelu gwasanaeth Flybe, ac mae'n ddyletswydd ar Ysgrifennydd y Cabinet i roi sicrwydd i'r Aelodau fod yr arian hwnnw'n ddiogel ac y gellir ei drosglwyddo i weithredwr newydd, os yw Flybe yn rhoi'r gorau i gynnig gwasanaeth o Gaerdydd.

Gallaf sicrhau'r Aelod, er bod y benthyciad gyda maes awyr rhyngwladol Caerdydd, ar y naill law yn fasnachol sensitif, wrth gwrs, mae'r maes awyr o fewn telerau cytundeb y benthyciad ar hyn o bryd, ac mae'r arian hwnnw'n ddiogel. Ond credaf ei bod yn bwysig nad ydym yn dilorni—ac mae'r Aelod yn gywir yn dweud na ddylem ddilorni—y rhagolygon ar gyfer Flybe. Mae wedi bod yn gwmni hynod lwyddiannus, ac o ran y gwasanaethau sy'n gweithredu i ac o Faes Awyr Caerdydd, rydym wedi gweld cynnydd da yn nifer y teithwyr sy'n defnyddio'r cwmni hedfan penodol hwnnw.

Rwy'n credu bod Flybe a Maes Awyr Caerdydd wedi gweithio'n eithriadol o dda gyda'i gilydd, a dyna pam fod y sgyrsiau wedi bod mor gynhyrchiol ers y cyhoeddiad yr wythnos ddiwethaf. Wrth gwrs, mae'n bosibl mai gwerthu fydd y canlyniad yn y pen draw, ond ar sail perfformiad Flybe, rwy'n credu bod partneriaeth strategol, neu werthiant llwyddiannus, yn debygol iawn. Rydym yn gwybod bod y ffactorau sydd wedi cyfrannu at yr heriau sy'n wynebu Flybe wedi ymwneud â materion megis systemau technoleg gwybodaeth. Gellir goresgyn y rhain gyda chymorth partner strategol, ac rwy'n gobeithio mai dyna a welwn ar gyfer Flybe.

Un elfen o hyn sydd ddim wedi cael llawer o sylw, os o gwbl, rydw i’n meddwl, dros yr wythnos diwethaf, ydy’r ffaith mai Flybe, drwy ei isgwmni Eastern Airways, sy’n rhedeg yr hediad rhwng Ynys Môn a Chaerdydd, gwasanaeth sy’n fwy poblogaidd nag y mae o erioed wedi bod, ac rydw i’n llongyfarch Llywodraeth Cymru yn hynny o beth.

A allwch chi, fel Ysgrifennydd Cabinet, roi gwybod i ni, i rannu unrhyw bryderon sydd gennych chi, am effaith trafferthion presennol Flybe ar y cytundeb hwnnw, a rhoi gwybod i ni am unrhyw sicrwydd rydych chi wedi chwilio amdano fo, neu wedi’i dderbyn yn barod, mewn cysylltiad â’r gwasanaeth hanfodol yma?

Wel, a gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn? Mewn gwirionedd, mae'n amserol iawn, oherwydd mae'n fwriad gennyf gyhoeddi canlyniad y broses dendro ar gyfer y cysylltiad awyr penodol hwnnw cyn bo hir. Mae'r Aelod yn hollol gywir: rydym wedi gweld llwyddiant mawr ers i'r gwasanaeth gael ei weithredu gan Eastern Airways. Credaf fod niferoedd y teithwyr wedi cynyddu tua 40 y cant, sy'n dangos y galw cynyddol am y cysylltiad awyr rhwng Caerdydd a gogledd-orllewin Cymru.

Byddaf yn gwneud cyhoeddiad yn fuan. Ni fuaswn yn dymuno achub y blaen ar unrhyw gyhoeddiad y byddaf yn ei wneud, ond rwy'n hyderus fod y trefniadau sydd wedi bod ar waith yn addas i'r diben, eu bod wedi bod yn llwyddiannus ac y gallent barhau yn y dyfodol. O ystyried ei berfformiad hyd yn hyn, ni welaf unrhyw reswm pam y byddai Flybe yn methu. Mae yna ddiddordeb cryf yn y cwmni, o ran ei addasrwydd ar gyfer partneriaid posibl neu fel pryniant posibl gan gwmni hedfan arall, a gallai hynny gynnwys—yn ddibynnol ar y canlyniad y byddaf yn ei gyhoeddi yn fuan—y cyswllt Eastern Airways rhwng Caerdydd ac Ynys Môn.

A gaf fi ategu canmoliaeth Ysgrifennydd y Cabinet a'r Aelodau i reolaeth Maes Awyr Caerdydd yn fy etholaeth? Rwy'n croesawu'r ffigurau teithwyr diweddaraf ar gyfer y maes awyr, sy'n dangos bod cyfanswm y teithwyr wedi cynyddu 9 y cant yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf, o un flwyddyn i'r llall, i gyrraedd 1.48 miliwn.

Gan fod rhai wedi awgrymu bod y doll teithwyr awyr wedi bod yn ffactor arbennig o niweidiol i Flybe, pa sylwadau y mae Llywodraeth Cymru yn parhau i'w gwneud mewn perthynas â datganoli'r doll teithwyr awyr, a fyddai'n amlwg yn cael effaith fuddiol ar Faes Awyr Caerdydd ac ar Gymru, ac wrth gwrs, mae cefnogaeth drawsbleidiol i hynny yn y Cynulliad hwn?

15:20

Mae'n ddiddorol iawn—mae Jane Hutt yn gwneud pwynt pwysig iawn am y rôl y gall y doll teithwyr awyr ei chwarae yn helpu i wneud Flybe yn fwy cystadleuol, oherwydd deallaf fod tua 80 y cant o deithiau hedfan Flybe yn ddarostyngedig i ergyd ddwbl toll teithwyr awyr gwasanaeth domestig. Yn amlwg, pe bai hwnnw'n cael ei ddatganoli, a phe gallem naill ai gael gwared arno neu ei leihau'n sylweddol, byddai hynny o gymorth i Flybe, a byddai hefyd yn sicrhau bod gwasanaethau awyr yn fwy cystadleuol i deithwyr.

Mae Llywodraeth y DU wedi dweud ei bod yn agored i adolygu'r posibilrwydd o ddatganoli'r doll teithwyr awyr os daw tystiolaeth newydd i'r golwg, a phe gellid sicrhau y byddai'r doll teithwyr awyr yn cael ei diddymu drwy ddatganoli, rwy'n credu mai'r hyn rydym wedi'i ddysgu gan Flybe yn yr wythnos ddiwethaf, yn amlwg, yw y byddai hynny'n ddigon o dystiolaeth i gyfiawnhau datganoli'r doll teithwyr awyr, gan y gallai helpu'r cwmni i fod yn fwy cystadleuol. Mae'r Pwyllgor Materion Cymreig yn edrych ar y mater ar hyn o bryd, ac mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno tystiolaeth i'r ymchwiliad hwnnw. Hefyd, rydym wedi comisiynu ymgynghorwyr, Northpoint, i edrych ar ganlyniad posibl diddymu'r dreth ar bob taith awyr. Gwelsant y gallai sicrhau cynnydd o dros 65,000 y flwyddyn mewn cyfnod byr iawn o amser yn nifer y teithwyr sy'n defnyddio Maes Awyr Caerdydd—mewn saith mlynedd yn unig. Byddai hwnnw'n gynnydd rhyfeddol yn nifer y teithwyr a byddai'n helpu'r cwmnïau awyrennau sy'n gweithredu oddi yno, gan gynnwys Flybe.

Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet. Mae'r ail gwestiwn hefyd i'w ateb gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, a'r cwestiwn i'w holi gan Rhun ap Iorwerth.

Gwasanaethau Trên

2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am wasanaethau trên yn dilyn ymddiheuriad cyhoeddus Trafnidiaeth Cymru am ddiffygion yn y gwasanaethau? 236

Gwnaf. Mae storm Callum, tywydd yr hydref ac ansawdd ofnadwy'r cerbydau rydym wedi'u hetifeddu gan Trenau Arriva Cymru wedi cael effaith ar weithrediad y gwasanaethau rheilffyrdd. Mae Trafnidiaeth Cymru yn gweithredu cynllun adfer a bydd teithwyr yn gweld gwelliannau canlyniadol i'r gwasanaeth bob dydd dros yr ychydig wythnosau nesaf.

Yn eich ateb dilynol, efallai y byddwch eisiau ymuno â Trafnidiaeth Cymru ac ymddiheuro am yr anghyfleustra a achoswyd i deithwyr dros yr ychydig wythnosau diwethaf. Yn bersonol, roeddwn yn credu bod y Prif Weinidog yn amddiffynnol iawn ddoe yn wyneb beirniadaeth ynglŷn â'r sefyllfa ar reilffyrdd Cymru, ac mae llawer o filoedd o deithwyr wedi dioddef, wedi methu cyrraedd y gwaith neu wedi methu cyrraedd adref o'r gwaith. Roedd fy merch fy hun yn sefyll ar blatfform yn Aberystwyth brynhawn dydd Sul yn aros am y trên, a oedd ar amser yn ôl yr arwydd—ond ni chyrhaeddodd. Nawr, bydd unrhyw un sy'n adnabod gorsaf drenau Aberystwyth yn gwybod eich bod yn cael digon o rybudd na fydd y trên yn cyrraedd. Ond ni chyrhaeddodd y trên. Nid yw hyn yn dderbyniol. Fel rwy'n dweud, roeddwn yn credu bod y Prif Weinidog yn amddiffynnol iawn yn dweud, 'Ni wnaethom addo trawsnewid y rheilffyrdd mewn mis.' Wel, nid oeddem yn beirniadu'r Llywodraeth am beidio â thrawsnewid y rheilffyrdd o fewn mis. Y pwynt a wnaed oedd bod y sefyllfa wedi gwaethygu'n gyflym iawn mewn ychydig wythnosau. Ac nid wyf yn credu ei bod yn ormod disgwyl i Lywodraeth Cymru fod ychydig yn edifeiriol a dweud, 'Iawn, mae'n ddrwg gennym. Nid yw pethau'n mynd fel y dylent mewn gwirionedd.'

Nawr, rwyf wedi dysgu tipyn dros y dyddiau diwethaf am y rhesymau a roddwyd ynglŷn â pam fod cymaint o'r trenau wedi cael eu tynnu oddi ar y cledrau. Bu'n rhaid i mi ei ddarllen ddwywaith—roeddwn yn meddwl mai problem gydag olwynion fflat ydoedd. Rwy'n gwybod digon am drenau i wybod nad dyna'r rheswm, ond mae olwynion fflat yn broblem sy'n codi pan fydd trenau'n llithro ar ddail ac ati. Felly, rydym yn cydnabod bod problemau, ac rydym yn cydnabod hefyd, mae'n debyg, y byddai yna broblemau cychwynnol. Rwy'n cefnogi Trafnidiaeth Cymru mewn egwyddor, felly nid yw hyn yn ymwneud â dymuniad i weld y Llywodraeth yn methu, oherwydd rydym eisiau gwasanaeth rheilffyrdd gwell. Ond a allwch chi ddweud wrthym y prynhawn yma, gyda'r ymddiheuriad hwnnw gan Lywodraeth Cymru i deithwyr Cymru efallai, pa fath o amserlen y dylem fod yn ei dilyn yn awr o ran pa bryd y gall pobl ddisgwyl i'r gwasanaeth trên ddychwelyd i'r drefn arferol, a rhoi'r sicrwydd rydym ei angen i ni heddiw, o ystyried bod pobl eisiau gwasanaeth gwell a'u bod wedi edrych ymlaen at weld diwedd y fasnachfraint ddiwethaf fel ein bod yn gallu dechrau pennod newydd?

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn? Yn gyntaf oll, mae'n gwneud yr honiad fod gwasanaethau wedi gwaethygu. Mewn gwirionedd, er gwaethaf yr anawsterau diweddar, mae'r perfformiad yn ystod pedair wythnos gyntaf gweithrediad y fasnachfraint newydd a'r contract newydd wedi bod yn well na'r cyfnod cyfatebol y llynedd, ac mae hynny'n cynnwys prydlondeb. Nawr, rwy'n clywed rhai o'r Ceidwadwyr yn chwerthin. Y ffaith amdani yw nad oedd y contract blaenorol yn addas i'r diben.

Mae'r Aelod yn iawn i nodi olwynion fflat. Nawr, yr hyn rydym wedi'i ddarganfod, oherwydd rydych yn gofyn am y rhesymau, ac rwy'n credu ei bod yn hollol iawn fod teithwyr yn deall y rhesymau dros y problemau gyda gwasanaethau rheilffyrdd—. Mae Trafnidiaeth Cymru wedi darganfod, yn anffodus, eu bod wedi etifeddu fflyd o drenau sy'n heneiddio—fflyd ofnadwy o drenau—ac na fuddsoddwyd ynddynt, ac mae hynny wedi arwain at ddiffyg technoleg fodern ar y trenau, ac mae hyn yn cynnwys, yn bwysig, amddiffyniadau i atal olwynion rhag llithro. Yr amddiffyniad hwn sy'n atal gwasanaethau rhag cael eu canslo neu eu gohirio yn ystod yr hydref, ac ni chafodd yr amddiffyniad hwn eu cynnwys ar y trenau. Pam? Oherwydd bod grymoedd y farchnad—y ffurf ar gyfalafiaeth a weithredir gennym—wedi gwneud i'r gweithredwr benderfynu y byddai'n well ganddo wneud elw yn hytrach na chynnwys amddiffyniad i atal olwynion rhag llithro ar y trenau. Bydd hynny'n dod i ben. Bydd hynny'n dod i ben. Erbyn yr hydref nesaf, bydd pob trên y mae Trafnidiaeth Cymru yn ei weithredu yn cynnwys yr amddiffyniad hwn.

Nawr, yn ogystal, rwyf wedi gofyn am arfarniad llawn o'r rhesymau eraill pam ein bod wedi gweld tarfu ar rwydwaith Cymru a'r gororau yn y dyddiau diwethaf. Byddaf yn asesu a oedd yn ymwneud â'r olwynion yn unig, neu a oes ffactor arall wedi cyfrannu, megis mwy o ddail ar y rheilffyrdd nag a welsom, neu a ddigwyddodd oherwydd diffyg cynnal a chadw ar y trenau cyn i'r fasnachfraint gael ei throsglwyddo i Trafnidiaeth Cymru. Gwyddom nad yw'r fflyd o drenau a etifeddwyd wedi plesio teithwyr fel y dylent fod wedi'i wneud—mae'r trenau eu hunain yn warthus—a bydd y rhain yn cael eu newid ymhen ychydig fisoedd yn unig. Bydd y cyntaf o'r trenau newydd yn dod ar y cledrau—bydd y trenau Vivarail, y Geralds a'r 769s i gyd yn cael eu darparu y flwyddyn nesaf. Bydd pob trên Pacer yn cael ei dynnu oddi ar y cledrau y flwyddyn nesaf, ac fel y dywedais, erbyn yr hydref y flwyddyn nesaf bydd pob trên yn ddiwahân yn cynnwys amddiffyniad i atal yr olwynion rhag llithro.

Mae'n rhaid i mi ddweud, Ddirprwy Lywydd, fy mod wedi cael adroddiadau am lygod mawr wedi marw yn y tyllau archwilio pan drosglwyddwyd y fasnachfraint. Dyma beth y mae Trafnidiaeth Cymru wedi bod yn ymdrin ag ef, ac mae Trafnidiaeth Cymru, er clod iddynt, wedi rheoli trosglwyddiad y gwasanaethau rheilffyrdd, rwy'n credu, mewn cyfnod anodd iawn, wrth gwrs, gyda llifogydd na welwyd eu tebyg o'r blaen—y llifogydd gwaethaf ers 30 mlynedd mewn rhai mannau.

15:25

Mae'n rhaid i mi ddweud, Ysgrifennydd y Cabinet, fy mod wedi bod yn eithaf canmoliaethus tuag at Lywodraeth Cymru mewn perthynas â'i masnachfraint rheilffyrdd. Credaf fod cofnod ohonof yn dweud eich bod wedi bod yn arwrol o uchelgeisiol mewn perthynas â'r fasnachfraint rheilffyrdd, ond wrth wneud hynny, wrth gwrs, rydych wedi gosod y bar yn uchel, ac wrth wneud hynny rydych wedi gosod y disgwyliadau ar gyfer teithwyr. Nawr, yn yr haf, fe ddywedoch y byddwch yn cyflawni trawsnewidiad arloesol yn ystod yr wythnosau nesaf, ac rydym bellach, wrth gwrs, yng nghanol yr ail fis o'r fasnachfraint rheilffyrdd newydd, a Trafnidiaeth Cymru. A beth yw'r sefyllfa yn awr? Cawsom ddatganiad gan Trafnidiaeth Cymru i'r ACau neithiwr, ac roedd hynny i'w werthfawrogi, rwy'n credu, ac rwy'n croesawu hynny. Mae'n sôn am effeithiau storm Callum, ond mae'n rhaid i mi ddweud, cafodd storm Callum effaith ar draws y DU, ac mae'n ymddangos bod rhannau eraill o'r wlad wedi dod drosti, yn wahanol i ni yma yng Nghymru. Nid oedd y diweddariad yn cynnwys unrhyw esboniad pam fod blaenoriaethau'n cael eu dewis yn y ffordd y maent, felly nid pam y digwyddodd hyn rwy'n ei ofyn i chi fel y cyfryw, ond yn hytrach, pam eu bod wedi pennu'r blaenoriaethau a wnaethant.

Neithiwr, cefais sylw ar Facebook gan Dawn Jones a oedd yn dweud, 'Helpwch os gwelwch yn dda'. Mae ei merch yn teithio o'r Drenewydd i goleg Wrecsam ac mae hi'n methu teithio, nid yw'n gallu mynychu'r coleg i gael ei haddysg. Mae'n nodi bod y gwasanaeth yn casglu myfyrwyr o'r Drenewydd a'r Trallwng i fynd i goleg Amwythig hefyd. Wel, cafodd y gwasanaeth 08:40 o Aberystwyth i'r Amwythig ei ganslo bedair gwaith allan o bump yr wythnos ddiwethaf—dyna gyfradd ganslo o 80 y cant. Os edrychwch ar y gyfradd ganslo ar reilffyrdd y Cymoedd, mae'n llai nag 1 y cant. Mae'r anawsterau i deithwyr yn fwy pan fo gwasanaethau anfynych yn cael eu canslo na phan fydd y gwasanaethau'n fynych, a dyna'r broblem yma. Felly, a gaf fi ofyn cyfres o gwestiynau i chi ynglŷn â blaenoriaethau?

15:30

Beth yw'r sail resymegol dros atal canslo gwasanaethau ar reilffyrdd y Cymoedd drwy ganslo gwasanaethau mewn ardaloedd eraill, sef yr hyn sy'n digwydd i bob pwrpas? A yw contract gwasanaeth Trafnidiaeth Cymru yn cynnwys gofyniad perfformiad gwahanol ar gyfer rheilffyrdd y Cymoedd, a pham fod gwasanaeth Bae Caerdydd yn cael ei ystyried yn flaenoriaeth uwch o ran defnydd fesul uned, pan fydd Bws Caerdydd yn gweithredu bws capasiti uchel rheolaidd o orsaf Caerdydd Canolog i Fae Caerdydd? Pan fydd Trafnidiaeth Cymru, bob dydd, yn canslo gwasanaethau, a ydynt yn ystyried effaith gymdeithasol ac economaidd y problemau hynny hefyd, ar leoedd fel Betws-y-Coed a Dinbych-y-pysgod, sy'n lleoedd twristaidd o un flwyddyn i'r llall, neu yn y Drenewydd a'r Trallwng, lle mae myfyrwyr yn mynd i'r coleg ar wasanaeth anfynych?

Felly, a gaf fi ofyn, yn olaf: a wnaiff Trafnidiaeth Cymru addasu eu meini prawf ar gyfer blaenoriaethu achosion o ganslo i sicrhau bod y baich yn cael ei ysgwyddo yn fwy cyfartal nag y mae ar hyn o bryd?

A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn a rhoi sicrwydd iddo nad oes unrhyw uchelgais wedi'i golli mewn perthynas â masnachfraint rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru. Bydd £800 miliwn yn dal i gael ei wario ar gerbydau newydd, £194 miliwn ar fuddsoddi mewn gorsafoedd—cymharwch hynny â'r £600,000 yn unig a wariwyd dros y 15 mlynedd diwethaf—285 o wasanaethau ychwanegol, 600 o swyddi newydd, gostyngiad o 25 y cant mewn allyriadau carbon, gwasanaethau newydd o'r gwanwyn nesaf ymlaen, cerbydau newydd o'r gwanwyn nesaf ymlaen. Mae newid ar y ffordd, ond rwy'n derbyn bod teithwyr a grwpiau teithwyr yn teimlo'n rhwystredig. Fel y dywedais, rydym wedi profi amodau tywydd heb eu tebyg o'r blaen, ac mae'r Aelod yn llygad ei le nad yw gwasanaethau rheilffyrdd eraill, efallai, wedi dioddef cymaint, ond y rheswm am hynny, yn ôl pob tebyg, yw bod gwasanaethau rheilffyrdd eraill wedi cael y buddsoddiad y dylai cerbydau Trenau Arriva Cymru fod wedi'i gael. Ac fel y dywedais eisoes, nid oedd yr amddiffyniadau i atal olwynion rhag llithro yno i rwystro trenau rhag cael eu tynnu oddi ar y cledrau.

Nid oes unrhyw wasanaethau yn cael eu blaenoriaethu'n fympwyol ar gyfer eu canslo. Mae'r gwaith o flaenoriaethu yn seiliedig ar nifer o ffactorau, gan gynnwys argaeledd gwasanaethau bysiau yn lle trenau. Fodd bynnag, rwy'n ymwybodol o'r angen i roi sicrwydd i bobl fod chwarae teg ar waith ledled Cymru ac i bob gwasanaeth. Byddaf yn ceisio sicrhau bod Trafnidiaeth Cymru yn ysgrifennu at yr holl Aelodau gyda'r sail resymegol dros flaenoriaethu achosion o ganslo gwasanaethau, a gwasanaethau bysiau yn lle trenau hefyd.

Yr unig beth yr hoffwn ei ychwanegu, gan nad wyf am ailadrodd popeth, yw bod brys i fynd at wraidd yr hyn a aeth o'i le, ac rydych wedi nodi ychydig o broblemau. Y brys yw nad ydym yn cyrraedd sefyllfa lle mae'r bobl sydd wedi defnyddio'r gwasanaeth hwnnw, a'r bobl roeddem yn gobeithio y byddent yn defnyddio'r gwasanaeth hwnnw, yn digalonni ac yn cael eu siomi, gan olygu bod y niferoedd yn cael eu heffeithio'n negyddol ac yn sylweddol mewn modd na ellir ei wrthdroi, gan ein bod yn wirioneddol awyddus i bobl ddefnyddio'r gwasanaethau trên sydd gennym, y rhai rydych wedi buddsoddi ynddynt ac wedi sicrhau cytundeb i'w darparu.

Rwy'n falch fod y cwmni wedi ymddiheuro, ac yn bersonol, mae'n wir ddrwg gennyf fod pobl wedi wynebu anawsterau ledled fy rhanbarth, ac rwy'n siŵr eich bod chi'n teimlo felly hefyd, Ysgrifennydd y Cabinet. Ac mae'n debyg mai fy nghwestiwn allweddol yma yw—. Mewn rhai mannau, fel Blaenau Ffestiniog i Landudno, rwy'n deall bod gwasanaethau bysiau'n gweithredu yn lle trenau. A fydd y gwasanaethau bysiau yn lle trenau yn ddigonol yn lle'r gwasanaethau trên a gollwyd, fel y gall pobl symud o amgylch y rhanbarth fel roeddent yn gobeithio?

Wel, credaf fod Joyce Watson yn crybwyll pwynt pwysig iawn ynghylch integreiddio gwahanol fathau o drafnidiaeth gyhoeddus. Mae Joyce yn sôn am yr angen i sicrhau bod gwasanaethau bysiau yn lle trenau yn ddigonol. Wel, pan fyddaf yn gallu amlinellu diwygiadau i wasanaethau bws cyhoeddus lleol, a chynigion ar gyfer deddfwriaeth yn y dyfodol, credaf y bydd yr Aelodau'n gallu gwerthfawrogi sut y byddwn yn mynd ati i integreiddio gwasanaethau rheilffyrdd a bysiau yn well er mwyn sicrhau bod pwyntiau teithio mor ddi-dor ag y gallant fod o'r dechrau i'r diwedd—fod teithio mor ddi-dor ag y gall fod o ddechrau'r daith i'r diwedd.

Dylwn ddweud unwaith eto fod y contract blaenorol wedi'i osod ar sail dim twf yn nifer y teithwyr dros gyfnod o 15 mlynedd, ac felly, o ganlyniad, pan wnaethom etifeddu fflyd echrydus o drenau, roedd y trenau eisoes o dan bwysau a dros eu capasiti. Yn ystod misoedd yr hydref, pan ddifrodwyd y trenau—pan ddifrodwyd yr olwynion—mae hynny wedi cyfrannu at waethygu problemau capasiti. Mae'n rhywbeth y mae Trafnidiaeth Cymru yn ymdrin ag ef. Maent wedi rhoi rhaglen o waith adfer ar waith. Rydym yn ystyried a ellir defnyddio opsiynau lliniarol ychwanegol, megis defnyddio turnau olwynion y tu allan i Gymru, i fynd i'r afael â'r ôl-groniad presennol o waith cynnal a chadw.

Ond unwaith eto, buaswn yn dweud bod storm Callum yn ddigynsail mewn sawl rhan o Gymru a chredaf y byddwn ar fai pe na bawn yn diolch ar goedd i staff y rhwydwaith a sicrhaodd fod cynifer o wasanaethau â phosibl yn weithredol, ac mewn llawer o achosion, fe wynebodd rhai ohonynt ddigwyddiadau brawychus, lle roedd coed yn taro trenau, a lle bu'n rhaid i drenau fynd drwy lifddwr go sylweddol.

15:35

Ysgrifennydd y Cabinet, fe'ch gwahoddaf unwaith eto i ymddiheuro, gan fy mod wedi sylwi nad ydych wedi ymddiheuro ar goedd eto. Ond a gaf fi rywfaint o eglurhad ynglŷn â'r datganiad a gyhoeddwyd gan Trafnidiaeth Cymru ddoe—datganiad a groesewir i roi trosolwg inni o'r sefyllfa? O'r 127 injan sydd ar gael iddynt, dywedant fod 36 oddi ar y cledrau, fel petai, yn y gweithdai, yn yr ail baragraff. Yna, dywedant, 'Hefyd, ar hyn o bryd mae gennym 21 uned yn anweithredol'. Felly, os ydych yn adio 36 a 21 at ei gilydd, mae gennych hanner y fflyd, bron â bod, yn anweithredol. A allwch gadarnhau bod hynny'n wir a bod y locomotifau 769 a gyhoeddwyd gennych yn ôl ym mis Gorffennaf 2017, a oedd i fod i ddod yn rhan o'r gwasanaeth ym mis Mai 2018, ar gael i'r fasnachfraint fel y gallant gryfhau'r fflyd, neu a ydym yn dal i aros i'r trenau hynny ddod yn weithredol?

Yn gyntaf oll, o ran ymddiheuriadau, dylai fod ymddiheuriad wedi'i roi ers amser maith am y tanfuddsoddi—tanfuddsoddi ofnadwy a hanesyddol—yn y seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru; 1 y cant o gyllid ar gyfer yr hyn sy'n ganran dau ddigid o reilffordd. Mae'n rhaid dweud nad ydym wedi dod o hyd i dystiolaeth bendant eto mai'r traciau oedd gwraidd y broblem, ond mae'n bosibl iawn fod y seilwaith gwael y mae'r trenau'n gweithredu arno yn ffactor cyfrannol. Yn sicr, yn gynharach yn y flwyddyn, gyda thrac wedi cracio, roedd hynny'n rhan o'r broblem a arweiniodd at ganslo gwasanaethau trenau mewn sawl rhan o Gymru.

Nawr, mae cerbydau ychwanegol, o ganlyniad i ymyrraeth gan Lywodraeth Cymru, wedi cael eu darparu ar y rhwydwaith. Ond rydym yn archwilio nifer o ffyrdd y gallwn ddod â cherbydau ychwanegol ar sail fyrdymor i Gymru, tra bo'r trenau Vivarail, 769 a Gerald yn cael eu cyflenwi. Mae'n bwysig fod pobl yn cydnabod, Ddirprwy Lywydd, fod Trafnidiaeth Cymru yn gwneud popeth yn ei allu i sicrhau cerbydau ychwanegol ar gyfer y rhwydwaith, ac ar yr un pryd, maent yn gweithio bob awr o'r dydd i sicrhau bod y trenau a ddifrodwyd yn sgil storm Callum yn ôl ar y cledrau cyn gynted â phosibl.

4. Datganiadau 90 Eiliad

Eitem 4 ar ein hagenda y prynhawn yma yw'r datganiadau 90 eiliad a Siân Gwenllian sydd gyntaf yr wythnos hon.

Diolch yn fawr. Mae'r wythnos yma yn rhan o ymgyrch flynyddol y Cenhedloedd Unedig 16 Diwrnod o Weithredu yn erbyn trais ar sail rhywedd. Pwrpas yr ymgyrch ydy tynnu sylw'r byd at broblem enfawr trais yn erbyn menywod gan wthio am weithredu ar lefel leol, genedlaethol a byd-eang yn ei erbyn. Mae dewrder a phenderfyniad y menywod sy'n rhan o fudiadau fel #MeToo a Time's Up wedi taflu goleuni ar brofiadau cwbl annerbyniol. Nid problem i Hollywood yn unig yw hwn, wrth gwrs. Mae un ymhob pedair dynes yng Nghymru a Lloegr wedi profi cam-drin domestig ers eu bod yn 16 oed. Roedd dros 0.5 miliwn o fenywod wedi profi ymosodiad rhywiol yn 2016-17. Mae un ymhob saith myfyrwraig wedi profi ymosodiad rhywiol neu gorfforol difrifol tra yn y brifysgol.

Gadewch i ni ddweud heddiw yn hollol ddiamod: ni ddylai unrhyw ddynes na merch yng Nghymru orfod byw mewn ofn o drais neu aflonyddu rhywiol. Ers blynyddoedd, mae distawrwydd a stigma wedi peri i drais yn erbyn menywod barhau. Er mwyn rhoi terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched yng Nghymru unwaith ac am byth, mae angen adnoddau a gweithredu ar unwaith ac ar raddfa ddigonol i ateb y galw. Yn sicr, mae angen rhoi cefnogaeth i bob un dynes a merch yng Nghymru sydd wedi profi'r fath profiadau erchyll.

15:40

Ddirprwy Lywydd, ddydd Sadwrn, 24 Tachwedd, mae'r Ukrain a'r gymuned ryngwladol yn nodi diwrnod i gofio dioddefwyr newyn artiffisial Stalin ym 1932-33 a elwir yn Holodomor, sydd, yn yr Ukraineg, yn golygu 'marwolaeth drwy newyn'. Fel Aelod o senedd Cymru, byddaf yn mynychu'r gwasanaeth coffa yn Kiev.

Newyn a grëwyd gan Stalin oedd hwn i orfodi cyfunoli amaethyddiaeth ac i chwalu'r gwrthsafiad Ukrainaidd yn erbyn rheolaeth Rwsia Sofietaidd. Cafwyd mwy na 4,000 gwrthryfel yn erbyn y polisi hwn, ac fe'u trechwyd yn ddidrugaredd. Ym mis Rhagfyr 1932 gorchmynnodd pwyllgor canolog y Blaid Gomiwnyddol fod yn rhaid atafaelu'r holl rawn, gan gynnwys hadau ar gyfer eu hau. Cafodd pentrefi nad oeddent yn cydweithredu eu cosbrestru a'u llwgu i farwolaeth yn fwriadol, ac alltudiwyd oddeutu 1 miliwn o bobl i Siberia. Bu farw rhwng 4 miliwn a 6 miliwn o bobl. Amcangyfrifir bod oddeutu dwy ran o dair ohonynt yn blant. Mae'n amhosibl gwybod beth yw'r union ffigurau, gan fod Stalin wedi gorchymyn bod yn rhaid dinistrio'r holl gofnodion.

Roedd y newyddiadurwr o Gymru, Gareth Jones, a gaiff ei anrhydeddu yn yr Ukrain, yn dyst i'r Holodomor ac roedd yn un o'r ychydig newyddiadurwyr a fu'n ddigon dewr i adrodd ar raddfa'r newyn a'i achosion. Mae llawer o wledydd ledled y byd wedi cydnabod yr Holodomor fel gweithred o hil-laddiad. Mae 9 Rhagfyr eleni yn nodi 70 mlynedd ers i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Atal a Chosbi Trosedd Hil-laddiad gael ei fabwysiadu ym 1948. Ddydd Sadwrn, bydd aelodau o'r diaspora Ukrainaidd sy'n byw yng Nghymru a ledled y byd yn gosod canhwyllau wedi'u cynnau yn eu ffenestri er cof am y dioddefwyr.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar olwg, rwy'n falch o nodi y bydd strategaeth olwg ddiweddaraf Cymru yn cael ei lansio yr wythnos hon, a buaswn yn annog yr Aelodau i fynychu'r digwyddiad yn yr Oriel rhwng 12 p.m. a 1.30 p.m. amser cinio yfory.

Mae lefel ein golwg yn cael effaith enfawr ar ein bywydau. Mae 107,000 o bobl yng Nghymru wedi colli eu golwg a disgwylir y bydd y ffigur yn dyblu dros yr 20 mlynedd nesaf. Mae pobl ddall a rhannol ddall yn wynebu eu set eu hunain o heriau bob dydd. Mae teimladau o unigrwydd yn annerbyniol o uchel, a dim ond un o bob pedwar o bobl ddall neu rannol ddall o oedran gweithio sydd mewn gwaith.

Mae pobl sydd wedi colli'u golwg yn fwy tebygol o gwympo, ac yn fwy tebygol o fyw mewn tlodi. Maent yn fwy tebygol o gael iselder a phroblemau gyda bywyd bob dydd. Rydym yn clywed rhai straeon torcalonnus am gleifion gofal llygaid yn wynebu oedi annioddefol gyda'u triniaeth, ac mae oedi mewn gofal dilynol yn broblem fawr ledled Cymru.

Yn ddiweddar, mewn adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru, clywsom fod 28,000 o gleifion llygaid yn aros ddwywaith cyhyd ag y dylent am apwyntiad. Mae hyn yn rhoi cleifion mewn perygl diangen o ddallineb na ellir ei gywiro ac mae angen mynd i'r afael â hyn ar frys. Nawr, rwy'n teimlo'n angerddol ynglŷn â gwneud y newidiadau sydd eu hangen, a buaswn yn annog Aelodau ar draws y Siambr i ymrwymo i'r agenda hon fel nad oes unrhyw un yn eu hardal yn colli eu golwg o ganlyniad i gyflwr llygaid y gellir ei drin, a'n bod yn gwneud popeth a allwn i gynorthwyo pobl sydd wedi colli'u golwg.

Cynnig i ethol Aelod i Gomisiwn y Cynulliad

Cynnig i ethol Aelod i Gomisiwn y Cynulliad yw'r eitem nesaf ar yr agenda. A gaf fi alw ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig yn ffurfiol? Rhun.

Cynnig NDM6876 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 7.9, yn penodi Siân Gwenllian (Plaid Cymru) fel aelod o Gomisiwn y Cynulliad yn lle Adam Price (Plaid Cymru).

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch. A oes unrhyw Aelod yn dymuno gwrthwynebu? Felly, y cynnig yw—derbyniwyd y cynnig felly yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynnig i ethol Aelod i bwyllgor

Symudwn ymlaen at gynnig i ethol Aelod i bwyllgor. Unwaith eto, a gaf fi ofyn i aelod o'r Pwyllgor Busnes wneud y cynnig yn ffurfiol? Rhun.

Cynnig NDM6877 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 17.3 ac 17.13(ii), yn ethol Helen Mary Jones (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig hwnnw. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

5. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Cyllido Addysg Bellach

Symudwn at eitem 5 ar ein hagenda, sef dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv), ar gyllido addysg bellach. Galwaf ar Bethan Sayed i wneud y cynnig. Bethan.

Cynnig NDM6862 Bethan Sayed, Mohammad Asghar, Helen Mary Jones, Siân Gwenllian, Suzy Davies

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn gresynu bod cyllid ar gyfer addysg bellach wedi bod o dan bwysau sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf o ganlyniad i doriadau cyllidebol.

2. Yn nodi bod y sector addysg bellach wedi'i osod o dan bwysau ychwanegol, yn rhannol oherwydd polisïau Llywodraeth Cymru sy'n ymwneud â dysgu gydol oes, sgiliau a chyflogadwyedd, a gafodd eu hegluro yn y cynllun cyflogadwyedd diweddar a ddiweddarwyd gan ddatganiad ysgrifenedig ym mis Medi 2018.

3. Yn mynegi pryder bod staff mewn sefydliadau addysg bellach yn ystyried mynd ar streic dros gyflogau annigonol a phryderon ynghylch llwythi gwaith trwm.

4. Yn cynnig na ddylai fod unrhyw ostyngiad pellach o ran faint o arian a dderbynnir gan y sector addysg bellach ac y dylid cydnabod ei safle fel allwedd i gynhyrchiant, sgiliau, hyfforddiant a chyflogadwyedd yn economi Cymru.    

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch. Cyflwynais y ddadl hon heddiw, dadl a gyd-lofnodwyd gan rai o fy nghyd-Aelodau yma—a diolch ichi am wneud hynny—am fod addysg bellach yng Nghymru wedi bod o dan bwysau ac nid yw wedi cael y gydnabyddiaeth a'r pwysigrwydd canolog y mae'n eu haeddu. Credwn fod addysg bellach ac addysg gydol oes yn allweddol i ddatgloi'r potensial yn economi Cymru. Am ormod o amser, cafodd addysg bellach ei hisraddio fel opsiwn llai gwerthfawr i sicrhau llwyddiant nag addysg uwch. Mae ymagweddau'r Llywodraeth tuag at addysg bellach wedi cadarnhau hyn, gan fod lefelau cyllid a gweledigaeth strategol, gydgysylltiedig a blaengar wedi bod yn brin yn y sector hwn—nid yn unig yn ddiweddar, ond ers peth amser. Mae'n bryd gwrthdroi hynny. Gwyddom fod addysg bellach wedi bod yn darged ar gyfer toriadau yn ystod tymor y Cynulliad diwethaf a'r Cynulliad hwn. Gwn fod Llywodraeth Cymru yn tynnu sylw at doriadau Llywodraeth y DU, sydd wedi bod yn anodd, mae'n wir, ac roedd hwnnw'n ddewis gwleidyddol, ond gwnaed dewis yma hefyd, dewis gwleidyddol gan Lywodraeth Cymru. Mae addysg bellach wedi cael ei gweld ers amser hir fel partner llai disglair i addysg uwch. Mae wedi bod, mewn rhai ffyrdd, yn darged haws na sectorau eraill ar gyfer cyfyngu ar wariant. Ers 2011-12, gwelwyd lleihad difrifol mewn termau real yn y gwariant, heb sôn am doriadau enbyd i gyrsiau rhan-amser, a gaiff eu hastudio'n bennaf gan fyfyrwyr sy'n oedolion a chan bobl sydd mewn gwaith.

Er gwaethaf y cyfyngiadau ariannol hyn, mae'r cynnydd yn y galw am addysg bellach a chyfleoedd dysgu gydol oes wedi bod yn amlwg, fel y dylai fod. Mae'n rhan o strategaeth Llywodraeth Cymru i uwchsgilio ein heconomi, ac i wneud hynny, dywedant wrthym, er mwyn rhoi'r sgiliau y byddant eu hangen i'n dinasyddion allu llwyddo mewn economi fodern. Fodd bynnag, y gwir amdani yw nad yw'r cyllid a'r weledigaeth wedi bod yn ddigonol. Soniaf am weledigaeth am reswm penodol iawn. Mae'n amlwg dros y blynyddoedd diwethaf nad oes arweinyddiaeth a map strategol wedi bod ar gael ar gyfer yr hyn y mae Llywodraeth Cymru am ei gyflawni. Cawn ystrydebau bachog a chawn ddatganiadau, ond rydym yn dal i aros am rywbeth hirdymor a diriaethol sy'n darparu strategaeth i wneud colegau ac addysg bellach yn rhan annatod o gynlluniau a pholisïau economaidd. Ar hyn o bryd, nid yw hyn yn digwydd a dyma sydd ei angen ar y sector.

Weithiau, yr unig ateb yw mwy o arian, ond ar adegau eraill ac mewn rhai sectorau, yr hyn sydd hefyd ei angen ac nad yw'n cael ei ddarparu bob amser yw eglurder o ran diben, eglurder o ran cyfeiriad, ac arweinyddiaeth. Mewn sawl agwedd ar fywyd cyhoeddus, mae Llywodraeth Cymru wedi methu'n lân â gwneud hyn. Credaf y gallwn grynhoi ein hymagwedd tuag at addysg bellach yng Nghymru drwy ddweud ein bod mewn sefyllfa amhosibl. Mae arnom angen i'r economi fod yn well ac yn fwy cynhyrchiol gyda chyflogau uwch a gwell sgiliau. Sut rydym yn gwneud hynny? Drwy ganolbwyntio ar ddysgu gydol oes ac uwchsgilio ac addysg alwedigaethol o ansawdd uchel. Sut mae gwneud hynny? Mae'r rhan olaf yn benagored, oherwydd, hyd yn hyn, ni chredaf fod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu, ac nid yw'n siŵr beth y mae ei eisiau, er gwaethaf yr adolygiadau dirifedi a'r dystiolaeth ynglŷn â pha fap sydd orau ar gyfer y ffordd ymlaen.

Felly, mae ein cynnig heddiw yn ceisio adlewyrchu'r pwysigrwydd y credwn y dylai'r Senedd hon a'r Llywodraeth ei roi i addysg bellach. Yn gyntaf, mae toriad sylweddol wedi bod i'r swm o arian y mae addysg bellach yn ei dderbyn. Yn y pen draw, mae'r Blaid Lafur mewn grym yma yng Nghymru, mae hwn yn faes datganoledig, ac mae'n rhaid iddynt gymryd rhyw fath o gyfrifoldeb am y penderfyniadau gwleidyddol a wnaed ganddynt. Wrth gwrs, mae arian yn brin, ond mae ffyrdd o ddod o hyd i arian ychwanegol. Yn 2016, ni fel plaid oedd yr unig blaid â chynllun cyllideb pum mlynedd wedi'i asesu'n annibynnol gan yr Athro Gerry Holtham, a ddaeth i'r casgliad fod cynllun Plaid Cymru i nodi dros £600 miliwn o arbedion y flwyddyn yng nghyllideb Cymru yn rhesymol. Gallasom gyflwyno'r cynlluniau hyn am ein bod yn uchelgeisiol ynglŷn â diwygio ein Llywodraeth.

Felly, mae dewisiadau i'w gwneud bob amser. Gyda Llywodraeth Cymru, mewn cytundebau cyllidebol diweddar, rydym wedi dewis dod o hyd i arian ychwanegol ar gyfer addysg bellach. Gofynnodd y Llywodraeth am i'r sector colegau ddod yn llai dibynnol yn ariannol ar Lywodraeth Cymru, ac mae hynny'n rhywbeth y gallasant ei gyflawni, gan fynd o ddibyniaeth ariannol o oddeutu dwy ran o dair o'r grant bloc i ychydig dros hanner. Mae yna benderfyniadau y gellir eu gwneud a chamau gweithredu y gellir eu cymryd.

Mae’r sector colegau wedi dangos hyn drwy ddod yn fwy effeithlon yn ariannol, ond nid yw’r hyblygrwydd yn cael ei wthio i’r ymylon. Gwaethygir y broblem gan y fformiwla ariannu gymhleth—ac fel Gweinidog yr wrthblaid ar ran Plaid Cymru, rwy'n dechrau cael crap ar hynny bellach—a’r gwahanol botiau o arian, ffrydiau ariannu a rhaglenni sy'n rhan o’r sector. O gymharu â fformiwla sy’n symlach o lawer bellach ar gyfer addysg uwch, mae rhai pobl yn y sector wedi dweud wrthyf fod angen ailwampio'r sector addysg bellach ar gyfer y tymor hir.

Er bod cyllid y Llywodraeth wedi'i dorri, gofynnwyd i’r sector addysg bellach ddarparu amrywiaeth ehangach o wasanaethau ac i fod yn fwy canolog mewn perthynas ag uwchsgilio a chynhyrchiant. Rydym yn croesawu hyn, mae colegau addysg bellach mewn sefyllfa dda i wneud hyn. Ond erys y cwestiwn: faint y gellir ei gyflawni’n ymarferol ac yn effeithiol o ystyried y cynnydd yn y galw a'r ffaith nad oes cymaint o arian ar gael? Bydd llawer o gamau gweithredu cynllun cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru yn bethau i’r sector addysg bellach eu gwneud. Fel y nodwyd yn y cynllun,

'Er mwyn cyflawni’r amcanion yn y Cynllun hwn bydd angen ymdrech benodol, wedi’i chydlynu, ledled y rhwydwaith cyflogadwyedd. Er mwyn gwneud hyn bydd yn rhaid wrth bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU... Awdurdodau Lleol, Prifysgolion, Colegau Addysg Bellach'

ac yn y blaen.

'Bydd angen i’r ymdrech hon gofleidio hyblygrwydd ac arloesi, ac ar yr un pryd gadw’r pwyslais di-ildio ar welliant a chanlyniadau.'

Mae'n nodedig fod pob ardal yng Nghymru yn is na chyfartaledd y DU o ran cynhyrchiant, ond mae cyfartaledd y DU ei hun yn is na chyfartaledd llawer o economïau datblygedig eraill. Ond sut y bydd y galw ar y sector o ganlyniad i'r cynllun cyflogadwyedd yn cael ei ateb pan nad yw'r adnoddau ar gael i wneud hynny?

Nodaf heddiw fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo £8 miliwn i sicrhau rhywfaint o gydraddoldeb rhwng cyflogau darlithwyr addysg bellach ac athrawon. Mae angen y dalent orau sydd ar gael i addysgu ar sector addysg bellach cryf, ac mae'n rhaid i hynny ddod law yn llaw â chyflog sy'n adlewyrchu eu pwysigrwydd. Mae'n ddiddorol, mewn gwirionedd, fod manylion y cyhoeddiad hwn wedi'u rhoi heddiw mewn pryd ar gyfer y ddadl hon. Boed hynny'n gyd-ddigwyddiad ai peidio, fe'u croesewir. Credaf y dylid nodi yma hefyd fod cyd-undeb llafur addysg bellach yng Nghymru wedi dweud yn y gorffennol y dylai unrhyw gynnydd fod yn uwch na'r mynegai prisiau manwerthu, a bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod 10 mlynedd o gyfyngu ar gyflogau. Rwy'n gobeithio mai dyna sy'n cael ei gyhoeddi heddiw ac y bydd hynny'n gallu lleddfu'r pryderon hynny. Ond mae angen inni ddeall hefyd fod rhan o'r gŵyn a arweiniodd at bleidlais i streicio yn ymwneud nid yn unig â rhifau moel ond hefyd â llwyth gwaith sydd wedi cynyddu, sydd yn cynyddu ac sydd ar fin cynyddu ymhellach, heb fod y cyflogau a'r adnoddau'n adlewyrchu hynny.

Mae ein pwynt olaf yn pwysleisio'r hyn y credaf fod pob un ohonom yn y Siambr hon, waeth beth fo'n pleidiau, yn ei gydnabod: nad yw addysg bellach, yn y gwaith o lunio polisi, wedi cael y sylw angenrheidiol y mae'n ei haeddu, ac sydd ei angen ar y wlad hon os ydym yn dymuno cael economi sy'n llwyddo. Y peth rhwystredig i lawer ohonom yw y credaf fod Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o hyn. Credaf fod y Gweinidog yn llygad ei lle pan ddywedodd, fel rhan o'i hymgyrch i fod yn arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru, fod yn rhaid i uwchsgilio a'r agenda sgiliau ehangach fod yn ffocws i Lywodraeth Cymru. Ni chredaf eu bod ar hyn o bryd, ac ni chredaf ei bod hi'n meddwl eu bod ar hyn o bryd, yn ôl ei sylwadau i'r BBC. Credaf fod y datganiad hwn ddoe ynghylch cyllid i addysg bellach hefyd yn profi hyn. Cyfle coll arall, enghraifft arall o ddiwygio tameidiog.

Dengys cynllun cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru eu bod yn ymwybodol o faint yr her, oherwydd mae'n dweud, ac rwy'n dyfynnu,

'Mae Llywodraethwr Banc Lloegr wedi cyfrifo bod mwy na 15 miliwn o swyddi yn y DU mewn perygl yn sgil awtomeiddio, ac mae hynny’n gyfystyr â 700,000 o swyddi yng Nghymru dros y ddau ddegawd nesaf. Mae’r felin drafod Centre for Cities yn awgrymu y bydd angen i ni ddod o hyd i swyddi i 110,000 o bobl yng Nghymru erbyn 2030 oherwydd awtomeiddio.'

Pan edrychwn ar yr adolygiadau cyllid a gynhaliwyd dros y blynyddoedd diwethaf, adolygiad Hazelkorn ar gyllid hirdymor yn y dyfodol, adroddiadau ar arloesi, gwelwn fap sydd wedi’i osod allan yn gymharol dda ar gyfer Llywodraeth Cymru. Yr hyn sydd ar goll yw menter strategol i ddod â’r darnau gwahanol hyn at ei gilydd a'u gwneud yn gyfan. Ac ni allwn barhau i aros. Mae gwledydd eraill yn cydnabod pwysigrwydd addysg bellach a dysgu gydol oes ac mae ganddynt strwythurau ar waith sy'n gosod y sector ar y blaen yn eu strategaethau economaidd. Mae'n amlwg, er enghraifft, yng Ngwlad y Basg; maent yn un o’r rhanbarthau uchaf y pen yn Ewrop, ond maent wedi cyrraedd yno o ganlyniad i’r pwyslais a roesant ar addysg. Maent wedi canolbwyntio buddsoddiad ar arloesi ac ymchwil a sgiliau yn gyffredinol, gyda chynlluniau sgiliau—eu pedwerydd cynllun sgiliau, sy'n clymu’r system addysg at ei gilydd fel un gyda chynlluniau, canllawiau a chyllid yn rhedeg drwodd gyda disgyblion 14 oed ymlaen.

Yng Nghymru, fel y nodais yn gynharach—. A ddoe, cawsom gyhoeddiadau ynglŷn â'r sector addysg bellach yn ymgysylltu mwy â'r partneriaethau sgiliau rhanbarthol yr oedd Llywodraeth Cymru i'w gweld yn cydnabod nad oeddent yn gallu chwarae’r rhan ganolog y mae angen iddynt ei chwarae, gan iddynt gyhoeddi bod angen iddynt benodi ymgynghorydd annibynnol i helpu gyda’r ffordd ymlaen. Mae’r cyferbyniad yn wirioneddol drawiadol. Mae'r Ysgrifennydd addysg wedi dweud ei bod yn gobeithio y gellir ailwampio addysg bellach yn llwyr cyn diwedd tymor y Cynulliad hwn. Nid gobeithio y gellir gwireddu hynny rwyf fi; rwy'n credu bod yn rhaid gwireddu hynny. Mae hyn yn angenrheidiol er mwyn cynllunio'n strategol ar gyfer y ffordd ymlaen.

Nawr, fel y dywedais, rydym mewn sefyllfa amhosibl o ran economi Cymru. Ar ryw adeg, bydd angen inni wneud penderfyniad ynglŷn â sut i wneud cynnydd economaidd go iawn, gan nad yw ein dinasyddion yn mynd i oddef dau ddegawd arall o ddirywiad wedi'i reoli. Rwyf wedi dweud yn y Siambr hon yn y gorffennol fod ein cynnyrch domestig gros, ar ddechrau datganoli, yn debyg i un Gweriniaeth Iwerddon; bellach, nid yw’r wlad honno’n gallu ein gweld yn eu drych ôl, hyd yn oed.

Mae’r fath beth â niweidio drwy wneud dim yn bosibl. Credaf mai’r hyn yr hoffem ei weld yw ymrwymiad i gyflwyno’r weledigaeth strategol sydd ei heisiau a'i hangen ar y sector; diogelu cyllid a blaenoriaethu ar gyfer cynnydd mewn termau real; cynllunio addysg a sgiliau fel eu bod yn cydblethu â’n hanghenion economaidd; cynyddu buddsoddiad mewn arloesi; a phenderfynu i ble rydym yn dymuno mynd fel cenedl—beth yw ein pwynt gwerthu unigryw, lle rydym am fuddsoddi ein sgiliau ar gyfer y dyfodol a beth rydym yn dymuno’i gyflawni? Sut y gallwn sicrhau bod ein busnesau'n fwy hyfyw yn fasnachol, creu mwy o entrepreneuriaid a chadw’r bobl a’u syniadau yma yng Nghymru, gan hyrwyddo Cymru a gweithio yng Nghymru? Rydym yn barod i weithio gyda Llywodraeth Cymru, ond mae’n rhaid iddynt ymateb i’r her a chyflawni yn y sector hwn.

15:55

Mae colegau addysg bellach yn rhan hanfodol o'n system addysg. Maent yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd dysgu gydol oes, o addysg alwedigaethol a thechnegol a sgiliau sylfaenol i gymwysterau academaidd a lefel uwch. O gofio bod datblygu sylfaen sgiliau gweithlu Cymru yn hanfodol ar gyfer tyfu economi Cymru, byddech yn disgwyl y byddai ariannu addysg bellach yn ddigonol yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru.

Ond nid yw hyn yn wir. O dan Lywodraeth Cymru, neu Lywodraeth Lafur Cymru, mae'r sector addysg bellach wedi'i danariannu'n sylweddol ers blynyddoedd lawer. Bydd y gyllideb ar gyfer y ddarpariaeth addysg bellach yn lleihau o ychydig o dan £401 miliwn yn 2018 i lai na £396 miliwn yn 2019-20. Dywed y swyddfa archwilio fod cyllid grant yn y sector wedi gostwng 13 y cant mewn termau real rhwng 2012 a 2017—o fewn pum mlynedd, Weinidog, mae wedi lleihau 13 y cant, sy'n ffigur syfrdanol.

Mae cyllid ar gyfer cyrsiau rhan-amser wedi gostwng 71 y cant dros yr un cyfnod. Mae'r effaith ar niferoedd myfyrwyr rhan-amser wedi bod yn ddramatig. Gostyngodd nifer y dysgwyr rhan-amser mewn sefydliadau addysg bellach o dros 85,280 yn 2014-15 i ychydig dros 65,345 yn 2015-16—dirywiad o bron i chwarter yn y niferoedd.

Mewn ymateb i danariannu gan Lywodraeth Cymru, mae colegau wedi rhoi cynnig ar sawl ffordd wahanol o greu incwm o ffynonellau eraill, ac maent wedi ennyn canmoliaeth am wneud hynny. Roedd adolygiad Swyddfa Archwilio Cymru 2017 yn canmol colegau am ba mor wydn ac entrepreneuraidd y buont wrth ddenu ei hincwm masnachol eu hunain. Dywedasant,

'Mae’r sector wedi dangos cydnerthedd, gan gynnal cronfeydd arian parod wrth gefn a hylifedd a chynhyrchu gwargedau sylfaenol... bob blwyddyn.'

Rwy'n llwyr gefnogi'r modd y mae colegau'n cynyddu a datblygu eu hincwm masnachol, ac rwy'n eu llongyfarch am eu llwyddiant wrth wneud hynny. Fodd bynnag, mae'n ffaith o hyd mai grant Llywodraeth Cymru yw'r brif ffynhonnell o incwm dibynadwy i golegau. Ar hyn o bryd, nid yw'r ffynhonnell honno'n diwallu anghenion y sector. Mae strategaeth genedlaethol Llywodraeth Cymru yn datgan

'Ein nod yw creu’r awydd ym mhawb i ddysgu drwy gydol eu bywydau, a’u hysbrydoli i fod y gorau y gallant fod.'

Mae'n amlwg, o ran addysg bellach, mai Llywodraeth Cymru ei hun sy'n brin o uchelgais. Mae Cymru angen fformiwla deg ar gyfer ariannu addysg bellach, ychydig o gymorth a gynigir yn y gyllideb bresennol ar gyfer datblygiad parhaus mewn addysg bellach. Rydym angen fformiwla sy'n osgoi toriadau pellach i gyllid craidd colegau ac sy’n diwallu anghenion y sector, ar hyn o bryd ac yn y dyfodol—un sy'n cyd-fynd â blaenoriaethau allweddol Llywodraeth Cymru ei hun sef swyddi, sgiliau, twf ar lefel uchel a dysgu gydol oes a dysgu oedolion. Credaf y byddai hyn yn gwneud llawer i wella morâl y staff sy'n gweithio mewn sefydliadau addysg bellach.

Yn ddiweddar, cysylltodd etholwr sy'n gweithio yn y sector â mi. Noda fod llawer o’i gydweithwyr yn ennill llai mewn termau real nag y gwnaent yn 2008—dros 10 mlynedd yn ôl, roedd ei incwm yn fwy na’r hyn y mae’n ei ennill ar hyn o bryd. Mae rhai wedi gorfod gwneud ail swyddi i gynnal eu teuluoedd, ac eraill wedi gadael y sector yn gyfan gwbl am well cyflog mewn meysydd eraill. Dyna brofiad darlithwyr, tiwtoriaid ac athrawon; maent yn gadael y sector am resymau ariannol. Mae hynny'n gwbl annerbyniol. O ganlyniad, mae fy etholwr yn dweud bod prinder difrifol yng Nghymru o ymgeiswyr am swyddi sy'n galw am sgiliau arbenigol, megis darlithwyr adeiladu a pheirianneg.

Ddirprwy Lywydd, gall pob un ohonom gefnogi amcanion clodwiw Llywodraeth Cymru mewn perthynas ag addysg bellach, ond oni bai fod y sector yn cael ei ariannu'n briodol, ni fydd eu nodau’n cael eu cyflawni. Oni bai fod addysg bellach yng Nghymru yn cael y cyllid y mae ei angen ac y mae'n ei haeddu, ni fydd yn gatalydd ar gyfer y newid rydym ei daer angen.

Maes arall yr hoffwn ei grybwyll, Weinidog—.

16:00

Rhaid sicrhau bod pobl Affro-Garibïaidd, pobl anabl, pobl LGBT ac eraill yn cael addysg bellach hefyd. Ac yn olaf, ni ddylai tlodi fod yn rhwystr i addysg. Diolch.

Mae colegau addysg bellach Cymru yn chwarae rhan allweddol yn economi Cymru. Fel y mae ColegauCymru wedi ein hatgoffa, mae eu heffaith economaidd flynyddol ar y gymuned fusnes leol yn £4 biliwn. Ac yn ychwanegol at y cyfraniad hwn, heb os, mae ganddynt rôl strategol hanfodol i'w chwarae yn paratoi'r economi yng Nghymru ar gyfer y dyfodol.

Yn 'Ffyniant i Bawb', mae Llywodraeth Cymru'n nodi sut y bydd yn adeiladu economi sy'n seiliedig ar sylfeini cadarn, gan ganolbwyntio ar ddiwydiannau'r dyfodol a rhanbarthau wedi'u grymuso, a'r modd y defnyddir twf cynhwysol i leihau anghydraddoldebau cynhenid wrth i'n cyfoeth a'n lles wella. Ond fel y cawsom ein hatgoffa gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes ddoe ddiwethaf, er mwyn i Lywodraeth Cymru adeiladu economi sy'n gweithio i bawb, rhaid i'r sector addysg bellach fod wrth wraidd yr agenda hon. Ac mae'n hawdd gweld bod y sector addysg bellach yn darparu'r atebion a'r datrysiadau mewn perthynas ag ystod eang o heriau sy'n wynebu Cymru.

Er enghraifft, tua mis yn ôl, buom yn trafod adroddiad pwyllgor yr economi ar ddyfodol economi Cymru. Yn ystod yr ymchwiliad hwn, clywsom dystiolaeth fod gweithwyr heb lawer o sgiliau, a menywod yn arbennig, yn debygol o fod mewn perygl yn sgil awtomeiddio a deallusrwydd artiffisial. O ganlyniad, roeddem yn argymell y dylai ail-hyfforddi a gwella sgiliau fod yn ganolog ym mholisi dysgu gydol oes y Llywodraeth.

Mae hwn yn faes lle mae'r sector addysg bellach mewn sefyllfa dda i wneud y cyfraniad canolog hwnnw ac yn fwy na hynny, mae'n un lle y gall helpu i ddylanwadu ar beth y dylai natur y dyfodol hwnnw fod. Fel yr awgrymodd yr Athro Richard Davies, mae angen inni ddatblygu system drionglog o gyfnewid rhwng addysg bellach, cyflogwyr ac addysg uwch. Gallai hyn gynnwys yr angen i'r sector wneud rhai penderfyniadau anodd. Efallai na fyddant yn rhai poblogaidd. Er enghraifft, efallai y bydd raid i golegau benderfynu canolbwyntio ar y sgiliau TGCh y mae eu taer angen arnom ar gyfer y dyfodol, ac ehangu meysydd dysgu fel gwaith gwirioneddol gyffrous Coleg y Cymoedd ar adeiladu cynaliadwy. Gallai'r rhain fod ar draul meysydd addysgu poblogaidd eraill, ond wrth ddewis pa gyrsiau i ganolbwyntio arnynt a'u blaenoriaethu, mae gwir raid inni gofio'r budd gorau i'r economi ac i'n gwlad. Felly, rwy'n croesawu sylwadau'r Gweinidog ddoe fod ei swyddogion wedi bod yn gweithio i sicrhau bod y ddarpariaeth yn cyd-fynd yn well â'r partneriaethau sgiliau rhanbarthol. Mae hyn yn allweddol i ddatblygiad cyflogaeth eglur, osgoi gwaith am gyflogau isel a sicrhau bod y ddarpariaeth yn diwallu anghenion cyflogwyr lleol.

Mae dysgu oedolion yn y gymuned yn faes arall lle mae rhan bwysig gan y sector addysg bellach i'w chwarae. Mae llawer o waith da eisoes yn digwydd, ond hoffwn weld mwy o weithio mewn partneriaeth gydag addysg oedolion yn y gymuned, mwy o allgymorth i'r cymunedau mwyaf heriol, a mwy o gydgysylltu ar y rheng flaen i sicrhau bod y rhai mwyaf anodd eu cyrraedd yn cael eu dwyn i mewn i'r amgylchedd dysgu. Gwn fod y Gweinidog wedi siarad am newidiadau mewn perthynas â darpariaeth ran-amser, a gallai hynny fod yn arbennig o bwysig yma.

Wrth gwrs, mae cyflawni'r nodau hyn yn dibynnu ar sicrhau bod addysg bellach yn cael ei hariannu'n briodol. Yng nghampws newydd yr unfed ganrif ar hugain yng Ngholeg y Cymoedd, Aberdâr, ceir symbol gweladwy iawn o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i hyn. Cyfeiriodd y Gweinidog ddoe at arian ychwanegol a fydd ar gael i'r sector. Wrth gwrs, ni ellir cyflawni dim o hyn heb weithlu cefnogol sydd, yn ei dro, yn teimlo'i fod yn cael ei gefnogi a'i werthfawrogi. O'r safbwynt hwn, rwy'n croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ddoe ynglŷn â chyflogau. Mae'n gam pwysig ymlaen ac yn newyddion i'w groesawu y caiff cyllid ei ddarparu er mwyn i ddarlithwyr addysg bellach gael dyfarniad cyflog sy'n cyfateb i un athrawon ysgol. Yn bwysig, bydd hyn hefyd yn cael ei ymestyn i gynnwys staff ategol allweddol, fel technegwyr ac arddangoswyr hyfforddi hefyd. Mae hwn yn ymyriad allweddol yn fy marn i gan Lywodraeth Cymru. Gyda fy nghyd-Aelodau Mick Antoniw a Hefin David, cefais drafodaethau gydag aelodau'r Undeb Prifysgolion a Cholegau yng Ngholeg y Cymoedd ac rwy'n gobeithio y byddai'r camau hyn yn mynd beth o'r ffordd tuag at ddangos i'r staff dan sylw cymaint y cânt eu gwerthfawrogi; faint o barch sydd i'w gwaith a'u cyfraniad.

Wrth gwrs, ni allwn ddadwneud effaith obsesiwn Llywodraeth y DU â chyni. Mae Cymru £4 biliwn ar ei cholled i bob pwrpas o ganlyniad i agenda cyni Llywodraeth y DU ac nid oes unrhyw amheuaeth fod cyllid ar gyfer addysg bellach wedi dioddef o ganlyniad. Ond gallwn weithio gyda'r sector i gyflawni ein nodau cyffredin, ac ni allwn sicrhau ffyniant i bawb heb inni barhau i fuddsoddi mewn addysg bellach.

16:05

Mae'n bleser cymryd rhan yn y ddadl bwysig yma sydd yn rhoi llwyfan i ni allu trafod cyllido addysg bellach yma yng Nghymru. Rwy'n llongyfarch Bethan ar ddod â'r cynnig gerbron a hefyd am ei holl waith yn y cefndir i wireddu beth rydym ni wedi'i weld yn y cynnig sydd o'n blaenau ni. 

Cyn imi fynd ymlaen, mae'n bwysig hefyd i dalu teyrnged, fel y mae eraill wedi'i wneud, i'r gwaith clodwiw sy'n cael ei wneud yn y maes yn ein gwahanol golegau addysg bellach. Roeddwn i yng Ngholeg Gŵyr wythnos diwethaf, yn Nhycoch, Abertawe, ac roeddwn i yna ryw ddeufis yn ôl hefyd. Mae'n rhaid dweud, mae yna waith bendigedig yn mynd ymlaen, yn enwedig yng Ngholeg Gŵyr achos mae ganddyn nhw ganolfan yn fanna sydd yn addysgu'r sawl sydd efo awtistiaeth. Mae o yn adnodd bendigedig, arloesol a dweud y gwir, sy'n rhoi digon o amser tawel i'n pobl ifanc ni sydd ag awtistiaeth i allu cael addysg—weithiau am y tro cyntaf. Hynny yw, dod i mewn i'r system addysg am y tro cyntaf mewn awyrgylch sydd yn hynod ddeniadol iddyn nhw efo beth sydd gyda nhw yn y cefndir a'r holl broblemau y maen nhw wedi bod drwyddyn nhw, ac mae yna adnodd bendigedig gyda staff bendigedig sy'n rhoi'r amser a'r teilyngdod i'r gwahanol heriau sydd gyda'n pobl ifanc ni sydd â chyflwr awtistiaeth. Mae yna ragolygon fod y gwaith bendigedig yna sy'n mynd ymlaen yng Ngholeg Gŵyr yn dod ac yn blodeuo ac mae'r lle yn ehangu y ddarpariaeth gogyfer hynny ac mae hynny'n fater pwysig.

Yn nhermau sgiliau, rydym ni'n sôn am gryfhau a rhoi dyfodol gwirioneddol i'n pobl ifanc ni, beth bynnag yw eu cefndir a beth bynnag yw eu gwahanol heriau gwasanaeth iechyd nhw hefyd. Felly, mae yna waith rhyfeddol yn mynd ymlaen ac mae eisiau tynnu sylw at hynny, er yr holl bwyslais a'r holl bwysau yn y cefndir, wrth gwrs, ynglŷn â chyllido a'r pwysau sydd ar gyllido. 

Fel mae'r darn cyntaf o'r cynnig yma'n ei ddweud—. Mae'r cynnig yn dweud, rydym ni'n

'gresynu bod cyllid ar gyfer addysg bellach wedi bod o dan bwysau sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf o ganlyniad i doriadau cyllidebol.'

Wel, mater o ffaith ydy hynny. Nid ydw i'n credu y buasai neb yn cwympo allan yn nhermau hynny ac mae hynny'n osodiad synhwyrol iawn i roi gerbron ac nid ydw i'n credu y buasai neb yn dadlau efo hynny. Wrth gwrs, rydym ni yn mynegi pryder, fel y mae rhan arall o'r cynnig yma'n ei ddweud:

'mynegi pryder bod staff mewn sefydliadau addysg bellach yn ystyried mynd ar streic dros gyflogau annigonol'— 

fel maen nhw'n eu gweld—a hefyd y pryderon rydym ni wedi clywed amdanyn nhw eisoes ynglŷn â llwythi gwaith trwm.

Yn y cyd-destun, fel rydw i wedi'i ddweud eisoes yn nhermau Coleg Gŵyr, fod yna waith bendigedig yn mynd ymlaen, mae yna bobl yn gweithio yn galed, galed iawn dros ddyfodol ein pobl ifanc ni. Achos ar ddiwedd y dydd, fel y mae Bethan wedi'i ddweud eisoes yn gosod y sefyllfa allan mewn ffordd mor glir y prynhawn yma, rydym ni'n sôn am sgiliau, yr agenda sgiliau. Yn y pen draw, rydym ni'n sôn am swyddi i'n pobl ifanc. Mae'n dal yn her sylweddol i'n pobl ifanc ni i gael swyddi i ddechrau, i gael troed yn y farchnad yna, i gael swydd am y tro cyntaf. Mae'n hanfodol bwysig eu bod nhw'n cael yr holl gefnogaeth i gyrraedd y sefyllfa yna i wneud hynny.

Oes, mae angen gweledigaeth glir ar ran y Llywodraeth, fel y mae Bethan wedi'i nodi eisoes, achos hefyd ar y gorwel, fel rydym ni i gyd yn ei wybod—. Rydym ni’n gwybod bod ariannu addysg bellach yn dod o nifer o wahanol ffynonellau. Wrth gwrs, mae yna her sylweddol i’r ffrwd yna sydd yn dod o Ewrop nawr achos, wrth gwrs, fel rydym ni i gyd yn gwybod bellach, buaswn i’n gobeithio, fod Brexit gerbron ac mae yna heriau sylweddol i beth sy’n digwydd efo ariannu o unrhyw ffynhonnell Ewropeaidd sydd yn mynd tuag at ein colegau addysg bellach ni. Mae yna her sylweddol yn fanna. Rydym ni’n edrych ymlaen, wrth gwrs, i weld bod yr addewidion ynglŷn â chyllido Ewropeaidd sy’n dod i’r sector yma, a sawl sector arall yng Nghymru, a oedd yn arfer dod o dan gronfeydd Ewropeaidd yn cael eu gwireddu, a bod yr un math o bres yn mynd i ddod i’n colegau addysg bellach ag y maen nhw wedi bod yn ei gael o dan adnoddau Ewropeaidd yn y gorffennol.

Ond i grynhoi, felly, rydw i’n falch iawn i gyfarch Bethan ar ei gwaith caled y tu ôl i’r llenni yn fan hyn, yn dod â’r cynnig yma gerbron, a buaswn i’n annog pob un ohonoch chi i gefnogi’r cynnig. Diolch yn fawr.

16:10

A gaf fi ddweud hyn: o na bai bywyd mor syml ag y mae'r cynnig hwn yn ceisio awgrymu? O na baem yn gallu pasio cynigion sydd wedyn yn darparu arian i gyllido ein gwasanaethau cyhoeddus niferus, ond nid yw bywyd byth mor hawdd â hynny, yn anffodus, oherwydd, o'r hyn rwy'n ei wybod, ac er gwaethaf yr hyn y mae Prif Weinidog y DU yn ei ddweud, mae'n amlwg nad yw cyni ar ben a dyna yw'r cysgod sy'n parhau i hongian dros ein pennau. Mae pwysau cyni'n dal i wasgu ar ein gwasanaethau cyhoeddus, a rhaid gwneud dewisiadau anodd.

Ond yn groes i'r hyn a honnwyd gan y sawl a wnaeth y cynnig, un o'r dewisiadau a wnaed gan y Llywodraeth hon yw'r ymdrech i wella ein heconomi a chefnogi datblygu sgiliau i helpu i gyflawni'r nod hwnnw. Ac rwy'n falch o weld bod y sector addysg bellach yn ganolog i'r agenda honno i adeiladu economi Gymreig a all weithio i bawb. Rwyf wedi gweld yr agenda honno'n cael ei rhoi ar waith yn fy etholaeth i, Merthyr Tudful a Rhymni, lle mae gennym gyfleuster ardderchog yng ngholeg Merthyr Tudful sy'n darparu amrywiaeth o gyfleoedd academaidd a galwedigaethol—miloedd o bobl yn elwa ar y buddsoddiad mewn rhaglenni sgiliau, gan helpu i drawsnewid cyfleoedd bywyd. Mae'n dangos dyfnder a chyrhaeddiad ymrwymiad Llywodraeth Cymru i weithio gyda'r sector addysg bellach, wedi'i chynorthwyo mewn cymaint o ffyrdd gan gyllid o'r Undeb Ewropeaidd i sicrhau bod addysg ôl-16 yn darparu'r hyn y mae dysgwyr a chyflogwyr yn chwilio amdano.

Ond wrth gwrs, ceir heriau o hyd wrth helpu pobl i wneud y dewisiadau cywir neu ddewisiadau nad ydynt o reidrwydd yn cyd-fynd â'r ystrydeb ond sy'n manteisio ar y doniau a fydd gan bobl ond nad ydynt wedi'u datblygu eto. Er enghraifft, ym Merthyr Tudful—a gwn fy mod wedi trafod hyn o'r blaen gyda'r Gweinidog—rhaid imi ddweud y byddai'n dda pe gallem weld mwy o fenywod yn dod yn beirianwyr yn hytrach na phobl trin gwallt neu fwy o ddynion yn dod yn ofalwyr yn hytrach nag adeiladwyr, gan y gwyddom fod gwneud y dewisiadau cywir ynglŷn â sgiliau a dysgu yn gallu agor drysau i gyfleoedd gwaith a chyflogau gwell. Felly, rhaid i'r sector sicrhau'r cydbwysedd cywir rhwng dewis dysgwyr ac anghenion cyflogwyr lleol, ac felly rwy'n croesawu'r cynnig y dylai partneriaethau sgiliau helpu i benderfynu ar yr anghenion a'r cyfleoedd y mae'r rhain yn eu darparu.

O ystyried yr her yn rhai o'n cymunedau yn y Cymoedd, rwy'n croesawu'r ymchwil a gyhoeddodd y Gweinidog ddoe i ymgodiad amddifadedd oherwydd rwy'n credu weithiau fod angen help llaw ychwanegol er mwyn ymyrryd, torri cylchoedd amddifadedd a helpu i wella symudedd cymdeithasol. Sgiliau a dysgu yw'r allwedd i hyn.

Yn olaf, a gaf fi groesawu'r penderfyniad a wnaed gan Lywodraeth Cymru i ddarparu arian i helpu gyda'r dyfarniad cyflog ar gyfer staff addysgu a chymorth mewn addysg bellach? Gobeithio y bydd yn helpu i atal yr anghydfod cyflog rhag gwaethygu, oherwydd rwyf wedi bod yn bryderus ynglŷn â'r ffordd y mae pethau wedi bod yn mynd gyda'r negodiadau cyflog addysg bellach. Rwyf wedi bod yn bryderus y byddai darlithwyr addysg bellach ar eu colled o gymharu ag athrawon dosbarth chwech mewn ysgolion, ac rwyf wedi bod yn bryderus y byddai staff cymorth addysg bellach ar eu colled o gymharu â darlithwyr ac athrawon o safbwynt eu dyfarniadau cyflog. Ac fel y dywedodd Vikki Howells, ni all ysgolion a cholegau weithredu heb staff cymorth, ac eto y grŵp hwnnw, sydd ymysg y rhai ar y cyflogau isaf yn y sector, sydd wedi bod ar y llwybr tuag at gytundeb cyflog digyfnewid arall ac sydd wedi dod yn bêl-droed wleidyddol yn y frwydr gyda Llywodraeth Cymru am gyllid i golegau. Yn fy nhrafodaethau gyda'u hundeb, Unsain, gwn eu bod bellach yn edrych am driniaeth gyfartal o ran dyfarniadau cyflog rhwng staff darlithio a staff cymorth, oherwydd mae darparwyr addysg bellach yn dibynnu ar eu tîm staff cyfan i gyflawni'r canlyniadau gorau. Ond rwy'n glir hefyd nad ydym yn datrys anghydfod cyflog drwy basio cynigion yn y Senedd hon; mater i'r cyflogwyr a'r undebau llafur yw hynny. Ac o ystyried y cyhoeddiad ddoe, rwy'n gobeithio y gall y ddwy ochr ddod at ei gilydd yn awr i ddatrys yr anghydfod cyflog, sy'n amlwg wedi bod yn mynd rhagddo'n rhy hir. Gyda datganiad y Gweinidog ddoe, rwy'n credu bod Llywodraeth Cymru wedi dangos ei hymrwymiad clir i addysg bellach a'i phwysigrwydd i'n heconomi, a dylai pawb groesawu hynny.

16:15

Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi ymwneud â chyflwyno'r ddadl bwysig hon heddiw. Mae ein colegau addysg bellach yn ddolen hanfodol yn y gadwyn addysg ac mae'n hanfodol ein bod yn sicrhau eu bod yn cael eu hariannu'n ddigonol ac yn cael adnoddau digonol. Cefais y pleser o weithio'n agos gyda choleg Gŵyr yn fy rhanbarth i, coleg addysg bellach mawr gyda dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o dysgwyr rhan-amser o bob rhan o'r rhanbarth. Mae'r awyrgylch yng ngholeg Gŵyr yn well na'r un, ac anogir y disgyblion i fod y gorau y gallant fod. Mae rhai disgyblion ag awtistiaeth, ac mae'r darlithwyr yn gweithio'n galed iawn i roi'r gefnogaeth y maent ei hangen i ddisgyblion yn ôl eu hanghenion. Maent wedi cyflawni pethau anhygoel.

Mae'r coleg yn falch o'r ffaith mai yno y ceir y garfan fwyaf yng Nghymru o bobl ifanc sy'n gwneud Safon Uwch gyda dros 1,500 o fyfyrwyr yn astudio amrywiaeth o bron i 50 o bynciau Safon Uwch gwahanol. Mae coleg Gŵyr, fel pob coleg addysg bellach, yn chwarae rhan hollbwysig yn addysgu ein pobl ifanc a darparu cyfleoedd dysgu gydol oes ar gyfer pobl o bob oed. Felly, mae'n destun pryder fod toriadau cyllid yn bygwth y rôl hanfodol hon.

Mae ein colegau addysg bellach yn wynebu galw cynyddol gan y Llywodraeth, ac eto maent wedi parhau i weld toriadau i'w cyllidebau. Mae'r sector addysg bellach yn darparu gwasanaeth yr un mor werthfawr â'r hyn a ddarperir gan ein hysgolion, ac eto yn wahanol i ysgolion, nid yw eu cyllidebau'n cael eu diogelu, a'r staff sydd wedi gorfod ysgwyddo baich y toriadau hynny. Mae darlithwyr coleg yn ei chael hi'n anodd wedi blynyddoedd o godiadau cyflog gwael. Mae darlithwyr addysg bellach yn chwarae rhan yr un mor werthfawr ag athrawon ac eto nid ydynt yn cael eu trin yr un fath. Mae llawer o ddarlithwyr wedi dweud eu bod yn methu talu eu rhent neu'n cael eu gorfodi i wneud ail swyddi er mwyn cael deupen llinyn ynghyd. Nododd staff mewn un coleg eu bod yn mynd heb brydau bwyd yn rheolaidd oherwydd na allent eu fforddio.

Nid yw'n syndod fod staff addysg bellach wedi pleidleisio i fynd ar streic. Mae hyn yn rhoi'r colegau mewn sefyllfa amhosibl. Mae eu cyllid wedi'i dorri'n sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf: toriad cyffredinol o 6 y cant yn 2015-16, a thorrwyd cyllid rhan-amser yn ei hanner yn y cyfnod hwnnw hefyd. Yn y saith mlynedd diwethaf, nid yw cyllid i'r sector addysg bellach wedi cynyddu y nesaf peth i ddim, ond mae eu costau, sy'n cynnwys dyfarniadau cyflog, wedi cynyddu dros 12.5 y cant. Mae cyfraniadau pensiwn colegau yn mynd i godi tua 40 y cant y flwyddyn nesaf. Felly, mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn cytuno fan lleiaf i alwad ColegauCymru am gynnydd ar unwaith o 3.5 y cant ar gyfer y sector addysg bellach.

Rwy'n croesawu datganiad y Gweinidog ddoe, a gyhoeddodd y bydd arian yn cael ei ryddhau i ariannu dyfarniad cyflog sy'n gymesur â'r hyn a gaiff athrawon. Fodd bynnag, fel bob amser, rydym yn aros i weld y manylion. Edrychaf ymlaen at weld darlithwyr a staff colegau'n cael codiad cyflog o 3.5 y cant, ond o ystyried sylwadau'r Gweinidog am fethodoleg well ar gyfer ariannu addysg bellach, rwy'n aros i weld y manylion gan na ddynododd y Gweinidog unrhyw gynnydd yn y cyllid.

Mae colegau megis coleg Gŵyr yn amhrisiadwy ac ni allwn fforddio eu colli. Mae'n bryd gwrthdroi'r toriadau a sicrhau bod colegau a'r rhai sy'n eu staffio'n cael eu hariannu'n briodol a'u trin yn deg. Rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi'r cynnig hwn heddiw. Diolch i chi.

Diolch. A gaf fi alw ar Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Eluned Morgan?

Diolch yn fawr, a diolch i'r Aelod a wnaeth gyflwyno'r ddadl a'r rheini sydd wedi cyfrannu hefyd. A gaf i ei gwneud hi'n glir fy mod i, fel cymaint ohonoch chi, yn flin bod ein gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys addysg bellach, wedi bod o dan bwysau sylweddol dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf? Mae'n rhaid i mi danlinellu, wrth gwrs, mai agenda cyni Llywodraeth Dorïaidd y Deyrnas Unedig sydd yn gyfan gwbl gyfrifol am hyn, ac mae hyn wedi atal posibiliadau i ni fynd ymhellach nag y byddem ni wedi hoffi mynd i gynnal a chefnogi y sector pwysig yma. Ac wrth gwrs fy mod i’n ymwybodol dros ben o’r ffigurau y gwnaeth Mohammad Asghar eu cyflwyno gynnau.

Mae’n bwysig ein bod ni’n cydnabod bod y sector addysg bellach yn gwneud cyfraniad pwysig i economi Cymru, ac mae’r sector mewn lot gwell cyflwr na’r system addysg bellach dros y ffin. Fel canlyniad i’r toriadau, mae’n rhaid i ni sicrhau ein bod yn gwneud y mwyaf o’r arian sydd gyda ni a'n bod ni’n darparu gwasanaeth ar draws Cymru mewn ffordd deg. A dyma un o’r rhesymau pam ein bod ni wedi newid y ffordd y byddwn ni’n ariannu ac yn cytuno i raglenni cynllunio effeithiol fel ein bod ni’n ymateb i newidiadau demograffig ac yn ymateb i anghenion yr economi lleol. Rŷm ni wedi neilltuo £7 miliwn yn ychwanegol yng nghyllideb drafft 2019-20 i gefnogi’r sector addysg bellach i fynd i’r afael â’r newidiadau o ran demograffeg.

Nawr, mae’r datganiad heddiw yn sôn am y galw ychwanegol a fydd yn dod fel canlyniad i’r rhaglen gyflogadwyedd. Un o’r pethau a oedd yn glir yn y rhaglen gyflogadwyedd oedd bod angen i ni gynyddu nifer y cyrsiau sy’n ymateb i’r galw gan gyflogwyr. Fel canlyniad, byddaf yn cynnig syniad i’r colegau roi blaenoriaeth i’r rhain dros gyrsiau eraill maen nhw’n eu darparu heddiw, yn y ffordd y gwnaeth Dawn Bowden sicrhau ei bod hi wedi amlinellu. Ond mae’n rhaid pwysleisio bod y rhain yn gyrff annibynnol, er eu bod nhw’n cael eu hariannu’n sylweddol gan Lywodraeth Cymru.

Credaf hefyd ei bod hi'n werth pwysleisio nad cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yn unig yw gwella sgiliau a hyfforddi'r gweithlu. Mae angen i gyflogwyr hefyd roi eu dwylo yn eu pocedi gan mai'r cyflogwyr a fydd yn elwa o wella cynhyrchiant yn y pen draw. Mae angen inni weld y cyflogwyr yn gwneud rhagor o ran paratoi a hyfforddi a buddsoddi o ddifrif yn eu gweithwyr eu hunain. Rydym yn edrych ac yn ceisio dysgu o'r enghreifftiau o Wlad y Basg, felly rydym yn cadw llygad manwl ar beth sy'n digwydd yno i weld a allwn ddysgu o'u henghreifftiau hwy.

Nid wyf i eisiau ailadrodd y pwyntiau wnes i ddoe, felly byddwn i’n argymell i bobl ddarllen y datganiad os ydych chi eisiau gwybod mwy am y ffordd y byddwn ni’n cyllido colegau addysg bellach yn y dyfodol.

Rwy'n credu bod ein sector addysg bellach yn un y dylem fod yn falch ohono. Cynhaliwyd The Skills Show, a reolir gan WorldSkills UK, yn Birmingham yr wythnos diwethaf, ac rwy'n falch o gyhoeddi bod ffigurau dangosol yn dangos bod tîm Cymru wedi dod â chyfanswm o 51 o fedalau yn ôl adref, gan gynnwys 14 medal aur, 20 medal arian, 12 medal efydd a chwe chanmoliaeth arbennig. Mae'n fwy nag y cafwyd y flwyddyn flaenorol. Rwyf hefyd yn falch o ddweud bod gennym bedwar coleg o Gymru yn y 10 uchaf yng nghynghrair y darparwyr: Coleg Cambria, Grŵp Llandrillo Menai, Coleg Gwent a Choleg Gŵyr Abertawe. Credaf fod y marc ansawdd hwnnw'n rhywbeth rydym yn edrych amdano o ddifrif yn ein colegau, gan wneud yn siŵr ein bod yn gwella ein safonau o un flwyddyn i'r llall. Nid yw colegau byth yn peidio â bod yn arloesol o ran cynllunio'r cwricwlwm, ac rydym angen iddynt edrych am ffyrdd newydd a gwell o gyflwyno'r ddarpariaeth bob amser. Mae'n amlwg fod staff mewn sefydliadau addysg bellach wedi bod o dan bwysau sylweddol dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, a hoffwn ddiolch iddynt am eu cymorth parhaus a'u brwdfrydedd a'u hymroddiad i'r dysgwyr yn eu gofal.

Wrth gwrs, rydym wedi bod yn monitro'n ofalus y negodiadau cyflogau addysg bellach sydd ar y gweill ar hyn o bryd, ac er mai cyfrifoldeb colegau addysg bellach Cymru yw'r negodiadau hyn o hyd, yn uniongyrchol gyda'r undebau, drwy gorff ymbarél ColegauCymru, rwy'n falch o gyhoeddi fy mod i ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi ysgrifennu at gadeirydd ColegauCymru i gyhoeddi y byddem yn cefnogi codiad cyflog, nid yn unig i'r staff addysgu, fel y soniais ddoe, ond hefyd i staff cymorth. Felly, byddwn yn darparu £3.2 miliwn yn 2018-19 a £4.8 miliwn yn 2019-20, yn amodol, wrth gwrs, ar basio a chymeradwyo cyllideb derfynol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019-20.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gallu darparu help a chymorth ychwanegol ar gyfer cyflogau yn 2018-19 a 2019-20, gan gydnabod bod y rhain yn amgylchiadau eithriadol, yn dilyn penderfyniad Llywodraeth y DU i anwybyddu ei chap cyflog ei hun o 1 y cant ar gyfer gweithwyr sector cyhoeddus ac i ffurfio dyfarniad cyflog o hyd at 3.5 y cant ar gyfer staff addysgu. Rydym yn falch fod hwnnw bellach wedi ei gywiro gan Lywodraeth Cymru.

Rwyf am ddiolch i'r sector addysg bellach cyfan am eu gwydnwch a'u hyblygrwydd drwy'r hyn sydd wedi bod yn gyfnod eithriadol o anodd. Mae'r sector yn chwarae rhan hanfodol yn darparu'r sgiliau a'r hyfforddiant sydd eu hangen ar ein dysgwyr i fynd i'r afael â galwadau ein heconomi. Mae ein neges yn glir: rydym wedi ymrwymo i ddarparu'r system addysg orau a allwn i ddysgwyr o bob oed. Ond fel Llywodraeth, byddwn yn pleidleisio yn erbyn y penderfyniad hwn oherwydd mae'n methu nodi bod y toriadau i gyllid wedi'u hachosi gan bolisïau cyni'r Torïaid. Yn ail, nid ydym yn derbyn bod pwysau ychwanegol wedi'i roi ar golegau addysg bellach o ganlyniad i'r cynllun cyflogadwyedd. Rydym yn awgrymu eu bod yn ail-flaenoriaethu'r ddarpariaeth y maent yn ei chynnig i ymateb i alwadau'r farchnad lafur. Yn drydydd, rydym yn falch ein bod wedi gallu cefnogi staff addysg bellach, yn ddarlithwyr a staff cymorth, wrth iddynt alw am fwy o gyflog, a gobeithiwn y bydd hyn yn helpu i osgoi gweithredu diwydiannol.

Yn olaf, er ein bod yn cytuno na fyddem eisiau gweld unrhyw ostyngiad pellach yn y cyllid a roddir i addysg bellach oherwydd ei rôl allweddol yn ffurfio sgiliau yfory, ni allwn roi'r ymrwymiad hwn tra bo gennym Lywodraeth Dorïaidd sy'n benderfynol o fwrw ymlaen gydag agenda cyni. Diolch.

16:25

Diolch. Diolch i chi, bawb sydd wedi cymryd rhan. O'r hyn y gallaf ei gasglu, mae gennym gonsensws yn y ffaith bod pawb ohonom yn cefnogi addysg bellach ac rydym oll am ei gweld yn cael ei blaenoriaethu. Rwy'n tybio mai lle rydym yn anghytuno yw yn ein gwleidyddiaeth ac yn ein dadansoddiad o'r flaenoriaeth sydd iddi i Lywodraeth Cymru. Fe wneuthum gydnabod y buddsoddiad a wnaed yn y materion staffio, ond wrth gwrs, nid yw hyn yn beth newydd. Ers cael fy ethol yn 2007, cafwyd anghydfodau cyflog parhaus mewn perthynas â thelerau ac amodau addysg bellach o ran llwyth gwaith. Felly, rwy'n gobeithio'n fawr—rwy'n gwirioneddol obeithio—y bydd modd i hyn atal unrhyw weithredu posibl yn y dyfodol ac y gall pawb ohonom gydweithio i sicrhau bod y sector yn cael y parch y mae'n ei haeddu. Oherwydd fe wyddom o'r hyn a ddywedodd Caroline Jones, o'r hyn a ddywedodd Mohammad Asghar a'r hyn a ddywedodd Dai Lloyd—teimlir y pwysau ar lawr gwlad yn realiti pob dydd y colegau yn ein hetholaethau. Mae darlithwyr a thiwtoriaid a staff yn dod atom i ddweud cymaint o bwysau y maent yn ei deimlo yn y sefyllfa bresennol, sut y maent yn gadael y sector a sut y maent yn teimlo na allant ymrwymo i'r sector y maent mor hoff ohoni, ac yn mynd i swyddi newydd. Ni allwn weld bod hyn yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Rhaid inni sicrhau bod y staff hyn yn aros yn y sector addysg bellach.

Nawr, rwy'n credu y dylwn dynnu sylw at y pwynt a wnaeth Dawn Bowden am y ffaith bod hyn yn dweud 'wrth galon economi Cymru'. Pe bai wrth galon economi Cymru, ni fyddai'r Gweinidog o'ch blaen wedi dweud nad oedd wrth wraidd yr hyn roedd Llywodraeth Cymru yn ei wneud, yn enwedig mewn perthynas â dysgu gydol oes. Pe bai wrth wraidd yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud, ni fyddai angen i mi fod wedi dod â'r ddadl i lawr y Siambr yma heddiw. Nid wyf eisiau gorfod dweud bod y toriadau hyn yn digwydd, ond maent yn digwydd, ac mae'n fater o flaenoriaethu, nid yn unig i Lywodraeth y DU, ond i Lywodraeth Cymru hefyd, o ran ble y maent yn dyrannu'r cronfeydd hyn. Ers cael fy ethol yn 2007, nid yw'r blaenoriaethu hwnnw wedi digwydd. Os yw'n mynd i newid yn awr, mae hynny'n wych, ond roeddwn yn y pwyllgor economaidd y bore yma, a dywedwyd bod ein lefelau cynhyrchiant yn dal i fod yn isel iawn mewn gwirionedd. Nid yw hynny'n arwydd fod colegau addysg bellach yn cael eu rhoi wrth wraidd ein heconomi yma yng Nghymru.

Diolch i Dai Lloyd, sydd wedi dweud yn blwmp ac yn blaen pa mor bwysig yw’r sector yma i ni, ac wedi mynd i goleg Gŵyr yn fy ardal i hefyd, ac yn ardal Caroline Jones, sydd wedi dweud am y gwaith arbennig sy’n cael ei wneud gyda phobl gydag awtistiaeth yn yr ardal yma. Beth sydd yn bwysig yw caniatáu i’r colegau allu arloesi ac i allu helpu sectorau gwahanol o gymdeithas i allu esblygu a datblygu yn hynny o beth.

Oscar, fe gyfeirioch chi at amrywiaeth ac rwy'n meddwl bod hynny'n wirioneddol bwysig. Rhaid inni sicrhau ein bod yn annog pobl o bob cefndir i allu gwella'u sgiliau a chymryd rhan yn ein strwythurau addysg bellach. Roeddem yng nghampws Trefforest yr wythnos diwethaf, lle y cyfarfuom ag entrepreneuriaid ifanc o wahanol gefndiroedd, ac weithiau, os ydych yn tyfu fyny mewn rhai cymunedau yng Nghymru, efallai na fyddwch o anghenraid yn meddwl am ddechrau busnes, efallai na fyddwch o reidrwydd yn meddwl sut y gallwch fod yn arloesol yn y ffordd honno. Felly, credaf fod y digwyddiad a gynhaliwyd gennym i geisio gweld sut y gallwn gadw'r arbenigedd hwnnw yng Nghymru a sut y gallwn ddatblygu hynny ar gyfer y dyfodol yn un ysbrydoledig iawn.

Vikki Howells, fe sonioch am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud ac fe sonioch am y buddsoddiad yn eich ardal chi, a chredaf fod hynny'n wirioneddol bwysig. Fe sonioch chi hefyd am gyllid, am staff cymorth, a'r ffaith eich bod wedi cyfarfod ag aelodau'r Undeb Prifysgolion a Cholegau, a chredaf fod hynny'n wirioneddol bwysig hefyd, er mwyn inni sicrhau bod ein hymwneud ag undebau llafur yn fyw ac yn iach.

Ac yn yr amser bach iawn sydd gennyf ar ôl, rwyf am grybwyll Caroline Jones. Fe sonioch chi am ymweld â choleg Gŵyr—mae coleg Gŵyr wedi cael cryn dipyn o sylw yma heddiw—a'r parch a oedd gennych i'r gwaith sy'n cael ei wneud yno.

Felly, diolch i bawb am gymryd rhan yn y ddadl, ac rwy'n gobeithio mai hon yw'r gyntaf o lawer ar addysg bellach yma.

16:30

Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Iawn, fe ohiriwn y pleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad: Creu'r Diwylliant Cywir

Eitem 6 ar ein hagenda yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, 'Creu'r Diwylliant Cywir'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig. Jayne Bryant.

Cynnig NDM6870 Jayne Bryant

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, 'Creu'r Diwylliant Cywir', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Medi 2018.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru arwain y ffordd ar sicrhau ei bod hi'n glir nad oes lle i ymddygiad amhriodol yn ein cymdeithas. Mae adroddiad y pwyllgor yn nodi cam pwysig tuag at greu'r math o amgylchedd y mae pawb ohonom am weithio ynddo. Fel pwyllgor, roeddem yn awyddus i dynnu sylw at y ffaith mai'r pethau syml weithiau sy'n chwalu rhwystrau a sicrhau newid.

Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i holl aelodau'r pwyllgor—gan gynnwys Llyr Gruffydd a Paul Davies, sydd bellach wedi gadael—am eu gwaith caled a'u penderfyniad i sicrhau bod pob ymdrech wedi'i gwneud i lunio argymhellion a fydd yn sicrhau newid go iawn. Gwyddom nad yw'r adroddiad hwn yn cynhyrchu'r atebion i gyd, ond mae'n gam pwysig ymlaen i'r sefydliad hwn. Hoffwn ddiolch hefyd i bawb a roddodd dystiolaeth i'r ymchwiliad. Casglwyd peth o'r dystiolaeth hon mewn amgylchedd cyfrinachol, ac rydym yn hynod o ddiolchgar i bobl am rannu eu profiadau a'u harbenigedd. Hoffwn ddiolch hefyd i bawb am eu hamynedd ynglŷn â'r amser a gymerodd. Rydym wedi gweithredu i wneud newidiadau, megis ymgorffori'r polisi urddas a pharch, cyn gynted ag y gallem, ond teimlem ei bod yn ddyletswydd arnom i sicrhau ein bod yn cael y dystiolaeth ehangaf bosibl i lywio ein hadroddiad.

Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf cafwyd sylw helaeth i ymddygiad amhriodol ac aflonyddu rhywiol ar draws y gymdeithas. Mae pobl o ystod eang o sectorau wedi sôn am eu profiadau o ymddygiad amhriodol yn y gweithle. Yn 2016, cynhaliodd Cyngres yr Undebau Llafur a'r Prosiect Rhywiaeth Pob Dydd arolwg a ganfu fod 52 y cant o fenywod wedi profi aflonyddu rhywiol yn y gwaith—ac mae'n peri pryder mawr fod 79 y cant o'r menywod hyn heb ddweud wrth eu cyflogwr. Mae #MeToo—cam sydd wedi caniatáu i bobl ledled y byd i siarad ac i leisio eu pryderon—wedi dangos na ellir gwadu'r angen am newid. Yn sicr, nid yw gwleidyddiaeth yn eithriad. Fel gwleidyddion etholedig, mae gennym gyfrifoldeb i sicrhau ein bod yn gosod yr esiampl orau a'r safonau uchaf i'r gymdeithas ehangach. Mae'n hanfodol fod pob un ohonom yn cymryd cyfrifoldeb. Rhaid inni beidio â goddef ymddygiad amhriodol yn ein sefydliad, a rhaid tynnu sylw ato lle bynnag y byddwn yn ei weld. Dyma'r peth lleiaf y gallwn ei wneud.

Gwnaeth y pwyllgor 21 o argymhellion yn yr adroddiad a'r bwriad yw iddynt godi'r bar. Ar ôl gwrando ar y rhai a roddodd dystiolaeth i ni, nid oedd gennym unrhyw amheuaeth fod yn rhaid i bethau newid. Rydym yn bwriadu rhoi nifer o welliannau ar waith a fydd yn gwneud y broses gwyno'n fwy hygyrch ac wedi'i theilwra i fynd i'r afael ag anghenion pobl sydd am leisio pryderon. Mae'r rhain yn cynnwys hawl i apelio a ffrâm amser hwy ar gyfer gwneud cwynion. Rhaid inni gael system sy'n galluogi ac yn grymuso pobl i roi gwybod a mynegi pryderon, yn hytrach na gosod rhwystrau yn eu ffordd yn anfwriadol. Rhaid i'r system fod yn hyblyg fel bod pobl yn cael sicrwydd y bydd eu pryderon unigol yn cael eu trin mewn modd sensitif.

Rydym hefyd yn gweithio ar gynigion i newid y cod ymddygiad. Mae'r pwyllgor yn credu y gellir gwneud mwy i wneud yn siŵr fod pobl yn gwybod beth y dylent ei ddisgwyl gennym. Lluniwyd y cod yn dilyn y sgandal treuliau yn San Steffan ac roedd yn rhoi sylw penodol i'r rheolau ynglŷn â chywirdeb ariannol. Er bod y cod yn cynnwys cwynion yn ymwneud ag urddas a pharch drwy ei gwneud yn ofynnol i Aelodau weithredu gydag anrhydedd personol ac uniondeb, teimlwn y dylid cael eglurder ynglŷn â pha fath o ymddygiad sy'n tramgwyddo yn erbyn y cod.

16:35

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Mae'r pwyllgor yn falch fod Comisiwn y Cynulliad wedi ymateb yn gadarnhaol i'n hargymhellion a'i fod yn rhannu ein gweledigaeth o Gynulliad cynhwysol, sy'n rhydd rhag aflonyddu. Mae'r pwyllgor yn edrych ymlaen at gael y newyddion diweddaraf gan y Comisiwn ynglŷn â sut y mae'r argymhellion hyn yn mynd rhagddynt. Mae'r pwyllgor yn ddiolchgar i Gomisiwn y Cynulliad am y wybodaeth ddiweddaraf sydd wedi tynnu sylw at waith y swyddogion cyswllt, a fu ar waith bellach ers mis Mai. Mae'n amlwg fod unigolion yn troi atynt am gefnogaeth ac arweiniad drwy'r prosesau cwyno sydd ar gael. Bydd yr Aelodau'n deall na rannwyd unrhyw fanylion oherwydd cyfrinachedd, ond roedd hi'n galonogol clywed bod defnydd yn cael ei wneud o'r gwasanaeth ychwanegol hwn bellach.

Hefyd roedd y pwyllgor yn falch o glywed, yn dilyn tystiolaeth i'n hymchwiliad, fod cymorth ychwanegol wedi'i ddarparu i swyddfa'r comisiynydd safonau annibynnol. Mae staff Comisiwn y Cynulliad wedi bod yn gweithio gyda'r comisiynydd safonau a bellach wedi sicrhau secondiad ychwanegol i gynorthwyo'r swyddfa. Mae hyn yn golygu mwy o gydbwysedd rhwng y rhywiau i'r swyddfa, rhywbeth y gobeithir y bydd yn annog pobl i deimlo'n fwy cyfforddus wrth siarad am unrhyw faterion sy'n peri pryder. Mae hefyd yn golygu y gellir canfod ffeithiau a gwneud gwaith ymchwilio yn fwy effeithlon ac effeithiol, i gynorthwyo'r comisiynydd i symud achosion sy'n aml yn gymhleth yn eu blaenau.

Mae'r pwyllgor yn argymell i'r Comisiwn y dylid rhoi ystyriaeth i sut y gall pobl roi gwybodaeth yn ddienw. Credwn fod tystiolaeth o'r sector addysg uwch yn dangos, yn hytrach na mynd ar drywydd cwyn ffurfiol, weithiau ei bod yn well gan bobl gael adnodd sy'n caniatáu iddynt gofnodi digwyddiad ar-lein. Gallai hyn helpu i nodi patrwm ymddygiad unigolyn hefyd. Fodd bynnag, mae'r pwyllgor yn cydnabod pryderon ynglŷn â rhoi gwybodaeth yn ddienw ac rydym yn glir fod yn rhaid cynnal proses gyfiawn yn ystod yr ymchwiliad ffurfiol i gŵyn. Mae'r pwyllgor yn cydnabod bod angen rhoi gwybod i'r sawl a gyhuddir a'i bod hi'n anodd cynnal cyfrinachedd mewn achosion o'r fath.

Mae'r pwyllgor yn argymell bod cod y Gweinidogion yn cael ei roi yng nghylch gwaith ymchwilio y comisiynydd safonau. Roeddem yn teimlo y byddai'r rhai sydd am wneud cwyn yn ymwneud ag Aelod Cynulliad yn elwa o un pwynt cyswllt. Ni fyddai angen ystyried pa rôl a oedd yn cael ei chyflawni ar yr adeg y byddai'r weithred amhriodol yn digwydd. Gwnaeth y Prif Weinidog ystyried a gwrthod yr argymhelliad hwn, gan ei fod yn teimlo y bydd y system oruchwylio annibynnol y mae'n ei chyflwyno yn ychwanegu digon o wahaniad. Mae'r pwyllgor yn cydnabod bod hyn yn gyson â dulliau llawer o Lywodraethau eraill, ond teimlem fod hwn yn gyfle i ychwanegu eglurder ac annibyniaeth lawn i'r system. Nodaf y bydd datganiad ysgrifenedig ar hyn cyn bo hir, a bydd y pwyllgor yn ei ystyried gyda diddordeb.

Ni all newid diwylliannol ddigwydd dros nos—mae'n cymryd amser ac ymroddiad, ac nid yw'r adroddiad hwn yn safbwynt terfynol. Bydd y pwyllgor am ei gwneud yn glir fod angen help pawb arnom i ffurfio amgylchedd yn seiliedig ar urddas a pharch. Yn yr adroddiad hwn rydym wedi ceisio gweithredu lle y gwelsom fod angen gweithredu. Rydym yn agored i awgrymiadau ar sut i wella, ac rydym yn benderfynol o gael hyn yn iawn. Gofynnwn i bawb weithio gyda ni, oherwydd gyda'n gilydd rhaid inni sicrhau bod y Cynulliad fel sefydliad yn gosod yr esiampl orau.

A gaf fi gofnodi fy niolch diffuant i glercod y Pwyllgor Safonau Ymddygiad am eu gwaith caled drwy gydol yr ymchwiliad hwn, ac am gynhyrchu'r adroddiad hwn? Mae creu'r diwylliant iawn mewn unrhyw weithle yn hanfodol i amgylchedd gwaith addas ac effeithiol, a chredaf fod pob plaid yn y Siambr hon yn ymrwymedig i feithrin amgylchedd o'r fath. Felly, rwy'n falch o fod wedi eistedd ar y Pwyllgor Safonau Ymddygiad drwy gydol yr ymchwiliad hwn, ac rwy'n gobeithio y daw cyhoeddi'r adroddiad hwn â ni gam yn nes at hyrwyddo diwylliant o urddas a pharch o fewn y Cynulliad.

Credaf fod hwn yn adroddiad da, ac felly rwy'n siomedig, wrth ymateb i'r adroddiad hwn, fod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod yr argymhelliad i'r Prif Weinidog gyfeirio cwynion yn ymwneud â Gweinidogion y Llywodraeth at swyddfa'r comisiynydd safonau fel y gall y comisiynydd adrodd wrth y corff perthnasol yn sgil hynny. Yn anffodus, rwy'n credu bod gwrthod yr argymhelliad hwn yn cyfleu'r neges fod un rheol i Aelodau'r Cynulliad ac un rheol i Weinidogion y Llywodraeth, ac i fod yn gwbl onest, nid wyf yn meddwl y bydd hynny'n plesio pobl Cymru. Rhaid i'r Cynulliad wneud popeth yn ei allu i ennyn hyder y cyhoedd yn ei weithdrefnau, a chredaf fod Llywodraeth Cymru, drwy wrthod yr argymhelliad hwn, yn cyfleu neges y bydd y Prif Weinidog yn ymdrin â'i gylch mewnol ei hun y tu ôl i ddrysau caeëdig ac i ffwrdd oddi wrth unrhyw graffu annibynnol.

Mae rhesymeg Llywodraeth Cymru dros wrthod yr argymhelliad yn egluro, lle mae'n amlwg fod Gweinidog yn gweithredu yn rhinwedd ei swydd fel Aelod o'r Cynulliad pan ddigwyddodd y camymddygiad honedig, y byddai'r Prif Weinidog yn yr amgylchiadau hynny, yn ei hystyried yn briodol i'r comisiynydd safonau ymdrin â'r mater. Wel, does bosib nad yw Gweinidogion Llywodraeth yn Weinidogion Llywodraeth drwy'r amser. Credaf y bydd pobl Cymru'n cael trafferth deall pa bryd y bydd Gweinidog wedi clocio allan, fel petai, ac ond yn gwneud ei waith yn ei rôl fel Aelod Cynulliad. Yn sicr, byddai'n haws i'r cyhoedd ddeall pe bai cwynion ac ymchwiliadau cychwynnol yn cael eu trin gan y comisiynydd safonau annibynnol. Yn ddi-os bydd Llywodraeth Cymru'n dadlau nad yw hynny'n wir mewn seneddau eraill, ond nid oes raid i'r Cynulliad ddilyn deddfwrfeydd eraill bob amser. Nid oes unrhyw beth i'n hatal rhag gosod ein hagenda ein hunain ar y mater hwn.

Nawr, un o elfennau'r adroddiad yw sicrhau bod unigolion yn teimlo wedi'u grymuso i gyflwyno pryderon neu gwynion. Fel pwyllgor, gwn ein bod wedi clywed tystiolaeth ar y mater hwn. Y neges amlwg a gafwyd oedd nad oedd y diwylliant presennol yn ddigon cefnogol i achwynwyr na'n annog pobl i gyflwyno cwynion a phryderon. Mewn ymateb i hynny, gwn fod Comisiwn y Cynulliad wedi rhoi camau ar waith ar unwaith i ddiweddaru ei wefan i geisio ei gwneud yn haws i bobl ddeall a dod o hyd i'w ffordd drwy'r broses gwyno. Ond wrth gwrs, mae angen gwneud llawer mwy.

Mae'r llinell gymorth gyfrinachol a chyfres o bosteri yn cael eu harddangos bellach ledled ystâd y Cynulliad. Unwaith eto, mae'r camau gweithredu hynny hefyd i'w croesawu'n fawr iawn. Mae hefyd yn dda gweld y bydd y prosesau presennol yn cael eu monitro'n rheolaidd drwy gyfrwng ymarfer cwsmer cudd i bennu a yw'r deunydd presennol ar sut i wneud cwyn yn effeithiol, yn hawdd eu deall ac yn ymarferol wrth symud ymlaen. Mae'r camau hyn yn bwysig er mwyn dangos ymrwymiad y Cynulliad i sicrhau bod achwynwyr yn ymwybodol o sut y gallant wneud cwyn a sut i ddod o hyd i'w ffordd drwy'r broses.

Nawr, fel y dywedodd y Cadeirydd, mae adroddiad y pwyllgor hefyd yn galw am ddatblygu pecyn adrodd ar-lein i alluogi pobl i roi gwybod am achosion o ymddygiad amhriodol—yn ddienw neu drwy ddatgeliad gan roi enw. Rwy'n deall y sensitifrwydd ynglŷn ag adrodd yn anhysbys, ond clywodd aelodau'r pwyllgor fod Prifysgol Caerdydd wedi gwneud gwaith arloesol yn y maes hwn ac felly mae'n dda gweld Comisiwn y Cynulliad yn myfyrio ar lwyddiannau gwaith gan sefydliadau eraill ar hyn.

Rwy'n sylweddoli fod swyddogion cyswllt eisoes wedi'u sefydlu, fel yr amlinellir yn y polisi urddas a pharch a chanllawiau cysylltiedig, ac mae ganddynt rôl i adrodd achosion yn ddienw i'r pennaeth adnoddau dynol, a fydd wedyn yn monitro, yn cofnodi ac yn adrodd ar batrymau ymddygiad. Fodd bynnag, deallaf y bydd y Comisiwn yn dymuno cael cyngor pellach ar hyn yn gynnar yn y flwyddyn newydd cyn dod i gasgliad cadarnach ar adrodd dienw, pan fydd y prosesau hynny wedi cael cyfle i ddatblygu. Wrth ymateb i'r ddadl, efallai y gall Cadeirydd y pwyllgor gadarnhau a fydd y pwyllgor yn dychwelyd at y mater penodol hwn maes o law.

Yn olaf, Lywydd, nododd y pwyllgor y cyfryngau cymdeithasol fel maes lle y ceir lefelau cynyddol o ymddygiad amhriodol, ac yn yr oes dechnolegol brysur hon, mae'n hollbwysig fod seneddau'n ymateb i fygythiadau ar-lein. Mae pawb ohonom yn gwybod bod manteision enfawr i'r cyfryngau cymdeithasol—sef rhannu gwybodaeth gyda'r cyhoedd ac ymgysylltu ag etholwyr—ac rwy'n falch fod y pwyllgor yn gweithio i ddatblygu canllawiau ar y defnydd o gyfryngau cymdeithasol a'i fod yn bwriadu sefydlu cysylltiad llawer mwy amlwg rhwng yr hyn sy'n dderbyniol ar y cyfryngau cymdeithasol a'r cod ymddygiad. Edrychaf ymlaen at glywed mwy am y datblygiadau hynny wrth iddynt digwydd.

I gloi, mae'n hanfodol fod pob Aelod yn deall o ddifrif pa mor bwysig yw'r ymchwiliad hwn a bod camau cadarn yn cael eu cymryd a'u hadolygu'n rheolaidd er mwyn sicrhau bod y Cynulliad yn creu diwylliant sy'n grymuso pobl i roi gwybod pan fyddant yn tystio i, a/neu'n dioddef ymddygiad amhriodol. Rhaid i'r Cynulliad fel sefydliad edrych tua'r dyfodol, a bod yn flaengar ac yn barod i fynd i'r afael â'i wendidau. Felly, rwy'n annog pob aelod yn y Siambr hon i gefnogi pob un o argymhellion y pwyllgor ac ymrwymo i sefydlu proses gwyno sy'n deg, yn dryloyw ac yn addas at y diben. Diolch.

16:40

Rwy'n falch iawn o gael y cyfle i gymryd rhan yn y ddadl hon fel aelod newydd o'r Pwyllgor, ac wrth wneud hynny, hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r Cadeirydd am ei chroeso ac aelodau eraill y pwyllgor, staff y pwyllgor, sydd wedi bod yn gefnogol iawn yn ystod yr wythnos neu ddwy ddiwethaf yn fy nghynorthwyo i ymgyfarwyddo â'r gwaith, a diolch i Llyr Gruffydd am fod wedi cynrychioli Plaid Cymru mor fedrus ar y pwyllgor yn y gorffennol.

Lywydd, nid yw'r materion y mae'r adroddiad hwn yn ymdrin â hwy yn newydd. Byddwn weithiau'n clywed pobl yn dweud bod safonau a disgwyliadau wedi newid mewn perthynas ag ymddygiad. Y gwir amdani yw nad yw hynny'n wir. Mae pobl, yn enwedig menywod, bob amser wedi gwybod beth sydd, a beth nad yw'n briodol. Rydym bob amser wedi gwybod y gwahaniaeth rhwng sgyrsiau doniol a pherthynas ramantaidd hyd yn oed rhwng oedolion cyfartal sy'n cydsynio yn y gweithle, ac aflonyddu rhywiol a cham-drin rhywiol sy'n gamddefnydd o rym. Yr hyn sydd wedi dechrau newid, fodd bynnag—a buaswn yn dweud, 'Hen bryd, hefyd', yw'r diwylliant sydd wedi goddef a lleihau'r achosion hyn o gamddefnyddio grym.

Mae'n wir yn ddi-os, fel y mae'r adroddiad hwn yn amlygu, fod natur wleidyddol ein sefydliad yn anochel yn arwain at anghydbwysedd grym cynyddol, ac mae'n hollbwysig felly ein bod yn cael hyn yn iawn, gan greu diwylliant yma lle na oddefir aflonyddu o unrhyw fath, lle bydd tystion fel mater o drefn yn tynnu sylw at ymddygiad annerbyniol, a lle y grymusir y rhai sydd wedi dioddef ymddygiad o'r fath i roi gwybod amdano a chael eu credu. Drwy hynny, gallwn gyfrannu at newid diwylliannol ehangach.

Rwy'n croesawu'r adroddiad hwn yn fawr, yn ogystal ag ymateb prydlon a chadarnhaol y Comisiwn i'r argymhellion.

Nawr, mae'r Cadeirydd a Paul Davies wedi cyfeirio eisoes at ymateb y Llywodraeth i argymhelliad 12, a theimlaf fod yn rhaid i brif ran fy sylwadau fynd i'r afael â hyn. Ni allaf fynegi pa mor siomedig rwyf fi ynghylch ymateb y Prif Weinidog. Buaswn wedi disgwyl ymateb unfrydol ar draws y Siambr nid yn unig fod yn rhaid disgwyl y safonau uchaf o ymddygiad mewn bywyd cyhoeddus gan bob un ohonom fel Aelodau Cynulliad, ond fod rhaid i'r safonau hynny fod yn berthnasol hefyd i'r holl Weinidogion, ac nid yn unig fod rhaid i'r safonau hynny gael eu cymhwyso a'u gorfodi, ond bod rhaid i'r cyhoedd allu gweld eu bod yn cael eu cynnal a'u gorfodi.

Rwy'n synnu'n fawr am beth y mae Prif Weinidog yn ei ddweud ym mharagraff 5 o'i ymateb i argymhelliad 12. Mae'n nodi bod y pwyllgor o'r farn, a dyfynnaf,

'y byddai hyder y cyhoedd yn gwella pe bai'r Comisiynydd Safonau'n ymgymryd â'r rôl'

—sef y rôl o ymchwilio i gwynion o dan god y Gweinidogion, ond—

'nid yw'r Prif Weinidog yn rhannu'r farn'.

Nawr, gallaf dderbyn, hyd at bwynt, yr hyn y mae'r Prif Weinidog yn ei ddweud am yr angen posibl i wahaniaethu rhwng rôl Aelod Cynulliad a phan fo rhywun yn gweithredu fel Gweinidog, ond cytunaf â'r hyn y mae Paul Davies yn ei ddweud: gallwn wneud y gwahaniaethau hynny yma yn y Siambr a gallwn eu deall, ond i'r cyhoedd, ni allaf ddeall sut y dylid disgwyl iddynt ddirnad y gwahaniaeth. Ac rwy'n ei chael hi'n anos byth i dderbyn a deall barn y Prif Weinidog y byddai rywsut yn ddryslyd i'r comisiynydd safonau ymchwilio i achosion honedig o dramgwyddo cod y Gweinidogion. Does bosib na ddylai'r sawl a benodir gennym i'r rôl bwysig hon allu cyflawni ymchwiliadau o dan ddwy set o wahanol ddisgwyliadau. Ni allaf weld pam y byddai defnyddio'r comisiynydd safonau i ymchwilio yn cymylu'r nod mewn unrhyw ffordd mewn perthynas â gwahanu pwerau rhwng y Weithrediaeth a'r Cynulliad, ac fel y dywedodd Paul Davies, i'r cyhoedd mae hwnnw'n bwynt dadleuol beth bynnag. Safonau ymddygiad yw safonau ymddygiad.

Nawr, pe bai'n wir fod rhywfaint o gymylu ar y pwerau rhwng y Weithrediaeth a'r Senedd yn yr awgrym a wnaeth y pwyllgor, rhaid i'r Prif Weinidog fynd ati, fan lleiaf, i sefydlu system ymchwilio barhaol, annibynnol ac ar wahân y dylid cyfeirio pob cwyn am bob achos posibl o dorri cod y Gweinidogion ati. Ni all fod o fudd i dryloywder neu'n ffafriol i hyder y cyhoedd os oes gan y Prif Weinidog ddisgresiwn i benderfynu a yw cwyn neu bryder yn torri'r cod mewn gwirionedd ac yn galw am ymchwiliad. A buaswn yn cyd-fynd â'r hyn a ddywedodd Paul Davies. Nid wyf yn awgrymu bod y penderfyniadau hyn mewn unrhyw ffordd yn amheus neu wedi eu gwneud y tu ôl i ddrysau caeedig, ond y perygl yw mai dyna sut y bydd pobl yn eu gweld. Beth bynnag, nid yw'n iawn i'r Prif Weinidog gael hawl i benderfynu a oes achos posibl o dorri'r cod ai peidio, a dylai atgyfeiriadau at broses annibynnol fod o leiaf yn awtomatig. Ac rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedodd y Cadeirydd, rwy'n gobeithio y caiff hynny ei gynnig i ni yn y datganiad rydym i'w gael yn awtomatig.

A buaswn hefyd yn dweud nad yw beth y mae Seneddau eraill yn ei wneud yn berthnasol yma. Yn gyson rydym wedi penderfynu yn y Cynulliad hwn ein bod am fod yn well na Seneddau eraill, boed drwy sefydlu'r comisiynydd plant, er enghraifft, ymhell cyn i Seneddau eraill y DU lwyddo i wneud yr un peth. Fel y mae Paul Davies wedi dweud, credaf y dylem fod yn gosod safonau uwch ar ein cyfer ni ein hunain, a dylai'r rheini fod yn safonau uwch ar gyfer sicrhau tryloywder.

O ran goruchwylio cod y Gweinidogion, rwy'n dal i gredu bod argymhelliad gwreiddiol y pwyllgor yn ateb ymarferol a synhwyrol. Ac wrth gwrs, un ffordd neu'r llall, bydd gennym Brif Weinidog newydd cyn bo hir, a hoffwn ofyn i Gadeirydd y pwyllgor a yw'n credu y byddai'n briodol i ni fel pwyllgor fynd at y Prif Weinidog newydd, pwy bynnag y bydd ef neu hi, a gofyn iddynt ailystyried yr ymateb hwn.

I gloi, Lywydd, mae gan y cyhoedd hawl i ddisgwyl i ni yn y lle hwn osod y cywair ar gyfer bywyd cyhoeddus yn ei gyfanrwydd yng Nghymru. Os ydym yn mynd i wneud hynny, rhaid inni fod mor sicr ag y gallwn fod fod pawb sy'n gweithio yma neu'n ymweld â'r lle hwn, neu sy'n cydweithio â ni, yn teimlo eu bod yn cael parch a'u trin ag urddas. Mae'r adroddiad hwn a gweithredoedd y Comisiwn a'r ymateb cadarnhaol i'r adroddiad hwn, yn gam enfawr i'r cyfeiriad cywir hwnnw, ac rwy'n cymeradwyo'r adroddiad hwn i'r Siambr.

16:50

A gaf fi groesawu'r ddadl hon ar adroddiad y pwyllgor safonau, 'Creu'r Diwylliant Cywir', ac a gaf fi ddiolch i'r Cadeirydd a'r aelodau am gynnal yr ymchwiliad a chynhyrchu'r adroddiad hwn gydag argymhellion rwy'n eu cefnogi?

Mae'n briodol cynnal y ddadl hon yn ystod wythnos y rhuban gwyn, a wisgir gennym i gydnabod yr ymdrech barhaus i ddileu trais yn erbyn menywod. Fel y clywsom ddoe, mewn ymateb i fy nghwestiwn i'r Prif Weinidog, dyma sgandal y byd modern yn yr unfed ganrif ar hugain. Mae gennym gyfrifoldeb mewn llywodraeth—yn lleol a chenedlaethol—ac fel cynrychiolwyr etholedig, ac fel unigolion yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector, i ymateb i'r sgandal hon.

Yn ddiweddar cawsom ddadl 'A yw Cymru'n Decach?', adroddiad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar gyfer 2018 lle y gwnaed pwyntiau sy'n berthnasol i'n dadl heddiw, gyda datganiad a oedd yn dweud, ac roedd y Cadeirydd hefyd yn ailadrodd hyn:

Mae #MeToo wedi taflu goleuni ar brofiad menywod a merched o lefelau uchel o drais a gwahaniaethu 

sy'n cael eu derbyn

yn rhy barod fel rhan o fywyd.

Rwy'n credu bod Angela Burns wedi gwneud pwynt grymus iawn ddoe ar hyn.

Nododd maniffesto'r Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod fod 55 y cant o ferched saith i 21 oed yn dweud bod stereoteipio ar sail rhyw yn effeithio ar eu gallu i leisio eu barn, a bod 52 y cant o fenywod yn dweud eu bod wedi dioddef aflonyddu yn y gweithle. Credaf fod y pwynt hwnnw am effeithio ar y gallu i ddweud eu barn mor bwysig.

Mae Cadeirydd y pwyllgor safonau yn tynnu ein sylw at y dystiolaeth a gafwyd gan y pwyllgor ac adroddiadau yn y cyfryngau sy'n awgrymu bod nifer o achosion o aflonyddu rhywiol wedi digwydd yn y Cynulliad, a bod y rhain heb gael eu hadrodd yn ffurfiol. Mae'n gywilydd nad yw unigolion yn teimlo y gallent wneud y cwynion hyn ac mae'n dangos nad yw ein diwylliant yma yn y Senedd hon yn iawn. Rhaid inni ysgwyddo'r cyfrifoldeb o fynd i'r afael â hyn yn awr.

Mae maniffesto'r Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod yn dweud

'Rydym yn deall bod anghydraddoldeb rhwng y rhywiau yn achos ac yn ganlyniad trais yn erbyn menywod a merched. Er mwyn atal trais gwyddom fod angen inni addysgu, herio a newid ein diwylliant a'n cymdeithas anghyfartal.'

Mae hynny'n golygu bod rhaid inni herio ein hunain. Rydym wedi cael yr hyfforddiant parch ac urddas, do—rwy'n gobeithio ei fod wedi treiddio trwy'r sefydliad hwn ac ar gael i dimau'r Comisiwn a Llywodraeth Cymru, o ran ble y mae gan bobl bŵer dros bobl eraill. Lle y caiff pŵer ei arfer a'i gamddefnyddio yw lle y gall y diwylliant fynd cymaint o chwith.

Ceir nifer o argymhellion gyda llinell amser, ac rwy'n croesawu hynny, ond rhaid inni fod yn wyliadwrus wrth ddilyn yr amserlenni hynny a monitro eu cyflawniad, o'r pump sydd i'w cyflawni ar unwaith—ac mae hynny'n golygu ar unwaith—drwodd i fis Rhagfyr a'r gwanwyn.

Rwyf am orffen drwy roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y grŵp trawsbleidiol newydd ar gydraddoldeb menywod, sydd wedi cyfarfod ddwywaith ers ei sefydlu ym mis Mai. Yn ei gyfarfod cyntaf, clywsom gan yr Athro Laura McAllister ar 'Senedd sy'n gweithio i Gymru', gydag ymateb cadarnhaol gan y menywod a fynychodd, gan gynnwys sefydliadau allanol megis y Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod, Chwarae Teg, Women Connect First, Sefydliad y Merched a Soroptimist International, a oedd yn cymeradwyo ei argymhellion yn llawn mewn perthynas â rhannu swyddi a chynrychiolaeth 50:50 i fenywod i'r Senedd hon a Llywodraeth Cymru.

Dilynwyd hyn gan sgwrs gan Jess Blair o'r Gymdeithas Diwygio Etholiadol ar eu hadroddiad, 'Lleisiau newydd: Sut y gall gwleidyddiaeth Cymru ddechrau adlewyrchu Cymru', a oedd hefyd yn cefnogi'r angen i gynyddu cynrychiolaeth menywod yn y Cynulliad. Mae hyn yn arbennig o berthnasol heddiw, wrth i ni nodi 100 mlynedd ers pasio Deddf Senedd y DU (Cymhwyster Menywod) 1918, lle y gallai menywod sefyll etholiad i'r Senedd yn gyfreithiol. Mae hyn yn cael ei ddathlu yn San Steffan, fel y gwelwn.

Rydym yn awr yn cynnal grŵp trawsbleidiol ar y cyd gyda'r Grŵp Trawsbleidiol ar Drais yn erbyn Menywod a Phlant ochr yn ochr â'n grŵp newydd ar gydraddoldeb menywod, gan gryfhau cefnogaeth drawsbleidiol i, a dealltwriaeth o'r materion rydym yn eu trafod yr wythnos hon. Yn yr hyn sydd i raddau helaeth, yn anffodus, yn Siambr bron yn wag heddiw, ni allwn adael pethau gyda'r ddadl hon yn unig—rhaid iddo dreiddio drwy bopeth a wnawn yn y Cynulliad hwn a Llywodraeth Cymru.

Ychydig wythnosau yn ôl, croesewais arolwg barn a dynnodd sylw at gefnogaeth y cyhoedd i ddefnyddio deddfwriaeth er mwyn sicrhau cydraddoldeb rhwng y rhywiau yn y Cynulliad hwn. Fel ysmygu mewn mannau cyhoeddus, credaf fod y cyhoedd ar y blaen inni mewn llawer o ffyrdd, ac eto rydym yn tueddu i feddwl ein bod mewn lle da yn y Cynulliad hwn. Nid ydym yno eto ar y materion hyn. Yn ystod ein gwaith craffu fel cyd-bwyllgor ar yr asesiadau effaith cydraddoldeb yr wythnos diwethaf, clywsom dystiolaeth gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, ac roeddent yn dweud bod cyffredinolrwydd normau rhywedd cymdeithasol mewn addysg a chyflogaeth, a'r profiadau o aflonyddu a thrais, yn rhwystro'r cynnydd hwn yng nghydraddoldeb menywod.

Gallwn dderbyn yr argymhellion heddiw, ac yn amlwg, mae llawer i'w drafod o ran goblygiadau'r rheini a chan Lywodraeth Cymru. Gallwn eu datblygu, ond credaf hefyd fod angen inni ystyried polisi a deddfwriaeth ym mhob agwedd ar ein gwaith yma, gan gynnwys deddfwriaeth i newid y Cynulliad hwn i adlewyrchu'r Gymru rydym yn ei chynrychioli. A dylem ystyried hyn os ydym o ddifrif yn awyddus i adlewyrchu cryfder a dewrder y swffragetiaid ganrif yn ôl, a dilyn eu harweiniad gyda gweithredoedd ac nid geiriau'n unig. Rhaid i hyn gynnwys, os oes angen, deddfwriaeth i helpu i greu'r diwylliant cywir wrth wraidd democratiaeth yng Nghymru.

16:55

Rwyf i am bigo i fyny ar yr hyn yr oedd Helen Mary Jones yn ei ddweud, ac eraill, yn cyfeirio at y cydbwysedd grym—y power balance yma—a sut mae yna anghydbwysedd nid yn unig o fewn y diwylliant sydd yn bodoli yn y maes yna, ond o fewn rhai o'r rheolau sydd gennym ni yma yn y maes yma hefyd, a sut mae angen newid rhai o'r rheolau hynny er mwyn rhoi neges glir ein bod ni'n mynd i'r afael â'r anghydbwysedd yna, a'n bod ni yn cyflwyno gwell cydbwysedd rhwng rhywun sydd yn dod â chŵyn a rhywun sydd yn cael cwyn yn ei erbyn e neu hi. Nawr, nid yw hynny i ddweud ein bod ni'n lleihau'r amddiffyniad a'r tegwch i rywun sydd â chŵyn yn ei erbyn e neu hi, ond yn grymuso'r unigolion hynny sydd eisiau dod â chŵyn. 

Mi roddaf gwpwl o enghreifftiau yn yr ychydig funudau rydw i eisiau eu cyfrannu i'r ddadl yma. Petai yna rywun yn dod â chŵyn yn fy erbyn i, a bod y comisiynydd safonau a'r pwyllgor safonau yn dod i benderfyniad bod y gŵyn yn un ddilys, yna byddai gen i hawl i apelio. Os ydy'r comisiynydd a'r pwyllgor yn dod i gasgliad nad yw hi'n gŵyn ddilys, nid oes gan yr achwynydd ddim hawl i apelio. I fi, mae hynny'n anghytbwys ac yn annheg. Mae'n rhaid i gŵyn gael ei gwneud o fewn blwyddyn, ac rydym yn gwybod, wrth gwrs, fod pobl sydd efallai wedi dioddef ddim yn barod i ddod â chŵyn mewn 12 mis. Mae'n cymryd llawer, llawer yn hirach iddyn nhw wneud hynny, ond ar ôl 12 mis, dyna fe—beth allwch chi wneud? Felly, mae angen newid hynny er mwyn grymuso unigolion. Fe fyddwn i'n mynd mor bell â dweud bod dim angen amserlen o gwbl, oherwydd rŷm ni'n gweld nawr sut mae rhai achosion hanesyddol—ddegawdau wedyn, efallai—yn dod i'r amlwg. Felly, rydw i'n meddwl bod angen edrych ar hynny hefyd. 

Mae yna sefyllfa hefyd, wrth gwrs, lle petawn i ddim bellach yn Aelod Cynulliad, yna ni fyddai modd dod â chŵyn yn fy erbyn i, ond beth sy'n digwydd wedyn os ydw i'n cael fy ailethol mewn rhai blynyddoedd yn ôl i'r Cynulliad? Wel, mae'r amserlen wedi gor-redeg, ac felly allwch chi ddim dod â chŵyn. Felly, mae yna lawer o bethau sylfaenol y dylem ni fod yn edrych arnyn nhw er mwyn cael gwell cydbwysedd o fewn y cydbwysedd grym yna rŷm ni'n sôn amdano fe.

A'r unig bwynt arall y byddwn i'n awyddus i'w wneud yw rydw innau hefyd yn gresynu, yn synnu ac yn rhwystredig eithriadol bod y Prif Weinidog wedi ymateb fel y mae e i'r awgrym y dylai'r comisiynydd safonau fod â rôl o fewn edrych ar y cod gweinidogol. Rydw i'n gwybod y byddai hynny'n golygu newid deddfwriaethol ac yn y blaen. Rydw i'n gwybod y byddai fe'n ei gwneud hi'n haws i bobl ddeall y gyfundrefn ond, yn bwysicach na dim, mi fyddai'n ei gwneud hi'n haws i bobl sydd â chŵyn i wybod lle i fynd. Oherwydd dychmygwch chi'r sefyllfa lle mae rhywun, ar ôl gwewyr eithriadol, wedi penderfynu, 'Rydw i yn mynd i ddod â chŵyn', yn mynd at y comisiynydd safonau ac, wrth gwrs, yn cael ar ddeall, 'O, na, allwch chi ddim dod atom ni, mae'n rhaid i chi fynd i rywle arall.' Wel, pa fath o neges—? Rydw i'n gwybod y byddai'r comisiynydd safonau yn gwneud hynny mewn modd sensitif a chyfrifol, ond mae e'n rhwystr arall i unigolyn deimlo eu bod nhw'n gallu dod â chŵyn, ac rydw i yn gresynu bod y Prif Weinidog yn teimlo—.

Wrth gwrs, fe fyddai'n dal i wneud y penderfyniad terfynol. Nid oes neb yn awgrymu bod unrhyw rym yn cael ei gymryd oddi ar y Prif Weinidog, ac mae'n berffaith iawn mai'r Prif Weinidog fyddai'n cael gwneud y penderfyniad yna—wrth gwrs ei fod e. Ond beth a fyddai fe'n ei olygu fyddai bod y broses honno o ymchwilio i mewn i gŵyn yn cael ei chymryd allan o ddwylo'r Llywodraeth i fod yn gwbl annibynnol—oherwydd mae yna gwynion ac mae yna amheuon, ac efallai mai canfyddiadau anghywir ŷn nhw, nad yw'r broses yna yn gwbl annibynnol—ond mi fyddai'n rhoi mwy o hyder i'r cyhoedd fod y broses yn annibynnol. Ac yn yr un modd ag y mae'r comisiynydd safonau yn dod wedyn ag adroddiad i'r pwyllgor safonau yng nghyd-destun y cod ymddygiad Aelodau, mi fyddai'r adroddiad hwnnw'n mynd i'r Prif Weinidog yng nghyd-destun y cod gweinidogol er mwyn i'r Prif Weinidog ystyried y dystiolaeth a dod i'w gasgliad ei hunan a dod i'w benderfyniad ei hunan. Felly, mae unrhyw awgrym bod grym yn cael ei gymryd oddi ar y Prif Weinidog yng nghyd-destun y cod gweinidogol yn gamarwain llwyr ac yn anfon yr union negeseuon anghywir rŷm ni'n trio eu taclo a'u herio yn y ddadl yma y prynhawn yma. Felly, mi fyddwn i'n ategu yr alwad ar unrhyw ddarpar Brif Weinidog i fod yn barod i ymrwymo i edrych eto ar hyn. Oherwydd os ydym ni o ddifrif ynglŷn â chreu y diwylliant rŷm ni am ei weld, yna y camau yma yw'r peth lleiaf y gallem ni fod yn eu cyflawni. 

17:00

Diolch, Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy ychwanegu fy niolch i'r Cadeirydd ac i aelodau'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad am eu hadroddiad ac am eu gwaith caled iawn, ac yn wir am y cyfle hwn i ymateb i'w hadroddiad? Fel y mae'r holl Aelodau wedi dweud, nid oes ond un argymhelliad i Lywodraeth Cymru, ond rwy'n croesawu bwriad ehangach y pwyllgor i feithrin diwylliant o urddas a pharch o fewn y Cynulliad drwy weddill ei argymhellion, a hefyd rwy'n awyddus iawn i ychwanegu fy llais at leisiau'r Aelodau amrywiol yn y ddadl heddiw sydd wedi sôn am yr angen am ddiwylliant lle y gall pobl ddisgwyl y bydd eu cwynion yn cael ystyriaeth ddifrifol. Mae'r awgrymiadau ynglŷn â newid yr amserlenni a hawliau apelio yn rhai diddorol y gallai'r Cynulliad elwa arnynt yn fy marn i.

Fodd bynnag, gan droi at yr un argymhelliad ar gyfer y Llywodraeth, mae cod y Gweinidogion yn nodi disgwyliadau'r Prif Weinidog mewn perthynas ag ymddygiad gweinidogol ac ategir hyn gan saith egwyddor bywyd cyhoeddus. Wrth gwrs, bydd yr Aelodau'n ymwybodol ei fod yn darparu canllawiau ar amrywiaeth o faterion gan gynnwys cysylltiadau â'r gwasanaeth sifil a sut i ymdrin â buddiannau etholaeth, buddiannau plaid a buddiannau preifat Gweinidogion. Mae hefyd yn cynnwys cyngor gweithdrefnol ar brosesau a rhwymedigaethau Cabinet a Llywodraeth. Yn fwyaf arbennig, mae'r cod yn dweud yn glir fod disgwyl i'r Aelodau fod yn bersonol gyfrifol am eu hymddygiad, ond mai'r Prif Weinidog yn y pen draw sy'n barnu safonau ymddygiad gweinidogion. Y Prif Weinidog hefyd sy'n pennu unrhyw gamau priodol mewn perthynas ag unrhyw dramgwydd yn erbyn y safonau hynny. Yn ogystal, bydd yn galw ar gynghorydd neu gynghorwyr annibynnol lle y bo'n briodol i ymchwilio i gwynion ac i roi cyngor i allu seilio barn arno ynglŷn ag unrhyw gamau gweithredu sy'n angenrheidiol.

Credaf mai'r union bwynt hwnnw sy'n peri pryder, sef mai'r Prif Weinidog sy'n penderfynu a ddylid cynnal ymchwiliad annibynnol ai peidio. Rwy'n bryderus—nid wyf yn awgrymu mewn unrhyw ffordd fod hynny erioed wedi'i ddefnyddio'n amhriodol—ond rwy'n bryderus, o safbwynt canfyddiad y cyhoedd, fod hynny'n rhoi llawer o gyfrifoldeb ar y Prif Weinidog. Fel y dywedodd Llyr Gruffydd, mae'n gwbl briodol mai hi neu ef a ddylai fod y person sy'n derbyn y dystiolaeth o ymchwiliad annibynnol ac sy'n gwneud y penderfyniad gan mai ef neu hi yw'r person sy'n gwneud y penodiad. Ond o ran penderfynu a ddylai'r ymchwiliad annibynnol hwnnw ddigwydd ai peidio, rwy'n credu o leiaf y gellid gweld hynny o'r tu allan fel rhywbeth sy'n broblemus.

Rwy'n gweld y pwynt rydych yn ei wneud, ond rhaid imi ddweud nad wyf yn cytuno ag ef. Credaf fod yna amgylchiadau lle mae'n amlwg nad yw'n briodol atgyfeirio at gynghorydd annibynnol a cheir amgylchiadau eraill lle mae'n amlwg iawn yn briodol ac rwy'n credu bod hynny'n fater o farn fy hun. Ond rwy'n derbyn eich pwynt, ac mae'n rhywbeth y gallwn ei ystyried wrth i'r system weithredu.

Mae'n ddrwg gennyf—. Felly, fel y dywedais, byddai'n edrych i weld, lle y bo'n briodol, lle i droi at gynghorydd neu gynghorwyr annibynnol. Mae'r Llywodraeth gyfan yn cefnogi'r safbwynt na fydd ymddygiad amhriodol, ym mha fodd bynnag a ble bynnag y mae'n digwydd, yn cael ei oddef. Fel y dywedais, rydym wedi siarad yn faith ac yn gadarn yn y Siambr hon ar sawl achlysur—ynglŷn â'r adolygiad rhywedd a'r adroddiad cydraddoldeb a hawliau dynol a gawsom yn ddiweddar—ynglŷn â chwifio'r faner dros y mathau hynny o ymddygiad, ac yn sicr rwy'n awyddus i ychwanegu fy llais at yr holl alwadau y dylai'r lle hwn fod yn chwifio'r faner dros y mathau cywir o ymddygiad.

Yng ngoleuni hynny, mae'r Prif Weinidog wedi ystyried yn ofalus ei ymateb i argymhelliad 12, a fyddai'n galw am sefydlu protocol ar gyfer atgyfeirio cwynion am Weinidogion i swyddfa'r comisiynydd safonau gyda'r comisiynydd yn adrodd i'r corff perthnasol. Ceir sylw yn yr adroddiad fod y gofyniad yng nghod y Gweinidogion—

'Rhaid i’r Gweinidogion gadw eu rolau fel Gweinidogion a’u rolau
fel Aelodau Cynulliad ar wahân'—

yn gallu bod yn ddryslyd o bosibl. Nid yw'n farn a rennir gan y Prif Weinidog. Prif ddiben y cymal yw sicrhau bod Gweinidog yn osgoi'r posibilrwydd o wrthdaro buddiannau gwirioneddol neu ganfyddedig os gofynnir iddynt wneud penderfyniad o fewn eu portffolio sy'n effeithio'n uniongyrchol ar eu hetholaeth eu hunain. Lluniwyd y cod i sicrhau nad yw Gweinidogion yn defnyddio cyfleusterau ac adnoddau Llywodraeth Cymru ar gyfer gweithgareddau etholaeth neu blaid wleidyddol y tu allan i'r paramedrau a nodir mewn mannau eraill yn y cod.

Nid yw'r sail resymegol ar gyfer casgliad y pwyllgor fod potensial am ddryswch mewn perthynas â rolau Aelodau Cynulliad a rolau Gweinidogion yn amlwg. Gallai cynnwys y comisiynydd safonau a benodwyd gan, ac sy'n atebol i'r Cynulliad i ymchwilio i gwynion ynglŷn ag ymddygiad Gweinidogion pan fyddant yn amlwg yn gweithredu fel Gweinidogion yn hytrach nag fel Aelodau Cynulliad ynddo'i hun greu'r math o amwysedd atebolrwydd y mae'r pwyllgor yn ceisio ei osgoi mewn gwirionedd.

Mae'r adroddiad yn cyfeirio'n briodol at y cyfleuster sydd gan y Prif Weinidog i atgyfeirio unrhyw fater yn ymwneud ag ymddygiad Gweinidog at gynghorydd annibynnol i'w ymchwilio. Unwaith yn unig y gofynnwyd i gynghorydd ymchwilio a chynghori ar achos, a gwnaed hynny'n ddiwyd ac yn gynhwysfawr gan James Hamilton gydag adroddiad a arweiniodd at ddadl mewn cyfarfod llawn, ac mae'n anodd deall awgrym yr adroddiad y byddai hyder y cyhoedd yn gwella pe bai'r comisiynydd safonau'n ymgymryd â'r rôl. Dyna'n union yw cyngor annibynnol, pa un a yw'r rôl yn cael ei chyflawni gan gynghorydd annibynnol neu'r comisiynydd safonau.

Yr eithriad i hyn fyddai pe bai Gweinidog yn amlwg yn gweithredu yn rhinwedd ei swydd fel Aelod Cynulliad pan ddigwyddodd y camymddygiad honedig, byddai'r Prif Weinidog yn yr amgylchiadau hynny yn ei hystyried hi'n briodol i'r comisiynydd safonau ymdrin â'r mater yn hytrach na'i fod yn cael ei drin o dan god y Gweinidogion.

Felly, am y rhesymau hyn, nid yw'r Llywodraeth yn gallu derbyn yr argymhelliad a wnaed gan y pwyllgor, ond hoffwn orffen drwy ofyn i chi gyd ar draws y Siambr am eich cefnogaeth i hyrwyddo diwylliant o urddas a pharch drwy'r lle hwn, fel y nodwyd yn fedrus ac yn briodol ac y siaradwyd mor angerddol yn ei gylch gan gynifer o'r Aelodau heddiw. Rydym yn cytuno'n llwyr y gall pawb ohonom helpu i newid ymddygiad a diwylliant ac y dylem wneud hynny gan arwain drwy esiampl. Diolch, Lywydd.

17:05

Diolch, Lywydd. Rwy'n ddiolchgar iawn am gyfraniadau aelodau presennol a chyn-aelodau'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad. Nid wyf yn hollol siŵr beth y mae'r ffaith mai fi yw'r unig aelod gwreiddiol sydd ar ôl o'r pwyllgor hwn yn ei ddweud, ond rwy'n dal yma ar hyn o bryd beth bynnag. Diolch i chi gyd.

Crybwyllodd Paul yn arbennig y gwaith sydd wedi'i wneud, ond gan gydnabod na allwn gymryd cam yn ôl, a hoffwn eich sicrhau na fyddwn yn camu'n ôl o gwbl. Gofynnodd Paul hefyd i mi gadarnhau pa un a fydd y pwyllgor yn dychwelyd at adrodd dienw a'r swyddog cyswllt a'r gwaith mewn perthynas â'r cyfryngau cymdeithasol a'r canllawiau, a byddwn yn dychwelyd at hynny ac rydym yn bwriadu gwneud gwaith pwysig ar ganllawiau cyfryngau cymdeithasol hefyd, ac rwy'n credu y byddai pawb yma yn cytuno fod hynny'n hollbwysig. Felly, dyna'r pwynt hwnnw.

Rwy'n croesawu Helen Mary i'ch lle yn y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, a diolch i chi am eich cyfraniad hefyd. Soniodd Paul a Helen Mary a Llyr am god y Gweinidogion. I ni, gydag argymhelliad 12, rydym yn teimlo bod y system o godau ar wahân sy'n bodoli yng Nghymru yn cymharu â darpariaethau eraill yn Seneddau eraill y DU, ond roeddem yn credu fel pwyllgor y gallai Cymru gymryd cam beiddgar ymlaen i wella darpariaeth a chynyddu hyder yn y system. Fel pwyllgor, daethom i'r casgliad fod gwneud hyn yn rhan o gyfrifoldeb y comisiynydd safonau—. Er bod hyn wedi'i wrthod, mae'r pwyllgor yn agored i weithio gyda'r Llywodraeth i wella tryloywder. Yn amlwg, mae gennym ddiddordeb yn y datganiad ysgrifenedig sydd i ddod ger ein bron, ac rwy'n siŵr y bydd y pwyllgor am fynd ar drywydd hyn ymhellach gyda'r Prif Weinidog nesaf.

Jane Hutt, cyfraniad grymus iawn gennych chi yn sôn am yr hyfforddiant parch ac urddas sydd wedi bod yn agored i'r holl Aelodau a staff yma. Rwy'n gobeithio bod pawb wedi cael cyfle i fynd ar drywydd hynny. Hefyd, fe gyfeirioch chi at y gwaith trawsbleidiol sydd ar y gweill, nid yn unig o fewn y pwyllgor ond mewn fforymau eraill hefyd, ond mae angen mynd yn llawer pellach.

Soniodd Llyr a llawer o gyd-Aelodau hefyd am yr anghydbwysedd grym a daeth hynny'n amlwg pan glywsom y dystiolaeth yn ogystal. Credaf fod gennym nod clir go iawn mewn perthynas â grymuso pobl, ac mae angen inni wneud yn siŵr ein bod yn gwrando ar bawb sy'n gwneud cwyn ac yn sicrhau ein bod mor deg a thryloyw â phosibl.

Soniodd Llyr hefyd am yr hawl i apelio, sef ein hargymhelliad olaf, argymhelliad 21. Ar hynny, bydd y pwyllgor yn cyflwyno cynigion ar gyfer diwygio'r ddarpariaeth apelio mewn gweithdrefn ar gyfer ymdrin â chwynion erbyn diwedd y flwyddyn. Felly, byddwn yn gwneud gwaith ar hynny.

Hoffwn ddiolch i arweinydd y tŷ am ei sylwadau a'r ymrwymiad i weithio ar greu'r amgylchedd cywir, er fy mod yn siŵr eich bod wedi clywed pryderon yr Aelodau ynglŷn â gwrthod argymhelliad 12.

Rhaid i bawb gael dealltwriaeth o'r hyn sy'n ymddygiad amhriodol fel y byddant yn gwybod os ydynt yn ei brofi eu hunain neu'n ei weld yn digwydd i rywun arall. Rydym am annog ystod eang ac amrywiol o bobl i ddod i mewn i wleidyddiaeth, ac i wneud hynny mae angen diwylliant sy'n gynhwysol ac sy'n galluogi. Awgryma'r dystiolaeth a gafodd y pwyllgor fod nifer o achosion o aflonyddu rhywiol wedi bod yn y Cynulliad ac nad yw'r rhain wedi cael eu hadrodd yn ffurfiol, ac mae'r pwyllgor o'r farn ei bod yn gwbl annerbyniol fod pobl yn teimlo na allant roi gwybod am eu profiadau.

Ac yn olaf, hoffwn ddweud nad oes modd cyflawni'r newid diwylliannol sydd ei angen dros nos; mae'n mynd i gymryd ymrwymiad ac ymroddiad hirdymor. Yr adroddiad hwn yw dechrau'r sgwrs bwysig honno gyda'r pwyllgor, ac rydym yn croesawu adborth ar ein hargymhellion. Rydym yn annog pobl i wneud awgrymiadau ynglŷn â chamau pellach y gellid eu cymryd yn y dyfodol, a byddwn yn parhau i ddysgu ac i wrando ar eraill ar hyn. Mae gennym oll gyfrifoldeb i sicrhau ein bod yn gosod y safonau uchaf, ac rydym yn benderfynol o greu'r amgylchedd cywir.

17:10

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Dadl ar Ddeiseb P-05-828 Rhagdybiaeth o Blaid Ysgolion Gwledig

Daw hynny â ni at yr eitem nesaf, sef y ddadl ar y ddeiseb 'Rhagdybiaeth o Blaid Ysgolion Gwledig'. Rydw i'n galw ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig. David Rowlands. 

Cynnig NDM6871 David J. Rowlands

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi’r ddeiseb, ‘P-05-828 Rhagdybiaeth o blaid Ysgolion Gwledig’, a gasglodd 5,125 o lofnodion.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd. Ar ran y Pwyllgor Deisebau, hoffwn ddiolch i'r Aelodau am y cyfle i gynnal y ddadl hon heddiw? Mae'r ddeiseb hon, 'Rhagdybiaeth o Blaid Ysgolion Gwledig', yn ymwneud â chod trefniadaeth ysgolion Llywodraeth Cymru a'r amddiffyniad a roddir i ysgolion mewn ardaloedd gwledig. Fel y bydd yr Aelodau'n gwybod, mae diwygiadau diweddar a wnaed i'r cod yn ymgais i ddarparu mesurau diogelwch ac amddiffyniad cryfach i ysgolion gwledig, ac rwy'n llongyfarch y Llywodraeth ar y diwygiadau hynny, sy'n cynnwys rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig yn benodol.

Daeth y cod diwygiedig i rym ar 1 Tachwedd. Mae hyn yn golygu y bydd yr holl gynigion newydd ar gyfer cau ysgolion neu drefniadaeth ysgolion yn cael eu llywodraethu gan broses newydd. Fodd bynnag, nid yw'n berthnasol i gynigion presennol, ac mae'r ddeiseb hon yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud popeth yn ei gallu i sicrhau bod pob awdurdod lleol yn dilyn ysbryd y cod diwygiedig, hyd yn oed pan fydd cynigion yn cael eu penderfynu o dan yr hen fersiwn. Wrth wraidd y ddeiseb ceir pryder fod rhai awdurdodau lleol wedi symud i gau rhai ysgolion gwledig cyn i'r cod newydd ddod i rym. Yn benodol, mae'r deisebwyr yn pryderu am y bwriad i gau Ysgol Gymuned Bodffordd, ysgol gynradd ger Llangefni, Ynys Môn.

Denodd y ddeiseb 5,125 o lofnodion, a hoffwn ddechrau'r ddadl hon drwy gydnabod y gefnogaeth a roddwyd i'r ddeiseb ac ymrwymiad y rheini sydd wedi ymgyrchu i gasglu'r llofnodion. Fel yr amlinellais, mae dyfodol ysgol benodol, Ysgol Gymuned Bodffordd, yn ganolog i'r ddeiseb hon ac i fater dyfodol ysgolion gwledig. Clywodd y Pwyllgor Deisebau fod gan Ysgol Gymuned Bodffordd oddeutu 85 o ddisgyblion ar hyn o bryd. Fel llawer o ysgolion gwledig, mae'n chwarae rhan bwysig yn y gymuned leol, fel man addysg ac fel adnodd cymunedol y gwneir defnydd da ohono. Fodd bynnag, yn wahanol i rai, rydym yn deall mai lefel isel iawn o lefydd gwag sydd ganddi, oddeutu 1.6 y cant yn unig. Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn argymell cau Ysgol Gymuned Bodffordd ac ysgol gynradd arall yn Llangefni, Ysgol Corn Hir. Yn eu lle, mae'r cyngor yn bwriadu adeiladu ysgol newydd fwy o faint gyda lle i 360 o blant.

Cynhaliwyd ymgynghoriad yn gynharach eleni, ac ar ddiwedd mis Medi, cyhoeddodd cyngor Ynys Môn hysbysiad statudol yn cadarnhau ei fwriad i fwrw ymlaen â chau'r ysgol o fis Medi 2020. Oherwydd bod y broses wedi cychwyn cyn i'r cod newydd ddod i rym, gwnaed y penderfyniad yn unol ag argraffiad cyntaf y cod trefniadaeth ysgolion. O dan y cod newydd rhestrir Ysgol Gymuned Bodffordd fel ysgol wledig, felly, er nad yw'n bosibl gwybod a fyddai'r cod newydd wedi arwain at ganlyniad gwahanol, mae'n rhesymol awgrymu y byddai cyngor Ynys Môn wedi gorfod ystyried y cynnig mewn ffordd wahanol pe bai'r broses wedi'i chychwyn yn ddiweddarach. Mae'r deisebwyr yn ceisio gwneud yr achos y dylai fod yn ofynnol i gynghorau, neu fod disgwyl iddynt weithredu'n unol ag ysbryd y cod newydd am fod awydd Llywodraeth Cymru i gryfhau'r amddiffyniad a gynigir i ysgolion gwledig yn hysbys ers peth amser. Fe ganolbwyntiaf ar y mater ehangach hwn am weddill fy nghyfraniad.

Roedd adolygiad o'r polisi mewn perthynas â lleoedd gwag mewn ysgolion, gyda phwyslais ar ysgolion gwledig, yn rhan o'r cytundeb a arweiniodd at benodi Kirsty Williams yn Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg ym mis Mehefin 2016. Cyhoeddwyd ymgynghoriad ar ddiwygiadau i'r cod trefniadaeth ysgolion ar gyfer ymgynghori â'r cyhoedd ym mis Mehefin 2017. Roedd hwn yn cynnwys rhagdybiaeth newydd yn erbyn cau ysgolion gwledig. Yn dilyn hyn, daeth y cod newydd i rym o'r diwedd ar 1 Tachwedd eleni. Mae'r rhagdybiaeth yn erbyn cau yn golygu, mewn gwirionedd, fod yna gyfres fwy manwl o weithdrefnau a gofynion ar waith bellach lle yr argymhellir cau ysgolion gwledig. Fel y nododd Ysgrifennydd y Cabinet ei hun yn flaenorol, nid yw hynny'n golygu nad yw ysgolion gwledig byth yn mynd i gau, ond mae'n golygu bod yn rhaid i'r achos dros gau fod yn gryf ac na ddylid gwneud hynny hyd nes y bydd pob opsiwn dichonadwy yn lle cau wedi'u hystyried yn gydwybodol.

Mae'r deisebwyr yn dadlau nad yw hyn wedi digwydd yn achos Ysgol Gymuned Bodffordd. Maent yn dadlau fod nifer o gwestiynau'n dal heb eu hateb ddwy flynedd ar ôl codi'r cynnig i gau'r ysgol gyntaf. Mae'r rhain yn cynnwys dyfodol yr ysgol feithrin a grwpiau eraill sy'n defnyddio'r ysgol a pha ystyriaeth y mae'r cyngor wedi'i rhoi i opsiynau eraill fel ffedereiddio gydag ysgolion eraill neu ymestyn yr ysgol bresennol.

Wrth wraidd y ddadl mae'r cwestiwn a ddylai awdurdod lleol fwrw ati i gau ysgol wledig heb roi ystyriaeth lawn i'r cod diwygiedig sy'n galw am achos cryfach i oresgyn y rhagdybiaeth yn erbyn cau. Rwy'n ymwybodol nad Ysgol Gymuned Bodffordd yw'r unig ysgol yn y sefyllfa hon. Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi dweud ar sawl achlysur ei bod hi'n disgwyl i awdurdodau lleol ystyried polisi newydd Llywodraeth Cymru tuag at ysgolion gwledig wrth wneud penderfyniadau ynglŷn ag ad-drefnu ysgolion. Fodd bynnag, mae hi hefyd wedi dweud yn glir nad yw'r cod yn ôl-weithredol ac nad oes unrhyw ofyniad statudol i gydymffurfio â'i ddarpariaethau cyn iddo ddod i rym.

I grynhoi, felly, ceir nifer o gwestiynau wrth wraidd y ddeiseb hon a'r ddadl y prynhawn yma. Yn gyntaf, i ba raddau y dylai awdurdodau lleol neu gyrff eraill sy'n argymell cau ysgol ystyried gofynion y cod newydd, hyd yn oed lle nad yw'n ofynnol iddynt wneud hynny'n statudol. Yn ail, sut y gall Llywodraeth Cymru roi grym ymarferol i'w disgwyliad y dylai awdurdodau lleol ystyried ysbryd y cod newydd. Ac yn drydydd, pa gamau eraill y gallai neu y dylai'r Llywodraeth eu cymryd i ddiogelu ysgolion gwledig megis Ysgol Gymuned Bodffordd.

Hyd yn hyn, nid yw'r Pwyllgor Deisebau wedi dod i unrhyw gasgliadau ar y mater hwn, ac o ganlyniad rwyf am adael i eraill ymhelaethu ar yr egwyddorion a'r dadleuon sydd wrth wraidd y mater hwn. Rwyf am orffen trwy ddweud y bydd y Pwyllgor Deisebau'n dychwelyd i ystyried y ddeiseb eto mewn cyfarfod yn y dyfodol yng ngoleuni'r cyfraniadau yn ystod y ddadl y prynhawn yma. Diolch yn fawr.

17:15

Rwy'n llongyfarch y Pwyllgor Deisebau ac yn arbennig y ffordd y cyflwynodd y Cadeirydd y ddadl ac amlinellu'r ystyriaethau a'r dadleuon a roddwyd gerbron y Pwyllgor Deisebau. Fel rhywun a oedd ar y Pwyllgor Deisebau gwreiddiol yn ôl yng Nghynulliad 2007 i 2011, mae gennyf gof da am ymarfer tebyg i hwn a wnaed yn y Cynulliad hwnnw, pan aethom i lawr i orllewin Cymru i edrych ar yr heriau sy'n wynebu awdurdodau lleol ac ysgolion a chymunedau wrth gynnal eu rhwydwaith addysg yn lleol. Oherwydd mae'n bwysig iawn cofio bod ysgolion gwledig yn galon i'r gymuned honno. Mae'n creu egni o fewn y gymuned honno, mae'n creu gweithgaredd sy'n cynnal gwasanaethau eraill o fewn y gymuned ac yn anad dim, mae'n clymu'r gymuned honno gyda'i gilydd.

Rwy'n croesawu ymyrraeth Ysgrifennydd y Cabinet gyda'r cod newydd a ddaeth i rym y mis hwn, rwy'n credu fy mod yn gywir, er iddo gael ei osod gerbron y Cynulliad yn ôl yn yr haf ar gyfer ei ystyried. Hoffwn ystyried un mater yn fy ardal i, ac rwy'n sylweddoli na fydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gallu siarad yn uniongyrchol ynglŷn â chau ysgol Llancarfan, rhywbeth y mae wedi fy nghlywed yn siarad yn ei gylch droeon yn y Siambr hon, ond fe ddynododd y dylai fod rhywfaint o rym gan y cod, er nad oedd mewn grym pan gyhoeddwyd hysbysiadau amrywiol ar gau'r ysgol benodol honno, o gofio ei fod yn y parth cyhoeddus a bod yr awdurdod lleol yn deall ei fod yn rhan o feddylfryd y Llywodraeth ar gyfer cynnal gwead cyfoethog o ddarpariaeth addysg mewn ardaloedd gwledig. Yn wir, o dan y cod, Llancarfan yw'r unig ysgol wledig a grybwyllir yn y rhestr o ysgolion y gwelodd y Llywodraeth yn dda i'w chynnwys yn y cod.

Roedd y cynnig i gau ysgol Llancarfan yn un a gyflwynwyd yn gyntaf yn 2012-13 gan y cyngor a oedd o dan reolaeth Lafur ar y pryd, ac mae llawer o drigolion yn yr ardal yn teimlo ei fod bron yn fusnes anorffenedig gan swyddogion, os yw hynny'n gwneud synnwyr, yr hyn rwyf newydd ei ddweud, yn yr ystyr fod y cynghorwyr presennol wedi mabwysiadu'r gwaith o geisio gorfodi cynnig a oedd yn gynnig diffygiol yn ôl yn 2012, ac wedi rhoi llawer o sylw i'r canllawiau roedd Ysgrifennydd y Cabinet yn eu cyflwyno i ddiogelu eu hysgol. Oherwydd mae ysgol Llancarfan yn ysgol hyfyw iawn. Er nad yw'n llawn, mae ganddi dros 100 o ddisgyblion ar ei chofrestr, mae ganddi ystâd ysgol y gellid ei gwella gyda gwariant cymharol fach, ac mae pob dadl a ddefnyddiwyd gan y cyngor presennol i gau—ac yn ddiddorol, ni fyddant yn defnyddio'r gair 'cau'; maent yn defnyddio'r gair 'adleoli'. Ni allaf weld sut y gallwch ddweud eich bod yn cadw'r ysgol mewn lleoliad pan fydd y safle newydd arfaethedig oddeutu 3 milltir i ffwrdd. Does bosib nad yw hynny'n golled i'r safle, ac i unrhyw un sy'n deall y gair 'cau', dyna yw'r diffiniad o gau.

Mae'r ddeiseb hon sydd wedi dod, rhaid cyfaddef, o'r ochr arall i Gymru, o ben uchaf Cymru yn Ynys Môn, yn berthnasol i sawl agwedd ar yr hyn y mae'r gymuned yn Llancarfan yn brwydro yn ei erbyn. Ac mae'r gymuned honno, bob gafael, wedi cyflwyno cynllun cydlynol i gadw'r ysgol ym mhentref Llancarfan, a chefnogi'r pentrefi cyfagos. Bob tro y caiff dadl ei chyflwyno dros gefnogi a chynnal yr ysgol, cyflwynir dadl amgen gan y cyngor. Y ddadl gyntaf oedd mai'r unig ffordd y gellid cyflwyno arian y rhaglen ysgolion ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain oedd drwy adleoli a chreu ysgol newydd. Diolch i eglurhad a roddwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet ei hun, nid yw hynny'n wir. Gellir defnyddio arian y rhaglen ysgolion ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain i uwchraddio cyfleusterau presennol. Dywedir wrthym wedyn fod y niferoedd yn gostwng yn Llancarfan ac na fyddai'n cynnal y gymhareb athro-disgybl bresennol. Wel, rydym yn gwybod bod galw am addysg yn yr ardal honno, ac mae'r galw hwnnw wedi bod yn gyson ers blynyddoedd lawer a byddai'n gyson am flynyddoedd lawer yn y dyfodol yn ogystal. Felly, nid yw'r ddadl honno'n dal dŵr. Ac yn awr, oherwydd bod gorchmynion angenrheidiol wedi'u gosod, rydym yn clywed y bydd yr ysgol yn cau'n anochel yn pen draw ymhen ychydig flynyddoedd, pan gyflwynir y safle newydd i'r gymuned yn y Rhws. Buaswn yn dweud bod honno, mewn gwirionedd, yn weithred sarhaus—yn amlwg, y teimlad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i gyfleu drwy eu cod newydd.

Rwy'n credu, a buaswn yn gobeithio, y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn defnyddio ei swydd i geisio dylanwadu ar y penderfyniad hwn, oherwydd fel y clywsom, ac fel yr amlinellais yn fy sylwadau heddiw, mae'n ffaith bod modd defnyddio arian y rhaglen unfed ganrif ar hugain i uwchraddio'r ysgol honno, mae'n ffaith bod digon o blant ar y gofrestr i gynnal y ddarpariaeth addysg yn yr ysgol, mae'n ffaith bod yr ysgol wedi cael adroddiad da gan Estyn, ac mae'n ffaith ein bod yn nodi ei bod yn bwysig fod ysgol wledig yn cael ei chynnal ac na chaiff ei hystyried ar gyfer ei chau fel mater o drefn yn unig. Ni ddylid ei hystyried ar gyfer ei chau hyd nes y bydd pob opsiwn posibl wedi'i ystyried a'i archwilio, ac nid wyf yn credu bod hynny'n wir yma. Felly, rwy'n croesawu'r adroddiad y mae'r Pwyllgor Deisebau wedi'i gyflwyno, ac sydd wedi amlygu dadleuon amrywiol, er bod hynny mewn rhan arall o Gymru, ond sy'n berthnasol i weddill Cymru, ac yn fy ardal etholiadol, yn enwedig mewn perthynas ag ysgol Llancarfan. A hoffwn ddiolch i Aelodau eraill yn y Siambr sydd wedi helpu yn yr ymgyrch ac yn sicr byddaf yn parhau i gefnogi cymuned Llancarfan, oherwydd nid yw hyn wedi gorffen eto, a byddwn yn parhau i frwydro i gadw'r ysgol ym mhentref Llancarfan.

17:25

Rydw i'n gwisgo sawl het heddiw. Rydw i'n byw mewn pentref gwledig lle mae'r ysgol wedi bod o dan fygythiad yn ddiweddar. Rydw i'n gyn-aelod o'r Pwyllgor Deisebau. A fi ydy Aelod Cynulliad y rhai a drefnodd y ddeiseb yma, rhieni a chefnogwyr Ysgol Gymuned Bodffordd, sy'n ddidwyll ac yn onest yn brwydro'n galed iawn i achub eu hysgol.

Tri deg un o blant oedd yn fy ysgol gynradd gyntaf i. Yn yr ail, mi oedd yna dros 200. Roedden nhw'n ysgolion da, ond mae'n rhaid i fi ddweud hynny, gan mai dad oedd y pennaeth. Mi aeth fy mhlant i ysgol gynradd ddinesig efo 350 o blant yn gyntaf, ac yna i ysgol o ychydig o dan 100 o blant yn Ynys Môn. Felly, pedair ysgol wahanol iawn, ond profiad positif o addysg yn y pedair. Felly, fel cefndir i'r drafodaeth yma, a gaf i ddweud nad ydw i'n derbyn dadleuon bod rhaid i ysgol fod yn fawr er mwyn cynnig profiad addysg gynradd effeithiol, ac nid ydw i chwaith yn prynu'r dadleuon bod plant yn hapusach, o reidrwydd, mewn ysgol fach wledig? Rydw i'n grediniol bod modd darparu addysg gynradd safonol a gofalgar beth bynnag ydy maint yr ysgol.

Ac eto, rydym ni'n gweld symudiad amlwg ar draws Cymru tuag at gau ysgolion bach gwledig. Y broblem sydd gennym ni, mae gen i ofn, ydy problem ariannol a phroblem staffio. Mae llawer o'n hysgolion cymharol fach ni yng nghefn gwlad yn hen neu'n heneiddio. Maen nhw'n gyffredinol ddrud i'w cynnal a'u cadw. Maen nhw'n ddrud i'w staffio wedyn, os ydy'r ratios staff i ddisgyblion yn fach. Hefyd ar yr ochr staffio, mae arweinyddiaeth yn broblem. Yn llawer rhy aml, mae'n anodd iawn penodi pennaeth mewn ysgol fach wledig. Ar ben hynny, mae'r naratif ehangach yma fod ysgol fwy yn gyffredinol yn well, a chyfuniad o'r pethau yma, rydw i'n meddwl, sy'n gwneud i gynghorau deimlo nad oes ganddyn nhw fawr o ddewis ond rhesymoli neu ad-drefnu neu foderneiddio eu rhwydweithiau ysgolion. A waeth i mi fod yn onest: mae'r gost yn ffactor mor flaenllaw ym mhopeth yn y dyddiau yma o lymder. Ond beth am werth yr ysgol fel adnodd cymdeithasol? Ac nid ydw i'n sôn yn angenrheidiol am y neuadd ysgol yn cael ei defnyddio bob nos ac ati, er bod hynny'n digwydd mewn llawer o lefydd, ond sôn ydw i am yr ysgol fel glud cymunedol, a dyna ddod â ni at y ddeiseb yma.

Mae'r deisebwyr ym Môn wedi cael gobaith bod yna fodd i warchod y glud cymunedol yna. Mae'r gobaith yn dod ar ffurf cod diwygiedig Llywodraeth Cymru, y cod diwygiedig a ddaeth i rym ar y cyntaf o'r mis yma, sy'n cyflwyno rhagdybiaeth o blaid cadw ysgolion gwledig ar agor. Rydw i'n cytuno efo'i gynnwys e, gyda llaw; nid oes gen i ddim problem. Beth mae o'n ei ddweud ydy bod angen i awdurdod lleol brofi eu bod nhw wedi ystyried opsiynau eraill cyn cau, eu bod nhw wedi mynd drwy amrywiol brosesau manwl cyn penderfynu cau. Beth sydd yma ydy canllawiau i awdurdodau i'w dilyn wrth lunio cynnig ac wrth wneud y penderfyniad i gau. I ddyfynnu eto:

'Nid yw rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig yn golygu na fyddant byth yn cau.'

Felly, gadewch i mi fod yn glir: nid oes mesurau penodol i gadw ysgolion gwledig ar agor mewn statud, a siawns mai mesurau penodol, gan gynnwys adnoddau, sydd eu heisiau.

Eto, rydw i'n pwysleisio fy mod i'n cytuno efo beth mae'r cod yn ei ddweud. Mae o'n mynnu ystyried ffederaleiddio, a rhag ofn bod gwerth i fy marn i ar hyn, rydw i'n credu y dylid gwneud popeth i gadw ysgol yn ei chymuned. Rydw i'n ffafrio, yn bersonol, ysgolion ardal aml-safle, lle mae nifer o ysgolion yn dod at ei gilydd o dan un pennaeth, o dan un corff llywodraethol. Ond rydw i'n gwybod yn iawn nad yw hyn yn cynnig y math o arbedion ariannol y mae'n rhaid i gynghorau eu gwneud y dyddiau yma oherwydd llymder. Felly, mae angen i Lywodraeth Cymru gydnabod costau uwch darparu addysg mewn ardal wledig, os am wneud hynny'n rhagorol, a rhoi'r gefnogaeth angenrheidiol i awdurdodau sy'n gwasanaethu ardaloedd gwledig i ddarparu system addysg sy'n gweddu i'w cymunedau gwledig nhw.

Mae yna grantiau ysgolion gwledig ar gael, ond nid ydyn nhw'n ddigon: £2.5 miliwn y flwyddyn. Yn ôl y Llywodraeth, mae yna dros 300 o ysgolion wedi elwa yn y flwyddyn gyntaf—rhyw £8,000 yr ysgol ydy hynny. A thra fy mod i'n croesawu unrhyw arian ychwanegol, nid ydy hwnnw y math o arian sy'n gallu cadw ysgol ar agor. Mae'r Llywodraeth yn dweud—ac wedi dweud mewn ateb i gwestiynau gen i—bod modd i awdurdodau wneud ceisiadau am arian o'r cynllun ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, ond y gwir amdani ydy ei bod hi'n haws cyfeirio'r arian hwnnw o'r gronfa benodol honno at adeiladu ysgolion newydd mwy. Ond os nad ydy'r arian gennych chi, Lywodraeth Cymru, byddwch yn onest, a pheidiwch â phasio'r bai i gyd i lywodraeth leol. Mae eisiau cydweithio yn fan hyn. 

Felly, i grynhoi, mae cau rhai ysgolion yn anochel, rydw i'n meddwl. Pan fo ysgol i lawr i ddwsin neu ddau o blant, rydw i'n meddwl ein bod ni wedi mynd y tu hwnt i beth sy'n gynaliadwy. Ond os ydy'r Llywodraeth o ddifri bod yna werth cynhenid i ysgol fach wledig, wel, helpwch ein hawdurdodau lleol ni. Fel arall, nid oes gan Ynys Môn, na'r un awdurdod arall, ddewis ond parhau i chwilio am ffyrdd i ddarparu addysg ragorol mewn ysgolion mwy, rhatach, yn hytrach na cheisio darparu addysg ragorol mewn ysgolion gwledig llai, fel rydw i'n gwybod sy'n berffaith, berffaith bosib.

17:30

Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i gyfrannu at y ddadl hon, ac rwy'n falch iawn o ddilyn Andrew R.T. Davies a chodi unwaith eto ein gwrthwynebiad ar y cyd ar draws y Siambr hon i gynnig diweddaraf Cyngor Bro Morgannwg—wrth gwrs, mae bellach yn gyngor dan reolaeth Geidwadol—i gau ysgol lwyddiannus yn fy etholaeth i a rhanbarth Andrew, sef Ysgol Gynradd Llancarfan. Credaf ei bod yn berthnasol imi godi rhai o'r pwyntiau y buom yn eu codi dros yr ychydig fisoedd diwethaf. Croesawyd y ffaith bod Llancarfan wedi'i dynodi'n unig ysgol wledig Bro Morgannwg, ac roeddem wedi gobeithio y byddai hynny'n cynnig rhyw lefel o amddiffyniad wrth ystyried canlyniad yr ail ymgynghoriad cyhoeddus ar ddyfodol yr ysgol. Ond roedd hi'n ymddangos bod Cyngor Bro Morgannwg yn anwybyddu'r ymatebion i'r ymgynghoriad ac fel y dywedais eisoes y prynhawn yma mewn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet, nid yw wedi ystyried opsiynau eraill megis ffedereiddio, ac mae'n bwrw ymlaen â'i gynlluniau.

Mae gennym bryderon difrifol am y cynnig i gau ysgol Llancarfan, ysgol wledig lwyddiannus ym Mro Morgannwg. Ceir gwrthwynebiad a dadleuon eang yn erbyn y cynlluniau i gau gyda thystiolaeth annibynnol drylwyr gan arbenigwyr, ac rwyf wedi dweud bod y cysyniad mai trosglwyddo ysgol yn hytrach na chau yw hwn, fel y dywedodd Andrew, yn anghywir ac yn peri pryder, ac mae'n dwyn anfri ar Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013. Mae hefyd yn ddehongliad unigryw o'r cod trefniadaeth ysgolion, a gallai osod cynsail yn wir i awdurdodau lleol ddefnyddio trosglwyddo ysgolion fel ffordd o osgoi mesurau diogelu ychwanegol ar gyfer ysgolion gwledig yn y cod diwygiedig. Felly, a gawn ni ofyn i Lywodraeth Cymru ystyried y materion a amlinellais?

Rwy'n siomedig nad yw'n ymddangos bod unrhyw ymgais gan gyngor y Fro i ystyried dewisiadau amgen ar gyfer cynnal ysgol wledig lwyddiannus yn Llancarfan a gwella'r ddarpariaeth yn Ysgol Gynradd Rhws, a allai wneud defnydd o raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain.

Mae'r ddeiseb, wrth gwrs, yn ymwneud â mater penodol ac ynglŷn â pha fersiwn o'r cod y dylid ei ddefnyddio mewn achos arbennig ar Ynys Môn—hynny yw, yr hen fersiwn ynteu'r fersiwn newydd; 2013 yn hytrach na 2018. Nid oes gen i ddim sylwadau penodol i'w gwneud am yr achos yna nac ar ba un ydy'r fersiwn y dylid cael ei ddefnyddio. Mae hwn yn fater manwl iawn sydd angen ystyriaeth. Ond hoffwn i gymryd y cyfle jest i wneud ychydig o sylwadau cyffredinol ynglŷn â'r holl faes addysg wledig ac ysgolion bach.

Mae'r cod newydd yn nodi bod yn rhaid dilyn cyfres o weithdrefnau a gofynion manylach wrth benderfynu cau ysgol wledig. Ond fel y mae'r Ysgrifennydd Cabinet ei hun wedi'i ddweud, ac fel y mae eraill wedi tynnu sylw ato fo yn barod, nid yw rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig yn golygu na fyddant byth yn cau. Rydw i'n siŵr—rydw i'n hollol sicr—fod awdurdodau lleol yn rhoi ystyriaeth lawn ar effaith unrhyw gau, cod neu beidio, a bod ffedereiddio, ysgolion aml-safle yn opsiynau real iawn, a bod eisiau cymryd hynny i ystyriaeth.

Nid oes neb, wrth gwrs, eisiau gweld ysgol fach yn cau. Mae yna ymlyniad teuluol, mae yna ymlyniad emosiynol, mae ysgolion yn gallu bod yn ganolbwynt cymunedol—ddim bob tro, ond mewn rhai cymunedau maen nhw'n hollbwysig i ffyniant y cymunedau hynny. Mae yna enghreifftiau lu o ysgolion sydd yn bell iawn o'r ysgol nesaf—ysgolion sydd 20 milltir i ffwrdd o'i gilydd. Mae'n amlwg bod ysgolion felly angen cael eu meddwl amdanyn nhw'n benodol, achos mae'r teithio yn mynd i fod yn cael effaith andwyol ar blentyn ac ar addysg y plentyn yna. 

Ond, fel y mae Rhun wedi sôn, mae addysg gwledig angen adnoddau, a'r adnoddau hynny'n sy'n brin ar hyn o bryd. Mae gen i felly bob cydymdeimlad efo awdurdodau lleol sy'n ceisio cael y balans rhwng cynnal adeiladau sydd bellach yn rhy fawr ar gyfer yr anghenion presennol a thalu costau staffio trwm—balansio hynny ar yr un llaw—a'r angen i roi'r cyfle gorau posibl i bob plentyn o fewn dalgylch yr awdurdod yna i gyrraedd eu llawn potensial. 

Un pot o bres sydd yna ar gael, ac yn aml mae angen i gynghorwyr gymryd penderfyniadau anodd, amhoblogaidd os ydyn nhw am greu tegwch ar gyfer pob plentyn. Felly, i'r cod fod yn ystyrlon, mae'n rhaid iddo fo gael ei gefnogi gan adnoddau, a'r rheini yn adnoddau digonol. Yn anffodus, rydym ni'n gwybod pa mor anodd ydy hynny yn y dyddiau yma o gynnu a llymder.

17:35

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams.

Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Rwyf wedi gwrando'n ofalus ar y ddadl a gafwyd y prynhawn yma ac rwy'n ddiolchgar i'r Aelodau am yr amser y maent wedi'i roi i gymryd rhan ac am yr angerdd clir y mae llawer ohonynt wedi'i fynegi ynglŷn ag ysgolion gwledig yn yr ardaloedd y maent yn eu cynrychioli.

Rwy'n glir y gall fod manteision gwirioneddol—academaidd, diwylliannol a chymdeithasol—i ddisgyblion a chymunedau o ddarparu addysg o ansawdd uchel mewn ysgolion bach a gwledig. Rwy'n gwybod, ac mae rhieni ar draws y cymunedau gwledig yn gwybod, fod ysgolion bach a gwledig yn chwarae rhan bwysig yn codi safonau ac yn cynnig cyfleoedd i bawb. Rwyf hefyd yn gwybod y gall cynnal darpariaeth ysgol hygyrch mewn rhai cymunedau gwledig bach gyfrannu'n sylweddol at sicrhau cynaliadwyedd hirdymor y gymuned leol, a dyna pam mai un o'r ymrwymiadau cyntaf a wneuthum fel Ysgrifennydd Addysg oedd cryfhau'r cod trefniadaeth ysgolion mewn perthynas â rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig.

Byddai'n rhaid imi ddweud, yn ofalus, wrth Rhun ap Iorwerth fod hwnnw'n ymrwymiad ym maniffesto fy mhlaid a roddwyd ar waith gennyf, a nodaf nad oedd unrhyw sôn am ysgolion gwledig yn y ddwy faniffesto ddiwethaf a gyhoeddwyd gan Blaid Cymru. Tristwch yw nodi hefyd fod cyngor Ynys Môn, yn eu hymateb i'r ymgynghoriad ar y cod newydd, wedi gwrthwynebu'r egwyddor o ragdybiaeth yn erbyn cau.

Ond fe wnewch chi ychwanegu at hynny fod cyngor Ynys Môn, mewn cyflwyniad dilynol i Lywodraeth Cymru, wedi dweud yn glir eu bod yn cefnogi'r cod.

Yn amlwg, mae'n rhaid bod eich lobïo wedi talu ar ei ganfed ac nid oeddent eisiau—. Roeddent am arbed embaras i chi, Rhun.

Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus 14 wythnos o hyd, daeth y cod diwygiedig i rym, fel y dywedodd y Cadeirydd, ar 1 Tachwedd, cod sydd bellach yn cynnwys rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig, a dynodi ysgolion gwledig am y tro cyntaf erioed at y diben hwn. Nid yw rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig yn golygu—ac rwyf wedi bod yn glir iawn ynglŷn â hyn—na fydd ysgolion gwledig byth yn cau. Fodd bynnag, mae'n golygu bod yn rhaid i'r achos dros gau fod yn gryf ac ni ddylid ei wneud hyd nes y bydd pob dewis amgen dichonadwy yn lle cau wedi'u hystyried yn gydwybodol, ac mae hynny'n cynnwys yr egwyddor o ffedereiddio. Rwy'n credu y dylai ystyried dewisiadau eraill fod yn broses ag iddi ddau gam, gyda'r cynigydd yn gwneud hyn cyn iddynt benderfynu symud ymlaen i ymgynghori hyd yn oed, gyda chyfle i unrhyw un arall sydd â diddordeb gyflwyno awgrymiadau ar gyfer dewisiadau amgen fel rhan o'r ymgynghoriad, a rhaid i'r cynigydd eu hystyried, ac mae'r cod newydd yn darparu ar gyfer hyn.

Wrth gwrs, mae'n bwysig i'r Aelodau gofio nad Llywodraeth Cymru ond awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am gynllunio lleoedd ysgol ac am sicrhau bod digon o ysgolion yn darparu addysg gynradd ac uwchradd yn eu hardal. Ystyrir bod ysgolion yn ddigonol os ydynt yn ddigonol o ran nifer, ansawdd a chyfarpar i roi cyfle i'r holl ddisgyblion gael addysg briodol. Er mwyn cyflawni'r dyletswyddau hyn, rhaid i awdurdodau lleol sicrhau eu bod yn cynllunio'n drylwyr ar gyfer yr ysgolion sy'n gwasanaethu eu hardal. Mae hyn yn cysylltu'n uniongyrchol â dyletswydd awdurdod lleol i ymdrechu i godi safonau addysg.

Bydd cynigwyr wedi trafod yn hir a ddylid bwrw ymlaen i ymgynghori ar gau ysgol. Fodd bynnag, mae'n bwysig fod y cynigydd yn agored i syniadau ac awgrymiadau a chynigion newydd sy'n dod i'r amlwg o'r ymgynghoriadau, ac nad yw'r penderfyniad terfynol y gall cynigydd ei wneud yn un anochel. Wrth ymgymryd â'u cyfrifoldebau mewn perthynas ag ad-drefnu ysgolion, rhaid i awdurdodau lleol a chyrff perthnasol eraill gydymffurfio â darpariaethau statudol y cod a rhaid iddynt ystyried y canllawiau statudol. Mae'r cod yn cydnabod bod yn rhaid i addysg fod yn brif ystyriaeth. Bwriad y rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig yw ceisio sicrhau cydbwysedd rhwng cyfrifoldebau awdurdodau lleol a dymuniadau a phryderon cymunedau lleol. Ei nod yw sicrhau bod ysgolion gwledig yn cael gwrandawiad teg ac na welir cau fel unig opsiwn neu ganlyniad anochel.

Fel y nodais eisoes, daeth y cod diwygiedig i rym ar 1 Tachwedd a daeth yn weithredol ar unwaith. O'r dyddiad hwnnw, bydd angen i awdurdodau lleol sy'n ystyried cyflwyno cynigion i gau ysgol edrych i weld a yw'r ysgol ar y rhestr a bydd y gweithdrefnau a'r gofynion pellach a nodir yn y cod yn berthnasol wedyn. Fodd bynnag, nid yw'r darpariaethau newydd yn berthnasol i gynigion sydd eisoes ar y gweill, lle y cyhoeddwyd yr ymgynghoriad cyn i'r cod ddod i rym. Ac mae hyn yn angenrheidiol er mwyn sicrhau bod modd i'r cynigwyr gydymffurfio â'r cod sydd mewn grym, gan gynnwys mewn perthynas â'u hymgynghoriad. Ac er nad yw'r rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig yn berthnasol i'r cynigion hyn, rhaid i awdurdodau lleol a chynigwyr eraill sicrhau er hynny eu bod yn cydymffurfio ag argraffiad cyntaf y cod. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod y cynnig i gau unrhyw ysgol yn gadarn ac er budd gorau'r ddarpariaeth addysg yn yr ardal honno, a bod effaith cau ysgol ar y gymuned wedi'i hasesu drwy gynhyrchu asesiad o'r effaith ar y gymuned.

Mae'r cod yn gosod safon uchel ar gyfer ymgynghori, gan ddarparu ar gyfer pawb sydd â diddordeb mewn lleisio eu barn a chael y safbwyntiau hynny wedi'u hystyried. Gall unrhyw un sydd â diddordeb fynegi eu barn hefyd drwy gyfrwng unrhyw gyfnod gwrthwynebu a allai ddilyn.

O ran y ddeiseb, bydd yr Aelodau'n sylweddoli, o ystyried y posibilrwydd y gallai cynigion gael eu hatgyfeirio at Weinidogion Cymru am benderfyniad—ac rwyf wedi gorfod gwneud penderfyniadau o'r fath—nid wyf yn gallu gwneud sylwadau ar rinweddau neu fel arall unrhyw gynnig a allai gael ei atgyfeirio ataf wedyn am benderfyniad.

17:40

A gaf fi ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am gymryd yr ymyriad a diolch i chi am y penderfyniad a wnaethoch mewn perthynas ag Ysgol Llanbedr yn fy etholaeth i, ysgol yr oedd yr awdurdod lleol wedi bwriadu ei chau, ond roeddwn yn ddiolchgar iawn am eich penderfyniad i gadw'r ysgol benodol honno yn agored? Credaf mai'r un pryder ynghylch y broses o wneud penderfyniadau, os caf ddweud, yw faint o amser y mae'n ei gymryd weithiau i Weinidogion Cymru ystyried y dystiolaeth sydd ger eu bron. Tybed a allech roi sylwadau ar sut y gellid lleihau'r amser er mwyn cael gwared ar yr ansicrwydd y gall hynny ei achosi i ysgolion bach pan fydd penderfyniadau o'r fath o dan ystyriaeth.

Diolch i chi, Darren, am eich diolch o ran y penderfyniad. Fi fyddai'r cyntaf i gyfaddef yma a chytuno â chi fod y penderfyniad hwnnw wedi cymryd gormod o amser a bydd angen i ni wneud yn well i sicrhau bod penderfyniadau o'r fath a allai ddod i Weinidogion yn cael eu gwneud mewn modd mwy amserol, ac rwy'n gobeithio y bydd fy swyddogion a minnau'n gallu defnyddio'r profiad hwnnw i sicrhau bod y gweithdrefnau'n gynt y tro nesaf y daw cynnig o'r fath gerbron. Rwy'n gobeithio bod y gymuned yn falch, ac rwy'n dymuno'n dda i'r ysgol honno.

Wrth gwrs, nid yw'r rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig ond yn un o'r camau rydym yn eu rhoi ar waith, Lywydd, i gefnogi addysg wledig. Rydym hefyd wedi cyflwyno grant ysgolion bach a gwledig newydd o £2.5 miliwn y flwyddyn i annog arloesedd ac i gefnogi mwy o weithio o ysgol i ysgol a chynyddu'r defnydd cymunedol o adeiladau. Mae tua 400 o ysgolion ledled Cymru eisoes yn elwa o'r grant hwnnw. Mae hyn, ochr yn ochr â'n mentrau E-sgol newydd, sy'n cynorthwyo ysgolion yn yr oes ddigidol i gyflwyno technegau addysgu arloesol, yn rhan allweddol o'n cynllun gweithredu addysg wledig, a lansiais fis diwethaf. Rwy'n hyderus y bydd y cynllun hwn, sy'n dwyn ynghyd holl gamau gweithredu'r Llywodraeth ar gyfer ysgolion gwledig mewn un cynllun cydlynol, yn darparu ar gyfer ein pobl ifanc er mwyn sicrhau bod pawb, ni waeth beth yw eu cefndir neu lle maent yn byw, yn cael cyfle i fwynhau addysg ragorol.

17:45

Diolch, Lywydd. A gaf fi ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau i'r ddadl, a diolch i'r deisebydd unwaith eto am gyflwyno'r ddeiseb?

Rwyf am grynhoi'n fyr rai o'r sylwadau a wnaed. Gwnaeth Andrew R.T. Davies y pwynt fod ysgol wledig yn aml yn galon i'r gymuned, gan gyfeirio at ysgol Llancarfan yn ei etholaeth fel enghraifft o gau ysgol y ceir dadl gref dros ei chadw ar agor.

Dadleuodd Rhun ap Iorwerth nad oes angen i ysgol fod yn fawr er mwyn rhoi profiad addysgol da, a siaradodd hefyd am yr anhawster i gael athrawon i ysgolion gwledig bach fel cydnabyddiaeth o ba mor anodd yw hi, yn aml, i awdurdodau lleol gadw ysgolion ar agor. Ailadroddodd y pwynt a wnaeth Andrew am ysgolion gwledig yn rhan o'r gymuned. Hefyd, wrth gwrs, gofynnodd am fwy o gymorth ariannol i awdurdodau lleol heb orfod mynd drwy broses o ymgeisio amdano.

Roedd Jane Hutt yn cwestiynu pam y gallai'r gweithdrefnau presennol ddal i arwain at gau ysgolion gwledig llwyddiannus, a hefyd yn cwestiynu pam, yn aml, nad yw dewisiadau amgen bob amser yn cael eu harchwilio'n llawn.

Siaradodd Siân Gwenllian yn gyntaf oll, wrth gwrs, am Ysgol Gymuned Bodffordd a chydnabu wedyn fod yna achosion lle mae ysgolion yn gorfod cau, ond hefyd soniodd am y pellteroedd y gallai disgyblion orfod eu teithio—weithiau hyd at 20 milltir—ac y dylid ystyried hynny wrth wneud penderfyniadau ynglŷn â chau ysgolion gwledig. 

I droi at ymatebion Ysgrifennydd y Cabinet, cydnabu gymaint o adnodd cymunedol yw ysgolion gwledig yn aml. Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet mai dyma oedd un o'r rhesymau dros gryfhau'r cod. Hefyd gwnaeth y pwynt fod yn rhaid i'r awdurdodau gynnal ymgynghoriad llawn yn awr cyn cau ysgol mewn gwirionedd, ac mae dyletswydd arnynt i gydymffurfio â gofynion statudol y cod. Nid wyf yn siŵr ei bod hi wedi ateb y ddeiseb mewn gwirionedd wrth ddweud hynny, oherwydd mae'r ddeiseb yn galw am roi rhywfaint o bwysau ar awdurdodau i edrych ar ysbryd y cod yng ngoleuni'r ffaith bod y cod wedi'i gryfhau.

Bydd y Pwyllgor Deisebau yn dychwelyd i ystyried y ddeiseb eto mewn cyfarfod yn y dyfodol. Wrth wneud hynny, byddwn yn ceisio ystyried ymateb y deisebydd i'r pwyntiau a godwyd heddiw, ac wrth gwrs, yr ymateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg. Ar ran y Pwyllgor Deisebau, rwy'n ddiolchgar i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau ac am y cyfle i drafod y mater hwn heddiw. Diolch.

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

8. Cyfnod Pleidleisio

Mae hynny'n dod â ni at y cyfnod pleidleisio. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno i fi ganu'r gloch, rydw i'n symud yn syth i'r cyfnod pleidleisio, a'r bleidlais ar ddadl Aelodau ar gyllid addysg bellach. Rydw i'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Bethan Sayed. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 22, tri yn ymatal, 21 yn erbyn, felly, derbyniwyd y cynnig.

NDM6862 - Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Cyllido Addysg Bellach: O blaid: 22, Yn erbyn: 21, Ymatal: 3

Derbyniwyd y cynnig

17:50
9. Dadl Fer: Trafnidiaeth Cymru: Y ffordd o drawsnewid gwasanaethau rheilffyrdd yn Islwyn

Mae hynny'n dod â ni at y ddadl fer. Rydw i'n galw ar Rhianon Passmore i gyflwyno y cynnig yn ei henw hi ar Drafnidiaeth Cymru. Rhianon Passmore. 

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Os ydych yn gadael y Siambr, a allwch wneud hynny'n gyflym ac yn dawel, os gwelwch yn dda? Rhianon.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch i chi.

Mae'n ffaith bod rhwydwaith rheilffyrdd Cymru wedi'i amddifadu o fuddsoddiad yn y gorffennol. Ers 2011, tua 1 y cant yn unig o'r gwariant ar wella rheilffyrdd ledled Cymru a Lloegr a wnaed ar lwybrau yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi arwain y ffordd drwy fynnu'n gadarn fod rheilffyrdd Cymru'n cael eu hariannu'n briodol. Yn gynharach yr wythnos hon, mewn ymateb uniongyrchol i sylwadau parhaus a llafar gan Lywodraeth Cymru, mae Network Rail wedi datgelu pot o arian cyhoeddus gwerth £2 biliwn rhwng 2019 a 2024 ar gyfer llwybrau Cymru a'r gororau sydd wedi'u tanariannu yn y gorffennol. Dyma'r tro cyntaf i'r cynllun ariannu ar gyfer y llwybr, sy'n cynnwys Cymru a chysylltiadau cyfagos yn Lloegr fel Amwythig, gael ei ddatblygu o dan system ranbarthol ddatganoledig Network Rail. Mae'r cynllun ariannu yn gynnydd o 28 y cant ar y ffigur ar gyfer y cyfnod cyllido pum mlynedd diwethaf, a bydd yn cefnogi buddsoddiad Trafnidiaeth Cymru o £5 biliwn dros 15 mlynedd.

Mae'n ffaith bod llwybr Cymru a'r gororau wedi'i amddifadu o arian ers blynyddoedd lawer, er gwaethaf galw cynyddol a chynnydd o tua 50 y cant yn nifer y teithwyr dros y degawd diwethaf. Felly, hoffwn gydnabod ymrwymiad Ysgrifennydd y Cabinet i drafnidiaeth a seilwaith yn ei ymdrechion penderfynol a strategol i sicrhau bod gan fy etholwyr yn Islwyn a ledled Cymru reilffordd sy'n wirioneddol addas at y diben yn yr unfed ganrif ar hugain. O dan y Llywodraeth hon, bydd hyn yn digwydd.

Bydd Trafnidiaeth Cymru yn sicr o fod yn drobwynt yn hanes datganoli a hanes y rheilffyrdd yng Nghymru. Felly, gadewch inni fod yn onest: ni chafodd y rhwydwaith a'r seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru eu hadeiladu gyda'r prif nod o gludo pobl. Fe'u hadeiladwyd yn ystod chwyldro diwydiannol mawr oes y Frenhines Victoria er mwyn gwasanaethu diwydiannau chwyldroadol Cymru a oedd yn arwain y byd, sef glo, dur a haearn. Cafodd y gwasanaethau ac yn ddiweddarach, y llwybrau i deithwyr a ddatblygodd wedyn, eu chwalu gan doriadau Beeching yn y 1960au.

Felly, ar ôl sefydlu datganoli, roedd Llywodraeth Lafur Cymru yn benderfynol o hwyluso teithio effeithiol a chynaliadwy ar gyfer y dyfodol, a chreu Trafnidiaeth Cymru. Mae'n gywir dweud hefyd fod y potensial i drawsnewid cymunedau Islwyn yno o fewn ein gafael yn wir. Ac fel yr Aelod Cynulliad dros Islwyn, mae fy mewnflwch, llythyrau a negeseuon gan etholwyr wedi gresynu'n gyson ac yn briodol at berfformiad gwael a'r diffyg cysur wrth deithio o dan weithredwr blaenorol y fasnachfraint, Trenau Arriva Cymru. Rwyf wedi cyflwyno'r rhain a materion eraill i Ysgrifennydd y Cabinet ar sawl achlysur yn y Siambr. Felly, byddaf yn trin y feirniadaeth gan arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Siambr ddoe am fis cyntaf—pedair wythnos gyntaf—gweithgarwch Trafnidiaeth Cymru, a chyfleustra gwleidyddol pur y fath feirniadaeth, â'r sinigiaeth y mae'n ei haeddu.

Mae'n gywir dweud bod gan Trafnidiaeth Cymru agenda wirioneddol drawsnewidiol. Bydd bron i £5 biliwn yn cael ei fuddsoddi yn ystod 15 mlynedd y contract, a bydd yn cynnwys cynlluniau i wario £194 miliwn ar welliannau i orsafoedd, gan gynnwys adeiladu pum gorsaf newydd, a glanhau gorsafoedd yn drylwyr. Mae hyn yn drawsnewidiol i Gymru. Er nad yw creu gorsafoedd rheilffordd newydd yn fater datganoledig o hyd, rwy'n meddwl tybed beth yw barn Ysgrifennydd y Cabinet am y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi cael y pwerau hyn, sy'n allweddol ar gyfer ehangu ôl-troed y rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghymru.

Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol, rwy'n credu, o'r ddadl gref dros agor gorsaf eto yng Nghrymlyn. I gymunedau fel Crymlyn, bydd agor gorsaf newydd a gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus integredig yn cynnig cyfleoedd economaidd go iawn ac yn gwella potensial pwll glo rhestredig Navigation o ran treftadaeth a thwristiaeth, yn ogystal ag ymladd y frwydr strategol yn erbyn llygredd cerbydau. Felly, i'ch dyfynnu chi, Ysgrifennydd y Cabinet,

'Nid prosiect trafnidiaeth traddodiadol mo'n cynlluniau ni—nhw fydd y gwreichionyn fydd yn tanio adfywiad economaidd ehangach. Rhaid iddyn nhw helpu unigolion, busnesau a chymunedau y mae angen system trafnidiaeth integredig a dibynadwy arnynt i'w helpu i ddod o hyd i swyddi newydd, i helpu eu busnesau i ehangu ac i ddenu buddsoddiad newydd i'w trefi.'

Mae cymunedau Islwyn eisoes yn gyfarwydd â'r manteision sy'n deillio o fuddsoddiad Llywodraeth Cymru i'n rheilffyrdd. Ddegawd ar ers ailagor rheilffordd Glyn Ebwy, gwelodd adroddiad a gyhoeddwyd yn gynharach eleni ei bod wedi bod yn hynod lwyddiannus yn cynyddu mynediad at y farchnad swyddi a lleihau nwyon tŷ gwydr. Roedd ailagor y rheilffordd yn hwb gwirioneddol, nid yn unig i economi Glynebwy, ond hefyd i ardaloedd megis Trecelyn, Crosskeys, Rhisga a Phontymister yn fy etholaeth. Mae ailagor y rheilffordd hon wedi darparu llawer gwell cysylltedd â Chaerdydd, boed ar gyfer gwaith neu hamdden, i lawer o fy etholwyr. Er bod hyn, wrth gwrs, yn rhywbeth rwy'n ei groesawu, bydd Ysgrifennydd y Cabinet hefyd yn ymwybodol iawn, ers imi gael fy ethol, fy mod wedi ymgyrchu'n gryf dros gysylltiadau rheilffordd gwell o Islwyn i mewn i Gasnewydd.

O'r holl gynigion rhagorol sydd wedi'u cynnig yn y fasnachfraint newydd hon, rwy'n croesawu'n fawr iawn y cyhoeddiad y bydd gwasanaeth bob awr rhwng Glynebwy a Chasnewydd. Rwy'n gwybod y bydd y newyddion yn cael croeso gan lawer iawn o fy etholwyr sy'n cymudo i mewn i Gasnewydd yn rheolaidd. Rwy'n gwybod y bydd hyn yn hwb sylweddol i'r economi yng Ngwent, pa un a ydynt yn cymudo ar gyfer gwaith neu bleser. Rwy'n gwybod bod hyn yn rhywbeth y mae nifer o fy nghyd-Aelodau hefyd wedi ymgyrchu drosto a chaiff groeso mawr ganddynt hwythau hefyd, a chan y South Wales Argus, rwy'n siŵr, sydd wedi bod yn ymgyrchu ers 2002 dros ailagor y rheilffordd i Gasnewydd.

Rwy'n falch iawn hefyd o glywed bod dros 50 y cant o'r cerbydau trenau newydd mawr eu hangen yn mynd i gael eu cynhyrchu yma yng Nghymru, yng Nghasnewydd. Bydd y buddsoddiad o £800 miliwn yn gwella ansawdd ein trenau'n ddramatig a bydd hefyd yn gwella cydnerthedd yn ystod tywydd garw, fel rydym wedi'i brofi yr hydref hwn. Bydd y cyhoeddiad o 300 o swyddi ar y safle hwn yn cael croeso mawr, ynghyd â 600 o swyddi newydd yn Trafnidiaeth Cymru, yn ogystal â 450 o brentisiaethau. Hoffwn ofyn felly beth y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei wneud i sicrhau bod y cyfleoedd hyn ar gael i unigolion ar draws Cymru, gan gynnwys mewn ardaloedd fel Islwyn. Diolch.

17:55

Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth i ymateb i'r ddadl—Ken Skates.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Rhianon Passmore am godi'r ddadl bwysig hon heddiw, a hoffwn ddiolch iddi am ei sylwadau a hefyd am gydnabod y newid mawr sydd i ddod i wasanaethau rheilffordd ar hyd a lled Cymru ac wrth gwrs, i'w hetholaeth hi yn Islwyn.

Credaf fod 14 Hydref y flwyddyn hon yn ddiwrnod hanesyddol i drafnidiaeth rheilffyrdd yng Nghymru, ac yn Islwyn, gyda lansio masnachfraint rheilffyrdd newydd Cymru a'r gororau. O dan arweiniad Trafnidiaeth Cymru, dyma fydd y gwasanaeth rheilffyrdd cyntaf i gael ei wneud yng Nghymru, un a gynlluniwyd ac a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru yma yng Nghymru. Ac fel y dywedodd Rhianon, bydd £5 biliwn o fuddsoddiad yn cael ei sianelu i seilwaith rheilffyrdd a gwasanaethau rheilffyrdd dros y degawd a hanner nesaf, gan sicrhau y bydd ein rhwydwaith yn cael ei drawsnewid.

Bwriedir gwario £800 miliwn ar gerbydau newydd i sicrhau, erbyn 2023, y bydd 95 y cant o siwrneiau ar 148 o drenau newydd sbon gyda'u hanner wedi'u hadeiladu yma yng Nghymru. Bydd yr arian hwnnw hefyd yn arwain at wario £738 miliwn ar foderneiddio rheilffyrdd y Cymoedd, i gefnogi cam nesaf y metro, a bydd yn rhedeg llawer mwy o drenau yr awr. Yn ogystal, gwerir £194 miliwn ar fuddsoddi mewn gorsafoedd—buddsoddiad a fydd yn sicrhau bod pob gorsaf yn cael ei gwella. Bydd 285 o wasanaethau ychwanegol ledled Cymru bob dydd o'r wythnos, ac ar ddydd Sul bydd 294 o wasanaethau ychwanegol.

Bydd 600 o swyddi newydd a 30 o brentisiaethau bob blwyddyn yn cael eu creu, a bydd y cyfleoedd hynny'n agored i bobl yng nghymunedau'r Cymoedd. Rwy'n awyddus i sicrhau bod depos, fel yr un sy'n cael ei greu yn Ffynnon Taf, yn estyn allan at gymunedau y tu hwnt i gyffiniau uniongyrchol Ffynnon Taf ac yn cynnig cyfleoedd ar gyfer prentisiaid ar draws cymunedau'r Cymoedd. Hefyd bydd 25 y cant o ostyngiad mewn allyriadau carbon ar draws y rhwydwaith. Cyflwynir tocynnau clyfar ledled Cymru ac ehangu teithio am ddim i gynnwys rhai o dan 11 oed, a thocynnau hanner pris i rai 16 i 18 mlwydd oed.

Yn ystod y misoedd a'r blynyddoedd nesaf, byddwn yn cyflawni trawsnewidiad arloesol i drafnidiaeth ledled y wlad ac yn Islwyn. Bydd cymunedau ar reilffordd Glyn Ebwy yn elwa o amrywiaeth o welliannau a gynlluniwyd gan Trafnidiaeth Cymru i'r rheilffordd. Cyflwynir cerbydau newydd, gan wella ansawdd a naws cyfleusterau i deithwyr o'u cymharu â'r hen gerbydau sydd gennym yn awr. Yn 2019, cyflwynir trenau wedi'u hadnewyddu i ychwanegu capasiti i'r rheilffordd, ac yn 2022, cyflwynir trenau newydd sbon gyda bordiau gwastad, Wi-Fi am ddim, socedi pŵer, gwybodaeth electronig i deithwyr, systemau aerdymheru a mwy o le ar gyfer beiciau.

Mae cynyddu nifer y gwasanaethau ar reilffordd Glyn Ebwy yn flaenoriaeth ar gyfer metro de Cymru. Y weledigaeth yw darparu pedwar gwasanaeth bob awr. Mae gwelliannau i seilwaith ar y rheilffordd yn cael eu datblygu ar hyn o bryd, ac rydym yn disgwyl dyblu nifer y gwasanaethau ar y rheilffordd o 2021, gan gynyddu i bedwar gwasanaeth yr awr erbyn 2024, a gallaf sicrhau Rhianon Passmore y byddaf yn gweithio gyda Trafnidiaeth Cymru i gyflawni hyn. Erbyn mis Mai 2021, rydym yn bwriadu adfer y cysylltiad rheilffordd rhwng Glynebwy a Chasnewydd, a chyflwyno gwasanaeth newydd bob awr a fydd yn gwella mynediad cymunedau yn Islwyn at y rheilffyrdd, ac rwy'n falch iawn fod yr Aelod yn hapus gyda'r canlyniad hwn.

I gyd-fynd â hyn, bydd cynnydd sylweddol yn y capasiti a ddarperir gan y contract newydd, gyda'r bwriad o helpu mwy o bobl i gael sedd yn ystod yr adegau prysuraf. Yn wir, bydd nifer y seddi'n cynyddu 60 y cant. Mae'r contract yn sicrhau y bydd Trafnidiaeth Cymru'n cael eu cosbi os oes raid i deithwyr sefyll am fwy nag 20 munud, ac yn ogystal, bydd gorsafoedd yn cael eu gwella'n sylweddol. Mae rhaglen estynedig o lanhau trylwyr yn cael ei rhoi ar waith, i'w dilyn gan osod Wi-Fi am ddim erbyn mis Rhagfyr 2020. Erbyn mis Rhagfyr 2022, byddwn yn adnewyddu llochesi platfform ac yn gosod sgriniau gwybodaeth newydd i deithwyr. Erbyn 2023, byddwn yn gosod cyfleusterau storio gwell ar gyfer beiciau.

Wrth gwrs, mae heriau peirianyddol sylweddol ynghlwm wrth reilffordd Glyn Ebwy, sy'n dal i fod yn gyfrifoldeb i Network Rail a Llywodraeth y DU, a olygai na allem ei hychwanegu at y metro canolog ar y cam hwn. Fodd bynnag, mae datblygiad y cynllun bellach yn cynnwys Trafnidiaeth Cymru, ac mae eu harbenigedd technegol yn ychwanegu at waith Network Rail. Ein huchelgais o hyd yw parhau i dyfu'r gwasanaethau i bedwar trên yr awr, ac rwyf wedi cyfarwyddo Trafnidiaeth Cymru i gyflwyno opsiynau inni ar gyfer cyflawni hyn. Yn wir, mae Trafnidiaeth Cymru yn gweithio drwy'r opsiynau, gan weithio gyda phartneriaid i nodi ffordd gosteffeithiol o gyflawni ein huchelgeisiau.

Fodd bynnag, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig deall bod hyn yn rhan o raglen fuddsoddi bwysig dros 15 mlynedd. Bydd ein dyheadau uchelgeisiol yn cymryd amser i ddwyn ffrwyth ac ni chânt eu cyflawni dros nos. Ond rwy'n hyderus, erbyn 2023, y bydd pobl Islwyn a Chymru yn elwa ar y gwasanaeth rheilffyrdd gorau i deithwyr yn y DU.

18:00

Daeth y cyfarfod i ben am 18:02.