Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

10/10/2018

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Dirprwy Lywydd (Ann Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid

Yr eitem gyntaf ar yr agenda y prynhawn yma yw cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid. Cwestiwn 1, Mark Isherwood.

Gwasanaethau Ataliol

1. Pa ystyriaeth a roddodd Ysgrifennydd y Cabinet i wasanaethau ataliol wrth benderfynu ar y gyllideb ddrafft? OAQ52717

Wel, Ddirprwy Lywydd, ymhlith y penderfyniadau a wnaed wrth ystyried gwasanaethau ataliol, roeddwn yn arbennig o falch o allu adfer rhaglen ymyrraeth gynnar, atal a chymorth Llywodraeth Cymru yn llawn yn y gyllideb ddrafft.

Er hynny, dro ar ôl tro, rydych wedi ymrwymo eich hun, yn ddiffuant rwy’n credu, i hyrwyddo dulliau ataliol mewn iechyd a gofal yng Nghymru. Roedd ffigurau dros dro’r setliad llywodraeth leol ddoe yn dangos gostyngiad cyffredinol o 1 y cant ar gyfer llywodraeth leol, gyda phob awdurdod lleol yng ngogledd Cymru yn wynebu gostyngiad, er bod saith yn ne Cymru wedi aros yr un fath neu wedi cynyddu, gyda chyllid y GIG, fodd bynnag, yn cynyddu 7 y cant, yn hytrach nag ystyried sut y gallem gyllidebu'n fwy deallus er mwyn cyflawni mwy drwy atal ac ymyrraeth gynnar. Felly, sut rydych yn ymateb i'r datganiadau yn y llythyr gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, a ddosbarthwyd inni ddoe, ac a arwyddwyd gan arweinwyr CLlLC o bob plaid, lle roedd arweinydd grŵp Ceidwadol CLlLC, Peter Fox, yn dweud:

Gyda £370 miliwn o arian newydd yn dod o San Steffan, roedd angen ymagwedd ddychmygus tuag at ariannu gwasanaethau ataliol er mwyn cadw pobl allan o'r ysbytai. Yn hytrach, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cynnydd o saith y cant i'r GIG ac wedi torri cyllidebau cynghorau am yr wythfed flwyddyn yn olynol.

Nid ydym yn argymell toriad yng nghyllid y GIG; yr hyn yr ydym yn ei argymell yw cyllidebau ataliol dychmygus a chraff sy'n cadw'r pwysau oddi ar wasanaethau iechyd, drwy sicrhau bod y ddau beth yn gweithio'n well gyda'i gilydd.

Wel, rwy’n siŵr, Ddirprwy Lywydd, fod Peter Fox, dyn y mae gennyf barch mawr tuag ato fel arweinydd, yn ddiolchgar iawn ei fod yn arweinydd cyngor yng Nghymru, ac nid yn Lloegr. Drwy weithio'n galed dros yr haf, llwyddasom i leihau'r bwlch yn y grant cynnal refeniw i 0.3 y cant—llai na £15 miliwn. Byddai’r toriadau sy'n wynebu awdurdodau lleol Lloegr y flwyddyn nesaf, pe baent yn cael eu trosi ar gyfer Cymru yn cyfateb i £65 miliwn o doriadau yng nghyllidebau’r grant cynnal refeniw ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru. Felly, rwy'n sicr fod arweinydd Ceidwadol Mynwy yn ddiolchgar iawn ei fod yn byw yn Nghymru’r Blaid Lafur, yn hytrach nag o dan drefn ei blaid ei hun.

Credaf fod y pwynt cyffredinol a wna’r Aelod, fodd bynnag, yn un synhwyrol, wrth gwrs. Pan fo arian mor brin ag y mae, ac yn lleihau bob blwyddyn, mae’n rhaid i bawb ganolbwyntio ar geisio sicrhau bod yr arian hwnnw'n mynd ymhellach, ar ddefnyddio arloesedd, ar gael syniadau newydd. Mae fy nghyd-Aelod, Vaughan Gething, wedi defnyddio £30 miliwn o gyllid canlyniadol iechyd i’w gyflwyno i'r byrddau partneriaeth rhanbarthol yng Nghymru, lle mae'n rhaid i’r bwrdd iechyd a'r awdurdodau lleol cyfansoddol gymeradwyo penderfyniadau ar y cyd. A chredaf fod cynyddu'r gyllideb yn y modd hwnnw yn rhoi gwerth newydd ar allu'r awdurdodau i weithredu yn y ffordd ddychmygus a nododd Mark Isherwood.

A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn derbyn ei bod yn anodd diffinio gwariant ataliol? Er enghraifft, mae gwario ar ofal cymdeithasol yn y cartref yn atal yr angen am ofal preswyl a gofal ysbyty. Mae gwariant ar feddygon teulu hefyd yn atal gofal ysbyty. Oni fyddai'n well diffinio'r gwariant fel yr hyn sy'n darparu budd hirdymor?

Diolch i Mike Hedges am ei gwestiwn atodol. Fe fydd yn ymwybodol, pan oeddwn gerbron y Pwyllgor Cyllid yr wythnos diwethaf, fy mod wedi nodi'r diffiniad newydd a gytunwyd ac a ddefnyddiwyd gennym yn y gyllideb hon o'r hyn a olygwn wrth 'gwariant ataliol', diffiniad a ddatblygwyd gan y trydydd sector ac Iechyd Cyhoeddus Cymru mewn ymgynghoriad â chomisiynydd Deddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol. Ac nid yw'n berffaith, rwy'n siŵr, a byddwn yn ei ddatblygu ymhellach, ond mae'n gam go iawn tuag at sicrhau bod gennym iaith gyffredin. Mae'n rhannu'r hyn a olygwn wrth 'gwariant ataliol' yn nifer o gategorïau, o sylfaenol i acíwt. Dim ond hyn a hyn y gall unrhyw ddiffiniad ein cynorthwyo yn y penderfyniadau sy'n rhaid inni eu gwneud, ac o ran syniad Mike Hedges o ddiffinio gwariant yn erbyn budd hirdymor, gallaf weld y synnwyr yn hynny. Ynddo’i hun, ni fyddai'n osgoi'r angen i wneud penderfyniadau.

Ddirprwy Lywydd, cefais fy atgoffa wrth wrando ar y cwestiwn atodol hwnnw o ddiwrnod a dreuliais pan oeddwn yn Weinidog iechyd. Roeddwn wedi cael dau air o gyngor. Un oedd defnyddio swm o arian a fyddai wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol i fywydau ychydig iawn o bobl yng Nghymru—llai nag 20 o bobl, ar gost uchel iawn y pen. Ar yr un diwrnod, cefais gyngor a ddywedodd wrthyf sut y gallwn wario’r un swm o arian ar gadwyn newydd, yn ôl yr hyn a gofiaf, o nyrsys epilepsi ledled Cymru—pobl a fyddai wedi gallu gwneud pethau da ym mywydau llawer mwy o bobl, ond lle byddai'r gwahaniaeth hwnnw wedi bod yn wahaniaeth cynyddrannol i’r gwasanaethau a ddarperid yn hytrach na gwahaniaeth trawsnewidiol. Roedd y ddau ohonynt yn bosibiliadau a fyddai wedi hyrwyddo budd hirdymor. Felly, pa ddiffiniadau bynnag sydd gennym, ac er mor ddefnyddiol y gallant fod, yn y pen draw, ni allant wneud penderfyniadau drosom, ac mae penderfyniadau bob amser yn anodd pan fo gennych swm cyfyngedig o arian gyda nifer o wahanol ffyrdd y gellid gwario’r arian hwnnw'n ddefnyddiol.

13:35
Gwariant Llywodraeth Cymru yn 2019-20 ym Mynwy

2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am wariant Llywodraeth Cymru yn 2019-20 ym Mynwy? OAQ52709

Diolch i Nick Ramsay am ei gwestiwn. Yr wythnos diwethaf, cyhoeddais y gyllideb ddrafft amlinellol ar gyfer 2019-20, a oedd yn nodi ei phrif flociau adeiladu. Bydd y gyllideb ddrafft fanwl yn cael ei chyhoeddi ar 23 Hydref. Bydd yn dangos buddsoddiad parhaus yn etholaeth Mynwy mewn ysgolion, mewn addysg cyfrwng Cymraeg, mewn tai ac mewn cludiant wrth inni alinio ein gwariant â’r materion sydd bwysicaf i bobl yng Nghymru.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet, ac fe ddealloch chi fy mod yn golygu'r etholaeth, ac nid Trefynwy, fel roeddwn yn tybio y byddech. Gan anghofio am funud ai yng Nghymru neu yn Lloegr y mae’r cynghorydd Peter Fox eisiau byw, sy'n codi yn y Siambr hon o bryd i’w gilydd, rwy'n siŵr y byddech yn cytuno—ac yn sicr, mae Peter Fox wedi dweud wrthyf—y byddai'n hoffi pe bai Sir Fynwy'n cael darn mwy o'r gacen mewn perthynas â chyllid llywodraeth leol, ac mae hynny'n amlwg yn dibynnu ar y fformiwla ariannu y credwn y dylid edrych arni.

Gan anghofio hynny am funud, Ysgrifennydd y Cabinet, un ffordd y gallai Llywodraeth Cymru wneud gwahaniaeth yn Sir Fynwy fyddai drwy ddatblygu ffordd osgoi Cas-gwent—ateb i'r tagfeydd sydd i’w cael bob dydd yng Nghas-gwent ar hyn o bryd ac sy'n achosi llawer o boendod i drigolion Cas-gwent ac i gymudwyr. Rwy'n derbyn mai traean yn unig o'r ffordd osgoi honno a fyddai yng Nghymru, felly mae angen i ni gael cymorth gan Lywodraeth y DU, ac yn wir, cydweithredu trawsffiniol er mwyn i’r ffordd osgoi honno ddod yn realiti. A allwch roi’r wybodaeth ddiweddaraf inni ynglŷn ag unrhyw drafodaethau a gawsoch gyda'ch cyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth, neu yn wir, gyda Swyddfa Cymru ynglŷn â'r posibilrwydd o ddatblygu'r prosiect mawr ei angen hwnnw, ac ynglŷn â phwysigrwydd cefnogaeth Llywodraeth y DU i Lywodraeth Cymru er mwyn sicrhau ei fod yn cael ei wireddu?

Diolch i Nick Ramsay am hynny. Yn wir, mae’r trafodaethau gyda Llywodraeth y DU ar y mater hwn yn drafodaethau ar gyfer fy nghyd-Aelod, Ken Skates, ond rwyf wedi trafod mater ffordd osgoi Cas-gwent gydag ef yn ddiweddar. Mae'n union fel y dywedodd Nick Ramsay: byddai oddeutu traean o’r pellter a thraean o'r gwariant yn dibynnu ar ffynonellau Llywodraeth Cymru, ac er mwyn sicrhau bod y ffordd osgoi honno o fudd, byddai'n rhaid inni sicrhau gweddill y gwariant a'r buddsoddiad o'r ochr arall i'r ffin. Gwn fod fy nghyd-Aelod, Ken Skates, yn ymwybodol iawn o'r pwysau ar y dref honno mewn perthynas â thraffig, mewn perthynas ag ansawdd aer ac ati, a gwn ei fod yn awyddus iawn i fwrw ymlaen â’r trafodaethau hynny gyda Llywodraeth y DU ac i wneud yn siŵr y gallwn ddod â hwy at y bwrdd er mwyn inni allu sicrhau, gyda'n gilydd, fod hyn yn ddigwydd.

A all Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ynglŷn â chyfanswm y buddsoddiad cyfalaf yn Ysbyty Athrofaol y Grange, ysbyty newydd a fydd yn gwasanaethu'r bobl sy'n byw yn ne-ddwyrain Cymru?

Diolch i Rhianon Passmore. Bydd Ysbyty Athrofaol y Grange, sy'n bwysig iawn i'r bobl sy'n byw yn ne-ddwyrain Cymru wrth gwrs, gan gynnwys Mynwy, yn derbyn £350 miliwn o gyllid o'r rhaglen gyfalaf ar gyfer Cymru gyfan. Ddirprwy Lywydd, dyma'r cynllun ariannol mwyaf yn holl raglen gyfalaf y GIG. Mae'n ychwanegol at y £217 miliwn a ddarparwyd eisoes ar gyfer rhaglen Dyfodol Clinigol Gwent. Mae'n dangos bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd cynllun Ysbyty Athrofaol y Grange i ddyfodol y gwasanaethau meddygol acíwt yn y rhan hon o Gymru.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Trown yn awr at lefarwyr y pleidiau i holi Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, ac yn gyntaf heddiw mae llefarydd Plaid Cymru, Steffan Lewis.

13:40

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Roedd y rheoliadau i ddiddymu'r Ddeddf Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2018 i fod i ddod i rym ar 3 Hydref. Rwy'n deall na ddigwyddodd hynny am fod angen pleidlais yn y Cynulliad. Felly, yn y lle cyntaf, a all Ysgrifennydd y Cabinet, gan wisgo ei het Brexit, ddweud yn glir na chafodd y Ddeddf parhad ei diddymu ar ddamwain heb bleidlais? Byddai hynny'n tawelu fy meddwl. Ac yn ail, os na ddigwyddodd hynny, a all roi gwybod i'r Cynulliad pam nad ydym wedi cael gwybod am ddyddiad newydd ar wyneb y rheoliadau? Beth yw'r dyddiad newydd? A phryd y cynhelir pleidlais yn y Cynulliad Cenedlaethol?

Wel, mae'n dda iawn cael cyfle i dawelu meddwl unrhyw Aelod o'r Cynulliad, felly gadewch imi wneud hynny i ddechrau drwy roi sicrwydd i'r Aelod nad yw ein Deddf wedi cael ei diddymu ar ddamwain. Fel y dywedodd, mae angen pleidlais ar lawr y Cynulliad hwn er mwyn gwneud hynny.

Mae dod o hyd i amser ar gyfer y nifer o bethau sy'n rhaid eu cyflawni ar lawr y Cynulliad yn dasg i fy nghyd-Aelod, arweinydd y tŷ, yma. Gwn ei bod yn ymdrechu i ddod o hyd i amser er mwyn cynnal y ddadl a'r bleidlais honno, ac os gellir gwneud hynny, y bwriad yw eu cynnal cyn y toriad hanner tymor.

Diolch iddo am dawelu fy meddwl, gyda rhan gyntaf ei ateb o leiaf. Mae ail ran ei ateb, fodd bynnag, yn codi cwestiynau. A yw'r Llywodraeth yn rhoi ystyriaeth i'r achos yn y Goruchaf Lys rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban ar ddeddfwriaeth parhad yr Alban? Wrth gwrs, buaswn yn dadlau na ddylem ddiddymu ein Deddf parhad ar unrhyw gyfrif, ond does bosib, o safbwynt y Llywodraeth, na fyddent yn awyddus i aros am ganlyniad achos y Goruchaf Lys rhwng Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth y DU, gan y byddai hynny'n newid wyneb y trefniant datganoli a'r dulliau o ymadael â'r UE yn gyfan gwbl ar draws yr ynysoedd hyn pe bai gennym un weinyddiaeth ddatganoledig â tharian amddiffynnol o ddeddfwriaeth parhad a ninnau wedi cael gwared ar ein hun ni yn wirfoddol ac yn ddiangen. Felly, a yw'n gallu sicrhau bod y Llywodraeth yn barod i oedi, os bydd angen, hyd nes y gwyddom beth fydd canlyniad achos y Goruchaf Lys?

Wel, Ddirprwy Lywydd, amddiffynnwyd buddiannau Cymru yn y Goruchaf Lys gan fy nghyd-Aelod, y Cwnsler Cyffredinol, a ymyrrodd i sicrhau, lle roedd buddiannau Cymru yn y fantol, fod y Goruchaf Lys yn ymwybodol iawn ohonynt. Wrth gwrs, nid wyf yn cytuno â'r Aelod y byddem yn ddiamddiffyn pe baem yn diddymu'r Bil parhad, gan ein bod wedi ymrwymo i gytundeb rhynglywodraethol gyda Llywodraeth y DU sy'n rhoi dewis amgen inni yn ein tyb ni, ac yn wir, set well o amddiffyniadau yn yr amgylchiadau y lluniwyd y Ddeddf parhad i fynd i'r afael â hwy.

A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud, felly, hyd yn oed os bydd y llysoedd yn dyfarnu o blaid Llywodraeth yr Alban, y byddai'n dderbyniol fod gan un weinyddiaeth ddatganoledig darian amddiffynnol gyfreithiol, a rywsut, fod y cytundeb rhynglywodraethol rhwng ei Lywodraeth ef a Llywodraeth y DU yn gwneud yr angen am Ddeddf parhad yma yn ddiangen? Oherwydd, does bosib nad yw datblygiadau diweddar mewn perthynas â'r gronfa ffyniant gyffredin wedi dangos bod y cytundeb rhynglywodraethol wedi'i dorri. Mae Ysgrifennydd y Cabinet ei hun wedi dweud,

'byddai dull "Cronfa Ffyniant Gyffredin" Llywodraeth y DU, pe byddai’n cael ei weithredu ar draws y DU a’i gyfarwyddo o Lundain, yn ymosodiad ar ddatganoli'.

Ac mae Prif Weinidog y Deyrnas Unedig wedi dweud,

Rwy'n llwyr gydnabod y rôl y mae Llywodraeth Cymru wedi'i chwarae a'r rôl y mae Llywodraeth Cymru wedi'i chwarae mewn penderfyniadau ar gyfer Cymru. Ond yn amlwg, wrth inni edrych ar y gronfa ffyniant gyffredin ar gyfer y DU gyfan, rydym yn awyddus i sicrhau bod y strwythur cywir a'r prosesau cywir yn rhan o hynny fel y gall yr arian a werir gael ei wario mor effeithiol â phosibl gan fod a wnelo hyn â chyflawni ar gyfer pobl ar lawr gwlad—

h.y. bydd yr holl beth yn cael ei redeg a'i reoli o San Steffan. A sylwaf gyda diddordeb nad oes unrhyw gyfeiriad yn y cytundeb rhynglywodraethol at bolisi rhanbarthol, ac nad yw datblygu economaidd wedi'i restru yn un o'r 24 eitem ychwaith. Felly, a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn hyderus fod y cytundeb rhynglywodraethol yn well na chael deddfwriaeth parhad, er ei bod yn ymddangos bod y cytundeb rhynglywodraethol eisoes yn dechrau ymddatod?

Wel, Ddirprwy Lywydd, fe atebodd yr Aelod ei gwestiwn ei hun, oni wnaeth? Oherwydd, fel y nododd yn ei sylwadau wrth orffen, nid yw'r cytundeb rhynglywodraethol yn gweithredu yng nghyswllt y gronfa ffyniant gyffredin. Mae'r cytundeb rhynglywodraethol yn cynnwys yr eitemau a nodir yn y Bil ymadael sydd, o bosibl, ac yn y dyfodol—oherwydd, cofiwch, nid oes unrhyw rym wedi gadael Cymru o ganlyniad i'r cytundeb—. Cafwyd rhestr o bwerau a oedd yn gweithredu drwyddo nad oedd yn cynnwys hyn, fel y dywedodd yr Aelod ei hun. Felly, mae wedi dwyn dau beth ynghyd nad oes ganddynt y cysylltiad y mae'n ceisio'i wneud rhyngddynt yn fy marn i.

Mae natur anghymesur y tariannau amddiffynnol eisoes wedi'i chyflwyno gan benderfyniad Llywodraeth yr Alban i beidio ag ymrwymo i'r cytundeb rhynglywodraethol. Ein safbwynt ni oedd ei fod yn darparu, mewn perthynas â'r materion a weithredir drwyddo, digon o amddiffyniadau i ni allu bwrw ymlaen yn y ffordd y gwnaethom. Roedd safbwynt Llywodraeth yr Alban yn wahanol. Yn unol â'r cytundeb rhynglywodraethol, rydym yn chwilio am gyfle i gyflwyno pleidlais ar lawr y Cynulliad yn y ffordd a ddisgrifiais wrth ateb cwestiwn cynharach.

13:45

Diolch. Ysgrifennydd y Cabinet, hoffwn eich holi ynglŷn â chaffael. Pan grëwyd y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn gyntaf yn ôl yn 2013, disgrifiodd eich rhagflaenydd, y Gweinidog Jane Hutt, y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol fel

'ffordd Gymreig iawn o ddiwallu anghenion busnes Cymru ond hefyd gwerth am arian am y bunt Gymreig'.

Ers hynny, fodd bynnag, mae'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol wedi gwneud colledion sylweddol a bu'n rhaid i Weinidogion ei achub, ac yn y pen draw mae hynny wedi arwain at benderfyniad gan Lywodraeth Cymru i gael gwared ar y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn gyfan gwbl.

A gaf fi gofyn i chi amlinellu beth yn eich barn chi yw'r ffactorau craidd sydd wedi cyfrannu at fethiant y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol? Onid yw hon yn ergyd ddifrifol a sylweddol i raglen bolisi gyffredinol Llywodraeth Cymru, o gofio pwysigrwydd caffael a'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn y cynllun gweithredu economaidd?

Wrth gwrs, nid wyf am eiliad yn derbyn yr hyn y mae'r cwestiwn yn ei ddweud gan nad yw'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol wedi bod yn fethiant. Ers ei gyflwyno, mae cyfran y gwariant Cymreig ar gaffael cyhoeddus sy'n mynd i gwmnïau yng Nghymru wedi codi o 35 i 50 y cant. O'r 22,000 o gontractau sydd wedi'u gosod drwy GwerthwchiGymru, mae dwy ran o dair ohonynt yn mynd i gyflenwyr Cymreig ac mae tri chwarter y rheini'n fusnesau bach a chanolig Cymreig, a hynny o ganlyniad i'r gwaith y mae'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol wedi'i wneud ym mhob rhan o Gymru. Mae llawer o bethau eraill y gallem eu nodi sy'n glod i'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol, yn enwedig yr hyn a wnaeth drwy gynyddu'r manteision cymunedol yn sgil contractau sydd bellach wedi'u gosod i gyflenwyr o Gymru.

Yr hyn sydd wedi digwydd, Ddirprwy Lywydd, yw bod amgylchiadau wedi newid. Mae anghenion defnyddwyr y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol wedi newid. Maent wedi dod atom ni fel Llywodraeth Cymru i ddweud wrthym eu bod yn credu y gallent wneud mwy pe bai'r gwasanaeth ar gael ar sail fwy rhanbarthol a lleol, ac maent wedi dadlau achos cryf dros hynny. Ac mae Brexit yn cyflwyno set newydd o bosibiliadau ar gyfer caffael cyhoeddus yn y dyfodol, ac yn cyd-destun hwnnw, gofynnais am adolygiad o'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol a dyna a arweiniodd at y penderfyniadau a gyhoeddais i'r Cynulliad hwn ym mis Medi.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Roeddech yn amlwg yn gwybod bod problemau yno gan i chi ofyn am yr adolygiad hwnnw, ac wrth gwrs nid fi yn unig sy'n bod yn feirniadol, ond yr archwilydd cyffredinol hefyd, a ganfu mai £150 miliwn yn unig a wariwyd gan gyrff cyhoeddus gyda'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn 2015-16 a £234 miliwn yn y flwyddyn ganlynol. Yn ogystal, er bod y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol wedi gwneud arbedion ar gyfer y cynghorau a'r sefydliadau eraill sy'n defnyddio ei wasanaethau, fe wnaethant golli miliynau o bunnoedd ar eu cyllideb eu hunain a bu'n rhaid iddynt gael eu hachub—defnyddiaf y term hwnnw eto, nid ar chwarae bach—gan eich Llywodraeth. Yn ogystal â hynny, maent wedi cael eu beirniadu mewn adroddiad gan Bwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig y Cynulliad am oramcangyfrif gwerth contractau bwyd i gyflenwyr.

Felly, a gaf fi ofyn ichi, pa weithdrefnau rheoli brys a chamau arferion gorau a roddwyd ar waith gennych bellach mewn perthynas â gweithrediadau caffael cyhoeddus Llywodraeth Cymru i sicrhau bod gwersi wedi'u dysgu o'r methiannau hyn ac y bydd arferion caffael yn Cymru o'r hydref hwn ymlaen yn gwella'n sylweddol? Oherwydd nid yw'n ddigon da dweud wrth y cyhoedd fod popeth yn iawn ac fel y dylai fod pan yw'n amlwg nad yw hynny'n wir.

Wel, Ddirprwy Lywydd, os nad oedd yr achos dros newid yno, ni fyddwn wedi gofyn am adolygiad ac ni fyddem wedi amlinellu prosbectws newydd ar gyfer caffael cyhoeddus yma yng Nghymru o ganlyniad i'r adolygiad. Pan ddywed yr Aelod fod Llywodraeth Cymru wedi gorfod dod o hyd i filiynau o bunnoedd yn ei chyllidebau i gefnogi'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol, y ffigur y llynedd oedd £1.5 miliwn, felly credaf fod arnom angen ychydig o bersbectif mewn perthynas â'r cymorth ychwanegol y bu'n rhaid i Lywodraeth Cymru ei ddarparu. Yn y pen draw, credaf mai'r pwynt pwysig yng nghwestiwn Nick Ramsay yw hwn: os oes gennych sefydliad fel y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol, mae'n rhaid i'w gwsmeriaid ei werthfawrogi ac mae'n rhaid i'w gwsmeriaid fod yn barod i ddefnyddio'r gwasanaeth hwnnw. Ac os yw'r gwasanaeth hwnnw yn un y dywed y cwsmeriaid y byddai'n well ganddynt ei sicrhau mewn ffordd wahanol, mae'n rhaid ichi wrando'n astud ar yr hyn sydd gan y defnyddwyr hynny i'w ddweud. O ganlyniad i'r sgwrs honno, lle dywedodd defnyddwyr eu bod yn teimlo y byddai ymagwedd gyfunol at gaffael cyhoeddus yng Nghymru yn cael ei sicrhau'n well drwy haen ranbarthol gryfach, yn hytrach na chyflawni pethau ar lefel genedlaethol—rydym wedi gwrando'n astud ar hynny. Ni fydd y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn parhau ar ei ffurf bresennol, a bydd yn newid i fod yn sefydliad gyda phresenoldeb rhanbarthol a lleol cryfach, ac yn sefydliad sydd mewn gwell sefyllfa i sicrhau bod y sefydliadau hynny ledled Cymru sy'n gwario arian cyhoeddus mewn sefyllfa dda i ymateb i'r cyfleoedd newydd a all fod ar gael iddynt.

13:50

Dyma lle rydym yn awr, Ysgrifennydd y Cabinet. Os caf sôn am ran olaf eich sylwadau, ac wrth edrych tua'r dyfodol, a throi at y trefniadau ar gyfer caffael yn y dyfodol agos, rydych wedi dweud, ac rydych wedi ailadrodd unwaith eto, yn dilyn y cyhoeddiad y byddai'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn dirwyn i ben dros gyfnod o amser, y byddai corff llai yn cael ei sefydlu wedyn i reoli portffolio llai o gontractau cenedlaethol. A allwch roi mwy o fanylion inni ynglŷn â phryd y bydd gweithrediad llawn y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn dod i ben yn ffurfiol? Beth yw costau rhagamcanol dirwyn y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol i ben? Hefyd, pa drefniadau sydd ar waith i reoli'r broses o ddod â gweithrediadau'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol i ben? A pha adnoddau a chynlluniau busnes sydd ar waith i gefnogi'r broses o sefydlu'r corff newydd llai o faint a ragwelwch?

Mae'r Aelod yn disgrifio'n gywir beth fydd yn digwydd i'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol. Dywed awdurdodau lleol ac eraill wrthym eu bod yn dal i weld gwerth rhai fframweithiau caffael cenedlaethol ac y byddent yn awyddus i'w gweld yn parhau ar lefel Cymru gyfan. Mae defnyddwyr y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn dweud y byddai'n well ganddynt ddefnyddio rhai contractau drwy Wasanaeth Masnachol y Goron, felly mae hynny ar lefel caffael y DU, ac mae'n debyg y byddwn ninnau hefyd yn gwneud defnydd ychwanegol o Wasanaeth Masnachol y Goron.

Bydd y newid o ble mae'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol heddiw i ble bydd yn y dyfodol yn cael ei weithredu'n unol â'r amserlen a awgrymir inni gan randdeiliaid drwy'r trefniadau rydym wedi'u sefydlu gyda'r rheini sy'n dibynnu ar ei wasanaethau. Byddwn yn awyddus i sicrhau bod dewisiadau amgen digonol ar gael cyn i'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol orffen darparu'r pethau y mae'n eu darparu heddiw. Bydd yr amserlen y byddwn yn ei defnyddio, Ddirprwy Lywydd, yn cael ei llywio gan yr hyn y dywed defnyddwyr y gwasanaeth wrthym sy'n addas iddynt hwy, yn hytrach na chynllun a lunnir ym Mae Caerdydd.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol iawn fy mod yn awyddus i archwilio'r posibilrwydd y gallwn, drwy dorri cyfraddau treth yng Nghymru, greu mantais dreth o gymharu â Lloegr a thyfu economi Cymru, ac felly, cynyddu maint y sylfaen drethu. Cawsom ddadl gynhyrchiol yn fy marn i yn y Pwyllgor Cyllid ychydig ddyddiau'n ôl, lle roeddwn yn falch o weld bod Ysgrifennydd y Cabinet yn agored i'r posibilrwydd hwn.

Dywedodd pennaeth Trysorlys Cymru wrthyf y dylwn edrych ar yr adroddiad ar bolisi treth Cymru ar gyfer 2018, lle caiff nifer o astudiaethau rhyngwladol ar y pwnc eu rhestru, ac rwyf wedi cael cyfle i edrych ar rai ohonynt—mae pob un ohonynt at ei gilydd yn cefnogi fy namcaniaeth. Hoffwn dynnu ei sylw at un yn benodol gan Isabel Martinez o Sefydliad Ymchwil Economaidd-gymdeithasol Lwcsembwrg, sy'n edrych ar yr hyn a ddigwyddodd yn y Swistir pan roddwyd hyn ar waith gan un o gantonau'r Swistir: Obwalden. Effaith hynny oedd denu pobl ar incwm uwch i'r canton er mwyn gallu fforddio lefel is o drethiant cyffredinol i bawb. Cynyddodd cyfran y trethdalwyr cyfoethog a oedd yn byw yn y canton o 25 i 30 y cant yn y pum mlynedd cyntaf wedi'r newid yn y dreth, ac ni effeithiwyd ar y 99 y cant isaf o drethdalwyr o gwbl gan y newid hwn, felly ymddengys ei bod yn sefyllfa lle roedd pawb ar ei ennill.

Gwn fod cymariaethau rhyngwladol yn anodd yn y meysydd hyn, gan y bydd yr effeithiau ymddygiadol yn wahanol mewn gwahanol wledydd, ond hoffwn ofyn iddo a fydd yn gofyn i'w swyddogion gynnal ymchwiliad ffurfiol i'r posibiliadau hyn fel y gallwn lywio penderfyniadau mewn cyllidebau yn y dyfodol.

Wel, Ddirprwy Lywydd, gŵyr yr Aelod nad wyf yn rhannu ei ddamcaniaeth gychwynnol. Nid wyf wedi fy argyhoeddi y byddai cystadleuaeth dreth, lle byddem yn gostwng cyfraddau treth Cymru yn y gobaith y byddai hynny'n arwain rywsut at bobl yn dod i Gymru i fanteisio arnynt, yn rhywbeth a fyddai'n debygol iawn o ddigwydd. Ond wrth ateb ei gwestiynau yn y Pwyllgor Cyllid, dywedais wrtho ein bod ni yn Llywodraeth Cymru yn credu mewn llunio polisïau ar sail tystiolaeth, ac felly rydym bob amser yn agored i dystiolaeth o rannau eraill o'r byd. Rwy'n gyfarwydd â'r astudiaeth y soniodd amdani ar y canton yn y Swistir, ac mae'r ffaith bod gwybodaeth Llywodraeth Cymru yn cyfeirio ati yn dangos ein bod yn barod i edrych ar bethau sy'n digwydd mewn mannau eraill, ac i weld a oes gwersi i'w dysgu.

Ceir llawer o enghreifftiau gwrthbwysol a fyddai'n dangos y gwrthwyneb i chi. Pan ofynnais y cwestiwn hwn i'r Gweinidog treth yng Ngwlad y Basg, lle mae ganddynt gyfraddau treth sylweddol uwch na'r rhannau o Sbaen sy'n ffinio â hwy, gofynnais iddo: onid oedd ganddo golledion treth ac onid oedd pobl yn gadael Gwlad y Basg i fanteisio ar y cyfraddau treth is dros y ffin? Rhoddodd sicrwydd imi nad oedd honno'n un o nodweddion y ffordd roedd pobl yn ymddwyn yn y gyfundrefn dreth honno.

Felly, i ateb y cwestiwn yn uniongyrchol, o ran y llu o bethau y mae'n rhaid imi ofyn i fy swyddogion fynd i'r afael â hwy wrth inni ymgymryd â chyfrifoldebau cyllidol newydd, wrth inni wynebu her Brexit ac ati, nid oes bwriad gennyf ar hyn o bryd i ddargyfeirio eu hegni i archwiliad o'r math y mae'r Aelod yn ei awgrymu.

13:55

Efallai y gallaf helpu Ysgrifennydd y Cabinet drwy ddweud wrth fy swyddogion wneud hynny, ac anfon canlyniadau eu gwaith ato maes o law.

Ond hoffwn dynnu sylw Ysgrifennydd y Cabinet at y datganiad ar dudalen 56 o'r adroddiad ar bolisi treth Cymru, sy'n crynhoi effeithiau'r nifer o astudiaethau a grybwyllir yn y troednodiadau, ac sy'n dweud

'Roedd y rhain yn dueddol o ddangos bod trethdalwyr ar incwm uwch yn ymateb yn fwy i newidiadau i'r dreth incwm. Y prif esboniad dros hyn yw bod enillwyr incwm uwch yn dueddol o gynllunio'n fwy gweithgar ar sail trethi ac maent o bosibl yn fwy symudol na'r rheini sydd ar incwm is.'

Felly, credaf ein bod yn dechrau o sefyllfa lle mae'r pridd yn ffrwythlon, ac er fy mod yn sylweddoli efallai fod Gwlad y Basg yn wahanol i'r profiad yn y Swistir—ni allwch gymryd bod un arolwg yn ddigon athrylithgar i allu dangos effaith ymddygiadol ledled Ewrop, neu yn y Deyrnas Unedig, neu yng Nghymru—ond serch hynny, credaf fod mantais i'w chael o edrych ar y posibiliadau, o gofio bod y pwerau amrywio trethi sydd gennym yn gyfyngedig, ond mae'r lle sydd gan Ysgrifennydd y Cabinet i symud mewn unrhyw gyllideb wedi'i gyfyngu gan system y grant bloc gan y Trysorlys ac ati. Mae faint o ddisgresiwn sydd gennym yn dibynnu bellach, yn allweddol, ar allu economi Cymru i dyfu'n gyflymach nag y gwnaeth dros yr 20 mlynedd diwethaf.

A hoffwn dynnu ei sylw at rywbeth arall. Cyhoeddodd Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru adroddiad o'r enw 'Y Sylfaen Drethu Gymreig: Risgiau a Chyfleoedd ar ôl Datganoli Cyllidol', ac mae'n cynnwys tabl sy'n dangos, pe baem yn denu 1,600 yn unig o drethdalwyr ar y gyfradd uwch i Gymru drwy doriad ychwanegol o 5c i'r gyfradd dreth, y byddai hynny'n creu budd o £16 miliwn i Lywodraeth Cymru. Pe byddem yn denu 10,000, byddai hynny'n ychwanegu £230 miliwn i gyllideb Llywodraeth Cymru. Felly, yn sicr, mae'r rhain yn risgiau sy'n werth eu hystyried, gyda'r bwriad o'u cymryd os ydych yn argyhoeddedig y byddant yn cael eu gwireddu.

Wel, Ddirprwy Lywydd, gadewch imi geisio dod o hyd i rywfaint o dir cyffredin gyda Mr Hamilton oherwydd, fel yntau, rwy'n cytuno bod tyfu'r sylfaen drethu Gymreig yn uchelgais pwysig iawn i Lywodraeth Cymru. Yr unig wahaniaeth yw'r ffordd orau o wneud hynny. Byddai ef yn gwneud hynny drwy leihau cyfraddau treth i rai sy'n ennill yn dda yng Nghymru, yn y gobaith y byddem yn denu rhai pobl i ddod i fyw yng Nghymru ar y sail honno. Credaf fod llawer o resymau gwell pam y byddai pobl yn awyddus i ddod i fyw yng Nghymru, nid yn unig am ei bod yn rhad iddynt wneud hynny. Ac mae adroddiad Canolfan Llywodraethiant Cymru ar dyfu'r sylfaen drethu Gymreig yn nodi cyfres o ffyrdd eraill y gellid cyflawni hynny; er enghraifft, drwy gadw mwy o raddedigion yma.

Felly, er fy mod yn rhannu'r uchelgais sy'n sail i'w gwestiwn, sef sicrhau ein bod yn tyfu'r sylfaen drethu yma yng Nghymru, credaf fod ffyrdd gwell o wneud hynny na'r un a ffafrir ganddo, a lle credaf fod y dystiolaeth o blaid y mesurau amgen hynny'n gryfach.

Nid gemau sero-swm yw'r rhain; nid yw'n un neu'r llall—gallwn gael y ddau beth yn fy marn i, ac mae gennyf ddiddordeb mewn archwilio hynny ymhellach. Awgryma astudiaeth Bangor y bydd twf trethdalwyr yng Nghymru yn gostwng o gynnydd o 0.007 y cant yn 2019-20 i -0.11 y cant yn 2023, felly mae'r rhagolygon ar gyfer y dyfodol gyda phethau fel y maent ar hyn o bryd—hyd yn oed o gofio bod yr holl ragolygon yn rhai dros dro o reidrwydd ac efallai na fydd pethau'n digwydd fel rydym yn eu rhagweld, serch hynny, bydd pethau'n mynd yn dynnach yn hytrach na'n llai tynn iddo ef. Ac felly, mae'n bwysicach byth ein bod yn gweld beth y gallwn ei wneud i sicrhau bod mwy o bobl gyfoethog yn dod i Gymru, nid yn unig oherwydd y gallent ychwanegu at y sylfaen drethu Gymreig fel trethdalwyr unigol ond oherwydd y gallent ddod â busnesau eraill y maent yn ymwneud â hwy i Gymru hefyd, a gallai Cymru lwyddo i wneud yr hyn y mae Gweriniaeth Iwerddon wedi'i wneud, er nad oes gennym reolaeth dros dreth gorfforaeth eto, a hon yw'r ffordd ymlaen i Gymru.

14:00

Wel, Ddirprwy Lywydd, mae amcanestyniadau Bangor yn seiliedig ar ddemograffeg yn hytrach na newidiadau ymddygiadol, a ni chredaf y byddai'r cynnig a wnaed gan yr Aelod y prynhawn yma yn gwneud llawer i newid y sbardunau demograffig sylfaenol hynny. Addawodd mewn ateb cynharach y byddai'n darparu ei dystiolaeth ei hun i ategu'r achos a wnaed ganddo, ac fel y dywedais gerbron y Pwyllgor Cyllid, er nad yw ei achos wedi fy argyhoeddi, rwyf bob amser yn agored i ddarllen tystiolaeth newydd.

Diolch. Trown at y cwestiynau ar y papur trefn. Cwestiwn 3—Janet Finch-Saunders.

Pwysau Ariannol ar Awdurdodau Lleol yng Ngogledd Cymru

3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu sut y bydd y gyllideb ddrafft yn helpu awdurdodau lleol yng ngogledd Cymru yn sgil y pwysau ariannol sydd arnynt? OAQ52739

Ddirprwy Lywydd, mae'r gyllideb ddrafft yn dangos ymdrechion ar draws Llywodraeth Cymru i gynorthwyo awdurdodau lleol i fynd i'r afael â'r pwysau gwirioneddol a wynebir ganddynt. Mae'r gostyngiad o lai na £15 miliwn yn y grant cynnal refeniw yng Nghymru dros 75 y cant yn llai na thoriad Llywodraeth y DU i awdurdodau lleol yn Lloegr y flwyddyn nesaf.

Ysgrifennydd y Cabinet, yn ôl y llythyr a anfonwyd at yr awdurdodau lleol gan eich cyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros lywodraeth leol, bydd y cyllid craidd cyffredinol ar gyfer cynghorau a gyhoeddwyd yn y setliad llywodraeth leol ddoe yn cael ei dorri 0.3 y cant yn y flwyddyn sydd i ddod. Fodd bynnag, mae hyn yn cuddio'r ffaith na fydd y toriad yn y gwariant wedi'i rannu'n gyfartal ac yn deg rhwng cynghorau Cymru. Yng ngogledd Cymru, bydd Conwy, Ynys Môn a Sir y Fflint yn wynebu toriad o 1 y cant i'w cyllid—y toriadau uchaf yng Nghymru. Mae fy awdurdod i, Conwy, eisoes wedi gorfod gwneud £48 miliwn o arbedion dros y chwe blynedd diwethaf a bellach mae'n rhaid iddynt ddod o hyd i £16 miliwn er mwyn parhau i weithredu. Serch hynny, mae Rhondda Cynon Taf, a Chaerdydd sydd o dan arweiniad y Blaid Lafur, wedi gweld cynnydd o 0.3 y cant. Gyda £370 miliwn yn dod gan Lywodraeth Geidwadol y DU er mwyn ariannu ein gwasanaethau cyhoeddus yn well, mae llawer o bobl yma yng Nghymru o'r farn fod y setliad diweddaraf hwn yn dangos ymagwedd lwythol a diog gan Lywodraeth Lafur Cymru. Pa esgus arall y gallech ei roi am setliad llywodraeth leol mor annheg ac anghyfiawn?

Ddirprwy Lywydd, dylai'r Aelod dynnu ei chyhuddiad yn ôl fod natur y fformiwla ariannu ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru rywsut yn llwythol. Gŵyr nad yw hynny'n wir. Cytunir ar y fformiwla ariannu bob blwyddyn gyda llywodraeth leol. Eisteddais yn yr is-grŵp cyllid, lle cytunodd arweinwyr awdurdodau lleol—[Torri ar draws.]—na, na, cytunodd arweinwyr awdurdodau lleol ar y gyfres ddiweddaraf o newidiadau i'r fformiwla. Ar y cyfan, roedd y newidiadau hynny'n ffafrio rhannau mwy gwledig o Gymru am eu bod yn ychwanegu cynnydd ychwanegol i gydnabod teneurwydd poblogaeth yn y ffordd y mae'r fformiwla'n gweithio. Nid Llywodraeth Cymru sy'n gosod y fformiwla. Fe'i gosodir yn unol â chyngor arbenigol a'i chytuno gan lywodraeth leol. Y rheswm pam fod Conwy wedi wynebu gostyngiad yn y cyllid eleni yw am fod ganddynt lai o bobl ddi-waith yn eu hardal nag a oedd ganddynt yr adeg hon y llynedd, mae ganddynt lai o ddisgyblion ysgol uwchradd nag a oedd ganddynt yr adeg hon y llynedd, ac mae ganddynt lai o blant yn hawlio prydau ysgol am ddim yn eu hysgolion cynradd. Nid oes unrhyw beth llwythol ynghylch unrhyw un o'r ffactorau hynny. Mae pob un ohonynt yn fesurau empirig, maent yn bwydo eu ffordd i mewn i'r fformiwla, a bob blwyddyn, mae rhai awdurdodau lleol yn gweld budd a rhai awdurdodau lleol yn gweld llai o fudd, felly heb os, bydd cyngor Conwy'n ddiolchgar fod Llywodraeth Cymru, er mwyn cynorthwyo'r cyngor hwnnw i fynd i'r afael â'r newidiadau yn y fformiwla, yn darparu £513,000 o gyllid ychwanegol i'r cyngor hwnnw y flwyddyn nesaf—nid drwy fynd ag arian oddi wrth rai cynghorau a'i roi i eraill fel y gwnânt lle rydych chi mewn grym, ond drwy'r cyllid canolog y mae'r Llywodraeth hon yn ei roi er mwyn darparu'r cyllid gwaelodol.

14:05

Er nid wyf i'n meddwl bydd trethdalwyr Conwy yn mwynhau codiad o 11 y cant yn y dreth gyngor, chwaith—ac mae hwnnw'n rhywbeth sydd yn cael ei ystyried ar hyn o bryd. Mi godais i gwestiwn gyda'r Ysgrifennydd gwasanaethau cyhoeddus yr wythnos diwethaf: o gofio'r wasgfa ddifrifol, ingol sydd ar awdurdodau lleol yn ariannol erbyn hyn, a oedd e'n hyderus bod yna drefniadau yn eu lle gan y Llywodraeth yma—bod yna broses yn ei lle—i ddelio â sefyllfa, petai hi'n codi, fod yna gyngor yng Nghymru yn mynd yn fethdalwr, fel yr ŷm ni wedi gweld yn digwydd yn Lloegr? Mi wnaeth e gydnabod bod hwnnw'n rhywbeth maen nhw yn edrych arno fe ar hyn o bryd ac yn ei ddatblygu, felly a gaf i ofyn yr un cwestiwn i chi: o safbwynt cyllidol, yng nghyd-destun y gyllideb rŷch chi'n gyfrifol amdani, a ydych chi'n hyderus bod gennych chi'r trefniadau angenrheidiol yn eu lle petai'r fath sefyllfa'n codi?

Wel, diolch i Llyr Gruffydd am y cwestiwn. Fel y dywedodd e, nid oedd Janet Finch-Saunders yn codi'r prynhawn yma'r posibiliad am godiad o 11 y cant yn y dreth gyngor yng Nghonwy, lle mae'r mwyafrif o bobl yn y cabinet yn yr awdurdod yna'n aelodau o barti'r Ceidwadwyr. So, cawn ni weld beth sy'n mynd i ddigwydd yna. Yn gyffredinol, rydw i wedi siarad mwy nag unwaith gyda Alun Davies am y pwnc yr oedd Llyr wedi ei godi. Rŷm ni yn hyderus bod pethau gyda ni yn barod lle rŷm ni'n gallu bod yn ymwybodol am ble yn y system mae awdurdodau lleol yn pryderu am y dyfodol. 

Credaf ei bod yn werth dweud, Ddirprwy Lywydd, er gwaethaf y pryderon gwirioneddol hynny, ac mae gennyf wir—. Rwy'n cymryd y pethau y mae awdurdodau lleol yn eu dweud wrthyf ynglŷn a'r pwysau y maent yn eu hwynebu wedi naw mlynedd o gyni o ddifrif. Serch hynny, cynyddodd gwariant refeniw gan lywodraeth leol yng Nghymru 1.3 y cant y llynedd—ni ddisgynnodd o gwbl; fe gynyddodd 1.3 y cant—a chynyddodd cyllid cyfalaf gan awdurdodau lleol yng Nghymru 5.5 y cant y llynedd. Ac er mor anodd yw pethau i bob un ohonom, o ran ceisio darparu gwasanaethau cyhoeddus gyda llai o adnoddau a galw cynyddol, gosodwyd y setliad i awdurdodau lleol eleni yn erbyn y cefndir hwnnw.

Effaith y Gyfradd Treth Trafodiadau Tir

4. Pa effaith y mae'r gyfradd dreth trafodiadau tir o 6 y cant wedi'i chael ar refeniw treth o drafodiadau eiddo masnachol dros £1 miliwn ers mis Ebrill 2018? OAQ52724

Ddirprwy Lywydd, mae'n rhy gynnar i ddod i unrhyw gasgliadau ynghylch effeithiau posibl y dreth trafodiadau tir ar y farchnad eiddo masnachol. Pum mis yn unig o ddata sydd wedi'i gyhoeddi gan Awdurdod Cyllid Cymru. Ac wrth gwrs, fel rwyf wedi'i ddweud droeon yn y Siambr hon, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i fonitro'r sefyllfa.

Ie, wel, bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol yn ddi-os mai sylfaen drethu'r dreth trafodiadau tir yw trafodiadau eiddo masnachol, ac yn ôl adolygiad CoStar o fuddsoddiadau mewn eiddo masnachol ar gyfer yr ail chwarter, sydd, yn ôl yr hyn a ddeallaf, yn arolygu pob trafodiad masnachol mwy o faint na hynny, a llawer mwy ledled y DU, £40 miliwn yn unig oedd cyfanswm y buddsoddiad mewn eiddo masnachol yng Nghymru yn yr ail chwarter. Dyna ddirywiad o 78 y cant o gymharu â'r cyfartaledd pum mlynedd. Onid yw'n wir, fel y mae nos yn dilyn dydd, y bydd cwymp mewn trafodiadau eiddo masnachol yn arwain at gwymp mewn refeniw treth masnachol ar y dreth trafodiadau tir, diolch i'ch uwchdreth o 6 y cant?

Lywydd, dyna'r cyfraniad gwirionaf rydych yn debygol o'i glywed y prynhawn yma. Mae'r Aelod yn cymryd un chwarter—un chwarter—ac yn bwrw iddi i adeiladu cestyll arno ymhell i'r dyfodol.

14:10

Mae'n rhan o'ch cyllideb ar gyfer eleni; rydych yn dibynnu arnynt.

Gadewch imi roi enghraifft wahanol iddo o drafodiadau eiddo masnachol yma yng Nghaerdydd yn y trydydd chwarter, lle gwerthwyd y tŵr swyddfa mwyaf yng Nghaerdydd, Capital Tower, y mis diwethaf am £25 miliwn. Dyma a ddywedodd asiant y gwerthwr:

Dros y blynyddoedd diwethaf mae Caerdydd wedi cryfhau ei lle fel canolfan ranbarthol bwysig yn y DU... Fe fanteisiwyd ar hyn yma gyda mwy na 10 arolwg o'r adeilad gan brynwyr posibl, gan greu amgylchedd cystadleuol iawn o ran gwneud cynigion, ac fe alluogodd hynny inni sicrhau'r canlyniad hwn.

Yr uchaf—

Gan y dyn sy'n cynnig un chwarter i mi—gan y dyn sy'n cynnig gwerth un chwarter o ffigurau i mi. Felly—[Torri ar draws.] Ie, ond yr hyn yr hoffai ef ei wneud fyddai cymryd un chwarter a dweud wrthyf wedyn fod gweddill y byd yn cwympo'n ddarnau. Rwy'n cynnig un trafodiad iddo o'r chwarter canlynol, sef y swm mwyaf erioed a dalwyd am adeilad masnachol yma yng Nghymru, a lle dywedodd asiant y prynwr:

Mae marchnad swyddfeydd Caerdydd, sy'n symud yn gyflym, wedi golygu bod stoc o safon ar gyfer buddsoddi mewn swyddfeydd fel Capital Tower mor anodd i'w brynu.

Nid yw'n swnio fel barn pobl nad oes arnynt eisiau buddsoddi yng Nghymru. Ddirprwy Lywydd, os oes unrhyw beth a fyddai'n cael effaith ar eiddo masnachol yng Nghymru, nid ychwanegu 1 y cant at dreth yw hynny, ond ei gynlluniau ef am Brexit caled a fydd yn arwain at gwymp sylweddol ym mhrisiau eiddo masnachol a phreswyl.

Cronfeydd Strwythurol ar ôl Brexit

5. Pa drafodaethau sydd wedi'u cynnal i sicrhau y bydd cronfeydd strwythurol yn cael eu rheoli gan Lywodraeth Cymru ar ôl Brexit? OAQ52725

Mae'r Prif Weinidog a minnau wedi codi'r mater hwn dro ar ôl tro gyda Gweinidogion y DU. Byddaf yn gwneud hynny eto yng nghyfarfod pedairochrog y Gweinidogion cyllid, a fydd yn cynnwys Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, ddydd Mercher yr wythnos nesaf.

Gan gyfeirio'n ôl at gyllid teg i lywodraeth leol, yma yng Nghymru, mae gennym fformiwla wirioneddol dryloyw, ond mae ymchwil gan Brifysgol Caergrawnt a gyhoeddwyd ddoe yn dangos bod siroedd Torïaidd wedi bod yn cipio tir, ac mai pobl dlawd yn ardaloedd ôl-ddiwydiannol gogledd Lloegr sydd wedi talu am hynny. Felly, mae lleoedd fel Lerpwl, Gateshead a Wigan wedi dioddef toriadau o hyd at 50 y cant mewn gwariant llywodraeth leol, o gymharu â'r shires cyfoethog, sydd wedi dioddef toriadau un digid yn unig i'w cyllid.

Nawr, nid hyn yn argoeli'n dda ar gyfer y ffordd y bydd cronfa ffyniant gyffredin y DU yn cael ei gweithredu, os yw hynny'n mynd i ddigwydd drwy wleidyddiaeth pot mêl, oherwydd mae wedi bod yn allweddol—[Torri ar draws.] Mae wedi bod yn allweddol fod—. Mae cronfeydd strwythurol yr UE wedi bod yn gwbl allweddol ar gyfer creu miloedd o swyddi, gan sicrhau cyflogaeth i filoedd o bobl. Y rheswm pam mai ni sy'n derbyn y swm mwyaf o arian gan Ewrop yw am mai ni yw'r ardal fwyaf difreintiedig, ac mae hynny'n parhau i fod yn wir o ran y ffordd y bydd y gronfa ffyniant gyffredin honedig hon yn cael ei gweithredu. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, pa sicrwydd y gallwch ei roi inni fod Llywodraeth y DU yn cydnabod nad yw datblygu ac adfywio economaidd, o dan Ddeddf Cymru 2017, yn fater a gedwir yn ôl? A sut y gallwn ddatrys y mater cyfansoddiadol ac ariannol pwysig hwn?

Wel, Ddirprwy Lywydd, diolch i'r Aelod am ei chwestiwn. Mae'n llygad ei lle fod astudiaeth Prifysgol Caergrawnt a gyhoeddwyd yn gynharach yr wythnos hon yn awgrymu mai pwerau datganoledig sydd wedi caniatáu i Lywodraethau'r Alban a Chymru liniaru'r toriadau mwyaf llym a wnaed i lywodraeth leol yn Lloegr, lle dywedant mai 'dwysáu anghyfiawnder tiriogaethol' yw egwyddor arweiniol gweithredoedd Gweinidogion y DU.

O ran y gronfa ffyniant gyffredin, er fy mod yn anghytuno â'r hyn a ddywedwyd yn gynharach gan Steffan Lewis pan oedd yn cyfuno'r gronfa ffyniant gyffredin a'r cytundeb rhynglywodraethol, er nad oes unrhyw berthynas rhwng y ddau, roeddwn yn cytuno â'r pwynt a wnâi yn ei hanfod. Mae Cymru'n cael arian drwy'r Undeb Ewropeaidd am fod gennym angen y mae'r arian hwnnw ar gael i'w ddiwallu. Dylai Gweinidogion y DU gadw at yr addewid a wnaeth aelodau'r blaid lywodraethol yn y refferendwm: cafwyd sicrwydd pendant, yn ôl yr hyn a gofiaf, na fyddai Cymru'n colli'r un geiniog—[Torri ar draws.] Dim ceiniog—sicrwydd pendant na fyddai Cymru ar ei cholled. Felly, mae'n rhaid inni sicrhau bod yr arian a ddaw i Gymru heddiw yn gwireddu'r addewid a wnaed, ac yn ail, mae'n rhaid iddo ddod i Gymru. Mae'n rhaid iddo fod o dan reolaeth y Cynulliad hwn. Mae'n rhaid gwarantu hynny. Dylai'r ymgynghoriad ar y gronfa ffyniant gyffredin fod ar gyfer Lloegr yn unig, yn union fel roedd yr ymgynghoriad ar ddiwygio'r polisi amaethyddol cyffredin yn ymgynghoriad ar gyfer Lloegr yn unig. Credaf fod hynny'n gyson â chasgliadau'r Pwyllgor Cyllid a'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol pan ystyriwyd y mater hwn ganddynt. Pan fyddaf yn mynd i Lundain yfory, ac eto yr wythnos nesaf, byddaf yn dweud hynny'n gwbl glir gyda fy nghymheiriaid o'r Alban.

14:15
Rhagolygon Ariannol

6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y rhagolygon ariannol sy'n sail i'r gyllideb ddrafft? OAQ52722

Diolch am y cwestiwn. Mae adroddiad y prif economegydd, a gyhoeddwyd ochr yn ochr â'r gyllideb, yn dangos yn glir fod y rhagolygon ariannol ledled y DU yn heriol iawn o hyd, yn enwedig ynghanol yr ansicrwydd a grëwyd gan Brexit. Bydd rhagolygon y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, ochr yn ochr â chyllideb y DU ar 29 Hydref, yn rhoi diweddariad pellach o'r rhagolygon cyn inni osod ein cyllideb derfynol ym mis Rhagfyr.

Diolch am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet, ac yn wir, nodwyd ein sefyllfa ariannol gan y prif economegydd, a dyfynnaf. Dywedodd y byddwn:

'yn dibynnu i ryw raddau ar yr agwedd a gymerir gan Lywodraeth y DU tuag at gyllido’r cynnydd mewn gwariant ar y GIG yn Lloegr a gyhoeddwyd yn ddiweddar.'

Felly, mae'n amlwg i mi fod yn rhaid ariannu'r cynnydd canlyniadol yng ngwariant y GIG yn llawn pan fydd yn cyrraedd Cymru, ac ni allwn gael mwy o'r cyhoeddiadau hyn gan Lywodraeth y DU sydd heb eu hariannu na'u costio. Yn wir, o ystyried y pwysau arall a nodwyd yn nadansoddiad y prif economegydd, ac a godwyd, yn eironig, gan nifer o Aelodau'r Ceidwadwyr Cymreig heddiw—sy'n treulio mwy o amser yn ôl pob golwg yn ymosod arnoch chi a Llywodraeth Cymru nag y gwnânt yn lobïo Llywodraeth y DU am setliadau ariannu mwy a gwell i Gymru—a fyddech yn cytuno na fydd pobl Cymru yn maddau i'r Torïaid os byddant yn ein siomi eto fyth gyda'r mater hwn?

Wel, diolch i Dawn Bowden am ei chwestiwn. Ddirprwy Lywydd, gadewch imi ailadrodd yr hyn a ddywedais yn ystod y ddadl ar y gyllideb yma. Ar bapur, mae gennym £365 miliwn o arian canlyniadol, mae'n debyg, yn sgil y cyhoeddiad a wnaed yn ôl ym mis Gorffennaf ar ben-blwydd y GIG yn saith deg oed. Rydym yn dal i aros am ffigur net gan y Trysorlys. Ni allant ddweud wrthym faint o'r arian hwnnw a fydd yn dod i Gymru mewn gwirionedd a faint ohono a gaiff ei golli mewn toriadau i gyllidebau datganoledig eraill.

Yr hyn a wyddom yw bod hanner yr arian hwnnw wedi cael ei wario cyn iddo groesi'r ffin hyd yn oed. O'r £365 miliwn hwnnw, gwariodd Llywodraeth y DU £95 miliwn pan ddaethant i gytundeb ar gyfer staff 'Agenda ar gyfer Newid'. Yna, fe ddywedasant wrthym, wythnos cyn ein cyllideb ddrafft, eu bod hefyd wedi gwario £74 miliwn o'r arian roeddent yn ei anfon atom ar newidiadau roeddent yn eu cyflwyno i bensiynau. Felly, cyn i'r un bunt ein cyrraedd, roedd hanner yr arian wedi'i wario gan Weinidogion Ceidwadol mewn penderfyniadau a wnaed ymhell o Gymru. Ni soniodd y Prif Weinidog am ddim o hynny pan gyhoeddodd ei anrheg pen-blwydd i'r GIG, ac mae Dawn Bowden yn llygad ei lle wrth ddweud bod yn rhaid inni gadw llygad barcud ar y ffordd y mae'r Llywodraeth yn honni ei bod yn rhoi arian gydag un llaw, ond fel consuriwr, mae'n ei gipio'n ôl gyda'r llaw arall.

Dileu Digartrefedd

7. Pa ystyriaeth y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei rhoi i gynorthwyo'r gwaith o ddileu digartrefedd wrth ddyrannu arian i'r portffolio llywodraeth leol a gwasanaethau cyhoeddus? OAQ52726

Ddirprwy Lywydd, byddwn yn buddsoddi £10 miliwn yn ychwanegol yn y flwyddyn ariannol hon i fynd i'r afael â digartrefedd. Mae'r gyllideb ddrafft ar gyfer 2019-20 yn ailadrodd y £10 miliwn hwnnw ac yn ychwanegu £10 miliwn arall yn benodol ar gyfer mynd i'r afael â digartrefedd ymhlith pobl ifanc, gan wneud cyfanswm o £30 miliwn o fuddsoddiad newydd yn y maes hollbwysig hwn.

Diolch am eich ateb. Ysgrifennydd y Cabinet, dychwelaf at fater cysgu allan; nid yw'n rhywbeth sy'n diflannu. Yn wir, clywsom ddoe fod 65 o bobl sy'n cysgu allan wedi marw yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn y DU. Gwn fod adroddiadau eisoes wedi bod mai yn Wrecsam y mae'r nifer uchaf o bobl sy'n cysgu allan yng Nghymru. Yr wythnos diwethaf, mynychodd fy staff lansiad prototeip pod cysgu yng Nghasnewydd, a gynlluniwyd gan Amazing Grace Spaces. Mae'r rhain yn cael eu dylunio yng Nghymru, eu cynhyrchu yng Nghymru, gan ddarparu swyddi a gwella sgiliau yng Nghymru. Rwyf wedi gweld y dyluniad ac wedi clywed sut y gallai cynllun o'r math hwn weithio, gan ddarparu gwelyau diogel a chynnes am y nos, yn ogystal â darparu'r gwasanaethau cymorth y gall fod eu hangen ar bobl sy'n cysgu allan i roi dechrau newydd iddynt. Ysgrifennydd y Cabinet, mae angen arian a gweledigaeth. A wnaiff Llywodraeth Cymru ddarparu'r arian ac arddangos y weledigaeth?

14:20

Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn, a oedd yn cynnwys nifer o bwyntiau pwysig iawn. Yn gyntaf oll, mae'n llygad ei lle, yn fy marn i, wrth ddweud bod cysgu allan yn un o ffenomenau cyni. Mae'n adlewyrchiad difrifol—difrifol—ar Lywodraeth bresennol y DU ein bod wedi gweld y cynnydd yn nifer y bobl—[Torri ar draws.] A allwch ddychmygu gwlad—

—y bumed wlad gyfoethocaf ar wyneb y ddaear ac sydd wedi cael Llywodraeth sy'n barod i oddef amodau lle rydym yn gweld mwy a mwy o bobl yn cael eu gorfodi i fyw ar ein strydoedd? Mae'n gyhuddiad, yn gyhuddiad gweladwy bob dydd yn erbyn y polisïau a roddwyd ar waith.

Yn erbyn y cefndir hwnnw, fel y dywedodd Mandy Jones, mae'r atebion yn gymysgedd o seilwaith ffisegol, yr angen am fwy o leoedd i bobl, ond ni ellir mynd i'r afael â chysgu allan drwy ddarparu ateb o ran tai yn unig, gan fod gan gynifer o'r bobl hynny yn yr amgylchiadau hynny nifer o anawsterau eraill yn eu bywydau, ac mae angen cymorth arnynt i fynd i'r afael â'r materion hynny hefyd.

Mae'r enghraifft a nododd yng Nghasnewydd yn swnio'n ddiddorol iawn. Rwy'n siŵr fod fy nghyd-Aelod, y Gweinidog Tai ac Adfywio, yn gwybod amdano. Yn ddiweddar, er enghraifft, ymwelodd â Wrecsam yng ngogledd Cymru, a grybwyllwyd gan Mandy Jones, er mwyn gweld trefniadau arloesol ar waith yno. Cefais drafodaeth gyda'r Gweinidog yn ddiweddar ynglŷn â chynlluniau sydd ganddi ar gyfer defnyddio'r arian ychwanegol sydd ar gael iddi bellach yn y maes pwysig hwn, ac ni chredaf fy mod yn gollwng y gath o'r cwd drwy ddweud mai ei dull o weithredu at ei gilydd yw buddsoddi mwy o arian yn yr enghreifftiau sydd yno eisoes, ac y gwyddom eu bod yn llwyddo, a buddsoddi rhagor o arian wedyn mewn atebion arloesol nad ydym wedi gallu rhoi cynnig arnynt hyd yn hyn, atebion y bydd y buddsoddiad ychwanegol hwn yn eu hwyluso yn awr.

2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip

Eitem 2 ar yr agenda y prynhawn yma yw cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip. Daw'r cwestiwn cyntaf gan Nick Ramsay.

Band Eang Cyflym Iawn ym Mynwy

1. A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fand eang cyflym iawn ym Mynwy? OAQ52708

Hwylusodd cynllun Cyflymu Cymru y broses o ddarparu mynediad at fand eang cyflym iawn i dros 5,490 o gartrefi a busnesau yn Nhrefynwy, gan fuddsoddi ychydig dros £1.68 miliwn. Mae cyfartaledd y cyflymder ar draws Sir Fynwy dros 95 Mbps.

Etholaeth Mynwy oedd hynny, fel y tybioch yn iawn unwaith eto, arweinydd y tŷ. Rwyf wedi siarad â nifer o drigolion yn ddiweddar a fynychodd yr un cyfarfod cyhoeddus â chithau ychydig wythnosau yn ôl yn Llanddewi Rhydderch, mewn rhan wledig iawn o fy etholaeth. Fel y gwyddoch—dylwn ddweud eich bod wedi gwneud hynny gyda'r cynghorydd sir lleol, Sara Jones. Fel y gwyddoch, mae'r gwasanaeth band eang yn wael iawn yn yr ardal honno, ac mae trigolion yn chwilio am atebion gan y cynllun cyflwyno band eang cyflym iawn. Tybed a allech roi'r wybodaeth ddiweddaraf imi heddiw ynglŷn ag unrhyw ddatblygiadau yn sgil y cyfarfod hwnnw, ac a ydych wedi gwneud unrhyw gynnydd o ran sicrhau gwell gwasanaeth band eang i bobl yn yr ardal honno.

Roedd yn gyfarfod cadarnhaol iawn, mewn gwirionedd, a thrafodwyd nifer o atebion arloesol y gallem eu rhoi ar waith mewn cydweithrediad â chyngor Sir Fynwy ei hun, yn ogystal â chyda grŵp o'r trigolion sy'n awyddus iawn i weld a allent sicrhau ateb pwrpasol ar gyfer eu cymuned eu hunain. Mae hynny'n rhoi cyfle i mi ddweud wrth bawb yn y Siambr—heb os, byddaf yn dweud hyn yn eithaf aml yn ystod fy nghwestiynau, Ddirprwy Lywydd—ein bod yn awyddus iawn i gefnogi atebion cymunedol arloesol ledled Cymru lle ceir cymunedau o bobl sy'n barod i archwilio'r atebion hynny. Mae'r tîm sy'n hwyluso hynny wrthi'n gwneud hynny ar hyn o bryd.

Y Pumed Genhedlaeth yng Ngogledd Cymru

2. A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad am ddatblygu 5G yng Ngogledd Cymru? OAQ52727

Gwnaf, rwyf wedi penodi'r Arloesfa i gynghori, ysgogi a chydgysylltu gweithgarwch ar 5G ledled Cymru gyfan.

Diolch am eich ateb. Nodaf o bennawd yr wythnos diwethaf fod Llywodraeth Cymru wedi comisiynu cyngor ar y broses o gyflwyno 5G yng Nghymru. Clywaf dermau fel 'cyflym iawn' a 'gwibgyswllt', ac a dweud y gwir, nid yw'r signal ffôn symudol a chyflymder y band eang yn fy rhanbarth yn cyfiawnhau defnyddio unrhyw un o'r geiriau hynny. A allwch ddweud wrthyf pa un a fydd 5G yn sicrhau cysondeb o ran gwasanaeth a chyflymder ledled fy rhanbarth, neu a fydd yn atgyfnerthu'r gwahanol lefelau o wasanaeth rhwng y lwcus a'r anlwcus yng ngogledd Cymru?

Yn anffodus, nid yw technoleg ffonau symudol wedi'i datganoli i Gymru. Pe byddai, gallwn ateb y cwestiwn hwnnw mewn ffordd symlach o lawer. Ond rydym yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i drafod sut yn union y bydd y sbectrwm 5G yn cael ei werthu, a bydd llawer yn dibynnu ar sut y caiff ei werthu yn y diwedd. A dyna pam fod yr Arloesfa yn edrych ar gyfres gyfan o ardaloedd peilot arloesol ar gyfer 5G fel y gallwn gasglu'r dystiolaeth i ddylanwadu ar ymagwedd Llywodraeth y DU tuag at dechnoleg 5G pan ddaw ar y farchnad yn y pen draw.

14:25

Yn gynharach eleni, arweinydd y tŷ, roeddwn mewn rhannau gwledig o orllewin Kenya ac mae'n rhaid imi ddweud, roeddwn yn arswydo at y ffaith bod eu signal symudol i'w weld yn well o lawer na'r hyn ydyw mewn rhai rhannau o fy etholaeth yng Ngorllewin Clwyd. Felly, tybed pa gamau y gallwch eu cymryd, o ystyried y pwerau datganoledig sydd gennych dros hawliau datblygu a ganiateir o ran uchder y mastiau teleffoni sydd gennym yng Nghymru, i roi cyfle gwell i'r mastiau hynny gyrraedd rhai rhannau gwledig anghysbell o'r wlad yn y dyfodol drwy godi'r cyfyngiadau ar uchder sydd ar waith ar hyn o bryd yn y system gynllunio?

Ie, bydd yr Aelod yn ymwybodol ein bod wedi ymgynghori ar y newidiadau i'r hawliau datblygu a ganiateir ac rwy'n disgwyl gallu cyhoeddi'r canlyniadau hynny cyn bo hir. Ddirprwy Lywydd, byddaf yn gwneud datganiad llafar yr wythnos nesaf—mae'n anffodus iawn fod pethau wedi'u hamseru yn y ffordd hon. Ond rwy'n gobeithio—nid wyf yn sicr, ond rwy'n gobeithio gwneud rhai cyhoeddiadau. Maes Ysgrifennydd y Cabinet dros gynllunio yw hwn, ond rwy'n gobeithio gallu dweud wrth yr Aelodau beth oedd canlyniad yr ymgynghoriad erbyn hynny.

Roedd yn dda clywed y bydd Sir Fynwy yn chwarae rhan yn ardaloedd peilot gwledig Llywodraeth y DU ar gyfer 5G. Mae Caerdydd yn cael arian ar gyfer rhwydwaith ffeibr llawn lleol. Gwyddom am y ganolfan lled-ddargludyddion cyfansawdd gyntaf a fydd wedi'i lleoli yn ne Cymru, ac wrth gwrs, gwyddom am gynllun strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer y Cymoedd Technoleg. Felly, mae llawer o ffocws a llawer o fuddsoddi'n digwydd, nid yn unig gan eich Llywodraeth chi, ond gan Lywodraeth y DU, mewn perthynas â de Cymru. Ond beth arall y gallwn ei wneud i sicrhau nad yw ardaloedd yng ngogledd Cymru a rhannau eraill o Gymru yn ôl-ystyriaeth braidd sy'n gorfod dal i fyny bob amser?

Nid yw hynny'n wir o gwbl. Mae Coleg Myddelton, yr ysgol Microsoft gyntaf yng ngogledd Cymru, ar hyn o bryd yn elwa o dechnoleg ddi-wifr 5G, ac ni fydd gweddill y DU yn dechrau gweld hynny tan 2020. Felly, maent ymhell ar y blaen. Mae disgyblion coleg yno yn gweithio ar lechi sy'n caniatáu rhyngweithio mewn amser real gydag athrawon ar gyfer gwersi a marcio. Mae'r ysgol yn amcangyfrif y bydd hynny'n arbed oddeutu £100,000 y flwyddyn ar bapur argraffu a phinnau ysgrifennu. Felly mae gennym ardaloedd peilot ledled Cymru yn edrych ar wahanol systemau. Mae ffyrdd cymhleth o'u hariannu, ond maent wedi'u gwasgaru ledled Cymru, ond yn fwriadol felly, ac rydym yn awyddus iawn i sicrhau bod gennym gynlluniau peilot mewn ardaloedd gwledig iawn, mewn ardaloedd lled-wledig, mewn dinasoedd ac ardaloedd gwledig ac ati, gan y gwyddom y bydd y dechnoleg yn wynebu gwahanol broblemau ac y bydd iddi fanteision gwahanol ym mhob un o'r ardaloedd hynny. Felly, rydym wedi bod yn awyddus iawn i sicrhau eu bod wedi'u gwasgaru'n eang.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Trown yn awr at lefarwyr y pleidiau, ac yn gyntaf y prynhawn yma ar gyfer arweinydd y tŷ, llefarydd y Ceidwadwyr, Mark Isherwood.

Diolch and prynhawn da.

Mae eich cyfrifoldebau, fel y gwyddoch, yn cynnwys diogelu'r nodweddion gwarchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a hawliau dynol mewn perthynas â chonfensiynau'r Cenhedloedd Unedig. Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau—

[Anghlywadwy.]—dechrau hynny. Mae'n ddrwg iawn gennyf, Mark Isherwood, ni chlywais beth y dechreuoch chi ei ddweud. Tybed a fyddech mor garedig â'i ailadrodd.

Fe wnaf ei ailadrodd. Fe siaradaf ychydig yn arafach. Mae eich cyfrifoldebau yn cynnwys cydraddoldeb, diogelu'r nodweddion gwarchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a hawliau dynol mewn perthynas â chonfensiynau'r Cenhedloedd Unedig. Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau feddwl ymlaen llaw a chymryd camau i fynd i'r afael â rhwystrau i bobl anabl, ac yn dweud na ddylech aros hyd nes y bydd unigolyn anabl yn wynebu anawsterau wrth ddefnyddio gwasanaeth.

Ymgorfforwyd Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau pobl anabl gan Lywodraeth Cymru yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 Rhan 2: cod ymarfer, a ddywedai fod

'Rhaid i awdurdodau lleol geisio grymuso pobl i gynhyrchu atebion arloesol'

drwy rwydweithiau lleol a chymunedau, a bod hyn

'yn golygu rhoi trefniadau cadarn ar waith i sicrhau cyfraniad pobl at gynllunio a gweithredu gwasanaethau.'

Nawr, rwyf wedi codi'r cwestiwn hwn gyda Gweinidogion Llywodraeth Cymru sawl tro: pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r pryder, y gofid a'r difrod cynyddol a achosir pan fo asiantaethau cyhoeddus iawn yn methu cyflawni'r cyfrifoldebau a'r dyletswyddau hynny? Rhoddaf ychydig o enghreifftiau i chi. Soniais ychydig wythnosau yn ôl fod Sir y Fflint wedi rhoi eu contract ar gyfer gwasanaethau cymorth anabledd i asiantaethau allanol, nid yr FDF Centre for Independent Living, yr asiantaeth y mae'r gymuned anabledd leol yn dibynnu arni, a dywedasant wrthyf yn eu cyfarfod blynyddol na fuont yn rhan o'r penderfyniad. Y newyddion heddiw o Wrecsam, y bydd nifer o fusnesau cymdeithasol sy'n darparu gwaith ar gyfer pobl anabl yn cau, ond heb unrhyw gyfeiriad o gwbl at gynllunio a darparu gyda'r cymunedau yr effeithir arnynt. Gwyddom am y gymuned fyddar yng Nghonwy yn gorfod mynd at ombwdsmyn ar ôl i'w gwasanaethau Iaith Arwyddion Prydain gael eu diddymu. Ac wrth gwrs, pryder yng Nghaerdydd fod Autism Spectrum Connections Cymru wedi gorfod cael gwared ar wasanaethau o'u siop un stop, er bod y gymuned awtistiaeth leol yn dweud nad ymgynghorwyd â hwy a'u bod yn dibynnu'n llwyr ar y gwasanaethau hynny. Felly, o ystyried eich cyfrifoldebau yn y meysydd hyn, sut y byddwch yn sicrhau yn awr fod Llywodraeth Cymru yn ymyrryd i gynorthwyo'r awdurdodau lleol hyn i ddeall yn well beth sy'n rhaid iddynt ei wneud, a hefyd sut y bydd hynny nid yn unig o fudd i bobl anabl, ond hefyd, yn y pen draw, yn arbed arian iddynt hwy ac yn eu cynorthwyo i reoli eu cyllidebau'n well?

14:30

Nid wyf yn ymwybodol o holl fanylion rhai o'r enghreifftiau hynny, a buaswn yn ddiolchgar iawn pe bai Mark Isherwood mor garedig â'u trosglwyddo i mi; rwy'n ymwybodol o rai ohonynt. Mae gennyf dri pheth i'w ddweud am hynny. Pan fo rhywun wedi ymrwymo i'r cod ymarfer caffael moesegol, dylent gydymffurfio ag ef, a byddaf yn codi hynny gyda'r awdurdodau lleol dan sylw lle nad ydynt yn cydymffurfio â'r cod. Nid mater i'r Llywodraeth yw sut yn union y maent yn cyflawni'r caffael, cyhyd â'u bod yn gwneud hynny'n unol â'r canllawiau. A byddwn yn cyhoeddi set newydd o ganllawiau—camau gweithredu ar anabledd—tuag at ddiwedd mis Tachwedd, yn sicr cyn diwedd tymor y Nadolig, a byddant yn mynd i'r afael â rhai o'r materion y mae'n eu codi, o ran dyletswyddau awdurdodau lleol a gorfodaeth. Cawsant eu datblygu i raddau helaeth drwy ymgynghori â chymunedau anabledd ledled Cymru. Bydd yn cael ei gyflwyno fel ymgynghoriad, a gobeithiaf yn fawr y byddwn yn gallu dod i gasgliad, ochr yn ochr â'n dinasyddion anabl, sy'n addas i'w hanghenion. A dyna'r ffordd rydym wedi ei gynllunio, er mwyn hwyluso'r pethau hynny.

Diolch. Wel, gobeithiaf y bydd hynny'n helpu awdurdodau lleol a byrddau iechyd i gael gwell dealltwriaeth o sut i gysoni eu rhwymedigaethau caffael â'u rhwymedigaethau i gynllunio a darparu gwasanaethau ar gyfer pobl leol, oherwydd mae'r ddau beth yn gwrthdaro.

Unwaith eto, gan nodi eich cyfrifoldebau, fe wyddoch fod yna uchelgais yng nghynllun 'Cymru Iachach: Ein Cynllun ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol' Llywodraeth Cymru i ddod ag iechyd a gwasanaethau gofal cymdeithasol at ei gilydd, fel eu bod yn cael eu cynllunio a'u darparu o amgylch anghenion a dewisiadau unigolion. Ac mae Llywodraeth Cymru ei hun yn dweud,

Efallai y bydd angen i ni newid y ffordd rydym yn talu am wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

Unwaith eto, gan nodi eich cyfrifoldebau, sut rydych chi'n ymateb i'r pryder cynyddol sy'n cael ei ddwyn i fy sylw fod awdurdodau lleol, mewn trafodaeth gyda byrddau iechyd, yn mynd â thaliadau uniongyrchol oddi wrth bobl sydd wedyn yn cael eu symud i ofal iechyd parhaus? Maent yn colli eu hannibyniaeth, maent yn colli eu gallu i fyw yn eu cartrefi eu hunain, weithiau gyda chymorth, ac yn aml iawn mae rhywun yn dweud wrthynt, drwy'r cymorth iechyd, y byddant yn gorfod symud i ryw fath o ddarpariaeth breswyl statudol, neu ofal wedi'i gomisiynu, yn hytrach na chael eu cartrefi eu hunain. Ac mae'r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn mynnu na ddylid cyfuno cyllidebau personol, yn wahanol i'r Alban a Lloegr, yn gwneud hyn yn waeth ac yn atal awdurdod lleol rhag cyfuno'r taliadau uniongyrchol gyda'r gyllideb gofal iechyd parhaus. Sut, felly, y bydd Llywodraeth Cymru yn galluogi'r bobl yr mae hyn yn effeithio arnynt i barhau i fyw'n annibynnol, yn hytrach na chael eu gorfodi i golli llais, dewis a rheolaeth ar eu bywydau eu hunain?

Mewn gwirionedd, nid yw hynny yn fy maes portffolio, ond rwy'n cael trafodaethau helaeth gydag Ysgrifennydd y Cabinet yn ei gylch. Mae Mark Isherwood yn nodi set gymhleth o faterion—a hynny'n gwbl briodol. Nid wyf yn credu mai dyna yw canlyniad y newid, ond nid fy maes portffolio i ydyw, felly bydd yn rhaid i mi ysgrifennu ato, oherwydd bydd yn rhaid i mi ymgynghori â fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet, sy'n gyfrifol am y portffolio ar gyfer y gronfa benodol honno.

Wel, o ystyried eich cyfrifoldeb am Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig, buaswn yn dadlau bod gennych rywfaint o gyfrifoldeb trosfwaol, er nad yw, yn amlwg, yn un o'ch cyfrifoldebau adrannol.

Oes; nid wyf yn dadlau nad oes. Rwyf wedi cael y trafodaethau hynny gydag Ysgrifennydd y Cabinet, ond nid oes gennyf y manylion rydych yn gofyn amdanynt, gan nad yw'n rhan o fy nghyfrifoldeb portffolio.

Iawn. Ac yn olaf, cwestiwn tebyg eto, sy'n ymwneud â rhan arall o'ch maes cyfrifoldeb: cymunedau Sipsiwn, Roma, Teithwyr, Ffair, Syrcas, Sioe a Chychwyr. Maent wedi cyhoeddi bod diwrnod hyfforddi'n cael ei gynnal yng Nghaerdydd ar 5 Rhagfyr, ac rwy'n meddwl tybed sut rydych yn ymateb i hyn, sydd yn y wybodaeth yn yr hysbysiad a aeth allan:

Bydd y gweithdy'n canolbwyntio ar sut y mae'r mentrau polisi cyfredol sy'n gysylltiedig â "Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru, 2015)" wedi gadael cymunedau Romani a Theithwyr Cymru ar ôl, yn enwedig o ran yr "Asesiadau Llesiant" a gynhaliwyd gan y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a sefydlwyd gan y Ddeddf a'r adolygiad diweddar o'r rhain gan Netherwood, Flynn a Lang (2017) ar ran Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, Sophie Howe. Mae'r prosesau hanfodol hyn wedi anwybyddu anghenion pobl Romani a Theithwyr wrth "gynllunio heddiw ar gyfer gwell yfory".

14:35

Nid wyf yn derbyn hynny, mae'n rhaid i mi ddweud. Mae gennym dri chynllun ar y gweill ar gyfer dinasyddion o gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr yng Nghymru. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y cynllun 'Galluogi Sipsiwn, Roma a Theithwyr' ar 28 Mehefin, a oedd yn adeiladu ar y gwaith rydym wedi'i wneud ers 2012 mewn perthynas â llety, addysg, iechyd a chyfranogiad cymunedol. Roedd yn cyflwyno ymrwymiadau newydd o ran cyflogaeth a hyfforddiant yn ogystal ag adeiladu pontydd gyda gwasanaethau cymdeithasol ac asiantaethau cyfiawnder troseddol.

Rydym hefyd wedi cyflwyno asesiadau llety Sipsiwn a Theithwyr ac maent wedi nodi angen heb ei ddiwallu am 237 o leiniau preswyl a 33 o leiniau tramwy ledled Cymru. Ar hyn o bryd rydym wrthi'n cynnal ail adolygiad blynyddol o'r asesiadau hynny ac rydym yn annog awdurdodau lleol i weithio gyda chymunedau Sipsiwn a Theithwyr i ddatblygu eu safleoedd bach preifat eu hunain, ac mae hynny'n cynnwys cysylltu ag awdurdodau cynllunio a sicrhau bod ganddynt ganiatadau cynllunio cywir ar waith.

Bydd yr Aelod yn gwybod, oherwydd rydym wedi cael llawer o drafodaethau ynglŷn â sut y mae'r grant cyfalaf safleoedd Sipsiwn a Theithwyr yn cysylltu â'r asesiadau hynny a'r cymorth rydym yn gobeithio ei roi, i awdurdodau lleol ac i grwpiau unigol lle bo hynny'n briodol. Yn ystod 2017-18, er enghraifft, buddsoddwyd £3.4 miliwn o gyllid er mwyn ymestyn y safle presennol yng Ngwynedd, gan greu pum llain ychwanegol, safle naw llain yng Nghasnewydd, estyniad i safle dwy lain ym Mhowys a phrosiect adnewyddu nifer o safleoedd yn Sir Benfro. Felly, rydym mewn cysylltiad uniongyrchol â chymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr ac mae'r ymwneud wedi bod yn dda iawn, a'r ymateb wedi bod yn dda iawn i'r cynlluniau hynny.

Diolch yn fawr. Mi fyddwch chi'n cofio mai ymgais i ddiddymu'r rheoliadau ynglŷn â dosbarthu bathodynnau glas dros dro oedd un o ddadleuon cyntaf y pumed Cynulliad. Ar yr adeg honno, mi wnaethom ni, ar ochr yma'r Siambr, eich cefnogi chi ar y sail bod cael cynllun diffygiol ar gyfer cynllun bathodynnau glas dros dro yn well na pheidio â chael un o gwbl. Ond, mae diffygion y cynllun newydd hwnnw bellach yn dod yn amlwg—diffygion yr oeddem ni wedi eu rhagweld, wrth gwrs.

Rydym yn gweld bod bathodynnau yn cael eu gwrthod i bobl, a phobl yn colli eu hannibyniaeth o ganlyniad i hynny gan fod disgwyl adferiad i'w hiechyd mewn llai na 12 mis. Mae gofyn i sefydliadau sy'n helpu pobl anabl i ymgeisio am y bathodynnau glas lofnodi dogfennau cyfreithiol sy'n rhoi baich profi'r rheol 12 mis yma ar y sefydliadau yma, efo'r posibilrwydd o ddirwyon uchel os ydyn nhw'n gwneud camgymeriad, sef helpu rhywun sydd efallai dim ond angen cadair olwyn am 11 mis ac nid 12, er enghraifft. A ydych chi'n meddwl, felly, ei bod hi'n amser edrych ar wella'r cynllun yma fel na fyddai'r elusennau'n gorfod wynebu plismona eu cleientiaid?

Diolch i chi am godi hynny, Siân Gwenllian. Mae arnaf ofn nad yw hyn ychwaith yn fy maes portffolio yn uniongyrchol, er fy mod wedi cael llawer o sgyrsiau gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth. Nid wyf yn gyfarwydd â'r mater ynglŷn â cheisiadau elusennau a nodwyd gennych, felly buaswn yn ddiolchgar iawn pe baech yn ysgrifennu ataf ac fe wnaf yn siŵr fy mod yn cael y sgwrs honno gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth.

Iawn, diolch yn fawr. Mae dipyn bach yn od bod mater sydd yn sylfaenol yn un ynglŷn â chydraddoldeb mewn portffolio arall, ond mi wnaf ysgrifennu efo hynny.

Rwyf yn mynd i barhau i holi ynglŷn â bathodynnau glas achos mae wedi dod yn fwyfwy clir dros y ddegawd ddiwethaf fod agweddau llywodraethau tuag at bobl anabl wedi gogwyddo tuag at osod meini prawf sy'n fwyfwy llym a phrosesau sy'n fwyfwy biwrocrataidd, lle mae gofyn iddyn nhw brofi eu hanabledd a'u hawliau ac maen nhw'n dwyllwyr hyd nes ceir prawf i'r gwrthwyneb. Rydych yn gyfarwydd iawn â chanlyniad y profion taliad annibyniaeth personol—y PIP newydd—sef bod nifer uchel o benderfyniadau yn mynd yn erbyn pobl anabl a bod y penderfyniadau yma'n cael eu gwrthdroi yn aml iawn mewn apêl. Yn wir, mae yna nifer o Aelodau yn y Siambr yma wedi brwydro yn erbyn Llywodraeth San Steffan ynglŷn â'r polisïau yma. Ond mae'r bathodynnau glas o fewn eich rheolaeth chi fel Llywodraeth ac mae ein gwaith achos ni yn amlygu bod yr union beth sy'n digwydd efo PIP yn digwydd efo'r bathodynnau glas. Mae gen i etholwyr sydd wedi eu gwrthod heb asesiadau wyneb yn wyneb, pobl â phroblemau anadlu'n sydd wedi cael gwrthod bathodynnau glas am nad ydyn nhw'n defnyddio cymorthyddion cerdded am yr ychydig gamau y gallan nhw eu cymryd cyn mynd allan o wynt, a nifer o rai eraill sy'n wynebu dehongliad llym o'r rheolau nes cael apêl llwyddiannus. A ydy eich Llywodraeth chi felly mewn perygl o ddisgyn i'r un trap â'r hyn sy'n digwydd efo PIP, sef gwneud i bobl sy'n ceisio am fathodynnau glas deimlo fod y system yn eu herbyn nhw?

14:40

Rwy'n gobeithio'n fawr na fydd hynny'n digwydd. Er eglurder, nid oes gennyf unrhyw gyfrifoldeb portffolio uniongyrchol am nifer fawr o feysydd sy'n effeithio ar gydraddoldeb, oherwydd mae cydraddoldeb yn effeithio ar bopeth. Felly, mae gennyf rai cyfrifoldebau portffolio uniongyrchol. Ond rwy'n gyfrifol am sicrhau bod y dyletswyddau a'r rhwymedigaethau cydraddoldeb hynny'n cael eu cyflawni gan bob un o fy nghyd-Ysgrifenyddion Cabinet. Felly, nid wyf yn ceisio osgoi fy nghyfrifoldeb mewn unrhyw ffordd; rwy'n dweud nad oes gennyf y manylion gyda mi gan mai Ysgrifennydd y Cabinet sydd â'r manylion hynny.

Wedi dweud hynny i gyd, y rheswm pam yr eglurais hynny yw oherwydd fy mod eisiau gweld y model cymdeithasol o anabledd yn cael ei groesawu ledled Cymru, ac mae'r model hwnnw'n golygu nad ydym yn gofyn i'r unigolyn anabl wneud unrhyw beth na fyddem yn gofyn i unrhyw unigolyn arall ei wneud. Yn syml, rydym yn ceisio cael gwared ar y rhwystrau sy'n wynebu'r unigolyn wrth iddynt gael mynediad at yr holl agweddau ar gymdeithas y mae angen iddynt gael mynediad atynt. Felly, rwy'n hapus iawn i ymrwymo i siarad â'r Ysgrifennydd Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros y cynllun i sicrhau nad ydym yn gwneud hynny.

Rwyf finnau hefyd yn gwrthwynebu'n chwyrn iawn y ffordd y cynhaliwyd asesiadau'r taliad annibyniaeth personol. Mae gennyf nifer o etholwyr sy'n wynebu problemau tebyg. Felly, rwy'n ymrwymo i siarad ag Ysgrifennydd y Cabinet, oherwydd os yw'n digwydd, ni ddylai fod yn digwydd o gwbl.

Diolch yn fawr am hynny. Mae yna un agwedd arall buaswn i'n hoffi i chi ei thrafod efo'r Ysgrifennydd Cabinet economi, felly, sef y canllawiau sydd ymhlyg efo sefydliadau sydd yn berchen ar fysys mini yn defnyddio bathodynnau glas. Mae rheoliadau'r canllawiau wedi cael eu drafftio'n wael ac mae sefydliad sydd yn gobeithio mynd â phobl anabl allan ar dripiau ac yn y blaen yn cael trafferth efo'r holl system o gael bathodyn glas ar gyfer eu bws mini neu beth bynnag. Mae'r broblem yn y ffordd y mae'r rheoliadau wedi cael eu drafftio ac mae hynny'n creu problem i'r awdurdodau lleol wedyn yn y ffordd y maen nhw’n edrych arnyn nhw a diffyg eglurder.

Felly, a gaf i ofyn ichi hefyd edrych ar y mater yna? Rwy'n meddwl ei bod hi'n bwysig. Rwy'n cymharu beth sy'n digwydd ar hyn o bryd efo bathodynnau glas efo beth sydd wedi bod yn digwydd efo PIP, ac rwy'n siŵr eich bod chi'n cytuno efo fi nad dyna'r ffordd rydym ni eisiau gwneud pethau yng Nghymru.

Rwy'n cytuno'n llwyr â chi nad dyna'r ffordd rydym eisiau gwneud pethau yma. Byddaf yn sicr yn dwyn hynny i sylw Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth. Yn wir, Siân Gwenllian, buaswn yn ddiolchgar iawn pe baech yn mynychu cyfarfod, pe bawn yn trefnu un, rhwng y tri ohonom fel y gallwn drafod y manylion.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Arweinydd y tŷ, yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd yr Arloesfa, sef asiantaeth flaenllaw Cymru ar gyfer twf busnes digidol, ei bod yn cynnal cyfarfod cyntaf y grŵp ychwanegol a sefydlwyd i baratoi a llunio rhaglen 5G genedlaethol gydlynol yng Nghymru. Bydd hyn yn cefnogi ecosystemau 5G ehangach y DU ac yn helpu i gyflwyno Cymru fel arweinydd byd ym maes datblygu a darparu 5G. A allwch chi roi'r newyddion diweddaraf am y cyhoeddiad hwn, arweinydd y tŷ?

Gallaf. Fel yr eglurais mewn ateb i gwestiwn cynharach, rydym yn awyddus iawn i gefnogi datblygiad 5G, gan gynnwys nifer fawr iawn o ardaloedd peilot ledled Cymru. Rydym yn bwriadu profi atebion arloesol ar draws y gwahanol agweddau ar gymdeithas yng Nghymru fel y gallwn ddangos beth y gall 5G ei wneud mewn amgylchiadau gwahanol ac o gael gwahanol feini prawf. Rydym yn awyddus iawn i sicrhau, er enghraifft, mewn ardaloedd lle nad oes 4G o gwbl, nad oes angen i bobl ddringo ysgol a'u bod yn gallu llamneidio i fyny o 0G i'r brig, a dweud y gwir, mewn rhai ardaloedd. I'r perwyl hwnnw, rydym wedi bod yn cael llawer o drafodaethau ynglŷn â sut y gallwn hwyluso hynny. Mae hynny i gyd yn gysylltiedig â'r ffordd y bydd Llywodraeth y DU yn cynnal gwerthiant sbectrwm yn y pen draw. Felly, bydd yr Aelod wedi fy nghlywed yn sôn am y ffordd y cafodd 4G ei werthu. Nid oes pen draw i'w ddefnydd. Hoffwn weld hwnnw fel caniatâd cynllunio, felly os nad ydych wedi'i ddefnyddio o fewn pum mlynedd, bydd yn dychwelyd i'r sector cyhoeddus fel y gallwn ei ddefnyddio. Ond yr hyn sydd wedi digwydd mewn gwirionedd yw ei fod wedi cael ei werthu i'r gweithredwr preifat ac ni allaf ei gael yn ôl. Buaswn yn hoffi gallu gwneud hynny'n fawr iawn.

14:45

Diolch i arweinydd y tŷ am yr ateb hwnnw. Arweinydd y tŷ, mae'n galonogol gweld fod Cymru eisoes yn dod yn arweinydd ym maes arloesi digidol drwy fentrau fel y clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd yn fy etholaeth, Dwyrain De Cymru. Yn ddi-os, bydd technoleg y bumed genhedlaeth yn ysgogi technolegau newydd, a fydd yn cefnogi ac yn cyflymu cyfleoedd digidol ehangach ledled Cymru. Pa gynlluniau pellach y mae'r Llywodraeth wedi'u rhoi ar waith i fanteisio ar y dechnoleg newydd hanfodol hon?

Ie, fel y dywedoch chi, yn ddiweddar, deuthum i gytundeb gyda'r Arloesfa y byddant yn cynghori, yn ysgogi ac yn manteisio ar gyfleoedd y tirlun 5G sy'n dod i'r amlwg, yn cydlynu gwaith yr holl randdeiliaid a'r partneriaid cyflenwi allweddol, ac yn sefydlu fframweithiau llywodraethu priodol ar gyfer y gweithgarwch hwnnw.

Mae nifer fawr o brosiectau ar y gweill ledled Cymru. Soniais am yr un yn y coleg, er enghraifft. Rydym hefyd yn gwneud hyn fel rhan o'r parc technoleg modurol arfaethedig yng Nglyn Ebwy. Mae rhan fawr iawn o'r cynnig seilwaith digidol ar gyfer dinas-ranbarth bae Abertawe yn canolbwyntio ar 5G, ac mae bargen ddinesig Caerdydd hefyd yn edrych arno.

Rwy'n dweud wrth yr Aelod ein bod yn awyddus iawn i wneud yn fawr o'r cyfle, ac nid oes unrhyw reswm o gwbl pam na allwn fod yn un o'r gwledydd sy'n manteisio fwyaf. Fodd bynnag, dylwn hefyd ddweud wrth yr Aelod fod llawer o dechnolegau cyffrous eraill ar gael nad ydynt mor gyffrous, os mynnwch chi, â 5G. Felly, ar draws Cymru gyfan, rydym yn edrych ar ddefnydd effeithiol iawn o'r hyn a elwir yn dechnoleg rhwydwaith ardal eang pell, sydd ag amledd isel iawn. O ganlyniad, mae gan y dyfeisiau oes batri hir iawn a gallant fonitro pob math o bethau sy'n darparu data defnyddiol iawn i ni ar ynysu cymdeithasol, er enghraifft. Felly, mae gennym ddiddordeb brwd mewn nifer fawr o dechnolegau eraill hefyd.

Diolch i arweinydd y tŷ am yr ateb esboniadol hwnnw. A gaf fi droi at fater arall yn awr, a gwn eich bod o ddifrif am y mater hwn—sef bwlio, yn enwedig yng nghyd-destun ysgolion? O ystyried y digwyddiad trasig diweddar yn Ysgol Gyfun Gatholig Sant Ioan Llwyd yn Llanelli, lle cyflawnodd bachgen ifanc, Bradley John, a oedd yn dioddef o anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd, hunanladdiad ar safle'r ysgol oherwydd bwlio, a yw arweinydd y tŷ yn fodlon fod pob ysgol yn trin bwlio mewn ffordd briodol? Yn ôl yr hyn rwy'n ei ddeall, roedd rhieni'r bachgen wedi cwyno bod eu mab yn cael ei fwlio ar sawl achlysur ond nodwyd y cwynion hyn fel 'digwyddiadau' yn unig.

Mae gennym raglen wrth-fwlio helaeth iawn—unwaith eto, gyda fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, sydd â chyfrifoldeb dros y rhaglen ysgolion. Rydym yn cefnogi nifer fawr o ddatblygiadau cwricwlwm. Yn ddiweddar rydym wedi cefnogi'r gwaith o gyflwyno'r canllawiau ar berthnasoedd iach a pherthnasoedd rhywiol. Rydym yn cefnogi, er enghraifft, ymgyrchoedd Dewch Allan dros LGBT Stonewall Cymru, ac rydym hefyd yn gweithio'n agos iawn gyda nifer fawr o sefydliadau eraill sydd ag aelodau sy'n dioddef troseddau casineb yn arbennig, er mwyn sicrhau bod ein hysgolion yn lleoedd diogel iawn, yn ogystal â gweddill ein cymdeithas. Felly, mae gennym fframwaith mawr a helaeth iawn y mae'n rhaid i ysgolion gydymffurfio ag ef er mwyn sicrhau nad ydym yn cael y math hwnnw o ymddygiad.

Diolch. Dychwelwn yn awr at y cwestiynau ar y papur trefn. Cwestiwn 3, Paul Davies.

Cyflwyno Band Eang ym Mhreseli Sir Benfro

3. A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith diweddaraf i gyflwyno band eang ym Mhreseli Sir Benfro? OAQ52707

Er nad oes gennym wybodaeth sy'n ymwneud â Phreseli yn benodol, gallaf gadarnhau bod cynllun Cyflymu Cymru wedi darparu mynediad at fand eang ffibr cyflym i dros 60,470 o gartrefi a busnesau yn Sir Benfro, gan ddarparu cyflymder cyfartalog o dros 77 Mbps a buddsoddi dros £15.7 miliwn.

Diolch i arweinydd y tŷ am fynychu cyfarfod cyhoeddus yn fy etholaeth yn gynharach eleni i drafod pryderon fy etholwyr mewn perthynas â band eang. Yn ddi-os, fe fydd hi'n gwybod am y rhwystredigaeth y mae fy etholwyr yn ei deimlo am nad ydynt yn gallu cael mynediad at wasanaeth bang eang digonol. Rwy'n sylweddoli y bydd yn gwneud datganiad ar y cytundeb newydd yr wythnos nesaf, ond a yw'n gallu rhoi sicrwydd i fy etholwyr na fydd cymunedau fel Mynachlog-ddu yn cael eu gadael ar ôl, ac y bydd y cytundeb newydd hwn, mewn gwirionedd, yn darparu gwasanaeth band eang digonol ar gyfer cymunedau fel Mynachlog-ddu?

Fel y dywedais yn y cyfarfod—diolch am fy ngwahodd, ac fel arfer, rwy'n dweud wrth yr Aelodau fy mod yn hapus iawn i ymweld â chymunedau nad wyf wedi ymweld â hwy'n barod; maent yn ddefnyddiol iawn bob amser—roedd y cyfarfod yn ddefnyddiol iawn. Mae'n rhoi cyfle i mi egluro pam ein bod yn y sefyllfa hon a'r hyn sy'n digwydd mewn gwirionedd, a hefyd i glywed am rwystredigaethau'r etholwyr drosof fy hun. Nid oedd eich cyfarfod yn eithriad. Mae'n braf pan allwn ddatrys problemau un neu ddau o'r bobl sy'n bresennol ar unwaith hefyd, sydd bob amser yn hyfryd, ac rwy'n credu bod un neu ddau o'r rheini yn yr ystafell ar yr achlysur hwnnw.

Felly, rwyf am ddweud yr hyn a ddywedais yn y cyfarfod, sef os nad yw'r eiddo yno wedi'u cynnwys yn y cytundeb a gyflwynir—ac nid wyf yn gallu dweud dim am hynny hyd nes y byddaf yn gwneud y datganiad, yn anffodus, ond fel y dywedais wrthych, rydym wedi gofyn am eiddo penodol fel na fyddwn yn profi rhai o'r problemau cyfathrebu a gawsom gyda chyfnod cyntaf Cyflymu Cymru—yna byddwn yn gwybod os nad ydynt, a bydd gennym bot newydd o gyllid ar gyfer cymunedau nad ydynt wedi'u targedu'n benodol yn y cytundebau hynny. Felly, un ffordd neu'r llall, byddwn yn gallu dod o hyd i ateb. Mae'n bosibl nad band eang ffibr cyflym yw'r ateb, ond byddwn yn darparu rhyngrwyd cyflym i gartrefi pobl.

14:50

Diolch i chi am eich ateb i Paul Davies. Mae'n amlwg y byddwch yn gwybod, arweinydd y tŷ, yr effeithir yn arbennig ar fusnesau gwledig pan nad ydynt yn gallu cael mynediad at wasanaethau band eang effeithiol, ac mae hyn yn cael effaith yn sgil hynny ar yr economi wledig. A allwch chi roi sicrwydd i ni, pan fyddwch yn cyflwyno'r cytundeb newydd—ac rwy'n derbyn na allwch rannu manylion y cytundeb hwnnw gyda ni heddiw—y byddwch yn sicrhau bod pob busnes yn gallu cael mynediad at y gwasanaethau band eang y maent yn daer eu hangen yn Sir Benfro ac yng ngweddill canolbarth a gorllewin Cymru?

Ie, felly, fel y dywedais mewn ymateb i Paul Davies, byddwch yn gallu gweld, pan fydd gennym y cytundebau, pa safleoedd sydd wedi'u cynnwys a pha safleoedd nad ydynt wedi'u cynnwys, oherwydd rydym wedi tendro yn y ffordd honno'n fwriadol. Buaswn yn annog busnesau—. Rwy'n cael y sgwrs hon—ac nid wyf yn siŵr a wyf wedi ymweld â mannau gyda chi, Helen Mary, felly efallai y dylem hwyluso hynny hefyd—ac fel rwy'n egluro, mae'n rhwystredig yn aml iawn oherwydd bod busnesau'n aros hyd nes y bydd y rhaglen band eang cyflym iawn yn eu cyrraedd, ac yn darganfod wedyn nad yw'n ddigonol mewn gwirionedd. Rydym yn cynnal cynllun talebau wedi'i anelu'n benodol at fusnesau ac mae gennym dîm datblygu busnes sy'n hapus iawn i siarad ag unrhyw fusnes ynglŷn â beth yw eu gofynion mewn gwirionedd a'r ffordd orau o fodloni'r rheini. Felly, os oes gennych bobl nad ydynt wedi'u cynnwys yn y cytundeb, neu hyd yn oed os ydynt wedi'u cynnwys, a'ch bod yn credu eu bod yn amcangyfrif yn rhy isel beth yw eu hangen am wasanaethau band eang, yna rwy'n hapus iawn i sicrhau bod y tîm datblygu busnes yn dod i siarad â'r busnesau unigol er mwyn cyflawni hynny.

Ddirprwy Lywydd, os maddeuwch chi i mi am funud, rwyf eisiau rhoi enghraifft oherwydd mae'n gyffredin iawn ledled Cymru, felly os oes pobl yn gwrando, gallant ei glywed: os ydych yn gweithredu busnes twristiaeth ac yn aros am Cyflymu Cymru, ond eich bod yn disgwyl i fwy na 40 o ddyfeisiau gysylltu â'ch system, sef 10 o bobl, neu 20 o bobl ar y mwyaf yn y byd fel y mae heddiw, ni fydd yn ddigonol. Gan hynny mae angen i chi wneud rhywbeth mwy ac felly dylech gysylltu â'r tîm datblygu busnes.

Cydweithio Digidol

4. Beth y mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i hyrwyddo cydweithio digidol rhwng y sector cyhoeddus a'r sector preifat? OAQ52730

Mae Llywodraeth Cymru'n gweithio'n agos gyda sector technoleg Cymru i hyrwyddo cyfleoedd sy'n codi o ddigido gwasanaethau sector cyhoeddus.

Diolch i chi, arweinydd y tŷ. Yr wythnos diwethaf, mynychais seminar gwybodaeth ddigidol yng Nghasnewydd, ynghyd â chynrychiolwyr dros 75 o elusennau lleol a BBaChau a busnesau bach. Roedd y digwyddiad yn un o blith llawer y mae Lloyds Banking Group wedi'u cynnal fel rhan o'u haddewid i ddarparu hyfforddiant sgiliau digidol i 2.5 miliwn o unigolion, BBaChau ac elusennau erbyn 2020, a daw yn sgil gwaith ymchwil a ganfu nad oes gan 55 y cant o fusnesau bach yng Nghymru wefan ac mai 26 y cant ohonynt yn unig sy'n teimlo bod ganddynt sgiliau i atal twyll a sgamiau ar-lein. Un o nodau allweddol y digwyddiad oedd annog y rhai a'i mynychodd i rannu gwybodaeth, profiad ac arferion gorau o'u priod feysydd. Felly, sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda chyflogwyr i sicrhau bod gan bobl y sgiliau digidol sydd eu hangen arnynt er budd unigolion, BBaChau, elusennau a'r sector cyhoeddus?

Ie, mae hwnnw'n gwestiwn ardderchog. Rydym yn gweithio'n galed iawn gyda'r sector preifat i gynyddu cymorth i bobl allu ymwneud â thechnoleg fel ffordd o wella eu bywydau. Mae'n faes blaenoriaeth a nodwyd yn ein dogfen ar gynhwysiant digidol yn y dyfodol. Mae gallu sefydliadau cenedlaethol mawr i dynnu sylw cynulleidfaoedd eang at gynhwysiant digidol yn chwarae rhan hanfodol yn helpu i godi ymwybyddiaeth, ac mae'r digwyddiad a fynychwyd gan yr Aelod yn enghraifft dda iawn o hynny mewn gwirionedd. Mae ein rhaglen cynhwysiant digidol, Cymunedau Digidol Cymru, yn gweithio gyda NatWest, Barclays a Lloyds i wella cydlyniad gweithgareddau cynhwysiant digidol ar draws cymunedau am y rheswm hwnnw, oherwydd mae ganddynt gyrhaeddiad mawr ac eang o ran cwsmeriaid a chanolfannau staff. Hefyd, drwy gysylltiadau â Chyngres yr Undebau Llafur a Cymunedau Digidol Cymru, rydym yn annog sefydliadau megis Tesco i ystyried eu cwsmeriaid sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol, gan sicrhau bod staff yn cael cyfle i ddysgu sgiliau digidol sylfaenol hefyd. Rydym yn defnyddio gwasanaeth cymorth dwyieithog Busnes Cymru i'w gwneud yn haws i BBaChau a microfusnesau Cymru, gan gynnwys mentrau cymdeithasol a darpar entrepreneuriaid, gael mynediad at y wybodaeth, y cyngor a'r cymorth sydd ei angen arnynt i ddechrau a thyfu eu busnesau. Felly, buaswn yn dweud wrth unrhyw BBaCh yng Nghymru sy'n teimlo eu bod yn y sefyllfa honno i gysylltu â Busnes Cymru a chael y cymorth y maent ei angen i fynd ar-lein. 

Ddirprwy Lywydd, mae gwaith ymchwil gan ymchwilwyr yng Nghymru yn dangos bod busnesau sydd ar-lein yn profi twf esbonyddol yn eu busnesau o gymharu â'r rhai nad ydynt ar-lein, ac mae'r gwaith ymchwil yn dangos yn gadarn iawn fod busnesau nad ydynt yn manteisio ar y byd digidol yn ei chael hi'n anodd iawn goroesi mewn gwirionedd.

14:55

Arweinydd y tŷ, ar y 18 o Orffennaf, mynegais fy mhryderon wrthych fod sefydliadau sydd ag enw da yn y DU a ledled Ewrop am eu gwaith ar ddigido a symleiddio gwasanaethau cyhoeddus yn ei chael hi'n anodd cael mynediad at Lywodraeth Cymru. Yn ateb, fe ddywedoch chi hyn:

'Rwy'n hapus iawn i fod yn sianel i'r Llywodraeth os oes rhywun yn profi'r anhawster hwnnw. Ddirprwy Lywydd, rwyf bob amser wedi synnu pan fyddaf yn dweud hyn, ond fe'i dywedaf eto yma yn y Siambr: fy nghyfeiriad e-bost yw julie.james@gov.wales. Mae'n syndod i mi cyn lleied o bobl sy'n manteisio ar y cyfle hwnnw. Buaswn yn croesawu ymholiadau gan unrhyw un sy'n credu y gallant wella gwasanaethau cyhoeddus.'

Nawr, rwy'n ymwybodol fod un cwmni sylweddol, o leiaf, wedi manteisio ar y cynnig hwn. Cysylltodd y cwmni hwnnw â chi ar 18 Awst drwy e-bost, ac yn dilyn hynny maent wedi ffonio eich adran ddwywaith hyd yma, ac eto nid ydynt wedi cael ateb sylfaenol heb sôn am unrhyw sylwadau pellach ynglŷn â chyfarfod, na hyd yn oed gofyn am fwy o fanylion am y gwasanaethau y maent yn eu cynnig, ac mae hyn ar gyfer symleiddio digidol yn y GIG. A allwch chi wneud rhywbeth i dorri ar y syrthni hwn o fewn Llywodraeth Cymru, oherwydd gallem fod yn colli syniadau gwirioneddol wych ynglŷn â sut i symleiddio ein gwasanaethau cyhoeddus?

Ie, wel, mae'n ddrwg iawn gennyf glywed hynny. Nid oeddwn yn ymwybodol o hynny. Buaswn yn croesawu'r manylion am hynny y tu allan i'r Siambr, ac fe af ar drywydd y mater hwnnw. Nid wyf yn ymwybodol fy mod wedi cael llwyth o negeseuon e-bost yn anffodus. Mae'n amlwg fod y neges honno wedi llithro drwy'r rhwyd. Felly, rwy'n gwneud yr un cynnig eto, ond byddaf yn sicr yn mynd ar drywydd y mater hwnnw. Mae'n ddrwg iawn gennyf glywed hynny, a byddwn yn mynd i'r afael â'r mater.

Bwlio ar Sail Rhyw

5. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â bwlio ar sail rhyw? OAQ52720

Ie, mae bwlio, boed mewn ysgolion, gweithleoedd neu gymunedau, yn gwbl annerbyniol. Rydym yn gweithio'n agos gydag amrywiaeth eang o bartneriaid, gan gynnwys staff ysgol, yr heddlu, llochesau, Stonewall Cymru a Chymorth i Ddioddefwyr Cymru, i fynd i'r afael â thrais, dychryn a bwlio ar sail rhywedd. Mae hyn yn cynnwys ffocws cryf ar addysg ac ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth.

Diolch i chi am yr ateb hwnnw, arweinydd y tŷ. Mae achosion cynyddol o fwlio homoffobig a bwlio ar sail rhywedd ar-lein yn cael effaith enfawr ar bobl ifanc yng Nghymru. Yr wythnos hon, cawsom wybod bod gweinidog hoyw yn wynebu cam-drin ar-lein cyson, gan amlaf yn galw arno i ladd ei hun. Mae menywod ifanc yn cael eu cymell i beidio â mynd i fyd gwleidyddiaeth oherwydd y llif cyson o gamdriniaeth a bygythiadau trais rhywiol y maent yn ei wynebu ar gyfryngau cymdeithasol, ac mae bwlio ar gyfryngau gymdeithasol wedi cael ei gysylltu â chynnydd mewn hunanladdiad ymhlith plant. Arweinydd y tŷ, beth arall y gallwch chi a'ch cyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, ei wneud i helpu i ddod â'r math hwn o ddioddefaint i ben?

Ie, mae'r fframwaith cyflawni trawslywodraethol ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn nodi'r hyn rydym yn ei wneud a'r hyn y byddwn yn ei wneud i gyflawni'r amcanion a nodir yn y strategaeth genedlaethol ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae amcan 3 yn arbennig yn canolbwyntio ar gynyddu ymwybyddiaeth ymhlith plant a phobl ifanc o bwysigrwydd cydberthynas ddiogel, cyfartal ac iach a bod ymddygiad camdriniol yn anghywir hefyd. Rydym wedi bod yn gweithredu dwy ymgyrch lwyddiannus iawn. Mae ymgyrch Dyma Fi yn ceisio gwneud yn siŵr nad yw pobl yn derbyn stereoteipio ar sail rhyw. Gobeithiaf eich bod chi i gyd wedi'i gweld. Mae wedi bod yn un o'r ymgyrchoedd mwyaf llwyddiannus i ni eu gweithredu erioed o ran ei hamrywiaeth a'i chyrhaeddiad ledled Cymru ac mae wedi bod yn boblogaidd iawn gyda nifer o golegau ac ysgolion yr ymwelais â hwy. Roedd yn fraint fawr ei lansio yn etholaeth Rebecca Evans yng Ngholeg Gŵyr, gyda nifer fawr o bobl ifanc frwdfrydig iawn a oedd yn awyddus iawn i gael gwared ar stereoteipiau rhywedd. Gobeithiaf eich bod wedi'i gweld. Mae'n dangos amrywiaeth o bethau sy'n gwneud i mi wenu bob amser. Mae peiriant enfawr yn arafu ac mae person sy'n gwisgo'r esgidiau glaw pinc harddaf a welsoch chi erioed yn dod allan ohono—rhywun sy'n amlwg yn arbenigo ar yrru'r peiriant enfawr hwn, ac yn gwbl groes i'r hyn y byddai ein rhagfarn anymwybodol yn ein harwain i'w ddisgwyl, ac mae'n cynnwys bydwraig gwrywaidd, ynghyd â pheiriannydd benywaidd, ond mae yna rai pobl yn eu stereoteipiau rhywedd hefyd, oherwydd mewn gwirionedd nid oes unrhyw beth o'i le ar hynny os mai dyna sy'n gweddu i chi. Felly, diben yr ymgyrch yw dweud y dylech fod yr hyn rydych eisiau bod, ac os yw hynny'n cydymffurfio â stereoteip rhywedd, iawn, ac os nad yw, mae hynny'n iawn hefyd. Mae wedi cael derbyniad da ac mae'n cyd-fynd â'n gwaith ar gydberthynas iach, oherwydd gwyddom pan fydd pobl yn ceisio cydymffurfio â stereoteip rhywedd nad yw'n gweddu iddynt, dyna pryd y bydd llawer o'r problemau'n dechrau digwydd. Felly, mae gennym nifer fawr o raglenni wedi'u hanelu at hynny.

Mae gennym ein hymgyrch Paid Cadw'n Dawel, ac rwy'n gobeithio eich bod wedi gweld honno hefyd, sy'n annog pobl i gymryd camau a dweud rhywbeth pan fyddant yn gweld rhywbeth a allai ymddangos braidd yn rhyfedd iddynt. Cawsom dystiolaeth bwerus iawn gan rai o'r goroeswyr yno. Mewn gwirionedd, roeddwn yn fy nagrau ar un achlysur, pan ddywedodd un fenyw bod ei chymydog wedi ei gweld yn dod allan o'r sied yn gynnar yn y bore yn ei phyjamas, a bod ei chymydog wedi gofyn 'Yw popeth yn iawn?', oherwydd bod hynny'n ymddangos braidd yn rhyfedd iddi, a dywedodd mai dyna oedd y catalydd a wnaeth iddi feddwl 'Na, nid yw popeth yn iawn.' Felly, fe ddywedodd 'Ydi, popeth yn iawn'—ei geiriau hi yw'r rhain, nid fy ngeiriau i—wrth y cymydog, ond fe wnaeth hynny iddi sylweddoli nad oedd popeth yn iawn, yr un peth bach hwnnw.

Felly, rydym wedi cyflwyno ein polisïau 'gofyn a gweithredu'. Mae nifer fawr iawn o bobl wedi cael eu hyfforddi bellach—os edrychaf drwy fy mhapurau, gallaf ddweud wrthych: credaf mai 70,000 ydyw—a dyna beth y mae hynny'n ei wneud. Felly, mae'n set syml o bethau y gallwch ei wneud fel unigolyn—mae hyfforddiant lefel 1 ar gyfer dinasyddion cyffredin ar gael, gyda llaw, os yw'r Aelodau eisiau ei wneud eu hunain—sy'n eich hyfforddi ar yr hyn y dylech ei ddweud os ydych yn credu bod rhywbeth yn rhyfedd, er mwyn rhoi'r hyder i chi ei wneud. Felly, pobl fel diffoddwyr tân, sy'n aml yn mynd i gartrefi ac yna'n gweld rhywbeth—bydd yr hyfforddiant yn rhoi hyder iddynt allu gwybod beth i'w wneud. Mae'n set syml iawn o gamau gweithredu ac mae'n bwerus iawn. Felly, rydym yn benderfynol iawn, Ddirprwy Lywydd, o gael gwared ar y math hwn o drais ar sail rhywedd o'n cymunedau.

15:00
Darpariaeth o Fand Eang yn Nwyrain Casnewydd

6. A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y ddarpariaeth o fand eang yn Nwyrain Casnewydd? OAQ52711

Gwnaf. Er nad oes gennym wybodaeth benodol ar gyfer Dwyrain Casnewydd, o dan y prosiect Cyflymu Cymru darparwyd mynediad band eang ffibr cyflym i dros 14,000 o safleoedd ar draws pob rhan o Gasnewydd, gan sicrhau cyflymder cyfartalog o dros 75 Mbps a buddsoddi £2.9 miliwn.

Diolch ichi am hynny, arweinydd y tŷ. Fel y gwyddoch, ni chyrhaeddodd cam 1 o Cyflymu Cymru bentrefi Langstone, Llanfaches, Trefesgob ac Allteuryn yn Nwyrain Casnewydd, ac rwy'n ddiolchgar iawn fod cyfarfod wedi digwydd gydag un o'ch swyddogion ac eraill i drafod y problemau. Mae'r trigolion lleol yn y pentrefi hynny'n edrych ymlaen yn eiddgar at gyfnod 2, a thybed—cyhoeddiad yr wythnos nesaf, rwy'n gwybod, ond tybed a oes unrhyw beth y gallwch ei ddweud ar hyn o bryd ynglŷn â'r problemau sy'n wynebu'r trigolion hynny.

Nid oes gennyf unrhyw wybodaeth benodol y gallaf ei rhoi i chi, yn anffodus. Mae'n rhaid aros am ganlyniad y broses dendro. Ond rwyf am ailadrodd, oherwydd mae'n werth ei ailadrodd, y byddwn yn gwybod pwy sydd a phwy nad yw yn y contract. Os nad ydych yn y contract, bydd gennym bot o arian wedi'i gynllunio'n benodol i helpu pentrefi neu gymunedau o bobl i ddod at ei gilydd a chael ateb. Ceir nifer fawr o brosiectau hynod o lwyddiannus ar draws Cymru lle mae pobl yn cael cyflymder gigabit, er enghraifft. Felly, mae gennyf grŵp o swyddogion a'u hunig gyfrifoldeb yw hwyluso hynny. Gwn eu bod wedi cyfarfod â'r pentrefwyr y sonioch chi amdanynt, John Griffiths, a byddant yn hapus iawn i hwyluso hynny os nad yw hynny'n rhan o'r rhaglen. Mae arnaf ofn nad wyf mewn sefyllfa i ddweud un ffordd neu'r llall ar hyn o bryd.

Ysgrifennydd y Cabinet, yn ôl adroddiad 'Cenhedloedd Cysylltiedig' Ofcom ar gyfer Cymru, yr ardal sydd wedi gweld y gwelliant mwyaf yw Casnewydd, lle mae band eang cyflym iawn bellach wedi cyrraedd 96 y cant. Fodd bynnag, 66 y cant yn unig yw'r cysylltedd yng nghefn gwlad Cymru. Pa gynlluniau sydd gan yr arweinydd i gynyddu cysylltedd band eang cyflym iawn mewn ardaloedd anodd eu cyrraedd neu fannau gwan i godi de-ddwyrain Cymru i lefel Casnewydd, er mwyn sicrhau bod y rhanbarth cyfan yn elwa o'r rhagolygon ar gyfer twf economaidd?

Wel, dyna holl bwynt Cyflymu Cymru—i wneud yn union hynny, Mohammad Asghar. Fel y gwyddoch, mae'n ymyrraeth yn y farchnad. Heb Cyflymu Cymru, ni fyddai'r rhan fwyaf o ardaloedd Cymru wedi cael unrhyw fand eang o gwbl. Yn anffodus, nid ydym yn gallu ei gyflwyno fel seilwaith. Mae gofyn inni gael cydsyniad Llywodraeth y DU i weithredu darpariaethau cymorth gwladwriaethol, felly mae'n ein llesteirio braidd. Credaf fod y ffigurau rydych yn cyfeirio atynt ychydig yn hen. Yng nghyfnod diwethaf Cyflymu Cymru, gwelwyd y 66 y cant yn cynyddu'n sylweddol iawn. Y lleiaf da ledled Cymru bellach yw 83 y cant. Ond at ei gilydd, mae gennym oddeutu 90,000 o safleoedd yng Nghymru nad ydynt yn cael gwasanaeth.

Ddirprwy Lywydd, pan fyddaf yn gwneud y cyhoeddiadau am y contractau yr wythnos nesaf, fe fyddwn yn gwybod faint fydd yn cael cysylltedd drwy hynny, ac fel rwy'n dweud, mae gennym raglenni penodol ar gyfer targedu gweddill y cymunedau.

Trais yn erbyn Menywod a Cham-drin Domestig

7. A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi datganiad am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a cham-drin domestig? OAQ52718

Gwnaf. Rydym yn parhau i weithredu ein strategaeth genedlaethol. Yn dilyn mewnbwn gan ein cynghorwyr cenedlaethol a'n rhanddeiliaid, cyhoeddwyd ein fframwaith cyflawni ym mis Gorffennaf. Cyhoeddir dangosyddion cenedlaethol drafft ar gyfer ymgynghori erbyn diwedd eleni, a byddwn yn cefnogi'r broses o gyflwyno rhagor o hyfforddiant 'gofyn a gweithredu'.

Diolch ichi, Ysgrifennydd y Cabinet. Rhaglen hyfforddi ac atgyfeirio ar gyfer meddygon teulu mewn perthynas â cham-drin domestig a thrais rhywiol yw IRIS, sy'n nodi camdriniaeth ac yn atgyfeirio at well diogelwch, ac yn fy rôl fel noddwr Bawso, rwy'n falch eu bod yn cyflawni'r model IRIS, sydd wedi trawsnewid y gallu i nodi camdriniaeth ac atgyfeirio dioddefwyr cam-drin domestig mewn gofal sylfaenol yn ne Cymru. Cynllun IRIS yw'r cyntaf o'i fath yng Nghymru. Fe'i lansiwyd gan y comisiynydd heddlu a throseddu, ynghyd â chadeirydd Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a'r Fro, Maria Battle. Dewiswyd 25 o feddygfeydd ledled Caerdydd a'r Fro i fod yn rhan o'r prosiect arloesol hwn.

Lansiwyd y model IRIS mewn meddygfeydd yng Nghwm Taf ym mis Tachwedd 2015, ac mae Dr Jackie Gantley, arweinydd clinigol IRIS, wedi datgan bod y gyfradd atgyfeirio at wasanaethau cyn dechrau'r cynllun yn isel iawn. Saith atgyfeiriad yn unig a nodwyd mewn cyfnod o dair blynedd cyn dechrau'r cynllun, ond yn y tair blynedd ar ôl darparu hyfforddiant, cafodd 870 o achosion eu nodi a'u cefnogi. Mae'r prosiect yn annog nodi achosion yn gynnar, dargyfeirio i gymorth priodol, gan atal dioddefaint pellach a lleihau galwadau argyfwng at yr heddlu. Mae'r dull gweithredu sy'n canolbwyntio ar y dioddefwr hefyd yn rhoi cyfle i swyddogion yr heddlu weithio'n agosach gyda'r meddygon teulu, gan wella gwybodaeth leol am y llwybrau a'r cymorth sydd ar gael i ddioddefwyr. A wnewch chi ystyried cyflwyno rhaglen IRIS ym mhob cymuned yng Nghymru er mwyn mynd i'r afael â thrais a cham-drin domestig?

15:05

Ydy, mae'n amlwg ei bod yn rhaglen effeithiol iawn, a gwn am ddiddordeb maith Jane Hutt mewn rhaglenni sy'n effeithiol o ran atal yn ogystal â helpu dioddefwyr. Rhaglen hyfforddiant, cymorth ac atgyfeirio mewn perthynas â thrais domestig yw hi ar gyfer meddygon teulu, a chredaf iddi gael ei threialu gyntaf ym Mryste a Hackney.

Fel y mae'n dweud, ariannodd Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru ddau o'r prosiectau, a daeth rhywfaint o'r arian drwy fwrdd iechyd lleol Caerdydd a'r Fro. Rydym wedi canolbwyntio ar ein fframwaith hyfforddi cenedlaethol, gan sicrhau bod hyfforddiant trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn rhan graidd o'r gwasanaeth a gynigir gan ein cydweithwyr ym maes iechyd, tân ac achub ac awdurdodau lleol. Ac fel y dywedais yn gynharach, Ddirprwy Lywydd, mae gwasanaethau cyhoeddus wedi dangos ymrwymiad i'r hyfforddiant hwn, ac roeddwn yn iawn i ddweud bod dros 70,000 o bobl wedi eu hyfforddi y llynedd. Mae'n rhan allweddol o'r fframwaith sy'n cefnogi gweithwyr proffesiynol rheng flaen, gyda chanllawiau manwl a hyfforddiant i'w helpu i holi dioddefwyr posibl ynglŷn â cham-drin ac i roi camau ar waith i'w helpu. Nodwyd bod meddygon teulu'n grŵp blaenoriaeth ar gyfer 'gofyn a gweithredu' yn ein canllawiau statudol. Proses o ymholi gwybodus yw hi sy'n gosteffeithiol iawn ar gyfer nodi a chynorthwyo dioddefwyr, ac mae'n agor pyrth a chyfleoedd i'r rhai sydd wedi profi camdriniaeth ym mhob rhan o'n gwasanaeth cyhoeddus. Yn ddiweddar rydym wedi cynnal ymarfer caffael ar gyfer hyfforddiant 'gofyn a gweithredu' pellach i weithwyr proffesiynol rheng flaen ac rydym ar y trywydd iawn ar gyfer ei gyflwyno'n genedlaethol erbyn 2021.

O dan Ddeddf 2015, mae'n ofynnol i awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol ddatblygu a chyhoeddi strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn lleol, gan bennu'r anghenion a'r blaenoriaethau a nodwyd ar gyfer eu hardaloedd. Cyhoeddwyd y strategaethau cyntaf ar gyfer 2018-19, a bydd y cynghorwyr cenedlaethol yn darparu adborth i helpu i ddatblygu'r strategaethau ymhellach. Felly, fel rhan o'r adborth pellach, Jane Hutt, rwy'n fwy na hapus i drafod y posibilrwydd o gynnwys y rhaglen hon yn rhan o hynny gyda fy nghyd-Aelod yn y Cabinet dros iechyd.

Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf fi eich cyfeirio at adroddiad a gyflwynwyd i gynhadledd flynyddol Coleg Brenhinol y Bydwragedd yr wythnos diwethaf? Er bod bydwragedd yn cael eu hyfforddi'n benodol i adnabod cam-drin domestig, yn aml iawn ni fyddent yn sylweddoli pan fyddent yn ddioddefwyr eu hunain. Un o argymhellion allweddol yr ymchwil oedd yr angen am bolisi penodol i gefnogi staff a allai fod yn dioddef cam-drin domestig, ac roeddwn yn falch, yn hyn o beth, o nodi bod chwech o'r saith bwrdd iechyd yng Nghymru yn meddu ar bolisi penodol. A ydych yn cytuno y dylai'r holl gyrff a sefydliadau yn y sector cyhoeddus gael polisi o'r fath?

Ydw, yn bendant. Mae'n rhan bwysig iawn o'n fframwaith cenedlaethol. Mae'n bwysig iawn fel rhan o'r rhaglen 'gofyn a gweithredu' nid yn unig fod pobl yn cael eu hyfforddi i adnabod yr hyn a welant o'u blaenau gyda'r bobl y maent yn gweithio gyda hwy, ond eu bod yn cael eu hyfforddi i'w weld eu hunain. Rhaid imi ystyried a allaf wneud hyn heb ddatgelu unrhyw fanylion personol, ond rwyf wedi bod yn bresennol mewn gwirionedd pan fyddwn wedi bod yn mynd drwy'r hyfforddiant, a rhywun yn sylweddoli mai'r hyn yr oeddem yn ei ddisgrifio oedd eu bywyd hwy eu hunain. Felly, gall gael yr effaith honno. Ond rwy'n cytuno'n llwyr y dylai fod—wel, mae'n rhan o'n rhaglen y dylid ei gyflwyno i bob maes gwasanaeth cyhoeddus, ac mewn gwirionedd, ar ôl hynny, i'r trydydd sector ac yna, i bob dinesydd, a dyna pam roeddwn yn dweud yn gynharach, mewn ymateb i Aelod arall, fod y cyngor ar gael, ac mewn gwirionedd, os oes gan yr Aelodau ddiddordeb, mae croeso mawr iddynt roi cynnig arno.

3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad

Eitem 3 ar yr agenda y prynhawn yma: cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad. Y prynhawn yma bydd yr holl gwestiynau'n cael eu hateb gan y Comisiynydd, Suzy Davies. Felly, cwestiwn 1, David Melding.

Eisteddfod Genedlaethol 2018 ym Mae Caerdydd

1. Pa werthusiad y mae'r Comisiwn wedi'i wneud o gyfranogiad y Cynulliad yn Eisteddfod Genedlaethol 2018 ym Mae Caerdydd? OAQ52715

Diolch am y cwestiwn. Roedd yn wythnos arbennig. Gobeithio eich bod chi i gyd yn cytuno â hynny. Cynhaliwyd gwerthusiad a ddaeth i'r casgliad bod cyfranogiad y Cynulliad yn yr Eisteddfod wedi bod yn llwyddiant ysgubol. Roedd y mesurau yn cynnwys nifer yr ymwelwyr ar yr ystad, y gwaith ymgysylltu a wnaed, y gost, ac enw da y Senedd a'n staff. Roedd y canlyniadau yn cynnwys cynnydd enfawr mewn ymwelwyr â'r ystad: daeth dros 29,000 o bobl i'r Pierhead, a thros 18,000 o bobl i'r Senedd, gan gymryd rhan yng ngwaith ymgynghori pwyllgorau, yn ogystal â chael gwell dealltwriaeth o'n gwaith. 

15:10

Roeddwn i wrth fy modd yn gweld poblogrwydd yr Eisteddfod Genedlaethol, gyda llawer o bobl yn ymweld â'r digwyddiad am y tro cyntaf. Roedd cynnal y Lle Celf yn y Senedd yn ymddangos yn ddefnydd priodol iawn o'r adeilad, a buasai diddordeb gyda fi i glywed am y buddion ehangach a greodd e i'r Cynulliad.

Diolch am hynny hefyd. Roedd cael ein Senedd yng nghanol ein digwyddiad diwylliannol cenedlaethol, a bod yn gartref i'r Lle Celf, pebyll y cymdeithasau a phabell y dysgwyr yn llwyfan gwych ar gyfer ymgysylltu â'r cyhoedd. Daeth bron i 7,000 o bobl i ddigwyddiadau ym mhebyll y cymdeithasau, a gwnaeth dros 5,500 o bobl dynnu eu llun yng nghadair y Llywydd yn y Siambr. Nid wyf i wedi gwneud hynny, felly gwell i mi drio tro nesaf. [Chwerthin.]

Roedd yr adborth ffurfiol ac anecdotaidd ynglŷn â'r Lle Celf yn arbennig o dda, ac rwy'n falch i weld ein bod ni wedi cael siawns ers hynny i gael arddangosfa wych gwaith Kyffin Williams, er enghraifft—gobeithio eich bod chi wedi gweld yr arddangosfa yma. Rwyf wrth fy modd fy hunan i gael gwaith mor sylweddol yma yn y Senedd, a hoffwn i hefyd weld mwy o hynny—wrth gwrs, tu mewn i gyfyngiadau anochel ein hadnoddau ariannol a dynol. Ac os oes yna bosibilrwydd i ni iwsio'r ystad yn fwy na rŷm ni'n ei wneud ar hyn o bryd ar gyfer strategaethau ymgysylltu â'r cyhoedd, rwy'n siŵr eich bod chi i gyd yn fodlon i gael siawns i wneud hynny.

Canmlwyddiant Diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf

2. Pa ddigwyddiadau y mae'r Comisiwn wedi'u cynllunio i goffáu canmlwyddiant diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf? OAQ52740

Diolch i chi, Andrew. Wel, dros y pedair blynedd diwethaf, wrth gwrs, rydym wedi gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid i goffáu'r rhai a gollodd eu bywydau, gan gynnwys 14-18 NOW a Cymru dros Heddwch, i gynnal cynadleddau, cyfres o ddarlithoedd gwadd a thrafodaethau panel, gan gynnwys cyfraniadau arbenigwyr mewn agweddau penodol ar y rhyfel. Byddwn oll yn cofio'r arddangosfeydd, gan gynnwys yr arddangosfa'r helyg wylofus a'r cyfle, wrth gwrs, i'r Aelodau ddod â rhai o'u pethau cofiadwy eu hunain i mewn, gan ddod ag erchylltra rhyfel i gysylltiad agos iawn â'n profiadau teuluol ein hunain.

Cynhelir darlith wadd arall ar rôl a chyfraniad menywod i'r rhyfel byd cyntaf, ac yn olaf, cynhadledd ar y cyd â Cymru dros Heddwch, i ddod â phlant a phobl ifanc o bob rhan o Gymru at ei gilydd i drafod y gwaith o ffurfio'r dyfodol y dymunwn ei weld—gyda'r rhyfel byd cyntaf yn gyd-destun iddo wrth gwrs.

Diolch am yr ateb hwnnw, Gomisiynydd. Fel y dywedoch chi'n gwbl gywir, bu llawer o ddigwyddiadau coffáu dros y pedair blynedd diwethaf, ac yn arbennig y rhaglen y mae Llywodraeth Cymru wedi arwain arni, sydd i'w chanmol, a bod yn deg. Ond dyma Senedd genedlaethol Cymru, ac wrth i chi gerdded trwy'r adeilad hwn ar hyn o bryd, ni cheir unrhyw gofeb ffisegol i'r rhai a syrthiodd yn y rhyfel byd cyntaf ac ymdrech y gymuned sifil a adawyd gartref i fwydo'r genedl ac i ddarparu'r gwasanaethau sylfaenol gartref yn ogystal. Credaf fod hynny ar goll yn adeilad hyfryd y Senedd, a hoffwn wahodd y Comisiwn i ystyried gosod cofeb barhaol a fyddai'n coffáu gweithgareddau'r canmlwyddiant ond i fod yn ffocws hefyd, fel arddangosfa wych y pabïau y tu allan i'r adeilad hwn—ddwy flynedd yn ôl bellach, rwy'n credu—a ddaliodd ddychymyg y cyhoedd ac sydd ar gael bellach i bawb ei gweld yn yr Amgueddfa Ryfel Ymerodrol. Felly, hoffwn wahodd y Comisiynydd i fwrw ymlaen â hyn yn y Comisiwn, a gobeithio y bydd y Comisiwn yn cyflwyno cynigion ar gyfer cofeb barhaol sy'n dangos yr hyn a wnaeth yr adeilad hwn a'r sefydliad hwn a'i Aelodau i goffáu'r canmlwyddiant.

Diolch yn fawr iawn am y syniad hwnnw. Rydym bob amser yn chwilio am syniadau newydd yn y Comisiwn i wella'r adeilad a chyfleu ein cysylltiad efallai gyda phobl Cymru. Hynny yw, mae hon yn rhan ddifrifol o'n hanes, a gobeithiaf fod yr arddangosfeydd dros dro a'r gwaith a wnaed yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf wedi helpu i gynnal y cysylltiad hwnnw, ac yn enwedig ar gyfer pobl ifanc, i'w hatgoffa bod hyn wedi digwydd go iawn. Mae gennym gofeb y masnachlongwyr y tu allan, ond wrth gwrs un grŵp yn unig o gyfranwyr i'r rhyfel yw'r rheini, ac wrth gwrs, mae llawer o ddynion lleol—a dynion oeddent—wedi eu coffáu gan y gofeb honno. Ond wrth gwrs mae'n syniad y byddwn yn ei ystyried. Un peth rwy'n meddwl na fyddai neb ohonom ei eisiau, er hynny, yw i'r adeilad ddod yn lle sy'n llawn o blaciau. Rwy'n credu y byddai'n rhaid inni fod yn ofalus iawn ynglŷn â beth y byddwn yn dewis ei gymeradwyo os ydym yn mynd i fod yn meddwl am y mathau hyn o gofebion, ond wrth gwrs, y rhyfel byd cyntaf sydd dan sylw, felly buaswn yn dweud y gwnâi ymgeisydd da iawn.

15:15

Wel, Cynulliad Cenedlaethol Cymru ydym ni, ac felly a gaf fi ofyn i chi ddarparu unrhyw weithgareddau coffáu sy'n digwydd mewn rhannau eraill o Gymru, nid yn unig ym Mae Caerdydd? Gwn mai dyma ein prif weithle, ond mae Cymru'n llawer mwy na Bae Caerdydd yn unig, a gwn hefyd fod gan y Comisiwn staff mewn rhannau eraill o Gymru, felly os gwelwch yn dda, a gaf fi ofyn i chi ystyried rhannau eraill o Gymru, ac nid yr adeilad hwn yn unig?

Wel, rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud bod pob rhan o'r sector cyhoeddus, yn enwedig ein hawdurdodau lleol, wedi bod yn gyfranogwyr gwych yn y coffâd hwn dros y pedair blynedd diwethaf. Rydym yn sôn am ddiwedd y digwyddiadau coffáu hynny bellach, ac fel y clywsom yn gynharach wrth gwrs, mae awdurdodau lleol yn brin o arian ar hyn o bryd, ond mae'r un peth yn wir am y Comisiwn o ran penderfynu sut y mae angen iddo rannu ei adnoddau. Buaswn yn gobeithio, fodd bynnag, fod y strategaeth ymgysylltu sydd gennym, yn enwedig ymgysylltu ag ysgolion, wedi cyfrannu at ddealltwriaeth pobl ifanc o hyn ledled Cymru, nid yn unig ym Mae Caerdydd.

Tynnwyd cwestiwn 3 [OAQ52735] gan Julie Morgan yn ôl. Cwestiwn 4—Jayne Bryant.

Annog Pobl Ifanc i Ymweld â'r Cynulliad

4. Beth y mae'r Comisiwn yn ei wneud i annog pobl ifanc i ymweld â'r Cynulliad? OAQ52731

Diolch. Wel, rydym yn ymgysylltu â dros 20,000 o bobl ifanc bob blwyddyn, a bydd eu hanner yn dod i gysylltiad â ni ar yr ystâd. Gwahoddir grwpiau ieuenctid, colegau ac ysgolion i gymryd rhan mewn sesiynau yn Siambr Hywel, ac rydym hefyd yn teithio i ysgolion—dylai hynny fod yn fwy cyfleus iddynt. Mae ystod y gwasanaethau a gynigir i bobl ifanc yn cael ei hysbysebu ar y wefan hefyd— felly, rwy'n rhoi sylw i hynny yn awr fel bod mwy o bobl yn gwybod—yn ogystal ag ar draws y cyfryngau cymdeithasol, y tîm addysg ac ymgysylltu â phobl ifanc, drwy gylchlythyr Dysg, a thrwy lwyfan dysgu Hwb.

Diolch. Ychydig wythnosau yn ôl, i nodi canmlwyddiant y bleidlais i fenywod, treuliodd dros 100 o brownis a geidiaid rhwng saith a 14 oed o bob rhan o Went ddau ddydd Sadwrn olynol yn meddiannu'r Senedd. Roedd yn ddiwrnod llawn o weithgareddau a gwnaeth brwdfrydedd a syniadau'r merched argraff ar fy nghyd-Aelodau, Lynne Neagle, Julie Morgan a minnau. Lluniwyd bathodyn arbennig ar gyfer yr achlysur. Dyma'r tro cyntaf i lawer ohonynt ymweld â'r Senedd, ac roedd yn gyfle gwych iddynt ddysgu mwy am hanes y bleidlais i fenywod yng Nghymru. Recriwtiwyd pleidleiswyr hefyd ar gyfer y Senedd Ieuenctid, a rhai ymgeiswyr posibl, rwy'n gobeithio. Gweithiodd staff y Cynulliad a Girlguiding Gwent yn galed ar gynllunio'r gweithgaredd ar ddydd Sadwrn, felly a wnaiff y Comisiynydd nodi beth sy'n cael ei wneud i ddenu sefydliadau sy'n gweithio gyda phobl ifanc i gynnal digwyddiadau arloesol fel hyn yn y Senedd?

Diolch ichi am eich cyfraniad. Rwy'n gobeithio bod yr aelodau o staff yn eich clywed yn eu llongyfarch, oherwydd fe gafodd y geidiaid a'r brownis yr oeddech yn sôn amdanynt brofiad anhygoel, ac os gallwn gymharu eu profiad â'r rhai a ddaeth i mewn yn ystod yr Eisteddfod, fe dyfodd dealltwriaeth pobl o'r hyn sy'n digwydd yn y lle hwn yn eithaf sylweddol, ac rwy'n gobeithio bod yr un peth yn wir am eich ymwelwyr chi.

Fe sonioch chi am y Senedd Ieuenctid. Yn amlwg, mae brownis a geidiaid yn un o'r grwpiau sydd wedi'u targedu, os mai dyna'r gair cywir, i helpu i ddod o hyd i ymgeiswyr ar gyfer y Senedd Ieuenctid. Ar wahân i'r 40 etholaeth, fe gofiwch fod 20 o seddi i'w llenwi gan aelodau o grwpiau ieuenctid, ac mewn gwirionedd mae gan Girlguiding Cymru record eithriadol. Bu yma, neu fe ymgysylltodd â'r Cynulliad i ffwrdd o'r ystâd hon, 11 gwaith y llynedd, felly, fel sefydliad, rwy'n credu ei bod hi'n hollol iawn mai hwy yw'r bobl a ddylai fod yn cymryd rhan yn ein Senedd Ieuenctid.

A oeddent yn gwybod am y cymhorthdal teithio y gallant ei gael i ddod yma? Efallai nad ydych yn gwybod yr ateb, ond dyna un o'r prif arfau y byddech yn eu defnyddio i gael pobl i ddod yma, yn hytrach na bod ein gwasanaeth addysg ac allgymorth yn mynd allan. Ond ar wahân i'r pethau rwyf wedi'u crybwyll eisoes, mae ein tîm allgymorth yn dal i fynd allan, er y bydd cwestiynau ynglŷn â ble mae'r cydbwysedd bellach rhwng y gwaith hwnnw a'r gwaith ar y Senedd Ieuenctid, oherwydd, yn amlwg, nifer penodol o staff sydd gennym ac mae'r Senedd Ieuenctid wedi bod yn flaenoriaeth i'r Cynulliad, fel y gwelsom yn y bleidlais ar hyn—wel, bron ddwy flynedd yn ôl bellach, rwy'n credu.

Adnoddau ar gyfer Senedd Ieuenctid Cymru

5. A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am ddarparu adnoddau ar gyfer Senedd Ieuenctid Cymru? OAQ52729

Yn sicr. Cytunodd Comisiwn y Cynulliad ym mis Tachwedd 2016 y byddai £100,000 yn mynd yn y flwyddyn ariannol hon tuag at helpu i sefydlu'r corff ac i'w hyrwyddo ac i helpu pobl ifanc i ddeall beth fyddai ei ddiben. Ac ar ôl hynny, mewn blynyddoedd di-etholiad, rydym yn sôn am £50,000.

15:20

Diolch yn fawr iawn am yr ateb hwnnw, Gomisiynydd. A gaf fi ofyn ar ba sail y cytunwyd ar y £50,000? Oherwydd credaf fod angen inni fod yn siŵr—. Mae hon yn fenter mor gyffrous—dyma un o'r pethau gorau a wnaeth y Cynulliad ers amser hir iawn, mae wedi cael croeso mawr, ac mae angen inni wneud yn siŵr fod yr adnoddau ar ei gyfer yn gynaliadwy, yn enwedig ar gyfer cefnogi grwpiau o bobl ifanc a allai ei chael hi'n anos i gymryd rhan—rhai o'r bobl ifanc a fydd yn dod o blith yr 20, yn hytrach na'r 40 o Aelodau a etholir yn uniongyrchol. Felly, a gaf fi ofyn i'r Comisiwn barhau i adolygu'r cyllid hwnnw a rhoi ystyriaeth iddo os gwelir nad yw'n ddigonol?

O, yn bendant. Gallaf roi'r sicrwydd hwnnw i chi yn awr. Mae pawb ohonom am weld hyn yn gweithio. Mae'r ffigurau sydd gennym—. Dyma'r tro cyntaf i ni ei wneud; mae wedi digwydd ar sail amcangyfrifon gorau a chymariaethau â syniadau tebyg mewn Seneddau eraill. Ond os nad yw'n ddigon o arian, bydd yn rhaid i ni fel Comisiwn ddod o hyd i adnoddau ychwanegol i wneud yn siŵr y gallwn ei gefnogi'n briodol, oherwydd os na fyddwn yn ymroi'n llwyr i hyn, nid oes pwynt i ni ei wneud o gwbl.

Parodrwydd i Ymateb i Ymosodiadau Terfysgol Posibl

6. A wnaiff y Comisiynydd ddatganiad am barodrwydd y Cynulliad a'i swyddfeydd ledled y wlad i ymateb i ymosodiadau terfysgol posibl? OAQ52741

Diolch ichi am y cwestiwn hwnnw. Mae'n gwestiwn difrifol ac fel y sylwch o gyllidebau yn y blynyddoedd mwyaf diweddar, mae'r Comisiwn eisoes wedi buddsoddi'n sylweddol mewn diogelwch amddiffynnol ar draws yr ystâd ond hefyd yn swyddfeydd yr Aelodau, ac adolygir hyn yn rheolaidd, gan ystyried lefel y bygythiad o derfysgaeth ryngwladol i'r DU. Ac yn ogystal â darparu cyngor diogelwch priodol a hyfforddiant ymwybyddiaeth diogelwch cynhwysfawr i'r Aelodau a staff y Comisiwn, rydym wedi cynyddu lefelau diogelwch rhag ymosodiadau seiber, sydd, wrth gwrs, yn anweledig—nid ydym yn ei weld yn yr un modd ag y gwelwn ein presenoldeb diogelwch, sydd hefyd wedi cynyddu—ac rydym yn gweithio gyda nifer o asiantaethau i ddatblygu a chyflwyno pecyn go gadarn.

Diolch. Ar 22 Mawrth 2017, cafodd 50 o bobl eu hanafu a phump eu lladd yn drasig iawn mewn ymosodiad terfysgol drwy yrru car i dorf ar bont Westminster, a thrywanu plismon mewn modd dychrynllyd iawn y tu allan i Dŷ'r Cyffredin. Er na all yr un ohonom ragweld pryd neu ble y gallai ymosodiad terfysgol ddigwydd, mae'r ymosodiad penodol hwn yn tynnu sylw at y peryglon posibl sy'n wynebu sefydliadau democrataidd. Yn sicr, rydym yn gwybod am y mesurau diogelwch llym iawn sydd gennym yma ym Mae Caerdydd ac yn gweld eu gwerth. Fodd bynnag, rwy'n rhannu peth pryder ynglŷn â diogelwch a mesurau gwrth-derfysgaeth yn ein swyddfa ym Mae Colwyn. Felly, a wnewch chi egluro pa gamau rydych yn eu cymryd—neu'r Comisiwn, hynny yw—i ddiogelu'r staff a'r cyhoedd sy'n defnyddio'r swyddfeydd hynny, os gwelwch yn dda?

Wel, yn sicr—yn amlwg, nid wyf am roi gormod o fanylion i chi; bydd cryn dipyn o hyn yn gyfrinachol, ac rwy'n siŵr eich bod yn deall pam. Ond mae lefel y sylw a roddir i swyddfa Bae Colwyn yr un fath â'r lle hwn. Felly, caiff y Senedd gyfan ei dosbarthu fel safle haen 1. Mae tîm diogelwch Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gweithio mewn partneriaeth yma gyda Heddlu De Cymru ac asiantaethau priodol eraill, megis yr uned gwrth-derfysgaeth, ar nodi risg a rhoi'r lefel briodol o fesurau lliniaru ar waith. Buaswn yn dweud, mae'n debyg—. Mae'r Senedd yn cael y lefel honno o oruchwyliaeth gan Heddlu De Cymru yn hytrach na Heddlu Gogledd Cymru, yn amlwg. Ond yr hyn y byddwch wedi'i weld—ac rwy'n gobeithio bod hyn yn wir am Fae Colwyn yn ogystal—yw bod mwy o aelodau staff yn y gwasanaeth diogelwch, ac yma, cyflwynwyd presenoldeb heddlu arfog. Soniais am yr ymosodiad seiber a'r ymwybyddiaeth diogelwch. Felly, os oes gennych unrhyw deimlad efallai nad yw'r staff ym Mae Colwyn yn cael yr hyfforddiant a gawn yma, hoffwn yn fawr i chi roi gwybod inni. Diolch.

4. Cwestiynau Amserol

Eitem 4 ar yr agenda yw cwestiynau amserol, ac ni ddaeth unrhyw gwestiynau amserol i law.

5. Datganiadau 90 Eiliad

Felly, eitem 5 yw'r datganiadau 90 eiliad, a heddiw daw'r cyntaf o'r datganiadau 90 eiliad gan Jack Sargeant.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Heddiw yw Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd. Yn y blynyddoedd diwethaf, gwnaed llawer o gynnydd yn chwalu'r stigma ynglŷn â siarad am iechyd meddwl, ond gwyddom fod llawer i'w wneud o hyd. Y thema eleni ar gyfer Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd yw pobl ifanc ac iechyd meddwl mewn byd newidiol a heriol, ac roeddwn yn falch o gynnal digwyddiad y bore yma gyda chomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, Sophie Howe, ar y mater hwn.

Yn anffodus, gwyddom fod un o bob pedwar myfyriwr yn dioddef iechyd meddwl gwael tra'u bod yn y brifysgol, a'r hyn y mae llawer ohonynt yn ei ddweud yw ei bod hi'n anodd dod o hyd i'r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt. Gall bod ar lwybr addysg beri llawer o straen. I lawer o fyfyrwyr, dyma eu tro cyntaf oddi cartref. Ceir llawer o brofiadau newydd a phobl newydd i'w cyfarfod. Yn aml, ceir pwysau ariannol, a gwaith a straen pa gwrs bynnag y maent yn ei ddilyn. Ac ar ben hyn i gyd, ceir gwahanol fathau o straen personol a theuluol. Felly, rwy'n falch o gefnogi ymgyrch Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru ar iechyd meddwl eleni. Byddant yn adolygu'r arferion da ac yn edrych i weld ble mae modd gwella ac edrychaf ymlaen at weld eu canfyddiadau'n cael eu cyflwyno i ni yma yn y Siambr.

Lywydd, i mi, mae'r diwrnod hwn yn bersonol iawn hefyd. Roedd Dad yn berson hynod o gariadus ac yn fodel rôl i gynifer ohonom. Fel y dywedais yn fy araith gyntaf yn y Siambr hon, ef oedd y dyn yr oeddwn wrth fy modd yn mynd am beint gydag ef, y dyn a wnaeth fy helpu yn fy arholiadau, y dyn a safodd yn falch wrth fy ymyl pan raddiais, y dyn a ddaliai ein teulu gyda'i gilydd. Roedd ganddo lawer o ffrindiau a llawer o deulu agos a gwn fod ei farwolaeth wedi effeithio ar fy mywyd i a'u bywydau hwy am flynyddoedd lawer i ddod. Credaf ei fod wedi newid fy modolaeth ac wedi paratoi'r ffordd i lawer o bethau ddigwydd yn fy mywyd a oedd yn gyfan gwbl y tu hwnt i fy rheolaeth.

Lywydd, rwyf am orffen yn awr. Hoffwn ddweud wrth y rheini na allant drafod problemau iechyd meddwl ac sy'n ei chael hi'n anodd fy mod i'n sefyll gyda chi. Rwy'n un ohonoch, ond fe wnaf ymladd wrth eich ochr. Fe ddof i ben gyda dyfyniad byr iawn:

'Pan ddown at ein gilydd, mae afiechyd yn troi'n iechyd.'

Diolch, Ddirprwy Lywydd.

15:25

Yn Eglwys Sant Cybi heddiw, mae trigolion Caergybi a Dun Laoghaire wedi dod ynghyd i gofio suddo’r RMS Leinster union 100 mlynedd yn ôl.

Gadawodd yr RMS Leinster Kingstown, sef Dun Laoghaire erbyn hyn, ychydig cyn naw yn y bore ar 10 Hydref 1918. Anelai am Gaergybi gyda 771 o deithwyr a chriw ar ei bwrdd. Awr yn ddiweddarach, roedd hi wedi'i thargedu gan long danfor ar batrôl. Taniodd ddau dorpido a suddwyd y Leinster. Collodd dros 500 o'r bobl ar ei bwrdd eu bywydau. Roedd yn ddigwyddiad erchyll, a chredir bod yr ymateb iddo wedi dylanwadu ar y gwleidyddion a oedd yn cymryd rhan mewn trafodaethau i roi diwedd ar y rhyfel byd cyntaf. Arwyddwyd y cadoediad fis yn ddiweddarach.

Dioddefodd teuluoedd a chymunedau yng Nghymru ac Iwerddon yn enbyd, a heddiw rydym yn eu cofio a'r holl rai a fu farw: pobl fel y dyn tân John Williams o Walchmai, a oedd wedi achub teithiwr benywaidd ac wedi mynd i lawr wedyn i achub un arall pan fu farw; pobl fel Louisa Parry o Gaergybi, stiward a hwyliodd y diwrnod hwnnw yn lle un o'i chwiorydd a oedd yn sâl. Aeth i ddec is i helpu teithwyr ond cafodd ei chaethiwo mewn caban gyda mam a'i phlentyn. Cofiwn hefyd am griw llong danfor 123, a laddwyd wythnos yn ddiweddarach.

Mae'r grŵp coffáu canmlwyddiant RMS Leinster yng Nghaergybi yn cynnwys nifer a gollodd eu neiniau a'u teidiau pan suddodd y llong. Hoffwn dalu teyrnged iddynt am eu gwaith caled yn ein hatgoffa am hanes y Leinster ac am drefnu'r digwyddiadau coffáu ar Ynys Môn yr wythnos hon. Edrychaf ymlaen at fynychu un yn Neuadd y Santes Fair yng Nghaergybi ddydd Gwener. Heddiw, unir dwy gymuned a dwy wlad gyda'i gilydd wrth inni gofio.

Yr wythnos hon yw Wythnos Gofal Hosbis, wythnos o weithgaredd blynyddol i godi proffil gofal hosbis ledled Cymru a'r DU. Thema Wythnos Gofal Hosbis eleni yw 'Heart my Hospice'. Clywodd ymchwiliad diweddar y grŵp trawsbleidiol ar hosbisau a gofal lliniarol i anghydraddoldebau mynediad sut y gall ymwybyddiaeth gyfyngedig o'r ystod lawn o wasanaethau a gynigir gan hosbisau a stigma ynglŷn â siarad am farwolaeth a marw fod yn rhwystrau i bobl rhag cael y gofal cywir. Argymhellodd y grŵp y dylai hosbisau ledled Cymru barhau i godi ymwybyddiaeth o'r gofal y maent yn ei ddarparu a'r cyfleoedd i gymunedau ymgysylltu â'u gwaith.

Bob blwyddyn, mae hosbisau yng Nghymru yn gofalu'n uniongyrchol am fwy na 10,000 o bobl, gydag oddeutu 80 y cant ohonynt yn cael gofal yn eu cartrefi eu hunain a'r gymuned. Mae hosbisau'n dibynnu ar ymgysylltiad â'u cymunedau i gefnogi eu gwaith. Maent yn darparu cyfleoedd i wirfoddoli fel garddwyr, gyrwyr, mewn manwerthu a gweinyddu, ac yn codi cyfanswm o £2 miliwn bob mis i gynnal y ddarpariaeth o ofal hosbis yng Nghymru.

Mae hosbisau yng Nghymru yn gofyn i bobl ddangos eu cefnogaeth i'w hosbis drwy wirfoddoli, cyfrannu, neu drwy ddangos eu bod yn gefnogol ar y cyfryngau cymdeithasol yn ystod Wythnos Gofal Hosbis. Drwy gydol yr wythnos, mae hosbisau yng Nghymru yn agor eu drysau i'w cymunedau ehangach er mwyn annog mwy o ymgysylltiad ac i wella ymwybyddiaeth o'r gwaith hanfodol a wnânt.

15:30

Heddiw, rydym yn nodi Diwrnod Digartrefedd y Byd. Ers ei sefydlu yn 2010, Mae Diwrnod Digartrefedd y Byd wedi cael ei nodi ar bob cyfandir ac eithrio Antarctica. Diben Diwrnod Digartrefedd y Byd yw tynnu sylw at anghenion pobl ddigartref yn lleol, a darparu cyfleoedd i'r gymuned gymryd rhan ac ymateb i ddigartrefedd, gan fanteisio ar y llwyfan a grëwyd gan ddiwrnod rhyngwladol. Felly, rwy'n falch iawn ein bod yn cael cyfle i'w nodi heddiw.

Gwelwyd cynnydd da yng Nghymru ar roi diwedd ar ddigartrefedd, gan gynnwys y ddeddfwriaeth atal digartrefedd a ysbrydolodd fesurau tebyg yn Lloegr, ymrwymiadau ar ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc, a gwaith i ddatblygu dull tai yn gyntaf. Ond mae'n dal i fod angen cynllun arnom, i bawb gael cartref diogel a sefydlog. Canfu Figures for Crisis, a gyfrifwyd gan yr Athro Glen Bramley o Brifysgol Heriot-Watt, fod 8,200 o bobl ledled Cymru yn profi'r mathau gwaethaf o ddigartrefedd. Mae hyn yn cynnwys y prif fathau o ddigartrefedd, fel pobl sy'n gaeth mewn lleoedd gorlawn ac anniogel, mewn hosteli a llochesi nos, yn cysgu ar soffas pobl a lloriau ceginau, neu mewn ceir, bysiau nos, pebyll ac wrth gwrs, yn frawychus, allan ar y strydoedd. Os parhawn fel yr ydym ar hyn o bryd, canfu ymchwil Heriot-Watt fod disgwyl i nifer yr aelwydydd digartref bron â dyblu yn y 25 mlynedd nesaf ledled Prydain. Rhaid inni ddyblu ein hymdrechion, a sicrhau ein bod yn rhoi diwedd ar y malltod hwn.

Mae dathliadau dwbl yn Ninbych yr wythnos yma, gyda phenblwydd Canolfan Iaith Clwyd, wedi 30 mlynedd o ddarparu addysg Gymraeg i oedolion. Ac mae hi hefyd yn 10 mlynedd ers agor amgueddfa gwbl unigryw Gwefr heb Wifrau—Wireless in Wales—sydd hefyd wedi ei lleoli yn yr un adeilad, yng nghanol y dref yn Ninbych. Y prif symbylydd dros sefydlu’r ddau gorff oedd y diweddar David Jones, cyn-faer Dinbych, dysgwr Cymraeg, rhyng-genedlaetholwr pybyr, a gŵr a oedd â diddordeb mawr mewn hanes radios, a’r cysylltiad rhwng datblygiad radios a goroesiad yr iaith Gymraeg, a’r cysyniad o Gymru fel cenedl. 

Bu David yn allweddol yn yr ymgyrch i agor canolfan iaith sirol gyntaf Cymru yn Ninbych, a’i gasgliad personol ef o hen radios yw craidd yr amgueddfa hynod ddiddorol a leolir yng Nghanolfan Iaith Clwyd yn y dref. Roedd e'n aelod o Blaid Cymru, ac yn rhyngwladol ei ddaliadau. Mi helpodd e sefydlu cymdeithas Cymru Cuba, ac mae Vesi, ei wraig, sy'n hannu o Fwlgaria, yn dal i fod yn weithgar gyda’r amgueddfa.

Mae’r ganolfan iaith, wrth gwrs, wedi datblygu gryn dipyn ers ei sefydlu yn ganolfan iaith sirol gyntaf Cymru. Yn dilyn ad-drefnu Cymraeg i oedolion ddwy flynedd yn ôl, mae Popeth Cymraeg bellach yn gyfrifol am gyrsiau sir Ddinbych i gyd. Mae hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â Choleg Cambria, sy’n gyfrifol am ddosbarthiadau Cymraeg yn siroedd Wrecsam a’r Fflint.

Mae’n deg dweud na fyddai’r miloedd sydd wedi elwa o’r cyrsiau yma, na’r miloedd sydd wedi ymweld â’r amgueddfa radios, wedi cael y cyfle heb weledigaeth addfwyn o styfnig ein cyfaill diweddar, David Jones. Mae’n dyled ni’n fawr i rywun a oedd yn bencampwr cymunedol go iawn, a dyna pam fy mod i am inni gofio heddiw a dymuno, wrth gwrs, yn dda i'r ddwy ganolfan ar eu penblwyddi arbennig.

6. Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog

Eitem 6 ar yr agenda yw cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog, ac a gaf fi alw ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig yn ffurfiol?

Cynnig NDM6825 Elin Jones

Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio'r Rheolau Sefydlog: Rheolau Sefydlog 24, 25 a 27—Gorchmynion Adran 116C’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Hydref 2018; a

2. Yn cymeradwyo’r cynnig i adolygu Rheolau Sefydlog 24, 25 a 27, fel y nodir yn Atodiad B i Adroddiad y Pwyllgor Busnes.

Cynigiwyd y cynnig.

Cynigiwyd y cynnig.

Rwy'n sylweddoli y bydd y Rheolau Sefydlog hyn yn pasio, ac er mwyn sicrhau effeithlonrwydd yr hyn sydd angen inni ei wneud, credaf y bydd yn rhaid inni dderbyn hynny. Fodd bynnag, byddai wedi bod lawer yn well pe baem yn diwygio Rheol Sefydlog 25 y prynhawn yma i ddarparu ar gyfer yr anghenion newydd sydd gennym mewn perthynas â phwerau trethu.

Mewn ymateb i ddewis y Pwyllgor Busnes, awgrymodd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol—ac rwy'n credu y bydd y Cadeirydd yn siarad yn nes ymlaen—Reol Sefydlog 25 newydd. Yn rhyfedd iawn, rydym yn awr yn gorfod derbyn Rheol Sefydlog 27 ranedig. Fel mae'n digwydd, dyma'r Rheol Sefydlog anghywir, oherwydd mae'n torri'r drefn resymegol a osodwyd yn y Rheolau Sefydlog, ac i bob pwrpas mae'n gosod Rheol Sefydlog newydd o fewn Rheol Sefydlog sy'n bodoli'n barod. Nid yw hyn yn glir nac yn dryloyw, a bydd yn cael effaith fawr ar unrhyw un sy'n ceisio darllen ein Rheolau Sefydlog, i ddeall sut yr ymdrinnir â'r materion hyn.

Daeth Joyce Watson i'r Gadair.

Mae'r broses hon wedi cael ei gwneud hyd yn oed yn fwy astrus gan y mecanweithiau adrodd y mae'r Llywodraeth wedi ymrwymo iddynt. Nid wyf am ddiflasu'r Cynulliad â'r rhain oll, ond mae'n ymddangos fel pe bai'n dweud y dylai fod mecanwaith adrodd ar waith, ond nid yw'r pwyllgor cyfan yn rhan ohono, dim ond y Cadeirydd. Er nad oes gennyf unrhyw amheuaeth y bydd y Cadeirydd yn ddiwyd wrth ymarfer ei ddyletswyddau, nid yw hon yn weithdrefn gadarn. Rhaid imi ddweud, Ddirprwy Lywydd, fod y gwelliant hwn yn anghelfydd a gobeithiaf na chaiff ei ailadrodd.

15:35

Rydw i'n falch iawn o allu siarad i'r cynnig yma i ddiwygio Rheolau Sefydlog. Rydw i'n siarad ar ran y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ac ar ran Mick Antoniw, y Cadeirydd.

Ym mis Ebrill eleni, ysgrifennodd y Pwyllgor Busnes atom fel pwyllgor yn gofyn am ein barn am y newidiadau oedd yn cael eu cynnig i'r Rheolau Sefydlog, yn ymwneud â chraffu ar Orchmynion yn y Cyfrin Gyngor o dan adran 116C o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Mae adran 116C o Ddeddf 2006, fel rydych chi i gyd yn gwybod, yn caniatáu ychwanegu neu addasu, drwy Orchymyn yn y Cyfrin Gyngor, bwerau deddfu'r Cynulliad mewn perthynas â threthiant, fel y mae David Melding newydd ei ddweud. Bydd y Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor yn nodi sut mae'r pwerau trethiant yn cael eu newid. 

Gofynnodd y Pwyllgor Busnes am ein barn ni fel pwyllgor ynghylch a oeddem yn gweld unrhyw reswm i beidio â datblygu gweithdrefn briodol o fewn Rheol Sefydlog 27. Mae Rheol Sefydlog 27 yn ymwneud â chraffu ar is-ddeddfwriaeth. Wrth geisio ein barn, cawsom ein cynghori gan y Pwyllgor Busnes fod Llywodraeth Cymru yn ei hystyried yn broblem adlewyrchu Rheol Sefydlog 25, sy'n nodi'r broses ar gyfer craffu ar Orchmynion yn y Cyfrin Gyngor o dan adran 109 o Ddeddf 2006. Mae adran 109 yn ymwneud ag addasu pwerau deddfwriaethol presennol y Cynulliad. 

Yr hyn roeddem ni yn ei ffafrio oedd cynnwys Rheol Sefydlog newydd, ar wahân: Rheol Sefydlog 25A. Roeddem yn teimlo fel pwyllgor, ni waeth beth fyddai'r dull a fabwysiadwyd, y byddai Rheol Sefydlog newydd yn gorwedd yn fwy cyfforddus o fewn strwythur presennol y Rheolau Sefydlog. Byddai hyn wedi golygu y byddai Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â chaffael cymhwysedd deddfwriaethol—sef Rheolau Sefydlog 25 a 25A—yn dod cyn y rhai sy'n ymwneud â defnyddio'r cymhwysedd hwnnw i wneud deddfau—Rheolau Sefydlog 26A, 26B a 26C—ac na fyddent yn dod o fewn cwmpas Rheol Sefydlog 27. Mae'r Rheol Sefydlog hon yn ymwneud â chraffu ar is-ddeddfwriaeth a wneir yn ddieithriad o ganlyniad i bwerau a gaiff eu dirprwyo o Ddeddf y Cynulliad Cenedlaethol neu Senedd y Deyrnas Unedig i Weinidogion Cymru.

Fel rydym wedi ei ddweud droeon fel pwyllgor, mae'n bwysig bod deddfau yn hygyrch i ddinasyddion. Mae'r un mor bwysig bod y ffordd y mae'r Cynulliad yn gweithredu, drwy ei weithdrefnau, yn hygyrch hefyd. Ar sail hynny, roeddem yn teimlo bod ein hateb yn cynnig ffordd gliriach, fwy trefnus a mwy hygyrch o symud ymlaen. Gofynnodd y Pwyllgor Cyllid hefyd a fyddai'n well cael Rheol Sefydlog annibynnol newydd ar gyfer y Rheolau Sefydlog, yn hytrach nag integreiddio i mewn i Reol Sefydlog 27.         

Yn sgil penderfyniad y Pwyllgor Busnes, rydym ni wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn am esboniad pam roedd Llywodraeth Cymru yn ei hystyried yn broblem i roi Gorchmynion yn y Cyfrin Gyngor o dan adran 116C o Ddeddf 2006 i'r un broses graffu â'r rhai o dan adran 109, a pham roedd Llywodraeth Cymru yn teimlo hefyd y byddai'r weithdrefn newydd yn gorwedd yn well yn Rheol Sefydlog 27, yn hytrach na Rheol Sefydlog 25A newydd. 

Rydym ni hefyd wedi nodi o adroddiad y Pwyllgor Busnes, y bydd Ysgrifennydd y Cabinet, fel rhan o'r ymrwymiadau a roddwyd i ategu'r broses a ddewiswyd, yn cwrdd â Chadeirydd ein pwyllgor ni i roi gwybodaeth iddo, yn dilyn cyfarfodydd gyda Chyd-bwyllgor y Trysorlysoedd. Felly, rydym ni wedi gofyn am eglurhad gan Lywodraeth Cymru ynghylch pam mai dim ond y Cadeirydd, yn hytrach na'r pwyllgor cyfan, y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei gwrdd. Mae'r Pwyllgor Busnes wedi nodi y bydd yn adolygu effeithiolrwydd y trefniadau newydd maes o law a byddem yn falch iawn o gynorthwyo gydag unrhyw adolygiad o'r fath. Diolch yn fawr.

Galwaf yn awr ar arweinydd y tŷ, Julie James, i ymateb i'r ddadl.

15:40

Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd dros dro.

Sefydlwyd Rheol Sefydlog 25 i ymdrin â Gorchmynion adran 109, fel yr oeddent yn bodoli o dan y setliad datganoli cyn 2011—yr hen Orchmynion cymhwysedd deddfwriaethol neu GCD yn y trydydd Cynulliad. Er bod Gorchmynion adran 116C yn ymwneud â datganoli pwerau trethu newydd i'r Cynulliad, maent yn wahanol i Orchmynion cymhwysedd deddfwriaethol; ni fyddant ond yn cael eu cyflwyno ar ôl cyfnod o ymgynghori a negodi ac ar sail consensws rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Nid yw proses ddau gam y GCD, lle mae Gorchmynion arfaethedig a drafft yn destun craffu, yn briodol yn y sefyllfa hon. Mae'r Llywodraeth wedi rhoi nifer o ymrwymiadau ynglŷn â'r wybodaeth a ddarperir i'r Cynulliad yn ystod y cyfnod negodi cyn i Orchymyn adran 116C gael ei gyflwyno. Nodir y rhain yn adroddiad y Pwyllgor Busnes.

Mae Gorchymyn adran 116C yn eitem o is-ddeddfwriaeth sy'n ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol. Mae'r Rheol Sefydlog 27 bresennol eisoes yn darparu ar gyfer y rhan fwyaf o'r weithdrefn sy'n angenrheidiol ar gyfer craffu ar Orchmynion 116C. Rydym yn ystyried y byddai cynnwys y weithdrefn yn Rheol Sefydlog 27 yn arwain at gydgrynhoi Rheolau Sefydlog ar gyfer is-ddeddfwriaeth. Mae'r dull hwn yn osgoi dyblygu gweithdrefnau mewn Rheolau Sefydlog gwahanol, gan helpu gyda hygyrchedd a thryloywder. Yr wythnos diwethaf, cytunodd y Cynulliad ar yr un drefn ag ar gyfer Rheol Sefydlog 27 ar gyfer offerynnau statudol a wneir gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â gadael yr UE.

Hefyd, codwyd mater yr argymhelliad i ddarparu sesiwn friffio i'r Cadeirydd, fel cynrychiolydd y pwyllgor, er mwyn sicrhau y gellid rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r pwyllgor ar gynnydd y negodiadau mewn modd amserol. Fel y gallwch ddeall, bydd hyn yng nghyd-destun cyfrinachedd a pherthynas rynglywodraethol, ond yng ngoleuni sylwadau gan aelodau amrywiol y Pwyllgor Busnes, rwy'n gwbl sicr y byddai Ysgrifennydd y Cabinet yn fwy na pharod i ystyried opsiynau eraill er mwyn sicrhau bod y pwyllgor cyfan yn meddu ar y wybodaeth ddiweddaraf, pe baent yn ystyried hynny'n ddefnyddiol.

Mae trafodaethau'n mynd rhagddynt rhwng ein swyddogion ynghylch trefniadau ar gyfer rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i bwyllgorau'r Cynulliad ynglŷn â gweithrediad y peirianwaith cysylltiadau rhynglywodraethol yn y dyfodol. Mae'r Llywodraeth yn agored iawn i sefydlu trefniadau priodol. Gallwn ymdrin â materion sy'n ymwneud â Chyd-bwyllgor y Trysorlys, er enghraifft, yn y cyd-destun hwnnw. Fel y dywedodd Dai Lloyd yn ei sylwadau wrth gloi, mae'r broses fel y'i sefydlwyd gan adran 116C o Ddeddf Llywodraeth Cymru yn newydd. Mae'r Llywodraeth yn fwy na pharod i adolygu ei hymrwymiadau a'r newidiadau i'r Rheolau Sefydlog, os cytunir arnynt heddiw, yng ngoleuni'r profiad o'u gweithredu. Diolch.

Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Bil i ymgorffori Datganiad y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Personau Anabl yng nghyfraith Cymru

Symudwn ymlaen yn awr at eitem 7—dadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod: Bil i ymgorffori datganiad y Cenhedloedd Unedig ar hawliau personau anabl yng nghyfraith Cymru, a galwaf ar Helen Mary Jones i wneud y cynnig.

Cynnig NDM6819 Helen Mary Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil i ymgorffori Datganiad y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Personau Anabl yng nghyfraith Cymru.

2. Diben y Bil hwn fyddai cryfhau dulliau polisi sy'n seiliedig ar hawliau i hyrwyddo hawliau pobl ag anableddau a defnyddio Datganiad y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Personau Anabl fel fframwaith ar gyfer datblygiadau yn y dyfodol.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd dros dro. Mae'n fraint gennyf gynnig heddiw y dylai'r Cynulliad hwn ddeddfu i ymgorffori confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau personau anabl yng nghyfraith Cymru. Rhaid imi ddechrau gydag ymddiheuriad, mae'r cynnig ger ein bron yn cyfeirio at fersiwn gynharach o ddatganiad y Cenhedloedd Unedig yn hytrach na'r confensiwn wedi'i ddiweddaru, fel y'i cadarnhawyd gan Lywodraeth y DU yn 2009. Fy ngwall i yw hyn yn llwyr. Deilliodd o frys i baratoi'r cynnig, a hyderaf y bydd y Cynulliad yn derbyn fy ymddiheuriad yn y cyswllt hwn ac y gallwn lunio'r ddadl yng ngoleuni'r confensiwn cyfredol.

Pobl anabl yw 26 y cant o boblogaeth Cymru—sy'n uwch na'r cyfartaledd ar gyfer y DU—ac maent yn dal i wynebu gwahaniaethu a rhagfarn systematig. Mae bron 40 y cant o bobl anabl Cymru yn byw mewn tlodi o gymharu â 22 y cant o'r boblogaeth nad yw'n anabl. Dim ond 45.2 y cant o bobl anabl 16 i 64 oed yng Nghymru sydd mewn gwaith o gymharu ag 80.3 y cant o'r boblogaeth nad ydynt yn anabl. Un awdurdod lleol yng Nghymru yn unig sydd wedi gosod unrhyw dargedau i ganran o dai fforddiadwy fod yn hygyrch, a 15 y cant yn unig o awdurdodau lleol sy'n cadw gwybodaeth dda am anghenion tai pobl anabl. Gallwn barhau.

Pan adolygodd pwyllgor y Cenhedloedd Unedig berfformiad y DU gyfan mewn perthynas â'r confensiwn, roedd ei ganfyddiadau'n ddamniol. Ymhlith pethau eraill, amlygwyd bod effaith cyni wedi arwain at gyfyngiadau ariannol negyddol difrifol ymysg pobl anabl a'u teuluoedd. Hefyd, pwysleisiodd y pwyllgor broblem troseddau casineb anabledd, diffyg data cadarn, y bwlch cyflogaeth a'r bwlch cyflog ymhlith pobl anabl, yn enwedig ymhlith menywod anabl, a diffyg fframwaith polisi i fynd i'r afael â thlodi teuluoedd â phlant anabl. Yn gyffredinol, canfu'r pwyllgor fod gweithrediad y confensiwn yn anwastad ac yn annigonol ar draws pob maes polisi, pob lefel o Lywodraeth a phob rhanbarth.

Nawr, mae sefydliadau anabledd yn cydnabod y bu datblygiadau cadarnhaol i bobl anabl ers datganoli. Rydym wedi mabwysiadu'r model cymdeithasol o anabledd fel sail ar gyfer ein polisi yma yng Nghymru, ac mae hynny'n bwysig iawn, fel y dywedodd arweinydd y tŷ mewn ymateb i gwestiwn yn gynharach heddiw.

Mae fframwaith gweithredu ar fyw'n annibynnol Llywodraeth Cymru yn nodi gweledigaeth ar gyfer gweithredu'r confensiwn yng Nghymru yn seiliedig ar bedwar gwerth allweddol hyder, cydweithredu, cydgynhyrchu, a dewis a rheolaeth. Mae llawer iawn i'w groesawu yn y fframwaith, ond nid yw'n gyfraith—polisi ydyw, a gellir yn hawdd newid polisïau. Ni cheir camau unioni ffurfiol ar gyfer person anabl na sicrhawyd ei hawliau o dan y fframwaith.

Yn rhyfedd braidd yn fy marn i, mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn datgan bod yn rhaid i rai sy'n arfer swyddogaethau o dan y Ddeddf roi sylw dyledus i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn ac Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn, ond nid, ar wyneb y ddeddf, i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau. Mae cod ymarfer y Ddeddf yn sôn am y confensiwn, ond ar gyfer darparu gwasanaethau cymdeithasol yn unig y mae'r cod yn berthnasol, ac nid ar gyfer sefyllfaoedd eraill lle gall pobl anabl wynebu gwahaniaethu, megis ym maes cynllunio, tai, busnes a'r economi.

Yn y gorffennol, Ddirprwy Lywydd dros dro, mae Llywodraeth Cymru wedi dadlau bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn darparu sail gyfreithiol ar gyfer gwella hawliau pobl anabl yng Nghymru a'r gwasanaethau a ddarperir iddynt. Ond nid deddfwriaeth hawliau dynol yw'r ddeddfwriaeth hon, ac nid oes gan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru unrhyw bwerau gorfodi perthnasol.

Ddirprwy Lywydd dros dro, rwy'n awgrymu ei bod hi'n bryd deddfu i ymgorffori confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau personau anabl yn llawn yng nghyfraith Cymru. Byddai ymgorffori yn ei gwneud hi'n ofynnol inni ystyried hawliau pobl anabl ym mhob polisi a chynnig deddfwriaethol a gyflwynir gan Weinidogion Cymru. Byddai'n codi proffil hawliau pobl anabl ar draws Llywodraeth Cymru ac yn wir, ar draws y sector cyhoeddus a'r gymuned ehangach yng Nghymru. Byddai'n cyfleu neges glir iawn wrth ein cyd-ddinasyddion anabl ein bod ni, eu cynrychiolwyr, yn deall y rhagfarn, y gwahaniaethu a'r rhwystrau i gyfranogiad y maent yn eu hwynebu, a'n bod yn benderfynol o fynd i'r afael â'r rhagfarn a'r gwahaniaethu a chael gwared ar y rhwystrau hynny.

Fe wyddom y gall ymgorffori fod yn effeithiol. Mae ymchwil gan Dr Simon Hoffman, arsyllfa Cymru ar hawliau dynol plant a phobl ifanc ym Mhrifysgol Abertawe wedi darganfod bod Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 wedi cael effaith gadarnhaol er nad yw wedi'i ymgorffori'n llawn—gan gyfreithloni iaith hawliau confensiwn mewn trafodaethau polisi, cyflwyno disgwyliad o gydymffurfiaeth â'r confensiwn a chyflwyno asesiadau effaith ar hawliau plant, er mwyn sefydlu'r confensiwn fel fframwaith ar gyfer datblygu polisi. Canfu hefyd fod y Mesur wedi rhoi hwb a hyder i randdeiliaid, ac i blant a phobl ifanc eu hunain, i ddefnyddio'r confensiwn wrth hyrwyddo polisi.

Ddirprwy Lywydd dros dro, pan ddewisodd y Cynulliad hwn ddeddfu ar gyfer hawliau plant a phobl ifanc, anfonwyd neges glir iawn i blant a phobl ifanc ac i'r rhai sy'n darparu gwasanaethau ar eu cyfer. Roeddem yn glir na ddylai cynnal hawliau plant gael ei adael i bolisi unig, ond y dylai fod yn fater o gyfraith a bod modd ei orfodi'n gyfreithiol. Credaf ei bod yn bryd inni anfon yr un neges at ein cyd-ddinasyddion anabl a'r rheini sy'n darparu gwasanaethau ar eu cyfer, ac rwy'n gobeithio y bydd y Cynulliad hwn a Llywodraeth Cymru yn cytuno mewn egwyddor.

15:45

Mae datganiad y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl, a fabwysiadwyd gan Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig ar 9 Rhagfyr 1975, yn datgan bod gan bob person anabl yr un hawliau â phersonau eraill, ac yn cydnabod y rhwystrau a grëwyd gan sefydliadau cymdeithasol a chymdeithas yn gyffredinol—y model cymdeithasol o anabledd y cyfeiriodd Helen Mary ato. Er nad ydynt yn rhwymol, roedd y datganiad yn ddechrau ar ymagwedd newydd tuag at faterion anabledd fel materion hawliau dynol.

Mabwysiadwyd Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl ar 13 Rhagfyr 2006, a llofnododd Llywodraeth y DU y cytuniad cyfreithiol hwn yn 2009. Mae'n nodi pa hawliau y dylai pobl anabl eu cael, ochr yn ochr â meincnodau rhyngwladol, ac mae'n cynnwys meysydd fel iechyd, addysg, cyflogaeth, mynediad at gyfiawnder, diogelwch personol, byw'n annibynnol a mynediad at wybodaeth.

Mae Llywodraeth y DU wedi dweud yn glir ei bod am i'r DU arwain 'ras i'r brig yn fyd-eang' o ran hawliau a safonau, nid ras gystadleuol i'r gwaelod. Fodd bynnag, mae budd mewn ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau yng nghyfraith Cymru er mwyn cryfhau a hyrwyddo hawliau pobl anabl, fel y gwnaeth Llywodraeth Cymru gyda hawliau plant drwy ymgorffori'r confensiwn ar hawliau'r plentyn yng nghyfraith Cymru yn 2011. Felly, byddwn yn cefnogi'r cynnig deddfwriaethol hwn.

Pan gawsom y ddadl yma yn 2010 i gefnogi ymgyrch Byw'n Annibynnol Anabledd Cymru, cyflwynodd Llywodraeth Cymru welliant yn dirymu'r cynnig ar y pryd. Yn awr, wrth gwrs, mae pawb yn siarad o blaid byw'n annibynnol. Fel y nodai'r ymgyrch, mae byw'n annibynnol yn galluogi pobl anabl i gyflawni eu nodau eu hunain a byw eu bywydau eu hunain yn y ffordd y maent yn dewis iddynt eu hunain.

Ar ôl imi arwain dadl ar gydgynhyrchu yn y Cynulliad diwethaf, gwrthododd rhai o Weinidogion Llywodraeth Cymru ddefnyddio'r term wedyn. Fel y dywedais, mae'n ymwneud â gweld pawb fel partneriaid cyfartal mewn gwasanaethau lleol, gan chwalu'r rhwystrau rhwng pobl sy'n darparu gwasanaethau a'r rhai sy'n eu defnyddio. Dywedais fod hyn yn mynd y tu hwnt i fodelau o ymgynghori â defnyddwyr gwasanaeth i ddarparu gwell gwasanaethau iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a gwasanaethau eraill i boblogaeth sy'n heneiddio, i bobl sy'n wynebu salwch ac anabledd, i bobl economaidd anweithgar ac i'r rhai sydd wedi'u hynysu'n gymdeithasol.

Yn 2013, lluniwyd fy Mil arfaethedig Aelod, Gofal Cymunedol (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru), i gynnig dewis, rheolaeth ac annibyniaeth i ofalwyr a defnyddwyr gwasanaethau. Dywedodd y Dirprwy Weinidog y byddai'n hoffi i'r egwyddorion yn fy Mil gael eu cyflwyno ym Mil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), fel yr oedd ar y pryd, ac felly cytunais i'w dynnu'n ôl a gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar hyn. Mae 'Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014—Rhan 2: Cod Ymarfer (Swyddogaethau Cyffredinol)', yn nodi bod

'Rhaid i awdurdodau lleol geisio grymuso pobl i gynhyrchu atebion arloesol... drwy rwydweithiau lleol a chymunedau',

a bod hyn

'yn golygu rhoi trefniadau cadarn ar waith i sicrhau cyfraniad pobl at gynllunio a gweithredu gwasanaethau.'

Mae hefyd yn nodi

'bod llesiant yn cynnwys agweddau allweddol ar fyw'n annibynnol, fel y nodwyd yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau'

a bod

'y dull o hyrwyddo llesiant pobl... yn un sy'n cydnabod y gall gofal a chymorth gyfrannu at ddileu rhwystrau... yn unol â'r model cymdeithasol o anabledd',

gan gydnabod fframwaith gweithredu ar fyw'n annibynnol Llywodraeth Cymru, sy'n mynegi hawliau pobl anabl i gymryd rhan lawn ym mhob agwedd ar fywyd.

Er hyn, rwy'n dal i glywed bron yn ddyddiol gan bobl anabl, cymunedau a gofalwyr eu bod yn gorfod ymladd am y gefnogaeth a'r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt i'w galluogi i fyw bywydau normal, am nad yw'r bobl ar gyflogau bras sydd mewn grym am rannu'r grym hwnnw ac am eu bod yn credu eu bod yn gwybod yn well.

Rydym wedi cael deddfwriaeth lawn bwriadau da sydd i fod i ymwneud â llunio a darparu gwasanaethau gyda phobl, yn hytrach nag ar eu cyfer ac iddynt, ac eto clywn straeon megis y ffaith na chaiff defnyddwyr cadeiriau olwyn fynediad i lwybr yr arfordir yn Sir y Fflint o hyd ac fel y soniais yn gynharach, y ffaith bod y gymuned fyddar yng Nghonwy wedi gorfod mynd at yr ombwdsmon ar ôl i'w cyngor ddatgomisiynu eu gwasanaethau Iaith Arwyddion Prydain.

Y realiti yw bod mwy a mwy o bobl yn wynebu argyfyngau y gellir eu hosgoi, a bod angen mwy o integreiddio, annibyniaeth a grymuso ar gyfer pobl anabl.

15:50

Fel y mae Anabledd Cymru yn ei ddatgan, pe bai datganiad neu gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig yn cael ei ymgorffori yng nghyfraith Cymru, byddai'n codi proffil hawliau pobl anabl yn Llywodraeth Cymru, yn mynnu bod hawliau pobl anabl yn cael eu hystyried yn y ddeddfwriaeth a'r polisïau a gyflwynir gan Weinidogion, yn sefydlu fframwaith atebolrwydd i sicrhau gweithrediad strategol a monitro, yn ogystal â mwy o gysondeb ar draws y ddeddfwriaeth a pholisïau—

Mark, a wnewch chi ddirwyn i ben yn awr, os gwelwch yn dda?

—ac yn olaf, yn cryfhau cyfraniad pobl anabl a'r sefydliadau sy'n eu cynrychioli wrth lywio a dylanwadu ar bolisi. Diolch.

Rwy'n cefnogi'r cynnig hwn. Wrth gwrs, ceir amrywiol fathau o anabledd ac ar un ystyr, mae pob anabledd yn unigryw i'r person dan sylw. Mae pobl anabl yn wynebu problemau gyda chael mynediad at addysg, hyfforddiant, cyflogaeth a gwasanaethau, boed yn rhai cyhoeddus neu breifat. Mae'n wir fod hawliau pobl anabl wedi gwella dros y 40 mlynedd diwethaf, ond nid yw hynny'n dweud llawer o gofio sut y cawsant eu trin yn y gorffennol. Ceisiodd deddfau fynd i'r afael â gwahaniaethu yn y gweithle ac wrth ddarparu gwasanaethau, er enghraifft, ac rwy'n croesawu'r symud ardderchog yn y Bil ADY i ragdybiaeth y dylai plant ag anghenion dysgu ychwanegol gael eu haddysgu mewn ysgol brif ffrwd, ond mae llawer i'w wneud eto.

Ond am nawr, hoffwn ganolbwyntio ar un anabledd penodol, sef nam ar y golwg. Un o bob pedwar unigolyn oedran gweithio a gofrestrwyd yn ddall neu'n rhannol ddall sydd mewn gwaith cyflogedig, ac mae'r nifer yn gostwng. Mae'r ffigur hyd yn oed yn waeth ar gyfer pobl sy'n hollol ddall. Oddeutu un o bob 10 o bobl gyda golwg gweithredol gwan sydd mewn gwaith cyflogedig, ac er bod bwlch cyflogaeth anabledd enfawr—y gwahaniaeth rhwng pobl anabl mewn gwaith, sef 48 y cant, a'r boblogaeth yn gyffredinol, sef 80 y cant—mae'r bwlch cyflogaeth ar gyfer pobl a gofrestrwyd yn ddall a rhannol ddall bron yn ddwbl y bwlch ar gyfer pobl ag anableddau eraill.

Canfu arolwg gan y Gymdeithas Frenhinol ar gyfer Plant Dall ym mis Chwefror eleni fod dros chwarter o oedolion yn credu bod gan blant dall wahanol freuddwydion a dyheadau i'w cyfoedion nad ydynt yn ddall. Yn ôl yr arolwg, ceir llawer o anwybodaeth hefyd ynglŷn â'r hyn y gall plant a phobl ddall a rhannol ddall ei wneud. Er enghraifft, roedd 52 y cant o'r ymatebwyr yn credu'n anghywir na fydd plant dall a rhannol ddall yn gallu byw ar eu pen eu hunain fel oedolion, teithio, coginio na bod yn gyfrifol am eu trefniadau ariannol eu hunain, felly gallwch weld sut y byddent o dan anfantais mewn pethau fel y maes tai, cyflogaeth a meysydd eraill os yw'r bobl o'u cwmpas yn credu'r pethau hynny ynglŷn â'u galluoedd. Dim ond 11 y cant o bobl a gredai fod bod yn ddall neu'n rhannol ddall yn ei gwneud hi'n anos i blant wneud ffrindiau, ond yn anffodus, mae'r RNIB yn dweud nad oes gan ddau o bob pump plentyn dall ffrindiau lleol i chwarae gyda hwy.

Mae yna amrywiaeth o brosiectau a rhaglenni ar gael. Mae'r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd yn 22 mlwydd oed—gwn ei bod wedi'i disodli bellach. Mae'n bosibl y bydd hawl gan bobl anabl i arian i addasu eu cartrefi ac ati, ond hyd yn hyn mae'n amlwg nad oes digon yn cael ei wneud i addasu agweddau pobl eraill tuag at anabledd, yn enwedig yn y gweithle. Eisoes, crybwyllwyd bod y confensiwn yn berthnasol yma, ond nad yw'n ymddangos ei fod wedi gwneud llawer iawn o les, ac yn sicr, nid yw'r pethau sydd wedi cael eu gwneud hyd yma wedi newid llawer iawn ar yr ystadegau cyflogaeth.

Felly, er fy mod yn cytuno gyda'r cynnig hwn i ymgorffori'r confensiwn yng nghyfraith Cymru, byddai'n rhaid iddo fod ar sail menter lawer mwy rhagweithiol na'r hyn a welwyd hyd yma i sicrhau gwir newid yn agwedd cyflogwyr a'r gymdeithas yn gyffredinol tuag at bobl anabl.

Mae llawer o bobl anabl wedi ymladd eu ffordd drwy anawsterau a heriau enfawr gyda phenderfyniad a fyddai'n codi cywilydd ar lawer ohonom, ac mae'r rheini'n sgiliau a fyddai'n werthfawr i lawer iawn o gyflogwyr. Ychydig iawn o wahaniaeth fydd mabwysiadu'r confensiwn rydym eisoes yn ddarostyngedig iddo yn ei wneud ynddo'i hun. Rhaid inni fabwysiadu'r dulliau rhagweithiol a lwyddodd i sicrhau triniaeth decach i grwpiau lleiafrifol eraill—deddfau sy'n cael eu gorfodi, hawliau sy'n cael eu hyrwyddo'n weithredol a'u cynnal, nid yn unig eu hysgrifennu, eu ffeilio a'u hanghofio.

Yn olaf, mae pobl anabl wedi bod yn y wlad hon ers i'r wlad hon ddod i fodolaeth, ac eto gellir dadlau mai hwy yw'r grŵp lleiafrifol mwyaf difreintiedig. Mae hynny'n anfaddeuol a rhaid i'r sefyllfa newid. Rydym wedi'i wneud ar gyfer pobl eraill; rhaid inni ei wneud ar eu cyfer hwy yn awr. Diolch.

15:55

Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd dros dro. Hoffwn yn fawr ddiolch i Helen Mary Jones am gyflwyno'r cynnig hwn a hefyd i'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl. Mae'n glir iawn fod cefnogaeth eang i gryfhau hawliau pobl anabl yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i roi parch mawr i'r cytuniadau hawliau dynol rhyngwladol a chonfensiynau'r Cenhedloedd Unedig y mae'r DU yn wladwriaeth sy'n barti iddynt ac wedi'u llofnodi. Rydym yn ceisio adlewyrchu ysbryd a sylwedd pob confensiwn ar draws ein polisïau a'n rhaglenni fel y bo'n briodol. Rhaid i gamau gweithredu Llywodraeth Cymru fod yn gydnaws â rhwymedigaethau rhyngwladol, fel y nodir yn adran 82 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, gan gynnwys Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau.

Mae ymrwymiad i hawliau dynol yn rhan o DNA Llywodraeth Cymru. Mae'r ymrwymiad hwn yn darparu llwyfan cadarn yng Nghymru ar gyfer creu deddfwriaeth a pholisïau cryf a chynhwysol. Er enghraifft, mae pawb heddiw wedi cyfeirio at Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. O dan y Ddeddf honno, fel y dywedodd Helen Mary, wrth arfer swyddogaethau mewn perthynas ag pobl anabl sydd angen gofal a chymorth, a gofalwyr anabl sydd angen cymorth, rhaid i awdurdodau lleol roi sylw dyledus hefyd i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau. Roeddem yn falch iawn fod Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau wedi croesawu cyflwyno'r Ddeddf yn ei sylwadau terfynol, yn dilyn archwiliad o gydymffurfiaeth y DU â'r confensiwn yn 2017. Hefyd, wrth gwrs, mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, yn ddeddfwriaeth nodedig a phwysig i hyrwyddo a diogelu hawliau pobl.

Rydym yn rhoi camau ar waith i hyrwyddo hawliau'r confensiwn yng Nghymru. Bydd ein camau gweithredu newydd ar anabledd, y fframwaith hawl i fyw'n annibynnol a'i gynllun gweithredu ategol a fydd yn cael ei gyhoeddi ar gyfer ymgynghori yn ei gylch yn ddiweddarach y mis hwn, yn nodi sut y mae Llywodraeth Cymru'n bwrw ymlaen ag egwyddorion y confensiwn, gan ystyried argymhellion pwyllgor y Cenhedloedd Unedig yn 2017 lle bo'n briodol. Rwy'n credu bod gennym y mecanweithiau eisoes ar waith i barhau i hyrwyddo hawliau pobl anabl. Fel y soniais o'r blaen, eisoes mae'n rhaid i Weinidogion Cymru weithredu mewn modd sy'n cydymffurfio â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau yn rhinwedd adran 82 o Ddeddf Llywodraeth Cymru.

Hefyd, ceir dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus, sy'n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru roi sylw dyladwy i'r angen i ddileu gwahaniaethu a hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng pobl sy'n rhannu nodweddion gwarchodedig a'r rhai nad ydynt yn eu rhannu. Mae hyn, wrth gwrs, yn cynnwys pobl anabl, ac rwy'n falch iawn ein bod wedi croesawu'r model cymdeithasol o anabledd ar draws y pleidiau yn y Siambr hon, rhywbeth y mae pobl anabl eu hunain ei eisiau'n fawr iawn. Cefais y fraint o fod yn brif siaradwr yn fforwm cyflogadwyedd Leonard Cheshire Disability ar gyfer pobl ag anableddau yn Stadiwm Liberty, yn etholaeth fy nghyd-Aelod, Mike Hedges, yr wythnos diwethaf, lle'i gwnaed yn glir iawn i mi gan y bobl ifanc anabl yno, yn benodol, ond gan amrywiaeth o bobl, eu bod yn awyddus iawn i weld y rhwystrau'n cael eu dileu, ac nid cael eu gwahardd rhag gwneud eu hunain yn well, sydd, wrth gwrs, yn ymgorffori'n llwyr yr hyn y mae'r model cymdeithasol o gynhwysiant yn ei olygu i bobl ag anableddau ac i bawb arall sydd â nodweddion gwarchodedig.

Fodd bynnag, wedi dweud hynny, dylem bob amser fod yn agored i gyfleoedd i archwilio ffyrdd o gryfhau hawliau ac amddiffyniadau yma yng Nghymru. Rwy'n cefnogi'r egwyddorion sydd wrth wraidd y cynnig yn gryf, ac rwy'n awyddus i ystyried beth arall y gellir ei wneud i ddangos ein hymrwymiad i gefnogi pobl anabl yng Nghymru. Mae gennyf ddiddordeb mawr mewn cyfarfod â'r Aelod i drafod beth arall y gellir ei wneud i wella hawliau pobl anabl. Mae'n rhaid imi ychwanegu nodyn o rybudd: bydd angen gofal i sicrhau nad yw cynigion yn gwrthdaro â dyletswyddau presennol nac yn eu tanseilio drwy amryfusedd. Rwy'n derbyn yn llwyr fod yr Aelod wedi ystyried hynny. Mae gennym we o ddeddfwriaeth sy'n bodoli'n barod, a buaswn yn awyddus iawn i weithio gyda chi i weld sut y gallwn wneud yn siŵr eu bod yn ymgorffori'n fframwaith di-dor ac nad ydynt yn croesi yn erbyn ei gilydd drwy amryfusedd.

Rydym hefyd ar drothwy cyfnod digynsail ac ansicr i Gymru wrth inni adael yr Undeb Ewropeaidd, ac mae trafodaethau'n parhau ar senario 'dim bargen' neu 'fargen', a hyd nes y byddwn yn gwybod yn union beth fydd y senario hwnnw a beth y mae'n ei gynnwys, mae'n anodd iawn werthuso'n llawn beth fydd dyfodol y tirwedd hawliau dynol yng Nghymru a nodi'r llwybr gweithredu mwyaf priodol mewn perthynas â hawliau pobl anabl yn fwy cyffredinol, hyd nes y daw'r broses honno i ben a'n bod yn gwybod beth yw'r sefyllfa a chael rhywfaint o sicrwydd. Am y rheswm hwnnw, er fy mod yn croesawu'r cynnig, rwy'n gobeithio y bydd yr Aelod yn ystyried cyfarfod â mi i'w drafod ymhellach wrth inni symud ymlaen. Diolch.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

16:00

Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r holl Aelodau sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl. Amser byr iawn sydd gennyf i ymateb. Rwy'n ddiolchgar iawn i Mark Isherwood, yn enwedig am ei bwyntiau am y bwlch rhwng polisi a'r gwirionedd, a dyna pam y credaf fod angen inni symud tuag at ddeddfu: oherwydd mae gan bobl anabl hawl i gamau unioni os nad yw eu hawliau'n cael eu bodloni. Ar hyn o bryd, mae ganddynt elfen o hawl i gamau unioni, wrth gwrs, drwy'r Ddeddf cydraddoldebau, ond deddfwriaeth nad yw'n cael ei rheoli yn y lle hwn yw honno, ac rwy'n ddiolchgar hefyd am gefnogaeth Mark i'r egwyddor o ddeddfwriaeth bellach.

Cefais fy nharo'n benodol gan Michelle Brown ynglŷn ag agweddau pobl eraill a'r modd y maent yn mynd yn y ffordd. Gall ddigwydd i unrhyw un ohonom; gall fod gennym ganfyddiadau am yr hyn nad yw pobl yn gallu eu gwneud yn hytrach na meddwl am y pethau y maent yn gallu eu gwneud. Cefais fy nharo'n arbennig gan y pwynt ynglŷn â chyflogwyr o bosibl yn elwa ar y penderfyniad, y sgiliau a'r dewrder a fydd gan lawer o bobl anabl sydd, yn wahanol i'r rhelyw ohonom, yn wynebu brwydrau enfawr i wneud dim mwy na byw eu bywydau bob dydd. Ac unwaith eto, rwy'n ddiolchgar iddi am ei chefnogaeth.

Rwy'n derbyn yn llwyr yr hyn a ddywedodd arweinydd y tŷ am rywfaint o'r cynnydd a wnaed yma yng Nghymru. Byddai mudiadau pobl anabl yn dweud yr un peth yn union wrth gwrs, ac rwy'n croesawu'r camau gweithredu a roddwyd ar waith eisoes. Mewn sawl ffordd, rwy'n credu y byddai pobl anabl yn dweud eu bod yn nes at gael eu hawliau wedi'u gwireddu yma yng Nghymru nag y byddent mewn rhannau eraill o'r DU. Fodd bynnag, wedi dweud hynny, o ran mynediad pobl anabl at wasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru, rwy'n dal i gredu bod arnom angen deddfwriaeth y gall pobl anabl ei defnyddio os ydynt yn teimlo nad yw eu hawliau'n cael eu parchu, am nad yw llawer o'r polisi cenedlaethol cryf y mae arweinydd y tŷ yn sôn amdano yma yn cael ei ddarparu ar lawr gwlad mewn gwirionedd, a gallai fod nifer o resymau am hynny—efallai ei fod yn ymwneud ag adnoddau, efallai ei fod yn ymwneud â diffyg ymwybyddiaeth.

Rwy'n ddiolchgar iawn hefyd i arweinydd y tŷ am awgrymu ein bod yn cyfarfod i drafod sut i fwrw ymlaen, ac rwy'n cytuno'n llwyr gyda'r hyn sydd ganddi i'w ddweud am y dirwedd hawliau dynol ar ôl Brexit: nid ydym yn gwybod sut beth fydd honno. Ofnaf y gallem weld darpariaethau deddfwriaeth y DU yn cael eu gwanhau. Byddai hynny, wrth gwrs, yn ddadl dros inni gymryd camau cryfach yma yng Nghymru. Felly, edrychaf ymlaen at gyfarfod gydag arweinydd y tŷ i drafod hyn, ac rwy'n mawr obeithio y byddwn yn pleidleisio dros eu hymgorffori.

Diolch. Y cynnig yw nodi cynnig yr Aelod. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

16:05
8. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: Meithrin Cydnerthedd—Ymchwiliad i gyllid heblaw cyllid cyhoeddus ar gyfer y celfyddydau

Eitem 8, sef dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: 'Meithrin Cydnerthedd—Ymchwiliad i gyllid heblaw cyllid cyhoeddus
ar gyfer y celfyddydau—ni chyflwynwyd cynnig.

9. Dadl yn ceisio cytundeb y Cynulliad i gyflwyno Bil arfaethedig y Comisiwn—Bil Senedd Cymru ac Etholiadau (Cymru)

Symudwn at eitem 9 ar ein hagenda y prynhawn yma, sef dadl yn ceisio cytundeb y Cynulliad i gyflwyno Bil arfaethedig y Comisiwn: Bil Senedd Cymru ac Etholiadau (Cymru). Galwaf yn awr ar y Llywydd i wneud y cynnig. Lywydd.

Cynnig NDM6821 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1.  Yn nodi adroddiad Comisiwn y Cynulliad: "Creu Senedd i Gymru, adroddiad yr ymgynghoriad", Hydref 2018;

2. Yn nodi datganiad ysgrifenedig Comisiwn y Cynulliad: Bil Senedd Cymru ac Etholiadau (Cymru);

3. Yn cytuno i ganiatáu i Gomisiwn y Cynulliad gyflwyno Bil i:

a) newid enw Cynulliad Cenedlaethol Cymru,

b) ymestyn yr etholfraint ar gyfer etholiadau’r Cynulliad,

c) diwygio’r gyfraith yn ymwneud ag anghymhwyso, a

d) gwneud newidiadau eraill i drefniadau etholiadol a threfniadau mewnol y Cynulliad, a newidiadau sy’n gysylltiedig â hwy.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch i’r Dirprwy Lywydd. Rwy’n gwneud y cynnig sydd ar y papur trefn.

Ym mis Gorffennaf, cyhoeddais ddatganiad ar ran Comisiwn y Cynulliad yn amlinellu ein strategaeth ddeddfwriaethol arfaethedig o ran diwygio trefniadau etholiadol y Cynulliad Cenedlaethol mewn dau gam. Y cam cyntaf fyddai deddfu i newid enw’r Cynulliad Cenedlaethol, i ymestyn yr etholfraint ar gyfer etholiadau’r Cynulliad, i ddiwygio’r gyfraith sy’n ymwneud â threfniadau anghymhwyso, a gwneud newidiadau eraill i drefniadau etholiadol a threfniadau mewnol y Cynulliad. Yr ail gam fyddai deddfu yn ystod tymor y Cynulliad yma ynghylch maint Senedd Cymru a’r dull a ddefnyddir i ethol ei Haelodau—yn amodol, wrth gwrs, ar gonsensws ar y materion yma.

Diben y ddadl heddiw yw i geisio cytundeb Aelodau i ganiatáu i’r Comisiwn gyflwyno’r darn cyntaf o ddeddfwriaeth. Rydym yn gwneud hynny gan hyderu ein bod wedi ymgynghori’n eang ac yn gyhoeddus ar y cynigion hyn ac wedi cael llawer o sgyrsiau â rhanddeiliaid allweddol.

Os ydych yn cytuno i ganiatáu i’r Comisiwn gyflwyno’r Mesur hwn, cawn gyfle i drafod a dadlau manylion y polisi yn llawn wrth i’r Mesur fynd drwy broses graffu ddeddfwriaethol y Cynulliad. Fodd bynnag, fel yr wyf wedi’i nodi’n flaenorol, ni fydd y cynigion hyn yn cael eu dwyn ymlaen oni bai fod consensws cyffredinol o blaid gwneud hynny. Byddai’n rhaid i uwchfwyafrif o 40 o Aelodau bleidleisio o blaid unrhyw Fesur yn y dyfodol cyn iddo gyrraedd y llyfrau statud, a byddai’n destun gwaith craffu, ymgynghori a thrafod trwyadl yn y Cynulliad yma a thu hwnt.

Yn fy natganiad ysgrifenedig ar 2 Hydref, amlinellais amcanion allweddol y Mesur Senedd Cymru ac etholiadau (Cymru). Yr amcan cyntaf yw newid enw’r Cynulliad i Senedd Cymru/Welsh Parliament, sef y teitl a ffafriwyd gan y rhai a ymatebodd i’r ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater yma. Roedd yr ymatebwyr hefyd yn ffafrio’r teitl Aelodau Senedd Cymru/Members of the Welsh Parliament, a fyddai’n cyd-fynd â’r teitlau a ddefnyddir gan ddeddfwrfeydd mewn mannau eraill yn y Deyrnas Gyfunol. Er inni ddod i gytundeb cychwynnol ynghylch teitl yr Aelodau, penderfynodd y Comisiynwyr ystyried y mater ymhellach a thrafod eto gyda’u pleidiau. Mae’r trafodaethau yma yn parhau, ond mi fydd angen i’r pleidiau, a chi yr Aelodau, gyrraedd consensws ar y cyfle cyntaf posib ar y mater yma.

Mae’r Comisiwn yn cynnig y dylai enw’r sefydliad gael effaith gyfreithiol ym mis Mai 2020 i sicrhau bod pobl Cymru yn dod yn gyfarwydd â’r term Senedd Cymru/Welsh Parliament cyn etholiad y Cynulliad—Senedd Cymru/Welsh Parliament—yn 2021. Byddwn yn sicrhau bod cost y newid mor isel â phosib ac nid oes bwriad newid logo’r Cynulliad yn gyfan gwbl. Bydd y memorandwm esboniadol a gaiff ei gyhoeddi i gyd-fynd â’r Mesur pan gaiff ei gyflwyno wrth gwrs yn cynnwys yr amcangyfrifon gorau o’r costau a’r arbedion posib a allai ddod yn sgil y ddeddfwriaeth.

Ail amcan y Mesur fydd gostwng yr oedran pleidleisio isaf i 16, yn effeithiol o etholiad 2021. Rwy’n gwybod y bydd Aelodau am gael sicrwydd y byddwn yn gwneud ymdrechion sylweddol i roi gwybod i bobl ifanc am y newid yma ac yn annog y lefel uchaf o gyfranogiad ganddynt. Rydym yn cytuno â hyn, ac fel rhan o’r broses ddeddfwriaethol yma, bydd y Comisiwn yn amlinellu pa gamau a gymerir gan y sefydliad a’n partneriaid ar y mater yma.

Y trydydd amcan yw gweithredu’r argymhellion o ran newid deddfwriaethol a wnaed gan Bwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y pedwerydd Cynulliad i egluro a diwygio’r fframwaith deddfwriaethol ynghylch anghymhwyso unigolion rhag bod yn Aelodau Cynulliad. Byddai’r newidiadau hyn yn rhoi eglurder ynghylch cymhwysedd pobl i sefyll mewn etholiad, yn helpu i oresgyn y rhwystrau sydd ar hyn o bryd yn golygu bod yn rhaid i lawer o bobl ymddiswyddo cyn sefyll fel ymgeiswyr er mwyn osgoi unrhyw risg, ac yn gwahardd, o etholiad nesaf y Cynulliad ymlaen, Aelodau o Dŷ’r Arglwyddi rhag bod yn Aelodau Senedd Cymru oni bai eu bod yn cymryd cyfnod o absenoldeb o San Steffan.

Yn olaf, y pedwerydd amcan fyddai sicrhau bod darpariaethau ar waith i’w gwneud yn bosib inni ystyried gweithredu yng Nghymru pe bai Comisiwn y Gyfraith yn gwneud unrhyw argymhellion i resymoli’r ddeddfwriaeth ynghylch etholiadau. Gallai Gweinidogion Cymru gyflwyno cynigion o’r fath drwy is-ddeddfwriaeth, a fyddai’n ddarostyngedig i’r weithdrefn gadarnhaol yn y Siambr yma.

Byddai’r Mesur hefyd yn ymestyn y dyddiad cau ar gyfer cyfarfod cyntaf y Cynulliad ar ôl etholiad, o saith diwrnod—fel y mae ar hyn o bryd—i 14, yn unol â’r trefniadau yn Senedd yr Alban, a hefyd yn cywiro’r amwysedd deddfwriaethol presennol, drwy egluro bod gan Gomisiwn y Cynulliad y pŵer i godi tâl am ddarparu gwasanaethau nad ydynt yn gysylltiedig â’i swyddogaethau.

Fel y dywedais yn gynharach, bydd Aelodau’n cael cyfle i drafod manylion y diwygiadau hyn yn ystod y broses o graffu. Ac os byddwch yn derbyn y cynnig hwn heddiw, rydw i'n edrych ymlaen yn ddiffuant i weithio gyda chi er mwyn creu deddfwriaeth gadarn y gallwn ni, a phobl Cymru, ymfalchïo ynddi.

16:10

Nid oes gennyf lawer iawn i'w ychwanegu at yr hyn rydym newydd ei glywed gan y Llywydd. Credaf ei bod hi'n bwysig nodi bod gennym y pwerau hyn a dylem eu defnyddio. Er bod y cwestiynau mwy anodd o bosibl wedi'u cadw'n ôl ar gyfer ail Fil, mae diben difrifol i'r Bil hwn yn ogystal, a'r hyn a olygaf yn benodol yw newid enw'r Senedd hon. Nid prosiect porthi balchder yn unig ydyw. Pwrpas hyn yw helpu pobl Cymru i ddeall beth yw'r lle hwn, sef deddfwrfa sylfaenol, Senedd go iawn, a pheth pellter oddi wrth y Cynulliad a sefydlwyd yn 1999. Mae pawb ohonom yn teimlo'r rhwystredigaeth, rwy'n siŵr, beth bynnag fo'n pleidiau, pan fyddwn yn curo ar ddrysau, nad yw pobl eto'n deall y gwahaniaeth rhwng Llywodraeth Cymru a Chynulliad Cymru, neu hyd yn oed yn deall beth y mae Cynulliad Cymru'n gyfrifol amdano. Os yw hwn yn gyfle i helpu—dim ond un cyfle arall i helpu pobl Cymru i ddeall hynny—fe ddylem fanteisio arno wrth gwrs.

Caiff y Bil ei lywio gan ymgynghoriad cyhoeddus. Cyfeiriodd y Llywydd at rai o'r ymatebion yno. Ond wrth gwrs, bydd barn yr Aelodau eu hunain, sy'n cael ei llywio gan eu hymgynghoriad Cyfnod 1 eu hunain, yn bwysig hefyd. Os cyflwynir gwelliannau, rwy'n siŵr y cânt eu gwneud ar sail tystiolaeth yn ogystal â safbwyntiau personol. Ac os cawn ganiatâd i fwrw ymlaen gyda Bil drafft heddiw, os deallaf yn iawn, ymdrinnir â Chyfnodau 2 a 3 gan bwyllgor y tŷ cyfan yn hytrach na chan y pwyllgorau, fel y gwnaethom yn y gorffennol.

Yn bersonol, ac efallai y dylwn ddatgan buddiant ar y pwynt hwn gan fy mod yn Gomisiynydd, yr hyn yr edrychaf amdano yn y Bil hwn yw offeryn cyfreithiol o safon sy'n eglur ac sy'n cyflawni ei amcanion datganedig. Ac mae hynny'n golygu: dim Bil fframwaith, dim ailgyfeirio cyfrifoldeb i is-ddeddfwriaeth ac eithrio pan fo'n gwbl angenrheidiol oherwydd yr holl oblygiadau craffu sy'n mynd gyda hynny, dull dadansoddol a thryloyw iawn o weithredu'r gwahaniaeth rhwng y defnydd o bwerau a dyletswyddau, ac wrth gwrs, dim pwerau Harri'r VIII i'r Llywodraeth ar wyneb y Bil.

Bil Cynulliad yw hwn. Mae'n atgoffa mai ni yw'r ddeddfwrfa—ni yw'r Cynulliad—ac rydym yn gweithredu ar ran pobl Cymru. Nid Llywodraethau sy'n gwneud cyfraith. Ac er efallai na fydd yn digwydd, rhaid inni fod wylio rhag unrhyw ddiwygiadau a allai, hyd yn oed yn anfwriadol, danseilio'r ffaith mai ni sy'n gwneud y gyfraith yma. Er y gallai Llywodraethau eu cyflwyno o bryd i'w gilydd, ac yn amlach, nid mater i Lywodraeth yw tanseilio diben y ddeddf hon—hyd yn oed yn anfwriadol, fel rwy'n dweud—drwy gyflwyno gwelliannau sy'n rhoi gormod o bwerau iddynt hwy yn hytrach nag i ni.

Rwy'n croesawu'r ddadl hon ar Fil arfaethedig Comisiwn, Bil Senedd Cymru ac Etholiadau (Cymru) at ei gilydd. Fodd bynnag, rwy'n siomedig nad ydym yn bwrw ymlaen â rhai o'r argymhellion yr ymgynghorodd y Comisiwn yn eu cylch. Yn ddiweddar, ysgrifennodd y Rhwydwaith Cydraddoldeb i Fenywod at y Llywydd yn annog y Comisiwn i symud ymlaen gyda'r cynigion yn adroddiad Laura McAllister, yn hyrwyddo cyfleoedd i rannu swyddi ar gyfer Aelodau'r Cynulliad. Mae Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru, yn credu y dylai'r Cynulliad arwain ar hyn a thorri ei chwys ei hun. Fel y maent wedi dweud, os ydych yn dechrau rhannu swyddi yn y sefydliad sy'n rhedeg Cymru, rydych yn gosod cynsail ar gyfer gwaith yn y trydydd sector, gan gyfrannu at y Gymru fwy cyfartal rydym i gyd am ei gweld, yr un a ddisgrifir yn Neddf cenedlaethau'r dyfodol.

Felly, rwy'n siomedig nad yw'r Comisiwn wedi cynnwys y cynigion hyn yn y Bil, yn enwedig gan fod Llywodraeth Cymru wedi ymateb yn gadarnhaol i adroddiad diweddar Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol y Cynulliad, 'Wrth eich gwaith: rhianta a chyflogaeth yng Nghymru', sy'n argymell y dylai Llywodraeth Cymru ystyried yr achos dros newid deddfwriaeth fel bod modd rhannu rolau swyddi Gweinidogion, penodiadau cyhoeddus a chynghorwyr. Ac yn ei hymateb i'r adroddiad, mae Llywodraeth Cymru'n dweud y bydd yn ystyried yr achos dros newid y ddeddfwriaeth mewn perthynas â Gweinidogion Llywodraeth Cymru, ochr yn ochr ag unrhyw ystyriaeth y gallai'r Cynulliad Cenedlaethol ei rhoi i gyflwyno rhannu swyddi ar gyfer Aelodau'r Cynulliad, ac rwy'n croesawu hynny. Po fwyaf o hyblygrwydd a gynigiwn i'n gwleidyddion, y mwyaf o ymgeiswyr benywaidd y byddwn yn eu denu, ond dylai fod yn ddeniadol i ymgeiswyr gwrywaidd yn ogystal.

Fe fyddwn yn radical ac yn hirben pan fyddwn yn rhoi'r bleidlais i rai 16 a 17 oed drwy gyfrwng y Bil hwn. Bydd eu lleisiau'n gryf ac yn glir o ran y cyfarwyddyd a gawn i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn y Cynulliad, a chaiff hyn ei atgyfnerthu gan y Senedd Ieuenctid Cymru newydd. I gefnogi'r Bil hwn, gobeithiaf hefyd y gallwn fod yn radical ac yn hirben yn ein hystyriaethau o nodweddion ac argymhellion ehangach adroddiad McAllister, yr adroddiad a gomisiynwyd gennych—a gomisiynodd y Llywydd—drwy wneud hon yn Senedd sy'n addas at y diben ac yn gweithio i Gymru. Nid ydym yno eto, ond rydym yn rhoi'r camau cyntaf pwysig ar waith heddiw, ac rwy'n cefnogi'r Bil hwn.

16:15

Rydw i'n croesawu'r cyfle i gael y ddadl yma ar lawr y Senedd heddiw ar eich cynigion chi a'r Comisiwn i gyflwyno rhaglen o ddiwygiadau i gryfhau ein prif gorff democrataidd yma yng Nghymru. Mae yna 20 mlynedd wedi mynd heibio ers i'r ddeddfwriaeth a oedd yn sefydlu'r Cynulliad Cenedlaethol gael ei phasio, a phryd hynny roedd y corff o natur debycach i gyngor sir na senedd genedlaethol. Rydym ni wedi dod yn bell iawn ers hynny, ac mae Plaid Cymru wedi bod yn gyson mai megis dechrau ar y gwaith o godi cenedl ydy seilwaith llywodraethiant presennol ein sefydliadau democrataidd cenedlaethol. Felly, mae Plaid Cymru, wrth reswm, yn cefnogi bwrdwn unrhyw gynigion i gryfhau'r corff yma.

Yn wyneb culni'r sefydliad gwleidyddol Prydeinig a'r rheini sydd am ein gweld ni cau'r drws ar ein cydweithio â chyfeillion Ewropeaidd, mae'n rheidrwydd arnom ni i sicrhau bod y sefydliad yma yn llwyfan i ddyheadau pobl Cymru, ac yn gerbyd i greu'r Gymru newydd yr ydym ni am ei chreu efo'n gilydd.

Rydym ni'n falch iawn o groesawu'r bwriad o gyflwyno pleidleisio yn 16 oed, a braf yw gweld ein Senedd ni yma ar flaen y gad yn agor drysau ac yn tynnu pobl ifanc i mewn i'r gwaith o greu democratiaeth Gymreig newydd gynhwysol, lle mae pobl ifanc yn benseiri eu dyfodol eu hunain, mewn gwrthgyferbyniad llwyr, wrth gwrs, â'r hyn sydd yn digwydd yn San Steffan.

Pwrpas y ddadl heddiw yma, wrth gwrs, ydy ceisio cytundeb y Cynulliad i ddod â chynigion manylach yn y flwyddyn newydd i roi'r cig ar yr asgwrn, ac rydym ni'n edrych ymlaen at gael craffu'n fanwl ar y cynigion yn ystod y broses honno. Ond mae'n rhaid inni gofio mai rhan gyntaf o becyn o ddiwygiadau ydy'r rhain yn dilyn adroddiad arbennig a gafwyd gan y gweithgor dan gadeiryddiaeth Laura McAllister. Rydw i'n mawr obeithio y byddwn ni'n symud yn syth ar ôl hynny, hefyd, i gyflwyno gweddill y cynigion.

Rydw i, fel Jane Hutt, yn siomedig nad yw argymhellion 10 ac 11, yn ymwneud â chynyddu cynrychiolaeth gyfartal o ran y rhywiau, yn cael eu cyflwyno ar hyn o bryd. Rydw i'n deall y cefndir, wrth gwrs. Mae cwotâu a rhannu swyddi yn ffordd arbennig o roi mwy o lais i ferched, ac rydw i'n falch iawn bod fy mhlaid i, Plaid Cymru, benwythnos diwethaf yma wedi cyflwyno rhestrau merched yn unig mewn etholaethau targed, a hynny i'w groesawu yn fawr iawn.

Yn olaf, rydw i eisiau troi at y cynnig i newid enw'r Cynulliad Cenedlaethol i adlewyrchu ei statws fel senedd genedlaethol. Rydw i'n nodi mai cynnig y Comisiwn ar hyn o bryd ydy 'Senedd Cymru/Welsh Parliament'. Safbwynt Plaid Cymru ydy y dylai fod yr enw 'Senedd' yn cael ei arddel ar gyfer y sefydliad hwn yn nwy iaith swyddogol Cymru, ac y dylai Aelodau gael eu galw yn 'Aelodau o'r Senedd' neu 'Aelod o Senedd Cymru' yn y Gymraeg, ac yn 'Member of the Senedd' neu 'Member of Senedd Cymru' yn Saesneg. Rydw i yn gobeithio y cawn ni edrych eto ar y mater yma yn ystod y broses graffu.

A gaf i jest gyfeirio yn sydyn at y rhesymeg dros y safbwynt yma ynghylch yr enw? Prif nod newid enw'r Cynulliad ydy gwella dealltwriaeth y cyhoedd o'i swyddogaeth. Ar hyn o bryd, mae nifer fawr iawn o bobl yn galw'r sefydliad—y sefydliad, nid yr adeilad yn unig—yn 'Senedd'. Mae wedi dod yn ddefnydd cyffredin erbyn hyn. Serch hynny, mae yna nifer yn dal i ddefnyddio termau fel 'Welsh Assembly', 'Welsh Assembly Government' neu 'Welsh Government' i gyfeirio at y Cynulliad, oherwydd diffyg dealltwriaeth. Nid oes yna ddim defnydd ar hyn o bryd o 'Welsh Parliament' yn gyffredinol, ac felly mi fyddai newid enw'r sefydliad i hynny yn golygu newid arferion y cyhoedd ac ychwanegu term arall i'r gymysgedd sydd yn bodoli ar hyn o bryd. Ni fyddai'r enw uniaith 'Senedd' yn gwneud hyn, gan ei fod yn barod yn cael ei ddefnyddio gan nifer.

Yn ystod yr ymgynghoriad, fe gafodd 'Aelod Senedd Cymru/Member of Welsh Parliament' ei ffafrio gan 30 y cant o ymatebwyr, dim ond 1.6 y cant yn fwy na'r ganran a oedd yn ffafrio 'Aelod o’r Senedd/Member of the Senedd', sef 28.4 y cant. Os ychwanegir y ganran a oedd yn ffafrio'r teitl trydydd mwyaf poblogaidd, sef 'Aelod o Senedd Cymru/Member of Senedd Cymru', sef 13.5 y cant, mae yna ffafriaeth glir dros deitl i'r Aelodau sy'n cynnwys enw uniaith Gymraeg i'r sefydliad, sef 41.9 y cant.

Mae yna nifer o sefydliadau cenedlaethol eraill, megis Chwarae Teg, Mudiad Meithrin, ac, yn wir, teitl swyddogaeth y Llywydd ei hun, sydd yr un fath yn y ddwy iaith ac nid oes yna ddim anhawster. Byddwn i'n gofyn hefyd, yn y cyswllt hwn felly, i'r Comisiwn gyhoeddi unrhyw asesiad effaith ieithyddol sydd wedi'i wneud ar y penderfyniad polisi i argymell yr enw 'Senedd Cymru/Welsh Parliament' fel enw'r sefydliad hyd yma ac yn gofyn i sylw gael ei roi ar sail dystiolaethol wrth symud ymlaen.

Ac, yn olaf, mi fyddai'n braf gweld enw'n prif gorff cenedlaethol ni yn adlewyrchu natur ein huchelgais ar gyfer Cymru wirioneddol ddwyieithog lle mae'r Gymraeg yn eiddo i'w holl ddinasyddion.

16:20

Hoffwn siarad yn fyr i groesawu'r Bil sy'n cael ei gyflwyno. Mae wedi bod yn saith mlynedd bellach ers i fwyafrif llethol ohonom gytuno mewn refferendwm y dylai'r lle hwn gael pwerau Senedd, ac nid yw hi ond yn iawn ein bod yn newid yr enw i adlewyrchu'r realiti hwnnw.

Rwy'n falch hefyd fod adroddiad McAllister yn cael ei ddatgysylltu, fel y gallwn ganolbwyntio ar yr elfennau y gall pawb ohonom gytuno arnynt gan barhau i weithio ar ddatblygu consensws ar yr elfennau eraill. Ac rwy'n gobeithio'n fawr y gallwn symud ymlaen cyn hir i ddatblygu rhannau eraill o'r adroddiad hwnnw yn ogystal.

Rwy'n credu ei bod hi'n rhagorol ein bod yn cyflwyno pleidleisiau i rai dros 16 mlwydd oed, a bydd llawer ohonom wedi cael sgwrs gyda phleidleiswyr tro cyntaf sy'n dweud wrthym yn aml eu bod yn amharod i bleidleisio y tro cyntaf oherwydd nad ydynt bob amser yn teimlo'n barod i allu gwneud penderfyniad gwybodus—nid ydynt bob amser yn teimlo eu bod yn gwybod digon—ac rwy'n credu ei bod hi'n hanfodol cael ymgyrch addysg wleidyddol drylwyr i fynd rhagddi ochr yn ochr â'r newid hwn yn y gyfraith, ac roeddwn yn falch o glywed y Llywydd yn dweud mai dyna fydd yn digwydd. Ond wrth gwrs, mae angen iddo fynd ymhellach na'r hyn y gall Comisiwn ei ddarparu'n unig; mae angen i hyn gael ei groesawu gan ysgolion a cholegau a sefydliadau ar draws Cymru, a theuluoedd hefyd.

Ar fater enw'r Cynulliad, nodais y bydd yr hyn a ddywedodd y Llywydd am hyn yn cael ei drafod yn fanwl yn ystod y camau nesaf, ac wrth gwrs, mae hynny'n gywir. Ond rwy'n cytuno gyda Siân Gwenllian mai'r enw Cymraeg syml 'Senedd' fyddai orau. Fe ymgyrchais gyda llawer o rai eraill yn 1997, ac yn y blynyddoedd cyn hynny, dros greu'r lle hwn. Nid oeddwn am ail-greu 'Parliament' yng Nghymru. Roeddwn am greu rhywbeth gwahanol: diwylliant gwahanol, ffordd wahanol o wneud pethau, synnwyr o ddiben gwahanol. A chredaf fod temtasiwn i lynu at yr hen dermau Ffrengig hyn i roi rhyw syniad o awdurdod i ni. Ac mewn gwirionedd, nid dyna'r hyn y dylem fod yn ceisio ei wneud; dylem fod yn ceisio gwneud rhywbeth gwahanol.

A chredaf fod defnyddio'r term Cymraeg 'Senedd', a ddefnyddiaf eisoes i ddisgrifio'r sefydliad hwn—yn amlwg, enw'r adeilad yn unig ydyw, ond cyfeiriaf at fy ngwaith yn y Senedd bob amser, ac yn sicr, mae pobl Llanelli y siaradais â hwy'n glir iawn ynglŷn â'r hyn y mae'n ei olygu. A chredaf y byddai honno'n ffordd fwy priodol o lawer o symud ymlaen—yn arwydd o'r hyn rydym am ei gyflawni yma ac arwydd o le iaith yn ein bywyd cenedlaethol. A gobeithio ei fod yn gyfle inni fyfyrio ar hynny wrth inni fwrw ymlaen.

Mae'n wrthddywediad braidd i ddweud ein bod eisiau pwerau i benderfynu pethau drosom ein hunain a dweud wedyn ein bod yn mynd i ddirprwyo'r penderfyniad hwn allan i ganlyniad ymgynghoriad cyhoeddus, a oedd yn bell o fod yn glir fel y dywedodd Siân Gwenllian. Felly, rwy'n gobeithio y rhoddir ystyriaeth bellach i hynny wrth inni fwrw ymlaen.

Fe ildiaf.

Diolch. Fy mhryder—. Rwy'n cytuno â Siân Gwenllian fod pobl yn aml—. Mae fy etholwyr yn drysu rhwng yr ymadroddion gwahanol—Llywodraeth Cynulliad Cymru, Llywodraeth Cymru—a dyma'r broblem. Felly, i mi, hoffwn yn fawr weld y lle hwn yn cael ei alw'n 'Welsh Parliament' yn Saesneg a 'Senedd Cymru' yn Gymraeg, oherwydd rwy'n credu mai'r broblem fyddai—i siaradwyr di-Gymraeg byddai'n fwy dryslyd eto o bosibl. Rwy'n derbyn eich pwynt o ran ceisio creu rhywbeth gwahanol, ond rwy'n credu y byddai'n ei gwneud hi'n haws o lawer cael 'UK Parliament, Welsh Parliament; UK Government, Welsh Government' yn Saesneg.

16:25

Wel, nid oes dim o'i le ar bobl yn egluro'n anffurfiol i'r di-Gymraeg mai ein henw ar ein 'Welsh Parliament' yw 'Senedd', ond credaf mai Senedd ddylai'r enw swyddogol fod. O ran dealltwriaeth y cyhoedd yn gyffredinol, nid ydym eto wedi cyrraedd 20 mlynedd o fodolaeth y lle hwn; credaf y bydd dealltwriaeth yn datblygu wrth i amser fynd yn ei flaen.

Fel y dywedaf, mae rhesymau eraill dros ddewis y term 'Senedd', nid yn lleiaf y pwynt olaf yr wyf am droi ato, sef beth a ddefnyddiwn i gyfeirio atom ein hunain. Drwy greu'r broblem i ni ein hunain o'i galw'n 'Welsh Parliament', wynebwn yr acronym chwerthinllyd ar gyfer 'Member of Welsh Parliament'— MWP. Nawr, rwy'n credu ein bod yn gwneud ein hunain yn destun gwawd drwy ddisgrifio ein hunain fel 'MWP'. Mae fy meddwl plentynnaidd yn meddwl am yr hyn y mae'n odli ag ef ar unwaith—'twp' a 'pwp'. Efallai fod hyn yn adlewyrchu beth y mae rhai o'n hetholwyr yn ei feddwl ohonom, ond ni chredaf y dylem roi unrhyw anogaeth iddynt. Credaf ei bod yn set braidd yn hurt o lythrennau, a phe na baem yn galw ein hunain 'Welsh Parliament' yn Saesneg, ni fyddwn yn creu'r broblem yn y lle cyntaf.

Credaf fod 'Aelod Seneddol' yn gwbl syml. Gallai fod yn broblem i ddarlledwyr Cymraeg wahaniaethu rhwng Aelodau Seneddol, neu ASau, a ninnau. Ond a dweud y gwir, nid yw y tu hwnt i ddyfeisgarwch dyn i feddwl am ateb i hynny—[Torri ar draws.] Neu fenyw, yn wir; roeddwn yn ei ddefnyddio yn ei ystyr gwreiddiol. Ond a dweud y gwir, eu problem hwy yw hynny, nid ein problem ni. Ond credaf mai cyfleu'r neges ein bod yn Aelodau o'n 'Senedd' yw'r un iawn i'w rhoi. Diolch.

Diolch, Llywydd, am gyflwyno'r ddadl heddiw.

Rydym ni yn UKIP yn nodi'r newidiadau arfaethedig yn adroddiad y Comisiwn ac yn eich datganiad diweddar. Os gallaf fynd drwy rai o'r cynigion yn unigol, gan fod gan Gynulliad Cymru bwerau codi treth bellach, nid oes gennym wrthwynebiad i'r enw newid i 'Welsh Parliament'. O ran awgrym Plaid Cymru ynglŷn â 'Senedd', mae 'Senedd' yn ymadrodd ardderchog wrth gwrs cyn belled ag yr aiff ar gyfer y fersiwn Gymraeg o'r hyn a fydd yn 'Welsh Parliament', ond rwy'n tueddu i gytuno â'r hyn a ddywedodd Russ George, nad oes digon o ymwybyddiaeth gyhoeddus o'r ymadrodd iddo fod yr unig ddisgrifiad. Felly, buaswn yn tueddu i fynd am—

Diolch. A ydych chi'n gwybod beth yw'r Dáil? A ydych chi'n gwybod beth yw Taoiseach?

Ydw, mewn gwirionedd, Llyr, ond os gofynnwch i nifer o aelodau o'r cyhoedd yn gyffredinol nid wyf yn credu y byddent yn gwybod beth yw Dáil neu Taoiseach. [Torri ar draws.] O, yn Iwerddon, ie; iawn, rhaid inni ei wneud yn berthnasol i Iwerddon. Wel, mae hwnnw'n bwynt diddorol. Gadewch i mi feddwl am hynny. Rydych wedi codi pwynt da.

Rydym yn cytuno â'r newidiadau arfaethedig sy'n ymwneud ag anghymhwyso. Roedd gennym broblem o fewn UKIP yn ddiweddar ynglŷn â sefyllfa Nathan Gill, a oedd yn cyfuno bod yn Aelod o'r Cynulliad â bod yn Aelod o Senedd Ewrop. Nid oedd yn gyfuniad hapus iawn o rolau. Fel y bydd yr Aelodau'n cofio, roedd Nathan yn enwog yng Nghaerdydd i raddau helaeth oherwydd ei absenoldeb, er fy mod yn siŵr ei fod wedi bod yn ddiwyd iawn o ran ei bresenoldeb yn Strasbourg. Credaf fod yr achos hwnnw'n dangos—[Torri ar draws.] Credaf fod yr achos hwnnw'n dangos y peryglon o ganiatáu i wleidyddion 'ddyblu swyddi' fel y mae'r arfer yn cael ei alw bellach.

Nawr, gwn fod gennym ddau Aelod yma yn y Cynulliad sydd hefyd yn Aelodau o Dŷ'r Arglwyddi. Nid wyf yn awgrymu mewn unrhyw ffordd eu bod wedi gwneud unrhyw beth o'i le. Mae eu hachosion hwy yn dra gwahanol. Gwn fod Dafydd Elis-Thomas ac Eluned Morgan wedi gwneud pethau defnyddiol yn Nhŷ'r Arglwyddi ar ôl iddynt gael eu hethol yma. Felly, fe allwch wneud cyfraniadau defnyddiol mewn dwy ddeddfwrfa wahanol mewn rhai achosion. Ond ar y cyfan, credaf y bydd y cyhoedd yn gyffredinol yn ystyried yr arfer braidd yn amheus a chredaf ei bod yn well fod y drws wedi'i gau ar yr arfer hwn, er gwaethaf y cyfraniadau unigol y mae rhai Aelodau wedi'u gwneud mewn dwy Siambr wahanol.

Felly, rydym yn cytuno gyda'r elfen hon o gynigion y Llywydd, na ddylai Aelodau o Dŷ'r Arglwyddi fod yn gymwys i gael lle yn y Cynulliad oni bai eu bod wedi arwyddo caniatâd i fod yn absennol o Dŷ'r Arglwyddi. Rydym hefyd yn cytuno â'r deunydd sy'n ymwneud ag Uchel Siryfion ac Arglwydd Raglawiaid a'r cyfnod o 14 diwrnod—gellir ei alw'n gyfnod ailfeddwl—ar ôl diwrnod yr etholiad Cynulliad.

Yr unig bwynt yr anghytunwn ag ef yw eich dymuniad i ymestyn yr etholfraint i gynnwys rhai 16 a 17 mlwydd oed. Teimlwn fod hwn yn oedran ifanc i ofyn i bobl wneud penderfyniadau gwleidyddol. Ceir digon o bethau i rai 16 a 17 mlwydd oed feddwl amdanynt fel y mae heb ychwanegu anhawster teyrngarwch gwleidyddol. Nid oes fawr o gefnogaeth gyhoeddus i gynyddu'r etholfraint cyn belled ag y mae arolygon barn wedi dangos, er bod ymgynghoriad y Cynulliad, fel arfer, wedi darparu ffigur gwahanol. Felly, nid ydym yn teimlo bod yr awydd hwn i roi'r bleidlais i bobl 16 ac 17 oed yn syniad gwych, ac nid ydym yn cytuno â'r rhan hon o'r cynigion, ond fel y dywedaf, rydym yn cefnogi'r gweddill. Diolch yn fawr.

16:30

Diolch, Lywydd. Rwy'n sefyll heddiw, fel yr wythnos diwethaf, i fynegi fy rwystredigaeth a fy siom. Unwaith eto, teimlaf yr angen i bwysleisio y gellid treulio ein hamser—amser pobl Cymru yn wir—yn well o lawer. Nid oes gennyf amheuaeth y bydd y teimladau hyn yn cael eu hadleisio ar draws fy rhanbarth.

Gadewch inni wynebu'r gwirionedd am eiliad. Mae'r gaeaf ar ddod. Bydd rhai pobl yng Nghymru yn wynebu gaeaf caled yn byw ar y strydoedd, mae staff y GIG yn ystyried yr anhrefn a ddaw yn anochel gyda'r gaeaf, bydd yr henoed a'r tlawd yn dewis rhwng gwresogi a bwyta, ac wrth i'r Deyrnas Unedig ddod yn nes ac yn nes at adael yr Undeb Ewropeaidd, mae gennym bwerau ychwanegol a allai fod yn weddnewidiol ar fin cyrraedd y Cynulliad hwn.

Ni fydd newid enw'r sefydliad hwn, neu newid ein teitlau, yn ateb i'r pethau hynny. Ni fydd newid ein teitl o 'Aelod Cynulliad' i 'Aelod Seneddol', neu hyd yn oed 'Seneddwr', yn helpu unrhyw etholwr. Dylem dreulio ein hamser yn well yn gwella bywydau ein hetholwyr, nid ein curricula vitae.

Na wnaf. Mae'r modd y gall Aelodau gyfiawnhau paratoi'r ffordd i gynyddu nifer Aelodau'r sefydliad hwn heddiw, a dadlau ar yr un pryd yn erbyn lleihau nifer yr Aelodau Seneddol, yn dangos sut y mae'r diwylliant swyddi i'r hogiau yn fyw ac yn iach mewn gwleidyddiaeth heddiw.

Mae'r trethdalwr yng Nghymru eisoes yn talu am ormod o wleidyddion. Yr Alban—[Torri ar draws.] Mae gan yr Alban oddeutu dwbl poblogaeth Cymru, ond mae ganddynt lai o gynghorwyr. Roeddwn yn eistedd yn y Siambr hon pan siaradodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus am yr angen i ddiwygio llywodraeth leol, ond mae'n camu'n ôl yn awr am na all wneud penderfyniadau anodd.

Rwyf hefyd yn pryderu'n fawr ynglŷn â gostwng yr oedran pleidleisio. Derbynnir 18 oed yn y Deyrnas Unedig fel oedran dod yn oedolyn. Nid ydym yn caniatáu i rai 16 oed yfed, gyrru, gamblo na gwylio ffilmiau dan gyfyngiadau—maent yn mynd i sefydliadau troseddwyr ifanc a hyd yn oed i wardiau plant mewn ysbytai. O ran y fyddin—fel y dywedoch chi'n gynharach—ni chânt ymuno â'r fyddin heb gydsyniad rhiant os ydynt o dan 18 oed, oherwydd bu'n rhaid i mi lofnodi dros fy mab.

Credaf y dylem adael yr oedran pleidleisio yn 18 oed. Mae'n ddefod newid byd—rhywbeth i edrych ymlaen ato ac i fod yn falch ohono. Am y rhesymau hyn, byddaf yn pleidleisio yn erbyn y cynnig hwn heddiw. Diolch.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle i gyfrannu at y ddadl hon ac i ddatgan cefnogaeth Llywodraeth Cymru i'r cynnig i gyflwyno'r Bil hwn. Mae Deddf Cymru 2017 wedi dod â phwerau newydd yn y maes hwn, ac mae'n iawn iddyn nhw gael eu defnyddio i wneud ein deddfwrfa yn fwy effeithiol, hygyrch ac amrywiol o ran cynrychiolaeth.

Mae'r diwygiadau a gynigir ar gyfer eu cynnwys yn y Bil hwn yn bwysig er mwyn sicrhau bod rôl y Cynulliad, ei brosesau a'i drefniadau etholiadol yn glir. Yn fwyaf arbennig, rwy'n croesawu'r argymhelliad i ymestyn yr etholfraint ar gyfer pleidleisio yn etholiadau'r Cynulliad i rai 16 a 17 mlwydd oed. Yn wahanol i Gareth Bennett, credaf fod rhai 16 i 17 mlwydd oed yn berffaith abl i arfer y lefel honno o ymgysylltiad democrataidd.

Cymeradwyaf nod y Comisiwn i rymuso, ymgysylltu ac ennyn diddordeb pobl ifanc mewn cymryd rhan yn y prosesau democrataidd yng Nghymru. Ers amser maith, bu'r Llywodraeth hon o blaid ymwneud pobl ifanc yn y broses ddemocrataidd, sy'n hanfodol i sicrhau democratiaeth iach. O fewn ein Bil llywodraeth leol ac etholiadau ein hunain sydd ar y gweill, byddwn yn cynnwys darpariaethau i ganiatáu hawl i rai 16 a 17 mlwydd oed bleidleisio mewn etholiadau lleol.

Gall rhai 16 mlwydd oed gymryd rhan yn gyfreithiol mewn llu o weithgareddau, felly mae'n iawn ac mae'n gyfiawn ein bod yn caniatáu llais iddynt hefyd i siarad a phleidleisio ar faterion sy'n effeithio arnynt hwy, fel y maent yn effeithio ar bawb arall.

A wnewch chi gymryd ymyriad? Rwy'n chwilfrydig—un o'r pethau a gododd wrth benderfynu ar y Bil hwn oedd a fyddai rhai 16 a 17 mlwydd oed yn hoffi rhywfaint o addysg drwy'r system ysgolion ar y system wleidyddol ac yn y blaen, yn hytrach na gwleidyddiaeth plaid. A oes gennych farn ynglŷn ag a fyddai'n well ymdrin â hynny mewn Bil fel hwn, neu ym Mil llywodraeth leol y Llywodraeth ei hun?

16:35

Nid oes gennyf farn ar hynny. Rwy'n meddwl ei bod hi'n amlwg yn bwysig inni wneud yn siŵr fod gennym etholwyr gwybodus o bob oed, a chredaf y dylem fanteisio ar bob cyfle a gawn i wneud yn siŵr mai felly y mae.

Mae'r ymatebion i'r ymgynghoriad a gynhaliodd y Comisiwn yn awgrymu fod pobl ifanc yn fwy tebygol o barhau i gymryd rhan wrth iddynt dyfu'n hŷn os ydym yn eu hannog i ymwneud â gwleidyddiaeth yn ifanc. Dylai hyn sicrhau lefelau cryf o gyfranogiad y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd ar gyfer y dyfodol, a pha well ffordd o ymgysylltu â phobl ifanc na chaniatáu iddynt gymryd rhan a phleidleisio yn yr etholiadau sy'n effeithio'n uniongyrchol ar eu bywydau? Mae Llywodraeth Cymru'n credu nad i bobl ifanc yn unig y dylid caniatáu llais; dylai'r hawl i bleidleisio fod yn berthnasol i bawb sydd â buddiant yn ein cymdeithas. Bydd ein Bil llywodraeth leol ac etholiadau sydd i ddod yn rhoi pleidlais hefyd i wladolion tramor sy'n preswylio'n gyfreithlon yng Nghymru mewn etholiadau llywodraeth leol. Cred y Llywodraeth fod yn rhaid cymhwyso'r egwyddor hon yn gyson ar draws etholfreintiau etholiadol Cymru, a hoffai'r Llywodraeth ymchwilio i'r materion hyn, wrth i'r Bil fynd rhagddo, gyda Chomisiwn y Cynulliad.

Hefyd, rwy'n croesawu'r cynnig i ddiwygio'r darpariaethau presennol yn Neddf 2006 sy'n ymwneud ag anghymhwyso. Fel y cydnabyddir yn eang bellach, rwy'n credu, mae'r darpariaethau hynny'n cyfuno dau gwestiwn hollol neilltuol: ar y naill law, pwy, os unrhyw un, y dylid eu hatal rhag sefyll etholiad oherwydd y swyddi sydd ganddynt, ac ar y llaw arall, pa swyddi y dylai ymgeisydd llwyddiannus ymddiswyddo ohonynt cyn gallu ymgymryd â'u haelodaeth o'r Cynulliad. Mae arnom angen eglurder ar hyn, a gobeithio y bydd cynigion y Bil yn helpu i ddarparu'r eglurder hwnnw.

Rwy'n falch o fynegi cefnogaeth Llywodraeth Cymru i gyflwyno'r Bil arfaethedig hwn. Edrychaf ymlaen at ei gyflwyno ac rwy'n croesawu'r cyfleoedd a ddaw yn ei sgil i ddadlau ac ystyried ymhellach, er mwyn sicrhau bod ein deddfwrfa'n parhau i wasanaethu pobl Cymru'n effeithiol mewn tirwedd gyfansoddiadol sy'n newid.  

A gaf fi ddiolch i'r Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl y prynhawn yma? Fel y dywedodd Suzy Davies wrth iddi ddechrau ei ymateb, rydym wedi dod yn bell, cryn bellter o'r Cynulliad Cenedlaethol a etholwyd gyntaf yn 1999. Rydym yn Senedd go iawn—eich geiriau chi—rydym yn Senedd go iawn yn awr, a dylem alw ein hunain yn hynny ym mha iaith bynnag, a dof at y pwynt hwnnw yn nes ymlaen.

Ymddengys bod mwyafrif o gefnogaeth yn y Siambr hon i ganiatáu i bobl ifanc—rhai 16, 17 oed—i gael pleidlais ar gyfer y Cynulliad Cenedlaethol, neu Senedd Cymru. Disgrifiodd Siân y peth yn hyfryd—mae pobl ifanc yn benseiri ar eu dyfodol; mae angen iddynt gael llais ym mhensaernïaeth eu dyfodol. Nid yw'n rhywbeth y mae pawb yma yn cytuno yn ei gylch, ac roedd hynny'n wir, gyda llaw, yn yr ymatebion a gawsom i'r ymgynghoriad hefyd, lle roedd mwyafrif o blaid gweld rhai 16 a 17 oed yn pleidleisio, er nad oedd pawb yn cefnogi hynny.

Ar rannu swyddi, y pwyntiau a wnaeth Jane Hutt a Siân Gwenllian, rwy'n deall y siom ynglŷn â'r ffaith nad yw argymhelliad y panel arbenigol ar rannu swyddi'n mynd i gael ei gyflwyno yn y ddeddfwriaeth hon, a chawsom drafodaeth am hyn yn y Comisiwn. Nid ydym yn argyhoeddedig ar hyn o bryd fod uwch-fwyafrif yn y Siambr hon o blaid cyflwyno hynny fel rhan o'r ddeddfwriaeth, ond yn fwy sylfaenol mae'n debyg, ceir problem gyda chymhwysedd lle mae'n ymwneud â hawl Aelod Cynulliad i ddod yn Weinidog neu'n Ysgrifennydd Cabinet. Ac nid wyf am fod mewn sefyllfa lle'r etholir Aelodau i'r Cynulliad Cenedlaethol hwn sy'n cael bod yn Aelodau Cynulliad, ond heb fod ganddynt hawl i ddod yn Ysgrifenyddion Cabinet. I bob pwrpas, byddai gennym ddwy haen o Aelodau ar y pwynt hwnnw. Felly, dyna fater sy'n galw am ei ddatrys cyn i ni ymgymryd ag unrhyw ddeddfwriaeth ar y mater hwn. Daw ei amser—nid oes amheuaeth ynglŷn â hynny—ond nid yw wedi dod eto.

Nawr, mynegwyd y safbwyntiau gwahanol ynglŷn â beth i alw'n hunain. Ni chredaf y dylem ymroi'n ormodol i ystyried beth i'w roi'n enw arnom ein hunain neu beth i'w roi'n enw ar y Senedd hon. Rydym yn mynd i fod yn Senedd, yn 'Parliament'. Mae'n amlwg fod gwahaniaeth barn wedi'i fynegi yma heddiw ynglŷn ag a ddylem ddefnyddio'r enw Cymraeg yn unig, Senedd, i gyfeirio at y lle hwn yn hytrach na Senedd Cymru/Welsh Parliament. Gadewch imi eich atgoffa chi i gyd fod angen i 40 o'r 60 ohonoch gytuno i'r newid enw hwn fel rhan o'r ddeddfwriaeth wrth iddi weithio ei ffordd drwy'r Cynulliad Cenedlaethol a chyrraedd Cyfnod 4. Y rhai ohonoch sy'n cefnogi 'Senedd' a'i ddefnydd yn y Gymraeg yn unig—edrychwch i weld a oes 40 ohonoch a fyddai'n cefnogi hynny, a dyna'r ffordd i wneud y newid hwnnw.

Fel y dywedodd Lee Waters, bydd yr hyn y byddwn yn galw ein hunain fel Aelodau Cynulliad, o'r Cynulliad Cenedlaethol ar hyn o bryd, yn deillio o'r hyn y byddwn yn ei alw'n Senedd, yn 'Welsh Parliament', a bydd meddyliau plentynnaidd—fel y galwoch chi eich hun, rwy'n credu, Lee—yn chwarae ar rai fersiynau o'r hyn y galwn ein hunain. Ond unwaith eto, buaswn yn gofyn ichi—mae angen inni gytuno ar hyn; mae angen inni gael 40 o'r 60 ohono, ohonom—mae gennyf bleidlais ar hyn, gyda llaw, yn yr achos penodol hwn, fel sydd gan Ann Jones, felly mae angen i 40 o'r 60 ohonom gytuno ar hyn, ac ni ddylem bendroni a threulio gormod o amser ar y peth. Mae rhai wedi dweud bod angen inni dreulio mwy o amser ar beth y mae'r Senedd yn ei wneud mewn gwirionedd, ac rwy'n cytuno â hynny, ond rydym yn Senedd, rydym yn galw ein hunain yn hynny ac rydym yn gweithio ar ran pobl Cymru, ac er mwyn inni wneud hynny, a gadewch i ni ddechrau heddiw, gobeithio, ar y broses o ddeddfu ar y materion hyn. Bydd craffu'n dilyn a gellir archwilio'r holl fanylion ar y pwynt hwnnw, ond rwy'n gobeithio y caniatewch i'r Comisiwn gyflwyno'r Bil hwn ar gyfer ei graffu gan y Cynulliad Cenedlaethol hwn. Diolch.

16:40

Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Iawn, fe ohiriwn y pleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

10. Dadl ar NDM6813—Gwaredu deunyddiau a garthwyd o Fôr Hafren

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Julie James, a gwelliant 2 yn enw Neil McEvoy. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

Symudwn ymlaen at eitem 10, sef dadl ar gynnig â dyddiad trafod 6813, gwaredu deunyddiau a garthwyd o Fôr Hafren, a galwaf ar Rhun ap Iorwerth i wneud y cynnig—Rhun.

Cynnig NDM6813 Rhun ap Iorwerth, Darren Millar

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi pryderon eang ymhlith y cyhoedd mewn perthynas â gwaredu deunyddiau a garthwyd o Fôr Hafren i leoliadau oddi ar arfordir de Cymru, sy'n gysylltiedig ag adeiladu gorsaf bŵer newydd yn Hinkley.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) cyhoeddi tystiolaeth fwy manwl mewn ymateb i bryderon ynglŷn â risgiau i iechyd y cyhoedd a'r amgylchedd, gan gynnwys caniatáu ar gyfer cynnal profion pellach er mwyn darparu mwy o dryloywder; a

b) cyfarwyddo Cyfoeth Naturiol Cymru i atal y drwydded forol sy'n galluogi gweithgarwch gwaredu ac ymgymryd â rhaglen eang o ymgysylltu ac ymgynghori â chymunedau lleol a rhanddeiliaid ar draws de Cymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae hwn yn gynnig eithaf syml heddiw, rwy'n meddwl, gyda phwrpas eithaf clir. Mae'n ymwneud â dweud wrth Lywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru, 'Rhowch y gorau iddi. Rhowch y gorau i'r carthu sydd ar y gweill mewn perthynas ag adeiladu gorsaf bŵer newydd yn Hinkley, rhowch y gorau i ollwng deunydd a garthwyd ar safle Cardiff Grounds, a rhowch y gorau i anwybyddu pryderon a godwyd gan nifer cynyddol o ddinasyddion, ac aelodau etholedig yn wir ar bob lefel ynglŷn â'r hyn sy'n digwydd.'

Rwy'n siarad fel aelod o Bwyllgor Deisebau'r Cynulliad, gan mai i'r pwyllgor hwnnw y cyflwynwyd deiseb ar 7 Tachwedd y llynedd, deiseb, a dyfynnaf, i

'Atal Trwydded Forol 12/45/ML i ollwng gwaddodion morol ymbelydrol o safle niwclear Hinkley Point yn nyfroedd glannau Cymru ger Caerdydd'.

Nawr, mae'n werth nodi'r iaith a ddefnyddir yn y ddeiseb honno, ac wrth wneud hynny, atgoffa ein hunain y dylem geisio bod yn wrthrychol yma, fel y mae angen i'r Llywodraeth fod yn sensitif i safbwyntiau pobl eraill. Er bod y deisebwyr yn cyfeirio at 'waddodion morol ymbelydrol', yn ganolog i ochr arall y ddadl, wrth gwrs, mae'r honiad nad oes unrhyw dystiolaeth fod unrhyw ddeunydd a allai fod yn beryglus yn y gwaddod. Felly, dyna'r cyd-destun.

Cynhaliwyd ymchwiliad byr gennym fel pwyllgor a chlywyd rhai o bryderon yr ymgyrchwyr fod deunydd a gâi ei garthu yn dod o ymyl pibellau gollyngiadau o Hinkley, fod data'n dangos y gallai gwaddodion a garthir ddal ymbelydredd cyfanredol sylweddol, mai dim ond tri niwclid penodol yr ymchwiliwyd iddynt yn y dadansoddiad yn hytrach na chynnwys llawer o rai eraill a allai fod yn bresennol. Roedd pryder nad oedd profion ar waddodion wedi'u cynnal ar ddyfnder digonol. Lleisiwyd pryderon ynglŷn â chanlyniadau symud y gwaddod ar fywyd morol ac roedd pryderon ynglŷn â'r posibilrwydd o drosglwyddo ymbelydredd o'r môr i'r tir, ac ati.

Rydym wedi gwrando'n ofalus fel pwyllgor ac wedi gwrando ar ochr arall y ddadl hefyd. Rhoddodd gwyddonwyr dystiolaeth gan Cefas, sef Canolfan Gwyddorau'r Amgylchedd, Pysgodfeydd a Dyframaethu, a oedd yn gyfrifol am y profion. Clywsom gan Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd, ac rydym wedi clywed tystiolaeth gan ddatblygwr yr orsaf bŵer, sef EDF. Mae pob un yn honni bod y wyddoniaeth yn gadarn, nad oes unrhyw dystiolaeth o unrhyw berygl i'r cyhoedd, ac rydym yn sôn am lefelau isel iawn o ymbelydredd naturiol ac ymbelydredd wedi'i greu, fod lefelau ymbelydredd a ganfuwyd yn y gwaddod yn 2009, 2013, 2017 mor isel fel eu bod yn cyfateb i'r hyn nad yw'n ymbelydrol yn llygad y gyfraith, a bod pob gweithdrefn a dderbynnir yn rhyngwladol wedi'i dilyn cyn cyhoeddi'r drwydded garthu.

Felly, beth a wnawn yma heddiw? Wel, cynhaliwyd y profion hyn, dilynwyd y weithdrefn hon heb fod y mwyafrif llethol o bobl yn gwybod am y peth. Pan leisiwyd pryderon—ac fel rwy'n dweud, y tro cyntaf i mi glywed amdano oedd pan gyflwynwyd deiseb i'r Pwyllgor Deisebau, dyna pryd y dechreuais gymryd rhan am y tro cyntaf—yn ddealladwy, roedd llawer iawn o ddiddordeb ymhlith y cyhoedd. Felly, beth y gellid ac y dylid bod wedi ei wneud ar y pwynt hwnnw?

Gadewch imi fynd â chi i gyfarfod ymchwiliad y Pwyllgor Deisebau gyda Cefas a Cyfoeth Naturiol Cymru yn ôl ar 9 Ionawr eleni. Dyma drafodaeth rhyngof fi a Dr Kins Leonard, eu pennaeth diogelwch radiolegol. Awgrymais y gallent, mewn ymgynghoriad â'r rhai a wrthwynebai roi'r drwydded, gymryd rhai samplau ychwanegol, gan nodi o ble roeddent yn eu cymryd a dweud yn dryloyw wedyn beth yw'r data o'r mannau newydd hynny. Atebodd Dr Leonard,

Wel, nid oes gennyf wrthwynebiad i'r awgrym hwnnw. Credaf ei fod yn awgrym da iawn. Buaswn yn ychwanegu y byddem yn dilyn yr un weithdrefn yn union er mwyn gwneud hynny.

Ond y byddech yn mynd yn ddyfnach, efallai, awgrymais—gan gyfeirio at y pryder penodol na chafodd y samplau eu cymryd ar ddyfnder digonol. Atebodd yntau, 

Wel, os yw hynny'n ofyniad i dawelu canfyddiad y cyhoedd, byddem yn hapus iawn i wneud hynny. Byddem yn dilyn y canllawiau a osodwyd gan yr Asiantaeth Ynni Atomig Rhyngwladol yn y ffordd y byddwn yn ei wneud ac y byddwn yn asesu'r dos. Gallem ei wneud yn fwy tryloyw o ran sut y gwneir yr asesiad hwnnw yn yr adroddiad, a byddem yn barod iawn i gymryd rhan yn hynny os yw'n helpu canfyddiad y cyhoedd.

Wedyn, fe drois at ein tystion eraill, Cyfoeth Naturiol Cymru, a gofyn,

A gaf fi ymateb Cyfoeth Naturiol Cymru ar hynny?

ac atebodd John Wheadon, eu rheolwr gwasanaeth trwyddedu,

Unwaith eto, buaswn yn cefnogi'r ymateb gan Cefas ac fe edrychwn ni ar hynny.

Nawr, rwy'n credu mai'r camau y dylid bod wedi'u rhoi ar waith ar y pwynt hwnnw fyddai cynnal y profion pellach a awgrymais, ar ddyfnder ac mewn ymgynghoriad â phartïon sydd â diddordeb er mwyn ymateb i bryderon y cyhoedd. Mae'r ffaith na ddigwyddodd hynny wedi ein harwain i ble'r ydym heddiw, gyda'r carthu'n digwydd allan yn y môr a dinasyddion pryderus yn gweld Llywodraeth nad yw wedi gwrando arnynt, er i opsiynau gael eu cynnig ar gyfer ceisio lliniaru'r pryderon.

Heddiw, maent yn gweld y Llywodraeth, drwy eu gwelliant, yn dileu'r rhan fwyaf o'r cynnig a gyflwynwyd, gan wrthod cymryd rhan unwaith eto mewn proses y gellid ac y dylid bod wedi'i chynnal fisoedd yn ôl i geisio mwy o dystiolaeth ac i leddfu pryderon. Byddwn yn pleidleisiwn yn erbyn y gwelliant hwnnw. Byddwn hefyd yn pleidleisio yn erbyn yr ail welliant yn ôl cyngor ymgyrchwyr amgylcheddol sy'n nodi bod yna broblem dechnegol ynghlwm wrtho. Mae'n galw ar Cyfoeth Naturiol Cymru i gynnal asesiad o'r effaith amgylcheddol, ond mae ymgyrchwyr yn dweud nad yw cynnal asesiad o'r effaith amgylcheddol yn rhan o waith na chymhwysedd Cyfoeth Naturiol Cymru.

Wrth gwrs, mae'r ymgyrchwyr am i'r asesiad hwnnw gael ei gynnal. Er bod Ysgrifennydd y Cabinet dros yr amgylchedd a materion gwledig yn dweud mewn datganiad ar 29 Medi 2017, ac unwaith eto, rwy'n dyfynnu,

'Dengys y cofnodion bod y ceisiadau i waredu deunydd yn nyfroedd Cymru wedi ystyried yr Asesiad o Effaith Amgylcheddol prosiect Hinkley Point C.'

mae'r ymgyrchwyr yn dweud bod y llysoedd bellach wedi profi y byddai angen asesiad o'r effaith amgylcheddol ar wahân, gan nad yw'r asesiad cyffredinol o'r effaith amgylcheddol yn cynnwys carthu. Heb asesiad penodol o'r effaith amgylcheddol, maent yn dadlau na allwch wneud penderfyniad ynglŷn ag a ddylid caniatáu neu wrthod cais am drwydded.

Lywydd, nid wyf wedi manylu heddiw ar yr egwyddor o sut y gellid dympio unrhyw beth mor hawdd ar dir Cymru neu yn nyfroedd Cymru, ni waeth beth yw'r deunydd hwnnw. Rwyf wedi codi hynny yn y gorffennol, ac efallai y bydd eraill yn gwneud sylwadau ar hynny yn ystod y ddadl. Ond yn anad dim heddiw, mae'r cynnig hwn yn ymwneud â gwrando ar bobl a chydnabod pryderon go iawn. Nid yw hynny wedi digwydd, a gobeithio fy mod wedi gallu tynnu sylw at sut y gallai Llywodraeth sensitif fod wedi ymateb. Mae'r cynnig hwn yn datgan y dylent wneud hynny yn awr drwy atal y drwydded. Mae'r neges yn glir, ac i'r holl Aelodau, gan gynnwys y rhai ar feinciau'r Blaid Lafur, ar feinciau'r Llywodraeth sydd wedi dweud eu bod yn cytuno ac yn cydymdeimlo â phryderon eu hetholwyr: pleidleisiwch dros y cynnig hwn heddiw.

16:45

Daeth y Llywydd (Elin Jones) i’r Gadair.

Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf ar Ysgifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig i gynnig gwelliant 1 yn ffurfiol.

16:50

Gwelliant 1—Julie James

Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:

2. Yn nodi:

a) o dan delerau’r Confensiwn ar Atal Llygredd Morol yn sgil Dympio Gwastraff a Deunyddiau Eraill (Confensiwn Llundain, 1972), y mae’r DU yn un o’r llofnodwyr, dim ond deunyddiau sydd â lefelau de minimis o ymbelydredd a all gael eu hystyried ar gyfer cael eu gwaredu ar y môr.

b) yr asesiad ymbelydrol generig ceidwadol, a ddatblygwyd gan yr Asiantaeth Ynni Atomig Rhyngwladol, yw’r dull rhyngwladol cymeradwy ar gyfer profi am lefelau de minimis o ymbelydredd a chafodd y dull hwn ei ddefnyddio wrth wneud penderfyniad ynghylch trwydded forol Hinkley. 

c) y dystiolaeth o fewn adroddiad Pwyllgor Deisebau’r Cynulliad Cenedlaethol a nododd fod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gwneud ei benderfyniad ynghylch trwydded forol ar sail cyngor arbenigol, a hynny’n unol â gweithdrefnau’r Asiantaeth Ynni Atomig Rhyngwladol ar gyfer asesiadau ymbelydrol.

d) y ffaith y daeth yr holl brofion ac asesiadau i’r casgliad fod y gwaddod i’w waredu o fewn y terfynau diogel, nad oes unrhyw berygl ymbelydrol i iechyd pobl nac i’r amgylchedd a’i fod yn ddeunydd diogel ac addas i’w waredu ar y môr.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi cyfarwyddyd i Cyfoeth Naturiol Cymru o safbwynt ymgysylltu rhagor â’r cyhoedd er mwyn egluro’r broses a’r dystiolaeth, gan dawelu ofnau’r cyhoedd.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Member
Lesley Griffiths 16:50:04
Cabinet Secretary for Energy, Planning and Rural Affairs

Yn ffurfiol.

Galwaf ar Neil McEvoy i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn ei enw. Neil McEvoy.

Gwelliant 2—Neil McEvoy

Ym mhwynt 2, ychwanegu is-bwyntiau newydd:

cymryd i ystyriaeth y wybodaeth a ddarparwyd gan yr Athro Emeritws Keith Barnham ynghylch damweiniau pwll oeri yn Hinkley Point A yn y 1960au;

cyfarwyddo Cyfoeth Naturiol Cymru i gynnal asesiad llawn o'r effaith amgylcheddol y caiff dympio gwaddod o Hinkley yn Cardiff Grounds ar arfordir Cymru, y boblogaeth arfordirol ac amgylchedd morol Cymru.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Diolch, Lywydd. Pe bai rhywun yn dweud wrthyf am lunio stori, nid wyf yn meddwl y gallwn lunio rhywbeth mor anhygoel â hyn. Mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Tsieina yn taro bargen gyda degau o biliynau o bunnoedd, ac fel rhan o'r fargen maent yn bwriadu dympio 320,000 o dunelli o fwd o'r tu allan i orsaf bŵer niwclear oddi ar arfordir Cymru heb gynnal profion priodol arno.

Ymgyrchodd llawer ohonom am flynyddoedd dros y sefydliad hwn, oherwydd ar adegau fel hyn, roeddem yn disgwyl i Lywodraeth Cymru sefyll drosom. Ond beth a wnaeth Llafur? A hoffech chi ddympio eich gwastraff arnom? Dim problem, iawn. Maent wedi ei groesawu. Gadewch i ni anghofio am funud am y pryderon iechyd posibl a'r diffyg asesiad o'r effaith amgylcheddol. Pam y byddech chi'n caniatáu i 320,000 o dunelli o wastraff gael ei ddadlwytho ar garreg eich drws gan eich cymydog? Pam y byddech chi'n gwneud hynny?

Ar 20 Mehefin eleni, ysgrifennodd yr Athro Emeritws Keith Barnham, Coleg Imperial Llundain, at y Llywodraeth i rybuddio ynglŷn â pheryglon posibl gyda'r mwd o'r tu allan i Hinkley Point. Mae Magnox Cyf wedi cyfaddef fod damweiniau pwll oeri wedi digwydd yn ystod y 1960au gyda phlwtoniwm o safon cynhyrchu arfau. Roedd hon yn wybodaeth newydd a dylai fod wedi gorfodi pobl i ailfeddwl ynglŷn â'r drwydded. O ran diogelwch, mae'r Llywodraeth wedi derbyn y lefel isaf sy'n bosibl. Mae'r holl ffisegwyr y siaradais â hwy'n dweud bod angen gwneud tri math o brawf er mwyn nodi pob math o blwtoniwm y gallech ddod o hyd iddo mewn mwd o'r fath: sbectrometreg alffa, sbectrometreg màs a sbectrometreg gama. Ffaith wyddonol yw hon, dyna i gyd—siaradwch â'r ffisegwyr—ac mae anwybyddu hyn yn brawf o ddiofalwch, yn anghyfrifol. Gyda phob parch, Ysgrifennydd y Cabinet, nid ydych yn gwybod beth rydych yn ei wneud.

Rydym wedi cael esgus ar ôl esgus na ellir gwneud dim, mai bai Cyfoeth Naturiol Cymru yw'r cyfan. Yng Nghymru, mae gennym yr unig Lywodraeth yn y byd sy'n methu â rheoli'r union asiantaethau y mae eu sefydlu, ac unwaith eto, drwy gamau cyfreithiol gan yr ymgyrchwyr, rydym wedi canfod nad Cyfoeth Naturiol Cymru oedd yn gyfrifol yn y pen draw, ond Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'r bwnglereiddiwch a'r haerllugrwydd yn syfrdanol, ac rwy'n dweud wrth bob Aelod Llafur yma heddiw: pleidleisiodd pobl drosoch a rhoi eu ffydd ynoch. Gwrandewch arnynt. Gwrandewch ar eich etholwyr, ac nid ar y chwip.

Sefydlwyd hefyd drwy gamau cyfreithiol nad oedd unrhyw asesiad o'r effaith amgylcheddol wedi'i gynnal ar gyfer dympio yn Cardiff Grounds a chanlyniadau hynny. Cafwyd dogfen 2,000 tudalen am yr effaith ar ochr Bryste, ond bron ddim am Gymru. A gadewch i ni dynnu sylw hefyd at y ffaith bod y Gweinidog ar y pryd a benderfynodd beidio â chael asesiad o'r effaith amgylcheddol yn gyn lobïwr ar ran y diwydiant niwclear. Syfrdanol—dim ond yng Nghymru. Dim ond yng Nghymru.

Felly, sut y gallwch ganiatáu i 320,000 o dunelli o fwd o'r tu allan i orsaf bŵer niwclear gael ei ddympio heb archwilio'r effeithiau ar yr amgylchedd lleol? Mae llygaid y byd ar Gaerdydd heddiw—mae hon yn ymgyrch ryngwladol—ac mae fy ngwelliant yn gofyn i chi gefnogi asesiad o'r effaith amgylcheddol. Pam y byddech yn pleidleisio yn erbyn hynny? Anghofiwch y manylion technegol; gadewch inni gael yr asesiad wedi'i wneud.

Rwy'n mynd i ddyfynnu'r Athro Keith Barnham, Coleg Imperial Llundain, cyn ffisegwyr gronynnol—arferem eu galw'n ffisegwyr niwclear. Ac mae'n dweud bod y profion a wnaethpwyd ar fwd Hinkley wedi'u gwneud gan ddefnyddio synwyryddion ymbelydredd gama. Nid yw niwclei plwtoniwm yn dirywio drwy allyrru pelydrau gamma, ond yn hytrach drwy allyrru gronynnau alffa, ac ni chynhaliwyd profion ar y mwd i'r perwyl hwnnw.

Mae gennych ddewis bellach—mae gan bawb ohonom ddewis. Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw hwn. Mae pobl yn pleidleisio drosom er mwyn inni edrych ar ôl Cymru, gwneud pethau er eu lles gorau a dwyn y Llywodraeth i gyfrif. Felly, a wnewch chi sefyll dros Gymru heddiw? Neu a fyddwch chi'n gadael i'r diwydiant niwclear ddympio'i faw dros ein gwlad?

Mae'n rhaid achub môr Hafren. Diolch.

16:55

Fe fyddaf yn gryno iawn. Nid wyf yn gwybod a yw'r mwd yn ddiogel. Cynhaliwyd profion arno, ac rydym wedi cael canlyniadau'r profion hynny. Yr hyn rwy'n ei wybod yw na thawelwyd meddyliau'r cyhoedd ei fod yn ddiogel.

Cynigiodd EDF friff i mi dair gwaith yr wythnos diwethaf. Bob tro, fe ofynnais am i'r mwd fod ar gael i academyddion dilys ei ail-brofi. Cafodd y cais hwnnw ei anwybyddu bob tro. Unwaith eto, hoffwn wneud cais yn gyhoeddus i EDF ryddhau'r mwd i academyddion dilys. Mae gwyddoniaeth yn beth gwych. Os yw dau unigolyn yn cynnal profion ar yr un sampl, fe fyddant yn canfod yr un canlyniadau o fewn y bwlch ansicrwydd. Nid yw gwyddonwyr yn ffugio canlyniadau. Byddai'n dinistrio eu hygrededd fel gwyddonwyr pe baent yn ffugio canlyniadau a bod y canlyniadau hynny mor wahanol i rai pawb arall sy'n cynhyrchu canlyniadau. Felly, yr hyn rydym ei eisiau yw gwneud i bobl gredu ei fod yn ddiogel. Cael adolygiad gan gymheiriaid. Mae popeth yn cael ei adolygu gan gymheiriaid. Pam na gellir gwneud hyn? Rwy'n credu fy mod am ofyn eto, a gobeithio y bydd EDF yn rhyddhau'r mwd er mwyn i academyddion dilys gynnal adolygiad gan gymheiriaid ohono. Os yw'r canlyniadau a gynhyrchwyd gan Cefas yn gywir, ac nid oes gennyf unrhyw reswm dros gredu nad ydynt, bydd yr un canlyniadau'n union yn cael eu cynhyrchu gan bob gwyddonydd arall sy'n cynnal profion ar y mwd. Rwy'n credu y gallai hynny roi mwy o sicrwydd i'r cyhoedd nag a gawsant hyd yn hyn.

Diolch am y cyfle i gyfrannu at y drafodaeth yma. Rydw i eisiau jest ategu rhai pwyntiau i gychwyn yr oedd Rhun wedi'u gwneud wrth agor yr araith. Rydw i'n meddwl bod y ffaith bod Cefas a Chyfoeth Naturiol Cymru, y ddau ohonyn nhw, wedi dweud y gallan nhw fod yn gwneud mwy o waith, ac y byddan nhw'n barod i wneud mwy o waith, yn tanlinellu i fi'r ffaith eu bod nhw yn cydnabod bod yna ragor o waith y gellir ei wneud. Mae'r ffaith bod y Llywodraeth yn troi ei hwyneb ac yn cadw ei phen i lawr ac yn palu ymlaen, i fi, yn codi cwestiynau gwirioneddol ynglŷn â pharodrwydd y Llywodraeth i wynebu lan i'r realiti bod yna fwy y gellir ei gwneud. Mae'r adwaith cyhoeddus yn dweud y stori. Mae'n dangos bod yna gonsýrn ymhlith pobl, bod yna amheuon a bod yna gwestiynau, a thra bod y cwestiynau yna ddim yn cael eu hateb yn ddigonol, yna fyddwn i'n tybio bod yna ddyletswydd yn rhywle i sicrhau bod y materion yna yn cael eu gwyntyllu yn fwy effeithiol. Wrth gwrs, tra bod yna gwestiynau yn aros, yna ni ddylai'r broses fynd yn ei blaen.

Nawr, rydw i eisiau cyfeirio at ddwy egwyddor benodol—yr egwyddor ragofalus, 'the precautionary principle', a hefyd egwyddor arall lle mae'r llygrydd yn talu, 'the polluter pays'.

Mae Jill Evans, ASE Plaid Cymru, wedi siarad yn helaeth am yr egwyddor ragofalus, yn enwedig yn y cyd-destun hwn. Euthum i balu drwy rai o gyfathrebiadau'r Comisiwn Ewropeaidd, a gwyddom mai nod yr egwyddor ragofalus yw sicrhau lefel uwch o ddiogelwch amgylcheddol drwy wneud penderfyniad ataliol lle ceir elfen o risg. Gwneud penderfyniadau ataliol—does bosibl nad yw hynny'n cyd-fynd ag egwyddorion sylfaenol Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 er enghraifft. Mae'n dweud wrthym, os oes amheuaeth, fod yn rhaid inni fod yn rhagofalus, a cheir tair egwyddor benodol sy'n cyfrannu at yr egwyddor ragofalus. Yn gyntaf oll, mae gennym y gwerthusiad gwyddonol llawnaf posibl; wel, yn yr ychydig funudau y buom yn y Siambr hon, credaf ein bod wedi clywed yn glir nad ydym wedi cael hynny, a dylem fod wedi'i gael. Yn ail, y cynhelir gwerthusiad o ganlyniadau posibl y gweithredu; wel, nid wyf wedi fy argyhoeddi, yn amlwg, fod hynny wedi digwydd yn ddigonol. Ac yn drydydd, fod cyfranogiad yr holl bartïon sydd â diddordeb yn y broses o astudio mesurau rhagofalus—fod pawb yn cymryd rhan yn y broses honno, ac eto, rydych yn methu yn hynny o beth yn ogystal. Fel y clywsom, mae angen i faich y prawf fod ar y datblygwr. Yn fy marn i, mae ymateb y cyhoedd yn dangos ein bod wedi methu ar bob un o'r rhain.

Ac mewn perthynas â'r egwyddor mai'r llygrwr sy'n talu—a gallech ddweud bod hon yn ddadl wahanol, ond yr un mor ddilys—beth am iawndal? Gwyddom mai'r bwriad yw dympio hwn yn nyfroedd Cymru. Ceir treth dirlenwi os ydych yn dympio ar dir, felly beth sy'n digwydd yn ein moroedd? Beth os yw'r gwaddod yn arwain at ddifrod amgylcheddol mewn gwirionedd? Cost i Lywodraeth Cymru fydd hi, does bosib na ddylai fod rhyw fath o iawndal i'w thalu? Oni ddylai'r llygrwr fod yn atebol mewn rhyw ffordd neu'i gilydd, yn hytrach na bod trethdalwyr Cymru, o bosibl, yn gorfod talu'r gost?

Soniodd rhywun, neu gofynnodd rhywun y cwestiwn: pam nad yw'n cael ei ddympio yn afon Tafwys? Fe wn yn iawn pam—oherwydd bod hynny'n annerbyniol yn wleidyddol. Felly, pam y mae'n dderbyniol yn wleidyddol ei ddympio yn nyfroedd Cymru? [Torri ar draws.] Edrychwch, mae'n gwestiwn dilys, mae'n ddilys. Mae'n ddilys—wrth gwrs ei fod yn ddilys. Dyfroedd Cymru yw'r rhain. Bydd problemau yn y dyfodol, fe wyddom y bydd, mae'n sicr y bydd, ac nid yw pobl wedi'u hargyhoeddi bod pob un o'r cwestiynau hyn wedi cael eu hateb.

A'r pwynt olaf yr hoffwn ei wneud, yn y 60 eiliad sydd gennyf yn weddill, yw'r cwestiynau—.[Torri ar draws.] Na, rwyf newydd ddweud bod gennyf 60 eiliad ac mae yna un pwynt arall y mae gwir angen imi ei wneud. [Torri ar draws.] Na, dyma'r pwynt pwysicaf. Mae'n ymwneud â'r berthynas eto—ac rwyf wedi codi hyn gyda chi o'r blaen, Ysgrifennydd—y berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru. Dywedir wrthym yn y cyd-destun hwn fod Cyfoeth Naturiol Cymru yn annibynnol, mae'n sefydliad hyd braich, hwy yw'r arbenigwyr, dywedant wrthym, ac ni allwn ymyrryd. Ac mewn meysydd eraill, a grybwyllais yr wythnos diwethaf, maent yn gwneud penderfyniad nad yw'r Llywodraeth yn ei hoffi, ac rydych i bob pwrpas yn cyhoeddi dictad, a chaiff y penderfyniad ei wrthdroi. Mater o ddewis a dethol ydyw, onid e? Dewis a dethol o ran perthynas y Llywodraeth gyda Cyfoeth Naturiol Cymru. Wel, rydych wedi gwneud y dewis anghywir y tro hwn, a dylech ddweud wrth bawb beth yw'r sefyllfa a gwneud y penderfyniad cywir.

17:00

Hoffwn ddechrau drwy dynnu sylw at lythyr a gefais gan glerc tref Cyngor Tref y Barri. Mewn cyfarfod eithriadol ar 4 Hydref, penderfynodd y cyngor alw ar Lywodraeth Cymru—a dyfynnaf—i gyhoeddi tystiolaeth fanylach mewn ymateb i bryderon ynglŷn â risgiau i iechyd y cyhoedd a'r amgylchedd, gan gynnwys caniatáu i brofion pellach gael eu cynnal er mwyn darparu mwy o dryloywder; yn ail, i gyfarwyddo Cyfoeth Naturiol Cymru i atal y drwydded forol sy'n galluogi gweithgarwch gwaredu, i gynnal asesiad llawn o effaith amgylcheddol dympio gwaddod o Hinkley Point yn Cardiff Grounds ar arfordir Cymru ac amgylchedd morol Cymru, ac i roi rhaglen ymgysylltu ac ymgynghori eang ar waith gyda chymunedau lleol a rhanddeiliaid ar draws de Cymru.

Cafwyd cefnogaeth drawsbleidiol, wrth gwrs, yng nghyfarfod Cyngor Tref y Barri. Roeddent yn mynegi pryderon dwys ynglŷn â diogelwch iechyd a monitro dympio mwd o Hinkley Point, ac rwy'n falch o fod wedi cyflawni eu cais i leisio gwrthwynebiadau cryf y cyngor i'r cynlluniau i waredu mwd ger arfordir y Fro.

Rwyf wedi mynegi fy mhryderon ynglŷn â Hinkley Point ar sawl achlysur yn y Siambr hon, ac rwyf am gyfeirio at y pwyntiau a wneuthum yn fwyaf diweddar. Gofynnais gwestiwn ar y datganiad busnes ynglŷn â natur yr asesiad o'r effaith amgylcheddol ar Hinkley Point, o safbwynt pryderon ynglŷn â'r mwd. Ac rwy'n deall fod y prif asesiad o'r effaith amgylcheddol wedi'i gynnal, wrth gwrs, gan Lywodraeth y DU ar gyfer adeiladu'r orsaf. Ond dilynais hyn gyda chais am eglurhad ar ymwneud Llywodraeth Cymru ac ystyriaeth ddilynol o broses yr asesiad o'r effaith amgylcheddol, ac ymatebodd Ysgrifennydd y Cabinet i'r pwyntiau hynny.

Hefyd, yn ystod dadl y Pwyllgor Deisebau, nodais bryderon ynglŷn â'r hyn a ystyrir yn samplu digonol ar haenau dyfnach o fwd. Felly, yn amlwg, ceir llawer iawn o bryder cyhoeddus, ac rwy'n ymwybodol fod Richard Bramhall o'r Ymgyrch Ymbelydredd Lefel Isel, a chyn aelod o bwyllgor Llywodraeth y DU sy'n archwilio risgiau ymbelydredd allyrwyr mewnol, wedi mynegi pryderon ynglŷn â'r profion. Felly, mae hwn yn gyfle heddiw i gofnodi'r cwestiynau hynny unwaith eto er mwyn i'r Llywodraeth ymateb iddynt.

Felly, rwy'n cadw at y pwyntiau a wnaed gennyf fi ac eraill yn y Siambr, ac rwy'n croesawu'r ddadl hon heddiw. Rwy'n bryderus ar ran nifer fawr o etholwyr sydd wedi dwyn materion i fy sylw, ac i sylw cyd-Aelodau, rwy'n gwybod, materion sydd wedi dwysáu dros yr wythnos ddiwethaf. Credaf mai'r pwynt yw nad yw pobl wedi'u hargyhoeddi gan y datganiadau a wnaed gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Nid yw'r dystiolaeth hyd yn hyn yn tawelu eu meddyliau, a chredaf fod galwad am fwy nag un ffynhonnell o dystiolaeth a phrofion pellach yn ddealladwy.

Credaf na fyddai gwelliant y Llywodraeth yn ystyrlon, o ran cydnabod y pryderon cyhoeddus eang hyn, oni bai ein bod yn eglur beth fyddai'n digwydd mewn gwirionedd o ganlyniad i gyfarwyddyd gan Lywodraeth Cymru i Cyfoeth Naturiol Cymru ymgysylltu rhagor â'r cyhoedd er mwyn egluro'r broses. Felly, hoffwn ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet gytuno i wneud datganiad yn ymrwymo i roi cyfarwyddyd i Cyfoeth Naturiol Cymru ymgysylltu rhagor â'r cyhoedd ynglŷn â'r dystiolaeth a ddarparwyd hyd yn hyn, a dylai hyn gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymrwymo i gyfarfod â'r cyhoedd a chyflwyno tystiolaeth wyddonol. A wnaiff hi gadarnhau y bydd hi'n adrodd yn ôl i'r Cynulliad ar y camau a gymerwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru o ganlyniad i'r cyfarwyddyd hwn gan Lywodraeth Cymru a chanlyniad ymgysylltu â'r cyhoedd?

Rwy'n cofio'r ymgysylltiad a gefais fel cynghorydd lleol ag adeiladu morglawdd Bae Caerdydd. O ganlyniad i'r pryderon a'r ymgyrchoedd eang, sicrhawyd mesurau diogelwch newydd gydag ymrwymiadau statudol yn arwain—un enghraifft yn unig—at gynnal arolygon dŵr daear cyn ac ar ôl adeiladu'r morglawdd. Sicrwydd ynglŷn â mesur diogelwch sydd ei angen arnom yma. Rhaid parchu a chydnabod ein hetholwyr a'u pryderon, a hyderaf y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn parchu'r pwyntiau hyn yn ystod ymateb y Llywodraeth i'r ddadl heddiw.

17:05

Diolch i'r ddau Aelod am gyflwyno'r ddadl heddiw, a hefyd i Neil McEvoy sydd wedi bod yn weithgar iawn yn ymgyrchu ar y mater hwn. Cafwyd llawer iawn o bryder ymhlith y cyhoedd ynglŷn â dympio deunydd ym Môr Hafren, fel y clywsom heddiw eto. Cawsom ddeiseb a ddenodd fwy na 7,000 o lofnodion. Rydym wedi cael Aelodau o'r pedair plaid yn y Cynulliad yn mynegi pryder ynglŷn â hyn. Mae gennym Cyfeillion y Ddaear hefyd bellach, a Chyngor Tref y Barri fel y dywedodd Jane Hutt, cyngor a gynhaliodd gyfarfod eithriadol ar gyfer trafod y mater. Maent yn ychwanegu eu lleisiau yn y ddadl—ymhlith llawer o leisiau eraill.

Fel y dywedais pan gawsom ddadl ar hyn ar achlysur blaenorol, nid wyf yn wyddonydd, felly nid wyf yn gymwys i roi unrhyw fath o farn wyddonol. Cyfoeth Naturiol Cymru sydd â'r gwyddonwyr amgylcheddol yn ôl pob golwg. Ond yn anffodus i Cyfoeth Naturiol Cymru, nid oes ganddynt enw da am werthu eu penderfyniadau i'r cyhoedd yn gyffredinol. Yn gynharach eleni, cafwyd panig mawr ynglŷn â chynllun lleddfu llifogydd nant y Rhath yng Nghaerdydd. Cawsom bobl yn dringo'r coed i brotestio ynglŷn â'r hyn oedd yn digwydd. Nawr, mae'r ddadl hon ynglŷn â slwtsh niwclear ym Môr Hafren yn troi'n drychineb cysylltiadau cyhoeddus mwy byth hyd yn oed. Felly, beth bynnag yw gwyddoniaeth hyn, mae angen i Cyfoeth Naturiol Cymru wneud rhagor i leddfu pryderon ac ofnau'r cyhoedd. Gan nad ydynt yn gwneud hyn, rhaid i Lywodraeth Cymru ymyrryd i roi tystiolaeth fanylach inni ac i atal trwydded forol Cyfoeth Naturiol Cymru yn y cyfamser.

Felly, mae UKIP yn cefnogi'r cynnig heddiw ac yn gwrthwynebu gwelliant y Blaid Lafur, sydd i raddau helaeth yn dweud wrthym fod tystiolaeth Cyfoeth Naturiol Cymru yn gywir, er bod Llafur o leiaf yn cydnabod yr angen i Cyfoeth Naturiol Cymru egluro eu penderfyniad yn well i'r cyhoedd. Yn anffodus, mae materion wedi symud y tu hwnt i hynny bellach. Mae angen inni weld mwy o dystiolaeth, felly rydym yn gwrthwynebu gwelliant y Blaid Lafur heddiw. Rydym hefyd yn cefnogi gwelliant 3 Neil McEvoy sy'n nodi rhywfaint o'r dystiolaeth amgen ac sydd hefyd yn galw ar Cyfoeth Naturiol Cymru i gynnal asesiad llawn o'r effaith amgylcheddol. Rwy'n cymryd pwynt Rhun y gall fod problem dechnegol ynglŷn â phwy sy'n gyfrifol am yr asesiad o'r effaith amgylcheddol, ond hoffwn ei gwneud yn glir ein bod yn cefnogi'r alwad amdano. Diolch yn fawr iawn.

Roeddwn am siarad yn y ddadl hon oherwydd bod etholwyr pryderus wedi cysylltu â mi. Rwy'n credu ein bod yn dechrau cynsail beryglus os ydym yn dechrau cwestiynu barn arbenigwyr gwyddonol. Credaf ein bod wedi gweld y broblem honno yn ein gwleidyddiaeth yn ddiweddar ac mae'n dod yn fwyfwy cyffredin. Credaf fod yn rhaid inni dderbyn bod y profion a gynhaliwyd yn 2009, 2013 a 2017 yn iawn i ganfod nad oedd unrhyw risg radiolegol i iechyd pobl neu i'r amgylchedd. Ond wedi dweud hynny—[Torri ar draws.] Fe ildiaf, gwnaf.

Rwy'n synnu clywed yr Aelod yn sôn am dystiolaeth wyddonol. Rwyf newydd roi tystiolaeth i chi. Ysgrifennodd yr Athro Barnham at y Gweinidog ar 20 Mehefin yn datgelu'r damweiniau gyda phlwtoniwm o safon cynhyrchu arfau. Rwyf am ei ailadrodd oherwydd mae'n werth ei ailadrodd—dim ond un math o brawf a wnaed. Os ydych yn gwneud y prawf hwnnw, ni fydd modd i chi nodi pob math o plwtoniwm. Gwyddoniaeth yw hynny. Siaradwch â'r ffisegwyr, fe ddywedant hwy wrthych chi.

Os yw hynny'n wir, mae'n gwestiwn dilys pam y rhoddodd y gorau i'r achos llys. O ystyried ei fod yn destun cyllido torfol, rwy'n credu y dylem allu gweld y cyngor cyfreithiol a gafodd yn yr achos llys. [Torri ar draws.] Gwn iddo gael ei ddyfynnu yn y cyfryngau yn dweud iddo roi'r gorau i'r achos llys gan iddo sicrhau'r ddadl hon. Nid wyf yn credu bod hynny'n wir.

Felly, hoffwn symud hyn yn ei flaen a siarad am yr hyn y credaf yw'r broblem, a pham y mae fy etholwyr wedi mynegi pryderon wrthyf. Rwyf wedi cael llythyrau, sydd wedi dod, yn rhannol, oherwydd peth o'r hysteria y mae Neil McEvoy wedi'i gynhyrchu. Mae un llythyr yn dweud:

Os gwelwch yn dda peidiwch â chefnogi dympio gwastraff niwclear. Rwy'n credu bod pleidlais yn cael ei chynnal yr wythnos hon. Peidiwch â chefnogi dympio gwastraff niwclear.

Nid gwastraff niwclear yw hyn—symud mwd o un rhan o'r môr i'r llall yw hyn.

I droi at bryderon Llyr Gruffydd: oes, mae yna fater i'w drafod—yr awdurdodaeth a phwerau datganoledig—ond nid yw hynny'n rhywbeth y gallwn wneud unrhyw beth amdano yn y ddadl hon ar hyn o bryd.

Credaf felly ei bod beryglus inni gwestiynu barn arbenigwyr. Ond yr hyn a ddywedwn yw bod tystiolaeth glir na thawelwyd meddyliau'r cyhoedd, ac mae'n llinyn drwy'r hyn a ddywedodd pob Aelod sydd wedi siarad yn y ddadl hon hyd yma. Ceir tystiolaeth eglur fod y bobl, aelodau o'r cyhoedd, sydd wedi mynegi eu pryderon wrth ACau wedi dweud nad ydynt wedi'u hargyhoeddi gan yr hyn a gyflwynwyd. Ac yn yr achos hwn, rwy'n credu bod Cyfoeth Naturiol Cymru—ydynt, maent yn brin iawn o'r nod, ac rwy'n cefnogi'r pethau a ddywedodd Jane Hutt. [Torri ar draws.] Na, oherwydd nid wyf yn credu bod gan y Llywodraeth y pŵer—. Mae Rhun ap Iorwerth yn dweud, 'Wel, cefnogwch y cynnig'. Wel, nid mater i'r Llywodraeth yw'r cynnig, ac mewn gwirionedd byddai hynny'n mynd â'r Llywodraeth i diriogaeth anghyfreithlon. Nid yw honno'n gynsail y byddem eisiau ei gosod yn yr amgylchiadau hyn. Rwy'n anghytuno â Rhun. Buaswn yn dweud bod gwelliant y Llywodraeth yn effeithio ar y tawelwch meddwl sydd ei angen arnom os caiff ei weithredu yn y ffordd y mae Jane Hutt wedi dweud—[Torri ar draws.] Nid wyf am gymryd ymyriad arall—ac rwy'n credu bod hynny'n allweddol.

Mae'n ddyletswydd ar Ysgrifennydd y Cabinet bellach, oherwydd nid wyf yn meddwl bod y Llywodraeth wedi gwneud digon i dawelu meddyliau—mae dyletswydd ar Ysgrifennydd y Cabinet yn awr i ddarparu'r sicrwydd hwnnw yn ei haraith gloi heddiw. Rwyf wedi cael sgyrsiau gyda hi am hyn ac rwy'n hyderus y gall hi wneud hynny, cyn belled â bod y wybodaeth honno'n cael ei chyflwyno i'r cyhoedd a gwneud hynny mewn modd trylwyr, a fydd yn galluogi'r gwyddonwyr i siarad yn uniongyrchol â'r cyhoedd. Wedyn, byddaf yn gallu tawelu meddyliau'r etholwyr sydd wedi cysylltu â mi.

17:10

Hoffwn ddiolch i Rhun a Darren am gyflwyno'r ddadl bwysig hon heddiw, a diolch i Neil am ei ymdrechion i sicrhau nad yw'r gwaddodion sy'n cael eu dympio'n creu unrhyw risg i iechyd pobl na'n hamgylchedd. Efallai mai yn rhanbarth Neil y mae gwastraff Hinkley yn cael ei ddympio, ond mae'n effeithio ar fy rhanbarth i hefyd, rhanbarth sy'n gartref i rai o draethau gorau'r byd a hafan i blanhigion ac anifeiliaid morol. Ers wythnosau bellach rwyf wedi bod yn derbyn llu o negeseuon e-bost ynglŷn â hyn.

Gwn fod profion wedi'u gwneud ar y gwaddod o'r orsaf niwclear yn ôl deiliad y drwydded a bernir nad oes bygythiad i bobl, ac nid yw'n cael ei ystyried yn ddeunydd ymbelydrol yng nghyfraith y DU. Fodd bynnag, mae yna bryderon nad oedd methodoleg y profion yn ddigon cadarn. Edrych ar yr 1 metr uchaf yn unig o waddod a wnaeth methodoleg y profion, a dim ond ar ronynnau gama. [Torri ar draws.] A gaf fi orffen yn gyntaf, Jenny, ac fe wnaf wedyn os bydd amser gennyf?

Dengys ymchwil a wnaed mewn mannau eraill fod crynodiadau uwch o radioniwclidau i'w gweld ar ddyfnderoedd mwy nag 1 metr. Rydym hefyd yn gwybod bod 16 gwaith yn fwy o radioniwclidau'n cael eu cynhyrchu gan adweithyddion niwclear nag y gwnaed profion ar eu cyfer. Cynhaliodd yr arolygon gwaddod brofion ar gyfer caesiwm-137, cobalt-60 ac americiwm-241, ond beth am blwtoniwm neu gwriwm? Pam na phrofwyd ar gyfer y rhain? Beth am strontiwm neu dritiwm? Onid yw'r radioniwclidau hyn yn peri risg i iechyd pobl? Wrth gwrs eu bod, ond ni chynhaliwyd profion ar eu cyfer hwy na'r 50 o radioniwclidau eraill y gwyddys eu bod yn bresennol mewn gwastraff o'r hen orsafoedd niwclear hyn.

Fel y mae gwelliant Neil McEvoy yn ei ddangos, cafwyd digwyddiadau yn y 1960au a arweiniodd at ollwng gwastraff ymbelydrol i mewn i'r pyllau oeri yng ngorsaf Hinkley, ac mae nifer o ymchwilwyr annibynnol yn credu bod radioniwclidau niweidiol wedi'u cynnwys yn ddwfn o fewn y gwaddod.

Rwy'n deall bod Llywodraeth Cymru wedi'i hargyhoeddi ynglŷn â diogelwch y deunydd hwn, a'i bod hi'n ddiffuant. Fodd bynnag, nid yw nifer fawr o drigolion Cymru wedi'u hargyhoeddi, ac mae'n ddyletswydd arnom i brofi y tu hwnt i unrhyw amheuaeth fod y deunydd hwn yn ddiogel cyn ei ddympio ar ein harfordir. Hyd nes y cynhelir archwiliad diogelwch annibynnol trylwyr a chadarn yn wyddonol ar y gwaddod hwn, dylid atal y drwydded.

Os bydd yr adroddiad yn bendant o'r farn fod y gwaddod yn ddiogel i bobl, bywyd gwyllt a'r amgylchedd, ar bob cyfrif caniatewch y drwydded. Ond tan hynny, rydym yn creu risg o wneud niwed difesur i'n hecosystem ac yn bygwth hyfywedd rhai o draethau gorau'r byd, fel Rhosili a bae'r Tri Chlogwyn.

Rhaid i Lywodraeth Cymru roi Cymru yn gyntaf a mynnu bod rhagor o brofion mwy cadarn yn cael eu cynnal, ac rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi'r cynnig ac i gefnogi gwelliannau i'r cynnig er mwyn pobl Cymru. Diolch.

17:15

Mae digon o etholwyr wedi ysgrifennu ataf fi hefyd yn bryderus ynglŷn â'r mater hwn. Maent wedi cael eu darbwyllo bod y mwd adeiladu o aber afon Hafren yn ymbelydrol oherwydd ei leoliad wrth ymyl hen orsaf bŵer Hinkley A. Nid oes unrhyw dystiolaeth o gwbl, yn fy marn i, fod hyn yn wir, gan mai'r rheswm pam y penodwyd Cefas yw am nad yw'n adran o'r Llywodraeth; hwy yw'r arbenigwyr ar wyddoniaeth ac ymchwil dŵr croyw.

Na wnaf, diolch i chi.

Ar wyddoniaeth forol a dŵr croyw gymhwysol. Felly, rhaid ichi ddeall mai'r rhain yw'r arbenigwyr y mae Llywodraeth y DU, llywodraethau rhyngwladol, sefydliadau anllywodraethol yn mynd atynt—. Dyma'r bobl sy'n deall hyn. Ac nid yw dangos nad ydynt wedi cynnal profion ar gyfer y rhestr hir o fetelau y mae Caroline wedi eu rhestru yn gredadwy, oherwydd, yn amlwg, roeddent yn mynd i fod yn chwilio am—[Torri ar draws.] Roeddent yn edrych am—[Torri ar draws.] Roeddent yn edrych am yr holl fetelau hyn ac ni allent ddod o hyd iddynt. Nid oes unrhyw—. Oni bai eu bod yn cyflwyno'r metelau hyn wedyn, nid oes modd iddynt weld pethau nad ydynt yno.

Nawr, mewn ymateb i Llyr ynglŷn â pham y defnyddir Cardiff Grounds, y rheswm am hynny yw mai dyna'r lle mwyaf cynaliadwy yn amgylcheddol i'w waredu. Byddai ei anfon yr holl ffordd i afon Tafwys, wyddoch chi, yn wariant diangen ar adnoddau. Cardiff Grounds yw'r lle i fynd ar gyfer gwaredu gwastraff gwaith adeiladu yn yr ardal hon, oherwydd ei fod ar aber yr afon ac mae'r llanw'n symud y deunydd yn ei flaen. Felly, nid oes rheswm o gwbl o gwbl pam y dylem fod yn ei waredu yn yr Alban, yn afon Tafwys, nac unrhyw le arall. Dyma'r lle mwyaf priodol yn amgylcheddol i waredu gwastraff adeiladu. Nid wyf— [Torri ar draws.] Nid wyf yn deall: fel y dywed Mike Hedges, os nad yw gwyddonwyr yn ffugio canlyniadau, pam y byddai Cefas yn ffugio'r canlyniadau pan fyddai eu henw da yn rhyngwladol yn y fantol? Nid wyf yn credu ei fod yn gredadwy o gwbl.

Nid wyf yn meddwl bod unrhyw un yn awgrymu bod y canlyniadau wedi'u ffugio. Yr hyn a ddywedodd yr ymgyrchwyr ar hyd yr amser yw nad yw absenoldeb tystiolaeth yn dystiolaeth o absenoldeb, a'r hyn a awgrymais yn y Pwyllgor Deisebau, fel y dywedais, oedd gadewch i ni benderfynu, mewn ymgynghoriad ag ymgyrchwyr, ar set o baramedrau y gellir eu dilyn, gan gynnwys profion—profion gwahanol, efallai—ar ddyfnder, er mwyn dod i gasgliad y bydd pobl yn cytuno arno ar y cychwyn. Mae'n amlwg fod yna ddiffyg hyder, yn hytrach na diffyg ymddiriedaeth, mewn gwyddonwyr unigol. Adeiladu'r hyder hwnnw sydd angen inni ei wneud.

Iawn. Rwy'n deall bod yna broblem cysylltiadau cyhoeddus yn sicr gan fod cynifer o bobl wedi cael eu hargyhoeddi fod yr hyn a waredir yn Cardiff Grounds yn meddu ar ryw fath o ymbelydredd y tu hwnt i'r hyn sy'n bresennol y tu allan i'r adeilad hwn, neu unrhyw le arall lle'r ydym yn byw.

Y ffaith amdani yw eu bod wedi cynnal profion ar y samplau hyn ar dri achlysur gwahanol—2009, 2013, 2017. Maent wedi cymryd samplau lluosog ac nid ydynt wedi gallu dod o hyd i unrhyw un o'r deunyddiau a allai fod yn achos pryder. Pe bai deunydd niwclear yn bresennol, ni fyddent yn cael ei waredu yn nhywod Caerdydd, gan nad dyna sydd yn y drwydded. Wyddoch chi, mae'n rhaid inni dderbyn bod Cefas wedi gwneud eu gwaith ar dri achlysur gwahanol, ac mae'n peri pryder mawr fod rhai pobl sy'n ymgyrchwyr gwrth-niwclear, fel finnau yn wir, wedi ysgogi—[Torri ar draws.] Ysgogwyd pryderon am rywbeth nad yw'n bresennol. Ac felly dylem fod yn cefnogi canlyniadau ar sail wyddonol ac yn gwneud yn llawer gwell ar gyfleu'r neges i'r cyhoedd na ddylai hyn achosi unrhyw bryder.

17:20

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, Lesley Griffiths. 

Member
Lesley Griffiths 17:20:36
Cabinet Secretary for Energy, Planning and Rural Affairs

Diolch, Lywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle i ymateb i'r ddadl hon. Wrth gwrs, rwy'n cydnabod lefel y pryder ynglŷn â'r mater hwn, sy'n parhau ers y ddadl fis Mai diwethaf. Mae hyn er gwaethaf adroddiad y Pwyllgor Deisebau sy'n nodi'r dystiolaeth a chyngor gwyddonol ar y mater hwn. Rwyf wedi gwrando ar y pwyntiau a godwyd heddiw a diolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau.

Yn gyntaf, hoffwn ymateb i honiad a wnaed yn y Siambr sy'n awgrymu bod fy ngweithredoedd yn anghyfreithlon. Mae Gweinidogion Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gweithredu'n gyfreithlon. Cafodd penderfyniadau eu gwneud yn briodol ac nid ydynt erioed wedi bod yn destun unrhyw her gyfreithiol. Rwyf am ei gwneud yn glir iawn fod y penderfyniadau a wnaed gan Weinidogion Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru drwy gydol y broses benderfynu yn benderfyniadau cyfreithlon ac yn parhau i fod yn gwbl ddilys.

Mae'r DU yn un o lofnodwyr y Confensiwn ar Atal Llygredd Morol yn sgil Dympio Gwastraff a Deunyddiau Eraill. Mae Confensiwn Llundain fel y'i gelwir yn datgan mai dim ond deunyddiau sydd â lefelau de minimis neu isel iawn o ymbelydredd y gellir eu hystyried ar gyfer eu gwaredu ar y môr. Caiff pob cais am drwydded forol ei ystyried yn erbyn Rhan 4 o Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009, Rheoliadau Gwaith Morol (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2007 a'r rheoliadau cynefinoedd, sydd oll yn darparu trefniadau cadarn ar gyfer ystyried a ddylid bwrw ymlaen â gweithgarwch yn rhinwedd ei effaith bosibl ar yr amgylchedd, iechyd pobl a ffyrdd eraill o ddefnyddio'r môr.

O ran y galwadau ar Weinidogion Cymru i atal y drwydded forol, mae'n bwysig bod yn ymwybodol na ellid ystyried cam o'r fath oni bai fod modd bodloni'r amodau a nodir yn adran 72 o Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009.

Lywydd, nid wyf yn cymryd unrhyw ymyriadau. Mae pawb wedi cael cyfle i siarad, ac rwyf am nodi'r ffeithiau.

Mae'r amodau'n cynnwys torri darpariaethau'r drwydded, newidiadau yn y farn wyddonol neu'r amgylchiadau mewn perthynas â'r amgylchedd ac iechyd pobl. Ni cheir unrhyw dystiolaeth sy'n awgrymu bod unrhyw un o'r amodau a nodir yn adran 72 yn cael eu bodloni. Byddai atal y drwydded o dan amgylchiadau o'r fath yn erbyn y gyfraith. Fe allwn ac fe ddylwn weithredu ar sail tystiolaeth yn unig. Rydym mewn perygl o osod cynseiliau peryglus os ydym yn rhoi'r gorau i wrando ar ein harbenigwyr.

Yn ail, hoffwn ymateb i'r pryderon ynglŷn â chynnal profion, asesu a gweithdrefnau trwyddedu. Cafwyd cyngor arbenigol annibynnol gan Ganolfan Gwyddorau'r Amgylchedd, Pysgodfeydd a Dyframaethu. Mae Cefas yn arbenigwyr rhyngwladol cydnabyddedig ar ddadansoddi morol, cemegol a radiolegol. Cafodd y deunydd sydd i'w waredu ei samplu a chynhaliwyd profion cysylltiedig arno yn 2009, 2013 a 2017. Cymerwyd samplau ar ddyfnder yn 2009. Nid oedd angen samplau ychwanegol ar ddyfnder yn 2013 na 2017 gan fod cyngor arbenigol wedi pennu na fyddai'r deunydd ar ddyfnder wedi newid. Ar gyfer y cais gwaredu penodol hwn, o ystyried ei leoliad mewn perthynas â Hinkley Point, nodaf fod Cefas wedi cynnal asesiad radiolegol generig ceidwadol, a ddatblygwyd gan yr Asiantaeth Ynni Atomig Rhyngwladol. Dyma'r dull y cytunwyd arno'n rhyngwladol ar gyfer cynnal profion ar lefelau o ymbelydredd sy'n pennu a yw gofynion confensiwn Llundain wedi'u bodloni.

Gwnaed pwyntiau hefyd am faterion hanesyddol yn ymwneud â phyllau oeri a chynhyrchu plwtoniwm o safon cynhyrchu arfau ar safle Hinkley. Mae hyn yn ddealladwy wedi ysgogi pryder pellach, ond hoffwn ddweud unwaith eto fod canlyniadau'r profion ar y drwydded forol hon yn dangos bod y deunydd a garthwyd o fewn terfynau diogel ac nid yw'n peri unrhyw risg radiolegol i iechyd pobl na'r amgylchedd ac mae'n ddiogel ac yn addas i'w waredu yn y môr.

Rhai mathau o brosiectau'n unig sy'n galw am asesiad o'r effaith amgylcheddol. Mae gorsafoedd pŵer niwclear yn enghraifft o'r math o brosiect sy'n galw am asesiad o'r fath, ac fel y cyfryw, cynhyrchodd EDF asesiad o'r effaith amgylcheddol ar gyfer prosiect Hinkley C. Nid oes angen asesiadau o'r fath ar fathau eraill o brosiectau, neu caiff yr angen am asesiad o'r ei benderfynu gan yr awdurdod priodol ar sail achosion unigol. Gwnaed y penderfyniad yn 2012 i sgrinio'r gweithgaredd gwaredu o'r gofyniad am asesiad o'r effaith amgylcheddol. Nid yw anghytuno gyda'r penderfyniad yn ei wneud yn anghywir. Roedd yn benderfyniad cyfreithlon. Pwynt allweddol i'w nodi yw nad yw'r dull nad yw'n galw am asesiad o'r effaith amgylcheddol yn golygu na chyflawnwyd asesiad amgylcheddol llawn a thrylwyr. Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus ar y cais am drwydded forol ym mis Medi 2012 am 28 diwrnod, yn unol â'r weithdrefn safonol ar gyfer y rhan fwyaf o geisiadau am drwyddedau morol. Ar ôl rhoi'r drwydded mae'n ofynnol gwneud gwaith monitro ac unrhyw gamau gweithredu i'w cymryd o ganlyniad i ganfyddiadau'r arolwg, yn unol ag amod 9.1 y drwydded forol ar gyfer y gweithgaredd gwaredu.

Y drydedd thema rwyf am roi sylw iddi yw'r angen i dawelu meddyliau'r cyhoedd a'r ymgyrch i atal y drwydded forol. Rwy'n cydnabod yn llwyr fod y mater hwn wedi dod yn broblem i lawer o bobl mewn cymunedau ledled Cymru, a chafwyd cryn dipyn o sylw yn y cyfryngau. Er fy mod yn parchu'r hawl i brotestio wrth gwrs, rwy'n bryderus iawn ynghylch y codi bwganod a'r celwyddau parhaus sy'n cael eu lledaenu yn rhan o'r ymgyrch yn erbyn y drwydded forol hon gan arwain at bryder cyhoeddus diangen i bobl Cymru. Yn ogystal â hynny, cefais fy nychryn gan yr alwad i ffurfio blocâd rhag y gwaith hwn fel rhan o'r ymgyrch. Mae hyn yn beryglus ac yn creu risg i ddiogelwch y cyhoedd. Yn erbyn y llif o wybodaeth anghywir, ac i dawelu meddwl y cyhoedd, gofynnais i Cyfoeth Naturiol Cymru ysgrifennu at ACau ac awdurdodau lleol i nodi'r ffeithiau er mwyn chwalu'r mythau a'r anwiredd a sicrhau bod yr holl wybodaeth ar gael ar eu gwefan. Fodd bynnag, yr wythnos hon, cyfarfûm â Cyfoeth Naturiol Cymru eto ac ysgrifennu atynt gan ddefnyddio fy mhwerau o dan adran 100 o Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009, a nodi fy nisgwyliadau o ran ymgysylltu a chyfathrebu ymhellach â'r cyhoedd. Gobeithio y bydd y wybodaeth ychwanegol hon yn helpu ACau eto i dawelu meddyliau eu hetholwyr ac aelodau'r cyhoedd. Ac mewn ateb i gwestiwn penodol Jane Hutt, byddaf yn hapus iawn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau pan fyddaf yn cael rhagor o wybodaeth.

Y rheswm pam na allaf gefnogi'r cynnig gwreiddiol heddiw yw oherwydd bod y drwydded hon wedi'i rhoi'n gyfreithlon, cynhaliwyd asesiadau trylwyr, ac aseswyd y dystiolaeth gan arbenigwyr yn unol â safonau rhyngwladol. Mae'r dystiolaeth a'r broses o wneud penderfyniadau ar gael i'w gweld, ac nid oes sail dros gynnal rhagor o brofion neu atal y drwydded. Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymgysylltu'n ehangach ac yn llunio cyfathrebiadau wedi'u targedu. Credaf hefyd ei bod hi'n hynod o siomedig fod yna rai sy'n fwriadol yn ceisio camarwain y cyhoedd er budd gwleidyddol iddynt hwy eu hunain ac yn camgyfleu'r ffeithiau. [Torri ar draws.]

17:25

Fel y dywedais, nid wyf yn ildio. Cafodd pawb ohonoch gyfle. Rwy'n cyflwyno'r ffeithiau. [Torri ar draws.]

Ni allwch gerdded i mewn yn ystod dadl a dechrau gweiddi. A wnewch chi ganiatáu i'r Gweinidog gwblhau ei chyfraniad? Nid yw'n cymryd—mae hi wedi dweud nad yw'n cymryd ymyriadau. Y Gweinidog i gwblhau ei—[Torri ar draws.]

Nid yw arweinydd Plaid Cymru wedi bod yn y Siambr hyd yn oed am y rhan fwyaf o'r ddadl.

Rwyf wedi gwrando—[Torri ar draws.] Fe'i gwneuthum yn glir iawn ar ddechrau fy araith. Rwyf wedi gwrando ar—[Torri ar draws.]

Rydych chi'n gywir yn y penderfyniad hwnnw, a gallwch barhau yn awr gyda gweddill eich cyfraniad gan eich bod wedi dweud nad ydych yn cymryd ymyriadau.

Diolch, Lywydd. Rwy'n annog yr Aelodau yma heddiw i gefnogi gwyddoniaeth, nid codi bwganod, a'r angen i gyfleu'r neges i'n hetholwyr, pobl Cymru: mae'r gweithgaredd gwaredu hwn yn ddiogel ac nid oes angen pryderu.

Diolch i chi, Lywydd, ac a gaf fi ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl hon y prynhawn yma? Mae'r mater hwn wedi bachu sylw'r cyhoedd, ac rwy'n canfod fy hun ar y llinell, fel petai, gyda'r bobl na fyddai fel arfer yn cyd-fynd â gwleidydd Ceidwadol, a rhywun yn wir sy'n cefnogi adeiladu Hinkley Point a gorsafoedd pŵer niwclear eraill i ddiwallu ein hangen am ynni. Ond rwy'n cydnabod y pryderon dilys—y pryderon dilys—sydd gan etholwyr ac a fynegwyd ar sail ehangach ynglŷn â'r mater penodol hwn, ac rwy'n gresynu at y ffaith mai'r gwrthbleidiau sydd wedi gorfod dod ynghyd i gyflwyno'r cynnig hwn heddiw yn hytrach na bod y Llywodraeth yn arwain ar hyn. Rydym wedi bod yn ôl ers bron i bedair wythnos bellach, a gallai'r Llywodraeth fod wedi arwain ar y mater hwn a chynnig rhywfaint o'r sicrwydd oedd ei angen ar y cyhoedd a'r aelodau o'r cyhoedd yn yr oriel sydd wedi dod yma heddiw, ond nid ydynt wedi gwneud hynny, a bu'n rhaid inni gymryd yr awenau ar y mater penodol hwn.

Credaf fy mod yn gywir i ddweud, Lywydd, na fyddai'r cynnig hwn yn arwain at weithred anghyfreithlon, fel y cafodd ei gyflwyno yn y ddadl gan Ysgrifennydd y Cabinet a hefyd gan yr Aelod dros Gaerffili, oherwydd fel arall ni fyddai wedi cael ei dderbyn, oherwydd ni allwch osod cynnig a fyddai'n arwain wedyn at weithred anghyfreithlon. Rwy'n credu fy mod yn gywir i ddweud hynny, ac mae honno'n ystyriaeth bwysig i'w chofio yma wrth bleidleisio heno. Ac rwy'n nodi sylwadau'r Aelod dros Fro Morgannwg, a gefnogaf yn llwyr o ran y modd y mae'n cyfleu barn ei hetholwyr yn y Siambr hon, ond fe ddarllenodd ein cynnig. Fe ddarllenodd ein cynnig gan Gyngor Tref y Barri, a deimlai dan gymaint o orfodaeth i gymryd rhan yn y ddadl hon fel eu bod wedi cael cyfarfod brys a chyflëwyd eu teimladau drwy gyfrwng y llythyr hwnnw. Os cymerwch chwip y Llywodraeth yn awr, fe fyddwch yn pleidleisio yn erbyn y cynnig roeddech yn sôn amdano yn eich cyfraniad. Felly, rwy'n gobeithio y byddwch yn myfyrio ar y safbwynt rydych wedi ceisio ei gyfleu yn y Siambr yma heno o ran y ffordd y byddwch yn pleidleisio, pan elwir y bleidlais ymhen tua pump neu 10 munud.

Nododd Rhun ap Iorwerth, a agorodd y ddadl, y gwaith a wnaeth y Pwyllgor Deisebau yn y maes penodol hwn, ac fe gyflwynodd y pwynt ynglŷn â Cyfoeth Naturiol Cymru a Cefas yn dweud y byddent yn croesawu'r cyfle i wneud rhagor o brofion mewn gwirionedd—rhagor o brofion ar ddyfnder—i dawelu meddyliau pobl sydd â phryderon ynglŷn â pha waddod a allai fod yn cuddio o dan lefelau'r profion y maent wedi'u cynnal hyd yn hyn. Nid yw hynny'n ymddangos yn afresymol i mi. Mae hynny'n ymddangos yn gwbl resymol, oherwydd pan edrychwch ar y pryderon eang sydd allan yno, os yw pobl angen y wybodaeth honno, dylent gael y wybodaeth honno, a'n rôl ni fel gwleidyddion yw gwneud yn siŵr fod y wybodaeth honno'n i'w chael. Fel y dywedaf, rwy'n siarad fel rhywun sy'n cefnogi adeiladu Hinkley Point, a gorsafoedd pŵer niwclear eraill mewn gwirionedd, er mwyn diwallu ein hangen am ynni.

Ond Ysgrifennydd y Cabinet, buaswn yn gobeithio y byddwch yn myfyrio ar yr hyn a ddywedwyd yma heno, ac y byddwch yn myfyrio ynglŷn â chaniatáu i'ch gwelliant fynd drwodd i saethu'r cynnig hwn i lawr, oherwydd mae gennych y pleidleisiau yma heno—wrth edrych ar y Siambr, mae'n amlwg fod gennych y pleidleisiau. Ond ni allaf weld dim yn afresymol yn y cynnig sydd ger ein bron yma heno. Nid yw ond yn galw am ymgynghori ehangach—ac rydych wedi cydnabod yn eich gwelliant eich hun nad yw Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cynnal ymgynghoriad o'r fath—ac atal y drwydded yn y cyfamser fel y gellir cynnal rhagor o brofion. Deallaf fod y drwydded yn parhau tan fis Mawrth y flwyddyn nesaf. Maent hanner ffordd drwy'r gwaith carthu eisoes, felly byddai digon o amser i gynnal y profion a diwallu'r pryder eang, ac os yw'r profion yn gadarnhaol, gallent barhau gyda'r profion. Pam na chefnogwch chi hynny? Fel y dywedodd Llyr Gruffydd, pan soniodd am eich ymyriad ynglŷn â saethu ar dir cyhoeddus, roeddech yn barod i gyfarwyddo Cyfoeth Naturiol Cymru i wneud hynny, ac rydym yn anghytuno ar y pwynt hwnnw. [Torri ar draws.] Pam na wnewch chi arwain ar y mater hwn, Ysgrifennydd y Cabinet? Nid ydym yn gweld hynny. [Torri ar draws.]

Nawr, gall mainc gefn Llafur weiddi. Rwy'n falch o gymryd ymyriad os oes rhywun yn dymuno gwneud ymyriad. Nid wyf ond yn datgan beth sydd wedi digwydd yn y lle hwn dros yr ychydig wythnosau diwethaf ers inni ddychwelyd ar ôl y toriad. Rwy'n gofyn cwestiwn cwbl resymol ynglŷn â pham na ellir gwneud y profion ar ddyfnder, fel y gwelwyd yn nhystiolaeth y Pwyllgor Deisebau. [Torri ar draws.] Fe gymeraf yr ymyriad.

17:30

Mae'n ymddangos i mi eu bod yn drilio i lawr i 2 fetr; yna maent yn drilio ymhellach i lawr i 4.7m ac ni allant ddod o hyd i unrhyw ddeunydd ymbelydrol. Os ânt hyd yn oed yn ddyfnach, nid ydynt yn mynd i ddod o hyd i unrhyw ddeunydd nad oedd eisoes i'w ganfod ar ddyfnder o 4.7 metr. Mae'n hollol wirion iddynt fynd i lawr ymhellach, gan mai ar yr wyneb yn unig y byddwch chi'n fwyaf tebygol o ddod o hyd i unrhyw ddeunydd, ac ni allent ddod o hyd i ddim.

Gyda phob parch, fe drof at y dystiolaeth arbenigol a roddwyd, fel y'i cyflwynwyd yn y ddadl hon i'r Pwyllgor Deisebau gan Cyfoeth Naturiol Cymru a Cefas a ddywedodd eu bod yn barod i wneud hynny pe baent yn cael cyfarwyddyd i'w wneud. Rwy'n parchu eich statws yn y sefydliad hwn, Jenny, ond buaswn yn troi at y dystiolaeth arbenigol yma, ac rwy'n credu y dylid cynnal profion. [Cymeradwyaeth.] Rhun ap Iorwerth.

Diolch i chi am gymryd yr ymyriad. I ychwanegu at yr hyn rydych yn ei ddweud, hoffwn atgoffa'r Siambr fod y ddadl hon wedi digwydd yn y Pwyllgor Deisebau ar 9 Ionawr eleni. Dychmygwch beth y gellid bod wedi defnyddio'r amser hwnnw'n ei wneud, mewn wyth neu naw mis, ar ail-wneud y profion y dywedodd yr arbenigwyr, y gwyddonwyr, ei fod, yn eu barn hwy, 'yn awgrym da iawn'—rwy'n dyfynnu. [Cymeradwyaeth.]

Mae'r llinell amser wedi bod yno, Ysgrifennydd y Cabinet. Mater i chi ar y meinciau hynny yw penderfynu a ydych am arwain ar y mater hwn, neu a ydych am gau'r drws ar y pwerau sydd ar gael i chi, ac ymdrin â phryderon ehangach y cyhoedd yn yr oriel a'r cyhoedd o gwmpas arfordir y De. Gallant gael atebion; fe ddylent gael atebion; a dylech chi gyflawni hynny, Ysgrifennydd y Cabinet. Pleidleisiwch dros y cynnig hwn heno. Tynnwch eich gwelliant yn ôl, fel y gallwn wneud cynnydd ar y mater hwn. Mae pobl yn haeddu hynny; gadewch i ni wneud cynnydd. [Cymeradwyaeth.]

17:35

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais ar y cynnig tan inni gyrraedd y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

11. Cyfnod Pleidleisio

Dyma ni, felly, yn cyrraedd y cyfnod pleidleisio, ac mae'r bleidlais gyntaf ar y ddadl yn ceisio cytundeb y Cynulliad i gyflwyno Mesur arfaethedig y Comisiwn: Mesur Senedd Cymru ac Etholiadau (Cymru). Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn fy enw i. Agorwch y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid pedwar, tri yn ymatal, un yn erbyn, felly derbyniwyd y cynnig.

NDM6821 Dadl yn ceisio cytundeb y Cynulliad i gyflwyno Bil arfaethedig y Comisiwn - Bil Senedd Cymru ac Etholiadau (Cymru): O blaid: 44, Yn erbyn: 1, Ymatal: 3

Derbyniwyd y cynnig

Hoffwn sicrhau bod y bleidlais wedi'i chynnal yn briodol. Do, cafodd ei chynnal yn gywir, ond ni chafodd ei disgrifio'n briodol gennyf fi, yn amlwg. Felly, 44 o blaid y cynnig—a byddech yn meddwl y buaswn wedi'i gael yn gywir ar y cynnig hwnnw o bob cynnig—44 o blaid, 3 yn ymatal, 1 yn erbyn, ac felly derbyniwyd y cynnig.

Felly, dyma ni yn dod i'r bleidlais ar y ddadl ar waredu deunyddiau a garthwyd o fôr Hafren, ac rydw i'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth a Darren Millar. Agorwch y bleidlais. O blaid 22, neb yn ymatal, 26 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi'i wrthod. 

NDM6813 Gwaredu deunyddiau a garthwyd o Fôr Hafren Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 22, Yn erbyn: 26, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Gwelliant 1—os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-dethol. Rydw i'n galw am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agorwch y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 26, neb yn ymatal, 22 yn erbyn. Derbyniwyd gwelliant 1. 

NDM6813 - Gwelliant 1: O blaid: 26, Yn erbyn: 22, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cafodd gwelliant 2 ei ddad-dethol.

Y bleidlais nesaf, felly, ar y cynnig wedi'i ddiwygio.  

Cynnig NDM6813 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi pryderon eang ymhlith y cyhoedd mewn perthynas â gwaredu deunyddiau a garthwyd o Fôr Hafren i leoliadau oddi ar arfordir de Cymru, sy'n gysylltiedig ag adeiladu gorsaf bŵer newydd yn Hinkley.

2. Yn nodi:

a) o dan delerau’r Confensiwn ar Atal Llygredd Morol yn sgil Dympio Gwastraff a Deunyddiau Eraill (Confensiwn Llundain, 1972), y mae’r DU yn un o’r llofnodwyr, dim ond deunyddiau sydd â lefelau de minimis o ymbelydredd a all gael eu hystyried ar gyfer cael eu gwaredu ar y môr.

b) yr asesiad ymbelydrol generig ceidwadol, a ddatblygwyd gan yr Asiantaeth Ynni Atomig Rhyngwladol, yw’r dull rhyngwladol cymeradwy ar gyfer profi am lefelau de minimis o ymbelydredd a chafodd y dull hwn ei ddefnyddio wrth wneud penderfyniad ynghylch trwydded forol Hinkley.

c) y dystiolaeth o fewn adroddiad Pwyllgor Deisebau’r Cynulliad Cenedlaethol a nododd fod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gwneud ei benderfyniad ynghylch trwydded forol ar sail cyngor arbenigol, a hynny’n unol â gweithdrefnau’r Asiantaeth Ynni Atomig Rhyngwladol ar gyfer asesiadau ymbelydrol.

d) y ffaith y daeth yr holl brofion ac asesiadau i’r casgliad fod y gwaddod i’w waredu o fewn y terfynau diogel, nad oes unrhyw berygl ymbelydrol i iechyd pobl nac i’r amgylchedd a’i fod yn ddeunydd diogel ac addas i’w waredu ar y môr.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi cyfarwyddyd i Cyfoeth Naturiol Cymru o safbwynt ymgysylltu rhagor â’r cyhoedd er mwyn egluro’r broses a’r dystiolaeth, gan dawelu ofnau’r cyhoedd.

Agorwch y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 38, neb yn ymatal, 10 yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig.

NDM6813 - Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 38, Yn erbyn: 10, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

12. Dadl Fer: Casnewydd: economi, seilwaith a chyfleoedd

Symudwn yn awr at y ddadl fer. Os yw'r Aelodau'n gadael y Siambr, a allwch wneud hynny'n gyflym ac yn dawel, os gwelwch yn dda?

Felly, symudwn ymlaen at y ddadl fer, a galwaf ar Mark Reckless i siarad ar y pwnc a ddewiswyd ganddo. Mark.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar i chi ac i Ysgrifennydd y Cabinet am hwyluso'r ddadl hon.

Ar 17 Rhagfyr, bydd tollau ar bontydd Hafren yn cael eu diddymu. Bydd chwyldro'n digwydd i ddaearyddiaeth economaidd de Cymru a gorllewin Lloegr. Nid oes unman mewn sefyllfa well i elwa arno na Chasnewydd. Ac nid rhoi diwedd ar y tollau yw'r unig newid i'n seilwaith a fydd yn hybu Casnewydd. Dylai trydaneiddio'r rheilffordd o Lundain i Gaerdydd olygu bod trenau o Gasnewydd yn cyrraedd Paddington Llundain mewn awr a 35 munud. Gyda CrossRail, bydd hynny'n golygu y gallwch adael Casnewydd a bod yn Canary Wharf o dan ddwy awr.

Ac yna, wrth gwrs, mae'r M4. Addawodd maniffesto'r Blaid Lafur, a dyfynnaf,

'Byddwn yn cyflwyno ffordd liniaru ar gyfer yr M4,'

ac mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi hyrwyddo'r ffordd honno drwy ymchwiliad cyhoeddus ers hynny. Felly, tair gwobr fawr a addawyd ar gyfer Casnewydd, de Cymru a thu hwnt; a gânt eu cyflawni?

Ar y tollau, ydynt, maent yn mynd. Yn wahanol i rai prosiectau eraill, yn arbennig ail groesfan Dartford, mae'r addewid a wnaed ac y deddfwyd ar ei gyfer yn 1992, y byddai tollau i ariannu ail bont Hafren yn rhai dros dro, yn mynd i gael ei gadw. Ac o edrych ar y farchnad dai yng Nghasnewydd a Sir Fynwy, mae'r sector preifat yn ymateb. Drwy Cymorth i Brynu—Cymru, mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi gwaith sylweddol ar adeiladu cartrefi newydd. Yn wir, ers mis Ebrill 2016, mae 20 y cant cyfan o waith adeiladu cartrefi newydd yng Nghymru a gefnogir drwy Cymorth i Brynu wedi bod yng Nghasnewydd. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau fod Llywodraeth Cymru'n croesawu adeiladu tai ar y raddfa hon, wedi'i gefnogi gan ddiddymu tollau'r Hafren? Y rheswm rwy'n gofyn yw nad yw pob llais, gan gynnwys rhai o fewn ei blaid ei hun, i'w weld yn ei groesawu—[Torri ar draws.] O fewn y Blaid Lafur—plaid Ysgrifennydd y Cabinet, a'ch plaid chi yn wir. Cwynodd rhai y byddai diddymu'r tollau yn golygu mwy o dagfeydd; dywedodd eraill y byddai pobl sy'n symud yma o Fryste yn gwneud dim ond codi prisiau tai ac o ddim budd i Gymru. Wrth gwrs, un ffordd o liniaru unrhyw gynnydd mewn prisiau tai yw adeiladu mwy o gartrefi ac ar sail yr ystadegau Cymorth i Brynu o leiaf, mae Casnewydd wedi bod yn adeiladu 10 gwaith yn fwy o gartrefi na Sir Fynwy, lle mae'r cynnydd yn y prisiau wedi bod yn fwy.

Ymhellach, a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cydnabod mai gwerthoedd preswyl cynyddol a fydd yn rhyddhau llawer mwy o safleoedd yng Nghasnewydd ac yn helpu adeiladwyr tai i dalu tuag at seilwaith, cytundebau adran 106 a thai fforddiadwy? Buaswn yn pwysleisio nad cynyddu swm a dewis y tai sydd ar gael yn unig y mae adeiladu tai yn ei wneud; mae hefyd yn hybu twf economaidd, yn creu swyddi ac yn cynhyrchu refeniw treth.

Bellach mae'r dreth trafodiadau tir wedi'i datganoli, a bydd cyfran dda o'r dreth incwm hefyd o fis Ebrill ymlaen. Os yw Casnewydd yn gallu denu mwy o bobl sy'n gweithio ym Mryste ar gyflogau da, bydd Casnewydd a Llywodraeth Cymru yn elwa. Bydd niferoedd uwch o weithwyr proffesiynol yn byw yng nghanol y ddinas hefyd yn hybu'r galw am adfywio economïau nos, manwerthu a hamdden yng Nghasnewydd. Byddai hynny, wrth gwrs, yn cael ei gefnogi hefyd gan fwy o weithredu i wella gwasanaethau strydoedd, yn enwedig palmentydd a ffryntiadau siopau. Hefyd mae angen i'r cyngor a'r heddlu gryfhau eu hymdrechion i gadw pobl yn ddiogel yng nghanol y ddinas, yn enwedig yn ystod y nos. Dylwn gydnabod hefyd fy mod wedi cytuno i roi munud o fy amser i Jayne Bryant yn nes ymlaen, ac edrychaf ymlaen at glywed ei barn ar rai o'r materion hyn.

Ysgrifennydd y Cabinet, credaf fod gennych uchelgais y dylem allu teithio rhwng Caerdydd Canolog a Temple Meads Bryste mewn hanner awr yn unig. A allech egluro a yw hynny'n caniatáu ar gyfer aros yng Nghasnewydd? A allech hefyd esbonio beth fydd effaith debygol y newidiadau yng nghynlluniau Network Rail ar gyfer trydaneiddio? Rydym yn clywed llawer iawn, ac yn briodol felly, am y siom a achoswyd gan ganslo trydaneiddio rhwng Caerdydd ac Abertawe. A allwch chi ddweud wrthym hefyd pa effaith y bydd newid y cynlluniau ar gyfer trydaneiddio, yn dilyn y cynnydd sydyn mewn costau o gymharu â'r hyn a ddisgwylid pan gytunwyd ar y trydaneiddio'n wreiddiol—y newidiadau rhwng y brif reilffordd a Temple Meads Bryste—pa effaith fydd y rheini'n ei chael ar ein huchelgais i wella'r cysylltedd rhwng Caerdydd, Casnewydd a Bryste?

Hefyd, beth y gall Ysgrifennydd y Cabinet ei ddweud wrthym am yr oedi i'r newidiadau mawr sydd eu hangen i'r amserlen cyn y gallwn elwa ar amseroedd teithio cyflymach i Lundain o dde Cymru? A oes angen dull cwbl newydd hefyd o drefnu gwasanaethau aros ar hyd prif reilffordd de Cymru? Mae'r defnydd o orsaf Cyffordd Twnnel Hafren wedi cynyddu bedair gwaith. Mae gennym fuddsoddiad sydd i'w groesawu'n fawr o £50 miliwn ar gyfer gorsaf newydd yn Llanwern. Rwyf hefyd yn ddiolchgar fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi bod yn gadarnhaol wrth gyfarfod ag ymgyrchwyr dros orsaf rodfa newydd ym Magwyr a Gwndy. Yn rhyfeddol, efallai ein bod hefyd ar fin gweld gorsaf drên newydd a ariennir yn breifat yn Llaneirwg, a allai fod yn barcffordd ar gyfer Caerdydd. Byddai'n cadw llawer o filoedd o geir allan o Gaerdydd, ond mae'n sicr y byddai hefyd yn galw am batrwm gwasanaeth cwbl newydd ar hyd prif reilffordd de Cymru, ynghyd â'r hyn sy'n digwydd yng Nghasnewydd. A yw uchelgais Llywodraeth Cymru yn cyfateb i'r cyfle sydd ar gael?

Ysgrifennydd y Cabinet, mae gennych gyfrifoldeb dros ddatblygu economaidd yng Nghymru, ond mae Casnewydd angen ichi i lywio cyfrifoldebau ac atebolrwydd newidiol ar yr ochr arall i afon Hafren hefyd er mwyn cefnogi datblygiad economaidd trawsffiniol. Yn ogystal â Marvin Rees, maer etholedig Bryste, bellach mae gennym Tim Bowles, a etholwyd yn faer ar Awdurdod Cyfunol Gorllewin Lloegr, gyda phwerau sylweddol sy'n berthnasol i'ch portffolio yma. Mae Maer Bowles wedi rhoi llawer iawn o bwyslais ar gysylltiadau â de Cymru, ac mae'n dweud bod ei ranbarth yn edrych tuag at Lundain a de-ddwyrain Lloegr fel yr ardal economaidd gryfaf yn y DU, ond mae gorllewin Lloegr hefyd yn cynhyrchu gwerth ychwanegol gros cadarnhaol, ac mae'n credu fod ganddo lawer yn gyffredin â ni yn ne Cymru wrth edrych ar wella'r cysylltiad hwnnw a sicrhau bod mwy o'r ffyniant economaidd hwnnw'n dod ymhellach i'r gorllewin er budd ein pobl. Pan gyfarfûm â Maer Bowles, y mis diwethaf, roedd yn awyddus i weithio'n agosach gyda chi fel Ysgrifennydd y Cabinet, yn ogystal â dinas-ranbarth Caerdydd. Y tu hwnt i ddatblygiad preswyl, mae'n gweld cyfleoedd mawr i ni yng Nghasnewydd a thu hwnt i fanteisio ar brosiectau gweithgynhyrchu a masnachol hefyd o orllewin Lloegr, lle mae argaeledd safleoedd yn fwy cyfyngedig. Yn ddiweddar cyhoeddodd yr ynysoedd hyn ddarn gan Nicolas Webb ar y cyfleoedd a'r heriau i ranbarth yr Hafren. Mae'n dweud,

Byddai cynllunio ar gyfer dyfodol economaidd de-ddwyrain Cymru heb dalu sylw i lwyddiant economaidd Bryste yn debyg i Connecticut yn anwybyddu presenoldeb Dinas Efrog Newydd,

a'i bod yn afresymol gweld cymudo o Gasnewydd i Fryste fel bygythiad i'r economi leol. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno?

Mae cyflogaeth yng Nghaerdydd yn canolbwyntio fwyfwy ar y canol, sy'n cael ei wasanaethu'n dda gan drafnidiaeth gyhoeddus. Mae cyflogaeth yng Nghasnewydd yn fwy dibynnol ar barciau busnes oddi ar yr M4, wedi'u hatgyfnerthu gan fuddsoddiad i'w groesawu mewn lled-ddargludyddion cyfansawdd a'r parc gwyddoniaeth data a gefnogir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Mae angen i draffig lifo ar yr M4. Er y bydd ffordd liniaru'r M4 o fudd uniongyrchol i Gasnewydd, drwy ei chyffyrdd ger Llanwern a'r dociau a thrwy gynnig llwybr cynt, y fantais fwyaf i Gasnewydd fyddai lleihau tagfeydd ar yr M4 bresennol. Byddai hynny'n golygu mynediad haws at gyflogaeth. Byddai hefyd yn golygu ansawdd aer gwell.

Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych yn mynd i gadw eich addewid maniffesto: 'Byddwn yn cyflwyno ffordd liniaru ar gyfer yr M4'? Rwy'n deall bod cyfraith cynllunio yn ei gwneud yn ofynnol i'r Prif Weinidog wneud penderfyniad cynllunio ar sail yr adroddiad o'r ymchwiliad cyhoeddus. Fodd bynnag, a yw hyn bellach i'w ddilyn gan, ac yn amodol ar, benderfyniad pellach a neilltuol gan Lywodraeth Cymru ynglŷn ag a ddylid cyflawni'r prosiect mewn gwirionedd, er ei fod yn ymrwymiad maniffesto? Ysgrifennydd Cabinet, a all pleidleiswyr yng Nghasnewydd ddibynnu ar yr hyn yr addawoch chi iddynt yn eich maniffesto? A wnewch chi gefnogi economi Casnewydd gyda'r seilwaith sydd ei angen arni i wneud y gorau o'i chyfleoedd?

17:45

Hoffwn ddiolch i Mark Reckless am ganiatáu munud imi yn y ddadl hon heddiw, ac rwy'n falch o siarad heddiw fel rhywun sy'n hanu o Gasnewydd. Mae gan Gasnewydd ddiwylliant a hanes cyfoethog ac mae mewn sefyllfa dda i fanteisio ar y cyfleoedd yn y dyfodol. Roedd hi'n bleser croesawu Ysgrifennydd y Cabinet i uwchgynhadledd fusnes a gynhaliais yn y Celtic Manor yn fy etholaeth ym mis Ebrill. Mynychodd cynrychiolwyr o amrywiaeth eang o fusnesau lleol llwyddiannus—bach a mawr—y digwyddiad a edrychai dros y ganolfan gynadledda ryngwladol gyffrous sydd i agor y flwyddyn nesaf.

Mae arloesedd yn y sector preifat a chymorth gan Lywodraeth Cymru wedi rhoi hwb sylweddol i'r economi leol. Mae busnesau sefydledig fel GoCompare, Airbus, Tata Steel a Chanolfan Ganser Rutherford De Cymru oll wedi dewis lleoli yng Nghasnewydd. Mae gennym y Swyddfa Eiddo Deallusol, y Swyddfa Ystadegau Gwladol a'u campws gwyddoniaeth data rhagorol. Mae'r economi newydd yn dibynnu'n fawr ar fynediad at fand eang cyflym iawn, a nodaf, hyd yma, fod rhaglen Cyflymu Cymru Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi dros £2 miliwn ar draws y ddinas, gan hwyluso mwy o gysylltedd i filoedd o gartrefi a busnesau.

Casnewydd yw'r porth i Gymru, a bydd diddymu tollau pont Hafren ym mis Rhagfyr yn dod â chyfleoedd mawr i'r ddinas. Eto i gyd, fel gyda phob cyfle, ceir heriau ac ni allwn anwybyddu problem tagfeydd, a rhaid mynd i'r afael â hyn. Mae Casnewydd yn lle gwych i fyw ynddo a gwyddom fod mwy a mwy o bobl yn dewis gwneud eu cartref yn y ddinas hon. Law yn llaw â hynny, daw'r her o sicrhau bod gennym y seilwaith iawn i gefnogi twf.

A gaf fi alw yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth i ymateb i'r ddadl? Ken Skates.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i Mark Reckless am gyflwyno'r ddadl hon heddiw, a hoffwn ddiolch hefyd i fy nghyd-Aelod Jayne Bryant am wneud pwyntiau pwysig iawn.

Rwy'n hynod o falch o'r hyn y mae Llywodraeth Lafur Cymru yn ei wneud i gefnogi twf economaidd, gwella seilwaith a pharatoi ar gyfer cyfleoedd yn y dyfodol yn ne-ddwyrain Cymru, ac yng Nghasnewydd yn enwedig. Er enghraifft, dros 20 mlynedd ei hoes, disgwylir i fargen ddinesig prifddinas-ranbarth Caerdydd sy'n werth £1.2 biliwn ddarparu hyd at 25,000 o swyddi newydd a sbarduno £4 biliwn o fuddsoddiad sector preifat ychwanegol. Gyda £734 miliwn o fuddsoddiad wedi'i gynllunio, mae'r fargen £1.2 biliwn yn gosod metro de Cymru yng nghanol rhaglen seilwaith sylweddol.

Yn ogystal, mae rhaglen y Cymoedd Technoleg hefyd yn hynod o gyffrous. Yn ddiweddar cyhoeddais £100 miliwn o arian Llywodraeth Cymru dros 10 mlynedd i gefnogi creu mwy na 1,500 o swyddi o ansawdd uchel. I gydnabod pwysigrwydd cynyddol technolegau digidol, rydym yn cynorthwyo nifer o fentrau i helpu cymwysterau technolegol y rhanbarth. Mae ein cefnogaeth i'r sector lled-ddargludyddion cyfansawdd yn enghraifft o'r gwerth a roddwn ar ddiwydiannau gwerth uchel. Mae'r cryfderau yn y sector hwn yn rhanbarth y de-ddwyrain wedi arwain, wrth gwrs, at sefydlu clwstwr cyntaf y byd o led-ddargludyddion cyfansawdd.

Gan aros gyda thema technoleg, mae Cymru hefyd wedi dod yn ganolfan ragoriaeth ym maes diogelwch seiber, gyda rhanbarth de Cymru'n cael ei adnabod fel lleoliad pwysig ar gyfer ymchwil a datblygu a masnacheiddio cynhyrchion a gwasanaethau amddiffyn a diogelwch. Gan gydnabod pwysigrwydd sylfaen sgiliau gref ar gyfer twf parhaus yr economi, rydym yn cefnogi academi feddalwedd genedlaethol gyntaf y DU. Mae data yn tyfu'n gyflym i fod yn rhan allweddol o'r economi fodern, a bydd yn parhau i hybu arloesedd a thwf economaidd yn y dyfodol y gallwn ei ragweld. Felly, mae'n galonogol gweld nifer sylweddol o fusnesau'n seiliedig ar ddata yn arloesi yn y maes hwn yn ne-ddwyrain Cymru, ac yn enwedig yn ardal Casnewydd.

Wrth gwrs, mae Casnewydd hefyd yn gartref i nifer sylweddol o gyflogwyr mawr ym maes data a rheoli data—er enghraifft, y Swyddfa Ystadegau Gwladol a'r Swyddfa Eiddo Deallusol—ac mae'r campws gwyddoniaeth data newydd yn gweithredu fel canolbwynt ar gyfer holl sectorau cyhoeddus a phreifat y DU a bydd yn sicr yn helpu i adeiladu enw da Cymru fel arweinydd rhyngwladol yn y maes hwn.

Wedyn, wrth gwrs, mae gennym Ganolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru gwerth £84 miliwn i edrych ymlaen ati, ac mae'r gwaith adeiladu yn mynd rhagddo'n dda, fel y bydd yr holl Aelodau wedi gweld bellach, rwy'n siŵr. Bydd hwn yn ased enfawr ar gyfer Casnewydd a rhanbarth cyfan de-ddwyrain Cymru, gan ein galluogi i gystadlu ag unrhyw leoliad yn y DU ac Ewrop. Ceir tua 350 o weithwyr adeiladu ar y safle erbyn hyn a byddant yno dros y ddwy flynedd nesaf. Bydd yn dod â £50 miliwn amcangyfrifedig i'r economi leol. Hefyd, yn hollbwysig i'r rhanbarth ac i Gymru gyfan yn fy marn i, fe fydd yn helpu i wella'r cynnig i'r economi ymwelwyr, ac o safbwynt lletygarwch yn enwedig, bydd yn helpu i wella ansawdd gwestai a'r ddarpariaeth gwely a brecwast yn y rhanbarth.

Nawr, yn dilyn uwchgynhadledd gyntaf twf Hafren ar 22 Ionawr yng Ngwesty'r Celtic Manor, lle'r oedd David Rosser, ein prif swyddog rhanbarthol ar gyfer de-ddwyrain Cymru, yn siarad, arweiniais drafodaeth ar y cyd ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru gydag arweinwyr busnes a dinesig o bob rhan o dde-ddwyrain Cymru, ac yn hollbwysig hefyd, gyda gorllewin Lloegr, i fesur yr awydd i gydweithio mwy ar y ddwy ochr i'r ffin. Rwy'n glir y gall y ddau ranbarth elwa o gysylltiadau economaidd agosach, ac y bydd creu'r pwerdy gorllewinol o gwmpas aber afon Hafren yn cyflwyno cynnig grymus ar gyfer denu mwy o fuddsoddiad, naill ai gan Lywodraeth y DU neu gan fuddsoddwyr tramor. Ac rwyf wedi gofyn i'r prif swyddog rhanbarthol arwain y gwaith hwn gyda chymheiriaid yn rhanbarth Bryste i archwilio sut y gellir bwrw ymlaen â hyn.

Buaswn yn croesawu adeiladu cartrefi newydd ychwanegol, a bydd y cyhoeddiad y bydd tollau afon Hafren yn cael eu diddymu ar 17 Rhagfyr hefyd yn hybu cysylltedd economaidd yn y rhanbarth. Rydym yn gwybod bod y ffigur, o ran y budd i Gymru, oddeutu £100 miliwn y flwyddyn, ac mewn perthynas ag adeiladu tai, er y buaswn yn croesawu adeiladu cartrefi newydd, buaswn yn dweud ei bod hi'n gwbl hanfodol fod y cartrefi hynny'n cael eu hadeiladu ar gyfer pobl a fyddai fel arall, efallai, yn cael eu gorfodi i adael y gymuned y maent wedi tyfu i fyny ynddi oherwydd prinder stoc tai, ac felly'n bris rhy uchel i'w dalu am eiddo sy'n bodoli'n barod.

O ran cysylltedd rheilffordd, rwyf wedi bod yn glir iawn yn fy ngohebiaeth a fy ymgysylltiad â Llywodraeth y DU fod angen inni weld amseroedd teithio rhwng de Cymru a Llundain a rhannau eraill o dde Lloegr yn lleihau, nid drwy gau gwasanaethau ar hyd ochr Cymru i'r brif reilffordd, ond ar ochr Lloegr. Credwn y gellid arbed amser drwy beidio ag aros mewn rhai mannau penodol. Ond mae'n ffaith drist, o ganlyniad i flynyddoedd o danfuddsoddi a chanslo trydaneiddio o Gaerdydd i Abertawe, nad yw hi bellach yn bosibl cyrraedd Llundain mewn amser cyflymach nag y byddai wedi'i gymryd 41 mlynedd yn ôl. Er efallai ein bod yn mynd i weld trydaneiddio i Gaerdydd, mae'n gwbl amlwg fod yn rhaid i drydaneiddio pellach, neu waith adfer i sicrhau bod amseroedd yn gwella, ddigwydd yn gyflym iawn.

Rwy'n falch o ddweud fy mod i wedi cyfarfod â Tim Bowles hefyd ar nifer o achlysuron. Rwy'n credu bod gennym berthynas waith gref iawn. Mae wedi ymweld â'r fan hon, mae wedi eistedd yn fy swyddfa ac rydym wedi rhannu ein safbwyntiau, sy'n hynod o debyg ar gydweithio trawsffiniol. Yn yr un modd, mae gennyf gysylltiadau tebyg â meiri metro yng ngogledd-orllewin Lloegr, ac rwy'n gobeithio datblygu perthynas gadarnhaol debyg gyda'r maer metro yng ngorllewin canolbarth Lloegr. Rwy'n credu'n gryf ac yn angerddol mewn cydweithio trawsffiniol. Gwn fod rhai yn y Siambr hon, er nad ydynt yn bresennol yma bellach, yn gwrthwynebu'n chwyrn ac yn llafar unrhyw gydweithio gyda'n partneriaid ar draws y ffin. Ond beth y mae'n ei ddweud am ein gwlad, fel gwlad ryngwladolaidd sy'n edrych tuag allan, os ydym yn dweud wrth ein cymdogion dros y ffin nad ydym eisiau gweithio gyda hwy?

Rwy'n hapus i ildio.

17:55

Fe wyddoch beth rwy'n mynd i'w grybwyll, Ysgrifennydd y Cabinet, gan fy mod wedi sôn amdano'n gynharach gyda'r Ysgrifennydd cyllid, ac rwyf wedi gwneud hynny gyda chi o'r blaen, sef ffordd osgoi Cas-gwent. Mae honno'n enghraifft o ble mae cydweithrediad trawsffiniol yn gwbl hanfodol. Felly, gobeithio y byddwch yn bwrw ymlaen â hynny, oherwydd os gallwn ddatrys problemau'r tagfeydd yng Nghas-Gwent a bod mwy o gapasiti yno, byddai mwy o gapasiti ar yr M4 yn ogystal.

Wel, rwy'n cytuno'n llwyr, a thrwy weithio'n agos gyda'n gilydd a chysoni blaenoriaethau ar y ddwy ochr i'r ffin, gallai ffordd osgoi Cas-gwent fod yn enghraifft wych o sut y gallwn ddarparu ar gyfer y bobl y mae pawb ohonom am weld eu cyfleoedd bywyd yn gwella. Ac mae enghraifft arall yn agosach i fy nghartref gyda'r gwaith y bûm yn ei wneud gyda chymheiriaid dros y ffin, gydag Owen Paterson a Chyngor Swydd Amwythig a Highways England, yn edrych ar sut y gallwn wella llif y traffig ar hyd yr A5 drwy ddefnyddio ein buddsoddiad ar ochr Cymru, ac annog a gobeithio bod Highways England yn buddsoddi yn yr un modd ar ochr Lloegr. Ond fel y dywedaf, rwy'n credu'n gryf mewn cydweithrediad trawsffiniol, a gweithio gyda'n partneriaid nid yn unig yn Lloegr ond yn yr Alban hefyd wrth gwrs ac yn Iwerddon a thu hwnt. Rwy'n credu'n gryf, Ddirprwy Lywydd, na allwn byth ganiatáu i'r wleidyddiaeth gasineb sy'n gyrru cenedlaetholdeb fygu partneriaeth neu gydweithredu neu undod neu'n wir, ein ffyniant.

Ac o ran yr ymchwiliad cyhoeddus blwyddyn o hyd i'r M4—. [Torri ar draws.] O ran yr ymchwiliad cyhoeddus blwyddyn o hyd i'r M4, wel, mae hwnnw bellach wedi'i gwblhau. Nid wyf yn meddwl fy mod i erioed wedi cael cymaint o fonllef oddi ar feinciau'r wrthblaid. [Chwerthin.] Rydych yn garedig iawn.

Mae'r ymchwiliad cyhoeddus bellach wedi dod i ben ac mae adroddiad yr arolygydd wedi'i dderbyn gan swyddogion sy'n cyflawni'r diwydrwydd dyladwy angenrheidiol wrth gwrs. Nid wyf eto wedi gweld yr adroddiad. Tra bo swyddogion yn cyflawni'r ymarfer diwydrwydd dyladwy hwnnw, ni fyddaf yn gweld yr adroddiad hwnnw. Ond ar ôl cael eu cyngor, gellir gwneud y penderfyniad ar y gorchmynion—y penderfyniad cynllunio i bob pwrpas—a bydd y penderfyniad hwnnw ac adroddiad yr arolygydd ar gael wedyn i'r holl Aelodau yn y Siambr hon.

Andrew R.T. Davies a gododd—

Efallai eich bod yn dod at hyn, Weinidog, ond a allwch egluro? Yn ôl fy nghyfrif i, rwy'n credu bod gennym oddeutu saith wythnos o'r tymor ar ôl, a phythefnos yr ochr hon i hanner tymor. Mae'r Prif Weinidog wedi dweud y bydd yn gwneud y cyhoeddiad ac mae'n camu i lawr yn yr wythnos olaf, felly mae hynny'n gadael pum wythnos yr ochr arall i hanner tymor. Felly, mae yna saith wythnos seneddol yn weddill. Beth yw barn y Llywodraeth ynglŷn â pha bryd y byddant yn dod â'r penderfyniad hwnnw i'r Siambr, oherwydd rwy'n gobeithio mai drwy'r Siambr hon y gwneir y cyhoeddiad hwnnw, nid rhyw fath o gyhoeddiad yn y wasg?

Ac roeddwn ar fin dweud, mewn gwirionedd, y bydd penderfyniad ar adroddiad yr arolygydd ar gael i'r Aelodau wedyn cyn cael dadl a phleidlais ar y mater yn y Siambr, cyn y gwneir penderfyniadau terfynol ynglŷn ag a ddylid bwrw ymlaen â'r gwaith adeiladu. Ond mae ein safbwynt yn glir iawn ac yn parhau i fod yn gyson â'r addewid yn ein maniffesto.

Wrth gwrs, rydym wedi arwain ar lawer mwy o brosiectau gweddnewidiol, ac roeddwn yn arbennig o falch o weld y buddsoddiad gan CAF yn ardal Casnewydd, gan ddod â gwaith cydosod trenau amhrisiadwy i mewn. Mae wedi ein galluogi i ddenu mwy o ddiddordeb yng Nghymru, ac rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau wedi gweld y cyhoeddiad ddoe ddiwethaf gan TALGO fod gogledd Cymru ar y rhestr fer fel safle posibl ar gyfer creu 1,000 o swyddi newydd o ansawdd uchel, yn cynhyrchu rhai o drenau cyflym gorau'r byd. O ddechrau yn y dechrau, mae Cymru bellach wedi cael enw neilltuol o dda fel ardal sy'n arbenigo ar weithgynhyrchu trenau.

Ond wrth gwrs, yn olaf, rydym yn wynebu her Brexit, a pha her fwy y gall neb ohonom ei hwynebu na'n hymadawiad â'r UE? Yng Nghasnewydd, dinas sydd ag economi weithgynhyrchu mor gryf a lle mae llawer o fusnesau'n rhan o gadwyni cyflenwi cymhleth iawn a rhwydweithiau sy'n ymestyn ledled Ewrop, rwy'n credu bod y realiti hwnnw'n hysbys iawn. Felly, er gwaethaf argyhoeddiad cryf fod yn rhaid taro bargen, rwy'n credu ei bod hi lawn mor bwysig inni ddweud bod gennym gyfrifoldeb i baratoi ar gyfer ein hymadawiad â'r UE. Mae'r cynllun gweithredu economaidd yn ymwneud yn sylfaenol â'n heconomi. Mae'n ystyried posibiliadau yn y negodiadau Brexit ac fe'i cynlluniwyd i ateb heriau heddiw, ond lawn cymaint hefyd, i harneisio cyfleoedd yfory.

Nawr, hyderaf fod y ddadl hon wedi dangos, gyda'r holl bethau rydym yn eu gwneud fel Llywodraeth yng Nghasnewydd, yn ogystal ag ar draws Cymru gyfan, fod yna achos dros optimistiaeth a hyder yn y ddinas ac yn y rhanbarth yn awr ac yn y dyfodol. Rwy'n arbennig o falch hefyd fod yna gonsensws trawsbleidiol fod ein ffyniant yn y dyfodol yn dibynnu ar gydweithredu trawsffiniol cadarn.

18:00

Daeth y cyfarfod i ben am 18:01.