National Assembly for Wales

Back to Search

Y Cyfarfod Llawn

Plenary

11/07/2018

Cynnwys

Contents

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig 1. Questions to the Cabinet Secretary for Energy, Planning and Rural Affairs
2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus 2. Questions to the Cabinet Secretary for Local Government and Public Services
3. Cwestiynau Amserol 3. Topical Questions
4. Datganiadau 90 Eiliad 4. 90-second Statements
5. Cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 18 mewn perthynas â'r Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 5. Motion to amend Standing Order 18 in relation to the Public Audit (Wales) Act 2013
6. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar gyllid cychwynnol Llywodraeth Cymru ar gyfer prosiect Cylchffordd Cymru 6. Debate on the Public Accounts Committee report on The Welsh Government's initial funding of the Circuit of Wales project
7. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon: Y defnydd o feddyginiaeth wrthseicotig mewn cartrefi gofal 7. Debate on the Health, Social Care and Sport Committee report: Use of antipsychotic medication in care homes
8. Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: Ardaloedd Menter: Mynd Ymhell? 8. Debate on the Economy, Infrastructure and Skills Committee report: Enterprise Zones: boldly going?
9. Cyfnod Pleidleisio 9. Voting Time
10. Dadl Fer: Diogelu dyfodol y Prince Madog: Yr achos dros gael llong ymchwil forwrol genedlaethol i Gymru 10. Short Debate: Securing the future of the Prince Madog: The case for having a national maritime research ship for Wales

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

The Assembly met at 13:30 with the Llywydd (Elin Jones) in the Chair.

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig
1. Questions to the Cabinet Secretary for Energy, Planning and Rural Affairs

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni'r prynhawn yma yw'r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, a'r cwestiwn cyntaf, Joyce Watson.

The first item on our agenda this afternoon is questions to the Cabinet Secretary for Energy, Planning and Rural Affairs, and the first question, Joyce Watson.

Rheoli Perthi yn yr Haf
Summer Hedgerow Management

1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am reoli perthi yn yr haf? OAQ52485

1. Will the Cabinet Secretary make a statement on summer hedgerow management? OAQ52485

We recognise the agricultural, wildlife and landscape value of hedgerows. Birds mostly nest between March and August, and hedges should be checked before cutting, to avoid harm to nests. Recipients of common agricultural policy payments must adhere to cross-compliance rules, under which hedgerows cannot be cut between March and August.

Rydym yn cydnabod gwerth amaethyddol perthi, a'u gwerth i fywyd gwyllt ac i'r dirwedd. Mae adar yn nythu rhwng mis Mawrth a mis Awst yn bennaf, a dylid archwilio perthi cyn eu torri, er mwyn osgoi niwed i nythod. Mae'n rhaid i bawb sy’n derbyn taliadau'r polisi amaethyddol cyffredin ddilyn rheolau trawsgydymffurfio, sy'n datgan na ellir torri perthi rhwng mis Mawrth a mis Awst.

Thank you for that, but every summer I'm alarmed by the number of hedges that are being trimmed during peak nesting season. They do provide an important food source for all types of animals, and vital nesting habitat for birds, particularly in the spring and summer months. And this year, travelling the roads, I've already witnessed unnecessary hedge cutting on several occasions across my constituency, and it's unnecessary because the hedge was under a tree canopy, and several metres away from the road. As you said, farmers and landowners are obliged by legislation not to trim between 1 March and 31 August, and that's fantastic. But with local authorities, and private householders, and golf courses, it's down to best practice—it's not compulsory. Nesting birds are protected under the Wildlife and Countryside Act 1981, but it doesn't protect them if we rely on hedgerows being adequately maintained during peak season. So, can I ask that the Welsh Government considers looking at introducing legislation that would make it compulsory for local authorities, private households and golf courses, and the like, not to trim their hedges between March and August and to bring those in line with the farmers and the landowners?

Diolch am hynny, ond bob haf, mae nifer y perthi sy'n cael eu torri ynghanol y tymor nythu yn peri cryn bryder i mi. Maent yn darparu ffynhonnell bwysig o fwyd ar gyfer pob math o anifeiliaid, a chynefin nythu hanfodol i adar, yn enwedig yn ystod misoedd y gwanwyn a'r haf. Ac eleni, wrth deithio ar y ffyrdd, rwyf eisoes wedi gweld perthi'n cael eu torri heb fod angen ar sawl achlysur yn fy etholaeth, ac mae'n ddiangen am fod y perthi o dan ganopi coed, a sawl metr oddi wrth y ffordd. Fel y dywedoch, mae deddfwriaeth yn gorfodi ffermwyr a thirfeddianwyr i beidio â thorri perthi rhwng 1 Mawrth a 31 Awst, ac mae hynny'n wych. Ond gydag awdurdodau lleol, a deiliaid tai preifat, a chyrsiau golff, mae'n dibynnu ar arferion gorau—nid yw'n orfodol. Mae adar sy'n nythu wedi'u gwarchod o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, ond nid yw'n eu gwarchod os ydym yn dibynnu ar berthi'n cael eu cynnal yn briodol ynghanol y tymor nythu. Felly, a gaf fi ofyn i Lywodraeth Cymru ystyried cyflwyno deddfwriaeth a fyddai'n ei gwneud yn orfodol i awdurdodau lleol, cartrefi preifat a chyrsiau golff a'u tebyg, ymatal rhag torri eu perthi rhwng mis Mawrth a mis Awst, gan sicrhau eu bod yn rhwym i'r un rheolau â'r ffermwyr a'r tirfeddianwyr?

Can I thank the Member for the question? You raise a really important point in terms of the value of hedgerows in providing food sources and vital habitats for birds and animals, and to enhance and protect biodiversity. Under the Environment (Wales) Act 2016, there was a public duty on all public authorities to seek and maintain biodiversity, and doing so to increase ecosystem resilience, which also provides additional protection for hedgerows and the associated biodiversity, including pollinators. It is my plan to go and meet with local authorities in terms of actually how they are enacting the biodiversity duty in the environment Act and actually emphasise that that can form part of the value of hedgerows as part of that. You referenced the Wildlife and Countryside Act 1981. It does serve as a statutory mechanism to prevent the disturbance of nesting birds, from March to October, through hedge cutting. Although hedge cutting during these periods is not unlawful, all hedge owners must ensure no nesting birds are present before doing so.

A gaf fi ddiolch i'r Aelod am y cwestiwn? Rydych yn codi pwynt pwysig iawn o ran gwerth perthi'n darparu ffynonellau bwyd a chynefinoedd hanfodol i adar ac anifeiliaid, ac i wella a diogelu bioamrywiaeth. O dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, roedd dyletswydd gyhoeddus ar bob awdurdod cyhoeddus i sicrhau ac i gynnal bioamrywiaeth, a thrwy hynny i gynyddu gwydnwch ecosystemau, sydd hefyd yn darparu diogelwch ychwanegol ar gyfer perthi a'r fioamrywiaeth gysylltiedig, gan gynnwys pryfed peillio. Fy mwriad yw cyfarfod ag awdurdodau lleol i drafod sut y maent yn rhoi'r ddyletswydd bioamrywiaeth yn Neddf yr amgylchedd ar waith, a phwysleisio y gall hynny ffurfio rhan o werth perthi fel rhan o hynny. Cyfeiriasoch at Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981. Mae'n gweithredu fel mecanwaith statudol i atal aflonyddu ar adar sy'n nythu, o fis Mawrth i fis Hydref, drwy dorri perthi. Er nad yw torri perthi yn ystod y cyfnodau hyn yn anghyfreithlon, mae'n rhaid i bawb sy'n berchen ar berthi sicrhau nad oes adar yn nythu yn y perthi cyn gwneud hynny.

Minister, I've received representations from constituents who have concerns over the over-zealous cutting of roadside verges, especially on the A40 from Fishguard to Haverfordwest road, which is destroying local flora and has knock-on effects on local wildlife. I understand that the Welsh Government is introducing a new green corridor initiative for roadside verges. But can you tell us what specific action the Welsh Government can take to protect the verges and ensure that their maintenance is appropriate and actually protects local wildlife?

Weinidog, rwyf wedi derbyn sylwadau gan etholwyr sy'n pryderu ynglŷn â gormod o dorri lleiniau ymylon ffyrdd, yn enwedig ar ffordd yr A40 rhwng Abergwaun a Hwlffordd, gan ddinistrio fflora lleol, ac mae hyn yn arwain at effeithiau canlyniadol ar fywyd gwyllt lleol. Rwy'n deall bod Llywodraeth Cymru yn cyflwyno menter coridor gwyrdd newydd ar gyfer lleiniau ymylon ffyrdd. Ond a allwch ddweud wrthym pa gamau penodol y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i warchod y lleiniau ac i sicrhau bod y gwaith o'u cynnal a'u cadw yn addas ac yn gwarchod y bywyd gwyllt lleol?

I thank the Member for his question. You raise very similar points in terms of the importance of hedgerows in terms of protecting and enhancing habitats and biodiversity. And whilst the primary functions of hedgerows are often seen as just for the purpose of stock management and to mark land boundaries, there is a wider, broader value to them too, and a purpose for us. You mentioned the green corridors; they're often called wildlife corridors as well—biodiversity corridors. We brought before this place just recently the updated woodland strategy, and that incorporates looking at how hedgerows are part of that, in terms of creating green coverage, which is one of the avenues that will be taking this forward.

Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Rydych yn codi pwyntiau tebyg iawn o ran pwysigrwydd perthi i warchod a gwella cynefinoedd a bioamrywiaeth. Ac er yr ystyrir yn aml mai prif swyddogaethau perthi yw rheoli stoc a nodi ffiniau tir, mae ganddynt werth ehangach, mwy cyffredinol hefyd, a phwrpas ar ein cyfer ni. Fe sonioch chi am goridorau gwyrdd; fe'u gelwir yn aml yn goridorau bywyd gwyllt hefyd—coridorau bioamrywiaeth. Yn ddiweddar, fe gyflwynom ni'r strategaeth goetiroedd wedi'i diweddaru gerbron y lle hwn, ac mae honno'n edrych ar sut y mae perthi'n rhan o hynny, o ran creu gorchudd gwyrdd, sef un o'r llwybrau ar gyfer bwrw ymlaen â hyn.

Ynni'r Môr yn Ngogledd Cymru
Marine Energy in North Wales

2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ynni'r môr yng ngogledd Cymru? OAQ52492

2. Will the Cabinet Secretary make a statement on marine energy in north Wales? OAQ52492

Member
Lesley Griffiths AM 13:34:37
Cabinet Secretary for Energy, Planning and Rural Affairs

We recognise the potential of marine energy in creating low-carbon energy and providing economic and social benefits to our coastal communities. Welsh Government policies have supported the deployment of a range of marine energy technologies, and we will continue to work to realise the opportunities associated with this sector.

Rydym yn cydnabod potensial ynni'r môr wrth greu ynni carbon isel a darparu manteision economaidd a chymdeithasol i'n cymunedau arfordirol. Mae polisïau Llywodraeth Cymru wedi cefnogi'r defnydd o amrywiaeth o dechnolegau ynni'r môr, a byddwn yn parhau i weithio i wireddu'r cyfleoedd sy'n gysylltiedig â'r sector hwn.

Diolch yn fawr iawn i chi. Mae'n siŵr y dylai'r cwestiwn fod wedi ei aralleirio i olygu ynni'r môr oddi ar arfordir gogledd Cymru, i fod yn fanwl gywir. Ond, yn sicr, oddi ar yr arfordir, mae yna doreth o ynni ac, wrth gwrs, mae Ynys Môn yn un o'r llefydd lle mae yna waith blaengar iawn yn cael ei wneud i drio medi yr ynni hwnnw. Wrth gwrs, mae prosiectau Morlais a Minesto Deep Green yn ddau o'r rhai mwyaf blaenllaw—mi oedd hi'n braf ymweld â'r ddau efo Simon Thomas rhyw wythnos neu ddwy yn ôl.

Rŵan, o ran prosiect Morlais, mae'r prosiect hwnnw'n cyrraedd at bwynt allweddol. Mae angen symud ymlaen at Morlais B, sef i wneud y cyswllt trydanol, ac mae angen dros £20 miliwn o arian Ewropeaidd—gobeithio a ddaw—ar gyfer hwnnw. Rŵan, o ystyried arian oedd wedi cael ei glustnodi gan eich Llywodraeth chi ar gyfer morlyn Abertawe, prosiect rwyf yn gobeithio a all gario yn ei flaen efo cefnogaeth Cymru, os nad oes gan Lundain ddiddordeb, a ydy'r Llywodraeth, yn yr un modd, yn barod i ystyried buddsoddi ym mhrosiect Morlais fel arian cyfatebol a allai helpu, ochr yn ochr ag ecwiti preifat, i ryddhau y cyllid Ewropeaidd hollbwysig yna?

Thank you very much. Perhaps the question should have been reworded to ask about marine energy off the north Wales coast, to be precise. However, there is a large amount of energy available offshore and Anglesey is one of those areas where there is very innovative work being done to try and harvest that energy. Of course, the Morlais and Minesto Deep Green projects are two of the most prominent, and it was good to visit both with Simon Thomas just a week or two ago.

Now, in terms of the Morlais project, that project is reaching a key point now. We need to move on to Morlais B to make that electrical connection, and over £20 million of European funding will be required and, hopefully, will be made available for that. Now, given the funding that had been allocated by your Government for the Swansea bay tidal lagoon—a project that I do hope can proceed with Welsh support—if London isn’t interested, then would the Government, likewise, be prepared to consider an investment in the Morlais project as match funding that could help, alongside private equity, to release that crucial European funding?

13:35

Diolch. Anglesey is really becoming a hub, I think, now for tidal stream development, certainly, and I think, again, looking at tidal development, we need to make sure that we've got support from the UK Government, and I've written again to Greg Clark on the back of the very disappointing announcement in relation to the Swansea bay tidal lagoon. 

In answer to your very specific question about the funding that we had put aside—the £200 million—I have had some early discussions around the potential of being able to use that funding for other renewable energy projects. You'll be aware that we are going to bring forward a marine energy summit later on in the year, so I think the two will go hand in hand, but it's something I'm very happy to look at. I too have visited Morlais, so I'm very aware of the project and the significant benefits it could bring. 

Diolch. Credaf fod Ynys Môn yn sicr yn dod yn ganolbwynt bellach ar gyfer datblygu ffrydiau llanw, ac rwy'n credu, unwaith eto, wrth edrych ar ddatblygu ynni'r llanw, fod angen inni sicrhau ein bod yn cael cefnogaeth gan Lywodraeth y DU, ac rwyf wedi ysgrifennu eto at Greg Clark yn dilyn y cyhoeddiad siomedig iawn am forlyn llanw bae Abertawe.

I ateb eich cwestiwn penodol iawn ynglŷn â'r arian a neilltuwyd gennym—y £200 miliwn—rwyf wedi cael trafodaethau cynnar ynglŷn â'r posibilrwydd o allu defnyddio'r arian hwnnw ar gyfer prosiectau ynni adnewyddadwy eraill. Fe fyddwch yn ymwybodol y byddwn yn cynnal cynhadledd ynni'r môr yn hwyrach yn y flwyddyn, felly credaf y bydd y ddau beth yn mynd law yn llaw, ond mae'n rhywbeth rwy'n fwy na pharod i'w archwilio. Rwyf innau wedi ymweld â Morlais, felly rwy'n ymwybodol iawn o'r prosiect a'r manteision sylweddol y gallai eu darparu.

I'm very pleased to hear that alternative ways of spending that £200 million are being considered by the Welsh Government, Cabinet Secretary. You'll be aware that there are companies who are interested in developing a tidal lagoon off the north Wales coast, using different technology than has been proposed in the south, and some seed funding in order to do some scoping work with Bangor University and others is being sought by that company and some other partners. I wonder whether you can consider making some of that £200 million available in order to do some of that scoping work, so that that can be open research that anybody can access if they want to further explore those wonderful opportunities that there might be for energy generation off the north Wales coast, which would bring other benefits, such as flood protection benefits and, indeed, agriculture and tourism benefits too. 

Rwy'n falch iawn o glywed bod Lywodraeth Cymru yn ystyried ffyrdd eraill o wario'r £200 miliwn hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Fe fyddwch yn ymwybodol fod gan gwmnïau ddiddordeb mewn datblygu morlyn llanw oddi ar arfordir gogledd Cymru, gan ddefnyddio technoleg wahanol i'r hyn a gynigiwyd yn y de, ac mae'r cwmni hwnnw a phartneriaid eraill yn chwilio am gyllid sbarduno er mwyn gwneud gwaith cwmpasu gyda Phrifysgol Bangor ac eraill. Tybed a allwch ystyried darparu rhywfaint o'r £200 miliwn hwnnw er mwyn gwneud peth o'r gwaith cwmpasu, iddo fod yn ymchwil agored y gall unrhyw un gael mynediad ato os ydynt am ymchwilio ymhellach i'r cyfleoedd gwych a allai fod ar gael i gynhyrchu ynni oddi ar arfordir gogledd Cymru, a fyddai'n darparu manteision eraill, fel manteision amddiffyn rhag llifogydd, a manteision o ran amaethyddiaeth a thwristiaeth yn wir.

Thank you. Certainly, I'm aware of the proposal for a tidal lagoon in north Wales, and, as you say, it is a different technology. I think one of the areas that I am concerned about around tidal lagoons is that if the UK Government don't have a strategy, the impact that that will have. And I'll certainly be happy to look at the value-for-money report that they have now commissioned and is now on its way to us.

In relation to the question around seed funding being sought, I think perhaps the best thing would be if you or they wrote to me and I could have discussions with the Cabinet Secretary for Finance. 

Diolch. Yn sicr, rwy'n ymwybodol o'r cynnig ar gyfer morlyn llanw yng ngogledd Cymru, ac fel y dywedwch, mae'n dechnoleg wahanol. Rwy'n credu mai un o'r pethau sy'n peri pryder i mi o ran môr-lynnoedd llanw yw os nad oes gan Lywodraeth y DU strategaeth, yr effaith y bydd hynny'n ei chael. A byddaf yn sicr yn fwy na pharod i edrych ar yr adroddiad gwerth am arian y maent bellach wedi'i gomisiynu ac sydd bellach ar ei ffordd atom.

O ran y cwestiwn ynglŷn â chwilio am gyllid sbarduno, credaf efallai mai'r peth gorau fyddai iddynt hwy neu chi ysgrifennu ataf a gallwn innau gael trafodaethau gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
Questions Without Notice from Party Spokespeople

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Andrew R.T. Davies.

We now move to questions from the party spokespeople. The Conservative spokesperson, Andrew R.T. Davies. 

Thank you, Presiding Officer; I've had my reincarnation as rural affairs spokesperson. [Laughter.]

I'd like to ask you, Cabinet Secretary, in light of the consultation that you launched yesterday—the very important consultation that you launched yesterday—what is your definition of a 'land manager'? One of the five principles that you've underlined is that, under any new schemes that might be coming forward from the Welsh Government, they need to be accessible to all. So, it's important to understand what the criteria would be to make that accessible. So, what is a land manager in your eyes?

Diolch, Lywydd; cefais fy ailymgnawdoli yn llefarydd materion gwledig. [Chwerthin.]

Hoffwn ofyn ichi, Ysgrifennydd y Cabinet, yng ngoleuni'r ymgynghoriad a lansiwyd gennych ddoe—yr ymgynghoriad pwysig iawn a lansiwyd gennych ddoe—beth yw eich diffiniad o 'reolwr tir'? Un o'r pum egwyddor rydych wedi'u tanlinellu yw, o dan unrhyw gynlluniau newydd a allai gael eu cyflwyno gan Lywodraeth Cymru, fod angen iddynt fod yn hygyrch i bawb. Felly, mae'n bwysig deall beth fyddai'r meini prawf i'w gwneud yn hygyrch. Felly, beth yw rheolwr tir yn eich barn chi?

I'd like to welcome Andrew R.T. Davies to his new position. I very much look forward to you shadowing me. You always describe yourself as 19 stone of prime Welsh beef, so I'm sure we'll have some fun alongside that too. So, welcome to your portfolio. 

How do I define a land manager? I would say farmers and foresters, but, of course, the majority of our land managers in Wales are farmers. 

Hoffwn groesawu Andrew R. T. Davies i'w swydd newydd. Edrychaf ymlaen yn fawr at eich cael yn fy nghysgodi. Rydych bob amser yn disgrifio'ch hun fel 19 stôn o gig eidion gorau Cymru, felly rwy'n siŵr y cawn ychydig o hwyl gyda hynny hefyd. Felly, croeso i'ch portffolio.

Sut rwy'n diffinio rheolwr tir? Buaswn yn dweud ffermwyr a choedwigwyr, ond wrth gwrs, mae mwyafrif ein rheolwyr tir yng Nghymru yn ffermwyr.

I'm grateful for that interpretation, although, certainly, reading the consultation and reading some press speculation, it did seem as if the definition was slightly wider than that, and the interpretation could be given that large companies, for example, that might have land holdings—Tata Steel for example, or local authorities that might be looking to look after parklands or verges or whatever—that meet the environmental goals might well be able to access some of this funding that historically, under the common agricultural policy, has always been available to someone with a holding number or customer reference number. So, I'd be grateful if you could enlarge on that interpretation of who you think is a land manager. Would such public bodies, as I've just outlined, or private companies be eligible for a slice of this money that the Welsh Government would be making available, because, if so, that would be a complete change in direction from what the common agricultural policy historically has delivered back to Welsh agriculture? 

Diolch am y dehongliad hwnnw, er ei bod yn ymddangos, yn sicr, wrth ddarllen yr ymgynghoriad ac wrth ddarllen rhywfaint o ddyfalu yn y wasg, fod y diffiniad ychydig yn ehangach na hynny, ac y gellid dehongli y gall cwmnïau mawr, er enghraifft, a chanddynt ddaliadau tir—Tata Steel, er enghraifft, neu awdurdodau lleol a allai fod yn awyddus i ofalu am barciau neu leiniau neu beth bynnag—sy'n bodloni'r nodau amgylcheddol gael gafael ar rywfaint o'r arian hwn sydd, yn hanesyddol, o dan y polisi amaethyddol cyffredin, bob amser wedi bod ar gael i rywun sydd â rhif daliad neu gyfeirnod cwsmer. Felly, buaswn yn ddiolchgar pe gallech ymhelaethu ar y dehongliad o bwy y credwch sy'n rheolwr tir. A fyddai cyrff cyhoeddus o'r fath, fel yr amlinellais, neu gwmnïau preifat yn gymwys i gael peth o'r arian hwn y byddai Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu, oherwydd os felly, byddai hynny'n newid cyfeiriad llwyr o'r hyn y mae'r polisi amaethyddol cyffredin, yn hanesyddol, wedi'i ddarparu yn ôl i amaethyddiaeth Cymru?

13:40

Well, perhaps, I can give you a little piece of advice as you start your new role, and that's not to believe everything you read in the press. I think that's the first thing to say.

In relation to the definition of a land manager, as I say, the majority of our land managers in Wales are farmers and have always been. I don't think it's a huge change of direction. You'll be aware of the two schemes that we're bringing forward: the economic resilience scheme and the public goods scheme. Now, what we're consulting on is the make-up of those schemes and how those schemes can ensure that we deliver our objectives in relation to the five principles that I set back in February for our sector. So, the consultation is there. I've heard in the press that we'll be funding allotments. We won't be funding allotments. So, I think it is important that we have clarification around the consultation, and I would again urge as many people as possible to bring forward their views. 

Wel, efallai y gallaf roi ychydig o gyngor ichi wrth i chi ddechrau ar eich rôl newydd, sef i beidio â chredu popeth a ddarllenwch yn y wasg. Credaf mai dyna'r peth cyntaf i'w ddweud.

Mewn perthynas â'r diffiniad o reolwr tir, fel y dywedaf, mae mwyafrif ein rheolwyr tir yng Nghymru yn ffermwyr ac wedi bod felly erioed. Ni chredaf fod hyn yn newid mawr o ran cyfeiriad. Fe fyddwch yn ymwybodol o'r ddau gynllun rydym yn eu cyflwyno: y cynllun cadernid economaidd a'r cynllun nwyddau cyhoeddus. Nawr, rydym yn ymgynghori ar gyfansoddiad y cynlluniau hynny a sut y gall y cynlluniau sicrhau y byddwn yn cyflawni ein hamcanion o ran y pum egwyddor a nodais ym mis Chwefror ar gyfer ein sector. Felly, mae'r ymgynghoriad yno. Rwyf wedi clywed yn y wasg y byddwn yn ariannu rhandiroedd. Ni fyddwn yn ariannu rhandiroedd. Felly, credaf ei bod yn bwysig inni fod yn eglur ynglŷn â'r ymgynghoriad, ac unwaith eto, buaswn yn annog cynifer o bobl â phosibl i ddweud eu barn.

I'm grateful for that explanation, and maybe I can give a bit of advice back to the Cabinet Secretary: actually, I took it from a one-on-one interview that was in Wales Farmer yesterday, in which you gave a series of answers, so they were your answers that I was deducing my questions from. Clearly, they did leave the door open to interpretation of what a land manager was and actually who would be eligible for this funding. I appreciate the consultation is out there and there's much work to be done on that consultation, but there are some grey areas. You've clarified it to a point, about allotments, for example, and I presume that that would feed through into public bodies or private companies as well, as I cited, that wouldn't be eligible.

But one thing that, obviously, the consultation doesn't touch on is volatility in the marketplace. It talks of public goods and it talks about the environment, it does. As we're going through a heatwave at the moment, if you've got a farmer producing crops and producing livestock from the land in Wales, that volatility in the weather and the conditions is something that you can't mitigate. Any business plan you draw up cannot take that into account. What weight will you be giving to the volatility, to the very delicate environment that farmers and land managers work in, that no business plan can take account of? Is this an omission from the consultation and you'll be looking at it during further opportunities, or, under the two headings you've got, you've got volatility in there and it's just difficult at the moment to find it? 

Rwy'n ddiolchgar am yr eglurhad hwnnw, ac efallai y gallaf roi ychydig o gyngor yn ôl i Ysgrifennydd y Cabinet: mewn gwirionedd, fe'i cymerais o gyfweliad un i un yn y Wales Farmer ddoe, lle rhoesoch gyfres o atebion, felly roedd fy nghwestiynau'n seiliedig ar eich atebion chi. Yn amlwg, roeddent yn gadael y drws yn agored i ddehongliad o'r hyn yw rheolwr tir a phwy fyddai'n gymwys ar gyfer y cyllid hwn. Rwy'n sylweddoli bod yr ymgynghoriad ar waith a bod llawer o waith i'w wneud ar yr ymgynghoriad hwnnw, ond ceir rhai mannau niwlog. Rydych wedi egluro hyn i raddau, ynghylch rhandiroedd er enghraifft, ac rwy'n cymryd y byddai hynny'n cynnwys cyrff cyhoeddus neu gwmnïau preifat hefyd, fel y nodwyd gennyf, na fyddent yn gymwys.

Ond un peth, yn amlwg, nad yw'r ymgynghoriad yn ei grybwyll yw ansefydlogrwydd yn y farchnad. Mae'n sôn am nwyddau cyhoeddus ac yn sôn am yr amgylchedd, yn wir. A ninnau'n cael tywydd poeth ar hyn o bryd, os oes gennych ffermwr yn cynhyrchu cnydau a chynhyrchu da byw o'r tir yng Nghymru, mae'r ansefydlogrwydd yn y tywydd a'r amodau yn rhywbeth na ellir ei liniaru. Ni all unrhyw gynllun busnes a luniwch roi ystyriaeth i hynny. Pa bwysau fyddwch chi'n ei roi i'r ansefydlogrwydd, i'r amgylchedd bregus iawn y mae ffermwyr a rheolwyr tir yn gweithio ynddo, na all unrhyw gynllun busnes roi ystyriaeth iddo? A yw wedi'i  hepgor o'r ymgynghoriad a byddwch yn edrych arno yn ystod cyfleoedd pellach, neu o dan y ddau bennawd sydd gennych, mae gennych ansefydlogrwydd yno ac mae'n anodd dod o hyd iddo ar hyn o bryd?

In relation to volatility, obviously we work very closely with the UK Government and the other devolved administrations around that. I think you make a very pertinent point—we haven't seen this sort of weather for over 30, 40 years. So, I think it is important to make sure that we help businesses in relation to their business plans around volatility.

Just going back to the previous question on the public goods scheme, I recognise that so many of our farmers bring forward public goods at the moment that they don't get paid for and I think that's wrong. We put a huge amount of value on our public goods in Wales and I want to make sure that that is recognised, going forward with the schemes. 

Mewn perthynas ag ansefydlogrwydd, yn amlwg, rydym yn gweithio'n agos iawn gyda Llywodraeth y DU a'r gweinyddiaethau datganoledig eraill ar hynny. Credaf eich bod yn gwneud pwynt perthnasol iawn—nid ydym wedi gweld y math hwn o dywydd ers dros 30, 40 mlynedd. Felly, credaf ei bod yn bwysig sicrhau ein bod yn helpu busnesau gyda'u cynlluniau busnes mewn perthynas ag ansefydlogrwydd.

Gan ddychwelyd at y cwestiwn blaenorol ar y cynllun nwyddau cyhoeddus, rwy'n cydnabod bod llawer iawn o'n ffermwyr yn darparu nwyddau cyhoeddus ar y funud heb gael eu talu amdanynt a chredaf fod hynny'n anghywir. Rydym yn rhoi gwerth aruthrol ar ein nwyddau cyhoeddus yng Nghymru ac rwy'n awyddus i sicrhau bod hynny'n cael ei gydnabod, wrth fwrw ymlaen gyda'r cynlluniau.

Llefarydd Plaid Cymru, Simon Thomas. 

The Plaid Cymru spokesperson, Simon Thomas. 

Diolch, Llywydd. Cabinet Secretary, Jeremy Corbyn believes that a basic income is a very good idea. Can you explain why you don't think it's a good idea for Welsh farmers? 

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, mae Jeremy Corbyn yn credu bod incwm sylfaenol yn syniad da iawn. A allwch esbonio pam na chredwch ei fod yn syniad da i ffermwyr Cymru?

I presume you're referring to the basic payments scheme and direct payments. I don't believe the common agricultural policy has delivered the outcomes that we think we can get more out of and that are of such huge importance here in Wales. 

Rwy'n cymryd eich bod yn cyfeirio at y cynllun taliadau sylfaenol a thaliadau uniongyrchol. Ni chredaf fod y polisi amaethyddol cyffredin wedi darparu'r canlyniadau y credwn y gallwn gael mwy allan ohonynt ac sydd mor hynod o bwysig yma yng Nghymru.

Well, I thank you for that reply, and you're right that I am referring to the break of the link between what you could describe as a basic income and a move—significant shift—to outcomes based on public goods, as you've just described it, which is Treasury language to justify some of this. I understand that, and I think there's a lot in your consultation paper that is to be worked with and the grain of which I accept. But in breaking the link between the land that a farmer is responsible for, and the family farm in particular in Wales, you are also breaking the link between wholesome, sustainable food production and the ongoing support of payments. And I wonder whether you still believe such food production is in itself a public good or merely the associated environmental benefits, which you've just described. 

Wel, diolch am eich ateb, ac rydych yn llygad eich lle fy mod yn cyfeirio at y toriad yn y cysylltiad rhwng yr hyn y gellid ei ddisgrifio fel incwm sylfaenol a newid—newid sylweddol—i ganlyniadau sy'n seiliedig ar nwyddau cyhoeddus, fel rydych newydd ei ddisgrifio, gan ddefnyddio iaith y Trysorlys i gyfiawnhau rhywfaint o hyn. Rwy'n deall hynny, a chredaf fod llawer yn eich papur ymgynghori i weithio gydag ef ac rwy'n derbyn y cyfeiriad y mae'n mynd iddo. Ond wrth dorri'r cysylltiad rhwng y tir y mae ffermwr yn gyfrifol amdano, a'r fferm deuluol yn arbennig yng Nghymru, rydych hefyd yn torri'r cysylltiad rhwng cynhyrchu bwyd iachus, cynaliadwy a chymorth parhaus y taliadau. A thybed a ydych yn dal o'r farn fod cynhyrchu bwyd yn y fath fodd yn nwydd cyhoeddus ynddo'i hun, neu a yw hynny ond yn cynnwys y manteision amgylcheddol cysylltiedig a ddisgrifiwyd gennych.

Food production is vitally important and I refer to the five principles and about delivering on the objectives of the five principles, and food production is one of them, and I was absolutely determined that it would be one of them, but it's not a public good. Food is not a public good. It has a market and so it cannot be a public good. So, what I suppose we're doing is creating a market, if you like, for public goods, but food is not a public good.

Mae cynhyrchu bwyd yn hollbwysig a chyfeiriaf at y pum egwyddor ac at gyflawni amcanion y pum egwyddor, ac mae cynhyrchu bwyd yn un ohonynt, ac roeddwn yn gwbl benderfynol y byddai'n un ohonynt, ond nid yw'n nwydd cyhoeddus. Nid yw bwyd yn nwydd cyhoeddus. Mae ganddo farchnad ac felly ni all fod yn nwydd cyhoeddus. Felly, mae'n debyg mai'r hyn rydym yn ei wneud yw creu marchnad, os mynnwch, ar gyfer nwyddau cyhoeddus, ond nid yw bwyd yn nwydd cyhoeddus.

13:45

I think that the way you produce food is a public good and I think that sustainable and wholesome food is something that we should be trying to achieve for the wider benefit of the environment, our public health and everything else, so I would certainly want and urge people to respond to your consultation in making that strong link.

What we don't want to see, and I'm sure you'd agree, is the end of the family farm in Wales, the end of farmers who are responsible and stewards of the land that they either own or have tenanted—because it's increasingly also a tenanted landscape that we see. And we wouldn't want the end of that and then the replacement of family farms by employed land managers or people who are wardens or anything else. The key to maintaining your safe environment is that long-term investment, that long-term resilience, and a family farm and a farmer, himself or herself, at the heart of it.

But, as you have suggested that a greater number of people will be able to fish in this declining pond, can you also reply as to how we will ensure that this will be a long-term and sustainable construct under your consultation? At the moment, the common agricultural policy is seven years; though there are changes, they are often gradual, and farmers, particularly if we're moving towards public goods, will need to demonstrate things like carbon capture or flood prevention not over one year or two years, but over a long period of time. So, are you taking fully into account the need for multi-annual frameworks and investment in your land management policies?

Credaf fod y ffordd rydych yn cynhyrchu bwyd yn nwydd cyhoeddus a chredaf fod bwyd cynaliadwy a iachus yn rhywbeth y dylem fod yn ceisio'i gyflawni er budd ehangach yr amgylchedd, ein hiechyd cyhoeddus a phopeth arall, felly buaswn yn sicr yn awyddus i annog pobl i ymateb i'ch ymgynghoriad wrth wneud y cysylltiad cryf hwnnw.

Yr hyn nad ydym am ei weld, ac rwy'n siŵr y byddech yn cytuno, yw diwedd ar y fferm deuluol yng Nghymru, diwedd ar y ffermwyr sy'n gyfrifol am, ac yn stiwardio'r tir y maent naill ai'n berchen arno neu'n ei osod ar rent—gan ein bod yn gweld mwy a mwy o dir yn cael ei osod ar rent. Ac ni fyddem am weld diwedd ar hynny, a ffermydd teuluol yn cael eu disodli gan reolwyr tir cyflogedig neu bobl sy'n wardeiniaid neu unrhyw beth arall. Mae'r buddsoddiad hirdymor hwnnw a'r cadernid hirdymor hwnnw'n allweddol i gynnal eich amgylchedd diogel, ac mae fferm deuluol a'r ffermwr ei hun yn ganolog i hynny.

Ond gan eich bod wedi awgrymu y bydd nifer fwy o bobl yn gallu pysgota yn y pwll hwn sy'n mynd yn llai, a allwch ateb hefyd sut y byddwn yn sicrhau y bydd hon yn elfen gynaliadwy a hirdymor o dan eich ymgynghoriad? Ar hyn o bryd, mae'r polisi amaethyddol cyffredin yn saith mlynedd o hyd; er bod newidiadau, maent yn aml yn rhai graddol, ac yn enwedig os ydym yn symud tuag at nwyddau cyhoeddus, bydd angen i ffermwyr arddangos pethau fel dal carbon neu atal llifogydd, nid dros flwyddyn neu ddwy flynedd, ond dros gyfnod hir o amser. Felly, a ydych yn rhoi ystyriaeth lawn i'r angen am fframweithiau a buddsoddiad amlflwydd yn eich polisïau rheoli tir?

I want to start by saying that I don't want to see the loss of any small family farms—I don't want to see the loss of one farm. However, we have to recognise that Brexit brings immense challenges for the sector and that's why we need to do all we can to support them. They are custodians of our land and that's the message that—. Funnily enough, I've just done an interview now, ahead of the Royal Welsh Show, and I was asked if my perceptions had changed and I said that the one thing I hadn't realised was how much farmers take pride in their land and making sure that they just look after it for the period of time that they do and to make sure it's there for future generations. When I was out in New Zealand in April, the one lesson I came back with, after what happened to them back in 1984 with that cliff edge, was that they lost so many small farms, and I'm determined that that won't happen post Brexit here in Wales.

This is part of the consultation—you're quite right that they are a long-term sector and they need that multi-year security. And that will form part of the consultation around the two schemes that we've got, and also I've made it very clear—and I hope that's come out in the consultation launch—that we will have this transition period, because basic payments will continue in 2018 and 2019 and then, from 2020, we will start the new scheme. But there has to be a multi-year transition period: you can't expect to go from basic payment straight to the new scheme. So, I'll use Rural Payments Wales, which you'll know is very successful—we're the best in the UK—and I will use that group to make sure that we get the scheme correct from the beginning.

Hoffwn ddechrau drwy ddweud nad oes arnaf eisiau gweld unrhyw ffermydd teuluol bach yn cael eu colli—nid wyf am weld un fferm yn cael ei cholli. Fodd bynnag, mae'n rhaid inni gydnabod bod Brexit yn peri heriau enfawr i'r sector, a dyna pam fod angen inni wneud popeth y gallwn i'w cefnogi. Hwy yw ceidwaid ein tir a dyna'r neges—. Yn rhyfedd ddigon, rwyf newydd gael cyfweliad, cyn Sioe Frenhinol Cymru, a gofynnwyd imi a oedd fy argraffiadau wedi newid, a dywedais mai'r un peth nad oeddwn wedi sylweddoli oedd cymaint y mae ffermwyr yn ymfalchïo yn eu tir ac yn sicrhau eu bod yn gofalu amdano am y cyfnod a wnânt a sicrhau ei fod yno ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Pan oeddwn yn Seland Newydd ym mis Ebrill, yr un wers a ddysgais, ar ôl yr hyn a ddigwyddodd iddynt yn ôl ym 1984 gydag ymyl y clogwyn hwnnw, oedd eu bod wedi colli cymaint o ffermydd bach, ac rwy'n benderfynol o sicrhau na fydd hynny'n digwydd yma yng Nghymru ar ôl Brexit.

Mae hyn yn rhan o'r ymgynghoriad—rydych yn llygad eich lle eu bod yn sector hirdymor a bod angen y diogelwch amlflwydd hwnnw arnynt. A bydd hynny'n ffurfio rhan o'r ymgynghoriad ar y ddau gynllun sydd gennym, ac rwyf hefyd wedi dweud yn glir iawn—a gobeithiaf fod hyn wedi'i gyfleu wrth lansio'r ymgynghoriad—y byddwn yn cael y cyfnod pontio hwn, oherwydd bydd y taliadau sylfaenol yn parhau yn 2018 a 2019, ac yna, o 2020 ymlaen, byddwn yn dechrau'r cynllun newydd. Ond mae'n rhaid cael cyfnod pontio amlflwydd: ni allwch ddisgwyl newid o'r taliad sylfaenol yn syth i'r cynllun newydd. Felly, byddaf yn defnyddio Taliadau Gwledig Cymru, sy'n llwyddiannus iawn fel y gwyddoch—ni yw'r gorau yn y DU—a byddaf yn defnyddio'r grŵp hwnnw i sicrhau bod y cynllun yn gywir gennym o'r dechrau.

Llefarydd UKIP, Neil Hamilton.

UKIP spokesperson, Neil Hamilton.

Diolch yn fawr, Llywydd. I've had a great deal of contact recently with animal welfare campaigners who are concerned about pre-stunning of animals and ritual slaughter, in particular. And they've pointed out to me that non-stun slaughter has now been banned in Denmark, Iceland, Sweden and New Zealand, that the British Veterinary Association have said that pre-stunning is superior from a welfare point of view, and that recent methodological developments in electroencephalograms allow the experience of pain to be assessed more directly than ever before, and, in relation to calves that are slaughtered by ventral neck incision, it's apparently now quite clear that this could be perceived as painful in the period between the incision and the loss of consciousness. So, in these circumstances, will the Cabinet Secretary look again—in line with the BVA's viewpoint and the RSPCA's, and many other organisations involved in animal welfare, that the only way to adhere to the highest standards of animal welfare in Welsh slaughterhouses is to ensure that all animals are stunned before slaughter for whatever reason?

Diolch yn fawr, Lywydd. Rwyf wedi cael llawer o gysylltiad yn ddiweddar ag ymgyrchwyr lles anifeiliaid sy'n pryderu am stynio anifeiliaid cyn eu lladd a defodau lladd anifeiliaid, yn benodol. Ac maent wedi tynnu fy sylw at y ffaith bod lladd heb stynio bellach wedi'i wahardd yn Denmarc, Gwlad yr Iâ, Sweden a Seland Newydd, fod Cymdeithas Milfeddygon Prydain wedi dweud bod stynio anifeiliaid cyn eu lladd yn well o safbwynt lles, a bod datblygiadau methodolegol diweddar mewn electro-enseffalogramau yn ein galluogi i asesu'r profiad o boen yn fwy uniongyrchol nag erioed o'r blaen, ac mewn perthynas â lloi sy'n cael eu lladd drwy doriad fentrol i'r gwddf, mae'n debyg ei bod bellach yn gwbl glir y gellid dweud bod hyn yn boenus yn y cyfnod rhwng torri'r gwddf a cholli ymwybyddiaeth. Felly, yn yr amgylchiadau hyn, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet edrych eto—yn unol â safbwyntiau Cymdeithas Milfeddygon Prydain a'r RSPCA, a llawer o sefydliadau eraill sy'n ymwneud â lles anifeiliaid, mai'r unig ffordd o gadw at y safonau uchaf o ran lles anifeiliaid mewn lladd-dai yng Nghymru yw drwy sicrhau bod pob anifail yn cael eu stynio cyn eu lladd am ba reswm bynnag?

This is certainly a discussion I had with the British Veterinary Association just a couple of weeks ago, and I've asked officials to look at the information they've brought forward for me in detail.

Mae hon yn sicr yn drafodaeth a gefais gyda Chymdeithas Milfeddygon Prydain ychydig wythnosau yn ôl, ac rwyf wedi gofyn i swyddogion edrych ar y wybodaeth a gefais ganddynt yn fanwl.

13:50

Good. Well, I'm grateful for that reply, which I regard as very positive. In the event that the Cabinet Secretary decides not to change the law in this respect, will she consider an alternative proposition, which also comes from the BVA? They say that they recognise that, whilst pre-stunning is superior from a welfare point of view, should non-stun slaughter continue to be permitted, post-cut stunning offers a valid means of reducing the suffering of animals at slaughter. And post-cut stunning, I think, would meet most of the objections from religious groups.

Da iawn. Wel, rwy'n ddiolchgar am yr ateb hwnnw, a chredaf ei fod yn gadarnhaol iawn. Pe bai Ysgrifennydd y Cabinet yn penderfynu peidio â newid y gyfraith yn hyn o beth, a wnaiff ystyried cynnig amgen, a wnaed hefyd gan Gymdeithas Milfeddygon Prydain? Dywedant eu bod yn cydnabod, er bod stynio cyn lladd yn well o safbwynt lles, pe bai lladd heb stynio yn parhau i gael ei ganiatáu, y byddai stynio ar ôl torri yn ddull dilys o leihau dioddefaint anifeiliaid wrth eu lladd. A chredaf y byddai stynio ar ôl torri yn bodloni'r rhan fwyaf o'r gwrthwynebiad gan grwpiau crefyddol.

Well, as I say, I'm waiting for officials to come back with advice for me following the initial discussion I've had with the BVA, so, you know, I'm not going to make policy up on the hoof now, but it's obviously an ongoing process for me.

Wel, fel y dywedaf, rwy'n aros i swyddogion roi cyngor i mi ar ôl y drafodaeth gychwynnol a gefais gyda Chymdeithas Milfeddygon Prydain, felly, nid wyf am lunio'r polisi yn y fan a'r lle yn awr, ond mae'n amlwg yn broses barhaus i mi.

Making policy on the hoof would not be appropriate, even for an agriculture spokesman, I'm sure. As the Cabinet Secretary will know, there has been a huge increase in the growth of the halal meat market in particular. Much of this food is not being consumed by Muslims, and it's gone into mainstream takeaways and fast food outlets as well. A lot of people have objections for whatever reason on animal welfare grounds to eating such food. Would she agree with me that it is important that people should know what they're eating and that those who are concerned about the animal welfare considerations that I've mentioned ought therefore to be able to make an informed choice in such circumstances? Will she commit to prioritising greater consumer awareness on religious slaughter and non-stun slaughter, not just through labelling products in supermarkets but also in restaurants and takeaways?

Ni fyddai llunio polisi yn y fan a'r lle yn briodol, hyd yn oed i lefarydd amaethyddiaeth, rwy'n siŵr. Fel y gŵyr Ysgrifennydd y Cabinet, mae cynnydd enfawr wedi bod yn nhwf y farchnad cig halal yn enwedig. Nid Mwslimiaid sy'n bwyta llawer o'r bwyd hwn, ac mae wedi mynd i mewn i siopau tecawê prif ffrwd a siopau bwyd brys hefyd. Mae llawer o bobl yn gwrthwynebu bwyta bwyd o'r fath am ba reswm bynnag ar sail lles anifeiliaid. A fyddai'n cytuno â mi ei bod yn bwysig i bobl wybod beth y maent yn ei fwyta, ac felly, y dylai'r rheini sy'n pryderu am yr ystyriaethau lles anifeiliaid a grybwyllais allu gwneud dewis gwybodus mewn amgylchiadau o'r fath? A wnaiff hi ymrwymo i flaenoriaethu mwy o ymwybyddiaeth ymhlith defnyddwyr o ladd at ddibenion crefyddol a lladd heb stynio, nid yn unig drwy labelu cynnyrch mewn archfarchnadoedd ond mewn bwytai a siopau tecawê hefyd?

I absolutely agree—it's very important that people know what they're eating, and I think that, certainly amongst restaurants, that consumer awareness is not out there. I was in a restaurant where I noticed, when I came out, that there was a very small sign at the bottom of the door that said that all meat was halal. Now, I think that should be far more visible, in the way that we've done with food hygiene standards, for instance. So, I absolutely agree that it's very important that people know what they're eating.

Rwy'n cytuno'n llwyr—mae'n bwysig iawn fod pobl yn gwybod beth y maent yn ei fwyta, a chredaf, yn sicr mewn perthynas â bwytai, nad yw defnyddwyr yn ymwybodol o'r pethau hyn. Roeddwn mewn bwyty lle y sylwais, wedi i mi ddod allan, ar arwydd bach iawn ar waelod y drws a ddywedai fod yr holl gig yn gig halal. Nawr, credaf y dylai fod yn llawer mwy gweladwy, fel rydym wedi'i wneud gyda safonau hylendid bwyd, er enghraifft. Felly, rwy'n cytuno'n llwyr ei bod yn bwysig iawn i bobl wybod beth y maent yn ei fwyta.

Tlodi Tanwydd
Fuel Poverty

3. Pa gynnydd sy'n cael ei wneud mewn perthynas â lleihau tlodi tanwydd ar draws Gorllewin De Cymru? OAQ52504

3. What progress is being made in reducing fuel poverty across South Wales West? OAQ52504

Thank you. Our Warm Homes programme is making good progress, reducing fuel poverty households by six percentage points across Wales between 2012 and 2016. Since 2012, we've invested over £25 million installing energy efficiency improvements in low-income households in Bridgend, Neath Port Talbot, Rhondda Cynon Taf, Swansea and the Vale of Glamorgan.

Diolch. Mae ein rhaglen Cartrefi Clyd yn gwneud cynnydd da, gan leihau nifer y cartrefi mewn tlodi tanwydd chwe phwynt canran ledled Cymru rhwng 2012 a 2016. Ers 2012, rydym wedi buddsoddi dros £25 miliwn ar osod gwelliannau effeithlonrwydd ynni mewn cartrefi incwm isel ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Castell-nedd Port Talbot, Rhondda Cynon Taf, Abertawe a Bro Morgannwg.

Thank you for that answer, Cabinet Secretary. It's important that we do recognise the good work that's been going on in reducing fuel poverty and the action being taken to insulate properties in particular. But, of course, there is a problem with that. Many of my constituents have faced the challenges of cavity wall insulation. They've gone through those programmes, supported by Welsh Government, with businesses coming in, selling their product, basically getting the work done, and then they find they have problems down the line. And, of course, these problems should all be protected against by CIGA, the Cavity Insulation Guarantee Agency. Whether you're living in Briton Ferry, Port Talbot, Cymmer, Croeserw, Gwynfi—no matter where it is, there are problems with CIGA. I've brought this to your attention before. What's the Welsh Government doing to ensure that CIGA lives up to its actual obligations and delivers guarantees for those people?

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'n bwysig ein bod yn cydnabod y gwaith da sydd wedi bod yn digwydd ar leihau tlodi tanwydd a'r camau sy'n cael eu cymryd i insiwleiddio tai yn benodol. Ond wrth gwrs, ceir problem gyda hynny. Mae llawer o fy etholwyr wedi wynebu heriau inswleiddio waliau ceudod. Maent wedi mynd drwy'r rhaglenni, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, gyda busnesau'n dod i mewn, yn gwerthu eu cynnyrch, yn gwneud y gwaith yn y bôn, ac yna gwelant fod ganddynt broblemau yn nes ymlaen. Ac wrth gwrs, dylai CIGA, yr Asiantaeth Gwarantau Inswleiddio Waliau Dwbl, ddiogelu rhag yr holl broblemau hyn. Pa un a ydych yn byw yn Llansawel, Port Talbot, Cymer, Croeserw, Gwynfi—ni waeth ymhle, ceir problemau gyda CIGA. Rwyf wedi tynnu eich sylw at hyn eisoes. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod CIGA yn cyflawni eu rhwymedigaethau ac yn darparu gwarantau i'r bobl hynny?

Well, the Member will be aware—as you say, you've raised it with me several times in correspondence and we had a very good debate in the Chamber, I think it was at the tail end of last year, around this issue—that the Cavity Insulation Guarantee Agency is an independent body. It provides 25-year guarantees for cavity wall insulation fitted by registered installers in the UK and the Channel Islands. You'll be aware that all the installers are assessed for competence and they have to follow technical guidance for the material used and the best practice guidance. I've had discussions with the UK Government, because I'm aware that there have been concerns, and it is really important that people are able to access the very best advice and hold them to account, and I will continue to do that.

Wel, bydd yr Aelod yn gwybod—fel y dywedwch, rydych wedi codi hyn gyda mi sawl gwaith mewn gohebiaeth a chawsom ddadl dda iawn yn y Siambr, ddiwedd y llynedd, rwy'n credu, ynghylch y mater hwn—fod yr Asiantaeth Gwarantau Inswleiddio Waliau Dwbl yn gorff annibynnol. Maent yn darparu gwarantau 25 mlynedd ar gyfer deunydd inswleiddio waliau ceudod a osodir gan osodwyr cofrestredig yn y DU ac Ynysoedd y Sianel. Fe fyddwch yn ymwybodol fod yr holl osodwyr yn cael eu hasesu i sicrhau eu cymhwysedd ac mae'n rhaid iddynt ddilyn canllawiau technegol ar gyfer y deunydd a ddefnyddir a'r canllawiau arferion gorau. Rwyf wedi cael trafodaethau gyda Llywodraeth y DU, gan fy mod yn ymwybodol o'r pryderon a fu, ac mae'n bwysig iawn fod pobl yn gallu cael mynediad at y cyngor gorau ac yn eu dwyn i gyfrif, a byddaf yn parhau i wneud hynny.

Cabinet Secretary, back in May, I asked you if schemes like Arbed and Nest had contributed to the number of ground- and air-source heat pumps installed in Wales, and can I thank you for writing to me with a bit more information on that? I was a bit surprised to see from your letter, though, that just nine air-source heat pumps were installed through Nest in the six years leading up to 2017 in my region. So, that's over six years—just nine. And the letter goes on to say that ground-source heat pumps have never been an agreed measure for homes under Nest or Arbed. If you're really going to make a difference to Welsh families and, obviously, to cutting carbon emissions, shouldn't these figures be a bit higher by now?

Ysgrifennydd y Cabinet, yn ôl ym mis Mai, gofynnais i chi a oedd cynlluniau fel Arbed a Nyth wedi cyfrannu at nifer y pympiau gwres o'r ddaear a phympiau gwres o'r aer sydd wedi'u gosod yng Nghymru, ac a gaf fi ddiolch i chi am ysgrifennu ataf gyda mwy o wybodaeth ar hynny? Roeddwn yn synnu braidd wrth weld o'ch llythyr, fodd bynnag, mai naw pwmp gwres o'r aer yn unig a osodwyd drwy Nyth yn y chwe blynedd hyd at 2017 yn fy rhanbarth i. Felly, mae hynny dros chwe blynedd—naw yn unig. Ac mae'r llythyr yn mynd ymlaen i ddweud na fu pympiau gwres o'r ddaear erioed yn fesur a gytunwyd ar gyfer cartrefi o dan Nyth neu Arbed. Os ydych yn mynd i wneud gwahaniaeth go iawn i deuluoedd yng Nghymru, ac yn amlwg, o ran torri allyriadau carbon, oni ddylai'r ffigurau hyn fod ychydig bach yn uwch bellach?

13:55

I think we certainly need to look at new technologies and new innovations going forward, and we've just procured for the next stage of our Warm Homes programmes. I was in front of the environment committee last week, alongside my colleague Rebecca Evans, around work in this area, and I do think it would be good if we could see an increase in these numbers. I will certainly keep Members updated on the way forward.

Credaf, yn sicr, fod angen inni edrych ar dechnolegau newydd a datblygiadau arloesol newydd yn y dyfodol, ac rydym newydd gwblhau'r broses gaffael ar gyfer cam nesaf ein rhaglen Cartrefi Clyd. Bûm gerbron y pwyllgor amgylchedd yr wythnos diwethaf, gyda fy nghyd-Aelod Rebecca Evans, mewn perthynas â gwaith yn y maes hwn, a chredaf y byddai'n dda pe gallem weld cynnydd yn y niferoedd hyn. Byddaf yn sicr yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau wrth symud ymlaen.

Roeddwn i eisiau gofyn cwestiwn ynglŷn â pha drafodaethau yr ydych chi wedi eu cael â'r Gweinidog tai ynglŷn â cheisio gwneud tai cymdeithasol a thai cyngor yn fwy adnewyddadwy o ran ynni adnewyddadwy. A fyddai modd i chi, er enghraifft, ddweud bod angen i gynghorau gwneud hyn a hyn o waith i wneud eu tai yn fwy cynaliadwy cyn iddyn nhw gael mwy o arian grant gennych chi fel Llywodraeth? Rydym ni'n gwybod bod yna enghreifftiau ar draws Cymru o gynghorau sydd yn gwneud gwaith da yn y ardal yma sydd wedyn yn gallu cael effaith dda ar filiau tenantiaid ar ddiwedd y dydd—bydd yna lai o arian iddyn nhw ei dalu ar eu biliau yn hynny o beth. Felly, pa waith blaengar ydych chi'n ei wneud yn y maes yma? 

I wanted to ask a question about what discussions you’ve had with the housing Minister about trying to make social housing and council homes more energy efficient and better in this regard. Do you believe that councils need to be told that they need to do a certain level of work to make their homes more sustainable before they receive further grant funding from you as a Government? I know that there are examples throughout Wales of councils that are carrying out good work in this area, which can then have a positive impact on the bills of the tenants, ultimately—they would have to spend less money on their bills as a result. So, what progressive work are you doing in this area?

Thank you. I have had discussions with the Minister for Housing and Regeneration on this issue, particularly in relation to our decarbonisation targets, because, obviously, this is one area that will help us to reach our targets. You're quite right; there are some councils that have real best practice in this area. As to whether we should be making them do things that make houses more sustainable before we give them grants, I don't think we've had specific discussions about that, but it's something I'm very happy to look at with her.

Diolch. Rwyf wedi cael trafodaethau gyda'r Gweinidog Tai ac Adfywio ynghylch y mater hwn, yn enwedig mewn perthynas â'n targedau datgarboneiddio, oherwydd, yn amlwg, mae hwn yn un maes a fydd o gymorth inni gyflawni ein targedau. Rydych yn llygad eich lle; mae gan rai cynghorau arferion gorau go iawn yn y maes hwn. Ynglŷn ag a ddylem fod yn eu gorfodi i wneud pethau sy'n gwneud tai yn fwy cynaliadwy cyn rhoi grantiau iddynt, ni chredaf ein bod wedi cael trafodaethau penodol ynglŷn â hynny, ond mae'n rhywbeth rwy'n fwy na pharod i edrych arno gyda hi.

Gwarchod Anifeiliaid Anwes
Protecting Companion Animals

4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i wella ffyrdd o warchod anifeiliaid anwes? OAQ52499

4. Will the Cabinet Secretary outline the Welsh Government's plans to improve the protection of companion animals? OAQ52499

Thank you. The Wales animal health and welfare framework implementation plan sets out the framework group and Welsh Government priorities for animal health and welfare. I set out my plans to maintain and improve companion animal welfare in Wales in my oral statement last month.

Diolch. Mae cynllun gweithredu fframwaith iechyd a lles anifeiliaid Cymru yn nodi'r grŵp fframwaith a blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a lles anifeiliaid. Amlinellais fy nghynlluniau i gynnal a gwella lles anifeiliaid anwes yng Nghymru yn fy natganiad llafar y mis diwethaf.

Thank you, and it's because of your oral statement that I'm asking this question. You will know that, in that statement, you've indicated that you're not minded to introduce an animal abuse register for Wales, based on the fact that there isn't enough UK evidence. Well, the whole point of you initiating this was to create an evidence base in this country. We know that there's international evidence to support an animal abuse register, looking at examples from the United States of America. Is this a block on ambition from the Government, or is there something else that I'm not aware of? It's very, very hard for us to make an assessment on your statement without having that report in front of us. The time is ticking for the report that you've said you would give to us by the end of term. I'd really like to be able to see that, to understand your logic, because I do feel that, if you don't put this forward, it is a missed opportunity, and we could have been leaders in this field.

Diolch, ac rwy'n gofyn y cwestiwn hwn oherwydd eich datganiad llafar. Fel y gwyddoch, yn y datganiad hwnnw fe nodoch chi nad ydych yn bwriadu cyflwyno cofrestr cam-drin anifeiliaid ar gyfer Cymru, ar sail ar y ffaith nad oes digon o dystiolaeth ar gyfer y DU. Wel, holl bwynt rhoi hyn ar waith oedd creu sylfaen dystiolaeth yn y wlad hon. Gwyddom fod tystiolaeth ryngwladol i gefnogi cofrestr cam-drin anifeiliaid, o edrych ar enghreifftiau o Unol Daleithiau America. A yw'r Llywodraeth yn rhwystro uchelgais, neu a oes rhywbeth arall nad wyf yn ymwybodol ohono? Mae'n anodd iawn i ni wneud asesiad o'ch datganiad heb fod yr adroddiad hwnnw o'n blaenau. Mae'r cloc yn tician ar yr adroddiad y dywedasoch wrthym y byddech yn ei roi inni erbyn diwedd y tymor. Buaswn wrth fy modd yn ei weld, i ddeall eich rhesymeg, gan fy mod yn teimlo, os nad ydych yn ei gyflwyno, bydd yn gyfle a gollwyd, a gallem fod wedi bod yn arweinwyr yn y maes hwn.

I mentioned that I'd just had the report when I made the statement in the Chamber last month. I've now had the opportunity to consider it in great detail. As I say, they make it very clear that the development of a register is not really recommended at this time. There are many other actions that I think are worthy of further work, but I have asked officials—you know, I've raised several questions on the report, and I've asked officials to look at it, and I will, as promised, make sure that I share it before the end of term, which gives me a week.

Soniais fy mod newydd gael yr adroddiad pan wneuthum y datganiad yn y Siambr fis diwethaf. Rwyf wedi cael cyfle bellach i'w ystyried yn fanwl iawn. Fel y dywedaf, maent yn dweud yn glir iawn na argymhellir datblygu cofrestr ar hyn o bryd. Ceir nifer o gamau gweithredu eraill sy'n haeddu rhagor o waith yn fy marn i, ond rwyf wedi gofyn i swyddogion—rwyf wedi codi sawl cwestiwn ar yr adroddiad, ac rwyf wedi gofyn i swyddogion edrych arno, a byddaf, fel yr addewais, yn sicrhau fy mod yn ei rannu cyn diwedd y tymor, sy'n rhoi wythnos i mi.

In that statement, you said that people should think through very carefully the responsibilities they're undertaking when they're thinking of having a pet. But I'm glad to hear you say also that you recognise that people's circumstances can change quite suddenly and through no fault of their own. Cats Protection is reporting a rise in the number of cats coming to them because landlords, some of them, are reluctant to accept cats, and, similarly, residential homes as well, and in both these cases it's quite often older cats that are either, sadly, abandoned or taken to a shelter and, of course, are more difficult to re-home. We know that pets contribute to both mental and physical well-being, so what kind of conversations are you having with landlords and the care home sector to see whether pets and their people can be kept together? Thank you.

Yn y datganiad hwnnw, dywedasoch y dylai pobl feddwl yn ofalus iawn am y cyfrifoldebau y maent yn eu hysgwyddo pan fyddant yn ystyried cael anifail anwes. Ond rwy'n falch o'ch clywed yn dweud hefyd eich bod yn cydnabod y gall amgylchiadau pobl newid ar fyr rybudd a heb fod unrhyw fai arnynt hwy eu hunain. Mae Cats Protection yn nodi cynnydd yn nifer y cathod y maent yn eu derbyn am fod landlordiaid, rai ohonynt, yn gyndyn o ganiatáu cathod, a chartrefi preswyl hefyd yn yr un modd, ac yn y ddau achos, yn aml iawn, cathod hŷn sydd naill ai'n cael eu gadael neu'n cael eu rhoi mewn lloches, yn anffodus, ac wrth gwrs, mae'n anos ailgartrefu cathod hŷn. Gwyddom fod anifeiliaid anwes yn cyfrannu at les corfforol a meddyliol, felly pa fath o sgyrsiau rydych yn eu cael gyda landlordiaid a'r sector cartrefi gofal i weld a ellir cadw pobl a'u hanifeiliaid anwes gyda'i gilydd? Diolch.

I haven't had any specific discussions with either of those sectors, but I think you raise an important point. When you say about older animals, obviously, if somebody is going into residential care, it's probably likely that they will have had their pet for a considerable number of years. So, it can be incredibly upsetting for both parties. So, I think it is something that we do need to look at. I will make sure that I do start to have those conversations and will write to the Member in due course.

Nid wyf wedi cael unrhyw drafodaethau penodol gyda'r naill na'r llall o'r sectorau hynny, ond credaf eich bod yn codi pwynt pwysig. Pan soniwch am anifeiliaid hŷn, yn amlwg, os yw rhywun yn mynd i ofal preswyl, mae'n debygol eu bod wedi bod yn berchen ar eu hanifail anwes ers blynyddoedd lawer. Felly, gall beri gofid mawr i'r ddwy ochr. Felly, credaf fod hyn yn rhywbeth y mae angen inni ei ystyried. Byddaf yn sicrhau fy mod yn dechrau cael y sgyrsiau hynny a byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod maes o law.

14:00
Cynlluniau Cynhyrchu Ynni
Energy Production Schemes

5. Yn dilyn penderfyniad Llywodraeth y DU i beidio â chefnogi morlyn llanw bae Abertawe, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i annog a chefnogi cynlluniau cynhyrchu ynni yng Nghymru? OAQ52490

5. Following the UK Government's decision not to back the Swansea bay tidal lagoon, what action is the Welsh Government taking to encourage and support energy production schemes in Wales? OAQ52490

Wales has the potential to create significant new low-carbon generation, which could provide economic and social benefits. Welsh Government policies and support mechanisms have created a positive environment for developing new energy generation. Our focus now is on ensuring Wales benefits over the long term from any further development.

Mae gan Gymru botensial i greu cryn dipyn o gynlluniau cynhyrchu carbon isel newydd, a allai ddarparu manteision economaidd a chymdeithasol. Mae polisïau a mecanweithiau cymorth Llywodraeth Cymru wedi creu amgylchedd cadarnhaol ar gyfer datblygu ffyrdd newydd o gynhyrchu ynni. Rydym yn canolbwyntio bellach ar sicrhau bod Cymru'n elwa yn y tymor hir o unrhyw ddatblygiad pellach.

Thank you, Cabinet Secretary. We now know that the UK Government based their decision upon inaccurate figures, understating the true benefit and cost of the Swansea bay tidal lagoon. An audit undertaken by the Centre for Economics and Business Research shows that the six proposed lagoons would only be slightly more expensive than Hinkley C. Cabinet Secretary, in light of this revelation, will you be demanding that the UK Government re-evaluate the proposal for Swansea bay?

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Gwyddom bellach fod Llywodraeth y DU wedi gwneud eu penderfyniad ar sail ffigurau anghywir, a oedd yn tanddatgan gwir fudd a chost morlyn llanw bae Abertawe. Dengys archwiliad a wnaed gan y Ganolfan Ymchwil Economeg a Busnes mai ychydig bach yn ddrytach yn unig a fyddai'r chwe morlyn arfaethedig na Hinkley C. Ysgrifennydd y Cabinet, yng ngoleuni hyn, a fyddwch yn mynnu bod Llywodraeth y DU yn ailwerthuso'r cynnig ar gyfer bae Abertawe?

I know the UK Government has now published a summary of its value-for-money assessment, and as I mentioned in an earlier answer, we're now reviewing that, and I think it depends what conclusions we come to from that as to what action we take. It did suggest the proposed tidal lagoon at Swansea bay would have a capital cost of more than three times as much per unit of electricity as the Hinkley Point C nuclear power station. So, I think these are figures that we need to look in depth at, and I'm sure we will have a view, and then we can decide on what action we want to take.

Gwn fod Llywodraeth y DU bellach wedi cyhoeddi crynodeb o'i hasesiad gwerth am arian, ac fel y dywedais mewn ateb cynharach, rydym yn ei adolygu ar hyn o bryd, a chredaf fod y camau y byddwn yn eu cymryd yn dibynnu ar ein casgliadau yn sgil hynny. Awgrymodd y byddai cost cyfalaf y morlyn llanw arfaethedig ym mae Abertawe dair gwaith yn fwy fesul uned o drydan na gorsaf bŵer niwclear Hinkley Point C. Credaf, felly, fod y rhain yn ffigurau y mae angen inni eu harchwilio yn fanwl, ac rwy'n siŵr y bydd gennym safbwynt, ac yna gallwn benderfynu ar ba gamau rydym am eu cymryd.

The Westminster Government seems to have an energy policy based upon offshore wind and nuclear power. As prototypes are by their very nature more expensive, and the future storage costs of nuclear are capped—we would never have had a nuclear power station built if they weren't capped—it is not a level playing field. Did the Westminster Government explain why the price for nuclear—which, as we all know, is an over-60-year-old technology—was acceptable, but the same price, which was the final offer of the same strike price for the tidal lagoon as for Hinkley, was not acceptable? Have the Westminster Government explained why one is acceptable and one isn't, when one's a prototype and one's a 60-year-old technology with a capped final cost?

Ymddengys bod gan Lywodraeth San Steffan bolisi ynni sy'n seiliedig ar ynni gwynt ar y môr ac ynni niwclear. Gan fod prototeipiau yn ddrytach oherwydd eu natur, a bod cap ar gostau storio ynni niwclear yn y dyfodol—ni fyddai gorsaf bŵer niwclear erioed wedi cael ei hadeiladu pe na baent wedi eu capio—nid yw'n deg cymharu'r ddau beth. A esboniodd Llywodraeth San Steffan pam fod y pris ar gyfer ynni niwclear—sydd, fel y gŵyr pob un ohonom, yn dechnoleg sydd dros 60 mlwydd oed—yn dderbyniol, ond nad oedd yr un pris, sef y cynnig terfynol o'r un pris streic ar gyfer morlyn llanw ag ar gyfer Hinkley, yn dderbyniol? A yw Llywodraeth San Steffan wedi esbonio pam fod un yn dderbyniol ac nid y llall, pan fo un yn brototeip a'r llall yn dechnoleg 60 mlwydd oed gyda chost derfynol wedi'i chapio?

No, and I think that's a very important point that you raise. I've just mentioned in my answer to Caroline Jones that we are looking at that summary value-for-money assessment now. I think you're right; their policy does seem to focus on just offshore and nuclear power. Of course, nuclear power, whilst being low carbon, is certainly not renewable energy. I've had discussions with Claire Perry, the Parliamentary Under-Secretary of State, around this, and about the need to encourage further onshore wind, and certainly solar power, too. I've also written to Greg Clark following the decision around the importance of making sure that we engage and support other renewable energy technologies.

Nac ydynt, a chredaf eich bod yn codi pwynt pwysig iawn. Rwyf newydd grybwyll, yn fy ateb i Caroline Jones, ein bod yn edrych ar y crynodeb o'r asesiad gwerth am arian ar hyn o bryd. Credaf eich bod yn llygad eich lle; ymddengys bod eu polisi ond yn canolbwyntio ar ynni gwynt ar y môr ac ynni niwclear yn unig. Wrth gwrs, nid yw ynni niwclear, er ei fod yn garbon isel, yn ynni adnewyddadwy o gwbl. Rwyf wedi cael trafodaethau gyda Claire Perry, yr Is-Ysgrifennydd Gwladol Seneddol, ynglŷn â hyn, ac ynglŷn â'r angen i annog mwy o ynni gwynt ar y tir, ac yn sicr ynni'r haul, hefyd. Rwyf hefyd wedi ysgrifennu at Greg Clark yn dilyn y penderfyniad ynghylch pwysigrwydd sicrhau ein bod yn defnyddio ac yn cefnogi technolegau ynni adnewyddadwy eraill.

Both Caroline Jones and Mike Hedges have made some very valid and important points when it comes to the Swansea tidal lagoon, and Welsh Conservatives have been clear that we hope that there can be a way forward found for that project. I appreciate that this is a setback, but the Welsh Government certainly have our support in finding alternative ways in the future to progress the project.

Of course, there are smaller-scale schemes as well across Wales that are going ahead. You may be aware of Prosiect Gwyrdd in my constituency—I hope I pronounced that right—which is actually a collaboration between the five councils in south-east Wales, including Monmouthshire, that seeks the most cost-effective and environmentally friendly way to deal with residual waste that cannot be recycled or composted, but that can be burnt to produce steam and provide energy. Would you agree with me that this is a great example of collaboration between local authorities, Cabinet Secretary, and also a great way to deal with waste that cannot be dealt with in an otherwise environmentally friendly way? What are you doing to extend these types of projects, and to roll them out across the rest of Wales?

Mae Caroline Jones a Mike Hedges wedi gwneud pwyntiau dilys a phwysig iawn mewn perthynas â morlyn llanw Abertawe, ac mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi datgan yn glir ein bod yn gobeithio y gellir dod o hyd i ffordd ymlaen ar gyfer y prosiect hwnnw. Rwy'n derbyn bod hyn yn siom, ond yn sicr, rydym yn cefnogi Llywodraeth Cymru i ddod o hyd i ffyrdd amgen yn y dyfodol o fwrw ymlaen â'r prosiect.

Wrth gwrs, mae cynlluniau llai yn mynd rhagddynt ledled Cymru hefyd. Efallai eich bod yn ymwybodol o'r Prosiect Gwyrdd yn fy etholaeth—gobeithio fy mod yn ei ynganu'n iawn—sef cydweithrediad rhwng y pum cyngor yn ne-ddwyrain Cymru, gan gynnwys Sir Fynwy, sy'n ceisio dod o hyd i'r ffordd fwyaf costeffeithiol ac ecogyfeillgar o ymdrin â gwastraff gweddilliol na ellir ei ailgylchu neu ei gompostio, ond y gellir ei losgi i gynhyrchu ager a darparu ynni. A fyddech yn cytuno â mi fod hon yn enghraifft wych o gydweithredu rhwng awdurdodau lleol, Ysgrifennydd y Cabinet, a hefyd yn ffordd wych o ymdrin â gwastraff na ellir ei drin mewn ffordd ecogyfeillgar? Beth rydych yn ei wneud i ymestyn y mathau hyn o brosiectau, a'u rhoi ar waith ledled gweddill Cymru?

Yes, I would agree with you. It's good to see collaboration at that scale between the five local authorities. It's really important that we get a mix of energy, and certainly community energy projects. I've seen some fantastic ones right across Wales. You'll also be aware—I think it's in your constituency; it's certainly Monmouthshire council—of the big solar farm that they've got there. We loaned, I think, about £4 million from Welsh Government. So, I think it is really good to see local authorities collaborating, coming up with innovative technologies to help us, again, make sure we reach our carbon targets. 

Ydw, rwy'n cytuno â chi. Mae'n dda gweld cydweithredu ar y raddfa honno rhwng y pum awdurdod lleol. Mae'n bwysig iawn fod gennym gymysgedd o ynni, ac yn sicr, prosiectau ynni cymunedol. Rwyf wedi gweld rhai aruthrol ledled Cymru. Fe fyddwch yn gwybod hefyd—credaf ei bod yn eich etholaeth chi; mae'n sicr o dan gyngor Sir Fynwy—am y fferm solar fawr sydd ganddynt yno. Cawsom fenthyg oddeutu £4 miliwn, rwy'n credu, gan Lywodraeth Cymru. Felly, credaf ei bod yn wych gweld awdurdodau lleol yn cydweithredu, gan ddatblygu technolegau arloesol i'n cynorthwyo, unwaith eto, i sicrhau ein bod yn cyflawni ein targedau carbon.

14:05
Is-ddeddfwriaeth
Subordinate Legislation

6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y cynnig i gyfuno ac adolygu is-ddeddfwriaeth dosbarthiadau defnydd a datblygu cyffredinol a ganiateir? OAQ52507

6. Will the Cabinet Secretary make a statement on the Welsh Government's consultation on the proposal to consolidate and review subordinate legislation on use classes and general permitted development? OAQ52507

Diolch. The consultation, informed by research, proposes updating the use classes Order, particularly for retail uses. It includes complementary changes to permitted development rights and proposes new rights to support the roll-out of electric car charging, next generation telecommunications networks and renewable energy development, without the need for a planning application.

Diolch. Mae'r ymgynghoriad, sy'n cael ei lywio gan ymchwil, yn cynnig diweddaru'r Gorchymyn dosbarthiadau defnydd, yn enwedig at ddefnydd manwerthu. Mae'n cynnwys newidiadau ategol i hawliau datblygu a ganiateir ac yn argymell hawliau newydd i gefnogi'r broses o gyflwyno pwyntiau gwefru ceir trydan, rhwydweithiau telathrebu'r genhedlaeth nesaf a datblygu ynni adnewyddadwy, heb fod angen cais cynllunio.

Mi fyddwch chi'n ymwybodol mai Gwynedd ydy'r ardal efo'r mwyaf o ail gartrefi ym Mhrydain, tua 5,000 i gyd. O ganlyniad, mae pobl leol yn cael eu prisio allan o'r farchnad dai, gan achosi argyfwng mewn nifer o gymunedau. Gan fod Llywodraeth Cymru wrthi'n ymgynghori ar ddiwygio is-ddeddfwriaeth cynllunio, sy'n cynnwys y rheolau yn ymwneud â dosbarthiadau defnydd, a'r gofynion ar gyfer newid defnydd, a fyddwch chi'n fodlon edrych ar y mater o ddefnyddio'r drefn gynllunio i geisio rheoli ychydig ar y farchnad tai haf? Wrth lunio'r cynigion drafft, a wnaethoch chi ystyried y posibilrwydd o gyflwyno gofyniad a fyddai'n golygu fod angen caniatâd cynllunio cyn i dai annedd gael eu defnyddio neu eu trosi yn ail gartrefi? A wnewch chi ymrwymo i edrych ar hyn ac i weithredu ar hynny wrth lunio'ch cynigion terfynol, fel ffordd o reoli prisiau'r farchnad dai? Diolch.

You will be aware that Gwynedd is the area with the largest number of second homes in Wales, some 5,000 in total. As a result, local people are priced out of the housing market, causing a crisis in many communities. As the Welsh Government is currently consulting on reforming subordinate legislation in planning, which includes the rules in terms of use classes and the requirement for change of use, would you be willing to look at the issue of using the planning system to try and control the second home market? In drawing up the draft proposals, did you consider the possibility of introducing a requirement that you would need planning permission before residences could be used or transferred into second homes? And will you commit to look at this and to take action in drawing up your final proposals as a means of managing prices within the housing market?

Thank you. I think the Welsh Government has provided an alternative means of addressing the issues associated with second homes. You'll be aware of the housing Housing (Wales) Act 2014. We've provided local authorities in Wales with discretionary powers around council tax premiums, for instance. We also need to be very mindful—bearing in mind your question—we need to be very mindful, I think, of unintended financial consequences of introducing a new use class. I would not want to increase the value of existing second homes and then reduce the value of homes that aren't second homes, because I think that would be an unintended consequence.

Diolch. Credaf fod Llywodraeth Cymru wedi darparu dull amgen o fynd i'r afael â'r materion sy'n gysylltiedig ag ail gartrefi. Fe fyddwch yn gwybod am Ddeddf Tai (Cymru) 2014. Rydym wedi darparu pwerau disgresiwn i awdurdodau lleol yng Nghymru mewn perthynas â phremiymau'r dreth gyngor, er enghraifft. Mae angen inni fod yn ystyriol iawn hefyd—o gofio eich cwestiwn—mae angen inni fod yn ystyriol iawn, yn fy marn i, o ganlyniadau ariannol anfwriadol yn sgil cyflwyno dosbarth defnydd newydd. Ni fuaswn yn dymuno cynyddu gwerth presennol ail gartrefi gan leihau gwerth cartrefi nad ydynt yn ail gartrefi, gan y credaf y byddai hwnnw'n ganlyniad anfwriadol.

Cabinet Secretary, can I welcome that part of the consultation that proposes the restructuring of the use class system to provide further protection for pubs in a manner similar to that in England? We've lost something like 17 per cent of our pubs since the year 2000. In England, there's a further protection in the planning system whereby a pause is placed on the disposal of assets that are of value to the community, a scheme known more commonly as the community right to buy. Do you think a similar sort of system ought to be introduced to Wales as part of this scheme?

Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf fi groesawu'r rhan honno o'r ymgynghoriad sy'n cynnig ailstrwythuro'r system dosbarth defnydd i ddarparu mwy o amddiffyniadau i dafarndai mewn ffordd debyg i'r hyn a wneir yn Lloegr? Rydym wedi colli oddeutu 17 y cant o'n tafarndai ers y flwyddyn 2000. Yn Lloegr, ceir amddiffyniadau pellach yn y system gynllunio lle rhoddir saib ar y broses o gael gwared ar asedau sydd o werth i'r gymuned, cynllun sy'n fwy adnabyddus fel hawl y gymuned i brynu. A ydych o'r farn y dylid cyflwyno system debyg yng Nghymru fel rhan o'r cynllun hwn?

David Melding points out that the consultation proposes legislative changes to help prevent the change of use or demolition of a pub without first obtaining planning permission. Certainly, once the consultation is finished—I've extended the consultation by about five weeks, I think—we can see if those sorts of proposals have come forward.

Mae David Melding yn nodi bod yr ymgynghoriad yn cynnig newidiadau deddfwriaethol i helpu i atal newid defnydd neu ddymchwel tafarn heb gael caniatâd cynllunio yn gyntaf. Yn sicr, pan ddaw'r ymgynghoriad i ben—rwyf wedi ymestyn yr ymgynghoriad am oddeutu pum wythnos, rwy'n credu—gallwn weld a fydd cynigion o'r fath yn cael eu cyflwyno.

Cefnogi Ffermwyr
Supporting Farmers

7. Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru'n eu cymryd dros y 12 mis nesaf i gefnogi ffermwyr yng ngorllewin Cymru? OAQ52476

7. What steps will the Welsh Government take in the next 12 months to support farmers in west Wales? OAQ52476

Thank you. The 'Brexit and our land' consultation is live until 30 October. It contains proposals to enable farmers and other land managers to adapt from current to future arrangements, for the next 12 months and beyond. I urge everyone who depends on rural Wales for their business or well-being to get involved.

Diolch. Mae'r ymgynghoriad 'Brexit a'n tir' ar agor tan 30 Hydref. Mae'n cynnwys cynigion i alluogi ffermwyr a rheolwyr tir eraill i addasu o'r trefniadau presennol i'r trefniadau newydd, ar gyfer y 12 mis nesaf a thu hwnt. Anogaf bawb sy'n dibynnu ar y Gymru wledig ar gyfer eu busnes neu eu lles i gymryd rhan.

Cabinet Secretary, I've recently met with farmers in my constituency who continue to feel frustrated and indeed angry that, despite being under more measures and restrictions than ever before, the Welsh Government have yet to seriously tackle bovine TB in a holistic way. In light of their concerns, can you confirm that the Welsh Government will be focusing its efforts in the next 12 months on tackling this disease in the wildlife reservoir as well as in cattle? Can you also confirm that the Welsh Government has provided sufficient resources to this area for this work to be carried out?

Ysgrifennydd y Cabinet, cyfarfûm yn ddiweddar â ffermwyr yn fy etholaeth sy'n dal i deimlo'n rhwystredig ac yn ddig oherwydd, er eu bod o dan fwy o fesurau a chyfyngiadau nag erioed o'r blaen, nid yw Llywodraeth Cymru wedi mynd i'r afael go iawn â TB buchol mewn dull cyfannol o hyd. O ystyried eu pryderon, a allwch gadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ei hymdrechion dros y 12 mis nesaf ar fynd i'r afael â'r clefyd hwn mewn bywyd gwyllt yn ogystal â mewn gwartheg? A allwch gadarnhau hefyd fod Llywodraeth Cymru wedi darparu adnoddau digonol i'r maes hwn i sicrhau bod y gwaith yn cael ei gwblhau?

Yes, I can certainly say that there are sufficient resources for this work to be carried out. We're now nine months into our refreshed TB eradication programme. I launched it back in October last year. I think we are making progress, but we want to make sure we've got the most meaningful disease statistics so that I can provide a complete picture in relation to the disease. I'm going to make a statement on the progress of that programme. I want to have a complete year. I said I would do an annual statement, and I want to have a complete year, so I'm going to use January to December this year as the complete year. So, I will be doing a statement early next year in relation to that. But I do think it is important to recognise that we are making significant progress. 

Gallaf ddweud yn sicr fod digon o adnoddau i sicrhau bod y gwaith yn cael ei gwblhau. Rydym bellach naw mis i mewn i'n rhaglen i ddileu TB ar ei newydd wedd. Fe'i lansiwyd gennyf ym mis Hydref y llynedd. Credaf ein bod yn gwneud cynnydd, ond rydym yn awyddus i sicrhau bod gennym yr ystadegau clefyd mwyaf ystyrlon fel y gallaf roi darlun cyflawn o'r clefyd. Byddaf yn gwneud datganiad ar gynnydd y rhaglen honno. Rwyf am gael blwyddyn gyflawn. Dywedais y buaswn yn gwneud datganiad blynyddol, ac rwyf am gael blwyddyn gyflawn, felly byddaf yn defnyddio rhwng mis Ionawr a mis Rhagfyr eleni fel blwyddyn gyflawn. Felly, byddaf yn rhoi datganiad yn gynnar y flwyddyn nesaf mewn perthynas â hynny. Ond credaf ei bod yn bwysig cydnabod ein bod yn gwneud cynnydd sylweddol.

14:10

Mae'n amlwg o fynd o gwmpas cefn gwlad Cymru ar hyn o bryd pa mor sych yw'r ddaear; mae pethau'n hesb iawn. Rydych chi wedi cyhoeddi eich bod chi'n barod i ryddhau rhai o ymrwymiadau Glastir er mwyn cynorthwyo ffermwyr i ddelio gyda'r tywydd yma. Pe bai'r tywydd yn parhau—a dyma'r cyfle olaf, wrth gwrs, i chi gerbron y Cynulliad cyn toriad yr haf—pe bai'r tywydd yn parhau a bod diffyg dŵr a diffyg glaw, a oes yna gamau pellach y medrwch chi eu cymryd i wneud yn siŵr nad yw unrhyw reolau biwrocrataidd yn rhwystro ffermwyr rhag gwneud y peth iawn ar gyfer y ddaear, ac ar gyfer unrhyw anifeiliaid yn ogystal? A wnewch chi fod mor hyblyg ag sy'n bosibl, yn wyneb y ffaith ein bod ni o bosibl yn mynd i gael haf arbennig o sych? 

It’s obvious, going around rural Wales, how dry the ground is; things are very much affected by the weather. Now, you’ve already said that you will relax some of the Glastir requirements to assist farmers to deal with this weather. Should this weather continue—and this is the final opportunity to ask you before summer recess—if this weather does continue, and there is a lack of rain, are there any other steps or actions that you can take to ensure that no bureaucratic rules stop farmers from doing the right thing for the ground, and also for their stock? And can you be as flexible as possible, given that we may have a particularly dry summer?

You're quite right; we have relaxed regulations. I thought it was very important. I've also asked officials this week to have a look at what protocol we have in place in relation to water. I certainly will be as flexible as I possibly can be, because we just don't know for how much longer—although it looked very black before, and I know a lot of people are praying for rain—but, certainly, my intention is to be as flexible as I possibly can be. 

Rydych yn llygad eich lle; rydym wedi llacio'r rheoliadau. Roeddwn yn meddwl ei bod yn bwysig iawn gwneud hynny. Yr wythnos hon, rwyf hefyd wedi gofyn i swyddogion edrych ar ba brotocol sydd gennym ar waith mewn perthynas â dŵr. Yn sicr, byddaf mor hyblyg ag y gallaf fod, gan na wyddom am faint yn rhagor—er ei bod yn edrych yn dywyll iawn yn gynharach, a gwn fod llawer o bobl yn gweddïo am law—ond yn sicr, fy mwriad yw bod mor hyblyg ag y gallaf fod.

Cynhyrchu Ynni
Energy Production

8. Pa drafodaethau diweddar y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael ynghylch cynigion amgen ar gyfer cynhyrchu ynni yng Nghymru? OAQ52489

8. What recent discussions has the Cabinet Secretary had regarding alternative proposals for energy production in Wales? OAQ52489

Thank you. I and my colleague the Cabinet Secretary for Economy and Transport frequently meet with UK and other Ministers, developers and regulators to discuss energy opportunities. Most recently, I attended the British-Irish Council ministerial meeting on energy in Edinburgh, where I had positive discussions with Ministers from all eight administrations.

Diolch. Mae fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth a minnau'n cyfarfod yn aml â Gweinidogion y DU a Gweinidogion eraill, datblygwyr a rheoleiddwyr i drafod cyfleoedd ynni. Yn fwyaf diweddar, mynychais gyfarfod o Weinidogion y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig ar ynni yng Nghaeredin, lle y cefais drafodaethau cadarnhaol gyda Gweinidogion o'r wyth gweinyddiaeth.

Cabinet Secretary, Wales needs a true mix of energy production if we are to combat climate change and ensure energy security. One of the biggest challenges for renewables is the unpredictability of production. Over the last few weeks, we have produced far more solar energy than needed, and as a result it has been wasted. We need to find better ways to store energy. So, Cabinet Secretary, what is your Government doing to encourage more research into energy capture and storage, and have you considered working with companies such as Tesla, who are leading the field in this type of research? 

Ysgrifennydd y Cabinet, mae angen cymysgedd go iawn o ddulliau cynhyrchu ynni ar Gymru os ydym am fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a diogelu ffynonellau ynni. Un o'r heriau mwyaf ar gyfer ynni adnewyddadwy yw natur anrhagweladwy cynhyrchiant. Dros yr ychydig wythnosau diwethaf, rydym wedi cynhyrchu mwy o lawer o ynni solar nag sydd ei angen, ac o ganlyniad, mae wedi'i wastraffu. Mae angen inni ddod o hyd i ffyrdd gwell o storio ynni. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, beth y mae eich Llywodraeth yn ei wneud i annog mwy o ymchwil i ddal a storio ynni, ac a ydych wedi ystyried gweithio gyda chwmnïau fel Tesla, sydd ar y blaen yn y math hwn o ymchwil?

I'm not sure how it's being wasted; I'd be very interested in having information as to why Caroline Jones thinks it's being wasted. Certainly, capture and storage is very important, and we're doing significant work around research in this area, because you're quite right; we do need to have a true mix of all types of renewable energy, and storage in particular is becoming very important going forward. 

Nid wyf yn siŵr sut y mae'n cael ei wastraffu; hoffwn glywed pam y cred Caroline Jones ei fod yn cael ei wastraffu. Yn sicr, mae dal a storio ynni yn bwysig iawn, ac rydym yn gwneud cryn dipyn o waith ymchwil yn y maes hwn, oherwydd rydych yn llygad eich lle; mae arnom angen cymysgedd gwirioneddol o bob math o ynni adnewyddadwy, ac mae storio, yn enwedig, yn dod yn bwysig iawn wrth symud ymlaen.

A few weeks ago, Cabinet Secretary, you did announce interim targets in the first two carbon budgets for Wales, and you said you'd consult on an action plan to achieve them in July. Can you say any more about this action plan, and the role of renewable energy in achieving it? 

Ychydig wythnosau'n ôl, Ysgrifennydd y Cabinet, fe gyhoeddoch chi dargedau interim yn y ddwy gyllideb garbon gyntaf ar gyfer Cymru, ac fe ddywedoch y byddech yn ymgynghori ar gynllun gweithredu i'w cyflawni ym mis Gorffennaf. A allwch ddweud rhagor am y cynllun gweithredu hwn, a rôl ynni adnewyddadwy yn ei gyflawni?

Yes, certainly. The consultation will be launched tomorrow. I will be issuing a written statement to Assembly Members, and it includes action up to 2030 to allow stakeholders to be involved in the development of our actions. And certainly, if we are going to achieve our 2050 target, we do need to take some very long-term actions. Renewable energy has a very important role in meeting our decarbonisation target, and that's why I did set those very ambitious targets for energy generation. However, we need to take action in all sectors, and given the importance of decarbonisation and the scale of the challenge that we face, yesterday Cabinet agreed that we would add decarbonisation as a sixth priority area in 'Prosperity for All' cross-Government working. 

Gallaf, yn sicr. Bydd yr ymgynghoriad yn cael ei lansio yfory. Byddaf yn cyhoeddi datganiad ysgrifenedig i Aelodau'r Cynulliad, ac mae'n cynnwys camau gweithredu hyd at 2030 i alluogi rhanddeiliaid i gymryd rhan yn natblygiad ein gweithredoedd. Ac yn sicr, os ydym am gyrraedd ein targed ar gyfer 2050, mae angen inni gymryd rhai camau gweithredu hirdymor iawn. Mae gan ynni adnewyddadwy rôl bwysig iawn i'w chwarae wrth inni gyflawni ein targed datgarboneiddio, a dyna pam y gosodais y targedau uchelgeisiol iawn hynny ar gyfer cynhyrchu ynni. Fodd bynnag, mae angen inni gymryd camau ym mhob sector, ac o ystyried pwysigrwydd datgarboneiddio a maint yr her sy'n ein hwynebu, cytunodd y Cabinet ddoe y byddem yn ychwanegu datgarboneiddio fel chweched maes blaenoriaeth yn y gwaith trawslywodraethol ar 'Ffyniant i Bawb'.

Cabinet Secretary, perhaps I can take you back to lagoons as part of that mix. I asked the First Minister yesterday whether that £200 million we've all been talking about is definitely earmarked for lagoon and marine energy. He didn't answer. I'm picking up from your answers today that there is £200 million there. Bearing in mind that you've already indicated that some of that could be going elsewhere, can you tell me how much you would be prepared to commit to for Swansea, bearing in mind that we've already got the planning permission, the public support and, of course, a whole set of ancillary benefits, many of which are devolved competence, and therefore should be paid for by Welsh Government, or are you asking about whether—? Can I ask you whether there is additional money to expand the whole idea of a mix of renewable energy production?

Ysgrifennydd y Cabinet, efallai y caf fynd â chi'n ôl at fôr-lynnoedd fel rhan o'r cymysgedd hwnnw. Gofynnais i'r Prif Weinidog ddoe a yw'r £200 miliwn hwnnw y mae pawb ohonom wedi bod yn sôn amdano wedi'i glustnodi'n bendant ar gyfer ynni môr-lynnoedd ac ynni morol. Ni wnaeth ateb. Rwy'n deall o'ch atebion heddiw fod £200 miliwn i'w gael yno. O gofio eich bod eisoes wedi nodi y gallai rhywfaint o'r arian hwnnw fynd at bethau eraill, a allwch ddweud wrthyf faint y byddech yn barod i'w ymrwymo i Abertawe, o gofio ein bod eisoes wedi cael y caniatâd cynllunio, cefnogaeth y cyhoedd, ac wrth gwrs, set gyfan o fanteision ategol, gyda llawer ohonynt yn feysydd lle mae cymhwysedd wedi'i ddatganoli, ac felly dylai Llywodraeth Cymru fod yn talu amdanynt, neu a ydych yn holi ynglŷn â—? A gaf fi ofyn i chi a oes arian ychwanegol i ehangu'r holl syniad o gymysgedd o ddulliau cynhyrchu ynni adnewyddadwy?

14:15

I suppose the short answer is: there's always money for really good projects. The £200 million I mentioned in an earlier answer to a colleague—I am having discussions, very early discussions, about with the Cabinet Secretary for Finance. I of course made a case for that—you would expect me to, sitting around the Cabinet table. But we are having this energy summit later on in the year and, I think, probably, when we look at what technologies are coming forward there and what projects are coming forward there, that's when the decisions will be taken and, again, I stress: I think, unless the UK Government have a strategy around tidal lagoons, it's incredibly difficult to see how we can take that forward. I know there have been calls for Welsh Government to take it—we just can't. The UK Government have really, I think, badly let us down in this area.

Mae'n debyg mai'r ateb byr yw: mae arian ar gael bob amser ar gyfer prosiectau da iawn. O ran y £200 miliwn a grybwyllais mewn ateb cynharach i gyd-Aelod—rwy'n cael trafodaethau, trafodaethau cynnar iawn, ynghylch hynny gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid. Gwneuthum achos dros hynny, wrth gwrs—byddech yn disgwyl i mi wneud hynny wrth eistedd o gwmpas bwrdd y Cabinet. Ond byddwn yn cynnal uwchgynhadledd ynni yn ddiweddarach yn y flwyddyn, ac yn fy marn i, mae'n debyg, pan fyddwn yn edrych ar ba dechnolegau sy'n cael eu cyflwyno yno a pha brosiectau sy'n cael eu cyflwyno yno, dyna pryd y caiff y penderfyniadau eu gwneud, ac unwaith eto, rwy'n pwysleisio: oni bai bod gan Lywodraeth y DU strategaeth ar gyfer môr-lynnoedd llanw, mae'n hynod o anodd gweld sut y gallwn fwrw ymlaen â hynny. Gwn fod galwadau wedi bod ar Lywodraeth Cymru i fwrw ymlaen â hynny—ni allwn wneud hynny. Credaf fod Llywodraeth y DU wedi gwneud tro gwael iawn â ni yn hyn o beth.

Finally, question 9—David Rees.

Yn olaf, cwestiwn 9—David Rees.

Llygredd Aer ym Mhort Talbot
Air Pollution in Port Talbot

9. Pa gynnydd sydd wedi cael ei wneud o ran mynd i'r afael â llygredd aer ym Mhort Talbot o fewn etholaeth Aberafan? OAQ52493

9. What progress has been made in tackling air pollution in Port Talbot within the Aberavon constituency? OAQ52493

The Welsh Government's action plan on clean air for Port Talbot reaffirms our commitment to practically tackling poor air quality in the region. I have commissioned a peer review of progress against this plan, our approach, and the evidence that underpins it, to ensure it remains fit for purpose. I'll meet Tata Steel, Natural Resources Wales and Neath Port Talbot County Borough Council soon to support this process. 

Mae cynllun gweithredu Llywodraeth Cymru ar aer glân ar gyfer Port Talbot yn ailddatgan ein hymrwymiad i fynd i'r afael yn ymarferol ag ansawdd aer gwael yn y rhanbarth. Rwyf wedi comisiynu adolygiad gan gymheiriaid o gynnydd yn erbyn y cynllun hwn, ein dull, a'r dystiolaeth sy'n sail iddo, i sicrhau ei fod yn parhau i fod yn addas i'r diben. Byddaf yn cyfarfod â Tata Steel, Cyfoeth Naturiol Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot cyn bo hir i gynorthwyo'r broses hon.

I thank you for that answer, Minister, and I'm not going to talk about the 50 mph extension, which is causing chaos, but I will talk about Tata Steel and the issues relating to that. We all understand that heavy industry has a consequence of some form of pollution, but many, many, many constituents have expressed huge concern over the levels of fallout that we've had in Port Talbot over the last few months. I appreciate that the warm weather is a contributing factor, we understand that, but this has gone beyond that, before that happened. And what is it doing? Because Natural Resources Wales have responsibility for monitoring and taking action to ensure that the air quality from the works is improved. Can you assure me that they are actually doing that job because residents are going out, not daily, but basically hourly to clean their tables and cars and their windowsills because of the fallout from the works?

Diolch am eich ateb, Weinidog, ac nid wyf am siarad am yr estyniad 50 mya, sy'n achosi anhrefn, ond rwyf am siarad am Tata Steel a'r materion sy'n ymwneud â hynny. Mae pob un ohonom yn deall bod diwydiant trwm yn arwain at ryw fath o lygredd, ond mae llawer iawn o etholwyr wedi mynegi pryderon aruthrol ynglŷn â'r lefelau llwch rydym wedi'u cael ym Mhort Talbot dros y misoedd diwethaf. Rwy'n sylweddoli bod y tywydd cynnes yn ffactor sydd wedi cyfrannu, rydym yn deall hynny, ond mae hyn wedi mynd y tu hwnt i hynny, cyn i hynny ddigwydd. A beth y mae'n ei wneud? Oherwydd mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru gyfrifoldeb am fonitro a gweithredu i sicrhau bod ansawdd yr aer a ddaw o'r gwaith yn gwella. A allwch roi sicrwydd i mi eu bod yn gwneud y gwaith hwnnw gan fod trigolion yn mynd allan, nid bob dydd, ond bob awr yn y bôn i lanhau eu byrddau a'u ceir a siliau ffenestri oherwydd y llwch o'r gwaith?

I thank the Member for his question and his regular commitment to this issue for his constituency. You said about how there's instances lately in terms of with the dry, warm weather of large amounts of dust impacting on local residents. I completely understand the anxiety and the frustration that that would cause for local residents. I understand that—. You're right that Natural Resources Wales remain responsible for regulating this. I understand they're meeting Tata today to discuss the recent issues, and I've asked my officials to liaise with them to ensure that it's fed back promptly to me in terms of the outcome of these discussions.

I'm going to work with NRW and all the other stakeholders to review current operations, dust—[Inaudible.]—and the impact on the local community. I share the Member's concerns, and I've been clear that my goal is to bring down levels of air pollution, but as you and others recognise, it is a very complex, complicated and unique situation, which brings with it many challenges, but doesn't mean we can't rise to those challenges. It's important to make sure we strike that balance between recognising the role the steelworks plays in terms of being an economic anchor within the local community but also making sure we are getting the right results for the health and well-being of local residents as well.

Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn a'i ymrwymiad cyson i'r mater hwn ar ran ei etholaeth. Fe sonioch chi ynglŷn â sut y cafwyd achosion yn ddiweddar, gyda'r tywydd cynnes a sych, o lawer iawn o lwch yn effeithio ar drigolion lleol. Rwy'n deall y pryder a'r rhwystredigaeth y byddai hynny'n ei achosi i drigolion lleol yn llwyr. Rwy'n deall bod—. Rydych yn llygad eich lle mai Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n parhau i fod yn gyfrifol am reoleiddio hyn. Deallaf eu bod yn cyfarfod â Tata heddiw i drafod y problemau diweddar, ac rwyf wedi gofyn i fy swyddogion gysylltu â hwy i sicrhau bod canlyniad y trafodaethau hyn yn fy nghyrraedd yn syth.

Rwy'n mynd i weithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a'r holl randdeiliaid eraill i adolygu gweithgarwch cyfredol, llwch—[Anghlywadwy.]—a'r effaith ar y gymuned leol. Rwy'n rhannu pryderon yr Aelod, ac rwyf wedi dweud yn glir mai fy nod yw gostwng lefelau llygredd aer, ond fel rydych chi ac eraill yn cydnabod, mae'n sefyllfa gymhleth ac unigryw iawn, sydd yn peri llawer o heriau, ond nid yw hynny'n golygu na allwn fynd i'r afael â'r heriau hynny. Mae'n bwysig sicrhau'r cydbwysedd hwnnw rhwng cydnabod rôl y gwaith dur o ran bod yn angor economaidd o fewn y gymuned leol a sicrhau ein bod yn cael y canlyniadau iawn ar gyfer iechyd a lles trigolion lleol hefyd.

Diolch i'r Gweinidog a'r Ysgrifennydd Cabinet. 

I thank the Minister and the Cabinet Secretary. 

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus
2. Questions to the Cabinet Secretary for Local Government and Public Services

Felly, mae'r cwestiynau nesaf i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, a'r cwestiwn cyntaf gan David Melding.

The next questions are for the Cabinet Secretary for Local Government and Public Services, and the first question is from David Melding. 

Grantiau i Wasanaethau Cyhoeddus
Public Services Grants

1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y grantiau a ddarperir gan lywodraeth leol i gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus? OAQ52498

1. Will the Cabinet Secretary make a statement on the grants provided by local government to deliver public services? OAQ52498

Member
Alun Davies AM 14:19:08
Cabinet Secretary for Local Government and Public Services

Local authorities deliver a range of grants schemes to provide support and services locally. 

Mae awdurdodau lleol yn cynnig ystod o gynlluniau grant i ddarparu cymorth a gwasanaethau yn lleol.

Cabinet Secretary, thank you for that very concise answer. The Welsh Government's proposals to amalgamate several grant-funded streams into a single grant—the early intervention, prevention and support grant—will remove the ring-fenced protection for several streams such as Supporting People, the Flying Start revenue grant and Families First. Now, in my region, this could have a detrimental impact on an initiative called the Teulu partnership, which is extremely popular, and has provided vital support for children at very difficult times. Some constituents have informed me that if it wasn't for the help and support that the Teulu partnership has given them they would have had no way of getting through some extremely difficult experiences. Now, I understand that Welsh Government officials have made some enquiries into the future of this grant, and that Cardiff council has confirmed that any new arrangements will ensure that the services provided by the Teulu partnership will continue.

Do you think it's really important that successful schemes are taken forward in any new funding arrangement, and that we maintain best practice? We don't need to reinvent the wheel constantly, and, certainly, when our constituents tell you something works, it should be maintained.

Ysgrifennydd y Cabinet, diolch am eich ateb cryno iawn. Bydd cynigion Llywodraeth Cymru i gyfuno nifer o ffrydiau a ariennir gan grantiau i greu un grant—y grant ymyrraeth gynnar, atal a chefnogi—yn diddymu'r diogelwch a glustnodir ar gyfer nifer o ffrydiau fel Cefnogi Pobl, grant refeniw Dechrau'n Deg a Teuluoedd yn Gyntaf. Nawr, yn fy rhanbarth i, gallai hyn gael effaith andwyol ar fenter o'r enw partneriaeth Teulu, sy'n hynod o boblogaidd, ac sydd wedi darparu cymorth hanfodol i blant ar adegau anodd iawn. Mae rhai o fy etholwyr wedi dweud wrthyf na fyddent wedi gallu ymdopi â phrofiadau anodd iawn oni bai am y cymorth a gawsant gan bartneriaeth Teulu. Nawr, rwy'n deall bod swyddogion Llywodraeth Cymru wedi gwneud ymholiadau ynglŷn â dyfodol y grant hwn, a bod cyngor Caerdydd wedi cadarnhau y bydd unrhyw drefniadau newydd yn sicrhau bod y gwasanaethau a ddarperir gan bartneriaeth Teulu yn parhau.

A ydych yn credu ei bod yn wirioneddol bwysig fod cynlluniau llwyddiannus yn cael eu parhau mewn unrhyw drefniant cyllid newydd, a'n bod yn cynnal arferion gorau? Nid oes angen inni ailddyfeisio'r olwyn drwy'r amser, ac yn sicr, pan fydd ein hetholwyr yn dweud wrthych fod rhywbeth yn gweithio, dylid ei gynnal.

14:20

Can I say in answering the question, Presiding Officer, that if any Members have particular issues about particular funding streams and particular groups in their constituencies or regions, then we're always happy to take up those particular issues and those specific issues, both ourselves and the local authorities concerned?

In terms of the new integrated grant, I will say to the Member that it will still be ring-fenced to focus on the most vulnerable groups in society. We are considering how we further develop our approach to monitoring outcomes to ensure that we do not see the outcomes that the Member has described, and which the Member quite rightly fears; I accept that there is concern about that. But it is also important—and I hope Members also consider this—that we are integrating grants that all have in common a need to intervene early and support individuals and households to live independently and achieve their potential.

I think Members across the whole Chamber will agree that people's lives and the challenges that they face do not fit neatly into the structures that we can sometimes build around grant schemes, and therefore I believe that integration is the correct way forward. But, clearly, we have to do that whilst maintaining services to vulnerable groups in society. The purpose of this is to improve things, not to cause the difficulties that he describes.

A gaf fi ddweud wrth ateb y cwestiwn, Lywydd, os oes gan Aelodau unrhyw faterion penodol ynghylch ffrydiau ariannu penodol a grwpiau penodol yn eu hetholaethau neu eu rhanbarthau, rydym bob amser yn fwy na pharod i fynd i'r afael â'r problemau arbennig hynny a'r materion penodol hynny, ni a'r awdurdodau lleol perthnasol?

O ran y grant integredig newydd, rwy'n dweud wrth yr Aelod y bydd yn dal i gael ei glustnodi i ganolbwyntio ar y grwpiau mwyaf agored i niwed yn y gymdeithas. Rydym yn ystyried sut y datblygwn ein dull o fonitro canlyniadau ymhellach er mwyn sicrhau nad ydym yn gweld y canlyniadau y mae'r Aelod wedi'u disgrifio, ac mae'r Aelod yn iawn i'w hofni; rwy'n derbyn bod pryder ynglŷn â hynny. Ond mae hefyd yn bwysig—a gobeithiaf y bydd yr Aelodau yn ystyried hyn hefyd—ein bod yn integreiddio grantiau sy'n canolbwyntio fel ei gilydd ar yr angen i ymyrryd yn gynnar ac sy'n cynorthwyo unigolion ac aelwydydd i fyw'n annibynnol a chyflawni eu potensial.

Credaf y bydd Aelodau ar draws y Siambr yn cytuno nad yw bywydau pobl a'r heriau y maent yn eu hwynebu yn cyd-fynd yn daclus â'r strwythurau y gallwn eu hadeiladu weithiau o amgylch cynlluniau grant, ac felly credaf mai integreiddio yw'r ffordd gywir o fwrw ymlaen. Ond yn amlwg, mae'n rhaid inni wneud hynny gan gynnal gwasanaethau i grwpiau agored i niwed yn y gymdeithas. Diben hyn yw gwella pethau, nid achosi'r anawsterau y mae'n eu disgrifio.

The heat of summer can be just as dangerous as the cold of winter for homeless people. Heat exhaustion, dehydration, sunburn and sanitation all become serious issues for the growing number of people in Wales stuck on the street.

Cabinet Secretary, Luke's story came to my attention over the weekend. So desperate was he for water, Luke was reduced to drinking from toilets. On our streets, in our country, under your Government, desperate people are forced into inhuman indignity. Today, the charity, the Wallich, has called for urgent action. Central Government must now work with local authorities and the third sector to take immediate action to help these desperate people.

Water and sunblock are a particular priority for homeless people in these conditions, so can the Cabinet Secretary please tell me what urgent measures he plans to implement to ensure that homeless people can cope in the current weather conditions?

Gall gwres yr haf fod yr un mor beryglus ag oerfel y gaeaf i bobl ddigartref. Mae gorludded gwres, diffyg hylif, llosg haul a glanweithdra yn dod yn broblemau difrifol i'r nifer gynyddol o bobl yng Nghymru sy'n byw ar y stryd.

Ysgrifennydd y Cabinet, tynnwyd fy sylw at stori Luke dros y penwythnos. Roedd Luke mor daer am ddŵr, fel y bu'n rhaid iddo yfed o doiledau. Ar ein strydoedd ni, yn ein gwlad ni, o dan eich Llywodraeth chi, mae pobl heb obaith yn cael eu gorfodi i ddioddef diffyg urddas sy'n annynol. Heddiw, mae elusen Wallich wedi galw am weithredu ar frys. Mae'n rhaid i'r Llywodraeth ganolog weithio gydag awdurdodau lleol a'r trydydd sector i weithredu ar frys i helpu'r bobl druenus hyn.

Mae dŵr ac eli haul yn flaenoriaeth arbennig i bobl ddigartref yn yr amgylchiadau hyn, felly a all Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthyf pa fesurau brys y mae'n bwriadu eu rhoi ar waith i sicrhau y gall pobl ddigartref ymdopi yn y tywydd hwn?

Can I say, Presiding Officer, I saw some of those reports myself, and my conclusion isn't dissimilar to yours? I think it is an appalling thing that people in this day and age have to resort to those measures in order to sustain themselves. I think everybody will agree with your conclusions on that and will wish to agree with you in terms of your approach to that. I read the same report today as you have, and it fills me full of horror that people in this country are living in that way.

The Minister for housing is in her place for this question session. She has heard what you've had to say and she will respond to you. But let me say this: this Government is wholly and completely committed to resolving the issues of homelessness—as you say, in the summer and in the winter—across the whole of this country, and our resources will always be prioritised to meet the needs of those people who are most vulnerable in our society, and the Minister is as committed to that as I am.

A gaf fi ddweud, Lywydd, fy mod wedi gweld rhai o'r adroddiadau hyn fy hun, ac nad yw fy nghasgliad yn annhebyg i'ch un chi? Credaf ei bod yn ofnadwy fod pobl yn yr oes sydd ohoni yn gorfod gwneud y pethau hyn er mwyn cynnal eu hunain. Credaf y bydd pawb yn cytuno â'ch casgliadau ar hynny ac yn awyddus i gytuno â chi o ran eich ymagwedd tuag at hynny. Darllenais yr un adroddiad â chi heddiw, ac mae'n arswydus fod pobl yn y wlad hon yn byw yn y ffordd honno.

Mae'r Gweinidog tai yn ei lle ar gyfer y sesiwn holi hon. Mae wedi clywed yr hyn a ddywedoch, a bydd yn ymateb i chi. Ond gadewch i mi ddweud hyn: mae'r Llywodraeth hon yn gwbl ymroddedig i ddatrys problemau digartrefedd—fel y dywedwch, yn yr haf ac yn y gaeaf—ledled y wlad, a bydd ein hadnoddau bob amser yn cael eu blaenoriaethu i ddiwallu anghenion y bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, ac mae'r Gweinidog mor ymrwymedig â minnau i hynny.

Pobl Ddigartref
Homeless People

2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y cymorth a ddarperir gan awdurdodau lleol i bobl ddigartref yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ52495

2. Will the Cabinet Secretary make a statement on support provided by local authorities to homeless people in Mid and West Wales? OAQ52495

The five local authorities in Mid and West Wales have successfully ended homelessness for 2,907 households and successfully prevented homelessness for 2,421 households since commencement of the Housing (Wales) Act 2014. We have provided over £900,000 directly to these local authorities last year for homelessness services in addition to the revenue support grant.

Mae'r pum awdurdod lleol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru wedi rhoi diwedd ar ddigartrefedd i 2,907 o aelwydydd ac wedi atal digartrefedd yn llwyddiannus i 2,421 o aelwydydd ers cychwyn Deddf Tai (Cymru) 2014. Rydym wedi darparu dros £900,000 yn uniongyrchol i'r awdurdodau lleol hyn y llynedd ar gyfer gwasanaethau digartrefedd yn ychwanegol at y grant cynnal refeniw.

I thank the Minister for that informative reply. Unfortunately, homelessness in Wales has been rising in recent times. In 2016-17 the average for Wales as a whole was 82 people per 10,000 households. That's up from 52 in the previous year, although part of that increase may be explained by improved data collection. But nevertheless, it's still a worrying trend, and we all heard what the Cabinet Secretary said a moment ago, and I thought it was quite a moving response to the leader of Plaid Cymru. Carmarthenshire's figures are much higher than the national average—well over 100 in 10,000 designated homeless people.

I'm concerned to ask today about one aspect of this, which is that proportion of homeless people who are ex-armed forces veterans. A Northern Ireland veteran and chief executive of Veterans Association UK says there are 13,000 homeless veterans at a UK level, but the figure could be higher. We don't know what the figures might be for Wales, but it's fair to assume that there will be quite a number of veterans, ex-armed forces people who are sleeping rough and are homeless.

Carl Sargeant was a great friend to veterans and was responsible for significant improvements in provision for homeless veterans in particular, and I was wondering, therefore, whether the new Cabinet Secretary, who I know shares Carl's concerns, and you in particular, Minister, would consider going further than the code of guidance that was issued in 2016 and give social housing priority to ex-servicemen and women and those returning from active service as a step to ensuring that armed services personnel get the aftercare service they deserve.

Diolch i'r Gweinidog am ei hateb llawn gwybodaeth. Yn anffodus, mae digartrefedd yng Nghymru wedi bod yn codi'n ddiweddar. Yn 2016-17, y cyfartaledd ar gyfer Cymru gyfan oedd 82 o bobl fesul 10,000 o aelwydydd. Mae hynny'n uwch na'r 52 yn y flwyddyn flaenorol, er y gellir esbonio peth o'r cynnydd hwnnw drwy ddulliau casglu data gwell. Serch hynny, mae'n duedd sy'n peri pryder, a chlywodd pob un ohonom yr hyn a ddywedodd Ysgrifennydd y Cabinet eiliad yn ôl, ac roeddwn yn credu ei fod yn ymateb teimladwy i arweinydd Plaid Cymru. Mae ffigurau Sir Gaerfyrddin yn llawer uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol—dynodwyd bod ymhell dros 100 o bobl fesul 10,000 yn ddigartref.

Rwy'n awyddus i ofyn heddiw am un agwedd ar hyn, sef y gyfran o bobl ddigartref sy'n gyn-filwyr. Dywed cyn-filwr a fu ar ddyletswydd yng Ngogledd Iwerddon a phrif weithredwr Veterans Association UK fod 13,000 o gyn-filwyr yn ddigartref yn y DU, ond gallai'r ffigur fod yn uwch. Ni wyddom beth yw'r ffigurau ar gyfer Cymru, ond mae'n deg tybio y bydd nifer eithaf uchel o gyn-filwyr, pobl a fu'n aelodau o'r lluoedd arfog, yn cysgu ar y stryd ac yn ddigartref.

Roedd Carl Sargeant yn ffrind da i'r cyn-filwyr ac roedd yn gyfrifol am welliannau sylweddol yn y ddarpariaeth ar gyfer cyn-filwyr digartref yn arbennig, a thybed felly, a fyddai'r Ysgrifennydd Cabinet newydd, sy'n rhannu pryderon Carl, rwy'n gwybod, a chi'n benodol, Weinidog, yn ystyried mynd ymhellach na'r cod canllawiau a gyhoeddwyd yn 2016 a rhoi blaenoriaeth tai cymdeithasol i gyn-filwyr a'r rhai sy'n dychwelyd o wasanaeth gweithredol fel cam tuag at sicrhau bod personél y lluoedd arfog yn cael y gwasanaeth ôl-ofal y maent yn ei haeddu.

14:25

I thank you very much for that question, and I completely agree with you about the worrying trend in terms of homelessness, particularly rough-sleeping. But I think we can be proud of the record that we do have in terms of prevention. I gave you some of the figures of the thousands of people who've had homelessness prevented and relieved in your region, and the figure now across Wales is 14,000 families, which I think is something to be celebrated. I know that other countries are looking at our legislation really carefully to see what they can learn from us. But, nonetheless, as long as there is homelessness, and as long as there is rough-sleeping, then clearly we need to be doing more work in partnership with those local authorities and our other partners.

In terms of support for people who are leaving the armed forces and for veterans, I know that the housing pathway has been in place and has had some success, but I've also been having some discussions recently with representatives of the Royal British Legion in terms of what more we can do to be supporting people who are veterans and also people leaving the armed forces, and also their families as well, because often they find themselves in difficult positions regarding housing, and potentially facing homelessness when divorces happen and so on. So, it is a complex picture, but one that we are very much engaged with and we are keen to see what more we can do to support veterans.

Diolch yn fawr iawn am eich cwestiwn, ac rwy'n cytuno'n llwyr â chi ynglŷn â'r duedd ar i fyny mewn digartrefedd sy'n peri cryn bryder, yn enwedig cysgu ar y stryd. Ond credaf y gallwn fod yn falch o'n record mewn perthynas ag atal. Rhoddais rai o'r ffigurau i chi ynghylch y miloedd o bobl sydd wedi elwa o gamau i atal a lleihau digartrefedd yn eich rhanbarth, ac mae'r ffigur ar gyfer Cymru gyfan bellach yn 14,000 o deuluoedd, a chredaf fod hynny'n rhywbeth i'w ddathlu. Gwn fod gwledydd eraill yn edrych ar ein deddfwriaeth yn ofalus iawn i weld beth y gallant ei ddysgu gennym. Serch hynny, cyhyd ag y ceir digartrefedd, a chyhyd ag y bo pobl yn cysgu ar y strydoedd, mae'n amlwg fod angen inni wneud mwy o waith mewn partneriaeth â'r awdurdodau lleol a chyda'n partneriaid eraill.

O ran cymorth ar gyfer pobl sy'n gadael y lluoedd arfog ac ar gyfer cyn-filwyr, gwn fod y llwybr tai wedi bod ar waith ac wedi cael ychydig o lwyddiant, ond rwyf hefyd wedi cael trafodaethau yn ddiweddar â chynrychiolwyr o'r Lleng Brydeinig Frenhinol o ran beth arall y gallwn ei wneud i gefnogi pobl sy'n gyn-filwyr a hefyd i gynorthwyo pobl sy'n gadael y lluoedd arfog, a'u teuluoedd hefyd, gan eu bod yn aml mewn sefyllfaoedd anodd mewn perthynas â thai, ac o bosibl yn wynebu digartrefedd pan fydd cyplau'n cael ysgariad ac ati. Felly, mae'n ddarlun cymhleth, ond mae'n un rydym yn mynd i'r afael ag ef ac rydym yn awyddus i weld beth arall y gallwn ei wneud i gefnogi cyn-filwyr.

Minister, I would be keen to get a greater understanding of how local authorities measure and collate the reasons for homelessness. As you know, in my constituency, we have a case of a significant number of park home residents who, through the changes in law made by Welsh Government, are under threat of becoming homeless. Now, in response to a letter of mine, you said that you'd already had your officials to be in touch with Pembrokeshire County Council to talk about their potential needs if they become homeless. But I would like to make the point that these are very elderly people, they are very vulnerable, they've sunk all their life savings into buying their park home, and for them to face this at their time of life is really just a complete abrogation of duty all round. 

I wonder what further action you can take on this. I know you make the point, in your letter to me, that they have until 2019, the park home owners, to start making small adjustments, but some of these park homes are very, very finely balanced. Pembrokeshire may be the first place where this issue has raised its head, but I am concerned that, throughout Wales, there may be other park homes where they are on a knife edge in terms of their ability to carry on going. And if we're not careful, we will suddenly find a very vulnerable section of our society made homeless at a time of their lives when they are going to find it very, very difficult to manage that. I do think that we need to have a more proactive response to how we're going to handle the unintended consequences to the legislation that Welsh Government put in place.

Weinidog, hoffwn gael gwell dealltwriaeth o sut y mae awdurdodau lleol yn mesur ac yn coladu'r rhesymau dros ddigartrefedd. Fel y gwyddoch, yn fy etholaeth i, mae gennym nifer sylweddol o breswylwyr cartrefi mewn parciau sydd, drwy newidiadau yn y gyfraith a wnaed gan Lywodraeth Cymru, o dan fygythiad o fod yn ddigartref. Nawr, mewn ymateb i lythyr gennyf, fe ddywedoch eich bod eisoes wedi gofyn i'ch swyddogion gysylltu â Chyngor Sir Penfro i siarad am eu hanghenion posibl pe baent yn dod yn ddigartref. Ond hoffwn dynnu sylw at y ffaith eu bod yn bobl oedrannus iawn, maent yn agored iawn i niwed, maent wedi gwario eu holl gynilion ar gartref mewn parc, ac mae'r ffaith eu bod yn wynebu hyn ar yr adeg hon yn eu bywydau yn gwbl warthus.

Tybed pa gamau pellach y gallwch eu rhoi ar waith ar hyn. Gwn eich bod yn gwneud y pwynt, yn eich llythyr ataf, fod gan berchnogion cartrefi mewn parciau hyd at 2019 i ddechrau gwneud addasiadau bach, ond mae rhai o'r cartrefi hyn mewn sefyllfa fregus iawn. Efallai mai Sir Benfro yw'r lle cyntaf lle mae'r mater hwn wedi dod i'r amlwg, ond rwy'n bryderus y gall fod cartrefi eraill mewn parciau ledled Cymru sydd ar ymyl clogwyn o ran eu gallu i barhau. Ac os nad ydym yn ofalus, bydd rhan agored iawn i niwed o'n cymdeithas yn ddigartref heb fawr o rybudd ar adeg yn eu bywydau pan fyddant yn ei chael yn anodd iawn ymdopi â hynny. Credaf fod angen inni fabwysiadu ymateb mwy rhagweithiol o ran sut rydym yn ymdrin â chanlyniadau anfwriadol y ddeddfwriaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi ar waith.

I thank you very much for raising this issue. Of course, the legislation is not yet in place; it will be subject to a vote of the whole Assembly in the early part of next year. Of course, the approach I tried to take was a pragmatic approach, trying to be fair to both the park home owners and also the park home residents. I know that the Conservative Party was very much pressing the approach of completely abolishing the park home fees, which would've had a very different impact, I think, on park homes.

I'm quite limited in terms of what I'm able to say on this particular issue now, because I understand that there's potentially the intention to issue some court proceedings. So, I'll probably leave it there for today, and if I am able to say more, I'll write to you.

Diolch yn fawr iawn am godi'r mater hwn. Wrth gwrs, nid yw'r ddeddfwriaeth ar waith eto; bydd yn amodol ar bleidlais y Cynulliad cyfan yn gynnar y flwyddyn nesaf. Wrth gwrs, roedd yr ymagwedd y ceisiais ei mabwysiadu yn ymagwedd bragmatig, wrth geisio bod yn deg â pherchnogion cartrefi mewn parciau yn ogystal â phreswylwyr cartrefi mewn parciau. Gwn fod y Blaid Geidwadol wedi galw am gael gwared ar ffioedd cartrefi mewn parciau yn gyfan gwbl, a fyddai wedi cael effaith wahanol iawn, yn fy marn i, ar gartrefi mewn parciau.

Mae'r hyn y gallaf ei ddweud ar y mater hwn ar hyn o bryd yn gyfyngedig, gan y deallaf fod bwriad posibl i ddwyn achosion llys. Felly, mae'n debyg mai dyna'r oll a ddywedaf ar y mater heddiw, ac os gallaf ddweud mwy, byddaf yn ysgrifennu atoch.

14:30
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
Questions Without Notice from Party Spokespeople

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd UKIP, Gareth Bennett.

Questions now from the party spokespeople. The UKIP spokesperson, Gareth Bennett.

Diolch, Llywydd. There have been a number of successful planning applications recently for student accommodation in Cardiff. Some people have observed that virtually every major housing block granted planning permission for central Cardiff in the past 18 months has been for student accommodation. At the same time, we have a second so-called student block considering applying for change of use so that it can let its rooms to non-students, due to lack of demand from the student population. We also have a large block in Newport that is no longer being used exclusively for students. If there is a lack of demand for the blocks that have already been built, why are more student blocks being built, I wonder. Is the Welsh Government aware of this issue, and what are you doing to regulate this area?

Diolch, Lywydd. Yn ddiweddar, cafwyd nifer o geisiadau cynllunio llwyddiannus ar gyfer llety myfyrwyr yng Nghaerdydd. Mae rhai pobl wedi sylwi bod bron bob bloc mawr sydd wedi cael caniatâd cynllunio yng nghanol Caerdydd yn y 18 mis diwethaf wedi bod ar gyfer llety myfyrwyr. Ar yr un pryd, mae gennym ail floc myfyrwyr fel y'i gelwir yn ystyried gwneud cais am newid defnydd fel y gellir rhentu'r ystafelloedd i bobl nad ydynt yn fyfyrwyr, o ganlyniad i ddiffyg galw gan y myfyrwyr. Mae gennym hefyd floc mawr yng Nghasnewydd nad yw'n cael ei ddefnyddio ar gyfer myfyrwyr yn unig mwyach. Os oes diffyg galw am y blociau sydd eisoes wedi'u hadeiladu, pam fod mwy o flociau myfyrwyr yn cael eu hadeiladu, tybed. A yw Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o'r mater hwn, a beth rydych yn ei wneud i reoleiddio'r maes hwn?

Thank you for the question. I'm certainly aware of the issue, in terms of there being a large number of student accommodations within Cardiff that aren't being occupied by students. There's a particular difficulty in terms of changing those accommodations into non-student accommodations, of course, because my understanding is that the regulations surrounding the different types of accommodation are different, so there is an issue there in terms of space, and so on. I know this is an issue that the Minister with responsibility for planning is also very much alive to. But my advice to local authorities, certainly, would be to look very closely at their local housing needs analysis, and to be organising their planning and decision making around planning in accordance with those local housing needs.

Diolch i chi am y cwestiwn. Rwy'n sicr yn ymwybodol fod nifer fawr o adeiladau llety myfyrwyr o fewn Caerdydd nad ydynt yn cael eu defnyddio gan fyfyrwyr. Mae anhawster penodol o ran newid yr adeiladau llety hynny'n adeiladau llety i bobl nad ydynt yn fyfyrwyr, wrth gwrs, oherwydd fy nealltwriaeth i yw bod y rheoliadau sy'n ymwneud â gwahanol fathau o adeiladau llety yn wahanol, felly mae yna broblem gyda hynny o ran gofod, ac ati. Gwn fod hwn yn fater y mae'r Gweinidog sy'n gyfrifol am gynllunio yn effro iawn iddo hefyd. Ond fy nghyngor i awdurdodau lleol, yn sicr, fyddai iddynt edrych yn agos iawn ar eu dadansoddiad o anghenion tai lleol, a threfnu eu gwaith cynllunio a'u prosesau gwneud penderfyniadau sy'n ymwneud â chynllunio yn unol â'r anghenion tai lleol hynny.

Thanks for that response. I'm glad you are aware of the issue. I think there may be a need for perhaps closer involvement at Welsh Government level in this area, because the local authorities—certainly in Cardiff and Newport—may not be doing enough about it. I think that we may be heading for over-supply of student accommodation. Certainly we know that the expansion of higher education cannot go on forever; there will not be an endless supply of more student numbers in Cardiff, Newport, or probably anywhere else in Wales. I think what we may have here is something of a scam. It may be that the universities are deliberately creating an over-supply of flats for the student market, so that they can change their use by the back door, and use them subsequently to let out commercially. We know that there are less stringent rules applied to student flats than to commercial developments, for instance, which you alluded to in your answer. Are you aware that the universities could be duping the local councils into allowing these developments of student blocks, which the university chiefs know full well may be used subsequently for commercial letting?

Diolch am yr ymateb hwnnw. Rwy'n falch eich bod yn ymwybodol o'r mater. Credaf efallai fod angen i Lywodraeth Cymru chwarae rôl fwy yn y maes hwn, gan nad yw'r awdurdodau lleol o bosibl—yn sicr yng Nghaerdydd a Chasnewydd—yn gwneud digon am y peth. Credaf ei bod yn bosibl y bydd gennym ormod o adeiladau llety myfyrwyr. Yn sicr, rydym yn gwybod na all yr ehangu mewn addysg uwch barhau am byth; ni fydd cyflenwad diddiwedd o niferoedd myfyrwyr yng Nghaerdydd, Casnewydd, nag unrhyw le arall yng Nghymru, yn ôl pob tebyg. Credaf efallai fod rhyw fath o sgiâm ar waith yma. Mae'n bosibl fod y prifysgolion yn mynd ati'n fwriadol i greu gorgyflenwad o fflatiau ar gyfer y farchnad myfyrwyr, fel y gallant newid eu defnydd drwy'r drws cefn, a'u defnyddio wedyn i'w rhentu'n fasnachol. Rydym yn gwybod bod rheolau llai llym yn gymwys ar gyfer fflatiau myfyriwr nag ar gyfer datblygiadau masnachol, er enghraifft, ac rydych wedi cyfeirio at hynny yn eich ateb. A ydych yn ymwybodol y gallai prifysgolion fod yn twyllo'r cynghorau lleol i ganiatáu iddynt ddatblygu'r blociau myfyriwr hyn, a bod penaethiaid y prifysgolion yn gwybod yn iawn y byddant yn eu rhentu'n fasnachol wedyn?

I think there's an onus on universities and on the local authorities to be having some serious discussions together in terms of their projections of local needs for both students and the non-student population, and to be planning their new builds and what's available in terms of accommodation locally in that way. I'm not sure that there's a role for Welsh Government in terms of stipulating the number of student accommodations that should be available, but those decisions should be taken on an evidence base and a needs-based approach.

Rwy'n credu ei bod yn ddyletswydd ar brifysgolion ac awdurdodau lleol i gael trafodaethau difrifol ynglŷn â'u hamcanestyniadau o anghenion lleol ar gyfer myfyrwyr a phobl nad ydynt yn fyfyrwyr, ac i gynllunio eu cynlluniau adeiladu newydd a'r hyn sydd ar gael yn lleol fel llety yn y ffordd honno. Nid wyf yn siŵr fod yna rôl i Lywodraeth Cymru o ran pennu'r nifer o adeiladau llety myfyrwyr a ddylai fod ar gael, ond dylai'r penderfyniadau hynny gael eu gwneud ar sail tystiolaeth a thrwy ddull o weithredu sy'n seiliedig ar anghenion.

Yes. You cite the need for an evidence-based approach, and I'm sure you're right in that. But there may be implications for your ambitions for affordable housing in Wales, which you were telling us about in the Assembly this week. Certainly, we agreed that we have a shortage of affordable housing here.

Commercial developers, when they build new housing estates, have a certain legal obligation to provide an element of affordable housing. Developers building so-called student blocks are under no such obligation. Unless the Welsh Government becomes more aware of what the universities may be doing, and investigates the practice, then there is a danger that you are allowing the universities, and their partners in the construction business, to undermine your ambitions for affordable housing. So, are you aware of this threat? And I would ask you again: do you intend to do anything about it?

Dylent. Rydych yn cyfeirio at yr angen am ddull o weithredu sy'n seiliedig ar dystiolaeth, ac rwy'n siŵr eich bod yn iawn yn hynny o beth. Ond efallai y bydd goblygiadau o ran eich dyheadau am dai fforddiadwy yng Nghymru, y buoch yn dweud wrthym amdanynt yn y Cynulliad yr wythnos hon. Yn sicr, roeddem yn cytuno bod gennym brinder tai fforddiadwy yma.

Mae datblygwyr masnachol, pan fyddant yn adeiladu ystadau tai newydd, wedi'u rhwymo'n gyfreithiol i ddarparu elfen o dai fforddiadwy. Nid oes unrhyw reidrwydd o'r fath ar ddatblygwyr sy'n adeiladu blociau myfyriwr fel y'u gelwir. Oni bai bod Llywodraeth Cymru yn dod yn fwy ymwybodol o'r hyn y mae'r prifysgolion yn ei wneud o bosibl, ac yn ymchwilio i'r arfer, mae perygl eich bod yn caniatáu i'r prifysgolion, a'u partneriaid yn y busnes adeiladu, danseilio eich dyheadau am dai fforddiadwy. Felly, a ydych yn ymwybodol o'r bygythiad hwn? A gofynnaf i chi eto: a ydych yn bwriadu gwneud unrhyw beth yn ei gylch?

Well, the Minister with responsibility for planning has already said that she intends to issue a wide-ranging review of housing and planning rules over the course of the summer. So, I'm sure that this will be one of the issues that are drawn to the fore and drawn to attention within the course of that consultation, and it will be an opportunity to consider whether there need to be changes in that regard.

Wel, mae'r Gweinidog sy'n gyfrifol am gynllunio eisoes wedi dweud ei bod yn bwriadu cyhoeddi adolygiad eang o'r rheolau tai a chynllunio yn ystod yr haf. Felly, rwy'n siŵr y bydd hwn yn un o'r materion a fydd yn dod i'r amlwg ac yn cael sylw yn ystod yr ymgynghoriad hwnnw, a bydd yn gyfle i ystyried yr angen am newidiadau yn hynny o beth.

Llefarydd Plaid Cymru, Bethan Sayed.

The Plaid Cymru spokesperson, Bethan Sayed.

14:35

Okay. I'm going to talk about drug issues, so I don't know if that's—. I wasn't asked if it was Rebecca—.

Iawn. Rwyf am sôn am faterion yn ymwneud â chyffuriau, felly nid wyf yn gwybod a yw hynny—. Ni ofynnwyd i mi os mai Rebecca—.

You've indicated that your question is to the Minister.

Rydych wedi nodi bod eich cwestiwn ar gyfer y Gweinidog.

Oh, right, okay. Well, in the first instance—

O, iawn. Wel, yn y lle cyntaf—

Have you? Is that your understanding?

A ydych chi wedi gwneud hynny? Ai dyna a ddealloch chi?

It's Vaughan Gething, but I'm happy to take the question. 

Un i Vaughan Gething ydyw, ond rwy'n hapus i dderbyn y cwestiwn.

Yes, well, okay, we'll see if there's cross-Government work then. [Laughter.]

My first question is with regard to drug use and misuse in some places, which have reached scarily high levels, and a report earlier this year highlighted that, since 1993, deaths as a result of heroin use have increased significantly. As well as this, there has been a worrying rise in county line drug crime, with drug dealers and gangs increasingly targeting smaller communities and moving out of large cities in England to come here. I know in South Wales West we've heard of stories in Swansea and in Neath. It's within the top-10 places in England and Wales where deaths have risen, and other drug uses, such as spice, are also on the rise. I understand you are working with the police in relation to this, but I just wanted to understand how you're working with them so that we can tackle this issue head on. 

Oh, it's you. Okay.

Ie, wel, iawn, fe gawn weld a oes yna waith trawslywodraethol yn digwydd felly. [Chwerthin.]

Mae fy nghwestiwn cyntaf yn ymwneud â defnyddio cyffuriau, a chamddefnyddio cyffuriau mewn rhai mannau, sydd wedi cyrraedd lefelau dychrynllyd o uchel, ac fe ddangosodd adroddiad yn gynharach eleni fod nifer y marwolaethau o ganlyniad i ddefnyddio heroin wedi cynyddu'n sylweddol ers 1993. Yn ogystal â hyn, mae cynnydd sy'n peri pryder wedi bod mewn troseddau cyffuriau gwledig sy'n defnyddio llinellau ffôn penodol, gyda gwerthwyr cyffuriau a gangiau yn gynyddol yn targedu cymunedau llai ac yn symud o ddinasoedd mawr yn Lloegr i ddod yma. Gwn ein bod wedi clywed straeon yn Abertawe ac yng Nghastell-nedd yng Ngorllewin De Cymru. Mae'n un o'r 10 lle yng Nghymru a Lloegr lle mae nifer y marwolaethau wedi codi fwyaf, ac mae defnydd o gyffuriau eraill, fel spice, hefyd ar gynnydd. Deallaf eich bod yn gweithio gyda'r heddlu mewn perthynas â hyn, ond roeddwn eisiau deall sut rydych yn gweithio gyda hwy fel y gallwn fynd i'r afael â'r mater hwn yn uniongyrchol.

O, chi ydyw. Iawn.

You haven't heard the answer yet. [Laughter.]

I am grateful to the Member for the question. We are working closely with the four police forces in Wales on this matter. I've met with the officers dealing with serious and organised crime in Wales to discuss the matters that she does raise. They are very serious matters, of course, and affect all of our forces across this country. So, we are working with them. I hope over the summer to put in place structures whereby we can formalise the work that we do with the police forces at the moment. Members are aware, of course, that these are not devolved matters—neither drug policy nor policing is devolved. So, we are working in areas where we do not have control of the policy agenda, but we do clearly have a great influence, I hope, in the way in which policing can be delivered. So, we are aware of the issue. I'm particularly aware of the issues that you describe in Neath, and I hope that we will be able to work with police forces to deliver the sort of response that you've described. 

Nid ydych wedi clywed yr ateb eto. [Chwerthin.]

Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am y cwestiwn. Rydym yn gweithio'n agos gyda'r pedwar gwasanaeth heddlu yng Nghymru ar y mater hwn. Rwyf wedi cyfarfod â swyddogion sy'n ymdrin â throseddau difrifol a chyfundrefnol yng Nghymru i drafod y materion a nododd. Maent yn faterion difrifol iawn, wrth gwrs, sy'n effeithio ar bob un o'n lluoedd ar draws y wlad. Felly, rydym yn gweithio gyda hwy. Dros yr haf, rwy'n gobeithio sefydlu strwythurau lle y gallwn ffurfioli'r gwaith a wnawn gyda'r heddluoedd ar hyn o bryd. Mae'r Aelodau'n ymwybodol, wrth gwrs, nad yw'r rhain yn faterion datganoledig—nid yw polisi cyffuriau na phlismona wedi'u datganoli. Felly, rydym yn gweithio mewn meysydd lle nad oes gennym reolaeth dros yr agenda polisi, ond yn amlwg mae gennym ddylanwad mawr, gobeithio, yn y ffordd y gellir cyflawni'r gwaith o blismona. Felly, rydym yn ymwybodol o'r broblem. Rwy'n ymwybodol iawn o'r problemau rydych yn eu disgrifio yng Nghastell-nedd, a gobeithiaf y byddwn yn gallu gweithio gyda heddluoedd i gyflawni'r math o ymateb rydych wedi'i ddisgrifio.

This next one is both to do with this issue and housing, so I'll see if you can both stand up, potentially. 

Mae'r cwestiwn nesaf yn ymwneud â'r mater hwn a thai, felly caf weld os gall y ddau ohonoch godi, o bosibl.

No, no. This isn't a kind of throw the question out there and—

Na, na. Nid yw'n fater o daflu'r cwestiwn allan a—

I wasn't asked this time, to be honest, which Minister I was directing it to, as usual, so I think that's why the confusion has happened. 

I fod yn onest, ni ofynnwyd i mi y tro hwn, fel sy'n arfer digwydd, pa Weinidog roeddwn yn cyfeirio'r cwestiwn ato, felly rwy'n credu mai dyna pam y bu dryswch.

This question is to who? Make it clear now, and I'll ask the Minister or the Cabinet Secretary to respond. Which one do you—? No, the Cabinet Secretary will be responding and don't put me in this position again. 

I bwy rydych yn gofyn y cwestiwn? Gwnewch hynny'n glir yn awr, ac rwyf am ofyn i'r Gweinidog neu Ysgrifennydd y Cabinet i ymateb. Pa un ydych chi—? Na, bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymateb a pheidiwch â fy rhoi yn y sefyllfa hon eto.

This is why this is an issue that may be confusing for the Government in terms of who responds to what, because of the fact that there is that issue with regard to the link between deprivation and drugs, and the issue with regard to housing, and I think that's something that the Advisory Council on the Misuse of Drugs has confirmed in relation to this issue.

Wales Online last year said that one heroin addict told Wales Online that he wanted to go back to prison where there was more support available, and this person was homeless, a man who had no realistic access to housing for his particular condition. But that means that we need the right type of housing. And we know of instances in Valleys communities, where, for example, there may be a row of flats, or there may be a row of houses, where people in that particular flat may all have drug abuse issues, and if they are put into that same experience, then they will not be able to get over that addiction.

So, my question was with regard to the housing first pilot and how we could ensure that if you're going to make those pilots work, how those who are struggling with drug abuse problems are able to overcome those if they are put in a position where they feel they may not be able to, if they are put in a housing situation that may not suit them.

Dyma pam fod hwn yn fater a allai fod yn ddryslyd i'r Llywodraeth o ran pwy sy'n ymateb i beth, oherwydd bod yna broblem mewn perthynas â'r cyswllt rhwng amddifadedd a chyffuriau, a'r broblem o ran tai, ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y mae'r Cyngor Cynghorol ar Gamddefnyddio Cyffuriau wedi'i gadarnhau mewn perthynas â'r mater hwn.

Y llynedd, dywedodd Wales Online fod un dyn a oedd yn gaeth i heroin wedi dweud wrthynt ei fod eisiau dychwelyd i'r carchar lle roedd mwy o gymorth ar gael, ac roedd y dyn yn ddigartref, heb fynediad realistig at dai yn y cyflwr roedd ynddo. Ond mae hynny'n golygu ein bod angen y math cywir o dai. A gwyddom am achosion mewn cymunedau yn y Cymoedd, er enghraifft, lle y gall fod rhes o fflatiau, neu res o dai, lle bydd gan yr holl bobl mewn fflat broblemau camddefnyddio cyffuriau, ac os cânt eu rhoi yn yr un sefyllfa, ni fyddant yn gallu goresgyn y ddibyniaeth honno.

Felly, roedd fy nghwestiwn yn ymwneud â chynllun peilot tai yn gyntaf a sut y gallem sicrhau, os ydych am sicrhau y bydd y cynlluniau peilot yn gweithio, fod y rhai sy'n brwydro yn erbyn problemau camddefnyddio cyffuriau yn gallu eu goresgyn os cânt eu rhoi mewn sefyllfa lle maent yn teimlo efallai na allant wneud hynny, os cânt eu rhoi mewn tai nad ydynt yn addas ar eu cyfer.

I'll say very gently to the Member: it's not the Government that are confused on this matter. The issues that have been described though are clearly important issues and affect a great number of people. I've met with prison governors in Wales to discuss some of the issues that she raises in terms of the impact of substance misuse on those who are detained on the secure estate in Wales, and the treatment that they receive, both within that estate and when they leave. I believe that there are good examples across Wales where there are being put in place some excellent opportunities for health boards particularly to intervene, to provide support for people who do suffer from substance misuse on the secure estate and then to ensure that they have the treatment available to them when they are released. I accept completely that there is a long way to go on this, and I don't believe that the policy environment that's been created by the Home Office is always very helpful in helping us to achieve our ambitions. But it is something that we are actively debating and discussing with our police forces and our prison facilities and the prison service in Wales, but also with the third sector and other support services providing services to people who are in this situation. 

Rwyf am ddweud yn garedig iawn wrth yr Aelod: nid y Llywodraeth sydd wedi drysu ar y mater hwn. Serch hynny, mae'r materion a ddisgrifiwyd yn amlwg yn amlwg yn bwysig ac yn effeithio ar nifer fawr o bobl. Rwyf wedi cyfarfod â llywodraethwyr carchardai yng Nghymru i drafod rhai o'r materion y mae'n eu codi o ran effaith camddefnyddio sylweddau ar y rhai sy'n cael eu cadw mewn sefydliadau diogel yng Nghymru, a'r driniaeth y maent yn ei chael o fewn y sefydliadau hynny a phan fyddant yn gadael. Credaf fod enghreifftiau da ledled Cymru lle mae cyfleoedd rhagorol yn cael eu rhoi ar waith ar gyfer byrddau iechyd yn arbennig i ymyrryd, i ddarparu cymorth i bobl sy'n camddefnyddio sylweddau mewn sefydliadau diogel ac yna i sicrhau bod triniaeth ar gael iddynt pan fyddant yn cael eu rhyddhau. Rwy'n derbyn yn llwyr fod llawer o waith i'w wneud eto ar hyn, ac nid wyf yn credu bod yr amgylchedd polisi a grëwyd gan y Swyddfa Gartref bob amser yn ddefnyddiol iawn yn ein helpu i gyflawni ein huchelgeisiau. Ond mae'n rhywbeth rydym yn ei drafod ar hyn o bryd gyda'n heddluoedd a'n cyfleusterau carchardai a'r gwasanaeth carchardai yng Nghymru, ond hefyd gyda'r trydydd sector a gwasanaethau cymorth eraill sy'n darparu gwasanaethau i bobl sydd yn y sefyllfa hon.

14:40

Well, I'm glad you've said there's a long way to go, because I've had particular communication with Swansea council homelessness working group, chaired by former AM, Peter Black, who recently wrote to Councillor Andrea Lewis, the cabinet member responsible, with a pretty damning outline as to how the city deals with the problem, particularly those with complex needs. The working group noted that within Swansea any client who wishes to be scripted must first self-refer to the Abertawe Alcohol and Drug Assessment Service, on either a Monday or Tuesday morning, and these referral hours need to be made more flexible and dramatically extended as clients who don't make it on a Monday or Tuesday must then wait a week for another opportunity. Once referred, it will take as much as six months on a waiting list to be scripted and then there is another 12-month waiting list to go into rehab. Surely this response isn't good enough to what is a rising problem.

I've seen the work that the working group has done in Swansea, and nobody seems to want to take responsibility—Abertawe Bro Morgannwg University Local Health Board, the council or health. So, if we're going to be ensuring that those people get the support that they need, how can we do so when the system seems to be moving so slowly? 

Wel, rwy'n falch eich bod wedi dweud bod llawer o waith i'w wneud, oherwydd rwyf wedi cyfathrebu'n benodol â gweithgor digartrefedd cyngor Abertawe, dan gadeiryddiaeth yr Aelod Cynulliad blaenorol, Peter Black, a ysgrifennodd at y Cynghorydd Andrea Lewis yn ddiweddar, yr aelod cabinet â chyfrifoldeb, gydag amlinelliad eithaf damniol o sut y mae'r ddinas yn ymdrin â'r broblem, yn enwedig y rheini sydd ag anghenion cymhleth. Nododd y gweithgor fod yn rhaid i unrhyw gleient sy'n dymuno cael cymorth yn Abertawe, hunanatgyfeirio at Wasanaeth Asesu Alcohol a Chyffuriau Abertawe yn gyntaf, ar ddydd Llun neu fore Mawrth, ac mae angen gwneud yr oriau atgyfeirio hyn yn fwy hyblyg a'u hymestyn yn ddramatig oherwydd mae'n rhaid i'r cleientiaid nad ydynt yn gallu mynd ar ddydd Llun neu ddydd Mawrth aros wythnos am gyfle arall. Ar ôl iddynt gael eu hatgyfeirio, bydd yn rhaid iddynt fod ar restr aros am gymaint â chwe mis i gael cymorth ac mae rhestr aros am 12 mis arall i gael cymorth adsefydlu. Does bosib fod ymateb o'r fath yn ddigon da i'r broblem gynyddol hon.

Rwyf wedi gweld y gwaith a wnaeth y gweithgor yn Abertawe, ac nid oes neb i'w weld eisiau cymryd cyfrifoldeb—Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, y cyngor nac iechyd. Felly, os ydym am sicrhau bod y bobl hynny'n cael y gefnogaeth y maent ei hangen, sut y gallwn wneud hynny pan fo'r system i'w gweld yn symud mor araf?

Can I say that I do recognise the difficulties the Member describes? And I think there are issues where we have a settlement that is jagged and broken, and I've made that case on a number of occasions. The way in which policing particularly and penal services are administered at the moment does not provide the best solution to enable us to provide the services, as she's describing, to people across Wales. I accept that, and I hope that the Home Office, the Ministry of Justice and other parts of the United Kingdom Government will listen to that case. 

In terms of the services provided in the Swansea area, clearly, I'm not familiar with the issues she's raised this afternoon. But if she's willing to write to me, I will take up those issues and ensure that there is a response in the comprehensive and holistic way that she quite rightly expects to see, because I agree with that. I believe we do need a far more comprehensive approach to substance misuse in terms of treating people, maintaining people in accommodation, where necessary ensuring that they have the means in order to be treated and treated properly to remove that misuse, to enable them to go on and live their lives. That is our ambition and that is what we're working towards. 

A gaf fi ddweud fy mod yn cydnabod yr anawsterau y mae'r Aelod yn eu disgrifio? A chredaf fod yna broblemau lle mae gennym setliad sy'n aneglur ac wedi torri, ac rwyf wedi gwneud yr achos hwnnw ar sawl achlysur. Nid yw'r ffordd y caiff plismona yn arbennig, a'r gwasanaethau cosbi eu darparu ar hyn o bryd yn rhoi'r ateb gorau i'n galluogi i ddarparu gwasanaethau, fel y mae'n disgrifio, i bobl ledled Cymru. Rwy'n derbyn hynny, a gobeithiaf y bydd y Swyddfa Gartref, y Weinyddiaeth Gyfiawnder a rhannau eraill o Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn gwrando ar yr achos hwnnw.

O ran y gwasanaethau a ddarperir yn ardal Abertawe, yn amlwg, nid wyf yn gyfarwydd â'r materion a godwyd ganddi y prynhawn yma. Ond os yw'n barod i ysgrifennu ataf, rwy'n fodlon codi'r materion hynny a sicrhau ei bod yn cael ymateb yn y modd cyfannol a chynhwysfawr y mae'n disgwyl ei weld, a hynny'n gwbl briodol, oherwydd rwy'n cytuno â hynny. Rwy'n credu ein bod angen ymagwedd lawer mwy cynhwysfawr tuag at gamddefnyddio sylweddau o ran trin pobl, cynnal pobl mewn llety, a lle bo angen, sicrhau bod ganddynt y modd i gael eu trin, a'u trin yn briodol, er mwyn rhoi diwedd ar gamddefnyddio sylweddau, a'u galluogi i symud ymlaen a byw eu bywydau. Dyna ein huchelgais, a dyna rydym yn gweithio tuag ato.

Llefarydd y Ceidwadwyr, David Melding. 

Conservative spokesperson, David Melding. 

Diolch yn fawr, Llywydd. Following on from yesterday's debate on affordable housing in Wales, I would like to touch upon some important broader concerns that weren't raised in the debate. My concerns particularly regard the futureproofing of the increased supply of housing that we need and how we can build homes at volume that meet the needs and demands of future generations, particularly regarding energy efficiency. We are currently experiencing the struggle of modernising homes that weren't futureproofed when they were built originally, or indeed with any sense of adaptability in mind, and, ideally, we need to learn from history and not repeat this mistake. So, what support is being given to the sector so that they can build at volume the houses that we need to the standards that are going to be sustainable in the twenty-first century? 

Diolch yn fawr, Lywydd. Yn dilyn y ddadl ddoe ar dai fforddiadwy yng Nghymru, hoffwn gyffwrdd ar rai pryderon ehangach pwysig na chawsant eu codi yn y ddadl. Mae fy mhryderon yn ymwneud yn arbennig â sicrhau bod y cyflenwad cynyddol o dai sydd eu hangen arnom yn addas ar gyfer y dyfodol a sut y gallwn adeiladu digon o gartrefi i ddiwallu anghenion a gofynion cenedlaethau'r dyfodol, yn enwedig o ran effeithlonrwydd ynni. Ar hyn o bryd, rydym yn wynebu'r her o foderneiddio cartrefi na chawsant eu gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol pan gawsant eu hadeiladu'n wreiddiol, na chydag unrhyw hyblygrwydd i allu addasu, ac yn ddelfrydol, mae angen i ni ddysgu o hanes a pheidio ag ailadrodd y camgymeriad hwn. Felly, pa gymorth sy'n cael ei roi i'r sector fel y gallant adeiladu'r niferoedd mawr o dai o safon sydd eu hangen i fod yn gynaliadwy yn yr unfed ganrif ar hugain?

Thank you for the question. Of course, our innovative housing programme is certainly at the heart of our response to this serious challenge that's facing us in terms of creating homes that are low-carbon—carbon-zero ideally—and we've got some excellent projects coming forward now and being built and we're learning from them already from our last year's stream of projects. But, this time, we're very keen to build on some of those projects from last year, but also to look for projects where we are scaling up. So, we've invited projects for this second year, and the applications close this week for projects on a grander scale really, so that we can start scaling up some of the exciting work that's already being undertaken through the innovative housing programme. 

Also, we know that although we're doing a huge amount of work to try and support SMEs back into the sector, we do need to ensure that the volume builders are working in this way as well. So, we've done some work with our home builder engagement programme in terms of what we can be doing in future, looking potentially at the future of Help to Buy. That's been extremely popular, as you can imagine, amongst the volume builders, but it is an important lever that we do have, so we need to be considering how we use it to achieve our broader aims across Government.

Diolch i chi am y cwestiwn. Wrth gwrs, mae ein rhaglen tai arloesol yn sicr yn ganolog i'n hymateb i'r her ddifrifol sy'n ein hwynebu mewn perthynas â chreu cartrefi carbon isel—di-garbon yn ddelfrydol—ac mae gennym brosiectau rhagorol yn cael eu cyflwyno yn awr ac yn cael eu hadeiladu ac rydym eisoes yn dysgu oddi wrthynt o'n ffrwd o brosiectau y llynedd. Ond, y tro hwn, rydym yn awyddus iawn i adeiladu ar rai o'r prosiectau hynny ers y llynedd, ond hefyd i edrych am brosiectau lle rydym yn uwchraddio. Felly, rydym wedi gwahodd prosiectau ar gyfer yr ail flwyddyn hon, ac mae dyddiad cau'r ceisiadau yr wythnos hon ar gyfer prosiectau ar raddfa fwy mewn gwirionedd, fel y gallwn ddechrau uwchraddio rhywfaint o'r gwaith cyffrous sydd eisoes yn cael ei wneud drwy'r rhaglen tai arloesol.

Hefyd, er ein bod yn gwneud llawer iawn o waith i geisio estyn cymorth i fusnesau bach a chanolig ddychwelyd i'r sector, gwyddom fod  angen i ni sicrhau bod yr adeiladwyr mwy o faint yn gweithio yn y ffordd hon hefyd. Felly, rydym wedi gwneud gwaith gyda'n rhaglen ymgysylltu ag adeiladwyr cartrefi ar yr hyn y gallwn ei wneud yn y dyfodol, gan edrych ar ddyfodol Cymorth i Brynu o bosibl. Mae hwnnw wedi bod yn hynod boblogaidd, fel y gallwch ei ddychmygu, ymhlith yr adeiladwyr mwy, ond mae'n ddull pwysig sydd gennym, felly mae angen i ni ystyried sut rydym yn ei defnyddio i gyflawni ein hamcanion ehangach ar draws y Llywodraeth. 

14:45

Thank you for that, which is in part encouraging. As you know, the Climate Change, Environment and Rural Affairs Committee has been looking at this whole issue of energy efficiency in housing. Our evidence has suggested that there is a significant number of barriers to delivering transformative change in house building in Wales at the moment. The Home Builders Federation expressed concern that transformative change will result in fewer houses being built, and other organisations, including Caerphilly County Borough Council and the Federation of Master Builders Cymru, echoed concerns that there are already a number of challenges to building the number of affordable homes needed, particularly if housing targets are to be met.

This doesn't sound like the sector are prepared for the challenges ahead, and I think that we've really got to push them because we need much more response from them, and ambition. For instance, we've seen this week that the UK Government has released its ambitious Road to Zero strategy, which includes a proposal for all new homes in suburban England to be fitted with electronic car charging points. This is the type of integrated policy that we need, and I do hope that—. The innovation fund is a great idea, but it needs to lead quickly to mainstreaming those great developments that we know are going to work, such as charging points built into new homes as standard. I do hope that you will challenge the sector, particularly the private house builders, to improve their practice.

Diolch i chi am hynny, sydd, yn rhannol, yn galonogol. Fel y gwyddoch, mae'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig wedi bod yn edrych ar holl fater effeithlonrwydd ynni mewn tai. Mae ein tystiolaeth wedi awgrymu bod nifer sylweddol o rwystrau i gyflawni newid trawsnewidiol yn y gwaith o adeiladu tai yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae'r Ffederasiwn Adeiladu Cartrefi wedi mynegi pryder y bydd newid trawsnewidiol yn arwain at lai o dai yn cael eu hadeiladu, ac mae sefydliadau eraill, gan gynnwys Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr Cymru, wedi adleisio pryderon fod yna nifer o heriau eisoes i adeiladu'r nifer angenrheidiol o dai fforddiadwy, yn enwedig os yw targedau tai'n mynd i gael eu cyrraedd.

Nid yw'n swnio fel pe bai'r sector yn barod am yr heriau sy'n ei wynebu, a chredaf fod yn rhaid i ni eu gwthio o ddifrif oherwydd rydym angen llawer mwy o ymateb ganddynt, ac uchelgais. Er enghraifft, rydym wedi gweld yr wythnos hon fod Llywodraeth y DU wedi rhyddhau ei strategaeth uchelgeisiol 'Road to Zero', sy'n cynnwys cynnig i osod mannau gwefru ceir electronig ym mhob cartref newydd ym maestrefi Lloegr. Dyma'r math o bolisi integredig rydym ei angen, ac rwy'n gobeithio—. Mae'r gronfa arloesi yn syniad gwych, ond mae angen iddo arwain yn gyflym at brif ffrydio'r datblygiadau mawr y gwyddom y byddant yn gweithio, fel gosod mannau gwefru mewn cartrefi newydd fel mater o drefn. Rwy'n gobeithio y byddwch yn herio'r sector, yn enwedig yr adeiladwyr tai preifat, i wella eu harferion.

Thank you, and I certainly think that this is the time now to be having that challenging discussion with the volume house builders, particularly because I was quite disappointed to read some of the evidence that the committee has received, which almost suggested that everything's fine, 'Let's not change anything'. But everything's not fine, and we do need to change things. We are currently building houses, but I suspect that, in years to come, we will be coming back to retrofit as well, and that's an expense that the homeowners don't want and it's an expense that the Government doesn't want. So, we do need to be changing the way we build houses. I do feel that the innovative housing programme that we have here in Wales, alongside all of the great practice that we're watching evolve in other parts of the world as well, is pulling us to a point where we are at the point of a revolution in the way in which we build houses. I would love to see the volume house builders be part of that revolution.


Traditionally, it has been the small builders who have been able to or have been willing to take the risks in terms of building homes in a different way, and we're absolutely supporting that. So, the innovative housing programme this time is now open to private businesses to take those exciting steps, but it is for the large builders to be stepping up to the plate in terms of changing the way that they build things. We're absolutely committed to working with the sector, but we're not afraid to be pushing the sector where we need to as well.

Diolch i chi, ac rwy'n sicr yn credu ei bod yn bryd i ni gael y drafodaeth heriol honno gyda'r adeiladwyr tai mawr yn awr, yn enwedig am fy mod yn siomedig i ddarllen peth o'r dystiolaeth y mae'r pwyllgor wedi'i chael, a oedd bron yn awgrymu bod popeth yn iawn, 'Gadewch i ni beidio â newid unrhyw beth'. Ond nid yw popeth yn iawn, ac mae angen i ni newid pethau. Ar hyn o bryd, rydym yn adeiladu tai, ond rwy'n amau, mewn blynyddoedd i ddod, y byddwn yn dychwelyd at ôl-osod yn ogystal, ac mae honno'n gost nad yw perchnogion tai ei heisiau ac mae'n gost nad yw'r Llywodraeth ei heisiau. Felly, mae angen i ni newid y ffordd rydym yn adeiladu tai. Rwy'n teimlo bod y rhaglen tai arloesol sydd gennym yma yng Nghymru, ochr yn ochr â'r holl arferion gwych rydym yn eu gweld yn datblygu mewn rhannau eraill o'r byd hefyd, yn ein harwain at bwynt pan ydym ar drothwy chwyldro yn y ffordd rydym yn adeiladu tai. Buaswn wrth fy modd pe bai'r adeiladwyr tai mawr yn rhan o'r chwyldro hwnnw.

Yn draddodiadol, yr adeiladwyr bach sydd wedi gallu neu sydd wedi bod yn barod i wynebu risgiau o ran adeiladu cartrefi mewn ffordd wahanol, ac rydym yn cefnogi hynny'n llwyr. Felly, y tro hwn, mae'r rhaglen tai arloesol yn agored i fusnesau preifat gymryd y camau cyffrous hynny, ond yr adeiladwyr mawr a ddylai fod yn camu i'r adwy o ran newid y ffordd y maent yn adeiladu pethau. Rydym yn gwbl ymrwymedig i weithio gyda'r sector, ond nid oes gennym ofn gwthio'r sector i ble sydd angen inni ei wthio yn ogystal.

Minister, we in the Welsh Conservatives recently released an urban strategy that will create, we hope, cities that are fit for the twenty-first century and I'm glad my colleagues, at least, have read the paper.

Weinidog, yn ddiweddar, cyhoeddwyd strategaeth drefol gennym ni, y Ceidwadwyr Cymreig, y gobeithiwn y bydd yn creu dinasoedd sy'n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain ac rwy'n falch fod fy nghyd-Aelodau, o leiaf, wedi darllen y papur.

Are you sure? [Laughter.]

A ydych chi'n siŵr? [Chwerthin.]

I've set an exam, don't worry.

This includes some elements of housing policy and we will be producing a further document specifically on housing in the autumn. But one area that we did look at in that strategy was green roofing. There are housing developments now throughout England—one example being in Barking in London—where developers are exploring the use of green roofs on housing because of the positive impact they have on thermal insulation, stormwater attenuation, improved air quality, improved water quality, creating habitats for pollinators and improving one's sense of well-being and the number of green spaces around us. I think that the Welsh Government's innovative housing programme could be an obvious way of exploring this type of innovation in Wales, and I do hope that we will see some pilots coming forward now in terms of green roofing, because some UK cities now clearly see this as a very good way of developing effective housing in the twenty-first century.

Rwyf wedi gosod prawf, peidiwch â phoeni.

Mae hyn yn cynnwys rhai elfennau o'r polisi tai a byddwn yn cynhyrchu dogfen arall yn benodol ar dai yn yr hydref. Ond un maes rydym wedi edrych arno yn y strategaeth yw toeon gwyrdd. Mae yna ddatblygiadau tai bellach ledled Lloegr—ac mae un enghraifft yn Barking yn Llundain—lle mae datblygwyr yn ymchwilio i'r defnydd o doeau gwyrdd ar dai oherwydd yr effaith gadarnhaol y maent yn ei chael ar inswleiddio thermol, gwanhau llif dŵr storm, gwella ansawdd aer, gwella ansawdd dŵr, creu cynefinoedd ar gyfer pryfed peillio a gwella'r ymdeimlad o lesiant a nifer y mannau gwyrdd o'n cwmpas. Credaf y gallai rhaglen tai arloesol Llywodraeth Cymru fod yn ffordd amlwg o edrych ar y math hwn o arloesedd yng Nghymru, ac rwy'n gobeithio y byddwn yn gweld cynlluniau peilot yn cael eu cyflwyno yn awr mewn perthynas â thoeau gwyrdd, oherwydd mae rhai dinasoedd yn y DU yn amlwg bellach yn gweld hon fel ffordd dda iawn o ddatblygu tai effeithiol yn yr unfed ganrif ar hugain.

Yes, I agree, and I've certainly read your document, and I look forward to the housing document coming forward in the autumn as well.

I share your excitement about green roofs and we've seen some really good examples already. The Down to Earth project in my own constituency, in Gower, has built buildings with green roofs and they've found it to be not only good in terms of the structure of a building, but actually good for the soul in terms of the people who are working there. It seems to be something that creates the kind of environment that certainly contributes to good well-being, alongside the important role that it plays in terms of decarbonisation and so on. So, there are plenty of opportunities there, but it's not only within the housing portfolio or the housing part of my work that I'm keen to explore this. I was at a recent meeting of the hub that has started to work in Ammanford and Cross Hands. They're looking at regeneration projects in the Carmarthenshire area. One of the pieces of work that they are doing in terms of preparing the buildings that they're going to be introducing, to increase jobs and so on, they're including green roofs there. So, I think that green roofs should be thought of as part of our regeneration ambitions, as well as how we see the building of houses particularly.

Ie, rwy'n cytuno, ac rwy'n sicr wedi darllen eich dogfen, ac edrychaf ymlaen at weld y ddogfen ar dai yn yr hydref hefyd.

Rhannaf eich cyffro ynglŷn â thoeau gwyrdd ac rydym eisoes wedi gweld enghreifftiau da iawn. Mae'r prosiect Down to Earth yn fy etholaeth, ym Mhenrhyn Gŵyr, wedi adeiladu adeiladau gyda thoeau gwyrdd a gwelsant fod hynny'n dda, nid yn unig o ran strwythur yr adeilad, ond yn dda i'r enaid o ran y bobl sy'n gweithio yno. Mae i'w weld yn rhywbeth sy'n creu'r math o amgylchedd sy'n sicr yn cyfrannu at lesiant, ochr yn ochr â'r rôl bwysig y mae'n ei chwarae o ran datgarboneiddio ac ati. Felly, mae digonedd o gyfleoedd yno, ond rwy'n awyddus i archwilio hyn beth bynnag, nid yn unig o fewn y portffolio tai neu o fewn y rhan o fy ngwaith sy'n ymwneud â thai. Roeddwn mewn cyfarfod diweddar o'r hyb sydd wedi dechrau gweithio yn Rhydaman a Cross Hands. Maent yn edrych ar brosiectau adfywio yn ardal Sir Gaerfyrddin. Mae toeau gwyrdd yn un o'r pethau y maent yn ei wneud o ran paratoi'r adeiladau y byddant yn eu cyflwyno, er mwyn cynyddu nifer swyddi ac ati. Felly, credaf y dylid ystyried toeau gwyrdd fel rhan o'n huchelgeisiau adfywio, yn ogystal â sut rydym yn edrych ar adeiladu tai yn benodol.

14:50
Diwygio Etholiadol o fewn Llywodraeth Leol
Electoral Reform in Local Government

3. Pa gynlluniau sydd gan Ysgrifennydd y Cabinet i hyrwyddo diwygio etholiadol o fewn llywodraeth leol? OAQ52500

3. What plans does the Cabinet Secretary have to promote electoral reform in local government? OAQ52500

Following the consultation held last year, I made an oral statement on these matters in January. I will include electoral reform provisions within a local government Bill we expect next year. I will work closely with local government and others in order to raise public knowledge of the reforms that are planned for the 2022 local government elections.

Yn dilyn yr ymgynghoriad a gynhaliwyd y llynedd, gwneuthum ddatganiad llafar ar y materion hyn ym mis Ionawr. Byddaf yn cynnwys darpariaethau diwygio etholiadol o fewn Bil llywodraeth leol rydym yn ei ddisgwyl y flwyddyn nesaf. Byddaf yn gweithio'n agos gyda llywodraeth leol ac eraill er mwyn cynyddu gwybodaeth y cyhoedd am y diwygiadau a gynlluniwyd ar gyfer etholiadau llywodraeth leol 2022.

I thank the Cabinet Secretary for that response. Has the Cabinet Secretary had any indications from local authorities that they would consider moving to a proportional representation system for local elections? And would he agree that such a system would be a fairer system and may help increase interest and participation in local elections?

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am yr ymateb hwnnw. A yw Ysgrifennydd y Cabinet wedi cael unrhyw awgrym gan awdurdodau lleol y byddent yn ystyried newid i system gynrychiolaeth gyfrannol ar gyfer etholiadau lleol? Ac a fyddai'n cytuno y byddai system o'r fath yn system decach ac y gallai helpu i gynyddu diddordeb a chyfranogiad mewn etholiadau lleol?

I have to say to the Member that I have not received any indication of those matters from any part of local government, but I have to say that I do agree with her. Like herself, I agree with the single transferable vote system, and that is my preferred system as well. I guess we will both be arguing for that formulation during the consultation in the Welsh Labour Party over the coming months. The Welsh Government has a clear policy on this matter. We have an agreement to introduce an optional move to the STV system, which local government can choose if they so wish to do. Personally, I would encourage all local authorities to do so. I believe that the single transferable vote system does deliver a fairer system. It delivers greater diversity and greater democratic accountability. So, I hope, alongside the Member for Cardiff North, that local government will embrace a move to proportionality over the coming years.

Mae'n rhaid i mi ddweud wrth yr Aelod nad oes unrhyw ran o lywodraeth leol wedi awgrymu'r materion hynny i mi, ond mae'n rhaid i mi ddweud fy mod yn cytuno â hi. Fel hithau, cytunaf â system y bleidlais sengl drosglwyddadwy, a dyna yw fy hoff system innau hefyd. Rwy'n tybio y bydd y ddau ohonom yn dadlau dros y datganiad hwnnw yn ystod ymgynghoriad Plaid Lafur Cymru dros y misoedd nesaf. Mae gan Lywodraeth Cymru bolisi clir ar y mater hwn. Mae gennym gytundeb i gyflwyno newid opsiynol i system y bleidlais sengl drosglwyddadwy, y gall llywodraeth leol ei dewis os ydynt yn dymuno gwneud hynny. Yn bersonol, buaswn yn annog pob awdurdod lleol i wneud hynny. Credaf fod y bleidlais sengl drosglwyddadwy yn system decach. Mae'n sicrhau mwy o amrywiaeth a mwy o atebolrwydd democrataidd. Felly, fel yr Aelod dros Ogledd Caerdydd, rwy'n gobeithio y bydd llywodraeth leol yn croesawu newid i system gyfrannol dros y blynyddoedd nesaf.

Cabinet Secretary, you may have heard my question to the First Minister yesterday in regard to an ex-Montgomeryshire person who feels disenfranchised by the electoral system, as an overseas voter—[Interruption.] I'm not sure which way this particular constituent does cast their vote. I'm not sure whether the First Minister quite understood the intention of my question, so I wanted to raise it with you. From my understanding, this person is allowed to vote in the general elections but is barred from voting in Welsh Assembly or local government elections because they are considered so-called second-order elections. The issue here is that if a Welsh resident moves overseas, they can vote in Welsh elections. If a Welsh resident moves to an English or Scottish address, and then moves overseas, they can't decide which nation to place them in if they live overseas. Is there anything that can be done to ensure that Welsh nationals who wish to do so can take part in Welsh Assembly elections or local government elections in Wales?

Ysgrifennydd y Cabinet, efallai eich bod wedi clywed fy nghwestiwn i'r Prif Weinidog ddoe mewn perthynas ag unigolyn o Sir Drefaldwyn sy'n teimlo ei fod wedi'i ddifreinio gan y system etholiadol, fel pleidleisiwr tramor—[Torri ar draws.] Nid wyf yn siŵr pa ffordd y mae'r etholwr penodol yn bwrw ei bleidlais. Nid wyf yn siŵr a ddeallodd y Prif Weinidog fwriad fy nghwestiwn, felly roeddwn eisiau ei godi gyda chi. Yn ôl yr hyn rwy'n ei ddeall, mae'r unigolyn dan sylw yn cael pleidleisio yn yr etholiadau cyffredinol ond mae wedi'i wahardd rhag pleidleisio yn etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu mewn etholiadau llywodraeth leol gan y cânt eu hystyried yn is-etholiadau. Y broblem yma yw, os yw rhywun sy'n byw yng Nghymru yn symud dramor, gallant bleidleisio yn etholiadau Cymru. Os yw rhywun sy'n byw yng Nghymru yn symud i gyfeiriad yn Lloegr neu'r Alban, ac yna'n symud dramor, ni allant benderfynu pa genedl i'w gosod ynddi os ydynt yn byw dramor. A oes unrhyw beth y gellir ei wneud i sicrhau y gall gwladolion Cymreig sy'n dymuno gwneud hynny gymryd rhan yn etholiadau Cynulliad Cymru neu mewn etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru?

Presiding Officer, I'm not sure where to start. The result in Montgomeryshire last year has clearly worried my good friend from that part of the world. I will say to him very gently that I'm afraid that the First Minister understood exactly and precisely the question that he was asking yesterday, and the First Minister's response is one that I'm afraid I will repeat this afternoon.

Lywydd, nid wyf yn siŵr ble i ddechrau. Mae'r canlyniad yn Sir Drefaldwyn y llynedd yn amlwg wedi poeni fy nghyfaill o'r rhan honno o'r byd. Rwyf am ddweud wrtho'n garedig iawn fod arnaf ofn fod y Prif Weinidog wedi deall y cwestiwn roedd yn ei ofyn ddoe yn iawn, ac mae arnaf ofn fy mod am ailadrodd ymateb y Prif Weinidog y prynhawn yma.

A former employee of Cardiff council has recently been to see me regarding a serious employment issue. He fell foul of an outdated provision in the Local Government Act 1972, which meant that, after his term as an elected councillor came to an end, he was barred from working for that council for 12 months. It was only after he had worked for the council for six months did they realise that they had fallen foul of this provision. Despite no performance issues, and with complete indignity, they sacked him on the spot. He received no support from the council. They failed to accommodate any alternative employment options and, after 13 months, they appointed someone else to the role, despite that individual reapplying for their own job back. The council has refused a dialogue and failed to respond to a subject access request, and now faces a tribunal as a result. Will the Cabinet Secretary agree to look into this case and the issue in general to ensure a fair outcome for this individual and others who could fall foul of this outdated rule in the future? I would be more than happy to write to you with more detail if necessary.

Bu cyn-weithiwr o gyngor Caerdydd yn fy ngweld yn ddiweddar mewn perthynas â mater difrifol yn ymwneud â chyflogaeth. Tramgwyddodd yn erbyn darpariaeth yn Neddf Llywodraeth Leol 1972, a oedd yn golygu, ar ôl i'w gyfnod fel cynghorydd etholedig ddod i ben, ei fod wedi'i wahardd rhag gweithio i'r cyngor hwnnw am 12 mis. Roedd wedi bod yn gweithio i'r cyngor am chwe mis pan sylweddolwyd eu bod wedi tramgwyddo'r ddarpariaeth hon. Er nad oedd unrhyw broblemau gyda'i berfformiad, a chydag amarch llwyr, cafodd ei ddiswyddo yn y fan a'r lle. Ni chafodd unrhyw gymorth gan y cyngor. Maent wedi methu darparu unrhyw opsiynau cyflogaeth amgen iddo ac ar ôl 13 mis, maent wedi penodi rhywun arall i'r swydd, er bod yr unigolyn wedi gwneud cais am ei swydd ei hun yn ôl. Mae'r cyngor wedi gwrthod cyfathrebu ac wedi methu ymateb i gais gwrthrych am wybodaeth, ac mae bellach yn wynebu tribiwnlys o ganlyniad. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gytuno i edrych ar yr achos hwn a'r mater yn gyffredinol i sicrhau canlyniad teg i'r unigolyn hwn ac eraill a allai dramgwyddo'r hen reol hon yn y dyfodol? Buaswn yn fwy na pharod i ysgrifennu atoch gyda mwy o fanylion os oes angen.

14:55

I'm grateful for the Member's offer of correspondence on this matter. It does seem to me a better way of dealing with employment matters than raising them on the floor of the house. 

Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am gynnig gohebu ar y mater hwn. Ymddengys i mi fod honno'n ffordd well o ymdrin â materion cyflogaeth na'u codi yn y Siambr.

[Inaudible.]—change in the law.

[Anghlywadwy.]—newid yn y gyfraith.

You should have said that then.

Dylech fod wedi dweud hynny felly.

Thank you. Is that a film? [Laughter.]

Diolch. Ai ffilm yw honno? [Chwerthin.]

Dulliau Pleidleisio Newydd
New Voting Methods

4. Sut y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn bwriadu gweithio gydag awdurdodau lleol i dreialu dulliau pleidleisio newydd? OAQ52487

4. How does the Cabinet Secretary intend to work with local authorities to pilot new voting methods? OAQ52487

My officials are already working with the Association of Electoral Administrators, the Wales electoral co-ordination board, the electoral reform programme board, as well as holding workshops across Wales with local authorities to discuss these and other electoral changes.

Mae fy swyddogion eisoes yn gweithio gyda Chymdeithas y Gweinyddwyr Etholiadol, bwrdd cydlynu etholiadol Cymru, bwrdd y rhaglen diwygio etholiadol, a hefyd yn cynnal gweithdai ledled Cymru gydag awdurdodau lleol i drafod y materion hyn a newidiadau etholiadol eraill.

Diolch, Gweinidog—or Cabinet Secretary, I should say. My question is nowhere near as exciting or interesting as Russ George's was regarding voting rights abroad. You've said—and forgive me, because I do have this on my phone—. If I can just quote the figures, first of all, for the last set of local council elections in Wales in May 2017, I think the voting turnout was 42 per cent, compared with 68.6 per cent for the general election, and 45.5 per cent for the 2016 Assembly election. You've said that local democracy is all about participation, and you want to increase the franchise to 16-year-olds and to those in prison, to name but a few.

While this side of the Chamber accepts that increasing the franchise, in certain areas at least, is certainly not a bad thing, would you accept that there is a concern that, by doing that, you could be masking a problem by avoiding from this point on a like-for-like comparison with general elections and with the Assembly elections as well? I probably haven't explained that too well myself either, Russ. So, while increasing the franchise in some areas is to be welcomed as a good thing—and certainly in terms of 16-year-olds, I would agree with that increase—at the same time we won't be able to look at these figures in future and say, 'The council election votes are worse than others.' Shouldn't you be addressing the basic problem, which is that people already registered to vote are not voting enough in council elections? 

Diolch, Weinidog—neu Ysgrifennydd y Cabinet, dylwn ddweud. Nid yw fy nghwestiwn yn agos at fod mor gyffrous a diddorol a chwestiwn Russ George ynglŷn â hawliau pleidleisio tramor. Rydych wedi dweud—a maddeuwch i mi, gan fod hwn ar fy ffôn—. Os caf ddyfynnu'r ffigurau, yn gyntaf oll, ar gyfer y set olaf o etholiadau cynghorau lleol yng Nghymru ym mis Mai 2017, credaf mai 42% a bleidleisiodd i gyd, o'i gymharu â 68.6% ar gyfer yr etholiad cyffredinol, a 45.5 y cant ar gyfer etholiad y Cynulliad yn 2016. Rydych wedi dweud bod democratiaeth leol yn ymwneud â chyfranogiad, ac rydych yn dymuno ymestyn yr etholfraint i gynnwys unigolion 16 oed a'r rhai sydd yn y carchar, i enwi ond rhai.

Er bod yr ochr hon o'r Siambr yn sicr yn derbyn nad yw cynyddu'r etholfraint, mewn rhai ardaloedd o leiaf, yn beth drwg, a fyddech yn derbyn bod yna bryder, drwy wneud hynny, y gallech fod yn cuddio problem drwy osgoi, o'r pwynt hwn ymlaen, cymhariaeth tebyg am debyg gydag etholiadau cyffredinol ac etholiadau'r Cynulliad hefyd? Mae'n debyg nad wyf wedi egluro hynny'n rhy dda chwaith, Russ. Felly, er bod cynyddu'r etholfraint mewn rhai ardaloedd yn rhywbeth i'w groesawu fel peth da—ac yn sicr o ran unigolion 16 oed, buaswn yn cytuno gyda'r cynnydd hwnnw—ar yr un pryd, ni fyddwn yn gallu edrych ar y ffigurau hyn yn y dyfodol a dweud, 'Mae nifer y pleidleisiau yn etholiadau'r cyngor yn waeth nag eraill.' Oni ddylech fynd i'r afael â'r broblem sylfaenol, sef nad oes digon o bobl sydd eisoes wedi cofrestru i bleidleisio yn pleidleisio yn etholiadau'r cyngor?

Presiding Officer, the Plaid Cymru Member for Mid and West Wales has answered the question as comprehensively from his seat as I could from here. You are, of course, comparing a percentage of the electorate whatever the electorate happens to be in that election. So, it continues to be absolutely and completely comparable. I don't know if my good friend from another part of Monmouthshire is seeking to argue against changes in this way. I hope he isn't, because that is singularly the worst argument that I've heard put in many years. I'll say to the Member for Montgomeryshire, or Monmouthshire—[Laughter.] We're all worried about the election result for Montgomeryshire now.

I'll say to my friend from Monmouthshire that we are seeking to put in place a number of changes, and the purpose of those changes is to persuade more people to take part in local elections, to increase the number of people able to take part in elections and to enable greater democratic accountability locally. All of these are very positive things, and I hope that we will have support on all sides of the Chamber. 

Lywydd, mae'r Aelod Plaid Cymru dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru wedi ateb y cwestiwn o'i sedd mor gynhwysfawr ag y gallwn i o'r fan hon. Rydych chi, wrth gwrs, yn cymharu canran o'r pleidleiswyr ni waeth beth yw nifer y pleidleiswyr yn yr etholiad hwnnw'n digwydd bod. Felly, mae'n parhau i fod yn hollol ac yn gwbl gymaradwy. Ni wn a yw fy ffrind da o ran arall o Sir Fynwy yn ceisio dadlau yn erbyn newidiadau yn y modd hwn. Gobeithio nad yw, oherwydd dyna'r ddadl waethaf i mi ei chlywed ers nifer o flynyddoedd. Rwyf am ddweud wrth yr Aelod dros Sir Drefaldwyn, neu Sir Fynwy—[Chwerthin.] Mae pawb ohonom yn pryderu ynglŷn â chanlyniad yr etholiad yn Sir Drefaldwyn bellach.

Rwyf am ddweud wrth fy ffrind o Sir Fynwy ein bod yn ceisio rhoi nifer o newidiadau ar waith, a diben y newidiadau hynny yw darbwyllo mwy o bobl i gymryd rhan mewn etholiadau lleol, cynyddu nifer y bobl sy'n gallu cymryd rhan mewn etholiadau a galluogi mwy o atebolrwydd democrataidd yn lleol. Mae'r rhain i gyd yn bethau cadarnhaol iawn, a gobeithiaf y cawn gefnogaeth o bob ochr i'r Siambr.

The first thing any voting system needs to be is secure. We should have a system that does not allow either multivoting or the harvesting of votes. We do, however, need to make it easier to vote. Has the Welsh Government considered supporting two simple innovations: allowing early voting at a central voting centre, and, secondly, allowing voting at any polling station in a constituency?

Y peth cyntaf y mae angen i unrhyw system bleidleisio fod yw diogel. Dylai fod gennym system nad yw'n caniatáu pleidleisio fwy nag unwaith na chynaeafu pleidleisiau. Fodd bynnag, mae angen inni ei gwneud yn haws i bobl bleidleisio. A yw Llywodraeth Cymru wedi ystyried cefnogi dau newid syml: caniatáu pleidleisio cynnar mewn canolfan bleidleisio ganolog, ac yn ail, caniatáu pleidleisio mewn unrhyw orsaf bleidleisio o fewn etholaeth?

Presiding Officer, we are very happy to consider both of those suggestions. I would look towards electronic voting, voting on different days, such as the weekend, mobile polling stations, electronic voting, and electronic counting as well. The point that the Member for Swansea East makes about the security of the ballot is well made and accepted. We are working closely with an expert strategic group—the electoral reform programme board—upon which there are a number of representatives who are looking at ensuring that we have the security of a ballot as a prerequisite but then looking creatively at how we move forward, enabling more people to take part in local democracy. That is our objective and that is what we seek to achieve.

Lywydd, rydym yn hapus iawn i ystyried y ddau awgrym. Buaswn yn edrych ar bleidleisio electronig, pleidleisio ar ddiwrnodau gwahanol, megis dros y penwythnos, gorsafoedd pleidleisio symudol, pleidleisio electronig, a chyfrif electronig yn ogystal. Mae'r pwynt y mae'r Aelod dros Ddwyrain Abertawe wedi'i wneud am ddiogelwch y bleidlais yn un da ac rwy'n ei dderbyn. Rydym yn gweithio'n agos gyda grŵp strategol arbenigol—bwrdd y rhaglen diwygio etholiadol—ac mae'n cynnwys nifer o gynrychiolwyr sy'n sicrhau bod gennym bleidleisio diogel fel rhagofyniad ond sydd wedyn yn edrych yn greadigol ar sut i symud ymlaen, gan alluogi mwy o bobl i gymryd rhan mewn democratiaeth leol. Dyna ein nod, a dyna y ceisiwn ei gyflawni.

15:00
Cynnal Swyddfeydd Post
Maintaining Post Offices

5. Pa ddarpariaeth y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei gwneud ar gyfer cynnal swyddfeydd post? OAQ52506

5. What provision has the Cabinet Secretary made for maintaining post offices? OAQ52506

Nid yw materion yn ymwneud â’r Swyddfa Bost wedi’u datganoli, fel y gwyddoch. Er hynny, rwy’n ymwybodol iawn o’r gwasanaethau gwerthfawr iawn mae swyddfeydd post yn aml yn eu darparu yn ein cymunedau lleol. Mae eu swyddogaeth nhw yn arbennig o bwysig wrth i gynifer o ganghennau banciau gau ar draws Cymru.

Post Office matters are non-devolved, as you know. I am, though, very conscious of the valuable services post offices often provide to local communities. Their role is particularly important in the context of the recent programme of bank closures in Wales.

Diolch am yr ateb. Wrth gwrs, nid yw e wedi’i ddatganoli, ond mae Llywodraeth Cymru, yn y gorffennol, wedi cynnal amryw o systemau cynnal a grantiau ar gyfer swyddfeydd post. Mae newid diweddar yn y ffordd y mae’r Swyddfa Bost yn talu’r canghennau o’r taliad sylfaenol, beth maen nhw’n ei alw’n core tier payment, i daliadau fesul transaction yn cael effaith ar rai swyddfeydd post, yn enwedig mewn ardaloedd cefn gwlad. Oes, mae yna bosibiliad newydd, o bryd i’w gilydd, ar gyfer bancio, ond, yn fras iawn, dyma’r taliadau hollol sylfaenol ar gyfer cwsmeriaid, er enghraifft, i roi arian am drydan a nwy, pethau syml fel yna. Mae yna dâl bach am ganiatáu hynny, ond nid yw hyd yn ddigon i gyfro’r costau cynnal staff, cynnal y ddesg ac ati.

Mi fyddaf i’n ymweld, o fewn yr wythnos nesaf, â’r Ffôr, ger Pwllheli, lle mae yna swyddfa bost sy’n wynebu’r broblem, yr anhawster, yma. A ydych chi’n cael trafodaethau â busnes y Swyddfa Bost ynglŷn â’r newid i daliadau yma? Ac a ydych chi mewn sefyllfa i edrych ar beth ymhellach a allai gael ei wneud i wneud yn siŵr nad ydym yn colli’r adnodd pwysig yma? Fel rŷch chi’n ei ddweud, rydym ni eisoes yn colli’r banciau. Mae hwn yn rhywbeth sydd eisiau ei gadw, yn enwedig yn ein pentrefi a’n trefi bach ni.

Thank you for that response. Of course, it is non-devolved, but the Welsh Government in the past has had a number of programmes to support post offices. A recent change in the way that the Post Office pays branches from what they call the 'core tier' payment to a per-transaction payment is having an impact on some post offices, particularly in rural areas. Yes, there are new possibilities from time to time in terms of banking, but, broadly speaking, these are fundamental payments for customers to pay for electricity and gas, for example. There is a small charge for doing that, but it's not even enough to cover the cost of paying staff and maintaining desk services and so on.

Over the next week, I will be visiting Y Ffôr near Pwllheli, where there is a post office facing this particular difficulty. Are you having any discussions with the Post Office in terms of changes to these payments? And are you in a position to look at what further could be done to ensure that we don't lose this important resource? As you say, we are already losing our banks, and this is something that we need to retain, particularly in our villages and small towns.

Rydw i’n ymwybodol bod yr Aelod wedi ysgrifennu ataf i ar y mater yma ac rydw i wedi ymateb ar hynny. Mae’n bosibl, wrth gwrs, i swyddfeydd post elwa o business rate relief ac rydw i’n gobeithio y bydd swyddfeydd post yn ceisio am hynny ac yn sicrhau eu bod nhw’n cael hynny. Ar ben hynny, mae £1.3 miliwn wedi cael ei roi i awdurdodau lleol ar gyfer eu defnydd nhw os ydyn nhw’n gweld bod yna adnodd, yn y ffordd y mae e’n ei ddisgrifio, mewn perygl o gael ei golli. Maen nhw’n gallu cynnig tipyn bach o gymorth ychwanegol ar hynny. Ond rydw i’n ymwybodol bod yr Aelod yn codi materion mewnol y tu mewn i system y Swyddfa Bost a phetai e’n fodlon cyfarfod â fi, rydw i’n hapus iawn i drafod hynny gyda’r Swyddfa Bost yn ganolog.

I am aware that the Member has written to me on this issue, and I have responded to him. It is possible, of course, for post offices to benefit from business rate relief, and I hope that post offices will apply for that and ensure that they get that. On top of that, £1.3 million has been given to local authorities for their own use if they see that a resource, in the way that he has described, is in danger of being lost. They can offer some additional support on that. However, I am aware that the Member is raising internal issues within the Post Office's system, and, if he would be willing to meet with me, I will be very happy to discuss that with the Post Office centrally.

Cabinet Secretary, the decision by the Royal Bank of Scotland to close 162 branches in England and Wales has highlighted the importance of post offices in providing banking services, particularly in our rural areas. Given that 12 per cent of post offices are now run by part-time outreach services, such as mobile vans, and in premises like village halls, what is the Cabinet Secretary doing to ensure that communities that have lost their bank at least have access to banking services through post office outreach facilities in Wales? Thank you.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae penderfyniad Royal Bank of Scotland i gau 162 o ganghennau yng Nghymru a Lloegr wedi tynnu sylw at bwysigrwydd swyddfeydd post sy'n darparu gwasanaethau bancio, yn enwedig yn ein hardaloedd gwledig. Gan fod 12 y cant o swyddfeydd post yn awr yn cael eu rhedeg gan wasanaethau allgymorth rhan-amser, megis faniau symudol, ac mewn adeiladau megis neuaddau pentref, beth y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei wneud i sicrhau bod cymunedau sydd wedi colli eu banc o leiaf yn cael mynediad at wasanaethau bancio drwy gyfleusterau allgymorth swyddfeydd post yng Nghymru? Diolch.

I have replied to the earlier question that these matters are not devolved matters, but clearly these are matters that the Welsh Government take great interest in. We do ensure that, as I have already said, we have business relief and business support to enable small businesses to receive the support of the Welsh Government and local authorities in ensuring their sustainability. But I also think that the United Kingdom Government has a very significant responsibility here, and I would very gently suggest to the Conservative Member for South Wales East that he writes to his Conservative colleagues in London and explains to them very, very carefully that the taxpayer spent a great deal of money keeping the banking system afloat and it is high time that the taxpayer received some of that resource back in terms of the regulation of banks to ensure that communities are not put in this situation. So, I would very gently say to the Member: write to your colleagues in London and tell them to pull their fingers out.

Rwyf wedi dweud mewn ymateb i'r cwestiwn cynharach nad yw'r materion hyn yn faterion datganoledig, ond mae'r rhain yn amlwg yn faterion y mae gan Lywodraeth Cymru ddiddordeb mawr ynddynt. Rydym yn sicrhau, fel y dywedais eisoes, fod gennym ryddhad ardrethi busnes a chymorth busnes i alluogi busnesau bach i gael cymorth Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol er mwyn sicrhau eu cynaliadwyedd. Ond rwy'n credu hefyd fod gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig gyfrifoldeb sylweddol iawn yma, a buaswn yn awgrymu'n garedig iawn i'r Aelod Ceidwadol dros Ddwyrain De Cymru ei fod yn ysgrifennu at ei gyd-Aelodau Ceidwadol yn Llundain ac yn egluro wrthynt yn ofalus iawn fod y trethdalwr wedi gwario llawer iawn o arian ar gadw'r system fancio'n weithredol ac mae'n hen bryd i'r trethdalwr gael rhywfaint o'r adnoddau hynny yn ôl o ran rheoleiddio banciau i sicrhau nad yw cymunedau'n cael eu rhoi yn y sefyllfa hon. Felly, buaswn yn dweud yn garedig iawn wrth yr Aelod: ysgrifennwch at eich cyd-Aelodau yn Llundain a dywedwch wrthynt am dorchi eu llewys.

Cyllido Llywodraeth Leol
Local Government Funding

6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gyllid llywodraeth leol? OAQ52502

6. Will the Cabinet Secretary make a statement on local government funding? OAQ52502

In addition to income raised locally, local authorities received £4.2 billion of general funding to spend on services in 2018-19. This continues our commitment to protect local government in Wales from the worst of the UK Government’s spending restrictions.

Yn ogystal ag incwm a godir yn lleol, derbyniodd awdurdodau lleol £4.2 biliwn o gyllid cyffredinol i'w wario ar wasanaethau yn 2018-19. Mae hyn yn parhau ein hymrwymiad i ddiogelu llywodraeth leol yng Nghymru rhag cyfyngiadau gwaethaf Llywodraeth y DU ar wariant.

15:05

I've received many representations from schools in the Rhondda regarding the funding crisis that they face in this financial year and, of course, for the foreseeable future. Treorchy Comprehensive School alone has lost nearly £0.25 million in this financial year, with no corresponding drop in pupil numbers.

Then we have the state of some school buildings. One I visited recently posed a clear danger to the safety of pupils as a lump of concrete fell from a dilapidated roof in a classroom. Teachers are demotivated, schools dilapidated, and pupils in danger. How will you ensure that local authorities receive sufficient money to ensure that school lessons are delivered in a suitable and safe environment and that classrooms are adequately staffed?

Rwyf wedi cael llawer o sylwadau gan ysgolion yn y Rhondda ynghylch yr argyfwng ariannu sy'n eu hwynebu yn y flwyddyn ariannol hon ac wrth gwrs, yn y dyfodol y gellir ei ragweld. Mae Ysgol Gyfun Treorci wedi colli bron i £0.25 miliwn yn ystod y flwyddyn ariannol hon, heb unrhyw ostyngiad cyfatebol yn nifer y disgyblion.

Ar ben hynny, mae gennym broblem gyda chyflwr adeiladau ysgol. Roedd un ysgol yr ymwelais â hi yn ddiweddar yn beryglus i ddiogelwch disgyblion gan fod lwmp o goncrid wedi cwympo o do a oedd wedi dadfeilio i mewn i'r ystafell ddosbarth. Mae athrawon yn colli eu cymhelliant, mae ysgolion yn dadfeilio, ac mae disgyblion mewn perygl. Sut rydych chi'n mynd i sicrhau bod awdurdodau lleol yn cael digon o arian i sicrhau y darperir gwersi ysgol mewn amgylchedd addas a diogel a bod ystafelloedd dosbarth wedi'u staffio'n ddigonol?

The Member is aware of the situation facing the Welsh Government in terms of the UK Government's austerity programme. Had we received a similar funding basis this year as we received in 2010, then we would have received an additional, I think—I'm looking at the finance Minister, who I'm delighted has walked back into the Chamber at this point—an additional £4 billion—

Mae'r Aelod yn ymwybodol o'r sefyllfa sy'n wynebu Llywodraeth Cymru mewn perthynas â rhaglen gyni Llywodraeth y DU. Pe baem wedi cael sylfaen ariannu debyg i'r un a gawsom yn 2010 eleni, rwy'n credu y byddem wedi cael—rwy'n edrych ar y Gweinidog cyllid, ac rwy'n falch iawn ei fod bellach wedi dychwelyd i'r Siambr ar y pwynt hwn—£4 biliwn ychwanegol—

—£4.1 billion in order to sustain and support the public services that she's described. I'm not going to stand here and defend for one moment the failed UK austerity programme, but what I will say to her is that I have not met a single councillor of any political stripe who has said to me, 'What we want to see is more Conservative policy and less Labour policy'. What I've heard from every councillor across the whole of Wales is gratitude for protecting local government from the worst of the UK austerity programme.

—£4.1 biliwn er mwyn cynnal a chefnogi'r gwasanaethau cyhoeddus a ddisgrifiwyd ganddi. Nid wyf yn mynd i sefyll yma ac amddiffyn am un eiliad y rhaglen gyni aflwyddiannus yn y DU, ond rwyf am ddweud wrthi nad wyf wedi cyfarfod ag un cynghorydd o unrhyw blaid wleidyddol sydd wedi dweud wrthyf, 'Yr hyn rydym eisiau ei weld yw mwy o bolisïau Ceidwadol a llai o bolisïau Llafur'. Yr hyn rwyf wedi'i glywed gan bob cynghorydd ar draws Cymru gyfan yw diolch am ddiogelu llywodraeth leol rhag y gwaethaf o raglen gyni'r DU.

Y Weinyddiaeth Gyfiawnder
The Ministry of Justice

7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ei gyfarfod diweddaraf gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder? OAQ52503

7. Will the Cabinet Secretary provide an update on his latest meeting with the Ministry of Justice? OAQ52503

I am meeting with Edward Argar MP, Parliamentary Under-Secretary of State for Justice, and Rory Stewart MP, Minister of State for Prisons, next Monday, 16 July.

Rwy'n cyfarfod ag Edward Argar AS, yr Is-Ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros Gyfiawnder, a Rory Stewart AS, y Gweinidog Gwladol sy'n gyfrifol am garchardai, ddydd Llun nesaf, ar 16 Gorffennaf.

I thank the Cabinet Secretary for that response. Will he be pressing for a women's residential centre in Wales after the UK Government announced a new female offender strategy on 27 June? As I understand it, the five prisons that were planned to be built for women will be abandoned. Instead, there will be five residential centres for women, which I think is entirely in line with the change in justice policy for women that many of us have pressed for for a long time. So, would he be pressing for one of those centres to be built in Wales?

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am yr ymateb hwnnw. A fydd yn pwyso am ganolfan breswyl i fenywod yng Nghymru ar ôl i Lywodraeth y DU gyhoeddi strategaeth troseddwyr benywaidd newydd ar 27 Mehefin? Yn ôl yr hyn a ddeallaf, bydd y cynlluniau i adeiladu pum carchar ar gyfer menywod yn cael eu diddymu. Yn hytrach, ceir pum canolfan breswyl ar gyfer menywod, a chredaf fod hynny'n cyd-fynd yn llwyr â'r newid yn y polisi cyfiawnder ar gyfer menywod y mae llawer ohonom wedi pwyso amdano ers amser hir. Felly, a fydd yn pwyso am adeiladu un o'r canolfannau hynny yng Nghymru?

Yes, I will be. I've made the case on a number of occasions, but I believe we do need a significant investment in the secure estate in Wales. I think anybody looking at the estate as it is today would understand that it is not designed for Wales's needs and is not fit for purpose to meet our needs today and in the future.

In terms of female offending, I am very, very anxious to ensure that we have a facility in Wales—a women's centre along the lines that the Member describes—to provide support for women and, of course, to reduce the number of women in the criminal justice system. We want Welsh women to have safe and secure facilities to enable their effective care and rehabilitation. We also want to ensure that we are able to reduce the number of women in the system. To that end, we will be supporting a women's pathfinder project, which is designed to deliver a women-specific, whole-system, integrated approach to service provision for women who come into contact with the criminal justice system in Wales. So, we want to see a holistic, comprehensive approach to policy in Wales that puts the woman at the centre of that policy and doesn't simply seek to build a women's prison that doesn't meet our needs today or in the future.

Byddaf yn gwneud hynny. Rwyf wedi dadlau'r achos ar sawl achlysur, ond credaf fod angen i ni fuddsoddi'n sylweddol mewn sefydliadau diogel yng Nghymru. Credaf y byddai unrhyw un sy'n edrych ar yr ystâd fel y mae heddiw yn deall nad yw wedi'i chynllunio ar gyfer anghenion Cymru ac nid yw'n addas at y diben i ddiwallu ein hanghenion heddiw nac yn y dyfodol.

O ran troseddwyr benywaidd, rwy'n awyddus iawn i sicrhau bod gennym gyfleuster yng Nghymru—canolfan i fenywod sy'n debyg i'r hyn y mae'r Aelod yn ei ddisgrifio—i ddarparu cymorth i fenywod ac wrth gwrs, i leihau nifer y menywod yn y system cyfiawnder troseddol. Rydym eisiau i fenywod Cymru gael cyfleusterau diogel i sicrhau eu bod yn cael gofal a chymorth adsefydlu effeithiol. Rydym hefyd eisiau sicrhau ein bod yn gallu lleihau nifer y menywod yn y system. I'r perwyl hwnnw, byddwn yn cefnogi prosiect braenaru i fenywod, sydd wedi'i gynllunio i ddarparu dull integredig, system gyfan, sy'n benodol ar gyfer menywod sy'n dod i gysylltiad â'r system cyfiawnder troseddol yng Nghymru. Felly, rydym eisiau gweld dull cyfannol, cynhwysfawr o lunio polisi yng Nghymru sy'n rhoi'r fenyw wrth wraidd y polisi hwnnw yn hytrach na cheisio adeiladu carchar i fenywod nad yw'n diwallu ein hanghenion heddiw nac yn y dyfodol.

Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet.

Thank you, Cabinet Secretary. 

3. Cwestiynau Amserol
3. Topical Questions

Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau amserol, ac mae'r cwestiwn cyntaf i'w ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ac y mae gan Jack Sargeant. 

The next item is the topical questions, and the first question is to be asked to the Cabinet Secretary for Health and Social Services, and it's a question from Jack Sargeant.

Llawdriaeth sy'n Defnyddio Rhwyll yn y GIG
NHS Mesh Operations

2. A yw Llywodraeth Cymru'n bwriadu rhoi terfyn ar lawdriaeth sy'n defnyddio rhwyll yn y GIG, yn sgil cyhoeddiad am roi terfyn ar y llawdriniaethau hyn yn Lloegr? 201

2. Does the Welsh Government intend to stop NHS mesh operations, in light of the announcement of an immediate stop to these operations in England? 201

Thank you for the question. I'm happy to have the opportunity to respond. I have written to Baroness Cumberlege to confirm that, in Wales, the use of mesh will be restricted on a similar basis as in England until additional safeguards are in place. The Chief Medical Officer for Wales has written to all medical directors in Wales to advise them of this advice. Officials will continue to work on details with relevant bodies across the UK.

Diolch i chi am y cwestiwn. Rwy'n falch o gael cyfle i ymateb. Rwyf wedi ysgrifennu at y Farwnes Cumberlege i gadarnhau y bydd y defnydd o rwyll yn cael ei gyfyngu yng Nghymru ar sail debyg i'r hyn y maent yn ei wneud yn Lloegr hyd nes y bydd mesurau diogelwch ychwanegol ar waith. Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru wedi ysgrifennu at yr holl gyfarwyddwyr meddygol yng Nghymru i roi gwybod iddynt am y cyngor hwn. Bydd swyddogion yn parhau i weithio ar y manylion gyda chyrff perthnasol ledled y DU.

Thank you, Cabinet Secretary, for that response on this very important topical question. On that issue, this issue impacts women from across the UK, and I want to pay particular tribute to Maxine Cooper, a constituent of mine, who has been working with the Sling the Mesh campaign for many years after a procedure she underwent in 2010. I know that Maxine was working closely with my dad on this issue, and I will, too, do all I can to support her. Like so many others, especially those women who have campaigned with courage and commitment, like Maxine, I was very pleased when NHS England made this announcement yesterday that it is putting an immediate curb on mesh operations after safety concerns. I know many colleagues from across the Chamber have been working on this issue, too, and that my colleague Jane Hutt held a meeting just last week with the Welsh mesh survivors group. The report of the Welsh task and finish group on this issue made some very important recommendations and included a list of what women have asked for, and, to no surprise, a ban on the use of surgical mesh was amongst that list.

Now, I have a few points to ask the Cabinet Secretary. Firstly, is he confident that the health boards have in place sufficient levels of clinical governance, consents, audit and research to ensure that all women can be confident that the appropriate safeguards are in place? Just yesterday, the leader of the house made reference to the evidence of a significant reduction in the number of vaginal mesh procedures in Wales. Does the Cabinet Secretary think that this will continue to be the case until the requirements for increased safeguards can be met? Finally, could you update us on the implementation group that will oversee specific areas of women's health requiring urgent attention and improvement? As you rightly say, Cabinet Secretary, we need to ensure that there is early access to specialist support for those treatment complications to prevent the worst outcomes for women and men alike. Diolch.

Diolch i chi am eich ymateb i'r cwestiwn amserol pwysig hwn, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'r mater yn effeithio ar fenywod ledled y DU, a hoffwn dalu teyrnged arbennig i Maxine Cooper, un o fy etholwyr, sydd wedi bod yn gweithio gydag ymgyrch Sling the Mesh ers nifer o flynyddoedd yn dilyn llawdriniaeth a gafodd yn 2010. Gwn fod Maxine yn gweithio'n agos gyda fy nhad ar y mater hwn, a byddaf fi, hefyd, yn gwneud popeth a allaf i'w chefnogi. Fel cymaint o rai eraill, yn enwedig y menywod sydd wedi ymgyrchu gyda dewrder ac ymrwymiad, fel Maxine, roeddwn yn falch iawn pan wnaeth y GIG yn Lloegr y cyhoeddiad ddoe ei fod yn cyfyngu ar lawdriniaethau rhwyll ar unwaith o ganlyniad i bryderon diogelwch. Gwn fod llawer o fy nghyd-Aelodau ar draws y Siambr wedi bod yn gweithio ar y mater hwn hefyd, a bod fy nghyd-Aelod, Jane Hutt wedi cynnal cyfarfod yr wythnos diwethaf gyda grŵp goroeswyr rhwyll Cymru. Mae adroddiad grŵp gorchwyl a gorffen Cymru ar y mater hwn wedi gwneud rhai argymhellion pwysig iawn ac wedi cynnwys rhestr o'r hyn y mae menywod wedi gofyn amdano, ac nid yw'n syndod fod rhoi terfyn ar y defnydd o rwyll lawfeddygol ar y rhestr honno.

Nawr, mae gennyf ychydig o gwestiynau i'w gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet. Yn gyntaf, a yw'n hyderus fod gan y byrddau iechyd lefelau digonol o reolaeth glinigol, cydsyniadau, archwiliadau a gwaith ymchwil i sicrhau y gall pob menyw fod yn hyderus fod y mesurau diogelwch priodol yn eu lle? Ddoe, cyfeiriodd arweinydd y tŷ at y dystiolaeth sy'n dangos bod gostyngiad sylweddol yn nifer y llawdriniaethau rhwyll weiniol yng Nghymru. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn credu y bydd hyn yn parhau i fod yn wir hyd nes y gellir bodloni'r gofynion am fwy o ddiogelwch? Yn olaf, a allech roi'r newyddion diweddaraf inni am y grŵp gweithredu a fydd yn goruchwylio meysydd penodol o iechyd menywod sydd angen sylw a'u gwella ar fyrder? Fel y dywedwch yn gywir, Ysgrifennydd y Cabinet, mae angen i ni sicrhau bod mynediad cynnar at gymorth arbenigol ar gyfer cymhlethdodau llawdriniaethau er mwyn atal y canlyniadau gwaethaf i fenywod a dynion fel ei gilydd. Diolch.

15:10

Thank you for the question. I recognise the conversations that your father had with me about his constituent, Maxine Cooper, and the continuing interest he had shown, and that you do too, on this issue. Obviously the statement that I made earlier this year indicated what we would do in response to the expert panel that we'd instituted here in Wales, and the group that you mentioned at the end, the women's health implementation group, will be meeting in August to take forward further measures on the recommendations that have been made. Now, I think it's really important to recognise that it sometimes does take time to make sure everything is in place as we wish it to be. But that is going to meet this summer. There is money to help them in terms of taking forward their recommendations, but my expectation is that we should already be in the position that England have announced. So, that's really important to be able to give that clarification and that assurance to people, because the points you make about consent, audit and safeguards really do matter. Because for some people this is still potentially a treatment of last resort, but it has to be a properly informed choice.

Given the widespread publicity and the stories of where mesh has gone wrong, you could understand that lots of people will not want to give consent to an operative procedure, but some women may choose to do so, and, as long as that consent is real and informed, then there is not a total ban in Wales, just as in England there is not a total ban. I think it's more accurate to say there is a curb on the use of mesh, rather than a total ban. That's very clear from the letter from the chief medical officer in England. What is also worth pointing out to Members is that what I think has changed now is the fact that not only has Baroness Cumberlege made this recommendation, but also the Medicines and Healthcare Products Regulatory Agency, the regulator, have become rather more involved in the conversation on what to do next. Unfortunately, up until this point, that has not been the case. Because politicians do have limits on their powers, and sensibly so, but the regulators' agreement that the curb in place now in England, Wales, and, I believe, in Scotland too, is the right thing to do—. You should be confident that there won't be any less vigilance in Wales than in other countries of the United Kingdom, and I fully expect to be questioned on this issue in this Chamber and beyond as well.

Diolch i chi am y cwestiwn. Rwy'n cofio'r sgyrsiau a gafodd eich tad gyda mi am ei etholwr, Maxine Cooper, a'r diddordeb parhaus a ddangosodd mewn perthynas â'r mater hwn, ac rydych chi'n gwneud hynny hefyd. Yn amlwg roedd y datganiad a wneuthum yn gynharach eleni yn dangos beth y byddem yn ei wneud mewn ymateb i'r panel arbenigol sydd wedi'i sefydlu yma yng Nghymru, a'r grŵp a grybwyllwyd gennych ar y diwedd, y grŵp gweithredu ar iechyd menywod, a fydd yn cyfarfod ym mis Awst i fwrw ymlaen â mesurau pellach ar yr argymhellion a wnaed. Nawr, credaf ei bod yn bwysig iawn inni gydnabod ei bod hi weithiau'n cymryd amser i sicrhau bod popeth yn ei le fel y dymunwn iddo fod. Ond bydd y grŵp hwnnw'n cyfarfod yr haf hwn. Mae yna arian i'w helpu i fwrw ymlaen â'u hargymhellion, ond rwy'n disgwyl ein bod eisoes yn y sefyllfa y mae Lloegr wedi'i chyhoeddi. Felly, mae'n bwysig iawn gallu rhoi'r eglurhad a'r sicrwydd hwnnw i bobl, oherwydd mae'r pwyntiau a wnewch am gydsyniad, archwiliadau a diogelwch yn bwysig iawn. Oherwydd i rai pobl, mae'n bosibl fod y llawdriniaeth hon yn ddewis olaf, ond mae'n rhaid i'r penderfyniad gael ei wneud ar sail gwybodaeth briodol.

O ystyried y cyhoeddusrwydd eang a'r straeon am lawdriniaethau rhwyll yn mynd o chwith, gallech ddeall na fydd llawer o bobl eisiau cydsynio i lawdriniaeth, ond bydd rhai menywod yn dewis gwneud hynny, a chyn belled â bod y cydsyniad hwnnw yn real ac yn benderfyniad ar sail gwybodaeth, nid oes gwaharddiad llwyr yng Nghymru, ac nid oes gwaharddiad llwyr yn Lloegr chwaith. Credaf ei bod yn fwy cywir dweud bod yna gyfyngu ar y defnydd o rwyll, yn hytrach na gwaharddiad llwyr. Mae hynny'n amlwg iawn yn y llythyr gan brif swyddog meddygol Lloegr. Mae hefyd yn werth nodi i'r Aelodau fy mod yn credu mai'r hyn sydd wedi newid bellach yw, nid yn unig bod y Farwnes Cumberlege wedi gwneud yr argymhelliad hwn, ond hefyd bod yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd, y rheoleiddiwr wedi bod yn cymryd mwy o ran yn y sgwrs ynglŷn â beth i'w wneud nesaf. Yn anffodus, nid yw hynny wedi bod yn wir hyd yn hyn. Oherwydd mae yna gyfyngiadau ar bwerau gwleidyddion, ac mae hynny'n synhwyrol, ond mae cytundeb y rheoleiddwyr mai'r cyfyngiad ar y defnydd yn Lloegr, yng Nghymru, ac yn yr Alban hefyd, rwy'n credu, yw'r peth iawn i'w wneud—. Dylech fod yn hyderus na fydd llai o wyliadwriaeth yng Nghymru nag mewn gwledydd eraill yn y Deyrnas Unedig, ac rwy'n disgwyl y caf fy holi mewn perthynas â'r mater hwn yn y Siambr a thu hwnt yn ogystal.

Fourteen months ago I called for a statement here on the issue of mesh implants after a constituent in north Wales had told me of the suffering she had from left hip pain, left thigh pain, pelvic pain and intimate pain, and she told me of thousands of other women in the UK suffering in a similar way. I was then told that health boards should ensure they report any complications, and women who had the procedure were encouraged to self-report problems. Last December, I raised this in the Chamber after you wrote to me stating that you still believed that the benefits outweighed the risks. We know that in May you made your statement, following the report of the Welsh task and finish group to review the use of vaginal synthetic mesh, announcing the implementation group, which Jack Sargeant just referred to, to oversee specific areas of women's health requiring urgent attention and improvement. 

On Monday, I had an e-mail, via my colleague Angela Burns, from a constituent in north Wales that said, 'Mesh is to be suspended in England. I know you understand how important it is that Wales must follow suit.' Attached to it was the press release issued yesterday saying that Baroness Cumberlege's review had called for the immediate suspension of the use of surgical mesh, and it quoted Owen Smith MP, chair of the all-party parliamentary group in Westminster, saying this is wonderful news and long overdue. 

Today, you've told us that you're now going to follow the decision by NHS England to immediately stop mesh operations, but with a view to potentially continuing them in certain circumstances or after certain conditions are met. Human biology is the same both sides of the border. How, therefore, will you be going forward when Baroness Cumberlege recommended a suspension that can only be lifted if certain conditions, including keeping a register of every procedure and of all complications, are met? Are you going to require the same as Baroness Cumberlege is calling for? If not, what, if any, conditions would you be applying before lifting any suspension here?

Bedwar mis ar ddeg yn ôl, gelwais am ddatganiad ar fater mewnblaniadau rhwyll ar ôl i etholwr yng ngogledd Cymru ddweud wrthyf ei bod yn dioddef o boen yn ei chlun chwith, poen yn ei morddwyd chwith, poen pelfis a phoen mewn mannau personol o'r corff, a dywedodd wrthyf fod miloedd o fenywod eraill yn y DU yn dioddef mewn ffordd debyg. Cefais wybod bryd hynny y dylai byrddau iechyd sicrhau eu bod yn rhoi gwybod am unrhyw gymhlethdodau, ac roedd menywod a oedd wedi cael y llawdriniaeth yn cael eu hannog i roi gwybod am broblemau drostynt eu hunain. Fis Rhagfyr diwethaf, codais hyn yn y Siambr ar ôl i chi ysgrifennu ataf yn dweud eich bod dal i gredu bod y manteision yn drech na'r risgiau. Gwyddom eich bod wedi gwneud eich datganiad ym mis Mai, yn dilyn adroddiad y grŵp gorchwyl a gorffen Cymreig i adolygu'r defnydd o rwyll weiniol synthetig, yn cyhoeddi'r grŵp gweithredu y cyfeiriodd Jack Sargeant ato yn awr, i oruchwylio meysydd penodol o iechyd menywod sydd angen mwy o sylw ac angen eu gwella ar frys.

Ddydd Llun, cefais e-bost, drwy fy nghyd-Aelod Angela Burns, gan etholwr yng ngogledd Cymru a ddywedodd, 'Bydd rhwyll yn cael ei wahardd yn Lloegr. Gwn eich bod yn deall pa mor bwysig yw hi fod yn rhaid i Gymru ddilyn eu hesiampl.' Wedi'i atodi wrth y neges, roedd y datganiad i'r wasg a gyhoeddwyd ddoe yn dweud bod adolygiad y Farwnes Cumberlege wedi galw am wahardd y defnydd o rwyll lawfeddygol ar unwaith, a dyfynnodd Owen Smith AS, cadeirydd y grŵp seneddol hollbleidiol yn San Steffan, a oedd yn dweud bod hwn yn newyddion gwych a hirddisgwyliedig.

Heddiw, rydych wedi dweud wrthym eich bod yn awr yn bwriadu dilyn y penderfyniad a wnaed gan y GIG yn Lloegr i wahardd llawdriniaethau rhwyll ar unwaith, ond gyda golwg ar y posibilrwydd o'u parhau o dan amgylchiadau penodol neu ar ôl i amodau penodol gael eu bodloni. Mae bioleg ddynol yr un peth ar y ddwy ochr i'r ffin. Sut, felly, y byddwch yn bwrw ymlaen â hyn pan fo'r Farwnes Cumberlege wedi argymell gwaharddiad na ellir ond ei ddiddymu os bodlonir amodau penodol, gan gynnwys cadw cofrestr o bob llawdriniaeth a'r holl gymhlethdodau? A fyddwch yn mynnu yr hyn y mae'r Farwnes Cumberlege yn galw amdano? Os na fyddwch, pa amodau, os o gwbl, y byddech yn eu cymhwyso cyn diddymu unrhyw waharddiad yma?

15:15

I think it's important to reiterate the recognition of the significant harm that has been caused where mesh procedures have gone wrong. I've met people in that position directly themselves and all of us have been affected by the very real testimony they provided. The situation here in Wales is that we have had a more vigilant approach since the report that was published and the statement that I made in May to this place, and we need to make sure that similar vigilance is continued. It is important—I don't want to get lost in redescribing what's happening in England or trying to say there is more or less vigilance, but I think there is similar vigilance across the nations of the United Kingdom on this issue. If you refer back to what Baroness Cumberlege herself has said, she said,

'At this stage in our review we are not recommending a ban'.

In the response from the Chief Medical Officer for England, in her correspondence to Baroness Cumberlege, she also referred to a conversation with Baroness Cumberlege where she said, 'It would be wrong to impose a blanket ban. I would emphasise we should remain mindful that, for some patients, this can be a last treatment option for a debilitating condition.'

So, that's the challenge. It's not for the politicians to decide, 'Here is a list of operations where you may use mesh and others where you may not'; this is about the advice and the guidance that is being given to medical professionals about the care they have with and for their patients, and for genuinely informed consent about the risks that exist as well. So, this really should be an area where politicians hesitate to say, 'I have decided for you what is appropriate treatment', including if it's a genuinely last-resort treatment, which is the position that we'd already reached in Wales with the expert review that we had.

We will continue to work on a non-partisan basis between the Governments of the United Kingdom, but crucially with the regulator and with NICE, and also with the clinical community and, crucially, with the individual citizens themselves who have either been harmed through mesh use in the past, but equally for those people where this could be a last-resort treatment. That is the point—that it's genuinely a last-resort treatment and there's action we will be taking in Wales about other treatment options, more conservative treatment options, in advance of any potential decision for a surgical procedure to be undertaken. 

So, I hope that gives genuine reassurance to Members, who I know, in different parties, are concerned about this issue. The approach we're taking in Wales is no less vigilant than any of the other United Kingdom countries. It's in all of our interests to see further action taken on improving care in this area, which is why we have an expert group that is due to carry on and take forward this issue, meeting for the first time, as I said in answer to Jack Sargeant, at the start of August.

Rwy'n credu ei bod yn bwysig ailadrodd y gydnabyddiaeth o'r niwed sylweddol a achoswyd pan fo llawdriniaethau rhwyll wedi mynd o chwith. Rwyf wedi cyfarfod â phobl yn y sefyllfa honno eu hunain ac mae pob un ohonom wedi cael ein heffeithio gan y dystiolaeth real iawn a roddwyd ganddynt. Y sefyllfa yma yng Nghymru yw ein bod wedi mabwysiadu dull mwy gwyliadwrus ers yr adroddiad a gyhoeddwyd a'r datganiad a wneuthum i'r lle hwn ym mis Mai, ac mae angen i ni wneud yn siŵr bod gwyliadwriaeth debyg yn parhau. Mae'n bwysig—nid wyf eisiau mynd ar goll yn y broses o ail-ddisgrifio’r hyn sy'n digwydd yn Lloegr neu geisio dweud bod mwy neu lai o wyliadwriaeth, ond credaf fod gwyliadwriaeth debyg ym mhob un o wledydd y Deyrnas Unedig ar y mater hwn. Os edrychwch ar yr hyn y mae'r Farwnes Cumberlege ei hun wedi'i ddweud, dywedodd,

Ar y pwynt hwn yn ein hadolygiad nid ydym yn argymell gwaharddiad.

Yn yr ymateb gan Brif Swyddog Meddygol Lloegr, yn ei gohebiaeth â'r Farwnes Cumberlege, cyfeiriodd hithau hefyd at sgwrs gyda'r Farwnes Cumberlege pan ddywedodd, 'Byddai'n anghywir i mi weithredu gwaharddiad llwyr. Hoffwn bwysleisio y dylem gofio y gall y driniaeth hon fod yn ddewis olaf i rai cleifion sy'n dioddef anhwylder gwanychol.'

Felly, dyna'r her. Nid lle gwleidyddion yw penderfynu, 'Dyma restr o driniaethau lle y gallwch ddefnyddio rhwyll a rhestr o driniaethau eraill lle na allwch ddefnyddio rhwyll'; mae hyn yn ymwneud â'r cyngor a'r canllawiau a roddir i weithwyr meddygol proffesiynol ynglŷn a'r gofal y maent yn ei roi i'w cleifion, ac yn ymwneud â chydsyniad ar sail gwybodaeth ddilys am y risgiau sy'n bodoli yn ogystal. Felly, dylai hwn fod yn faes lle mae gwleidyddion yn petruso cyn dweud, 'Rwyf wedi penderfynu drosoch chi pa driniaeth sy'n briodol', gan gynnwys os yw triniaeth yn ddewis olaf go iawn, sef y sefyllfa roeddem eisoes ynddi yng Nghymru gyda'r adolygiad arbenigol a gawsom.

Byddwn yn parhau i weithio ar sail amhleidiol rhwng Llywodraethau'r Deyrnas Unedig, ond yn allweddol, gyda'r rheoleiddiwr a'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal, a hefyd gyda'r gymuned glinigol ac yn hollbwysig, gyda'r unigolion eu hunain sydd naill ai wedi'u niweidio o ganlyniad i ddefnyddio rhwyll yn y gorffennol, ond yn yr un modd, gyda'r bobl y gallai'r driniaeth fod yn ddewis olaf iddynt. Dyna'r pwynt—ei fod yn ddewis olaf go iawn a'n bod yn rhoi camau ar waith yng Nghymru mewn perthynas â thriniaethau eraill, triniaethau mwy ceidwadol, cyn gwneud unrhyw benderfyniadau i wneud llawdriniaeth.

Felly, gobeithio bod hynny'n rhoi sicrwydd go iawn i'r Aelodau y gwn eu bod, yn y gwahanol bleidiau, yn pryderu am y mater hwn. Nid yw'r dull o weithredu rydym yn ei fabwysiadu yng Nghymru yn llai gwyliadwrus nag unrhyw un o wledydd eraill y Deyrnas Unedig. Mae sicrhau bod rhagor o gamau yn cael eu cymryd i wella gofal yn y maes hwn o fudd i bob un ohonom, a dyna pam fod gennym grŵp o arbenigwyr a fydd yn parhau ac yn bwrw ymlaen â'r mater hwn, a byddant yn cyfarfod am y tro cyntaf, fel y dywedais yn fy ateb i Jack Sargeant, ddechrau mis Awst.

Having met a large group of mesh survivors here with Jane Hutt on Monday, both women and men, it's clear to me that the issue of informed consent is quite a major one, because people were not informed about potential complications and it's disappointing that it's taken the medical profession so many years to really listen to their patients and understand the level of suffering that people have undergone. I heard directly from people who said that they'd undergone a major investigative procedure under general anaesthetic, and then awoke to be told that mesh had been inserted without, obviously, any prior discussion about the pros and cons of such a procedure. So, would you agree with me that the lesson from this very sorry saga is that the medical profession has got to be much better at clearly seeking and obtaining informed consent when new procedures are being trialed, so that patients can make decisions themselves about what is best for them?  

Ar ôl cyfarfod â grŵp mawr o oroeswyr llawdriniaethau rhwyll yma gyda Jane Hutt ddydd Llun, yn fenywod a dynion, mae'n amlwg i mi fod mater cydsyniad ar sail gwybodaeth yn broblem go fawr, gan na chafodd pobl wybod am gymhlethdodau posibl ac mae'n siomedig ei bod wedi cymryd cynifer o flynyddoedd i'r proffesiwn meddygol wrando'n iawn ar eu cleifion a deall lefel y dioddefaint y mae pobl wedi'i brofi. Clywais yn uniongyrchol gan bobl a ddywedodd eu bod wedi cael llawdriniaeth fawr o dan anesthetig cyffredinol, ac wedi deffro wedyn i glywed bod y rhwyll wedi'i mewnosod heb unrhyw drafodaeth flaenorol, yn amlwg, ynglŷn â manteision ac anfanteision llawdriniaeth o'r fath. Felly, a fyddech yn cytuno â mi mai'r wers o'r saga wael hon yw bod angen i'r proffesiwn meddygol fod yn llawer gwell wrth ofyn a chael cydsyniad ar sail gwybodaeth pan fo llawdriniaethau newydd yn cael eu treialu, fel y gall cleifion wneud penderfyniadau drostynt eu hunain ynglŷn â'r hyn sydd orau iddynt hwy?

15:20

I think that's a really important point to make. It was part of the terms of reference for the expert group and review we had here in Wales, and it's really important not to undersell the importance of informed consent, because different people faced with the same information will make different choices about the risks they're prepared to take in treatment and, indeed, on the condition they currently have and the impact that that has upon their lives. It, of course, has been incredibly not just disappointing but really upsetting to hear people describe mesh procedures that have been undertaken and they say they have not consented to them, or they've consented but they do not believe it was informed consent. And all of that matters; we shouldn't try and brush that away. But the point about all forms of medical intervention is that it is about it being a genuine conversation and decision that the patient makes, as opposed to the clinician making it for them, and understanding, 'What matters to me as the person who is potentially undergoing that treatment'.

When you look at the expert report that we have had undertaken in Wales, it is genuinely reflective on past practice, and part of their recommendations are about making sure there is genuine and informed consent for any procedures that takes place, as well as making sure that in the pathway to a potential operation, all other treatment options are provided first so that it is a genuine last resort, if it is used at all. And, in fact, what should give people comfort about that is that in Wales, there's been a significant reduction in mesh procedures, as our clinical community have recognised some of the challenges that have existed. That will continue to be the case, as we work through with colleagues across the United Kingdom on what could and should happen in the future. It is, of course, possible still that the regulator will decide to take a different step and to withdraw this as a treatment option, but that is a matter for the regulator, not for an elected politician.     

Credaf fod hwnnw'n bwynt pwysig iawn i'w wneud. Roedd yn rhan o'r cylch gorchwyl ar gyfer y grŵp arbenigol a'r adolygiad a gawsom yma yng Nghymru, ac mae'n bwysig iawn nad ydym yn bychanu pwysigrwydd cydsyniad ar sail gwybodaeth, oherwydd bydd gwahanol bobl sy'n cael yr un wybodaeth yn gwneud penderfyniadau gwahanol am y risgiau y maent yn barod i'w cymryd mewn perthynas â thriniaeth ac yn wir, mewn perthynas â'r cyflwr sydd ganddynt ar hyn o bryd a'r effaith a gaiff ar eu bywydau. Wrth gwrs, mae wedi bod yn hynod o siomedig a diflas, mewn gwirionedd, i glywed pobl yn disgrifio'r llawdriniaethau rhwyll a gawsant, a'u bod heb gydsynio iddynt, neu eu bod wedi cydsynio iddynt ond nad ydynt yn credu ei fod yn gydsyniad ar sail gwybodaeth. Ac mae hynny i gyd yn bwysig; ni ddylem geisio diystyru hynny. Ond y pwynt yw, gyda phob math o ymyrraeth feddygol, mae'n ymwneud â chael sgwrs go iawn ac mae'n ymwneud â'r penderfyniad y mae'r claf yn ei wneud, yn hytrach na bod y clinigydd yn ei wneud drostynt, a deall, 'Beth sy'n bwysig i mi fel yr unigolyn a fydd, o bosibl, yn cael y driniaeth honno.'

Pan edrychwch ar yr adroddiad arbenigol rydym wedi'i wneud yng Nghymru, mae'n ystyried arferion y gorffennol yn fanwl, ac mae rhan o'u hargymhellion yn ymwneud â sicrhau bod yna gydsyniad dilys ar sail gwybodaeth ar gyfer unrhyw lawdriniaethau sy'n digwydd, yn ogystal â sicrhau, ar y llwybr tuag at lawdriniaeth bosibl, fod yr holl opsiynau triniaeth eraill yn cael eu darparu yn gyntaf fel ei fod yn ddewis olaf go iawn, os caiff ei ddefnyddio o gwbl. Ac yn wir, dylai roi cysur i bobl fod gostyngiad sylweddol wedi bod yn nifer y llawdriniaethau rhwyll yng Nghymru, gan fod ein cymuned glinigol wedi cydnabod rhai o'r heriau sy'n bodoli. Bydd hynny'n parhau i fod yn wir, wrth i ni weithio gyda chydweithwyr ledled y Deyrnas Unedig ar yr hyn a allai ac a ddylai ddigwydd yn y dyfodol. Wrth gwrs, mae'n bosibl o hyd y bydd y rheoleiddiwr yn penderfynu gweithredu mewn modd gwahanol a diddymu hwn fel dewis ar gyfer triniaeth, ond mae hwnnw'n fater ar gyfer y rheoleiddiwr, nid gwleidydd etholedig.

Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet. 

I thank the Cabinet Secretary. 

The next question is also to you, and it's to be asked by Joyce Watson. 

Mae'r cwestiwn nesaf i chi hefyd, a bydd yn cael ei ofyn gan Joyce Watson.

Addysg a Hyfforddiant Meddygol yng Ngogledd Cymru
Medical Education and Training in North Wales

1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ehangu addysg a hyfforddiant meddygol yng ngogledd Cymru, yn dilyn y cyhoeddiad a wnaed yn gynharach yr wythnos hon? 203

1. Will the Cabinet Secretary make a statement on the expansion of medical education and training in north Wales, following the announcement made earlier this week? 203

Thank you for the question. Earlier this week, I was happy to announce an immediate increase in medical school places in Wales. These 40 additional places will bring benefits to the whole of Wales, including west and north Wales, with 20 places in Swansea medical school and 20 places in Cardiff medical school, to be delivered in collaboration with Bangor University in north Wales. Cardiff and Bangor universities are collaborating on plans that will allow students to undertake all of their medical education in north Wales in the near future.  

Diolch i chi am y cwestiwn. Yn gynharach yr wythnos hon, roeddwn yn falch o gyhoeddi cynnydd yn nifer y lleoedd mewn ysgolion meddygol yng Nghymru ar unwaith. Bydd y 40 o leoedd ychwanegol yn dod â manteision i Gymru gyfan, gan gynnwys gorllewin a gogledd Cymru, gydag 20 lle yn ysgol feddygol Abertawe ac 20 yn ysgol feddygol Caerdydd, i'w darparu mewn cydweithrediad â Phrifysgol Bangor yng ngogledd Cymru. Mae prifysgolion Caerdydd a Bangor yn cydweithio ar gynlluniau a fydd yn galluogi myfyrwyr i ymgymryd â'u holl addysg feddygol yng ngogledd Cymru yn y dyfodol agos.

I find this a really useful announcement, because in Wales we're facing the same challenges as the rest of the UK to train and recruit medical practitioners, and I'm pleased that this scheme will help to deliver and to promote that. I understand that there's lots of work and detail that will follow, and I look forward to the updates. I support a pragmatic approach to delivering maximum benefit from a restricted budget, and the fact that not all of the money will be spent on a capital investment.  

Increasing the numbers in Swansea and also Aberystwyth University will, I believe and I hope, give wider and more diverse opportunities to the people who live in those areas. We all know, and it's well documented, that west Wales in particular faces major recruitment challenges, and I look forward to this increase, or any other increase for that matter, delivering for the people of west Wales, who need, quite clearly, to gain from medical practitioners in an ever-changing environment.  

Credaf fod hwn yn gyhoeddiad defnyddiol iawn, oherwydd rydym ni yng Nghymru yn wynebu'r un heriau â gweddill y DU o ran hyfforddi a recriwtio ymarferwyr meddygol, ac rwy'n falch y bydd y cynllun hwn yn helpu i ddarparu a hyrwyddo hynny. Deallaf fod lawer o waith a manylion i ddilyn, ac edrychaf ymlaen at glywed rhagor. Rwy'n cefnogi dull pragmataidd o ddarparu'r budd mwyaf posibl o gyllideb gyfyngedig, a'r ffaith na fydd yr holl arian yn cael ei wario ar fuddsoddiad cyfalaf.

Bydd cynyddu'r niferoedd yn Abertawe, a hefyd ym Mhrifysgol Aberystwyth, rwy'n credu, ac rwy'n gobeithio, yn rhoi cyfleoedd ehangach a mwy amrywiol i'r bobl sy'n byw yn yr ardaloedd hynny. Mae pawb ohonom yn gwybod, ac mae wedi'i gofnodi'n helaeth, fod y gorllewin yn arbennig yn wynebu heriau recriwtio mawr, ac edrychaf ymlaen at y cynnydd hwn, neu unrhyw gynnydd arall o ran hynny, sy'n darparu ar gyfer pobl gorllewin Cymru, sydd angen elwa, wrth gwrs, ar wasanaeth ymarferwyr meddygol mewn amgylchedd sy'n newid o hyd.

Thank you. It's important to note that this is keeping the pledge that we made to come back with a decision, and the indication that I gave that we thought we'd be able to do something on expanding them—expanding opportunities in different parts of Wales—in previous questions. I've always been keen to talk about the fact that this is good news both for north Wales but also west Wales, because, as you correctly point out, there are recruitment challenges in west Wales as well as the north. There is a small amount of capital that we'll need to deploy to make this happen, but doing this this way, in collaboration between four universities, will mean that we're able to make faster progress on increasing numbers and increasing opportunities in different parts of Wales, because there's lots of evidence we're more likely to have people stay in west Wales and north Wales if they undertake large amounts of their training there.

It does come on the back of an agreement we reached on how we use some money with Plaid Cymru in the budget, but that two-year amount won't be enough to train someone over the course of a whole medical degree. So, we've made the choice within Government to support this whole programme of study and to have a permanent increase in the additional numbers of medical training places. So, it goes beyond the agreement we reached about exploring this issue with Plaid Cymru. It is a permanent addition, and I look forward to understanding more about not just when people can undertake all of their study in north and west Wales, but also our ability to then to see what more we can do to have the right sort of medical and fellow health and care professionals here in the service in Wales.

Diolch. Mae'n bwysig nodi bod y penderfyniad hwn yn cadw'r addewid a wnaethom i ddychwelyd â phenderfyniad, a'r awgrym a roddais ein bod yn credu y gallem wneud rhywbeth i'w hymestyn—ymestyn cyfleoedd mewn gwahanol rannau o Gymru—mewn cwestiynau blaenorol. Rwyf bob amser wedi bod yn awyddus i siarad am y ffaith bod hwn yn newydd da i ogledd Cymru ond hefyd i orllewin Cymru, oherwydd, fel rydych yn nodi, mae yna heriau recriwtio yng ngorllewin Cymru yn ogystal â'r gogledd. Mae yna swm bach o gyfalaf y byddwn angen ei ddefnyddio i wneud i hyn ddigwydd, ond bydd ei wneud yn y ffordd hon, ar y cyd rhwng pedair prifysgol, yn golygu y gallwn wneud cynnydd cyflymach o ran cynyddu niferoedd a chynyddu cyfleoedd mewn gwahanol rannau o Gymru, oherwydd ceir llawer o dystiolaeth ein bod yn fwy tebygol o weld pobl yn aros yng ngorllewin Cymru a gogledd Cymru os byddant yn cael cyfran fawr o'u hyfforddiant yno.

Mae hyn yn dilyn cytundeb a wnaethom gyda Phlaid Cymru ar sut rydym yn defnyddio rhywfaint o arian yn y gyllideb, ond ni fydd y swm dwy flynedd hwnnw'n ddigon i hyfforddi rhywun drwy gydol eu gradd feddygol. Felly, rydym wedi gwneud y dewis yn y Llywodraeth i gefnogi'r rhaglen astudio hon yn ei chyfanrwydd a sicrhau cynnydd parhaol yn y niferoedd ychwanegol o leoedd hyfforddi meddygol. Felly, mae'n mynd y tu hwnt i'r cytundeb a wnaethom i ymchwilio i'r mater gyda Phlaid Cymru. Mae'n ychwanegiad parhaol, ac edrychaf ymlaen at ddeall mwy, nid yn unig o ran pryd y bydd pobl yn gallu cwblhau eu hastudiaethau i gyd yng ngogledd a gorllewin Cymru, ond hefyd o ran ein gallu i weld beth arall y gallwn ei wneud i gael y math cywir o weithwyr proffesiynol meddygol a chydweithwyr proffesiynol gofal ac iechyd yma yn y gwasanaeth yng Nghymru.

15:25

I do welcome the expansion of medical school places, although I do regret that you didn't choose to announce that expansion here when this has been a topic that has exercised so many of us on so many occasions. We do have a shortage of doctors, as you're well aware, in certain disciplines such as general practice, paediatrics and rheumatology. Are you able, through these places, to seek to massage the workforce planning going forward and to ensure that we have people who might then be able to follow those kinds of specialisms? And given the shortage of doctors, I would be very interested to know how you evaluated that 40 additional places is what we need. Do we need more? Was that all the money you had available, or do you think that 40 is it, and that will suffice going forward?

I noted in your written statement that you published earlier this week the intent that trainees will be able to undertake the totality of their medical training in north Wales, and their postgraduate training. Whilst further collaboration between Cardiff and Bangor is absolutely key in making that happen, what discussions, if any, have taken place with providers in the north-west of England, especially the hospitals that may be able to produce or to allow rotational work to be undertaken as part of that postgrad training? I'd be really interested to know whether or not you believe that we can do all of our postgrad training within north Wales itself, because we heard in our previous inquiry to the health and social care committee about some of the difficulties of producing or of being able to do some of that training, because we don't have all of those specialisms within our current structure up there in north Wales. Thank you.

Rwy'n croesawu'r penderfyniad i ehangu lleoedd ysgol feddygol, er rwy'n gresynu na wnaethoch ddewis cyhoeddi'r ehangu hwn yma o ystyried bod hwn yn bwnc sydd wedi'i drafod gan gymaint ohonom ar gynifer o achlysuron. Mae gennym brinder meddygon, fel rydych yn gwybod, mewn rhai disgyblaethau megis ymarfer cyffredinol, pediatreg a rhewmatoleg. A ydych, drwy'r lleoedd hyn, yn gallu datblygu cynlluniau'r gweithlu yn y dyfodol a sicrhau bod gennym bobl a fyddai'n gallu dilyn y mathau hynny o arbenigeddau wedyn? Ac o ystyried y prinder meddygon, hoffwn wybod sut y gwnaethoch werthuso mai 40 o leoedd ychwanegol rydym eu hangen. A ydym angen mwy? Ai dyna'r cyfan o arian a oedd ar gael, neu a ydych yn credu mai 40 rydym eu hangen, ac y bydd hynny'n ddigon yn y dyfodol?

Yn y datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd gennych yn gynharach yr wythnos hon, sylwais ar y bwriad i alluogi hyfforddeion i ymgymryd â'u hyfforddiant meddygol i gyd yng ngogledd Cymru, a'u hyfforddiant ôl-raddedig. Er bod cydweithio pellach rhwng Caerdydd a Bangor yn gwbl allweddol i sicrhau bod hynny'n digwydd, pa drafodaethau, os o gwbl, sydd wedi bod â darparwyr yng ngogledd-orllewin Lloegr, yn enwedig yr ysbytai a allai gynhyrchu neu ganiatáu gwaith ar batrwm cylch fel rhan o'r hyfforddiant ôl-raddedig? Hoffwn wybod a ydych yn credu y gallwn wneud ein hyfforddiant ôl-raddedig i gyd yng ngogledd Cymru ei hun ai peidio, oherwydd clywsom yn ein hymchwiliad blaenorol i'r pwyllgor iechyd a gofal cymdeithasol ynglŷn â rhai o'r anawsterau o ran cynhyrchu neu allu gwneud rhywfaint o'r hyfforddiant hwnnw, oherwydd nad oes gennym yr arbenigeddau hynny i gyd o fewn ein strwythur cyfredol yng ngogledd Cymru. Diolch.

Thank you for the questions. I think it's a useful point about distinguishing between the medical degree and then speciality training post medical degree. Of course, there are ongoing conversations with colleagues in the north-west deanery in England about how we might arrange different courses of study, as well as what we can do within Wales as well. I want there to be a practical conversation that is led by actually making a difference for the quality of training and the scope of training that can be provided, as opposed to an England-versus-Wales conversation. There will, of course, be times when politicians disagree, but this is actually about training doctors to give them a career within our national health service, serving our communities.

On the point on the medical degree and the practical choice about places and mone, they are practical choices about our ability to expand, if we want to fund that expansion, because, as I say, you can't do that on a limited agreement over two or three years, because the degree takes longer and it would be a pretty unusual thing if we decided to expand a degree course of study for one cohort and then at the end of that we would withdraw the funding. There would be no way to plan and properly expand the numbers we would want to see within our medical workforce. It won't take away our need to continue to recruit from within the nations of the UK as well as outside the UK, in Europe and further afield, but this is us making a practical choice with the resource we have to make a difference in the area that we can make with our current two medical schools, to deliver against some of the challenges in different parts of the country.

That will also be the case for speciality training as well, because, every year, we look at our speciality training numbers and we need to understand how and where we fill those places. So, actually, that is even more important in terms of the links with the rest of Wales and, indeed, the deanery across our border where different training places are available for those speciality places. So, we have some of the same challenges as the rest of the United Kingdom and some rather more unique ones. This is part of the answer, as opposed to a silver bullet for all the challenges that you and I will continue to discuss now and in the future.

Diolch i chi am y cwestiynau. Rwy'n credu ei fod yn bwynt defnyddiol ynglŷn â gwahaniaethu rhwng y radd feddygol a hyfforddiant arbenigol y radd feddygol ôl-raddedig wedyn. Wrth gwrs, mae yna sgyrsiau parhaus ar y gweill gyda chyd-Aelodau yn neoniaeth y gogledd-orllewin yn Lloegr ynglŷn â sut y gellid trefnu cyrsiau astudio gwahanol, yn ogystal â'r hyn y gallwn ei wneud yng Nghymru. Rwyf am gael sgwrs ymarferol ynglŷn â gwneud gwahaniaeth i ansawdd yr hyfforddiant a chwmpas yr hyfforddiant y gellir ei ddarparu mewn gwirionedd, yn hytrach na sgwrs Cymru yn erbyn Lloegr. Wrth gwrs, bydd yna adegau pan fydd gwleidyddion yn anghytuno, ond mae hyn, mewn gwirionedd, yn ymwneud â hyfforddi meddygon i roi gyrfa iddynt o fewn ein gwasanaeth iechyd gwladol, yn gwasanaethu ein cymunedau.

O ran y pwynt am y radd feddygol a'r dewis ymarferol ynghylch lleoedd ac arian, maent yn ddewisiadau ymarferol ynglŷn â'n gallu i ehangu, os ydym eisiau ariannu'r ehangu hwnnw, oherwydd fel y dywedaf, ni allwch wneud hynny ar gytundeb cyfyngedig dros ddwy neu dair blynedd, oherwydd mae'r radd yn cymryd mwy o amser a byddai'n beth eithaf anarferol pe baem yn penderfynu ehangu cwrs gradd ar gyfer un cohort ac yna'n tynnu'r cyllid yn ôl ar y diwedd. Ni fyddai unrhyw ffordd o gynllunio a chynyddu'n briodol y niferoedd y byddem eisiau eu gweld o fewn ein gweithlu meddygol. Ni fydd yn cael gwared ar ein hangen i barhau i recriwtio o blith gwledydd y DU yn ogystal ag o'r tu allan i'r DU, o Ewrop a thu hwnt, ond mae hon yn enghraifft ohonom ni yn gwneud penderfyniad ymarferol gyda'r adnoddau sydd gennym i wneud y gwahaniaeth yn yr ardal y gallwn ei wneud gyda'r ddwy ysgol feddygol sydd gennym ar hyn o bryd, er mwyn cyflawni yn erbyn rhai o'r heriau mewn gwahanol rannau o'r wlad.

Bydd hynny hefyd yn wir mewn perthynas â hyfforddiant arbenigol yn ogystal, oherwydd, bob blwyddyn, rydym yn edrych ar y niferoedd sy'n cael hyfforddiant arbenigol ac mae angen i ni ddeall sut a ble rydym yn llenwi'r lleoedd hynny. Felly, mewn gwirionedd, mae hynny hyd yn oed yn bwysicach o ran y cysylltiadau â gweddill Cymru ac yn wir, y ddeoniaeth ar draws ein ffin lle mae gwahanol leoedd hyfforddi ar gael ar gyfer y lleoedd hyfforddi arbenigol hynny. Felly, mae gennym rywfaint o'r un heriau â gweddill y Deyrnas Unedig a rhai sy'n fwy unigryw. Mae hyn yn rhan o'r ateb, yn hytrach nag ateb hollgynhwysol i'r heriau y byddwch chi a minnau yn parhau i'w trafod yn awr ac yn y dyfodol.

15:30

Ym mis Mai y llynedd, fe gyhoeddwyd yr adroddiad yma gan Aelod Seneddol Arfon, Hywel Williams, a minnau, yn gosod allan yr achos dros ysgol feddygol i'r gogledd. Mae eich cyhoeddiad chi am ehangu addysg feddygol yn y gogledd yn gam arwyddocaol a phwysig i'r cyfeiriad cywir, ac yn ffrwyth ymgyrch leol gref yn Arfon.

Yn eich datganiad, mi rydych chi'n dweud hyn:

'bydd y trefniadau newydd yn rhoi mwy o gyfleoedd i siaradwyr Cymraeg astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.'

A fedrwch chi ymhelaethu ar hynny, ac ar sut yn union fydd hynny yn digwydd?

In May of last, this report was published by the Member of Parliament for Arfon, Hywel Williams, and me, setting out the case for a medical school for north Wales. Your announcement on expanding medical education in north Wales is a significant and important step in the right direction, and is the result of a strong local campaign in Arfon.

In your statement you say this:

'these new arrangements will provide more opportunities for Welsh speakers to undertake their studies in Welsh.'

Can you expand upon that and how exactly that will happen?

Thank you for the question. It is important that we see opportunities for people to utilise the skills they have to be doctors, including the ability to use the Welsh language. Part of our challenge, and I've made this point several times over in the past, is that Welsh language needs are not preferences, they are genuine care needs in a range of our communities and with individuals and their families. Part of our challenge has been how we have enough health and care professionals to be able to deliver against that, and I'd still like to see us be able to make more successful efforts to attract people back to Wales who have undertaken part of their medical or other healthcare professional training within England. That requires us to have an attractive offer for them to work here in Wales, as opposed to simply saying that they have a sense of national responsibility to return to make their careers anew.

But I do fully expect that in the programmes of study that exists already, that will be real and possible. We're making deliberate efforts to try and encourage people who speak Welsh to come into medical education as a potential career for them. I spoke, for example, on a programme of study we have to look to get a number of 16 to 18-year-olds in Valleys communities and other parts of Wales to come and consider a career in medicine. So, we are deliberately going out to look to try and make sure that it's an attractive career for different people to come into, as well as the place of study itself, as—[Inaudible.]—course of study, and the medium of the language that that is delivered in.

I'm pleased to reiterate that this decision that I have made is a result of us keeping our word about the decision that we would consider, the timescale we'd make it in, and our ambition to expand opportunities to undertake more medical education and training, and our ambition to make sure people come and undertake their whole period of study within Wales as well. 

Diolch i chi am y cwestiwn. Mae'n bwysig ein bod yn gweld cyfleoedd i bobl ddefnyddio'r sgiliau sydd ganddynt i fod yn feddygon, gan gynnwys y gallu i ddefnyddio'r iaith Gymraeg. Rhan o'r her i ni, ac rwyf wedi gwneud y pwynt hwn droeon yn y gorffennol, yw nad dewisiadau yw anghenion iaith Gymraeg, maent yn anghenion gofal gwirioneddol mewn amryw o'n cymunedau a chydag unigolion a'u teuluoedd. Rhan o'r her i ni oedd sut i gael digon o weithwyr proffesiynol iechyd a gofal er mwyn gallu cyflawni yn erbyn hynny, a buaswn yn dal i hoffi ein gweld yn gallu gwneud ymdrechion mwy llwyddiannus i ddenu pobl sydd wedi gwneud rhan o'u hyfforddiant gofal iechyd proffesiynol meddygol neu fel arall yn Lloegr yn ôl i Gymru. Mae hynny'n ei gwneud yn ofynnol inni gael cynnig deniadol iddynt weithio yma yng Nghymru, yn hytrach na dweud yn syml fod ganddynt ymdeimlad o gyfrifoldeb cenedlaethol i ddychwelyd i ddilyn gyrfa o'r newydd.

Ond rwy'n disgwyl y bydd hynny'n real ac yn bosibl yn y rhaglenni astudio sy'n bodoli eisoes. Rydym yn gwneud ymdrechion bwriadol i geisio annog pobl sy'n siarad Cymraeg i ddod i mewn i addysg feddygol fel gyrfa bosibl ar eu cyfer. Siaradais, er enghraifft, ar raglen astudio sydd gennym i geisio cael nifer o rai 16 i 18 oed yng nghymunedau'r Cymoedd a rhannau eraill o Gymru i ddod i ystyried gyrfa mewn meddygaeth. Felly, rydym yn fwriadol yn mynd i geisio gwneud yn siŵr ei bod yn yrfa ddeniadol i wahanol bobl ei dewis, yn ogystal â'r man astudio ei hun, fel—[Anhyglyw.]—cwrs astudio, a'r cyfrwng iaith ar gyfer ei gyflwyno.

Rwy'n falch o ailddatgan bod y penderfyniad hwn a wneuthum yn ganlyniad i  gadw ein gair am y penderfyniad y byddem yn ei ystyried, yr amserlen ar gyfer gwneud y penderfyniad, a'n huchelgais i ehangu cyfleoedd i ymgymryd â mwy o addysg a hyfforddiant meddygol, a'n huchelgais i sicrhau bod pobl yn treulio eu holl gyfnod astudio yng Nghymru hefyd.

I've supported the concept of a Bangor medical school since the previous vice-chancellor, Merfyn Jones, first raised it with me a decade or more ago, and this, of course, has been raised in previous Assemblies also. But given that the north Wales local medical committee—many of whom themselves studied at Liverpool medical school, or Manchester medical school, some of whom came from north Wales, some who chose to build their lives and careers in north Wales—have called for this model to incorporate and restore direct connections with Liverpool, and possibly Manchester medical school, not just beyond, across the border, but specifically there, given the historic links, how do you respond to that call by the north Wales local medical committee, made up of local general practitioners, and what dialogue have you had with them regarding that?

Rwyf wedi cefnogi'r cysyniad o ysgol feddygol ym Mangor ers i'r is-ganghellor blaenorol, Merfyn Jones, ei ddwyn i fy sylw yn gyntaf ddegawd neu fwy yn ôl, ac mae hyn wrth gwrs, wedi cael ei godi mewn Cynulliadau blaenorol hefyd. Ond o ystyried bod pwyllgor meddygol lleol gogledd Cymru—y bu llawer ohonynt eu hunain yn astudio yn ysgol feddygol Lerpwl, neu ysgol feddygol Manceinion, a rhai ohonynt yn dod o ogledd Cymru, a rhai wedi dewis adeiladu eu bywydau a'u gyrfaoedd yng ngogledd Cymru—wedi galw am i'r model hwn ymgorffori ac adfer cysylltiadau uniongyrchol â Lerpwl, ac ysgol feddygol Manceinion o bosibl, nid yn unig dros y ffin, ond yn benodol yno, o ystyried y cysylltiadau hanesyddol, sut rydych yn ymateb i'r alwad gan bwyllgor meddygol lleol gogledd Cymru, a luniwyd o ymarferwyr cyffredinol lleol, a pha drafodaethau a gawsoch gyda hwy ynglŷn â hynny?

I've made an announcement that is building on our two medical schools and provision and partnership with universities in different parts of Wales. I don't think it would be at all helpful for me to try and interrupt that, having just announced it within a week, and to then say that I expect them to remake different links with different medical schools. We of course want opportunities for people to study medicine and to be able to acquire skills to deliver the full programme of study to become doctors and actually to keep them here in Wales. I will always look for opportunities for our health and care system here in Wales to attract people to come here, and to keep people here, and to work with other partners across our border to do so as well. That will be the focus. It will be about making the partnerships that we've agreed, to make them work, and the partnership and collaboration that has real investment and time for people in both Swansea and Cardiff medical schools, and I'm really pleased to say, within Aberystwyth and Bangor Universities too. 

Rwyf wedi gwneud cyhoeddiad sy'n adeiladu ar ein dwy ysgol feddygol a'r ddarpariaeth a'r bartneriaeth â phrifysgolion mewn rhannau gwahanol o Gymru. Ni chredaf y byddai o gymorth o gwbl i mi i geisio amharu ar hynny, a minnau newydd ei gyhoeddi ers wythnos, a dweud wedyn fy mod yn disgwyl iddynt ailffurfio gwahanol gysylltiadau ag ysgolion meddygol gwahanol. Wrth gwrs, rydym am gyfleoedd i bobl astudio meddygaeth a gallu caffael sgiliau i ddarparu'r rhaglen astudio lawn i ddod yn feddygon a'u cadw yma yng Nghymru mewn gwirionedd. Byddaf bob amser yn edrych am gyfleoedd i'n system iechyd a gofal yma yng Nghymru ddenu pobl i ddod yma, ac i gadw pobl yma, ac i weithio gyda phartneriaid eraill ar draws ein ffin i wneud hynny hefyd. Dyna fydd y ffocws. Bydd yn ymwneud â gwneud y partneriaethau rydym wedi'u cytuno, gwneud iddynt weithio, a'r bartneriaeth a'r cydweithredu sydd â buddsoddiad ac amser go iawn i bobl yn ysgolion meddygol Abertawe a Chaerdydd, ac rwy'n falch iawn o ddweud, ym Mhrifysgolion Aberystwyth a Bangor hefyd.

Ac yn olaf, Rhun ap Iorwerth. 

And finally, Rhun ap Iorwerth.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Ac a gaf groesawu'r datganiad yma heddiw, sydd wedi cymryd llawer rhy hir i ddod, wrth gwrs? Rydw i'n meddwl yn ôl am fy nghyfarfod cynnar i, ar ôl i mi gael fy ethol, efo'r Athro Dean Williams o Brifysgol Bangor ac Ysbyty Gwynedd, yn plannu'r syniad yma, a'r sylweddoliad buan iawn ei bod hi'n hollol amlwg bod rhaid inni fwrw ymlaen â chyflwyno addysg feddygol ym Mangor, fel yr oedd pobl fel Dr Dai Lloyd yn sylweddoli bod angen cyflwyno addysg feddygol yn Abertawe flynyddoedd yn ôl, ac, wrth gwrs, mae hi'n ysgol feddygol lawn yn Abertawe erbyn hyn. Rydw i'n meddwl am yr holl feddygon hynny, y rhai sydd eisiau bod yn feddygon, yn bobl ifanc, yn rhieni, yn gyn-feddygon, yn nyrsys, sy'n gweld y budd o ddatblygu addysg feddygol ym Mangor, ac rydw i'n diolch iddyn nhw heddiw am fod yn gefn i ni sydd wedi ymgyrchu mor galed dros hyn, er mwyn troi hyn yn realiti.

Gadewch inni gofio pam fod hyn yn digwydd. Mae hyn yn gorfod digwydd oherwydd prinder meddygon mewn ardaloedd o'r gorllewin a'r gogledd. Mi fydd hyn yn help, rydw i'n hyderus, i recriwtio ac i lenwi'r tyllau. Mae o'n digwydd oherwydd bod rhy ychydig o feddygon yn cael eu hyfforddi yng Nghymru, a rhy ychydig o'r rheini yn dod o Gymru. Felly, mae hyn yn agor y drws, gobeithio, i fwy o'n pobl ifanc ni allu dilyn gyrfa mewn meddygaeth.

I'r Ceidwadwyr, os caf i ddweud: ar ddiwrnod lle rydym ni'n dathlu cael coleg meddygol, i bob pwrpas, yng Nghymru, rydych chi'n penderfynu canolbwyntio ar, 'Ond beth am y cysylltiadau efo gogledd-orllewin Lloegr?' Gwrandewch: wrth gwrs bod y cysylltiadau hynny yn bwysig, ond gadewch inni heddiw ganolbwyntio ar yr hyn rydym ni'n gallu ei wneud yma yng Nghymru, er mwyn cynyddu capasiti addysg feddygol ein hunain.

I chi, Ysgrifennydd y Cabinet, cwestiynau syml: a allwch chi gadarnhau mai dim ond dechrau ydy hyn ar dwf mewn addysg feddygol yng Nghymru, ac a allwch chi gadarnhau hefyd y byddwch chi'n rhannu fy nymuniad i o weld y coleg meddygol newydd ym Mangor yn datblygu i fod yn ganolfan o ragoriaeth, nid yn unig mewn dysgu meddygaeth drwy gyfrwng y Gymraeg, ond mewn darpariaeth o ofal iechyd gwledig hefyd? Mae heddiw'n gam pwysig ymlaen.

Thank you very much, Llywydd. May I welcome this statement today, which has taken far too long to come, of course? I am thinking back to a very early meeting I had, after I was elected, with Professor Dean Williams, from Bangor University and Ysbyty Gwynedd, who seeded this idea, and the realisation I very quickly had that it was obvious that we needed to move ahead with medical education in Bangor, as people like Dr Dai Lloyd realised the need for the introduction of medical education in Swansea University, and there is a now a full medical school in Swansea. I am thinking of all those doctors and those who would wish to be doctors, young people and parents, former doctors and nurses—people who see the benefit of developing medical education in Bangor, and I thank them today for supporting those of us who have campaigned so hard for this, in order to turn this into a reality.

Let us remember why this is taking place. This has to take place because of a lack of doctors in parts of west Wales and north Wales. This will be a help, I believe, in recruiting and filling the gaps. It is happening because there are too few doctors being trained in Wales, and too few of those coming from Wales. So, this opens the door, I hope, to a greater number of our young people being able to undertake a career in medicine.

To the Conservatives, if I may say: on a day when we are celebrating having a medical college, to all intents and purposes, in Wales, you decide to concentrate on asking about the linkages with north-west England. Well, listen: of course those linkages are important, but let us also today concentrate on what we can do here in Wales in order to increase the capacity of medical education for ourselves.

To you, Cabinet Secretary, I have simple questions to ask: can you confirm that this is only the beginning of a growth in medical education in Wales, and can you also confirm that you will share my desire to see this new medical college in Bangor developing to be a centre of excellence, not only in teaching medicine through the medium of Welsh, but also in the provision of rural healthcare? Today is an important step forward.

15:35

In making this announcement, we've been clear with our university partners and the two medical schools that we want to continue to see more people from Wales have opportunities to train to become doctors as part of this. We want to see excellence, of course, but I don't think that you need to dumb down on standards, frankly, to give more people from Wales opportunities to—

Wrth wneud y cyhoeddiad hwn, rydym wedi bod yn glir gyda'n partneriaid prifysgol a'r ddwy ysgol feddygol ein bod am barhau i weld mwy o bobl o Gymru yn cael cyfleoedd i hyfforddi i ddod yn feddygon fel rhan o hyn. Rydym am weld rhagoriaeth, wrth gwrs, ond nid wyf yn meddwl bod angen ichi ostwng safonau, a bod yn onest, i roi cyfleoedd i fwy o bobl o Gymru i—

Who's talking about dumbing down on standards?

Pwy sy'n sôn am ostwng safonau?

That's exactly my point. You don't need to dumb down on standards to give more opportunities to people in Wales.

Dyna'n union yw fy mhwynt. Nid oes angen ichi ostwng safonau i roi mwy o gyfleoedd i bobl yng Nghymru.

That's not been suggested. Why do you bring that up? That's terrible.

Ni awgrymwyd hynny. Pam rydych chi'n dweud hynny? Mae hynny'n ofnadwy.

The reason I bring that up is that it is something that is mentioned outside this place from time to time about saying, 'Actually you need to change standards.' [Interruption.] I think you're misunderstanding—[Interruption.] With respect, I think you're misunderstanding the point I'm making. The point I'm making is that there are plenty of young people from Wales who have the ability to become doctors. This is about making sure that our universities don't operate a system of understanding who will then be offered those places that excludes young people from those places. I want to see more people from Wales be given opportunities to study medicine in Wales, and the expansion in numbers has to be accompanied with an expansion in opportunities for people from Wales to take up those places. Because I believe there is plenty of talent available within Wales who will want to do so. And that's actually why, in answer to earlier questions, there are the efforts that we're making to make sure that more people are encouraged to consider a career in medicine. So, that work will have to continue, rather than simply say, 'Expand the places and the people will come.' The people need to come from within Wales as well.

I'm more than happy to indicate that I want to have a continuing conversation about the numbers of people that we have within the medical profession, about how and where they're trained. We will always need to have a practical conversation about that, to understand the resources that we have available, and the ability of our medical schools, in partnership with their universities, to do so. But at this point in time, I think the collaboration that has gone into this, and the work that has gone into this, from four universities, gives us good reason to think they could actually train more people. The challenge is our ability to finance that training, and to make sure that we make a success of the current expansion that I have already announced.

And of course I want to see the new partnerships that we have announced deliver genuine excellence, in health and care, including rural healthcare. There is a real opportunity for us to deliver real excellence in healthcare, because a number of doctors want to work in a city context, a number of doctors want to work in a Valleys context, and there are lots of people who want to be doctors in rural medicine as well, and this is a real opportunity to give those people more opportunities to do so.

Y rheswm rwy'n dweud hynny yw ei fod yn rhywbeth a grybwyllir y tu allan i'r lle hwn o bryd i'w gilydd ynglŷn â dweud, 'Mewn gwirionedd mae angen i chi newid safonau.' [Torri ar draws.] Credaf eich bod yn camddeall—[Torri ar draws.] Gyda phob parch, rwy'n meddwl eich bod yn camddeall y pwynt rwy'n ei wneud. Y pwynt rwy'n ei wneud yw bod digon o bobl ifanc o Gymru â gallu i ddod yn feddygon. Mae a wnelo hyn â sicrhau nad yw ein prifysgolion yn gweithredu system o ddeall pwy fydd wedyn yn cael cynnig y lleoedd sy'n gwahardd pobl ifanc rhag y lleoedd hynny. Rwyf am weld mwy o bobl o Gymru yn cael cyfleoedd i astudio meddygaeth yng Nghymru, ac mae'n rhaid ehangu'r cyfleoedd i bobl o Gymru fanteisio ar y lleoedd hynny i gyd-fynd â'r cynnydd yn y niferoedd. Oherwydd credaf fod digon o dalent ar gael yng Nghymru a fydd yn dymuno gwneud hynny. A dyna pam, i ateb cwestiynau cynharach, y ceir ymdrechion i wneud yn siŵr fod mwy o bobl yn cael eu hannog i ystyried gyrfa mewn meddygaeth mewn gwirionedd. Felly, bydd yn rhaid i'r gwaith hwnnw barhau, yn hytrach na dweud yn unig, 'Cynyddwch y nifer o leoedd a bydd y bobl yn dod.' Mae angen i'r bobl ddod o'r tu mewn i Gymru yn ogystal.

Rwy'n fwy na pharod i nodi fy mod am gael trafodaeth barhaus ynglŷn â nifer y bobl sydd gennym o fewn y proffesiwn meddygol, ynglŷn â sut a ble y cânt eu hyfforddi. Bydd bob amser angen i ni gael sgwrs ymarferol ynglŷn â hynny, i ddeall yr adnoddau sydd ar gael gennym, a gallu ein hysgolion meddygol, mewn partneriaeth â'u prifysgolion i wneud hynny. Ond ar hyn o bryd, credaf fod y cydweithredu a ddigwyddodd ar hyn, a'r gwaith sydd wedi'i wneud ar hyn gan bedair prifysgol, yn rhoi rheswm da i ni gredu y gallent hyfforddi mwy o bobl. Yr her yw ein gallu i ariannu'r hyfforddiant hwnnw, ac i wneud yn siŵr y bydd yr ehangu presennol a gyhoeddais eisoes yn llwyddiant.

Ac wrth gwrs rwyf am weld partneriaethau newydd a gyhoeddwyd gennym yn sicrhau rhagoriaeth go iawn mewn iechyd a gofal, gan gynnwys gofal iechyd gwledig. Ceir cyfle gwirioneddol inni sicrhau rhagoriaeth go iawn mewn gofal iechyd, oherwydd mae nifer o feddygon eisiau gweithio mewn cyd-destun dinesig, mae nifer o feddygon eisiau gweithio yng nghyd-destun y Cymoedd, ac mae llawer o bobl am fod yn feddygon mewn meddygaeth wledig yn ogystal, ac mae hwn yn gyfle gwirioneddol i roi mwy o gyfleoedd i'r bobl hyn wneud hynny.

Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet.

I thank the Cabinet Secretary.

4. Datganiadau 90 Eiliad
4. 90-second Statements

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiadau 90 eiliad. Ac mae un datganiad gan Andrew R.T. Davies.

The next item, therefore, is the 90-second statements. There is one statement today from Andrew R.T. Davies.

Thank you, Presiding Officer. I'd like to draw Members' attention to the sculpture that's on the eastern side of the bay, called 'Pit to Port'. This was a lifelong ambition of Donald Ronald Harris, who was a lifelong resident of south Wales, and was a chartered ship broker and coal exporter. In a career spanning 45 years, he rose to become the south Wales area manager of Powell Duffryn International Fuels. During his period at the docks, Ron was responsible for the shipment of millions of tonnes of coal from south Wales to the continent and the rest of the world. Ron played a key role in a project for producing a dedication to the south Wales coal miners, and the industry in the area, but sadly passed away before the scheme got under way. Ron was especially keen to emphasise the link between the south Wales coal industry and Cardiff docks. Their success was intertwined and neither would have survived or thrived without the other.

Following his death, Ron's wife, Margaret, took up the challenge of seeing the project through. Along with a team of dedicated supporters, she raised £55,000 for the sculpture 'Pit to Port'. Next Monday sees the thirteenth anniversary of its unveiling on 16 July 2005 and fittingly features a coal miner, a coal truck and a steam ship. It stands just a few minutes' walk from here in Cardiff Bay, across from the Norwegian church in Brittania Park. I'm sure all Members will join me in paying tribute to Margaret and Ron for their role in securing this fitting monument of Cardiff and south Wales's industrial heritage.  

Diolch i chi, Lywydd. Hoffwn dynnu sylw'r Aelodau at y cerflun ar ochr ddwyreiniol y bae, o'r enw 'Pit to Port'. Roedd yn uchelgais gydol oes i Donald Ronald Harris, a oedd yn preswylio yn ne Cymru ar hyd ei oes, ac roedd yn frocer llongau siartredig ac yn allforiwr glo. Mewn gyrfa a rychwantodd 45 mlynedd, daeth yn rheolwr ardal de Cymru i Powell Duffryn International Fuels. Yn ystod ei gyfnod yn y dociau, roedd Ron oedd yn gyfrifol am gludo miliynau o dunelli o lo o dde Cymru i'r cyfandir a gweddill y byd. Chwaraeodd Ron ran allweddol mewn prosiect ar gyfer cynhyrchu teyrnged i lowyr de Cymru, a'r diwydiant yn yr ardal, ond yn anffodus bu farw cyn i'r cynllun fynd rhagddo. Roedd Ron yn arbennig o awyddus i bwysleisio'r cyswllt rhwng diwydiant glo de Cymru a dociau Caerdydd. Roedd eu llwyddiant yn cydblethu ac ni fyddai'r naill na'r llall wedi goroesi neu ffynnu heb y llall.

Yn dilyn ei farwolaeth, ysgwyddodd gwraig Ron, Margaret, yr her o gyflawni'r prosiect. Ynghyd â thîm o gefnogwyr ymroddedig, a gododd £55,000 ar gyfer cerflun 'Pit to Port'. Ddydd Llun nesaf, bydd tair mlynedd ar ddeg ers ei ddadorchuddio ar 16 Gorffennaf 2005 ac yn addas, mae'n dangos glöwr, lori lo a llong ager. Saif ychydig funudau i ffwrdd ar droed oddi yma ym Mae Caerdydd, gyferbyn â'r Eglwys Norwyaidd ym Mharc Brittania. Rwy'n siŵr y gwnaiff bob aelod ymuno â mi i dalu teyrnged i Margaret a Ron am eu rôl yn sicrhau heneb addas i dreftadaeth ddiwydiannol Caerdydd a de Cymru.

15:40
5. Cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 18 mewn perthynas â'r Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013
5. Motion to amend Standing Order 18 in relation to the Public Audit (Wales) Act 2013