Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Plenary - Fifth Senedd
19/06/2018Cynnwys
Contents
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Galw'r Aelodau i drefn.
Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, a'r cwestiwn cyntaf, Neil McEvoy.
Prif Weinidog, heb fod cymaint â hynny yn ôl, dywedasoch ei bod yn rhyfedd nad oes gan Gymru ei—
Mae angen i chi ofyn y cwestiwn ar y papur trefn.
Esgusodwch fi; mae'n ddrwg gen i. Nid yw ar y papur trefn. Ah, dyma chi. Mae'n ddrwg gen i.
Peidiwch â rhoi'r bai ar y papur trefn, Mr McEvoy. [Chwerthin.]
1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gymorth Lywodraeth Cymru ar gyfer criced yng Nghymru? OAQ52353

Trwy Chwaraeon Cymru, rydym ni wedi darparu £537,000 i Criced Cymru eleni i gynorthwyo datblygiad y gêm ledled Cymru.
Diolch, a diolch am eich amynedd. Heb fod cymaint â hynny yn ôl, dywedasoch ei bod yn rhyfedd nad oes gan Gymru ei thîm criced cenedlaethol ei hun. Ac mae'n ymddangos yn rhyfeddach nawr bod Iwerddon yn aelod prawf llawn o'r Cyngor Criced Rhyngwladol, a bod yr Alban yn curo Lloegr mewn gemau undydd rhyngwladol. Felly, ble mae Cymru? Rwy'n credu bod llawer o bobl yma yn ei gweld hi'n rhyfedd y gellir disgrifio tîm o'r enw Lloegr, heb unrhyw chwaraewyr o Gymru, sy'n chwarae o dan faner Lloegr, tri llew ar y crys, ac y gellir ei ddisgrifio fel Cymru. Nawr, mae Morgannwg, y bu ganddynt amheuon am dîm Cymru, yn galw ar rywun i lunio cynllun busnes i archwilio sut i gael tîm sirol a chenedlaethol llwyddiannus. Felly, a wnaiff eich Llywodraeth chi gefnogi awgrym Morgannwg trwy gomisiynu astudiaeth o ddichonoldeb ar sefydlu tîm criced cenedlaethol Cymru, neu a wnewch chi adael i gricedwyr a chefnogwyr Cymru barhau i gael eu cynrychioli mor wael gan Loegr?

Wel, yn y pen draw, mater i Griced Cymru ac i Glwb Criced Morgannwg yw hwn, ac nid i'r Llywodraeth. Nid oes unrhyw amheuaeth y byddai effaith ariannol difrifol pe byddem ni'n cystadlu yn ein henwau ein hunain yn sydyn. Ceir marc cwestiwn ynghylch pa un a fyddai Morgannwg yn goroesi, a fyddai'r stadiwm yn hyfyw, ac, yn wir, yr hyn a fyddai'n digwydd o ran y cymorth ariannol y mae criced yng Nghymru yn ei dderbyn. Rwy'n deall bod llawer a hoffai, yn eu calonnau, weld tîm criced Cymru, ond, wrth gwrs, ceir realiti ariannol yn y fan yma y mae'n rhaid ei ystyried ac, i mi, rwy'n credu ei bod hi'n well gadael y mater i'r awdurdodau criced.
Prif Weinidog, fel llawer o gampau ledled Cymru, mae criced ar lefel llawr gwlad ac amatur yn dod o dan bwysau sylweddol, yn ariannol ac o safbwynt cyfranogiad. Nawr, dros y penwythnos, efallai y byddwch chi wedi gweld bod Undeb Rygbi Cymru wedi cyhoeddi cynllun arbrofol a fyddai'n golygu bod rygbi ieuenctid yn symud i dymor yr haf. Nawr, er fy mod i'n sicr yn cydnabod bod rhai o'r rhesymau a roddwyd gan Undeb Rygbi Cymru yn ddealladwy, a gaf i ofyn pa drafodaethau y mae eich Llywodraeth chi wedi eu cael, neu y bydd yn eu cael dros yr wythnosau nesaf, i sicrhau nad yw criced yng Nghymru yn cael ei wasgu neu ei niweidio'n sylweddol gan y penderfyniad hwn, oherwydd does bosib nad yw hi er budd pawb bod gan pob camp yng Nghymru, gan gynnwys criced a rygbi, eu cyfnod eu hunain i ffynnu?

Roedd yn fater a godwyd gyda mi yn ystod y penwythnos. Ceir gorgyffwrdd sylweddol rhwng y campau eisoes. Roedd adeg pan fyddai pobl yn barod iawn i chwarae rygbi yn y gaeaf a chriced yn yr haf, ac nid oedd y gorgyffwrdd yno; nid oedd yno pan oeddwn i yn yr ysgol yn sicr, pan oeddem ni'n chwarae ar leiniau llethrog gyda hen bêl ac un pad—dyna oedd y ffordd i ddysgu criced, os cofiaf i. Ond y pwynt difrifol yw hwn: mae'n bwysig bod criced yn gallu apelio at bobl ifanc, mor ifanc â phosibl. Mae'r sefyllfa wedi gwella. Gwn, pan roedd fy mab yn iau, ei fod yn cael chwarae pêl-droed yn chwech oed, rygbi yn saith oed, ond nid criced tan ei fod yn 11 oed. Fe wnaeth hynny newid yn gyflym iawn a chymerodd ran mewn rhywfaint o griced. Yr hyn sy'n bwysig yw bod criced yn parhau i apelio at blant o'r oedran ieuengaf posibl, ac, er tegwch, mae hynny'n rhywbeth sydd yn digwydd nawr. Felly, dylai criced allu dal ei dir ei hun, yn fy marn i.
Un o'r adnoddau mwyaf grymus, does bosib, ar gyfer annog criced ieuenctid yng Nghymru fyddai cael tîm criced cenedlaethol y gallai pobl ifanc ar hyd a lled y wlad ymdrechu i fod yn aelod ohono a dod o hyd i esiampl dda ynddo. Rydych chi'n dweud nad yw hwn yn fater i Lywodraeth. Gadewch i ni ystyried efallai beth allai fod yn fater i Lywodraeth. Mae gennych chi uned digwyddiadau mawr, er enghraifft, sy'n ariannu llu o ddigwyddiadau er mwyn rhoi Cymru ar y map, er mwyn marchnata Cymru, er mwyn dod â budd economaidd i Gymru. A wnaiff Llywodraeth Cymru hyd yn oed ystyried y posibilrwydd o ddefnyddio cyllid digwyddiadau mawr i roi cychwyn ar dîm criced cenedlaethol i Gymru, fel, os mynnwch chi, digwyddiad mawr parhaol a allai ddod â manteision cenedlaethol gwirioneddol?

Mae'r cyllid digwyddiadau mawr ar gael ar gyfer digwyddiadau untro, nid ar gyfer cyllid refeniw parhaus. Ond mae'n iawn i ddweud, wrth gwrs, ei bod yn ffordd dda o hyrwyddo Cymru. Ond nid ydym ni'n denu digwyddiadau sydd â thimau Cymru ynddynt yn unig, os caf ei roi felly. Rydym ni newydd gael Ras Hwylio Volvo. Roedd Cymry yn cymryd rhan, ond nid oedd tîm Cymru. Y pwynt oedd tynnu sylw'r byd at Fae Caerdydd, ac at Gymru, ac i weld beth y gallem ni ei gynnal. Yr un peth gyda Chynghrair y Pencampwyr—oedd, roedd Cymro yn cymryd rhan, yn amlwg, ond nid oedd unrhyw dimau o Gymru ynddo. Credaf felly ei bod hi'n hynod bwysig ein bod ni'n gallu arddangos ein hunain fel gwlad sy'n gallu cynnal digwyddiadau mawr. Rydym ni wedi gwneud hynny'n hynod lwyddiannus. Ni yw'r wlad leiaf o bell ffordd, er enghraifft, i gynnal Cynghrair y Pencampwyr, a Chaerdydd yw'r ddinas leiaf i gynnal Cynghrair y Pencampwyr. Rydym ni wedi ei wneud, ac nid oes unrhyw reswm pam na allwn ni ei wneud eto. Ni ddylai fod wedi ei glymu i ba un a oes tîm Cymru yn y digwyddiad ai peidio o ran a allwn ni gefnogi'r digwyddiad hwnnw wedyn.
2. Pa fesurau y bydd Llywodraeth Cymru'n eu cyflwyno i atal creulondeb i anifeiliaid yn ystod y 12 mis nesaf? OAQ52382

Mae cynllun gweithredu fframwaith iechyd a lles anifeiliaid Cymru—sydd ag enw bachog—yn nodi blaenoriaethau'r grŵp fframwaith a Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a lles anifeiliaid, a bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gwneud datganiad ar les anifeiliaid anwes yn ddiweddarach heddiw.
Diolch yn fawr iawn am yr ateb, Gweinidog. Ers mis Mai eleni, mae'n ofynnol i bob lladd-dy yn Lloegr osod camerâu teledu cylch cyfyng ym mhob man lle y cedwir anifeiliaid byw. Bydd gan filfeddygon swyddogol fynediad anghyfyngedig at y recordiadau, i roi sicrwydd i ddefnyddwyr bod safonau lles uchel yn cael eu gorfodi. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno bod hon yn ffordd effeithiol o atal creulondeb i anifeiliaid, a phryd wnaiff Llywodraeth Cymru wneud teledu cylch cyfyng yn orfodol yn ein lladd-dai ni yng Nghymru?

Wel, mae nifer o reolaethau ar waith eisoes mewn lladd-dai. Mae milfeddygon swyddogol yn bresennol ym mhob un ohonyn nhw. Ceir teledu cylch cyfyng yn y lladd-dai mwy o faint, sy'n prosesu'r mwyafrif o anifeiliaid, a gall milfeddygon swyddogol gael gafael ar recordiadau os byddant yn amau nad yw safonau lles yn cael eu bodloni. Wedi dweud hynny, rydym ni'n benderfynol o wella safonau ac arferion pan ei bod hi'n angenrheidiol ac yn rhesymol i wneud hynny, a bydd y pecyn ariannu buddsoddiad busnes bwyd gwerth £1.1 miliwn yn cynorthwyo lladd-dai bach a chanolig eu maint i wella eu cyfleusterau, gan gynnwys gosod teledu cylch cyfyng.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd yr wrthblaid, Andrew R.T. Davies.

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, mae canser y prostad yn gyflwr creulon, sydd a chyfraddau llwyddiant rhyfeddol os ceir diagnosis yn ddigon cynnar—90 y cant a mwy. Yn anffodus, yn amlwg, mae sgrinio mewn rhai rhannau o'r DU ymhell o fod yn foddhaol. Yma yng Nghymru yn enwedig, yn anffodus, nid yw'r gallu i gael mynediad at y sganiwr MRI amlbaramedrig ar gyfer pedwar bwrdd iechyd yn bodoli, ac mae'n rhaid i bobl dalu symiau sylweddol i gael cynnal y sgan hwnnw yn y pen draw. Yn Lloegr, er enghraifft, lle mae'r sgan hwnnw ar gael, mae ganddo gyfradd ganfod o 92 y cant. Gan nad yw'r pedwar bwrdd iechyd, lle ceir cyfanswm o 700,000 o ddynion yn y byrddau iechyd hynny, yn gallu denu'r math hwnnw o sgrinio, pa ymrwymiad allwch chi ei roi, fel Prif Weinidog ac fel Llywodraeth, i gyflwyno'r sgrinio fel y bydd gennych chi fynediad at y sgrinio hwnnw, pa bynnag ran o Gymru yr ydych chi'n byw ynddi, fel y gellir cyflawni llawdriniaeth neu ymyrraeth yn brydlon os bydd angen hynny arnoch chi?

Cwestiwn pwysig, ac un sy'n haeddu ateb manwl, os caf i, Llywydd. Gallaf ddweud bod byrddau iechyd yng Nghymru yn gallu cynnig sganiau amlbaramedrig, yn unol â chanllawiau cyfredol gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal. Mae'r canllawiau hynny ar hyn o bryd yn argymell yr mpMRI ar gyfer pobl â biopsi negyddol, i benderfynu a oes angen biopsi arall, a pha un a fydd rheoli canser profedig yn elwa ar fynd i'r afael â'r tiwmor mewn camau. Dynododd yr hyn a elwir yn 'dreial PROMIS' y gallai pobl â chanser y prostad tybiedig elwa ar gael eu mpMRI cyn biopsi. Mae NICE yn adolygu ei ganllawiau a disgwylir iddo gyhoeddi argymhellion yn ystod rhan gynnar y flwyddyn nesaf. Yn y cyfamser, mae tystiolaeth yn cael ei hystyried gan fwrdd wroleg Cymru. Mae'n deg i ddweud bod gwahanol safbwyntiau ymhlith y clinigwyr ynghylch goblygiadau tystiolaeth ddiweddar, gyda rhai byrddau iechyd yn gweithredu elfennau dull diwygiedig. Yr hyn y gallaf ei ddweud, os bydd NICE yn argymell mpMRI cyn-biopsi ar gyfer canser y prostad tybiedig, yna byddem yn disgwyl i bob bwrdd iechyd ddiwygio eu llwybrau gofal yn unol â hynny. Yn y cyfamser, bydd byrddau iechyd yn parhau i ystyried y dystiolaeth a diwygiadau i lwybrau trwy fwrdd wroleg Cymru.
Diolchaf i chi am yr ateb manwl yna, Prif Weinidog. Yn anffodus, mae 10,000 o ddynion y flwyddyn yn marw o ganser y prostad—dyma'r lladdwr mwyaf ar ddynion. Ac mae'n rhaid i rywfaint o gyffredinolrwydd o ran y rhaglen sgrinio fod yn ddyletswydd ar y Llywodraeth oherwydd, mewn gwirionedd, nid yw canser yn dibynnu ar godau post—mae'n gyffredinol. O ran y rhaglen sgrinio canser y coluddyn sydd gan Lywodraeth Cymru, fe'i galwyd, ar hyn o bryd, yn rhaglen sgrinio sydd wedi ei seilio'n fawr ar loteri cod post. Yn benodol, roedd un o bob pedwar o unigolion yn aros mwy nag wyth wythnos i gael diagnosis o'u triniaeth sgrinio, a chael ei rhoi ar waith pe byddai angen ymyrraeth. Mae naw cant o bobl y flwyddyn yn marw o ganser y coluddyn yma yng Nghymru. Pe byddai gennym ni, yn y pen draw, system sgrinio well, fwy cadarn a system sgrinio ehangach a fyddai'n cymryd 40 oed a hŷn i ystyriaeth, yna gallem ni ostwng y niferoedd hynny hyd yn oed ymhellach. O gofio ein bod ni'n ymwybodol o bwysigrwydd sgrinio ac, yn enwedig, sgrinio'r coluddyn, pa gamau mae eich Llywodraeth yn eu cymryd i gwtogi amseroedd aros a fydd yn cael gwared ar yr un o bob pedwar—25 y cant o bobl—sy'n aros dros wyth wythnos i gael y canlyniadau sydd eu hangen arnynt, oherwydd ni all fod yn iawn, pan fo modd trin y cyflwr, bod dim ond aros yn rhy hir ar restr aros yn cael effaith niweidiol ar eich canlyniad?

O ran sgrinio, mae'n gwestiwn o bwy ydych chi'n eu targedu ar gyfer y sgrinio, oherwydd ni allwch chi sgrinio pawb. Pa elfennau o'r boblogaeth sy'n arbennig o agored i fath penodol o ganser, oherwydd nid yw'n gorfforol bosibl i sgrinio pawb? Rydym ni eisiau, wrth gwrs, gweld cysondeb ar draws y byrddau iechyd. Maen nhw'n gallu cael mynediad at y gronfa triniaethau newydd, os yw hynny'n briodol ar gyfer yr hyn y maen nhw'n dymuno bwrw ymlaen ag ef. Yr hyn y gallaf ei ddweud, pan edrychwn ni ar ein llwybr canser tybiedig brys, er enghraifft, yw bod y mwyafrif llethol o bobl wedi dechrau triniaeth ddiffiniol yn unol â'r amser targed o 62 diwrnod—88.7 y cant—a dechreuodd 96 y cant o gleifion sydd newydd gael diagnosis o ganser heb ddilyn y llwybr brys driniaeth ddiffiniol yn unol â'r amser targed o 31 diwrnod ym mis Mawrth 2018. Felly, mae'r mwyafrif llethol o bobl yn cael y driniaeth y dylent ei chael o fewn y cyfnod priodol o amser. Ond, wrth gwrs, rydym ni'n dibynnu ar arbenigwyr i'n cynghori ni i wneud yn siŵr y gallwn ni weld sut y gallwn ni wella sgrinio pan fo hynny'n angenrheidiol.
Mae angen y gwelliannau hynny'n daer. Fel y dywedais, mae Bowel Cancer UK yn dweud ei fod yn argyfwng cenedlaethol bod un o bob pedwar o bobl yn aros wyth wythnos neu fwy i'r broses sgrinio honno gael ei chynnal. Ond yr hyn yr ydym ni'n ei wybod o gyhoeddiad y penwythnos y mae Llywodraeth y DU wedi ei wneud yw y bydd cynnydd sylweddol i'r gwariant sydd ar gael i Lywodraeth Cymru ei wario ar iechyd a gofal cymdeithasol yma yng Nghymru—[Torri ar draws.] Mae'r sgrinio—. Wel, gallaf glywed y grwgnach gan Aelodau meinciau cefn Llafur, ond y gwir yw bod arian yn dod draw i Lywodraeth Cymru.
Nawr, mae'n berffaith iawn, o dan y setliad datganoledig, eich bod chi'n dewis ble i wario'r arian hwnnw. O'r meinciau hyn, rydym ni'n credu y dylid gwario'r arian hwnnw ym meysydd iechyd a gofal cymdeithasol i wneud y gwelliannau hynny o ran y prostad, y coluddyn a thriniaethau eraill sydd ar gael i gleifion yma yng Nghymru. Nawr, a wnewch chi ymrwymo heddiw i wneud yn siŵr bod unrhyw arian sydd ar gael i Lywodraeth Cymru yn cael ei wario ar y meysydd allweddol hynny, fel y gallwn ni weld y gwelliannau sydd eu hangen arnom ni'n daer i brofion diagnostig, amseroedd aros a recriwtio staff, y bydd rhannau eraill o'r DU sydd wedi ymrwymo i'w darparu yn y cyllidebau iechyd a gofal cymdeithasol yn eu gweld? Mae angen yr ymrwymiad hwnnw arnom ni, Prif Weinidog. A wnewch chi hynny?

Wel, y peth cyntaf y mae'n rhaid i ni ei weld yw faint o arian y byddwn ni'n ei gael mewn gwirionedd, oherwydd mae dau bwynt pwysig i'w gwneud yma: yn gyntaf oll, rydym ni wedi cael ein hysbysu mai'r arian hwnnw, pa bynnag arian y byddwn ni'n ei gael, fydd y ffynhonnell o gyllid i ymdrin â chodiadau cyflog. Felly, bydd yn rhaid ariannu'r cam o godi'r cap cyflog trwy unrhyw arian a gawn ni drwy'r ffynhonnell y mae ef wedi cyfeirio ati. Felly, dyna'r peth cyntaf i'w grybwyll. Nid oes unrhyw arian ychwanegol ar ben hynny. Yn ail, wrth gwrs, nid yw'n wir byth, ydy hi, ein bod ni'n cael cyfandaliad o arian i dalu am faes penodol, fel iechyd neu addysg? Yr hyn sy'n digwydd, wrth gwrs, fel y mae e'n gwybod, yw ei fod yn cael ei ddarparu drwy'r grant bloc. Yr hyn nad ydym ni'n ei wybod, os byddwn ni'n cael y cynnydd ym maes iechyd, pa un a fyddwn ni'n gweld gostyngiadau ym mhobman arall wedyn—mewn llywodraeth leol, mewn addysg, yn yr holl feysydd hynny sydd wedi'u datganoli. Nawr, mae'r rheini, wrth gwrs, yn cael eu tynnu o'r ffigur y mae newydd eu crybwyll. Felly, tan y byddwn ni'n gwybod yn gyntaf faint o arian net fydd yna mewn gwirionedd—rydym ni'n gwybod am yr £1.2 biliwn—a tan y byddwn ni'n gwybod, wrth gwrs, faint o arian—mae gennym ni syniad go lew—y bydd y cytundeb cyflogau yn ei gostio, ni fyddwn yn gwybod faint o arian sydd ar gael i'w wario. Tan i'r ffactorau hynny gael eu datrys—ac nid oes neb yn gallu gwneud hynny eto oherwydd nid ydym ni'n gwybod pa gynnydd neu beidio fydd yn ein bloc grant yn yr Hydref—a tan y byddwn ni'n gwybod y swm terfynol net o arian, mae'n anodd iawn gwneud unrhyw ymrwymiadau ar hyn o bryd.
Arweinydd grŵp UKIP, Caroline Jones.

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, cyhoeddodd Prif Weinidog y DU dros y penwythnos y byddai anrheg pen-blwydd o £20 biliwn y flwyddyn i'r GIG yn Lloegr. O ganlyniad i Barnett, disgwylir i Gymru gael £1.2 biliwn. Ddydd Sul, dywedodd llefarydd Llywodraeth Cymru y byddai penderfyniad ar ddyraniad cyllid yn cael ei wneud gan eich Cabinet chi yn y ffordd arferol. Felly, Prif Weinidog, a ydych chi wedi gwneud y penderfyniad hwnnw eto, ac a fyddwch chi'n defnyddio unrhyw arian ychwanegol y byddwn ni'n ei gael ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol?

Wel, yr unig ymrwymiad yr ydym ni wedi ei wneud yw y byddwn ni'n codi'r cap cyflog—yn anarferol, oherwydd nid ydym ni'n gwneud yr addewidion hynny cyn ein bod ni'n gwybod faint o arian sydd wedi ei ddyrannu, fel rheol. Felly, bydd yn rhaid talu am hynny o ba bynnag swm o arian y byddwn ni'n ei gael gan Lywodraeth y DU; nid oes unrhyw arian ychwanegol ar ei gyfer. Ac fel y dywedais yn yr ateb yn gynharach, nid yw'n mynd i fod yn £1.2 biliwn. Nid ydym ni'n gwybod pa un a fydd toriadau yn rhywle arall a fydd yn gostwng y ffigur hwnnw. Tan y byddwn ni'n gwybod beth yw'r ffigur terfynol, mae'n anodd iawn gwneud unrhyw ymrwymiadau o ran gwariant.
Diolch am yr ateb yna. Fy mhryder yn y fan yma yw bod problemau iechyd meddwl yn cynrychioli tua chwarter yr holl broblemau iechyd, ac eto rydym ni'n gwario cyn lleied â dros 11 y cant o gyllideb gyfan GIG Cymru. Rydym ni wedi gweld cynnydd o 100 y cant i'r galw am wasanaethau gofal iechyd meddwl plant a'r glasoed. Rydym ni'n gwybod bod iselder yn effeithio ar 22 y cant o ddynion a 28 y cant o fenywod dros 65 oed. Rydym ni wedi gweld cynnydd mawr i achosion o hunan-niwed, ac mae tua 300 o bobl yng Nghymru yn marw o ganlyniad i hunanladdiad bob blwyddyn—mae hyn tua dwywaith y nifer o bobl sy'n cael eu lladd mewn damweiniau ar y ffyrdd. Mae'n amlwg nad ydym ni'n gwneud digon i fynd i'r afael ag iechyd meddwl yng Nghymru. Felly, Prif Weinidog, a wnewch chi ymrwymo i ddefnyddio rhywfaint o'r arian ychwanegol hwn, beth bynnag y bydd, sy'n dod i Gymru i sicrhau bod cyllid iechyd meddwl yn seiliedig ar asesiad cadarn o anghenion gofal iechyd?

Gwnaf, ac yn arbennig, wrth gwrs, i edrych ar ei atal. Mae hynny'n bwysig iawn. Gyda CAMHS, mae'n iawn i ddweud y bu cynnydd sylweddol i'r galw am CAMHS a bodlonwyd y galw hwnnw gennym ni trwy ddyrannu—os cofiaf—£8 miliwn y flwyddyn tuag at CAMHS er mwyn iddyn nhw fodloni'r galw a oedd yno. Mae iechyd meddwl, fel y bydd yn gwybod, yn flaenoriaeth allweddol i ni yn 'Ffyniant i Bawb'. Rydym ni eisiau gwneud yn siŵr bod iechyd meddwl yn cael ei weld fel rhywbeth sy'n flaenoriaeth i bob llywodraeth yn y dyfodol, a bydd hynny'n llywio unrhyw benderfyniadau gwario yr ydym ni'n eu gwneud os oes unrhyw arian ychwanegol ar y bwrdd.
Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Fel yr wyf i wedi ei amlygu o'r blaen, lawer gwaith, bydd un o bob pedwar ohonom ni'n dioddef o salwch meddwl. Gallai ffrind neu gydweithiwr fod wedi bod yn ymladd iselder ers blynyddoedd—ni fyddem ni'n gwybod am y peth, oherwydd, yn anffodus, mae stigma ynghlwm wrth broblemau iechyd meddwl o hyd. Mae'n rhaid i ni i gyd fod yn fwy agored am iechyd meddwl: ni fyddem ni'n ceisio cuddio coes sydd wedi torri, ond byddem yn ceisio cuddio iselder. Yn anffodus, o ganlyniad i stigma, mae llawer o bobl yn cymryd eu bywydau eu hunain yn y pen draw. Os byddwn ni'n cydnabod yr arwyddion ac yn cynnig cymorth anfeirniadol, gellid achub llawer o fywydau. Felly, Prif Weinidog, a wnewch chi ymrwymo eich Llywodraeth i sicrhau bod cynifer o bobl â phosibl yn cael eu hyfforddi fel swyddogion cymorth cyntaf iechyd meddwl, ac a wnewch chi ystyried ychwanegu'r hyfforddiant at y cwricwlwm ysgol ac annog cyflogwyr mawr i gael swyddogion cymorth cyntaf iechyd meddwl ochr yn ochr â'r swyddogion cymorth cyntaf arferol, gofynnol? Diolch.

Nid wyf i'n siŵr mai cymorth cyntaf yw'r ffordd i ymdrin ag ef. Mae hynny'n awgrymu rhywbeth sy'n acíwt, rhywbeth sydd newydd godi. Credaf ei fod yn fwy hirdymor na hynny. Derbyniaf y pwynt y mae arweinydd UKIP yn ei wneud o ran sut yr ydym ni'n ymdrin â phobl nad ydyn nhw'n dangos unrhyw arwyddion allanol o iselder. Rwyf i weld ei weld yn bersonol, mae gen i syniad go lew o sut y mae'n gweithredu mewn pobl, ond nid yw bob amser yn amlwg i'r rheini nad ydynt yn gyfarwydd â'r unigolyn dan sylw, ac mae'n anodd, wrth gwrs, oherwydd nid yw'r arwyddion allanol yno. Os byddwch chi'n torri coes, mae'n amlwg: mae'r arwyddion yno. Dyna pam yr wyf i eisiau gwneud yn siŵr pan fyddwn ni'n ystyried iechyd meddwl, nad ydym yn ei ystyried fel gwasanaeth sydd wedi ei gynllunio i helpu pobl dim ond pan fyddan nhw'n dioddef argyfwng, ein bod ni'n ystyried ffyrdd y gallwn ni helpu pobl ifanc yn arbennig—mae hynny'n bwysig, mae gennym ni gwnselydd ym mhob ysgol uwchradd yng Nghymru—ond beth arall y gellid ei wneud, er enghraifft, i geisio helpu pobl nad yw'n amlwg bod angen cymorth arnynt. Nhw yw'r bobl, yn aml iawn, wrth gwrs, y mae angen i'r systemau eu nodi. O ran sut y gwneir hynny, wrth gwrs, byddwn yn bwrw ymlaen â hynny gydag ymarferwyr, i weld sut y gallwn ni greu gwasanaeth lle ceir mwy o bwyslais ar atal a llai ar ymdrin â symptomau pan eu bod yn dod yn amlwg.
Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.

Diolch, Llywydd. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno gyda'r cyfreithwyr amgylcheddol ClientEarth bod diffyg eglurder a manylder yng nghynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer ansawdd aer?

Wel, rydym ni'n ystyried ansawdd aer a sut i'w wella. Nid wyf i'n mynd i gytuno gyda chwmni cyfreithwyr, yn amlwg, nad ydynt yn gyfreithwyr Llywodraeth Cymru, ond mae her, wrth gwrs, i wella ansawdd aer yn y dyfodol.
Mae llygredd aer yn gyfrifol am 2,000 o farwolaethau y flwyddyn yn y wlad hon. Mae'n argyfwng iechyd cyhoeddus, a dyma etifeddiaeth amgylcheddol eich Llywodraeth Lafur. Dyna pam mae Plaid Cymru yr wythnos hon wedi lansio ymgyrch, wythnos aer glân, ac fe lansiodd fy nghyd-Aelod Simon Thomas adroddiad cynhwysfawr ddoe ar swyddogaeth hydrogen yn y broses o ddatgarboneiddio trafnidiaeth. Nawr, byddwn yn annog y Prif Weinidog i ddarllen yr adroddiad trylwyr hwn a arweinir gan arbenigwyr a chymryd sylw o'i argymhellion.
Prif Weinidog, mae'r argyfwng hwn yn cyfiawnhau gweithredu brys. O gofio mai ffordd yng Nghaerffili yw'r fwyaf llygredig y tu allan i Lundain, a wnewch chi gefnogi ein galwadau am Ddeddf aer glân i Gymru a fyddai'n rhoi terfyn graddol ar werthu cerbydau diesel a phetrol yn unig erbyn 2030?

Rwy'n credu bod hynny'n rhy gynnar; nid wyf i'n credu bod y dechnoleg yn barod. Rwy'n edrych ymlaen at adeg pan mai ceir trydan fydd y norm. Nid wyf i'n credu bod y dechnoleg yno ar hyn o bryd o ran yr amrywiaeth, ond rwy'n credu y bydd yn dod ar gael yn gyflym iawn, iawn.
Os cofiaf yn iawn, 2040 yw'r targed y mae Llywodraeth y DU wedi ei bennu, sy'n besimistaidd yn fy marn i, ond o weld datblygiad y dechnoleg yn y maes hwn, rwy'n credu y byddwn ni'n cyrraedd sefyllfa lle bydd yn dod yn ddewis realistig. Fel rhywun sydd wedi bod yn gyrru car hybrid, mae'r batri yn fy nghar yn rhoi pellter o 28 milltir i mi. Nawr, dyna'r broblem. Mae angen i ni wneud yn siŵr bod y dechnoleg yn gywir i symud ymlaen, yn y ffordd y mae hi wedi ei disgrifio—mae hi'n iawn.
Yn y cyfamser, beth ddylem ni ei wneud? Ni allwn wneud dim. Wel, yn gyntaf, mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod ni'n cael gwared ar ardaloedd lle mae traffig yn llonydd gyda injans yn rhedeg—mae hynny'n effeithio ar ansawdd aer—ac, wrth gwrs, gweld mwy o newid moddol, ac mae hynny'n golygu, wrth gwrs, symud ymlaen â'r gwelliannau yr ydym ni'n mynd i'w gweld yn ein seilwaith rheilffyrdd, i'w gwneud yn fwy cyfforddus i bobl deithio ar y trên, mewn trenau sydd wedi eu haerdymheru, sy'n amlach, ac hefyd, wrth gwrs, symud ymlaen â Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 i wneud yn siŵr lle'r ydym ni'n gweld datblygiadau newydd—ar lwybrau beicio, er enghraifft—eu bod nhw'n rhan annatod o'r datblygiadau hynny, fel bod pobl yn teimlo nad oes rhaid iddyn nhw deithio mewn car.
Felly, ceir dau beth: yn gyntaf oll, creu'r newid moddol hwnnw, ac, yn ail, wrth gwrs, ceisio annog ffyrdd o sicrhau bod ceir batri yn gallu cyrraedd ymhellach yn y dyfodol, a'i bod yn llawer haws ei gwefru, hefyd, nag y mae hi ar hyn o bryd. Rwy'n credu mai dyna pryd y gallwn ni gael y newid gwirioneddol.
Rwy'n cymryd, felly, o'ch ateb, eich bod chi'n anghytuno â chyngor Caerdydd dan arweiniad Llafur sydd wedi galw am wahardd cerbydau sy'n llygru erbyn 2030? Pam na all Llafur fod yn gyson ar unrhyw faes polisi? Mae'r diffyg brys, parodrwydd a'r diffyg o ran gallu gwneud pethau'n wahanol yn costio bywydau pobl. Gallwch chi chwerthin a mwmian—mae'n costio bywydau pobl.
Nawr, rydych chi eisoes wedi colli achos yn erbyn ClientEarth ac rydych chi'n wynebu rhagor o sgil-effeithiau cyfreithiol os na fydd atebion yn cael eu canfod yn gyflym. Gadewch i mi bwysleisio maint y broblem unwaith eto yn y fan yma. Mae aer yng Nghaerdydd a Phort Talbot yn fwy llygredig nag aer yn Birmingham a Manceinion, er gwaethaf y gwahaniaethau enfawr yn y boblogaeth. Dyma'r amgylchedd y mae eich Llywodraeth yn ei greu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Prif Weinidog, fel cam cyntaf un, a allech chi sicrhau bod y parc moduron arfaethedig yng Nglynebwy yn canolbwyntio ar ddatblygu cerbydau hydrogen a thrydan, gan roi Cymru ar flaen y gad yn y chwyldro trafnidiaeth lân. A wnewch chi hynny o leiaf?

Tybed a yw hi neu bobl eraill ar feinciau Plaid Cymru yn gyrru car hybrid neu gar trydan? Distawrwydd. Wel, dylech chi ddilyn eich egwyddorion eich hun—dyna fyddwn i'n ei ddweud.
Ceisiwch wneud hynny yn Aberystwyth. Pan fyddwch chi'n cyflwyno'r seilwaith, byddwn ni'n ei wneud.

Wel, Simon Thomas—[Anghlywadwy.] [Torri ar draws.]
Gadewch i'r Prif Weinidog ymateb, os gwelwch yn dda.

Mae Simon Thomas yn iawn. Mae'n iawn i ddweud, 'Ceisiwch wneud hynny yn Aberystwyth.' Mae'n hollol iawn, nid wyf i'n anghytuno â hynny o gwbl, a dyna pam nad yw'r dechnoleg yn barod eto. Ond mae angen ei symud ymlaen. Wrth gwrs, rwy'n sylwi nad oes neb hyd yn oed yn gyrru hybrid—mae'n rhywbeth yr wyf i wedi ei wneud ers tair blynedd.
Beth bynnag, edrychwch, y pwynt yw hyn, ynte: sut ydym ni'n creu aer glân? Mae hwnnw'n bwynt pwysig. Mae gwaith dur ym Mhort Talbot, ac mae hynny'n golygu, yn anochel, efallai na fydd ansawdd yr aer yno cystal ag y byddai mewn mannau lle nad yw'r gweithrediad diwydiannol hwnnw yno. Ond rydym ni angen iddo fod yno, ac, er tegwch, mae Tata wedi gwneud llawer iawn o ymdrech ac wedi cymryd brasgamau lawer i leihau eu hallyriadau dros y blynyddoedd, ac mae hynny wedi cael effaith ar Bort Talbot. Ceir problem draffig ym Mhort Talbot hefyd nad yw'n hawdd ei datrys, y bydd angen ei hystyried yn y dyfodol. Caerdydd — wel, ydy, rwy'n credu ei bod hi'n iawn i ddweud ei bod yn debygol ei bod hi'n haws gyrru car trydan yng Nghaerdydd os yw pobl yn cymudo pellter byr, ac mae hynny'n rhywbeth i'w annog ac mae'r seilwaith yn cael ei—[Torri ar draws.] Wel, mae hi'n gwneud y pwynt am y fflyd weinidogol pan nad oes neb yn ei phlaid ei hun yn gyrru'r math hwnnw o gar, o ystyried y pellteroedd hir. [Torri ar draws.] Ie, ond nid fi yw'r un, aie—? [Torri ar draws.] Nid fi yw'r un sy'n dweud y dylem ni symud at geir batri cyn gynted â phosibl. Nhw sy'n dweud hynny.
Mae cyngor dinas Caerdydd yn dweud hynny.

Dilynwch eich egwyddorion eich hun.
Yr ail beth, wrth gwrs—ac yn y byrdymor—yw mai'r ffordd o wneud hyn yw annog mwy o bobl allan o'u ceir, a hefyd, wrth gwrs, sicrhau bod pobl yn gallu defnyddio'r rhwydwaith cludiant cyhoeddus mewn ffordd mor gyfleus â phosibl. Rydym ni'n gwneud hynny, er gwaethaf y feirniadaeth a wnaeth Plaid Cymru o'r fasnachfraint reilffyrdd—yr unig bobl a wnaeth ei beirniadu. Byddwn yn gwneud yn siŵr bod gan Gymru gyfan y strwythur rheilffyrdd gorau ym Mhrydain. Rydym ni wedi dangos y ffordd i weddill Prydain. Nid yw hi bellach yn dda i ddim i bobl sy'n defnyddio gwasanaethau rheilffyrdd y Cymoedd deithio ar drenau hynafol gyda dim aerdymheru a gwasanaeth annibynadwy. Mae hynny'n mynd i newid. Bydd pobl yn cael y trenau y maen nhw'n eu haeddu a bydd pobl yn gallu cael mynediad at y llwybrau beicio y maen nhw'n eu haeddu. Bydd pobl yn gweld, gan ein bod ni wedi cymryd pwerau dros fysiau erbyn hyn, rhwydwaith bysiau a threnau a rheilffordd ysgafn integredig. Dyna'r hyn yr ydym ni'n ei gynnig i bobl Cymru—gweledigaeth wirioneddol i lenwi'r bwlch hwnnw tan y bydd y dechnoleg sydd ar gael ac y bydd y pellter ar gael ar gyfer ceir sy'n cael eu pweru gan fatri.
3. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu blaenoriaethau economaidd Llywodraeth Cymru ar gyfer Sir Benfro dros y 12 mis nesaf? OAQ52340

Mae’r strategaeth genedlaethol 'Ffyniant i Bawb' a’r cynllun gweithredu ar yr economi yn nodi’r camau rydym ni’n eu cymryd i wella’r economi a’r amgylchedd busnes trwy Gymru gyfan.
Brif Weinidog, fe gwrddais i â busnes bach cymharol newydd yn ddiweddar o'r enw Composites Cymru yn fy etholaeth i sy'n cynhyrchu partiau carbon ffibr i gerbydau, ac mae'r busnes nawr yn edrych i ehangu i gynhyrchu pethau eraill hefyd. Rwy’n siŵr y byddwch chi’n cytuno â fi ei bod hi’n bwysig ein bod yn gwneud popeth y gallwn ni i gefnogi busnes fel hyn, trwy sicrhau mynediad i gyllid er mwyn bod y busnes yn gallu ehangu a bod yr economi lleol yn gallu elwa. Felly, a allwch chi ddweud wrthym ni beth mae Llywodraeth Cymru’n ei wneud i sicrhau bod busnesau bach, yn enwedig busnesau bach mewn ardaloedd gwledig, yn gallu cael gafael ar gefnogaeth ariannol, fel eu bod yn gallu tyfu yn y dyfodol, a gwella’r economi lleol?

Wel, wrth gwrs, rŷm ni wedi ymrwymo i gefnogi busnesau bach ac SMEs, ac rŷm ni wedi buddsoddi £86 miliwn lan hyd at 2020 i sicrhau bod busnesau'n cael hysbysrwydd a'r manylion sydd eisiau arnyn nhw, ac yn cael canllawiau a hefyd yn cael cefnogaeth fusnes trwy'r rhaglen Busnes Cymru. Mae'n bleser i weld bod cynnydd o 10.6 y cant o fusnesau yn sir Benfro ers 2011, ac, wrth gwrs, mae'r buddsoddiad sydd wedi cael ei wneud yn y system fand eang wedi gwneud gwahaniaeth mawr ynglŷn â sicrhau bod busnesau'n gallu sefyll mewn ardaloedd mwy gwledig ac nad ydynt yn teimlo eu bod nhw'n gorfod symud i lefydd mwy trefol.
4. Sut y bydd metro de Cymru yn gwella mynediad i drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghwm Cynon? OAQ52384

Bydd Aberdâr a Chwm Cynon ehangach yn elwa ar gynnydd i bedwar gwasanaeth yr awr yn 2022. Yn fwy uniongyrchol, bydd y treial o wasanaeth ar y Sul sy'n weithredol ar hyn o bryd yn cael ei wneud yn barhaol o fis Rhagfyr 2018.
Diolch, Prif Weinidog. Rwy'n croesawu'r sylwadau hynny ar agwedd rheilffordd y metro, ond mae'n bwysig nodi, bod y prosiect metro, o'r dechrau, wedi ei hyrwyddo fel ateb trafnidiaeth integredig. Mae daearyddiaeth y Cymoedd yn golygu mai ein cymunedau tlotaf yn aml sydd bellaf oddi wrth y cysylltiadau trên ar lawr y dyffryn. Felly, er mwyn iddyn nhw elwa ar well mynediad at y farchnad swyddi, mae'n hanfodol eu bod nhw'n cael eu gwasanaethu gan gysylltiadau bws cryf sy'n bwydo i mewn i'r gwasanaethau trên hynny. Felly, Prif Weinidog, pa sicrwydd all Llywodraeth Cymru ei roi bod y cysylltiadau bws hynny yn parhau i fod yn ganolog i weledigaeth y metro?

Wel, bydd Aelodau yn ymwybodol o'r rhwystredigaeth y mae llawer ohonom ni'n ei deimlo pan fydd etholwyr yn dod atom ni ac yn dweud, 'A oes unrhyw beth y gallwch chi ei wneud am y llwybr bws hwn sydd wedi cael ei dorri?' A'r ateb yw, 'Wel, nid yw'n ddim i wneud â Llywodraeth. Mae'r cwbl o'r sector preifat, ar wahân i lwybrau â chymhorthdal.' Wel, mae hynny wedi dod i ben, oherwydd, yn y rhan fwyaf o Gymru, ceir monopoli preifat ar wasanaethau bws i bob pwrpas. Gallan nhw wneud fel y mynnant o ran pa lwybrau y maen nhw'n eu rhedeg. Nawr bod gennym ni gyfrifoldeb a rheolaeth dros y gwasanaethau bws yng Nghymru, mae'r cyfle ar gael i greu'r system bysiau, rheilffordd ysgafn a threnau honno yr ydym ni wedi bod eisiau ei gweld ers amser maith yng Nghymru. Mae hi'n iawn i ddweud bod llawer o lwybrau traws-Gymoedd, er enghraifft, nad ydynt yn cael eu gwasanaethu gan y rheilffyrdd, ond sy'n bwysig o ran yr hyn y maen nhw'n ei ddarparu trwy wasanaethau bws. Gallwn ddechrau edrych nawr, o gamau 2 a 3 a thu hwnt, ar system drafnidiaeth gyhoeddus gwbl integredig ar gyfer Cymru gyfan, ac mae hwn yn gyfnod cyffrous.
Prif Weinidog, rydym ni eisoes yn gweld, o'r ystadegau poblogaeth ar gyfer Rhondda Cynon Taf ac Aberdâr, sy'n bwysig iawn, bod cynnydd i'r boblogaeth o bobl sydd rhwng 30 a 40, gan fod rhai pobl yn adleoli i'r ardaloedd hynny i brynu tai maint teulu. Mae hyn yn arwain at gymysgedd gymdeithasol fwy o faint a mwy amrywiol, sydd ei hun yn adfywio ardaloedd fel Aberdâr. Ond un rhan hanfodol o hyn, i ailadeiladu ar y duedd hon, yw sicrhau bod y metro yn darparu trafnidiaeth ragorol, oherwydd nid yw llawer o bobl iau eisiau i'w bywydau gael eu rheoli gan y car a wynebu mannau tagfeydd.

Dydyn nhw ddim; rydych chi yn llygad eich lle. Maen nhw'n fwy goleuedig, mae'n debyg, na llawer o'r cenedlaethau sy'n hŷn na nhw. Rydym ni'n ystyried, wrth gwrs—mae'r Aelod dros Lanelli wedi cynnig ei gefnogaeth gref i hynny, rwy'n falch ei fod yn credu ei fod yn rhan o'r genhedlaeth iau, ond ni ddywedaf ddim am hynny. Rydym ni'n ystyried, wrth gwrs, system teithio hanner pris i bobl ifanc, hefyd, i'w gwneud yn haws iddyn nhw gael mynediad at y rhwydwaith y bydd gennym ni ar waith, ond mae'r Aelod yn hollol iawn i nodi bod yn rhaid i ni wneud yn siŵr, wrth i ni annog pobl allan o'u ceir, bod gennym ni system reilffyrdd sy'n ddigon da i'w denu nhw ar y trenau. Am gyfnod rhy hir, bu'n rhaid iddyn nhw ddioddef trenau anghyfforddus ag anwedd yn rhedeg i lawr y ffenestri, â phrydlondeb difater. Mae'n rhaid newid y dyddiau hynny, a byddant yn newid o ganlyniad i'r fasnachfraint newydd.
Prif Weinidog, bydd y gwelliannau i'r gwasanaeth yng nghwm Cynon yn amlwg yn cyrraedd Pontypridd, ond maen annhebygol y byddan nhw'n mynd mor bell â chynnig manteision i Bont-y-clun, lle mae gennych chi boblogaeth o Bencoed i'r cyffiniau o tua 100,000. Prif fantais hynny, mae'n debyg, y bydd pobl ym Mhont-y-clun yn ei gweld yw y bydd mwy o drenau yn mynd trwy Bont-y-clun, ond nid o reidrwydd yn aros ym Mhont-y-clun. Ar hyn o bryd, ceir un trên yr awr, dau ar adegau brig, â dau gerbyd fel rheol, a cheir rhwystredigaeth anhygoel o ran pobl hyd yn oed yn gallu cael mynediad at y gwasanaeth o gwbl, oherwydd y tagfeydd. Tybed a yw hyn yn rhywbeth y byddai Llywodraeth Cymru yn cymryd golwg arno i sicrhau, yn yr ardal hon sy'n tyfu, yr ardal hollbwysig hon, rhan o'm hetholaeth i, y bydd gwelliannau penodol iawn i'r gwasanaeth rheilffyrdd, i amlder y trenau, i ansawdd y trenau ac i nifer y cerbydau i'w galluogi i gludo pobl, boed hynny o Bencoed drwy Pont-y-clun i Gaerdydd neu i'r gwrthwyneb.

Mae fy merch yn teithio i Gaerdydd ar ddydd Llun a dydd Mawrth. Mae hi'n rhywun sy'n fy lobïo i'n gyson ar y mater hwn. Mae hi'n gweld y trenau gorlawn. Mae hi'n ymuno â'r trên ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ond, wrth gwrs, gan ei fod yn aros ym Mhencoed a Llanharan, ac yna ym Mhont-y-clun, mae'n gweld y gorlenwi sy'n digwydd yno gyda thrên dau gerbyd yn gynnar yn y bore. Cofiwch, wrth gwrs, bod y fasnachfraint ddiwethaf wedi cael ei chytuno ar y sail na fyddai unrhyw gynnydd i niferoedd y teithwyr o gwbl. Roedd hwnnw'n benderfyniad anodd ei ddeall ar y pryd. Nid dyna yr ydym ni wedi ei wneud y tro hwn. Felly, mae'n golygu edrych ar wasanaethau amlach i wasanaethu ei etholwyr. Bydd yn golygu, mewn amser, hefyd, wrth gwrs, edrych ar hen reilffordd y gwaith golosg hyd at Beddau i weld a ellir defnyddio honno—rheilffordd ysgafn mae'n debyg—i gysylltu yn ôl â'r brif reilffordd i ddarparu gwasanaeth i bobl yn y gorsafoedd o orllewin Tonysguboriau, mae'n debyg, ymlaen ac i fyny hyd at Beddau.
5. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i leihau lefelau ail-droseddu? OAQ52336

Mae Llywodraeth Cymru a Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi yng Nghymru wedi cydweithio i ddatblygu fframwaith ar y cyd i gefnogi newid cadarnhaol i bobl yng Nghymru sydd â risg o droseddu.
Mae bron pob darn o ymchwil sydd wedi edrych ar faint carchardai wedi dangos bod carchardai llai yn cael gwell canlyniadau i garcharorion a chymunedau o'u cymharu â charchardai mawr, a rhai mawr iawn, superprisons, yn enwedig. Felly, os ŷch chi o ddifrif ynglŷn â lleihau lefelau aildroseddu, a wnewch chi ymrwymo, os a phan fydd y materion yma yn cael eu datganoli, i dorri cwys wahanol yng Nghymru ac i symud oddi wrth y model yma a sicrhau nad oes yna ragor o garchardai mawr yn cael eu datblygu yma yng Nghymru?

Gwnawn. Rwy'n credu bod yn rhaid ystyried unwaith eto y system ddedfrydu a hefyd y system gyfiawnder yng Nghymru, yn enwedig, wrth gwrs, y carchardai a hefyd sefydliadau i droseddwyr ifanc. So, mae hwn yn rhywbeth yr ydym ni'n ei ystyried ar hyn o bryd, achos os ŷm ni'n mynd i weld datganoli'r system gyfiawnder, wel yna, wrth gwrs, fe fydd yn rhaid cael polisi. Ond nid oes pwynt cael polisi unwaith y mae'r datganoli wedi digwydd, mae'n rhaid ichi gael polisi o flaen llaw, ac mae hwn yn rhywbeth rŷm ni fel Llywodraeth yn ei weld ac yn rhywbeth rydw i'n gwybod y mae'r Gweinidog yn ei ystyried ac yn ei ddatblygu ar hyn o bryd.
Prif Weinidog, rwy'n siŵr y byddech chi'n cytuno â mi, bod hyfforddiant cyn rhyddhau yn allweddol i gyfraddau aildroseddu isel. Agorais ffair swyddi lwyddiannus iawn yn ddiweddar yng ngharchar agored Prescoed yn fy etholaeth—fe'i cynhaliwyd yn rhannol gan Gyrfa Cymru—lle'r oedd cyfle i gyn-droseddwyr gyfarfod â chyflogwyr, yn lleol ac o ymhellach i ffwrdd, i weld sut orau y gallen nhw ddefnyddio sgiliau gwerthfawr yr oedden nhw wedi eu dysgu tra eu bod yn y carchar. Roeddwn i'n meddwl bod hwn yn gynllun hynod gwerth chweil. Mae gan Brescoed hanes ardderchog o adsefydlu. A allwch chi ddweud wrthym—er fy mod i'n sylweddoli nad yw carchardai wedi eu datganoli—beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynorthwyo sefydliadau fel Gyrfa Cymru, fel bod cyn-droseddwyr, tra byddant yn y carchar, yn cael y cyfle gwerthfawr hwnnw i ailhyfforddi fel y gallant ail-integreiddio â chymdeithas ar ôl iddyn nhw gael eu rhyddhau a dychwelyd y sgiliau hynny a ddysgwyd ganddynt yn y carchar yn ôl i gymdeithas?

Wel, mae timau troseddau ieuenctid wedi chwarae rhan sylweddol o ran lleihau aildroseddu ymhlith pobl ifanc. Maen nhw wedi ceisio cynorthwyo atal, ymyrraeth gynnar a dargyfeirio. Fel rhywun sydd â phrofiad helaeth o gynrychioli pobl ifanc ar y rheng flaen yn y llysoedd, yr hyn a fyddwn i'n ei ganfod fyddai, gallant, yn aml iawn gallant gael eu rhyddhau o sefydliad troseddwyr ifanc, ar ôl cael hyfforddiant, ond maen nhw'n dychwelyd i'r un grŵp o gyfoedion ac i'r un arferion. Felly, ydy, mae hyfforddiant yn eithriadol o bwysig—rwy'n croesawu'n fawr yr hyn sydd wedi ei wneud ym Mhrescoed—ond hefyd, wrth gwrs, bydd y timau hynny'n gwybod ei bod yn hynod bwysig symud pobl oddi wrth grŵp o gyfoedion sydd efallai wedi eu cael i drafferthion yn y lle cyntaf, ac yn aml oddi wrth gyffuriau hefyd, oherwydd mae'r gyfradd aildroseddu ymhlith pobl sydd wedi camddefnyddio cyffuriau yn hynod uchel. Felly, rwy'n credu bod angen dull cyfannol, ond mae'r hyn y mae ef wedi ei ddisgrifio sy'n digwydd yn ei etholaeth ei hun yn rhan hynod bwysig o'r dull hwnnw.
6. Sut y mae Llywodraeth Cymru'n cynorthwyo byrddau iechyd wrth gynllunio gofal iechyd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ52383

Mae 'Fframwaith Cynllunio GIG Cymru 2018/21' yn nodi'r egwyddorion y dylai byrddau iechyd eu dilyn wrth ddatblygu eu cynlluniau tymor canolig integredig. Rydym ni hefyd wedi cyflwyno ein gweledigaeth ar gyfer dyfodol gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn y cynllun tymor hir, 'Cymru Iachach', a lansiwyd yr wythnos diwethaf.
Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Fel y mae'n gwybod, mae rhan sylweddol o Ganolbarth a Gorllewin Cymru yn ardal bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr. Ddiwedd mis Mawrth, roedd 5,714 o gleifion a oedd yn aros mwy na naw mis am driniaeth yn yr ysbyty. O dan gynlluniau presennol Betsi, bydd llawer o gleifion orthopedig yn dal i aros mwy na blwyddyn am driniaeth, a bydd 4,200, yn gyffredinol, yn aros mwy na naw mis i gael eu trin, ond ym Mhowys, mae'r arhosiad naw mis hwnnw wedi cael ei ddileu. Mae Betsi hefyd yn dweud bod diffyg systemig o 13,500 o lwybrau cleifion ar sail galw gan gleifion, felly mae'n rhaid i hynny olygu nad ydyn nhw'n cael eu hariannu'n briodol i ddarparu system ddigon cynhwysfawr o ofal iechyd i bobl y rhanbarth hwnnw. A yw'n dderbyniol i Lywodraeth Cymru, o dan gynlluniau Betsi, bod hwn yn fwrdd iechyd sy'n cynllunio i fethu mewn gwirionedd?

Diweddarodd yr ysgrifennydd Iechyd yr Aelodau yr wythnos diwethaf ar y cynnydd a wnaed mewn rhai meysydd. Roedd hefyd yn eglur ynghylch yr heriau sylweddol sy'n parhau, a'r cymorth a fydd ar waith ar gyfer y cam nesaf o'r gwaith. Mae'n iawn i ddweud bod rhai gwasanaethau wedi eu dad-ddwysáu. Cafodd gwasanaethau mamolaeth, wrth gwrs, a oedd mewn sefyllfa anodd iawn ar un adeg, eu dad-ddwysáu fel pryder mesurau arbennig ym mis Chwefror, ac mae hynny'n dangos yr hyn y gellir ei gyflawni gyda gweithredu a chymorth â phwyslais, a dyna'r model yr ydym ni'n bwriadu ei ddefnyddio i sicrhau bod rhagor o ddad-ddwysáu yn y misoedd i ddod.
Wrth gwrs, rydym ni'n gwybod ychydig yn well erbyn hyn beth sy'n digwydd yn Betsi Cadwaladr, a pha gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei gynnig i'r bwrdd iechyd hwnnw, dim ond oherwydd ein bod ni wedi codi'r mater yma gynifer o weithiau yr ydym ni wedi llwyddo i gael ateb o'r diwedd. Tybed, nawr, Prif Weinidog, a allwch chi ein goleuo ynglŷn â'r mathau o lefelau o gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn eu cynnig i fwrdd iechyd Hywel Dda, sydd, fel y gwyddoch, yn destun math o ymyrraeth arbennig. Maen nhw wedi bod yn y sefyllfa honno ers dros ddwy flynedd eisoes. Nid ydym eisiau gweld eu sefyllfa yn dirywio neu'n parhau am gyhyd ag y mae sefyllfa bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr wedi ei wneud. Onid yw'n wir mai'r amcan yw eich bod chi'n mynd i mewn, yn rhoi eich cymorth iddyn nhw, maen nhw'n unioni eu hunain, ac yna maen nhw'n dod yn ôl allan o fesurau arbennig. Dyna'r ffordd y dylem ni fod yn rhedeg ein byrddau iechyd. Felly, efallai y gallech chi roi trosolwg i ni o'r hyn yr ydych chi'n ei wneud dros fwrdd iechyd Hywel Dda, gan fy mod i wedi ei chael hi'n eithriadol o anodd ceisio cael atebion gwir, eglur, cwbl eglur ar y mater hwn gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd.

Wel, gallaf ddweud, yn 2015-16 a 2016-17, ein bod ni wedi darparu cyllid ychwanegol untro o £14.4 miliwn i Hywel Dda fel cymorth strwythurol tymor byr, gan gydnabod yr heriau ariannol a oedd yn wynebu'r bwrdd. Ar 23 Mai, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd dros iechyd ganfyddiadau adolygiad a gadarnhaodd yn rhannol y farn bod Hywel Dda yn wynebu cyfres unigryw o heriau gofal iechyd sydd wedi cyfrannu at y diffygion cyson yr aethpwyd iddynt gan y bwrdd a'r sefydliadau rhagflaenol hefyd. O ganlyniad, rhyddhawyd gwerth £27 miliwn o gyllid rheolaidd ychwanegol i'r bwrdd iechyd yn ystod y flwyddyn ariannol hon. Bydd hynny'n rhoi'r bwrdd iechyd ar sail ariannu fwy cadarn ar gyfer y dyfodol, ac wrth gwrs bydd yn helpu'r bwrdd i ddatblygu a gweddnewid gwasanaethau yn y dyfodol.
Wn i ddim, Prif Weinidog, a ydych chi wedi cael cyfle i weld adroddiad Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar achos trallodus Ellie a Chris James o Hwlffordd, y bu farw eu mab yn ysbyty Glangwili. Disgrifiwyd llu o fethiannau yn yr adroddiad ombwdsmon hwnnw, a waethygwyd gan y penderfyniad i ddisgrifio marwolaeth eu mab fel 'marw-anedig', er gwaethaf y ffaith bod ganddo arwyddion o fywyd ar ôl cael ei eni, a bod hynny ynddo'i hun o ganlyniad i sawl methiant, gan gynnwys, er enghraifft, methu â monitro curiad y galon. Digwyddodd hyn yng Nglangwili, gyda mam ifanc yn cael eu symud o Lwynhelyg i Langwili. Methiant i uwchgyfeirio—rhywbeth y dywedwyd wrthym na fyddai'n digwydd pan fyddai'r gwasanaeth yn cael ei symud o Lwynhelyg i Langwili, wrth gwrs. Rwy'n gobeithio y gwnewch chi ymuno â mi i estyn y cydymdeimlad mwyaf i'r teulu a'r amgylchiadau y maen nhw wedi eu dioddef. Ond, yn arbennig, byddai gen i ddiddordeb mewn cael gwybod pa gamau penodol yr ydych chi'n eu cymryd yn unol â chasgliadau yr ombwdsmon y dylai'r bwrdd iechyd weithredu argymhellion yr adroddiad hwn nawr, a pha un a ydych chi'n cymryd unrhyw gamau uniongyrchol eraill i sicrhau bod gennym ni, yn y fan honno, y safonau uchaf o ofal newyddenedigol yn ein hardal bwrdd iechyd.

Ni allai neb fethu â chael eu cyffwrdd gan yr hyn y mae'r rhieni yma wedi ei ddioddef. Wrth gwrs ymunaf ag ef i fynegi fy nghydymdeimlad enfawr am yr hyn sydd wedi digwydd iddyn nhw—wrth gwrs. Bydd pob un ohonom ni, ryw'n siŵr, yn y Siambr hon, yn cydymdeimlo i'r eithaf gyda'r sefyllfa y maen nhw'n canfod eu hunain ynddi, wrth gwrs.
Wel, beth ddylid ei wneud o ganlyniad? Yn gyntaf oll, roedd adroddiad yr ombwdsmon yn eglur yn ei ganfyddiadau bod y gofal a ddarparwyd yn annerbyniol—gan fwy nag un ysbyty, ond yn annerbyniol. Mae'r bwrdd iechyd wedi derbyn argymhellion yr adroddiad yn llawn. Maen nhw wedi anfon eu cynllun gweithredu atom ni. Bydd swyddogion yn monitro'r camau a gymerir gan y bwrdd iechyd nawr i sicrhau bod yr argymhellion yn yr adroddiad yn cael eu rhoi ar waith. Bu llawer iawn o ddysgu a gwelliant i arferion eisoes o ganlyniad i'r hyn sydd, wrth gwrs, yn achos trist iawn, a byddwn yn sicrhau bod hynny'n parhau. Yn rhan o'r broses ddysgu, gallaf ddweud ein bod ni'n disgwyl i holl sefydliadau'r GIG fyfyrio ar yr achos hwn i nodi unrhyw ddysgu i wella gofal cleifion yn eu sefydliadau priodol eu hunain hefyd. Felly, bydd, mi fydd Hywel Dda yn cymryd camau. Bydd y camau hynny yn cael eu monitro gennym ni.
7. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am bolisi Llywodraeth Cymru ar y meini prawf ar gyfer dyfarnu grantiau i gwmnïau? OAQ52385

Gwnaf, mae'r cymorth ariannol yr ydym ni'n ei ddarparu i fusnesau yn chwarae rhan hanfodol i'w helpu i sefydlu, i gynnal ac i dyfu, ac i'w galluogi i gael budd economaidd ehangach, wrth gwrs. Ond mae'n rhaid i fusnesau sy'n cael cymorth o'r fath fodloni telerau ac amodau'r grant, a gallai unrhyw fethiant i wneud hynny arwain at adennill y grant hwnnw.
Diolch am yr ateb yna. Byddwch yn gwybod bod Celtic Wealth Management wedi cael grant gan eich Llywodraeth ar gyfer gwasanaethau ariannol, ond yn hytrach wedi penderfynu defnyddio'r arian hwnnw i dwyllo gweithwyr dur yn ardal Port Talbot, a phobl eraill â buddiannau pensiwn diffiniedig. Mae hyn yn gyfystyr â galw diwahoddiad i bob pwrpas ac yn rhywbeth sy'n anfoesol. Rwy'n meddwl tybed pam mae hi wedi cymryd saith mis i chi hyd yn oed gynnig sylw ar hyn mewn unrhyw ffordd o gwbl, a pham nad ydych chi'n cymryd camau pendant fel Llywodraeth i gael gwared ar y broblem o ran y cwmni penodol hwn. Os ewch chi i'w gwefan, nid oes unrhyw wybodaeth arni mwyach. Mae 44 o weithwyr dur yn fy ardal i yn cymryd camau dosbarth yn erbyn Celtic Wealth Management a chyrff eraill cysylltiedig. Os ydych chi'n mynd i fod yn darparu grantiau, pam nad oeddech chi'n gallu gwirio beth yr oedden nhw'n ei wneud cyn i chi roi'r grant hwnnw iddyn nhw, a beth ydych chi'n ei wneud nawr i sicrhau nad yw'r cwmni penodol hwn yn cael rhagor o arian gan y Llywodraeth hon?

Wel, nid yw'r arfer dilynol gan fusnes yn golygu eu bod nhw'n ymgymryd â'r arfer hwnnw pan dderbyniwyd y grant, ond mae hi'n iawn i ddweud, yn 2014, bod Celtic Wealth Management wedi cael cynnig cymorth ariannol. Os bu camwerthu cyfreithiol, bydd hynny'n mynd yn groes i'n hamodau, a byddwn yn cymryd camau i adennill unrhyw arian yr ydym ni wedi ei roi iddyn nhw. Nawr, y peth cyntaf y mae'n rhaid ei weld yn digwydd yw, mae'n rhaid cynnal ymchwiliad, yn fy marn i, gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol a chan y rheoleiddwyr eraill. Nhw sy'n gyfrifol yn y pen draw am orfodi'r deddfau sy'n llywodraethu gwasanaethau ariannol, ond byddwn yn parhau i archwilio'r sefyllfa. Fel y dywedais yn gwbl eglur, os oes diffyg cydymffurfiad ag amodau'r cymorth ariannol yr ydym ni wedi ei ddarparu, byddwn yn cymryd camau i adennill yr arian hwnnw.
Yn eich adroddiad blynyddol dros dro ar reoli grantiau 2016-17, mae'n nodi y byddai'r Ysgrifennydd Parhaol yn cadeirio'r bwrdd gwella effeithlonrwydd gyda'r nod:
o leihau biwrocratiaeth trwy nodi gwaith gweinyddol sydd o werth isel, neu y gellid ei wneud yn llai aml neu mewn ffordd wahanol neu ddim o gwbl.
Dechreuodd y gwaith ym mis Mai y llynedd a disgwyliwyd iddo gael ei gwblhau yn 2018 trwy gael ei wneud yn gyflym. A yw'r gwaith hwnnw wedi ei gwblhau erbyn hyn? A fu unrhyw arbedion ariannol i'ch Llywodraeth? Ac os bu, a ydyn nhw'n fwy neu'n llai na'r disgwyl? Ac a ydych chi'n rhagweld mwy o geisiadau am grantiau nawr bod mwy o arian ar gael i'w talu?

Wel, mae llai o arian, gan ein bod ni'n cael llai o arian gan Lywodraeth Geidwadol y DU. Felly, nid yw hi fel pe byddai llwyth sydyn o arian y gallwn ni ei ddefnyddio er mwyn helpu busnesau. Ond rydym ni'n ceisio gwella ein cynnig i fusnesau yn barhaus o ran arian grant, yn enwedig drwy gael gwared ar achosion o ddyblygu, gan mai'r demtasiwn weithiau yw creu nifer o wahanol gynlluniau grant fel bod gwahanol geisiadau yn gallu ffitio'n iawn. Nawr, gall hynny arwain at lu o gynlluniau grant mewn amser, a nod y gwaith sy'n mynd rhagddo yw lleihau, o bosibl, nifer y grantiau sydd ar gael a symleiddio'r ffordd yr ymgeisir amdanynt.
Prif Weinidog, ceir 143 o gyflogwyr achrededig sy'n talu'r cyflog byw gwirioneddol yng Nghymru ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat a'r trydydd sector erbyn hyn, gan helpu i fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau cyflog a rhyw yn y gweithle. Gan fod sector cyhoeddus Cymru yn gwario tua £6 biliwn bob blwyddyn trwy gaffael, a wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad ar fabwysiadu'r cod ymarfer ar gyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi, sy'n ymrwymo cwmnïau i ymroi i ystyried talu'r cyflog byw gwirioneddol?

Wel, gallaf ddweud bod 86 o sefydliadau wedi cytuno i'r cod eisoes, sy'n ymrwymo sefydliadau sector cyhoeddus a phreifat a thrydydd sector i gyfres o gamau gweithredu sy'n mynd i'r afael ag arferion cyflogaeth anghyfreithlon ac annheg. Mae'r pedwar canllaw ategol sydd wedi eu cynnwys yn y cod yn cynnwys dulliau a chyngor i helpu i roi'r ymrwymiadau hynny ar waith. Maen nhw'n cynnwys, er enghraifft, mynd i'r afael ag arferion cyflogaeth annheg a hunangyflogaeth ffug, mynd i'r afael â chaethwasiaeth fodern ac achosion o gamddefnyddio hawliau dynol, gweithredu'r cyflog byw trwy gaffael, a chosbrestru. Disgwylir i'r holl sefydliadau sy'n cael cyllid gan Lywodraeth Cymru naill ai'n uniongyrchol neu drwy grantiau neu gontractau ymrwymo i'r cod.
Ac, yn olaf, cwestiwn 8. Lee Waters.
8. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i sicrhau ei bod yn haws cael gafael ar feddyginiaeth cwsg ar gyfer plant a phobl ifanc â chyflyrau niwroddatblygiadol? OAQ52380

Nid oes unrhyw feddyginiaethau ar hyn o bryd sy'n cynnwys melatonin wedi'u trwyddedu yn y DU ar gyfer trin anhwylderau niwroddatblygiadol mewn plant a phobl ifanc. Cawn ein harwain gan argymhellion y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal a Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan.
Diolch, Prif Weinidog. Mae teuluoedd sydd â phlant â chyflyrau niwroddatblygiadol yn aml yn dweud bod cael plentyn i gysgu yn un o'r adegau mwyaf pryderus ac anodd o'r dydd. Daeth un etholwr i'm gweld yn ddiweddar. Ni allai setlo ei fab tan bedwar o'r gloch y bore, gan achosi anhrefn yn y tŷ a straen ar y teulu cyfan. Pan fydd plant yn cael gweld arbenigwr, rhoddir melatonin iddynt ar bresgripsiwn yn aml fel ffordd o'u setlo nhw tan iddyn nhw ddatblygu trefn ddyddiol, ond nid yw hwnnw wedi ei drwyddedu ar gyfer plant ar hyn o bryd, ac ni wnaiff meddygon teulu ei ragnodi. O gofio, ym mwrdd iechyd Hywel Dda, bod rhestr aros o tua 18 mis i weld arbenigwr o hyd—er bod hyn yn gwella—mae hyn yn achosi straen enfawr i deuluoedd nad ydyn nhw'n gallu cael cymorth gan ofal sylfaenol a chael gweld meddyg ymgynghorol arbenigol. Mae'n rhaid i ni wneud yn well o ran cynnig rhywbeth iddyn nhw, Prif Weinidog, i'w helpu nhw a'u teuluoedd i ymdopi â'r cyflwr anodd iawn hwn. A wnaiff ef edrych i weld beth sy'n ymarferol o fewn y cyfyngiadau, a, hyd yn oed yn well, ceisio cael gwared ar rai o'r cyfyngiadau?

Yr anhawster yw nad yw wedi ei drwyddedu i'w ddefnyddio ar hyn o bryd. Nawr, nid yw trwyddedu meddyginiaethau wedi ei ddatganoli. Ar ôl i feddyginiaeth gael ei thrwyddedu, caiff y defnydd ohoni wedyn ei reoli gan NICE a Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan, ond, wrth gwrs, o ran meddygon teulu, llywodraethir meddygon teulu—gwn fod Dai Lloyd yn y fan yna—fel y deallaf, gan reolau sy'n dweud wrthyn nhw beth na chânt ei ragnodi, nid yr hyn y cânt ei ragnodi. Felly, mae'n bosibl i feddyg teulu ragnodi melatonin; mae'n fater i ragnodwyr unigol. Nid oes unrhyw gyfyngiad ar feddygon teulu i wneud hynny, ond, wrth gwrs, mae unrhyw feddyg teulu yn mynd i ofyn y cwestiwn, 'Wel, a yw hyn yn rhywbeth y dylwn i fod yn ei wneud? A yw'n rhywbeth yr wyf i'n ei ystyried yn glinigol ddiogel?' Mae hynny'n anochel, ac maen nhw'n cymryd cyfrifoldeb clinigol am y meddyginiaethau y maen nhw'n eu rhagnodi. Mae Cymdeithas Feddygol Prydain yn dweud wrth feddygon teulu na ddylent ragnodi y tu hwnt i'w gwybodaeth neu eu gallu eu hunain—cyngor doeth—a gallaf ddychmygu bod meddygon teulu yn nerfus ynghylch rhagnodi'r hyn sy'n ymddangos fel pe byddai'n feddyginiaeth nad yw wedi ei thrwyddedu i'w defnyddio gan blant.
Mae'n rhaid mai'r cam nesaf yw edrych ar dystiolaeth i wneud yn siŵr ei bod wedi ei thrwyddedu i'w defnyddio gan blant, a symud ymlaen o'r fan honno wedyn wrth gwrs. Yr hyn y gallaf ei ddweud, fodd bynnag, yw ein bod ni, yn y cyfamser, wedi sefydlu gwasanaeth newydd i asesu, i roi diagnosis ac i ddarparu cymorth parhaus i blant a phobl ifanc â chyflyrau niwroddatblygiadol, ac rydym ni'n buddsoddi £2 filiwn y flwyddyn i wneud hynny.
Diolch i'r Prif Weinidog.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, ac rydw i'n galw ar arweinydd y tŷ i wneud y datganiad. Julie James.

Diolch, Llywydd. Mae'r datganiad 'Y Dechrau Gorau mewn Bywyd; Gwneud i’r Blynyddoedd Cynnar Gyfrif', wedi ei dynnu'n ôl o'r agenda heddiw. Mae'r amseroedd ar gyfer yr eitemau eraill wedi'u haddasu yn unol â hynny. Dangosir busnes y tair wythnos nesaf ar y datganiad a chyhoeddiad busnes, a welir ymysg papurau'r cyfarfod sydd ar gael yn electronig i Aelodau.
Arweinydd y tŷ, a gawn ni ddatganiad naill ai gan y Prif Weinidog, neu lythyr gan yr Ysgrifennydd Parhaol, yn nodi sut y rhoddwyd y protocol gweithredol ar waith ar gyfer yr ymchwiliad dan arweiniad cwnsler y frenhines? Bu adroddiadau amrywiol yn y cyfryngau y byddwn i'n awgrymu eu bod yn peri pryder difrifol ac y mae angen eu hegluro. Rwy'n tynnu sylw arweinydd y tŷ at rai o'r sylwadau sy'n cyfeirio at:
Ni all Mr Bowen fynd yn bellach nag y mae'r Ysgrifennydd Parhaol yn ei ganiatáu
a
Yr ysgrifennydd parhaol, yn gweithredu ar ran y Prif Weinidog.
Hefyd, byddwn i'n awgrymu bod y cyngor a roddwyd i gyflogeion y gwasanaeth sifil yr wythnos diwethaf ar y fewnrwyd, yn amlwg, sydd ar gael i gyflogeion, yn enw'r Ysgrifennydd Parhaol a'r pennaeth adnoddau dynol a'r cyfarwyddwr llywodraethu, yn peri pryder difrifol hefyd. Byddwn i'n dra diolchgar pe byddai—a chewch chi fy arwain i yn hyn o beth, pwy fyddai'r person priodol i gyfeirio hyn ato, boed yr Ysgrifennydd Parhaol ei hun, mewn llythyr at Aelodau'r Cynulliad, a allai egluro rhai o'r meysydd hyn fel y gallem ni fod â hyder, neu'r Prif Weinidog drwy ddatganiad. Rwy'n wir gobeithio y bydd arweinydd y tŷ yn hwyluso ymateb o'r fath a all ymdrin yn derfynol â rhai o'r meysydd pryder hyn a amlygwyd yn ddiweddar.
Rwy'n fwy na pharod i drafod â'r Ysgrifennydd Parhaol ynghylch y ffordd orau o wneud yn siŵr bod Aelodau'r Cynulliad yn cael yr wybodaeth lawn am y sefyllfa ar hyn o bryd o ran yr ymchwiliad a'r hyn y mae'r protocol yn ei gynnwys.
Yr wythnos diwethaf, arweinydd y tŷ, gofynnais a fyddem yn debygol o drafod cynnig cydsyniad deddfwriaethol sy'n deillio o Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a gwnaethoch chi ein sicrhau bod hynny'n annhebygol iawn. Ers hynny, fodd bynnag, mae Tŷ'r Arglwyddi wedi pleidleisio o blaid ei gwneud yn ofynnol i'r Ysgrifennydd Gwladol basio deddfwriaeth sylfaenol o fewn chwe mis i Gydsyniad Brenhinol o'r Bil—sef y Bil Ymadael â UE—i roi dyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus i gymhwyso egwyddorion amgylcheddol yr UE ar ôl Brexit a sefydlu corff annibynnol â'r bwriad o sicrhau cydymffurfiaeth.
Nawr, y gofynion a'r dyletswyddau hynny yw'r union bethau a awgrymwyd yn ein gwelliannau i'n Deddf parhad sy'n bodoli o hyd—teitl hir ar gael. Gwnaethoch chi ddweud wrthym ar y pryd i beidio â phwyso'r gwelliannau, er dyna a wnaethom ni, ond cawsant eu gwrthod gan y Llywodraeth ar y sail y byddech yn manteisio ar y cyfle deddfwriaethol cyntaf i wneud hynny eich hun. Ond dyma ni Dŷ'r Arglwyddi—. Oherwydd nid yw awdurdodau cyhoeddus wedi'u diffinio fel Lloegr yn unig. Dyma'r broblem, ond y cyfan y mae'n ei ddweud yw awdurdodau cyhoeddus, felly gellid gweld yn hawdd, yng nghyd-destun Bil Ymadael â'r UE mai Cymru a Lloegr yw hynny o ran cais deddfwriaethol, sy'n berthnasol yma yng Nghymru. Felly, mae gennym ni Dŷ'r Arglwyddi yn awgrymu y dylai hyn ddigwydd, mae gennym ni'r addewid gan Lywodraeth Cymru i wneud rhywbeth arall, ac mae'n ymddangos i mi fod hwn, mewn gwirionedd, yn rhywbeth y dylai'r lle hwn gydsynio iddo, ond, wrth gwrs, ni allwn ni wneud hynny, oherwydd bod y cyfan wedi'i rwymo mewn cytundebau. Os caiff pethau eu pasio yn ôl ac ymlaen ac wedyn mae Tŷ'r Arglwyddi a'r Llywodraeth yn cytuno, nid yw'n mynd yn ôl i Dŷ'r Cyffredin, nid yw'n cael ei drafod eto, ac, i bob pwrpas, gan ei fod wedi'i gymeradwyo yn Nhŷ'r Arglwyddi, mae erbyn hyn yn rhan o'r Bil, ac mae'n symbolaidd ein bod ni'n pasio cynnig cydsyniad deddfwriaethol—neu'n peidio â'i basio, fel y mae'n digwydd, yn symbolaidd. Serch hynny, byddai gen i ddiddordeb i wybod a yw'r Llywodraeth yn bwriadu, er budd gweithdrefn ond hefyd er budd tryloywder gweladwy, gyflwyno cynnig cydsyniad deddfwriaethol i'r Cynulliad er mwyn i ni gael dweud ein dweud ar y ddadl hon.
Mae gan Blaid Cymru ddiddordeb arbennig oherwydd ein bod wedi trio gwneud y gwelliannau, ond rwy'n credu bod yna Aelodau eraill yma sydd â diddordeb mewn rhai agweddau ar hyn hefyd. Mae'n tynnu sylw at y ffordd hurt hon o geisio deddfu ar gyfer Llywodraethau datganoledig a Seneddau datganoledig pan fyddwch chi wedi'ch dal, mewn gwirionedd, yn y drefn fwyaf hynafol bosibl y mae San Steffan yn ei defnyddio i gyflawni ei dyletswyddau deddfwriaetho, gan fynd yn ôl ac ymlaen heb fod unrhyw un yn gallu, mewn gwirionedd, gael dweud ei ddweud yn briodol am bethau sy'n effeithio'n fawr ar ein pwerau. Felly, byddwn i'n gwerthfawrogi datganiad ar hynny nawr.
Ac, os caf i droi at un mater arall sydd wedi digwydd yr wythnos hon, sy'n berthnasol iawn i'r Cynulliad yn fy marn i. Pleidleisiodd y Cynulliad ei hun ar ddadl o'r meinciau cefn, rwy'n credu, i gefnogi cyfreithloni canabis meddyginiaethol a'r gallu i gael gafael arno. Roeddem ni ar y blaen o ran y ddadl hon wrth wneud hynny, ac mae digwyddiadau diweddar, wrth gwrs, a theulu penodol iawn—ond gwn fod hyn yn effeithio ar blant eraill ag epilepsi, a bu enghreifftiau prin iawn o ragnodi canabis meddyginiaethol. Yr hyn sy'n rhyfedd yw bod y DU arwain y byd o ran cynhyrchu, datblygu ac allforio canabis meddyginiaethol, ac ni allwn ddeddfu i sicrhau ei fod ar gael i'n cleifion ni ein hunain. Fe all canabis fod yn gyffur peryglus, ac mae hon yn ddadl ar wahân i'r ddadl am ba un a ddylid cyfreithloni canabis ai peidio at ddibenion rheoli cyffuriau, ond mae gan gyffur pwerus—pob cyffur pwerus—effeithiau meddyginiaethol, ac os gallwn ni ganiatáu'r defnydd o opiadau ar bresgripsiwn a dan arweiniad meddyg teulu, yna pam ar y ddaear na allwn ni ganiatáu'r defnydd o ganabis neu ganabinoidau mewn ffordd debyg?
Nawr, mae Llywodraeth y DU wedi dweud y bydd yn sefydlu comisiwn arbenigol i wneud hyn, ond mae hwn yn faes sydd wedi'i ddatganoli o ran polisi presgripsiynau ac o ran talu. Felly, a gawn ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd yn dweud yn benodol sut y gall Cymru fod yn rhan o'r ddadl hon yn awr? Un peth yw cael panel arbenigol yn Llundain—rydym ni'n dymuno bod yn rhan o hynny, rydym ni eisiau gwybod sut y mae'n berthnasol yn ein cymunedau ni, a, gan ein bod ni wedi pleidleisio fel Cynulliad, rwy'n tybio y byddai llawer o gefnogaeth i hynny.
Ie, wel, dau bwynt pwysig iawn. O ran yr ail bwynt, y diwethaf, gan ei fod yn ffres yn fy meddwl, oedd, yr oedd yn ddiddorol iawn, onid oedd, pa mor gyflym y symudodd yr agenda honno yn sgil un achos penodol, er, mewn gwirionedd, rwy'n eithaf siŵr y gallai pob un ohonom dynnu sylw at achosion eraill—nid mor ddifrifol efallai, o ystyried yr hyn a ddigwyddodd—ond yn sicr fe wnaeth ei danlinellu. Ac mae Simon Thomas yn iawn—roedd pob un ohonom o'r farn honno yn fras. Byddaf yn trafod ag Ysgrifennydd y Cabinet ynghylch ein sefyllfa ni ar hyn o bryd ac yn gwneud yn siŵr ei fod yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau yn y ffordd fwyaf priodol, ond gwn ei fod yn fater o ddiddordeb mawr i lawer iawn ohonom. Mae bob amser yn ddiddorol, on'd yw hi, sut y gall un achos ddal sylw'r penawdau yn sydyn, a symud agenda gyfan yn ei blaen yn y ffordd honno.
Beth bynnag, mae hynny'n fy arwain at y ffordd anhrefnus o lywodraethu y gwnaethoch chi sôn amdani yn gynharach, ac rwy'n cytuno'n llwyr. Mae mater y cynnig cydsyniad deddfwriaethol yn fater byw. Fe wnaethom ni ei drafod yn y Pwyllgor Busnes y bore yma, Llywydd, fel y gwyddoch. Ein sefyllfa bresennol yw ein bod ni wedi'i gwnaed yn glir iawn ar lawr Tŷ'r Arglwyddi, ac yn glir iawn i'r Llywodraeth, nad oes unrhyw fwriad i ddeddfu ar ran unrhyw un heblaw Lloegr ac awdurdodau cyhoeddus Lloegr, ond rwy'n cytuno'n llwyr nad yw'r geiriad mor dda ag y gallai fod, gadewch i ni ddweud hynny, ac mae'r holl 'nôl ac ymlaen yn llai na delfrydol hefyd.
Rwyf eisiau bod yn glir iawn mai'r sicrwydd hwnnw yw'r sail i beidio â symud ymlaen â'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol, ac nid unrhyw sail arall. Rwy'n credu yr hoffem ni ei wneud yn eglur iawn hefyd—a gwn fod y Llywydd o'r un farn—y byddem ni wedi dymuno cynnig cydsyniad deddfwriaethol i ddatgan ein barn pe na roddwyd sicrwydd i ni ei bod y tu hwnt i'w cwmpas i wneud hynny i Gymru. Felly, mae'r egwyddor yn rhan bwysig iawn ohoni yma. Ond rydym ni wedi cael sicrwydd o hynny—rydym ni wedi cael y sicrwydd hwnnw fel Llywodraeth ac, yn wir, cafodd ei ddweud yn rhan o'r ddadl. Ond rwy'n croesawu'r cyfle mewn gwirionedd i ddweud mai ein barn ni erbyn hyn yw nad oes angen y cynnig cydsyniad deddfwriaethol oherwydd ein bod ni wedi cael sicrwydd nad ydyn nhw'n bwriadu deddfu ar ran Cymru. Dan unrhyw amgylchiadau eraill, byddem ni wedi dymuno caniatáu i'r Senedd hon fynegi ei safbwynt er mwyn, erbyn i'r Bil gael ei basio yn y pen draw, i'r Aelodau a oedd yn pleidleisio ar y Bil hwnnw fod yn glir iawn ynghylch ein barn ni, hyd yn oed os nad oedd mewn pryd i effeithio ar ran arbennig o'r Bil. A gwn fod y Llywydd yn cytuno â hynny.
Felly, i fod yn glir iawn ar y pwynt hwnnw—. Ond rwy'n cytuno â chi nad yw hyn, wrth gwrs, yn ffordd dda iawn o ymdrin â'r peth pwysicaf sydd wedi digwydd yn ein cenhedlaeth ni mae'n debyg; rwy'n cytuno yn llwyr. Ond i fod yn glir ynghylch y mater amgylcheddol, mae'r datganiad a roddais yn parhau i fod yn ddilys. Byddwn yn cyflwyno deddfwriaeth ar y cyfle cyntaf ac, wrth gwrs, pe bydden nhw'n deddfu yn hynny o beth dros Gymru, yna byddai angen cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar hynny ei hun, i fod yn glir, felly fe fyddai yna gyfle arall. Ond mae'r egwyddor yn gywir, ac rydym yn cytuno â Simon Thomas. Heblaw am y sicrwydd, byddem ni'n dymuno gwneud y pwynt hwnnw'n glir iawn rhwng Seneddau, ond rydym ni wedi cael y sicrwydd hwnnw, ac ar y sail honno nid ydym o'r farn bod angen cynnig cydsyniad deddfwriaethol.
Mae dau fater yr wyf yn dymuno'u codi, ac mae'r cyntaf yn ymwneud â'r mater o gynnydd ar ddileu hepatitis C. Rwy'n credu i ni gael dadl drawsbleidiol dda iawn 12 mis yn ôl ar y nod o ddileu hepatitis C yng Nghymru erbyn 2030, ac ymatebodd y Llywodraeth â chyfres o gamau gweithredu. Tybed a fyddai modd cael datganiad yn amlinellu'r cynnydd a wnaed yn y gwahanol fyrddau iechyd i gyflawni'r camau hynny. Dyna oedd y cyntaf. A'r ail un yw, ar y penwythnos, fe wnaeth Llywodraeth y DU ddynodi 22 Mehefin yn Ddiwrnod Windrush, a meddwl oeddwn i tybed a oes gan y Llywodraeth ei hun unrhyw gynlluniau i nodi'r diwrnod hwnnw.
O ran yr ail un, mae'n bleser gen i ddweud fy mod i'n cynnal dathliad Windrush yng Nghanolfan y Mileniwm ar yr ail ar hugain, a byddwn i'n falch iawn gweld llawer iawn o Aelodau'r Cynulliad yno. Bydd croeso mawr i unrhyw un a all fod yna. Mae'n bwysig iawn dathlu cyfraniad y genhedlaeth Windrush—y genhedlaeth gyfan, nid dim ond y bobl a ddaeth ar y Windrush ei hun, wrth gwrs—i ddiwylliant a datblygiad Cymru. Maen nhw wedi chwarae rhan sylweddol iawn, iawn yn niwylliant a datblygiad Cymru fel cenedl, ac maen nhw'n sicr yn haeddu cael eu dathlu am hynny.
O ran hepatitis C, mae ymarfer hysbysu cleifion yn dod i ben ar hyn o bryd er mwyn cyrraedd cleifion a gafodd ddiagnosis o hepatitis C pan nad oedd y driniaeth ar gael. Mae manyleb genedlaethol ar gyfer profion mewn fferyllfeydd cymunedol yn cael ei datblygu ar hyn o bryd, ac mae targedau ar gyfer ein gwasanaethau camddefnyddio sylweddau yn cael eu datblygu er mwyn cynyddu profion yn y gwasanaethau hynny. Rydym ni ar hyn o bryd wrthi'n cynnal trafodaethau â'r diwydiant fferyllol i gytuno ar drefniant cyllido newydd ar gyfer triniaethau hepatitis C, ac rydym ni hefyd yn ymgysylltu â'u cymheiriaid yn Lloegr i ystyried y manylion a'r manteision posibl i Gymru cyn gwneud unrhyw benderfyniad terfynol. Rwy'n siŵr y bydd yr Ysgrifennydd Iechyd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni cyn gynted ag y bydd y trafodaethau hynny wedi'u cwblhau. Mae'r Aelod wedi bod yn ddyfal iawn wrth hyrwyddo hyn ar gyfer ei chleifion, ac rwy'n siŵr y bydd yr Ysgrifennydd Iechyd yn rhoi gwybod iddi hi yn arbennig.
Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd ar bolisi Llywodraeth Cymru o ran sefydlu ystafelloedd triniaeth i bobl sy'n gaeth i gyffuriau yng Nghymru? Ym mis Tachwedd 2016, codais y mater hwn yn y datganiad busnes yn dilyn y newyddion bod prosiect treialu wedi'i sefydlu yn Glasgow. Dywedodd yr Ysgrifennydd Busnes ar y pryd ei fod yn amlwg yn fater pwysig iawn a'i bod hi'n siŵr y byddai datganiad ar ddod. Nawr, dywedodd prif weithredwr yr elusen The Wallich yn gynharach y mis hwn y byddai ystafelloedd triniaeth i'r rhai sy'n gaeth i gyffuriau yn dod â llawer o fuddion ac y byddai'n hurt peidio â'u cael erbyn hyn. A gawn ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet a Llywodraeth Cymru ar y mater pwysig iawn hwn? Rwy'n dymuno gwybod pam y bu distawrwydd ers cyhyd os gwelwch yn dda.
Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn dangos i mi y gwnaethom ni gyhoeddi ymateb, ond y mae hefyd wedi arwyddo i mi y bydd yn ei ailddosbarthu i sicrhau bod yr Aelodau yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf.
Arweinydd y tŷ, efallai y byddwch yn ymwybodol y cadarnhaodd Llywodraeth Cymru yr wythnos diwethaf fod dros £36 miliwn o arian cyhoeddus wedi'i wario ar ddatblygu parc busnes yn Felindre yn Abertawe, ac eto, er ei fod yn eiddo cyhoeddus ers 20 mlynedd, mae parc busnes Felindre yn parhau i fod yn wag. Efallai y byddwch chi'n ymwybodol hefyd o barseli eraill o dir yn y de-orllewin sydd wedi eu labelu'n barciau busnes ar gyfer y dyfodol ond sy'n parhau fod yn wag—tir yng Nglyn-nedd, er enghraifft, nepell o'r A465, sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru, ond heb ei gynnwys hyd yn oed yng nghynllun datblygu lleol Castell-nedd Port Talbot, neu'r darn enwog o dir ym Maglan, sydd wedi bod yn wag ers cyhyd bod y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn meddwl y gellid ei ddefnyddio at ddiben arall. Ymddengys bod problem fawr o ran sut y mae Llywodraeth Cymru yn mynd ati i fuddsoddi yn yr ardaloedd hyn, sut y mae'n mynd ati i dargedu sectorau a denu cwmnïau i'r safleoedd hyn, a sut y mae'n methu yn y pen draw â datblygu swyddi yn yr ardaloedd hyn. Nawr, wrth i Dasglu'r Cymoedd geisio cyflenwi hyd yn oed mwy o dir at ddefnydd busnes neu ddiwydiannol, rydym yn ystyried y potensial o lethu'r de â'r tir diwydiannol sydd ar gael, ac eto diffyg sylweddol o ran syniadau ar sut i'w llenwi. Felly, a wnaiff Llywodraeth Cymru ymrwymo i gyflwyno datganiad ar sut y mae'n bwriadu datblygu swyddi ar y tir y mae'n berchen arno yng Nghymru, a sut y mae'n bwriadu symud o sefyllfa lle mae'r safleoedd yn wag i sefyllfa lle mae safleoedd mewn gwirionedd yn darparu cyflogaeth o safon i bobl leol?
Wel, dydw i ddim yn cytuno'n llwyr â phopeth y dywedodd yr Aelod yn y fan yna, ond mae'n bwynt pwysig iawn, yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud â thir sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru. Rydym ni wedi datblygu cyfres gyfan o bwyntiau data i allu nodi tir sy'n eiddo cyhoeddus, nid tir sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru yn unig, oherwydd weithiau mae'n bwysig rhoi safleoedd at ei gilydd yn y modd hwnnw. Ac rydym ni wedi bod yn gwneud llawer iawn o waith, yn rhan o Dasglu'r Cymoedd, ar brosiect i wneud yn siŵr y gallwn ni wneud yr union beth hynny. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros wasanaethau cyhoeddus, sy'n gyfrifol am Dasglu'r Cymoedd, yn rhoi diweddariad i'r Aelodau ar Dasglu'r Cymoedd, a fydd yn cynnwys tir sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru a beth y gallwn ni ei wneud er mwyn manteisio i'r eithaf ar ei fuddion, yn rhan o'i ddiweddariad ar Dasglu'r Cymoedd maes o law.
Ysgrifennydd y Cabinet, cyflwynodd Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd, llesiant a chwaraeon, mewn gwirionedd, ddatganiad ysgrifenedig yn amlinellu'r penderfyniad i newid ffiniau Byrddau Iechyd Abertawe Bro Morgannwg a Chwm Taf. Mae hyn yn cyflwyno canlyniadau pwysig i fy etholwyr i ac Ysbyty Castell-nedd Port Talbot, a gaiff ei wasanaethu gan glinigwyr o ardal Pen-y-bont ar Ogwr, a hefyd, sydd â llawer o adrannau wedi'u cysylltu â'u rheoli gan ochr Pen-y-bont ar Ogwr. Nawr, nid ydym ni wedi cael cyfle i holi Ysgrifennydd y Cabinet ynghylch hyn, a'r cwestiwn pwysig iawn hwnnw ynghylch manylion cyllid. Er enghraifft, sut bydd y diffyg yn cael ei ddyrannu, sut y bydd y gwasanaethu a'r cyllid ar gyfer y gwahanol rannau yn cael eu cyfrifo? Felly, yr holl gytundebau gwasanaeth hynny. Nawr, rwy'n sylweddoli bod yna elfennau i'w trafod. A fyddai'n bosibl cael datganiad llafar gan Ysgrifennydd y Cabinet, er mwyn i ni allu ystyried y cyfleoedd o ran pwy fydd yn ariannu hyn? Oherwydd es i i ddigwyddiad gofalwyr yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot yr wythnos diwethaf, ac maen nhw'n brwydro i gael £10,000 dim ond i ddechrau gwasanaethau gofalu, ac eto mae'n bosibl ein bod yn sôn am symiau mwy na hyn i gyflawni'r trefniadau rheoli hyn. A gawn ni'r datganiad llafar hwnnw er mwyn i ni allu edrych yn fanwl ar fanylion y cynnig hwn er mwyn sicrhau, mewn gwirionedd, y bydd, yn y tymor hir, yn parhau i ddarparu ar gyfer y bobl yn fy etholaeth i?
Llywydd, hoffwn i nodi, yn amlwg, bod hynny'n cynnwys fy etholaeth i fy hun hefyd, felly dylai'r Aelodau fod yn ymwybodol o hynny. Ar 14 Mehefin, cyhoeddodd y Llywodraeth y bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf yn gyfrifol am wasanaethau gofal iechyd yn ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr o fis Ebrill y flwyddyn nesaf, fel y dywedodd Dai Rees. Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg sy'n eu darparu ar hyn o bryd, a gwn fod holl Aelodau'r Cynulliad yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, newydd gael gohebiaeth gan y prif weithredwr yno yn nodi rhai o'r trefniadau. Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi dweud wrthyf ei fod yn fodlon cwrdd ag Aelodau'r Cynulliad sydd â diddordeb yn hyn i drafod rhai o'r materion a datgelu rhai o'r manylion penodol. Gwn fod nifer o Aelodau'r Cynulliad wedi nodi eu bod yn dymuno i hynny ddigwydd, felly byddwn ni'n trefnu'r cyfarfod hwnnw cyn gynted â phosibl.
Rwy'n galw am ddau ddatganiad. Yn gyntaf, i ychwanegu at yr hyn a ddywedodd Simon Thomas yn gynharach ynghylch darparu canabis meddyginiaethol ar bresgripsiwn. Gwnaethom ni glywed am achos—cafodd lawer o gyhoeddusrwydd—Billy a Charlotte Caldwell. Efallai y byddwch yn cofio, ym mis Ionawr, i mi arwain dadl yn y Cynulliad, fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar gyflyrau niwrolegol, gan dynnu sylw at y ffaith nad yw hyn yn ymwneud ag un unigolyn, mae'n ymwneud â nifer o bobl, â nifer o gyflyrrau, sydd eisoes yn cael eu gorfodi i gael gafael ar ganabis yn anghyfreithlon, yn hytrach na chael presgripsiynau wedi'u distyllu'n unigol i ddiwallu eu hanghenion penodol. Yn dilyn y ddadl honno, des i â Billy a'i fam Charlotte i'r Cynulliad hwn, ac fe wnaethon nhw adrodd eu stori wrthym ni. Gwnaethom ni glywed bod Billy yn arfer dioddef hyd at 100 o drawiadau y dydd nes iddo ddechrau triniaeth olew canabis, yn dilyn triniaeth lwyddiannus yn Los Angeles gan feddyg plant sy'n arbenigo mewn epilepsi, ac fe wnaeth ei drawiadau glirio i bob pwrpas. Ar ôl dychwelyd o Los Angeles, dywedodd Charlotte, fe oedd y person cyntaf i gael canabis meddyginiaethol ar bresgripsiwn gan GIG y DU. Mae Charlotte wedi bod yn ymgyrchu dros ganabis meddyginiaethol gan y GIG, gan gydnabod yr anobaith a deimlir gan lawer o deuluoedd sy'n brwydro i gael yr hyn y brwydrodd hithau mor daer drosto. Ac roedd hi'n bendant, ac mae'n parhau i fod yn bendant, bod hyn yn fater cwbl ar wahân, ac na ddylid ei ddrysu â dadleuon ynghylch defnydd hamdden, neu gyfreithloni cyffuriau yn ehangach—dadl ddilys, yn ôl llawer o bobl, ond yn amherthnasol i'r ddadl hon. Cysylltodd hi â mi eto ym mis Mai, ar ôl i'w meddyg gael gŵys i gyfarfod â swyddogion y Swyddfa Gartref, a chael cyfarwyddyd i roi'r gorau i ysgrifennu ei bresgripsiynau. Ar ôl hynny, ysgrifennais at yr Ysgrifennydd Cartref, yn pwyso arno ef a'i swyddogion i gysylltu â hi ar frys i ddod o hyd i ateb a ffordd ymlaen. Rydym ni wedi clywed bod Llywodraeth y DU bellach wedi nodi cynlluniau i banel clinigol arbenigol edrych ar achosion unigol, a gwn, ym mis Ionawr, yr oeddwn i'n galw ar Lywodraeth Cymru i roi paratoadau ar waith o fewn GIG Cymru ar gyfer presgripsiwn posibl yma. Gan ychwanegu at sylwadau Simon Thomas, byddwn i'n ddiolchgar am ddatganiad manwl yn cydnabod y mater ac yn rhoi manylion am sut y mae Llywodraeth Cymru yn cynnig mynd i'r afael â hyn, yn unol â'r DU, ond hefyd yn y cyd-destun datganoledig, gan obeithio y bydd yn ychwanegu llais o gefnogaeth, llais, yn anffodus, nad oedd i'w glywed yn uchel pan arweiniais y ddadl ym mis Ionawr.
Yn ail, hoffwn ychwanegu at y galwadau gan Andrew R.T. Davies yn gynharach, yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog, ynglŷn â diagnosio canser y brostad yng Nghymru, ac am ddatganiad yn unol â hynny, ar y dyddiad hwn wrth i Prostate Cancer UK gyhoeddi ffigurau yn dilyn ymchwil ledled y DU, nad ydynt yn adlewyrchu'n arbennig o dda ar Gymru. Mae mwy na 2,500 o ddynion yn cael diagnosis o ganser y brostad bob blwyddyn yng Nghymru; bydd tua 600 yn marw yng Nghymru bob blwyddyn. Cefais i lythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet yr wythnos diwethaf, i etholwr, yn dweud unwaith eto nad yw'n gweld unrhyw reswm pam y dylai claf yn y gogledd sy'n amau bod ganddo ganser y brostad orfod talu'n breifat am sgan mpMRI os ydyw wedi cael canlyniad negatif i biopsi. Rwyf i wedi dweud wrtho dro ar ôl tro—ac mae gen i nifer o etholwyr sy'n dod ataf i sydd wedi mynd at y cyngor iechyd cymunedol yn dweud eu bod wedi gorfod talu ac nid ydyn nhw wedi cael cyfiawnder o hyd. Roedd y ffigurau y cyfeiriwyd atyn nhw gan Prostate Cancer UK yn deillio o gais rhyddid gwybodaeth i gyrff iechyd ledled y DU yn gofyn iddyn nhw am ddefnyddio sganiau cyn biopsi. Canfuwyd bod 13 y cant o gyrff iechyd yn methu â'u darparu ledled y DU, ond bod y ffigur yn 50 y cant yng Nghymru, a dywedodd, 18 mis ar ôl i'r treial a addawyd brofi am y tro cyntaf y gallai sganiau mpMRI cyn biopsi hybu canfyddiad canser y brostad yn sylweddol, fod
Cymru ar ei hôl hi o'i chymharu â rhannau eraill o'r DU o ran sicrhau bod y diagnostig newydd hwn sy'n torri tir newydd ar gael, a bod hyn yn rhoi dynion Cymru dan anfantais.
Wel, gadewch i ni weithredu ar y rhethreg ynghylch Cymru yn arwain y ffordd a Chymru'n dymuno dangos i weddill y DU sut y dylid gwneud pethau. Ni ddylai hyn fod yn digwydd. Mae angen gweithredu cyn biopsi, mae angen gweithredu yn dilyn biopsi ac mae angen i leisiau'r dynion hyn gael eu clywed o'r diwedd.
Diolch, Mark Isherwood, am y ddau bwynt hynny. Fel y gwnaethoch chi eich hun ddweud, maen nhw wedi eu nodi eisoes heddiw. Rhoddodd y Prif Weinidog ymateb hir iawn i Andrew R.T. Davies—yn haeddiannol iawn ar bwnc mor bwysig—ac rwyf eisoes wedi awgrymu i Simon Thomas beth yw'r safbwynt ar ganabis meddyginiaethol. Rwy'n siŵr y byddwn yn dwyn hynny yn ei flaen cyn gynted â phosibl.
Rwy'n sicr bod arweinydd y tŷ wedi gweld y delweddau annifyr o bobl wedi'u plygu dros feinciau mewn parciau ac mewn drysau siopau ar ôl bod yn defnyddio sylweddau amrywiol. Nid yw'n dda i neb wel hyn, ond mae'n arbennig o wael i blant ei weld, byddwn i'n dadlau. Nawr, yn sgil straeon diweddar am niferoedd uchel o farwolaethau yn dilyn gorddos o gyffuriau mewn rhai o'n hen drefi diwydiannol, yn ogystal â digwyddiadau mewn mannau eraill, lle y tynnwyd sylw at y broblem o rwydweithiau cyflenwi cyffuriau ar hyd llinellau sirol, byddwn i'n ddiolchgar pe gallem gael datganiad gan y Llywodraeth yn rhoi sylw i'r pwyntiau canlynol: yn gyntaf, i ba raddau y gall awdurdodau lleol a gwasanaethau iechyd ymdopi â'r mater hwn, yn arbennig o gofio bod y rhwydweithiau llinellau sirol yn manteisio ar bobl sy'n agored i niwed, a phobl ddigartref yn aml; yn ail, a yw'r Llywodraeth yn cefnogi'r alwad gan Gomisiynydd Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru, Arfon Jones, i dreialu ystafelloedd chwistrellu mwy diogel—mae enghreifftiau rhyngwladol yn dangos bod yr ystafelloedd hyn yn achub bywydau; yn drydydd, i ba raddau y mae'r Llywodraeth hon yn gweithio gyda'r system cyfiawnder troseddol sydd heb ei datganoli i ymdrin â'r broblem gynyddol hon; ac yn bedwerydd, a yw'r Llywodraeth yn rhannu fy marn i fod angen inni symud i ffwrdd o ystyried problemau cyffuriau yn faterion cyfiawnder troseddol a'u hystyried, yn hytrach, yng nghyd-destun iechyd y cyhoedd, yn dilyn y drefn sydd i'w gweld ym Mhortiwgal. Byddwn i hefyd yn ddiolchgar o gael gwybod a fydd y Llywodraeth yn rhannu fy mhryderon a'r diffyg hyder yng ngallu San Steffan i drafod y materion hyn mewn ffordd resymegol.
O ran yr un diwethaf—gan ddechrau, unwaith eto, am yn ôl, fel yr wyf yn ei wneud bob amser, am ryw reswm—rwy'n cytuno'n llwyr â chi. Wrth gwrs, mae'r system cyfiawnder troseddol yn gwneud y sefyllfa'n waeth, yn hytrach na'i gwella. Yn fy etholaeth i, mae'n amlwg bod angen cymorth, ac nid cosb, ar y bobl ifanc yn arbennig sydd wedi'u dal yn hyn. Mae hynny'n elfen bwysig iawn o'r ddadl ynglŷn â swyddogaeth y system cyfiawnder troseddol yn hyn o beth. Rydym ni'n awyddus iawn iawn i ddal y drwgweithredwyr ar y llinellau sirol ac nid y bobl sy'n gaeth i gamddefnyddio sylweddau. Rwy'n cytuno yn llwyr â hi. Rwyf i hefyd yn cytuno â'r ystafelloedd chwistrellu mwy diogel. Mae yna brosiect da iawn yn Abertawe, mewn gwirionedd, sydd wedi gwneud hyn. Mae prosiect cyffuriau Abertawe wedi cynnal cynlluniau treialu da iawn ar hynny ac mae'r canlyniadau'n amlwg i bawb eu gweld.
Mae camddefnyddio sylweddau yn broblem wirioneddol. Rwyf newydd fod yn siarad yn yr hyb diogelu aml-asiantaeth yma yng Nghaerdydd am y ffordd orau o ymdrin â rhai o'r materion aml-asiantaeth. Mae'n fater cymhleth iawn. Mae'n croesi materion datganoledig a materion nad ydynt wedi eu datganoli, ond mae hefyd yn croesi amrywiaeth gyfan o faterion eraill. Rwy'n credu fy mod i wedi dweud hyn o'r blaen Llywydd, yn y Siambr hon, ond mae'r MASH yma yng Nghaerdydd yn werth ei weld os nad ydych chi ymweld ag ef eisoes, er mwyn cael gweld beth yw eu dull aml-asiantaeth o weithio, oherwydd mae'n amlwg iawn bod angen ymagwedd er mwyn atal yr elfen troseddu cyfundrefnol, mae angen ymagwedd iechyd cyhoeddus ar gyfer camddefnyddio sylweddau ac mae angen ymateb cymdeithasol i rai o'r materion cymdeithasol sy'n caniatáu i bobl syrthio i'r sefyllfa hon. Mae'n ddarlun hynod gymhleth ac mae gennym ni lawer iawn o ymatebion aml-asiantaeth eisoes.
Byddaf yn trafod â fy nghyd-Aelodau yn y Cabinet—. Mae rhywfaint o hynny yn fy mhortffolio i ac mae rhywfaint ohono mewn portffolios eraill. Byddaf yn trafod â fy nghyd-Aelodau yn y Cabinet ynghylch cyflwyno datganiad ar sut yr ydym yn cydlynu hynny ar draws y Llywodraeth, gan ei fod yn fater pwysig iawn.
A gaf i ofyn am ddiweddariad arall ar gamau gweithredu Llywodraeth Cymru i gefnogi pobl sy'n gweithio i Virgin Media yn Abertawe? A yw tasglu Llywodraeth Cymru wedi cael caniatâd i siarad â staff a darparu manylion am gyflogwyr posibl eraill?
A gaf i ofyn ail gwestiwn? Fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn gwybod yn iawn, o fyw yn yr un ardal, bu llwyddiant mawr wrth ddatblygu parciau ynni Llandarsi, SA1, Bro Abertawe a Baglan o fewn yr hen ardal gorllewin Morgannwg. Onid yw'n wir ei bod yn fanteisiol i geisio datblygu un ardal ar y tro yn hytrach na'u cael yn cystadlu yn erbyn ei gilydd, ac onid yw Felindre nesaf ar y rhestr?
Ie, wel, o ran y pwynt hwnnw, yn hollol. Mae'n bwysig cael strategaeth, fel y dywedais, ar draws tir y cyhoedd, i wneud yn siŵr eich bod yn gwneud y defnydd gorau posibl o hynny ac nad oes gennych flaenoriaethau sy'n cystadlu. Yr hyn nad ydym ni eisiau ei wneud yw ras dros fuddsoddiad cystadleuol mewn ardal benodol. Mae hefyd yn bwysig, fel y dywedais, i gyfuno tir y cyhoedd fel y gallwch wneud cyfuniadau tir neu gyfuniadau adeiladau a thir, neu gyfuniadau rhwydwaith ffyrdd a thir. Felly, mae'r Aelod yn hollol iawn i nodi hynny.
O ran Virgin, rydym ni wedi cael sicrwydd fel Llywodraeth y bydd amser i ffwrdd a chymorth ar gael i gyflogeion er mwyn iddynt ymgeisio am swyddi eraill, pan fo hynny'n briodol, i gadw eu sgiliau a'u doniau yn yr ardal. Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn rhoi sicrwydd imi bod Virgin wedi cydweithredu'n dda â ni. Byddaf i'n sicrhau fy mod i'n cael sgwrs ag ef i wneud yn siŵr ein bod yn cynnal y pwysau er mwyn i ni sicrhau bod y mwyafrif helaeth o'r aelodau staff hynny yn cynnal eu sgiliau datblygedig er budd economi Cymru.
Tybed a gaf i ofyn am ddatganiad, neu ddau o bosibl, gan fod hyn yn ymdrin â dau faes portffolio, os gwelwch yn dda. Rwy'n gobeithio y byddwch yn ymuno â mi wrth longyfarch Glasgow, y ddinas gyntaf yn y DU i wneud sgiliau achub bywyd mewn argyfwng yn orfodol ar y cwricwlwm ysgol uwchradd yno. Mae cyfarwyddwr iechyd y cyhoedd yno wedi cael clod mawr am arwain y ffordd ar hyn.
Gan ei fod hefyd yn flwyddyn ers datganiad Ysgrifennydd y Cabinet ar y cynllun trawiad ar y galon allan o'r ysbyty i Gymru, tybed a gawn ni'r wybodaeth ddiweddaraf am hynny, sy'n ymdrin â'r pedwar pwynt hyn yn benodol: y cyntaf yw swyddogaeth cyd-ymatebwyr, y soniwyd amdanyn nhw yn y datganiad flwyddyn yn ôl. Rwy'n dal i aros am lythyr gan yr ymddiriedolaeth ambiwlans a addawyd i mi gan Ysgrifennydd y Cabinet, yn esbonio pam yr oedd sïon yn fwy diweddar yn dweud y bydd swyddogaeth cyd-ymatebwyr yn lleihau yn hytrach na'i bod wedi'i chynnwys yn y cynllun. A gawn ni hefyd yr wybodaeth ddiweddaraf am nifer yr ysgolion sy'n cyflwyno sgiliau achub bywyd mewn argyfwng o'u gwirfodd erbyn hyn; pwyslais a dilyniant y sgiliau achub bywyd mewn argyfwng yn y cwricwlwm sy'n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd—rwy'n sylweddoli nad mater i Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd yw hwn; a hefyd a fu cynnydd mawr mewn cofrestru diffibrilwyr, o gofio bod mwy a mwy o sefydliadau yn penderfynu eu darparu eu hunain? Diolch.
Nid oeddwn yn ymwybodol o Glasgow, ond rwy'n amlwg yn hapus i'w llongyfarch am hynny. Mae hwnnw'n faes eithaf cymhleth. Fe wnaf i holi pam nad ydych chi wedi cael ymateb i'r llythyr a addawyd i chi, ond fe wnaf hefyd drafod ag amryw gyd-Aelodau y Cabinet ynglŷn â'r ffordd orau o roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr, Llywydd, oherwydd bod hynny'n ddarn o waith traws-Lywodraethol eithaf cymhleth.
Yn gyntaf, hoffwn fanteisio ar y cyfle i groesawu Ysgol Bryn Deva i'r oriel i fyny'r grisiau. Fy ysgol gynradd i ydyw mewn gwirionedd, felly mae'n wych eu gweld nhw yma heddiw.
Hoffwn symud ymlaen, arweinydd y tŷ, at y penwythnos hwn, a'r penwythnos hwn, fel y mae llawer ohonoch yn gwybod, cynhelir y Great Get Together, sef diwrnod sydd wedi'i ysbrydoli gan y diweddar Jo Cox AS. Byddaf i'n cynnal fy nigwyddiadau fy hun yn yr etholaeth yn Alun a Glannau Dyfrdwy, a hyderaf y bydd yr holl Aelodau ar draws y Siambr yn eu cefnogi nhw yn eu cymunedau eu hunain hefyd, â'r digwyddiad gwirioneddol wych hwnnw. Arweinydd y tŷ, dydd Sadwrn yw Diwrnod Rhyngwladol Menywod ym maes Peirianneg. Fel cyn-beiriannydd, rwy'n awyddus i weld holl genedlaethau'r dyfodol, gan gynnwys menywod, yn mynd i mewn i'r diwydiant peirianneg a gweithgynhyrchu. Dangosodd arolwg yn 2017 fod 11 y cant o weithlu peirianneg y DU yn fenywod. Nawr, mae hynny'n gynnydd o 2 y cant ers 2015, ond mae gan y DU yn ei chyfanrwydd y ganran isaf yn Ewrop o fenywod sy'n weithwyr proffesiynol ym maes peirianneg.
Gwn fod Llywodraeth Cymru yn gweithio'n galed iawn ar y mater hwn, ond a wnaiff arweinydd y tŷ ymuno â mi wrth dalu teyrnged i'r menywod hynny yn y gweithlu peirianneg ar hyn o bryd a'r rhai sy'n ystyried ymuno â'r gweithlu peirianneg, ac a fydd yn cytuno â mi bod angen i ni wneud mwy i newid canfyddiadau, ac annog pobl ifanc, yn fechgyn a merched, i ystyried peirianneg fel gyrfa hyfyw a gwerthfawr yn y dyfodol?
Yn hollol. Wel, yn nhraddodiad ateb popeth gan ddechrau â'r olaf yn gyntaf, mae hynny'n sicr yn fater sy'n bwysig iawn i mi ac yn un o fy mhrif bynciau trafod. Rwyf i yn gadeirydd bwrdd menywod ym maes STEM—er y dylai fod yn 'STEMC' oherwydd dylai cyfrifiadureg fod ar y diwedd—Llywodraeth Cymru, ac rydym yn gweithio'n galed iawn i wneud yn siŵr bod esiamplau da yn mynd i ysgolion i wneud yn siŵr bod ein holl pobl ifanc, mewn gwirionedd, nid menywod yn unig, yn astudio peirianneg. Gallem ni'n sicr elwa ar gael mwy o beirianwyr drwyddi draw, ond mwy o fenywod sy'n beirianwyr yn arbennig. Rwyf i wedi trafod ag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, yn rhan o'r cynllun gweithredu economaidd, beth y gallwn ni ei wneud i wobrwyo cwmnïau sy'n gweithio i gael mwy o fenywod i mewn i STEM yn arbennig, a gwobrwyo'r gyrfaoedd STEM hefyd. Felly, rwy'n falch iawn bod Jack Sargeant wedi tynnu sylw at y mater hwnnw, gan ei bod yn fater pwysig iawn, a gwn ei fod yn agos iawn at ei galon ef hefyd.
Mae bob amser yn bleser croesawu ysgolion i'n horiel ni, Llywydd. Rwy'n credu iddyn nhw fod yma yn gynharach. Mae'n siŵr eu bod nhw wedi mynd ar daith o gwmpas yr adeilad erbyn hyn. Roedden nhw'n eistedd gyferbyn â mi, a gwnes i'n sicr sylwi arnyn nhw. Efallai bod rhai ohonynt yn dal i fod yno. Roedd ysgol gyfan yno yn gynharach yn sicr. Mae bob amser yn bleser eu croesawu nhw yma.
Maen nhw'n dal i fod yma.
Ac mae hefyd yn wych i allu tynnu sylw at benwythnos Great Get Together Jo Cox, ac rwy'n gobeithio'n fawr, Llywydd, y bydd llawer iawn o gymunedau ledled Cymru yn manteisio ar y cyfle i ddod at ei gilydd a gweld, yn wir, fod gennym ni fwy yn gyffredin nag sy'n ein gwahanu ni.
Maen nhw y tu ôl i chi, Gweinidog. [Chwerthin.]
O, dyna ni. Da iawn.
Arweinydd y Siambr, wythnos neu ddwy yn ôl, gofynais rai cwestiynau i'r Prif Weinidog ynghylch y fasnachfraint rheilffyrdd newydd i Gymru a'r Gororau, ond ymddengys ei fod wedi methu pwynt fy nghwestiwn yn llwyr. Gofynnais i'n benodol a oedd y seilwaith rheilffyrdd ei hun ar linellau craidd y Cymoedd yn cael eu trosglwyddo i gwmni preifat. Gofynnais a oedd gan Lywodraeth Cymru gytundeb gan Network Rail i drosglwyddo'r seilwaith i gwmnïau preifat. Gofynnais a fyddai staff Network Rail yn cael eu trosglwyddo i'r cwmni preifat hefyd. Nawr, nid wyf i'n dymuno siarad am y trenau na chael gwybod bod gennych ryw fargen â'r undebau llafur. Roeddwn i'n gofyn ar ran teithwyr sydd eisiau gwybod a yw diogelwch ar y rheilffyrdd yn cael ei breifateiddio gan y Llywodraeth hon yng Nghymru, oherwydd aeth hynny'n wael iawn y tro diwethaf, gyda thrychineb Hatfield. Felly, mae wir angen datganiad ar y cyhoedd ar hyn.
Roedd diogelwch rheilffyrdd yn flaenoriaeth bwysig iawn i Ysgrifennydd y Cabinet wrth edrych ar y fasnachfraint reilffyrdd, ac mae wedi sôn amdano mewn nifer o'i ddatganiadau, ac mae llawer o gyfleoedd i chi ei holi yn ei gylch. Ond fe fyddaf, Llywydd, yn gwneud yn siŵr y rhoddir sylw i ddiogelwch rheilffyrdd y tro nesaf y caiff rheilffyrdd eu trafod yn y Siambr.
Arweinydd y tŷ, ym mis Chwefror, dywedodd Gweinidogion Cymru eu bod yn ystyried gwneud cyfarwyddyd sgrinio i Biomas UK No.2 Limited, sy'n datblygu llosgydd y Barri, o dan Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2017, gan nodi bod nodweddion y datblygiad wedi'u cynnwys y Rheoliadau EIA. Mae gennyf ddiddordeb i wybod beth yw'r oedi wrth fwrw ymlaen â'r sgrinio. A wnaiff arweinydd y tŷ gael gwybod gan Weinidog yr Amgylchedd a pa un a wnaiff hi rannu unrhyw ohebiaeth â'r datblygwr ar y mater hwn ers mis Chwefror?
Yn ail, a gaf i ddatganiad yn dilyn adroddiad y Swyddfa Archwilio Genedlaethol, a ddaeth i'r casgliad nad yw'r Adran Gwaith a Phensiynau wedi cyflawni gwerth am arian ar ei weithrediad cynnar o gredyd cynhwysol? Yr wythnos diwethaf, enillodd dau ddyn anabl eu hachosion, ar ôl colli £175 o ganlyniad i'r credyd cynhwysol—yr wythnos, hynny yw. Mae hyn yn peri cryn bryder, wrth gwrs, oherwydd bod credyd cynhwysol yn cael ei gyflwyno yng Nghymru erbyn hyn.
Ie. O ran y pwynt olaf hwnnw, rwy'n credu ein bod ni i gyd yn pryderu'n fawr iawn am ddiffygion sylfaenol credyd cynhwysol, ac roeddem ni'n hynod siomedig bod Llywodraeth y DU yn dal ati i'w gyflwyno, o ystyried bod adroddiad y Swyddfa Archwilio Genedlaethol yn eithaf beirniadol am ei effeithiau. Llywydd, mae llawer o'r Aelodau yn y Siambr hon wedi amlygu'r problemau gyda chredyd cynhwysol a'r caledi a wynebir gan lawer o'u hetholwyr, a neb yn fwy gwneud hynny'n fwy dyfal na Jane Hutt. Rydym ni'n pryderu'n fawr fod y gost uchel o weinyddu credyd cynhwysol yn gorbwyso unrhyw fanteision, ac rydym ni i gyd yn ymwybodol o nifer y bobl sy'n gorfod defnyddio banciau bwyd ac ati, oherwydd yr oedi yn y taliadau a'r amryw bethau y mae pobl wedi tynnu sylw atyn nhw o ran y broses asesu ac ati. Mae'r Gweinidog Tai ac Adfywio eisoes wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau yn gofyn am ei barn ar sut y gellir cynnig trefniadau talu eraill i hawlwyr ar sail dewis llawer mwy gwybodus i helpu'r rhai hynny sydd fwyaf agored i niwed. Rydym yn gwybod bod y sefyllfa yn peri cryn bryder yn wir, ac mae Rebecca Evans—y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb am hynny—yn cadw llygad craff iawn arni ac mae eisoes wedi ysgrifennu ar sawl achlysur. Byddaf yn ymchwilio gyda hi a oes gwerth ysgrifennu unwaith eto yn sgil hyn.
O ran biomas y Barri, rwy'n ymwybodol bod trigolion y Barri wedi bod yn aros yn hir iawn am y penderfyniad o ran yr asesiad o effaith amgylcheddol. Rydym ni ar hyn o bryd yn ystyried yr wybodaeth amgylcheddol a luniwyd gan bartïon, gan gynnwys y datblygwr a Grŵp Gweithredu Llosgydd y Dociau i lywio'r ffordd ymlaen. Yn anffodus, nid oes gen i union amserlen, ond rydym ni'n disgwyl penderfyniad o fewn yr wythnosau nesaf. A byddaf i'n sicr yn gofyn i'r Gweinidog ysgrifennu atoch ynghylch unrhyw ohebiaeth rhyngddi hi a'r datblygwr.
Rydym yn brin o amser ar y datganiad, ond dau gwestiwn cyflym a chryno iawn, Nick Ramsay.
Diolch, Llywydd. Arweinydd y tŷ, amser cinio heddiw roeddwn yn falch o gynnal digwyddiad yr Agricultural Law Association yn y Senedd, ac roedd fy nghyd-Aelod, David Melding a nifer o'r Aelodau Cynulliad eraill yn bresennol. Y pwnc oedd datganoli trethu ac effaith y dreth stamp yn bennaf—y dreth trafodiadau tir—ar gymunedau gwledig yng Nghymru a'r gymuned amaethyddol. Tybed a gawn ni ddiweddariad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid ar gyflwyno datganoli trethi. Mae'n fy nharo i nad yw llawer o bobl o hyd yn wirioneddol ymwybodol o broses y datganoli hwnnw. Rydym ni ar hyn o bryd yn gweld problemau o ran y dreth trafodiadau tir, ond, yn amlwg, y flwyddyn nesaf bydd gennym ni ddatganoli rhannol y dreth incwm i Gymru hefyd. Felly, tybed a gawn ni ddiweddariad ar ba gyfathrebu sydd wedi digwydd rhwng Llywodraeth Cymru a phobl ledled Cymru i wneud yn siŵr eu bod yn deall ac yn gwerthfawrogi y newidiadau hyn yn llawn.
Ie. Mewn gwirionedd, rydym ni'n falch iawn o'r ffordd y cafodd y trefniadau treth eu gweithredu—trefniadau treth hanesyddol ar gyfer Cymru—oherwydd gwnaed y cyfan yn ddigidol. Roedd yn brosiect cymhleth iawn ac, mewn gwirionedd, nid oedd unrhyw broblemau o gwbl, sydd bob amser yn braf iawn, Llywydd.
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid bob amser yn awyddus iawn i gael cyfle i draethu am dreth. Byddaf yn sicr yn trafod ag ef pa bryd y bydd ei ddatganiad nesaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr.
Yr un mor gryno, gobeithio, Jenny Rathbone.
Amser cinio, daeth y grŵp trawsbleidiol ar gamblo a'r grŵp trawsbleidiol ar blant a phobl ifanc at ei gilydd i glywed tystiolaeth bwysig iawn ac eithaf ysgytwol gan yr Athro Samantha Thomas, ar sail yr ymchwil y mae hi wedi'i gynnal yn Awstralia ar sut y mae'r diwydiant gamblo yn targedu plant a phobl ifanc. A rhag i ni gredu bod hyn yn broblem sydd wedi'i chyfyngu i Awstralia, ymwelodd â dwy ysgol yma ddoe, ym Mro Morgannwg a Phontypridd, lle'r oedd pobl ifanc yn gallu adnabod yr holl gwmnïau gamblo, lliw eu logo, a'r rhigymau a'r jôcs y maen nhw'n eu defnyddio yn eu hysbysebion. A dyma sut y mae'r diwydiant gamblo yn targedu plant a phobl ifanc. Yn Awstralia, maen nhw yn awr wedi gwahardd hysbysebion cyn y trothwy 8.30pm. Tybed a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog perthnasol ynglŷn â beth fydd ein polisi ni i amddiffyn plant a phobl ifanc rhag dod yn gaeth i gamblo.
Ie, rwy'n rhannu pryder yr Aelod ynglŷn â hyn, a gwnaethom ei drafod yn lled ddiweddar yn y Siambr. Ysgrifennodd Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd a minnau at yr Awdurdod Safonau Hysbysebu, ac rydym ni wedi cael ymateb eithaf cynhwysfawr. Llywydd, byddaf i'n ymchwilio i'r ffordd orau o rannu hynny ag Aelodau ac yn gwneud yn siŵr y caiff ei rannu cyn gynted â phosibl gan ei fod yn ailddatgan nifer o'r materion y mae Jenny Rathbone newydd eu codi.
Diolch i arweinydd y tŷ.
Cyn inni symud ymlaen, a gaf i ymddiheuro i'r Siambr am y cyfeiliant cerddorol y prynhawn yma? Rydym ni'n credu ein bod ni wedi dod o hyd i'r tarddiad—mae'n gysylltiedig â'r gwynt. Rwy'n gobeithio y bydd yn dod i ben cyn bo hir. [Torri ar draws.] Dim jôcs. Ddylwn i ddim fod wedi sôn am hynny.
Felly, fe wnawn ni symud ymlaen i’r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y cynllun gweithredu strategol ar gyfer anhwylderau’r sbectrwm awtistig. Fe wnaf fi alw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i wneud ei ddatganiad—Vaughan Gething.

Diolch, Llywydd. Fe wnaeth Llywodraeth Cymru ailddatgan ein hymrwymiad i wella bywydau pobl awtistig ym mis Tachwedd 2016 pan gyhoeddwyd y cynllun gweithredu newydd ar gyfer anhwylderau'r sbectrwm awtistig, wedi'i ategu gan £13 miliwn o fuddsoddiad mewn gwasanaethau newydd. Heddiw, cyhoeddwyd yr adroddiad blynyddol cyntaf ar gyflawni'r cynllun gweithredu. Rwy'n falch o adlewyrchu cyflawniadau'r holl rai hynny a fu'n cymryd rhan wrth ymateb i'r heriau a osodwyd gennym. Mae'r cynnydd gwirioneddol a wnaed eleni yn adlewyrchu ar ein gweledigaeth ar gyfer cyflawni. Mae arloesi a chydweithio wedi helpu i sefydlu sail gadarn ar gyfer llwyddiant yn y dyfodol.
Y cyflawniad mwyaf arwyddocaol eleni fu sefydlu'r gwasanaeth awtistiaeth integredig cenedlaethol, gan greu cefnogaeth gyson i bobl ag awtistiaeth. Mae llawer o egni wedi'i roi i'r gwaith o sefydlu'r ffyrdd newydd o weithio rhwng asiantaethau a gweithio mewn partneriaeth, a hynny yn yr hyn sydd yn amgylchedd cymhleth. Rydym yn falch iawn o'r hyn a gyflawnwyd, wrth fod y gwasanaeth awtistiaeth integredig yn agored yng Nghaerdydd a'r Fro, Cwm Taf, Gwent a Phowys. Bydd yn cael ei lansio yr wythnos nesaf yn y gogledd a bydd yn agor yn ddiweddarach yn y flwyddyn ariannol hon ym mae'r Gorllewin ac yn y gorllewin. Rwy'n falch iawn o weld ein bod ni'n cael adborth cadarnhaol iawn. Mae hyn yn cynnwys cyfranogwyr yn nodi mai hwn yw'r tro cyntaf y maent wedi teimlo bod rhywun yn gwrando arnynt.
Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.
Ni fyddai'r cynnydd yr ydym ni'n ei wneud yn bosibl heb gymorth tîm datblygu cenedlaethol ASD a arweinir gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Fe gyhoeddodd hwnnw ei adroddiad blynyddol heddiw hefyd, ac rwy'n deall bod datganiad yn tynnu sylw at hynny wedi'i ddosbarth i'r Aelodau gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Mae'r tîm yn gweithio gyda rhanbarthau i ddatblygu'r gwasanaeth integredig ac i hybu ymgysylltu ac arfer da ledled Cymru. Mae gan y tîm swyddogaeth hirsefydlog wrth godi ymwybyddiaeth o awtistiaeth, cyhoeddi amrywiaeth eang o adnoddau a gwybodaeth, sydd ar gael yn rhwydd ar eu gwefan ASDinfoWales.
Mae dim ond dau o lwyddiannau nodedig y tîm dros y flwyddyn ddiwethaf yn cynnwys ymestyn y rhaglen Dysgu gydag Awtistiaeth. Yn ychwanegol at y cynllun ar gyfer ysgolion cynradd, mae'r cynlluniau ar gyfer ysgolion uwchradd a'r blynyddoedd cynnar wedi'u lansio ac yn cael eu cyflwyno. Mae wyth deg o ysgolion wedi cwblhau'r rhaglen ar gyfer ysgolion cynradd erbyn hyn, a bron i 13,000 o blant yn dod yn uwcharwyr awtistiaeth. Mae'r ymgyrch Weli Di Fi? yn cael ei chyflawni hefyd, sydd â'r nod o wella'r ymwybyddiaeth o awtistiaeth mewn cymunedau lleol. Mae ffilm ac adnoddau'r ymgyrch yn cael eu cyflwyno mewn partneriaeth â rhieni, gofalwyr a busnesau lleol ledled Cymru. Mae'r llwyddiannau hyd yn hyn yn cynnwys dyfarniadau a gyflawnwyd gan ganolfan siopa Merthyr Tudful a chanolfan siopa McArthurGlen ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a darparwyd hyfforddiant i Glwb Pêl-droed Dinas Abertawe.
Er ein bod yn gwneud cynnydd da, rydym ni'n gwybod bod llawer mwy i'w wneud. Rydym ni'n parhau i edrych yn ofalus ar y materion y mae pobl awtistig yn dweud sydd fwyaf pwysig iddyn nhw er mwyn llywio camau gweithredu yn y dyfodol. Mae amseroedd aros am asesiad yn flaenoriaeth i lawer, ac ers 2015, rydym ni wedi buddsoddi £2 miliwn ychwanegol y flwyddyn yng ngwasanaethau niwroddatblygiadol plant, gan gyflwyno safon amser aros newydd o 26 wythnos o'r adeg atgyfeirio i'r apwyntiad asesu cyntaf, yr ydym ni erbyn hyn yn ei dreialu. Rydym ni eisiau gwneud rhagor o gynnydd, ac eleni, rydym ni'n edrych ar arfer da mewn rhai ardaloedd sydd eisoes yn cyflawni canlyniadau o ran lleihau amseroedd aros, gyda'r nod o ailadrodd y llwyddiant a'r arfer da hwnnw ledled Cymru.
Rwy'n deall mai'r mater pwysicaf i rieni plant awtistig yn aml yw sicrhau bod eu plant yn cael y cymorth addysgol cywir i'w helpu i gyflawni eu llawn botensial. Yn gynharach eleni, pasiwyd Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018. Bydd honno'n paratoi'r ffordd ar gyfer gweddnewid y cymorth ar gyfer plant ag anghenion ychwanegol hyd at 25 oed, gan greu fframwaith cyfreithiol unedig a fydd yn sicrhau bod dysgwyr a'u rhieni wrth wraidd y gwaith o gynllunio a diwallu eu hanghenion. Bydd y diwygiadau hefyd yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau yn y gweithlu i ddarparu cymorth effeithiol i ddysgwyr, a bydd hi'n haws cael gafael ar gymorth, gwybodaeth a chyngor arbenigol. Bydd y system newydd yn cael ei chyflwyno fesul cam o fis Medi 2020 ymlaen.
Yn ystod tymor y Cynulliad hwn, rydym ni eisiau canolbwyntio ein holl ymdrechion ar y cynllun gweithredu strategol ar gyfer ASD, gan ymgorffori'r gwasanaeth integredig newydd, a chyflawni ein holl ymrwymiadau eraill. Rwyf wedi ystyried yn ofalus y galw am ddeddfwriaeth awtistiaeth a'r cynigion a geir ym Mil drafft Awtistiaeth (Cymru) a arweinir gan Aelodau'r Cynulliad. Mae'n amlwg ein bod ni i gyd yn canolbwyntio ar sicrhau ein bod yn buddsoddi mewn gwasanaethau awtistiaeth yn y tymor hirach. Y gwahaniaeth rhyngom ni yw sut yr ydym ni'n ceisio cyflawni'r nodau hynny.
Rwy'n deall bod y posibilrwydd o fod â deddfwriaeth awtistiaeth sy'n benodol, yn ddeniadol i lawer. Mae'n amlwg mai bwriad y ddeddfwriaeth ddrafft, fel yr ydym ni wedi'i gweld, yw ategu'r dyletswyddau a'r disgwyliadau presennol ar gyrff cyhoeddus i ddarparu gwasanaethau a chymorth i bobl awtistig. Mae hi eisoes yn ofynnol i gyrff cyhoeddus, wrth gwrs, ddarparu gwasanaethau sy'n seiliedig ar anghenion i bobl sydd angen gofal a chymorth—mae gan bobl awtistig a'u gofalwyr eisoes yr un hawl i gael gafael ar wasanaethau, fel pob dinesydd arall yng Nghymru.
Rydym ni eisoes yn cynnig rhai gwelliannau mawr eu hangen mewn gwasanaethau awtistiaeth. Dydw i ddim o'r farn y bydd deddfwriaeth gostus a dwys o ran adnoddau yn dod â manteision ychwanegol i bobl awtistig y tu hwnt i'r ymrwymiadau ymarferol i wella'r gwasanaethau yr ydym ni eisoes yn llwyr ymrwymedig iddynt. Yn fy marn i, byddai'n well buddsoddi amser ac arian i sicrhau ein bod yn cyflawni ein hymrwymiadau cadarn ac i sicrhau bod pwyslais ar welliant parhaus wrth i'r gwasanaethau newydd yr ydym ni'n eu rhoi ar waith ymwreiddio.
I wella gwasanaethau cymorth fwy fyth, rwy'n bwriadu tynnu sylw at anghenion pobl awtistig a'r gofyniad i ddiwallu'r anghenion hynny ar draws y gwasanaethau statudol drwy gyflwyno cod ymarfer ar ddarparu gwasanaethau awtistiaeth. Mae hwn eisoes yn cael ei ddatblygu mewn partneriaeth â phobl awtistig. Bydd yn darparu eglurder ar y cymorth y gall pobl ag awtistiaeth ddisgwyl ei dderbyn ac yn rhoi arweiniad ar sut y gall gwasanaethau addasu eu harferion i ddiwallu anghenion unigol pobl ag awtistiaeth. Byddwn ni'n ymgynghori ar ein cynlluniau yn ddiweddarach eleni, ac rwy'n annog pawb i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwnnw i wneud yn siŵr ein bod yn canolbwyntio ar y materion sydd o wir bwys. Hefyd, byddwn yn diweddaru ein cynllun cyflawni ac yn adlewyrchu'r adborth a gawn ar ddarpariaeth gwasanaethau.
Nid yw'r galwadau am welliannau mewn gwasanaethau awtistiaeth yn cael eu hanwybyddu. Rydym ni'n cymryd camau i gyflawni'r canlyniadau gwell y mae pawb yn dymuno eu gweld. Rydym ni'n codi ymwybyddiaeth o awtistiaeth ar draws y gwasanaethau, yn gwella'r gallu i gael asesiad a diagnosis ac yn darparu cymorth arbenigol ychwanegol ym mhob rhanbarth o Gymru. Byddwn ni'n parhau i wrando, a byddaf yn cadw meddwl agored am yr angen posibl am ddeddfwriaeth sy'n benodol i awtistiaeth yn y dyfodol, os daw'n glir drwy werthuso na ellir cyflwyno'r gwelliannau yr ydym ni i gyd yn dymuno eu gweld heb gymryd y llwybr hwn.
Diolch i chi am eich datganiad. Mae'n rhaid imi ddweud bod y swm enfawr o waith achos sy'n gysylltiedig ag awtistiaeth y mae fy swyddfa i yn ei drafod a'r straeon personol o'r tu allan i'r gogledd yr ydym yn eu derbyn, yn awgrymu bod symiau enfawr o arian yn parhau i gael eu gwario, dim ond i'w gael, yn anffodus, yn anghywir iawn, iawn ac weithiau'n drasig o anghywir. Sut ydych chi'n ymateb i bryderon a godwyd â mi bod un o'r pedair ardal gwasanaeth awtistiaeth integredig, neu IAS, lle lansiwyd y gwasanaeth yn dweud erbyn hyn eu bod eisiau bod yn wasanaeth diagnostig a cholli eu swyddogaeth gweithiwr cymorth? Mae ardal arall eisoes yn nodi, er gwaethaf derbyn £150,000 i £170,000 ychwanegol bob blwyddyn gan awdurdodau lleol a byrddau iechyd ar ben eu cyllid IAS, na all ymdopi â nifer yr atgyfeiriadau y maen nhw'n eu cael, ac mae'r rhain yn atgyfeiriadau meddygol, nid rhai cymdeithasol, nid rhai sy'n canolbwyntio ar atal ac ymyrryd. Mynegwyd pryder wrthyf i y bydd y rhan fwyaf o'r bobl sy'n defnyddio gwasanaethau nad ydynt yn rhai IAS ar hyn o bryd yn diflannu neu'n ymddangos mewn argyfwng. Mae pryder am y diffyg niferoedd sy'n cael sylw gan yr IAS a'r diffyg gwasanaethau gan IAS i gario'r baich a drosglwyddir o gyrff trydydd sector sy'n colli'n gynyddol y cymorth lleol, er gwaethaf y ffaith eu bod wedi eu cefnogi weithiau gan gannoedd o aelodau lleol o'r gymuned awtistiaeth.
Fe wnaethoch chi gyfeirio at safon amser aros o 26 wythnos o'r adeg atgyfeirio i'r apwyntiad asesu cyntaf. Pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u rhoi ar waith i gymryd camau pan nad yw byrddau iechyd yn cyflawni'r targed hwnnw? A yw'r data amser aros yn cael ei ddiweddaru bob chwarter, ac os nad yw, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd?
Faint o bobl awtistig sydd wedi manteisio ar gyflogaeth o ganlyniad i'r rhaglen Ar y Blaen 2? A wnaeth Llywodraeth Cymru gyflawni achrediad yn y siarter 'bod yn fodlon gweithio gydag awtistiaeth' y llynedd, a sut y mae'n cynnal ei achrediad y flwyddyn hon a thu hwnt?
Faint o bobl sydd wedi cael gafael ar y gwasanaeth integredig ym mhob un o'r pedwar bwrdd iechyd lle lansiwyd y gwasanaeth, pa weithwyr proffesiynol a gafodd hyfforddiant ymwybyddiaeth, a beth yw'r meysydd blaenoriaeth, wrth inni edrych i'r dyfodol, ar hynny? Wrth gwrs, yn ogystal â hyfforddiant ymwybyddiaeth, sy'n cael ei arwain yn aml gan bobl nad ydynt yn awtistig, sy'n weithwyr proffesiynol yn y proffesiynau meddygol neu ofalu, sydd â phwyslais meddygol, pa gamau ydych chi'n eu cymryd neu a fyddwch chi'n eu cymryd i fynd i'r afael â diffyg enfawr o ran derbyn awtistiaeth a hyfforddiant cydraddoldeb sy'n cael ei arwain gan hyfforddwyr sy'n bobl awtistig neu sy'n aelodau o'r gymuned awtistiaeth, sy'n canolbwyntio ar bobl awtistig a phobl nad ydynt yn awtistig yn gweithio gyda'i gilydd i oresgyn y rhwystrau sy'n anablu mewn cymdeithas?
A yw'r grŵp cynghori wedi cytuno ar gynllun gwaith? A fydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi'r cynllun gwaith hwnnw os yw ar gael? Sut y mae Llywodraeth Cymru yn ymateb i'r argymhellion a geir yn y gwerthusiad annibynnol interim o'i strategaeth awtistiaeth a'r gwasanaeth awtistiaeth integredig, a ganfu wendidau ac anghysondebau yn y gwasanaethau asesu a diagnostig i oedolion ag awtistiaeth ac yn y gwasanaethau cymorth ar gyfer oedolion a phlant ag awtistiaeth? Dywedodd:
Er mwyn llwyddo, fod angen dull cydgynhyrchiol sy'n cynnwys staff, defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr wrth ddylunio, gweithredu a gwerthuso yr IAS.
Ond mae yna bryderon am y dull o'r brig i lawr, y dywedwyd ei fod wedi rhwystro hyn.
Gan fod y gwasanaeth yn cael ei lansio yn y gogledd ar 27 Mehefin, fel y gwnaethoch chi ddweud, pa gamau fyddwch chi'n eu cymryd pan fyddwch chi'n clywed y straeon a godais yr wythnos diwethaf, fel y rhai o'r achos adolygiad barnwrol a setlwyd yn ddiweddar, cyn y gwrandawiad llawn, pan gytunodd cyngor Sir y Fflint i roi ymddiheuriad ffurfiol a rhoi dyfarniad iawndal ar ôl methu ag asesu a diwallu anghenion person ifanc awtistig ag anghenion ychwanegol, ac ystyried yn llawn anghenion gofalwr ei rhiant? Un achos yn unig yw hwnnw. Mae gen i wn i ddim faint o achosion tebyg—yn bennaf, ond nid yn unig yn Sir y Fflint—ar hyn o bryd. Sut y byddech chi'n ymateb i'r rhiant yn Sir y Fflint a anfonodd neges e-bost ataf ddoe ynghylch yr ymateb i'w chŵyn i CAMHS Sir y Fflint, yn dweud, 'Nid oes gan eich merch gyflwr gorbryder parhaus', a dim ond ymddiheuriad ydoedd am gyfathrebu gwael, ond roeddynt wedi gorfod mynd at seiciatrydd preifat oherwydd diffyg gofal, sydd wedi rhoi diagnosis bod y ferch ag achos difrifol o Anhwylder Straen Wedi Trawma, iselder a gorbryder? Mae hi'n dweud, 'Rydym ni'n falch nawr ein bod yn cael triniaeth ac argymhelliad am diwtora gartref, diolch i'n seiciatrydd preifat, ond dylai fy merch fod wedi cael hwn pan ofynnodd hi i CAMHS Sir y Fflint am gymorth chwe mis yn ôl.'
Rwyf i bron â gorffen, ond mater allweddol yw'r mater o rywedd. Rwyf wedi codi hyn droeon, ond rwy'n dal i dderbyn gwaith achos, bron bob dydd, lle dywedir wrth ferched sydd ag angen amlwg am ddiagnosis o awtistiaeth nad yw'n bosibl o gwbl iddyn nhw gael diagnosis o'r fath. Llythyr, er enghraifft, gan y bwrdd iechyd yn y fan yma:
'Mae'n anodd cyfuno'r disgrifiad o'r anawsterau a roddir gan rai teuluoedd â'r wybodaeth gan staff addysgu sy'n adrodd dim neu ychydig iawn o broblemau yn amgylchedd yr ysgol. Nid yw hyn yn nodweddiadol o blant sydd ag ASD',
pan fo cyfoeth o ymchwil a thystiolaeth genedlaethol a rhyngwladol yn gwrthddweud hynny'n uniongyrchol, o ran y strategaethau cuddio ac ymdopi y mae llawer o blant, ac yn enwedig merched, yn eu mabwysiadu.
Rydych chi'n dweud bod galwadau am ddeddfwriaeth awtistiaeth—
Na mae'n ddrwg gen i. [Torri ar draws.] Wel, rydych chi wedi gofyn nifer o gwestiynau ac rydych chi ymhell i mewn i chwe munud, bron, felly os gallwch chi ei ddweud o fewn y 30 eiliad nesaf, gallwch chi ofyn eich cwestiwn olaf.
Sut y gallwch chi ddweud, oni bai eich bod yn cyflwyno dyletswyddau statudol i ddarparu'r cymorth gan wasanaethau statudol y mae eu hangen ar y bobl hyn a llawer iawn o rai eraill, eich bod chi'n mynd i allu diwallu eu hanghenion â'r gwasanaeth hwn? Hyd nes a heb orfodi eich deddfwriaeth bresennol, fel y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant, sut yn y byd y gallwch chi ddweud pa mor dda ydych chi'n ei wneud ar hyn o bryd?
Gweinidog, ac nid oes yn rhaid i chi ateb pob un o'r gyfres honno o gwestiynau, neu fe fyddwn ni yma tan yfory.
Yn anffodus, rwy'n gweld eich pwynt chi, Dirprwy Lywydd. Ni fydd modd i mi ateb y mwy na'r dwsin o wahanol bwyntiau a nodwyd, â phob parch at yr Aelod ac eraill sy'n dymuno ymateb. Ond, a bod yn deg, mae nifer o'r rheini, y pwyntiau a godwyd, yn rhai unigol, ac mae yna rai mwy cyffredinol. Os hoffai'r Aelod ysgrifennu ataf â'r manylion y mae ef wedi'u nodi, yna byddwn yn hapus i sicrhau bod y person priodol yn ymateb iddo. Ac, wrth gwrs, byddaf hefyd yn y grŵp trawsbleidiol yfory i ateb cwestiynau a chael sgwrs â phobl yno.
Credaf fod un neu ddau o bwyntiau yr hoffwn i eu gwneud mewn ymateb i'r hyn a ddywedodd yr Aelod. Gan feddwl am ei bwynt olaf am yr angen am ddeddfwriaeth neu fel arall, mewn gwirionedd, rhan o'r ateb yw'r hyn yr oeddech chi'n ei ddweud ynghylch gorfodi dyletswyddau presennol sydd eisoes wedi'u nodi, a'r her o wneud yr hawliau hynny'n rhai go iawn. Rhan o'r hyn yr ydym ni'n ceisio'i wneud wrth fuddsoddi yn y gwasanaeth integredig yw gwireddu hynny. Dyna hefyd y mae'r cod ymarfer yn ceisio tynnu sylw ato ac yn ceisio ei wireddu i deuluoedd. Felly, nid yw hyn yn ffordd o geisio dweud ein bod yn credu eich bod yn anghywir ac nad yw'r enghreifftiau yr ydych chi'n eu codi yn wir. Rwy'n cydnabod, i lawer o deuluoedd, fod hon yn her sylweddol a go iawn i blant ac oedolion sydd ag awtistiaeth hefyd. Mae hyn mewn gwirionedd ynghylch sut y gwnawn ni'n siŵr eu bod yn cael cyrraedd eu llawn botensial. Mae gennyf i brofiad personol o hyn hefyd, yn fy nheulu fy hun, felly rwy'n deall nad yw hon yn her hawdd y dylid ei gwrthod neu ei hanwybyddu'n ddifeddwl. Dyna pam, hyd yn oed yn y cyfnod ariannol mwyaf anodd hwn, rydym ni wedi buddsoddi £13 miliwn yn y gwasanaeth. Dyna pam y dylem ni i gyd ymfalchïo bod y gwasanaeth integredig yn cael ei gyflwyno, ac mae'r adborth yr ydym ni'n sôn amdano yn adborth uniongyrchol gan y teuluoedd eu hunain am y gwahaniaeth y mae'r gwasanaeth eisoes wedi'i wneud, ac mae hwnnw'n wahaniaeth go iawn—nid yw'n rhywbeth a grëwyd neu yn waith ffuglen i geisio cael ein hunain drwy her yn y fan yma.
Ein her, er hynny, wrth gwrs, yw nid dim ond deall yr hyn sydd wedi bod yn llwyddiannus wrth i'r gwasanaeth gael ei gyflwyno, ond deall sut yr ydym ni'n ceisio addasu a chymhwyso'r hyn a ddysgwyd i'r ardaloedd lle nad yw'r gwasanaeth eto wedi ei roi ar waith. Mae hefyd, wrth dderbyn bod yna adborth cadarnhaol iawn i'r gwasanaeth integredig, yn cydnabod nad yw'n berffaith—nid yw'r un gwasanaeth dynol byth yn berffaith—ond deall sut, yn yr enghreifftiau hynny lle nad yw'r gwasanaeth wedi bodloni anghenion yr unigolion hynny a'u teuluoedd, ein bod yn dysgu o hynny er mwyn llywio gwelliant, oherwydd dyna'r pwynt: ni fydd yna ddiweddbwynt. Bydd gennyf ragor i'w ddweud am amseroedd aros ar ôl i'r cynllun treialu gael ei gwblhau, a byddaf wrth gwrs yn gwneud yn siŵr bod hynny ar gael i'r cyhoedd. Fy ngobaith yw y byddant yn dod yn ystadegau swyddogol, ac os felly, byddan nhw ar gael yn rhwydd o fis i fis i'r holl Aelodau graffu arnynt. Ond, does dim amheuaeth y byddwn ni'n parhau i drafod y themâu cyffredinol hyn, nid dim ond heddiw ond am gyfnod sylweddol o amser i ddod, yn enwedig gan fy mod yn disgwyl y bydd yr Aelod yn cynhyrchu ei Fil cyn toriad yr haf.
Gwnaf i dreio cadw fy sylwadau i’n fyr. Rydw i'n credu mai rhyw bedwar cwestiwn sydd gen i yn fan hyn. Ar yr ystadegau sydd yn cael eu casglu, mae targed wedi cael ei sefydlu o 26 wythnos o aros am asesiad cyntaf—mae’r data yn cael ei gasglu. Pa bryd a ydym ni’n mynd i gael y data yma wedi’i gyhoeddi, achos y mae unrhyw ddata sydd ar gael, rydw i'n meddwl, yn gorfod cael ei gyhoeddi?
Ar basio’r Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru), mae pryderon ynglŷn â diffyg adnoddau i gefnogi’r Bil yna wedi bod yn amlwg iawn. A all yr Ysgrifennydd Cabinet egluro pa adnoddau y mae’r Llywodraeth yn bwriadu eu darparu i gefnogi awdurdodau lleol wrth weithredu hyn?
Mae yna ddarn o ddeddfwriaeth yn dechrau'i thaith drwy’r Cynulliad yma. Mae’r datganiad wedi gwrthod y syniad o ddeddfu, ac y mae cost yn un o’r prif ddadleuon yn erbyn y ddeddfwriaeth. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet dderbyn na fydd y ddeddfwriaeth ei hun yn costio unrhyw beth? Hynny ydyw, mae’r gost yn dod o unrhyw oblygiadau ariannol sy’n dilyn o gynnwys y ddeddfwriaeth, a fyddai'n bennaf, mewn difrif, yn ymwneud â sicrhau'r hawl i wasanaethau yn y gyfraith. Os ydych chi’n bwriadu cwrdd â’r amcanion hynny drwy wella’r gwasanaeth, nid oes yna, mewn difrif, cost ychwanegol, ond o leiaf mi fyddai cael gwarantau cyfreithiol—ac yn fan hyn y mae deddfwriaeth yn ddefnyddiol—yn rhoi rhywfaint o sicrwydd i grŵp lleiafrifol nad eu gwasanaethau nhw fydd y cyntaf i fynd bob tro y bydd awdurdodau lleol yn wynebu her ariannol.
Dyna dri, rydw i'n meddwl; felly, pedwar, nid ydyw'r datganiad yn sôn unrhyw beth am fyd cyflogaeth. Dim ond 16 y cant o oedolion sydd ag awtistiaeth sydd mewn gwaith llawn amser cyflogedig. Dim ond 32 y cant sydd mewn unrhyw fath o waith cyflogedig. A all yr Ysgrifennydd Cabinet ddarparu mwy o fanylion am sut yr ydych yn bwriadu gwyrdroi hyn, achos nid yw blynyddoedd o bartneriaethau ac anogaeth ddim i’w gweld yn gweithio?
Diolch i chi am y cwestiynau. Ar eich pwynt olaf, mae yna gydnabyddiaeth ein bod yn ceisio cyflawni newid diwylliannol. Dydy hyn ddim yn ymwneud â theuluoedd â phobl ag awtistiaeth yn unig, mae'n ymwneud mewn gwirionedd â'r cymorth a gânt yn y gweithle ac agweddau gwahanol gyflogwyr. Yn yr adroddiad a gyhoeddwyd heddiw, byddwch chi'n gweld enghreifftiau uniongyrchol o bobl sydd wedi cael cymorth gan y gwasanaeth i aros mewn cyflogaeth os ydynt mewn cyflogaeth, neu i chwilio am gyflogaeth hefyd. Yr her yw peidio â sefydlu gwasanaeth i fethu, ond bod hyn yn rhan o awydd i newid ein sgwrs genedlaethol a cheisio newid faint o gymorth ymarferol sydd ar gael i fusnesau a'u cyflogeion. Ond rwy'n cydnabod bod llawer o ffordd i'w theithio yn y fan yma, yn union fel y ceir mewn nifer o feysydd eraill, ond mae hynny'n rhan o'r ymrwymiad a nodwyd yn y gwasanaeth integredig.
Fe wnaf ymdrin â'ch pwynt am amseroedd aros nawr. Y targed 26 wythnos: bydd rhagor o wybodaeth ar gael yn fewnol, o fewn y Llywodraeth, yn ystod yr hydref wrth inni edrych unwaith eto ar gyflwyno'r safonau amseroedd aros. Mae angen inni fod yn sicr, cyn inni gyflwyno'r targed a dechrau cyhoeddi gwybodaeth, ei bod yn gadarn ac yn ddibynadwy. Mae pob un ohonom wedi cael profiad yn y gorffennol o geisio cyflwyno safonau amseroedd aros a'r rheini heb fod ar gael, ac yna—pan nad ydynt wedi bod yn barod yn y ffordd gadarn y dylent fod, yn hytrach—mae hynny wedyn yn achosi diffyg hyder yn y ffigurau. Dydw i ddim yn ceisio cuddio'r ffigurau; dydw i ddim yn ceisio gwneud yn siŵr eu bod ond yn cael eu cyhoeddi pan fyddan nhw edrych yn dda i mi. Mae gen i wir ddiddordeb mewn gwneud yn siŵr eu bod mewn gwirionedd yn wirioneddol ddibynadwy, oherwydd rwy'n disgwyl y bydd amrywiaeth yn yr hyn a ddysgir rhwng gwahanol rannau o Gymru. Ond rwyf i eisiau gwneud yn siŵr eu bod yn gadarn, y gellir dibynnu arnyn nhw, a'u bod yn helpu i sbarduno rhywfaint o welliant mewn mesurau sy'n wirioneddol bwysig ac sy'n cael effaith go iawn ar deuluoedd.
O ran eich pwynt chi am gost y ddeddfwriaeth, mae cost i ddeddfwriaeth bob amser, nid dim ond cost i'r lle hwn o ran y dull o weithredu, ond mae her yn y fan yma o ran y gost ac o ran yr amser a'r adnoddau sydd ar gael i ymarferwyr, i'r tîm polisi yma yn ganolog, a beth y mae hyn yn ei olygu wedyn o ran dargyfeirio'r sylw hwnnw i fynd i broses ddeddfwriaethol yn hytrach na chanolbwyntio ar wella. Ni fydd deddfwriaeth yn cynhyrchu mwy o arian. Bydd gennym ni o hyd yr un swm o arian ar gael i'r Llywodraeth, a bydd yn rhaid i ni wneud dewisiadau am hynny hefyd, gyda'n partneriaid mewn gwasanaethau eraill. Fy mhrif ddiddordeb i yw deall, i'r bobl sy'n darparu'r gwasanaeth ac sy'n cymryd rhan ynddo, y gwahaniaeth y mae wedi'i wneud, a beth yw ein gobaith gwirioneddol ni o ran cyflawni'r math o welliant, fel yr wyf yn dweud, y byddai pob un ohonom ni yn yr ystafell hon eisiau ei weld.
Mae eich pwynt ynglŷn â gwasanaethau statudol—mae gennym ni eisoes ofynion statudol ar gyfer ein hunain, y gwasanaeth iechyd, llywodraeth leol a phartneriaid i'w cyflawni ac i'w darparu. Mae angen inni wneud yn siŵr ein bod yn eu gwireddu, ac mae hynny'n rhan o'r rheswm pam yr wyf i'n symud ymlaen â'r cod ymarfer, oherwydd rwyf yn cydnabod y bydd yna bobl a fydd yn deall ac yn adrodd eu straeon eu hunain am yr hyn sydd wedi digwydd, a lle nad yw eu hanghenion wedi'u bodloni yn y ffordd yr oeddem ni'n rhagweld y byddai'r ddeddfwriaeth yn ei gwneud. Rwy'n credu bod yn rhaid inni gael y ddeddfwriaeth honno yn iawn a gwneud yr hawliau hynny'n rhai go iawn, a byddai, gallai a dylai hynny wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r teuluoedd hynny hefyd.
Diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet, ac am ddarparu copi ymlaen llaw o 'Gynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig: Adroddiad Blynyddol 2017/18'. Rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mewn gwasanaethau a bod cynnydd yn cael ei wneud. Fodd bynnag, mae'r gwerthusiad o'r gwasanaeth awtistiaeth integredig ac adroddiadau interim y cynllun gweithredu strategol ar gyfer anhwylderau'r sbectrwm awtistig, gan Dr Holtom a Dr Lloyd Jones o Pobl a Gwaith, yn ei gwneud yn glir y bu methiant i sbarduno newid systemig sydd wedi helpu i greu loteri cod post o gymorth i oedolion ar y sbectrwm awtistiaeth.
Nid yw hyn yn newyddion i unrhyw un ohonom ni sydd wedi bod yn ymgyrchu dros Ddeddf awtistiaeth. Gallai fod gan Lywodraeth Cymru fwriadau da, ond nid yw pobl sy'n byw ar y sbectrwm yn gweld y ddarpariaeth ar lawr gwlad. Er gwaethaf cyflwyno'r gwasanaeth awtistiaeth integredig, mae sawl rhan o Gymru o hyd nad oes ganddyn nhw lwybrau clir i ddiagnosis. Amlygodd yr adroddiad interim y ffaith, er na fu arian yn broblem o ran sefydlu'r gwasanaeth integredig newydd, nad oedd gan y byrddau partneriaeth rhanbarthol lawer o gapasiti i ddatblygu'r gwasanaeth.
Ymddengys bod sefydlu'r gwasanaeth awtistiaeth integredig cyntaf wedi digwydd yn sgil gwaith caled ac ymroddiad yr arweinydd ASD cenedlaethol, ond fel y mae'r adroddiad interim yn dangos, mae hyn yn llawer o straen i'w roi ar un person. Ni ddylai llwyddiant neu fethiant ddibynnu ar gamau un unigolyn. Ysgrifennydd y Cabinet, pa gamau ydych chi'n eu cymryd i sicrhau nad yw cynlluniau cyflwyno yn y dyfodol yn dibynnu ar un unigolyn, ni waeth pa mor ddawnus?
Rwy'n cydnabod mai un o gyflawniadau allweddol y cynllun gweithredu strategol oedd cyflwyno'r targed amser aros o 26 wythnos ar gyfer asesu niwroddatblygiadol. Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch chi gadarnhau bod y targed hwn yn cael ei fodloni gan yr holl fyrddau iechyd? Os nad ydyw, a oes gennych chi amserlen ar waith ar gyfer pryd yr ydych chi'n disgwyl i'r holl fyrddau iechyd gyflawni eu targedau?
Yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, er fy mod yn dal heb fy argyhoeddi nad oes angen Deddf awtistiaeth ar Gymru, rwy'n barod i weithio gyda chi er mwyn darparu gwell gwasanaethau i bobl yng Nghymru sydd ar y sbectrwm awtistiaeth, a gobeithio ymhen 12 mis y byddwch chi wedi fy argyhoeddi bod deddfwriaeth yn wir yn ddiangen. Edrychaf ymlaen at weld pa gynnydd y gellir ei wneud yn ystod y flwyddyn. Diolch.
Diolch ichi am y sylwadau. Rwy'n credu fy mod wedi ymdrin â'r heriau a'r pwyntiau ynghylch amseroedd aros eisoes. Rwy'n cydnabod yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud am eich safbwynt presennol ar ddeddfwriaeth, ond eich bod yn agored i'r posibilrwydd, os byddwn ni'n gallu gwneud digon o welliant, efallai na fyddai'r posibilrwydd o fwy o ddeddfwriaeth yn rhywbeth y byddech chi'n ei gefnogi. Rwy'n credu bod yna her yn y fan yma ynglŷn â diben ymarferol y ddeddfwriaeth y mae Paul Davies yn bwriadu ei chyflwyno. Byddwn i'n dweud ei fod yn ymwneud ag amcan a rennir, am wella gwasanaethau, am wneud yn siŵr bod mwy o sicrwydd i deuluoedd am y cymorth y gallan nhw ei ddisgwyl, ac i wneud yn siŵr y bodlonir anghenion pobl ag awtistiaeth yn briodol.
Dyna pam y mae'r gwasanaeth integredig sy'n gweithredu mewn pedwar rhanbarth yn bwysig i ni, oherwydd os ydych chi'n meddwl am y gwasanaethau ymarferol y bydd angen inni eu darparu, profiadau'r teuluoedd hynny yn yr ardaloedd hynny yn rhyngweithio â'r gwasanaeth, eu bod yn ymwybodol o'r gwasanaeth, ac yn yr un modd y staff rheng flaen y bydd eu hangen arnom i ddarparu'r gwasanaeth hwnnw—i fod yn deg, fe wnaethoch chi bwyntiau ynglŷn â staff hefyd, ac yn benodol ynghylch peidio â dibynnu ar un unigolyn i ddarparu'r gwasanaeth cyfan, ac rwy'n cydnabod nad yw gwasanaeth sy'n gwbl ddibynnol ar un unigolyn yn fodel cynaliadwy i'w gyflwyno'r ledled y wlad. Fe allwn ni, fodd bynnag, ddweud bod y gwasanaeth integredig yn gweld cynnydd sydd i'w groesawu mewn arbenigedd ar awtistiaeth wrth i fwy o glinigwyr gael eu recriwtio. Mae'r model yr ydym ni wedi'i ddarparu mewn gwirionedd yn fwy deniadol i staff sydd eisiau dod i weithio mewn ffordd sy'n gydgysylltiedig â gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol eraill. Yn hollbwysig, rydym ni'n gweld teuluoedd yn ymateb i hynny ac yn cydnabod bod pobl yn gwrando ar eu hanghenion ac yn eu diwallu. Fel y dywedais yn gynharach, ni fydd hynny bob amser yn berffaith, ond mae'n welliant gwirioneddol yr ydym ni'n ei ddarparu.
Fe wnaethoch chi sôn am yr adroddiad gwerthuso interim. Unwaith eto, mae'n adlewyrchu'n onest y bu yna wahanol weledigaethau a blaenoriaethau ar y dechrau, ond mae'r rhai hynny wedi eu datrys i raddau helaeth, ac mae pob rhanbarth lle mae'r gwasanaeth wedi'i gyflwyno yn falch o'u cyflawniadau ac yn cydnabod eu bod nhw wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Dyna'r pwynt. Rydym ni eisiau gwasanaeth a fydd yn fwy na dim ond rhywbeth y gall gwleidydd codi ar ei draed a'i ddathlu a chwifio adroddiad blynyddol o gwmpas, ond yn hytrach, rydym ni eisiau gwasanaeth y byddai pobl yn cydnabod—y byddai'r bobl sy'n gweithio yn y gwasanaeth hwnnw, y bobl sy'n rhyngweithio â'r gwasanaeth hwnnw ac sy'n cymryd rhan yn y gwasanaethau a ddarperir yn cydnabod—ei fod yn gwneud gwahaniaeth go iawn, y gwahaniaeth y mae pob un ohonom ni yn dymuno ei weld ar gyfer y teuluoedd hyn.
Diolch yn fawr iawn i chi am eich adroddiad. Mae'n galonogol iawn i wybod bod gwaith da yn digwydd gyda'n hysgolion i sicrhau eu bod mor gynhwysol â phosibl. Pan fo'n bosibl, mae angen inni fod yn cynnwys pobl ifanc ag awtistiaeth mewn ysgolion prif ffrwd, ond pan nad yw'n bosibl mae'n amlwg bod angen inni sicrhau bod gennym ni wasanaethau rhagorol ar gyfer y rhai hynny â'r anableddau mwyaf. Felly, rwy'n credu bod hynny yn sicr i'w groesawu.
Roeddwn i eisiau gofyn i chi am y gwasanaethau sydd ar gael i oedolion ar y sbectrwm awtistig. Un o'r sefydliadau gwirfoddol sy'n gweithio gyda phobl ag awtistiaeth yw Autism Spectrum Connections Cymru, sydd wedi'i leoli yng nghanol dinas Caerdydd yn fy etholaeth i. Maen nhw'n bennaf yn cynorthwyo pobl â syndrom Asperger. Maen nhw wedi cael cannoedd o atgyfeiriadau, o Gaerdydd a'r Fro yn bennaf, ond hefyd gan awdurdodau lleol eraill yn y de-ddwyrain. Rwy'n credu, er bod asesu yn bwysig, bod gwasanaethau cymorth yn bwysig hefyd. Un o'r enghreifftiau a roddwyd yn adroddiad blynyddol y tîm datblygu ASD oedd cefnogaeth i sicrhau bod cyflogwyr a chyflogeion, pan fo gan y cyflogai awtistiaeth, fod y naill yn deall anghenion y llall. Roedd astudiaeth achos yn y fan honno a oedd yn dda iawn a wnaethpwyd gan Gaerdydd a'r Fro ac rwy'n siŵr bod angen gwneud llawer mwy o waith yn y fan honno.
Ond, rwy'n credu mai fy mhrif gwestiwn mewn gwirionedd yw: pa mor integredig yw'r gwasanaeth awtistiaeth integredig cenedlaethol o ran gofal iechyd darbodus a gweithredu gyda phobl sydd ag awtistiaeth yn ogystal â'r sefydliadau gwirfoddol sy'n eu cefnogi? Beth yw rhan y sector gwirfoddol wrth gyflawni'r cynllun gweithredu strategol ar gyfer awtistiaeth? Sut mae'r tîm datblygu sbectrwm awtistig yn penderfynu pa grwpiau gwirfoddol y maen nhw'n gweithio gyda nhw a pha rai y maen nhw'n eu hariannu? Oherwydd nid yw Autism Spectrum Connections Cymru yn cael unrhyw arian o gwbl, er eu bod nhw yn amlwg yn cynorthwyo cannoedd o bobl.
Rydych chi'n codi pwynt diddorol. Rwy'n credu y bydd yr enghreifftiau go iawn yn adroddiad y tîm datblygu ASD cenedlaethol yn cynnwys amrywiaeth o wahanol oedrannau, o blant i rai yn eu harddegau i oedolion ac oedolion hŷn hefyd. Mae'n ymwneud â sut y maen nhw wedi cael cymorth ar wahanol adegau yn eu cyfnodau bywyd, ac mewn gwirionedd mae llawer o bobl yn byw eu bywydau heb gael diagnosis a'r cymorth posibl y gall hynny ei olygu. Mae llawer o bobl yn llwyddo i ymdopi, ond mae yn ymwneud â beth yw ymdopi sy'n dal mewn gwirionedd yn caniatáu i rywun gyflawni ei botensial. Mae yna her yn y fan yma ynghylch cael diagnosis a fydd yn anodd iddynt yn hwyrach mewn bywyd hefyd. Mae'r her o ran pa mor integredig yw'r gwasanaeth, er hyn, yn dal i ymwneud â deall anghenion y boblogaeth a deall sut y bodlonir yr anghenion hynny.
Rwy'n siŵr y bydd amrywiaeth o grwpiau trydydd sector a fydd yn darparu gwasanaethau a chymorth ac, fel erioed, mae yna her ynghylch sut y caiff y gwasanaethau hynny eu rhedeg, eu hariannu ac wedyn eu cyfeirio rhwng gwahanol bobl. Mae llawer o bobl yn y trydydd sector nad ydyn nhw'n chwilio am arian, maen nhw'n chwilio am gydnabyddiaeth o'r hyn y maen nhw'n ei wneud a'u bod nhw'n rhan o'r ateb. Ni allwn wneud sylw ar y sefydliad penodol y cyfeiriwyd ato, a'r ffaith nad ydyn nhw'n cael eu hariannu drwy'r gwasanaeth. Os ydych chi eisiau cael sgwrs benodol am hynny, byddwn i'n hapus i wneud hynny, ond dydw i ddim eisiau dechrau trafod pwynt mwy cyffredinol, oherwydd yr hyn nad ydw i eisiau yw bod yna rywsut—weithiau, pan fyddwch chi'n cyhoeddi arian o gwmpas gwasanaeth, mae fel pe bai pobl eisiau gwneud cais i'r gwasanaeth hwnnw yn hytrach na sut ydym ni'n gwneud i'r gwasanaeth cyfan weithio i ddiwallu anghenion y boblogaeth. Dyna fy niddordeb pennaf i. Os ydych chi'n credu y gallai'r grŵp penodol yr oeddech yn cyfeirio ato fod yn rhan o'r ateb hwnnw, yna rwy'n hapus i gael sgwrs â chi am hynny.
Fel y dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet heddiw, mae ef, wrth gwrs, yn ymwybodol o'm bwriad i i gyflwyno deddfwriaeth sylfaenol i helpu i wella bywydau pobl sy'n byw ag awtistiaeth yng Nghymru, ac rwy'n siomedig iawn bod Ysgrifennydd y Cabinet yn ei ddatganiad heddiw yn diystyru yr angen am ddeddfwriaeth sylfaenol ar hyn o bryd. Rwy'n ei annog i ailystyried ei safbwynt, oherwydd mae'n amlwg o'r ddau ymgynghoriad yr wyf i wedi eu cynnal fod yna gefnogaeth aruthrol i greu Bil, ac rwy'n gobeithio, felly, y bydd ef a Llywodraeth Cymru yn ailystyried eu sefyllfa ac yn ymgysylltu drwy'r broses ddeddfwriaethol ac yn helpu i gyflawni Bil awtistiaeth y gall y sefydliad hwn a'r gymuned awtistiaeth fod yn falch ohono.
Nawr, rwy'n derbyn bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud rhywfaint o gynnydd mewn rhai ardaloedd, er fy mod yn credu ei bod yn amlwg bod y ffaith bod Llywodraeth Cymru yn cyflwyno cod yn cadarnhau nad yw'r strategaeth bresennol yn amlwg yn diwallu anghenion y gymuned awtistiaeth. Fe wnaeth y mwyafrif helaeth o'r gymuned awtistiaeth nodi'n glir eu bod o blaid deddfwriaeth, o ystyried eu hymatebion i'm hymgynghoriad i. Felly, a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno o leiaf bod yn rhaid i farn defnyddwyr gwasanaethau yng Nghymru fod wrth wraidd unrhyw gyfeiriad ar gyfer gwasanaethau awtistiaeth yn y dyfodol?
Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi ei gwneud yn glir heddiw ei fod yn bwriadu cyflwyno cod, ac, wrth gwrs, y broblem â chyflwyno cod yw y gall bob amser gael ei ddirymu, ac na ellir ei newid neu ei ddiwygio gan y Senedd hon ar ôl iddo gael ei gyflwyno i'r lle hwn. Fodd bynnag, bydd fy Mil awtistiaeth arfaethedig i yn galluogi Aelodau i newid y ddeddfwriaeth drwy'r broses ddeddfwriaethol, a bydd Deddf yn sicrhau lefel o sefydlogrwydd i'r gwasanaethau a ddarperir, yn ogystal â rhoi hunaniaeth statudol i awtistiaeth. Ac felly efallai y gall Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym ni sut y mae'n credu y bydd cod yn ymateb i'r pryderon hyn a sut y bydd cod yn cyflawni'r gwelliannau yn y gwasanaethau y mae'r gymuned awtistiaeth eisiau eu gweld.
Ac, yn olaf, Dirprwy Lywydd, o gofio nad yw'r Llywodraeth yn credu mewn cyflwyno deddfwriaeth ar hyn o bryd, a all ef gadarnhau y bydd y Llywodraeth felly yn rhoi pleidlais rydd i'w meinciau cefn pan fydd fy Mil yn teithio drwy'r broses ddeddfwriaethol, o ystyried bod rhai o'i gyd-Aelodau wedi bod yn gefnogol o roi sail statudol i wasanaethau?
Ar y pwynt olaf, unrhyw ddeddfwriaeth a ddaw drwy'r lle hwn, ni fydd y Llywodraeth, ar y cam cynnar hwn, yn trafod nac yn amlinellu sut y byddwn ni'n ceisio gweithio gydag aelodau o'n grŵp ein hunain, gydag Aelodau sy'n cefnogi'r Llywodraeth. Byddai angen i ni weld manylion unrhyw ddeddfwriaeth a ffurfio barn arni, Paul, ac mae'n bwysig ein bod yn gwneud hynny. Dydw i ddim yn meddwl y byddai pobl yn cytuno â'r ffuglen nad oes yna farn ar hynny, rywsut, ac rwy'n bod yn onest am hyn. Rydym ni wedi bod yn onest ein bod yn anghytuno ynghylch y ffordd gywir ymlaen i wella bywydau pobl ag awtistiaeth, a gallwn ni barhau i anghytuno, ond dydw i ddim eisiau nodi lefel yr anghytuno hynny na'i natur mewn modd nad yw'n onest. Dydw i ddim eisiau ceisio dweud rhywbeth yma y gwyddoch chi a mi na fyddwn i'n cytuno i'w wneud a'i gefnogi.
Rhan o'n her ni yw, y ddeddfwriaeth yn Lloegr, ni allaf weld unrhyw dystiolaeth go iawn sy'n dangos ei bod wedi arwain at welliant sylweddol a chynaliadwy mewn gwasanaethau. Ac felly rwy'n edrych i weld a fydd deddfwriaeth yn sicrhau mewn gwirionedd ac yn sicrhau y math o welliannau yr ydych chi a mi eisiau eu gweld, a'i bod yn ffordd well o wneud hynny na'r llwybr yr ydym ni wedi ei nodi gyda'r adnoddau yr ydym ni eisoes wedi'u rhoi ar gael. Rwy'n meddwl bod llawer o bobl â diffyg ffydd y bydd gwleidyddion yn cyflawni eu haddewidion ac weithiau mae hynny'n gwneud i bobl ddweud, 'Newidiwch y gyfraith a bydd hynny'n sicrhau bod gwasanaethau'n digwydd.' Mewn gwirionedd, mae hi'n dal i fod yn ofynnol i wneud amrywiaeth o wahanol benderfyniadau, ac mae hynny'n cynnwys y dewisiadau o ran y gyllideb a wnaed gennym, ac mae'n cynnwys y gwaith a wnaethom eisoes gyda gwahanol bartneriaid i ddarparu'r pedwar gwasanaeth integredig sy'n gwneud gwahaniaeth go iawn a chadarnhaol i'r teuluoedd hynny yn y pedair rhan o'r wlad, yr ydym ni wedi ymrwymo i'w cyflwyno.
Ac o ran cod a'r pwynt a'r pwrpas, wel, fe wyddoch chi gystal â minnau, oherwydd rydym ni wedi cael y sgyrsiau hyn yn y gorffennol, fod y cod yn ymwneud â cheisio gwneud yn siŵr ein bod yn cyflawni'r cyfrifoldebau sydd mewn gwirionedd yn bodoli eisoes yn y statud, i wneud yn siŵr eu bod yn digwydd go iawn yn hytrach nag yn gamargraff neu dim ond yn rhywbeth a drafodir ac y cyfeirir atynt mewn darn o ddeddfwriaeth, ond nad ydynt yn cael eu gwireddu i bobl. A gwn o'm bywyd blaenorol—rwy'n gyfreithiwr sy'n adfer, ac nid yn gyfreithiwr sydd wedi cael ei lusgo 'nôl iddi, gan edrych ar fy nghydweithiwr truenus ac anffodus Jeremy Miles. Roeddwn i'n arfer bod yn gyfreithiwr, ac felly rwy'n ymwybodol iawn, wrth ymdrin â'r gyfraith, nad yw'r hawliau sydd gan bobl yn rhai go iawn os na allwch chi eu gorfodi. A beth yw ystyr hynny? Ac mae bob amser yn well helpu drwy roi cyngor i bobl fel y gallan nhw ymdrin â'u hawliau a'u cyfrifoldebau mewn modd nad yw'n ei gwneud yn ofynnol i gynnwys cyfreithwyr. Mae yna her yn y fan yna am wneud yn siŵr ei bod yn ffordd wirioneddol o weithio, a'r newid diwylliant yr ydym ni'n sôn amdano—dyna beth yr ydym ni'n ceisio ei gyflawni a gwneud yn siŵr bod hynny'n arwain at wella gwasanaethau.
Ac o ran eich pwynt ynghylch a ddylai pobl fod wrth wraidd ein cyfeiriad teithio, ydi, mae hynny'n hollol iawn—fe welwch chi hynny mewn amrywiaeth o wahanol feysydd ar draws y Llywodraeth, amrywiaeth o wahanol weithgareddau. Dyna pam, yn fy natganiad cychwynnol, y dywedais yn glir fod pobl ag awtistiaeth yn ein helpu ni i ddrafftio'r cod yr ydym ni'n bwriadu ei gyflwyno. Felly, byddwn ni'n parhau i gynnwys pobl ag awtistiaeth, byddwn ni'n parhau i wrando arnyn nhw, eu profiad bywyd gwirioneddol, i wneud yn siŵr ein bod yn cyflawni'r amcanion a rennir sydd gennym. Dyna nod ac amcan y Llywodraeth hon, a bydd hynny'n parhau i'n llywio ni yn ein hymagwedd tuag at wasanaethau ac unrhyw ddadl am ddeddfwriaeth yn y dyfodol.
Mae cymaint o gwestiynau da wedi eu codi heddiw, a rhai pwyntiau da wedi eu codi. Rwy'n awyddus i ganolbwyntio ar ddau beth, mewn gwirionedd. Yn gyffredinol, mae'r Llywodraeth hon yn gwneud i bolisïau swnio'n dda—y geiriau'n llawn cyffro—ond mae'r sefyllfa wirionedd ar y rheng flaen lle mae'r frwydr boethaf ychydig yn wahanol. Roeddwn yn dymuno canolbwyntio yn gyntaf ar wasanaethau integredig awtistiaeth ac atgyfeiriadau. Oherwydd, yn Rhondda Cynon Taf, ni chafwyd dim; ym Mhowys, ni chafwyd dim; yng Nghaerdydd, 10; ac yng Ngwent, 130. Felly, y peth cyntaf yw: sut yr ydych chi'n esbonio'r gwahaniaeth hwnnw, a beth ellir ei wneud i wella pethau? Yn ail, y busnesau ymwybodol o awtistiaeth, sy'n swnio'n dda iawn ar bapur—mae'n swnio'n dda wrth wrando ar hynny yn y Siambr, ond tybed a wnewch chi amlinellu i bawb yn y Siambr, a'r cyhoedd, beth yn union sydd yn rhaid ichi ei wneud i ddod yn fusnes ymwybodol o awtistiaeth.
Rhoddir hyfforddiant a chymorth i fusnesau i fod yn ymwybodol o awtistiaeth. Byddaf yn hapus i anfon nodyn o'r adroddiad blynyddol am y busnesau sydd wedi cyflawni hynny, y rhai yr wyf wedi sôn amdanyn nhw yn fy natganiad i, a'r math o hyfforddiant y maen nhw wedi ymgymryd ag ef ar gyfer bod yn fusnesau ymwybodol o awtistiaeth. Ac, eto, bydd yn dibynnu ar natur y busnes, am y bobl hynny a'r hyn y maen nhw'n ei wneud wrth ryngweithio. Felly, byddaf yn hapus i anfon nodyn ymlaen—
A wnewch chi ildio?
Na. Nid oes ildio ar ddatganiad.
Byddaf yn hapus i anfon nodyn—[Torri ar draws.]
Na. Nid oes ildio ar ddatganiad.
Byddaf yn hapus i anfon nodyn am hynny, yn hytrach na mynd i ffraeo am fater pwysig ledled y Siambr. Ac nid wyf yn cydnabod yn hollol y ffigurau yr ydych wedi'u dyfynnu ar weithgarwch gwasanaethau awtistiaeth integredig. Yn yr adroddiad a gyhoeddwyd heddiw, fe welwch chi natur ac amrywiaeth y gwahanol weithgareddau a wna pob un o'r gwasanaethau integredig hynny. Ac felly, ym mhob maes, fe welwch chi bobl yn mynd i mewn i'r gwasanaeth, yn cael eu cefnogi, ac yn cyflawni gwahanol ganlyniadau. Rwyf mewn penbleth braidd o ran y ffigurau a roddwyd ganddo. Os hoffai ysgrifennu ataf, gan nodi ymhle y cafodd y ffigurau hynny, byddwn yn hapus i ymateb iddo a gwneud yn siŵr fod yna lefel o flaenoriaeth o ran hynny hefyd.
Diolch yn fawr ichi, Ysgrifennydd y Cabinet.
Eitem 4 ar yr agenda y prynhawn yma yw'r datganiad gan arweinydd y tŷ, 'Wythnos Ffoaduriaid—Cymru, Cenedl Noddfa'. Ac rwy'n galw ar arweinydd y tŷ, Julie James.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'n Wythnos Ffoaduriaid yr wythnos hon, dathliad o gyfraniad ffoaduriaid i'n cymdeithas, a digwyddiad i annog dealltwriaeth well rhwng cymunedau. Mae'n ugain mlynedd eleni ers ei lansio, ac mae trefnwyr Wythnos Ffoaduriaid yn gofyn i bobl gymryd rhan drwy gyflawni un weithred syml i gefnogi ffoaduriaid. Gall hyn fod mor syml â chael sgwrs gyda chymydog sy'n ceisio noddfa, neu ddysgu ychydig eiriau o iaith gwlad y ffoadur. Gallai pob un ohonom yma yn y Siambr hon wneud un peth pwysig, syml iawn, a hynny yw dangos ein cefnogaeth i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru drwy groesawu'r cysyniad o Gymru fel cenedl noddfa.
Rwy'n gobeithio bod rhai ohonoch wedi clywed y rhyfeddol Oasis World Choir cyn y Cyfarfod Llawn heddiw. Mae'r côr yn cynnwys ffoaduriaid a cheiswyr lloches o bedwar ban byd, ac maen nhw wedi dod yma heddiw fel rhan o Wythnos Ffoaduriaid. Roedd rhai ohonyn nhw yn yr oriel yn gynharach—rwy'n amau nad ydyn nhw erbyn hyn. Ond rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau yn awyddus i ymuno â mi i'w croesawu nhw yma i'r Senedd.
Cafodd 'Cenedl Noddfa–Cynllun Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches' Llywodraeth Cymru ei ddatblygu wrth ymateb i argymhellion a wnaed gan adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb, a Llywodraeth Leol '"Roeddwn i'n arfer bod yn rhywun": Ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru'. Mae'r cynllun allan ar gyfer ymgynghoriad ar hyn o bryd. Cafodd ei gynhyrchu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, sefydliadau cymorth i ffoaduriaid, sefydliadau yn y sector cyhoeddus, ac, yn bwysicaf oll, y ceiswyr lloches a'r ffoaduriaid eu hunain. Rydym yn gwbl ymrwymedig i wneud popeth o fewn ein gallu yng Nghymru i gynorthwyo pobl sy'n chwilio am noddfa i ailadeiladu eu bywydau a chyflawni eu posibiliadau.
Mae Cymru yn genedl groesawgar. Mae'n amlwg ar unwaith, o siarad â phobl sy'n ceisio lloches a'r rhai sy'n eu cefnogi, fod y rhan fwyaf o ffoaduriaid sy'n dod i Gymru yn hynod ddiolchgar am y cymorth a gânt yma. Gallwn fod yn falch o'r ffaith honno. Serch hynny, mae gennym lawer i'w wneud eto i sicrhau y gall ffoaduriaid a cheiswyr lloches integreiddio yn effeithiol ac ailadeiladu eu bywydau. Fel Llywodraeth, rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac amddiffyn hawliau dynol. Credwn y dylid trin pob unigolyn yn deg, yn enwedig y rhai sydd fwyaf ar yr ymylon ac sy'n cael yr anhawster mwyaf i gael y cymorth sydd ei angen arnynt i ddiwallu eu hanghenion sylfaenol.
Mae Llywodraeth Cymru yn credu'n gryf y dylid dechrau integreiddio ffoaduriaid a cheiswyr lloches y diwrnod y byddan nhw'n cyrraedd. Mae'r dull hwn yn hanfodol ar gyfer sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i unigolion a chymunedau. Gwyddom fod cefnogaeth gref ymysg y cyhoedd i ddyfodiaid ddysgu Cymraeg neu Saesneg—neu'r ddwy iaith, o gofio bod llawer o ffoaduriaid yn meddu ar sgiliau iaith rhagorol—ac rydym yn awyddus i'w cefnogi i wneud hyn. Byddai cefnogi cynlluniau gwirfoddoli ar gyfer ceiswyr lloches a ffoaduriaid yn cyfrannu at y gymdeithas Gymreig gan hefyd gefnogi dysgu iaith, adfer iechyd meddwl a gwella cyflogadwyedd unigolion. Rydym yn anelu at ddull cyfannol, lle mae'r camau yn y cynllun yn ategu ei gilydd i gyflawni newid cadarnhaol cyffredinol i ffoaduriaid a cheiswyr lloches.
Mae'n bwysig pwysleisio nad yw integreiddio pobl sy'n ceisio lloches yn golygu proses unochrog o roi. Daw ffoaduriaid â chyfoeth o brofiad ac ystod o sgiliau a galluoedd i Gymru. Mae'r GIG yng Nghymru wedi elwa ar Grŵp Meddygon Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid Cymru a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Caiff hwn ei ddarparu gan Ddeoniaeth Cymru a Displaced People in Action, sy'n cefnogi meddygon sy'n ffoaduriaid i gael cydnabyddiaeth o'u cymwysterau meddygol presennol a dod o hyd i gyflogaeth yn y GIG. Amcangyfrifir fod y cynllun wedi arbed o leiaf £25 miliwn i drethdalwyr dros y 15 mlynedd diwethaf, wedi rhoi'r gallu i ffoaduriaid ddefnyddio eu sgiliau i dalu'n ôl i Gymru, ac arbed bywydau dirifedi hefyd.
Y Swyddfa Gartref yn unig a all ddatrys rhai o'r materion a godwyd gan ymchwiliad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn 2017. Nid yw'n gyfrinach ein bod yn teimlo'n rhwystredig yn aml yn sgil penderfyniadau Llywodraeth y DU o ran materion lloches a mudo. Ond mae'n rhaid inni dderbyn nad yw'r materion hyn wedi'u datganoli i Gymru. Serch hynny, rydym wedi cymell y dylid cynyddu'r cymorth ariannol i geiswyr lloches sy'n aros am benderfyniadau, rhoi arian ychwanegol i awdurdodau lleol sy'n cynorthwyo ceiswyr lloches yn eu bro, a safonau gwell o lety lloches, ymysg pethau eraill. Yn anffodus, a dweud y lleiaf, nid yw'n ymddangos bod Llywodraeth y DU wedi ymgorffori ein hargymhellion wrth ddylunio eu contractau llety lloches sydd ar y gweill nac ychwaith wedi cynyddu'n sylweddol y cymorth ariannol i'r system lloches. Byddwn yn gwneud cymaint ag y gallwn i liniaru effeithiau negyddol polisïau Llywodraeth y DU ar integreiddio yn y gymuned yng Nghymru a byddwn yn ceisio gweithio'n adeiladol gyda'r Swyddfa Gartref i nodi a chodi pryderon lle byddant yn dod i'r amlwg.
Mae ein cynllun cenedl noddfa yn canolbwyntio ar gynigion o fewn y meysydd datganoledig hynny y gall Llywodraeth Cymru ddylanwadu arnynt. Mae'r cynllun yn amlinellu ehangder y gwaith yr ydym yn ymgymryd ag ef i sicrhau lleihad yn yr anghydraddoldebau i ffoaduriaid a cheiswyr lloches, cynnydd yn y cyfleoedd a ddaw i'w rhan, a bod cysylltiadau rhwng y cymunedau hyn a'r gymdeithas ehangach yn gwella.
Rydym wedi blaenoriaethu'r materion allweddol y soniodd ffoaduriaid a cheiswyr lloches amdanynt wrthym yn ystod y gwaith paratoi ar gyfer yr ymgynghoriad hwn. Mae hyn yn cynnwys sicrhau y gall unigolion gael gwybodaeth a chyngor i'w helpu i ymsefydlu yn eu hamgylchoedd newydd, cefnogi cyfleoedd i ddysgu'r iaith a dod o hyd i gyflogaeth, dod o hyd i ffyrdd o osgoi amddifadedd, a gwella mynediad i wasanaethau iechyd.
Wrth ddatblygu'r camau, rydym wedi ceisio rhwystro'r problemau mwyaf niweidiol y mae ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn eu profi yng Nghymru. Mae'r rhain yn cynnwys digartrefedd, cyflyrau iechyd meddwl, llety llwm a'r perygl o amddifadedd. Rydym wedi gwneud rhywfaint o gynnydd calonogol yn rhai o'r meysydd hyn eisoes ond mae llawer o waith i'w wneud eto i wella canlyniadau.
Rydym yn parhau i ystyried gwelliannau er mwyn cefnogi'r rhai sy'n ceisio lloches, gan gynnwys edrych ar ymestyn cymhwysedd am grantiau addysg a thrafnidiaeth ratach i geiswyr lloches. Mae'r rhain yn feysydd cymhleth a sensitif, a gallai rhuthro i ymestyn cymhwysedd arwain at ganlyniadau anfwriadol ar gyfer ceisiadau am loches. Mae angen hefyd i Lywodraeth y DU gydnabod ein hawydd i sicrhau y gall pob aelod o gymdeithas Cymru integreiddio, a chytuno i beidio â thanseilio'r bwriad hwn drwy roi ffrydiau ariannu Llywodraeth Cymru ar restr yr arian cyhoeddus gwaharddedig yn y rheolau mewnfudo . Rydym wedi ymrwymo i'r egwyddor o ymestyn hawliau er budd integreiddio cymunedol a lles personol. Ond mae angen inni weithio drwy broblemau posibl yn ofalus i sicrhau ein bod yn gwneud pethau yn well ar gyfer pobl mewn perygl o amddifadedd ac nid yn waeth.
Rydym yn parhau i weithio i roi ein cefnogaeth i blant sy'n ceisio lloches ar eu pennau eu hunain. Er na ofynnwyd inni yn y pen draw gan Lywodraeth y DU i groesawu cymaint o blant i Gymru dan y cynllun Dubs ag yr oeddem wedi cynllunio ar eu cyfer, rydym wedi gallu cynnig diogelwch a dechrau newydd i nifer fechan ac rydym yn dymuno'r gorau iddyn nhw yn eu bywydau yma. Ynghyd â'r Gweinidog dros Blant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol ac â'n Gweinidogion cyfatebol yn Llywodraeth yr Alban, rydym wedi ceisio dylanwadu ar Lywodraeth y DU yn rheolaidd ar ystod o faterion sy'n ymwneud â'r plant hyn. Nid yw'r ymatebion a gawsom wedi bod mor gadarnhaol, rhagweithiol nac mor ddefnyddiol ag y byddem wedi eu dymuno, mae'n ddrwg gennyf ddweud, Dirprwy Lywydd. Er hynny, rydym wedi gwneud cynnydd ar y camau gweithredu a argymhellwyd gan y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau o ran y plant hyn, a byddwn yn parhau i wneud hynny.
Fel y soniais, mae'r cynllun cenedl noddfa yn destun ymgynghoriad ar hyn o bryd a bydd y cynllun yn parhau i gael ei ddatblygu a'i ddiwygio i adlewyrchu'r ymatebion a'r awgrymiadau a geir pan ddaw'r cyfnod ymgynghori i ben ddydd Llun nesaf, 25 Mehefin. Mae'r cynllun yn cynnwys camau gweithredu y byddwn yn ceisio'u cymryd yng ngweddill y tymor Cynulliad hwn. Felly, mae'n llunio rhan bwysig o'r nod hirdymor o gael Cymru yn genedl noddfa wirioneddol i ffoaduriaid a cheiswyr lloches.
Ceir stondin Wythnos Ffoaduriaid yn yr Oriel yr wythnos hon, gan gynnwys ffilm newydd a gynhyrchwyd gan y Comisiwn Hawliau Dynol a Chydraddoldeb, a chyfle i'r cyhoedd ddatgan pa weithred syml y gallant ei chyflawni i gefnogi pobl sy'n ceisio lloches yng Nghymru. Roeddwn yn falch iawn ein bod wedi gallu gwneud hynny gyda'i gilydd amser cinio heddiw, Dirprwy Lywydd. Rwy'n eich annog chi i ymweld â'r stondin a chynnwys eich gweithred eich hun. Hoffwn ddiolch hefyd i aelodau'r Oasis World Choir a ddaeth yma heddiw i ganu i ni. Gadewch inni ddangos iddynt sut y gall democratiaeth weithio er budd holl drigolion y genedl, a bod Cymru, y genedl fechan, yn gwneud llawer mwy na'r disgwyl o ran rhoi noddfa i bobl. Diolch.
Diolch yn fawr am eich datganiad yn ystod Wythnos Ffoaduriaid. Nid wyf i'n credu y cewch unrhyw anghytundeb gwirioneddol â'r wybodaeth a'r teimladau a fynegwyd gennych. Rydych yn dweud y dylai pob un ohonom yn y Siambr yma wneud un peth syml i ddangos ein cefnogaeth i ffoaduriaid a cheiswyr lloches drwy gofleidio'r cysyniad o Gymru yn Genedl Noddfa. Rwy'n falch i mi wneud yn siŵr fod hynny yn ymrwymiad ym maniffesto Ceidwadwyr Cymru 2016 ac, fel y cofiwch efallai, i mi noddi a chroesawu'r Noddfa yn y digwyddiad yn y Senedd tua diwedd 2016 yn unol â hynny.
Roeddech yn cyfeirio at gefnogaeth i blant sy'n ceisio lloches ar eu pennau eu hunain. Pan gawsom ddatganiad ym mis Tachwedd 2016, dyna'r adeg y clywsom fod y gwersyll jyngl ofnadwy yn Calais yn cael ei gau, a bod Llywodraethau Prydain a Ffrainc yn cofrestru plant ar eu pennau eu hunain a oedd yn gobeithio ymuno â pherthnasau yn y DU. Gofynnais bryd hynny a oedd gan Lywodraeth Cymru unrhyw arwydd fod y ffigurau a roddwyd yn iawn, neu faint o'r plant hynny oedd wedi dod, neu oedd ar fin dod i Gymru. Rwy'n gofyn tybed a oes gennych unrhyw wybodaeth ddiweddarach erbyn hyn, 18 mis yn ddiweddarach, ynghylch a gyrhaeddodd y plant hynny yma—a faint ohonyn nhw—, a pha gymorth penodol a gawsant.
Rydych yn cyfeirio at integreiddio ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Eto, efallai y byddwch yn ymwybodol fy mod i yn gynnar fis diwethaf wedi croesawu digwyddiad i'r Cynulliad o'r enw 'Gadewch inni integreiddio gyda cherddoriaeth a chelfyddyd', a gynhaliwyd gan Gymdeithas Gogledd Cymru ar gyfer Integreiddio Amlddiwylliannol, yr wyf yn llywydd anrhydeddus ohoni, a KIRAN a leolir yng Nghwmbrân, sef y Knowledge-based Intercommunity Relationship and Awareness Network, a ddaeth i fodolaeth, yn ôl y sôn, am fod angen cael cymuned ymgysylltiedig lle mae gan aelodau wybodaeth o wahanol gefndiroedd cymdeithasol a diwylliannol. Bythefnos yn unig yn ôl, fe wnes i gyfarfod â Chyngor Ffoaduriaid Cymru, Cymdeithas Gogledd Cymru ar gyfer Integreiddio Amlddiwylliannol a'r elusen CAIS, sydd yn gweithio gyda'i gilydd i gael gwared ar y rhwystrau a chynyddu'r ddealltwriaeth o ddiwylliannau eraill. Felly, o ran cefnogi'r neges integreiddio, sut ydych yn ymgysylltu â'r sefydliadau arloesol hyn sydd yn gwneud eu rhan ac yn gynyddol yn adeiladu rhwydwaith cydgysylltiedig i gyfleu'r neges integreiddio honno yn ymarferol yn ein cymunedau, ar ein strydoedd ac yn ein hardaloedd gwledig hefyd ledled Cymru?
Yn drist iawn, fel y gwyddoch, mae rhai ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn mynd yn ysglyfaeth i gaethwasiaeth fodern a masnachu pobl. Gwn fy mod yn gwyro ychydig oddi wrth y mater wrth law yn y fan hon, ond mae yna nifer o elusennau sy'n gweithio eto yn y maes hwn, gan gynnwys Hafan y Golau yn y Gogledd, yn cynnal fforwm caethwasiaeth fodern ar 12 o fis Hydref. Felly, o ran yr agenda hon, sut ydych yn ymgysylltu nid yn unig gyda'r Comisiynydd ond gydag asiantaethau eraill, statudol a thrydydd sector, i gydweithio ar faterion penodol ffoaduriaid a cheiswyr lloches sy'n ymwneud â'r grŵp hwn o ddioddefwyr?
Mae fy nghwestiwn olaf yn ymwneud â derbyn ffoaduriaid. Mae'r ffigurau a gyhoeddwyd ar gyfer ffoaduriaid yn ymgartrefu yng Nghymru y llynedd yn dangos mai Merthyr Tudful a Chastell-nedd Port Talbot oedd yr unig gynghorau na wnaethant dderbyn unrhyw ffoaduriaid, yn y ffigurau a gafwyd ganddynt. Sir Gaerfyrddin oedd yr uchaf gyda 51, ac Abertawe gyda 33. Yn y Gogledd, roedd gan Sir Ddinbych 21, ond roedd hyn yn disgyn i bump yn Sir y Fflint a dim ond dau yng Nghonwy. Felly, sut ydych chi'n helpu awdurdodau lleol i sefydlu'r ddealltwriaeth a'r ymwybyddiaeth o'r màs critigol a'r ewyllys i sicrhau, efallai, ddosbarthiad gwell fel y gall yr arweiniad a roddwyd yn un rhan o Gymru gael ei atgynhyrchu mewn mannau eraill? Diolch ichi.
Diolch ichi am y gyfres yna o gwestiynau. Nid yw'r union nifer gennyf yma, felly byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod am union nifer y plant a oedd dan y cynllun Dubs. Ond cafwyd rhai materion difrifol ynglŷn â pham nad oeddem yn gallu cymryd cymaint ag y byddem yn ei hoffi a gwnaf yn siŵr y bydd yr Aelod yn cael neges am yr union rif.
Rydym wedi gweithio'n hynod o galed i wneud yn siŵr ein bod yn gweithio gyda'n rhanddeiliaid i sicrhau bod gennym gyfres mor integredig â phosibl o ymatebion. Rydym wedi cyflawni ar argymhelliad ymchwiliad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau i hyfforddi gweithwyr cymdeithasol, er enghraifft, i asesu oedran plant a phobl ifanc. Ac, yn gynharach eleni, cynhaliwyd pum sesiwn ledled Cymru a chafodd bron i 100 o weithwyr cymdeithasol ac eiriolwyr eu hyfforddi. Roedd pecyn cymorth yn cyd-fynd â'r hyfforddiant, sydd wedi cael ei ddiwygio ac a gyhoeddir yn fuan, o ganlyniad i'n hymgysylltu â rhanddeiliaid wrth inni weithio'n galed iawn i wneud yn siŵr bod gennym ymateb sydd mor gydgysylltiedig â phosib.
Rydym yn gweithio'n galed iawn hefyd i wneud yn siŵr ein bod yn integreiddio gan ddysgu o'r cynllun gweithredu caethwasiaeth fodern. Wrth gwrs, mae Cymru wedi bod ar flaen y gad o ran cael cydlynydd ar gaethwasiaeth fodern, ac mae gennym ein cyd-drefnwyr rhanbarthol yn gweithio'n galed hefyd i sicrhau bod gennym gynllun rhanddeiliaid mor gyfoes ag y bo modd. Ond ar ddiwedd y dydd, nid yw polisi ymfudo a lloches wedi'i ddatganoli i Lywodraeth Cymru. Mae llawer o'r atebion i lawer o'r anawsterau a wynebir gan ffoaduriaid a cheiswyr lloches i'w cael gan y Swyddfa Gartref. Y broblem wirioneddol i ni yw sut i leihau effaith a chyffredinolrwydd yr achosion o amddifadedd, y system les nad yw'n ddatganoledig a'r penderfyniadau ar loches a chymhwysedd ar gyfer ariannu, sydd i gyd yn ffactorau gwirioneddol ddylanwadol ar y rhai sy'n byw yn y sefyllfa hon.
Cawsom ein siomi'n fawr gan y diffyg cydweithrediad ar y contract newydd ar gyfer llety, er enghraifft. Yn ddiweddar iawn, rydym wedi bod yn pwyso ar Lywodraeth y DU unwaith eto, ynghyd â'r Alban, oherwydd nid yw Llywodraeth y DU wedi dymuno inni sefydlu panel o arbenigwyr i'n helpu i lywio penderfyniadau ar y strategaeth llety, Dirprwy Lywydd. Felly, rydym yn siomedig iawn â hynny oherwydd ein bod yn credu nad y ffordd gywir ymlaen, mae'n amlwg, yw dweud ei bod yn fasnachol gyfrinachol. Un o'r problemau mawr gydag integreiddio yw sicrhau bod ceiswyr lloches a ffoaduriaid yn cael eu rhoi mewn llety yn y cymunedau cywir gyda chymorth priodol o'u cwmpas.
Fe wnaeth yr Aelod ofyn pam mae'r ystadegau a ddyfynnwyd ganddo yn anghyson, ond, wrth gwrs, nid ydynt yn ystadegau cyfredol. Mae Castell-nedd Port Talbot, er enghraifft, wedi cymryd nifer fawr o bobl yn y gorffennol. A cheir materion ynglŷn â chyllido hefyd, oherwydd dim ond tua 55 y cant o'r cyllid sydd ar gael ac mae problem fawr gyda fformiwla Barnett a'r ffordd y mae rhai o'r cynlluniau wedi'u rhoi at ei gilydd fel na all Cymru, yr Alban na Gogledd Iwerddon gael gafael ar rywfaint o'r arian sydd ar gael. Felly, rydym wedi gweithio'n galed iawn i wneud yn siŵr bod Llywodraeth y DU yn sylweddoli bod cyfosod amryw o bolisïau weithiau yn golygu canlyniadau anfwriadol i bobl yn y categori hwn.