National Assembly for Wales

Back to Search

Y Cyfarfod Llawn

Plenary

13/06/2018

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

The Assembly met at 13:30 with the Llywydd (Elin Jones) in the Chair.

Datganiad gan y Llywydd
Statement by the Llywydd

Cyn cychwyn, mae'n bleser gen i i gyhoeddi, yn unol â Rheol Sefydlog 26.75, fod Deddf Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) 2018 wedi cael Cydsyniad Brenhinol heddiw. 

Before we commence, it gives me great pleasure to announce that, in accordance with Standing Order 26.75, the Regulation of Registered Social Landlords (Wales) Act 2018 has been given Royal Assent today.

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig
1. Questions to the Cabinet Secretary for Energy, Planning and Rural Affairs

A'r eitem gyntaf felly ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw'r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, a'r cwestiwn cyntaf, Mark Isherwood. 

The first item on our agenda, therefore, is questions to the Cabinet Secretary for Energy, Planning and Rural Affairs, and the first question is from Mark Isherwood.

Cynlluniau Amaeth-amgylcheddol
Agri-environment Schemes

1. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i annog cynlluniau amaeth-amgylcheddol yng Nghymru? OAQ52297

1. What plans does the Welsh Government have to encourage agri-environment schemes in Wales? OAQ52297

Member
Lesley Griffiths AM 13:30:38
Cabinet Secretary for Energy, Planning and Rural Affairs

Thank you. The Welsh Government continues to operate and offer successful agri-environment schemes through the rural development programme. The budget is fully committed and three further rounds of Glastir small grants are planned. The scope of future agri-environment support will target public goods and will be consulted upon over the coming months. 

Diolch. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithredu a chynnig cynlluniau amaeth-amgylcheddol llwyddiannus drwy'r rhaglen datblygu gwledig. Mae'r gyllideb wedi'i hymrwymo'n llwyr ac mae tair rownd arall o grantiau bach Glastir wedi'u cynllunio. Bydd cwmpas y cymorth amaeth-amgylcheddol yn y dyfodol yn targedu nwyddau cyhoeddus a byddwn yn ymgynghori yn ei gylch dros y misoedd nesaf.

Thank you very much for that. In a recent meeting with a group of organisations—the Countryside Alliance, the British Trust for Ornithology, Natural Resources Wales—I heard that agri-environment schemes for the curlew have been operating for 40 years, but they haven't worked. We've seen an 80 per cent reduction in the population in Wales over the last 22 years, and we're facing country-level disappearance completely by 2030 if we don't make urgent interventions. As you might be aware, in January there was a conference attended by 120 experts from conservation, farming, game and rural policy sectors in Builth Wells on the status and future of the curlew in Wales, and one of their key conclusions related to agri-environment programmes. They call for an evidence-based review of curlew prescriptions within existing agri-environment schemes, asking have they worked and are they suitable, and for pro-curlew policies embedded within agri-environment schemes, such as outcome-led prescriptive management. 

I'm grateful that I've got a meeting with Hannah Blythyn shortly to discuss the broader issues around the curlew, but, specifically about agri-environment issues, what engagement have you had, or will you have, with the sector to help guide the development of agri-environment schemes in the future that reverse this decline as a matter of urgency?

Diolch yn fawr iawn i chi am hynny. Mewn cyfarfod diweddar â grŵp o sefydliadau—y Gynghrair Cefn Gwlad, Ymddiriedolaeth Adareg Prydain, Cyfoeth Naturiol Cymru—clywais fod cynlluniau amaeth-amgylcheddol ar gyfer y gylfinir wedi bod ar waith ers 40 mlynedd, ond nid ydynt wedi gweithio. Rydym wedi gweld gostyngiad o 80 y cant yn y boblogaeth yng Nghymru dros y 22 mlynedd diwethaf, a byddant wedi diflannu'n llwyr yn y wlad hon erbyn 2030 os nad ydym yn ymyrryd ar frys. Efallai eich bod yn ymwybodol o'r gynhadledd a gynhaliwyd ym mis Ionawr ac a fynychwyd gan 120 o arbenigwyr o'r sectorau cadwraeth, ffermio, anifeiliaid hela a pholisi gwledig yn Llanfair-ym-Muallt ar statws a dyfodol y gylfinir yn Nghymru, ac roedd un o'u casgliadau allweddol yn ymwneud â rhaglenni amaeth-amgylchedd. Maent yn galw am adolygiad sy'n seiliedig ar dystiolaeth o argymhellion yn ymwneud â'r gylfinir mewn cynlluniau amaeth-amgylcheddol cyfredol, ac yn gofyn a ydynt wedi gweithio ac a ydynt yn addas, ac am bolisïau sydd o blaid y gylfinir a ymgorfforwyd mewn cynlluniau amaeth-amgylcheddol, fel rheoli rhagnodol wedi'i arwain gan ganlyniadau.

Rwy'n ddiolchgar fod gennyf gyfarfod gyda Hannah Blythyn cyn bo hir i drafod y materion ehangach sy'n ymwneud â'r gylfinir, ond yn benodol, mewn perthynas â materion amaeth-amgylcheddol, pa ymgysylltiad a gawsoch, neu y byddwch yn ei gael, gyda'r sector i helpu i arwain y broses o ddatblygu cynlluniau amaeth-amgylcheddol yn y dyfodol sy'n mynd ati i wrthdroi'r dirywiad hwn ar frys?

Thank you. As you said, there is a meeting arranged with the Minister for Environment, but what I think is very important is that we make sure that we monitor and evaluate all of our schemes in a way that shows us the outcomes. And, clearly, if there are concerns around this particular one, we'd be very happy to look at that. 

Diolch. Fel y dywedoch, mae yna gyfarfod wedi'i drefnu gyda Gweinidog yr Amgylchedd, ond yr hyn sy'n bwysig iawn yn fy marn i yw sicrhau ein bod yn monitro ac yn gwerthuso pob un o'n cynlluniau mewn ffordd sy'n dangos y canlyniadau. Ac yn amlwg, os oes pryderon mewn perthynas â'r cynllun hwn yn benodol, byddem yn hapus iawn i edrych arno.

Pŵer Ynni'r Llanw yn y Gogledd
Tidal Power in North Wales

2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i harneisio pŵer ynni'r llanw yng Ngogledd Cymru? OAQ52315

2. Will the Cabinet Secretary outline the Welsh Government's plans to harness tidal power in North Wales? OAQ52315

World-leading work is being undertaken in the north Wales marine demonstration zone. Marine energy could play an important role in delivering a low-carbon economy for Wales, with the creation of long-term jobs and exportable technologies. This is why we continue to support the north Wales demonstration zone.

Mae gwaith blaenllaw ar y gweill ym mharth arddangos morol gogledd Cymru. Gallai ynni'r môr chwarae rhan bwysig yn y broses o sicrhau economi garbon isel i Gymru, gan greu swyddi hirdymor a thechnolegau y gellir eu hallforio. Dyna pam rydym yn parhau i gefnogi parth arddangos gogledd Cymru.

Thank you, Cabinet Secretary. Last week, the First Minister offered £200 million to enhance the prospects of the Swansea tidal bay lagoon. As usual, the whole focus has been on south Wales when the north Wales coast is ripe for consideration for this type of project. I'm sure that even a small percentage of that £200 million would really help to kick-start the concept being worked up by North Wales Tidal Energy. What support does your Government intend to give to get this project off the ground? North Wales stands to be the pathfinder project. It is now time to look north. 

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Yr wythnos diwethaf, cynigiodd y Prif Weinidog £200 miliwn i wella rhagolygon morlyn llanw bae Abertawe. Fel arfer, mae'r ffocws cyfan wedi bod ar dde Cymru pan fo arfordir gogledd Cymru yn barod i gael ei ystyried ar gyfer y math hwn o brosiect. Rwy'n siŵr y byddai hyd yn oed canran fach o'r £200 miliwn hwnnw yn helpu i roi hwb cychwynnol i'r cysyniad y mae Ynni Llanw Gogledd Cymru yn gweithio arno. Pa gymorth y mae eich Llywodraeth yn bwriadu ei roi fel y gellir rhoi'r prosiect hwn ar waith? Mae gogledd Cymru mewn sefyllfa i fod yn brosiect braenaru. Mae'n bryd edrych tua'r gogledd yn awr.

I've had only one meeting with the company that are bringing forward tidal lagoon proposals for Wales, but, certainly, they were looking and considering one in north Wales. I mentioned that we are supporting the demonstration zone, which I think is very important, and we have multiple developers looking at what opportunities are there. I'm very proud that Wales has two of the largest zones for demonstrating wave and tidal stream arrays, and, clearly, we'd be very happy to look at all types of marine energy that's coming forward. I visited Morlais up in Anglesey, I think in February, this year. So, I am continuing, and my officials are, to have discussions with interested parties. 

Nid wyf ond wedi cael un cyfarfod gyda'r cwmni sy'n cyflwyno cynigion môr-lynnoedd llanw i Gymru, ond yn sicr, roeddent yn edrych ac yn ystyried un yng ngogledd Cymru. Soniais ein bod yn cefnogi'r parth arddangos, a chredaf fod hynny'n bwysig iawn, ac mae gennym sawl datblygwr yn ystyried pa gyfleoedd sydd ar gael yno. Rwy'n falch iawn fod gan Gymru ddau o'r parthau mwyaf ar gyfer arddangos araeau llanw a thonnau ac yn amlwg, byddem yn hapus iawn i edrych ar yr holl fathau o ynni morol sy'n cael eu cyflwyno. Ymwelais â Morlais yn Ynys Môn, ym mis Chwefror eleni rwy'n credu. Felly, rwy'n parhau, ac mae fy swyddogion yn parhau, i gynnal trafodaethau gyda phartïon sydd â diddordeb.

I've just come from a meeting of the cross-party group on sustainable energy, which I chair, and which is highly recommended to all Members, I'm sure you'd agree, Cabinet Secretary. But, amongst the presentations that we had was one about the work of the National Research Network for Low Carbon Energy and Environment, which is funded by the Welsh Government. Amongst a number of research clusters that this network has established is one particularly on marine energy, which clearly contributes importantly to innovation and research in this area. Now, funding for the network is coming to an end in December; there is no succession plan, from what I understand. The network has built up a great momentum—it has attracted renowned researchers from across the world, who are now leaving because they don't see a future for that particular network. So, given the importance of the work that they do in this particular sector, which is particularly promising for us here in Wales, what discussions are you having with Government colleagues to see what the Government can do to ensure that this Welsh Government-funded network continues with this work?

Rwyf newydd ddod o gyfarfod y grŵp trawsbleidiol ar ynni cynaliadwy, grŵp yr wyf yn gadeirydd arno, a grŵp sy'n cael ei argymell yn fawr iawn i'r holl Aelodau, rwy'n siŵr y byddech yn cytuno, Ysgrifennydd y Cabinet. Ond ymhlith y cyflwyniadau a gawsom, cafwyd un am waith y Rhwydwaith Ymchwil Cenedlaethol ar Ynni Carbon Isel a'r Amgylchedd, a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Ymysg nifer o'r clystyrau ymchwil y mae'r rhwydwaith hwn wedi'u sefydlu, mae yna un ar ynni morol yn arbennig, sy'n amlwg yn gwneud cyfraniad pwysig i arloesedd ac ymchwil yn y maes hwn. Nawr, mae cyllid ar gyfer y rhwydwaith yn dod i ben ym mis Rhagfyr; nid oes unrhyw gynllun olynol, yn ôl yr hyn a ddeallaf. Mae'r rhwydwaith wedi adeiladu llawer o fomentwm—mae wedi denu ymchwilwyr enwog o bedwar ban byd, sydd bellach yn gadael oherwydd nad ydynt yn gweld dyfodol i'r rhwydwaith penodol hwnnw. Felly, o gofio pwysigrwydd y gwaith y maent yn ei wneud yn y sector penodol hwn, sy'n arbennig o addawol i ni yma yng Nghymru, pa drafodaethau rydych yn eu cael gyda'ch cyd-Aelodau yn y Llywodraeth i weld beth y gall y Llywodraeth ei wneud i sicrhau bod y rhwydwaith hwn a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn parhau gyda'r gwaith?

13:35

I have started having very early discussions and, hopefully, by December we'll be able to see how we can assist, because I think it's very important that we retain this knowledge. I'm a big fan of cluster policies, and I think we are seeing that happening in this area. But I'm sure you wouldn't expect me to announce a decision today, but it is work under way.

Rwyf wedi dechrau cynnal trafodaethau cynnar iawn a gobeithio, erbyn mis Rhagfyr, y byddwn yn gallu gweld sut y gallwn helpu, oherwydd rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn cadw'r wybodaeth hon. Rwy'n hoff iawn o bolisïau clwstwr, a chredaf ein bod yn gweld hynny'n digwydd yn y maes hwn. Ond rwy'n siŵr na fyddech yn disgwyl i mi gyhoeddi penderfyniad heddiw, ond mae'r gwaith ar y gweill.

In addition to the north Wales tidal energy proposal for the lagoon, which you referred to, you also briefly referred to proposals off Anglesey. When the Economy, Infrastructure and Skills Committee met Anglesey enterprise zone earlier this year, we had given to us a presentation on the proposals for deep green technology to produce electricity off the coast of Anglesey. You mentioned, I think, a visit in February. What consideration are you and your officials giving to the report they've produced, which shows the clear benefits that this might bring not only to clean energy generation, but also to the economy of Anglesey?

Yn ogystal â chynnig ynni llanw gogledd Cymru ar gyfer y morlyn yr ydych wedi cyfeirio ato, rydych hefyd wedi cyfeirio'n fyr at gynigion oddi ar Ynys Môn. Pan gyfarfu Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ag ardal fenter Ynys Môn yn gynharach eleni, cawsom gyflwyniad ar y cynigion ar gyfer technoleg 'gwyrdd dwfn' i gynhyrchu trydan oddi ar arfordir Ynys Môn. Rydych wedi crybwyll, rwy'n credu, ymweliad ym mis Chwefror. Pa ystyriaeth rydych chi a'ch swyddogion yn ei roi i'r adroddiad y maent wedi'i gynhyrchu, sy'n dangos y manteision amlwg y gallai hyn eu cynnig, nid yn unig i gynhyrchu ynni glân, ond hefyd i economi Ynys Môn?

As you say, I did refer to the meeting I had with Morlais back in February. They gave me an update on the developments taking place and the work they are carrying out in relation to consenting. But I'm obviously unable to discuss particular aspects of the Morlais tidal array scheme because it could prejudice my consideration of the proposed transport and works order application, if and when it's made.

Fel y dywedwch, cyfeiriais at y cyfarfod a gefais gyda Morlais yn ôl ym mis Chwefror. Cefais y newyddion diweddaraf ganddynt ar y datblygiadau sydd ar y gweill a'r gwaith y maent yn ei wneud mewn perthynas â chydsynio. Ond yn amlwg ni allaf drafod agweddau penodol ar gynllun aráe lanw Morlais oherwydd gallai hynny niweidio fy ystyriaeth o'r cais arfaethedig am orchymyn trafnidiaeth a gwaith, os a phryd y caiff ei wneud.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
Questions Without Notice from Party Spokespeople

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, David Melding.

Questions now from the party spokespeople. The Conservative spokesperson, David Melding.

Diolch yn fawr, Llywydd. Minister, last month I welcomed the announcement that the Welsh Government's new economic contract will require businesses to have proposals to become carbon light or free. It is crucial that the Welsh Government sets standards to improve the green credentials of businesses in Wales, especially if we're going to invest and support those companies using public money. However, I also recognise that limiting action to carbon reduction alone is insufficient to create a resilient Wales, as defined by goal 2 of the Well-being of Future Generations (Wales) Act 2015. What conversations is the Minister having with the Cabinet Secretary for Economy and Transport to ensure that the new economic contract offers an integrated response to all seven well-being goals?

Diolch yn fawr, Lywydd. Weinidog, fis diwethaf, croesewais y cyhoeddiad y bydd contract economaidd newydd Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i fusnesau gyflwyno cynigion i ddod yn garbon isel neu di-garbon. Mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn gosod safonau i wella cymwysterau gwyrdd busnesau yng Nghymru, yn enwedig os ydym am fuddsoddi a chefnogi'r cwmnïau hynny gan ddefnyddio arian cyhoeddus. Fodd bynnag, rwyf hefyd yn cydnabod nad yw cyfyngu ar gamau i leihau allyriadau carbon yn unig yn ddigon i greu Cymru gydnerth, fel y'i diffinnir gan nod 2 yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog yn eu cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth i sicrhau bod y contract economaidd newydd yn cynnig ymateb integredig i bob un o'r saith nod llesiant?

Can I thank the Member for his question, and, Llywydd, if I may, before I answer, pay tribute to Martin Bishop, the national manager of the Confederation of Forest Industries, who was a valued member of the Cabinet Secretary's stakeholder round-table group on Brexit, and a passionate advocate for the forestry sector, who sadly died in an accident at the weekend? I'm sure Members, and especially Members who knew him, will join me, and the Welsh Government, in paying our condolences to Martin's family, friends and colleagues. Diolch yn fawr.

The Member makes a very valid point, that, yes, it's good to have those ambitions to tackle carbon reduction, and our ambition is particularly for a carbon-neutral public sector, but also actually it's in the whole. One thing in terms of what we've been looking at too is actually how, and not just in terms of the economic action plan, we use public procurement as well, particularly in the public sector, and with any contracts and supply chains, and how we apply green public procurement. And, particularly within my own portfolio, we're looking at actually how, working alongside the National Procurement Service, alongside WRAP, and the Future Generations Commissioner for Wales's office, to develop a range of measures that allow us to identify trends and actions to help reduce the use of plastics, including things like straws within the public sector, particularly within schools. I'm sure other colleagues have received numerous articulate and well-argued letters from primary school children about their campaigns to get rid of plastic straws in their schools. In terms of conversations with the economic action plan, in particular, I and my colleagues across Government are working closely because we identify now that, actually, we need to work together and across Government on this—both myself and my Cabinet Secretary colleague as well.

A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn, a Lywydd cyn i mi ateb, os caf dalu teyrnged i Martin Bishop, rheolwr cenedlaethol Cydffederasiwn Diwydiannau Coedwigoedd, a oedd yn aelod gwerthfawr o grŵp rhanddeiliaid bwrdd crwn Ysgrifennydd y Cabinet ar Brexit, ac yn hyrwyddwr brwd i'r sector coedwigaeth, a fu farw mewn damwain dros y penwythnos yn anffodus? Rwy'n siŵr y bydd Aelodau, ac yn enwedig Aelodau a oedd yn ei adnabod, yn ymuno â mi, a Llywodraeth Cymru, wrth i ni gydymdeimlo â theulu, ffrindiau a chydweithwyr Martin. Diolch yn fawr.

Mae'r Aelod yn gwneud pwynt dilys iawn ei bod hi'n dda cael yr uchelgeisiau hynny i fynd i'r afael â lleihau allyriadau carbon, a'n huchelgais yn arbennig yw sicrhau sector cyhoeddus carbon niwtral, ond mae hynny hefyd yn wir yn gyffredinol mewn gwirionedd. Un peth o ran yr hyn y buom yn edrych arno hefyd yw sut y defnyddiwn gaffael cyhoeddus yn ogystal, ac nid yn unig o ran y cynllun gweithredu economaidd, yn enwedig yn y sector cyhoeddus, a chydag unrhyw gontractau a chadwyni cyflenwi, a sut rydym yn cymhwyso caffael cyhoeddus gwyrdd. Ac yn enwedig o fewn fy mhortffolio fy hun, rydym yn edrych ar sut y gallwn, drwy weithio ochr yn ochr â'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol, ochr yn ochr â WRAP, a swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, ddatblygu ystod o fesurau sy'n caniatáu i ni nodi tueddiadau a chamau gweithredu i helpu i leihau'r defnydd o blastigion, gan gynnwys pethau fel gwellt o fewn y sector cyhoeddus, ac yn enwedig mewn ysgolion. Rwy'n siŵr fod cyd-Aelodau eraill wedi derbyn nifer o lythyrau huawdl a rhesymegol gan blant ysgol gynradd am eu hymgyrchoedd i gael gwared â gwellt plastig yn eu hysgolion. O ran trafodaethau am y cynllun gweithredu economaidd, yn arbennig, rwyf fi a fy nghyd-Aelodau ar draws y Llywodraeth yn gweithio'n agos oherwydd rydym yn nodi bod angen i ni bellach weithio gyda'n gilydd ac ar draws y Llywodraeth ar hyn—fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet, a minnau yn ogystal.

Llywydd, on this side of the house, can I extend our deepest condolences to Martin's family?

Minister, to demonstrate that the Well-being of Future Generations (Wales) Act 2015 is being integrated across Government, it is vital that the resilience goals reflected in the contract by calling on businesses to demonstrate how they will contribute towards, for instance, sustainable management of natural resources. If put into practice, a contract that does this could require businesses to set clear and quantified targets that enhance ecosystem resilience within the period in which they receive Government support or are delivering a Government contract. So, what specific measures does the Minister have in mind for ways in which the contract can demand businesses to take action to contribute towards ecosystem resilience and the restoration of nature?

Lywydd, ar yr ochr hon i'r tŷ, a gaf fi estyn ein cydymdeimlad dwysaf â theulu Martin?

Weinidog, i ddangos bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn cael ei hintegreiddio ar draws y Llywodraeth, mae'n hanfodol fod y nodau cydnerthedd yn cael eu hadlewyrchu yn y contract drwy alw ar fusnesau i ddangos sut y byddant yn cyfrannu tuag at, er enghraifft, y broses o reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy. Pe bai'n cael ei roi ar waith, gallai contract o'r fath ei gwneud yn ofynnol i fusnesau osod targedau clir a mesuradwy sy'n gwella cydnerthedd ecosystemau o fewn y cyfnod y maent yn cael cymorth gan y Llywodraeth neu'n cyflawni contract Llywodraeth. Felly, pa fesurau penodol sydd gan y Gweinidog mewn golwg o ran y ffyrdd y gall y contract fynnu bod busnesau'n rhoi camau ar waith i gyfrannu tuag at wytnwch ecosystemau ac adfer natur?

13:40

The Member is absolutely right that we need to take steps to not only halt the decline of biodiversity and reverse it, but also promote the value of our ecosystems, biodiversity and habitats to both communities and business alike. 

The economic contract and the calls to action provide a platform for us to make sure that we embed, as you say, the goals in the Well-being of Future Generations (Wales) Act 2015. I am particularly keen to explore potential—[Inaudible.]—already, like green procurement to place responsibilities on businesses to work with us in terms of the Environment (Wales) Act 2016 as well. We will bring in Part 4 of the environment Act, which will place the same responsibilities on businesses to separate their waste for collection just as households have been doing for years.

But also, actually, how do we apply biodiversity goals? One thing is going around, working with local authorities in particular to work out how they've been doing it, but it comes back to actually these ongoing conversations with my Cabinet Secretary colleagues—not just the Cabinet Secretary for Economy and Infrastructure, but across the piece—in terms of how we can apply that.

We've had conversations too with my colleague sat next to me, in terms of timber production within housing. So, showing the value of—. And particularly, for me, in terms of my portfolio—[Inaudible.]—the value of our circular economy not only to maintaining and restoring the sustainable management of our natural resources, but also in terms of the added value in terms of the job benefits that could bring to our economy in Wales.

Mae'r Aelod yn llygad ei le fod angen i ni gymryd camau i atal y dirywiad mewn bioamrywiaeth a'i wrthdroi, yn ogystal â hyrwyddo gwerth ein hecosystemau, bioamrywiaeth a'n cynefinoedd i gymunedau a busnesau fel ei gilydd.

Mae'r contract economaidd a'r galwadau am gamau gweithredu yn rhoi llwyfan i ni i wneud yn siŵr ein bod yn ymgorffori, fel y dywedwch, y nodau yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Rwy'n arbennig o awyddus i archwilio potensial—[Anghlywadwy.]—yn barod, fel caffael gwyrdd i roi cyfrifoldebau ar fusnesau i weithio gyda ni o ran Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn ogystal. Byddwn yn cyflwyno Rhan 4 o Ddeddf yr amgylchedd, a fydd yn rhoi'r un cyfrifoldebau ar fusnesau i wahanu eu gwastraff ar gyfer casgliadau fel y mae cartrefi wedi bod yn ei wneud ers blynyddoedd.

Ond hefyd, mewn gwirionedd, sut rydym yn cymhwyso nodau bioamrywiaeth? Un ffordd yw mynd o gwmpas a gweithio gydag awdurdodau lleol yn benodol i weld sut y maent hwy wedi bod yn ei wneud, ond daw'n ôl at y sgyrsiau parhaus hyn gyda fy nghyd-Ysgrifenyddion Cabinet mewn gwirionedd—nid yn unig Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith, ond yn gyffredinol—o ran sut y gallwn gymhwyso hynny.

Rydym hefyd wedi cael sgyrsiau gyda fy nghyd-Aelod sy'n eistedd wrth fy ymyl, o ran cynhyrchiant pren o fewn y sector tai. Felly, dangos gwerth —. Ac yn enwedig, i mi, o ran fy mhortffolio—[Anghlywadwy.]—mae gwerth ein heconomi gylchol, nid yn unig i gynnal ac adfer y broses o reoli ein hadnoddau naturiol yn gynaliadwy, ond hefyd o ran y gwerth ychwanegol mewn perthynas â'r manteision swyddi y gallai hynny eu creu i'n heconomi yng Nghymru.

Minister, I'm sure you'll join with me in commending the work of WWF, which has looked at this area of Government policy and would like to see more action. They've come up with some very specific ideas, including reducing the use of resources through increasing business resource sufficiency and resourcing from sustainable certified producers. Additionally, WWF suggests that we could improve biodiversity and restore ecosystem functioning through assessing impact on natural resources and actively investing in restoration. But isn't it true that, so far, this well-being of future generations Act, which is, I think everyone accepts, a landmark piece of legislation, has not been put to full, practical use yet? You really need to raise your ambition and ensure that they fully understand this in, for instance, the department of your colleague the Cabinet Secretary for economy, and really get to work, and you need to be co-ordinating this with the key players out there in the civic sector, like WWF.

Weinidog, rwy'n siŵr y gwnewch ymuno â mi i ganmol gwaith y WWF, sydd wedi edrych ar y maes hwn o bolisi'r Llywodraeth a byddai'n hoffi gweld mwy o weithredu. Maent wedi cyflwyno rhai syniadau penodol iawn, gan gynnwys lleihau'r defnydd o adnoddau drwy gynyddu digonolrwydd adnoddau busnes ac adnoddau gan gynhyrchwyr cynaliadwy ardystiedig. Yn ogystal, mae WWF yn awgrymu y gallem wella bioamrywiaeth ac adfer gweithrediad ecosystemau drwy asesu'r effaith ar adnoddau naturiol a buddsoddi'n weithredol mewn gwaith adfer. Ond onid yw'n wir, hyd yma, nad yw Deddf cenedlaethau'r dyfodol, sydd, rwy'n credu y bydd pawb yn cytuno, yn ddeddfwriaeth bwysig, wedi cael ei defnyddio'n llawn ac yn ymarferol eto? Mae gwir angen i chi gynyddu eich uchelgais a sicrhau eu bod yn deall hyn yn llawn, er enghraifft, yn adran eich cyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi, a mynd ati o ddifrif i weithio, ac mae angen i chi gydgysylltu hyn gyda'r chwaraewyr allweddol yn y sector dinesig, fel WWF.

The Member refers to WWF, who I have regular meetings with as stakeholders within the sector, and there is value in not just working with WWF, but collaboratively across the sector and across Government about—. And, yes, you're obviously right—we're rightfully proud about our landmark legislation and the ambitions and the aspirations contained in that legislation, but now, actually, we need to put that into practice and recognise that they may be environmental issues but sustainability needs to be embedded across everything we do, which is why there is value in working across Government to make sure that we see the outcomes that we want for future generations.

Mae'r Aelod yn cyfeirio at WWF, ac rwy'n cael cyfarfodydd rheolaidd gyda hwy fel rhanddeiliaid o fewn y sector, ac mae yna werth mewn cydweithio, nid yn unig â WWF, ond ar draws y sector ac ar draws y Llywodraeth mewn perthynas â—. Ac rydych yn amlwg yn gywir—rydym yn iawn i fod yn falch o'n deddfwriaeth flaengar a'r uchelgeisiau a'r dyheadau a gynhwysir yn y ddeddfwriaeth honno, ond yn awr, mewn gwirionedd, mae angen i ni roi hynny ar waith a chydnabod, er eu bod yn faterion amgylcheddol, fod angen ymgorffori cynaliadwyedd ym mhopeth a wnawn, a dyna pam fod gwerth mewn gweithio ar draws y Llywodraeth i wneud yn siŵr ein bod yn gweld y canlyniadau rydym eu heisiau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Llefarydd UKIP, Neil Hamilton.

The UKIP spokesperson, Neil Hamilton.

Diolch yn fawr, Llywydd. I'm sure the Cabinet Secretary will agree with me that it's regrettable that the UK Government has not made more progress in seeking consensus from devolved administrations on the future of farm support post Brexit. This is very important to clarify at the earliest opportunity. Michael Gove has said that he wants to seek a consensus with us. He's also said that farm support should be based more upon the industry's needs and not Barnettised, which, again, I think we can all agree on. But the Welsh Government will have, once the implementation period is completed, significant freedom to diverge from UK Government policy, where that's in the interest of Wales, and one area in particular I'd like to explore with the Cabinet Secretary is the possibility of introducing headage payments for upland farms. These farms are not economically viable by themselves—that's obvious from all the topographical and other difficulties that farmers have to cope with—and if we are to continue to farm the hills of Wales to produce good-quality meat in particular, they will require this kind of support. So, is the Welsh Government in favour, in principle, of having headage payments on the hills?

Diolch yn fawr, Lywydd. Rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi ei bod yn anffodus nad yw Llywodraeth y DU wedi gwneud mwy o gynnydd wrth geisio consensws gan weinyddiaethau datganoledig ar ddyfodol cymorth ffermydd yn dilyn Brexit. Mae'n bwysig iawn fod hyn yn cael ei egluro cyn gynted ag y bo modd. Mae Michael Gove wedi dweud ei fod eisiau ceisio consensws gyda ni. Mae hefyd wedi dweud y dylid seilio cymorth ffermydd ar anghenion y diwydiant yn hytrach na fformiwla Barnett, ac rwy'n credu, unwaith eto, y gall pob un ohonom gytuno ar hynny. Ond bydd gan Lywodraeth Cymru, pan ddaw'r cyfnod gweithredu i ben, ryddid sylweddol i wyro oddi wrth bolisi Llywodraeth y DU, pan fo hynny er budd Cymru, ac un maes yn arbennig yr hoffwn ei ymchwilio gydag Ysgrifennydd y Cabinet yw'r posibilrwydd o gyflwyno taliadau y pen ar gyfer ffermydd mynydd. Nid yw'r ffermydd hyn yn hyfyw'n economaidd ar eu pennau eu hunain—mae hynny'n amlwg o'r holl anawsterau topograffig a'r anawsterau eraill y mae ffermwyr yn gorfod ymdopi â hwy—ac os ydym am barhau i ffermio bryniau Cymru i gynhyrchu cig o ansawdd da yn arbennig, byddant angen y math hwn o gymorth. Felly, a yw Llywodraeth Cymru o blaid cyflwyno taliadau y pen ar y bryniau mewn egwyddor?

13:45

The Member makes a very important point about the lack of clarity that we are getting from the UK Government regarding funding for future farming support. I was very pleased that Michael Gove did say that about not Barnettising, because we said from the outset that that would not be a good result at all for Wales, and I'm continuing to make sure that Wales does not lose a penny, as we were promised, in relation to funding post Brexit.

I think you're already seeing a divergence in farming policy. Certainly, over the last 20 years when agriculture has been wholly devolved here, whilst it's not wildly different, there is a divergence, and clearly upland farms is an area that is very different to most of England. Probably, there are some areas where you could say it's similar. So, I think that is an area that we are going to have to look at in great detail.

I've already said publicly that I will be launching a Green Paper at the beginning of July, well ahead of the summer shows, to consult on the future of agriculture, and this is clearly something that will be in it.

Mae'r Aelod yn gwneud pwynt pwysig iawn ynglŷn â'r diffyg eglurder gan Lywodraeth y DU mewn perthynas â chyllid ar gyfer cymorth ffermio yn y dyfodol. Roeddwn yn falch iawn fod Michael Gove wedi dweud hynny am beidio â defnyddio fformiwla Barnett, oherwydd dywedasom o'r dechrau na fyddai hynny'n ganlyniad da o gwbl i Gymru, ac rwy'n parhau i wneud yn siŵr nad yw Cymru'n colli'r un geiniog, fel yr addawyd i ni, mewn perthynas â chyllid yn dilyn Brexit.

Credaf eich bod eisoes yn gweld gwahaniaeth mewn polisi ffermio. Yn sicr, dros yr 20 mlynedd diwethaf tra bod amaethyddiaeth wedi cael ei ddatganoli'n llwyr yma, er nad yw'n wahanol iawn, mae yna wahaniaeth, ac mae ffermydd mynydd yn amlwg yn faes sy'n wahanol iawn i'r rhan fwyaf o Loegr. Mae'n debyg fod yna rai ardaloedd lle y gallech ddweud ei fod yn debyg. Felly, credaf fod hwnnw'n faes y bydd yn rhaid i ni edrych arno'n fanwl iawn.

Rwyf eisoes wedi dweud yn gyhoeddus y byddaf yn lansio Papur Gwyrdd ar ddechrau mis Gorffennaf, ymhell cyn sioeau'r haf, i ymgynghori ar ddyfodol amaethyddiaeth, ac yn amlwg bydd hyn yn cael ei gynnwys ynddo.

Thank you for that response. We don't know yet what sort of agreement might be finalised with the EU. One thing we do know is that the UK as a whole is only about 75 per cent self-sufficient in food products. There is a substantial imbalance of trade between Britain and the EU in food and drink products, so there is enormous scope, if the EU should be so foolish as to apply substantial tariffs to imports from the UK, for us to retaliate and for the food currently emanating from the EU to be replaced by food that is grown in Wales and other parts of the United Kingdom. In dairy, for example, our exports to the EU are about £1 billion a year, but we import £2 billion from them. In the case of beef, we import about 400,000 tonnes a year, but we export only 180,000 tonnes. Pork, we import about 1 million tonnes a year, but we export a fifth of that—200,000 tonnes. So, there's tremendous scope here for import substitution. We don't know what sort of regime we're going to face, but it would certainly be sensible for us to plan on the basis of there being no real deal and therefore to gear up Welsh farmers and the industry generally to replace the exports from the EU to Britain, which we compete with. So, what support can the Welsh Government give to farmers and others in the agricultural sector to take up the gap in trade that we currently suffer?

Diolch i chi am yr ymateb hwnnw. Nid ydym yn gwybod eto pa fath o gytundeb a geir gyda'r UE yn y pen draw. Un peth rydym yn ei wybod yw mai tua 75 y cant hunangynhaliol yw'r DU yn gyfan mewn cynhyrchion bwyd. Ceir anghydbwysedd sylweddol o ran masnach rhwng Prydain a'r UE mewn cynhyrchion bwyd a diod, felly mae yna bosibilrwydd enfawr, pe bai'r UE yn ddigon ffôl i gymhwyso tariffau sylweddol ar fewnforion o'r DU, y byddwn yn dial ac y bydd bwyd sy'n dod o'r UE ar hyn o bryd yn cael ei amnewid am fwyd sy'n cael ei dyfu yng Nghymru a rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Gyda chynnyrch llaeth, er enghraifft, tua £1 biliwn y flwyddyn yw ein hallforion i'r UE, ond rydym yn mewnforio £2 biliwn o'r UE. Yn achos cig eidion, rydym yn mewnforio tua 400,000 tunnell y flwyddyn, ond nid ydym ond yn allforio 180,000 tunnell. Gyda phorc, rydym yn mewnforio tua 1 filiwn tunnell y flwyddyn, ond nid ydym ond yn allforio un rhan o bump o hynny—200,000 tunnell. Felly, mae yna gyfle gwych i amnewid y cynnyrch a gaiff ei fewnforio. Nid ydym yn gwybod pa fath o drefn y byddwn yn ei hwynebu, ond byddai'n sicr yn synhwyrol i ni gynllunio ar y sail nad oes unrhyw fargen go iawn a mynd ati felly i baratoi ffermwyr Cymru a'r diwydiant yn gyffredinol i amnewid yr allforion yr ydym yn cystadlu â hwy o'r UE i Brydain. Felly, pa gymorth y gall Llywodraeth Cymru ei roi i ffermwyr ac eraill yn y sector amaethyddol i fanteisio ar y bwlch rydym yn ei ddioddef mewn masnach ar hyn o bryd?

We are very concerned around tariffs. I'm sure you won't be surprised to hear that. Obviously, trade policy is wholly devolved to the UK Government, but we've made it very clear that we need to be around the table from the start, and I think they are realising that. Certainly, last Thursday, I held a joint meeting with Alun Cairns, the Secretary of State for Wales, with my round-table stakeholder group, where we were hearing that the UK Government, for instance, are planning for a 'no deal' scenario, making sure they've got the legislation et cetera. It was very apparent that people sitting around the table were very, very concerned about this, because I think that's the first time they'd heard that.

I think you're right that there is scope, and part of our supporting the agriculture sector and the food sector at the moment to prepare for Brexit is in relation to this—looking at the gaps, looking at the opportunities. Last week, I was out in Catalonia and in the Basque Country with the food cluster teams, and there are clearly opportunities that we have not got the most benefit from. Certainly, the Basque Country are very keen to build on their relationship with Wales.

Rydym yn bryderus iawn ynglŷn â thariffau. Rwy'n siŵr na fyddwch yn synnu clywed hynny. Yn amlwg, mae polisi masnach wedi'i ddatganoli'n gyfan gwbl i Lywodraeth y DU, ond rydym wedi dweud yn glir iawn fod angen i ni fod o amgylch y bwrdd o'r cychwyn cyntaf, a chredaf eu bod yn sylweddoli hynny. Yn sicr, ddydd Iau diwethaf, cynhaliais gyfarfod ar y cyd ag Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, gyda fy ngrŵp rhanddeiliaid bwrdd crwn, lle y clywsom fod Llywodraeth y DU, er enghraifft, yn cynllunio ar gyfer senario 'dim bargen', gan wneud yn siŵr fod ganddynt y ddeddfwriaeth ac yn y blaen. Roedd yn amlwg iawn fod pobl a oedd yn eistedd o amgylch y bwrdd yn bryderus iawn am hyn, oherwydd credaf mai dyna'r tro cyntaf iddynt glywed hynny.

Credaf eich bod yn gywir fod yna bosibiliadau, ac mae rhan o'n cefnogaeth i'r sector amaethyddiaeth a'r sector bwyd ar hyn o bryd i baratoi ar gyfer Brexit yn ymwneud â hyn—edrych ar y bylchau, edrych ar y cyfleoedd. Yr wythnos diwethaf, roeddwn yng Nghatalonia ac yng Ngwlad y Basg gyda'r timau clwstwr bwyd, ac mae'n amlwg fod yna gyfleoedd nad ydym wedi cael y budd mwyaf ohonynt. Yn sicr, mae Gwlad y Basg yn awyddus iawn i adeiladu ar eu perthynas â Chymru.

That was a very informative reply, and I'm very glad to hear that the Cabinet Secretary has taken those steps. The other area that the industry is very concerned about, of course, is the impact of controls on the movement of labour between the EU and the UK. We all want to see the maximum degree of flexibility in this respect, without prejudicing overall immigration controls. Where skilled workers are concerned, nobody in his right mind would want to see the opportunities diminish to have people from abroad to plug the gaps in skills that we have currently. Sixty-three per cent of abattoir staff, I gather, come from the EU, and about 90 per cent of slaughterhouse vets are European. So, these people do play a vital role in the UK and Welsh agricultural industry and every encouragement should be given to them to remain in employment. Regardless of one's views on the desirability of Brexit, I think there'd be a widespread consensus for that view.

But, as in relation to import substitution with goods and food products, clearly, we do have the opportunity with increased training and so on to kit out our own people with the kinds of skills that currently we don't have enough of. So, can the Cabinet Secretary also tell us what she's been doing recently to prepare, again, for a Brexit where we don't have a sensible deal with the EU because they won't come up with one and because the British Government has made its policy perfectly clear that they want to see as little friction as possible both on movement of labour as well as on movement of goods? It's the EU that is currently the impediment, and Monsieur Barnier himself is a personal roadblock to agreement, and that is part of its negotiating strategy. But it is vitally important—I don't want this question to turn into a speech—it is vitally important that the Welsh Government should do what it can to improve training opportunities, particularly in those areas where there are currently skills gaps, and if the Cabinet Secretary could give us an update on that I'd be grateful.

Roedd hwnnw'n ateb llawn gwybodaeth, ac rwy'n falch iawn o glywed bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cymryd y camau hynny. Y maes arall y mae'r diwydiant yn bryderus iawn amdano, wrth gwrs, yw effaith mesurau rheoli ar symud llafur rhwng yr UE a'r DU. Rydym i gyd eisiau gweld cymaint o hyblygrwydd â phosibl yn hyn o beth, heb niweidio mesurau rheoli mewnfudo cyffredinol. O ran gweithwyr medrus, ni fyddai neb yn ei iawn bwyll eisiau lleihau'r cyfleoedd i bobl o dramor lenwi'r bylchau yn y sgiliau sydd gennym ar hyn o bryd. Deallaf fod 63 y cant o staff lladd-dai yn dod o'r UE, ac mae tua 90 y cant o filfeddygon lladd-dai yn hanu o Ewrop. Felly, mae'r bobl hyn yn chwarae rôl hanfodol yn y DU a'r diwydiant amaethyddol yng Nghymru a dylid rhoi pob anogaeth iddynt aros yn eu gwaith. Ni waeth beth yw eich barn ar ddymunoldeb Brexit, credaf y byddai consensws eang ar y farn honno.

Ond mewn perthynas ag amnewid mewnforion gyda nwyddau a chynnyrch bwyd, yn amlwg, mae gennym gyfle, gyda mwy o hyfforddiant ac ati, i ddysgu'r mathau o sgiliau nad oes gennym ddigon ohonynt ar hyn o bryd i'n pobl ein hunain. Felly, a all Ysgrifennydd y Cabinet hefyd ddweud wrthym beth y mae hi wedi bod yn ei wneud yn ddiweddar i baratoi, unwaith eto, ar gyfer Brexit lle nad oes gennym fargen synhwyrol gyda'r UE oherwydd nad ydynt yn cynnig un ac oherwydd bod Llywodraeth Prydain wedi gwneud ei pholisi'n berffaith glir eu bod eisiau gweld cyn lleied o densiwn â phosibl mewn perthynas â symud llafur a symud nwyddau? Yr UE yw'r rhwystr ar hyn o bryd, ac mae Monsieur Barnier ei hun yn rhwystr personol i gytundeb, ac dyna ran o'i strategaeth negodi. Ond mae'n hanfodol bwysig—nid wyf eisiau i'r cwestiwn hwn droi'n araith—mae'n hanfodol bwysig fod Llywodraeth Cymru yn gwneud yr hyn a all i wella cyfleoedd hyfforddi, yn enwedig yn y meysydd lle y ceir bylchau sgiliau ar hyn o bryd, a buaswn yn ddiolchgar pe bai Ysgrifennydd y Cabinet yn gallu rhoi'r newyddion diweddaraf i ni ar hynny.

13:50

I think you make a very important point about workforce, and all aspects right across my portfolio are very concerned about the workforce. You mentioned that 90 per cent of vets in relation to, I think you said, abattoirs are EU graduates; 100 per cent of Food Standards Agency vets are EU graduates—100 per cent. So you can see why we're so concerned. And then, apart from the skilled labour, there's the unskilled labour. We're already seeing a drop, farmers are telling me, in the number of EU nationals who are coming to do seasonal work ahead of the summer. So, it's clearly a matter of great concern and something where we went into in great detail with the Secretary of State for Wales. I don't think he was left under any illusions about the concerns that we have to take back to the UK Government. It's very hard—. Some of the abattoirs have about 80 per cent of their staff who are EU nationals. It's very hard to make those jobs more attractive, so it is about making sure that we help to upskill, and this has been part of the work for the past two years, really, since the EU referendum vote, to make sure that our sectors right across my portfolio are prepared.

Credaf eich bod yn gwneud pwynt pwysig iawn ynglŷn â'r gweithlu, ac mae'r holl elfennau ar draws fy mhortffolio yn bryderus iawn am y gweithlu. Fe sonioch fod 90 y cant o filfeddygon lladd-dai, rwy'n credu i chi ddweud, yn raddedigion o'r UE; mae 100 y cant o filfeddygon yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn raddedigion o'r UE—100 y cant. Felly gallwch weld pam ein bod yn pryderu cymaint. Ac yna, ar wahân i'r llafur medrus, mae'r llafur anfedrus. Mae ffermwyr yn dweud wrthyf ein bod eisoes yn gweld gostyngiad yn nifer y gwladolion o'r UE sy'n dod i wneud gwaith tymhorol cyn yr haf. Felly, mae'n amlwg yn fater o bryder mawr ac yn rhywbeth rydym wedi'i drafod yn fanwl iawn gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Nid wyf yn credu ei fod o dan unrhyw gamargraff ynglŷn â'r pryderon sydd gennym i'w hadrodd yn ôl wrth Lywodraeth y DU. Mae'n anodd iawn—. Mewn rhai lladd-dai, mae tua 80 y cant o'u staff yn wladolion yr UE. Mae'n anodd iawn gwneud y swyddi hynny'n fwy deniadol, felly mae'n ymwneud â gwneud yn siŵr ein bod yn helpu i wella sgiliau, ac mae hyn wedi bod yn rhan o'r gwaith y buom yn ei wneud dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mewn gwirionedd, ers pleidlais refferendwm yr UE, i sicrhau bod ein sectorau ar draws fy mhortffolio yn barod.

Llefarydd Plaid Cymru, Simon Thomas. 

Plaid Cymru spokesperson, Simon Thomas. 

Diolch, Llywydd. Before I start, can I associate myself and Plaid Cymru with the condolences expressed by the environment Minister to Martin Bishop's family? He was only here, I think, about three weeks ago helping me set up a cross-party group on forestry and his enthusiasm and advocacy will be sorely missed by many of us.

Diolch, Lywydd. Cyn i mi ddechrau, a gaf fi a Phlaid Cymru ategu'r cydymdeimlad a fynegodd Gweinidog yr amgylchedd i deulu Martin Bishop? Roedd yma, rwy'n credu, dair wythnos yn ôl yn fy helpu i sefydlu grŵp trawsbleidiol ar goedwigaeth a bydd llawer ohonom yn gweld ei eisiau ef, ei frwdfrydedd a'i gefnogaeth.

A gaf i droi nawr at y cynllun ymsefydlu i ffermwyr ifanc? Mae'r cynllun, wrth gwrs, yn ffrwyth cytundeb rhwng Plaid Cymru a'r Llywodraeth ac mae yna £6 miliwn wedi'i neilltuo ar gyfer y cynllun hwn. Mae ar agor ar hyn o bryd, ac rydw i'n gwybod bod yna nifer fawr o bobl wedi ymgeisio a nifer fawr o bobl yn trafod y cynllun. Yn gyffredinol iawn, mae croeso mawr wedi bod i'r cynllun. Mae yna gwpwl o gwestiynau wedi codi fel adwaith wrth i'r cynllun gael ei fabwysiadu, a hoffwn i jest grybwyll y rhain i'r Ysgrifennydd Cabinet. Yn gyntaf oll, mae pobl yn holi a oes modd cael mwy o, efallai, sgwrs o bryd i'w gilydd ac ymateb gan y Llywodraeth ynglŷn â rhoi cais i mewn ac ym mha ffordd mae cais yn datblygu ac ati, i ddeall a fydd y cais yn addas yn y ffordd yna. Mae pobl hefyd yn codi yr awydd i wneud yn siŵr bod y cynllun yn ffocysu'n briodol ar ffermwyr ifanc, rhai ohonyn nhw, efallai, blwyddyn neu ddwy i mewn i fusnes ond yn gallu manteisio ar y cynllun yma i dyfu'r busnes yma, a thrwy hynny, wrth gwrs, fel rydym ni wedi trafod yn y Cynulliad, dyfu rhyw garfan o bobl a fydd yn arwain y diwydiant wrth i ni wynebu rhai o'r heriadau sydd eisoes wedi cael eu trafod yma ar hyn o bryd. A fedr yr Ysgrifennydd Cabinet ddweud wrthym ni a ydy hi'n fodlon jest cadw llygad ar y cynllun wrth iddo fe nesáu at y dyddiad cau a gwneud yn siŵr bod digon o hyblygrwydd yn y cynllun i gwrdd â'r anghenion a'r amcanion sydd wedi'u cytuno?

If I could turn now to the entry scheme for young farmers. This is the result of an agreement between Plaid Cymru and the Government, and £6 million has been allocated for this. It’s open at the moment, and I know that many people have applied, and many people are discussing this scheme. Generally speaking, there’s been a warm welcome to it. Now, a few questions have arisen in response to the adoption of this plan, and I’d just like to mention these to the Cabinet Secretary. First of all, people are asking whether it’s possible to have more of a conversation and more of a response from Government in terms of submitting an application and how applications develop, to understand whether that application would be appropriate. People are also raising the desire to ensure that the plan focuses specifically on young farmers, some of them a year or two into their business, but able to benefit from this scheme to develop their business, and in so doing, as we discussed in the Assembly, developing a cohort of people that will lead the industry as we face some of the challenges that have already been discussed here. Could the Cabinet Secretary tell us whether she is content just to keep an eye on this programme as it gets towards the closing date and ensure there is sufficient flexibility within it to meet the needs and objectives agreed?

Thank you. I'm very happy to be working on this scheme alongside Simon Thomas. The expressions of interest—the window actually closed yesterday. I am keeping a very close eye on it. I actually attended the second meeting of the young people in agriculture forum, where, I'm sure you can understand, I was questioned in great detail about this scheme. As you said, there's £6 million being made available. I'm really keen to make sure that we target the funding where we're going to have the greatest impact. As you say, it's about making sure we've got the next young leaders, so we're going to offer them—. Alongside other advantages of the scheme, we're going to work with them, in respect of the agricultural forum, to make sure that they have access to myself and to my officials. I think a couple of them are shadowing me at the Royal Welsh Show. It is about making sure that we encourage them going forward. As you know, the funding's going to be offered in the form of working capital, and again, that will offer the new entrants that flexibility with their business.

Diolch. Rwy'n hapus iawn i gydweithio ar y cynllun hwn ochr yn ochr â Simon Thomas. O ran y datganiadau o ddiddordeb—caeodd y ffenestr ddoe mewn gwirionedd. Rwy'n cadw llygad barcud arno. Mewn gwirionedd, mynychais ail gyfarfod y fforwm pobl ifanc mewn amaeth, ac rwy'n siŵr y gallwch ddeall fy mod wedi cael fy holi'n fanwl iawn yno am y cynllun hwn. Fel y dywedoch, mae yna £6 miliwn yn mynd i fod ar gael. Rwy'n wirioneddol awyddus i wneud yn siŵr ein bod yn targedu'r cyllid lle bydd yn cael yr effaith fwyaf. Fel y dywedwch, mae'n ymwneud â sicrhau bod gennym yr arweinwyr ifanc nesaf, felly byddwn yn cynnig—. Ochr yn ochr â manteision eraill y cynllun, byddwn yn gweithio gyda hwy, mewn perthynas â'r fforwm amaethyddol, i wneud yn siŵr eu bod yn gallu dod i gysylltiad â fy swyddogion a minnau. Credaf fod un neu ddau ohonynt yn fy nghysgodi yn Sioe Frenhinol Cymru. Mae'n ymwneud â gwneud yn siŵr ein bod yn eu hannog wrth symud ymlaen. Fel y gwyddoch, bydd y cyllid yn cael ei gynnig ar ffurf cyfalaf gweithio, ac eto, bydd hynny'n cynnig hyblygrwydd i newydd-ddyfodiaid gyda'u busnesau.

13:55

Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet am ei hateb. Mae’n dda gen i glywed yn arbennig nad oes yna ddim stop ar y ffordd yr ydym yn cydweithio â phobl ifanc. Bydd yna rai, efallai, wedi’u siomi gyda’r cynllun yma, ond rwy’n gobeithio y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn dal i gadw llygad ar agor ar gyfer posibiliadau eraill o gynnwys pobl ifanc wrth ddatblygu dyfodol y diwydiant yng Nghymru.

A gaf fi droi yn awr at y cwestiwn o’r morlyn llanw ym mae Abertawe? Wrth gwrs, roeddwn yn meddwl, wrth feddwl am y cwestiwn heddiw, y byddem ni wedi clywed erbyn hyn, ond nid ydym wedi. Rŷm ni’n dal i aros. Beth nad ydym yn ei wybod, wrth gwrs, yw a ydym yn aros oherwydd bod yna benderfyniad heb ei wneud, neu a ydym yn aros oherwydd nad ydynt wedi penderfynu pryd i ryddhau’r newyddion yn dawel bach. Ac yn y cyd-destun hwnnw, a gaf fi ofyn i’r Ysgrifennydd Cabinet, gan fod y Llywodraeth wedi’i wneud yn gyfan gwbl glir nawr bod yna £200 miliwn ar y bwrdd gan y Llywodraeth hon ar gyfer helpu a hyrwyddo’r cynllun yma, a ydy’r cynnig yna wedi cael ei gymryd o ddifri gan Lywodraeth San Steffan? A ydyn nhw wedi ymateb? A ydyn nhw wedi cynnig trafodaethau? A ydyn nhw wedi eich gwahodd chi, neu unrhyw Aelod arall o’r Llywodraeth, i Lundain i drafod sut y gall yr arian yma ddod â’r cynllun morlyn llanw i fwcwl? Ac yn y cyd-destun hwnnw, a ydych chi wedi gwneud unrhyw benderfyniad ynglŷn â’r ffordd i wthio’r cynllun yma i gael penderfyniad fydd yn llesol ac yn fuddiol i Gymru?

I thank the Cabinet Secretary for that response. I am pleased to hear, in particular, that there will be no stop to the way that we’re collaborating with young people. Some will have been disappointed by this programme, but I hope that the Cabinet Secretary will still keep an eye on the possibilities of including young people in developing the future of the industry in Wales.

Could I now turn now to the question of the Swansea bay tidal lagoon? Of course, in drawing up my question today, I had anticipated that we would have heard an announcement, but we’re still waiting. What we don’t know, of course, is whether we’re waiting because a decision is yet to be made, or whether we are still waiting because they haven’t decided when to release this information quietly. And in that context, can I ask the Cabinet Secretary, as the Government has made it entirely clear now that there is £200 million on the table from this Government to assist and promote that scheme, has that offer been taken seriously by the Westminster Government? Have they responded? Have they offered negotiations? Have they invited you or any other Member of the Government to London to discuss how that money could bring the tidal lagoon to fruition? And in that context, have you made any decision on how to push this proposal forward, so that a decision that will be beneficial to Wales can be made?

Thank you. Well, I too expected a decision to be made. We were told that probably a decision would have been made last Monday, then we were told today. My latest intelligence is probably 10 days, so we just really don't know. Obviously, I have to be very mindful again about discussing a particular project because of my role in relation to planning and, obviously, marine licensing. You'll be aware that the First Minister wrote to Greg Clark last week. To date, he's not received a response. So, I think the funding offer has been taken seriously, and I know the First Minister has discussed it personally with the Prime Minister. I'm not sure if he's discussed it personally with Greg Clark, but certainly he has written, and we are awaiting a response.

Diolch. Wel, roeddwn innau hefyd yn disgwyl i benderfyniad gael ei wneud. Dywedwyd wrthym y byddai penderfyniad wedi cael ei wneud ddydd Llun diwethaf mwy na thebyg, yna dywedwyd wrthym mai heddiw y caiff ei wneud. Yn ôl yr wybodaeth ddiweddaraf sydd gennyf, bydd yn 10 diwrnod arall mwy na thebyg, felly nid ydym yn gwybod mewn gwirionedd. Yn amlwg, mae'n rhaid i mi fod yn ystyriol iawn eto wrth drafod prosiect penodol oherwydd fy rôl mewn perthynas â chynllunio, a thrwyddedu morol wrth gwrs. Fe fyddwch yn ymwybodol fod y Prif Weinidog wedi ysgrifennu at Greg Clark yr wythnos diwethaf. Hyd yma, nid yw wedi cael ymateb. Felly, credaf fod y cynnig ariannu yn cael ei ystyried yn gynnig difrifol, a gwn fod Prif Weinidog Cymru wedi ei drafod yn bersonol gyda Phrif Weinidog y DU. Nid wyf yn siŵr a yw wedi'i drafod yn bersonol gyda Greg Clark, ond yn sicr mae wedi ysgrifennu ato, ac rydym yn aros am ymateb.

I thank the Cabinet Secretary for that not wholly encouraging news, I have to say. From her perspective, I understand she's not the one responsible for this, but it's coming and going like the tide itself, actually. If we could harness the energy from the indecision of the Westminster Government, we'd be doing very well here in Wales at the moment.

But I think it was a serious offer, and it was an opening bid by the Welsh Government, and it could've opened all kinds of discussions around co-ownership, taking the technology forward, Welsh Government co-investing in a brand new technology in Wales. If the Westminster Government can co-invest in Hitachi in Wylfa, then there's no reason why the Welsh Government can't do something similar for the tidal lagoon. I think the Welsh Government, I discern, is up for discussions around these in order to get the project going.

Since we don't yet have a decision, and since my own personal view is that we are being softened up for a bad decision, can the Cabinet Secretary tell us whether any of this money that has been promised to the tidal lagoon can be made available for other renewable energy projects in Wales, whether she has in mind other things that we can take forward with our own powers, and our own planning powers, particularly under the new Wales Act 2017, and whether she has the opportunity now to reconsider her decision around a Wales national energy company, which £200 million would set up very nicely, thank you, to take forward a lot of ideas that I think Wales is ready for? If we are going to be disappointed by Westminster, our best response for that rejection is to show that we are better than them and can do better here in Wales.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am y newyddion hwnnw er nad oedd yn galonogol iawn, mae'n rhaid i mi ddweud. O'i safbwynt hi, deallaf nad hi yw'r un sy'n gyfrifol am hyn, ond mae'n mynd a dod fel y llanw ei hun, mewn gwirionedd. Pe baem yn gallu harneisio'r ynni o ddiffyg penderfyniad Llywodraeth San Steffan, byddem yn gwneud yn dda iawn yma yng Nghymru ar hyn o bryd.

Ond rwy'n credu ei fod yn gynnig difrifol, ac roedd yn gais agoriadol gan Lywodraeth Cymru, a gallai fod wedi sbarduno pob math o drafodaethau ynghylch cydberchnogaeth, datblygu'r dechnoleg, Llywodraeth Cymru yn cydfuddsoddi mewn technoleg newydd sbon yng Nghymru. Os gall Llywodraeth San Steffan gydfuddsoddi yn Hitachi yn yr Wylfa, nid oes unrhyw reswm pam na all Llywodraeth Cymru wneud rhywbeth tebyg yn achos y morlyn llanw. Credaf fod Llywodraeth Cymru yn barod i drafod y rhain er mwyn bwrw ymlaen â'r prosiect.

Gan nad ydym wedi cael penderfyniad eto, a chan fy mod yn credu'n bersonol ein bod yn cael ein paratoi am benderfyniad gwael, a all Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym a oes unrhyw gyfran o'r arian hwn sydd wedi cael ei addo i'r morlyn llanw ar gael ar gyfer prosiectau ynni adnewyddadwy eraill yng Nghymru, a oes ganddi bethau eraill mewn golwg y gallwn fwrw ymlaen â hwy gyda'n pwerau ein hunain, a'n pwerau cynllunio ein hunain, yn arbennig o dan Ddeddf Cymru 2017, ac a oes ganddi gyfle yn awr i ailystyried ei phenderfyniad mewn perthynas â chwmni ynni cenedlaethol i Gymru, y byddai £200 miliwn yn gallu ei sefydlu'n dda iawn, diolch yn fawr, i fwrw ymlaen â llawer o'r syniadau y mae Cymru'n barod amdanynt yn fy marn i? Os ydym am gael ein siomi gan San Steffan, ein hymateb gorau i'r gwrthodiad hwnnw yw dangos ein bod yn well na hwy a'n bod yn gallu gwneud yn well yma yng Nghymru.

I do admire the Member's tenacity around the Wales energy service. I know there was a debate last week in my absence that the Minister for Environment responded to. You make a very good point about the £200 million. Of course, there are lots of other renewable energy sectors we could put that funding into—onshore, offshore. I haven't had any detailed discussions as yet, because, obviously, that was a very serious offer that the First Minister made around the £200 million. So, we do need to await a decision, for however long it takes, from the UK Government, before I have those discussions.

Rwy'n edmygu dycnwch yr Aelod mewn perthynas â gwasanaeth ynni i Gymru. Rwy'n gwybod y bu dadl yr wythnos diwethaf yn fy absenoldeb a bod Gweinidog yr Amgylchedd wedi ymateb iddi. Rydych yn gwneud pwynt da iawn am y £200 miliwn. Wrth gwrs, mae yna lawer o sectorau ynni adnewyddadwy eraill y gallem roi'r cyllid hwnnw tuag atynt—gwynt ar y tir, ar y môr. Nid wyf wedi cael unrhyw drafodaethau manwl eto, oherwydd, yn amlwg, roedd y cynnig a wnaeth y Prif Weinidog mewn perthynas â'r £200 miliwn yn gynnig difrifol iawn. Felly, mae angen i ni aros am benderfyniad, ni waeth pa mor hir y bydd hynny'n cymryd, gan Lywodraeth y DU, cyn fy mod yn cael y trafodaethau hynny.

14:00
Pryfed yn Llanelli
Flies in Llanelli

3. Pa gymorth y gall Llywodraeth Cymru ei roi i Gyngor Sir Caerfyrddin i oresgyn y broblem pryfed yn Llanelli? OAQ52292

3. What assistance can the Welsh Government give to Carmarthenshire County Council to combat the problem of flies in Llanelli? OAQ52292

The council’s public protection department have located the likely source of the recent infestation and arranged treatment of the site. The council is working closely with the regulator of the site, Natural Resources Wales. The Welsh Government has not been asked for support at this point.

Mae adran diogelu'r cyhoedd y cyngor wedi lleoli ffynhonnell debygol y pla diweddar ac wedi trefnu bod y safle'n cael ei drin. Mae'r cyngor yn gweithio'n agos gyda rheoleiddiwr y safle, Cyfoeth Naturiol Cymru. Nid ydynt wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am gymorth ar y pwynt hwn.

Thank you for the reply, Minister. Since I tabled the question, I'm pleased that the likely site of the infestation has been identified and now handed over to Natural Resources Wales. There's still a good deal of stress and distress, particularly in the Morfa and the seaside parts of town where the problem was most intense, and it was deeply unpleasant for many families. There's a great deal of concern that the problem could reoccur over the summer. The council officers have worked hard to find the source, but I think there are some lessons to learn about communicating with the community, and there are, no doubt, broader lessons to learn too. Would the Welsh Government support Carmarthenshire County Council to see what they can do to improve the local environmental quality, in what is one of the poorest parts of Llanelli, but also reflect with them on what lessons can be learned for them and other councils, should another outbreak occur again?

Diolch i chi am yr ateb, Weinidog. Ers i mi gyflwyno'r cwestiwn, rwy'n falch fod safle tebygol y pla bellach wedi'i nodi a'i drosglwyddo i Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae llawer iawn o straen a gofid o hyd, yn enwedig yn y Morfa a rhannau glan môr y dref lle roedd y broblem ar ei gwaethaf, ac roedd yn amhleserus iawn i lawer o deuluoedd. Mae llawer iawn o bryder y gallai'r broblem ddigwydd eto dros yr haf. Mae swyddogion y cyngor wedi gweithio'n galed i ddod o hyd i'r ffynhonnell, ond credaf fod yna rai gwersi i'w dysgu am gyfathrebu gyda'r gymuned, ac yn ddi-os, mae yna wersi ehangach i'w dysgu hefyd. A wnaiff Llywodraeth Cymru gynorthwyo Cyngor Sir Caerfyrddin i weld beth y gallant ei wneud i wella'r ansawdd amgylcheddol lleol, yn un o ardaloedd tlotaf Llanelli, ond hefyd i ystyried pa wersi y gallant hwy, a chynghorau eraill, eu dysgu rhag ofn y bydd hyn yn digwydd eto?

Can I thank the Member for his follow-up? I completely empathise with the distress that it must have caused to residents in Llanelli, and particularly the area closest to where it happened, and how awful that must've been for people at the time.

Absolutely, there are always lessons to be learned from these things and we can always improve what we've done. Like I said, the council has not approached the Welsh Government for assistance to date, but we're open to those discussions. I understand that they have had advice from Public Health Wales and officials have been in touch with council officers. We know that the council have now handed over responsibility and potential enforcement actions to NRW, and when the enforcement paperwork has been served, we will continue to work with NRW and the council and the local community to ensure that incidents like this do not happen again.

A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn dilynol? Cydymdeimlaf yn llwyr â'r gofid a achosodd hyn i drigolion yn Llanelli, ac yn enwedig yr ardal sydd agosaf at y lle y digwyddodd, ac mae'n rhaid bod hynny wedi bod yn ofnadwy i bobl ar y pryd.

Yn sicr, mae yna bob amser wersi i'w dysgu o'r pethau hyn a gallwn wella'r hyn rydym wedi'i wneud bob amser. Fel y dywedais, nid yw'r cyngor wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am gymorth hyd yn hyn, ond rydym yn agored i'r trafodaethau hynny. Deallaf eu bod wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ac mae swyddogion wedi bod mewn cysylltiad â swyddogion y cyngor. Gwyddom fod y cyngor bellach wedi trosglwyddo cyfrifoldeb a chamau gorfodi posibl i Cyfoeth Naturiol Cymru, a phan fydd y gwaith papur gorfodi wedi'i gyflwyno, byddwn yn parhau i weithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a'r cyngor a'r gymuned leol i sicrhau nad oes digwyddiadau fel hyn yn digwydd eto.

Prosiectau Ynni Adnewyddadwy
Renewable Energy Projects

4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am brosiectau ynni adnewyddadwy yng Ngorllewin De Cymru? OAQ52307

4. Will the Cabinet Secretary make a statement on renewable energy projects in South Wales West? OAQ52307

Diolch. The Welsh Government has a strong track record of supporting renewable energy projects in this region. One example, Awel Aman Tawe, has received direct support in excess of £4 million for its first major project. The group is becoming a regionally important local energy company visible at the UK level.

Diolch. Mae gan Lywodraeth Cymru hanes cryf o gefnogi prosiectau ynni adnewyddadwy yn y rhanbarth hwn. Mae un enghraifft, Awel Aman Tawe, wedi derbyn cymorth uniongyrchol o dros £4 miliwn ar gyfer ei brosiect mawr cyntaf. Mae'r grŵp yn dod yn gwmni ynni lleol pwysig yn rhanbarthol ac amlwg ar lefel y DU.

Diolch yn fawr am yr ateb yna. Yn naturiol, roeddwn i'n mynd i fynd ar ôl y morlyn llanw—y bondigrybwyll erbyn hyn, achos mae'n edrych eto fel ein bod ni'n wynebu oedi ynglŷn ag unrhyw gyhoeddiad am unrhyw ddyfodol i'r morlyn llanw ym mae Abertawe. Fel rydych chi'n gwybod, rydym ni wedi bod yn aros ers cyhoeddi adroddiad Hendry yn Ionawr 2017. Nawr, y cwestiwn ydy: a ydych chi wedi cael trafodaethau'n ddiweddar efo cyngor Abertawe ac efo'r cwmni morlyn llanw yn lleol—yn ddiweddar nawr, yn y dyddiau yma—ynglŷn ag unrhyw ffordd ymlaen? A ydych chi'n bersonol wedi cael unrhyw drafodaethau efo unrhyw Weinidogion yn Adran Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol San Steffan ers i'r papur newydd, yr 'amseroedd ariannol', y Financial Times, adrodd nad oedd y morlyn llanw yn debygol o fynd ymlaen? Yn olaf, a oes yna unrhyw drafodaethau wedi bod efo Llywodraeth y Deyrnas Unedig ynglŷn â beth sydd ei angen i gael y morlyn yn realiti? Rydw i'n clywed beth rydych chi'n ei ddweud ynglŷn â'r llythyru oddi wrth y Prif Weinidog i fyny at Greg Clark, y Gweinidog perthnasol, ond rydw i'n credu, gan fod y prosiect yma mor affwysol bwysig i ni yn Abertawe, mae angen bod yn fwy rhagweithiol na hynny, a mynnu bod rhywbeth yn digwydd, yn bendant, os ydyn nhw'n parhau i ddweud bod £200 miliwn yn parhau i fod yn annigonol—pa swm sy'n mynd i fod yn ddigonol?

Thank you very much for that response. Naturally, I was going to pursue the tidal lagoon—the much-vaunted tidal lagoon by now, because we are facing further delays on any announcement on the future of the Swansea bay tidal lagoon. As you know, we have been waiting since the publication of the Hendry report in January 2017. Now, the question is: have you had any recent discussions with Swansea council and with the tidal lagoon company locally—I’m talking recently now—on any possible way forward? Have you personally had any discussions with any Ministers in the Department for Business, Energy and Industrial Strategy in Westminster since the Financial Times reported that the tidal lagoon was unlikely to proceed? Finally, have there been any discussions with the UK Government on what needs to be done to make the tidal lagoon a reality? I hear what you say about correspondence between the First Minister and Greg Clark, the relevant Minister, but I do think that, given that this project is so terribly important for us in Swansea, we need to be more proactive than that, and insist that something happens, certainly, if they continue to say the £200 million is still insufficient—then what figure would be sufficient?

In response to the last point, I don't know what the figure that would be acceptable is, but I'm sure Greg Clark will inform the First Minister if that is, indeed, an issue. This is a matter for the UK Government. They are the ones who have delayed and kicked into the long grass the decision around the tidal lagoon. You'll be aware of the Hendry report, and if anybody's read it, it was a very positive report—probably one of the most positive reports I've ever read. So, we have to wait for the UK Government, but this ball is firmly in their court.

I haven't had any discussions myself with Swansea council or with the tidal lagoon company, but I am aware that other ministerial colleagues have. The meeting I've had, which I think is probably the most important one, was a meeting with Claire Perry, the BEIS energy Minister, around a variety of renewable energy sectors. I was able to express concern, for instance, around solar—people are still complaining to me about the feed-in tariff being removed; a very short-sighted, I think, policy decision—and, obviously, we had discussions around both onshore and offshore wind.

Mewn ymateb i'r pwynt olaf, nid wyf yn gwybod pa ffigur a fyddai'n dderbyniol, ond rwy'n siŵr y bydd Greg Clark yn hysbysu'r Prif Weinidog os yw hynny, yn wir, yn broblem. Mater i Lywodraeth y DU yw hwn. Hwy sydd wedi oedi a gwthio'r penderfyniad am y morlyn llanw o'r neilltu. Fe fyddwch yn gwybod am adroddiad Hendry, ac os oes unrhyw un wedi ei ddarllen, roedd yn adroddiad cadarnhaol iawn—un o'r adroddiadau mwyaf cadarnhaol rwyf erioed wedi'i ddarllen, mae'n debyg. Felly, mae'n rhaid i ni aros am Lywodraeth y DU, ond yn bendant, mater iddynt hwy benderfynu yn ei gylch yw hyn bellach.

Nid wyf wedi cael unrhyw drafodaethau gyda chyngor Abertawe na'r cwmni morlyn llanw fy hun, ond rwy'n ymwybodol fod cyd-Aelodau gweinidogol eraill wedi gwneud hynny. Roedd y cyfarfod a gefais, ac rwy'n credu mai hwnnw yw'r pwysicaf yn ôl pob tebyg, gyda Claire Perry, Gweinidog ynni yr Adran Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, ynglŷn ag amrywiaeth o sectorau ynni adnewyddadwy. Llwyddais i fynegi pryder, er enghraifft, ynglŷn ag ynni solar—mae pobl yn dal i gwyno wrthyf am y penderfyniad i gael gwared ar y tariff cyflenwi trydan; penderfyniad polisi annoeth iawn, rwy'n credu—ac yn amlwg, cawsom drafodaethau ynglŷn ag ynni gwynt ar y tir ac ar y môr.

14:05

Does the Cabinet Secretary think it is fair that the cost of building the first tidal lagoon in the world is being compared to nuclear power provision at Hinkley Point, when the first nuclear power plant at Calder Hall was built in 1956, and where decommissioning and disposal costs are capped, and where, if the actual cost exceeds the cap, the cost is being borne by the Government, i.e. us the taxpayer?

A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn credu ei bod yn deg fod cost adeiladu'r morlyn llanw cyntaf yn y byd yn cael ei chymharu â darpariaeth ynni niwclear yn Hinkley Point, pan gafodd yr orsaf bŵer niwclear gyntaf yn Calder Hall ei hadeiladu ym 1956, a lle mae'r costau datgomisiynu a gwaredu wedi'u capio, ac os yw'r gwir gost yn uwch na'r cap, bydd y gost yn cael ei thalu gan y Llywodraeth, h.y. ni'r trethdalwyr?

Thank you, Mike Hedges, for that question, and I again repeat: I have to be very careful in what I say about particular projects—I'm very limited, and that, obviously, includes the proposed tidal lagoon for Swansea bay.

I think it's absolutely vital that costs of tidal lagoon power are compared with other technologies on a fair basis—I think you make a very important point—and you have to take into full account the very long life of lagoons, and all other environmental and social effects. The issue of considering the costs, energy outputs and strike price of any energy project is, of course, not a devolved matter, and therefore I think it would be more appropriate for the UK Government, really, to explain the rationale behind the recent comparisons to Hinkley Point C.

In respect of the comments about Calder Hall, again, nuclear policy decommissioning is a reserved matter, so the UK Government would have to explain their views and how they reached those decisions. We've not been party to any detailed discussions with the UK Government and the promoters of tidal lagoon power, for instance, so we don't know how the cost of the lagoon power compares to other options that they are considering.

Diolch i chi am y cwestiwn hwnnw, Mike Hedges, a dywedaf eto: mae'n rhaid i mi fod yn ofalus iawn o ran yr hyn a ddywedaf am brosiectau penodol—rwyf wedi fy nghyfyngu'n fawr, ac mae hynny, wrth gwrs, yn cynnwys y morlyn llanw arfaethedig ar gyfer bae Abertawe.

Credaf ei bod yn gwbl hanfodol fod costau pŵer môr-lynnoedd llanw yn cael eu cymharu â thechnolegau eraill ar sail deg—credaf eich bod yn gwneud pwynt pwysig iawn—ac mae'n rhaid i chi ystyried oes hir môr-lynnoedd, yn ogystal â'r holl effeithiau amgylcheddol a chymdeithasol eraill. Nid yw ystyried costau, allbynnau ynni a phris streic unrhyw brosiect ynni, wrth gwrs, yn fater sydd wedi'i ddatganoli, ac felly credaf y byddai'n fwy priodol i Lywodraeth y DU, mewn gwirionedd, esbonio'r rhesymeg sy'n sail i'r cymariaethau diweddar â Hinkley Point C.

O ran y sylwadau am Calder Hall, eto, mae datgomisiynu polisi niwclear yn fater a gedwir yn ôl, felly byddai'n rhaid i Lywodraeth y DU esbonio eu safbwyntiau a sut y gwnaethant y penderfyniadau hynny. Nid ydym wedi bod yn rhan o unrhyw drafodaethau manwl gyda Llywodraeth y DU a hyrwyddwyr pŵer môr-lynnoedd llanw, er enghraifft, felly nid ydym yn gwybod sut y mae cost pŵer môr-lynnoedd yn cymharu â dewisiadau eraill y maent yn eu hystyried.

Well, obviously, I share everyone's frustration about the speed of news coming out on the tidal lagoon. But I think we still need to keep our eye on the ball when it comes to other renewable sources of energy as well. The Stuttgart university of applied sciences recently advised that a combination of renewable energy sources is probably the best approach to reducing emissions in urban areas, and they've found that if you're taking biomass or geothermal into account, it's possible for those urban areas to contribute almost half their own energy from renewables. Welsh Conservatives, as you know, are proposing investing in these mixed renewable energy models, so that by 2030 our major cities can offset their electricity consumption. Will you look at the use of more biomass and geothermal as part of the mixed-energy production model here in Wales now, when we have a chance?

Wel, yn amlwg, rwy'n rhannu rhwystredigaeth pawb ynglŷn â chyflymder y newyddion mewn perthynas â'r morlyn llanw. Ond rwy'n credu bod angen i ni gadw golwg ar y sefyllfa o hyd mewn perthynas â ffynonellau ynni adnewyddadwy eraill yn ogystal. Mae prifysgol gwyddoniaeth gymhwysol Stuttgart wedi cynghori yn ddiweddar mai cyfuniad o ffynonellau ynni adnewyddadwy, yn ôl pob tebyg, yw'r ffordd orau o leihau allyriadau mewn ardaloedd trefol, ac maent wedi darganfod, os ydych yn ystyried ynni biomas neu geothermol, mae'n bosibl i'r ardaloedd trefol hynny gyfrannu bron i hanner eu hynni eu hunain o ffynonellau adnewyddadwy. Fel y gwyddoch, mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn cynnig buddsoddi yn y modelau ynni adnewyddadwy cymysg hyn, fel y gall ein dinasoedd mawr wrthbwyso eu defnydd o drydan erbyn 2030. A wnewch chi edrych ar y posibilrwydd o ddefnyddio mwy o ynni biomas a geothermol fel rhan o'r model cynhyrchu ynni cymysg yma yng Nghymru yn awr, pan fo gennym gyfle i wneud hynny?

I think it's really important that we keep our eye on a combination of different types of renewable energy, and I mentioned in my opening answer to Dai Lloyd about the Awel Aman Tawe community windfarm. That's wholly owned by the community. It cost £8 million, and I think we put forward half of that—I think it was about £4 million. They're now, again, ahead of schedule in making their repayments back to us. There's also the Gower Regeneration project that you'll be aware of. So, I'm very happy to look at all types of renewable energy, and if we're going to reach the very ambitious targets I set back last year, we need to see that combination.

Credaf ei bod yn wirioneddol bwysig ein bod yn cadw golwg ar gyfuniad o wahanol fathau o ynni adnewyddadwy, ac fe grybwyllais fferm wynt gymunedol Awel Aman Tawe yn fy ateb cyntaf i Dai Lloyd. Mae honno'n eiddo i'r gymuned yn gyfan gwbl. Roedd yn costio £8 miliwn, a chredaf ein bod wedi cyfrannu hanner y swm hwnnw—credaf mai tua £4 miliwn ydoedd. Maent yn awr, unwaith eto, ar y blaen o ran talu eu had-daliadau yn ôl i ni. Fe fyddwch yn gwybod am brosiect Adfywio Gŵyr hefyd. Felly, rwy'n hapus iawn i edrych ar bob math o ynni adnewyddadwy, ac os ydym am gyrraedd y targedau uchelgeisiol iawn a osodais y llynedd, mae angen i ni weld y cyfuniad hwnnw.

Cefnogi Amaethyddiaeth ym Mynwy
Support for Agriculture in Monmouth

5. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gefnogi amaethyddiaeth ym Mynwy? OAQ52302

5. What steps is the Welsh Government taking to support agriculture in Monmouth? OAQ52302

Thank you. The Welsh Government will support the farming industry in Monmouthshire, as in all parts of Wales, to become more profitable, sustainable, resilient, and professionally managed. Agricultural businesses in the region benefit from Farming Connect support and are eligible for a range of grants and advice.

Diolch. Bydd Llywodraeth Cymru yn cynorthwyo'r diwydiant ffermio yn Sir Fynwy, fel ym mhob rhan o Gymru, i fod yn fwy proffidiol, cynaliadwy a gwydn, ac wedi'i reoli'n fwy proffesiynol. Mae busnesau amaethyddol yn y rhanbarth yn elwa ar gymorth Cyswllt Ffermio ac maent yn gymwys ar gyfer amrywiaeth o grantiau a chyngor.

Diolch. I wonder if you could update us on your policies for tackling the ongoing problem of bovine tuberculosis in my area and, indeed, across Wales. Farmers in Monmouthshire continue to be deeply concerned at the rates of infection in what is a hotspot area and has been now for some time. I'm sure you'd agree with me that it's one thing to deal with the rates of infection within livestock—that's got to be done—but also within the wider wildlife reservoir and in the wider environment as well. So, I wonder if you could update us on exactly what's happening in hotspot areas like mine to make sure that this problem is either dealt with, or at least that farmers are given reassurance that we are on track to deal with it in the near future.

Diolch. Tybed a allech roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am eich polisïau ar gyfer mynd i'r afael â'r broblem barhaus o dwbercwlosis buchol yn fy ardal i ac yn wir, ledled Cymru. Mae ffermwyr Sir Fynwy yn parhau i fod yn bryderus iawn am gyfraddau'r haint yn yr hyn sy'n ardal â phroblem TB ac sydd wedi bod ers peth amser bellach. Rwy'n siŵr y byddech yn cytuno â mi mai un peth yw ymdrin â chyfraddau'r haint ymhlith da byw—mae'n rhaid gwneud hynny—ond peth arall yw ymdrin ag ef o fewn y gronfa ehangach o anifeiliaid gwyllt ac yn yr amgylchedd ehangach hefyd. Felly, tybed a allech roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni ynglŷn â beth yn union sy'n digwydd mewn ardaloedd problemus fel fy ardal i er mwyn gwneud yn siŵr fod y broblem hon naill ai'n cael ei datrys, neu o leiaf, fod ffermwyr yn cael sicrwydd ein bod ar y trywydd iawn i'w datrys yn y dyfodol agos.

Well, we are making progress with this right across Wales. You will have seen the statistics have been published today. I think it's now about 95 per cent of herds across Wales that are TB free. As you say, the county of Monmouthshire does sit within what we classify as the high TB area (east), so we are currently monitoring it very closely. Again, you'll be aware of the refreshed programme I brought forward, and I have committed to report to the Assembly on an annual basis, and will be doing so.

Wel, rydym yn gwneud cynnydd mewn perthynas â'r mater hwn ledled Cymru. Byddwch wedi gweld bod yr ystadegau wedi'u cyhoeddi heddiw. Credaf yn awr fod tua 95 y cant o fuchesi ledled Cymru yn rhydd o TB. Fel y dywedwch, mae Sir Fynwy mewn ardal yr ydym yn ei chategoreiddio fel ardal lle y ceir llawer o achosion o TB (dwyrain), felly rydym yn ei monitro'n agos iawn ar hyn o bryd. Unwaith eto, fe fyddwch yn gwybod am y rhaglen ddiwygiedig a gyflwynais, ac rwyf wedi ymrwymo i roi adroddiad blynyddol i'r Cynulliad, a byddaf yn gwneud hynny.

14:10

Tynnwyd cwestiwn 6 [OAQ52299] yn ôl, felly cwestiwn 7—Mohammad Asghar.

Question 6 [OAQ52299] is withdrawn, therefore question 7—Mohammad Asghar.

Codau Ymarfer Lles Anifeiliaid
Animal Welfare Codes of Practice

7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynlluniau i ddiweddaru codau ymarfer lles anifeiliaid presennol yng Nghymru? OAQ52289

7. Will the Cabinet Secretary make a statement on plans to update the existing animal welfare codes of practice in Wales? OAQ52289

Thank you. The updated welfare codes for dogs and horses are due to be laid before the Senedd this summer. Codes for laying hens, broilers, pigs, cats and rabbits are the next to be updated. I will provide an update on other animal welfare issues in my oral statement next Tuesday.

Diolch. Disgwylir y bydd y codau lles wedi'u diweddaru ar gyfer cŵn a cheffylau yn cael eu cyflwyno gerbron y Senedd yr haf hwn. Y codau ar gyfer ieir dodwy, brwyliaid, moch, cathod a chwningod fydd y rhai nesaf i gael eu diweddaru. Byddaf yn darparu diweddariad ar faterion lles anifeiliaid eraill yn fy natganiad llafar ddydd Mawrth nesaf.

Thank you for the reply, Minister. Fifteen European countries have already introduced bans on keeping primates as pets, for either all or some species. In October 2016, RSPCA Cymru called on the Welsh Government to join those 15 countries and introduce the ban in Wales. When will the Cabinet Secretary be in a position to announce her plans to update the existing animal welfare codes of practice, and will she commit to ban the keeping of primates as pets in Wales, please?

Diolch i chi am yr ateb, Weinidog. Mae 15 o wledydd Ewropeaidd eisoes wedi cyflwyno gwaharddiadau ar gadw primatiaid fel anifeiliaid anwes, naill ai ar gyfer pob rhywogaeth neu rai rhywogaethau. Ym mis Hydref 2016, galwodd RSPCA Cymru ar Lywodraeth Cymru i ymuno â'r 15 o wledydd hynny a chyflwyno'r gwaharddiad yng Nghymru. Pa bryd y bydd Ysgrifennydd y Cabinet mewn sefyllfa i gyhoeddi ei chynlluniau i ddiweddaru'r codau ymarfer lles anifeiliaid presennol, ac a wnaiff hi ymrwymo i wahardd pobl rhag cadw primatiaid fel anifeiliaid anwes yng Nghymru, os gwelwch yn dda?

The Member will have heard me say I'm making an oral statement next Tuesday, and I will be referring to primates in my oral statement.

Bydd yr Aelod wedi fy nghlywed yn dweud y byddaf yn gwneud datganiad llafar ddydd Mawrth nesaf, a byddaf yn cyfeirio at brimatiaid yn fy natganiad llafar.

The current code of practice on the rearing of birds for shooting purposes is eight years' old, contains no minimum space requirements for game birds, and is not backed up by any independent statutory inspections to check compliance, unlike the welfare codes for other birds such as chickens. Can the Cabinet Secretary say when action will be taken to independently monitor the enforcement of the code to ensure the welfare of these birds?

Mae'r cod ymarfer presennol ar fagu adar at ddibenion saethu yn wyth mlwydd oed, ac nid yw'n cynnwys unrhyw ofynion o ran isafswm gofod ar gyfer adar hela, ac nid yw wedi cael ei gefnogi gan unrhyw arolygiadau statudol annibynnol i wirio cydymffurfiaeth, yn wahanol i'r codau lles ar gyfer adar eraill megis ieir. A all Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym pryd y bydd camau'n cael eu cymryd i fonitro'n annibynnol y broses o orfodi'r cod er mwyn sicrhau lles yr adar hyn?

I can't give you a specific date when that will be done. We are looking at all the codes of practice right across the portfolio, and the priorities for which we do first is something we are working on alongside the stakeholders. So, I will certainly have a look at the plan that we have, and I will write to the Member.FootnoteLink

Ni allaf roi dyddiad penodol i chi o ran pryd y bydd hynny'n cael ei wneud. Rydym yn edrych ar yr holl godau ymarfer ar draws y portffolio, ac mae'r blaenoriaethau o ran y rhai y byddwn yn eu gwneud yn gyntaf yn rhywbeth rydym yn gweithio arno ochr yn ochr â'r rhanddeiliaid. Felly, byddaf yn sicr yn edrych ar y cynllun sydd gennym, a byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod.FootnoteLink

Last month the UK Parliament received signatures of 143,000 from a petition from supporters campaigning to ban the sale of puppies from pet shops and other third-party dealers. The campaign has been named 'Lucy's Law', in memory of a rescue cavalier King Charles spaniel called Lucy, who was used as a breeding machine at a puppy farm with no regard for her welfare, and that campaign has cross-party support. Lucy's Law will help to eradicate irresponsible breeding and selling, particularly from puppy farms, as it makes it illegal to sell puppies unless the mother is present. Cabinet Secretary, is Lucy's Law something that Welsh Government may consider looking to introduce in Wales?

Fis diwethaf, derbyniodd Senedd y DU ddeiseb gyda 143,000 o lofnodion arni gan gefnogwyr yn ymgyrchu i wahardd pobl rhag gwerthu cŵn bach mewn siopau anifeiliaid anwes a gwerthwyr trydydd parti eraill. Enwyd yr ymgyrch yn Gyfraith Lucy, er cof am darfgi Siarl a achubwyd o'r enw Lucy, a oedd wedi cael ei defnyddio fel peiriant magu ar fferm fridio cŵn bach heb unrhyw ystyriaeth i'w lles, ac mae cefnogaeth drawsbleidiol i'r ymgyrch honno. Bydd Cyfraith Lucy yn helpu i gael gwared ar fridio a gwerthu anghyfrifol, yn enwedig o ffermydd cŵn bach, gan ei bod yn ei gwneud yn anghyfreithlon i werthu cŵn bach oni bai bod y fam yn bresennol. Ysgrifennydd y Cabinet, a yw Cyfraith Lucy yn gyfraith y gallai Llywodraeth Cymru ystyried ei chyflwyno yng Nghymru?

Thank you, Joyce Watson, for the question. Again, this is an area—third-party sales—that I will be bringing forward in my oral statement next Tuesday. I know there's going to be an event that a Member's sponsoring around Lucy's Law in the Senedd, I think early in July. I've been very concerned since I've been in this portfolio to see the high demand among people wanting third-party sales. I think it's very important that we tackle this. So, I will bring forward further information in the statement on Tuesday.

Diolch i chi am y cwestiwn, Joyce Watson. Unwaith eto, mae hwn yn faes—gwerthiannau trydydd parti—y byddaf yn ei gyflwyno yn fy natganiad llafar ddydd Mawrth nesaf. Gwn y bydd yna ddigwyddiad y mae'r Aelod yn ei noddi mewn perthynas â Chyfraith Lucy yn y Senedd, ar ddechrau mis Gorffennaf, rwy'n credu. Ers i mi gael y portffolio hwn, mae gweld y galw uchel ymysg pobl sydd eisiau gwerthiannau trydydd parti wedi peri pryder mawr i mi. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn mynd i'r afael â hyn. Felly, byddaf yn cyflwyno gwybodaeth bellach yn y datganiad ddydd Mawrth.

Cynllun Gweithredu Bwyd a Diod
Food and Drink Action Plan

8. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i adolygu'r cynllun gweithredu bwyd a diod i ymateb i'r heriau a ddaw yn sgil Brexit? OAQ52304

8. What plans does the Welsh Government have to revise the food and drink action plan to meet the challenges presented by Brexit? OAQ52304

Thank you. Work to develop a successor to the current food and drink action plan is already under way. This will provide clear direction to the industry beyond 2020. Brexit will not impact the Welsh Government's commitment to the delivery of the current action plan, which is clearly delivering results.

Diolch. Mae gwaith ar y gweill eisoes ar ddatblygu olynydd i'r cynllun gweithredu bwyd a diod. Bydd hyn yn rhoi cyfeiriad clir i'r diwydiant y tu hwnt i 2020. Ni fydd Brexit yn effeithio ar ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddarparu'r cynllun gweithredu cyfredol, sy'n amlwg yn cyflawni canlyniadau.

Thank you, Cabinet Secretary. Brexit poses some major questions around the resilience of our food supplies to enable us to feed our populations. We currently import £9 billion-worth of fruit and vegetables across the UK, and that compares with a mere £1 billion-worth of vegetables and fruit that we grow here in the UK. So, there are some pretty major issues around food security if the UK Government were to fail to negotiate a seamless customs union. So, I'm very keen to understand what our plans are to deal with this possible threat.

You clearly don't need to have it pointed out to you that vegetables and fruit are going to deteriorate extremely rapidly if they are held up at Dover, Southampton or Cardiff Airport. And, given the importance of fruit and vegetables to a healthy diet, I'm sure you'll agree with me that this is a major strategic issue. Even today, we are having difficulty in getting the people to pick the produce that we do grow in this country because European citizens are being made to feel unwelcome or because of the change in the value of the pound. 

We know from the expert panels that you have been using to advise you on Brexit that the future already looks very challenging for sheep farmers under any of the outcome scenarios around Brexit. But, I have little tolerance for those who argue that Wales is not suitable for growing vegetables and fruit. They need to get ready to tell shoppers that they will have to either do without fruit and vegetables or pay a premium price for a scarce resource, and they need to acquaint themselves with the new ways of growing, like hydroponics and aquaponics. I know that Cardiff council is looking very actively—

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae Brexit yn creu rhai cwestiynau mawr ynghylch cydnerthedd ein cyflenwadau bwyd i'n galluogi i fwydo ein poblogaethau. Ar hyn o bryd rydym yn mewnforio gwerth £9 biliwn o ffrwythau a llysiau ar draws y DU, ac mae hynny'n cymharu â gwerth £1 biliwn yn unig o lysiau a ffrwythau rydym yn eu tyfu yma yn y DU. Felly, mae yna rai materion go fawr yn codi mewn perthynas â diogelwch bwyd pe bai Llywodraeth y DU yn methu negodi undeb tollau di-dor. Felly, rwy'n awyddus iawn i ddeall beth yw ein cynlluniau ar gyfer ymdrin â'r bygythiad posibl hwn.

Yn amlwg, nid oes angen i mi dynnu eich sylw at y ffaith y bydd ffrwythau a llysiau'n dirywio'n gyflym iawn os cânt eu dal yn Dover, Southampton neu faes awyr Caerdydd. Ac o ystyried pwysigrwydd ffrwythau a llysiau i ddeiet iach, rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno â mi fod hwn yn fater strategol pwysig. Hyd yn oed heddiw, rydym yn ei chael hi'n anodd cael pobl i gasglu'r cynnyrch sy'n cael ei dyfu yn y wlad hon am fod dinasyddion Ewropeaidd yn cael eu gwneud i deimlo nad oes croeso iddynt neu oherwydd y newid yng ngwerth y bunt.

Gwyddom o'r paneli arbenigol rydych wedi bod yn eu defnyddio i'ch cynghori ar Brexit fod y dyfodol eisoes yn edrych yn heriol iawn i ffermwyr defaid o dan unrhyw un o senarios canlyniadau Brexit. Ond nid oes gennyf lawer o oddefgarwch tuag at y rhai sy'n dadlau nad yw Cymru yn addas ar gyfer tyfu ffrwythau a llysiau. Mae angen iddynt fod yn barod i ddweud wrth siopwyr y bydd yn rhaid iddynt naill ai wneud heb ffrwythau a llysiau neu dalu pris premiwm am adnodd prin, ac mae angen iddynt ymgynefino â ffyrdd newydd o dyfu, fel hydroponeg ac acwaponeg. Gwn fod Cyngor Caerdydd yn edrych yn weithredol iawn—

14:15

You do need to get to a question now, Jenny. 

Mae angen i chi ofyn cwestiwn yn awr, Jenny.

Okay. So, diversifying into horticulture requires planning, training and the development of new distribution mechanisms, even before we start talking about food processing, which already occurs across country boundaries. So, how does the Government plan to proceed to tackle these strategic issues, either through revising the food and drink action plan or some other mechanism?

Iawn. Felly, mae angen cynllunio, hyfforddi a datblygu dulliau dosbarthu newydd er mwyn gallu arallgyfeirio i arddwriaeth, cyn i ni ddechrau sôn am brosesu bwyd hyd yn oed, sydd eisoes yn digwydd ar draws ffiniau gwledydd. Felly, sut y mae'r Llywodraeth yn bwriadu mynd i'r afael â'r materion strategol hyn, naill ai drwy ddiwygio'r cynllun gweithredu bwyd a diod neu drwy ddull arall?

Thank you. Well, part of the work we've been doing with the sector over the past two years is preparing them for a future post Brexit, and horticulture is one area where I think we can make great strides. So, when we go out to consultation at the beginning of July, this is an area that will form part of the consultation. You make a very important point about fruit and veg sitting on portsides and airport sides, and we are very concerned about that, along with seafood. Our meat shelf life is very important, so we need to do a piece of work around shelf life too, to make sure that the sector can compete with other countries that do have a longer shelf life for their food produce.

You mentioned that this is a public health issue. We clearly accept that food is already recognised as that. We don't want to see unhealthy diets. So, it's an area where I think we can make great strides. As you say, our farmers can grow fruit and veg, and I've certainly not heard people say to me that Wales isn't able to do that.   

Diolch. Wel, rhan o'r gwaith rydym wedi bod yn ei wneud gyda'r sector dros y ddwy flynedd ddiwethaf yw eu paratoi ar gyfer dyfodol ar ôl Brexit, ac mae garddwriaeth yn un maes lle rwy'n credu y gallwn wneud camau breision. Felly, pan fyddwn yn cynnal ymgynghoriad ar ddechrau mis Gorffennaf, mae hwn yn faes a fydd yn ffurfio rhan o'r ymgynghoriad. Rydych yn gwneud pwynt pwysig iawn ynglŷn â ffrwythau a llysiau yn segur mewn porthladdoedd a meysydd awyr, ac rydym yn bryderus iawn ynglŷn â hynny, ynghyd â bwyd môr. Mae oes silff ein cig yn bwysig iawn, felly mae angen i ni wneud gwaith ar oes silff hefyd, i wneud yn siŵr fod y sector yn gallu cystadlu â gwledydd eraill sydd ag oes silff hwy ar gyfer eu cynnyrch bwyd.

Fe sonioch fod hwn yn fater iechyd cyhoeddus. Yn amlwg rydym yn derbyn bod bwyd eisoes yn cael ei gydnabod fel mater iechyd cyhoeddus. Nid ydym eisiau gweld deietau afiach. Felly, mae'n faes lle rwy'n credu y gallwn wneud camau breision. Fel y dywedwch, gall ein ffermwyr dyfu ffrwythau a llysiau, ac yn sicr nid wyf wedi clywed pobl yn dweud wrthyf nad yw Cymru'n gallu gwneud hynny.

When the Committee for the Scrutiny of the First Minister met last, we met in Newtown, and we spoke with a number of food producer businesses—Hilltop Honey, Monty's Brewery—and in our pre-discussion, before we met with the First Minister, those businesses suggested that designating food and drink as a tourism theme for a future year, to promote Wales through Welsh produce, would be an idea. We mentioned this to the First Minister, who said that consideration would be given. I wonder if you could update us on that.

Y tro diwethaf i'r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog gyfarfod, gwnaethom gyfarfod yn y Drenewydd, a buom yn siarad â nifer o fusnesau cynhyrchu bwyd—Hilltop Honey, Monty's Brewery—ac yn ein trafodaethau cyn hynny, cyn i ni gyfarfod â'r Prif Weinidog, awgrymodd y busnesau hynny y byddai dynodi bwyd a diod fel thema twristiaeth ar gyfer blwyddyn yn y dyfodol, i hyrwyddo Cymru drwy gynnyrch Cymreig, yn syniad da. Rydym wedi crybwyll hyn wrth y Prif Weinidog, a ddywedodd y byddai'n cael ei ystyried. Tybed a allech roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni ar hynny.

I haven't had any discussions with the First Minister around it, but certainly I have had discussions with Ken Skates around food tourism. I think it's an area where we can make huge strides. I mentioned before in an earlier question that I was out in the Basque country last year. At the airport in Bilbao, they have the most amazing shop selling local produce. I think it's an area that we could do here in Cardiff Airport. It would be great to see a shop there with Welsh produce, and certainly, it's something that I'm going to work with colleagues to bring forward.

Nid wyf wedi cael unrhyw drafodaethau gyda'r Prif Weinidog ynglŷn â hynny, ond yn sicr rwyf wedi cael trafodaethau gyda Ken Skates ynglŷn â thwristiaeth bwyd. Credaf fod hwn yn faes lle y gallwn wneud camau enfawr. Soniais mewn cwestiwn cynharach fy mod wedi ymweld â Gwlad y Basg y llynedd. Ym maes awyr Bilbao, mae ganddynt y siop fwyaf anhygoel yn gwerthu cynnyrch lleol. Credaf ei fod yn rhywbeth y gallem ei wneud yma ym maes awyr Caerdydd. Byddai'n wych gweld siop yno gyda chynnyrch Cymreig, ac yn sicr, mae'n rhywbeth y byddaf yn gweithio gyda chyd-Aelodau i'w gyflwyno.

Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet.

Thank you, Cabinet Secretary.

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus
2. Questions to the Cabinet Secretary for Local Government and Public Services

Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Mohammad Asghar.

The next item, therefore, is questions to the Cabinet Secretary for Local Government and Public Services. The first question is from Mohammad Asghar.

Cefnogaeth i Aelodau'r Lluoedd Arfog
Support for Members of the Armed Forces

1. Pa fesurau y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn eu cyflwyno i wella'r gefnogaeth i aelodau'r lluoedd arfog yng Nghymru dros y 12 mis nesaf? OAQ52290

1. What measures will the Cabinet Secretary introduce to improve support for members of the armed forces in Wales in the next 12 months? OAQ52290

Member
Alun Davies AM 14:19:06
Cabinet Secretary for Local Government and Public Services

Presiding Officer, we have made tremendous progress over the past two years and will continue to build on that progress. I set out in my written statement in April the future support the Welsh Government will provide to the armed forces community.

Lywydd, rydym wedi gwneud cynnydd aruthrol dros y ddwy flynedd ddiwethaf a byddwn yn parhau i adeiladu ar y cynnydd hwnnw. Yn fy natganiad ysgrifenedig ym mis Ebrill, nodais y cymorth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i gymuned y lluoedd arfog yn y dyfodol.

Thank you very much for that reply. We earlier enjoyed a great Royal Air Force centenary in the Senedd with a whole group of Royal Air Force air chief marshals and the top Assembly Members there. It's a great day for the Assembly. The cross-party group on the armed forces and cadets recently undertook an inquiry into the impact of the armed forces covenant on forces personnel. This inquiry identified issues around how public sector organisations fulfill their obligations, including insufficient accountability for delivery of the covenant, a lack of awareness among public sector staff and unsustainability in how Government-related activities are funded. How does the Cabinet Secretary intend to address these concerns, and will he reconsider his decision to reject an armed forces commissioner for Wales, please?

Diolch yn fawr iawn i chi am yr ateb hwnnw. Yn gynharach heddiw, roeddem yn mwynhau dathliad o ganmlwyddiant y Llu Awyr Brenhinol yn y Senedd gyda grŵp o brif farsialiaid y Llu Awyr Brenhinol a'r prif Aelodau Cynulliad yno. Mae'n ddiwrnod mawr i'r Cynulliad. Yn ddiweddar, cynhaliodd y grŵp trawsbleidiol ar y lluoedd arfog a'r cadetiaid ymchwiliad i effaith cyfamod y lluoedd arfog ar bersonél y lluoedd arfog. Mae'r ymchwiliad hwn wedi nodi problemau'n ymwneud â sut y mae sefydliadau sector cyhoeddus yn cyflawni eu dyletswyddau, gan gynnwys diffyg atebolrwydd am gyflawni'r cyfamod, diffyg ymwybyddiaeth ymysg staff y sector cyhoeddus a diffyg cynaliadwyedd o ran y ffordd y caiff gweithgareddau sy'n gysylltiedig â'r Llywodraeth eu hariannu. Sut y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn bwriadu ymateb i'r pryderon hyn, ac a wnaiff ailystyried ei benderfyniad i wrthod comisiynydd y lluoedd arfog i Gymru, os gwelwch yn dda?

14:20

Presiding Officer, I'm not sure that's an entirely—how shall I say—balanced view of that report, but, in terms of the support that we provide for the armed forces community in totality, I will continue to keep that under review. I've made a statement on how we will be responding to the report of the cross-party group—a report that I value greatly, I must say—and we will look at how we can strengthen different areas of support.

But, I will say to the Member that this is mainstreamed into our work as well. I spoke yesterday at a conference in Cardiff on how we provide specific support, and need to provide specific support, on additional learning needs to children who are from the armed forces community. Last week, I visited Parc prison in Bridgend and spoke there to members of staff who are working on the Endeavour wing, which is dedicated for members of the armed forces community. So, whilst we will continue to provide specific support for veterans and for those serving in our armed forces, we will also ensure that it is mainstreamed into all the work of this Government.

Lywydd, nid wyf yn siŵr fod honno'n farn gwbl—sut y gallaf ddweud—gytbwys ar yr adroddiad hwnnw, ond o ran y gefnogaeth a ddarparwn ar gyfer cymuned y lluoedd arfog yn gyffredinol, byddaf yn parhau i adolygu hynny. Rwyf wedi gwneud datganiad ar sut y byddwn yn ymateb i adroddiad y grŵp trawsbleidiol—adroddiad rwy'n ei werthfawrogi'n fawr, mae'n rhaid i mi ddweud—a byddwn yn edrych ar sut y gallwn gryfhau'r meysydd gwahanol o gymorth.

Ond rwyf am ddweud wrth yr Aelod fod hyn yn cael ei brif ffrydio drwy ein gwaith yn ogystal. Ddoe, siaradais mewn cynhadledd yng Nghaerdydd ynglŷn â sut rydym yn darparu cymorth penodol, ac angen darparu cymorth penodol, ar anghenion dysgu ychwanegol i blant sy'n dod o gymuned y lluoedd arfog. Yr wythnos diwethaf, ymwelais â charchar y Parc ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac yno siaradais ag aelodau o staff sy'n gweithio yn adain Endeavour, sydd wedi'i neilltuo ar gyfer aelodau o gymuned y lluoedd arfog. Felly, tra byddwn yn parhau i ddarparu cymorth penodol ar gyfer cyn-filwyr a'r rheini sy'n gwasanaethu yn ein lluoedd arfog, byddwn hefyd yn sicrhau ei fod yn cael ei brif ffrydio drwy holl waith y Llywodraeth.

'Cryfhau Llywodraeth Leol: Cyflawni dros Ein Pobl'
'Strengthening Local Government: Delivering for People'

2. Pa egwyddorion sydd y tu ôl i'r ymgynghoriad, 'Cryfhau Llywodraeth Leol: Cyflawni dros Ein Pobl'? OAQ52319

2. What principles underpin the consultation, 'Strengthening Local Government: Delivering for People'? OAQ52319

Bwriad yr ymgynghoriad Papur Gwyrdd yw cael trafodaeth adeiladol ar sut i sicrhau llywodraeth leol gryfach, sydd yn fwy grymus.

The Green Paper consultation is about having a constructive debate on how we can deliver strong and empowered local government.

Diolch am yr ateb byr. Roeddwn i’n gobeithio y byddech chi’n sôn am gydweithio yn yr ateb, a dweud y gwir, achos dyna beth sydd ar goll, mae’n ymddangos i mi, ar hyn o bryd yn yr ymateb i’r ymgynghoriad. Nid wyf yn siŵr pam mae’r Llywodraeth mor frwd dros adnewyddu a diwygio ac ad-drefnu llywodraeth leol pan fo gyda nhw gynigion gan lywodraeth leol ei hunan i gydweithio yn well, i gydweithio’n fwy strategol, ac yn wyneb yr holl newidiadau sy’n mynd i ddigwydd yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd yn ogystal. Ym mha ffordd y mae’r Gweinidog yn bwriadu ymateb i’r ymgynghoriad ar sail yr ymateb hyd yma gan lywodraeth leol, sy’n ymddangos eu bod nhw yn gwthio yn erbyn ei syniadau, ac nid yw ef yntau yn cynnig cydweithio gyda nhw?

Thank you for that brief response. I'd hoped you would have talked about collaboration in your response, because that’s what’s missing, it seems to me, at the moment in response to this consultation. I’m not sure why the Government is so enthusiastic for reforming and reorganising local government when they have proposals from local authorities themselves to collaborate more effectively and more strategically, in the light of all the changes that are going to occur as a result of Brexit. How does the Minister intend to respond to that consultation on the basis of local government’s response to date, which seems to show that they’re pushing against his ideas, and that he isn’t offering collaboration with them?

Rydym ni'n trafod sut rydym ni’n gweithio gyda llywodraeth leol, ac rydym ni wedi bod yn gwneud hynny ers amser.

A gaf i ddweud hyn? Beth rwyf eisiau ei wneud drwy’r broses yma yw sicrhau ein bod ni yn cynnig nid jest diwygio llywodraeth leol, gan nad oes pwrpas gwneud hynny os nad oes pwrpas i’r peth. Felly, beth rwyf eisiau ei wneud yw cryfhau llywodraeth leol, cryfhau cynghorau, cryfhau’r ffordd rydym yn ethol cynghorwyr, cryfhau’r ffordd rydym yn cael atebolrwydd gwleidyddol yn lleol, cryfhau arweinyddiaeth leol, a chryfhau’r gwasanaethau rydym ni’n eu cael yn lleol. Felly, proses bositif yw hon, a phroses o ddatganoli grym o’r lle yma i ganolfannau gwleidyddol ar draws ein gwlad. Ac rwy’n credu y buaswn i’n gobeithio, o leiaf, y buasai hynny’n rhywbeth lle y buasai fe a’i blaid yn cytuno â ni.

We have been discussing how we can work with local government, and we’ve been doing so for some time.

May I say this? What I wish to do throughout this process is to ensure that we are proposing not just the reform of local government, because there’s no purpose in doing that unless there is a good reason behind it. So, what I want to do is strengthen local government, strengthen councils, strengthen the way in which we elect councillors, strengthen the way we get local political accountability, strengthen political leadership on a local level, and strengthen the services that we get locally. So, this is a positive process of devolving power from this place to political centres across our nation. I would hope, at least, that that is something that he and his party would agree with. 

If I can just inform the Cabinet Secretary, I'm not sure that many in local government see this as a positive process. In fact, they actually see it as an arrogant process.

Anyway, in their response to your Green Paper, Conwy County Borough Council have stated that the real and realistic alternative to the proposals in the Green Paper is for the Welsh Government to provide a period of support and stability. And how let down were they when your predecessor actually promised them, only a year ago, 10 years of such stability? Moreover, Denbighshire County Borough Council have come out very strongly against your proposals, stating that a credible case for change has not been made, noting that the past experience of some authorities with regard to voluntary mergers, and Government's response to them, is hardly encouraging.

We know that the proposals put forward by Conwy and Denbighshire were rejected out of hand by your predecessor. So, can you explain to those local authorities, who saw their voluntary merger proposals thrown out without even an explanation during the fourth Assembly, and who then accepted the reassurance by your predecessor's promise of 10 years of stability just last year, why you have now sought to continue with this foolhardy approach towards forced local government mergers?

Os gallaf hysbysu Ysgrifennydd y Cabinet, nid wyf yn siŵr fod llawer o fewn llywodraeth leol yn ystyried hon yn broses gadarnhaol. Yn wir, maent yn ei hystyried yn broses drahaus mewn gwirionedd.

Beth bynnag, yn eu hymateb i'ch Papur Gwyrdd, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi datgan mai'r gwir ddewis amgen realistig i'r cynigion yn y Papur Gwyrdd yw i Lywodraeth Cymru ddarparu cyfnod o gymorth a sefydlogrwydd. Ac roeddent mor siomedig pan addawodd eich rhagflaenydd, flwyddyn yn unig yn ôl, y ceid 10 mlynedd o sefydlogrwydd o'r fath? Ar ben hynny, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Sir Ddinbych wedi dadlau'n gryf iawn yn erbyn eich cynigion, gan ddatgan na wnaed achos credadwy dros newid, a nodi nad yw profiad rhai awdurdodau yn y gorffennol mewn perthynas ag uno gwirfoddol, ac ymateb y Llywodraeth iddynt, yn galonogol.

Rydym yn gwybod bod y cynigion a gyflwynwyd gan Conwy a Sir Ddinbych wedi cael eu gwrthod yn llwyr gan eich rhagflaenydd. Felly, a allwch esbonio i'r awdurdodau lleol hynny, a welodd eu cynigion uno gwirfoddol yn cael eu gwrthod yn ystod y pedwerydd Cynulliad heb eglurhad hyd yn oed, ac a gafodd dawelwch meddwl yn sgil addewid eich rhagflaenydd o 10 mlynedd o sefydlogrwydd y llynedd, pam rydych bellach wedi penderfynu parhau gyda'r ymagwedd fyrbwyll hon tuag at uno gorfodol?

Presiding Officer, sometimes, this debate can be extraordinarily repetitive rather than illuminating. I've answered the question that the Member's asked on a number of occasions. I have to say that if we offered local government the same stability as local government in England is being offered, which is the stability of knowledge that there will be fewer resources next year than last year, fewer resources the following year than next year, that we will remove the revenue support grant, that we will ensure that local government has powers removed from them, is emasculated and sees significant reductions in their ability to shape the future of their local communities, I'm not sure that that's the stability that they would want. Do you know, I listen to Conservative Members time and time again in this Chamber, coming to me and telling me that they disagree with the approach taken by successive Welsh Governments, but I have yet to hear a Conservative councillor contact me, come to me, meet me, write to me and say to me, 'Please introduce Conservative policies in local government'? Not one local councillor from any part of Wales wants to see a Conservative-led policy to support, sustain and strangle local government.

Lywydd, weithiau, gall y ddadl hon fod yn eithriadol o ailadroddus yn hytrach na dadlennol. Rwyf wedi ateb y cwestiwn y mae'r Aelod wedi'i ofyn ar sawl achlysur. Mae'n rhaid i mi ddweud, pe baem yn cynnig yr un sefydlogrwydd a gynigir i lywodraeth leol yn Lloegr i lywodraeth leol yng Nghymru, sef y sefydlogrwydd o wybod y bydd llai o adnoddau y flwyddyn nesaf na'r llynedd, llai o adnoddau y flwyddyn ganlynol na'r flwyddyn nesaf, y byddwn yn cael gwared ar y grant cynnal refeniw, y byddwn yn sicrhau bod llywodraeth leol yn colli pwerau, yn cael eu gwanychu ac yn wynebu lleihad sylweddol yn eu gallu i ddylanwadu ar ddyfodol eu cymunedau lleol, nid wyf yn siŵr mai dyna'r math o sefydlogrwydd y byddent ei eisiau. Wyddoch chi, rwy'n gwrando ar Aelodau Ceidwadol dro ar ôl tro yn y Siambr hon, yn dod ataf ac yn dweud wrthyf eu bod yn anghytuno â dull gweithredu Llywodraethau Cymru olynol, ond nid oes un cynghorydd Ceidwadol wedi cysylltu â mi, wedi dod ataf, wedi cyfarfod â mi, wedi ysgrifennu ataf a dweud wrthyf, 'Cyflwynwch bolisïau'r Ceidwadwyr mewn llywodraeth leol os gwelwch yn dda'? Nid oes un cynghorydd lleol yn unrhyw ran o Gymru eisiau gweld polisi Ceidwadol ar gyfer cefnogi, cynnal a thagu llywodraeth leol.

14:25
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
Questions Without Notice from Party Spokespeople

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau, a llefarydd Plaid Cymru, Siân Gwenllian.

Questions, now, from the party spokespeople. Plaid Cymru spokesperson, Siân Gwenllian.

Faint mae hi'n mynd i gostio i haneru nifer y cynghorau sir yng Nghymru?

How much will it cost to halve the number of councils in Wales?

Mi fydd y gost yna yn adlewyrchu'r math o fframwaith y byddwn ni'n penderfynu arno fe.

That cost will reflect the kind of framework that we decide upon.

Nid ydw i'n meddwl bod hynny'n ateb y cwestiwn, ac a bod yn onest, mae o'n ateb byrrach na'r un ces i gan y Prif Weinidog y diwrnod o'r blaen pan wnes i ofyn yr un cwestiwn. Ond, ateb yn union yr un mor ddisylwedd â hwnnw y ces i, ac mae'n rhaid imi ddweud, mae ymdrechion Gweinidogion dro ar ôl tro i wrthod ateb cwestiynau syml yn sarhad ar y Senedd yma.

Mae yna waith wedi cael ei wneud ar y gost gan nifer o gyrff gwahanol. Mi gafodd gwaith ei gyflwyno i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru gan arbenigwr uchel ei barch, yr Athro Malcolm Prowle, yn ddiweddar, efo rhai cyrff yn amcangyfrif y gallai'r cynigion ailstrwythuro gostio hyd at £268 miliwn. Mae'r ymchwil gan yr Athro Prowle hefyd yn dangos tystiolaeth o Loegr ac yn rhyngwladol sy'n dangos bod uno ac ailstrwythuro llywodraeth leol yn cael canlyniadau ariannol negyddol. Ai'r gwirionedd felly ydy, un ai nid ydych wedi gwneud unrhyw asesiad o beth fydd y gost, neu rydych chi'n gwrthod rhyddhau'r wybodaeth? Mae hynny yn ei dro wedyn yn amddifadu llywodraeth leol a'r Cynulliad yma o'r ffeithiau hollbwysig rydym ni eu hangen yn ystod y drafodaeth yma.

I don’t think that answers my question, and to be honest, it is a briefer response than I got from the First Minister the other day when I asked the same question. But, the answer I got was just as lacking in substance as that one, and I have to say that attempts by Ministers, time and time again, to refuse to answer simple questions is an insult to this Assembly.

Work has been done on the cost by a number of different organisations. Work was presented to the Welsh Local Government Association by the highly respected expert Professor Malcolm Prowle recently, with some organisations estimating that the restructuring proposals could cost up to £268 million. The research by Professor Prowle also provides evidence from England, and international evidence, that demonstrates that merging and restructuring local government has negative financial impacts. Is the truth, therefore, that either you haven’t carried out any assessment of the cost, or you are refusing to release that information? And that, in turn, deprives local government and this Assembly of those crucial facts that we need during this debate.

Llywydd, beth fuasai'n hynod sarhadus fyddai pennu ymgynghoriad ddoe a dweud beth ydy'r penderfyniad heddiw, heb ystyried dim un o'r atebion rydym ni wedi'u cael yn ystod y misoedd diwethaf. Mi fuasai hynny yn sarhadus i'r bobl sydd wedi bod yn rhan o'r drafodaeth yma. Ond a gaf i ddweud hyn yn glir? Mi wnes i gyfarfod â'r Athro Prowle yr wythnos diwethaf, ac mi ges i sgwrs hir a gwelais i ei gyflwyniad e pan oedd e'n trafod y fath o ffigurau y mae'r Aelod wedi crybwyll heddiw. Ond, a gaf i ddweud hyn wrthoch chi? Mi wnaeth ef bennu ei gyflwyniad drwy ddweud buasai naw cyngor yn well i Gymru.

Llywydd, what would be most insulting would be to finish a consultation yesterday and inform you of the decision today, without considering any of the representations made to us over the past months. That would be most insulting to those people who have participated in this discussion. But may I make this quite clear? I met with Professor Prowle last week, and I had a long conversation with him, and I actually saw his presentation, when he discussed the kinds of figures that the Member has alluded to today. But may I tell you this? He finished his presentation by saying that nine councils would be preferable and better for Wales.

Wel, gadewch i ni symud ymlaen o'r cwestiwn o gost am ychydig, felly, a throi at un o'r cwestiynau y gwnes i eu gofyn i chi pan gawsoch chi eich penodi fel Ysgrifennydd Cabinet dros lywodraeth leol. Y cwestiwn hwnnw oedd pa fath o steil yr oeddech chi am ei fabwysiadu wrth ddelio efo llywodraeth leol. Mae'n wir, efallai, nad ydym ni wedi gweld y fath lefel o ffraeo a checru yn y cyfryngau rhyngoch chi a'r awdurdodau lleol, ond mae'r anghytuno croch yn parhau, a'r gwirionedd ydy nad oes yna gefnogaeth gan gynghorau lleol i gynigion y Papur Gwyrdd.

Mae Debbie Wilcox, fel rydych chi'n gwybod yn iawn, wedi dweud bod unrhyw amcangyfrif synhwyrol yn dangos na fuasai uno cynghorau yn arbed arian. 'Tynnu sylw diangen', meddai arweinydd cyngor Caerffili, a ddoe, fel y clywsom ni, mi gawsom ni ymateb ffurfiol gan Gyngor Sir Ddinbych hyd yn oed, sef un o'r ychydig gynghorau a oedd yn barod i uno yn ystod tymor y Cynulliad diwethaf, a Dinbych yn nodi nad oes achos credadwy dros newid wedi'i wneud yn nogfen ymgynghori'r Papur Gwyn. Pan ddechreuoch chi yn y rôl yma, dywedoch chi ei bod hi'n bryd cael perthynas newydd efo llywodraeth leol. Ai creu anghytundeb llwyr rhwng y Llywodraeth ac awdurdodau lleol a oedd gennych chi mewn golwg?

Well, let us move on from the question of cost for the time being, and turn to one of the questions I asked you when you were appointed as Cabinet Secretary for local government. That question was what kind of style you were going to adopt in dealing with local government. It may be true that we haven’t seen quite the level of argument and contention in the media between yourself and local authorities, but the stark disagreements continue, and the truth is that there isn’t support from local councils for the Green Paper proposals.

Debbie Wilcox, as you well know, has said that any sensible estimate would show that council mergers wouldn’t save money. 'Taking unnecessary attention', as the leader of Caerphilly put it, and yesterday, as we heard, we had a formal response from Denbighshire County Council, which is one of the few councils that was willing to merge during the last Assembly term, and Denbighshire noted that there isn’t a credible case for change that has been made in the White Paper. When you started in this role, you said that it was time to have a new relationship with local government. Was creating total disagreement between Government and local authorities what you had in mind?

14:30

Pan ofynnoch chi'r cwestiwn, mi wnes eich ateb chi fan hyn yn y Siambr, a hefyd ar fy mlog, ac rydych chi wedi fy nghwestiynu i ar hynny ers i mi gyhoeddi'r erthygl. Ac roeddwn i'n hollol glir ar y pryd fod gen i weledigaeth ar gyfer y dyfodol ac mae gen i weledigaeth o lywodraeth wahanol yng Nghymru—llywodraeth lle rydym ni yn datganoli o'r lle yma, ac mi rydych chi a'ch Plaid wedi gwneud digon—. Rydw i wedi clywed digon o areithiau gan Plaid Cymru ar hynny dros y blynyddoedd, ac nawr rydw i'n cynnig hynny. Rydw i'n cynnig datganoli o fae Caerdydd i Ddinbych, i sir Fôn, i Gaernarfon, hyd yn oed i Fangor. Ac rydw i'n cynnal y drafodaeth honno gyda llywodraeth leol, ond hefyd y tu hwnt i lywodraeth leol. Gormod o weithiau yn y fan hyn rydym ni'n sôn amboutu llywodraeth fel taw ni a chynghorwyr sydd ei phiau hi. Rydw i'n meddwl mai pobl Cymru sydd biau'r ffordd yr ydym ni'n llywodraethu, nid gwleidyddion. 

When you posed the question, I replied here in the Chamber, and also on my blog, and you’ve questioned me on that since the publication of the article. And I was entirely clear at the time that I have a vision for the future and I have a vision of a different government in Wales—a model that devolves power from this place, and you and Plaid have—. I have heard many speeches from Plaid Cymru on that subject over the years, and now I'm proposing that. I am proposing devolution from Cardiff bay to Denbighshire, Anglesey, Caernarfon and even to Bangor. And I am holding that discussion with local government, and also beyond local government, because too frequently we talk about government as if we, the Members, and councillors, own it. I think it is the people of Wales that own the way that we govern, and not politicians.

Llefarydd y Ceidwadwyr, Janet Finch-Saunders. 

Conservative spokesperson, Janet Finch-Saunders.   

Diolch, Llywydd. Cabinet Secretary, your Green Paper on local government reform is unsurprisingly not going down too well with many local authorities and those working within the sector across Wales. Indeed, having received a substantial number of the same responses to your consultation myself, there is clear evidence already that your proposals are considered to be unworkable, without consideration of the massive challenges facing local authorities, and that they are, in fact, just a simple rehash of a previous Minister's plans. Some of the responses are as follows. The Vale of Glamorgan: the previous Cabinet Secretary promised 10 years of stability; this Cabinet Secretary has not even provided 10 months' worth. Newport: the proposals represent a distraction from the challenge of delivering services and meeting the needs of increasingly complex communities. Monmouthshire: the Green Paper is silent on the core issues that are at the heart of the debate. Caerphilly: we cannot see that a wholesale local government reorganisation is something that should be considered; the financial benefits are debatable at best. Ynys Môn: the First Minister needs to stick his Green Paper in the bin, where it belongs. 

Now then, given that local authorities and those responsible for delivering service to our most vulnerable on a daily basis are infuriated, demoralised and disenchanted by your Green Paper, and that, in real terms, these proposals are causing instability and distraction from their already constrained service delivery, what steps will you take to reflect the many well-informed voices speaking up to pull back on these unsettling and disastrous proposals going forward?

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, nid yw’n syndod nad yw eich Papur Gwyrdd ar ddiwygio llywodraeth leol yn plesio rhyw lawer ar nifer o awdurdodau lleol a'r rhai sy'n gweithio o fewn y sector ledled Cymru. Yn wir, ar ôl derbyn nifer sylweddol o'r un ymatebion i'ch ymgynghoriad fy hun, ceir tystiolaeth glir eisoes fod eich cynigion yn cael eu hystyried yn anymarferol, heb ystyried yr heriau enfawr sy'n wynebu awdurdodau lleol, ac nad ydynt, mewn gwirionedd, yn ddim mwy nag ailwampiad syml o gynlluniau Gweinidog blaenorol. Mae rhai o'r ymatebion fel a ganlyn: Bro Morgannwg—addawodd yr Ysgrifennydd Cabinet blaenorol 10 mlynedd o sefydlogrwydd; nid yw’r Ysgrifennydd Cabinet hwn wedi sicrhau gwerth 10 mis o sefydlogrwydd hyd yn oed. Casnewydd: mae'r cynigion yn tynnu sylw oddi wrth yr her o ddarparu gwasanaethau a diwallu anghenion cymunedau sy'n gynyddol gymhleth. Sir Fynwy: nid yw'r Papur Gwyrdd yn trafod y materion craidd sydd wrth wraidd y ddadl. Caerffili: ni allwn weld bod ad-drefnu llywodraeth leol yn llwyr yn rhywbeth y dylid ei ystyried. Mae'r manteision ariannol yn ddadleuol ar y gorau. Ynys Môn: mae angen i'r Prif Weinidog roi ei Bapur Gwyrdd yn y bin lle mae i fod.

Nawr, o gofio bod awdurdodau lleol a'r rheini sy'n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau i'n pobl fwyaf agored i niwed yn ddyddiol wedi'u cythruddo, eu digalonni a’u dadrithio gan eich Papur Gwyrdd, a bod y cynigion hyn, mewn termau real, yn peri ansefydlogrwydd ac yn tynnu sylw oddi wrth eu darpariaeth sydd eisoes wedi'i chyfyngu, pa gamau fyddwch chi'n eu cymryd i adlewyrchu'r nifer o leisiau gwybodus sy'n codi llais er mwyn atal y cynigion cythryblus a thrychinebus hyn rhag mynd rhagddynt?

The Conservative Member uses—[Interruption.] The Conservative Member uses the fact of austerity as if it's the greatest gift that local government has ever received. Let me say this: there are significant issues facing local government today. Most of them are the result of the financial constraints that they face, but not all of them. Welsh local government has, at many times, been clear in itself that 22 local authorities is too many and that it is not sustainable. They've said that on a number of occasions. Now, what we have to do is look to a way forward.

Now, I've heard no response from the Conservative spokesperson on a positive way forward. It's the easiest thing in the world to read the newspapers to Members of the National Assembly, but I would suggest that it's an inadequate response to the challenges facing us. Now, I have said very, very clearly that I want to see a positive debate. I want to see an enriching debate. I want to see a debate about how we devolve powers across Wales and how we empower local authorities and how we empower citizens. And I'll be absolutely clear, as I was in an earlier answer to the Member for Arfon, that it is not politicians, whether in county halls or in this place, that own the governance of our country; it is the people of this country that own the governance of this country. 

Mae'r Aelod Ceidwadol yn defnyddio cyni fel pe bai'r rhodd fwyaf y mae llywodraeth leol erioed wedi ei chael. Gadewch imi ddweud hyn: mae yna broblemau sylweddol yn wynebu llywodraeth leol heddiw. Mae'r rhan fwyaf ohonynt yn deillio o ganlyniad i'r cyfyngiadau ariannol y maent yn eu hwynebu, ond nid pob un ohonynt. Mae llywodraeth leol Cymru wedi bod yn glir sawl gwaith ei hun fod 22 awdurdod lleol yn ormod ac nad yw'n gynaliadwy. Maent wedi dweud hynny ar sawl achlysur. Nawr, yr hyn sy'n rhaid i ni ei wneud yw edrych am ffordd ymlaen.

Nawr, nid wyf wedi clywed ymateb gan lefarydd y Ceidwadwyr ar ffordd gadarnhaol ymlaen. Y peth hawsaf yn y byd i’w wneud yw darllen y papurau newydd i Aelodau'r Cynulliad Cenedlaethol, ond buaswn yn awgrymu mai ymateb annigonol yw hynny i'r heriau sy'n ein hwynebu. Nawr, dywedais yn glir iawn fy mod am weld dadl gadarnhaol; rwyf am weld dadl gyfoethog. Rwyf am weld dadl ynglŷn â sut y byddwn yn datganoli pwerau ledled Cymru, a sut y grymuswn awdurdodau lleol, a sut y grymuswn ddinasyddion. A byddaf yn gwbl glir, fel yr oeddwn mewn ateb cynharach i'r Aelod dros Arfon, nad gwleidyddion, mewn neuaddau sirol neu’r lle hwn, sy'n berchen ar lywodraethiant ein gwlad; pobl y wlad hon sy'n berchen ar lywodraethiant y wlad hon.

Cabinet Secretary, I have actually responded to your consultation myself; I suggest you haven't read it yet. You continue to repeat the same old line that the Green Paper only sets out the debate on local government reform and the merging of councils, but that isn't really the case, is it? In April, I was made aware that the Labour Party itself was having internal discussions about how to force through your proposals and that one of the ideas discussed is to halve the number of councillors in merged areas, and, at the same time, increase their pay by 62 per cent, from £13,600 to around £22,000 per year, in order to sweeten the deal for mergers and the cutting of numbers of elected members. You may be surprised that I know this, or, there again, you may not know yourself, so far removed are you from the local government community in Wales. For those who have served their time and are wanting to stand down, another proposal of Welsh Labour is to pay those councillors who would lose their seats, based on years of service, around £500 per year, meaning, for someone who's served 20 years, they will get a £10,000 bung. Really, Cabinet Secretary—really, Cabinet Secretary—is this the way that you or a Welsh Labour Government or any Government should be carrying out local government reform, where it's more important to carry out backroom deals with your own Labour councillors than reach cross-party consensus with all across Wales? You'd make a start in this Chamber—during your last contribution, your own backbenchers were speaking up against these proposals. Surely, this does amount to nothing more than a shabby bung to Labour councillors. Personally, I believe the people of Wales deserve better—a pity you don't.

Ysgrifennydd y Cabinet, ymatebais i’ch ymgynghoriad fy hun; rwy’n awgrymu nad ydych wedi ei ddarllen eto. Rydych yn parhau i ailadrodd yr un hen ddadl nad yw'r Papur Gwyrdd ond yn nodi'r ddadl ar ddiwygio llywodraeth leol a chyfuno cynghorau, ond nid yw hynny'n wir, ydy e? Ym mis Ebrill, deuthum yn ymwybodol fod y Blaid Lafur ei hun yn cael trafodaethau mewnol ynglŷn â sut i orfodi'ch cynigion ac mai un o'r syniadau a drafodwyd yw haneru nifer y cynghorwyr mewn ardaloedd a unwyd, a chynyddu eu tâl 62 y cant ar yr un pryd, o £13,600 i oddeutu £22,000 y flwyddyn, er mwyn gwneud y fargen yn fwy derbyniol ar gyfer uno, a thorri niferoedd yr aelodau etholedig. Efallai y byddwch yn synnu fy mod yn gwybod hyn, neu efallai na fyddwch yn gwybod eich hun—rydych chi mor bell oddi wrth y gymuned llywodraeth leol yng Nghymru. I'r rhai sydd wedi gwasanaethu, ac sydd am roi’r gorau i fod yn gynghorwyr, cynnig arall gan Lafur Cymru yw talu tua £500 y flwyddyn yn seiliedig ar nifer o flynyddoedd o wasanaeth i gynghorwyr a fyddai'n colli eu seddau sy'n golygu y byddai rhywun a wasanaethodd am 20 mlynedd yn cael cil-dwrn o £10,000. Mewn difrif, Ysgrifennydd y Cabinet, ai dyma’r ffordd y dylech chi, neu Lywodraeth Lafur Cymru, neu unrhyw Lywodraeth, fynd ati i ddiwygio llywodraeth leol, lle mae'n bwysicach gwneud bargeinion ystafell gefn gyda'ch cynghorwyr Llafur eich hun na thrwy gyrraedd consensws trawsbleidiol â phawb o bob cwr o Gymru? Byddech yn dechrau yn y Siambr hon; yn ystod eich cyfraniad diwethaf, roedd eich cefnwyr meinciau cefn eich hun yn siarad yn erbyn y cynigion hyn. Yn sicr, nid yw hyn yn ddim mwy na chil-dwrn dan din i gynghorwyr Llafur. Yn bersonol, rwy'n credu bod pobl Cymru'n haeddu'n well—trueni nad ydych chi.

14:35

Presiding Officer, I was wondering if I'd have another opportunity to speak this afternoon. I have to say, I think she's diminished herself in that previous contribution. I think there was a question there somewhere, although I'm struggling to find it. Let me say this: there has been certainly no debate within the Labour Party of that sort, and, as I said, she diminished herself with that contribution. She may be referring to a report of the remuneration panel for Wales, which is an independent panel, and, if she has any comments to make on those, then she should make those on the record and face up to what she says there. But I have to say this to her: I am considering the report of the remuneration panel for Wales; I have not made any decisions on it, and, when I do take a decision on it, I will publish it. And that report will be from an independent panel. I do hope that she will take the next question as an opportunity to withdraw some of her remarks.

Lywydd, roeddwn yn meddwl tybed a fyddai gennyf gyfle arall i siarad y prynhawn yma. Mae'n rhaid i mi ddweud, rwy'n credu ei bod wedi iselhau ei hun yn y cyfraniad hwnnw. Credaf fod yna gwestiwn yno rywle, er fy mod yn ei chael hi'n anodd dod o hyd iddo. Gadewch i mi ddweud hyn: yn sicr ni fu unrhyw drafodaeth o fewn y Blaid Lafur o'r math hwnnw, ac fel y dywedais, mae wedi iselhau ei hun yn y cyfraniad hwnnw. Efallai ei bod hi'n cyfeirio at adroddiad Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Annibynnol, sy'n banel annibynnol, ac os oes ganddi unrhyw sylwadau i'w gwneud ar y rheini, yna dylai eu cofnodi, ac wynebu'r hyn y mae'n ei ddweud yno. Ond mae'n rhaid i mi ddweud hyn wrthi: rwy'n ystyried adroddiad y panel cydnabyddiaeth ariannol ar gyfer Cymru; nid wyf wedi gwneud unrhyw benderfyniadau yn ei gylch, a phan fyddaf yn gwneud penderfyniad arno, fe'i cyhoeddaf. A bydd yr adroddiad hwnnw'n dod gan banel annibynnol. Rwy'n gobeithio y bydd hi'n defnyddio ei chwestiwn nesaf fel cyfle i dynnu rhai o'i sylwadau yn ôl.

Cabinet Secretary, on a point of order, you should not be stood there, telling me that I'm diminishing myself. I have every right to be here to scrutinise and challenge you—and scrutinise and challenge you I will. I have been speaking to the local government community across Wales—I suggest you do. Your Green Paper consultation closed yesterday. This is, in real terms, the sixteenth Welsh Government document outlining reform of some kind to local government structure or working since 2004. And, indeed, in the 20 years of devolution, local government has gone round the table 10 times—there have been 10 Ministers for local government. That doesn't show much importance to this community, which delivers the most vital services. Now, in—. This year, in April, the three fire and local authorities asked you how your local government reform will fit with the reform to their structures—because you're even trying to challenge them at the moment—and you haven't answered that question. Additionally, we know that local government has integral links with other areas of the public service delivery, such as the health service, education, provision of housing and social care, and, particularly, the considerable concerns facing the health service in Wales, including nursing and doctor shortages, systematic failures to keep to waiting times, health board overspends—

Ysgrifennydd y Cabinet, ar bwynt o drefn, ni ddylech fod yn sefyll yno’n dweud wrthyf fy mod yn iselhau fy hun. Mae gennyf bob hawl i fod yma, i graffu ar eich gwaith a’ch herio chi—ac rwy’n mynd i graffu ar eich gwaith a’ch herio. Rwyf wedi bod yn siarad â'r gymuned llywodraeth leol ledled Cymru—awgrymaf y dylech chi wneud hynny. Daeth eich ymgynghoriad ar y Papur Gwyrdd i ben ddoe. Dyma, mewn termau real, yw’r unfed ddogfen ar bymtheg gan Lywodraeth Cymru sy'n amlinellu diwygiadau o ryw fath i strwythur neu waith lywodraeth leol ers 2004. Ac yn wir, yn yr 20 mlynedd ers datganoli, mae llywodraeth leol wedi cael ei basio o gwmpas y bwrdd 10 gwaith—mae yna 10 Gweinidog llywodraeth leol wedi bod. Nid yw hynny'n rhoi llawer o bwys ar y gymuned hon, sy'n darparu'r gwasanaethau mwyaf hanfodol. Nawr, yn—. Eleni, ym mis Ebrill, gofynnodd y tri awdurdod tân ac awdurdodau lleol i chi sut y bydd eich proses o ddiwygio llywodraeth leol yn cyd-fynd â diwygio eu strwythurau—gan eich bod hyd yn oed yn ceisio eu herio ar hyn o bryd—ac nid ydych wedi ateb y cwestiwn hwnnw. Yn ogystal, gwyddom fod gan lywodraeth leol gysylltiadau annatod â meysydd darparu gwasanaethau cyhoeddus eraill, megis y gwasanaeth iechyd, addysg, darparu tai a gofal cymdeithasol, ac yn arbennig, y pryderon sylweddol sy'n wynebu'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru, gan gynnwys prinder nyrsys a meddygon, methiannau systematig i gadw at amseroedd aros, gorwariant byrddau iechyd—

I think you do need to come to your third question now.

Credaf fod angen i chi ddod at eich trydydd cwestiwn yn awr.

—continuing direct governmental control of Betsi Cadwaladr University Local Health Board. I have asked you before, and I'll ask you again, and it'll go on record again: what discussions have you taken with your other Welsh Government Secretaries responsible for the delivery of those public services about working together in a strategic manner, or is it simply the case that those discussions haven't taken place, and this is simply you going off on a tangent to rehash old and tired plans that were firmly squashed once before?

—parhad rheolaeth uniongyrchol y llywodraeth ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Rwyf wedi gofyn i chi o'r blaen, ac fe ofynnaf i chi eto, ac fe gaiff ei gofnodi eto: pa drafodaethau a gawsoch gyda'ch Ysgrifenyddion Llywodraeth Cymru eraill, sy'n gyfrifol am ddarparu'r gwasanaethau cyhoeddus hynny, ynglŷn â chydweithio mewn ffordd strategol, neu a yw'n wir nad yw'r trafodaethau hynny wedi digwydd, a’r hyn sydd gennym yma yw chi’n crwydro oddi ar y testun i ail-greu hen gynlluniau treuliedig a gafodd eu diddymu’n gadarn unwaith o’r blaen?

Members may be shocked to discover that we have conversations between different Ministers on an almost daily basis, and I've discussed this matter with the Cabinet Secretary for Finance this morning. I'll be discussing exactly this matter with the Cabinet Secretary for health at the conclusion of our business today. I'll be discussing these matters with other Ministers on a weekly basis. But, more than that, in answering this question, Presiding Officer, I want to go back to a different proposition. What we need in Wales—. And, actually, almost by accident, the Conservative spokesperson may be right about one thing, and that is that, over a period of 20 years, we have not reached an agreed, mature relationship with local government, and that is a responsibility not simply of this Cabinet Secretary, but a responsibility of this place, this institution, yes, the Government, and also local government. For me, what is important isn't a deal between politicians, whether it's in a back room or in the front room, but to work in the interests of the citizens of this country, to empower people, to ensure that we have democratic accountability in towns and county halls up and down Wales, and to devolve power from this place to centres of decision making across Wales and to ensure that we take care and protect the public service workers who are delivering our services. And do you know what all of those people have in common? Not one of them has suggested to me that we need more austerity or more Conservative policies.FootnoteLink

Efallai y bydd yn syndod i’r Aelodau ganfod ein bod yn cael sgyrsiau rhwng gwahanol Weinidogion bron bob dydd, ac rwyf wedi trafod y mater hwn gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid y bore yma; byddaf yn trafod yr union fater hwn gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd ar ddiwedd ein busnes heddiw. Byddaf yn trafod y materion hyn gyda Gweinidogion eraill yn wythnosol. Ond yn fwy na hynny, i ateb y cwestiwn hwn, Lywydd, rwyf am fynd yn ôl at gynnig gwahanol. Yr hyn sydd ei angen arnom yng Nghymru—. Ac mewn gwirionedd, bron trwy ddamwain, efallai y bydd llefarydd y Ceidwadwyr yn gywir ynglŷn ag un peth: dros gyfnod o 20 mlynedd, nid ydym wedi cyrraedd perthynas aeddfed gytûn â llywodraeth leol, ac mae hynny'n gyfrifoldeb, nid yn unig i’r Ysgrifennydd Cabinet hwn, ond yn gyfrifoldeb i’r lle hwn, y sefydliad hwn, ie, y Llywodraeth, a llywodraeth leol hefyd. I mi, nid bargen rhwng gwleidyddion sy’n bwysig, boed mewn ystafell gefn neu mewn ystafell flaen, ond gweithio er budd dinasyddion y wlad hon, er mwyn grymuso pobl, i sicrhau bod gennym atebolrwydd democrataidd mewn trefi a neuaddau sir ar hyd a lled Cymru, ac i ddatganoli pŵer o'r lle hwn i ganolfannau gwneud penderfyniadau ledled Cymru, ac i sicrhau ein bod yn gwarchod ac yn amddiffyn gweithwyr gwasanaethau cyhoeddus tra’u bod yn cyflawni ein gwasanaethau. Ac a wyddoch chi beth sydd gan yr holl bobl hynny yn gyffredin? Nid oes yr un ohonynt wedi awgrymu wrthyf fod angen mwy o gyni neu fwy o bolisïau Ceidwadol.FootnoteLink

14:40

Llefarydd UKIP, Gareth Bennett.

UKIP spokesperson, Gareth Bennett.

Diolch, Llywydd. I was interested in some of your remarks earlier, Minister, in response to Janet Finch-Saunders's contribution, particularly when—[Interruption.]—particularly when you talked about empowering the citizens and how the key issue facing local government is how to empower citizens, and you also said that it is the people who own the country, which are very noble sentiments.

Now, I'm interested in what you've been saying in the media recently, with your call for a second referendum on Brexit—a so-called people's vote. I was intrigued by this, as I thought we'd already had a people's vote. In my innocence, I thought that the referendum itself was the people's vote, but your public stance is intriguing and it's certainly something that we can perhaps develop today. 

Now, one of the problems that we have in Wales is that, at local government level, we have first-past-the-post, so that tends to mean that we can get councils elected—usually Labour councils, it has to be said—winning more than 50 per cent of the council seats on less then 50 per cent of the vote. Now, that's a generalisation, I accept that, but it is a broad picture of the local government scene in Wales that I'm sure you would recognise. You have recommended that councils consider moving towards a different system, which is the single transferable vote. Certainly, that system would be more democratic. With your well-known commitment to the democratic principles, how far will you be pushing local councils in Wales to move towards this more democratic system?

Diolch, Lywydd. Roedd gennyf ddiddordeb yn rhai o'ch sylwadau yn gynharach, Weinidog, mewn ymateb i gyfraniad Janet Finch-Saunders, yn enwedig pan siaradoch chi am rymuso'r dinasyddion ac mai'r mater allweddol sy'n wynebu llywodraeth leol yw sut i rymuso dinasyddion ac fe ddywedoch chi hefyd mai'r bobl sy'n berchen ar y wlad, sy'n syniadau urddasol iawn. 

Mae gennyf ddiddordeb yn yr hyn y buoch yn ei ddweud yn y cyfryngau yn ddiweddar, gyda'ch galwad am ail refferendwm ar Brexit—pleidlais y bobl fel y’i gelwir. Roeddwn yn chwilfrydig ynglŷn â hyn gan fy mod yn meddwl ein bod eisoes wedi cael pleidlais i’r bobl. Yn fy niniweidrwydd, credais mai'r refferendwm ei hun oedd pleidlais y bobl, ond mae eich safbwynt cyhoeddus yn ddiddorol ac yn sicr mae'n rhywbeth y gallwn ei ddatblygu heddiw o bosibl.

Nawr, un o'r problemau sydd gennym yng Nghymru yw bod gennym, ar lefel llywodraeth leol, system y cyntaf i’r felin, felly mae hynny'n tueddu i olygu y gallwn gael cynghorau wedi’u hethol—cynghorau Llafur fel arfer, mae'n rhaid dweud—sy’n ennill mwy na 50 y cant o seddi'r cyngor ar lai na 50 y cant o'r bleidlais. Nawr, rwy'n cyffredinoli, rwy’n derbyn hynny, ond mae'n ddarlun cyffredinol o’r hyn sy’n digwydd gyda llywodraeth leol yng Nghymru, ac rwy’n siŵr y byddech yn cydnabod hynny. Rydych wedi argymell bod cynghorau'n ystyried symud tuag at system wahanol, sef y bleidlais sengl drosglwyddadwy. Yn sicr, byddai'r system honno'n fwy democrataidd, ond o ystyried eich ymrwymiad enwog i egwyddorion democrataidd, pa mor bell fyddwch chi'n gwthio cynghorau lleol yng Nghymru i symud tuag at y system fwy democrataidd hon?

My views on support of proportional representation are well known and are already on the record. The policy of this Government has not changed since I made an oral statement on this matter in January.

Mae fy marn ar gefnogaeth i gynrychiolaeth gyfrannol yn hysbys iawn ac maent eisoes wedi’u cofnodi. Nid yw polisi'r Llywodraeth hon wedi newid ers i mi wneud datganiad llafar ar y mater hwn ym mis Ionawr.

Right. I think that we may accept the difficulty of actually getting local councils run by the Labour Party, which do well under first-past-the-post, actually going towards a different system. I think you may actually recognise that that may be a problem. But we will move on.

Another area where we have something of a democratic deficit in Wales is in the planning system. Many local communities feel completely disempowered. When they unite, form protest groups and campaign against unwanted local developments, like major roads and intensive housing projects, then they find that, despite almost total local opposition, the scheme gets planning permission regardless. UKIP contends that we should allow for a local referendum in this instance. The result would be legally binding. This policy would democratise the planning process. Again, thinking about your comments earlier about how to empower local citizens, would you think again about adopting this policy yourself? 

O’r gorau. Rwy'n credu y gallwn dderbyn yr anhawster o gael cynghorau lleol, a arweinir gan y Blaid Lafur, ac sy'n gwneud yn dda o dan drefn y cyntaf i'r felin, i newid i system wahanol. Rwy'n credu y gallech chi gydnabod y gallai hynny fod yn broblem. Ond fe symudwn ymlaen.

Maes arall lle mae gennym ddiffyg democrataidd yng Nghymru yw’r system gynllunio. Mae llawer o gymunedau lleol yn teimlo nad oes ganddynt rym o gwbl pan fyddant yn uno i ffurfio grwpiau protest ac ymgyrchu yn erbyn datblygiadau lleol diangen, fel priffyrdd a phrosiectau tai mawr. Ac yna fe welant, er gwaethaf gwrthwynebiad lleol llwyr bron, fod y cynllun yn cael caniatâd cynllunio beth bynnag. Mae UKIP yn honni y dylem ganiatáu ar gyfer refferendwm lleol yn yr achos hwn. Byddai'r canlyniad yn gyfreithiol rwymol. Byddai'r polisi hwn yn democrateiddio'r broses gynllunio. Unwaith eto, gan feddwl am eich sylwadau yn gynharach ynglŷn â sut i rymuso dinasyddion lleol, a wnewch chi feddwl eto am fabwysiadu'r polisi hwn eich hun?

I think there are many arguments in favour of direct democracy and there are examples in different parts of the world of where it works well. California is a very good example, I think, parts of the United States—Switzerland might be an example of where, possibly, it doesn't work so well. But it's a part of a way of doing government—it isn't simply a policy that you can insert into a model that is otherwise designed to work in different ways. What is important to me is that we have accountability. I don't believe that we have effective accountability in all parts of Wales at the moment in terms of how we deliver local government. I want to strengthen that accountability, but I also want to see how we can ensure that we have a diversity in representation in local government. There have been a number of reports in front of this place over many, many years that have described the lack of diversity in local government. The Member for Arfon will be making a contribution later today on diversity in this place, and I will be looking towards how all our reform processes will strengthen both accountability and diversity in local government. But, for me, the absolute key ambition is empowerment and strengthened local decision making.

Rwy'n credu bod yna lawer o ddadleuon o blaid democratiaeth uniongyrchol a cheir enghreifftiau mewn gwahanol rannau o'r byd lle mae'n gweithio'n dda. Mae Califfornia yn enghraifft dda iawn, rwy'n credu, a rhannau o'r Unol Daleithiau, a gallai'r Swistir fod yn enghraifft lle nad yw'n gweithio cystal o bosibl. Ond mae'n rhan o ffordd o lywodraethu—nid polisi ydyw y gallwch ei osod mewn model, a gynlluniwyd fel arall i weithio mewn gwahanol ffyrdd. Yr hyn sy'n bwysig i mi yw bod gennym atebolrwydd. Nid wyf yn credu bod gennym atebolrwydd effeithiol ym mhob rhan o Gymru ar hyn o bryd o ran sut rydym yn darparu llywodraeth leol ac rwyf am gryfhau'r atebolrwydd hwnnw, ond rwyf hefyd am weld sut y gallwn sicrhau bod gennym amrywiaeth o ran cynrychiolaeth mewn llywodraeth leol. Cafwyd nifer o adroddiadau ger bron y lle hwn dros nifer fawr o flynyddoedd a ddylai ddisgrifio'r diffyg amrywiaeth mewn llywodraeth leol. Bydd yr Aelod dros Arfon yn gwneud cyfraniad yn ddiweddarach heddiw, a byddaf yn edrych ar sut y bydd ein holl brosesau diwygio yn cryfhau atebolrwydd ac amrywiaeth mewn llywodraeth leol. Ond i mi, yr uchelgais gwirioneddol allweddol yw grymuso a chryfhau prosesau gwneud penderfyniadau lleol.

14:45

Diversity is something that we are about to explore on the local government committee, so we will, hopefully, feed into that process, and that is something that does concern us. You gave an interesting answer about the local referendum issue, citing the example of California, so I'm encouraged by that. Given your interest in these ideas and these different forms of democracy—representative democracy, direct democracy et cetera—I would be interested in how you look to incorporate these ideas going forward. Would you accept, though, at this stage, that there is a problem with public perception of the planning system in Wales—not just in Wales, but in the UK—and that it does seem to be unrepresentative of local citizenry?

Mae amrywiaeth yn rhywbeth yr ydym ar fin ei archwilio yn y pwyllgor llywodraeth leol, felly byddwn yn bwydo i mewn i'r broses honno gobeithio, ac mae hynny'n rhywbeth sy'n ymwneud â ni. Rhoesoch ateb diddorol ynglŷn â mater y refferendwm lleol, gan gyfeirio at Galiffornia fel enghraifft, felly mae hynny'n galondid. O gofio eich diddordeb yn y syniadau hyn a'r gwahanol ffurfiau ar ddemocratiaeth—democratiaeth gynrychioliadol, democratiaeth uniongyrchol ac ati—byddai'n ddiddorol gweld sut y ceisiwch ymgorffori'r syniadau hyn wrth symud ymlaen. Fodd bynnag, ar hyn o bryd, a fyddech yn derbyn bod yna broblem o ran canfyddiad y cyhoedd o'r system gynllunio yng Nghymru—nid yng Nghymru'n unig, ond yn y DU—a'i bod yn ymddangos fel pe na bai'n cynrychioli dinasyddion lleol yn ddigon da?

No, I wouldn't accept that, and, of course, my friend, the Cabinet Secretary for Energy, Planning and Rural Affairs has just answered questions on these matters, and so I don't wish to pursue any further debate or discussion on the particular issue of planning. What I will say in trying to answer the question in a positive sense is to refer you to the points I've made about the citizens owning the governance of this country and not politicians owning the governance of this country. And what is important to me is that we're able to look for different and new means and methods of holding us as politicians to account, as Ministers to account, as Assembly Members to account and local authority councillors to account. But also, how do you empower different levels of local government? I had a very good meeting with a panel of town and community councils this morning, debating and discussing some of their proposals, which, I hope, will be published in the coming months. But, for me, this is a positive and enriching debate about empowerment; it's not simply a debate about lines on maps, processes of mergers and how to either propose or avoid those matters. For me, the really important issue about the debate on local government reform is the ambition, the end point, the vision and not simply the process. 

Na, ni fuaswn yn derbyn hynny, ac wrth gwrs, mae fy ffrind, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig newydd ateb cwestiynau ar y materion hyn, ac felly nid wyf am fynd ar drywydd unrhyw ddadl neu drafodaeth bellach ar gynllunio yn benodol. Yr hyn a ddywedaf wrth geisio ateb y cwestiwn mewn ffordd gadarnhaol yw eich cyfeirio at y pwyntiau a wneuthum ynglŷn â'r ffaith mai dinasyddion sy'n berchen ar lywodraethiant y wlad hon ac nid gwleidyddion. A'r hyn sy'n bwysig i mi yw ein bod yn gallu edrych am ffyrdd a dulliau newydd a gwahanol o'n dwyn ni fel gwleidyddion, fel Gweinidogion, fel Aelodau Cynulliad a chynghorwyr awdurdodau lleol i gyfrif. Ond hefyd, sut y mae grymuso gwahanol lefelau o lywodraeth leol? Cefais gyfarfod da iawn gyda phanel o gynghorau tref a chymuned y bore yma, yn dadlau a thrafod rhai o'u cynigion, a fydd, gobeithio, yn cael eu cyhoeddi yn ystod y misoedd nesaf. Ond i mi, mae hyn yn gadarnhaol ac yn cyfoethogi dadl ynglŷn â grymuso; nid dadl syml ydyw am linellau ar fapiau, prosesau uno a sut i naill ai gynnig neu osgoi'r materion hynny. I mi, y mater gwirioneddol bwysig am y ddadl ar ddiwygio llywodraeth leol yw'r uchelgais, y pen draw, y weledigaeth ac nid y broses yn unig.

Gwella Diogelwch Cymunedol
Improving Community Safety

3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am wella diogelwch cymunedol yng Ngorllewin De Cymru? OAQ52300

3. Will the Cabinet Secretary provide an update on improving community safety in South Wales West? OAQ52300

We work closely with the chief constables and police and crime commissioners on matters of mutual interest aimed at making communities safer.

Rydym yn gweithio'n agos gyda'r prif gwnstabliaid a'r comisiynwyr heddlu a throseddu ar faterion o ddiddordeb cyffredin gyda'r nod o wneud cymunedau'n fwy diogel.

Thank you for that brief answer. The Help Point in Swansea has been a positive addition to Swansea's night-time economy. It's a project, actually, supported by South Wales Police, and by Swansea council and St John Cymru as well, and their work has helped retain the city's purple flag status. But there are still a number of challenges as violent crime, as recorded, has gone up on Wind Street, where this Help Point is situated near, and, in this particular case, the Swansea business improvement district has contributed, as businesses, towards Help Point in order to help tackle that growth in crime. But what other avenues might be available to encourage partners in sharing those responsibilities for keeping town centres safer, if you like, bearing in mind that other towns are looking to develop their night-time economies?

Diolch ichi am yr ateb cryno hwnnw. Mae Pwynt Help Abertawe wedi bod yn ychwanegiad cadarnhaol at economi nos Abertawe. Prosiect a gefnogir gan Heddlu De Cymru ydyw mewn gwirionedd, a chan gyngor Abertawe a St John Cymru yn ogystal, ac mae eu gwaith wedi helpu i gadw statws baner borffor y ddinas. Ond mae yna heriau'n parhau, gan fod troseddau treisgar, fel y'u cofnodwyd, wedi cynyddu ar Stryd y Gwynt, gerllaw lleoliad y Pwynt Help, ac yn yr achos penodol hwn, mae ardal gwella busnes Abertawe wedi cyfrannu, fel busnesau, tuag at y Pwynt Help er mwyn helpu i fynd i'r afael â'r cynnydd mewn mewn troseddu. Ond pa lwybrau eraill a allai fod ar gael i annog partneriaid i rannu'r cyfrifoldebau hyn dros gadw canol trefi'n fwy diogel, os mynnwch, o gofio bod trefi eraill yn ceisio datblygu eu heconomïau nos?

Presiding Officer, I've met with the Police and Crime Commissioner for South Wales twice in the last week to discuss and debate community safety and how we take forward different means of keeping people safe in their homes and wider issues around the whole community. For me, it is important that we continue to support the Welsh Government-funded community support officers not just in this financial year, but in future financial years. Members will be aware that we're spending nearly £17 million this year on supporting and sustaining that individual programme. I will say to the Member that much of this work would be enhanced were policing to be devolved to this place and that we could take a more holistic approach to the management of policing services as part of a wider approach to both community safety and other matters.

Lywydd, rwyf wedi cyfarfod gyda Chomisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru ddwywaith yn ystod yr wythnos ddiwethaf i drafod diogelwch cymunedol a sut y symudwn ymlaen â gwahanol ddulliau o gadw pobl yn ddiogel yn eu cartrefi a materion ehangach yn ymwneud â'r gymuned gyfan. I mi, mae'n bwysig ein bod yn parhau i gefnogi'r swyddogion cymorth cymunedol a ariennir gan Lywodraeth Cymru nid yn unig dros y flwyddyn ariannol hon, ond mewn blynyddoedd ariannol i ddod. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol ein bod yn gwario bron £17 miliwn eleni ar gefnogi a chynnal y rhaglen unigol honno. Hoffwn ddweud wrth yr Aelod y byddai llawer o'r gwaith hwn yn cael ei wella pe bai plismona'n cael ei ddatganoli i'r lle hwn inni allu gweithredu dull mwy cyfannol o reoli gwasanaethau plismona fel rhan o ddull ehangach o fynd i'r afael â diogelwch cymunedol a materion eraill.

Carchardai
Prisons

4. Pa ddadansoddiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ddata yn adroddiad Canolfan Llywodraethiant Cymru, 'Imprisonment in Wales: A Factfile'? OAQ52326

4. What analysis has the Welsh Government made of data within the Wales Governance Centre report, 'Imprisonment in Wales: A Factfile'? OAQ52326

We have read the report by Dr Robert Jones. It presents a very useful picture of what is going on in Welsh prisons and matters concerning Welsh people held in English prisons.

Rydym wedi darllen yr adroddiad gan Dr Robert Jones. Mae'n cyflwyno darlun defnyddiol iawn o'r hyn sy'n digwydd yng ngharchardai Cymru a materion sy'n ymwneud â phobl o Gymru a gedwir mewn carchardai yn Lloegr.

Thank you for that answer, Cabinet Secretary. I've got a quote from the second paragraph:

'Prisons in Wales are performing less well than prisons in England on a range of prison safety measures. The number of recorded self-harm incidents and prison assaults in Wales has increased at a higher rate than...in England.'

In fact HMP Parc had more incidents than any other prison in England and Wales. That surely shows, and the data within the report shows, the chaotic state and nature of the prison service in Wales at this point in time. In fact, it has a detrimental impact upon Welsh prisoners and their families and their lives when they leave prison as a consequence of that. It actually only goes to highlight the abject stupidity of the MOJ putting forward a proposal for a prison in Baglan, which is off the agenda now. But, your statement on 6 April stated that you wanted meaningful discussions on the future of penal policy in Wales with the MOJ, to ensure that we have a Welsh solution for Welsh prisoners. How far has that gone with the MOJ? Have you had discussions with the MOJ on the devolution of the penal system so that we can ensure that Welsh prisoners get the support and services they need closer to home, nearer their families, and are not being housed in some warehouse somewhere else?

Diolch ichi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae gennyf ddyfyniad o'r ail baragraff:

Nid yw carchardai yng Nghymru yn perfformio cystal â charchardai yn Lloegr ar amrywiaeth o fesurau diogelwch carchar. Mae nifer y digwyddiadau a gofnodwyd o hunan-niwed ac ymosodiadau carchar yng Nghymru wedi cynyddu ar gyfradd uwch nag... yn Lloegr.

Mewn gwirionedd roedd mwy o ddigwyddiadau yng Ngharchar y Parc nag mewn unrhyw garchar arall yng Nghymru a Lloegr. Fel y data yn yr adroddiad, mae hynny'n sicr yn dangos cyflwr a natur anhrefnus y gwasanaeth carchardai yng Nghymru ar hyn o bryd. Yn wir, mae'n effeithio'n andwyol ar garcharorion o Gymru a'u teuluoedd a'u bywydau pan fyddant yn gadael carchar o ganlyniad i hynny. Mae'n tynnu sylw mewn gwirionedd at dwpdra llwyr y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn cyflwyno cynnig ar gyfer carchar ym Maglan, sydd wedi'i dynnu oddi ar yr agenda bellach. Ond nododd eich datganiad ar 6 Ebrill eich bod am drafodaethau ystyrlon ar ddyfodol y polisi cosbi yng Nghymru gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder, i sicrhau bod gennym ateb Cymreig ar gyfer carcharorion o Gymru. Pa mor bell y mae hynny wedi mynd gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder? A gawsoch drafodaethau â'r Weinyddiaeth Gyfiawnder ar ddatganoli'r system gosbi fel y gallwn sicrhau bod carcharorion o Gymru yn cael y cymorth a'r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt yn nes at adref, yn nes at eu teuluoedd, ac nad ydynt yn cael eu cadw mewn rhyw fath o warws yn rhywle arall?

14:50

I visited Parc prison last week and spoke to the director of the prison and other members of his staff who deal directly with people who are being held there, and discussed all of those issues with the director. I'm visiting Berwyn prison tomorrow morning and will be having similar conversations with the staff there. I share your concern. I share the concern about not only the report published last week, which I think followed on the heels of a number of critical reports about conditions in the secure estate in Wales. I think there is a need for a fundamentally different approach. I spoke in an earlier question to the need for a more holistic approach in these matters, and that is the case here as well.

I did have a meeting in my diary with Dr Phillip Lee, which I presume will now be rescheduled, and I would like to—[Interruption.] Dr Lee is one of that group of people who have contested Blaenau Gwent, so we do have something in common. I will pay tribute to him and the work he did whilst in office. I thought it was a refreshing change to speak to a Conservative Minister who actually understood many of the issues we're dealing with, and I very much regret that he felt the need to resign yesterday. 

But I will be pursuing these matters. I've asked for a meeting with the prisons Minister, Rory Stewart, and we're waiting to hear whether that will be able to go ahead. But, fundamental on this issue for me is that we address holistically the issue of penal policy in Wales. I do not believe that we can fundamentally address the issue of how we manage penal policy in Wales so long as that is managed by the MOJ, which follows the priorities and philosophies of a different Government and takes a fundamentally different approach. We do need to have a penal policy that is rooted in respect, humanity and rehabilitation, and one that serves the whole of our communities across the whole of Wales.

Ymwelais â charchar y Parc yr wythnos diwethaf a siaradais â chyfarwyddwr y carchar ac aelodau eraill o'i staff sy'n ymdrin yn uniongyrchol â phobl sy'n cael eu cadw yno, a thrafodwyd yr holl faterion hynny gyda'r cyfarwyddwr. Rwy'n ymweld â charchar Berwyn bore yfory a byddaf yn cael sgyrsiau tebyg gyda'r staff yno. Rhannaf eich pryder. Rhannaf y pryder am yr adroddiad a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, y credaf ei fod yn dilyn wrth sodlau nifer o adroddiadau beirniadol ynghylch yr amodau mewn sefydliadau diogel yng Nghymru. Credaf fod angen dull sylfaenol wahanol o weithredu. Siaredais mewn cwestiwn cynharach am yr angen i gael ymagwedd fwy cyfannol yn y materion hyn, ac mae hynny'n wir yma yn ogystal.

Roedd gennyf gyfarfod yn fy nyddiadur gyda Dr Phillip Lee, a thybiaf y caiff ei aildrefnu bellach, a hoffwn—[Torri ar draws.] Mae Dr Lee yn un o'r grŵp o bobl sydd wedi sefyll etholiad ym Mlaenau Gwent, felly mae gennym rywbeth yn gyffredin. Rwy'n talu teyrnged iddo ef ac i'r gwaith a wnaeth yn ei swydd. Roeddwn yn meddwl ei bod hi'n newid braf cael siarad â Gweinidog Ceidwadol a oedd yn deall llawer o'r materion rydym yn ymdrin â hwy, ac mae'n flin iawn gennyf ei fod wedi teimlo'r angen i ymddiswyddo ddoe.

Ond byddaf yn mynd ar drywydd y materion hyn. Rwyf wedi gofyn am gyfarfod gyda'r Gweinidog carchardai, Rory Stewart, ac rydym yn aros i glywed a fydd hynny'n gallu mynd rhagddo. Ond mae'r angen i fynd i'r afael mewn modd cyfannol â pholisi cosbi yng Nghymru yn greiddiol i'r mater hwn i mi. Nid wyf yn credu y gallwn fynd i'r afael â'n dull o ymwneud â pholisi cosbi yng Nghymru yn iawn cyhyd â'i fod yn cael ei reoli gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder, sy'n dilyn blaenoriaethau ac athroniaethau Llywodraeth wahanol a dull sylfaenol wahanol o weithredu. Mae angen polisi cosbi sy'n seiliedig ar barch, dyngarwch ac adsefydlu, ac un sy'n gwasanaethu pob rhan o'n cymunedau ar draws Cymru gyfan.

As another Blaenau Gwent electoral old boy, if that's the right way of putting it, I think we've all met with limited success. That's been turned around by you lately, but certainly Mr Lee and I found limited appeal. Can I commend the work of Robert Jones, who I know—and I've had the pleasure of hosting an event at which he was the principal speaker here in the Assembly—but also the work of the Wales Governance Centre? This is really quality material and we need to reflect on it.

I am pleased to see that the number of Welsh children in prisons has dropped from 116 in 2010 to 32 in 2017. I think it should be the ultimate last resort to put any children in prison. That trend going down is a good thing. But, it does mean more and more children have to travel to young offender institutions, which themselves are closing. So, we have a higher percentage of Welsh children now travelling large distances, and some of them are reporting they never get a parental visit because of the hardship that causes. Can you look at this and see if we can improve the situation of these families?

Fel un arall o gyn-fechgyn etholiadol Blaenau Gwent, os mai dyna'r ffordd iawn o'i roi, credaf mai llwyddiant cyfyngedig a gafodd pawb ohonom. Cafodd hynny ei drawsnewid gennych chi yn ddiweddar, ond yn sicr apêl gyfyngedig a oedd i mi a Mr Lee. A gaf fi gymeradwyo gwaith Robert Jones, gŵr yr wyf yn ei adnabod—ac rwyf wedi cael y pleser o gynnal digwyddiad lle roedd yn brif siaradwr yma yn y Cynulliad—a gwaith Canolfan Llywodraethiant Cymru hefyd? Mae hwn yn ddeunydd o ansawdd gwirioneddol dda ac mae angen inni ei ystyried.

Rwy'n falch o weld bod nifer y plant o Gymru mewn carchardai wedi gostwng o 116 yn 2010 i 32 yn 2017. Credaf y dylai rhoi plant yng ngharchar fod yn ddewis pan fetho popeth arall. Mae'r duedd honno'n disgyn ac mae hynny'n beth da. Ond mae'n golygu bod mwy a mwy o blant yn gorfod teithio i sefydliadau troseddwyr ifanc, sydd eu hunain yn cau. Felly, mae gennym ganran uwch o blant Cymru bellach yn teithio pellteroedd mawr, ac mae rhai ohonynt yn adrodd nad ydynt byth yn cael ymweliad gan rieni oherwydd y caledi y mae hynny'n ei achosi. A wnewch chi edrych ar hyn a gweld a allwn wella sefyllfa'r teuluoedd hyn?

Absolutely. There is a significant correlation between the distance from home and the number of home visits received, and I think that's something that we do need to reflect upon. In fact, as to many of the young people and children who are held in the young offender institution in Parc, for example, the furthest from home are actually English-domiciled people who come from London or Birmingham or elsewhere. Whilst I have no issue with people's address or original nationality, my issue is distance from home, and we do need to have facilities—in the case of children and young people, a centre where they can continue in education, where they can be provided with support. Many of these people have some complex needs, whether it is in terms of mental illness and substance abuse, but also they come from, sometimes, some very difficult backgrounds, and they need help and support rather than harsh incarceration. What I would hope that we'd be able to do in a Welsh penal policy is to root that in a sense of rehabilitation, support, humanity and respect to enable us to move forward in a very different way.

Yn bendant. Ceir cydberthynas arwyddocaol rhwng y pellter o adref a nifer yr ymweliadau cartref a gafwyd, ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth sydd angen i ni ei ystyried. Mewn gwirionedd, o ran llawer o'r bobl ifanc a phlant a gedwir yn sefydliad troseddwyr ifanc y Parc, er enghraifft, y rhai sydd bellaf oddi cartref yw'r bobl sy'n hanu o Loegr, o Lundain neu Birmingham neu fannau eraill. Er nad oes gennyf broblem gyda chyfeiriad neu genedligrwydd y bobl, fy mhroblem yw'r pellter o adref, ac mae angen inni gael cyfleusterau—yn achos plant a phobl ifanc, canolfan lle y gallant barhau mewn addysg, lle y gellir darparu cymorth ar eu cyfer. Mae gan lawer o'r bobl hyn anghenion cymhleth, boed yn salwch meddwl neu'n gamddefnyddio sylweddau, ond hefyd dônt o gefndiroedd, weithiau, sy'n anodd iawn, ac maent angen cymorth a chefnogaeth yn hytrach na charchariad llym. Yr hyn y gobeithiaf y byddem yn gallu ei wneud mewn polisi cosbi Cymreig yw gwreiddio hynny mewn ymdeimlad o adsefydlu, cymorth, dyngarwch a pharch er mwyn ein galluogi i symud ymlaen mewn ffordd wahanol iawn.

14:55
Mynediad at Wasanaethau Cyhoeddus
Access to Public Services

5. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella mynediad trigolion yn Nhrefynwy at wasanaethau cyhoeddus? OAQ52303

5. What measures is the Welsh Government taking to improve access to public services for residents in Monmouth? OAQ52303

We continue to provide significant support to public services in Monmouthshire.

Rydym yn parhau i ddarparu cefnogaeth sylweddol i wasanaethau cyhoeddus yn Sir Fynwy.

I'm pleased to hear that, Cabinet Secretary. I listened with interest to your exchange with my colleague Janet Finch-Saunders earlier. It did strike me that it was very much groundhog day in terms of the conversation that you had. I have to say that I did agree with you on your comment that you should be—as I often do, actually; it's only big things we disagree. [Interruption.] I'm getting there. [Laughter.] I'm not used to being heckled by my own side. [Laughter.] We should be devolving powers to effective local centres of democracy, which is, I think, the expression that you used. I think also that you're right in saying that you, as Welsh Government, do need a meaningful relationship with local government. I think local government would love to have a meaningful relationship with Welsh Government as well. And I think there are two sides to this coin.

I think where we do differ, Cabinet Secretary, is that, whilst we all accept that there should be, over time, organic change and reform to local government and to structures of delivering public services across Wales—we've got the city regions as a classic example of how things change—what we have to do is put the citizen at the centre of this. Where our side differs from yours is that we feel that you're putting the structure first, and that is wrong. That hasn't worked in the past and that won't work in the future. So, will you go back to the drawing board, have discussions with your colleagues, in local government hopefully, or whoever you need to have those discussions with, but come back with proposals for how you're going to put the citizen at the centre and have a system that really does deliver the sort of regenerative, transformative change in local government that we all desperately want to see but which doesn't simply sacrifice everything on the altar of reorganisation? 

Rwy'n falch o glywed hynny, Ysgrifennydd y Cabinet. Gwrandewais gyda diddordeb ar eich trafodaeth gyda fy nghyd-Aelod Janet Finch-Saunders yn gynharach. Cefais fy nharo ein bod wedi cael y ddadl a gawsoch sawl gwaith o'r blaen. Rhaid imi ddweud fy mod yn cytuno â'ch sylw y dylech fod—fel rwy'n ei wneud yn aml, mewn gwirionedd; ar y pethau mawr yn unig yr ydym yn anghytuno. [Torri ar draws.] Rwy'n cyrraedd yno. [Chwerthin.] Nid wyf yn gyfarwydd â chael fy heclo gan fy ochr fy hun. [Chwerthin.] Dylem ddatganoli pwerau i ganolfannau democratiaeth leol effeithiol, sef, rwy'n meddwl, yr ymadrodd a ddefnyddiwyd gennych. Hefyd, credaf eich bod yn iawn i ddweud eich bod chi, fel Llywodraeth Cymru, angen perthynas ystyrlon â llywodraeth leol. Credaf y byddai llywodraeth leol wrth eu bodd yn cael perthynas ystyrlon gyda Llywodraeth Cymru yn ogystal. A chredaf y ceir dwy ochr i'r geiniog hon.

Rwy'n credu mai lle rydym yn anghytuno, Ysgrifennydd y Cabinet, yw, er bod pob un ohonom yn derbyn y dylai fod newid organig dros amser, a diwygio llywodraeth leol a strwythurau darparu gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru—mae gennym y dinas-ranbarthau fel enghraifft glasurol o sut y mae pethau yn newid—yr hyn sy'n rhaid ei wneud yw rhoi'r dinesydd ynghanol hyn. Lle mae ein hochr ni yn wahanol i'ch un chi yw ein bod yn teimlo eich bod yn rhoi'r strwythur yn gyntaf, ac mae hynny'n anghywir. Nid yw hynny wedi gweithio yn y gorffennol ac ni fydd yn gweithio yn y dyfodol. Felly, a wnewch chi ailfeddwl, cael trafodaethau gyda'ch cydweithwyr llywodraeth leol, gobeithio, neu bwy bynnag y mae angen i chi gael y trafodaethau hynny â hwy, ond dychwelyd â chynigion ar gyfer sut rydych yn mynd i roi'r dinesydd yn y canol a chael system sydd o ddifrif yn darparu'r math o newid trawsffurfiol, adfywiol mewn llywodraeth leol y mae pawb ohonom am ei weld yn ddirfawr, ond newid nad yw'n aberthu popeth ar allor ad-drefnu?

I thought that as well. There's a difference in tone and words, isn't there? Let me say this: I hear what my good friend and constituency neighbour has to say, and I understand the point that he makes. And I agree, at a terrible risk to myself, possibly, that putting the citizen at the centre of our democracy and how we deliver services doesn't simply depend on structures. I agree with that, as it happens. But we must be able to have structures that are resilient and sustainable in order to devolve those responsibilities and those services to them. We do need that and we don't have that at the moment, and local government accepts that. So, we need to find a structure that will enable us to devolve those powers and to provide for those responsibilities to reside at a more local level, and I'm happy to have that conversation. I've said on many occasions that I'm not wedded to any particular map and I'm not wedded to any particular structure. But what I am wedded to is sustainability. What I am wedded to its protecting the workforce. What I am wedded to is high-quality services, and what I am wedded to is effective democratic accountability.

What you can't say is that you want all these objectives but that you're not prepared to will any means in order to do it. So, there needs to be a serious conversation about that, and I very much welcome the contribution from Monmouthshire on this matter, but what I will say to him very, very seriously is that, in order to achieve those things, the conversation must move on from an argument over a map and an argument over lines on a map. What he has described is very similar to the sort of ambition that I have, which demands change; it doesn't demand staying as we are. Staying as we are is the worst possible solution for Welsh local government, because that will mean that, over the coming years, whoever sits in this seat and whoever sits in this place will manage decline and not expansion. I want to see a renaissance of local government in Wales; I don't want to be responsible for its decline.

Roeddwn i'n credu hynny hefyd. Mae yna wahaniaeth o ran cywair a geiriau, onid oes? Gadewch imi ddweud hyn: clywaf yr hyn sydd gan fy nghyfaill a fy nghymydog etholaeth i'w ddweud, a deallaf y pwynt y mae'n ei wneud. Ac rwy'n cytuno, er y perygl ofnadwy i mi fy hun o bosibl, nad yw rhoi'r dinesydd ynghanol ein democratiaeth a'r modd yr ydym yn darparu gwasanaethau yn dibynnu'n unig ar strwythurau. Cytunaf â hynny, fel mae'n digwydd. Ond rhaid inni allu cael strwythurau sy'n gadarn ac yn gynaliadwy er mwyn datganoli'r cyfrifoldebau a'r gwasanaethau iddynt. Rydym angen hynny ac nid oes gennym hynny ar hyn o bryd, ac mae llywodraeth leol yn derbyn hynny. Felly, mae angen inni ddod o hyd i strwythur a fydd yn ein galluogi i ddatganoli'r pwerau, ac i sicrhau bod y cyfrifoldebau hynny'n bodoli ar lefel fwy lleol, ac rwy'n hapus i gael y sgwrs honno. Rwyf wedi dweud ar sawl achlysur nad wyf yn gaeth i unrhyw fap penodol ac nid wyf yn gaeth i unrhyw strwythur penodol. Ond yr hyn rwy'n gaeth iddo yw cynaliadwyedd. Rwy'n ymrwymedig i warchod y gweithlu. Rwy'n ymrwymedig i wasanaethau o ansawdd uchel, ac rwy'n ymrwymedig i atebolrwydd democrataidd effeithiol.

Yr hyn na allwch ei ddweud yw eich bod eisiau'r holl amcanion hyn ond nad ydych yn barod i dderbyn unrhyw fodd o'i wneud. Felly, mae angen cael sgwrs ddifrifol am hynny, ac rwy'n croesawu'n fawr y cyfraniad o Sir Fynwy ar y mater hwn, ond rwyf am ddweud wrtho yn ddifrifol iawn fod yn rhaid i'r sgwrs, er mwyn cyflawni'r pethau hynny, symud ymlaen o'r ddadl ynglŷn â map a dadl ynglŷn â llinellau ar fap. Mae'r hyn a ddisgrifiodd yn debyg iawn i'r math o uchelgais sydd gennyf fi, un sy'n mynnu newid; nid yw'n galw am aros fel yr ydym. Aros fel yr ydym yw'r ateb gwaethaf posibl i lywodraeth leol yng Nghymru, oherwydd bydd hynny'n golygu, dros y blynyddoedd nesaf, y bydd pwy bynnag sy'n eistedd yn y sedd hon a phwy bynnag sy'n eistedd yn y lle hwn yn rheoli dirywiad ac nid ehangiad. Rwyf am weld dadeni llywodraeth leol yng Nghymru; nid wyf am fod yn gyfrifol am ei ddirywiad.

Cyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus
The Delivery of Public Services

6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am rôl llywodraeth leol yn y broses o gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus? OAQ52328

6. Will the Cabinet Secretary make a statement on the role of local government in the delivery of public services? OAQ52328

Mae rôl llywodraeth leol yn hanfodol bwysig ar gyfer ein cymdeithas a llesiant ein cenedl. Rydw i wedi ymrwymo i sicrhau bod y gwasanaethau hynny yn gynaliadwy ac o ansawdd uchel, ac yn cynnwys dinasyddion a phartneriaid yn y broses.

The role of local government is critical to our society and the well-being of our nation. I am committed to ensuring the sustainability and quality of those services, and the engagement of citizens and partners in that process.

15:00

Diolch. Ddechrau'r wythnos, mi gyhoeddodd eich cyd Aelodau o'r Llywodraeth yr Ysgrifennydd Cabinet dros iechyd a'r Gweinidog gofal cymdeithasol gynllun ar gyfer dyfodol iechyd a gofal, ac un o'r amcanion ydy sicrhau gwell cydweithio ac, yn wir, integreiddio rhwng gwaith llywodraeth leol a byrddau iechyd. Un cwestiwn sydd ar fy meddwl i, ac rydw i'n gwybod sydd ar feddwl rhai mewn llywodraeth leol yng Nghymru, ydy: siawns, wrth roi cynllun iechyd a gofal newydd at ei gilydd, fod angen sefydlogrwydd mewn llywodraeth leol er mwyn delifro hynny. Nid ydy ad-drefnu llywodraeth leol, ac felly ad-drefnu adrannau gwasanaethau gofal cymdeithasol, ddim yn debygol o helpu efo'r broses integreiddio. Yr awgrym fel rydw i'n ei gweld hi—mi ddymunwn i gael eich barn chi—ydy bod gwahanol adrannau o'ch Llywodraeth chi ddim i'w gweld yn siarad efo'i gilydd. 

Thank you. At the beginning of the week, your fellow Members of Government the Cabinet Secretary for health and the Minister for social care announced a plan for the future of health and care, and one of the objectives is to ensure better collaboration and, indeed, integration between the work of local government and health boards. Now, one question that’s been playing on my mind, and that I know is playing on the minds of some of those in local government in Wales, is: surely, in putting a health and care plan together, one would need stability in local government in order to deliver that. Reorganising local government and, therefore, social care departments isn’t likely to help with that integration process. The suggestion, as I see it—and I would like to hear your view on this—is that the different department of your Government don’t seem to be speaking to each other.

Nid ydym ni jest yn siarad gyda'n gilydd, ond rydym ni'n cytuno gyda'n gilydd. Mi ges i gyfarfod gyda Vaughan ddechrau'r wythnos i drafod hynny, ac rydw i'n ei weld e yn nes ymlaen y prynhawn yma i barhau i drafod hynny. A gaf i ddweud hyn? Nid ydw i'n cytuno gyda'r dadansoddiad rydych chi'n ei wneud. I fi, os ydy cydweithio rhanbarthol yn y ffordd rydych chi wedi'i ddisgrifio ac yn y ffordd mae'r ymateb i'r adroddiad seneddol yn mynnu ac yn gobeithio ei weld ac yn cynllunio ar ei gyfer yn dibynnu ar gapasiti awdurdodau lleol ac adrannau i gyfrannu at hynny, nid yw e'n fater o un yn gwneud gwaith y llall; mae'n fater o greu capasiti a chreu cryfder y tu fewn i'r cynghorau. Ar hyn o bryd, mae'r cynghorau eu hunain yn dweud nad yw'r sefyllfa bresennol ddim yn gynaliadwy, felly nid yw e'n bosibl adeiladu cydweithio ar system sydd ddim yn gynaliadwy ei hun. Felly, i fi, beth sy'n bwysig yw ein bod ni'n rhoi'r fframwaith mewn lle sydd yn creu capasiti, sydd yn creu'r capasiti i gydweithio ar gyfer y dyfodol, ac i sicrhau dyfodol gweithwyr cymdeithasol, a hefyd y capasiti i ddelifro ar gyfer y cynllun rydym ni wedi'i gyhoeddi. Felly, nid ydw i'n ei weld e fel dewis; rydw i'n ei weld e fel proses. 

Not only do we speak to each other, but we agree with each other. I had a meeting with Vaughan at the beginning of this week to discuss this issue, and I will be seeing him later on this afternoon to continue discussing that. May I say this? I don’t agree with your analysis. For me, if regional collaboration in the way that you describe, and in the way that the parliamentary review demands and hopes to see and is planning for—if that is dependent on local government's capacity and the capacity of their departments to contribute to that, it’s not a matter of one doing the work of the other; it’s a matter of creating capacity and strength within the councils. At the moment, the councils themselves are saying that the status quo is not sustainable, and so it’s not possible to build collaboration on an unsustainable system. So, what’s important to me is that we put a structure in place that generates capacity to collaborate in the future and to secure the future for social care, and the capacity to deliver for the plan that we have published. So, I don’t see it as a choice or an option; I see it as a process.

Cabinet Secretary, you talk about building capacity, and I seem to remember a lot of the conversations around when the health boards were reorganised back in 2009 being about, 'By creating bigger organisations you create capacity.' That hasn't exactly been a rip-roaring success. But one of the things you could say would benefit local authorities across Wales, in particular the further away you go from Cardiff, would be the devolution of powers and responsibilities in particular around economic development. With the development of metro mayors and city mayors in England, these relationships, cross border, are vitally important so that when you look at economic development in particular, where local authorities have a key role to play, they are empowered to make decisions that affect their local communities and benefit their local communities. What assessment, in the time that you've been the Minister, have you made about what powers would be beneficial at a local level rather than them being held at a Welsh Government level when it comes to economic development?

Ysgrifennydd y Cabinet, rydych yn sôn am adeiladu capasiti, ac rwy'n cofio bod llawer o'r sgyrsiau pan aildrefnwyd y byrddau iechyd yn ôl yn 2009 yn ymwneud â 'chreu sefydliadau mwy o faint er mwyn creu capasiti'. Ni fu hynny'n llwyddiant digamsyniol. Ond un o'r pethau y gallech ddweud a fyddai o fudd i awdurdodau lleol ar draws Cymru, yn enwedig po bellaf yr ewch o Gaerdydd, fyddai datganoli pwerau a chyfrifoldebau arbennig yn ymwneud â datblygu economaidd. Gyda datblygiad meiri metro a meiri dinasoedd yn Lloegr, mae'r cysylltiadau hyn, yn drawsffiniol, yn hanfodol bwysig a phan edrychwch ar ddatblygu economaidd yn arbennig, lle mae gan awdurdodau lleol rôl allweddol i'w chwarae, cânt eu grymuso i wneud penderfyniadau sy'n effeithio ar eu cymunedau lleol ac o fudd i'w cymunedau lleol. Pa asesiad, yn yr amser y buoch yn Weinidog, a wnaethoch ynglŷn â pha bwerau a fyddai'n fuddiol ar lefel leol yn hytrach na'u bod yn cael eu cadw ar lefel Llywodraeth Cymru mewn perthynas â datblygu economaidd?

I fear, Presiding Officer, that there might be a bit too much agreement between myself and the Conservative frontbench on some of these matters. I'm very much in favour of the devolution of additional powers and responsibilities to local government; it's what I want to see. I want to see more powers held locally and more accountability locally. The Conservative leader will remember one of my first actions after my appointment was to write to all leaders of Welsh local government and to all Members here asking what powers they believed should be devolved to local government and what powers they would want to see held locally. Personally, I would like to see a more strategic and a more generous view of the powers that should be held locally. I'm attracted by models of government where local communities and counties—for lack of a better term—are able to take very significant decisions, and are able to pursue approaches that are appropriate to that locality and the communities they represent.

The Conservative leader will be aware that the Cabinet Secretary for the economy has published an economic action plan that does actually empower regions of Wales to act in this way. I see that as part of a process by which we do empower different regions and different parts of the country to take exactly the decisions that you've mentioned as well. The Member for Anglesey made a very similar point, in many ways, about regional working. The point I will make back to you in all seriousness is that you can't simply build castles on sand. If we don't have the structures and the fundamental building blocks, which are sustainable local authorities, then all that regional working will come to nothing, because we won't be able to sustain the services. So, for me, we do need to go through a process of reform and change, and when we have done that, we will be able to deliver the sort of devolution of responsibilities and powers that the Conservative leader has described and others have described today as well.

Rwy'n ofni, Lywydd, y gallai fod gormod o gytundeb rhyngof fi a mainc flaen y Ceidwadwyr ar rai o'r materion hyn. Rwy'n gryf o blaid datganoli pwerau a chyfrifoldebau ychwanegol i lywodraeth leol; dyna rwyf eisiau ei weld. Rwyf am weld mwy o bwerau'n cael eu cadw yn lleol a mwy o atebolrwydd yn lleol. Bydd arweinydd y Ceidwadwyr yn cofio mai un o fy ngweithredoedd cyntaf ar ôl fy mhenodi oedd ysgrifennu at yr holl arweinwyr llywodraeth leol yng Nghymru ac at yr holl Aelodau yma yn gofyn pa bwerau y credent y dylid eu datganoli i lywodraeth leol a pha bwerau y byddent am eu gweld yn cael eu cadw'n lleol. Yn bersonol, hoffwn weld safbwynt mwy strategol a mwy hael ynglŷn â'r pwerau y dylid eu cadw'n lleol. Caf fy nenu gan fodelau llywodraethu lle mae cymunedau lleol a siroedd—yn niffyg term gwell—yn gallu gwneud penderfyniadau arwyddocaol iawn, ac yn gallu mynd ar drywydd dulliau gweithredu sy'n briodol i'r ardal leol a'r cymunedau y maent yn eu cynrychioli.

Bydd arweinydd y Ceidwadwyr yn ymwybodol fod Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi wedi cyhoeddi cynllun gweithredu economaidd sy'n grymuso rhanbarthau Cymru i weithredu yn y modd hwn mewn gwirionedd. Rwy'n gweld hynny fel rhan o broses ar gyfer grymuso rhanbarthau gwahanol a gwahanol rannau o'r wlad i wneud yr union benderfyniadau y sonioch chi amdanynt. Gwnaeth yr Aelod dros Ynys Môn bwynt tebyg iawn, mewn sawl ffordd, ynghylch gweithio rhanbarthol. Y pwynt a wnaf i chi yn gwbl o ddifrif yw na allwch adeiladu cestyll ar dywod. Os nad oes gennym y strwythurau a'r blociau adeiladu sylfaenol, sef awdurdodau lleol cynaliadwy, yna ni ddaw dim o'r gweithio rhanbarthol hwnnw, oherwydd ni fyddwn yn gallu cynnal y gwasanaethau. Felly, i mi, mae angen inni fynd drwy broses o ddiwygio a newid, a phan fyddwn wedi gwneud hynny, byddwn yn gallu darparu'r math o ddatganoli cyfrifoldebau a phwerau y mae arweinydd y Ceidwadwyr wedi'i ddisgrifio ac y mae eraill wedi'i ddisgrifio heddiw hefyd.

15:05
Cysylltiadau Rhwng Pobl Ifanc a'r Heddlu
Relations Between Young People and the Police

7. Pa gynnydd sy'n cael ei wneud o ran annog cysylltiadau cadarnhaol rhwng pobl ifanc a'r heddlu yn ne Cymru? OAQ52317

7. What progress is being made in encouraging positive relations between young people and the police in south Wales? OAQ52317

Welsh Government funding, along with a contribution from the Gwent police and crime commissioner, provides early intervention and diversionary projects for young people in communities.

Mae cyllid Llywodraeth Cymru, ynghyd â chyfraniad gan gomisiynydd heddlu a throseddu Gwent, yn darparu ymyrraeth gynnar a phrosiectau dargyfeiriol ar gyfer pobl ifanc mewn cymunedau.

Thank you, Cabinet Secretary. Over the last few months, Gwent Police have been piloting a groundbreaking scheme with three schools in Newport, where 58 pupils from Millbrook, Pillgwenlly and Ringland primary schools have become members of Mini Police, or Heddlu Bach. The children, with permission, go out to help officers in community events and they start discussions to educate their peers at home, at school, and with their friends. And indeed, today, Pill primary school have been out checking the speed limits in their area. The scheme's a great opportunity to inspire the next generation of police and public servants, and it's having a palpable effect on the children involved, with teachers and parents reporting big changes in many, and it's proving very popular. And this isn't just an opportunity for improvement in police relations; the effect on those children, undoubtedly, is lifelong, promoting good citizenship. Will the Cabinet Secretary look at this excellent practice taking place in Gwent Police, and these schools, and look at what the Welsh Government can do to further extend the reach of projects like this throughout our communities?

Diolch ichi, Ysgrifennydd y Cabinet. Dros yr ychydig fisoedd diwethaf, mae Heddlu Gwent wedi bod yn treialu cynllun arloesol gyda thair ysgol yng Nghasnewydd, lle mae 58 disgyblion o ysgolion cynradd Millbrook, Pillgwenlly a Ringland wedi dod yn aelodau o'r Heddlu Bach. Mae'r plant, gyda chaniatâd, yn mynd allan i helpu swyddogion mewn digwyddiadau cymunedol a byddant yn dechrau trafodaethau i addysgu eu cyfoedion gartref, yn yr ysgol, a chyda'u ffrindiau. Ac yn wir, heddiw, mae ysgol gynradd Pillgwenlly wedi bod allan yn gwirio'r cyfyngiadau cyflymder yn eu hardal. Mae'r cynllun yn gyfle gwych i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o heddlu a gweision cyhoeddus, ac mae'n cael effaith amlwg ar y plant sy'n rhan o'r cynllun, gydag athrawon a rhieni yn cofnodi newidiadau mawr yn llawer ohonynt, ac mae'n boblogaidd iawn. Ac nid cyfle ar gyfer gwella'r berthynas â'r heddlu yn unig yw hyn; mae'r effaith ar y plant hynny, yn ddi-os, yn para gydol oes, gan hyrwyddo dinasyddiaeth dda. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet edrych ar yr arferion rhagorol hyn sy'n digwydd gyda Heddlu Gwent, a'r ysgolion hyn, ac edrych ar beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i ymestyn cyrhaeddiad prosiectau fel hyn ymhellach drwy ein holl gymunedau?

Absolutely. Presiding Officer, it's a fantastic project that has been run in Newport there, and I think it's a testament to the creativity of the police force, working with different organisations in the city, to deliver exactly that sort of process. I pay tribute to Gwent Police in the way that they've worked to deliver this. As well meeting the commissioner for south Wales, I met the commissioner for Gwent twice in the last week as well, once in my constituency and once here. The conversations we have are very positive conversations about how we can ensure that the work of the police is integrated into the work of other services, delivering in exactly the way that the Member for Newport West suggests. I would very much like to pay tribute to the work of Gwent Police—the inventiveness, the creativity—but also an approach that embeds the concept of the active citizenship that we were discussing before, and a sense of citizenship and a sense of people in our communities able to take action themselves to improve and to benefit people who live within those communities. It's exactly the sort of initiative that we want to support and sustain into the future.

Yn hollol. Lywydd, mae'r prosiect yng Nghasnewydd yn un gwych, a chredaf ei fod yn dyst i greadigrwydd yr heddlu, gan weithio gyda sefydliadau gwahanol yn y ddinas i ddarparu yn union y math hwnnw o broses. Rwy'n talu teyrnged i Heddlu Gwent yn y ffordd y maent wedi gweithio i gyflawni hyn. Yn ogystal â chyfarfod â chomisiynydd de Cymru, cyfarfûm â chomisiynydd Gwent ddwywaith yr wythnos diwethaf hefyd, unwaith yn fy etholaeth ac unwaith yma. Mae'r sgyrsiau a gawn yn rhai cadarnhaol iawn ynglŷn â sut y gallwn sicrhau y caiff gwaith yr heddlu ei integreiddio yng ngwaith gwasanaethau eraill, gan gyflawni yn union fel y mae'r Aelod dros Orllewin Casnewydd yn ei awgrymu. Hoffwn yn fawr dalu teyrnged i waith Heddlu Gwent—y dyfeisgarwch, y creadigrwydd—ond hefyd o ran y dull sy'n ymwreiddio'r cysyniad o ddinasyddiaeth weithredol yr oeddem yn ei drafod yn flaenorol, ac ymdeimlad o ddinasyddiaeth ac ymdeimlad o bobl yn ein cymunedau yn gallu mynd ati eu hunain i wella ac i fod o fudd i bobl sy'n byw yn y cymunedau hynny. Dyma'n union y math o fenter yr ydym am ei chefnogi a'i chynnal yn y dyfodol.

Tybed a fedrwch chi roi ystadegau inni am yr hyn sydd yn digwydd o ran stopio a chwilio pobl ifanc yma yng Nghymru hyd yn hyn. Mae ymchwil rydw i wedi’i ddarllen yn dangos bod pobl ifanc yn dueddol o eisiau mynd ati i dorri’r gyfraith neu gymryd rhan mewn gweithred droseddol oherwydd y ffaith eu bod nhw wedi cael triniaeth wael gyda’r heddlu o ran stopio a chwilio. A hefyd, mae yna sectorau gwahanol o gymdeithas yn fwy tueddol o gael eu stopio—dynion Asiaidd neu ddu, er enghraifft—ac mae hwn yn gwneud iddyn nhw deimlo fel nad ydynt yn rhan o’r gymdeithas oherwydd yr agwedd negyddol wedyn maen nhw’n ei datblygu tuag at yr heddlu. Sut ydych chi’n gallu ennyn cymdeithas lle mae'r heddlu a phobl ifanc yn teimlo fel eu bod nhw ar yr un lefel, a bod yna feithrin rhywbeth positif rhyngddynt, yn lle bod yna deimlad bod yr heddlu yn eu herbyn nhw mewn nifer o agweddau ar gymdeithas?

I wonder whether you could give us some statistics as to what is happening in terms of stop and search of young people here in Wales. The research I’ve seen shows that young people tend to want to break the law or participate in criminal activity because they have been treated poorly by the police because of stop and search. There are also various sectors of society that are more likely to be stopped—Asian or black men, for example—and that makes them feel that they are not part of society, because of the negative attitude that they develop towards the police. So, how can you engender a society where the police and young people feel that they are on the same level, and that you nurture a positive relationship between them, rather than this feeling that the police are constantly against them in many aspects?

Rydw i’n cyd-weld â dadansoddiad yr Aelod dros Orllewin De Cymru, ond a gaf fi ddweud hyn? Yn gyntaf, nid yw'r heddlu wedi’i ddatganoli, felly mae ein gallu i ddylanwadu ar y pethau yma yn gallu cael ei amharu arno fe, ambell waith, ond rydw i'n gweld bod yr heddlu yn gweithio’n galed iawn i estyn mas i rannau gwahanol o’r gymdeithas. Mae yna enghreifftiau arbennig o dda yn Heddlu Gwent o'r gallu i wneud hynny. Hefyd, rydw i wedi gweld newidiadau mawr yn y ffordd mae heddlu’r de yn delio gyda'r pethau yma hefyd. Felly, mae gen i hyder bod gennym ni'r arweinyddiaeth yn ei lle yn yr heddlu i allu cyrraedd y nod y buasech chi a minnau'n ei rannu. Ond, y pwynt sylfaenol yw hyn: nes bod yr heddlu'n rhan o'r gwasanaeth cyhoeddus Cymreig, wedi'i ddatganoli i'r lle yma, mae'n mynd i fod yn anodd iawn i ni ddatblygu'r math o bolisïau holistig sydd eu hangen arnom ni.

I concur with the analysis of the Member for South Wales West, but may I say this? Firstly, policing is not devolved, and so our ability to influence this issue could be impaired on occasion, but I do see that the police are working very hard to reach out to various sectors of society. There are some exceptionally good examples in Gwent Police of that, and I’ve seen great changes in the way in which South Wales Police deal with these issues too. So, I am confident that we have the leadership in place in the police forces to create the ideal that you and I would share. But the point is this: until the police are part of Welsh public service and are devolved, it would be very difficult for us to develop the kind of holistic policies that we need.

15:10

Diolch, Llywydd. In wanting to devolve policing to Wales, does the Cabinet Secretary nonetheless support the continuation of the elected police and crime commissioner model? He rightly here commends Gwent Police and Jeff Cuthbert for this particular scheme, but does he recognise that the elected and accountable nature of that role is crucial for that public engagement?

Diolch, Lywydd. O fod eisiau datganoli plismona i Gymru, a yw Ysgrifennydd y Cabinet serch hynny'n cefnogi parhad y model comisiynydd heddlu a throseddu etholedig? Mae'n iawn i gymeradwyo Heddlu Gwent a Jeff Cuthbert am y cynllun penodol hwn, ond a yw'n cydnabod bod natur atebol ac etholedig y rôl honno'n hanfodol ar gyfer yr ymgysylltiad cyhoeddus hwn?

I see that the role has delivered accountability. I do see that and I think that is important, but we've just been discussing the future of local government as well, and I regret very much the loss of a direct input from local government into policing in Wales. All too often, we talk about the devolution of powers to this place. We're in different places here; I've spent the whole of my adult life campaigning for devolution and the devolution of powers to Wales. But what I don't want to do is to sit here and be responsible for building a unitary state in Wales either. What I want to be able to do is to deliver devolution within Wales, and that means looking creatively at how we can involve local government in exactly some of the decisions that the Member for South Wales East might be referring to. Certainly, in my constituency experience, I know that the police rely very heavily on the work of local councillors and the ability of local councillors to actually deliver some strong messages to the police. So, I hope that when policing is devolved to Wales, we'll be able to have a very good and rich conversation about how we ensure accountability, and I am clear in my own mind that whatever function or structure we deliver, the accountability cannot start and end in this place; it has to be accountability locally as well as accountability nationally.

Gwelaf fod y rôl wedi darparu atebolrwydd. Gwelaf hynny a chredaf fod hynny'n bwysig, ond rydym newydd fod yn trafod dyfodol llywodraeth leol yn ogystal, a gresynaf yn fawr iawn at y mewnbwn uniongyrchol a gollir gan lywodraeth leol i blismona yng Nghymru. Yn rhy aml, rydym yn sôn am ddatganoli pwerau i'r lle hwn. Rydym mewn gwahanol leoedd yma; rwyf wedi treulio fy oes gyfan fel oedolyn yn ymgyrchu dros ddatganoli a datganoli pwerau i Gymru. Ond nid wyf am eistedd yma yn bod yn gyfrifol am adeiladu gwladwriaeth unedol yng Nghymru ychwaith. Yr hyn yr hoffwn allu ei wneud yw sicrhau datganoli o fewn Cymru, ac mae hynny'n golygu edrych yn greadigol ar sut y gallwn gynnwys llywodraeth leol yn rhai o'r union benderfyniadau y gallai'r Aelod dros Ddwyrain De Cymru fod yn cyfeirio atynt. Yn sicr, ym mhrofiad fy etholaeth i, gwn fod yr heddlu'n dibynnu'n helaeth iawn ar waith cynghorwyr lleol ac ar allu cynghorwyr lleol i drosglwyddo negeseuon cryf i'r heddlu. Felly, pan ddatganolir plismona i Gymru, rwy'n gobeithio y byddwn yn gallu cael sgwrs gyfoethog a da ynglŷn â sut y gallwn sicrhau atebolrwydd, ac rwy'n glir yn fy meddwl fy hun, pa swyddogaeth bynnag neu ba strwythur bynnag a ddarparwn, ni all yr atebolrwydd gychwyn a gorffen yn y lle hwn; mae'n rhaid iddo fod yn atebolrwydd yn lleol yn ogystal ag atebolrwydd yn genedlaethol.

Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet. 

Thank you, Cabinet Secretary. 

3. Cwestiynau Amserol
3. Topical Questions

Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau amserol. Rydw i wedi cytuno i gwestiwn amserol eto i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, ac mae'r cwestiwn i'w holi gan Mick Antoniw.

The next item, then, is the topical questions. I have accepted a topical question again to the Cabinet Secretary for Local Government and Public Services, and the question is to be asked by Mick Antoniw.

Plismona yn ystod Streic y Glowyr
Policing during the Miners' Strike

1. Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o'r goblygiadau i gyn-lowyr a'u teuluoedd a chymunedau yng Nghymru sy'n deillio o benderfyniad Llywodraeth yr Alban i gynnal ymchwiliad annibynnol ar effaith plismona yn ystod streic y glowyr? 183

1. What assessment has the Cabinet Secretary made of the implications for former Welsh miners and their families and communities in Wales of the Scottish Government's decision to hold an independent inquiry on the impact of policing during the miners’ strike? 183

Member
Alun Davies AM 15:12:54
Cabinet Secretary for Local Government and Public Services

The Welsh Government has repeatedly pressed the Home Secretary to undertake a review into policing in Welsh communities during the miners' strike. Those requests have been refused. I'm looking carefully into the Scottish inquiry. I will be speaking to my counterpart in the Scottish Government this week and writing, once again, to the Home Secretary.

Dro ar ôl tro, mae Llywodraeth Cymru wedi pwyso ar yr Ysgrifennydd Cartref i gynnal adolygiad o blismona yng nghymunedau Cymru yn ystod streic y glowyr. Gwrthodwyd y ceisiadau hynny. Rwy'n edrych yn ofalus ar ymchwiliad yr Alban. Byddaf yn siarad â fy aelod cyfatebol o Lywodraeth yr Alban yr wythnos hon ac yn ysgrifennu, unwaith eto, at yr Ysgrifennydd Cartref.

Thank you for that, Cabinet Secretary. The events at Orgreave in June 1984 during the miners' strike represented one of the most serious abuses of state power in recent times. Events during the miners' strike were, in my view, the closest this country has ever come to becoming a police state. Police officers were ordered to use maximum force against the miners, many of whom were from Wales, and many Welsh miners were violently assaulted, beaten and left bloodied. They were then charged with concocted common-law charges of riot and unlawful assembly, which, had they been proved, would've led to long prison sentences for many of the miners. The evidence was fabricated and manipulated in an attempt to secure convictions, and despite all this, Cabinet Secretary, all the cases failed. Every miner was acquitted, the state attempt to pervert the course of justice failed, the South Yorkshire Police were forced to pay £0.5 million in compensation and legal costs for malicious prosecution and false arrest, yet no-one has ever been held to account.

The UK Government has persistently refused to hold an inquiry. New evidence has emerged and the Independent Police Complaints Commission found that there is a reasonable basis for an inquiry to be held. The importance of this issue is that, had Orgreave been investigated, subsequent events at Hillsborough and Rotherham may well have turned out differently. Scotland is holding its own inquiry, but in Wales, policing is unfortunately not yet devolved, yet the call for the inquiry has been supported by all four police and crime commissioners.

The legacy of the miners' strike remains in Wales. Memories of Margaret Thatcher's victimisation of the miners and their communities is not forgotten—that is written into our memories and into our history. However, the legacy of the injustice of Orgreave, the abuse of state power and the undermining of the rule of law linger and continue to undermine confidence in our judicial system and, indeed, in justice itself in Wales and elsewhere. It is time for the UK Government to disclose all the files, to hold a public inquiry and to find out once and for all what happened, who gave the orders, who were the main conspirators and how the rule of law could be so undermined in a country whose constitution purports to be based on the supremacy of the rule of law. Cabinet Secretary, what I ask the Welsh Government to do is to do all it can to co-operate with and support the Scottish Government inquiry, and, again, to call upon the Home Secretary to commit to a public inquiry into the events at Orgreave. 

Diolch ichi am hynny, Ysgrifennydd y Cabinet. Roedd y digwyddiadau yn Orgreave ym mis Mehefin 1984 yn ystod streic y glowyr yn un o'r achosion mwyaf difrifol o gamddefnyddio grym y wladwriaeth yn y cyfnod diweddar. Roedd digwyddiadau yn ystod streic y glowyr, yn fy marn i, yr agosaf y daeth y wlad hon at fod yn wladwriaeth heddlu. Gorchmynnwyd swyddogion yr heddlu i ddefnyddio cymaint o rym â phosibl yn erbyn y glowyr, a llawer ohonynt yn dod o Gymru, ac ymosodwyd yn dreisgar ar nifer o lowyr Cymru, gan eu curo nes eu bod yn waed drostynt. Wedyn, cawsant eu cyhuddo â chyhuddiadau cyfraith gyffredin ffugiedig o derfysg a chynulliad anghyfreithlon, a fyddai, pe baent wedi'u profi, wedi arwain at garchariad hir i lawer o'r glowyr. Cafodd y dystiolaeth ei ffugio a'i cham-drafod mewn ymgais i sicrhau euogfarnau, ac er gwaethaf hyn oll, Ysgrifennydd y Cabinet, methu a wnaeth yr holl achosion. Dyfarnwyd bob un o'r glowyr yn ddieuog, methodd ymgais y wladwriaeth i geisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder, gorfodwyd Heddlu De Swydd Efrog i dalu £0.5 miliwn mewn iawndal a chostau cyfreithiol am erlyniadau maleisus a restiadau ar gam, ac eto ni chafodd neb erioed ei ddwyn i gyfrif.

Mae Llywodraeth y DU dro ar ôl tro wedi gwrthod cynnal ymchwiliad. Mae tystiolaeth newydd wedi dod i'r amlwg a chanfu Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu fod yna sail resymol dros gynnal ymchwiliad. Mae'r mater hwn yn bwysig yn yr ystyr y gallai digwyddiadau eraill dilynol yn Hillsborough a Rotherham yn hawdd fod wedi datblygu mewn ffordd wahanol pe bai ymchwiliad wedi'i gynnal i Orgreave. Mae'r Alban yn cynnal ei hymchwiliad ei hun, ond yng Nghymru, yn anffodus, nid yw plismona wedi'i ddatganoli eto, ac eto cafodd yr alwad am ymchwiliad ei chefnogi gan bob un o'r pedwar comisiynydd heddlu a throseddu.

Mae'r cof am streic y glowyr yn parhau yng Nghymru. Nid anghofir am y modd y gwnaeth Margaret Thatcher erlid y glowyr a'u cymunedau—mae hynny wedi'i ysgrifennu ar lechen ein cof ac yn rhan o'n hanes. Fodd bynnag, mae effaith anghyfiawnder Orgreave, cam-drin pŵer y wladwriaeth a thanseilio rheol y gyfraith yn aros ac yn parhau i danseilio hyder yn ein system farnwrol ac yn wir, mewn cyfiawnder yng Nghymru ac mewn mannau eraill. Mae'n bryd i Lywodraeth y DU ddatgelu'r holl ffeiliau, cynnal ymchwiliad cyhoeddus a darganfod unwaith ac am byth beth a ddigwyddodd, pwy a roddodd y gorchmynion, pwy oedd y prif gynllwynwyr a sut y gellid tanseilio rheol y gyfraith i'r fath raddau mewn gwlad y mae ei chyfansoddiad yn honni bod yn seiliedig ar oruchafiaeth rheol y gyfraith. Ysgrifennydd y Cabinet, gofynnaf i Lywodraeth Cymru wneud popeth yn ei gallu i gydweithredu ag ymchwiliad Llywodraeth yr Alban a'i gefnogi, a galw unwaith eto ar yr Ysgrifennydd Cartref i ymrwymo i ymchwiliad cyhoeddus i'r digwyddiadau yn Orgreave.

15:15

Presiding Officer, as the Member has pointed out in his question, policing is not devolved to Welsh Government and, consequently, we've not carried out an assessment of the issues he raises, since this is a matter for the United Kingdom Government. Members will be aware that the First Minister wrote to the then Home Secretary, Amber Rudd, in July 2016 regarding the possibility of an inquiry into those events that were described. In October 2016, the Home Secretary decided, after considering all the views put forward, not to establish an inquiry. Can I say I very much regret that decision? All of us who were active in supporting the miners during that strike—there were many of us who were standing on those picket lines at the time, supporting friends, school friends, colleagues and communities in struggle—we stood with the colliers in those days and we stand with them today. I witnessed that violence, I witnessed it at first-hand. I saw what happened when those communities were facing almost warfare from their own Government. Those communities deserved better then, the people deserved better then and they deserve justice today. I'm absolutely clear in my own mind that the United Kingdom Government has to recognise its responsibilities in this matter. There were people I knew, that I was in school with, who suffered the consequences of those actions. They deserve fair play, they deserve justice.

Lywydd, fel y nododd yr Aelod yn ei gwestiwn, nid yw plismona wedi'i ddatganoli i Lywodraeth Cymru ac o ganlyniad, nid ydym wedi cynnal asesiad o'r materion a godir ganddo, gan fod hwn yn fater i Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol fod Prif Weinidog Cymru wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cartref ar y pryd, Amber Rudd, ym mis Gorffennaf 2016 ynglŷn â'r posibilrwydd o ymchwiliad i'r digwyddiadau a ddisgrifiwyd. Yn Hydref 2016, ar ôl ystyried yr holl safbwyntiau a gyflwynwyd, penderfynodd yr Ysgrifennydd Cartref beidio â sefydlu ymchwiliad. A gaf fi ddweud fy mod yn gresynu'n fawr at y penderfyniad hwnnw? Roedd pawb ohonom a oedd yn weithgar yn cefnogi'r glowyr yn ystod y streic honno—roedd llawer ohonom yn sefyll ar y llinellau piced ar y pryd, yn cefnogi ffrindiau, ffrindiau ysgol, cydweithwyr a chymunedau yn y frwydr—safasom gyda'r glowyr yn y dyddiau hynny ac rydym yn sefyll gyda hwy heddiw. Gwelais y trais hwnnw, gwelais ef â fy llygaid fy hun. Gwelais yr hyn a ddigwyddodd pan oedd y cymunedau hynny'n wynebu rhyfel bron gan eu Llywodraeth eu hunain. Roedd y cymunedau hynny'n haeddu gwell bryd hynny, roedd y bobl yn haeddu gwell bryd hynny ac maent yn haeddu cyfiawnder heddiw. Rwy'n gwbl glir yn fy meddwl fy hun fod yn rhaid i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gydnabod ei chyfrifoldebau yn y mater hwn. Dioddefodd pobl yr oeddwn yn eu hadnabod, pobl yr oeddwn yn yr ysgol gyda hwy, effeithiau'r gweithredoedd hynny. Maent yn haeddu chwarae teg, maent yn haeddu cyfiawnder.

Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet.

Thank you, Cabinet Secretary.

4. Datganiadau 90 Eiliad
4. 90-second Statements

Y datganiadau 90 eiliad yw'r eitem nesaf. Ann Jones.

The 90-second statements is the next item. Ann Jones.

Diolch, Llywydd. Tomorrow marks the first anniversary of the tragic fire at Grenfell Tower that claimed the lives of 72 people, which remains the largest number of deaths from a single fire in living history. Behind each of those 72 deaths, there are families that have been broken and devastated, the immediate community of Grenfell Tower has been torn apart, and neighbouring communities deal with the anxiety and the fears post Grenfell Tower. Emergency service workers, too, are not immune from dealing with the aftermath of what they witnessed that day.

Today, as we did 12 months ago, we are able to stand with that community of Grenfell Tower to remember those who died and to offer our solidarity and our support to those who are still greatly affected by that incident. As we move forward, we must be ever thankful for the response from across the UK, including from many from Wales—many, many ordinary people who sought to help in those immediate days after the fire—and of those who are still in that community, offering support and help, be it the emergency services, be it the public sector or third sector, communities or just ordinary people who feel moved to help and support Grenfell. The greatest tribute we can pay to those 72 people who lost their lives that day is to provide a legacy by striving to work to ensure we take whatever steps we can to avoid similar incidents occurring. It's the least we can do to honour their memory, and we will not forget them.

Diolch, Lywydd. Yfory, bydd hi'n flwyddyn ers y tân trychinebus yn Nhŵr Grenfell a hawliodd fywydau 72 o bobl, sef y nifer fwyaf o farwolaethau o un tân ers cyn cof. Y tu ôl i bob un o'r 72 o farwolaethau, mae teuluoedd wedi'u torri a'u distrywio, mae cymuned uniongyrchol Tŵr Grenfell wedi'i chwalu, ac mae cymunedau cyfagos yn ymdopi â'r pryder a'r ofnau yn sgil y digwyddiad. Hefyd, nid yw gweithwyr y gwasanaethau brys yn rhydd o orfod ymdopi ag effeithiau'r pethau a welsant y diwrnod hwnnw.

Heddiw, fel y gwnaethom 12 mis yn ôl, gallwn sefyll gyda chymuned Tŵr Grenfell i gofio'r rhai a fu farw ac i gynnig ein hundod a'n cefnogaeth i'r rheini yr effeithir cymaint arnynt o hyd gan y digwyddiad hwnnw. Wrth inni symud ymlaen, rhaid inni fod yn ddiolchgar bob amser am yr ymateb o bob rhan o'r DU, gan gynnwys nifer o Gymru—llawer iawn o bobl gyffredin a geisiodd helpu yn y dyddiau cyntaf wedi'r tân—a'r rhai sy'n dal i fod yn y gymuned honno yn cynnig cymorth ac yn helpu, boed yn wasanaethau brys, boed yn sector cyhoeddus neu'r trydydd sector, cymunedau neu bobl gyffredin a deimlodd angen i helpu a chefnogi Grenfell. Y deyrnged fwyaf y gallwn ei thalu i'r 72 o bobl a gollodd eu bywydau y diwrnod hwnnw yw darparu etifeddiaeth trwy ymdrechu i weithio i sicrhau ein bod yn gwneud beth bynnag a allwn i atal digwyddiadau tebyg rhag digwydd. Dyna'r lleiaf y gallwn ei wneud i anrhydeddu'r cof amdanynt, ac ni fyddwn yn eu hanghofio.

Llywydd, can I take this opportunity to praise the initiative of Joanne Cheek from the Beautiful Barry campaign? Joanne has led the way as an active citizen, encouraging Barry to become a plastic-free town. To help achieve this, Joanne wants to reduce the use of plastic water bottles, as she's found, as an ardent litter picker, that these make up most of the plastic she picks up. This has led Joanne to campaign for water fountains in Barry.

With imagination and flair, Joanne has drawn attention to historical sources as part of her campaign for water fountains in Barry. She has highlighted an article in the Barry Dock News from September 1906 entitled,

'Barry Sculptor’s generosity. Drinking fountain presented to the town. Splendid example to others.'

The article drew attention to the contribution of F. T. Mossford, a monumental sculptor, who presented the town in 1906 with a 'handsome granite drinking fountain'. Some of those can still be found, although they're not in use at present.

Can I welcome early responses, positive responses, from Barry Town Council and the Vale of Glamorgan Council to Joanne Cheek's imaginative and positive campaign, leading a team of volunteers to provide public drinking fountains across the town of Barry, leading the way in Wales with a clear example of citizen action taking forward this popular and important policy?

Lywydd, a gaf fi gymryd y cyfle hwn i ganmol menter Joanne Cheek o ymgyrch Beautiful Barry? Mae Joanne wedi arwain y ffordd fel dinesydd gweithredol, gan annog y Barri i ddod yn dref ddiblastig. Er mwyn helpu i gyflawni hyn, mae Joanne am leihau'r defnydd o boteli dŵr plastig, gan ei bod hi wedi canfod, fel codwr sbwriel brwd, mai dyma yw'r rhan fwyaf o'r plastig y mae'n ei godi. Mae hyn wedi arwain Joanne i gychwyn ymgyrch i gael ffynhonnau dŵr yn y Barri.

Gyda dychymyg a dawn, mae Joanne wedi tynnu sylw at ffynonellau hanesyddol fel rhan o'i hymgyrch dros gael ffynhonnau dŵr yn y Barri. Mae hi wedi tynnu sylw at erthygl yn Barry Dock News ym mis Medi 1906 o dan y pennawd,

'Barry Sculptor's generosity. Drinking fountain presented to the town. Splendid example to others.'

Roedd yr erthygl yn tynnu sylw at gyfraniad F. T. Mossford, cerflunydd meini coffa, a gyflwynodd ffynnon ddŵr ithfaen hardd i'r dref yn 1906. Mae modd dod o hyd i rai o'r rheini o hyd, er nad ydynt yn cael eu defnyddio ar hyn o bryd.

A gaf fi groesawu ymatebion cynnar, ymatebion cadarnhaol, Cyngor Tref y Barri a Chyngor Bro Morgannwg i ymgyrch gadarnhaol a llawn dychymyg Joanne Cheek, drwy arwain tîm o wirfoddolwyr i ddarparu ffynhonnau dŵr yfed cyhoeddus ar draws tref y Barri, gan arwain y ffordd yng Nghymru gydag enghraifft glir o weithredu gan ddinasyddion i ddatblygu'r polisi poblogaidd a phwysig hwn?

15:20
Cynnig i ethol Aelodau i Gomisiwn y Cynulliad
Motion to elect Members to the Assembly Commission

Yr eitem nesaf yw'r cynnig i ethol Aelod i Gomisiwn y Cynulliad, ac rydw i'n galw ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig. Gareth Bennett.

The next item is the motion to elect a Member to the Assembly Commission, and I call on a member of the Business Committee to move the motion. Gareth Bennett.

Cynnig NDM6744 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 7.9, yn penodi Neil Hamilton (Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig) fel aelod o Gomisiwn y Cynulliad yn lle Caroline Jones (Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig).

Motion NDM6744 Elin Jones

To propose that the National Assembly for Wales, in accordance with Standing Order 7.9, appoints Neil Hamilton (United Kingdom Independence Party) as a member of the Assembly Commission in place of Caroline Jones (United Kingdom Independence Party).

Cynigiwyd y cynnig.

Motion moved.

You're not speaking in the debate.

Nid ydych yn siarad yn y ddadl.

I'm calling you to speak now, if you want to speak.

Rwy'n galw arnoch i siarad yn awr, os ydych am siarad.

Thank you. Sorry. I object on the motion to call Neil Hamilton for the Commission. The role of a Commissioner goes to the core of this place—how it is run, how it plans for the future, and how it is perceived by the public. The Commission—and I quote from our website—

'has responsibility for the provision of property, staff and services to support the Assembly Members'.

One of the key words there is 'staff'. Staff are our main support. They make this place work, and, frankly, none of this would happen without them. We should value them in the way that they deserve. In fact, we should value each other in the same way.

There are many reasons why I would object to Neil Hamilton becoming a Commissioner. However, the reason I wish to put on record is that, on 16 May, Neil Hamilton abstained on the vote in support of the emerging dignity and respect policy. The main crux of his argument appeared to be that it should only apply part of the time. Becoming an Assembly Member is an honour, and it should be respected as such. It is not a part-time job. The Nolan principles and the code of conduct, which we all promised to abide by when we were sworn in, do not get shrugged off like a wet coat when they become too uncomfortable. I do not see how his position is compatible with the role of Assembly Commissioner. Thank you.

Diolch. Mae'n ddrwg gennyf. Rwy'n gwrthwynebu'r cynnig i alw Neil Hamilton ar gyfer y Comisiwn. Mae rôl y Comisiynydd yn mynd i galon y lle hwn—sut y caiff ei redeg, sut y mae'n cynllunio ar gyfer y dyfodol, a sut y caiff ei weld gan y cyhoedd. Mae'r Comisiwn—a dyfynnaf oddi ar ein gwefan—

'yn gyfrifol am ddarparu eiddo, staff a gwasanaethau i gefnogi Aelodau'r Cynulliad'.

Un o'r geiriau allweddol yno yw 'staff'. Y staff yw ein prif gymorth. Maent yn gwneud i'r lle hwn weithio, ac a dweud y gwir, ni fyddai dim o hyn yn digwydd hebddynt. Dylem eu gwerthfawrogi yn y ffordd y maent yn ei haeddu. Mewn gwirionedd, dylem werthfawrogi ein gilydd yn yr un modd.

Ceir llawer o resymau pam y buaswn yn gwrthwynebu i Neil Hamilton ddod yn Gomisiynydd. Fodd bynnag, y rheswm yr hoffwn ei gofnodi yw bod Neil Hamilton, ar 16 Mai, wedi ymatal ar y bleidlais i gefnogi'r polisi urddas a pharch sy'n cael ei ddatblygu. Roedd hi'n ymddangos mai prif hanfod ei ddadl oedd mai am ran o'r amser yn unig y dylai'r polisi fod yn gymwys. Mae dod yn Aelod o'r Cynulliad yn anrhydedd, a dylid parchu hynny fel y cyfryw. Nid swydd ran-amser yw hi. Ni ellir cael gwared ar egwyddorion Nolan a'r cod ymddygiad yr addawodd pob un ohonom gydymffurfio â hwy wrth dyngu llw fel tynnu côt wlyb pan fydd yn mynd yn rhy anghyfforddus. Nid wyf yn gweld sut y mae ei safbwynt yn gydnaws â rôl Comisiynydd y Cynulliad. Diolch.

Do you want to speak? Neil Hamilton.

A ydych chi am siarad? Neil Hamilton.

Thank you, Llywydd. I wasn't anticipating having to make this speech, as no notice had been given to me by Mandy Jones of her objection, but having said that, I will now take the opportunity to respond.

I made my arguments in the debate on the dignity and respect policy, and I made the point that all people in public life should be entitled to a private life and, in the context of that debate, referred in particular to Michelle Brown's case, where she found herself before the standards committee because of a conversation that she had on the telephone, which was secretly recorded and then was maliciously published by a former employee. I don't seek to defend the words that were complained of, but I did think, in the context of our dignity and respect policy, that there ought to be a test of reasonableness and a test of proportionality in the sanction applied if someone was found to be in breach of the rules. That said, that was the point of view that I put in the debate. The Assembly took a different view. And just as, over many, many years, I voted in the House of Commons and, indeed, in this Assembly on proposed laws of the land, if I was on the losing side, of course I accepted that I lost the argument, or at least lost the vote, and therefore I would faithfully uphold the rules that had been voted through, and that applies in this instance too. We disagree honourably amongst each other in a democratic Assembly, and we're entitled to take different views on the desirability of proposed courses of action. That doesn't mean that any of us condones the kind of conduct, behaviour or words that are reprehensible or opprobrious and are likely to cause egregious offence, and still less those that are racist or whatever.

All I will say is that if the Assembly approves this appointment this afternoon, I will perform the obligations of a Commissioner to the best of my ability, with the kind of professionalness, honesty and integrity that I think I have displayed in the two years that I have been here. I think there are enough Members who have worked with me in committees, as well as in Plenary sessions, to know that I have always done my best to uphold the principles upon which this place is based. My party, which opposed its creation in the first place, has accepted the result of the people, and the will of the people is all. I would take the same view of the will of the Assembly in respect of the rules that it adopts in respect of the conduct of its own Members. So, that, I think, is a brief statement of my position—that I will uphold the dignity and respect policy, as it has been approved by this Assembly.

Diolch ichi, Lywydd. Doeddwn i ddim yn rhagweld gorfod gwneud yr araith hon, gan na roddodd Mandy Jones unrhyw rybudd i mi ynglŷn â'i gwrthwynebiad, ond wedi dweud hynny, fe fanteisiaf ar y cyfle yn awr i ymateb.

Gwneuthum fy nadleuon yn y ddadl ar y polisi urddas a pharch, a gwneuthum y pwynt y dylai'r holl bobl mewn bywyd cyhoeddus gael hawl i fywyd preifat ac yng nghyd-destun y ddadl honno, cyfeiriais yn benodol at achos Michelle Brown, lle y cafodd ei dwyn gerbron y pwyllgor safonau yn sgil sgwrs a gafodd ar y ffôn, sgwrs a gafodd ei recordio'n gyfrinachol a'i chyhoeddi'n faleisus wedyn gan gyn-gyflogai. Nid wyf yn ceisio amddiffyn y geiriau y cwynwyd yn eu cylch, ond roeddwn o'r farn, yng nghyd-destun ein polisi urddas a pharch, y dylid cael prawf rhesymoldeb a phrawf cymesuredd yn y gosb a osodid pe canfyddid bod rhywun yn torri'r rheolau. Wedi dweud hynny, dyna'r safbwynt a gyflwynais yn y ddadl. Roedd gan y Cynulliad farn wahanol. Ac un union fel y pleidleisiais dros lawer iawn o flynyddoedd yn Nhŷ'r Cyffredin ac yn wir, yn y Cynulliad hwn ar ddeddfau arfaethedig y wlad, os oeddwn ar yr ochr a oedd yn colli, roeddwn yn derbyn fy mod wedi colli'r ddadl wrth gwrs, neu o leiaf wedi colli'r bleidlais, ac felly byddwn yn cydymffurfio'n ufudd â'r rheolau y pleidleisiwyd drostynt, ac mae hynny'n wir yn yr achos hwn hefyd. Rydym yn anghytuno'n anrhydeddus ymysg ein gilydd mewn Cynulliad democrataidd, ac mae gennym hawl i arddel safbwyntiau gwahanol ynglŷn â pha mor ddymunol yw camau gweithredu arfaethedig. Nid yw hynny'n golygu bod unrhyw un ohonom yn cymeradwyo math o ymddygiad neu eiriau ceryddadwy neu sarhaus ac sy'n debygol o achosi tramgwydd enbyd, nac ymddygiad neu eiriau hiliol neu beth bynnag yn enwedig.

Yr oll a ddywedaf yw os yw'r Cynulliad yn cymeradwyo'r penodiad hwn y prynhawn yma, byddaf yn cyflawni rhwymedigaethau Comisiynydd hyd eithaf fy ngallu, gyda'r math o broffesiynoldeb, gonestrwydd ac uniondeb y credaf fy mod wedi ei arddangos yn y ddwy flynedd y bûm yma. Credaf fod digon o Aelodau wedi gweithio gyda mi mewn pwyllgorau, yn ogystal ag yn y Cyfarfod Llawn, i wybod fy mod bob amser wedi gwneud fy ngorau i gynnal yr egwyddorion y seiliwyd y lle hwn arnynt. Mae fy mhlaid, a wrthwynebai ei greu yn y lle cyntaf, wedi derbyn canlyniad y bobl, ac mae ewyllys y bobl yn bwysicach na dim. Buaswn yn mabwysiadu'r un safbwynt ynghylch ewyllys y Cynulliad mewn perthynas â'r rheolau y mae'n eu mabwysiadu ar gyfer ymddygiad ei Aelodau ei hun. Felly, dyna ddatganiad byr o fy safbwynt—y byddaf yn cydymffurfio â'r polisi urddas a pharch, fel y'i cymeradwywyd gan y Cynulliad hwn.

15:25

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais, felly, ar y cynnig yma tan y cyfnod pleidleisio.

The proposal is to agree the motion. Does any Member object? [Objection.] I will defer voting on this motion until voting time.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Voting deferred until voting time.

5. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: 'Bywyd ar y strydoedd: atal a mynd i’r afael â chysgu ar y stryd yng Nghymru'
5. Debate on the Equality, Local Government and Communities Committee report: 'Life on the streets: preventing and tackling rough sleeping in Wales'

Yr eitem nesaf yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: 'Bywyd ar y strydoedd: atal a mynd i’r afael â chysgu ar y stryd yng Nghymru'. Rydw i'n galw ar Gadeirydd y Pwyllgor i wneud y cynnig—John Griffiths.

The next item is the debate on the Equality, Local Government and Communities Committee report: 'Life on the streets: preventing and tackling rough sleeping in Wales'. I call on the committee Chair to move the motion—John Griffiths. 

Cynnig NDM6736 John Griffiths

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau 'Bywyd ar y strydoedd: atal a mynd i’r afael â chysgu ar y stryd yng Nghymru', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Ebrill 2018.

Motion NDM6736 John Griffiths

To propose that the National Assembly for Wales:

Notes the report of the Equality, Local Government and Communities Committee, 'Life on the streets: preventing and tackling rough sleeping in Wales', which was laid in the Table Office on 20 April 2018.

Cynigiwyd y cynnig.

Motion moved.

Diolch, Llywydd. I am pleased to open today’s debate on the Equality, Local Government and Communities Committee report on rough-sleeping. I’d like to thank those who provided evidence to our inquiry, including the staff and volunteers we met at projects in Newport and Cardiff. We were struck by their dedication, compassion and positivity. They told us they never give up on those who need support. It is this perseverance, this stickability, that is crucial. 

Diolch, Lywydd. Rwy'n falch o agor y ddadl heddiw ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar gysgu ar y stryd. Hoffwn ddiolch i'r rhai a roddodd dystiolaeth i'n hymchwiliad, gan gynnwys y staff a'r gwirfoddolwyr y cyfarfuom â hwy mewn prosiectau yng Nghasnewydd a Chaerdydd. Cawsom ein taro gan eu hymroddiad, eu tosturi a'u hymagwedd gadarnhaol. Dywedasant wrthym nad ydynt byth yn rhoi'r gorau i helpu'r rhai sydd angen cymorth. Mae'r dyfalbarhad hwn, y parodrwydd hwn i ddygnu arni, yn hollbwysig.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

The Deputy Presiding Officer (Ann Jones) took the Chair.

I’d also like to thank those who shared their first-hand experiences and moving accounts of how they ended up sleeping rough. Many included a catalogue of events that even the most resilient amongst us would struggle to endure. Thankfully, they have been supported off the street and are making plans for the future, and we wish them well.

Dirprwy Lywydd, the heavy snowfall, biting wind and freezing temperatures of last winter brought the life-threatening perils of sleeping out into sharp focus, but our concern must not be dependent on the season. It is time to meet the challenge of preventing and tackling rough-sleeping in Wales. We hope that our report will provide a clear steer on the way forward.

I am pleased that the Welsh Government has responded positively and has accepted, or accepted in principle, 23 out of our 29 recommendations. We would like a clear indication of timescales for their implementation. Some of these seek to build on and strengthen the Government’s action plan and its guidance on housing first, both of which were published when our inquiry was already under way. The report covers a range of areas, but today I will focus on our key recommendations.

Priority need continues to be the subject of much debate. It is difficult to identify a group of people who have greater need of housing than those who are actually living on the streets. Yet, current categories and the way in which they are being applied means that many are simply not receiving the support they so desperately need. This needs to change.

We recommend a phased approached to abolishing priority need. The first step should be to add rough-sleepers as a new category under the Housing (Wales) Act 2014. In responding, the Government has told us it is planning to commission independent research to inform any future changes. We would like a clear indication from the Minister of the timeline for this work.

In the event that the Minister would not commit to abolition, we made a series of further proposals aimed at improving statutory protection. We recommended that the Government amends the meaning of 'vulnerable' within the housing Act, and that it reinstates automatic priority need for prison leavers. The Government has rejected both on the basis that it should first await the outcomes of its independent research. But providing a clearer meaning for 'vulnerability' to ensure consistency in decisions across authorities, which we heard is lacking, is not about changing the current approach. We do not believe that strengthening the code of guidance and providing best practice will be enough to achieve this. We received evidence that the removal of automatic status for prison leavers has had a detrimental impact. There is a link between rough-sleeping and reoffending, with all the personal and societal costs that involves. We are therefore disappointed with the Government's position. 

Hoffwn ddiolch hefyd i'r rhai a rannodd eu profiadau uniongyrchol a'u hanesion trawiadol ynglŷn â sut y daethant i fod yn cysgu ar y stryd. Roedd llawer yn cynnwys rhestr o ddigwyddiadau y byddai hyd yn oed y mwyaf gwydn yn ein plith yn ei chael hi'n anodd eu goddef. Diolch byth, cawsant eu cynorthwyo i ddod oddi ar y stryd ac maent yn gwneud cynlluniau ar gyfer y dyfodol, a dymunwn yn dda iddynt.

Ddirprwy Lywydd, rhoddodd eira trwm, gwynt rhynllyd a thymereddau rhewllyd y gaeaf diwethaf ffocws clir ar y peryglon sy'n bygwth bywyd o gysgu yn yr awyr agored, ond ni ddylai ein pryder ddibynnu ar y tymor. Mae'n bryd ateb yr her o atal a mynd i'r afael â chysgu ar y stryd yng Nghymru. Rydym yn gobeithio y bydd ein hadroddiad yn darparu arweiniad clir ar gyfer y ffordd ymlaen.

Rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi ymateb yn gadarnhaol ac wedi derbyn, neu dderbyn mewn egwyddor, 23 allan o 29 o'n hargymhellion. Hoffem arwydd clir o amserlenni ar gyfer eu gweithredu. Mae rhai o'r rhain yn ceisio adeiladu ar a chryfhau cynllun gweithredu'r Llywodraeth a'i chanllawiau ar dai yn gyntaf, a chyhoeddwyd y ddau pan oedd ein hymchwiliad eisoes wedi cychwyn. Mae'r adroddiad yn cwmpasu ystod o feysydd, ond heddiw byddaf yn canolbwyntio ar ein prif argymhellion.

Mae angen blaenoriaethol yn parhau i fod yn destun llawer o drafodaeth. Mae'n anodd nodi grŵp o bobl sydd â mwy o angen tai na'r rhai sy'n byw ar y strydoedd. Eto, mae'r categorïau presennol a'r ffordd y cânt eu cymhwyso yn golygu nad yw llawer o bobl yn cael y cymorth y maent ei angen mor daer. Mae angen newid hyn.

Rydym yn argymell dull graddol o fynd ati i ddiddymu angen blaenoriaethol. Dylai'r cam cyntaf gynnwys ychwanegu pobl sy'n cysgu ar y stryd fel categori newydd o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014. Yn ei hymateb, dywedodd y Llywodraeth wrthym ei bod yn cynllunio i gomisiynu gwaith ymchwil annibynnol i lywio unrhyw newidiadau yn y dyfodol. Hoffwn gael syniad clir gan y Gweinidog ynglŷn â'r llinell amser ar gyfer y gwaith hwn.

Os na fyddai'r Gweinidog yn ymrwymo i'w ddiddymu, gwnaethom gyfres o gynigion pellach gyda'r nod o wella diogelwch statudol. Argymhellwyd y dylai'r Llywodraeth ddiwygio ystyr 'agored i niwed' o fewn y Ddeddf Tai, a chadarnhau angen blaenoriaethol awtomatig ar gyfer pobl sy'n gadael carchar. Mae'r Llywodraeth wedi gwrthod y ddau ar y sail y dylai aros am ganlyniadau ei ymchwil annibynnol yn gyntaf. Ond nid yw darparu ystyr cliriach i 'agored i niwed' i sicrhau cysondeb wrth wneud penderfyniadau ar draws awdurdodau, y clywsom ei fod yn brin, yn ymwneud â newid y dull cyfredol o weithredu. Nid ydym yn credu bod cryfhau'r cod arweiniad a darparu ymarfer gorau yn ddigon i gyflawni hyn. Cawsom dystiolaeth fod dileu'r statws awtomatig ar gyfer pobl sy'n gadael carchar wedi cael effaith andwyol. Ceir cysylltiad rhwng cysgu ar y stryd ac aildroseddu, gyda'r holl gostau personol a chymdeithasol sydd ynghlwm wrth hynny. Felly rydym yn siomedig ynglŷn â safbwynt y Llywodraeth.

One of the key areas we considered as part of our inquiry was the causes of rough-sleeping. These are wide-ranging and include a combination of structural and personal factors. We focused on the two main structural causes: welfare reform and a lack of affordable housing. Changes to benefit entitlements, the increase in sanctions and the introduction of universal credit are having a profound effect on some of the most vulnerable people in our communities, substantially removing the safety net available to those at risk of rough-sleeping. Worryingly, the full effect is yet to be felt in Wales.

We heard that providing greater flexibility over payments could reduce the risk of eviction resulting from rent arrears, and called for the Welsh Government to seek the necessary power. This was rejected on the basis that such flexibility already exists, yet organisations directly involved in the delivery of homelessness services appear not to know of these payment options. So, today, I ask: will the Minister commit to raise awareness with the housing and homelessness sector, and with third sector financial advice services, as a matter of priority?

As well as the lack of affordable housing, we also heard that mental and physical health issues, as well as substance misuse, are common among rough-sleepers. Many have multiple and complex support needs that will not be addressed purely by helping them find accommodation, important though that is. So, joint working between the housing and health sectors is vital. There is a real risk that without it, the move to a housing first model will fail to deliver the results that have been seen elsewhere.

The Welsh Government has accepted our recommendation 17, calling for responsibility for the implementation of its action plan to be shared jointly between the Minister for Housing and Regeneration and the Cabinet Secretary for Health and Social Services. However, it also states that the Minister is leading on implementation, but will work with the Cabinet Secretary. This would appear to fall short of what we believe is necessary, and we would seek clarification today.

Dirprwy Lywydd, there are high hopes across the homelessness sector that widespread adoption of the housing first model will bring about valuable change. However, academics expressed strong reservations about using the congregate model, which is included as an option in the Government’s guidance. We seek further assurance from the Minister on this point, and, in particular, concern about any use of converted hostels. 

Finally, Dirprwy Lywydd, the future of the Supporting People programme grant featured heavily in the evidence we received from those involved in the delivery of services to the homeless community. They remain deeply concerned about the proposed merger of the grant and the impact on rough-sleeping. With the next budget round a matter of months away, we reiterate the need for the Government to set a timeline for publishing the findings of the flexible funding pathfinders and to provide a firm indication of when a final decision will be made. Can the Minister clarify that the findings of the pathfinders will be available ahead of the next budget round?

Dirprwy Lywydd, we do not want to repeat our calls for more decisive action following the publication of the 2019 rough-sleeper count. But let me be clear: this is not about numbers, statistics or trends. It is about improving the lives of the hundreds of people who sleep rough in our communities. It is about the immeasurable human cost of rough-sleeping. It is ensuring that people who find themselves living on the streets are given the support they deserve, the home that they need, and the chance to live, not merely to exist.

Un o'r meysydd allweddol a ystyriwyd gennym fel rhan o'n hymchwiliad oedd achosion cysgu ar y stryd. Mae'r rhain yn eang ac yn cynnwys cyfuniad o ffactorau personol a strwythurol. Rydym wedi canolbwyntio ar ddau brif achos strwythurol: diwygio lles a diffyg tai fforddiadwy. Mae newidiadau i hawliau i fudd-daliadau, y cynnydd yn y cosbau a chyflwyno credyd cynhwysol yn cael effaith ddifrifol ar rai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau, gan gael gwared i raddau helaeth ar y rhwyd ddiogelwch sydd ar gael i'r rhai sydd mewn perygl o ddechau cysgu ar y stryd. Mae'n destun pryder fod yr effaith lawn eto i'w theimlo yng Nghymru.

Clywsom y gallai darparu mwy o hyblygrwydd gyda thaliadau leihau'r perygl o droi allan sy'n deillio o ôl-ddyledion rhent, a galwasom ar Lywodraeth Cymru i ofyn am y pŵer angenrheidiol. Gwrthodwyd y cais ar y sail fod hyblygrwydd o'r fath eisoes yn bodoli, ac eto, nid yw'n ymddangos bod sefydliadau sy'n ymwneud yn uniongyrchol â darparu gwasanaethau i'r digartref yn gwybod am yr opsiynau talu hyn. Felly, heddiw, rwy'n gofyn: a wnaiff y Gweinidog ymrwymo i godi ymwybyddiaeth gyda'r sector tai a digartrefedd, a chyda gwasanaethau cyngor ariannol y trydydd sector, fel mater o flaenoriaeth?

Yn ogystal â phrinder tai fforddiadwy, clywsom hefyd fod problemau iechyd corfforol a meddyliol, yn ogystal â chamddefnyddio sylweddau, yn gyffredin ymhlith pobl sy'n cysgu ar y stryd. Mae gan lawer ohonynt anghenion cymorth lluosog a chymhleth na chânt eu datrys drwy eu helpu i ddod o hyd i lety yn unig, er mor bwysig yw hynny. Felly, mae cydweithio rhwng y sector tai a'r sector iechyd yn hanfodol. Heb hynny, mae yna berygl gwirioneddol y bydd symud i fodel tai yn gyntaf yn methu darparu'r canlyniadau a welwyd mewn mannau eraill.

Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn ein hargymhelliad 17, yn galw am rannu cyfrifoldeb dros weithredu ei chynllun gweithredu ar y cyd rhwng y Gweinidog Tai ac Adfywio ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Fodd bynnag, mae'n dweud hefyd fod y Gweinidog yn arwain ar weithredu, ond y bydd yn gweithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'n ymddangos y byddai hyn yn llai na'r hyn y credwn ei fod yn angenrheidiol, a hoffem eglurhad ar hynny heddiw.

Ddirprwy Lywydd, mae yna obeithion mawr ar draws y sector digartrefedd y bydd mabwysiadu'r model tai yn gyntaf yn eang yn sicrhau newid gwerthfawr. Fodd bynnag, mynegodd academyddion amheuon cryf ynglŷn â defnyddio'r model ymgynnull, sy'n cael ei gynnwys fel opsiwn yn arweiniad y Llywodraeth. Rydym yn ceisio sicrwydd pellach gan y Gweinidog ar y pwynt hwn, ac yn benodol, ar y pryder ynghylch unrhyw ddefnydd o hosteli wedi'u haddasu.

Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, roedd dyfodol grant y rhaglen Cefnogi Pobl yn cael sylw amlwg yn y dystiolaeth a gawsom gan y rhai sy'n ymwneud â'r gwaith o ddarparu gwasanaethau i'r gymuned ddigartref. Maent yn dal yn bryderus iawn ynghylch yr argymhelliad arfaethedig i uno'r grant a'r effaith ar gysgu ar y stryd. Gyda'r cylch cyllidebol nesaf ychydig fisoedd i ffwrdd, rydym yn ailadrodd yr angen i'r Llywodraeth osod amserlen ar gyfer cyhoeddi canfyddiadau'r cynlluniau braenaru ariannu hyblyg a rhoi syniad pendant o ba bryd y gwneir penderfyniad terfynol. A all y Gweinidog ei gwneud yn eglur y bydd canfyddiadau'r cynlluniau braenaru ar gael cyn y cylch cyllidebol nesaf?

Ddirprwy Lywydd, nid ydym eisiau ailadrodd ein galwadau am weithredu mwy pendant yn dilyn cyhoeddi'r cyfrif o bobl sy'n cysgu ar y stryd ar gyfer 2019. Ond gadewch i mi fod yn glir: nid ymwneud â niferoedd, ystadegau neu dueddiadau y mae hyn. Mae'n ymwneud â gwella bywydau cannoedd o bobl sy'n cysgu ar y stryd yn ein cymunedau. Mae'n ymwneud â chost ddynol anfesuradwy cysgu ar y stryd. Mae'n sicrhau bod pobl sy'n byw ar y strydoedd yn cael y cymorth y maent yn ei haeddu, y cartref sydd ei angen arnynt a'r cyfle i fyw, yn hytrach na dim ond bodoli.

15:35

I am pleased to be contributing to this debate, after an eye-opening inquiry into rough-sleeping by our committee. The estimate of 300 rough-sleepers across Wales is a worrying one, and I know that a number of towns and cities in particular have seen noticeable rises in their rough-sleeper population over the past few years, with studies showing increases of between 10 and 33 per cent over the past 12 months only.

Work undertaken in England, including bringing forward the Homelessness Reduction Act 2017 earlier this year, complements the UK Government's aim of halving rough-sleeping by 2022, and eliminating it altogether by 2027—targets that have been most clear. I would be grateful if the Cabinet Secretary might confirm today whether, further to the recently published two-year rough-sleeping action plan, the Welsh Government have in mind a specific target date for the elimination of rough-sleeping in Wales. Certainly, our inquiry highlighted the need for such ambition, and it was disappointing to note that the Welsh Government has rejected the committee's request for the quarterly report on the rough-sleeping action plan to be published on the Welsh Government's website. The Cabinet Secretary may be able to explain how elected members, third sector organisations and the public are able to fully scrutinise progress on this issue without such data.

I also appreciate the number of recommendations made in this report. A number of which in relation to priority need, though, I have to say, I do not support, as I do not feel that the current model of priority need, under the Housing (Wales) Act 2014, should change. I was involved in this Assembly prior to that, when a lot of evidence came forward to the late Cabinet Secretary, when this was coming about, and I actually believe that the fundamental reasons for that priority need status to be there are still there. The Welsh Government have noted the commencement of an independent assessment of priority need, and I do await with interest the findings of this assessment. Ultimately, of course, we would like to be in a position where we do not need to have the priority need classification, when we reach a situation where we are able to house everyone in need in an appropriate setting.

I note the intention of the Welsh Government to introduce a duty to provide an offer of suitable accommodation for all homeless people. Some responders noted financial concerns for local authorities in relation to suggestions for the abolishment of priority need. So, I would like to seek assurances that the designation of such a duty would be supplemented with the appropriate funding and support, for local authorities to be able to carry this out effectively. I know in my own constituency we have actually managed to re-home people who have been rough-sleeping, but, sadly, without a network of support to sustain them throughout, it hasn't always worked, and they've ended up back on the streets. So, I think we do need to look at this in its entirety.

Increasingly over the past few weeks, I have received approaches from people who are, or are in imminent danger of, becoming homeless. The local homelessness team undertake great work once they are contacted by someone, but it is that initial contact, and knowing where to go that people struggle with. There is certainly a way to go in tackling homelessness in Wales, improving accessibility to homeless teams within local authorities, and finding the appropriate financial resourcing for those local authorities.

I fully subscribe to supporting our homeless, our rough-sleepers, but I do solidly believe that it is down to the Welsh Government and our local authorities to work together in a very strong and robust partnership, and it does need to be on an ever-rolling forward programme of monitoring. Thank you.

Rwy'n falch o gael cyfrannu at y ddadl hon, ar ôl ymchwiliad sy'n agoriad llygad i gysgu ar y stryd gan ein pwyllgor. Mae'r amcangyfrif bod 300 o bobl yn cysgu ar y stryd ledled Cymru yn un sy'n peri pryder, a gwn fod nifer o drefi a dinasoedd yn enwedig wedi gweld cynnydd amlwg yn eu poblogaethau sy'n cysgu ar y stryd dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, gydag astudiaethau'n dangos cynnydd o rhwng 10 a 33 y cant dros y 12 mis diwethaf yn unig.

Mae'r gwaith a wnaed yn Lloegr, gan gynnwys cyflwyno Deddf Lleihau Digartrefedd 2017 yn gynharach eleni, yn ategu nod Llywodraeth y DU o haneru'r nifer sy'n cysgu ar y stryd erbyn 2022, a'i ddileu'n gyfan gwbl erbyn 2027—targedau sydd wedi bod yn hollol eglur. Buaswn yn ddiolchgar pe gallai Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau heddiw a oes gan Lywodraeth Cymru ddyddiad targed penodol mewn golwg, yn ogystal â'r cynllun gweithredu dwy flynedd ar gysgu ar y stryd a gyhoeddwyd yn ddiweddar, ar gyfer dileu cysgu ar y stryd yng Nghymru. Yn sicr, roedd ein hymchwiliad yn amlygu'r angen am uchelgais o'r fath, ac roedd yn siomedig nodi bod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod cais y pwyllgor am weld yr adroddiad chwarterol ar y cynllun gweithredu ar gysgu ar y stryd yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Efallai y gall Ysgrifennydd y Cabinet egluro sut y gall aelodau etholedig, sefydliadau'r trydydd sector a'r cyhoedd graffu'n llawn ar gynnydd yn y mater hwn heb ddata o'r fath.

Rwyf hefyd yn gwerthfawrogi nifer yr argymhellion a wnaed yn yr adroddiad hwn. Rhaid i mi ddweud, er hynny, nad wyf yn cefnogi nifer ohonynt mewn perthynas ag angen blaenoriaethol, gan nad wyf yn teimlo y dylid newid y model presennol o angen blaenoriaethol o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014. Roeddwn yn rhan o'r Cynulliad hwn cyn hynny, pan ddaeth llawer o dystiolaeth gerbron y diweddar Ysgrifennydd y Cabinet, pan oedd hyn ar y gweill, ac rwy'n credu bod y rhesymau sylfaenol dros y statws angen blaenoriaethol hwnnw yn dal yno. Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi cychwyn asesiad annibynnol o angen blaenoriaethol, ac rwy'n disgwyl yn eiddgar i weld canfyddiadau'r asesiad hwn. Yn y pen draw, wrth gwrs, hoffem fod mewn sefyllfa lle nad oes angen inni gael y dosbarthiad angen blaenoriaethol, wrth inni gyrraedd sefyllfa lle y gallwn roi cartref i bawb sydd mewn angen mewn man addas.

Nodaf fwriad Llywodraeth Cymru i gyflwyno dyletswydd i ddarparu cynnig o lety addas i bawb sy'n ddigartref. Nododd rhai ymatebwyr bryderon ariannol i awdurdodau lleol mewn perthynas ag awgrymiadau ar gyfer diddymu angen blaenoriaethol. Felly, hoffwn ofyn am sicrwydd y byddai dynodi dyletswydd o'r fath yn cael ei gefnogi gan gyllid a chefnogaeth briodol er mwyn i awdurdodau lleol allu cyflawni hyn yn effeithiol. Yn fy etholaeth i, gwn ein bod wedi llwyddo i ailgartrefu pobl sydd wedi bod yn cysgu ar y stryd, ond yn anffodus, heb rwydwaith o gymorth i'w cynnal drwy gydol y broses, nid yw bob amser wedi gweithio, ac maent yn ôl ar y strydoedd. Felly, credaf fod angen inni edrych ar hyn yn ei gyfanrwydd.

Fwyfwy dros yr ychydig wythnosau diwethaf, rwyf wedi clywed gan bobl sy'n ddigartref neu mewn perygl mawr o fynd yn ddigartref. Mae'r tîm digartrefedd lleol yn gwneud gwaith gwych pan fydd rhywun yn cysylltu â hwy, ond mae pobl yn cael trafferth gyda'r cysylltiad cychwynnol hwnnw, a gwybod ble i fynd. Yn sicr, mae yna gryn dipyn o ffordd i fynd cyn y gellir trechu digartrefedd yng Nghymru, gwella hygyrchedd timau digartrefedd o fewn awdurdodau lleol, a dod o hyd i adnoddau ariannol priodol ar gyfer yr awdurdodau lleol hynny.

Rwy'n cytuno'n llwyr fod angen cefnogi ein pobl ddigartref, y rhai sy'n cysgu ar y stryd, ond credaf yn gryf fod angen i Lywodraeth Cymru a'n hawdurdodau lleol weithio gyda'i gilydd mewn partneriaeth gref a chadarn, ac mae angen iddo fod yn rhan o raglen fonitro barhaol. Diolch.

Thank you for arranging this debate today, and I'd like to thank all the team supporting the committee as well, because I think this was a really important piece of work. And, to put on the record, I think what I found most valuable was talking to people at the various locations that we visited—homeless people who could give us their everyday life experience of living on the streets. There's nothing more valuable to me than hearing how people are struggling to survive, and how we as politicians can change that, if we have the will to do so. I think their eloquence in taking part in this particular inquiry was phenomenal, and I'd like to thank them wholeheartedly for that.

There were differing views on whether or not rough-sleepers were given priority need, as has been exemplified, with some councils stating they would classify those sleeping rough in priority need and other organisations, such as Shelter, stating that, in practice, this wasn't always the case. Related to this is obviously the Pereira test, which is problematic as the meaning of 'vulnerable' isn't being interpreted in the same way or applied consistently.

For the record as well, I was deeply disappointed to see that Janet Finch-Saunders did not support this recommendation. I personally would have believed that the Conservatives would have supported the concept that those living on the streets should be a priority to be given a roof over their heads. We tried to accommodate Members in the report, and I can quote paragraph 64, saying, 

'we believe that a phased approach to abolition provides the most pragmatic way forward. For example, by introducing new categories of priority need, such as rough sleepers'.

So, if she cares as much as she says she does, then I would have thought that a phased approach would have sufficed in that regard. We're not suggesting that it could be done overnight. We know that there would be financial implications, but I think that's as much as we would deserve to do for those people who are currently being defined as not a priority—mostly young men—when they should be just as important as other homeless people.

You would expect me to talk about recommendation 10—devolution of welfare administration—and I was pleased that we got cross-party support, to an extent, on this. We've been crystal clear on this: it's all well and good for politicians to criticise welfare changes as one of the root causes of poverty in society, but when there is no willingness to even attempt to gain control over some of those welfare powers, then it undermines the credibility of the argument entirely. Do we want to complain about welfare changes or do we want to influence and change them? Let's not have empty words about solidarity across the UK in terms of our welfare system either—Scotland and Northern Ireland already have powers over the administration of welfare. The desire to see a unified, UK-wide welfare system is an argument that has already passed. It's a semantic view that does nothing to help people in Wales, living on the streets or in any other difficulty. So, I hope that we can progress this argument and that we can look at this further as a committee. The committee seems to be working positively; I just wish the Welsh Government were listening to that voice as intently as we'd hoped they would.

In relation to housing first, I think it's really, really good that we've set our stall in saying how important housing first is. But, I've had a Twitter conversation this week with Peter Black, a former Assembly Member, who runs the homelessness working group on Swansea council, and he's been asking Abertawe Bro Morgannwg University Local Health Board for months to go in to speak to him to talk about housing first and how they can work together on this. And only because, I believe, we had this Twitter conversation, suddenly ABMU said they would come to the meeting to discuss housing first. It shouldn’t have to take two politicians having a live debate on social media for ABMU to suddenly realise that housing first is part of their problem, or not a problem, but part of the solution to homelessness here in Wales. I think that housing first is a wonderful concept, but we have to get buy-in, not only from the housing sector, but from health, social services and education, so that we can make housing first work. I would urge the Minister to make sure that if this is going to be the future of housing and homelessness prevention here in Wales, we have to be serious, therefore, in getting people around the table.

Just to finish quickly in relation to some of the comments. The Big Issue has noted in evidence that a large proportion of its vendors were European economic area citizens with no recourse to public funds, and this is something that, again, is not currently devolved, but the consequences of this policy and the hostile environment efforts from the UK Government are something that we all should be concerned about.

We need to be solving some of the current issues surrounding the preparedness of social and private rented sector landlords to offer places to homeless and rough-sleepers. Evidence in the report showed that many social landlords did not feel equipped to help rough-sleepers or those with some of the problems that often arise as a result of being on the streets. I could probably talk all day on this issue, but I won't—my time is up—but I think it's really important that we put forward these recommendations and that we make sure that homelessness can come to an end here in Wales, and I think that this committee report has gone a long way to putting this on the political map.

Diolch i chi am drefnu'r ddadl hon heddiw, a hoffwn ddiolch i bawb o'r tîm sy'n cefnogi'r pwyllgor yn ogystal, oherwydd credaf fod hwn yn waith pwysig iawn. A hoffwn gofnodi mai'r hyn a oedd fwyaf gwerthfawr yn fy marn i oedd siarad â phobl mewn amryw o leoliadau yr ymwelwyd â hwy—pobl ddigartref a allai roi eu profiad o fywyd bob dydd ar y strydoedd i ni. Nid oes unrhyw beth yn fwy gwerthfawr i mi na chlywed sut y mae pobl yn brwydro i oroesi, a sut y gallwn ni fel gwleidyddion newid hynny, os oes gennym ewyllys i wneud hynny. Credaf fod eu huodledd wrth gymryd rhan yn yr ymchwiliad hwn yn aruthrol, a hoffwn ddiolch o galon iddynt am hynny.

Cafwyd gwahanol safbwyntiau ynglŷn â rhoi angen blaenoriaethol i rai a gysgai ar y stryd ai peidio, fel y gwelwyd, gyda rhai cynghorau'n nodi y byddent yn categoreiddio'r rhai sy'n cysgu ar y stryd fel rhai ag angen blaenoriaethol a sefydliadau eraill, megis Shelter, yn dweud, yn ymarferol, nad oedd hyn bob amser yn wir. Roedd y prawf Pereira'n gysylltiedig â hyn wrth gwrs, prawf sy'n achosi problemau gan nad yw ystyr 'agored i niwed' yn cael ei ddehongli yn yr un ffordd neu'n cael ei gymhwyso'n gyson.

Hoffwn gofnodi hefyd fy mod yn siomedig i weld nad oedd Janet Finch-Saunders yn cefnogi'r argymhelliad hwn. Yn bersonol buaswn wedi credu y byddai'r Ceidwadwyr wedi cefnogi'r cysyniad y dylai'r rhai sy'n byw ar y stryd fod yn flaenoriaeth ar gyfer cael to dros eu pennau. Rydym wedi ceisio bodloni Aelodau yn yr adroddiad, a gallaf ddyfynnu paragraff 64, sy'n dweud,

'credwn mai dull fesul cam i ddiddymu yw’r ffordd fwyaf pragmatig ymlaen. Er enghraifft, drwy gyflwyno categorïau newydd o angen blaenoriaethol, fel pobl sy’n cysgu ar y stryd'

Felly, os yw hi'n poeni cymaint ag y mae'n dweud ei bod, buaswn wedi meddwl y byddai dull fesul cam yn ddigon yn hynny o beth. Nid ydym yn awgrymu y gellid ei wneud dros nos. Gwyddom y byddai goblygiadau ariannol, ond credaf fod angen ei wneud ar gyfer pobl sydd ar hyn o bryd yn cael eu diffinio fel rhai nad ydynt yn flaenoriaeth—dynion ifanc yn bennaf—pan ddylent fod yr un mor bwysig â phobl eraill sy'n ddigartref.

Byddech yn disgwyl imi sôn am argymhelliad 10—datganoli gweinyddu lles—ac roeddwn yn falch ein bod wedi cael cefnogaeth drawsbleidiol, i raddau, ar hyn. Rydym wedi bod yn gwbl glir ar hyn: mae'n ddigon hawdd i wleidyddion feirniadu newidiadau lles fel un o achosion sylfaenol tlodi yn y gymdeithas, ond pan nad oes unrhyw barodrwydd i hyd yn oed geisio ennill rheolaeth dros rai o'r pwerau lles hynny, mae'n tanseilio hygrededd y ddadl yn gyfan gwbl. A ydym eisiau cwyno am newidiadau lles neu a ydym eisiau dylanwadu arnynt a'u newid? Gadewch inni beidio â chael geiriau gwag am undod ar draws y DU mewn perthynas â'n system les ychwaith—mae gan yr Alban a Gogledd Iwerddon bwerau eisoes dros weinyddu lles. Mae'r awydd i weld system les unedig, ledled y DU yn ddadl sydd eisoes wedi mynd heibio. Barn semantig ydyw nad yw'n gwneud dim i helpu pobl yng Nghymru sy'n byw ar y stryd neu mewn unrhyw anhawster arall. Felly, rwy'n gobeithio y gallwn symud ymlaen â'r ddadl hon ac y gallwn edrych ar hyn ymhellach fel pwyllgor. Ymddengys bod y pwyllgor yn gweithio mewn modd cadarnhaol; o na bai Llywodraeth Cymru yn gwrando ar y llais hwnnw mor astud ag y gobeithiem y byddai'n ei wneud.

Mewn perthynas â thai yn gyntaf, credaf ei bod hi'n dda iawn ein bod wedi gosod ein stondin drwy ddweud pa mor bwysig yw tai yn gyntaf. Ond cefais sgwrs Twitter yr wythnos hon gyda Peter Black, cyn Aelod Cynulliad, sy'n arwain y gweithgor digartrefedd ar gyngor Abertawe, ac mae ef wedi bod yn gofyn i Fwrdd Iechyd Lleol Abertawe Bro Morgannwg ers misoedd i fynd i mewn i siarad ag ef ynglŷn â thai yn gyntaf a sut y gallant weithio gyda'i gilydd ar hyn. Ac oherwydd ein bod wedi cael y sgwrs hon ar Twitter, rwy'n credu, yn sydyn fe ddywedodd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg y byddent yn dod i'r cyfarfod i drafod tai yn gyntaf. Ni ddylai gymryd dau wleidydd yn cael dadl fyw ar y cyfryngau cymdeithasol i Abertawe Bro Morgannwg sylweddoli'n sydyn fod tai yn gyntaf yn rhan o'u problem, neu nid problem, ond yn rhan o'r ateb i ddigartrefedd yma yng Nghymru. Credaf fod tai yn gyntaf yn gysyniad gwych, ond rhaid inni gael cefnogaeth, nid yn unig gan y sector tai, ond o'r maes iechyd, gwasanaethau cymdeithasol ac addysg, fel y gallwn wneud i dai yn gyntaf weithio. Os yw hyn yn mynd i fod yn rhan o'r dyfodol ym maes tai ac atal digartrefedd yma yng Nghymru, buaswn yn annog y Gweinidog i wneud yn siŵr ein bod o ddifrif, felly, ynglŷn â chael pobl o amgylch y bwrdd.

I orffen yn gyflym mewn perthynas â rhai o'r sylwadau. Mae The Big Issue wedi nodi mewn tystiolaeth fod cyfran fawr o'u gwerthwyr yn ddinasyddion yr ardal economaidd Ewropeaidd heb allu i ofyn am arian cyhoeddus, ac unwaith eto, dyma rywbeth nad yw wedi'i ddatganoli ar hyn o bryd, ond mae canlyniadau'r polisi hwn a'r awyrgylch gelyniaethus o du Llywodraeth y DU yn rhywbeth y dylai pob un ohonom bryderu yn ei gylch.

Mae angen inni ddatrys rhai o'r problemau cyfredol sy'n ymwneud â pharodrwydd landlordiaid y sector rhentu cymdeithasol a phreifat i gynnig lleoedd i bobl ddigartref a phobl sy'n cysgu ar y stryd. Roedd tystiolaeth yn yr adroddiad yn dangos nad oedd llawer o landlordiaid cymdeithasol yn teimlo eu bod wedi'u paratoi ar gyfer helpu pobl sy'n cysgu ar y stryd neu rai sydd â rhai o'r problemau sy'n codi yn aml o ganlyniad i fod ar y strydoedd. Mae'n fwy na thebyg y gallwn siarad drwy'r dydd ar y mater hwn, ond ni wnaf hynny—mae fy amser ar ben—ond mae'n bwysig iawn ein bod yn cyflwyno'r argymhellion hyn a'n bod yn sicrhau y gall digartrefedd ddod i ben yma yng Nghymru, a chredaf fod yr adroddiad pwyllgor hwn wedi gwneud llawer iawn i roi hyn ar y map gwleidyddol.

15:40

First of all, can I thank the committee for this hugely important report? I'm not a member of the committee myself, but I can see from the amount of work that's gone into producing it and from the significant evidence taken, it's going to be a great help to Welsh Government and I think that Welsh Government's response to it is largely to be welcomed as well.

It's fair to say, I think, that Welsh Government is providing a very clear focus on well-being in our communities and I can think of no more significant contribution to personal well-being than a safe, warm, affordable home—it's the foundation to so many other aspects of life. 

From my limited experience, based on volunteering with the night shelter in Merthyr Tydfil and talking to both the residents and the more experienced volunteers, it’s very clear that the causes and the reasons for homelessness and rough-sleeping, as identified in the inquiry, are varied and complex. Indeed, in many cases, as is highlighted in the report and by other speakers, the housing situation of an individual may reflect a myriad of other chaotic problems within their life. That’s why I wanted to refer specifically to recommendation 17 in the Welsh Government’s response. It is absolutely right that there should be a shared responsibility between health and housing Ministers to tackle rough-sleeping, and the Government’s acceptance of this recommendation is therefore welcome, albeit with the caveat and clarification that’s been sought by the committee Chair, John Griffiths. However, as the Government’s response states, all Cabinet Secretaries and Ministers have a shared responsibility to help deliver more progress in reducing rough-sleeping. So, I’d like to hear more from the Minister about the whole-Government approach to the issue. For example, is the Cabinet Secretary for the economy pushing the private sector in Wales to up the contribution that they can make through their corporate social responsibilities? Is the Minister for culture pushing people in the arts sector to engage more with the homelessness sector to use the capacity of the arts and music to reach out to people? In education, is Government alert to those children who are placed at great risk by the lack of a safe, stable home? And similar questions could be put forward to all Government departments, so I await with interest the response to that.

Dirprwy Lywydd, I also wanted to speak on the recommendation 28 and the reference to the Supporting People programme. We know that pathfinders are currently testing the possibility of flexible funding, but, even at this point, like others, I believe, I want to put down a marker. I remain to be convinced that providing some local authorities with extra flexibilities will not carry with it significant risks to what we're trying to achieve, and that is a concern I know is shared by those in the housing sector. For example, in some places, we are already seeing risks to school budgets after the Welsh Government removed ring fencing from education money. In my view, we need to look and learn from those experiences. If the current Supporting People programme can deliver with an even clearer move to improving outcomes then it would be unwise to put that at risk. With ring fencing, we know that all the money allocated will go to that purpose. Some local authorities may even add to it. However, removing the ring fencing—it is clear to me that some councils will respond to their priorities in a different way, and that could undermine all the good work that we're doing in this area.

So, can I once again thank the committee for its report and hope that it will go a significant way towards assisting the Government to deal with an issue that has become a source of shame in Britain today? And let’s hope that, in Wales, we can show that we can do things differently, that we can devote time, energy, resources and commitment to dealing with this distressing and unnecessary blight on the lives of so many vulnerable people in our society today.

Yn gyntaf oll, a gaf fi ddiolch i'r pwyllgor am yr adroddiad hynod bwysig hwn? Nid wyf yn aelod o'r pwyllgor fy hun, ond gallaf weld o swm y gwaith sydd wedi mynd tuag at ei gynhyrchu a'r dystiolaeth sylweddol a gasglwyd, ei fod yn mynd i fod yn gymorth mawr i Lywodraeth Cymru a chredaf fod ymateb Llywodraeth Cymru iddo i'w groesawu i raddau helaeth hefyd.

Mae'n deg dweud, rwy'n credu, fod Llywodraeth Cymru yn darparu ffocws clir iawn ar les yn ein cymunedau ac ni allaf feddwl am gyfraniad mwy sylweddol at les personol na chartref diogel, cynnes, fforddiadwy—mae'n sylfaen i gymaint o agweddau eraill ar fywyd.

O fy mhrofiad cyfyngedig, yn seiliedig ar wirfoddoli gyda'r lloches nos ym Merthyr Tudful a siarad â'r trigolion a'r gwirfoddolwyr mwy profiadol, mae'n glir iawn fod achosion a rhesymau dros ddigartrefedd a chysgu ar y stryd, fel y nodwyd yn yr ymchwiliad, yn amrywiol ac yn gymhleth. Yn wir, mewn llawer o achosion, fel y dangoswyd yn yr adroddiad a chan siaradwyr eraill, gall sefyllfa tai unigolyn adlewyrchu llu o broblemau dryslyd eraill yn eu bywydau. Dyna pam yr oeddwn am gyfeirio'n benodol at argymhelliad 17 yn ymateb Llywodraeth Cymru. Mae'n hollol iawn y dylai fod cyfrifoldeb a rennir rhwng y Gweinidog iechyd a'r Gweinidog tai i fynd i'r afael â chysgu ar y stryd, ac felly croesewir y ffaith bod y Llywodraeth wedi derbyn yr argymhelliad hwn, er gwaethaf y cafeat a'r eglurhad y gofynnwyd amdano gan Gadeirydd y pwyllgor, John Griffiths. Fodd bynnag, fel y noda ymateb y Llywodraeth, mae gan yr holl Ysgrifenyddion y Cabinet a Gweinidogion gyfrifoldeb a rennir i helpu i sicrhau mwy o gynnydd yn y gwaith o leihau cysgu ar y stryd. Felly, hoffwn glywed mwy gan y Gweinidog am y dull Llywodraeth gyfan o ystyried y mater. Er enghraifft, a yw Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi yn gwthio'r sector preifat yng Nghymru i gyfrannu mwy drwy eu cyfrifoldebau cymdeithasol corfforaethol? A yw'r Gweinidog diwylliant yn gwthio pobl yn sector y celfyddydau i ymwneud mwy â'r sector digartrefedd er mwyn defnyddio gallu'r celfyddydau a cherddoriaeth i estyn allan at bobl? Mewn addysg, a yw'r Llywodraeth yn effro i'r plant sy'n cael eu gosod mewn perygl mawr o ganlyniad i ddiffyg cartref diogel a sefydlog? A gellid gofyn cwestiynau tebyg i holl adrannau'r Llywodraeth, felly rwy'n edrych ymlaen at glywed yr ymateb i hynny.

Ddirprwy Lywydd, roeddwn eisiau siarad am argymhelliad 28 hefyd a'r cyfeiriad at y rhaglen Cefnogi Pobl. Rydym yn gwybod bod cynlluniau braenaru ar hyn o bryd yn profi'r posibilrwydd o ariannu hyblyg, ond hyd yn oed ar y pwynt hwn, fel eraill rwy'n credu, hoffwn osod marciwr. Rwy'n parhau i fod heb fy argyhoeddi na fydd darparu hyblygrwydd ychwanegol i rai awdurdodau lleol yn cynnwys risgiau sylweddol i'r hyn yr ydym yn ceisio ei gyflawni, ac mae hwnnw'n destun pryder y gwn fod eraill yn y sector tai yn ei rannu. Er enghraifft, mewn rhai mannau, rydym eisoes yn gweld risgiau i gyllidebau ysgolion ar ôl i Lywodraeth Cymru roi'r gorau i glustnodi arian ar gyfer addysg. Yn fy marn i, mae angen inni edrych ar a dysgu oddi wrth y profiadau hynny. Os gall y rhaglen Cefnogi Pobl bresennol gyflawni gan symud hyd yn oed yn fwy eglur tuag at wella canlyniadau, byddai'n annoeth rhoi hynny mewn perygl. Gyda chlustnodi arian, gwyddom y bydd yr holl arian a ddyrannwyd yn mynd at y diben hwnnw. Efallai y bydd rhai awdurdodau lleol yn ychwanegu ato hyd yn oed. Fodd bynnag, mae cael gwared ar glustnodi arian—mae'n glir i mi y bydd rhai cynghorau yn ymateb i'w blaenoriaethau mewn ffordd wahanol, a gallai hynny danseilio'r holl waith da yr ydym yn ei wneud yn y maes hwn.

Felly, unwaith eto a gaf fi ddiolch i'r pwyllgor am ei adroddiad a gobeithio y bydd yn mynd gryn dipyn o ffordd tuag at gynorthwyo'r Llywodraeth i ymdrin â mater sydd wedi dod yn ffynhonnell cywilydd ym Mhrydain heddiw? A gadewch i ni obeithio, yng Nghymru, y gallwn ddangos y gallwn wneud pethau'n wahanol, y gallwn neilltuo amser, egni, adnoddau ac ymrwymiad i ymdrin â'r malltod gofidus a diangen hwn ar fywydau cymaint o bobl sy'n agored i niwed yn ein cymdeithas heddiw.

15:45

Thanks to the committee Chairman for bringing today's debate and also to the people who took part in the inquiry, including the homeless people who took the time to recount their personal experiences to us, which, as Bethan Sayed mentioned, was very illuminating—probably the most illuminating part of the inquiry.

One factor that became clear to me during this interaction was this intimate relationship for many homeless people—of course, not all homeless people—between their homelessness, alcohol and substance misuse, and mental health issues. Although, of course, we can’t characterise these issues as being interrelated for all homeless people, there is a high incidence of these common themes, and that did emerge during the visits—in my case, to the Salvation Army hostel in Bute Street, just down the road from here.

Somebody, during the inquiry, characterised the relationship between these issues as a bit like peeling away layers of an onion, where you peel away the homelessness and you discover, oh yes, there's substance and alcohol misuse. But then you can peel that away and you discover that what's behind that, in many cases, is mental health issues, often caused by adverse childhood experiences. So, these are complex issues that we're dealing with, and it's sometimes difficult to find viable solutions to such complex problems.

Looking at the practicalities that arose from the inquiry, there are certain barriers to rough-sleepers in finding temporary or even emergency accommodation. For instance, the Huggard centre told us that some individuals will find themselves excluded from emergency provision for anti-social behaviour, because this includes substance misuse. So, clearly, if people are misusing substances, it's an addiction, it's going to be something that they're not going to be able to stop instantly, so it's rather difficult when they can't be housed, even under emergency provisions, because that behaviour will be defined as being anti-social behaviour. So, this is one of the practical difficulties that we face. These sorts of things create a barrier to those who are seeking refuge from homelessness.

Given the complex nature of these issues, there's a very clear concern that access to mental health or substance misuse services is of paramount importance. Left untreated, and with long waiting times for some specialist support services, there is a very real danger that some rough-sleepers will find it impossible to break the cycle that leads to life on the streets. So, we do have to look very closely at provision of mental health services.

The committee report did call on the Welsh Government to ensure that the responsibility for implementing the actions was shared, as the committee Chair mentioned in his contribution, between the housing Minister and the health Secretary. We're awaiting what the Government Minister has to say about that today, because the issues of rough-sleeping, together with substance and alcohol misuse and mental health issues, are so interlinked that we do need to have cross-governmental working as the only way in which we can realistically tackle the problem.

We also did call on the Government to publish quarterly reports on the rough-sleeping action plan. We felt that this would ensure transparency and enhance accountability. Unfortunately, the Government didn't agree with us on this specific point and felt that quarterly reports would be overly bureaucratic. Of course, there is a question of resources also. I know that the Welsh Government have committed funding towards their aim of eradicating rough-sleeping, but there's a need for human resources in addition to financial support. For instance, when we visited the Salvation Army hostel, concerns were raised by the staff that there simply weren't enough trained people able to deal with the complex substance misuse and mental health issues faced by the people coming to them who sleep rough. So, we do have to address this shortage if we are serious about dealing with this issue. Diolch yn fawr.

Diolch i Gadeirydd y pwyllgor am gyflwyno'r ddadl heddiw a hefyd i'r bobl a gymerodd ran yn yr ymchwiliad, gan gynnwys y bobl ddigartref a roddodd amser i sôn wrthym am eu profiadau personol, ac fel y crybwyllodd Bethan Sayed roedd hynny'n ddadlennol iawn—y rhan fwyaf dadlennol o'r ymchwiliad mae'n debyg.

Un ffactor a ddaeth yn amlwg i mi yn ystod y rhyngweithio hwn oedd y berthynas agos i lawer o bobl ddigartref—nid yr holl bobl ddigartref wrth gwrs—rhwng eu digartrefedd, camddefnyddio alcohol a sylweddau, a phroblemau iechyd meddwl. Er na allwn ddisgrifio'r problemau hyn fel rhai sy'n cydberthyn yn achos pob unigolyn digartref wrth gwrs, mae'r themâu cyffredin hyn i'w gweld yn aml, a daeth hynny'n amlwg yn ystod yr ymweliadau—yn fy achos i, â hostel Byddin yr Iachawdwriaeth yn Stryd Bute, i lawr y ffordd oddi yma.

Nododd rhywun, yn ystod yr ymchwiliad, fod y berthynas rhwng y problemau hyn ychydig bach fel plicio haenau nionyn, lle byddwch yn plicio'r digartrefedd ac yn darganfod, o oes, mae yna gamddefnyddio alcohol a sylweddau. Ond wedyn gallwch blicio hwnnw a byddwch yn darganfod mai'r hyn sydd y tu ôl i hynny, mewn llawer o achosion, yw problemau iechyd meddwl, a achosir yn aml gan brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Felly, mae'r rhain yn faterion cymhleth, ac mae'n anodd dod o hyd i atebion ymarferol weithiau i broblemau mor gymhleth.

Wrth edrych ar yr agweddau ymarferol a godai o'r ymchwiliad, ceir rhai rhwystrau i bobl sy'n cysgu ar y stryd rhag dod o hyd i lety dros dro neu lety mewn argyfwng hyd yn oed. Er enghraifft, dywedodd canolfan Huggard wrthym y bydd rhai unigolion yn cael eu heithrio o'r ddarpariaeth frys o ganlyniad i ymddygiad gwrthgymdeithasol, gan fod hynny'n cynnwys camddefnyddio sylweddau. Felly, yn amlwg, os yw pobl yn camddefnyddio sylweddau, mae'n ddibyniaeth, mae'n rhywbeth nad ydynt yn mynd i allu rhoi'r gorau iddo ar unwaith, felly mae'n anodd braidd pan na ellir eu cartrefu, hyd yn oed o dan y darpariaethau brys, gan y bydd yr ymddygiad hwnnw'n cael ei ddiffinio fel ymddygiad gwrthgymdeithasol. Felly, dyma un o'r anawsterau ymarferol sy'n ein hwynebu. Mae'r mathau hyn o bethau yn creu rhwystr i'r rhai sy'n ceisio lloches rhag digartrefedd.

O ystyried natur gymhleth y materion hyn, mae yna bryder clir iawn fod mynediad at wasanaethau camddefnyddio sylweddau neu iechyd meddwl yn hollbwysig. O'u gadael heb eu trin, a chydag amseroedd aros hir am rai gwasanaethau cymorth arbenigol, ceir perygl go iawn y bydd rhai pobl sy'n cysgu ar y stryd yn ei chael hi'n amhosibl torri'r cylch sy'n arwain at fywyd ar y strydoedd. Felly, rhaid inni edrych yn ofalus iawn ar y ddarpariaeth o wasanaethau iechyd meddwl.

Roedd adroddiad y pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y cyfrifoldeb dros weithredu'r camau wedi ei rannu, fel y soniodd Cadeirydd y pwyllgor yn ei gyfraniad, rhwng y Gweinidog tai a'r Ysgrifennydd iechyd. Rydym yn aros i weld beth sydd gan Weinidog y Llywodraeth i'w ddweud am hynny heddiw, oherwydd mae problemau cysgu ar y stryd, ynghyd â materion iechyd meddwl a chamddefnyddio alcohol a sylweddau, mor gydgysylltiedig fel bod angen gweithio'n drawslywodraethol fel yr unig ffordd o ddatrys y broblem yn realistig.

Hefyd galwasom ar y Llywodraeth i gyhoeddi adroddiadau chwarterol ar y cynllun gweithredu ar gysgu ar y stryd. Teimlem y byddai hyn yn sicrhau tryloywder ac yn gwella atebolrwydd. Yn anffodus, nid oedd y Llywodraeth yn cytuno â ni ar y pwynt penodol hwn a theimlai y byddai adroddiadau chwarterol yn rhy fiwrocrataidd. Wrth gwrs, mae yna gwestiwn yn codi ynglŷn ag adnoddau hefyd. Gwn fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo cyllid tuag at eu nod o ddileu cysgu ar y stryd, ond mae angen adnoddau dynol yn ogystal â chymorth ariannol. Er enghraifft, pan ymwelsom â hostel Byddin yr Iachawdwriaeth, mynegwyd pryderon gan y staff nad oedd digon o bobl hyfforddedig ar gael i allu ymdrin â'r problemau camddefnyddio sylweddau ac iechyd meddwl cymhleth sy'n wynebu'r bobl sy'n cysgu ar y stryd a ddaw atynt. Felly, rhaid inni fynd i'r afael â'r prinder hwn os ydym o ddifrif ynglŷn ag ymdrin â'r mater hwn. Diolch yn fawr.

15:50

I welcome this report. I do believe it seeks to examine some of the areas that currently lead to people sleeping on the streets and see where the policy gaps are. I think it's already had a broad welcome across the sector, so congratulations on that. I think the recommendations are constructive and well thought through, and, as is noted, the legislative framework is a pretty robust one now, and it is aimed at prevention above all. And I think it's fair to say that it's attracted some attention around the UK, so we start with that foundation.

But where there's been a much tougher challenge, I think, is dealing with rough-sleepers, especially those that are already on the streets or on the verge of going onto the street. At that level—and I think it's fair to say that, when a lot of the public think of homelessness, it is rough-sleeping, often, they're thinking about, rather than the broader question of homelessness in its many dimensions. So, this issue of how we actually deal with that end, the really severe end, was clearly a common theme arising from the evidence sessions, as the majority of respondents, including the Wallich, the Salvation Army, the Huggard centre, Cymorth Cymru and Shelter Cymru, all highlighted that the 2014 Act in particular had limited impact on those who were already homeless, particularly rough-sleepers. I note that Dr Peter Mackie of Cardiff University stated, and I quote, that the Act

'had a very positive impact on prevention and alleviation with the broader homeless population.... But, actually, with rough-sleepers, arguably the most vulnerable group of homeless people, it’s not been overly effective.'

And, again, I want to be targeted and moderate in my criticism there, because this is a very, very difficult policy challenge before us and there have been achievements with the Act that we shouldn't gainsay.

Can I just quickly touch on a couple of the more controversial issues, starting with priority need? Amongst some of the recommendations that I would disagree with a little bit is this notion that we should be abolishing priority need. I simply don't see this as a viable option at the moment. As long as homelessness and rough-sleeping exist, there's going to be a need to balance priorities. Ideally, as my colleague Janet Finch-Saunders said, we would all want to see a scenario where priority need simply didn't exist because we had solved the housing supply problem. But we are not in that situation, and I have to say the local government representations that were made made this very clear and highlighted the financial implications that could be associated with abolishing priority need. It is linked very much to the supply problem and that is going to take quite a while to tackle. Cardiff Council even went as far as to state that, if priority need was abolished, it may increase the number of homeless applicants coming forward, quote,

'rather than people trying to solve their own problems'.

Now, I think that's quite a rigorous view and may even be a harsh view, but there's a balance here. We need to be a little careful about this.

If we look at why people end up homeless, and rough-sleepers at the most severe end, for single men, it is being vulnerable to old age, poor health, followed by leaving prison and the risk of violence or abuse, and, for women, violence and abuse, followed by old age, poor health and being pregnant. I do believe, however, that rough-sleeping should, in nearly all cases, qualify for priority need status, which currently it doesn't. And this is something of a paradox and a challenge, because I'm sure most members of the public would think that, if you're on the street, you are a priority case for housing. So, I think that is something we should confront head on. I note that the Welsh Government's code of guidance argues that rough-sleepers are likely to be vulnerable for some other special reason due to the health and social implications of their situation, but there does seem to be a bit of a difference in practice when you actually look at the evidence. And many, or some anyway—a significant number of—rough-sleepers do not qualify as priority cases. So, I do think these things need very careful examination.

Can I finally move on to Supporting People? This, obviously, has received very high-profile media attention today because of the excellent 'Housing Matters' report that has been produced by a number of organisations in this sector. Now, recommendation 28 of the committee report asks that should the

'Flexible Funding Pathfinders show a reduction in funding for the Supported People Programme, or cast doubt on the sector’s ability to maintain service delivery at existing levels, we recommend that the Supporting People Programme Grant should remain a separate, ring-fenced grant.'

And I do agree with that. I think this is too important an area to disturb at the moment, and the report is clear that the current funding plans present a considerable risk to the support that is available for vulnerable people through homelessness and housing programmes in Wales. So, I do hope the Welsh Government will take care in this public policy area. You can also see from the Public Accounts Committee's report their very considerable concern and the concern right across the sector about what is going to happen to the Supporting People programmes. And, without them, those in the most need of support in their tenancy or on the edge of becoming homeless and rough-sleepers are really in a very, very vulnerable situation. We must protect the funding streams that they rely so much on. Thank you.

Croesawaf yr adroddiad hwn. Rwy'n credu ei fod yn ceisio edrych ar rai o'r meysydd hynny sydd ar hyn o bryd yn arwain at bobl yn cysgu ar y strydoedd a gweld lle y ceir bylchau yn y polisi. Credaf ei fod eisoes wedi cael croeso cyffredinol ar draws y sector, felly llongyfarchiadau ar hynny. Credaf fod yr argymhellion yn adeiladol ac wedi eu hystyried yn drwyadl, ac fel y nodwyd, mae'r fframwaith deddfwriaethol yn un eithaf cadarn bellach, a'i nod yw atal yn anad dim. Ac mae'n deg dweud ei fod wedi denu rhywfaint o sylw ledled y DU, felly dechreuwn gyda'r sylfaen honno.

Ond mae'r her wedi bod yn llawer mwy, rwy'n credu, wrth ymdrin â phobl sy'n cysgu ar y stryd, yn enwedig rhai sydd eisoes ar y strydoedd neu ar fin mynd ar y stryd. Ar y lefel honno—a chredaf ei bod yn deg dweud, pan fydd llawer o'r cyhoedd yn meddwl am ddigartrefedd, am gysgu ar y stryd y byddant yn aml yn meddwl, yn hytrach na'r cwestiwn ehangach ynglŷn â digartrefedd ar ei amrywiol ffurfiau. Felly, roedd y cwestiwn ynglŷn â sut yr ymdriniwin â'r pen hwnnw i bethau, y pen difrifol iawn, yn amlwg yn thema gyffredin a ddeilliodd o'r sesiynau tystiolaeth, wrth i'r rhan fwyaf o'r ymatebwyr, gan gynnwys y Wallich, Byddin yr Iachawdwriaeth, canolfan Huggard, Cymorth Cymru a Shelter Cymru, nodi mai effaith gyfyngedig a oedd i Ddeddf 2014 yn arbennig ar y rhai a oedd eisoes yn ddigartref, yn enwedig pobl sy'n cysgu ar y stryd. Nodaf fod Dr Peter Mackie o Brifysgol Caerdydd wedi datgan, ac rwy'n dyfynnu, fod y Ddeddf

'wedi cael effaith gadarnhaol iawn ar atal pobl rhag mynd yn ddigartref a gwella eu sefyllfa yn gyffredinol... Serch hynny, nid yw wedi bod mor llwyddiannius â hynny gyda'r rheini sy'n cysgu ar y stryd, sef y grŵp y gellir dadlau sydd fwyaf agored i niwed.'

Ac unwaith eto, rwyf am fod yn fanwl gywir ac yn gymedrol yn fy meirniadaeth yn hynny o beth, oherwydd mae hon yn her anodd tu hwnt o ran polisi a bu cyflawniadau gyda'r Ddeddf na ddylem eu gwadu.

A gaf fi nodi un neu ddau o'r materion mwy dadleuol yn gyflym, gan ddechrau gydag angen blaenoriaethol? Ymysg rhai o'r argymhellion y buaswn yn anghytuno â hwy braidd yw'r syniad hwn y dylem ddiddymu angen blaenoriaethol. Nid wyf yn gweld hyn fel opsiwn ymarferol ar hyn o bryd. Cyhyd ag y ceir digartrefedd a chysgu ar y stryd, bydd angen cydbwyso blaenoriaethau. Yn ddelfrydol, fel y dywedodd fy nghyd-Aelod Janet Finch-Saunders, byddai pawb ohonom am weld sefyllfa lle nad oedd angen blaenoriaethol yn bodoli oherwydd ein bod wedi datrys problem cyflenwad tai. Ond nid ydym yn y sefyllfa honno, a rhaid imi ddweud bod y sylwadau a wnaed gan lywodraeth leol yn gwneud hyn yn glir iawn ac wedi tynnu sylw at y goblygiadau ariannol a allai fod yn gysylltiedig â diddymu angen blaenoriaethol. Mae'n gysylltiedig iawn â phroblem cyflenwad ac mae hynny'n mynd i gymryd cryn amser i'w ddatrys. Aeth Cyngor Caerdydd mor bell â datgan, pe bai angen blaenoriaethol yn cael ei ddiddymu, y gallai hynny gynyddu nifer yr ymgeiswyr digartref, rwy'n dyfynnu

yn hytrach na phobl sy'n ceisio datrys eu problemau eu hunain.

Nawr, rwy'n meddwl bod honno'n farn go gadarn ac efallai'n farn lem hyd yn oed, ond ceir cydbwysedd yma. Mae angen inni fod yn eithaf gofalus ynglŷn â hyn.

Os edrychwn ar pam y mae pobl yn mynd yn ddigartref, a phobl yn cysgu ar y stryd ar y pen mwyaf difrifol, ar gyfer dynion sengl, mae'n ymwneud â bod yn agored i henaint, iechyd gwael, wedi'u dilyn gan adael carchar a risg o drais neu gam-drin, ac i fenywod, trais a chamdriniaeth, wedi'u dilyn gan henaint, iechyd gwael a bod yn feichiog. Rwy'n credu, fodd bynnag, y dylai cysgu ar y stryd ym mhob achos bron, wneud rhywun yn gymwys ar gyfer statws angen blaenoriaethol, ac nid yw hynny'n wir ar hyn o bryd. Ac mae'n baradocs braidd ac yn her, oherwydd rwy'n siŵr y byddai'r rhan fwyaf o aelodau o'r cyhoedd yn credu, os ydych ar y stryd, eich bod yn achos blaenoriaethol ar gyfer tai. Felly, credaf fod hynny'n rhywbeth y dylem ymdrin yn uniongyrchol ag ef. Nodaf fod cod arweiniad Llywodraeth Cymru yn dadlau bod pobl sy'n cysgu ar y stryd yn debygol o fod yn agored i niwed am ryw reswm arbennig arall oherwydd goblygiadau iechyd a goblygiadau cymdeithasol eu sefyllfa, ond mae'n ymddangos bod peth gwahaniaeth yn ymarferol pan fyddwch yn edrych ar y dystiolaeth mewn gwirionedd. Ac mae llawer, neu rai beth bynnag—nifer sylweddol—o'r bobl sy'n cysgu ar y stryd nad ydynt yn gymwys i fod yn achosion blaenoriaethol. Felly, credaf fod angen archwilio'r pethau hyn yn ofalus iawn.

A gaf fi symud ymlaen i orffen at Cefnogi Pobl? Yn amlwg, mae hyn wedi cael llawer o sylw yn y cyfryngau heddiw oherwydd yr adroddiad rhagorol 'Housing Matters' a gynhyrchwyd gan nifer o sefydliadau yn y sector hwn. Nawr, mae argymhelliad 28 o adroddiad y pwyllgor yn gofyn

'Os yw canfyddiadau’r Cynlluniau Braenaru Cyllid Hyblyg yn dangos gostyngiad yn y cyllid ar gyfer y Rhaglen Cefnogi Pobl, neu’n amau ynghylch gallu’r sector i gynnal y gwasanaeth ar y lefelau presennol, rydym yn argymell y dylai Grant y Rhaglen Cefnogi Pobl barhau i fod yn grant ar wahân sydd wedi’i neilltuo.'

Ac rwy'n cytuno â hynny. Mae hwn yn faes rhy bwysig i darfu arno ar hyn o bryd, ac mae'r adroddiad yn glir fod y cynlluniau ariannu presennol yn creu risg sylweddol i'r cymorth sydd ar gael ar gyfer pobl sy'n agored i niwed drwy raglenni tai a digartrefedd yng Nghymru. Felly, rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn cymryd gofal yn y maes polisi cyhoeddus hwn. Gallwch weld hefyd o adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus eu pryder sylweddol iawn a'r pryder ar draws y sector ynglŷn â beth fydd yn digwydd i'r rhaglenni Cefnogi Pobl. A hebddynt, bydd y rheini sydd fwyaf o angen cymorth yn eu tenantiaeth neu sydd ar fin bod yn ddigartref a chysgu ar y stryd mewn sefyllfa fregus tu hwnt. Rhaid inni ddiogelu'r ffrydiau ariannu y maent yn dibynnu cymaint arnynt. Diolch.

15:55

I think it's very heart warming that a lot of Members who weren't on the committee and involved in the inquiry have shown an interest in it, because, obviously, I hope that you've found it useful. It was certainly a very interesting inquiry to be involved in.

I just wanted briefly to pay tribute to a couple of local organisations that I deal with on a regular basis. One is Cardiff Council's homelessness service and the way in which they have trained up at least five people to go out, three nights a week, up until midnight, to talk to people who are living on the streets to ensure that they get an assessment of their needs, because these are people who may not make their way to the homeless service on Dumballs Road. I think that that shows that they really are at the forefront of working with people on this difficult issue.

Secondly, I'm very pleased that the Government has accepted recommendation 24 to encourage all police services to use the video cameras they wear on their uniforms for these difficult conversations with people on the street, because it gives a proper record of the conversation, which can be a very difficult one if somebody's in the middle of a mental health episode or is inebriated, but it's also a fantastic training opportunity for those who are having to deal with what can be very difficult and challenging people who have a multiplicity of needs. So, I think that it's very good that we endeavour to see this good practice extended to all our police forces who are involved in these difficult conversations.

Thirdly, I'm very pleased that the Government has accepted recommendation 4, agreeing to re-establish the prisoner accommodation and resettlement group, because we received very clear evidence that the revolving door is alive and well and that some prisoners are falling through the cracks. The homeless and housing services don't know about people when they're being released in a timely fashion and some of these people are ending up back on the streets and inevitably then end up back in prison, at huge cost to the public purse. So, I think it's great that we endeavour to ensure that that is not happening.

Credaf ei bod yn galondid fod llawer o Aelodau nad oedd ar y pwyllgor ac yn rhan o'r ymchwiliad wedi dangos diddordeb ynddo, oherwydd, yn amlwg, rwy'n gobeithio eich bod yn ei ystyried yn ddefnyddiol. Yn sicr, roedd yn ymchwiliad diddorol iawn i fod yn rhan ohono.

Roeddwn am dalu teyrnged yn fyr i un neu ddau o sefydliadau lleol yr ymdriniaf â hwy'n rheolaidd. Un yw gwasanaeth digartrefedd Cyngor Caerdydd a'r ffordd y maent wedi hyfforddi o leiaf bump o bobl i fynd allan, dair noson yr wythnos, tan hanner nos, i siarad â phobl sy'n byw ar y strydoedd er mwyn sicrhau eu bod yn cael asesiad o'u hanghenion, oherwydd dyma'r bobl nad ydynt yn mynd i droi at wasanaeth y digartref yn Heol Dumballs. Credaf fod hynny'n dangos eu bod o ddifrif ar y blaen o ran gweithio gyda phobl ar y broblem anodd hon.

Yn ail, rwy'n falch iawn fod y Llywodraeth wedi derbyn argymhelliad 24 i annog yr holl wasanaethau heddlu i ddefnyddio'r camerâu fideo y maent yn gwisgo ar eu gwisgoedd ar gyfer y sgyrsiau anodd hyn gyda phobl ar y stryd, oherwydd mae'n cofnodi'r sgwrs yn gywir, sy'n gallu bod yn anodd iawn os yw rhywun yng nghanol argyfwng iechyd meddwl neu'n feddw, ond mae hefyd yn gyfle hyfforddi gwych i'r rhai sy'n gorfod ymdrin â phobl a all fod yn anodd a heriol iawn ac sydd â llu o anghenion. Felly, credaf ei bod yn dda iawn ein bod yn ymdrechu i weld yr arfer da hwn yn cael ei ymestyn i'n holl heddluoedd sy'n cael y sgyrsiau anodd hyn.

Yn drydydd, rwy'n falch iawn fod y Llywodraeth wedi derbyn argymhelliad 4, a chytuno i ailsefydlu'r gweithgor llety ac ailsefydlu carcharorion, oherwydd cawsom dystiolaeth glir iawn fod y drws tro yn fyw ac yn iach a bod rhai carcharorion yn syrthio drwy'r rhwyd. Nid yw'r gwasanaethau digartrefedd a thai yn gwybod am bobl mewn pryd pan gânt eu rhyddhau ac mae rhai o'r bobl hyn yn mynd yn ôl ar y strydoedd ac yn anochel wedyn, yn ôl i garchar, ar gost enfawr i'r pwrs cyhoeddus yn y pen draw. Felly, rwy'n credu ei bod yn wych ein bod yn ymdrechu i sicrhau nad yw hynny'n digwydd.

16:00

Thank you. Can I now call the Minister for Housing and Regeneration? Rebecca Evans.

Diolch. A gaf fi alw yn awr ar y Gweinidog Tai ac Adfywio? Rebecca Evans.

Thank you very much. I really do welcome the opportunity to respond to this important debate and I'm very grateful to the committee for their examination of rough-sleeping. As I set out in my evidence to the committee, I do recognise that homelessness takes many forms and the majority of people who are homeless are not on the streets—they're staying with friends, family or in other temporary accommodation following the end of a tenancy or a relationship or as a result of a family dispute. But, I really do welcome the real focus that the committee has put on homelessness in what is its most severe form. Talking to the people who I meet who are rough-sleepers or have had experience of rough-sleeping, I've heard harrowing accounts, as I know the committee has, in terms of family breakdown, domestic violence, mental ill health, financial problems, substance misuse and bereavement. These are all issues that can lead to the loss of a home and spiral, creating a vicious circle of rough-sleeping, which as we know is the most acute form of homelessness.

As the committee report recognises, the Housing (Wales) Act 2014 has made a significant difference in preventing homelessness across Wales and has been widely acclaimed for its preventative approach. In the last two years, since it began its implementation, we've prevented more than 14,000 households from becoming homeless, but we do recognise still that much more does need to be done. As we've set out in 'Prosperity for All', it's not acceptable that anyone should be forced to sleep on the streets in a prosperous society. As I set out earlier this year, my concerns are regarding the rise in numbers of people who are sleeping rough. I also set out the commitment of this Government to do all that we can to reverse that trend. I announced in February our action plan to tackle rough-sleeping, together with our housing first guidance and principles document. The committee's report therefore is an extremely timely document in terms of helping us build the evidence base to inform the evolution and the implementation of that plan. 

My written response to the committee sets out our detailed reply to the 29 recommendations in the report. Whilst there are some differences around the preparatory work required before determining specific actions, the Government has accepted the majority of the committee's recommendations. I've previously set out to this Chamber my willingness to review the approach needed for priority need. As the committee acknowledges, it is important that any change to the current approach is only taken when all the implications of such a change are fully understood. So, I can confirm that we're already in the process of commissioning an independent assessment of the potential impact and unintended consequences of changing the current approach to priority need in order to inform the way forward. This also has implications for local connection. Consideration will also be given to that as part of the independent assessment.

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n croesawu'n fawr y cyfle i ymateb i'r ddadl bwysig hon ac rwy'n ddiolchgar iawn i'r pwyllgor am eu harchwiliad o gysgu ar y stryd. Fel y dywedais yn fy nhystiolaeth i'r pwyllgor, rwy'n cydnabod bod digartrefedd yn digwydd ar sawl ffurf ac nid yw'r rhan fwyaf o bobl sy'n ddigartref ar y strydoedd—maent yn aros gyda ffrindiau, teulu neu mewn llety dros dro arall wedi i denantiaeth neu berthynas ddod i ben neu o ganlyniad i anghydfod teuluol. Ond rwy'n croesawu'n fawr y ffocws go iawn a roddodd y pwyllgor ar ddigartrefedd ar ei ffurf fwyaf difrifol. Wrth siarad gyda'r bobl y cyfarfûm â hwy sy'n cysgu ar y stryd neu sydd wedi cael profiad o gysgu ar y stryd, clywais hanesion dirdynnol, fel y gwn y clywodd y pwyllgor, am deuluoedd yn chwalu, trais domestig, afiechyd meddwl, problemau ariannol, camddefnyddio sylweddau a phrofedigaeth. Mae'r rhain oll yn broblemau a all arwain at golli cartref a throelli ar i lawr, gan greu cylch dieflig o gysgu ar y stryd, sef y ffurf fwyaf difrifol ar ddigartrefedd fel y gwyddom.

Fel y mae adroddiad y pwyllgor yn cydnabod, mae Deddf Tai (Cymru) 2014 wedi gwneud gwahaniaeth arwyddocaol i atal digartrefedd ledled Cymru ac mae wedi'i chanmol yn eang am ei dull ataliol o weithredu. Yn y ddwy flynedd ddiwethaf, ers iddi ddod yn weithredol, rydym wedi atal mwy na 14,000 o aelwydydd rhag mynd yn ddigartref, ond rydym yn cydnabod o hyd fod llawer mwy i'w wneud. Fel y nodwyd gennym yn 'Ffyniant i Bawb', nid yw'n dderbyniol y dylai unrhyw un gael ei orfodi i gysgu ar y strydoedd mewn cymdeithas ffyniannus. Fel y nodais yn gynharach eleni, rwy'n pryderu ynglŷn â'r cynnydd yn nifer y bobl sy'n cysgu ar y stryd. Hefyd, nodais ymrwymiad y Llywodraeth hon i wneud popeth a allwn i wrthdroi'r duedd honno. Ym mis Chwefror, cyhoeddais ein cynllun gweithredu i fynd i'r afael â chysgu ar y stryd, ynghyd â'n dogfen arweiniad ac egwyddorion tai yn gyntaf. Mae adroddiad y pwyllgor, felly, yn ddogfen hynod o amserol sy'n ein helpu i adeiladu'r sylfaen dystiolaeth i lywio esblygiad a gweithrediad y cynllun hwnnw.

Mae fy ymateb ysgrifenedig i'r pwyllgor yn nodi ein hymateb manwl i'r 29 o argymhellion yn yr adroddiad. Er bod rhai gwahaniaethau ynghylch y gwaith paratoi sy'n angenrheidiol cyn penderfynu ar gamau gweithredu penodol, mae'r Llywodraeth wedi derbyn y rhan fwyaf o argymhellion y pwyllgor. Amlinellais i'r Siambr hon o'r blaen fy mharodrwydd i adolygu'r dull o weithredu angen blaenoriaethol. Fel y mae'r pwyllgor yn cydnabod, mae'n bwysig na wneir unrhyw newid i'r dull presennol oni bai lle y deellir holl oblygiadau newid o'r fath yn llawn. Felly, gallaf gadarnhau ein bod eisoes wrthi'n comisiynu asesiad annibynnol o effaith bosibl a chanlyniadau anfwriadol newid y dull cyfredol o weithredu angen blaenoriaethol er mwyn llywio'r ffordd ymlaen. Mae gan hyn oblygiadau o ran cysylltiad lleol. Rhoddir ystyriaeth i hynny hefyd fel rhan o'r asesiad annibynnol.

16:05