Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

12/06/2018

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni'r prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog. Ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Llyr Gruffydd.

Arla yn Llandyrnog

1. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gydag Arla yn dilyn ei benderfyniad i gau'r safle yn Llandyrnog? OAQ52324

Wel, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi ysgrifennu at reolwr-gyfarwyddwr Arla i ofyn am gyfarfod brys i drafod unrhyw gyfleoedd y mae’r cwmni’n eu hystyried a gweld sut y gallai Llywodraeth Cymru helpu.

Wel, diolch i chi am eich ateb. Rydw i'n gwybod ei bod hi'n ddyddiau cynnar, ond byddwn i yn licio gofyn a fyddai'r Llywodraeth yn barod i ystyried macsimeiddio potensial y safle yna, drwy efallai edrych ar ddenu eraill i ddod mewn i weithredu o'r safle yna yn y dyfodol. Oherwydd y gofid yw, wrth gwrs, os ydy'r safle yn cael ei 'mothball-io', mae'n cau pawb arall allan, o safbwynt y cyfle i brosesu llaeth yn yr ardal yna, ac nid ydym eisiau sefyllfa fel y gwelwyd yn Hendy Gwyn, yn ne-orllewin Cymru, flynyddoedd yn ôl, lle roedd y safle'n wag am flynyddoedd mawr, a hynny yn ei dro yn golygu nad oedd yn bosib prosesu llaeth yn yr ardal honno. Ac mae hynny'n bwysig, wrth gwrs, nid yn unig oherwydd ein bod ni angen capasiti prosesu yng Nghymru, am yr holl resymau rydw i wedi eu rhestru yn flaenorol yn fy nghwestiwn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth yr wythnos diwethaf, ond hefyd, wrth gwrs, mae yna ymrwymiad gan Arla ar hyn o bryd i ddal i gymryd llaeth gan y ffermwyr yn y gogledd-ddwyrain. Ond, wrth gwrs, am ba hyd y byddan nhw'n barod i drosglwyddo hwnnw i'r Alban ac i Ddyfnaint heb, yn y pen draw, benderfynu nad yw e yn gost effeithiol?

Wel, rwy'n deall bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi cael cyfarfod dros y ffôn hefyd y prynhawn yma. Un o'r pethau a oedd yn cael ei ystyried oedd pa gyfleoedd sydd i'r safle yn y pen draw. Rwy'n cofio pa mor anodd oedd hi i sicrhau bod y tir yn cael ei ryddhau yn Hendy Gwyn; fi oedd y Gweinidog ar y pryd a wnaeth sicrhau bod hynny'n digwydd. Roedd hynny wedi sefyll yna fel carreg fedd, mewn ffordd, am flynyddoedd yn y dref, ac roedd hynny'n rhywbeth roedd pobl eisiau ei weld yn cael ei ddatrys a hefyd y tir yn cael ei ddefnyddio am rywbeth arall. Felly, mae yna ddau beth: yn gyntaf, edrych ar gyfleoedd i'r safle ei hunan, ac, yn ail, wrth gwrs, sicrhau bod yna gefnogaeth ar gael i'r bobl sydd yn gweithio yna, a bydd honno ar gael, wrth gwrs, drwy'r cynllun ReAct. A hefyd mae Busnes Cymru yn gweithio gyda'r cwmni er mwyn gweld pa gyfleoedd sydd yna yn y pen draw.

Yr wythnos diwethaf, wrth ymateb i mi, cyfeiriodd Ysgrifennydd y Cabinet at ddatganiad Undeb Amaethwyr Cymru bod Arla yn bwriadu cadw'r safle tra bod cyfleoedd posibl ar gyfer cynhyrchion eraill yn cael eu harchwilio, ac y byddai'n trafod â nhw ymhellach. Fe'm hysbyswyd ers hynny gan un ffynhonnell mai'r cwbl y mae 'cyfleoedd eraill ar gyfer y safle' yn cyfeirio ato yw ailddechrau cynhyrchu pe byddai tariffau yn cael eu cyflwyno ar fewnforion caws ar ôl Brexit. Ond gwelsom hefyd, dros y penwythnos, adroddiadau bod Starbucks wedi taro bargen drwyddedu 21 mlynedd gydag Arla i weithgynhyrchu, dosbarthu a marchnata ei amrywiaeth o goffi llaeth parod i'w yfed premiwm ledled Ewrop, y dwyrain canol ac Asia, sydd o bosibl yn creu cyfleoedd ehangach. Efallai na fyddwch chi'n gallu dweud wrthym ni tan y byddwch wedi siarad gydag Ysgrifennydd y Cabinet, ar ôl ei drafodaeth, ond a wnewch chi hysbysu'r Cynulliad pa drafodaethau a gynhaliwyd, yn y cyd-destun hwnnw, ac a yw hyn wedi ei gyfyngu i dariffau ar ôl Brexit yn unig, neu a oes cyfleoedd newydd yn gysylltiedig â'r contractau newydd a hysbysebwyd gyda thrydydd partïon?

Wel, mae'n gynnar eto, ond yn sicr byddwn yn archwilio unrhyw bosibilrwydd a fydd yn arwain at ganlyniad cadarnhaol i'r ardal. Ac mae hynny'n rhywbeth y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn parhau i'w wneud, ynghyd â swyddogion.

Prif Weinidog, pa gamau wnaeth Llywodraeth Cymru eu cymryd, cyn i Arla gyhoeddi y byddai'r safle'n cau, i geisio eu darbwyllo i beidio â chau'r gwaith yn Sir Ddinbych?

Wel, mae'r cyhoeddiadau hyn yn aml yn dod gydag ychydig neu ddim rhybudd. Yr hyn yr ydym ni'n ei wneud wrth gwrs o dan yr amgylchiadau hynny yw dau beth: yn gyntaf oll, gwneud yn siŵr bod Busnes Cymru yn ceisio trafod y dyfodol gyda'r cwmni, ac, yn ail, wrth gwrs, darparu cymorth i'r gweithwyr yr effeithir arnynt, gan gynnwys trwy gynllun ReAct, er mwyn eu helpu nhw i nodi ffynonellau cyflogaeth eraill. Nid yw bob amser yn wir, lle mae achosion o gau safleoedd yn cael eu cyhoeddi, neu eu cynnig—gan ei fod yn destun ymgynghoriad ar hyn o bryd—ein bod ni'n cael rhybudd sylweddol, neu weithiau, unrhyw rybudd o gwbl.

Camddefnyddio Alcohol

2. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â chamddefnyddio alcohol? OAQ52333

Rydym ni'n buddsoddi bron i £50 miliwn y flwyddyn yn ein hagenda camddefnyddio sylweddau, ac yn rhan o hyn, rydym ni'n cymryd amrywiaeth o gamau i fynd i'r afael â chamddefnyddio alcohol. Mae hynny'n cynnwys cynorthwyo gwasanaethau a gomisiynir gan fyrddau cynllunio ardal, a hefyd, wrth gwrs, y prynhawn yma, cyflwyno Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris Alcohol) (Cymru).

Diolch, Prif Weinidog. Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Heddlu Gwent gyflwyniad cynllun lle bydd troseddwyr tro cyntaf troseddau lefel isel, gan gynnwys 'meddw ac afreolus', yn cael cyfle i fynd ar gwrs yn hytrach na wynebu'r llys. Bydd y cwrs yn cael ei gynnig i unigolion yn ôl disgresiwn yr heddlu a heb unrhyw gost i'r cyhoedd, yn debyg iawn i gwrs ymwybyddiaeth cyflymder. Heddlu Gwent yw'r heddlu cyntaf yng Nghymru i gynnig cynllun o'r fath yn rhan o'i strategaeth ehangach i fynd i'r afael â phroblemau alcohol, lleihau aildroseddu a leddfu pwysau ar y system cyfiawnder troseddol. Mae Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Gwent, elusen sy'n darparu cymorth a chyngor i unigolion a theuluoedd, wedi croesawu'r cynllun hwn. A all y Prif Weinidog nodi sut y mae Llywodraeth Cymru yn cynorthwyo gwasanaethau camddefnyddio sylweddau i gynyddu ymwybyddiaeth o beryglon yfed gormod o alcohol? A sut gwnaiff Llywodraeth Cymru weithio gyda'r heddlu ac eraill i leihau troseddu sy'n gysylltiedig ag alcohol?

13:35

Rwy'n credu bod hwnnw'n syniad da iawn. Pan ddechreuais i gyntaf, flynyddoedd lawer yn ôl, fel cyfreithiwr, roedd hi'n aml yn wir pan oedd gennym ni ddau ŵr ifanc—gwŷr ifanc oedden nhw yn anochel—a oedd efallai wedi bod yn ymladd â'i gilydd mewn diod ar Ffordd y Brenin yn Abertawe, a oedd yn dipyn o leoliad ar gyfer pethau o'r fath yn y dyddiau hynny, os teimlwyd na fyddent yn achosi trafferth i'r heddlu na'r llysoedd eto, roedden nhw'n cael eu rhwymo i gadw'r heddwch, a oedd yn golygu nad oedd ganddynt euogfarn droseddol. Roedden nhw'n ofnus, a dweud y gwir; roedd yn codi ofn arnyn nhw rhag dychwelyd i'r llys ac roedd, i bob pwrpas, yn ffordd o sicrhau eu hymddygiad da. Mae hyn yn mynd gam ymhellach, oherwydd mae'n helpu pobl i ddeall effeithiau alcohol a chamddefnyddio alcohol. Mae'n debyg mai hwn yw'r estyniad i gyrsiau ymwybyddiaeth cyflymder mewn rhai ffyrdd, y mae pobl—nid fi, dylwn ychwanegu, ond rhai pobl—wedi canfod eu hunain yn rhan ohonynt. Mae'n ffordd dda o addysgu pobl. Os gallwn ni addysgu pobl allan o ymddygiad, yna mae hynny'n well na'u cosbi nhw heb fynd i'r afael â gwraidd yr ymddygiad hwnnw.

Ym mis Ebrill, cyhoeddwyd y bydd gwaharddiad ar alcohol yn cael ei dreialu mewn rhan o Stadiwm Principality Cymru yn ystod gemau rygbi rhyngwladol yr hydref. Mae hyn yn dilyn cwynion am ymddygiad pobl feddw yn difetha gemau i gefnogwyr eraill, a daethpwyd i'r casgliad bod 87 y cant yn dioddef llu o ymosodiadau llafar. A wnaiff y Prif Weinidog ymuno â mi i groesawu'r cam hwn i fynd i'r afael â chamddefnyddio alcohol mewn gemau rygbi rhyngwladol? A wnaiff ef ymrwymo i drafod hyn gyda chyrff chwaraeon eraill gyda'r nod o ymestyn y gwaharddiad i gampau a lleoliadau eraill lle mae camddefnyddio alcohol yn broblem yng Nghymru?

Credaf fod dau fater yma yn y stadiwm: yn gyntaf oll, ymddygiad rhai cefnogwyr. Mae meddwdod wedi bod yn rhan o dorfeydd ers llawer iawn o ddegawdau. Nid yw hynny'n esgus, wrth gwrs, am y ffordd y mae rhai pobl yn ymddwyn. Os bydd pobl yn ymddwyn mewn ffordd sy'n wrthun neu'n mynd yn groes i drefn gyhoeddus, yna dylid hysbysu stiwardiaid a dylai'r bobl hynny gael eu rhybuddio ac, os na fyddant yn cymryd sylw o'r rhybudd, dylid eu taflu allan o'r stadiwm. Yr ail bwynt yw bod llawer o bobl yn cwyno eu bod nhw i fyny ac i lawr ar eu traed drwy'r amser wrth i bobl fynd yn ôl ac ymlaen i'r bariau i brynu alcohol. Mae'n ymddangos i mi nad oes angen i bobl brynu alcohol trwy gydol y gêm er mwyn mwynhau'r gêm, a chredaf fod hwn yn gynllun arbrofol pwysig—os gallaf ei alw'n hynny—sy'n cael ei arloesi er mwyn gweld beth fydd yr effaith.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood. 

Diolch, Llywydd. A all y Prif Weinidog gadarnhau pa un a yw'r Blaid Lafur yn cefnogi ein haelodaeth o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd ai peidio?

Mae'n un dewis y mae angen i ni ei ystyried ac mae hynny'n rhywbeth, fel Llywodraeth, yr ydym ni wedi ei wneud. Dyna pam yr es i i Norwy, mewn gwirionedd, i weld sut yr oedd y sefyllfa yn gweithio yn Norwy. Model diddorol—nid un sy'n addas i Gymru yn union, ond, serch hynny, os gall Norwy weithio yn unol â model o'r fath ni welaf unrhyw reswm pam na all y DU lunio ei model ei hun.

Mae ein hamser yn dirwyn i ben, Prif Weinidog, ac rydych chi wedi disgrifio safbwynt Llafur fel hyblyg. Nawr, nid oes dim yn hyblyg am £5 biliwn yn diflannu o economi Cymru; nid oes dim yn hyblyg am swyddi a chyflogau Cymru yn diflannu a byth yn dychwelyd; nid oes dim yn hyblyg am rolio'r dis ar ein marchnad ryngwladol fwyaf ar gyfer amaethyddiaeth, dur a dros 60 y cant o holl allforion Cymru. Mae hyd yn oed y Papur Gwyn ar y cyd, 'Diogelu Dyfodol Cymru' yn nodi mai'r dewis lleiaf niweidiol i Gymru yw y tu mewn i'r Ardal Economaidd Ewropeaidd. Cyd-luniwyd yr adroddiad hwnnw gennym ar sail dealltwriaeth eich bod chi eisiau sefyll gyda ni yn erbyn Brexit Torïaidd eithafol. Pam ydych chi'n cefnu ar eich dadansoddiad eich hun? Ac a ydych chi'n credu bod eich arweinydd yn San Steffan yn iawn i glirio'r llwybr i'r Torïaid ein tynnu ni allan o'r farchnad sengl?

Prif Weinidog Cymru ydw i; nid wyf i'n gyfrifol am yr hyn sy'n digwydd yn San Steffan. Yr hyn y gallaf ei ddweud yw hyn: nid yw ein safbwynt wedi newid. Mae aelodaeth o'r AEE yn ddewis pwysig y mae angen ei gadw'n agored. Yr hyn na ddylai'n bendant fod yn destun trafodaeth yn fy marn i—a gwn y bydd hi'n cytuno â hyn—yw bod angen i ni aros o fewn yr undeb tollau, ac, yn ail, wrth gwrs, cael mynediad llawn a dilyffethair at y farchnad sengl. Nid yw'r sefyllfa wedi newid o'r adeg pan luniwyd y ddogfen honno gan y ddau ohonom ni.

Chi yw Prif Weinidog Cymru, rydych chi hefyd yn aelod o'r Blaid Lafur, a byddwn yn tybio y dylai fod gennych chi rywfaint o ddylanwad. Nawr, bydd ASau Plaid Cymru yn pleidleisio yfory i achub swyddi a'n heconomi trwy aros yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd. Yn wahanol i Lafur, byddwn yn gwrthwynebu'r Torïaid ac yn gwneud ein gorau glas i atal Brexit Torïaidd eithafol a fydd mor drychinebus i Gymru. Os gwnewch chi adael i'ch plaid ein llusgo ni allan o'r farchnad sengl, byddwch yn anwybyddu eich Papur Gwyn eich hun, eich arbenigwyr eich hun, eich dadansoddiad eich hun. A dweud y gwir, byddwch yn anwybyddu aelodau o'ch Cabinet eich hun. Fe'i mynegwyd yn berffaith gan yr AS Llafur dros Bontypridd a'ch Ysgrifennydd Cabinet eich hun dros lywodraeth leol pan ddywedasant bod Llafur wedi creu 'gôl agored' i'r Torïaid, a bydd Cymru'n cael ei niweidio o ganlyniad. Felly, beth fydd hi, Prif Weinidog? A wnewch chi gefnogi sylwadau'r AS dros Bontypridd a'ch Ysgrifennydd Cabinet, neu a wnewch chi barhau i gyd-fynd â neges Llafur Llundain, gan roi buddiannau eich plaid eich hun o flaen buddiannau eich gwlad eich hun?

13:40

Mae'n sylw rhyfeddol, oherwydd, er mwyn darparu unrhyw dystiolaeth o gwbl i gefnogi hynna, byddai'n rhaid iddi ddangos, rywsut, fy mod i wedi gwrthwynebu aelodaeth o'r AEE—nid wyf wedi gwneud hynny, na'r Llywodraeth ychwaith—yn ail, fy mod i, rywsut, yn gwrthwynebu aros yn yr undeb tollau, pan, mewn gwirionedd, fy mod i'n un o'i gefnogwyr mwyaf brwd, gan fy mod i'n gwybod yn iawn beth fyddai'n digwydd yn Iwerddon pe byddai hynny'n digwydd; yn drydydd, fel y bydd hi'n gwybod, rwyf i wedi dadlau erioed, fel y mae hithau, dros fynediad llawn a dilyffethair at y farchnad sengl. Nid yw safbwynt Llywodraeth Cymru wedi newid, a byddwn yn parhau i ddadlau'r achos i'r rhai hynny mewn mannau eraill yn y DU sy'n aelodau o'n plaid. Ond rydym ni mewn Llywodraeth yng Nghymru. Mae ein safbwynt yn eglur, nid yw'r sefyllfa wedi newid o'r adeg yr ysgrifennwyd y Papur Gwyn gennym, ac rwy'n ei gwneud yn gwbl eglur: mae dyfodol Cymru yn perthyn yn y DU, nad yw hi'n ei gredu; yn ail, yn yr undeb tollau, yn fy marn i, yn y farchnad sengl hefyd, gan fod hynny'n golygu mynediad llawn a dilyffethair at y farchnad sengl—nid yn yr UE, oherwydd bod pobl wedi pleidleisio i hynny beidio â digwydd, ond nid yw'n golygu bod angen i ni gael Brexit anhrefnus yn seiliedig ar genedlaetholdeb chwifio'r faner, sef yr hyn y mae rhai yn y Blaid Geidwadol o'i blaid, yn hytrach na Brexit synhwyrol ac ymarferol sy'n gweithio i Gymru. Dyna'r hyn yr ydym ni ei eisiau, ac rwy'n gobeithio mai dyna mae hithau ei eisiau.

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, yr wythnos diwethaf, gwnaeth Prif Weithredwr cwmni awyrennau Qatar sylwadau annefnyddiol a dilornus iawn ynghylch pa un a fyddai menyw yn gallu cyflawni ei swydd. Rydych chi fel Prif Weinidog wedi nodi'n briodol eich bod chi fel Llywodraeth, a phawb yn y Siambr hon rwy'n siŵr, eisiau i Gymru fod y wlad fwyaf ystyriol o fenywod a chaniatáu llwybrau at bob cyfle yng Nghymru, ni waeth pa ryw ydych chi. Pa sylwadau wnaethoch chi i brif weithredwr cwmni awyrennau Qatar am y sylwadau hyn, o gofio eu bod nhw'n bartner strategol i chi ac, nid yn unig hynny, rydych chi wedi rhoi llawer o arian cyhoeddus ar gael i'r cwmni awyrennau hwnnw i ddatblygu'r llwybrau i mewn i Faes Awyr Caerdydd?

Wel, yn amlwg, nid wyf i'n cytuno â'i eiriau. Prif weithredwr cwmni awyrennau yw ef, nid pennaeth Llywodraeth. Byddwn yn parhau i ddadlau'r achos, yn y DU a thu hwnt, i sicrhau bod cydraddoldeb yn dod yn rhywbeth sydd wedi ei wreiddio mewn cymdeithasau ledled y byd.

Yn anffodus, o'r ateb yna, Prif Weinidog, rydych chi'n rhoi awgrym na wnaethoch chi unrhyw sylwadau o gwbl i'r prif weithredwr na'r cwmni awyrennau am y sylwadau hyn. Pe byddai'n fusnes bach yng Nghymru, neu'n fusnes canolig yng Nghymru, rwy'n siŵr, o ystyried y contract cymdeithasol yr ydych chi wedi ei ddatblygu, y byddech chi, yn amlwg, yn dangos eich atgasedd at y sylwadau a wnaed ac yn tynnu'r cymorth hwnnw yn ôl oddi wrth y busnes bach neu ganolig ei faint hwnnw. Arwydd arall o'r safonau dwbl yma yng Nghymru yw'r adroddiad heddiw ar Pinewood a'r arian a roddwyd ar gael gan Lywodraeth Cymru i Pinewood i ddatblygu cyfleuster yn Llaneirwg. Soniasoch ar y pryd, yn 2014, bod potensial i £90 miliwn ddod i mewn i economi Cymru; roedd potensial i 2,000 o swyddi gael eu creu gan y datblygiad hwn. Rydym ni'n gwybod bod oddeutu 50 o swyddi wedi eu creu ac, ar hyn o bryd, mae colled ar bapur o £9 miliwn, yn ôl ffigurau'r Archwilydd Cyffredinol. Beth sydd wedi mynd o'i le, Prif Weinidog?

Yn gyntaf oll, mae ychydig dros £4 miliwn wedi ei adennill, ond mae llawer o brosiectau yn dal ar y gweill. Ni fyddech chi'n disgwyl i'r cwbl gael ei adennill ar un tro. Mae'r rhain yn brosiectau tymor hir, a chaiff yr arian ei adennill dros gyfnod hwy. Rwy'n meddwl tybed—mae gen i rai sylwadau o fy mlaen i yn y fan yma, yr wyf i'n meddwl tybed a yw ef yn cytuno â nhw:

Mae ychwanegu cwmni cynhyrchu byd enwog Pinewood at ddiwydiant cynhyrchu ffilmiau Cymru sydd eisoes yn gyfoethog i'w groesawu'n fawr.

Mae nifer cynyddol o ffilmiau mawr yn cael eu saethu mewn lleoliadau ledled Cymru a bydd canolfan newydd Pinewood yn cynnig hyd yn oed mwy o gyfleoedd i weld Cymru ar ffilm, y gallai'r holl wlad elwa arno...

Mae'r cyhoeddiad hwn sydd i'w groesawu'n fawr yn dystiolaeth bellach o enw da cynyddol Cymru, fel lleoliad delfrydol ar gyfer gwneuthurwyr ffilmiau, gyda'r gymysgedd gywir o sgiliau cywir i ddenu mynychwyr sinema'r dyfodol a'r rhai sy'n frwd am ffilmiau.

Rwy'n cytuno â'r sylwadau hynny. Daethant o'i blaid ei hun—Suzy Davies.

13:45

Gwnaed y sylwadau yng ngoleuni eich haeriad y gallai'r buddsoddiad hwn ddod â 2,000 o swyddi, ac rydym ni'n gwybod mai dim ond 50 ohonyn nhw sydd wedi eu darparu, a £90 miliwn i mewn i economi Cymru o bosibl. Pwy na fyddai'n croesawu cynnig o'r fath? Ond yr hyn yr ydym ni wedi ei weld o'ch rheolaeth chi a rheolaeth eich Llywodraeth o'r cais penodol hwn yw eich bod chi wedi methu â bodloni unrhyw un o'r targedau hynny a bennwyd gennych chi yn 2014. Ond y pwynt a nodais gyda Qatar Airways, lle nad ydych chi wedi dweud dim, y pwynt a nodais gyda Pinewood, cwmni rhyngwladol mawr arall, yw os ydych chi'n fusnes bach yng Nghymru ac yn edrych ar y cwmnïau mawr hyn yn cael yr arian ac yna eich bod chi'n cael eich gwahardd rhag cael mynediad at gymorth Llywodraeth Cymru gan eich bod chi wedi gwneud sylwadau mor annymunol, yn achos Qatar, neu goramcangyfrif Pinewood o'r enillion i economi Cymru, byddwch chi'n crafu eich pen heddiw ac yn gofyn, 'Beth yw pwrpas Llywodraeth Cymru?' Onid yw'n wir, Prif Weinidog, yn ystod eich holl amser fel Prif Weinidog, eich bod chi wedi addo llawer ond mai ychydig iawn yr ydych chi wedi'i gyflawni?

Mae diweithdra yn 4.4 y cant, sy'n lefel hanesyddol isel. Gwrthgyferbynnwch hynny â blynyddoedd y Torïaid, pan roedd mewn ffigurau dwbl yn barhaus. Mae'r dinistr a achoswyd ganddyn nhw yno i bawb ei weld. Rydym ni'n gweld diffyg uchelgais llwyr gan feinciau'r Ceidwadwyr. Maen nhw'n amddifad o syniadau, dim uchelgais i'n gwlad, dim diddordeb mewn prosiectau buddsoddi. Nawr, mae'n ymddangos ei fod yn dweud y dylem ni dynnu cymorth i Qatar Airways yn ôl a gadael i hynny fynd. Oherwydd roedden nhw eisiau cau'r maes awyr beth bynnag, gadewch i ni fod yn onest. Nid oedd ots ganddyn nhw pa un a oedd y maes awyr yn cau ai peidio, cyn ymuno yn y balchder pan ddechreuodd y maes awyr fod yn llwyddiannus.

Mae e'n ein cyhuddo ni o gamreoli. Edrychwch ar y ffordd yr ydych chi wedi ymdrin â'r rheilffyrdd. Edrychwch ar y llanastr yr ydych chi wedi ei wneud o'r rheilffyrdd. Mae'n warth yr hyn y mae'r Torïaid wedi ei wneud i'r rheilffyrdd a'r arian sydd wedi ei daflu i ffwrdd—biliynau o bunnoedd dros y blynyddoedd—ar wasanaeth sy'n annigonol. Gwrthgyferbynnwch hynny â'r hyn yr ydym ni wedi ei wneud fel Llywodraeth, gan ddarparu'r gwasanaeth rheilffyrdd gorau erioed i bobl Cymru dros yr ychydig flynyddoedd nesaf.

Edrychwch ar gyflogaeth, edrychwch ar ffigurau diweithdra a pha mor isel ydyn nhw, edrychwch ar y ffaith ein bod ni wedi cael y ffigurau gorau ers 30 mlynedd o fuddsoddiad uniongyrchol o dramor, edrychwch ar y ffaith ein bod ni wedi prynu maes awyr yn 2013, a wrthwynebwyd ganddo ef. Roedden nhw eisiau i ni beidio â phrynu'r maes awyr, roedden nhw eisiau gadael iddo gau, ac mae wedi cynyddu 50 y cant o ran nifer y teithwyr erbyn hyn. Mae gennym ni gysylltiadau rhyng-gyfandirol, ac mae e'n ein cyhuddo ni o beidio â gwneud digon dros Gymru. Edrychwch yn ofalus iawn ar eich hunain a'r dinistr yr ydych chi wedi ei achosi fel plaid.

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, yr wythnos diwethaf, roedd rhai sylwadau yn y cyfryngau ynghylch carcharorion o Loegr yng ngharchardai Cymru. Fel rheol, ni fyddwn yn codi hwn fel mater gan nad yw'r mater o garchardai wedi ei ddatganoli i Gymru. Fodd bynnag, honnir bod y sylwadau hyn wedi dod gan aelod o'ch Llywodraeth. Credir bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus wedi dweud na ddylai carchar y Parc, yn ein rhanbarth a'n hetholaeth ni, gael ei ddefnyddio ar gyfer carcharorion o Loegr. Prif Weinidog, a allwch chi egluro safbwynt eich Llywodraeth ar y mater hwn ac a ydych chi'n credu y dylai carchardai yng Nghymru fod ar gyfer carcharorion o Gymru yn unig?

Yn gyntaf, mae Ysgrifennydd y Cabinet yn eglur na wnaeth ddefnyddio'r geiriau hynny. Yn ail, rydym ni'n gwybod ei bod yn amlwg na all fod yn wir mai dim ond carcharorion o Gymru gaiff fod mewn carchardai yng Nghymru. Mae rhai carchardai nad ydynt yn bodoli yng Nghymru y mae angen iddyn nhw ddarparu lle i garcharorion o Gymru—carchardai categori A, er enghraifft—ac nid oes gennym ni garchar i fenywod ychwaith. Felly, ni allem ni greu rhyw fath o system garchardai hunangynhaliol o dan yr amgylchiadau presennol, gan y byddai hynny'n effeithio arnom ni yn fwy na neb.

Diolch am egluro hynny, Prif Weinidog. Fel yr ydych chi wedi ei ddweud yn briodol, nid oes gennym ni garchar i fenywod yng Nghymru a dim un carchar categori A. A dweud y gwir, mae'r carchardai yng Nghymru wedi eu gorlenwi'n ddifrifol. Mae gan Gymru 4,747 o garcharorion a chapasiti gweithredol o ddim ond 3,700 ar draws y pum carchar. Felly, mae nifer fawr o garcharorion o Gymru wedi eu carcharu mewn carchardai gannoedd o filltiroedd o'u cartrefi. Credir fod hyn yn ffactor sylweddol o ran hunan-niwed a hunanladdiad. Yng nghyflwyniad eich Llywodraeth i'r comisiwn ar gyfiawnder, mae'n ymddangos eich bod chi'n dadlau'r achos dros ddatganoli carchardai. A yw hyn yn wir? Os felly, a fyddai Llywodraeth Cymru yn cefnogi adeiladu carchardai newydd yng Nghymru i leddfu gorlenwi a'r broblem ddiogelwch o ran staff, yr hunan-niweidio ymhlith carcharorion, a darparu lle i garcharorion yn nes at eu cartrefi o ran adsefydlu?

Rydym ni yn credu y dylid ystyried datganoli carchardai, ynghyd â gweddill y system cyfiawnder troseddol. Byddai'n cymryd cryn amser, oherwydd yn amlwg bu gennym ni system integredig â Lloegr ers amser maith. Ond nid yw'n ddigon i ni ddweud, 'Byddwn ni'n cymryd rheolaeth dros garchardai' a pharhau gyda'r un polisi ag o'r blaen. Mae cyfle nawr i ni edrych ar system newydd o bolisi cosbi er mwyn gwneud yn siŵr bod gennym ni bolisi sydd wedi'i deilwra i anghenion Cymru. Mae hynny, yn fy marn i, yn cynnwys edrych ar wahanol fathau o garchardai, eu maint, eu llwyddiant o ran diwygio carcharorion, ac mae hynny y gyd yn rhan bwysig o'r ystyriaeth o bolisi cosbi i Gymru, pe byddai carchardai yn cael eu datganoli.

13:50

Diolch am hynna, Prif Weinidog. Rwy'n siŵr y gallwn ni i gyd gytuno, er budd diogelwch staff a charcharorion o ran hunan-niweidio, bod angen gwneud rhywbeth ynghylch nifer y staff hefyd—i'r nifer staff gael ei gynyddu er mwyn darparu amgylchedd diogel ac er mwyn helpu gydag adsefydlu ac i atal aildroseddu. Felly, ni waeth pwy sy'n gyfrifol am garchardai, mae gan Lywodraeth Cymru ran i'w chwarae o ran adsefydlu, fel yr ydych chi newydd ei ddweud, ac ymdrech trwy ddarparu gwasanaethau iechyd, addysg, tai a materion cyflogaeth.

Felly, Prif Weinidog, rwyf i eto i gael fy narbwyllo bod dadl dros ddatganoli'r system gyfiawnder, carchardai yn benodol, oherwydd nid wyf i'n credu y gallwn ni ei wneud ar ein pennau ein hunain. Fodd bynnag, mae'n amlwg bod angen mwy o gydweithredu rhwng Llywodraeth Cymru a San Steffan yn hyn o beth. Felly, pa drafodaethau ydych chi wedi eu cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch gwella mynediad at wasanaethau adsefydlu yng ngharchardai Cymru, ac effaith gorlenwi, sy'n cynorthwyo aildroseddu yn y pen draw? Felly, o ran prinder staff a'r effaith ar adsefydlu carcharorion, a allwch chi ateb y cwestiynau hynny os gwelwch yn dda?

Wel, mae'n anodd, gan fod llawer o wasanaethau a ddarperir mewn carchardai yn wasanaethau sydd wedi eu datganoli, ac nid yw cyfateb gwasanaeth sydd heb ei ddatganoli â gwasanaeth sydd wedi ei ddatganoli er mwyn darparu'r gwasanaethau hynny y peth hawddaf i'w wneud. Rydym ni wedi ei wneud, ond bydd ffyrdd haws o'i wneud. Mae hi'n dweud mynd ar ein pennau ein hunain; mae gan Ogledd Iwerddon system garchardai, felly hefyd yr Alban, ac felly hefyd, pe byddai'n dod i hynny, Ynys Manaw, Jersey a Guernsey. Nid yw'n gwbl hunangynhaliol, a bydd dadl bob amser, yn fy marn i, i rai o'r carcharorion mwyaf peryglus gael eu cadw mewn un neu ddau o leoedd efallai, neu dri yn fwy na thebyg, ledled y DU, yn hytrach na ni yn ei wneud yng Nghymru. Byddai'n rhaid i ni dalu am y lleoedd carchar hynny, ond mae nifer y troseddwyr yn y categori hwnnw yn eithaf isel mewn gwirionedd. Felly, mae'n bosibl iawn efallai na fyddwn ni eisiau dewis yr opsiwn o gael carchar categori A yng Nghymru. Ond nid oes unrhyw reswm mewn egwyddor na mewn theori pam na allem ni redeg y system gyfiawnder ein hunain, o ystyried y ffaith bod endidau llai o lawer fel Gogledd Iwerddon wedi bod yn gwneud hynny ers bron i 100 mlynedd.

Tynnwyd cwestiwn 3 [OAQ52330] yn ôl, felly cwestiwn 4—Paul Davies. 

Gwasanaethau Iechyd yng Ngorllewin Cymru

4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol gwasanaethau iechyd yng ngorllewin Cymru? OAQ52295

Mae bwrdd iechyd prifysgol Hywel Dda yn cynnal ymgynghoriad ar hyn o bryd ynghylch cynigion i drawsnewid gwasanaethau cymunedol ac ysbytai yn y gorllewin. A gaf i annog unrhyw un sydd â diddordeb i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad a dweud eu barn er mwyn helpu i lunio gwasanaethau’r rhanbarth ar gyfer y dyfodol?

Brif Weinidog, rwy'n siŵr eich bod chi'n ymwybodol o'm gwrthwynebiad i i gynigion presennol bwrdd iechyd prifysgol Hywel Dda, o gofio bod pob un o'r tri opsiwn mae'r bwrdd iechyd yn eu cynnig yn arwain at israddio ysbyty Llwynhelyg, sydd yn annerbyniol i'r bobl rwy'n eu cynrychioli. A ydych chi felly yn rhannu fy mhryderon, a phryderon pobl sir Benfro, nad oes opsiwn yn yr ymgynghoriad a fydd yn diogelu gwasanaethau yn ysbyty Llwynhelyg? Ac a ydych chi'n cytuno â mi fod rhaid i unrhyw benderfyniadau ar ddyfodol gwasanaethau iechyd yn y gorllewin barchu barn y bobl y mae'r gwasanaethau hynny yn eu gwasanaethu? 

Mae'n hollbwysig, wrth gwrs, bod yna ymgynghoriad eang, ac mae hynny wedi digwydd lan at nawr. Mae bron 1,000—964—o questionnaires ar-lein wedi cael eu cwblhau, a dros 500 drwy'r post. Mae yna gyfarfodydd wedi cymryd lle ac maent wedi cael torf parchus ym mhob un ohonyn nhw. Beth sy'n bwysig i'w gofio, wrth gwrs, yw bod beth sydd wedi cael ei ddodi yn y ddogfen ei hunan wedi cael ei ddatblygu gyda doctoriaid, nyrsys a staff, a phobl sydd yn rhoi gofal, cynrychiolwyr cleifion hefyd a'u partneriaid nhw. So, nid rhywbeth gwleidyddol yw hwn. Nid yw'n rhywbeth sydd wedi cael ei ysgrifennu gan rywun sy'n eistedd mewn swyddfa; mae hwn wedi cael ei ddatblygu gan bobl sy'n gweithio yn y gwasanaeth iechyd. So, mae'n hollbwysig fod pobl yn chwarae rhan. Nid wyf yn mynegi barn, wrth gwrs—ni fyddai'r Aelod yn erfyn i mi wneud hynny—ond mae'n hollbwysig fod pobl yn mynegi barn ynglŷn â pa fath o strwythur a ddylai fod yn y gorllewin yn y pen draw.   

Fe fyddwch chi'n ymwybodol fod ymgynghoriad bwrdd iechyd Hywel Dda yn seiliedig ar wella gwasanaethau yn y gymuned, ac mae hynny yn sail hefyd i'r cyhoeddiad gan y Llywodraeth gynnau fach yr wythnos yma ynglŷn â gofal ac iechyd yn dod yn nes at ei gilydd. Ond y gwirionedd yw bod pobl wedi clywed straeon fel hyn o'r blaen, a'r gwirionedd ar lawr gwlad yw, er enghraifft, rhestr aros o bum mlynedd ar gyfer deintydd gwasanaeth iechyd yn ne Ceredigion, a ffonio yn y bore ar gyfer meddygfeydd yn cael ei ddefnyddio yn gyson iawn fel ffordd o reoli a dogni mynediad at ofal sylfaenol. Oni fyddai'n gwneud mwy o sens bod y bwrdd iechyd o leiaf yn dangos i drigolion Hywel Dda eu bod nhw'n gallu gwneud y pethau sylfaenol yma yn iawn cyn dechrau sôn am gestyll yn yr awyr fel ysbyty newydd?

13:55

Na, nid ydw i'n credu bod yna rywbeth yn bod gydag ysbyty newydd, mae'n rhaid i mi ddweud, mewn egwyddor. Rydw i'n credu bod hynny yn cael ei ystyried. Rydym yn gweld ysbytai yn agor ar draws Cymru. Beth sy'n hollbwysig yw bod y strwythur yn iawn yn y pen draw.

Gyda doctoriaid, nid oes yna ddim rheswm pam ddylai pobl ffonio doctoriaid yn y bore. Y doctoriaid sy'n gwneud hynny—nid y bwrdd iechyd. Mae yna sawl meddygfa ar draws Cymru sydd ddim yn mynnu eu bod nhw'n gwneud hynny. Felly, dewis y doctoriaid yw hynny; dewis y feddygfa yw hynny—[Torri ar draws.] Wel, gallaf i ddweud bod yna sawl meddygfa ar draws Cymru sydd yn rhoi cyfle i bobl wneud apwyntiadau ar-lein. A ydyn nhw'n gwneud hynny? Maen nhw'n gallu ffonio lan i wneud apwyntiad. A ydyn nhw'n gwneud hynny? Dewis doctoriaid yw hynny, ac mae hynny'n rhywbeth mae'n rhaid iddyn nhw ei esbonio i'w cleifion nhw.

Byddwch yn ymwybodol, wrth gwrs, Prif Weinidog, bod ymgynghoriad sy'n mynd rhagddo ac nad yw'n dod i ben tan 12 Gorffennaf. Fe wnes i gais yn y fan yma rai wythnosau yn ôl ynglŷn â chael cyfleoedd ychwanegol i bobl gymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwnnw, ac fe wnaeth bwrdd iechyd Hywel Dda ymateb. Rwy'n gobeithio y gwnewch chi ailadrodd unwaith eto—gan mai ymgynghoriad yw hwn—nad oes unrhyw beth wedi ei benderfynu hyd yn hyn, ac annog pobl, pwy bynnag ydyn nhw, ac yn enwedig beth bynnag fo'u safbwyntiau, fel y gellir eu hystyried yn y ddogfen derfynol a fydd yn cael ei chyflwyno i'w hystyried ar ôl yr ymgynghoriad.

Mae'n iawn i ddweud nad oes unrhyw benderfyniadau wedi eu gwneud. Mae'n hynod bwysig, fel yr wyf i wedi ei ddweud, y ceir yr ymgynghoriad llwyraf posibl. Nid wyf i wedi clywed am unrhyw gwynion ynghylch yr ymgynghoriad ei hun, er, wrth gwrs, bydd safbwyntiau cryf ynghylch beth ddylai'r canlyniad fod. Fel yr wyf i wedi ei ddweud o'r blaen, mae'n hynod bwysig bod y bwrdd iechyd yn manteisio i'r eithaf ar bob cyfle i ymgysylltu â'r cyhoedd.

Saethu ar Dir Cyfoeth Naturiol Cymru

5. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am adolygiad Cyfoeth Naturiol Cymru o saethu ar y tir y mae'n ei reoli. OAQ52335

Gwnaf. Gallaf ddweud wrth yr Aelod bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn dal i ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad a bydd angen i Weinidogion Cymru ystyried yn llawn unrhyw gynigion y mae CNC yn eu llunio. 

Diolch am yr ateb yna. Bu pryder dealladwy ynghylch y tendr ar gyfer yr adolygiad o dystiolaeth i adolygiad saethu Cyfoeth Naturiol Cymru. Rwy'n deall mai un cais yn unig a dderbyniwyd a bod un o'r ddau academydd a gyflogwyd i wneud y gwaith yn cyfaddef bod ganddo ddiddordeb brwd mewn saethu. Rwy'n deall, wrth gwrs, mai corff hyd braich yw Cyfoeth Naturiol Cymru, ond mae gen i ac eraill bryder ynghylch y tegwch o ran sut y cynhaliwyd yr adolygiad hwn yng ngoleuni'r hyn yr wyf i newydd ei esbonio. Mae arolygon barn yn dangos bod symudiad eglur yn erbyn cael saethu ar dir Llywodraeth Cymru, ac roeddwn i'n meddwl tybed a fyddech chi'n ymrwymo mewn adolygiadau o'r fath yn y dyfodol i sicrhau eu bod nhw'n dryloyw ac y gall pobl ddwyn y Llywodraeth i gyfrif, oherwydd rwy'n teimlo y bu methiant yn hyn o beth oherwydd na fu gan bobl yr ymddiriedaeth efallai y bydden nhw wedi dymuno ei chael yn yr adolygiad penodol hwn oherwydd y gwrthdaro buddiannau posibl sydd gan un o'r academyddion.

Mae'r Aelod yn codi mater nad wyf i'n ymwybodol ohono. A gaf i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet ysgrifennu ati hi felly i'r roi sicrwydd y byddai ei angen arni?FootnoteLink Yn amlwg, mae'n fater y mae angen rhoi sylw manylach iddo.

Prif Weinidog, o'm safbwynt i, rwyf i'n eithaf hamddenol ynghylch hyn, gan fod 19 o arbenigwyr wedi cymryd rhan yn y broses hon ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru, yn dechrau o'r economegydd, yr ystadegydd uwch, rheolwyr bywyd gwyllt, eu hadaregydd, ecolegwyr coetir a gofodol, arweinydd tîm hamdden, iechyd a llesiant—. Ni wnaf i ddarllen pob un o'r 19 yn uchel. Yr hyn y mae gen i bryder gwirioneddol yn ei gylch yw fy mod i'n credu ei bod hi'n debygol bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyrraedd safbwynt y maen nhw wedi ei fynegi sy'n seiliedig ar gyngor a barn arbenigol; fodd bynnag, ceir deiseb fawr iawn hefyd a gyflwynwyd sy'n cynnwys nifer fawr o lofnodion, y mae'n ymddangos bod llawer iawn ohonyn nhw o'r tu allan i Gymru. Fy nghwestiwn i chi yw hyn: ar ôl i ran gyntaf yr ymgynghoriad hwn gael ei roi ar waith mewn modd mor drylwyr gan Cyfoeth Naturiol Cymru, a allwn ni gymhwyso'r un trylwyredd i'r rhai hynny a allai ein deisebu ni o'r tu allan i'n gwlad ynghylch yr hyn y dylem ni fod yn ei wneud yn ein gwlad, ac ar ein tir, a chan ein pobl?

14:00

Wel, materion i'r Comisiwn yw'r rheini, mewn gwirionedd, o ran y system ddeisebau, ond clywaf yr hyn y mae'n ei ddweud. Cyn belled ag yr ydym ni yn y cwestiwn fel Llywodraeth, yn amlwg bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn cael ei lywio gan ei ymgynghoriad ac yna cawn ni ein llywio gan safbwyntiau Cyfoeth Naturiol Cymru ac, wrth gwrs, drwy edrych ar yr ymgynghoriad ei hun. Felly, mae'r system ddeiseb yn un peth, ond nid yw'n rhan ffurfiol, wrth gwrs, o ymgynghoriad Llywodraeth.

Llygredd Aer yng Nghaerdydd

6. Pa gamau ychwanegol y bydd Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i fynd i'r afael â llygredd aer yng Nghaerdydd? OAQ52306

Rydym ni wedi cyflwyno cyfarwyddyd i gyngor Caerdydd yn eu gwneud hi'n ofynnol iddyn nhw gynnal astudiaeth o ddichonoldeb i nodi'r dewis neu'r dewisiadau a fydd yn sicrhau cydymffurfiad â therfynau cyfreithiol ar gyfer nitrogen deuocsid, yn yr ardaloedd y mae'r awdurdod yn gyfrifol amdanynt, yn y amser byrraf posibl.

Mae hwn yn amlwg yn fater difrifol iawn gan fod gennym ni'r potensial o gamau cyfreithiol pellach yn yr Uchel Lys yn ein hwynebu os ystyrir nad ydym ni'n mynd i'r afael â'r broblem iechyd fawr hon cyn gynted â phosibl. Mae'r contract KeolisAmey ar gyfer darparu rheilffordd a metro i'w groesawu'n fawr. Bydd y Wi-Fi cynyddol ar y trenau yn annog mwy o gymudwyr i wneud y peth iawn a gweithio tra eu bod nhw'n teithio yn hytrach nag eistedd yn eu ceir, ac mae'r cerbydau ychwanegol ac amlder ychwanegol y trenau hefyd yn bwysig iawn i gael y newid moddol hwnnw sydd ei angen arnom ni. Ond roeddwn i'n meddwl tybed pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ar y cyd â Trafnidiaeth Cymru i nodi llwybrau tram newydd i wasanaethu dwyrain Caerdydd yn arbennig, yn ogystal â de Caerdydd, na all elwa ar uwchraddio'r rheilffyrdd maestrefol presennol? A, hefyd, pa drafodaethau mae'r Llywodraeth wedi eu cael gyda chyngor Caerdydd ynghylch y posibilrwydd o dâl neu ardoll atal tagfeydd, neu'r angen am hynny?

Wel, mater i gyngor Caerdydd fydd y mater o dâl atal tagfeydd. O ran y metro, egwyddor sylfaenol y metro yr oeddwn i eisiau ei sicrhau oedd y byddai modd ei ymestyn. Mae hynny'n golygu, wrth gwrs, bod yn rhaid i'r metro edrych fel mae dulliau eraill o drafnidiaeth, fel rheilffordd ysgafn, gan fod rheilffordd ysgafn yn haws o lawer i'w hymestyn na rheilffordd drom. Yr enghraifft gyntaf o hynny fyddai'r rheilffordd i lawr i'r bae yma yn 2023, ond ceir camau eraill. Mae dwyrain Caerdydd yn cael ei wasanaethu'n wael gan y rhwydwaith rheilffyrdd—bydd parcffordd Caerdydd yn gwella'r sefyllfa, ond nid yw hynny'n ddigon ynddo'i hun. Ceir cynlluniau yng nghamau'r metro yn y dyfodol i ystyried rheilffordd ysgafn/tram, ar gyfer ardal ddwyreiniol Caerdydd. Rwyf i wedi gweld y mapiau i wneud yn siŵr bod y bwlch sy'n bodoli yno yn cael ei lenwi yn y dyfodol. Felly, ni fwriedir i fap y metro fel y mae ar hyn o bryd ddangos ei lawn gyrhaeddiad, ond bydd cyfle i ymestyn y metro trwy reilffyrdd ysgafn i rannau o Gaerdydd sydd wedi cael eu gwasanaethu’n wael yn y gorffennol.

Prif Weinidog, mae llawer o ddinasoedd ledled y byd yn ymdrechu i fod yn garbon niwtral, rhai erbyn mor gynnar â 2025, ac mae'n amlwg y byddai hyn yn cael effaith sylweddol ar ansawdd yr aer. Mae maer Manceinion Fwyaf, Andy Burnham, wedi symud eu targed nhw ar gyfer niwtraledd carbon ddegawd yn ei flaen. Rydym ni yn y Ceidwadwyr Cymreig wedi cydnabod yr angen am fwy o uchelgais yma ac wedi galw am i Gaerdydd fod y brifddinas carbon niwtral gyntaf yn y DU. Tybed a ydych chi'n rhannu'r math hwn o uchelgais.

Credaf ei fod yn eithriadol o uchelgeisiol. Credaf ei fod yn rhywbeth y gellir ei gyflawni o bosibl; mae'n rhywbeth y gwn y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn dymuno ei gyflawni hefyd. Ni allwn aros i'r dechnoleg ddarparu'r gostyngiadau yr ydym ni eu heisiau ar ei phen ei hun, ond mae angen i ni gynnig i bobl, wrth gwrs, gwasanaeth cyfforddus, am bris rhesymol, mynych sy'n eu denu o'u ceir, a dyna y bwriedir i'r metro ei wneud, gwneud yn siŵr nad yw pobl yn teimlo mai'r unig ffordd o gyrraedd y gwaith iddyn nhw yw teithio mewn car.

Un o'r rhesymau y mae Caerdydd wedi dioddef o ansawdd aer gwael yn y gorffennol—ac yn dal i ddioddef yn ôl achosion llys diweddar—yw'r gweithfeydd llygru mawr ar gyrion Caerdydd. Aethpwyd ag Aberddawan, er enghraifft, i'r llys ar fwy nag un achlysur. Mae'n wirioneddol bwysig, rwy'n credu, wrth i ni ddatblygu ein seilwaith ynni, bod gennym ni'r adnoddau cywir, gan gynnwys asesiadau o'r effaith amgylcheddol ar unrhyw ddatblygiadau newydd. Mae wedi bod o bryder mawr i lawer o bobl yng Nghymru nad yw llosgydd y Barri a gynigiwyd ac sy'n dal yn mynd rhagddo ar hyn o bryd wedi bod yn destun asesiad effaith amgylcheddol lawn. Mae'n anodd iawn barnu ansawdd yr aer a fydd yn effeithio ar bobl yn y Barri ac yng Nghaerdydd os na fyddwn yn cynnal asesiad effaith amgylcheddol o'r fath. Gwn fod y Gweinidog dros yr amgylchedd yn ystyried pa un a ddylai orchymyn asesiad effaith amgylcheddol llawn o'r fath. A wnewch chi, fel Prif Weinidog, sicrhau bod hynny'n cael ei wneud i drigolion y Barri, ac i ardal ehangach y de?

14:05

Mae'n rhywbeth sy'n cael ei ystyried, fel y dywed yr Aelod, gan y Gweinidog; mae'n fater iddi hi ei ystyried ymhellach. Mae'n iawn i ddweud mai un o'r pethau y mae angen i ni ei wneud yw edrych ar ffyrdd o leihau ôl troed carbon y broses cynhyrchu ynni, a dyna pam mae angen y morlyn llanw arnom ni. Mae'n debyg bod cyhoeddiad am gael ei wneud ddoe; mae hwnnw wedi ei ohirio. A honnir y bydd cyhoeddiad tuag at ddiwedd yr wythnos, os bydd y Llywodraeth yn dal i fodoli bryd hynny, yn wir. Dim byd o hyd.

Mae'n cytuno â hyn, rwy'n gwybod, ond y cwbl yr ydym ni wedi ei ofyn yw y dylai Cymru gael ei thrin yn yr un modd â Hinkley. Nid ydym ni'n gofyn am fwy na hynny, ond rhowch yr un chwarae teg i ni, yr un chwarae teg, ag y mae Hinkley wedi ei gael. Nawr, cyfrifoldeb y Blaid Geidwadol yma yng Nghymru, ac yn wir yn San Steffan, yw dangos y gallan nhw gyflawni i Gymru yr hyn y maen nhw eisoes wedi ei gyflawni mewn rhannau o Loegr. Dyna eu prawf—a allwn nhw ddangos y gallan nhw lwyddo?

Clymog Japan

7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ymdrechion i fynd i'r afael â'r problemau a achosir gan glymog Japan? OAQ52298

Rydym ni'n gweithio gyda sefydliadau partner a'r cyhoedd i fynd i'r afael â bygythiadau rhywogaethau estron goresgynnol yng Nghymru. Rwy'n cydnabod bod clymog Japan yn broblem sylweddol. Rydym ni wedi mynd ati i ariannu treialon arloesol. Dau beth: yn gyntaf oll, triniaethau cemegol, ond yn ail, rheoli biolegol, trwy ddefnyddio ysglyfaethwr llyslau naturiol. Wrth gwrs, mae'n rhaid i chi fod yn ofalus wrth wneud hynny rhag ofn i chi gyflwyno problem fwy fyth, fel y bydd yr Awstraliaid yn dweud wrthych chi, gyda rhai o'r pethau y maen nhw wedi ei wneud—gyda chansenni siwgwr, yn arbennig. Ond serch hynny, mae'r treialon hynny yn rhai yr ydym ni wedi eu hariannu er mwyn mynd i'r afael â'r broblem.

A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am yr ateb yna? Mae clymog yn broblem ddifrifol yn Abertawe, yn enwedig yn fy etholaeth i, ond rwy'n siŵr y gallai Julie James ddweud yn union yr un peth wrthych chi am Orllewin Abertawe hefyd. Er bod yr arbrawf gydag ysglyfaethwr naturiol a gwell triniaethau cemegol i'w croesawu, mae gennym ni ardaloedd o letem las lle mae clymog wedi dod yn broblem. A oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw gynlluniau i atal tir lletem las rhag cael ei lenwi gan glymog, fel y bydd yn llain glymog yn hytrach na llain las?

Wel, yn y pen draw, wrth gwrs, cyfrifoldeb y tirfeddiannwr yw rheoli clymog Japan ar ei dir. Gallaf ddweud ein bod ni wedi dyfarnu £50,000 i bum cyngor yn ddiweddar drwy'r cynllun ariannu seilwaith gwyrdd i ymgymryd â phrosiect i fynd i'r afael â rhywogaethau planhigion estron goresgynnol ar dros 1,000 o safleoedd ledled y pum sir hynny. Bydd hefyd yn hyfforddi gwirfoddolwyr cymunedol i helpu i reoli'r planhigion hynny, a chyhoeddwyd taflen wybodaeth wedi'i diweddaru gennym yn ddiweddar ar gyfer grwpiau cymunedol a gwirfoddol, sy'n cynnwys cyngor ar gamau ar dir y maen nhw'n ei reoli.

Maen nhw'n dweud mai dim ond rhai pethau fydd yn goroesi cyflafan niwclear yn y wlad hon: E.coli yw un ohonynt, chwilod duon yw'r ail, a'r trydydd—y sicrwydd y bydd y cwestiwn hwn yn parhau i godi ar y papur trefn yn y lle hwn.

Efallai eich bod wedi clywed yn ddiweddar y bu rhai syniadau efallai y dylem ni fwyta mwy o'r clymog Japan yma gan ei fod yn llawn fitaminau a mwynau. Ni allwn fwyta ein ffordd allan o'r broblem hon, yn amlwg, felly fy mhrif gwestiwn i chi yw: a ydych chi wedi cael unrhyw wybodaeth gan awdurdodau lleol y bu unrhyw ddympio anghyfreithlon o glymog Japan yn ein safleoedd tirlenwi?

Nid fy mod i'n ymwybodol ohono, ond rwy'n siŵr bod enghreifftiau ohono. Nid wyf i wedi—. Mae hwnna'n ddull rheoli biolegol nad wyf i wedi ei glywed yn cael ei gynnig o'r blaen. Nid oeddwn i'n ymwybodol bod modd bwyta clymog Japan a dweud y gwir. Mae'n debyg y dylwn i ychwanegu'r cafeat, os oes unrhyw un yn gwylio hyn: peidiwch â rhoi cynnig ar hyn gartref tan iddo gael ei brofi'n llwyr. Mae arweinydd y tŷ yn dweud wrthyf ei fod yn gwbl ofnadwy; ni wnaf i ofyn iddi ai profiad personol yw hynny ai peidio, ond nid yw'n argymhelliad ganddi hi. Bwytadwy ond ofnadwy—[Chwerthin.]—dyna yw safbwynt y Llywodraeth ar fwyta clymog Japan.

Ceir pwynt pwysig yma: mae clymog yn rhywogaeth arbennig o oresgynnol—hawdd ei symud o gwmpas—ac, wrth gwrs, mae'n hynod bwysig ein bod ni'n chwilio am ffyrdd newydd o'i reoli, ond hefyd, wrth gwrs, yr ymdrinnir ag unrhyw fath o anghyfreithlondeb o ran ei ddympio cyn gynted â phosibl.

Mae'n ffaith adnabyddus mai clymog Japan yw un o'r planhigion mwyaf niweidiol i gael ei gyflwyno i ynysoedd Prydain erioed. Rwy'n deall bod gan gynghorwyr lleol ddyletswydd i reoli plâu clymog. Gan fod y plâu hyn yn gallu achosi trafferthion mewn tai preifat, mae'n hanfodol bod y rheolaethau hyn ar waith, ac eto mae hyd yn oed arsylwi arwynebol o ardaloedd sy'n bennaf drefol yn dangos ei bod yn ymddangos nad yw mesurau rheoli yn cael eu cymhwyso. A fyddai'r Prif Weinidog yn ystyried ailgyhoeddi canllawiau, ac efallai nodyn i atgoffa cynghorau lleol am eu dyletswydd yn hyn o beth?

Wel, rwy'n credu fy mod i wedi cyfeirio ychydig yn gynharach at y canllawiau yr ydym ni wedi eu darparu yn ddiweddar—canllawiau wedi'u diweddaru—yn yr ateb a roddais i'r Aelod dros Ddwyrain Abertawe. Mae'r rheini ar gyfer grwpiau cymunedol a gwirfoddol, ac yn eu cynghori ar gamau y gallan nhw eu cymryd. A bydd awdurdodau lleol, wrth gwrs, yn ymwybodol o unrhyw gyfrifoldebau statudol sydd ganddynt.

14:10
Y Rhwydwaith Trafnidiaeth Traws-Ewropeaidd

8. Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i'r rhwydwaith trafnidiaeth traws-Ewropeaidd wrth ddatblygu ei chynlluniau trafnidiaeth? OAQ52329

Mae ein buddsoddiad yn y rhwydwaith ffyrdd i fodloni safonau Ewropeaidd a'n lobïo parhaus i Lywodraeth y DU fuddsoddi yn ein rhwydwaith rheilffyrdd TEN-T yn dangos y pwysigrwydd yr ydym ni'n ei osod ar gysylltedd trafnidiaeth da gyda gweddill y DU ac Ewrop.

Diolch am yr ateb yna, ond, gan gynllunio ar gyfer y dyfodol, ceir enghreifftiau o wladwriaethau nad ydyn nhw yn aelodau o'r UE sy'n rhan o'r rhwydwaith TEN-T—er enghraifft, mae'r Swistir yn aelod. A yw hynny'n rhywbeth y mae'r Cabinet wedi ei drafod o ran cynllunio ôl-Brexit, oherwydd bydd i ba raddau yr ydym ni'n cydgysylltu â'r UE ar welliannau i'n prif seilwaith trafnidiaeth—ein ffyrdd, ein rheilffyrdd, ein meysydd awyr a'n porthladdoedd—yn cael effaith enfawr ar weithgarwch economaidd am ddegawdau i ddod? Dylai Cymru geisio cynnal y pontydd hynny, hyd yn oed os yw Lloegr yn benderfynol o'u llosgi.

Daearyddiaeth yw'r anhawster, wrth gwrs. Mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr bod y rhwydwaith yn aros yn ei le, ar draws de Prydain gyfan yn arbennig. Nid oes rhaid i chi fod yn aelod o'r UE i fod yn rhan ohono. Mae'r Swistir yn rhan o TEN-T ac nid yw hi'n aelod o'r UE, ac, wrth gwrs, mae'r rhwydwaith yn cysylltu dau aelod o'r UE: Iwerddon, ar y naill law, a'r gwledydd ar y cyfandir ar y llall. Felly, nid oes unrhyw reswm o gwbl, yn rhesymegol, pam na ddylem ni fod yn rhan o'r rhwydwaith hwnnw. Dim ond cefnogwyr Brexit a chwifwyr baner mwyaf brwd UKIP allai o bosibl gredu bod bod yn rhan o raglen integredig i wella cysylltiadau trafnidiaeth yn rhyw fath o gynllwyn Ewropeaidd. Felly, nid oes unrhyw reswm pam na ddylem ni aros yn rhan o'r rhwydwaith hwn.

A gaf i ofyn, Prif Weinidog, sut ydych chi'n ymgysylltu â Llywodraeth y DU ynghylch y llwybrau hyn? Yn amlwg, fel yr ydych chi newydd ei ddweud, mae hwn yn fater sy'n ymestyn ar draws y ffin, ac mae'n amlwg yn bwysig bod y ddwy Lywodraeth yn gweithio gyda'i gilydd.

Ydy, ac rydym ni'n gwneud hynny pryd y gallwn. Yn ei etholaeth ef, wrth gwrs, bydd yn gwybod—mae e'n gweld ffordd osgoi'r Drenewydd yn cael ei hadeiladu ar hyn o bryd, a gwn ei fod wedi ei chroesawu. Bydd wedi cael ffordd osgoi Four Crosses hefyd, ac yna, wrth gwrs, ar ôl mynd trwy Lanymynech, mae'r ffordd yn dechrau arafu, gan fynd trwy Pant i mewn i Swydd Amwythig a thu hwnt. Gall fod yn anodd ymgysylltu â'r adran drafnidiaeth, fel eu bod nhw'n deall sut y mae ffyrdd sy'n ymddangos yn ymylol iddyn nhw yn bwysig i ni, ac i'r cymunedau sy'n byw ar hyd y ffyrdd hynny yn Lloegr hefyd. Felly, byddwn bob amser yn parhau i weithio gyda'r Llywodraeth yn Lloegr er mwyn gwneud yn siŵr bod ein rhwydwaith ffyrdd—a'n rhwydwaith rheilffyrdd yn wir—mor rhyng-gysylltiedig â phosibl.

Brexit

9. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau gyda Llywodraeth y DU am Brexit? OAQ52334

Gwnaf. Rydym ni'n parhau i ddefnyddio amrywiaeth o sianeli ar gyfer trafodaeth, yn enwedig trafodaethau llawn ac Ewropeaidd Cyd-bwyllgor y Gweinidogion—EN. Yn fwyaf diweddar, ar lefel wleidyddol, cafwyd cyfarfod cyntaf y fforwm gweinidogol ar drafodaethau'r UE ar 24 Mai.

Diolch. Rwy'n siŵr y bydd y Prif Weinidog wedi darllen, gyda phryder, manylion cynlluniau Llywodraeth y DU ar gyfer Brexit 'dydd y farn', fel y'i gelwir, lle byddai'r ail sefyllfa waethaf ohonom ni'n gadael yr UE heb gytundeb yn arwain at fethiant porthladd Dover, prinder bwyd, prinder tanwydd, a'r GIG yn rhedeg allan o feddyginiaethau o fewn pythefnos. A gaf i ofyn i'r Prif Weinidog pa drafodaethau ydych chi wedi eu cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch y cynlluniau 'dydd y farn' hyn, fel y'u gelwir? Ac o ystyried bod ymdriniaeth Llywodraeth y DU o Brexit yn troi'n fwy o llanastr bob munud, pa sicrwydd allwch chi ei gynnig na fyddwn ni'n wynebu tarfu ar wasanaethau allweddol fel y GIG yng Nghymru?

Y broblem sydd gennym ni yw nad oes gennym ni Lywodraeth synhwyrol yn Llundain. Nid oes gennym ni Lywodraeth sy'n gwbl benderfynol o gael Brexit caled hyd yn oed, ac yn gwbl benderfynol o'i symud ymlaen, doed a ddelo, gyda mwyafrif yn y Senedd. Yr hyn sydd gennym ni yw llanastr—llanastr llwyr. Dychwelodd David Davis o ble bynnag y mae ef wedi bod dros y misoedd diwethaf i gwyno am Ogledd Iwerddon. Ymddiswyddiad, unwaith eto, y bore yma, Gweinidog Llywodraeth yn Llundain nad yw'n hapus gyda'r trywydd y mae'r Llywodraeth Dorïaidd yn ei ddilyn. Mae gennym ni Brif Weinidog sydd mewn sefyllfa o wendid difrifol, y mae'n rhaid iddi apelio am undod o fewn ei phlaid ei hun oherwydd y bradychu sy'n digwydd. Mae gennym ni ein Hysgrifennydd Tramor ein hunain sy'n meddwl y dylai Donald Trump arwain y trafodaethau ac nid arweinydd ei blaid ei hun—nid arweinydd ei blaid ei hun. Ni allech chi ddyfeisio'r fath stori. Pe bawn i'n awdur comedi, byddai pobl yn meddwl ei fod yn rhy anghredadwy. Felly, mae angen rhywbeth mwy synhwyrol arnom ni, yn sicr, yn Llundain—nid oes unrhyw amheuaeth am hynny—oherwydd nid yw o fudd i neb i'r anhrefn hwn barhau. Felly, rydym ni wedi gwneud y pwynt, yn rhesymegol ac yn bwyllog, bod yn rhaid i safbwyntiau pobl gael eu parchu. Mae'n rhaid parchu canlyniad y refferendwm, ond mae'n rhaid ei wneud yn y modd mwyaf synhwyrol posibl.

Ceir rhai sy'n cefnogi Brexit sy'n dweud, 'Pleidleisiodd pobl yn y refferendwm dros y Brexit caletaf posibl.' Nid dyna ddywedodd etholiadau'r llynedd wrthym ni o gwbl. Wnaeth pobl ddim pleidleisio dros Brexit caled. Cynigiwyd y cyfle iddyn nhw gan Theresa May i bleidleisio dros Brexit caled, a dywedasant 'na', a dyna wirionedd y sefyllfa ddemocrataidd. Pan fy mod i'n gweld papurau newydd yn Llundain yn dweud bod hyn yn rhyw fath o frad mawr, maen nhw'n anghofio canlyniad y llynedd a'r hyn y pleidleisiodd pobl drosto y llynedd. Fy nghred i yw mai'r hyn y mae pobl ei eisiau yw i ganlyniad y refferendwm gael ei barchu ac i Brexit ddigwydd, ond maen nhw eisiau iddo gael ei wneud yn y modd mwyaf synhwyrol a rhesymegol posibl ac nid mewn modd sy'n niweidio'r DU.

Mae'n rhaid i mi ddweud, un o'r pethau sy'n fy mhoeni i yw nad wyf i'n credu bod y porthladdoedd yn barod mewn unrhyw ffordd ar gyfer Brexit caled ym mis Mawrth. Byddwn ni'n gweld oediadau yn y porthladdoedd wedyn. Byddwn ni'n gweld lorïau, nid yn unig yn Dover, ond o bosibl ym mhorthladdoedd Cymru hefyd, mewn tagfa i lawr y ffordd, heb unlle i'w parcio, oediadau, nwyddau'n difetha—nwyddau darfodus—a beth fydd Llywodraeth y DU ei wneud wedyn? Byddan nhw'n rhoi'r bai ar y porthladdoedd. Byddan nhw'n rhoi'r bai ar y porthladdoedd—dyna beth fyddan nhw'n ei wneud. Byddan nhw'n dweud, 'Wel, eich bai chi yw hyn; ni wnaethoch chi fuddsoddi'n briodol. Nid ein bai ni yw ef; bai'r porthladdoedd yw ef.' Neu byddant yn dod atom ni ac yn dweud, 'Eich problem chi yw'r oediadau yng Nghaergybi a Doc Penfro ac Abergwaun gan mai Llywodraeth Cymru sy'n rheoli'r porthladdoedd.' Wel, nid yw hynny'n ddigon da. Os oes cynllunio i fod ar gyfer Brexit caled, sy'n digwydd—ac, mewn rhai ffyrdd, mae'n rhaid i chi ddeall pam mae hynny'n digwydd; wyddoch chi, paratoi ar gyfer y gwaethaf—yna mae'n rhaid bod arian ar gael i helpu ein porthladdoedd i ymdrin â'r canlyniadau a'r oediadau anochel a fydd yn digwydd mewn gwirionedd. Nid yw hynny wedi digwydd. Yn hytrach, yr hyn yr ydym ni'n ei gael yw dim byd yn digwydd, a'r potensial, rwy'n credu, i ddweud wrth borthladdoedd, 'Eich bai chi yw unrhyw oediadau.'

14:15

A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am ei ddatganiad. Wrth gwrs, mater i Lywodraeth y DU fyddai penderfynu pa, os unrhyw, gyfyngiadau neu dollau y byddai yn dymuno eu rhoi—neu beidio—ar nwyddau sy'n dod i mewn i'r wlad, ond, Prif Weinidog, fe'i gwnaethoch yn glir yn gynharach fod eich Llywodraeth yn dal i gefnogi aros mewn undeb tollau â'r UE, ac aros yn y farchnad sengl. Yn y gorffennol, rydych chi wedi awgrymu eich bod yn parchu canlyniad y refferendwm ac na ddylai fod ail refferendwm. Fodd bynnag, ni allwch chi hawlio bellach mai dyna safbwynt eich Llywodraeth oherwydd eich bod chi'n caniatáu i Weinidogion siarad a dweud, er gwaethaf pleidlais Cymru a'r DU yn y refferendwm hwnnw, na ddylem ni gael hynny ac y dylen nhw gael eu gorfodi i bleidleisio eto. Onid ydych chi'n deall os mai'r safbwynt yw bod yn rhaid cael pleidlais arall ar unrhyw fargen, y cyfan yr ydych chi'n ei wneud yw cymell y Comisiwn Ewropeaidd i beidio â chynnig unrhyw drefniant negodi deniadol?

Pam y mae'n dirmygu etholwyr Prydain fel hyn? Mae pobl wedi penderfynu beth sy'n mynd i ddigwydd; mae ganddynt lais cyfartal o ran sut y mae'n mynd i ddigwydd. Nid ydyn nhw wedi eu gwahardd ar y pwynt hwnnw—'Diolch, rydych chi i gyd wedi pleidleisio, o hyn ymlaen, rydych chi'n amherthnasol.' Dyna beth y mae'n ei ddweud wrth bobl Prydain. Dydw i ddim yn dadlau o blaid cynnal ail refferendwm ar y mater. Mae'r refferendwm wedi bod. Ei blaid ef a'i gynhaliodd. Ei blaid a'i gynhaliodd, ar ôl y refferendwm yn 1997. Aethon nhw i mewn i'r etholiad cyffredinol yn 2005 gydag ymrwymiad i gynnal ail refferendwm ar ddatganoli. Felly, roedden nhw’n gollwyr gwael—collwyr gwael ar yr ochr honno. Rwy'n derbyn y canlyniad a welsom ni ddwy flynedd yn ôl, ond does bosib nad yw'n iawn i bobl Prydain benderfynu sut y bydd Brexit yn digwydd. Nid mater i elît Llywodraeth y DU yw penderfynu sut y bydd yn digwydd; mater i'r bobl ydyw. Dydw i ddim yn gweld pam y mae ofn o'r fath yn San Steffan ymysg y Blaid Geidwadol o ran caniatáu i bobl fynegi eu barn ar sut y bydd Brexit yn digwydd. Mae pobl wedi penderfynu ar y cyfeiriad; mae ganddyn nhw bob hawl i benderfynu sut y caiff y car ei yrru.

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf felly yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, ac rydw i'n galw ar arweinydd y tŷ i wneud ei datganiad busnes. Julie James.

Diolch, Llywydd. Un newid bach a geir i fusnes heddiw, sef lleihau hyd dadl Cyfnod 3 y prynhawn yma ar Fil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris Alcohol) (Cymru). Dangosir busnes y tair wythnos nesaf ar y datganiad a'r cyhoeddiad busnes a welir ymysg papurau'r cyfarfod, sydd ar gael i'r Aelodau'n electronig.

A gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol ar lefel y ffioedd y gall awdurdodau lleol yng Nghymru eu codi am eu gwasanaethau? Cysylltodd etholwr o Gasnewydd â mi, sydd yn rhan o anghydfod ynghylch uchder coed ar dir ei gymydog. Mae wedi mynd at Gyngor Dinas Casnewydd erbyn hyn am gymorth, ond maen nhw'n codi ffi o £320 cyn hyd yn oed ystyried y gŵyn. A gawn ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet ar ba un a yw'n credu bod graddfa'r ffioedd hyn yn briodol ai peidio, ac a fydd yn lleihau'r uchafswm er mwyn sicrhau nad yw'r ffioedd yn cael eu defnyddio i godi incwm i'r awdurdodau lleol, drwy flingo trigolion lleol?

Ie, rwy'n credu bod hwnnw'r math o fater y dylai'r Aelod ei godi ag Ysgrifennydd y Cabinet fel mater etholaethol, a hynny drwy ohebiaeth. 

14:20

A gaf i godi dau fater ag arweinydd y tŷ? Yn gyntaf oll, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynglŷn â gallu i ryngweithredu y rhestrau perfformwyr yng Nghymru a Lloegr? Rwyf ar ddeall bod hon yn rhestr sy'n caniatáu i feddygon teulu ddod o Loegr i ymarfer yng Nghymru, a, dybiwn i, i'r gwrthwyneb. Mae'r mater hwn wedi'i godi â mi sawl gwaith gan feddygon teulu yn fy rhanbarth i. Mae gennyf i broblem benodol ar hyn o bryd yn Nyffryn Dyfi, lle, er enghraifft, mae practis wedi ceisio cael tri aelod o staff locwm yn ddiweddar. Cymerodd chwe mis i un locwm gael lle ar y rhestr perfformwyr yng Nghymru. Cymerodd ddau fis i un arall gael lle ar y rhestr perfformwyr yng Nghymru, er ei fod mewn gwirionedd yn gweithio ym Mryste yn gwirio profion gwaed, ond oherwydd bod y profion gwaed yn dod o Gymru, bu'n rhaid iddo fod ar y rhestr perfformwyr yng Nghymru. Mae oedi o ddau fis i wneud hynny yn ormodol, rwy'n credu, pan fyddwch chi'n meddwl am y peth.

Dydw i ddim yn deall y cefndir llawn ynghylch pam na allwn ni gael rhestr gwbl ryngweithredol yma. Wrth gwrs, rwy'n cefnogi datganoli gwasanaethau iechyd yng Nghymru, ond rwyf eisiau inni rannu cyffredinedd â Lloegr yn hyn o beth. Mae'n rhywbeth sy'n rhwystro llawer o bractisau meddygon teulu rhag defnyddio staff locwm yn llwyddiannus yn y ffordd fwyaf priodol ac effeithiol. Maen nhw'n ymgysylltu â hwy, yn talu rhai costau cychwynnol ar eu cyfer, ac yna dydyn nhw ddim mewn gwirionedd yn gweithio iddyn nhw am sawl mis. Dyma beth sy'n dal llawer o bractisau meddygon teulu yn ôl, mewn gwirionedd, nid eu parodrwydd neu fel arall i ateb y ffôn yn y bore. Mae hon yn ffordd o ddogni gwasanaethau, gadewch inni fod yn onest am hyn; cystal inni wynebu'r ffaith honno. Felly, a gawn ni ddatganiad neu lythyr i Aelodau'r Cynulliad am sut y mae hyn yn gweithio, pam y ceir problemau, a pham yr wyf i'n cael meddygon teulu yn cysylltu â mi i ddweud am oedi am fisoedd i gael meddygon teulu cymwys, sydd ar y rhestr yn Lloegr ac sy'n gallu gweithio fel meddygon teulu yn Lloegr? Yn fy marn i, dylen nhw allu croesi'r ffin drwy roi tic syml mewn blwch a dylai fod gennym ni ffordd o wneud hynny.

Nid wyf yn gofyn i chi am ddatganiad ar yr ail fater yr hoffwn i ei godi, ond mae'n gysylltiedig iawn â busnes y Cynulliad ar gyfer y diwrnod neu ddau nesaf. Rydym ni wedi cael ychydig o ffrae ynghylch p'un a yw'r Prif Weinidog yn ymgymryd â gwleidyddiaeth San Steffan ai peidio. Rwy'n credu ein bod ni wedi dod i'r casgliad ei fod ef, a chredaf fod gennym ni i gyd ddiddordeb yn yr hyn sy'n digwydd yn San Steffan heddiw. Mae gennym ni'r dadleuon a'r gwelliannau ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) o Dŷ'r Arglwyddi, ac mae gennym ni awr a hanner i drafod y casgliad cyfan o welliannau yn ymwneud â datganoli, yn ymwneud â gweithredu yng Nghymru a'r Alban, ac rwy'n credu bod hynny'n warthus—bod y ddadl honno wedi cael cyn lleied o amser. Ond, o fewn y set honno o welliannau datganoli, mae gwelliannau a allai fod yn effeithio ar ein cymhwysedd deddfwriaethol ni yn y fan yma.

Mae gennym ni welliant gan eich plaid chi—gan Jeremy Corbyn ei hun, wedi'i eilio gan Keir Starmer—sy'n newid y rheol pum mlynedd sydd gennym ni ar hyn o bryd, o ran bod rheoliadau yn parhau am bum mlynedd ar ôl gweithrediad y Bil Ymadael yr UE, i dair blynedd. Mae hynny yn ei hun yn wahanol i'ch cytundeb rhynglywodraethol. Mae'r cytundeb rhynglywodraethol yn caniatáu ar gyfer pump a dwy yn ychwanegol. Mae arweinydd y Blaid Llafur ei hun yn dweud y dylai hyn fod yn dri a dwy yn ychwanegol. Felly, yn syth, rhywbeth y gwnaethom ni bleidleisio arno— na chafodd gefnogaeth gan Blaid Cymru yn sicr, ond fe wnaethom ni bleidleisio ar hyn fel Cynulliad rai wythnosau'n ôl—mae hyn yn gallu cael ei newid heddiw yn Nhŷ'r Cyffredin drwy set wahanol o welliannau.

Rwy'n credu bod hyn yn tanlinellu, pa mor anhrefnus yw San Steffan wrth ymdrin â datganoli ac, mae'n rhaid imi ddweud y gwir yn blaen, mae'n tanlinellu diffyg cydlyniaeth o fewn eich plaid eich hun yn y ffordd yr ydych hi'n ymdrin â hyn. Ni wnaf i ailadrodd yr hen ddadleuon yr ydym ni wedi eu cyflwyno, eich bod chi wedi cyflwyno'r cytundeb rhynglywodraethol hwn yn rhy gynnar ac y gwnaethoch chi hynny ar frys ac efallai erbyn hyn eich bod chi'n difaru'ch enaid, ond a allwch chi ddweud wrth y Cynulliad sut y byddwch chi'n ymdrin â'r materion hyn wrth i chi dderbyn adroddiadau gan Dŷ'r Cyffredin? Wrth i ni weld unrhyw effaith ar y setliad datganoli, sut yr ydych chi'n bwriadu rhoi'r wybodaeth honno inni, a beth yw eich bwriad o ran sut y dylai'r Cynulliad, dros yr ychydig ddyddiau nesaf, ymateb i rai o'r gwelliannau hynny a allai yn awr newid Bil Ymadael yr UE? 

Ie, wel, ar un ail bwynt hwnnw, rydym ni'n hyderus bod y gwelliannau yn annhebygol o gael effaith ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol. Cafodd y Memorandwm ei ddrafftio mewn ffordd eithaf cryf yn hynny o beth, ond yn amlwg, byddwn ni'n cadw llygad ar yr hyn sy'n digwydd yn San Steffan. Os bydd unrhyw beth yn digwydd sy'n effeithio ar hynny—ac rydym ni'n credu bod hynny'n annhebygol iawn—yna, yn amlwg, cynhelir trafodaethau â'r Llywydd ynghylch sut i ddelio â hynny. Ond rwy'n pwysleisio ein bod ni'n credu bod hynny'n annhebygol ar hyn o bryd. Rydym ni wedi dweud bob amser ein bod ni'n credu y gallai'r sefyllfa gael ei gwella, ond ein bod ni'n hapus â lle'r oedd yn rhaid iddi fynd, ac mae'r sefyllfa honno'n parhau. Ond, yn amlwg rydym ni'n cadw llygad ar yr hyn sy'n mynd ymlaen ac, yn wir, mae wedi bod yn destun trafodaeth rhwng y Llywydd a ninnau, o ran cadw llygad gofalus yn hyn o beth. Byddwn ni'n gwneud hynny yr wythnos hon, a bydd llawer ohonom ni'n cymryd diddordeb mawr iawn yn yr hyn sy'n digwydd yr wythnos hon, am resymau amlwg, fel y gwnaethoch chi ei ddweud.

O ran y mater arall, byddaf yn trafod ag Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd y ffordd orau o wneud yn siŵr bod Aelodau yn cael yr wybodaeth angenrheidiol i ddeall y system. Rwy'n credu bod hynny yn debygol o fod drwy lythyr at Aelodau'r Cynulliad, ond byddaf yn cael trafodaeth ag ef i wneud yn siŵr bod Aelodau yn cael yr wybodaeth sydd ei hangen arnynt er mwyn gallu deall sut y mae'r system yn gweithredu.

14:25

Yr wythnos diwethaf, cawsom y newyddion drwg iawn bod House of Fraser yn cau siopau yn y De. Yng Nghaerdydd, adeilad eiconig Howells sy'n cau, ac wrth gwrs mae House of Fraser Cwmbrân yn cau hefyd, a bydd hynny'n golygu colli cyfanswm o 438 o swyddi. Rwy'n gwybod bod rhai o fy etholwyr yn gweithio yn Howells yng Nghaerdydd, sydd yn etholaeth Jenny Rathbone yng nghanol Caerdydd. Felly, mae hon yn ergyd gwirioneddol ofnadwy. Yn sicr yng Nghaerdydd, agorwyd siop Howells yn 1865, ac mae'r rhan fwyaf o bobl yng Nghaerdydd yn adnabod rhywun fu'n gweithio yno neu'n gwneud rhywbeth yno, gan gynnwys fy modryb, a fu'n gweithio yno, a phob man yr ewch chi, mae Howells wedi bod yn siop eiconig. Wrth gwrs, mae hefyd yn ergyd ofnadwy oherwydd, yn ôl yr hyn a ddeallaf, fod y siop honno mewn gwirionedd yn gwneud elw, er ei bod yn rhan o fargen achub House of Fraser yn ei gyfanrwydd. Felly, a gawn ni ddatganiad ynghylch pa gymorth y gellir ei roi i'r aelodau staff, y rhai yr effeithir arnynt, a hefyd a gawn ni ddadl am ddyfodol y stryd fawr, oherwydd rwy'n credu bod cau'r siop hon, ynghyd â siopau eraill sydd wedi cau yn ddiweddar, yn golygu bod yn rhaid inni edrych o ddifri ar y bygythiadau hyn i'n strydoedd mawr?

Ie, mae'r Aelod yn codi pwynt pwysig iawn, ac mae'r ffaith bod y siopau mawr hyn yn cau yn bryder gwirioneddol. Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud ei fod yn hapus iawn i ysgrifennu at Aelodau a nodi beth yn union yr ydym ni'n ei wneud, ond mae'n gyfuniad o'n camau arferol—mae arnaf i ofn dweud 'arferol'; yn anffodus, mae gennym ni gryn brofiad o sefyllfaoedd diswyddo mawr yng Nghymru. Felly, mae gennym ni ymateb i hynny, sy'n cynnwys ein rhaglen ReAct 3, darparu pecyn cynhwysfawr o gymorth i bobl sydd yn y sefyllfa hon. Nod pwysig y rhaglen yw helpu pobl sy'n wynebu diswyddiadau, neu bobl sy'n weithwyr sydd wedi'i diswyddo yng Nghymru, i allu ailddefnyddio eu sgiliau yn yr economi leol cymaint ag y bo modd. Byddwn ni'n cefnogi ac yn gweithio gyda House of Fraser ac unrhyw gwmni sy'n gwneud y mathau hynny o gyhoeddiadau i weld beth y gellir ei wneud. Mae amrywiaeth o gyngor ar gael drwy Busnes Cymru, ac, wrth gwrs, nodwyd manwerthu yn sector â blaenoriaeth yn y cynllun gweithredu economaidd. Ond mae Ysgrifennydd y Cabinet yn nodi ei barodrwydd i ysgrifennu at bob aelod a dweud beth yn union yw'r sefyllfa o ran y cyhoeddiad hwn.

Meddwl oeddwn i tybed a gawn ni ddatganiad ar sut y mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo'r celfyddydau mewn gwyliau rhyngwladol ledled y byd. Gofynnaf oherwydd fy mod i wedi cael sylwadau gan fardd sy'n byw ar hyn o bryd yn Llydaw, yn wreiddiol o Gymru, sydd â diddordeb mewn hyrwyddo Cymru yn yr ŵyl Interceltique de Lorient yn Llydaw. Mae 70,000 o bobl yn mynd i'r ŵyl honno. 2006 oedd blwyddyn Cymru, ac roedd llawer o hyrwyddo ynglŷn â hyn, ond ers 2006, mae hi’n dweud, ac rwy'n dyfynnu,

'stondin â phlât o bice ar y maen, rhai taflenni di-fflach a chasgen o Felinfoel yw'r cyfan sydd wedi'i gynnig.'

Rwy'n siŵr bod pobl wedi mwynhau'r Felinfoel, ond dydi hi ddim yn ymddangos bod yr arlwy yn ddigon eang i gynrychioli'r hyn sydd gan Gymru i'w gynnig mewn gwyliau rhyngwladol. Mae hi'n teimlo'n angerddol iawn dros Gymru, yn byw yn y fan honno, ac yn dod o Gymru, a meddwl oeddwn i tybed a wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni ar yr hyn yr ydych chi'n ei wneud i hyrwyddo'r ŵyl hon ac eraill, er mwyn i bobl allu mwynhau diwylliant Cymru dramor.

Fy ail gwestiwn yw hyn: fe welsom ni, wrth gwrs, sut y curodd y Alban Lloegr yn y criced yn ddiweddar? Rydym ni wedi cael dadl yma, drwy'r Pwyllgor Deisebau, ynghylch creu tîm criced i Gymru. Fe ddywedodd pobl, 'Wel, dim ond yn erbyn yr Alban y byddent yn chwarae, felly nid yw hynny'n beth da iawn i anelu ato', ond gan ein bod ni nawr wedi gweld yr Alban yn curo Lloegr ac rydym ni eisiau ein tîm criced ar gyfer ein cenedl ni, fel y gallwn ni ddathlu, fel y mae'r Alban yn dathlu ar hyn o bryd. Felly, tybed a gawn ni ddiweddariad gan Lywodraeth Cymru o ran ei barn ar hyn. Rwy'n gwybod bod safbwyntiau wedi gwrthdaro, ond a fyddan nhw'n ailystyried yng ngoleuni'r hyn sydd wedi digwydd yn yr Alban?

Mae'n rhaid i mi edmygu optimistiaeth yr Aelod bod creu tîm yn creu rheswm dros ddathlu. Fel rhywun o Abertawe, mae'n rhaid i mi ddweud wrthych nad yw hynny bob amser yn wir. Caf fy nhemtio i ddweud, 'Gofal piau', ond mae Ysgrifennydd y Cabinet yma yn gwrando ar hynny, ac rwy'n siŵr, y rhoddodd sylw i hyn. Rwy'n siŵr bod yna lawer o chwaraewyr criced da ledled Cymru a fyddai'n gallu rhoi tîm at ei gilydd, ond, fel rhywun o Abertawe, rwyf ychydig yn amheus ar hyn o bryd ynglŷn â siarad am ddathlu timau yn ddiddiwedd, gan ein bod ni'n dal i alaru sefyllfa'r Elyrch.

O ran y celfyddydau ledled y byd, cefais y pleser go iawn o fod ar stondin Cymru yn y gynhadledd ymchwil ac arloesi yn Llundain yr wythnos ddiwethaf, yn lansio adroddiad Graeme Reid ar ymchwil ac arloesi yng Nghymru. Roedd hi'n wych gallu dathlu amrywiaeth fawr o gyfraniadau Cymreig at y celfyddydau, diwylliant ac ymdrech deallusol ar draws y byd. Felly, rwy'n derbyn eich pwynt chi, ac rwy'n hapus i drafod ag Ysgrifennydd y Cabinet lle'r ydym ni arni ar hyn o bryd. Llwyddais i fynd i nifer o wyliau yn ystod y flwyddyn yng Nghymru, ac roedd yn wych i fod yn gallu gweld hynny. Felly, byddaf yn trafod ag Ysgrifennydd y Cabinet o ran beth sy'n digwydd ar hyn o bryd a beth y gallwn ni ei wneud i sicrhau bod Aelodau yn ymwybodol.

14:30

Arweinydd y tŷ, byddwch yn ymwybodol o benderfyniad Llywodraeth yr Alban i gynnal ymchwiliad i blismona streic y glowyr, a byddwch yn ymwybodol bod hyn oherwydd bod Llywodraeth y DU wedi gwrthod, sawl gwaith—fe wnaeth yr Ysgrifenyddion Cartref, Amber Rudd, ac yna Teresa May, y gwnes i gyfarfod â hi sawl gwaith, wrthod cynnal ymchwiliad o'r fath, er gwaetha'r ffaith bod llawer iawn o dystiolaeth newydd a dogfennau wedi dod i'r golwg. Ac mae'n bwysig, nid dim ond oherwydd nifer y glowyr o Gymru a gafodd eu harestio, eu cyhuddo ac yna'u herlyn yn llwyddiannus—a gymerodd gamau yn erbyn—yr heddlu am erlyniad maleisus, ond hefyd oherwydd y ffugio tystiolaeth a'r camddefnyddio pŵer a ddigwyddodd, ac o ble y daeth y gorchmynion ar gyfer y cam-drin hwnnw. Ei berthnasedd, wrth gwrs, yw bod yr ymddygiad hwnnw wedyn, wrth gwrs, wedi'i ailadrodd yn Hillsborough ac yna ymchwiliadau Rotherham. A dyna pam y mae'r ymddygiad hwnnw yn bwysig. Nawr, gall yr Alban gynnal yr ymchwiliad oherwydd y bod y sefyllfa plismona wedi'i datganoli yno, ac ni allwn ni. A gaf i ofyn felly mai'r hyn y bydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud yw cefnogi'n ffurfiol gamau Llywodraeth yr Alban i gynnal ei hymchwiliad ei hun yno, ond y bydd hefyd yn dweud wrth yr Ysgrifennydd Cartref newydd unwaith eto ei bod hi'n hen bryd i Lywodraeth y DU gynnal yr ymchwiliad hwnnw nawr, gan ddatgelu'r dogfennau sydd ar gael? Oherwydd mae yna gwestiynau gwirioneddol i'w hateb ynghylch cam-drin pŵer, o ble y daeth y gorchmynion mewn gwirionedd, ac ni all rhywun ond holi'r cwestiwn: beth sydd gan y Llywodraeth Dorïaidd i'w guddio?

Ie, rwy'n credu bod yr Aelod yn gwneud cyfres o bwyntiau rhagorol. Mae'n hen bryd cynnal ymchwiliad o'r fath. Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn nodi ei fod yn fwy na pharodi wneud y ddau beth hynny: cefnogi Llywodraeth yr Alban, ac ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cartref newydd—nid ydym wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cartref newydd, felly ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cartref ac annog ymchwiliad o'r fath i ystyried y sefyllfa yng Nghymru a Lloegr.

A gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog dros Blant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol ar ddyfodol Gorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010? Bydd Aelodau yn ymwybodol bod hwn yn offeryn sy'n eithrio gwarchodwyr plant cofrestredig rhag cael cyllid gan y Llywodraeth os ydynt yn gofalu am blant perthnasau. Rwy'n credu efallai ei bod hi'n amser da i edrych eto ar yr eithriadau hynny yng ngoleuni'r niferoedd siomedig sydd wedi manteisio ar gynllun gofal plant y Llywodraeth—gallai fod yn amser da i ailystyried yr eithriadau i weld a ellir ymestyn y cynllun hwnnw, a gwella'r nifer o bobl sy'n manteisio arno. Felly, a gawn ni ddiweddariad a datganiad gan y Gweinidog ar y mater hwn mor fuan â phosibl, os gwelwch yn dda?

Mae'r Gweinidog wedi nodi ei fod yn edrych ar y sefyllfa o ran gofalu am blant perthnasau a'r hyn y gellir ei wneud i sicrhau y caiff y deddfau diogelu eu dehongli'n briodol, a hefyd ein bod yn ei hwyluso'r cynllun mewn gwahanol—wyddoch chi, mae nifer diddiwedd o sefyllfaoedd i'w hystyried. Ond mae eisoes wedi nodi ei barodrwydd i wneud hynny, a byddaf i'n gwneud yn siŵr ei fod yn nodi'r amserlen ar gyfer hynny i'r holl Aelodau hefyd.

A gaf i groesawu, arweinydd y tŷ, y ffaith bod Stella Creasy AS wedi sicrhau cefnogaeth drawsbleidiol ar gyfer y ddadl frys ar y gyfraith erthylu yng Ngogledd Iwerddon yr wythnos diwethaf? Nid oedd sôn am y ddadl yn y penawdau newyddion, ond Anna Soubry a wnaeth atgoffa'r DUP fod 724 o fenywod yn dod i'r DU bob blwyddyn i gael erthyliad, wrth i Aelodau Seneddol alw am weithredu brys yr wythnos diwethaf i ddiwygio'r gyfraith yng Ngogledd Iwerddon. A yw arweinydd y tŷ yn cytuno bod Stella Creasy wedi nodi cyfle i Ogledd Iwerddon a gwledydd datganoledig ystyried fframwaith deddfwriaethol newydd i gyfreithloni erthyliadau hyd at 24 wythnos drwy ddiwygio Deddf 1861, a ddiwygiwyd mewn gwirionedd gan Ddeddf Erthylu 1967? Ac a gawn ni ofyn i Lywodraeth Cymru ystyried y posibilrwydd deddfwriaethol hwn?

Roeddwn i'n falch iawn o weld bod Stella Creasy wedi cael y ddadl honno. Gwn fod yr Ysgrifennydd iechyd yn awyddus iawn i edrych ar yr hyn y gallwn ni ei wneud i helpu. Ac rwy'n siŵr y bydd yn hapus iawn i ystyried beth y gallwn ni ei wneud, os gallwn ni, i helpu pobl sydd wedi'u dal yn y sefyllfa honno, sy'n rhywbeth sydd—wel, mae y tu hwnt i amgyffred yr hyn y mae rhywun yn mynd drwyddi yn y sefyllfa honno. Felly, gwn y bydd yn hapus iawn i edrych ar hynny.

14:35

Arweinydd y tŷ, amser cinio heddiw, roeddwn i'n falch o gael mynd i ddigwyddiad a gynhaliwyd gan Julie Morgan ar gyfer Gofal Canser y Fron yn y Pierhead, a gwn fod aelodau eraill—Siân Gwenllian, Jenny Rathbone, rwy'n credu, a Hannah Blythyn—yn bresennol hefyd. Roedd yn ddigwyddiad ardderchog, teimladwy iawn mewn gwirionedd, i glywed am brofiadau o ganser y fron gan bobl sy'n dioddef eu hunain. Mae'r sefydliad yn ceisio darparu gwell gofal cyffredinol yn dilyn triniaeth feddygol ar gyfer canser y fron. Felly, tybed, yn sgil y digwyddiad hwnnw a rhai o'r materion diddorol iawn a godwyd, a gawn ni ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar sut yr ydych yn bwriadu cefnogi sefydliadau fel hyn fel nad yw pobl sydd wedi cael llawdriniaeth canser y fron yn teimlo eu bod ar eu pennau eu hunain yn llwyr wedi hynny, ond eu bod yn teimlo bod ganddynt y gofal cyffredinol a'r cymorth hwnnw sydd eu hangen arnyn nhw i wella'n llawn ac yn barhaol.

Ie, rwy'n siŵr y bydd yr Ysgrifennydd iechyd yn fwy na pharod i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am beth yw'r gofal i bobl sydd wedi cael canser y fron. Bydd yr Aelod yn ymwybodol fy mod i fy hun wedi goroesi canser y fron, ac mae'n rhaid imi ddweud fy mod i'n hynod o ddiolchgar am yr holl gefnogaeth a gefais. Mae'n hanfodol eich bod yn derbyn y gefnogaeth honno er mwyn rhoi trefn yn ôl ar eich bywyd. Gwn fod yr Ysgrifennydd iechyd yn rhannu'r safbwyntiau hynny.

Ddydd Sul, cymerais ran mewn digwyddiad casglu sbwriel ar draeth Llandanwg, a gwnaethom ni gasglu'r sbwriel hyn o fewn un fetr sgwâr o forlin y traeth hwnnw. Fel y gallwch chi ei weld, mae hyn yn llawer iawn o sbwriel, a chofiwch mai gwerth un fetr sgwâr oddi ar linell y llanw yw hwn. Byddwch yn gweld bod 99 y cant ohono yn blastig, ond llawer iawn ohono yw'r gwellt plastig bach iawn o'r diodydd hynny y mae'r rhan fwyaf o blant yn eu hyfed. Felly, y cwestiwn yr wyf i'n dymuno'i ofyn, arweinydd y tŷ, yw a fyddai Llywodraeth Cymru yn ystyried edrych ar atal neu, yn wir, leihau cyflenwad y mathau hynny o wellt drwy ei pholisi caffael cyhoeddus. Yn 2015, gwnaeth eich rhagflaenydd y datganiad hwn:

'Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) (2015) yn rhoi cyfle newydd i ni hybu egwyddorion caffael cyhoeddus yng Nghymru, gan adeiladu ar y gwaith da ers 2012. Golyga rhoi hyn ar waith yn y gwasanaeth cyhoeddus fod rhaid i ni barhau i edrych tuag at ein cenedlaethau i ddod a sicrhau canlyniadau mwy cynaliadwy o'n caffael fel y gallai ein gwariant helpu i gyflawni'r saith nod llesiant'

a nodir yn y Ddeddf honno. Byddwn i'n gofyn ein bod, trwy ein prosesau caffael cyhoeddus, yn edrych o ddifri ar ehangu caffael moesegol i gynnwys gofalu am yr amgylchedd, ac i edrych yn arbennig i sicrhau nad yw'r gwasanaethau yr ydym ni'n eu caffael yn ychwanegu at fwy o sbwriel ar y draethlin, wrth i un fetr sgwâr gynhyrchu cymaint â hynny o sbwriel.

Ie, ac rwy'n credu bod yr Aelod yn gwneud pwynt da iawn, ac mae'n bwynt yr hoffai pob un ohonom ni sy'n cerdded ar hyd y draethlin ei atgyfnerthu. Rydym ni i gyd wedi cael gohebiaeth ysgrifenedig, rwy'n siŵr, gan nifer o ysgolion yn ein hetholaethau a'n rhanbarthau ein hunain yn gofyn inni beth ar y ddaear yr ydym ni'n ei wneud i leihau hyn ac yn rhoi enghreifftiau penodol. Yn sicr, mae ysgolion yn fy etholaeth i wedi ysgrifennu ataf yn gofyn beth yr ydym ni'n ei wneud. Mae gennym ni Gwerth Cymru a'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn gweithio'n agos gyda swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru a WRAP i ddatblygu a chyflawni sawl cynllun arbrofol ar y cyd ag awdurdodau lleol a phartneriaid ledled Cymru i ddangos dulliau newydd ym maes caffael sy'n llwyr ymgorffori Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, ac mae un o'r cynlluniau arbrofol hynny yn ymwneud â gwellt plastig. Mae swyddogion yn edrych i weld beth y gallwn ei wneud i ddatblygu amrywiaeth o ddulliau o nodi tueddiadau a gweithredu camau i leihau neu ddileu'r defnydd o blastigau, gan gynnwys deunydd pacio bwyd a gwellt, yn ein contractau yn y dyfodol. Rydym ni hefyd yn ymgynghori ar y mesurau hynny â chyflenwyr ym mis Mehefin—nawr, Mehefin 2018—a bydd yn monitro canlyniadau yn rhan o reoli contract ffurfiol y cyflenwyr hynny wrth symud ymlaen.

Mae gennym ni amrywiaeth o bethau eraill yr ydym ni'n eu hystyried, ac un o'r cynlluniau arbrofol, er enghraifft—bydd gan y Llywydd ddiddordeb arbennig i wybod—yw cefnogi Cyngor Sir Ceredigion â'u fframwaith nwyddau arlwyo tafladwy cydweithredol, sy'n ymwreiddio Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn llwyr ac yn ystyried dewisiadau amgen cynaliadwy i blastigau ledled y sir. Felly, rydym yn ystyried amrywiaeth o gynlluniau arbrofol yn rhanbarth Joyce Watson, y bydd ganddi ddiddordeb arbennig ynddyn nhw, a'r hyn yr ydym ni'n ceisio'i weld yw pa mor gyflym y gallwn ni gyflwyno'r rhain ledled Cymru fel y gallwn ni ddileu'r pla o blastig yn ein cefnforoedd, a gwn y bydd yr Aelodau wedi gweld rhaglenni ar y teledu ynghylch—treiddiad microblastigau ar draws yr Arctig, yn arbennig, sy'n beth ofnadwy i edrych arno. Felly, gorau po gyntaf y byddwn yn gweithredu.

14:40

Rwy'n ymwybodol bod llawer o'r Aelodau yn cymryd rhan mewn casgliadau sbwriel cymunedol a chasgliadau plastig cymunedol ar draethau. Nid wyf i'n dymuno ei osod yn gynsail y cewch ddod â'ch casgliadau i'w defnyddio yn bropiau i'r Siambr hon. Mi wnes i ei ganiatáu ar y pwynt hwnnw, er mwyn i chi gyflwyno'ch achos yn effeithiol. Byddaf i hefyd yn gwneud y pwynt bod yr Aelod sy'n eistedd wrth ymyl Joyce Watson wedi tynnu llun ar y pwynt hwnnw. Nid ydym ni wedi ein hethol i'r Siambr hon i dynnu lluniau o'n gilydd. Felly, rwyf yn atgoffa'r Aelodau am y pwynt hwnnw hefyd. Ond mae'r pwyntiau yn rhai pwysig, ac nid oeddwn i'n dymuno torri ar draws neu ddifro'r pwyntiau a oedd yn cael eu gwneud. Rhun ap Iorwerth.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Mi wnes i yrru ddoe o fy etholaeth, o Ynys Môn, lawr i Gaerdydd mewn car o'r unfed ganrif ar hugain, sef car trydan, Renault ZOE. Yn anffodus, mae isadeiledd gwefru trydan Cymru yn dod o'r ganrif ddiwethaf, ddywedwn i. Methais i â gyrru'n syth i lawr a gorfod dod drwy Loegr er mwyn gallu gwefru. Nid ydy hynny, yn amlwg, yn dderbyniol erbyn hyn. Mae Plaid Cymru wedi llwyddo i gael £2 miliwn allan o'r Llywodraeth drwy'r gyllideb i weithio ar gynllun i ehangu pwyntiau gwefru. A gaf i ddiweddariad gan y Llywodraeth ar sut mae hwnnw'n cael ei wario a sut mae am olygu ein bod ni, yn fuan iawn, iawn, am gael pwyntiau gwefru yn rhywle rhwng Ynys Môn a Chaerdydd?

Mae'r Aelod yn gwneud pwynt ardderchog ac mae'n un y mae'r Llywodraeth yn ei gefnogi'n llwyr. Rwy'n falch iawn bod gennym y trefniant ar waith. Byddaf i'n sicr yn siarad ag Ysgrifennydd y Cabinet ynghylch y sefyllfa o ran diweddariadau. Byddwn i hefyd wrth fy modd yn cael cerbyd trydan i wneud teithiau hwy, ac rwy'n siŵr bod llawer iawn ohonom yn rhannu'r uchelgais hwnnw. Felly, mae'n rhywbeth yr ydym ni i gyd yn rhannu'r un uchelgais ar ei gyfer a byddaf i'n sicr yn siarad â fy nghyd-Aelod Ysgrifennydd y Cabinet ynghylch ble yn union ydym ni arni ar y cynllun hwnnw.

Arweinydd y tŷ, hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad. Yr wythnos diwethaf, cynhaliodd Glan-yr-afon yng Nghasnewydd berfformiad cyntaf y byd o waith Opera Cenedlaethol Cymru Rhondda Rips it Up!, opera yn adrodd hanes bywyd y swffragét, ymgyrchydd ac entrepreneur o Gasnewydd, Margaret Mackworth, neu Arglwyddes Rhondda. Mae'n dal i fod ar daith ar hyn o bryd i'r rheiny ohonoch nad ydych wedi'i gweld. Ond perfformiodd disgyblion o Ysgol John Frost yn fy etholaeth i waith cydweithredol arbennig, Deeds not Words, yn syth cyn y perfformiad gwych, a rhoddodd y prosiect gyfle i'r myfyrwyr weithio gyda pherfformwyr o'r radd flaenaf o Opera Cenedlaethol Cymru ac, ynghyd â gweddill y gynulleidfa, cefais fy ngwefreiddio  gan eu perfformiad. Yn bwysicaf oll, mae'r prosiect wedi dangos sut y mae rhoi llais i bobl ifanc trwy berfformio yn cael effaith gadarnhaol sylweddol ar eu lles meddwl. Arweinydd y tŷ, a gawn ni ddatganiad ar fudd y celfyddydau creadigol ar les meddwl pobl ifanc?

A fy ail gais i yw: a gawn ni ddadl neu ddatganiad ar ferched a menywod mewn chwaraeon? Heno, mae Cymru yn chwarae yn erbyn Rwsia yn Stadiwm Casnewydd ym Mharc Spytty ar gyfer gemau rhagbrofol Cwpan y Byd FIFA Menywod ac, yn dilyn twf pêl-droed merched, byddai'n dda clywed sut y gall Llywodraeth Cymru gefnogi mwy o fenywod a merched i gymryd rhan mewn chwaraeon fel pêl-droed.

O ran y mater cyntaf, nid wyf i wedi cael cyfle i'w weld. Rwy'n gobeithio y caf i gyfle i'w weld. Rwyf wedi clywed sylwadau da iawn am y perfformiad. Mae gennym ni ddatganiad o weledigaeth Llywodraeth Cymru 'Golau yn y Gwyll', sef ein datganiad ar ddiwylliant a gweithgareddau creadigol, ac mae hynny'n cydnabod yr effaith gadarnhaol y gall cymryd rhan yn y celfyddydau a diwylliant ei chael ar iechyd a lles, gan ategu meddyginiaethau a lles craidd. Mae'n ffaith hysbys bod cymryd rhan, yn yr ystyr ehangaf, yn y celfyddydau a gweithgareddau diwylliannol yn cynyddu hyder personol, hyder yr unigolyn. Mae hefyd yn cynyddu cydlyniant cymunedol, balchder cymunedol. Mae sylwadau Bethan Sayed am y gwyliau rhyngwladol a balchder y bobl yng ngweithgareddau diwylliannol eu cenedl yn enghraifft dda iawn o sut y mae'n gwella iechyd meddwl ac iechyd yr unigolyn. Rwy'n gwybod y bydd y bobl ifanc sy'n cymryd rhan yn y gweithgaredd hwnnw wedi tyfu o ran hyder, ac mewn partneriaeth ac mewn cydlyniant o ganlyniad i hynny. Felly, rydym ni'n cydnabod hynny yn fawr iawn yn rhan o'n datganiad diwylliant a chreadigrwydd, ond rydym ni hefyd yn ei gydnabod yn rhan o'r datganiad iechyd meddwl ac mae'n bwysig iawn pwysleisio hynny yn y Siambr hon.

O ran menywod a merched mewn chwaraeon, Llywydd, rwy'n gobeithio y byddwch yn caniatáu i mi adrodd hanesyn byr iawn, oherwydd es i'n ddiweddar i noson gwis i godi arian. Gofynnwyd inni chwarae cellweirwyr mewn rownd yr oeddem ni'n credu y byddem yn gwneud y gorau ynddi. Chwaraeodd llawer o bobl eu cellweirwyr ar y rownd chwaraeon ac roedd pob cwestiwn am fenywod o Gymru ym maes chwaraeon, ac roedd yn rhyfeddol faint o bobl a oedd yn methu ag enwi, er enghraifft, tair menyw o Gymru sydd wedi cymryd rhan yn y Gemau Olympaidd neu unrhyw aelod o dîm pêl-droed neu rygbi Cymru, ac ati. Pwysleisiodd hyn i mi yr angen gwirioneddol i dynnu sylw at fenywod sy'n cymryd rhan ym maes chwaraeon, er mwyn iddyn nhw fod yn esiamplau da i eraill—maen nhw yn esiamplau da—ond er mwyn i fwy o bobl allu deall swyddogaeth esiampl dda mewn chwaraeon, ac mewn gwirionedd pa mor anhygoel o dda y maen nhw'n ei wneud bob amser a sut y dylem ni fod yn falch ohonynt. Felly, byddaf i'n sicr yn codi hynny â'r Gweinidog ac yn gwneud yn siŵr y gallwn ni dynnu sylw at eu holl ymdrechion.

14:45
3. Datganiad gan y Gweinidog Tai ac Adfywio: Y Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd ac ati) (Cymru)

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan y Gweinidog Tai ac Adfywio, ac rwy'n galw arni hi i wneud ei datganiad ar y Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd ac ati) (Cymru)—Rebecca Evans.

Diolch, Llywydd. Ddoe, gosodais Fil Rhentu Cartrefi (Ffioedd ac ati) (Cymru), ynghyd â'r memorandwm esboniadol, gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Rwy'n falch o gael y cyfle hwn i wneud datganiad am y Bil. Bydd Aelodau yn gwybod ein bod yn ymrwymedig i gael gwared ar rwystrau o ran cael mynediad a gallu symud o fewn y sector rhentu preifat. Mae 'Ffyniant i Bawb', ein strategaeth genedlaethol, yn cydnabod na all pobl fyw yn dda heb gartrefi fforddiadwy o ansawdd da. Rydym yn awyddus i wneud rhentu yn breifat yn ddewis cadarnhaol sydd ar gael yn eang. I'r perwyl hwnnw, rwy'n credu ei bod yn rhaid i unrhyw gostau sy'n gysylltiedig â rhentu fod yn rhesymol, yn fforddiadwy ac yn dryloyw.

Yn anffodus, mae tystiolaeth yn dangos bod y ffioedd a godir ar hyn o bryd gan asiantau gosod tai yn aml yn rhwystr sylweddol i lawer o denantiaid. Mae hynny'n arbennig o wir am bobl sy'n byw ar incwm llai, gan gynnwys cyplau ifanc sy'n dechrau ar eu bywyd gyda'i gilydd, myfyrwyr sy'n byw ar incwm cyfyngedig, neu rieni sengl sy'n cael trafferth i gael dau ben llinyn ynghyd, er enghraifft. Gall ffioedd arwain at unigolion neu deuluoedd yn benthyca arian oddi ar ffrindiau neu berthnasau, yn cael trafferth i dalu biliau, neu'n mynd i ddyled. Efallai eu bod yn mynd i orddrafft neu, yn yr achosion gwaethaf, fe allen nhw droi at fenthyciadau diwrnod cyflog neu fenthycwyr carreg y drws. Fe wyddom fod tenantiaid yn aml yn cael yr un yr un lefel o wasanaeth gan asiantau, ond eu bod yn gweld amrywiaeth eang yn yr hyn y mae disgwyl iddyn nhw ei dalu. Mae'n amheus a yw'r costau a delir yn gyson â'r ffioedd y mae'n ofynnol i denantiaid eu talu. A, beth bynnag, mae landlordiaid hefyd yn talu asiantau am osod tai ac am wasanaethau rheoli eiddo. Mae'r gofyniad i dalu'r ffioedd hyn yn ei gwneud yn anoddach hefyd i gynllunio ar gyfer tenantiaeth, ac mae hynny wedyn yn effeithio ar fforddiadwyedd a hygyrchedd y sector rhentu preifat. Nid yw tenantiaid fel arfer yn herio neu fargeinio gydag asiantau, yn aml am eu bod yn daer am ddod o hyd i gartref yn wyneb cystadleuaeth gan denantiaid eraill. Mae tenantiaid hefyd mewn sefyllfa lle nad oes ond un asiant rheoli ar eiddo bron yn ddieithriad, sy'n golygu nad oes ganddyn nhw unrhyw ddewis ond talu'r ffi y mae'r asiant hwnnw'n ei ofyn os ydyn nhw'n awyddus i rentu'r eiddo.

I ymateb i'r pryderon hyn, bydd y Bil yn gwneud y costau y bydd y tenantiaid yn eu hwynebu yn y dyfodol yn llai o lawer ac yn haws eu deall. Cafodd y Bil ei ddrafftio yng ngoleuni Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016, ac felly mae'n berthnasol i ddeiliaid contract. Ni fydd tâl yn cael ei godi arnyn nhw mwyach am fynd i weld eiddo gyda rhywun, am gael rhestr eiddo, nac am lofnodi contract. Ni fydd yn rhaid iddyn nhw dalu am adnewyddu tenantiaeth mwyach. Ac ni fyddan nhw'n gweld ystod o wasanaethau yn cael ei hychwanegu at eu contract fel ffioedd wrth ymadael pan fyddan nhw'n symud allan mwyach. Bydd taliadau yn llawer mwy rhagweladwy, yn gyfyngedig i'r rhent, adneuon diogelwch, blaendaliadau cadw a diffygdaliadau. Rwy'n disgwyl na fydd yn rhaid i'r rhan fwyaf o ddeiliaid contract ond meddwl am dalu eu rhent a dod o hyd i flaendal diogelwch. Mae'r Bil yn gwarantu hefyd na fydd blaendaliadau cadw ddim mwy na rhent un wythnos. Dyma'r gyfradd y mae'r rhan fwyaf o denantiaid yn ei thalu ar hyn o bryd, ond fwyf eisiau sicrhau bod y costau a wynebir ganddynt ar ddechrau eu contract i rentu cyn lleied ag y bodd modd. Yn yr un modd, mae'r rhan fwyaf o denantiaid ar hyn o bryd yn talu rhywbeth sy'n cyfateb i fis o rent fel blaendal diogelwch, a chredaf fod hynny'n rhesymol. Fodd bynnag, mae'r Bil yn darparu ar gyfer pŵer i wneud rheoliadau ynglŷn â maint y blaendal diogelwch. Mae'r amddiffyniad hwn wedi'i ddarparu i sicrhau ein bod yn gallu osgoi cynyddu costau i lefel afresymol.

Bydd llawer o asiantau a landlordiaid yn cydnabod diben y Bil, a fydd yn sicrhau ein bod yn gweld y newid mewn arfer yn y sector rhentu preifat yr wyf yn gwybod bod Aelodau wedi galw amdano. Os, yn y dyfodol, y bydd asiant neu landlord yn gofyn am daliadau sydd wedi'u gwahardd—hynny yw, taliadau ac eithrio'r taliadau a ganiateir—byddant yn cyflawni trosedd. Rydym hefyd wedi rhoi pwerau i awdurdodau tai lleol ymchwilio i droseddau ac erlyn pobl sy'n rhwystro'r ymchwiliadau hynny, er enghraifft drwy ddarparu gwybodaeth anwir neu gamarweiniol.

Mae goblygiadau cyflawni trosedd yn ddifrifol. Gall awdurdodau tai lleol gyflwyno hysbysiad cosb benodedig o £500 i fodloni atebolrwydd i unigolyn y credant ei fod wedi cyflawni trosedd o ofyn am daliad gwaharddedig. Os na thelir y gosb, gellid dilyn hynny gan erlyn drwy'r llys ynadon. Bydd unigolyn sy'n euog o'r drosedd o ofyn am daliad gwaharddedig yn agored i ddirwy yn dilyn euogfarn ddiannod. Mae'r Bil yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod tai lleol hysbysu Rhentu Doeth Cymru am euogfarn, sef yr awdurdod trwyddedu dynodedig o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014, cyn gynted ag y daw'n ymwybodol o'r euogfarn. Gall torri'r gwaharddiad ar ffioedd olygu atal trwydded i waith gosod neu reoli eiddo. Felly, mae er lles yr unigolyn i sicrhau ei fod yn cydymffurfio â'r Bil. Gadewch i mi fod yn glir iawn: gallai asiantau a landlordiaid roi eu busnes yn y fantol os cânt eu heuogfarnu o gyflawni trosedd.

Mae'n bleser gennyf gyflwyno'r Bil hwn i'w graffu gan y Cynulliad. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr iawn at ymgysylltu â'r Cynulliad a phwyllgorau'r Cynulliad dros y misoedd nesaf ar y Bil yr wyf yn gobeithio fydd yn garreg filltir bwysig o ran gwella bywydau cannoedd o filoedd o bobl yng Nghymru sy'n rhentu yn y sector rhentu preifat ar hyn o bryd. Diolch.

14:50

A gaf i ddechrau drwy led groesawu'r fenter ddeddfwriaethol hon? Mae'n dilyn gweithrediad mesur tebyg yn yr Alban o 2012, a cheir deddfwriaeth arfaethedig yn San Steffan; credaf fod honno wedi'i lansio'r mis diwethaf. Felly, mae angen cyhoeddus eglur i ddiwygio yn y maes cyfreithiol hwn, a bydd y Bil yn ceisio creu sector a marchnad rhentu preifat sy'n fwy tryloyw, ac rydym ni yn cefnogi'r nodau hynny.

Mae marchnad y sector preswyl preifat yn cynnig dewis pwysig o ran tai ac ar hyn o bryd mae'n cynrychioli oddeutu 15 y cant o'r cyflenwad o anheddau yma yng Nghymru, ac mae hwnnw wedi mwy na dyblu yn ei faint ers y flwyddyn 2000. Mae arolwg diweddar o rentwyr preifat yn awgrymu bod bron i draean o aelwydydd sy'n rhentu eu cartref yn breifat yn gwneud hynny drwy asiant gosod tai. Felly, mae llawer o bobl yng Nghymru—oddeutu 57,000 o aelwydydd—yn byw mewn cartrefi a osodwyd drwy asiantau, felly mae'n sector sylweddol iawn. Bydd mwyafrif helaeth y tenantiaid hynny wedi talu ffioedd gosod. Y llynedd, talodd traean o denantiaid dros £200 i asiantau gosod mewn ffioedd i ddechrau tenantiaeth, ac mae hyn yn golygu y byddai rhentu cartref tair ystafell wely cyffredin, er enghraifft, yng Nghaerdydd, yn golygu talu mwy na £1,600 mewn costau sefydlu, gan gynnwys rhent ymlaen llaw a bond. Felly, mae angen newid sylweddol ledled y sector—nid wyf yn credu y gellir gwadu hynny—ac rydym mewn sefyllfa dda erbyn hyn i wneud y newidiadau hyn gan ein bod hefyd wedi cael newid yn y strwythurau ffioedd o ganlyniad i'r Ddeddf rhentu cartrefi, a chredaf ei bod hi'n bryd inni symud tuag at ddiwygiadau mwy cynhwysfawr. Felly, rydym ni yn cefnogi'r egwyddor.

Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i'r Llywodraeth—ac, yn wir, yn y broses graffu, i'r pwyllgor—edrych ar y profiad yn yr Alban. Rwy'n gwybod bod eu sefyllfa gyfreithiol nhw yn wahanol, ond ers i waharddiad effeithiol—roedd un yn bodoli o'r blaen yn dechnegol—ar lawer o'r ffioedd hyn ddod i rym, bu, yn y 12 mis ar ôl y gwaharddiad, gynnydd mewn rhenti o 4.2 y cant, yn ôl data Llywodraeth yr Alban ei hun. Felly, rwyf i o'r farn ei bod yn rhaid i ni fod yn ofalus ynglŷn â'r ffordd y caiff rhai o'r costau hyn eu hailgylchu yn y system. Felly, mae'n bwysig iawn, yn fy marn i, gwahaniaethu rhwng y costau hynny sydd yn gyfreithlon oddi wrth y rhai—os gallaf ddefnyddio'r ymadrodd priodol yn cyd-destun hwn—sydd yn ceisio rhent; maen nhw'n mynd ag arian oddi ar bobl sydd mewn sefyllfa fregus, a chan hynny codir tâl arnynt am bob mathau o bethau ychwanegol ar ddechrau tenantiaeth, neu beth bynnag. Felly, mae hi'n bwysig iawn, iawn ein bod ni'n dysgu o brofiad.

Credaf fod rhai dulliau amgen rhesymol wedi eu codi, a chredaf y dylem ni yn ysbryd craffu agored, edrych ar y rhain. I sôn am rai yn unig—a chredaf fod hyn wedi'i godi mewn deddfwrfeydd eraill—ceir y dewis amgen o ymestyn y gost, pan fo'r ffioedd hynny sy'n cael eu hystyried yn ddilys yn cael eu talu efallai dros gyfnod y denantiaeth neu chwe mis cyntaf y denantiaeth, fel nad oes y baich echrydus hwn ar y cychwyn, sydd yn creu sefyllfa anodd iawn i nifer o aelwydydd, yn enwedig y rhai hynny sydd mewn angen ariannol, er enghraifft. Ond, yn anochel, mewn newid mawr eich sefyllfa bywyd, mae costau mawr ymlaen llaw yn anodd eu rheoli.

Credaf fod y Gymdeithas Landlordiaid Preswyl hefyd wedi cymryd rhan yn y broses hon ac wedi cynnig rhai dewisiadau eraill i'w hystyried. Mae rhai o'r rhain yn rhai y gellid eu cynnwys hyd yn oed os oes gennym ddull sy'n llawer mwy seiliedig ar reoleiddio, ond maen nhw wedi annog y Llywodraeth i ddefnyddio'r pwerau o dan Ddeddf Hawliau Defnyddwyr 2015, er enghraifft, fel bod y ffioedd yn cael eu harddangos yn fwy amlwg, ac os ydynt yn cael eu harddangos yn fwy amlwg credaf fod modd herio'r rhai sydd yn amlwg yn annheg. Felly, rwy'n credu bod hwnnw'n syniad diddorol. Rwy'n credu y dylem ni fod yn agored i'r rhai yn y sector sy'n ymwneud yn helaeth â hyn, ac mae hynny'n cynnwys asiantaethau rheoli, gan fod llawer ohonyn nhw yn gwneud gwaith rhagorol iawn ac maen nhw'n bwysig ar gyfer sicrhau bod y farchnad yn gweithio'n effeithiol, ond hefyd y landlordiaid sydd eu hunain yn chwilio am system sydd â lefel briodol a chostau teg a system farchnad sy'n rhesymol yn eu golwg nhw. Oherwydd, yn y diwygiad hwn, rydym ni'n rhyw geisio newid y cydbwysedd tuag at landlordiaid yn ceisio'r costau hynny ac yn negodi gwasanaethau effeithiol gydag asiantaethau gosod, felly mae angen edrych ar hynny.

A gaf i ddod i derfyn? Rwyf i o'r farn fod hwn yn ddarn pwysig iawn o ddeddfwriaeth. Rwy'n siŵr y caiff gefnogaeth eang, ond, yn amlwg, bydd eisiau i ni ei archwilio yn llwyr a gweld sut y gallem ni ddatblygu pethau gan fod y ddadl wedi dechrau erbyn hyn. Diolch.

14:55

Diolch yn fawr iawn am y sylwadau a'r cwestiynau yna ac am eich cydnabyddiaeth ar ddechrau eich cyfraniad fod yna, mewn gwirionedd, angen cyhoeddus am y ddeddfwriaeth hon, sydd wedi'i gydnabod ledled y DU ac yn sicr angen cyhoeddus i gynyddu'r tryloywder o fewn y sector a galluogi pobl i symud i mewn i'r sector a rhwng gwahanol eiddo o fewn y sector hefyd, oherwydd ar hyn o bryd mae'r ffioedd yn rhwystr i wneud hynny.

Fe wnaethoch chi gydnabod hefyd sut mae'r sector rhentu preifat yn rhan gynyddol bwysig o'r dirwedd tai yma yng Nghymru, gan sôn fod maint y sector wedi dyblu ers y flwyddyn 2000, gan gynrychioli 15 y cant o'r farchnad dai yma yng Nghymru erbyn hyn, ac rydym yn cydnabod y daw hynny'n gynyddol bwysig gyda threigl y blynyddoedd hefyd. Felly, mae'n bwysig iawn ein bod ni yn parhau â'r gwaith yr ydym wedi ei ddechrau drwy ein Deddf rhentu cartrefi a darnau eraill o ddeddfwriaeth a pholisi i sicrhau bod y sector yn un deniadol, ei fod yn hygyrch, a'i fod yn deg a thryloyw. Ac mae'r darn hwn o ddeddfwriaeth yn gydnaws iawn â'r math o ymagwedd yr wyf i wedi ceisio ei chael hyd yn hyn. Roeddech chi hefyd yn rhoi rhai enghreifftiau o'r mathau o raddfeydd y ffioedd y gallai fod yn rhaid i bobl eu talu cyn cael gafael ar dŷ. Ar gyfer tŷ tair ystafell wely yng Nghaerdydd, byddai'n rhaid i bobl sicrhau dros £1,000 ymlaen llaw, sy'n swm enfawr o arian. Gallasai fod yn waharddol i nifer fawr o deuluoedd allu codi arian o'r fath yn y lle cyntaf.

Felly, caiff yr angen cyhoeddus hwn ei gydnabod ledled y DU, ac rydym yn edrych yn ofalus iawn ar y sefyllfa yn yr Alban, sydd wedi pasio deddfwriaeth ddwywaith ar y mater hwn, fel y dywedwch: unwaith, y tro cyntaf, nad oedd yn effeithiol ac, yn ail, yn ôl yn 2012, er mwyn tynhau'r rheolau a'i wneud yn ddarn mwy llym a chydlynol o ddeddfwriaeth. Mae'n ffaith, yn dilyn cyflwyno'r ddeddfwriaeth yn yr Alban, y bu cynnydd yn lefel y rhent a delid gan bobl. Rwy'n gwybod bod yna hefyd bwyllgor craffu yn San Steffan a oedd yn edrych yn benodol ar hynny ac ni allodd ganfod tystiolaeth bendant fod y ddeddfwriaeth yn uniongyrchol gyfrifol am y cynnydd mewn ffioedd, ond, serch hynny, mae'n rhywbeth yr ydym yn effro iawn iddo—y ffaith y gallai fod cynnydd posibl yn lefel y rhent, dylwn ddweud, yn hytrach na ffioedd, o ganlyniad i'r ddeddfwriaeth hon. Fodd bynnag, yn yr un modd, yn ein hymgynghoriad, rydym yn deall bod pobl yn cydnabod y gallasai fod cynnydd yn y rhent, ond, mewn gwirionedd, byddai cynnydd bach yn y rhent yn fwy deniadol iddyn nhw allu cynllunio cyllidebau eu haelwydydd ac ati, felly mae'n rhywbeth yr ydym ni'n effro iddo ac yn rhywbeth y gwn y bydd pwyllgorau yn ymddiddori'n fawr ynddo.

Rwyf wedi cael trafodaeth heddiw, mewn gwirionedd, gyda Chymdeithas y Landlordiaid Preswyl ynglŷn â'u pryderon penodol yn sgil y ddeddfwriaeth hon. Yn amlwg, maen nhw'n dod o safbwynt cryf o gynrychioli eu haelodaeth ac ni fyddem yn dymuno gweld landlordiaid yn dioddef anfantais oherwydd y darn hwn o ddeddfwriaeth. Mae'n debygol y bydd ffioedd landlordiaid yn cynyddu; mae hynny'n sicr yn rhywbeth yr ydym yn ei gydnabod o fewn ein hasesiad rheoleiddio o ganlyniad i asiantau yn ceisio adennill eu harian o rywle arall. Ond, hefyd, mae gan landlordiaid bŵer sylweddol yn yr ystyr eu bod fel arfer yn gallu siopa o gwmpas i ddod o hyd i asiantau gosod tai y byddan nhw'n teimlo eu bod yn eu cynrychioli orau ac yn gwneud hynny mewn ffordd sydd yn rhoi gwerth am arian. Gwn fod y Gymdeithas Landlordiaid Preswyl wedi cyflwyno cynlluniau eraill hefyd fel—neu gynlluniau awgrymedig eraill—cynllun o fath yswiriant, er enghraifft. Rwy'n credu pa lwybr bynnag y byddwn yn ei ddatblygu—ac mae ein llwybr arfaethedig ni, wrth gwrs, yn y Bil—bydd yn rhaid iddo fod yn un nad yw'n rhoi pobl sydd ar incwm isel o dan anfantais, oherwydd dyna'n union beth yr ydym yn ceisio ei osgoi.

Roeddech chi'n sôn am Ddeddf Hawliau Defnyddwyr 2015, ac mae honno, eto, yn un o'r cynigion sydd gan y Gymdeithas Landlordiaid Preswyl yn y gwaith papur y maen nhw wedi'i gyflwyno o ran y Bil hwn. Ni fyddai'r Ddeddf Hawliau Defnyddwyr yn gallu cyflawni'r hyn y credwn sydd ei angen arnom ni i wneud y sector rhentu preifat yn fforddiadwy a hygyrch, oherwydd un peth yw tryloywder, ond nid yw o reidrwydd yn golygu tegwch.

Mae taliadau y mae deiliaid contract yn eu hwynebu yn rhwystr sylweddol i nifer o denantiaid, ac ni fyddai Deddf 2015 yn gallu mynd i'r afael â bodolaeth ffioedd mawr ymlaen llaw na ffioedd adnewyddu, y mae ein deddfwriaeth ni yn ceisio ymdrin â nhw hefyd. Wedi dweud hynny, yn amlwg, rwyf wir yn croesawu'r ymgysylltiad a gawsom gan y Gymdeithas Landlordiaid Preswyl, a'r holl gyrff cynrychioliadol eraill wrth gyrraedd y fan hon gyda'r Bil, a'r sylwadau adeiladol y maen nhw wedi eu gwneud yn ein proses ymgynghori. Rwy'n siŵr y bydd y math hwn o ymgysylltu yn parhau wrth inni symud drwy'r broses graffu.

15:00

Mae Plaid Cymru ers peth amser wedi galw am i'r camau hyn gael eu cymryd, ac rwy'n falch ac yn ddiolchgar i'r Gweinidog am gyflwyno'r Bil hwn ac am yr hysbysiad ymlaen llaw a roddodd am yr wybodaeth hon. A hoffwn ddiolch iddi am roi o'i hamser i drafod hyn gyda mi yr wythnos diwethaf, er nad wyf wedi darllen popeth eto o ran y memorandwm esboniadol, ond byddaf yn mynd ag ef gartref—i'w ddarllen yn y gwely.

Mewn egwyddor, mae hwn yn gam cadarnhaol ymlaen sydd i'w groesawu: nid ffodd o fyw ddewisol yw rhentu mwyach, ond rheidrwydd ar gyfer byw i lawer o bobl, yn enwedig pobl iau. O ystyried cyflwr cyfredol y farchnad dai a'r amodau economaidd y mae llawer o bobl yn eu canfod eu hunain ynddyn nhw, gallai rhentu fod yn ofyniad am oes i rai, a'r hyn sy'n bwysig i'w gydnabod yw nad yw rhentu yn ddewis rhad. Gall y gost sy'n gysylltiedig â symud i gartref sector rhentu preifat fod yn grocbris. Roedd rhestriad a welais yng Nghaerdydd  y bore 'ma ddiwethaf yn pennu tâl o £318 ar gyfer y tenant cyntaf, ynghyd â £18 ar gyfer pob tenant ychwanegol neu warantwr, heb unrhyw sôn am unrhyw daliadau ychwanegol ar gyfer gwiriadau credyd na gwasanaethau parhaus, ac roedd un arall a welais yn ddiweddar yn cynnwys ffi o 30 y cant o'r rhent misol a ffioedd ychwanegol fesul tenant ar gyfer gwiriadau credyd. Mae hwn yn rhwystr mawr i bobl, yn enwedig y rhai heb unrhyw gynilion na'r gallu i gael credyd.

Rydym yn gweld methiant yn y farchnad, fel yr wyf wedi'i weld yn eich dogfen eisoes, a phan fo methiant yn y farchnad, mae angen ei gywiro gan Lywodraeth neu gan y sector ei hun, a chan nad yw'r sector wedi bod yn barod i newid, mae angen ymyrraeth gan y Llywodraeth. Ni fyddaf yn mynd drwy'r holl ystadegau sy'n ymwneud â'r sector rhentu preifat nawr, gan ein bod wedi trafod hyn yn helaeth, ac rwy'n siŵr y gwnawn ni eto. Felly, hoffwn gael rhywfaint o eglurder ar rai agweddau ar y Bil y credaf eu bod yn aneglur.

Bydd diffygdaliadau yn parhau i fod wedi'u caniatáu o dan y Bil, ac mae gennyf rai pryderon ynglŷn a hynny. Rwy'n deall bod yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn nodi bod ymatebwyr yn dymuno i'r rheini barhau, ond rwy'n bryderus y byddai'r refeniw a gollid drwy ddiddymu ffioedd ymlaen llaw yn cael ei adennill yn y modd hwn dros gyfnod y contract. Os bydd rhywun yn difrodi eiddo yn ystod y contract, dylid codi arno i dalu am drwsio'r difrod, ond pa mor aml y gellid codi tâl yn ychwanegol i'r gwaith atgyweirio o dan y Bil hwn? Beth os oes rhwymedigaeth gontractiol ar gyfer—ac rwy'n dyfynnu—cynnal a chadw yr eiddo yn briodol? Gallai hynny fod yn oddrychol, a gallai arwain at ffioedd annheg, felly hoffwn i'r Gweinidog ailystyried hyn o bosibl yn ystod y Cyfnod Pwyllgor, neu o leiaf i fod yn agored i egluro'r taliadau hyn ac eraill sy'n ymwneud â thenantiaid sydd ar fai.

A allwch chi egluro'r trefniadau ynglŷn â thenantiaethau sy'n methu heb unrhyw fai ar y tenant? A fydd y landlord neu'r asiantaeth yn cael cadw cyfran o'r blaendal hwnnw? Rwy'n croesawu'r pwerau rheoleiddio o dan y Bil sy'n ceisio sicrhau na fydd blaendaliadau diogelwch yn codi o ganlyniad i'r Bil hwn. Ond efallai y gallwch chi gadarnhau pa un a fydd hwn yn gap chwe wythnos neu'n gap pedair wythnos. Mae hi'n eglur yn y Bil beth fydd y taliadau a ganiateir a pha rai na chaniateir, ond hoffwn ichi gadarnhau beth fydd y sefyllfa yn gysylltiedig â gwasanaethau parhaus. Er enghraifft, os bydd tenant yn colli allweddi, neu os oes newid yn y manylion  neu amgylchiadau personol, a fydd ffioedd yn cael eu caniatáu? Rwy'n deall ei bod yn rhesymol i denant ddisgwyl talu am set arall ar ôl colli allweddi, ond eto i gyd, hoffwn fod yn sicr na fydd costau sy'n gysylltiedig â gwasanaethau o'r fath yn codi nac yn afresymol.

Rwy'n deall mai'r pryder mwyaf gyda'r ddeddfwriaeth hon yw ailddosbarthu costau i denantiaid. Tybed a allech chi wneud sylw ar yr enghraifft o'r Alban, lle er bod ffioedd wedi'u diddymu yn 2012, bu cynnydd rhent cyfartalog o 5 y cant dros y pedair blynedd nesaf, o'i gymharu â 9 y cant ledled y DU. Felly, mewn gwirionedd, roedd yr Alban yn is na gweddill y DU. A gaf i ofyn a ydych chi'n disgwyl i landlordiaid drosglwyddo'r cyfan neu rai o'r costau hynny sy'n gysylltiedig â diddymu ffioedd i denantiaid yng Nghymru, ac os felly a ydych chi wedi ystyried hyn ai peidio, yn enwedig o ystyried pobl yn adnewyddu contract na fyddan nhw'n gweld cymaint o fudd yn y ddeddfwriaeth hon o'u cymharu â'r rhai sy'n symud yn aml?

Ond roeddwn i'n awyddus i orffen ar addysg ariannol. Sylwais o ddechrau'r memorandwm esboniadol ar fforddiadwyedd ac ar bobl yn gorfod cael benthyciadau, ac rwy'n cydnabod ein bod yn ceisio goresgyn y rhwystrau hynny i ryw raddau yn y ddeddfwriaeth hon, er y gallai fod canlyniadau anfwriadol. Ond nid wyf i wedi'i ddarllen i gyd i ddeall pa un a ydych chi'n mynd i ymestyn addysg ariannol neu gymorth i denantiaid fel y byddan nhw'n gallu deall hyn, ac yn gallu grymuso eu hunain i wneud unrhyw gwynion pan fo angen gwneud hynny, a sicrhau eu bod yn y pen draw yn gallu fforddio parhau â'r denantiaeth. Rwy'n credu lle y gwelwn y posibilrwydd o drafod cynhwysiant ariannol, y dylem wneud hynny, a chredaf y gall y Bil hwn fod yn llwybr arall i allu gwneud hynny.

15:05

Rwy'n diolch yn fawr i chi am y sylwadau yna a hefyd yn cydnabod fod cyflwyno deddfwriaeth i'r perwyl hwn yn ymrwymiad maniffesto gan Blaid Cymru. Gan ei fod yn rhywbeth y mae'r Blaid Geidwadol yn ei wneud yn Lloegr, a gwn ei fod yn rhywbeth y mae UKIP wedi siarad o'i blaid o'r blaen, rwy'n credu mai da o beth yw bod gennym gonsensws trawsbleidiol ar y darn penodol hwn o ddeddfwriaeth, er fy mod yn llawn ddisgwyl y craffu cadarn a ddaw wrth i ni symud pethau ymlaen drwy'r Cynulliad.

Gallai fod yn ddefnyddiol pe byddwn ond yn amlinellu peth o grynodeb y costau yr ydym wedi'i gyhoeddi yn yr asesiad effaith rheoleiddiol, ac mae hynny'n dangos, mewn gwirionedd, sut y byddem yn disgwyl i gael gwared ar y ffioedd a godir ar denantiaid effeithio ar rannau eraill o'r sector, megis landlordiaid ac asiantau gosod tai. Rydym yn amcangyfrif y costau a'r manteision i denantiaid, landlordiaid ac asiantau gosod tai yn yr asesiad effaith rheoleiddiol, dros gyfnod o bum mlynedd, inni gael dealltwriaeth dda o sut y gallai pethau effeithio ar y gwahanol fuddiannau amrywiol.

Credwn y disgwylir i denantiaid fod yn arbed rhwng £16.7 miliwn a £38.6 miliwn dros y cyfnod hwn drwy beidio â gorfod talu rhai ffioedd asiantau gosod eiddo mwyach. Felly, yr amcangyfrif hanfodol yw y byddai £24.1 miliwn yn cael ei arbed i denantiaid. Er hynny, rydym yn cydnabod y gallen nhw weld cynnydd yn y rhent yn sgil y Bil yn ystod blwyddyn gyntaf ei weithredu. Rydym yn amcangyfrif y bydd hynny tua £2.9 miliwn. Ond, wedyn, rydym yn rhagweld y bydden nhw'n arbed £7.5 miliwn dros y cyfnod oherwydd nad oes rhaid talu'r ffioedd gosod hynny mwyach. Ac felly, amcangyfrifir y byddai arbediad net i denantiaid o oddeutu £4.6 miliwn. 

Gallai fod costau i asiantau gosod o hyd at £6.6 miliwn yn y flwyddyn gyntaf, ond eto, gellid gwrthbwyso'r rhain drwy gynyddu'r ffioedd i landlordiaid gan tua £5 miliwn, sy'n gadael cost net i asiantau gosod tai o £1.6 miliwn. Rydym yn disgwyl i gostau i landlordiaid yn y flwyddyn gyntaf fod yn £5.8 miliwn efallai, naill ai drwy beidio â gallu codi ffioedd, neu drwy gostau uwch y byddant yn eu gweld oddi wrth asiantau gosod. Ond yna, gellid gwrthbwyso'r rhain efallai gan £2.9 miliwn drwy gynyddu'r rhent, felly amcangyfrifir y bydd y gost net i landlordiaid oddeutu £2.9 miliwn.

Felly, mae'n sicr yn un o'r sefyllfaoedd hynny pryd, pan fyddwn yn cymryd camau yn un rhan o'r sector, ceir goblygiadau canlyniadol eraill. Ond rydym wedi ceisio dod i ddealltwriaeth dda o'r hyn y gallai'r rheini fod, drwy'r ymchwil annibynnol a wnaethom, ochr yn ochr ag ymatebion i'r ymgynghoriad a gawsom hefyd. 

O ran diffygdalu, credaf ei bod yn iawn y dylai landlordiaid allu adennill costau neu adennill arian pan geir fod eu tenantiaid wedi torri eu contract. Roeddech chi'n rhoi'r enghraifft o golli allweddi fel ffordd y gallai landlordiaid geisio ennill rhywfaint o'r arian hwnnw yn ôl oddi wrth y tenantiaid. Byddai cost yr allweddi coll ar wyneb y contract hwnnw, felly fe ddylai fod tryloywder gwirioneddol dda, i'r dyfodol, er mwyn i ddeiliaid contract ddeall yn union beth fyddai'r gost iddyn nhw pe byddent yn methu â chyflawni eu contract mewn unrhyw ffordd.

Roeddech chi'n gofyn am flaendaliadau diogelwch a faint y gallen nhw fod. Wnaethom ni ddim ymgynghori yn benodol ar ba lefel y dylid gosod blaendaliadau diogelwch yn y broses ymgynghori, ac felly nid ydym yn awgrymu rhoi ffigur ar wyneb y Bil. Nawr, dyna un o'r ffyrdd y mae ein deddfwriaeth ni yn wahanol i'r ddeddfwriaeth yn Lloegr. Un o'r pethau yr wyf yn amheus iawn ohonynt yw peidio â rhoi lefel y blaendal diogelwch ar wyneb y Bil, oherwydd fe allem ni, yn anfwriadol, gael y canlyniad o godi lefel wirioneddol y blaendaliadau diogelwch hefyd, oherwydd ceir—. Fy nealltwriaeth i o hyn yw ei fod oddeutu pedair neu bum wythnos. Felly, yn Lloegr, lle mae gennych chi chwe wythnos ar y Bil, fe allech chi o bosibl wthio'r gost honno i fyny, sy'n rhywbeth nad ydym ni'n dymuno ei wneud. Fe geir pwerau i wneud rheoliadau, serch hynny, yn y Bil. Felly, yn y dyfodol, pe byddem o'r farn fod blaendaliadau diogelwch yn codi yn annerbyniol ac yn mynd yn anfforddiadwy, gellid dwyn deddfwriaeth yn ei blaen, yn dilyn ymgynghoriad, ar hynny hefyd.

O ran newid manylion, mae hwn eto yn faes arall lle mae ein deddfwriaeth ni yn wahanol i'r hyn a welir yn Lloegr. Yn Lloegr, ceir tâl ar wyneb y Bil, lle byddai tâl o £50 neu 'gostau rhesymol' y gellid eu codi ar gyfer cyd-denant newydd, er enghraifft, yn cael ei ychwanegu at yr enwau o fewn cytundeb tenantiaeth. Nid ein cynnig ni yw ychwanegu hynny ar wyneb ein Bil, gan ein bod yn credu y byddai'n anodd ei reoli, ar y dechrau ac yn yr hirdymor hefyd, a gallai'r hyn yn hollol y mae 'rhesymol' yn ei olygu arwain at anghydfodau diangen rhwng landlordiaid a deiliaid contract, gan nad yw'n waith enfawr na beichus ychwanegu deiliad contract newydd at fanylion contract.

O ran y gwahaniaethau eraill rhwng y ddeddfwriaeth a welwn dros y ffin yn Lloegr, ceir rhai trefniadau gorfodi sy'n amrywio'n fawr iawn. Eto, rwy'n siŵr y bydd pwyllgorau â diddordeb arbennig yn yr ymagweddau amrywiol a gymerwyd yn ein gwahanol wledydd.

Rwyf i o'r farn fod addysg yn bwysig iawn, ar gyfer tenantiaid—a chredaf fod gwaith llawer mwy eang i'w wneud, mewn gwirionedd, o ran tenantiaid a chynhwysiant ariannol—ond hefyd o ran y landlordiaid ac asiantau gosod tai a fydd yn ddarostyngedig i'r ddeddfwriaeth. A dyma pam mae Rhentu Doeth Cymru yn ein rhoi mewn sefyllfa dda iawn, gan ein bod erbyn hyn mewn cysylltiad uniongyrchol â thros 90,000 o landlordiaid a thros 2,500 o asiantau gosod, y gall pob un ohonynt gael gwybodaeth gyfredol, o ansawdd da a chyngor gan Lywodraeth Cymru am eu cyfrifoldebau. Ond rwy'n credu bod llawer i'w ddysgu yn y sector rhentu preifat o'r gwaith rhagorol sy'n digwydd yn y sector rhentu cymdeithasol, o ran cefnogi tenantiaid i ddeall eu cyfrifoldebau ariannol yn well a'r cyfleoedd ehangach ar gyfer gweithgareddau cynhwysiant ariannol. Gwnaed argraff fawr arnaf gan beth o'r gwaith yr ydym wedi'i weld yn digwydd ymhlith landlordiaid cymdeithasol o ran cefnogi tenantiaid gyda llythrennedd ariannol, cynhwysiant digidol ac amrywiaeth eang o bethau sy'n mynd ymhell y tu hwnt i'r hyn y byddem fel arfer yn ei ystyried fel dim ond mater o dai, oherwydd y pwysigrwydd y mae'n ei roi ar helpu pobl i gadw a chynnal eu tenantiaeth.

15:10

Diolch i'r Gweinidog am ei datganiad heddiw, a diolch hefyd am y briffio yn gynharach. Fel yr oeddech chi'n sôn, rydym ni, UKIP, wedi bod yn gefnogol o'r math hwn o symudiad. Fe wnaethom ni drafod y mater ffioedd asiantaethau gosod yn un o'n dadleuon ein hunain y llynedd, felly mae hwn yn faes yr ydym yn cydymdeimlo a'r problemau a wynebir gan denantiaid yn y sector rhentu preifat. Ar yr achlysur hwnnw, cefnogodd y tair gwrthblaid symud tuag at ryw fath o gyfyngiad ar ffioedd asiantaethau gosod. Felly, mae'n dda gweld bod y Llywodraeth yn symud i'r cyfeiriad hwnnw erbyn hyn.

Bu llawer o broblemau gyda'r pethau sy'n cael eu galw'n aml yn 'daliadau gweinyddol'—term sy'n aml yn derm 'cynnwys popeth' i gwmpasu amrywiaeth o ffioedd sydd weithiau yn amheus. Ambell waith, fel yr oeddech chi'n sôn yn eich datganiad, mae'n ymddangos bod y tâl gweinyddu yn llawer uwch na'r gwir gost a fydd ar yr asiant gosod tai am gyflawni'r gwasanaeth arbennig hwnnw. Efallai'n fwy gofidus, nid yw tenantiaid weithiau—neu, i ddefnyddio eich terminoleg eich hun, deiliaid contract—hyd yn oed yn deall am beth y maen nhw'n talu oherwydd, ar hyn o bryd, mae'n fater allweddol bod llawer o'r taliadau hyn nad ydynt yn dryloyw iawn. Roeddwn yn falch eich bod wedi defnyddio'r term hwnnw yn eich datganiad.

Ar y llaw arall, rydym yn ymwybodol hefyd bod yn rhaid cael ymagwedd gytbwys, ac rydych chi wedi crybwyll bod y Gymdeithas Landlordiaid Cofrestredig yn ymwneud yn helaeth â'r ymgynghoriad, a chredaf mai da o beth yw hynny, oherwydd rwy'n tybio, mewn ffordd, bod dwy ochr i bob stori. Mae angen inni gael sector rhentu preifat gan fod mwy a mwy o denantiaid mewn gwirionedd yn cael eu denu, weithiau oherwydd rheidrwydd ariannol, i'r sector hwn, a hefyd gan ddiffyg dewisiadau eraill. Felly, mae angen i ni weld sector rhentu preifat ac nid ydym yn dymuno gwneud y rheoliadau mor feichus fel na all landlordiaid nac asiantaethau gosod eiddo ffynnu, cyn belled, hynny yw, â bod eu ffioedd yn ddilys a'u bod yn dryloyw. Felly, mae'n rhaid i ni fod yn wyliadwrus, wrth i ni fwrw ymlaen â'r Bil hwn, rhag cael canlyniadau anfwriadol. Gwn fod ambell un wedi defnyddio'r ymadrodd hwnnw eisoes heddiw. 

Yr un amlwg, mae'n debyg, yw, wrth i daliadau gael eu gwahardd, y bydd rhenti yn codi yn hytrach. Gwn mai'r Alban yw'r enghraifft amlwg, o gofio eu bod eisoes wedi symud i gyfyngu ar ffioedd asiantaethau gosod. Felly, mae'n ddiddorol fod yna rywfaint o amwysedd o ran y naratif o'r Alban ynglŷn â pha un a yw rhenti wedi codi yno o ganlyniad i gyfyngu ar ffioedd asiantaethau gosod. Neu ai'r gwir yw nad ydyn nhw wedi codi cymaint ag y maen nhw yn Lloegr? Felly, credaf fod angen i ni edrych yn fanwl ar y dystiolaeth o'r Alban oherwydd ei bod yn ymddangos bod anghydfod eisoes ynglŷn â beth yw'r dystiolaeth mewn gwirionedd.

Soniodd David Melding am y gost ymlaen llaw ar denantiaid, ac un o'r pethau y mae'r Gymdeithas Landlordiaid Preswyl wedi galw amdanynt yw rhyw fath o gynllun yswiriant ynglŷn â blaendaliadau—un broblem yw bod tenantiaid yn aml yn talu blaendal ar gyfer symud i eiddo newydd tra eu bod nhw'n dal i aros am y blaendal yn ôl o'u hen eiddo. Mae'r Gymdeithas Landlordiaid Preswyl yn gweld y posibilrwydd o gynllun yswiriant fel y gellid trosglwyddo'r blaendaliadau hyn rhwng y landlordiaid. Felly, tybed pa ystyriaeth a roddwyd gennych i'r cynnig penodol hwnnw.

Mae'r Gymdeithas Landlordiaid Preswyl yn galw hefyd am fwy o hyblygrwydd ynglŷn â bondiau lle mae gan denantiaid, er enghraifft, bethau fel anifeiliaid anwes. Credaf fod hyn yn mynd yn broblem fawr. Mae llawer o bobl yn awyddus i gadw anifeiliaid anwes, sydd yn ddigon teg, ac mae llawer o landlordiaid yn anfodlon derbyn tenantiaid sydd ag anifeiliaid anwes. Mae angen i ni wneud yn siŵr y gall pobl a chanddynt anifeiliaid anwes gael tenantiaeth. Felly, efallai y bydd angen weithiau i landlordiaid allu codi tâl ychwanegol o ran y bond i dalu am bethau fel cost glanhau pan ddaw'r denantiaeth i ben, oherwydd yn amlwg, os ydych chi'n cadw ci, yna mae'n debyg y bydd yn effeithio ar y gost o lanhau. Felly, credaf fod angen i ni edrych ar bethau felly o ran y ddeddfwriaeth.

Cododd Bethan Sayed y mater addysg ariannol, y mae hi wedi ei godi'n aml, a chredaf eich bod wedi crybwyll y gellid cynnwys hynny gyda Rhentu Doeth Cymru. Felly, mae gennyf ddiddordeb mawr mewn cael gwybod sut bydd y wybodaeth yn cael ei rhoi ar led, pe gallech roi bod mwy o ystyriaeth i hynny i'r dyfodol. Rwy'n gwybod eich bod yn ymddangos yn eiddgar amdano, ond hoffwn gael ychydig mwy o fanylion ar hynny wrth symud ymlaen. Diolch yn fawr.

15:15

Diolch yn fawr iawn ichi am y sylwadau yna. Gallai fod yn ddefnyddiol pe byddwn yn dychwelyd at fater yr hyn yr ydym wedi'i ddysgu o ddeddfwriaeth yr Alban o ran ein dull o weithredu yma yng Nghymru. Mae'n ffaith fod rhenti wedi codi yn y 12 mis cyntaf yn dilyn cyflwyno Deddf Tai ar Rent Preifat (yr Alban) 2011. Roedd honno'n diwygio Deddf Rhenti (yr Alban) 1984, y cyfeiriais ati o'r blaen, ac yn y bôn roedd yn gwahardd codi pob taliad ar denantiaid ac eithrio rhent a blaendal ad-daladwy.

Fodd bynnag, nid yw'r dystiolaeth yn bendant fod rhenti wedi codi o ganlyniad uniongyrchol i'r newid yn y gyfraith, ac fel y dywedais, archwiliwyd y mater gan ymchwiliad Tŷ'r Cyffredin i'r sector rhentu yn yr Alban ym mis Mawrth 2015.  Methodd hwnnw â darganfod tystiolaeth ddigonol i egluro cynnydd o'r fath. Nododd y pwyllgor fod ffactorau ehangach yn ddylanwad posibl ar y cynnydd, gan gynnwys newidiadau yn y boblogaeth a diffyg cyflenwad o eiddo yn y sector rhentu preifat. Ystyrid bod gweithrediad y farchnad ar y pryd—felly, niferoedd yr asiantau gweithredol, hyd tenantiaethau, newidiadau yn sut yr oedd asiantau yn gweithio, rheolau ynglŷn â diogelu blaendaliadau a safonau iechyd a diogelwch uwch—i gyd yn ystyriaethau perthnasol hefyd fel na ellid eu gwahanu oddi wrth Ddeddf 2011.

Felly, rwy'n siŵr y bydd y profiadau yn yr Alban a'r ddeddfwriaeth sydd ar hyn o bryd yn gwneud ei ffordd drwy'r broses yn Lloegr yn bethau fydd pwyllgorau yn awyddus i graffu arnyn nhw. Ond, y—dim ond i dawelu meddyliau'r Aelodau—mae'n wir hefyd ein bod wedi edrych yn fanwl iawn hefyd ar brofiad yr Alban a'r broses pwyllgor yn Lloegr, ac rydym wedi edrych yn fanwl ar yr holl dystiolaeth a gyflwynwyd i'r cynnig deddfwriaethol yn Lloegr hefyd, gan ein bod yn awyddus i ddysgu oddi wrth y dystiolaeth orau sydd ar gael i ni.

O ran yr effaith ar gost rhentu, eto, mae'n ddiddorol, pan edrychwch chi ar y farchnad bresennol, nid oes unrhyw wir wahaniaeth rhwng y gost y disgwylir i denantiaid ei thalu i landlordiaid sy'n gosod yn annibynnol a'r rhai sy'n gosod drwy asiantau gosod. Nid oes gwahaniaeth gwirioneddol o ran faint o rent y mae pobl yn ei dalu, pa un a ydynt yn talu costau ychwanegol enfawr ai peidio neu'n talu dim neu ychydig iawn o gostau ychwanegol. Felly, nid oes y fath honno o wahaniaeth eglur yno ychwaith.

O ran gorfodi a darparu gwybodaeth, caiff hynny ei wneud drwy Rhentu Doeth Cymru. Fel y dywedaf, mae gennym ddata gwirioneddol dda a pherthynas dda gyda'r sector erbyn hyn, diolch i hwnnw. Mae hynny hefyd yn ein gosod ni ar wahân i Loegr hefyd gan nad oes ganddyn nhw unrhyw gorff cyfatebol o'r fath. Felly, fel dewis olaf, os mynnwch chi, os nad yw landlordiaid ac asiantau gosod yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth hon a ddim yn talu dirwy, pe byddent i fod i dalu dirwy, y gosb eithaf yma yng Nghymru fyddai y gellid diddymu eu gallu i rentu cartrefi, ac mae hwnnw'n anghymhelliad difrifol o ran peidio â chydymffurfio â'r gyfraith hefyd.

Felly, mae gan y ddeddfwriaeth, fel y'i gosodwyd gerbron y Cynulliad, bwyslais cryf iawn ar orfodi, fel y byddech yn ei ddisgwyl. Mae hi hefyd yn caniatáu i'r awdurdodau tai lleol gadw unrhyw arian y gallant eu sicrhau gyda dirwyon i'w hailfuddsoddi yn eu gweithgareddau gorfodi. Unwaith eto, dyna wahaniaeth arall rhwng ein dull ni yma a'r dull gweithredu yn Lloegr. Rydym yn gofyn i awdurdodau tai lleol fod yn gyrff gorfodi ar gyfer hyn, ond yn Lloegr safonau masnach sydd yn gwneud hynny. Unwaith eto, rydym o'r farn mai hyn sydd yn adlewyrchu orau ein lefelau neilltuol o arbenigedd, y berthynas arbennig sydd gennym, a'r ffaith fod awdurdodau tai lleol, yn ein barn ni, yn y sefyllfa orau i fod y rhai sydd yn gorfodi'r ddeddfwriaeth tai yma yng Nghymru.

Nid wyf yn dymuno gwneud pethau'n fwy beichus i landlordiaid, ac nid wyf yn dymuno gwneud pethau'n fwy beichus i denantiaid. Yr hyn yr ydym ei eisiau, mewn gwirionedd, yw sicrhau bod gennym system sydd mor dryloyw a hawdd ei deall ag y bo modd. Credaf y gallwn yn sicr wneud hynny drwy weithio'n agos gyda'r bobl sy'n cynrychioli landlordiaid a hefyd drwy Rhentu Doeth Cymru.

15:20

Rwy'n croesawu datganiad y Llywodraeth heddiw yn fawr iawn. Mae'n syndod i mi bob amser cymaint o bobl—pobl ifanc yn arbennig—sydd yn y pen draw wedi symud i mewn i'r farchnad rhentu preifat a fyddai, yn naturiol, un genhedlaeth, neu dwy neu dair cenhedlaeth yn ôl, wedi symud tuag at brynu tŷ. Credaf nad yw hwnnw yn newid er gwell mewn cymdeithas o reidrwydd.

Fel llawer o gydweithwyr yma, bûm yn galw am ddiwedd ar ffioedd gosod am nifer o flynyddoedd. Nid oes llawer o bethau y gallai uno Gareth Bennett, Bethan Sayed, Jenny Rathbone a minnau, ond mae hwn yn un ohonynt. Credaf fod hynny mewn gwirionedd yn dangos ehangder y gwrthwynebiad i ffioedd asiant gosod yn y Cynulliad hwn. Maen nhw'n annheg ac yn anghyfiawn, ac fe gânt eu talu gan y rhai sy'n lleiaf abl i fforddio'r gost. Cefnogaf yn llwyr y cynnig i roi terfyn ar ffioedd asiantau gosod eiddo a'i gwneud yn drosedd i godi'r ffioedd hynny.

Rwy'n falch iawn fod y Llywodraeth wedi ymwrthod â'r hyn, yn fy marn i, oedd yn wrthwynebiad ffôl, ac economaidd anllythrennog, a leisiwyd ganddynt y llynedd, sef y byddai rhoi terfyn ar ffioedd gosod yn cynyddu rhenti ac maen nhw wedi peidio â mynegi hynny erbyn hyn. Wrth gwrs na fydd hynny'n eu cynyddu. Do, bu cynnydd yn yr Alban, fel y dywedodd David Melding, ond credaf fod Bethan Sayed wedi crynhoi hynny yn dda iawn: bu cynnydd yn Llundain, yn Lloegr, ac yng Nghymru hefyd. Mae rhenti yn codi bob blwyddyn. Nid oes a wnelo hynny ddim a pha un a oes gennych chi ffioedd gosod ai peidio; maen nhw'n cynyddu oherwydd y prinder tai sy'n bodoli. A dyna lle mae'r broblem: mae prinder tai.

Ond os yw pobl wir yn credu mai ffioedd asiantau gosod yw'r ateb i renti llai, pam na wnân nhw gefnogi hynny pan fyddwch chi'n prynu tŷ, rydych chi'n talu ffioedd yr asiant eiddo? Byddai hynny'n gostwng prisiau tai, oni fyddai? Ac yn dilyn y rhesymeg honno, yna, yn amlwg, dylai ffioedd yr asiant eiddo gael eu talu gan y prynwr ac nid y gwerthwr. Ond, na, nid yw pobl yn mynd i awgrymu hynny, oherwydd na fyddai'r bobl sy'n prynu tai yn prynu. Ni fyddai pobl sy'n gwerthu yn gallu gwerthu. Yn anffodus, yn y sector rhentu preifat, mae pobl yn gorfod talu, neu fel arall byddant yn ddigartref.

Felly, croesawaf y ddarpariaeth ar gyfer trefniadau gorfodi drwy gyfrwng awdurdodau lleol a chosb dirwy benodedig. Mae gennyf un cwestiwn: a yw'r Llywodraeth wedi ystyried esgynnydd dirwy ar gyfer y rhai sy'n torri'r gyfraith yn barhaus? Oherwydd un o'r pethau yr wyf yn eu hofni yw y bydd rhai pobl yn ystyried hwn yn bris gwerth ei dalu. Dim ond yn achlysurol y bydd yn digwydd. Mae'n eithaf tebyg i'r bobl hynny sy'n parcio lle na ddylen nhw ac yn derbyn dirwy yn rhan o gost parcio lle na ddylent wneud hynny. Bydd pobl yn torri llawer o gyfreithiau pan na chânt eu dal yn aml iawn na chael dirwy fawr iawn, a pan fyddwch yn mantoli'r gost, gallai fod mantais economaidd o wneud hynny. Felly, a allwn ni gael esgynnydd yn rhan o hyn? Felly, mae'n debyg iawn y byddai un pris y tro cyntaf y cânt eu dal, ond os byddwn yn ei ddyblu yr eildro ac wedyn dyblu hwnnw y trydydd tro, yn debyg i'r modd y maen nhw'n ymdrin â'r bobl sy'n tipio'n anghyfreithlon, ac yn cael dirwy, ond os byddan nhw'n dal ati i fynd yn ôl, mae'r ddirwy yn cynyddu'n wastadol, ac er efallai na fydd y ddirwy gyntaf yn fawr iawn, erbyn iddyn nhw gyrraedd y drydedd neu'r bedwaredd, byddan nhw'n sylweddoli bod tipio anghyfreithlon yn eithriadol o gostus. Felly, a gawn ni esgynnydd?

15:25

Diolch yn fawr iawn i chi am y sylwadau yna ac am y cwestiwn hefyd.

Roeddwn i'n meddwl bod y gymhariaeth â gofyn i'r rhai sy'n prynu tai dalu ffioedd yr asiant eiddo yn fath dadlennol iawn o gymhariaeth. Yn sicr, mae'n rhoi hyn mewn persbectif hefyd. Ac, fel y mae Mike Hedges yn gwbl gywir yn nodi, mae'r ffioedd hyn ar denantiaid yn ffioedd a delir fynychaf gan y rhai sy'n lleiaf abl i'w talu. Ac, fel y mae eraill wedi ei ddweud, bydd y sector rhentu preifat yn gynyddol bwysig o ran diwallu'r angen am dai, ond hefyd o ran lleihau'r pwysau difrifol hwnnw sydd ar ein sector rhentu cymdeithasol hefyd.

O ran y camau gorfodi, mae hynny wedi ei fodelu yn unol â threfniadau sydd ar hyn o bryd ar waith am ddiffyg cydymffurfiad o ran gofynion trwyddedu o dan Rhan 1 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014, a, hyd yma, nifer cymharol fechan o achosion o dorri trefniadau trwyddedu sydd wedi arwain at gosbau. Felly, mae hynny'n awgrymu bod cydbwysedd call wedi'i daro yn ein dull o weithredu hyd yma. Ac mae'n werth cydnabod hefyd bod y rhan fwyaf o landlordiaid yn gweithio yn ôl ysbryd a llythyren y ddeddf, ac mae bron yr holl asiantau a landlordiaid bellach wedi'u cofrestru gan Rhentu Doeth Cymru. Felly, pan ddaw'r Bil i rym, byddem yn disgwyl lefelau uchel tebyg o gydymffurfiad.

Rydym o'r farn y bydd effaith sylweddol, nid yn unig yn sgil y cosbau ariannol yn y Bil, ond yn sgil y canlyniadau i landlord neu asiant os cânt eu heuogfarnu o drosedd. Caiff euogfarnau o dorri cyfraith tai neu landlord a thenant eu cynnwys yn y meini prawf ar gyfer Rhentu Doeth Cymru fel yr awdurdod trwyddedu, a ddynodwyd o dan adran 3(1) Deddf 2014, ac mae hynny'n rhywbeth y mae'n rhaid ei gymryd i ystyriaeth wrth ystyried pa un a yw unigolyn yn unigolyn addas a phriodol i gael ei drwyddedu o dan ran 1 y Ddeddf. Felly, mae hwnnw'n rhwystr cryf iawn, iawn o ran peidio â chydymffurfio â'r Bil. Er hynny, rwy'n siŵr y bydd y pwyllgor yn craffu'n fanwl ar y lefel yr ydym wedi gosod y ddirwy honno o fewn y ddeddfwriaeth, a bydd gennyf ddiddordeb mewn clywed argymhellion y pwyllgor o ran unrhyw esgynnydd dirwyon.

4. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Cynllun Hirdymor ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y cynllun hirdymor ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol. Rwy'n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i wneud ei ddatganiad. Vaughan Gething.

15:30

Diolch, Llywydd. Mae’r mis nesaf yn nodi saith deg mlynedd o’r GIG. Mae gweledigaeth radical Aneurin Bevan, yn seiliedig ar fodel Cymdeithas Cymorth Meddygol Tredegar, wedi trawsnewid gwasanaethau iechyd ar gyfer miliynau o bobl. Heddiw, mae’r GIG a'r sector gofal cymdeithasol yn hollbwysig i les ein cenedl. Ac eto, mae pawb yn y Siambr hon yn gwybod bod cyd-destun y gwasanaethau hyn wedi newid yn sylweddol. Mae mwy o bobl yn byw'n hirach. Mae hyn, wrth gwrs, yn un o gyflawniadau mwyaf cymdeithas, ac yn achos dathlu, ond mae’n achosi galw ychwanegol am wasanaethau cyhoeddus ar adeg pan fo dros wyth mlynedd o galedi’n cyfyngu’n sylweddol ar ein gallu i ymateb. Rydym ni hefyd yn gweld sut y mae cymdeithas fodern yn rhoi pwysau ar deuluoedd ac, yn benodol, ar blant. Dyma rai o'r rhesymau pwysig pam mae’r ffiniau rhwng iechyd a gofal cymdeithasol yn gwneud llai o synnwyr gyda threigl amser.

Mae’r weledigaeth o wasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol di-dor, mwy hygyrch, o ansawdd gwell yn un y mae'r Senedd i gyd yn ei rhannu. Dyna’r rheswm pam y cytunodd pob plaid yma i sefydlu adolygiad seneddol o iechyd a gofal cymdeithasol yn ôl yn 2016. Ac roedd cefnogaeth drawsbleidiol i gylch gorchwyl yr adolygiad hwnnw, ac i aelodaeth y panel. Ac fe gyhoeddodd y panel arbenigol, annibynnol hwnnw, dan arweiniad medrus Dr Ruth Hussey, eu hadroddiad terfynol ym mis Ionawr eleni. Rydym ni wedi trafod yr adroddiad hwnnw yn y fan yma, yn eithaf manwl. Dywedodd y panel yn glir iawn fod angen dirfawr i gryfhau'r ymateb i’r pwysau sylweddol sydd ar ein gwasanaethau yn awr, ac sy’n siŵr o gynyddu dros y blynyddoedd nesaf. Cafodd adroddiad terfynol y panel ei groesawu gan lawer o randdeiliaid ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys yma yn y Senedd ac, yn wir, yn y Pwyllgor Iechyd, Lles a Chwaraeon.

Ddoe, cyhoeddais 'Cymru Iachach: ein Cynllun Iechyd a Gofal Cymdeithasol'. Mae'r cynllun hwnnw’n ymateb i adroddiad terfynol yr arolwg seneddol, ac yn bwrw ymlaen â’i argymhellion allweddol. Mae'r cynllun yn nodi gweledigaeth hirdymor ar gyfer y dyfodol o fynd ati fel system gyfan i ymdrin ag iechyd a gofal cymdeithasol, gan ganolbwyntio ar iechyd a lles ac ar atal salwch. Mae'r cynllun yn wahanol, nid yn unig yn ei uchelgais eofn i wir gyfuno iechyd a gofal cymdeithasol, ond am ei fod wedi'i gynllunio mewn partneriaeth â’r rheini a fydd yn arwain ac yn cyflawni'r newid y mae'n ei ddisgrifio. Mae'r rhanddeiliaid hyn wedi rhannu ein rhwystredigaeth â chyflymder y newid hyd yn hyn, er bod pawb bron yn cydnabod bod angen newid ar frys. Un thema bwysig drwy'r cynllun i gyd yw arweiniad a chyfeiriad cenedlaethol cryfach i wneud i’r system gyfan gyd-fynd â'n blaenoriaethau cenedlaethol, a rhoi diweddariadau cynnydd rheolaidd i ddwyn i gyfrif y rhai sy'n gyfrifol am gyflawni.

Er mwyn cyflawni'r weledigaeth hon ar gyfer y dyfodol, byddwn yn datblygu modelau newydd o iechyd a gofal cymdeithasol lleol di-dor, yn amrywio o'r lleol i'r ranbarthol a'r cenedlaethol. Bydd rhaglen trawsnewid genedlaethol yn helpu i gyflawni newid yn gyflymach. A bydd bwrdd trawsnewid i oruchwylio a bod yn atebol yn genedlaethol am yr ymrwymiadau yn y cynllun. Bydd yn darparu ac yn cynghori ynglŷn â chymorth cyllid wedi'i dargedu ar gyfer darparwyr iechyd a gofal cymdeithasol gan ganolbwyntio'n benodol ar fodelau newydd dethol o iechyd a gofal cymdeithasol lleol di-dor. A bydd yn rhaid gweld bod y modelau newydd yn cyflawni gwerth sylweddol a gwell ac yn gydnaws iawn â blaenoriaethau cenedlaethol.

Byddwn yn atgyfnerthu arweinyddiaeth a chyfeiriad cenedlaethol, gan gynnwys datblygu gweithrediaeth genedlaethol ar gyfer y GIG. Bydd y weithrediaeth genedlaethol yn cefnogi ac yn herio byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau'r GIG ac yn sicrhau bod capasiti a gallu’n cael eu datblygu drwy ein holl system. Byddwn yn sicrhau bod yr holl system yn addas ar gyfer y dyfodol drwy ganolbwyntio ar ansawdd a gwerth a manteisio ar gyfleoedd digidol a chefnogi ein gweithlu. Bydd y gwaith hwn i gyd, a’n system ar gyfer y dyfodol, yn seiliedig ar athroniaeth gref, gytûn, ac ymgysylltu parhaus.

Ond nid ydym ni wedi derbyn argymhellion y panel heb graffu'n ddyfnach arnynt. Rwy’n cydnabod mai’r hyn sy’n allweddol i unrhyw bolisi cyhoeddus effeithiol yw deall y rhwystrau sydd wedi llesteirio newid yn y gorffennol a sefydlu’r hyn sydd angen ei wneud yn wahanol i'w goresgyn. Felly rydym ni wedi bod yn ofalus iawn yn y cynllun hwn i roi cyfeiriad cenedlaethol cryf i ail-alinio'r agweddau hynny sy'n siapio ein polisïau fel eu bod yn cefnogi'r weledigaeth yn llawn—yn arbennig, strategaeth ariannol, cynllunio, rheoli perfformiad, ac arolygu a rheoleiddio. Mae'r strwythurau hyn yn helpu i lywio penderfyniadau o ddydd i ddydd yn ein sefydliadau sy'n darparu gwasanaethau. 

Yn olaf, datblygwyd y cynllun hwn drwy ymarfer ymgysylltu mawr â'n partneriaid cyflawni strategol allweddol. Rwyf wedi cyfarfod ag arweinwyr llywodraeth leol a byrddau iechyd ym mhob un o ardaloedd y byrddau partneriaeth rhanbarthol yng Nghymru, ynghyd â’r Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol. Rydym ni hefyd wedi trafod y cynllun gydag aelodau cabinet llywodraeth leol ar gyfer gofal cymdeithasol a chyngor Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. A byddwn yn cynnal yr ymgysylltiad hwn nawr bod y cynllun wedi’i gyhoeddi, ac mae rownd arall o gyfarfodydd ôl troed rhanbarthol ar y gweill ar gyfer yr wythnosau cyn ein toriad haf.

Ar lefel weithredol, mae CLlLC, Cydffederasiwn y GIG, Cymdeithas y Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru wedi arwain neu wedi cymryd rhan mewn gweithgorau sydd wedi helpu i lunio'r cynllun. Roedd y staff mwyaf blaenllaw o’r sefydliadau hyn yn aelodau o grŵp cyfeirio allanol, a gadeiriwyd gan gyfarwyddwr cyffredinol Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Rydym ni hefyd wedi cael adborth gan baneli dinasyddion yn ystod mis Ebrill, sydd wedi helpu i lunio’r weledigaeth a'r egwyddorion dylunio yn y cynllun. Mae hyn oll yn adeiladu ar yr ymgysylltu cyhoeddus a phroffesiynol sylweddol y mae'r tîm adolygu seneddol wedi ei wneud eisoes.

Mae ymgysylltu sylweddol ar raddfa nas gwelwyd o'r blaen gyda phobl, gweithwyr proffesiynol ac yn wir, gyda phleidiau gwleidyddol wedi nodweddu gwaith yr arolwg seneddol hyd at gyhoeddi 'Cymru Iachach' nawr. Rwy’n gobeithio erbyn hyn fod hwn nawr yn gynllun y gall y genedl gyfan ei gefnogi. Mae'n gynllun sydd â chyfres glir o gamau gweithredu ar gyfer y tair blynedd gyntaf. Mae’r gwaith yn dechrau nawr a bydd yn symud yn gyflym i adeiladu momentwm. Mae'r cynllun yn cynnwys yr holl elfennau sydd eu hangen i ddatblygu iechyd a gofal cymdeithasol, ond ni fydd yn werth dim heb weithredu effeithiol. Fel yr wyf wedi’i ddweud yn rheolaidd wrth ein partneriaid allanol, y peth radical i'w wneud nawr yw rhoi’r cynllun hwn ar waith.

15:35

Daeth Suzy Davies i’r Gadair.

Gweinidog, hoffwn ddiolch yn fawr iawn ichi am gyflwyno'r datganiad hwn, ac a dweud y gwir hoffwn sôn am un o'r sylwadau a wnaethoch chi yma yn anad dim mae'n debyg, sef bod

'mwy o bobl yn byw'n hirach. Mae hyn yn un o gyflawniadau mwyaf ein cymdeithas, ac yn achos dathlu'.

Rwyf mor falch o glywed y geiriau hynny, oherwydd yn aml iawn rydym ni'n sôn mewn ffordd ddifrïol am bobl hŷn—sôn amdanyn nhw’n blocio gwelyau, ac mai hirhoedledd yn ein bywydau sy’n achosi costau a phryderon y GIG. Ac rwyf fi, o leiaf, yn dathlu’r ffaith y gallai pob un ohonom ni fyw yn hirach—yn sicr rwy’n gobeithio gwneud hynny—ac rwy’n falch iawn o weld eich bod yn cydnabod bod hynny'n achos dathlu.

Dydy’r weledigaeth rydych chi wedi’i rhoi ger ein bron ddim, i fod yn onest, yn rhoi dim newyddion newydd inni, ond eto ni wnaeth yr arolwg seneddol chwaith. Yr hyn mae wedi ei wneud yw—rydym ni i gyd yn gwybod llawer o'r pethau hyn, ond mae wedi ei strwythuro, ei wneud mewn ffordd y gallwn ni ei dreulio, a, gobeithio, ei roi ar waith. Nawr, rwy’n siŵr eich bod yn cytuno â mi mai’r risg mwyaf i gyflawni newid sylweddol yw arweinyddiaeth ac ymddygiad. A ydych chi’n credu bod gennych chi ddigon o bobl o’r safon a’r profiad priodol i arwain proses drawsnewidiol—ac i wneud hynny'n gyflym, oherwydd mae hyn yn hanfodol? Rydyn ni’n gwybod hyn, mae Llywodraeth Cymru yn gwybod hyn, mae’r GIG yn gwybod hyn, ac eto dydym ni ddim wedi gallu ei wneud hyd yn hyn ac mae angen inni wneud y newidiadau hyn.

Mae bwrdd cenedlaethol cryf i wneud penderfyniadau dros Gymru unwaith ac am byth yn sicr yn hanfodol. Fodd bynnag, pa sefydliad ydych chi’n ei weld fydd yn gyfrifol am graffu allanol ar y Bwrdd hwnnw? Rwy’n credu bod hyn yn hanfodol, oherwydd cafodd ei godi gyda mi, a gennyf fi yn ystod trafodaethau’r adolygiad seneddol. Ac, er fy mod yn sylweddoli mai’r cyfarwyddwr cyffredinol a arweiniodd y gwaith craffu ar gyfer datblygu'r cynllun hwn, mae'n rhaid,  yn y dyfodol, rhoi’r dasg o sicrhau bod hynny'n digwydd iddo ef a'i dîm cenedlaethol. Fe hoffwn i wybod sut ydych chi’n mynd i sicrhau eich bod yn ei ddwyn i gyfrif i wneud yn siŵr bod hyn yn digwydd yn ddigon cyflym, fel rydych chi’n ei ddisgrifio.

Bu nifer o ddogfennau polisi ac ymgeisiau i ddechrau ar y daith o drawsnewid ac integreiddio iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Unwaith eto, nododd yr arolwg seneddol fod Cymru yn dda iawn o ran llawer o'r polisïau, ond ddim cystal o ran cyflawni. Rwy’n dal i fethu gweld yn y weledigaeth hon ei bod yn amlwg yn nodi sut—sut ydym ni’n mynd i wneud hyn, sut ydym ni'n mynd i wneud y newid hwn. Mae llawer o fyrddau, llawer o rai lleol, rhanbarthol a chenedlaethol, ond, o ran y newid rheng flaen sydd ei angen arnom ni, sut fyddwch chi’n sicrhau nad ydym ni'n dechrau arni'n aflwyddiannus y tro hwn? Os aiff pethau o chwith, aiff pethau o chwith ar y dechrau. Felly, mae'n rhaid ichi arwain yn dda o'r dechrau ac asesu'r risgiau a'r broses yn gyson. A allwch chi ddweud wrthym ni efallai sut y gallech chi wneud hynny yn y tair blynedd cyn yr adolygiad ffurfiol?

Nid yw'r weledigaeth yn sôn rhyw lawer am faterion y gweithlu: sut ydym ni’n datblygu ein gweithlu, yn ofalwyr ac yn feddygon ymgynghorol, sut ydym ni’n eu gwerthfawrogi nhw, sut ydym ni’n eu hyfforddi nhw, a sut ydym ni’n rhoi parch cydradd iddyn nhw. Mae'r weledigaeth yn sôn yn fyr am Addysg a Gwella Iechyd Cymru, ond a allwch chi roi mwy o fanylion inni, o ystyried bod staff ac ail-egnïo a pharchu staff a gwerthuso eu cyfranogiad yn rhan mor allweddol o’r adolygiad seneddol? Nid wyf yn credu y caiff hynny ei chyfleu yn dda yn y weledigaeth ar hyn o bryd ac efallai y gallwch chi ymhelaethu ychydig bach mwy ar hynny.

Mae cymaint i sôn amdano, Dirprwy Lywydd, ac rwy’n siŵr fod amser yn mynd yn drech na fi, ond o gofio bod cynifer o feddygfeydd teulu a chanolfannau cymunedol wedi cau yn y gorffennol, sut ydym ni’n dechrau ar hynny? Does dim targedau nac ymrwymiadau pendant.

Rwy’n credu yr hoffwn i orffen gyda dau bwynt. Un yw fy mod yn sicr ein bod yn mynd i drafod hyn ymhellach a byddwn yn gofyn a wnewch chi ymrwymo heddiw i gyflwyno dadl yn amser y Llywodraeth fel y gallwn ni gael y cyfle i ymhelaethu ar y weledigaeth hon. Ac, yn ail, a allech chi wneud sylw am y £100 miliwn ar gyfer y gronfa drawsnewid? Mae i'w groesawu’n fawr, ond mae'n cael ei ddisgrifio fel cyllid am amser cyfyngedig, mae wedi’i dargedu tuag at ddatblygiad a gweithredu cyflym—mae'n ymddangos ei fod yn adlewyrchu, i raddau, amcanion y gronfa gofal integredig. Felly, a fydd awdurdodau iechyd neu awdurdodau lleol sydd ddim yn arwain ar arloesi yn y pen draw ar eu colled ac o dan anfantais bellach, ynteu a fyddwch yn gallu defnyddio’r £100 miliwn hwnnw ar gyfer trawsnewid i sicrhau cydraddoldeb o ran cyflawni a newid gwasanaethau yn yr holl fyrddau iechyd, o’r rhai cryf i'r rhai gwan iawn? Diolch.

15:40

Diolch am eich sylwadau a'r cwestiynau. Fe hoffwn i ddechrau drwy, unwaith eto, gydnabod a chroesawu’r gwaith trawsbleidiol a wnaed ar yr arolwg seneddol, yr aelodaeth a'r telerau, a lle rydym ni arni nawr. Ac wrth gwrs, rwy’n disgwyl y bydd ychydig o gymeriad gwahanol o ran lle yr ydym ni wrth i chi graffu yn gwbl briodol arnaf fi a’r Llywodraeth wrth inni ddatblygu'r cynllun hwn.

Rwy’n deall eich pryder am rai o'r swyddogaethau canolog yr ydym ni wedi cael ein cynghori i’w creu ac sydd wedi cael eu hargymell inni, nid yn unig yn yr adolygiad, ond hefyd yn adolygiad y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd. Rwy’n credu bod eich cwestiwn a oes digon o bobl o’r safon briodol i gyflawni trawsnewid cenedlaethol yn cyfeirio at hynny, ynghyd â’ch cwestiwn ynghylch craffu ar y weithrediaeth genedlaethol. Efallai yr hoffem ni gael mwy o bobl. Mae hynny'n rhan o'r hyn yr ydym ni'n ceisio ei wneud i greu gweithrediaeth genedlaethol. Mae rhywfaint o hynny’n ymwneud â dwyn ynghyd, mewn ffordd fwy cydlynol, gwahanol rannau o’n system iechyd a gofal, a bod y rheini, rwy’n credu ei bod hi'n debygol, yn atebol i'r cyfarwyddwr cyffredinol a phrif weithredwr y GIG. Mae hynny'n golygu wedyn, wrth gwrs, y bydd hynny’n atebol i aelod sy'n gysylltiedig â’r Llywodraeth ac, wrth gwrs, rwy'n disgwyl craffu ar yr hyn sy'n digwydd yn y pwyllgor ac yma yn y Siambr yn ogystal.

Nawr, rwyf wir yn meddwl, ledled Cymru, bod ein—.Gallem bob amser ofyn a hoffem ni fwy o bobl o safon ac ansawdd gwell, a byddem bob amser eisiau dweud, 'Wel, allwch chi byth gael gormod o bobl dda'. A dweud y gwir, fodd bynnag, rwy’n credu mai ein her gyntaf yw sicrhau bod sefydliadau’n teithio i'r cyfeiriad cywir ar yr un pryd, a'r arweinyddiaeth sydd eisoes yn bodoli nid yn unig ar y lefel uwch, ond ar lefel cymheiriaid a chyflenwi a’r rheng flaen, ac y byddwn wir yn gweld cynnydd gwirioneddol yn cael ei wneud drwy wneud hynny. A dyna pam mae'r cynllun yn nodi y bydd y byrddau partneriaeth rhanbarthol—sydd eisoes yn bodoli, felly nid ydym yn mynd i greu llu o fyrddau a sefydliadau newydd—yn cael eu grymuso i fwrw ymlaen â rhywfaint o'r trawsnewid yr ydym ni’n ei drafod.

Ac, a dweud y gwir, mae eich pwynt am le staff—rwy’n credu ei bod hi'n eithaf clir, gan ein bod wedi dilysu nod pedwarplyg ac wedi cytuno i fwrw ymlaen ag ef yn y cynllun hwn, mai’r peth allweddol ychwanegol yn y nod pedwarplyg yw sicrhau bod gennym ni weithlu iechyd a gofal brwdfrydig a chynaliadwy. A bydd hynny'n eithriadol o bwysig, nid dim ond fel rhywbeth i siarad amdano ond i’w gyflawni'n ymarferol. A’r her o ran manylion cyflawni hyn a nifer o bethau eraill yw nad wyf yn credu y byddech yn disgwyl gweld manylder sylweddol yn y cynllun hwn. Rwy’n credu bod yn rhaid ichi weld yr uchelgais a’r eglurder yn y targedau, y camau i'w cymryd, o fewn yr amserlen i’w cyflawni, yn hytrach na chynllun gweithredol manwl iawn ar gyfer y gwasanaeth. Byddai hynny, yn gyflym iawn, yn dyddio. Ond yr her yw sut ydym ni’n cyflawni ein targedau a'r camau gweithredu yr ydym ni wedi'u hamlinellu. Mae hefyd yn werth nodi bod arolwg staff y GIG newydd agor, felly, os yw unrhyw aelodau o deulu staff y GIG yn gwylio, hoffwn eich annog i gymryd rhan yn yr arolwg staff a dweud y gwir am yr hyn sy’n dda, yr hyn sy'n wael a'r hyn sy’n weddol yn eich sefydliad. Mae gennym ni her debyg o ran cadw cefnogaeth y gweithlu gofal cymdeithasol, ac rwy’n falch o nodi bod Cymdeithas Gweithwyr Cymdeithasol Prydain yng Nghymru wedi croesawu'r cynllun yn ogystal.

Hoffwn orffen drwy ymdrin â'ch pwynt ynghylch trawsnewid. Yn y cynllun, byddwch wedi gweld ein bod wedi gofyn i bob bwrdd partneriaeth rhanbarthol ddatblygu dau fodel arbennig i geisio cyflawni rhywfaint o'r trawsnewid hwnnw. Nawr, rydym ni wedi gofyn yn fwriadol i wneud yn siŵr bod rhywbeth yn cael ei wneud ar raddfa ddigon mawr—felly, nid dim ond ardal fach o drawsnewid sy'n unigryw i un gymuned, ond trawsnewid llawer mwy sylweddol y gall yr holl bartneriaid bwrdd rhanbarthol hynny gytuno arno a’i gefnogi. Ac mae hynny'n bwysig iawn, oherwydd mae hynny eto’n atgyfnerthu ein barn bod yn rhaid i’r gwasanaeth iechyd a llywodraeth leol a phartneriaid eraill sy’n cytuno ynglŷn â beth yw ein meysydd gweithgarwch trawsnewidiol i gyd gymryd rhan ynddynt a’u cefnogi, i wneud y newid yr ydym ni wedi’i drafod droeon yn y gorffennol. A bydd y gronfa drawsnewid yn helpu i hybu hynny a bwrw ymlaen ag ef. Ond rydym ni hefyd yn credu bod hynny’n debygol o greu nifer o feysydd lle nad oes angen y gronfa drawsnewid ar y partneriaid i gytuno i wneud rhywbeth gyda'i gilydd. Oherwydd y flaenoriaeth mewn difrif yw nid sut ydym ni’n defnyddio £100 miliwn o gyllid trawsnewid, er mor bwysig yw hynny o ran hybu a rhoi dechrau da i rywfaint o’r newid yr hoffem ni ei weld, ond sut ydyn ni’n defnyddio’r £9 biliwn o arian i’w wario ar iechyd a gofal cymdeithasol mewn modd mwy blaengar gyda'n gilydd, ac mae hynny'n her. Faint mwy ohono fyddan nhw’n ei wario gyda'i gilydd ar yr un amcan wrth ddilyn yr un cynllun blaengar a gyda'r un gweithlu’n gweithio’n agosach ac yn agosach gyda'i gilydd, a dyna beth rydym ni’n ceisio ei gyflawni.

15:45

Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am y datganiad.

Mae’r cyhoedd yng Nghymru’n gwybod bod Llafur wedi colli eu ffordd o ran cynnal y GIG yng Nghymru, ac mae Plaid Cymru eisiau codi'r GIG yn ôl ar ei draed. Dyna pam y buom ni'n pwyso am yr arolwg seneddol o iechyd a gofal cymdeithasol, sydd wedi rhoi cyfres ddefnyddiol iawn inni, rwy'n credu, o egwyddorion arweiniol. Roedd y ffaith bod yr arolwg hwnnw wedi mynnu bod y Llywodraeth yn gweithredu’n gyflym i lunio cynllun gweithredu yn brawf, rwy’n credu, o'r hyn yr oedden ni’n ei wybod eisoes—bod strategaethau’r Llywodraeth hon ar gyfer dyfodol iechyd a gofal wedi bod yn ddiffygiol. Felly, mae gennym ni yn awr gyfres o gynigion, ac mae elfennau cadarnhaol, yn sicr. Mae’r gronfa £100 miliwn, er enghraifft, i'w chroesawu. Wrth gwrs mae i'w chroesawu, ond nid yw'n ddigon, rwy'n ofni. Ond, yn bwysicach, nid dyma'r dystiolaeth rwy'n credu fy mod i a chleifion Cymru wedi bod yn chwilio amdani o gyfres o gynigion a fydd yn arwain at ddiwylliant newydd ac a fydd mewn gwirionedd yn sefydlu sut ydym ni mewn difrif yn sicrhau’r newid hwnnw a bod yn fodd inni gychwyn i gyfeiriad newydd.

Pan gyhoeddwyd adroddiad yr arolwg seneddol, fe wnaethom ni lunio cyfres o gwestiynau i’w gofyn i’r Llywodraeth, pethau yr oeddem ni yn eu disgwyl gan y Llywodraeth yng ngoleuni'r hyn a gafodd ei gynnig a’i amlinellu ar ffurf cyfres o egwyddorion yn yr arolwg hwnnw. Felly, rwy’n mynd i'w rhestru. Rwy’n mynd i sôn am bedwar ohonynt yma. Mae angen cynlluniau manwl i recriwtio mwy o staff, yn enwedig ym maes gofal sylfaenol. Rydyn ni’n sôn am roi mwy o bwyslais a mwy o bwysigrwydd ar ofal sylfaenol. Mae hynny’n golygu bod gennym ni faterion staffio difrifol iawn y mae angen inni ymdrin â nhw. Ble mae'r cynllun hwnnw ar gyfer staffio? Mae angen cynigion sylweddol arnom ni ar gyfer polisïau i atal iechyd gwael. Dydw i ddim yn gweld hynny. Ble mae’r cynigion hynny? Yn drydydd, ble mae’r cynlluniau roeddem ni’n eu disgwyl, yng ngoleuni adroddiad yr arolwg seneddol, y byddent yn darparu data gwell a chymaradwy ar berfformiad er mwyn caniatáu meincnodi gyda pherfformiad yn y gwledydd eraill, fel yr argymhellwyd gan yr adolygiad? Ac yn olaf, am y tro, mae hyn yn rhywbeth sydd wedi cael sylw rhannol yn y gyfres o gynigion rydych chi wedi'u cyhoeddi yn y gronfa trawsnewid £100 miliwn i fwrw ymlaen â’r agenda integreiddio, ac rwy’n credu y byddem ni i gyd yn hoffi gweld integreiddio yn digwydd, ond roedd arnom ni eisiau cynigion ynglŷn â sut y bydd gwasanaethau a ddarperir gan wahanol gyrff sector cyhoeddus gyda gwahanol gyllidebau’n integreiddio i ddarparu’r gofal iechyd a’r gofal cymdeithasol gorau posibl. Gallai’r arolwg seneddol roi egwyddorion cyffredinol inni. A dweud y gwir, rwy’n credu mai dyna oedd diben yr arolwg seneddol, sef tynnu sylw at rai egwyddorion arweiniol. Roedd angen cynigion cadarn a chynhwysfawr iawn, iawn ar y Llywodraeth, ac mae arnaf ofn nad dyna sydd gennym ni yma.

Wel, dyna gyfres ddiddorol o gwestiynau a sylwadau gan Rhun ap Iorwerth. Rwy’n mynd i roi sylw i’ch pedwar pwynt ac yna rwy’n mynd i ymdrin â'ch sylwadau mwy cyffredinol, na fyddwch chi'n synnu clywed nad wyf yn cytuno a nhw. 

O ran y cynigion i gyflwyno diwylliant newydd, rwy’n credu mewn gwirionedd mai dim ond i ryw raddau y gall cynigion mewn cynllun gyflawni diwylliant newydd. A dweud y gwir, yr hyn sydd wedi dechrau newid y diwylliant yw’r broses rydym ni wedi’i rhoi ar waith rhwng partneriaid i gynnal yr arolwg ei hun a’r gwaith ehangach y mae’r Llywodraeth wedi’i wneud dros gyfnod o amser. Un enghraifft dda iawn o hynny yw'r gronfa gofal integredig, ac fe sefydlwyd honno o'r trafodaethau am y gyllideb rhwng y pleidiau yn y Siambr hon, ac mae hynny wedi newid rhywfaint o'r diwylliant a chydberthnasau gwaith ar lawr gwlad. Mae wedi rhoi enghreifftiau da inni o’r hyn y gallwn ni ei gyflawni drwy gydweithio: creu awyrgylch gwell i bobl weithio ym meysydd iechyd, gofal cymdeithasol, tai a meysydd eraill o’n gweithlu, a gwell canlyniadau yn yr un modd i ddinasyddion. Dyna yw bwriad hyn oll yn y bôn, ac rydym ni wedi mynd ati i ddatblygu’r cynllun mewn ffordd sy’n atgyfnerthu hynny.

Fel rwyf fi wedi’i ddweud yn fy natganiad, rydym ni wedi gwneud hyn drwy weithio gyda phartneriaid. Cyn hyn, roedd y Llywodraeth yn ysgrifennu cynllun ar gyfer y gwasanaeth iechyd, yn ei roi i'r gwasanaeth iechyd ac yn dweud wrthyn nhw am ei gyflawni. Yna roedden nhw’n dweud wrth eu partneriaid mewn llywodraeth leol ac mewn mannau eraill, 'Dyma beth fydd yn rhaid inni ei wneud.' Rydym ni wedi gwneud rhywbeth gwahanol y tro hwn. Mae wedi cael croeso a chydnabyddiaeth gadarnhaol. Rydym ni wedi dwyn ynghyd y Llywodraeth, y gwasanaeth iechyd, llywodraeth leol a phartneriaid eraill rwyf wedi'u hamlinellu, ac wedi cael sgwrs ddwy ffordd yng ngwir ystyr y gair rhwng gwahanol bobl am eu swyddogaethau amrywiol o ran darparu gwell gwasanaethau a gwell canlyniadau. Felly, rydym ni wedi gwneud cynnydd go iawn wrth fwrw ymlaen â hynny ac, yn ddiddorol, mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi cydnabod hynny eu hunain yn y datganiadau maen nhw wedi’u cyhoeddi ynglŷn â sut rydyn ni wedi cyrraedd y pwynt hwn, yn y sgyrsiau uniongyrchol rwyf fi wedi’u cael, gyda'r Gweinidog, â phobl o bob plaid ac aelodau annibynnol ledled y wlad.

O ran yr heriau ynghylch y gweithlu, nid yn unig mae gennyn ni’r nod pedwarplyg, ond mae gennym ni amrywiaeth o gamau gweithredu yn y cynllun—camau gweithredu 25 i 28 yn benodol—sy’n sôn am sut y byddwn ni'n bwrw ymlaen i sicrhau bod y gweithlu cywir gennym i gyflawni ffordd wahanol o ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Yn ddiddorol, ddoe pan lansiwyd y cynllun yn ffurfiol gennym, roeddem yn falch iawn o fod yng nghwm Cynon yn ymweld â chartref gofal y Laurels yn Aberdâr, ac wedyn hefyd yn ymweld â rhywun mewn cartref yn Ynysybwl. Roedd hynny'n enghraifft gadarnhaol go iawn o newid rydym ni eisoes yn ei ddarparu ac yr hoffem weld mwy ohono: nid dim ond ward rithwir, ond, a dweud y gwir, pe gallech chi fod wedi gwrando’n uniongyrchol ar y meddygon teulu hynny yn sôn am sut y mae eu swyddi wedi newid a'r modd maen nhw'n credu bod eu swyddi wedi newid er gwell. Dywedodd un: 'Fyddwn i ddim eisiau mynd yn ôl i'r ffordd roedden ni’n arfer gwneud pethau. Doedden ni ddim wir yn siarad â’n gilydd o’r blaen a doedden ni ddim yn meddwl y gallem ni wneud hynny. Nawr, rydyn ni’n siarad â’n gilydd, mae gennym le i wneud hynny, ac rydyn ni’n rhoi gwell gofal i’r bobl rydyn ni’n gyfrifol amdanynt o ganlyniad.' Maen nhw hefyd yn cydnabod fod ganddyn nhw wahanol staff yn gwneud gwahanol bethau gyda nhw. Nid dim ond dilysu'r hyn rwyf fi’n ei feddwl oedd hyn; roedd yn dilysu'r hyn maen nhw’n ei weld yn ymarferol, a dyna beth mae angen inni ddarparu mwy ohono. Dyna pam rydym ni’n dod â gwahanol bartneriaid at ei gilydd, a dyna pam mae’n rhaid i’r byrddau partneriaeth rhanbarthol fod yn sbardun allweddol i gyflawni'r newid hwnnw.

O ran eich pwynt ynghylch meincnodi perfformiad gyda gwledydd eraill y DU, mae hynny'n golygu bod yn rhaid i wledydd eraill y DU fod ag eisiau gwneud hynny, a hyd yn hyn nid wyf wedi gweld dim awydd o gwbl gan ein inni allu meincnodi data ansawdd rhwng gwledydd y DU, a dweud y gwir, gwnaeth Cymru yn dda. Roeddem uwchlaw'r trothwy yn y rhan fwyaf o’r 13 o fesurau ansawdd. Roeddem ni o dan y trothwy ar ddau, ond, mewn gwirionedd, ar bump o'r 13 o fesurau, roeddem ni yn uwch na chyfartaledd y DU. Mae hynny’n dangos, ar sail ansawdd, bod GIG Cymru yn gwneud yn eithaf da o'i chymharu â’r gwledydd eraill ledled y DU, a byddai'n braf pe gallech chi gydnabod hynny o bryd i’w gilydd, yn ogystal â’r heriau sy'n ein hwynebu.

Rydym ni'n cydnabod yr heriau ynghylch integreiddio—dyna mae'r cynllun hwn yn nodi y dylem ni ei wneud—ond nid wyf yn derbyn o gwbl y pwynt cyntaf o ddweud bod Llafur wedi colli'r ffordd. Pe bai hynny'n wir, ni fyddem ni yma yn ein priod safleoedd yn y Siambr hon. Gwthiodd Plaid Cymru am yr arolwg hwn, ynghyd â phleidiau eraill, ac fe wnaethom ni i gyd gydnabod mewn ennyd o aeddfedrwydd mai dyma oedd y peth priodol i'w wneud. Ac fe wnaethom ni gydnabod y byddai gwneud hynny yn golygu na fyddai strategaeth tra’r oeddem yn cynnal adolygiad, ac rydym ni wedi cyrraedd y pwynt hwn yn ogystal.

Nawr, rwy’n credu, pan rydych chi'n edrych ar beth mae pobl eraill yn ei ddweud am ble’r ydym ni arni, ymhell o fod yn dweud bod hyn yn siom—. Os edrychwch chi ar y sylwadau gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, yr ystod o golegau brenhinol, gan gynnwys colegau brenhinol nyrsio, pediatreg, ffisiotherapi, therapi galwedigaethol, y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol, Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol, Cymdeithas Feddygol Prydain, Cydffederasiwn y GIG Cymru, y Sefydliad Iechyd o safbwynt y DU, Comisiwn Bevan a Chymdeithas Gweithwyr Cymdeithasol Prydain Cymru—maen nhw i gyd yn dweud bod y cynllun hwn yn mynd â ni i'r cyfeiriad cywir, bod y cynllun yn beth da, ac, fel y gwnes i ddweud i orffen fy natganiad, y peth radical i’w wneud nawr yw cyflawni.

15:50

Diolch am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Fe hoffwn i ddweud ar y cychwyn fod fy mhlaid i’n cefnogi’r hyn yr ydych chi'n ei amlinellu yn y cynllun hirdymor. Efallai nad wyf i bob amser yn cytuno â rhai o'ch penderfyniadau na bob amser yn cefnogi'r ffordd rydych chi wedi dewis gwneud y penderfyniadau hynny, ond rwy’n cytuno bod yn rhaid i bethau newid, ac mae rhaid iddyn nhw newid os ydym ni eisiau gweld y GIG yn dathlu ei ganmlwyddiant. Mae problemau ag iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, ond gallwn ni oll gytuno bod y gofal a ddarperir yn rhagorol. Y problemau yw cael y gofal yn y lle cyntaf. Mae’n hadnoddau ni’n gyfyngedig a gan ein bod i gyd yn byw’n hirach, mae ein dibyniaeth ar iechyd a gofal cymdeithasol yn cynyddu, sy’n rhoi mwy o straen ar yr adnoddau hynny. Yn anffodus, yn y gorffennol bu diffyg blaengynllunio mewn iechyd a gofal, yn enwedig o ran cynllunio’r gweithlu a diffyg cydweithio rhwng adrannau, sydd wedi golygu diffyg cysylltiad llwyr rhwng gwasanaethau. Rwy’n croesawu cydnabyddiaeth Llywodraeth Cymru bod gan bob gwasanaeth cyhoeddus ran i'w chwarae i wella iechyd a gofal. Bydd sicrhau bod gan rywun oedrannus gawod y mae modd cerdded i mewn iddi ar ôl cael clun newydd yn sicrhau y gall yr unigolyn hwnnw aros yn ei gartref ei hun ac na chaiff ei orfodi i fynd i gartref gofal am ddwy flynedd tra mae’n aros am addasiadau i’w dŷ.

Fel rwyf fi wedi’i ddweud sawl gwaith, ac fel mae Llywodraeth Cymru wedi’i nodi yn eu cynllun, wnaiff yr hen fodelau gofal ddim gweithio yn y dyfodol. Mae'n rhaid inni weithio'n glyfrach. Mae llawer o enghreifftiau gwych o hyn yn digwydd yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol yn lleol. Er enghraifft, gweithiodd bwrdd iechyd lleol Aneurin Bevan ac Ysbyty Athrofaol Cymru gyda mathemategwyr o Brifysgol Caerdydd i wella apwyntiadau. Darganfu'r arbenigwyr mewn damcaniaeth ciwiau y byddent, drwy aildrefnu slotiau theatr, yn gallu osgoi canslo llawdriniaethau. Dyma'r math o beth mae angen ei rannu a'i gyflwyno ledled ein GIG a'r sector gofal cymdeithasol. Mae angen rhannu a datblygu'r arferion gorau. Rwyf felly’n falch bod Llywodraeth Cymru wedi dewis sefydlu bwrdd trawsnewid cenedlaethol. Rwy’n gobeithio y bydd bwrdd y rhaglen yn helpu i ganfod a meithrin arloesedd a’i gyflwyno'n gyflym i'r holl sector iechyd a gofal.

Ysgrifennydd y Cabinet, er fy mod yn croesawu’r rhan y bydd technoleg ddigidol yn ei chwarae o ran darparu gofal ac iechyd yn y dyfodol, a bod manteision clir i ddefnyddio mwy o delefeddygaeth, pa drefniadau diogelu a roddir ar waith i sicrhau nad yw cefnu ar ymgynghoriadau wyneb yn wyneb yn arwain at fwy o unigrwydd i’n poblogaeth oedrannus? Bydd symud i system iechyd a gofal fwy digidol yn golygu mwy o fuddsoddi mewn gwybodeg a meddalwedd sy'n gysylltiedig ag iechyd. Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych chi neu eich Llywodraeth wedi ystyried y rhan y bydd meddalwedd ffynhonnell agored yn ei chwarae yn y dyfodol? Ac a fyddwch chi'n ymdrechu i leihau dibyniaeth y GIG ar feddalwedd perchnogol? Wedi'r cyfan, os defnyddir arian cyhoeddus i dalu am ddatblygu meddalwedd, oni ddylai'r cyhoedd fod yn berchen ar y drwydded?

Yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, o ran mynd i'r afael ag iechyd a gofal fel system gyfan, beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau nad yw cleifion o Gymru yn cael eu hatal rhag bod yn rhan lawn o'u hiechyd a'u lles eu hunain o ganlyniad i gysylltedd band eang gwael? Wrth inni symud mwy a mwy o wasanaethau ar-lein, rhaid inni sicrhau nad yw pobl sydd wedi’u heithrio'n ddigidol yn cael eu heithrio o iechyd a gofal. Diolch unwaith eto am eich datganiad, ac rwyf fi a'm plaid yn barod i weithio gyda chi i sicrhau gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol sy'n addas ar gyfer y dyfodol.

15:55

Diolch am y sylwadau a'r cwestiynau. Rwy'n sicr yn gobeithio bod ar dir y byw i weld canfed pen-blwydd y gwasanaeth iechyd gwladol—efallai nid yn y fan hyn, ond ar dir y byw beth bynnag. [Torri ar draws.] Wel, gan bwyll nawr.

O ran y tri phwynt y gwnaethoch chi eu nodi am dechnoleg ddigidol ac a yw’r gallu i ymgynghori â phobl o bell yn arwain at fwy o unigrwydd ac arwahanrwydd, mae her yn hyn o beth o ran deall beth sy’n addas i'w ddiben a sut ydych chi’n dal i ddeall bod rhyngweithio dynol yn bwysig i bobl o ran rhai o'u gwasanaethau iechyd a gofal yn benodol.

Rhan o'r her i ni, fodd bynnag, yw, a dweud y gwir, i rai pobl, ein bod yn cydnabod ei bod hi'n anodd iddyn nhw symud yn bell o’u cartrefi eu hunain ac, yn wir, y penderfyniad i fynd â mwy o driniaeth allan o ysbytai ac, yn wir, os oes arnoch chi angen gweld rhywun mewn ysbyty, a all yr unigolyn hwnnw mewn gwirionedd wneud hynny o leoliad pell beth bynnag. Rydym ni eisoes yn gweld telefeddygaeth yn gwneud hyn, ac mae llawer o aelodau o'r cyhoedd yn falch iawn â’r hyn y mae hynny’n ei olygu ac yn ei wneud iddynt, ond yr her yw mwy o gysondeb gan fod mwy o arbedion effeithlonrwydd ar gael gyda hynny nad ydym ni wedi manteisio arnyn nhw eto. Ond hefyd gall hynny gael effaith gadarnhaol ar arbed pobl rhag teimlo'n unig ac yn ynysig neu o ran anawsterau mynd i ganolfannau mwy o faint ar gyfer gwahanol agweddau ar eu triniaeth. Mae hynny hefyd yn bwysig o ran ein gallu i ddefnyddio’r dechnoleg sydd ar gael o ran sut ydym ni’n monitro pobl o bell ac yn monitro eu cyflyrau iechyd a gofal. Felly, gallem, a dylem, wneud mwy. Unwaith eto, rydym ni’n glir bod angen manteisio ar y cyfleoedd hynny.

O ran eich pwynt ehangach ynghylch perchnogaeth eiddo deallusol ar gyfer yr hyn yr ydym ni’n ei ddefnyddio, byddwn i’n dweud bod her ynghylch pwy sy'n berchen ar y systemau a’r meddalwedd y byddem yn eu defnyddio ac, ar yr un pryd, gwneud yn siŵr bod yr hyn sydd gennym ni yn addas at y diben. Rhan o'r her yw eich bod yn y pen draw’n datblygu systemau gyda phobl sy'n arbenigwyr ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, a daw rhywfaint o’r her gyda’r anhawster i gaffael eitemau ar raddfa fawr a hefyd, a dweud y gwir, gyda gwneud yn siŵr ein bod ni'n cael mwy a mwy o ddewisiadau unwaith ac am byth ar gyfer Gymru. Oherwydd a dweud y gwir, mae rhan fawr o'r cyfle i gael effaith mwy pellgyrhaeddol ar iechyd a gofal yn deillio o rannu'r wybodaeth honno a galluogi hynny i ddigwydd, yn hytrach na bod ein systemau a’n gwybodaeth yn cystadlu—rwy’n siŵr bod llawer o Aelodau’n cael gohebiaeth ynghylch hynny yn union ar wahanol adegau.

Eich pwynt am fand eang a darparu’r gwasanaeth: rydym ni'n cydnabod bod angen buddsoddi yn ein seilwaith band eang i ddarparu gwell gwasanaethau cyhoeddus. Weithiau, bydd hynny i gartrefi pobl, weithiau bydd i ganolfannau lle mae pobl yn mynd i gael eu triniaeth, a gallan nhw fod yn ganolfannau lleol yn hytrach nag ystyried teithio pellter llawer mwy. Bydd hynny’n bwysig nid yn unig mewn lleoliadau mwy gwledig, ond hefyd mewn lleoliad trefol fel yr un yr wyf fi’n ei gynrychioli, lle bydd gallu mynd i leoliad mwy lleol yn hytrach na theithio ar draws y ddinas ar gyfer math gwahanol o ofal, a dweud y gwir, yn llawer yn fwy cyfleus i’r unigolyn. Felly, mae’r gallu yn bodoli i wneud hynny, ond, yn hollbwysig, y gallu i wneud yn siŵr bod gwahanol rannau ein system yn trafod a'i gilydd ac yn rhannu gwybodaeth gyda'r nifer priodol o weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynoli wneud y dewisiadau cywir ynghylch penderfyniadau iechyd a gofal.

16:00

Fe wnaethoch chi ddweud mewn trafodaeth gynharach yn y Siambr fod yn rhaid i'r gwasanaeth iechyd naill ai newid neu fe fydd yn dymchwel, ac ymddengys i mi mai dyna'r her sydd o'n blaenau y mae'n rhaid i bob un ohonom chwarae ein rhan ynddi. Ac mae'n dasg anodd iawn, oherwydd mae newid y ffordd y mae pobl yn gwneud pethau yn beth cymhleth iawn ac mae llawer o bobl yn ei chael hi'n anodd mabwysiadu ffyrdd newydd o weithio.

Felly, rwy'n credu mai un o'r heriau sy'n ein hwynebu yw sut y cawn ni bobl eraill i dderbyn rhai o'r arferion rhagorol sy'n digwydd mewn gwahanol feysydd mewn gwahanol rannau o Gymru. Er enghraifft, yng Nghaerdydd a'r Fro, mae ganddyn nhw'r ymyriad ymarfer corff a cholli pwysau hwn sy'n lleihau'r angen i bobl gael llawdriniaeth, a'r cymorth deiet ac ymarfer corff sy'n seiliedig ar dystiolaeth—fe wnaeth mwy na thri chwarter o dros 300 o bobl golli pwysau, a chollwyd tua 3 kg ar gyfartaledd dros wyth wythnos. Wyddoch chi, mae hwnnw'n fudd iechyd sylweddol iawn ac yn rhywbeth yr wyf yn siŵr y gellid ac y dylid ei fabwysiadu, oherwydd y dangoswyd ei fod yn gweithio, ar draws y byrddau iechyd. Felly, roedd cwestiwn Angela Burns 'Beth fydd yn digwydd i awdurdodau lleol neu fyrddau iechyd nad ydynt yn arwain o ran arloesi?' yn fy nrysu braidd. Rwy'n credu y dylem ni eu hosgoi, oherwydd os nad ydyn nhw'n gallu arwain o ran arloesi mewn unrhyw beth, yna mae hynny'n peri tipyn o drafferth i ni.

Felly, rwy'n tybio mai un o'r pethau yr hoffwn i ychydig mwy o wybodaeth amdano yw sut yr ydym ni'n mynd i gynnwys y dinesydd wrth weddnewid ein gwasanaeth iechyd, oherwydd crybwyllodd Nick Ramsay yn gynharach y cleifion arbenigol ardderchog yn yr achlysur i lansio adroddiad Breast Cancer Care amser cinio—dyma fenywod sydd wedi cael gofal canser y fron ac sydd erbyn hyn yn gwirfoddoli i gefnogi menywod eraill, ac mae hynny'n gwneud iddyn nhw deimlo'n wych, mae'n gwneud i'r menywod diweddaraf sy'n gorfod dod i delerau â'r broblem hon deimlo'n llawer mwy hyderus, ar ôl gweld yr hyn y gellir ei wneud gan eraill. Dyma'n union y math o beth y dylem ni fod yn ei ddyblygu â rhaglen cleifion arbenigol ar draws y maes. Felly, rwy'n credu mai dyna un o'r heriau—tybed sut y mae eich gweithgor cenedlaethol newydd yn mynd i wneud iddo ddigwydd. Sut y maen nhw'n mynd i sicrhau mewn gwirionedd ein bod ni'n gweithredu'r arfer da sydd wedi'i werthuso'n briodol drwyddi draw, yn hytrach nag aros iddo rywsut ddigwydd yn naturiol?

Rwy'n credu mai'r peth arall yr wyf i wir eisiau clywed ychydig mwy amdano yw sut yr ydym ni'n mynd i rymuso staff ar lawr gwlad i allu gwneud y peth iawn, oherwydd maen nhw'n deall y maes y maen nhw'n gweithredu ynddo. Mae'n siomedig bod rhai nyrsys ardal wedi eu gostwng i fesur tasg ac amser, yn ôl yr hyn yr wyf i wedi'i glywed gan rai o'u rheolwyr, ac yn syml dydyn nhw ddim yn gallu edrych ar y claf yn ei gyfanrwydd, a dyna'r peth cyffrous am Buurtzorg—bod gennym ni ffordd o feddwl a ffyrdd o weithio sy'n canolbwyntio ar y cleient, a'r marc cwestiwn, mewn gwirionedd, yw a yw staff rheng flaen yn mynd i gael y math hwnnw o gyfle i ddarparu gofal sy'n canolbwyntio ar y person a chael trefnu eu hunain, ac a yw uwch reolwyr yn mynd i ganiatáu iddyn nhw fwrw ymlaen â'u gwaith.

Yn olaf, roeddwn i eisiau gofyn am rywbeth sy'n bwysig iawn er mwyn sicrhau nad yw pobl yn mynd i'r ysbyty yn ddiangen. Y llynedd, bûm mewn cyfarfod partneriaeth yma yng Nghaerdydd a oedd yn nodi cynlluniau dargyfeiriol ar gyfer pobl sy'n dod yn rheolaidd i adrannau achosion brys, gyda Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a'r heddlu, a phartner allweddol yn hwnnw oedd Cymunedau yn Gyntaf. Nhw oedd yn darparu'r cyrsiau lles, y cyrsiau meithrin hyder a byw bywyd llawn, y bobl a oedd â gweithdai poen yr oedd y gweithwyr iechyd proffesiynol yn atgyfeirio'r bobl hyn sy'n mynychu'r ysbyty yn rheolaidd atynt. Nawr bod Cymunedau yn Gyntaf wedi'i ddiddymu, pwy sy'n mynd i fod yn darparu'r mathau hyn o raglenni ar lawr gwlad, a sut y bydd y pethau hynny yn parhau? Ai drwy'r byrddau gwasanaethau cyhoeddus, neu ryw ffordd arall? Byddwn yn ddiolchgar pe gallech chi roi rhyw syniad inni.

16:05

Diolch ichi am y cwestiynau. Rwy'n derbyn eich pwynt cyntaf am yr angen brys am newid. Rydym ni wedi siarad am hynny ar sawl achlysur yn y gorffennol, ac, rwy'n credu, pan rydych chi'n codi'r rhaglen rheoli ffordd o fyw, sy'n edrych ar ddeiet, ymarfer corff ac ysmygu, a gynhelir gan Caerdydd a'r Fro, mae nifer o fyrddau iechyd â rhaglenni tebyg. Yr her yw nid dim ond sut y mae pobl yn paratoi ar gyfer llawdriniaeth, ond, mewn gwirionedd, sut yr ydym ni'n creu newid diwylliannol yn fwy cyffredinol o fewn y boblogaeth er mwyn osgoi'r angen am driniaeth feddygol neu ofal cymdeithasol.

O ran eich tri chwestiwn penodol, yr un olaf—rydym ni'n gweithio, wrth gwrs, gyda phartneriaid yn y sector gwirfoddol yn ogystal â phartneriaid mewn Llywodraeth Leol, ac yn wir gyda phartneriaid tai hefyd, i ddeall sut i gysylltu pobl â gwahanol wasanaethau, oherwydd, yn aml, nid oes gan bobl anghenion gofal iechyd pan fyddan nhw'n cysylltu â'r system gofal iechyd. Yn aml angen gofal cymdeithasol sydd ganddynt, neu maen nhw'n cysylltu â rhan o'r system sy'n agored ac sydd ar gael iddynt gan nad ydyn nhw'n deall sut i lywio'r system er mwyn cael eu hangen gofal iechyd wedi'i ddiwallu'n briodol. Yn ddiddorol, mewn ystod o'r cynlluniau arbrofol yr ydym ni wedi eu cynnal yng Nghymru am bobl sydd yn ffonio'r gwasanaeth ambiwlans yn fynych, yn aml mae ganddyn nhw angen iechyd meddwl nad yw'n cael sylw, ac mae hynny'n rhan o'n her i geisio dod o hyd—. Ac, mewn gwirionedd, bydd y gwaith hwnnw'n parhau, oherwydd mae Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn cydnabod bod angen iddo ddigwydd, ac, yn yr un modd, mae byrddau iechyd eu hunain yn cydnabod bod angen iddo ddigwydd hefyd. Maen nhw bellach yn rhannu gofod a'u partneriaid, ac fe ddylai fod yn sefyllfa well i ddod o hyd i'r atebion cywir.

O ran eich pwynt chi am y dinesydd ac ymgysylltu, wel, mae'r cynllun hwn yn dilysu ac yn cyflwyno gofal iechyd darbodus unwaith yn rhagor, ac mae gan y dinesydd ran allweddol mewn gofal iechyd darbodus fel partner mwy cyfartal, nid yn unig yn y gwasanaethau gofal iechyd, ond, mewn gwirionedd, yr her ar gyfer gwasanaethau gofal iechyd yw dal i fyny mwy â gofal cymdeithasol sydd eisoes wedi bod ers cryn amser—. Mae'n ymwneud â chael llais gwirioneddol y dinesydd yn y gwasanaethau y mae ei angen arno. Ac mae yna bwynt yn y fan yna am ymgysylltiad parhaus, i ddinasyddion gael eu cynnwys mewn dewisiadau ac mewn trafodaethau am eu gofal iechyd eu hunain, ac, yn hollbwysig, hefyd, â'n staff hefyd, sy'n arwain at eich pwynt olaf, lle yr ydym ni'n sôn am sut yr ydym ni'n deall beth yw gwerth ychwanegol—bod â sail gwerth ychwanegol—o iechyd a gofal cymdeithasol. A byddwch chi'n gweld hynny yn y cynllun. Byddwch chi hefyd yn gweld hynny yn y ffordd y caiff amcanion eu pennu ar gyfer cadeiryddion byrddau iechyd hefyd eleni, am yr angen i ddangos eu bod yn cymryd camau tuag at ofal iechyd ar sail gwerth.

O ran beth y mae hynny'n ei olygu i staff rheng flaen, unwaith eto, ar yr ymweliad ddoe, pan fuom i ymweld â Mrs Benjamin yn Ynysybwl, roedd yn enghraifft dda iawn o sut yr oedd staff wedi cymryd perchenogaeth o'r broblem â'r dinesydd. Oherwydd doedd Mrs Benjamin ddim eisiau aros dros nos yn yr ysbyty. Roedd hi wedi torri ei ffêr ac roedd angen iddi aros am gyfnod byr o amser, ond, fel arfer, byddai hi wedi aros am ryw wythnos, ond roedd hi mor siŵr ei bod hi eisiau mynd adref, am amrywiaeth o resymau. Cafodd sgwrs â'r tîm Cadw'n Iach Gartref, ac felly cafodd y therapydd galwedigaethol sgwrs â'r staff meddygol ynghylch yr angen i'w hanfon hi adref, fe wnaethon nhw siarad â'u partneriaid yng Nghyngor Rhondda Cynon Taf—y gwasanaeth gofal cartref rhagorol sydd ganddyn nhw—ac fe lwyddon nhw i wneud yn siŵr ei bod hi gartref o fewn cyfnod byr iawn o amser, gyda'r pecyn gofal priodol. A daeth hynny i ben, nid oherwydd bod staff wedi dweud, 'Mae angen i hyn ddod i ben yn awr', ond oherwydd ei bod hi wedi dweud, 'Dydw i ddim angen y cymorth yr wyf yn ei gael. Gallaf i ymdopi bellach. Rwy'n hynod ddiolchgar.' A dywedodd, 'Mae'r ffordd y mae fy merched wedi edrych ar fy ôl wedi bod yn anhygoel. Ni allwn i fod wedi gwneud hynny ar fy mhen fy hun, ac roeddwn i'n poeni'n fawr.' Roedd hynny'n enghraifft dda o staff yn cymryd perchenogaeth, yn newid penderfyniadau rheng flaen, felly nid dim ond cael gwybod gan staff meddygol beth y dylen nhw ei wneud, beth y mae'n rhaid iddyn nhw ei wneud. Fe wnaethon nhw wrando ar lais y person, ac mae hynny wedi newid y pecyn gofal sydd ganddi bellach. Ac o ganlyniad, mae gennych chi ddinesydd hapusach o lawer sydd wedi adennill ei hannibyniaeth ac sy'n gallu bodloni ei chyfrifoldebau ehangach eraill. Dyna'n union beth y mae angen inni weld mwy ohono ar draws y maes iechyd a gofal cymdeithasol.

Rydym wedi clywed gan un person gan bob plaid erbyn hyn, felly a allaf fi ofyn i'r siaradwyr nesaf i fod yn fyr, ac i'r Gweinidog hefyd i fod yn fyr gyda'i ymatebion? Diolch yn fawr. John Griffiths.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf i eisiau ychwanegu fy llais i, mewn gwirionedd, i'r rhai hynny sy'n galw am fwy o gamau ataliol yn y dyfodol, i wneud yn siŵr bod y straen ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn cael ei leddfu a'n bod yn ymdopi'n well â heriau poblogaeth sy'n heneiddio. Felly, tybed a wnewch chi ddweud wrthyf beth, mewn polisïau a strategaethau yn y dyfodol, fydd yn cefnogi'n well y mathau o gamau sy'n digwydd yn fy ardal i ar hyn o bryd, lle mae Newport Live, er enghraifft, y darparwr hamdden, yn gweithio'n agos iawn gyda Chyngor Dinas Casnewydd, clybiau chwaraeon lleol, sefydliadau cymunedol ar lawr gwlad, y sector gwirfoddol, yn ogystal â'r bwrdd iechyd ac amrywiaeth o rai eraill, i geisio cael poblogaeth fwy egnïol. Rydym ni wedi bod yn cyfarfod ac yn cymryd camau ers peth amser. Ac mae yna fentrau hefyd o amgylch y parkrun, a oedd yn helpu i ddathlu pen-blwydd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn saith deg fore Sadwrn diwethaf, yn y parkrun, ac, yn wir, gyda Sir Casnewydd, gyda County in the Community, yn cysylltu'r ysgolion lleol ac yn gweithio yn y gymuned yn gyffredinol. Mae cryn dipyn yn digwydd, Ysgrifennydd y Cabinet, a meddwl oeddwn i tybed sut, yn rhan o'r mentrau hyn yn y dyfodol, y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi mwy o anogaeth a chefnogaeth i'r gwaith angenrheidiol iawn hwnnw.

16:10

Wel, mae'n ymwneud a mwy na dim ond grymuso'r bobl a darparu'r gofod, mae'n ymwneud hefyd a sut yr ydym ni'n barnu y dylid datblygu partneriaethau newydd. Os edrychwch chi ar y nod pedwarplyg, cam cyntaf hwnnw yw gwella iechyd a lles y boblogaeth. Bydd hynny'n gofyn i bobl fod yn fwy egnïol, yn rhan o hynny. Rydym ni wedi deall, ers amser hir iawn, bod poblogaeth fwy egnïol lle'r ydym yn lleihau ysmygu, lle'r ydym yn ymdrin â deiet, a lle byddwn hefyd yn ymdrin â rhai o heriau alcohol hefyd—y byddwn i'n sôn mwy amdano yn ddiweddarach heddiw hefyd—yn helpu i wella amrywiaeth o'r mesurau hynny. Mae angen gwahanol bartneriaid â gwahanol ysgogiadau arnom ni i helpu pobl i wneud dewisiadau gwell. Ond hefyd rwy'n credu y dylai Aelodau gael rhywfaint o gysur yn yr egwyddorion cynllunio ar gyfer y ffyrdd newydd o weithio a'r modelau newydd y byddwn ni'n eu profi yn eu herbyn. Y cyntaf o'r rheini yw atal ac ymyrraeth gynnar—mae honno'n egwyddor cynllunio allweddol ynghylch sut y byddwn ni wedyn yn barnu effeithiolrwydd y mesurau hynny yr ydym ni eisiau eu cefnogi o ran gweddnewid iechyd a gofal cymdeithasol yn gyffredinol, yn hytrach na dim ond ymdrin â mwy o'r un peth nad yw wedi gallu cyflawni'r hyn yr hoffem ni ei weld.

Mae'r gystadleuaeth yn agored nawr am y cwestiwn cyflymaf. Vikki Howells.

Diolch. Diolch ichi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich cyhoeddiad pwysig iawn heddiw. Rwy'n falch eich bod chi wedi gallu gweld enghreifftiau mor dda o arfer gorau mewn dau leoliad yng Nghwm Cynon, a gobeithio y byddan nhw'n gwella eich gallu i gymryd hynny a'i gyflwyno mewn mannau eraill.

Dau gwestiwn cyflym, felly. Yn gyntaf, a gaf i groesawu'r gydnabyddiaeth yn y cynllun o'r gwaith a gyflawnir gan ofalwyr a gwirfoddolwyr? Fel y gwyddoch chi, mae'r wythnos hon yn nodi Wythnos Gofalwyr, felly a allech chi ddweud ychydig mwy am sut y gall Llywodraeth Cymru gefnogi, yn benodol, y gofalwyr di-dâl hynny sy'n cynorthwyo eu teuluoedd ac sydd, wrth gwrs, yn gwneud cyfraniad mor fawr at ein gwasanaeth iechyd? Rwyf hefyd yn croesawu'r pwyslais ar degwch canlyniadau yng ngweledigaeth y cynllun ar gyfer y dyfodol. Mae rhan o hyn yn cynnwys sicrhau bod cenedlaethau'r dyfodol yn iach ac yn egnïol. Sut ydych chi'n gweld gwaith traws-lywodraethol fel teithio llesol, addysg a'r gallu i fynd i'r awyr agored yn dod yn rhan o hyn er mwyn cyflawni amcanion y cynllun?

Diolch i chi am y ddau gwestiwn hynny. Cawsom ni amser da iawn yng Nghwm Cynon ac, yn wir, roedd un o'r bobl a welsom ni yn ofalwr di-dâl ei hun, i bob pwrpas. Felly, rydym ni'n cydnabod bod hynny o werth aruthrol i'r hyn y gallwn ni ei wneud ac, mewn gwirionedd, mae ein system iechyd a gofal a'r modd y mae'n gweithredu yn bwysig iawn wrth ganiatáu i'r gofalwyr di-dâl hynny wneud yr hyn y maen nhw eisiau ei wneud, a'r hyn y mae angen iddyn nhw ei wneud, ond ar yr un pryd ceir her o ran gofal seibiant. Mae angen inni wneud rhai dewisiadau ariannol yr ydym ni wedi eu gwneud yn y gorffennol ynghylch eu cefnogi â seibiant, ond hefyd yn ymwneud â chydnabod bod gan y bobl hynny yn eu hanghenion gofal eu hunain hefyd. Ac mae hynny yn ymwneud â bwrw ymlaen â gweithrediad cyson nid dim ond Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, ond gwneud yn siŵr bod y ddeddf honno yn cael ei hymwreiddio yn y strategaeth, a chredaf y gallwch chi gymryd cysur ei bod mewn gwirionedd. Rwy'n falch iawn hefyd o gael cyfle i groesawu Wythnos Gofalwyr a'r cyfraniad y maen nhw'n ei wneud heddiw.

Ar waith traws-lywodraethol, mae yna amrywiaeth o waith yr ydym ni eisoes yn ei wneud ar amrywiaeth o feysydd yn 'Ffyniant i Bawb'—y pedair thema fawr sydd angen gwaith ar draws y Llywodraeth i wella canlyniadau iechyd a gofal. Yn y maes economaidd, er enghraifft, rydym ni'n gwybod, mewn gwirionedd, i bobl nad ydynt mewn gwaith neu sy'n gwneud gwaith â chyflog gwael—bod eu canlyniadau iechyd yn waeth. Rydym ni'n cydnabod, o fewn y swm sylweddol o arian yr ydym yn ei wario yn y system iechyd a gofal, fod yna gyfle economaidd gwirioneddol hefyd. Felly, nid yw'n syml yn ymwneud â dweud, yn amlwg, 'iechyd ym mhob polisi'; mae'n dal i ymwneud â'r holl bolisïau mewn iechyd hefyd. Ac enghraifft dda o'ch pwynt am yr awyr agored yw'r gwaith yr wyf yn ei wneud eisoes gyda'n cyd-Weinidog, Dafydd Elis-Thomas, i edrych ar y gwaith y mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chwaraeon Cymru yn ei wneud, ac, yn wir, ym mhortffolio Lesley Griffiths, gyda Chyfoeth Naturiol Cymru. Felly, mae llawer iawn mwy i ni ei wneud, ac rwy'n edrych ymlaen at ddod yn ôl i'r lle hwn yn y dyfodol i sôn am yr hyn yr ydym ni wedi'i wneud.

Diolch yn fawr iawn. Dim ond ychydig o gwestiynau cyflym. Rwyf innau hefyd yn awyddus iawn i ni ganolbwyntio ar yr agenda ataliol, a meddwl oeddwn i tybed pa ran yr ydych chi'n ei gweld ar gyfer sefydliadau fel y Forget-me-not Chorus. Fe es i i ddigwyddiad yr wythnos diwethaf, felly roeddwn i eisiau ei grybwyll yn y Siambr, pan fo pobl â dementia a'u gofalwyr yn gallu cymryd rhan bob wythnos a chanu gyda'i gilydd a mwynhau eu hunain, mae hynny'n ymddangos, i mi, y math o weithgaredd allweddol sy'n cyfuno iechyd a gofal cymdeithasol mewn ffordd sy'n bleserus ac yn rhoi mwynhad. Felly, a wnewch chi ddweud sut, yn eich barn chi, y byddai hwnnw'n cymryd rhan yn y dyfodol?

Y cwestiwn arall yr oeddwn i eisiau ei ofyn oedd am gymariaethau rhyngwladol. Rwy'n gwybod bod sôn am Canterbury yn Seland Newydd yn yr arolwg Seneddol, a'r newid enfawr sydd wedi digwydd yn y ddinas honno, o'i chymharu â gweddill Seland Newydd, yn sgil eu gweledigaeth glir o un system ac un gyllideb. Meddwl oeddwn i tybed a oedd cymariaethau rhyngwladol yn mynd i fod yn rhywbeth a fyddai'n dylanwadu wrth inni fynd ar hyd y daith hon.

16:15

Fe wnaf i ymdrin â'ch pwynt olaf yn gyntaf. Wrth gwrs, byddwn ni'n parhau i edrych ar dystiolaeth ryngwladol. Byddwn ni'n parhau i gael ein herio ganddi, ein hysbrydoli ganddi, a bydd adegau pan fydd yn rhaid i ni ei diystyru gan nad yw'n berthnasol i'r cyd-destun sydd gennym yn y fan yma. Mae enghraifft Canterbury yn un dda i edrych arni, mewn gwirionedd. Mae digon o bethau tebyg inni ganolbwyntio arnynt, i ddysgu ohonynt ac i fod â diddordeb ynddynt. Mae Caerdydd a'r Fro yn cymryd gwir ddiddordeb ynddo, ond yn ddiddorol, cymerodd amser iddyn nhw gyrraedd yno. Cymerodd gyfnod o flynyddoedd iddyn nhw fod yn pwyntio i'r un cyfeiriad ac i bartneriaid gytuno ar yr hyn yr oedden nhw'n ei wneud, a bydd ganddyn nhw system well o ganlyniad i hynny. Yn wir, ar ddechrau'r daith honno, roedd digon o amheuwyr nad oedd yn credu y byddai'n gweithio mewn gwirionedd, ac mae gwers inni yn y fan yno hefyd, ynglŷn â bod â dull digon cyson gan ystod o wahanol bartneriaid i gyflawni budd gwirioneddol. Ond, wrth gwrs, fe fyddwn ni'n parhau i gael ein harwain a'n herio gan dystiolaeth o'r hyn sy'n gweithio.

Mae eich pwynt olaf am y Forget-me-not Chorus yn bwynt pwysig iawn—mae'r mwynhad a gewch chi o gymryd rhan mewn pethau, heb o reidrwydd ddeall eu bod yn rhan o driniaeth, a'r hyn sy'n digwydd o gwmpas hynny a'r rhwydweithiau cymdeithasol yn bwysig hefyd. Fe wnes i sylweddoli hynny ar fy ymweliad cyntaf â chôr o'r fath—mewn gwirionedd, yn y Gŵyr gyda Rebecca Evans ar adeg yr etholiad. Roedd yn ddiwrnod diddorol iawn lle roedd llawer o bobl a oedd yn sicr eisiau bod yno; doedd dim angen eu llusgo allan. Mae yna rywbeth am gydnabod nad yw'n ymwneud â bod â gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol yno i wneud rhywbeth i chi, neu gyda chi; mae hefyd yn cynnwys yr hyn yr ydym ni'n ei wneud gyda'i gilydd a'n cysylltiadau a'n rhwydweithiau cymdeithasol.

Diolch yn fawr, Ysgrifennydd y Cabinet.

Cyn inni symud i ddadl Cyfnod 3 ar Fil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris Alcohol) (Cymru), byddaf yn atal y trafodion am 10 munud. Caiff y gloch ei chanu bum munud cyn inni ailgynnull, a byddwn yn annog yr Aelodau i ddychwelyd i’r Siambr yn brydlon, os gwelwch yn dda. Diolch.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 16:17.

16:30

Ailymgynullodd y Cynulliad am 16:31, gyda'r Llywydd yn y Gadair.

5. Dadl Cyfnod 3 ar Fil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru)

Galw'r Aelodau i drefn. Ac felly, dyma ni'n cyrraedd Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) Cymru a'r Cyfnod 3. 

Grŵp 1: Rheoliadau a wneir o dan adran 1 (Gwelliannau 4, 1, 3)

Mae'r grŵp cyntaf o welliannau yn ymwneud â'r rheoliadau a wneir o dan adran 1. Gwelliant 4 yw'r prif welliant yn y grŵp yma, ac rwy'n galw ar Rhun ap Iorwerth i gynnig y prif welliant ac i siarad am y gwelliant yma a'r gwelliannau eraill yn y grŵp. Rhun ap Iorwerth. 

Cynigiwyd gwelliant 4 (Rhun ap Iorwerth).

Diolch, Llywydd. Mae’n braf gallu dechrau ar Gyfnod 3 y Mesur hwn. Mi wnaf i ychydig o sylwadau cyffredinol ac, wrth gwrs, mi ydw i wedyn yn cynnig gwelliant rhif 4 yn ffurfiol.

Mi ydym ni ym Mhlaid Cymru wedi credu ers tro yn yr egwyddor o ddefnyddio prisio fel arf i geisio perswadio pobl i yfed yn fwy cymedrol ac i roi rhagor o ystyriaeth i beryglon goryfed. Mi fyddwn i yn dweud ar y cychwyn yn fan hyn mai drwy’r system drethiant yr ydym ni yn credu y dylai hynny ddigwydd fel mater o egwyddor, ond gan nad ydy’r pwerau hynny gennym ni fel sefydliad ar hyn o bryd,—rwy’n mawr obeithio ac yn hyderu y bydd y sefyllfa honno’n newid yn y dyfodol—ond gan nad ydy’r pwerau hynny gennym ni ar hyn o bryd, mi ydym ni fel plaid wedi cefnogi’r egwyddor o gyflwyno isafbris yr uned ers rhai blynyddoedd.

Ond wedi dweud hynny, mi ydw i wedi dod at y cwestiwn hwn, a’r broses ddeddfwriaethol yn benodol, efo llygaid mor agored ag y gallwn i eu cael, yn gwybod bod yna lawer o bobl â gwir bryderon ac ofnau ynglŷn â pham yr ydym ni eisiau gwneud hyn, ac a fyddai’r hyn yr ydym ni’n edrych i’w wneud drwy’r ddeddfwriaeth hon yn cael gwir effaith. Mi ydym ni wedi gweithio felly yn gadarnhaol i chwilio am ffyrdd o gryfhau’r ddeddfwriaeth fel y cafodd ei chyflwyno yn wreiddiol, ac mi ydw i yn hyderus bod ein gwelliannau ni heddiw, yn ogystal â’r gwelliannau eraill y byddwn ni yn eu cefnogi, yn cryfhau’r ddeddfwriaeth yma, a'u bod yn gamau pwysig tuag at egluro pwrpas y ddeddfwriaeth yma wrth gyhoedd sydd yn amheus, llawer ohonyn nhw, ynglŷn â diben hyn, a hefyd mae yna elfennau yma sydd yn gwneud y ddeddfwriaeth, rydym ni’n gobeithio, yn fwy ffit ar gyfer y dyfodol.

Gan droi at welliant 4 yn benodol, mae’r gwelliant yma yn ymwneud â gofyn am ymgynghori â thafarndai, neu â chyrff sy’n cynrychioli tafarndai yn benodol, ynglŷn â’r ddeddfwriaeth yma, ac ar y pwynt lle y down ni at adfer y ddeddfwriaeth yma, neu ail-greu rheoliadau i ailgyflwyno ar gyfnod y machlud ymhen blynyddoedd. Y rheswm yr ydym ni’n cyflwyno hwn ydy ein bod ni'n credu bod yna wahaniaeth y mae'n bwysig ei nodi rhwng yfed alcohol mewn cyd-destun tafarn neu le tebyg a lle mae'r yfed hwnnw yn digwydd mewn llefydd eraill. Mae gan dafarndai amodau trwyddedu. Mi fydd gan dafarndai da staff wedi'u hyfforddi mewn cymorth cyntaf, er enghraifft, a staff sydd yn gwybod i roi'r gorau i roi alcohol i gwsmer os ydyn nhw wedi yfed gormod. Mae awdurdod lleol yn gallu tynnu trwydded oddi ar dafarn os ydyn nhw'n credu bod yna oryfed anghyfrifol yn digwydd yn hwnnw, ond mae'r tafarndai yma, sydd i fi yn rhan bwysig o'n cymunedau ni, yn gel, yn gliw yn aml iawn sy'n cadw cymunedau efo'i gilydd, wedi wynebu cystadleuaeth annheg, rydw i'n meddwl, gan archfarchnadoedd a llefydd eraill. Ac rydw i'n meddwl y byddai cytuno i'r gwelliant yma yn fodd i ailhafalu pethau rhywfaint drwy ddweud, 'Ydy, mae tafarn yn wahanol ac mi ddylem ni wrando ar farn y tafarndai wrth ystyried effaith y ddeddfwriaeth.'

Felly, rydym ni'n meddwl bod yr ailhafalu yn rhywbeth y gallwn ei wneud yn y modd hwn. Mi fyddwn ni hefyd yn cefnogi gwelliannau gan y Ceidwadwyr oherwydd mi rydym ni'n teimlo y byddai ymgynghori pellach, yn cynnwys efo'r pwyllgor, yn helpu i wneud y ddeddfwriaeth yma'n fwy cadarn. Mae'n bwysig, fel y dywedais, i ddod â'r cyhoedd efo ni efo deddfwriaeth iechyd cyhoeddus yn gyffredinol, ac mae hynny'n sicr yn wir yn yr achos hwn. Felly, cefnogwch ein gwelliant, ac mi gefnogwn ninnau hefyd y Ceidwadwyr.

16:35

Diolch i chi am gyflwyno gwelliant 4, ac mae'n rhaid imi ddweud wrth lefarydd Plaid Cymru bod eich dadl wedi ein perswadio ni mewn gwirionedd i newid ein safbwynt ynglŷn â hynny ac i'w gefnogi. I ddechrau, nid oeddem ni am wneud hynny oherwydd rydym ni'n credu bod gwelliant 1 o'n heiddo, mewn gwirionedd, yn ddigon eang i sicrhau ein bod yn ymgorffori ac yn amddiffyn tafarndai drwy'r wlad. Fodd bynnag, rwy'n credu eich bod yn cyflwyno dadl dda iawn bod ganddyn nhw le penodol yn ein cymunedau, lle yn ein cymdeithas, ac y dylem ni, felly, feddwl ystyried rhoi rhywfaint o amddiffyniad ychwanegol iddynt.

Mae hynny'n arwain at welliant 1 o'n heiddo, Llywydd, yr hoffwn i ei gyflwyno, oherwydd mae'r gwelliant sylweddol hwn yn mewnosod adran newydd ar ôl adran 1 o'r Bil i ddarparu ar gyfer rheoliadau a wneir o dan adran 1 i'w gwneud o dan weithdrefn uwchgadarnhaol, fel yr argymhellwyd gan y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon. Mae'r gwelliant yn nodi'r prosesau y mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru eu dilyn o ran ymgynghori ynglŷn â beth ddylai fod yr isafbris uned. Er gofyn a gofyn, mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod pob awgrym o osod yr isafbris uned ar wyneb y Bil, ac i hynny fod yn ddarostyngedig i weithdrefn uwchgadarnhaol. Fodd bynnag, mae lefel yr isafbris uned eto i'w chadarnhau yn llawn gan Lywodraeth Cymru, ac ni aethpwyd ymlaen ag argymhelliad 4 o adroddiad Cyfnod 1, a oedd yn rhoi yn gofyn i Lywodraeth Cymru gyhoeddi datganiad o fwriad sy'n cadarnhau beth yw'r isafbris uned y mae hi'n ei ffafrio ar hyn o bryd, a'r rhesymau dros hynny.

Wrth ymateb i adroddiad Cyfnod 1 y pwyllgor, dywedodd Llywodraeth Cymru y caiff cynigion eu datblygu ynghylch faint fydd yr isafbris uned gan ddefnyddio'r dystiolaeth ddiweddaraf ac ystyried ffactorau perthnasol eraill. Mae'r ffactorau hyn yn cynnwys data ynglŷn â gwerthu alcohol a data ynghylch niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol yng Nghymru. Bydd Gweinidogion Cymru yn edrych ar y deilliannau tybiedig o ran y gwahanol isafbrisiau uned ac yn gwneud penderfyniad ble y mae cydbwysedd rhesymol rhwng y manteision pwysig tybiedig a ddaw i iechyd y cyhoedd yn sgil y mesur hwn ac ymyrraeth yn y farchnad.

Rwy'n derbyn yn llwyr y sylwadau a gyflwynodd Ysgrifennydd y Cabinet Llywodraeth Cymru yn ystod cyfnodau amrywiol ein gwelliant, ond fel y dywedodd Rhun ap Iorwerth yn gynharach, mae hon yn ddarn o ddeddfwriaeth sy'n peri pryder i'r cyhoedd. Mae'n gwneud i bobl feddwl tybed beth ydym ni'n ceisio ei wneud, sut beth fydd y ddeddfwriaeth yn y pen draw ac rwy'n credu ei bod hi ond yn briodol y dylem ni, y Cynulliad Cenedlaethol, allu dweud, 'Ydym, rydym ni'n derbyn eich dadleuon i'w osod yn 50 ceiniog', sef yr hyn y mae pawb yn sôn amdano, ond efallai nad 50 ceiniog fydd yr isafbris—efallai y bydd yn £1, efallai y bydd yn £1.50, efallai y bydd yn 30 ceiniog. Ac rwy'n credu bod gennym ni gyfrifoldeb i'n hetholwyr i allu cael y gair olaf hwnnw wrth fynd ymlaen. Felly, mae'r gwelliant hwn yn ceisio gwireddu'r ymrwymiad hwn a sicrhau y caiff prosesau priodol eu dilyn wrth ymgynghori ynglŷn â beth yw'r isafbris uned gofynnol sy'n cael ei gynnig. Nid yw gwelliant 3 yn ddim ond gwelliant o ganlyniad i hynny. 

16:40

Bydd UKIP yn ymatal ar yr holl welliannau yn y grŵp hwn. Yn wir, byddwn yn ymatal ar bob un o'r gwelliannau ger ein bron heddiw, fel y gwnaethom ni yng Nghyfnod 2. Meddyliais yn hir ac yn ddyfal ynglŷn â pha un a ddylid cyflwyno gwelliannau i'r Bil ai peidio. Roeddwn i wedi ystyried cyflwyno gwelliannau tebyg iawn i'r rhai a gynigir gan Angela a Rhun, ond yn y diwedd penderfynais beidio oherwydd nid oes unrhyw ffordd o gwbl i wella'r darn hwn o ddeddfwriaeth. Mae'r Bil yn ddiffygiol ac yn seiliedig ar dybiaethau anghywir ac ar amcanion polisi wedi'u cynllunio'n wael.  

Rwy'n cytuno ag Angela y dylai'r Llywodraeth fod yn ymgynghori'n eang cyn gosod rheoliadau drafft. Ac rwy'n cytuno â Rhun na ddylid defnyddio'r Bil hwn i gynyddu elw manwerthwyr alcohol. Ond, yn anffodus, dyna'n union beth fydd yn digwydd o ganlyniad i'r darn hwn o ddeddfwriaeth. Mae'n seiliedig ar ddata nas profwyd ac nad oes unrhyw sicrwydd yn ei gylch. Nid oes unrhyw dystiolaeth y bydd yn gwneud unrhyw beth ac eithrio cael effaith anghymesur ar y bobl dlotaf yn y gymdeithas. Ni fydd gwneud alcohol yn ddrutach yn atal pobl rhag yfed yn ormodol, ac mae'n annheg i yfwyr cyfrifol. Mae'n anwybyddu corff mawr o dystiolaeth sy'n dangos bod rhai manteision iechyd yn sgil defnydd cyfrifol o alcohol. Mae mwy na 100 o astudiaethau wedi dangos y gall yfed un neu ddwy uned o alcohol y dydd leihau'r risg o ddatblygu clefydau cardiofasgwlaidd cymaint â 45 y cant. Mae'n anwybyddu'r dystiolaeth gynyddol mai'r grŵp mwyaf o'r rhai sy'n goryfed yw pobl ganol oed ar gyflogau breision. Yn ôl Arolwg Iechyd Cymru, mae 47 y cant o'r lleiaf difreintiedig yng Nghymru yn yfed mwy na'r swm a argymhellir, ac mae 28 y cant o'r lleiaf difreintiedig yn goryfed mewn pyliau, fel y gelwir yr arfer honno. Ni fydd cynnydd cymharol fach mewn prisiau yn atal dim ar y bobl hyn, oni bai mai gwir fwriad Llywodraeth Cymru yw cyflwyno isafbris llawer uwch a chosbedigol. 

Mae'r ffaith nad yw yr isafbris uned ar wyneb y Bil ac nad yw Llywodraeth Cymru wedi nodi beth fyddai'r isafbris yn peri pryder. Rydym ni wedi bod yn gweithio ar dybiaeth o isafbris uned o 50 ceiniog, ond am a wyddom ni mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno isafbris o 60, 70 neu 80 ceiniog. Byddai hyn yn cael effaith ofnadwy ar yfwyr cyfrifol ar gyflogau bychain. Pam ddylai fy etholwyr i dalu mwy oherwydd ychydig o yfwyr anghyfrifol.

Dylai Llywodraeth Cymru roi'r cynlluniau hyn o'r neilltu hyd nes bod modd dangos bod tystiolaeth gadarn i'r honiadau maen nhw'n eu gwneud yn sgil cyflwyno isafbris yn yr Alban. Maen nhw'n benderfynol o fwrw ymlaen, ac yn anffodus ni allwn ni leihau'r effaith a gaiff y Bil hwn ar bobl gyffredin yng Nghymru. Felly, oherwydd hyn, mae'n rhaid i mi ymatal ar y gwelliannau ac rwy'n annog Aelodau i wrthod y Bil hwn.

Rwy'n codi i ddweud fy mod i'n credu bod y ddau welliant hyn yn amhriodol, oherwydd rydym ni wedi bod yn siarad am hyn ers amser maith ac mae angen inni weithredu bellach. Nid wyf i wedi clywed unrhyw dystiolaeth o gwbl y bydd tafarndai yn gwneud unrhyw beth ond elwa ar yr isafswm prisiau, yn syml oherwydd mai'r sefydliadau sy'n targedu pobl gyda phrisiau alcohol chwerthinllyd o isel yw'r archfarchnadoedd, sy'n eu defnyddio fel abwyd. Mae'r tafarndai yn gyffredinol yn gyfrifol iawn ac yn dweud 'na' wrth bobl sydd wedi cael gormod i yfed, a gellir ymdrin â'r rhai nad ydyn nhw'n gwneud hynny drwy'r trefniadau trwyddedu.

Mae'r prisiau hyn sy'n artiffisial o isel yn ei gwneud hi'n llawer haws i blant gyfuno eu harian poced a chael oedolyn i fynd i mewn i siop i brynu alcohol, a dyna pam rwy'n credu bod angen inni fel mater o frys fod yn llym a sicrhau bod isafswm pris ar alcohol fel nad yw'n rhywbeth a all fod mor rhad â melysion, sef y sefyllfa ar hyn o bryd. Felly, rwy'n gwrthwynebu'r ddau welliant hyn a byddaf yn pleidleisio yn erbyn y ddau ohonynt.

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething.

Diolch, Llywydd. Rwyf eisiau codi i wneud rhai sylwadau byr o ran amcan a diben y ddeddfwriaeth, cyn troi at y tri gwelliant yn y grŵp hwn.

Dechreuaf drwy atgoffa'r Aelodau bod hwn yn ddarn o ddeddfwriaeth iechyd y cyhoedd sy'n seiliedig ar amrywiaeth o dystiolaeth y mae pob un ohonom ni yn ymwybodol ohoni, sef ein perthynas anodd, ar adegau, ag alcohol ledled y wlad. Rydym ni'n cydnabod y niwed y gall alcohol ei achosi ac y mae modd ei osgoi, ac, pan rydym ni'n trafod ein heriau iechyd cyhoeddus fel cenedl, rydym ni'n rheolaidd yn sôn am ddiet, ymarfer corff, ysmygu ac alcohol. Yr her yr ydym ni wedi ei gosod i'n hunain yw: a yw'r darn hwn o ddeddfwriaeth yn ffordd ddefnyddiol o arwain at well iechyd cyhoeddus neu beidio? Ac rydym ni'n credu ei fod. Nid dim ond barn y Llywodraeth hon yw honno, wrth gwrs; rydym ni wedi ymgynghori o'r blaen ynglŷn â chyflwyno isafbris uned yng Nghymru, unwaith yn 2014 yn rhan o'r Papur Gwyn iechyd y cyhoedd, ac unwaith yn 2015, pan arweiniais i, a minnau yn Ddirprwy Weinidog ar y pryd, ymgynghoriad ar fersiwn ddrafft Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru). 

Ond, yn yr un modd, rydym ni'n cydnabod fod y pleidiau i gyd yn gytûn ar hyn—bydd gan Aelodau unigol yn y Siambr hon farn ynghylch hyn, ond gan gydnabod hefyd bod ymrwymiad i ddeddfu yn y maes hwn wedi ymddangos yn nau faniffesto diwethaf Plaid Cymru ar gyfer y Cynulliad. Ac nid ydym ni ar ein pen ein hunain yn y Deyrnas Unedig, wrth gwrs. Cyfeiriwyd eisoes at yr Alban, lle maen nhw eisoes wedi cyflwyno darn o ddeddfwriaeth debyg ac wedi wynebu cyfres gynhwysfawr a drud o heriau gan y diwydiant alcohol yn y Goruchaf Lys ac yn Llys Ewrop hefyd. Mae'r Goruchaf Lys a Llys Ewrop wedi cytuno bod hyn yn ddull dilys a chymesur o fynd i'r afael â'r niweidiau a achosir i iechyd y cyhoedd gan alcohol. Yn fwy na hynny, heddiw, wrth gwrs, y newyddion mawr yn Nhŷ'r Cyffredin yw bod Bil ynglŷn â chael isafbris uned ar gyfer Lloegr wedi ei godi gan aelod o'r meinciau cefn, gan gyfeirio unwaith eto at dystiolaeth y mae'r Pwyllgor Dethol Iechyd yno wedi clywed am y cynnydd posib mewn iechyd a all ddod yn sgîl cyflwyno isafbris uned. 

Rwy'n gwrthod dadleuon UKIP, ac mae yna adegau pan yr ydych chi'n anghytuno â phobl ac mae'n haws ac yn fwy deheuig dweud nad ydym ni'n rhannu yr un farn. Rydym ni'n credu y gellid osgoi dwsinau o farwolaethau y flwyddyn o ganlyniad i gyflwyno'r ddeddfwriaeth hon. Daw hynny o'r dadansoddiad a wnaed gan Brifysgol Sheffield. Rydym ni yn credu bod hyn yn un ffordd ychwanegol o leihau'r niwed y mae modd ei osgoi y mae alcohol yn ei achosi ac yr ydym ni i gyd yn ei gydnabod. Yn yr un modd, rydym ni'n credu fod y pris hefyd yn bwysig. Mae yna amrywiaeth o dystiolaeth o bedwar ban byd, nid yn unig yn y data o Brifysgol Sheffield, ond yn ein bywydau ein hunain rydym ni'n deall bod prisiau yn bwysig yn y dewisiadau a wnawn.

Gan droi at y gwelliannau, rwy'n cydnabod, wrth gynnig gwelliant 4, y diddordeb sydd gan Rhun ap Iorwerth o hyd yn y sector dafarndai—heb fwriadu chwarae ar eiriau. Ond rwy'n cydnabod hefyd gwerth economaidd a chymdeithasol tafarndai mewn cymunedau gwahanol. Rwyf hefyd yn cydnabod ei bod hi'n bosib y bydd isafbris uned yn helpu tafarndai fel busnesau. Yn wir, ysgrifennodd y Sefydliad Astudiaethau Alcohol at y Prif Weinidog yn nhymor yr hydref y llynedd gan ddweud eu bod yn credu y byddai isafbris uned yn cael ei groesawu'n fawr gan dafarnwyr. Fodd bynnag, dychwelaf at y ffaith bod hwn yn ddarn o ddeddfwriaeth ynglŷn ag iechyd y cyhoedd, ac wrth ofyn i Aelodau wrthod gwelliant 4, nid wyf yn credu bod y manylder penodol am dafarndai yn angenrheidiol o gwbl. Rwyf eisoes wedi rhoi—ac ailadroddaf eto yr ymrwymiadau yr wyf i wedi eu rhoi o'r blaen i ymgynghori ynglŷn â'r isafbris uned y mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu ei bennu fel man cychwyn. Byddwn yn ymgynghori ynglŷn â'r pris cychwynnol hwnnw i roi cyfle pellach i Aelodau'r Cynulliad a'r holl randdeiliaid, gan gynnwys, wrth gwrs, tafarndai, ystyried a gwneud sylwadau o ran y pris hwnnw. Wrth gwrs, bydd hynny yn ystyried y ffeithiau, fel y mae Angela Burns wedi eu nodi yn fanwl gywir, o ystod eang o wybodaeth, gan gynnwys data gwerthiant alcohol a'r dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg o'r Alban.

Fodd bynnag, gan droi at welliannau 1 a 3, rwy'n dal i gredu nad yw'r manylder a gynigir i wneud rheoliadau o dan y Bil hwn, os caiff ei basio, yn angenrheidiol nac yn ddymunol. Rydym ni'n cytuno y dylid ymgynghori â rhanddeiliaid, fel yr wyf i wedi ei ddweud sawl gwaith o'r blaen, ac mae'n briodol na chaiff yr isafbris uned ei bennu neu ei ddiwygio heb ei ystyried yn llawn a heb gyfle i drafod hynny yn y Cynulliad Cenedlaethol hwn. Ac mae'r Llywodraeth yn parhau i gredu bod y weithdrefn gadarnhaol yn rhoi'r cyfle hwnnw.

Mae'n werth atgoffa ein hunain y byddai'r weithdrefn a nodir yng ngwelliant 1 angen proses o chwe mis fwy neu lai er mwyn cyflwyno ac wedyn newid unrhyw isafbris uned ar gyfer alcohol yn y dyfodol. Nid wyf yn credu bod y cyfnod o amser y byddai hynny'n ei gymryd yn angenrheidiol nac yn gymesur. Ac, yn fwy na hynny, mae'n werth atgoffa'r Aelodau bod y Cynulliad hwn wedi cytuno o'r blaen, wrth gyflwyno treth trafodiad tir, i gynnal y weithdrefn a argymhellir gan y Llywodraeth heddiw—i gael pleidlais gadarnhaol. Rwy'n credu y byddai hi'n rhyfedd dweud y gallwch chi newid cyfraddau trethiant ledled Cymru gyda phleidlais gadarnhaol, ond i newid yr isafsbris uned ar gyfer alcohol y byddai'n rhaid cynnal proses chwe mis.

Rwy'n cydnabod bod gwahaniaeth barn yn y Siambr hon, ond rwyf yn gofyn i'r Aelodau wrthod ac nid cefnogi gwelliannau 4, 1 a 3.

16:50

Rydym ni'n gwybod beth yw'r gyfradd gychwynnol y mae'r Llywodraeth yn ei gosod o ran treth trafodiadau tir ac mae hi yn ymddangos yn rhyfedd i gael y ddadl hon ar yr egwyddor hynod o bwysig hon, rwy'n gefnogol iddo ar y cyfan, ond ni allwn ni wneud unrhyw beth i osod y gyfradd wreiddiol. Felly, fe allwch chi ei osod yn uchel, tua'r canol, neu yn isel. Allwn ni ddim dweud dim ynghylch hynny. Bydd gennych chi'r pŵer hwn ar unwaith o dan y rheoliad i wneud hynny ac all y Siambr hon ddim craffu ar hynny mewn manylder, fel y gwyddoch chi'n dda.

Fe wnaf i ymateb yn fyr, Llywydd, oherwydd, fel yr wyf i wedi dweud ar sawl achlysur, rydym ni wedi ymrwymo i wneud cryn dipyn o ymgynghori cyn gosod yr isafbris uned cychwynnol y bydd Gweinidogion yn ei argymell ac y bydd angen i'r lle hwn benderfynu a ddylid ei gefnogi neu beidio. Rwy'n credu fod hynny yn ddull cwbl briodol ac yn ffordd gwbl briodol i fwrw ymlaen, ac rwy'n edrych ymlaen at weithredu cyfundrefn isafbris uned ledled Cymru i wneud cynnydd gwirioneddol yn iechyd y cyhoedd ym mhob un cymuned. 

Diolch yn fawr iawn. Mi wnaf i wneud sylw yn fyr iawn ynglŷn â'r pwynt olaf yna i ddechrau. Mae cael y pris cywir yn gwbl allweddol, wrth gwrs. Mi oedd ymdrech gan y Ceidwadwyr drwy welliant yn gynharach yng Nghyfnod 2 i osod y pris ar wyneb y Bil, ac rydw i'n meddwl mai camgymeriad fyddai hynny wedi bod i osod pris penodol rŵan, oherwydd mae angen yr ymchwil manwl iawn, iawn yna i ganfod y pris cywir. I fi, mae'n gyfleus iawn ei fod o'n rhif crwn, y 50 ceiniog yma. Rydw i'n meddwl, o bosib, bod angen iddo fod yn fymryn yn is na hynny, ond wn i ddim. Mae'r pwysau yn mynd i fod ar ysgwyddau'r Llywodraeth i brofi i'r Cynulliad yma, drwy waith ymgynghori manwl a chasglu tystiolaeth manwl, fod y pris cywir yn cael ei osod, os ydy'r Bil yma yn dod yn Ddeddf.

I ymateb i'r sylwadau eraill ynglŷn â'r gwelliannau, diolch yn fawr iawn i Angela Burns, os caf i ei ddweud, am roi arwydd y bydd hi a'i phlaid bellach yn cefnogi gwelliant 4 gennym ni. Mae o'n dangos gwerth trafod a dwyn perswâd. Rydw i'n gresynu nad ydy'r Llywodraeth, serch hynny, wedi gallu cael ei pherswadio. Rydw i'n meddwl, serch hynny, bod yna gamddeall wedi bod gan yr Aelod dros Ganol Caerdydd ynglŷn â'n bwriad ni yn hyn oll. Mi ddywedasoch chi y bydd tafarndai yn ennill drwy'r ddeddfwriaeth yma; wel, dyna union bwrpas y gwelliant yma, i nodi drwy'r Ddeddf hon bod tafarndai yn bwysig a bod cynnal tafarndai yn bwysig, ac felly dylai tafarndai neu'r cyrff sy'n eu cynrychioli nhw gael y rhyddid i ddylanwadu ar y ddeddfwriaeth neu ar reoliadau maes o law. Mi oeddech chi'n dadlau bod angen bwrw ymlaen ar frys ac felly y dylai'r gwelliant yma gael ei wrthod. Wel, rydw i'n methu â gweld am eiliad sut byddai derbyn y gwelliant yma yn arafu'r broses—y cwbl ydy o ydy ychwanegu rhanddeiliaid pwysig i'r rhestr o bobl fyddai'n cael eu hymgynghori â nhw, a hynny er mwyn gwneud y pwynt bod yn rhanddeiliaid yna yn cynrychioli sector bwysig i'n cymunedau ni ar hyd a lled Cymru. Felly, mae'n bosibl bod yna gamddeall wedi bod yn y rhan honno.

Mi wnaf sylwadau yn sydyn iawn ynglŷn â'r hyn a ddywedodd Caroline Jones ar ran UKIP.

Fe wnaethoch chi ddweud eich bod yn ofni y bydd hyn yn taro grŵp penodol yn anghymesur. Wyddoch chi beth? Rydych chi'n gywir. Bydd y Bil hwn, y darn hwn o ddeddfwriaeth, yn rhoi ergyd anghymesur i bobl sy'n yfed gormod o alcohol cyfaint uchel cryf iawn ac sy'n niweidio eu hiechyd wrth wneud hynny. A bydd yn effeithio'n anghymesur ar y siawns y bydd pobl ifanc yn dechrau yfed diodydd cyfaint uchel o alcohol yn yr un modd ag y mae prisiau uchel ar sigaréts yn rhan o'r arfogaeth ym maes iechyd y cyhoedd i geisio mynd i'r afael ag ysmygu ymhlith pobl ifanc. Felly, mae'n rhaid inni fod yn realistig ynghylch pwy rydym ni'n ceisio eu helpu drwy'r ddeddfwriaeth hon. Rydym ni'n ceisio creu cymaint o arfogaeth ag y gallwn ni o ran gwella iechyd ein cenedl, a dyma un elfen.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 4? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn, felly, i bleidlais electronig ar welliant 4. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 17, pedwar yn ymatal, 29 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 4. 

16:55

Gwelliant 4: O blaid: 17, Yn erbyn: 29, Ymatal: 4

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 1 (Angela Burns).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais electronig ar welliant 1. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 17, pedwar yn ymatal, 29 yn erbyn. Gwrthodwyd gwelliant 1. 

Gwelliant 1: O blaid: 17, Yn erbyn: 29, Ymatal: 4

Gwrthodwyd y gwelliant

Grŵp 2: Adroddiad ar weithrediad ac effaith y Ddeddf (Gwelliannau 2, 5)

Y grŵp nesaf o welliannau yw'r grŵp sy'n ymwneud â'r adroddiad ar weithrediad ac effaith y Ddeddf. Gwelliant 2 yw'r prif welliant yn y grŵp yma, ac rydw i'n galw ar Angela Burns i gynnig y prif welliant ac i siarad am y gwelliant yma a'r gwelliant arall yn y grŵp. Angela Burns. 

Cynigiwyd gwelliant 2 (Angela Burns).

Diolch, Fadam Llywydd. Hoffwn gynnig gwelliant 2.

Mae gennym ni gyfrifoldeb yma, a'n cyfrifoldeb ni yw nid yn unig i wneud cyfraith, ond i wneud cyfraith dda. Ac os ydych chi'n mynd i wneud cyfraith, yn enwedig cyfraith arloesol, cyfraith nad yw'n gyffredin yn y gwledydd cartref eraill ac nad yw'n gyffredin fel arfer, mewn gwirionedd, yn Ewrop, yna y peth lleiaf y gallwch chi ei wneud pan rydych chi wedi troi hynny yn gyfraith yn gwneud yn siŵr eich bod wedi rhoi sylw i'r holl ddata y mae ei angen arnoch chi er mwyn sicrhau y caiff eich cyfraith ei gweinyddu a'i bod hi mewn gwirionedd yn gwneud yr hyn y mae hi i fod i'w wneud, ei bod yn effeithio ar y bobl briodol a'i bod yn cyflawni eich amcanion polisi. Ac felly yr hyn y mae gwelliant 2 o'n heiddo yn ei wneud yw ei fod yn pennu'r nodweddion y mae'n rhaid eu hystyried yn rhan o'r adroddiad gwerthuso ac yn nodi pwy ddylai Gweinidogion Cymru ymgynghori â nhw wrth baratoi'r adroddiad hwn, oherwydd rwy'n parhau i fod yn ymwybodol o'r pryderon y soniwyd amdanyn nhw yn y pwyllgor ac yn y memorandwm esboniadol y gallai cynyddu pris alcohol lyncu cyfran helaethach o gyllidebau teuluoedd ac unigolion ar incwm bychan, neu gallai arwain at gyfnewid alcohol am sylweddau anghyfreithlon. Er enghraifft, roedd argymhelliad 14 yn adroddiad Cyfnod 1 y pwyllgor yn tynnu sylw'r Llywodraeth yn benodol at y pryderon hyn. Mae parhau i symud ymlaen heb gryfhau'r Bil i gyflwyno system i fonitro'r pryderon hyn yn rheolaidd, yn fy marn i, yn gwneud cyfraith wael, a does arnaf i ddim eisiau gwneud cyfraith wael; mae arnaf i eisiau gwneud cyfraith dda sydd mewn gwirionedd yn pwyso'n ysgafn ar ysgwyddau'r bobl ac yn gwneud yr hyn y mae i fod i'w wneud.

I fod yn deg, ers Cyfnod 2, mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi nodi cynlluniau ar gyfer gwerthuso'r Ddeddf, sy'n ymateb i lawer o'r pryderon penodol y soniwyd amdanyn nhw yn y Pwyllgor ac yn fy ngwelliant blaenorol. Mae'r llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet ar 22 Mai a anfonwyd at y pwyllgor iechyd yn crybwyll defnyddio dull sy'n seiliedig ar ddamcaniaeth werthuso a elwir yn ddadansoddi cyfraniad i werthuso'r Bil. Nawr, does gen i ddim problem â'r fethodoleg a awgrymir fel y cyfryw. Fodd bynnag, mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn ceisio gosod y gwelliant hwn ar wyneb y Bil oherwydd mae hi'n hanfodol waeth pa fethodoleg a ddefnyddir ei bod hi'n bwysig bod y meini prawf y manylir arnyn nhw yn y gwelliant hwn yn ffrwyth y camau cynharaf. I fod yn onest Ysgrifennydd y Cabinet, dylid dadansoddi'r lefel hon o wybodaeth ni waeth pa fethodoleg a ddefnyddir. Nid ein barn ni yn unig mo hyn, ond barn nifer o dystion ac aelodaeth drawsbleidiol y pwyllgor iechyd.

Nawr, nid wyf yn mynd i ddarllen drwy bob un rhan o'n gwelliant, ond rydym ni yn dymuno casglu gwybodaeth am bobl y mae eu defnydd o alcohol yn uwch na chanllawiau presennol prif swyddog meddygol y DU. Mae arnom ni eisiau gwybod pwy yw'r grwpiau oedran penodol o bobl yr ystyrir eu bod mewn mwy o berygl cael eu niweidio gan alcohol, ac fe wnaethom ni ddweud wrth Lywodraeth Cymru, 'penderfynwch chi ar hynny, ond rydym ni eisiau'r wybodaeth honno.' Rydym ni eisiau gwybod beth yw effaith yfed alcohol fesul grŵp incwm. Wyddoch chi, nid yw Cymru yn genedl gyfoethog i lawer iawn o bobl ac mae'n hanfodol nad oes canlyniadau anfwriadol y bydd eu heffaith yn treiddio i gartrefi cymaint o bobl. Rydym ni eisiau gwybod a yw hyn yn newid nifer yr achosion o gam-drin domestig ai peidio, a fydd gostyngiad yn y nifer o bobl sy'n mynd i'r ysbyty yn gysylltiedig ag alcohol, a'r effaith, wrth gwrs, ar wasanaethau cymorth alcohol, sy'n gwbl hanfodol, yr effaith ar fanwerthwyr, ar dafarnwyr Cymru, gwerthiannau traws-ffiniol, a gwerthu dros y rhyngrwyd.

I mi, un o'm meysydd allweddol yw'r trawsnewid o'r awydd a'r cymhelliant a'r caethiwed i'r ddiod gadarn, a throi at sylwedd arall: cyffuriau. Mae hyn i gyd yn hanfodol. Rydym ni'n casglu'r wybodaeth honno, yna gallwn wybod a yw'r Ddeddf hon ynglŷn ag isafbris uned yn gwneud yr hyn yr ydym ni'n bwriadu iddi ei wneud ai peidio, a yw'n gwneud yr hyn y mae hi i fod i'w wneud. Ac os nad yw hi, beth allwn ni ei wneud wedyn yw ei newid. Gellir ei haddasu, gallwn ei newid fel ei bod mewn gwirionedd yn gwneud yr hyn y mae arnom ni eisiau iddi ei gwneud i gyflawni'r amcanion polisi. Ac yn un o'r pryderon mawr rwyf wedi eu darganfod, a minnau'n gwneud mwy bellach gyda'r sector cyhoeddus, yw pryd bynnag mae gennym ni bolisïau nad ydym ni yn eu monitro, nad ydym ni yn eu mesur, ni allwn ni felly ddweud gydag eglurder pa mor llwyddiannus ydynt.

Nawr, rwyf wedi gwneud y penderfyniad i newid fy ngwelliant ychydig o Gyfnod 2 mewn ymateb i sylwadau Ysgrifennydd y Cabinet ynghylch cael gwerthusiad ar ôl dwy flynedd—rwyf wedi derbyn y sylw hwnnw—ac rwyf wedi ymostwng i ddarparu ar gyfer eich sylwadau o ran y diffiniadau o yfwyr niweidiol a pheryglus. Ac mae'r gwelliant diwygiedig hwn, yn fy marn i, yn adlewyrchu cynlluniau Ysgrifennydd y Cabinet ei hun ar gyfer gwerthuso. Yr Alban yw'r unig un o'r gwledydd cartref eraill i fabwysiadu isafbris uned alcohol, ac mae ganddyn nhw ddarpariaethau tebyg, sy'n dangos rwy'n credu y doethineb o gasglu data perthnasol ar gam cynnar iawn. Rwyf yn annog Llywodraeth Cymru i dderbyn y gwelliant hwn, a byddwn hefyd yn cefnogi gwelliant 5.

17:00

Rydym ni’n mynd i fod yn cefnogi’r gwelliant y mae Angela Burns wedi bod yn siarad yn ei gylch o. Yn syml iawn, mi rydym ni’n credu bod y gwelliant hwn yn cynyddu'r sgrwtini ôl-ddeddfwriaethol a fyddai angen ei weld yn cymryd lle cyn adnewyddu’r Ddeddf hon. Mae hynny’n gam synhwyrol, ac mae ein gwelliant ni—gwelliant 5—yn gysylltiedig â fo, ond yn benodol wedi’i gynllunio o’n rhan ni i sicrhau bod pwyllgor o’r Cynulliad yn edrych yn llawn ar effeithiau, llwyddiannau a gwendidau'r mesurau hyn wrth iddyn nhw gael eu gweithredu. Achos tra rydym ni’n cefnogi’r egwyddorion yma, mae’n wir dweud mai drwy brofiad gweithredu’r mesurau hyn y cawn ni weld y gwir effaith. Ac mi fydd sgrwtineiddio, edrych ar ac asesu'r ddeddfwriaeth yma, fel mae o'n cael ei weithredu’n ymarferol, yn gwbl allweddol. Felly, mi rydym ni eisiau i bwyllgor o’r Cynulliad edrych ar y mater hwn.

Rŵan, mae’r gwelliant ei hun, fel y gwelwch chi o’i ddarllen yn fanwl, yn fwy cyffredinol na hynny. Mae o’n sôn am y Cynulliad yn cymryd y camau angenrheidiol er mwyn sgrwtineiddio. Fy nealltwriaeth i o hynny, a fy ngobaith i, ydy y byddai’r Cynulliad dan yr amgylchiadau hynny yn cyfeirio hyn at bwyllgor. Dyna fyddai’n gwneud synnwyr, ac rwy’n gobeithio y clywn ni gan yr Ysgrifennydd Cabinet y byddai fo yn ystyried mai dyna fyddai effaith ymarferol y gwelliant hwn. Felly, rydw i’n gobeithio y gallwn ni gael cefnogaeth y Llywodraeth ar y gwelliant. Mae yna drafod wedi bod ymlaen llaw, ac rwy’n edrych ymlaen at glywed eglurhad gan yr Ysgrifennydd Cabinet ei fod o yn gweld gwir ddiben y gwelliant hwn yn yr un goleuni ag yr ydw i.

Diolch, Llywydd. Fe wnaf ymdrin yn gyntaf â gwelliant 2, fel y'i cyflwynwyd gan Angela Burns. Unwaith eto, rydym ni wedi trafod hynny yn ystod Cyfnod 2. Rwy'n cydnabod ei fod yn welliant gwahanol i'r un a gynigiwyd, ond fy marn i o hyd yw nad yw'n angenrheidiol nac yn fanteisiol. Wrth gwrs, rwyf wedi cydnabod pwysigrwydd gwerthuso ac adolygu. Yn wir, mae'r Bil yn ei gwneud hi'n ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi adroddiad ar weithrediad ac effaith y ddeddfwriaeth ar ddiwedd y cyfnod cychwynnol o bum mlynedd, ac mae'n rhaid i'r Cynulliad wedyn gymeradwyo yn gadarnhaol i barhau â'r drefn isafbris uned o fewn cyfnod ar ôl hynny. Ac yn wir, mae'r egwyl a'r cymal machlud hwnnw wedi cael croeso eang gan randdeiliaid allanol. Felly, rwy'n cytuno â'r egwyddor, heblaw y dylai adroddiad ganolbwyntio ar y graddau y mae'r ddeddfwriaeth wedi cyfrannu at gyflawni newid mewn amrywiaeth o ganlyniadau, gan gynnwys pethau fel lefelau yfed, derbyniadau i'r ysbyty a marwolaethau sy'n gysylltiedig ag alcohol —ac, yn wir, peth o'r gwaith sydd eisoes wedi'i wneud ar effaith isafbris uned ar grwpiau penodol.

Rwy'n falch fod Angela Burns wedi cydnabod y cynlluniau ar gyfer y gwerthusiad a rannwyd gyda'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, fel y nodais y byddent, ac mae hynny'n dangos i Aelodau ein bod ni eisiau bod yn agored yn y sgwrs ac yn yr ystyriaethau manwl yr ydym ni yn eu rhoi i'r adolygiad a'r gwerthuso arfaethedig o'r hyn sydd, rwy'n derbyn, yn ddeddfwriaeth newydd. Ac mae'r cynlluniau hynny yn trafod yr astudiaethau pwrpasol sydd o dan ystyriaeth yn ogystal ag yn bwriadu dysgu gwersi o'r gwerthusiad o'r isafbris uned yn yr Alban, a beth yw'r ffordd orau inni ddysgu o astudiaethau eraill sydd ar y gweill neu wedi'u cynllunio yn y maes polisi hwn, gan gynnwys amrywiaeth o fuddiannau o'r sector prifysgolion o ran ystyried effaith y ddeddfwriaeth. Ac wrth inni wneud mwy o waith dros y misoedd nesaf, byddwn yn cyflwyno rhagor o wybodaeth am ein cynlluniau terfynol, ac unwaith eto byddaf yn fodlon eu rhannu gyda'r pwyllgor ar gyfer unrhyw sylwadau y maen nhw eisiau eu gwneud. Fodd bynnag, ymddengys bod graddau'r manylder yn y gwelliant, i mi, yn dal i lyffetheirio gallu nid yn unig y Llywodraeth ond o bwyllgor, neu gorff arall o'r Cynulliad hwn yn y dyfodol i benderfynu ar y gwerth mwyaf a'r pryder fyddai ganddyn nhw o ran y gwerthusiad, ar ryw adeg, yn fras, yng nghanol tymor nesaf y Cynulliad. Mae pob un ohonom ni'n gwybod fod wythnos yn amser hir mewn gwleidyddiaeth. Nid ymddengys i mi fod rhagweld yn y fath fanylder beth mae'n rhaid ei gynnwys yn y pum mlynedd ar ôl cyflwyno isafbris uned yn gymesur. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig cydnabod ein bod ni wedi amlinellu'r telerau cyffredinol ynglŷn â chael adolygiad gwerthuso ffurfiol yn y memorandwm esboniadol. Rydym ni wedi darparu mwy o fanylion ers hynny, felly mae ymrwymiad gwirioneddol i fod yn agored yn y ffordd y mae datblygu'r gwerthusiad hwnnw a gwrando ar y Cynulliad wrth wneud hynny.

O ran gwelliant 5, rwy'n hapus i ddweud y bydd y Llywodraeth yn cefnogi'r gwelliant hwn. Yn ystod trafodion Cyfnod 2 yn y pwyllgor, rhoddais ymrwymiad i weithio gydag Aelodau, fel y gellid cyflwyno gwelliant yng Nghyfnod 3 i sicrhau y byddai'r Cynulliad yn gwneud gwaith craffu priodol ac ystyrlon ar ôl pasio'r ddeddfwriaeth. Nodais hefyd nad oedd angen iddo fod yn welliant o eiddo'r Llywodraeth. Rwyf o'r farn ei bod hi'n bwysig y dylai gwelliant ar y mater hwn ategu gweithdrefnau presennol sydd eisoes ar waith ar gyfer y Cynulliad, ac rwy'n credu bod y gwelliant hwn yn gwneud hynny, oherwydd mae'n ei gwneud hi'n ofynnol i Weinidogion Cymru ymgynghori â Chynulliad Cenedlaethol Cymru wrth baratoi'r adroddiad hwnnw ar weithrediad ac effaith y Ddeddf. Felly, mae hynny'n golygu bod yn rhaid ymgynghori â'r Cynulliad cyn bod Gweinidogion Cymru yn cyflwyno adroddiad o dan adran 21, a fydd yn sbarduno gallu'r Cynulliad i benderfynu, o dan Reolau Sefydlog ei hun, pa faint bynnag o graffu mae'n tybio sy'n briodol. Rwy'n fodlon iawn cadarnhau fy mod yn rhannu barn Rhun ap Iorwerth y byddwn yn disgwyl y byddai'r Cynulliad ei hun yn penderfynu cyfeirio'r mater i'r pwyllgor priodol er mwyn darparu adroddiad ffurfiol, i sicrhau bod gwaith craffu ystyrlon a'r gallu i dderbyn tystiolaeth bryd hynny. Yn benodol, bydd y Cynulliad yn gallu deall a gofyn am unrhyw sylwadau a fyddai'n berthnasol, cyn gwneud unrhyw benderfyniad ynglŷn ag a ddylai barhau â'r darpariaethau isafswm prisio. Felly, o ganlyniad, rwy'n hapus i ddweud na fydd y Llywodraeth yn cefnogi gwelliant 2, ond i ddweud, unwaith eto, mae'r Llywodraeth yn hapus i gefnogi gwelliant 5.

17:05

Diolch i chi, Madam Llywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, nid wyf yn synnu o gwbl at eich ymateb. Yn y blynyddoedd yr wyf i wedi bod yma yn Aelod Cynulliad, cefais y fraint o gadeirio'r Pwyllgor Cyllid am dymor.  Rwyf hefyd wedi eistedd ar rai o'r pwyllgorau polisi difrifol iawn, sef addysg ac iechyd. A thro ar ôl tro ar ôl tro ar ôl tro, rwyf wedi darganfod polisïau lle bu'r monitro yn brin iawn, fawr ddim mesur, fawr ddim dadansoddi effeithiolrwydd polisi yng ngwir ystyr y gair.

Yma mae gennym ni ger ein bron gynnig ar gyfer darn o ddeddfwriaeth. Er fy mod i yn cydnabod bod eich cymal machlud yn well nag yr oedd, a bod nifer fawr o bobl yn ac wedi ei groesawu, y realiti yw mai anaml iawn y caiff deddfwriaeth ei diddymu. Yn wir, rwy'n ei chael hi'n anodd meddwl am ddarn o ddeddfwriaeth yn y Cynulliad sydd wedi'i diddymu erioed, ond mae croeso ichi fy nghywiro. Felly, rwy'n teimlo'n gryf iawn, iawn—yn gryf iawn—fod angen inni mewn gwirionedd wneud yn siŵr ein bod yn casglu data cywir. Fel y dywedodd fy nghyd-Aelod wrthyf, dim ond munud yn ôl, pam ar y ddaear na fyddem ni eisiau casglu'r data hwn? Pam na fyddem ni eisiau canfod faint o bobl y bydd hyn yn effeithio ar eu pocedi, yn andwyol, sydd erioed wedi cael problem gydag yfed? Pam na fyddem ni eisiau canfod faint o bobl allai ffeirio alcohol am gyffuriau? Pam na fyddem ni eisiau canfod sut allai trais yn y cartref newid o ganlyniad i hyn? Pam na fyddem ni eisiau canfod yr effaith bosib ar ganolfannau triniaeth alcohol a chyffuriau ac ar yr arian ychwanegol y mae angen inni ei roi iddyn nhw, a'r costau? Felly, ni allaf ddeall pam na fyddech chi'n gwneud hynny. Felly, i mi mae eich dadl yn gwbl ffug. Rwy'n siomedig iawn nad ydym ni'n rhoi ar unrhyw ddarn o'n deddfwriaeth—ond rydym ni'n sôn am yr un yma, felly fe wnaf i ganolbwyntio ar yr un yma—nad ydym ni'n rhoi yn y Bil yr hyn y byddwn ni yn ei fesur a sut y byddwn ni'n mesur. Rwy'n derbyn bod mesuriadau yn newid, ac rwy'n derbyn eich bod yn mynd i ychwanegu mwy o bethau—ac yn gwbl briodol—a dyna pam mae gennym ni'r union beth hwn:

'unrhyw nodweddion neu faterion eraill y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol.'

Ond rwyf o'r farn ei bod hi'n briodol ein bod ni mewn gwirionedd yn mesur nifer o'r agweddau eraill hyn. Dyma beth yr ydym ni wedi'i glywed yn y pwyllgorau, dyna beth mewn gwirionedd y cytunodd yr holl bwyllgor trawsbleidiol arno a dweud y dylem ni ei wneud, ac nid ydych chi eisiau gwneud hynny, ac rwy'n credu bod hynny'n wael iawn.

17:10

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 2? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais electronig ar welliant 2 yn enw Angela Burns. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 17, pedwar yn ymatal, 29 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 2.

Gwelliant 2: O blaid: 17, Yn erbyn: 29, Ymatal: 4

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 5 (Rhun ap Iorwerth).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 5. A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais electronig, felly, ar welliant 5. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 45, pedwar yn ymatal, un yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 5.

Gwelliant 5: O blaid: 45, Yn erbyn: 1, Ymatal: 4

Derbyniwyd y gwelliant

Grŵp 3: Cyfyngu ar y cyfleoedd gwneud elw (Gwelliant 6)

Y grŵp nesaf o welliannau yw grŵp 3, ac mae'r grŵp yma o welliannau yn ymwneud â chyfyngu ar y cyfleoedd gwneud elw. Gwelliant 6 yw'r prif welliant, a'r unig welliant, yn y grŵp yma. Rydw i'n galw ar Rhun ap Iorwerth i gynnig y gwelliant a gynigiwyd yn ei enw ef. Rhun ap Iorwerth.

Cynigiwyd gwelliant 6 (Rhun ap Iorwerth).

Diolch, Llywydd. Mae'r gwelliant yma yn un sydd wedi ei gynllunio i fynd i'r afael â mater o gonsérn ynglŷn â gweithredu Deddf o'r math yma yng Nghymru, ac y mae o hefyd yn fater a oedd yn dipyn o rwystr i daith deddfwriaeth gyfatebol yn Senedd yr Alban. Yn rhyfedd iawn, mae o'n rhwystr a arweiniodd at Lafur yn y pen draw yn pleidleisio yn erbyn y ddeddfwriaeth yma. Sôn ydw i am y tebygrwydd y byddai yna elw ychwanegol i gael ei wneud gan fanwerthwyr yn sgil cyflwyno y ddeddfwriaeth yma. Rŵan, nid ydy hynny yn rhywbeth y byddem ni'n dymuno ei weld yn digwydd. Mi gyfeiriaf yn ôl at yr hyn a ddywedais i ar y dechrau: mai trwy drethiant y byddwn ni, mewn gwirionedd, yn dymuno chwilio am ffyrdd i ddefnyddio pris fel arf yn erbyn goryfed. Pe bai trethiant yn cael ei ddefnyddio, mi fyddai'r pwrs cyhoeddus yn elwa yn uniongyrchol o ddeddfwriaeth a fyddai yn amrywio'r pris.

Wrth gwrs, yn y cyd-destun hwn, nid dod ag arian i mewn i Drysorlys Cymru yw'r diben, ond yn hytrach gosod polisi fel arf iechyd cyhoeddus, a pheidio, mewn difri, â delio â'r cwestiwn ariannol sydd yn codi wrth wraidd hyn. Eto, cyfyngiadau ar ein pwerau ni fel Senedd ydy hyn. Rydym ni wedi meddwl a cheisio meddwl am, a chrafu pen, ac ystyried, nifer o ffyrdd y gallem ni sicrhau bod y manwerthwyr a fydd yn gwneud mwy o arian wrth orfod gwerthu alcohol am bris uwch—bod yr arian yna, rywsut, yn cael ei gasglu ac, yn ddelfrydol, o bosib, yn cael ei rannu mewn ffordd a fyddai'n cael ei dargedu at helpu trin goryfed a thaclo alcoholiaeth ac yn y blaen. Nid ydym ni, efo cyfyngiadau deddfwriaethol y lle yma, mewn difri, wedi gallu meddwl am ffordd ymlaen. Mi wnaeth Llafur yn yr Alban, oherwydd eu bod nhw'n anfodlon gweld manwerthwyr yn gwneud mwy o bres, benderfynu yn y pen draw i bleidleisio yn erbyn y ddeddfwriaeth, ond dyna fo—yr Alban ydy hynny. 

Felly, o fethu â meddwl am fodel a fyddai'n gweithio, beth rydym ni wedi ei wneud drwy'r gwelliant yma ydy ceisio gwneud y ddeddfwriaeth yn fwy parod at y dyfodol, yn y gobaith, mewn difri, y bydd gennym ni bwerau i weithredu yn y dyfodol nad oes gennym ni ar hyn o bryd, er mwyn gwneud yn siŵr, pan fydd y ddeddfwriaeth yma'n cael ei hailystyried yn y dyfodol, ac yn cael ei hadnewyddu ar y machlud yn y dyfodol, fod Gweinidogion Cymru yn cymryd camau, neu o leiaf yn ystyried cymryd camau ar y pwynt hwnnw, i atal proffidio o fewn gwerthiant alcohol. Fel rydw i'n ei ddweud, mi fyddem ni'n dymuno gwneud hyn rŵan. Allwn ni ddim, ond drwy gefnogi'r gwelliant hwn, mi allwn ni wneud yn siŵr, o leiaf, fod yr ystyriaeth yn cael ei rhoi i hyn unwaith eto pan mae'r cyfle yn dod o'n blaenau ni adeg y machlud.

17:15

Ni fyddwn ni'n cefnogi gwelliant 6. Rydym ni'n teimlo bod y derminoleg yn oddrychol iawn ac yn anaddas ar gyfer wyneb y Bil. Nododd Ysgrifennydd y Cabinet yng Nghyfnod 2 bod Llywodraeth Cymru eisoes yn gweithio gyda Chonsortiwm Manwerthu Cymru ar y mater hwn ac yn aros am dystiolaeth benodol i Gymru i nodi'r effaith y bydd y ddeddfwriaeth hon yn ei chael ar iechyd y cyhoedd ac elw busnes, ac rydym yn hapus i aros am y dadansoddiad hwnnw.

Rydych chi yn llygad eich lle, Rhun ap Iorwerth: efallai'n wir y bydd elw ychwanegol i fanwerthwyr. Efallai hefyd y bydd costau ychwanegol i fanwerthwyr. Efallai hefyd fod yna ffyrdd gwahanol o allu ystyried hyn yn ei gyfanrwydd a dod ag arian yn ôl i'r pwrs cyhoeddus i helpu i dalu costau'r Bil hwn neu, yn wir, i gefnogi yr hyn yr hoffwn ei weld yn cael eu cefnogi, sef canolfannau triniaeth ar gyfer alcohol a chyffuriau. Felly, ni fyddwn yn bwrw ymlaen â hyn. Mae gennym bryder y bydd i'r ddeddfwriaeth hon efallai ganlyniadau anfwriadol, ond fe ddylai'r monitro sydd ar waith gan Lywodraeth Cymru ymdrin â phryderon o'r fath.

Diolch ichi, Llywydd. Rwyf am ddechrau drwy gydnabod fy mod i'n deall yr hyn sy'n ysgogi'r gwelliant, ac rwy'n deall yr ewyllys da sy'n bodoli ar draws amryw o bwyllgorau i geisio gwneud yn siŵr nad yw manwerthwyr yn ceisio gwneud elw gormodol yn sgil cyflwyno isafbris uned. Fodd bynnag, ni fydd y Llywodraeth yn gallu cefnogi'r gwelliant sydd ger ein bron heddiw. Mae'n werth dechrau â phenderfyniad y Goruchaf Lys, a wnaeth, wrth gydnabod nad oedd Bil yr Alban o fewn ei gymhwysedd, gydnabod hefyd fod y drefn isafbris uned yn newydd ac yn arloesol, a bod yna ansicrwydd a gydnabyddir gan amrywiaeth o bobl am unrhyw gynnydd posibl mewn refeniw i fanwerthwyr a lle yn y gadwyn cyflenwi y gallai'r cynnydd hwnnw mewn refeniw ymddangos. Ond mae hefyd yn her rannol, oherwydd rydym yn gobeithio gweld rhywfaint o arloesi gan y diwydiant mewn ymateb i'r Bil. Er enghraifft, un canlyniad posibl fyddai ein bod yn gweld mwy o gynhyrchwyr yn mynd yn ôl at gael amrywiaeth o gynhyrchion â'r cynnwys alcohol ychydig yn wannach. Felly, efallai nad yw'n briodol deddfu ar y mater hwn cyn yr adeg honno. Ond yn fwy na hynny, mae'n rhaid i mi fynd yn ôl i atgoffa'r Aelodau am fy sylwadau cychwynnol.

Mae hwn yn ddarn o ddeddfwriaeth iechyd y cyhoedd. Yr hyn y mae'r gwelliant hwn yn ceisio ei wneud yw, yn ei hanfod, bod â ffordd o ystyried gweithrediad busnes amrywiaeth o fanwerthwyr alcohol, a chymryd yr hyn y mae'n rhaid iddynt fod yn gamau ariannol i fod yn effeithiol, byddech chi'n tybio, drwy gyflwyno math o ardoll orfodol. Y risg yn y fan honno, yn fy marn i, yw y byddai hynny'n gwarantu her i gymhwysedd y Bil. Gofynnir inni fel Cynulliad ystyried y polisi, a'r sail iechyd y cyhoedd sy'n rhoi'r cymhwysedd i ni ei basio, a dydw i ddim yn dymuno gweld y buddion iechyd posibl yr ydym ni'n credu a ddaw yn sgil cyflwyno'r darn hwn o ddeddfwriaeth, yn cael eu hoedi gan ragor o achosion llys.

Nid yn unig hynny, ychwaith—rwy'n credu bod angen inni ystyried geiriad y gwelliant ei hun, wrth iddo sôn am lesteirio'r gallu i wneud elw. Nid yw'n nodi sut y dylai Gweinidogion Cymru ymdrin â hynny. Byddai her, felly, ynghylch sut y byddai'n cyflwyno rheoleiddiadau effeithiol i wneud hynny, pe byddai yna dystiolaeth bod manwerthwyr alcohol mewn gwahanol sectorau wedi gwneud hynny. Y broblem arall, wrth gwrs yw—. Cawsom welliant cynharach yn sôn am bwysigrwydd y sector tafarndai a'r realiti y gallai hyn mewn gwirionedd olygu bod y sector tafarndai yn gwneud mwy o elw o ganlyniad i gyflwyno isafbris uned. Nid yw'r gwelliant sydd ger ein bron yn dweud pa fanwerthwyr y dylem ni eu hatal rhag gwneud elw ychwanegol; mae'n sôn am werthwyr alcohol, a fyddai'n cynnwys y sector tafarndai hefyd. Os yw Aelodau yn dymuno ceisio darparu ffordd o fynd ar ôl elfen benodol o fanwerthwyr alcohol yn unig, yna byddai angen gwelliant wedi'i ddrafftio mewn ffordd wahanol arnoch chi i wneud hynny. Dydy hwn, yn syml, ddim yn gwneud hynny. Bydd pob un manwerthwr alcohol a gaiff ei gynnwys yn cael ei gynnwys gan y gwelliant sydd ger ein bron, ac nid wyf yn credu mai dyna yw bwriad Rhun ap Iorwerth wrth gynnig y gwelliant.

Yr hyn yr wyf i eisiau ei ailadrodd i'r Aelodau ar draws y pleidiau yw bod Llywodraeth Cymru yn parhau i ymgysylltu â'r diwydiant, fel y mae Angela Burns wedi cydnabod, wrth gynnal trafodaeth am y potensial ar gyfer gweithredu gwirfoddol, deall lle y mae elw wedi'i wneud a deall lle y mae gan y manwerthwyr hynny gyfrifoldeb parhaus i weithredu. Credaf hefyd y bydd hwn yn faes lle y bydd gwahanol fanwerthwyr eisiau gwneud dewisiadau cadarnhaol a rhagweledol ynghylch y ffordd y maen nhw'n gweithredu yn y maes penodol hwn.

Felly, rwy'n cydnabod yr angen i'r Llywodraeth barhau i adrodd yn ôl i'r Cynulliad drwy bwyllgor ar y gwaith yr ydym ni'n ei wneud gyda manwerthwyr alcohol, yn enwedig drwy'r consortiwm manwerthu, ond gofynnaf i'r Aelodau, o gofio'r heriau ynghylch cymhwysedd, fod canlyniadau anuniongyrchol ac, rwy'n siŵr, anfwriadol i rai manwerthwyr alcohol, gan gynnwys tafarndai, a gofynnaf i'r Aelodau beidio â chefnogi'r gwelliant sydd ger ein bron, ond i fod â ffydd y bydd y Llywodraeth yn parhau i adrodd yn ôl ar y potensial ar gyfer cyfraniad gwirfoddol.

17:20

Diolch yn fawr iawn am eich ymatebion chi a’ch sylwadau chi ar y gwelliant yma. Rydw i'n meddwl, yn fy sylwadau agoriadol, beth ddywedais a oedd ein bod ni mewn difrif wedi methu â chyflawni’r hyn yr oeddem ni wirioneddol eisiau ei wneud yn fan hyn, ond roeddem ni yn credu ei bod hi’n bwysig iawn cyflwyno gwelliant a fyddai’n trio cadw’r mater yma yn fyw at y dyfodol. Nid oedd yn fy synnu, mewn ffordd, eich bod chi, fel pleidiau eraill, yn gallu ffeindio gwendidau yn y ffordd y gwnaethom ni gyflwyno’r gwelliant yma oherwydd bod hwn yn fater nad yw’n hawdd ffeindio datrysiad iddo fo. Serch hynny, mi awn ni i bleidlais, ac mi nodwn ni yn y bleidlais honno, fel plaid, pa mor benderfynol ydym ni o gadw’r pwysau am chwilio am broses a fydd yn y dyfodol, efo pwerau ychwanegol yn dod i’r lle yma, gobeithio, lle gallwn ni dynnu arian i mewn i'r Trysorlys Cymreig i’w wario ar fesurau iechyd a brwydro goryfed ac alcoholiaeth.

Ac mi wnaf i hefyd nodi fy ngwerthfawrogiad bod yr Ysgrifennydd Cabinet yntau yn gweld budd mewn ceisio hawlio’r arian yma nôl. Y ffordd y mae o’n dymuno edrych i mewn iddo fo ydy datblygu rhyw fath o levy wirfoddol. Mi chwaraewn ni, rydw i'n siŵr, ein rhan mewn sgrwtineiddio'r math yna o levy wrth iddi gael ei datblygu. Ond, yn sicr, rydym ni’n gwybod y bydd yna broffidio, bydd yna elwa ychwanegol yn sgil y Mesur yma os daw yn Ddeddf, ac mae angen defnyddio pob cyfle i sicrhau nad i bocedi archfarchnadoedd mawr y mae’r arian yna’n mynd. Ac os oes modd tynnu’r arian hwnnw i’w wario ar fentrau i wella iechyd ein cenedl ni, yna y dylid chwilio am ffyrdd o sicrhau hynny.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 6? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais electronig ar welliant 6. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 7, pedwar yn ymatal, 39 yn erbyn. Ac felly gwrthodwyd gwelliant 6. 

Gwelliant 6: O blaid: 7, Yn erbyn: 39, Ymatal: 4

Gwrthodwyd y gwelliant

Ac felly, gyda chydsyniad y Cynulliad, wnawn ni ddim cymryd y gwelliant hwnnw, os nad oes unrhyw un yn gwrthwynebu i'r ffaith nad yw e'n cael ei symud. 

Ni chynigiwyd gwelliant 3 (Angela Burns). 

Grŵp 4.: Hybu ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r isafbris am alcohol (Gwelliannau 7, 8)

Felly, rŷm ni'n symud ymlaen nawr at grŵp 4, y grŵp olaf o welliannau, sy'n ymwneud â hybu ymwybyddiaeth y cyhoedd o'r isafbris am alcohol. Gwelliant 7 yw'r prif welliant yn y grŵp yma, ac rydw i'n galw ar Rhun ap Iorwerth i gynnig y prif welliant yn ei enw e. Rhun ap Iorwerth. 

17:25

Cynigiwyd gwelliant 7 (Rhun ap Iorwerth).

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Mae yna sawl cyfeiriad wedi cael ei wneud y prynhawn yma at y ffaith bod angen dod â'r cyhoedd ar daith efo ni mewn perthynas â'r ddeddfwriaeth yma, ac rydw i'n meddwl yn y gwelliannau yma rydw i'n bradychu fy nghefndir fel cyfathrebwr, neu fy nghefndir yn gweithio yn y diwydiant cyfathrebu, achos rydw i yn meddwl ei bod hi'n gwbl allweddol bod pob cyfle posibl yn cael ei ddefnyddio i egluro beth yn union sy'n ceisio cael ei gyflawni drwy'r ddeddfwriaeth yma, bod bob cyfle yn cael ei ddefnyddio i gydnabod yr amheuon sydd gan rhai pobl, hyd yn oed, ac i fynd drwy'r dystiolaeth sydd yn awgrymu ein bod ni yn gwneud y peth iawn. Felly, gwelliannau sydd yma i sicrhau bod, ar wyneb y Bil yma, yr addewid y bydd cyfathrebu y pwrpas a chyfathrebu y diben yn greiddiol i'r hyn rydym yn ei wneud.

Mae'n bwysig, wrth gwrs, fel rydw i'n dweud, fod y cyhoedd yn dod ar y daith efo ni efo unrhyw ddeddfwriaeth iechyd cyhoeddus. Rydw i'n meddwl ei bod hi wedi dod yn eithaf clir ymysg Aelodau'r Cynulliad ac aelodau'r pwyllgor a wnaeth y gwaith sgrwtini, ond yn sicr ymysg y bobl y gwnaethom ni ymwneud â nhw a chymryd tystiolaeth ganddyn nhw, fod yna, mewn sawl rhan o'r maes yma, ddiffyg dealltwriaeth a diffyg gwybodaeth, a beth sydd yn y gwelliant ydy eglurder ynglŷn â'r math o waith cyfathrebu y bydd y Llywodraeth yn ei wneud. Rydw i'n meddwl mai'r hyn roedd y Llywodraeth am ei wneud yn wreiddiol oedd dweud, 'Reit, mi fydd yn rhaid inni gyfathrebu efo chi sut y byddwch chi'n gorfod cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth yma.' Wel, nid hynny yr oeddem ni ar ei ôl ac mae'r gwelliant yma'n mynd â ni gam ymhellach tuag at ddweud, 'Dyma'r rhesymau dros y ddeddfwriaeth yma. Oherwydd pryderon iechyd mae'r ddeddfwriaeth yma'n cael ei chyflwyno. Oherwydd y dystiolaeth yma mae'r Cynulliad yn dod i'r casgliad bod cyflwyno isafbris yn gallu bod yn arf effeithiol.'

Felly rydw i'n hyderus, yn dilyn trafodaethau ymlaen llaw efo'r Llywodraeth, y gallwn ni gael cytundeb i'r gwelliant hwn. Ac yn wir, mi fyddwn ni'n dymuno, hyd yn oed o'r meinciau ar y dde i mi, y gallwn ni gael cydsyniad y Cynulliad i'r hyn rydym ni'n ceisio ei wneud yn fan hyn, achos p'un ai a ydych yn cefnogi'r egwyddor ai peidio, pan mae'n dod at Ddeddf yn cael ei gweithredu, mae'n bwysig iawn bod y Ddeddf yna a'i dibenion yn cael eu hegluro'n glir wrth bobl ar hyd a lled Cymru.

Byddwn ni'n cefnogi gwelliannau 7 ac 8. Yng Nghyfnod 2, cododd fy nghyd-Aelod Suzy Davies bryderon nad oedd y cynllun hyrwyddo wedi'i rannu hyd yn hyn, sy'n peri pryder mawr i ni, ac mae angen inni fanteisio ar bob cyfle posibl i atgyfnerthu'r neges o ran iechyd y cyhoedd. Rydym ni i gyd yn sôn llawer iawn amdano yn y fan hon; mae angen inni ddechrau sôn amdano allan yn y fan yna hefyd. 

Diolch i chi, Llywydd. Yn wir, yng Nghyfnod 2, buom yn trafod gwelliant a gyflwynwyd gan Rhun ap Iorwerth o ran y ddyletswydd i hybu ymwybyddiaeth. Ac ar y pryd, dywedais y byddwn yn falch o gael rhagor o drafodaethau adeiladol gydag ef ac roeddwn wedi gobeithio cyrraedd y pwynt hwn, a bod modd i ni gefnogi'r gwelliannau yr oedd yn dymuno eu gwneud. Ac rwy'n falch o ddweud y bydd y Llywodraeth yn cefnogi gwelliannau 7 ac 8.

Rydym ni'n bwriadu gweithredu yn unol â gwelliant 8 yn benodol yn y gwaith cyfathrebu yr ydym ni'n ei gynllunio i hybu ymwybyddiaeth o ofynion y ddeddfwriaeth, yn ogystal ag amcanion iechyd y cyhoedd y polisi, sef mynd i'r afael â niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol drwy leihau faint o alcohol sy'n cael ei yfed, yn enwedig ymhlith yfwyr peryglus a niweidiol. Rwy'n gwerthfawrogi bod pwysigrwydd cyfathrebu wedi ei godi yn ystod y sesiynau craffu ac, yn wir, â rhanddeiliaid—mae hynny'n cynnwys ein partneriaid allweddol, penaethiaid adrannau safonau masnach Cymru, sy'n croesawu'r symiau o arian yr ydym wedi'u neilltuo yn benodol ar eu cyfer i weithio gyda manwerthwyr a masnachwyr. Rydym ni'n bwriadu datblygu cyfres o gyfathrebiadau cenedlaethol i ategu'r gwaith hwnnw gyda nhw ac, yn wir, gyda grŵp ehangach o randdeiliaid. Bydd hynny'n cynnwys gwaith yn y cyfnod hyd nes y daw'r ddeddfwriaeth i rym, ac wedi hynny. Ac wrth weithio gyda rhanddeiliaid a darparwyr gwasanaethau, byddwn ni wrth gwrs yn cynhyrchu canllawiau yn ogystal â deunyddiau cyfathrebu. Yr wythnos hon, rwyf wedi ysgrifennu at y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ag amlinelliad o'r canllawiau hynny a sut y byddwn yn eu datblygu ymhellach. Fe fyddant, wrth gwrs, yn cynnwys ystyried yr hyn sydd eisoes yn digwydd yn yr Alban, ac rwy'n falch o adrodd bod cysylltiadau adeiladol a defnyddiol rhwng swyddogion o'r ddwy Lywodraeth yn parhau, er mwyn rhannu gwybodaeth ac arfer da. Rydym ni hefyd yn ymgysylltu â byrddau cynllunio ardal a rhanddeiliaid eraill, fel y comisiynydd plant ac yn wir y comisiynydd pobl hŷn a'r rhwydwaith camddefnyddio sylweddau.

Rydym ni'n llwyr gydnabod yr angen i weithio gyda darparwyr gwasanaethau a'u cleientiaid i rannu gwybodaeth am y ddeddfwriaeth arfaethedig a nodi ffyrdd o helpu'r rheini a allai fod angen cymorth a chyngor. Byddwn ni hefyd yn cynnal amrywiaeth o arolygon i nodi agweddau'r cyhoedd cyn ac ar ôl gweithredu, i fesur ymwybyddiaeth y cyhoedd o'r gyfraith newydd yn rhan o'n gwaith gwerthuso parhaus. Felly, rwy'n derbyn y pwyntiau sydd wedi'u gwneud, nid dim ond o ran manwerthu a masnachu, ond neges iechyd y cyhoedd ehangach hefyd ynghylch y ddealltwriaeth o pam y mae'r ddeddfwriaeth hon yn cael ei chyflwyno. Edrychaf ymlaen at weithio gyda'r Aelodau ar draws y pleidiau i amlinellu'r hyn y byddwn yn ei wneud, ond gobeithio y gallwn ni hefyd ddathlu llwyddiant y ddeddfwriaeth hon wrth wneud gwahaniaeth gwirioneddol i iechyd y cyhoedd ym mhob cwr o'r wlad.

17:30

Yn fyr iawn, mae gwleidyddiaeth a gwleidyddion yn gallu cael ein cyhuddo weithiau o fod allan o gysylltiad â'r cyhoedd sy'n ein hethol ni. Mae'n gyhuddiad, rwy'n siŵr, sy'n deg weithiau ac yn annheg droeon eraill. Ond, yn yr achos yma, efo'r gwelliant yma, beth sydd gennym ni ydy pont uniongyrchol rhwng y darn yma o ddeddfwriaeth rŷm ni'n ei drafod fel seneddwyr ac ein hetholwyr ni—pobl Cymru a fydd yn byw efo ac yn dod i ddeall, rwy'n siŵr, y ddeddfwriaeth yma, maes o law, oherwydd y cyfathrebu fydd yn digwydd drwy gynnwys y gwelliant yma ar wyneb y Bil. Rwy'n cynnig y gwelliannau yn ffurfiol.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 7? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais electronig ar welliant 7. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 45, pedwar yn ymatal, un yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 7.

Gwelliant 7: O blaid: 45, Yn erbyn: 1, Ymatal: 4

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 8 (Rhun ap Iorwerth).

Yn ffurfiol. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 8? A oes unrhyw wrthwynebiad. [Gwrthwynebiad.] Symudwn felly i bleidlais electronig ar welliant 8. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 45, pedwar yn ymatal, un yn erbyn. Derbyniwyd gwelliant 8.

Gwelliant 8: O blaid: 45, Yn erbyn: 1, Ymatal: 4

Derbyniwyd y gwelliant

Dyma ni felly wedi dod i ddiwedd ystyriaeth Cyfnod 3 o Fil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) ac rwy'n datgan y bernir pob adran o'r Bil a phob Atodlen wedi'u derbyn.

Barnwyd y cytunwyd ar bob adran o’r Bil.

A dyna ni'n dod â thrafodion Cyfnod 3 y prynhawn yma i ben.

Daeth y cyfarfod i ben am 17:33.