Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Plenary - Fifth Senedd
15/05/2018Cynnwys
Contents
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Galw'r Aelodau i drefn.
Yr eitem gyntaf ar ein hagenda'r prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, a'r cwestiwn cyntaf, Dawn Bowden.
1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fuddsoddi mewn twristiaeth ym Merthyr Tudful a Rhymni? OAQ52176

Dros y blynyddoedd diwethaf, rydym ni wedi darparu cymorth ar gyfer nifer o brosiectau cyfalaf a digwyddiadau cyffrous yn yr ardal, er enghraifft BikePark Cymru, Rock UK ac, wrth gwrs, cefnogaeth i ŵyl Merthyr Rising.
Diolch, Prif Weinidog, ac o gofio ei bod hi'n wythnos twristiaeth, mae'n debyg ei bod hi'n amserol i atgoffa ein hunain y bydd twristiaeth, diwylliant, ein hamgylchedd a'n treftadaeth yn chwarae rhan bwysig o ran sicrhau dyfodol llwyddiannus i'n cymunedau yn y Cymoedd gan eu bod nhw'n gwneud cyfraniad gwerthfawr at sicrhau economi amrywiol ochr yn ochr â sectorau traddodiadol fel gweithgynhyrchu, gwasanaethau cyhoeddus a chynnig manwerthu cynyddol gryfach erbyn hyn. Gyda hyn mewn golwg, a allwch chi fy sicrhau y bydd adroddiad diweddar 'Crucible', a gyhoeddwyd gan Gomisiwn Dylunio Cymru, sy'n cyflwyno gweledigaeth fawr ar gyfer y potensial enfawr ar gyfer treftadaeth ddiwydiannol Merthyr Tudful yn y dyfodol, yn derbyn ystyriaeth lawn a phriodol gan Lywodraeth Cymru fel y gall yr holl bartneriaid weithio gyda'i gilydd i fwrw ymlaen â'r prosiect uchelgeisiol hwn, sydd â'r potensial i gynnig atyniad mawr i ni yn y Cymoedd a allai fod mor llwyddiannus â Titanic Belfast neu hyd yn oed yr Eden Project yng Nghernyw?

Wel, rwy'n ymwybodol o'r adroddiad. Mae yn galw am i tua £50 miliwn gael ei wario ar orffennol diwydiannol Merthyr i'w wneud yn atyniad mawr i dwristiaid gyda'r pwyslais, wrth gwrs, ar Gastell Cyfarthfa. Edrychaf ymlaen at dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd o ran datblygu'r cynnig a gyflwynwyd yn yr adroddiad. Rwy'n deall eich bod chi wedi cyfarfod yn ddiweddar gyda'r Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon i drafod yr adroddiad, ac mae hynny'n rhywbeth, wrth gwrs, a fydd yn parhau, heb amheuaeth, yn y dyfodol. Gwn fod swyddogion hefyd yn gweithio ar nifer o gynigion sector preifat cyffrous a fydd yn parhau i ddatblygu'r cynnig yn yr ardal. Felly, llawer iawn o ddiddordeb ac, wrth gwrs, llawer iawn i'w gynnig, cyn belled ag y mae Merthyr Tudful a Rhymni yn y cwestiwn.
Mae'r adroddiad ar gyfer Comisiwn Dylunio Cymru wedi amlygu bod budd enfawr y gellid ei gael o farchnata treftadaeth ddiwydiannol Merthyr Tudful, gan droi'r dref yn gyrchfan dwristiaeth flaenllaw. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi bod gan strategaeth farchnata sy'n cynnwys holl safleoedd treftadaeth ddiwydiannol y de, gan gynnwys camlesi fel Mynwy ac Aberhonddu, y potensial i roi hwb enfawr i sector dwristiaeth ein heconomi? Diolch.

Ydw, oherwydd rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig yw ein bod ni'n cysylltu'r hyn sydd gan Merthyr i'w gynnig gydag atyniadau eraill yn yr ardal hefyd. Felly, canolbwynt adroddiad 'Crucible' yw adfywio castell Cyfarthfa, ond mae cyfleoedd ehangach i ddod â thirnodau treftadaeth leol eraill at ei gilydd, gan gynnwys, wrth gwrs, y ffwrneisi ym Mlaenafon, Big Pit ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau hefyd, a bydd gallu cynnig casgliad o brofiadau o ansawdd uchel i ddarpar ymwelwyr yn bwysig yn y dyfodol.
2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer chwaraeon a ffitrwydd yng Nghasnewydd? OAQ52164

Wel, drwy Chwaraeon Cymru, rydym ni'n darparu dros £570,000 eleni i Gyngor Dinas Casnewydd i gynorthwyo datblygiad chwaraeon yn yr ardal. Mae gan y cyngor gontract gyda Casnewydd Fyw i ddarparu amrywiaeth o raglenni chwaraeon ac ymarfer corff, gan alluogi pobl o bob oed i gymryd rhan.
Ydy, Prif Weinidog, mae chwaraeon a ffitrwydd yn amlwg yn hanfodol ar gyfer iechyd ac ansawdd bywyd cyffredinol, a diolch byth, mae Casnewydd yn datblygu enw da am ei weithgareddau a'i gyfleusterau. Fel y soniasoch, Casnewydd Fyw yw sylfaen, mewn gwirionedd, y ddarpariaeth yng Nghasnewydd gyda dros 1.6 miliwn o gyfranogwyr mewn cyfleusterau hamdden bob blwyddyn ac maen nhw'n gweithio mewn partneriaeth agos â Chyngor Dinas Casnewydd a llawer o sefydliadau eraill i gyrraedd pob cymuned yn y ddinas. Yn fuan, byddan nhw ar y bwrdd gwasanaethau cyhoeddus, ac maen nhw'n awyddus iawn i gefnogi Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
Fe wnaethant helpu hefyd gyda darpariaeth rasys marathon a 10 cilomedr diweddar Casnewydd, pryd yr oedd sawl mil o redwyr ar y ffordd, gan gynnwys ardal fywiog glan yr afon a gwastatiroedd godidog Gwent. Roedd yn achlysur gwych i'r ddinas, Prif Weinidog, fel y gwn eich bod yn ymwybodol, a chafwyd niferoedd da o bobl leol a ddaeth allan i gefnogi. A'r newyddion da iawn yw bod bron i flwyddyn i fynd cyn digwyddiad y flwyddyn nesaf, sy'n rhoi digon o amser i chi ac unrhyw un arall a allai fod yn ystyried cymryd rhan i baratoi. Rwy'n siŵr, Prif Weinidog, y gwnewch chi ymuno â mi i gydnabod y gweithgarwch chwaraeon a hamdden yng Nghasnewydd ar raddfa sy'n dangos esiampl dda i lawer o bobl eraill, yn fy marn i.

Wel, mae gan yr Aelod ffydd fawr ynof i o dybio y byddwn i'n rhedeg marathon mewn llai na blwyddyn. Bydd gen i fwy o amser ar fy nwylo ar ôl mis Rhagfyr, ond credaf fod hwnnw'n ffydd a roddwyd ynof ar gam. Rwy'n deall bod yr Aelod dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr allan yn loncian y bore yma; rwy'n credu ei fod ymhell ar y blaen i mi o ran ei allu i gymryd rhan, yn hytrach na mi.
Ond mae'n gwneud pwynt pwysig sef bod pobl yn cymryd llawer mwy o ran mewn gweithgareddau erbyn hyn nag oedd yn arfer bod yn wir. Pump ar hugain neu 30 mlynedd yn ôl, prin iawn oedd y marathonau yr oedd pobl yn cymryd rhan ynddynt, os oedd rhai o gwbl. Nid oedd hi'n fater o geisio rhedeg i ennill; roedd yn fater o gymryd rhan a gorffen y cwrs. Dyna oedd y gamp i gymaint o bobl. Mae'r arian a ddarparwyd gennym ni i Gasnewydd, gan weithio'n agos gyda Casnewydd Fyw, gan weithio'n agos gyda Chyngor Dinas Casnewydd, wedi sicrhau bod Casnewydd yn gryfach fyth o ran bod ar y map ar gyfer ymarfer corff. Mae hynny'n dda o beth i'r ddinas, ond mae hefyd yn dda, wrth gwrs, i bawb sy'n cymryd rhan.
Roedd nofio am ddim i blant yn un o bolisïau blaenllaw'r Blaid Lafur. Fe'i cynlluniwyd i annog plant yng Nghasnewydd ac mewn mannau eraill yng Nghymru i fod yn heini ac yn iach. Cyhoeddwyd erbyn hyn bod Chwaraeon Cymru yn adolygu ei gefnogaeth i nofio am ddim ar gyfer plant. O gofio bod gordewdra ymhlith plant yng Nghymru yn codi i'r entrychion, a wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad hwn am ei bolisi nofio am ddim a pha fesurau y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu cymryd i annog plant yng Nghasnewydd ac mewn mannau eraill i wella eu ffitrwydd?

Nid oes gennym ni unrhyw gynlluniau i newid y polisi. Mae polisïau yn cael eu hadolygu drwy'r amser, wrth gwrs, ac rydym yn cydnabod pa mor bwysig yw hi bod plant yn gallu cael mynediad at gyfleusterau er mwyn bod yn egnïol fel eu bod yn parhau i fod yn egnïol am weddill eu bywydau.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.

Diolch, Llywydd. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno bod Whitehall, yn gwbl amlwg, yn ceisio cipio pwerau yng nghyswllt Bil ymadael yr UE?

Rwy'n credu bod hynny'n wir, ond mae'r cytundeb sydd gennym ni gyda Llywodraeth y DU erbyn hyn wedi osgoi hynny.
Mae'n hurt ac yn codi cywilydd i'r un graddau bod y Llywodraeth hon yn dewis cymeradwyo Theresa May yn hytrach nag arweinydd ei phlaid ei hun. Mae'n anodd dod o hyd i unrhyw fanteision gwirioneddol o adael yr UE, ond roedd un gronyn bach iawn a oedd yn gadarnhaol—[Torri ar draws.]—
A gaf i glywed arweinydd Plaid Cymru, os gwelwch yn dda? Mae angen i'r cwestiwn gael ei ofyn, os gwelwch yn dda.
Roedd un gronyn bach iawn a oedd yn gadarnhaol o'r safbwynt y byddai mwy o benderfyniadau am Gymru yn cael eu gwneud yng Nghymru, addawyd hynny i ni. Mae'r llygedyn hwnnw o obaith wedi diflannu erbyn hyn. Felly, Prif Weinidog, byddwn yn pleidleisio heno i dderbyn y Bil Brexit trychinebus hwn. Gallwch chi ddewis pwy i'w gefnogi: Plaid Cymru, Plaid Lafur yr Alban, pleidiau Democratiaid Rhyddfrydol yr Alban a Lloegr, y Blaid Werdd, Llywodraeth yr Alban, arbenigwyr cyfreithiol a chyfansoddiadol, neu arweinydd eich plaid eich hun. Nid oes hyd yn oed unrhyw un o'r chwe phrawf a sefydlwyd gan bwyllgor materion allanol trawsbleidiol y Cynulliad hwn yn cael ei fodloni gan y cytundeb hwn. Mae mwy ar y rhestr. Neu gallwch chi gefnogi'r Blaid Geidwadol ac Unoliaethol ac UKIP. Pa un fydd hi?

Wel, rydym ni yng Nghymru, ac, fel Llafur Cymru, rydym ni, mewn Llywodraeth, wedi negodi'n galed i gael y fargen orau i Gymru, a chredwn ein bod wedi gwneud hynny. Mater i'r Alban a Lloegr yw'r hyn sy'n digwydd yn yr Alban a Lloegr. Dyna yw hanfod datganoli. Nodaf yn y gefnogaeth a gawsom gan Gydffederasiwn Diwydiant Prydain a'r adroddiad a dderbyniwyd gan Sefydliad y Cyfarwyddwyr, ac nid wyf i'n eglur o hyd beth yw safbwynt arweinydd Plaid Cymru pan ddywed, rywsut, fod pwerau yn cael eu cipio oddi wrth Gymru. Bydd pob un o'r 64 maes yn dychwelyd i Gymru pan fyddwn ni'n gadael yr UE. Bydd rhai pwerau a fydd, trwy gytundeb, yn cael eu cadw yn y rhewgell wedyn. Bydd pob Llywodraeth yn y DU yn yr un sefyllfa; ni fyddan nhw'n gallu deddfu tan y bydd cytundeb i dynnu'r pwerau hynny allan o'r rhewgell. Mae hynny'n newid enfawr o'r sefyllfa y llynedd pan fyddai'r holl bwerau wedi mynd yn syth i San Steffan, lle byddai Gweinidogion yn San Steffan wedi cael pwerau diderfyn o ran cymalau machlud, a byddent wedi penderfynu pryd ac os y byddai pwerau yn dod i'r Cynulliad hwn a'r Llywodraeth hon. Rydym ni wedi gwneud cynnydd aruthrol ers hynny, a dyna pam mai ni yw plaid datganoli.
A allwch chi ddweud wrthym ni, felly, pa bwerau ychwanegol sydd wedi eu darparu gan y cytundeb hwn? Oherwydd pan oedd angen ymyrraeth San Steffan ar ein diwydiant dur, nid oedden nhw i'w gweld yn unman. Pan fydd angen cymorth ar ein ffermydd teuluol i gynnal eu busnes, a ydych chi'n ymddiried yn San Steffan i fod yno? Pan fo'n hamgylchedd yn cael ei ddinistrio, a ydych chi'n ymddiried yn San Steffan i fod yno? Dyna mae'r cytundeb hwn yn ei olygu. San Steffan, ac nid Cymru, fydd yn penderfynu ar faterion sy'n bwysig i fywydau pobl yma yng Nghymru. Llywydd, mae union egwyddorion datganoli yn y fantol gyda hyn. Felly, Prif Weinidog, nawr eich bod chi'n gwybod y ffeithiau, nawr bod yr holl chwaraewyr wedi dangos eu dwylo, beth fydd hi? A ydych chi'n mynd i sefyll dros Gymru neu dros San Steffan?

Byddaf bob amser yn sefyll dros fy ngwlad. Mae'n bosib y bydd pobl eraill yn cymryd safbwynt gwahanol ar yr hyn sydd orau i Gymru, ond rwy'n parchu eu barn a hyderaf y bydd barn y rheini ar y meinciau hyn yn cael eu parchu hefyd, oherwydd ni chawsant yr wythnos diwethaf. Mae'n rhaid imi ddweud, cyn belled ag yr wyf i yn y cwestiwn—mae'n sôn am ddur—fe wnaethom ni weithio i achub ein diwydiant dur. Gwnaethom hynny gyda'r pwerau sydd gennym, a gwnaethom hynny drwy weithio gyda Tata a rhoi pecyn ariannol ar y bwrdd. O ran ffermio, mae angen inni weld faint o arian a ddaw o San Steffan, mae cymaint â hynny'n wir, oherwydd ni allwn dalu cymorthdaliadau ffermio. Mae'n bwysig dros ben bod swm cyfatebol o arian yn cael ei roi mewn pot ar lefel y DU ac yn cael ei ddosbarthu yn yr un ffordd ag y mae ar hyn o bryd hyd nes bydd cytundeb i newid y ffordd y caiff arian ei wario a'i ddyrannu. Mae cymaint â hynny yn arbennig o wir.
Ond, cyn belled ag y mae'r cytundeb hwn yn y cwestiwn, ceir cyfyngiadau ar Lywodraeth y DU sy'n cyfateb i unrhyw gyfyngiadau a fyddai ar Lywodraeth Cymru. Rydym ni mewn sefyllfa nawr lle'r rydym ni i gyd yn yr un sefyllfa. Mae pwysau mawr ar bawb ohonom ni i gytuno ar fframweithiau ymhell cyn saith mlynedd, gan fod Lloegr yn yr un sefyllfa â Chymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon erbyn hyn. Ac felly—[Torri ar draws.] Mae'r union yr un sefyllfa â'r Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr. Felly, rydym ni wedi cyrraedd sefyllfa lle'r oedd Llywodraeth y DU, flwyddyn yn ôl, yn dweud—ac nid wyf i'n siŵr a fyddai'r sefyllfa yn wahanol pe byddai ganddyn nhw fwyafrif o 100 yn Nhŷ'r Cyffredin—'Bydd yr holl bwerau yn dod atom ni. Ni fydd yn penderfynu pryd ac os byddan nhw'n dod i'r gweinyddiaethau datganoledig.' Mae hynny wedi newid; bydd y pwerau hynny'n dod atom ni. Byddwn yn cytuno sut maen nhw'n cael eu rhewi, byddwn yn cytuno ar y fframweithiau ac yna, wrth gwrs, byddwn ni i gyd yn yr un sefyllfa ar draws Llywodraethau yn y DU. Dyma'r tro cyntaf erioed y mae Llywodraeth y DU wedi cytuno i gael ei rhwymo yn y ffordd hon, ac mae hynny'n deyrnged i sgiliau negodi Mark Drakeford.
Arweinydd yr wrthblaid, Andrew R.T. Davies.

Diolch, Llywydd. Nid yn aml yr wyf i'n dechrau cwestiynau i'r Prif Weinidog trwy ddweud fy mod i'n cytuno â'r Prif Weinidog, ac efallai na fydd ef eisiau'r math hwnnw o ganmoliaeth gan arweinydd yr wrthblaid yma yn y Senedd.
Hoffwn eich holi am y fasnachfraint reilffyrdd, Prif Weinidog, a'r ymarfer tendro sydd ar y gweill ar hyn o bryd. Yn amlwg, mae llawer o edrych ymlaen at y gwelliannau i'r fasnachfraint reilffyrdd y mae pobl eisiau eu gweld. Rwy'n credu, ar draws y Siambr hon, fod pobl yn cydnabod yn gyffredinol fod y 15 mlynedd diwethaf wedi bod yn anodd, gadewch i ni ddweud, oherwydd nad oedd unrhyw dwf wedi ei gynnwys yn y fasnachfraint ddiwethaf a ddyfarnwyd. Fe ddywedasoch chi ddoe, yn agoriad yr orsaf newydd ym Mhen-y-bont ar Ogwr a'r daith ddilynol yr aethoch arni, ei bod hi'n annhebygol y bydd unrhyw welliannau gwirioneddol am o leiaf pedair blynedd i mewn i'r fasnachfraint. Dyna oedd eich geiriau. Yn ôl ym mis Mehefin y llynedd, soniodd Ysgrifennydd y Cabinet, wrth ymateb i adroddiad y pwyllgor a ymchwiliodd i hyn, y byddai gwelliannau cynnar iawn yn y fasnachfraint reilffyrdd nesaf. Pam mae gwahaniaeth erbyn hyn yn y llinellau amser ar gyfer gweld y gwelliannau y mae teithwyr, gwleidyddion a busnesau eisiau eu gweld, oherwydd roedd eich asesiad ddoe yn nodi y bydd y gwelliannau hynny yn digwydd bron i draean y cyfnod i mewn i oes y fasnachfraint nesaf?

Na, yr hyn a ddywedais i oedd y bydd pobl yn dechrau gweld gwelliannau mewn gwasanaethau yn fuan iawn, yn sicr dros y flwyddyn nesaf. Ond, o ran trenau newydd, wel, yn amlwg, maen nhw'n cymryd amser i'w caffael a'u hadeiladu, ac o ran trydaneiddio, er enghraifft, o ran trenau newydd, o ran ceisio ymestyn y rhwydwaith presennol, wel, wrth gwrs, byddai hynny'n mynd â ni i ddechrau'r flwyddyn nesaf. Bydd pobl yn dechrau gweld newidiadau yn gynnar, ond bydd y newid sylweddol yn dod, rwy'n amau, ymhen tua pedair neu bum mlynedd pan fydd pobl yn gweld trenau newydd a dulliau newydd o dyniant yn cael eu cyflwyno.
Rwy'n credu bod yr iaith a ddefnyddiwyd gennych chi ddoe wedi drysu'r sefyllfa i lawer o bobl, oherwydd cawsom ein harwain i gredu y byddai newid yn dod yn y blynyddoedd cynnar iawn, ond rwy'n falch o gael yr eglurhad yr ydych chi wedi ei roi. Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet ym mis Chwefror y byddai'r cyhoeddiad ynghylch enillydd y broses dendro yn cael ei wneud ym mis Mai eleni. Nid wyf i'n gweld dim yn y flaenraglen ar gyfer yr wythnos nesaf am unrhyw gyhoeddiad sydd i'w wneud. A all y Prif Weinidog gadarnhau y bydd y cyhoeddiad yn dal i gael ei wneud ym mis Mai ynghylch pwy fydd yr ymgeisydd a ffefrir ac y bydd y fasnachfraint yn dechrau ym mis Hydref eleni, fel y nodwyd yn yr amserlen wreiddiol?

Gallaf gadarnhau nad oes unrhyw oedi yn y broses, ac rydym ni eisiau gwneud y cyhoeddiad cyn gynted â phosib.
Felly, ar y llinell amser yr wyf i newydd eich holi amdani, h.y. bydd cyhoeddiad yr ymgeisydd a ffefrir yn cael ei wneud ym mis Mai eleni ac, yn amlwg, ym mis Hydref bydd y fasnachfraint ei hun yn dechrau, ac o gofio'r gwahaniaeth o ran dehongli gwelliannau, h.y. y gwelliannau mawr ymhen pedair neu bum mlynedd, beth allwch chi hefyd ei nodi fel yr enillion cyflym y gellir eu nodi ar gyfer gwelliannau cynnar? A gaf i ofyn i chi gadarnhau bod cydymffurfiad o hyd â'r llinell amser o ran y fasnachfraint, gyda'r cyhoeddiad y mis hwn, a byddai'n braf ei gael yn y Siambr hon, o gofio mai'r toriad hanner tymor yw wythnos ddiwethaf mis Mai, fel y gallwn holi Ysgrifennydd y Cabinet a deall yn union beth sy'n digwydd?

Gallaf gadarnhau hynny. O ran yr hyn y bydd pobl yn ei weld ar unwaith, wel, yr hyn y byddem ni'n dymuno ei weld yw gwasanaethau newydd a gwasanaethau amlach, ond nid, yn amlwg, gyda threnau newydd bryd hynny o reidrwydd. Yna, ceir y cwestiwn o drydaneiddio a sut y mae hynny'n cael ei gyflwyno, ac yna trenau newydd yn cael eu caffael o ganlyniad i drydaneiddio. Felly, bydd pobl yn gweld newidiadau pan fydd y fasnachfraint yn cael ei rhoi ar dendr, ond mae'r newidiadau mawr yn sicr o ddod ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, wrth i ni edrych ar natur newidiol y rheilffyrdd trwy drydaneiddio ac wrth i ni edrych ar gerbydau newydd. Dyna pryd y bydd pobl yn dechrau gweld gwahaniaeth mawr yn ansawdd y trenau.
Arweinydd grŵp UKIP, Neil Hamilton.

Diolch yn fawr, Llywydd. Er mor bwysig yw'r materion cyfansoddiadol a godwyd gan arweinydd Plaid Cymru, maen nhw bob amser yn debygol o beri llai o bryder uniongyrchol i'r person cyffredin yn y stryd na materion fel y gwasanaeth iechyd, a'r wythnos diwethaf, mewn ateb i arweinydd yr wrthblaid, Prif Weinidog, nid oeddech chi'n gallu rhoi'r sicrwydd iddo na fyddai bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn parhau dan fesurau arbennig erbyn i'ch tymor chi fel Prif Weinidog ddod i ben. Cyfeiriodd adroddiad Tawel Fan at yr anawsterau a oedd yn gysylltiedig â chreu Betsi Cadwaladr yn y lle cyntaf, ac roedd hwnnw'n dweud bod datblygiadau sefydliadol ar y raddfa honno fel rheol yn cymryd rhwng pump a saith mlynedd i'w cyflawni. Yng ngoleuni adroddiad Deloitte, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, a ddywedodd
nid yw'r trefniadau rheoli newid yn addas i'w diben ac maent yn parhau i fod yn rhwystr sylweddol i gyflawni newid cynaliadwy,
a all y Prif Weinidog ddweud wrthym a yw'n credu bod y diwylliant cywir yn bodoli, o hyd, o fewn Betsi Cadwaladr, ac a yw eu defnydd o bersonél yn ddigon da iddo allu tynnu ei hun allan o fesurau arbennig byth?

Rwy'n credu y gall dynnu ei hun allan o fesurau arbennig. Nid yw yno eto. Nid wyf i erioed wedi bod yn rhywun a fyddai'n rhoi amserlen artiffisial ar bryd y dylai ddod allan o fesurau arbennig. Credaf ei bod yn bwysig ei fod yn dod allan o fesurau arbennig pan fydd yr amser yn briodol ac yn iawn. Pryd fydd hynny, byddai'n rhaid i ni wneud penderfyniad ar y pryd. Ceir heriau i Betsi Cadwaladr o ganlyniad i'r hyn oedd yn adroddiad Tawel Fan, mae cymaint â hynny'n wir, a bydd angen iddyn nhw ymateb i'r heriau hynny, ond nid wyf i'n credu, er enghraifft, mai ad-drefniad arall o'r gwasanaeth iechyd yn y gogledd fyddai'r ateb. Credaf fod sefydlogrwydd yn hollbwysig ar gyfer y blynyddoedd nesaf.
Rwy'n deall y pwynt y mae'r Prif Weinidog yn ei wneud, ac mae gen i lawer iawn o gydymdeimlad ag ef. Ond mae adroddiad Deloitte yn nodi nifer o wendidau systemig hirdymor sy'n peri pryder, y bydd angen rhoi sylw iddynt os yw'r ddarpariaeth o wasanaethau iechyd yn y gogledd yn mynd i gael ei gwella'n sylweddol. Er enghraifft, o ran y grwpiau gweddnewid sydd i fod i gyflawni'r gwelliannau yr ydym ni i gyd eisiau eu gweld, dywedir bod yr amcanion wedi eu diffinio'n wael; nid yw'n ymddangos bod arweinwyr y grŵp yn eglur hyd yn hyn ynghylch atebolrwydd y tu allan i'w his-adrannau eu hunain, ac nid ydynt wedi sicrhau unrhyw ganlyniadau pendant hyd yn hyn; dywedir bod aelodau staff gwella gwasanaethau ar lefel rhy iau; ceir diffyg dadansoddi a meincnodi manwl; ceir pryder ynghylch y swyddfa rheoli prosiect ynghylch pa un a yw'r set sgiliau yn bodoli i fynd i'r afael â'r agenda gweddnewid; ac wrth ymateb i gwestiwn gan Deloitte ynghylch pa un a oes digon o allu rheoli prosiect a chapasiti i gefnogi darpariaeth ar draws y cynllun ariannol, dywedodd mwyafrif y rheolwyr, y cyfarwyddwyr cyllid ac aelodau'r timau swyddogaeth cyllid canolog naill ai na allent ddweud neu eu bod yn anghytuno. Felly, a ydym ni mewn gwirionedd mewn sefyllfa ar hyn o bryd lle gallwn ni ddweud ein bod ni hyd yn oed wedi dechrau'r cynllun gwella hwn i unrhyw raddau sylweddol?

Bu gwelliannau i berfformiad, ond mae cryn dipyn i'w wneud o hyd, ac mae arweinydd UKIP yn iawn i nodi'r gwendidau y mae angen rhoi sylw iddynt o hyd, a dyna pam y bydd Betsi Cadwaladr yn parhau dan fesurau arbennig hyd nes y gallwn fod yn sicr fel Llywodraeth, ac yn wir y gall y Cynulliad fod yn sicr, ei fod yn gallu sefyll ar ei draed ei hun unwaith eto.
Cafwyd rhai sylwadau damniol yn adroddiad Deloitte am arweinyddiaeth yn Betsi Cadwaladr, ac yn benodol: cyfarwyddwyr gweithredol yn gweithredu mewn seilos; diffyg perchnogaeth ac atebolrwydd corfforaethol ar y cyd; dywedwyd bod portffolio'r prif swyddog gweithredu yn rhy fawr i un unigolyn, gan reoli cyllideb o dros £800 miliwn y flwyddyn; cyfarwyddwyr gweithredol eraill yn dal i sefydlu eu portffolios; diffyg dealltwriaeth ronynnog y bydd angen i gamau gweithredu'r bwrdd iechyd ei darparu i sicrhau sefydlogrwydd ariannol. O ystyried y cyhuddiadau parhaus hynny, onid oes achos dros gael Llywodraeth Cymru i gymryd hyd yn oed mwy o ran yn y broses weddnewid nag y mae eisoes yn ei chymryd, a bod gan dîm arweinyddiaeth presennol Betsi Cadwaladr dasg sy'n rhy fawr iddyn nhw ei chyflawni o fewn cyfyngiadau strwythur gweinyddol Betsi Cadwaladr a'r gyllideb sydd ar gael iddyn nhw?

Nac oes. Rwy'n credu ei bod hi'n iawn i ddweud bod y sefyllfa yn Betsi Cadwaladr yn golygu nad yw'r strwythur newydd wedi ei ymwreiddio eto, a dyna pam, wrth gwrs, mae'n dal i fod mewn mesurau arbennig, a dyna pam yr wyf i wedi bod yn gwbl gadarn erioed o ran dweud y bydd yn aros mewn mesurau arbennig tan y bydd yn gallu gadael. Pe byddwn i'n dweud, er enghraifft, 'Wel, bydd yn gadael mesurau arbennig erbyn dyddiad x', wel, yn anochel, rwy'n credu y byddai hynny'n cael gwared ar rywfaint o'r pwysau cadarnhaol o ran gwneud yn siŵr bod y bwrdd iechyd yn addas i'w ddiben yn y dyfodol, ac nid wyf i'n bwriadu gwneud hynny. Gan weithio gyda'r bwrdd, rydym ni'n bwriadu gwneud yn siŵr bod y bwrdd yn ceisio sicrhau sefyllfa lle mae'n gallu rhedeg ei hun y tu allan i fesurau arbennig yn y dyfodol.
3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau adfywio yng Ngorllewin De Cymru? OAQ52206

Wel, mae ein buddsoddiad mewn cynlluniau adfywio yn helpu i greu swyddi, gwella sgiliau, ac yn darparu’r amgylchedd cywir i fusnesau gychwyn a ffynnu.
Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Nawr, yn amlwg, mae bargen ddinesig bae Abertawe yn hollbwysig i geisio datblygu swyddi yn y de-orllewin, ac eto flwyddyn ar ôl y cytundeb bargen ddinesig gan Lywodraeth y DU, ac er gwaethaf y cytundeb gan Lywodraeth Cymru y gall awdurdodau lleol gadw 50 y cant o unrhyw gynnydd i ardrethi busnes, ceir pryderon o hyd ynghylch cyllid a llywodraethu, yn fwyaf nodedig gan gyngor Castell-nedd Port Talbot. Felly, beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud felly i fynd i'r afael â'r pryderon hynny, a pha mor hyderus ydych chi y gall cytundeb cydweithio gael ei gwblhau a'i gytuno gan yr awdurdodau lleol yn y dyfodol agos?

Rwy'n deall y rhoddwyd sylw i bryderon Castell-nedd Port Talbot, ond mae cyfrifoldeb ar awdurdodau lleol, wrth gwrs. Mae'r fargen ddinesig yn gytundeb sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol weithio gyda'i gilydd er lles yr ardaloedd ehangach—rhywbeth y mae pob plaid yn y Siambr wedi bod yn awyddus i'w hybu. Gwelwn, wrth gwrs, fargen ddinesig prifddinas-ranbarth Caerdydd yn gweithio'n dda dros ben, ac mae'n eithriadol o bwysig, gyda'n cymorth ni a chyda cymorth Llywodraeth y DU, bod awdurdodau lleol yn gallu dangos cyflawniad ym mae Abertawe hefyd.
Rwy'n rhannu pryderon Dai Lloyd, ond hoffwn sôn heddiw fod pum mlynedd o leiaf wedi mynd heibio erbyn hyn ers hysbysu y byddai adfywio castell Abertawe yn cynnig atyniad ychwanegol i'r miloedd o bobl y disgwyliwyd iddynt lifo i mewn i'r ddinas ar gyfer dathliadau canmlwyddiant Dylan Thomas. Wel, mae'r dathliadau hynny wedi hen ddod i ben erbyn hyn, ond mae castell Abertawe yn dal i fod ar gau i'r cyhoedd. Er bod rhai prosiectau adfywio o amgylch y castell, roeddwn i'n meddwl tybed a fyddech chi'n fodlon cysylltu â chyngor Abertawe i wneud mwy o'r castell ei hun, oherwydd mae'n Wythnos Twristiaeth Cymru ac mae llawer o waith hyrwyddo Cadw, wrth gwrs, yn seiliedig ar y ffaith ein bod ni'n genedl o gestyll. Felly, rwy'n meddwl efallai y byddai ychydig o gymorth neu ymyrraeth neu ysgogiad gan y Llywodraeth yn hyn o beth yn cael ei groesawu'n fawr.

Bu bron i'r castell gael ei ddymchwel ar ôl y rhyfel a dweud y gwir, gan fod cyn lleied ohono ar ôl fel bod—
Mae digon ohono ar ôl.

—yn y 1950au a'r 1960au, pan oedd pethau o'r fath yn cael eu gwneud, yr awgrym oedd cael gwared arno'n gyfan gwbl. Yn ffodus, ni ddigwyddodd hynny. Mae'n fater, yn y pen draw, i gyngor Abertawe. Fodd bynnag, byddaf yn ceisio cael rhagor o wybodaeth, a byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod gyda mwy o wybodaeth.
Prif Weinidog, nid yn unig y mae Port Talbot yn un o rannau tlotaf fy rhanbarth i ond mae hefyd un o rannau tlotaf y DU. Mae'r Comisiwn Symudedd Cymdeithasol hefyd wedi dyfarnu mai Port Talbot yw'r ardal waethaf yng Nghymru ar gyfer symudedd cymdeithasol. Mae hyn er gwaethaf buddsoddiad sylweddol gan Lywodraeth Cymru. Mae dyfrffordd Port Talbot wedi creu llai na 100 o swyddi, ac rydym ni hefyd yn byw gydag elfen o ansicrwydd ynghylch gwaith dur Tata. Felly, Prif Weinidog, pa newidiadau ydych chi'n eu cynnig i'ch polisïau adfywio ar gyfer Port Talbot, ac a wnewch chi gefnogi cais cyngor Castell-nedd Port Talbot i adleoli Channel 4 i Bort Talbot? Diolch.

Wel, mae nifer o geisiadau o bob cwr o Gymru, felly mae'n rhaid i ni fod yn ofalus o ran dangos ffafriaeth i unrhyw gais penodol. Hoffem gefnogi pob un ohonyn nhw, wrth gwrs.
O ran Port Talbot, yr hyn sy'n hollbwysig i gynaliadwyedd Port Talbot yw dyfodol cynhyrchu dur, a'r ffaith ein bod ni, dros y ddwy flynedd diwethaf, wedi sicrhau hynny—gadewch i ni beidio ag anghofio, ychydig cyn etholiadau diwethaf y Cynulliad, fod y dyfodol yn edrych yn llwm iawn yn wir i'r pen trwm ym Mhort Talbot. Oherwydd y gwaith caled yr ydym ni wedi ei wneud, gan weithio gydag eraill, gan weithio gyda Tata, yr arian a roddwyd ar y bwrdd, rydym ni wedi sicrhau bod dyfodol i ben cynhyrchu dur Tata, ac mae hynny'n rhywbeth, yn arbennig, sy'n bwysig dros ben i'r dref. Rwy'n deall bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot wedi sicrhau £11.5 miliwn o'r cyllid i ddarparu rhaglen o brosiectau adfywio wedi'u targedu i fynd i'r afael ag anghenion y gymuned ac i wella llesiant pobl Port Talbot.
4. Beth y mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i gefnogi undebau credyd? OAQ52204

Wel, mae £844,000 ar gael dros y ddwy flynedd nesaf i'r undebau credyd fwrw ymlaen â phrosiectau i gefnogi cynhwysiant ariannol. Cytunwyd ar £1 filiwn ychwanegol hefyd i gynorthwyo undebau credyd gyda'u twf.
Diolch. Mae'r Gweinidog Tai ac Adfywio wedi nodi'n briodol fod undebau credyd yng Nghymru yn darparu addysg ymwybyddiaeth ariannol ar gyfer oedolion a phlant, maen nhw'n cynorthwyo pobl sy'n ymdopi â phroblemau dyled ac yn darparu cynhyrchion ariannol cadarn a moesegol i rai o'r bobl fwyaf agored i niwed, ac felly rwy'n croesawu'n fawr cyhoeddiad Llywodraeth Cymru yn ddiweddar y bydd undebau credyd ledled Cymru yn cael arian ychwanegol, gan gynnwys yr £844,000 o gyllid, ar gyfer prosiectau sy'n cynorthwyo pobl sydd mewn trafferthion ariannol. Yn anffodus, o dan Lywodraeth y DU hon, y bobl hyn yw'r mwyafrif ac nid y lleiafrif. Pa effaith uniongyrchol y mae'r Prif Weinidog yn ei feddwl felly y bydd y cymorth ariannol a chapasiti hwn i undebau credyd yn ei chael ar gyfer rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn Islwyn?

Gallaf ddweud y bydd swyddogion yn cyfarfod â'r sector undebau credyd ar 21 Mai i drafod y cymorth cyfalaf trafodiadau ariannol sy'n cael ei roi ar gael ar gyfer y flwyddyn ariannol hon a'r nesaf. Yn wir, bu diddordeb gan undebau credyd o ran cael mynediad at hwnnw. Mae gennym ni tua 75,000 o aelodau undebau credyd yng Nghymru erbyn hyn, ac i lawer o aelodau undebau credyd mae undebau credyd yn cynnig dewis nad yw'n golygu mynd at fenthycwyr arian didrwydded. Rydym ni'n gwybod hynny, ac rydym ni'n ymwybodol o'r pwysau ariannol sydd wedi bod ar bobl dros yr wyth mlynedd diwethaf, ac rydym ni wedi gweld cyni cyllidol diddiwedd, a dyna pam mae'r undebau credyd yn chwarae rhan mor bwysig yn ein cymunedau, a dyna pam yr ydym ni wedi bod yn eu cynorthwyo i gefnogi pobl.
Prif Weinidog, roeddwn i'n edrych ymlaen at ddweud fy mod i'n cytuno â Rhianon Passmore. Yn anffodus, fe'i cefais hi'n anodd cytuno â'r darn ar y diwedd, ond roedd y rhan gyntaf yn gadarnhaol. A gaf i hefyd gytuno â'r safbwyntiau hynny bod undebau credyd yn gwneud llawer iawn o waith ledled Cymru? Yn y de-ddwyrain, fy ardal i, mae gan Undeb Credyd Gateway ganghennau yn y Fenni ac yn Bulwark, ac fel y dywedodd Rhianon Passmore, maen nhw'n gwneud llawer iawn i ymdrin â phroblemau tlodi. A ydych chi'n cytuno â mi ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n cydnabod y rhan y mae undebau credyd yn ei chwarae mewn ardaloedd gwledig hefyd? Nid ardal drefol yn unig y maen nhw'n ei gwasanaethu. Ceir pocedi mawr o dlodi gwledig ar draws fy ardal i, ac yn y canolbarth hefyd, ac mae ganddyn nhw ran bwysig i'w chwarae yn y fan honno. Felly, pan fyddwch chi'n targedu'r cyllid hwn, a wnewch chi sicrhau bod tlodi ardaloedd gwledig yn cael sylw hefyd?

Yn sicr. Mae undebau credyd yr un mor berthnasol i ardaloedd gwledig ag y maen nhw i ardaloedd trefol. Rai blynyddoedd yn ôl, pan euthum i Iwerddon gyntaf, roedd yn amlwg pa mor fawr oedd undebau credyd, yn enwedig mewn trefi bach cefn gwlad, a'r cynnydd a oedd wedi ei wneud yno. Felly, mae undebau credyd yn berthnasol ac maen nhw'n cynnig modd o gymorth i bob cymuned yng Nghymru, trefol neu wledig.
Er bod pobl o Gymru yn aelodau o undebau credyd, o gymharu â gweddill Prydain ac Iwerddon, fel rydych chi newydd ddweud, mae aelodaeth yn llawer is na'r gwledydd hynny. Felly, pan wnes i godi'r mater yma gyda chi o'r blaen, gwnes i godi'r cysyniad o gael hwb cenedlaethol i undebau credyd. Ydy, mae arian yn mynd atyn nhw fel unigolion, ond mae yna lot y gallan nhw ei ddysgu o'i gilydd er mwyn iddyn nhw allu gweithio a gwella'r hyn y maen nhw'n ei gynnig fel undebau credyd. Ble ydych chi gydag edrych i mewn i'r cysyniad hwn, a beth ydych chi fel Llywodraeth yn ei wneud o ran hybu neu ennyn aelodau o staff y gwasanaeth sifil, er enghraifft, i gynilo arian gydag undebau credyd, er mwyn sicrhau ein bod ni fel Aelodau, a'r rheini sydd yn gweithio yma yng Nghymru, yn gwneud ein rôl ni i hybu'r sector yma?

Fe wnes i sôn am yr arian sydd ar gael a sôn am y cyfarfod sy'n mynd i gymryd lle yr wythnos nesaf. Mae aelodaeth undebau credyd wedi codi o 10,000 ar ddechrau'r ganrif i 75,000, fel y dywedais i, nawr. So, felly, mae yna dwf wedi bod. Y cam nesaf, rwy'n credu, i undebau credyd yw faint maen nhw eisiau tyfu a faint o capacity sydd ei eisiau iddyn nhw dyfu. Rwy'n gwybod, yn Iwerddon, mae'n bosibl cael benthyciadau o gannoedd o filoedd o ewros, achos y ffaith bod y sefydliadau llawer yn hŷn, a'n llawer mwy na'r undebau credyd yng Nghymru. So, felly, beth mae'n rhaid inni ei ystyried yw: pa mor bell mae'r undebau credyd eisiau tyfu? A ydyn nhw'n moyn tyfu i ddod lot yn fwy, fel undebau credyd Iwerddon, neu ydyn nhw'n moyn sefyll yn hollol leol? Rwy'n credu y byddai rhai yn dewis yr un a rhai yn dewis y llall, ond byddwn ni'n cario ymlaen i siarad â nhw er mwyn gweld ym mha ffordd y gallwn ni eu hybu nhw yn y pen draw.
5. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fargen dinas-ranbarth Bae Abertawe? OAQ52203

Gwnaf. Mae cynnydd yn parhau i gael ei wneud tuag at y cam cyflawni nesaf ac i ddatgloi cyllid Llywodraeth y DU.
Diolch. Cwestiwn ailadroddus, mi wn.
Dywedodd bwrdd cysgodol bargen ddinesig bae Abertawe wrthym y bydden nhw'n hoffi, pe byddai'n bosibl, ychwanegu at yr 11 o brosiectau sydd eisoes yn rhan o'r fargen, ac, wrth gwrs, mae llawer ohonom ni wedi bod yn sôn y gallai trafnidiaeth fod yn agwedd ychwanegol o hynny. Bythefnos yn ôl, dywedodd eich Ysgrifennydd dros yr economi y dylid bwrw ymlaen â gwaith ar barcffordd Abertawe 'yn gyflym', dim ond i'w ddyfynnu ef. A chyda hynny mewn golwg, pa drafodaethau ydych chi'n eu cynnal gyda Swyddfa Cymru a'r Adran Drafnidiaeth am y syniad hwn? Ac a allwch chi ddweud wrthym ni pa un a yw wedi cael ei drafod yng nghyd-destun y fargen ddinesig neu yn fwy cyffredinol yn rhan o'r weledigaeth ehangach ar gyfer gwella trafnidiaeth yng Nghymru, neu'r ddau efallai? Diolch.

Gwn am y syniad—mae'r syniad wedi bod o gwmpas ers cryn amser ar gyfer gorsaf yn Nhreforys, i bob pwrpas: parcffordd Abertawe, fel y deallaf. Ceir problemau, gan y byddai'n golygu uwchraddio rheilffordd ardal Abertawe, a byddai'n osgoi Abertawe ei hun, a hefyd yn osgoi Castell-nedd. A gwn nad yw pobl yng Nghastell-nedd eisiau gweld eu gorsaf yn cael ei hosgoi yn y modd hwnnw a gallaf ddeall yn iawn pam nad yw'n bolisi Llywodraeth y byddem ni eisiau gwneud hynny. Felly, byddai angen uwchraddio rheilffordd ardal Abertawe, gan ei bod hi'n rheilffordd cludo nwyddau ar hyn o bryd ac yn cael ei defnyddio ar gyfer gwyriadau teithwyr achlysurol. Byddai angen sicrhau hefyd nad oedd gwasanaethau yn cael eu colli i orsafoedd presennol, yn enwedig gwasanaethau rhwng dinasoedd—nid gwasanaethau rhwng dinasoedd yn unig, ond pob gwasanaeth—pe byddem yn bwrw ymlaen â'r cynnig hwnnw. Felly, syniad diddorol, ond ceir rhai effeithiau negyddol posibl, oni bai bod unrhyw wasanaethau ar reilffordd ardal Abertawe yn ogystal â'r gwasanaethau sy'n bodoli eisoes, sy'n gwasanaethu gorsafoedd fel stryd fawr Abertawe ei hun a Chastell-nedd.
6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am berfformiad y gwasanaeth ambiwlans? OAQ52202

Gwnaf. Mae gwasanaeth ambiwlans Cymru yn parhau i ddarparu gwasanaeth hynod ymatebol i bobl Cymru er gwaethaf lefelau uwch nag erioed o alw. Ym mis Mawrth, cafodd 69.6 y cant o alwadau lle'r oedd bywyd yn y fantol ymateb o fewn wyth munud, gydag amser ymateb nodweddiadol o bum munud a 29 eiliad.
Mewn Cyfarfod Llawn ar 16 Ionawr, codais fater pwysig gweithwyr rheng flaen y GIG ar ben eu tennyn o ganlyniad i'r pwysau sy'n cael ei roi arnyn nhw yn feunyddiol. Roedd hyn yn ymwneud yn benodol â gwasanaeth ambiwlans Cymru, ac fe wnaethoch addo ymchwilio i'r mater ac ysgrifennu yn ôl ataf. Ysgrifenasoch yn ôl ataf yn gynharach y mis hwn gydag ateb a amlinellodd fod mesurau yn cael eu cymryd gan yr ymddiriedolaeth ambiwlans i gefnogi ei staff. Ac mae hynny'n cynnwys tîm llesiant mewnol, sy'n swnio'n wych ar bapur, ond dywedodd rhywun yr wyf i'n ei adnabod nad oedd yn gallu cael mynediad at y gwasanaeth hwn gan na wnaeth y gwasanaeth hwnnw ymateb o gwbl iddo. Mae'r person hwnnw yn nodi mai'r diffyg capasiti yn ein hysbytai, sy'n achosi oedi wrth drosglwyddo gofal, yw'r ffactor mwyaf o ran oedi ymatebion ambiwlansys ac, wedyn, straen a achosir i'r rheini sy'n ymdrin â galwadau. Er lles ein GIG yn ogystal â staff a chleifion, pryd mae'r Llywodraeth hon yn mynd i fynd i'r afael â'r broblem hon?

Gadewch i mi roi ateb llawnach i arweinydd Plaid Cymru. Bu pwysau cyson ar draws y GIG, yng Nghymru a'r DU yn gyffredinol, yn ystod gaeaf 2017-18. Mis Mawrth 2018, credaf fy mod yn iawn yn dweud, oedd y mis prysuraf erioed i'r gwasanaeth ambiwlans. Un o'r grwpiau allweddol o staff yr effeithiwyd arnynt oedd y derbynwyr galwadau 999 a'r staff ystafell reoli sy'n gweithio i wasanaeth ambiwlans Cymru yn ogystal, wrth gwrs, â'r staff ambiwlans eu hunain a'r parafeddygon. Yr hyn a wnaeth y gwasanaeth ambiwlans oedd cysylltu ag elusen y gwasanaeth ambiwlans i ddarparu cymorth i ganolfannau rheoli clinigol ambiwlansys, yn enwedig i staff sy'n ateb galwadau. Cynhaliwyd dwy sesiwn ym mhob un o'r tair canolfan reoli ranbarthol, sy'n cynnwys amrywiaeth o fecanweithiau cymorth sydd ar gael i helpu staff gyda'u llesiant emosiynol a chorfforol, ond hefyd y cymorth ehangach sydd ar gael gan TASC, yr elusen, mewn meysydd fel rheoli ariannol, paratoi ar gyfer y dyfodol, a manteision eraill y mae TASC yn eu cynnig i staff ambiwlans. A'r adborth gan staff fu, 'Roedd y sesiynau hynny yn hynod werthfawr', ac mae'r ymddiriedolaeth yn ystyried erbyn hyn sut y gellir defnyddio adnoddau TASC i gynorthwyo staff yn y dyfodol yn rhan o ymateb yr ymddiriedolaeth i bwysau gweithredol.
Prif Weinidog, dros dri mis y gaeaf, bu'n rhaid i 1,860 o bobl a ddosbarthwyd yn ambr, a byddwch yn gwybod bod hyn yn cynnwys pobl sy'n dioddef strôc neu drawiad ar y galon, aros dros chwe awr am eu hambiwlans. Nawr, does bosib bod hyn yn annerbyniol ac mae angen i ni sicrhau, y gaeaf nesaf, bod rhai o'r safonau sylfaenol iawn hyn yn cael eu bodloni.

Gallaf ddweud, ar gais Ysgrifennydd y Cabinet, fod prif gomisiynydd y gwasanaethau ambiwlans wedi dechrau adolygiad o dan arweiniad clinigol ar y categori ambr yn benodol, ochr yn ochr â gwaith sy'n parhau ar hyn o bryd i ystyried ymatebolrwydd ambiwlansys, canlyniadau clinigol a phrofiad cleifion. Ceir pedwar peth yn benodol y bydd yr adolygiad yn eu hystyried: yn gyntaf, y sefyllfa bresennol o ran arferion polisi a chanllawiau ar hyn o bryd; yn ail, disgwyliadau a phrofiadau'r cyhoedd, staff a'r gwasanaeth ehangach o ran ymatebion ambiwlans i alwadau ambr; yn drydydd, ystyriaeth o ffactorau amgylcheddol, fel lleoliad digwyddiad ac oedran y claf wrth benderfynu ar ddyrannu ymateb; ac, yn bedwerydd, y ffactorau allanol neu fewnol eraill a allai gyfrannu at, neu effeithio ar, sut mae Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn ymateb i alwadau categori ambr, ac mae'r gwaith hwnnw'n parhau.
Roedd nifer y galwadau ambiwlans brys yn ystod 2016-17 116 y cant yn uwch na nifer y galwadau ambiwlans brys a wnaed yn y blynyddoedd blaenorol. Mae hwn yn gynnydd syfrdanol ar sail unrhyw gyfrifiad, ac eto mae gwasanaeth ambiwlans Cymru wedi bodloni ei darged amser ymateb cenedlaethol ar gyfer galwadau coch am 30 mis yn olynol, diolch i'n model ymateb clinigol a'n staff yn darparu gofal yn gyflymach i'r rheini sydd ei angen fwyaf—model a ddifrïwyd gan y Ceidwadwyr Cymreig fel 'symud y pyst', a model sy'n cael ei ystyried erbyn hyn i gael ei ailadrodd yn Lloegr gan eu cydweithwyr Torïaidd yn San Steffan.
A wnaiff y Prif Weinidog ymuno â mi, felly, i ganmol dynion a menywod ymroddgar y gwasanaeth ambiwlans, sy'n parhau i gyfrannu at ein gwasanaeth iechyd gwladol ardderchog yng Nghymru ym mlwyddyn ei ben-blwydd yn ddeg a thrigain oed, ac amlinellu ymhellach yr hyn y gallwn ei wneud i gynorthwyo eu gwaith gwerthfawr ymhellach?

A gaf i ymuno â'r Aelod i roi fy ngwerthfawrogiad, fy ystyriaeth a'm diolch, yn wir, i'r staff ambiwlans am yr hyn y maen nhw'n ei wneud i achub bywydau ddydd ar ôl dydd yng Nghymru? Gallaf ddweud bod adnoddau sylweddol wedi eu buddsoddi yn y blynyddoedd diwethaf, gyda'r nod o sicrhau bod nifer y staff rheng flaen yn cael ei gynyddu, yn y canolfannau rheoli ac, yn wir, ar y ffordd. Mae gennym ni'r nifer uchaf erioed o staff, a dweud y gwir, wedi eu cyflogi yn y gwasanaeth. Yn ôl ym mis Hydref, cyhoeddwyd buddsoddiad o £8.2 miliwn gennym i alluogi gwasanaeth ambiwlans Cymru i barhau i uwchraddio'r fflyd bresennol, sy'n dod â chyfanswm y buddsoddiad mewn cerbydau ambiwlans newydd ers 2011 i bron i £45 miliwn.
7. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddarparu gofal iechyd yng nghanolbarth Cymru? OAQ52186

Rydym ni'n parhau i fuddsoddi yn y ddarpariaeth o wasanaethau gofal iechyd yn y canolbarth, gan gynnwys £6.6 miliwn yn Ysbyty Coffa Rhyfel Sirol Llandrindod. Byddwn yn parhau i weithio gyda byrddau iechyd yn y rhanbarth i ddarparu gwasanaethau gofal iechyd sy'n sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i gleifion.
Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Rwyf wedi gweld sawl achos o ad-drefnu'r gwasanaeth iechyd yn ystod fy mywyd, ac mae bob amser yn broblem fawr cyflawni newid—hyd yn oed newid buddiol. Bydd enillwyr a chollwyr tybiedig bob amser. Cynigiodd bwrdd iechyd prifysgol Hywel Dda eu newid GIG mawr, a fydd yn effeithio ar y ddarpariaeth o gyfleusterau gofal iechyd ar draws ardal Hywel Dda. A wnaiff ef gytuno â mi na ddylai unrhyw newid sy'n cael ei wneud roi ardaloedd sylweddol iawn o'r boblogaeth o fewn y bwrdd iechyd o dan anfantais er mwyn bod o fudd i rannau eraill o'r ardal?
Yn arbennig, ceir cynnig yn Llanelli i israddio Ysbyty'r Tywysog Philip, a fydd yn effeithio ar y ddarpariaeth o wasanaethau meddygol acíwt 24/7; bydd lleoedd digonol mewn gwelyau yn ardal fwyaf poblog Hywel Dda yn cael eu lleihau; ni fydd uned oncoleg y fron arbenigol yno; a bydd hefyd yn effeithio ar wasanaethau iechyd meddwl. Os yw newidiadau yn mynd i fod yn dderbyniol i'r cyhoedd yn gyffredinol, yna mae'n rhaid iddyn nhw fod o fudd i'r nifer fwyaf bosibl o bobl ac nid eu rhoi o dan anfantais.

Mae dau amcan, yn fy marn i, i'r ymarfer: yn gyntaf oll, cael yr ymgynghoriad llawnaf posibl, ac, yn ail, sicrhau bod yr hyn yr ydym ni'n ei weld, nid yn unig yn Hywel Dda, ond ledled Cymru, yn cynrychioli’r gwasanaeth iechyd gorau, mwyaf diogel a mwyaf cynaliadwy ar gyfer y boblogaeth. Mae hynny'n rhywbeth y byddem ni, fel Llywodraeth, eisiau ei weld ledled Cymru.
Prif Weinidog, mae etholwr, Mr Robert Jones, wedi fy hysbysu yn ddiweddar nad yw'n gallu casglu ei bresgripsiwn o'r fferyllfa yn adeilad ei feddygfa deulu mwyach oherwydd rheolau dosbarthu meddyginiaeth sydd wedi newid o ganlyniad i gael eu cyflwyno yn dilyn Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2013, er gwaethaf y ffaith ei fod wedi ei gofrestru yn y feddygfa drwy gydol ei oes. Mae'n amlwg yn synnwyr cyffredin, cyn belled ag y gallaf weld, iddo allu casglu ei bresgripsiwn o'r adeilad lle rhoddwyd y presgripsiwn iddo, felly rwy'n ei chael hi'n eithaf anodd deall y polisi pan fo'r etholwr yn ei feddygfa deulu eisoes. A allwch chi ymrwymo i ystyried y mater hwn eto i weld a oes digon o hyblygrwydd yn y system—nid yw'n ymddangos o'r ohebiaeth yr wyf i wedi ei chael yn ôl gan y Gweinidog iechyd bod hynny'n wir—i sicrhau nad yw'r rheoliadau hyn yn cael y mathau hyn o ganlyniadau anfwriadol?

Nid oeddwn i wedi clywed hynny, mae'n rhaid i mi ddweud. Gofynnodd yr Aelod gwestiwn sydd, gyda pharch, yn hynod o leol. Mae'n haeddu ateb, ond bydd angen i'r ateb hwnnw ddod, os gwnaiff roi rhagor o fanylion i mi, mewn llythyr.
Mae hi wedi bod yn bleser heddiw croesawu Elly Neville i'r Cynulliad, ac mae llawer o Aelodau'r Cynulliad wedi ei chyfarfod. Mae hi wedi codi bron i £160,000 erbyn hyn, fel merch chwech a saith mlwydd oed, ar gyfer triniaeth ganser ward 10 yn Llwynhelyg, ac rwy'n siŵr y gwnewch chi ymuno â mi mewn munud, Prif Weinidog, gobeithio, i ddiolch iddi am ei hymdrechion.
Ond yr hyn y mae wir yn ei danlinellu, wrth gwrs, yw pa mor bwysig yw'r gwasanaethau hynny i gymunedau lleol, a pha mor ymroddedig yw cymunedau iddynt. Dywedasoch wrthyf yr wythnos diwethaf nad oedd gennych chi fel Llywodraeth na chithau fel Prif Weinidog unrhyw ffafriaeth o ran y dewisiadau sy'n cael eu hystyried ar gyfer Hywel Dda. Oni fyddai'n well, felly, pe na byddai eich Aelodau Cynulliad eich hun yn ymgyrchu dros neu yn erbyn rhai o'r dewisiadau hyn, ond gadael i'r cyhoedd gael yr ymgynghoriad ehangach hwnnw ac yna gwneud penderfyniadau yng ngolau oer rheswm, gyda thystiolaeth glinigol dda hyd yma gyda hynny, a chyda'r dystiolaeth orau bosibl gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd ynghylch y cyllid sydd ar gael hefyd?

Yn gyntaf, rwyf i wedi cael y pleser o gyfarfod Elly o'r blaen, ac mae'n braf iawn cael ei chroesawu hi yn ôl i'r adeilad hwn. Mae hi wedi gwneud gwaith ardderchog yn codi cymaint o arian, ac mae'n wych gwybod ei bod hi yma. Yn ail, pe na byddai unrhyw ACau yn mynd i ymgyrchu mewn unrhyw ffordd o ran ymgynghoriad Hywel Dda, gallai fod chwarae teg i bawb, ond rwy'n amau bod hynny yn mynd ychydig yn rhy bell o ran yr hyn sydd i'w ddisgwyl. Mae ACau Llafur ar y meinciau cefn yn rhydd, wrth gwrs, i gynrychioli eu cymunedau; dyna pam maen nhw yma. Ceir mwy o gyfyngiadau, wrth gwrs, ar y rhai hynny yn y Llywodraeth, yn naturiol, ond rwy'n siŵr y bydd yr holl ACau sy'n byw yn ardal Hywel Dda yn mynegi eu safbwyntiau yn rhan o'r ymgynghoriad.
8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth i borthladd Caergybi? OAQ52207

Rydym ni’n parhau i weithio gyda Stenaline a’i helpu i wneud y mwyaf o botensial Caergybi i gynyddu twf economaidd a dod â mwy o swyddi i’r rhanbarth. Mae hyn yn cynnwys trafod cynlluniau am angorfa aml-ddefnydd newydd, ac rydym ni wedi rhoi £0.5 miliwn drwy'r gronfa datblygu porthladdoedd tuag at y gwaith o gynnal astudiaeth o ymarferoldeb.
Diolch yn fawr iawn. Ddydd Gwener yma, mae grŵp yn cael ei ailgynnull a fydd yn dod â gwahanol ddefnyddwyr y porthladd at ei gilydd, yn cael ei gyd-gadeirio gen i fel yr Aelod Cynulliad ac Aelod Seneddol Ynys Môn, ac rwy'n ddiolchgar am y cadarnhad yn y tri chwarter awr diwethaf y bydd Llywodraeth Cymru yn gyrru swyddog i'r cyfarfod hwnnw. Ond ar drothwy y cyfarfod, mi hoffwn i apelio am ffocws clir iawn, iawn gan Lywodraeth Cymru ar gefnogi a buddsoddi ym mhorthladd Caergybi a'r isadeiledd trafnidiaeth, ac ati, sy'n gwasanaethu'r porthladd hwnnw, yn enwedig yn sgîl her Brexit, yr her o gystadleuaeth gan borthladdoedd eraill fel Lerpwl, a'r her o groesiadau uniongyrchol sy'n datblygu fwy a mwy o Iwerddon i Ffrainc. Mae'n rhaid sicrhau bod porthladd rhagorol Caergybi yn parhau i fod yn gystadleuol er mwyn y swyddi yn uniongyrchol yno ac, wrth gwrs, economi ehangach Ynys Môn ac nid yn unig gogledd Cymru, ond Cymru hefyd.

Mae Brexit yn her, wrth gwrs, i Gaergybi a'r porthladdoedd eraill fel Doc Penfro ac Abergwaun. Rwy'n cofio'r amser lle roedd yna dollau yng Nghaergybi. Nid oedd pawb yn cael eu tsiecio, ond ta beth, pe byddech chi'n cael eich dal yna, roedd yna broblem ynglŷn â'r ffaith eich bod chi'n gorfod aros ac wedyn symud ymlaen.
I fi, mae yna ddau beth. Yn gyntaf, nid ydym yn gwybod beth yn gwmws fydd yn digwydd rhwng Caergybi a'r Iwerddon. Rydym ni wedi dweud na ddylai dim byd fynd yna, wrth ddweud y dylai'r Deyrnas Unedig sefyll yn yr undeb tollau; mae hynny'n hollbwysig. Pan siaradais i ag Irish Ferries, un o'r pethau a oedd yn fy nharo i oedd eu bod nhw'n dweud wrthyf i fod yna botensial i fynd â'r llongau o Iwerddon i Ffrainc, ond nid yw'r capasiti yna yn yr un ffordd. Mae'n amhosibl i gael yr un capasiti a mynd rhwng, er enghraifft, Dulyn a Chaergybi. Y broblem iddyn nhw oedd sefyllfa lle bydden nhw'n mynd â rhywbeth fel pysgod, ffeindio yng Nghaergybi eu bod nhw'n ffaelu mynd mas o'r porthladd yn ddigon cyflym, wedyn colli'r fferi yn Dover, ac wedyn, wrth gwrs, colli'r cargo yn hollol. Roedd hynny yn rhywbeth roedden nhw'n ei weld yn hollbwysig i'w ddatrys.
Ar hyn o bryd, nid wyf yn gweld unrhyw fath o fuddsoddiad gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn y rhwydwaith yng Nghaergybi, ond beth na fyddwn i'n moyn ei weld fyddai tollau nac, yn waeth byth, unrhyw fath o reolaeth ynglŷn â phasbortau yng Nghaergybi. Dyna i gyd y byddai hynny yn ei wneud yw ei gwneud yn fwy anodd i ddefnyddio'r porthladd a rhoi mantais ynglŷn â chystadleuaeth i borthladdoedd fel Cairnryan a Lerpwl.
9. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynyddu'r ddapariaeth o addysg feddygol ym Mhrifysgol Bangor? OAQ52201

Rydym ni’n parhau i gredu bod modd i Brifysgol Bangor, mewn cydweithrediad ag ysgolion meddygol Caerdydd ac Abertawe, gynnig mwy o gyfleoedd ar gyfer addysg a hyfforddiant meddygol yn y gogledd. Rydym ni’n gweithio gyda’r prifysgolion ar gynigion i ddarparu addysg feddygol gynaliadwy yn y gogledd.
Mi fyddwch chi'n ymwybodol, wrth gwrs, fy mod i wedi bod yn blaenoriaethu ymgyrch i gael ysgol feddygol i Fangor oherwydd fy mod i'n credu ei fod o'n ffordd o wella gofal cleifion ar draws y gogledd. Mi wnes i gomisiynu'r adroddiad yma, 'Delio â'r Argyfwng', oedd yn amlinellu'r achos yn glir iawn. Fe gafwyd cytundeb rhwng Plaid Cymru a Llafur a neilltuwyd £7 miliwn y flwyddyn tuag at ddatblygu cynllun i gynyddu hyfforddiant feddygol yn y gogledd. Rydw i'n falch bod y trafodaethau'n parhau ond fe hoffwn i fanylion ynglŷn â'r gwariant yma, yn enwedig yr elfen gwariant cyfalaf o'r arian sydd wedi'i glustnodi, ac mi hoffwn i gael ymrwymiad gennych chi heddiw y cawn ni ddatganiad clir yn dangos y cynnydd ar y mater yma, os gwelwch yn dda.

Wel, fe allaf i roi'r ymrwymiad hwnnw. Mae'n bwysig i Fangor weithio gyda Chaerdydd ac Abertawe er mwyn cael mynediad i ysbytai mawr y de hefyd, er mwyn rhoi addysg gyflawn i unrhyw ddoctor sydd yn hyfforddi. Yr opsiwn arall yw gweithio gyda Lerpwl. Wel, i mi, mae'n well ein bod ni'n creu system addysg Gymreig ynglŷn a meddyginiaeth rhwng y de a'r gogledd. Mae'r gwaith yna yn parhau ac, unwaith y bydd y gwaith yn barod, rwy'n siŵr bydd yna ddatganiad yn cael ei wneud.
Diolch i'r Prif Weinidog.
Yr eitem nesaf yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes ac rydw i'n galw ar arweinydd y tŷ i wneud ei datganiad—Julie James.

Diolch, Llywydd. Nid oes unrhyw newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Dangosir busnes y tair wythnos nesaf ar y datganiad a'r cyhoeddiad busnes ymysg papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
Arweinydd y Tŷ, byddwch wedi clywed y drafodaeth â'r Prif Weinidog—y cwestiynau rhyngof fi a'r Prif Weinidog ynghylch unrhyw gyhoeddiad y gallem ni fod yn ei ddisgwyl fel Cynulliad ar ddyfarnu masnachfraint y rheilffyrdd. Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi dweud ar y cofnod y gwneir y cyhoeddiad hyw ym mis Mai 2018. A wnewch chi gadarnhau fel arweinydd y tŷ y bydd yna ddatganiad ar drefn busnes y Cynulliad yr wythnos nesaf i ddeall mewn gwirionedd sut y mae'r Llywodraeth yn bwriadu gwneud y cyhoeddiad hwn, ac yn wir, pwy yw'r cynigydd llwyddiannus? Oherwydd, o'r hyn y deallaf i, dim ond 12 diwrnod gwaith sydd ar ôl ym mis Mai ac mae'n bwysig iawn, gyda chyhoeddiad sylweddol o'r fath sy'n effeithio ar gynifer o gymunedau ar hyd a lled Cymru, fod y datganiad yn cael ei wneud yn y Siambr hon fel y gall Aelodau'r Cynulliad holi Ysgrifennydd y Cabinet ynghylch dyfarniad y tendr ac, yn bwysicaf oll, ynghylch yr amserlen ar gyfer gweithredu'r tendr hwnnw. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallech chi gadarnhau y caiff y darn hwnnw o fusnes ei gyflwyno yr wythnos nesaf.
Ac, yn ail, ynglŷn â'r ymchwiliad dan arweiniad Cwnsler y Frenhines, a gawn ni ddatganiad gan y Prif Weinidog neu gan y person perthnasol yn y Llywodraeth am ddatblygiad yr ymchwiliad, sydd o dan arweiniad Cwnsler y Frenhines, i'r ad-drefniant fis Tachwedd diwethaf? Mae llawer o ddyfalu yn y wasg ar y cynnydd, neu fel arall, fel y mae'n digwydd, ar yr ymchwiliad hwn. Rwy'n credu ei bod yn hollol briodol i ni, fel Aelodau'r Cynulliad, ddeall sut y mae'r gwaith yn mynd yn y maes penodol hwn a pha bryd y bydd yr ymchwiliad yn dechrau ymgysylltu'n llawn a chynnal yr ymchwiliad.
O ran y cwestiwn cyntaf y gwnaethoch chi ei ofyn, sef yr un cwestiwn a ofynnoch chi yn ystod sesiwn cwestiynau i'r Prif Weinidog hefyd—gallwch weld Ysgrifennydd y Cabinet yn egluro proses gymhleth sydd ynghlwm wrth y gwaith caffael, ond rwy'n siŵr y bydd yna gyhoeddiad ym mis Mai. Mae'n angenrheidiol cael stop—[Torri ar draws.] Wel, oherwydd y rheolau caffael—ac mae'r Aelod, rwy'n gwybod, yn gyfarwydd â hyn—ac oherwydd y llwybr caffael penodol a gymerwyd, ceir cyfnod segur rhwng y cyhoeddiad cychwynnol a dyfarniad y contract gwirioneddol. Felly, fe fydd datganiad yn cael ei wneud, ond fe fydd yn digwydd ar ôl y cyhoeddiad cychwynnol, oherwydd y ffordd y mae'r rheolau caffael yn gweithio. Ond mae Ysgrifennydd y Cabinet yn nodio'n hapus i mi i ddangos ein bod ni ar y trywydd cywir ac y caiff y cyhoeddiad ei wneud yn unol â'r amserlen bresennol.
Gan ymhelaethu ar y pwynt a godwyd nawr am yr ymchwiliad o dan arweiniad Cwnsler y Frenhines y gofynnodd Andrew R.T. Davies amdano—cyfle arall i ateb yr agwedd honno, ond, yn benodol, a wnewch chi gadarnhau rhywbeth yr wyf i wedi gofyn ichi yn y gorffennol, sef pa un a fydd cylch gorchwyl yr ymchwiliad hwnnw hefyd yn cael ei gyhoeddi, efallai drwy gyfrwng datganiad y Prif Weinidog i'r Cynulliad. Oherwydd, rwy'n credu bod gennym ni i gyd ddiddordeb mewn deall cylch gorchwyl yr ymchwiliad ond, yn enwedig, rhychwant yr ymchwiliad o ran y cyfnod o amser a fydd yn berthnasol i'r ymchwiliad hwnnw dan arweiniad Cwnsler y Frenhines. Felly, a wnewch chi gadarnhau hynny a pha bryd y gallem ni glywed am hynny o ran busnes yn y dyfodol.
Mae'r ail eitem y mae arnaf i eisiau ei godi gyda chi yn wahanol, ond byddai llawer ohonom ni wedi ein dychryn o weld y digwyddiadau yn Gaza ddoe. Nid yw'n cyfiawnhau unrhyw beth y mae Hamas neu unrhyw sefydliad arall yn ei wneud fel awdurdod yn Gaza i ddweud nad ydym ni ac na allwn ni dderbyn defnyddio saethwyr cudd i saethu miloedd—yn llythrennol, miloedd—o ddinasyddion di-arfau. Mae hynny'n mynd i'r tu hwnt i unrhyw ymateb gwâr gan Lywodraeth er mwyn diogelu ei ffiniau neu warchod ei dinasyddion. Felly, er nad yw hwn, rwy'n sylweddoli, yn eitem i chi neu i Lywodraeth Cymru yn benodol, y mae pobl yn sicr wedi bod yn cysylltu â mi, pobl sydd yn anhapus iawn am yr hyn a ddigwyddodd. Dyma'r peth gwaethaf a gawsom am o leiaf hanner degawd yn yr ardal honno. Ac, wrth gwrs, mae effeithiau ar heddwch yn y dwyrain canol yn gyffredinol yn effeithio arnom ni i gyd oherwydd eu bod yn effeithio ar y ffordd yr ydym ni'n byw ein bywydau yn ein cymunedau yma a'r ffordd y gallai llawer o aelodau ein lluoedd arfog gael eu cynnwys yn y dyfodol hefyd. Felly, oes, rwy'n credu, mae gwir angen i'r Llywodraeth wneud dau beth, os yn bosibl: (1) bod y Prif Weinidog yn ysgrifennu at Awdurdod Palesteina i fynegi cydymdeimlad o ran y bywydau a gollwyd, nid mewn modd gwleidyddol, ond yn hytrach dim ond fel arwydd dyngarol, ac, yn ail, cysylltu â'r Ysgrifennydd Tramor, Boris Johnson, i annog Llywodraeth y DU i godi'r mater hwn ar y lefel uchaf un, gan gynnwys yn y Cenhedloedd Unedig.
Rwy'n gwybod bod cwestiynau yn cael eu gofyn ar hyn o bryd yn Nhŷ'r Cyffredin am hyn, felly nid wyf yn hollol siŵr lle y maen nhw arni, ond hoffwn i i Lywodraeth Cymru fod yn rhan o'r drafodaeth honno, ac, yn arbennig yn eich swyddogaeth chi, hoffwn i chi rannu'r ohebiaeth honno â ni, ac felly pan fydd pobl yn cysylltu â ni, gan nad ydyn nhw bob amser yn gwybod pwy ydym ni'n ei gynrychioli ac ar ba lefel, gallwn ni rannu'r geiriau o ofid â nhw, ond hefyd, gallwn rannu rhai camau cadarnhaol wrth symud ymlaen yn ceisio sicrhau'r cyfleoedd gorau—dyna'r cwbl y gallwn ni siarad amdano ar hyn o bryd—am heddwch yn y tir hwnnw, sydd mewn tywyllwch.
Ie, wrth gwrs. Golygfeydd cwbl ddychrynllyd; rwy'n credu bod pob un ohonom ni wedi ein harswydo gan yr hyn yr oeddem ni'n ei weld. Rwy'n siŵr y bydd y Llywodraeth yn dymuno estyn eu cydymdeimlad â'r bobl hynny a gollodd eu bywydau mewn ffordd mor ofnadwy. Mae'n amser pryderus iawn yn y dwyrain canol. Mae yna nifer fawr o bethau'n digwydd mewn meysydd ychydig yn wahanol yn y dwyrain canol, ac nid ydym wedi gweld cymhlethdod o'r math hwn ers degawdau lawer, lawer, os o gwbl. Rwy'n credu felly, fod yr Aelod yn gwneud cyfres o bwyntiau pwysig iawn a byddaf yn sicr yn cael trafodaeth â'r Prif Weinidog am yr hyn y gellir ei wneud o ran mynegi barn y lle hwn, o ran lle'r ydym ni o ran hynny. Ond credaf, yn hollol—. Llywydd, hoffwn i estyn fy nghydymdeimlad i fy hun yn wir â'r bobl a gafodd ei dal mewn gwrthdaro ofnadwy o'r fath—golygfeydd ofnadwy, ofnadwy.
O ran yr ymchwiliad dan arweiniad Cwnsler y Frenhines, fy nealltwriaeth i yw ein bod yn dal i fod mewn trafodaeth ynghylch y cylch gorchwyl a bod hynny'n drafodaeth barhaus i raddau helaeth rhwng Cwnsler y Frenhines, y teulu a'r Llywodraeth. Llywydd, os oes unrhyw wybodaeth sy'n wahanol i'r hon sydd gennyf i ac nad wyf yn ymwybodol ohoni, byddaf yn sicrhau bod y Cynulliad yn cael gwybod. Ond nid wyf yn ymwybodol bod unrhyw beth wedi newid heblaw bod y trafodaethau hynny yn mynd rhagddynt.
Hoffwn ofyn am ddau ddatganiad. Yr un cyntaf—hoffwn gael datganiad ar gynigion Llywodraeth Cymru i wella iechyd cyhoeddus, a bod hwnnw'n cynnwys y berthynas rhwng iechyd a ffordd o fyw. Dylai hefyd gynnwys camau i leihau gordewdra, cynyddu ymarfer corff a gwella deiet, gan gynnwys yr hyn sy'n cael ei wneud i gymryd lle gweithgarwch Cymunedau yn Gyntaf yn y maes hwn.
Yr ail un, sydd efallai yn fater sydd angen sylw ar frys—yr wythnos diwethaf cawsom ni ein synnu, ein syfrdanu, a'n siomi o glywed bod Virgin Media yn sôn am gau a bod ychydig o dan 800 o swyddi yn cael eu colli. Doedd dim llawer iawn o ymgynghoriad â Llywodraeth Cymru ar y pryd, os o gwbl, am hynny, ac mae'n destun pryder mawr i mi, gan ei fod yn digwydd yn fy etholaeth i. Ond rwy'n siŵr ei fod yn bryder i chi ac i'n cyd-Aelodau o bob rhan o orllewin Morgannwg a dwyrain Dyfed, oherwydd bod pobl yn teithio cryn bellter i fynd i'w gwaith. Felly, a oes gennych chi unrhyw ddiweddariad pellach ar yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud? Rwy'n gwybod bod Ysgrifennydd y Cabinet yn sôn am gamau y gellid eu cymryd, a thasglu a llawer o bethau eraill. Ond mae wythnos wedi mynd heibio, mae pobl yn poeni'n fwy, fel y byddai pawb ohonom, neu, fel y dywedais yr wythnos diwethaf, fel yr oeddwn i'n poeni pan oedd fy swydd i dan fygythiad. Felly, a oes rhagor o wybodaeth i ni am yr hyn sy'n digwydd?
Ie, yn wir, ar y mater hwnnw, bydd yr Aelod yn gwybod, oherwydd ei fod wedi bod yno yn ogystal â mi, fod nifer fawr o Aelodau'r Cynulliad o'r rhanbarth wedi cyfarfod â Virgin Media yr wythnos diwethaf i drafod y sefyllfa y maen nhw ynddi. Ni allaf ddweud bod y cyfarfod hwnnw yn gwbl gadarnhaol, ond ers hynny cafwyd trafodaethau cadarnhaol. Ar ôl i'r cyfnod ymgynghori, y soniwyd amdano yn y cyfarfod yr wythnos diwethaf, ddod i ben, a fydd, yn ôl yr hyn a ddeallwn ni, yn digwydd yr wythnos sy'n dechrau nawr—felly, ar ryw adeg yr wythnos hon bydd yr ymgynghoriad wedi dod i ben—yna cytunwyd ar y tasglu gan Virgin Media i fynd i gynorthwyo pobl sydd dan fygythiad o gael eu diswyddo. Rydym wedi cael nifer fawr o drafodaethau cadarnhaol, fel Llywodraeth Cymru, â chyflogwyr eraill yn yr ardal a allai fod angen sgiliau'r bobl hynny a fydd o bosib yn colli eu swyddi gyda Virgin Media ac mae'r trafodaethau wedi bod yn mynd yn dda. Rwy'n falch o ddweud bod Virgin Media mewn gwirionedd wedi cytuno y bydd yn cydweithredu'n llwyr â'r tasglu, sy'n gam ymlaen sylweddol o'r lle'r oeddem ni o'r blaen. Rydym ni'n parhau i siarad â chyflogwyr mawr eraill yn yr ardal a allai fod angen y sgiliau angenrheidiol ar gyfer y swyddogion sydd wedi'u dadleoli. Mae'n flin iawn gennyf nad ystyriodd Virgin Media fod angen cysylltu â'r Llywodraeth yn gyntaf. Roeddech chi yn y cyfarfod yn ogystal â minnau; roedd y sefyllfa'n un rhwystredig iawn. Ond mae Llywodraeth Cymru wedi camu ymlaen ac yn barod i helpu unrhyw weithwyr sy'n colli eu swyddi o ganlyniad i'r gweithgarwch yno.
O ran y mater am iechyd y cyhoedd, mae ein cynigion i wella iechyd y cyhoedd yn bendant yn cynnwys y berthynas rhwng iechyd a ffordd o fyw. Mae hynny'n cynnwys pob un o'r camau a nodwyd gan yr Aelod, ac, yn wir, maen nhw wedi eu nodi yn ein rhaglen flaenllaw, 'Ffyniant i Bawb'. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn cyflwyno ein nodau a'n huchelgeisiau i hyrwyddo pwysau iachach mewn strategaeth sydd i ddod, y bydd ymgynghoriad arni yn nes ymlaen eleni. Bydd hynny'n cynnwys yr holl fyrddau iechyd lleol a'r partneriaid yn cyflawni yn erbyn y llwybr gordewdra yng Nghymru gyfan. Bydd hefyd yn cynnwys gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chwaraeon Cymru i gyflawni camau gweithredu cenedlaethol i gynyddu lefelau gweithgarwch corfforol ac i ddatblygu bond llesiant, a fydd yn cael ei lansio yn yr wythnosau nesaf. Felly, mae hyn yn amserol iawn.
A gaf i alw am ddau ddatganiad, neu ymatebion i ddau fater? Y cyntaf ar gynllunio gofal ymlaen llaw: yn wir, mae'n wythnos 'Dying Matters' rhwng 14 Mai a 20 Mai. Mae Cymorth Canser Macmillan wedi cyhoeddi ei adroddiad ar gynllunio gofal ymlaen llaw ar draws y DU, gan gynnwys Cymru, o'r enw 'Colli Cyfle'. Maen nhw wedi gofyn i mi, fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar hosbisau a gofal lliniarol, i godi ymwybyddiaeth o'r adroddiad hwn ac i dynnu sylw at y ffaith ei bod yn wythnos 'Dying Matters' yn y Cynulliad yr wythnos hon.
Maen nhw'n annog Llywodraeth Cymru i gyflawni ei hymrwymiadau, yn bennaf o fewn ei chynllun cyflenwi gofal lliniarol a diwedd oes, i gefnogi a chyflwyno cynllunio gofal ymlaen llaw a rhoi systemau ar waith i sicrhau y gweithredir ar gynlluniau gofal ymlaen llaw fel rhan bwysig o wasanaeth iechyd sy'n canolbwyntio ar y person, gan wneud yn siŵr bod pobl sy'n nesáu at ddiwedd eu hoes yn cael y gofal gorau posib a bod eu dymuniadau ar gyfer marwolaeth a marw yn cael eu cyflawni.
Yn fyr, canfu'r adroddiad fod mwy na thri chwarter y bobl â chanser yng Nghymru wedi meddwl am y ffaith y gallent farw o'r clefyd, er bod bron i chwarter y bobl sydd â chanser yng Nghymru yn cael trafferth siarad yn onest am eu teimladau ynghylch canser. Fodd bynnag, mae sgyrsiau manwl gyda gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol a phobl â chanser yn datgelu bod nifer o rwystrau sy'n atal sgyrsiau gonest am farw rhag digwydd. Mae hyn yn cynnwys y pwysau ar bobl barhau i fod yn gadarnhaol a'u cefnogi i ymladd canser hyd yn oed ar ôl cael diagnosis terfynol. Gobeithio y bydd hyn yn haeddu mwy na dim ond ymateb gennych chi nawr, ond hefyd ddatganiad gan Lywodraeth Cymru, o ystyried pwysigrwydd y mater hwn i bob un ohonom ni, gan ei fod yn effeithio ar bob un ohonom ni yn ein bywydau.
Yn ail, ac yn olaf, a gaf i alw am ddatganiad neu hyd yn oed, os meiddiaf ddweud, ddadl yn amser Llywodraeth Cymru ar fater arall sydd yr un mor bwysig, a hwnnw yw cymorth i'r gymuned fyddar a phobl sydd wedi colli eu clyw yng Nghymru, oherwydd mae 14 i 21 Mai yn Wythnos Ymwybyddiaeth o fod yn Fyddar hefyd? Nod Wythnos Ymwybyddiaeth o fod yn Fyddar yw codi ymwybyddiaeth o fod yn fyddar a cholli clyw a'u heriau, sicrhau bod gan bobl fyddar fynediad at wybodaeth a gwasanaethau ar y prif bwynt cyswllt, hyrwyddo mynediad cyfartal mewn lleoliadau iechyd, yn enwedig mewn derbynfeydd, sicrhau bod diagnosis cywir a thriniaeth briodol, darparu gwybodaeth glir a chryno am driniaeth a rheoli iechyd, ac ymgysylltu â chymunedau o bobl fyddar lleol yn rheolaidd a'u cynnwys—hefyd, gwella mynediad at addysg a gofal cymdeithasol, sicrhau bod gan bobl fynediad at yr wybodaeth y mae ei hangen arnynt, eirioli a hysbysu'r llywodraeth a'r cyhoedd yn gyffredinol am fyddardod a cholli clyw, gwella gwasanaethau, ond, yn anad dim, godi proffil a phwysigrwydd cydraddoldeb, hygyrchedd a chydnabyddiaeth i bobl fyddar drwy gefnogi hygyrchedd a chyfathrebu, cyflogaeth, Iaith Arwyddion Prydain a Gemau Olympaidd i bobl fyddar, gan nodi, er enghraifft—a byddaf yn gorffen â hyn—er yr anfonwyd rhestr wirio, a ddatblygwyd i ategu safonau Cymru gyfan ar gyfer cyfathrebu a gwybodaeth i bobl sydd wedi colli cynneddf y synhwyrau, i fyrddau iechyd a sefydliadau iechyd ledled Cymru, mae sefydliadau pobl fyddar yng Nghymru yn dweud nad yw llawer o fyrddau iechyd a sefydliadau wedi mabwysiadu hyn fel ffordd o fynd i'r afael ag anghydraddoldebau a wynebir gan ddefnyddwyr Iaith Arwyddion Prydain yng Nghymru. Rwy'n gobeithio eich bod yn cytuno bod hynny'n haeddu ymateb mwy sylweddol gan Lywodraeth Cymru yn y lle hwn. Diolch.
Ie, ar yr un olaf, yn wir, gan wisgo fy het cydraddoldeb, rwyf wedi bod yn cael cyfres o drafodaethau gyda nifer o gyd-aelodau yn y Cabinet, a chefais gyfarfod defnyddiol iawn gyda Mike Hedges AC ar hyn a hefyd am y gwasanaethau ar gyfer pobl fyddar sy'n ymwneud ag ystod gyfan o faterion, gan gynnwys addysg, lleoliadau iechyd, meysydd cyfathrebu'n gyffredinol ac ati. Mewn gwirionedd, yn rhan o fy mriff fy hun, gan wisgo fy het cydraddoldeb, rwy'n gobeithio y byddaf o leiaf yn ei gynnwys yn rhan o fy natganiad, os nad yn cyflwyno datganiad ar wahân. Felly, bydd gennym ni'r cyfle cyn diwedd tymor yr haf i ymdrin â rhai o'r meysydd hynny yn fy mhortffolio i, oherwydd ein bod wedi bod yn gweithio ar draws y Llywodraeth. Felly, rwy'n cytuno'n llwyr â'r Aelod bod angen cael golwg traws-lywodraethol ar hyn, gan ei bod yn sefyllfa gydol oes i lawer o bobl. Felly, bydd cyfle cyn diwedd tymor yr haf i wneud hynny.
Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi nodi i mi ein bod ni eisoes yn gweithio'n galed iawn i ddatblygu'r llwybrau gofal diwedd oes ac y byddwn ni'n cyflwyno datganiad maes o law, gan nodi'r hyn yr ydym ni'n ei wneud ar hynny hefyd.
Arweinydd y tŷ, rwy'n cyflwyno dau fater i'ch sylw. Neithiwr, bûm mewn cyfarfod cyhoeddus gorlawn yng Nghwmgwrach yng nghwm Nedd—roedd Jeremy Miles yno hefyd—lle y mynegwyd gwrthwynebiad unfrydol i gynllun i adeiladu garej yn y pentref. Nawr, rydym ni wedi lobïo ac ysgrifennu i'r awdurdod lleol ers misoedd lawer. Mae cynlluniau amgen ar gael. Pasiwyd y penderfyniad cynllunio gwreiddiol y llynedd, a dim ond ychydig o bobl oedd yn gwybod am hynny. Mae llawer o ddicter a phryder yn lleol o ran yr hyn a all y Cynulliad hwn ei wneud a'r hyn na all ei wneud. Felly, a gaf i ddatganiad gan y Llywodraeth ar unrhyw newidiadau i ganllawiau cynllunio yn y dyfodol a fydd yn adlewyrchu'n wirioneddol bryderon am faterion o'r fath sydd gan drigolion lleol, na allan nhw apelio, tra gall yr ymgeisydd wneud hynny?
Mae fy ail fater yn ymwneud â bwrdd iechyd Abertawe Bro Morgannwg. Yn ôl ym mis Mawrth, mynegais y ffaith fod bwrdd iechyd lleol Abertawe Bro Morgannwg wedi bod yn destun ymyrraeth wedi'i thargedu gan Lywodraeth Cymru ers mis Medi 2016. Roedd y pryderon a oedd yn bodoli ar y pryd yn canolbwyntio ar ofal heb ei drefnu, gofal wedi'i gynllunio a strôc, ymysg pethau eraill. Mae pryderon o hyd yn lleol o ran cyflawni targedau perfformiad cenedlaethol a gallu Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg i ddarparu gwasanaethau cynaliadwy yn y tymor hir. Ym mis Mawrth, gofynnais i i Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd gyflwyno dadl sy'n canolbwyntio'n benodol ar welliannau yn erbyn blaenoriaethau a dargedwyd gan yr ymyrraeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg. Mewn ymateb, dywedasoch y byddai Ysgrifennydd y Cabinet yn cyflwyno datganiad diwedd y flwyddyn. O ystyried ein bod erbyn hyn wedi pasio diwedd y flwyddyn, a wnewch chi roi manylion i mi o ran pryd y cawn y cyfle hwnnw i graffu ar berfformiad Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, o gofio bod bron dwy flynedd ers iddo gael ei roi o dan ymyrraeth wedi'i thargedu gan Lywodraeth Cymru? Diolch.
Ar hynny, rwy'n deall y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cyflwyno'r datganiad hwnnw cyn bo hir. Felly, byddwch yn cael y cyfle hwnnw. Fe wnaf i hefyd ddweud bod nifer fawr ohonom ni, sy'n gweithio yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg ac yn cynrychioli pobl o'r ardal honno, wedi bod yn cynnal cyfres o gyfarfodydd â'r bwrdd iechyd, y cadeirydd a'r prif weithredwr. Rwy'n gwybod bod nifer o Aelodau eraill y Cynulliad, a David Rees yn arbennig, wedi bod yn codi materion gyda'r bwrdd iechyd ynghylch rhai o'r materion hynny hefyd. Felly, mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol o'r rheini i gyd.
O ran y caniatâd cynllunio, roeddwn i'n ymwybodol bod Jeremy Miles a chithau wedi bod mewn cyfarfod cyhoeddus gorlawn. Yn amlwg, ni allaf wneud sylwadau ar faterion cynllunio unigol, ond mae ymgynghoriad cynllunio yn bodoli ar 'Bolisi Cynllunio Cymru', a byddai hynny'n bwynt priodol i gynnwys unrhyw beth y credwch chi sydd ar goll o hynny, gan gynnwys rhai o'r materion sydd bob amser yn cael eu codi gyda phob un ohonom ni ynghylch yr hyn y gall pobl sy'n gwrthwynebu cais ei wneud yng ngoleuni rhoi caniatâd cynllunio pan nad ydyn nhw'n hapus iawn am y peth. Ac rwy'n siŵr, Llywydd, fod hynny'n rhywbeth y mae pob un ohonom yn ei gael yn ein sach bost bob dydd o'r wythnos. Felly, mae'n amser priodol i roi hynny yn yr ymgynghoriad.
Yn dilyn adolygiad y grŵp gorchwyl a gorffen o gymorth bwydo ar y fron a'r arferion mewn lleoliadau mamolaeth a blynyddoedd cynnar, sydd newydd ei gyhoeddi, a fyddai arweinydd y tŷ yn edrych am gyfleoedd inni dynnu sylw at bwysigrwydd bwydo ar y fron ac i drafod y materion a godwyd yn y ddogfen hon, gan ei bod yn gwbl hanfodol i iechyd ein plant bod menywod yn cael eu hannog a'u cefnogi i fwydo ar y fron yn y dyfodol? Rwy'n credu bod pob un ohonom ni yn ymwybodol bod y cyfraddau bwydo ar y fron wedi bod yn sefydlog yng Nghymru am nifer o flynyddoedd.
Cododd yr Aelod bwynt pwysig iawn, ac unwaith eto, mewn cyfarfod yn fy etholaeth i yn ddiweddar iawn, gyda thristwch y dywedaf fy mod i'n siomedig iawn bod menywod ifanc heddiw yn cael yr un profiadau â'r rhai a gefais i yn ceisio bwydo fy mhlant i fy hun ar y fron ryw 30 mlynedd yn ôl. Nid yw hynny'n ddigon da. Ac mae nifer o bethau y gallwn ni eu gwneud ar draws y Llywodraeth. Nid yw hyn yn ymwneud ag iechyd yn unig, yw e? Mae'n ymwneud â'r hyn sy'n dderbyniol yn gymdeithasol a gallu pobl i fod yn gyfforddus â'r hyn sydd, wedi'r cyfan, yn swyddogaeth naturiol iawn ac ati. Fel y dywedasoch, sefydlwyd grŵp o arbenigwyr i edrych ar y materion a rhoi argymhellion. Cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad ysgrifenedig yr wythnos diwethaf, ac mae'n nodi y byddai'n fwy na pharod i drefnu cyfarfod ag un o'r uwch swyddogion nyrsio o swyddfa'r prif swyddog nyrsio pe bai'r Aelodau eisiau trafod hyn ymhellach. Ac yna, yn ddibynnol ar ganlyniad hynny, cawn weld beth y gallwn ei wneud i fwrw ymlaen ag ef.
Arweinydd y tŷ, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd ar yr amseroedd aros am lawdriniaeth ddargyfeiriol ar y galon yng Nghymru? Mae ystadegau swyddogol yn dangos bod cleifion wedi bod yn aros ar gyfer llawdriniaeth 79 diwrnod ar gyfartaledd rhwng mis Ebrill 2016 a mis Mai 2017, o gymharu â 43 diwrnod y flwyddyn flaenorol. Yr amser aros cyfartalog am lawdriniaeth ddargyfeiriol ar y galon yn Lloegr oedd 51 diwrnod, 28 diwrnod yn llai nag yng Nghymru. A gawn ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet ar aros hir annerbyniol hwn am lawdriniaeth hanfodol?
Fy ail gais at y Gweinidog cyllid yw: ychydig cyn gwyliau'r Pasg, rhoddwyd £6 miliwn i Faes Awyr Caerdydd. Rwy'n eithaf sicr mai cyllid cyhoeddus sy'n mynd am resymau da ydyw, ond rwy'n credu bod gennym ni'r hawl i ofyn ble roedd yr arian hwn yn mynd, ac i ba gyfeiriad, gan fod y cwmni, neu faes awyr, mewn gwirionedd—daeth Qatar yn gynharach y mis hwn. Felly, i ba ddiben roedd y chwistrelliad ariannol, a sut mae'r busnes sy'n gwneud elw yn mynd i gael ei wella ym Maes Awyr Caerdydd? Diolch.
Mae'r Aelod yn codi pwyntiau ei fod yn amlwg yn teimlo yn agos at ei galon, ond mae adegau priodol i ofyn y cwestiynau hynny—cwestiynau penodol iawn—i Ysgrifenyddion Cabinet amrywiol yn ystod cwestiynau llafar y Cynulliad, neu, yn wir, mewn cwestiynau ysgrifenedig, a dydw i ddim yn meddwl bod y naill na'r llall ohonyn nhw'n haeddu datganiad gan y Llywodraeth. Byddwn yn awgrymu i'r Aelod naill ai eu rhoi fel cwestiynau ysgrifenedig neu, yn wir, eu codi yn ystod cwestiynau llafar y Cynulliad gyda'r Ysgrifennydd Cabinet perthnasol, sef yr wythnos nesaf, mewn gwirionedd.
Mae gen i ddau fater yr hoffwn i eu codi efo chi, os gwelwch yn dda. Y cyntaf: yn y cytundeb cyllideb rhwng Plaid Cymru a Llafur, fe neilltuwyd £2 filiwn tuag at hyrwyddo cydweithio rhwng siroedd y gorllewin ar faterion strategol ieithyddol ac economaidd. Yn anffodus, mae yna ddryswch o hyd ynglŷn â pha Ysgrifennydd Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros y cynllun pwysig yma, neu o leiaf nid ydym yn gallu cael y wybodaeth honno. A fedrwch chi ysgrifennu ataf fi, tybed, efo eglurder ynglŷn â hynny? Mae gan Blaid Cymru gynllun sydd wedi cael ei ddatblygu efo arweinwyr llywodraeth leol, ac mae angen i hwn gael ei roi ar waith cyn gynted â phosib.
Yr ail beth ydy’r cyhoeddiad yr wythnos ddiwethaf bod awdurdod tân ac achub y gogledd yn wynebu toriadau cyllid sylweddol, a bod yna nifer o opsiynau wedi cael eu cyflwyno, yn cynnwys torri ar wasanaethau yn fy etholaeth i. Ar hyn o bryd, rwy’n deall bod yna ymgynghoriad yn mynd ymlaen ynglŷn â llywodraethiant ac ariannu, ac efallai byddai’n gwneud mwy o synnwyr i hwnnw ddigwydd yn gyntaf cyn bod unrhyw doriadau yn dod. Felly, a gawn ni ddatganiad gan eich Llywodraeth chi am ddyfodol y gwasanaethau tân ac achub ar draws Cymru, os gwelwch yn dda?
Ar yr ail un, mae'n hollol iawn y dylem ni gael ymgynghoriad. Bydd cyfle i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet am hynny. Pryder penodol iawn yw'r hwn yr ydych chi, Siân Gwenllian, yn ei godi, a dydw i ddim yn siŵr fy mod i wedi deall yn llwyr. Felly, efallai os na fyddai ots gennych chi i ysgrifennu gyda'r pryder penodol iawn hwnnw, gallem ni ymdrin â hyn yn fwy uniongyrchol. Ond ymddiheuriadau; nid wyf yn siŵr y daliais y pwynt yr oeddech chi'n ei godi, heblaw'r pwynt cyffredinol am y peth. Felly, efallai na fyddai ots gennych chi i ysgrifennu am hyn yn benodol.
O ran y cyntaf, mae Ysgrifennydd y Cabinet yn nodi i mi ei fod yn fwy na pharod i egluro beth yw'r trefniadau ar gyfer setliad y gyllideb.
Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl yw'r wythnos hon hefyd a phrif bwyslais yr ymgyrch eleni yw straen. Rwy'n hynod falch o fod yn gwisgo fy rhuban gwyrdd heddiw yn y Siambr i gefnogi'r Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl. Rwyf eisiau dechrau drwy ddiolch i'r holl Aelodau o ar draws y Siambr, ac i'w staff cynorthwyol a staff y Cynulliad, am ymuno â mi y tu allan yn gynharach ar risiau'r Senedd am lun i gefnogi'r ymgyrch. Mae dod ynghyd i ddangos cefnogaeth mor bwysig, ac mae'n mynd yn bell yn dweud ei bod yn iawn i beidio â bod yn iawn.
Mae gennyf i ddau beth yr hoffwn eu codi heddiw yn enwedig. Yn gyntaf, a wnaiff arweinydd y tŷ ymuno â mi i dalu teyrnged i'r miloedd o bobl sy'n gweithio i elusennau a mudiadau sy'n helpu pobl gyda salwch meddwl?
Yn olaf, hoffwn i gymryd amser ac achub ar y cyfle i gofnodi a rhoi gwybod i'r Aelodau ac i'r cyhoedd cyffredinol ehangach hwn fod fy nheulu a minnau yn falch iawn o gyhoeddi y rhodd gyntaf gan gronfa goffa Carl Sargeant. Gan mai hon yw Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, rydym ni wedi penderfynu rhoi arian o'r gronfa tuag at Cruse yng Ngogledd Cymru. Mae Cruse yn darparu cymorth, cyngor a gwybodaeth hanfodol ar gyfer profedigaeth, i blant, pobl ifanc ac oedolion sydd eu hangen pan fydd rhywun yn marw, ac rwy'n gwybod yn bersonol pa mor bwysig yw'r gefnogaeth honno. Rwy'n gobeithio y bydd y rhodd hon yn chwarae rhyw ran i sicrhau y gall sefydliadau fel Cruse a chynifer eraill barhau i gynnig y cymorth iechyd meddwl hanfodol sydd mor bwysig i bobl ledled gogledd Cymru a'r DU gyfan, ar gyfer y rhai sydd ei angen yn daer. Diolch.
Wrth gwrs fy mod i'n falch iawn o ymuno â chi i longyfarch a bod yn ddiolchgar iawn i'r holl bobl sy'n gwirfoddoli mewn gwasanaethau iechyd meddwl ledled Cymru, ac yn wir ar draws y DU a'r byd. Wrth gwrs, y peth gwych am hynny yw ein bod yn gwybod bod gwirfoddoli hefyd o gymorth â'ch problemau iechyd meddwl eich hun, felly mae'n arbennig o rinweddol, ac rwy'n falch iawn o annog a chanmol. Rwy'n falch iawn o glywed am y rhodd gyntaf gan gronfa goffa Carl Sargeant. Rwy'n siŵr y bydd y sefydliad yn falch ac rwy'n siŵr y byddai eich tad wedi bod yn falch iawn o hyn hefyd.
Roeddwn i'n falch iawn o fod yn rhan o'ch llun. Dewisais y poster hwn yn benodol, Llywydd, sy'n dweud, 'Rydym ni i gyd yn wahanol, derbyniwch a byddwch yn falch o bwy ydych chi, yn hytrach na dymuno bod yn fwy fel rhywun arall'. Rwy'n falch iawn o gael hynny, oherwydd, wrth gwrs, mae'n mynd ochr yn ochr â'n hymgyrch 'Dyma fi', a rydym ni'n awyddus iawn i'w hyrwyddo ac mae'n ymwneud ag ymwybyddiaeth o iechyd meddwl. Mae a wnelo hefyd â pheidio â stereoteipio, yn enwedig stereoteipio o ran rhywedd, ond unrhyw fath o stereoteipio, oherwydd bod hynny hefyd yn bwysig iawn i iechyd meddwl. Mae'n bwysig iawn inni i gyd dderbyn pwy ydym ni a bod pawb o'n hamgylch yn derbyn pwy ydym ni hefyd. Felly, yr oeddwn yn falch iawn o fod yn rhan o hynny, Jack, a llongyfarchiadau ar y rhodd gyntaf honno.
A gaf i ymuno â sylwadau Jack Sargeant? Roeddwn i'n falch o fod yn y cinio coffáu chwe mis yr wythnos diwethaf. Rwy'n falch o glywed bod tua £3,000 wedi eu codi yn y cinio hwnnw, a chredaf fod y penderfyniad i roddi'r gyfran gyntaf o arian i'r elusen Cruse yn y gogledd yn un da iawn. Rwy'n gwybod y byddai Carl wedi ymfalchïo yn eich ymdrechion yn hyn o beth, a hefyd o'r gefnogaeth a ddaeth iddo gan Aelodau'r Cynulliad.
Yn ail, a gaf i ddweud y cefais y pleser ddoe o fod, ynghyd â'r Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, sy'n ymfoddi yn ei negeseuon e-bost acw—cafodd eich enw ei grybwyll—yn lansiad arddangosfa Amgueddfa'r Lleuad yn abaty Tyndyrn? Gallaf i weld eich bod yn edrych yn syfrdan—'Beth yw hwn?'. Roeddwn yn teimlo yr un modd tan i mi fynd. Roedd yn arddangosfa gelf gan yr arlunydd Luke Jerram sydd wedi cael clod rhyngwladol—digwyddiad gwych iawn, ac roedd lleuad fawr 7m wedi ei hongian yng nghanol abaty Tyndyrn. Yn ystod y nos, mae hon yn cael ei goleuo ac mae'n cynnig sioe anhygoel i bobl leol ac i ymwelwyr hefyd. Mae hynny'n denu math gwahanol o dwristiaid o ledled y byd, fel y gall arddangosfeydd celf ei wneud. Felly, tybed a gawn ni ddatganiad yng ngoleuni'r digwyddiad ddoe, gan y Gweinidog, ynglŷn â sut—peidiwch â phoeni, nid yn y dyfodol agos, mae gennych chi amser i feddwl am y peth—rydym ni'n mynd i ddefnyddio ein hadeiladau hanesyddol mawr, megis abaty Tyndyrn, fel lleoliadau ar gyfer gwahanol fathau o ddigwyddiadau i ddenu gwahanol fath o dwristiaid, fel ein bod yn manteisio i'r eithaf ar y diwylliant a'r dreftadaeth sydd gennym ni yng Nghymru, gan ddwyn ynghyd meysydd gwahanol fel y gall pobl o bob cwr o'r byd elwa o'r gorau y mae gan Gymru i'w gynnig.
Rwy'n siŵr y bydd yr Aelod yn ymwybodol ei bod yn anodd iawn i wneud yn siŵr fod y Gweinidog yn cymryd ei ran gywir o amser y Cyfarfod Llawn, felly bydd yn falch iawn o gyflwyno datganiad cyhyd ag y gallaf i roi iddo'r amser ar ei gyfer, rwy'n siŵr. Mae'n rhaid imi ddweud, Llywydd, ei bod yn ymddangos i mi i ei fod yn gwneud taith o amgylch lleoedd sy'n cychwyn gyda 'T', oherwydd fy mod i'n ymwybodol o sawl un arall hefyd. Bydd yn rhaid i mi gael gair gyda fy ysgrifennydd dyddiadur am gael rhai gigs gwell fy hun, i rai o'r digwyddiadau diwylliannol hyn.
Ond o ddifrif, wrth gwrs, y defnydd effeithiol a chreadigol o'n mannau treftadaeth hardd yw'r hyn sy'n dod â hwy i fywyd ac sy'n denu gwahanol fathau o bobl sy'n cael eu denu gan wahanol fathau o ddigwyddiadau diwylliannol mewn gwirionedd. Mae bob amser yn braf gweld hen adeilad yn dod yn fyw drwy rywbeth ychydig yn annisgwyl. Nid wyf wedi gweld y lleuad yn cael ei hongian yn abaty Tyndyrn. Efallai y dylwn i wneud pererindod i'w gweld. Ond ceir nifer o hen adeiladau yn fy etholaeth i lle mae cael arddangosfa gelf y tu mewn iddynt wedi rhoi bywyd newydd iddynt yn wir mewn ffordd wahanol, ac wedi dwyn agweddau ar yr adeilad i fywyd mewn ffordd, efallai, na fyddech chi wedi'i gweld pe byddech chi wedi dod i arfer â'r adeilad, hyd yn oed pe byddech chi'n ei ddefnyddio llawer. Felly, rwy'n hapus iawn i ganmol y defnyddiau creadigol hynny i dynnu sylw at rinweddau artistig a diwylliannol ein holl bethau. Rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn cyflwyno datganiad cyn gynted ag y gallaf sicrhau amser ar ei gyfer ar agenda'r Cyfarfod Llawn i wneud hynny.
Fel yr amlinellodd fy nghyd-Aelod o Blaid Cymru eiliad yn ôl, wrth gwrs, cyfarfu panel gweithredol Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru ddoe i drafod £1.9 miliwn o doriadau yn ei gyllideb i sicrhau bod y llyfrau ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf wedi eu mantoli, ac mae'r cynigion yn cynnwys eto, wrth gwrs, doriadau i'r gwasanaethau rheng flaen. Nawr, mewn termau ymarferol, gallai hynny olygu colli un o'r ddwy injan tân amser-cyflawn sydd gennym ni yn Wrecsam. Gallai olygu lleihau gwasanaethau ar draws trefi eraill yn y gogledd—Bae Colwyn, y Rhyl a thu hwnt, wrth gwrs—yn ogystal â lleihau nifer fawr o orsafoedd wrth gefn. Nawr, llwyddodd pobl leol drwy brotest mawr i guro'r bygythiad i un o injans Wrecsam y llynedd, yn effeithiol, ac os caiff cynigion tebyg eu cyflwyno, byddwn i'n dychmygu y byddwch chi'n gweld, a hynny'n briodol, yr un ymateb lleol unwaith eto. Mae'r Llywodraeth ei hun yn rhagweld cynnydd serth yn y boblogaeth dros y blynyddoedd i ddod, ond, wrth gwrs, nid yw cyllid ar gyfer y gwasanaethau hynny yn adlewyrchu'r cynnydd posibl yn y galw hefyd.
Nawr, rwy'n gwybod bod yr Ysgrifennydd dros wasanaethau cyhoeddus yn gobeithio cael y drafodaeth honno ynghylch dyfodol y gwasanaethau tân sydd gennym ni yng Nghymru, yn enwedig o ran atebolrwydd, ond mae'n rhaid inni hefyd drafod cynaliadwyedd o ran ariannu ar gyfer y gwasanaethau hyn, oherwydd, pa bynnag ddull yr ydym yn ei ddewis, ai cyllid uniongyrchol drwy'r praesept neu beth bynnag a ddaw allan o'r drafodaeth hon, mae'n rhaid inni fod yn glir bod yn rhaid peidio â cholli'r swyddi hyn, rhaid i ni beidio â cholli'r gwasanaethau hyn. I'r bobl hynny sydd yn dal i fod yn dadlau o blaid cyni, mae'n rhaid iddyn nhw sylweddoli bod hyn yn y rheng flaen, ac mae'r toriadau hyn yn costio bywydau. Felly, a gawn ni ddatganiad clir gan yr Ysgrifennydd a'r Llywodraeth hon o ran lle mae'r gwasanaeth hwn yn mynd yn y blynyddoedd i ddod a sut, fel Llywodraeth, gallwch chi sicrhau cynaliadwyedd y gwasanaethau tân ac achub hanfodol hyn?
Mae'r Aelod yn gwneud pwynt pwysig iawn, ac, fel y dywedwn bob amser, mae'n amhosibl cael agenda cyni heb gael effaith wirioneddol ar fywydau pobl. Rwyf wedi dweud droeon yn y Siambr hon nad ydym ni'n wynebu unrhyw ddewis da o gwbl. Nid ydym yn torri pethau ein bod yn credu nad ydyn nhw'n dda o gwbl; rydym ni'n torri pethau yr ydym ni'n gwybod eu bod yn bwysig i bobl, oherwydd mai dewis gwleidyddol yw cyni ac nid ydym yn cytuno ag ef ac mae canlyniadau difrifol iawn i'r gwasanaethau cyhoeddus. [Torri ar draws.] Yn hollol. Felly, rwy'n deall yn llwyr yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud. Rydych chi wedi gwneud pwynt da iawn, a chlywodd Ysgrifennydd y Cabinet yr hyn y gwnaethoch ei ddweud hefyd ac rwy'n siŵr y bydd yn ymateb maes o law.
Mae'n ffaith bod crebachu gwasanaethau anstatudol llywodraeth leol ledled y DU yn digwydd oherwydd yr agenda cyni yn y DU, ond byddaf yn gadael hynny. Felly hoffwn i ofyn am ddatganiad i'r lle hwn ar statws ac iechyd y gwasanaethau cymorth cerddoriaeth ledled Cymru a'r hyfforddiant offerynnol â chymhorthdal a'r mynediad cynyddol i ensembles a ddarperir ganddyn nhw. Hoffwn i ofyn i'r datganiad hwn gynnwys asesiad o ysgolion sydd ar hyn o bryd heb fynediad at wasanaeth cymorth cerddoriaeth neu sydd yn y broses o golli un, a gwerthusiad o'r effaith sydd gan ddiffyg gwasanaeth cymorth cerddoriaeth ar gydraddoldeb o ran mynediad at addysg perfformiad cerddorol i fyfyrwyr tlotach ledled Cymru.
Mae'r Aelod yn codi hyn droeon yn y Siambr ac yn amlwg mae'n teimlo'n gryf iawn dros hyn ac wedi dod â nifer o ddigwyddiadau i'r Senedd, mewn gwirionedd, sy'n dangos ei bwysigrwydd. Mae'n sgwrs yr ydym ni wedi cael sawl gwaith ar draws y Llywodraeth ynglŷn â sut orau y gallwn gefnogi'r gwasanaeth cerddoriaeth, ac rwy'n gwybod ei bod yn ystyriaeth weithredol ar gyfer nifer o Ysgrifenyddion Cabinet a Gweinidogion. Felly, gall yr Aelod fod yn sicr ein bod yn ei gymryd o ddifrif iawn ac mae'n rhywbeth yr ydym ni wrthi'n ei ystyried yn weithredol.
Ac yn olaf, Bethan Sayed.
Diolch. Hoffwn i gytuno â'r sylwadau a wnaed gan Jack Sargeant ynglŷn â phwysigrwydd Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl a'r ffaith y gallwn ni, lle y bo'n bosibl, weithio gyda'n gilydd i gynorthwyo ein gilydd. Rwy'n credu roedd hynny'n rhywbeth ddaeth at y bwrdd oddi wrthych chi, felly, diolch i chi, Jack, am hynny.
Roeddwn i eisiau ymhelaethu ar y sylwadau a wnaed gan Simon Thomas o ran Palesteina. Rwyf wedi cael llawer o negeseuon e-bost ynglŷn â hyn. Mae hwn yn fater a'n syfrdanodd yn wir oherwydd y trais mewn gwirionedd. Cafodd 58 o bobl eu lladd yn y brotest. Heddiw, mae Senedd yr Alban yn cael dadl ar ddyfodol Palestina, ac rydym ni wedi cael consensws yma yn y gorffennol lle mae'r rhan fwyaf o Aelodau'r Cynulliad wedi cydnabod bod angen inni gael gwladwriaeth ar ei chyfer fel cenedl, ac yn meddwl tybed a allem ni gael dadl arall yma yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i roi arweiniad ar y mater hwn, oherwydd ei bod yn amlwg bod cyfraith ryngwladol yn cael ei thorri, ac ni allwn ni eistedd yn segur. Er nad oes gennym ni bwerau dros faterion rhyngwladol, mae dal yn golygu y gallwn gymryd y tir uchel moesol ac y gallwn ddangos arweiniad yn y maes penodol hwn. Felly, byddwn i'n annog dadl ar y mater hwn yn hytrach na datganiad, pe byddai hynny'n bosibl.
Roedd yr ail fater yr oeddwn i eisiau ei godi yma heddiw o ran sefydliad glowyr Resolfen. Nawr, rwy'n gwybod bod llawer o Aelodau'r Cynulliad o bleidiau gwahanol—unwaith eto, ar sail dull consensws yma—wedi ymweld ag ef ac wedi gweld yr hyn y maen nhw eisiau ei gyflawni yno o ran uwchraddio sefydliad y glowyr. Mae'n adeilad anferth, ond gallai fod yn adnodd gwych i bobl leol. Ond mae cyllid bob amser yn broblem, felly roeddwn yn meddwl tybed a allem gael datganiad neu ddadl ar gymorth gan Lywodraeth Cymru ar gyfer treftadaeth ddiwydiannol i geisio trafod rhai o'r materion hyn sy'n her i bobl leol o ran sut y gallan nhw ddatblygu eu cronfeydd i wneud yr adeiladau anhygoel hyn yn benodol yn rhai hyfyw unwaith eto. Mae ganddyn nhw ofod i theatr a sinema, ond byddai'n costio rhywfaint o arian i wneud hynny'n realiti. Rwy'n gwybod bod rhai o'r cynlluniau hyn wedi bod yn llwyddiannus mewn rhannau eraill o Gymru, ac nid ydym eisiau colli'r dreftadaeth hon. Nid ydym eisiau i hynny fynd, fel y nodwyd yn gynharach ynghylch Merthyr Tudful. Felly, os gwelwch yn dda, a gawn ni ddatganiad ar bwysigrwydd treftadaeth ddiwydiannol?
Ie. Rwy'n credu, ynglŷn â'r ail sylw, rydw i wedi bod yno mewn gwirionedd. Mae'n adeilad hardd iawn, yn wir. Mae gan Lywodraeth Cymru nifer o gynlluniau, gan gynnwys y posibilrwydd o roi talebau, trosglwyddo asedau cymunedol a defnyddio cyllid yn greadigol ac ati, y gellir eu defnyddio er mwyn achub peth o'n treftadaeth ddiwydiannol. Bydd yr Aelod yn maddau i mi—rwy'n gwybod ei fod yn ei rhanbarth hi hefyd—ond un o'r enghreifftiau yr wyf i'n arbennig o hoff ohonyn nhw ar hyn o bryd yw datblygiad Copperopolis yn etholaeth Mike Hedges yn Abertawe, sy'n dod â llawer o dreftadaeth ddiwydiannol Cwm Tawe yn fyw, sy'n fater o bwys hanesyddol mawr i Gymru gyfan, ond yn enwedig i fy nheulu fy hun hefyd.
Felly, mae'n wych gweld y rheini, ac mae'n hyfryd gweld hen adeiladau a godwyd drwy ymdrechion y werin yn aml iawn yn cael eu hadfywio yn y ffordd honno, fel yr oeddwn i'n ei ddweud. Felly, rwy'n credu ei fod yn fater pwysig iawn. Byddaf yn cael rhywfaint o drafodaethau ymysg Ysgrifenyddion y Cabinet a Gweinidogion dim ond i weld sut orau y gallwn ni amlygu elfennau o hynny. Mae'r Aelod yn gwneud pwynt da ynglŷn â sut rydym ni'n tynnu sylw at y ffyrdd gwahanol o achub rhai elfennau o dreftadaeth ddiwydiannol ac adeiladau, a chyfeiriwyd at nifer o faterion—nid yn lleiaf y dreth trafodiad tir, mewn gwirionedd—y gallwn ni eu hystyried i weld beth y gallwn ni ei wneud gydag adeiladau segur ac ati, i annog perchnogion i'w defnyddio drachefn. Mae gan bob un ohonom ni nifer o'r rheini yn ein rhanbarthau a'n hetholaethau hefyd. Felly, byddaf yn sicr yn ystyried hynny ac yn gweld beth allwn ni ei wneud i dynnu sylw ato.
Ac, fel y dywedais ynglŷn â Gaza, nid yw geiriau yn ddigon i ddisgrifio'r arswyd a welsom yn datblygu yno. Fel y dywedais, mae'n broblem hynod gymhleth yn y dwyrain canol, ac mae hi yn ymddangos ein bod mewn cylch arbennig o dreisgar ar hyn o bryd, a hwnnw'n cyflymu, sydd o bryder difrifol i bob un ohonom ni. Fel y dywedais wrth Simon Thomas, byddaf yn trafod gyda'r Prif Weinidog beth orau y gallwn ni ei wneud i ddangos barn y lle hwn ar y mater.
Diolch i arweinydd y tŷ.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar Fesur yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael). Rydw i'n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid i wneud y cynnig—Mark Drakeford.
Cynnig NDM6722 Carwyn Jones
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU barhau i ystyried darpariaethau Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu’n addasu’r cymhwysedd hwnnw.
Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Llywydd. Rwy'n cynnig y cynnig, sy'n cynnig y dylai'r Cynulliad roi ei gydsyniad i'r Bil seneddol wneud darpariaeth newydd ar faterion o fewn ac ynglŷn â chymhwysedd deddfwriaethol datganoledig y Cynulliad. Nid oes, wrth gwrs, unrhyw beth anarferol am hynny. Gofynnwyd i'r Cynulliad wneud hynny dros 100 o weithiau. Treuliwyd llawer o wythnosau a misoedd hir yn negodi canlyniad newydd i gymal 11 o'r Bil ymadael gwreiddiol. Rwy'n gwybod, fodd bynnag, fod agweddau eraill ar y Bil sy'n peri pryder i'r Aelodau, a soniaf yn fyr am yr agweddau hynny yn gyntaf.
Mae llawer o'r elfennau mwy annerbyniol yn y Bil gwreiddiol—hepgor y siarter hawliau sylfaenol, gormod o bwerau Harri'r VIII a darpariaethau annigonol i'r Senedd allu craffu ar y pwerau hyn, y risg i'r amgylchedd, y farchnad lafur a hawliau defnyddwyr—bellach wedi eu haddasu yn Nhŷ'r Arglwyddi a bydd fy mhlaid yn amddiffyn pob un o'r newidiadau hynny pan fydd y Bil yn dychwelyd i Dŷ'r Cyffredin.
Yn uniongyrchol ym maes datganoli, roedd y Bil hefyd wedi ei ddiwygio yn Nhŷ'r Arglwyddi i gyfyngu ar y defnydd o bwerau cymal 7, fel na ellir bellach eu defnyddio i ddiwygio Deddf Llywodraeth Cymru, ac fe ddiwygiwyd y Bil ymhellach i ddileu cyfyngiadau arfaethedig ar Weinidogion datganoledig o ran cadw cyfraith uniongyrchol yr UE o fewn cymhwysedd datganoledig. Ond o safbwynt darparu cydsyniad deddfwriaethol, cymal 11 oedd wrth wraidd ein gwrthwynebiad i'r Bil pan gyhoeddwyd ef yn gyntaf, a'r gwelliannau i'r cymal hwnnw a'r cytundeb rhynglywodraethol cysylltiedig sydd wrth wraidd ein hystyriaeth heddiw.
Caniatewch imi fod yn glir, Llywydd, fod y Bil y gofynnir i'r Cynulliad Cenedlaethol roi cydsyniad iddo heddiw yn darparu bod pob un o'r 64 maes cyfrifoldeb sydd ar hyn o bryd yn cael eu harfer drwy'r Undeb Ewropeaidd yn parhau yma yng Nghymru. Fel y dywed adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ynglŷn â'r ail femorandwm cydsyniad deddfwriaethol a gyhoeddwyd,
'y sefyllfa ddiofyn yw na chyffyrddir â chymhwysedd y Cynulliad.'
Ar y diwrnod y daw'r Bil yn Ddeddf Seneddol, dyna fydd y sefyllfa; bydd pob un o'r 64 maes hwnnw yn y fan yma. Dyna beth y gofynnir ichi bleidleisio o'i blaid heddiw. Ar ôl hynny, mae'r Bil yn darparu, drwy reoliadau, a fydd, o ganlyniad i'r cytundeb rhynglywodraethol, yn ddarostyngedig i gydsyniad y Cynulliad hwn, bydd rhai agweddau o rai meysydd yn parhau i weithredu o dan reolau presennol yr Undeb Ewropeaidd—i beidio â newid y rheolau ond i sicrhau eu bod yn parhau fel y maen nhw heddiw, ac i barhau hyd nes gellir cytuno ar reolau newydd. Bob tro y digwydd hynny, Llywydd, ac y gwneir cynnig y dylai rheolau presennol yr Undeb Ewropeaidd barhau i fod ar waith, bydd hynny yn ddibynnol ar gydsyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Byddai hynny'n golygu, ar 24 achlysur unigol gwahanol, y gellid gofyn i'r Cynulliad hwn a yw'n barod i gydsynio i ymestyn dros dro y rheolau yr ydym ni ar hyn o bryd yn gweithredu o danynt. Does dim rhyfedd i Brif Weinidog yr Alban grynhoi hyn yn ei llythyr at Brif Weinidog y DU yn y modd hwn. Roedd yn cyfeirio at y gwaith a wnaed yn y Cyd-bwyllgor Gweinidogion gan David Lidington, Michael Russell ar ran yr Alban, a minnau ar ran Cymru. Dywed Nicola Sturgeon,
Rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol wrth gytuno ar y meysydd lle mae cymhwysedd datganoledig yn dylanwadu ar gyfraith yr UE lle gallai fframweithiau cyffredin fod yn angenrheidiol ac yn cytuno ar hynny wrth inni weithio drwy fanylion y fframweithiau hynny, ac y dylid cynnal rheolau presennol yr UE—
rheolau presennol, Llywydd—
am gyfnod dros dro ar ôl ymadael.
Mewn geiriau eraill, does dim yn newid. Fel y dywed Prif Weinidog yr Alban, beth rydym ni'n cytuno yw bod rheolau cyfredol yn parhau hyd nes y bydd pob un ohonom ni'n cytuno y gellir eu disodli â rhywbeth gwell.
Llywydd, yn y cytundeb yr ydym ni wedi dod iddo, bydd y pwerau gwneud rheoliadau a gaiff eu defnyddio i roi'r trefniadau dros dro newydd hyn ar waith yn amodol ar gonfensiwn Sewel fel bod y cytundeb yn golygu na all y Senedd gymeradwyo rheoliadau oni bai bod y deddfwrfeydd a'r gweinyddiaethau datganoledig wedi rhoi eu caniatâd. Nawr, yn gwbl unol â chonfensiynau presennol, pe byddai Gweinidogion y DU yn ceisio gweithredu'r rheoliadau os bydd deddfwrfa yn gwrthod caniatâd, yna mae'r cytundeb hwn yn sicrhau bod amddiffynfeydd newydd sbon ar gyfer datganoli—amddiffynfeydd sydd erioed wedi bodoli cyn hyn. Oherwydd, pe byddai Gweinidogion y DU yn penderfynu eu bod yn meddwl yr hoffent weithredu yn y modd hwnnw—a chofiwch, nid lle Gweinidogion y DU yw penderfynu a allan nhw weithredu yn y ffordd honno ai peidio—yna mae'r cytundeb yn sicrhau'r sefyllfa y gofynnir i'r ddau Dŷ Seneddol ar wahân a ddylid gwneud y rheoliad, a bydd angen pleidlais gadarnhaol yn Nhŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi ill dau—Tŷ'r Arglwyddi, lle nad oes mwyafrif gan y Llywodraeth, lle mae hi wedi cael ei threchu 14 gwaith ar ei Bil ymadael ei hun. Gofynnir i Dŷ'r Arglwyddi benderfynu a ddylai'r Llywodraeth fynd yn ei blaen ai peidio. Pan fydd yn gwneud y penderfyniad ynglŷn â gweithredu neu beidio, bydd yn gwneud y penderfyniad hwnnw am y tro cyntaf erioed ar sail gwybodaeth ddiduedd. Bydd ganddo farn Llywodraeth y DU ei hun, ond bydd ganddo hefyd, am y tro cyntaf, wybodaeth a ddarperir yn annibynnol gan y gweinyddiaethau datganoledig.
Roeddwn yn dilyn hynny yn agos, ond efallai y gall ef fy helpu i yma, oherwydd bod pawb arall, mae'n ymddangos—fel y clywsom ni gan arweinydd Plaid Cymru yn gynharach—yn eich plaid eich hun, Plaid Lafur yr Alban, ac arweinydd Plaid Lafur y DU, yn credu bod y darpariaethau hynny yr ydych chi newydd eu hamlinellu yn sarhad ar ddemocratiaeth ac yn sarhad ar egwyddorion datganoli democrataidd. Pam ydych chi'n gywir a nhw'n anghywir?
Beth yw hi ynglŷn â datganoli, Llywydd, nad yw Plaid Cymru yn ei ddeall? [Torri ar draws.] Ble maen nhw wedi bod? [Torri ar draws.] Ble maen nhw wedi bod wedi dros yr 20 mlynedd diwethaf? Mae gwleidyddion yr Alban yn gwneud penderfyniadau yn seiliedig ar yr hyn y mae'n nhw'n credu sy'n iawn ar gyfer yr Alban. Mae'r Cynulliad hwn yn gwneud penderfyniadau ar yr hyn yr ydym ni'n credu sy'n iawn i Gymru. Beth yw hi ynglŷn â'r gosodiad syml hwnnw y mae Plaid Cymru yn ei chael hi mor anodd deall?
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Yr olaf un, Llywydd.
Er bod y setliad datganoli efallai yn wahanol i'r Alban ag ydyw ar gyfer Cymru, er efallai bod cwestiynau gwahanol o ran beth i'w wneud â phwerau gwahanol yn yr Alban ac yng Nghymru, yr un yw'r egwyddor, a'r egwyddor yma yw, o ran yr Alban, mae pobl allweddol yn eich plaid, gan gynnwys arweinydd eich plaid, yn credu bod hyn yn sarhad ar ddemocratiaeth, ond yng Nghymru am ryw reswm nid yw. Yr un peth ydyw yn union o ran yr egwyddor.
Mae hynny'n ddiffyg dealltwriaeth llwyr, Llywydd. Lle pobl yn yr Alban yw rhoi sylwadau ar yr hyn sy'n digwydd yn yr Alban, a'u lle nhw yw rhoi sylwadau ynglŷn â beth sy'n iawn iddyn nhw yn eu hamgylchiadau. Yr Alban—lle, gadewch i ni beidio ag anghofio, y pleidleisiodd mwyafrif y boblogaeth leol i aros yn yr Undeb Ewropeaidd. Yma yng Nghymru, mae ystyriaethau gwahanol, pwerau gwahanol, trefniadau gwahanol yn berthnasol. Rydym ni'n trafod beth sy'n iawn i Gymru, ac mae'r cytundeb a gyflwynwn yn un yr ydym ni'n gwybod sy'n iawn ar gyfer datganoli ac yn iawn ar gyfer ein cenedl hefyd.
A chaniatewch i mi egluro hefyd, Llywydd, os caf i, unwaith ac am byth, beth mae 'cydsyniad' yn ei olygu yn y cyd-destun hwn. Mae cydsyniad yn golygu bod y Cynulliad wedi pleidleisio yn gadarnhaol o blaid cyflwyno'r rheoliadau drafft gerbron y Senedd. Dyna ystyr cydsyniad, a dim byd arall.
Yn drydedd elfen o amddiffyniad, Llywydd, mae Llywodraeth y DU wastad wedi honni y byddai'r cyfyngiadau a ragwelwyd yn y Bil gwreiddiol yn rhai dros dro, ond nid oedd dim yn y Bil hwnnw i gadarnhau hynny. Bellach, mae yna gymalau machlud ar wyneb y Bil. Mae rhai wedi dadlau y gellid ymestyn y rhain yn ddi-ben-draw, ond caniatewch imi fod yn glir eto: nid yw'r Bil hwn yn caniatáu i hynny ddigwydd. Yr unig ffordd y gellid ymestyn cymalau machlud fyddai drwy ddeddfwriaeth seneddol newydd, a byddai'r ddeddfwriaeth seneddol newydd honno wrth gwrs yn amodol ar ganiatâd y Cynulliad.
Mewn pedwerydd datblygiad, mae'r cytundeb yn rhoi sicrwydd diamwys na fydd Gweinidogion y DU yn cyflwyno gerbron y Senedd unrhyw ddeddfwriaeth ar gyfer Lloegr sy'n gwneud newidiadau i ddargadw cyfraith yr UE mewn meysydd fframwaith. Fel y dywedodd adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, yn ei adroddiad, ddoe, mae'r gydnabyddiaeth hon o Loegr yn y cytundeb yn gyfansoddiadol nodedig. Mae'n un ffordd yn unig, Llywydd, o sut mae'r cytundeb yn torri tir newydd er mwyn amddiffyn datganoli a sut fydd y Deyrnas Unedig yn gweithredu yn y dyfodol. Mae chwarae teg wedi ei chreu, mae'n berthnasol i'r holl weinyddiaethau, a bellach mae er budd pawb, fel y dywedodd y Prif Weinidog yn gynharach y prynhawn yma, i gytuno ar reolau newydd cyn gynted â phosib o ran yr hyn fydd yn digwydd ar ôl gadael yr UE.
Yn olaf, mae'r cytundeb yn ei gwneud hi'n glir y caiff unrhyw ddeddfwriaeth sylfaenol newydd sy'n sefydlu fframweithiau DU newydd eu negodi, eu negodi gyda phob partner yn dod ynghyd i drafod fel aelodau cydradd, ac y bydd angen cydsyniad deddfwriaethol y Cynulliad ar ganlyniadau negodiadau o'r fath yn unol ag egwyddorion arferol.
Llywydd, hoffwn orffen drwy fynd i'r afael â rhai o'r materion cyfansoddiadol ehangach y mae'r Bil yn eu hamlygu. Nid yw llawer o'r gwrthwynebiadau a'r beirniadaethau yr wyf i wedi eu clywed yn y dyddiau a'r wythnosau diwethaf wedi bod ynghylch y Bil neu'r cytundeb o gwbl. Maen nhw wedi bod ynglŷn â chonfensiwn Sewel ei hun, confensiwn y dywed adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol fod ei rym 'wedi cael ei gynnal a'i atgyfnerthu' o ganlyniad i'r cytundeb hwn.
Rwyf hefyd wedi clywed llawer o feirniadaeth anwybodus o'r fformiwleiddiad 'anarferol' yn y cytundeb, fel petaem ni, drwy gytuno i hynny, rywsut wedi 'bradychu', fel y dywedir wrthym ni, datganoli, yn yr ymadrodd sarhaus hwnnw. Ond mae'r ymrwymiad y bydd hi'n 'anarferol' i ddeddfu heb ganiatâd yn Neddf Llywodraeth Cymru, y rhoddodd y Cynulliad hwn ei gydsyniad iddo, ac yna mae yn Neddf Yr Alban hefyd. Ydym ni wedi cyrraedd sefyllfa lle mae angen inni symud y tu hwnt i Sewel a'r fformiwla 'anarferol'? Wel, rwy'n cytuno â'r casgliad y daeth yr Athro Michael Keating, Prifysgol Aberdeen, iddo yn ddiweddar, pan ddywedodd fod confensiwn Sewel
wedi gweithio'n dda ers bron i 20 ugain mlynedd,
ond ni chafodd ei gynllunio i ysgwyddo'r baich y mae Brexit bellach yn ei osod arno. Dyna pam, yn 'Brexit a Datganoli', y dadleuodd Llywodraeth Cymru dros greu cyngor newydd o Weinidogion ar gyfer y DU, a fyddai'n gallu gwneud penderfyniadau terfynol gyda chefnogaeth dulliau datrys anghydfod ac ysgrifenyddiaeth annibynnol, ac a fyddai'n gweithredu llawer mwy yn llygad y cyhoedd.
Llywydd, ni roddwyd y farwol o bell ffordd i'n huchelgeisiau ar gyfer datganoli gan y cytundeb y daethpwyd iddo, ond ein nod o'r cychwyn oedd cael Bil ymadael sy'n rhoi sefydlogrwydd a sicrwydd i fusnesau a dinasyddion ynglŷn â'r hawliau, y rhwymedigaethau a'r cyfrifoldebau a fydd yn bodoli ar yr adeg y byddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Rydym ni wedi amddiffyn ac atgyfnerthu ein setliad datganoli. Rydym ni wedi darparu ar gyfer gweithredu llwyddiannus y Deyrnas Unedig ar ôl Brexit. Rydym ni wedi cyflawni bargen dda ar gyfer y Cynulliad a bargen dda i Gymru. Rwy'n falch o ofyn i'r Cynulliad roi ei gydsyniad i'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn y prynhawn yma.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, David Rees.
Diolch, Llywydd. Mae'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol wedi bod yn ystyried y camau deddfwriaethol angenrheidiol ar gyfer Brexit ers tymor yr hydref 2016 ac wedi ystyried Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) yn fanwl. Ddoe, gwnaethom ni gyhoeddi ein trydydd adroddiad ar y Bil, wrth baratoi ar gyfer y ddadl heddiw. Gobeithiaf fod Aelodau wedi cael cyfle i edrych arno. Mewn cyhoeddiad cynharach ar y Bil, bydd yr Aelodau'n cofio y gwnaethom ni osod chwe amcan yr oeddem ni'n credu bod angen eu bodloni er mwyn diogelu ein setliad datganoli a hawliau'r Cynulliad. Ac fe wnaf i atgoffa Aelodau o beth oedden nhw: dileu cyfyngiad cymal 11 ar y setliad datganoli; sicrhau bod Gweinidogion Cymru a'r Cynulliad yn gyfrifol am gywiro pob agwedd o gyfraith sy'n deillio o'r UE mewn meysydd cymhwysedd datganoledig; sicrhau bod pwerau sydd ar gael i Weinidogion Cymru o dan y Bil yn gyfyngedig iawn ac yn llawer llymach na'r rhai a nodir ar hyn o bryd yn y Bil; atal Gweinidogion y DU a Chymru rhag diwygio agweddau ar gyfraith sy'n deillio o'r UE sy'n effeithio ar Gymru, oni bai eu bod wedi eu cadw yn ôl; atal Gweinidogion y DU rhag diwygio Deddf Llywodraeth Cymru drwy ddefnyddio pwerau dirprwyedig; ac, yn olaf, i sicrhau bod y Cynulliad yn gallu gwneud ei drefniadau craffu ei hun.
Yn sgil cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ynglŷn â chymal 11 o'r Bil, fel y'i rhifwyd pan gafodd ei gyflwyno i Dŷ'r Arglwyddi, a'r gwelliannau cysylltiedig i'r Bil a wnaed yn Nhŷ'r Arglwyddi, rydym ni wedi pwyso a mesur y cynnydd a wnaed o ran pob un o'r chwe amcan. Mae'n deg i ddweud, mewn rhai meysydd, fod cynnydd sylweddol wedi'i wneud. Mae hi yr un mor deg dweud nad yw ein hamcanion ni wedi'u bodloni yn llawn ym mhob maes. Ond a gaf i hefyd atgoffa'r tŷ y bu gennym ni amcanion a aeth ymhellach na barn wreiddiol Llywodraeth Cymru?
Mae amcan 1 yn greiddiol i gynnig heddiw, a oedd i gael gwared ar gyfyngiad cymal 11 ar y setliad datganoli. Mae cynnydd sylweddol wedi'i wneud o ran cyflawni'r amcan hwn wrth edrych yn ôl ar y man cychwyn oedd yn ein hwynebu pan gyflwynwyd y Bil. Mae Llywodraeth y DU bellach yn derbyn na all osod cyfyngiad cyffredinol ar gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad mewn meysydd lle mae fframweithiau polisi Ewropeaidd yn bodoli ar hyn o bryd, ac mae dull ar gyfer sicrhau y gall y Cynulliad ystyried a ddylai roi cydsyniad i unrhyw gyfyngiadau a roddir dros dro ar ei gymhwysedd. Fodd bynnag, golyga sofraniaeth seneddol, mewn amgylchiadau lle mae'r Cynulliad wedi gwrthod ei gydsyniad, y gallai'r Senedd barhau i osod cyfyngiad ar ein cymhwysedd deddfwriaethol. Yn ogystal â hyn, rhoddodd y dull a sefydlwyd gan y gwelliannau diweddar i'r Bil lawer o ddyletswyddau ar Weinidogion Cymru i hwyluso'r Cynulliad i ystyried y cyfyngiadau arfaethedig neu i gyfleu penderfyniadau y Cynulliad. Cawsom farn ynglŷn â beth y gallai'r Cynulliad ei wneud i gryfhau'r agwedd hon ar y dull ac fe wnaf i siarad am hynny ychydig yn ddiweddarach.
Gwnaed cynnydd sylweddol ar yr ail amcan. Y gwaharddiad hwn, yn y Bil fel y'i cyflwynwyd, ar Weinidogion Cymru yn addasu cyfraith yr UE sy'n uniongyrchol berthnasol, sy'n cynnwys llawer o'r gyfraith sy'n ymwneud â'r polisi amaethyddol cyffredin a'r cronfeydd strwythurol, oedd y gwahaniaeth mwyaf rhwng pwerau Gweinidogion y DU a Chymru. Mae hwn wedi'i ddileu, yn amodol ar y dull newydd o ran cyfyngu ar gymal 11.
O ran ein trydydd amcan, daethom i'r casgliad er nad yw hynny wedi ei fodloni yn llawn, rydym ni yn cydnabod bod y pwerau gweinidogol yn fwy cyfyng. Fodd bynnag, maen nhw'n parhau i fod yn eang ac mae'r Bil yn dirprwyo pwerau sylweddol i'r Weithrediaeth, gyda rheolaethau cyfyngedig.
Ni chyflawnwyd amcan 4, ac rydym ni'n arbennig o siomedig nad oedd unrhyw ddarpariaeth ar gyfer cydsyniad y Cynulliad wedi'i wneud ar gyfer amgylchiadau lle mae Llywodraeth y DU yn dymuno defnyddio ei bwerau mewn meysydd polisi sydd wedi eu datganoli i Gymru.
Er nad yw ein pumed amcan wedi'i fodloni yn llawn, gwnaed cynnydd sylweddol o ran diogelu Deddf Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, mae pryderon o hyd ynghylch pwerau Llywodraeth y DU i weithredu'r cytundeb ymadael, a rhaid inni beidio â cholli golwg ar y ffaith honno.
Ac, yn olaf, diben amcan 6 oedd sicrhau y gall y Cynulliad bennu ei drefniadau craffu ei hun.
Talaf deyrnged i'r gwaith pwysig y mae'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol wedi ei wneud yn hyn o beth, ac yn arbennig yr argymhellion ar gyfer sefydlu pwyllgor sifftio, a gymeradwywyd gan y Cynulliad hwn. Rydym ni'n credu, yn yr amgylchiadau, fod gweithredu'r trefniadau craffu a ffefrir gan y Cynulliad drwy welliannau i'r Bil yn gyfaddawd ymarferol, ond nad yw'n amharu ar ein hymrwymiadau i egwyddor y chweched amcan. Fodd bynnag, rydym ni yn siomedig bod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi dewis peidio â gweithredu holl ystod y trefniadau craffu y cytunwyd arnyn nhw yn unfrydol gan y Cynulliad hwn ar 7 Mawrth, ac yn disgwyl i'n Pwyllgor Busnes gywiro hyn yn ei gynnig i newid y Rheolau Sefydlog.
O'r asesiad hwn o'n chwe amcan, gallwch weld bod y cytundeb rhynglywodraethol a'r Bil diwygiedig wedi creu sefyllfa gryfach ar gyfer y Cynulliad nag o dan y Bil fel y'i drafftiwyd yn wreiddiol. Ond mae hi yn wir i ddweud nad ydyn nhw yn dileu yn llwyr y peryglon a amlygwyd gennym ni o'r blaen. Erys tasg sylweddol ar gyfer y Cynulliad hwn. Ac os rhoddir caniatâd heddiw, bydd yn rhaid inni yn y Siambr hon ddefnyddio'r dulliau gweithdrefnol sydd ar gael inni er mwyn sicrhau ein bod yn chwarae ein rhan lawn yn y broses o reoli cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad yn y misoedd a'r blynyddoedd i ddod.
Yn ein hadroddiad, rydym ni yn argymell bod y Pwyllgor Busnes yn ystyried yr achos dros ddiwygio'r Rheolau Sefydlog i osod dyletswyddau ychwanegol ar Weinidogion Cymru: i sicrhau y manteisir i'r eithaf ar y cyfle i graffu ar unrhyw gyfyngiadau ar ein cymhwysedd deddfwriaethol arfaethedig; y cawn ni o leiaf yr un maint o wybodaeth â'r Senedd ynglŷn â hyn, ac ar yr un pryd; a'i bod hi'n ofynnol i Weinidogion Cymru gyfleu penderfyniad y Cynulliad ynglŷn â chydsyniad ar gyfer cyfyngiadau dros dro ar ei gymhwysedd deddfwriaethol. Ddoe, yn ein cyfarfod pwyllgor, ymrwymodd y Prif Weinidog i ddarparu materion o'r fath ar y pwyntiau uchod, a gobeithiaf y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ailddatgan y sicrwydd hwnnw i'r Cynulliad y prynhawn yma.
Wrth wraidd y cytundeb rhynglywodraethol hwn mae proses rhyngseneddol. Rydym ni hefyd yn dod i'r casgliad yn ein hadroddiad y byddai cyfathrebu cryfach rhwng deddfwrfeydd yn rhoi sicrwydd ychwanegol ynghylch y broses, gan osgoi'r angen i ddibynnu ar ffynonellau llywodraethol o wybodaeth yn unig. Rwy'n bwriadu crybwyll y mater hwn ar gyfer y drafodaeth yn y fforwm rhyngseneddol nesaf ynglŷn â Brexit.
Pan gyflwynir y rheoliadau drafft sy'n cynnig cyfyngiadau ar ein cymhwysedd deddfwriaethol ar gyfer craffu, mae angen inni sicrhau bod gennym ni'r gweithdrefnau cywir ar waith i graffu arnynt yn drylwyr. Heb ymyrryd yn y gwaith pwysig y mae'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn ei wneud yn y maes hwn, rydym ni'n credu y bydd swyddogaeth ar y cyd ar gyfer pwyllgorau'r Cynulliad yn craffu ar y rheoliadau drafft hyn, os ydym ni'n mynd i arfer yr ystod lawn o arbenigedd technegol a pholisi wrth eu trin. A gyda chaniatâd y Llywydd, byddwn efallai yn trafod hyn yn un o fforymau y Cadeiryddion y dyfodol.
Cyn hir bydd angen inni bleidleisio ar un o'r penderfyniadau mwyaf sylweddol i'r Cynulliad ei wynebu ac yn y broses Brexit. Gobeithio drwy gydol ein hystyriaeth o'r Bil ymadael ein bod ni wedi ceisio sicrhau y caiff swyddogaeth y Cynulliad a'r pwerau sydd wedi'u datganoli i Gymru eu hamddiffyn yn y broses Brexit. Rydym ni'n gobeithio y bydd ein hadroddiad yn helpu Aelodau i benderfynu a ddylid rhoi caniatâd deddfwriaethol y prynhawn yma yn cefnogi rhoi'r cydsyniad deddfwriaethol ai peidio. Ond beth bynnag yw canlyniad y bleidlais heddiw, byddwn, fel pwyllgor, yn parhau i wneud popeth y gallwn ni i warchod buddiannau Cymru yn y broses Brexit ac i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif am ei gweithredoedd.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, Mick Antoniw.
Diolch ichi, Llywydd. Ar 27 Ebrill 2018, cyflwynodd y Prif Weinidog gerbron y Cynulliad Cenedlaethol femorandwm cydsyniad deddfwriaethol atodol Llywodraeth Cymru—memorandwm Rhif 2—ar y Bil fel y'i cyflwynwyd i Dŷ'r Arglwyddi ar y Darlleniad Cyntaf. Mae'r memorandwm cydsyniad deddfwriaethol atodol yn egluro bod gwrthwynebiadau Llywodraeth Cymru i'r Bil fel y'i cyflwynwyd yn ymwneud â phedwar mater:
'yr aed i'r afael yn sylweddol â phob un ohonynt yn y gwelliannau a wnaed neu a gynigiwyd i'r Bil neu'r Cytundeb Rhynglywodraethol yn gysylltiedig ag ef'.
Cawsom dystiolaeth gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar 16 Ebrill 2018 a chan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, cyn y cynnig cydsyniad deddfwriaethol atodol, ar 23 Ebrill, ac eto ar 30 Ebrill, yn fuan iawn ar ôl cyflwyno'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol atodol. Roedd y dystiolaeth a glywsom yn sail i'n casgliadau, a gwnaethom gasglu'r rheini yn ein hadroddiad a gyflwynwyd brynhawn ddoe—adroddiad cytunedig y pwyllgor.
Rydym ni'n croesawu'r cynnydd a wnaed gan Lywodraeth Cymru yn negodi gyda Llywodraeth y DU y sefyllfa o ran y pwerau i'w harfer gan y Cynulliad Cenedlaethol yn sgil ymadawiad y DU o'r UE. O ganlyniad, mae cymal gwreiddiol 11 wedi'i wrthdroi fel mai'r Cynulliad Cenedlaethol bellach fydd gan y pwerau dros bolisi datganoledig ac y bydd y rheini yn unol â'r setliad datganoli sydd ar waith ar hyn o bryd.
Credwn ei bod hi'n anffodus y bu cryn ymdrech ar ran y naill ochr a'r llall i gywiro diffygion sylweddol yn y Bil o ran cymal 11, sef cymal 15 bellach—sefyllfa nid annhebyg i'n profiad gyda Bil Cymru. Dylid, a gellid, bod wedi osgoi'r negodiadau hirfaith hyn petai'r drafftio gwreiddiol wedi dangos mwy o barch i swyddogaeth datganoli yn y Deyrnas Unedig.
Roedd y gwelliannau a gyflwynwyd gan Weinidogion y DU i gymal 11 o'r Bil yn nodi cam pwysig ymlaen ac yn dangos newid agwedd sylweddol gan Lywodraeth y DU. Rydym ni'n croesawu'r ffaith fod Llywodraeth y DU, mewn tystiolaeth i ni, ac mewn mannau eraill, dro ar ôl tro wedi pwysleisio pa mor bwysig yw confensiwn Sewel a sut y bydd yn parhau i'w barchu, er ein bod yn tynnu sylw'r Cynulliad at ein harsylwadau ynglŷn â'r cymal 15 newydd, ar ôl cwblhau ar 8 Mai y Cyfnod Adrodd yn Nhŷ'r Arglwyddi.
Bydd y cytundeb rhynglywodraethol yn profi'r syniadau o gyd-lywodraethu ac ymddiriedaeth. Fodd bynnag, rydym ni'n cydnabod ei fod yn gychwyn ar berthynas rynglywodraethol mwy parchus ac ymarferol. Rydym ni'n gobeithio y bydd y cynnydd hwn yn golygu gwell gweithio rhynglywodraethol ac yn arwain at y diwygio tymor byr a hirdymor a argymhellwyd gennym i'r Cyd-bwyllgor Gweinidogion yn ein hadroddiad, 'Llywodraethiant yn y DU ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd'. Rydym ni wedi ymrwymo i gadw golwg ar weithredu'r cytundeb rhynglywodraethol, gan gynnwys sut y caiff ei briodoli, ei ddehongli a'i adolygu yn y dyfodol.
Mae yna ansicrwydd sylweddol o hyd ynghylch fframweithiau cyffredin, ac mae telerau'r cytundeb rhynglywodraethol yn awgrymu bod llawer eto i'w benderfynu. Wrth ystyried y cynnig cydsyniad deddfwriaethol atodol, rydym ni eisiau tynnu sylw'r Cynulliad Cenedlaethol at y pwyntiau canlynol, y byddaf yn manylu arnyn nhw yn eu tro.
Pwynt 1: nodir y confensiwn ynglŷn â Senedd y DU yn deddfu ar faterion datganoledig yn adran 107(6) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, ac mae’n ymdrin yn benodol â 'deddfu'. Am y rheswm hwnnw, nid yw'r cytundeb rhynglywodraethol—cytundeb gwleidyddol—yn ffurfio rhan o broses cydsyniad deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol.
Pwynt 2: nid oes statws cyfreithiol i'r cytundeb rhynglywodraethol ac ni all ymrwymo unrhyw Lywodraeth a fydd gan Gymru neu'r DU yn y dyfodol.
Pwynt 3: bydd hyd y ddarpariaeth machlud arfaethedig ar gyfer cymal newydd 15 yn caniatáu cyfyngiadau a fframweithiau cyffredin i ymestyn o bosib y tu hwnt i fywyd presennol Llywodraethau Cymru a'r DU.
Pwynt 4: ar gyfer Cymru, bydd cadw cyfraith yr UE dros dro yn cael effaith drwy reoliadau a wneir o dan gymal newydd 15 ac Atodlen 3 i'r Bil. Ar gyfer Lloegr, bydd y cadw dros dro yn cael effaith drwy'r cytundeb rhynglywodraethol. Mae cydnabod Lloegr yn gyfansoddiadol arwyddocaol. Serch hynny, yng nghyd-destun cydraddoldeb a pharch at ein gilydd—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Yn sicr, gwnaf.
Ond o ran—. Does dim cydraddoldeb rhwng y gwledydd datganoledig a Lloegr o ran deddfu. Yn y meysydd datganoledig ar gyfer Lloegr, mae hynny'n rhan o'r cytundeb rhynglywodraethol, sy'n wleidyddol ac nid yn gyfreithiol, tra bod unrhyw ddeddfwriaeth mewn meysydd datganoledig ar gyfer Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn rhan o ddeddfwriaeth, felly mae'r driniaeth yn wahanol.
Mae'r driniaeth yn wahanol, ond mae confensiwn clir ac mae'r cytundeb cyfan, mae'r trefniant cyfan yn sefyll neu syrthio ar weithredu hynny a chynnal hynny. Pe bai hynny'n methu, yna mae'n glir iawn, fel y trafodwyd yn y pwyllgor, y byddai argyfwng cyfansoddiadol yn wir.
Serch hynny, yng nghyd-destun cydraddoldeb rhwng gwledydd y DU a pharchu ei gilydd, nodir hefyd y gwahaniaeth hwn o ran sut yr eir ati.
Pwynt 5: bydd cyfyngiadau y cymal 15 newydd yn berthnasol hyd nes fo'r Cynulliad Cenedlaethol wedi pasio Deddfau yn diddymu'r cyfyngiadau hynny.
Pwynt 6: nid yw'r gwelliannau i'r Bil yn rhoi rheidrwydd ar i Weinidogion Cymru osod gerbron y Cynulliad Cenedlaethol gopi o unrhyw gymal drafft o reoliadau 15 ar y diwrnod y maent yn eu cael gan Weinidogion y DU, er y bydd yr amserlen 40 diwrnod o ran gwneud penderfyniad cydsynio yn dechrau ar y dydd y mae Gweinidogion Cymru yn eu derbyn. Rydym ni'n cydnabod bod Ysgrifennydd y Cabinet—ac fe roesom ni hyn ar y cofnod—wedi rhoi addewid y byddai Llywodraeth Cymru yn eu cyflwyno ar unwaith pe byddai'n gallu.
Pwynt 7: pe byddai Cynulliad Cenedlaethol yn gwrthod rhoi caniatâd ar gyfer unrhyw reoliad yng nghymal drafft 15, byddai Gweinidogion y DU yn gallu cyflwyno'r rheoliadau drafft hynny gerbron Senedd y DU i'w cymeradwyo, gyda datganiad wedi'i baratoi gan Weinidogion Cymru yn esbonio pam fod y Cynulliad Cenedlaethol wedi gwrthod caniatâd. Lle Tŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi wedyn fydd cymeradwyo rheoliadau cymal 15. Felly, lle Senedd y DU fydd penderfynu a ddylid gorfodi confensiwn Sewel ai peidio.
Pwynt 8: bydd Gweinidogion y DU yn adrodd bob tri mis ynghylch pa un ai a ddylid diddymu'r pwerau sy'n gosod cyfyngiadau ar gymhwysedd y Cynulliad Cenedlaethol. Bydd Gweinidogion y DU yn anfon copi o bob adroddiad at Weinidogion Cymru, ond nid yw'n ofynnol i Weinidogion Cymru wedyn gyflwyno'r adroddiadau gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.
A phwynt 9: pan ddiddymir y cyfyngiadau ar gymhwysedd y Cynulliad Cenedlaethol gan Lywodraeth y DU, nid yw'r Bil yn rhoi rheidrwydd ar i Weinidogion y DU hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol neu Weinidogion Cymru.
Rwy'n credu mai dyna'r sylwadau sy'n crynhoi rhannau allweddol yr adroddiad, a oedd, fel y dywedaf, yn adroddiad cytunedig sy'n cynrychioli safbwynt y pwyllgor. Diolch ichi, Llywydd.
Rwy'n falch o gefnogi'r cynnig sydd gerbron y Cynulliad y prynhawn yma. Fel y noda adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, mae'r cytundeb rhynglywodraethol yn ganolog i'r argymhelliad i gymeradwyo'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol, ac rwyf eisiau dychwelyd at hynny yn ddiweddarach. Hyn, ynghyd â'r gwelliannau i'r cymal 11 gwreiddiol. Fel y noda adroddiad y pwyllgor:
'Mae'r gwelliannau a gyflwynwyd gan Weinidogion y DU i gymal 11 o'r Bil yn gam pwysig ymlaen ac maent yn dangos bod Llywodraeth y DU wedi bod yn barod i newid cyfeiriad.'
A dywedodd y pwyllgor hefyd, ac fe gyfeiriwyd at hyn eisoes, fod
'grym confensiwn Sewel wedi dod i'r amlwg wrth i'r Bil a'r trafodaethau cysylltiedig fynd yn eu blaen'.
Rwy'n wirioneddol gredu bod y broses hon o negodi anodd er clod i Lywodraeth y DU a hefyd i Lywodraeth Cymru. Dyma'r hyn a ddisgwyliwn mewn meysydd cyfansoddiadol anodd, nad oedd llawer ohonom ni fyth eisiau eu gweld yn digwydd a ble mae llawer o'r heriau wedi bod yn annisgwyl. Ond mae'n amlwg y bu gwaith adeiladol ar y ddwy ochr ac mae hyn wedi dwyn ffrwyth.
Mae'n amlwg i mi y sicrhaodd Llywodraeth Cymru gonsesiwn pwysig a chyfansoddiadol arwyddocaol gan Lywodraeth y DU o ran y ffordd y caiff cyfraith yr UE ei ddargadw hyd nes y cytunir ar fframweithiau ar gyfer y DU. Caniatewch imi ddyfynnu eto o adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol:
'Mae'r sefyllfa bresennol, lle y cedwir cyfraith yr UE am y tro yn y sefydliadau datganoledig ac yn Lloegr, yn ddatblygiad arwyddocaol.'
Rwy'n wirioneddol gredu bod negodi Llywodraeth Cymru yn y maes hwn wedi bod yn arwyddocaol iawn ac yn amlwg wedi cael effaith ar y ddadl yn yr Alban.
Yn union ar ôl y bleidlais Brexit, a oedd yn fandad democrataidd o bwysigrwydd cyfansoddiadol mawr—ni phleidleisiais i drosto, ond allwn ni ddim gwadu ei bwysigrwydd—cafwyd consensws cryf y byddai angen fframweithiau ar gyfer y DU yn ei chyfanrwydd pan fyddem yn gadael yr UE. Mae'n ymddangos i mi mai'r angen, er budd y cyhoedd i raddau helaeth iawn, i adeiladu fframweithiau oedd yr egwyddor ysgogol sydd wedi bod yn cymell Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Yn anffodus, buddiannau gwleidyddol cul fu cymhelliant Plaid Cymru a'r SNP. Ar yr un llaw, maen nhw'n dweud bod angen fframweithiau arnom ni, ond ar y llaw arall, y dylai'r Alban, a Chymru, yn ôl pob tebyg, gael pleidlais atal.
Mae'n briodol nodi yma nad yw fframweithiau yr UE yn gweithredu ar sail pleidlais atal genedlaethol. Maent yn gweithredu drwy negodi, gyda'r gallu i ddefnyddio pleidleisio mwyafrifol os oes angen. Efallai bod y cyhoedd ymhell ar y blaen i'r cenedlaetholwyr. Maen nhw'n sylweddoli bod angen ymarferol am gyd-lywodraethu, sy'n ymwneud â'r amgylchedd a ffermio, er enghraifft. Ymddengys nad oes fawr o gefnogaeth yn yr Alban neu yng Nghymru ar gyfer yr agenda genedlaetholgar gul ynglŷn â'r broses o gytuno ar y fframweithiau.
A wnaiff yr Aelod ildio?
Os yw hyn yn wir yn gam yn ôl o ddatganoli, fel mae Plaid a'r SNP yn honni, mae'r cyhoedd yn ymddangos yn hyderus iawn. Fe wnaf ildio.
Diolch i'r Aelod. A all grybwyll un achlysur pan fo unrhyw Aelod yma wedi dadlau yn erbyn fframwaith ar gyfer y DU?
Wel, dyna'r holl bwynt, welwch chi, ynte? Rydych chi'n dadlau, 'Oes, mae eu hangen nhw arnom ni', ond wnewch chi ddim cytuno ar unrhyw broses neu roi cydsyniad rhesymol i'w ffurfio. Rydych chi eisiau pleidlais atal genedlaethol. Rydych chi eisiau cadw'r hyn a welwch chi fel eich sofraniaeth absoliwt.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Ni fyddai UE wedi bodoli yn y lle cyntaf oni ailaseswyd y dehongliad penodol hwnnw o sofraniaeth. Fel y dywedodd Monnet, mae angen inni oresgyn y rhwystr o sofraniaeth genedlaethol gul, ac mae angen inni greu, yn y DU, rhywbeth sy'n cyfateb i'r llywodraethiant cyffredin yn yr UE. Mae'r ffordd yr ydych chi'n mynd ati yn gwyrdroi hynny a dyna'r holl broblem yma y prynhawn yma.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Iawn, fe wnaf i dderbyn un yn rhagor.
Diolch ichi am yr ymyriad, ac am dynnu sylw at ein cenedlaetholdeb cul o'i gymharu â'ch cenedlaetholdeb eang, os mai dyna'r sefyllfa. Un peth y gwnaethom ni yn sicr ei gynnig oedd trefn anghydfodau. Mae gennych chi Gyngor Gweinidogion ar lefel yr UE; mae angen trefn anghydfodau arnom ni ar lefel y DU, ac nid oes gennym ni hynny.
A gaf i ddweud, Rhun, rwy'n wirioneddol falch eich bod wedi gwneud y sylw hwnnw oherwydd rwyf eisiau symud yn awr at fy nghasgliad, sydd yn faes, rwy'n credu, efallai, y byddwn yn fwy unedig yn ei gylch?
Fel y dywedais ar y dechrau, mae'r cytundeb rhynglywodraethol yn bwysig iawn. Dim ond y dechrau yw, fodd bynnag, o'n cysyniad o gyd-lywodraethu ac mae angen ailwampio hyn a dyna fydd y prawf eithaf p'un a yw'r fframweithiau hyn yn mynd i bara a gweithio'n effeithiol. Os nad ydynt, yna yn anffodus bydd hynny'n tanseilio dilysrwydd y cyfansoddiad Prydeinig a'r setliad datganoledig. Felly, rwyf yn rhannol gytuno â chi fod materion fel sut mae datrys anghydfodau yn wirioneddol, wirioneddol bwysig.
Wrth ailwampio cysylltiadau rhynglywodraethol, Llywydd, mae angen hefyd ailwampio'r cysylltiadau rhyngseneddol, oherwydd prin iawn fu'r drafodaeth ynghylch sut yr ydym ni'n craffu ar y lefel hon o lywodraethu hyd yma ac mae hynny'n mynd i fod yn bwysig iawn, iawn. Un o'r prif resymau yr aeth pethau yn draed moch, o ran yr hyn a welodd y cyhoedd beth bynnag, o ran llywodraethu diffygiol yr UE oedd diffyg craffu seneddol, ac nid ydym ni eisiau ailadrodd y camgymeriadau hynny. A dyma ble rwy'n terfynu drwy ganmol adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol, 'Llywodraethiant yn y DU ar ôl gadael yr Unedeb Ewropeaidd'. Rwyf yn annog pawb i bleidleisio o blaid y cyfaddawd mwyaf rhesymol hwn a'r cynnig sydd ger ein bron.
Mae heddiw'n ymwneud â ffeithiau. Bu llawer o drafod; bu llawer o gyhuddiadau nad ydym ni yma yn deall beth sy'n digwydd, ond mae'r amser am rethreg ar ben bellach. Mae a wnelo hyn â dadl resymol yn erbyn Bil a fydd yn gwanhau y Cynulliad hwn. Llywydd, heno, byddwn yn gweld Llywodraeth Lafur yn pleidleisio gyda'r Torïaid ac UKIP i gefnogi Bil ymadael yr EU San Steffan sydd wedi'i gynllunio i adfer pwerau o dan reolaeth San Steffan, ac mae mor syml â hynny. Mae'r corff o dystiolaeth, barn y cyhoedd a hyd yn oed arweinydd eu plaid eu hunain yn eu herbyn.
Clywsom gan Gadeirydd y pwyllgor sydd newydd dderbyn na dderbyniwyd yr un mesur o'r profion a osodwyd gan y pwyllgor materion allanol trawsbleidiol. Dywedodd arweinydd y Blaid Lafur ei hun ei fod yn ymgais i gipio grym, er bod y Prif Weinidog Ceidwadol yn canmol eu gweithredoedd. Aelodau gyferbyn, rwy'n gwybod bod llawer ohonoch chi'n credu mewn datganoli ac, am y rheswm hwn, rwy'n apelio arnoch chi i sefyll heddiw. Ymunwch â ni i amddiffyn Cymru. Ymunwch â ni i sefyll dros ddatganoli. Os ydych chi'n derbyn chwip y blaid, os ydych chi'n dilyn eich mainc flaen, credwch chi fi, bydd y sefydliad hwn yn wannach o'i herwydd.
Llywydd, rwy'n gwybod y sicrhawyd consesiynau drwy drafodaethau llafurus gyda San Steffan. Nid yw'r fargen hon, fodd bynnag, yn cyflawni'r targedau sydd wedi eu gosod gan Weinidogion eu hunain. Mewn darlith ddoe, amlinellodd yr Ysgrifennydd cyllid yn fanwl sut nad yw'r Cyd-bwyllgor Gweinidogion yn addas at y diben, eto mae'r fargen hon yn ein hymrwymo i ddefnyddio'r union bwyllgor hwnnw i ddiogelu ein pwerau. Mae cyfreithwyr y Cynulliad wedi amlygu'r risg i ddatganoli a achosir gan y Bil hwn, ac mae'r pwyllgorau trawsbleidiol a oedd yn edrych ar y materion hyn yn cytuno. Hyd yn oed yr wythnos diwethaf, cwynodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr amgylchedd fod San Steffan wedi methu ag ymgynghori â hi cyn cyhoeddi ymgynghoriad newydd. Mae San Steffan yn torri'r cytundeb hwn cyn ei fod hyd yn oed mewn grym.
Llywydd, bydd cyfraniadau angerddol i'r ddadl hon, does dim amheuaeth gennyf i, ond unwaith eto hoffwn apelio at reswm. Os ydych chi'n credu yng Nghymru, os ydych chi'n credu mewn datganoli, os ydych chi'n credu mai'r Cynulliad hwn ac nid San Steffan sy'n gwasanaethu ein pobl orau, pleidleisiwch yn erbyn y cynnig hwn; pleidleisiwch dros ddatganoli; pleidleisiwch dros Gymru.
Roeddwn i'n credu y traddododd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid araith unoliaethol rymus ar gyfer y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn. Ac, wrth gwrs, rwy'n deall safbwynt Plaid Cymru; nid ydynt yn credu yn y Deyrnas Unedig, felly maen nhw'n arddel y farn eithafol a fynegwyd, ac mae Plaid yn berffaith iawn i wneud y sylwadau y maen nhw wedi'u gwneud gyda'r grym a'r arddeliad yr ydym ni wedi dod i'w derbyn. Pe bawn i o'r un farn â nhw o ran beth mae cenedlaetholdeb yn ei olygu i Gymru, byddwn yn cytuno â nhw, ond dydw i ddim; rwy'n unoliaethwr, ac rwy'n derbyn y realiti sylfaenol y cyfeiriodd David Melding ato yn ei araith fod Bil ymadael yr UE yn ganlyniad i benderfyniad pobl y Deyrnas Unedig drwy gyfrwng refferendwm i adael yr Undeb Ewropeaidd, a chredaf ei bod hi'n ymddiriedaeth a roddwyd i ni fel deddfwyr i gyflawni'r penderfyniad a wnaed ganddynt. Nid lle un rhan gyfansoddol o'r Deyrnas Unedig yw rhwystro'r broses honno. Hyd yn oed yn yr Alban, lle pleidleisiodd 62 y cant yn erbyn Brexit, nid wyf yn credu ei bod hi'n gyfansoddiadol briodol iddyn nhw rwystro hynt y Bil.
Rwy'n credu y bu Llywodraeth Cymru yn dringar rhyfeddol yn ystod y trafodaethau, ac, rwy'n credu, bod yr holl broses ddatganoli wedi dyfnhau—dyfnhau dealltwriaeth o'r prosesau cyfansoddiadol a sefydlwyd 20 mlynedd yn ôl. Credaf ei fod yn destun gofid bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig mor ddi-ddeall o ddigwyddiadau yn hyn o beth fel y caniatawyd yr holl ddadl am gymal 11, fel yr oedd i ddatblygu fel y gwnaeth. Roeddwn yn credu ei fod yn dangos rhyw fath o fethiant syfrdanol o ddealltwriaeth ar ran Gweinidogion y DU o realiti cyfansoddiadol bywyd modern ym Mhrydain, ac mae hynny'n anffodus iawn.
Rwy'n credu hefyd y bu Plaid Cymru yn hollol gywir i dynnu sylw at ddiffygion arweinydd y Blaid Lafur yn y Deyrnas Unedig yn ystod yr ychydig ddyddiau diwethaf, oherwydd yr hyn sy'n digwydd yn yr Alban yw ei fod yn chwarae gemau parti gyda dyfodol y Deyrnas Unedig, ac rwy'n credu bod hynny'n ymagwedd sylfaenol anghyfrifol. Ac mae'n ddrwg gennyf orfod dweud hyn, ond rwy'n credu bod agwedd aeddfed a hirben Gweinidogion yn Llywodraeth Cymru yn dangos pa mor anaddas yw arweinydd y blaid yn y Deyrnas Unedig ar gyfer y swyddogaeth y mae ef yn ymgyrraedd ati.
Nawr, byddwn yn dweud yn ddi-oed nad oes gennyf ronyn mwy o ymddiriedaeth yn Theresa May na sydd gan Blaid Cymru. Mae'n gwneud i Ethelred the Unready edrych yn batrwm o bendantrwydd. Fyddwn i ddim yn ymddiried yn ei gair, nid oherwydd fy mod i'n credu ei bod hi'n berson anonest, ond oherwydd fy mod i'n credu ei bod hi mor anobeithiol o anghymwys fel y gallai wneud i'r gwrthwyneb ddigwydd trwy ddamwain. Ac rwyf yn credu, i rywun sy'n bleidiol dros aros fynegi ei safbwynt yn y ffordd y mae wedi'i wneud dros yr ychydig wythnosau diwethaf dros y cynnig hurt o ryw fath o undeb tollau, nad yw hyd yn oed o dan ystyriaeth, ac nad oes neb ar y naill ochr y ddadl na'r llall dros Brexit yn fodlon ei ystyried, yn dangos y problemau yr ydym ni'n ymdrin â nhw.
Ond y gwirionedd sylfaenol yw nad ydym ni, yn y Cynulliad hwn, yn gweithredu unrhyw un o'r pwerau y bydd y Bil hwn yn effeithio arnynt ar hyn o bryd. Y gwirionedd sylfaenol yw bod y pwerau hyn yn cael eu harfer gan gyrff sydd ymhell o Gaerdydd ac nad oes gennym ni unrhyw reolaeth ymarferol drostyn nhw, boed yn y Comisiwn Ewropeaidd, sydd â'r pŵer i ddeddfu ei hun heb unrhyw reolaeth ddemocrataidd gan Gyngor y Gweinidogion—. Mae corff enfawr o reoliadau'r UE yn dylifo o'r Comisiwn ac yn cael sêl bendith yn y fan a'r lle. Bydd gennym yn awr y cyfle i fod yn rhan o ddemocrateiddio cyfran enfawr o ddeddfwriaeth dechnegol mewn meysydd fel amaethyddiaeth a'r amgylchedd, yn arbennig, sydd o bwys mawr i ni yma yng Nghymru.
Mae hyn yn ehangiad enfawr—yr holl broses hon—o’r broses ddemocrataidd ac yn ymestyn pwerau'r Cynulliad hwn yn ymarferol. Rwy'n credu bod hynny yn hynod o bwysig, a dyna pam na allaf i ddeall paradocs safbwynt Plaid Cymru, eu bod yn ystyried yr ymgais gan San Steffan o gipio grym ar ffurf dulliau cyfansoddiadol a dulliau deddfwriaethol nad ydym ni ar hyn o bryd hyd yn oed yn meddu arnyn nhw o bwys sylfaenol, ond does ganddyn nhw ddim pryder o gwbl trosglwyddo'r rheini i gorff seiliedig ym Mrwsel neu mewn mannau eraill yn yr Undeb Ewropeaidd, lle mae gennym ni hyd yn oed llai o reolaeth dros yr hyn sy'n digwydd na sydd gennym ni yn San Steffan. Felly, mae hynny'n ymddangos i mi i fod, yn ymarferol, yn safbwynt gwrthun iawn i'w choleddu. Pe bai Cymru yn wlad annibynnol yn wleidyddol byddai gan eu pwyntiau elfen o rym. Ond, oherwydd nad ydym ni, ac nad yw pobl Cymru yn dangos unrhyw duedd mawr at fabwysiadu safbwynt Plaid Cymru ynglŷn â lle Cymru o fewn y Deyrnas Unedig, ac yn annhebygol o wneud hynny yn y dyfodol rhagweladwy, rwy'n credu bod y dadleuon y mae Plaid yn eu hyrwyddo yma ymhell iawn, iawn o fod yn y byd go iawn.
Felly, rwy'n credu, o ganlyniad, ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni yn rhoi sêl ein bendith ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn heddiw, nid dim ond oherwydd ei fod yn rhoi'r cyfle inni gynyddu pwerau'r Cynulliad hwn, ond, fel rhan o'r broses hon—ac nid wyf yn siŵr a roddwyd sylw i'r pwynt hwn heddiw, er y gwnaed hynny ar achlysuron blaenorol pan ydym ni wedi trafod y pwnc hwn—mewn gwirionedd mae Lloegr yn gyfyngedig yn awr mewn sawl ffordd nad oedd o'r blaen o ganlyniad i'r cytundeb hwn, ac mae hynny'n rhoi y sicrwydd mwyaf posibl y bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig eisiau cwblhau'r cyfnod pontio hwn mor gyflym ag y gall, oherwydd nid wyf yn credu bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig eisiau cael y pŵer deddfwriaethol i Gymru yn y meysydd datganoledig hyn ac y gallwn ni, rwy'n credu, fod mor hyderus ag y gallwn ni—. Er fy mod yn derbyn nad yw'n rhywbeth y rhoddwyd sylw i bob manylyn mewn ffurf gyfreithiol, rwy'n credu ei bod hi bron yn annirnadwy y byddai Llywodraeth y Deyrnas Unedig eisiau cilio ar y cam hwn o'r setliad datganoli, ac, fel y dywedodd Mick Antoniw wrth ymateb i Dai Lloyd yn gynharach, byddai argyfwng cyfansoddiadol sylfaenol o bwys mawr, ble rwy'n credu y gwelech chi ar draws y Siambr hon fod, i bob pwrpas, unfrydedd yn gwrthwynebu'r fath fenter. Felly, nid wyf o'r farn, yn bersonol, bod unrhyw risg cyfansoddiadol yn caniatáu i'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn fynd rhagddo; rwy'n credu bod pob mantais gyfansoddiadol a mantais ymarferol i bobl Cymru wrth wneud hynny.
Fe hoffwn i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am gyflwyno'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer dadl y prynhawn yma, ac unwaith eto cydnabod y cynnydd mawr y mae'r cytundeb hwn yn ei ddarparu ar gyfer Cymru ac i'r bobl yr ydym ni yn eu cynrychioli. Nawr, neithiwr, roeddwn yn ffodus i glywed Mark Drakeford yn annerch cynulleidfa fawr ym Mhrifysgol Caerdydd ynglŷn â Brexit a datganoli. Rhoddodd gyfrif aruthrol, cyfrif aruthrol, o Lywodraeth Cymru, nid yn unig o'i hun fel Ysgrifennydd y Cabinet allweddol, y Prif Weinidog, holl Ysgrifenyddion y Cabinet a Gweinidogion, o'u hymwneud â'r broses Brexit, ond hefyd fe ganolbwyntiodd ar ddewisiadau, y cyfleoedd y gallwn ni ystyried sydd o'n blaenau tuag at y cyfnod pontio a thu hwnt, ond fe gyflwynodd y neges yn glir iawn ar ei gytundeb rhynglywodraethol, ac, wrth gwrs, fe'i holwyd yn ei gylch, ond roedd mor glir. Ac mae'n rhaid inni sicrhau ein bod yn cyfleu'r neges hon i'r bobl yr ydym ni yn eu cynrychioli, y caiff yr holl bwerau yn ein meysydd polisi datganoledig eu dal yng Nghaerdydd ac eithrio'r meysydd hynny ble mae angen fframweithiau ar gyfer y DU, ac ailadrodd y ffaith y byddai'r cymal 11 gwreiddiol ym Mil ymadael yr EU wedi cadw yn San Steffan yr holl bwerau fyddai'n dychwelyd o'r UE mewn meysydd polisi datganoledig. Mae'n rhaid inni ddangos yn glir y sefyllfa yr ydym ni wedi datblygu ohoni, beth mae'r cytundeb rhynglywodraethol hwn wedi ei gyflawni.
A wnewch chi ildio? Diolch.
Beth maen nhw'n ei wneud yw cymryd pwerau o Frwsel a ddylai fynd i'r Alban, i Gymru a rhanbarthau Lloegr ac yn hytrach eu cronni yn Whitehall. Mae hynny'n gwbl annerbyniol, ac rydym ni wedi gwneud hynny'n glir. Jeremy Corbyn: beth sydd gennych chi i'w ddweud ynghylch hynny?
Mae'r pwerau yn dod yn ôl i Gaerdydd; maen nhw yn mynd i Gaeredin. Yn wir, yr hyn sydd mor bwysig am y cytundeb hwn yw y cafodd ei ddatblygu dros gyfnod hir o amser gyda negodiadau gyda Llywodraeth yr Alban, gyda Gweinidog yr Alban, ac a gydnabuwyd o ran cynnydd sylweddol gan Brif Weinidog yr Alban. A bydd y cytundeb hwn yn darparu ar gyfer pobl yr Alban, nid yn unig ar gyfer pobl Cymru. Bydd yn darparu ar gyfer pobl yr Alban. Bydd yn sicrhau bod y pwerau hynny yn cael eu cadw yng Nghaerdydd a Chaeredin. Felly, mae sicrhau'r cytundeb sylweddol hwn yn gyflawniad mawr, ond rwy'n credu bellach y bydd yn galluogi Llywodraeth Cymru i ymwneud yn adeiladol ar lefel rhynglywodraethol yn y negodiadau Brexit sydd o'n blaenau.
Hoffwn hefyd gydnabod y cyfleoedd a'r cyfrifoldebau sydd gennym ni fel Cynulliad wrth inni symud ymlaen. Daethom i'r casgliad yn ein hadroddiad cynnig cydsyniad deddfwriaethol, ac, wrth gwrs, mae David Rees wedi sôn am hyn eisoes, gyda neges gref gan y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, neges gref i Lywodraeth y DU, a chasgliad hwnnw oedd ein bod yn gobeithio y bydd Llywodraeth y DU yn ceisio ymwneud yn ystyrlon â'r Cynulliad drwy ei bwyllgorau ar gam cynnar o ran deddfwriaeth Brexit yn y dyfodol sy'n effeithio ar Gymru, ac, yn arbennig, y cytundeb ymadael arfaethedig a gweithredu'r Bil. A dyna beth mae'n rhaid inni ganolbwyntio arno. Rwyf yn croesawu y fforwm rhyngseneddol, ac mae hwnnw wedi'i grybwyll gan Mick Antoniw hefyd. Mae wedi rhoi llais cryf i Gymru yn San Steffan a chyda'r gweinyddiaethau datganoledig. Rwy'n falch bod y fforwm hwnnw yn bodoli er mwyn sicrhau—. Bydd yn cadw golwg fanwl ar gyflawni'r cytundeb hwn, ond hefyd ar y gwelliannau hynny fydd, wrth gwrs, yn dychwelyd i Dŷ'r Cyffredin, y mae angen inni wneud yn siŵr y cawn nhw eu gweithredu a'u cefnogi gan ein cydweithwyr o blith yr Aelodau.
Bellach, mae Mark Drakeford wedi dweud wrth ein pwyllgor bod Llywodraeth Cymru wedi gorfod blaenoriaethu 40 maes o negodiadau Brexit, ac mae'n hanfodol sicrhau bod peirianwaith cadarn i alluogi Llywodraeth Cymru i ganlyn arni gyda hyn ac i gael eu dwyn i gyfrif gan y Cynulliad hwn. Mae yna feysydd ble gallwn ni uno a ble dylem ni uno yn y Siambr hon wrth inni symud o'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn gyda neges gryfach gan bob plaid bod yn rhaid i Lywodraeth y DU bellach ddarparu'r prosesau rhynglywodraethol mwy cadarn hynny, ac, wrth gwrs, does ond angen inni droi at 'Diogelu Dyfodol Cymru', y soniodd Mark Drakeford amdano fwy nag unwaith neithiwr, ac edrych ar yr adran honno yn 'Diogelu Dyfodol Cymru' ynglŷn â materion cyfansoddiadol a datganoledig, a'r adran honno, sy'n dweud,
'Mae ymadael â’r UE yn drobwynt cyfansoddiadol sylweddol i Gymru a’r DU yn gyfan.'
'Ni fydd y system rynglywodraethol bresennol bellach yn addas i’r diben a bydd yn rhaid datblygu ffyrdd newydd o weithio‒ar sail cytundebau gwirfoddol rhwng Llywodraeth y DU a’r tair gweinyddiaeth ddatganoledig, yn amodol ar gymodi annibynnol.'
Gadewch inni symud ymlaen gyda'n gilydd ar yr amcan hollbwysig hwnnw. Mae angen cyngor y Gweinidogion arnom ni, mae angen peirianwaith cryfach o ran Y Cyd-bwyllgor Gweinidogion. A, Llywydd, mae gennym ni gytundeb sydd wedi gorfodi Llywodraeth y DU i barchu datganoli, sydd nid yn unig yn diogelu ond yn arfogi datganoli ag amddiffynfeydd newydd sbon, cytundeb sydd wedi torri tir newydd cyfansoddiadol, tipyn o gamp. Gadewch i ni wneud yn siŵr ein bod yn rhannu'r newyddion da hyn mor glir â phosib cymaint ag y bo angen. Nawr, gadewch i ni symud ymlaen ac ymwneud yn llawn yng ngham nesaf y trafodaethau Brexit, yn arbennig y cytundeb ymadael â phob deddfwriaeth sydd ar ddod ynglŷn â Brexit.
Mae haneswyr yn dweud yn aml y bu rheolaeth Prydain, er y bu yn aml yn annheg, bron bob amser yn gwrtais, a dyma ni yn y Senedd hon, Senedd Cymru, wedi ein cyflwyno gan gynnig cydsyniad sydd, yn ymarferol, yn gofyn am ddiddymu ein cydsyniad.
Rydym ni'n ymuno â chlwb dethol iawn o seneddau cenedlaethol, os derbyniwn y cynnig hwn heddiw, sydd wedi penderfynu'n wirfoddol i ildio eu hawdurdod eu hunain. Mae'n rhaid i chi bendroni ychydig a meddwl am Senedd yr Alban ym 1707, Senedd Iwerddon ym 1800, am enghreifftiau mewn hanes—er, wrth gwrs, rydym ni'n ildio ein hawdurdod am gyfnod cyfyngedig o amser mewn rhai meysydd. Ond yr un yw'r egwyddor. Nawr, roeddwn yn disgwyl i'r cyn Aelod Seneddol ymyrryd, a dweud, 'Wel, onid dyna a wnaethom ni gyda Deddf y Cymunedau Ewropeaidd?' Ac, yn wir, cafodd hynny ei adleisio, mewn gwirionedd, yn sylw David Melding. Ond roedd gwahaniaeth hanfodol: roeddem ni'n ymuno â chymuned o aelodau cydradd, a thrwy ddulliau fel pleidleisio wedi'i bwysoli, ac ati, yna cai buddiannau cenhedloedd bychain yn benodol eu diogelu. Dyw hynny ddim yn wir yn y wladwriaeth unedol hon. Yn ymarferol, mae goruchafiaeth un genedl yn y pedair ynys hon bron iawn yn fath Bagehot-aidd o gyfansoddiad urddasol y DU; mae'n egwyddor sy'n sail i bopeth, ac, mewn gwirionedd, mae bellach wedi ei ysgrifennu i'r llyfr statud. A dyna ble mae'r broblem. Yn wir, mae'r ddadl hon mewn gwirionedd wedi dangos yn glir, onid yw, y toriadau, y diffygion, o'r hyn sy'n gyfansoddiad hollol anghytbwys ac ansefydlog yn yr ynysoedd hyn.
Yr hyn yr ydym ni'n gofyn amdano yw cydraddoldeb ar gyfer y genedl hon. Siawns fod honno yn egwyddor y gallai pob un ohonom ni mewn gwirionedd ei chefnogi. Nawr, wrth gwrs, y cyfansoddiad yw lle mae gwleidyddiaeth a'r gyfraith yn cyfarfod, ac rwy'n credu bod y nodyn a gawsom ni gan gyfreithwyr y Cynulliad, yn ddeunydd darllen anhygoel:
Mae'r geiriau "penderfyniad cydsynio" yn awgrymu y gall y Gweinidog dim ond gosod y rheoliadau drafft gerbron Senedd y DU os yw'r Cynulliad wedi cydsynio i'w gwneud, neu os nad yw'r Cynulliad wedi gwneud dim yn eu cylch am 40 diwrnod. Ond mae hynny yn gamarweiniol.
Dyna eiriau anghyffredin o enau unrhyw gyfreithiwr oherwydd, wrth gwrs, fel y gwyddom ni, fel yn wir y gŵyr Nicola Sturgeon, a ddyfynnwyd yn gynharach, rwy'n credu—fel y dywedodd hi, os ydym ni'n yn dweud 'ie', bydd Gweinidogion y DU yn trin hynny fel cydsyniad, os dywedwn 'na', byddan nhw'n trin hynny fel cydsyniad, ac os ydym ni'n dweud dim byd o gwbl, gallan nhw drin hynny fel caniatâd. Pen, ac maen nhw yn ennill, cynffon, ac rydym ni'n colli.
Nawr, rwyf wedi clywed y ddadl fod hyn mewn gwirionedd—[Torri ar draws.] Cewch, yn sicr.
Rydych chi'n cyfeirio, wrth gwrs, at farn gyfreithiol y Cynulliad. Ond, wrth gwrs, ym mharagraff 15 o hynny, mae'n dweud bod gwelliant wedi ei ddisgrifio gan rai fel yr hyn sy'n diffinio'r cysyniad o gydsyniad gan gynnwys gwrthod caniatâd. Mae'r farn gyfreithiol mewn gwirionedd yn dweud, 'Yn ein barn ni, nid yw hynny yn fanwl-gywir.'
Ydy, ond aiff ymlaen i ddweud—. Mae 10 paragraff arall, gyda llaw. Aiff ymlaen i ddweud, a dyma'r pwynt allweddol,
y gellir cyfyngu ar gymhwysedd y Cynulliad heb ei gydsyniad.
Dyna'r pwynt hanfodol mewn unrhyw ddemocratiaeth. Clywais yr Aelod yn dweud, 'Wel, Sewel yw hyn. Sewel yw hyn.' Wel, Sewel ar steroids yw hyn. Mae hyn yn creu llwybr cyfreithiol, dull symlach lle gall yr eithriad fod y rheol os bydd gwleidyddiaeth San Steffan yn penderfynu felly. A dyna'r drychineb. Dyna yw'r drychineb, wyddoch chi. Wrth feddwl yn benodol am eiriau Rhodri Morgan—ei eiriau olaf yn y Siambr hon—pan siaradodd am y Cynulliad Cenedlaethol hwn y gwnaethom ni ei adeiladu gyda'n gilydd, bydd yn fwy hirhoedlog na phob un ohonom ni, bydd yn parhau i ddatblygu a thyfu i wasanaethu Cymru, roedd yn adleisio geiriau Henry Grattan, a greodd mewn gwirionedd annibyniaeth ddeddfwriaethol Senedd Iwerddon ac a soniodd am genedl a chymeriad newydd pan fyddent yn ennill eu hannibyniaeth ddeddfwriaethol:
'Rwy'n ei chyfarch, ac, wrth ymgrymu i'w phresenoldeb mawreddog, rwy'n dweud, "esto perpetua"'—
Bydd yn parhau. Wnaeth hi ddim. Wnaeth hi ddim. A dyna ble mae'r perygl, oherwydd, os derbyniwn y cynnig hwn heddiw, rydym ni'n derbyn yr egwyddor nad yw'r lle hwn yn sofran mwyach.
Mark Rechless. [Torri ar draws.] Mark Reckless.
Diolch, Llywydd. Rwy'n falch o allu siarad heddiw o blaid Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhoi ein cydsyniad deddfwriaethol i Fil ymadael yr Undeb Ewropeaidd. Wrth gwrs, dyma ddull deddfwriaethol Llywodraeth y DU ar gyfer gadael yr UE yn y ffordd sy'n rhoi mwyaf o sicrwydd, parhad a'r reolaeth, ac rwy'n falch iawn ei gefnogi.
Yn sesiwn gwestiynau cyntaf y Prif Weinidog ar ôl yr haf, roeddwn braidd yn feirniadol o'r Prif Weinidog o ran y graddau yr oedd wedi bod, yn fy marn i, yn closio at Lywodraeth SNP yr Alban dros yr haf. Holais pam roedd yn gweithio law yn llaw â Llywodraeth sydd eisiau chwalu y Deyrnas Unedig a Llywodraeth sydd yn rhwystro ein hymadawiad o'r Undeb Ewropeaidd. Ac ymatebodd drwy ddweud ei fod dim ond yn gwneud hynny i'r graddau bod gennym ni ddiddordeb cyffredin yn amddiffyn y setliad datganoli. Nawr, cefais fy synnu gan hynny, nid yn lleiaf oherwydd bod y Prif Weinidog a Llywodraeth Cymru wedi treulio llawer o amser yn gweithio gyda Phlaid Cymru i lunio papur ar y cyd ynglŷn â beth ddylai'r amcanion fod ar gyfer y mudo yn y dyfodol neu drefniadau masnach yn y dyfodol ar gyfer y Deyrnas Unedig. Roeddwn yn ofni y byddai'r Prif Weinidog a Llywodraeth Cymru, o bosib gan weithio gyda Phlaid Cymru, yn defnyddio proses cydsyniad deddfwriaethol y Bil hwn fel ffordd o geisio rhwystro ymadawiad y Deyrnas Unedig o'r Undeb Ewropeaidd. Nid yw wedi gwneud hynny. Mae'r Prif Weinidog wedi bod cystal â'i air. Mae Llywodraeth Cymru wedi llwyddo llawer mwy nag y byddwn wedi disgwyl i wella'r Bil hwn i ddiogelu buddiannau cyfreithlon ein setliad datganoledig. Ac rwy'n credu eu bod yn haeddu parch a llongyfarchiadau am wneud hynny.
Wrth gwrs, mae gan rai pobl amcan gwahanol—un o aros yn yr Undeb Ewropeaidd, er bod y rhan fwyaf o bobl yng Nghymru wedi pleidleisio dros adael, neu'r bwriad o fod yn annibynnol oddi wrth y Deyrnas Unedig, er mai dim ond lleiafrif pitw o bobl yng Nghymru sy'n cefnogi hynny. Ac, wrth gwrs, byddan nhw, felly, yn gwrthwynebu hyn, yn union fel y bydd yr SNP a Nicola Sturgeon yn ei wrthwynebu, oherwydd byddai bron dim wedi setlo yr hyn y maen nhw'n gofyn amdano, oherwydd nid eu hamcan yw gwneud i'r ymadawiad hwn o'r Undeb Ewropeaidd weithio gan amddiffyn y setliad datganoledig; ond i rwystro Brexit a chwalu'r Deyrnas Unedig. Ac wrth gwrs—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Wrth gwrs.
Diolch. Dim ond ynglŷn â phwynt sylfaenol, a wnewch chi deall nad diben Plaid Cymru yw chwalu'r Deyrnas Unedig? Y diben yw adeiladu Cymru.
Diben Plaid Cymru yw sefydlu Cymru annibynnol, gan chwalu'r Deyrnas Unedig. Rwy'n parchu, ond nid wyf yn cytuno â'ch amcan.
I ddychwelyd at y cynnig cydsyniad deddfwriaethol yr ydym ni'n ei drafod heddiw, mae'r Bil hwn wedi gwella yn aruthrol drwy ymdrechion, ie, Llywodraeth Cymru, ond hefyd, rwy'n credu, rhai eraill, a hoffwn longyfarch Mark Isherwood a David Melding ynglŷn â sut maen nhw wedi ymdrin â'r mater hwn, ac mewn gwirionedd undod y grŵp hwn yn cefnogi ac yn ceisio gwella'r ddeddfwriaeth hon gan gydnabod beth mae eraill yn ei wneud, gan gynnwys bygythiad gwirioneddol Bil parhad. Rwy'n credu bod yr hyn a ddywedodd Mick Antoniw ynglŷn â sut y byddai hyn wedi bod yn llawer gwell proses petai, ar y dechrau, Gweinidogion y DU wedi dangos, o ran sut y gwnaethon nhw ddrafftio'r Bil cychwynnol, y parch priodol i Lywodraeth y Cynulliad a'r setliad datganoledig—byddai hynny wedi bod yn well. Ond y gwir amdani yw, gyda rhai eithriadau, nad yw Gweinidogion y DU mor wybodus—ac nid yw yn flaenllaw yn eu meddwl trwy'r rhan fwyaf o'r hyn a wnânt—am y dulliau, y rhagdybiaethau a'r dealltwriaethau, yn ogystal â sail gyfreithiol y setliad datganoledig, ag yr ydym ni yn y Cynulliad hwn. Ond yn ystod y broses hon, maen nhw wedi cael eu haddysgu ynglŷn â hynny. Roedd gan Damian Green a David Lidington yn arbennig rwy'n credu wybodaeth resymol ar ddechrau'r broses, ac mae'r wybodaeth honno wedi dod yn fwy arbenigol wrth i'r broses fynd rhagddi. Rwy'n credu, gyda chymorth gan Alun Cairns yn rhinwedd ei swyddogaeth yn Ysgrifennydd Gwladol, yn ogystal ag Andrew R.T. yn rhinwedd ei swyddogaeth yn arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, mae llawer mwy o Weinidogion y DU wedi dod i werthfawrogi ac i ddeall y setliad datganoli a'r modd y mae'n gweithredu. Bellach mae gennym ni Fil sy'n adlewyrchu ac yn deall hynny mewn ffordd nad oedd cyn hynny.
Pan soniwn ynglŷn â beth efallai y byddai pwyllgor wedi gofyn amdano yn flaenorol, ni ofynnodd am un o'r pethau hynny, mewn gwirionedd, y mae Llywodraeth Cymru wedi llwyddo i'w gael, a hynny yw i Lywodraeth y DU ymrwymo i beidio â deddfu ar gyfer Lloegr yn y meysydd hyn hyd nes y ceir cytundeb ar y fframweithiau sy'n berthnasol i'r DU gyfan, pan mae gan Loegr 18 gwaith poblogaeth Cymru. Mae pobl yn aml, gyda chyfiawnhad, yn cwyno nad yw Cymru yn cael ei thrin â pharch gan Lywodraeth y DU, ond yn yr achos hwn mae Llywodraeth y DU yn rhwymo, neu o leiaf yn rhoi ymrwymiad, iddo'i hun o ran Lloegr, yr un ag a fydd yng Nghymru, ynghylch beth fydd yn digwydd mewn gwirionedd, ac mae cymhelliant mawr i bawb gytuno ar sefydlu a gweithredu fframweithiau synhwyrol fel ein bod yn gadael yr Undeb Ewropeaidd yn llwyddiannus, a symud ymlaen gyda'n gilydd fel Teyrnas Unedig.
Rydw i'n sefyll yma heddiw i ddatgan fy mod yn erbyn y cynnig cydsyniad deddfwriaethol sydd gerbron. Rydw i'n ei erbyn o achos fe all agor y drws at danseilio'r Senedd genedlaethol yma. Dros ddwy flynedd yn ôl, mi gefais i'r wefr o ddod yma fel Aelod Cynulliad am y tro cyntaf i ymuno â'r egin Senedd hon. Wrth ddod yma, mi roeddwn i'n ymwybodol iawn o waith gwladgarwyr fu'n ymdrechu mor galed i sefydlu'r Cynulliad yma yn y lle cyntaf. Felly, mae heddiw yn ddiwrnod digalon imi.
Proses ydy datganoli. Mae sawl un wedi dweud hynny ar hyd y blynyddoedd, a hyd yma, fe gafwyd hanes o gynnydd a phroses o ddatblygu, tyfu ac aeddfedu. Mae pasio'r Bil yma heddiw yn gam yn ôl. Y cymal deddfwriaethol sy'n cynnwys y brawddegau am benderfyniad cydsyniad—y rheini sy'n cyfrif heddiw, nid unrhyw gytundebau gwleidyddol. Mae'r cymal yma yn tanseilio, mae'r cymal yma'n mynd â ni nôl. Mae dwy flynedd yn amser hir mewn gwleidyddiaeth, ac rydw i'n ofni y bydd y wefr y gwnes i ei theimlo ddwy flynedd yn ôl wedi troi'n siom enbyd cyn diwedd y dydd.