Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

07/03/2018

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni yw'r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, a'r cwestiwn cyntaf, Nick Ramsay.

Categoreiddio Ysgolion yn Sir Fynwy

1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gategoreiddio ysgolion yn Sir Fynwy? OAQ51856

Wrth gwrs. Mae categoreiddio'n darparu darlun clir o berfformiad ysgolion a lefel y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt er mwyn gwneud hyd yn oed yn well. Eleni, bu cynnydd yn Sir Fynwy o ran yr ysgolion cynradd yn y categori gwyrdd, sy'n dyst i waith caled staff yr ysgolion ac mae'n rhywbeth y dylid ei ddathlu.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn amlwg, mae gennych yr un ffigurau o'ch blaen â’r rhai rwyf innau wedi’u gweld. Fel y dywedoch, bu cynnydd cyson o ran categoreiddio yn Sir Fynwy, o dair ysgol werdd yn unig bum mlynedd yn ôl i 13 heddiw. Mae'r cynnydd hwn yn dyst i waith athrawon a phenaethiaid, a disgyblion, yn ogystal â’r awdurdod lleol a'r consortia rhanbarthol, wrth gwrs, sydd wedi rhoi cryn dipyn o gefnogaeth i benaethiaid dros y blynyddoedd diwethaf, o ran cynnig her a rhannu arferion gorau. Sut rydych yn gweithio gyda'r Gwasanaeth Cyflawni Addysg, a chonsortia eraill, i sicrhau bod yr arferion gorau yn cael eu rhannu rhwng y consortia yn ogystal ag yn fewnol?

Wel, rwy'n falch fod yr un ffigurau gennym; ni fyddai wedi bod yn ddechrau cadarnhaol iawn pe bai gennym wahanol setiau o ddata categoreiddio. Rydych yn llygad eich lle, Nick, yn nodi bod gwella ysgolion yn ymdrech gyfunol, rhwng staff ac arweinyddiaeth ysgolion unigol, yr awdurdod addysg lleol. A hoffwn dalu teyrnged i'r Cynghorydd Fox, rwy’n credu, yng nghyngor Sir Fynwy—o bryd i’w gilydd, mae ef a minnau wedi cweryla ynghylch perfformiad Sir Fynwy, ond mae'r categoreiddio hwn yn dangos cynnydd—a'r consortia rhanbarthol hefyd. Mae'n bwysig fod y consortia rhanbarthol yn gweithio gyda'i gilydd i ddysgu oddi wrth ei gilydd er mwyn sicrhau set gyson o ddulliau o wella ysgolion ledled y wlad.

Denu Myfyrwyr o Dramor i Brifysgolion Cymru

2. Beth y mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i ddenu myfyrwyr o dramor i brifysgolion Cymru? OAQ51846

Diolch, David. Rydym yn cydweithio'n agos â Prifysgolion Cymru, British Council Cymru a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, drwy bartneriaeth Cymru Fyd-eang, i greu cyfleoedd cydweithredol a chefnogi rhagor o weithgarwch hyrwyddo, megis cyflwyno brand Astudio yng Nghymru mewn marchnadoedd allweddol.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae myfyrwyr o dramor yn werth mwy na £151 miliwn i economi Caerdydd yn unig. Efallai eich bod wedi gweld astudiaeth newydd gan y Sefydliad Polisi Addysg Uwch sy'n dangos bod buddion myfyrwyr rhyngwladol hyd at 10 gwaith yn fwy na'r gost. Felly, ar gyfer lleoedd fel Caerdydd, a dinasoedd a threfi prifysgolion eraill ledled Cymru, mae hon yn ffynhonnell wirioneddol bwysig o incwm, ond yn bwysicach na hynny, y bri a gawn a’r buddion yn y dyfodol o ganlyniad i’r ffaith bod pobl hynod fedrus wedi cael profiad mor groesawgar a deniadol mewn addysg uwch yng Nghymru. Felly, beth y byddwch yn ei wneud i sicrhau, wrth i broses Brexit fynd rhagddi, ein bod yn parhau i fod yn lle allweddol a chroesawgar iawn i fyfyrwyr tramor?

Diolch, David. Cytunaf yn llwyr â’ch dadansoddiad o bwysigrwydd myfyrwyr rhyngwladol, ac yn wir, staff rhyngwladol a ddaw i astudio ac i weithio yn ein prifysgolion. Ac rwyf wedi dweud yn glir fod croeso cynnes i fyfyrwyr o'r Undeb Ewropeaidd, a thu hwnt, yng Nghymru ac y byddant yn parhau i gael croeso cynnes yng Nghymru. Mae gennyf newyddion da i'r Siambr: mae data UCAS ar israddedigion a dderbynnir yn llawn amser ar gyfer blwyddyn academaidd 2017-18 wedi dangos bod darparwyr yng Nghymru wedi gweld cynnydd yn nifer y derbyniadau o'r UE er gwaethaf ansicrwydd mewn perthynas â Brexit, a'r nifer uchaf o dderbyniadau erioed o'r tu allan i'r UE. Yr hyn sy'n hollbwysig i mi yw ein bod yn parhau i bwysleisio wrth Lywodraeth y Deyrnas Unedig na ddylid cynnwys myfyrwyr rhyngwladol mewn unrhyw ystadegau mewnfudo a allai gael eu cyflwyno. Fel y clywsom ddoe gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd, er fy mod yn credu bod y rheini yn yr Adran Addysg yn deall hyn, ac yn credu hyn, mae brwydr i'w hennill gyda'r Swyddfa Gartref.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd UKIP, Michelle Brown.

Diolch, Lywydd, a phrynhawn da, Ysgrifennydd y Cabinet. Dywed yr adroddiad ar ddyfodol y cwricwlwm addysg rhyw a chydberthynas yng Nghymru, ar hyn o bryd, fod llwyddiant addysg rhyw a chydberthynas yn dibynnu’n rhy aml ar ddiddordebau a brwdfrydedd athrawon unigol neu arweinwyr ysgolion â chyfrifoldebau addysg rhyw a chydberthynas/addysg bersonol a chymdeithasol. Yn y maes hwn, nid yw gwybodaeth ynddi’i hun yn ddangosydd llwyddiant. Nid yw beichiogrwydd anfwriadol ymysg pobl ifanc yn eu harddegau o reidrwydd yn deillio o ddiffyg gwybodaeth neu ddealltwriaeth, a gall plentyn neu berson ifanc fod yn gwbl ymwybodol eu bod yn cael eu cam-drin heb allu gwneud unrhyw beth i atal hynny. Sut rydych yn mesur llwyddiant addysg rhyw a chydberthynas ar hyn o bryd, a sut y byddwch yn mesur llwyddiant yn y dyfodol?

13:35

Diolch am eich cwestiwn. Pan ddeuthum i’r swydd, roeddwn yn bryderus nad yw darpariaeth addysg rhyw a chydberthynas cystal ag y dylai fod, ac wrth wrando ar blant a phobl ifanc, wrth imi deithio o gwmpas ysgolion Cymru, maent wedi dweud yn glir iawn wrthyf nad yw darpariaeth bresennol addysg rhyw a chydberthynas, yn aml, yn diwallu eu hanghenion unigol. Dyna pam y comisiynais yr Athro Emma Renold o Brifysgol Caerdydd, sy'n arbenigwr rhyngwladol ar y materion hyn, i lunio adroddiad annibynnol. Rwyf wedi derbyn yr adroddiad hwnnw bellach. Rydym yn ystyried yr argymhellion ynglŷn â sut y gallwn wella darpariaeth bresennol addysg rhyw a chydberthynas a sut y gallwn sicrhau bod ein cwricwlwm newydd yn diwallu anghenion plant a phobl ifanc.

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn yr un adroddiad, dywed fod plant, hyd yn oed cyn oedran ysgol, yn derbyn negeseuon ynghylch rhywedd, rhywioldeb a pherthnasoedd o amrywiaeth eang o ffynonellau, er enghraifft hysbysebion, llyfrau, cyfryngau cymdeithasol, teledu ac aelodau o'r teulu, ac ati. Buaswn yn dweud bod y rhan fwyaf o'r rhain naill ai o dan reolaeth rhieni neu y gallant fod o dan reolaeth rhieni, yn enwedig rhieni plant dan oed ysgol. Does bosibl nad oes gan rieni'r hawl i fagu eu plentyn yn unol â'u gwerthoedd a'u credoau eu hunain? Felly, hoffwn ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet a fydd hawl gan rieni o hyd i eithrio eu plentyn o addysg rhyw a chydberthynas os ydynt yn teimlo nad yw'r cwricwlwm addysg rhyw a chydberthynas yn addas ar gyfer eu plentyn hwy?

Wel, wrth gwrs, mae gan rieni hawliau a chyfrifoldebau, ond weithiau, mae'r materion y soniwch amdanynt y tu hwnt i reolaeth y rhiant. Pan oedd fy mhlant yn fach iawn, rwy'n cofio mynd i siop adnabyddus iawn ar y stryd fawr a gweld, yn y siop, fod y gwisgoedd ar gyfer gwisgo i fyny fel meddygon yn yr adran deganau bechgyn a'r adran wisgo i fyny ar gyfer merched yn cynnwys gwisg nyrs. Mae'r pethau hyn, weithiau, y tu hwnt i reolaeth rhieni.

O ran rôl a natur orfodol addysg rhyw a chydberthynas yn y dyfodol, rwyf wedi derbyn argymhelliad clir iawn gan Emma Renold. Mae'r adroddiad a ddatblygwyd ganddi ar fy nghyfer yn cael ei ystyried, a gobeithiaf allu dod i'r Siambr hon cyn bo hir gyda fy ymateb llawn i'r adroddiad hwnnw, gan amlinellu sut rydym yn bwriadu gwella addysg cydberthynas a rhywioldeb ar gyfer ein holl blant a phobl ifanc yng Nghymru.

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet.

Mae'n ddealladwy y bydd rhieni, yn enwedig rhieni plant dan oed ysgol, yn bryderus ynglŷn â beth fydd cynnwys y cwricwlwm addysg rhyw a chydberthynas. Efallai y bydd rhai rhieni, am resymau crefyddol a gwahanol resymau eraill, o'r farn fod y cwricwlwm yn annymunol. Felly, mae'n debyg fod dau ran i fy nghwestiwn olaf. Faint o fewnbwn fydd gan rieni i'r cwricwlwm newydd ac a yw rhiant—. Mae'n ddrwg gennyf, dyna fy nghwestiwn: faint o fewnbwn fydd gan rieni i'r cwricwlwm hwnnw?

Rwy'n dal yn anghyfforddus ynglŷn â hyn—nad ydych am ddweud a fydd hawl gan rieni i eithrio eu plentyn, oherwydd yn y pen draw, gall rhieni eithrio eu plentyn o ran o'r cwricwlwm nad ydynt yn eu hoffi drwy dynnu eu plentyn o'r ysgol ac addysgu eu plentyn gartref. Bydd hynny'n cael effaith andwyol, yn enwedig ar fenywod, a fydd yn gorfod gofalu am y plentyn, pan allent, fel arall, fod mewn ysgolion. Felly, sut rydych yn mynd i fynd i'r afael â hynny?

Nid wyf yn awyddus i achub y blaen ar y trafodaethau terfynol a'r penderfyniadau y byddaf yn eu gwneud mewn perthynas â'r adroddiad hwnnw. Ac rwyf wedi rhoi ymrwymiad yma y prynhawn yma, Michelle, y byddaf, ar ôl gwneud hynny, yn dychwelyd i'r Siambr â datganiad llawn ar sut rydym yn bwriadu datblygu polisi yn y maes hwn.

Mae'n rhaid imi ddweud, nid ydym yn caniatáu i rieni i dynnu eu plant allan o wersi mathemateg neu wersi Saesneg, ac yn ôl yr hyn a glywaf gan blant a phobl ifanc, maent yn teimlo bod hon yn agwedd bwysig iawn ar eu haddysg, ac mae angen inni sicrhau ei bod yn iawn ar eu cyfer. Wrth gwrs, mae'n rhaid cyflawni hynny mewn ffordd sy'n addas i oedran ac mewn ffordd sy'n hygyrch, hyd yn oed i'n plant ieuengaf. Ac nid wyf yn credu bod unrhyw blentyn yn rhy ifanc i ddechrau siarad am gydberthynas, bod yn ddiogel, cydsyniad a beth yw ystyr hynny.

Diolch, Lywydd.

Mae Plaid Cymru'n gwrthwynebu diwygiadau pensiwn arfaethedig Universities UK ac rydym yn cefnogi streiciau darlithwyr yr Undeb Prifysgolion a Cholegau. A ydych yn cefnogi camau gweithredu'r Undeb Prifysgolion a Cholegau yn erbyn y toriadau pensiwn?

Wel, Llyr, rwyf wedi cyfarfod â swyddogion yr Undeb Prifysgolion a Cholegau ar gyfer y DU gyfan yn ogystal â chynrychiolwyr o Gymru, ac rwy'n parhau i ohebu â hwy. Yn anffodus, oherwydd y tywydd gwael yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn, nid oedd modd imi fynychu cynhadledd yr Undeb Prifysgolion a Cholegau, gan i'r gynhadledd gael ei chanslo. Mae swyddogion yn parhau i gysylltu â'r cyflogwyr a'r gweithwyr, ac rwyf innau, ar bob cyfle, wedi annog y cyflogwyr i ddychwelyd at y bwrdd i drafod y pryderon hyn, gan fy mod yn bryderus iawn ynghylch amharu ar fyfyrwyr, ac rwy'n cydymdeimlo â'r aelodau sy'n wynebu newidiadau sylweddol posibl i'w pensiynau, ac rwy'n deall pam eu bod yn bryderus. Yn anffodus, mae'r cyflogwyr yn sefydliadau unigol, ond beth bynnag y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i sicrhau bod y partïon hyn yn dychwelyd at y bwrdd i ddod o hyd ateb i'r broblem, byddwn yn gwneud hynny.

13:40

Rwy'n falch o glywed eich bod wedi cyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU. Yn amlwg, mae'r Undeb Prifysgolion a Cholegau wedi dweud bod pensiynau eu cydweithwyr mewn llawer o wledydd Ewropeaidd eraill mewn prifysgolion ôl-1992, ysgolion, colegau addysg bellach, y GIG a'r Llywodraeth wedi'u tanysgrifennu a'u gwarantu gan y wladwriaeth, wrth gwrs, ac maent yn gofyn pam y dylai fod gan brifysgolion cyn-1992 y DU gynllun pensiwn heb unrhyw warant gan y Llywodraeth. Felly, hoffwn wybod pa sylwadau a gyflwynwyd gennych i Lywodraeth y DU, ac yn wir, pa ymyriadau rydych wedi galw arnynt i'w cyflawni yn hyn o beth.

Fel rwyf wedi'i ddweud, Llyr, rydym wedi annog pob parti i ddychwelyd at y bwrdd, ac roedd penderfyniad y partïon i ddychwelyd at y bwrdd negodi gyda chymorth y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu yn galonogol iawn. Credaf mai dyna sy'n rhoi'r cyfle gorau inni ganfod ateb i'r broblem sylweddol hon. Fel y dywedais, mae'r rôl uniongyrchol y gall Llywodraeth Cymru ei chwarae yn hyn yn gyfyngedig i raddau, ond byddwn yn defnyddio ein holl allu i ddylanwadu er mwyn sicrhau bod y trafodaethau hyn yn llwyddiannus, ac rwy'n parhau i siarad â Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru i sicrhau cyn lleied o darfu â phosibl ar fyfyrwyr unigol.

Yn amlwg, mae yna agwedd economaidd i'r camau gweithredu hyn, ond credaf fod mater moesol yn y fantol yma hefyd, gan fod hyn oll yn mynd rhagddo mewn cyd-destun lle mae is-gangellorion, wrth gwrs, yn derbyn cyflogau anferthol sy'n llawer mwy na chyflogau’r Prif Weinidog neu Brif Weinidog y DU yn San Steffan, hyd yn oed. Yn wir, datgelwyd yn ddiweddar fod oddeutu £8 miliwn wedi'i dalu mewn treuliau i brif swyddogion prifysgolion dros y ddwy flynedd ddiwethaf yn unig. Rydych wedi dweud yn flaenorol y dylid cyfyngu ar gyflogau uwch swyddogion ac y dylid canolbwyntio hefyd ar ben isaf y raddfa gyflog. Felly, sut y mae hynny'n cyd-fynd â'r cynigion hyn ar gyfer pensiynau, a ystyrir yn ymosodiad uniongyrchol ar amodau gwaith y staff hynny?

Wel, Llyr, buaswn yn ailadrodd y safbwynt hwnnw yma heddiw. Rwy'n disgwyl ataliaeth gan fy is-gangellorion ym mhrifysgolion Cymru, ac fe fyddwch yn ymwybodol fod Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, gan weithio gyda'r sector, wedi cyhoeddi adroddiad ar lefelau cyflog ym mhrifysgolion Cymru, ac nid yw ein his-gangellorion yn wahanol iawn i'r rhai ledled y DU. Ond o ran cyfiawnder cymdeithasol, yr hyn sy'n bwysig iawn i mi yw bod y gweithwyr ar y cyflogau isaf yn y sector yn cael eu trin yn deg, a dyna pam rwyf wrth fy modd mai sefydliadau addysg uwch Cymru a'n sector ni fydd rhan gyntaf y sector drwy'r Deyrnas Unedig i dalu'r cyflog byw go iawn i bob un o'u gweithwyr. Rydym yn parhau i negodi hynny mewn perthynas â phob agwedd ar y bobl sy'n gweithio mewn addysg uwch yng Nghymru, gan gynnwys pobl sy'n gweithio yn swyddfa'r cwmni benthyciadau i fyfyrwyr yn Llandudno.

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, mae ymchwil yn dangos mai'r gymuned Sipsi/Roma/Teithwyr sydd â'r cyfraddau cyrhaeddiad isaf o unrhyw grŵp ethnig yng Nghymru mewn perthynas ag addysg. Dywedwch wrthym, pam y cawsoch wared ar y grant gwella addysg, a gynlluniwyd i gefnogi a chynyddu cyfraddau cyrhaeddiad ymhlith y grŵp penodol hwn?

Lywydd, nid wyf wedi cael gwared ar y grant gwella addysg.

Fel y gwyddoch, rydych wedi ailddosbarthu'r grant gwella addysg—elfen y grant cyflawniad lleiafrifoedd ethnig ohono—i mewn i'r grant cynnal refeniw ar gyfer awdurdodau lleol, ac maent yn honni na allant ddod o hyd i unrhyw arwydd ohono o fewn llinellau'r cyllidebau hynny a roddwyd iddynt gan Lywodraeth Cymru. Maent yn credu bod oddeutu £13 miliwn wedi mynd ar goll o'r dyraniad addysg a gawsant gan Lywodraeth Cymru a bod hynny'n cael effaith sylweddol ar eu gallu i ddiwallu anghenion addysgol y gymuned Sipsi/Roma/Teithwyr, ac yn wir, cymunedau lleiafrifoedd ethnig eraill sydd angen cymorth penodol ac ychwanegol. Beth a wnewch i leihau eu pryderon?

13:45

Bydd yr Aelod yn ymwybodol fod nifer o grantiau wedi dod yn rhan o'r grant gwella addysg bedair blynedd yn ôl. Galwyd rhan o hynny yn 'Grant Cyflawniad Lleiafrifoedd Ethnig' sydd yno er mwyn cefnogi addysg grwpiau lleiafrifoedd ethnig, ac roedd yna gynllun grant ar wahân i gefnogi Sipsiwn a Theithwyr. Nid yw'r Aelod yn anghywir i ddweud bod angen inni ddwysáu’n hymdrechion o ran canlyniadau i blant Sipsiwn/Teithwyr. Er ein bod wedi gweld cynnydd sylweddol o ran cyrhaeddiad addysgol pob grŵp lleiafrifol ethnig ond un, mae cyrhaeddiad Sipsiwn/Teithwyr yn parhau i beri pryder i mi.

Mae'r Aelod yn llygad ei le yn dweud bod y grant gwella addysg, fel cyfraniad at yr arian sydd ar gael i'r awdurdod addysg lleol drwy'r grant cynnal refeniw, wedi’i ychwanegu fel cyfraniad. Rwyf wedi cydnabod bod hynny, oherwydd gwahanol ffyrdd o ddosbarthu, wedi golygu efallai bod rhai awdurdodau lleol o dan anfantais. Felly, rwyf wedi darparu £5 miliwn i unioni'r anfantais honno i Gaerdydd, i Gasnewydd ac i Abertawe, a byddwn yn darparu £2.5 miliwn ychwanegol dros y flwyddyn ariannol newydd hon i'r consortia rhanbarthol i weithio gydag awdurdodau lleol arweiniol, gan gynnwys Wrecsam yng ngogledd Cymru, fel y gallwn sicrhau ein bod yn gallu cael gwell canlyniadau i'r plant hyn.

Felly, byddwch yn darparu'r £7.5 miliwn hwnnw, fel yr awgrymoch, i dri awdurdod lleol yn bennaf, sy'n digwydd bod yn awdurdodau Llafur yn ne Cymru, gydag ond ychydig iawn ar ôl ar gyfer gweddill y wlad. Y gwir amdani yw bod pob awdurdod lleol yng Nghymru yn cynnwys pobl ifanc sydd angen y math hwn o gefnogaeth. Felly, gofynnaf i chi unwaith eto: pa bryd y byddwch yn sicrhau bod digon o adnoddau ar gael i bob awdurdod lleol yng Nghymru, boed yng ngogledd Cymru, canolbarth Cymru, gorllewin Cymru neu dde Cymru, er mwyn sicrhau y gallant fodloni nid yn unig anghenion y gymuned Sipsiwn/Teithwyr, ond cymunedau lleiafrifoedd ethnig eraill a all fod angen cefnogaeth ychwanegol gyda'u dysgu?

Wel, Darren, fel y dywedais, bydd pob awdurdod lleol wedi elwa ar gyfraniad y grant gwella addysg yn mynd i mewn i'r grant cynnal refeniw. Rwyf wedi cydnabod, ar gyfer rhai awdurdodau lleol, fod newidiadau o ran y fformiwla ddosbarthu wedi cael effaith negyddol. Y gwir amdani, Darren, yw bod y tri awdurdod lleol hynny wedi eu heffeithio gan mai dyna lle mae trwch y boblogaeth, ac felly nid yw'n syndod mai'r awdurdodau hynny yw Caerdydd, Abertawe a Chasnewydd, gan mai dyna ble mae’r rhan fwyaf o'r myfyrwyr hynny yn byw. Yn ychwanegol at hynny, fel y dywedais, byddwn yn darparu adnoddau yn ystod y flwyddyn ariannol hon i'r holl gonsortia rhanbarthol fel y gallant ddatblygu polisi a chymorth yn y maes hwn. Mae'n wir, er enghraifft, fod rhai o'r ymyriadau mwyaf llwyddiannus eisoes ar waith ar lefel y consortia neu gan awdurdod lleol unigol ar gyfer y rhanbarth cyfan, ond rwy’n cydnabod bod mwy i’w wneud ar gyfer y grŵp hwn o blant. Ond gadewch i mi ddweud hyn: nid yw'n deg ystyried pob plentyn o gefndir ethnig lleiafrifol fel un achos penodol. Mae plant Tsieineaidd Cymreig, plant Indiaidd Cymreig, plant Pacistanaidd Cymreig, a phlant Bangladeshaidd Cymreig yn perfformio cystal neu’n well na'r cyfartaledd yng Nghymru.

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015

3. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu datblygu system addysg sy'n adlewyrchu amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015? OAQ51835

Diolch, Bethan, ac a gaf fi fanteisio ar y cyfle hwn i’ch llongyfarch ar eich priodas yn ddiweddar?

Mae 'Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein Cenedl' yn darparu cynllun gweithredu a fydd yn arwain at drawsnewid y system addysg yng Nghymru. Datblygwyd y cynllun yn unol ag egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, a bydd yn cael ei gyflawni a'i asesu yn erbyn yr amcanion llesiant.

Diolch am eich ateb. Mae’r polisi ad-drefnu ysgolion a chreu uwchysgolion canolog, yn enwedig yng Nghastell-nedd Port Talbot a ledled Cymru, wedi peri pryder, yn enwedig gyda'r posibilrwydd o gau Ysgol Gyfun Cymer Afan yn fy rhanbarth. Mae'n arbennig o ddifrifol mewn perthynas â Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013, ac mae'n mynd yn erbyn y Ddeddf honno, oherwydd os yw'r ysgol yn cau bydd yn rhaid iddynt deithio am 50 munud i gyrraedd yr ysgol agosaf. Felly, pan gawsom gyfarfod cyhoeddus ar hyn yn ddiweddar, roedd pobl yn dweud y byddai hyn yn ychwanegu straen ym mywydau'r plant, ac y byddai'n mynd yn groes i gynaliadwyedd y Ddeddf honno. Rwy'n cydnabod na allwch edrych ar y mater penodol hwn ynddo'i hun, ond beth yw eich barn chi ynglŷn â'r ffaith, os yw ysgol yn cau a bod hynny'n arwain, felly, at fwy o drafnidiaeth, fod rhagor o bwysau'n cael ei roi ar blant ysgol—beth rydych yn ei wneud mewn perthynas â lles y plant hynny i geisio cefnogi datblygiad eu haddysg, yn hytrach na'u rhwystro, fel y cred llawer o'r rhieni yn yr achos penodol hwn?

13:50

Wel, Bethan, wrth ymgymryd â'u cyfrifoldebau trefniadaeth ysgolion, mae'n rhaid i awdurdodau lleol gydymffurfio â Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 a'r cod trefniadaeth ysgolion, ac mae'n rhaid iddynt ystyried amrywiaeth o ffactorau. Un o'r ffactorau hynny yw buddiannau dysgwyr. Fe fyddwch yn ymwybodol ein bod wedi cynnal ymgynghoriad diweddar ar y cod i weld lle y gellir ei gryfhau. Pan fo'r cynigion yn cynnwys cau unrhyw ysgol, sy'n gallu bod yn heriol iawn, ac yn emosiynol iawn, mae'n rhaid i'r ddogfen ymgynghori ddangos effaith y cynigion ar unigolion, ac yn wir ar y gymuned, ac mae'n rhaid cynnal asesiad o'r effaith honno ar y gymuned.

Ysgrifennydd y Cabinet, o ystyried yr amcanion lles, a gaf fi ofyn i chi pa ystyriaeth, os o gwbl, rydych wedi'i rhoi i fentrau a welsom yn Ffrainc ac yn fwy diweddar yn yr Alban i reoli'r defnydd o ffonau symudol mewn ysgolion fel ffordd o helpu i fynd i'r afael â bwlio mewn ysgolion a tharfu ar ddysgu?

Diolch, Dawn. Mae'n rhaid i mi ddweud mai cyfrifoldeb ysgolion unigol yw penderfynu ar y ffordd fwyaf effeithiol o fynd i'r afael â bwlio a rhoi unrhyw bolisïau gwrth-fwlio ar waith yn eu hysgolion, gan gynnwys unrhyw fesurau yr hoffent eu hystyried i reoli'r defnydd o ffonau neu offer technoleg gwybodaeth, a allai arwain at seiberfwlio. Rydym hefyd yn datblygu cyfres—mae gennym eisoes gyfres o fesurau ar waith i gynorthwyo ysgolion i fynd i'r afael â seiberfwlio yn eu hysgolion ac rydym wrthi'n diweddaru ein canllawiau gwrth-fwlio.

Credaf ei bod yn bwysig dweud, fodd bynnag, na allwn honni bod pob math o dechnoleg gwybodaeth yn cael effaith niweidiol ar addysg. Ddoe, buom yn trafod sgiliau digidol a'r defnydd o dechnoleg yn ein hystafelloedd dosbarth a'r manteision y gall hynny eu rhoi i ddisgyblion ac athrawon. Felly, mae angen inni fabwysiadu ymagwedd gytbwys yn hyn o beth.

Ysgrifennydd y Cabinet, un o amcanion Deddf cenedlaethau'r dyfodol yw sicrhau bod pob plentyn yn cael cyfle i gyflawni eu llawn botensial, beth bynnag yw eu cefndir. Rwy'n siŵr y byddai pob un ohonom yn cytuno â hynny. Mae'r bwlch yn y canlyniadau yno o hyd, fodd bynnag, rhwng plant sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Mae nifer o deuluoedd yn byw ychydig uwchlaw'r ffin tlodi ond heb gyrraedd y categori y dylent ei gyrraedd. A ydych yn hyderus fod y meini prawf presennol yn ddigon eang i gyrraedd pob un o'r plant hyn sy'n dioddef yn yr amgylchiadau hyn, ac os nad ydynt, beth rydych yn bwriadu ei wneud i sicrhau bod rhwyd ddiogelwch well i'w chael?

Nick, rydych yn llygad eich lle: un o'r heriau mwyaf sy'n ein hwynebu mewn addysg yng Nghymru yw sicrhau'r tegwch hwnnw o fewn ein system ac mae hynny'n cynnwys cau'r bwlch cyrhaeddiad rhwng y disgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a'u cyfoedion. Eleni, bydd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi dros £91 miliwn yn y grant datblygu disgyblion. Rydym bob amser yn herio'r consortia rhanbarthol ac ysgolion unigol i fabwysiadu'r arferion gorau ar sail tystiolaeth o ran y ffordd orau o ddefnyddio'r adnodd hwnnw i gynorthwyo'r plant sy'n cael prydau ysgol am ddim.

Rydym yn ymwybodol nad yw rhai teuluoedd yn bodloni'r meini prawf ar gyfer prydau ysgol am ddim, ac o ystyried y cyfyngiadau ar gyllid cyhoeddus ar hyn o bryd, buaswn ar fai'n awgrymu ein bod wedi gallu cynyddu nifer y plant. Ar hyn o bryd, mae prydau ysgol am ddim yn cynrychioli'r procsi gorau ar gyfer angen sydd gennym yn fy marn i.

Y Grant Gwella Addysg i Ysgolion

4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y grant gwella addysg i ysgolion? OAQ51839

Diolch, Russell. Drwy'r grant gwella addysg i ysgolion byddwn yn parhau i ddarparu mwy na £225 miliwn dros y ddwy flynedd nesaf i gefnogi'r cyfnod sylfaen a gwelliannau mewn ysgolion. Mae hwn yn fuddsoddiad sylweddol a fydd o fudd i bob dysgwr fel rhan o'r gwaith o gyflawni ein cenhadaeth genedlaethol.

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Roeddwn yn gwrando ar eich atebion i Darren Millar yn gynharach, ac fe ymrwymoch chi £5 miliwn o'ch cronfeydd wrth gefn ar gyfer blwyddyn ariannol 2018-19 er mwyn caniatáu ar gyfer yr effaith ar awdurdodau lleol trefol. Ond ymddengys, yn ôl eich ateb i Darren Millar, fod y ffigur hwnnw bellach yn £7.5 miliwn. Sut rydych yn bwriadu cefnogi dysgwyr yng nghanolbarth a gogledd Cymru, ac yn benodol, faint o'r £2.5 miliwn hwnnw y cyfeirioch chi ato'n gynharach a fydd yn cefnogi dysgwyr ym Mhowys?

13:55

Wel, Russell, yr hyn sy'n bwysig yw ein bod yn cyfeirio arian i lle mae unigolion a fyddai wedi elwa dan rai o'r grantiau hyn o'r blaen wedi'u lleoli. Oherwydd y trosglwyddo, bydd rhai awdurdodau na fyddai wedi derbyn—neu a fyddai ond wedi derbyn ychydig iawn—o dan yr hen grant cyflawniad lleiafrifoedd ethnig a'r grant Sipsi/Teithwyr, wedi elwa mewn gwirionedd o dan ddosbarthiad y grant cynnal refeniw. Felly, ar hyn o bryd, nid wyf yn rhagweld y byddaf yn darparu unrhyw adnoddau ychwanegol yn hyn o beth.

Ysgrifennydd y Cabinet, diben y grant gwella addysg yw cynorthwyo'r consortia rhanbarthol i wella canlyniadau i bob dysgwr. Mae'r ysgol gyfun orau yng Nghymru, Pontarddulais, yn fy rhanbarth i, ond mae hefyd yn cynnwys un o'r ysgolion sy'n perfformio waethaf, ychydig filltiroedd yn unig i lawr y ffordd. Felly, sut y mae eich Llywodraeth yn bwriadu cael gwared ar y fath wahaniaeth mewn cyrhaeddiad o fewn consortia rhanbarthol?

Rwy'n ddiolchgar iawn i chi am gydnabod ysgol Pontarddulais. Neithiwr, cyfarfûm â phennaeth yr ysgol wrth iddi ddod yn un o aelodau cyswllt newydd cyntaf yr academi arweinyddiaeth, ac mae ei chyfraniad i'r broses o godi safonau yn ei hysgol ei hun a ledled y rhanbarth yn un o'r rhesymau pam y cafodd ei phenodi i un o'r rolau hyn yr ystyriaf eu bod yn llawn bri.

Mae amrywio yn ein system, boed yn amrywio o fewn yr ysgol, yn amrywio o fewn y sir, neu'n wir, yn amrywio o fewn y rhanbarth, yn parhau i beri cryn bryder i mi. Cyfeiriwyd at hynny ddoe yn ein dadl ar adroddiad blynyddol Estyn o ran y ffaith bod arnom angen gwell gweithio rhwng ysgolion fel y gallwn sicrhau cyn lleied â phosibl o amrywio, gan ei bod anhygoel, onid yw, fel y disgrifiwyd gennych yn awr, y gall un ardal fechan gynnwys sefydliadau sy'n perfformio'n wych a rhai nad ydynt yn gwneud cystal? Mae angen inni fanteisio ar y cyfle i ddysgu gan y goreuon a rhannu'r arferion da hynny.

Addysg Wleidyddol a Dinasyddiaeth mewn Ysgolion

5. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf am addysg wleidyddol a dinasyddiaeth mewn ysgolion yng Nghymru? OAQ51858

Diolch, Mr Bennett. Mae gan ddysgwyr gyfle i astudio gwleidyddiaeth a dinasyddiaeth fel rhan o fagloriaeth Cymru ac mewn addysg bersonol a chymdeithasol. Mae sicrhau bod dysgwyr yn dod yn ddinasyddion moesegol a gwybodus yn un o bedwar diben y cwricwlwm newydd. Bydd addysg wleidyddol a dinasyddiaeth yn rhan ganolog o'r gwaith o gefnogi hyn.

Ie, diolch am yr ateb. Gyda'r posibilrwydd y bydd pobl 16 a 17 oed yn cael pleidleisio yng Nghymru, credaf y gall fod achos cryfach bellach dros wella darpariaeth addysg wleidyddol yn y system ysgolion. Yn wir, mae llawer o ymgyrchwyr ifanc sy'n awyddus i gael y bleidlais wedi galw am hynny. Felly, tybed, wrth symud ymlaen, a yw'n debygol y bydd unrhyw newid, yn eich tyb chi, i ddarpariaeth addysg wleidyddol?

Wel, yn wir, mae'r gwaith o ddatblygu'r cwricwlwm newydd yn darparu cyfle gwirioneddol i sicrhau addysg eang a chytbwys ar gyfer plant a phobl ifanc ledled Cymru, a buaswn yn cynnwys addysg wleidyddol a dinasyddiaeth yn hynny o beth. Yn wir, fel mam i ferch 16 oed, sy'n awyddus iawn i gael y cyfle i allu cael hawl ddemocrataidd a bwrw ei phleidlais ac sydd â chryn ddiddordeb—sy'n codi arswyd arnaf, weithiau—mewn gwleidyddiaeth, credaf fod llawer mwy y gallwn ei wneud. Un o ddibenion ein cwricwlwm, fel y dywedais, yw sicrhau bod gennym ddinasyddion moesegol, gwybodus, ac mae gallu rhoi'r sgiliau i'n pobl ifanc, er enghraifft, i ddeall y bydd geiriau ar ochr y bws ac i herio beth yn union y maent i'w gweld yn ei feddwl neu'n ei addo, ac i allu gweithredu yn unol â hynny, yn rhywbeth i'w groesawu'n fawr.

Ariannu Ysgolion ym Mro Morgannwg

6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ariannu ysgolion ym Mro Morgannwg? OAQ51843

Diolch yn fawr iawn, Jane, am eich cwestiwn. Awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am ariannu ysgolion yng Nghymru. Mae Cyngor Bro Morgannwg yn pennu eu blaenoriaethau gwariant ar gyfer y gwasanaethau y maent yn eu darparu, gan ystyried anghenion lleol a'r holl adnoddau sydd ar gael. Mater i'r awdurdod yw faint o arian y mae'n ei neilltuo ar gyfer cyllidebau ysgolion.

Ysgrifennydd y Cabinet, fe fyddwch yn gwybod bod Cyngor Bro Morgannwg wedi ysgrifennu at bob rhiant yn y sir ynghylch ariannu ysgolion. Diolch am eich ymateb i mi mewn perthynas â'r mater hwn. Mae eich llythyr i mi yn egluro nifer o bwyntiau mewn gwirionedd, ac rydych wedi eu nodi unwaith eto wrth ymateb i mi, ac mae'n egluro'r sefyllfa parthed rôl Llywodraeth Cymru ym mhenderfyniadau'r gyllideb ariannu ysgolion. Felly, yn eich llythyr i mi, rwy'n falch eich bod wedi gallu egluro rôl allweddol llywodraeth leol yn pennu'r cyllidebau ar gyfer eu hysgolion a rôl llywodraeth leol yn cytuno ar y fformiwla ariannu a'i hadolygu. Hoffwn ddyfynnu'n fyr o'ch llythyr dyddiedig 26 Chwefror. Rydych yn dweud,

Nid yw Llywodraeth Cymru yn ariannu ysgolion yn uniongyrchol. Mae pob Awdurdod Lleol yng Nghymru yn gyfrifol am bennu faint o arian a ddyrennir i'w ysgolion

ac fel y dywedwch,

Mae faint o arian y mae Awdurdod yn ei neilltuo ar gyfer cyllidebau ysgolion yn fater ar gyfer yr Awdurdod hwnnw.

Dywedwch hefyd,

O ran sut y mae Llywodraeth Cymru yn ariannu Awdurdodau Lleol, dosberthir y cyllid refeniw craidd a ddarparwn yn ôl anghenion cymharol, gan ddefnyddio fformiwla sy'n ystyried cyfoeth o wybodaeth ar nodweddion demograffig, ffisegol, economaidd a chymdeithasol yr awdurdodau. Datblygwyd y fformiwla ariannu hon mewn ymgynghoriad â Llywodraeth Leol drwy'r Is-Grŵp Dosbarthu.

A ydych yn credu y byddai o gymorth pe bai eich llythyr, gan gynnwys y wybodaeth hon, yn cael ei anfon at bob rhiant ym Mro Morgannwg, neu o leiaf, ar gael ar wefan Bro Morgannwg? Ac a ydych hefyd yn croesawu rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain Llywodraeth Cymru, sydd wedi arwain at gymuned ddysgu newydd yn Llanilltud Fawr a fydd yn agor yn swyddogol ar 22 Mawrth? Ac Ysgrifennydd y Cabinet—

14:00

Rwyf wedi bod yn oddefgar iawn, Jane Hutt. Rydych dros ddwy funud bellach. Cwestiwn olaf cyflym iawn.

Ac yn olaf, deallaf fod adroddiad cabinet diweddar gan Gyngor Bro Morgannwg yn dangos cyfraniad cyfalaf mwy gan Lywodraeth Cymru, a bod y cynlluniau ar gyfer 2017 ymlaen yn dangos gostyngiad gan gyngor y Fro o ran—[Torri ar draws.]

Wel, Lywydd, nid oes unrhyw amheuaeth fod hwn yn gyfnod heriol i gyllidebau addysg, ac ni phetrusaf rhag dweud hynny. Golyga hynny fod bod yn glir ynglŷn â'r ffeithiau a'r wybodaeth yn bwysicach nag erioed, ac mae'n drueni fod yr ohebiaeth gan y Fro i'w hysgolion a'u rhieni wedi camddehongli'r sefyllfa mewn perthynas ag ariannu ysgolion. Rwyf wrthi'n ymateb i bob llythyr a gefais gan rieni o Fro Morgannwg, er mwyn egluro'r sefyllfa, ac rwy'n fwy na pharod i wneud hynny eto heddiw.

Mewn perthynas ag arian craidd o dan y setliad llywodraeth leol, nid Bro Morgannwg—nid Bro Morgannwg—yw'r awdurdod sy'n derbyn y swm lleiaf o arian yng Nghymru, fel y byddent yn awyddus i'r rhieni gredu. Mae'n bosibl mai hwy yw'r awdurdod sy'n gwario'r swm lleiaf y disgybl, ond mater i'r cyngor yw hynny. Yr hyn sy'n fater i mi yw y gellir defnyddio'r adnoddau sydd gennyf yn ganolog i gefnogi addysg ym Mro Morgannwg.

Mae Bro Morgannwg yn elwa ar y grant amddifadedd disgyblion; maent hefyd yn elwa ar ein grant ar gyfer ysgolion bach a gwledig; maent hefyd yn rhan o'n cynllun peilot clystyrau cyflenwi sy'n seiliedig ar ysgolion; ac maent hefyd yn rhan o'n cynllun peilot ar gyfer rheolwyr busnes ysgolion. Mae adnoddau sylweddol wedi'u darparu ar eu cyfer o dan fand A rhaglen gyfalaf ysgolion yr unfed ganrif ar hugain. Rydym wedi amlinellu llawer iawn o adnoddau o dan fand B y rhaglen, ac fel y gwyddoch, y penwythnos diwethaf hwn, cyhoeddais £14 miliwn yn ychwanegol ar gyfer man atgyweiriadau i ysgolion, a bydd Bro Morgannwg yn derbyn dros £0.5 miliwn o'r swm hwnnw.

Fodd bynnag, mae'n rhaid imi fanteisio ar y cyfle hwn i ddweud y buaswn yn eu hannog hefyd, hynny yw, Bro Morgannwg, i gyflwyno cynigion diwygiedig i gael mynediad at ran o'r ymrwymiad £36 miliwn i leihau maint dosbarthiadau babanod dros y tymor, gan nad yw'r hyn y maent wedi'i gyflwyno hyd yn hyn yn bodloni'r meini prawf, ac rwy'n awyddus iawn nad yw plant ym Mro Morgannwg yn colli'r cyfle hwn i leihau maint dosbarthiadau.

Credaf mai'r rheswm, Lywydd, pam nad yw'r ddeuawd hon yn gweithio—er ei bod wedi'i llwyfannu yn dda iawn, rwy'n gwybod, rwy'n cydnabod hynny—yw am fod Bro Morgannwg yn awdurdod hynod gystadleuol yn wleidyddol; mae wedi cael ei redeg yn ddiweddar gan weinyddiaethau Llafur a gweinyddiaethau Ceidwadol, gyda phleidiau eraill yn rhan o bethau yn ogystal â grwpiau annibynnol, ac mae pob un ohonynt yn bryderus ynglŷn â'r fformiwla ariannu ac wedi codi'r materion hyn. Pryd y byddwch yn adolygu'r sefyllfa, gan fod pryder trawsbleidiol ym Mro Morgannwg ynglŷn â'r sefyllfa bresennol?

Gadewch imi ddweud yn gwbl glir: nid yw'r fformiwla gyllid craidd yn fater i mi; mae'n fater ar gyfer fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros lywodraeth leol ac ar gyfer y grŵp cynnal refeniw sy'n gyfrifol am hynny, ac sy'n gwneud penderfyniadau ynglŷn â sut y mae'r grant cynnal refeniw yn cael ei ddarparu. Ar ddau achlysur gwahanol, mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig cyfle i lywodraeth leol Cymru newid y data sylfaen, yn fwyaf diweddar yn 2014-15, ac ar y ddau achlysur, mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi gwrthod y cynnig i ddiweddaru'r data, ac rwyf wedi gofyn i swyddogion ac Ysgrifennydd y Cabinet dros lywodraeth leol edrych ar hynny eto. Ond mater ar gyfer llywodraeth leol, gan weithio ar y cyd, yw cytuno ar newidiadau i ddata sylfaen.

14:05

Tynnwyd cwestiwn 7 [OAQ51833] yn ôl, felly cwestiwn 8, Simon Thomas.

Darpariaeth Llaeth am Ddim mewn Ysgolion

8. Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cynnal ynglŷn â darparu llaeth am ddim mewn ysgolion? OAQ51867

Diolch yn fawr iawn, Simon. Mae trafodaethau yn parhau gyda DEFRA ynghylch llaeth ysgol. Bydd Cymru yn parhau i gymryd rhan yng nghynllun llaeth ysgol presennol yr UE. Byddwn yn trafod opsiynau ar gyfer dyfodol y cynllun gyda DEFRA a'r gweinyddiaethau datganoledig eraill fel rhan o'n hystyriaethau ehangach mewn perthynas â gadael yr UE. Ac mae hon yn un o sawl enghraifft nad yw llawer o bobl yn ymwybodol ohoni mewn perthynas ag effaith ein hymadawiad â'r Undeb Ewropeaidd.

Diolch am yr ateb ac rwy’n falch bod trafodaethau yn cymryd lle, ond ar hyn o bryd, mae llaeth am ddim yn y cyfnod sylfaen, yn benodol oherwydd buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru. Mae llaeth wedi’i sybsideiddio yn yr ysgolion cynradd oherwydd rŷm yn rhan o gynllun yr Undeb Ewropeaidd, ac, wrth gwrs, mae llaeth mewn ysgolion nid yn unig yn faeth—yn ychwanegu at faeth plant ysgol—ond mae hefyd yn dangos o ble mae bwyd yn dod. Mae’n ffordd inni ddysgu am rôl bwyd yn ein bywydau ni bob dydd.

Rwy’n deall bod yn rhaid ichi drafod hwn ar lefel Prydeinig, ond rwyf hefyd yn meddwl ei fod yn bwysig bod y Llywodraeth bresennol, Llywodraeth Cymru, yn gwneud datganiad eich bod chi am barhau, beth bynnag a ddaw, gyda’r system llaeth presennol, achos rwy’n meddwl dyna’r sicrwydd mae rhieni, ysgolion a'r gymuned ehangach yn dymuno ei weld.

Wel, Simon, fel rydych wedi cydnabod, mae cynllun llaeth ysgol Llywodraeth Cymru yn unigryw ymysg gwledydd cartref y Deyrnas Unedig, gan mai hwnnw yw'r unig gynllun sy'n cynnig llaeth am ddim i'r cyfnod sylfaen cyfan. Mae dros 99 y cant o ysgolion cynradd a gynhelir yn rhan o'r cynllun, ac fel y dywedoch, mae'n darparu nifer o fanteision i'r plant.

Yn 2017-18, roedd y gyllideb llaeth ysgol am ddim yn £2.2 miliwn, a hyd yn oed yn y senarios anodd y buom yn sôn amdanynt mewn perthynas â chyllid addysg, rwyf wedi bod yn benderfynol o gadw'r buddsoddiad hwnnw gan fy mod yn sylweddoli ac yn cydnabod manteision y cynllun llaeth am ddim. Byddwn yn parhau i drafod hyn, ond mae'n fater byw, nid yw'n rhywbeth rydym wedi anghofio amdano ac rydym yn gweithio i weld sut y gallwn fwrw ymlaen â hyn.

A gaf fi ddiolch i Simon Thomas am ofyn y cwestiwn hwn? Oherwydd rwy'n frwd iawn fy nghefnogaeth i roi llaeth am ddim i blant mewn ysgolion, ac os oes modd, hyd nes eu bod yn gadael yr ysgol, ond dyna ni.

A gaf fi ddiolch ichi, Ysgrifennydd y Cabinet, am ddweud eich bod yn ymrwymo i ddarparu hynny? Ond ar ôl Brexit, pa ystyriaeth y byddwch yn ei rhoi i annog partneriaethau uniongyrchol rhwng ein cynhyrchwyr llaeth lleol, ein ffermwyr a'n hysgolion, fel y gall mwy o bobl gael budd ychwanegol o laeth lleol am ddim mewn ysgolion?

Wel, Janet, yn bennaf, rydym yn darparu llaeth i'n plant ysgol oherwydd y manteision maethol y mae hynny'n ei roi i blant. Ond wrth gwrs, mae iddo fantais ychwanegol i'r sector llaeth, ac fel y dywed Simon Thomas, gall ddarparu cyfle addysgol defnyddiol inni siarad â phlant ynglŷn â chynhyrchu bwyd cynaliadwy, o ble y daw eu bwyd, ac yn wir, cyfraniad cymdeithasol a hanesyddol ein cymuned ffermio i'n cenedl ac i'n sector llaeth yn arbennig.

Rwy'n edrych yn barhaus ar ffyrdd y gallwn gynyddu faint o gynnyrch lleol sydd ar gael drwy ein gwasanaethau prydau ysgol, yn ogystal â darparu cyfleoedd i blant Cymru ddeall mwy ynglŷn ag o ble y daw eu bwyd.

Bagloriaeth Cymru

9. Pa gefnogaeth y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei darparu i bobl ag anghenion dysgu ychwanegol sydd eisiau astudio bagloriaeth Cymru? OAQ51838

Diolch, Mark. Mae awdurdodau lleol yn gyfrifol am ddarparu darpariaeth addysgol addas i bob dysgwr i'w galluogi i gael mynediad at ystod o gymwysterau, gan gynnwys bagloriaeth Cymru. Bydd y rheini sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael cymorth ychwanegol i ddiwallu eu hanghenion unigol.

Diolch. Mae mam i ddyn ifanc ar y sbectrwm awtistig wedi cysylltu â mi. Maent wedi edrych ar fagloriaeth Cymru ar lefel 3 ac mae ganddynt amheuon ynglŷn â gallu eu mab i ymdopi ag agweddau ar fagloriaeth Cymru, yn enwedig y sgiliau mathemateg sy'n angenrheidiol ar gyfer lefel 3 bagloriaeth Cymru, lle mae angen llawer o sgiliau gweithredu gweithredol a sgiliau cydweithredol a chymdeithasol sy'n debygol o achosi straen i'w mab a'i atal rhag ymdopi â'r cwrs. Sut, felly, y byddwch yn mynd i'r afael â'r rhwystrau i gyflawni sy'n deillio o'r ffaith bod bagloriaeth Cymru yn orfodol i bob dysgwr, ac yn enwedig dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol, ar gwrs lefel 3? A pha ystyriaeth a rowch i agwedd fwy hyblyg a fyddai'n caniatáu i ddysgwyr â 'phroffiliau pigog' gyflawni, i rai byddai hynny'n golygu'r fagloriaeth ac i eraill byddai hynny'n ormod, ond serch hynny mae angen y cyfle arnynt i gyflawni gyda'r sgiliau gwych sydd ganddynt?

14:10

Diolch, Mark. Rwy'n dechrau o'r sail y dylai pob cymhwyster fod ar gael i bawb, ac ni chredaf y byddai unrhyw un ohonom yn awyddus i ddechrau o'r amod o ddweud bod rhai grwpiau penodol o ddysgwyr na allant fanteisio ar gymhwyster penodol. Mae'n rhaid inni ddechrau ar sail tegwch.

Fodd bynnag, buaswn yn disgwyl i benaethiaid ddefnyddio eu crebwyll proffesiynol wrth benderfynu pa ddysgwyr a ddylai ymgymryd â bagloriaeth Cymru ar y lefel berthnasol, yn ôl y llwybr dysgu unigol, a pha gymorth y gall fod ei angen ar ddysgwyr unigol i'w galluogi i gael mynediad at gymhwyster a allai fod o fudd iddynt. Ond mae'n rhaid i hynny ddibynnu ar grebwyll proffesiynol yr athrawon sy'n gweithio gydag unigolion a theuluoedd.

Gweithredu Diwydiannol yn Sector y Prifysgolion

10. Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael am y gweithredu diwydiannol presennol yn y sector prifysgolion yng Nghymru? OAQ51865

Mick, fel y dywedais yn gynharach, rwyf wedi cael nifer o drafodaethau dros yr wythnosau diwethaf gyda chynrychiolwyr y sector—yr undebau a'r cyflogwyr.

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Onid yw'n drychineb fod degau o filoedd o staff prifysgol ledled y DU wedi gorfod mynd ar streic i wrthsefyll newid unochrog gan Universities UK i'w cynllun pensiwn, ac mewn rhai achosion bydd hynny'n golygu lleihau gwerth pensiynau hyd at 40 y cant? Ddydd Llun, Ysgrifennydd y Cabinet, cefais y fraint o ymuno ag aelodau o'r Undeb Prifysgolion a Cholegau ar y llinell biced. Roeddent yn gofyn am un peth: adolygiad annibynnol a fyddai'n arwain at drafodaethau dilys. A ydych yn cytuno bod hon yn alwad resymol, ac a fydd Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth yn ei gallu i annog—a dywedaf eto, annog—trafodaethau dilys er mwyn dod â'r anghydfod hwn i ben?

Fel y dywedais wrth ateb y cwestiynau a ofynnodd Llyr Huws Gruffydd yn gynharach, mae Llywodraeth Cymru yn barod i ddarparu pa gymorth bynnag sy'n bosibl, sy'n angenrheidiol ac sydd ei angen i sicrhau negodi dilys a chadarnhaol rhwng y cyflogwyr a'r gweithwyr, ac rydym yn parhau i fod yn barod i wneud hynny. Rydym hefyd yn gweithio'n galed gyda Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru i sicrhau cyn lleied â phosibl o darfu ar fyfyrwyr unigol a all gael eu heffeithio gan y streiciau hyn.

Rwyf innau wedi bod yn cefnogi'r darlithwyr, nad oes unrhyw ddewis arall ganddynt ond mynd ar streic i warchod eu pensiynau, ac fe siaradais innau hefyd yn un o'u ralïau. Bydd y newidiadau pensiwn arfaethedig y mae'r Undeb Prifysgolion a Cholegau yn eu gwrthwynebu yn ergyd galed i bawb, ond byddant yn effeithio ar y darlithwyr hynny ar ddechrau eu gyrfaoedd, a byddant hefyd yn effeithio ar gontractau rhan-amser a rhai ar gontractau ansicr yn fwy nag ar unrhyw un arall. Mae'n anochel y bydd hyn yn arwain at anghydraddoldebau rhwng cenedlaethau a rhwng y rhywiau ymysg staff prifysgol, ac mae hynny'n annerbyniol.

A wnewch chi gondemnio'r newidiadau i gynllun pensiwn a allai olygu y bydd staff prifysgolion yn ymddeol mewn tlodi? Ac a ydych hefyd yn pryderu ynglŷn â'r effaith y gallai hyn ei chael ar y sector prifysgolion yng Nghymru, gyda llawer o'n darlithwyr disgleiriaf a mwyaf galluog yn ystyried eu dyfodol yn y sector hwn o ddifrif o ganlyniad i'r newid hwn?

Leanne, fel y dywedais yn gynharach, rwy'n bryderus am y sector yng Nghymru, ac am fyfyrwyr unigol yr effeithir arnynt gan y streic. Rwy'n deall pam fod yr Undeb Prifysgolion a Cholegau yn teimlo nad oedd unrhyw ddewis arall ganddynt ond gwrthod gweithio, o ystyried y newidiadau arfaethedig i bensiynau eu haelodau, ac rwyf wedi cyfarfod yn rheolaidd ac wedi gohebu'n gyson â'r Undeb Prifysgolion a Cholegau, gan wrando ar eu pryderon a chynnig cymorth lle y gallwn. Rwyf hefyd wedi parhau i godi hyn gyda Prifysgolion Cymru a chydag is-gangellorion Cymru, gan eu hannog i ddychwelyd at y bwrdd a chael y trafodaethau manwl, gwir a gonest y cyfeiriwyd atynt gan Mick Antoniw, yn ogystal â gweithio'n agos gyda Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru i sicrhau cyn lleied â phosibl o darfu ar fyfyrwyr unigol.

Mae'n amlwg i mi fod y penderfyniad i ddychwelyd at y trafodaethau, a oruchwylir ac a drefnir gan y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu, yn gam ymlaen, ond mae angen inni wneud mwy i sicrhau y gellir cytuno ar ganlyniad addas ar gyfer yr unigolion yr effeithir arnynt yn y modd hwn.

14:15
Gwasanaethau Cyngor Gyrfaoedd

11. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am wasanaethau cyngor gyrfaoedd? OAQ51872

Mae Gyrfa Cymru yn wasanaeth gyrfaoedd diduedd sy’n rhoi cyngor ac arweiniad i bobl ifanc ac oedolion. Mae hefyd yn hwyluso cysylltiadau rhwng addysg a chyflogwyr. Mae’r gwasanaeth wrthi’n cael ei ddiwygio ar hyn o bryd mewn ffordd eithaf cyffrous, a bydd mwy fyth o ffocws ar weithio gyda phobl ifanc a rhanddeiliaid ac ar ddatblygu gwasanaethau digidol. 

Diolch yn fawr iawn. Rydw i am wneud cais i chi beidio â bod yn ddiduedd fel cynghorwyr gyrfaoedd. Diddordeb sydd gen i yn eich parodrwydd chi i gydweithio efo'r Ysgrifennydd Cabinet iechyd i annog pobl ifanc Cymru i ddilyn gyrfaoedd ym maes iechyd a gofal. A fuasech chi, fel Llywodraeth, yn cefnogi cyd-fuddsoddiad rhwng addysg ac iechyd, o bosib, mewn math o roadshow Cymru gyfan i egluro am a chreu cyffro am yr holl ystod o ddewisiadau gyrfaoedd yn y meysydd yma, o nyrsio i feddygaeth i ofal i broffesiynau iechyd eraill—rhywbeth a allai hefyd ddyblu i fyny, rydw i'n meddwl, ar yr un pryd, fel roadshow yn annog pobl i gymryd diddordeb yn eu hiechyd eu hunain, yn eu cyrff eu hunain, yn eu deiet eu hunain ac yn y blaen? Mi fuaswn i'n hapus iawn i gyfarfod cynrychiolwyr y Llywodraeth i ddweud mwy am fy ngweledigaeth i ar hyn.

Wel, mae lot fawr o bethau cyffrous yn digwydd yn y maes yma eisoes. Rŷm ni yn cael diwrnodau lle rŷm ni'n annog pobl ifanc i gael go'Have a go' days—ac mae miloedd ar filoedd o blant ifanc wedi mynd i'r llefydd yma lle maen nhw'n cael access i weld pa fath o gyfleodd sydd yna ar gyfer gwaith yn y dyfodol. Mae iechyd yn rhan o hynny. Mae'n rhaid i ni hefyd, wrth gwrs, bwysleisio'r ffaith bod eisiau i ni gael pobl i edrych i mewn i STEM subjects a sicrhau ein bod ni ddim jest yn pwysleisio, nid ydw i'n meddwl, jest iechyd, ond mae yna lefydd eraill; er enghraifft, fe fyddem ni, gobeithio, eisiau gweld pobl yn mynd i mewn i Wylfa a'r datblygiadau yna. Felly, rydw i'n meddwl na fyddai ei gyfyngu fe jest i iechyd, efallai, y math o drywydd y byddem ni eisiau mynd arno. Ond byddwn ni yn fodlon rhoi mwy o wybodaeth am y diwrnodau yma sydd eisoes yn digwydd—'Have a go' days—sydd yn llwyddiannus dros ben.

Heblaw am Gyrfa Cymru, wrth gwrs, Weinidog, mae nifer o sefydliadau, busnesau ac elusennau eraill sy'n cynnig cyngor ar yrfaoedd a chyfarwyddyd a hyfforddiant—a llawer ohonynt yn cael arian gan Lywodraeth Cymru neu'n cael arian o ffynonellau sy'n dechrau gyda threthdalwyr Cymru. Sut rydych yn gweithio gyda'r sefydliadau hyn i sicrhau eu bod yn deall pwysigrwydd cynyddol sgiliau iaith Gymraeg? A ydych yn sicrhau, hyd yn oed os yw'r ymwybyddiaeth gan sefydliadau, fod gan y bobl y maent yn eu hyfforddi hefyd yr ymwybyddiaeth honno ar ddiwedd y profiad hwnnw?

Rwy'n falch o glywed y cwestiwn hwnnw, oherwydd credaf fod angen inni gydnabod y Gymraeg fel sgil yn ogystal â phethau eraill. Po fwyaf y gofynnwn i wahanol sefydliadau gadw at y safonau, y mwyaf y bydd angen inni recriwtio pobl â'r sgiliau angenrheidiol i roi'r cynlluniau hynny ar waith. Felly, ceir ymwybyddiaeth fod hynny'n rhywbeth y mae angen inni ei bwysleisio. Rydym yn rhoi llawer mwy o bwyslais ar hynny bellach mewn colegau addysg bellach, gan ein bod wedi deall bod hwnnw'n faes lle y cafwyd gostyngiad anferth yn nifer y bobl a oedd yn defnyddio'r Gymraeg ar ôl iddynt orffen addysg Gymraeg. Felly, mae cyfleoedd go iawn i'w cael. Mae'n rhywbeth rydym yn canolbwyntio arno, gan ddeall bod yr iaith Gymraeg yn sgìl, ac yn ffordd o gael swydd yn y dyfodol. Mae llawer o hyn yn ymwneud â rhoi hyder i bobl.

i ddefnyddio'r Gymraeg mewn ffordd, efallai, i'w helpu nhw i ddeall ei bod hi'n rhan bwysig o'r sgiliau sydd ganddyn nhw hefyd.

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Economi a Thrafnidiaeth. Tynnwyd cwestiwn 1 [OAQ51860] yn ôl, felly cwestiwn 2—Caroline Jones.

Sector Gwyddorau Bywyd

2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu'r camau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i ddatblygu'r sector gwyddorau bywyd yng Nghymru? OAQ51861

Gwnaf. Mae 'Ffyniant i Bawb', ein strategaeth genedlaethol, yn nodi ein bwriad i gymysgu nodau ac amcanion polisi lluosog. Mae'r dull partneriaeth hwn yn cynnig manteision i'r sector gwyddorau bywyd yng Nghymru, a chyfrannu at dwf economaidd gan wella effeithlonrwydd a fforddiadwyedd gwasanaethau iechyd, a gwella lles dinasyddion ledled ein gwlad wrth gwrs.

Diolch. Ysgrifennydd y Cabinet, hoffwn eich llongyfarch ar eich gwaith gyda'r sector fferyllol yng Nghymru, a chroesawaf y cyhoeddiad a wnaethoch yn gynharach heddiw yng nghynhadledd BioCymru 2018. Nid gweithgynhyrchu cyffuriau yw dyfodol y sector fferyllol yng Nghymru, ond ymchwilio i feddyginiaethau newydd. Beth y mae eich Llywodraeth yn ei wneud i gefnogi rhagor o gysylltiadau rhwng y sector fferyllol a phrifysgolion Cymru?

14:20

Wel, a gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei chwestiwn? Mae hon yn adeg addas i allu trafod y sector gwyddorau bywyd, o gofio bod BioCymru 2018 yn mynd rhagddo drws nesaf yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, ac roeddwn yn falch o fod yno y bore yma i lansio'r achlysur. Ceir 365 o gwmnïau yn y sector gwyddorau bywyd ledled Cymru, ac maent yn cyflogi mwy na 12,000 o bobl mewn swyddi o ansawdd ar gyflogau da. Felly, mae'n sector hollbwysig i'n heconomi, ac rydym yn gweld busnesau gwyddorau bywyd yn ffynnu ledled Cymru mewn llawer o'n cymunedau. Felly, nid yw'n sector sydd wedi'i gyfyngu i un lleoliad penodol yng Nghymru yn unig.

Nawr, rwy'n falch o ddweud, o ganlyniad i Cydweithrediad Rhanbarthol ar gyfer Iechyd, fod prosiect £200 miliwn yn cael ei ddatblygu, sy'n cynnwys dau argymhelliad: creu pentref llesiant a gwyddorau bywyd yn Llanelli, a phrosiect campws gwyddorau bywyd a llesiant ar gampws Treforys ym Mhrifysgol Abertawe. Yr hyn sy'n hanfodol bwysig ynghylch y datblygiad hwn yw ei fod yn gorgyffwrdd yn berffaith â bargen ddinesig bae Abertawe, ac mae iechyd a lles, wrth gwrs, yn thema amlwg iawn yn y fargen honno. Nod y prosiect penodol hwnnw yw creu mwy na 1,800 o swyddi—unwaith eto, swyddi o ansawdd ar gyflogau da—dros y blynyddoedd sydd i ddod, a bydd yn darparu dros £460 miliwn o fudd i'r economi. Credaf mai dyma'r math o ymdrech gyfunol y mae angen ei ddyblygu ledled Cymru. Gwelwn ymdrechion yn y gogledd, yn y de-ddwyrain ac yn y gorllewin i ddod â'r byd academaidd a'r byd busnes at ei gilydd, a chredaf y ceir rhai enghreifftiau ardderchog yn y sector gwyddorau bywyd o ganlyniadau go iawn yn sgil hynny.

A gaf fi longyfarch Ysgrifennydd y Cabinet ar dderbyn cyfrifoldeb am y bargeinion dinesig yn ei bortffolio yn awr? Rydych wedi achub y blaen ar fy nghwestiwn, i ryw raddau, drwy hynny. Fe gyfeirioch chi at y campws gwyddorau bywyd a'r safleoedd yno. Rhan o'u rôl yw denu mewnfuddsoddiad i gysyniad y fargen ddinesig yn ei gyfanrwydd, os mynnwch. A fyddwch yn disgwyl i'r buddsoddiad hwnnw fod ar ffurf arian cyhoeddus yn ogystal â buddsoddiad preifat? Gwn fod cryn bwyslais, fel y dylai fod, ar fuddsoddiad preifat, ond o gofio y gallai ffynonellau cyllid yr UE gael eu colli, beth a wnewch i edrych ar lwybrau sector cyhoeddus amgen ar gyfer hynny?

Wel, rydym wedi addasu Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru i sicrhau mwy o orgyffwrdd rhwng yr hyn sy'n digwydd yn y gymuned fusnes ac anghenion cleifion a phobl yng Nghymru. O ran y fargen ddinesig, credaf y byddai disgwyl, nid yn unig buddsoddiad sector preifat, ond hefyd y potensial i ddenu buddsoddiad sector cyhoeddus drwy'r GIG a darparwyr gofal cymdeithasol. Unwaith eto, credaf fod bargen ddinesig Abertawe yn gyfle perffaith i hyrwyddo iechyd a lles fel blaenoriaeth, nid yn unig ar gyfer y rhanbarth ond hefyd fel blaenoriaeth ar gyfer Cymru gyfan.

Gwaith Datblygu ar yr A55

3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am waith datblygu ar yr A55 yng ngogledd Cymru? OAQ51850

Gwnaf, wrth gwrs. Rydym yn parhau i fuddsoddi'n sylweddol yn y llwybr strategol hwn yng ngogledd Cymru. Rydym yn gwario £40 miliwn ar uwchraddio cyffyrdd 15 a 16, £250 miliwn arall ar brosiect coridor Glannau Dyfrdwy a Sir y Fflint, ac yn edrych ar gyflymu'r broses o greu trydydd croesiad y Fenai. Wrth gwrs, mae'r ffordd yn rhan o Ffordd Cymru—strategaeth i hyrwyddo twristiaeth yng Nghymru—ac mae'n cael ei marchnata'n genedlaethol ac yn rhyngwladol fel coridor diwylliant.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Fe fyddwch yn gwybod y bu'n rhaid i mi, ddoe, grybwyll wrth y Prif Weinidog sawl gwaith y mae'r A55 wedi cael ei chau—sef 55 gwaith—am gyfanswm o 2,720 awr. Mae'n hynny'n fwy na 113 o ddiwrnodau, sef bron draean o flwyddyn. Mae hon yn gefnffordd hanfodol ar gyfer busnesau, cerbydau cludo nwyddau a phobl ar wyliau ledled y gogledd, ac maent wedi wynebu rhwystrau dro ar ôl tro. Ddoe ddiwethaf, wrth gwrs, bu damwain anffodus ac mae dau o bobl yn yr ysbyty o ganlyniad iddi. Ac mae hynny'n dod yn rhywbeth cyffredin bellach. Yn ddyddiol, mae pobl yn disgwyl tagfeydd sylweddol ar ryw adeg ar y ffyrdd hyn. Nid wyf yn ceisio chwarae ar eiriau mewn unrhyw ffordd, ond fel yr Aelod Cynulliad dros Aberconwy, ni allaf fforddio tynnu fy nhroed oddi ar y sbardun wrth graffu ar y mater hwn. Felly, sut y byddwch yn sicrhau na fydd eich gwaith uwchraddio arfaethedig na'r gwaith sy'n gysylltiedig â'r rhaglenni mannau cyfyng yn arwain at ragor o oedi, tagfeydd a diflastod llwyr i ymwelwyr a ddaw i ogledd Cymru? Mae hyn wedi para'n rhy hir o lawer bellach, Ysgrifennydd y Cabinet, ac mae taer angen inni weld rhai gwelliannau.

14:25

Ni chredaf y byddai unrhyw un yn y Siambr yn anghytuno â'r honiad fod angen buddsoddiad a gwaith uwchraddio ar yr A55. Rwy'n falch ein bod, dros y misoedd diwethaf, wedi gallu osgoi cau wedi'i gynllunio ar yr A55 yn ystod y dydd. Bydd lonydd yn parhau i gau yn y nos hyd at fis Medi eleni heb unrhyw gynlluniau i gau lonydd yn ystod y dydd. Ond rwyf hefyd yn cydnabod, ar yr un pryd, fod angen uwchraddio rhannau mawr o'r A55 a rhoi'r amcanion a'r argymhellion a nodwyd yn yr astudiaeth gydnerthedd ar gyfer y tymor byr, y tymor canolig a'r tymor hir ar waith.

O ran y 55 achos o gau, gellir dweud bod y mwyafrif helaeth ohonynt wedi digwydd o achos damweiniau, digwyddiadau, torri lawr oherwydd—credwch neu beidio, achosir cyfran o ddigwyddiadau o geir yn torri lawr gan fodurwyr yn rhedeg allan o danwydd. Ond digwyddodd llawer ohonynt o ganlyniad i waith dros nos a gynlluniwyd.

Nawr, credaf ei bod yn hanfodol inni edrych ar y cynnydd a wneir dros y misoedd nesaf, a barnu wedyn ar sail gweithredu'r atebion cyflym a yw Llywodraeth Cymru wedi llwyddo neu fethu. Gallaf ddweud fod gwaith ar osod offer teledu cylch cyfyng di-wifr yn mynd rhagddo ym mis Ebrill; o ran y feddalwedd synhwyro digwyddiadau, rydym yn treialu system; o ran gwaith swyddogion traffig, gyda'r oriau estynedig, rydym yn recriwtio swyddogion traffig ychwanegol ar hyn o bryd—ac mae'r un peth yn wir am yr uned swyddogion traffig ychwanegol—ac rydym hefyd yn disgwyl, erbyn diwedd mis Mawrth, y bydd swyddogion traffig ychwanegol yn ymestyn eu gwaith hyd at gylchfan y Gledryd ar yr A483, gan gwmpasu'r ardal enfawr honno, yr A55 ac i lawr.

Rwy'n falch o allu dweud ein bod yn disgwyl i amserlen y ffyrdd gael ei lansio ym mis Ebrill. Rydym yn cynnal trafodaethau ar hyn o bryd gyda darparwyr data. O ran y cynllun treialu achub cerbydau rhad ac am ddim a nodwyd yn yr astudiaeth gydnerthedd, rydym yn adolygu ystadegau digwyddiadau hanesyddol ar hyn o bryd i weld lle a phryd y gallai hyn ddarparu rhywfaint o fudd. Cafwyd argymhelliad hefyd i ddarparu unedau symudol ychwanegol, ac rydym bellach wedi rhentu chwe arwydd symudol, a byddant yn cael eu cyflenwi cyn bo hir. Rydym hefyd wedi cyflogi rheolwr cyfathrebu, a nodwyd fel rôl hollbwysig. O ran dadansoddi perfformiad, rydym yn disgwyl y byddwn wedi gallu cwblhau'r ymdrech gaffael a fydd yn caniatáu hynny ym mis Ebrill. O ran y cynllun treialu camau i orfodi cyflymder cyfartalog ar Allt Rhuallt, unwaith eto, byddwn yn ei roi ar waith ym mis Ebrill neu fis Mai eleni, ac yna, yn olaf, roedd y mesur tymor byr terfynol a argymhellwyd yn ymwneud â chyfyngiadau ar gerbydau araf. Ar hyn o bryd, rydym yn nodi'r union ddiffiniad y dylid ei ddefnyddio ar gyfer cerbydau araf. Gallai'r gwaith hwnnw gymryd peth amser. Mae angen inni sicrhau bod y goblygiadau cyfreithiol yn gwbl glir cyn inni roi unrhyw gyfyngiadau ar symudiad cerbydau ar waith.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan Lefarwyr y pleidiau i'r Ysgrifennydd Cabinet, a Llefarydd Plaid Cymru, Adam Price.

Diolch, Lywydd. Mae masnachfraint rheilffyrdd Cymru a'r Gororau wedi bod yn ymarfer unigryw mewn sawl ffordd—unigryw o ran y broses ymgeisio, ond hefyd, yn anffodus, gan fod 50 y cant o'r cynigwyr wedi gorfod tynnu allan bellach. Mae hefyd yn unigryw ymhlith unrhyw ymarferion caffael rheilffyrdd mawr yn y DU gan na wnaed y gwahoddiad i dendro yn gyhoeddus. Mae hyn yn parhau i fod yn wir er gwaethaf y ffaith bod y tendrau terfynol wedi'u cyflwyno ar 21 Rhagfyr 2017. Ni ellir eu newid bellach, a dyna un o'r rhesymau pam y bu'n rhaid i Abellio dynnu'n ôl o'r broses. Mae'r diffyg tryloywder hwn wedi atal rhanddeiliaid rhag gwneud sylwadau ystyrlon ar ddyheadau Llywodraeth Cymru ar gyfer dyfodol rhwydwaith rheilffyrdd Cymru. Felly, efallai y gall Ysgrifennydd y Cabinet daflu rhywfaint o oleuni ar hyn i ni heddiw. A all gadarnhau bod y broses o drydaneiddio rheilffordd Glynebwy i Gaerdydd wedi ei diystyru, i bob pwrpas, ar gyfer cam 2 metro de Cymru, ac nad oes unrhyw ymrwymiad bellach chwaith i drydaneiddio'r rheilffordd rhwng Pen-y-bont ar Ogwr a Maesteg?

Wel, yn gyntaf oll, rydym yn aros, neu rwyf yn aros, am werthusiad llawn o'r ddau gais am y fasnachfraint a datblygiad y metro. Byddai'n rhy gynnar i mi nodi pa brosiectau fydd yn mynd rhagddynt ac ar ba ffurf o fewn masnachfraint nesaf Cymru a'r Gororau a datblygiad y metro hyd nes y gwneir y dyfarniad. Ond buaswn yn dweud, o ran y broses dendro, ydy, mae hon yn broses unigryw, un nas cynhaliwyd yn unrhyw le arall yn y DU, ond rwy'n credu, fel y nododd Sion Barry yn y Western Mail ychydig wythnosau yn ôl, ein bod wedi gwneud y peth iawn wrth sicrhau bod pedwar ymgeisydd yn aros yn y ras. Cafwyd galwadau arnom i leihau nifer y cynigwyr i ddau. Credaf y byddai wedi bod yn embaras braidd pe bai hynny wedi digwydd, ac mai Arriva ac Abellio fyddai'r ddau ymgeisydd olaf, ac yna byddai Arriva wedi tynnu'n ôl ac Abellio wedi rhoi'r gorau iddi. Ond erys y ffaith bod gennym ddau gais o'r radd flaenaf yn cael eu gwerthuso ar hyn o bryd. Maent wedi eu profi'n drylwyr, ac rydym ar y trywydd iawn i ddyfarnu'r fasnachfraint nesaf erbyn mis Mai eleni.

14:30

Wel, efallai y gallaf fod o gymorth i Ysgrifennydd y Cabinet yma, oherwydd mae rhai o'r atebion a ddarparwyd i ni bellach drwy'r asesiad amgylcheddol strategol y bu'n rhaid i Trafnidiaeth Cymru ei gynhyrchu ar fetro de Cymru, a'i gyhoeddi, o dan reoliadau Ewropeaidd, er heb fawr o gyhoeddusrwydd. Mae'r ddogfen hon, a'r mapiau ategol, yn cadarnhau bod prosiect trydaneiddio Glynebwy—a dyfynnaf yn uniongyrchol o'r deunydd a gyhoeddwyd bellach gan Trafnidiaeth Cymru—'wedi'i hepgor o ystyriaethau yn y dyfodol'.

Yn yr un modd, diystyrwyd y gwaith o gysylltu Trelewis â gerllaw Mynwent y Crynwyr, gan gysylltu llinellau Merthyr Tudful a Rhymni i greu rheilffordd cylch y Cymoedd, fel y'i gelwir, argymhelliad a gynigiwyd gan Mick Antoniw. Mae'n gwrthod estyniad o Ferthyr Tudful i Ddowlais Top, ond mae'n cadarnhau gwasanaeth rheilffordd ysgafn newydd sbon ar y stryd rhwng Parc Cathays a Bae Caerdydd, yn lle'r bws plygu presennol. Nawr, Ysgrifennydd y Cabinet, rydych yn cael £125 miliwn gan Lywodraeth y DU i'w wario ar y metro. Pan ofynnoch amdano, addawodd eich Llywodraeth y byddai'n cael ei ddefnyddio i drydaneiddio holl rwydwaith rheilffyrdd y Cymoedd. Rydych bellach yn canslo hynny, yn union fel y gwnaeth Llywodraeth y DU mewn perthynas â thrydaneiddio i Abertawe, gan barhau i wario ar drên bwled ar gyfer y bae. Cyhuddwyd y Llywodraeth Geidwadol, yn hollol iawn, o fradychu'r bobl sy'n byw i'r gorllewin o Gaerdydd. Onid yw'r Llywodraeth Lafur bellach yn gwneud yr un peth yn union i bobl sy'n byw yn y Cymoedd i'r gogledd?

Nid yw hyn yn gywir. Yn bennaf oll, rydym wedi ymgynghori, a chyhoeddi, ar sawl achlysur, yr amcanion lefel uchel ar gyfer masnachfraint Cymru a'r gororau a datblygiad y metro. Bydd cynllun penodol y metro, a'r gwaith o adeiladu'r metro, yn digwydd wedi i'r dyfarniad gael ei wneud. Ond yr hyn sydd bwysicaf yw bod y teithwyr yn gweld gwelliannau mawr yn y gwasanaethau a ddarperir ar eu cyfer. O ran trydaneiddio, ni allwn ddweud, hyd nes y gwneir y dyfarniad, beth yw'r atebion penodol ar gyfer pob un o'r rheilffyrdd yn ardal y metro. Felly, mae'n rhy gynnar i dybio nad yw'r broses o drydaneiddio holl reilffyrdd y Cymoedd wedi'i chynnwys yn unrhyw un o'r ceisiadau. Ni allaf ddatgelu beth sydd yn y ceisiadau, ond ni ellir dyfalu beth sydd ynddynt ar hyn o bryd.

Ysgrifennydd y Cabinet, dyfynnaf o fapiau eich awdurdod, Trafnidiaeth Cymru. O dan 'coch', mae'n dweud,

Wedi'i hepgor o ystyriaethau yn y dyfodol ar hyn o bryd.

Rwy'n dyfynnu o ddatganiad eich awdurdod trafnidiaeth eich hun ar y pynciau hyn. Mae'n wir, wrth gwrs, y bydd rhywfaint o'r arian rydych wedi'i gael yn cael ei wario ar reilffyrdd y Cymoedd. Yn ôl yr un ddogfen, mae posibilrwydd y bydd rheilffyrdd craidd presennol y Cymoedd yn cael eu troi'n rheilffyrdd ysgafn. Ond unwaith eto, mae hwnnw'n bolisi y dylem ei drafod, oherwydd bydd rhai yn teimlo nad yw rheilffordd ysgafn yn briodol yn yr holl amgylchiadau—dros bellteroedd maith, er enghraifft, lle mae angen i drenau deithio'n gyflymach na 45 mya. Bydd yn datgysylltu rheilffyrdd craidd y Cymoedd oddi wrth y rhwydwaith rheilffyrdd trwm cenedlaethol, ac ni fydd modd cael unrhyw gerbydau nwyddau neu wibdeithiau, neu drenau trwodd, er enghraifft, i faes awyr Caerdydd byth eto. Er, dylwn nodi eich bod hefyd wedi diystyru cyswllt rheilffordd â maes awyr Caerdydd yn y ddogfen, ond ni ddywedwyd wrthym ynglŷn â hynny ychwaith. Pam na ddywedwyd wrthym am y penderfyniadau polisi hyn, fel y gallem eu trafod, ac fel y gall y bobl, gan mai eu gwasanaeth rheilffyrdd hwy yw hwn yn y pen draw— nid y Llywodraeth—ddweud eu barn ynglŷn ag ai dyma'r weledigaeth a'r blaenoriaethau roeddent yn dymuno'u gweld?

Gadewch i ni fod yn glir fod y broses o ddatganoli cyfrifoldeb a chyllid ar gyfer rheilffyrdd craidd y Cymoedd yn mynd rhagddi, ac rydym yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i'r gwaith o uwchraddio rheilffyrdd craidd y Cymoedd fel rhan o weledigaeth y metro, er mwyn darparu teithiau mwy rheolaidd i bobl. Credwn fod pedair taith yr awr, o leiaf, yn addas o fewn ardal metro. Rydym wedi datgan hynny'n glir. Rydym wedi dweud yn glir y bydd gwelliannau ledled Cymru o ran capasiti, o ran amseroedd teithio a dibynadwyedd. Y tu allan i ardal rheilffyrdd craidd y Cymoedd, Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am y seilwaith o hyd, ond hoffem pe bai hwnnw'n cael ei ddatganoli hefyd, cyn gynted â phosibl. Credaf fod y digwyddiadau dros yr ychydig wythnosau diwethaf, gyda'r difrod i'r fflansys ar echelau olwynion trenau, yn dangos pam fod angen inni sicrhau mwy o fuddsoddiad ar draws y rhwydwaith yng Nghymru. Ac am y rheswm hwnnw, credwn y dylid ei ddatganoli—dylid datganoli'r cyfrifoldeb. Ond o ran y metro, gallaf addo i'r Aelodau, gallaf roi sicrwydd i'r Aelodau, fod ceisiadau'r ddau weithredwr o'r radd flaenaf yn awgrymu'n gryf y bydd newid i wasanaethau rheilffyrdd yn ardal y metro, a ledled y wlad.

14:35

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, er iddo gael ei sefydlu yn 2013 i ddarparu mwy o werth i drethdalwyr Cymru, mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi beirniadu'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol. Nawr, ni all unrhyw un ddadlau nad yw wedi methu'n llwyr â darparu'r arbedion arfaethedig mewn gwariant cyhoeddus. Yn 2016-17, oddeutu 60 y cant yn unig o'r arbedion a ddisgwyliwyd a greodd, ac yn waeth byth, gwnaeth golled o oddeutu £2 miliwn yn 2015-16, ac yn 2016-17. Felly, a gaf fi ofyn pam fod polisi blaenllaw Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella caffael cyhoeddus yng Nghymru wedi methu'n llwyr?

Nid cyfrifoldeb fy adran i yw hyn mewn gwirionedd. Cyfrifoldeb Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid ydyw.FootnoteLink Fodd bynnag, o ran y cynllun gweithredu economaidd, rydym wedi dweud yn glir, gyda'r contract economaidd, y gallem sicrhau cyfleoedd i ymestyn y contract economaidd—y £6 biliwn o gyfleoedd caffael ym mhwrs y wlad yng Nghymru. Dywedasom ein bod yn dymuno dadgyfuno cyfleoedd caffael a chontractau mawr fel y gall rhagor o fentrau bach a chanolig eu maint yng Nghymru gael rhan mewn prosiectau seilwaith gwerthfawr ledled y wlad.

Rwy'n derbyn yr hyn rydych wedi'i ddweud, ac wrth gwrs, rydych yn gyfrifol am y cynllun gweithredu economaidd, busnesau bach a chanolig a'r cadwyni cyflenwi sy'n elwa hefyd. Ffurfiwyd y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol gan Lywodraeth Cymru yn 2013. Pan wnaeth hynny, rhoddwyd benthyciad o £5.9 miliwn iddo, a phum mlynedd yn ddiweddarach, nid yw'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol wedi ad-dalu'r benthyciad hwnnw. Felly, hoffwn ofyn, Ysgrifennydd y Cabinet, pryd y gall y trethdalwr yng Nghymru ddisgwyl i'r arian hwnnw gael ei ad-dalu? Ac ymhellach, nid yw'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol bellach yn talu ei gostau rhedeg ei hun, er gwaethaf y ffaith bod Ysgrifennydd y Cabinet ar y pryd, Jane Hutt, wedi dweud y byddai'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn hunangyllidol erbyn 2016. Felly, pam fod Llywodraeth Cymru yn defnyddio arian y trethdalwyr ar hyn o bryd i gynnal y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol ac i dalu ei gostau rhedeg bob blwyddyn, er gwaethaf y ffaith mai'r polisi gwreiddiol oedd y byddai'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn hunangyllidol erbyn 2016?

Unwaith eto, hoffwn gyfeirio'r mater hwn at sylw fy nghyd-Aelod Cabinet sydd â chyfrifoldeb amdano. Rwy'n siŵr y gallai fy nghyd-Aelod Cabinet, Mark Drakeford, ddarparu atebion manwl i'r cwestiynau a ofynnodd yr Aelod.

Buaswn yn awgrymu bod y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn bolisi sydd wedi methu. Yn sicr, mae'n dreth barhaus ar bwrs y wlad. Byddaf yn dod at rai meysydd sy'n sicr yn rhan o'ch portffolio. Nid yw busnesau bach a chanolig Cymru a chadwyni cyflenwi Cymru yn elwa ar wariant caffael Llywodraeth Cymru. Yn 2015-16, 52 y cant yn unig o wariant Llywodraeth Cymru ar nwyddau a gwasanaethau a aeth i gwmnïau yng Nghymru, ac mae cynllun gweithredu economaidd newydd eich Llywodraeth, sy'n rhan o'ch cyfrifoldeb chi, wrth gwrs, hefyd wedi methu darparu unrhyw fap manwl ac ystyrlon ar gyfer gwella caffael cyhoeddus yng Nghymru. Felly, a gaf fi ofyn cwestiwn sy'n sicr yn rhan o'ch portffolio? Pam nad yw Llywodraeth Cymru wedi rhoi sylw i'r gwaith o wella caffael cyhoeddus yn y cynllun economaidd diweddaraf?

Wel, mae hynny'n cael sylw yn y cynllun, fel y dywedaf, drwy'r broses o ddadgyfuno contractau mawr. Bydd hynny'n fuddiol iawn, o ystyried maint prosiectau seilwaith—yn enwedig ffyrdd. Ac rydym hefyd yn gweithio nid yn unig gyda chyrff diwydiant, ond hefyd gyda thimau sector o fewn y Llywodraeth, i nodi ffyrdd y gall busnesau weithio gyda'i gilydd a dysgu oddi wrth ei gilydd sut i gael gafael ar gyfran fwy o wariant caffael yng Nghymru. Mae'r Aelod yn llygad ei le ei fod oddeutu 52 y cant ar hyn o bryd—cyfran y contractau a enillir gan fusnesau Cymreig—ond mae'r ffigur hwnnw'n cynyddu flwyddyn ar ôl blwyddyn, ac rwy'n disgwyl, drwy'r mesurau a nodwyd yn y cynllun gweithredu economaidd, a chyda'r mesurau ychwanegol a amlinellwyd gennyf drwy ein cyswllt uniongyrchol â busnesau a sefydliadau busnes, y byddwn yn gweld rhagor o gynnydd dros y blynyddoedd i ddod.

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, o gofio bod y DU ar frig rhestr Forbes o'r lleoedd gorau yn y byd i wneud busnes, beth yw sefyllfa Cymru o gymharu â hynny?

Wel, o ystyried y pryderon a fynegwyd yn ddiweddar gan Airbus, gan Ford a chan lawer o gwmnïau eraill, buaswn yn dychmygu, wrth inni adael yr UE, os nad ydym yn sicrhau'r fargen orau sy'n bosibl, bydd Cymru, ynghyd â'r DU gyfan, yn cael ei gadael ymhellach ar ôl.

14:40

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb. Credaf y byddai pob un ohonom yn y Siambr hon yn cydnabod y ffaith bod angen inni wella ein hymdrechion yn sylweddol os ydym am ddatblygu ein sylfaen fusnes a'n sylfaen fasnachol yng Nghymru, ac fel y trafodwyd yn y sesiwn gwestiynau ddiweddaraf, un o'r ffactorau allweddol i alluogi gwelliant yw addysg. Ni fydd dim yn gwneud mwy i ysgogi twf yn gynhenid ac ar gyfer mewnfuddsoddi na chynyddu ein sylfaen sgiliau, yn alwedigaethol ac yn academaidd. A yw'n peri pryder, felly, i Ysgrifennydd y Cabinet fod Prifysgol Caerdydd—y brifysgol sy'n perfformio orau yng Nghymru—yn safle 35 o 129 yn y DU, a bod gennym dair arall yn y 10 isaf?

Credaf ei bod yn deg dweud bod addysg uwch yn rhoi'r arfau strategol inni ar gyfer twf economaidd yn y dyfodol yn y frwydr dros gystadleurwydd, tra bo addysg bellach yn darparu'r arfau tactegol. O ran addysg bellach, credaf fod gennym hanes balch iawn yn wir. Mae rhai o sefydliadau addysg bellach gorau Prydain gennym yma yng Nghymru. O ran ein hystâd addysg uwch, credaf fod gennym brifysgolion o'r radd flaenaf, gan gynnwys Caerdydd, ond credaf y gellir cyfrif Abertawe hefyd ymhlith goreuon y byd o ran ymchwil a datblygu, yn enwedig mewn perthynas â dur. Mae'r Aelod yn gywir i ddweud mai un o'r prif ysgogiadau sydd ar gael i ni ar gyfer gwella cynhyrchiant yw'r gwelliant i'r sylfaen sgiliau a'r llif o bobl fedrus sy'n dod drwodd i gefnogi busnes. Ond mae angen inni sicrhau hefyd fod arloesedd yn cael ei ledaenu'n well yng Nghymru. Rydym wedi dweud yn glir iawn ein bod yn disgwyl, drwy'r galwadau i weithredu—y prismau y byddwn yn sianelu ac yn ystyried buddsoddiadau drwyddynt yn y dyfodol—y bydd busnesau'n arloesi mwy ac felly'n gweithio'n agosach, nid yn unig gydag addysg uwch, ond gydag addysg bellach hefyd. Drwy wneud hynny, credaf y bydd modd inni wella ein rhagolygon a gwella ein lefelau cynhyrchiant dros y blynyddoedd i ddod.

Unwaith eto, diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb, ac am ei hyder yn strategaeth economaidd y Llywodraeth. Ond mae'r Ffederasiwn Busnesau Bach a'r byd busnes yn gyffredinol wedi cwyno ers tro ynglŷn â'r diffyg cysylltiad rhwng cyflogwyr a'r byd academaidd. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn credu bod gennym bolisïau ar waith bellach i wella'r diffyg hwn?

Ydw. Buaswn yn dadlau bod busnesau erbyn hyn, yn fwy nag erioed o'r blaen, ac yn enwedig addysg uwch, yn gweithio'n agosach nag erioed, a gallwn gyfeirio at ddigonedd o enghreifftiau o hynny ledled Cymru. Heddiw, rwy'n falch o allu rhannu'r newyddion gyda'r Aelodau fod yr athrofa ymchwil gweithgynhyrchu uwch wedi cael caniatâd cynllunio ym Mrychdyn. Byddwn yn gwario swm sylweddol o arian i ddatblygu'r cyfleuster penodol hwnnw, ond bydd yn denu buddsoddiad sylweddol o'r sector preifat yn ogystal â buddsoddiad addysg uwch. Drwy wneud hynny—dod â busnes a gweithgareddau Llywodraeth Cymru ac ymchwil addysg uwch ynghyd—rydym yn disgwyl i'r sefydliad hwnnw ddarparu oddeutu £4 biliwn o welliannau mewn gwerth ychwanegol gros i economi Cymru. Mae hwnnw'n fuddsoddiad sylweddol iawn, felly, i Lywodraeth Cymru ei wneud. Credaf ei fod yn dangos sut y gall buddsoddiad craff, sy'n dod â busnesau mawr a bach a'r byd academaidd ynghyd, arwain at fuddion sylweddol i'r economi.

Cefnogi Economi Sir Benfro

4. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi economi Sir Benfro? OAQ51834

Mae'r strategaeth genedlaethol 'Ffyniant i Bawb' a'r cynllun gweithredu economaidd yn nodi'r camau rydym yn eu cymryd i wella amgylchedd busnes a'r economi ledled Cymru.

Yn anffodus, dengys ffigurau gan y Local Data Company a Sefydliad Ymchwil, Data a Methodoleg Gymdeithasol ac Economaidd Cymru mai Aberdaugleddau sydd â'r gyfradd uchaf o adeiladau manwerthu gwag yng Nghymru o hyd. Mae hon, wrth gwrs, wedi bod yn broblem hirdymor sydd angen cryn dipyn o gymorth. Ni fydd yn syndod i Ysgrifennydd y Cabinet fod ardrethi busnes yn un ffactor sy'n atal busnesau rhag agor mewn lleoedd fel Aberdaugleddau. O dan yr amgylchiadau hyn, a all Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym pa drafodaethau y mae wedi'u cael gyda'i gyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, ynglŷn â'r mater hwn? Efallai y gall berswadio ei gyd-Aelod i ymrwymo i adolygu'r system ardrethi busnes er mwyn edrych ar bethau fel y lluosydd i sicrhau nad yw busnesau bach o dan anfantais ar y stryd fawr.

Gallaf roi sicrwydd i'r Aelod fod Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid yn ymwybodol iawn o bryderon busnesau yn Sir Benfro, ac yn enwedig y pryderon sydd ganddynt ynglŷn ag ardrethi. Byddaf yn dwyn y pwyntiau a nodwyd gennych heddiw i'w sylw. Ond buaswn yn dweud, ledled Sir Benfro, ein bod wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer y mentrau gweithredol dros y blynyddoedd diwethaf. Credaf fod cynnydd o oddeutu 10.6 y cant wedi bod yn nifer y busnesau yn Sir Benfro ers dechrau'r degawd. Fodd bynnag, rwy'n cydnabod hefyd fod busnesau newydd a busnesau sy'n bodoli eisoes yn wynebu heriau anodd iawn, ac yn sicr, byddaf yn tynnu sylw Ysgrifennydd y Cabinet at y pryderon a nodwyd gan yr Aelod heddiw yn y Siambr.

14:45

Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd y Prif Weinidog y bydd Valero yn buddsoddi mewn prosiect £127 miliwn i greu uned gydgynhyrchu gwres a phŵer gyfunol yn eu purfa yn Sir Benfro. Bydd y prosiect yn helpu i sicrhau cynaliadwyedd hirdymor y burfa a hefyd yn rhoi sicrwydd i dros 1,000 o weithwyr, ac yn helpu i roi hwb i economi Sir Benfro ac economi Cymru o ran hynny.

Rwy'n deall bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio'n agos gyda Valero i helpu i sicrhau'r buddsoddiad hollbwysig hwn. Ysgrifennydd y Cabinet, a fyddech yn cytuno bod y buddsoddiad hwn yn amlwg yn dangos gwerth strategol ardaloedd menter fel ardal fenter Dyfrffordd y Ddau Gleddau rydych yn awr wedi cytuno i'w ymestyn?

Buaswn, a diolch i'r Aelod am ei chwestiwn. Credaf ei fod yn newyddion gwych. Mae prosiect £127 miliwn Valero, rwy'n credu, yn dangos hyder yn safle Sir Benfro ac yn economi ehangach Cymru. Mae'n ddiddorol bod y burfa yn un o ddim ond chwech busnes puro sydd ar ôl yn y DU ac mae wedi'i leoli wrth galon ardal fenter Dyfrffordd y Ddau Gleddau. Mae'n dangos sut, drwy weithio gyda'n gilydd, y gallwn ddiogelu gwaith mewn sector gwerthfawr i nifer fawr iawn o bobl. Mae tua 1,000 o bobl yn dibynnu ar waith ar y safle hwn. Rwy'n falch iawn ein bod wedi bod yn rhan o'r newyddion cadarnhaol hwn i'r rhanbarth.

Nid yw Darren Millar yma i ofyn cwestiwn 5 [OAQ51849]. Felly, cwestiwn 6, Mick Antoniw.

Y Depo Gwasanaethu Arfaethedig i Fetro De Cymru

6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddatblygu'r depo gwasanaethu arfaethedig i Fetro De Cymru yn Ffynnon Taf? OAQ51863

Gwnaf. Mae datblygiad y safle yn dibynnu ar yr ateb y mae'r cynigydd llwyddiannus yn ei argymell. Fel rhan o'u dull cadarn o reoli rhaglenni, mae Trafnidiaeth Cymru yn ystyried sylwadau a gyflwynwyd ar yr ymgynghoriad cynllunio amlinellol ar gyfer y defnydd posibl o'r safle fel depo, cyn symud ymlaen gyda chais cynllunio amlinellol.

Diolch i chi am yr ateb hwnnw. Wrth gwrs, rydym yn croesawu'r camau y mae Trafnidiaeth Cymru wedi'u cymryd a'r cyfle gwaith newydd posibl yn ardal Taf Elái, sy'n arwyddocaol iawn. Mewn gwirionedd, mae'r mater rwy'n ei godi yn ymwneud ag ymgysylltu â'r gymuned leol. Rwy'n cofio'r safle'n dda fel hen safle South Wales Forgemasters. Yn amlwg, y materion a fydd yn codi fydd y llygredd golau a sŵn yn ystod adeiladu, problemau mynediad posibl ar gyffordd Tŷ Rhiw, Cemetery Road a Heol Caerdydd ac argaeledd digon o leoedd parcio yng ngorsaf Ffynnon Taf, sydd hefyd yn fater a godwyd fel cynnig yno. Pa gamau a gymerwyd i sicrhau bod ymgysylltu ac ymgynghori priodol yn digwydd gyda'r gymuned leol ynglŷn â hyn, gan groesawu'r ffaith mewn gwirionedd y bydd yna gyfleoedd go iawn am swyddi i'r ardal?

A gaf fi ddiolch i Mick Antoniw am ei gwestiwn? Rwy'n cydnabod ei fod wedi siarad am y pwnc hwn yn rheolaidd a chydag ymroddiad mawr. Rwy'n falch o allu dweud bod y cyfnod cyn ymgeisio statudol o bedair wythnos ar gyfer y depo arfaethedig wedi dod i ben ddiwedd mis Chwefror. Mae Trafnidiaeth Cymru wedi ystyried sylwadau'r gymuned yn ofalus. Cynhaliwyd ymgynghoriad ac chymerodd ymgyngoreion statudol ran yn y broses hefyd. Rydym yn bwriadu cyflwyno adroddiad cyn ymgeisio cryno ynghyd â chais cynllunio amlinellol llawn ar gyfer depo posibl i'r awdurdod cynllunio lleol cyn bo hir.

Seilwaith Trafnidiaeth yn Sir Benfro

7. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella'r seilwaith trafnidiaeth yn Sir Benfro? OAQ51833

Mae'r cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol, a ddiweddarwyd ym mis Rhagfyr y llynedd, yn nodi ein blaenoriaethau ar gyfer cynlluniau trafnidiaeth ledled Cymru, gan gynnwys yn Sir Benfro.

Rwy'n ddiolchgar i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb. Ni fydd yn syndod i Ysgrifennydd y Cabinet fy nghlywed yn dadlau eto mai un ffordd o wella seilwaith trafnidiaeth yn Sir Benfro yw drwy ddeuoli'r A40, a fyddai'n cael effaith ganlyniadol enfawr a chadarnhaol ar economi Sir Benfro, ac yn wir ar economi gorllewin Cymru yn gyffredinol. Byddai deuoli hefyd yn gwella diogelwch ar y ffyrdd. Yn anffodus, ddoe, gwelsom ddamwain angheuol arall ar y ffordd hon. Yn ngoleuni'r manteision economaidd, ac yn bwysicach, y manteision diogelwch a allai ddod yn sgil deuoli'r ffordd, a wnewch chi yn awr ymrwymo i ddeuoli'r A40 yn Sir Benfro yn y tymor hir, o ystyried bod Llywodraeth Cymru eisoes wedi ymrwymo i gyflawni gwelliannau i'r A40 yn Sir Benfro beth bynnag?

14:50

Rydym wedi ymrwymo i gyflawni nifer o welliannau i'r A40. Mae'n llwybr strategol allweddol, ac rwy'n falch o allu dweud bod ymchwiliadau rhagarweiniol eisoes wedi dechrau datblygu sawl cyfle arall i oddiweddyd ar hyd yr A40. Rydym ar hyn o bryd yn edrych i weld pa bryd y gellir darparu'r rhain ochr yn ochr â blaenoriaethau eraill a nodir yn y cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol, a byddwn yn datblygu rhaglen maes o law. Rydym hefyd yn gobeithio y bydd cyllid yr Undeb Ewropeaidd a glustnodwyd ar gyfer y gwelliannau hyn yn cael ei sicrhau a'i ddefnyddio. Mae'r A40 yn llwybr pwysig iawn yng Nghymru, a byddaf yn gwneud popeth yn fy ngallu i ddadlau'r achos dros fuddsoddiad pellach, nid yn unig ar gyfer cyfleoedd goddiweddyd ond lle bo'n bosibl, ar gyfer deuoli'r llwybr yn ogystal.

Tynnwyd cwestiwn 8 [OAQ51840] yn ôl. Felly, cwestiwn 9, Mark Reckless.

Ffordd Liniaru'r M4

9. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau a fydd y ddadl a'r bleidlais ar ffordd liniaru'r M4 a gyhoeddwyd mewn llythyr at Aelodau'r Cynulliad yn gyfrwymol neu'n gynghorol? OAQ51855

Gallaf gadarnhau y byddwn yn cyflwyno dadl yn amser y Llywodraeth ar goridor yr M4 o gwmpas prosiect Casnewydd yn dilyn casgliad yr ymchwiliad cyhoeddus lleol. O ystyried goblygiadau cyfreithiol ymchwiliad cyhoeddus parhaus, rydym ar hyn o bryd yn ystyried opsiynau sydd ar gael i ni yn ogystal ag amseriad y ddadl hon, wrth gwrs, a byddaf yn hysbysu'r Cynulliad am y cynlluniau hynny yn syth ar ôl iddynt gael eu cwblhau.

A wnaiff Llywodraeth Cymru drin y Cynulliad gyda pharch cyfatebol yn y ddadl honno a phleidleisio fel y mae wedi'i wneud gyda'r bleidlais ddiweddar i gyhoeddi adroddiad ar ddatgelu gwybodaeth heb ganiatâd?

Gallaf sicrhau'r Aelod, gyda dadl yn y Llywodraeth, y ceir pleidlais, ac rwy'n credu ei bod yn hanfodol, o ystyried bod y pwnc hwn wedi arwain at gymaint o safbwyntiau gwahanol, fod pob Aelod yn cael cyfle llawn i gael dadl ar y pwnc ac i allu pleidleisio arno, fel rydym eisoes wedi addo y byddwn yn ei wneud.

Cynlluniau Trafnidiaeth ar gyfer Dinas Ranbarth Bae Abertawe

10. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau trafnidiaeth ar gyfer dinas ranbarth bae Abertawe? OAQ51830

Gwnaf. Mae'r cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol, a ddiweddarwyd y llynedd, yn nodi ein rhaglen ar gyfer y tair blynedd nesaf a thu hwnt.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am yr ymateb hwnnw. Hoffwn ofyn: a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ystyried enillion cyflym fel ailagor gorsafoedd trenau megis Glandŵr, creu cyfnewidfeydd bysiau-trenau o fewn y rhanbarth a chwblhau llwybrau beicio?

Gwnaf, byddaf yn ystyried enillion cyflym o'r natur honno, yn enwedig y rhai sy'n ymwneud â theithio llesol, o ystyried fy mod wedi datgan awydd i weld cynnydd sylweddol yn argaeledd cyllid cyfalaf i gefnogi prosiectau teithio llesol. Mae cynnig i ailagor gorsaf Glandŵr yn cael ei ystyried fel rhan o asesiad Llywodraeth Cymru o gynigion ar gyfer gorsafoedd trenau newydd. Byddwn yn cynnig gorsaf Glandŵr fel un opsiwn posibl i gael ei ystyried fel rhan o'r ymarfer a gynhelir gan Network Rail.

Fel rhan o ymgynghoriad y DU ar sefyllfa rheilffordd y Great Western yn y dyfodol, rwyf wedi cynnal fy arolwg trafnidiaeth fy hun yn lleol mewn gwirionedd, yn sôn yn bennaf am y posibilrwydd o barcffordd yn Felindre neu rywle tebyg. Roedd hynny'n eithaf poblogaidd, ond hefyd cafodd syniadau eu cyflwyno a oedd yn ymwneud â gwella'r cysylltiadau rheilffyrdd mewnol lleol yn ogystal, fel y soniodd Mike Hedges, i helpu i leihau tagfeydd a bwydo i mewn i'r hyn y gall parcffordd ei wneud, oherwydd un o fanteision parcffordd, wrth gwrs, yw y byddai'n gallu helpu i symud pobl a thraffig tua'r gorllewin i mewn i ardal y fargen ddinesig, nid yn unig tua'r dwyrain fel y byddem yn ei ddisgwyl. Yn amlwg, mae yna elfen DU i hyn. A ydych wedi cael cyfle eto i drafod y cyfleoedd y byddai parcffordd yn eu cynnig i ranbarth y fargen ddinesig yn ei chyfanrwydd, nid yn unig i Abertawe ei hun?

Do, yn wir. Mewn gwirionedd, y bore yma, cyfarfûm â'r Cynghorydd Rob Stewart i drafod llawer o faterion, gan gynnwys yr un a nodwyd gan yr Aelod, ac rwy'n credu y byddai'n ddefnyddiol, efallai, pe bawn yn cynnig i'r Aelodau weld fy ymateb i'r ymgynghoriad ar lwybr masnachfraint rheilffordd y Great Western. Ac rwy'n credu y bydd hynny'n dangos sut y mae Llywodraeth Cymru yn galw ar Lywodraeth y DU i wneud nifer o bethau o ran gwella gwasanaethau i deithwyr, a gwelliannau i amseroedd teithio ac amlder gwasanaethau yn ogystal. Credaf y gallai fod yn adeg gyffrous i ranbarth bae Abertawe. Wrth gwrs, cawsom y penderfyniad trist ac anffodus iawn ynghylch trydaneiddio, ond rydym yn ariannu gwaith sy'n ymwneud â datblygiad posibl prosiect metro, a chredaf fod ganddo botensial mawr i weddnewid y rhanbarth yn radical a dod â mwy o ffyniant a chyfleoedd ar gyfer twf i fae Abertawe a'r cymunedau cyfagos.

14:55

Ysgrifennydd y Cabinet, er bod y cysyniad o fetro ar gyfer bae Abertawe a'r Cymoedd gorllewinol, yn amlwg, fel y soniwch, yn un i'w groesawu, a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cydnabod pryderon yn ardal Castell-nedd Port Talbot mewn perthynas â'r angen i ddiogelu statws gorsaf drenau Castell-nedd fel rhan o unrhyw gynnig metro, a pha drafodaethau rydych wedi'u cael gyda'r awdurdod lleol a rhanddeiliaid eraill i fynd i'r afael â'r pryderon hynny?

Wel, rwy'n credu bod yr awdurdod lleol wedi gwneud ei safbwynt ynghylch gorsaf Castell-nedd yn glir iawn. Rwyf wedi gwrando'n ofalus iawn ac rwy'n derbyn y ddadl y dylid gwella yn ogystal â diogelu gorsaf Castell-nedd, a llawer o orsafoedd eraill yn yr ardal yn wir. Byddaf yn edrych ar unrhyw gynigion o fewn y weledigaeth ar gyfer y metro a fydd yn sicrhau gwell seilwaith ar draws y rhwydwaith cyfan.

Twristiaeth yn Ne-orllewin Cymru

11. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu cynlluniau i wella twristiaeth yn ne-orllewin Cymru? OAQ51853

Er mwyn gwella twristiaeth, rydym ni, wrth gwrs, yn buddsoddi fel Llywodraeth ar draws Cymru. Yn 2017, yn rhanbarth Gorllewin De Cymru, y mae'r Aelod yn ei gynrychioli, roedd hynny'n cynnwys meysydd parcio i geir a choetsis yn Rhosili; gwelliannau sylweddol i westy Fairyhill, y ces i gyfle i ymweld ag o yn gymharol ddiweddar a gweld effaith y gwelliannau ar y cynnig i ymwelwyr i fod yn rhan o ardal o harddwch naturiol eithriadol wrth fwynhau eu gwyliau; datblygiad yn siop goffi Three Cliffs; yn ogystal â chefnogaeth, mae'n dda gen i ddweud, i'r gwesty hanesyddol hwnnw, Gwesty’r Castell, Castle Hotel, yng Nghastell-nedd—un o'r gwestyau pwysicaf, wrth gwrs, yn hanes datblygiad chwaraeon yng Nghymru.  

Diolch am yr esboniad clir hwnnw o'r hyn sydd yn bwysig i fy ardal i ac eraill yn yr ystafell yma. Rwy'n gofyn y cwestiwn oherwydd un o brif bwyntiau eich cynllun economaidd yw twristiaeth a diwylliant. Rŷm ni wedi gweld yn ardal Castell-nedd Port Talbot fod yr awdurdod lleol wedi cynnig bod toriadau'n cael eu gwneud i amgueddfa Cefn Coed, sydd yn rhywbeth y dylem ni ei adfer a'i ddatblygu yn yr ardal. Hefyd, maen nhw wedi cynnig toriadau o 30.6 y cant i Ganolfan Celfyddydau Pontardawe, sydd hefyd yn bwysig fel canolfan celfyddydol byw yn yr ardal honno, ond hefyd ar gyfer cymoedd Abertawe ac Abertawe a Chastell-nedd yn fwy cyffredinol. Sut fydd y toriadau yma yn cyd-fynd â'r system economaidd sydd gyda chi fel Llywodraeth o hybu a datblygu twristiaeth a'r celfyddydau yn lleol? 

Wel, mae twristiaeth, wrth gwrs, yn un o'r diwydiannau sylfaenol sydd wedi'u nodi yn y cynllun economaidd. Nid ydym ni fel Llywodraeth yn gyfrifol am benderfyniadau gan awdurdodau lleol ynglŷn â'u cyllideb nhw, ond rwy'n meddwl y byddai fo'n adeiladol iawn pe byddai awdurdodau lleol yn gwneud beth y ces i gyfle i gymryd rhan ynddo fo yn sir Gaerfyrddin yn ddiweddar iawn, sef cael trafodaeth hir a manwl ynglŷn â blaenoriaethau yr awdurdod, ac yn arbennig lle roedd y cyngor sir yn gweld cyfle i fanteisio ar amrywiol gynlluniau sydd yn dod o fewn cyllideb yr adran rwy'n gyfrifol amdani, ond yn arbennig y cynlluniau sydd yn darparu ar gyfer twristiaeth ond sydd hefyd yn darparu yn yr un modd tuag at drigianwyr ac ymwelwyr lleol. Felly, nid wyf i am wneud sylw am benderfyniad awdurdodau lleol, ond mi fyddai o'n haws o lawer pe byddai awdurdodau yn trafod eu blaenoriaethau gyda Llywodraeth Cymru yn y gwahanol feysydd yma. 

Weinidog, fe ddechreuoch chi yn Abertawe, fe aethoch i Gastell-nedd—dewch i Aberafan i weld rhai o'r safleoedd gwych ar gyfer twristiaeth ym Mharc Margam a chwm Afan. Mae llawer o gymunedau glofaol yng nghwm Afan a chymoedd eraill wedi troi at dwristiaeth fel cyfle i edrych ar dyfu'r economi mewn gwirionedd. Mae gennym brosiectau yng nghwm Afan. Gwn fod twnnel y Rhondda yn mynd rhwng y Rhondda a chwm Afan, ond ceir prosiect cwm Afan hefyd—y prosiect cyrchfan a gynigiwyd. Mae'r rhain yn gyfleoedd sy'n rhoi swyddi a sgiliau i bobl leol y gallant eu defnyddio yn eu hardaloedd lleol. A wnewch chi ymweld â'r safle hwnnw i edrych arno ac i sicrhau bod twristiaeth yn gallu gwneud i gymuned ffynnu mewn gwirionedd a dechrau datblygu ei hun, yn seiliedig ar y ffaith ei bod wedi cael cyfnod hir lle y bu diffyg twf yn yr economi yn sgil colli'r diwydiannau hynny?

15:00

Wel, prin y gallaf ddweud 'na' wrthych â chithau'n eistedd yno. [Chwerthin.] Rydym yn hen ffrindiau, yn amlwg, yn ogystal â chymdogion. Ond o ddifrif, rwyf wedi bod yn ceisio ymweld â chynifer o'r safleoedd hyn â phosibl. Roeddwn yng Nghwmcarn yn ddiweddar, lle y gwelais sut y gall datblygu'r berthynas rhwng y llwybrau a choedwigaeth, sydd wedi cael problemau difrifol, a'r ffordd y gall awdurdod lleol, drwy ddatblygu canolfan wych, chwarae rhan yn y broses o ddatblygu twristiaeth, yn enwedig twristiaeth sy'n seiliedig ar feicio. Roeddwn hefyd, wrth gwrs, yn fy rhan i o'r byd yng Nghoed y Brenin, y gallai rhywun ei ddisgrifio fel ail yn unig i gwm Afan—[Chwerthin.]—fel canolfan dwristiaeth a beicio mynydd. Yn sicr, fe ddof i gwm Afan, ond ni allaf ond canmol ymdrechion ein holl gymunedau mwyngloddio, y cymunedau glofaol, y cymunedau mwyngloddio plwm yn yr ardal lle rwy'n byw, a chymunedau'r chwareli llechi wrth gwrs, sydd wedi cyfrannu'n aruthrol at y cynnig twristiaeth sydd ar gael bellach, ac rwy'n gobeithio ymweld â Zip World a Surf Snowdonia a rhai eraill o'r cyfleusterau hyn, nad oes yr un ohonynt yn yr ardal rwy'n ei chynrychioli, ond nad ydynt yn rhy bell o'r ardal lle rwy'n byw. Felly, rwy'n gweithio ar hynny, Dai.

Ffordd Osgoi Bontnewydd a Chaernarfon

12. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer ffordd osgoi Bontnewydd a Chaernarfon? OAQ51868

Diolch. Ar hyn o bryd, rwy'n ystyried canfyddiadau ac argymhellion adroddiad yr arolygydd, a ddaeth i law yn dilyn yr ymchwiliad cyhoeddus lleol, cyn gwneud penderfyniad ynglŷn â'r cynllun y gwanwyn hwn.

Maddeuwch i mi am fynd yn fwy a mwy rhwystredig efo hyn. Mae hi’n hen bryd cael cyhoeddiad ynglŷn â chynllun y ffordd osgoi. Mae hi ddwy flynedd ar ei hôl hi yn barod, ac mi gefais addewid gennych chi y byddai yna gyhoeddiad yn y flwyddyn newydd. I mi, mae’r flwyddyn newydd wedi hen basio, ac rŷm ni rŵan ym mis Mawrth, a dal ddim wedi cael cyhoeddiad. Yn ogystal â lleihau tagfeydd traffig, mi fyddai’r ardal yn elwa’n economaidd o’r cynllun, ac fe ellid creu 40 o brentisiaethau yn fy ardal i yn syth petai yna gyhoeddiad yn cael ei wneud. Felly, a gaf i bwyso arnoch chi i gyhoeddi cychwyn y cynllun yma yn ystod yr wythnosau nesaf?

Gwrandewais yn ofalus iawn ar yr hyn oedd gan yr Aelod i'w ddweud. Gallaf roi sicrwydd i'r Aelod ei bod yn hanfodol fod ystyriaeth ddigonol yn cael ei rhoi i adroddiad ymchwiliad er mwyn osgoi unrhyw gamau barnwrol dilynol. Mae'r arolygydd wedi ystyried 20 datganiad o gefnogaeth i'r cynllun a 160 o wrthwynebiadau. Mae'r arolygydd hefyd wedi ystyried 20 llwybr amgen fel rhan o broses yr ymchwiliad. Mae'r arolygydd wedi cyflwyno ei ystyriaethau ynghyd â'i argymhellion mewn adroddiad manwl i fy swyddogion. Gallaf sicrhau'r Aelod y byddaf yn dod i benderfyniad ar y mater yn ystod y gwanwyn eleni.

Ddatblygu Economaidd yn Rhanbarth Gogledd Cymru

13. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddatblygu economaidd yn rhanbarth Gogledd Cymru? OAQ51847

Gwnaf. Bydd gweledigaeth economaidd newydd ar gyfer gogledd Cymru yn deillio o'r agenda ranbarthol sydd wedi'i chynnwys yn nogfen cynllun gweithredu economaidd 'Ffyniant i Bawb' Llywodraeth Cymru, gan integreiddio dyheadau cynnig twf gogledd Cymru ac ymgorffori a manteisio ar gyfleoedd sy'n gysylltiedig â sectorau allweddol, a Phwerdy Gogledd Lloegr wrth gwrs.

Diolch i chi am yr ateb hwnnw. Ysgrifennydd y Cabinet, dros y penwythnos, tynnwyd sylw at y bwlch rhwng y cyfoethocaf a'r tlotaf yn y DU, a gorllewin Cymru oedd perthynas dlawd y DU. Rwyf wedi bod yn edrych ar ffyniant cymharol fy rhanbarth, ac rwyf wedi dod o hyd i fwlch mawr o tua £50 yr wythnos mewn enillion cyfartalog rhwng y rhai sy'n byw yno a'r rhai sy'n byw ac yn gweithio yng Nghanol De Cymru. Beth y bwriadwch ei wneud i fynd i'r afael â'r anghydraddoldeb hwn a chau'r bwlch rhwng y gogledd a'r de?

Wel, nid bwlch rhwng y gogledd a'r de yn unig ydyw. Rydym yn gweld anghydraddoldebau ym mhob cymuned, a rhwng y gogledd a'r de, rhwng y dwyrain a'r gorllewin, rhwng cymunedau sy'n ffinio â'i gilydd. Holl bwrpas y cynllun gweithredu economaidd yw datrys yr anghydraddoldebau hynny a  chynnig swyddi o ansawdd uwch i bobl yn agos at eu cartrefi a darparu'r sgiliau sydd eu hangen ar bobl i ddod o hyd i waith. Rwy'n credu bod yr adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan Sefydliad Joseph Rowntree yn pwysleisio pa mor enbyd y mae goblygiadau cyni wedi bod, yn enwedig i aelwydydd incwm is—yn arbennig ar gyfer aelwydydd â phlant, oherwydd maent wedi colli cryn dipyn yn fwy yn ystod cyni o ganlyniad i ddiwygio lles a thoriadau i fudd-daliadau: mae'r aelwydydd sy'n ennill llai yn ein cymunedau wedi colli oddeutu 12 y cant o incwm net. Mae teuluoedd mawr yn cael eu taro'n arbennig o galed, gan golli oddeutu £7,750 y flwyddyn, neu un rhan o bump o'u hincwm net ar gyfartaledd. Credaf fod hyn yn gywilyddus. Byddwn yn mynd i'r afael â hyn, ac rydym yn mynd i'r afael â hyn, drwy newid y ffordd rydym yn gweithio, er mwyn darparu mwy o gyfleoedd gwaith o ansawdd uwch i'r rhai sydd bellaf oddi wrth y farchnad swyddi, neu i rai sydd mewn gwaith ac nad oes ganddynt yr adnoddau na'r potensial i ennill digon i allu byw'n gysurus drwy ganolbwyntio ar ddatblygu swyddi o ansawdd uwch a mwy o lwybrau gyrfa gwell yn y gwaith.

15:05
3. Cwestiynau Amserol

Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau amserol, a'r cwestiwn cyntaf—Rhun ap Iorwerth.

Effeithiau Storm Emma ar Gaergybi

1. Beth yw ymateb Llywodraeth Cymru i effeithiau storm Emma ar Gaergybi? 150

Member
Lesley Griffiths 15:06:20
Cabinet Secretary for Energy, Planning and Rural Affairs

Diolch. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio gyda marina Caergybi, yr awdurdod porthladd ac Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau ar y gwaith glanhau ac i gyfyngu ar y tanwydd neu'r gweddillion sydd wedi gollwng i'r amgylchedd. Mae hyn yn cynnwys cymryd camau i ymdrin â'r polystyren sydd wedi gollwng i'r dŵr. Byddaf yn ymweld â phorthladd a marina Caergybi yfory i gyfarfod â'r holl asiantaethau perthnasol.

Diolch am yr ymateb yna. Mi oeddwn i ym marina Caergybi ddydd Gwener, yn syth ar ôl y storm, ac mi oedd yr olygfa—llawer ohonoch chi wedi ei gweld hi ar y teledu ac ati—yn un wirioneddol dorcalonnus: dinistr llwyr yno. Wrth gwrs, mae yna lawer o gychod pleser personol yno, a rheini'n bwysig yn economaidd i'r ardal, ond mi oedd yna bymtheg o gychod masnachol yn y marina hefyd, a llawer o'r rheini wedi cael eu dinistrio neu eu difrodi yn rhannol.

Rŵan, mae'r holl fusnesau sy'n defnyddio'r marina yn rhan bwysig o economi forwrol Môn, ac o ystyried y pwyslais rŵan, o'r diwedd, diolch byth, ar ddatblygu strategaeth forwrol i Gymru, mi hoffwn i wybod pa fath o becyn cymorth y gall y Llywodraeth ei roi at ei gilydd i gefnogi y busnesau yma rŵan yn eu hawr o angen yn y byr dymor. Yn ail, yn edrych y tu hwnt i'r tymor byr, a gaf i ymrwymiad y gwnaiff y Llywodraeth helpu i ariannu gwaith ymchwil i'r angen posib am amddiffynfa i'r rhan yma o'r harbwr yng Nghaergybi yn y dyfodol? Fel is-gwestiwn i hynny, o bosib: a ydych chi'n cytuno bod yna rôl bwysig iawn i adran astudiaethau eigion Prifysgol Bangor yn y gwaith yma, yn cynnwys defnydd o'u llong ymchwil, y Prince Madog? 

Yn olaf wedyn, ac yn allweddol—rydych chi wedi cyfeirio ato fo—yn y byr dymor, rydym ni yn wynebu problem amgylcheddol ddifrifol yn sgil y storm. Rydw i'n deall nad oedd yna ormod o danwydd yn y llongau—bod y rhan fwyaf o hwnnw wedi cael ei gasglu, ond yn sicr rydym ni'n wynebu bygythiad mawr o ran llygredd yn dod o weddillion polisteirin y pontoons yn y marina. Mae yna fygythiad gwirioneddol yn dod gan bolisteirin. Roeddwn i ar wefan yr Institute for European Environmental Policy yn gynharach—yn sôn am y perig o fywyd môr yn bwyta olion polisteirin sy'n cael ei dorri'n ddarnau mân ac yn aros yn hir iawn, y perig pan mae hynny'n mynd i mewn i'r gadwyn fwyd ac ati.

Mae cwestiynau wedi cael eu gofyn i fi a oedd ymateb asiantaethau Llywodraeth Cymru'n ddigon cyflym ar ôl y storm i'r perig llygredd yma. Mae pobl leol wedi cael eu siarsio i gadw oddi ar y creigiau, i beidio â chymryd rhan yn y gwaith llnau, ond mae llawer wedi dweud wrthyf i eu bod nhw'n teimlo bod rhaid iddyn nhw oherwydd eu bod nhw'n gweld diffyg swyddogion swyddogol, os leiciwch chi, yno yn gwneud y gwaith llnau. Ond beth bynnag ddigwyddodd ar y pryd, rŵan, bum niwrnod ymlaen, mi hoffwn i ddiweddariad ynglŷn â'r hyn sydd yn cael ei wneud i ddelio â'r llygredd yna a sicrwydd y bydd beth bynnag sydd ei angen yn cael ei wneud i sicrhau nad ydym ni'n wynebu mwy o'r dinistr amgylcheddol yma rydym ni wedi'i weld yn barod. 

Diolch i chi am eich cwestiwn, Rhun ap Iorwerth. Hoffwn ddweud o'r cychwyn fy mod yn ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y gwaith glanhau. Oherwydd eu gwaith caled, rwy'n credu ein bod wedi helpu i leihau effaith amgylcheddol y digwyddiad anffodus iawn hwn, ac rwy'n llwyr ddeall yr effaith y mae difrod y storm wedi'i chael ar fywoliaeth llawer o bobl, ac mae honno'n amlwg yn sefyllfa ofidus iawn i bob un ohonynt.

Rydych yn gofyn cyfres o gwestiynau; mewn perthynas â'r cychod, mae tua 85 o gychod wedi cael eu difrodi, ac mae pump o'r rheini'n gychod pysgota masnachol.

Rwy'n hapus iawn i ystyried cymorth ariannol posibl ar gyfer atgyweirio seilwaith cyhoeddus. Hefyd os oes unrhyw ddifrod amgylcheddol pellach sydd angen cael ei lanhau, rwy'n hapus iawn i edrych ar hynny, ac mae hwnnw'n amlwg yn rhywbeth y byddaf yn ei drafod yn ystod fy ymweliad yfory. Rydych yn dweud ei fod wedi cael effaith amgylcheddol ddifrifol; rwyf eisiau gweld beth ydyw drosof fy hun, ond yn sicr, nid oes neb wedi gofyn cwestiynau i mi'n dweud nad oedd ein hymateb yn ddigon cyflym. Rwyf wedi cael nifer o sesiynau briffio bob dydd ers i hyn ddigwydd ddydd Gwener, ac yn sicr, yn ôl yr hyn rwy'n ei ddeall gan Cyfoeth Naturiol Cymru, mae'r gwaith wedi datblygu mewn ffordd esmwyth iawn.

Ceir grŵp amgylchedd sefydlog gogledd Cymru, ac mae fy swyddogion yn aelodau ohono; nid yw'r grŵp hwnnw wedi cyfarfod oherwydd nad oedd angen gwneud hynny. Nawr, os ydych yn dweud bod yna sefyllfa amgylcheddol ddifrifol, pan fyddaf yn cyrraedd yno yfory, byddaf eisiau gwybod pam na fu cyfarfod os yw hynny'n wir. Ond yn sicr, rwy'n deall nad oes cyfarfod wedi bod am eu bod yn hapus fod y gwaith glanhau wedi bod yn digwydd fel y dylai hyd yn hyn. Felly, byddaf yn hapus iawn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi yn dilyn fy ymweliad yfory, ac i'r Aelodau eraill hefyd, wrth gwrs.

Mae'n amlwg fod angen edrych i weld a oes angen i ni gael amddiffyniad môr yno neu beidio. Roedd hwn yn ddigwyddiad cwbl drychinebus ddydd Gwener, ac er fy mod yn sylweddoli nad ydym wedi gweld tywydd felly ers amser hir yng Nghymru, credaf fod cwestiynau i'w gofyn ynglŷn â pham yr oedd mor drychinebus. Fe ddywedoch am y lluniau, ac yn sicr, roedd gweld y lluniau hynny pan oeddwn gartref y penwythnos diwethaf, yn dorcalonnus. Ond fel y dywedais, Lywydd, byddaf yn hapus iawn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelod yn dilyn fy ymweliad yfory.

15:10

Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet. Y cwestiwn nesaf, felly, i'w ofyn gan Lee Waters.

Darlledu Rygbi Rhanbarthol am Ddim

2. Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o effaith rhoi'r gorau i ddarlledu rygbi rhanbarthol am ddim o dymor nesaf ymlaen? 151

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod hwn yn benderfyniad masnachol, ond mae'r Llywodraeth yn bryderus iawn ynglŷn â'r penderfyniad na fydd unrhyw rygbi rhanbarthol am ddim yn cael ei ddarlledu drwy gyfrwng y Saesneg o'r tymor nesaf ymlaen. Rydym yn dal i ddisgwyl canlyniad negodiadau pellach sy'n effeithio ar ddarllediadau S4C drwy gyfrwng y Gymraeg ac wrth gwrs, y botwm coch a fyddai'n darparu darllediadau dwyieithog ar gyfer gwylwyr yng Nghymru.

Diolch i chi am eich ateb, Weinidog. Ar adeg pan fo Scarlets Llanelli yn gwneud yn dda, rwyf eisiau i gynifer o bobl â phosibl weld eu llwyddiant, ond mae Pro14 yn cychwyn ar strategaeth fentrus wrth roi'r hawliau dros rygbi rhanbarthol yn y Saesneg i wasanaeth talu i wylio. Mae cynulleidfaoedd gemau rhanbarthol wedi bod yn gostwng gyda darllediadau am ddim hyd yn oed, a thrwy annog sianel talu i wylio newydd i drechu'r cynnig ar y cyd gan BBC a S4C, mae'r clybiau'n gamblo er mwyn cael mwy o arian. Er mwyn i hyn weithio mae'n rhaid i gefnogwyr dalu £10 y mis. Ond yn ôl yr hyn a ddeallaf, dim ond dau fast teledu yng Nghymru sy'n gallu derbyn y sianel deledu chwaraeon newydd am ddim: Moel-y-Parc yn Sir y Fflint, a Gwenfô ger Caerdydd, nad yw'n cyrraedd Llanelli.

A wnaiff y Gweinidog drafod gyda Premier Sports sut y bydd cefnogwyr ledled Cymru yn gallu gweld y gemau newydd y tymor nesaf? Rwy'n bryderus iawn ynglŷn â hyfywedd y cais hwn, yn enwedig am mai Prif Swyddog Gweithredol Premier Sports, Mickey O'Rourke, oedd Prif Swyddog Gweithredol Setanta Sports, a oedd yn fethiant. Nid oes ond rhaid i chi edrych ar Google i wybod mai'r rheswm pam y methodd Setanta Sports oedd oherwydd nad oedd ganddo fodel busnes hyfyw. Mae'r Gweinidog yn sôn bod gobaith o hyd y bydd S4C yn cael yr hawliau i ddangos rhai gemau, ond rhai gemau'n unig.

Dull Pro14 o weithredu oedd mynd ati'n fwriadol i dorri'r bartneriaeth lwyddiannus rhwng y BBC ac S4C a gwneud dewis amgen bach ac anhysbys am swm anhysbys o arian, ond o'r hyn rwy'n ei glywed, nid yw'n wahaniaeth enfawr ac ni allaf ddeall pam y gwnaethant hynny. Mae'n bosibl y bydd yn torri cynulleidfa rygbi rhanbarthol, sydd eisoes yn brwydro i gael cynulleidfaoedd, ac er nad yw darlledu wedi'i ddatganoli, mae canlyniad y penderfyniad hwn wedi'i ddatganoli. Heb rygbi ar nos Wener a nos Sadwrn, bydd clybiau a neuaddau ledled Cymru yn dioddef. Bydd un o raglenni mwyaf poblogaidd BBC Cymru, Scrum V, yn diflannu i bob pwrpas, ac ni fydd cenedlaethau newydd o chwaraewyr rygbi yn cael gweld eu rhanbarth yn chwarae.

Felly, mae hwn yn benderfyniad eithriadol o annoeth. A wnaiff y Gweinidog gyfarfod â Pro14 i drafod pa gynlluniau wrth gefn sydd ganddynt os yw'r sianel talu i wylio newydd hon yn methu, a'u hannog i ailystyried eu penderfyniad? Diolch.

15:15

Fel y gŵyr yr aelod—ac rwy'n ddiolchgar iawn iddo am fynegi ei bryderon ar ran y Scarlets ac yn wir, yr holl ddilynwyr rygbi yng Nghymru, ond mae'n effeithio ar ei etholaeth ef yn arbennig—mae'r gystadleuaeth Pro14 yn cael ei rhedeg gan gorff o'r enw Celtic Rugby UK Limited, sy'n gwmni preifat wedi'i gyfyngu gan gyfranddaliadau, ac mae'n cynnwys, ymhlith ei berchenogion, Undeb Rygbi Iwerddon, Undeb Rygbi Cymru, Undeb Rygbi'r Alban a Ffederasiwn Rygbi'r Eidal, gyda bwrdd cyfarwyddwyr sy'n cynnwys dau gynrychiolydd a benodwyd gan bob undeb a chadeirydd annibynnol. Felly, yn amlwg, dylai'r bobl hyn fod yn ymwybodol iawn o ganlyniadau eu penderfyniad, wrth iddynt drafod y cynigion amrywiol.

Ein dealltwriaeth ni yw bod hwn yn gais ar y cyd gan BBC Cymru Wales, BBC Northern Ireland, BBC Alba ac S4C, ac fel y gwyddom yn awr, gwrthodwyd y cais, ond nid ydym wedi cael cadarnhad clir gan Pro14 ynglŷn â beth yn union yw'r trefniadau a roddir ar waith gan y cynigydd llwyddiannus. Yn sicr, rwy'n derbyn ei gais y dylwn gael trafodaethau pellach, yn ffurfiol os oes angen, ond yn sicr yn anffurfiol, gan y byddaf yn cyfarfod y cymeriadau dan sylw yn weddol fuan eto, fel y cyfarfûm â rhai ohonynt y bore yma, ac y byddwn yn cael y trafodaethau hynny i ni allu deall natur y penderfyniad hwn. Ond hefyd, i fynd ar ôl y pwynt y mae wedi'i wneud: pa ddarpariaeth y gellir ei gwneud i sicrhau bod y difrod yn cael ei gyfyngu o ganlyniad i'r penderfyniad hwn mewn perthynas â gallu gwylwyr yng Nghymru i barhau i gymryd rhan yn y gemau hanfodol hyn? Mae'n bosibl iawn y gall hynny fod ar ffurf y math o drafodaethau y deallaf efallai eu bod ar y gweill ar hyn o bryd rhwng S4C a'r cynigydd llwyddiannus, ynglŷn â faint o gemau a pha ganiatadau a gânt ganddynt i gael y cyfle i barhau i ddarlledu ar yr awyr ac ar-lein.

Wel, rwy'n cytuno gyda Lee Waters; mae hwn yn benderfyniad rhyfedd iawn, yn sicr ar yr wyneb. Er y gallai fod rhai manteision i S4C o ganlyniad os caiff rywfaint o ddarlledu am ddim, drwy fod mwy o wylwyr yn newid i S4C ar gyfer y gemau hynny, nid wyf yn credu bod hynny, ynddo'i hun, i'w weld yn cyfiawnhau'r penderfyniad a wnaed.

Rydych yn dweud ei fod yn benderfyniad masnachol ac mae hynny'n berffaith wir, ond mae hefyd yn wir fod Llywodraeth Cymru wedi cefnogi Undeb Rygbi Cymru yn y gorffennol gydag amrywiaeth o grantiau, drwy gyfrwng cyllid adfywio strategol, drwy'r rhaglen cyfleusterau a gweithgareddau cymunedol a thrwy Chwaraeon Cymru, wrth gwrs. Felly, credaf ei bod yn hollol gywir i Lywodraeth Cymru ofyn am rai manylion ynglŷn â sut y gwnaethpwyd y penderfyniad hwn, ac yn benodol iawn, pa ddadleuon a gyflwynodd Undeb Rygbi Cymru dros gynnal darllediadau am ddim ar deledu iaith Gymraeg; pa mor galed y gwthiwyd hynny ganddynt; ac yn benodol, pa effaith y credant y bydd nifer gyfyngedig, yn ôl pob tebyg, o wylwyr yn ei chael ar eu nawdd, oherwydd, wrth gwrs, mae nawdd yn allweddol i gynnal Pro14, nid y gost fasnachol yn unig. Ac mae'n ymddangos i mi ar yr wyneb, fel rwy'n dweud, fod hwn yn benderfyniad hollol wallgof os ydynt yn disgwyl nawdd yn y dyfodol.

Yn anffodus, ni allaf ddilyn rhesymeg y ddadl honno. Mae ein perthynas ag S4C, fel Llywodraeth Cymru, wedi'i hanelu'n benodol at gefnogi eu gweithgareddau yn datblygu rygbi cymunedol. Ac yn amlwg, ceir cysylltiad agos rhwng rygbi cymunedol a'r posibilrwydd y bydd gwylwyr yng Nghymru yn gallu dilyn gemau rygbi rhanbarthol Pro14. Rwyf wedi cyfarfod yn ddiweddar gydag Undeb Rygbi Cymru, yn ffurfiol ac yn anffurfiol, ac o ganlyniad i'r drafodaeth hon heddiw, y byddant wedi'i chlywed, gallaf eich sicrhau y byddaf yn mynd ar drywydd pob llwybr posibl, ar wahân i geisio ymyrryd mewn penderfyniad masnachol. Oherwydd mae'n rhaid i ni ei gwneud yn gwbl glir nad bwriad y Llywodraeth hon yw niweidio ein perthynas â chyrff sy'n gwneud penderfyniadau masnachol y gallem fod yn anghytuno â hwy.

Rwy'n ddiolchgar i fy nghyfaill Lee Waters am godi'r mater pwysig hwn heddiw. Fel deiliad tocyn tymor gyda'r Dreigiau, rwy'n siomedig iawn ynglŷn â'r penderfyniad i newid i sianel talu wrth wylio. Datblygodd fy hoffter o chwaraeon, fel llawer o bobl, drwy wylio darllediadau am ddim. Deallaf fod angen cydbwysedd rhwng defnyddio teledu i hyrwyddo'r gêm a defnyddio arian teledu i dalu am chwaraewyr proffesiynol, ond mae'n rhaid i ni wylio rhag creu elitiaeth newydd lle mae pobl o bob oed sy'n cael trafferth i gyrraedd gemau rhanbarthol yn cael eu gwahardd yn anghymesur. Ac mae yna eisoes enghreifftiau o hyn gyda chriced yng Nghymru a Lloegr, a rygbi yn Iwerddon.

Mae'n destun gofid bod gwaith ymchwil gan Dr Paul Rouse ym mhrifysgol Dulyn yn rhoi enghraifft o'r gwahaniaeth rhwng dwy o gemau Leinster ym mhencampwriaeth Cwpan Heineken yn Iwerddon. Gwyliodd 67,000 o fenywod gêm Leinster ar deledu cenedlaethol Gwyddelig yn 2006, o'i gymharu â 9,000 yn unig a wyliodd y gêm ar Sky yn 2007. Cafodd pobl dros 55 oed eu heffeithio yn yr un modd. Os bydd rhanbarthau Cymru yn cael mwy o arian, fel y mae'r fargen hon yn addo, pa ymrwymiadau y byddai'r Gweinidog yn ceisio eu sicrhau gan y rhanbarthau i wneud yn siŵr eu bod yn cyrraedd cynulleidfa ehangach i wneud iawn am golli sylw torfol ar y teledu, ac i warantu nad oes dwy haen i sylfaen cefnogwyr rygbi rhanbarthol Cymru yn y dyfodol? Ac yn olaf, pa gyfleoedd y mae'r Gweinidog yn credu sy'n bodoli i roi hwb i'r sylw a gaiff rygbi uwch gynghrair Cymru o'r penderfyniad hwn?

15:20

Rwy'n ddiolchgar iawn am y cwestiwn pellach. Fe fydd yn glir i'r rhai sy'n dilyn y drafodaeth hon nad oes unrhyw gefnogaeth yn y Siambr i'r penderfyniad a wnaed i ddyfarnu'r cyfle penodol hwn i ddarlledu. Mae'n bwysig iawn, fel rydych wedi nodi o'ch profiad eich hun, fod cyfle i bobl ddilyn darllediadau o ddigwyddiadau chwaraeon o bwys yn agored, gan arwain at gyfranogiad, recriwtio cefnogwyr sy'n cynnig eu cefnogaeth gydol oes i rygbi, fel y mae llawer ohonom yma yn ei wneud i rygbi—ac yn wir i bêl-droed—yng Nghymru. Felly, mae'n hollbwysig y dylem, fel Llywodraeth, barhau i drafod gyda'r sefydliadau chwaraeon rydym yn eu cefnogi mewn gwirionedd, fel y nodwyd eisoes. Mae'r cwestiynau sy'n cael eu gofyn heddiw yn rhai—rwy'n ymrwymo i hyn—y byddaf yn eu gofyn yn bersonol, nid yn unig i Undeb Rygbi Cymru, ac felly drwyddynt hwy i Pro14, ond hefyd: beth yw'r canlyniadau, i rygbi cymunedol ac i'r uwch gynghrair? Mae hyn yn sicr yn rhywbeth y byddem eisiau ei ystyried fel Llywodraeth, ac rwy'n rhoi'r ymrwymiad rydych yn gofyn amdano.

Diolch yn fawr i'r Gweinidog, a'r cwestiwn olaf amserol, felly, gan David Melding.

Lesddaliad

3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gytundeb contract lesddaliad Llywodraeth Cymru gyda phump o’r prif adeiladwyr cartrefi? 152

Gwnaf. Mae Cymorth i Brynu—Cymru yn cyhoeddi amrywiadau contract newydd i'r holl adeiladwyr tai sy'n defnyddio'r cynllun hwn, nid y pump mwyaf yn unig. Bydd y telerau newydd hyn yn cyfyngu ar y defnydd o Cymorth i Brynu—Cymru ar gyfer tai ar lesddaliad i amgylchiadau eithriadol. Bydd hefyd yn sicrhau bod y telerau lesddaliad ar gyfer unrhyw gartref Cymorth i Brynu—Cymru, gan gynnwys fflatiau, yn deg. Yn ogystal â hyn, mae pump o'r prif adeiladwyr tai wedi cytuno i beidio â marchnata unrhyw gartrefi newydd yng Nghymru fel lesddaliad, ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol.

Lywydd, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ers i Lywodraeth y DU gyhoeddi ymgyrch yn erbyn arferion lesddaliad annheg, rydym wedi gweld y mater hwn yn dod yn ffocws go iawn yng Nghymru hefyd. A gaf fi groesawu cyhoeddiad y Llywodraeth y prynhawn yma? Credaf ei fod yn bendant yn gam i'r cyfeiriad cywir. Fodd bynnag, rwy'n awyddus iawn i sicrhau nad yw'r cyhoeddiad hwn yn ymddangos fel maddeuant neu bardwn i'r cwmnïau tai mawr hynny sydd wedi bod yn gweithredu'r arferion ffiwdal hyn dros y 10 mlynedd diwethaf neu fwy. Yn wahanol i safbwynt Llywodraeth y DU, nid yw eich datganiad i'w weld yn darparu unrhyw obaith i lawer o bobl, pobl sy'n prynu am y tro cyntaf yn aml, sydd eisoes yn gaeth i'r system gamfanteisiol hon. Ac felly, a yw'r Gweinidog yn cytuno bod angen i Lywodraeth Cymru ddarparu cymorth clir ar y gwahanol ffyrdd y gallant gael iawn, ochr yn ochr ag adolygiad mewnol ehangach o'r system gymorth a chyngor sydd ar gael i lesddeiliaid lle mae arferion cyfredol yn mynd i barhau?

Diolch yn fawr iawn am y cwestiynau hynny, a buaswn yn dweud mai cychwyn yn unig ar fy uchelgais ar gyfer lesddeiliadaeth yw'r cyhoeddiad a wneuthum yr wythnos hon, a chychwyn ar y camau rwy'n bwriadu eu cymryd yn y maes hwn. Byddwch yn cofio ein bod wedi cael dadl wirioneddol addysgiadol a defnyddiol yma yn y Siambr ddiwedd mis Ionawr, ac fe ymrwymais bryd hynny i gyflwyno cynifer o gamau cynnar ag y gallwn, ac mae'r cyhoeddiadau a wneuthum yr wythnos hon yn driw i'r ymrwymiad a wneuthum bryd hynny, ond dechrau'n unig yw hyn. 

Rwy'n ailadrodd nad wyf yn diystyru'r posibilrwydd o ddeddfwriaeth yn y dyfodol. Rwy'n cydnabod y gallai fod angen deddfwriaeth er mwyn datrys y problemau ehangach ac i wneud lesddeiliadaeth, neu ddeiliadaeth amgen, yn addas ar gyfer y farchnad dai fodern. Er mwyn nodi ein ffordd ymlaen, rydym yn ymgysylltu â phrosiect Comisiwn y Gyfraith, sy'n edrych ar y mater hwn, a phan fyddwn wedi cael adroddiad Comisiwn y Gyfraith a'n hymchwil ein hunain a gomisiynais i'r mater hwn hefyd, byddaf yn gallu nodi'r camau nesaf. Ond yn y cyfamser, byddaf yn ystyried defnyddio pob un o'r llwybrau sydd ar gael i ni.

O ran cynorthwyo pobl sydd ar hyn o bryd yn ddarostyngedig i'r cytundebau a wnaethant drwy'r contractau lesddaliad sydd ganddynt, rwy'n ymwybodol iawn o'r problemau hynny. Credaf fod pob un ohonom, bron bob dydd ar hyn o bryd—mae'n wir yn fy achos i, yn sicr—mewn cysylltiad dyddiol â phobl sy'n cael problemau ar hyn o bryd. Mae rhai pobl yn credu eu bod wedi cael cyngor gwael neu heb gael eu cynghori o gwbl o ran yr hyn y mae lesddaliad yn ei olygu iddynt, a dylent geisio cael iawn drwy'r dull sefydledig sy'n bodoli eisoes.

Gellir cyfeirio anghydfodau sy'n ymwneud â'r gost o brynu rhydd-ddaliad, cynnydd yn y rhent tir a thaliadau gwasanaeth—dyna'r pethau y mae pawb ohonom yn clywed amdanynt yn rheolaidd—at y tribiwnlys prisio lesddaliadau am ddatrysiad, ac mae'r gwasanaeth cynghori ar lesddaliadau mewn sefyllfa dda hefyd i helpu lesddeiliaid ac i helpu gyda'r dasg o ddiwygio lesddeiliadaeth yn gyffredinol yn ogystal. Mae'r Gwasanaeth Cynghori ar Lesddaliadau wedi'i sefydlu ers 20 mlynedd. Maent yn rhoi cyngor cyfreithiol am ddim i lesddeiliaid, landlordiaid, cynghorwyr proffesiynol, rheolwyr ac eraill ar y gyfraith sy'n effeithio ar lesddaliadau preswyl yng Nghymru a Lloegr, a dylai pobl sydd â phryderon yn y maes gysylltu â hwy yn y lle cyntaf.

Ond fel y dywedais, cam cyntaf oedd y cyhoeddiad yr wythnos hon, a gellid cymryd rhai o'r camau cynnar a welais yn eithaf didrafferth, yn dilyn y trafodaethau a gawsom ym mis Ionawr.

15:25

Hoffwn ddiolch i David Melding am gyflwyno'r cwestiwn hwn oherwydd credaf y byddai wedi bod o fudd i ni gael datganiad llafar gan y Gweinidog ar hyn. Ond yn eich datganiad, fe ysgrifennoch na fyddai'r pum datblygwr y mae gennych gytundebau â hwy ond yn adeiladu lesddaliadau o dan amgylchiadau y bernir gennych chi eu bod yn gwbl angenrheidiol. Tybed a allech egluro'r hyn y byddech chi a'r datblygwyr hyn yn ei farnu'n gwbl angenrheidiol.

Mae fy ail bwynt yn ailadrodd yr hyn a ddywedodd David Melding AC hefyd. Un rhan fach yn unig o'r farchnad yw Cymorth i Brynu, ac rydym eisiau sicrwydd y bydd y rheini sydd eisoes yn gaeth i'r amgylchiad penodol hwn yn cael yr un hawliau â'r rhai sy'n rhan o'r cynllun Cymorth i Brynu.

Roeddwn am wneud y pwynt canlynol, yn deillio o'r hyn a ddywedwyd ddoe, rwy'n credu, gan Hefin David: rwy'n credu bod y ffioedd rheoli a orfodir mewn perthynas â lesddaliadau yn fom sy'n tician. Mae llawer o bobl wedi cysylltu â mi i ddweud eu bod yn teimlo bod system ddwy haen ar waith, lle maent yn talu ffioedd rheoli i wneud yr un peth ag y maent yn talu eu treth gyngor i'w wneud, mewn perthynas â chynnal gerddi neu godi sbwriel. Felly, hoffwn i chi edrych ar hyn, yn nes ymlaen, yn ogystal ag ymhelaethu ar y datganiad rydych eisoes wedi'i wneud.

Diolch yn fawr i chi am y cwestiynau hynny. Er eglurder, mae'r amgylchiadau eithriadol y cyfeiriwyd atynt yn y datganiad wedi'u hamlinellu yn Neddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad 1967. Felly, maent yn cynnwys pethau fel tir sy'n eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, y Goron, awdurdod lleol neu yng nghyffiniau eglwys gadeiriol, ac mae hefyd yn cynnwys tir o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig lle mae'n bwysig diogelu'r tir a'r cyffiniau. Felly, yn ymarferol, yr hyn y mae'n ei olygu yw bod yn rhaid i unrhyw gais a gyflwynir sy'n gofyn am un o'r esemptiadau hynny i brynu neu i adeiladu eiddo lesddaliad drwy Cymorth i Brynu, gael ei ddwyn i sylw Llywodraeth Cymru, ac yna byddwn yn ceisio eglurhad er mwyn gweld a yw'r amgylchiadau eithriadol hynny'n gyfiawn yn ein barn ni. Byddwn yn gofyn am yr eglurhad hwnnw gan yr awdurdod lleol.

Bydd gofyn i unrhyw ddatblygwr sy'n cofrestru safle drwy Cymorth i Brynu—Cymru  gyflwyno cynllun cyn datblygu, a bydd angen i hwnnw nodi'r ddeiliadaeth arfaethedig ac unrhyw resymau dros lesddaliad. Unwaith eto, byddem yn cael trafodaethau ynglŷn ag a ydynt yn dod o dan Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad 1967 ai peidio.

Rhan fach yn unig o'r farchnad dai yng Nghymru yw'r cynllun Cymorth i Brynu—rydych yn iawn—a dyna pam rwy'n falch iawn, drwy ein rhaglen ymgysylltu adeiladwyr tai, ein bod wedi gallu sicrhau cytundeb y pum prif gwmni adeiladu tai yng Nghymru na fyddent yn marchnata cartrefi fel lesddaliadau mwyach, ac mae hynny'n wir am Cymorth i Brynu, ond hefyd am gartrefi eraill a adeiladwyd o'r newydd sy'n cael eu marchnata. Felly, croesawaf yr ymrwymiad hwnnw'n fawr iawn.

Fe sonioch chi hefyd am gwmnïau rheoli. Unwaith eto, dyma rywbeth y mae gennyf ddiddordeb mewn mynd ar ei drywydd. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr iawn at y ddadl y byddwn yn ei chael yr wythnos nesaf, wedi'i chyflwyno, rwy'n deall, gan Hefin David, am gysylltiadau a hawliau pobl sy'n berchen ar eu tŷ fel eiddo rhydd-ddaliadol, ond fel rhan o ystâd, ac sy'n ddarostyngedig i lawer o'r un taliadau â phobl sydd ag eiddo lesddaliadol, drwy'r cwmnïau rheoli hyn.

15:30
4. Datganiadau 90 Eiliad

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiadau 90 eiliad, a'r datganiad cyntaf, David Melding.

Diolch yn fawr, Lywydd. Ym mis Medi 2016, roedd dyn o'r enw Gary wedi rhedeg y rhan fwyaf o'r ras 5 km, Race For Victory, yng Nghaerdydd cyn cwympo ar ochr y ffordd mewn poen mawr, yn dioddef o ataliad y galon. Yn rhyfeddol, fe stopiodd calon Gary guro am saith munud. Yr help cyntaf i gyrraedd oedd uned ymateb ar feic St John Cymru, grŵp o wirfoddolwyr a lwyddodd i gael calon Gary i guro ar ei phen ei hun unwaith eto drwy ddefnyddio diffibriliwr. Roedd Gary'n ffodus fod popeth wedi dod at ei gilydd ar yr adeg iawn, gydag ymyrraeth gynnar a phobl gyda'r hyfforddiant a'r offer cywir wrth law. Llwyddodd gwaith St John Cymru i achub bywyd Gary.

Yr wythnos diwethaf, ar draws y wlad, buom yn dathlu ac yn nodi Dydd Gŵyl Dewi, diwrnod arbennig a balch i ni. Ond eleni, i lawer o bobl fel Gary, roedd iddo werth ychwanegol, gan ei fod yn nodi canmlwyddiant sefydlu Priordy Cymru o Urdd Sant Ioan, sefydliad rwy'n falch o fod yn aelod ohono. Sefydlwyd yr Urdd Sant Ioan wreiddiol dros 1,000 o flynyddoedd yn ôl ar yr egwyddor y dylai ei haelodau drin a gofalu am bob person heb wahaniaethu ar sail hil, statws cymdeithasol neu rywedd. O'r sylfeini hynny, mae'r urdd wedi tyfu i fod yn rhan hanfodol o'n cymdeithas fodern.

Yma yng Nghymru yn benodol, mae'r sefydliad yn cynnwys tua 4,000 o wirfoddolwyr sy'n ymgymryd â gwaith yr urdd yn ddyddiol. Sefydlwyd priordy Cymru ar Ddydd Gŵyl Dewi 1918 i gydnabod gwaith ymroddedig yr adrannau yng Nghymru. Mae'n briodol ein bod yn nodi canmlwyddiant St John Cymru yn y Siambr hon heddiw, ac edrychwn ymlaen at y derbyniad rydych yn ei gynnal yn y Senedd fis nesaf, Lywydd.

Ddoe, buom yn dathlu Wythnos Diwrnod Rhyngwladol y Menywod drwy ddadorchuddio'r plac porffor cyntaf yng Nghymru er cof am yr Aelod Cynulliad Llafur dros Ddwyrain Abertawe, y diweddar Val Feld. Roedd Val Feld yn hyrwyddwr cyfiawnder cymdeithasol cyn iddi ddod yn AC a chefnogai ddatganoli'n frwd fel trysorydd yr ymgyrch 'Ie dros Gymru' a arweiniodd at refferendwm 1997. Roedd Val yn gweld datganoli fel cyfle i wella cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol yng Nghymru ymhellach. Heddiw, rwyf eisiau talu teyrnged i'r modd y llwyddodd Val i sicrhau adrannau 48 a 120 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998, a thalu teyrnged hefyd i Julie Morgan, yr Aelod Cynulliad dros Ogledd Caerdydd, a oedd yn AS ar y pryd, a gefnogodd y ddeddfwriaeth drwy Dŷ’r Cyffredin ac a weithiodd yn agos gyda Val Feld ar gymalau cyfle cyfartal. Gadewch i ni atgoffa ein hunain o'r cymalau yn Neddf Llywodraeth Cymru 1998:

Adran 48

Cyfleoedd cyfartal wrth gyflawni swyddogaethau

Bydd y Cynulliad yn gwneud trefniadau priodol gyda'r bwriad o sicrhau bod ei swyddogaethau'n cael eu cyflawni gyda sylw dyladwy i'r egwyddor y dylid rhoi cyfle cyfartal i bawb.

Mae Adran 120, 'Cyfle cyfartal', yn ailadrodd hyn ac yn ychwanegu:

(2) Ar ôl pob blwyddyn ariannol bydd y Cynulliad yn cyhoeddi adroddiad sy'n cynnwys—

(a) datganiad o'r trefniadau a wnaed yn unol ag is-adran (1) a oedd mewn grym yn ystod y flwyddyn ariannol honno, a

(b) asesiad o ba mor effeithiol y bu'r trefniadau hynny yn hyrwyddo cyfle cyfartal.

Wrth gwrs, diweddarwyd hyn yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 i 'Weinidogion Cymru', sy'n gyfrifol am wneud y trefniadau priodol hynny yn ogystal â chyhoeddi adroddiad bob blwyddyn. Mae'n ddyletswydd arnom i barchu'r ddeddfwriaeth hon ym mhopeth a wnawn, ac mae'n werth ailadrodd y cymalau hyn heddiw. Diolch yn fawr, Val Feld a Julie Morgan.

Diolch, Lywydd. Cafodd llawer ohonom y fraint yr wythnos ddiwethaf o groesawu 18 o fenywod ifanc i'r Senedd i gymryd rhan mewn digwyddiad arweinyddiaeth a drefnwyd gan Chwarae Teg—diwrnod o weithgareddau i roi cipolwg ar sut y mae'r Cynulliad yn gweithio a rôl Aelodau Cynulliad. Nawr, cafodd pob cyfranogwr eu partneru ag AC am y bore, a chymryd rhan mewn sesiwn cwestiwn ac ateb yn ogystal â dadl ffug i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod. Roedd y diwrnod yn llwyddiant mawr ac yn arbennig o gadarnhaol, gan gydnabod bod Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn cynnig cyfle pwysig i fyfyrio ar y cynnydd a wnaed o gwmpas y byd ar gyflawni cydraddoldeb rhwng y rhywiau, ond bod angen i ni fod yn feiddgar wrth fynd i'r afael â'r rhwystrau sy'n dal i atal menywod rhag chwarae rhan mor llawn â dynion ym mywyd economaidd, gwleidyddol, cymdeithasol a diwylliannol Cymru. Yn ystod y ddadl, cyflwynwyd rhai negeseuon pwerus. Nododd un cyfranogwr 'Rydym yr un mor debygol â bechgyn o fynd i'r brifysgol, ond mae'r nenfwd gwydr sy'n ein hatal rhag cael swyddi lefel uchel wedi'i folltio yn ei le o hyd. Ni allwch ddyrnu'r nenfwd gwydr hwnnw ar eich pen eich hun fwy na hyn a hyn o weithiau. Ni allwch oddef ond hyn a hyn o waed ar eich migyrnau. Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn gyfle i bawb sy'n gwneud y gwaith hwn i sefyll gyda'i gilydd'. A nododd un arall, 'Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn dangos ac yn dathlu undod a pharch tuag at fenywod, nid yn unig gan fenywod ond hefyd gan ddynion addysgedig. Mae'r diwrnod hwn yn dangos i'r byd nad ydym am fodloni ar unrhyw beth sy'n llai na'n gwerth. Dyma pam fod Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn dal i fod yn bwysig yn 2018.'

Hir oes i'r modd y mae'r Cynulliad Cenedlaethol hwn yn dangos arweinyddiaeth ac undod wrth sicrhau cydraddoldeb. Diolch yn fawr.

15:35
5. Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad: Urddas a Pharch yn y Cynulliad

Datganiad nawr gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, ac rydw i yn galw ar y Cadeirydd i wneud ei datganiad—Jayne Bryant.   

Diolch, Lywydd. Fel y bydd Aelodau'r Cynulliad yn gwybod, ym mis Tachwedd 2017, cyhoeddodd y Llywydd, arweinwyr grwpiau'r pleidiau a minnau, fel Cadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, ddatganiad ar y cyd. Rydym wedi nodi ymrwymiad i sicrhau nad oes lle i unrhyw ymddygiad amhriodol yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, ac awydd i roi sicrwydd i bawb sy'n gweithio yma, a'r rhai sy'n ymweld â ni, y byddant yn rhydd rhag unrhyw fath o aflonyddu. Boed yma yn y Senedd, mewn swyddfa etholaeth, neu allan yn y gymuned, dylai pawb deimlo eu bod yn cael eu trin â pharch wrth iddynt ddod i gysylltiad â chynrychiolwyr y sefydliad hwn.

Roedd y datganiad ar y cyd yn nodi nifer o gamau gweithredu a fwriadwyd i sicrhau bod y Cynulliad yn sefydliad cynhwysol, sy'n rhydd rhag bygythiadau ac aflonyddu. Roedd y camau hyn yn cynnwys datblygu polisi urddas a pharch, sefydlu gwasanaeth atgyfeirio cwynion cyfrinachol, a sicrhau bod y weithdrefn gwyno'n glir ac yn gyson. Mae gwaith yn mynd rhagddo, a disgwylir y bydd polisi urddas a pharch yn cael ei gyflwyno gerbron y Cynulliad fis nesaf.

Cytunodd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad i gynnal ymchwiliad mwy eang i'r broses o sicrhau'r diwylliant cywir yn y Cynulliad. Rydym yn credu bod yn rhaid i'r Cynulliad osod esiampl a darparu arweinyddiaeth gref a chlir ar y math o ddiwylliant yr hoffem ei weld yn y gweithle yng Nghymru. Rydym yn ystyried gweithdrefnau cyfredol mewn perthynas â chwynion sy'n ymwneud ag Aelodau Cynulliad i sicrhau eu bod yn briodol ac yn glir. Mae'n rhaid i unigolion deimlo eu bod yn gallu siarad yn hyderus am unrhyw bryder mewn perthynas ag ymddygiad amhriodol.

Rydym wedi cynnal ymgynghoriad agored, gyda'r nod o ddarganfod a yw'r weithdrefn gwyno gyfredol yn hawdd ei deall ac yn hygyrch, ac a oes unrhyw rwystrau sy'n atal pobl rhag mynegi pryderon am ymddygiad unrhyw un sy'n gysylltiedig â Chynulliad Cenedlaethol Cymru. Er bod yr ymgynghoriad bellach wedi dod i ben yn ffurfiol, rydym bob amser yn annog pobl i gynnig awgrymiadau mewn perthynas â sut y gellir gwella'r broses neu i fynegi unrhyw bryderon sydd ganddynt. Ar hyn o bryd, rydym yn cymryd tystiolaeth gan grwpiau ac unigolion sydd wedi cytuno i siarad â'r pwyllgor am eu profiadau. A hoffwn gofnodi fy niolch i'r rhai sydd wedi cynnig eu safbwyntiau i'r pwyllgor dros y misoedd diwethaf. Rwy'n arbennig o ddiolchgar i'r rheini sydd wedi cytuno i siarad â ni. Heb ddeall profiadau pobl eraill, mae'n anodd iawn adnabod yr heriau o fewn y Cynulliad a chanfod sut yn union y gellir gwella'r diwylliant. Fel pwyllgor, rydym yn benderfynol o weld y safbwyntiau hyn yn cael eu parchu ac yn cael eu hadlewyrchu yn y cyfnod adrodd.

Wrth inni barhau i gynnal ein hymchwiliad, un o'r negeseuon rydym wedi eu clywed hyd yn hyn yw y byddai gwell cyfathrebu ac eglurder ynghylch y weithdrefn gwyno yn helpu i gynyddu hyder yn y system. Gan adeiladu ar y darpariaethau sydd eisoes yn bodoli yng nghod ymddygiad Aelodau'r Cynulliad, bydd y polisi urddas a pharch newydd yn helpu i'w gwneud yn gwbl glir nad oes lle i unrhyw ymddygiad amhriodol yn y Cynulliad hwn. Ac rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau'n cytuno ei bod hi'n bwysig tynnu sylw at ymddygiad amhriodol. Mae sicrhau nad ydym yn sefyll o'r neilltu ac yn gadael i bethau ddigwydd yn gyfrifoldeb i bawb ohonom.

Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn hefyd i ailbwysleisio bod gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru gomisiynydd safonau cwbl annibynnol, sy'n archwilio unrhyw bryder neu gŵyn a gaiff eu dwyn i'w sylw yn gwbl ddiduedd. Gellir cysylltu ag ef dros y ffôn, neu drwy anfon e-bost neu lythyr a bydd bob amser yn ceisio helpu, naill ai drwy ymdrin yn uniongyrchol â phryderon neu gyfeirio pobl i'r cyfeiriad cywir. Sefydlwyd llinell gymorth i rai sy'n ansicr ai'r comisiynydd yw'r llwybr mwyaf priodol ar gyfer cwyno. Mae'r rhif ffôn ar wefan y Cynulliad ac ar bosteri o amgylch yr ystâd. Os bydd Aelodau a staff eisiau trafod unrhyw fater yn ymwneud â'r weithdrefn gwyno gyda'r comisiynydd, bydd ar gael yn y Senedd yn ystod y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth nesaf. Yn ychwanegol at y comisiynydd, mae aelodau o'r pwyllgor safonau hefyd ar gael i drafod unrhyw bryderon a allai fod gennych mewn perthynas â'r weithdrefn gwyno, a bydd aelod o'r pwyllgor hefyd ar gael yn ystod y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth nesaf.

Mae angen llawer iawn o ymrwymiad, amser a dyfalbarhad i sicrhau newid diwylliannol ystyrlon. Heddiw, rwyf wedi nodi camau cyntaf y broses, gan sicrhau bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cyflawni ei nod o fod yn sefydliad sy'n galluogi ac yn grymuso pobl. Rwy'n hyderus fod pawb ohonom yma yn Siambr yn rhannu'r nod hwn ac y bydd pawb yn barod i chwarae eu rhan i sicrhau ei fod yn cael ei gyflawni. Diolch.

15:40

Fel y dywedodd Cadeirydd y pwyllgor, mae'n gwbl hanfodol fod y Cynulliad yn hyrwyddo diwylliant o urddas a pharch ar gyfer ei holl Aelodau a'i staff fel bod unrhyw un sydd eisiau gwneud cwyn yn erbyn person arall yn cael cyfle i'w ddatgan mewn amgylchedd saff a diogel. Felly, rwy'n falch o fod yn aelod o'r pwyllgor safonau ar gyfer yr ymchwiliad hwn ac o gael gweithio gydag Aelodau ar draws y sbectrwm gwleidyddol i weithredu system sy'n gweithio i bawb sy'n gysylltiedig â'r Cynulliad.

Mae'n eithaf amlwg o'r dystiolaeth a gyflwynwyd i'r ymgynghoriad fod pobl yn teimlo bod angen gwella'r system gyfredol a bod angen i'r Cynulliad newid y ffordd y mae'n ymdrin â chwynion a honiadau yn y dyfodol. Wrth gwrs, mae'r pwyllgor yn ymwybodol o'r gwaith sy'n cael ei wneud gan weithgor seneddol y DU ar y mater hwn, ac felly fy nghwestiwn cyntaf i'r Cadeirydd yw a yw hi'n cytuno â mi, er y gallwn edrych ar waith Seneddau eraill, ei bod yn hanfodol ein bod yn datblygu system bwrpasol ar gyfer y Cynulliad ac sy'n ymateb i'w anghenion yn hytrach na'i fod yn gopi carbon o'r camau a gymerwyd gan ddeddfwrfeydd eraill.

Wrth gwrs, mae'n rhaid i unrhyw system newydd hefyd sefyll ochr yn ochr â phrosesau pleidiau gwleidyddol ac mae'n rhaid i'r systemau hynny ategu ei gilydd heb wrthdaro, ac mae'n amlwg yn y dystiolaeth rydym eisoes wedi'i chlywed fod hwn yn destun pryder penodol i rai rhanddeiliaid. Felly, efallai y gall y Cadeirydd ddweud wrthym a yw'n bwriadu i ni, fel pwyllgor, ymgysylltu â chynrychiolwyr y pleidiau gwleidyddol, naill ai drwy sesiynau tystiolaeth neu drwy ohebiaeth ysgrifenedig, er mwyn canfod eu barn ar sut y gall unrhyw system newydd weithio gyda'u prosesau cwyno cyfredol yn y pleidiau.

Mae'r dystiolaeth y mae'r pwyllgor wedi'i chael yn dangos bod angen gweithredu newid diwylliannol llwyr yn y Cynulliad. Efallai fod lle yma i ymestyn y meddylfryd hwn drwy ddarparu hyfforddiant i aelodau o staff i'w helpu i ddeall yn well ac atal aflonyddu rhag digwydd yn y gweithle. Roedd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn iawn i ddweud bod trafodaeth barhaus yn y gweithle yn un o'r camau y gellir eu cymryd i atal aflonyddu ac felly mae'n rhaid i unrhyw system newydd fod yn hyblyg a chael ei monitro'n gyson i sicrhau ei heffeithiolrwydd parhaus. Felly, credaf fod cyfle yma i'r Cynulliad edrych ar fodiwlau hyfforddiant ar gyfer aelodau a staff yn y maes hwn, ac rwy'n meddwl tybed a fyddai'r Cadeirydd yn cytuno â mi fod hyn yn rhywbeth y gellid ei weithredu hefyd yn ogystal â'i gyflwyno yn rhan o unrhyw brosesau ymsefydlu ar gyfer aelodau a staff, yn ogystal â darparu cyfathrebiad parhaus mewn perthynas ag unrhyw bolisïau aflonyddu newydd.

Yn naturiol, mae'n rhaid i anhysbysrwydd fod yn ganolog i unrhyw system newydd er mwyn diogelu pob unigolyn ac felly buaswn yn ddiolchgar pe gallai'r Cadeirydd rannu ei syniadau cychwynnol ar y ffordd y gellir diogelu'r anhysbysrwydd hwnnw mewn gwirionedd.

Yn anffodus, rydym bellach yn byw mewn byd sy'n cael ei ddylanwadu gan y cyfryngau cymdeithasol. Mae'r Aelodau'n ymwybodol iawn o achosion o unigolion yn cael eu cam-drin ar y cyfryngau cymdeithasol. Yn wir, mae'r pwyllgor eisoes wedi clywed sut y mae aflonyddu ar y cyfryngau cymdeithasol yn prysur ddatblygu i fod yn norm, ac felly mae'n rhaid i unrhyw ddull newydd neu system newydd gynnwys ymdrin ag ymddygiad amhriodol ar-lein hefyd. Rwy'n siŵr y byddai'r Cadeirydd yn cytuno bod maint y broblem yn frawychus ac felly buaswn yn ddiolchgar pe gallai rannu ei syniadau cychwynnol ar sut y gallwn ni, fel pwyllgor, ddechrau mynd i'r afael ag ymddygiad amhriodol ar-lein.

Yn olaf, Lywydd, hoffwn grybwyll yn fyr y modd y caiff polisïau a gweithdrefnau newydd eu monitro ac annog y Cadeirydd i sicrhau bod hyn yn cael ei ystyried yn llawn drwy gydol yr ymchwiliad. Yn fy marn i, nid yw unrhyw system newydd ond cystal â'r modd y'i gorfodir, ac felly mae'n hollbwysig ein bod yn sicrhau cadernid polisïau newydd drwy eu monitro'n effeithiol, ac felly efallai y gallai'r Cadeirydd hefyd rannu ei barn ar sut y gellid monitro unrhyw system newydd yn dyfodol. Felly, i gloi, Lywydd, a gaf fi ddiolch i'r Cadeirydd am ei datganiad y prynhawn yma? Ac rwy'n cytuno â hi fod angen ymrwymiad, amser a dyfalbarhad i sicrhau newid diwylliannol ystyrlon. Ni allaf danbrisio pwysigrwydd yr ymchwiliad hwn, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda'r Cadeirydd ac aelodau eraill yr ymchwiliad er mwyn helpu i ddarparu system sy'n meithrin gweithle llawer mwy cynhwysol, lle nad yw pobl yn gyndyn i adrodd cwynion a lle y caiff yr holl unigolion sydd ynghlwm wrthi eu diogelu drwy gydol y broses ymchwilio. Diolch.

15:45

Diolch. Rwy'n ddiolchgar iawn am y sylwadau rydych wedi'u gwneud. Gwn fy mod yn lwcus i fod yn Gadeirydd ar bwyllgor sydd wedi ymgymryd â darn o waith ac sydd yr un mor awyddus i wneud yn siŵr ein bod yn gwneud rhywbeth i sicrhau bod gennym y diwylliant cywir, nid ar hyn o bryd yn unig, ond yn y dyfodol. Rydych wedi gwneud pwyntiau pwysig iawn, Paul.

Mewn perthynas â'ch pwynt cyntaf ynglŷn ag edrych ar sefydliadau eraill, credaf ein bod yn ymwybodol iawn o'r hyn sydd wedi digwydd yn Llywodraeth San Steffan a'u cynlluniau newydd. Credaf ei bod yn bwysig edrych ar bethau sy'n debyg a dysgu gan sefydliadau eraill yn ogystal â mudiadau, ond rwy'n cytuno ei bod yn bwysig inni gael system bwrpasol. Mae pob un ohonom yn dod o adegau gwahanol, ac yn meddu ar safbwyntiau gwahanol a materion gwahanol, ond lle y ceir pethau sy'n debyg, credaf ei bod yn bwysig edrych ar y rheini; ond dylem fod yn edrych i weld beth sydd gennym yma yng Nghymru a sut y gallwn ddatblygu o ddifrif i fod yn arweinwyr a goleuo'r llwybr i'r dyfodol, er mwyn gwneud yn siŵr fod gennym y diwylliant cywir a bod pobl nid yn unig eisiau gweithio yma, ond eu bod eisiau bod yn Aelodau yma hefyd.

Mae'r comisiynydd hefyd yn bwriadu gwneud gwaith gyda'r pleidiau gwleidyddol, felly gwaith y tu allan i'r pwyllgor safonau fydd hwnnw. Gwn fod y comisiynydd wedi bod yn siarad â phleidiau eraill. Nid wyf yn siŵr a yw pob un wedi'i gwblhau eto. Credaf fod ganddo un neu ddwy blaid ar ôl i ymdrin â hwy efallai, ond gwn fod y gwaith hwnnw ar y gweill. Oherwydd mae'n bwysig ein bod yn edrych ar yr holl brosesau a gweithdrefnau sydd ar y gweill fel nad ydym yn dyblygu. Gwn fod hynny'n rhywbeth y dylem fod yn ei wneud.

Nid oes unrhyw aelod o staff yn disgwyl y byddant yn gwneud cwyn am Aelod Cynulliad pan fyddant yn cychwyn y swydd. Nid oes neb mewn unrhyw swydd yn disgwyl gwneud cwyn o'r fath. Mewn gwirionedd, gofynnais i fy staff a oeddynt yn gwybod sut i wneud cwyn yn fy erbyn yn y dyfodol, a dywedasant wrthyf pa liw oedd y daflen a gawsant ar eu diwrnod ymsefydlu ond nid oeddynt yn gallu cael gafael arni. Felly, rwy'n credu bod cael proses ymsefydlu yn bwysig iawn ynghyd â gwneud yn siŵr bod y staff yn ymwybodol ac yn deall sut y gallant wneud cwyn yn y dyfodol, ond credaf fod angen i hynny fod yn barhaus yn ogystal. Mae angen iddo fod yn glir iawn ar y wefan. Mae gennym y posteri i fyny bellach gyda'r rhif ffôn a cheir cyfeiriad e-bost penodol yn ogystal. Ond rwy'n credu bod yn rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod yn rhoi gwybod i bobl drwy'r amser sut y gallant wneud cwyn os ydynt angen gwneud hynny, yn hytrach nag ar y dechrau'n unig. Ond rydych yn llygad eich lle; dylem fod yn edrych ar atal, mewn gwirionedd. Fel y dywedwch, mae hyn yn rhywbeth a oedd i'w weld yn amlwg yn ein tystiolaeth yr wythnos diwethaf. Rwy'n credu bod yn rhaid i ni edrych i weld sut y gallwn wneud yn siŵr nad oes unrhyw ymddygiad amhriodol yn digwydd. Mae angen i ni weithio tuag at y nod hwnnw, yn hytrach na sut yr awn i'r afael ag ymddygiad o'r fath.

Fe sonioch chi am gam-drin ar-lein. Rwyf wedi bod yn bryderus iawn am hynny fy hun. Rwy'n ei weld yn rheolaidd ar Twitter ac ar y cyfryngau cymdeithasol, Facebook a'r holl bethau eraill hyn. Credaf fod hynny'n rhywbeth y mae'n rhaid i ni fod yn ymwybodol ohono, ac edrych arno, a sut y mae pawb ohonom yn trin eraill, oherwydd mae rhywfaint o'r cam-drin ar-lein—os ydym yn ceisio gwneud yn siŵr fod pobl yn cael eu grymuso ac yn teimlo'n ddigon hyderus i roi gwybod amdano, nid wyf yn siŵr sut y mae cyfryngau cymdeithasol yn helpu unrhyw un i roi gwybod amdano ar hyn o bryd mewn gwirionedd. Felly, mae hynny'n destun gofid.

Fel y dywedwch, mewn perthynas â monitro, nid y gwaith hwn rydym yn ei wneud, y gwaith y mae'r pwyllgor yn ei wneud, yw pen draw hyn. Y gwaith hwn, yr ymchwiliad, pan fyddwn yn adrodd—mae'n rhaid i ni gadw golwg ar hyn. Oherwydd ni fydd dim yn cael ei ddatrys gan un ymchwiliad. Mae angen i ni gymryd y camau hyn, a rhoi gweithdrefnau ar waith, ond mewn gwirionedd mae'n rhaid i ni gadw golwg ar hynny, ac efallai cael sgwrs ehangach gyda'n partneriaid hefyd. Rydych wedi sôn fod rhai pobl yn gwneud gwaith gwych ar hyn o bryd a chredaf fod angen i ni edrych arnynt hwy hefyd.

A gaf innau ddiolch i Gadeirydd y pwyllgor am ei datganiad? Wrth wrando ar y datganiad, rwy'n meddwl ei bod yn dod yn glir bod yna dair tasg ymhlith y nifer fawr o dasgau sydd angen i ni eu cyflawni fan hyn y dylem ni fod yn ffocysu arnyn nhw. Yn gyntaf, wrth gwrs, mae angen creu gwell dealltwriaeth o fewn y sefydliad yma o ddisgwyliadau y sefydliad o safbwynt ymddygiad ymhlith Aelodau a staff, a theulu ehangach y Cynulliad yma. Mae angen creu gwell eglurder hefyd, rwy'n meddwl, ymhlith y cyhoedd yn enwedig o beth rŷm ni'n credu sy'n dderbyniol a beth sydd ddim yn dderbyniol o safbwynt ymddygiad. Ac, wrth gwrs, mae angen job cwbl ymarferol o waith: mae angen codi llawer mwy o ymwybyddiaeth ynglŷn â'r prosesau sy'n bodoli i fedru gwneud cwyn, i fedru sicrhau cyfiawnder i ddioddefwyr, ac i fedru dal y rhai sy'n tramgwyddo i gyfrif. 

Ond mae yna un gwendid yn cael ei amlygu yn y ffaith fy mod i'n defnyddio'r gair 'prosesau'—yn y lluosog, wrth gwrs—ac mae hyn, yn amlwg, eisoes wedi codi ei ben yn yr un sesiwn dystiolaeth mae'r pwyllgor wedi ei chael yn yr ymchwiliad yma, sef bod gennym ni god ymddygiad i Aelodau Cynulliad, ond hefyd mae gennym ni god ymddygiad gwahanol ar gyfer Gweinidogion. Mae yna gwestiynau pwysig i'w gofyn yn hynny o beth. A ydy disgwyliadau y ddau god yna yn gyson â'i gilydd? A oes yna gysondeb o ran beth sydd yn dderbyniol a beth sydd ddim yn dderbyniol yng nghod ymddygiad Aelodau'r Cynulliad a'r cod ymddygiad gweinidogol? Ac, wrth gwrs, mae yna ddwy broses wahanol o fynd ati i wneud cwyn. 

Nawr, efallai bod llawer o hyn yn weddol glir i ni oherwydd rŷm ni yn byw a bod yn y lle yma, ond rhowch eich hunain yn esgidiau aelod o'r cyhoedd ac nid wyf yn meddwl ei bod hi cweit mor glir ag efallai y byddem ni'n dymuno. Mi allai rhywun fynd at y comisiynydd safonau, a'r comisiynydd safonau yn esbonio, 'Na, mae'n rhaid i chi fynd â'ch cŵyn i swyddfa'r Prif Weinidog', ac mae gen i bob ffydd y byddai swyddfa'r comisiynydd yn gwneud hynny mewn modd sensitif ac addas. Ond, wrth gwrs, mae'n gam arall. Mae e yn hŵp arall i'r unigolyn yna orfod neidio drwyddo. Ffactorau fel hyn, wrth gwrs, sydd wedi ei gwneud hi yn anoddach i'r unigolion yma, ac yn llai tebygol y bydd yr unigolion yma yn mynd ymlaen â'u cwynion, ar adeg, wrth gwrs, pan maen nhw'n fregus, pan maen nhw'n ddihyder. Dyna pam fod rhaid i ni wneud y prosesau yma mor hygyrch ac mor syml ag sy'n bosibl.

Cofiwch, wrth gwrs, fod cod ymddygiad Aelodau'r Cynulliad yn berthnasol i Aelodau Cynulliad nid yn unig yn ein bywyd proffesiynol, ond yn ein bywyd preifat hefyd. Felly, pam ddim, yn fy marn i, cwmpasu rôl gweinidogol hefyd o fewn yr un cod, a rhoi'r cyfrifoldeb i'r comisiynydd safonau annibynnol i graffu ar hynny, ond wedyn dod ag argymhellion yng nghyd-destun Aelodau Cynulliad i'r pwyllgor safonau, ond yng nghyd-destun y Gweinidogion wedyn i'r Prif Weinidog? Felly, a gaf i ofyn: oni fyddai'n well o ran cwrdd â'r nodau teilwng iawn rydych chi'n eu rhestru yn eich datganiad—o ran cael proses glir a chyson, ei fod yn hawdd i'w deall, ei fod yn hygyrch i bawb—oni fyddai cael un proses i bob Aelod Cynulliad ym mhob capasiti yn fwy triw i'r egwyddorion hynny, yn hytrach na chael dwy gyfundrefn fel sydd nawr, heb sôn, wrth gwrs, am gyfundrefnau y pleidiau gwleidyddol fel rydym ni eisoes wedi clywed cyfeiriad atyn nhw? 

Nawr, mae yna sawl cwestiwn arall wedi codi eu pennau yn barod. Mae yna nifer yn teimlo bod yna anghysondeb yn yr hawl i apelio o fewn y gyfundrefn bresennol, lle mae Aelod Cynulliad yn medru apelio yn erbyn dyfarniad, ond nid yw achwynydd. Mae'r terfyn o 12 mis i ddod â chŵyn gerbron hefyd yn rhywbeth rwy'n meddwl sydd angen ei gwestiynu, oherwydd nid yw nifer o bobl sydd yn dod â chŵyn yn teimlo eu bod nhw'n gallu gwneud hynny—ddim yn barod i wneud hynny am gyfnod hirach, o bosib, na 12 mis. Mae angen bod yn sensitif i hynny hefyd.  

Felly, mae yna lawer o ffactorau yn y pair sydd angen eu hystyried, ac rwy'n gwybod y bydd y pwyllgor safonau yn edrych ar y rhain. Ond, wrth gwrs, mae hi i gyd yn dod at bwynt canolog y datganiad, sef bod angen newid diwylliant ehangach, fel rŷch chi'n ei ddweud. Daw hynny ddim o ganlyniad i un ymchwiliad, ac mae pawb yn cydnabod nad oes dim jest un ateb i hyn. Mae yna lawer iawn sy'n gorfod digwydd er mwyn mynd i'r afael â'r holl faterion yma. Ac, wrth gwrs, mae angen sgyrsiau ehangach am rai o'r meysydd pwysig yma sydd dan sylw—sgyrsiau o fewn y sefydliad yma, ie, ond sgyrsiau ehangach drwy gymdeithas hefyd. Mi fyddwn i'n licio cloi drwy ofyn i'r Cadeirydd pa rôl mae hi yn teimlo sydd gennym ni fel Aelodau Cynulliad, a'r pwyllgor safonau yn benodol, efallai, i arwain y broses yna i sicrhau fod y sgyrsiau pwysig yma yn digwydd.

15:50

Diolch, Llyr. Unwaith eto, rydych wedi gwneud rhai pwyntiau pwysig iawn, a chafodd rhai o'r pwyntiau eu crybwyll yng nghyfarfod y pwyllgor yr wythnos diwethaf, felly rwy'n falch eich bod yn gallu gwneud hynny heddiw.

O ran eich sylwadau ar god y Gweinidogion, yn amlwg, mae pobl yn deall nad yw cod y Gweinidogion yn rhan o'n cylch gwaith ni nac yn rhywbeth y mae gennym bŵer i'w newid, ond mae'r sylwadau rydych wedi'u gwneud heddiw wedi cael eu gwneud yn ein cyfarfod ac rwy'n siŵr y byddant yn codi mewn cyfarfodydd yn y dyfodol.

O ran y pwyntiau a wnaethoch am faterion cymdeithasol ehangach, mae hynny'n hollol wir. Rydym hefyd wedi gweld nad yw hwn yn fater sy'n ymwneud â gwleidyddiaeth yn unig. Mae'n bwysig, fodd bynnag, ein bod yn dangos arweiniad yma ac rwy'n awyddus iawn i'r Cynulliad—ac rwy'n siŵr fod yr holl Aelodau yma yn awyddus—ein bod yn ysgogi cynnydd go iawn ac yn gwneud yn siŵr ein bod yn sefydliad sy'n dangos y ffordd ac y gellir ein defnyddio fel esiampl. Dyma ein cyfle i wneud ein gorau a chael y prosesau hyn yn iawn. Dyna pam ei bod yn hollbwysig ein bod yn gwneud hynny, ond ni all hynny fod yn ddiwedd ar y sgwrs, fel y dywedwch. Mae'n bwysig iawn ein bod yn ailasesu ac yn gofyn i bobl am eu barn drwy'r amser. A yw'r broses yn gywir? A yw pobl yn teimlo eu bod yn gallu rhoi gwybod? Dylem geisio gwneud yn siŵr, fel y dywedodd Paul yn gynharach, ein bod yn chwarae'r rôl ataliol honno yn ogystal â cheisio sicrhau bod y Cynulliad yn cael ei weld fel sefydliad sy'n dangos y ffordd, mewn gwirionedd. Felly, rwy'n awyddus iawn inni wneud hynny. Ond mae'r pwyntiau rydych yn eu nodi yn rhai i'w croesawu'n fawr, a diolch am wneud hynny, Llyr.

15:55

Diolch i'r Cadeirydd am ei datganiad y prynhawn yma. Hoffwn hefyd ddiolch i staff y pwyllgor am helpu i drefnu'r ymchwiliad a'r tystion sydd wedi ymddangos ger ein bron hyd yn hyn. Credaf ein bod i gyd yn weddol gytûn ein bod eisiau i'r Cynulliad fod yn amgylchedd croesawgar i bawb sydd eisiau gweithio yma. Mae hynny'n cynnwys pobl o wahanol rywiau, gwahanol gefndiroedd ethnig a gwahanol gyfeiriadedd rhywiol. Yng ngrŵp UKIP, mae gennym amrywiaeth eang o bobl yn gweithio i ni a gobeithio bod ein hystafell grŵp a swyddfeydd yr Aelodau wedi bod, ac yn parhau i fod, yn amgylchedd gwaith croesawgar iddynt.

Wrth gwrs, rydym yn cydnabod y gall problemau godi. Gall problemau godi yn y berthynas rhwng pobl sy'n gweithio yn y Cynulliad ac mae'n hanfodol fod llwybr clir i bobl sy'n teimlo eu bod yn dioddef aflonyddu, gormesu, erlid, bwlio neu fygythiad. Mae'n rhaid cael canllawiau clir ar sut i fwrw ymlaen â chwyn. Ac mae'n rhaid i'r sawl sy'n cwyno fod yn sicr yr eir i'r afael â'r gŵyn yn drylwyr ac na fydd y gŵyn yn effeithio'n andwyol ar eu gyrfa.

Hefyd, mae angen eglurder ynghylch y prosesau ac rwy'n credu bod y ddau siaradwr blaenorol wedi crybwyll nifer o faterion mewn perthynas â hynny. Dywedodd Paul Davies fod y rhan fwyaf o ACau hefyd yn aelodau o bleidiau gwleidyddol, felly i ryw raddau mae'n rhaid i chi gynnwys y pleidiau gwleidyddol ac mae'n rhaid i'w prosesau asio gydag unrhyw broses yn y Cynulliad. Felly, roeddwn yn falch o glywed bod y comisiynydd yn gweithio gyda'r gwahanol bleidiau. Gobeithio y byddwn yn clywed canlyniad hynny cyn hir.

Nododd Llyr y pwynt hynod berthnasol arall sef bod perygl y bydd gwahanol brosesau cyfochrog yn creu dryswch. Er enghraifft, mae gennych y pleidiau gwleidyddol, sy'n gallu cynnal eu hymchwiliad eu hunain, mae gennych ymchwiliad y Cynulliad, ac yna, wrth gwrs, y pwynt a grybwyllodd Llyr: os yw'r AC hefyd yn Weinidog, mae gennych god y Gweinidogion hefyd. Credaf y gall fod yn ddryslyd gyda'r holl brosesau gwahanol hyn. Nawr, gwn eich bod newydd ddweud nad yw cod y Gweinidogion o fewn ein cylch gwaith ni fel y pwyllgor safonau, felly tybed a ydych yn credu bod hynny'n peri problem yn ein hymdrechion i gael un cod clir a thryloyw ar gyfer y Cynulliad. A oes achos dros ddweud y bydd yn rhaid i'n polisi gwmpasu cod y Gweinidogion i ryw raddau, ac asio gyda hwnnw?

Diolch i chi am eich pwyntiau, Gareth. Rwy'n derbyn eich bod yn dilyn pwyntiau Paul a Llyr. Rwy'n credu bod y mater a godoch chi ynglŷn â chod y Gweinidogion eto yn rhywbeth a godwyd gennych yr wythnos diwethaf hefyd, felly rwy'n siŵr y bydd hwnnw'n codi, ond fel y dywedais, mae'n rhaid i ni gofio ei fod y tu hwnt i'n cylch gwaith ni o ran beth y gallwn ei newid, ond yn amlwg mae'n rhaid i ni edrych ar yr holl faterion hyn pan fo pobl fel chi yn eu dwyn i'n sylw.

Mae'n bwysig cael llwybr clir, fel y dywedwch. Rwy'n credu mai'r pwynt pwysig yw bod gan y person sy'n cwyno reolaeth dros y prosesau hynny yn ogystal, oherwydd mae'n bwysig eu bod yn gwybod pa mor bell y maent eisiau mynd â'r gŵyn, yn hytrach na bod y penderfyniad yn cael ei wneud drostynt. Rwy'n credu ei bod yn bwysig fod pobl yn cael eu cyfeirio i'r cyfeiriad cywir, a gobeithio, os yw pobl yn teimlo'n ansicr ynglŷn â rhoi gwybod, mae'r rhif ffôn hwn ar gael ar hyn o bryd. Yn amlwg, mesur dros dro yw hwn—mae'r pwyllgor eto i ddweud a fyddwn yn ymestyn hwnnw ai peidio. Yn amlwg, rydym yn dal i fod yng nghanol ein hymchwiliad felly mae yna lawer o bethau y gallwn edrych arnynt, ond gallwn gael dadl am hynny pan fydd ein hymchwiliad yn cyflwyno'i adroddiad.

16:00

A gaf fi ddiolch i Gadeirydd y pwyllgor safonau am ei datganiad a diolch i'r Llywydd yn wir, a phob un o'r pedwar arweinydd am eu datganiad diweddaru ar urddas a pharch a gyhoeddwyd ar 16 Chwefror. Rwyf hefyd yn croesawu'n fawr y ffaith bod hyn yn cael ei gyflwyno ar sail drawsbleidiol. Fel y dywedodd Paul Davies, mae'n hollbwysig ei fod yn cael ei wneud felly os ydym i wneud cynnydd. Rwy'n croesawu'r holl ddatganiadau a wnaed, a'r cwestiynau gan aelodau'r pwyllgor safonau y prynhawn yma. Rwy'n edrych ymlaen at y ddadl ffurfiol ar y polisi urddas a pharch. A allwch roi rhagor o wybodaeth i ni ynglŷn â phryd y mae hynny'n debygol o ddigwydd? Bydd hon, wrth gwrs, yn ddadl ar eich datganiad urddas a pharch, a gobeithiaf y bydd pawb ohonom, fel y dywedwyd yn y datganiad diweddaru—mae hwnnw'n gyfle i bawb ohonom yn y Siambr bleidleisio ar hynny.

Hefyd, rwy'n croesawu'r ffaith eich bod yn gweld yr ymchwiliad hwn fel ymchwiliad parhaus, er bod gennych ddyddiad cau. A wnewch chi gadarnhau y bydd yn agored—yr ymchwiliad hwn—ymchwiliad parhaus, hyd yn oed ar ôl y ddadl, fel y gall pobl deimlo'n hyderus i ddod ymlaen ar unrhyw adeg? Credaf eich bod wedi sôn eich bod wedi cymryd tystiolaeth gan sefydliadau allweddol, amrywiaeth o sefydliadau. A yw hynny'n cynnwys sefydliadau cydraddoldeb allweddol, ac a ydych yn debygol o gymryd unrhyw dystiolaeth bellach o'r math hwnnw? Credaf fod y mater o reoli cyfrinachedd, fel y crybwyllwyd, yn gwbl hanfodol. Mae'n rhaid i bobl allu ymddiried yn y cyfrinachedd hwnnw—gan ymateb hyd yn oed i'r pwyntiau a wnaethoch ynglŷn â rôl a mynediad at linellau cymorth cyfrinachol y Comisiynydd Safonau. Mae'r rheini'n brosesau y mae'n rhaid i bobl fod â hyder ynddynt. Credaf fod sylw Paul Davies ynghylch monitro hyn i gyd yn hollbwysig.

I gloi, a gaf fi hefyd groesawu rhywbeth a ddywedwyd ddoe gan Siân Gwenllian mewn ymateb i ddatganiad Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, lle roedd hi—rwy'n meddwl fy mod wedi cael hyn yn iawn, Siân—yn galw am drafodaeth genedlaethol ar aflonyddu rhywiol? A chredaf fod angen inni fod yn agored i ystyried y mathau hynny o gynigion. A ydych yn cytuno bod gan bob un ohonom gyfrifoldeb i ymateb i'ch datganiad heddiw ac i'r polisi urddas a pharch fel y caiff ei ddatblygu?

Mae'n fy nharo y gall datganiadau a digwyddiadau Diwrnod Rhyngwladol y Menywod—ac rydym wedi cael eithaf tipyn ohonynt yr wythnos hon—helpu i greu'r diwylliant cywir a diwylliant yn y Cynulliad hwn, ond ni ellir eu cadw ar gyfer wythnosau a dyddiau fel hyn. Rhaid iddo ddigwydd bob dydd a phob wythnos o'r flwyddyn yn y Cynulliad er mwyn sicrhau'r newid hwn.

Diolch yn fawr iawn i chi am eich sylwadau, ac rwy'n ddiolchgar iawn i chi am eu cofnodi heddiw. Mae'r polisi urddas a pharch i fod i gael ei drafod, fel y dywedais, yn yr wythnos gyntaf yn ôl ar ôl toriad y Pasg, felly bydd hwnnw'n gyfle i bawb ohonom bleidleisio ar y polisi hwnnw. Felly, mae'n dal i fod yn y cyfnod ymgynghori ar hyn o bryd, ond rydym yn gobeithio y bydd yn digwydd yn yr wythnos gyntaf yn ôl ar ôl y toriad.

Mae pob un o aelodau'r pwyllgor yn barod i siarad ag unrhyw un. Wyddoch chi, rydym yma; rydym yn mynd i fod yn gwneud hynny ddydd Mawrth nesaf, a gallwn wneud hynny ar sail reolaidd. Felly, os oes gan bobl unrhyw gwestiynau neu sylwadau, ac y byddent yn hoffi rhannu hynny gyda ni—a staff yn ogystal wrth gwrs—i ofyn inni am y broses, mae croeso mawr iddynt ddod atom, ddydd Mawrth nesaf yn benodol neu pan fyddwn yn ei wneud eto yn y dyfodol neu unrhyw bryd. Credaf y bydd y Comisiynydd Safonau hefyd yn cynnal sesiynau galw heibio rheolaidd ar gyfer aelodau a staff. Felly, gobeithio y bydd hynny'n helpu i wneud yn siŵr fod pobl yn deall y broses.

Cawsom dystiolaeth ffurfiol yn y pwyllgor yr wythnos diwethaf, fel y dywedoch chi, gan sefydliadau cydraddoldeb penodol, fel y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, Stonewall, Chwarae Teg, Cymorth i Fenywod Cymru, ac fe ysgrifennwyd at gymaint â phosibl o'r sefydliadau hynny i ofyn iddynt gymryd rhan. Roedd hi'n bwysig iawn clywed ganddynt a chlywed am y gwaith gwych y maent yn ei wneud. Dylem rannu'r gwaith hwnnw a dylem wneud hynny'n llawer gwell weithiau.

Felly, rydym yn gwneud popeth a allwn mewn gwirionedd, ac os gwelwch yn dda—er bod yr ymgynghoriad ffurfiol hwn wedi dod i ben, rwy'n gwneud apêl mewn gwirionedd, oherwydd rydym yn dal yn fodlon ac yn barod i glywed unrhyw dystiolaeth gan unrhyw un. Wyddoch chi, yr holl sylwadau a wnaethoch heddiw—mae hyn bellach wedi'i gofnodi a gallwn symud ymlaen ar hynny fel rhan o'n hymchwiliad. Felly, rydym yn falch iawn i unrhyw un gysylltu â ni ynglŷn â sut y gwelant y gellid gwella'r broses neu sut y bydd yn gweithio yn y dyfodol.

Mae eich pwynt am ddadl gyhoeddus ehangach—mae hynny'n hollbwysig. Nid yn y fan hon yn unig y mae gwneud hynny. Rhaid inni siarad yn fwy eang, a rhaid i ni wneud yn siŵr nad un diwrnod, neu unwaith y flwyddyn yn unig yw hyn—. Wyddoch chi, mae angen inni fod yn siarad amdano mor aml â phosibl a sicrhau bod y sgwrs honno'n digwydd, a buaswn yn falch iawn o gefnogi awgrym Siân Gwenllian ynglŷn â sgwrs genedlaethol ar hyn, oherwydd gorau po fwyaf y siaradwn amdano, po fwyaf o weithiau y caiff ei drafod. Felly, unrhyw beth y gallwn ei wneud fel pwyllgor, rwy'n siŵr y byddem yn awyddus iawn i helpu ar hynny, a sut y gallwn symud hynny yn ei flaen—gallem gael y trafodaethau hynny yn ogystal.

16:05

Diolch yn fawr iawn, Jayne, am eich datganiad heddiw, ac edrychaf ymlaen at y ddadl ar ôl toriad y Pasg. Mae hwn wedi bod yn bwnc mor bwysig, nid yn unig o ran hygrededd a dilysrwydd y lle hwn, ond Seneddau eraill a sefydliadau cyhoeddus eraill yn ogystal, oherwydd os na allwn fod yn esiampl dda yn hyn o beth, hynny yw, rhaid i chi ofyn pam rydym ni yma, mewn ffordd.

Roeddwn am ofyn un neu ddau o gwestiynau. Y cyntaf yw: ni chredaf y dylem ochel rhag y gwahaniaeth hwn rhwng cod y Gweinidogion a chod Aelodau'r Cynulliad. Nid wyf eisiau ailadrodd yr hyn a ddywedodd Llyr, ond wrth gwrs, mae pob aelod o'r Llywodraeth hefyd yn Aelod o'r Cynulliad, a gall fod yn ddryslyd i'r unigolyn wybod pa un o'r ddau lwybr hwnnw y dylent fod yn ei ddilyn. Felly, er nad wyf yn awgrymu am eiliad ein bod yn ymyrryd yng nghod y Gweinidogion, a oes unrhyw le yn ein cod sy'n dweud, 'Os yw eich cwyn yn codi yn yr amgylchiadau hyn'—fel nad yw'n diffinio'r gŵyn ei hun—'yna, mewn gwirionedd, dylech fod yn edrych ar god y Gweinidogion'? Rwy'n sylweddoli y gall unrhyw un gyfeirio rhywun i unrhyw le, ond yn yr amgylchiadau penodol hyn, lle y gall fod yn un unigolyn yn gwisgo dwy het, rwy'n credu bod lle, o bosibl, yn ein cod, ar gyfer dweud mewn gwirionedd, 'Ewch yno os mai dyma'r amgylchiadau a arweiniodd at eich cwyn.'  

Yn ail, ac rydych wedi ei grybwyll yn eich datganiad: mae'r polisi hwn ar gyfer atal bygythiadau ac aflonyddu, ac er y bydd gan lawer ohonom syniad eithaf cadarn o beth fyddai hynny, er y byddem yn teimlo'n anghyfforddus ynglŷn â rhoi gwybod amdano, rwy'n gobeithio y gallwch roi rhywfaint o sicrwydd i mi heddiw y byddwch hefyd yn cynnwys yn y diffiniad y math hwn o ymddygiad sy'n ailadrodd gweithredoedd bach, a fyddai, ynddynt eu hunain, yn ei gwneud hi'n anodd iawn i rywun gwyno. Maent yn credu o bosibl eu bod yn wirion, ond dros gyfnod o amser, gall arwain at unigolyn yn mynd yn anhapus yn y gwaith, yn teimlo'n anghysurus neu'n ansicr efallai ynglŷn â'u sefyllfa. Rwy'n credu eich bod yn gwybod am y math o beth rwy'n sôn—mae'n anodd iawn ei ddiffinio, a dyma'n union y math o beth y byddech yn teimlo'n wirion yn mynd at eich bos i sôn amdano am na fyddai gennych dystiolaeth i'w gefnogi. Nid wyf yn gwybod a ydych yn dymuno ei alw'n batrwm ymddygiad, ond os gellir ymgorffori hynny rywsut neu'i gilydd, credaf y byddai'n cwmpasu llawer o sefyllfaoedd, nad oes modd eu gwyntyllu ar hyn o bryd am ei bod hi'n anodd iawn i unigolyn ddod o hyd i bwynt ar yr ysgol, os mynnwch, ar gyfer cymryd eu cam cyntaf. Diolch i chi.

Diolch yn fawr iawn i chi am eich sylwadau, Suzy. Y pwynt ar god y Gweinidogion: rwy'n falch eich bod wedi ei ddweud eto. Wyddoch chi, fe'i codwyd yn ein pwyllgor, ac rwy'n siŵr y byddwn yn edrych ar hynny gyda gweddill y dystiolaeth pan fyddwn wedi'i chael—wyddoch chi, y pwyntiau a godwyd ynghylch hynny. Rwy'n wirioneddol falch eich bod wedi crybwyll ymddygiad ailadroddus, oherwydd mae hynny'n rhywbeth sydd wedi'i godi eisoes, unwaith eto, gyda phobl yr wythnos diwethaf, a chredaf ei fod yn rhywbeth, fel y dywedwch—. Wyddoch chi, sut y gallwch fynd i'r afael â phethau a allai fod yn weddol fach ac yn anodd rhoi gwybod amdanynt a gallech feddwl, efallai, 'A yw'n iawn i mi wneud hyn?' Ond rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y mae angen inni edrych arno oherwydd gall patrymau ymddygiad wedi'u hailadrodd dros y blynyddoedd gael effaith sylweddol—nid i un person yn unig, ond i lawer o bobl eraill. Ond fel y dywedais, rwy'n falch iawn eich bod wedi gallu siarad heddiw, ac am eich sylwadau, byddwn yn eu hystyried yn ymchwiliad ein pwyllgor yn ogystal. Diolch.

Diolch i Gadeirydd y pwyllgor, a diolch i holl aelodau'r pwyllgor am y gwaith rydych yn ei wneud ar ein rhan yma fel Aelodau. Diolch yn fawr.

6. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Cyfiawnder Troseddol

Yr eitem nesaf, felly, yw'r ddadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21 ar gyfiawnder troseddol, ac rydw i'n galw ar Jenny Rathbone i wneud y cynnig. 

Cynnig NDM6665 Jenny Rathbone, Jane Hutt, Bethan Sayed, Dai Lloyd, David Melding, Julie Morgan

Cefnogwyd gan David Rees

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn gresynu at y ffaith:

a) bod polisïau cyfiawnder troseddol ar gyfer Cymru a Lloegr wedi methu ag atal y cynnydd yn nifer y bobl sy'n cael eu carcharu;

b) nad yw amodau'r carchardai lle y mae gormod o garcharorion o Gymru yn cael eu cadw yn ffafriol i adsefydlu, fel yr amlygwyd gan adroddiadau arolygu diweddar ar CEM Abertawe a CEM Lerpwl;

c) bod 47 y cant o garcharorion yn aildroseddu o fewn blwyddyn;

d) nad yw'r rhan fwyaf o argymhellion adroddiad Corston o 2007 am drin troseddwyr sy'n fenywod wedi'u gweithredu eto, gan anwybyddu'r dystiolaeth bod carcharu menywod am droseddau cymharol ddibwys yn amharu ar fywydau eu plant mewn ffordd sylweddol, costus ac na ellir ei chyfiawnhau.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i:

a) treialu modelau amgen o gosbi troseddwyr di-drais o Gymru yng Nghymru er mwyn osgoi amharu ar y teulu, tai a chysylltiadau cyflogaeth sy'n elfennau hanfodol i adsefydlu llwyddiannus;

b) hyrwyddo gwaith cydgysylltiedig gwell rhwng gwasanaethau iechyd, tai a chyfiawnder troseddol i frwydro yn erbyn y cynnydd mewn digartrefedd a salwch meddwl ymysg pobl sy'n gadael carchar;

c) datblygu polisi cosbi Cymreig penodol ar sail y dystiolaeth o'r hyn sy'n gweithio;

3. Yn galw am ddatganoli cyfiawnder troseddol yn y pen draw, ynghyd â'r adnoddau i adsefydlu troseddwyr mewn modd ataliol ac adferol, gan roi terfyn ar y drws troi rhwng y carchar ac ail-droseddu.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd. Rydym yn carcharu mwy o bobl yng Nghymru a Lloegr nag unrhyw wlad arall yng ngorllewin Ewrop. Os daliwn ati i wneud hynny, byddwn gyn waethed â'r Unol Daleithiau, sydd ar hyn o bryd yn gwario mwy ar eu system garcharu, sydd yr un mor aneffeithiol, nag a wnânt ar addysg eu plant. Aneffeithiol, oherwydd nad yw'n arwain at newid ymddygiad pobl. Yn ôl cyfaddefiad Llywodraeth y DU ei hun hyd yn oed, mae dwy ran o dair o'r carchardai'n orlawn; mae pobl dan glo am y rhan fwyaf o'r dydd; mae cyfraddau hunan-niwed, hunanladdiad a llofruddiaeth yn uwch nag erioed. Nid oes unrhyw fodd y gellir ystyried bod yr amgylchiadau yng Ngharchar ei Mawrhydi Abertawe neu Garchar ei Mawrhydi Lerpwl—a ddisgrifir mewn manylder echrydus gan Arolygiaeth Carchardai ei Mawrhydi—yn adsefydlu pobl. Nid y bwriad yw diystyru ymdrechion arwrol unigolion sy'n gweithio gyda charcharorion mewn amgylchiadau gwarthus, ond rhaid inni gydnabod nad yw'r system yn ei chyfanrwydd yn gweithio ac mae angen newid agwedd. Yn rhy hir o lawer, cafodd polisi cosbi ei arwain gan benawdau swnllyd y papurau tabloid. Tan yn ddiweddar, credai'r gwleidydd uchaf a oedd yn gyfrifol am y Weinyddiaeth Gyfiawnder fel y'i gelwir fod amddifadu carcharorion o lyfrau yn syniad penigamp nes i'r Uchel Lys ddyfarnu, diolch byth, fod hynny'n anghyfreithlon.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

16:10

Nid y blaid Dorïaidd yn unig sy'n arddel polisïau poblyddol yn hytrach na pholisïau cosbi effeithiol. Yn ystod y Llywodraeth Lafur ddiwethaf, roeddwn yn gweithio yng ngharchar Holloway a chofiaf yn glir yr Ysgrifennydd Cartref ar y pryd yn canslo parti Nadolig i blant mewn ymateb i benawdau papur newydd erchyll a oedd yn anwybyddu anghenion plant yn llwyr. Yn gyson, byddai'n rhaid inni atgoffa ein hunain nad oedd y mantra fod 'pob plentyn yn bwysig', a oedd wedi'i gyflwyno o ganlyniad i sgandal Victoria Climbié, yn berthnasol i blentyn carcharor.

Ni cheir cofnod swyddogol o faint o blant carcharorion a geir, ond mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn cyfaddef bod amcangyfrifon oddeutu 200,000. Rhaid inni gofio na fydd rhai carcharorion yn datgelu bod ganddynt blant pan gânt eu carcharu. Mae Teuluoedd a Ffrindiau Carcharorion (FFOP) yma yng Nghymru yn amcangyfrif bod 12,000 o blant carcharorion yn byw yn ne Cymru yn unig. Canfuwyd bod 95 y cant o'r plant hyn wedi gorfod symud cartref pan aeth eu rhiant i'r carchar, sydd hefyd yn golygu symud ysgol a cholli eu ffrindiau. Nid yw'n syndod fod y tryblith hwn ym mywyd y plentyn yn arwain at iselder a phroblemau ymddygiad yn yr ysgol.

Mae'r prosiect Ymweld â Mam a sefydlwyd gan yr Ymddiriedolaeth Cyngor a Gofal Carchardai (PACT) yn galluogi plant Cymru i ymweld â'u mamau yn Eastwood Park yn Swydd Gaerloyw unwaith y mis. I rai plant, mae hyn 150 o filltiroedd i ffwrdd o ble maent yn byw. Dengys gwerthusiad o'r cyswllt byr hwn hyd yn oed fod yna leihad mewn pryder, ymddygiad gwell yn y cartref ac yn yr ysgol, a llai o hunan-niweidio ymhlith mamau.

Felly, mae'r gwaith mae sefydliadau gwirfoddol megis PACT a FFOP yn parhau i'w wneud yn werthfawr dros ben, ond ni all gelu'r ffaith bod cael rhiant yn y carchar yn treblu'r perygl y daw'r plentyn hwnnw ei hun yn garcharor yn ddiweddarach mewn bywyd. I fechgyn, mae'r canlyniad hyd yn oed yn fwy digalon: bydd dwy ran o dair yn dilyn llwybr eu rhiant i'r carchar.

Bellach mae'n 11 mlynedd ers i adroddiad Corston, a gafodd ganmoliaeth eang, argymell yr angen i ystyried buddiannau gorau plant mewn polisi dedfrydu, a chael canolfannau gwarchodol bach i fenywod yn lle carchardai i fenywod. Yn anffodus, ychydig sydd wedi newid. Mae menywod yn dal i gael eu trin yn fwy llym na throseddwyr gwrywaidd, a bellach mae gennym dros 13,000 o fenywod yn mynd i mewn i'r system garchardai bob blwyddyn. Mae bron hanner y rhain ar remánd—niferoedd llawer mwy ohonynt na dynion—a cheir llai na hanner y menywod hynny'n euog yn y llys—neu caiff llai na hanner y menywod a geir yn euog ddedfryd o garchar pan gaiff yr achos ei glywed. Felly, gallent fod wedi osgoi mynd i'r carchar yn y lle cyntaf. Mae menywod ddwywaith yn fwy tebygol o gael eu hanfon i'r carchar am drosedd gyntaf. Canlyniad lladrata yw'r mwyafrif llethol o garchariadau yn hytrach na thrais neu droseddau difrifol eraill. Mae 80 y cant o'r lladradau'n ymwneud â dwyn o siopau. Yn aml maent yn dwyn i fwydo eu plant neu i gynnal dibyniaeth eu partner ar gyffuriau. Mae oddeutu hanner y menywod hyn wedi dioddef troseddau mwy difrifol o lawer na'r rhai y cânt eu carcharu amdanynt.

Mae llawer o ddynion yn mynd i'r carchar am droseddau di-drais hefyd, ac o ystyried nifer yr achosion o broblemau iechyd meddwl ymhlith carcharorion, mae'n hynod o siomedig nad yw'r llysoedd yng Nghymru a Lloegr yn defnyddio'r gofyniad i gael triniaeth iechyd meddwl sydd ar gael fel opsiwn dedfrydu ers 2003. Mae'n cyfarwyddo'r troseddwr i gael triniaeth iechyd meddwl fel rhan o ddedfryd gymunedol neu orchymyn dedfryd ohiriedig. Mae ganddynt botensial i leihau poblogaeth y carchardai yn sylweddol, ond mae eu niferoedd wedi gostwng yn y naw mlynedd diwethaf ac maent bellach ar eu lefel isaf mewn degawd. Yn y pum mlynedd diwethaf, fe'u defnyddiwyd mewn llai nag 1 y cant o'r holl orchmynion cymunedol neu ddedfrydau gohiriedig, ac mae hyn yn dangos methiant i fynd i wraidd y broblem, sef y rheswm pam fod pobl yn mynd i'r carchar o gwbl, a pham y mae'r gyfradd aildroseddu mor uchel. Yn wir, mae'n uwch na'r lefel ymhlith troseddwyr tebyg sy'n bwrw dedfryd gymunedol. Felly, mae bod yn y carchar yn ei gwneud hi'n fwy tebygol y byddwch yn aildroseddu.

Nododd Pwyllgor Cyfiawnder Tŷ'r Cyffredin fod cyfradd ail euogfarnau ymhlith carcharorion sy'n treulio llai na blwyddyn yn y carchar yn 70 y cant yn 2008, o'i gymharu â 38 y cant ymhlith y rhai a gafodd eu dedfrydu i gyflawni gwaith di-dâl neu ddedfrydau cymunedol eraill. Mae'r cylch hwn o aildroseddu yn costio rhwng £9.5 biliwn a £15 biliwn y flwyddyn i'n heconomi. Mae gwledydd eraill yn rheoli pethau'n llawer gwell. Mae Sweden yn cau carchardai yn hytrach na gwario £200 miliwn ar adeiladu rhai newydd. Eglurodd cyfarwyddwr cyffredinol Gwasanaeth Carchardai a Phrofiannaeth Sweden yn 2014,

Nid ein rôl yw cosbi. Y gosb yw'r ddedfryd o garchar: cânt eu hamddifadu o'u rhyddid. Y gosb yw eu bod gyda ni.

Felly, wrth edrych ar anghenion eu carcharorion, mae'n egluro,

Nid un broblem y mae ein cleientiaid yn ei hwynebu, ond dwy neu fwy, weithiau cymaint â saith neu wyth… gan gynnwys cyffuriau, alcohol a phroblemau seiciatrig efallai. Ac nid yw'r problemau hyn yn ymddangos dros nos. Dyma bethau sydd wedi datblygu dros flynyddoedd. Mae'r rhan fwyaf o'r dedfrydau... yn gymharol fyr. Mae'r cyfle... ar gyfer newid yn fach iawn, felly mae angen inni ddechrau o'r diwrnod cyntaf un. Ein strategaeth yw cwmpasu'r holl amrywiaeth o broblemau, nid un broblem yn unig.

Bellach, mae gan yr Iseldiroedd hefyd argyfwng yn eu system gosbi, ond y gwrthwyneb i'n problem ni—mae ganddynt brinder o garcharorion. Maent eisoes wedi cau 19 o garchardai ac maent yn bwriadu cau rhagor eto oni bai eu bod yn gallu darbwyllo gwledydd eraill i anfon carcharorion atynt. Meddai dirprwy lywodraethwr Norgerhaven, carchar diogel,

Os oes gan rywun broblem cyffuriau rydym yn trin eu dibyniaeth, os ydynt yn ymosodol rydym yn darparu hyfforddiant rheoli dicter, os oes ganddynt broblemau ariannol rydym yn rhoi cyngor rheoli dyledion iddynt. Felly rydym yn ceisio dileu beth bynnag a achosodd y drosedd. Rhaid i'r carcharor ei hun fod yn barod i newid ond mae ein dull wedi bod yn effeithiol iawn. Dros y 10 mlynedd diwethaf, mae ein gwaith wedi gwella mwy a mwy.

Mae troseddwyr cyson—a elwir yn 'droseddwyr drws troi'—yn cael dedfrydau dwy flynedd o hyd yn y pen draw a rhaglenni adsefydlu pwrpasol.

Felly, ddegawd yn ôl roedd gan yr Iseldiroedd un o'r cyfraddau carcharu uchaf yn Ewrop, ond erbyn hyn, mae llai na 10 y cant ohonynt yn dychwelyd i'r carchar ar ôl eu rhyddhau. Mae hon yn stori lwyddiant wych. Cymharwch hynny â Chymru a Lloegr, lle mae oddeutu hanner y rhai sy'n bwrw dedfrydau byr yn aildroseddu o fewn dwy flynedd, ac mae'r ffigur yn uwch byth ymhlith oedolion ifanc. O gymharu, mae'r boblogaeth garchar yn yr Iseldiroedd dair gwaith yn is na'r hyn ydyw yng Nghymru a Lloegr a byddant yn arbed llawer iawn o arian yn peidio ag anfon pobl i—. Mae hyd yn oed y carchardai mwyaf gorlawn yma yn costio mwy i ni na lle yn Eton.

Felly, a ydym yn gallu newid ac a oes gennym ewyllys wleidyddol i newid? Gwnaeth yr Ysgrifennydd Gwladol newydd dros gyfiawnder araith ddoe a oedd yn cynnwys rhai pwyntiau defnyddiol am ddyheadau i ostwng poblogaeth y carchardai, a bod angen i'r system garchardai anelu at alluogi pobl i fynd i leoedd sy'n dangos dyngarwch, gobaith a dyhead. Felly, gobeithio y gallwn ddarbwyllo Llywodraeth y DU y gellir caniatáu inni dreialu ffyrdd newydd o weithio ar ddedfrydau cymunedol, canolfannau neu leoliadau gwarchodol bach i fenywod, a gweithio ar achosion y rhesymau pam y mae pobl wedi troseddu yn y lle cyntaf, fel nad ydym yn eu gweld yn dychwelyd dro ar ôl tro.

16:15

Yn 1920, roedd 11,000 o garcharorion yng Nghymru a Lloegr. Yn 1980, roedd 42,000 o garcharorion yng Nghymru a Lloegr. Heddiw, mae yna 85,500 carcharorion yng Nghymru a Lloegr. Rydym yn anfon llawer mwy o bobl i'r carchar nag a wnâi ein cyndadau Edwardaidd. Mae hynny'n frawychus iawn, ac mae'n rhywbeth y mae angen inni edrych yn ddifrifol iawn arno yn fy marn i.

Credaf fod carcharu yn gosb briodol a difrifol i'r rhai sy'n ei haeddu. Mae angen iddo fod yn ateb pan fetho popeth arall i'r rhai sy'n cyflawni troseddau difrifol iawn, a dylai'r rhai sy'n cyflawni troseddau treisgar, troseddau difrifol yn erbyn eiddo, ddisgwyl dedfryd o garchar. Ond y gwir amdani yw bod gennym ddegau o filoedd o bobl yn y carchar nad ydynt yn bodloni'r meini prawf hynny ar gyfer carcharu fel cosb, ac fel y nododd Jenny Rathbone yn huawdl, mae effeithiolrwydd yr hyn a wnawn i'r bobl hynny yn amheus tu hwnt.

Rwy'n arbennig o bryderus, wrth i'r ffigurau gynyddu, fod y ffocws wedi symud lawer mwy at gadw dan glo yn hytrach na hyfforddi ac adsefydlu, oherwydd fel arfer bydd troseddwyr treisgar yn dod allan ar ryw adeg, ac mae gwaith mawr yno i sicrhau nad ydynt yn parhau'n fygythiad i gymdeithas. Maent angen eu trin yn ddifrifol iawn a'u hadsefydlu.

Credaf y dylem edrych ar yr holl beth o safbwynt y gwahanol awdurdodaethau ar hyn o bryd, felly yr awdurdodaethau sydd â pholisïau'n ymwneud â charchardai—polisi cosbi—yw Cymru a Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Er bod gan yr Alban batrwm tebyg o garcharu i'r hyn a geir yng Nghymru a Lloegr, er ei fod dipyn yn is, mae'r patrwm yng Ngogledd Iwerddon yn llawer is. Mae'n llawer tebycach i'r arferion gorau a geir yng ngwledydd gorllewin Ewrop. Yn fy marn i, pe baem yn mabwysiadu cyfrifoldeb dros gyfiawnder troseddol, a'r rheswm rwyf wedi dadlau dros y blynyddoedd dros gael polisi cyfiawnder troseddol yw y byddai'n caniatáu inni wneud y peth pwysicaf, byddai'n caniatáu inni osod polisi dedfrydu a rheoli ein carchardai. Os edrychwch ar systemau ffederal o gwmpas y byd, mae'n gyffredin iawn i blismona ar lefel gymunedol a'r rhan fwyaf o faterion sy'n ymwneud â chyfiawnder troseddol a'r system garchardai fod ar lefel yr uned ffederal, a bod y Llywodraeth ganolog yn cadw'r cyfrifoldeb am droseddau a chamymddwyn difrifol iawn, tebyg i derfysgaeth a charchardai diogel. Mae'r rhaniad hwnnw i'w weld yn un rhesymegol iawn i mi.

Rwy'n bryderus iawn nad ydym bob amser yn sylweddoli pa mor wael yw'r sefyllfa yn y carchardai yng Nghymru y mae gennym gyfrifoldeb i ddarparu gwasanaethau addysg a gwasanaethau iechyd ar eu cyfer. Mae carchardai Abertawe a Chaerdydd yn orlawn iawn. Rwy'n credu bod y ddau garchar ymhlith y 10 carchar mwyaf gorlawn; golyga hynny dros 150 y cant o'r capasiti. Mae hyn yn destun pryder difrifol i ni.

Mae Jenny wedi cyfeirio at gymariaethau rhyngwladol, ac yn sicr mae'r ystadegyn mai gennym ni y mae'r lefel uchaf o garchariadau yng ngorllewin Ewrop yn fy ngwneud yn anghyfforddus. Pe bai'n gweithio, mae'n debyg y gallech gael sail i ddadl, 'Wel, wyddoch chi, mae rheswm da iawn pam rydym yn fwy llym,' ond rhaid i mi ddweud fod yna ddadl dde-ganol dros ostyngiad sylweddol yn nifer y bobl a garcharwn. Hoffwn fynd yn ôl, os nad i'r 1920au, pan oedd poblogaeth gyfartalog y carchardai yn amrywio rhwng 10,000 a 14,000, o leiaf i'r 1980au, oes Thatcher, pan oedd poblogaeth y carchardai yn hofran o gwmpas tua 45,000. Bu cynnydd mawr yn y 1990au o dan y ddwy Lywodraeth—mae'n ddrwg gennyf, cafodd y patrwm hwn ei barhau gan Lywodraeth Geidwadol a Llywodraeth Lafur wedyn. Rydym wedi mynd i'r cyfeiriad cwbl anghywir.

Ceir rhai categorïau o'r cwestiwn hwn y credaf eu bod yn galw am ystyriaeth arbennig hefyd: mae nifer y rhai sy'n gadael gofal sydd yn y carchar yn rhywbeth y mae angen inni fod yn ymwybodol iawn ohono. Roedd adroddiad yr Arglwydd Laming y llynedd, neu'r flwyddyn cyn hynny, ar nifer y plant sy'n derbyn gofal sy'n cael eu dwyn i mewn i'r system cyfiawnder troseddol oherwydd patrymau nad ydynt wedi'u cymhwyso i'w grŵp cyfoedion, ond sy'n cael eu cymhwyso iddynt am eu bod, a dweud y gwir, yn cael eu gweld fel rhai sy'n dueddol o fod yn droseddwyr posibl, yn fy mhoeni'n fawr.

Ond nid wyf yn credu bod hwn yn fater sy'n dilyn rhaniadau pleidiol amlwg. Ceir dadleuon cadarn iawn ar y chwith ac ar y dde dros weld polisi carcharu gwell na'r hyn sydd gennym ar hyn o bryd, ar sail dyngarwch, ond hefyd o ran effeithiolrwydd yr hyn rydym yn ei wneud. Ar hyn o bryd, mae'r system yn methu, ac mae angen ei newid.

16:25

Gyda llawer o'r pwyntiau ar y cynnig hwn, cred Plaid Cymru yn y pen draw na fydd unrhyw obaith realistig o'u cyflwyno hyd nes y gwelir datganoli cyfiawnder troseddol priodol ac y gallwn ddatblygu awdurdodaeth droseddol neilltuol Gymreig. Buaswn yn dadlau bod hyn yn dod yn gynyddol hanfodol, yn rhannol oherwydd, wrth i ni basio mwy a mwy o ddeddfau neilltuol Gymreig—yn enwedig ar faterion sy'n effeithio'n uniongyrchol ar adsefydlu troseddol, megis iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a thai—daw'n fwy angenrheidiol fel cam naturiol i'w gymryd. Mae gennym y pwerau hynny eisoes, fel a grybwyllwyd yn gynharach. Pam, felly, nad oes gennym ddeddfwriaeth i weinyddu cyfiawnder troseddol? Ond fy mhryder i yw nad yw'n ymddangos bod gan Lywodraeth Cymru y tân yn ei bol i frwydro dros y mater hwn mewn gwirionedd, ac nid ydynt yn gwneud ymdrech ddigonol i hyrwyddo'r sector cyfreithiol yng Nghymru chwaith, er mwyn iddynt allu ymdopi ag unrhyw newidiadau wrth ddatganoli cyfiawnder troseddol.

Mae datganoli hefyd yn dod yn fwy anodd os derbyniwn sefydliadau carchar mwy a mwy o faint yng Nghymru, sy'n cael eu cynllunio ar gyfer gormodedd o garcharorion yn Lloegr. Os caiff y carchar arfaethedig ym Mhort Talbot ei adeiladu, bydd oddeutu 2,300 yn ormod o leoedd carchar yng Nghymru, o'i gymharu â chyfanswm nifer y carcharorion o Gymru ar draws y DU gyfan. Mae'n amlwg nad yw unrhyw garchar newydd yng Nghymru yn cael ei ddatblygu i ddiwallu anghenion Cymru, oherwydd mae gennym y capasiti hwnnw eisoes. Po fwyaf o garcharorion o Loegr sy'n cael eu dedfrydu i garchardai yng Nghymru ac i'r gwrthwyneb, y mwyaf anodd fydd hi i wneud y pethau y mae Llywodraeth Cymru yn dweud ei bod yn eu cefnogi. Ddoe ddiwethaf, lleisiodd Carwyn Jones ei gefnogaeth i'r cysyniad o edrych ar bolisi cosbi ar wahân ar gyfer Cymru, ac eto mae'n codi ei ysgwyddau yn achos carchar newydd enfawr yn yr etholaeth sy'n ffinio â'i etholaeth ef. Mae angen safbwynt clir gan Lywodraeth Cymru, un nad yw'n gwrthddweud ei hun, i fod yn rhan o'r ddadl hon a gawn yma fel Senedd, ac yn fwy cyffredinol, fel gwlad.

O ran adsefydlu, rhaid inni ddechrau symud oddi wrth y syniad y gallwn gludo carcharorion ar draws y wlad a disgwyl adsefydlu effeithiol ar ddiwedd dedfryd. Geilw'r arolwg carchardai gan yr Arglwydd Michael Farmer y llynedd berthnasoedd teuluol yn 'edau aur' i helpu i leihau aildroseddu, ac mae ymchwil yn dangos bod carcharorion sy'n cael ymweliadau gan aelod o'r teulu 39 y cant yn llai tebygol o aildroseddu.

A wnewch chi dderbyn ymyriad? Mae gennyf bryderon penodol ynghylch y cwestiwn hwn oherwydd nad oes unrhyw gyfleusterau yng Nghymru i garcharu troseddwyr benywaidd. Yn gyffredinol, rwy'n credu y dylai fod llawer llai o fenywod yn y carchar, ond beth y gallwn ei wneud i sicrhau nad oes raid inni anfon menywod sy'n gorfod mynd i'r carchar mor bell oddi wrth eu teuluoedd—hyd yn oed i wlad arall?

A buaswn yn cytuno â chi ar hynny, a chredaf mai dyna beth roeddwn yn dod ato, fel y soniodd Jenny yn gynharach: ceisio rhoi polisïau ar waith, lle y gallwn, fel na chânt eu rhoi mewn carchardai, ac mae cael gwahanol fathau o ganolfannau ar eu cyfer a ddatblygir yma yng Nghymru yn rhywbeth y gwn eich bod chi ac eraill—ym Mhlaid Cymru yn arbennig—wedi bod yn dadlau drosto ers blynyddoedd lawer, ac yn arbennig mewn perthynas â pherthnasoedd teuluol. Mae'n aml yn wir, er nad ym mhob amgylchiad, mai'r fam yw prif ofalwr y plentyn, ac os cânt eu hanfon mor bell ag y bo modd o'r Rhondda, dyweder, i rywle yng nghanol Lloegr, wel, nid yw hynny'n mynd i hwyluso'r berthynas sydd ganddynt gyda'r plentyn. Ac felly credaf mai dyna pam y mae'n hanfodol inni edrych ar y problemau sy'n ymwneud â menywod a'r gefnogaeth a roddwn i fenywod.

Roeddwn eisiau ychwanegu ychydig at yr araith hon nad wyf wedi'i hysgrifennu heddiw, o ran fy mod wedi cael profiad personol yn ddiweddar o fod—. Torrodd rhywun i mewn i fflat fy ngŵr y llynedd, ac mae ar fin cael dyddiad llys. Mae gennyf farn wahanol iddo ef ynglŷn â sut y dylid ei gosbi. A'r hyn rwy'n credu sy'n bwysig—mae'r person hwn, rwy'n meddwl, yn droseddwr mynych—yw sut y gall unigolyn sylweddoli beth y mae'n ei wneud, a sut y caiff lleisiau dioddefwyr eu clywed. Credaf fod y gost ariannol i ni wedi bod yn enfawr, ond mae'r gost emosiynol yn enfawr. Pan ydych yn sylweddoli bod rhywun wedi dod i mewn i'ch cartref am 2 o'r gloch yn y bore i ddwyn eich eiddo ac i ddwyn eich car, mae'n rhywbeth na allwch ei ddirnad yn iawn oni bai eich bod wedi bod drwyddo. Credaf mai'r hyn sy'n bwysig, o bosibl, yw bod mwy o gynlluniau i droseddwyr gyfarfod â dioddefwyr, fel sy'n digwydd, o bosibl, mewn amgylchiadau eraill, iddynt ddeall o ddifrif mewn gwirionedd, sut nad yw'r darn hwnnw o emwaith neu'r oriawr honno'n golygu unrhyw beth iddynt hwy o bosibl, ond gallai olygu rhywbeth sentimental i'r person y maent wedi dwyn oddi wrthynt. Felly, nid wyf yn argymell taflu'r allwedd ymaith, ond rwy'n argymell, fel y soniodd Jenny yn gynharach, edrych ar adsefydlu, ceisio gwneud i bobl ddeall bod beth y maent yn ei wneud yw mynd i drawsnewid bywydau a cheisio eu hannog i ddilyn gwell llwybr yn y dyfodol.

Rwy'n cloi drwy atgoffa'r Aelodau fod Cymru wedi'i bendithio â chyfle unigryw yma—â llechen wag, mewn sawl ffordd. Yn yr un modd ag y trafodwyd diwygio lles gennym a'r ffyrdd angenrheidiol y dylai fod gennym rywfaint o reolaeth dros ddiwygio lles, gallwn wneud pethau'n wahanol yma yng Nghymru. Nid yw'r ffaith fod Lloegr eisiau adeiladu carchardai mawr yn golygu bod yn rhaid i Gymru ddilyn yr un llwybr. Gallwn arwain ar yr agenda hon. Gallwn ddangos ein bod yn gallu gwneud pethau'n well ac mewn ffordd wahanol. Mae llawer o hyn yn ymwneud â 'n hamgylchedd cymdeithasol, tlodi. Os gallwn edrych ar fentrau gwrthdlodi, os gallwn gael pobl allan o'r sefyllfaoedd y maent ynddynt, o'r cychwyn cyntaf, efallai na fyddant wedyn yn ymroi i gyflawni'r mathau hyn o droseddau, ac felly ni fyddant yn effeithio ar bobl fel fi, neu rywun i lawr y ffordd a fydd heno'n profi'r un peth ag a brofais innau y llynedd, a wynebu'r pryder hwnnw. Gallwn fod yn gadarnhaol am yr hyn y gallwn ei wneud yma yng Nghymru, a gobeithiaf y bydd y Gweinidog yn gallu adlewyrchu hynny yn ei ymateb.

16:30

Credaf fod Bethan yn hollol iawn: rydym yn wahanol, gallwn wneud pethau'n wahanol ac rydym yn arwain y ffordd mewn llawer o bethau—trais domestig, caethwasiaeth fodern, ailgylchu; rydym yn gwneud llawer o bethau. Rydym yn genedl ffyniannus gyda'r gallu i rymuso pobl a gwasanaethu ein pobl, ond rydym yn methu yn y maes hwn. Rydym yn gwneud cam â'r dinasyddion sy'n gorfod mynd drwy'r system honno a'u canlyniadau. Efallai mai'r broblem yw nad yw'r system dan ein rheolaeth ni. Dyma'r system sy'n bodoli ar hyn o bryd, mae'n system gosbi sydd wedi ei gorfodi arnom, ac mae'n system sy'n rhoi ein dinasyddion ni—a rhai o'r gwledydd cyfagos, a bod yn deg; mae'n effeithio ar garcharorion o Loegr yn ogystal—mewn perygl difrifol. Mae'n methu sicrhau gwelliant o ran lleihau aildroseddu, ac mae'n methu rheoli carcharorion yn ddiogel yn y system.

Nawr, crybwyllwyd tystiolaeth o amrywiol adroddiadau o'r blaen, gan gynnwys Arolygiaeth Carchardai ei Mawrhydi, ac yn eu hadroddiad blynyddol diwethaf gan y Prif Arolygydd, Peter Clarke, nodwyd bod sawl sefydliad yn wael. Ni chânt eu hystyried yn addas at y diben. Maent yn gwneud cam â charcharorion, maent yn gwneud cam â theuluoedd carcharorion. Pwysleisia fod gormod o'n carchardai wedi dod yn lleoedd annerbyniol o dreisgar a pheryglus. Mae cyfran y carchardai yr ystyriwyd eu bod yn dda neu'n well, yn dilyn arolygiad, wedi gostwng o 76 y cant i 49 y cant mewn un flwyddyn yn unig. Nawr, adleisir y methiant hwn gan gynrychiolwyr Cymdeithas y Llywodraethwyr Carchar a Chymdeithas y Swyddogion Carchar, sy'n gyson yn lleisio eu pryderon mawr ynghylch yr effaith a gafodd cyllidebau llai ar y gwasanaeth a'i allu i wella'r modd y caiff gwasanaethau eu darparu yn erbyn y targedau a osodwyd.

Mae'r adroddiad diweddar ar garchar Abertawe yn dangos bod y gwasanaeth dan bwysau ac yn cael trafferth i ateb y galwadau arno i reoli'r system gosbi a sicrhau ei fod yn gallu helpu carcharorion i adsefydlu er mwyn dychwelyd i'w cymunedau, gan leihau cyfraddau aildroseddu yng Nghymru. Nawr, er y gellir defnyddio hyn fel dadl i—. Wel, yn y bôn, oherwydd mai Abertawe mewn gwirionedd, fel y dywedoch, yw'r carchar mwyaf gorlawn o ran canran yn y DU—. Oherwydd bod gennych fwy o leoedd, nid yw'n golygu bod y system yn gweithio. Felly, dylai fod yn canu larymau, mewn gwirionedd, i siarad am ganllawiau dedfrydu ac a ydynt yn addas ar gyfer yr oes fodern ac uchelgais y Llywodraeth i ostwng cyfraddau aildroseddu.

Mae'r anawsterau a wynebir gan garchardai ledled Cymru a Lloegr wedi'u cofnodi'n dda, gyda llawer o achosion o aflonyddwch mewn sefydliadau, gyda rhai yn galw am dimau arbenigol i adfer trefn; ymosodiadau difrifol—cynnydd o dros 200 y cant ers 2013, yn ôl ffigurau'r Weinyddiaeth Gyfiawnder ei hun; anafiadau i staff carchar a chynnydd yng nghyfraddau hunan-niwed ymhlith carcharorion, gan gynnwys achosion o hunanladdiad. Mae'r rhain i gyd yn dangos angen i roi camau mwy radical ar waith i wella'r gwasanaeth presennol ac edrych ar nifer o agweddau, a allai fod y tu allan i gylch gwaith y gwahanol agweddau. Ar hyn o bryd, mae hyn y tu allan i'n cylch gwaith ni, mewn un ystyr, ond dylem gael hynny, ac efallai y down yn ôl at y pwynt hwnnw yn nes ymlaen.

Y cyn Ysgrifennydd Gwladol—. Fe soniasom am yr Ysgrifennydd Gwladol presennol—David Gauke rwy'n credu. Nododd y cyn-Ysgrifennydd Gwladol, David Lidington, ei resymau fis Awst diwethaf pam fod angen camau i leihau poblogaeth y carchardai—ie, lleihau poblogaeth y carchardai—ond wedyn maent yn gwario £1.3 biliwn—nid £200 miliwn, ond £1.3 biliwn—ar gynyddu poblogaeth y carchardai. Felly, nid yw'n ymddangos yn gyson o gwbl. Mae angen inni ddiwygio'r system gosbi, diwygio'r canllawiau dedfrydu, ac ystyried ffyrdd amgen yn lle carcharu, a fyddai'n lleihau nifer yr unigolion sy'n cael dedfryd o garchar. Mae'n hen bryd gwneud hynny, ac efallai y dylai'r newidiadau hyn gael eu rhoi i ni yng Nghymru bellach oherwydd gallwn weithredu arnynt, ac oherwydd nad ydym yn mynd i adael iddo barhau.

Ddoe, gofynnais gwestiwn i'r Prif Weinidog yn seiliedig ar gasgliadau ymchwil i faint carchardai fod carchardai llai o faint yn arwain at well canlyniadau na rhai mwy o faint i garcharorion a'r cymunedau. Yn aml caiff carchardai bach eu rhedeg yn fwy effeithiol. Mae ganddynt lefelau is o drais, gwell perthynas rhwng staff a charcharorion, mwy o ffocws ar ailsefydlu, gwell cyfleusterau ar gyfer cyswllt rhwng carcharorion a'u teuluoedd, ac fel y soniodd rhywun eisoes, amlygodd adroddiad yr Arglwydd Farmer yr agweddau hyn.  

16:35

A wnewch chi dderbyn ymyriad? A ydych yn cydnabod hefyd fod gwell canlyniadau mewn carchardai cyhoeddus o'u cymharu â charchardai preifat?

Credaf ei fod yn ymwneud â'r ffordd y caiff carchardai eu gweithredu yn y carchardai preifat. Nid wyf yn cefnogi gwasanaeth carchardai preifat. Credaf mai'r broblem sydd ganddynt yw'r cyllid i sicrhau bod y canlyniadau'n cael eu cyflawni. Os ceir cyfyngiadau cyllidebol ac mae gennym y mesurau cyni yn awr—[Torri ar draws.] Wel, maent yn cael cyflogau ac maent yn darparu elw i'r perchnogion preifat, onid ydynt?

Ond yn y pen draw, rydym eisiau gallu gweld amryw o bethau, a gorau po leiaf o bobl sydd yn y carchar—bydd mecanweithiau amgen yn ateb gwell. Rydym yn gwybod—gŵyr pawb yn y Siambr hon fod gennyf wrthwynebiad cryf i garchardai mawr, yn enwedig un yn fy nhref. Rwy'n credu—yn wir, mae'r dystiolaeth yn cefnogi—nad yw carchardai mawr yn gweithio. Mae Berwyn yn enghraifft. Ewch i Berwyn. Dywedais ddoe: 15 o danau, ni ellir defnyddio 46 o gelloedd oherwydd y difrod. Tair galwad i'r grŵp ymateb tactegol cenedlaethol. A hynny mewn chwe mis, ac nid yw'n hanner llawn hyd yn oed. Nid yw'n gweithio.

Ddirprwy Lywydd, rwyf am orffen oherwydd gallaf weld bod fy amser yn dirwyn i ben. Gwelsom ystadegau fod 47 y cant o garcharorion yn aildroseddu o fewn un flwyddyn. Rydym yn paratoi pobl i fethu yn y system bresennol. Mae'r cyfraddau aildroseddu yn Nenmarc yn amrywio oddeutu 27 y cant—20 y cant yn is na ni. Pam? Oherwydd bod carcharorion yn cael eu trin ag urddas ac fel pe bai ganddynt allu i newid, ond mae ein carcharorion ni'n cael eu cadw dan glo. Nid oes ganddynt hwy system garchardai sy'n ddiraddiol ac yn foesol warthus.

Rydym yn gorddefnyddio'r carchar am droseddau dibwys a pharhaus. Gennym ni y mae'r cyfraddau carcharu uchaf yng ngorllewin Ewrop—mae wedi'i grybwyll. Caiff pobl eu carcharu lle na ddylid gwneud hynny a'u gosod mewn system ar gyfradd a fydd yn goddiweddyd y capasiti. Mae angen inni ddysgu gwersi. Mewn gwirionedd gall ein cymdogion Ewropeaidd ddangos y ffordd i ni, ac nid drwy gynyddu capasiti carchardai y gwneir hynny, ond drwy roi systemau amgen ar waith.

Cyn dechrau, Ddirprwy Lywydd, credaf y dylwn ddatgan buddiant am fy mod wedi bod yn ynad, yn ynad heddwch, am 15 mlynedd, ac rwy'n dal i fod, yn dechnegol, yn ynad heddwch. Rwy'n dymuno cyfrannu at y ddadl hon er mwyn amddiffyn rhai agweddau ar system farnwrol Prydain a'r rhai sy'n ei gweinyddu, ac i dawelu meddwl y cyhoedd yn gyffredinol a allai glywed y ddadl hon, yn yr holl amser y bûm yn gweithredu fel ynad, gan gynnwys nifer o flynyddoedd fel cadeirydd y fainc, na welais unrhyw un yn cael ei garcharu oni bai bod yr holl ymyriadau amgen wedi'u harchwilio'n llawn ac yn ddigamsyniol. Yn wir, drwy gydol fy mlynyddoedd fel ynad, câi ei bwysleisio i bawb a oedd yn rhan o'r system farnwrol—. Ie, mae'n ddrwg gennyf, Jenny, wrth gwrs.

Tybed felly a allwch egluro pam ein bod yn dal i garcharu menywod am beidio â thalu trwydded deledu. Nid wyf yn awgrymu na ddylent dalu eu trwydded teledu, ond rhaid cael ffyrdd amgen o wneud iddynt gydymffurfio.

Wel, yn wir. Drwy gydol fy mlynyddoedd fel ynad câi ei bwysleisio i bawb a oedd yn rhan o'r system farnwrol—ynadon, barnwyr ac wrth gwrs, y gwasanaeth prawf—mai carcharu oedd y ffurf derfynol ac eithaf ar gosb. Mae'n wir y câi camgymeriadau eu gwneud ar achlysuron prin, ond mae hynny'n wir am unrhyw sefydliad, yn enwedig un fel y farnwriaeth, sy'n ymdrin â phroblemau bron yn anorchfygol yn gysylltiedig â chynnydd mawr mewn troseddau difrifol.

Clywsom yn gynharach sut y cynyddodd poblogaeth y carchardai o dan Michael Howard pan oedd yn Ysgrifennydd Cartref o 45,000 i 80,000 mewn pump i chwe blynedd. Sut y gallai hynny fod wedi digwydd os yw'r hyn rydych yn ei ddweud yn gywir?

Esgusodwch fi, rwy'n egluro hynny. Rwy'n dweud ei fod yn ymdrin â phroblemau bron yn anorchfygol yn gysylltiedig â chynnydd mawr mewn troseddau difrifol. Mae'r gyfradd droseddu gynyddol hon yn cynnwys trais yn erbyn yr unigolyn, troseddau rhywiol a masnachu cyffuriau eang, fel y cydnabu'r adroddiad hwn gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn 2013. Gallwn ychwanegu at hyn y mathau newydd o droseddu cynyddol sy'n gysylltiedig â'r rhyngrwyd, megis camfanteisio ar blant a thwyll. Eto i gyd, ymddengys bod eitem 1(a) yn y ddadl hon yn awgrymu mai polisïau cyfiawnder troseddol sydd wedi achosi'r cynnydd hwn ym mhoblogaeth y carchardai ac nad oes ganddo ddim oll i'w wneud â'r cynnydd mewn troseddu ynddo'i hun. [Torri ar draws.] Wrth gwrs.

16:40

Diolch i'r Aelod am dderbyn ymyriad, ac rwy'n ildio i'w brofiad fel ynad. Ond y cwestiwn yw'r canllawiau dedfrydu a'r mecanweithiau amgen y gallem edrych arnynt, lle y gallwn weithio gydag unigolion a geir yn euog o drosedd. A ydych yn cytuno, felly, fod angen inni adnewyddu'r canllawiau dedfrydu hynny, oherwydd bod yna bobl yn cael eu carcharu na ddylent gael eu carcharu? Mae yna ffyrdd gwahanol o gosbi'r unigolyn heb eu carcharu.

Wel, mae'n ddrwg gennyf, David, rwy'n gyfarwydd iawn â'r canllawiau dedfrydu a gallaf eich sicrhau nad ydynt yno i anfon pobl i garchar.

Hoffwn ddweud yma fod gennyf lawer iawn o gydymdeimlad â'r safbwyntiau a fynegir yn eitemau 1(b) a 2(b). Credaf y dylid ehangu cyfleusterau iechyd meddwl diogel yn sylweddol fel dewis amgen yn lle carchardai arferol a bod rhai o'n carchardai, er nad pob un o bell ffordd, heb y cyfleusterau sydd eu hangen i adsefydlu carcharorion. Fe nodaf yma, David, ac rwy'n datgan nad oes gennyf ragfarn y naill ffordd neu'r llall, fod llawer yn y Siambr hon wedi gwrthwynebu carchar ym Margam a fyddai'n gallu cynnig llawer o'r cyfleusterau i garcharorion o Gymru.

Hoffwn droi yn awr at eitem 1(d) ac eitem 2(a) a restrir yn y ddadl hon. Mae'r eitem gyntaf unwaith eto yn awgrymu bod menywod yn yr achos hwn yn cael eu hanfon i'r carchar am fân droseddau. Yn amlwg nid yw hyn yn wir, oni bai bod yna fân droseddau lluosog. Ac unwaith eto, pwysleisiaf y byddai'r holl ymyriadau eraill wedi cael eu hystyried mewn ffordd gynhwysfawr. Ni chaiff yr opsiwn o garchar ei ystyried hyd yn oed oni bai bod y person a geir yn euog o drosedd yn gwrthod derbyn neu ymwneud â'r dewisiadau amgen.

Mae eitem 2(a) yn awgrymu naill ai nad oes dulliau amgen o gosbi ar gael neu nad ydynt yn cael eu defnyddio. Unwaith eto, camsyniad llwyr yw hyn. Caiff dirwyon, profiannaeth, gorchmynion cymunedol gan gynnwys gwaith yn y gymuned, cyrffyw a thagio electronig eu hystyried a'u defnyddio'n helaeth cyn y rhoddir dedfryd o garchar i unrhyw un. Un canlyniad i'r ddau gymal sy'n peri pryder mawr yw'r awgrym y dylid trin troseddwr sy'n fam yn wahanol i unrhyw berson arall sy'n cyflawni troseddau tebyg, boed yn fân droseddau neu fel arall. Pa arwydd y mae hynny'n ei anfon i'r cannoedd o filoedd o famau yn ein cymdeithas nad ydynt yn cyflawni troseddau, er y gallai eu hamgylchiadau eu gwneud yn agored i droi at y dewis arall hwn?

Rwyf am ychwanegu nad yw methiant i dalu dirwyon yn fân drosedd: mae'n golygu mai'r aelodau da, gonest, gweithgar, a thlotach yn aml, o gymdeithas—[Torri ar draws.] na, David, rhaid i mi orffen yn awr, mae'n ddrwg gennyf—sy'n cael eu gadael i dalu'r bil.

Yn olaf, er y credaf fod y cynigion yn y ddadl hon yn llawn bwriadau da a bod y rhai sy'n cynnig ei gynnwys yn meddwl yn dda wrth ei gyflwyno, rwy'n dadlau ei fod yn gyfeiliornus, yn naïf ac nid yw'n adlewyrchiad cywir o system farnwrol Prydain. Hoffwn ddweud hefyd y byddaf yn cytuno â'r holl sylwadau a wnaed yn y Siambr hon gan y rhai sydd wedi cyfrannu at y ddadl hon i ddweud, ar ôl dedfrydu, fod gennym sefyllfa erchyll yn ein holl garchardai a dylai ymyriadau ar ôl dedfrydu fod yn flaenoriaeth lwyr i ni.

Rwy'n falch iawn o gymryd rhan yn y ddadl hon, a gychwynnwyd gan fy nghyd-Aelod Jenny Rathbone. Hoffwn ailadrodd ei sylwadau a'r sylwadau a wnaed gan y rhan fwyaf o'r bobl a siaradodd yma heddiw ein bod yn carcharu llawer gormod o bobl ac y dylem fod yn cael newid radical yn ein hagwedd tuag at garcharu pobl. Mewn gwirionedd, rwy'n credu ein bod wedi clywed yn llawer rhy aml gan Weinidogion cyfiawnder gwahanol o San Steffan yn dweud, 'Iawn, rydym yn mynd i roi'r gorau i garcharu pobl, rydym yn mynd i weithio yn y gymuned', ond nid yw byth yn digwydd. Rwy'n sicr yn cefnogi datganoli'r system cyfiawnder troseddol i roi cyfle i ni geisio cael system fwy effeithiol, oherwydd mae'n amlwg, beth bynnag y mae David Rowlands yn ei ddweud, nad yw'r system y mae ef yn ei disgrifio yn gweithio. Yr hyn sydd angen inni ei wneud yw llunio polisi'n seiliedig ar dystiolaeth.

Felly, rwyf am ailadrodd llawer o'r pwyntiau a wnaed yma gan fy nghyd-Aelodau heddiw. Ond yn benodol, bythefnos yn ôl—credaf mai tua phythefnos yn ôl oedd hi—soniodd David Ramsbotham, y cyn-brif arolygydd carchardai, am y mater hwn ar Sunday Supplement. Rwy'n credu bod David Rees ar yr un rhaglen. Yn anffodus, cafodd ei sylwadau eu camddehongli gan y cyfryngau, a dywedwyd eu bod yn dweud mai galwad oedd hi am garchar i fenywod yma yng Nghymru, sef y gwrthwyneb llwyr i'r hyn a ddywedodd. Yn sicr, y peth olaf a ddymunwn yw carchar i fenywod yma yng Nghymru, oherwydd yn ddiamau, nid yw nifer y menywod sy'n creu'r fath berygl i'r cyhoedd fel bod angen iddynt fod dan glo, gyda'r holl drawma i'w teuluoedd o ganlyniad i hynny, yn ddigon i gyfiawnhau carchar i fenywod yng Nghymru. Mewn gwirionedd, mae'r nifer sy'n berygl i gymdeithas yn un neu ddwy yn ôl pob tebyg.

Felly, rwy'n credu ei bod yn gwbl hanfodol ein bod yn symud oddi wrth y camsyniad hwn y byddai cael carchar i fenywod yma yng Nghymru yn beth da i fenywod, oherwydd yn fy marn i, byddai'n atal y broses o ddiwygio'r system gosbi yn helaeth pe bai gennym garchar i fenywod yma yng Nghymru, a byddai'n rhaid ei lenwi â menywod o Loegr mewn ffordd a fyddai'n sicr yn golygu na fyddai unrhyw obaith iddynt hwy gael cysylltiad agos â'u teuluoedd. Yr hyn y galwodd David Ramsbotham amdano mewn gwirionedd oedd canolfannau i fenywod, sydd wedi'u crybwyll yma gan nifer o gyfranwyr heddiw. Ni chawsom ganolfan i fenywod o'r math arbennig hwn yng Nghymru erioed, ond gwelwyd nifer ohonynt yn Lloegr. Maent wedi cael eu gwerthuso, ymddengys eu bod yn gweithio, a byddai datblygu polisi yn seiliedig ar dystiolaeth yn golygu y byddem yn datblygu'r canolfannau menywod hyn yng Nghymru. Hoffwn weld cyfle i hynny ddigwydd.

Mae'n werth ailddatgan, mewn gwirionedd, mai 5 y cant yn unig o holl boblogaeth y carchardai sy'n fenywod, ac nid yw'r mwyafrif helaeth ond yn bwrw dedfryd fer iawn. Mae mater carcharorion benywaidd yn bolisi sydd o fewn gafael. Nid yw'r niferoedd mor fawr fel eich bod yn cael trafferth i newid. Mae'n bosibl newid y polisi ar gyfer carcharorion benywaidd, ac mae llawer o'r materion sy'n berthnasol i garcharorion benywaidd hefyd yn berthnasol i garcharorion gwrywaidd. Pe gallem sicrhau newid gyda charchardai i fenywod, rwy'n credu y byddai hynny'n ein harwain i wneud yr un peth gyda charchardai i ddynion, oherwydd hoffwn ailadrodd y ffaith am broblemau iechyd meddwl, oherwydd rwy'n credu ei fod mor bwysig. Gwyddom fod gan y mwyafrif helaeth o garcharorion broblemau iechyd meddwl sy'n rhaid rhoi sylw iddynt.

Rwy'n meddwl bod yn rhaid inni ddychwelyd at yr effaith ar blant. Dywedodd Jenny Rathbone wrthym am y miloedd o blant—gwn fod Ymddiriedolaeth Diwygio'r Carchardai wedi cyflwyno ffigur o filoedd o blant yr effeithir arnynt gan ddedfrydau o garchar—ac mae 95 y cant ohonynt yn gorfod gadael eu cartrefi os yw carchariad eu mam yn eu gadael heb oedolyn i ofalu amdanynt. Felly, ceir amharu enfawr ar fywyd y teulu. Nid wyf yn credu y gallwn ailadrodd hynny ddigon.

Yn fy marn i, mae'r dystiolaeth ynghylch canolfannau menywod yn glir ac yn rymus. Maent yn bwysig ar gyfer cynnal cysylltiadau teuluol, gwyddom fod y gyfradd aildroseddu'n is, ac yn wir, maent yn costio llai na'r opsiwn drud iawn o adeiladu carchardai. Felly, rwy'n gobeithio y bydd cyfiawnder troseddol yn cael ei ddatganoli i Gymru. Argymhellwyd hynny yn adroddiad Silk, ac nid ydym wedi gweld llawer o arwydd o hynny'n digwydd ers hynny, ond mae'n rhywbeth y gallem fynd i'r afael ag ef ac yn rhywbeth lle y gallem sicrhau newid go iawn.

Soniodd Jenny am y prosiect Ymweld â Mam, a hoffwn orffen yn fyr drwy ddweud fy mod wedi cymryd rhan yn un o'r ymweliadau i Eastwood Park. Euthum gyda gwirfoddolwyr Ymweld â Mam sy'n mynd â'r plant i Eastwood Park, ac ni allaf ddweud wrthych pa mor dorcalonnus oedd gweld y plant hynny'n cael eu haduno gyda'u mamau mewn ystafell nad oedd fel carchar, lle roedd ganddynt deganau, lle roedd ganddynt fwyd, lle y gwnaed pob ymdrech gan y prosiect i sicrhau bod yna ddwy awr pan allent gael perthynas normal gyda'u mam. Ond wrth weld hynny, roeddwn yn meddwl na all dim gyfiawnhau hyn mewn gwirionedd. Pan welech y rhesymau pam roedd y menywod hynny yn y carchar, ni ellir cyfiawnhau eu bod yno o gwbl.

16:50

Cytunaf â nifer o'r siaradwyr heddiw mai hanes o bolisïau anflaengar ac anghynhyrchiol sydd i gyfiawnder troseddol yng Nghymru a Lloegr. Byddem yn gwneud lawer yn well, rwy'n siŵr, pe bai cyfrifoldeb dros gyfiawnder troseddol yma yng Nghymru wedi'i ddatganoli. Fel y mae llawer wedi dweud, gennym ni yng Nghymru a Lloegr y mae'r gyfradd garcharu uchaf yng ngorllewin Ewrop—dyna ystadegau trosedd blynyddol Cyngor Ewrop. Mae'r ganran o'r boblogaeth—fesul 100,000 o'r boblogaeth—a garcharir yng Nghymru a Lloegr yn 148.3 o'i gymharu â 77.4 yn yr Almaen, 86.4 yn yr Eidal a 98.3 yn Ffrainc. Felly, os nad yw hynny'n fater o bolisïau cyfiawnder troseddol gwahanol yn y gwledydd hynny, yna buaswn yn dweud wrth David Rowlands: beth sydd? A ydych yn dweud bod pobl—[Torri ar draws.] Mewn eiliad. Tybed a ydych yn dweud bod pobl yng Nghymru a Lloegr yn meddwl yn llawer mwy troseddol, a throseddol eu hymddygiad a'u natur na phoblogaeth y gwledydd eraill hyn?

Diolch i chi am gytuno i ymyriad, John. Mewn gwirionedd, yr hyn rwy'n ei ddweud yw ei fod yn ymwneud â'r holl garcharorion sy'n dychwelyd—. Ac rwy'n llwyr gytuno â phawb o'r rheini yn y Siambr hon. Soniodd Jenny Rathbone am yr Iseldiroedd a'r ffordd y maent yn trin eu carcharorion. Y ffordd rydym yn trin ein carcharorion sy'n golygu eu bod yn dychwelyd i'r carchar pan na ddylent fod yn gwneud hynny. Rwy'n cytuno'n llwyr â phawb yma fod yn rhaid inni wneud rhywbeth sylfaenol a radical am y ffordd rydym yn trin ein carcharorion pan gânt eu hanfon i'r carchar. Rwy'n cytuno'n llwyr â hynny.

Os yw'r carchardai'n orlawn iawn, fel y maent, a bod llawer o bobl yno na ddylent fod yno yn y lle cyntaf, rwy'n credu ei fod yn gwneud adsefydlu yn llawer mwy anodd. Ceir llawer gwell ffyrdd o ymdrin â'r bobl anffodus hyn mewn llawer o ffyrdd, pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl, problemau camddefnyddio sylweddau—mae'n bosibl iawn eu bod yn anllythrennog neu'n anrhifog neu'n meddu ar sgiliau gwael iawn. Ceir llawer o ffyrdd gwell o ymdrin â hwy y tu allan i'r carchar na'u rhoi dan glo a'u carcharu. Ac wrth gwrs, mae'r effaith ar deuluoedd a charcharorion eu hunain o fynd i'r carchar yn amlwg yn ddifrifol, ond mae'r effaith ar gymunedau yn negyddol iawn oherwydd mae cyfraddau aildroseddu mewn gwirionedd yn llawer uwch oherwydd anawsterau gydag adsefydlu am na ddylai pobl fod yno yn y lle cyntaf. Mae'n creu mwy o ddioddefwyr troseddau nag a fyddai'n digwydd pe bai gennym ddedfrydu amgen yn y gymuned.

Mae llawer o adroddiadau, nifer o adroddiadau, wedi cyflwyno'r dadleuon hyn. Mae'r dystiolaeth yn pentyrru. Wyddoch chi, mae'r pellter rhwng carchardai a chymunedau cartref yn negyddol o ran aildroseddu ac adsefydlu. Mae'r ffaith bod menywod Cymru yn mynd i'r carchar yn Lloegr wedi cael effaith negyddol ar eu teuluoedd a'u plant. Mae arnom angen atebion cymunedol a chynlluniau dargyfeirio os ydym yn mynd i atal troseddau yn y dyfodol. Mae arnom angen unedau cymunedol llai. Rhaid inni ddiwallu'r anghenion cymhleth sydd gan garcharorion: llythrennedd, rhifedd, sgiliau, iechyd meddwl, camddefnyddio sylweddau. Nid yw hynny'n digwydd ar hyn o bryd ac ni ddylai pobl sydd â phroblemau o'r fath fod yn y carchar yn y lle cyntaf oni bai bod hynny'n gwbl angenrheidiol.

O ran bywyd ar ôl carchar, Ddirprwy Lywydd, rydym yn gwybod nad yw'r ddarpariaeth yr hyn y dylai fod o ran gofal iechyd, gofal cymdeithasol a thai yn wir, ac mae hynny wedyn yn bwydo aildroseddu pellach. Os ystyriwn ddigartrefedd, er enghraifft, mae cael gwared ar angen blaenoriaethol awtomatig o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014 a basiwyd gennym yma wedi gwneud digartrefedd a chysgu ar y stryd yn fwy o broblem i bobl sy'n gadael carchar. Mae gennym lwybr ar waith, ond yn anffodus nid yw'n cael ei weithredu ac nid yw'n gweithio cystal ag sydd angen. Felly, mewn gwirionedd rydym wedi symud tuag yn ôl ac mae angen inni symud ymlaen o ran digartrefedd a chysgu ar y stryd mewn perthynas â phobl sy'n gadael carchar.

Ddirprwy Lywydd, rwy'n credu bod yna gonsensws cryf yn y Siambr hon y gallem wneud yn well o lawer yng Nghymru a Lloegr o ran ein polisi cyfiawnder troseddol. Pe bai'r system cyfiawnder troseddol wedi ei datganoli, byddem yn gwneud yn well o lawer. Rydym wedi clywed llawer o dystiolaeth yma heddiw. Mae llawer o adroddiadau yn pwyntio i'r cyfeiriad yr hoffai'r Aelodau yma symud iddo os ydym yn mynd i leihau aildroseddu, lleihau'r nifer sy'n ddioddefwyr troseddau a bod llai o bobl yn cael eu carcharu gydag effeithiau ofnadwy arnynt hwy ac ar eu teuluoedd. Felly, rwy'n hyderus y bydd gennym system lawer mwy blaengar yma yng Nghymru, system lawer mwy cynhyrchiol, pe baem yn cael datganoli o'r fath, ac rwy'n credu'n gryf iawn fod angen inni symud tuag at hynny.

16:55

Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus? Alun Davies.

Member
Alun Davies 16:55:34
Cabinet Secretary for Local Government and Public Services

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Rwyf am ddechrau fy nghyfraniad i raddau helaeth lle y gorffennodd John Griffiths ei gyfraniad ef, drwy gytuno'n gryf iawn â'r pwyntiau a wnaeth John yn ei gyfraniad, ond hefyd, rwy'n meddwl, gyda'r consensws cryf iawn ar bob ochr i'r Siambr y prynhawn yma. Hoffwn ddweud, Ddirprwy Lywydd, y bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r cynnig y prynhawn yma. Rwy'n gobeithio y bydd hynny'n mynd rywfaint o'r ffordd tuag at ateb cais Bethan Sayed am bolisi clir yn y maes hwn, a hoffwn ddweud wrth yr Aelodau fy mod yn cydnabod bod galw clir iawn am bolisi pellach ar hyn a byddaf yn ceisio gwneud datganiad i'r Siambr ar y materion hyn maes o law.

Hoffwn ddweud hyn hefyd: rwy'n cytuno â'r pwyntiau a wnaed gan lawer o'r Aelodau—credaf fod Julie Morgan wedi gwneud y pwyntiau'n glir iawn—fod y setliad presennol yn setliad toredig; nid yw'n cynhyrchu polisi cyfannol; mae'n dangos setliad cyfansoddiadol nad yw'n gweithio. Mae'n bwysig cydnabod nad yw hyn yn gweithio i unrhyw un. Nid yw'n caniatáu i'r Swyddfa Gartref na'r Weinyddiaeth Gyfiawnder gyflawni eu polisau'n hawdd yng Nghymru, ac nid yw'n caniatáu inni ddatblygu polisi chwaith. Felly, nid setliad nad yw'n gweithio i ni ac i'r bobl rydym yn eu gwasanaethu'n unig yw hwn; nid yw'n gweithio i'r Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd. Ac am y rheswm hwnnw rwy'n gobeithio y bydd y setliad yn cael ei ailystyried. Nid wyf eisiau achub y blaen ar faterion y comisiwn cyfiawnder a fydd yn edrych ar lawer o'r materion hyn, ond hoffwn ddweud, fel y Gweinidog sy'n weithredol yn y maes hwn, nad oes gennym fframwaith polisi, y pwerau na'r gallu i ddarparu polisi cyfannol, ac yn anffodus nid yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn meddu ar y rheini chwaith, felly ceir methiant gwirioneddol yn y maes hwn.

Amlinellodd Aelodau ar bob ochr i'r Siambr yn dda iawn sut y mae llawer o'r gwasanaethau sydd eu hangen i reoli troseddwyr a chyn-droseddwyr er mwyn hyrwyddo adsefydlu eu hunain wedi'u datganoli, ond nad oes gennym y pwerau sydd eu hangen. Roeddwn yn meddwl bod pwynt David Melding am Ogledd Iwerddon a'r Alban yn bwynt diddorol tu hwnt ac mae'n sicr yn un yr hoffwn fynd ar ei drywydd yn y dyfodol.

Hoffwn ddweud hefyd fod y pwyntiau a wnaeth Jenny Rathbone yn ei haraith agoriadol, ac a ailadroddwyd hefyd gan David Rees, am gyflwr carchardai yng Nghymru, yn rhai da iawn. Ymwelais â Charchar ei Mawrhydi Abertawe ym mis Chwefror, a gwelais drosof fy hun yr amgylchiadau lle y cedwir gormod o ddynion Cymru. Hefyd rwyf wedi trafod ac wedi tynnu sylw at y pryderon yn adroddiad yr arolygiad gyda phrif arolygydd carchardai ei Mawrhydi pan gawsom gyfarfod y mis diwethaf, a rhaid imi ddweud ei fod yn gadarnhaol iawn yn ei ymateb i'r pwyntiau a wnawn a chydnabu'r anawsterau real iawn sy'n wynebu carcharorion mewn rhai rhannau o'r ystâd yng Nghymru. Nid yw'n iawn o gwbl fod gennym ddynion o Gymru yn cael eu cadw mewn amgylchiadau nad ydynt yn addas at y diben. Ni ddylai partneriaid a phlant carcharorion orfod ymweld â hwy mewn sefydliadau na all barchu urddas carcharorion a'u teuluoedd yn iawn.

Rwy'n bryderus nad oes gennym allu i gydgysylltu polisi yng Ngwasanaeth Carchardai a Phrofiannaeth ei Mawrhydi yng Nghymru, ac rwy'n bryderus nad oes gennym allu i ddarparu ymatebion polisi cydlynol ar gyfer pobl. Fodd bynnag, rydym wedi ceisio datblygu fframwaith i gefnogi newid cadarnhaol ar gyfer y rhai sydd mewn perygl o droseddu yng Nghymru gyda'r gwasanaeth profiannaeth. Diben y fframwaith yw gwella gwasanaethau ar gyfer rhai sydd mewn perygl o fynd i mewn neu sydd eisoes yn y system cyfiawnder troseddol. Bydd y fframwaith hefyd yn hyrwyddo cydweithredu parhaus er mwyn lleihau nifer y troseddwyr sy'n mynd i mewn i'r system cyfiawnder troseddol, cynorthwyo troseddwyr i beidio ag aildroseddu a chadw cymunedau'n ddiogel.

Cyfeiriodd nifer o'r Aelodau at adroddiad Corston ac at droseddu ymhlith menywod. Mae adroddiad Corston, a gyhoeddwyd dros ddegawd yn ôl, yn dadlau bod canlyniadau cyfartal i droseddwyr benywaidd yn golygu bod angen dull gwahanol i'r hyn sy'n bodoli ar gyfer eu cymheiriaid gwrywaidd. Cytunaf yn fawr iawn â'r pwyntiau a wnaed, gan Jenny Rathbone a Julie Morgan yn arbennig, o ran sicrhau nad ydym yn mynd ar hyd y ffordd o ddweud yn syml, 'Rydym eisiau carchar i fenywod yng Nghymru', ond mewn gwirionedd, mai'r hyn sydd ei angen arnom yw math gwahanol o gyfleuster sy'n cyflawni rôl wahanol mewn ffordd wahanol, ac mae hwnnw'n bolisi gwahanol iawn, ac rwy'n cydnabod y pwyntiau a wnaed. Ac rwy'n credu bod y pwyntiau a wnaed ynghylch carcharu menywod, gyda llawer o fenywod yn cael dedfrydau diannod am droseddau na fyddent, mewn llawer o achosion, yn arwain at garchar yn achos dynion yn rhai da iawn. Gall dedfrydau byrdymor o'r fath arwain at effeithiau hirdymor, ac arwain mewn llawer o achosion at fenyw'n colli ei thenantiaeth a gallai hynny arwain at osod plant mewn gofal preswyl. Mae hyn yn arwain at gymorth ychwanegol ar gyfer gwasanaethau datganoledig, gan beri risg o ddod yn agored i brofiadau niweidiol pellach yn ystod plentyndod i blant troseddwyr.

Rwy'n deall y bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cyhoeddi newidiadau i'r ffordd y rheolir troseddwyr benywaidd gan gynnwys, o bosibl, sefydliadau diogel gwahanol ar gyfer menywod. Nodwyd yn flaenorol fod angen newidiadau yn y gwasanaeth prawf ehangach. Rwy'n gobeithio y gallwn sicrhau yng Nghymru ein bod yn gallu mabwysiadu'r dull o weithredu a amlinellwyd gan Aelodau ar bob ochr i'r Siambr y prynhawn yma.

Ddirprwy Lywydd, rwyf wedi cael trafodaethau gyda'r Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros Gyfiawnder mewn perthynas â throseddwyr benywaidd a chyfiawnder ieuenctid, ac rydym wedi cytuno y dylai ein swyddogion weithio gyda'i gilydd i archwilio gwaith o'r fath er mwyn datblygu cynigion ar sut y byddai system gyfiawnder wahanol yn gweithredu yng Nghymru. Credaf fod angen inni ddechrau ateb y cwestiwn a gyflwynwyd i ni gan David Rees ynglŷn â sut beth fyddai polisi cosbi Cymreig yn ei hanfod. Gwnaeth bwynt da iawn i'r Prif Weinidog ddoe, ac roeddwn yn teimlo bod y Prif Weinidog wedi nodi yn ei ymateb ddoe ei fod eisiau edrych ar sut y byddem yn dechrau datblygu polisi cosbi ar gyfer Cymru.

I mi, Ddirprwy Lywydd, hoffwn weld system yn seiliedig ar ymyrraeth gynnar ac atal, gan ystyried sut y gallwn annog pobl i droi cefn ar droseddu yn y lle cyntaf, ond lle bydd yn rhaid inni weithio gyda throseddwyr, ein bod yn gwneud hynny mewn modd cyfannol sy'n canolbwyntio ar adsefydlu. Cytunaf yn llwyr â'r pwyntiau a wnaeth David Rees ar sefydliadau llai, ac yn sicr, rwy'n credu, os ydym yn mynd i edrych ar bolisi cosbi ar gyfer Cymru, y dylid canolbwyntio ar adsefydlu, ar sgiliau, ar hyfforddiant, ar alluogi pobl i chwarae rhan lawn yn ein cymunedau ac yn ein cymdeithas. Rydym yn deall yr angen, fel y dywedodd David Melding yn glir iawn, am elfen gosbol i garcharu; rydym yn cydnabod hynny. Fodd bynnag, y diben felly yw peidio â mynd ar drywydd hynny, ond rhoi cyfle i bobl, wedyn, i chwarae rhan lawn yn ein cymdeithas, a dyna pam rwy'n cynnig ein bod yn galluogi carcharorion sy'n bwrw dedfrydau byrdymor i bleidleisio yn ein hetholiadau. Byddant yn gallu parhau i chwarae rhan yn llunio'r polisi hwnnw—y cymunedau hynny.

Rydym wedi gwneud ein safbwynt fel Llywodraeth ar y mater hwn yn glir yn ein Bil Llywodraeth a Chyfreithiau yng Nghymru drafft, ac nid yw ein safbwynt wedi newid. Roedd y Bil hwn yn darparu ar gyfer creu awdurdodaeth gyfreithiol neilltuol i Gymru ar unwaith, gyda Chymru a Lloegr yn rhannu gwasanaethau'r farnwriaeth a'r llysoedd a datganoli cyfraith sifil a chyfraith droseddol, a gweinyddu cyfiawnder o 2026 ymlaen. Methodd Bil Llywodraeth y DU, a ddaeth yn Ddeddf Cymru, ymateb i'n Bil ni ac ni aeth i'r afael â materion hanfodol awdurdodaeth a chyfiawnder, y credaf fod pawb ohonom o'r farn eu bod yn galw am sylw ar frys. Sefydlodd y Prif Weinidog gomisiwn cyfiawnder, a gadeirir gan yr Arglwydd Thomas o Cwmgiedd, i gynnal adolygiad sylfaenol o'r system gyfiawnder yng Nghymru a sut i'w chryfhau yn y tymor hir.

Buaswn yn gwrthwynebu carcharu unrhyw un yn ddiangen. Yn yr un modd, fodd bynnag, mae angen inni warchod ein cymunedau rhag niwed, ac yn amlwg, mae gan garchardai rôl glir i'w chwarae yn hynny. Ni allaf achub y blaen ar gasgliadau'r pwyllgor cyfiawnder, ond mae angen inni sicrhau ein bod yn dechrau ar y gwaith o ddatblygu polisi cyfiawnder.

A gaf fi ddweud, wrth gloi, Ddirprwy Lywydd, fod polisi cyfiawnder, i mi, yn rhan o'n hymagwedd gyffredinol at gymunedau mwy diogel a chydlynol? Mae polisi cyfiawnder sy'n gyfannol, sy'n ceisio dod â phobl at ei gilydd ac sy'n gwneud mwy na charcharu pobl yn unig—mae'n bolisi cyfiawnder sy'n seiliedig ar beth o'n gwaith ar gymunedau mwy diogel, ac mae angen inni gael trafodaeth onest ac agored gydag adrannau'r DU ynglŷn â beth y byddai dull gwahanol yng Nghymru yn ei olygu. Rydym wedi dechrau'r sgyrsiau hynny gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder, ac edrychaf ymlaen at gwblhau'r sgyrsiau a datblygu polisi cosbi Cymreig sy'n gosod dyfodol a chydlyniant ein cymunedau wrth ei wraidd.

17:00

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. 

A gaf fi gymeradwyo pawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl Aelodau hon ar gyfiawnder troseddol? Cafwyd rhai cyfraniadau grymus iawn, ac yn amlwg, ymdriniwyd ag amrywiaeth eang o faterion, felly mae hi braidd yn anodd ceisio crynhoi popeth yn yr amser sydd gennyf ar ôl. Ond a gaf fi gymeradwyo Jenny Rathbone am agor yn rymus iawn, a gosod y cefndir yn dda iawn, a hefyd David Melding yn yr un modd? Pwysleisiodd Bethan Sayed y 2,300 o lefydd dros ben a fyddai gennym yn sgil adeiladu'r carchar mawr ym Maglan a hefyd ei phrofiad ei hun o'r gofynion ar gyfer cyfiawnder adferol fel ffordd, hefyd, o wneud i droseddwyr wynebu'r effeithiau a gânt ar bobl.

A gaf fi hefyd ganmol David Rees am ei gyfraniad, yn ogystal â David Rowlands mewn ffordd wahanol, ond gan gytuno, rwy'n credu, yn y diwedd ynghylch y ffaith bod angen inni fynd i'r afael ag aildroseddu? Julie Morgan—cyfraniad pwerus iawn ar ganolfannau menywod; roedd hwnnw'n bwynt dilys iawn hefyd. Nododd Jenny y pwynt hwnnw a John Griffiths yn ogystal. Hoffwn ganmol Ysgrifennydd y Cabinet, nid yn unig am gefnogi'r cynnig, ond hefyd am bwysleisio'r angen am bolisïau cyfannol? Ac a gaf fi ddymuno'n dda iddo ar y gwaith o ddatblygu polisi cosbi Cymreig? Edrychwn ymlaen at weld hwnnw'n dwyn ffrwyth.

Ers talwm, dros 35 mlynedd yn ôl erbyn hyn, roeddwn yn feddyg seiciatrig ym Mhen-y-bont ar Ogwr—uwch swyddog tŷ seiciatrig am chwe mis—ac roedd gan Ben-y-bont ar Ogwr dri ysbyty seiciatrig ar y pryd: Glanrhyd, lle roeddwn i wedi fy lleoli, ysbyty Pen-y-fai ac ysbyty Parc. Maent oll wedi cau bellach, am resymau da iawn, a safle ysbyty Parc yw safle carchar preifat y Parc yn awr, ond mae'n dal i gadw llawer o bobl gyda phroblemau iechyd meddwl mawr, fel hen ysbyty Parc ar yr un safle. Weithiau rydym yn meddwl, 'Nid ydym wedi symud ymlaen llawer, mewn gwirionedd', gan mai mynd i'r afael ag aildroseddu yw'r her fawr i adsefydlu troseddwyr yn iawn er mwyn osgoi'r drws troi hwnnw o aildroseddu, fel y dywedodd Jenny ac eraill.

Mae'n wir, fel y dywedodd David Melding, fod angen carcharu pobl ddrwg, ond i lawer yn y carchar, mae ymdrin â'r achosion sylfaenol a galluogi adfer ac ailadeiladu bywyd a pherthynas ag eraill yn ganolog. Mynd i'r afael â materion iechyd meddwl yw un o'r pethau pwysicaf—soniodd nifer o bobl am hynny, ac mewn gwirionedd, rhaid inni fynd i'r afael â hynny—o fy hen wasanaeth seiciatrig ers talwm.

Yn yr un modd, mae iechyd corfforol, tai, gwasanaethau cymdeithasol, addysg, hyfforddiant a chyflogaeth, gwasanaethau cyffuriau ac alcohol—mae pob un o'r rhain yn wasanaethau cyhoeddus datganoledig. Mae angen eu cydlynu ac mae angen inni sicrhau bod troseddwyr yn cael mynediad parod atynt. Ond rydym yn dioddef o ddiffyg cydlynu ar hyn o bryd oherwydd, fel rydym wedi clywed, mae carchardai, plismona, y llysoedd a'r gwasanaeth prawf yn parhau i fod heb eu datganoli. Felly, ceir diffyg cysylltiad sylfaenol, a thrwy hynny ceir her enfawr i fynd i'r afael â drws troi aildroseddu, ac mae angen datganoli plismona a chyfiawnder troseddol i'r Cynulliad Cenedlaethol hwn yng Nghymru—a hynny yn awr—am bob un o'r rhesymau hyn, a hefyd gallwn osgoi cyhoeddiadau annisgwyl am garchar mawr ym Maglan. Yma yn y Cynulliad, ni fu modd inni ymateb nes ar ôl i'r cyhoeddiad gael ei wneud. Nid oes angen y warws enfawr hon o garcharorion, a bydd yn pentyrru pwysau aruthrol ar ein gwasanaethau cyhoeddus datganoledig sydd eisoes dan straen: iechyd meddwl, tai, cyffuriau ac alcohol ac yn y blaen. Ychydig o gymorth ychwanegol a gaiff byrddau iechyd sydd â charchar ynddynt eisoes tuag at y pwysau ychwanegol ar wasanaethau tai, iechyd ac addysg lleol. Dyna pam yr ystyrir y posibilrwydd o carchar mawr ar orlifdir, ar dir Llywodraeth Cymru a ddynodwyd ar gyfer busnes a chyflogaeth, gyda'r fath ofid.

Felly, edrychaf ymlaen at weld Ysgrifennydd y Cabinet yn cyflwyno ac yn bwrw ati gyda'r weledigaeth falch honno o system gosbi Gymreig annibynnol. Dyna sy'n ofynnol ar gyfer holl bobl y wlad hon. Mwy o bŵer i Ysgrifennydd y Cabinet. Diolch yn fawr.

17:05

Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriwn y pleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

7. Dadl ynghylch y ddeiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i wahardd yr arfer o ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yng Nghymru

Eitem 7 ar yr agenda y prynhawn yma yw'r ddadl ar y ddeiseb 'Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wahardd yr arfer o ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yng Nghymru', a galwaf ar David Rowlands i wneud y cynnig.

Cynnig NDM6677 David J. Rowlands

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi’r ddeiseb ‘P-05-796 Galw ar Lywodraeth Cymru i wahardd yr arfer o ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yng Nghymru’ a gasglodd 6,398 o lofnodion.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd. Rwy'n falch o agor y ddadl hon ar y ddeiseb 'Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wahardd yr arfer o ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yng Nghymru'. Hoffwn ddechrau drwy dalu teyrnged i'r deisebydd, Linda Joyce Jones, ac mae ei brwdfrydedd a'i hymroddiad i'r mater hwn ac i les anifeiliaid yn gyffredinol wedi bod yn glir i'r pwyllgor ei weld. Tystiodd aelodau'r Pwyllgor Deisebau a nifer o Aelodau eraill yn wir i'r ymroddiad hwn yn uniongyrchol pan ddaeth Linda a'i chefnogwyr i'r Senedd i gyflwyno eu deiseb yn ystod mis Ionawr.

Hoffwn ddiolch yn ffurfiol i Linda am gyflwyno'r ddeiseb ac am annog y Cynulliad i ystyried y mater pwysig hwn. Casglwyd cyfanswm o 6,398 o lofnodion ar y ddeiseb. Casglwyd y ddeiseb ar-lein ac ar bapur ac ar draws Cymru a thu hwnt. Yn amlwg, mae hwn yn fater sy'n peri pryder i lawer o bobl yng Nghymru sy'n gwrthwynebu i anifeiliaid gwyllt gael eu defnyddio at ddibenion adloniant yn y modd hwn. Wrth gwrs, mae'r arfer o ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau wedi cael cryn sylw ymhlith y cyhoedd dros nifer o flynyddoedd. Yn wir, bu'r Pwyllgor Deisebau yn y pedwerydd Cynulliad yn ystyried deiseb ar y mater hwn gan RSPCA Cymru, a gwn fod rhai Aelodau yma heddiw wedi cymryd rhan yn y gwaith bryd hynny.

Mewn ymateb i'r ddeiseb honno, cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd ar y pryd, Rebecca Evans, adolygiad annibynnol o'r dystiolaeth ar les anifeiliaid mewn syrcasau sy'n teithio a syrcasau nad ydynt yn teithio. Cyhoeddwyd yr adroddiad dilynol ym mis Ionawr 2016 a daeth i'r casgliad bod y dystiolaeth wyddonol yn dangos nad yw gofynion lles gorau anifeiliaid gwyllt sy'n gaeth mewn syrcasau sy'n teithio, a nodir o dan Ddeddf Lles Anifeiliaid 2009, yn cael eu diwallu. Dywedai hefyd nad yw bywyd i anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau sy'n teithio a sŵau symudol yn fywyd da neu'n fywyd gwerth ei fyw. Mae'r canfyddiadau hyn yn rhoi darlun cryf i ni ac mae'n iawn y dylent arwain at ystyriaeth ddifrifol ynglŷn ag a ddylai syrcasau sy'n teithio barhau i ddefnyddio anifeiliaid gwyllt yn y dyfodol.

Fodd bynnag, yn dilyn y gwaith hwn, dewisodd Llywodraeth Cymru beidio â symud ymlaen i wahardd syrcasau rhag defnyddio anifeiliaid gwyllt. Yn hytrach, ar ddiwedd 2016, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bwriad i ddatblygu system drwyddedu ar gyfer yr holl arddangosfeydd symudol o anifeiliaid, fel y'u gelwir, gan gynnwys syrcasau sy'n cynnwys anifeiliaid gwyllt, yn ogystal ag amrywiaeth o weithgareddau megis anifeiliaid yn ymweld ag ysgolion a gorymdeithiau ceirw yn y gaeaf.

Yna, y llynedd, cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad cyhoeddus ar y posibilrwydd o gyflwyno system drwyddedu o'r fath. Hefyd, roedd yr ymgynghoriad yn holi am farn ynglŷn ag a ddylid gwahardd yr arfer o ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau. Yn dilyn yr ymgynghoriad, ni wnaeth Llywodraeth Cymru ymrwymo i waharddiad er bod ei hadroddiad yn cydnabod bod y rhan fwyaf o'r ymatebwyr yn credu y dylid gwahardd y defnydd o anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau ac na ellir gofalu am anifeiliaid gwyllt yn briodol tra'u bod mewn amgylchedd teithiol.

Mae'r deisebydd wedi esbonio bod y ddeiseb bresennol wedi deillio o ymateb i'r penderfyniad i beidio â chael gwaharddiad. Yn ei thystiolaeth ysgrifenedig i'r pwyllgor, amlinellodd y deisebydd y sefyllfa gyda syrcasau sy'n ymweld â Chymru. Enwodd dri chwmni sydd wedi ymweld â Chymru yn y blynyddoedd diwethaf, a rhannodd ei phryderon ynghylch gallu awdurdodau lleol ac eraill i archwilio'r amgylchiadau y caiff anifeiliaid eu cadw ynddynt pan fydd syrcasau'n dod i'w hardaloedd. Nododd hefyd fod system drwyddedu ar gyfer syrcasau sy'n defnyddio anifeiliaid gwyllt wedi bod yn weithredol yn Lloegr ers 2012. Mae hi'n credu bod dogfennau trwyddedu yn dangos bod y model hwn yn gwneud cam ag anifeiliaid, a bod cwmnïau wedi torri amodau eu trwyddedau ar nifer o achlysuron, ac wedi dioddef ataliadau dros dro o ganlyniad.

Mynegodd y deisebydd bryderon pellach ac mae'r rhain yn aml yn cynnwys yr amgylchiadau y cedwir anifeiliaid ynddynt, yn enwedig wrth deithio, ac argaeledd milfeddygon sydd â phrofiad o ofalu am anifeiliaid egsotig, megis camelod, llewod a theigrod—yn ddealladwy, mae hon yn arbenigedd go anarferol yng Nghymru. Ei chasgliad yw bod yr adroddiad annibynnol yn 2016 a chanlyniad ymgynghoriad cyhoeddus y llynedd yn rhoi tystiolaeth wyddonol a chefnogaeth gyhoeddus i Lywodraeth Cymru gyflwyno gwaharddiad. Dywedodd wrthym hefyd fod gwaharddiad ar yr arfer hwn bellach naill ai ar waith neu wedi'i gynllunio mewn oddeutu 35 o wledydd eraill, gan gynnwys yr Alban a Gweriniaeth Iwerddon. Yn fwyaf diweddar, roedd Llywodraeth y DU hefyd yn ymddangos fel pe bai'n rhoi mwy o ystyriaeth i roi terfyn ar yr arfer hwn.

Mewn ymateb i lythyr gwreiddiol gan y Pwyllgor Deisebau, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig nad oedd hi

wedi diystyru'r posibilrwydd o weithio gyda Llywodraeth y DU i gyflwyno gwaharddiad ar y cyd ar y defnydd o anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau.

Fel y bydd yr Aelodau'n gwybod, yn dilyn hynny, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad ysgrifenedig ar 14 Chwefror, a gyhoeddodd fod Llywodraeth Cymru bellach yn ystyried cyfleoedd i gyflwyno deddfwriaeth i wahardd yr arfer o ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau. Mae'n ymddangos bod yr argymhellion hyn ar gam cynnar a hyd yma, ychydig o wybodaeth sydd ar gael am gwmpas y gwaith ac amserlenni ar gyfer y dyfodol. Mae'r pwyllgor yn gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gallu darparu rhagor o fanylion am ei syniadau a'i bwriadau yn ystod ei hateb i'r ddadl hon y prynhawn yma.

Hoffwn nodi yma fod yr RSPCA yn argymell defnyddio'r pwerau o dan adran 12 o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006 fel dull o weithredu gwaharddiad. Fe'u defnyddiwyd llwyddiannus yn 2010 i wahardd coleri sioc drydanol, a defnyddiwyd dull tebyg gan Lywodraeth Iwerddon i sicrhau gwaharddiad ar syrcasau yng Ngweriniaeth Iwerddon. Mae mantais ychwanegol i'r ddeddf hefyd o'i bod yn arbed ar gost dyrannu amser gwerthfawr y Llywodraeth i gyflwyno deddfwriaeth newydd.

Serch hynny, rwy'n deall bod y cyhoeddiad wedi'i groesawu gan Linda Jones a'r rhai a lofnododd ei deiseb. Er nad dyma ddiwedd y stori, ac rwy'n siŵr y bydd safbwyntiau pellach yn parhau i gael eu gwyntyllu, credaf ei bod yn iawn inni gydnabod y camau sylweddol a gyflawnwyd eisoes gan Linda ac aelodau eraill yr ymgyrch. Credaf hefyd fod hon yn enghraifft o bŵer posibl deisebau, a chryfder y prosesau sy'n bodoli yn y Cynulliad hwn i aelodau o'r cyhoedd allu dwyn materion i sylw'r Cynulliad a Gweinidogion. Rwy'n siŵr y bydd y ddadl hon o ddiddordeb mawr i'r bobl sydd wedi rhoi amser i gyflwyno deiseb ar y mater hwn ac edrychaf ymlaen at wrando ar gyfraniadau'r Aelodau y prynhawn yma. Diolch, Ddirprwy Lywydd.

17:15

Diolch. Mae gennyf nifer sylweddol o Aelodau ac felly, rwyf am osod terfynau amser pendant. Felly, pan fydd y cloc yn troi'n goch, peidiwch â gwenu arnaf, oherwydd byddaf yn galw ar y siaradwr nesaf. [Chwerthin.] Paul Davies.

Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o ychwanegu fy enw at yr Aelodau sydd, ers peth amser, wedi bod yn galw am wahardd y defnydd o anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yng Nghymru. Credaf fod y rhan fwyaf o bobl ledled Cymru yn credu bod yr arfer yn hen ffasiwn, yn ddiangen ac yn rhoi lles anifeiliaid sy'n teithio fel rhan o syrcas mewn perygl ac felly, nid wyf yn synnu at lefel y diddordeb cyhoeddus yn y mater penodol hwn. Fel rydym wedi clywed, casglodd y ddeiseb sydd ger ein bron dros 6,000 o lofnodion, a chredaf fod hynny'n rhoi syniad i ni o gryfder y teimlad ar y mater hwn.

Fodd bynnag, gadewch inni gofio nad yw hon yn ymgyrch newydd. Yn wir, mae'n un sydd, yn anffodus, wedi cymryd llawer gormod o amser i gyrraedd y pwynt critigol hwn, ac er fy mod yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau gwaharddiad ar y defnydd o anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau o'r diwedd, mae'n siomedig gweld na ddewisodd Cymru fynd i'r afael â'r mater cyn hyn. Yn wir, ymddengys i mi fod holl fater yr arfer o ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau wedi ei ddadflaenoriaethu a'i ystyried fel mater eilaidd, fel rhan o adolygiad ehangach i edrych ar ffyrdd o gofrestru a thrwyddedu arddangosfeydd symudol o anifeiliaid yn fwy eang. Gadewch inni gofio bod ymgynghoriad diweddar Llywodraeth Cymru ar arddangosfeydd symudol o anifeiliaid, y cyfeiriwyd ato'n gynharach, yn gofyn un cwestiwn yn unig ar y defnydd o anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau, ac eto gwyddom o'r crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad hwnnw fod bron 900 o ymatebion wedi dod i law ar y cwestiwn hwnnw'n unig, sy'n dangos cryfder y teimladau ar y mater hwn. Felly—

Felly, byddai wedi bod yn gwbl briodol i Lywodraeth Cymru ystyried y mater hwn ar ei ben ei hun, fel y cafodd ei ystyried yn wreiddiol gan gyn Weinidog yr amgylchedd, ffermio a materion gwledig, yn hytrach na'i wneud yn rhan o ymgynghoriad ehangach ar arddangosfeydd symudol o anifeiliaid. Ac fe ildiaf i'r Aelod dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru.

Rwy'n ddiolchgar iawn iddo am ildio. Rwy'n cefnogi'r hyn y mae'n ei ddweud, wrth gwrs, ond a yw'n rhannu fy mhryder y caniatawyd i ymgynghoriad ar y cwestiwn ehangach gael ei ddominyddu mewn gwirionedd gan ymgynghorwyr allanol, os mynnwch, a ddaeth â'u hagenda eu hunain, yn hytrach na setlo'r cwestiwn hwn, sef yr un y mae gan y cyhoedd yng Nghymru ddiddordeb ynddo?

Yn sicr, dyna pam, yn amlwg, y dylid bod wedi edrych ar y mater penodol hwn yn annibynnol ar y materion eraill hynny.

Er fy mod eisiau gweld gwaharddiad ar y defnydd o anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau, ceir nifer o gwestiynau y mae angen eu gofyn o hyd yn sgil datganiad diweddar gan Lywodraeth Cymru yn cadarnhau gwaharddiad, ac felly, wrth ymateb i'r ddadl hon, efallai y gall Ysgrifennydd y Cabinet roi rhywfaint o eglurder ar rai manylion. Er enghraifft, a yw'r gwaharddiad hwn yn cael ei weithredu ar y sail fod yna bryderon ynghylch lles anifeiliaid sy'n teithio? Neu a yw'n cael ei weithredu ar y sail fod yr anifeiliaid hyn yn cael eu gorfodi i berfformio? Os mai'r bwriad yw gwahardd yr arfer o ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yn seiliedig ar les anifeiliaid sy'n teithio, a fydd Llywodraeth Cymru yn ceisio ymestyn y gwaharddiad hwn i gynnwys anifeiliaid eraill sy'n teithio, megis da byw sy'n mynd i sioeau a marchnadoedd? Fodd bynnag, os gweithredir gwaharddiad oherwydd bod yr anifeiliaid yn y syrcasau hyn yn cael eu gorfodi i berfformio, yna ceir cwestiwn ynglŷn â pha mor bell y gallai'r gwaharddiad hwn fynd. Fel y dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau, a yw hyn yn cynnwys arddangosiadau o adar neu orymdeithiau ceirw, er enghraifft? Mae angen eglurder ar y materion hyn i gadarnhau beth yn union yw'r sail resymegol dros y gwaharddiad, fel y gall y cyhoedd ddeall yn union beth yw bwriadau Llywodraeth Cymru.

Erbyn hyn, fel y dywedais yn flaenorol, rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru o'r diwedd wedi penderfynu ymrwymo i weithredu gwaharddiad, ac rwy'n mawr obeithio, wrth i'r agenda hon fynd rhagddi, y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn edrych ar ddeddfwriaeth sy'n bodoli eisoes ar draws y DU, megis Deddf Anifeiliaid Gwyllt mewn Syrcasau Teithiol (yr Alban) 2018, sy'n gwahardd perfformiadau, arddangosiadau ac arddangosfeydd o anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol, i sicrhau bod unrhyw ddeddfwriaeth a gaiff ei chyflwyno mor gadarn â phosibl. Felly, buaswn yn ddiolchgar hefyd pe bai Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud wrthym beth y mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi ei wneud ar ddadansoddi'r camau a gymerwyd gan wledydd eraill mewn perthynas â'r mater hwn, ac efallai y gall ymrwymo i gyhoeddi datganiad ar y gwaith sydd wedi'i wneud hyd yn hyn, fel y gallwn ddilyn cyfeiriad teithio Llywodraeth Cymru.

Wrth gwrs, efallai fod rhywfaint o le i Lywodraeth Cymru weithio gyda Llywodraeth y DU er mwyn cyflwyno gwaharddiad ar y cyd, ac rwy'n deall, yn y gorffennol, fod swyddogion Llywodraeth Cymru wedi cyfarfod â'u cymheiriaid yn DEFRA i drafod yr union fater hwn. Efallai y gallai Ysgrifennydd y Cabinet, yn ei hymateb heddiw, gadarnhau felly a yw Llywodraeth Cymru'n dal i ystyried y posibilrwydd o waharddiad ar y cyd â Llywodraeth y DU? Ac a all hi ddweud wrthym hefyd pa drafodaethau sydd wedi'u cynnal yn ddiweddar rhyngddi hi a'i swyddogion ar y mater penodol hwn?

Yn olaf, rwyf hefyd yn awyddus i glywed pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i orfodi'r gwaharddiad yma yng Nghymru, gan na fydd y gwaharddiad yn llwyddiannus os na chaiff ei orfodi. O ganlyniad i gyflwyno'r gwaharddiad, a fydd Llywodraeth Cymru yn datganoli pwerau gorfodi i lawr i awdurdodau lleol, fel y gallant hwy gyflawni arolygiadau neu archwiliadau ar hap ar unrhyw syrcasau sy'n teithio? Os felly, a yw Llywodraeth Cymru yn hyderus fod gan awdurdodau lleol yng Nghymru adnoddau i gyflawni'r swyddogaethau ychwanegol hyn? Dyma'r math o gwestiynau y mae angen eu gofyn, ac felly rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn awr yn darparu mwy o wybodaeth ac eglurder ynglŷn â sut y byddant yn gweithredu gwaharddiad, a beth fydd hynny'n ei olygu yn ymarferol, wrth symud ymlaen.

I gloi, Ddirprwy Lywydd, fel y dywedais ar ddechrau fy nghyfraniad, rwy'n falch o weld Llywodraeth Cymru yn symud ymlaen ar yr agenda hon, oherwydd mae'n rhywbeth y mae pob ochr i'r Siambr wedi bod yn awyddus i'w weld ers sawl blwyddyn bellach, ac am fod y cyhoedd wedi ei gwneud yn glir iawn eu bod am weld gwaharddiad. Mae'n bwysig, felly, fod Llywodraeth Cymru yn cyflwyno gwybodaeth fwy manwl yn awr ynghylch y gwaharddiad hwn, fel y gall y cyhoedd fod yn hyderus fod Llywodraeth Cymru o ddifrif ynglŷn â mynd i'r afael â'r mater hwn, a'i bod yn gwneud hynny mewn ffordd sy'n effeithiol ac yn effeithlon. Diolch.

17:20

Mae hwn yn fater sy'n agos at fy nghalon. Rwyf wedi ceisio gwneud ymdrech yn fy amser yma yn y Cynulliad, ac yn enwedig dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf, i dynnu sylw at y materion hyn. Mae hyn yn rhannol oherwydd, yn yr un modd ag y mae'n agos at fy nghalon i, mae hefyd yn agos at galon y mwyafrif llethol o bobl yn y wlad hon. Mae sut rydym yn trin anifeiliaid yn adlewyrchiad o'r hyn ydym fel cymdeithas ac fel gwlad, ac er bod llawer o bobl weithiau'n honni bod yna bethau eraill pwysicach y dylai Llywodraeth ganolbwyntio arnynt, credaf ei bod yn bwysig inni ganolbwyntio ar anifeiliaid sy'n agored i niwed, a sut rydym yn dangos ein bod yn cefnogi camau i'w diogelu.

Ond rydym yn canolbwyntio mwy ar y mater hwn oherwydd gwaith ymgyrchwyr a'r cyhoedd, a dylai'r ddeiseb gael ei llongyfarch fel enghraifft arall o bobl Cymru'n dangos eu hymroddiad a'u penderfyniad i geisio darparu atebion a mewnbwn i rai o'r cwestiynau hyn a rhoi pwysau arnom ni yma hefyd. Hoffwn ddiolch i fy nghyd-Aelod Siân Gwenllian hefyd, a fu'n gweithio'n ddiwyd gyda rhai o'r deisebwyr yma heddiw, a Linda yn benodol, sydd wedi bod yn anfon negeseuon e-bost atom yn rheolaidd er mwyn tynnu sylw at hyn fel mater o bwys yn y Cynulliad.

Mae mater syrcasau yn un nad yw mor gymhleth â hynny yn fy marn i. Fel y mae'r ddeiseb yn ei nodi, mae 74 y cant o'r cyhoedd wedi dangos drwy arolygon barn eu bod yn erbyn cadw anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau. Maent yn cydnabod yn briodol fod syrcasau sy'n cynnwys anifeiliaid gwyllt yn hen ffasiwn ac yn niweidiol. Mae 25 o wledydd eisoes wedi gwahardd y defnydd o anifeiliaid byw mewn syrcasau, ac eisoes rydym wedi clywed am waharddiadau yn yr Alban ac mewn mannau eraill yn Ewrop. Yr hyn sy'n peri pryder i mi, fodd bynnag, yw natur araf y cynnydd ar y mater hwn yng Nghymru. Nid wyf eisiau mynd drwy'r amserlenni a amlinellwyd eisoes gan Gadeirydd y Pwyllgor, ond deallaf yn awr mai ymateb ffurfiol Llywodraeth Cymru o hyd yw—ac rwy'n dyfynnu:

'Rwy'n chwilio am gyfleoedd i gyflwyno deddfwriaeth i wahardd defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yng Nghymru.'

Os yw'n dal ati i chwilio am gyfleoedd, rwy'n gofidio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn mynd ar goll. Rwy'n deall fod gennym ddyletswydd i gael deddfwriaeth yn iawn y tro cyntaf, yma yng Nghymru, ac rwy'n sylweddoli y byddai'r cyhoedd yn disgwyl hyn a bod y Llywodraeth eisiau sicrhau bod hynny'n wir, ond nid yw fel pe baem yn gwthio am rywbeth nad yw wedi ei wneud o'r blaen neu lwybr unigryw mewn perthynas â syrcasau, oherwydd mae gwledydd eraill eisoes wedi gwahardd hyn. Mae Cymru mewn perygl o gael ei gadael ar ôl. Mae yna bosibilrwydd, tra'n bod mewn limbo, y gallai gweithredwyr syrcasau gyflwyno cais am drwydded a'i chael yma yng Nghymru. Gwyddom eisoes, yn 2015, fod trwydded wedi'i gwrthod i weithredwr syrcas mewn man arall yn y DU, ond ei fod wedi llwyddo i gynnal taith syrcas yng Nghymru, a gallai hynny fod yn niweidiol iawn yn fy marn i. Clywais heddiw hefyd—yn gynharach—gan ymgyrchwyr fod yr un gweithredwr yn cynllunio taith arall, sy'n annhebygol o gael trwydded yn Lloegr, ac mae'n debyg y bydd yn cyflwyno cais am drwydded yng Nghymru'n fuan. Pe bai hynny'n digwydd, byddai'n fethiant a fyddai'n embaras, yn fy marn i, ac yn uniongyrchol gysylltiedig â'n diffyg cyflymder i weithredu polisi yn y blynyddoedd diwethaf.

Rydym yn amlwg yn gweld teimladau a safbwyntiau'n newid ar les anifeiliaid. Rwyf wedi crybwyll mater cofrestr cam-drin anifeiliaid lawer gwaith, ac mae ymgyrchwyr wedi cyflwyno bron 0.75 miliwn o lofnodion ar yr agwedd benodol honno'n unig ar y ddadl hon. Rwyf wedi bod yn feirniadol o Lywodraeth Cymru ar yr agenda hon, ond rwy'n falch o weld, ar y mater penodol hwn, nad yw Llywodraeth Cymru yn gwrthod ymgyrchoedd ar unrhyw un o'r materion hyn yn llwyr, a bod Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud yn glir beth y mae hi'n ei ffafrio.

Rwyf hefyd yn falch fod yna symud o leiaf ar y cwestiynau sy'n ymwneud â lles anifeiliaid a rhai camau ar amryw ohonynt, ond rwy'n pryderu, fel y mae'r ymgyrchwyr, ein bod yn symud yn rhy araf. Mae gwir angen amserlen arnom yn awr i nodi pa bryd y daw'r gwaharddiad hwn i rym fel y gall Cymru arwain yr agenda unwaith eto. Fel gyda llawer o'r dadleuon a gawsom y prynhawn yma, gadewch inni roi Cymru ar y map. Gadewch i Gymru ddangos y ffordd a gwneud yn siŵr fod anifeiliaid yn cael eu hamddiffyn yma yng Nghymru, fel y maent yn cael eu hamddiffyn mewn rhannau eraill o'r byd. Diolch yn fawr iawn.

17:25

Rydych yn gwybod pan fo syrcas anifeiliaid yn y dref oherwydd maent yn gosod posteri anghyfreithlon ar draws y gymuned lle rydych yn byw. Ni allwch ei methu. Yn wir, gwn am swyddog cyngor a arferai lenwi cist ei gar â phosteri wedi'u gosod yn anghyfreithlon a dynnwyd ganddo. Ond cyn gynted ag y cânt eu tynnu, caiff eraill eu gosod yn eu lle gan y syrcasau anifeiliaid hyn. Sylwais fod Linda Joyce Jones wedi cyfeirio at hynny yn y ddeiseb mewn gwirionedd. Nid yw'r bobl hyn yn poeni am is-ddeddfau lleol; mae gofyn cael deddf genedlaethol i sicrhau newid.

Ar noson oer a thywyll, noson lawog, ym mis Hydref neu fis Tachwedd 2015, cefais wahoddiad gan etholwr, ac rwy'n falch o weld eu bod yn yr oriel heddiw, i fod yn bresennol mewn protest yn erbyn arddangosfa anifeiliaid o'r enw 'An Evening with Lions and Tigers', yn fy ward gyngor—yr ardal a gynrychiolwn fel cynghorydd. Roeddem yn falch iawn o weld nifer y bobl a ddaeth i brotestio noson ar ôl noson, yn y tywyllwch ac yn y glaw, ac yn troi pobl oddi yno—wel, nid oeddent yn eu troi oddi yno yn gorfforol, ond yn hytrach yn eu perswadio i beidio â mynd i weld y sioe. Roedd y bobl hyn yn cyflwyno dadl resymegol. Roedd ganddynt faneri ac roedd ganddynt ddeisebau, ac roedd ganddynt lenyddiaeth glir iawn yn esbonio pam y teimlent fod y noson gyda'r llewod a'r teigrod yn sioe greulon ac yn un na ddylid ymweld â hi. Roeddem yn falch o weld car ar ôl car yn gadael Tir-y-Berth, ac yn gadael Hengoed, wedi i ni wneud y pwyntiau hyn. Felly, rwy'n falch iawn o gefnogi'r ddeiseb hon heddiw. Un o'r pethau na chafodd y sioe honno oedd trwydded gan DEFRA i weithredu yn Lloegr, a sonnir am hynny yn y ddeiseb, ac eto roeddent yn gallu gweithredu yng Nghymru. Felly, mae'n bryd i Lywodraeth Cymru roi camau ar waith.

Rwyf wedi darllen adroddiad Dorning, Harris a Pickett, ac mae'n tynnu sylw at lawer o bethau y soniwyd amdanynt eisoes gan yr Aelodau. Ffaith sydd angen ei dweud hefyd yw eu bod wedi rhoi sylw i ddeddfwriaeth mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, ac felly mae angen i Lywodraeth Cymru roi camau ar waith. Tynnodd fy rhagflaenydd, Jeff Cuthbert, sylw'r Gweinidog ar y pryd at hyn, ac roedd yn eithaf dylanwadol o ran sicrhau bod adroddiad Harris yn cael ei gomisiynu, ond nawr yw'r amser i ddatblygu hyn yn ddeddfwriaeth er mwyn atal y syrcasau hyn rhag teithio drwy Gymru ac achosi niwed i'r anifeiliaid a arddangosir yno.

17:30

Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i'r holl bobl a lofnododd y ddeiseb ac a gyflwynodd y ddeiseb ar ran anifeiliaid nad oes ganddynt unrhyw ffordd eu hunain o roi terfyn ar y dioddefaint y mae perchnogion syrcas diegwyddor yn ei orfodi arnynt. Hoffwn annog Llywodraeth Cymru i weithredu yng ngoleuni'r ddeiseb a'r 74 y cant o'r cyhoedd yng Nghymru sydd eisiau gwaharddiad llwyr ar ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau, a bwrw ymlaen â'r gwaharddiad.

Yn 2016, dywedodd Llywodraeth Cymru y byddent yn edrych ar y system drwyddedu, ac mae hynny'n fy mhoeni'n fawr, ac rwy'n mawr obeithio bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi newid ei meddwl ar hyn. Oherwydd mae'r system drwyddedu ar waith ers peth amser ac eto canfuwyd bod gweithredwyr yn torri amodau'r drwydded. Y pwynt yw bod dioddefaint anifeiliaid yn dal i fod wedi digwydd, ac ni all unrhyw gosb ar ôl y digwyddiad droi amser yn ôl ac atal y gamdriniaeth rhag bod wedi digwydd yn y lle cyntaf. A phan edrychwn ar effeithiolrwydd trwyddedu yng Nghymru, gallwn weld y byddai ei gyflwyno ar gyfer syrcasau yn gwbl ddiwerth. Pan gyflwynodd y Llywodraeth hon drwyddedu ar gyfer ffermydd cŵn bach, roedd yn dirprwyo cyfrifoldeb am orfodi'r drefn i awdurdodau lleol. Gofynnwyd i gynghorau ar hyd a lled Cymru sicrhau cydymffurfiaeth â thrwyddedau, cynghorau a oedd eisoes yn rhy brin o arian i allu gwneud unrhyw beth ystyrlon. Mae problem amgylchiadau erchyll mewn ffermydd cŵn bach yn parhau heb newid fwy nei lai. Nid bai'r awdurdodau lleol yw hyn; mae eu cyllidebau'n gyfyngedig. Bai penderfyniad gwan gan Lywodraeth Cymru ydyw.

Nid yw trwyddedu'n werth dim os nad yw'n cael ei orfodi, ac ar y sail honno, yn hytrach nag atal creulondeb i anifeiliaid, nid yw trwyddedu ond yn rheoleiddio dioddefaint. Mae yna egwyddor gyffredinol yn y fantol yma: sut y gwelwn rôl anifeiliaid yn ein bywydau o ddydd i ddydd? A ydynt yno er mwyn ein difyrrwch a'n hadloniant ni? Os nad ydynt, sut y gall unrhyw un awgrymu unrhyw fath o drwyddedu? Mae trwyddedu syrcas i gadw anifeiliaid gwyllt er adloniant yn unig yn gyfystyr â dweud yn y bôn fod yna lefel o ddioddefaint y credwch ei bod yn gyfiawn i anifail ei dioddef er mwyn i'r gweddill ohonom gael ein diddanu, ac rwy'n ystyried bod hynny'n wrthun.

I gloi, hoffwn ailadrodd fy nghefnogaeth lwyr i'r ddeiseb a'r cynnig, ond rwy'n gofyn i'r Llywodraeth geisio edrych mewn gwirionedd ar weithredu gwaharddiad llwyr ar anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau, nid trwyddedu'n unig, fel y gallwn anfon neges nad oes unrhyw lefel o ddioddefaint anifeiliaid sy'n dderbyniol er ein hadloniant. Diolch.

Fel plentyn yn y 1960au cynnar roeddwn yn ymweld yn rheolaidd â syrcasau, fel y rhan fwyaf o blant, ac roedd yna rywfaint o eironi ar y pryd oherwydd byddech yn arfer cael syrcasau wedi'u noddi gan gwmnïau megis Brooke Bond a chwmnïau eraill fel hynny, ac wrth gwrs byddent oll yn rhoi'r cardiau yr arferech eu cael gyda phacedi o de, sef cardiau bywyd gwyllt, a byddech yn mynd i'r syrcas a byddai gennych yr eironi o fynd i weld yr anifeiliaid mewn cewyll ac ar yr un pryd yn cael y casgliadau gwych hyn o gardiau ynghylch rhyfeddodau anifeiliaid gwyllt. Rwy'n cyfeirio at hynny oherwydd mae'n rhoi syniad o ba mor bell rydym wedi dod o ran parchu anifeiliaid gwyllt a bywyd gwyllt yn well.

Rwy'n cefnogi'r cynnig hwn, ac rwy'n cefnogi deddfwriaeth. Fel rhan o'r ymgynghoriad, pan gafodd ei gynnal, cynhaliais fy ymgynghoriad fy hun ar fy safle Facebook a chefais 71 o aelodau'r cyhoedd i lenwi'r arolwg Facebook. Nifer gymharol fach yw hynny, ond mae'n dal i fod yn nifer arwyddocaol, ac yn dangos bod cefnogaeth gref i gynigion Llywodraeth Cymru, gyda 70 o bobl—dros 98 y cant—yn cytuno â gwaharddiad arfaethedig Llywodraeth Cymru ar y defnydd o anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau. Roeddem hefyd yn gofyn, 'A ydych yn cytuno ag argymhellion Llywodraeth Cymru i gyflwyno cynllun trwyddedu ar gyfer arddangosfeydd symudol o anifeiliaid megis hebogyddiaeth deithiol a mynd ag anifeiliaid anwes egsotig i ysgolion?' Roedd dros 95 y cant ohonynt yn cytuno.

Un sylw arall a wnaed, fodd bynnag, oedd bod pobl i raddau helaeth iawn wedi mynegi barn ar les anifeiliaid—a gresynu nad oedd hela llwynogod wedi'i ddatganoli i Lywodraeth y Cynulliad oherwydd yr angen i gael deddfwriaeth gryfach mewn perthynas â'r gwaharddiad a rhoi diwedd ar hynny, y creulondeb. Credaf fod yn rhaid inni ei weld o fewn y cyd-destun hwnnw o ran lles pob anifail gwyllt a phob anifail.

Ond ar ôl dweud hynny, rwy'n gefnogol, ac rwy'n falch fod y ddadl hon wedi'i chyflwyno. Rwy'n gobeithio y byddwn yn rhoi camau ar waith, oherwydd mae'r ffordd rydym yn trin anifeiliaid gwyllt a bywyd gwyllt yn gyffredinol yn arwydd, rwy'n credu, o ansawdd y gwareiddiad a'r gymdeithas rydym yn byw ynddynt.

Hoffwn ailadrodd llawer o'r hyn a ddywedwyd eisoes, a diolch i Linda a'r llu o bobl sydd wedi llofnodi'r ddeiseb: 6,398. Yn sicr mae'n gwneud gwaith y Pwyllgor Deisebau yn berthnasol iawn pan fydd mater gyda'r fath ymgysylltiad â'r cyhoedd wedi digwydd.

Yn 2015, dywedodd y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd ar y pryd fod Llywodraeth Cymru yn ystyried a fyddai'n briodol iddi weithredu ar ei phen ei hun i wahardd yr arfer o ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn perfformiadau syrcas byw. Dyma ni, dair blynedd yn ddiweddarach, yn parhau i fod heb unrhyw rwystrau cyfreithiol presennol i wahardd yr arfer o ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yng Nghymru. Mae'r ddadl hon, felly, yn eithriadol o bwysig ac rwy'n cymeradwyo pawb sydd wedi llofnodi'r ddeiseb.

Mae'r achos o blaid gwaharddiad wedi'i gofnodi'n dda ac yn seiliedig ar dystiolaeth dros nifer o flynyddoedd—gydag arolwg barn YouGov yn dangos bod 74 y cant o'r cyhoedd yng Nghymru yn cefnogi'r gwaharddiad. Gwyddom na all unrhyw syrcas ddiwallu anghenion unigryw a chymhleth anifeiliaid gwyllt. Yn hollbwysig, mae adolygiad Llywodraeth Cymru ei hun gan yr Athro Harris yn ategu hyn, gan ddatgan bod tystiolaeth wyddonol yn dangos

nad yw syrcasau teithiol sy'n defnyddio anifeiliaid gwyllt yn bodloni'r gofynion lles a nodir yn Neddf Lles Anifeiliaid 2006.

Ymhellach, mae'n nodi:

Nid yw bywyd anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau a sŵau teithiol yn “fywyd da” nac yn “fywyd sy’n werth ei fyw".

Yn 2016, dywedodd Ysgrifennydd yr amgylchedd a materion gwledig fod Llywodraeth Cymru yn gweithio tuag at system drwyddedu a'u bod bellach wedi addo cyflwyno ymgynghoriad cyhoeddus ar arddangosfeydd symudol o anifeiliaid. Wel, yn awr, rwyf yma heddiw ynghylch yr egwyddor o wahardd anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau. Mae hwnnw'n fater ar wahân, arddangosfeydd symudol o anifeiliaid. Mae'r cymhwysedd i gyflwyno gwaharddiad o dan ddeddfwriaeth sylfaenol wedi bod gan Lywodraeth Cymru ers refferendwm 2011, ac eto nid yw'r pŵer hwn wedi cael ei ddefnyddio hyd yn hyn. Gofynnaf i Ysgrifennydd y Cabinet: mae gennych y pŵer hwn, mae gennych y ddeddfwriaeth—os gwelwch yn dda, er mwyn yr anifeiliaid, a hefyd er mwyn pawb sy'n teimlo mor gryf am hyn, defnyddiwch y pŵer hwnnw.

O ystyried pa mor bell rydym yn llusgo ar ôl deddfwrfeydd eraill mewn lleoedd fel Bolifia, Bosnia, Paraguay, Periw, Costa Rica a Croatia, yn ogystal â'r Alban a Gweriniaeth Iwerddon yn nes at adref, mae'n amlwg ei bod hi'n bryd bellach. Mae'r RSPCA wedi tynnu sylw at botensial defnyddio adran 12 o'r Ddeddf Lles Anifeiliaid yn hytrach na deddfwriaeth sylfaenol i ganiatáu i Lywodraeth Cymru wneud rheoliadau'n hawdd i gyflwyno gwaharddiad a fyddai'n weithredol ar unwaith, gan arbed amser ac adnoddau seneddol, a rhai anifeiliaid o bosibl.

Byddai'n ddiddorol gwybod pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i ddefnyddio'r pwerau hyn yn y ffordd hon. Gwyddom fod y dull hwn wedi'i ddefnyddio yn 2010 i gyflwyno gwaharddiad ar ddefnyddio coleri sioc drydan ar gŵn a chathod yng Nghymru, ac yn fwy diweddar gan Lywodraeth Iwerddon i gyflwyno gwaharddiad syrcas yng Ngweriniaeth Iwerddon. Os yw'n ddigon da iddynt hwy, mae'n rhaid ei fod yn ddigon da i Gymru.

Nododd tystiolaeth a ddarparwyd gan y deisebydd bryderon am anafiadau i anifeiliaid gwyllt mewn amgylchedd syrcas, gan fanylu'n arbennig ar anaf i goes ôl llew mewn syrcas ger Caerfyrddin a'r briwiau agored a gwlyb ar goesau camel ifanc. Ysgrifennydd y Cabinet, mae'r rhain yn amlwg yn faterion lles anifeiliaid. Mae'r dystiolaeth yno, wedi'i chefnogi gan eich Llywodraeth eich hun. Mae'r gefnogaeth yno. Gwyddom fod y rhan fwyaf o bobl yng Nghymru yn cefnogi gwaharddiad, ac mae hyn wedi bod yn ein maniffesto—y Ceidwadwyr Cymreig—ers blynyddoedd lawer. A wnewch chi gadarnhau heddiw y byddwch yn gweithredu gwaharddiad.

Yn olaf, diolch enfawr i Linda Joyce Jones, oherwydd nid yw'n wleidydd, ond mae'n wraig benderfynol iawn. Pan ddywedodd Bethan yn gynharach sut roedd hi wedi bod yn ysgrifennu atoch, nid ysgrifennu'n unig a wnaeth, mae hi wedi ein plagio, a gwnaeth hynny mewn ffordd hyfryd, a diolch iddi am ein plagio, oherwydd nid yw wedi gadael i hyn fynd am eiliad. Os nad yw wedi ein cyrraedd drwy lythyr, drwy e-bost, drwy alwadau ffôn, mae hi wedi ein cyrraedd drwy'r cyfryngau cymdeithasol. Gwnaeth yr hyn y gallwch chi fel gwleidydd ei orffen yn awr mewn gwirionedd—canlyniad hyn. Gwnewch Linda yn hapus, gwnewch ni fel Aelodau Cynulliad, gwnewch ein hetholwyr, gwnewch ein hymwelwyr, ond yn bennaf oll, gwnewch yr anifeiliaid hynny'n hapus. Dim mwy o anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau. Diolch.

17:35

Fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, nid yn aml iawn y byddaf yn cael fy lobïo ynglŷn â materion lles anifeiliaid, ond dyna beth ddigwyddodd i fi pan es i a'r Pwyllgor Cyllid i Ynys Môn. Roedd y ddeisebwraig, Linda Joyce Jones, wedi gwneud yn siŵr o groesi’r Fenai er mwyn siarad yn uniongyrchol â'r Pwyllgor Cyllid ynglŷn â'r materion yma.

Ond rwy'n siarad heddiw fel llefarydd Plaid Cymru ar faterion lles anifeiliaid, gan ddweud ein bod ni hefyd yn cefnogi'r ddeiseb yma yn llwyr ac yn credu y dylid gweithredu ar unwaith i wahardd anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau, a gwneud hynny heb gymylu'r darlun fel sydd wedi cael ei wneud hyd yma gydag ystyriaeth werthfawr ond gwahanol ynglŷn â thrwyddedu anifeiliaid ym mhob cyd-destun arall. A gawn ni ffocysu felly ar y mater dan sylw, ar y ddeiseb pwysig yma i wahardd anifeiliaid gwyllt? 

Mae Plaid Cymru hefyd wedi ymgyrchu ar hyn ers rhai blynyddoedd. Mae Siân Gwenllian wedi codi'r mater yma. Mae Bethan, wrth gwrs, wedi gwneud sawl gwaith ac yn gyson hefyd, ac oherwydd hynny roedd yn ein maniffesto ni ar gyfer etholiadau'r Cynulliad diwethaf. Yn ogystal â'r ddeisebwraig, rydym ni wedi derbyn yn bersonol nifer fawr o e-byst gan etholwyr sydd yn poeni am hyn ac, wrth gwrs, ymgyrchu cryf gan yr RSPCA yn ogystal. 

Rydw i'n manteisio ar y cyfle nid i ailadrodd yr hyn sydd wedi cael ei ddweud eisoes, ond i ddweud hefyd bod cwestiwn ehangach o zoos yn codi yn sgîl digwyddiadau diweddar yn Borth yng Ngheredigion, a'r trwyddedu sydd yn digwydd gan awdurdodau lleol nid yn unig ar gyfer syrcasau, ond ar gyfer zoos yn ogystal. Y ffaith amdani yw bod y ddeddfwriaeth rydym ni'n ei thrafod fan hyn yn hen iawn—yn hynafol, a dweud y gwir—ac ddim yn addas at y pwrpas. 

Nawr, rwy'n deall fod y Llywodraeth felly yn gorfod ystyried yn ofalus iawn sut mae modd mynd i'r afael â gwahardd anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau, so rydw i mewn sefyllfa heddiw i ddweud wrth yr Ysgrifennydd Cabinet os ŷch chi'n defnyddio'r dull rwyf am awgrymu i chi i wneud hyn—i wahardd anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau—bydd Plaid Cymru, ac rydw i'n addo hyn ar ran Plaid Cymru, yn cefnogi hyn fel bod modd gwahardd yn syth. 

Felly, yr hyn rwyf ar fin ei amlinellu, wrth gwrs, yw defnyddio adran 12 o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006 sy'n caniatáu i'r awdurdod cenedlaethol priodol', sef Gweinidogion Cymru—nid y Cynulliad, cofiwch, mae'n wir; y Gweinidogion—wneud rheoliadau

fel y gwêl yr awdurdod yn addas at y diben o hyrwyddo lles anifeiliaid y mae person yn gyfrifol amdanynt, neu epilion anifeiliaid o'r fath.

Nawr, y cyngor a gefais yw y byddai'n berffaith gyfreithiol, felly, i Lywodraeth Cymru ddefnyddio adran 12 o'r Ddeddf Lles Anifeiliaid i wahardd anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yng Nghymru. Byddai'r pwerau i wneud rheoliadau yn mynd drwy'r weithdrefn gadarnhaol yma yn y Cynulliad, felly byddem yn gallu eu cymeradwyo neu eu gwrthod, felly byddai'r cyfrifoldeb ar Lywodraeth Cymru i'w cael yn iawn, wrth gwrs, ond mae'r pŵer rheoleiddio hefyd yn caniatáu ar gyfer creu trosedd y gellir ei phrofi ar dditiad ac y gellir ei chosbi drwy hyd at 51 wythnos o garchar neu ddirwy sy'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.

Felly, credaf fod y gallu i greu'r gwaharddiad hwn a'r gallu i blismona'r gwaharddiad ar lefel genedlaethol yn ddigonol ac yn briodol ar wyneb y Ddeddf Lles Anifeiliaid. Yn ddelfrydol, byddai'n well gennym gyflwyno Deddf gan Senedd Cymru, ond mae gennym Ddeddfau eraill sy'n rhaid inni eu cyflwyno yn y 18 mis nesaf—ac nid Brexit yw'r lleiaf o'r pryderon a fydd gennym. Dyma bŵer cul priodol y gellir ei ddefnyddio yn y cyswllt hwn. Nid yw'n caniatáu i ni gael ein clymu â'r ystyriaethau ehangach am ymwneud ehangach â thrwyddedu.

Felly, hoffwn yn fawr iawn ddweud wrth Ysgrifennydd y Cabinet, os ydych yn ystyried defnyddio adran 12, cyflwynwch y rheoliadau hynny ac rwy'n addo y bydd Plaid Cymru yn gwneud popeth yn ein gallu i ganiatáu i'r rheoliadau hynny basio yn y Cynulliad hwn, fel ein bod fel Senedd yn gwahardd anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yn y pen draw.

17:40

Rwyf wedi byw yn fy etholaeth drwy gydol fy oes, ac rwy'n falch o ddweud nad wyf yn cofio adeg pan oedd yna syrcas deithiol gydag anifeiliaid gwyllt, oherwydd yn sicr nid oes croeso iddynt yng Nghwm Cynon. Er hynny, rwyf wedi cael llwyth o ohebiaeth gan etholwyr ers i mi gael fy ethol i'r lle hwn ar yr union fater hwn o wahardd yr arfer o ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau. Ac rwy'n meddwl mai'r hyn y mae hynny'n ei ddangos yw bod yna farn gref ar draws Cymru ar y mater hwn. Fel y mae llawer o'r Aelodau eisoes wedi dweud, mae'r ystadegau'n dangos bod tri chwarter y bobl yng Nghymru yn cefnogi gwaharddiad ar y defnydd o anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau.

Mae'r papur briffio y mae pawb ohonom wedi'i weld gan yr RSPCA yn nodi'r dystiolaeth wyddonol sy'n dangos ei bod hi'n debygol y bydd bywyd mewn syrcas yn effeithio'n niweidiol ar les anifeiliaid. Mae'n nodi ei fod yn achosi straen a phroblemau ymddygiad, ac yn amlwg, ni all natur dros dro cewyll mewn syrcas ddiwallu anghenion anifeiliaid gwyllt yn ddigonol. Maent yn dioddef mewn amgylchiadau annaturiol, lle na ellir bodloni eu hanghenion am ysgogiad corfforol a meddyliol. A hynny heb ystyried effeithiau teithio. Nid yw bywyd i'r anifeiliaid hyn yn werth ei fyw. Mae PETA hefyd wedi amlygu rhai arferion gwirioneddol ofnadwy wrth hyfforddi'r anifeiliaid gwyllt a ddefnyddir yn y syrcasau hyn. Ar ben hynny, cedwir yr anifeiliaid yn yr amgylchiadau hyn—fel y mae Aelodau Cynulliad eraill wedi nodi eisoes—er ein hadloniant hunanol ein hunain yn unig. Mae'r rhain yn bwyntiau a glywais gan fy etholwyr, a chredaf eu bod yn hollol iawn.

Yn olaf, hoffwn wneud y pwynt ei bod hi'n hen bryd cael y gwaharddiad hwn. Mae'n braf fod Ysgrifennydd y Cabinet yn ystyried cyfleoedd i gyflwyno deddfwriaeth i wahardd yr arfer o ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yng Nghymru. Fodd bynnag, rwy'n gobeithio'n fawr y gellir cyflymu hyn. Rwy'n cytuno gyda Simon Thomas, a ddywedodd y gellid cyflwyno gwaharddiad o dan adran 12 o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006, neu'n wir drwy ddeddfwriaeth sylfaenol. Os edrychwn ar yr Alban a Gweriniaeth Iwerddon, maent eisoes wedi cyflwyno'r gwaharddiadau hyn. Mae hyd yn oed Llywodraeth y DU i'w gweld yn cefnogi galwadau o'r fath. A hynny gan blaid a aeth i mewn i'r etholiad cyffredinol diwethaf yn cefnogi llacio'r rheolau ar hela llwynogod. Roedd gennym enw da iawn yn arfer bod yng Nghymru am arwain ar bolisïau lles anifeiliaid. Rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn manteisio ar y cyfle hwn i'n cael yn ôl ar flaen y gad yn y maes polisi hwn.

Wrth i mi gloi, hoffwn sôn am Ysgol Gyfun Rhydywaun yn fy etholaeth, sy'n cymryd rhan yn y gystadleuaeth ranbarthol yn rhan o ddadl fawr RSPCA Cymru ar les anifeiliaid, ynghyd ag Ysgol Gymunedol Aberdâr. Bydd Ysgol Gyfun Rhydywaun yn trafod yr union bwnc hwn. Rwy'n dymuno lwc dda i'r ddwy ysgol. Ond hoffwn erfyn ar Lywodraeth Cymru i roi camau prydlon ar waith fel bod anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yn ddim mwy na chwiw greulon yn ein gorffennol pell—fel baetio eirth ac ymladd ceiliogod—ac nid rhywbeth y mae'n rhaid i'n Cynulliad a'n hysgolion ddal ati i'w drafod.

17:45

Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Deisebau am eu gwaith ar y ddeiseb hon, i bawb a'i llofnododd ac i RSPCA Cymru am arwain ar y ddeiseb. Rwy'n llwyr gefnogi'r ddeiseb, fel y mae bron i dri chwarter y cyhoedd yng Nghymru. Mae'r defnydd o anifeiliaid gwyllt er pleser pobl yn farbaraidd ac angen ei wahardd cyn gynted â phosibl.

Diolch byth, dwy syrcas yn unig yn y DU sydd â thrwyddedau anifeiliaid gwyllt, syrcas Mondao a syrcas Peter Jolly. Rhyngddynt, mae ganddynt 19 o anifeiliaid: chwe charw Llychlyn, pedwar sebra, tri chamel, tri racŵn, un llwynog, un macaw ac un sebu. Yn Lloegr, rhaid cael trwydded ar gyfer anifeiliaid gwyllt ond nid oes unrhyw gyfraith i atal syrcasau rhag defnyddio rhai mathau o anifeiliaid. Yng Nghymru, nid oes gofyniad trwyddedu. Ac nid oes dim i atal Cymru rhag dod yn domen ar gyfer anifeiliaid syrcas y deddfwyd yn erbyn eu cadw mewn gwledydd Ewropeaidd eraill. Ar ddechrau'r flwyddyn, Iwerddon oedd yr ugeinfed wlad yn yr UE i wahardd yr arfer o ddefnyddio anifeiliaid gwyllt yn y fath fodd. Mae'n hen bryd inni weithredu gwaharddiad tebyg. Sut y gallwn gyfiawnhau caniatáu i anifeiliaid gael eu gorfodi i wneud triciau na fyddent yn eu gwneud mewn bywyd gwyllt? Sut y gallwn gyfiawnhau caniatáu i'r creaduriaid mawreddog hyn gael eu cam-drin o adeg eu geni a'u gorfodi i deithio mewn amodau cyfyng ac anaddas? A sut y gallwn gyfiawnhau caniatáu i anifeiliaid, a ddylai fod yn rhydd, fyw mewn caethiwed a chael eu troi ymaith neu'n waeth byth, eu lladd, pan na allant ddiddanu'r cynulleidfaoedd mwyach?

Mae Llywodraeth y DU wedi bod yn addo gwaharddiad ers blynyddoedd lawer ac yn awr maent yn bwriadu cyflwyno gwaharddiad yn y pum mlynedd nesaf. Ni allwn aros mor hir â hynny. Mae angen inni wahardd y defnydd o anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau heddiw. Rwy'n croesawu datganiad Ysgrifennydd y Cabinet fis diwethaf pan ddywedodd ei bod yn ystyried cyfleoedd i gyflwyno deddfwriaeth ar gyfer gwahardd yr arfer o ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yng Nghymru. Mae'n bryd gweithredu yn awr. Mae RSPCA Cymru wedi amlinellu sut y gellir defnyddio adran 12 o'r Ddeddf lles anifeiliaid i gyflwyno gwaharddiad o'r fath heb orfod cael deddfwriaeth newydd. Defnyddiwyd y Ddeddf lles anifeiliaid i arwain y ffordd ar wahardd coleri sioc drydanol. Rwy'n annog Ysgrifennydd y Cabinet i ddefnyddio'r Ddeddf i roi diwedd ar greulondeb barbaraidd gorfodi anifeiliaid gwyllt i berfformio mewn syrcasau. Rwy'n annog yr Aelodau nid yn unig i gefnogi'r cynnig ger eu bron heddiw, ond i roi pwysau ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno gwaharddiad ar frys, mor fuan ag sy'n bosibl. Rwy'n annog y cyhoedd yng Nghymru i ddal i bwyso am waharddiad. Gadewch inni sicrhau na fydd yn rhaid inni aros am bum mlynedd cyn i Lywodraeth Cymru weithredu. Diolch yn fawr.

17:50

Rwy'n falch o gael siarad yn y ddadl hon heddiw. Roeddwn yn falch iawn o weld y datganiad hwn fis diwethaf gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig pan ddywedodd y byddai'n ystyried ffyrdd o gyflwyno gwaharddiad. Mae cyd-Aelodau'n gwybod bod hwn yn bwnc rwy'n teimlo'n gryf iawn amdano, ac rwyf wedi ei godi yn y Cyfarfod Llawn ar sawl achlysur dros y blynyddoedd. Credaf mai gwaharddiad llwyr ar anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yw'r unig ffordd y gall Cymru ddangos i weddill y byd nad ydym ninnau chwaith, fel yr Alban a Gweriniaeth Iwerddon, yn croesawu'r hyn sy'n ffurf hen ffasiwn a chreulon ar adloniant fel y'i gelwir. Fel y dywedwyd eisoes, mae'n farn a rennir gan dri chwarter y boblogaeth. Wel, mae un peth yn sicr: nid yw'n adloniant i'r anifeiliaid. Os ydych wedi darllen yr adroddiadau am yr amgylchiadau creulon—ac maent wedi cael eu hamlinellu yma heddiw—y mae'r anifeiliaid hyn yn gorfod eu dioddef yn aml, nid oes unrhyw adloniant o gwbl yn hynny iddynt hwy. Mae llawer o bobl wedi sôn bod yr RSPCA wedi cysylltu â phob un ohonom, mae'n debyg, ynglŷn â ddefnyddio adran 12 o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006 i gyflwyno hynny. Amlinellodd Simon Thomas hefyd fod yr adran honno'n gyfyngedig braidd, ond hoffwn weld deddfwriaeth yn cael ei chyflwyno cyn gynted â phosibl ond hefyd mewn ffordd mor gynhwysfawr â phosibl.

Rwyf hefyd yn pryderu am anifeiliaid fel ceirw Llychlyn yn cael eu defnyddio fel atyniad i bobl sy'n mynd heibio yng nghanol dinasoedd a'r tu allan i arddangosiadau o stori'r geni mewn eglwysi, yn cael eu defnyddio i ddenu pobl, yn enwedig plant, tuag at eu harddangosfeydd. Credaf fod hyn hefyd yn greulon. Nid wyf yn meddwl bod ceirw i fod i sefyll am oriau bwygilydd ar fuarthau concrid, ac nid wyf am i ni ddeddfu mewn un maes ar draul maes arall, dyna rwy'n ei ddweud mewn gwirionedd. Credaf fod gwir angen inni edrych ar bopeth y gallwn ei wneud a gwneud hynny mewn ffordd mor gynhwysfawr ac mor gyflym ag y gallwn. Os goddefir yr ymadrodd, neu o gamddefnyddio ymadrodd arall, ac aros gyda cheirw, nid ar gyfer y Nadolig yn unig y mae ceirw, dylai fod ganddynt fywyd mewn gwirionedd.

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, Lesley Griffiths.

Member
Lesley Griffiths 17:53:16
Cabinet Secretary for Energy, Planning and Rural Affairs

Diolch, Lywydd. Diolch yn fawr iawn. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Pwyllgor Deisebau ac wrth gwrs, i'r deisebwyr am gyflwyno'r ddeiseb yn gyntaf ac yna yn amlwg am y ddadl heddiw. Er nad oes syrcasau wedi eu lleoli yng Nghymru, maent yn ymweld wrth gwrs, a chredaf fod y cynnig heddiw yn tynnu sylw'n bendant at y teimlad cyhoeddus cryf iawn ynglŷn â'r defnydd o anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau. Felly, mae Llywodraeth Cymru yn hapus iawn i gefnogi'r cynnig heddiw.

Hoffwn gofnodi fy ymrwymiad i archwilio pob cyfle i gyflwyno deddfwriaeth i wahardd yr arfer o ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yng Nghymru. Hoffwn dawelu meddwl Bethan Sayed yn bendant na fyddaf yn mynd ar goll. Ni chredaf y dylai neb fychanu fy ymrwymiad personol i wneud hyn. Felly, mae yna ddau beth: un yw edrych ar y rhaglen ddeddfwriaethol i weld lle y gallem gyflwyno'r ddeddfwriaeth honno. Fel y nododd Simon Thomas, yn gymwys iawn rwy'n credu, byddai'n dda cael Deddf Senedd Cymru, ond yn amlwg, mae gennym raglen ddeddfwriaethol lawn iawn, ond rwy'n parhau i archwilio'r cyfleoedd hynny, ac adran 12 hefyd, a nodwyd gan nifer o'r Aelodau. Pan ddechreuais yn y portffolio hwn, edrychais ar adran 12 a chymryd tystiolaeth ar hyn. Gwnaeth Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig yr un peth hefyd, a chawsant eu cynghori y gellid herio camau i osod gwaharddiad ar sail lles drwy reoliadau yn yr Uchel Lys, ond mae'n rhywbeth rydym yn parhau i edrych arno rwy'n credu.

Un o'r canlyniadau strategol yng nghynllun gweithredu'r fframwaith iechyd a lles anifeiliaid yw bod anifeiliaid yng Nghymru yn cael bywyd o ansawdd da. Cyfeiriodd sawl Aelod at fy mwriad i ddatblygu cynllun trwyddedu ar gyfer arddangosfeydd symudol o anifeiliaid yng Nghymru, ac rwyf am dawelu meddwl Janet Finch-Saunders: rwy'n deall wrth gwrs ei fod yn fater ar wahân, ac mae'n ddiddorol gweld bod rhannau eraill o'r DU bellach yn dilyn ein dull o weithredu. Cyhoeddais hynny yn fy natganiad ysgrifenedig ym mis Rhagfyr 2017. Roedd hynny'n dilyn ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater. A chan fy mod yn gofyn am farn ar y pwnc hwnnw, manteisiais ar y cyfle i ofyn barn y cyhoedd ar y defnydd o anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau. Ar yr un pryd—roedd tua'r un pryd, mis Rhagfyr, gaeaf 2016—cyfarfûm â Gweinidogion Llywodraeth y DU. Credaf mai yr Arglwydd Gardiner ydoedd; rwyf wedi ei gyfarfod ychydig o weithiau. Gofynnodd Paul Davies a fûm yn gweithio gyda Gweinidogion, felly roeddwn yn gweithio gyda Gweinidogion, ac roedd fy swyddogion yn gweithio ochr yn ochr â swyddogion DEFRA. Oherwydd bod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi'n flaenorol mai ei bwriad oedd gwahardd y defnydd o anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau, roeddwn yn hapus iawn i gael Cymru wedi'i chynnwys yn y rhaglen honno gan y teimlwn y byddai'n gyflymach. Fodd bynnag, mae'r cynnydd wedi bod yn anhygoel o araf, a dyna pam y penderfynais ddilyn y trywydd rwyf wedi'i ddilyn wedyn, sef edrych ar yr holl opsiynau.

Gofynnodd Paul Davies hefyd am y Ddeddf a gyflwynwyd gan Lywodraeth yr Alban yn ddiweddar. Enillodd Gydsyniad Brenhinol—credaf mai tua diwedd mis Ionawr y digwyddodd hynny. Felly, rydym yn bendant yn edrych ar y model hwnnw, ac ar fodelau eraill wrth gwrs. Roedd Llywodraeth yr Alban yn argymell gwaharddiad ar nifer o seiliau moesegol, sydd, unwaith eto, wedi cael cefnogaeth ysgubol. Felly, credaf fod hwnnw'n fodel da iawn i ni edrych arno. Felly —

17:55

Fe siaradoch chi am edrych ar wahanol fathau o fodelau: beth yw'r amserlen gyda hyn yn awr? Hynny yw, dyna y mae pobl yn ei ofyn. Maent yn deall eich ymrwymiad i gael gwaharddiad, ond beth yw'r union amserlen a pha bryd y gwelwn hyn yn dod i rym?

Iawn. Felly, mae'r gwaith hwn yn mynd rhagddo ac wedi bod yn mynd rhagddo ers mis Rhagfyr gaeaf 2016, a chyn hynny hefyd mae'n debyg, cyn i mi ddod i'r swydd, ond mae'n bendant yn mynd rhagddo ar hyn o bryd. Mae'r amserlen—yn amlwg, byddwn yn edrych tuag at flwyddyn 3 y rhaglen ddeddfwriaethol, felly dyna yw fy nod bellach. Ond mae adran 12 hefyd—. Ac roeddwn yn ddiolchgar iawn i Simon Thomas am ymrwymiad Plaid Cymru i'w gefnogi, os mai dyna'r ffordd y gallwn ei wneud. Felly, mae'r amserlen yn gyfredol a gobeithiaf allu cyflwyno datganiad erbyn yr haf, mae'n debyg, ynglŷn ag a fyddem yn rhaglen ddeddfwriaethol blwyddyn 3, neu'n gynharach os gallwn edrych i weld a allwn ddefnyddio adran 12.

Rwyf am fynd yn ôl at yr arddangosfeydd symudol o anifeiliaid, oherwydd rydym yn gwybod nad oes llawer o anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau—credaf ei fod oddeutu 19—ond nid ydym yn gwybod pa nifer o arddangosfeydd symudol o anifeiliaid sydd gennym yng Nghymru. Mae pawb ohonom yn gwybod am ysgolion sy'n cael ymweliadau o'r fath, felly roeddwn yn meddwl ei bod yn bwysig iawn inni ddatblygu'r broses o drwyddedu arddangosfeydd symudol o anifeiliaid, ac fel y dywedaf, mae gennym rannau eraill o'r DU bellach yn edrych ar ein dull o weithredu. Credaf fod angen i'r dulliau a ddefnyddir gan holl rannau gwahanol y DU fod yn gydnaws â'i gilydd hefyd, felly unwaith eto, mae swyddogion yn gweithio'n agos iawn gyda swyddogion yn yr Alban, Gogledd Iwerddon a DEFRA i sicrhau nad ydym yn datblygu ein cynllun trwyddedu yn annibynnol ar bawb arall.

A gaf fi fwrw ymlaen? Rwy'n ymwybodol o'r amser, mae'n ddrwg gennyf. Rydym hefyd yn ymwneud â datblygu polisïau trawsbynciol eraill i atgyfnerthu lles anifeiliaid, ac mae'n bwysig iawn clywed barn pobl eraill am syrcasau yn fy marn i. Fe dderbyniaf ymyriad yn awr.

Rwy'n ddiolchgar iawn. Yr hyn roeddwn am geisio'i gael ganddi—oherwydd mae hi wedi nodi'r opsiynau: Bil annibynnol neu adran 12, ac mae hi hefyd wedi nodi'r pethau eraill y mae'n edrych arnynt. Soniais am un arall, sef sŵau, sydd hefyd wedi codi—

Mae'n ddrwg gennyf; roeddwn yn golygu sŵau yn ogystal.

Wel, ie. Yn amlwg, byddai Bil yn caniatáu inni fynd i'r afael â'r ystyriaethau lles anifeiliaid ehangach, lle bydd yn rhaid targedu adran 12 yn benodol ar fater lles anifeiliaid penodol. A yw hi, o leiaf, yn gallu dweud wrthym beth yw ei syniadau ar hynny ar hyn o bryd? Oherwydd rwy'n credu mai'r pryder o amgylch y Siambr yw nad ydym eisiau gadael i rywbeth y gallwn ei wneud yn awr gael ei ohirio oherwydd bod gennym agenda ehangach sydd angen ei chyflawni dros gyfnod hwy o amser.

Soniais yn gynharach fy mod wedi edrych ar adran 12 cyn gynted ag y deuthum i'r swydd, ac mae'n amlwg bod Rebecca Evans, fy rhagflaenydd, wedi edrych ar hynny, a DEFRA hefyd. Felly, y cyngor a roddwyd i mi oedd nad dyna fyddai'r ffordd fwyaf priodol o fynd ati, ond rwy'n edrych ar hynny eto. Gwn nad yw sefydliadau'r trydydd sector yn cytuno gyda chyfreithwyr ar hynny, ond rwy'n hapus iawn i barhau i edrych arno. Ac mae'n ddrwg gennyf; roeddwn yn golygu ein bod yn edrych ar—. Gwnaethoch bwynt cymwys iawn ynghylch sŵau, oherwydd yn amlwg, cawsom y digwyddiad hwnnw yng Ngheredigion, ac felly mae'n bwysig iawn ein bod yn edrych ar y pecyn cyfan mewn perthynas â lles anifeiliaid.

Rwyf am ddatblygu cynllun trwyddedu ar gyfer arddangosfeydd symudol o anifeiliaid sy'n effeithio'n barhaol ar safonau lles anifeiliaid yng Nghymru, ac unwaith eto rwy'n monitro datblygiadau'r cynlluniau tebyg y mae'r gweinyddiaethau yn y DU yn eu cyflwyno oherwydd rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn fod yr holl gynlluniau'n gydnaws. Mae gennym ffin dyllog iawn, yn amlwg.

Credaf fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru, y cyhoedd, yr asiantaethau gorfodi a'r llysoedd barhau i hyrwyddo'r ffaith fod dyletswydd o ofal eisoes ar bawb sy'n cadw anifeiliaid i ddiogelu'r anifeiliaid yn eu gofal, a hynny pa un a yw ar sail barhaol neu dros dro. Mae hynny'n amlwg wedi'i wreiddio yn Neddf Lles Anifeiliaid 2006. Ond credaf hefyd fod yna gyfrifoldeb arnom ni fel Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y gwerthoedd moesol y mae Cymru'n glynu atynt yn cael eu modelu mewn negeseuon a gweithredoedd cryf, a chredaf nad yw mantra perchnogaeth gyfrifol ar anifeiliaid erioed wedi'i fynegi'n gryfach nag a wnaed heddiw.

Felly, hoffwn ailadrodd unwaith eto fy ymrwymiad i archwilio cyfleoedd i gyflwyno deddfwriaeth i wahardd yr arfer o ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yng Nghymru ar y cyfle cyntaf.

18:00

Diolch, Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau i'r ddadl ac unwaith eto, i'r deisebydd am gyflwyno'r ddeiseb hon. Mae'n amlwg yn ôl y niferoedd sydd wedi bod yn awyddus i siarad yn ystod y ddadl hon y ceir cefnogaeth drawsbleidiol enfawr i waharddiad ar anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau.

Soniodd Paul Davies ei fod yn gymysg ag arddangosfeydd symudol o anifeiliaid, a chefnogwyd ef yn hynny gan Simon Thomas. Gallai cyfuno'r ddwy eitem hon achosi problemau o ran sut yr ymdriniwn â hyn yn y dyfodol. Soniodd Bethan Sayed—rwy'n eich atgoffa o'ch enw newydd—am y pwysau a roddwyd gan y deisebwyr a'r ganran uchel o aelodau o'r cyhoedd sy'n cefnogi'r gwaharddiad hwn. Hefyd gwnaeth y pwynt ynghylch yr arafwch i wneud penderfyniad ar y gwaharddiad a gofynnodd am ffrâm amser.

Soniodd Hefin David am noson gyda'r llewod a'r teigrod, neu o leiaf wneud yn siŵr na fyddai noson gyda'r llewod a'r teigrod yn digwydd, a'r llwyddiant a gawsant yn troi ymwelwyr posibl i'r digwyddiad hwnnw ymaith. Diolchodd Michelle Brown i'r rhai a lofnododd y ddeiseb a siaradodd unwaith eto am y ffaith nad yw trwyddedu'n ddymunol a gwendidau gorfodi deddfwriaeth drwyddedu o'r fath. Soniodd Mick Antoniw am ganlyniadau'r arolwg barn a wnaeth. Rwy'n credu iddo ddweud bod cefnogaeth i drwyddedu arddangosfeydd symudol o anifeiliaid. A wyf fi'n gywir i ddweud hynny? Ydw. Ac rwy'n credu bod cefnogaeth i hynny yn y Siambr yn gyffredinol. Soniodd Janet Finch-Saunders unwaith eto am gynnydd araf Llywodraeth Cymru ar gyflwyno gwaharddiad. Roedd yn gwahaniaethu unwaith eto rhwng arddangosfeydd symudol o anifeiliaid a'r defnydd o anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau.

Ailadroddodd Simon Thomas y dymuniad i weld gwaharddiad ar anifeiliaid gwyllt a syrcasau, ond unwaith eto, gan wahaniaethu rhwng y rhain ag arddangosfeydd symudol o anifeiliaid. A hefyd, nododd yr angen i reoleiddio sŵau'n briodol. Soniodd Vikki Howells am y dystiolaeth wyddonol gan yr RSPCA fod anifeiliaid yn dioddef effaith andwyol, yn gorfforol ac yn feddyliol, pan fyddant yn teithio gyda syrcasau.

Soniodd Caroline Jones am y defnydd o anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau fel rhywbeth barbaraidd, a gallai peidio â chael unrhyw ddeddfwriaeth yng Nghymru arwain at ddympio'r syrcasau hyn yng Nghymru. Croesawodd Joyce Watson y datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet—rwy'n sôn am y datganiad cynharach, wrth gwrs, Joyce—a soniodd hefyd fod hon yn ffurf greulon ar adloniant, ac yn sicr nid oedd yn adloniant i'r anifeiliaid sy'n gysylltiedig â'r arfer hwn. Soniodd hefyd am y ceirw a ddefnyddir fel arddangosioadau neu atyniadau dros gyfnod y Nadolig.

Rhaid i mi ddweud, mae'r sylwadau gan Ysgrifennydd y Cabinet, er eu bod i'w croesawu i ryw raddau, yn dweud ei bod yn dal i edrych ar y posibilrwydd o ddeddfwriaeth—o Ddeddf—ac wrth gwrs, soniodd wedyn am fframiau amser o rywbeth fel tair blynedd—[Torri ar draws.] Wel, dyna'r ffrâm amser a roesoch ar gyfer cyflwyno deddfwriaeth—.

18:05

Iawn, fe gaf fy nghywiro ar hynny, wrth gwrs, Ysgrifennydd y Cabinet.

Blwyddyn 3 y rhaglen ddeddfwriaethol sy'n dechrau yr haf hwn oedd yr hyn a ddywedais.

Ie, diolch. Wel, buaswn yn ei hannog o ddifrif i ystyried y defnydd o adran 12 o'r Ddeddf hawliau anifeiliaid, oherwydd mae'n amlwg o'r holl sylwadau a wnaed yn y Siambr hon heddiw fod angen gweithredu ar fyrder mewn perthynas â hyn, fel arall byddwn yn llusgo ar ôl deddfwrfeydd eraill a bydd Cymru yn cael ei gweld fel opsiwn hawdd i'r syrcasau hyn.

Felly, rwyf am sôn am y ffaith y byddwn, fel pwyllgor, yn dychwelyd at y pwnc hwn yn y dyfodol, ac unwaith eto, a gaf fi ddiolch i bawb a gyfrannodd i'r ddadl hon, yn enwedig y rhai a gyflwynodd y ddeiseb? A hoffwn ddiolch eto i Linda a'i chefnogwyr am wneud hynny. Diolch.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

8. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ynghylch Craffu ar Reoliadau a wnaed o dan Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael)

Dyma ni'n cyrraedd y ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ynghylch craffu ar reoliadau a wnaed o dan Fesur yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael). Rydw i'n galw ar Mick Antoniw, Cadeirydd y Pwyllgor, i wneud y cynnig. Mick Antoniw.

Cynnig NDM6680 Mick Antoniw

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, 'Craffu ar reoliadau a wnaed o dan Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael)', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Chwefror 2018.

2. Yn cymeradwyo argymhellion 1, 2, 4 a 7 o'r adroddiad, sy'n argymell gwelliannau i Fil Llywodraeth y DU, Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael).

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch ichi, Lywydd. Gallaf deimlo'r cyffro yn yr awyr yn yr ystyr fod pawb ohonoch wedi aros am yr adroddiad hwn, ac fe wnaf fy ngorau i beidio â'ch siomi. Gosodwyd ein hadroddiad ar graffu ar reoliadau a wnaed o dan Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) ar 16 Chwefror, ac rydym wedi gwneud saith o argymhellion. Cyn imi siarad am ein canfyddiadau, roeddwn eisiau egluro'n fyr beth oedd cyd-destun y gwaith a nodi hefyd beth y ceisiem ei gyflawni.

Er eglurder, hoffwn ailadrodd diben y Bil ymadael, sef rhoi diwedd ar oruchafiaeth cyfraith yr UE yng nghyfraith y DU a throsi cyfraith yr UE, fel y saif ar adeg ymadael, yn gyfraith ddomestig. Mae hefyd yn creu pwerau dros dro i wneud is-ddeddfwriaeth ar ffurf rheoliadau a fydd yn galluogi cywiriadau i gael eu gwneud, gan sicrhau bod y gyfraith yn gweithredu'n briodol pan fydd y DU wedi gadael yr UE. Bydd hyn yn galluogi'r system gyfreithiol ddomestig i barhau i weithio'n iawn y tu allan i'r UE. Er mwyn gwneud hyn, bydd yr Aelodau'n gwybod bod y Bil yn gosod fframwaith newydd o'r enw 'cyfraith yr UE a ddargedwir' yn lle fframwaith Deddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, gan ddarparu sylfaen i Senedd y DU a'r deddfwrfeydd datganoledig allu gwneud eu cyfreithiau eu hunain. Dywedais wrthych na fyddwn yn eich siomi cyn belled.

Mae'r Bil yn hollti cyfraith yr UE a ddargedwir yn dri math: deddfwriaeth ddomestig sy'n deillio o'r UE o dan gymal 2 y Bil; deddfwriaeth uniongyrchol o'r UE o dan gymal 3 y Bil; a hawliau, pwerau, rhwymedigaethau ac ati sy'n codi o dan Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 o dan gymal 4 y Bil. Fel y'i drafftiwyd ar hyn o bryd, mae'r Bil yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru ddiwygio un math o gyfraith yr UE a ddargedwir, sef deddfwriaeth ddomestig sy'n deillio o'r UE. Nawr, er bod y Bil wedi ei ddiwygio yn ystod y Cyfnod Adrodd yn Nhŷ'r Cyffredin i ganiatáu i Weinidogion Cymru hefyd ddiwygio deddfwriaeth UE uniongyrchol mewn meysydd datganoledig, nid oes modd arfer y pŵer hwnnw oni bai lle y cytunwyd nad oes angen fframwaith cyffredin mewn maes datganoledig penodol. O ran gwneud rheoliadau mewn meysydd datganoledig, mae'r Bil yn cynnwys cymysgedd cymhleth o bwerau y gellir eu harfer naill ai ar yr un pryd neu ar y cyd gan Weinidogion Cymru a Gweinidogion y DU.

Prif nod ein gwaith oedd ystyried cwmpas a natur y pwerau gwneud rheoliadau sydd i'w harfer mewn perthynas â Chymru gan Lywodraeth y DU a Gweinidogion Cymru, gan gynnwys y gweithdrefnau sydd i'w cysylltu wrth y gwaith o graffu ar y rheoliadau hynny. Mae ein hadroddiad yn canolbwyntio'n bennaf ar y gwelliannau y credwn fod angen eu gwneud i'r Bil, ac wrth wneud hynny maent yn ateb y cwestiynau a godwyd gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru mewn llythyr at y Llywydd ym mis Ionawr eleni, llythyr sydd i'w weld ar ein gwefan.

Cafodd ein hadroddiad ei lywio gan gynhadledd i randdeiliaid a gynhaliwyd fis Medi diwethaf, ymgynghoriad cyffredinol a phanel o arbenigwyr sydd â phrofiad o lunio is-ddeddfwriaeth. Rydym yn ddiolchgar i bawb a gyfrannodd. Rydym hefyd wedi ystyried adroddiadau pwyllgorau seneddol eraill yn Nhy'r Cyffredin a Thy'r Arglwyddi a archwiliodd y broses o wneud is-ddeddfwriaeth ar y Bil.

Fel y mae wedi'i ddrafftio ar hyn o bryd, mae'r Bil ymadael â'r UE wedi cael ei feirniadu'n hallt am y ffordd y mae pwerau i wneud rheoliadau i gael eu harfer, gyda llawer o bwyllgorau seneddol o'r deddfwrfeydd yn y DU yn mynegi pryder ynghylch trosglwyddo gormod o bŵer o'r ddeddfwrfa i'r llywodraeth. Yn benodol, mae hyn i'w gyflawni drwy ddefnyddio pwerau Harri VIII helaeth, gyda'r weithdrefn gadarnhaol i'w defnyddio mewn amgylchiadau mwy cyfyngedig nag y byddai disgwyl fel arfer.

Mewn rhai o'n datganiadau cychwynnol ar oblygiadau deddfu i adael yr UE, rydym wedi nodi rhai egwyddorion cyfansoddiadol pwysig y credwn y dylent fod yn berthnasol i rôl y Cynulliad Cenedlaethol. Mae'r rhain yn cynnwys y Cynulliad Cenedlaethol yn pasio deddfwriaeth sylfaenol mewn meysydd datganoledig, gan ddirprwyo pwerau i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth fel y bo'n briodol ym marn y Cynulliad Cenedlaethol, a'r weithdrefn sydd i'w chymhwyso i graffu ar yr is-ddeddfwriaeth honno.

Nawr, rydym yn cydnabod bod y ffaith bod y DU yn ymadael â'r Undeb Ewropeaidd yn her ddeddfwriaethol unigryw a chymhleth sy'n rhaid ei chyflawni o fewn amser byr. Yn yr amgylchiadau hyn, ac am resymau ymarferol, rydym yn derbyn y bydd angen i'r Bil ddirprwyo pwerau i Weinidogion Cymru allu gwneud is-ddeddfwriaeth ac yn unol â hynny, bydd angen iddo bennu'r weithdrefn sydd ynghlwm wrth y pwerau hynny. Rydym yn pwysleisio na ddylid ystyried bod y dull hwn o weithredu yn ildio'r egwyddorion pwysig hyn neu ein pryderon cyffredinol ynglŷn ag ymagwedd y Bil tuag at ddatganoli, yn enwedig mewn perthynas â chymal 11. Yn hytrach, dyma ymateb pragmatig i raddfa a her y dasg unigryw o'n blaenau er mwyn sicrhau llyfr statud gweithredol.

Nawr, hoffwn rannu'r araith yn ddwy ran. Yn gyntaf, byddaf yn ystyried argymhellion 1, 2, 4 a 7, sy'n ymdrin â materion rydym yn ystyried eu bod yn galw am ddiwygio Bil Llywodraeth y DU ac sy'n destun pwynt 2 y cynnig, ac yna, yn ail, byddaf yn ystyried yr argymhellion eraill a'u goblygiadau ar gyfer y Rheolau Sefydlog, y bydd angen rhoi sylw iddynt yn nes ymlaen.

O ran argymhellion 1, 2, 4 a 7, yn ystod ei daith drwy Dŷ'r Cyffredin, diwygiwyd y Bil i gymhwyso dull sifftio ar gyfer yr holl reoliadau sydd i'w gwneud o dan gymalau 7, 8 a 9 gan ddefnyddio'r weithdrefn negyddol, sy'n ymwneud â thrin diffygion yn deillio o ymadael, cydymffurfio â rhwymedigaethau rhyngwladol a gweithredu'r cytundeb ymadael. O fewn 10 diwrnod i'w osod, rhaid i bwyllgor sifftio benderfynu a ddylai'r rheoliad fod yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol yn lle hynny, er nad yw argymhelliad o'r fath yn rhwymol. Credwn fod y dull sifftio ar gyfer Tŷ'r Cyffredin sydd bellach wedi'i gynnwys o fewn y Bil yn gam cadarnhaol ymlaen, gan wella lefel y craffu sydd ynghlwm wrth is-ddeddfwriaeth a wneir o dan y Bil hwnnw. Yn unol â hynny, mae argymhelliad 1 yn darparu y dylid diwygio'r Bil i gymhwyso'r dull sifftio ar gyfer pob un o'r rheoliadau a osodir gerbron y Cynulliad Cenedlaethol a bod pwyllgor yma'n gyfrifol am wneud argymhelliad ynghylch y weithdrefn briodol ar gyfer y rheoliadau.

Fodd bynnag, rhannwn bryderon Pwyllgor Pwerau Dirprwyedig a Diwygio Rheoliadol Tŷ'r Arglwyddi nad yw'r mecanwaith cyfredol o fewn y Bil yn ddigon cryf. Felly, mae argymhelliad 2 yn ei gwneud yn ofynnol diwygio'r Bil i'w gwneud yn ofynnol i argymhelliad pwyllgor sifftio fod yn rhwymol, ac eithrio lle mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn penderfynu fel arall. Bydd yr argymhelliad hwn yn sicrhau y gall y Cynulliad Cenedlaethol gael y gair olaf ynghylch pa weithdrefn a gaiff ei chymhwyso i wneud is-ddeddfwriaeth a osodir gerbron y Cynulliad Cenedlaethol. Mae hon yn rhan bwysig o sicrhau bod y dull sifftio'n gadarn, a byddaf yn esbonio ffyrdd eraill o sicrhau bod y dull sifftio'n gadarn drwy wneud newidiadau i'n Rheolau Sefydlog.

Fodd bynnag, ni waeth pa mor gadarn yw dull sifftio, nid yw'n cymryd lle datganiad clir ar wyneb y Bil ynglŷn â pha bryd y mae'n rhaid defnyddio'r weithdrefn gadarnhaol. Felly, rydym yn credu y dylid ehangu'r amgylchiadau cyfyngedig lle mae'n rhaid i'r weithdrefn gadarnhaol gael ei chymhwyso o dan y Bil. I bob pwrpas, mae argymhelliad 4 yn dweud y dylai'r Bil ddarparu ar gyfer defnyddio gweithdrefn gadarnhaol mewn perthynas ag unrhyw fesur sy'n ymwneud â llunio polisi, a dylid cymhwyso'r weithdrefn gadarnhaol ar gyfer rheoliadau gan gynnwys y rhai a wneir gan Weinidogion Cymru o dan gymalau 7, 8, 9 ac 17 ac Atodlen 2 sy'n diwygio neu'n diddymu deddfwriaeth sylfaenol. Yn ein barn ni, dylai'r un peth fod yn gymwys ar gyfer rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru. Ni ddylid defnyddio pwerau Harri VIII a gynhwysir yn y Bil i ddiwygio Deddf Llywodraeth Cymru 2006 a dylai Deddf Llywodraeth Cymru 2006, o ganlyniad i hynny, gael ei chynnwys yn y rhestr o ddeddfiadau yng nghymal 7(7) na ellir eu diwygio gan reoliadau. Rydym hefyd yn credu y dylid diwygio'r Bil fel y nodir yn argymhelliad 7, sef y dylai'r weithdrefn 'gwneud cadarnhaol' ar gyfer achosion brys hefyd gael ei chymhwyso ar gyfer rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru, pa un a ydynt yn gweithredu ar eu pen eu hunain neu gyda Gweinidogion y DU mewn rheoliadau cyfansawdd, neu'n gweithredu gyda Gweinidogion y DU mewn rheoliadau ar y cyd, er mwyn sicrhau cysondeb o ran y modd y caiff Gweinidogion pob Llywodraeth eu trin.

Fodd bynnag, rydym yn adleisio'r pryderon a fynegwyd gan Gymdeithas Hansard mewn perthynas â'r weithdrefn graffu a gymhwysir mewn achosion brys penodol. Y pryderon hyn yw nad yw'r Bil yn gosod dyletswydd statudol ar Weinidogion y Goron i egluro'r brys; nad oes unrhyw derfynau penodol i'r achosion, a allai fod yn rhai brys neu fel arall; gellir anwybyddu'r dull sifftio yn gyfan gwbl, eto heb i Weinidog y Goron orfod rhoi rhesymau dros anwybyddu'r dull sifftio. Credwn y dylai fod mesurau diogelu wedi'u cynnwys ar wyneb y Bil i fynd i'r afael â phob un o'r pryderon hyn.

O ran argymhellion 3, 5 a 6, mae'r rhain yn ymwneud â materion sy'n berthnasol i'r Rheolau Sefydlog, ac yn ymdrin â materion i'w penderfynu yn nes ymlaen. Fel y soniais yn gynharach, mae angen i'r dull sifftio a nodir yn y Bil fod yn fwy cadarn. Felly, credwn y dylid mabwysiadu meini prawf sifftio i roi eglurder i'r pwyllgor sifftio ynglŷn â pha feini prawf i'w dilyn wrth ddod i benderfyniad ynglŷn â pha weithdrefn y dylid ei chymhwyso.

Mae ein adroddiad yn manylu ar bum maen prawf sifftio y credwn y dylid eu mabwysiadu, ac maent yn canolbwyntio'n benodol ar yr angen am eglurder a thryloywder mewn unrhyw ddeunydd esboniadol i fynd gyda'r rheoliadau. Credwn y bydd hyn yn helpu'r pwyllgor sifftio i ddod i benderfyniad gwybodus ynghylch pa weithdrefn y dylid ei chymhwyso ar gyfer rheoliadau a wneir o dan y Bil. Bydd diffyg eglurder a thryloywder ynghylch pethau megis pa newidiadau a wneir, pa ymgynghori sy'n digwydd, a beth yw'r effaith ar gydraddoldeb a hawliau dynol yn cadw'r pwyllgor yn y tywyllwch ac yn gwneud y dull sifftio'n arafach ac yn llai trylwyr.

Er y byddai'n well gennym pe bai'r meini prawf sifftio wedi eu cynnwys ar wyneb y Bil, nid ydym yn gweld rhinwedd i'r Bil nodi'r meini prawf a fydd yn gymwys i bwyllgor sifftio'r Cynulliad Cenedlaethol heb ei fod ar yr un pryd yn gosod manylion o'r fath mewn perthynas â phwyllgor sifftio San Steffan. Felly, mae argymhelliad 3 yn dweud y dylid pennu meini prawf sifftio yn Rheolau Sefydlog y Cynulliad Cenedlaethol. Bydd y meini prawf hynny wedyn yn anfon neges glir am y math o wybodaeth sy'n rhaid ei chynnwys mewn deunydd esboniadol i gyd-fynd â'r rheoliadau a wneir o dan y Bil.

Noda argymhelliad 1 y dylai pwyllgor y Cynulliad Cenedlaethol fod yn gyfrifol am wneud yr argymhelliad ynghylch y weithdrefn briodol ar gyfer y rheoliadau. Mae argymhelliad 5 yn nodi ein barn ein bod yn ystyried mai'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yw'r pwyllgor mwyaf priodol ar gyfer cyflawni'r dasg honno. Mae gennym brofiad ac arbenigedd mewn perthynas â phwerau gwneud rheoliadau, a'r gweithdrefnau gwahanol a allai fod yn gymwys, drwy ein hystyriaeth o'r Bil a gyflwynwyd ar gyfer craffu yn y Cynulliad Cenedlaethol. Yn ogystal, rydym hefyd yn cyflawni gwaith craffu technegol a chraffu ar sail rhagoriaeth ar bob offeryn statudol a osodir gerbron y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol Sefydlog 21. Yn aml, gall hyn gynnwys llunio barn ynglŷn ag a wnaed y defnydd priodol o'r weithdrefn negyddol neu'r weithdrefn gadarnhaol gan Weinidogion Cymru lle mae rhiant-Ddeddf yn caniatáu dewis y weithdrefn sydd i'w gwneud. Yn ein barn ni, dyma fyddai'r dull mwyaf effeithlon a phragmatig ar gyfer ymdrin â'r dasg ddeddfwriaethol enfawr hon sy'n rhaid ei chyflawni mewn amser byr.

Gwnaethom argymhelliad hefyd, argymhelliad 6, ynglŷn â chymhwyso'r dull sifftio i gategorïau o reoliadau a ddisgrifiwyd gennym yn yr adroddiad. Mae un o'r categorïau hyn yn ymwneud â rheoliadau a wneir gan Weinidogion y DU yn gweithredu ar eu pen eu hunain. Gan ddefnyddio'r pwerau eang a roddir iddynt, gallant wneud rheoliadau mewn meysydd datganoledig. Gallai hyn arwain at reoliadau o'r math y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn eu gweld o ddydd i ddydd yn cael eu gosod gerbron Senedd y DU yn unig. Nid yn unig hynny, ond gallai Gweinidogion y DU hefyd ddefnyddio'u pwerau eang i ddylanwadu ar gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol. Gallai camau gweithredol arwain at newidiadau yng nghwmpas cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad. Ystyriwn fod amhriodoldeb cyfansoddiadol y dull hwn yn glir. Felly, er na fydd rheoliadau o'r fath yn cael eu gosod gerbron y Cynulliad, credwn y dylid rhoi rhyw ran i'r pwyllgor sifftio yn y Cynulliad Cenedlaethol yn y gwaith o graffu ar reoliadau a wnaed gan Weinidogion y DU mewn meysydd datganoledig a osodwyd gerbron Senedd y DU. Fan lleiaf, dylai'r pwyllgor sifftio gael gwybod am unrhyw reoliadau o'r fath ar yr un pryd ag y bydd pwyllgor sifftio Tŷ'r Cyffredin yn cael gwybod amdanynt. Wedyn gall pwyllgor y Cynulliad Cenedlaethol gyflwyno sylwadau i, neu gynghori pwyllgor Tŷ'r Cyffredin lle bo hynny'n briodol.

Mae ein hadroddiad hefyd yn nodi y bydd angen ystyried materion gweithredol eraill, yn enwedig o ran sut y bydd angen i bwyllgor sifftio'r Cynulliad Cenedlaethol weithio gyda phwyllgor sifftio Tŷ'r Cyffredin, lle y gwneir rheoliadau gan Weinidogion Cymru a Gweinidogion y DU yn gweithredu ar yr un pryd.

Cyhoeddwyd ein hadroddiad cyn i Fil parhad Llywodraeth Cymru ei hun gael ei gyflwyno yn y Cynulliad. Rydym yn cymryd tystiolaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet ar y Bil ddydd Llun nesaf. Un o'r materion y byddwn yn ceisio ei archwilio gydag ef yw pa un a yw Llywodraeth Cymru'n bwriadu cael mynediad at bwerau gwneud rheoliadau a fydd ar gael i Weinidogion Cymru yn y ddau Fil a rhinweddau gweithredu yn y fath fodd. Diolch.

18:20

A gaf fi ddiolch i Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, Mick Antoniw, am amlinellu pethau mor glir? A gaf fi ddweud wrth yr Aelodau y ceir adegau pan fo'r hyn sydd yn ôl pob golwg yn aneglur yn hanfodol bwysig mewn gwirionedd, ac mae hwn yn un ohonynt? Hoffwn danlinellu un neu ddau o'r pethau y mae Mick wedi eu dweud oherwydd, yn amlwg, nid oes angen ychwanegu at y disgrifiad o'r sefyllfa rydym ynddi yn awr.

Mae'r Bil ymadael â'r UE yn Fil rhyfeddol, ac yn amlwg, mae'n newid yn llwyr ein perthynas ag Ewrop, ond hefyd y setliad datganoli. Mae sut rydym yn rheoli hynny i gyd yn hanfodol bwysig, ac mae'n bwysig iawn fod gennym ddull sifftio. Mae'n amlwg mai dyna yw'r argymhelliad canolog yma, a bydd yn adlewyrchu'r arfer tebygol bellach yn San Steffan i lywodraethu'r gwaith, felly, o weinyddu pwerau gweinidogol yno. Ond mae angen inni wneud yr un peth gyda materion datganoledig. Fel y mae aelodau'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn sylweddoli, rwy'n credu ei bod hi'n debygol y bydd yn rhaid i'r pwyllgor wneud y gwaith hwnnw. Felly, rydym yn gwneud yr argymhelliad hwn i chi, ond rydym hefyd yn dweud ein bod yn barod i wneud y gwaith.

Mae'n bwysig iawn fod penderfyniad y pwyllgor sifftio yn rhwymol. Gan amlaf, mae'r argymhellion y mae Gweinidogion yn eu gwneud yn mynd i gael eu derbyn. Rydym yn sôn am nifer helaeth o eitemau a allai ddod drwodd ar bwerau is-ddeddfwriaethol—mae 500 neu 600, rwy'n meddwl, wedi cael eu crybwyll. Felly, mae nifer yr offerynnau statudol yn mynd i fod yn fawr iawn.

Felly, gan dderbyn y pwerau rheoleiddio eang sy'n rhaid i Weinidogion eu cael, y ffordd briodol o wirio cydbwysedd yma yw dull sifftio. Os nad oes gennym ddull sifftio, ceir perygl gwirioneddol, drwy ba amryfusedd bynnag, o symud pŵer sylweddol o'r ddeddfwrfa i Weinidogion. Rwy'n siŵr nad yw Llywodraeth Cymru eisiau hynny. Felly, mae'r awgrym hwn yn ffordd ymarferol iawn ymlaen.

Ar rai pwyntiau, credaf y dylai unrhyw ddefnydd o bwerau Harri VIII ei gwneud yn ofynnol, o leiaf, i'r weithdrefn gadarnhaol gael ei defnyddio. Mae honno'n egwyddor bwysig iawn, ond yn gyffredinol, mae'n anodd gweld sut y gall ein dyletswydd i graffu weithio'n effeithiol mewn gwirionedd oni fydd gennym y ffordd hon o wirio'r cydbwysedd ar ffurf dull sifftio. Diolch.

Gwelaf frwdfrydedd y Siambr ynghylch y ddadl hon, ond mewn gwirionedd—fel y mae Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol wedi nodi—mae'n bwysig iawn yn y bôn. Rydym yn trafod Bil ymadael â'r UE—y rhan fwyaf o'r Bil ymadael â'r UE. Gwn ein bod wedi bod yn trafod, yn ystod yr wythnosau diwethaf, y rhannau sy'n ymwneud â'r meysydd datganoledig a phethau, ond dyma gorff y Bil ymadael â'r UE ei hun. Rydym wedi trafod cipio pŵer, rydym wedi trafod cynigion cymhwysedd deddfwriaethol ac yn amlwg, y Bil parhad, sydd wedi ymddangos ers llunio'r adroddiad rhagorol hwn. A gaf fi gymeradwyo arweinyddiaeth y Cadeirydd a gwaith caled ein clercod, ein hymchwilwyr a'n cynorthwywyr cyfreithiol hefyd, sydd wedi bod yn aruthrol dros yr ychydig wythnosau diwethaf, yn sicr pan ydym wedi bod yn cynhyrchu adroddiad ar ôl adroddiad?

Fe gofiwch yr wythnos diwethaf ein bod wedi cael dadl Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar gysylltiadau rhynglywodraethol, a oedd yn seiliedig ar yr angen i'r holl ddeddfwyr yn yr ynysoedd hyn ystyried ei gilydd gyda pharch cyfartal ac yn gydradd. Yr hyn sydd gennym ger ein bron heddiw yw'r ymgais ddiweddaraf gan y Cynulliad Cenedlaethol hwn i wneud yn siŵr fod ein llais yn cael ei glywed yr un mor glir â phwyllgorau eraill tebyg mewn deddfwrfeydd eraill. Rydym yn gweithio gyda phwyllgorau eraill tebyg yn Nhŷ'r Arglwyddi yn San Steffan a'r pwyllgor cyfatebol yn yr Alban, ond yn y pen draw, mae'n ymwneud â chydraddoldeb deddfwrfeydd a pharch cyffredin, a mwy na chael ychydig o bwerau, mae rhywun arall yn penderfynu beth a gawn, a rhaid inni fwrw ymlaen â gwneud hynny. Dyma ymdrech ystyrlon i wneud rhywbeth am y peth a cheisio dylanwadu ar y ffordd y mae pethau'n digwydd. Oherwydd mae cipio pŵer yn bosibl, fel roedd David Melding yn amlinellu, a chipio pŵer yn yr ystyr nad yw dau Weinidog o'r ddeddfwrfa hon yn awr yn colli pwerau o'r lle hwn, er bod hynny yn y cefndir, yn amlwg, ac yn dal i fod yn fygythiad sylfaenol, sef y rheswm pam y mae gennym yr holl fecanweithiau eraill hyn yn digwydd. Hoffwn ailadrodd yr hyn a benderfynwyd gennym yr wythnos diwethaf: cefnogi cydgyngor Gweinidogion diwygiedig a hefyd cynhadledd y Llefaryddion mewn perthynas â'r ffordd ymlaen. Gallaf weld y Cwnsler Cyffredinol yn nodio'n frwd, ac rwy'n croesawu hynny.

Nawr, o ran y dull sifftio, sef y cyfraniad canolog yma, rhaid inni gael ffordd o ymdrin ag oddeutu 600 a mwy o ddarnau o ddeddfwriaeth sy'n dod y ffordd hon, ac mewn gwirionedd, rhaid inni gael rhywfaint o reolaeth dros hynny a'r rheolaeth honno yw'r dull sifftio, sydd yn yr argymhellion hynny rwy'n eu hargymell yn galonnog i bawb yn dilyn arweiniad ein Cadeirydd. Ond hefyd, nid mater o amenio penderfyniadau yn unig fydd hyn. Mae pwyllgor yma—ac rydym yn awgrymu yn argymhelliad 5 mai'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol fydd hwnnw—yn gwneud y sifftio, sydd hefyd yn broses weithredol, i wneud yn siŵr, fel yr amlinellodd David Melding, na fydd pwerau gwneud rheoliadau yn cael eu defnyddio i newid y cydbwysedd grym yn ormodol tuag at lywodraethau ac oddi wrth ddeddfwrfeydd, fel rydym ni ac yntau wedi amlinellu. Oherwydd mae perygl, wrth geisio bod yn gyflym am fod gennych gymaint i ymdrin ag ef, ein bod yn rhoi'r cyfan i'r Gweinidogion perthnasol heb unrhyw ymwneud â Chynulliad Cenedlaethol Cymru. Nid yw hynny'n iawn. Dyna pam y mae angen pwyllgor sifftio.

Mae'r un peth ynghylch pwerau gwneud rheoliadau—yr hen bwerau Harri VIII rydym yn eu trafod y rhan fwyaf o wythnosau yn y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol. Rhaid i mi ddweud wrth David Melding, rwy'n credu bod cyfnod Harri VIII yn oes aur iddo; un arall yw'r 1920au. Mae'r 1540au yn un arall. Ond mae perygl sylfaenol iawn gyda phwerau Harri VIII, oherwydd yn y bôn mae angen inni allu craffu ar berfformiad y rheini yn ogystal, yn hytrach na bod gennym Weinidogion y Goron yn unig yn gorfodi eu barn ar y ddeddfwrfa hon heb i ni fel deddfwrfa allu gwneud unrhyw beth am y peth. Felly, rhaid i unrhyw bwerau Harri VIII a orfodir gael eu diffinio'n glir a bod yn ddarostyngedig o leiaf i'r weithdrefn gadarnhaol fel yr amlinellwyd yma. Dyna farn hirsefydlog y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaeth gyda llaw; nid rhywbeth sy'n berthnasol i'r sefyllfa benodol hon yn unig ydyw.

Felly, mae'n adroddiad eang. Mae'n ffordd gydlynol o ymdrin â llawer iawn o'r ddeddfwriaeth sy'n mynd i ddod y ffordd hon. Dyma ffordd gydlynol o ymdrin â hi, ac rwy'n argymell yr adroddiad yn frwd, ac rwyf hefyd yn llwyr ddisgwyl, ac yn gobeithio y gwelir gwireddu cefnogaeth unfrydol y Siambr hon. Diolch yn fawr.

18:25

A gaf fi yn gyntaf ddiolch i Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol am gyflwyniad manwl iawn o'r adroddiad a'r dadleuon ynglŷn â pham y mae angen inni gefnogi hynny. Rydym yn sôn am Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael), yn amlwg—rhywbeth na fydd yn digwydd o bosibl, yn dibynnu ar beth sy'n digwydd yn yr wythnosau sy'n dod. Ond mae'n bwysig ein bod yn cael hyn yn iawn, oherwydd pa Fil bynnag a fydd gennym yn y pen draw, mae angen inni sicrhau bod gennym broses graffu briodol ar gyfer y Bil penodol hwnnw.

Edrychodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar y Bil ymadael â'r UE yn fanwl iawn hefyd, a chawsom sesiynau ar y cyd â'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar hyn. Ond rydym wedi cyflwyno gwelliannau i'r Bil ymadael â'r UE i Aelodau Seneddol a chawsant eu derbyn i gyd a'u symud ymlaen gan Aelodau Seneddol yn y Cyfnod Pwyllgor. Yn anffodus, ni chafodd yr un ohonynt eu derbyn gan y Llywodraeth. Ond nodwyd chwe amcan gennym ar y cam hwnnw, ac un ohonynt oedd sicrhau bod pwerau sydd ar gael i Weinidogion Cymru o dan y Bil wedi'u cyfyngu'n llym, ac wedi'u llunio'n llawer tynnach na'r rhai a nodir ar hyn o bryd yn y Bil. Oherwydd rydym yn cydnabod yr angen pwysig i Weinidogion fod yn atebol i'r ddeddfwrfa hon a pheidio â chael y pwerau eang a phellgyrhaeddol roedd y Bil yn ei argymell. Fel y crybwyllwyd, mae pwerau Harri VIII yn eang iawn ac yn weithdrefnau negyddol yn aml iawn. Nid oeddem yn cytuno â hynny. Bu'n rhaid inni sicrhau bod Gweinidogion Cymru yn atebol i'r sefydliad hwn, a'n bod yn gallu cyfyngu ar eu pwerau yn yr ystyr honno. Buaswn yn cydnabod bod gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yr un farn a phryderon ynglŷn â hynny ag a fynegwyd gan lawer, gyda llaw, mewn pwyllgorau eraill ar draws Tŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi. Felly, nid yw hynny'n newydd, ond fe ganolbwyntiom ar hynny.

Nodwyd gennym hefyd mai amcan 6 oedd sicrhau y gall y Cynulliad bennu ei threfniadau craffu ei hun, a chredaf fod hynny'n hanfodol iawn. Cydnabyddir gan y pwerau a roddwyd i'r Cynulliad gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 mai mater i'r Cynulliad yn unig, fel y sefydliad sy'n atebol yn ddemocrataidd ar gyfer Cymru, yw pennu ei weithdrefnau ei hun. Mae honno'n ffaith bwysig y dylem ei chofio. Byddai'r Bil fel y'i drafftiwyd, mewn gwirionedd, yn tanseilio'r agwedd gyfansoddiadol honno drwy geisio pennu, ar ein rhan ni fel y Cynulliad, y gweithdrefnau a fydd yn gymwys i graffu ar is-ddeddfwriaeth. Rwy'n derbyn y dull sifftio a roddir ar waith—nid yw'n mynd â hynny oddi wrthym—yn y Bil; mae hwnnw'n dal i fod yno. Felly, mae angen inni ymdrin â hynny ac rydym wedi tynnu sylw at hyn. Mae'r Bil ymadael yn ceisio gosod gweithdrefn arnom, fel Cynulliad, heb unrhyw ymgynghori. A heb gydnabod ein barn a fynegwyd yn ein hadroddiad ar y Papur Gwyn, roedd y Llywodraeth yn mynd i fwrw ymlaen â hynny.

Dywedodd yr Athro John Bell, mewn tystiolaeth ysgrifenedig i'r pwyllgor, fod

Y darpariaethau ar gyfer Craffu yn annigonol... Nid yw'r Bil yn cydnabod maint y dasg, ac felly yr angen i gael gweithdrefnau wedi'u cynllunio'n wahanol er mwyn sicrhau bod gwaith craffu digonol yn digwydd... Mae'r Bil yn rhagdybio y bydd gweithdrefnau presennol yn cael eu defnyddio, ond nid yw hynny'n bosibl. Mae angen rhoi sylw difrifol iawn i sut y bydd craffu'n gweithredu. 

Rwy'n gwerthfawrogi'n fawr iawn y gwaith a wnaeth y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol i edrych ar yr agweddau hynny ar graffu, oherwydd roeddem yn pryderu'n fawr ynglŷn â sut y byddem ni fel sefydliad yn gallu craffu ar is-ddeddfwriaeth a oedd yn mynd drwy'r Senedd yn arbennig, gan effeithio ar gymhwysedd datganoledig, ond ni fyddai gennym unrhyw allu i gyflwyno sylwadau yn ei chylch.

Rhoddodd y Sefydliad Materion Cymreig dystiolaeth ysgrifenedig i ni:

Rhoddir pwerau cyfatebol i sefydliadau datganoledig gan gymal 10 ac atodlen 2, sy'n golygu y gallai Gweinidogion Llywodraeth Cymru hefyd gymryd pwerau Harri VIII o dan y Bil hwn pe baent yn dymuno. Wrth gwrs, byddai'n anfoddhaol i weld y pŵer hwn yn cael ei efelychu yng Nghymru, heb weithredu i ailgydbwyso'r systemau craffu sydd ar gael... Ni ddylai diffygion mewn craffu seneddol gael eu hefelychu yng Nghaerdydd.

Felly, mae angen diwygio'r Bil hwn. Mae angen cefnogi'r adroddiad hwn er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud y neges yn gwbl glir y dylai sefydliadau datganoledig gael yr hawl i bennu eu gweithdrefnau craffu eu hunain a dylem hefyd ddilyn esiampl y dull sifftio, a galluogi pwyllgor i ymgymryd â'r dasg pan geir gweithdrefn negyddol, er mwyn asesu'r eitem honno o is-ddeddfwriaeth. Felly, rwy'n gofyn i'r Aelodau roi eu cefnogaeth lawn i'r cynnig.

18:30

Yn gyntaf hoffwn ddiolch i Gadeirydd y Pwyllgor, yr Aelod Cynulliad dros Bontypridd, am ei waith ar yr adroddiad hwn. Hoffwn hefyd ddiolch i bawb o'r tîm sy'n cefnogi'r pwyllgor am eu hymdrechion yn hyn o beth ac yn olaf, i fy nghyd-aelodau ar y pwyllgor, y gwn eu bod wedi rhoi llawer o amser, ymdrech a meddwl tuag at yr adroddiad hwn.

Mae fy nghyfraniad heddiw yn mynd i fod yn gymharol fyr, gan fod yn rhaid i mi gytuno â llawer o'r hyn y mae fy nghyd-aelodau o'r pwyllgor eisoes wedi ei gyfrannu i'r adroddiad hwn ac at y ddadl. Y rhan o'r adroddiad yr hoffwn dynnu sylw ati, oherwydd fy mod yn teimlo ei bod o bwys mawr, yw'r dull sifftio ar gyfer Tŷ'r Cyffredin sydd bellach wedi'i gynnwys yn y Bil hwn. Mae'n gam cadarnhaol tuag at wella lefel y craffu sydd ynghlwm wrth is-ddeddfwriaeth a wneir o dan y Bil.

Rwy'n gobeithio y byddai pob Aelod yn cytuno, o'r dystiolaeth a gasglwyd yn yr adroddiad hwn, ei bod hi'n amlwg y dylai'r un dull sifftio gael ei gymhwyso yma yn y Cynulliad Cenedlaethol. Mae'r adroddiad hwn yn argymell mai'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol a ddylai fod yn bwyllgor sifftio ar gyfer y Cynulliad. Mae'n rhywbeth rydym ni, fel pwyllgor, wedi'i drafod yn fanwl iawn ac rydym yn ystyried mai dyma fyddai'r dull mwyaf ymarferol o ymdrin â'r holl is-ddeddfwriaeth y mae disgwyl iddi ddod gerbron y sefydliad hwn. Diolch.

Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd. Rwyf am ddechrau hefyd drwy ddiolch i'r pwyllgor am archwilio'r gwaith o graffu ar reoliadau a wneir o dan y pwerau a gynhwysir ym Mil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) Llywodraeth y DU. 

Nid yw Llywodraeth Cymru wedi cael cyfle eto i ymateb yn ffurfiol i'r adroddiad, a gyhoeddwyd ychydig wythnosau yn ôl yn unig. Fodd bynnag, deallwn yn llwyr pam y mae'r pwyllgor wedi bod mor awyddus i gael dadl ar yr adroddiad a'i argymhellion yn y Senedd, gan fod y Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) yn parhau i wneud ei ffordd drwy Dŷ'r Arglwyddi. Bydd y Llywodraeth yn cefnogi'r cynnig heddiw, ond gydag un amod, a dof at hwnnw maes o law.

Rydym wedi bod yn glir yn gyson ynglŷn â'n pryderon ynghylch ehangder a chwmpas y pwerau dirprwyedig a gynhwysir ym Mil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael). Roedd y diwygiadau arfaethedig a gyhoeddwyd gennym ar y cyd â Llywodraeth yr Alban yn cynnwys darpariaethau a fyddai'n dileu'r cyfyngiadau amrywiol a osodwyd ar bwerau gwneud rheoliadau Gweinidogion Cymru yn y Bil hwnnw. Byddai ein gwelliannau wedi gwneud pwerau Gweinidogion Cymru yn gyfartal â phwerau Gweinidogion y DU, fel y nododd nifer fawr o bobl yn ystod y ddadl yn gynharach. Hefyd roeddem yn glir y byddem yn cefnogi argymhellion i gyfyngu ar eu cwmpas a gwella'r gofynion craffu sydd ynghlwm wrthynt, felly rydym yn cytuno'n llwyr â phob un o'r sylwadau a wnaed ynghylch trosglwyddo pwerau, a gwnaed y pwynt hwnnw'n dda gan bawb sydd wedi cyfrannu heddiw.

Felly, rydym yn croesawu'r gwelliannau i Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) sy'n darparu ar gyfer pwyllgor sifftio, ac rydym yn cytuno ag argymhelliad cyntaf y pwyllgor y dylai'r dull sifftio gwmpasu'r holl reoliadau a wneir o dan y Bil ac iddynt gael eu gosod gerbron y Cynulliad.

Rydym yn ymatal rhag rhoi ein safbwynt ar ail argymhelliad y pwyllgor, sy'n datgan y dylai pob un o argymhellion y pwyllgor sifftio fod yn rhwymol. Gwrandewais yn ofalus ar y dadleuon ac nid ydym eto wedi ymateb yn ffurfiol, felly nid wyf yn dweud nad ydym yn dweud hynny, ond ar hyn o bryd rydym yn ymatal rhag rhoi ein safbwynt tra'n bod yn ystyried yn drylwyr beth fyddai holl ganlyniadau hynny. Oherwydd yn y mwyafrif llethol o achosion credwn y bydd Gweinidogion Cymru yn derbyn argymhelliad y pwyllgor sifftio y dylai set o reoliadau fod yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol yn hytrach na'r weithdrefn negyddol, er enghraifft—beth bynnag y bo canlyniad y broses sifftio honno. Fodd bynnag, credwn y gallai fod sefyllfaoedd lle y bydd angen i Weinidogion Cymru, am resymau'n ymwneud â brys, er enghraifft, weithredu'n gyflymach nag y mae'r weithdrefn gadarnhaol yn darparu ar eu cyfer, ac mae'n hanfodol fod Llywodraeth yn cadw'r hyblygrwydd i wneud hynny, er gwaethaf argymhellion y pwyllgor sifftio. Credaf hefyd fod yna achos dros gynnal trefniadau cyson rhwng y Cynulliad Cenedlaethol a Senedd y DU, yn enwedig ar gyfer offerynnau cyfansawdd ac ar y cyd lle byddai pwyllgorau sifftio'r Cynulliad a'r Senedd yn gwneud argymhellion ynghylch y gweithdrefnau priodol. Mewn rhai amgylchiadau mae'n bosibl y gallai Gweinidogion y DU, am resymau dilys, ddiystyru argymhelliad eu pwyllgor sifftio, ond efallai na fydd modd i Weinidogion Cymru wneud hynny pe baem yn derbyn yr argymhelliad hwnnw. Rydym am feddwl amdano. Rydym am ystyried hynny ymhellach wrth inni ymateb yn ffurfiol i'r adroddiad.

Hoffwn ailadrodd ein bod yn croesawu craffu. Mae Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru) yn cynnwys gweithdrefnau mwy trylwyr ar gyfer craffu ar y pwerau dirprwyedig nag y mae'r Bil ymadael â'r UE yn ei wneud. Mae hyn yn dangos ein hymrwymiad i roi'r adnoddau cywir i'r Cynulliad allu craffu ar sut y mae Gweinidogion Cymru yn defnyddio eu pwerau dirprwyedig. Ond rhaid inni sicrhau'r cydbwysedd cywir rhwng rôl graffu'r Cynulliad a'r angen i'r Weithrediaeth allu ymateb yn gyflym ac yn hyblyg i'r hyn sy'n debygol o fod yn dirwedd ddeddfwriaethol sy'n symud yn gyflym ac sy'n newid yn gyflym wrth inni nesáu at Brexit. Ni fydd gwneud argymhellion y dull sifftio yn rhwymol yn sicrhau'r cydbwysedd hwn, yn ein barn ni. [Torri ar draws.] Wrth gwrs.

18:35

Dull o wirio cydbwysedd ydyw, a chi fydd yn gwneud yr holl argymhellion cychwynnol, a fydd yn cael eu sifftio wedyn. Hefyd, bydd yr holl waith hwn yn cael ei wneud ymhell cyn y diwrnod gadael, felly nid wyf yn hollol siŵr fod yna lefel o frys, yn sicr o'r maint rydych yn ei rhagweld, ac nid wyf yn meddwl mai dull y pwyllgor sifftio o weithredu fydd gwneud llawer o alwadau. Ymwneud yn unig y bydd â ble rydym yn credu o ddifrif y dylai rhywbeth fynd o'r negyddol i'r cadarnhaol mewn gwirionedd.

Ie, rwy'n derbyn hynny, ond rwy'n credu ein bod am feddwl ychydig mwy am hynny wrth inni symud ymlaen. Felly, fel y dywedaf, rydym yn dilyn cyngor yn ei gylch yn hytrach na'i wrthod yn llwyr ar hyn o bryd, a dyna pam rydym yn cefnogi'r adroddiad yn gyffredinol.

Felly, mewn perthynas ag argymhellion 4 a 7 y pwyllgor, rydym yn cytuno â'r diwygiadau a nodwyd ym mharagraffau 44 i 46 o adroddiad y pwyllgor, ac rydym yn cytuno y dylai'r weithdrefn gadarnhaol dros dro fod ar gael ar gyfer rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

Gan droi'n fyr at yr argymhellion sy'n weddill, rydym yn cytuno y dylai'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol weithredu fel y pwyllgor sifftio, ond credwn efallai y bydd angen i'r Cynulliad ystyried a ddylid newid trefniadau presennol y pwyllgor i'w alluogi i ymdrin â lefel y gwaith.

Gan droi at argymhelliad 3, bydd angen i'r pwyllgor sifftio gytuno ar y meini prawf ar gyfer cyflawni'r broses sifftio. Bydd hi'n bwysig i'r meini prawf hyn, ac unrhyw newidiadau i'r Rheolau Sefydlog, fod yn gyson â'r fframwaith terfynol ar gyfer y dull sifftio a nodir yn y Bil. I fod yn deg, gwnaeth Cadeirydd y pwyllgor y pwynt hwnnw'n rymus iawn, yn fy marn i. Nid ydym eto wedi ein darbwyllo y dylid cynnwys y meini prawf yn y Rheolau Sefydlog. Credwn y dylem ddychwelyd at y mater hwn pan gytunir ar y dull sifftio terfynol. Felly, unwaith eto, mae hwn yn un o'r darnau cymhleth o waith lle rydym yn ceisio gwneud i sawl darn o ddeddfwriaeth a'n Rheolau Sefydlog a'r holl weithdrefnau gyd-fynd â'i gilydd.

Yn olaf, rydym yn tueddu i gytuno ag argymhelliad 6, sy'n nodi'r categorïau o reoliadau y dylai'r dull sifftio gael ei gymhwyso iddynt. Fodd bynnag rydym yn nodi'r heriau logistaidd posibl mewn perthynas â rheoliadau cyfansawdd ac ar y cyd, lle bydd pwyllgorau sifftio'r Cynulliad a Senedd y DU yn rhan o'r broses.

Felly, yn gyffredinol, rydym yn croesawu'r adroddiad yn fawr, rydym yn ddiolchgar iawn am y gwaith a wnaeth y pwyllgor, a byddwn yn cefnogi'r cynnig yn gyffredinol. Ond fel y dywedais yn gynharach yn fy ymateb, byddwn yn ymatal rhag rhoi ein safbwynt ar argymhelliad 2. Diolch.

Yn gyntaf, diolch i bawb ohonoch sydd wedi cyfrannu ac wedi treulio amser yn mynd drwy fanylion yr adroddiad hwn. Unwaith eto, rwy'n croesawu fy nghyd-aelodau o'r pwyllgor, sydd wedi gweithio'n galed iawn mewn cyfnod byr iawn o amser, a hefyd i'r staff a wnaeth hynny hefyd. Ac mae'n deg dweud mai dyma un o'r adroddiadau mwyaf diflas ac anniddorol a ddaw gerbron y Siambr hon byth, mae'n debyg. [Chwerthin.] Ond mae hefyd yn un o'r adroddiadau mwyaf hanfodol bwysig sy'n ymdrin â holl fater cydbwysedd pwerau a rheol y gyfraith sy'n deillio o'r Siambr hon. A dyma ni, 500 o flynyddoedd yn ddiweddarach, yn dal i feio Harri VIII am lawer iawn o bethau.

A gaf fi ddiolch i Dai Rees, hefyd, am ei sylwadau a hefyd am y cydweithrediad a gawsom mewn nifer o feysydd, wrth edrych ar y meysydd cyffredin hyn? Rwy'n credu bod hynny wedi bod yn amhrisiadwy mewn gwirionedd.

Rwy'n croesawu'r sylwadau a wnaed gan y Llywodraeth, ond rwy'n gwneud y pwynt penodol hwn, mai un o'r rhesymau pam fod y cynnig yn y fformat hwn, o ran ei gymeradwyo, yw oherwydd y gwahoddiad penodol gan Lywodraeth y DU i fynd ati i ystyried nifer o'r pwyntiau o welliannau hyn mewn perthynas â chraffu. Felly, roedd yna gyfle penodol roedd yn rhaid ymateb iddo, ond hefyd ni fyddai'n briodol i ni fel pwyllgor wneud argymhellion o'r math hwnnw heb gymeradwyaeth y Siambr hon o leiaf. Ac wrth gwrs, yn y materion hyn i gyd, yr egwyddor yn y pen draw yw hyn, ac rwy'n croesawu'n fawr iawn y sylwadau a wnaed gan y Llywodraeth a'r ffaith y byddant yn ystyried y materion pwysig hyn, oherwydd mae'n rhaid i hyn fod yn rhywbeth y gellir ei weithredu. Ond o ran arfer grym llywodraethol a chraffu ar hynny, mater i'r Siambr hon, nid i'r Llywodraeth yw craffu yn y pen draw. Nid mater i'r Llywodraeth yw gosod y rheolau ar gyfer craffu ar ei waith ei hun. Yn y pen draw, mae rheol y gyfraith yn mynnu bod craffu'n digwydd gan y Cynulliad hwn, a dyna pam y credaf fod yr adroddiad hwn yn drylwyr, ond rwy'n croesawu'r ymateb cadarnhaol a gafwyd a chan yr Aelodau. Diolch.

18:40

Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

9. Cyfnod pleidleisio

Symudwn ymlaen at y cyfnod pleidleisio. Oni bai bod tri Aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu, rwyf am fwrw ymlaen i gynnal y bleidlais. Iawn, diolch. Felly, symudwn ymlaen i bleidleisio ar y ddadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21 ar gyfiawnder troseddol, a galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enwau Jenny Rathbone, Jane Hutt, Bethan Sayed, Dai Lloyd, David Melding a Julie Morgan. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 32, roedd 4 yn ymatal, ac 8 yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig.

NDM6665 - Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): O blaid: 32, Yn erbyn: 8, Ymatal: 4

Derbyniwyd y cynnig

10. Dadl Fer: Cartrefi diogel—teuluoedd sefydlog

Symudwn yn awr at y ddadl fer. Rydym yn symud yn awr at y ddadl fer. A wnaiff yr Aelodau sy'n gadael y Siambr wneud hynny neu fynd yn ôl i'ch seddau? Diolch. Galwaf am y ddadl fer yn awr, a galwaf ar Julie Morgan i siarad am y pwnc y mae wedi'i ddewis. Julie.

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Teitl fy nadl fer yw 'Cartrefi diogel—teuluoedd sefydlog. Pam mae angen diddymu adran 21 i roi mwy o sicrwydd i deuluoedd yn y sector rhentu preifat yng Nghymru.' Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Shelter Cymru am eu gwaith ac am eu cymorth ar y pwnc hwn, ac i ddatgan buddiant am fod fy merch yn gweithio i Shelter Cymru. Rwyf wedi cytuno y dylai Dawn Bowden, Joyce Watson, Mike Hedges a Jenny Rathbone siarad ar ôl i mi orffen fy sylwadau. Felly, diolch yn fawr iawn am eich diddordeb.

Felly, beth yw adran 21? Roedd Deddf Tai 1988 yn atal tenantiaethau gwarchodedig dan Ddeddf Rhenti 1977 y Blaid Lafur. Ar 15 Ionawr 1989, daeth y denantiaeth fyrddaliol sicr i rym. Ochr yn ochr â hi, daeth y weithdrefn i gyflymu'r broses o adennill meddiant, sef adran 21 o Ddeddf 1988, sef troi allan 'dim bai' i'r lleygwr. Yn ymarferol, mae'n golygu y gall landlordiaid droi pobl sy'n byw mewn cartrefi rhent preifat allan o'u tai heb unrhyw reswm o gwbl.

Mae yna 460,000 o bobl yn byw yn y sector rhentu preifat yng Nghymru, a chredaf na ddylent fod mewn ofn cyson o gael eu troi allan heb reswm da. Mae angen iddynt allu cysgu'n dawel yn eu cartrefi. Pan fyddwn yn sôn am bobl sy'n byw yn y sector rhentu preifat, nid siarad yn unig a wnawn am bobl ifanc sydd am gael y rhyddid i godi pac a symud ar fyr rybudd. Rydym yn sôn yn awr am deuluoedd sydd angen sylfaen solet i allu cael eu plant i ysgolion a rhieni sengl sydd angen dod o hyd i waith yn lleol. Mae'r sector rhentu preifat wedi newid yn aruthrol, ac erbyn hyn mae'n gyffredin ac mae llawer o deuluoedd ei angen. Dychmygwch y tarfu a'r gost o orfod symud ar fympwy'r landlord. Dychmygwch mai newydd beintio ystafell wely'r plant rydych chi a'u bod yn mwynhau eu hysgol newydd, dychmygwch eich bod newydd ddod o hyd i swydd ran-amser dda o'r diwedd sy'n cyd-fynd ag oriau ysgol, ac yna mae'r landlord yn penderfynu eich troi allan, a gallant wneud hynny heb roi rheswm.

Gall contractau byrddaliol sicr fod yn gontractau am gyfnodau sefydlog neu gyfnodau treigl cyfnodol o fis i fis. Ni all landlord ddwyn achos adennill meddiant dan adran 21 yn ystod chwe mis cyntaf y denantiaeth neu yn ystod cyfnod contract sefydlog. Pan fo'r cyfnod sefydlog ar fin dod i ben neu fod y denantiaeth yn gyfnodol, mae adran 21 yn caniatáu i landlord gyflwyno rhybudd o ddau fis i adael. Os nad yw'r tenant yn gadael, cyhyd â bod yr hysbysiad yn gywir, mae'n rhaid i lys orchymyn meddiant. Nid oes rhaid rhoi unrhyw reswm dros fynnu meddiant. Ni archwilir i weld a yw'r tenant ar fai, ac ni chaiff angen y tenant ei fesur yn erbyn angen y landlord. A rhag inni anghofio, rydym yn siarad am gartrefi pobl, fel y'u disgrifir yn achos Uratemp Ventures Limited yn erbyn Collins fel y lle mae'r unigolyn 

yn byw a lle y mae'n dychwelyd iddo ac sy'n ffurfio canolbwynt ei fodolaeth.

Mae anghydraddoldeb pŵer bargeinio wedi arwain at gam-drin sylweddol a chaledi difrifol. Mae landlordiaid wedi gallu cyflwyno hysbysiadau'n fympwyol a heb eu hatal gan y llys, gyda thenantiaid yn cael eu gwneud yn ddigartref ar fyr rybudd gyda'r holl gostau a gofid y mae hyn yn eu hachosi. Mewn arolwg diweddar gan Shelter Cymru, dywedodd 22 y cant fod gorfod symud wedi eu gwthio i ddyled—cerdyn credyd, gorddrafft, benthyciadau diwrnod cyflog, benthyciad banc—ac roedd cost gyfartalog symud yn £1,100 a mwy.

Yn wreiddiol, efallai bod y sector rhentu preifat yn cael ei weld fel cyfrwng i weithwyr proffesiynol ifanc sengl neu barau heb blant, ond yn gynyddol, yn ogystal â bod yn dai i deuluoedd â phlant, pobl hŷn a phobl agored i niwed sydd yn y sector rhentu preifat. Mae Deddf Tai (Cymru) 2014 yn caniatáu i awdurdodau lleol gyflawni eu dyletswydd ddigartrefedd drwy gyfrwng byrddaliad sicr, ond gall y sicrwydd deiliadaeth lleiaf hwn arwain at symud o un tŷ i'r llall, gyda phlant a'u haddysg neu oedolion sy'n agored i niwed ac sydd angen rhwydwaith cymorth agos yn dod yn ddioddefwyr. I rieni a gyflogir mewn swyddi rhan-amser, daw'n hunllef, ac nid yn unig oherwydd logisteg cludo plant i'r ysgol a'u casglu oddi yno. Mae hyn yn peri straen ar berthynas pobl â'i gilydd ac yn cyfrannu at chwalu teuluoedd. Mae tai sefydlog yn hanfodol i wella lles ac yn hanfodol i berthynas pobl â'i gilydd a hunanddatblygiad. Mae'n greiddiol i fywyd teuluol, gan alluogi pobl i integreiddio a dod yn rhan o gymuned, adeiladu cysylltiadau cymdeithasol, adeiladu ymdeimlad o hunaniaeth a chynllunio a rhagweld eu dyfodol. Ac wrth gwrs, ceir tystiolaeth fod adran 21 yn cael effaith anghymesur ar fenywod, sy'n fwy tebygol o fod â phlant dibynnol, o ddibynnu ar fudd-daliadau prawf modd, o fod ar gontractau treigl misol, o ddioddef tai mewn cyflwr gwael ac o fod ofn cael eu troi allan yn ddialgar os ydynt yn cwyno.

Nawr, a oes rhaid iddi fod fel hyn? Yn syml iawn, nac oes. Am y rhan fwyaf o'r ugeinfed ganrif, roedd tenantiaid y sector preifat yn mwynhau mwy o sicrwydd deiliadaeth. A fydd rhoi diwedd ar adran 21 yn golygu y bydd landlordiaid yn methu adennill meddiant ar eu eiddo'n hawdd? Unwaith eto, na fydd. Gall landlordiaid adennill meddiant drwy adran 8 o Ddeddf 1988, boed o fewn cyfnod sefydlog neu beidio, ar yr amod y gallant sefydlu sail, er enghraifft lle y ceir honiadau o ymddygiad gwrthgymdeithasol neu ôl-ddyledion rhent neu ddifrod i eiddo. A hyd yn oed dan y Ddeddf rhenti, mae landlordiaid wedi gallu adennill meddiant ar safle i'w ddefnyddio eu hunain neu i'w meibion a'u merched cyhyd â bod hynny'n wir, ac nid yn esgus. Yn yr Alban, lle y diddymwyd yr hyn sy'n cyfateb i adran 21, mae landlordiaid sydd angen gwerthu yn gallu adennill meddiant i hwyluso gwerthiant. O ran cyfiawnder a thegwch, onid yw'n llawer gwell fod yn rhaid i'r landlord sefydlu sail, fod y tenant yn cael cyfle i amddiffyn ei hun rhag honiadau, a bod y llys yn rhoi ei ddyfarniad annibynnol?

Nawr, a fydd landlordiaid yn ymwrthod rhag newid ac yn buddsoddi mewn mannau eraill? Dyna oedd y rhybudd a roddwyd pan gyflwynwyd cynlluniau ar gyfer Rhentu Doeth Cymru, ond ni wnaeth hynny ddigwydd. Rhwng 2013 a 2014, tan 2015-16, daeth bron 7,000 o anheddau i mewn i'r sector mewn gwirionedd. Nid yw mwy o sicrwydd deiliadaeth yn cyfyngu ar allu landlord i ennill elw rhesymol. At hynny, fel y dywedodd y Gymdeithas Landlordiaid Preswyl, nid yw landlordiaid eu hunain am weld diwedd ar y denantiaeth gan fod eiddo gwag yn golygu colli rhent a chostau uwch iddynt eu hunain. Yn arolwg diweddar Shelter Cymru, dywedodd 64 y cant o denantiaid y byddent yn fwy tebygol o wneud gwelliannau i'r cartref eu hunain o gael tenantiaeth am bum mlynedd. Byddai mwy o sicrwydd i denantiaid yn hyrwyddo dull mwy proffesiynol o weithredu.

Yng Nghymru, bydd y Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 yn gosod contract safonol yn lle tenantiaethau byrddaliol sicr cyn bo hir. Yn lle adran 21, bydd gennym adran 173, ond yn gyffredinol, gyda chyfyngiadau ar landlordiaid sy'n methu rhoi gwybodaeth am denantiaethau neu ofynion diogelwch neu ofynion blaendal, ailadroddir trefn adran 21 uchod yn Neddf 2016, ac eithrio amddiffyniad newydd o ddial o dan adran 217. Mae hwn yn rhoi disgresiwn i'r llys wrthod gorchymyn lle y gall y tenant ddangos bod y landlord wedi cyflwyno'r rhybudd i adael er mwyn osgoi atgyweirio neu rwymedigaethau addasrwydd i bobl fyw ynddo, ond amddiffyniad cul iawn yw hwn i'w roi pan fydd achos ar y gweill, gyda'r baich prawf ar y tenant.

Felly, i gloi, mae angen mwy o ddiogelwch ar denantiaid. Yn y pen draw, maent yn gorfod symud pan nad ydynt eisiau gwneud hynny. Mae symud cartref yn gostus. Mae diffyg sicrwydd deiliadaeth yn tanseilio bywyd teuluol, addysg plant a rhwydweithiau cymorth. Mae diffyg sicrwydd deiliadaeth yn golygu nad yw tenantiaid yn cael gwrandawiad teg yn y llys. Nid oes unrhyw dystiolaeth y bydd newid yn arwain at grebachu'r sector rhentu preifat.

Yn y 12 mis diwethaf, mae galwadau tenantiaid wedi tyfu'n fwyfwy croch. Mae'r Alban wedi gwneud y newid, ac yn Lloegr, mae Llafur wedi cydnabod bod y chwe mis gofynnol o sicrwydd deiliadaeth a roddir gan adran 21 yn gwbl annigonol, ac mae wedi gwneud ymrwymiad yn yr etholiad cyffredinol diwethaf i godi hyn i dair blynedd, ac nid wyf yn gweld pethau'n gorffen yno. Rwy'n credu y bydd yn rhaid i'r Cynulliad fynd i'r afael â'r anghydraddoldeb, ac rwy'n mawr obeithio y bydd Cymru yn bwrw ymlaen i gael gwared ar adran 21, oherwydd mae gennym bŵer i wneud hyn mewn gwirionedd. Os gadewir tenantiaid yn yr ansicrwydd hwn a bod gennym y pŵer, yn sicr mae'n ddyletswydd arnom i symud ymlaen a rhoi'r camau hyn ar waith. Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd, am wrando ar fy achos. Rwy'n trosglwyddo'r awenau i fy nghyd-Aelodau yn awr.

18:50

Wel, ni wnaethoch ddweud wrthyf i bwy rydych wedi rhoi munud, felly, rwy'n credu y byddai o gymorth pe baech yn gwneud hynny.

Dawn Bowden, Joyce Watson, Mike Hedges a Jenny Rathbone.

Iawn. O'r gorau. Diolch yn fawr iawn. Collais hynny. Mae'n ddrwg gennyf. Dawn Bowden.

Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i Julie am roi munud o'i hamser i mi yn y ddadl hon ar fater pwysig iawn. Nawr, bydd cyd-Aelodau'r Cynulliad yn ymwybodol ers cryn amser fy mod wedi bod yn codi proffil y broblem 'rhyw am rent' fel y'i gelwir a all wynebu rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed sy'n ceisio dod o hyd i gartref. Yn wir, dangosodd y darllediad diweddar gan y gohebwyr ar raglen Ein Byd realiti ffiaidd y broblem arbennig hon, a gwnaeth i mi feddwl faint o bobl sydd wedi wynebu troi allan 'dim bai' oherwydd hyn. Mewn gwirionedd, os nad oes yn rhaid i landlordiaid brofi rheswm dros droi allan, yna efallai na chawn ni byth wybod.

Clywn hefyd am achosion o droi allan dan adran 21 yn cael eu defnyddio pan na fydd tenant wedi gwneud dim mwy na cheisio gofyn am atgyweiriadau i eiddo. Oherwydd, o ystyried y galw uchel am lety yn ein cymunedau, mae landlordiaid yn gwybod y gellir dod o hyd i denant parod arall sy'n barod i ddygymod ag amodau gwael yn rhwydd. Yn y ddau amgylchiad a amlinellais, gellir defnyddio adran 21 gan landlordiaid diegwyddor i gael gwared ar denantiaid nad ydynt yn cydymffurfio â gofynion anghyfreithlon neu sydd ond yn ceisio arfer eu hawliau.

Felly, yn ogystal â'r holl resymau a amlinellwyd gan Julie yn ei chyflwyniad, dyma ddau reswm arall pam rwy'n cefnogi'r cynnig hwn. Bydd gwella sefydlogrwydd deiliadaeth yn ddarn arall o'r jig-so rwy'n awyddus inni ei roi at ei gilydd, oherwydd mae'n rhaid i dai a chartrefi fod yn flaenoriaeth uwch byth yn ein gwaith.

Diolch i Julie am gyflwyno'r ddadl hon. Ymhell o ofyn i landlordiaid fodloni gofynion penodol gan leihau argaeledd cartrefi mewn gwirionedd, yr hyn y bydd yn ei wneud mewn gwirionedd, yn fy marn i, yw cael gwared ar landlordiaid gwael, oherwydd bydd landlordiaid da am anrhydeddu eu hymrwymiad i'w tenantiaid. Byddant eisiau edrych ar ôl eu buddsoddiad, ac rwy'n adnabod llawer iawn o landlordiaid da. Yn yr un modd rwy'n adnabod tenantiaid nad ydynt wedi bod yn ddiolchgar am hynny ac sydd wedi dinistrio'r cartrefi hynny, felly yr hyn rydym yn sôn amdano yma mewn gwirionedd yw cydbwysedd. Rwyf hefyd yn gwybod am lawer iawn o landlordiaid gwael a thai gwael iawn. Felly, drwy ddiddymu hyn, drwy roi rhywfaint o gydbwysedd yn ôl yn y system nad yw yno ar hyn o bryd mae'n amlwg, dyma'r ffordd iawn ymlaen, a'r hyn a welwn, rwy'n eithaf hyderus, yw landlordiaid da iawn gyda phobl yn cael yr hawl i gartref diogel a thenantiaeth sicr sy'n cael ei gynnal yn dda, ac na fyddant, pan fyddant yn gofyn am i waith gael ei wneud, yn cael eu troi allan i'r stryd er niwed iddynt hwy, i'w teulu a hefyd i gymdeithas, oherwydd, yn y pen draw, mae'n rhaid i'r teuluoedd hynny gael cartrefi. Mae ganddynt hawl i gartref, a'r awdurdod lleol sy'n talu'r gost honno.

18:55

Hoffwn ddiolch i Julie Morgan am gyflwyno'r ddadl hon. Nid wyf yn meddwl ein bod yn sôn agos digon am dai yn y lle hwn. Pe baem yn siarad hanner cymaint am dai ag y gwnawn am iechyd, efallai y byddai gennym le iachach.

Rydym wedi gweld cynnydd mewn cartrefi rhent preifat a phrinder cartrefi. Mae'r pwysau ar bobl sy'n rhentu'n breifat. A ydym yn dweud wrth bobl o ddifrif, 'Peidiwch â chwyno, peidiwch â gwrthwynebu', ni waeth beth y mae'r landlord yn ei wneud neu pa mor wael yw'r llety, neu faint o waith atgyweirio sy'n dal i'w wneud, oherwydd gall y landlord ddefnyddio adran 21 i'ch troi chi a'ch plant allan? Ac er y gallwch geisio amddiffyn hynny yn y llys, mae'r tebygolrwydd o ennill yn eithaf isel yn ôl pob tebyg.

Mae adran 21 yn rhoi siarter i landlordiaid gwael barhau i gynnal eu heiddo mewn ffordd wael, oherwydd rwyf wedi cael sawl achos o denantiaid yn cael eu troi allan yn syml oherwydd eu bod wedi gofyn am i'r to sy'n gollwng gael ei atgyweirio, neu drwsio'r clo diffygiol, ac nid dyma'r ffordd i drin pobl sydd fel arall yn ymddwyn yn gwbl briodol. Ond hefyd—os ydynt yn credu efallai y gallent gael eu symud ar fympwy'r landlord, nid yw'n rhoi unrhyw gymhelliant i'r tenant ymgartrefu'n iawn yn yr eiddo ac yn y gymuned a mynd ati mewn gwirionedd i roi paent ar waliau'r plant neu beth bynnag. Felly, rwy'n credu y dylid dileu adran 21 am y rhesymau y mae Julie wedi awgrymu.

Diolch yn fawr iawn. A gaf fi alw yn awr ar y Gweinidog Tai ac Adfywio i ymateb i'r ddadl? Rebecca Evans.

Diolch yn fawr iawn, ac rwy'n ddiolchgar iawn i Julie Morgan am ddewis hysbysiadau 'dim bai' adran 21 yn bwnc ar gyfer y ddadl hon heddiw, ac rwyf hefyd yn ddiolchgar i Julie am y cyfarfod defnyddiol iawn a drefnodd yr wythnos diwethaf i mi a fy swyddogion gael cyfle i archwilio'r materion yn fanylach gyda Julie, Dawn Bowden a Shelter. Cefais y pleser mawr o gael trafodaethau pellach ar y mater hwn gyda Crisis yn gynharach heddiw.

Er fy mod yn ymrwymedig i weithio gyda landlordiaid i adeiladu sector rhentu preifat bywiog, ni all hyn fod ar draul tenantiaid. Mae'r modd y mae rhai landlordiaid yn defnyddio hysbysiadau adran 21 yn peri pryder i lawer o bobl, a hynny'n gwbl briodol, fel rydym wedi clywed yn ystod y ddadl hon, ac mae'n destun pryder i mi hefyd. Fel y clywsom, mae gorfod dod o hyd i gartref newydd, sy'n cynnwys y gost o symud, dod o hyd i flaendal ar gyfer tenantiaeth newydd cyn cael ad-daliad am yr un presennol, a dioddef straen a gofid emosiynol posibl o ganlyniad i symud oll yn bryderon go iawn. A hynny cyn i chi ystyried materion fel dod o hyd i ysgol newydd ar gyfer y plant, symud oddi wrth deuluoedd a rhwydweithiau cymorth cymdeithasol.

Mae hysbysiadau adran 21 yn golygu y gall teulu wynebu newid anferthol mewn cyfnod byr iawn, a'r cyfan heb i'r landlord orfod cyfiawnhau mater yr hysbysiad yn y lle cyntaf. Felly, credaf fod yr amser yn iawn i gael trafodaeth ehangach ar y defnydd o hysbysiadau 'dim bai'. Mae sawl agwedd i'w hystyried, ac mae'r ddadl heddiw yn sicr wedi tynnu sylw at rai ohonynt. Gyda dychymyg a phartneriaeth, credaf y gellir cael sector rhentu preifat sy'n gweithio i landlordiaid a thenantiaid.

Rwy'n meddwl y byddai'n ddefnyddiol inni edrych yn ôl i weld sut y daethom i lle rydym heddiw. Cyflwynwyd y gallu i landlord roi rhybudd 'dim bai' o ddau fis fan lleiaf i orffen tenantiaeth o dan Ddeddf Tai 1988. Daeth Deddf 1988 ar ddechrau twf hir yn y sector rhentu preifat, a rhoddwyd hwb pellach i hynny gan argaeledd morgeisi prynu i osod.

Yn ogystal â thwf yn y sector rhentu preifat ers Deddf 1988, mae ansawdd cyffredinol eiddo wedi gwella. Mae rhai wedi priodoli hyn i ddiddymu prosesau rheoli rhent a chyflwyno adran 21, a roddai fwy o sicrwydd i landlordiaid dros adennill meddiant. Roedd y twf yn y sector rhentu preifat yn dilyn degawdau o ddirywiad. Er bod y system flaenorol o denantiaethau'r Ddeddf rhenti yn darparu llawer mwy o sicrwydd deiliadaeth, arweiniodd diffyg buddsoddiad landlordiaid oherwydd prosesau rheoli rhent cysylltiedig at dai o ansawdd gwael iawn. Rhaid inni wneud yn siŵr ein bod, wrth newid trefniadau hysbysiadau 'dim bai' yn osgoi unrhyw ganlyniadau anfwriadol. Dyna pam rwyf wedi gofyn i fy swyddogion agor trafodaethau gyda'r sector rhentu preifat ar y mater hwn ac rwy'n falch o ddweud, yn dilyn y cyfarfod a gawsom gyda Julie, fod y trafodaethau hynny eisoes wedi dechrau.

Felly, oes, mae yna landlordiaid gwael o hyd ac nid yw pob tenant yn berffaith chwaith, ond rydym yn cymryd camau cadarnhaol. Mae Rhentu Doeth Cymru, a gyflwynwyd o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014, yn ei gwneud hi'n ofynnol i landlord basio prawf person addas a phriodol cyn cael trwydded ac i gael hyfforddiant gorfodol. Mae'r hyfforddiant wedi cael derbyniad da iawn gyda 96 y cant o'r bobl a'i cafodd yn dweud eu bod yn teimlo y byddai'r hyfforddiant yn eu gwneud yn landlord gwell. Bydd Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 yn gwneud gwelliannau pellach. Bydd yn helpu i osgoi anghydfodau drwy sicrhau eglurder ynghylch hawliau a chyfrifoldebau, a bydd hefyd yn cyflwyno amddiffyniadau newydd sylweddol ar gyfer tenantiaid. Er enghraifft, bydd landlordiaid yn gorfod sicrhau bod cartrefi'n addas i bobl fyw ynddynt. Mae rhai hawliau cyfraith gyffredin nad ydynt yn amlwg ar unwaith i'r holl denantiaid ar hyn o bryd wedi cael eu gwneud yn statudol a byddant yn cael eu cynnwys ym mhob contract meddiannaeth. Mae hyn yn cynnwys yr hawl i feddiannu'r annedd heb ymyrraeth gan y landlord.

Er bod y Ddeddf rhentu cartrefi yn darparu ar gyfer hysbysiad 'dim bai' sy'n debyg i adran 21, ceir gwahaniaethau pwysig. Er enghraifft, o dan y Ddeddf rhentu cartrefi, nid yw hysbysiad 'dim bai' ond yn ddilys am bedwar mis yn unig. Bydd hyn yn rhoi diwedd ar yr arfer presennol lle mae rhai landlordiaid yn cyhoeddi hysbysiad adran 21 ar ddechrau'r denantiaeth, fel eu bod yn gallu hawlio meddiant ar ôl dau fis ar unrhyw adeg yn y dyfodol. Mae'r Ddeddf rhentu cartrefi hefyd yn darparu amddiffyniad rhag troi allan dialgar lle mae landlord yn ymateb i gais atgyweirio drwy gyhoeddi hysbysiad meddiant 'dim bai'. O dan y Ddeddf 2016, gall y llys wrthod hawliad meddiant os yw'n fodlon fod y landlord yn ceisio osgoi gwaith atgyweirio. Felly, bydd gweithredu'r Ddeddf rhentu cartrefi yn darparu amddiffyniad ychwanegol. Fodd bynnag, rwy'n cydnabod ei bod yn dal i ganiatáu i landlord gael meddiant ar ôl rhoi dau fis o rybudd. Felly, bydd y pryderon a glywsom yn ystod y ddadl hon heddiw yn dal i fod yn berthnasol iawn. Wrth geisio ymdrin â hwy, mae angen inni ystyried y perygl y bydd y canlyniadau anfwriadol hynny a grybwyllais yn gynharach yn codi.

Er enghraifft, lle y gall hysbysiadau adran 21 yn aml arwain at ddigartrefedd, mae'n bwysig nodi bod tua hanner yr holl aelwydydd digartref ar hyn o bryd yn cael eu hailgartrefu yn y sector preifat. Byddai angen rhoi ystyriaeth ofalus felly effaith bosibl diddymu hysbysiadau 'dim bai' ar barodrwydd landlordiaid i letya teuluoedd digartref a'r effaith negyddol ddilynol bosibl ar argaeledd llety. Dyna pam y mae'r trafodaethau gyda landlordiaid mor bwysig. Hefyd, yn ôl y Gymdeithas Landlordiaid Preswyl, cyhoeddir 52 y cant o hysbysiadau adran 21 oherwydd ôl-ddyledion rhent a 12 y cant oherwydd ymddygiad gwrthgymdeithasol. Pe bai diddymu adran 21 yn arwain at fwy o hawliadau'n cael eu cyflwyno yn benodol ar sail ôl-ddyledion rhent neu ymddygiad gwrthgymdeithasol, gallai hyn achosi problemau eraill megis mwy o drafferth dod o hyd i gartref newydd neu fethu cael credyd oherwydd dyfarniad llys sirol. Unwaith eto, mae'r rhain yn faterion y buaswn yn awyddus i fynd ar eu trywydd ymhellach gyda Shelter a Crisis ac eraill.

Tu hwnt i'r effaith bosibl ar ein gallu i fynd i'r afael â digartrefedd, byddwn yn dal i fod angen bod yn effro i'r effeithiau posibl ehangach eraill ar y sector rhentu preifat, gan gynnwys ar unrhyw barodrwydd i fuddsoddi a materion trawsffiniol posibl. Mae'r rhain oll yn faterion rwy'n edrych arnynt ar hyn o bryd a pham y mae'r trafodaethau gyda'r sector yn gyffredinol mor bwysig. Rwyf hefyd yn gwylio'r datblygiadau yn yr Alban, lle maent wedi diddymu hysbysiadau 'dim bai' yn ddiweddar, yn agos iawn. Yn ein cyfarfod yr wythnos diwethaf, cytunodd Julie, Dawn, Shelter a minnau i wneud gwaith pellach gyda'n gilydd i archwilio'r materion ac i ehangu'r sylfaen dystiolaeth er mwyn sefydlu sut i symud ymlaen yn y ffordd orau. Yn y cyfamser, rydym yn gallu gwneud, ac rydym yn gwneud llawer i liniaru effeithiau adran 21. Mae'r gwasanaeth Early Doors sy'n cael ei dreialu ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn enghraifft dda. Mae'r gwasanaeth yn galluogi landlordiaid i gysylltu â darparwr cymorth os yw tenantiaid ar ôl gyda'u rhent ac yn rhoi cymorth dwys i denantiaid i helpu i'w hatal rhag cael eu troi allan.

Felly, mae'r ddadl heddiw wedi bod yn gymorth i godi proffil y materion sy'n ymwneud â throi allan 'dim bai' ymhellach, ac mae'n gyfraniad defnyddiol iawn i ysgogi'r hyn rwy'n gobeithio y bydd yn drafodaeth ehangach ar beth y gellir ei gyflawni drwy fesurau lliniaru ac o bosibl drwy newid deddfwriaethol i sicrhau bod ein sector rhentu preifat yn llewyrchus, o ansawdd uchel, ac yn deg i bawb.

19:05

Daeth y cyfarfod i ben am 19:05.